text
string
source
string
id
string
added
timestamp[s]
metadata
dict
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. Datganiad gan y Llywydd Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn y Siambr, ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, lle bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006, a bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw. Mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda chi. Dwi eisiau atgoffa'r Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod yma, ac yr un mor berthnasol i'r Aelodau sy'n y Siambr ag i'r rhai sydd yn ymuno drwy gyswllt fideo. 1. Cynnig i benodi aelodau i'r Pwyllgor Busnes Felly, dyma ni'n cyrraedd yr eitem gyntaf o fusnes. Yr eitem gyntaf hynny o fusnes heddiw yw'r cynnig i benodi aelodau o'r Pwyllgor Busnes. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y cynnig hynny. Cynnig NNDM7687 Lesley Griffiths Cynnig bod y Senedd, yn unol a Rheol Sefydlog 11.3: Yn penodi'r Llywydd, Lesley Griffiths (Llafur), Darren Millar (y Ceidwadwyr Cymreig) a Siân Gwenllian (Plaid Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor Busnes. Cynigiwyd y cynnig. Lesley Griffiths AC: Yn ffurfiol. Does gyda fi neb sydd eisiau cyfrannu nac ymateb. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig i benodi aelodau i'r Pwyllgor Busnes? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig hynny yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 2. Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.10(ii) ynghylch eitemau i'w cymryd yn y Cyfarfod Llawn nesaf Yr eitem nesaf o fusnes yw'r cynnig o dan Reol Sefydlog 12.10(ii), sef cynnig heb rybudd i gyflwyno eitemau yn y Cyfarfod Llawn nesaf, sef y Cyfarfod Llawn ar ddydd Mercher 26 Mai. Y Trefnydd eto i wneud y cynnig yn ffurfiol. Lesley Griffiths. Cynnig Cynnig bod y Senedd, o dan Reol Sefydlog 12.10(ii), yn cytuno i'r cynnig i'r eitemau canlynol gael eu cymryd yn y Cyfarfod Llawn nesaf: Cwestiynau i’r Prif Weinidog; Cynnig o dan Reol Sefydlog 9.1 i gytuno i argymhelliad y Prif Weinidog i'w Mawrhydi i berson gael ei benodi'n Gwnsler Cyffredinol; Rheoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2021; Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2021; Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2021; Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2021; Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2021; Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) 2021. Cynigiwyd y cynnig. Lesley Griffiths AC: Yn ffurfiol. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yna hefyd. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Penodiadau i'r Cabinet Yr eitem nesaf yw eitem 3, sef y datganiad gan y Prif Weinidog ar y penodiadau i'r Cabinet. Prif Weinidog. Mark Drakeford AC: Lywydd, diolch yn fawr. Mae bron i bythefnos bellach ers i'n cyd-ddinasyddion yng Nghymru ddewis y bobl a fydd yn eu cynrychioli yma yn y Senedd dros y pum mlynedd nesaf. Yn nhymor y Senedd hon, gwn y bydd cael eistedd yn y Siambr hon yn fraint i bob Aelod a etholwyd, ac mae bod yn Brif Weinidog ein cenedl yn anrhydedd arbennig iawn yn wir. Serch hynny, pan ddeuthum yn Brif Weinidog ddwy flynedd a hanner yn ôl, pwysleisiais fy hoffter o arweinyddiaeth gyfunol a chydweithredol, gan fanteisio ar gronfa eang o dalent ac ymrwymiad. Gwneuthum hynny gan fy mod bob amser wedi meddwl mai arweinyddiaeth gyfunol o’r fath yw'r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau bod pobl yn gweithio er budd ein cenedl. A chredaf hefyd fod hynny’n cyd-fynd â’r ffordd rydym yn gwneud pethau yma yng Nghymru. Rydym yn cynhyrchu mwy o gorau nag unawdwyr; rydym yn well am chwarae rygbi nag am neidio â pholyn. Nawr, mae'r ymagwedd honno wedi bod o fudd i ni, yn fy marn i, dros y 15 mis diwethaf wrth inni ymateb i bandemig byd-eang y coronafeirws, ymateb a alwai am ymdrech gan y Llywodraeth gyfan i helpu i gadw Cymru’n ddiogel. Mae'r Cabinet newydd a ffurfiwyd yr wythnos diwethaf yn dîm llawn talent, uchelgais a phrofiad, tîm a fydd yn sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd a ddaw dros y pum mlynedd nesaf, ac i'n helpu i wynebu'r heriau anochel a ddaw i'n rhan. Hoffwn dalu teyrnged heddiw i Ken Skates, sydd wedi penderfynu camu i lawr o’r Llywodraeth i weithio o'r meinciau cefn. Mae Ken wedi bod yn llais cryf dros ogledd Cymru yn y Llywodraeth, a gwn y bydd yn parhau i fod yn llais cryf dros ogledd Cymru o'r meinciau cefn. Byddwn yn gweld eisiau ei angerdd a'i egni o gwmpas bwrdd y Cabinet. Mark Drakeford AC: Llywydd, nid yw argyfwng coronavirus ar ben. Yn yr wythnos ers i ni ddod at ein gilydd yn y Cyfarfod Llawn, bydd pob un o'r Aelodau wedi clywed am yr amrywiolyn o India a'i effaith bosibl. Byddaf yn rhoi datganiad ar gyd-destun iechyd y cyhoedd yn nes ymlaen y prynhawn yma, ond bydd y Cabinet yn parhau i wneud penderfyniadau yn unol â'n cylch adolygu tair wythnos, ac yn rhannu cyfrifoldeb am y penderfyniadau hyn. Cabinet a fydd yn cyflawni adferiad yw'r Cabinet newydd, a hynny ar gyfer y Gymru y tu hwnt i'r pandemig—y Gymru gryfach, wyrddach a thecach y mae fy mhlaid wedi ymrwymo i'w chyflawni: Cymru lle bydd pawb yn chwarae ei ran, Cymru lle na fydd neb yn cael ei ddal yn ôl a lle na fydd neb yn cael ei adael ar ôl. Dyma Gabinet a grëwyd i gwrdd â heriau mawr ein hoes—colli bioamrywiaeth a'r newid yn yr hinsawdd. Nid yw'r argyfwng newid hinsawdd wedi diflannu tra ydym wedi bod yn delio â'r pandemig. Mark Drakeford AC: A dyna’r rheswm pam, wrth gwrs, Lywydd, y bydd y Llywodraeth newydd hon yn sicrhau bod yr amgylchedd, colli bioamrywiaeth a’r newid yn yr hinsawdd yn cael lle canolog yn ein penderfyniadau, wedi'u dwyn ynghyd mewn un weinyddiaeth, a fydd yn dod â'r holl brif ysgogiadau ym maes newid hinsawdd at ei gilydd. Gyda'i gilydd, bydd gan Weinidog a Dirprwy Weinidog—Julie James a Lee Waters—gyfrifoldeb am dai, trafnidiaeth, cynllunio, ynni a'r amgylchedd, gan fynd i’r afael â pheryglon y newid yn yr hinsawdd, ond gan wneud y gorau hefyd o’n hasedau naturiol aruthrol a chreu’r swyddi ar gyfer dyfodol Cymru. Lywydd, rydym eisoes wedi dechrau ar y gwaith o ddatblygu rhaglen lywodraethu newydd a osodir ger bron y Senedd yn yr wythnosau nesaf. Bydd yn nodi ein cynlluniau i helpu ein gwasanaethau cyhoeddus i ymadfer ar ôl COVID. Bydd hynny'n cynnwys cynllun adfer brys ar gyfer y GIG a'r cynllun dal i fyny mwyaf ar gyfer pobl ifanc ers dechrau datganoli. Bydd yn nodi'r gwaith i ddatblygu gwarant newydd i bobl ifanc, gan roi'r cynnig o waith, addysg neu hyfforddiant i bawb o dan 25 oed. Bydd yn amlinellu camau tuag at fargen deg ar gyfer gofal, gan gynnwys talu'r cyflog byw gwirioneddol i bawb sy'n gweithio yn y sector gofal. Bydd yn nodi'r camau y byddwn yn eu cymryd i wneud Cymru’n wlad wyrddach—diddymu mwy o blastig untro sy’n llygru a chreu coedwig genedlaethol a pharc cenedlaethol newydd i Gymru. Bydd yn cynnwys cynlluniau ar gyfer cymunedau mwy diogel, gan gynyddu’r nifer o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ar ein strydoedd. A bydd yn amlinellu ble y byddwn yn creu swyddi newydd i Gymru drwy chwyldro adeiladu tai carbon isel, gan adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel newydd i'w rhentu. Ond lle gallwn fynd ymhellach ac yn gyflymach, bydd y Llywodraeth hon bob amser yn agored i syniadau newydd. Lywydd, yr wythnos diwethaf, dywedais nad oes gan unrhyw blaid fonopoli ar ffyrdd da o symud Cymru ymlaen, a chynigiais weithio ar draws y pleidiau pan fo gennym ddiddordebau sy'n gyffredin. Rwyf wedi ysgrifennu at arweinwyr y Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru i gadarnhau'r cynnig hwnnw. Ac ar draws y Senedd, gwn y bydd Aelodau newydd a rhai sy'n dychwelyd yn dod yma gyda’r bwriad o wneud y cyfraniad cadarnhaol hwnnw at ddyfodol ein cenedl, heriau heddiw a heriau yfory. Fel y dywedais, nid oes unrhyw fater sy'n bwysicach na'r argyfwng hinsawdd a natur sy'n ein hwynebu. Dyna pam fod gweinyddiaeth newydd yng nghraidd y Llywodraeth hon. A thynnodd pob plaid a gynrychiolir yma sylw yn ystod yr etholiad, yn gwbl gywir, at yr angen am gamau mentrus i fynd i'r afael â'r argyfwng sy'n ein hwynebu. Nawr yw’r amser i drosi'r ymrwymiad hwnnw’n gamau ymarferol. O'r etholiad, ac o'r pandemig, gallwn weld Cymru gryfach, Cymru wyrddach a Chymru decach. Yr hyn sydd angen ei wneud yn awr yw sicrhau bod Cymru ar y llwybr tuag at adferiad, ac mae'r Cabinet rwyf wedi'i nodi y prynhawn yma yn barod i fynd ati i wneud yn union hynny. Lywydd, diolch yn fawr. Andrew RT Davies AC: Diolch am eich datganiad y prynhawn yma, Brif Weinidog. Ac rwy'n ymuno â chi i longyfarch yr Aelodau sy'n dychwelyd a’r Aelodau newydd, am y fraint o gael eistedd yn y Siambr hon i ddadlau, i drafod, a gobeithio, i lywio penderfyniadau polisi sy'n cael effaith ddramatig ar fywydau pobl er lles pawb yng Nghymru. Mae'n gyfnod cyffrous i fod yng Nghymru, a'r hyn sy’n bosibl inni ei wneud gyda'r pwerau sydd ar gael i Senedd Cymru, ac yn wir, mae’r ffordd rydych wedi adeiladu eich Llywodraeth, ar ôl y mandad a roddwyd i chi gan bobl Gymru, yn ategu cywair yr hyn rydych am ei wneud, yn enwedig ar newid hinsawdd a'r amgylchedd, fel y gwnaethoch ei bwysleisio mor gryf yn eich datganiad. Brif Weinidog, un peth y gwyddom yw eich bod wedi dweud na fyddwch yn aros am dymor llawn fel Prif Weinidog. Felly, a allwch ddweud bod hwn yn Gabinet a fydd yn para tan ddiwedd eich tymor fel Prif Weinidog? Neu a yw'n rhywbeth y bydd yn rhaid i chi ei ailadeiladu wrth i dymor y Cynulliad fynd rhagddo? Oherwydd credaf fod honno'n sgwrs wirioneddol y mae pobl yn awyddus i’w deall—faint o egni'r Llywodraeth a fydd yn canolbwyntio ar bwy a allai eich olynu, yn hytrach, efallai, na’r mandad a osodwyd gennych i'ch cyd-Aelodau yn y Llywodraeth. Yn ail, mae'n bwysig deall sut y bydd y polisïau hyn yn cael eu cyflawni yn y Llywodraeth, a chanolbwyntio ar yr uned gyflawni a oedd gan Carwyn Jones o'r blaen, a Swyddfa'r Cabinet a ddaeth yn ei lle, ac yn bwysig iawn, yr Ysgrifennydd Parhaol a newid Ysgrifennydd Parhaol fel y nodwyd. A allwch ddweud sut y mae'r gwaith recriwtio hwnnw'n mynd rhagddo gyda'r Ysgrifennydd Parhaol a sut y gallai'r newidiadau effeithio ar y gwaith o gyflawni penderfyniadau a chyfarwyddebau polisi'r Cabinet? A allwch nodi hefyd y cynlluniau y tynnoch chi sylw atynt mewn perthynas ag amseroedd aros, dal i fyny, ffyrlo, targedau newid hinsawdd a thai, a phwysigrwydd sicrhau y bydd Gweinidogion yn cael eu dwyn i gyfrif am gyflawni'r targedau hynny, a pha ddulliau y byddwch yn eu defnyddio i'w dwyn i gyfrif? Oherwydd byddant yn gyfrifol am gyflawni'r pwyntiau rydych wedi'u gosod ar eu cyfer, a pha nodau rydych wedi'u gosod ar eu cyfer yn benodol ar gyfer amseroedd aros a dal i fyny, sy'n rhan mor bwysig o ailadeiladu ar ôl yr argyfwng COVID? O ran deddfwriaeth, mae pob un ohonom wedi cytuno ar y Ddeddf aer glân, a'r Bil amaethyddiaeth yn enwedig sydd angen ei gyflwyno. A allwch chi nodi pryd y bydd y Llywodraeth yn cyflwyno'r darnau pwysig hyn o ddeddfwriaeth fel y gall Senedd Cymru eu hystyried? Ac yn benodol, a allwch chi nodi'r polisi a gyhoeddwyd gennych ar y penwythnos ynghylch incwm sylfaenol cyffredinol? Oherwydd, o'r hyn a ddeallaf, dim ond lwfans a fydd yn cael ei roi i ofalwyr yw hwn. Ni waeth pa mor ganmoladwy yw hynny, nid yw’n gyfystyr â phrawf dilys o'r incwm sylfaenol cyffredinol y soniodd y Llywodraeth amdano dros y penwythnos. Felly, a allwch nodi pa gynlluniau a fydd gan y Llywodraeth i gyflwyno cynigion o'r fath yng Nghymru i brofi cynnig o'r fath mewn modd dilys, er fy mod cyfaddef nad yw ein hochr ni o'r Siambr hon yn ei gefnogi, ond os mai dyna fydd polisi'r Llywodraeth, mae’n bwysig ein bod yn deall sut rydych am ei gyflawni. A hefyd, y sgwrs a ddechreuwyd gennych ddoe ynglŷn â mwy o wleidyddion etholedig. Ai polisi Llywodraeth Cymru bellach yw cefnogi safbwynt o’r fath, oherwydd deallaf eich bod yn siarad fel Prif Weinidog pan oeddech yn sôn am gynigion i gyflwyno gwleidyddion newydd ger bron yr etholwyr erbyn 2026? Felly, a ddylem gymryd bellach mai polisi swyddogol Llywodraeth Cymru yw cefnogi'r safbwynt hwnnw, er mai cyfrifoldeb y Senedd fydd cyflwyno'r cynigion hynny i'w hystyried yn eu cyfanrwydd? Diolch, Brif Weinidog. Mark Drakeford AC: Lywydd, diolch i arweinydd yr wrthblaid am ei holl gwestiynau ac am y ffordd y cyflwynodd ei sylwadau y prynhawn yma. Cytunaf ag ef fod hwn yn gyfnod cyffrous i fod yn rhan o ddyfodol Cymru, ac rwy’n ymrwymedig iawn i sicrhau ymdeimlad o frys yn y ffordd y bydd y Llywodraeth hon yn mynd i’r afael â’r heriau y gwyddom ein bod yn eu hwynebu. Rwyf bob amser wedi bod o’r farn eich bod yn penodi cyd-Aelodau o’r Cabinet ac yna’n rhoi cyfle iddynt fynd i'r afael â'r materion y maent yn gyfrifol amdanynt. Credaf mai hyd yr amser cyfartalog y bydd Ysgrifennydd Gwladol yn San Steffan yn ei dreulio yn y swydd yw rhwng 15 a 18 mis. Ymddengys i mi mai ychydig iawn o amser y mae hynny’n ei roi ichi fynd i'r afael yn iawn â'r materion y mae eich adran yn eu hwynebu, ac yn aml, rydych wedi hen adael cyn gorfod wynebu canlyniadau'r penderfyniadau y gallech fod wedi’u gwneud. Drwy gydol datganoli, credaf fod Llywodraethau olynol wedi credu i’r gwrthwyneb. Mae’r Gweinidogion yma i gael yr amser sydd ei angen arnynt i gyflawni'r cyfrifoldebau sydd ganddynt ac i gael eu dwyn i gyfrif wedyn am y penderfyniadau a wnânt. Pan fyddwn yn cyhoeddi’r rhaglen lywodraethu, bydd yr Aelod yn gweld rhai o'r cynigion sydd gennym ar gyfer peirianwaith y Llywodraeth i gefnogi ymdrech y weinyddiaeth newydd. Rwy'n bwriadu sicrhau y bydd swyddfa'r Prif Weinidog yn gyfrifol am nifer o ymrwymiadau allweddol. Felly, bydd gennyf ddiddordeb uniongyrchol yn y gwaith o oruchwylio cyflawniad yr amcanion hynny. Ond mae’r rhan fwyaf o weithredoedd y Llywodraeth yn digwydd, yn gwbl briodol, ar lefel portffolio, a rhaid rhoi awdurdod i Weinidogion fwrw ymlaen â'r gwaith y cawsant eu hethol a'u penodi i'w wneud, a phan fydd y rhaglen lywodraethu’n cael ei chyhoeddi, bydd yr Aelodau'n gweld yr eitemau y credaf fod angen awdurdod swyddfa Prif Weinidog y tu ôl iddynt i’w gyrru drwy'r Llywodraeth a'r nifer fwy o eitemau y bydd Gweinidogion yn eu datblygu ac yn atebol amdanynt yma yn y Senedd. Mark Drakeford AC: Mae Andrew R.T. Davies yn llygad ei le, Lywydd, fod swydd yr ysgrifennydd parhaol newydd wedi’i hysbysebu ddydd Llun yr wythnos diwethaf. Credaf fy mod wedi dweud eisoes fod yr ansoddair 'parhaol' yn gamarweiniol bellach, gan fod ysgrifenyddion parhaol yn cael eu penodi am dymor sefydlog o bum mlynedd a bydd cyfnod yr ysgrifennydd parhaol presennol yn y swydd yn dod i ben ar ddechrau'r flwyddyn galendr nesaf. Credaf fy mod wedi dod i’r casgliad fod gan un o'r ffyrdd y mae rhai adrannau Whitehall yn gweithredu rywbeth i'w gynnig i ni yma, oherwydd mewn nifer o adrannau Whitehall, ochr yn ochr ag ysgrifennydd parhaol, mae ganddynt yr hyn a elwir yn 'brif swyddog gweithredu’. Swydd y prif swyddog gweithredu yw ymdrin â mecanwaith y ffordd y mae adran yn cael ei gweithredu: ymdrin â materion staffio, ymdrin â materion yn ymwneud â thelerau ac amodau, ymdrin â phwy sy'n cael parcio eu ceir ymhle—yr holl fathau hynny o bethau, sydd ar hyn o bryd, yn Llywodraeth Cymru, yn gyfrifoldebau i’r ysgrifennydd parhaol. Nawr, rwyf eisiau ysgrifennydd parhaol sydd ag amser ar gael i helpu i sicrhau bod y rhaglen lywodraethu'n llwyddo, a chredaf y byddai’n gymorth i’r unigolyn newydd pe bai ganddynt brif swyddog gweithredu ochr yn ochr â hwy i ymdrin mwy â mecanwaith Llywodraeth. A chefais gyfle i gael sgwrs hir gyda Simon Case, pennaeth Swyddfa'r Cabinet yn Whitehall, a chredaf fy mod wedi dysgu pethau defnyddiol o'r hyn a ddywedodd wrthyf ynglŷn â sut y gallem ddysgu rhai o'r gwersi hynny yma. Fe fydd yna raglen ddeddfwriaethol, Lywydd, a bydd honno'n cychwyn ym mlwyddyn gyntaf y Senedd hon a byddaf yn gwneud y datganiad arferol ar y rhaglen ddeddfwriaethol yn ail hanner tymor yr haf hwn. Rwy'n ddiolchgar am yr hyn a ddywedodd Andrew Davies am y Bil amaethyddiaeth. Fe fydd yn cofio inni gytuno, yn y Senedd flaenorol, yn rhannol oherwydd sylwadau gan y gwrthbleidiau, y byddai'r pwerau a fyddai’n dod i ni drwy Fil amaethyddiaeth y DU yn gyfyngedig o ran amser—y byddai cymal machlud ar waith. Nawr, credaf mai dyna'r peth iawn i'w wneud, ond mae'n rhoi pwysau ar bob un ohonom yma i sicrhau y gallwn roi Bil amaethyddiaeth sy'n benodol i Gymru ar y llyfrau statud fel y gallwn barhau i wneud yr holl bethau y mae angen i ni eu gwneud i gynorthwyo ffermwyr ac eraill sy'n dibynnu ar yr economi wledig. Felly, mae hwnnw'n Fil y byddwn yn ei gyflwyno a gobeithiaf y gallwn weithio yn yr ysbryd cydweithredol y soniodd arweinydd yr wrthblaid amdano yn ei gyflwyniad. O ran incwm sylfaenol cyffredinol, yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei gynnig yw'r hyn a ddywedasom yn ein maniffesto, sef arbrawf a chynllun peilot. Nid oes gennym yr holl bwerau a fyddai’n angenrheidiol, heb sôn am yr holl arian a fyddai’n angenrheidiol i gynnwys incwm sylfaenol cyffredinol i Gymru gyfan, ond credaf fod gennym y gallu i lunio arbrawf craff a fydd yn caniatáu inni brofi'r honiadau a wneir am incwm sylfaenol cyffredinol. Nawr, rwy’n gyfarwydd â'r honiadau hyn ers blynyddoedd lawer. Roedd fy nhraethawd doethuriaeth yn ymwneud â grŵp a oedd yn dadlau o blaid rhywbeth o'r enw 'credyd cymdeithasol' yn y cyfnod rhwng y ddau ryfel byd. Mae credyd cymdeithasol yn fath o incwm sylfaenol cyffredinol. Roedd ganddynt grŵp yma yng Nghaerdydd a fu’n weithgar iawn yn hyrwyddo'r syniad ar y pryd. Felly, mae hwn yn syniad ag iddo hanes hir iawn, ond ychydig iawn o gymhwysiad ymarferol i ddysgu a yw'r pethau sy'n cael eu dweud amdano yn cael eu gwireddu ym mywydau'r bobl sy'n ei dderbyn. Ac os gallwn ddechrau gyda phobl ifanc sy'n gadael ein system ofal, credaf fod dadleuon cryf dros wneud hynny. Maent yn grŵp o bobl y gwyddom amdanynt—gallwn nodi pwy ydynt; gallwn ddarparu, nid yn unig incwm ar eu cyfer, ond y cymorth arall sydd ei angen arnynt i sicrhau eu bod yn dechrau eu bywydau gan anelu at ddyfodol llwyddiannus. Ac edrychaf ymlaen, ynghyd â llawer o Aelodau yn y Siambr sydd â diddordeb mewn incwm sylfaenol cyffredinol—edrychaf ymlaen at ddadlau amdano a'i drafod ag eraill sy’n awyddus i weld yr arbrawf hwnnw'n llwyddo fel arbrawf, lle byddwn yn dysgu a yw'n gweithio, neu'n cyflawni'r hyn sy'n cael ei honni yn ei gylch. Ac o ran dyfodol y Senedd, fel y dywedodd arweinydd yr wrthblaid, mae’n sicr yn fater i'r Senedd yn bennaf, nid i'r Llywodraeth. Bydd cefnogaeth sylweddol ar yr ochr hon i’r Siambr, fel y bydd yr Aelodau wedi’i glywed yr wythnos diwethaf yn yr areithiau gan fy nghyd-Aelodau David Rees a Hefin David, wrth i’r ddau ohonynt gyfeirio at yr angen i fwrw ymlaen â'r cynigion yn adolygiad Laura McAllister, ac y byddai hynny'n rhan o'r hyn y byddent yn ceisio'i wneud pe byddent yn cael eu hethol yn Ddirprwy Lywydd. Felly, bydd cefnogaeth sylweddol ar y meinciau hyn i'r ymdrech honno, ond yn y pen draw, fel y dywedodd arweinydd yr wrthblaid, mater i'r Senedd ei hun, yn hytrach na'r Llywodraeth, yw arwain ar hyn. Adam Price AC: Gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad, a hefyd am yr ysbryd o gydweithrediad a oedd yn plethu drwyddo, a dweud y gwir? Roeddech chi'n sôn am y traddodiad corawl Cymreig fel arwydd o'r ysbryd cydweithredol yn hynny o beth, ac wrth gwrs, mae'n rhaid cofio, rwy'n credu, mai'r term gwreiddiol ar gyfer Senedd Cymru, pan oedd Cymru Fydd wrthi, oedd creu cymanfa genedlaethol. Felly, mae'r syniad o geisio harmoni yn hytrach nag anghytgord, rwy'n credu, wastad yn fan cychwyn da yn ein trafodion ni fel Senedd. Gaf i, ar ran Plaid Cymru, groesawu'r cynnig yr oeddech chi, Prif Weinidog, wedi cyfeirio ato? Rŷn ni'n barod, wrth gwrs, bob amser, i geisio ffeindio tir cyffredin rhyngom er mwyn pobl Cymru, yntefe? Er mwyn mynd i'r afael â chynnig datrysiadau i'r problemau y buom ni wrthi yn trafod, wrth gwrs, yn ystod yr etholiad cyffredinol. Gaf i jest cyffwrdd ar rai o'r rheini nawr, lle gobeithio y bydd modd ffeindio'r tir cyffredin hynny, ond lle rwy'n deall, wrth gwrs, y byddwch chi, maes o law, yn ystod yr wythnosau nesaf, yn cyhoeddi'ch rhaglen lywodraethu? Ond mae rhai o'r meysydd yma yn feysydd lle mae angen gweithredu ar fyrder, ac felly byddai fe'n dda i glywed mwy ynglŷn â bwriadau cychwynnol y Llywodraeth. Gaf i jest cychwyn drwy gyfeirio at yr argyfwng tai? Dwi ddim yn credu y gallwn ni wadu bod yna argyfwng ym maes tai yng Nghymru erbyn hyn. Rŷch chi wedi addo gweithredu cyn, ar ôl ac yn ystod yr etholiad ynglŷn ag ail gartrefi. Allwch chi roi ychydig mwy o fanylion ynglŷn â'r camau y byddwch chi'n eu cymryd ar unwaith o ran hynny? Mae prisiau tai yng Nghymru yn gyffredinol yn mynd allan o reolaeth, gyda phrisiau tai yn cynyddu fan hyn yn llawer mwy nag ar draws y Deyrnas Unedig. Roedd tair elusen yn dweud dros y penwythnos mai breuddwyd gwrach yw perchen tŷ i nifer o bobl yng Nghymru heddiw, ac nad yw'r cynlluniau a oedd gennych chi fel Llywodraeth flaenorol yn gwneud digon i wneud gwahaniaeth i nifer fawr o bobl. Felly, fyddwch chi yn dod â chynllun gwirioneddol radical i fynd i'r afael â'r broblem hynny, sydd yn gynyddol broblem i gymaint o'n pobl ifanc yn ein cymunedau ni? Allwch chi ddweud, ynglŷn â thai fforddiadwy, sut ŷch chi'n mynd i ddelifro'r lefel mwy uchelgeisiol ar gyfer adeiladu? Mi oedd fy mhlaid i ac un o'ch grwpiau ymgynghorol yn awgrymu'r angen i greu capasiti newydd gydag asiantaeth benodol. Os nad ŷch chi'n mynd lawr y llwybr yma, sut ŷch chi'n mynd i ddelifro ar hynny? Gaf i jest cyfeirio wedyn at dlodi plant, ac yn benodol, prydiau ysgol am ddim, a oedd yn thema fawr yn ein hymgyrch ni ym Mhlaid Cymru? Rŷch chi wedi sôn am yr adolygiad ynglŷn â phrydiau ysgol am ddim—allwch chi roi rhagor o fanylion ynglŷn â hynny? Ym maes yr economi, mi oeddech chi wedi comisiynu—ac mae hwn yn ganolog i bob dim, nag yw e? Dyma'r sylfaen—mi oeddech chi wedi comisiynu adroddiad go swmpus a chynhwysfawr iawn, a dweud y gwir, gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd cyn yr etholiad, a oedd yn awgrymu creu capasiti newydd o ran delifro polisi economaidd yng Nghymru o fewn y gwasanaeth sifil, o fewn eich adran chi fel Prif Weinidog, ond hefyd creu asiantaeth datblygu economaidd. Ydy hynny dal yn rhywbeth rŷch chi'n ei gysidro fel Llywodraeth, achos rŷm ni ym Mhlaid Cymru yn meddwl bod angen capasiti newydd os rŷm ni'n mynd i gynyddu perfformiad economaidd Cymru? Da gweld cyfeiriad at y Ddeddf amaeth. Wrth gwrs, dŷn ni'n dal yn erfyn arnoch chi i ailystyried o ran y sefyllfa gyda NVZs, sydd yn peri gofid mawr ar gyfnod hynod ansicr i amaethyddiaeth yn gyffredinol. A gaf i ofyn i chi—dwi wedi gweld y sylwadau gan y Gweinidog amaeth—a gaf i ofyn i chi fel Prif Weinidog ymateb i'r drafodaeth sydd wedi bod dros y dyddiau diwethaf ynglŷn â'r posibilrwydd o gytundeb masnach gydag Awstralia, a fydd yn gosod templad peryglus ofnadwy, a dweud y gwir, i holl ddyfodol amaethyddiaeth Cymru? Faint o ymwneud ac ymgysylltu sydd wedi bod gyda Llywodraeth Cymru yn hyn o beth, ac ydych chi'n rhannu'r un farn â ni bod angen i ni sefyll yn unedig fel cenedl, a dweud y gwir, i wrthsefyll yr awgrym gorffwyll yma sydd yn dod gan Lywodraeth San Steffan ar hyn o bryd, mae'n debyg? O ran pwerau'r Senedd, mi oeddech chi wedi dadlau yn ystod yr etholiad gyffredinol dros ragor o bwerau, ac wedi awgrymu creu comisiwn ynglŷn â hyn. A fyddech chi'n gallu rhoi mwy o fanylion ynglŷn â hwnna? Ac, yn olaf, a gaf i ofyn i chi fel Prif Weinidog wneud datganiad heddiw o ran y sefyllfa ym Mhalesteina ac Israel, a mynnu bod Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn gwneud popeth i sicrhau bod yna gadoediad a bod yna gydymffurfio gyda chyfraith ryngwladol er mwyn gwarchod buddiannau'r bobl sydd yn dioddef yn enbyd yno ar hyn o bryd? Mark Drakeford AC: Llywydd, diolch yn fawr i Adam Price am y cwestiynau yna. Dwi ddim yn cofio i ni gael cymanfa ganu o flaen y Senedd, ond dyna syniad rŷm ni gyd yn gallu cytuno amdano. Dwi'n cofio'r Gweinidog Lesley Griffiths yn bwydo nôl i fi am y gymanfa ganu yn Builth Wells bob blwyddyn, so mae hwnna'n draddodiad rŷm ni'n gallu meddwl amdano. Yn y maes tai, wrth gwrs rwy'n cytuno am bwysigrwydd y maes tai. Un o'r pethau wnes i pan oeddwn i'n dod i'r swydd fel Prif Weinidog oedd apwyntio rhywun ar lefel y Cabinet i fod yn gyfrifol am bolisi a phethau ymarferol y gallwn eu gwneud yn y maes tai, ac mae Julie James yn parhau gyda'r cyfrifoldebau yn y maes yna. Pan rŷm ni'n siarad am ail gartrefi ac am brisiau tai a phobl ifanc sydd eisiau aros mewn pentrefi, ac yn y blaen, beth rydw i eisiau gwneud yw rhoi cynllun eithaf radical ymlaen. Mae uned newydd tu fewn i'r Llywodraeth sydd wedi bod yn gweithio yn y maes yma. Maen nhw'n siarad am gynllunio, maen nhw'n siarad am drethi, ond dyna un o'r meysydd, fel dywedais i wythnos diwethaf, ble dwi'n awyddus i weithio gyda phobl eraill i weld os oes yna fwy o syniadau, unrhyw beth effeithiol arall rŷm ni'n gallu meddwl ei wneud i helpu pobl ifanc yn y sefyllfa yna, ac wrth gwrs, i warchod dyfodol yr iaith Gymraeg. Rydym wedi rhoi nifer uchelgeisiol o dai newydd rŷm ni eisiau adeiladu i'w rhentu, a rŷm ni'n mynd i wneud hwnna mewn nifer o ffyrdd. Ond gweithio gyda'r cynghorau lleol yw un o'r pethau rŷm ni'n awyddus i'w gwneud, ac i wneud mwy gyda nhw i roi yn eu lle yr adnoddau, y bobl gyda'r sgiliau, ac yn y blaen, i adeiladu tai am y dyfodol, tai ble rŷm ni'n gallu gwneud cyfraniad at ddelio gyda newid yn yr hinsawdd ar yr un amser. Tlodi plant, fel rŷm ni wedi dweud o'r blaen, rŷm ni nawr yn defnyddio data newydd sydd wedi dod mas o'r system PLASC. Roedd hwnna'n dod i mewn pan oeddem ni gyd mas ar y stepen drws, ond mae swyddogion yn gwneud gwaith ar hyn o bryd, a bydd hwnna'n mynd at y Gweinidog newydd dros addysg. Dwi eisiau adeiladu ar adroddiad yr OECD i greu capasiti newydd i'n helpu ni ym maes yr economi. Dwi ddim eisiau gweld asiantaeth newydd tu fas i'r Llywodraeth am y ffordd i wneud hynny. Dwi ddim eisiau gweld Gweinidogion yn dod i'r Senedd i ddweud, 'Wel, dwi ddim yn gyfrifol am hynny—rŷm ni wedi rhoi y cyfrifoldeb am hynny i ryw fath o gwango newydd yma yng Nghymru.' So, dwi'n cytuno ei bod hi'n angenrheidiol i ni greu capasiti newydd, ond y ffordd i'w wneud e yw mewn ffordd sy'n atebol i'r Senedd. Dwi'n cytuno am beth ddywedodd Adam Price am beth rŷm ni'n clywed am Awstralia a'r cytundeb y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn meddwl rhoi yn ei le. Ar lefel swyddogion, rŷm ni wedi bod yn siarad gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac yn gwneud y pwyntiau ar gyfer Cymru y bydd pobl yn y Senedd yn gallu meddwl. Ac mae cyfle gyda fi yn bersonol heno, pan fydd y cyfarfod sy'n mynd ymlaen bron bob wythnos nawr rhwng y Prif Weinidogion a Michael Gove, a dwi wedi rhoi neges yn barod i mewn i'w swyddfa ef i ddweud dwi eisiau codi beth rŷm ni wedi ei glywed heddiw ac i fod yn glir gyda fe am beth roeddem ni yng Nghymru yn meddwl am rai o'r syniadau yna. Dwi wedi bod yn siarad y bore yma gyda'r Cwnsler Cyffredinol newydd am y comisiwn, a bydd e eisiau dod lan gyda datganiad i'r Senedd cyn egwyl yr haf i roi mas rhai syniadau am sut ni'n gallu tynnu pobl ar draws y pleidiau, ond tu fas i bleidiau, eraill, i mewn i'r ddadl am y dyfodol a sut allwn ni feddwl am ddyfodol Cymru—ym marn fy mhlaid i—tu fewn i'r Deyrnas Unedig ond mewn Teyrnas Unedig sydd wedi cael ei hailwampio mewn ffordd sy'n gallu creu llwyddiant am y dyfodol. Ac yn olaf, Llywydd, jest i ddweud dwi wedi rhoi datganiad mas yn barod am y pethau sy'n digwydd yn Palestine ac yn Israel, sydd yn tynnu sylw at y gyfraith ryngwladol ac sydd wedi cael ei gytuno gyda'r fforwm aml-ffydd sydd gyda ni yma yng Nghymru. Alun Davies AC: Brif Weinidog, fel eraill, rwy'n croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth Lafur wedi cael ei hailethol, yn ogystal â’r ffaith eich bod wedi eich ailbenodi’n Brif Weinidog a’r tîm o Weinidogion rydych wedi’u cynnull ynghyd i yrru Cymru ymlaen dros y pedair blynedd nesaf. Mae fy nghwestiwn y prynhawn yma’n ymwneud â sut y bydd hynny'n digwydd yn nhermau polisi ac am fecanwaith y Llywodraeth yn hytrach na phenodiadau’r Llywodraeth. Fe fyddwch yn cofio imi gadeirio tasglu'r Cymoedd yn y Senedd ddiwethaf, a chyn hynny, roedd gennym strwythurau a oedd wedi galluogi gwahanol feysydd polisi a Gweinidogion i weithio gyda'i gilydd i gyflawni polisi yn rhanbarth y Cymoedd. Rwy'n arbennig o bryderus, fel y byddech yn ei ddisgwyl, ynglŷn â sut rydym yn gwneud yn siŵr bod y gwaith o ddeuoli'r A465 yn sicrhau'r gwerth mwyaf posibl, a sut rydym yn sicrhau bod polisi’n dal i ganolbwyntio ar Flaenau’r Cymoedd. Felly, buaswn yn ddiolchgar, Brif Weinidog, pe gallech amlinellu eich syniadau ynglŷn â hyn ar hyn o bryd. Rwy'n croesawu cywair eich datganiad y prynhawn yma ar gydweithio, gweithio’n gydweithredol ac estyn allan er mwyn dod â phobl ynghyd, ac nid yn unig wrth i chi gynnull eich Llywodraeth ond wrth ichi reoli’r Llywodraeth hon wedyn, rwy'n gobeithio y gallwn weld y dull hwnnw'n cael ei ddefnyddio i gyflawni polisi yn rhai o rannau tlotaf y wlad hon. Mark Drakeford AC: Lywydd, diolch i Alun Davies am hynny ac rwy'n talu teyrnged i'r gwaith y bu’n rhan ohono, yn dod â syniadau a phobl ynghyd i sicrhau bod cymunedau'r Cymoedd yn rhannu popeth y gallwn ei gyflawni yma yng Nghymru. Mae gennym ni yn y Llywodraeth hon ddau Aelod sy'n cynrychioli cymunedau'r Cymoedd yn uniongyrchol, ac rwyf eisoes wedi siarad â hwy am y rôl y gallant ei chwarae yn sicrhau bod y gwaith hwnnw'n mynd rhagddo. Lywydd, mae’r gwaith ar fecanwaith y Llywodraeth yn mynd rhagddo. Roedd yn wythnos eithaf llawn yr wythnos diwethaf, fel y gwyddoch, a bellach mae angen inni symud ymlaen a mynd i’r afael â rhai o'r materion sylfaenol eraill y mae angen i chi eu rhoi ar waith. Ond mae’r hyn y tynna Alun Davies sylw ato yn un o elfennau hollbwysig y Llywodraeth, sef sut y gwnawn yn siŵr fod gennym waith trawsbortffolio go iawn yn digwydd, ac os mai’r unig ffordd o ddatrys problem yn iawn yw drwy ddod â gwahanol Weinidogion ynghyd, ond nid yn unig gwahanol Weinidogion, ond yn aml iawn, partneriaid mewn mannau eraill, partneriaid mewn llywodraeth leol, partneriaid yn y trydydd sector—sut y gallwn sicrhau bod mecanwaith y Llywodraeth yn cefnogi'r ymdrech honno i weithio ar draws ffiniau a gwneud yn siŵr fod y gwahanol gyfraniadau sydd eu hangen oddi mewn i'r Llywodraeth, ond o'r tu hwnt i'r Llywodraeth hefyd, yn cael eu defnyddio i sicrhau cymaint o effaith â phosibl ar yr ardaloedd a'r bobl rydym yn ceisio eu gwasanaethu. James Evans. James Evans MS: Diolch, Lywydd, a hoffwn gofnodi fy niolch i chi am gael eich ailbenodi i'ch swydd ac i'r Prif Weinidog hefyd am gael ei ailbenodi i'w swydd. Hoffwn hefyd nodi fy ngwerthfawrogiad a fy niolch i'm rhagflaenydd, Kirsty Williams, am ei gwaith a'i hymroddiad i bobl fy etholaeth ac i'r Senedd hon, ac i bobl Brycheiniog a Sir Faesyfed am fy ethol yn Aelod newydd o’r Senedd ar eu rhan. Diolch yn fawr iawn. Brif Weinidog, yn fy etholaeth i ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed a ledled Powys, mae ysgolion bach fel Dolau, Llanbedr a Chradoc dan fygythiad o gael eu cau. Fel rhywun a gafodd ei addysg mewn ysgol fach wledig, rwy'n deall eu pwysigrwydd i’n cymunedau gwledig. Felly, Brif Weinidog, sut y byddwch chi a'ch Llywodraeth yn diogelu ysgolion gwledig ymhellach ac yn gwneud yn siŵr fod ganddynt gyllid digonol fel y gallwn sicrhau na fydd ysgolion bach gwledig yn cael eu cau? Mark Drakeford AC: Lywydd, hoffwn longyfarch yr Aelod newydd dros Frycheiniog a Sir Faesyfed ar gael ei ethol ac am achub ar y cyfle cynnar hwn i wneud ei gyfraniad cyntaf ar lawr y Senedd, ac am ddewis mater pwysig i dynnu sylw pawb ato. Fel y gŵyr, newidiodd ei ragflaenydd, fel yr Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed, y polisi mewn perthynas ag ysgolion bach a gwledig i'w gwneud yn rhagdybiaeth o blaid cadw'r ysgolion hynny ar agor. Ac mae hynny'n newid yr her y mae awdurdodau lleol yn ei hwynebu wrth ymdrin â threfniadaeth ysgolion. Cyn hynny, nid oedd unrhyw ragdybiaeth o'r fath. Nawr, mae'n rhaid i awdurdodau lleol ddechrau o'r safbwynt, oni bai y gellir nodi rhesymau da dros beidio â chadw'r ysgolion hynny, y byddant yn parhau. Ac rwy'n gobeithio bod hynny wedi newid natur y ddadl. Yn sicr, mewn nifer o achosion, gwn fod hynny wedi rhoi mwy o rym i rieni sydd am ddadlau dros gadw ysgol ar agor mewn cymuned benodol. Yn y tymor diwethaf hefyd, Lywydd, darparwyd cyllid ychwanegol i gydnabod rhai o'r costau ychwanegol anochel sy'n gysylltiedig â darparu addysg ar y raddfa lai honno. Nid oes dim o hyn yn golygu y bydd pob ysgol bob amser yn aros ar agor am byth, oherwydd weithiau gall awdurdodau lleol roi dadleuon da y byddai darpariaeth amgen o fudd i’r disgyblion a’r rhieni hynny. Ond credaf fod hyn wedi newid natur y ddadl ac nid oes gan y Llywodraeth hon unrhyw gynlluniau i newid y set newydd honno o amgylchiadau. Heledd Fychan. Heledd Fychan AS: Diolch, Llywydd, a diolch i'r Prif Weinidog am ei groeso i ninnau fel Aelodau newydd sbon. Mae gan Lywodraeth yr Alban Ysgrifennydd Cabinet sy'n gyfrifol am ddiwylliant ac un sy'n gyfrifol am chwaraeon. Mae gan Lywodraeth San Steffan Ysgrifennydd Gwladol sy'n gyfrifol am ddiwylliant a chwaraeon. Ond, er gwaethaf eich sylwadau am ddiwylliant a chwaraeon ar ddechrau'r sesiwn hon, unwaith eto, yma yng Nghymru, Dirprwy Weinidog sydd yna gyda chyfrifoldeb dros ddiwylliant a chwaraeon. Pam mae diwylliant a chwaraeon yn llai pwysig i Lywodraeth Cymru nag ydynt i Lywodraethau eraill? Mark Drakeford AC: Llongyfarchiadau hefyd i Heledd Fychan am ei hethol i'r Senedd ac am siarad ar y llawr y prynhawn yma. Pwrpas datganoli yw i roi dewisiadau am y ffordd orau o wneud pethau yn yr Alban yn nwylo pobl yr Alban, ac i wneud pethau sy'n ein siwtio ni yn ein dwylo ni. Mae'r ffordd rŷm ni'n gweithio fel Llywodraeth yn hollol wahanol i'r ffordd y mae'r Llywodraeth yn San Steffan yn gweithio. Bydd llais pwerus yn y Llywodraeth gan y Gweinidog newydd sy'n gyfrifol am ddiwylliant a chwaraeon. Fel rŷm ni wedi ei wneud dros y blynyddoedd, y pwynt—. Nid yw am statws yn y maes yma; y pwynt yw y bydd Gweinidog gyda phob cryfder i siarad lan am ddiwylliant a chwaraeon. Dwi'n hollol hyderus y bydd hi'n llwyddiannus ac yn gallu cynrychioli pobl sy'n gweithio yn y meysydd yna, sy'n mwynhau mynd i weld pobl yn chwarae neu fynd i weld pobl yn y theatr, ac yn y blaen. Dyna beth sy'n fwy pwysig imi—effaith y person sy'n gwneud y gwaith, nid jest y statws. Jenny Rathbone AC: Brif Weinidog, hoffwn eich llongyfarch ar y cydbwysedd rhwng y rhywiau yn eich Llywodraeth, sy'n amlwg yn rhywbeth rwy’n ei gymeradwyo'n llwyr. Rwy'n siomedig o weld nad oes unrhyw fenyw ar feinciau'r Ceidwadwyr yma y prynhawn yma. Yn amlwg, bydd angen gweithio’n galed i lenwi esgidiau pobl mor rhagorol â Suzy Davies ac Angela Burns, er enghraifft, y bydd colled fawr ar eu hôl. Roeddwn yn awyddus i archwilio'r grantiau tai arloesol rydym wedi bod yn eu dyfarnu drwy gydol y ddwy Senedd ddiwethaf ac ar ba sail y mae hynny’n ein galluogi i sicrhau bod yr holl dai newydd yn cael eu hadeiladu yn unol â safonau di-garbon, nid yn unig y tai cymdeithasol rydych eisoes wedi cyfeirio atynt, ac felly pa gynlluniau a allai fod gan eich Llywodraeth i ddiwygio Rhan L i sicrhau nad yw adeiladwyr tai preifat yn adeiladu tai o safon is o lawer na'r hyn rydym yn ei adeiladu fel tai cymdeithasol i’w rhentu. Un o'r ystyriaethau pwysicaf i fy etholwyr yw'r ffaith bod gennym lawer iawn o ddinasyddion Ewropeaidd yn byw mewn limbo oherwydd methiant y Swyddfa Gartref i roi statws preswylwyr sefydlog iddynt. Mae'n ymwneud â'r fenyw 94 oed sydd wedi byw bron i 60 mlynedd yn y wlad hon a thalu ei threthi ac sydd bellach yn ansicr a all fod yn siŵr o gael gofal y GIG ar ddiwedd ei hoes, sy'n gwbl warthus; mae a wnelo hefyd â’r niferoedd enfawr o bobl eraill sy'n ceisio gwneud cyfraniad i'r economi, ac mewn rhai achosion, dywedir wrthynt na allant fynd ar gyrsiau i'w galluogi i gymhwyso, er enghraifft, fel cynorthwywyr dysgu, oherwydd dywedir wrthynt nad oes ganddynt statws preswylydd sefydlog cywir o hyd. Felly, tybed a allech ddweud wrthym pwy yn eich Llywodraeth a all fynd at y Swyddfa Gartref a Llywodraeth y DU i ddarganfod pryd y byddant yn datrys yr achosion gwarthus hyn, sy'n barhad o sgandal Windrush yn ôl pob golwg. Mark Drakeford AC: Wel, Lywydd, rwy'n falch iawn o arwain Llywodraeth lle mae dwy ran o dair o'r Gweinidogion yn fenywod. Yn wir, bydd fy mhlaid yn parhau â thraddodiad y Senedd wrth sicrhau bod cynrychiolaeth yn y Senedd hon yn adlewyrchu’r Gymru rydym yn byw ynddi. Rwy'n falch iawn fod gennym y grant tai arloesol ers sawl blwyddyn bellach. Yn anochel, pan fyddwch yn rhoi cynnig ar bethau am y tro cyntaf, bydd dulliau adeiladu arloesol yn costio mwy hyd nes y gallwch wneud iddynt ddigwydd ar raddfa fwy. Dyna pam fod gennym y grant. Ei nod yw galluogi arloesedd, ac yna i ddefnyddio'r arloesedd llwyddiannus ar y raddfa fwy honno. Dyna pam rydym yn hyderus y bydd yr 20,000 o dai rhent cymdeithasol y byddwn yn eu hadeiladu yn ystod tymor y Senedd hon yn dai ar gyfer y dyfodol, ac yn creu cymaint o ynni, er enghraifft, ag y maent yn ei ddefnyddio. Nawr, gwnaethom ddechrau'r broses o ddiwygio'r rheoliadau tai yn nhymor diwethaf y Senedd, ac mae mwy i'w wneud. Bydd y Llywodraeth hon yn rhoi rhagor o gamau ar waith i sicrhau bod y safonau adeiladu tai yn cael eu cymhwyso'n gyffredinol ac nid mewn cyd-destun arloesol yn unig. O ran y pwyntiau a wnaeth Jenny Rathbone am ddinasyddion Ewropeaidd sy'n byw yma yng Nghymru, rwy'n rhannu ei rhwystredigaeth yn llwyr, ac yn fwy na hynny, ynglŷn â'r ffordd y mae unigolion sydd wedi dewis byw yng Nghymru, pobl sydd wedi gwneud cyfraniadau enfawr i Gymru, bellach yn teimlo bod hynny oll wedi ei danseilio. Rydym wedi rhoi bron i £2 filiwn i gronfeydd Cyngor ar Bopeth yng Nghymru i roi cyngor i bobl ynghylch caffael statws preswylwyr sefydlog. Rydym wedi darparu bron i £0.5 miliwn i Newfields Law, cwmni arbenigol, i sicrhau, pan fo amgylchiadau pobl yn arbennig o gymhleth, eu bod yn cael lefel ychwanegol o gymorth i ddod o hyd i ffordd drwy'r drysni newydd y mae Llywodraeth y DU wedi'i greu ar eu cyfer. Rwy’n annog y Swyddfa Gartref, fel rydym wedi’i wneud sawl tro, i fabwysiadu ymagwedd ddigon hyblyg a thrugarog tuag at hyn, yn hytrach na dal ati i bennu terfynau amser sy’n golygu bod pobl yn ofni y byddant ar yr ochr anghywir i ddyddiad mympwyol ac yn colli’r holl hawliau y maent wedi'u mwynhau’n gwbl briodol a chyfreithlon hyd yn hyn. Yma yng Nghymru, rydym yn dathlu'r ffaith bod gennym bobl o rannau eraill o'r byd sy'n dod yma ac yn gwneud eu dyfodol hwy’n rhan o'n dyfodol ninnau, ac yn sicr, mae unrhyw beth sy'n tanseilio'r teimlad hwnnw’n destun gofid. Gareth Davies AS: Diolch yn fawr iawn i'r Prif Weinidog am annerch y Senedd y prynhawn yma, a llongyfarchiadau ar ffurfio Llywodraeth, ac i'r Llywydd am gael eich ailethol i'ch swydd yr wythnos diwethaf. Mae'n bleser pur cael annerch y Senedd am y tro cyntaf fel yr Aelod Ceidwadol cyntaf dros Ddyffryn Clwyd, a hoffwn ddiolch i fy rhagflaenydd, Ann Jones, am gynrychioli'r etholaeth ers 1999. Felly, Brif Weinidog, mae Dyffryn Clwyd yng ngogledd Cymru, fel sawl rhan o Gymru, wedi cael eu taro’n galed gan y pandemig, yn enwedig mewn meysydd fel y sectorau twristiaeth, lletygarwch a hamdden. Fe ddywedwch eich bod yn Llywodraeth adferiad, ond nid ydych wedi penodi Gweinidog twristiaeth. Sut y gallwch roi sicrwydd i fy etholwyr y bydd eu busnesau’n cael y sylw a'r cymorth sydd ei angen arnynt i ymadfer wedi'r pandemig a ffynnu mewn Cymru ôl-COVID? Diolch yn fawr iawn. Mark Drakeford AC: Wel, hoffwn longyfarch a diolch i Mr Davies am yr hyn a ddywedodd, ac am achub ar y cyfle i siarad yn y Senedd y prynhawn yma. O ran ei bwynt penodol, rwyf wedi sicrhau bod twristiaeth yn un o gyfrifoldebau Gweinidog yr Economi, a gwneuthum hynny oherwydd y gydnabyddiaeth o bwysigrwydd twristiaeth i economi cymaint o rannau o Gymru, gan gynnwys gogledd Cymru. Credaf y bydd eu cael yng nghrombil injan economaidd y Llywodraethhon o fudd i'r diwydiant twristiaeth a lletygarwch, gan sicrhau bod y cyfraniad y gall y diwydiant ei wneud i economïau'r rhannau hynny o Gymru yn y dyfodol yn cael ei gydnabod yn y cyfrifoldebau mawr a ysgwyddir gan fy nghyd-Aelod Vaughan Gething bellach. Hefin David AC: Oni fyddai’n well cyflwyno, yn y 18 mis nesaf, ardoll Holtham i fynd i’r afael â’r argyfwng cynyddol mewn gofal cymdeithasol yn hytrach na chaniatáu i’n polisi gofal cymdeithasol gael ei lunio yn San Steffan? Mark Drakeford AC: Lywydd, nid oes unrhyw fwriad i ganiatáu i'n polisi gael ei lunio yn San Steffan, ond mae’r gwaith o lunio polisïau’n synhwyrol yng Nghymru yn dibynnu ar y rhyngwyneb rhwng cyfrifoldebau datganoledig a chyfrifoldebau heb eu datganoli, fel y mae adroddiad Holtham ar ofal cymdeithasol yn ei nodi’n gwbl glir. Gallai rhai penderfyniadau y gallai Llywodraeth y DU eu gwneud yn y system fudd-daliadau arwain yn syml at arian o Gymru yn cymryd lle arian gan Lywodraeth y DU. Ni fyddai hynny o fudd i unrhyw un, gan gynnwys y bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol ac yn dibynnu arno. Sam Rowlands. Sam Rowlands MS: Diolch, Lywydd, a diolch am y cyfle i siarad heddiw fel Aelod newydd arall yma yn y Senedd. A llongyfarchiadau, Brif Weinidog, ac i chi, Lywydd, ar gael eich ailbenodi y tro hwn. Diolch am eich datganiad, Brif Weinidog. Fel siaradwyr blaenorol, rwyf innau hefyd wedi nodi bod twristiaeth wedi’i hepgor o deitl unrhyw Weinidog yn eich Cabinet, ond diolch am egluro'r pwynt fod hynny'n gyfrifoldeb i Weinidog yr economi. Fodd bynnag, hoffwn ddweud ychydig eiriau am y diwydiant twristiaeth. Fel y gwyddoch, ac fel y nodoch chi yn eich ymateb i Gareth yn gynharach, mae'r diwydiant twristiaeth yn hynod bwysig i ogledd Cymru, y rhanbarth rwy’n ei gynrychioli, gan gyflogi oddeutu 40,000 o bobl yn y rhanbarth hwnnw’n unig, a chyfrannu oddeutu £3.5 biliwn y flwyddyn i'r economi leol. Felly, gyda hynny mewn cof, buaswn yn gofyn: pa fesurau y byddwch yn ceisio’u rhoi ar waith i sicrhau bod y sector hwn yn cael cymorth priodol i ymadfer wedi'r argyfwng COVID? Mark Drakeford AC: Wel, Lywydd, mae'n bleser croesawu Mr Rowlands i'r Siambr; edrychaf ymlaen at y cyfraniadau y bydd yn eu gwneud, yn enwedig o ystyried ei brofiad blaenorol fel arweinydd awdurdod lleol yng Nghymru. Gwn y bydd ganddo bethau pwysig y gall eu cyfrannu at y ffordd rydym yn meddwl am y berthynas honno ac yn gwneud iddi weithio i bobl Cymru yn y dyfodol. Roedd yn gyfrifol, wrth gwrs, am nifer o weithgareddau'n ymwneud â thwristiaeth pan oedd yn arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. A gaf fi annog yr Aelodau’n ofalus, Lywydd, i beidio â chamgymryd yr wyneb am y sylwedd? Nid yw'r label mor bwysig â'r hyn sydd yn y jar, ac mae hynny’r un mor wir am dwristiaeth yma ag yr oedd am y celfyddydau a chwaraeon, a godwyd yn gynharach. Y peth pwysicaf y gallwn ei wneud i'r sector yw creu amodau o amgylch y coronafeirws sy'n golygu y gall fod ar agor ac aros ar agor. Ac fel y bydd ef yn gwybod, o ddydd Llun yr wythnos hon ymlaen, mae modd ailagor pob rhan o dwristiaeth, ochr yn ochr â lletygarwch dan do. A'r peth mwyaf y gallwn ei wneud i'r sector yw sicrhau gyda'n gilydd fod yr amodau'n cael eu cynnal yng Nghymru lle gall hynny barhau i ddigwydd. Ond rwy'n llwyr gydnabod, fel y gwna’r Llywodraeth gyfan, er y gall rhannau o dwristiaeth a lletygarwch ailagor bellach, ni allant fasnachu yn yr un ffordd ag y byddent wedi'i wneud cyn y pandemig. Mae'r £66 miliwn y bu modd i mi ei gyhoeddi—y penderfyniad cyntaf a wneuthum ar ôl cael fy ailbenodi’n Brif Weinidog—yn flaendal ar y £200 miliwn rydym wedi'i neilltuo er mwyn parhau i gefnogi busnesau. Gwn fod y sector ei hun yn awyddus inni weithio gyda hwy yn awr i ddatblygu ffordd wedi'i thargedu'n well o sicrhau bod yr arian hwnnw'n mynd yn bennaf i'r busnesau nad ydynt wedi ailgychwyn masnachu ar gapasiti llawn eto. Felly, roedd yn anochel, yn ôl ym mis Mawrth y llynedd neu fis Ionawr eleni, gyda chymaint o fusnesau ar gau, fod angen ffordd eithaf uniongyrchol o gael arian allan gan Lywodraeth Cymru i ddwylo llawer o fusnesau. Rydym mewn sefyllfa wahanol heddiw, ac rydym yn dymuno bod mewn sefyllfa wahanol—sefyllfa gryfach—yn y dyfodol, a bydd hynny'n golygu sicrhau bod mwy o'r cymorth y gallwn ei gynnig yn mynd i'r busnesau sy'n dal i ymadfer, a thrafodaethau gyda'r sector twristiaeth ac eraill fydd y ffordd y byddwn yn gallu llunio ein cymorth mewn ffordd sy'n cyrraedd y mannau lle mae ei angen fwyaf. Ken Skates AC: Brif Weinidog, mae'n amlwg eich bod wedi cynnull tîm o Weinidogion sy'n dangos eich bod yn benderfynol o fynd i'r afael â'r ddwy her fwyaf sy'n ein hwynebu yn awr, ac y byddwn yn parhau i'w hwynebu am flynyddoedd i ddod: yr argyfwng hinsawdd a'r angen am fwy o gyfiawnder cymdeithasol. A chredaf mai'r hyn y mae'r rhan fwyaf o bobl yn dyheu amdano mewn bywyd yw ymdeimlad o sicrwydd—sicrwydd cyflogaeth, cartref diogel, sicrwydd i'w teuluoedd, eu cymunedau a'r amgylchedd. Mae angen inni ddechrau mynd i’r afael â’r systemau a'r ymddygiad sy’n niweidio sicrwydd a sefydlogrwydd cymdeithas ym mywydau pobl, a gwn y bydd eich Llywodraeth yn gwneud hynny. Rwy’n falch iawn, Brif Weinidog, eich bod wedi cadw rôl Gweinidog gogledd Cymru, ac rwy’n falch iawn wir fod fy ffrind a fy nghyd-Aelod Lesley Griffiths wedi derbyn y rôl honno. Ac rwy'n hyderus, Brif Weinidog, y bydd y Llywodraeth hon o dan eich arweiniad yn un ddiymhongar ond uchelgeisiol, yn wylaidd ond yn fentrus, mewn modd sy'n uno ond sydd hefyd yn bwrpasol, ac yn anad dim, yn ddewr. Brif Weinidog, roedd yn bleser gwasanaethu yn eich Llywodraeth yn y weinyddiaeth flaenorol. A wnewch chi ategu fy niolch i'r gweision sifil sydd wedi, ac a fydd yn parhau i wasanaethu’r Gweinidogion mor dda? Mae eu hymdrechion yn ystod y pandemig wedi bod yn arwrol. Ac yn olaf, i'r holl Weinidogion, y bûm yn gweithio gyda sawl un ohonynt yn y weinyddiaeth flaenorol, au revoir, pob lwc a gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar ôl eich hunain er mwyn gallu edrych ar ôl y wlad. Mark Drakeford AC: Wel, Lywydd, mae’n bleser clywed gan ein cyd-Aelod Ken Skates yn ei gyfraniad cyntaf o'r meinciau cefn. Diolch iddo am yr hyn a ddywedodd, am dynnu sylw at y ffaith mai newid hinsawdd a chyfiawnder cymdeithasol yw'r prif elfennau newydd yn y ffordd y lluniwyd y Llywodraeth hon, ac adlewyrchu'r ymdeimlad o her ac o ddiogelwch a sefydlogrwydd y mae angen inni eu cymell ym mywydau pobl. Rwy'n rhannu’r hyn a ddywedodd am yr ymdrechion a wneir gan weision sifil, y tu ôl i’r llenni yn aml, ac nid yw'n ffasiynol diolch iddynt am yr hyn a wnânt, ond pan feddyliaf am y £2 biliwn, pan oedd yn Weinidog yr economi, a ddarparwyd o goffrau Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol i fusnesau yng Nghymru, ni fyddai hynny wedi bod yn bosibl oni bai am dimau o weision sifil a fu’n gweithio nid yn unig yn ystod yr wythnos, ond ar benwythnosau ac yn hwyr fin nos i lunio'r systemau a oedd yn caniatáu i hynny ddigwydd. Un enghraifft yn unig yw hon o'r ffordd y mae’r ymdeimlad hwnnw o wasanaeth cyhoeddus yma yng Nghymru o fudd mawr i ni. Diolch iddo hefyd am yr hyn a ddywedodd am ogledd Cymru. Hoffwn adeiladu ymhellach ar bopeth a wnaeth fel Gweinidog gogledd Cymru, gan fod maniffesto fy mhlaid yn cynnwys cymaint o bethau cyffrous ar gyfer dyfodol gogledd Cymru, o'r ysgol glinigol yng ngogledd-orllewin Cymru, i’r parc cenedlaethol newydd a fydd yn cynnwys, rwy’n credu, rhannau o etholaeth yr Aelod, i’r gwaith o ailadeiladu Theatr Clwyd, yr adeilad eiconig hwnnw ar gyfer gogledd Cymru, i bopeth sy’n digwydd yn Wrecsam i greu dyfodol i'r dref honno a’i gwneud yn ganolfan ar gyfer y pethau y gwyddom fod ei phoblogaeth yn eu gwerthfawrogi gymaint. Mae cymaint y mae'r Llywodraeth hon yn dymuno ei wneud ar ran gogledd Cymru, ac roedd Gweinidog yno i sicrhau bod holl bortffolios y Cabinet yn chwarae eu rhan i gyflawni hynny’n rhywbeth roeddwn yn awyddus iawn i'w gadw. Yn olaf, John Griffiths. John Griffiths AC: Diolch, Lywydd. Hoffwn longyfarch y Prif Weinidog ar gael ei ailbenodi a'i benodiadau gweinidogol, ac rwy'n croesawu hefyd yr ymdeimlad o frys a bwysleisiodd o ran llywodraethu Cymru a rhoi'r rhaglen lywodraethu ar waith. Credaf fod y ffaith fod gennym bellach Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn ogystal ag adran newid hinsawdd gwerth chweil, yn cynnwys trafnidiaeth a thai, yn cyd-fynd yn fawr â'r hyn y mae'r Prif Weinidog wedi'i ddweud am ailgodi'n decach ac yn wyrddach, drwy'r pandemig a thu hwnt. Credaf fod hynny’n argoeli’n dda ar gyfer y dull tecach a gwyrddach o weithredu, ond rwy'n croesawu'n fawr yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog am yr angen am frys wrth fynd i’r afael â’r heriau sydd mor bwysig i’n cymunedau ledled Cymru. A hoffwn rywfaint o eglurder efallai gan y Prif Weinidog o ran cyfrifoldeb dros faterion rhyngwladol. Rwy'n croesawu'r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog ynglŷn â’i ddatganiad ar y sefyllfa ym Mhalesteina ac Israel. Mae cymunedau yn Nwyrain Casnewydd, yn enwedig cymunedau Mwslimaidd, yn bryderus iawn am yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd. Maent yn dymuno gweld cadoediad, maent yn dymuno gweld heddwch parhaol a phendant, ac maent yn dymuno gweld sgyrsiau a thrafodaethau’n ailddechrau cyn gynted â phosibl tuag at y nod hwnnw. Maent yn nodi cryfder milwrol llethol Israel o'i gymharu â Phalesteina, a chredant fod hynny'n galw am gyfrifoldeb mawr i fod yn fwy gofalus na'r hyn a welwn ar hyn o bryd gyda’r marwolaethau yn Gaza yn arbennig. Felly, rwy'n croesawu'r ffaith bod y Prif Weinidog yn codi llais ar y mater, a hoffwn gael sicrwydd ganddo y bydd yn parhau i wneud sylwadau ar faterion rhyngwladol pan fo hynny mor bwysig i’n cymunedau yma yng Nghymru. Mark Drakeford AC: A gaf fi ddiolch i John Griffiths am y cyfraniad olaf pwysig hwnnw, Lywydd? Diolch iddo am yr hyn a ddywedodd ynglŷn â’r ffordd y mae'r Llywodraeth hon wedi'i llunio i gyflawni'r Gymru decach a gwyrddach y bu ef a minnau’n ymgyrchu drosti yn ystod cyfnod yr etholiad. Mae yna frys i sicrhau bod Cymru’n dod yn ôl ar y trywydd iawn yn sgil y coronafeirws. Effeithiodd ar gymaint o fywydau. Rwy'n gwybod sawl gwaith y mae'r Aelod wedi siarad ar lawr y Senedd yma am anghenion ein plant a'n pobl ifanc mewn addysg a'r hyn y maent wedi'i golli o ganlyniad i'r pandemig. Mae brys, onid oes, i fwrw ymlaen â'r pethau rydym wedi addo eu gwneud, y rhaglen ddal i fyny wych honno rydym am ei gweld ar waith fel nad yw'r golled y mae'r bobl ifanc hynny wedi'i dioddef yn nodwedd barhaol o'u bywydau. Roeddwn yn awyddus i ddiolch iddo am gydnabod hynny. Yn ystod yr ymgyrch etholiadol, cefais y fraint o fod gyda John Griffiths yn Nwyrain Casnewydd, mewn rhan o'r ddinas lle roedd y gymuned y cyfeiriodd ati i'w gweld yn amlwg iawn. Cawsom lawer o gyfleoedd y bore hwnnw i drafod barn pobl am Gymru, ei dyfodol a'u rhan hwy yn y dyfodol hwnnw. Mae'n llygad ei le; mae’r digwyddiadau yn y dwyrain canol sy'n peri pryder i bob un ohonom yn arbennig o berthnasol i rai o'n cyd-ddinasyddion. Rwy'n cytuno â phopeth a ddywedodd John Griffiths am yr angen am ddatrysiad i’r hyn rydym wedi’i weld o fewn fframwaith cyfraith ryngwladol, yn seiliedig ar ddiplomyddiaeth yn hytrach na gweithredu milwrol. Pan fydd materion mewn rhannau eraill o'r byd yn effeithio'n uniongyrchol ar ddinasyddion Cymru, wrth gwrs y dylem sicrhau ein bod yn rhoi llais i'w pryderon. Diolch yn fawr i'r Prif Weinidog. Byddwn ni nawr yn cymryd toriad byr ar gyfer caniatáu rhai newidiadau yn y Siambr. Os gall yr Aelodau sy'n gadael wneud hynny yn sydyn fel y gallwn ni lanhau'r Siambr ar gyfer derbyn Aelodau newydd i mewn i'r Siambr. Toriad byr, felly. Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 14:32. Ailymgynullodd y Senedd am 14:40, gyda'r Llywydd yn y Gadair. 4. Datganiad gan y Prif Weinidog: Adolygiad o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 Yr eitem nesaf ar yr agenda, felly, yw'r datganiad gan y Prif Weinidog ar yr adolygiad o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020. Dwi'n galw ar y Prif Weinidog i wneud ei ddatganiad. Mark Drakeford. Mark Drakeford AC: Diolch yn fawr, Llywydd. Yng nghyfarfod olaf ond un y pumed Senedd, y tro diwethaf i'r Aelodau ddod at ei gilydd i drafod y rheoliadau coronafeirws hyn, roeddem ni newydd nodi blwyddyn ers dechrau’r pandemig. Roedd hwnnw yn ddiwrnod o fyfyrio dwys, gan gofio nid yn unig pawb oedd wedi colli eu bywydau i'r feirws ofnadwy hwn, ond hefyd y dewrder a'r nerth a ddangoswyd gan gymaint o bobl ar hyd a lled Cymru. Wrth i’r sefyllfa wella o ran iechyd y cyhoedd, cymeron ni’r camau cyntaf allan o'r cyfyngiadau symud, gan symud o 'aros gartref' i 'aros yn lleol'. Roedd siopau trin gwallt a siopau barbwr wedi bod ar agor ers ychydig dros wythnos, ac roeddem ni yn y cam cyntaf o ailagor busnesau sy’n gwerthu nwyddau sydd ddim yn hanfodol. Roedd cyfleusterau chwaraeon awyr agored yn agor am y tro cyntaf. Mark Drakeford AC: Heddiw, Lywydd, wrth inni ddechrau'r chweched Senedd hon, mae sefyllfa iechyd y cyhoedd yng Nghymru wedi gwneud cynnydd sylweddol, ac rydym bellach ar lefel rhybudd 2. Mae gwaith caled pawb ledled Cymru, ynghyd â'n rhaglen frechu lwyddiannus, yn golygu ein bod yn parhau i fod â'r cyfraddau coronafeirws isaf yn y Deyrnas Unedig, sef oddeutu 10 achos i bob 100,000 o'r boblogaeth, a chyfradd profion positif sy’n 1 y cant heddiw. Ar yr un pryd, mae nifer y bobl yn yr ysbyty â COVID ar ei lefel isaf ers dechrau'r pandemig fwy na 15 mis yn ôl, a dim ond tri pherson â COVID sydd mewn gwelyau gofal critigol yng Nghymru. Mae ein GIG yn dychwelyd i lefelau mwy normal o weithgarwch ar yr adeg hon o'r flwyddyn, gan drin mwy o bobl ag ystod ehangach o salwch, anafiadau a chyflyrau iechyd. Diolch byth, mae llawer llai o farwolaethau yn cael eu cofnodi, er y gwn y bydd pawb yn y Siambr hon, ac sy’n cymryd rhan o bell, yn parhau i feddwl am yr holl bobl sydd wedi colli rhywun annwyl yma yng Nghymru i'r feirws ofnadwy hwn. Y penwythnos hwn, cyraeddasom garreg filltir gyda 2 filiwn o bobl bellach wedi cael eu dos cyntaf o’r brechlyn yng Nghymru—dyna 2 filiwn o bobl yng Nghymru sydd wedi dweud 'ie' i gael eu brechu. Mae mwy nag 80 y cant o'r holl oedolion yng Nghymru bellach wedi cael y dos cyntaf, fan lleiaf, o'r brechlyn. Mewn ffigurau a gyhoeddwyd yn gynharach heddiw, mae 80 y cant o bobl yn eu 40au, 62 y cant o bobl yn eu 30au, a 43 y cant o bobl rhwng 18 a 29 oed bellach wedi cael brechlyn cyntaf yma yng Nghymru. Yn ystod yr wythnosau nesaf, rydym yn gobeithio pasio’r garreg filltir pan fydd miliwn o bobl wedi cwblhau'r cwrs brechu dau ddos—ac mae hyn oll wedi digwydd mewn cwta chwe mis. Gwn y bydd pob Aelod o'r Senedd yn awyddus i ddiolch i'r rheini sy'n ymwneud â'r rhaglen frechu, o’r holl bobl sy'n gweithio y tu ôl i'r llenni i gynllunio a chydlynu’r gwaith cymhleth o ddarparu’r brechlynnau, i'r miloedd o bobl—staff y GIG, staff milwrol, a'r llu o wirfoddolwyr—am y llwyddiant anhygoel hwn. Eu hymdrechion hwy sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i hynt y pandemig hwn. Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn canolbwyntio ein hymdrechion ar ddarparu dosau cyntaf, er mwyn sicrhau ein bod yn brechu cymaint o bobl â phosibl. Bydd grwpiau oedran iau yn cael cynnig brechlynnau Pfizer a Moderna, yn unol â'r cyngor diweddaraf gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu. Lywydd, y ffaith bod gennym lefelau mor isel o’r coronafeirws a lefelau uchel o frechu yw’r rheswm pam ein bod wedi gallu symud i lefel rhybudd 2 mewn un cam—un cam arall tuag at normalrwydd. Mark Drakeford AC: Canlyniadau'r adolygiad o'r rheoliadau rydym yn ei ystyried heddiw yw bod lletygarwch dan do yn gallu ailagor ar gyfer grwpiau o chwech o bobl o hyd at chwe aelwyd, gall llety gwyliau ailagor yn llawn, gall adloniant dan do ac atyniadau ymwelwyr ailagor, a gall hyd at 30 o bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau wedi'u trefnu o dan do a hyd at 50 o bobl mewn gweithgareddau wedi'u trefnu yn yr awyr agored, gan gynnwys derbyniadau priodas. Mae teithio rhyngwladol hefyd wedi ailgychwyn. Byddwn yn dilyn yr un system goleuadau traffig coch, oren, gwyrdd a ddefnyddir yn Lloegr a'r Alban, ond gyda rhai mesurau diogelwch ychwanegol i wneud popeth a allwn i atal y coronafeirws rhag cael ei ailgyflwyno i Gymru o dramor. Lywydd, yn sicr, nid yw'r ffaith bod rhywbeth yn cael ei ganiatáu yn golygu ei fod yn orfodol ac nid yw o reidrwydd yn golygu ei fod yn syniad da hyd yn oed. Ailadroddaf farn Llywodraeth Cymru mai hon yw'r flwyddyn i fynd ar wyliau yng Nghymru ac i fwynhau popeth sydd gan Gymru i'w gynnig. Fel rhan o'r adolygiad tair wythnos, o ddydd Llun yr wythnos nesaf ymlaen, byddwn hefyd yn codi cyfyngiadau ar gyfanswm yr ymwelwyr sy'n cael ymweld â phobl sy'n byw mewn cartrefi gofal. Bydd hynny'n cwblhau penderfyniadau’r adolygiad tair wythnos hwn, a bydd y cylch adolygu tair wythnos nesaf yn dod i ben ar ddechrau mis Mehefin. Wedyn, os yw sefyllfa iechyd y cyhoedd yn parhau i fod yn gadarnhaol, byddwn yn ystyried a allwn symud i lefel rhybudd 1. Byddai hynny'n golygu llacio'r rheolau ymhellach mewn perthynas â phobl yn cyfarfod yn eu cartrefi eu hunain, cynyddu nifer y bobl sy'n cael mynychu derbyniadau priodas, ac ailgychwyn digwyddiadau mwy, gan adeiladu ar brofiad ein rhaglen beilot, sydd bellach ar waith. Lywydd, er bod hyn oll yn sicr yn gadarnhaol, mae'n rhaid imi argymell gofal. Unwaith eto, mae'r pandemig wedi dilyn trywydd annisgwyl sy’n peri cryn bryder. Ddiwedd yr wythnos diwethaf, roedd mwy na 1,600 achos o'r amrywiolyn India, fel y’i gelwir, yn y Deyrnas Unedig, ac mae’r nifer hwnnw yn Lloegr yn dyblu bob pump i saith diwrnod. Mae'r rhan fwyaf o'r achosion hynny yng ngogledd-orllewin Lloegr, yn Llundain ac yn ardal Bedford. Yma yng Nghymru, mae gennym oddeutu 25 o achosion sy’n gysylltiedig ag amrywiolyn India sy'n peri pryder. Mae pob un o'r rheini'n destun ymchwiliad ac mae pawb sydd wedi dod i gysylltiad â'r unigolion hynny, wrth gwrs, yn cael eu holrhain a'u profi. Mae'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg yn awgrymu y gallai'r amrywiolyn newydd hwn fod yn fwy trosglwyddadwy na ffurf fwyaf cyffredin y feirws ar hyn o bryd—amrywiolyn Caint—a oedd yn gyfrifol am yr ymchwydd mewn achosion yng Nghymru ar ddechrau’r gaeaf y llynedd. Ar hyn o bryd, nid oes digon o dystiolaeth eto i ddynodi beth yw effaith amrywiolyn India ar effeithlonrwydd y brechlyn neu a yw'n achosi salwch mwy difrifol. Mae pob un ohonom yn gobeithio, wrth gwrs, y bydd y brechlyn yn amddiffyn rhag yr amrywiolyn newydd hwn ac eraill a allai ddod i’r amlwg, ac mae'r wyddoniaeth yn parhau i archwilio'r sefyllfa, a byddwn yn derbyn cyngor gan ein cynghorwyr gwyddonol wrth i'r dystiolaeth honno ddod yn gliriach. Yn y cyfamser, mae'n bwysig iawn ein bod yn parhau i wneud popeth a allwn i gadw lefelau'r feirws mor isel â phosibl yng Nghymru wrth inni barhau i lacio’r cyfyngiadau mewn ffordd ofalus a gochelgar. Ymdrechion unigolion sy'n cynnig y ffordd orau a mwyaf effeithiol o ymateb i amrywiolynnau newydd. Wrth gwrs, byddwn yn parhau i gael ein harwain gan y cyngor gwyddonol diweddaraf, fel sydd wedi digwydd drwy gydol y pandemig, ac yn sicrhau bod y cyngor hwnnw’n gyhoeddus fel y gall yr Aelodau ei weld. Gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r newidiadau a nodir yn yr adolygiad hwn o'r rheoliadau cyfyngiadau coronafeirws pan gânt eu cyflwyno i'w trafod. Andrew RT Davies AC: Diolch am y diweddariad, Brif Weinidog ac rwy'n cytuno â'r teimladau yn eich datganiad. Er ein bod yn agosáu at gyfnodau brafiach, mae'n werth cofio bod llawer o deuluoedd ledled Cymru, yn anffodus, wedi colli anwyliaid ac mae llawer o bobl yn hiraethu am yr anwyliaid hynny a theimlir eu colled bob dydd o'r wythnos a phob mis sy'n mynd heibio, yn ogystal â dewrder a chryfder pawb sydd wedi bod yn rhan o'r ymdrech genedlaethol i fynd i’r afael â’r feirws, a'r siwrnai y mae'n rhaid inni barhau i fynd arni i drechu’r feirws hwn, fel y nodwyd yn eich datganiad, gyda’r amrywiolynnau newydd sy’n ein hwynebu. Bron yn fisol, bellach, ymddengys bod yna amrywiolynnau sy’n peri pryder. Fe sonioch chi am amrywiolyn India, a chredaf ichi roi rhai ffigurau i ni mewn perthynas â'r cyfraddau yng Nghymru. Credaf ichi ddefnyddio'r rhif 25 fel nifer yr achosion sy'n peri pryder yng Nghymru. A oes unrhyw amrywiolynnau eraill sy'n dechrau cael eu bwydo i gyngor y Llywodraeth a allai beri problemau sylweddol posibl wrth inni nesu at fisoedd yr haf? Oherwydd, gyda feirws, rydym yn deall y bydd yn mwtadu, ac mewn gwirionedd, bydd yn rhaid inni ddechrau byw gyda'r amrywiolynnau newydd sy'n ein hwynebu wrth iddynt ddod i’r amlwg. Ond ymddengys bod amrywiolyn India wedi cael gafael ar y wlad ar hyn o bryd, dros y penwythnos, gyda'r sylw a gafodd, a chredaf ei bod yn bwysig ystyried sut y mae hynny wedi effeithio ar rai o'r safbwyntiau ynglŷn â’r rheoliadau hyn y mae'r Llywodraeth yn gweithio arnynt gyda'i chynghorwyr i ddod â hwy ger bron y Cynulliad i'w cymeradwyo. Hoffwn dynnu sylw hefyd at fethiant y Llywodraeth i ôl-ddyddio ei chymorth i fusnesau. Er bod croeso mawr i’r £66 miliwn sydd ar gael, Brif Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol, yn amlwg, fod yna gyfnod yn ystod yr ymgyrch etholiadol pan nad oedd cymorth ariannol ar gael i fusnesau. A gwn eich bod wedi nodi bod cyfanswm o £200 miliwn ar gael i fusnesau. Pan gaiff yr arian hwnnw ei ddyrannu yn y pen draw, a fydd cyfle i'r Llywodraeth ystyried ceisiadau a hawliadau am iawndal a chymorth wedi’i ôl-ddyddio i fusnesau yn y cyfnod hwnnw pan ddaeth cymorth i fusnesau i ben ar 31 Mawrth, gan y credaf fod hwnnw'n gyfnod pwysig iawn i ariannu ar ei gyfer, gan fod y cyfyngiadau wedi effeithio ar y busnesau hynny? Ac wrth gwrs, yng Nghymru, nid yw’r cymorth i fusnesau wedi cynnwys grantiau adfer i fusnesau newydd fel mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Felly, os gallwch roi ychydig mwy o wybodaeth i ni am y cymorth i fusnesau lle mae'r rheoliadau hyn wedi atal busnesau rhag masnachu, byddai hynny’n ddefnyddiol. Ar brofi yn benodol, mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, mae'n llawer haws sicrhau bod gwasanaethau a chitiau profi ar gael ar gais neu ar alw’n rhithwir, ond mae pethau'n fwy rhagnodol yma yng Nghymru. A oes unrhyw fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn ystyried eu cyflwyno i sicrhau bod mwy o gitiau profi ar gael yma yng Nghymru, a fydd yn hwyluso’r broses o lacio cyfyngiadau mewn modd mwy amserol, a'r normalrwydd y cyfeirioch chi ato yn eich datganiad y mae pob un ohonom yn ysu amdano? Brif Weinidog, cawsoch eich cofnodi'n dweud y bydd angen masgiau a mesurau cadw pellter cymdeithasol yng Nghymru tan ddiwedd y flwyddyn yn ôl pob tebyg. Ai dyna yw eich asesiad o hyd, gan fod rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn sôn am gymryd camau, yn amlwg, a fyddai'n llacio mesurau cadw pellter cymdeithasol a masgiau, neu a fyddwn—[Torri ar draws.] Rwy'n clywed sylwadau. Credaf ei fod yn gwestiwn cwbl synhwyrol i'w ofyn, er tegwch, oherwydd yn amlwg, bydd pobl yn awyddus i ddeall y rheolau a fydd yn berthnasol i’w bywydau yma yng Nghymru. Hefyd, ar deithio rhyngwladol, rwyf newydd gael e-bost gan etholwr sy'n derbyn mai cyngor yn unig sydd ar gael ar hyn o bryd, ac nid yw hynny o gymorth iddynt mewn perthynas â hawliadau yswiriant i gwmnïau teithio. Ac mae pobl yn dymuno cadw at y cyngor y mae'r Llywodraeth yn ei roi, ond nid yw hynny'n arwain at iawndal wrth fynd at y cwmnïau teithio. Felly, a yw'r Llywodraeth mewn sefyllfa i gynnig mwy o gyngor a chymorth i unigolion sy’n gaeth i ymrwymiadau teithio ond sy'n dal i fod yn awyddus i gadw at y cyngor y mae'r Llywodraeth yn ei roi, ond yn ariannol, byddent ar eu colled yn ddifrifol? Ac yn olaf, os caf ofyn, fe dynnoch chi sylw at lwyddiant y rhaglen frechu, sy’n llwyddiant gwych i’r DU yn fy marn i, ac sydd wedi arwain at lacio cyfyngiadau’n gyflymach nag mewn rhannau eraill o'r byd, ond mae sôn y bydd brechiadau atgyfnerthu’n ofynnol yn yr hydref. A oes gennych unrhyw wybodaeth ar gyfer y cofnod yn y Cyfarfod Llawn y prynhawn yma ynghylch brechiadau atgyfnerthu a allai fod yn ofynnol ar ddiwedd yr haf/dechrau'r hydref, a fyddai, unwaith eto, yn atal y cyfyngiadau a allai fod wedi'u gosod ar ein bywydau bob dydd pe na bai'r rhaglen frechu wedi bod mor llwyddiannus? Diolch, Brif Weinidog. Mark Drakeford AC: Diolch i arweinydd yr wrthblaid am ei gwestiynau, ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd ar y dechrau. I'r teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid o ganlyniad i’r coronafeirws, ni fydd y pandemig byth ar ben, gan y bydd y golled honno gyda hwy am weddill eu bywydau, ac rwy'n falch ein bod wedi cael cyfle hyd yn oed yn fyr y prynhawn yma i gofio hynny ac i sicrhau ein bod yn dal i feddwl am y bobl hynny. O ran amrywiolynnau y tu hwnt i amrywiolyn India, mae gennym enghreifftiau o hyd o amrywiolyn De Affrica yma yng Nghymru, ac rydym yn parhau i fod yn wyliadwrus rhag amrywiolyn Brasil— Mae'n ddrwg gennyf, ond bydd angen imi dorri ar eich traws. Ni chredaf fod eich meicroffon yn gweithio, Brif Weinidog. Nid yw'n debygol y gallwch chi wneud unrhyw beth i ddatrys y broblem, ond gan fod yna Aelodau ar Zoom, ni allant eich clywed ar hyn o bryd. Felly, rydym am gymryd seibiant technegol. Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 14:55. Ailymgynullodd y Senedd am 15:08, gyda'r Llywydd yn y Gadair. Rŷn ni'n ailddechrau yn dilyn y toriad technegol yna. Dwi'n galw ar y Prif Weinidog, felly, i gyflwyno ei ymateb i sylwadau arweinydd yr wrthblaid. Prif Weinidog. Mark Drakeford AC: Diolch yn fawr, Lywydd. Roeddwn yn ymateb i gwestiwn arweinydd yr wrthblaid am amrywiolynnau ar wahân i amrywiolyn India sy'n bresennol yng Nghymru. Rwyf newydd esbonio bod gennym enghreifftiau o amrywiolyn De Affrica yng Nghymru. Rydym yn cadw llygad gofalus ar amrywiolyn Brasil, gan ganolbwyntio'n arbennig ar Bortiwgal a theithio i mewn ac allan o'r wlad honno. Mewn perthynas ag amrywiolyn India ei hun, yn ogystal â'r amrywiolyn sy'n peri pryder, mae dau amrywiolyn India arall yn destun ymchwiliad, ac mae gennym nifer o enghreifftiau o'r rheini yng Nghymru hefyd. Felly, mae arweinydd yr wrthblaid yn llygad ei le, Lywydd: er y sylw a fu yn ystod y dyddiau diwethaf i amrywiolyn India, nid yw ond yn un enghraifft o'r angen i fod yn wyliadwrus drwy'r amser er mwyn sicrhau nad ydym yn ail-fewnforio perygl i Gymru yn y pen draw. Ar yr hyn a ddywedodd Andrew R.T. Davies am gymorth busnes, nid wyf yn derbyn bod y cymorth hwnnw wedi dod i ben yn llwyr ym mis Ebrill; gwnaed llawer iawn o daliadau ym mis Ebrill a lle ceir ceisiadau gan fusnesau y gellir mynd ar eu trywydd, wrth gwrs eu bod yn gallu gwneud hynny. Nid wyf ychwaith yn cydnabod y sefyllfa y credaf ei fod yn ei disgrifio mewn perthynas â phrofion. Mae gennym ddegau o filoedd o brofion bob wythnos yng Nghymru nad ydynt yn cael eu defnyddio, oherwydd bod lefelau presennol y coronafeirws mor isel yng Nghymru. Ar ei anterth, roeddem yn cynnal 120,000 o brofion PCR mewn wythnos, ond 67,000 o brofion a wnaethpwyd yr wythnos diwethaf. Felly, mae digon o gapasiti yn y system ar gyfer profion PCR, ac rydym yn defnyddio cannoedd o filoedd o brofion llif unffordd yng Nghymru i sicrhau bod ysgolion yn parhau i gael eu diogelu, fod gweithwyr cartrefi gofal yn cael eu diogelu, ac yn wir, fod busnesau'n gallu eu defnyddio hefyd. Rydym yn rhan o'r adolygiad o'r mesurau cadw pellter cymdeithasol y mae Llywodraeth y DU yn ei gynnal yn yr ystyr fod swyddogion yn cymryd rhan ynddo, ac rydym yn aros i weld beth fydd ei ganlyniad. Rwy'n credu bod yr adolygiad hefyd yn gorfod ystyried amrywiolyn India, ac a fyddai'n newid unrhyw agwedd ar y dadansoddiad y maent wedi'i gyflawni hyd yn hyn. Ar deithio rhyngwladol, cyngor gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad sy'n penderfynu mewn perthynas ag yswiriant, ac rwy'n credu bod y Swyddfa Dramor a Chymanwlad wedi cyhoeddi cyngor ddoe yn dweud wrth bobl na ddylent fynd ar wyliau mewn gwledydd ar y rhestr oren, a bydd pobl yn gallu defnyddio hynny i'w ddangos i'w cwmnïau yswiriant lle maent yn penderfynu peidio â bwrw ymlaen yn awr ac angen hawlio yswiriant. Ac yn olaf, y cwestiwn pwysig am frechlynnau atgyfnerthu. Cytunaf yn llwyr, fel y gwneuthum o'r cychwyn, fod Llywodraeth y DU wedi cael llwyddiant yn sicrhau'r cyflenwad brechiadau—mae 50 miliwn o ddosau ychwanegol wedi'u harchebu ar gyfer rhaglen atgyfnerthu bosibl yn yr hydref. Rydym wedi cytuno ar gyfran poblogaeth o hynny i Gymru. Bydd y brechlynnau atgyfnerthu hynny wedi'u llunio gan ystyried yr amrywiolynnau sy'n dod i'r amlwg ac rydym eisoes yn cynllunio yng Nghymru sut y gallem gynnal rhaglen atgyfnerthu yn ystod yr hydref, os bydd angen. Adam Price AC: Mewn perthynas ag amrywiolyn India, yr amrywiolyn India sy'n peri pryder, fe ddywedoch chi fod yna nifer o feysydd lle nad oes gennym dystiolaeth bendant o hyd ynglŷn â'i effaith o ran effeithiolrwydd brechu a hefyd a yw'n achosi math mwy difrifol o'r clefyd. A allech ddweud ychydig am y meysydd lle mae gennym rywfaint o ddealltwriaeth? Felly, yn arbennig, rwyf wedi darllen casgliad yn rhai o bapurau'r grŵp cynghori gwyddonol ar argyfyngau, er enghraifft, y gallai'r amrywiolyn hwn fod 50 y cant yn fwy trosglwyddadwy—ai dyna yw eich dealltwriaeth chi? Ac o ddilyn y rhesymeg i'r pen, felly, maent yn dadlau bod posibilrwydd realistig y gallai hyn arwain at don newydd—ton newydd sylweddol—o achosion, yn rhannol oherwydd, hyd yn oed gyda'r lefel uchel iawn o frechu sydd gennym yng Nghymru—ni wn a ydym bellach yn dal i fod yn Rhif 2 yn y tabl cynghrair ar gyfer pigiadau cyntaf, ac mae hynny'n glod enfawr yn fy marn i i'r gwaith tîm ardderchog—ond hyd yn oed gyda hynny, nid yw'n rhoi lefel ddigonol o amddiffyniad yn y gymuned. O dan yr amgylchiadau hynny, os dilynwch y rhesymeg i'r pen, felly, a oes perygl y gallai llacio'r cyfyngiadau ymhellach heb ymyriadau parhaus neu ymyriadau nad ydynt yn rhai fferyllol arwain at fwy o bobl yn gorfod mynd i'r ysbyty a lefel uwch o farwolaethau hyd yn oed? A yw Llywodraeth Cymru yn hyderus fod gan ein gwasanaethau iechyd gapasiti i ymdopi â senario o'r fath, yn seiliedig ar yr elfennau lle mae gennym rywfaint o dystiolaeth ar hyn o bryd? A pha gynlluniau wrth gefn sy'n cael eu gwneud ar y sail honno, yn enwedig ar gyfer mesurau wedi'u targedu wrth ymdrin â lledaeniad yr amrywiolyn newydd hwn? Felly, rwy'n credu eich bod wedi siarad o'r blaen am y posibilrwydd o frechu rhagor o bobl mewn ardaloedd lle ceir lefelau uwch o achosion a hynny'n gynharach, neu hyd yn oed gyfyngiadau symud lleol. Credaf y byddai'n arbennig o ddefnyddiol clywed beth rydych chi'n ei ddeall am lefelau'r feirws a'i botensial, mewn perthynas â daearyddiaeth Cymru, i ledaenu, yn y bôn, i ogledd-ddwyrain a gogledd-orllewin Cymru. Beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru mewn perthynas â hynny? Hefyd, gwelais eich sylwadau ddoe, Brif Weinidog, ynglŷn â brechu pobl dan 18 oed. A oes mwy o frys ynghylch hynny yng nghyd-destun feirws mwy trosglwyddadwy? Beth yw eich cyngor diweddaraf ar hynny? Ac yn y cyd-destun hwnnw hefyd, beth yw eich ymateb i sylwadau Sefydliad Iechyd y Byd heddiw, yn annog Llywodraeth Cymru i beidio â brechu pobl ifanc dan 18 oed ac i flaenoriaethu camau i rannu brechiadau gydag oedolion risg uwch mewn gwledydd incwm is? O ran ysgolion hefyd, roeddwn yn meddwl tybed a allech chi ddweud ychydig mwy am eich safbwynt ar hyn o bryd ar wisgo masgiau mewn ystafelloedd dosbarth, ac yn wir sut y mae'r hyn rwyf newydd gyfeirio ato yn awr, yr amrywiolyn newydd sy'n peri pryder, yn effeithio ar yr ystyriaeth honno. Mynegwyd pryder mewn ysgolion mewn cyd-destun gwahanol, sef y pwysau y mae ysgolion ac athrawon yn ei deimlo ynghylch cymedroli asesiadau, a bod hyn, yn ei dro, yn peri pryder i fyfyrwyr. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi myfyrwyr ac athrawon i geisio lliniaru hyn? Yn olaf, ar gymorth ariannol, os wyf yn eich deall, Brif Weinidog, fe ddywedoch chi fod pobl yn y sector yn cefnogi eich penderfyniad i gadw rhywfaint o'r £200 miliwn yn ôl ar gyfer cymorth wedi'i dargedu'n well yn nes ymlaen. Rwyf newydd gael rhywun o Gydweithfa Bwytai Annibynnol Cymru yn dweud eu bod yn dadlau'r gwrthwyneb llwyr i hynny. Dywedodd eraill yn UKHospitality eu bod yn cefnogi dull wedi'i dargedu, ond nad yw'r arian a ddarperir yn awr yn ddigon. Y lefel—. Rwy'n credu, os oes gennych lai na 10 o weithwyr, mae'r cymorth oddeutu £5,000. Mae'n ymddangos bod hyn yn llawer is na'r cymorth uniongyrchol, y grantiau ailgychwyn, sy'n cael eu darparu yn Lloegr a'r Alban. Felly, a gaf fi annog y Prif Weinidog i drafod hyn gyda swyddogion? Oherwydd efallai eich bod wedi cael darlun nad yw'n adlewyrchu'r hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad yn y sector, sydd mewn sefyllfa eithriadol o anodd. Mark Drakeford AC: Lywydd, diolch i Adam Price am y cwestiynau hynny. Y maes dealltwriaeth mwyaf, yn y cyngor a gefais, yw'r tebygolrwydd fod amrywiolyn India 50 y cant yn fwy trosglwyddadwy nag amrywiolyn Kent, ac felly mae'n debygol o'i ddisodli os yw'n datblygu'n lledaeniad cymunedol go iawn. Nawr, nid ydym yn y sefyllfa honno yma yng Nghymru ar hyn o bryd o bell ffordd, ac mae'r enghreifftiau y gwyddom amdanynt i gyd wedi'u nodi eisoes gan dimau iechyd cyhoeddus lleol, a chysylltir â'r holl unigolion y gwyddom amdanynt wrth eu henwau, ac mae eu hamgylchiadau unigol yn hysbys. Pe byddem yn gweld ton newydd, yna, wrth gwrs, mae'r hyn a ddywedodd Adam Price yn gywir. Hyd yn oed gydag 80 y cant o'r boblogaeth wedi cael dos cyntaf o'r brechlyn yng Nghymru, mae hynny'n dal i olygu nad yw 20 y cant wedi ei gael, ac mae hwn yn feirws sy'n targedu'r bobl fwyaf agored i niwed. Felly, mae'n dal i fod gwendid sylweddol, er bod miloedd yn fwy o bobl yn cael eu brechu bob wythnos. Dywedais yn fy natganiad y byddwn yn canolbwyntio ar sicrhau ein bod yn cyflymu cymaint ag y gallwn y rhaglen i roi brechiad cyntaf i bobl sy'n is i lawr yr ystodau oedran, oherwydd ceir rhywfaint o dystiolaeth hefyd fod amrywiolyn India wedi'i ganfod yn fwy helaeth mewn poblogaethau iau, o bosibl am nad oes niferoedd mor uchel ohonynt yn cael eu brechu. Mewn perthynas â'r rhai sy'n gorfod mynd i'r ysbyty, rydym yn dal i weld gostyngiad yn nifer y bobl yn ysbytai Cymru sydd â'r coronafeirws mewn rhyw fodd neu'i gilydd—lle ceir amheuaeth ohono, lle mae wedi'i gadarnhau, neu rai sy'n gwella ohono. Ac mae nifer y bobl y cadarnhawyd bod coronafeirws arnynt—coronafeirws heintus—yn is byth. Rydym yn cadw llygad yn ofalus iawn ar yr hyn sy'n digwydd yn Bolton, yn enwedig, ac mae'r system eisoes yn siarad ac yn paratoi, pe byddem angen gofal ysbyty i fwy o bobl oherwydd effaith amrywiolyn India. Bydd gennym fesurau wedi'u targedu mewn perthynas â brechu. Gan fod gennym niferoedd mor isel yng Nghymru, gallwn dargedu brechlynnau ychwanegol yn y ffordd honno, ac mae'r trafodaethau gyda'r byrddau iechyd eisoes yn digwydd fel y gallant ddefnyddio mwy o ddisgresiwn i sicrhau eu bod yn cyflwyno pobl ar gyfer eu brechu yn y mannau yr effeithir arnynt fwyaf. I rai dan 18 oed, nid oes brechlyn wedi'i drwyddedu eto, ac ni fyddwn yn brechu pobl o dan 18 oed nes bod trwydded wedi'i rhoi ar ei gyfer. Efallai y bydd ar gael yn yr hydref, ac yna bydd angen inni bwyso a mesur yr achos dros wneud hynny. Rydym wedi siarad llawer ar lawr y Senedd yn y tymor blaenorol am yr angen i sicrhau bod ein plant, staff addysgu ac aelodau eraill o staff yn cael eu diogelu'n briodol rhag y feirws, ac mae'n sicr y bydd achos cryf i'w ystyried dros frechu plant o 12 oed i fyny, pan fydd brechlyn wedi'i drwyddedu ar gyfer gwneud hynny, a byddai hynny wedyn yn effeithio ar fesurau eraill nad ydynt yn rhai fferyllol sy'n cael eu rhoi ar waith yn yr ysgolion ar hyn o bryd. Rwyf wedi gweld cyngor Sefydliad Iechyd y Byd, ac wrth gwrs byddwn yn ystyried hwnnw hefyd. Rwy'n deall y pwyntiau a wneir am y pwysau sydd ar ysgolion ac athrawon a myfyrwyr, boed yn asesiadau neu'n arholiadau confensiynol. Mae'r rhain yn aml yn gyfnodau anodd yn y flwyddyn academaidd i fyfyrwyr a staff. Bydd gennym system yng Nghymru lle mae mwy o hyblygrwydd ar lefel ysgol, a byddant yn gallu defnyddio hynny i liniaru peth o'r pwysau. Ac oherwydd mai ni oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gydnabod na fyddai arholiadau confensiynol yn bosibl eleni, ni sydd wedi cael y cyfnod hwyaf o amser i sefydlu system amgen, system a drafodwyd gyda CBAC, gyda Cymwysterau Cymru, gyda phenaethiaid a chynrychiolwyr eraill, i sicrhau bod y system yn deg i bobl ifanc ond yn gredadwy hefyd yng ngolwg y bobl a fydd yn dibynnu ar y tystysgrifau sy'n deillio o'r asesiadau hynny, ac na fydd y bobl ifanc hyn dan anfantais mewn ffyrdd eraill. Ar gymorth ariannol a diwydiant, mae mwy nag un llais mewn unrhyw ddiwydiant yn aml, ac fe welwch bobl sy'n cytuno â'r hyn sy'n digwydd ac fe welwch bobl sy'n anghytuno â'r hyn sy'n digwydd. Gwn ei bod yn flaenoriaeth gan y Gweinidog newydd ym mhortffolio'r economi i drafod gyda'r diwydiannau sy'n gallu bod yn weithredol eto, ond nid yn llwyr weithredol, fel y clywsom yn gynharach gan Sam Rowlands, er mwyn inni allu gwneud defnydd mor effeithiol â phosibl o'r adnoddau sydd gennym, sy'n anochel yn rhai cyfyngedig. Huw Irranca-Davies. Huw Irranca-Davies AC: Diolch, Llywydd. Llongyfarchiadau i chi ac i'r Prif Weinidog, ac i bawb arall yn y Siambr yma ac ar y sgrin hefyd. Huw Irranca-Davies AC: Llongyfarchiadau i chi i gyd. Mae'n dda bod yn ôl. Brif Weinidog, rwy'n falch iawn o ddweud wrthych y byddaf yn rhoi sylw i'ch cyngor: os gallwch drefnu'r tywydd, byddaf yn mynd ar wyliau yng Nghymru, mewn pabell ger bae Ceredigion ac yna ar benrhyn Llŷn. Felly, os gall Llywodraeth Cymru drefnu'r tywydd, os gwelwch yn dda, byddwn wrth fy modd. Mae gennyf un cwestiwn penodol, ac os oes angen i chi ysgrifennu ataf, byddaf yn deall hynny'n iawn. Ond rwyf wedi bod yn ymdrechu'n daer i fynd at wraidd y cwestiwn hwn, oherwydd, fel y crybwyllwyd yn y Siambr, rydym yn genedl gerddorol, yn genedl sy'n canu. Rwyf wedi cael perfformwyr yn dod ataf, oherwydd ceir cyngor da yn awr ac arweiniad ar sut y gallwch ganu, ac mae corau'n ailddechrau ymarfer dan do ac yn y blaen. Ond mae'n ymwneud â chanu mewn bariau a chaffis fel rhan o awyrgylch cefndirol, nid ei orwneud ac yn y blaen—nid noson roc a rôlac ati—oherwydd mae'n ymddangos bod y cyngor yn awgrymu y gall ddigwydd. Yn wir, mae'r cyngor da iawn a gaf gan gynghorwyr arbennig yn mynd drwy restr o sut i'w wneud ac yn dweud, 'Cwblhewch asesiad risg penodol os ydych yn perfformio mewn lleoliadau cymdeithasol fel bariau a bwytai.' Ond gallaf ddweud wrthych fod awdurdodau lleol drwy'r wlad, a chydwasanaethau rheoleiddio, yn llawer mwy gofalus, sy'n ddealladwy o bosibl. Mae dyn y cyngor a dynes y cyngor yn dweud 'na'. Felly, a allech egluro i ni, naill ai heddiw neu'n ysgrifenedig fel arall, a gaiff perfformwyr—perfformwyr ar eu pen eu hunain sy'n chwarae cerddoriaeth dawel yn y cefndir—berfformio mewn lleoliadau trwyddedig, heb alcohol eu hunain? A ydynt yn cael gwneud hynny neu—? A yw'n 'ie' neu'n 'na' neu'n 'efallai'? Mark Drakeford AC: Rwy'n credu ei bod hi'n debygol mai ar ffurf llythyr—[Chwerthin.]—y byddaf yn ymateb i'r Aelod i sicrhau fy mod yn rhoi'r cyngor gorau iddo. Os yw'n cynllunio noson roc a rôl yn ei babell ger bae Ceredigion neu ar benrhyn Llŷn, fe fydd yn cadw at y rheolau'n llawn erbyn iddo gyrraedd yno. Peter Fox. Peter Fox AS: Lywydd, a gaf fi eich llongyfarch ar gael eich ailbenodi? Mae'n fraint fawr i mi ymuno â Senedd Cymru, ac rwy'n gobeithio y gallaf ychwanegu rhywfaint o werth at waith y Senedd a phobl Cymru. Brif Weinidog, a gaf fi eich llongyfarch hefyd ar gael eich ethol yn Brif Weinidog? Edrychaf ymlaen at weithio gyda chi a'ch cyd-Aelodau yma, fel y gwneuthum am fisoedd lawer, ond yn rôl arweinydd cyngor wrth gwrs. Mae wedi bod yn gyfnod heriol dros ben ym mywydau pob un ohonom, ac rwy'n obeithiol ein bod yn anelu at ryw normalrwydd, ac mae'r camau rydym yn eu cymryd i'w croesawu. Rwy'n siŵr, Brif Weinidog, y byddech yn cytuno bod adferiad economaidd Cymru yn hanfodol i'r wlad hon a phobl Cymru, ac mae ein busnesau wedi bod drwy'r amseroedd mwyaf ofnadwy ac angen ein cefnogaeth barhaus yn fwy nag erioed o'r blaen. Mae'n ddrwg gennyf fynd ar drywydd y cwestiwn ynghylch cymorth ariannol eto, ond Brif Weinidog, cynlluniwyd pecyn grantiau mis Mawrth yng nghyswllt trethi annomestig i gefnogi busnesau hyd at yr etholiad ar 6 Mai, er mwyn sicrhau nad oedd yn rhaid i Weinidogion wneud cyhoeddiadau am grantiau pellach yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad, ac mae llawer o fusnesau bellach yn siomedig iawn, ac yn ddig iawn yn ôl pob tebyg, fod y Llywodraeth wedi dweud na fydd y cymorth ariannol roeddent yn ei ddisgwyl ar gyfer mis Ebrill yn cael ei ddarparu. Brif Weinidog, a gaf fi ofyn i chi adolygu safbwynt y Llywodraeth ynglŷn â hynny fel y gall y busnesau gael y cymorth roeddent yn gobeithio ei gael? Diolch yn fawr iawn, Brif Weinidog. Mark Drakeford AC: Lywydd, mae'n dda iawn gallu ymateb i gwestiwn gan Aelod newydd, a rhywun rydym wedi gweithio'n agos iawn ag ef yn Llywodraeth Cymru ers blynyddoedd lawer, ac yn llwyddiannus hefyd. Nid wyf yn cydnabod y darlun oddi ar feinciau'r Ceidwadwyr sy'n honni nad oes cymorth ar gael i fusnesau. Mae'r Llywodraeth hon wedi darparu'r pecyn cymorth mwyaf hael i fusnesau yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig. Mae hwnnw'n benderfyniad bwriadol gan y Llywodraeth hon i gydnabod yr amser torcalonnus y mae busnesau yng Nghymru wedi'i gael. Mae wedi bod yn argyfwng economaidd yn ogystal ag yn argyfwng clinigol. Dyna pam ein bod wedi gwneud yr hyn a wnaethom, ac ni fydd rheswm o gwbl inni beidio â bod eisiau parhau i wneud yn union hynny. Fel y dywedais, bydd angen i natur y cymorth hwnnw gael ei addasu i'r amgylchiadau newydd, lle mae llawer mwy o fusnesau'n dechrau ailagor, a lle mae amodau economaidd yn golygu y byddant yn gallu gwneud yr hyn rwy'n gwybod eu bod eisiau ei wneud, sef peidio â dibynnu ar y grant nesaf gan Lywodraeth Cymru, ond yn hytrach, ennill bywoliaeth a llwyddiant y busnes y maent yn aml wedi buddsoddi cymaint ynddo, a byddwn yn parhau i'w cefnogi i wneud yn union hynny. Luke Fletcher AS: Yn ôl Steffan Lewis, y tro cyntaf i siarad yn y Siambr yw'r gwaethaf, ac, ar ôl y tro cyntaf, mae'n mynd yn lot mwy hawdd, ac, wrth ystyried y ffaith bod sawl cwestiwn roeddwn i am ei ofyn wedi cael ei ofyn yn barod, dwi'n gobeithio y bydd y sesiynau eraill yn lot mwy hawdd na'r un yma. Felly, dyma fi, Steff, yn siarad am y tro cyntaf fel y cynrychiolydd yma yng Ngorllewin De Cymru. Dwi am fachu ar y cyfle i ddweud diolch i'r holl etholwyr hefyd am fy rhoi i yma, ac rwy'n edrych ymlaen at ofyn sawl cwestiwn i chi, Brif Weinidog, dros y blynyddoedd nesaf, a dwi'n eithaf sicr erbyn y diwedd byddwch chi wedi cael hen ddigon ohonof i. Luke Fletcher AS: Hoffwn bwysleisio pwynt a wnaeth Adam mewn gwirionedd, a Peter hefyd. Wrth inni gefnu ar y pandemig, bydd y grantiau ailgychwyn yn dod yn bwysicach. Er enghraifft, mae tafarndai yn yr Alban yn gymwys i gael grantiau ailgychwyn o hyd at £18,000, tra bydd y rhan fwyaf o dafarndai yng Nghymru yn gymwys i gael £7,500 ar y mwyaf, gyda llawer o dafarndai cymunedol bach ond yn gymwys am £2,500 yn unig. Byddwn yn croesawu rhagor o wybodaeth gan y Prif Weinidog neu Weinidog yr Economi am yr amserlen ar gyfer cymorth, gan fy mod yn siŵr bod y Prif Weinidog yn ymwybodol y bydd y sector lletygarwch yn sector pwysig iawn ar gyfer ein hadferiad economaidd wrth inni gefnu ar y pandemig. Diolch yn fawr. Mark Drakeford AC: Diolch yn fawr am y cwestiwn ac am beth ddywedodd Luke Fletcher am Steffan Lewis. Mae lot ohonom ni fan hyn yn cofio Steffan, wrth gwrs, a ches i gyfle i gydweithio â fe pan oedd e'n llefarydd Plaid Cymru ar Brexit pan oeddwn i'n gwneud yr un gwaith tu fewn i'r Llywodraeth. Mark Drakeford AC: Rwyf wedi ateb nifer o gwestiynau ar yr economi, Lywydd. Nid wyf yn meddwl bod llawer mwy i mi ei ychwanegu. Wrth gwrs, bydd y Gweinidog newydd yn ystyried yr holl bwyntiau hyn. Byddwn yn edrych i weld sut y gallwn ddefnyddio'r symiau sylweddol o arian sy'n dal i fod gennym i gefnogi busnesau a sicrhau bod hynny'n cael ei wneud mewn ffordd sy'n addas i ni yma yng Nghymru, gan ymateb i amgylchiadau Cymru ac anghenion Cymru, a gwneud yr arian hwnnw mor effeithiol ag y gall fod o ran cefnogi busnesau Cymru. Jenny Rathbone AC: Mae'n wych fod pobl Cymru wedi ymateb i'r rheoliadau a dyna pam ein bod yn y sefyllfa dda rydym ynddi, ac yn arbennig mae angen cydnabod yr aberth a wnaethpwyd gan blant ar ein rhan, yn ogystal â'r gwaith gwych a wneir gan ein GIG a'n staff gofal cymdeithasol i gadw pobl yn ddiogel neu i ofalu amdanynt pan fyddant yn sâl. Gan ein bod bellach ar lefel 2, tybed a yw eich Gweinidog iechyd newydd rhagorol neu chi eich hun wedi cael cyfle i ystyried a ellid diwygio'r rheoliadau ynghylch apwyntiadau cleifion allanol i'w gwneud yn llai cyfyngol, o ystyried pwysigrwydd cael rhywun gyda chi pan fyddwch yn cael clywed yr hyn a allai fod yn newyddion anodd neu'n newyddion cymhleth i sicrhau eich bod wedi deall yn iawn yr hyn a ddywedwyd wrthych. Rwy'n credu bod hwn yn bryder arbennig i'r rhai sy'n feichiog ac sy'n dymuno cael eu partneriaid gyda hwy, rhywbeth nad yw'n digwydd bob amser, ac yn enwedig lle nad yw pethau'n datblygu mor dda â hynny gyda'r beichiogrwydd neu pan nad yw pethau fel y dylent fod, mae'n ymddangos i mi yn bwysig. Ar hyn o bryd, gwneir hyn yn llwyr yn ôl disgresiwn y byrddau iechyd unigol a cholegau unigol, felly roeddwn yn meddwl tybed a allech ddweud unrhyw beth ynglŷn â sut y gellid diwygio'r canllawiau ar y modd y mae'r gwasanaeth iechyd yn gweithredu, ac yn ymwneud ag unigolion, i fod ychydig yn llai cyfyngol o gofio bod pobl, yn amlwg, yn gallu cyfarfod mewn grwpiau o chwech dan do yn gymdeithasol y dyddiau hyn. Mark Drakeford AC: Lywydd, diolch i Jenny Rathbone am y cwestiwn hwnnw, cwestiwn rydym wedi'i drafod droeon yn ystod y pandemig ar ei hyd, ac mae'n un o'r meysydd anoddaf oll, onid yw, pan fydd cwpl yn disgwyl plentyn ac yn methu cael y mathau arferol yr hoffai pawb ohonom eu gweld o apwyntiadau a chyfranogiad ar y cyd yng ngenedigaeth plentyn. Mae'r canllawiau yng Nghymru yn annog y system i fod mor groesawgar â phosibl, ond mae'r rheswm dros ddisgresiwn yn real. Mae unedau mamolaeth ledled Cymru yn amrywio'n fawr o ran maint y safle, natur cynllun adeiladau ac yn y blaen, ac yn amlwg, mae gan unigolion lefelau gwahanol o risg eu hunain. Nid yw coronafeirws wedi diflannu; mae pobl sy'n sâl gyda'r clefyd yn aml yn gorfod mynd i'r ysbyty, ac yn y pen draw mae'n rhaid iddo fod yn benderfyniad clinigol a wneir gan y tîm o bobl sy'n gofalu am y fenyw a'i phartner o ran pa mor ddiogel yw hi i bobl eraill gymryd rhan uniongyrchol mewn apwyntiadau. Nawr, y polisi yw, lle bynnag y mae'n ddiogel gwneud hynny, mai dyna ddylai ddigwydd, ond nid wyf yn credu ein bod mewn sefyllfa yn y Senedd i wneud y penderfyniadau clinigol unigol hynny yn yr amgylchiadau ffisegol gwahanol a'r amgylchiadau unigol y mae pobl yn eu hwynebu. Natasha Asghar. Natasha Asghar AS: Diolch yn fawr, Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy eich llongyfarch chi a'n Prif Weinidog ar ddychwelyd ac ailddechrau yn eich swyddi yn y sesiwn newydd yma yn 2021. Nawr, fel rwy'n siŵr y gallwch i gyd ei werthfawrogi, rydym i gyd yn ymwybodol o'r ddyled fawr sydd arnom i weithwyr rheng flaen y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru, sydd wedi gorfod ymdopi â'r pwysau aruthrol y maent wedi'i wynebu oherwydd y pandemig. Y llynedd, cynhaliodd y Coleg Nyrsio Brenhinol arolwg yn edrych ar effaith y pandemig ar staff rheng flaen. Canfu fod mwy na thri chwarter yr aelodau o Gymru a gymerodd ran wedi nodi lefelau uwch o straen, ac roedd mwy na'u hanner yn poeni am eu hiechyd meddwl. Yn anffodus, mae'r pwysau hwn ar staff y GIG yn annhebygol o leihau yn y tymor byr gan fod mwy na 0.5 miliwn o bobl yng Nghymru bellach yn aros am driniaeth ar restrau aros y GIG—cynnydd o 19 y cant mewn blwyddyn. O'r rhain, mae 218,000 o bobl wedi bod yn aros am fwy na naw mis am driniaeth. Hoffwn ofyn i chi, Brif Weinidog, pa gamau cadarnhaol y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i leddfu'r pwysau ar staff rheng flaen y GIG wrth i gyfyngiadau gael eu codi. Ac rwy'n gwybod eich bod chi a llawer o fy nghyd-Aelodau wedi sôn am amrywiolyn India, amrywiolyn Brasil ac amrywiolyn De Affrica, ond hoffwn wybod, gan fod marwolaethau COVID ar gynnydd yma yng Nghymru yn ôl y datganiad rydych wedi ei rannu gyda ni yn garedig iawn heddiw, mae amrywiolyn India ar gynnydd mewn gwirionedd. Felly, pa astudiaeth sy'n cael ei gwneud gan Lywodraeth Cymru o effaith bosibl yr amrywiolyn newydd hwn ac amrywiolynnau eraill yn sgil hynny hefyd? Diolch. Mark Drakeford AC: Wel, rwy'n diolch i Natasha Asghar am ei chyfraniad cyntaf ar lawr y Senedd hefyd, ac yn ei chroesawu fel Aelod wrth gwrs. Ac mae ei chwestiwn yn cyfeirio at faterion sylweddol iawn. Mae'r straen ar ein staff rheng flaen yn y gwasanaeth iechyd wedi bod yn enfawr, ac rydym wedi dibynnu'n fawr arnynt i'n cadw'n ddiogel yn ystod y pandemig, a bydd yn rhaid inni barhau i ddibynnu arnynt am lawer o bethau eraill rydym wedi sôn amdanynt y prynhawn yma. Pan fydd arweinydd yr wrthblaid yn gofyn i mi, a hynny'n briodol, am raglen atgyfnerthu yn yr hydref, dyma'r gweithwyr y byddwn yn dibynnu arnynt i wneud hynny ar ein rhan. Pan soniwn am yr angen i allu cael y GIG i weithio ar y pethau y mae'n rhaid iddo eu gwneud i bawb arall, byddwn yn dibynnu ar yr un bobl. Felly, mae'n bwynt pwysig iawn ynglŷn â sicrhau, pan fyddwn yn gofyn hynny ganddynt, ein bod yn gofalu amdanynt hwythau hefyd fel y gellir ystyried eu hiechyd a'u lles hwy yn ogystal. O ran yr hyn rydym yn ei wneud i sicrhau bod gennym y wybodaeth orau am amrywiolynnau newydd, wel, rydym yn dibynnu ar gyngor y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau, pwyllgor y DU, ond mae gennym ein grŵp cynghori technegol ein hunain, ac rydym yn cyhoeddi ei dystiolaeth i'r Llywodraeth yn rheolaidd. Rydym yn ffodus iawn fod gennym allu gyda'r mwyaf datblygedig yn y byd ar gyfer canfod dilyniant genomau yma. Felly, mae rhan o'r ymdrech a wneir ledled y Deyrnas Unedig i nodi amrywiolynnau newydd yn dibynnu ar y gallu sydd gennym yng Nghymru, ac mae gallu'r DU ymhlith y gorau yn y byd, yn rhannol o ganlyniad i hynny. Felly, rydym yn ffodus iawn o gael system rhybudd cynnar o'r fath y gallwn ei defnyddio yma yng Nghymru, a bydd honno, ochr yn ochr â'r dehongliad o'r dystiolaeth gan y gwyddonwyr sy'n ein cynghori, yn rhan o'n cyfraniad i'r ymdrech ehangach i sicrhau bod amrywiolynnau newydd yn cael eu nodi cyn gynted â phosibl, ein bod yn deall eu graddau a'u cwmpas, a'n bod yn gallu cymryd unrhyw gamau y gallwn wedyn i barhau i gadw pobl Cymru'n ddiogel. Alun Davies AC: Brif Weinidog, fe wnaeth pobl Blaenau Gwent ymddiried ynoch chi a Llywodraeth Cymru i ymdrin â'r pandemig hwn, ac maent wedi ymddiried yn y penderfyniadau rydych wedi bod yn eu gwneud dros y flwyddyn ddiwethaf. Ac fe fyddwch yn gwybod, o'ch ymweliadau â Blaenau Gwent, fod pobl am ddiolch yn fawr iawn i chi am y ffordd y gwnaethoch chi arwain ymateb y Llywodraeth ar hyn, ac rwy'n sicr am gyfleu'r teimladau hynny yma y prynhawn yma. O ran sut rydym yn symud ymlaen, mae'n amlwg fod trafodaeth a dadl am y math o gymorth sydd wedi'i ddarparu ac sy'n cael ei ddarparu ar hyn o bryd i wahanol sectorau busnes. Ac mae'n amlwg fod diffyg cysylltiad rhwng yr hyn rydym yn ei glywed a'r hyn y mae busnesau'n ei ddweud wrthym am y cymorth y maent yn ei gael. Brif Weinidog, a fyddai modd i chi neu Weinidog yr Economi gyhoeddi dadansoddiad o'r cymorth busnes sy'n cael ei ddarparu, naill ai ar sail sectoraidd neu'n fwy cyffredinol, er mwyn inni ddeall sut y digwyddodd y diffyg cysylltiad? Cafwyd dadl ar y mater ar ddiwrnod olaf y Senedd ddiwethaf, yn y Pwyllgor Deisebau, ond mae'n amlwg nad oedd cyfle i'r Llywodraeth ymateb bryd hynny. Ond mae'n ddigon posibl fod y Senedd newydd hon bellach yn darparu cyfle i'r Llywodraeth ymateb yn llawnach i fusnesau nad ydynt yn teimlo eu bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt ac y teimlant fod ganddynt hawl i'w ddisgwyl. Mark Drakeford AC: Diolch i Alun Davies am hynny. Mwynheais fy ymweliad â Blaenau Gwent yn fawr iawn yn ystod ymgyrch yr etholiad. Mae'n debyg ei fod yn brofiad digon prin mewn bywyd gwleidyddol i weld pobl yn croesi'r ffordd am eu bod eisiau siarad â chi, yn hytrach na chroesi'r ffordd i sicrhau nad oes rhaid iddynt siarad â chi, ond roedd hynny'n sicr yn wir yn ystod yr amser roeddech chi a fi'n ymgyrchu gyda'n gilydd yno. Mae cyfoeth enfawr o wybodaeth yn Llywodraeth Cymru am gymorth busnes sydd wedi'i ddarparu—fesul sector, yn ôl daearyddiaeth, fesul elfen o fewn y rhaglen adferiad economaidd. Felly, byddaf yn sicr yn gofyn i Weinidog yr Economi weld a oes ffyrdd gwell y gallwn sicrhau bod y wybodaeth honno ar gael i'r Aelodau, fel y gall yr Aelodau weld yn haws y raddfa enfawr o gymorth a roddwyd i fusnesau yng Nghymru, y dibenion y'i darparwyd ar eu cyfer, a lle mae'r arian hwnnw wedi bod yn cefnogi busnesau i oroesi drwy'r misoedd hynod anodd hyn. Samuel Kurtz MS: Hoffwn ddechrau drwy dalu teyrnged i'm rhagflaenydd, Angela Burns, am ei gwaith a'i hymroddiad diflino, nid yn unig yn y lle hwn, ond hefyd i bobl ac etholaeth Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. Brif Weinidog, mae gwylwyr a chyfranogwyr wedi dechrau dychwelyd at ddigwyddiadau chwaraeon a digwyddiadau diwylliannol fel rhan o'r treialon y sonioch chi amdanynt wrth i reoliadau coronafeirws gael eu llacio. Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o'r treialon hyn wedi'u cyfyngu hyd yma i ardal drefol de Cymru. Gyda chystadleuaeth Iron Man i fod i gael ei chynnal ym mis Medi yn Ninbych-y-pysgod yn fy etholaeth i, a gaf fi ofyn pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ymestyn cyrhaeddiad y digwyddiadau prawf hyn dros y misoedd nesaf i sicrhau bod digwyddiadau elît fel hyn yn gallu cynnwys gwylwyr a darparu hwb mawr ei angen i'r economi leol? Mark Drakeford AC: Unwaith eto, croeso i'r Aelod newydd i'r Siambr. Mae ganddo fwlch mawr i'w lenwi yn sgil ymadawiad Angela Burns, a oedd yn llais sylweddol iawn yn y Siambr hon dros nifer o flynyddoedd, ac rwy'n siŵr y bydd yn ceisio efelychu'r cyfraniad a wnaeth hi yma. Diben y digwyddiadau peilot yw ateb y cwestiwn sydd wedi'i ofyn ar ei ben, sef dod o hyd i ffyrdd y gallwn agor mwy o'r sector hwnnw'n ddiogel. Felly, mae'r gwahanol ddigwyddiadau rydym yn eu treialu yn mynd ati mewn gwahanol ffyrdd i geisio sicrhau bod gennym fformiwla a fydd yn caniatáu inni ailagor mwy o ddigwyddiadau yng Nghymru, ac ym mhob rhan o Gymru, mewn ffordd a fydd yn gwneud i'r bobl sy'n cymryd rhan ynddynt, a'r bobl sy'n gyfrifol am eu cynnal, deimlo'n hyderus nad yw eu hiechyd yn cael ei beryglu o ganlyniad. Byddwn yn dysgu llawer drwy ein cynlluniau peilot ein hunain. Mae gennym uwch weision sifil Cymreig yn rhan o grŵp goruchwylio'r cynlluniau peilot sy'n digwydd dros y ffin, ac yna, wrth inni ddod â'r holl ddysgu hwnnw at ei gilydd, ac yn dibynnu ar y cyd-destun iechyd cyhoeddus ar y pryd wrth gwrs, byddwn wedyn yn gallu cymhwyso'r dysgu hwnnw fel y gall digwyddiadau mewn mannau eraill ailagor a gwneud hynny'n hyderus. Yn olaf, Mark Isherwood. Mark Isherwood AC: Diolch, Lywydd. Wel, dywedodd eich Llywodraeth ddydd Gwener diwethaf, ac rwy'n dyfynnu, 'y gellir cynnal gweithgareddau wedi'u trefnu, gan gynnwys derbyniadau priodas ar gyfer hyd at 30 o bobl dan do a 50 o bobl yn yr awyr agored', ond ychwanegodd 'Ni cheir cynnal derbyniadau awyr agored mewn gerddi preifat'. Dywedodd eich datganiad ysgrifenedig ar y rheoliadau coronafeirws hyn ddydd Gwener diwethaf mai dim ond mewn safleoedd sy'n cael eu rheoleiddio y gallai'r rhain ddigwydd. Sut rydych chi'n ymateb felly i'r etholwyr a gysylltodd â mi i ddweud, 'Mae Llywodraeth y DU yn caniatáu i dderbyniadau awyr agored wedi'u trefnu'n gyfrifol mewn gerddi preifat fynd rhagddynt o 17 Mai. Gadewch i ni yng Nghymru wneud yr un peth', gan ychwanegu, 'Rydym eisoes wedi colli llawer o arian yn gorfod aildrefnu, gan nad oes yswiriant ar gyfer COVID, ac rwy'n pryderu ynglŷn â fy iechyd meddwl i ac iechyd meddwl fy merch os oes rhaid i ni aildrefnu eto fyth'? Yn olaf, cyfeiriodd eich datganiad ysgrifenedig ddydd Gwener diwethaf hefyd at eich rhaglen frechu. Fe ddywedoch chi ddoe ei bod yn debygol y byddai Llywodraeth Cymru am gyflwyno pigiadau i blant pe bai trwyddedau'n cael eu rhoi. Pa gynlluniau sydd gennych chi felly i gynnig y brechlyn COVID-19 i'r rhai o dan 16 oed wrth i gyfraddau amrywiolyn India gynyddu ledled y DU, ac yn arbennig er mwyn blaenoriaethu pobl ifanc sy'n agored iawn i niwed yn glinigol? Mark Drakeford AC: Lywydd, mae plant sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol eisoes yn cael eu brechu yng Nghymru i lawr at 12 oed. Ni fyddwn yn cynnig brechiad i blant nes bod brechlyn trwyddedig ar gael ar gyfer gwneud hynny. O ran priodasau, mae gennyf gydymdeimlad enfawr â'r teuluoedd niferus sydd wedi trefnu ac aildrefnu derbyniadau priodas. Rhaid bod hynny'n beth anodd iawn i'w wneud yn eich bywydau. Ond nid wyf yn ymddiheuro o gwbl am y gofyniad i gael y derbyniadau hynny mewn safleoedd sy'n cael eu rheoleiddio. Mae yna reswm dros hynny. Mae hynny oherwydd bod safleoedd sy'n cael eu rheoleiddio yn gallu rhoi'r holl fesurau angenrheidiol ar waith i ddiogelu iechyd pobl sy'n cymysgu â'i gilydd o dan yr amgylchiadau hynny. Dyna pam ein bod wedi cadw'r rhwymedigaeth yng Nghymru, os ydych yn cael derbyniad priodas, i'w gael mewn lleoliad o'r fath, oherwydd mae hynny'n eich cadw'n ddiogel ac mae'n cadw pobl eraill yn ddiogel hefyd. Dyna yw ein prif flaenoriaeth bob amser fel Llywodraeth. Diolch i'r Prif Weinidog, a diolch ichi i gyd. Dyna ddiwedd ein gwaith ni am y dydd heddiw. Daeth y cyfarfod i ben am 15:46.
uk-hansard-senedd-cy
senedd2021-05-19
2024-06-01T00:00:00
{ "year": "2021", "language": "cy", "license": "Open Parliament Licence - https://www.parliament.uk/site-information/copyright-parliament/open-parliament-licence/" }
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. Galw’r Cynulliad i drefn. 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig. Y cwestiwn cyntaf, Sian Gwenllian. <p>Prosiectau Ynni Cymunedol</p> Siân Gwenllian AC: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglŷn â rôl prosiectau ynni cymunedol fel rhan o strategaeth newid hinsawdd Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0014(ERA)[W] Lesley Griffiths AC: Diolch. Mae’n bosibl mai newid yn yr hinsawdd yw’r bygythiad mwyaf i genedlaethau’r dyfodol ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i leihau allyriadau net Cymru o leiaf 80 y cant erbyn 2050. Bydd gan brosiectau ynni lleol, a lleihau pellteroedd rhwng cynhyrchu a defnydd yn fwy cyffredinol, ran hanfodol i’w chwarae yn cyflawni hyn. Siân Gwenllian AC: Diolch. Yn ystod tymor y Cynulliad diwethaf, mi wnaeth fy rhagflaenydd, Alun Ffred Jones, weithio’n ddiflino er mwyn sicrhau llwyddiant dau gynllun hydro cymunedol wrth iddyn nhw ddechrau’r broses o gynnig cyfle i’r cyhoedd brynu cyfranddaliadau yn y prosiectau yma. Maen braf gen i ddatgan bod y prosiectau yma wedi bod yn hynod lwyddiannus, gan ddenu nifer o gymdogion y cymunedau hynny i brynu cyfranddaliadau yn y prosiectau, ac mae Ynni Ogwen Cyf ac YnNi Padarn Peris bellach yn mynd ar eu taith. Mae Ynni Anafon yn Abergwyngregyn hefyd yn gynllun hydro cymunedol llwyddiannus iawn. Ond, efo’r prosiect Ynni Ogwen yn benodol, mi wnaeth hi gymryd dwy flynedd i’r cynllun dderbyn ei drwydded echdynnu dŵr, sef yr ‘abstraction licence’ gan Gyfoeth Naturiol Cymru, sy’n mynd yn bell tu hwnt i’r pedwar mis sydd yn eu canllawiau statudol nhw i brosesu ceisiadau o’r math yma.Mewn sesiwn dystiolaeth i’r pwyllgor amgylchedd fis Tachwedd y flwyddyn ddiwethaf, mi ddywedwyd bryd hynny mai diffyg staff ac adnoddau gan Gyfoeth Naturiol Cymru oedd ffynhonnell y broblem. A ydy’r Gweinidog wedi gwneud unrhyw asesiadau o’r adnoddau sydd eu hangen gan Gyfoeth Naturiol Cymru i gyflawni ei rwymedigaethau yn llawn, ac, os felly, a ydych chi’n fodlon fod ganddo fo’r adnoddau digonol i wneud hynny, ac, os na, a fedrwch chi ymrwymo i wneud asesiad o’r fath yma ac adrodd yn ôl i’r Cynulliad, os gwelwch yn dda? Lesley Griffiths AC: Diolch. Roeddwn yn falch iawn ein bod yn cefnogi Ynni Ogwen ym Methesda. Dyna’r cynllun peilot cyntaf o’i fath yn y DU, felly rwy’n credu bod llawer y gallwn ei ddysgu ohono yn ôl pob tebyg, o ystyried mai hwnnw yn amlwg oedd y cyntaf, ac rwy’n gwybod eu bod yn treialu model o annog defnydd lleol o ynni drwy gynhyrchu gwasgaredig. Fe fyddwch yn derbyn fy mod yn newydd iawn yn y portffolio. Rwyf wedi cyfarfod â Cyfoeth Naturiol Cymru. Yn amlwg, maent yn cael cyllid sylweddol gennym a’u cyfrifoldeb hwy yw trefnu a sicrhau bod ganddynt y staff sy’n angenrheidiol i gwmpasu pob rhan o’r prosiect. Ond mae’n rhywbeth y byddaf yn sicr yn ei drafod gyda hwy yn fy nghyfarfod nesaf a gynhelir yr wythnos nesaf, rwy’n credu. Ond gan ei fod yn gynllun peilot, rwy’n credu bod llawer y gallwn ei ddysgu gan Ynni Ogwen ym Methesda. David Rees AC: Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r strategaeth hinsawdd hefyd yn gosod targedau ar gyfer gwella defnydd effeithlon o ynni yn ein cartrefi. Mae rhan o’r dull o gyflawni hyn yn cynnwys rhoi cladin allanol ar rai o’r adeiladau sy’n cael eu defnyddio’n eang, ond hefyd ar stoc a adeiladwyd cyn 1919, sy’n adeiladau bloc solet neu waliau solet yn bennaf. Mae’r cladin allanol yn ei gwneud hi’n bosibl i’r eiddo hwnnw ddefnyddio ynni’n effeithlon, ond gallai hefyd gyfyngu ar allu’r eiddo hwnnw i anadlu, sy’n achosi anawsterau. A wnewch chi gomisiynu ymchwil ar effaith y cladin allanol ar y mathau hyn o adeiladau, fel y gallwn sicrhau nad yw’n achosi problemau hirdymor i ni, ond yn hytrach ei fod yn rhoi manteision hirdymor i ni? Lesley Griffiths AC: Credaf ei bod yn bwysig iawn i ni wybod a yw’n mynd i achosi anawsterau neu fanteision i ni, felly, os nad yw’r ymchwil hwnnw wedi’i wneud o’r blaen, byddaf yn sicr yn ystyried ei roi ar waith. Nick Ramsay AC: Weinidog, rwyf wedi gofyn i chi o’r blaen am fanteision cymunedol cynlluniau ynni adnewyddadwy. Rwyf am ofyn i chi eto am ei fod yn fater pwysig iawn i fy etholwyr. Pan oedd fferm solar yn cael ei chynllunio yn Llanfable rhwng Trefynwy a’r Fenni yn fy ardal, fe’i gwrthwynebwyd gan bobl leol. Ar ôl i’r cynllun gael ei basio, daethant i wybod yn ddiweddarach eu bod wedi colli’r cyfle i lobïo dros y buddion cymunedol sydd fel arfer yn gysylltiedig â chynlluniau o’r fath, ac nid yw’r cwmni dan sylw wedi ymateb rhyw lawer i’w hymholiadau. Rwy’n sylweddoli bod yna agwedd ar hyn sydd heb ei datganoli, ond a wnewch chi ddweud wrthyf ym mha ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio cryfhau’r gweithdrefnau a’r canllawiau hyn fel na all cwmnïau osgoi darparu buddion cymunedol gwerthfawr pan fo cynlluniau’n cael eu hadeiladu mewn cymunedau? Lesley Griffiths AC: Ie, os ydym am sicrhau bod gennym y prosiectau cymunedol hyn, rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn fod pobl yn deall eu manteision—ei fod yn real iawn iddynt, a’u bod yn gallu cymryd rhan ynddo. Felly, byddaf yn sicr yn edrych ar hynny. Rwy’n credu fy mod eisoes wedi dechrau edrych ar hynny. Y tro cyntaf i chi ddwyn y mater i fy sylw, gofynnais i swyddogion. Fel y dywedwch, mae rhan o hyn wedi’i gadw’n ôl, ond unwaith eto, byddaf yn hapus iawn i gyflwyno sylwadau i’r Gweinidog perthnasol yn Llywodraeth y DU. <p>Risg o Lifogydd yng Ngorllewin Clwyd</p> Darren Millar AC: 2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gamau sy’n cael eu cymryd i leihau’r risg o lifogydd yng Ngorllewin Clwyd? OAQ(5)0005(ERA) Lesley Griffiths AC: Diolch. Mae Gorllewin Clwyd wedi elwa o dros £20 miliwn o fuddsoddiad dros dymor y Llywodraeth ddiwethaf, gyda chynlluniau i leihau perygl llifogydd wedi’u cyflawni’n llwyddiannus ym Mae Colwyn, Bae Cinmel a Rhuthun. Rydym yn asesu cynlluniau posibl yn Abergele, Llansannan a Mochdre ac mae gwaith dichonoldeb cyllid yn cael ei wneud mewn ardaloedd eraill ar draws Gorllewin Clwyd. Darren Millar AC: Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n ddiolchgar iawn am fuddsoddiad y Llywodraeth flaenorol i fynd i’r afael â materion perygl llifogydd yng Ngorllewin Clwyd, ac fe fyddwch yn gwybod fy mod, ar sawl achlysur, wedi croesawu’r buddsoddiad hwnnw. Rwy’n bryderus ynglŷn â’r ardaloedd a restrwyd gennych hefyd i ddweud eu bod dan ystyriaeth ar hyn o bryd, ond cefais fy siomi gan y ffaith na chlywais unrhyw gyfeiriad at y promenâd ac amddiffynfeydd llifogydd Hen Golwyn, sydd wrth gwrs yn amddiffyn seilwaith trafnidiaeth hanfodol a hollbwysig gogledd Cymru, yn enwedig cefnffordd yr A55 a rheilffordd gogledd Cymru. A allwch roi rhywfaint o sicrwydd i ni eich bod hefyd yn ystyried y materion rheoli perygl llifogydd yn yr ardal benodol honno, a pha gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau eu bod yn mynd i gael eu gwneud mewn modd amserol, oherwydd maent wedi cael eu peledu gan stormydd dros y blynyddoedd diwethaf ac mae hynny wedi tanseilio’r amddiffynfeydd hynny’n ddifrifol? Lesley Griffiths AC: Nid oes unrhyw benderfyniadau wedi’u gwneud eto ar gyllid ar gyfer Hen Golwyn. Er mwyn datblygu hyn, mae angen i’r holl bartneriaid weithio gyda’i gilydd, felly rwy’n credu bod hynny’n rhywbeth sydd angen i chi ei ystyried hefyd. Rwy’n gwybod bod fy swyddogion yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, ac mae’n bwysig iawn ein bod yn dod â phawb at ei gilydd i ddod o hyd i ateb priodol. Felly, fel y dywedais, pe bai’r Aelod hefyd yn gallu cynorthwyo yn y modd hwnnw, byddai hynny’n ddefnyddiol iawn. Hannah Blythyn AC: Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn ymwybodol fod nifer o rannau o ogledd-ddwyrain Cymru wedi dioddef llifogydd sydyn ar ôl glaw trwm a pharhaus dros yr wythnosau diwethaf. Yr wythnos diwethaf, ymwelais â thrigolion a busnesau ym Magillt sydd wedi’u hanrheithio gan lifogydd, ac mae’n destun pryder fod hon yn ardal sydd eisoes wedi dioddef llifogydd yn y blynyddoedd diwethaf. Pa drafodaethau a gawsoch gyda Chyngor Sir y Fflint er mwyn rhoi camau ataliol ar waith mewn ardaloedd o’r fath sy’n dueddol o gael llifogydd, pa gymorth sydd ar gael i ddioddefwyr ac a fyddwch chi’n ystyried ymweld â’r ardaloedd? Lesley Griffiths AC: Diolch i chi am y cwestiwn, Hannah Blythyn. Rwy’n gwybod eu bod wedi cael llifogydd sydyn yng ngogledd-ddwyrain Cymru yr wythnos diwethaf ac rwy’n cydymdeimlo’n fawr â’r busnesau a’r tai a ddioddefodd yn sgil y llifogydd sydyn ar ôl y glaw trwm yr wythnos diwethaf. Rwy’n gwybod fod Bagillt yn arbennig wedi dioddef, ac mae fy swyddogion wedi bod mewn trafodaethau gyda Chyngor Sir y Fflint yn ogystal â’r gwasanaethau brys—rydym am ddiolch iddynt gan eu bod wedi lliniaru’r perygl uniongyrchol i beth o’r eiddo. Rwy’n credu y bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal yn awr i geisio darganfod sut y digwyddodd y llifogydd yn dilyn y glaw trwm, ac mae angen i ni ddeall pa ffactorau oedd ynghlwm wrth hyn fel y gallwn roi camau posibl ar waith i leihau’r perygl y bydd llifogydd o’r fath yn digwydd eto. Llyr Gruffydd AC: Mae llawer iawn o’r arian, wrth gwrs, sy’n cael ei fuddsoddi i fynd i’r afael â’r her o lifogydd yn dod o ffynonellau Ewropeaidd, wrth gwrs. A fyddech chi’n cytuno â mi felly, Ysgrifennydd Cabinet, y byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn gadael nifer o’r cymunedau hyn hyd yn oed yn fwy ‘exposed’ i’r risg o ddioddef gorlifo, yn enwedig mewn ardaloedd fel Gorllewin Clwyd? Lesley Griffiths AC: Yn hollol. Cytunaf yn llwyr â Llyr Huws Gruffydd y buasai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn sicr yn torri ein cyllid yn sylweddol, yn fy mhortffolio i’n arbennig. Rwyf wedi gofyn i swyddogion edrych ar yr effaith, ac mae’n sylweddol tu hwnt. Rwy’n cytuno’n llwyr â chi. <p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p> Rwy’n galw nawr ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet. Llefarydd UKIP, Neil Hamilton. Neil Hamilton AC: Diolch yn fawr iawn, Lywydd.The Cabinet Secretary will be aware that one of the big problems in rural areas and in my vast and scattered region of Mid and West Wales in particular is the vexed question of broadband download speeds. I have constituents who’ve written to me with typical rates of 1 Mbps, compared with 15 Mbps which is the UK average. I wonder if the Cabinet Secretary could give us a rundown on what action the Welsh Government is presently taking to improve broadband download speeds in rural areas. Lesley Griffiths AC: Mae hyn yn anhawster i rai rhannau o’r ardaloedd gwledig, ac rwy’n credu ei fod yn ymwneud â gwella’r seilwaith ar gyfer yr ardaloedd hynny. Byddaf yn gweithio’n agos gyda fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet a chyd-Aelodau eraill y Llywodraeth er mwyn sicrhau ein bod yn cael band eang cyflym mewn ardaloedd gwledig cyn gynted â phosibl. Neil Hamilton AC: Maddeuwch i mi am nodi, Ysgrifennydd y Cabinet, fod yr ymateb hwnnw braidd yn brin o fanylion. Yr hyn rydym yn sôn amdano yma yw achosion hirdymor o addewidion wedi’u torri gan y cwmnïau dan sylw. Mae gennyf etholwr a ysgrifennodd ataf o Abergorlech, yn etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, a gafodd addewid o uwchraddiad i fand eang ffeibr yn 2015; ni ddigwyddodd hynny. Yna cafodd addewid y buasai’n digwydd erbyn mis Mehefin eleni; nid yw hynny wedi digwydd. Cafodd wybod yn ddiweddar y bydd yn rhaid iddo aros tan y gwanwyn y flwyddyn nesaf cyn y bydd unrhyw obaith o welliant. Felly, tybed pa gamau ymarferol y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i roi pwysau ar y cwmnïau sy’n gyfrifol am gyflwyno band eang yn yr ardaloedd hyn? Lesley Griffiths AC: Yn amlwg, ni allaf roi sylwadau ar yr achos unigol hwnnw. Mae’r Gweinidog sy’n gyfrifol am fand eang wedi clywed eich sylwadau. Os hoffech ysgrifennu ati ynglŷn â’r achos penodol hwnnw, rwy’n siŵr y gallai gysylltu â’r cwmni i drafod y mater. Neil Hamilton AC: Un o’r problemau mawr yma yw bod gan Openreach afael haearnaidd ar y seilwaith i bob pwrpas, ac mae’n debyg bod hyn i gyd yn mynd yn ôl i’r modd y cafodd British Telecom ei breifateiddio flynyddoedd lawer yn ôl. [Torri ar draws.] Iawn, gadewch i’r Aelod orffen ei gwestiwn. Neil Hamilton AC: Rwy’n credu y dylai’r anrhydeddus Aelod fod yn drugarog wrth dderbyn fy mea culpa. Ond wrth gwrs, 30 mlynedd yn ôl, ni allem ragweld y dyfodol gyda’r sicrwydd sydd gan Aelodau heddiw mewn perthynas â dyfodol yr Undeb Ewropeaidd. Serch hynny, lle cafwyd camgymeriad flynyddoedd mawr yn ôl, efallai y dylem yn awr ailystyried yr opsiynau hynny, ac rwy’n meddwl tybed a fuasai Llywodraeth Cymru yn ystyried hynny hefyd. Lesley Griffiths AC: Wel, unwaith eto, rwy’n siŵr fod y Gweinidog wedi eich clywed. Yn fy etholaeth i, gwn fod yna gwmnïau eraill yn ei ddarparu, ond fel y dywedais, os hoffech ysgrifennu at y Gweinidog sy’n gyfrifol am y mater, Julie James, rwy’n siŵr y cewch yr ateb. Llefarydd Plaid Cymru, Simon Thomas. Simon Thomas AC: Diolch, Lywydd. Weinidog, mae yna dîm pwysig arall wedi bod ym Mharis, o flaen y tîm pêl-droed, yr oeddem ni yn ei longyfarch ac yn dymuno’n dda iddyn nhw gynnau bach, sef y tîm wedi’i arwain gan y cyn-Weinidog a aeth i’r trafodaethau newid hinsawdd ym Mharis cyn y Nadolig y llynedd. Yn sgil y trafodaethau hynny, a ydy’r Llywodraeth hyn—eich Llywodraeth chi—yn ystyried ei hunan wedi’i hymrwymo, os nad yn gyfreithlon o leiaf yn foesol, i gyrraedd y targedau a osodwyd yng nghytundeb Paris? Lesley Griffiths AC: Ie, yn hollol Simon Thomas AC: Diolch am y cadarnhad hwnnw. Wrth gwrs, mae’r cytundeb hwnnw’n gosod cwrs i fynd at allyriadau carbon o sero, dim, erbyn ail hanner y ganrif hon ac i ddal allyriadau carbon i dyfiant o 1.5 y cant tan hynny. Yn ystod yr wythnos diwethaf, mae newyddion wedi dod ein bod ni ar fin pasio’r trothwy symbolaidd ond pwysig o 400 rhan y filiwn o allyriadau carbon, sy’n dangos bod yr holl fyd yn bell oddi ar y targed. Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, yr oedd eich Llywodraeth yn gyfrifol amdano yn y Cynulliad diwethaf, yn gosod allan targed ar ostwng allyriadau carbon erbyn 2050. A ydych chi’n dal i ystyried y targed yma’n ddigonol i gwrdd â’r uchelgais yng nghytundeb Paris? Lesley Griffiths AC: Ar hyn o bryd, ydw. Fel y dywedwch, mae Deddf yr amgylchedd yn gosod targed o 80 y cant o ostyngiad fan lleiaf mewn allyriadau erbyn 2050. Rwy’n credu ei fod yn rhywbeth sydd angen i ni ei wylio’n agos iawn ac rwy’n ymrwymo i wneud hynny. Simon Thomas AC: Diolch i chi am y cadarnhad hwnnw, ond rwy’n credu bod angen i ni barhau i adolygu’r targedau hyn, oherwydd mae’n bosibl na fydd targed o 80 y cant o ostyngiad yn ddigon mewn gwirionedd i gyfrannu at uchelgais Paris yn gyffredinol. Ond un o’r ffyrdd allweddol y gallem ni yng Nghymru gyfrannu tuag at ein targedau ein hunain a thargedau byd-eang yw drwy ynni adnewyddadwy wedi’i ddatblygu’n well. Rydym eisoes wedi clywed ychydig am hynny o ogledd Cymru. Oni fyddai’n well, felly, pe bai gennym reolaeth dros brosiectau ynni o dan Fil Cymru heb unrhyw gyfeiriad at drothwyon o gwbl? Felly, er enghraifft, gallem roi gwell cefnogaeth a hyder i syniadau cyffrous a gwych megis y morglawdd ym mae Abertawe, ac rwy’n datgan buddiant fel cyfranddaliwr cymunedol yn y prosiect hwnnw. Lesley Griffiths AC: Fe fyddai, ac yn sicr fe fyddwch yn ymwybodol o’r sylwadau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cyflwyno i Lywodraeth y DU mewn perthynas â hyn, a disgwyliwn yn eiddgar i glywed beth a ddaw o San Steffan yn awr. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, David Melding. David Melding AC: Diolch i chi, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n dymuno’n dda i chi gyda’ch portffolio newydd. Rwy’n edrych ymlaen at eich cysgodi yn y maes pwysig hwn o bolisi cyhoeddus. Rwy’n ofni bod rhaid i mi gychwyn ar nodyn sur, yn anffodus. Rwyf wedi sylwi nad yw ansawdd aer wedi’i restru fel un o’ch cyfrifoldebau ar wefan swyddogol Llywodraeth Cymru—nid yw wedi cael ei restru’n benodol; byddwch yn dadlau ei fod yno’n enerig, wrth gwrs—er bod polisi sŵn, er enghraifft, sy’n bwysig iawn, wedi’i restru’n benodol. A yw hyn yn arwydd o agwedd ddi-fflach tuag at ansawdd aer ar ran Llywodraeth Cymru? Lesley Griffiths AC: Rwy’n siomedig iawn eich bod wedi dechrau ar nodyn mor sur. Mae’n bendant yn gyfrifoldeb i mi a gallaf sicrhau David Melding fod gwella ansawdd aer yn sicr yn un o amcanion allweddol Llywodraeth Cymru. David Melding AC: Rwy’n siŵr eich bod yr un mor bryderus â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, ynglŷn â’r dystiolaeth wyddonol gynyddol sy’n dangos bod gronynnau diesel yn peri risg sylweddol iawn i iechyd y cyhoedd. Rydym wedi arfer sôn am beryglon ysmygu goddefol, er enghraifft, ond mae’n fwy na thebyg fod y gronynnau hyn yn creu perygl mwy difrifol i ystod eang o’r boblogaeth. Pa fesurau sy’n cael eu cynllunio i wella ansawdd aer o ganlyniad i’r dystiolaeth hon? Lesley Griffiths AC: Wel mae hyn yn rhan o’r holl beth rwy’n edrych arno mewn perthynas ag ansawdd aer, ac fe fyddwch yn ymwybodol fod gan awdurdodau lleol ddyletswyddau, yn amlwg, o dan y gyfundrefn rheoli ansawdd aer lleol, a gwn fy mod wedi cael fy lobïo gan Aelodau Cynulliad mewn ardaloedd penodol, yn gynnar iawn yn y portffolio, ynglŷn ag ardaloedd penodol mewn awdurdodau lleol penodol. Yr hyn rwyf wedi’i wneud yw gofyn i swyddogion fonitro awdurdodau lleol yn ofalus iawn er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni eu dyletswyddau i gynhyrchu cynllun gweithredu ar gyfer ansawdd aer, er mwyn i ni allu edrych i weld pa fesurau penodol y mae pob un ohonynt yn eu gwneud, ac yn amlwg bydd yr ymchwil wyddonol rydym yn ei chael yn awr mewn perthynas â diesel yn rhan o hynny. David Melding AC: Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n falch o nodi hynny, ond a ydych yn credu, mewn ystyr fwy ymarferol, ei bod hi’n bryd i ni yng Nghymru, ac ym Mhrydain yn gyffredinol, wynebu rhai o ganlyniadau ymarferol cludo plant i’r ysgol, er enghraifft? Rwy’n credu ein bod yn perthyn i’r un genhedlaeth, ac yn fy amser i, y rhai a oedd yn sâl neu’n dueddol o gamymddwyn a gâi eu cludo i’r ysgol gan drafnidiaeth breifat. Mae hyn yn cael effaith fawr, gan mai plant sy’n mynd i’r ysgol, y bwystfilod diesel hyn sy’n gyrru llawer o blant eraill yno, ac yna maent yn anadlu’r llygryddion ofnadwy hyn. Mae angen i ni wneud rhywbeth am y peth, oherwydd nid yw’n normal i gynifer o’r boblogaeth ysgol gael eu gyrru i’r ysgol ac yn ôl. Lesley Griffiths AC: Rwy’n cytuno’n llwyr. Rwy’n cofio cerdded tua milltir a hanner o leiaf, rwy’n credu, bob ffordd i’r ysgol gynradd a’r ysgol uwchradd. Rydych yn llygad eich lle, mae angen i ni edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud i annog pobl i beidio â defnyddio’u cerbydau, ac i wneud yn siŵr fod gennym y llwybrau beicio sydd eu hangen, ac i annog mwy o gerdded, ac mae hynny’n amlwg yn cyd-fynd â ffordd o fyw iachach a lles yn ogystal. <p>TB mewn Gwartheg</p> Llyr Gruffydd AC: 3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â TB mewn gwartheg? OAQ(5)0002(ERA)[W] Lesley Griffiths AC: Diolch. Byddaf yn gwneud datganiad am fy nghynlluniau i fynd i’r afael â TB mewn gwartheg yn yr hydref. Bydd unrhyw fesurau yn y dyfodol yn adeiladu ar y rhaglen gyfredol i ddileu TB ac yn mabwysiadu dull sy’n seiliedig ar wyddoniaeth, gan fynd i’r afael â holl ffynonellau’r haint er mwyn parhau â’r duedd ostyngol hirdymor yn nifer yr achosion o’r clefyd. Llyr Gruffydd AC: Diolch i chi am eich ateb. Roeddwn yno neithiwr yn gwrando’n astud ar eich araith yn nigwyddiad Cymdeithas Milfeddygon Prydain. Roeddech yn siarad yno am eich dymuniad i sicrhau bod yna raglen gynhwysfawr i fynd i’r afael â TB mewn gwartheg, ac yn sicr, yr argraff oedd bod yr holl opsiynau ar y bwrdd. A wnewch chi gadarnhau i’r Cynulliad y prynhawn yma nad ydych yn diystyru’r posibilrwydd o gyflwyno elfen o ddifa moch daear yn rhan o’r strategaeth honno? Lesley Griffiths AC: Wel, fe wyddoch fod gennym raglen dileu TB gynhwysfawr iawn ar waith ers 2008. Rwy’n gwbl ymrwymedig i fabwysiadu dull gwyddonol o ddileu TB mewn gwartheg. Rwyf am weld TB mewn gwartheg yn cael ei ddileu—credaf fod yr ystadegau a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf yn dangos ein bod wedi gweld sefyllfa sy’n gwella ledled Cymru dros y chwe blynedd diwethaf. Rwy’n siŵr y byddwch yn gwerthfawrogi fy mod yn cael llawer iawn o wybodaeth a chyngor ar y mater hwn, a byddaf yn gwneud datganiad yn yr hydref. Paul Davies AC: Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol bod £3.7 miliwn wedi’i wario ers 2011 ar frechu moch daear yn yr ardal triniaeth ddwys yn fy etholaeth, ac yn amlwg mae’r polisi brechu wedi methu. Nawr, mae’r adroddiad gwyddonol diweddaraf yn dangos cynnydd o 78 y cant yn nifer y gwartheg a laddwyd yn Sir Benfro o ganlyniad i TB mewn gwartheg. O ystyried y cynnydd yn nifer y gwartheg a laddwyd yn fy ardal, a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym pa drafodaethau y mae’n bwriadu eu cael gyda ffermwyr yn Sir Benfro? A charwn ei hannog i gyflwyno datganiad cyn yr hydref, gan fod ffermwyr yn awyddus i wybod beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar y mater hwn. Lesley Griffiths AC: Wel, rwy’n credu bod ffermwyr yn ymwybodol iawn o’n polisi ar y mater hwn. Rwyf eisoes wedi cyfarfod â ffermwyr. [Torri ar draws.] Fel y dywedais, rydym yn ymrwymedig iawn i ddarparu dull gwyddonol o ddileu TB mewn gwartheg. Ymddangosodd yr ystadegau yr wythnos diwethaf: maent wedi dangos sefyllfa sy’n gwella ar draws Cymru dros y chwe blynedd diwethaf. Mae’r nifer o achosion newydd o TB wedi gostwng yn sylweddol ers 2009. Mae gennym adolygiad o’r strategaeth gan Swyddfa’r Prif Swyddog Milfeddygol, ac rwy’n disgwyl argymhellion drafft er mwyn adnewyddu’r strategaeth a strategaeth newydd yn ddiweddarach y mis hwn, a byddaf yn gwneud datganiad yn yr hydref. <p>Yr Amgylchedd Ffisegol</p> Rhianon Passmore AC: 4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y pwysigrwydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar sicrhau bod amgylchedd ffisegol Cymru yn agored i bawb? OAQ(5)0008(ERA) Lesley Griffiths AC: Diolch. Drwy’r systemau cynllunio a rheoli adeiladu, mae Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau bod datblygiadau newydd yn hygyrch i bob aelod o’r gymdeithas. Er mwyn cadarnhau pwysigrwydd mynediad i bawb, darparodd Llywodraeth Cymru gyllid yn ddiweddar ar gyfer hyfforddiant ar y mater a fynychwyd gan 160 o weithwyr proffesiynol ym maes yr amgylchedd adeiledig. Rhianon Passmore AC: Diolch yn fawr, Weinidog. Mewn perthynas â’r gwaith torri coed ar ffordd goedwig hardd Cwmcarn, sy’n saith milltir o hyd, a gaewyd dros dro ym mis Tachwedd 2014, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi datgan fod hwn yn waith hirdymor a allai gymryd rhwng tair a phedair blynedd i’w gwblhau. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ailadrodd penderfyniad diamod a digamsyniol Llywodraeth Cymru y bydd un o ryfeddodau naturiol amgylchedd Cymru yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac y bydd yn rhoi blaenoriaeth i sicrhau y bydd y ffordd ar gael i’r cyhoedd unwaith eto? Lesley Griffiths AC: Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol iawn o werth ffordd goedwig Cwmcarn i’r cymunedau lleol ac i ymwelwyr. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi sefydlu gweithgor i edrych ar y cyfleoedd hirdymor yno, gan gynnwys sut y gellir ariannu llwybrau cerdded a beicio, a meysydd gwersylla, yn gynaliadwy yn y dyfodol. Mohammad Asghar (Oscar) AC: Mae pob un ohonom yn cydnabod y fantais o gynyddu mynediad i gefn gwlad mewn perthynas â hamdden a gwella iechyd a lles y cyhoedd. Fodd bynnag, mae grwpiau fel y Gynghrair Cefn Gwlad wedi rhybuddio y gallai mynediad anghyfyngedig i gefn gwlad effeithio’n amgylcheddol ar gynefinoedd afon, difrodi tiroedd a chyfyngu ar allu tirfeddianwyr i reoli a diogelu eu tir. Weinidog, mae gennyf ffrind sy’n byw ychydig y tu allan i ffin fy rhanbarth, Dr Randhawa, ac mae’n cynnal yr holl lwybrau sy’n croesi ei dir. Nid yw’r cyngor byth yn rhoi ceiniog tuag at y gwaith, ond mae bob amser yn cael trafferth gyda’r cyngor lleol a biwrocratiaeth. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi gytuno bod yn rhaid i unrhyw gynnig i agor mynediad at gefn gwlad ystyried barn y rhai sy’n byw ac yn gweithio yng nghefn gwlad Cymru, a’r rhai sy’n ei gynnal? Lesley Griffiths AC: Rwy’n credu ei fod yn ymwneud â chael cydbwysedd. Mae’n ymwneud â phobl yn cael mynediad, mae’n ymwneud â’r amgylchedd, mae’n ymwneud ag iechyd a lles anifeiliaid. Yn y Llywodraeth flaenorol, fe wyddoch ein bod wedi cael Papur Gwyrdd ynglŷn â mynediad. Byddaf yn edrych ar yr argymhellion a’r ymatebion i’r ymgynghoriad a gawsom mewn perthynas â hynny cyn gwneud unrhyw benderfyniadau pellach. <p>Cynllun Datblygu Lleol Caerdydd</p> Neil McEvoy AC: 5. Sut y bydd cynllun datblygu lleol Caerdydd yn gwella’r amgylchedd lleol? OAQ(5)0006(ERA) Lesley Griffiths AC: Diolch. Bydd cynllun datblygu lleol Caerdydd yn chwarae rhan ganolog yn y broses o ffurfio lle a gwella ansawdd bywyd drwy ddarparu adeiladau a gofod cyhoeddus o ansawdd uchel ac wedi’u cynllunio’n dda. Mae trafnidiaeth gyhoeddus a llwybrau beicio a cherdded wedi’u cynllunio’n dda a gyflwynir drwy’r CDLl yn galluogi mynediad cynaliadwy at swyddi, ysgolion a siopau. Neil McEvoy AC: Iawn. Rwy’n credu mai’r realiti yw bod y cynllun yn rhagweld cynnydd enfawr mewn traffig, mae yna adeiladu ar raddfa eang ar safleoedd tir glas, ac mae’r rhan fwyaf o bobl yn ei ystyried yn drychineb amgylcheddol. Y cwestiwn i chi yw: yn eich barn chi, sut y gellir defnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i wella’r amgylchedd lleol mewn perthynas â’r cynllun datblygu lleol? Lesley Griffiths AC: Wel, yn amlwg, mae Caerdydd wedi cyflwyno eu CDLl. Rwy’n gwybod ei fod yn gydbwysedd bregus iawn rhwng bod awdurdodau lleol yn gwneud trefniadau ar gyfer tai a gwasanaethau ar gyfer poblogaeth sy’n tyfu, ac amddiffyn y pwyntiau rydych newydd eu crybwyll. Rwy’n credu bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yno, a gallwn weld yr amcanion yn glir iawn, a chyfrifoldeb fy swyddogion yw gwneud yn siŵr eu bod yn monitro’r holl Gynlluniau Datblygu Lleol a ddaw i law. Rwy’n credu ein bod yn dal i aros am chwech ohonynt ledled Cymru, er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd ag amcanion y Ddeddf. Andrew RT Davies AC: Ysgrifennydd y Cabinet, mae proses y CDLl yn amlwg yn destun dadlau mawr mewn sawl ardal a dyna hefyd yw’r sail a ddefnyddir i ddatblygu, ysgogi ac adfywio ardaloedd mawr yn ogystal. Ond mae un o’r materion mwyaf dadleuol yn fy rhanbarth etholiadol i, sef Canol De Cymru, yn ymwneud â’r amcanestyniadau tai y mae cynghorau yn eu defnyddio i benderfynu ar eu dyraniadau CDLl. Daw’r amcanestyniadau hynny gan Lywodraeth Cymru. Wrth i chi edrych yn gyntaf ar yr amcanestyniadau hyn a ddarperir ar ran Llywodraeth Cymru i’r awdurdodau lleol, sut y teimlwch ynglŷn â bwrw ymlaen â’r broses hon? A ydych yn fodlon fod yr amcanestyniadau hynny’n gadarn, neu a oes angen ailedrych arnynt, a’u hailwerthuso yn y pen draw, yn sgil rhai o’r sylwadau a wnaed gan gynghorau yn fy rhanbarth etholiadol yng Nghanol De Cymru? Lesley Griffiths AC: Wel, mater i bob awdurdod lleol unigol yw’r CDLl. Rwyf am gael Cynlluniau Datblygu Lleol wedi’u mabwysiadu ar waith ac rwy’n credu bod yna chwe awdurdod lleol nad ydynt wedi gwneud hyn eto. Rwyf wedi gofyn iddynt fwrw ymlaen â hyn. Os nad oes gennym y Cynlluniau Datblygu Lleol hynny ar waith, fel y gwn yn fy etholaeth fy hun, mae gennych ddatblygwyr yn dod â chynlluniau nad ydynt yn cyd-fynd â’r hyn y mae’r boblogaeth leol ei eisiau a’i angen. Felly, rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn rhoi’r cynllun datblygu lleol ar waith. Fel rwy’n ei ddweud, nid fy lle i yw ei lunio, nac unrhyw un o fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet; cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yw gwneud hynny eu hunain. Yr hyn y mae’r CDLl yn ei wneud yw darparu’r fframwaith polisi i sicrhau bod yr awdurdod lleol yn darparu’r seilwaith cymunedol angenrheidiol. <p>Cymorthdaliadau Cyhoeddus</p> Neil Hamilton AC: 6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am pa mor bwysig yw cymorthdaliadau cyhoeddus i ffermwyr Cymru? OAQ(5)0009(ERA) Lesley Griffiths AC: Gwnaf. Mae taliadau polisi amaethyddol cyffredin o £350 miliwn bob blwyddyn yn chwarae rhan hanfodol bwysig yn cynnal hyfywedd ffermydd Cymru a gwireddu gweledigaeth ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a’r diwydiant ynghylch diwydiant amaethyddol ffyniannus a gwydn yng Nghymru. Neil Hamilton AC: Rwy’n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno bod cymhorthdaliadau ​​wedi bod yn elfen bwysig yn incwm ffermwyr drwy gydol fy oes, cyn i ni fynd i mewn i’r farchnad gyffredin, fel y’i gelwid bryd hynny, ac ers hynny wrth gwrs, ac os yw’r wlad yn pleidleisio dros adael yfory, yna byddai cymhorthdaliadau cyhoeddus yn parhau ar eu lefel bresennol fan lleiaf oherwydd ein bod yn talu £2 i mewn ac ond yn cael £1 yn ôl. Roedd gennym system dda o gymhorthdaliadau ​​yn seiliedig ar daliadau diffyg cyn 1973 a oedd yn cynnal incwm ffermydd gan sicrhau bwyd rhad i’r bobl. Lesley Griffiths AC: Rwy’n credu bod sylwadau’r Aelod i gyd yn gwbl ddamcaniaethol. Simon Thomas AC: A gaf fi gyflwyno ambell ffaith i chi, Weinidog? A gaf fi eich cyfeirio at erthygl yn yr ‘Agricultural History Review’, o dan y pennawd ‘Measuring Regional Variation in Farm Support: Wales and the UK, 1947-72’? Dyma oedd casgliad yr erthygl hon: roedd cymorthdaliadau blaenorol i ffermydd cyn ffurfio’r UE yn cosbi Cymru pan oedd maint y fferm yn llai ar gyfartaledd nag yn y DU gyfan. Y ffaith yw bod gan ffermwr yng Nghymru fwy yn gyffredin â ffermwyr ledled gweddill yr UE nag sydd ganddo â chriw o Dorïaid asgell dde sy’n cefnogi preifateiddio a heb ddiddordeb mewn dim heblaw chwyddo a hyrwyddo’u lles eu hunain. Mae’n well i ffermwyr Cymru aros yn yr UE. Dyna gasgliad llywydd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr heddiw, yma yn y Cynulliad hwn, yn ogystal ag Undeb Amaethwyr Cymru. Rwy’n gobeithio y byddwn, yn ystod y 24 awr olaf, yn gweithio’n galed i ddarparu’r sicrwydd y mae’r gymuned amaethyddol ei hangen y byddwn yn gwarchod eu buddiannau, ond fel rhan o Undeb Ewropeaidd ddiwygiedig. Lesley Griffiths AC: Rwy’n cytuno’n llwyr â’r Aelod. Roeddwn yn y digwyddiad gydag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac rwyf wedi cyfarfod ag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac Undeb Amaethwyr Cymru, sydd wedi anfon neges gadarnhaol iawn i’w haelodau y dylent bleidleisio dros aros yn yr UE yfory. Gwyddom fod y farchnad sengl yn gwbl allweddol i’n sectorau ffermio a bwyd ac rwy’n credu bod y peryglon sy’n gysylltiedig â’r posibilrwydd o adael yn sylweddol. Nid ydym yn gwybod, ac mae’r hyn a glywn gan rai gwleidyddion, fel rwy’n ei ddweud, yn seiliedig ar ddamcaniaeth lwyr a gwyddom fod 81 y cant o elw busnesau ffermio yng Nghymru yn deillio o’r cymorthdaliadau y maent yn eu derbyn gan yr UE. Paul Davies AC: Ysgrifennydd y Cabinet, mae penderfyniad Llywodraeth flaenorol Cymru i symud i’r gyfradd fodiwleiddio o 15 y cant wedi’i gwneud yn llawer anos i rai ffermwyr yng Nghymru gystadlu yn y farchnad yn erbyn cynhyrchwyr bwyd o wledydd eraill. O ystyried yr amgylchiadau hyn, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn benodol i sicrhau bod ffermwyr yn cael cyfle i gael mynediad uniongyrchol at y cronfeydd hyn o dan y cynllun datblygu gwledig er mwyn gwneud iawn am golli enillion o dan golofn 1? Lesley Griffiths AC: Wel, mewn gwirionedd, wyddoch chi, rwyf ar ganol fy mis cyntaf yn y portffolio ac rwy’n credu eu bod yn cael mwy na’r 15 y cant yn ôl mewn gwirionedd. Rydym yn y broses o sefydlu’r cynllun grantiau bach ac mae’r ffermwyr yn hapus iawn â’r hyn rydym yn ei wneud mewn perthynas â hynny. <p>Y Cynllun Datblygu Gwledig</p> Rhun ap Iorwerth AC: 7. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar y cynllun datblygu gwledig? OAQ(5)0012(ERA)[W] Lesley Griffiths AC: Mae rhaglen datblygu gwledig cymunedau gwledig Llywodraeth Cymru 2014-20 yn cefnogi cymunedau gwledig a’r economi gyda chyfuniad o gyllid Llywodraeth Cymru a’r UE. Mae pymtheg o gynlluniau wedi agor yn barod a bydd grantiau bach Glastir yn agor ar 27 Mehefin. Rydym yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i fireinio a datblygu’r rhaglen. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch. Mi oedd hi’n dda gweld yr NFU yma yn y Senedd heddiw yn amlinellu eu gweledigaeth ar gyfer y diwydiant. Ond, beth mae’r NFU, fel ffermwyr ledled Cymru, yn chwilio amdano fo ydy nid yn unig geiriau o gefnogaeth gan y Llywodraeth, ond gweithredoedd hefyd. Rŵan, mi gafwyd addewid gan Weinidog blaenorol y byddai’r gallu gan y cynllun datblygu gwledig newydd i fod yn drawsnewidiol o ran yr economi wledig ac o ran y diwydiant amaeth. Ddwy flynedd i mewn i’r rhaglen, mae cael dim ond llond llaw o brosiectau wedi’u cymeradwyo ymhell iawn, iawn o fod yn drawsnewidiol. Mae ffermwyr yn fy etholaeth i yn Ynys Môn, fel ledled Cymru, yn dal i aros. Pa bryd mae’r trawsnewid am ddigwydd ac a wnaiff y Gweinidog rannu ei gweledigaeth ynglŷn â’r potensial i’r cynllun datblygu gwledig newydd? Lesley Griffiths AC: Rwy’n credu eich bod yn hollol gywir. Mae angen i ni weld llawer mwy o newid trawsnewidiol, ac mae angen i ni wneud hynny mewn partneriaeth â’r ffermwyr. Yn sicr, o fy nhrafodaethau gydag Undeb Amaethwyr Cymru ac Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, maent yn barod iawn ar gyfer hyn. Rwy’n credu eu bod am weld rhywfaint o gyflymder wrth symud ymlaen. Un o’r pethau rwyf wedi’u trafod gyda hwy yw’r mentrau strategol, a chael y mentrau strategol hynny i redeg ar draws y Cynllun Datblygu Gwledig er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn gwella sgiliau er enghraifft. Rwyf hefyd yn credu bod angen i ni edrych ar sut y gallwn eu helpu gyda chynaliadwyedd a gwydnwch eu busnesau, ac edrych ar yr ochr fusnes, oherwydd rwy’n credu efallai nad ffermwyr, yn sicr yn y trafodaethau cynnar iawn a gefais gyda hwy, yw’r bobl orau i redeg busnes o bosibl. Nid oes ganddynt y math hwnnw o weledigaeth fusnes, ac eto maent yn awyddus i weithio gyda ni mewn perthynas â hynny. Rhai’n unig o’r ffermwyr y siaradais â hwy’n gynnar yn y portffolio yw hyn—nid wyf yn dweud bod pob ffermwr felly o gwbl. Ond dyna’r hyn y maent yn dweud wrthyf eu bod eisiau cymorth gydag ef, a dyna ble rwy’n credu y gallwn helpu, gyda mentrau strategol ar draws y Cynllun Datblygu Gwledig. Andrew RT Davies AC: Weinidog, buaswn yn cymeradwyo sylwadau’r siaradwr gwreiddiol ar hyn ynglŷn â chyflymder rhyddhau’r arian o’r cynllun datblygu gwledig i’r gwahanol gynlluniau. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech ymhelaethu ar rai o’ch sylwadau yn yr ateb diwethaf a dweud: a ydych yn fodlon ar y cyflymder sy’n cael ei ddatblygu y tu ôl i’r cynllun datblygu gwledig i greu’r agenda drawsnewidiol rydych yn sôn amdani? Oherwydd mae pobl yn cefnogi llawer o’r teimladau, ond buaswn yn awgrymu bod yna dagfa enfawr yn y system o brosesu ceisiadau i’r Cynllun Datblygu Gwledig, ac yn anad dim, o ran bod pobl yn cael mynediad at yr arian yn y lle cyntaf. Felly, beth yw eich asesiadau cychwynnol, o ystyried eich bod wedi bod yn y swydd ers sawl wythnos bellach? Lesley Griffiths AC: Wel, ym mis Mai y llynedd y cafodd ei gymeradwyo, felly ychydig dros flwyddyn yn unig sydd wedi bod. Rydym wedi agor 15 o gynlluniau: agorais gynllun pellach yr wythnos diwethaf. Mae gennym dros £260 miliwn o gyllid wedi’i ymrwymo ar draws pob sector. Felly, fel rwy’n dweud, rwy’n credu bod potensial aruthrol ar gyfer y sector. Rwyf eisiau gweithio’n iawn ar y mentrau strategol hynny ar draws y sector. Mae’n debyg y gallwn bob amser wneud pethau’n gyflymach, ond nid wyf am weld tagfeydd ac rwyf eisiau gweld yr arian allan yno cyn gynted â phosibl, ac rwyf wedi addo gwneud hynny. <p>Ansawdd Aer</p> Rhianon Passmore AC: 8. A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cynnal lefelau ansawdd aer? OAQ(5)0010(ERA) Lesley Griffiths AC: Diolch. Mae gwella ansawdd aer yn lleol yn un o amcanion allweddol Llywodraeth Cymru. Rydym yn cynorthwyo awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswyddau o dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995, sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt fonitro ansawdd aer a chyflawni cynlluniau gweithredu i’w wella mewn ardaloedd a effeithir gan lefelau uchel o lygredd. Rhianon Passmore AC: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Yr A472 yng Nghrymlyn: yn ôl data’r Llywodraeth, y lefelau o nitrogen deuocsid a gofnodwyd yma yw’r rhai uchaf a gofnodwyd yn y DU y tu allan i Lundain. Yr unig le y gwelir lefelau uwch yn Lloegr yw ar fonitor tebyg ar Marylebone Road yng nghanol Llundain, ac yn ôl Asthma UK Cymru, mae 314,000 o bobl yn dioddef o asthma yng Nghymru, gan gynnwys 59,000 o blant: bron un o bob 10 plentyn. Mewn adroddiad gan GIG Cymru a Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd yn 2015, nodwyd bod canran y cleifion y cofrestrwyd gan eu meddyg teulu eu bod yn dioddef o asthma a COPD, clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, yn uwch nag yn Lloegr, a bod rhywfaint o gynnydd wedi bod yn y blynyddoedd diwethaf. Pa gamau brys y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i weithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a rhanddeiliaid eraill i gael gwared ar broblem llygredd aer? Lesley Griffiths AC: Diolch. Mae fy swyddogion wedi ceisio sicrwydd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili mewn perthynas ag ardal rheoli ansawdd aer yr A472 ger Crymlyn a grybwyllwyd gennych, o ran y camau y maent yn bwriadu eu cymryd i wella ansawdd aer yn lleol. Mae’r cyngor yn trefnu cyfarfod grŵp llywio fis nesaf, fel rydych yn gwybod mae’n siŵr, a byddant yn cael mewnbwn gan grwpiau lleol a thrigolion lleol, ac rwy’n credu bod hynny’n wirioneddol bwysig. Wedyn, maent am sicrhau bod cynllun gweithredu ansawdd aer yn cael ei ddatblygu. Bydd hynny hefyd yn cynnwys rhestr o opsiynau rheoli traffig ar gyfer yr ardal er mwyn mesur ansawdd aer yn yr ardal. Mae’r cyngor wedi rhoi dyddiad cychwynnol i ni ar gyfer gweithredu hyn, sef mis Tachwedd, ond rwyf wedi gofyn i swyddogion fonitro hynny’n ofalus iawn i sicrhau eu bod yn cadw at yr amserlen honno. Suzy Davies AC: Mae ffordd ddosbarthu’r cyrion ym Mhort Talbot, a agorwyd i leddfu galw traffig lleol ar yr M4, wedi bod yn weithredol ers oddeutu tair blynedd bellach. Pa ddata y mae Llywodraeth Cymru wedi’i gael gan yr awdurdod lleol, neu wedi’i dynnu o waith y Llywodraeth ei hun yn ystod arbrawf cyffordd 41, ynglŷn â newidiadau i symudiadau traffig ac ansawdd aer yn benodol? A allwch ddweud wrthyf pa newidiadau parhaol a nodwyd o ran ansawdd aer ac a yw’r rheini’n dylanwadu ar eich penderfyniad terfynol ynglŷn â’r hyn a fydd yn digwydd i gyffordd 41? Lesley Griffiths AC: Rwy’n ofni nad oes gennyf y data hwnnw ar hyn o bryd, ond byddaf yn hapus i ysgrifennu at yr Aelod gyda hynny. David Rees AC: Yn dilyn y cwestiwn hwnnw, mae’n amlwg fod yr ansawdd aer ym Mhort Talbot, Ysgrifennydd y Cabinet, wedi cael sylw fel un o’r gwaethaf yng Nghymru. Yn wir, dywedodd adroddiad Sefydliad Iechyd y Byd a gyhoeddwyd yn ddiweddar mai dyna’r ansawdd aer gwaethaf yn y DU mewn perthynas â rhai gronynnau, ac yn sicr mae’n un o’r rhai gwaethaf yn y DU. Rwy’n deall y problemau sydd gennym. Mae gennym ardal ddiwydiannol iawn, mae gennym lain arfordirol gul gyda’r M4 yn rhedeg drwyddi, ac maent yn effeithio ar lefelau llygredd a gronynnau, ond mae angen i ni wneud mwy mewn gwirionedd i leihau unrhyw gynnydd.Rwy’n deall bod Llywodraeth Cymru wedi comisiynu gwaith gan Brifysgol Birmingham a Choleg y Brenin, Llundain i edrych ar oblygiadau ansawdd aer. A allech roi datganiad am ganlyniadau’r gwaith ymchwil hwnnw ac a allwch sicrhau hefyd y bydd modd gwella’r problemau sy’n codi o ansawdd aer ym Mhort Talbot, am ein bod yn wynebu rhai o’r heriau sydd o’n blaenau? Lesley Griffiths AC: Unwaith eto, mae’n ddrwg gennyf nad oes gennyf y wybodaeth ynglŷn â’r gwaith ymchwil o fy mlaen, ond byddaf yn ysgrifennu atoch. <p>Atal Llifogydd yng Nghwm Cynon</p> Vikki Howells AC: 9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddulliau Llywodraeth Cymru o atal llifogydd yng Nghwm Cynon? OAQ(5)0007(ERA) Lesley Griffiths AC: Diolch. Byddaf yn gwneud datganiad yr wythnos nesaf ar reoli perygl llifogydd ac arfordirol ar gyfer Cymru gyfan. Yn ddiweddar cyhoeddwyd cynlluniau rheoli perygl llifogydd Rhondda Cynon Taf a Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n nodi’r dull manwl o reoli perygl llifogydd yng Nghwm Cynon. Vikki Howells AC: Diolch. Mae perygl llifogydd i eiddo yn Abercynon, Aberaman, Cilfynydd, Cwm-du ac Ynysboeth yn fy etholaeth wedi cael ei leihau drwy raglen lliniaru llifogydd gwerth miliynau o bunnoedd Rhondda Cynon Taf, a ariennir gan raglen gyfalaf y cyngor, arian Llywodraeth Cymru a chyllid datblygu rhanbarthol Ewrop. A ydych chi’n cytuno y gallai’r cynlluniau hyn i ddiogelu cartrefi a theuluoedd rhag y dinistr a achosir gan lifogydd fod mewn perygl pe na baem yn rhan o’r UE? Lesley Griffiths AC: Ydw, rydych yn hollol gywir. Mae’r llefydd hyn wedi elwa o gyfraniadau cyllid yr UE ar gyfer cynlluniau rheoli perygl llifogydd. Maent wedi ategu ein cyllid ein hunain hefyd, ac maent wedi ein galluogi i gynyddu nifer yr eiddo sy’n cael eu hamddiffyn rhag llifogydd yng Nghymru. David Melding AC: Ysgrifennydd y Cabinet, mae gwella a chynnal a chadw cwlfertau yn allweddol i amddiffyn rhag llifogydd yn effeithiol, ac os oes unrhyw un yn ardaloedd cymoedd fel Cwm Cynon wedi gweld pa mor gyflym y gall y cyrsiau dŵr hynny symud, mae’n wirioneddol frawychus. Mae yna lawer y gallwn ei wneud i gynnal cwlfertau drwy ddefnyddio technoleg newydd a chamerâu. Mae hyn yn rhywbeth y mae’n rhaid i ni ei wneud, gyda lefel uchel o wyliadwriaeth, ac mae’n galw am fuddsoddiad helaeth wrth gwrs. Lesley Griffiths AC: Ydy, cytunaf yn llwyr. Wrth i ni edrych ar ba gynlluniau y byddwn yn eu hariannu dros y blynyddoedd nesaf, mae’n rhywbeth y gallwn edrych arno—y mater penodol hwnnw. Mae yna bob amser dechnoleg ac ymchwil sy’n dangos ffyrdd newydd o wneud hynny i ni, ac mae’n bwysig iawn fod gennym yr hyblygrwydd i allu gwneud hynny. <p>Cynyddu Bioamrywiaeth</p> John Griffiths AC: 10. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn amlinellu pa strategaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei dilyn i gynyddu bioamrywiaeth yng Nghymru? OAQ(5)0011(ERA) Lesley Griffiths AC: Diolch. Mae cynllun adfer natur Cymru yn amlinellu ein hamcanion a’n camau gweithredu ar gyfer cyflawni ein huchelgais i wrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth erbyn 2020. Bydd hyn yn cyfrannu at les y genedl a rheolaeth gynaliadwy ar ein hadnoddau naturiol. John Griffiths AC: Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn ymwybodol fod yr Ymddiriedolaethau Natur wedi lansio strategaeth hyrwyddwyr rhywogaethau yn ddiweddar. Rwyf fi ac Aelodau eraill o’r Cynulliad yn hyrwyddo rhywogaethau yng Nghymru. Llygoden y dŵr—[Torri ar draws.]—yw fy rhywogaeth benodol i, ond bydd llawer o rai eraill yn helpu gyda’r ymdrechion. Ond a fyddech yn cytuno, Ysgrifennydd y Cabinet, fod angen i ni ddiogelu ein bioamrywiaeth a’r rhywogaethau hyn, gan gynnwys llygod y dŵr, ar wastadeddau Gwent, ac un agwedd ar hynny yw ymgysylltu â phobl leol a phlant lleol? Mae ysgolion wedi’u swyno’n fawr gan lygod y dŵr ac mae’n arwain at werthfawrogiad gwell o fioamrywiaeth a natur. Felly, rwy’n credu bod llawer o agweddau ar strategaeth Llywodraeth Cymru y gellir eu hyrwyddo drwy’r cynllun hwn. Lesley Griffiths AC: Roeddwn yn falch iawn o weld hynny yr wythnos diwethaf. Cefais gynnig y draenog, ond penderfynais y buaswn yn hyrwyddo holl fioamrywiaeth Cymru. [Torri ar draws.] Roeddwn yn tybio efallai ei fod braidd yn bigog. [Chwerthin.] Ond rwy’n cefnogi rôl hyrwyddwyr rhywogaethau. Rwy’n credu ei bod yn fenter wirioneddol dda, gan y bydd yn tynnu sylw at bwysigrwydd rhywogaethau, eu hanghenion cynefin, a’r rhan gwbl hanfodol y maent yn ei chwarae mewn ecosystemau iach, gweithredol.Rwy’n credu bod hyn yn rhan annatod o ymagwedd ehangach y mae angen i ni ei chael mewn perthynas â rheoli ein hadnoddau yn gynaliadwy, ac rydych yn hollol gywir am ysgolion a phlant ifanc a phlant yn eu harddegau. Rwy’n credu nad oes ond angen i chi edrych ar y ffordd y mae ailgylchu—. Rwy’n credu bod hynny wedi mynd i mewn i’r ysgolion yn gynnar iawn, ac yn awr i’r plant hynny, wrth iddynt dyfu, mae ailgylchu yn rhan o’u bywydau bob dydd. Felly, os gallwn ddechrau eu hannog yn ifanc, credaf ei fod yn syniad da iawn, ac mae’r Gweinidog addysg yn y Siambr ac yn clywed hyn, felly rwy’n siŵr y bydd hi’n ystyried hynny, hefyd. Darren Millar AC: Fel hyrwyddwr rhywogaeth y wiwer goch yng Nghymru, rwy’n falch iawn fod un o’r poblogaethau mwyaf o wiwerod coch yng nghoedwig Clocaenog yn fy etholaeth. Fe fyddwch yn gwybod bod gwaith coedwigaeth yn cael ei reoli gan sefydliad a ariennir gan y trethdalwr, Cyfoeth Naturiol Cymru. Pa waith rydych yn ei wneud i sicrhau, lle mae yna dir sy’n eiddo cyhoeddus, ei fod yn hyrwyddo bioamrywiaeth ac yn benodol, poblogaeth y wiwer goch? Member of the Senedd: [Anghlywadwy.] Lesley Griffiths AC: Roeddwn am ddweud fod hwnnw, yn fy amser i, yn cael ei alw’n Tufty. Rwy’n credu eich bod yn nodi pwynt pwysig iawn, ac yn sicr, byddaf yn cyfarfod yn rheolaidd iawn gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i drafod coedwigaeth. Mae’n hynod bwysig i’n gwlad, felly rwy’n hapus iawn i fwrw ymlaen â hynny. <p>Llif Biswail</p> Joyce Watson AC: 11. A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y digwyddiad pan lifodd biswail i lednant afon Taf yn sir Gaerfyrddin ym mis Mai, gan ladd 230 o bysgod? OAQ(5)0016(ERA) Lesley Griffiths AC: Diolch. Roedd hwn yn ddigwyddiad o lygredd dŵr difrifol a achoswyd gan gyfaint anhysbys o fiswail fferm yn llifo i mewn i gwrs dŵr o fferm leol, gan ladd 380 o bysgod. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystyried camau gorfodi ffurfiol yn dilyn adolygiad o ffeithiau’r achos a ffactorau budd y cyhoedd. Joyce Watson AC: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet, ac fel y dywedwch, amcangyfrifiwyd bod nifer fawr o bysgod wedi’u lladd. Ond un digwyddiad yn unig yw hwn, neu’r digwyddiad diweddaraf, ar y rhan honno o’r dŵr, ac nid dyma’r tro cyntaf y cafwyd digwyddiad o’r fath. Cafwyd digwyddiad arall pan ollyngodd tua 10,000 galwyn o fiswail i nant yn nyffryn Tywi ym mis Mawrth 2015. Wrth gwrs, rwy’n croesawu’r ffaith fod swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymchwilio i ffynhonnell y biswail a hefyd mae’r llygredd hwnnw bellach wedi dod i ben, ond fy nghwestiwn i chi yw: pa asesiad a wnaed, neu a fydd yn cael ei wneud, o ran yr effaith ar adferiad hirdymor y rhan honno o’r dŵr? Ac a allwch hefyd gadarnhau pa waith sy’n cael ei wneud i leihau’r tebygolrwydd y bydd gollyngiadau biswail tebyg yn digwydd yn y dyfodol, yn ogystal â sicrhau bod y rhai sy’n niweidio ein hamgylchedd gwych yn cael eu dwyn i gyfrif am wneud hynny? Lesley Griffiths AC: Diolch. Fe wyddom y bydd yr ocsid nitraidd mewn pysgod yn effeithio ar niferoedd wyau yn y dyfodol, ond y gobaith yw y bydd yr afon yn adfer yn naturiol ymhen amser. Soniais fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda’r ffermwr i weithredu mesurau atal llygredd—er mwyn gwella’r seilwaith ar y fferm a lleihau’r tebygolrwydd o ddigwyddiadau pellach o lygredd. Maent wedi casglu tystiolaeth mewn ymateb i’r digwyddiad, ac fel rwy’n dweud, maent yn ymchwilio ac yn penderfynu pa gamau pellach a roddir ar waith. Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gweithio gyda’r diwydiant i ddatblygu rhaglen i sicrhau bod pawb yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau. Mae angen i ni hefyd edrych i weld a oes unrhyw beth sydd angen i ni ei wneud yma, boed yn ddeddfwriaethol neu anneddfwriaethol, i gynorthwyo yn y dyfodol. Cwestiwn 12, Andrew R.T. Davies. [Torri ar draws.] Cwestiwn 13, Jayne Bryant. Ni ofynnwyd cwestiwn 12, OAQ(5)0004(ERA)[R]. <p>Llygredd Traffig mewn Ardaloedd Gwledig</p> Jayne Bryant AC: 13. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau llygredd traffig mewn ardaloedd gwledig? OAQ(5)0013(ERA) Lesley Griffiths AC: Diolch. Yn gyffredinol, nid yw ardaloedd gwledig yn cael eu heffeithio gan lefelau sylweddol o lygredd o ganlyniad i draffig, oherwydd y cyfeintiau llai o draffig mewn lleoliadau gwledig. Mae gan nifer fach o drefi gwledig lefelau uchel o lygryddion a gynhyrchir gan draffig. Mae awdurdodau lleol yn rhoi cynlluniau gweithredu ansawdd aer ar waith er mwyn lleihau llygredd yn y lleoliadau hyn. Jayne Bryant AC: Mewn ardaloedd yn fy etholaeth, megis Caerllion a Maerun, maent wedi gweld cynnydd yn nifer y cerbydau nwyddau trwm sy’n gyrru drwy eu hardaloedd. Mae’r ffyrdd yn aml yn anaddas ar gyfer y math hwn o draffig, ac eto maent yn aml yn cael eu defnyddio fel llwybrau byr. Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o effaith traffig o’r fath ar lefelau llygredd aer a llygredd sŵn yn y mathau hyn o ardaloedd? Lesley Griffiths AC: Wel, yn amlwg, cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yw’r ffyrdd dan sylw. Gwn fod swyddogion wedi bod yn siarad â Chyngor Dinas Casnewydd, sydd wedi comisiynu asesiad traffig ac ansawdd aer yng Nghaerllion yn ddiweddar. Yr hyn y maent eisiau ei wneud yw nodi mesurau sy’n gysylltiedig â thraffig, a fuasai, pe gellid eu rhoi ar waith, yn gwella ansawdd aer, a sŵn hefyd o bosibl. Rwyf wedi gofyn i swyddogion gadw mewn cysylltiad agos â hwy er mwyn bwrw ymlaen â hyn. Diolch, Ysgrifennydd Cabinet. 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg. Rŷm ni’n symud nawr i eitem 2, cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, a’r cwestiwn cyntaf yr wythnos yma, Adam Price. <p>Dyfodol Mentrau Adfywio Cymunedol</p> Adam Price AC: 1. Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o ran dyfodol mentrau adfywio cymunedol pe bai’r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd? OAQ(5)0013(CC) Carl Sargeant AC: Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Mae pobl a chymunedau ledled Cymru yn amlwg yn elwa o’r ffaith fod y DU yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd, drwy swyddi sy’n dibynnu ar fynediad rhydd i’r farchnad sengl a thrwy gyllid gwarantedig yr UE. Bydd y swyddi hynny a’r £500 miliwn y mae cymunedau yng Nghymru yn ei dderbyn bob blwyddyn gan yr UE mewn perygl pe bai’r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Adam Price AC: Bydd e’n hysbys i’r Ysgrifennydd bod Cymru’n derbyn £2.4 biliwn o’r cronfeydd strwythurol yn y cyfnod presennol, rhyw chwarter o’r cyfan ar gyfer y Deyrnas Unedig a mwy na’r holl gynulliadau datganoledig eraill—yr Alban, Gogledd Iwerddon a Llundain—gyda’i gilydd. A ydy’r Ysgrifennydd yn cytuno gyda fi fod hyn yn adlewyrchu un o werthoedd craidd y prosiect Ewropeaidd, sef cydlyniad—’solidarity’—rhwng gwledydd a rhanbarthau y Gymuned Ewropeaidd, o ddefnyddio’i henw gwreiddiol, a bod hyn yn cymharu’n anffafriol i’r eithaf gydag agwedd Llywodraethau y Deyrnas Unedig, boed hynny Llywodraeth Thatcher, a gafodd wared ar bolisi rhanbarthol fel un o’i gweithredoedd cyntaf yn 1979, neu Lywodraeth Tony Blair, a wrthododd arian matsio ar gyfer rhaglen Amcan 1 nes i’r Senedd yma wrthryfela drwy ddiorseddu Alun Michael? Onid ffolineb hunanddinistriol fyddai i’r wlad fach Ewropeaidd hon roi tameidyn o ffydd ym mandariniaid Whitehall neu feistri Westminster i ofalu am ddyfodol ein cymunedau? Carl Sargeant AC: Rwy’n credu y dylai pobl y DU a phobl Cymru fod yn glir iawn yfory—mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir iawn ein barn fod bod yn rhan o’r UE yn hanfodol ar gyfer ffyniant Cymru. Os yw’r DU yn pleidleisio dros adael, rydym yn asesu y bydd cymunedau Cymru yn waeth eu byd. Mae angen buddsoddiad busnes a gweithlu medrus i gymunedau allu ffynnu. Felly, gadewch i ni beidio â dibrisio grym y bleidlais yfory dros aros i mewn er mwyn sicrhau buddsoddiad a dyfodol Cymru—mae’n bleidlais bwysig. David Rees AC: Ysgrifennydd y Cabinet, mae llawer o brosiectau adfywio cymunedol yn fy etholaeth wedi cael eu cefnogi gan gyllid yr UE, o Lansawel a Sandfields i ddyffryn Afan. Maent yn amrywio o gynorthwyo pobl yn ôl i waith i adeiladu canolfannau ar gyfer gweithgareddau cymunedol. Mae’r rhain wedi bod yn hanfodol i gryfhau’r cymunedau hynny. Fodd bynnag, mae llawer yn awr yn wynebu heriau pellach o ganlyniad i galedi gan Lywodraeth y DU, a bydd colli cyllid yr UE yn taro ein cymunedau mwyaf agored i niwed yn galetach hyd yn oed. A ydych yn cytuno bod y bleidlais i aros yfory yn bleidlais a fydd yn helpu ein cymunedau i gymryd cam mwy cadarnhaol ymlaen? Carl Sargeant AC: Yn wir. Mae cymunedau ledled Cymru yn elwa o filiynau o gyllid yr UE—dros £500 miliwn y flwyddyn. Mae adfywiad llawer o drefi a chymunedau ar draws Cymru yn cael ei gefnogi—Pontypridd, Llanelli, Y Rhyl, i enwi rhai yn unig. Disgwylir y bydd campws arloesedd Abertawe a gefnogir gan yr UE yn creu £10 biliwn o effaith economaidd yn rhanbarth y de-orllewin yn ystod y 10 mlynedd nesaf. Bydd pob un wedi cael ei roi mewn perygl yn ddiangen os byddwn yn gadael yfory. Cwestiwn—. Mark Isherwood. Mark Isherwood AC: Diolch. Dyna’r tro cyntaf i mi gael fy nisgrifio fel cwestiwn, ond rwy’n hapus iawn i gael fy nisgrifio gan berson mor huawdl â chi. Cynlluniodd y Comisiwn Ewropeaidd i ddyrannu cronfeydd strwythurol ar gyfer y cyfnod 2014-20 i Gymru, gan gynnwys toriad o 27 y cant, sy’n dangos diffyg gwybodaeth am Gymru. Dyrannodd Llywodraeth y DU rywfaint o’r cyllid o Loegr i ailgydbwyso rhywfaint o’r diffyg hwnnw, ond dioddefodd gorllewin Cymru a’r Cymoedd doriad o 16 y cant er hynny, sy’n dynodi, neu’n dangos, efallai, fod diffyg gwybodaeth y Comisiwn yn dangos y byddai Cymru’n well ei byd y tu allan i’r DU, gyda’r cyllid ar gyfer y mathau hyn o brosiectau yn y dyfodol yn cael ei benderfynu gan wleidyddion sy’n atebol i etholwyr Cymru ar ein hynys yn Llundain a Chaerdydd. Felly sut rydych yn ymateb i’r datganiad gan AS Llafur John Mann—sydd prin yn asgell dde eithafol—a ddywedodd, os ydych yn bleidleiswyr Llafur, y gallwch bleidleisio gyda balchder ar werthoedd Llafur i adael yr Undeb Ewropeaidd? Carl Sargeant AC: Gallaf weld yn glir pam eich bod yn eistedd mor agos at eich cyd-Aelodau yn UKIP. Gadewch i mi ddweud wrth yr Aelod—gadewch i mi atgoffa’r Aelod am yr etholaeth y mae’n ei chynrychioli yn Ynys Môn. Gadewch i mi ei atgoffa y bydd £10 miliwn o arian yr UE ar gyfer y prosiect sgiliau a chyflogaeth a chyflogeion yn helpu 500 o fusnesau a 7,000 o bobl ar draws gogledd Cymru. A wyddai fod arian yr UE wedi helpu gweithwyr gorsaf bŵer yr Wylfa i ennill sgiliau newydd a dod o hyd i gyfleoedd cyflogaeth newydd? Mae’r Aelod yn rhoi hynny i gyd mewn perygl a dylai gofio hynny pan fydd yn mynd i’r blwch pleidleisio. <p>Amddiffyniad Cosb Resymol</p> Simon Thomas AC: 2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglŷn â deddfwriaeth yn ymwneud â chael gwared ar amddiffyniad cosb resymol? OAQ(5)0012(CC)[W] Carl Sargeant AC: Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Mae’r Prif Weinidog wedi cyhoeddi ein bwriad i gyflwyno deddfwriaeth i ddileu’r amddiffyniad ‘cosb resymol’, a fydd yn cadarnhau ein hymrwymiad hirsefydlog i hawliau plant. Bydd trafodaethau’n cael eu cynnal â’r wrthblaid a bydd y ddeddfwriaeth arfaethedig yn amodol ar y broses ddeddfwriaethol, gan gynnwys ymgynghori â rhieni a rhanddeiliaid. Simon Thomas AC: Diolch, Weinidog, am yr ateb. Byddwch yn gwybod, Weinidog—o’r profiad gawsom ni yn y Cynulliad diwethaf pan oedd, rwy’n meddwl, y mwyafrif ar draws y pleidiau am gael gwared ar yr amddiffyniad yma—nad oedd modd cyflawni hynny yn y ffordd yr aed o’i chwmpas hi gan y Llywodraeth ac yn y ffordd y mae deddfwriaeth yn gweithio yma. Tra fy mod yn derbyn yn llwyr bod yn rhaid—wel, dim bod yn rhaid, ond, yn y cyd-destun yma, ei bod yn briodol—i’r Llywodraeth gynnig deddfwriaeth inni ei thrafod, ym mha ffordd y gallai’r Llywodraeth adeiladu’r consensws trawsbleidiol yna i sicrhau bod unrhyw ddeddfwriaeth yn llwyddo a’n bod yn gallu delifro ar y ‘commitment’ yma? Carl Sargeant AC: Wrth gwrs, rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn fod yr Aelod yn tynnu sylw at fater ymgysylltu â rhanddeiliaid. Byddaf yn dechrau trafodaethau gyda’r gwrthbleidiau er mwyn creu llwybr i allu cyflwyno Bil llwyddiannus. Mae’r un mor bwysig i’r grwpiau gwleidyddol ddod at ei gilydd mewn perthynas â hyn yn y ffordd orau y gallant, ond hefyd rhianta, a rhanddeiliaid yn defnyddio eu gwybodaeth a’u sgiliau hefyd er mwyn ein helpu yn y broses. Julie Morgan AC: Rwy’n croesawu’r ffaith fod y Llywodraeth am symud ymlaen ar y ddeddfwriaeth hon ar sail drawsbleidiol yn fawr iawn ac rwy’n siŵr y byddwn yn gallu cael consensws er mwyn cyflwyno hyn. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym a yw’n credu bod yna gymalau cadw yn y Bil Cymru drafft a fyddai’n effeithio ar gymhwysedd Llywodraeth Cymru i gael gwared ar amddiffyniad cosb resymol? Carl Sargeant AC: Diolch i Julie Morgan, a fu’n ymgyrchu ers amser maith ar yr union fater hwn, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda hi hefyd. Os asesir cymhwysedd ar sail y gwelliannau a wneir i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 gan Fil Cymru fel y mae wedi’i ddrafftio ar hyn o bryd, nid yw’r ddadl fod darpariaeth ynglŷn â smacio plant y tu allan i gymhwysedd am ei fod yn diwygio’r gyfraith droseddol yn debygol o fod yn broblem mwyach. Mae materion eraill sy’n berthnasol i gymhwysedd, fodd bynnag, megis i ba raddau y mae’n cyd-fynd â’r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol, a fydd yn aros yr un fath. Mae’r rhain i gyd yn faterion cymhleth yn gyfreithiol, ond rydym yn gweithio drwyddynt ac yn gweithio gyda phartneriaid i gyflawni’r canlyniad cadarnhaol y mae’r Aelod yn gobeithio’i gael. Darren Millar AC: Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn derbyn bod llawer o rieni sy’n caru eu plant yn defnyddio ychydig bach o gosb resymol fel modd o ddisgyblu eu plant, ac y gall defnydd gormodol o ffurfiau eraill ar ddisgyblaeth hefyd fod yr un mor gamdriniol i blant o’u defnyddio’n anghywir? Pa gamau rydych yn eu cymryd fel Llywodraeth i sicrhau ffocws ar sgiliau rhianta cadarnhaol a’u bod yn cael eu hegluro ar draws y wlad i roi cyfle i rieni sy’n defnyddio cosb resymol allu defnyddio dulliau eraill o geryddu? Gwn fod rhywfaint o waith wedi’i wneud ar hyn yn y gorffennol ac rwy’n gobeithio’n fawr y byddwch yn ceisio ymestyn y rhaglen rhianta cadarnhaol i bob rhan o Gymru yn y dyfodol. Carl Sargeant AC: Gadewch i ni fod yn glir iawn yma: nid yw hyn yn ymwneud â deddfwriaeth i droseddoli rhieni. Yr hyn rydym eisiau ei wneud yma yw rhoi cyfle i bobl gael profiadau rhianta cadarnhaol. Fel Llywodraeth, byddwn yn darparu pecyn o adnoddau a fydd yn annog rhieni i ddefnyddio Teuluoedd yn Gyntaf, Dechrau’n Deg, yr ymgyrch ‘Rhowch amser iddo’—mae nifer o rai eraill—y ceisiwn ddatblygu cymhwysedd yn eu cylch er mwyn rhoi hyder i rieni ynglŷn â’r ffordd y mae eu teuluoedd yn tyfu i fyny. Ar wahân i hynny, byddwn hefyd yn cyflwyno deddfwriaeth ar amddiffyniad cosb resymol. Byddwn yn cyflwyno pecyn o adnoddau i’r Siambr, nid dewis rhwng un neu’r llall. <p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p> Rwy’n galw yn awr ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet. Yn gyntaf, yr wythnos yma, llefarydd Plaid Cymru, Bethan Jenkins. Bethan Sayed AC: Diolch i chi a phob lwc yn eich portffolio, Weinidog. Rwy’n credu ei bod yn bwysig i ni gael golwg wrthrychol ar y cam penodol hwn ar natur eich portffolio, yn enwedig mewn perthynas â’r agenda tlodi. Cafwyd adroddiad damniol iawn flwyddyn yn ôl, ac adroddiad hefyd yn ystod y tymor diwethaf, gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar y diffyg data cadarn mewn perthynas â rhai o’ch cynlluniau gwrthdlodi. Er na fyddai neb yn gallu dadlau ynghylch natur y cynlluniau penodol hynny a’r prosesau meddwl sy’n sail iddynt, mae’n bwysig iawn i ni ddeall sut rydych yn dadansoddi’r data hwnnw er mwyn i chi weld, wrth symud ymlaen, pa mor llwyddiannus yw’r prosiectau hynny. Weinidog, a allwch ddweud wrthym, ar ôl ychydig wythnosau o fod yn y swydd, beth rydych yn bwriadu ei wneud mewn perthynas â data a sut y byddwch yn ei gyflwyno’n effeithiol i Aelodau’r Cynulliad? Carl Sargeant AC: Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn a’i neges o ewyllys da, ac yn yr un modd i’r Aelod a fydd yn fy nghysgodi. Mae tlodi bellach yn gyfrifoldeb i bob un o Ysgrifenyddion y Cabinet a holl Weinidogion y Llywodraeth, ac mae gennym oll rôl ar y cyd. Mae gennyf faterion penodol sy’n ymwneud â thlodi gyda chymunedau, a byddaf yn gweithio gyda fy nhîm yn y Llywodraeth i ddatrys rhai o’r problemau hynny. Byddaf yn gwneud datganiad cyn bo hir am egwyddorion yr adran hon a’r hyn rydym yn ceisio ei gyflawni. Rwy’n credu bod mynd i’r afael â thlodi yn heriol iawn i unrhyw Lywodraeth. Yn y 17 mlynedd rydym wedi bod mewn grym yma, mae yna bethau y gallwn eu lliniaru a cheisio lliniaru yn eu herbyn, ond nid yw’r holl ddulliau ar gyfer mynd i’r afael â’r tasgau heriol sydd o’n blaenau yn ein meddiant ni. Rwy’n ceisio canolbwyntio fy mhortffolio yn awr yn benodol ar ddau faes: y cyntaf yw adfywio economaidd, a’r ail yw lles. Mae’r agwedd les ar hyn yn ymwneud â mynd i’r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, gan fy mod yn credu, os gallwn drwsio cymunedau ar oedran ifanc—ymyrraeth gynnar gyda phobl ifanc—mae gennym lawer gwell cyfle yn y tymor hir. Ond byddaf yn dod yn ôl i’r Siambr gyda mwy o fanylder, ac rwy’n hapus i rannu mwy o fanylion â’r Aelod mewn cyfarfod preifat os yw’r Aelod yn dymuno hynny. Bethan Sayed AC: Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Yn amlwg, nid wyf yn erbyn i Weinidogion eraill gael tlodi yn eu portffolios, ond mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr, yn y pen draw, fod yna un Gweinidog a fydd yn gyfrifol. Rydym wedi cael profiadau mewn pwyllgorau lle rydym wedi gofyn cwestiynau am dlodi i amryw o Weinidogion, ac maent bob amser o bosibl heb ateb y cwestiynau hynny am nad yw wedi bod yn rhan o’u briff penodol.Mae fy ail gwestiwn yn ymwneud ag agwedd economaidd eich ateb. Dywedodd y Gweinidog blaenorol, Lesley Griffiths, ei bod wedi bod yn targedu Cymunedau yn Gyntaf yn fwy ar gael pobl yn ôl i mewn i waith. Er fy mod, unwaith eto, yn credu bod hynny’n ardderchog, mae angen i ni weld sut y caiff ei fesur a sut y mae’r targedau hynny wedyn yn cael eu dilyn i wneud yn siŵr fod y cynlluniau hyn yn cael eu cyfeirio yn y ffordd fwyaf effeithiol er mwyn sicrhau bod pobl yn ein cymunedau Cymunedau yn Gyntaf yn dod o hyd i waith. A allwch ddweud wrthym sut, o bosibl, y byddwch yn newid pwyslais Cymunedau yn Gyntaf mewn perthynas â’r agenda benodol honno, wrth symud ymlaen, a sut y byddwch yn annog pleidiau eraill i gymryd rhan yn y drafodaeth? Carl Sargeant AC: Mae gennym lawer o raglenni gwrthdlodi a rhaglenni sgiliau ac rwy’n gweithio gyda’r Gweinidog sy’n gyfrifol am hynny. Un o’n hymrwymiadau yw creu 100,000 o brentisiaethau newydd, gan weithio gyda’r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf a Cymunedau am Waith. Mae Cymunedau am Waith yn cael ei roi mewn perygl mawr oherwydd y refferendwm yfory. Os byddwn yn gadael yr UE, beth fydd yn digwydd i’r cynllun, o ran y bobl sy’n rhan o’r rhaglenni hynny, a rhaglenni ar gyfer y dyfodol? Mae gennyf ystadegau ar gyfer y rhaglenni a oedd gennym yn ystod y Llywodraeth ddiwethaf, a byddwn yn hapus i ysgrifennu at yr Aelod a’u rhoi yn y Llyfrgell, Lywydd. Bethan Sayed AC: Diolch am yr ateb hwnnw. Mae’r trydydd cwestiwn, ac rwy’n siŵr eich bod chi’n gwybod yn iawn am hyn—. Roedd Bil gen i am gynhwysiant ac addysg ariannol y tymor diwethaf. Roeddwn wedi gweithio eto gyda’r cyn-Weinidog a’r grŵp a oedd yn gweithio ar syniadaeth a strategaeth newydd ar gyfer cynhwysiant ariannol. A allaf ofyn beth sydd yn digwydd yn awr gyda’r gwaith tyngedfennol hwnnw? Roedd gen i gynrychiolydd ar y grŵp hwnnw. A fydd y cynrychiolydd hwnnw’n parhau i weithio gyda mi a chi, fel Gweinidog? Beth yr ydych yn bwriadu ei wneud yn hynny o beth, gan ei bod yn agenda mor bwysig? Carl Sargeant AC: Mae cynhwysiant ariannol a llythrennedd ariannol yn rhywbeth rydym yn ceisio’u cynnwys yn rhaglen y cwricwlwm. Byddaf yn gweithio gyda’r Gweinidog addysg i weld sut y gallwn hyrwyddo hynny yn ystod yr wythnosau nesaf. Efallai y byddai’r Aelod hefyd yn hoffi ysgrifennu at y Gweinidog addysg i ddweud sut y gallai ei helpu i roi sylw blaenllaw i hynny yn ein hysgolion a’n colegau ledled Cymru. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Mark Isherwood. Mark Isherwood AC: Diolch. Mae’r adroddiad a gyhoeddwyd fis Rhagfyr diwethaf gan y Comisiwn Symudedd Cymdeithasol a Thlodi Plant, ‘State of the Nation 2015: Social Mobility and Child Poverty in Great Britain’, dan gadeiryddiaeth Alan Milburn, gwleidydd a berchir yn fawr, wedi dangos bod tlodi plant absoliwt yng Nghymru—mae plant sy’n byw yng Nghymru yn fwy tebygol o fod yn byw mewn tlodi parhaus, ac roedd nifer y plant mewn aelwydydd di-waith yng Nghymru yn uwch nag yn unman arall ym Mhrydain. Roedd yr adroddiad yn gwneud tri argymhelliad penodol i Lywodraeth Cymru. Sut rydych yn ymateb, o ystyried eich ymateb i lefarydd Plaid Cymru mai chi yw’r pwynt cyswllt unigol ar y mater hwn ar ran Llywodraeth Cymru, i argymhelliad 1, a oedd yn argymell dull mwy trylwyr yn seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer gostwng lefelau tlodi? Mae’n datgan:Os yw Llywodraeth Cymru am gyflawni’r effaith fwyaf o’i pholisïau a’i rhaglenni, mae angen iddi gynnal adolygiad er mwyn sicrhau: bod eglurder ynghylch pa broblem y mae’r polisïau yn ceisio mynd i’r afael â hi, yr hyn y byddant yn ei gyflawni a sut y byddant yn ei gyflawni... fod polisïau’n gosteffeithiol ac wedi’u targedu’n briodol er mwyn sicrhau’r effaith fwyaf... Yn ogystal, dylai Llywodraeth Cymru dreialu polisïau a rhaglenni newydd er mwyn asesu effaith a gwerth am arian cyn iddynt gael eu gweithredu ledled y wlad. Carl Sargeant AC: Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn, ond, edrychwch, ni allwch gadw eich dwylo yn lân ar hyn, Mark. Dywedais yn gynharach fod trechu tlodi yng Nghymru yn arbennig o anodd am nad oedd gennym yr holl ddulliau yn ein meddiant. Mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi torri £1.2 biliwn oddi ar gyllid Cymru, ac mae hynny’n effeithio ar wasanaethau cyhoeddus. Felly, er y byddwn yn ceisio ac yn parhau i weithio gyda’n partneriaid i gyflawni gwell canlyniadau ar gyfer ein teuluoedd ledled Cymru, carwn ofyn hefyd i’r Aelod gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i chwilio am gyllid teg i Gymru, fel y gallwn ei drosglwyddo ymlaen i deuluoedd yma yng Nghymru. Mark Isherwood AC: Wrth gwrs, mae polisi Llywodraeth y DU yn berthnasol ar draws y DU, ond nododd yr adroddiad hwn mai yng Nghymru roedd y lefelau uchaf o bobl heb waith, y lefelau uchaf o dlodi plant, a’r lefel isaf o ffyniant o blith gwledydd y DU. Ni all hynny ond deillio o’r materion a gyflawnwyd ar lefel ddatganoledig yng Nghymru dros y 17 mlynedd diwethaf. Felly, sut rydych yn ymateb i argymhelliad 2?Gwella ansawdd y gweithlu mewn ysgolion... Mae sicrhau bod gan blant athrawon o ansawdd uchel ym mhob pwnc yn hanfodol er mwyn gwella eu cyfleoedd bywyd.Roeddent yn dweud,Y cam cyntaf i gyflawni hyn yw gwneud addysgu yng Nghymru yn fwy deniadol i athrawon o ansawdd da... mecanweithiau gwell i annog myfyrwyr newydd i ymgymryd â hyfforddiant athrawon yng Nghymru ac athrawon newydd gymhwyso i weithio yng Nghymru... gwella hyfforddiant athrawon yng Nghymru... fel y byddai gwella prosesau nodi, darparu ac asesu datblygiad parhaus athrawon.Dyna oedd eu hail argymhelliad. Fel y pwynt cyswllt yn Llywodraeth Cymru, buaswn yn ddiolchgar pe gallech roi sylwadau ar hynny. Carl Sargeant AC: Wrth gwrs, rwy’n cydnabod yr holl faterion a nodwyd yn yr adroddiad hwnnw, ond rwy’n credu mai’r pwynt rydych wedi colli golwg arno’n llwyr oedd y ffaith fod angen cyllid i weithredu llawer o’r rhaglenni hyn. Ac rydym yn wynebu heriau eithriadol yn y ffordd rydym yn rheoli ein cyllidebau oherwydd yr her y mae Llywodraeth y DU wedi ei gosod i ni. Rydym yn edrych gyda’n gilydd ar sut rydym yn trechu tlodi ar draws Ysgrifenyddiaeth y Cabinet. Byddwn yn parhau i wneud hynny er lles gorau ein plant. Mark Isherwood AC: Mae’r amgylchedd cyllidebol a bennwyd gan Lywodraeth y DU yn bodoli yn Lloegr ac yn yr Alban hefyd, ond mae Cymru ar ei hôl hi yn y meysydd hyn. Y trydydd argymhelliad a’r argymhelliad olaf a osododd y comisiwn ar gyfer Llywodraeth Cymru oedd cynnwys busnes yn ei hymgyrch i leihau tlodi plant a chynyddu symudedd cymdeithasol. Roeddent yn dweud y dylech gynyddu ymdrechion i weithio gyda chwmnïau, gan gynnwys cyflogwyr mawr yng Nghymru, er mwyn creu compact busnes i hyrwyddo mynediad tecach at gyflogaeth o ansawdd uchel, ac roeddent yn dweud y dylid annog busnesau i ymgysylltu’n strategol â phobl ifanc mewn ysgolion, cadw at arferion gorau mewn perthynas ag interniaethau a phrentisiaethau; diwygio’r broses ddethol i ddileu rhagfarn anymwybodol; agor llwybrau wedi’u strwythuro’n dda ar gyfer pobl nad oes ganddynt radd i yrfaoedd o safon uchel; monitro a gwerthuso perfformiad ar wella mynediad; a chefnogi’r cyflog byw—rhywbeth y byddwch yn cytuno ag ef. Nawr, roedd hyn ym mis Rhagfyr, ar ôl 16 mlynedd a hanner o Lywodraeth Lafur, ac ar ôl pedair blynedd a hanner o’r Llywodraeth Lafur ddiwethaf. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech gadarnhau sut y mae’r Llywodraeth Lafur hon yn mynd i wneud pethau’n wahanol er mwyn mynd i’r afael â’r pryderon hyn. Carl Sargeant AC: Cyfeiriaf yr Aelod at y strategaeth trechu tlodi a’r strategaeth tlodi plant y byddwn yn eu hadnewyddu eleni. Llefarydd UKIP, Mark Reckless. Mark Reckless AC: Diolch, Lywydd. Yn ystod ei ymweliad â Stadiwm Dinas Caerdydd ddoe, dywedodd y Prif Weinidog y byddai Llywodraeth Cymru, yn dilyn pleidlais dros adael, yn datblygu ei pherthynas ar wahân ei hun gyda’r Undeb Ewropeaidd. A yw’r Gweinidog yn gwybod beth a olygai, neu sut y bydd hyn yn effeithio ar ei bortffolio? Carl Sargeant AC: Efallai y byddai’r Aelod yn dymuno gofyn y cwestiwn i’r Prif Weinidog, gan mai rhywbeth a ddywedodd ef oedd hynny nid rhywbeth a ddywedais i. Ond mae gennyf farn ar hyn; mae’r Prif Weinidog wedi bod yn glir iawn ynglŷn â phwysigrwydd bod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd, ac i Gymru fod yn aelod o’r UE. Mae’r Aelod—rwy’n gwybod nad yw’n byw yng Nghymru yn draddodiadol, ac nad oes ganddo ddiddordebau Cymreig—ond yr hyn sydd gennym yma, a’r hyn y mae’r Prif Weinidog yn awyddus iawn i’w wneud, yw sicrhau ei fod yn cynrychioli pobl Cymru’n dda, a thrwy fod yn rhan o’r UE y mae gwneud hynny. Mark Reckless AC: Rwy’n byw yng Nghymru. Rwyf braidd yn bryderus nad yw’r Gweinidog yn ymwybodol o’r hyn y mae’r Prif Weinidog yn bwriadu ei wneud yn y maes hwn. Mae wedi siarad yn huawdl am gronfeydd yr Undeb Ewropeaidd ac adfywio cymunedol, ond mae’n ymddangos ei fod ef a’i Lywodraeth yn dilyn trywydd ymwahanol drwy’r cydweithio hwn â Phlaid Cymru. Tybed oni wneid defnydd gwell ohono’n gweithio gyda Llywodraeth San Steffan i sicrhau ein bod, yn ogystal â pharhau i gael yr holl arian hwn yn llifo i Gymru, ein bod hefyd yn cael ein cyfran o’r difidend annibynniaeth o £10 biliwn sy’n ddyledus? Carl Sargeant AC: Nid yw sylwadau’r Aelod yn syndod o ystyried y blaid y mae’n rhan ohoni’n awr. Y ffaith yw bod gweithio gyda phlaid arall—gyda San Steffan—yn rhywbeth rydym yn ei wneud yn rheolaidd. Nid yw’n beth newydd i weinyddiaeth ddatganoledig wneud hynny, ond nid yw’n amhosibl i ni weithio gyda’n cyfeillion ar draws Ewrop chwaith, a dyna ddylai’r Aelod feddwl amdano’n ofalus yfory. Mark Reckless AC: Ac ar y prosiectau y mae’r Gweinidog yn sôn amdanynt—adfywio cymunedau a thu hwnt—lle y dywedir wrthym pa mor wych yw’r arian Ewropeaidd, mae’n aml yn dod gydag amodau a chyfyngiadau ynghlwm wrtho. Rwy’n meddwl tybed a oes yna unrhyw un o’r prosiectau hynny y mae’r Gweinidog yn credu y gellid ei wneud yn well pe bai Llywodraeth Cymru yn ddilyffethair o ran y modd y caiff wario’r arian hwnnw? Carl Sargeant AC: Nid yw’r Aelod wedi ymddangos yng Nghymru nes yn ddiweddar, cyn yr etholiad, ac mae’n debyg nad yw’n gyfarwydd iawn â llawer o’r ardaloedd rydym i gyd yn eu cynrychioli yn y Siambr hon. Ond gadewch i mi dynnu sylw at un ardal yn Sir Fynwy, sydd yn ei ranbarth ef rwy’n credu, lle mae 305 o fentrau wedi’u cynorthwyo a 430 o fentrau wedi’u creu, gyda 865 o swyddi yn Nhrefynwy ei hun, diolch i’r cyllid UE rydych chi a’ch cyd-Aelodau yn ei roi mewn perygl. <p>Newidiadau i Nawdd Cymdeithasol</p> Steffan Lewis AC: 3. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael ynghylch effaith newidiadau i nawdd cymdeithasol ar gymunedau yng Nghymru? OAQ(5)0001(CC) Carl Sargeant AC: Diolch i Steffan Lewis am ei gwestiwn. Nid wyf wedi clywed y term ‘nawdd cymdeithasol’ yn cael ei ddefnyddio ers cryn dipyn o amser, mewn gwirionedd, ond diolch iddo am ei gwestiwn. Drwy weithio gydag ystod eang o randdeiliaid, rydym yn parhau i drafod ac asesu effaith sylweddol diwygiadau lles Llywodraeth y DU yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru, ar sawl achlysur, wedi cyflwyno sylwadau i Weinidogion y DU, gan godi materion sy’n peri pryder pan fo’n amlwg y bydd pobl sy’n agored i niwed yn cael eu rhoi dan anfantais bellach. Steffan Lewis AC: Diolch iddo am yr ateb hwnnw. Mae Llywodraeth Cymru, fesul cam, yn dod yn gyfrifol am fwy a mwy o elfennau o ddiogelwch cymdeithasol, os caf ddefnyddio term retro arall, o gymorth gyda’r dreth gyngor i’r gronfa taliadau yn ôl disgresiwn a’r Rhaglen Waith. Er gwaethaf hynny, fodd bynnag, mae dinasyddion yn y wlad hon yn dal i ddioddef yn sgil effeithiau polisïau lles atchweliadol a chosbol o Whitehall. Fel y mae wedi crybwyll ar sawl achlysur y prynhawn yma, nid oes ganddo lawer o ddulliau yn ei feddiant yn y maes hwn. Gan fod y maes polisi hwn yn biler mor hanfodol ym mholisi cyhoeddus Cymru, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymrwymo i gyhoeddi rhaglen ar wahân sy’n amlinellu sylfeini gwladwriaeth les i Gymru, a fyddai’n cynnwys y cyfeiriad teithio ar gyfer polisi gyda’r setliad datganoli cyfredol, yn ogystal â gweledigaeth ar gyfer lles yng Nghymru yn sgil trosglwyddo pwerau diogelwch cymdeithasol pellach yma? Carl Sargeant AC: Mae’r Aelod yn gofyn cwestiwn diddorol iawn ac mae’n un cymhleth iawn o ran y berthynas ar hyn o bryd rhwng Llywodraeth y DU a ninnau a’r hyn y gallwn ei liniaru. Credaf mai’r hyn y mae’r Prif Weinidog wedi’i ddweud yw ein bod yn fodlon cymryd rhai agweddau ar bwerau, ar yr amod ein bod yn cael cyllid teg i ymdrin â hynny. Credaf fod hwnnw’n ffactor pwysig sy’n rhaid i ni ei ddatrys ymlaen llaw. Rwy’n cael fy nenu gan argymhelliad yr Aelod o ran y cynnig a’r hyn y gall Cymru ei wneud. Rwyf am ystyried ymhellach pa un a allwn roi rhywbeth at ei gilydd i helpu pobl i ddeall beth yw cyfrifoldebau Cymru a sut y gallwn helpu pobl. Lynne Neagle AC: Weinidog, byddwch wedi gweld bod y Cenhedloedd Unedig wedi cyhoeddi adroddiad damniol yn ddiweddar ar effaith mesurau caledi Llywodraeth y DU ar dlodi plant yn y DU. Yn wir, fe’i disgrifiwyd gan y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant fel darllen Cyhuddiad o fethiant y llywodraeth i roi blaenoriaeth i blant yn ei phenderfyniadau ar nawdd cymdeithasol.A ydych yn rhannu fy mhryderon ynglŷn â hynny? A wnewch chi ddwyn y pryderon hynny i sylw’r gweinidog cyfatebol yn San Steffan? Ond ar ben hynny, a ydych hefyd yn rhannu fy mhryderon, os ydym yn pleidleisio dros adael yr UE yfory, y bydd yr effaith ar ein heconomi yn golygu bod plant yn debygol o ddwyn mwy fyth o faich polisïau caledi’r DU? Carl Sargeant AC: Yn wir, ac mae’r Aelod yn iawn i godi’r mater. Deddfodd y Llywodraeth hon y llynedd ynglŷn â llesiant cenedlaethau’r dyfodol a sicrhau bod pobl ifanc wrth wraidd ein penderfyniadau wrth i ni symud ymlaen, gan gynllunio ar gyfer y tymor hir. Rwy’n meddwl mai’r hyn a fydd yn digwydd wrth i swm yr arian gael ei leihau—ac mae refferendwm yr UE yn berthnasol iawn i hyn—yw y bydd yn effeithio ar ein lles economaidd a bydd yn effeithio ar deuluoedd, a phlant yn bennaf. Mae’n rhywbeth y dylem i gyd fod yn ofalus iawn yn ei gylch. Mohammad Asghar (Oscar) AC: Canfu gwaith ymchwil diweddar gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid fod credyd cynhwysol yn gwneud llawer i helpu i wneud i waith dalu i lawer o’r rheini sydd ar hyn o bryd yn wynebu’r datgymhellion mwyaf difrifol. Aethant ymlaen i ddweud y bydd nifer y bobl sy’n wynebu cymhellion gwan iawn i gael gwaith yn gostwng dwy ran o dair. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â’r sefydliad pan ddywed: dylai credyd cynhwysol wneud y system yn haws ei deall, lleddfu’r broses o bontio rhwng bod mewn gwaith a bod allan o waith, a chael gwared i raddau helaeth ar y datgymhellion mwyaf eithafol i weithio neu i ennill mwy a grëwyd gan y system bresennol? Carl Sargeant AC: Yr hyn sy’n fy mhoeni’n wirioneddol yw’r modd y mae’r DU yn diystyru pobl; y ffaith amdani yw eu bod yn newid polisïau’n hawdd iawn, sy’n cael effaith enfawr ar gymunedau ac unigolion, a byddwch i gyd wedi’i weld. Rwy’n disgwyl bod gan hyd yn oed yr Aelod waith achos sy’n ymwneud â thaliadau annibyniaeth bersonol—pobl nad ydynt yn gallu cael arian oherwydd y prosesau diangen a bennwyd gan Lywodraeth y DU. Rwy’n credu y dylai cwestiwn cychwynnol Steffan Lewis ynglŷn â nawdd cymdeithasol a’r wladwriaeth les, ynglŷn â sut rydym am ymdrin â hynny, gael ystyriaeth lawer iawn pellach gan Lywodraeth y DU cyn iddynt dincran ag ef. Dawn Bowden AC: Ysgrifennydd y Cabinet, efallai y byddwch yn ymwybodol o adroddiad diweddar gan Ganolfan ar gyfer Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol Rhanbarthol Prifysgol Sheffield Hallam. Roeddent yn tynnu sylw at effaith anghymesur toriadau i fudd-daliadau lles ar bobl Cymru o’i gymharu â’r DU yn ei chyfanrwydd—credaf mai dyna’r pwynt sydd eisoes wedi cael ei wneud—ac mae hyn hyd yn oed yn fwy amlwg yn y Cymoedd. Mae’n nodi y bydd y newid arfaethedig i’r lwfans tai lleol yn gwaethygu’r anghydraddoldebau hyn drwy effeithio fwyaf ar yr ardaloedd mwyaf difreintiedig eisoes, a’r pwynt cyfeirio ar gyfer gosod cyfradd y Lwfans Tai Lleol fydd 30 y cant isaf y rhenti sector preifat, mewn ardal lle mae rhenti sector preifat eisoes yn isel iawn. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet nodi pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael i sicrhau nad yw’r rhai sy’n cael lwfansau tai lleol yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru o dan anfantais anghymesur ar sail y cyfrifiad o’r rhent cyfartalog a fydd yn pennu’r Lwfans Tai Lleol? Carl Sargeant AC: Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Mae’n rhywbeth y cefais fy rhybuddio yn ei gylch gan fy swyddogion pan ddeuthum yn Ysgrifennydd y Cabinet. Yr Adran Gwaith a Phensiynau sy’n gyfrifol am lwfans tai lleol, sy’n fater heb ei ddatganoli, fel y mae’r Aelod yn gwybod. Ond mae hyn, unwaith eto, yn adlewyrchiad o’r hyn a ddywedais yn gynharach; y ffaith amdani yw bod Llywodraeth y DU yn gwneud newidiadau i’r wladwriaeth les, ac mae’r newidiadau hynny’n effeithio ar wasanaethau datganoledig. Felly, nid yw hyn yn cael gwared ar y pwysau yn y system—dim ond symud y pwysau. Yr hyn sy’n anffodus am hyn yw bod pobl yn rhan o’r broses gyfan. Mynegodd Llywodraeth Cymru bryderon ynglŷn â’r newidiadau hyn wrth Weinidogion y DU ar y pryd, ac rydym yn parhau i dynnu sylw Llywodraeth y DU at fater asesiadau effaith. <p>Ymddygiad Gwrthgymdeithasol </p> Jayne Bryant AC: 4. Sut y mae’r Gweinidog yn bwriadu gweithio gyda’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn cymunedau yng Nghymru? OAQ(5)0016(CC) Carl Sargeant AC: Diolch i’r Aelod dros Orllewin Casnewydd am ei chwestiwn. Yn fuan byddaf wedi cynnal trafodaethau â phob un o gomisiynwyr heddlu a throseddu Cymru er mwyn nodi cyfleoedd ar gyfer cydweithio. Rwy’n benderfynol o fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a byddaf yn gweithio gyda’r comisiynwyr er mwyn gwneud hyn. Jayne Bryant AC: Diolch. Mae presenoldeb gweladwy swyddogion mewn iwnifform yn ein cymunedau yn rhoi tawelwch meddwl ac yn chwarae rôl hanfodol wrth fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gyda thoriadau Llywodraeth San Steffan i blismona, mae swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yn ffordd o gefnogi ein heddlu a gwasanaethu ein cymunedau. Mae’r 101 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu y mae Llywodraeth Cymru yn eu darparu ar gyfer Gwent yn gwneud gwahaniaeth pwysig ac yn cyfrannu’n sylweddol at blismona yn yr ardal. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau y bydd yn gweithio gyda’r comisiynwyr heddlu a throseddu i sicrhau bod hynny’n parhau, a bod trechu ymddygiad gwrthgymdeithasol yn flaenoriaeth? Carl Sargeant AC: Wrth gwrs, mae’r Aelod yn iawn i nodi hyn. Mae ymrwymiad maniffesto Llafur Cymru i ddarparu 500 swyddog cymorth cymunedol yr heddlu yn rhywbeth a oedd yn boblogaidd iawn ar garreg y drws pan aethom at yr etholwyr y tymor diwethaf. Gan barhau â’r 101 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yng Ngwent y mae’r Aelod yn cyfeirio atynt, rwy’n cytuno y bydd y cyllid hwnnw’n parhau i wneud gwahaniaeth hollbwysig. Mae’n rhaid i ni ystyried sut y bydd y comisiynwyr heddlu a throseddu yn gweithredu mewn perthynas â swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu; mater gweithredol iddynt hwy yw hwn. Ond mae’n rhywbeth lle rwy’n edrych ymlaen at weithio ar bolisïau ar y cyd gyda’n gilydd, a sut y gallwn fynd i’r afael â blaenoriaethau comisiynwyr heddlu a throseddu a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru gyda’i gilydd. Suzy Davies AC: Mae ffigurau’r heddlu, yn anffodus, yn datgelu mai Stryd y Gwynt yn Abertawe, gyda’i heconomi nos adnabyddus, sydd â’r gyfradd uchaf o droseddau o holl strydoedd Cymru. Mae cynlluniau adfywio ar y gweill ac yn cael eu datblygu a’u hystyried ar gyfer ardal Sgwâr y Castell gerllaw. Pan fyddwch yn cael eich trafodaethau nesaf gyda’r comisiynwyr heddlu a throseddu, a wnewch chi gynnwys eitem ar bwysigrwydd cyfraniad yr heddlu i ddylunio trefol, fel bod gwaith adfywio yn gwrthsefyll cyfleoedd ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn gwirionedd? Carl Sargeant AC: Diolch am gwestiwn yr Aelod. Byddwn yn gofyn i’r Aelod fyfyrio ar yr ystadegau sydd ganddi oherwydd cefais rywfaint o gyfarwyddyd yn ddiweddar ynglŷn â Stryd y Gwynt yn arbennig. Ceir prosiect yno mewn partneriaeth â’r comisiynydd heddlu a throseddu, Alun Michael, a’r bwrdd iechyd lleol a’r gwasanaeth ambiwlans yn ymwneud â sut y maent yn rheoli’r economi nos. Mae wedi cael canlyniadau gwych o ran lleihau nifer yr achosion o droseddu a chamddefnyddio alcohol yn yr ardal benodol honno. Rwy’n credu eu bod yn ei alw’n Fan Cymorth. Cyfeiriaf yr Aelod at hynny, ac efallai ei fod yn rhywbeth y byddai’n hoffi edrych arno am ei fod yn enghraifft wych o’r hyn y gallwn ei wneud mewn cymunedau lle y ceir pwysau o ganlyniad i’r economi nos, gyda Stryd y Gwynt yn un ohonynt. Ond rwy’n credu ei fod yn newid o fod yn un o’r mannau lleiaf diogel i fod yn un o’r mannau mwyaf diogel yn y DU. Felly, byddwn yn gofyn i’r Aelod ddiweddaru’r ystadegau sydd ganddi o bosibl. <p>Mynd i’r Afael â Thlodi</p> Mark Isherwood AC: 5. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i’r afael â thlodi yng Nghymru? OAQ(5)0008(CC) John Griffiths AC: 7. A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa strategaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei dilyn i fynd i’r afael â thlodi yn ystod y pumed Cynulliad? OAQ(5)0015(CC) Carl Sargeant AC: Diolch. Lywydd, rwy’n deall eich bod wedi rhoi caniatâd i grwpio cwestiynau 5 a 7 heddiw. Mae trechu tlodi yn gyfrifoldeb i bob Ysgrifennydd y Cabinet a Gweinidog Cymru, gan alluogi ymagwedd wirioneddol drawslywodraethol sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael ag achosion sylfaenol tlodi. Bydd y blaenoriaethau yn fy mhortffolio yn rhoi’r dechrau gorau i blant mewn bywyd ac yn cynorthwyo’r rhai sydd bellaf o’r farchnad waith i gael gwaith cynaliadwy. Mark Isherwood AC: Diolch i chi am hynny. Roedd adroddiad y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol ar wella cyfleoedd bywyd yn annog Llywodraeth y DU i ystyried y pum prif lwybr at dlodi—chwalfa deuluol, diweithdra, dibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol, dyled bersonol ddifrifol a methiant addysgol—ac yn dilyn hynny lansiodd Llywodraeth y DU ei strategaeth cyfleoedd bywyd. Mae hon yn dechrau gyda’r gred sylfaenol nad beichiau i’w rheoli yw pobl sy’n byw mewn tlodi, fod pob person yn ased i’w wireddu ac y dylid meithrin potensial pobl. Os ydych yn cytuno â hynny, ac rwy’n gobeithio eich bod, a wnewch chi edrych ar y dystiolaeth a chwilio am wybodaeth i weld a allech, a sut y gallech gyflwyno strategaeth cyfleoedd bywyd wedi’i gwneud yng Nghymru ar gyfer Cymru? Carl Sargeant AC: Gan weithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, sydd yng nghylch gwaith Rebecca Evans, efallai fod gennym strategaeth hyd yn oed yn well yma, ac rwy’n gwahodd yr Aelod i daro golwg ar y rhaglen profiadau niweidiol yn ystod plentyndod y maent eisoes yn ei datblygu. Soniais yn gynharach am fy adran a sut rydym yn gosod y naratif ar gyfer dylanwadu ar newid a chydnerthedd cymunedol. Bydd un o’r heriau hynny’n ymwneud â chyflawniad y rhaglen profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a sicrhau bod y materion y mae’r Aelod yn eu crybwyll ynglŷn â thrais yn y cartref, camddefnyddio alcohol a chyffuriau, rhieni’n gwahanu ac eraill—. Sut y gallwn ymyrryd ar y pwynt hwnnw yn gynnar mewn bywyd i gynorthwyo teuluoedd wrth iddynt dyfu i fyny? Rwy’n gyfarwydd â’r rhaglen cyfleoedd bywyd, ond rwy’n meddwl bod gennym gynnyrch gwell wedi’i wneud yng Nghymru. John Griffiths AC: Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r 1,000 diwrnod cyntaf yn hanfodol ar gyfer datblygiad iaith ac ar gyfer darllen ac addysg a datblygiad cyffredinol, a cheir ystadegau sy’n dangos bod plant sy’n byw mewn tlodi parhaus ddwywaith yn fwy tebygol o sgorio’n is na’r cyfartaledd mewn perthynas â chaffael iaith yn bump oed na’u cyfoedion mwy cefnog. Mae materion a nodwyd ar gyfer ymdrin â hyn yn cynnwys buddsoddi mewn ansawdd yng ngweithlu addysg y blynyddoedd cynnar, cefnogi rhieni’n well ac yn wir, arweinyddiaeth yn gyffredinol. Beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran trechu tlodi drwy fynd i’r afael â’r materion hyn yn ymwneud â datblygiad a chaffael iaith yn y blynyddoedd cynnar yn benodol? Carl Sargeant AC: Cwestiwn amserol iawn gan yr Aelod—cyfarfûm â therapyddion lleferydd ac iaith ddoe ac roeddent hwy’n tynnu fy sylw at yr union fater hwn. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn mapio’r mentrau polisi amrywiol ar draws addysg, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol i lywio’r gwaith o ddatblygu dull cydlynol sy’n canolbwyntio ar ddarpariaeth addysgol o gymorth lleferydd, iaith a chyfathrebu. Gwn fod y therapyddion ddoe yn bendant iawn ynglŷn â chyfleoedd bywyd unigolyn. Os nad ydynt yn cael hyn yn gynnar, mae’n effeithio ar eu bywydau a’u cyfleoedd yn nes ymlaen. Rwy’n croesawu’r cwestiwn gan yr Aelod a byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelod. Siân Gwenllian AC: Mae hanes strategaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i’r afael â thlodi yn ymddangos i mi, beth bynnag, yn un o osod dyheadau tymor hir er mwyn rhoi terfyn ar dlodi, ond heb osod targedau penodol byrdymor ac adnoddau priodol ar gyfer eu cyflawni. Yn aml iawn, mae’r dyheadau yn cael eu gohirio neu’u gollwng yn gyfan gwbl pan fydd y Llywodraeth yn sylweddoli nad yw hi’n bosib i’w cyflawni. Oherwydd bod amgylchiadau heddiw yn wahanol iawn i’r hyn yr oeddent ddegawd yn ôl, onid ydy hi rŵan yn bryd i ailfeddwl a chanolbwyntio ar brosiectau a pholisïau sy’n mynd i’r afael â thlodi mewn gwirionedd ac mewn modd mesuradwy? Carl Sargeant AC: <p>Darpariaeth Dechrau’n Deg yng Nghwm Cynon</p> Vikki Howells AC: 6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol y ddarpariaeth Dechrau’n Deg yng Nghwm Cynon? OAQ(5)0010(CC) Carl Sargeant AC: Diolch i’r Aelod dros Gwm Cynon am ei chwestiwn. Gwyddom fod Dechrau’n Deg yn gwella canlyniadau i blant a theuluoedd yn rhai o’n cymunedau mwyaf difreintiedig yn Rhondda Cynon Taf. Eleni, rydym wedi ymrwymo dros £6.8 miliwn, gan alluogi’r awdurdod lleol i gynorthwyo tua 3,270 o blant a’u teuluoedd. Vikki Howells AC: Diolch. Mae Dechrau’n Deg wedi cael effaith drawsnewidiol ar fywydau degau o filoedd o blant ledled Cymru, gan gynnwys yn fy etholaeth, sef Cwm Cynon, yn ystod tymor diwethaf y Cynulliad. Fodd bynnag, gwn fod pryderon wedi’u mynegi ynglŷn â’r sail ddaearyddol ar gyfer dyrannu’r cymorth. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod cymorth yn cyrraedd y plant sydd fwyaf o’i angen? Carl Sargeant AC: Rwy’n credu bod yr Aelod yn gofyn cwestiwn rwy’n gyfarwydd ag ef o rannau eraill o’r gwasanaethau sydd wedi’u targedu. Rwy’n gwybod bod eich cyd-Aelod Mike Hedges yn arfer cyfeirio at hynny mewn perthynas â Cymunedau yn Gyntaf, unwaith eto, ynglŷn â ffiniau, ond mae yna bob amser rai sydd i mewn a rhai sydd allan. Mae Dechrau’n Deg yn rhaglen ardderchog, ond caiff ei thargedu drwy ddefnyddio data incwm a ddarparwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi, ac mae’r data’n caniatáu i awdurdodau lleol ganolbwyntio ar yr ardal ddaearyddol sydd â’r gyfran uchaf o blant dan bedair oed yn byw mewn cartrefi budd-dal incwm fel dangosydd tlodi. Mae’n rhywbeth rwyf wedi gofyn i fy nhîm edrych arno—y strategaeth gyfan sy’n ymwneud â’n hymyrraeth ar sail tlodi mewn cymunedau, felly Cymunedau yn Gyntaf, Teuluoedd yn Gyntaf, Dechrau’n Deg: beth a wnant a’r ffordd orau i ni fynd i mewn i’r cymunedau hynny? Felly, rwy’n deall eich cwestiwn; mae’n rhywbeth rydym yn ei ystyried ond ar hyn o bryd, mae’n seiliedig ar ystadegau a bydd rhai pobl ifanc ar eu colled yn hyn o beth. Mae gennyf ddiddordeb mawr mewn ceisio datrys y materion hynny. Andrew RT Davies AC: Weinidog, yn amlwg, mae gan y Llywodraeth ymrwymiad mewn perthynas â gofal plant—cael polisi gofal plant cyffredinol o hyd at 30 o oriau—ac mae’n rhywbeth rydym yn ei groesawu ac mae’n debyg i’r hyn a oedd gennym yn ein maniffesto ein hunain. A oes asesiad effaith wedi’i wneud—rwy’n sylweddoli ei bod yn ddyddiau cynnar ar y Llywodraeth—ynghylch y gallu i gomisiynu’r ddarpariaeth honno ac nad oes unrhyw risg o beryglu’r ddarpariaeth bresennol, megis mewn ardaloedd Dechrau’n Deg, megis Cwm Cynon ac ardaloedd eraill yn fy rhanbarth etholiadol? Mae yna broblem o ran y capasiti, yn amlwg, i allu cyflawni’r ymrwymiad cyffredinol hwnnw, ac nid ydym eisiau peryglu cynlluniau presennol os oes angen i’r capasiti dyfu yn y lle cyntaf. Carl Sargeant AC: Diolch i’r Aelod am grybwyll un o’n hymrwymiadau arloesol o ran gofal plant. Gallaf sicrhau’r Aelod nad yw’n debyg o gwbl i gynnig gofal plant y Ceidwadwyr; roedd yn un penodol iawn a gyflawnwyd gan Lafur Cymru. Rwy’n gweithio gyda fy nhîm a chyd-Aelodau yn y Cabinet ar y ffordd orau o gyflwyno’r rhaglen hon. Capasiti: mae’r Aelod yn iawn—mae capasiti yn fater sy’n ymwneud â sut rydym yn cyflawni hynny, ond mae’n rhywbeth a fydd, gan weithio gyda’r sector preifat a’r sector cyhoeddus i’w gyflwyno, o fudd i deuluoedd, ond yn bwysicach, bydd o fudd i blant. <p>Mynd i’r Afael â Thlodi yng Nghaerffili</p> Hefin David AC: 8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â thlodi yng Nghaerffili? OAQ(5)0018(CC) Carl Sargeant AC: Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Yn fy mhortffolio, rydym yn cysoni rhaglenni allweddol i gynorthwyo’r rhai sy’n byw mewn cartrefi incwm isel ledled Cymru, gan gynnwys Caerffili. Mae Cymunedau yn Gyntaf, Dechrau’n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf a’r rhaglen Cefnogi Pobl yn gweithio tuag at y nodau cyffredin o greu Cymru fwy ffyniannus a chyfartal. Hefin David AC: Diolch. Yr wythnos diwethaf, mewn ymateb i gwestiwn gan fy nghyd-Aelod, yr Aelod dros Gwm Cynon, Vikki Howells, canmolodd Ysgrifennydd y Cabinet waith Ymddiriedolaeth Trussell a’r gwirfoddolwyr sy’n cyflawni’r gwaith hwnnw ledled Cymru. Bydd llawer o’r Aelodau yn y Siambr hon yn ymwybodol o waith cadeirydd Cymru yn Ymddiriedolaeth Trussell a chadeirydd Gogledd Iwerddon hefyd yn wir, Tony Graham, sy’n digwydd bod yn un o fy etholwyr. Mae wedi siarad am raglen More Than Food Ymddiriedolaeth Trussell sy’n mynd â’r gwaith y maent yn ei wneud y tu hwnt i fanciau bwyd i ddarparu gwasanaethau megis cyngor ar ddyledion, cyrsiau sgiliau coginio a chyllidebu. A wnaiff y Gweinidog ganmol y gwaith y mae Ymddiriedolaeth Trussell yn ei wneud, a chroesawu hefyd y gwasanaethau ychwanegol hyn sy’n darparu cymorth hanfodol i unigolion yn ein cymunedau yr effeithiwyd arnynt yn arbennig gan gosbau Llywodraeth y DU o ran budd-daliadau, a chydnabod bod y gwaith hwn yn hollbwysig er mwyn gwneud iawn am y problemau hynny? Carl Sargeant AC: Yn wir, ac fel yr Aelod, hoffwn gofnodi fy niolch i aelodau Ymddiriedolaeth Trussell, sy’n gweithio ledled y DU, ac yn enwedig yng Nghymru, am y gwaith da y maent yn ei wneud, ac effaith estynedig Ymddiriedolaeth Trussell, nad yw’n ymwneud â banciau bwyd yn unig, ond y pethau eraill y maent yn eu gwneud yn ogystal—y cyngor a’r cymorth ariannol. Caiff gwasanaethau eirioli Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda’n gilydd i gynorthwyo’r rhai sydd mewn angen, eu hadlewyrchu yn ein strategaeth cynhwysiant ariannol. Gall cydweithrediad rhwng banciau bwyd a gwasanaethau cynghori gyda sicrwydd ansawdd gynnig help i bobl drwy gyfnod o argyfwng, ac mae Ymddiriedolaeth Trussell yn ei wneud yn dda iawn. Mohammad Asghar (Oscar) AC: Mae tlodi bwyd yn parhau i fod yn broblem i lawer o aelwydydd yng Nghaerffili a ledled Cymru, Ysgrifennydd y Cabinet. Y gaeaf diwethaf, elwodd mwy na 2 filiwn o’r bobl fwyaf agored i niwed o £310 miliwn o gymorth gyda’u biliau tanwydd drwy gynllun disgownt cartrefi cynnes Llywodraeth y DU. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ategu fy nghroeso i’r newyddion fod newidiadau i’r cynllun yn golygu y bydd 70,000 yn fwy o deuluoedd sy’n ei chael hi’n anodd, cwsmeriaid anabl a phobl eraill sy’n agored i niwed yn gymwys i wneud cais am gymorth i gynhesu eu cartrefi yng Nghymru y gaeaf hwn? Carl Sargeant AC: Am eiliad roeddwn yn meddwl fy mod wedi gweld dagrau crocodeil gan yr Aelod mewn perthynas â’i gwestiwn. Mae’n fy mhoeni bod y synnwyr o eironi a ddaw o’r meinciau hynny, o olchi eu dwylo o’r effaith a gaiff ei Lywodraeth yn y DU ar ein hetholwyr yma yng Nghymru—y rhai y mae’n honni ei fod yn eu cynrychioli yng Nghaerffili yw’r union rai sy’n aelodau, fel Hefin David—. Mae’n bwysig iawn ein bod yn gweithio gyda’n gilydd i gael y budd mwyaf i’n cymunedau, ond byddwn yn gofyn i’r Aelod ystyried ei gwestiynau a gofyn i’w gydweithwyr yn y DU efallai am ffrwd gyllido deg i Gymru. <p>Blaenoriaethau ar gyfer Portffolio Cymunedau a Phlant </p> Angela Burns AC: 9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer y portffolio cymunedau a phlant yn ystod y pumed Cynulliad? OAQ(5)0005(CC) Carl Sargeant AC: Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Fy mlaenoriaethau ar gyfer cymunedau a phlant yw lles a ffyniant economaidd, a chyflawni’r canlyniadau hynny i unigolion ac i gymunedau. Angela Burns AC: Mae lles yn rhan bwysig iawn o’ch portffolio, Weinidog, ac fel rwy’n siŵr eich bod yn gwybod, mae adroddiad blynyddol NSPCC, ‘How Safe are our Children?’, yn tynnu sylw at gynnydd o 26 y cant yn nifer y troseddau rhywiol a gofnodwyd yn erbyn plant o dan 16 oed yng Nghymru dros y 12 mis diwethaf—ffigurau sydd wedi dyblu dros y degawd diwethaf. A wnewch chi ategu fy nghroeso i’r adroddiad hwn, ac a wnewch chi ystyried gweithredu ar argymhelliad yr NSPCC y dylid datblygu cynllun cynhwysfawr mewn perthynas â cham-drin plant yn rhywiol, a gwella’r ddarpariaeth o wasanaethau cymorth, fel y gellir diwallu anghenion plant sydd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol, a’u teuluoedd? Carl Sargeant AC: Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn pwysig. Rwyf i fod i gyfarfod â’r NSPCC yn yr ychydig wythnosau nesaf, ac rwy’n siŵr y bydd hynny ar yr agenda. Byddaf yn gweithio gyda fy nghyd-Aelod o’r gwasanaethau cymdeithasol, y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ar ein hamcan ar y cyd i fynd i’r afael â’r materion hyn yn benodol mewn perthynas â phlant. Soniais yn gynharach y bydd fy adran, a llawer o fy nghyd-Aelodau, yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â’r achosion o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a lleihau eu heffaith ar gyfleoedd bywyd plant wrth i ni symud ymlaen. Mae lles a ffyniant economaidd y bobl hyn yn y dyfodol yn rhan bwysig o agenda’r Llywodraeth hon. <p>Gwasanaethau Mabwysiadu</p> Julie Morgan AC: 10. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hynt y gwasanaethau mabwysiadu yng Nghymru? OAQ(5)0017(CC) Mohammad Asghar (Oscar) AC: 15. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau mabwysiadu yng Nghymru? OAQ(5)0004(CC) Carl Sargeant AC: Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Lywydd, rwy’n deall eich bod hefyd wedi grwpio 10 a 15, ac wedi cytuno i’r rheini gael eu grwpio heddiw. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol i ddatblygu a chryfhau cyfeiriad strategol gwasanaethau mabwysiadu yng Nghymru ymhellach. Rydym am sicrhau bod gan deuluoedd sy’n mabwysiadu fynediad at wasanaethau mabwysiadu amserol a phriodol, pa le bynnag y maent yn byw yng Nghymru. Julie Morgan AC: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw, ac rwy’n llongyfarch y Llywodraeth ar y cynnydd a wnaed gyda’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol. Mae rhieni sy’n mabwysiadu yng Nghymru sy’n pryderu ynglŷn â’u statws mewn achosion mabwysiadu a ymleddir wedi cysylltu â mi. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio diwygio cymal 9 y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol wrth iddo fynd drwy broses seneddol y DU, er mwyn sicrhau y cynhwysir darpar rieni sy’n mabwysiadu yng Nghymru yn y diffiniad o ‘berthynas’, oherwydd, os na wnewch hyn, mae’n golygu na fydd y llys yn ystyried y berthynas rhwng y plentyn a’i ddarpar rieni mabwysiadol mewn achosion mabwysiadu a ymleddir? Carl Sargeant AC: Rwy’n ymwybodol o bryderon yr Aelod. Mae fy swyddogion yn ystyried y materion sy’n codi o gymal 9 y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol, ac maent mewn cysylltiad â San Steffan i sicrhau bod y diwygiadau a wneir er lles gorau plant Cymru sy’n aros i gael eu mabwysiadu a’u darpar rieni mabwysiadol. Rydym wedi ymrwymo, fel y mae’r Aelod yn sôn, i fabwysiadu fel opsiwn pwysig ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, plant nad yw eu teulu biolegol yn gallu gofalu amdanynt. Rydym yn cydnabod y rôl heriol, ond gwerthfawr, y mae rhieni sy’n mabwysiadu yn ei chwarae yn darparu cartrefi cariadus a pharhaol i’r plant hyn, ac mae’n rhywbeth y byddaf yn parhau i gadw llygad arno wrth i’r Bil fynd yn ei flaen. Mohammad Asghar (Oscar) AC: Yn gynharach eleni, mynegodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg bryderon ynglŷn â diffyg cymorth ôl-fabwysiadu a’r effaith sylweddol a difrifol iawn y gallai hyn ei gael ar blant a theuluoedd o bosibl. Maent hefyd yn pryderu am y modd y mae cymorth ôl-fabwysiadu yn amrywio rhwng un rhanbarth a’r llall drwy Gymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gychwyn adolygiad o wasanaethau. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cynulliad am y mater hwn? Carl Sargeant AC: Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Ers sefydlu’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ym mis Tachwedd 2014, mae’r amser cyfartalog rhwng bod plentyn yn derbyn gofal ac yn cael ei leoli i’w fabwysiadu wedi parhau i ostwng. Mae ffigur perfformiad chwarter olaf 2015-16, sef 15.2 mis, yn is nag y mae wedi bod ers 2002. Mae gwelliannau sylweddol wedi’u gwneud o ran darparu deunyddiau taith bywyd ers 31 Mawrth 2016, gyda 49 y cant o blant yn derbyn y deunyddiau erbyn eu hail adolygiad mabwysiadu a dim mwy na thri mis ar ôl eu hadolygiad cyntaf, o’i gymharu â 24 y cant y flwyddyn cynt. Mae llawer iawn o waith i’w wneud o hyd, ond byddaf yn ceisio parhau â grŵp cynghori er mwyn dylanwadu ar y Llywodraeth a gwneud y penderfyniadau gorau ar gyfer pobl ifanc yn y sefyllfa hon. Nick Ramsay AC: Weinidog, rwy’n falch fod Julie Morgan wedi gofyn y cwestiwn hwn; mae’n faes pwysig a sensitif. Mae mabwysiadu yn beth gwerthfawr, ond hefyd yn beth heriol i unrhyw un ei wneud. Mae cefnogaeth gan gymheiriaid yn amlwg yn elfen hanfodol o’r gwasanaethau cymorth a’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol. Sut rydych yn cryfhau’r rhwydweithiau i sicrhau bod gan fabwysiadwyr fynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt? Carl Sargeant AC: Dyna gwestiwn gwirioneddol bwysig—er mwyn gwneud yn siŵr fod gennym y capasiti i gefnogi rhieni sy’n dymuno cymryd y cymeriadau cariadus o ran y gwasanaethau mabwysiadu. Rwyf wedi gofyn i fy nhîm feddwl am raglen i gefnogi’r ddarpariaeth, ac unwaith eto, gan weithio gyda Gweinidogion eraill ar draws yr adran hon, i feddwl sut y gallwn sicrhau bod gennym y darpariaethau cywir yn y lle cywir, gan gynnwys gwasanaethau’n ymwneud â materion iechyd meddwl hefyd gan wneud yn siŵr y gallwn ddarparu cefnogaeth i unigolion. <p>Cyllid Teuluoedd yn Gyntaf</p> Rhun ap Iorwerth AC: 11. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllid Teuluoedd yn Gyntaf? OAQ(5)0007(CC)[W] Carl Sargeant AC: Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Mae £42,578,000 wedi’i ddyrannu ar gyfer y gwaith o gyflwyno’r rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf yn ystod 2016-17, sy’n cynnwys £3 miliwn wedi’i glustnodi ar gyfer cyllido’r ddarpariaeth o wasanaethau ar gyfer teuluoedd yr effeithiwyd arnynt gan anableddau. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch. Mae tîm o amgylch y teulu yn un o bum prif elfen rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf. Mi ddaeth etholwraig i’m gweld i i rannu ei phryder hi ar ôl clywed bod y gwasanaeth tîm o amgylch y teulu yn Ynys Môn yn dod i ben o fis Mawrth 2017. Mi oedd hi’n canmol yn fawr y gofal a’r gefnogaeth yr oedd hi wedi eu derbyn gan y tîm yn lleol yn sgil problemau iechyd meddwl ei merch ac effaith hynny ar y teulu. Mae hi’n dweud yn berffaith glir na fyddai hi wedi gallu ymdopi heb y cymorth hwnnw. Pa fwriad sydd gan y Gweinidog i ailedrych ar ddyfodol tîm o amgylch y teulu a sicrhau ei barhad er mwyn fy etholwraig a llawer iawn tebyg iddi hi wedi mis Mawrth y flwyddyn nesaf? Carl Sargeant AC: Wel, nid wyf yn gyfarwydd â’r cyfarwyddyd hwnnw gan unrhyw Weinidog nac o fy adran o ran bod hwnnw’n dod i ben yn 2017. Yn sicr, cynnig o gyllid am un flwyddyn a gafwyd ar gyfer y cynllun, ond rydym yn ailystyried hynny wrth i ni symud ymlaen. Felly, efallai nad yw eich etholwr yn gywir ynglŷn â’r ffaith ei fod yn mynd i ddod i ben. Nid ydym wedi dweud hynny. <p>Canlyniadau ar gyfer Plant sy’n derbyn Gofal</p> David Melding AC: 12. Pa flaenoriaeth y bydd y Gweinidog yn ei rhoi ar bolisïau i wella canlyniadau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal? OAQ(5)0003(CC) Carl Sargeant AC: Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Dylai pob plentyn mewn gofal gael yr un cyfleoedd bywyd â phlant eraill. Mae hon yn flaenoriaeth allweddol i mi, a byddaf yn ailgynnull y grŵp strategol gwella canlyniadau ar gyfer plant i barhau ei waith a rhoi cyngor ar y ffordd orau i ni ddarparu dull cenedlaethol o weithredu mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal. David Melding AC: A gaf fi ganmol ei ddatganiad cyffredinol: y dylai ein disgwyliadau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal fod yn debyg, os nad yn union yr un fath, â’r hyn ydynt ar gyfer gweddill y boblogaeth? Rwyf wedi bod yn y Cynulliad hwn bellach ers ychydig dros 17 mlynedd, ac rwyf wedi clywed Gweinidogion yn dweud dro ar ôl tro ein bod ar fin torri tir newydd mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal. Nid yw erioed wedi digwydd. Mae’n gyfrifoldeb arnom i gyd—y rheini sy’n craffu ar y polisïau hyn lawn cymaint â’r Gweinidogion. Ond mewn gwirionedd, gallai Cymru arwain y ffordd yn y DU ac yn wir, yn Ewrop, o ran cael y maes hanfodol hwn o bolisi cyhoeddus yn iawn. Carl Sargeant AC: Rwy’n cytuno â’r Aelod. Rwy’n benderfynol o weithio gydag ef er mwyn i ni allu darparu’r sicrwydd y mae’n ei geisio. <p>Anghenion Tai Pobl Anabl</p> Vikki Howells AC: 13. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod tai yng Nghymru yn diwallu anghenion pobl anabl? OAQ(5)0009(CC) Carl Sargeant AC: Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Rydym yn darparu canllawiau i awdurdodau lleol ar asesu anghenion tai ac i alluogi mynediad i gartrefi hygyrch ac ar ddyluniad tai cymdeithasol newydd. Vikki Howells AC: Diolch. Cyfarfûm yn ddiweddar â fy etholwr ysbrydoledig, Mia Thorne, sydd ond yn naw oed, ac sy’n llysgennad dros Caudwell Children Wales. Yn ystod ein trafodaeth, mynegodd Mia bryderon ynglŷn ag anghysondebau mewn rheoliadau adeiladu, er enghraifft o ran lled drysau fel bod defnyddwyr cadeiriau olwyn yn gallu llywio o gwmpas eu cartref eu hunain. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â phobl anabl i sicrhau bod tai yn addas i’w anghenion? Carl Sargeant AC: Dyna gwestiwn pwysig iawn ynglŷn â gwrando ar unigolion a’u profiadau a dysgu ganddynt, ac fel Gweinidog, rwy’n awyddus iawn i wella’r cyfle hwnnw. Mae gwrando ar farn pobl ag anableddau yn bwysig, ac rwy’n croesawu’r pwyntiau a godwch drwy Mia Thorne heddiw. Rydym hefyd yn awyddus i gydweithio’n agos â sefydliadau eraill i gyflwyno sylwadau pan fyddant angen i ni wneud hynny. Mae rhan M y rheoliadau adeiladu yn ei gwneud yn ofynnol i bob tŷ newydd gael llwybr hygyrch i’r brif fynedfa, cyfleusterau toiled y gellir eu defnyddio ar lefel y fynedfa, a lled drws a choridor addas i’w gwneud yn hygyrch ar gyfer ystod o anableddau. Rwy’n credu mai’r hyn sydd angen ei wneud yw parhau i ddysgu am brofiadau pobl o ddydd i ddydd, a bydd hynny’n dylanwadu ar bolisi’r Llywodraeth yn y tymor hir. <p>Taliadau Gwasanaeth ar gyfer Tenantiaid Tai Cymdeithasol</p> Caroline Jones AC: 14. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflwyno taliadau gwasanaeth ar gyfer tenantiaid tai cymdeithasol? OAQ(5)0011(CC) Carl Sargeant AC: Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd i landlordiaid cymdeithasol gyflwyno taliadau gwasanaeth newydd neu ychwanegol ar gyfer eu tenantiaid. Rydym wedi gofyn i landlordiaid cymdeithasol wahanu rhenti a thaliadau gwasanaeth lle y defnyddiwyd system cronfa rent. Mae hyn er mwyn cynyddu didwylledd a thryloywder ar gyfer eu tenantiaid. Caroline Jones AC: Mynychais gyfarfod y cefais wahoddiad iddo yng ngogledd Corneli—diolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Fodd bynnag, roeddent yn pryderu bod taliadau gwasanaeth megis torri gwair a chodi sbwriel yn cael eu cynnwys yn eu rhent. Yn ddiweddar, roeddent wedi derbyn, gan Valleys to Coast, y taliadau gwasanaeth a gyflwynwyd ar gyfer codi sbwriel. Mae hyn wedi achosi llawer o ofid i’r etholwyr hyn, yn enwedig gan nad oedd eu cymdogion sydd efallai wedi prynu eu tŷ yn gorfod talu yn y ffordd hon. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, ni ddylid cyflwyno taliadau fel y rhain, yn enwedig gan eu bod yn cael eu codi ar y bobl dlotaf mewn cymdeithas. Carl Sargeant AC: Wel, fel y dywedais yn gynharach, nid oedd hyn ar sail cyflwyno taliadau newydd; dadansoddiad ydoedd o’r tâl a gâi ei godi arnynt eisoes. Felly, gallai eich etholwyr fod yn sicr ynglŷn â’r hyn roeddent yn talu amdano neu beidio. Mae’r broses o godi tâl arnynt bellach am dorri gwair—. Roedd tâl yn cael ei godi arnynt eisoes am dorri gwair ond mae’n debyg nad oeddent yn gwybod am y peth. Câi ei fwndelu fel un tâl ond erbyn hyn maent yn fwy ymwybodol. Os oes gan yr Aelod faterion penodol y mae’n dymuno eu dwyn i fy sylw, rwy’n fwy na hapus i fynd ar eu trywydd yn fy adran. Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet. 3. 3. Cynnig i Gynnig Teitlau a Chylch Gwaith Pwyllgorau Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r cynnig i gynnig teitlau a chylch gwaith pwyllgorau. Rwy’n galw ar aelod o’r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig—Paul Davies. Cynnig NDM6031 Elin JonesCynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1:1. Yn sefydlu Pwyllgor Cyllid i gyflawni swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol fel y’u nodir yn Rheol Sefydlog 19; swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol fel y’u nodir yn Rheolau Sefydlog 18.10 ac 18.11; ac ystyried unrhyw fater arall yn ymwneud â Chronfa Gyfunol Cymru.2. Yn sefydlu Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i gyflawni swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol fel y’u nodir yn Rheolau Sefydlog 18.2 ac 18.3 ac ystyried unrhyw fater arall yn ymwneud â pha mor ddarbodus, effeithlon ac effeithiol y cafodd adnoddau eu defnyddio wrth gyflawni swyddogaethau cyhoeddus yng Nghymru. Cynigiwyd y cynnig. Paul Davies AC: Yn ffurfiol. Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes yna unrhyw wrthwynebiad? Os na, fe dderbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 4. 4. Cynnig i Ethol Aelodau i Bwyllgor Yr eitem nesaf yw eitem 4, sef y cynnig i ethol Aelodau i bwyllgor. Rwy’n galw eto ar aelod o’r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig. Cynnig NDM6049 Elin JonesCynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:(i) Mike Hedges (Llafur Cymru), Eluned Morgan (Llafur Cymru), Jeremy Miles (Llafur Cymru), Simon Thomas (Plaid Cymru), Adam Price (Plaid Cymru), Nick Ramsay (Ceidwadwyr Cymreig) a Mark Reckless (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig) yn aelodau o’r Pwyllgor Cyllid; a(ii) Simon Thomas (Plaid Cymru) yn Gadeirydd dros dro y Pwyllgor Cyllid. Cynigiwyd y cynnig. Paul Davies AC: Yn ffurfiol. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Os na, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 5. 5. Dadl Plaid Cymru: Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 2 a 3 yn enw Paul Davies a gwelliant 4 yn enw Caroline Jones. Yr eitem nesaf, felly, yw dadl yn enw Plaid Cymru ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, ac rwy’n galw ar Rhun ap Iorwerth i wneud y cynnig. Cynnig NDM6029 Simon ThomasCynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:1. Yn nodi’r heriau i’r gwasanaeth iechyd o ran gofalu am boblogaeth hŷn.2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:a) symud ymlaen gyda mwy o integreiddio rhwng iechyd a gofal cymdeithasol; ab) cynyddu nifer y meddygon teulu, gan ganolbwyntio ar recriwtio i gymunedau gwledig ac ardaloedd o amddifadedd. Cynigiwyd y cynnig. Rhun ap Iorwerth AC: Lywydd, diolch am y cyfle i agor y ddadl yma ar gynnig a gafodd ei gyflwyno yn enw Simon Thomas. Dadl ydy hon sy’n gofyn i’r Cynulliad nodi y sialensiau demograffig sy’n wynebu’r NHS yng Nghymru ac sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb rŵan i’r heriau hynny, yn cynnwys symud tuag at integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol, yn ogystal â gweithredu ar frys efo cyfres o gamau i gynyddu’r niferoedd o staff, yn cynnwys meddygon teulu, a fydd ar gael yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru mewn blynyddoedd i ddod. Rwy’n gwybod nad ydy ‘crisis’ yn air y mae’r Llywodraeth yn licio ei glywed. Rwy’n gwybod bod y Gweinidog yn gyndyn iawn o gydnabod cyhuddiadau o grisis, ac mae o’n sicr yn air na ddylai gael ei ddefnyddio yn ysgafn—rwy’n cytuno â hynny. Ond, yn wir mi fydd sefyllfa argyfyngus o fewn yr NHS yn sicr o ddatblygu a dyfnhau heb i gamau pendant iawn a chynllunio strategol gofalus gael eu cyflwyno ar gyfer y dyfodol.Mae rhagolygon poblogaeth ar gyfer Cymru yn awgrymu y bydd niferoedd a’r ganran o’n poblogaeth ni sydd dros 65 yn cynyddu’n sylweddol dros yr 20 mlynedd nesaf. Erbyn 2037, mae disgwyl i’r nifer dros 65 oed fod yn 47 y cant o’r boblogaeth, o’i gymharu â 30 y cant rŵan, a’r ganran dros 85 oed yn mwy na dyblu i 10 y cant o’r boblogaeth oedolion. Os ydy cyfraddau presennol o afiechydon ac anghenion gofal cymdeithasol yn y boblogaeth yn parhau yn debyg, ond o fewn patrwm demograffig newydd o boblogaeth hŷn, mae’n amlwg yn mynd i olygu cynnydd yn y galw am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ychwanegol a gwahanol yn y dyfodol. Mi fydd pobl yn byw’n hirach, efo mwy o gyflyrau cronig y bydd angen eu rheoli a’u monitro y tu allan i’r ysbyty. Bydd hyn yn golygu’r angen am lawer mwy o wasanaethau o fewn iechyd sylfaenol, yn cynnwys rhagor o feddygon teulu i gynnig cefnogaeth feddygol, mwy o nyrsys ardal a chymunedol, a gofal cymdeithasol i gadw pobl efo’r cyflyrau hyn yn byw yn annibynnol. Wrth gwrs, bydd angen integreiddio: ni allwn wastraffu amser, nac, yn allweddol, wastraffu arian ar frwydrau biwrocrataidd ynglŷn â phwy sy’n talu am ofal neu gael cyfarfodydd hirfaith mewn byrddau partneriaeth sy’n arwain efallai at ambell gynllun peilot a fawr ddim arall. Ond peidiwch â gadael inni fod yn gwbl negyddol. Yn ystod y cyfnod a ddaw o gynnydd o bwysau am wasanaethau, mi ddaw yna hefyd datblygiadau technolegol—technoleg triniaethau, aps iechyd i ffonau symudol, er enghraifft. Mi fydd datblygiadau o’r math yma yn rhoi cyfleon i ddelifro gwasanaethau iechyd a gofal mewn ffyrdd sy’n hybu byw yn annibynnol, a hynny ar gost is a gobeithio efo gwell canlyniadau. Mi allwch chi hefyd ystyried pethau fel y cynnydd mewn capasiti ymhlith poblogaeth hŷn i wirfoddoli, i ofalu am blant ac aelodau eraill o’r teulu, yn ogystal â chynnydd mewn cyfraniadau at fywyd diwylliannol, economaidd a chymdeithasol Cymru.The challenges are great. There are some opportunities too, as I’ve mentioned, but let me mention a few things that need to happen—a small number of steps, but significant ones that need to be pursued. You won’t be surprised to hear a Plaid Cymru health spokesman starting with recruitment, training and retention of staff. We need more GPs, community nurses and other health professionals. Unfortunately, there are fewer GPs now than in 2013, and the statistics show a decline in district nurses, though we are aware there could be some statistical issues around this, reflecting, I think, the need for more transparency and better data. On GPs, specifically, the number of GPs in Wales has been falling in recent years—the number has now fallen under 2000. But what is frankly frightening is that around a quarter of those GPs we have say that they plan to retire in the next 10 years. Demands on GPs are rising, stress levels are getting worse, our training places aren’t getting filled—they are there, but they’re not getting filled—and it’s worse in some of the most deprived and rural areas. Plaid’s outlined several policies to try to attract and retain existing doctors: paying off student debt of doctors who agree to complete training and spend their early careers in certain areas or specialisms; employing more directly salaried GPs to fill vacancies in rural and peripheral areas for those doctors who don’t want the hassle, frankly, of running their own businesses. But we also have to get more young people into medicine and wanting to become a GP. I don’t know how many of you saw the University of Nottingham study of 2014, which was truly shocking: 50 per cent of all further education colleges and sixth forms had nobody, not a single person, applying to medical school over a three-year period—not a single person. Many more that did have applicants only had maybe one or two applicants, and the distribution of this, unsurprisingly, once again reflects patterns of deprivation. These are issues we have to address. We have to encourage our talented young people to think about medicine, and, once in medicine or, better still, before they start their medical studies, to think about being a GP. We have to ensure that newly trained doctors in Wales have exposure to primary care in their initial post-qualification period. It’s not happening enough in Wales, but it is happening elsewhere. Without GPs, we have no chance to change our health service to one that is able to look after an older population and keep them active. I have focused on GPs there, other colleagues will focus on other elements of the primary care workforce that, of course, are equally important.I’ll mention secondly, as a step that needs to be taken, that the share of the budget going into primary care is going down when it should be going up. The latest figures show that 7.4 per cent of NHS funding goes to primary care. That’s down from nearly 9 per cent a decade or so ago. In England, the level is around 10 per cent; the Welsh historic level is around the 11 per cent mark. So, we know we want more out of our primary care sector, but proportionally we’re putting less in. The Royal College of General Practitioners here in the Senedd yesterday pointed out that 90 per cent of patient contact takes place at primary level—90 per cent of contact, 7.4 per cent of funding. And yes, of course there are higher costs in secondary care and secondary care is more vulnerable to cost inflation, but I genuinely believe that the current situation is unsustainable. Thirdly, we need to get far better at innovation and at adopting new technologies, such as apps, telemedicine, and a paperless NHS. The NHS is too often far behind most other services and industries. It can’t be right that hospitals are still employing people to push trolleys of paperwork around. Fourthly, we need a more integrated health and social care system that’s appropriate for the needs of a rural and scattered population, not the needs of NHS managers being shuffled around to impose urban models of care in areas where that is not suitable. This must also include access to specialist services, like accident and emergency departments, close to where people live, and an ambulance service that spends its time responding to emergency calls, rather than queued up in hospitals or transferring patients on long journeys away from home. My colleagues will elaborate on many of those points this afternoon.Turning to the amendments, we’ll abstain on amendment 1. We’re not exactly sure what the Conservatives mean by these voluntary assessments and, in any case, our understanding is that versions of these assessments occur anyway. But, no doubt we’ll hear more from the Conservatives. We’ll support the other amendments. We need a new plan for services in rural communities; the Older People’s Commissioner for Wales should be reviewed, of course, to make it more effective, and that should happen regularly; and community hospitals, of course, can play an essential role in smoothing the transition back to the community for many people, although quite how UKIP intend to staff their post-EU health service when our existing service has so many migrant workers playing an essential role is something to reflect upon this afternoon. I look forward to all your— [Interruption.] I’m winding up. I look forward to your contributions; you’ll have an opportunity in a second to make your points, no doubt. I look forward to all Members’ contributions this afternoon. This is one of the most important debates we face in Wales and one of our biggest challenges. Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair. Diolch. Cyn i ni fynd ymlaen, a wnaiff pawb ohonoch edrych ar eich ffonau symudol? Os oes gennych ffôn symudol ymlaen, a wnewch chi ei ddiffodd os gwelwch yn dda? Mae’n effeithio ar y darlledu a’r sŵn yn y Siambr. Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i’r cynnig, a galwaf ar Suzy Davies i gynnig gwelliannau 1, 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Suzy. Gwelliant 1—Paul DaviesYchwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno asesiadau aros yn y cartref gwirfoddol i hybu byw’n annibynnol a chynllunio ar gyfer anghenion y dyfodol. Gwelliant 2—Paul DaviesYchwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun newydd, cyn gynted â phosibl, ar gyfer mynediad at wasanaethau iechyd a seilwaith gwasanaeth iechyd ar gyfer cymunedau gwledig. Gwelliant 3—Paul DaviesYchwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu rôl y Comisiynydd Pobl Hŷn. Cynigiwyd gwelliannau 1, 2 a 3. Suzy Davies AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n cynnig ein gwelliannau i’r ddadl eang iawn ond hynod o ddefnyddiol hon. Bloedd rhyfel arweinydd Plaid Cymru yn yr etholiad oedd nad oedd gan ei phlaid unrhyw beth yn gyffredin â’r Torïaid ac na fyddai’n gweithio gyda ni. Eto i gyd, yr wythnos diwethaf yn unig, galwasant am gorff hyd braich ar gyfer datblygu economaidd—polisi hirsefydlog y Ceidwadwyr Cymreig—a dyma ni, unwaith eto, yn tynnu sylw at achos cyffredin, gan adlewyrchu’r hyn a allai fod ychydig yn anghyfforddus i Leanne Wood, ond sy’n ffynhonnell o obaith, rwy’n meddwl, i’r pleidleiswyr: y gall gwrthbleidiau weithio gyda’i gilydd i herio’r hen status quo. Rydym yn cefnogi’r cynnig hwn, ac rydym yn cefnogi gwelliant 4. Nid oes unrhyw wahaniaeth sylweddol rhwng cartrefi gofal meddygol GIG Plaid Cymru a’n cynlluniau ar gyfer y defnydd arloesol o ysbytai cymunedol, wedi’u cefnogi gan gronfa ddatblygu. Wrth gwrs, bydd rhai o’r adeiladau hynny yn anaddas ar gyfer cynnig ffyrdd newydd o ddarparu triniaeth leol mewn gofal, ac mae’r ddadl yn parhau felly dros gael adeiladau amlbwrpas cynaliadwy yn eu lle. Fodd bynnag, cafodd cyfleusterau mwy modern, fel Gellinudd, Cimla a Maesgwyn yn fy rhanbarth i, eu cau, gyda’r colli gwelyau anochel a ddigwyddodd yn sgil hynny, er mwyn helpu i gyfiawnhau’r tanddefnydd o’r ysbyty menter cyllid preifat ym Maglan ac i osgoi sefydliadu cleifion. Wel, bellach, mae gormod o gleifion oedrannus a bregus yn cael eu sefydliadu mewn gwelyau acíwt drud gan fod gofal llai dwys yn brin a chaiff pecynnau gofal cartref eu gohirio. Weithiau nid yw’r gofal yn y cartref yn diwallu anghenion, gydag aildderbyniadau yn sgil methiannau cymorth. Felly, rydym yn cytuno â phwynt 2(a) y cynnig wrth gwrs. Byddai comisiwn trawsbleidiol ar ddarparu gofal cynaliadwy hirdymor yng Nghymru, fel y galwodd y Ceidwadwyr Cymreig amdano, yn helpu i gasglu’r dystiolaeth a nodi a fyddai’r newidiadau y mae Plaid Cymru yn eu cynnig yn gweithio ai peidio. Byddai comisiwn o’r fath yn casglu’r dystiolaeth a fyddai’n sail i ddeddfwriaeth i’w gwneud yn ofynnol i ddarparwyr iechyd a gofal cymdeithasol gydweithio, gan ddarparu integreiddiad mwy organig o’r ddwy system yn hytrach na tswnami strwythurol enfawr. O dan ein cynigion, byddai gan Gymru gronfa arloesi gofal gwerth £10 miliwn i hybu’r cydweithio hwnnw ar bob lefel, gan gynnwys ymadfer ac ailalluogi, ac a fyddai’n ymateb i heriau daearyddol. Mae’n dda, onid yw, fod maniffestos y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru wedi ymrwymo—y ddwy ohonom—i gyflwyno arbenigedd o ran y modd y caiff meddygaeth ei darparu yn yr ardaloedd gwledig? Tybed a ydych wedi codi’r tir cyffredin braidd yn anghyfleus hwnnw drwy gytuno y byddai unedau symudol yn darparu triniaeth ganser yn gyfraniad defnyddiol tuag at gydraddoli mynediad at driniaethau mewn ardaloedd gwledig a difreintiedig, neu a ydych yn mynd i anghytuno â ni er mwyn ymbellhau oddi wrthym? Fy hun, rwy’n meddwl y byddai cefnogi ein hail welliant yn arwydd calonogol iawn i bleidleiswyr Cymru bod ein nifer cyfartal o bleidleisiau yn y Siambr hon yn cael eu defnyddio i ddwyn y Llywodraeth Lafur hon i gyfrif am ei methiant mewn perthynas â mynediad cyfartal at wasanaethau iechyd.Felly, gadewch i ni beidio ag anghofio ein gwelliant cyntaf. Byddai’r asesiadau aros yn y cartref yn helpu i atal argyfyngau sydd angen ymyrraeth iechyd a gofal cymdeithasol ddwys drwy helpu dinasyddion i gynllunio ymlaen llaw—dyna’r gwahaniaeth o ran yr hyn sy’n digwydd yn bennaf yn awr—ffyrdd o uchafu eu gobaith o fyw’n annibynnol pan allai digwyddiadau a chyflyrau meddygol, corfforol neu feddyliol, sy’n gysylltiedig ag oedran, wneud byw gartref yn anos, yn y ffordd a ddymunant. Ni fyddai ond yn costio rhan fach iawn o’r £21 miliwn y mae ein GIG ar hyn o bryd yn ei wario ar gadw pobl mewn gwelyau acíwt am 27 diwrnod ar gyfartaledd, o ganlyniad i oedi wrth drosglwyddo gofal. Wrth gwrs, bydd yn helpu rhai ohonynt i osgoi’r angen i symud i ofal preswyl yn y lle cyntaf—ac ar hynny, mae’r gymdeithas fawr yn dal yn fyw ac yn iach ar y meinciau hyn mewn perthynas â gofal personol. Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn gweld y manteision o gynnwys mentrau cydfuddiannol a chydweithredol ar gyfer darparu gofal o’r radd flaenaf—rhywbeth arall, er mawr embaras, sydd gan Blaid Cymru a’r Torïaid eraill yn gyffredin. Rydym hefyd yn cydnabod uchelgais Plaid Cymru i gynyddu nifer y meddygon teulu, a’r angen cyffredinol am ragor o leoedd hyfforddi yng Nghymru i wella capasiti’r GIG lle mae angen gwneud hynny, gan gynnwys yn yr ardaloedd a nodoch. Byddwn yn parhau i ddadlau dros ragor o nyrsys arbenigol, nyrsys sy’n rhagnodi a nyrsys ymgynghorol yn y GIG yng Nghymru hefyd. A ydych yn cytuno â ni ar hynny, neu a yw hynny’n rhy Dorïaidd i chi hefyd?Yn olaf, mae’r cynnig yn cydnabod bod mwy o angen y gwasanaethau iechyd ar bobl hŷn nag ar y rhan fwyaf o bobl eraill. Bydd y comisiynydd pobl hŷn yn hyrwyddo nifer cynyddol o bobl dros y ddau ddegawd nesaf ac mae angen i’r comisiynydd fod yn fwy pwerus er mwyn gwneud ymyriadau pwerus. Nid yw hynny ond yn un o’r rhesymau pam y cred y Ceidwadwyr Cymreig y dylid adolygu rôl y comisiynydd pobl hŷn, a gwneud y comisiynydd yn atebol i’r Cynulliad hwn—cyfaill beirniadol i’r Llywodraeth, ond yn atebol i bobl Cymru. Byddai diddordeb gennyf wybod, ar sail hynny a fyddwch yn barod i gefnogi’r gwelliant hwn, neu a fyddwch yn dangos eich bod yn wahanol i’r Torïaid, yn gyfaill anfeirniadol i’r Blaid Lafur, y blaid y mae ei rhyfelgri wrth-Dorïaidd yn boddi galwad Cymru am wrthbleidiau adeiladol a chydweithredol i herio a chraffu ar y Llywodraeth. Diolch. Diolch. Galwaf ar Caroline Jones i gynnig gwelliant 4, a gyflwynwyd yn ei henw. Gwelliant 4—Caroline JonesYchwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:Yn gresynu at gau ysbytai cymuned ledled Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi ac ailsefydlu ysbytai cymuned pan fydd hynny’n bosibl er mwyn dwyn gwasanaethau yn nes at gartrefi pobl. Cynigiwyd gwelliant 4. Caroline Jones AC: Diolch, Lywydd. Hoffwn hefyd ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl bwysig iawn hon ar iechyd a gofal cymdeithasol. Mae fy ngwelliant yn ceisio ychwanegu at y ddadl heb dynnu dim oddi wrth y cynnig yn gyffredinol. Credaf yn gryf fod ysbytai bwthyn neu ysbytai cymunedol yn rhan o’r ateb i leihau’r baich ar ein hadrannau achosion brys, lleihau oedi wrth drosglwyddo gofal a lleihau’r pellteroedd y mae’n rhaid i bobl deithio er mwyn cael gofal. Rwy’n eich annog i gefnogi gwelliant UKIP. Gan symud at welliannau’r Ceidwadwyr Cymreig, bydd UKIP yn cefnogi gwelliannau 2 a 3. Mae’n amlwg fod angen mynd i’r afael â mynediad at wasanaethau iechyd yng nghefn gwlad Cymru. Efallai y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi ein galwadau i ailsefydlu ysbytai bwthyn. Rydym hefyd yn cefnogi galwad y Ceidwadwyr Cymreig i adolygu rôl y comisiynydd pobl hŷn. Fel y mae eraill wedi dweud, mae Sarah Rochira yn gwneud gwaith anhygoel, ond mae angen cryfhau ac ehangu ei rôl a’i chylch gwaith. Mae UKIP hefyd yn cytuno â’r Ceidwadwyr Cymreig y dylai’r comisiynydd fod yn atebol i’r Cynulliad, nid i Lywodraeth Cymru. O ran gwelliant cyntaf y Ceidwadwyr Cymreig, byddwn yn ymatal. Nid ydym yn argyhoeddedig y gall yr asesiadau aros yn y cartref gyflawni’r canlyniad dymunol a rannwn, sef hybu byw’n annibynnol a chynorthwyo pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain cyhyd ag y bo modd.Lywydd, mae ein GIG yn dioddef oherwydd ei lwyddiant ei hun. Diolch i ddatblygiadau mewn gofal clinigol, rydym yn byw’n hwy. Rhagwelir y bydd nifer y bobl 65 oed a throsodd yn cynyddu 44 y cant erbyn 2039. Yn anffodus, fel y gŵyr llawer ohonom yn rhy dda, daw rhagor o broblemau iechyd wrth fynd yn hŷn. Mae’r ffaith hon ar ei phen ei hun yn amlygu’r angen am integreiddio agosach rhwng iechyd a gofal cymdeithasol. Mae gormod o lawer o bobl hŷn yn dioddef oherwydd oedi wrth drosglwyddo gofal ac yn aros yn yr ysbyty am fwy o amser nag sydd angen. Mae ffigurau ar gyfer Ebrill 2016 yn dangos cyfanswm o 495 achos o oedi wrth drosglwyddo gofal: roedd dros hanner y rheini’n achosion o oedi am dair wythnos neu fwy; bu dros 20 o bobl yn aros am 26 wythnos neu fwy. Dylai fod yn destun pryder mawr i bob un ohonom fod cynifer o bobl yn aros yn yr ysbyty am wythnosau’n hwy nag sydd angen. Mae’r oedi diangen yn costio miliynau o bunnoedd i’n GIG bob blwyddyn, ond mae’r gost i’r unigolyn yn anfesuradwy. Yn ôl Age Cymru, mae’r prif ffactorau sy’n gyfrifol am oedi wrth drosglwyddo gofal yn cynnwys diffyg cyfleusterau priodol ar gyfer ailalluogi ac ymadfer, oedi hir wrth drefnu gwasanaethau i gynorthwyo pobl yn eu cartrefi eu hunain, a’r rhwystrau sy’n bodoli rhwng iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Mae’n werth nodi bod y rhan fwyaf o arweinwyr y GIG wedi dweud bod diffyg yng ngwariant awdurdodau lleol wedi effeithio ar eu gwasanaethau. Rwy’n derbyn nad oes un ateb syml. Nid oes pilsen hud, ac yn sicr, nid oes ateb cywir i ddatrys y broblem gydag oedi wrth drosglwyddo gofal. Fodd bynnag, mae rhai atebion syml a fyddai’n gwneud llawer i geisio dileu oedi wrth drosglwyddo gofal. Bydd mwy o integreiddio rhwng iechyd a gofal cymdeithasol yn helpu. Mae llawer o ymddiriedolaethau’r GIG yn Lloegr wedi lleihau oedi wrth drosglwyddo drwy weithio gydag awdurdodau lleol i gadw lleoliad mewn cartref gofal ar agor am 48 awr.Yn draddodiadol, pan gaiff unigolyn ei dderbyn i’r ysbyty, daw cyfnod ei leoliad gofal i ben a rhaid sicrhau lleoliad newydd pan fydd y claf yn barod i gael ei ryddhau. Mae hyn yn cymryd amser. Mae’r newid syml hwn wedi lleihau oedi diangen yn sylweddol. Bydd rhagor o arian ar gyfer gofal cymdeithasol yn helpu hefyd. Fel y soniais yn gynharach, mae Cydffederasiwn y GIG yn credu bod diffyg yng ngwariant awdurdodau lleol wedi effeithio ar wasanaethau’r GIG. Mae ein timau gwasanaethau cymdeithasol dan ormod o bwysau, ac os ydym am gael unrhyw obaith o ateb heriau poblogaeth sy’n heneiddio, mae angen i ni fuddsoddi mewn gofal cymdeithasol.Yn olaf, bydd rhagor o ddefnydd ar ysbytai cymunedol yn helpu. Mae llawer o bobl hŷn angen aros yn yr ysbyty am gyfnodau estynedig ar gyfer cynnal arsylwadau ac yn sgil anghenion gofal cymdeithasol. Yn draddodiadol, arferem ddefnyddio ysbytai bwthyn ar gyfer ymadfer. Gadewch i ni ailsefydlu’r ysbytai bwthyn hyn er mwyn lleihau’r baich ar wardiau prysur ein hysbytai lleol.Lywydd, rwy’n annog yr Aelodau i gefnogi ein gwelliant ac i gefnogi cynnig Plaid Cymru. Diolch yn fawr. Siân Gwenllian AC: Mae’n bleser gennyf i gymryd rhan yn y drafodaeth bwysig hon y prynhawn yma, ac rwy’n falch o weld y Ceidwadwyr yn cyfeirio at Blaid Cymru yn aml iawn yn eu haraith y prynhawn yma.Fel rydym wedi clywed yn barod gan Rhun, mae yna nifer o heriau yn wynebu’r gwasanaeth iechyd, ac yn aml mae’r heriau hynny ar eu mwyaf dwys yn yr ardaloedd gwledig a’r ardaloedd mwyaf difreintiedig. Mae’n hollol amlwg, ers tro, fod angen system gofal ac iechyd integredig yng Nghymru. Fedrwn ni ddim gwastraffu arian ac amser yn brwydro dros bwy sy’n talu am beth a phwy sydd am wneud beth tra bo’r person a’r teulu sydd angen y gwasanaeth yn cael eu hanghofio yng nghanol y broses fiwrocrataidd.Fel teulu, fe gawsom ni brofiad uniongyrchol o’r dadlau sydd yn codi yn llawer rhy aml wrth i becyn gofal gael ei lunio ar gyfer unigolyn. Roeddem ni’n ceisio cael fy nhad adref o’r ysbyty ar ddiwedd ei oes. Cymrodd gryn egni i symud pethau ymlaen, i gael cytundeb ynglŷn â phwy oedd yn talu am ba elfen o’r gofal, a byddai llawer un wedi rhoi’r ffidil yn y to. Mi fyddai hynny wedi mynd yn groes i ddymuniad fy nhad, y claf. Byddai hefyd wedi golygu costau sylweddol uwch i’r gwasanaeth iechyd, gan fod cadw claf mewn gwely yn yr ysbyty llawer drytach, wrth gwrs, na gofalu amdano fo neu hi yn ei gartref neu chartref ei hun. Wedi i fy nhad gael ei ryddhau o’r ysbyty o’r diwedd, cafwyd gwasanaeth heb ei ail, efo’r gwasanaeth iechyd, y sector gwirfoddol, y gwasanaethau cymdeithasol, a ninnau fel teulu yn gweithio efo’n gilydd. Y broblem oedd cyn hynny, sef cyrraedd y pwynt lle roedd y cydweithio yna’n bosib. Felly, mae’n bryd i ni fynd ati o ddifrif i integreiddio’r gwasanaethau, a hynny mewn ffordd real, ar lawr daear, yn hytrach nag mewn byrddau partneriaeth a siopau siarad. Ac mae yna esiamplau o ymarfer da ar gael—gwasanaethau wedi eu llunio efo’r person yn y canol. Mae yna un cynllun gwych ar waith yn Ysbyty Alltwen yng Ngwynedd, er enghraifft, a da o beth fyddai dysgu o’r profiad yn y fan honno ac mewn mannau eraill, ac, yn bwysicach, gweithredu ar yr hyn sydd yn gweithio. Wrth i’r Llywodraeth ailedrych ar sut fydd llywodraeth leol yn edrych i’r dyfodol, dyma ni gyfle gwych i fynd i’r afael â hyn o ddifrif. Dyma gyfle ardderchog i ailstrwythuro mewn modd sydd wir yn gwella’r ffordd yr ydym yn darparu’r gwasanaethau i’n pobl, a hynny ddylai fod wrth wraidd unrhyw ad-drefnu. Rydym ni i gyd yn byw yn hirach—newyddion ardderchog, ond, yn aml, rydym ni’n byw yn hirach tra’n wynebu cyflyrau cronig sydd angen eu rheoli tu allan i’r ysbyty, ac mae hyn, fel mae Rhun wedi sôn amdano eisoes, yn golygu mwy o wasanaethau yn y sector gofal sylfaenol, yn cynnwys mwy o feddygon teulu, mwy o nyrsys cymuned, a gwasanaethau cymdeithasol wedi’u cydlynu. Mi wnes i sôn ar y cychwyn am yr heriau sy’n wynebu’r ardaloedd gwledig, ac mae Rhun wedi sôn i ni beidio defnyddio’r gair ‘argyfwng’ yn rhy ysgafn. Ond rwyf am ei ddefnyddio fo am yr amgylchiadau sydd yn rhai o’r ardaloedd. Mae gwir argyfwng mewn mannau oherwydd diffyg meddygon teulu. Yn Nwyfor, er enghraifft, mae bron i hanner y meddygon ar fin ymddeol. Mae Plaid Cymru wedi amlinellu nifer o bolisïau i ddenu a chadw doctoriaid. Mae angen cynllun tymor hir hefyd ar gyfer hyfforddi doctoriaid, yn cynnwys meddygon teulu, yng Nghymru. Mae angen datrysiad cenedlaethol i ehangu’r ddarpariaeth yng Nghaerdydd ac Abertawe, ac i greu ysgol feddygol newydd yn y Gogledd fel rhan o gynllun Cymru-gyfan. Mae doctoriaid yn aros i weithio lle mae nhw’n cael eu hyfforddi—mae llawer o dystiolaeth i gefnogi hyn. Mae’r syniad o ysgol feddygol i’r Gogledd yn denu cefnogaeth yn gyflym. Rydw i’n credu bod modd creu model o ysgol feddygol unigryw sydd â ffocws ar feddygaeth wledig. Mae modd i Gymru fod ar flaen y gad efo hyn, yn arloesi efo’r defnydd o’r dechnoleg newydd, er enghraifft, ac yn creu modelau newydd o ddarpariaeth meddygol wledig. Diolch am gael cymryd rhan, a gobeithio gwnaiff pawb gefnogi’r cynnig. David Rees AC: Mae addasu gwasanaethau ar gyfer poblogaeth sy’n heneiddio sy’n cynyddu yn ei maint, yn enwedig mewn cymunedau difreintiedig, yn un o’r heriau allweddol sy’n wynebu ein gwasanaethau cyhoeddus. Mae ein poblogaeth yn tyfu’n raddol, ond mae hefyd yn heneiddio’n raddol. Mae ystadegau diweddar gan Gydffederasiwn y GIG yn dangos y bydd nifer y boblogaeth ar draws y DU sydd dros 65 oed yn codi i bron 18 miliwn ymhen 20 mlynedd, gyda nifer y boblogaeth sydd dros 85 oed yn dyblu yn ystod yr un cyfnod i bron 4 miliwn. Ac fel yr amlygwyd eisoes gan lefarydd iechyd Plaid Cymru, yng Nghymru, rydym yn amcangyfrif y bydd y ffigur hwnnw dros 1 filiwn o ran y boblogaeth sydd dros 65 oed. Mae’n mynd i fod yn elfen bwysig o’n ffigurau.Nawr, bydd y newidiadau ehangach hyn yn y boblogaeth, heb os, yn cael effaith sylweddol ar ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, gyda mwy a mwy o bobl angen cymorth ychwanegol mewn cyfnod pan fo’n hadnoddau gwariant cyhoeddus yn cael eu lleihau ar sail barhaus gan Lywodraeth y DU. Mewn gofal eilaidd yng Nghymru, mae cyfartaledd oedran claf ysbyty yn 80 mlwydd oed, ac mae 10 y cant o’r cleifion sydd mewn ysbytai dros 90 oed. Nawr, yn ychwanegol at hyn, mae’r cyfnod aros yn yr ysbyty yng Nghymru yn saith diwrnod ar gyfartaledd. Gallwn weld yr effaith y mae hyn yn ei chael ar ein gwasanaethau gofal eilaidd. Mae’r ffigurau hyn yn rhoi syniad clir i ni o’r effaith bosibl ar ein gwasanaethau. Mae’n anochel fod cynnydd yn y galw yn golygu amseroedd aros hwy am apwyntiadau ac oedi posibl wrth drosglwyddo gofal, ac mae poblogaeth sy’n heneiddio, yn ddieithriad, yn golygu cynnydd yn nifer y cleifion â chyflyrau hirdymor sydd angen sylw parhaus, ynghyd ag amlforbidrwydd. Mae gan ddwy ran o dair o’n poblogaeth sydd dros 65 oed o leiaf un cyflwr cronig, gyda thraean yn dioddef o fwy nag un cyflwr cronig, a phob un ohonynt yn anochel angen triniaethau mwy a mwy cymhleth a phrosesau ymgynghori hwy. Mae’r pwysau cynyddol ar ein hadnoddau cynyddol gyfyngedig yn golygu bod yn rhaid i ni wneud penderfyniadau strategol, cynaliadwy ac arloesol ynghylch cynllunio’r gweithlu.Mae llif cleifion drwy leoliad gofal eilaidd yn hanfodol er mwyn darparu pecynnau gofal o ansawdd uchel mor gyflym ag y bo modd, ond ni ddylid diystyru rôl gofal yn y gymuned. Rydym wedi siarad droeon yn y Siambr hon am yr angen i fynd yn ôl at ein cymunedau a darparu gwasanaethau mor lleol â phosibl i bobl, gan eu galluogi i aros mewn amgylcheddau cyfarwydd gyda chefnogaeth gymdeithasol gan deulu a ffrindiau, a gwneud defnydd llawn o’r gwasanaethau cymunedol a ddarperir.Wrth drafod trosglwyddo i ofal yn y gymuned, ni allwn esgeuluso rhybuddion Cymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol ynghylch recriwtio meddygon teulu. Gwyddom ein bod yn wynebu her o ran recriwtio meddygon teulu yng Nghymru, nid yn unig mewn ardaloedd gwledig, ond mewn llawer o ardaloedd trefol difreintiedig hefyd, ac mae’r heriau hyn yn dra hysbys a rhaid mynd i’r afael â hwy os ydym am sicrhau newid ar draws y system gyfan. Mae’n rhaid i ni recriwtio meddygon teulu newydd, nid yn unig i lenwi’r lleoedd gwag, ond hefyd i gymryd yr awenau gan gydweithwyr hŷn, gyda 23 y cant ohonynt dros 50 oed, fel y nodwyd eisoes. Maent yn heneiddio’n gynt nag yr ydym yn hyfforddi meddygon newydd i gymryd eu lle, gyda dim ond 107 o’r 125 lle hyfforddi ar gyfer meddygon teulu wedi’u llenwi y llynedd. Mae’n rhaid i ni wneud mwy i gymell ein gweithwyr proffesiynol meddygol ifanc dan hyfforddiant i ddod yn feddygon teulu, a rhoi’r hyfforddiant a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt er mwyn iddynt allu mynd i’r afael â’r materion hyn. Mae’n rhaid i ni gynyddu nifer y lleoedd sydd ar gael o’r 136 presennol. Mae’n rhaid ymdrin â hynny gyda’r ddeoniaeth, ac mae’n rhaid i ni edrych hefyd am leoedd hyfforddi mewn practisau meddygon teulu ar eu cyfer.Mae’n rhaid i ni hefyd osgoi canolbwyntio ar ddarparu meddygon teulu yn unig, wrth i ni geisio darparu model holistaidd o ofal cymunedol fel y gwelsom yn ddiweddar ym Mhrestatyn. Mae’n rhaid i ni ddibynnu ar ein deintyddion cymunedol, ein fferyllwyr cymunedol, ein nyrsys ardal a’n ffisiotherapyddion i ddarparu gofal rhagorol lle nad oes angen meddygon teulu. Yn hyn o beth, mae’n rhaid i ni ddilyn egwyddorion gofal iechyd darbodus er mwyn gwneud defnydd llawn o’u holl gydweithwyr a sicrhau nad ydynt ond yn gwneud yr hyn na all neb ond hwy ei wneud. Felly, mae angen i ni fynd i’r afael â hyfforddi’r proffesiynau hyn yn ymarferol hefyd: nyrsys mewn practisau, nyrsys ardal, uwch-ymarferwyr nyrsio a nyrsys practis eraill. Efallai y gallwn gysylltu ac annog llwybrau hyfforddiant amgen ar gyfer y proffesiynau hyn.Croesawaf gynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer y gweithlu gofal sylfaenol, a fydd yn cefnogi camau i greu darpariaeth ehangach o wasanaethau mewn practisau ar draws y sector ac edrychaf ymlaen at ei gyflwyno’n llwyddiannus. Mae’r rhain yn amlwg wedi’u targedu tuag at fynd i’r afael â rhai o’r pryderon hyn. Ond mae’n rhaid i ni edrych hefyd ar ein gwasanaethau iechyd cyhoeddus, gan fod rhaid cynorthwyo’r boblogaeth hŷn yn eu cymunedau i fyw bywydau llawn a hapus. Gwyddom fod unigrwydd ac arwahanrwydd yn peri risgiau iechyd difrifol, fel y mae tybaco ac yfed gormod o alcohol. Mae’n rhaid i ni gefnogi ymgyrchoedd sy’n mynd i’r afael ag arwahanrwydd cymdeithasol a hyrwyddo grwpiau cyfeillio ar draws ein cymunedau. Ymhellach, mae’n rhaid i ni barhau i annog ein poblogaeth i wneud dewisiadau byw’n iach, gan ddarparu’r amgylcheddau cymdeithasol, diwylliannol a chwaraeon sydd eu hangen arnynt i fyw bywydau egnïol a chynaliadwy, gan leihau’r tebygolrwydd o ddatblygu cyflyrau meddygol a gorfod troi at ein gwasanaethau ysbyty yn y pen draw. Yn olaf, mae’n rhaid i ni gofio nad gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn unig sy’n wynebu heriau poblogaeth sy’n heneiddio. Mae’n rhaid i ni fabwysiadu ymagwedd fwy cyflawn tuag at wneud penderfyniadau, sy’n cwmpasu tai ac addysg, a dysgu gydol oes yn arbennig, a gwella sgiliau llythrennedd a rhifedd, gan annog cydweithio ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus. Mae’n rhaid i ni edrych ymhellach i’r dyfodol, gan sicrhau bod yr egwyddorion a ymgorfforwyd yn ein Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn sail i’n camau gweithredu ym mhob maes portffolio i helpu ein poblogaeth sy’n heneiddio. Dai Lloyd AC: Rwy’n falch iawn o gael y cyfle i gyfrannu i’r ddadl bwysig yma. Efallai fy mod wedi sôn o’r blaen fy mod i’n feddyg teulu, ond jest rhag ofn nad wyf wedi sôn digon am y ffaith honno, rwy’n ailadrodd y peth eto’r prynhawn yma. Ond, yn y bôn, wrth gwrs, mae’r ffaith bod pobl yn byw yn hirach yn destun clod i’r gwasanaeth iechyd, os rhywbeth. Rydym ni wedi hen arfer ar glywed pobl yn beirniadu’r staff a beirniadu’r gwasanaeth iechyd, ond, o leiaf, pan fo tystiolaeth a’i fod yn ffaith gadarn ein bod ni i gyd yn byw yn hirach, dylai fod yn destun clod i’n gwasanaeth iechyd cenedlaethol. Wrth gwrs, y feddygfa ydy, fel rheol, y lle cyntaf y mae pobl yn troi ato pan fônt mewn cyfyngder—y ‘first port of call’ felly. Beth rydym ni’n ei ffeindio yn gynyddol ydy fod y gwasanaeth yna yn y feddygfa o dan straen anhygoel. Ydym, rydym ni’n gwybod y ffigurau: mae yna 90 y cant o’n cleifion ni yn cael eu gweld yng ngofal cynradd—roeddem ni’n arfer dweud ar 10 y cant o’r gyllideb, ond, fel yr ydym ni wedi ei glywed eisoes, mae’r ganran honno o’r gyllideb yn awr wedi llithro i lawr i 7.45 y cant. Mae yna ofyn, felly, i feddygon teulu a’u staff wneud fwy efo llai o adnoddau. Wedyn, yn dilyn beth mae Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu wedi bod yn ei ddweud dros y misoedd—a’r BMA—mae eisiau rhyw fath o arallgyfeirio, neu newid cyfeiriad, yn y gyllideb yna, a hynny yn ôl i rywbeth fel yr oedd: rhywbeth fel 11 y cant o gyllideb y gwasanaeth iechyd, achos, yn y bôn, mae nifer y cyfweliadau yr ydym yn eu cael gyda’n cleifion yn cynyddu. Mae’r cyfweliadau hynny yn ddwysach ac yn fwy cymhleth achos natur y salwch, fel yr ydym wedi’i glywed gan David Rees. Mae pobl hŷn efo mwy nag un salwch cronig, ac mae yna her sylweddol i ddelio efo nhw i gyd mewn 10 munud. Ar ddiwedd y dydd, beth yr ydym yn poeni yn ei gylch fel meddygon yw ein bod ni eisiau gwella ansawdd y drafodaeth yna rhwng y claf a’r meddyg neu’r nyrs, a 10 munud sydd gyda ni, ac mae hynny ar ddiwrnod da. Ar gyfartaledd, rydym ni’n gweld rhwng 50 ac 80 o gleifion bob dydd. Beth yr ydym eisiau gweld yw gwella ansawdd y 10 munud yna sydd gyda ni. Dyna pam mae eisiau rhagor o arian ac adnoddau: er mwyn inni allu cyflogi rhagor o feddygon teulu yn y lle cyntaf, ond hefyd rhagor nyrsys a rhagor o ffisiotherapyddion ac ati, a hefyd gweithwyr cymdeithasol yn ein practisiau, a hefyd, y buaswn yn dweud, ar bob ward yn ein hysbytai. Dyna lle mae’r cydweithio efo gwasanaethau cymdeithasol yn dod i fewn, ac mor bwysig. Nid oes eisiau rhyw adrefnu costus. Rydym ni eisiau gweithwyr cymdeithasol efo ni yn y feddygfa sy’n gallu trefnu pethau cymdeithasol i’n cleifion, ond hefyd ar y wardiau yn yr ysbyty—cael un gweithiwr cymdeithasol fanna sy’n gallu trefnu sut y mae’r claf yn mynd i adael yr ysbyty yn gynnar a chyda’r holl drefniadau yn eu lle. Dyna pam mae angen cyflogi rhagor o weithwyr ar y llawr. Dyna pam mae eisiau i ran fwy o’r gyllideb honno ddod i ofal cynradd. Mae eisiau ei chynyddu o 7.45 y cant yn ôl i fel yr oedd, rhywbeth fel 11 y cant. Mae 90 y cant o’r cleifion yn cael eu gweld yng ngofal cynradd, ac rydym ni eisiau’r adnoddau i gynnig gwasanaeth gwell. Mae’r adnoddau yna yn cynnwys cyflogi rhagor o feddygon teulu. Fel y mae David wedi’i ddweud eisoes, mae yna rhai pethau dim ond meddyg teulu y gall eu gwneud. Mae’n rhaid inni gael rhagor ohonyn nhw. Ond mae’n rhaid inni wneud y gwaith—y swydd—yn fwy deniadol i’n meddygon ifanc ni sydd yn awr yn ein hysbytai. Mae’n rhaid iddyn nhw gael eu dylanwadu’n well nag y maent ar hyn o bryd i ddod yn feddygon teulu. Mae’n rhaid i’r holl gynlluniau yna sydd gennym ar hyn o bryd i ddenu meddygon yn ôl i fod yn feddygon teulu—mae’n rhaid eu gwella ac mae’n rhaid inni ei gwneud yn haws i ddenu ein meddygon teulu mwyaf disglair yn ôl i feddygaeth deuluol, yn enwedig yn ein cymunedau mwyaf gwledig a mwyaf difreintiedig ni. Felly, mae yna sawl her, fel yr ydym wedi’u clywed, ond mae’n rhaid inni fynd i’r afael â nhw. Ar ddiwedd y dydd, mae ein gwasanaeth iechyd ni yn dibynnu ar feddygaeth deuluol sydd hefyd yn ffres ac yn egnïol, ac sy’n gallu datrys y rhan fwyaf o broblemau yn ein cymunedau. Pe bai ni’n arallgyfeirio jest rhyw ganran fechan yn uwch o’n cleifion yn syth i’r ysbytai, byddai ein hysbytai ni o dan hyd yn oed fwy o bwysau nag y maent ar hyn o bryd. Wrth fuddsoddi rhagor o arian mewn gofal cynradd, byddem yn gallu atal lot o bobl rhag gorfod mynd i adrannau damweiniau neu rhag bod ar restrau aros yn y lle cyntaf, achos bod gyda ni’r adnoddau a’r ddysg i drefnu a gwneud pethau i’n cleifion yn y gymuned ond mae’n rhaid inni gael rhagor o help. Buaswn yn falch o glywed gan y Gweinidog a fuasai’n fodlon cyfarfod efo arweinyddion meddygon teulu yng Nghymru er mwyn trafod y ffordd ymlaen. Diolch yn fawr. Simon Thomas AC: Mae’n dda gen i ddychwelyd at beth fydd, yr wyf yn gobeithio, yn ddadl gadarnhaol dros y gwasanaeth iechyd. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rwyf innau, fel sawl un, rwy’n siŵr, wedi bod yn delio efo etholwyr sydd yn poeni yn ddirfawr ynglŷn â’r ffaith bod yna bwysau cynyddol ar feddygfeydd lleol, eu bod yn gorfod aros 10 diwrnod neu bythefnos i gael apwyntiad gyda meddyg teulu, a bod y gwasanaethau yn yr ysbyty lleol wedi cael eu lleihau. Rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod ni fan hyn yn cydnabod bod hynny’n deillio yn uniongyrchol o benderfyniadau’r Llywodraeth, a Llywodraeth Cymru yn hynny o beth. Er da neu er drwg, penderfyniadau rydym ni wedi eu cymryd dros y blynyddoedd sy’n gyfrifol am hyn, ac nid mewnfudwyr o’r tu allan fel sydd wedi cael ei greu yn ystod y ddadl yn ystod yr wythnosau diwethaf. Rydych yn llawer fwy tebygol yng Nghymru o gael eich trin gan rywun o’r tu allan i Gymru a thu allan i’r Deyrnas Gyfunol fel rhan o’r gweithlu sydd ei angen o’r tu allan i’r Deyrnas gyfunol, na gorwedd mewn gwely mewn ysbyty wrth ochr mewnfudwr o’r tu allan. Felly, dyna’r cyd-destun rydym yn ei drafod fan hyn. Rwy’n credu bod y ddadl gan Blaid Cymru heddiw yn cydnabod dau beth: ein bod ni wedi cymryd tro gwag rhywbryd yn y gorffennol, un ynglŷn â diffyg cynllunio ar gyfer recriwtio a chadw meddygon teulu yng Nghymru, ac un tro gwag arall—diffyg cynllunio ynglŷn â dyfodol rhai o’n hysbytai cymunedol ni, a methiant i gydnabod, yn enwedig mewn ardaloedd cefn gwlad, bod angen ysbytai cymunedol, efallai ar wedd newydd—nid fel yr hen ysbytai bwthyn fel oedd hi efallai—ond bod angen yr adeiladau hyn a’r presenoldeb yn y cymunedau i gynnal gwe o wasanaethau lleol y mae pobl leol yn eu gwerthfawrogi, ond sydd hefyd yn ychwanegu at iechyd y cyhoedd. Un enghraifft o hyn oedd llwyddiant digamsyniol, rwy’n meddwl, y cytundeb a darwyd rhwng Plaid Cymru a’r Llywodraeth Lafur flaenorol i sefydlu cronfa gofal canolradd. Ar y pryd, nid oedd y Llywodraeth wedi cydnabod bod angen cronfa o’r fath i ddarparu ar gyfer integreiddio rhwng gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau gofal ac iechyd. Ac erbyn hyn mae’r gronfa yna yn cael ei chydnabod fel rhywbeth sydd wedi bod yn llwyddiant ac wedi cynnal nifer o bobl i aros yn eu cartrefi, ac wedi bod yn ffordd i integreiddio rhwng y gwasanaeth iechyd a’r gwasanaethau cymdeithasol. Felly, rwy’n meddwl ein bod ni wedi methu cyfle i adeiladu ar ein hysbytai cymunedol ni.Nawr, mae yna gyfleoedd i wella. Mae cyd-bartneriaeth canolbarth Cymru wedi ei sefydlu yn ddiweddar gan y cyn Weinidog iechyd, ac mae’n dechrau bod yn llwyddiannus; mae’n dechrau dod â syniadau newydd i mewn i weld beth all gwasanaethau ysbytai a gwasanaethau sylfaenol fod mewn ardaloedd cefn gwlad. Mae yna enghreifftiau wedi cael eu portreadu yn ystod cyfarfodydd y cyd-bartneriaeth yna o’r tu hwnt i Gymru—lleoedd yn Sgandinafia, lleoedd yng Ngogledd America—ond nid oes rhaid mynd ymhellach na swydd Efrog, a dweud y gwir, i weld beth allem ni wneud gydag ysbytai cymunedol yng Nghymru. Fe sefydlwyd yn Pontefract ysbyty cymunedol cwbl newydd gyda 42 o welyau, er mwyn lleihau’r pwysau ar y wardiau aciwt. Ac mae’r ysbyty newydd yna, sydd ond newydd agor, llai na blwyddyn yn ôl, eisoes yn cyfrannu at arbed arian, ac yn galluogi pobl i fynd yn ôl o driniaeth mewn ysbytai trydyddol yn fwy llwyddiannus. Felly, dyma enghreifftiau o’r rôl y gallai ysbytai cymunedol yng Nghymru, yn fy etholaeth i, mewn lleoedd fel Blaenau Ffestiniog a Dinbych-y-Pysgod, efallai eu chwarae ar gyfer y dyfodol. Ac wrth edrych ar Ddinbych-y-Pysgod yn benodol, dyma enghraifft arall o ysbyty cymunedol a gollodd uned mân anafiadau yn anffodus, a gafodd ei chau am resymau diogelwch—rydym wedi clywed hynny sawl gwaith—ac sydd wedi dod yn ôl fel peilot yr uned mân anafiadau dros y Pasg diwethaf, ac a oedd yn llwyddiant ysgubol, lle roedd y meddygon teulu lleol hefyd yn dymuno gweld hynny yn cael ei sefydlu. Felly, mewn ardaloedd gwledig—er enghraifft, mae 60 y cant o’r boblogaeth yng Ngheredigion a 53 y cant o’r boblogaeth yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr ymhellach i ffwrdd o’r meddyg teulu na 15 munud—mae angen edrych yn ddifrifol ar sut y gallwn ni adeiladu rhwydwaith rhwng ysbytai cymunedol yn ogystal. Rydym ni’n galw yn y ddadl yma am ailedrych ar y ffordd mae ysbytai cymunedol a’n meddygon teulu ni yn gallu gwasanaethu, yn enwedig mewn ardaloedd cefn gwlad. A allwn ni roi o’r neilltu, efallai am y tro, rai o ddadleuon y gorffennol, gan edrych ymlaen at agwedd fwy cadarnhaol gan y Llywodraeth newydd hon? Jeremy Miles AC: Rwyf ychydig yn betrusgar wrth godi i siarad ynghylch integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol, o ystyried y cyfraniad enfawr a wnaed yn y maes polisi penodol hwn yng Nghymru gan fy rhagflaenydd, Gwenda Thomas, yr Aelod Cynulliad dros Gastell-nedd, ac yn enwedig mewn perthynas â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Felly, manteisiaf ar y cyfle hwn i dalu teyrnged iddi am ei hetifeddiaeth wleidyddol yn y lle hwn, a fydd yn sicr o fod o fudd i gannoedd o filoedd o bobl yng Nghymru. Fel nifer o’r Aelodau, rwy’n siŵr, roedd mynediad at feddyg teulu yn bwnc a gododd dro ar ôl tro ar garreg y drws yn ystod yr ymgyrch etholiadol rydym newydd fod yn ei hymladd, ac mae’n dal i godi. Un mater y credaf ei bod yn bwysig i ni ei gydnabod, fel y gwnaeth Dai Lloyd eisoes, yw bod y niferoedd cynyddol o bobl hŷn sydd angen i’n GIG a’n gwasanaethau gofal ddarparu ar eu cyfer yn ganlyniad darpariaeth gofal iechyd gwell dros y blynyddoedd. Ac yn hynny o beth, mae’n ganlyniad i lwyddiant. Rwyf bob amser yn ymwybodol o’r iaith a ddefnyddiwn wrth siarad am anghenion cleifion hŷn a disgrifio’r heriau sy’n wynebu iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym oll yn gytûn fod y ffaith ein bod yn gallu darparu ar gyfer anghenion cenhedlaeth o bobl hŷn sy’n byw’n hwy yn amlwg yn beth da, ac yn rhywbeth i’w ddathlu.Ond mae’r heriau gweithredol wrth fynd i’r afael â’r angen hwn yn fater arall, ac mae angen mwy o feddygon teulu er mwyn diwallu anghenion ein poblogaeth, ac mae hon yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth, fel y dylai fod. Ond mewn gwirionedd, dylid anelu’n bennaf at sicrhau gwasanaeth gofal sylfaenol sy’n darparu’r math cywir o ofal, boed wedi’i ddarparu gan feddyg teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol arall sydd efallai wedi’i gyfarparu’n well i wneud hynny. Mae datblygu practisau amlddisgyblaethol gyda fferyllwyr, nyrsys practis a gweithwyr proffesiynol eraill yn gweithio ochr yn ochr â meddygon teulu yn cynnig potensial i ddarparu’r math o ofal y mae’r claf ei angen, gan alluogi’r meddyg teulu i ganolbwyntio ar gleifion sydd angen gweld meddyg teulu oherwydd anghenion clinigol penodol. Cyfeiriaf at y model arloesi rhagorol ym mhractis Aman Tawe yn fy etholaeth, sydd hefyd yn ymestyn i etholaeth Adam Price yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr. Ymddengys i mi fod ethos ymarfer cryf a pharch cydradd rhwng ymarferwyr yn hanfodol i lwyddiant y model hwnnw, ac nid gofal sy’n diwallu anghenion y boblogaeth yn well yw’r unig wobr, ond efallai fod hynny hefyd yn ei gwneud yn haws denu meddygon teulu i’r practisau hynny. Pwysleisiaf nad yw hyn yn gwadu’r ffaith fod angen i ni recriwtio rhagor o feddygon teulu. Mae’n amlwg fod angen i ni wneud hynny, ac mae’n rhaid i ni barhau i helpu’r practisau sy’n ei chael yn anodd, am ba reswm bynnag, i lenwi’r swyddi hynny.Un o’r materion allweddol, ymddengys i mi, yw mai un rhan o’r hafaliad yw ad-drefnu’r practisau hynny. Ond y rhan hanfodol arall yw rôl y claf, a disgwyliadau’r claf yn arbennig. Gall fod yn ddealladwy i glaf sydd wedi arfer gweld meddyg teulu dros y blynyddoedd deimlo nad yw gweld gweithiwr gofal iechyd proffesiynol arall gystal neu’n well yn wir na gweld meddyg teulu. Bydd gan lawer ohonom enghreifftiau o bryderon a leisiwyd ynglŷn â threfniadau brysbennu yn arbennig. Felly, ymddengys i mi fod yn rhaid i ni ganfod ffyrdd o ymgysylltu’n ddilys ac yn dreiddgar â chymunedau lleol fel partneriaid yn y broses o wella’r ddarpariaeth iechyd a gofal. Ceir perthynas o ymddiriedaeth ganolog rhwng y meddyg a chlaf nad yw’n hawdd ei hail-greu. Ond yn yr un modd, ymddengys i mi fod trefniadau amlddisgyblaethol llwyddiannus yn dibynnu ar lefel dda o lythrennedd iechyd yn y boblogaeth gyffredinol. Efallai nad yw’r ddealltwriaeth o risg a’r elfen o hunanymwybyddiaeth gorfforol a meddyliol gystal ag y mae angen iddynt fod er mwyn i rai o’r practisau hyn weithio yn y ffordd orau. Felly, mae’r gwaith y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru ac eraill yn ei wneud i geisio gwella llythrennedd iechyd yn allweddol.Dymunaf ddweud rhywbeth am y berthynas rhwng trafnidiaeth gyhoeddus a gwasanaethau gofal sylfaenol. Mae’r gwaith a wnaed gan grŵp cynghori’r Llywodraeth ar fysiau yn cydnabod pwysigrwydd alinio llwybrau â sbardunau teithiau allweddol fel canolfannau iechyd. Dylem hefyd ystyried y potensial i’r canolfannau gofal sylfaenol eu hunain bartneru â darparwyr cludiant cymunedol gwirfoddol rheoledig er mwyn ei gwneud yn haws i gleifion allu mynychu apwyntiadau. Yn wir, dylem edrych hefyd ar sut y gellid cynorthwyo practisau gofal sylfaenol yn gyffredinol i weithio’n agosach gyda’r sector gwirfoddol fel partneriaid cyfartal, fel y soniodd Sian Gwenllian yn ei chyfraniad. Mae’n bwysig canolbwyntio ar hyn ar lefel gymunedol. Bydd llwyddo yn hyn o beth yn cefnogi integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol ar lefel gofal sylfaenol yn ogystal ag ar lefel eilaidd, ac mae’n rhaid i’r broses o gynllunio gofal ganolbwyntio ar anghenion holistaidd y claf, gan ystyried rôl gwasanaethau cymdeithasol yn y gymuned, ac yn wir, rôl ac anghenion gofalwyr eu hunain. Fel y crybwyllodd llawer o siaradwyr, ceir enghreifftiau ardderchog o hyn ledled Cymru, ac mae’r gronfa gofal canolraddol yn bodoli er mwyn cefnogi’r ffordd honno o weithio. Ond yn hyn o beth, fel yn y meysydd eraill y soniais amdanynt, mae’n rhaid i ni sicrhau bod arferion gorau yn cael eu nodi a’u rhoi ar waith ym mhopeth a wnawn. Mark Isherwood AC: Mae polisi Llywodraeth Cymru ar wasanaethau iechyd cymunedol a thoriadau yn y gyllideb iechyd, a ddisgrifiwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru fel rhai ‘digynsail yn hanes y DU’, wedi rhoi mwy o bwysau ar ein hysbytai cyffredinol. Roedd maniffesto’r Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer 2016 yn cynnwys argymhellion i hybu mwy o integreiddio rhwng iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a chymunedau. Dywedasom hefyd y byddem yn creu cronfa datblygu ysbytai cymuned ac yn ailsefydlu unedau mân anafiadau i unioni’r difrod a achoswyd gan y Blaid Lafur yn cael gwared ar welyau cymunedol a chau unedau mân anafiadau. Ym mis Mawrth 2010, dywedodd Gweinidog Iechyd y Blaid Lafur ar y pryd, ‘Ni wn am ddim bygythiadau i ysbytai cymunedol ar draws Cymru.’ Mewn gwirionedd, roeddwn wedi sefydlu CHANT Cymru—Ysbytai Cymuned yn Gweithredu’n Genedlaethol Gyda’i Gilydd—a ymgyrchodd yn llwyddiannus i atal cynlluniau Llafur i gau ysbytai cymuned yn 2007. Fodd bynnag, pan ddychwelodd Llafur i rym un blaid yng Nghaerdydd yn 2011, aethant ati eto i fwrw ymlaen â’u rhaglen i gau ysbytai a gwelyau cymunedol.Ysgrifennodd Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru at y Gweinidog Iechyd ar y pryd yn mynegi pryderon ynghylch safon y wybodaeth a ddarparwyd gan fwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr, ac a ddefnyddiwyd ganddynt i lywio eu penderfyniadau i gau ysbytai cymuned yn y Fflint, Llangollen, Blaenau Ffestiniog a Phrestatyn. Collwyd dwsinau o welyau cymunedol, er bod lefelau defnydd gwelyau yn 95 y cant ac yn uwch. Dywedodd y meddyg teulu a sefydlodd y cynllun peilot gofal estynedig yn y cartref gyda’r bwrdd iechyd yng ngogledd Cymru y byddai hyn yn llorio gwasanaeth sydd eisoes yn aml dan bwysau ar hyn o bryd, ac na fydd rhan ganolog o’r ad-drefnu arfaethedig ym maes gwasanaethau iechyd—darparu mwy o ofal yng nghartrefi pobl—yn llenwi’r bwlch o ganlyniad i gau ysbytai cymuned.Anwybyddodd y Llywodraeth Lafur refferendwm y Fflint, lle y pleidleisiodd 99.3 y cant o blaid adfer gwelyau i gleifion mewnol yn y Fflint, ac yna anwybyddodd refferendwm Blaenau Ffestiniog, lle y pleidleisiodd mwyafrif llethol o blaid adfer gwelyau yno. Pan ymwelais ag Ysbyty Treffynnon, dywedodd staff wrthyf y byddai buddsoddiad ychwanegol yn ein hysbytai cymuned lleol, fel Treffynnon, a gwelyau GIG cymunedol yn y Fflint, yn tynnu’r pwysau oddi ar ein hysbytai cyffredinol, yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng adrannau damweiniau ac achosion brys ac yn galluogi’r bwrdd iechyd i ddefnyddio’i adnoddau yn fwy effeithlon.Fel y dywedodd pennaeth y GIG yn Lloegr heb fod mor bell yn ôl, dylai ysbytai cymuned llai o faint chwarae rhan fwy, yn enwedig yng ngofal cleifion hŷn. Mewn briff gan Gymdeithas Feddygol Prydain Cymru yn y Cynulliad ym mis Mehefin 2014, rhybuddiodd cadeirydd Pwyllgor Meddygol Lleol Gogledd Cymru ei bod yn argyfwng ar bractisau cyffredinol yng ngogledd Cymru, fod nifer o feddygfeydd wedi methu â llenwi swyddi gwag, a bod llawer o feddygon teulu o ddifrif yn ystyried ymddeol. Yn gynnar eleni, ysgrifennodd meddygon teulu yng ngogledd Cymru at y Prif Weinidog yn ei gyhuddo o fod wedi colli gafael ar realiti’r heriau sy’n eu hwynebu. Mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn nodi bod ymarfer meddygol cyffredinol yng Nghymru yn darparu 90 y cant o ymgynghoriadau’r GIG, fel y clywsom, a 7.8 y cant yn unig o’r gyllideb. Maent yn dweud bod tanfuddsoddi hirdymor wedi golygu bod cyllid i ymarfer meddygol cyffredinol wedi bod yn gostwng o’i gymharu â’r GIG yng Nghymru yn gyffredinol, ac eto rydym yn wynebu heriau sylweddol poblogaeth sy’n heneiddio ac yn tyfu. Fel y dywedant, mae ymgynghoriadau yn mynd yn hwy ac yn fwy cymhleth wrth i ni ddelio â nifer cynyddol o gleifion gyda mwy nag un cyflwr cronig. Fel y dywedasant yng nghyfarfod y Cynulliad ddoe, mae bron i bedwar o bob 10 claf yng Nghymru yn ei chael yn anodd gwneud apwyntiad cyfleus i weld meddyg teulu—cynnydd o 4 y cant mewn dwy flynedd; mae 84 y cant o feddygon teulu yng Nghymru yn poeni eu bod yn mynd i fethu â sylwi ar broblem ddifrifol gyda chlaf oherwydd pwysau; ac mae dros 52 y cant o bractisau meddygon teulu yn wynebu problemau recriwtio sylweddol, gyda Chymru angen cyflogi mwy na 400 o feddygon teulu ychwanegol. O ystyried y prinder meddygon teulu, rydym wedi clywed bod angen modelau megis y practis amlddisgyblaethol a gyflwynwyd ym Mhrestatyn. Fodd bynnag, clywsom hefyd fod hwn yn seiliedig ar fodel tramor, a oedd â chymhareb uwch o feddygon teulu i ddisgyblaethau eraill; y byddwn yn colli’r ymagwedd holistaidd a’r parhad a ddarperir gan feddygon teulu, gan niweidio lles cleifion; ac na fydd y bwrdd iechyd yn ymyrryd hyd nes y ceir argyfwng neu drychineb. Clywsom y bydd 100 y cant o feddygon iau ym Manceinion yn treulio amser mewn practisau cyffredinol, o gymharu â 13 y cant yn unig yng Nghymru, ac y dylai pob meddyg iau yng Nghymru gael profiad o ymarfer meddygol cyffredinol. Clywsom fod angen i ogledd Cymru ganolbwyntio, unwaith eto, ar recriwtio meddygon teulu o brifysgolion Manceinion a Lerpwl; bod angen cymorth ar bractisau sy’n ei chael hi’n anodd a meddygon teulu unigol sy’n dioddef o orweithio; a bod gwelyau GIG cymunedol yn ychwanegu at y nifer o bethau y gall meddygon teulu eu gwneud, gan gynorthwyo’r sectorau sylfaenol ac eilaidd fel ei gilydd.Felly, gadewch i ni obeithio y bydd y Llywodraeth Lafur hon, wedi’i had-drefnu, yn dechrau gwrando o’r diwedd, ac yn darparu’r atebion y gŵyr y gweithwyr proffesiynol sydd eu hangen arnom. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething. Vaughan Gething AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n ddiolchgar i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl hon ac am y modd adeiladol y mae’r Aelodau ar draws y pleidiau wedi cymryd rhan ynddi at ei gilydd. Yng Nghymru, rydym yn cydnabod bod mwy na chwarter ein poblogaeth dros 50 oed, a bydd hyn yn codi fwy na thraean dros y 20 mlynedd nesaf. Yn anochel, bydd ein poblogaeth sy’n heneiddio yn cynyddu’r galw ac yn rhoi pwysau ychwanegol ar y system iechyd a gofal cymdeithasol. Yn 2015-16, roedd dros hanner yr holl oedolion a dderbyniwyd i’r ysbyty yn gleifion dros 65 oed. Mae hynny’n cyfateb i dros 70 y cant o gyfanswm y dyddiau gwely yn ein gwasanaeth iechyd. Dylai cyfnodau yn yr ysbyty, wrth gwrs, gael eu cadw mor fyr â phosib, ond yn yr achos hwn mae’n briodol gwneud sylwadau ar rai o’r pwyntiau a wnaed ynghylch oedi wrth drosglwyddo. Mae’r darlun sydd gennym yma yng Nghymru yn un sy’n gwella, yn hollol wahanol i Loegr, sydd â’r ffigurau uchaf—y ffigur uchaf ers iddynt ddechrau cadw cofnodion. Rwy’n falch o weld bod byrddau iechyd ac awdurdodau lleol yma yng Nghymru yn cydnabod yr her gyffredin yn y maes hwn, ac mae’n deg dweud nad yw hynny wedi bod yn wir bob tro. Mae lle i fod yn optimistaidd, yn ogystal â lle i drylwyredd a mwy o her i wella. Rydym yn cydnabod bod angen i ni sicrhau bod pobl hŷn yn gallu aros yn annibynnol, a chanolbwyntio ymdrechion ar sicrhau bod pobl yn dychwelyd i’w cartref gyda gofal a chymorth priodol. Felly, mae Llywodraeth Cymru am sicrhau bod iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn gweithio gyda’i gilydd i wella canlyniadau a lles pobl hŷn. Ym mis Mawrth 2014 cyhoeddwyd ein fframwaith integredig ar gyfer pobl hŷn sydd ag anghenion cymhleth. Nawr, roedd hwnnw’n canolbwyntio ar sicrhau bod gwasanaethau gofal a chymorth integredig yn cael eu datblygu a’u darparu i bobl hŷn, yn enwedig pobl eiddil oedrannus. Mae’r gronfa gofal canolraddol, a grybwyllwyd sawl gwaith yn y Siambr heddiw, wedi bod yn sbardun allweddol i integreiddio. Sefydlwyd y gronfa, fel y crybwyllwyd, mewn cytundeb cyllidebol blaenorol i wella gwasanaethau gofal a chymorth, yn enwedig ar gyfer pobl hŷn, drwy weithio mewn partneriaeth ag iechyd, y gwasanaethau cymdeithasol, tai, y trydydd sector a’r sector annibynnol. Eleni, mae dros £60 miliwn o gyllid wedi’i ddarparu, ac rydym wedi parhau gyda’r gronfa a’i bodolaeth, a dylai barhau i ariannu mentrau a fydd yn helpu pobl hŷn i aros yn annibynnol, osgoi mynd i’r ysbyty’n ddiangen ac atal oedi cyn rhyddhau cleifion o’r ysbyty. Ceir enghreifftiau llwyddiannus ledled y wlad.Bydd yr Aelodau’n ymwybodol o’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 drawsnewidiol a ddaeth i rym ym mis Ebrill eleni, ac roeddwn yn falch o glywed cydnabyddiaeth i etifeddiaeth yr Aelod blaenorol dros Gastell-nedd a gyflwynodd y ddeddfwriaeth honno. Un o egwyddorion allweddol y fframwaith cyfreithiol newydd hwn yw’r angen am wasanaethau gofal a chymorth integredig a chynaliadwy. Nawr, er fy mod yn sicr fod pawb wedi darllen y rheoliadau o dan Ran 9 y Ddeddf, maent wedi sefydlu byrddau partneriaeth rhanbarthol statudol. Bydd y rhain yn ysgogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau integredig effeithlon ac effeithiol. Nid ydynt am fod yn siopau siarad biwrocrataidd. Byddant yn rhan allweddol o wireddu partneriaethau a chyflwyno newid ar lawr gwlad.Mae’r canllawiau statudol ategol yn nodi bod yn rhaid i’r byrddau partneriaeth rhanbarthol hyn—nid ‘byddant’ neu ‘gallant’, ond bod yn ‘rhaid’ iddynt—flaenoriaethu integreiddiad gwasanaethau mewn nifer o feysydd. Mae hynny’n cynnwys ffocws parhaus ar bobl hŷn sydd ag anghenion cymhleth a chyflyrau hirdymor, gan gynnwys dementia.Mae ail ran y cynnig yn ymwneud â niferoedd meddygon teulu, ac fel rhan o’r compact y cytunwyd arno gyda Phlaid Cymru i symud Cymru ymlaen, mae’r Llywodraeth hon yn canolbwyntio ar gynyddu nifer y meddygon teulu a gweithwyr gofal iechyd sylfaenol ledled Cymru. Un o’r ymrwymiadau allweddol yw cyflwyno camau gweithredu er mwyn helpu i hyfforddi, recriwtio a chadw meddygon teulu, gan gynnwys mewn ardaloedd gwledig. Mae gennym fwy o feddygon teulu ar hyn o bryd nag erioed o’r blaen, wedi’u cyflogi mewn gwahanol ffyrdd, ond yng Nghymru, rydym hefyd yn llenwi mwy o’n lleoedd hyfforddi na Lloegr neu’r Alban. Ond gwyddom fod hyn yn dal i fod yn her, ac nid ydynt yn llenwi pob lle gwag. Mae’n her i’w hwynebu a mynd i’r afael â hi, nid ei hanwybyddu. Felly, byddwn yn parhau i wrando ar gynrychiolwyr y gweithlu ac eraill, wrth i ni symud y gwaith hwn yn ei flaen. Gallaf hefyd gadarnhau, o ystyried y cwestiwn uniongyrchol, fy mod eisoes wedi cyfarfod â Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol a phwyllgor meddygon teulu Cymdeithas Feddygol Prydain, ac edrychaf ymlaen at berthynas waith adeiladol gyda hwy. Mewn gwirionedd, roeddent yn frwd eu cefnogaeth i’r mesurau y mae’r Llywodraeth yn dymuno eu rhoi ar waith. Eu her allweddol i ni yw cyflawni’r cynllun y maent yn cytuno ag ef. Felly, byddwn yn parhau i roi sylw i bryderon ynglŷn â llwyth gwaith ac yn cefnogi datblygiad modelau gofal newydd. Mae angen i ni sicrhau hefyd ein bod yn recriwtio, hyfforddi a chadw gweithwyr gofal sylfaenol proffesiynol eraill sy’n gallu cynorthwyo meddygon teulu. Enghreifftiau da o’r rhain yw fferyllwyr, nyrsys a therapyddion clinigol, er enghraifft ffisiotherapyddion, sy’n gwneud llawer iawn o waith i sicrhau bod anghenion pobl yn cael sylw priodol mewn lleoliadau cymunedol, gan osgoi’r angen i bobl fynd ar restrau aros orthopedig. Yr her yw pa mor gyson rydym yn rhannu’r arfer da hwnnw, ac rwy’n dal i fod eisiau sicrhau’r gwelliant hwn ar draws y system gyfan.Mae rôl y meddyg teulu, wrth gwrs, yn hollbwysig, ac yn rôl arweiniol o fewn y trefniadau clwstwr newydd hynny, ond ceir cydnabyddiaeth ehangach fod yn rhaid i’w rôl esblygu er mwyn iddynt allu mynd ati yn y ffordd orau i ganolbwyntio ar gleifion gyda’r anghenion mwyaf cymhleth—fel y mae nifer o bobl wedi’i ddweud heddiw ac ar achlysuron eraill, er mwyn iddynt wneud yr hyn nad ellir ei wneud gan neb ond meddyg teulu, a darparu’r arweinyddiaeth honno yn y practis ac yng ngweithgarwch y clwstwr. Rwy’n arbennig o falch o weld y croeso cadarnhaol at ei gilydd y mae’r clystyrau wedi’i gael gan Gymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, a byddwn yn datblygu’r hyn a ddysgwyd dros y flwyddyn nesaf a thu hwnt.Rwy’n disgwyl i wasanaethau symud tuag at ofal sylfaenol ac i adnoddau gael eu symud gyda hwy. Rydym yn cydnabod bod y broses o recriwtio meddygon teulu yn her, ac nid yw’n her sy’n gyfyngedig i Gymru. Bydd cynllun i fynd i’r afael â’r mater hwn yn cael ei ddatblygu yn ystod 100 diwrnod cyntaf y Llywodraeth hon er mwyn cyflawni’r ymrwymiad a roddwyd gan y Prif Weinidog. Bydd y gwaith, wrth gwrs, yn cael ei ategu gan gronfa genedlaethol ar gyfer gofal sylfaenol sy’n werth £40 miliwn. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, arweiniodd hyn at welliannau mewn sawl rhan o Gymru, gan gynnwys cynnydd yn nifer yr apwyntiadau meddygon teulu yn nes ymlaen yn y dydd.Dylwn droi yn awr at y gwelliannau. Ni fyddwn yn cefnogi’r gwelliant cyntaf. Cyflwynodd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) broses asesu gofal a chymorth i bawb, gan gynnwys pobl hŷn. Mae’r asesiad hwnnw’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn canolbwyntio ar y canlyniadau personol y maent am eu cyflawni. Wrth wraidd y broses hon mae sgwrs gyda’r unigolyn i gytuno ar ffyrdd o’i helpu i gadw neu adennill ei annibyniaeth. Mae deall yr hyn sy’n bwysig i’r unigolyn a chytuno ar sut i gyflawni’r canlyniad hwnnw mewn modd llawer mwy cyson yn her wirioneddol i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, neu o’i roi mewn ffordd arall, sut i weithio gydag unigolion yn hytrach na darparu ar eu cyfer yn unig.Ni fyddwn ychwaith yn cefnogi gwelliant 2. Mae Grŵp Cydweithredol Gofal Iechyd y Canolbarth eisoes yn rhoi camau ar waith i wella mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol, gan gynnwys recriwtio a chadw meddygon teulu. Mae eisoes wedi datblygu ystod o atebion arloesol, a fydd yn gyfle dysgu ehangach i ardaloedd gwledig eraill. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi symud gofal yn agosach at y cartref, drwy fentrau megis cynllun wardiau rhithwir, ac yn wir, gwaith ar y gwasanaeth casglu a throsglwyddo meddygol brys i sicrhau y gall pobl gael eu trosglwyddo i’r lleoliad mwyaf priodol. Yma, hoffwn grybwyll y cynllun ar Ynys Môn y soniais amdano o’r blaen—y cynllun gofal estynedig sy’n cael ei ddarparu rhwng meddygon teulu, gwasanaethau cymdeithasol, uwch-ymarferwyr nyrsio ac Ysbyty Gwynedd. Y gwelliannau a welais yn cael eu cyflwyno’n uniongyrchol yn y rhan honno o Gymru—mae gwersi yno ar gyfer gweddill y wlad.Byddwn hefyd yn gwrthwynebu gwelliant 3. Rydym wrthi’n ystyried adolygiad Mike Shooter ar rôl y comisiynydd plant. Mae hwnnw’n cynnwys gwersi i ni ar rôl pob comisiynydd, gan gynnwys y comisiynydd pobl hŷn. Ac yn olaf, byddwn hefyd yn gwrthwynebu gwelliant 4. Mae canolfannau adnoddau gofal sylfaenol modern wedi cymryd lle nifer o ysbytai cymuned a oedd wedi dyddio. Rydym yn cydnabod yr her sy’n ein hwynebu. Gwyddom nad allwn ddarparu’r un model gofal a gwella canlyniadau ar gyfer ein poblogaeth wrth i ni wynebu’r ddemograffeg newidiol sydd ohoni. Gyda’r Llywodraeth hon, bydd mwy o ffocws ar integreiddio, gyda gofal yn agosach at y cartref i atal a thrin problemau. Mae ein huchelgais yn glir: diwallu anghenion newidiol pobl ledled Cymru, er mwyn darparu gwasanaethau gwahanol ond gwell gyda gwell gofal a gwell canlyniadau. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda phobl yn y Siambr a thu allan iddi i wneud yn union hynny. Diolch yn fawr. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i ymateb i’r ddadl. Rhun. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y drafodaeth, y ddadl yma, y prynhawn yma? Rwy’n cytuno efo’r Gweinidog ei bod hi wedi bod yn ddadl a fu ar y cyfan yn adeiladol iawn. Nid wyf yn siŵr iawn pam fod Suzy Davies, ar ran y Ceidwadwyr, yn teimlo mor bigog heddiw. Nid oes yna, yn sicr, ddim byd ynof i sydd yn gosod rhwystr ar gyfer cydweithio gyda phleidiau eraill ar gyfer cyd-gytuno ar feysydd lle mae yna fodd inni gytuno ar wthio’r agenda ymlaen ar gyfer y gwasanaeth iechyd, oherwydd lles ac iechyd ein pobl ni yng Nghymru sy’n bwysig yn y fan hyn, nid gwleidyddiaeth bleidiol.Ar y gwelliant yn benodol, yr oedd yna alw arnom ni i newid ein meddwl a’i gefnogi. Wnes i ddim clywed unrhyw beth a wnaeth fy mherswadio i yn benodol yn yr hyn a ddywedwyd gan Suzy Davies i newid fy meddwl, ond rwy’n gobeithio bod y ffaith ein bod ni yn cefnogi gwelliannau eraill y Ceidwadwyr yn dangos ein bod ni yn barod iawn i gydweithio lle y mae hynny yn briodol a’n dweud rhywbeth wrthym ni. Rwy’n meddwl bod y ffaith ein bod ni’n cefnogi gwelliant UKIP yn golygu ein bod ni, yn sicr, yn fodlon edrych ar faterion o bwys yn y fan hyn, sef, fel rwy’n ei ddweud, lles poblogaeth Cymru.Felly, a gaf i ddiolch, fel rwy’n ei ddweud, wrth bawb a wnaeth gyfrannu yn adeiladol er weithiau yn bigog tuag at y drafodaeth? Sian Gwenllian—diolch am amlinellu y pwysau ar ddarparu gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig yn benodol. Mae Sian, fel cymaint ohonom ni wrth gwrs, yn gallu siarad o brofiad personol. Mae gan bob un ohonom ni brofiad sydd yn gyrru yr angen sydd yna i wella yn y meysydd yr ydym ni’n eu trafod y prynhawn yma. A gaf i ategu’r hyn a ddywedodd Sian Gwenllian ynglŷn â’r coleg meddygol ym Mangor? Rwy’n gwybod nad ydy hynny’n rhywbeth sy’n mynd i gael ei ddelifro dros nos. Rwy’n gwybod bod yna nifer o sialensiau sydd rhyngom ni a darparu coleg meddygol ym Mangor, ond rwy’n meddwl bod y pwynt a wnaeth Sian Gwenllian ynglŷn â’r angen i’r coleg arfaethedig hwnnw fod yn arloesol yn un pwysig iawn. Nid ceisio ail-greu modelau o lefydd eraill ym Mangor ydy hyn, ond bod yn arloesol.Roedd David Rees—fel mor aml mewn dadleuon ar nifer o bynciau—hefyd wedi sôn am arloesedd. Rwy’n gwybod bod arloesedd mewn addysg yn rhywbeth sy’n bwysig iawn i’r Aelod dros Aberafan. Un peth na chafodd ei grybwyll heddiw, o bosib, oedd yr angen i ystyried pynciau STEM mewn ysgolion yng nghyd-destun yr angen i berswadio mwy o bobl ifanc i fynd ymlaen i feddygaeth. Rwy’n ddiolchgar iawn i Dai Lloyd am bwysleisio’r pwynt a wnes i ynglŷn â’r angen i gydbwyso’r gwariant rhwng yr arian sy’n mynd i ysbytai o fewn yr NHS a’r arian sy’n mynd i iechyd sylfaenol. Mae yna ddirywiad amlwg wedi bod yn y gyfran sy’n mynd i ofal iechyd sylfaenol yn y blynyddoedd diweddar ac, fel y dywedais i, nid yw hyn yn gynaliadwy. I’ll turn to the Minister’s comments briefly. I think, on integration, we are keen to see action that is universal across Wales. Plaid Cymru put forward our proposals for integration in the recent election, and they were proposals that were up for debate and many people agreed with them; others disagreed with them. But I think what we have to move towards is a situation where we have specific proposals that can lead to genuine integration in Wales. And on integration, I think we need to remember the need to integrate primary and secondary care as well, not just health and social care. So, I note the examples of integration that you mentioned. I note the examples also of the tackling of delayed transfers of care; I note your ambitions on GP recruitment, and we are pleased that we were able to make GP recruitment one of the key areas in our post-election agreement. But, as Jeremy Miles said, we need to look at best practice and, once it has been identified—be it in primary care in Ynys Môn, or elsewhere—how that then can be universalised throughout Wales and make sure that best practice is replicated across Wales.We need to move to a new era, I think, of urgency, when it comes to tackling the issues that we are discussing this afternoon. I think it has been clear from the debate this afternoon that these issues are ones that are shared throughout the country and they are issues that worry us all, whichever party we represent here in the National Assembly. We will be constructive in Plaid Cymru in working with Government on seeking new ways forward, but we will be relentless in putting pressure on Government to bring forward that new urgency that we need, be it in developing primary care or the integration of health and social care, and in tackling this huge challenge that we face of a changing population in years to come.Finally, I am very pleased to hear that the Minister expects resources to be shifted in years to come towards primary care. I think this is vital if we are to face up to the challenges that we face. Diolch yn fawr. Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Iawn. Cafwyd gwrthwynebiad, felly gohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. 6. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Llywodraeth Leol Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 2 yn enw Simon Thomas. The next item on our agenda is the Welsh Conservative debate on local government. I call on Janet Finch-Saunders to move the motion. Cynnig NDM6032 Paul DaviesCynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:1. Yn cydnabod y rôl y mae llywodraeth leol yn ei chwarae o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus i gymunedau ledled Cymru.2. Yn nodi â phryder yr ansicrwydd y mae diffyg eglurder ynghylch diwygio llywodraeth leol yn ei gael o ran darparu gwasanaethau effeithiol.3. Yn cydnabod bod angen gwneud mwy i fynd i’r afael â difaterwch pleidleiswyr yng Nghymru, o gofio bod nifer y bobl a wnaeth fwrw pleidlais yn etholiadau llywodraeth leol Cymru yn 2012 yn isel, sef cyfartaledd o 38.9 y cant, a oedd bedwar y cant yn is na’r nifer a bleidleisiodd yn yr etholiadau lleol yn 2008.4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu amserlen dros dro ar gyfer ei chynlluniau i ddiwygio awdurdodau lleol Cymru, ac i gymryd rhan mewn proses ymgynghori gadarn. Cynigiwyd y cynnig. Janet Finch-Saunders AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi fanteisio ar y cyfle hwn i’ch llongyfarch ar eich rôl newydd? Mae’n bleser mawr gennyf arwain dadl grŵp gwrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus, a diolch, wrth wneud hynny, i arweinydd fy ngrŵp yn y Cynulliad, Andrew R.T. Davies AC, am ei hyder yn fy ailbenodi’n llefarydd yr wrthblaid ar lywodraeth leol. Hoffwn longyfarch Mark Drakeford AC hefyd ar ei benodi’n Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, ac edrychaf ymlaen at eich cysgodi mewn modd adeiladol wrth i ni weithio gyda’n gilydd, lle bo modd, i wynebu llawer o’r anawsterau a’r ansicrwydd sydd bellach yn wynebu llywodraeth leol yng Nghymru.Yn ystod tymor olaf y Cynulliad hwn, mae diffyg parhad y cyfrifoldeb gweinidogol wedi gadael y rhai sy’n gyfrifol am ddarparu cymaint o’n gwasanaethau hanfodol yn teimlo’n ddryslyd, wedi’u dibrisio ac yn wynebu llawer o ansicrwydd. Yn 2013, ac ar gost i’r trethdalwr o £130,000, gwelsom gyhoeddi adroddiad comisiwn Williams, yn rhoi 62 o argymhellion, a phob un yn cael ei ystyried yn angenrheidiol i ddatblygu’r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn y dyfodol. Mae llawer o’r argymhellion hynny bellach wedi’u hanwybyddu i raddau helaeth.Roedd hwn yn gylch gwaith ehangach o lawer na llywodraeth leol ac yn cynnwys llawer o’r rhai sy’n gyfrifol am ddarparu ein holl wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Nid oedd yn canolbwyntio ar lywodraeth leol fel yr unig faes sydd angen ei ddiwygio ar frys. Fel Aelodau, roeddem yn credu’n wirioneddol y byddai’r gwaith hwn yn gatalydd ar gyfer newid gwirioneddol, ac yn cynnig rhaglen gyflawni well ar gyfer ein holl wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Ystyrid bod integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yn hanfodol bwysig, ac eto edrychwch cyn lleied o gynnydd a wnaed gennym. Ar ôl methu gyda’r agenda gydweithredu, aeth Llywodraeth Cymru ati i ddechrau gwaith ar raglen nas gwelwyd ei thebyg erioed o’r blaen o newid ac ad-drefnu llywodraeth leol yng Nghymru—gan anwybyddu sawl un, yn cynnwys y cymunedau sydd mor aml yn dibynnu ar y gwasanaethau hanfodol hyn a gelyniaethu ar yr un pryd ein haelodau etholedig, ein gweithwyr rheng flaen, ein huwch- swyddogion a’n cymunedau eto fyth yn y modd mwyaf didrugaredd. Roedd y comisiwn yn galw’n benodol ar awdurdodau lleol i uno’n unedau mwy o faint, drwy uno awdurdodau lleol presennol, a’u pennu drwy beidio ag ailosod ffiniau. Unwaith eto, cafodd ei anwybyddu. Ystyriwyd uno gwirfoddol fel ffordd ymlaen, ac opsiynau ad-drefnu i’w penderfynu a’u gweithredu ar frys, i’w cytuno gan randdeiliaid allweddol a Llywodraeth Cymru heb fod yn hwyrach na Phasg 2014. Ni ddigwyddodd.Galwodd y comisiynwyr ar y Llywodraeth i gefnogi a chymell mabwysiadwyr gynnar a oedd am weld menter o’r fath, drwy ddechrau proses o uno gwirfoddol i’w chwblhau erbyn 2017-18. Eto i gyd, dyfeisiodd y Gweinidog ar y pryd ei ffiniau newydd ei hun, i gynnwys map o wyth neu naw awdurdod yn unig, ac yn lle hynny dewisodd wrthod yn llwyr y cynigion wedi’u costio a ddaeth i law gan chwe awdurdod lleol, erbyn y dyddiad gofynnol, a gyda’r meini prawf gofynnol—gan gynnwys Conwy a Sir Ddinbych, fy awdurdod i. Gwastraff cyfle a dweud y lleiaf. A dyma ni heddiw, yn dal i fod heb weledigaeth, heb gyfeiriad, ac yn wynebu llawer o ansicrwydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n eich annog i roi blaenoriaeth uniongyrchol i fynd i’r afael â’r sefyllfa hon. Gweithiwch gyda’n swyddogion, ymgynghorwch â’n cymunedau, gweithiwch gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac yn bwysicaf oll, siaradwch â’r Aelodau yma. Mae gennym i gyd ddiddordeb uniongyrchol ym mha mor dda y mae ein hawdurdodau lleol yn perfformio ac yn gallu delio â’r heriau sy’n codi. Ym mis Mai 2017 bydd ein hetholwyr yn pleidleisio yn yr etholiadau llywodraeth leol. Yn y flwyddyn 2012, yn anffodus, 38 y cant oedd canran y bobl a bleidleisiodd, gostyngiad o 4 y cant, gyda 99 o seddi diwrthwynebiad ar lefel cyngor sir, a nifer anhygoel o 3,600—45 y cant—o seddi diwrthwynebiad ar lefel tref a chymuned. Mae 12 i 15 y cant ohonynt yn dal yn wag. Fel rhan o fy ngwaith gyda chi yn y dyfodol, byddwn yn sicr yn hoffi i chi fynd i’r afael â’n cynghorau cymuned a’u gwaith. Wrth gwrs, hon yw’r lefel gyntaf o lywodraethu democrataidd yng Nghymru, ac mae’n effeithio ar ein dinasyddion, ac ydy, mae’n cynnwys praeseptau y gellir codi tâl amdanynt. Ar draws Cymru mae llawer yn teimlo eu bod wedi’u difreinio ar y lefel hon, yn aml oherwydd diffyg eglurder ynghylch pwy sy’n gwneud beth, ac mae llawer yn gwbl anymwybodol o’r swyddogaethau a’r materion llywodraethu cysylltiedig. Yn aml, fe’i gwelir gan rai fel siop gaeedig a cheir rhai nad ydynt yn cyhoeddi agendâu neu gofnodion, ac nid oes ganddynt wefan, er eu bod wedi cael cyllid i wneud hyn. Mae eraill o’ch blaen wedi addo llawer o ddiwygio ac adolygu mawr ei angen, heb unrhyw lwyddiant. Erbyn hyn ceir llawer o ansicrwydd ymhlith ein clercod tref a chynghorwyr cymuned, ynghylch ffiniau cynghorau a gefnogir gan y gymuned, o ganlyniad i adolygiad ffiniau isel iawn ei broffil sy’n arwain at dorri’r nifer bresennol o seddau, ond unwaith eto, nid oes dim i’w weld yn bendant. Nid yw rhai ohonynt hyd yn oed yn gwybod faint o seddau y byddant yn eu hymladd. Mae angen eglurder yn awr. Mae’n bryd bywiogi ein hetholwyr, ar bob lefel o ddemocratiaeth, drwy ailymgysylltu â hwy, gan weithio gyda hwy, a rhoi rheswm iddynt fod â hyder mewn system llywodraeth leol sy’n gweithio’n effeithlon, yn effeithiol a gyda diwydrwydd dyladwy. Ysgrifennydd y Cabinet, rydych yn ymwybodol o’n galwad ar y meinciau hyn mewn perthynas â hawliau cymunedol. Mae hawliau cymunedol drwy eu natur yn gyfle arall i lywodraeth fawr ymgysylltu â’n cymunedau, eu grymuso a’u bywiogi. Dros y pum mlynedd diwethaf rydym wedi gweld cymaint o gyfleoedd yn cael eu colli, wrth i neuaddau cymuned, tafarndai lleol a llyfrgelloedd gael eu colli, a’r cyfan er mwyn torri costau, heb fawr o ystyriaeth i werth enfawr y cyfleusterau hyn yn darparu ar gyfer ein cymunedau. Mae Deddf Lleoliaeth 2011, a roddwyd mewn grym dros y ffin, wedi rhyddhau cymaint o’n cymunedau, gan ddatganoli grym oddi fry i’r union gymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Fe’ch anogaf i edrych ar hyn o’r newydd a gweithio i sicrhau ein bod yn mabwysiadu mwy o’r erthyglau yn y Ddeddf hon. Mae dull blaenorol o’r brig i lawr Llywodraeth Cymru o ymgysylltu â’r gymuned drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a’r ddogfen ‘Egwyddorion ar gyfer gweithio gyda chymunedau’, a ddosbarthwyd i sefydliadau yn y sector cyhoeddus, wedi’u cysylltu, yn anffodus, ag amharodrwydd i gyflwyno agenda lleoliaeth, mewn gwrthgyferbyniad llwyr â Lloegr a’r Alban, lle mae cymunedau yn arfer hawliau drwy’r Ddeddf hon a Deddf Ymrymuso’r Gymuned (yr Alban) 2015. Mae’r Ceidwadwyr Cymreig eisiau i’r hawliau hyn gael eu rhoi ar waith yma yng Nghymru. Mae pobl Cymru eisiau’r hawliau hynny hefyd. Rydym i gyd yn gwybod am hyrwyddwyr cymunedol gweithgar yn ein hetholaethau sy’n barod i feddiannu’r asedau lleol hyn, gan weithio gydag eraill i’w hatal rhag cael eu colli. Ymatebodd 78 y cant o ymatebwyr i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddiogelu asedau cymunedol mewn gwirionedd, ac roeddent yn barod iawn eu cefnogaeth i’r fenter hawl i wneud cais ac yn barod i estyn llaw i weithio gyda Llywodraeth Cymru a’u hawdurdodau lleol eu hunain er mwyn gwarchod y cyfryw asedau, ond ychydig iawn o gydnabyddiaeth a gafodd hyn, ac nid oes fawr ddim wedi’i ddatblygu. Unwaith eto, rwy’n eich annog, Weinidog: gweithiwch gyda ni, gweithiwch gyda’n cymunedau. Ychydig o help, cefnogaeth ac arweiniad y mae’n ei gymryd i sicrhau bod ein cymunedau gwledig yn arbennig yn cael cyfleoedd gwell nag erioed o’r blaen. Mae Gwent bellach yn treialu’r cynllun i ariannu swyddog trosglwyddo asedau cymunedol. Rwy’n croesawu’r fenter hon ac yn gofyn eto i chi weithio i sicrhau bod pob awdurdod lleol yng Nghymru yn cofnodi ac yn rhestru pob un o’n hasedau cymunedol gwerthfawr, gan ganiatáu ar gyfer y dyfodol a’r posibilrwydd o ddiogelu yn hytrach nag aberthu’r cyfleusterau pwysig hyn.Nawr, roedd yr agenda gydweithredu aflwyddiannus y cyfeiriais ati yn gynharach yn gyfle arall a wastraffwyd, ac rwy’n gofyn i chi fynd yn ôl i’r cychwyn i weld lle y gall a lle y bydd cydwasanaethau yn gweithio. Yn Lloegr, arbedwyd £462 miliwn drwy gytundebau cydwasanaethau ar draws awdurdodau lleol. Nododd adroddiad KPMG yma yng Nghymru £151 miliwn o arbedion ystafell gefn y gellir eu cyflawni heb unrhyw broses uno. Nawr yw’r amser i feithrin twf a hyder yn ein hawdurdodau, gan eu galluogi i fod yn ddewr, i roi camau beiddgar ar waith er mwyn cyflwyno modelau darparu eraill, a’u grymuso i weithio gydag awdurdodau cyfagos os oes galw. Rhowch gefnogaeth ac arweiniad iddynt a rhowch obaith iddynt na fydd eu hymdrechion yn ofer. Ar ben hynny, mae’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn amcangyfrif y bydd yr agenda trawsnewid gwasanaethau cyhoeddus yn Lloegr o bosibl wedi cyflwyno budd blynyddol net o rhwng £4.2 biliwn a £7.9 biliwn o arbedion erbyn tua 2018-19. Nid briwsion yw’r rhain. Yn yr Alban hefyd, mae darparu cydwasanaethau yn gweithio. Mae disgwyl i’r Ayrshire Roads Alliance rhwng cynghorau De Ayrshire a Dwyrain Ayrshire arbed £8 miliwn dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Rhoddwyd y syniad o gydwasanaethau a chytundebau cydweithio ar waith yng Nghymru 10 mlynedd yn ôl yn adolygiad Beecham. Fodd bynnag, roedd ymchwiliad Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i gynnydd cydweithio mewn llywodraeth leol yn dilyn adroddiad Simpson yn nodi’r angen cryf i roi hwb pellach i’r agenda gydweithredu, yr angen am fwy o eglurder, mwy o gyfeiriad a mwy o arweiniad gan y Llywodraeth hon yng Nghymru, gan osod pwyslais ar yr union angen i roi camau ar waith yn wyneb dyfodol ariannol anodd i lywodraeth leol. Yn anffodus, cafodd argymhellion dethol comisiwn Williams a map dilynol y Gweinidog blaenorol eu gwthio ymlaen yn unochrog ac yn aflwyddiannus.O ran y gwelliannau a gyflwynwyd i’r ddadl, rydym yn cydnabod adroddiad Sunderland wrth gwrs, er bod rhaid i mi ddweud ei fod yn adroddiad hen ffasiwn iawn. Rydym yn parhau i gymeradwyo llawer o’i brif egwyddorion, megis hyrwyddo dealltwriaeth y cyhoedd o lywodraeth leol, a mentrau megis dinasyddiaeth weithredol i roi hwb i ymgysylltiad â phroses llywodraeth leol. Fodd bynnag, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn parhau i wrthwynebu gweithredu pleidlais sengl drosglwyddadwy fel y system bleidleisio a ffefrir. Ni fyddwn, felly, yn pleidleisio o blaid gwelliant 2, sy’n galw am hyn.Rydym ar ddechrau pumed tymor y Cynulliad. Llywodraeth leol yw’r rhan o’ch cyfrifoldeb Cabinet sydd â’r gyllideb fwyaf ond un ac mae’n gyfrifol am lawer o lesiant ein cymdeithas. Er eich bod yn newydd i’r rôl hon, rwy’n credu y bydd eich profiad blaenorol gyda llywodraeth leol yn golygu y gallwch wneud gwahaniaeth. Gweithiwch gydag Aelodau’r Cynulliad, ymgysylltwch yn ystyrlon â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, siaradwch â chydweithwyr ac aelodau’r meinciau cefn yma ac yn bennaf oll, gweithiwch gydag awdurdodau lleol. Gyda’n gilydd, gadewch i ni i gyd weithio tuag at fodel llywodraeth leol sy’n fforddiadwy, yn gynaliadwy ac yn effeithiol. Diolch yn fawr. Diolch. Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig. Galwaf ar Sian Gwenllian i gynnig gwelliannau 1 a 2, a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas. Sian. Gwelliant 1—Simon ThomasMewnosod ar ôl pwynt 3:Yn nodi cynnwys adroddiad Sunderland ar drefniadau etholiadol llywodraeth leol yng Nghymru. Gwelliant 2—Simon ThomasMewnosod ar ôl pwynt 3:Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu pleidlais sengl drosglwyddadwy ar gyfer etholiadau llywodraeth leol er mwyn sicrhau cynrychiolaeth deg i bob safbwynt wleidyddol. Cynigiwyd gwelliannau 1 a 2. Siân Gwenllian AC: Diolch. Hoffwn, ar ran Plaid Cymru, gyflwyno ein gwelliannau ni, felly, i’r ddadl yma ar ddiwygio awdurdodau lleol yng Nghymru. Yn amlwg, mae yna gryn dipyn i’w ddweud am y pwnc yma. Ond, heddiw, rwy’n mynd i ganolbwyntio ar ddwy agwedd benodol a gafodd eu cynnwys fel rhan o bolisi Plaid Cymru yn ystod etholiad y Cynulliad ym mis Mai. Hynny yw, yn gyntaf, yr angen i Lywodraeth Cymru i weithredu i gynnwys pleidlais sengl drosglwyddadwy ar gyfer etholiadau llywodraeth leol yn y dyfodol. Ac, yn ail, yr angen i unrhyw ddiwygiad yn y dyfodol gynnwys awdurdodau rhanbarthol er mwyn rhoi cyfeiriad strategol i awdurdodau lleol ac i rannu arferion gorau ar draws awdurdodau gwahanol.Fel unrhyw genedl, mae Cymru angen arweinyddiaeth ranbarthol i roi cyfeiriad strategol sy’n adlewyrchu set o flaenoriaethau ledled Cymru, ynghyd â llywodraeth leol gref i sicrhau atebolrwydd lleol a chydlynu ar lefel y gymdogaeth. Ein cynnig ni yw esblygu graddol gan ddefnyddio strwythurau presennol i greu arweinyddiaeth newydd ar lefel ranbarthol a chymunedol. Rydym hefyd, fel y gwnaethom ni sôn yn y ddadl roeddem ni’n ei chynnal yn y Siambr yn gynharach, eisiau gweld integreiddio llawer iawn mwy pwrpasol a synhwyrol rhwng iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Un fantais amlwg o wneud hynny ydy creu atebolrwydd yn y maes iechyd yn ogystal â gwella’r ddarpariaeth i’n pobl ni.Mae Plaid Cymru o’r farn bod angen creu awdurdodau rhanbarthol cyfunol, wedi’u cyfansoddi o gynghorau lleol sy’n bodoli yn barod. Mae angen anghofio am y map ac ymgynghori ar sut y byddai’r weledigaeth ranbarthol newydd yma’n edrych a beth fyddai’r union ddyletswyddau ar y lefel honno. Mae’n gwelliannau ni i’r ddadl yma heddiw yn canolbwyntio ar yr angen i gyflwyno system etholiadol newydd, sef pleidlais sengl drosglwyddadwy, STV, er mwyn sicrhau cynrychiolaeth deg i bob safbwynt gwleidyddol.Mi gyhoeddwyd adroddiad Sunderland yn 2002. Ydy, mae hynny gryn amser yn ôl. Ond, mi oedd yn adroddiad trwyadl iawn ac mi ddaethpwyd i’r casgliad mai ffurf y bleidlais sengl drosglwyddadwy oedd fwyaf addas i ddiwallu gofynion amrywiol pobl leol o ran system etholiadol leol. Ac, roedd hynny ar ôl i’r comisiwn brofi saith o systemau etholiadol eraill.Yn fy marn i, cyflwyno STV i etholiadau llywodraeth leol yn yr Alban yw un o’r datblygiadau mwyaf cadarnhaol ers oes datganoli. Yn yr Alban, mae etholiadau llywodraeth leol yn llawer iawn mwy bywiog a mwy diddorol. Mae llawer iawn mwy o bobl yn cystadlu ar gyfer y seddi yno ac mae llywodraeth leol ei hun, yn sgil hynny, yn plethu ei hun yn agosach at ddymuniadau y boblogaeth. Mae’r Llywodraeth yma wedi cael cyfle i weithredu ar argymhellion adroddiad Sunderland yn barod yn y gorffennol. Ac, fel cenedl, os ydym wir yn credu bod pob dinesydd yn gyfartal, yna dylem ni hefyd gredu, ac felly sicrhau, fod pob pleidlais yn gyfartal. Hyd y gwelaf i, nid oes rheswm da dros beidio â chyflwyno STV ar gyfer etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru. Felly, rydym yn gofyn ichi gefnogi’r gwelliannau. Diolch. Andrew RT Davies AC: Croesawaf y cyfle i siarad yn y ddadl heddiw. Mae gwasanaethau cyhoeddus, a darparu gwasanaethau cyhoeddus, yn elfen hanfodol o gymorth i lawer o bobl ar hyd a lled Cymru, ac mae llywodraeth leol yn amlwg yn chwarae rhan hanfodol yn y broses o ddarparu’r gwasanaethau cyhoeddus hynny. Roeddwn o ddifrif yn fy sylwadau i’r Prif Weinidog yn ystod wythnosau cyntaf y Llywodraeth hon, pan ddywedais wrtho ein bod yn dymuno’n dda i’r Llywodraeth yn ei chenhadaeth—ac i Ysgrifenyddion y Cabinet yn eu cenhadaeth—i gyflawni’r dyheadau yn eu maniffesto, oherwydd, os yw Llywodraeth yn methu, yna bydd y gwasanaethau y mae pob Ysgrifennydd y Cabinet yn gyfrifol am eu darparu wedi methu i’r bobl sydd angen y gwasanaethau hynny i’w cynnal yn eu bywydau bob dydd. Ein gwaith ni, fel gwrthblaid, yn amlwg, yw dwyn y Llywodraeth i gyfrif, ac i wneud yn siŵr ein bod yn cynnig dewis arall yn ogystal, gan ei bod yn hawdd cecru o’r ymyl, ond mae angen i chi ddweud beth yn union y byddwch yn ei wneud os ydych o ddifrif am fod yn Llywodraeth un diwrnod.O’r meinciau hyn, dros wythnosau a misoedd cynnar y Cynulliad hwn, byddwn yn sicr yn ymgysylltu ac yn ceisio ymwneud yn gadarnhaol ag Ysgrifennydd newydd y Cabinet ar yr agenda ar gyfer llywodraeth leol, oherwydd bod cymaint o ynni ac amser wedi’i dreulio yn y Cynulliad hwn yn ystod y tymor diwethaf yn ymdrin â mapiau a llinellau ar fapiau—fel y soniodd y siaradwr arweiniol, Janet Finch-Saunders—nad oeddent mewn gwirionedd yn golygu fawr iawn i’r cymunedau a oedd yn mynd i gael gwasanaeth neu gyfleuster wedi’i ddiddymu, ac yn y pen draw nid oedd fawr o gefnogaeth iddo os o gwbl. Mae’n dipyn o beth pan fo arweinydd y Ceidwadwyr yn mynd i gyfarfod blynyddol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac yn cael mwy o gymeradwyaeth nag a gafodd y Gweinidog Llafur yn Abertawe—gan gofio bod 16 o’r 22 o arweinwyr awdurdodau lleol yng Nghymru, rwy’n meddwl, yn arweinwyr Llafur. Ond roedd hynny ar anterth y sôn am fap y Gweinidog blaenorol ar gyfer ad-drefnu llywodraeth leol wrth gwrs. Gobeithio y bydd y Gweinidog—Ysgrifennydd y Cabinet, mae’n ddrwg gennyf—yn glynu at y sylwadau a wnaeth yn gyhoeddus hyd yn hyn, yn yr ystyr ei fod am gael y drafodaeth honno, a’i fod eisiau cydweithio â’r rhai ar y rheng flaen mewn llywodraeth leol, yn hytrach na mynd i’r cyfarfodydd hynny yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf a dweud wrthynt beth fydd yn digwydd, mewn gwirionedd, oherwydd rwyf eto i ddod o hyd i rywun sydd o ddifrif yn awyddus i ddinistrio llywodraeth leol.Ceir llawer o syniadau ynglŷn â pha fodel y dylem edrych arno—y model cyfun y soniodd Plaid Cymru amdano, y model sirol y mae eraill yn cyfeirio ato ac yn y pen draw, model 1974 roedd y Llywodraeth flaenorol yn amlwg yn ei gefnogi. Ond gyda’r pwysau o ran costau ar ddarparu gwasanaethau, a’r galw cynyddol am y gwasanaethau sy’n rhaid i lywodraeth leol eu darparu, yr hyn sy’n hollol amlwg yw nad yw’r status quo yn opsiwn. Yr hyn sydd angen i ni ei wneud, fel y ddeddfwrfa sylfaenol yma yng Nghymru gyda chyfrifoldeb dros lywodraeth leol, yw dod o hyd i ateb er mwyn sicrhau bod map cynaliadwy ar gyfer llywodraeth leol yn cael ei gyflwyno yma yng Nghymru.Bob oddeutu 20 mlynedd, mae’n ffaith fod Llywodraethau blaenorol—o bob lliw a llun—wedi ailgynllunio llywodraeth leol yng Nghymru. Ni all hynny fod yn fodel da ar gyfer llywodraethu, ni all fod yn fodel da ar gyfer cyflawni, ac yn y pen draw, ni all fod yn fodel da ar gyfer y rhai sy’n gweithio o fewn y gwasanaeth, a’r rhai sy’n dibynnu’n sylfaenol ar y gwasanaethau hynny i ddarparu eu cymorth o ddydd i ddydd. Rwy’n meddwl mai’r hyn sy’n wirioneddol bwysig heddiw yn y ddadl hon yw bod y Gweinidog yn achub ar y cyfle i ymateb yn yr wythnosau cynnar hyn ynglŷn â sut y bydd yn symud y trafodaethau yn eu blaen. Yn bwysig, gyda’r etholiadau fis Mai nesaf, a yw’n fwriad gan y Llywodraeth, os oedd consensws yn mynd i fod ar ad-drefnu, i sicrhau bod y mandadau y bydd gwleidyddion yn eu ceisio gan yr etholwyr yn fandadau llawn—h.y. a fyddant yn para am y tymor llawn o bum mlynedd ar gyfer llywodraeth leol? Oherwydd byddant yn cyflwyno maniffestos i’r etholwyr mewn ychydig dros 9 neu 10 mis, maniffestos y bydd yr etholwyr yn pleidleisio ar eu sail. Felly, rwy’n gobeithio y bydd y Gweinidog—Ysgrifennydd y Cabinet, mae’n ddrwg gennyf—yn rhoi’r eglurder hwnnw ynghylch y sicrwydd y bydd ei angen ar ymgeiswyr a deiliaid swyddi pan fyddant yn cael y dadleuon hynny ac yn cael y trafodaethau ynglŷn â sut olwg fydd ar lywodraeth leol dros y pum mlynedd nesaf, ac yn wir, fel y dywedais yn gynharach, ynglŷn â’r trafodaethau y mae’n bwriadu eu harwain gydag awdurdodau lleol, a rhoi’r ymrwymiad dilys mai trafodaeth fydd hi yn hytrach na darlith, fel y cafwyd gan ei ragflaenydd, yn anffodus, ar ddechrau’r trafodaethau hyn yn y pedwerydd Cynulliad. Hefyd, yn bwysig, rwyf eisiau crybwyll y nifer sy’n pleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol. Yn anffodus, roedd i lawr 4 neu 5 y cant yn 2012, ac etholwyd nifer i seddau yn ddiwrthwynebiad, mewn gwirionedd, fel y soniodd Janet Finch-Saunders. Mae’n hanfodol fod yna ymwybyddiaeth ynglŷn â’r rôl allweddol y gall cynghorwyr lleol ac ymgeiswyr, yn wir, ei chwarae yn y cyfnod yn arwain at yr etholiad ac ar ôl yr etholiad, yn cefnogi pentrefi, trefi a chymunedau mewn unrhyw ran o Gymru. Felly, edrychaf ymlaen at ymateb y Gweinidog ac rwy’n gobeithio y bydd yn defnyddio’r ddadl hon fel cyfle i roi cnawd ar esgyrn rhai o’r syniadau a allai fod ganddo. Mike Hedges AC: Rwy’n falch fod y Ceidwadwyr wedi cydnabod pwysigrwydd llywodraeth leol o’r diwedd. I’r rhai sydd wedi bod yma dros y pum mlynedd diwethaf, rydym wedi’u clywed yn ceisio mynd ag arian oddi wrth lywodraeth leol a’i roi i iechyd, sy’n cyfateb i brynu car, peidio â’i gynnal a’i gadw, ond gwario arian ar atgyweiriadau. Mae gwariant ar gyfleusterau chwaraeon, iechyd yr amgylchedd a gofal henoed yn helpu i gadw pobl rhag bod angen gofal mewn ysbyty. Mae llywodraeth leol yn darparu amrywiaeth enfawr ac ystod eang o wasanaethau. Ceir llyfryn o’r enw A i Y o wasanaethau’r amgylchedd—ar gyfer y rhai nad ydynt wedi’i weld, nid yw’n llyfryn tenau, ac un maes yn unig o lywodraeth leol yw hwnnw. Mae gwasanaethau awdurdodau lleol yn effeithio ar bawb a phob un bob dydd: mae ffyrdd, palmentydd, casglu sbwriel, cael gwared ar sbwriel, addysg a gwasanaethau cymdeithasol yn effeithio’n ddyddiol ar fywydau’r bobl sy’n byw mewn ardal. Mae adrannau gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru dan fwy o bwysau ariannol nag unrhyw faes gwasanaeth arall yn y sector cyhoeddus, ac rwy’n cynnwys y gwasanaeth iechyd yn hynny. Gwyddom fod y boblogaeth yn heneiddio a bod pobl yn byw yn hwy, yn aml gydag anghenion gofal sylweddol sy’n rhaid eu darparu y tu allan i ysbytai. Y rheswm pam y mae llywodraeth leol yn torri’n ôl ar wasanaethau eraill yw oherwydd bod angen gwasanaethau cymdeithasol mor fawr ac mae’n rhaid ei ddiwallu. A gaf fi ddyfynnu Canolfan Ymchwil i Lywodraeth Leol a Rhanbarthol Prifysgol Caerdydd? Cynhaliodd y dadansoddiad cynhwysfawr cyntaf o effaith maint ar berfformiad awdurdodau lleol. Datblygodd y tîm fodel arloesol sy’n defnyddio sgoriau arolygon, dangosyddion perfformiad cenedlaethol, hyder y cyhoedd a mynegai gwerth am arian. Dangosodd y canlyniadau nad oes maint sy’n ddelfrydol ar gyfer awdurdodau lleol. Mae gan gynghorau mwy o faint lai o orbenion gweinyddol canolog, ond roedd effeithiau maint yn amrywio rhwng gwasanaethau. Gwelodd ymchwil dilynol y gallai cynghorau mwy o faint a gynhyrchwyd drwy ad-drefnu darfu ar berfformiadau. Gwyddom hefyd fod yr awdurdod lleol mwyaf yn Ewrop—Birmingham—wedi cael problemau difrifol gyda’i adran gwasanaethau cymdeithasol. Felly, nid yw mawr bob amser yn well. Cynhaliwyd profion ganddynt ar effaith maint y boblogaeth a gosodasant reolaethau ar gyfer gwahaniaethau yn y cyd-destun economaidd-gymdeithasol, gan gynnwys amddifadedd ac amrywiaeth anghenion gwasanaethau. Dangosai canlyniad y dadansoddiad hwn nad oedd maint y boblogaeth yn effeithio fawr ddim ar sgoriau Asesu Perfformiad Corfforaethol, ond roedd yn effeithio ar oddeutu hanner y mesurau arolygu gwasanaethau a’r rhan fwyaf o fesurau boddhad defnyddwyr. Mae hefyd yn effeithio ar fesurau gwerth am arian. Ond mae’r berthynas rhwng maint a pherfformiad yn gymhleth. Mewn rhai achosion, roedd awdurdodau mwy o faint yn perfformio’n well, ac mewn eraill, roedd cynghorau llai’n perfformio’n well, ac mewn eraill, awdurdodau canolig eu maint a gâi’r canlyniadau gorau. Yn wir, os edrychwch ar ddangosyddion perfformiad Cymru ar draws awdurdodau lleol, awdurdodau o faint canolig sy’n gwneud orau mewn gwirionedd ac sy’n cael fwyaf o sgoriau gwyrdd. Gwyddom nad yw maint yn gymesur â pherfformiad. Nid yw pawb yn edrych ac yn dweud, ‘Pe gallai pob cyngor fod fel Caerdydd a Rhondda Cynon Taf, yna byddai gennym set wych o awdurdodau lleol yng Nghymru’. Mae awdurdodau lleol wedi colli rheolaeth ar nifer fawr o’r meysydd gwasanaeth a oedd ganddynt pan gefais fy ethol yn gynghorydd gyntaf yn 1989. Maent wedi colli sefydliadau addysg uwch a’r colegau polytechnig, colegau addysg bellach, rheolaeth uniongyrchol ar ysgolion, mwyafrif ar bwyllgorau heddlu, Maes Awyr Caerdydd, ac mewn llawer o ardaloedd cyngor, tai. A oes unrhyw un mewn gwirionedd yn credu bod y newidiadau hyn wedi bod er gwell o ran darparu gwasanaethau? Ar y nifer sy’n pleidleisio, mae hon yn broblem yn holl etholiadau Cymru, gan gynnwys, yn anffodus, etholiad y Cynulliad. Mae’n anodd cymharu rhwng etholiadau cyngor ac etholiadau’r Cynulliad, oherwydd yn yr ardaloedd sydd â’r nifer uchaf o bobl yn pleidleisio yn etholiadau’r Cynulliad yn draddodiadol, mae llawer yn cael eu hethol yn ddiwrthwynebiad i seddau’r cyngor. Gwyddom fod y nifer sy’n pleidleisio i etholiadau’r cyngor yn sylweddol uwch na’r nifer a bleidleisiodd yn yr etholiadau Ewropeaidd, a phan gânt eu cynnal ar wahân, yn etholiadau comisiynwyr yr heddlu. Un ateb amlwg i gynyddu’r nifer sy’n pleidleisio mewn etholiadau lleol fyddai rhoi mwy o reolaeth i awdurdodau lleol a llai o gyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru. Mae’r bleidlais sengl drosglwyddadwy, a elwir hefyd yn ‘Dyfalwch faint o seddau rydych yn mynd i’w hennill?’, gan greu wardiau mawr mewn ardaloedd gwledig, a symud llywodraeth leol i ffwrdd oddi wrth bleidleiswyr—ni allaf feddwl am ffordd well o leihau’r nifer sy’n pleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol na chyflwyno’r bleidlais sengl drosglwyddadwy. Nodaf nad ydych yn gofyn am gael refferendwm arno, oherwydd credaf fod pobl yn gwybod beth fyddai’r canlyniad. Cawsom refferendwm ar newid y system bleidleisio, ac roedd canlyniad hwnnw’n bendant yn erbyn newid. Felly, yn amlwg nid oes arnom eisiau un arall—gadewch i ni ei orfodi oddi fry. Rwy’n annog Llywodraeth Cymru i ystyried y canlynol: rhoi pŵer cymhwysedd cyffredinol i awdurdodau lleol, rhywbeth y mae llywodraeth leol wedi gofyn amdano ers cyn cof, darparu llai o reolaeth ganolog dros wasanaethau—gadewch i benderfyniadau gael eu gwneud yn lleol—hyrwyddo cydweithio ym maes addysg a gwasanaethau cymdeithasol, ond ar yr un ôl troed. Mae pob Gweinidog sy’n cymryd portffolio gwahanol yn creu eu hôl-troed bach eu hunain ar gyfer pob gwasanaeth; mae angen i ni gael gwasanaethau’n cwmpasu’r un ardal. Ceisiwch gael awdurdodau lleol i gydweithio ar gynllunio rhanbarthol ar gyfer tai a datblygu economaidd. Mae gennym gynllun datblygu ar gyfer pob awdurdod lleol, ac rydym i gyd yn gwybod, onid ydym, y bydd y newidiadau sy’n cael eu gwneud yn Abertawe yn effeithio ar Gastell-nedd Port Talbot a Sir Gaerfyrddin ac fel arall. Felly mae angen i ni gael rhyw fath o bolisi rhanbarthol er mwyn i ni i gyd wybod lle rydym. Dylem geisio uchafu nifer y gwasanaethau o dan reolaeth uniongyrchol llywodraeth leol. Rwy’n credu’n gryf mewn llywodraeth leol ac rwy’n meddwl ei bod yn wirioneddol bwysig ein bod yn gadael i awdurdodau lleol wneud penderfyniadau ar ran eu pobl leol ac yna, os nad yw’r bobl yn eu hoffi, gallant gael gwared arnynt. Suzy Davies AC: Daeth traddodiad gwleidyddol radicalaidd Cymru o gymunedau lleol wedi’u grymuso i gael eu cynrychioli yn y cyfnod modern gan ein hawdurdodau lleol, gan gynrychiolwyr etholedig, sydd mewn rhai achosion, yn ennyn cyn lleied o ddiddordeb y trigolion y maent yn eu gwasanaethu fel eu bod weithiau’n gallu dal eu gafael ar ddylanwad dinesig am ddegawdau. A gallant ddal eu gafael ar ideolegau am ddegawdau hefyd: y sector cyhoeddus yn unig a all ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn effeithiol, mae contractau tymor byr gyda’r trydydd sector yn iawn cyn belled â bod y cynghorau’n rheoli’r arian ac y gellir eu hepgor os nad ydynt yn ddymunol, ac mewn rhai achosion, ni allwch grybwyll y sector preifat hyd yn oed. Hyd yn oed heddiw, nid yw strwythurau monolithig gormesol awdurdodau lleol yn gweithredu mwyach fel model ar gyfer grymuso cymunedau. Mae angen i ddiwygio llywodraeth leol ymwneud â mwy nag uno; mae’n ymwneud â chydbwysedd newydd rhwng awdurdodau lleol, y gymdeithas a’r dinesydd.Nawr, wrth gwrs ein bod angen i’r sector cyhoeddus fod yn rhan ganolog o’r ffordd y mae ein cymunedau yn cael eu gwasanaethu, ond mae’n rhaid i ni symud ymlaen o ddiwylliant o ‘O, gwaith y cyngor yw hynny’ neu ‘O, ni fydd y cyngor yn gadael i chi wneud hynny.’ Nid yw hyn yn fater o leoliaeth yn unig, a nodweddir gan y math o drosglwyddo asedau y buom yn siarad amdano—yn amlwg mae hynny’n rhan ohono. Mae’n ymwneud â chydnabod na all awdurdodau lleol wneud y cyfan. Mae’n ymwneud â chydnabod potensial cydgynhyrchu. Mae awdurdodau lleol yn gartref i swyddogion a chyflogeion ymroddedig, i arbenigedd, i amrywiaeth o sgiliau proffesiynol, meddylwyr strategol yn ogystal, ond drwy adael cymaint o heriau ar risiau’r Neuadd y Sir, rydym yn anwybyddu’r hyn rydym ni fel dinasyddion, fel unigolion a gyda’n gilydd, a sefydliadau a chyrff eraill yn gallu ei wneud i ateb gofynion ein cymunedau. Mae’r galwadau cynyddol a’r cyllidebau sy’n crebachu a nododd Mike Hedges yn golygu ein bod i gyd ar ein colled pan fo gwasanaethau anstatudol yn cael eu bygwth gan y pwysau ar gynghorau i gyflawni eu rhwymedigaethau statudol yn gyntaf. Mae anfodlonrwydd y cyhoedd â’r ‘cyngor’ yn tyfu, mae’r datgysylltiad rhwng darparwyr gwasanaethau a defnyddwyr gwasanaethau’n tyfu. Mae’r eirfa a ddefnyddiwn ar gyfer hyn yn atgyfnerthu hynny. Beth ar y ddaear a ddigwyddodd i ‘bobl’? Cymerwch wasanaethau cymdeithasol i oedolion: mae un o bob pump ohonom eisoes dros 65 oed a bydd ymhell dros chwarter erbyn 2033. Yng Nghonwy, mae chwarter y boblogaeth eisoes yn bensiynwyr. Efallai y bydd gan y wladwriaeth amrywiaeth o negeseuon iechyd y cyhoedd i’n helpu i gadw’n heini ac yn iach am gyfnod hwy, ond mae angen cyfrifoldeb personol i allu cymryd y negeseuon a gwneud iddynt weithio ar ein cyfer ni a’n teuluoedd a’n cymunedau.Bydd awdurdodau lleol yn dod o dan bwysau aruthrol i ddarparu cymorth a gofal drwy’r llwybrau gofal traddodiadol i oedolion, heb sôn am gyflawni eu rhwymedigaethau gwasanaethau cymdeithasol eraill. Felly, a ydym yn mynd i adael y cyfan iddynt hwy mewn gwirionedd? Mae Llafur wedi colli ei brwdfrydedd dros y lleoliaeth a oedd yn sail i’r model cydweithredol o ddatblygu economaidd amser maith yn ôl, gan roi ei ffydd yn lle hynny mewn canoli’r wladwriaeth. Yn hytrach nag arwain y ffordd yn y DU, mae’r economi gydweithredol yng Nghymru yn llai fesul pen o’r boblogaeth nag ydyw yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae hyd yn oed y cynlluniau ar gyfer y corff dielw i redeg ein rheilffyrdd ag olion bysedd y Llywodraeth drostynt i gyd. Mae Dr Dan Boucher yn gywir pan ddywed na chaiff yr her bresennol i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus‘ei helpu gan fethiant Llafur i groesawu’r cyfle i chwistrellu mesur mwy o gydfuddiannaeth i mewn i drefniadaeth ein gwasanaethau cyhoeddus drwy ddatblygu gwasanaethau cyhoeddus cydfuddiannol.’Er bod Lloegr wedi elwa o ddatblygu 106 o wasanaethau cyhoeddus cydfuddiannol yn ystod y pum mlynedd diwethaf, gan ddarparu gwerth dros £1 biliwn o wasanaethau cyhoeddus, ni welwyd unrhyw wasanaeth cyhoeddus cydfuddiannol yn cael ei greu yng Nghymru dros yr un cyfnod. Mae hynny’n eithaf rhyfedd gan fod cynllun gweithredu’r Llywodraeth Lafur ar gyfer mentrau cymdeithasol yn 2009 yn dweud yn benodol y dylai cyrff cyhoeddus ystyried a allai mentrau cymdeithasol gyflawni unrhyw agwedd ar eu rolau yn well. Yn 2014, cefnogodd ei Gomisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol yng Nghymru gamau i ehangu cwmnïau cydfuddiannol yn yr economi a gwasanaethau cyhoeddus. Yn wir, dywedodd y comisiwn fod cwmnïau cydfuddiannol yn rhagori ar ddarpariaeth y wladwriaeth ym maes tai, Mike Hedges, a thynnodd sylw at gyfleoedd mewn nifer o feysydd, gan gynnwys gofal cymdeithasol ac iechyd. Fodd bynnag, fis Mawrth, ar y noson cyn etholiad y Cynulliad, roedd cynllun gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer modelau darparu amgen i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn nodi’n blaen:‘Rydym yn cefnogi modelau darparu cydweithredol a chydfuddiannol a modelau darparu amgen eraill dim ond fel dewis yn lle dirwyn gwasanaethau i ben neu eu preifateiddio, fel yr opsiwn ‘lleiaf gwael’.’ Nawr, rwy’n meddwl y byddai gan Robert Owen gywilydd fod Llywodraeth Cymru wedi dangos mor glir ei bod yn bendant yn parhau i gefnogi canoli’r wladwriaeth. Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn credu mai un o’r allweddi ar gyfer llwyddo i sicrhau polisïau yw ystyriaeth o’n diwylliant. Byddwn yn parhau, ein hunain, i hyrwyddo cydgynhyrchu, gan gynnwys cwmnïau cydfuddiannol, lle bo’n briodol, nid oherwydd mai cwmnïau cydfuddiannol yw’r opsiwn lleiaf gwael, ond oherwydd mai dyna’r dewis gorau, ar gyfer y gwasanaethau penodol dan sylw a hefyd oherwydd y ffordd y maent yn asio â’n diwylliant ein hunain a’n hunaniaeth genedlaethol. Mohammad Asghar (Oscar) AC: Mae llywodraeth leol yng Nghymru yn dioddef o ddiffyg ymgysylltiad â’r gymuned. Mae’r diffyg ymgysylltu wedi arwain at ddifaterwch ymhlith pleidleiswyr a’r ganran isel a bleidleisiodd mewn etholiadau lleol olynol. Yn yr etholiad lleol diwethaf yn 2012, roedd cyfartaledd y ganran a bleidleisiodd o dan 39 y cant—gostyngiad o 4 y cant ers yr etholiad blaenorol yn 2008. Yn ôl yr arolwg cenedlaethol ar gyfer Cymru, nid oedd 88 y cant o bobl wedi cysylltu â’u cynghorwyr dros y 12 mis blaenorol. Yn fwy pryderus, roedd 59 y cant o ymatebwyr naill ai’n anghytuno neu’n anghytuno’n gryf â’r datganiad y gallent ddylanwadu ar benderfyniad sy’n effeithio ar eu hardal leol. Mae’r difaterwch hwn tuag at lywodraeth leol yn wahanol iawn i’r ymgyrchoedd cyhoeddus a’r protestiadau pan fydd asedau awdurdodau lleol yn wynebu bygythiad o gael eu cau.Cafodd Llywodraeth Cymru gyfle i fynd i’r afael â’r broblem hon pan basiodd Llywodraeth y DU Ddeddf Lleoliaeth 2011. Mae’n siomedig, felly, fod Llywodraeth Cymru wedi methu â gweithredu’r agenda hawliau cymunedol yng Nghymru. Mae hawliau cymunedol yn ymwneud â grymuso cymunedau, er mwyn iddynt gael mwy o lais yn y materion sy’n bwysig iddynt. Trwy gyfres o fesurau, aeth y Ddeddf Lleoliaeth ati i sicrhau bod pŵer sylweddol yn trosglwyddo i bobl leol. Dau o’r mesurau hyn oedd yr hawl gymunedol i herio a hawl y gymuned i wneud cais. Yn gyntaf, yr hawl gymunedol i herio, Weinidog. Efallai y bydd awdurdodau lleol yng Nghymru sy’n wynebu cyfyngiadau cyllidebol yn ceisio lleddfu’r pwysau drwy ollwng gafael ar asedau megis canolfannau hamdden. Heb hawl gymunedol i herio, i ganiatáu i gymunedau ysgwyddo’r gwaith o redeg gwasanaethau, gallai’r asedau hyn gael eu colli am byth. Mae’r cynghorau gorau yng Nghymru yn gyson yn chwilio am ffyrdd newydd a gwell o gynllunio a chyflwyno gwasanaethau lleol. Mae llawer yn cydnabod potensial mentrau cymdeithasol a grwpiau cymunedol i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel sy’n werth da am arian. Dylent weithio gyda’i gilydd i ddarparu’r gwasanaethau hyn.Yn ail, yr hawl gymunedol i wneud cais. Mae pob cymuned yn gartref i adeiladau neu gyfleusterau sy’n chwarae rôl hanfodol mewn bywyd lleol. Mae’r rhain yn cynnwys canolfannau cymunedol, llyfrgelloedd, pyllau nofio, siopau pentref, marchnadoedd a thafarndai. Gall cau’r asedau hyn olygu bod y gymuned ar ei cholled. Yn aml mae grwpiau cymunedol angen mwy o amser i drefnu cais ac i godi arian na’r mentrau preifat a allai fod yn gwneud cais yn eu herbyn. Mae’r hawl gymunedol i wneud cais yn rhoi cyfle chwe wythnos i gymunedau fynegi diddordeb mewn prynu ased. Os ydynt yn gwneud hynny, mae cyfnod pellach o bedwar mis a hanner o gyfle i gymunedau allu cael amser i godi arian i brynu’r ased. Er mwyn cynorthwyo grwpiau cymunedol, mae arnom angen rhestr o asedau o werth cymunedol wedi’i henwebu gan y cymunedau lleol eu hunain. Fodd bynnag, nid oes rhaid i gynghorau yng Nghymru gadw cofrestr o asedau o werth cymunedol ac nid oes rhaid iddynt drosglwyddo asedau cymunedol. Rwy’n credu y dylai’r hawliau hyn y mae Lloegr yn manteisio arnynt gael eu hymestyn i Gymru i wella’r broses bresennol o drosglwyddo asedau cymunedol a’r rhaglenni cyfleusterau a gweithgareddau cymunedol.Ddirprwy Lywydd, bydd caniatáu i gymunedau herio’r awdurdodau lleol hyn ynglŷn â’r gwasanaethau y maent yn eu darparu neu adeiladau y maent yn berchen arnynt yn gwella cyfranogiad ac ymgysylltiad â’r gymuned yn fawr. Rwy’n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn croesawu’r agenda hawliau cymunedol ac yn gweithredu’r Ddeddf Lleoliaeth yn llawn yng Nghymru. Ac yn olaf, Ddirprwy Lywydd, mae yna un maes rwy’n cael trafferth ag ef yn rheolaidd yn fy swyddfa. Pan fydd pobl yn cysylltu â’r cyngor, mae yna bob amser alwad ffôn leol. Yng Nghasnewydd, mae’n 656656 i ganolfan alwadau. Fel arfer, bydd rhaid aros o leiaf 10 munud a gwrando ar gerddoriaeth ac yna, hanner yr amser, ni fyddwch yn cael eich cysylltu â’r person cywir sy’n rhaid i chi siarad â hwy. Hoffwn wybod faint o arian y mae’r cyngor lleol yn ei wneud gan bobl sy’n aros ar y ffôn pan fyddant yn ffonio’r cynghorau. Rwy’n credu y dylai cynghorau sylweddoli bod pobl dlawd yn ffonio ynglŷn â’u problemau—nid am y gost o aros i gyflwyno’u problemau i’r cynghorau. Rwy’n credu bod hwn yn faes lle mae cysylltedd rhwng y bobl a’r cynghorau hefyd yn brin yng Nghymru. Diolch. Gareth Bennett AC: Mae wedi bod yn drafodaeth ddiddorol hyd yn hyn, ac mae wedi bod yn dda clywed cymaint o bobl yn siarad ac yn lleisio barn angerddol ar y pwnc hwn. Yma yng ngrŵp UKIP, rydym yn sicr yn cydnabod bod gan lywodraeth leol ran bwysig i’w chwarae ym mywydau pob dydd pobl. Felly, mae’n bwysig, os ydym yn mynd i gael newid mawr arall i lywodraeth leol—ac fel y nodwyd yn gynharach gan R.T. Davies, ymddengys ein bod yn cael un bob 20 mlynedd, yn eithaf cyson—yna mae angen gwneud yn siŵr y tro hwn ein bod yn ei gael yn iawn a hefyd, nad ydym yn mynd ati’n systematig i symud gwasanaethau ymhellach ac ymhellach i ffwrdd oddi wrth y bobl y maent i fod i’w gwasanaethu. Rydym yn cefnogi rhywfaint o ad-drefnu llywodraeth leol yng Nghymru, ond y gostyngiad enfawr i naw cyngor a argymhellodd y Gweinidog blaenorol—credwn fod hwnnw’n ostyngiad rhy fawr a byddai’n golygu bod gwasanaethau cyngor yn cael eu diraddio’n helaeth. Yn gyffredinol, rydym yn cefnogi ad-drefnu o’r gwaelod i fyny, yn hytrach na model o’r brig i lawr, y math o fodel roedd Leighton Andrews yn awyddus i’w orfodi ar y cynghorau yng Nghymru. Pan ddaeth Cyngor Bro Morgannwg i gytundeb gwirfoddol gyda’u hawdurdod cyfagos ym Mhen-y-bont ar Ogwr, siom i ni oedd nodi bod uchelgeisiau’r cynghorau hynny wedi cael eu gwrthod yn ddisymwth braidd gan y Gweinidog perthnasol, sydd wedi gadael bellach, a diolch am hynny o bosibl, er fy mod yn siŵr ei fod wedi gwneud pethau da yma hefyd wrth gwrs. Yr hyn nad yw pobl yn y Fro ei eisiau yw cael eu suddo gan gyngor Caerdydd ac yna’u boddi gan ddatblygiadau tai enfawr ar eu meysydd gwyrdd. Mae hon yn broblem sydd eisoes yn ein hwynebu ar gyrion Caerdydd, fel y mae Aelod rhanbarthol newydd Plaid Cymru wedi sôn dro ar ôl tro, a hynny’n briodol. Yn sicr, nid ydym eisiau i’r broblem ymestyn i Fro Morgannwg hefyd drwy uno gorfodol gyda Chaerdydd. Gallaf ddweud wrthych y byddai awdurdod Caerdydd dan arweiniad Llafur wrth ei fodd yn cael ei ddwylo ar y caeau hyfryd hynny ym Mro Morgannwg.Yn yr un modd, ni ddylai cyngor Rhondda Cynon Taf gael ei orfodi i uno gyda Merthyr. Mae Rhondda Cynon Taf eisoes yn un o’r cynghorau mwyaf yng Nghymru o ran ei boblogaeth, ac mae’n ddigon abl, yn ein barn ni, i sefyll ar ei draed ei hun.Nawr, gan gyfeirio at bwyntiau eraill a wnaed yn ystod y ddadl, crybwyllodd Janet nifer y seddi diwrthwynebiad, sy’n destun pryder amlwg. Os oes gennych uno gorfodol o’r fath, yn arwain at uwch-gynghorau, credwn y byddant yn rhy fawr. Bydd hyn yn arwain at gynyddu’r diffyg diddordeb ymhlith yr etholwyr yn yr etholiadau hyn, ac mae’n debygol y bydd gennych nifer is yn pleidleisio yn sgil hynny. Mae’r Ddeddf Lleoliaeth yn ddiddorol; dyna bwynt diddorol. Rydym yn tueddu i gytuno bod angen i ni feddwl am fabwysiadu mwy o erthyglau o’r Ddeddf honno yma yng Nghymru, ac efallai y bydd dadl yma’n fuan ar gyfran o’r Ddeddf honno. Mae gennym hefyd fater yn codi ynglŷn â thymor y cyngor nesaf, a grybwyllwyd gan R.T. Davies. Rwy’n cofio etholiadau a gawsom yn 1993; fe’u cynhaliwyd er gwaethaf ad-drefnu llywodraeth leol a oedd ar fin digwydd ar y pryd. Cawsom etholiadau’r cyngor sir yn 1993; ddwy flynedd yn ddiweddarach, bu’n rhaid i ni gael etholiadau’r awdurdod unedol—o ddifrif, roedd yn wastraff arian sylweddol. Yn y cyfnod hwn o doriadau i awdurdodau lleol, mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn osgoi’r math hwnnw o ddyblygu a’r math hwnnw o wastraff arian y tro hwn.Soniodd Oscar Asghar am fater y canolfannau galwadau. Clywais si o’r ochr honno nad yw rhifau’r cyngor yn costio dim i’r defnyddiwr ei dalu pan fydd yn ffonio, ond rwy’n meddwl bod y broblem yn ei hanfod yn ymwneud ag anhygyrchedd, gan ei bod yn cymryd amser hir i bobl gael gafael ar y cyngor. Maent yn cael eu trosglwyddo i ganolfan alwadau. Nid ydynt ar linell uniongyrchol i switsfwrdd unrhyw gyngor—. Wel, switsfwrdd ydyw yn ei hanfod. Weithiau hefyd, mae’r canolfannau galwadau hyn yn gwasanaethu mwy nag un cyngor; felly, efallai y gwelwch eich bod yn ffonio canolfan alwadau i holi am wasanaethau yng Nghaerdydd a byddwch yn siarad â rhywun mewn canolfan alwadau yn Wrecsam nad yw’n gwybod dim am yr hyn rydych yn sôn amdano. Felly, mae angen i ni edrych ar hynny, ac mae angen i ni edrych i weld a oes angen i ni gael rhywfaint o ddarpariaeth statudol er mwyn cael canolfannau galwadau gyda phobl leol yn ateb y ffôn, o leiaf, fel na fydd gennych bobl yn ffonio’r llinellau hyn a gweld eu bod yn siarad â phobl heb wybodaeth leol.O ran y cwestiwn yng ngwelliant Plaid Cymru ynghylch diwygio pleidleisio, mae hwn yn fater pwysig iawn. Er mwyn annog nifer uwch o bleidleiswyr yn yr etholiadau yng Nghymru credwn fod angen i ni gefnogi camau i gyflwyno pleidlais sengl drosglwyddadwy yn etholiadau’r cynghorau yng Nghymru. [Torri ar draws.] Yn wir, efallai fod hynny’n wir, ond rydym ni’n sicr yn cefnogi hynny, ac rydym yn barod i gydweithio â phwy bynnag arall sy’n ei gefnogi. Felly, Sian, os ydych am gael sgwrs, yna ar bob cyfrif gwnewch hynny, ond wrth gwrs byddai’n golygu cydweithio â ni yma yn UKIP, a allai fod yn syniad ofnadwy i chi. Diolch. Jenny Rathbone AC: Mae’n rhaid i ni gydnabod bod Cymru eto i ddioddef graddau’r toriadau a brofwyd yn Lloegr. Yn Lloegr, torwyd cyllidebau cynghorau 10 y cant mewn termau arian parod dros y pum mlynedd diwethaf ond yng Nghymru yn gyffredinol maent wedi codi 2.5 y cant. Mae hynny oherwydd bod cyllid ar gyfer ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol wedi’i glustnodi, gan osgoi’r toriadau a welwyd mewn gwasanaethau eraill, ond yn amlwg cafwyd heriau enfawr wrth geisio darparu’r gwasanaethau eraill na chafodd eu clustnodi. Nid yw’n mynd i fod yn haws. Ni all fod yn gynaliadwy yn y tymor hir, oherwydd y cyllidebau sy’n lleihau a ddaw gan Lywodraeth Dorïaidd y DU.Erbyn 2020, bydd cyllideb Cymru bron £1.5 biliwn yn is mewn termau real nag yn 2010. Felly, rhaid diwygio’n sylfaenol y modd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu a’u trefnu ar draws Cymru a rhaid gwneud hynny nawr. Eisoes, cafwyd toriadau tameidiog a diddymu gweithgareddau nad ydynt yn hanfodol. Mae’r toriadau mwyaf amlwg wedi’u gwneud. Felly, mae parhau i wneud llai yn annhebygol o gymell dim heblaw siom cyhoeddus. Mae awdurdodau lleol yn mynd i orfod gwneud pethau’n wahanol.Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ystod o syniadau yn y Bil llywodraeth leol drafft i wella agwedd agored, tryloywder ac atebolrwydd i’r cyhoedd mewn llywodraeth leol. Mae’n hen bryd gwneud hynny. Yn y pum mlynedd diwethaf cawsom gymaint â thri chyngor lle roedd y prif weithredwyr a rhai uwch-swyddogion yn ysgrifennu eu cynlluniau cydnabyddiaeth ariannol eu hunain, a diffygion pendant ymhlith aelodau etholedig a fethodd atal lefel mor eithriadol o uchel o gamweinyddu. Bu’n rhaid i Swyddfa Archwilio Cymru ymyrryd er mwyn amlygu’r methiannau hyn yn y trefniadau llywodraethu.Mae sgandalau o’r fath yn tanseilio hyder staff a’r cyhoedd ac ymddiriedaeth mewn gwasanaethau cyhoeddus, ac mae angen i ni adael rhywfaint o oleuni i mewn os ydym yn mynd i ddenu mwy o bobl sydd am wasanaethu mewn llywodraeth leol. Credaf fod byrddau gwasanaethau cyhoeddus a’u rhwymedigaethau o dan Ddeddf cenedlaethau’r dyfodol yn darparu chwa o awyr iach a chydweithio angenrheidiol os ydynt yn mynd i gyflawni eu rhwymedigaethau. Yn ogystal â hynny, mae’r ddadl refferendwm chwerw rydym i gyd wedi dioddef yn ei sgil yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf wedi datgelu rhai materion heriol, na fydd yn diflannu waeth beth fydd y canlyniad yfory. Mae pobl wedi dod i arfer â chlicio eu dewisiadau ar-lein yn hytrach na thynnu eu siacedi a helpu i ddatrys problemau. A yw’n wir mewn gwirionedd ei fod bob amser yn gyfrifoldeb i rywun arall? Nid yw’n anodd beio pa lefel bynnag o lywodraeth, ond yn lle hynny mae angen i ni gael pobl i feddwl ynglŷn â’r hyn y gallant ei wneud i helpu i ddatrys problemau.Gallaf gytuno â Suzy Davies nad yw’r status quo yn opsiwn. Darluniwyd rhai o’r pethau y gall awdurdodau lleol ei wneud i fachu ar y cyfle i wneud pethau’n wahanol yn yr adroddiad ar ynni craffach i Gymru, a nodai’r cyfleoedd sydd ar gael i awdurdodau lleol harneisio ein hadnoddau naturiol er lles cymunedau lleol. Yn anffodus, ychydig o awdurdodau lleol ar unrhyw lefel sydd wedi manteisio ar y cyfle a’r arian. Yn wir, mewn llawer o ardaloedd, mae awdurdodau lleol yn mynd ati i rwystro cynlluniau ynni dan arweiniad y gymuned, yn hytrach na chroesawu’r mentrau hyn er mwyn gwella lles ac incwm eu poblogaethau. Roedd Suzy Davies yn cydnabod bod yn rhaid cydgynhyrchu, a bod gofyn i ni ymddiried mewn pobl, a disgwyl hefyd y byddant yn chwarae eu rhan, yn hytrach na hawlio’n unig. Nid awdurdodau lleol sy’n taflu sbwriel, ond pobl; nid awdurdodau lleol sy’n dryllio’r ffyrdd a chreu tyllau, ond cerbydau, yn enwedig cerbydau nwyddau trwm, sy’n amharod i dalu’r gost yn eu trwyddedau a ddylai adlewyrchu’r niwed y maent yn ei wneud. Nid oes diben i Mohammad Asghar alaru am wasanaethau a gollir; mae’n rhaid i ni feddwl beth rydym yn mynd i wneud am y peth. Yn ddi-os, mae gan gymdogaethau tlotach lai o gronfeydd wrth gefn i ddisgyn yn ôl arnynt pan fydd newidiadau’n cael eu hargymell. Er enghraifft, nid yn unig y mae llyfrgell Rhydypennau yng Nghyncoed, sy’n ardal gymharol lewyrchus, a oedd dan fygythiad o gau wedi cael ei chadw ar agor, ond mae’r gymuned leol wedi gwella’r gwasanaeth yn aruthrol, gydag amrywiaeth enfawr o gyngherddau, digwyddiadau codi arian a darlleniadau, wedi’u cefnogi’n fedrus gan lyfrgellydd rhagorol, sy’n teithio’r filltir ychwanegol i gyflawni ar ran y cyhoedd. Gan ei bod yn Ddiwrnod Gwasanaethau Cyhoeddus yfory, credaf y dylem gydnabod hynny. Rwy’n credu bod yn rhaid i uno rhithwir ac uno gwirfoddol fod yn ffordd ymlaen, i wneud i bobl o wahanol sefydliadau deimlo’n gyfforddus gyda’i gilydd, ac rwy’n aros gyda diddordeb, er enghraifft, i glywed am y cydweithio cynyddol rhwng awdurdodau iechyd ac awdurdodau lleol ym Mhowys, i gael gwybod a allai hwnnw fod yn fodel ar gyfer y dyfodol i awdurdodau lleol eraill hefyd. Rhianon Passmore AC: Yn gyntaf oll, hoffwn groesawu Ysgrifennydd y Cabinet i’w swydd a chroesawu’n fawr ei ddull a’i ymrwymiad tuag at y broses gydgynhyrchu wrth edrych tua’r dyfodol. O ran atgyfnerthu’r pwyntiau sydd newydd eu gwneud, ydw, rwy’n credu nad oes amheuaeth nad yw Cymru wedi cario baich y toriadau y mae awdurdodau lleol wedi’u cario yn Lloegr. Rydym wedi crybwyll eisoes y toriad o 10 y cant i gyllidebau awdurdodau lleol a’r ffaith fod un o’r Aelodau Ceidwadol gyferbyn wedi ceisio siarad am hoffter o gwmnïau cydfuddiannol; rwy’n credu bod gan gwmnïau cydfuddiannol le pendant yng Nghymru, ond yr hyn y byddwn yn ei ddweud yw mai’r realiti yn Lloegr yw mai cwmnïau preifat er elw sy’n cymryd y gwaith o redeg gwasanaethau cyhoeddus ac nid ydynt yn gwneud gwaith da o gwbl mewn rhai mannau. Torrwyd £1.5 biliwn oddi ar gyllideb Cymru, felly mae angen edrych ar hyn gyda llygaid ffres a symud ymlaen mewn ffordd adeiladol. Rwy’n croesawu’n fawr y modd y mae Ysgrifennydd y Cabinet eisoes wedi cyfarfod ag arweinwyr cynghorau ac awdurdodau lleol mor gynnar yn ei swydd. Ydy, mae’n mynd i fod yn ffordd ddiddorol ymlaen, ond rwy’n gwybod yn iawn fod gennym y dull, y parodrwydd, y broses gydgynhyrchu yn ei lle a fydd yn darparu ar gyfer pobl Cymru. Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford. Mark Drakeford AC: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i grŵp y Ceidwadwyr yn y Cynulliad am ddefnyddio’u hamser y prynhawn yma i gyflwyno’r ddadl hon? Rwyf wedi gwrando’n ofalus iawn ar bob cyfraniad, ac rwy’n falch iawn o gael y cyfle hwn i drafod dyfodol llywodraeth leol yng Nghymru ac i amlinellu rhai o fy syniadau cynnar fy hun. Fy man cychwyn, ddirprwy Lywydd, yw bod llywodraeth leol dda yn chwarae rhan hanfodol bwysig ym mywydau bron bob dinesydd yng Nghymru, o flynyddoedd cynharaf addysg feithrin a’r cyfnod sylfaen i ofal cymdeithasol a ddarperir i’r bobl hynaf a mwyaf agored i niwed. Fel yr awgrymodd Mike Hedges, mae gan bob un ohonom ddiddordeb uniongyrchol yn y ffordd y caiff ein sbwriel ei gasglu, a’n strydoedd eu cadw’n lân, yn y modd y caiff ein ffyrdd eu cynnal a sut y caiff ein plant eu haddysgu, ac mae pob un o’r gwasanaethau hyn yn cael eu darparu gan ein hawdurdodau lleol. Nawr, ddirprwy Lywydd, yn rhannol o ganlyniad i’r sylw manwl iawn a roddwyd i hyn gan fy rhagflaenwyr, rwy’n ffodus fy mod yn mabwysiadu’r portffolio hwn ar adeg pan fo llywodraeth leol yng Nghymru wedi bod yn gwella, er gwaethaf yr heriau real iawn. Bydd y rhan fwyaf o’r Gweinidogion llywodraeth leol blaenorol wedi etifeddu sefyllfa lle y bu angen ymyrryd mewn mwy nag un cyngor yng Nghymru mewn perthynas â’u haddysg neu eu gwasanaethau cymdeithasol, neu eu trefniadau llywodraethu corfforaethol eu hunain. Heddiw, nid oes unrhyw gyngor yng Nghymru yn y sefyllfa honno, ac rwy’n awyddus iawn i adlewyrchu’r patrwm hwn o welliant yn ein trafodaeth ar lywodraeth leol. Pan gyfarfûm ag arweinydd Cyngor Ynys Môn, y tro cyntaf i mi grybwyll ei awdurdod ar lawr y Cynulliad hwn, gofynnodd i mi beidio â disgrifio ei awdurdod fel un sy’n methu, ond yn hytrach y dylwn ganolbwyntio ar y llwyddiant sylweddol y mae ei gyngor wedi’i gyflawni dros y tair blynedd diwethaf. Mae’r awdurdod hwnnw mewn sefyllfa wahanol iawn heddiw i’r un roedd ynddi ar ddechrau tymor diwethaf y Cynulliad, ac rwy’n falch iawn o allu gwneud hynny—dweud rhywbeth am yr ymdrechion, yma yn y Cynulliad Cenedlaethol, drwy ymyrraeth rheoleiddwyr a chynghorau eu hunain, yr holl ymdrechion hynny sydd wedi helpu i sicrhau’r darlun gwell hwn. Nawr, nid oes dim o hyn yn awgrymu nad oes heriau gwirioneddol yn parhau, ac ni allem gredu o gwbl ychwaith fod darparu gwasanaethau awdurdodau lleol yng Nghymru fel y byddem yn dymuno iddo fod ym mhob man am nad oes unrhyw awdurdod lleol ar hyn o bryd yn perfformio islaw’r safon sy’n ofynnol ganddo. Bydd yr holl Aelodau yma yn gyfarwydd â’r safbwynt sylfaenol. Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru yn dda am wneud rhywbeth. Mae’r rhan fwyaf yn dda am lawer o bethau. Nid oes yr un yn dda am bopeth. Yr her, felly, fydd parhau i sicrhau gwelliant mewn dyfodol a fydd yn heriol iawn yn wir. Mae awdurdodau lleol yn wynebu galw cynyddol am lawer o’u gwasanaethau, ac maent hwy a ninnau’n gwybod fod yr arian i ddiwallu’r anghenion hynny’n lleihau, ac yn ôl cynlluniau Llywodraeth ganolog ar hyn o bryd, fel y nododd Jenny Rathbone, bydd yn parhau i leihau ym mhob blwyddyn o’r tymor Cynulliad hwn.Nid oes neb rwyf wedi cyfarfod â hwy yn fy nghyfarfodydd gydag awdurdodau lleol hyd yn hyn yn dadlau y gellir cynnal y status quo. Mae natur y broblem wedi’i deall a’i rhannu’n eang; mae creu atebion iddi wedi bod yn llai hawdd. Ceisiodd y Llywodraeth ddiwethaf arwain, llunio agenda, gosod ffordd ymlaen a pherswadio eraill i ddilyn. Nid wyf yn credu y byddem wedi cael yr ymrwymiad cyson i newid pe na bai’r gwaith hwnnw wedi’i wneud. Nawr, nid oedd un agwedd ar yr ateb arfaethedig, y map, yn creu consensws. Mae llawer o agweddau eraill ar y Bil drafft a gyhoeddwyd gan fy rhagflaenydd wedi cael croeso eang, yn y Siambr hon a thu hwnt. Crybwyllodd Mike Hedges y pŵer cymhwysedd cyffredinol ar gyfer awdurdodau lleol, ond roedd y Bil hefyd yn cynnwys rhagor o eglurder ynghylch y berthynas rhwng arweinyddiaeth weithredol a gwleidyddol, cryfhau rôl arweinyddiaeth gymunedol cynghorwyr unigol, a mesurau i wella ymatebolrwydd cynghorau lleol, i ateb y materion a nododd Mohammad Asghar. Daeth y Llywydd i’r Gadair. Mark Drakeford AC: Mae’r rhain i gyd yn parhau i fod yn gynhwysion pwysig wrth sicrhau llywodraeth leol effeithiol ar gyfer y dyfodol. O ran y map, rwyf wedi bod yn glir yn fy nhrafodaethau gydag awdurdodau lleol ac eraill mai fy mwriad yw treulio’r wythnosau cynnar hyn yn siarad, gwrando a dysgu. Fy nod fydd ceisio consensws, os yw hynny’n bosibl o gwbl, ar y ffordd ymlaen. Byddwn yn awyddus iawn i’r consensws hwnnw gynnwys pleidiau gwleidyddol eraill yn y Cynulliad hwn lle y gellir dod o hyd i dir cyffredin. Roeddwn yn falch iawn o gyfarfod â’r Aelod dros Arfon yr wythnos diwethaf ac am drafodaeth gyntaf a chynnar ar y materion hyn. [Torri ar draws.] Iawn, wrth gwrs. Nick Ramsay AC: Diolch i chi am ildio, Ysgrifennydd. Rwy’n falch o glywed eich bod yn chwilio am gonsensws ar hyn. Nid dyna oedd ymagwedd eich rhagflaenydd bob amser. A fyddech yn cytuno bod cynghorau fel Sir Fynwy wedi cyflwyno syniadau diddorol o ran darparu awdurdod cyfunol lle na fyddai gennych y gost o ad-drefnu, ond byddech yn gwneud yn siŵr fod yr awdurdodau hynny’n gweithio gyda’i gilydd? Mark Drakeford AC: Lywydd, roeddwn yn falch iawn o gyfarfod ag arweinydd a phrif weithredwr Cyngor Sir Fynwy 10 diwrnod yn ôl. Roedd yn gyfarfod adeiladol iawn. Mae ganddynt gyfres o syniadau diddorol, ac maent wedi addo rhoi rhagor o wybodaeth i mi amdanynt. Roeddwn yn falch iawn o dderbyn eu gwahoddiad i ymweld â Mynwy eto i weld peth o’r gwaith ymarferol y maent yn ei wneud mewn perthynas â chanolfannau cymunedol. Rwy’n awyddus i gymryd syniadau ble bynnag y maent i’w cael ac i weld faint y gallwn wneud ohonynt. Yn fy nghyfarfod â’r Aelod dros Arfon, roedd yn ddiddorol iawn dysgu mwy am yr argymhellion a nodir ym maniffesto Plaid Cymru ynglŷn â’r dull rhanbarthol y mae wedi’i drafod yma y prynhawn yma, a’r materion ynghylch atebolrwydd sydd ymhlyg mewn unrhyw drefniant democrataidd. Yn yr un ysbryd, rwy’n edrych ymlaen at gyfarfod â Janet Finch-Saunders yn ystod yr wythnosau nesaf, ac roeddwn yn ddiolchgar am ei chynnig i gydweithredu lle y gellir dod o hyd i dir cyffredin, er enghraifft, wrth ystyried dyfodol cynghorau cymuned. Lle mae cyfraniad adeiladol i’w wneud, byddaf yn sicr yn awyddus i ymateb yn yr un ysbryd. [Torri ar draws.] Wrth gwrs. Andrew RT Davies AC: Diolch i chi am ildio, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydym yn dod i ddiwedd cyfraniad y Gweinidog. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech gadarnhau ar gyfer yr etholaeth y flwyddyn nesaf y bydd y mandad a roddir i aelodau etholedig yn fandad pum mlynedd lawn ac nad oes angen cwtogi’r mandad hwnnw yn eich barn chi—fel bod pobl yn gwybod dros bwy y maent yn pleidleisio pan fyddant yn gwneud hynny fis Mai nesaf. Mark Drakeford AC: Lywydd, rwy’n effro iawn i’r effaith gyrydol y mae ansicrwydd yn ei chreu i’r rheini sy’n gweithio mewn awdurdodau lleol a’r rhai sy’n sefyll etholiad. Byddaf yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig yfory. Roeddwn eisiau aros nes fy mod wedi clywed beth oedd pobl wedi’i ddweud heddiw cyn cwblhau’r datganiad hwnnw, ond rwy’n hapus i gadarnhau, i ateb cwestiwn Andrew Davies yn uniongyrchol, y bydd y datganiad ysgrifenedig yn dweud y bydd etholiadau’n cael eu cynnal ar gyfer cynghorau lleol yng Nghymru ym mis Mai y flwyddyn nesaf ac y gall y rhai a etholir ddisgwyl gwasanaethu am dymor llawn o bum mlynedd.Lywydd, mae yna fanylion yn y cynnig gerbron y Cynulliad y prynhawn yma y gallai’r Llywodraeth fod wedi’u geirio’n wahanol. Er enghraifft, ceir ffyrdd gwell o esbonio’r cyfraddau cyfranogiad isel sy’n peri pryder gwirioneddol mewn awdurdodau lleol na galw pleidleiswyr yn apathetig. Un o’r pethau rwy’n edrych ymlaen atynt fwyaf yn fy nghyfrifoldebau newydd fydd defnyddio’r pwerau y gobeithiwn y cânt eu datganoli i’r Cynulliad Cenedlaethol drwy Fil Cymru, er mwyn rhoi set wirioneddol radical o gynigion ger eich bron ar gyfer diwygio’r ffordd y caiff etholiadau eu cynnal yng Nghymru—gan symud o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg i’r unfed ganrif ar hugain ac ailfywiogi ymwneud democrataidd wrth i ni wneud hynny. Ond yn yr ysbryd ehangach o fod eisiau creu consensws, cymryd rhan mewn deialog, a dilyn llwybr sy’n gadarnhaol ac yn adeiladol, bydd ochr y Llywodraeth yn cefnogi’r cynnig hwn y prynhawn yma. Galwaf ar Mark Isherwood i ymateb i’r ddadl. Mark Isherwood AC: Diolch am eich cyfraniadau, bawb, ac rwy’n croesawu sylwadau terfynol y Gweinidog yn fawr iawn. Dechreuodd Janet Finch-Saunders drwy ein hatgoffa bod argymhellion comisiwn Williams i symud y broses o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn ei blaen wedi cael eu hanwybyddu i raddau helaeth, mai ychydig iawn o gynnydd a gafwyd ar integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol, fod ein cynghorwyr cymuned a’n swyddogion llywodraeth leol wedi’u sathru dan draed, fod y rhai a fabwysiadodd uno gwirfoddol yn gynnar wedi cael eu gwrthod, a gyda chanran isel yn pleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol a seddau cynghorau tref a chymuned yn cael eu hethol yn ddiwrthwynebiad, ei bod hi’n bryd ailymgysylltu â’r etholwyr, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac awdurdodau lleol er mwyn adfywio llywodraeth leol. Hefyd, nododd fethiant Llywodraeth Cymru i weithredu’r pwerau o dan Ddeddf Lleoliaeth 2011 y DU, a allai fod wedi grymuso cymunedau yng Nghymru fel y maent wedi’i wneud yn Lloegr a’r Alban.Cyflwynodd Sian Gwenllian yr achos dros bleidlais sengl drosglwyddadwy mewn etholiadau llywodraeth leol. Cawsom ein hatgoffa gan Andrew R.T. Davies nad yw llinellau ar y map yn golygu llawer i gymunedau ac mae’n rhaid i ni ymgysylltu yn hytrach na datgan beth fydd yn digwydd. Dywedodd Mike Hedges wrthym fod cyfleusterau chwaraeon yn dda i iechyd. Diolch am hynny, Mike. Wrth gwrs, mae’r archwilydd cyffredinol wedi argymell, yn ei adroddiad ar wasanaethau hamdden, y dylai cynghorau wneud pethau’n wahanol. Dywed na cheir maint delfrydol ar gyfer cynghorau ac nid yw mawr bob amser yn well. Mae’n drueni fod cyd-Aelodau yn Llywodraeth ddiwethaf Cymru wedi methu â chydnabod hynny. Soniodd Suzy Davies am yr angen i ddiwygio ymwneud â chydbwysedd rhwng y Llywodraeth, awdurdodau lleol a dinasyddion, gan gydnabod na all awdurdodau lleol wneud y cyfan, a photensial cydgynhyrchu. Dywedodd ‘Beth yn y byd a ddigwyddodd i bobl?’, a bod Llafur yn rhoi canoli’r wladwriaeth o flaen cydfuddiannaeth o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus fel yr opsiwn gorau ac y byddai gan Robert Owen gywilydd. Soniodd Mohammad Asghar am yr angen i symud grym i’r bobl, gan roi hawl i gymunedau herio a darparu gwasanaethau o safon uchel ac o werth da am arian. Siaradodd Gareth Bennett am yr angen i beidio â mynd ati’n systematig i symud gwasanaethau oddi wrth y bobl y maent i fod i’w gwasanaethu a’r angen i gefnogi ad-drefnu o’r gwaelod i fyny. Soniodd Jenny Rathbone am yr angen i ddiwygio’n sylfaenol y modd y darparwn wasanaethau yng Nghymru a’r angen i hynny gael ei gyflawni yn awr; Rhianon Passmore, yr angen am agwedd gydgynhyrchiol; ac Ysgrifennydd y Cabinet, yr angen i ddathlu llwyddiant llywodraeth leol—wrth gwrs fod rhaid i ni—ond bod heriau gwirioneddol yn parhau, a’i fwriad i dreulio ei wythnosau cynnar yn ei rôl newydd yn siarad, gwrando, dysgu a chwilio am gonsensws.Ar gam olaf sesiynau tystiolaeth Bil Llywodraeth Leol (Cymru) drafft y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol blaenorol, dywedodd arweinydd Gwynedd wrthym—un o’r bobl sy’n cynrychioli Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru—yn gwbl gywir, mai’r cwestiynau i’w gofyn yw’r rhain: beth rydym eisiau ei gyflawni drwy wasanaethau cyhoeddus; beth rydym eisiau ei gyflawni drwy ein hawdurdodau lleol; ac yna, pa strwythur sydd ei angen? Ceir tuedd i’r ceffyl a’r cert fod yn y drefn anghywir yn y drafodaeth hon. Fel roedd adroddiad comisiwn Williams y cyfeiriwyd ato ar lywodraethu a darparu gwasanaethau cyhoeddus yn ei ddweud: ‘yr unig ffordd hyfyw o ddiwallu anghenion a bodloni dyheadau pobl yw drwy symud y pwyslais o ran gwasanaethau cyhoeddus tuag at gydgynhyrchu ac atal.’ Fel y dywedodd rhwydwaith cydgynhyrchu Cymru sydd newydd ei sefydlu, sy’n rhaid i Lywodraeth Cymru ymgysylltu ag ef: mae hyn yn ymwneud â thrawsnewid gwasanaethau cyhoeddus yn llwyr, gan eu darparu mewn perthynas gyfartal a dwyochrog rhwng gweithwyr proffesiynol, pobl sy’n defnyddio gwasanaethau, eu teuluoedd a’u cymdogion, gan alluogi gwasanaethau a chymdogaethau i ddod yn gyfryngau llawer mwy effeithiol ar gyfer newid. Wedi’r cyfan, fel yr awgrymodd Marcel Proust, mae taith darganfyddiad go iawn yn galw nid yn unig am chwilio am dirweddau newydd, ond am gael llygaid newydd hefyd.Gadewch i ni obeithio y bydd gan Lywodraeth Cymru a’r holl bleidiau lygaid newydd ar y mater hwn. Diolch. Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw wrthwynebiad? Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. 7. 7. Dadl UKIP Cymru: Yr Undeb Ewropeaidd Yr eitem nesaf, felly, yw’r ddadl yn enw UKIP—y ddadl ar yr Undeb Ewropeaidd. Cyn imi ddechrau’r ddadl hon, hoffwn atgoffa’r Aelodau am yr hyn a ddywedais yr wythnos diwethaf ynglŷn ag ymddygiad yn y Siambr ar y ddadl ar yr Undeb Ewropeaidd yr wythnos diwethaf. Rwyf yn mawr obeithio y cawn ddadl mewn cystal ysbryd yr wythnos hon ag y cawson ni yr wythnos ddiwethaf. Rwy’n galw ar Neil Hamilton i wneud y cynnig. Cynnig NDM6030 Neil HamiltonCynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:Yn credu y byddai Cymru’n gryfach, yn ddiogelach ac yn fwy llewyrchus pe byddai’n gadael yr Undeb Ewropeaidd. Cynigiwyd y cynnig. Neil Hamilton AC: Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Rwy’n meddwl, i ddechrau, y byddai’n deg cydnabod na fyddai’r refferendwm hwn yn digwydd o gwbl oni bai am fy mhlaid, ac ni fyddai fy mhlaid yn bodoli oni bai am yr ymchwydd o deimlad yn erbyn yr Undeb Ewropeaidd, sydd wedi bodoli ers peth amser. Pan ymunasom â’r Gymuned Ewropeaidd, fel roedd bryd hynny, yn 1973, byddai unrhyw un yn meddwl, o’r hyn rydym wedi’i glywed yn ystod yr ymgyrch hon, fod Prydain yn wlad ymynysol. Yn wir, roeddem eisoes yn aelod o sefydliad rhyngwladol—Cymdeithas Masnach Rydd Ewrop. Y ffordd y cafodd y Gymuned Economaidd Ewropeaidd ei gwerthu i bobl Prydain yr holl flynyddoedd hynny’n ôl oedd fel rhyw fath o estyniad o’r ardal masnach rydd. Ond wrth gwrs, fel y gwyddom bellach, ac fel y byddai unrhyw un a oedd wedi gwneud unrhyw ymchwil ar yr hyn rydym yn awr yn ei alw’n Undeb Ewropeaidd wedi gwybod bryd hynny, yr hyn ydoedd o’r cychwyn oedd prosiect gwleidyddol i greu rhyw fath o unol daleithiau Ewrop. Nid oedd pobl Prydain erioed eisiau undeb gwleidyddol. Yn wir, gwnaeth Edward Heath, y Prif Weinidog yn 1973, yr honiad rhyfeddol nad oedd yn galw am ildio unrhyw sofraniaeth hanfodol. Wel, mae’r UE yn ateb o’r 1940au i broblem o’r 1930au. Wrth gwrs, nid oes neb eisiau rhyfel eto yn Ewrop, ond ni chredaf y gall neb, yn gredadwy, hybu’r rhagdybiaeth y byddai Almaen sy’n cryfhau â bwriadau tiriogaethol mewn perthynas â’i chymdogion. Felly, mae’r broblem y crëwyd yr UE i’w datrys yn gwbl amherthnasol yn yr unfed ganrif ar hugain.Pan ymunasom yr holl flynyddoedd hynny’n ôl, nid oedd neb yn disgwyl y byddai gennym, ar y dyddiad hwn, 28 o wledydd yn yr UE, gydag 19 ohonynt ag arian sengl. Ni fyddai neb wedi credu y byddai 500 miliwn o bobl â hawl awtomatig yn awr i ddod i’r wlad hon i fyw ac i weithio. Ac nid wyf yn credu y byddai neb wedi credu ychwaith y byddai’r UE yn gallu dweud wrthym pa fath o sugnwyr llwch y caem eu prynu yn y wlad hon, nac ychwaith y byddai’n rhaid i Brif Weinidog y wlad hon dreulio dyddiau lawer wedi’i gloi mewn ystafelloedd tywyll yn gofyn am ganiatâd yr UE i newid y rheolau ar bwy sydd â hawl i fudd-daliadau lles Prydain. Felly, mae’r Undeb Ewropeaidd rydym ynddo yn awr yn wahanol iawn i’r un y disgwyliai pobl Prydain berthyn iddo o ganlyniad i ymuno yr holl flynyddoedd hynny’n ôl. Wrth gwrs, yn y 1970au, roedd y Deyrnas Unedig yn anobeithiol yn economaidd, ac roedd Ewrop wedi gwneud lawer yn well yn economaidd yn y cyfnod ar ôl y rhyfel. Yn awr, mae’r gwrthwyneb yn wir. Yr UE sy’n anobeithiol yn economaidd ac mae Prydain ar gynnydd, i raddau o leiaf. Ers dechrau’r ganrif hon, ni chafwyd y nesaf peth i ddim twf economaidd yn yr Undeb Ewropeaidd. Yn yr oddeutu 30 mlynedd ers 1980, mae cyfran yr UE o fasnach y byd wedi plymio. Roedd yn 30 y cant yn 1980. Mae bellach yn 15 y cant ac yn gostwng yn gyflym. Mae diweithdra ledled Ewrop yn gywilyddus: diweithdra o 49 y cant ymysg pobl ifanc Gwlad Groeg, 45 y cant yn Sbaen, 39 y cant yn yr Eidal, 30 y cant ym Mhortiwgal a 25 y cant yn Ffrainc oherwydd ardal yr ewro. Mae hyn yn rhan o’r prosiect gwleidyddol iwtopaidd a ddechreuwyd yr holl flynyddoedd hynny’n ôl, ac er gwaethaf y dinistr a achosodd i wledydd sydd wedi dod yn llai ac yn llai cystadleuol gyda’r Almaen yn y bôn, maent yn dal i wthio yn eu blaenau beth bynnag y gost mewn dioddefaint dynol. Erbyn hyn mae gan yr Almaen warged masnach endemig yn yr UE, ac mae gan yr holl wledydd eraill hynny ddiffyg masnach endemig. Gwaethygu’n unig y gall y broblem ei wneud, nid gwella.Nawr, yr hyn y mae’r refferendwm hwn yn ymwneud ag ef yw democratiaeth, nid cenedlaetholdeb. A’r broblem yw nad yw’r UE yn ymateb i farn boblogaidd. Mae gennym un comisiynydd Ewropeaidd; rwy’n meddwl mai nifer fach iawn o bobl mewn gwirionedd a fyddai’n gallu ei enwi pe baech yn gofyn i bobl ar y stryd. Mae gennym 8 y cant o’r pleidleisiau yng Nghyngor y Gweinidogion, ac rydym yn ethol 73 o 751 Aelod o Senedd Ewrop. Nid oes unrhyw ddemos Ewropeaidd; felly, ni all Ewrop byth fod yn ddemocratiaeth. Yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf, gwelsom brosiect ofn yn rhemp yn y wlad. Mae’r ansicrwydd o wneud y penderfyniad yfory i adael yr UE wedi bod yn y penawdau. Ychydig iawn o bobl sydd wedi siarad am y posibilrwydd na fydd yna bleidlais yfory dros y status quo. Beth bynnag fydd yn digwydd yfory, fe fydd yna newid, ac ni allwn ragweld beth fydd y newid yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae adroddiad y pum llywydd, a gyhoeddwyd heb fod mor bell yn ôl—ychydig fisoedd yn ôl—yn rhagweld eu bod yn mynd i symud tuag at integreiddio a chanoli pellach, ar gyfer yr 19 o wledydd yn ardal yr ewro fan lleiaf. Ni allwn fod yn ddiogel rhag canlyniadau hynny oherwydd byddwn yn un o’r 9 gwlad o 28 a fydd ar y tu allan i’r grym canolog hwnnw. Ac mae’r syniad y caiff Prydain ei heithrio rhag y grymoedd hynny’n nonsens wrth gwrs. Dywedir wrthym y byddwn yn neidio i’r tywyllwch drwy bleidleisio dros annibyniaeth genedlaethol yfory. Mae’n rhyfedd meddwl am hanes y sylw hwnnw, oherwydd, wrth gwrs, dyna a ddywedodd yr Arglwydd Derby am Fil diwygio Disraeli, a roddodd bleidlais i’r dosbarthiadau gweithiol diwydiannol. Dyna oedd y naid yn y tywyllwch bryd hynny. Ac wrth gwrs, byddai’n naid i’r tywyllwch mewn un ystyr yfory os byddwn yn adfer democratiaeth i’r wlad hon am yr un rheswm yn union. Ac am yr un rheswm yn union ag roedd Deddf diwygio 1867 yn llwyddiant, bydd gadael yr UE yn llwyddiant i Brydain yfory. Y senario waethaf yw y byddai gennym, drwy adael y farchnad sengl, rwystr o 3 i 4 y cant o dariffau i’w goresgyn. Y canlyniad ar y llaw arall yw y byddai—. Eluned Morgan AC: Mae’n ddrwg gennyf, a gaf fi ymyrryd? Os ydych yn siarad am gydrannau ceir—ac mae llawer o gydrannau ceir yn cael eu gwneud yng Nghymru—mae’r ffigur hwnnw mewn gwirionedd yn 9.8 y cant, sef bron 10 y cant. Byddai hynny’n gwneud llawer o ffatrïoedd cydrannau ceir yng Nghymru yn anghystadleuol, a fyddai’n golygu bod swyddi’n cael eu colli ac mae hynny’n golygu y byddai yna lai o dreth, llai o arian i dalu am ein GIG a llai o arian i dalu am ein gwasanaethau yng Nghymru. Rwy’n credu ei fod yn annerbyniol. Neil Hamilton AC: Rwy’n hollol ffyddiog na cheir unrhyw dariffau ar gydrannau ceir modur oherwydd—.[Torri ar draws.] Wel, gadewch i mi roi’r ffeithiau i chi’n syml. Rydym yn mewnforio 820,000 o gerbydau y flwyddyn o’r Almaen ac mae gennym ddiffyg yn y fasnach ceir modur gyda’r Almaen sy’n £10 biliwn y flwyddyn i gyd. Nid wyf yn credu y bydd y Canghellor Merkel, wrth iddi wynebu etholiad yn yr Almaen y flwyddyn nesaf, yn hyrwyddo achos rhyfel masnach gyda Phrydain fel y ffordd orau i’w phlaid ennill. [Torri ar draws.] Mae Matthias Wissmann, llywydd cymdeithas ddiwydiant modurol yr Almaen yn dweud bod cadw Prydain yn yr UE yn fwy arwyddocaol na chadw Gwlad Groeg yn yr ewro.Mae ganddynt ddiddordeb mewn gwerthu ceir Almaenig i ni lawn cymaint ag y mae gennym ni ddiddordeb mewn gwerthu ceir Prydeinig iddynt hwy. Mae allforion peirianneg Almaenig i Brydain yn £7 biliwn y flwyddyn. Mae allforion ceir yn £18 biliwn y flwyddyn. Felly, nid wyf yn credu y ceir rhyfel masnach rhwng Prydain a’r Almaen. Fe ildiaf. Huw Irranca-Davies AC: Diolch i’r gŵr bonheddig am ildio, ond a gaf fi ofyn iddo: beth y mae’n ei wybod nad yw rheolwr gyfarwyddwr Ford Europe a chyfarwyddwr fy ffatri leol yn ei wybod, a hwythau wedi ysgrifennu at eu gweithwyr i dynnu sylw at yr union risgiau y mae’n dweud eu bod nid yn unig ddibwys, ond nad ydynt yn bodoli hyd yn oed? Beth y mae’n ei wybod nad yw Toyota ym Mhrydain yn ei wybod? Beth y mae’n ei wybod nad yw Rolls-Royce yn ei wybod? Simon Thomas AC: Beth y mae’r arbenigwyr yn ei wybod? Neil Hamilton AC: Ydym, rydym yn hoffi arbenigwyr. Mae’r dyfodol yn ei hanfod yn anrhagweladwy—fe wn i hynny—ond mae synnwyr cyffredin yn dweud wrthym na fydd yr Almaen eisiau rhyfel masnach gyda Phrydain pan fyddai’n eu brifo hwy’n llawer mwy nag y mae’n ein brifo ni [Torri ar draws.] Y Trysorlys—. Mae yna derfyn ar faint o weithiau y gallaf ildio.Roedd rhagolwg Armagedon y Trysorlys ychydig wythnosau’n ôl yn unig yn rhagweld y gwaethaf y gallai George Osborne ei daflu atom, ac er eu bod yn honni y gallant ragweld sut gyflwr fyddai ar yr economi yn 2030, byddai’n braf pe gallent ragweld cyflwr yr economi yr wythnos nesaf. Nid yw erioed wedi cyflawni un o’i ragolygon ar gyfer twf economaidd neu ddiffyg y Llywodraeth yn yr oddeutu pum mlynedd y bu’n Ganghellor. Ond mae wedi honni ei fod yn gwybod, fel arbenigwr, beth sy’n mynd i ddigwydd yn y flwyddyn 2030, a’r hyn y mae’r adroddiad hwnnw’n ei ddweud yw, os ydym yn yr UE, gallwn ddisgwyl cael 37 y cant o dwf mewn incwm gwario yn yr oddeutu 15 mlynedd nesaf. Y tu allan i’r UE, byddai’n dwf o 29 y cant mewn incwm. Felly, ni fydd yna gwymp yn yr economi. Hyd yn oed yn ôl senario waethaf rhagolwg y Trysorlys, byddai’n dwf o 29 y cant yn hytrach na 37 y cant. Ond nid wyf yn rhoi unrhyw sylw i’r amcanddyfaliadau hyn o gwbl, gan mai rwtsh i mewn a rwtsh allan ydyw gyda’r cyfrifiadur. Mae’r cyfan yn dibynnu ar y rhagdybiaethau a ddefnyddiwch. Felly, naw wfft i ragolwg David Cameron y byddai hyn yn dinistrio’r economi. Mewn gwirionedd, yr hyn y mae wedi’i wneud, wrth gwrs, yw dinistrio’r gwir. Ac fel y disgrifiodd ei hun chwe blynedd yn ôl, fel etifedd i Blair, rwy’n meddwl, allan o enau plant bychain a’r rhai’n sugno. Yr hyn y bydd pleidleisio i adael yr UE yfory yn ei wneud yw ein galluogi i adfer rheolaeth ar rai o’r penderfyniadau polisi pwysicaf sy’n effeithio ar y wlad hon, ac yn arbennig, wrth gwrs, rheolaeth ar ein ffiniau, oherwydd bod mewnfudo direolaeth, sy’n ychwanegu dinas o faint Caerdydd at boblogaeth y DU bob blwyddyn o gynnydd yn y boblogaeth yn unig, wedi gwasgu’n fawr ar gyflogau nes bod yr isafswm cyflog i filiynau o bobl bellach yn uchafswm cyflog. Ar gyfer cynnydd o 10 y cant mewn mewnfudo, mae ymchwil Banc Lloegr ei hun wedi dangos bod gostyngiad o 2 y cant yng nghyflogau pobl lled-grefftus a heb sgiliau. Mae prisiau ynni wedi cael eu gwthio i fyny gan gynlluniau ynni gwyrdd gwallgof yr UE ac ardollau ynni gwyrdd. Yn ôl pob tebyg gallem haneru costau ynni Tata ym Mhort Talbot pe bai gennym reolaeth dros ein prisiau ynni ein hunain. Gallem gymryd rheolaeth ar ein polisi masnach ein hunain eto. Fel yr Unol Daleithiau, gallem osod ardoll o 522 y cant ar fewnforion dur wedi’i rolio’n oer o Tsieina, sy’n cael ei allforio’n is na chost ar farchnadoedd y byd, yn hytrach na’r 24 y cant y mae’r UE wedi’i argymell— David Rees AC: A wnewch chi dderbyn ymyriad ar ddur? Neil Hamilton AC: Rwy’n ofni na allaf dderbyn ymyriad. David Rees AC: Ar ddur. Nid yw’n derbyn ymyriad. Ewch ymlaen. Neil Hamilton AC: Unwaith eto, byddem y tu allan i holl reolau cymorth gwladwriaethol yr Undeb Ewropeaidd, sy’n ein rhwystro rhag rhoi cymorth i ddiwydiannau megis y diwydiant dur ym Mhort Talbot. Byddem yn gallu rheoli ein trethi anuniongyrchol. Ni allodd y Llywodraeth Lafur dddiddymu’r TAW ar danwydd gwresogi domestig yn 1997, felly mae gennym bellach dâl o 5 y cant ar filiau gwresogi pawb, ac mae hynny oherwydd nad yw’r UE yn caniatáu i ni gael rheolaeth ar ein TAW ein hunain. Yr un modd ar damponau, sydd hefyd wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar, unwaith eto, ond yw? Felly, mae yna gymaint o wahanol ffyrdd y gall angenrheidiau bywyd fod wedi’u trethu ac nid oes gennym unrhyw ffordd o wneud penderfyniad i gael gwared arnynt.O ran y prosiect ofn, nid oes gennym ddim i’w ofni ond ofn ei hun, gan fod hwn yn gyfle i Brydain ac yn gyfle i Gymru am y tro cyntaf ers 40 mlynedd, unwaith eto, i gymryd yr awennau yn ein gwlad ein hunain. Mae prosiect ofn wedi canolbwyntio yn y Siambr hon ar gronfeydd strwythurol i’r Cymoedd a gorllewin Cymru yn benodol; clywsom hynny eto y prynhawn yma yn ystod y cwestiynau. Wel, dros y chwe blynedd diwethaf, roedd hynny’n cyfateb i oddeutu £3.5 biliwn. Dyna £600 miliwn y flwyddyn ar gyfartaledd. Byddai’r cynnydd net a fyddai’n dod i Drysorlys Prydain o ganlyniad i adael yr UE yn £10 biliwn—byddai hynny ynddo’i hun yn dair gwaith y gyllideb honno. Gallem wneud popeth a wneir ar hyn o bryd gan yr UE, a llawer mwy, ond i ni adfer ein hannibyniaeth genedlaethol. Ac nid yw £3.5 biliwn mewn chwe blynedd ond yn ddiferyn yn y môr o gymharu â’r diffyg blynyddol o £75 biliwn o dwll sydd gan George Osborne yn y cyfrifon cyhoeddus.Yn yr un modd, ar hawliau gweithwyr, byddech yn meddwl na fu erioed unrhyw hawliau gweithwyr gennym yn y wlad hon cyn i ni ymuno â’r Undeb Ewropeaidd, ac eto cyflwynwyd y Ddeddf Cyflog Cyfartal yn 1970, Deddf Diogelu Cyflogaeth yn 1975 a’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw yn 1975 hefyd. Felly, yr hyn y mae’r pleidiau eraill yn y Siambr hon sydd yn erbyn gweld Prydain yn adennill ei hannibyniaeth yn dioddef ohono yw tlodi uchelgais. Yr hyn rydym yn ymladd drosto yma yw democratiaeth yn y wlad hon. Mewn gwirionedd, gan fod y Blaid Lafur wedi canolbwyntio ar fater hawliau gweithwyr, rhaid eu bod yn awgrymu na fydd yna byth Lywodraeth Lafur ym Mhrydain eto, a gyda Jeremy Corbyn yn arweinydd, pwy all eu beio am feddwl hynny? Ond y broblem y maent yn methu â’i nodi yw mai pobl Prydain, yn y pen draw, sy’n gwneud y penderfyniadau hyn, ac os bydd Llywodraeth yn gwneud penderfyniadau nad ydynt yn eu cymeradwyo, mewn democratiaeth, gallwch gael gwared arnynt. Yn yr UE, ni allwch wneud hynny. Os nad ydych yn hoffi penderfyniadau’r Comisiwn Ewropeaidd, nid oes y nesaf peth i ddim y gallwch ei wneud i’w goresgyn. Felly, mae’n ddiffyg pathetig o hunanhyder ac ymddiriedaeth ym marn y bobl.Ac am Blaid Cymru, mae’n ffurf hynod o ryfedd ar genedlaetholdeb i fod eisiau anfon pŵer nid i lawr ymhellach at y bobl, ond ymhellach i fyny ac i ffwrdd oddi wrthynt. Byddai’n well ganddynt gael eu llywodraethu o Frwsel nag o San Steffan, sy’n rhyfeddol a braidd yn—[Torri ar draws.] Sy’n syniad braidd yn eithriadol i blaid genedlaetholgar, oherwydd pe baem yn gadael yr UE, gallem ddatganoli’r polisïau y maent yn gyfrifol amdanynt o Frwsel i lawr yma i Gaerdydd. Roeddem yn arfer gweld graffiti wedi’i beintio ledled Cymru pan oeddwn yn fachgen—’Rhyddid i Gymru’—ac nid yw eu plaid, wrth gwrs, yn credu mewn rhyddid i Gymru, am eu bod yn credu na ddylem fod yn ddim mwy na rhanbarth o’r Undeb Ewropeaidd.Yn y bôn, yr hyn y mae’r Blaid Lafur a Phlaid Cymru yn credu yw nad yw bobl y wlad hon yn gallu gwneud y gwaith o redeg ein gwlad ein hunain drosom ein hunain, ac yfory, bydd pobl y wlad hon yn cael cyfle i bleidleisio’n bendant dros adfer ein rhyddid unwaith eto. Lee Waters AC: Hoffwn geisio mynd i’r afael â dwy o brif ddadleuon y rhai hynny sydd eisiau i ni gerdded i ffwrdd oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd. Nawr, pa bryd bynnag y pwysleisir manteision aelodaeth, mae’r bobl sydd am droi eu cefnau ar ein partneriaid Ewropeaidd yn dweud dro ar ôl tro, ‘Nid arian yr UE yw hwn, ond ein harian ein hunain rydym yn ei gael yn ôl’, ac rydym wedi’i glywed eto y prynhawn yma. Wrth gwrs, mae’r DU yn gwneud cyfraniad i’r UE; ac fe ddylem. Y rhai ohonom sy’n credu yn yr UE, rydym yn credu mewn undod. Rydym yn credu y dylai’r rhan wannaf o Ewrop gael ei helpu gan y rhannau cryfaf, ac mae Cymru’n elwa o hynny. Wrth gwrs, mae gan bob clwb ffi aelodaeth, ac yn gyfnewid am hynny, rydym yn cael manteision, nid yn lleiaf y mynediad heb dariff i’r farchnad sengl. Os byddwn yn tynnu’n ôl o Ewrop, byddwn yn dal i wynebu costau. Byddai’n dal yn rhaid i ni dalu am fynediad i’r farchnad hon, a hynny heb unrhyw allu i ddylanwadu ar ei rheolau.Ond mae’r swm o arian rydym yn ei drosglwyddo i Frwsel, i ddefnyddio’r termau difrïol rydym wedi ymgyfarwyddo â hwy ar ôl 30 mlynedd o bropaganda tabloid a gwrth-Ewropeaidd, ac mae wedi naddu ymaith—mae’r swm o arian yn gymharol fach. Dywed y Trysorlys ein bod yn gwneud cyfraniad net o £8.4 biliwn y flwyddyn, sy’n llai nag 1 y cant o holl wariant y Llywodraeth. Felly, gadewch i ni edrych ar hyn yn rhesymol. Dyna faint ein cyfraniad. Dyna faint y swm o arian rydym yn ei drosglwyddo i Frwsel: 1 y cant o holl wariant Llywodraeth y DU, digon i ariannu’r GIG ar draws y DU am 19 diwrnod y flwyddyn.Nawr, rwy’n meddwl ein bod wedi cael ymgyrch refferendwm gyfan gwbl anonest ac annymunol, ac yn goron arni cafwyd y lluniau ‘chwiban y ci’ gwarthus a ffiaidd o Nigel Farage yn sefyll o flaen posteri o ffoaduriaid, gan apelio at yr elfennau mwyaf gwael o anobaith pobl a achoswyd gan wleidyddiaeth caledi. Rwy’n credu y dylai UKIP fod â chywilydd llwyr ohonynt eu hunain am y lefel isel o wleidyddiaeth y maent wedi’i gyflwyno i’r ymgyrch hon. David J Rowlands AC: Drwy wrando ar y bobl ar garreg y drws? Diolch. Lee Waters AC: Wel, mae gan y bobl ar garreg y drws, David Rowlands, gwynion dilys—cwynion dilys—ac nid yw gwleidyddiaeth y gwter a gafwyd gennych chi yn gwneud dim i ddod ag atebion i broblemau pob dydd—[Torri ar draws.] Os ydych am ymyrryd, codwch ar eich traed, ond nid yw brygawthan fel pysgodyn aur yn gwneud unrhyw les i neb. Mae pobl ar garreg y drws yn wirioneddol ofnus, ac rydych yn chwarae gyda’r elfennau gwaethaf a mwyaf gwael, a dim o’r— David J Rowlands AC: Parchwch y bobl ar garreg y drws, os gwelwch yn dda. Lee Waters AC: Wel, nid oedd hynny’n werth aros amdano mewn gwirionedd, oedd e? [Chwerthin.] Rwy’n gwrando ar y bobl ar garreg y drws. Rwy’n cael trafodaethau hir a phoenus gyda phobl ar garreg y drws yn egluro wrthynt fod y problemau a wynebwn—ac mewn etholaethau fel Llanelli, rydym yn wynebu llwyth ohonynt—sy’n ymwneud ag ardaloedd wedi’u gadael ar ôl oherwydd y model economaidd sydd gennym yn y wlad hon, ac nid oes dim o hynny’n mynd i gael ei helpu drwy dynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd. Mae Neil Hamilton wedi siarad am weithgynhyrchu ceir y prynhawn yma. Yn Llanelli mae gennym ffatri gweithgynhyrchu ceir lwyddiannus, sy’n eiddo i gwmni tramor. Mae gennym chwaer ffatri mewn rhan arall o’r UE. Os ydym yn gadael, a ydym o ddifrif yn dweud bod y penderfyniadau yn y tymor canolig a’r tymor hir ynglŷn â buddsoddi cyfalaf sydd i’w gwneud gan bencadlys y gwaith hwnnw yn mynd i ffafrio ffatri y tu allan i’r bloc masnachu gyda thariffau neu y tu mewn i’r bloc masnachu heb dariffau? Nid yw pobl yn derbyn hynny. Rydych yn defnyddio gwleidyddiaeth anonest. Felly, gadewch i ni fod yn glir fod y— Mark Reckless AC: A wnaiff yr Aelod ildio? Lee Waters AC: Gwnaf, yn wir. Mark Reckless AC: Os mai’r cwmni y mae’n siarad â hwy yw Ford, onid yw’n ymwybodol fod gan Ford ffatri yn y wlad hon—yn y DU o leiaf, yn Southampton—a aeth yn lle hynny, a gaeodd yn Southampton, a symud i Dwrci, a thalwyd amdani ag arian yr Undeb Ewropeaidd, a dalwyd gan ein trethdalwyr ein hunain? Lee Waters AC: Rwy’n sylweddoli ei fod yn newydd i’r rhannau hyn, ond nid oes gan Ford ffatri yn Llanelli, ac mae’r grymoedd rydych yn eu disgrifio yn rymoedd byd-eang—grymoedd byd-eang rydym wedi’n harfogi’n well i ymdrin â hwy drwy fod yn rhan o floc masnachu cryf.Felly, nid yw addewidion annidwyll yr ymgyrch i adael ynglŷn â’r hyn y byddent yn ei wneud gyda mynydd tybiedig o arian yn werth y papur y cawsant eu hysgrifennu arno.Felly, daw hynny â mi at yr ail o’r dadleuon a glywsom yma gan yr asgell dde, ac nid y ffaith fod yr UE wedi sicrhau heddwch yn Ewrop dros y 70 mlynedd diwethaf, ond ein haelodaeth o NATO. Ac wrth gwrs, mae’r addewid o amddiffyniad milwrol Americanaidd wedi bod yn allweddol yn ystod y rhyfel oer, ond mae heddwch yn ymwneud â mwy nag absenoldeb rhyfel. Adeiladwyd tair cenhedlaeth o heddwch ar haenau o hyder a dealltwriaeth rhwng pobloedd ac yn hollbwysig—yn hollbwysig—ar y sefydliadau i ddatrys gwahaniaethau. Ar fy ngwyliau darllenais drwy lyfr hanes grymus Christopher Clark am y cyfnod yn arwain at y rhyfel byd cyntaf, ‘The Sleepwalkers’. Mae’n nodi mai un o’r rhesymau pam nad arweiniodd cythrwfl economaidd yr argyfwng yn ardal yr ewro at ymladd, er bod digwyddiadau 1914 wedi gwneud hynny, oedd bodolaeth sefydliadau goruwchgenedlaethol pwerus. Trwy fod yn rhan o’r UE, rwy’n falch ein bod wedi chwarae rhan mewn cynghrair sydd wedi dwyn sefydlogrwydd a ffyniant i gyfandir sydd â hanes o ansefydlogrwydd. Nid damwain mo hynny. Canlyniad integreiddio amyneddgar a phoenus ydyw: economaidd, democrataidd ac ie, biwrocrataidd. Ond rhowch gyfarwyddebau i mi yn lle demagogiaeth unrhyw ddiwrnod. Caroline Jones AC: Croesawaf y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon. Yfory bydd cyfle i bob dinesydd dros 18 oed o bob rhan o’r DU benderfynu a ydym yn parhau i fod yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd neu a ydym yn dod yn annibynnol unwaith eto. Democratiaeth yw hyn. Gall pobl benderfynu a gallant ddewis drostynt eu hunain. Ni fydd yn fawr o syndod i neb fy mod yn credu bod Cymru yn well ei byd allan o’r UE. Bydd fy nghyd-Aelodau yn cyflwyno’r dadleuon economaidd, y dadleuon ynglŷn â diogelwch a’r dadleuon gwleidyddol pam y byddai Cymru ar ei hennill y tu allan i’r UE.Rwyf am ganolbwyntio fy sylwadau heddiw ar y dadleuon iechyd dros adael. O dan y gyfraith Ewropeaidd, mae Llywodraethau a dinasyddion o wledydd eraill Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ad-dalu’r DU am y gost o ddarparu triniaeth GIG i bobl y maent yn gyfrifol amdanynt, yn union fel y mae’r DU yn ad-dalu gwledydd eraill yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir am y gost o ddarparu triniaeth i bobl rydym yn gyfrifol amdanynt. Fodd bynnag, mae ffigurau a gafwyd gan yr AS Llafur, John Mann, yn dangos diffyg enfawr i’r DU. Talodd y DU y swm anhygoel o £674 miliwn i wledydd Ewrop am eu costau iechyd y llynedd, ond £49 miliwn yn unig a gawsom yn ôl. Rydym yn rhoi cymhorthdal ​​tuag at ofal iechyd gwledydd eraill yr UE. [Torri ar draws.] Mae’n wir. Huw Irranca-Davies AC: A wnewch chi ildio ar yr union bwynt hwnnw? Caroline Jones AC: Na, Huw, am fy mod i’n ceisio mynd drwy rywbeth. A yw hynny’n iawn?Fodd bynnag, a yw’n iawn fod pobl y tu allan i’r Deyrnas Unedig nad ydynt yn talu treth ac yswiriant gwladol yn cael parhau i fanteisio ar ein gwasanaeth gofal iechyd rhad ac am ddim, neu a ddylem fynnu y dylai’r rhai sy’n byw y tu allan i’r DU gael yswiriant iechyd? A’r bygythiad mwyaf i’n GIG yw cyfarwyddebau’r UE. Yn 2011 cyflwynodd yr UE gyfarwyddeb gofal iechyd y rhybuddiodd ASau Llafur y gallai arwain at dranc y gwasanaeth iechyd gwladol a ariennir yn gyhoeddus. Mae trafodaethau’n parhau ar bartneriaeth fasnach a buddsoddi arfaethedig yr UE neu’r cytundeb TTIP arfaethedig gydag UDA, a allai effeithio’n ddifrifol ar y GIG ac arwain at breifateiddio ein gwasanaeth iechyd gwladol. David Rees a gododd— Caroline Jones AC: Yn ddiweddar rhybuddiodd ‘The British Medical Journal’ mai’r risg i’r GIG fyddai na allai byth fforddio dod â gwasanaeth yn ôl yn fewnol ar ôl ei roi allan ar gontract ac mae uwch-gwnsleriaid y frenhines wedi rhybuddio bod TTIP yn creu risg real a difrifol i benderfyniadau Llywodraeth y DU yn y dyfodol mewn perthynas â’r GIG. Os ydym yn parhau i fod yn yr UE, golyga hyn y bydd cadw’r GIG mewn dwylo cyhoeddus yn fwyfwy anodd. Ac mae gwleidyddion Llafur ar bob lefel a’r undebau llafur i gyd wedi ymosod ar TTIP, ac eto mae’r un gwleidyddion yn dadlau y dylem aros yn rhan o’r UE. Nid yw’r UE yn gallu diwygio. Yn wyneb y posibilrwydd o adael yr UE, ni allent hyd yn oed gytuno ar y newidiadau pitw y ceisiodd ein Prif Weinidog llywaeth eu hennill. Mae’r UE o dan ddylanwad y corfforaethau mawr ac arian mawr. Mae hyn yn amlwg o’r trafodaethau TTIP a chyflwyno llawer o ddeddfau sy’n tanseilio’r GIG. Mae swyddogion yr UE wedi gosod cyfyngiadau drud a helaeth ar ddatblygu cyffuriau canser, gyda’r gyfarwyddeb treialon clinigol yn creu problemau difrifol, ac yn oedi’r gwaith o gynnal profion ar gyffuriau sy’n achub bywyd. Bydd y llys Ewropeaidd yn gwneud defnydd cynyddol o’r siarter hawliau sylfaenol i reoli mwy ar iechyd y cyhoedd os byddwn yn pleidleisio dros aros. Mae parhau i fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd yn berygl clir a real i fodolaeth ein GIG. Rwy’n dweud: peidiwch â gadael i Frwsel gymryd rheolaeth ar ein GIG, peidiwch â chaniatáu iddynt fygwth diogelwch cleifion, ond yn anad dim, peidiwch â chaniatáu iddynt ddarostwng ein GIG i drachwant corfforaethau mawr yr Unol Daleithiau, a diogelwch ddyfodol ein GIG drwy bleidleisio dros adael yfory. Diolch yn fawr. Steffan Lewis AC: Mae ymgyrch refferendwm hir iawn ar fin dod i ben, diolch byth, ac rwy’n siŵr y bydd llawer yn cytuno nad yw tôn, natur a chynnwys yr ymgyrch hon wedi bod yn hysbyseb arbennig o dda i ymwneud democrataidd. Wrth i’r ymgyrch wynebu ei horiau olaf, mae’n ymddangos bod yr ochr dros adael yn arbennig yn dymuno canolbwyntio ar ddau faes sylfaenol, sef mewnfudo a sofraniaeth. Yn anffodus, ar y ddau fater, mae’r ochr dros adael wedi ceisio eu gorau glas i beidio â gadael i’r ffeithiau fynd o ffordd stori dda. Clywyd y ffeithiau ar fater mewnfudo droeon, ac nid wyf yn dymuno treulio gormod o amser yn eu hailadrodd y prynhawn yma, heblaw i ddweud fy mod yn credu’n gadarn fod ymfudo wedi gwneud Cymru’n gyfoethocach mewn ystyr ddiwylliannol ac economaidd. Bydd yna bob amser her mewn cymdeithasau agored a democrataidd i sicrhau cydbwysedd rhwng amlddiwylliannedd ac integreiddio, ond nid yw termau dadl a thrafodaeth o’r fath ond yn ddefnyddiol pan gânt eu cynnal mewn ysbryd o oddefgarwch, yn hytrach na cheisio cynyddu ofnau’r ochr arall. Efallai y bydd cyd-destun o’r fath yn bodoli rhyw ddydd. Hoffwn fynd i’r afael yn benodol â mater sofraniaeth, sy’n aml yn cael ei gyfuno’n fwriadol ag egwyddor democratiaeth gan lawer o’r rhai sydd eisiau i Brydain adael yr UE. Wrth wrando’n ofalus ar y rhai sy’n gwneud yr achos dros ailddatgan sofraniaeth y wladwriaeth, gelllid maddau i rywun am feddwl ein bod yng nghwmni Thomas Cromwell, yr holl ganrifoedd hynny’n ôl. Bryd hynny, roedd yna ddadleuon ynglŷn ag a oedd sofraniaeth y Senedd yn disodli’r ysgrythur; yn awr, mae’n fater o sofraniaeth seneddol yn erbyn rheoliadau’r UE.Ni chafwyd erioed amser gogoneddus o sofraniaeth seneddol absoliwt, hyd yn oed yn ystod dyddiau’r ymerodraeth. Yn yr ugeinfed ganrif, yn dilyn dinistr rhyfel, cafodd cytuniadau rhyngwladol a oedd yn creu hawliau sylfaenol i unigolion a chonfensiynau byd-eang yn gwahardd hil-laddiad eu derbyn fel rhai cyffredinol a thu hwnt i’r hyn a elwid yn sofraniaeth unrhyw genedl neu wladwriaeth. Ac ar y cyfandir hwn, a olchwyd â gwaed dros lawer o’r ganrif ddiwethaf, penderfynodd cenhedloedd ddod at ei gilydd mewn ysbryd o heddwch ac undod. Ac ar y pwynt hwn, hoffwn bwysleisio fy mod yn ystyried yr awgrym y byddai i’r DU adael yr UE yn arwain at ryfel yn anneallus a di-chwaeth, ond peidiwch â gadael i neb fychanu’r ffaith fod yr Undeb Ewropeaidd wedi gosod y seilwaith ar gyfer heddwch sy’n gwneud rhyfel rhwng ei aelodau’n amhosibl. O safbwynt Cymru, wrth gwrs, gallwn gymharu a chyferbynnu dau undeb gwahanol iawn rydym yn aelodau ohonynt. Mae’r DU yn seiliedig ar yr egwyddor fod y Senedd yn San Steffan yn oruchaf. Nid oes angen unrhyw gyfansoddiad ysgrifenedig arnom yma i wybod mai dyna’r realiti gwleidyddol yn wir. Yma mae gennym undeb anghyfartal, anwastad a adeiladwyd i bara, nid i ffynnu. Mae gan yr UE, er ei holl ddiffygion a’i amherffeithrwydd, a’r heriau y mae’n eu hwynebu, egwyddorion sybsidiaredd a chonsensws wedi’u hadeiladu i mewn i’w wead sylfaenol. I’r rhai ohonom sy’n caru Cymru, rhaid i ni ystyried lle y bydd y pŵer pe bai’r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yfory. Bydd pleidlais dros adael yn gyfystyr â throsglwyddo swyddogaethau o’r bartneriaeth Ewropeaidd i ddwylo Whitehall, a fydd yn rhydd i wneud fel y mynn i gymunedau Cymru. Bydd pleidlais dros adael yn golygu bod Ewrop yn gadael Cymru ar ôl yng nghysgodion Palas San Steffan ym meddiant sefydliad wedi meddwi ​​ar hunanhyder newydd. Mark Reckless AC: A wnewch chi ildio? Steffan Lewis AC: Nid wyf am ildio.Mae ‘aros’ yn arwain at sicrhau’r cyfle gorau i’n cenedl gael dyfodol cenedlaethol ei hun mewn teulu priodol o genhedloedd. Diolch yn fawr iawn. Gareth Bennett AC: Bu’n ymgyrch hir, ac efallai mewn sawl ffordd, bydd pawb ohonom yn falch o weld ei chefn, beth bynnag yw’r canlyniad. Lee Waters AC: Ni allwch gnoi gwm pan fyddwch yn siarad â’r Cynulliad Cenedlaethol. Gareth Bennett AC: Iawn. Ymddiheuriadau am hynny. Ewch ymlaen â’ch cyfraniad. Gareth Bennett AC: Mae’n ddrwg gennyf, nid oeddwn yn ymwybodol— Diystyrwch unrhyw beth a ddywedwyd wrthych mewn man arall. Parhewch â’ch cyfraniad. Gareth Bennett AC: Diolch i chi, Lywydd. Ni fwriadwyd unrhyw amarch. Caf fy nhemtio i ofyn: ble mae dechrau ar yr UE? Rydym wedi cael ein peledu â chymaint o ffeithiau a ffigyrau o’r ddwy ochr, y rhan fwyaf ohonynt yn gwrthdaro â’i gilydd wrth gwrs. Mae yna gymaint o agweddau ar y cwestiwn i’w hystyried. Rydym eisoes wedi trafod rhai ohonynt. Mae’n amhosibl cynnwys y cyfan ohono mewn un araith, felly cyfyngaf fy hun i’r mater y mae Aelodau Llafur yn aml yn ei godi, sef hawliau gweithwyr, ac maent yn gwbl gywir i wneud hynny. Ond yn fy marn i, rhaid i mi nodi nad oes unrhyw lefel o hawliau gweithwyr wedi’i hordeinio’n ddwyfol. Roedd gennym ddeddfwriaeth hawliau gweithwyr yn y DU cyn i ni ymuno â’r Undeb Ewropeaidd, a bydd yn dal i fod gennym ar ôl i ni adael. Y cwestiwn yw: pa lefel o hawliau gweithwyr? [Torri ar draws.] Dyna yw’r cwestiwn yn wir, ond y pwynt yw hwn: mai mater yw hynny i Lywodraeth etholedig yn y DU ei benderfynu, nid criw anetholedig o fiwrocratiaid yr UE. Os yw etholwyr y DU yn anghytuno â pholisïau cyflogaeth Llywodraeth etholedig y DU, gallant bob amser bleidleisio i gael gwared ar y Llywodraeth yn yr etholiad nesaf. Dyna yw’r hyn a elwir yn ddemocratiaeth, a dyna rydym wedi’i gael yn y wlad hon ers amser hir, ac mae bellach yn cael ei rwystro gan yr UE. Wrth gwrs, mae gan Aelodau Llafur bob cyfle i argyhoeddi etholwyr y DU ynglŷn â’r angen am raglen fwy adain chwith gan fod ganddynt yn awr arweinydd mor abl yn Jeremy Corbyn. Fy marn i ar hawliau gweithwyr yw bod yna ddwy fersiwn mewn gwirionedd. Ceir y fersiwn y mae’r Aelodau Llafur yn ei phedlera, sy’n dibynnu ar reoliadau a ddaw gan lywodraethau, a cheir fersiwn y byd go iawn, sy’n dibynnu ar alw a chyflenwad llafur yn y farchnad gyflogaeth. Yn senario’r byd go iawn, mae cyflogau ac amodau gwaith yn gwella wrth i’r galw am weithwyr gynyddu mewn diwydiant. Heb gyflenwad parod o lafur amgen, caiff penaethiaid eu gorfodi i dalu eu gweithwyr yn briodol, eu trin yn weddol dda a buddsoddi yn eu hyfforddiant hyd yn oed. Ond ers 1975, y tro diwethaf i ni bleidleisio mewn refferendwm Ewropeaidd, mae mwy na 200 miliwn o weithwyr wedi dod i mewn i farchnad lafur yr UE. [Torri ar draws.] Na. Yr effaith anochel fu ostwng cyflogau a gwaethygu amodau gwaith i weithwyr o Brydain. Mae mwy a mwy o dramorwyr yn cyrraedd ac yn cael eu defnyddio gan fusnesau mawr fel llafur rhad. Dyna un ffactor pwysig pam y mae cyflogau ar y pen gwaelod ar ei hôl hi, a pham y mae gennym yr hyn a elwir yn ‘ddiwylliant Amazon’. Mae’r realiti yn hunllef i weithwyr Prydeinig. Nawr, mae Llafur wedi gwneud môr a mynydd ynghylch y bobl sy’n cefnogi’r ymgyrch dros adael. Wel, efallai ei fod yn griw brith o gymeriadau, ond mae’n anochel mewn refferendwm o’r fath fod rhai elfennau rhyfedd yn rhannu’r daith â chi. Rydych chi, y rhai sydd am aros, yn rhannu’r daith gyda David Cameron a George Osborne, penseiri caledi, fel rydych yn ein hatgoffa o hyd. Rydych hefyd yn rhannu’r daith gyda Goldman Sachs, J.P. Morgan, y Gronfa Ariannol Ryngwladol—a oes angen i mi barhau? Ar yr ochr sy’n ffafrio gadael, nid yn unig y mae gennych aelodau o UKIP a Cheidwadwyr—[Torri ar draws.] Gadewch i’r Aelod barhau, os gwelwch yn dda. Gareth Bennett AC: Diolch i chi, Lywydd. Ar yr ochr sy’n ffafrio gadael, nid yn unig y mae gennych aelodau UKIP a’r Ceidwadwyr. Mae gennym hefyd bobl Llafur fel Frank Field, Gisela Stuart, John Mann a Dennis Skinner. Nid oes digon wedi’i wneud o’r ffaith fod David Owen, un o’r Ewroffiliaid mwyaf brwdfrydig tan yn ddiweddar, bellach yn argyhoeddedig ynglŷn â Phrydain yn gadael yr UE. Yn y pen draw, mae’n rhaid i chi benderfynu a ydych am ochri â’r gweithwyr neu’r rheolwyr. I orffen, dyma ddau gyfweliad byr o ‘The Sunday Times’ flwyddyn neu ddwy yn ôl, sydd, o’u cymryd gyda’i gilydd, yn egluro’r pwynt yn eithaf da yn fy marn i. [Torri ar draws.] Ie, wel mae’n rhaid iddo fod yn ddetholus—mae yna lawer o ddeunydd ar gael. Esgusodwch fi? Am bwynt asynnaidd. Ewch ymlaen. Ewch ymlaen. Ewch ymlaen. Gareth Bennett AC: Yn gyntaf, darn yn dyfynnu Darren Hunt— Rydym yn edrych ymlaen at glywed y ddau gyfweliad. Ewch ymlaen. Gareth Bennett AC: Diolch. Yn gyntaf, y darn yn dyfynnu Darren Hunt, rheolwr cwmni adeiladu yn Scunthorpe. Dyma’i eiriau ef: ‘Mae’n anodd iawn cael pobl o Brydain i mewn. Mae’n ymddangos nad oes diddordeb gan bobl bellach mewn ennill cyflog drwy chwys eu hwyneb. Mae’n siomedig ein bod yn gorfod mynd i Ewrop i gael gweithwyr, ond nid oes gennym unrhyw ddewis. Y peth da am bobl dwyrain Ewrop yw bod ganddynt agwedd hen ffasiwn ac nid oes arnynt ofn gwaith caled. Nid ydynt yn poeni am weithio oriau hir ar benwythnosau ac maent yn barod i fwrw iddi.’Felly, dyna safbwynt busnes. I gyferbynnu â hynny, dyma eiriau Eddie Sullivan, cogydd hyfforddedig 33 oed: ‘Rwyf wedi gweithio ers y diwrnod roeddwn yn 16 oed, ond erbyn hyn mae bron yn amhosibl dod o hyd i swydd dda yma. Roedd fy swydd ddiwethaf yn un ran amser mewn siop drydanol ar barc manwerthu. Cawn fy nhalu lai na £60 gros am 10 awr yr wythnos. Mae’r swyddi sydd i’w cael i’w gweld yn mynd i fewnfudwyr. Nid yw pobl leol yn cael cyfle. Mae cyflogwyr yn gwybod y bydd y tramorwyr yn derbyn unrhyw waith a byth yn cwyno na chwestiynu cyflogau, amodau—[Torri ar draws.]—Na, eisteddwch— Na. Mae’r Aelod yn dirwyn ei sylwadau i ben yn awr. Gareth Bennett AC: [Yn parhau.]—’a byth yn cwyno na chwestiynu cyflogau, amodau neu oriau.’Felly, dyna ni. Ar ochr pwy rydych chi, chi waredwyr y dosbarth gweithiol? A ydych ar ochr y gweithwyr neu’r rheolwyr? Diolch. Lynne Neagle AC: Y bleidlais yfory yw’r penderfyniad pwysicaf i Brydain ei wneud ers cenhedlaeth. Bydd yn gosod cyfeiriad pendant ar gyfer ein gwlad, nid yn unig i’r genhedlaeth hon, ond i genhedlaeth ein plant hefyd. Mae’n hanfodol bwysig fod pawb sy’n bwrw eu pleidlais yn edrych ar y darlun hirdymor. Nid yw’r penderfyniad yn ymwneud â’r fan hon yn awr, ond bydd yn siapio’r 30 i 40 mlynedd nesaf o ddyfodol Prydain. Ni ddylai’r penderfyniad fod yn gystadleuaeth boblogrwydd rhwng gwleidyddion heddiw. Nid Boris neu Dave sy’n cyfrif, ond ein plant a’n hwyrion. Dyna pam y mae’n rhaid i bawb feddwl am hynny pan fyddant yn pleidleisio yfory. Dyma pam rwyf am gyfeirio fy sylwadau at fy etholwyr yn Nhorfaen yn benodol ac at bobl Cymru yn ei chyfanrwydd. Yn Nhorfaen, rwyf am i chi feddwl yn galed am y rhagolygon ar gyfer eich plant a’ch wyrion. Hoffwn i chi gofio mai Brwsel, yn aml iawn, dros y blynyddoedd diwethaf, sydd wedi sefyll gyda ni a’n plant pan oedd San Steffan wedi troi’i chefn a cherdded i ffwrdd. Meddyliwch am y prosiectau cyflogaeth fel Pontydd i Waith, sydd wedi arwain at £5.4 miliwn o gyllid yr UE ar gyfer darparu cyfleoedd a hyfforddiant i bobl ifanc yn Nhorfaen, neu arian yr UE sy’n helpu i ddarparu cymorth cyflogaeth achrededig yn lleol, megis yng nghanolfan Cwmbrân i bobl ifanc.Os yw’r bleidlais yfory dros adael yr UE, beth fydd yn digwydd i’r math hwn o ymrwymiad parhaus i swyddi, sgiliau ac adfywio? A ydym eisiau dibynnu ar Farage, Gove neu Boris Johnson? Dyma’r bobl a drodd eu cefnau arnom, a roddodd y dreth ystafell wely i ni ac a fydd yn torri buddsoddiad fel mater o ideoleg. Gwn fod llawer yn poeni am gyflymder newid yn ein cymunedau, ond ni fydd pleidleisio dros adael yr UE yn ateb i’r pryderon hyn. Nid yw’r dadleuon ar fewnfudo gan yr ymgyrch dros adael yn ddim byd ond olew neidr.Os telir cyflogau is i rai ar draul gweithwyr lleol, yr ateb yw cyflog byw gweddus—wedi’i orfodi a’i blismona’n briodol. Os ceir prinder sgiliau, yr ateb yw buddsoddi mewn hyfforddiant. Pan fydd y sefyllfa dai yn anodd, yr ateb yw cartrefi gweddus a fforddiadwy i bawb. Nid yw’r Cymoedd yn llawn—rydym wedi bod yn gwaedu pobl—mae ein poblogaeth wedi bod yn gostwng ers cenedlaethau. Rhaid i hynny ddod i ben os yw ein cymunedau yn mynd i oroesi. Ni allwn lywio ein ffordd drwy’r problemau a wynebwn drwy droi ein cefnau ar y byd a dymuno y bydd y problemau hynny’n diflannu. Rhaid i newid ddod, ond y ffordd orau o siapio’r newid hwnnw yw cadw ein sedd wrth y bwrdd Ewropeaidd.I bleidleiswyr Cymru gyfan, rwy’n gofyn: pa fath o Gymru fyddwch chi’n pleidleisio drosti yfory? A fydd yn un sy’n croesawu’r £150 miliwn y mae Ewrop yn ei gynnig i fetro’r Cymoedd, neu’n un sy’n afradu’r buddsoddiad trawsnewidiol hwnnw? A fydd yn Gymru sy’n defnyddio’r £90 miliwn y mae Ewrop yn ei gynnig i gwblhau’r gwaith ar fand eang cyflym iawn ac yn mynd â Chymru gysylltiedig i mewn i’r unfed ganrif ar hugain, neu Gymru sy’n parhau’n gadarn yn yr ugeinfed ganrif? A wnewch chi edrych ar y darlun hirdymor er lles eich plant a’ch wyrion? A ydych eisiau iddynt deimlo’n ymrwymedig i Ewrop rydd, ddemocrataidd a sefydlog—rhydd i deithio, astudio a gweithio yn yr economi rydd fwyaf ar y Ddaear, ac elwa o’r manteision enfawr y mae hynny’n ei gynnig? Neu a fyddwch yn cynnig ansicrwydd a dyfodol datgysylltiedig iddynt? A fyddant yn etifeddu Cymru wedi’i thorri i ffwrdd oddi wrth yr economi fwyaf yn y byd, ac a fyddwch yn gamblo gyda’u rhagolygon gwaith a’u ffyniant? Yfory, cofiwch pam y sefydlwyd yr UE a pham y mae ei sefydlogrwydd yn y dyfodol yn allweddol i’r dyfodol y bydd ein plant a’n hwyrion yn ei etifeddu. Cofiwch fod yr UE, yn anad dim, yn ymwneud â heddwch. Bydd UKIP yn dweud wrthych mai NATO sydd wedi cadw’r heddwch yng ngorllewin Ewrop ers 1945, ac maent yn gwadu rôl yr UE. Maent yn anghywir. Mae’n wir fod NATO wedi bod yn anhepgor yn y cylchoedd milwrol a gwleidyddol, ond mae’r UE wedi bod yn anhepgor hefyd, yn y meysydd cymdeithasol, economaidd a diwylliannol. Mae cynghreiriau milwrol yn bwysig, ond ni allant gyflawni heddwch ar eu pen eu hunain. Roedd Ewrop yn 1914 yn fôr o gynghreiriau milwrol. Mae ein plant yn awr yn byw mewn Ewrop lle mae rhyfel rhwng gwledydd democrataidd Ewrop y tu hwnt i amgyffred, a hynny oherwydd bod ein UE wedi cysylltu dwylo, nid yn unig yn filwrol, ond yn gymdeithasol ac yn economaidd hefyd. Mae’r sefydlogrwydd hwnnw wedi rhoi 70 mlynedd o heddwch i ni. Peidiwch â gwadu’r cyfle gorau i gael 70 mlynedd arall o’r un peth i’n plant a’n hwyrion. Os yw Prydain yn pleidleisio dros adael yfory, bydd yn bleidlais dros dorri buddsoddiad mawr iawn ei angen i fy etholaeth mewn swyddi, sgiliau a seilwaith, gan ein gollwng i bydew ansicrwydd economaidd a’n gwneud yn dlawd. Os yw Prydain yn pleidleisio dros adael yfory, yna rydym yn ansefydlogi’r UE ei hun, ac mae’r byd yn mynd ychydig yn fwy peryglus—efallai nad ar unwaith ac efallai nad i ni, ond i’n plant a’n hwyrion yn sicr. Felly, galwaf ar bawb i edrych ar y darlun hirdymor. Pan fyddwch yn sefyll yn y bwth pleidleisio, er bod y bleidlais yn gyfrinachol, ni fyddwch ar eich pen eich hun. Bydd dyfodol eich plant a’ch wyrion yn sefyll drws nesaf i chi. Peidiwch â gamblo â’r dyfodol hwnnw. Cadwch ef yn ddiogel. David J Rowlands AC: Mae llawer wedi cael ei wneud, yn enwedig yn y Siambr hon, am y manteision i Gymru o’r hyn a elwir yn arian Ewropeaidd. Rydym wedi clywed Aelod yn dweud heddiw fod y £10 biliwn a roddwn i Ewrop yn gwbl amherthnasol. Ond pan fydd rhan o hynny’n dod yn ôl i Gymru, maent yn ei alw’n gwbl hanfodol i economi Cymru. Felly, nid yw un peth yn cyd-fynd â’r llall. Felly, a gaf fi geisio goleuo’r rhai sydd i’w gweld yn amddifad o’r gallu i amgyffred y ffaith syml iawn nad oes y fath beth ag arian Ewropeaidd? Yr arian y mae Cymru’n ei gael o Frwsel, fel gyda gweddill y DU, yw arian Prydain yn dod yn ôl i ni ar ôl i Frwsel fynd â mwy na 50 y cant i roi cymhorthdal i ​brosiectau ar draws tir mawr Ewrop gyfan. Mae’n dilyn felly, hyd yn oed i’r mwyaf di-glem ynghylch materion ariannol, os ydym am gadw’r holl arian hwn yn y DU, byddem i gyd yn elwa o gadw’r 50 y cant sy’n cael ei wario ar hyn o bryd gan Ewrocratiaid Brwsel. Mae’r pwys gormodol a roddir ar yr arian Ewropeaidd hwn yn aml yn arwain at y ddadl gyfeiliornus na fyddai Senedd Prydain, pe baem yn gadael y DU, yn rhoi ei chyfran deg i Gymru o’r £50 o fonws. [Torri ar draws.] Rwy’n galw hon yn ddadl gyfeiliornus gan fod rhaid bod y bobl sy’n ei lledaenu yn awgrymu bod y 40 o ASau sy’n cynrychioli Cymru yn San Steffan—gyda’r rhan fwyaf ohonynt yn ASau Llafur wrth gwrs—yn ddirym i sicrhau nad yw Cymru yn wir yn cael ei chyfran deg o’r arian hwn. Ymhellach, a ydynt yn awgrymu bod y pedwar ASE sydd gennym yn y Senedd Ewropeaidd yn rym llawer mwy effeithiol na’r 40 rydym yn eu hanfon i San Steffan? Yn olaf, ond nid yn lleiaf—[Torri ar draws.] Mae’n ddrwg gennyf, na. Yn olaf, ond nid yn lleiaf, gadewch i ni osod yr arian Ewropeaidd hwn mewn persbectif go iawn. Ceir tystiolaeth o barodrwydd San Steffan i fuddsoddi yng Nghymru yn y ffaith fod Cymru yn derbyn tua £14.7 biliwn yn fwy gan Lywodraeth y DU nag y mae’n ei dalu mewn trethi. Mae hynny bob blwyddyn. Mae hyn, wrth gwrs, yn llawer mwy na chyfanswm yr arian y mae Cymru wedi’i gael o Ewrop dros yr 16 mlynedd diwethaf i gyd. Mewn unrhyw ddadansoddiad cywir a diduedd o’r ffeithiau, a heb unrhyw wleidyddiaeth plaid, mae’n dilyn y byddai Cymru ar ei hennill o adael yr archwladwriaeth Ewropeaidd hon. O ran y mater hwn ynglŷn â’r archwladwriaeth Ewropeaidd, a gaf fi orffen drwy ddweud fy mod yn ei chael yn annealladwy fod y ddwy blaid a elwir yn bleidiau sosialaidd yn y Siambr hon yn cefnogi banciau mawr, busnesau mawr, ac elît gwleidyddol yn erbyn buddiannau’r dosbarthiadau gweithiol yng Nghymru? Adam Price AC: Rwy’n credu ei bod yn bwysig canolbwyntio ar ffeithiau ac nid ar brosiect ofn. Dylem ganolbwyntio ar brosiect—[Torri ar draws.] Gareth Bennett AC: Beth am eich prosiect ofn chi—y trydydd rhyfel byd? Adam Price AC: Dylem ganolbwyntio ar—[Torri ar draws.] Gareth Bennett AC: Onid yw hwnnw’n brosiect ofn? Adam Price AC: Fe gymeraf ymyriad; byddai’n ddifyr, heb os. [Torri ar draws.] Gareth Bennett AC: Ewch ymlaen. Fi sydd i benderfynu a yw’r Aelod yn mynd yn ei flaen, nid chi. Gareth Bennett AC: Mae’n ddrwg gennyf, Lywydd. Ewch ymlaen, Adam Price. Adam Price AC: Gyda llaw, nid oes gennyf wrthwynebiad i’r Aelodau gnoi gwm—mae’n gweithio i Chris Coleman; efallai y dylem i gyd ddechrau. Edrychwch, rwy’n meddwl y dylem ganolbwyntio ar y diddordeb cenedlaethol i Gymru, ac yn enwedig mewn perthynas â’r economi, rhaid i mi ddweud fy mod yn meddwl bod llawer ohonom yn iawn i ofni. Oherwydd, wyddoch chi, mae’n ffaith, onid yw—mae cyfansoddiad sectoraidd yr economi yng Nghymru yn wahanol? Mae gennym sector gweithgynhyrchu lawer mwy o faint, mae amaethyddiaeth yn bwysicach i ni, ac mae hynny’n arwain at batrwm masnachu gwahanol. Ni yw un o’r unig rannau o’r DU sydd â gwarged masnach sylweddol gyda’r UE. Fel y clywsom gan arweinydd UKIP, mae gan y DU ddiffyg masnach enfawr; nid yw’n wir am Gymru. Cymru, fesul y pen, sydd â’r gwarged masnach mwyaf gyda’r UE, ac o ganlyniad i hynny mae’n gwneud cyfraniad cadarnhaol hollbwysig i’n holl gynnyrch domestig gros. Hynny yw, os cofiwch eich economeg lefel A; wyddoch chi, Y = C + I + G + (X - M). Allforion net: yng Nghymru, mae gennym warged, sy’n cyfateb i tua 10 y cant o’n holl gynnyrch domestig gros o ran masnach mewn nwyddau. Rydym yn economi sy’n sensitif i allforio. Os yw’r gwarged masnach yn mynd i lawr, mae’n effeithio’n uniongyrchol ar ein cyfoeth economaidd a’n ffyniant. Gwelsom hynny eisoes, mewn gwirionedd, yn 2014. Cawsom gipolwg bach ar hynny; aeth allforion i lawr 11 y cant. Beth a ddigwyddodd? Cawsom—. Nid wyf am dderbyn rhagor o ymyriadau gennych. Beth a ddigwyddodd? Beth a ddigwyddodd o ganlyniad i hynny? Aeth twf gwerth ychwanegol gros i lawr yng Nghymru, iawn, gan fod perthynas uniongyrchol rhwng ein gwarged mewn masnach a’n heconomi yn ei chyfanrwydd.Nawr, ni all neb wybod i sicrwydd beth fydd yn digwydd i’n heconomi o ganlyniad i Brydain yn gadael yr UE. Mae’r ymgyrch dros adael wedi cynnig pedair senario wahanol; nid ydym yn gwybod pa un a gawn. A dyna’r broblem. Mae ansicrwydd yn wenwynig i fusnes, i fuddsoddiad, yn enwedig mewn gweithgynhyrchu lle mae’r amseroedd arwain angenrheidiol ar gyfer prosiectau buddsoddi rhwng tair a saith mlynedd. Dyna’r allwedd. Nid yw’n fater o delerau masnach—wyddoch chi, pa un a fydd yn rhaid i ni dderbyn tariffau neu a fydd yna gwymp gyfadferol o ran y gyfradd gyfnewid; yr ansicrwydd fydd yn lladd economi Cymru o ganlyniad i adael yr UE. Ni chafwyd llawer o arbrofion pan fo cenhedloedd wedi troi cefn ar berthynas fasnachu lwyddiannus, ac mae yna resymau da pam. Pam y byddech y gwneud hynny? Yr unig enghraifft y gall economegwyr ddod o hyd iddi yw’r hyn a ddigwyddodd i economi’r Ffindir pan gollodd hanner ei hallforion i’r Undeb Sofietaidd dros nos yn sgil cwymp yr Undeb Sofietaidd—cwymp o 55 y cant yn y buddsoddiad o ganlyniad i hynny—mewn gwirionedd, dyna’r cyfangiad economaidd gwaethaf a dyfnaf i wlad ddiwydiannol ers y 1930au. Dyna beth allai fod yn wynebu Cymru. Dyna’r ddadl economaidd; mae yna ddadleuon eraill yn ogystal, sydd yn nes at ein synnwyr o bwy rydym.Pan fyddwn yn canu ‘Hen Wlad fy Nhadau’ yng Nghymru, rydym yn ei chanu fel Ewropeaid Cymreig. Wyddoch chi, y Celtiaid oedd tadau Ewrop. Daethom i mewn, gyda llaw, drwy Asia Leiaf, a elwir erbyn hyn yn Dwrci. Do, crëwyd rhai o ogoniannau gwareiddiad Ewrop gennym ar y ffordd yn ein gorymdaith i’r gorllewin yn La Tène a Hallstatt. Mae Cymru ei hun yn gyfuniad o’r etifeddiaeth Geltaidd honno a gwareiddiad Rhufeinig. Pan fyddwn yn canu’r gân arall honno, ‘Yma o Hyd’, rydym yn golygu Ewrop hefyd, am ei bod yn cynnwys o’i mewn y chwedl wych am greu’r genedl Gymreig, mai Magnus Maximus—Macsen Wledig—llengfilwr Rhufeinig a aned yn Galicia a sefydlodd ein cenedl. Baner filwrol Rufeinig yw baner y ddraig goch y buom i gyd yn ei chwifio’n gynharach—’draco cocus’ mewn Lladin llafar a ddysgais, a chithau Neil Hamilton, yn Nyffryn Aman—y ddraig goch. A dau yn unig o’r mil o eiriau Lladin yn yr iaith Gymraeg yw’r rheini. Nid yn unig mai ni yw Prydeinwyr gwreiddiol yr ynysoedd hyn, ni yw’r Ewropeaid gwreiddiol hefyd. Nid yn unig eich bod yn ceisio ein torri i ffwrdd oddi wrth gyfandir, rydych yn ein torri i ffwrdd oddi wrth ein hanes ein hunain mewn gweithred o hunanladdiad torfol.Os yw Prydain yn gadael yr UE yn erbyn ein hewyllys ein hunain, yna efallai y gallwn atgoffa ein hunain am eiriau Raymond Williams:Rwyf am i’r Cymry—sy’n dal i fod yn bobl radical a diwylliedig—drechu, diystyru neu fynd heibio i Loegr. Os yw Lloegr eisiau mynd ymaith i ryw arwahanrwydd ysblennydd, yna efallai fod arnom angen ymgyrch newydd, ‘ailymuno’, ond y tro hwn fel cenedl ein hunain yn Ewrop. Rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol—Mark Drakeford. Mark Drakeford AC: Diolch yn fawr, Lywydd. Wel, mae yna gynnig gerbron Cynulliad Cenedlaethol y prynhawn yma sy’n nodi tri phrawf ar gyfer penderfyniad i fynd â Chymru allan o’r Undeb Ewropeaidd, ac fel y dangoswyd yn ddiau yn ystod yr awr olaf, mae’r cynnig yn methu ar bob un o’r profion hynny y byddent am i ni eu derbyn. Ni fyddai Cymru yn gryfach, yn fwy diogel ac yn sicr ni fyddai’n fwy llewyrchus pe baem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, fel y mae’r cynnig hwn yn awgrymu.Nawr, bydd y rhai ohonom sy’n cofio ac a oedd yn rhan o’r ymgyrch i sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol hwn yn cofio, er nad oedd gennym unrhyw gonfensiwn cyfansoddiadol o’r math a sefydlwyd yn yr Alban, roedd gennym grŵp trawsbleidiol a thraws-sector effeithiol iawn a ddadleuai’r achos yn y slogan a ddefnyddid ar y pryd—y byddai Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi llais cryfach i Gymru yn Ewrop. A diolch i waith llawer o’r Aelodau yma a llawer iawn o bobl eraill ar draws Cymru, cafodd y gosodiad hwnnw ei gyflawni’n uniongyrchol iawn. Mae ein hiaith a’n diwylliant yn gryfach drwy ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd. Mae ein sylfaen ymchwil mewn gwyddoniaeth ac yn ein prifysgolion yn gryfach oherwydd ein bod yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae ein hamddiffyniad cymdeithasol i weithwyr a defnyddwyr yn gryfach oherwydd y mesurau diogelu a sicrhawyd drwy’r Undeb Ewropeaidd. Lywydd, mae Cymru’n fwy diogel hefyd. Mae ansawdd ein dŵr yn fwy diogel oherwydd camau gweithredu cyffredin ar draws yr Undeb Ewropeaidd. Mae ansawdd a diogelwch bwyd yn fwy diogel oherwydd eu bod yn cael eu gwarchod gan ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd. Mae ein haelodaeth o’r rhwydweithiau ledled yr Undeb Ewropeaidd ar y defnydd anghyfreithlon o gyffuriau yn gwneud ein dinasyddion yn fwy diogel yma yng Nghymru. Mae ein gallu i ymdrin â throseddau trawswladol a phla modern terfysgaeth, drwy beirianwaith Undeb Ewropeaidd, yn ein gwneud yn fwy diogel bob dydd. Dyna farn y ffigyrau uchaf yn y maes—pennaeth MI5, pennaeth MI6, pennaeth Pencadlys Cyfathrebu’r Llywodraeth, pump o gyn-benaethiaid NATO, pennaeth Europol ym Mhrydain, a’n cynghreiriaid yn Awstralia, Canada, Seland Newydd a’r Unol Daleithiau.Nawr, Lywydd, nid wyf yn rhy hoff o ddyfynnu gwleidyddion Ceidwadol, ond nid ydym wedi clywed llawer ganddynt y prynhawn yma. Felly, gadewch i mi wneud iawn am hynny, mewn ffordd fach iawn, drwy ailadrodd ac addasu yr hyn a ddywedodd Ruth Davidson, arweinydd y Ceidwadwyr yn Senedd yr Alban, ddoe: os yw’n fater o ddewis rhwng gwrando ar yr holl bobl hynny a gwrando ar y rhai a gynigiodd y cynnig hwn, rwy’n mynd i bleidleisio dros yr arbenigwyr bob dydd o’r wythnos a ddwywaith ar ddydd Sul hefyd. Ac maent yn gwneud hynny, ac maent yn dweud hynny, am y rhesymau a fynegodd Lynne Neagle mor huawdl yma y prynhawn yma—am fod aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd yn gwneud y dyfodol yn fwy diogel i’n plant a’n hwyrion hefyd. David Melding AC: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ildio? Rwy’n ofni bod yn rhaid i mi geisio’i helpu gan iddo gyfeirio at grŵp y Ceidwadwyr. Nid wyf yn siarad ar ei ran; rwy’n siarad fel unigolyn yn unig. Ond wrth siarad am fanteision yr Undeb Ewropeaidd, mae’r ochr sy’n ffafrio gadael yn dweud ei bod wedi ildio sofraniaeth hanfodol ac nad yw’n werth y pris, ond os ydym wedi ildio sofraniaeth hanfodol, sut ar y ddaear rydym yn cael refferendwm yfory ar aelodaeth? Mark Drakeford AC: Wel, dyna bwynt eithriadol o dda gan yr Aelod. Mae’n cysylltu â thrydedd ran y cynnig y cawn ein gwahodd i’w gefnogi y prynhawn yma, rwy’n credu: sef y byddem rywsut yn fwy llewyrchus pe baem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd; y byddem yn fwy llewyrchus heb y 500 o gwmnïau o wledydd eraill yr UE sydd â gweithfeydd yng Nghymru, ac yn darparu mwy na 57,000 o swyddi; y byddem, rywsut, yn fwy llewyrchus pe bai’r 70,000 o bobl yng Nghymru sydd wedi elwa o gyllid yr Undeb Ewropeaidd i’w helpu i gael gwaith—pe na bai hwnnw ar gael i ni; a phe bai ffermio yng Nghymru, rywsut, yn fwy llewyrchus heb y €300 miliwn o gyllid Ewropeaidd y mae’n ei gael bob blwyddyn. Mae’r syniad y byddai Cymru yn well ei byd y tu allan i Ewrop yn gynnyrch yr economeg fwdw a ddisgrifiwyd i ni y prynhawn yma. Yn ei lle, cawn gynnig dirwasgiad wedi’i wneud ein hunain a’i achosi gennym ni ein hunain, gweithred enfawr o ffolineb economaidd, encilfa rhag realiti cymhleth y byd rydym yn byw ynddo mewn gwirionedd; ac ar ei orau, encil i’r llinellau ochr ac i ymylon y byd go iawn; ar ei waethaf, encil i lurguniadau ffiaidd poster sy’n camfanteisio ar arswyd plant ac anobaith eu rhieni, wedi’u dal mewn digwyddiadau mor bell y tu hwnt i’w cyfrifoldeb neu eu rheolaeth eu hunain.Felly, Lywydd, dyna ni: rydym am gael Cymru sy’n gryfach, yn fwy diogel ac yn fwy ffyniannus, ac rydym yn gwybod sut i gyflawni hynny hefyd. Mae Cymru’n elwa’n aruthrol o’n haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd. Mae Cymru yn perthyn i Ewrop, mae angen i Gymru aros yn Ewrop ac yfory, gadewch i ni bleidleisio i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud hynny. Rwy’n galw nawr ar Neil Hamilton i ymateb i’r ddadl. Neil Hamilton AC: Yn anffodus, munud yn unig sydd gennyf i ymateb, felly ni allaf—byddaf ar gael wedyn i barhau â’r drafodaeth. Ond rwy’n rhyfeddu at yr Aelodau eraill yn y tŷ hwn sydd â safbwynt gwahanol i fy un i ar yr Undeb Ewropeaidd. Eu gwangalondid a’u pesimistiaeth ynglŷn ag ysbryd a chymeriad y Cymry—eu bod, rywsut neu’i gilydd, yn analluog i wneud eu ffordd yn y byd. Am yr arbenigwyr honedig rydym i fod i ddibynnu arnynt: ai dyma’r un arbenigwyr a argymhellodd ein bod yn ymuno â’r ewro, yr un arbenigwyr a fethodd ragweld yr argyfwng bancio ac a oedd, mewn llawer o achosion, yn gyfrifol amdano? Pobl wych, onid ydynt? Rwy’n siŵr ein bod i gyd yn hapus iawn i gael eu cyngor ar yr adeg hon.Yn y bôn, yr hyn y mae’r ddadl hon yn ymwneud ag ef yw—mae rhwng democratiaeth a biwrocratiaeth. Y bobl sy’n gwneud y penderfyniadau sy’n effeithio ar ein bywydau bob dydd: a ydych yn mynd i’w hethol ai peidio? Os ydynt yn gwneud y penderfyniadau anghywir, sut rydych chi’n cael gwared arnynt? Dyna oedd y cwestiwn roedd Tony Benn bob amser yn arfer ei ofyn pan fyddai’n cyfarfod â rhywun â phŵer: ‘O ble y cawsoch y pŵer? Sut rydych chi’n mynd i’w ddefnyddio ac os gwnewch gamgymeriad, sut rydym yn mynd i gael gwared arnoch?’ Sut rydych chi’n cael gwared ar y Comisiynwyr ym Mrwsel os ydynt yn gwneud set wahanol o benderfyniadau i’r rhai y maent yn eu gwneud yn awr, penderfyniadau rydych yn digwydd bod yn eu hoffi, mewn gwirionedd? Os nad ydych yn hoffi’r penderfyniadau a wnant, beth wnewch chi wedyn? Wedyn rydych chi’n gaeth. Gyda gwleidyddion etholedig, bob hyn a hyn o leiaf, gallwch bleidleisio i gael gwared arnynt, a dyna beth rydym yn mynd i’w wneud yfory: rhoi’r pŵer yn ôl yn nwylo’r bobl. Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. 8. 8. Cyfnod Pleidleisio Cytunwyd y dylid cynnal y cyfnod pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes oni bai bod tri Aelod yn dymuno imi ganu’r gloch. Fe symudaf yn syth i’r cyfnod pleidleisio.Rwy’n galw’n gyntaf, felly, am bleidlais ar ddadl Plaid Cymru a’r cynnig a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i’r cynnig. Agorwch y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 33, ymatal 4 ac 11 yn erbyn. Mae’r cynnig felly wedi ei dderbyn. Derbyniwyd y cynnig: O blaid 33, Yn erbyn 11, Ymatal 4. Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6029.Cliciwch i weld canlyniad y bleidlais Symudwn yn awr felly at y cynnig yn nadl y Ceidwadwyr Cymreig, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i’r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid 37, 5 yn ymatal a 7 yn erbyn. Mae’r cynnig felly wedi ei dderbyn. Derbyniwyd y cynnig: O blaid 37, Yn erbyn 7, Ymatal 5. Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6032.Cliciwch i weld canlyniad y bleidlais Symudwn ni ymlaen yn awr, felly, i’r cynnig yn enw Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Neil Hamilton. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid 10, yn erbyn 38. Mae’r cynnig felly wedi ei wrthod. Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 10, Yn erbyn 38, Ymatal 0. Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6030.Cliciwch i weld canlyniad y bleidlais 9. 9. Dadl Fer: Aros neu adael? Pa ffactorau sydd wedi dylanwadu ar y farn gyhoeddus o ran ymgyrch refferendwm yr UE? Rwy’n symud yn awr, felly, i’r ddadl fer. I’r rhai ohonoch chi sydd ddim yn aros yn y Siambr ar gyfer y ddadl fer, os gwnewch chi adael yn dawel ac yn gyflym. Ac felly, rwy’n galw ar Julie Morgan i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddi. Julie Morgan. Julie Morgan AC: Diolch. Diolch, Lywydd. Carwn ddweud ar ddechrau’r ddadl, fy mod wedi rhoi munud i Rhianon Passmore a munud i Joyce Watson ar ddiwedd fy araith. Teitl y ddadl a dewisais yw ‘Aros neu adael? Pa ffactorau sydd wedi dylanwadu ar y farn gyhoeddus o ran ymgyrch refferendwm yr UE?’Nawr, cyflwynais y ddadl hon cyn y digwyddiadau ofnadwy ddydd Iau diwethaf pan gafodd yr AS dros Batley a Spen, Jo Cox, ei lladd yn drasig yn ei hetholaeth. Rwy’n credu ei bod yn briodol i ni edrych ar y dylanwadau ar y farn gyhoeddus yn y cyfnod yn arwain at y refferendwm yfory. Yn anffodus, rwy’n meddwl bod marwolaeth Jo wedi cael dylanwad ar y ddadl dros y penwythnos ac i mewn i’r wythnos hon. Roedd hi’n iawn ac yn briodol fod toriad wedi bod yn yr ymgyrchu dros y penwythnos, ond erbyn hyn rydym yn ôl wrthi’n go ffyrnig, fel y dangosodd y ddadl flaenorol, ond efallai fod yna dôn ychydig yn wahanol iddo ledled y DU.Felly, rwy’n gobeithio, yng ngoleuni’r math o berson oedd Jo a’r hyn a ddywedodd ei gŵr, Brendan Cox, yn dilyn ei marwolaeth drasig, y byddai hi’n hapus ac yn awyddus i ni barhau â’r ddadl ar refferendwm yr UE a’r frwydr i aros yn yr UE oherwydd roedd hi, fel y dywedodd ei gŵr, yn cefnogi’r UE yn frwd ac yn ymgyrchu dros bleidlais ‘aros’. Felly, Lywydd, hoffwn ddweud ychydig am Jo, yn bersonol, a chysylltu ei chredoau wedyn â’r bleidlais y byddwn yn ei chael yfory.Heddiw fyddai pen-blwydd Jo yn 42 oed, a chynhelir digwyddiadau ar draws y byd i gofio amdani. Roedd digwyddiadau yn Efrog Newydd, Brwsel, Buenos Aires, Dulyn, Llundain, a bydd teyrnged iddi yng Ngŵyl Glastonbury hyd yn oed. Mae yna wylnos golau cannwyll hefyd mewn elusen i fenywod yn Syria am fod Jo’n frwd ei chefnogaeth i hawliau menywod. Rwy’n falch iawn ein bod wedi cael y digwyddiad trawsbleidiol i fenywod sy’n Aelodau o’r Cynulliad ar risiau’r Senedd ddoe, pan dynnwyd sylw at yr hyn y mae’r UE wedi’i wneud i fenywod oherwydd, fel y dywedais, credai Jo fod yr UE yn cyflawni ar gyfer menywod. A chynhelir digwyddiad ychydig i fyny’r ffordd yn awr—neu mae eisoes wedi digwydd—yn y Deml Heddwch ac Iechyd yma yng Nghaerdydd, yng Nghanolfan Materion Rhyngwladol Cymru, ar y thema ‘Beth allwn ni ei wneud?’Nid oeddwn yn adnabod Jo Cox, ond rwy’n teimlo fy mod yn ei hadnabod, ac fel y dywedodd un o fy nghydweithwyr yn ddiweddar, hoffwn pe bawn i wedi ei hadnabod. Rwy’n uniaethu â hi fel gwleidydd benywaidd ac fel mam, ac yn arbennig, gallaf ddychmygu’r cyffro a deimlodd, mae’n rhaid, wrth gyrraedd San Steffan ychydig dros flwyddyn yn ôl, ar ôl yr etholiad cyffredinol yn 2015. Gallaf gofio’r teimlad hwnnw pan gefais fy ethol yn Aelod Seneddol am y tro cyntaf yn 1997. Rwy’n meddwl ein bod i gyd wedi’i deimlo, gwta chwe wythnos yn ôl, pan gawsom oll y wefr o gael ein hethol a dod i’r Siambr hon gyda’n cynlluniau i newid y byd. Mae dwyster yr hyn sydd wedi digwydd i’r holl obeithion hynny ac iddi hi fel unigolyn, rwy’n meddwl, yn fy nharo mor gryf, ond rwy’n credu mai’r pethau roedd hi’n credu ynddynt yw’r hyn sy’n rhaid i ni barhau â hwy. Rhaid i mi ddweud, cefais fy nharo yn arbennig, wrth wrando ar yr ASau benywaidd presennol yn siarad am fod yn y Tŷ Cyffredin gyda Jo a sut roeddent i gyd yn arfer siarad am eu pryderon, ynglŷn â sut y maent yn sicrhau cydbwysedd yn eu bywyd teuluol, yn edrych ar ôl eu plant a gwneud gwleidyddiaeth, a’r euogrwydd mamol y mae hyn yn ei gynhyrchu, euogrwydd y mae llawer ohonom wedi’i deimlo. Mae’r drafodaeth yn Nhŷ’r Cyffredin, yn y ffordd honno, yn taro tant gyda llawer ohonom. Yr hyn a ddaeth yn amlwg o’r darllediadau am fywyd Jo yw cymaint roedd hi’n caru ei theulu, ond roedd hi’n caru ei gwleidyddiaeth yn ogystal, ac nid oeddent yn gwrthdaro. Roedd yn ymgyrchydd brwd, ac roedd hi’n llawn o dosturi. Ymgyrchodd dros hawliau dynol, datblygu rhyngwladol, sefyllfa ffoaduriaid, sefyllfa pobl amddifad, a’i chefndir yn gweithio mewn sefydliadau anllywodraethol sy’n ymgyrchu, fel Oxfam. Wrth gwrs, rydym eisoes wedi clywed llawer am ei gallu i weithio ar sail drawsbleidiol, a dywedodd yr AS Ceidwadol Andrew Mitchell fod Jo ynfenyw wirioneddol eithriadol y mae ei daioni a’i hymroddiad angerddol i werthoedd dyngarol wedi ysbrydoli pawb ohonom.Dywedodd gŵr Jo, Brendan, ei bod hi, cyn iddi farw, yn gynyddol bryderus am dôn y ddadl yn ymgyrch refferendwm yr UE, ac rwy’n meddwl bod y teimladau hynny wedi cael eu hadlewyrchu yma y prynhawn yma yn y ddadl rydym eisoes wedi’i chael. Bedwar diwrnod cyn iddi gael ei lladd, ysgrifennodd Jo Cox erthygl yn rhybuddio yn erbyn y sbin ynglŷn â mewnfudo yn y ddadl ar yr UE. YsgrifennoddNi allwn ganiatáu i bleidleiswyr gredu’r sbin mai pleidlais i adael yw’r unig ffordd o ymdrin â phryderon am fewnfudo.Yn dilyn ei marwolaeth, yn ei deyrnged iddi yn Nhŷ’r Cyffredin, rhybuddiodd Stephen Kinnock fod ‘canlyniadau i rethreg’, a chredaf ei bod yn bwysig iawn i ni gofio hynny. Mae’n rhaid i ni fod yn ofalus iawn pan fyddwn yn sôn am faterion sensitif megis mewnfudo, gan fod canlyniadau i rethreg. Cyfeiriodd at y poster y cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet ato’n gynharach heddiw a dywedodd y byddai Jo Cox wedi ffieiddio pe bai hi wedi byw i weld poster UKIP, a oedd yn dangos torf o ffoaduriaid yn dianc rhag y rhyfel cartref yn Syria fel ffordd o roi hwb i’r gefnogaeth i’r rhai sydd am adael y DU, ac:Ni allaf ond dychmygu ymateb Jo pe bai wedi gweld y poster a gafodd ei ddadorchuddio oriau cyn ei marwolaeth—poster ar strydoedd Prydain a oedd yn pardduo cannoedd o ffoaduriaid diobaith, gan gynnwys plant newynog ac ofnus yn dianc rhag arswyd ISIS a bomiau Rwsia. Byddai wedi ymateb gyda dicter, ac wedi gwrthod yn gadarn y naratif bwriadol o sinigiaeth, ymraniad ac anobaith.Ac rwy’n credu mai dyna yw’r dôn y mae’r refferendwm hwn wedi’i hannog, oherwydd mae mewnfudo wedi bod yn thema sydd wedi rhedeg drwy ymgyrch y refferendwm. Mae wedi cael sylw enfawr yn y papurau newydd, ar-lein ac yn y cyfryngau darlledu. Rwy’n siŵr y bydd llawer ohonoch wedi gweld y ddadl neithiwr ac fel y dywedodd Sadiq Khan yn nadl y refferendwm neithiwr, wrth yr ymgyrch dros adael, mewn perthynas â mewnfudo,Nid prosiect ofn yw eich ymgyrch wedi bod, ond prosiect casineb.Rwyf wedi bod allan yn ymgyrchu yn fy etholaeth yng Ngogledd Caerdydd, a phan fyddaf yn siarad â phobl, rwy’n credu nad oes yna amheuaeth o gwbl fod tôn y ddadl wedi dylanwadu, ac yn dylanwadu ar farn pobl ynglŷn â mewnfudo. Ac rwy’n meddwl ei bod yn bwysig iawn, pan fyddwn yn sôn am fewnfudo, pan fyddwn yn sôn am fewnfudwyr ac ymfudwyr, dylem feddwl am yr effaith y mae hyn yn ei chael ar bobl sy’n fewnfudwyr, sy’n ymfudwyr, sy’n byw yn y wlad hon. Beth yw eu barn am y ddadl hon? Beth yw eu hymateb? Nid oes amheuaeth o gwbl fod hyn yn effeithio ar bobl yn y sefyllfa honno. Maent yn teimlo nad oes neb eu heisiau yma. Mae pobl wedi dweud wrthyf eu bod yn teimlo eu bod yn ddinasyddion eilradd, ac rwy’n credu ei bod yn hollol warthus fod bodau dynol yn ein gwlad yn cael eu gwneud i deimlo fel hyn. Credaf ei bod yn bosibl cael dadl am fewnfudo, dadl iawn, gytbwys, ond nid yn y dôn y mae’r ddadl hon wedi’i fframio. Rwy’n credu ei bod wedi bod yn ddichellgar, ac rwy’n credu ei bod wedi dylanwadu ar bobl pan fyddant yn ystyried sut y maent yn mynd i bleidleisio. Hefyd, mae’n bwysig iawn ein bod yn cael dadl sy’n seiliedig ar ffeithiau, a gwyddom fod y ffigurau sy’n cael eu rhoi, a thôn y ddadl, wedi’i gorliwio’n helaeth. Yn ôl ffigurau o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd, 5.8 y cant yn unig yw canran y dinasyddion a aned y tu allan i’r DU yng Nghymru, ac mae canran yr ymfudwyr o oedran gweithio yng Nghymru yn 8 y cant o’r boblogaeth. Mae hynny’n cynnwys ceiswyr lloches, ffoaduriaid, 25,000 o fyfyrwyr rhyngwladol—a gwyddom cymaint rydym am annog myfyrwyr rhyngwladol yma—ac wrth gwrs, ymfudwyr sy’n gwneud gwaith sgiliau uwch a gwaith heb sgiliau. Gwyddom fod gweithwyr mudol yn debygol o fod yn iau, maent yn fwy tebygol o fod wedi’u haddysgu’n well, ac maent yn fwy tebygol o fod yn gyflogedig na’r boblogaeth a aned yn y DU. Rwy’n meddwl bod y ffigurau hynny’n dangos cyfraniad enfawr ymfudwyr i Gymru ac i’r DU. Mae miloedd o ymfudwyr yn gweithio yn y GIG. Mae miloedd o ymfudwyr yn gweithio yn y diwydiant gofal. Beth pe baent i gyd yn penderfynu mynd adref am eu bod wedi cael llond bol ar y ffordd y cânt eu trin yn y wlad hon, am eu bod yn cael eu trin fel dinasyddion eilradd? Wrth gwrs, ar draws y DU, mewnfudwyr o’r UE yw 10 y cant o feddygon cofrestredig, a gwyddom pa mor anodd yw hi i gael meddygon. Beth sy’n mynd i ddigwydd os ydynt yn penderfynu eu bod eisiau mynd adref? Hefyd, pam ddylai ymfudwyr sy’n byw yma gael y bai am unrhyw ddiffygion ym maes tai neu ysbytai neu ysgolion? Oherwydd dyna beth y mae pobl wedi’i lyncu o’r propaganda dichellgar hwn—maent yn dweud, ‘Maent yn cymryd ein tai; maent yn cymryd ein lleoedd mewn ysgolion.’ Rydym wedi gweld cyfnod estynedig o galedi gan y Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan, sydd wedi golygu ei bod yn anochel y gwelwn fwy o doriadau eto i wasanaethau awdurdodau lleol, ond nid yw’n fai ar ymfudwyr os nad oes digon o dai cyngor i’w cael, neu os yw llyfrgell leol yn cau. Mae hynny yn nwylo’r Llywodraeth—ein Llywodraethau ni yma yn y DU.Mae’r dadleuon eraill sydd wedi cael eu gwyntyllu’n gadarn iawn yma y prynhawn yma yn ymwneud â sofraniaeth—y syniad y dylem adfer ein rheolaeth ar ein ffiniau, a ninnau eisoes yn gwybod nad ydym yn rhan o gytundeb Schengen, felly mae gennym reolaeth dros ein ffiniau—a hefyd y syniad fod swyddogion anetholedig yn yr UE yn gwneud polisi yma yn y DU, sy’n hollol anghywir, oherwydd ni all unrhyw beth basio oni bai ei fod wedi’i gytuno gan Gyngor y Gweinidogion, a gaiff eu hethol. Mae’n chwerthinllyd fod gwlad sy’n dal i feddu ar Dŷ’r Arglwyddi yn meddwl bod yr Undeb Ewropeaidd yn fiwrocrataidd ac yn anetholedig, oherwydd, mewn gwirionedd, rwy’n meddwl bod y rhan fwyaf o’r gwledydd eraill yn meddwl ei fod yn hollol anhygoel fod gennym Dŷ’r Arglwyddi yma.Felly, o ran gwaith a’r syniad fod mewnfudwyr yn mynd â swyddi pobl, dyma chwedl arall eto sydd wedi’i pharhau’n ddiddiwedd. Mae mwy o bobl mewn gwaith yng Nghymru yn awr nag ar unrhyw adeg arall, ac mae mwy o bobl a aned yn y DU yn gweithio yn awr nag erioed. Mae hynny’n wir am Gymru a’r DU. Mae ymfudwyr yn rhan o’r llwyddiant economaidd. Felly, mae’r syniad hwn fod ymfudwyr a mewnfudwyr yn mynd â swyddi yn nonsens, ac rwy’n gobeithio, pan fydd pobl yn pleidleisio yfory, y byddant yn ystyried y ffeithiau pwysig hyn ac na chânt eu dylanwadu gan y sbin dichellgar sydd wedi’i roi ar yr holl ffeithiau hyn, gan nad oes unrhyw amheuaeth fod rhaniad yn y wlad—rhaniad yn y ffordd y mae pobl yn mynd i bleidleisio. Beth bynnag fydd y canlyniad, rydym yn mynd i gael gwaith adfer cydlyniant cymunedol yn fy marn i. Ond rwy’n gobeithio y bydd pobl, wrth iddynt bleidleisio, yn meddwl am eu plant a’u hwyrion, fel y dywedwyd y prynhawn yma yn y ddadl, ac am obeithion a chyfleoedd ar gyfer eu plant a’u hwyrion, ac yn meddwl hefyd am y cyfraniad enfawr—y cyfraniad economaidd, y cyfraniad diwylliannol—y mae pob person sy’n byw yma yn ein gwlad, yng Nghymru, yn ei gyfrannu. Pan fyddwn yn dweud pethau, gadewch i ni gofio hynny. Rhianon Passmore AC: Diolch, Lywydd. Gyda thristwch mawr rwyf finnau hefyd yn siarad yma heddiw am ddylanwadau ar y farn gyhoeddus. Y drasiedi yma yw bod hyn wedi bod yn rhagweladwy o ran y newid ar draws y cyfryngau yn arbennig o ran y papurau newydd tabloid sydd wedi tanio’r hiliaeth ddichellgar hon yn wir—gadewch i ni ei alw yr hyn ydyw. Rwy’n teimlo’n drist iawn, o ganlyniad i’r math hwn o gamwybodaeth, o ganlyniad i’r methiant i drosglwyddo ffeithiau’n effeithiol ynglŷn â mewnfudo, fod barn arbenigol bron bob corff economaidd y gwyddys amdano wedi cael ei diystyru o blaid ras ddichellgar i gyrraedd y gwter ar ran y blaid gyferbyn, nad yw hyd yn oed wedi trafferthu dod i’r ddadl fer hon heno neu’r prynhawn yma a dweud y gwir—. Yn bersonol, rwy’n teimlo ei bod yn drueni mawr fod hyn wedi cyfrannu at gynyddu rhaniadau yn ein cymdeithas, at ddiffyg cydlyniad cynyddol yn ein cymdeithas, a’r cynnydd mewn casineb hiliol sydd bellach wedi’i brofi gan y data mewn gwirionedd o ran yr hyn sy’n dod drwodd.Mae’r lluniau di-chwaeth y cyfeiriodd sawl un atynt heddiw yn dal i fod allan yno; nid ydynt wedi cael eu tynnu’n ôl hyd y gwn. Gwn fod Unsain yn rhoi camau ar waith gyda’r heddlu metropolitanaidd mewn perthynas ag ysgogi casineb hiliol, ond yr hyn sy’n drasiedi yn fy meddwl i yw bod hyn mewn gwirionedd yn eithaf normal ac mae wedi cael ei normaleiddio. Mae tôn y ddadl hon wedi cyrraedd lle mor ofnadwy fel ein bod yma mewn gwirionedd yn y fan hon yn sôn am luniau o ffoaduriaid yn cael eu defnyddio fel porthiant gwleidyddol, fel y gallwn dargedu barn mewn gwirionedd yn seiliedig ar ffeithiau ffug ynglŷn â mewnfudo a dadl ffug ynglŷn â beth y mae hyn i gyd yn ymwneud ag ef. Mae angen i chi ddod â’ch geiriau i ben. Rhianon Passmore AC: Iawn, diolch. Felly, yn lle porthi’r materion hyn sy’n ymwneud â mewnfudo ac anwybyddu’r ffeithiau, y cyfan y byddwn yn ei ddweud, i orffen fy sylwadau yw hyn: er mwyn anrhydeddu’r cof am Jo Leadbeater—Jo Cox—a oedd yn sefyll dros driniaeth gyfartal ac achosion dyngarol, cymorth i ffoaduriaid a chyfryngau teg, mae’n rhaid i ni ddewis cydweithio a gweithio o fewn yr UE, nid y tu allan iddo. I ddefnyddio ei geiriau, rydym i gyd yn llawer gwell pan fyddwn yn gweithio gyda’n gilydd na phan fyddwn yn rhanedig ar wahân, ac rwy’n credu bod hwn yn ddatganiad addas i ni ei ystyried ac i Gymru ei ystyried wrth i ni fynd ati i bleidleisio yfory. Joyce Watson AC: Diolch i Julie Morgan, yn gyntaf, am gyflwyno’r ddadl hon ac yn ail, am roi munud i mi, a cheisiaf gadw ati. Rwyf fi, fel yr holl gyd-Aelodau sy’n b​resennol yn awr, eisiau talu teyrnged i Jo Cox. Cawsom i gyd ein syfrdanu gan yr hyn a ddigwyddodd, ond rydym hefyd, rwy’n gobeithio, wedi cael ein hysbrydoli gan yr hyn a adawodd ar ôl, ac rydym yn awyddus i gymryd yr hyn y credai ynddo a’r hyn y mae hi, gobeithio, wedi’i adael ar ôl fel nod, fel catalydd ar gyfer newid mewn trafodaethau gwleidyddol yn y dyfodol. Nid oes amheuaeth nad yw’r drafodaeth wleidyddol wedi bod yn ddefnyddiol iawn yn ymgyrch y refferendwm hwn, ond mae newid wedi digwydd. Y tristwch yw bod rhywun wedi gorfod marw er mwyn i’r newid hwnnw ddigwydd. Rwy’n credu—ac rwy’n siŵr fod pawb arall yma hefyd yn credu—mai’r hyn sydd angen i ni ei wneud, beth bynnag fo’r canlyniad yfory, yw symud ymlaen i ddathlu’r amrywiaeth y mae’r gwahanol ddiwylliannau ac unigolion yn eu cyfrannu i’n cymdeithas. Mae’n rhaid i ni wneud addewid yma, heddiw, ar yr hyn a fyddai wedi bod yn ben-blwydd Jo, i beidio byth â hybu rhaniadau ac ofn, ond i uno gyda’n gilydd a symud ymlaen mewn gobaith a chariad. Galwaf nawr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford. Mark Drakeford AC: Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy’n falch iawn fy mod wedi cael y cyfle i aros a chlywed y ddadl fer hon. Roeddwn i’n meddwl bod cyfraniad Julie Morgan yn gwbl nodweddiadol feddylgar am y materion sy’n codi ac yn ymrwymedig i ddod o hyd i atebion ar gyfer y bobl sydd fwyaf o’u hangen.Dechreuodd drwy sôn am fywyd Jo Cox, ac nid wyf yn credu bod unrhyw beth y gallwn ei ddweud a fyddai’n ychwanegu at y teyrngedau a roddwyd ddoe, ac eto yn y ddadl fer, i’w bywyd. Roeddwn i’n meddwl mai’r hyn y byddwn yn ei wneud yw meddwl, am funud neu ddau, am yr achosion y mae’r arian sydd wedi llifo i mewn yn dilyn ei marwolaeth—yr achosion y rhoddir yr arian hwnnw tuag atynt. Oherwydd mae’r arian hwnnw’n ffordd ddigymell y mae pobl sydd wedi’u cyffwrdd cymaint gan yr hyn a ddigwyddodd ac sy’n ei chael yn anodd gwybod beth y gallent ei wneud i ddweud unrhyw beth am eu hymateb iddo—mae cyfrannu ychydig o arian yn un ffordd y mae pobl yn teimlo y gallant wneud rhywbeth ymarferol, a cheir tri achos, fel y bydd pobl yn gwybod, y mae ei theulu eithriadol wedi penderfynu rhoi’r arian hwnnw tuag atynt.Y cyntaf yw helpu gwirfoddolwyr i frwydro yn erbyn unigrwydd yn ei hetholaeth. Nawr cawsom ein hannog yn gynharach y prynhawn yma i wrando ar yr hyn mae pobl yn ei ddweud wrthym ar garreg y drws. A phan fyddwn yn cwestiynu, fel y mae’n rhaid i ni, pam fod cymaint o bobl a fyddai mewn ffyrdd eraill yn rhannu llawer o bethau eraill y credwn eu bod yn bwysig yn bwriadu pleidleisio mewn ffordd wahanol i’r un y byddem yn ei obeithio yfory, yna—rwy’n meddwl, wrth i mi fynd o gwmpas yn curo drysau yn fy etholaeth ym mis Mawrth a mis Ebrill, po fwyaf y bydd pobl wedi’u gwahanu oddi wrth fywyd gweddill y gymuned o’u cwmpas, y mwyaf y maent yn teimlo nad oes ganddynt gysylltiad â phethau cyffredin a phrif ffrwd, yna’r mwyaf y bydd bobl yn debygol o ofyn i chi am y refferendwm a’r mwyaf tebygol y byddent o ddweud wrthych eu bod yn mynd i bleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd.Y clymau cymdeithasol sy’n ein cysylltu yn ein cymunedau yw’r un clymau cymdeithasol sy’n ein galluogi i deimlo’n hyderus i fod yn rhan o gymunedau, hyd yn oed y tu hwnt i’n rhai ni ein hunain. Mae’r gwaith y bydd yr arian yn ei wneud i helpu i wrthsefyll unigrwydd yn rhan o’r gwaith ar bwytho’r gwead cymdeithasol yn ôl at ei gilydd ar gyfer pobl sydd wedi’u datgysylltu oddi wrth gymdeithas gan effaith caledi, ond hefyd, ar gyfer pobl y soniodd Julie amdanynt sy’n dod i fyw yn ein cymdeithas ac sy’n aml yn ei chael yn anodd yn bennaf oll i deimlo bod croeso iddynt a bod ganddynt gysylltiadau y gallant adeiladu arnynt i greu dyfodol iddynt eu hunain ymhlith y gweddill ohonom, a bydd yr arian hwnnw’n eu helpu hwythau hefyd. A bydd yn eu helpu mewn ffordd y mae’r ail sefydliad y bydd yr arian hwnnw’n ei helpu yn ei esbonio’n dda iawn yn wir, oherwydd bydd yr arian yn mynd i HOPE not hate.Fel y clywsom yn y Siambr hon y prynhawn yma, mae’n wir fod rhai o’r rheini sydd wedi ceisio perswadio pobl eraill i bleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd yn apelio at ofn a chasineb. Ni allwn greu dyfodol y byddem am ei weld i ni ein hunain neu’r rhai sy’n annwyl i ni yn seiliedig ar y ffordd honno o feddwl. Mae i deulu sydd wedi dioddef canlyniad yr hyn y gall casineb ei wneud yn uniongyrchol roi arian tuag at obaith, a gobaith ar gyfer y dyfodol, rwy’n meddwl bod hwnnw’n benderfyniad hollol eithriadol, ac mae’n cysylltu’r ffordd y mae pobl sy’n teimlo ar wahân i gymdeithas, ac felly’n agored i apêl fod yna ateb hawdd sy’n cynnwys beio rhywun arall am y trafferthion y maent ynddynt eu hunain yn—. Rwy’n credu bod dweud mai’r hyn sy’n rhaid i ni ei gynnig i’r bobl hynny yw gobaith iddynt eu hunain a’u cymunedau yn hytrach na chasineb tuag bobl eraill yn deyrnged wirioneddol i’w bywyd a’r hyn y mae wedi’i olygu.Y trydydd sefydliad yw sefydliad White Helmets, sefydliad sy’n gweithredu, nid yn y wlad hon, heb sôn am ei hetholaeth, ond yn hytrach yn Syria—sefydliad sydd wedi achub 51,000 o fywydau pobl a gaethiwyd dan y rwbel sy’n deillio o fod dan fygythiad gwirioneddol o farwolaeth ac aflonyddwch. A’r trydydd ymdeimlad hwnnw o fod wedi’ch cysylltu, nid yn unig â bywyd pobl yn y gymuned sydd o’ch cwmpas, ond y ffordd y gall y gymuned honno fod wedi’i chysylltu at fywydau pobl sy’n dioddef pethau na allwn eu dychmygu bron, rwy’n meddwl mai dyna’r drydedd deyrnged hynod i’w bywyd, ond nid yn unig i’w bywyd hi, ond i’r pethau roedd hi’n eu hystyried yn bwysig yn ei bywyd, ac y byddai cymaint o bobl yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn uniaethu mor gryf â hwy.Nawr, aeth Julie ymlaen i wneud ei chysylltiadau ei hun rhwng bywyd Jo Cox a’r penderfyniad sy’n mynd i gael ei wneud yn y wlad hon yfory. Yn ddiamau, mae’r cyhoedd wedi bod yn agored i amrywiaeth enfawr o wybodaeth yn ystod ymgyrch y refferendwm, a chymaint ohono’n hynod negyddol. Ond mae’r achos y byddem yn ei wneud, yr achos y byddai Llywodraeth Cymru am ei wneud, ac y byddai pobl eraill yn y Siambr hon yn dymuno ei wneud dros ddyfodol sy’n ein cynnwys yn yr Undeb Ewropeaidd yn un sy’n gyfan gwbl gadarnhaol. Mae bod yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd wedi bod yn brofiad cadarnhaol i Gymru yn economaidd, yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol. Pan fyddwn yn meddwl am yr hyn a wyddom ynglŷn â sut y bydd pobl yn pleidleisio yfory, yna, yn ogystal â gwahaniaeth rhwng y bobl hynny sy’n teimlo’u bod wedi’u hynysu ac wedi’u torri i ffwrdd oddi wrth y bobl sy’n gallu byw bywydau cysylltiedig, bydd yna wahaniaeth, cyn belled ag y gallwn ddweud, rhwng penderfyniadau pobl hŷn, sy’n fwy tebygol o deimlo eu bod yn bell oddi wrth fywyd y gymuned, a sut y bydd pobl ifanc yn pleidleisio. Mae dyfodol yr Undeb Ewropeaidd i bobl ifanc yng Nghymru yn ymddangos i mi yn gwbl hanfodol o ran ei gwneud yn glir ein bod yn genedl yn y brif ffrwd yn Ewrop lle y gall ein pobl ifanc weithio, byw ac astudio mewn gwladwriaethau Ewropeaidd eraill, a gallu mynd, gallu mynd â chyfoeth y diwylliant sydd gennym yma yng Nghymru a dychwelyd i Gymru wedi’u cyfoethogi ymhellach gan y cyfleoedd y byddant wedi’u cael. Credaf mai’r ymdeimlad cadarnhaol hwnnw o beth yw bod yn Ewropead a ddylai fod wrth wraidd ein neges i bobl a pham rydym am iddynt bleidleisio yfory er mwyn i Gymru barhau i fod yn gysylltiedig mewn Undeb Ewropeaidd sy’n hanfodol i ffyniant presennol Cymru a’u ffyniant yn y dyfodol, sy’n hyrwyddo ac yn diogelu ein busnesau, addysg ein plant, ein hamgylchedd a’r gwasanaethau rydym yn dibynnu arnynt, sy’n amddiffyn hawliau ein gweithwyr, sy’n glir nad yw difrod amgylcheddol yn dod i ben gyda ffiniau gwledydd ac na ellir gwneud cynnydd yn erbyn y newid yn yr hinsawdd er enghraifft, oni bai bod gwledydd yn gweithio gyda’i gilydd—Ewrop sy’n helpu i’n cadw’n fwy diogel ar adeg pan fo pawb yn teimlo ofnau dealladwy ynglŷn â diogelwch, Ewrop sy’n gweithredu gyda’i gilydd i fynd i’r afael â heriau mawr ein hoes ac sy’n gweithredu’n gadarnhaol i roi dyfodol i’n plant a’n cenedl o’r math y bydd y tri sefydliad y mae’r arian a godir er cof am Jo Cox yn ei wneud yn ei rhan hi o’r byd ac ar draws y byd yn gyfan. Diolch yn fawr iawn. Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet, a daw hynny â’n trafodion ni heddiw i ben. Daeth y cyfarfod i ben am 18:43. QNR Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig Julie Morgan: A wnaiff y Gweinidog gadarnhau nad oes rhwystrau statudol yn atal cyflwyno deddfwriaeth Gymreig i wahardd defnyddio maglau yng Nghymru? Lesley Griffiths: Should changes be proposed on the use of snares in Wales, the introduction of Welsh primary legislation could be required. There are a number of legislative provisions which regulate the use of snares in Wales, including under the Wildlife and Countryside Act 1981. Llyr Gruffydd: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fwriadau'r Llywodraeth i ddwysáu ymdrechion i amddiffyn rhywogaethau sydd o dan fygythiad? Lesley Griffiths: Mae adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn ei gwneud hi’n ofynnol i Weinidogion baratoi a chyhoeddi rhestr o gynefinoedd ac organeddau byw sy’n hollbwysig ar gyfer cynnal a gwella bioamrywiaeth yng Nghymru. Byddaf yn amlinellu fy nghynlluniau o safbwynt hyn maes o law.
uk-hansard-senedd-cy
senedd2016-06-22
2024-06-01T00:00:00
{ "year": "2016", "language": "cy", "license": "Open Parliament Licence - https://www.parliament.uk/site-information/copyright-parliament/open-parliament-licence/" }
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. Galw'r Aelodau i drefn. 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Mark Isherwood. Banc Cymunedol yng Nghymru Mark Isherwood AC: 1. Pa gynnydd sydd wedi'i wneud i sefydlu banc cymunedol yng Nghymru? OAQ54778 Mark Drakeford AC: Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae'r bartneriaeth a grëwyd rhwng Banc Cambria a'r Gymdeithas Banc Cynilion Cymunedol yn cwblhau cynllun prosiect manwl, asesiad cychwynnol o'r farchnad ac astudiaeth o ddichonoldeb, gyda chymorth Banc Datblygu Cymru a Phrifysgol Caerdydd. Edrychaf ymlaen at dderbyn yr adroddiad hwnnw'n fuan. Mark Isherwood AC: Wel, sylwaf fod y grŵp trawsbleidiol heddiw, na allwn fynd iddo, wedi cyfeirio at hynny a datblygiad y grŵp sy'n gweithio ym Manc Cambria i fwrw ymlaen â'ch cynigion ar gyfer banc cymunedol. Wrth gwrs, mae'r rhain yn cydredeg â datblygu cytundeb fframwaith bancio Swyddfa'r Post gyda 28 o fanciau yn y DU i alluogi cwsmeriaid ar y stryd fawr i allu manteisio ar wasanaethau bancio ehangach, a'r cynigion ddwy flynedd yn ôl gan Cyllid Cyfrifol Cymru, er mwyn i eraill, er mwyn i grwpiau, gydweithio i ddatblygu model banc cymunedol. Ac, wrth gwrs, roeddwn i'n arfer gweithio yn un o ragflaenwyr y banciau cymunedol—un o'r cymdeithasau adeiladu cydfuddiannol. Fodd bynnag, pan godais gyda'r Prif Weinidog ar y pryd, yn 2010, y gofynion a'r rheoliadau rheoli risg a digonolrwydd cyfalaf y byddai'n rhaid i fanc newydd gydymffurfio â nhw, na fyddai'n rhaid i bartner banc sefydledig ei wneud, cytunodd y Prif Weinidog ar y pryd y gall sefydlu banc newydd fod, a dyfynnaf, yn fusnes drud a hirfaith os ydych chi'n dechrau o'r dechrau, ac mae defnyddio'r arbenigedd sydd eisoes yn y sector i ddatblygu model bancio cymdeithasol yn gwneud synnwyr. Pa drafodaethau ydych chi a'ch cyd-Weinidogion wedi eu cael, felly, mewn ymgynghoriad â grwpiau defnyddwyr ac arbenigwyr yn y diwydiant, ynghylch dichonoldeb cael banc cymunedol yng Nghymru sy'n adlewyrchu'r anghenion, y rheoliadau a'r egwyddorion bancio craidd hynny? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, diolchaf i Mark Isherwood am y cwestiwn yna. Mae'n hollol iawn i ddweud bod gan y busnes o sefydlu banc newydd rwystrau rheoleiddio sylweddol i'w goresgyn ac y gall fod yn fusnes hirfaith. Ond dyna pam yr ydym ni'n gweithio gyda'r Gymdeithas Banc Cynilion Cymunedol. Ac yn y modd hwnnw, mae'r sefyllfa wedi newid ers 2010, gan fod y Gymdeithas Banc Cynilion Cymunedol, sy'n deillio o waith a wnaed gan Gymdeithas Frenhinol y Celfyddydau, wedi ariannu ei hun ac wedi arwain y gwaith o baratoi dogfennau cyfansoddiadol, systemau TG, dyluniadau canghennau, cysylltiadau system daliadau, manylebau cynnyrch, ac, yn hanfodol, dogfennau cais am drwydded fancio. Felly, mae llawer mwy o waith wedi'i wneud erbyn hyn gan grŵp o arbenigwyr sy'n rhoi'r sylfaen i ni ar gyfer yr hyn y gall Banc Cambria ei wneud yma yng Nghymru. Mae'r ddogfen cais am drwydded fancio, yn arbennig, yn rhannu'r broses o gael trwydded i nifer o gamau y gellir eu rheoli. A dyna'r ffordd yr ydym ni'n bwriadu gweithio drwy'r broses yng Nghymru, gan symud ymlaen un cam ar y tro. Dyna pam mae'r asesiad cychwynnol o'r farchnad a'r astudiaeth o ddichonoldeb mor bwysig, gan y bydd yn profi'r cwestiynau sylfaenol hynny ynghylch hyfywedd a chynaliadwyedd, ac yna byddwn yn symud ymlaen i'r cam nesaf, gan weithio gydag 11 o fentrau eraill sydd ar wahanol gamau o gynnydd ar draws y Deyrnas Unedig, pob un ohonyn nhw o dan ambarél y Gymdeithas Banc Cynilion Cymunedol, gan roi'r hyder i ni yma yng Nghymru bod gennym ni'r cyngor sydd ei angen arnom i lwyddo yn ein huchelgais o sefydlu banc cymunedol. Rhun ap Iorwerth AC: Dwi'n siŵr buasai'n haws pe bai gennym ni'n trefniadau rheoleiddio ein hunain o ran sefydlu banc o'r math yma. Ond dŷn ni fel plaid wedi cefnogi cael banc cymunedol ers blynyddoedd. Dwi'n edrych ymlaen i gael cyfrif yn ein banc cymunedol ni yma yng Nghymru. Ond, wrth gwrs, ymateb ydy hyn rŵan i'r ffaith fod banciau't stryd fawr wedi gadael ein cymunedau ni yn y niferoedd dŷn ni wedi'u gweld dros y blynyddoedd diwethaf. A fyddech chi'n cytuno efo fi fod y ffaith ein bod ni wedi methu â rheoleiddio, wedi methu â gosod amodau ar y banciau hynny, wedi'n gadael ni yn y sefyllfa yma lle dŷn ni wedi gweld yr ecsoduso wasanaethau ariannol o'r stryd fawr yn y modd dŷn ni wedi ei weld yn y blynyddoedd diwethaf? Mark Drakeford AC: Wel, i ddweud y gwir, Llywydd, mae'n fwy cymhleth na jest i ddweud mai problemau o reoleiddio sydd y tu ôl i beth sydd wedi digwydd ar y stryd fawr. Beth mae'r banciau yn ei ddweud yw nad yw'r business model maen nhw wedi'i ddefnyddio dros y blynyddoedd jest ddim yn gweithio fel oedd e beth amser yn ôl. Mae nifer y bobl sy'n defnyddio'u canghennau wedi cwympo, mae lot fwy o bobl yn gwneud y gwaith ar-lein, so mae rhywbeth yn y business model hefyd. Dyna pam mae hi wedi bod mor bwysig i weithio gyda'r Community Savings Bank Association, achos maen nhw wedi creu model newydd ble maen nhw'n hyderus ei bod hi'n bosibl rhedeg rhywbeth ar y stryd fawr mewn ffordd wahanol sy'n gallu gweithio yn lleol. A dyna pam dŷn ni wedi bwrw ymlaen. Dwi'n cytuno â beth roedd Rhun ap Iorwerth yn ei ddweud am y broblem, ac mae'r broblem ledled Cymru, dŷn ni'n gwybod. Ond mae jest dweud mai'r hen ffordd i wneud pethau yw'r ffordd orau i'w wneud e ddim yn mynd i weithio, dwi ddim yn meddwl. Dyna pam mae'r model newydd gyda ni, a dŷn ni'n trial gweithio'n galed i gael y model yna ar waith yma yng Nghymru. Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru David J Rowlands AC: 2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am berfformiad Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru? OAQ54798 Mark Drakeford AC: Llywydd, mae Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru wedi gwneud cynnydd da yn ei flwyddyn gyntaf. Cyhoeddwyd ei adroddiad blynyddol cyntaf, fel y bwriadwyd, ar 27 Tachwedd. David J Rowlands AC: Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Fel y dywedwch, ar 27 Tachwedd, cyflwynodd y comisiwn ei adroddiad blynyddol cyntaf. Ni wahoddwyd unrhyw un o Aelodau'r Cynulliad, a dywedwyd wrthyf na chafodd hyd yn oed Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, Russell George, ei hysbysu am y cyflwyniad. Mae'n ymddangos yn hynod o siomedig mai'r cwbl yr oedd yr adroddiad yn ei wneud, ar ôl eistedd am 12 mis, oedd amlinellu cyfres o feysydd y bydd cynllun gwaith y dyfodol yn canolbwyntio arnynt. Fodd bynnag, mae cipolwg yn unig ar yr adroddiad hwn yn dweud wrthym ni bod yr holl agweddau hyn eisoes wedi eu nodi a'u trafod yn helaeth ym mhwyllgorau'r Cynulliad, ac yn yr ymchwiliad cyhoeddus i ffordd liniaru'r M4. Mae'n ymddangos mai'r cwbl yw hwn yw ymarfer torri a gludo, wedi'i amgylchynu gan y rhagymadrodd arferol. Felly, Prif Weinidog, os yw hi wedi cymryd 12 mis i'r comisiwn, gyda 12 aelod, lunio'r cwestiynau, pa mor hir y bydd hi'n ei gymryd i feddwl am yr atebion? O ystyried bod y broses hon yn gost sylweddol i'r trethdalwr unwaith eto, a yw'r Prif Weinidog yn wirioneddol fodlon â'r cynnydd a wnaed hyd yn hyn? Mark Drakeford AC: Llywydd, rwy'n clywed o gwmpas y Siambr fod Aelodau Cynulliad eraill â gwahanol safbwynt o ran pa un a roddwyd gwahoddiadau iddyn nhw fod yn rhan o gyhoeddi'r adroddiad blynyddol. Nid wyf i'n cytuno ag asesiad yr Aelod ohono. Mae'n bwysig bod y Comisiwn wedi darparu asesiad sylfaenol ar sail tystiolaeth yn ei adroddiad blynyddol cyntaf. Dyna a ofynnwyd iddo ei wneud. Mae'n nodi tair thema allweddol datgarboneiddio, cysylltedd, a chydnerthedd. Mae'n nodi 10 mater allweddol penodol y mae'n dweud y bydd yn rhoi sylw iddyn nhw, ac yn gofyn am sylwadau gan bwyllgorau Cynulliad ac eraill ynghylch y ffordd orau o'u datrys. Mae'n nodi tri maes y mae'n bwriadu canolbwyntio arnyn nhw yn ystod y flwyddyn i ddod: cyfathrebu digidol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig dwysedd isel; ynni adnewyddadwy a chysylltiadau â'r grid trydan; a thrafnidiaeth, lle mae'n awyddus i archwilio materion yn ymwneud â chapasiti, tagfeydd a datgarboneiddio. Rwy'n credu bod yr adroddiad blynyddol yn gychwyn cadarn i waith y comisiwn, a'r hyn y bydd yn ei wneud yw ymateb i adroddiad y pwyllgor perthnasol, gan gytuno y dylai'r adroddiad cyntaf ar gyflwr y genedl fod ym mis Tachwedd 2021, ac y bydd yn adrodd, fel yr argymhellodd y Pwyllgor, bob tair blynedd wedi hynny. Mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i adolygu'r comisiwn erbyn mis Mai 2021, ei gwmpas a'i gylch gwaith. A chredaf fod hynny i gyd yn dangos bod rhaglen waith weithredol y mae'r comisiwn wedi dechrau cael gafael gwirioneddol arni, a bod cynllun ar waith iddo barhau i gyflawni'r gwaith hwnnw dros y blynyddoedd i ddod. Russell George AC: Dylwn gadarnhau fy mod i yn y digwyddiad yr wythnos diwethaf. Ond yr hyn y gwnaf i ei ddweud, er fy mod i yno, oedd bod yr hyn a ddywedwyd yn yr adroddiad blynyddol cyntaf hwnnw wedi creu argraff llai na syfrdanol arnaf. Mae wedi cymryd blwyddyn i'r comisiwn ddarganfod mai'r hyn y mae angen iddyn nhw ganolbwyntio arno yw ynni, cysylltedd digidol, band eang a thrafnidiaeth. Wel, gallai unrhyw un ohonom ni yn y Siambr hon fod wedi dweud yn union hynny wrth y comisiwn. Yr unig beth y gwnes i ei ddysgu yr wythnos diwethaf yw nad yw'r comisiwn, a sefydlwyd i edrych ar y tymor hir, yn mynd i gymryd unrhyw dystiolaeth am y dull hirdymor ar hyn o bryd. Felly, mae'n rhaid i mi ddweud bod gwaith y comisiwn hyd yn hyn wedi gwneud argraff llai na syfrdanol arnaf, ac nid wyf i'n credu bod y gallu gan y comisiwn ar hyn o bryd i ymateb i'r her sydd ganddo o'i flaen. A gaf i ofyn, Prif Weinidog, a ydych chi'n credu bod diffyg uchelgais a sylwedd yn y dull presennol? Beth ydych chi'n mynd i'w wneud o ran newid y dull sy'n cael ei ddilyn hyd yma, gyda diffyg uchelgais a sylwedd yn digwydd? Faint o staff y mae'r comisiwn yn eu penodi ar hyn o bryd? A faint o staff fydd yn cael eu penodi yn y dyfodol, oherwydd rwy'n credu bod angen darparu adnoddau priodol ar ei gyfer? Rydych chi'n penodi cadeirydd hirdymor, yr wyf i'n credu sydd i'w groesawu, a pha rinweddau fyddech chi'n disgwyl eu gweld yn y person penodedig hirdymor hwnnw? Mark Drakeford AC: Wel, diolchaf i'r Aelod am hynna. Rwy'n falch ei fod wedi gallu bod yn bresennol yn lansiad yr adroddiad. Nid wyf i'n derbyn yr hyn y mae'n ei ddweud. Y tro diwethaf i mi ateb cwestiynau ar lawr y Cynulliad hwn am waith y comisiwn, gofynnwyd i mi o bob rhan o'r Siambr a oeddwn i'n mynd i fod yn ystyried materion yn ymwneud â dŵr, yn ymwneud â gwastraff, yn ymwneud â rheoli perygl llifogydd, yn ymwneud â thai, ac mae'r comisiwn, yn gwbl briodol, wedi gorfod gwneud dewisiadau yn ei flwyddyn gyntaf ynghylch y materion y dylai ganolbwyntio arnyn nhw, ac roedd hwnnw'n ymarfer dethol priodol fel y gellid nodi ei feysydd blaenoriaeth yn ystod y 12 mis nesaf. Yn wir, ceir ymarfer sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd ar gyfer y broses penodi cyhoeddus ar gyfer cadeirydd hirdymor y comisiwn seilwaith. Rwy'n falch, Llywydd, yn y trafodaethau yr wyf i wedi eu cael gyda'ch swyddfa bod y swydd honno ar y rhestr o benodiadau cyhoeddus arwyddocaol a fydd yn cael eu profi trwy broses graffu cyn penodi yma yn y Cynulliad, a bydd Aelodau sydd â safbwyntiau cryf ar y rhinweddau y dylai'r sawl a benodir i'r swydd hon feddu arnynt yn gallu rhoi prawf ar yr unigolyn hwnnw drwy'r broses graffu honno. Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price. Adam Price AC: O ystyried difrifoldeb yr hyn sydd wedi digwydd yng Nghwm Taf, oni ddylem ni fod wedi disgwyl i Weinidog o Gabinet yr wrthblaid Lafur a oedd yn siarad yn y Senedd fod wedi ymgyfarwyddo â'r achos trasig hwn? Neu a yw'n wir mewn gwirionedd fod Cymru o gyn lleied o bwys i fainc flaen Llafur yn San Steffan ag y mae i'r Torïaid? Mark Drakeford AC: Llywydd, mae'r digwyddiadau yng Nghwm Taf yn haeddu ymateb mwy difrifol na'r un yr ydym ni newydd gael ei gynnig gan arweinydd Plaid Cymru. Go brin y mae pa un a oedd llefarydd ar y fainc flaen yn gwbl gyfarwydd â'r manylion yn berthnasol o gwbl i'r mamau a'r teuluoedd sy'n gysylltiedig â'r digwyddiadau yng Nghwm Taf. Mae'r Llywodraeth hon wedi canolbwyntio ac mae'r Gweinidog wedi canolbwyntio ar sicrhau bod pryderon y mamau hynny yn cael ymateb priodol, bod pob cyfle iddyn nhw gyfrannu at y broses o unioni'r hyn a aeth o'i le yng Nghwm Taf. Dyna'r pethau sydd o bwys i'r teuluoedd hynny ac i gleifion yn ardal Cwm Taf, ac nid yw'r ymgais i'w droi'n rhyw gecru gwleidyddol dibwys o ddim clod o gwbl iddyn nhw nac iddo fe. Adam Price AC: Siawns bod y ffaith bod Gweinidog Cabinet yr wrthblaid Lafur wedi galw am ymchwiliad ddydd Gwener ac yna wedi gorfod tynnu hynny'n ôl ar y Sul, a hynny am y rheswm syml nad oedd wedi dangos yr hyn yr wyf i'n credu y byddem ni'n ei ddisgwyl ganddyn nhw, sef lefel resymol o ddiddordeb yn yr hyn sy'n digwydd i bobl yng Nghymru—. Digwyddodd ar y dydd Gwener, a byddech chi wedi meddwl, ar ôl cael eu dal unwaith drwy eu difaterwch a'u hanwybodaeth ynghylch yr hyn sy'n digwydd yng Nghymru, y byddech chi wedi briffio Richard Burgon ar y Sul. Roedd yn fwy nag eiliad o embaras llwyr i'r Blaid Lafur, fel y dywedodd Alun Davies. Roedd ei ddistawrwydd o ran methu â gallu ymateb i mi, o ran yr hyn sy'n digwydd yn y GIG yng Nghymru, yn siarad cyfrolau am ddifaterwch i Gymru sy'n ymylu ar ddirmyg. Nawr, mae un maes yr oeddwn i'n cytuno â Richard Burgon yn ei gylch—[Torri ar draws.] Mae un maes yr oeddwn i'n cytuno â Richard Burgon yn ei gylch yn ymwneud â'r GIG. Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau yn amlwg, er gwaethaf ei wadiadau yn gynharach heddiw, yn berygl eglur a phresennol i ddyfodol y GIG, ond a allwch chi esbonio, felly, pam na fyddwch chi'n cefnogi ein cynnig yn y cynnig a gyflwynwyd gerbron y Senedd i roi feto gyfansoddiadol i'r sefydliad hwn ar unrhyw gytundeb masnach a fydd yn peryglu'r GIG, a pham nad ydych chi'n cefnogi ein galwad i gefnogi Bil diogelu'r GIG y bydd ASau Plaid Cymru yn ei gefnogi yn Senedd nesaf San Steffan? Mark Drakeford AC: Llywydd, mae'r Aelod wedi treulio gormod o amser yn teithio o gwmpas y stiwdios teledu. Mae ei safbwynt o'r hyn sy'n bwysig i bobl yng Nghymru yn cael ei ystumio gan yr oriau y mae'n eu treulio yn bychanu Cymru o flaen cynulleidfaoedd teledu. Ac, mewn gwirionedd, mae'n dioddef yn sgil ei bropaganda ei hun os yw'n credu bod Aelodau'r wrthblaid Lafur rywsut yn atebol iddo fe. Mae'r GIG yng Nghymru yn cael ei reoli gan Lywodraeth Lafur gyda Gweinidogion Llafur yn y fan yma yn ateb cwestiynau ar draws y Siambr hon bob wythnos, ac ar bob agwedd arno. Dyna lle mae penderfyniadau'n cael eu gwneud. Os nad yw'n deall datganoli, yn ffodus, mae pobl Cymru yn ei ddeall, ac ni fyddan nhw'n hapus o gwbl, yn fy marn i, gyda'i safbwynt mai'r pethau y mae e'n digwydd eu dweud mewn stiwdio deledu yw'r ffordd y dylai gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru gael eu trefnu. [Torri ar draws.]—fe'i clywais yn dweud hynny, felly efallai yr hoffai fyfyrio ar hynny am eiliad. Y rheswm pam na fyddwn ni'n cefnogi Aelodau Plaid Cymru ar lawr Tŷ'r Cyffredin yn y modd y mae e'n ei awgrymu yw oherwydd ein bod ni'n ymgyrchu dros Lywodraeth a fyddai'n golygu na fyddai unrhyw angen o gwbl am Fil o'r fath. Yr hyn sydd ei angen ar y wlad hon yw Llywodraeth Lafur yn San Steffan sy'n barod i sefyll yn erbyn Donald Trump, yn barod i'w gwneud yn eglur nad yw ein GIG ar werth, ac yna ni fydd angen y math o Fil y mae'r Aelod yn cyfeirio ato. Rydym ni'n dal i frwydro'r etholiad cyffredinol hwn; dydyn ni ddim wedi rhoi'r ffidil yn to yn barod. Adam Price AC: Prif Weinidog, hoffwn ofyn i chi, yn olaf, ymateb i rywfaint o wybodaeth newydd sydd wedi ei chyhoeddi ynghylch y cynigion sydd wedi eu gwrthod erbyn hyn i gyflwyno seibiannau di-dâl i nyrsys yn y gogledd. Yn gyntaf oll, a allwch chi ddweud pa un a ydych chi'n credu ei bod hi'n briodol bod eich swyddogion wedi ceisio cynnwys prif weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Gary Doherty, mewn materion gwleidyddol trwy rannu testun cynnig gan Blaid Cymru yn y Senedd gydag ef, ac yr ymatebodd iddo, fel y dywedodd ef, 'llinell arfaethedig i'w chymryd'? Mae hefyd yn dweud yn ei e-bost fod bod y cynigion a dynnwyd yn ôl erbyn hyn i gyflwyno seibiannau di-dâl i nyrsys, a gondemniwyd gan Goleg Brenhinol y Nyrsys ac Unsain fel rhai didostur a hollol annerbyniol, eisoes yn gweithredu mewn bwrdd iechyd arall yng Nghymru. Rydych chi wedi cuddio manylion y bwrdd iechyd dan sylw. A allwch chi ddweud wrthym ni nawr pa un yw hwnnw? A chyn i chi gael eich temtio i ddweud, 'Materion gweithredol yw'r rhain', neu 'Rhowch y bai ar y Torïaid', a ydych chi'n barod i gydnabod, o Gwm Taf i Betsi, mai un person sy'n gyfrifol am y GIG yn y pen draw, Prif Weinidog, a chi yw hwnnw? Mark Drakeford AC: Fi sy'n gyfrifol am y GIG yng Nghymru, Llywydd, ac rwy'n falch iawn yn wir o fod yn y sefyllfa honno. Rwy'n falch iawn yn wir o bopeth y mae ein GIG yn ei wneud bob un dydd, o'r miloedd o bobl sy'n gweithio ynddo, o'r cannoedd o filoedd o bobl sy'n cael eu trin ganddo yma yng Nghymru, ac y cynyddodd eu lefelau o foddhad â GIG Cymru eto yn ein harolwg cenedlaethol yn gynharach eleni. Fi sy'n gyfrifol, rwy'n falch o fod yn gyfrifol, ac rwy'n falch iawn bod gennym ni, yma yng Nghymru, gefnogaeth gref y cyhoedd yng Nghymru i'r math o GIG yr ydym ni'n benderfynol o'i gadw yma—GIG a ddarperir yn gyhoeddus, a ariennir yn gyhoeddus, sydd ar gael am ddim ar y pwynt defnyddio. Dyna'r math o GIG yr wyf i'n gyfrifol amdano, a dyna'r math o GIG yr wyf i'n bwriadu parhau i fod yn gyfrifol amdano. Rwyf i wedi fy syfrdanu bod arweinydd Plaid Cymru yn credu bod cynnig a roddwyd gerbron y Cynulliad Cenedlaethol rywsut yn ddogfen wleidyddol. Mae'n ddogfen gyhoeddus; mae ar gael i unrhyw un ei darllen. Mae'r syniad na ellid ei dwyn i sylw bwrdd iechyd sydd wedi ei enwi ynddi yn nonsens i'r pwynt sy'n peri dryswch i mi y dylai'r Aelod fod wedi hyd yn oed wedi meddwl ei fod yn werth ei godi. Nid wyf i'n gwybod pa fwrdd iechyd arall sydd â threfniadau tebyg, ac nid wyf i angen gwybod ychwaith. Nid wyf i'n gyfrifol am rotas nyrsys; rwy'n gyfrifol am bolisi, cyfeiriad a chyllid y gwasanaeth iechyd gwladol. Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies. Paul Davies AC: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae canlyniadau'r rhaglen ryngwladol asesu myfyrwyr heddiw yn cadarnhau unwaith eto bod Cymru wedi parhau fel y wlad â'r perfformiad isaf yn y Deyrnas Unedig ar gyfer pob pwnc, er gwaethaf y gwelliannau sy'n cael eu gwneud. Pam na fu unrhyw welliannau ystadegol arwyddocaol i sgoriau PISA Cymru o ran darllen a mathemateg ers 2006? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, mae'n siomedig, ar ddiwrnod pan fo pobl ifanc yng Nghymru a'r rhai sy'n eu haddysgu wedi cael canlyniadau sy'n dangos bod Cymru, yn unigryw yn y Deyrnas Unedig, wedi gwella ei safle o ran darllen, gwyddoniaeth a mathemateg, na all arweinydd yr wrthblaid yn y fan yma ddod o hyd i un gair da—dim un gair da—i'w ddweud dros y bobl ifanc hynny a'u hathrawon. Oherwydd rwy'n credu mai dyna'r stori y bydd ein hysgolion yn ei chlywed heddiw—sef, wrth gwrs, nad yw'r sefyllfa'n berffaith, ond mae'r newyddion heddiw yn gadarnhaol. Mae'n dangos gwelliant ym mhob un o'r tri maes; ni all yr un rhan arall o'r Deyrnas Unedig ddangos hynny. Mae llawer o bethau eraill yn y canlyniadau PISA heddiw y dylem ni fod yn eu dathlu, a dylem ni fod yn cydnabod yr ymdrechion y mae plant a'u hathrawon wedi eu gwneud. Paul Davies AC: Wel, yn amlwg, Prif Weinidog, doeddech chi ddim yn gwrando. Dywedais fod gwelliannau wedi eu gwneud, ond ni allwch chi gamliwio'r sefyllfa oherwydd rydym ni'n dal ar waelod tabl cynghrair y Deyrnas Unedig. Er gwaethaf gwaith caled y rhai sy'n gweithio yn y proffesiwn addysgu, mae sgoriau gwyddoniaeth Cymru yn dal i fod yn waeth o lawer nag yn 2006; mae Cymru ar y gwaelod o blith gwledydd y DU o ran darllen, mathemateg a gwyddoniaeth; a Chymru yw'r unig wlad yn y DU i sgorio'n is na chyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ym mhob un o fesuriadau PISA. Mae'n eithaf eglur, Prif Weinidog, eich bod chi a'ch Llywodraeth yn methu â gwella system addysg Cymru yn sylweddol. Nawr, rwy'n gwybod ac yn derbyn bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyfres o ddiwygiadau, a dim ond fis diwethaf, cyhoeddodd yr Athro Calvin Jones o Ysgol Fusnes Caerdydd a Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, yr adroddiad 'Addysg Addas ar gyfer y Dyfodol yng Nghymru', a alwodd am dreth newydd gyffredinol wedi ei phridiannu i Gymru, wedi'i thargedu'n benodol at alluogi pontio'r cwricwlwm. Nawr, gan eich bod chi wedi cadarnhau yr wythnos diwethaf y bydd trethi'n codi o dan Lywodraeth Lafur, a allwch chi gadarnhau, felly, pa un a fydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno treth addysg yng Nghymru? Mark Drakeford AC: Nid wyf i erioed wedi clywed y syniad hwn heblaw gan yr Aelod ei hun. Nid yw'n berthnasol o gwbl i'r Llywodraeth Cymru hon. Y gwir am ganlyniadau heddiw yw bod Cymru ar y cyfartaledd rhyngwladol ym mhob un o'r tri phwnc erbyn hyn am y tro cyntaf erioed; bod Cymru, mewn mathemateg a gwyddoniaeth, yn perfformio ar yr un lefel â Gogledd Iwerddon a'r Alban; a bod gennym ni'r sgoriau gorau erioed o ran darllen a mathemateg a gwelliant mewn gwyddoniaeth hefyd. Nid dyma ble'r ydym ni eisiau bod. Nid dyma ble mae ein huchelgeisiau ar gyfer rownd nesaf PISA eisiau i ni fod, ond ni wnewch chi fyth sicrhau gwelliannau mewn system os mai'r cwbl yr ydych chi'n llwyddo i'w wneud yw drwy'r amser—[Torri ar draws.] Rwy'n gallu clywed yr Aelod, rwy'n gallu ei glywed. Nid oes angen iddo ei ailadrodd drosodd a throsodd, rwy'n gallu ei glywed. Yr ychydig o droeon cyntaf y mae'n meddwl ei fod yn beth synhwyrol ceisio torri ar draws o'r lle y mae'n eistedd, nid yw'n ei helpu, nid yw'n helpu unrhyw un sy'n ceisio gwneud synnwyr o'r pethau hyn, ac yn sicr nid yw'n helpu plant a phobl ifanc yn ein hysgolion, sydd wedi cyflawni rhywbeth gwerth chweil iawn yn y canlyniadau PISA hyn, i ymddwyn fel pe na byddai hynny'n cyfrif am ddim byd. Paul Davies AC: Ond, Prif Weinidog, rydym ni'n dal ar waelod tabl cynghrair y DU o ran y canlyniadau hyn. Ydw, rwy'n derbyn, wrth gwrs, y bu gwelliannau, ond rydych chi'n amlwg yn siomi ein plant a'n pobl ifanc gan y dylem ni fod wedi gweld gwelliant llawer mwy dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Nawr, wrth gwrs, mae'r adroddiad 'Addysg Addas ar gyfer y Dyfodol yng Nghymru', yr ydych chi, yn amlwg, eisiau ei ddiystyru, wedi galw am ddileu TGAU, ac fel yr ydym ni i gyd yn gwybod, mae Cymwysterau Cymru yn lansio ymgynghoriad ar ddyfodol TGAU a chymwysterau eraill a ddilynir gan bobl ifanc 16 oed. Prif Weinidog, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gwneud hyn yn iawn ac na fydd dysgwyr Cymru yn cael eu siomi fel y cafodd dysgwyr y degawd blaenorol eu siomi. Nawr, mae'n ffaith ddiymwad bod canlyniadau TGAU 2019 Cymru ar yr un lefel â 2007. Mae ein canlyniadau PISA, fel yr wyf i newydd ei ddweud, yn dal i fod y gwaethaf yn y DU, a dim ond 29 y cant o bobl ifanc yng Nghymru sy'n mynd i'r brifysgol mewn gwirionedd. Prif Weinidog, pa sicrwydd allwch chi ei gynnig i ddysgwyr ledled Cymru yn ogystal â theuluoedd a darparwyr addysg y bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd cyfrifoldeb am ei hanes o gyflawni, ac, wrth symud ymlaen, na fydd unrhyw garreg yn cael ei gadael heb ei throi wrth sicrhau bod dysgwyr yng Nghymru yn cael mynediad at system addysg sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, mae gan y Llywodraeth hon y rhaglen ddiwygio fwyaf uchelgeisiol yn system addysg unrhyw Lywodraeth mewn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Mae'n rhaglen ddiwygio y mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi ei chymeradwyo eto heddiw fel y sail ar gyfer y gwelliannau yr ydych chi eisoes wedi eu gweld. Mae'r Aelod yn iawn i ddweud mai dim ond un o'r mesurau yr ydym ni'n eu defnyddio i ddeall llwyddiant ein system addysg yw PISA. Dyna pam yr oeddem ni mor falch o weld yn yr haf bod y canlyniadau Safon Uwch gorau yng Nghymru yn well nag mewn unrhyw ranbarth o Loegr na Gogledd Iwerddon. Atebais gwestiwn gan un arall o'i Aelodau yr wythnos diwethaf ynglŷn â'r adroddiad y mae'n cyfeirio ato a Cymwysterau Cymru. Bydd yr adroddiad yn gyfraniad defnyddiol at yr ymgynghoriad y mae Cymwysterau Cymru yn ei gynnal, ond yn y pen draw, Cymwysterau Cymru fydd yn gyfrifol am gyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru ynghylch sut y bydd gennym ni system gymwysterau sy'n bodoli ochr yn ochr â'n cwricwlwm newydd, a bod hynny i gyd yn sail i'n huchelgais. Ac rydym ni mor uchelgeisiol ag unrhyw un yng Nghymru i'n pobl ifanc gael yr addysg orau posibl i gyflawni popeth y byddem ni eisiau iddyn nhw ei gyflawni ac yna mynd ymlaen i gael cyfleoedd yn yr economi hon, lle y caiff y cyfleoedd hynny eu dosbarthu'n deg yn hytrach na'r gymdeithas anghyfartal iawn y mae ei blaid ef wedi bod yn benderfynol o'i chreu. Arweinydd Plaid Brexit, Mark Reckless. Mark Reckless AC: Diolch, Llywydd. A gaf i longyfarch y Prif Weinidog, yr ysgrifennydd addysg, y 107 o ysgolion a'r 3,165 o ddysgwyr a gymerodd ran yn y profion PISA? Maen nhw'n sylweddol well na'r canlyniadau gwael iawn a welsom yn 2016, ac rwy'n credu ei bod hi'n briodol rhoi hynny ar y cofnod. Pe byddai wedi bod fel arall, byddwn wedi bod yn befriol yn fy meirniadaeth. A gaf i, fodd bynnag, ofyn am y canlyniadau? O ran y wyddoniaeth a'r fathemateg, ceir gwahaniaeth o un neu ddau bwynt, ffracsiynol iawn, lle'r ydym ni'n is na chyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. O ran darllen, mae braidd yn fwy; ceir bwlch o saith pwynt ar y rheini. Ac er ei bod hi'n wir i Lywodraeth Cymru ddweud bod y canlyniadau hyn, ar eu pennau eu hunain, ar draws y tri maes, yn cyfateb a heb fod yn arwyddocaol yn ystadegol pan eu bod rhyw fymryn yn is, onid yw'n wir, gyda'i gilydd, bod y ffaith eu bod yn is ym mhob un o'r tri, gan gynnwys bwlch sy'n agos at fod yn arwyddocaol yn ystadegol o ran darllen, yn golygu na ellir o anghenraid hawlio yn gyffredinol bod Cymru wedi perfformio yn gyfatebol ar sail agregedig? Mark Drakeford AC: Lywydd, gadewch i mi ddechrau drwy ddiolch i'r Aelod am y ffordd y cyflwynodd ei gwestiwn. Mae'n sicr yn ddiwrnod i gydnabod yr ymdrechion a wnaed a'r llwyddiannau sydd wedi deillio ohonynt. Mae'n iawn i dynnu sylw at y ffaith mai'r bwlch mewn darllen yw'r mwyaf o'r tri, a phan fydd ganddo gyfle, fel y gallaf weld ei fod eisoes wedi dechrau, i edrych ar fanylion y canlyniadau, bydd yn gweld bod hynny'n cael ei lywio'n rhannol gan y bwlch rhwng bechgyn a merched o ran sgoriau darllen sydd gennym ni yma yng Nghymru. Ac rydym ni'n gwybod bod gwaith y mae'n rhaid i ni ei wneud i berswadio dynion ifanc i gymryd diddordeb mewn gwella eu gallu llythrennedd a bod hynny yno yn y canlyniadau a welwn. Ceir tystiolaeth yn y ffigurau o welliant cymharol Cymru dros amser o ran darllen. Rydym ni wedi gwella ein safle yn nhablau cynghrair y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd o wahanol wledydd o ran darllen, yn ogystal â'r ddau faes arall, ond rydym ni'n cydnabod, wrth gwrs, bod mwy y mae angen i ni ei wneud, yn enwedig i fynd i'r afael â'r ffenomen, sy'n wir yn rhyngwladol—mae'n wir ym mhob un gwlad yn y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd—bod menywod ifanc yn rhagori ar ddynion ifanc pan ddaw hi'n fater o ddarllen. Mae honno'n broblem fwy heriol mewn rhai rhannau o Gymru, ac mae mwy y byddwn ni eisiau ei wneud, a bydd ein cwricwlwm newydd, yn ein barn ni, yn ein helpu i wneud hynny. Mark Reckless AC: Wel, rwy'n credu bod yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi ei ddweud mewn ymateb i'r canlyniadau hyn yn deg ar y cyfan, ac rwy'n credu bod y pwyntiau ynglŷn â chymariaethau'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn werth eu nodi yng ngoleuni'r hyn a welsom dair blynedd yn ôl a'r gwahaniaeth yn y ddadl bryd hynny. Ac rwy'n credu y dylai hynny gael ei adlewyrchu yn ein sylwadau. A wnaiff y Prif Weinidog, fodd bynnag, dderbyn nad yw'r darlun mor wych yn y cymariaethau o fewn y DU? Ac er nad yw'r bylchau gyda'r Alban a Gogledd Iwerddon yn ystadegol arwyddocaol, ar gyfer mathemateg a gwyddoniaeth, rydym ni'n gweld bod Lloegr yn gwneud yn sylweddol well na ni a'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, ac a oes unrhyw wersi y gallwn ni eu dysgu gan Loegr yn hynny o beth? A yw'r Prif Weinidog hefyd yn derbyn bod problem benodol o ran darllen, lle mae'r canlyniadau wedi gwella'n sylweddol o ganlyniad arbennig o wael yn 2016, o'i gymharu â mathemateg, dyweder, lle'r ydym ni wedi gweld gwelliannau eithaf mawr mewn dau gylch yn olynol, y dylem ni ei nodi? Ond mae'r canlyniadau ar gyfer darllen—(a) yn gwrthdroi canlyniad gwael y tro diwethaf, yn hytrach na dangos tuedd o wella, a (b) mae ein canlyniadau, yn ystadegol, yn sylweddol is na'r tair gwlad arall yn y DU o ran darllen, ac rwy'n meddwl tybed beth yw barn y Prif Weinidog ynglŷn â hynny. Rwy'n meddwl tybed, a allai gynnig sylwadau hefyd ar ddau beth arall yr oeddwn i'n meddwl oedd yn arwyddocaol? Cafwyd pryder gan brifathrawon yng Nghymru a oedd yn adrodd bod mwy o brinder neu ddiffygion o ran deunyddiau addysgol, er enghraifft gwerslyfrau ac offer technoleg gwybodaeth. A yw e'n credu bod hwnnw'n bryder teg iddyn nhw ei fynegi? Yn olaf, o ran llesiant—ac roedd hwn yn fater ar gyfer y DU gyfan yn hytrach na phenodol i Gymru—roedd cryn dipyn o bobl ifanc yn dweud eu bod yn debygol o deimlo'n bryderus neu'n ddigalon, a gwn, gyda'r pwyllgor pobl ifanc ac addysg, ein bod ni wedi gwneud rhywfaint o waith ar hyn, ond a oes gan y Prif Weinidog unrhyw beth i'w gynnig i'r myfyrwyr hynny? Mark Drakeford AC: Diolchaf i Mark Reckless am y cwestiynau ychwanegol yna. Rwy'n credu, fel y mae'r Gweinidog addysg wedi ei ddweud, pryd bynnag y gofynnwyd iddi am hyn eisoes heddiw, ac y bydd yn cael cyfle arall ar lawr y Cynulliad, nid ydym ni erioed wedi awgrymu bod y canlyniadau hyn yn berffaith. Maen nhw'n gadarnhaol, ac mae problemau, o ran darllen yn benodol, y byddwn ni eisiau rhoi sylw iddyn nhw o ganlyniad i'r sgoriau hyn ac i weld beth y gallwn ni ei wneud i'w gwella ymhellach fyth yn y rownd nesaf o ganlyniadau PISA. O ran adnoddau, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud buddsoddiad mawr o £50 miliwn i wella TG yn yr ystafell ddosbarth. Wrth gwrs, byddwn yn disgwyl i athrawon a phenaethiaid ddweud pe byddai ganddyn nhw fwy o adnoddau y gallen nhw wneud yn well. Ond mae hwnnw'n fuddsoddiad mawr. Os edrychwch chi ar unrhyw arolwg rhyngwladol o lesiant ymhlith pobl ifanc yn y Deyrnas Unedig, rydym ni yn hanner gwaelod y tabl cynghrair. Mae hwnnw'n fater y dylem ni bryderu yn ei gylch, ond mae hefyd, mewn rhai ffyrdd, yn adlewyrchu'r ffordd y mae rhai o'r cwestiynau yn y prawf hwn yn cael eu geirio er mwyn cael y deunydd crai y mae'r atebion yn deillio ohono. Pe bawn i'n chwilio am rywbeth cadarnhaol yn y canlyniadau y gallech chi ei ddweud wrth y bobl ifanc hynny, yna byddwn yn tynnu sylw at y ffaith fod y bwlch o ran anfantais yng Nghymru yn llai o lawer nag ar draws y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a bod pobl ifanc yng Nghymru mewn sefyllfa well i oresgyn anfantais o ganlyniad i'r addysg y maen nhw'n ei chael yng Nghymru nag a fyddai'n wir ar draws y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn ei gyfanrwydd. Felly, mae person ifanc sy'n dod i mewn i'n hysgol gyda bwlch anfantais yn fwy tebygol o oresgyn y bwlch hwnnw yng Nghymru nag ar draws y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn ei gyfanrwydd. Rwy'n credu bod y math hwnnw o neges gadarnhaol a'r buddsoddiad cadarnhaol hwnnw y mae ein gwasanaeth addysg yn ei wneud mewn pobl ifanc, yn gwneud ei gyfraniad rwy'n gobeithio, ynghyd â llawer o bethau eraill, i geisio cyfleu neges i'r bobl ifanc hynny am eu pwysigrwydd i ni, am y gwerth yr ydym ni'n ei neilltuo iddyn nhw ac ynghylch sut y mae eu llesiant, yn ogystal â phopeth arall y maen nhw'n ei gyflawni, yn bwysig yn eu bywydau nhw ac i bobl Cymru yn gyffredinol. Pobl ag Awtistiaeth yn Addysg Uwch David Melding AC: 3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am nifer y bobl ag awtistiaeth sy'n astudio mewn addysg uwch yng Nghymru? OAQ54803 Mark Drakeford AC: Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Roedd 800 o fyfyrwyr addysg uwch yng Nghymru a gofnodwyd yn 2017-18 bod ganddynt nam cymdeithasol neu gyfathrebu hunanddatganedig, fel syndrom Asperger neu anhwylderau eraill ar y sbectrwm awtistig. David Melding AC: Prif Weinidog, efallai eich bod chi'n cofio'r achos anffodus y llynedd ym Mhrifysgol Abertawe, pryd yr honnwyd bod myfyriwr wedi ei gwahardd o'i chwrs prifysgol am resymau iechyd. Nawr, rwy'n falch iawn o weld bod Prifysgol Abertawe a Choleg Gŵyr Abertawe wedi cyfuno mewn prosiect blwyddyn o hyd i gynorthwyo myfyrwyr â chyflyrau sbectrwm awtistiaeth wrth iddyn nhw baratoi i symud o'r coleg i'r brifysgol. Rwy'n credu bod hwnnw'n newid pwysig dros ben oherwydd, yn ogystal â'r pryderon arferol a fydd gan unrhyw fyfyriwr ynghylch pa gwrs i gofrestru arno a ble i astudio, mae angen i fyfyrwyr awtistig ystyried ffactorau eraill fel arfer, fel yr amgylchedd, cyfleoedd cymdeithasol a chymorth anghenion addysgol arbennig unrhyw brifysgol benodol ac, yn wir, cwrs penodol mewn prifysgol. Yn ôl y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth, mae cynllunio addysg, iechyd a gofal yn allweddol, ac mae hyn yn cael ei wneud yn gynyddol mewn ysgolion a cholegau, rwy'n falch o ddweud. Ond nid yw'n cael ei ddwyn ymlaen i addysg uwch. A ydych chi'n cytuno â mi ei bod hi'n hen bryd i ni osod y safon yng Nghymru a mynnu bod gan ein prifysgolion y cynlluniau hyn, fel bod myfyrwyr sydd ag anhwylderau ar y sbectrwm awtistig yn cael eu cynorthwyo'n briodol? Mark Drakeford AC: Diolchaf i David Melding am y pwyntiau pwysig yna. Rwy'n cytuno'n llwyr ag ef ynghylch pwysigrwydd pontio a bod pobl ifanc sydd eisoes yn cael cymorth mewn un rhan o'r system—y bydd y cam nesaf y maen nhw'n ei wneud ar yr ysgol addysg, y gwaith a wnaed gyda nhw mewn un lle, yn cael ei drosi'n briodol i'r lle nesaf y maen nhw'n bwriadu mynd iddo, fel bod y newid hwnnw mor ddidrafferth ag y gall fod. Cyhoeddodd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ei ddatganiad sefyllfa ar lesiant ac iechyd ym mis Mehefin eleni. Mae ganddo gyfres o gamau y mae'n eu cynnig o'r datganiad sefyllfa y bydd yn gweithio arnyn nhw, ynghyd ag UCM yng Nghymru—Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr—i wneud yn siŵr bod pobl ifanc ag awtistiaeth sy'n astudio mewn addysg uwch yn cael yr holl gymorth sydd ei angen arnynt. Rwy'n cofio'r digwyddiad yn Abertawe y mae David Melding yn cyfeirio ato. O fewn y pythefnos diwethaf, cyfarfûm â menyw ifanc sy'n astudio ym Mhrifysgol Abertawe heddiw a oedd yn gadarnhaol iawn yn wir am y cymorth yr oedd hi'n ei gael i sicrhau bod ei chyflwr awtistig yn cael ei gydnabod a'i ddeall. Roedd hi'n cael rhywfaint o gymorth drwy'r lwfans cymorth i fyfyrwyr anabl sydd gennym ni yma yng Nghymru—mae 3,400 o fyfyrwyr o Gymru yn elwa ar y gronfa £8 miliwn honno. Ond rhan fach o'r hyn yr oedd hi'n teimlo yr oedd hi'n ei gael oedd yr arian. Y ddealltwriaeth yr oedd hi'n ei chael gan y brifysgol, gan ei thiwtoriaid ac eraill, yr oedd hi'n ei deimlo oedd yn ei chynorthwyo i wneud y gorau o'i gallu ac i gael popeth yr oedd hi ei eisiau allan o'i phrofiad addysg uwch. Byddai cynllunio gwell ar gyfer pontio, gan sicrhau bod y pethau y cyfeiriodd David Melding atyn nhw yn cael eu gwneud, o gymorth ym mhrofiad unrhyw berson ifanc. Bethan Sayed AC: Cyn y cwestiwn hwn heddiw, siaradais â nifer o bobl ag awtistiaeth. Roedden nhw'n dweud wrthyf i eu bod nhw'n aml yn cael eu denu at addysg uwch, ac mae rhai ohonyn nhw yn aml yn orgymwysediggan eu bod nhw'n teimlo'n ddiogel o gael y cefndir academaidd hwnnw, a diogelwch mewn dysgu, yn hytrach na wynebu marchnad swyddi lle y gallen nhw, o bosibl, gael eu stigmateiddio, a'u bod nhw'n canfod nad yw prosesau ymgeisio am swyddi yn cyd-fynd â'u hanghenion. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi dweud yn ddiweddar bod gwahaniaeth o 12 y cant rhwng cyflogau pobl anabl a'u cymheiriaid nad ydynt yn anabl. Felly, gallwn siarad am addysg uwch a chael y bobl hynny ag awtistiaeth i mewn i'r system, sy'n iawn yn ei le, ond beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i'w cynorthwyo nhw pan fyddan nhw'n mynd allan i'r byd go iawn, pan eu bod eisiau cystadlu am swyddi ar sail deg mewn ffordd sy'n gyfartal iddyn nhw ac sy'n sy'n eu parchu hefyd? Mark Drakeford AC: Llywydd, rwy'n credu ei fod ychydig yn fwy na 'iawn yn ei le'. Rwy'n credu bod y sgyrsiau yr ydych chi'n adrodd amdanynt yn ddiddorol iawn gan eu bod nhw'n adlewyrchu'r hyn yr wyf innau wedi ei glywed gan bobl ifanc hefyd. Os oes gennych chi gyflwr sy'n gysylltiedig ag awtistiaeth, yna mae'r cyfnod yr ydych chi'n ei dreulio mewn addysg uwch yn werthfawr oherwydd y cymhwyster y gallech chi ei gael, ond mae hefyd yn rhan bwysig iawn o'ch synnwyr o allu arfogi eich hun i ymdopi â'r byd y tu hwnt i addysg. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn y mae Bethan Jenkins wedi ei ddweud am yr angen i wneud yn siŵr bod y byd gwaith hefyd yn un sy'n deall anghenion pobl ag awtistiaeth, ac sydd â'r gallu i ymateb mewn ffordd sy'n caniatáu i'r bobl hynny wneud y cyfraniad y maen nhw eisiau ei wneud. Ac mae llawer iawn o waith yr ydym ni wedi ei wneud, dros nifer o flynyddoedd bellach, i ymdrin â phroblemau iechyd meddwl yn y gweithle, a chyda'r stigma y mae pobl yn ei wynebu. Ond mae cyfnod a dreulir mewn addysg uwch gan berson ifanc sydd ag awtistiaeth yn fuddsoddiad gwirioneddol, yn ei synnwyr ei hun o gymhwyster ond hefyd yn ei synnwyr ei hun o allu wynebu'r byd yn y ffordd y dywedodd Bethan Jenkins y mae pobl y mae hi wedi siarad â nhw yn ei ddweud, a gallu gwneud hynny mewn modd y maen nhw'n teimlo'n ffyddiog y byddan nhw'n gallu ymdopi ag ef. Cefnogaeth i rai sy'n Cysgu ar y Stryd Jack Sargeant AC: 4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth i rai sy'n cysgu ar y stryd yn Sir y Fflint? OAQ54805 Mark Drakeford AC: Llywydd, mae'r cynnydd i'r niferoedd sy'n cysgu allan yn un o'r arwyddion mwyaf amlwg o ddegawd o gyni cyllidol y Torïaid. Yn ystod eleni yn unig bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi dros £20 miliwn i atal a lliniaru digartrefedd. Mae holl awdurdodau lleol Cymru, gan gynnwys Sir y Fflint, wedi elwa ar y cyllid newydd hwn. Jack Sargeant AC: Diolch, Prif Weinidog. Soniasoch yn eich ymateb am effaith cyni cyllidol, ac mae hyn yn digwydd ar bob un stryd fawr erbyn hyn. Nid problem mewn dinasoedd mawr yn unig yw hon erbyn hyn. Mae pobl wedi bod yn cysgu ar y strydoedd mewn trefi fel Cei Connah a Shotton, am y tro cyntaf yn fy nghof i. Nawr, mae'n bosibl iawn y gallai pethau fynd yn drech na chynghorau fel Sir y Fflint y gaeaf hwn, felly rwyf i wedi ysgrifennu atoch chi, Prif Weinidog, i ofyn pa gymorth brys y gallwch chi ei gynnig fel Llywodraeth Cymru i gynghorau fel Sir y Fflint i sicrhau nad yw pobl yn cael eu gadael allan yn yr oerfel y Nadolig hwn. Prif Weinidog, os caf, hoffwn ofyn am eich sicrwydd hefyd y bydd y grant cymorth tai hefyd yn cael ei gryfhau, oherwydd yn aml, dyna'r unig hyblygrwydd sydd ar gael i gynorthwyo'r bobl hynny sydd mewn amgylchiadau anodd dros ben. Mark Drakeford AC: Diolchaf i Jack Sargeant am hynna, Llywydd. Mae yn llygad ei le i dynnu sylw at y ffaith bod llawer ohonom ni yn y Siambr hon wedi byw y rhan fwyaf o'n bywydau pan fyddai gweld rhywun heb rywle i gysgu yn gwbl brin ac ysgytiol, a nawr rydym ni'n gweld y ffenomen hon, fel y dywedodd Jack, nid yn unig yn ein prif ardaloedd trefol, ond mewn trefi llai ledled Cymru, ac mae'n wirioneddol ysgytiol bod gwead ein gwladwriaeth les wedi cael ei chaniatáu i ddirywio i'r graddau y mae wedi ei wneud, ein bod ni'n gweld pobl yn y niferoedd hynny'n cael eu gorfodi i'r sefyllfa honno erbyn hyn. Mae'r grŵp gweithredu ar ddigartrefedd a sefydlwyd gan y Gweinidog ac a gadeiriwyd gan Jon Sparkes o Crisis wedi cyflwyno adroddiad gyda chyfres o argymhellion uniongyrchol ar gyfer pethau y gallwn ni eu gwneud y gaeaf hwn i geisio osgoi'r sefyllfa y mae Jack Sargeant wedi cyfeirio ati. Mae'r Llywodraeth wedi derbyn yr holl argymhellion hynny ac mae'n gweithio'n galed gyda chydweithwyr yn yr awdurdodau lleol a chyda sefydliadau trydydd sector i weithredu'r mesurau hynny ar unwaith. Rydym ni wedi cynnal y buddsoddiad yr ydym ni'n ei wneud yn Cefnogi Pobl, sydd, fel y dywedodd Jack, yn un o'r rhannau hyblyg o'r gyllideb y gall awdurdodau lleol a'u partneriaid eu defnyddio i ddarparu gwasanaethau i bobl, oherwydd er bod ailgartrefu cyflym yn ganolog i'r hyn yr ydym ni eisiau ei gynnig i bobl sy'n canfod eu hunain yn cysgu ar y stryd, rydym ni hefyd yn gwybod bod gan yr unigolion hynny, oherwydd yr hanesion y bu'n rhaid iddyn nhw fynd drwyddynt, anghenion y tu hwnt i lety yn aml, a dyna y mae'r grant Cefnogi Pobl yno i'w wneud, a dyna pam yr ydym ni wedi ei gynnal drwy gydol tymor y Cynulliad hwn, ac rydym ni'n bwriadu parhau i wneud hynny. Iechyd y Cyhoedd yn Nwyrain Casnewydd John Griffiths AC: 5. Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella iechyd y cyhoedd yn Nwyrain Casnewydd? OAQ54793 Mark Drakeford AC: Diolchaf i John Griffiths am hynna. Mae'n rhaid i gamau i wella iechyd y cyhoedd ddechrau o oedran cynnar, Llywydd, ac rwy'n llongyfarch ysgolion Casnewydd, y mae pob un ohonynt yn aelodau o rwydwaith ysgolion iach Cymru, ac y mae wyth ohonyn nhw eisoes wedi ennill y lefel uchaf o ddyfarniad cenedlaethol am eu gwaith yn hybu iechyd ymhlith eu pobl ifanc. Mae wyth ysgol arall yng Nghasnewydd ar y trywydd iawn i gyrraedd y garreg filltir wirioneddol arwyddocaol hon. John Griffiths AC: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog, ac yn arbennig am dynnu sylw at y gwaith da iawn sy'n digwydd yn ysgolion Casnewydd, yr wyf i'n amlwg yn gyfarwydd iawn ag ef. Cefais gyfarfod yn ddiweddar gyda Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint, ac mae ehangder y problemau anadlu erbyn hyn yn rhywbeth tebyg i un ym mhob pump o bobl yn y DU gydag anawsterau anadlu. Yn amlwg, mae aer glân yn ffordd allweddol o leddfu a gobeithio, maes o law, cael gwared ar y problemau hynny. Mae angen i ni gyrraedd y cam lle mae pobl yn anadlu aer glân gydag ysgyfaint iach. Un ffordd bwysig o gyrraedd y sefyllfa honno, Prif Weinidog, yw mynd i'r afael â thraffig ffyrdd, gan gael pobl a nwyddau ar drafnidiaeth gyhoeddus gymaint â phosibl. Gwn fod llawer o bolisïau ar waith, a llawer o syniadau ymarferol i helpu i gyflawni hynny, ond, yn amlwg, mae angen gwneud hynny cyn gynted â phosibl. Gwn y bu llawer o ymgyrchoedd, ac yn wir, achos llys, i geisio sicrhau gwell ansawdd aer yng Nghymru ac yn y DU yn gyffredinol, ac mae rhai awdurdodau lleol wedi ymateb. Rwy'n falch iawn bod Cyngor Dinas Casnewydd yn cyflwyno cynigion erbyn hyn, yn wir, gyda phartneriaid iechyd cyhoeddus. Ond mae llawer o syniadau o gwmpas pan fyddwch yn cyfarfod â grwpiau, Prif Weinidog. Mae gennym ni ein gwaith ar y terfyn cyflymder o 20 mya yn mynd rhagddo, yr holl welliannau teithio llesol y mae angen i ni eu gwneud, mae parthau gwahardd weithiau o amgylch ysgolion, ceir syniadau ynghylch gwahardd ceir llonydd rhag cadw'r injanyn troi a sicrhau bod bysiau a thacsis— Mae angen i chi ddod i gwestiwn nawr, John Griffiths. John Griffiths AC: Diolch, Llywydd. Felly, dim prinder syniadau, Prif Weinidog, ond, mewn gwirionedd, rwy'n credu bod angen i ni gael synnwyr o frys o ran sut yr ydym ni'n gwneud y newid hwn. Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, rwy'n cytuno'n llwyr â John Griffiths ynglŷn â phwysigrwydd y mater a'r angen am frys. Bydd y Gweinidog, Lesley Griffiths, yn gwneud datganiad ar lawr y Cynulliad yr wythnos nesaf, rwy'n credu, ar y cynllun aer glân i Gymru. Yn y cyfamser, mae'n dda iawn gweld bod cyngor Casnewydd wedi cyflwyno i Lywodraeth Cymru ei strategaeth teithio cynaliadwy newydd, sydd ag aer glân yn ganolog i hynny. Ac, fel y dywedodd John Griffiths, Llywydd, cyhoeddodd y bwrdd iechyd lleol ar gyfer ardal Gwent ym mis Medi 'Creu Gwent Iachach'; mewn cynhadledd ar 6 Tachwedd, roedd yr angen am aer glân a'i effaith ar iechyd pobl yn rhan bwysig o'r drafodaeth fywiog iawn honno. Oherwydd mae John yn iawn: nid oes prinder o syniadau yn y maes hwn, a bydd angen i ni, mewn sawl ffordd, fod yn fwy beiddgar o ran ein parodrwydd i ymgymryd â rhai o'r syniadau hyn, a fydd, heb os, yn cynnwys meysydd lle y bydd pobl yn ei chael hi'n anodd addasu eu hunain i'r camau y mae angen eu cymryd. Ond mae'n rhaid i ni fod o ddifrif am aer glân—mae'n fater iechyd cyhoeddus gwirioneddol, ac mae defnyddio'r trydydd sector, drwy Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint ac eraill, i ychwanegu at y repertoire yn rhan bendant o sut yr ydym ni'n dymuno bwrw ymlaen. Y GIG yn Nwyrain De Cymru Delyth Jewell AC: 6. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y GIG yn Nwyrain De Cymru? OAQ54811 Mark Drakeford AC: Diolchaf i'r Aelod am hynna. Un o'n blaenoriaethau ar unwaith ar gyfer y GIG yn Nwyrain De Cymru yw cwblhau'r buddsoddiad o £350 miliwn yn Ysbyty Athrofaol 470 gwely y Grange. Bydd yn darparu gwasanaethau salwch acíwt a chritigol arbenigol i dros 600,000 o bobl yn y de-ddwyrain. Delyth Jewell AC: Diolch, Prif Weinidog. Cysylltodd un o'm hetholwyr â mi yn ddiweddar gyda phryderon difrifol am y ffordd y mae bwrdd iechyd Cwm Taf wedi bod yn ymdrin â'i achos. Nawr, rhoddwyd llawdriniaeth iddo tua degawd yn ôl i gael gwared â melanoma malaen, a oedd yn llwyddiannus, diolch byth, ond dywedwyd wrtho y byddai angen archwiliadau blynyddol am weddill ei oes i fonitro'r sefyllfa. Ers hynny mae wedi datblygu brychni haul ar ei lygaid, sy'n anfalaen, ond gallen nhw droi'n ganseraidd, ac, yn amlwg, oherwydd ei hanes meddygol, mae'n bwysicach fyth ei fod yn cael archwiliadau blynyddol. Yn ddiweddar mae ei geisiadau am apwyntiad gan Gwm Taf wedi cael eu gwrthod ar sawl achlysur a daeth y cyfan i'r pen pan dderbyniodd lythyr gan gwmni iechyd preifat, o'r enw Community Health and Eye Care, yn gweithredu ar ran y bwrdd iechyd, a ddywedodd wrtho nad oedd angen rhagor o apwyntiadau arno gyda meddyg ymgynghorol ac yn hytrach, pe byddai'n dymuno, y byddai'n cael gweld optegydd bob hyn a hyn. Nawr, cysylltodd fy etholwr â'i feddyg ymgynghorol yn uniongyrchol wedyn, a oedd yn bendant bod angen archwiliadau blynyddol arno gyda meddyg ymgynghorol. Prif Weinidog, a allech chi ddweud wrthym ni beth yw perthynas Community Health and Eye Care gyda bwrdd iechyd Cwm Taf, ac a ydych chi'n cytuno â mi y byddai'n gwbl annerbyniol i fwrdd iechyd yng Nghymru gyflogi cwmni preifat i dorri rhestrau aros trwy atal apwyntiadau i gleifion y mae nhw eu hangen am resymau iechyd? Mark Drakeford AC: Llywydd, nid wyf i'n gyfarwydd â'r manylion, wrth gwrs, am yr achos unigol, a chan nad yw Cwm Taf yn Nwyrain De Cymru, nid wyf i wedi dod yn barod gyda'r holl fanylion i ateb y cwestiwn y prynhawn yma. Ond yr hyn yr wyf i yn ei wybod yw bod y Gweinidog wedi diwygio yn ddiweddar y ffordd y mae gwasanaethau offthalmoleg yn— [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg iawn gen i, nid wyf i'n gallu clywed y— Gofynnaf i'r Prif Weinidog barhau i ateb y cwestiwn. Mark Drakeford AC: Rwy'n gwybod yn gyffredinol—rwy'n ceisio rhoi cymaint o gymorth ag y gallaf i'r Aelod yn ei chwestiwn—bod y Gweinidog wedi diwygio'r ffordd y darperir gwasanaethau offthalmoleg yng Nghymru i wneud yn siŵr bod apwyntiadau dilynol yn cael eu trin yn union fel y byddai apwyntiadau cyntaf wedi cael eu trin yn y system flaenorol, gan ein bod ni'n gwybod bod 90 y cant o gleifion dilynol yn debygol o fod angen y math o ofal parhaus y cyfeiriodd Delyth Jewell ato yn yr achos unigol y mae wedi ei nodi y prynhawn yma. Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n gwneud y defnydd mwyaf posibl o'r unigolion medrus iawn sydd gennym ni yn ymarfer offthalmoleg yn y gymuned. Mae gennym ni adnodd nad yw'n cael ei ddefnyddio'n ddigon aml. Rydym ni'n gwybod hyn ers nifer o flynyddoedd—bod pobl yn cael eu hanfon i'r ysbyty ar gyfer apwyntiadau pan allai'r cyflyrau hynny gael yr un lefel o sylw clinigol gan ein hoptegwyr hynod hyfforddedig sy'n gweithredu ar y stryd fawr. Felly, ein polisi yw gwneud y defnydd mwyaf posibl o wasanaethau cymunedol, fel bod pobl sydd angen gwasanaeth dan arweiniad meddyg ymgynghorol yn gallu ei gael yn gyflymach gan nad ydyn nhw'n aros y tu ôl i bobl a allai fod wedi derbyn gofal sydd ei angen arnyn nhw mewn modd yr un mor rhwydd ac yn fwy cyfleus yn y gymuned. Rwy'n fwy na pharod i edrych ar yr achos unigol i weld a yw'r egwyddorion hynny wedi eu rhoi ar waith yn briodol yn yr achos hwnnw, ond dyna'r dull sylfaenol y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddilyn o ran y gwasanaethau hyn. Adroddiad Canlyniadau Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019 Hefin David AC: 7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am adroddiad canlyniadau Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019? OAQ54809 Mark Drakeford AC: Llywydd, cyhoeddwyd mynegai amddifadedd lluosog diweddaraf Cymru ar 27 Tachwedd. Mae'n dangos yn glir effaith degawd o gyni cyllidol a orfodwyd ar gymunedau ledled Cymru. Hefin David AC: Cafwyd rhywfaint o newyddion cadarnhaol i Barc Lansbury yn etholaeth Caerffili. Nid yw bellach wedi ei restru fel yr ardal fwyaf difreintiedig yng Nghymru, er bod anawsterau'n parhau, fel y mae'r Prif Weinidog yn cydnabod, ac mae'n dal i fod ymhlith y 10 uchaf. Rwy'n credu bod y gwelliant wedi deillio o gymysgedd o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, yr Undeb Ewropeaidd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, yn enwedig o ran safon ansawdd tai Cymru—gwariwyd £8 miliwn ar gladin a thoeau newydd ar gyfer eiddo'r cyngor, gwariwyd £4.5 miliwn ar ystafelloedd ymolchi a cheginau newydd, a £2.5 miliwn cyffredinol yn ychwanegol o ran safon ansawdd tai Cymru. Rwy'n credu y bydd rhai o'r pethau yr ydym ni wedi sôn amdanyn nhw heddiw ynglŷn ag addysg a'r gwelliannau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cynllunio yn hynny o beth yn gwneud gwahaniaeth ym Mharc Lansbury—mae Dechrau'n Deg yn gwneud gwahaniaeth i'r gymuned honno. Beth arall all Llywodraeth Cymru a'r Prif Weinidog ragweld fydd yn cael ei wneud ar gyfer cymuned glòs, cymuned fendigedig, fel Parc Lansbury? Mark Drakeford AC: Diolchaf i Hefin David am hynna. Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n dadansoddi'r cyfoeth o wybodaeth sydd ar gael ym mynegai amddifadedd lluosog Cymru, er mwyn deall pam mae rhai cymunedau'n aros ar yr hyn y mae'r adroddiad yn ei ddisgrifio fel pen dwfn amddifadedd, a pham mae cymunedau eraill sydd wedi llwyddo i ddod o hyd i le gwahanol yn yr adroddiad hwnnw, ac, o ran Parc Lansbury—mae'n dda iawn clywed bod rhywfaint o gynnydd wedi ei wneud yno. Llywydd, pan ddaw'r adeg i wneud y dadansoddiad hwnnw, rwy'n credu mai'r hyn y byddwn ni'n ei weld yw bod gan y cymunedau hynny sy'n canfod eu hunain ar ben mwyaf miniog amddifadedd yng Nghymru un nodwedd allweddol yn gyffredin—bod ganddyn nhw orgynrychiolaeth, o'i gymharu â rhannau eraill o Gymru, o deuluoedd â phlant. A'r rheswm y maen nhw'n canfod eu hunain yn y sefyllfa y maen nhw ynddi yw oherwydd y toriadau i fudd-daliadau y bu'n rhaid i'r teuluoedd hynny eu hwynebu dros y degawd diwethaf. Bydd rhiant unigol yng Nghymru yn colli £3,720 bob blwyddyn o ganlyniad i doriadau i fudd-daliadau yng Nghymru. Bydd teulu â thri neu fwy o blant yng Nghymru yn wynebu toriadau o £4,110 bob blwyddyn. Mae hynny'n £75 bob un wythnos yn llai i fyw arno i ddiwallu anghenion eich teulu a'ch plant. Ac mae gan y cymunedau hynny sy'n canfod eu hunain ar y pen mwyaf miniog ym mynegai amddifadedd lluosog Cymru fwy o deuluoedd â phlant na chymunedau eraill yng Nghymru. Nid yw'n syndod i mi eich bod chi'n gweld hynny'n cael ei adlewyrchu yn y tablau. Ond, wrth i ni geisio deall pam mae cymunedau yn bodoli sy'n wynebu'r heriau hynny, mae'n bwysig iawn ein bod ni'n edrych i weld sut mae cymunedau eraill wedi llwyddo i ganfod eu hunain mewn gwahanol ran o'r sbectrwm. Felly, mae Butetown yma yng Nghaerdydd, lle'r ydym ni heddiw, a oedd yn y 10 uchaf o wardiau mwyaf difreintiedig Cymru yn ôl yn 2005, yn y 150fed safle heddiw. Roedd ward Riverside yn fy etholaeth i fy hun, lle'r wyf i'n byw, yn yr unfed safle ar ddeg yn 2005, ac mae bellach yn safle cant ac wyth. Felly, mae cymunedau—ac maen nhw i'w cael nid yn unig yma yng Nghaerdydd, ond yn Abertawe, ym Merthyr, yn Aberafan, yng Nghaerffili, yn Rhondda Cynon Taf—a ganfu eu hunain ar y pen mwyaf miniog, sydd, heddiw, wedi symud i ran wahanol o'r sbectrwm. Ac mae'r un mor bwysig ein bod ni'n ceisio nodi beth fu'r amodau sydd wedi caniatáu i'r cymunedau hynny symud i'r cyfeiriad hwnnw. Rwy'n credu bod Hefin David, wrth gyfeirio at safon ansawdd tai Cymru a rhai buddsoddiadau eraill sydd wedi eu gwneud, wedi dechrau helpu gyda'r dadansoddiad hwnnw, gan nodi'r ffactorau sy'n creu amodau llwyddiant, ac yna ein helpu ni i wneud mwy o hynny yn y dyfodol. Tynnwyd cwestiwn 8 [OAQ54807] yn ôl, ac felly, yn olaf, cwestiwn 9. Vikki Howells. Y Tasglu Ffyrdd sydd heb eu Mabwysiadu Vikki Howells AC: 9. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i ganfyddiadau'r tasglu ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu? OAQ54799 Mark Drakeford AC: Diolch i'r Aelod am hynny. Cyhoeddodd grŵp y tasglu ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu ei adroddiad yr haf diwethaf a chymeradwywyd yr argymhellion gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth. Mae'r grŵp hwnnw bellach yn gweithredu'r argymhellion a wnaeth. Vikki Howells AC: Diolch i'r Prif Weinidog am yr ateb hwnnw. Rwyf i wedi cyrraedd y cyfarfod llawn heddiw yn syth o gyfarfod â Persimmon, lle mae'n ymddangos ein bod ni'n agos iawn, iawn at gael tair ystad wedi eu mabwysiadu, rai ohonyn nhw wedi'u hadeiladu bron 18 mlynedd yn ôl. Ond rwy'n ymwybodol iawn, ar gyfer pob teulu yr wyf i wedi llwyddo i'w helpu, fod llawer iawn o berchenogion cartrefi eraill yng Nghymru sy'n byw ar ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu neu ar ystadau sydd heb eu mabwysiadu. Rwy'n croesawu canfyddiadau'r tasglu ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu, ond hoffwn i wybod pa gynlluniau sydd ar y gweill i'r dyfodol i fwrw ymlaen â'r argymhellion hynny. Mark Drakeford AC: Diolch i'r Aelod am hynny. Gwnaeth y grŵp saith gwahanol argymhelliad. Roedd eisiau gweld canllaw arfer da yn cael ei gynhyrchu, ac mae hwnnw wedi cael ei gynhyrchu, ac mae'n cael ei dreialu gan awdurdodau lleol ar hyn o bryd. Gofynnodd am ddatblygu cyfres o safonau cyffredin, ac mae'r gwaith hwnnw'n agos iawn at gael ei gwblhau. Fe'i cynhaliwyd ar y cyd ag awdurdodau lleol a datblygwyr tai. Dechreuodd ar ei argymhellion drwy ofyn am sefydlu cronfa ddata gynhwysfawr o ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu yma yng Nghymru, felly roeddem yn ymwybodol o faint y broblem a'r hyn yr oedd angen ei wneud. Mae'r gwaith o sefydlu'r gronfa ddata honno bron wedi'i gwblhau. Rydym yn disgwyl ei gweld yn barod i'w chyhoeddi yn y flwyddyn newydd, a bydd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn rhoi rhagor o wybodaeth i'r Aelodau am y gwaith hwnnw ar ôl iddo gael ei gwblhau. Diolch i'r Prif Weinidog. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Yr eitem nesaf felly yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw. Rebecca Evans. Rebecca Evans AC: Diolch, Llywydd. Mae dau newid i fusnes yr wythnos hon. Yn ddiweddarach y prynhawn yma, bydd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn gwneud datganiad ynghylch rhwydwaith clwstwr bwyd a diod Cymru, ac, yn ogystal â hynny, mae'r ddadl fer yfory wedi'i gohirio. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos eistedd nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfodydd sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig. Darren Millar AC: A gaf i alw am ddau ddatganiad heddiw, Trefnydd, y cyntaf, ar fater gwasanaethau cwnsela gofal sylfaenol yn y Gogledd, gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol? Mae problem sylweddol o ran amseroedd aros am wasanaethau cwnsela gofal sylfaenol mewn rhai rhannau o'm hetholaeth i ac, yn amlwg, gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar hyn o bryd o dan fesurau arbennig ar gyfer ei wasanaethau iechyd meddwl , roeddwn i eisiau i hyn gael ei amlygu, a chael gwybod yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i'w ddatrys. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae yna yn ardal dwyrain Conwy rai unigolion yn aros ar hyn o bryd—yr arhosiad arferol i weld cwnselydd gofal sylfaenol yw 12 mis, sy'n amlwg yn annerbyniol, o'i gymharu â gorllewin Conwy a chanolbarth a de Sir Ddinbych, lle mae unigolion yn cael gwasanaeth bron ar unwaith oherwydd cymerwyd dull gwahanol o weithredu gan glystyrau gofal sylfaenol y meddygon teulu.Nawr, rwy'n siŵr y cytunwch chi â mi y dylai pobl gael yr un cyfle cyfartal i'r mathau hyn o wasanaethau lle maen nhw wedi'u gwasanaethu gan yr un bwrdd iechyd lleol, a byddwn i'n ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog ymchwilio i hyn er mwyn i ni allu sicrhau bod y gwasanaethau hyn ar gael mewn modd amserol i'r rhai sydd eu hangen. A gaf i hefyd alw am ddatganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar ddiogelwch mewn llety rhent? Rwy'n deall nad oes unrhyw ofynion cyfreithiol ar hyn o bryd i osod synwyryddion carbon monocsid mewn llety rhent, mewn ystafelloedd lle mae offer llosgi nwy. Ond, o ystyried y byddwn ni i gyd yn ymwybodol o'r golygfeydd trasig sydd wedi digwydd mewn rhai cartrefi, lle mae unigolion yn anffodus wedi ildio i garbon monocsid, a rhai ohonyn nhw wedi marw, credaf i fod hyn yn rhywbeth y dylid ei ystyried ar gyfer y dyfodol yma yng Nghymru, a byddai'n ddefnyddiol i ni newid y gyfraith i wneud synwyryddion carbon monocsid yn ofyniad mewn llety rhent. Mae carbon monocsid yn gyfrifol am farwolaeth tua 60 o bobl bob blwyddyn yn y DU, ac mae miloedd o bobl wedi cael eu derbyn i'r ysbyty o ganlyniad i gael eu gwenwyno gan garbon monocsid. Credaf fod hyn yn rhywbeth y mae'n werth ei ystyried, a byddwn i'n falch iawn o gael datganiad. Rebecca Evans AC: Diolch i Darren Millar am godi'r materion hyn y prynhawn yma. Bydd ef yn cofio bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi'r fframwaith gwella diwygiedig ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar 14 Tachwedd, gan nodi'r disgwyliadau y bydd angen iddo eu bodloni er mwyn cael ei dynnu oddi ar fesurau arbennig. A gwn fod y Gweinidog Iechyd yn falch o nodi bod cynnydd cadarnhaol wedi'i wneud o ran gwasanaethau iechyd meddwl, gan gynnwys y dull ICAN o wella iechyd meddwl. Ond rwy'n gwerthfawrogi pryderon Darren Millar am wahanol ddulliau ledled yr ardal y mae'n ei chynrychioli. Felly, byddwn i'n ei wahodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd, gan ailadrodd y pryderon y mae wedi sôn amdanyn nhw yn y Cynulliad heddiw. O ran diogelwch mewn llety rhent a charbon monocsid, byddaf i'n gofyn i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ysgrifennu atoch gyda'r wybodaeth ddiweddaraf o ran y safonau y mae eu hangen arnom ar gyfer llety rhent, ond gan ganolbwyntio'n benodol ar bwysigrwydd profwyr carbon monocsid.FootnoteLink Gwybodaeth ychwanegol at y Cyfarfod Llawn Huw Irranca-Davies AC: A gawn ni ddatganiad, neu ddadl, ar fagiau siopa plastig, a all helpu i lywio ystyriaethau'r Gweinidog wrth iddi benderfynu ar y ffordd ymlaen i wneud Cymru yn arweinydd byd-eang o ran lleihau plastigau defnydd untro? Byddai'n caniatáu inni wedyn drafod yr astudiaeth wyddonol hirdymor gyntaf o blastigau bioddiraddadwy, oxo-diraddadwy a phlastig y gellir ei gompostio, sydd wedi dangos, ar ôl tair blynedd o'u rhoi mewn pridd, dŵr môr ac awyr agored, fod y bagiau bioddiraddadwy ac oxo-diraddiadwy yn rhyfeddol o wydn, ac yn dal i allu dal 2kg ar ôl y tair blynedd. A gallem hefyd drafod, wrth gwrs, y cynnydd yn nefnydd y bagiau plastig am oes sy'n fwy trwchus. Ac wedi hynny, byddwn i'n awgrymu bod angen dod â'r defnydd o fagiau untro a bagiau plastig i ben ar gyfer siopa yn gyfan gwbl. Rydym wedi arwain y ffordd yng Nghymru; gallwn ni fynd ymhellach, a gwn fod y Gweinidog yn cydymdeimlo â hynny. A gawn ni ddatganiad hefyd am ddatblygu safbwynt Llywodraeth Cymru ar deledu cylch cyfyng mewn lladd-dai yng Nghymru? Rwy'n datgan fy niddordeb fel aelod cyswllt hirdymor o Gymdeithas Milfeddygon Prydain. Rwy'n cefnogi eu safbwynt ar gamerâu teledu cylch cyfyng gorfodol mewn lladd-dai, gan y byddai'n golygu mwy o gyfleoedd i arsylwi a gwirio'r ffordd y mae anifeiliaid yn cael eu trin. Byddai hefyd yn rhoi mwy o gyfleoedd i arsylwi a gwirio bod y prosesau stynio a lladd yn cael eu gweithredu'n gywir, ac yn rhoi mwy o gyfleoedd i ddiogelu'r gadwyn fwyd a diogelu iechyd y cyhoedd. Ac yn olaf, a gawn ni ddatganiad maes o law—yn enwedig, efallai, ar ôl i'r Arlywydd Trump adael y DU—ar faterion sy'n ymwneud â masnach yn y dyfodol gyda'r Unol Daleithiau, a'r goblygiadau i Gymru o ran nid yn unig unrhyw wasanaethau iechyd, ond hefyd yr angen i warchod ein ffermwyr, ein cynhyrchwyr bwyd a'n cwsmeriaid yn erbyn safonau llesiant anifeiliaid a hylendid is. Mae'r syniad ein bod yn sydyn yn agor ein marchnadoedd i fewnforion o wartheg sy'n cael eu pwmpio'n llawn, yn ddi-angen, â gwrthfiotigau, neu gyw iâr sy'n cael ei olchi mewn clorin i ladd bacteria rhemp fel mater o drefn—. Nid yw hynny'n golygu chwarae teg i'n ffermwyr, ac, mae'n rhaid imi ddweud, nid y safon y mae ein cwsmeriaid eisiau ei chael o ran llesiant anifeiliaid a hylendid bwyd. Felly, gofynnaf am ystyriaeth o'r tair dadl a'r datganiadau hynny. Rebecca Evans AC: Diolch yn fawr iawn am ofyn am y tri datganiad neu'r dadleuon hynny. Gwn fod gennych chi gyfarfod wedi'i gynllunio gyda'r Gweinidog Tai ac Adfywio i drafod y pryderon penodol ynglŷn â gwastraff, a gwn ei bod yn ymwybodol o'r ymchwil yr ydych chi wedi cyfeirio ati. Mae Llywodraeth Cymru ei hun wedi comisiynu astudiaeth o'r defnydd o fagiau siopa yng Nghymru, a bod ymchwil wedi casglu data ar fagiau siopa untro a bagiau amldro, ac mae hefyd wedi archwilio agweddau ac ymddygiad pobl mewn cysylltiad â chyflwyno taliad am fagiau siopa. Bydd canlyniad y gwaith hwnnw'n cael ei gyhoeddi'r mis hwn ac yn cael ei ddefnyddio bryd hynny i'n helpu i ystyried y camau y gallai fod eu hangen yn y dyfodol o ran hynny. A gwn fod y Gweinidog yn awyddus i archwilio hynny gyda chi. Ynghylch y mater o deledu cylch cyfyng mewn lladd-dai, mae gan ein lladd-dai mwy o faint, sy'n prosesu'r mwyafrif helaeth o anifeiliaid yma yng Nghymru, gamerâu CCTV eisoes, a gall milfeddygon swyddogol gael gafael ar y lluniau hynny am yr holl resymau defnyddiol hynny a ddisgrifiwyd gan Huw Irranca-Davies. Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi ymrwymo i weithio gyda gweithredwyr lladd-dai mewn perthynas gefnogol i sicrhau bod teledu cylch cyfyng ar gael ym mhob lladd-dy yng Nghymru. Ac, er mwyn hwyluso hynny, mae'r cynllun buddsoddi mewn busnesau bwyd ar gyfer lladd-dai bach a chanolig yn cynnwys cyllid ar gyfer buddsoddi i ddiogelu llesiant anifeiliaid, a byddai hynny, wrth gwrs, yn cynnwys gosod, diweddaru neu wella teledu cylch cyfyng. Nid yw cyflwyno deddfwriaeth i'w wneud yn orfodol wedi cael ei ddiystyru o bell ffordd, ac ni fydd unrhyw benderfyniad i wneud hynny'n digwydd tan ar ôl i'r cyfnod ymgeisio ar gyfer y cynllun hwnnw gau ym mis Ionawr, ac yna bydd y math o fuddsoddi ac i ba raddau y gwneir hynny gan y lladd-dai yn cael ei adolygu. Ac ar y mater olaf, ar ôl yr etholiad cyffredinol, os cawn sefyllfa pan fydd gennym ni Lywodraeth sydd eisiau cynnal negodiadau â'r Unol Daleithiau fel blaenoriaeth, yna yn sicr byddwn yn trefnu cyfle i'r Cynulliad ystyried yr hyn a allai fod yn effeithiau negyddol sylweddol i Gymru. Wrth gwrs, yr UE a'r Unol Daleithiau yw dau o'r negodwyr masnach cryfaf a mwyaf profiadol yn y byd ac mae gwahaniaethau sylfaenol mewn agwedd rhwng y ddwy wlad mewn meysydd fel diogelwch bwyd a chyfle i ddefnyddio gwasanaethau cyhoeddus. A gwn fod hyn yn rhywbeth y mae'r Gweinidog sy'n gyfrifol am gysylltiadau rhyngwladol, ac sy'n gyfrifol am fasnachu o fewn ei phortffolio, yn awyddus i'w archwilio gydag Aelodau'r Cynulliad. Mohammad Asghar (Oscar) AC: Gweinidog, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad gan y Gweinidog Addysg am bresenoldeb mewn ysgolion uwchradd ym Mlaenau Gwent. Yn ôl adroddiad diweddar, dros y tair blynedd diwethaf, mae presenoldeb mewn ysgolion uwchradd yn y fwrdeistref wedi methu â gwella. Mae Blaenau Gwent yn is na'r holl awdurdodau lleol eraill yn y de-ddwyrain ac mae'n is o lawer na chyfartaledd Cymru o 93.8 y cant. A fyddai modd inni gael datganiad gan y Gweinidog ynghylch pa gamau y mae'n bwriadu eu cymryd i fynd i'r afael â'r sefyllfa ddifrifol hon—[Torri ar draws.]—sydd wedi gweld Blaenau Gwent—dyma fy rhanbarth i— yn ugeinfed o'r 21 awdurdod lleol yng Nghymru o ran presenoldeb mewn ysgolion uwchradd dros y tair blynedd diwethaf? A'r ail, Gweinidog, yw datganiad am y canlyniad PISA hwn, maen nhw'n dweud, gair am air, am lesiant disgyblion Cymru: Roedden nhw'n fwy tebygol o deimlo'n ddigalon ac yn bryderus...ac yn llai tebygol o deimlo'n llawen, yn siriol ac yn falch. Dyna ganlyniad PISA i'n myfyrwyr Cymraeg. Felly, sut gallwn ni wella safon morâl ein plant a'n system addysgu yn ein hysgolion i wneud yn siŵr eu bod nid yn unig yn dysgu, ond hefyd eu bod yn mwynhau yn ysgolion Cymru? Diolch. Rebecca Evans AC: Felly, o ran y mater cyntaf, sef presenoldeb mewn ysgolion uwchradd ym Mlaenau Gwent, byddwn i'n eich gwahodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg yn amlinellu eich safbwyntiau a'ch pryderon yno. Ac, wrth gwrs, yr eitem nesaf o fusnes y prynhawn yma yw'r datganiad gan y Gweinidog Addysg ar ganlyniadau PISA, a gwn i ei bod yn awyddus i drafod yr holl faterion hyn gyda'r Aelodau y prynhawn yma. Nick Ramsay AC: Gweinidog, fel y gwyddoch chi rwy'n siŵr, dydd Sadwrn hwn yw Dydd Sadwrn Busnesau Bach Cymru. Cyfle gwych i bob un ohonom ni, fel Aelodau'r Cynulliad, gefnogi busnesau cynhenid lleol, yn y stryd fawr ac mewn mannau eraill. Yr wythnos diwethaf yn y Siambr hon, gwnaeth y Prif Weinidog y pwynt pwysig nad oes modd atgyfodi stryd fawr y gorffennol, ni waeth faint y byddwn ni'n dymuno hynny weithiau, ond bydd y dyfodol yn gyfuniad o'r stryd fawr ffisegol a gwerthiant ar-lein. Pan oeddwn i'n Gadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes, yn ôl yn 2014 rwy'n credu, fe wnaethom ni adrodd ar sut y byddai modd gwella'r stryd fawr ac fe awgrymon ni y dull hwn o weithredu. Mae pum mlynedd, chwe blynedd wedi mynd heibio ers hynny. Tybed a allem ni gael yr wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru ynghylch sut y gallem ni gyflawni'r stryd fawr fwy modern, mwy cynaliadwy honno drwy newid pwyslais ardrethi busnes fel bod busnesau, boed yn rhai ar-lein neu ar y stryd fawr ffisegol, yn gallu cystadlu'n well a goroesi. Yn ail, a gawn ni'r wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru am y cynigion ar gyfer coedwig genedlaethol? Gwn fod hyn yn rhywbeth sydd ar y gweill a bod syniadau gwahanol wedi bod ynglŷn â sut y gellid cyflawni hyn. Mae'n boblogaidd iawn ar hyn o bryd, gyda llawer o bleidiau yn etholiad cyffredinol y DU yn ystyried ffyrdd y gallwn ni blannu mwy o goed. Rwy'n credu y byddai pob un ohonom ni'n cytuno bod honno'n ffordd dda o fynd ati, ond y mater dan sylw yw sut y gwnewch chi hynny, pa mor gyflym y gwnewch chi hynny a ble y caiff y coed hynny eu plannu, a yw'n cael ei wneud ar sail awdurdod lleol, sef cynllun Llywodraeth Cymru, rwy'n credu, yn hytrach na'i gael mewn un man. Felly, tybed a gawn ni ddiweddariad ar strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwneud yn siŵr ein bod yn gwneud Cymru yn wyrddach yn y dyfodol a'n bod ni'n arwain ledled y DU i ddangos sut y gall Cymru fod y rhan fwyaf cynaliadwy ac ecogyfeillgar o'r DU yn y dyfodol. Rebecca Evans AC: Yn sicr, rwy'n edrych ymlaen at ddathlu Dydd Sadwrn Busnesau Bach, yn debyg, rwy'n siŵr, i lawer o gyd-Aelodau eraill yn y cyfnod cyn y Nadolig, ac yn amlwg rwy'n siŵr y byddwn ni'n manteisio ar bob cyfle i gefnogi a hyrwyddo'r masnachwyr annibynnol hynny sydd o fewn pob un o'n hetholaethau ledled Cymru, a'r bywiogrwydd y maen nhw'n ei roi i'n strydoedd mawr. Mae'r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am adfywio yma, a bydd hi wedi clywed eich cais chi o ran yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r stryd fawr, yn enwedig o ran mynd i'r afael â'r angen i greu stryd fawr y dyfodol, sydd, fel y dywedodd y Prif Weinidog, yn edrych yn wahanol iawn i'r gorffennol.FootnoteLink Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gwneud gwaith diddorol iawn gydag Ymddiriedolaeth Carnegie, sydd wedi bod yn ystyried sut wedd fydd ar ddyfodol y stryd fawr yng Nghymru, a byddwn i'n hapus i rannu dolen i'r gwaith hwnnw gyda chydweithwyr oherwydd rwy'n siŵr y byddai o ddiddordeb i'r Aelodau ar draws y Siambr. Ac o ran coedwig genedlaethol, rwyf innau hefyd yn rhannu brwdfrydedd y gwahanol bleidiau sydd bellach yn deall ac yn mynd i'r afael â phwysigrwydd sicrhau ein bod ni’n plannu coed yn y lleoedd iawn, a'n bod ni'n cyflwyno'r cynlluniau hynny ar gyfer cynnal a chadw ein coetiroedd a'n coedwigoedd hefyd. Siaradaf i â'r Gweinidog sy'n gyfrifol am hyn i archwilio pa gyfleoedd a allai fod ar gael maes o law i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am ein cynlluniau ni yn y maes hwnnw. Gwybodaeth ychwanegol at y Cyfarfod Llawn (Saesneg yn unig) Andrew RT Davies AC: Trefnydd, a gaf i ofyn am dri datganiad, os gwelwch yn dda? Wrth i ni nesáu at ddyddiadau'r toriad nawr, mae pob un ohonom yn ymwybodol bod cyfnod y Nadolig yn rhoi pwysau enfawr ar ein gwasanaethau meddygol, yn arbennig damweiniau ac achosion brys. Rwy'n talu teyrnged i bob un sy'n gweithio yn y gwasanaethau hynny dros gyfnod y Nadolig er mwyn ein cadw'n ddiogel a'n gwella, os oes angen y gwasanaethau hynny arnom ni. Ond yn aml iawn, yn anffodus, mae straeon negyddol o gwmpas yr adeg honno o'r flwyddyn am bwysau o fewn yr adrannau. A gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd ynglŷn â sut y mae byrddau iechyd yn paratoi ar gyfer yr adeg brysur hon o'r flwyddyn, lle mae rotas o dan bwysau, ac yn amlwg dathliadau'r Nadoligaidd y mae llawer o bobl yn eu mwynhau ar yr adeg hon o'r flwyddyn yn rhoi pwysau unigryw ar y gwasanaeth? Fel Aelod, rwy'n gwybod y byddwn i'n well o lawer os byddwn i'n gallu rhoi sylw i bryderon rhai o fy etholwyr os byddai'r wybodaeth honno yn cael ei chyflwyno i mi ar ddechrau'r tymor, yn hytrach nag efallai pan fyddwn ni i gyd yn dod yn ôl ac yn gofyn am ddatganiadau ar ôl y toriad. Gobeithio y byddwn ni'n gofyn am ddatganiadau sy'n dathlu llwyddiant yr adrannau hynny a'r ffordd y maen nhw wedi mynd i'r afael ag ef, yn hytrach na rywfaint o'r pwysau sy'n gymwys yn ystod y cyfnod hwnnw. Yn ail, rwyf wedi cael llythyr gan wahanol grwpiau o fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, ond yn enwedig Grŵp Ceidwadwyr Prifysgol Caerdydd, sydd wedi tynnu sylw, yn amlwg, at y pwysau y mae'r streic yn ei roi ar amser astudio. Rwy'n sylweddoli bod prifysgolion yn sefydliadau annibynnol ac nad yw hyn yn swyddogaeth uniongyrchol i'r Llywodraeth, ond mae'r Llywodraeth yn amlwg yn rhoi arian i'r sector addysg uwch ac yn cefnogi myfyrwyr drwy eu hamgylchedd dysgu. Byddwn i'n ddiolchgar os byddem ni'n gallu cael rhyw fath o ddatganiad gan y Gweinidog Addysg ynghylch pa ymyriad, os o gwbl, y mae hi wedi'i wneud i siarad ag is-gangellorion. Mae'r cais y mae myfyrwyr Ceidwadol Prifysgol Caerdydd yn ei wneud yn ymddangos yn eithaf rhesymol i mi: pan fydd amser dysgu'n cael ei golli, bod yna ryw fath o ad-daliad; yn ail, pan fydd amserlenni wedi bod yn heriol, oherwydd bod y streic wedi rhoi pwysau ar derfynau amser, bod y terfynau amser hynny'n cael eu hymestyn. Ac yn bwysig, yn drydydd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, os nad oes penderfyniad—. Yn anffodus, gallaf i weld y Gweinidog yn ysgwyd ei phen i beidio â rhoi'r datganiad, sy'n drueni, ond mae'r myfyrwyr yn amlwg yn gofidio am hyn. Ond yn drydydd, os gallem weld rhyw fath o oleuni ym mis Ionawr ar ddiwedd y twnnel hwn, oherwydd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, bydd y gweithredu'n digwydd eto ym mis Ionawr os na cheir ateb i'r anghydfod, a bydd hynny yn amlwg yn rhoi pwysau sylweddol ar arholiadau yn benodol—. Felly, gyda'r tri chais hynny, byddwn i'n gobeithio'n fawr y gallwn ni gael ymateb gan y Llywodraeth, gan dderbyn bod prifysgolion yn sefydliadau annibynnol a bod hyn yn fater iddyn nhw ei drafod yn uniongyrchol, ond mae gan y Llywodraeth ran fawr yn yr arian y mae'n ei roi i gefnogi'r sefydliadau a'r myfyrwyr, a byddwn i'n ddiolchgar am ymateb i hynny. Diolch. Rebecca Evans AC: Felly, er budd y cofnod, Llywydd, nid oedd y Gweinidog Addysg yn awgrymu na ddylai hi na Llywodraeth Cymru fod yn gwneud datganiad ar y mater hwn; roedd hi'n gwneud y pwynt, mewn gwirionedd, na all Gweinidogion Cymru na Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru chwarae unrhyw fath o swyddogaeth ffurfiol mewn trafodaethau y DU gyfan. Wrth gwrs, mae sefydliadau addysg uwch yn gyrff ymreolaethol sy'n gyfrifol am faterion cyflogaeth, gan gynnwys pensiynau, ac mae'r cyfrifoldebau hynny'n perthyn i'r sefydliadau hynny eu hunain. Wedi dweud hynny, mae swyddogion yn parhau i fonitro'r sefyllfa ac unrhyw drafodaethau a allai ddigwydd yn y dyfodol, ac mae swyddogion hefyd yn gweithio gyda CCAUC a Phrifysgolion Cymru i fonitro'r effaith ar staff a myfyrwyr. Rwy'n credu mai'r pryder mwyaf, mewn gwirionedd, yw'r effaith ar fyfyrwyr, a byddem ni yn sicr yn annog pob plaid yn eu hymdrechion i sicrhau setliad wedi'i negodi. O ran cadernid y gaeaf, rydym wedi canolbwyntio'n ddi-ildio ar gefnogi gwelliannau a chynllunio ar gyfer cyfnod y gaeaf, ac nid ydym wedi atal y broses o adolygu'r gaeaf blaenorol na chynllunio ar gyfer y cyfnod sydd i ddod. Mae cynlluniau ar lefel bwrdd iechyd ar gyfer y gaeaf bellach wedi dod i law a darparwyd adborth wedi'i dargedu i'r sefydliadau hynny. Hefyd, gofynnwyd iddyn nhw ddarparu cynlluniau wedi'u mireinio ynghyd â chynllun ar dudalen, sy'n amlinellu camau mewn cyfyngder ac asesiad o gapasiti gwelyau ar gyfer cyfnod y gaeaf, i'w ddychwelyd i Lywodraeth Cymru yr wythnos hon. Mae cynlluniau'r byrddau partneriaeth rhanbarthol hefyd wedi dod i law a darparwyd adborth ar eu cyfer. Ac ar 1 Hydref, cyhoeddodd y Gweinidog becyn o £30 miliwn i gefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn ystod gweddill 2019-20, gyda £17 miliwn wedi'i ddyrannu i fyrddau partneriaeth rhanbarthol, £10 miliwn i fyrddau iechyd lleol a'r £3 miliwn sy'n weddill wedi'i gadw ar gyfer blaenoriaethau a gytunwyd yn genedlaethol dros gyfnod y gaeaf. Ac, wrth gwrs, unwaith eto, rydym wedi cael yr ymgyrch Dewis Doeth, y byddwn ni'n ei chyflwyno ar adegau allweddol yn ystod misoedd y gaeaf, i atgoffa'r cyhoedd ei bod yn bwysicach byth defnyddio ein gwasanaeth iechyd yn gyfrifol, a bydd yr ymgyrch honno yn helpu i gyfeirio pobl at y gwasanaeth cywir ar gyfer eu hanghenion, ac, unwaith eto, mae hyn yn rhywbeth yr wyf yn siŵr y bydd Aelodau'r Cynulliad eisiau ei hyrwyddo'n lleol i'w hetholwyr. Bethan Sayed AC: Hoffwn i godi'r pryder sydd wedi dod i'r amlwg neithiwr os oeddech chi'n gwylio Newyddion 9 bod lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru'n cael eu hanghofio wrth i gyfrifiad 2021 gael ei gynnal. Yn benodol, y consérn yw na fydd yna unrhyw beth yn rhagor o ran opsiwn i ddatgan eich bod chi'n Gymro neu'n Gymraes, oni bai eich bod chi'n wyn. Nawr, mae hwn yn hollol anghyfrifol. Allaf i ddiolch hefyd, heddiw, y gantores, Kizzy Crawford, am drafod hyn yn fyw a sut mae hynny'n mynd i effeithio ar ei hunaniaeth hi a sut mae hi'n diffinio ei hun? Mae'r sefyllfa'n wahanol yn yr Alban, yn ôl beth dwi'n deall, ond y Swyddfa Ystadegau Gwladol sydd yn gyfrifol am weinyddu'r cyfrifiad yng Nghymru ar sail Cymru a Lloegr. Nawr, mae Nia Jeffreys, sydd yn aelod cabinet Plaid Cymru dros gefnogaeth gorfforaethol ar Gyngor Gwynedd, eisoes wedi gohebu â'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn barod, ond hoffwn ofyn i chi, fel Llywodraeth Cymru, pa gamau dŷch chi'n eu cymryd i gyfathrebu hwn at y cyfrifiad a pha ymdrechion dŷch chi'n eu gwneud er mwyn galluogi pobl i nodi'n swyddogol beth yw eu hunaniaeth? Os yw hyn yn digwydd ar y cyfrifiad, yna, mae'n rhaid i ni sicrhau nad yw e'n digwydd mewn meysydd swyddogol eraill. Ar ddiwedd y dydd, dŷn ni ddim yn mynd i gael darlun clir o'r bobl sydd yn byw ac sydd yn gweithredu yma yng Nghymru os nad ydyn nhw'n gallu diffinio eu hun fel maen nhw eisiau ac fel sydd yn hawl iddyn nhw hefyd. Rebecca Evans AC: Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno'n llwyr nad yw'r cwestiwn ar ethnigrwydd ar hyn o bryd yn cynnwys pob un o'r aelodau hynny o gymdeithas sy'n ystyried eu hunain yn Gymry ond nad ydyn nhw'n wyn. Gallaf gadarnhau bod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi bod yn codi hyn yn uniongyrchol gyda'r ONS ers cryn amser, ac rwyf wedi ysgrifennu'n ddiweddar at y Gweinidog dros y Cyfansoddiad ar y mater hwn i godi pryderon Llywodraeth Cymru yn fwy ffurfiol. Nid ydym wedi cael ymateb i'r llythyr hwnnw eto, am resymau amlwg yn ôl pob tebyg gyda'r etholiad cyffredinol yn mynd rhagddo. Rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod, o fewn y cyfrifiad, fod cwestiwn ar wahân ar hunaniaeth genedlaethol. Felly, gall unrhyw rai adnabod eu hunain fel Cymry, Saeson, Prydeinwyr neu unrhyw gyfuniad o hynny, ond cytunwn nad yw cwestiwn ethnigrwydd mor gynhwysol fel y caiff ei eirio ar hyn o bryd. Rydym ni eisiau i'r ONS ystyried y mater hwn yn ofalus. Rwy'n credu bod hwn yn gyfle hefyd i bwysleisio bod y cyfrifiad yn 2021—mae mor bwysig ei fod yn gyfrifiad llwyddiannus, oherwydd mae'n hanfodol i'n dealltwriaeth ni o'r holl grwpiau poblogaeth hynny er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys yn y data sy'n helpu i lywio penderfyniadau a wneir gan y Llywodraeth. Felly, byddem ni'n annog cynifer o bobl â phosib i ymateb i'r cyfrifiad hwnnw pan fydd yn digwydd. Ond, Llywydd, byddwn i'n hapus iawn i rannu'r ymateb i'r llythyr a anfonais i at y Gweinidog dros y Cyfansoddiad a chopi o'r llythyr yr anfonais i gyda fy nghyd-Weinidogion.FootnoteLink FootnoteLink Gwybodaeth ychwanegol at y Cyfarfod Llawn Gwybodaeth ychwanegol at y Cyfarfod Llawn (Saesneg yn unig) Alun Davies AC: Rheolwr Busnes, cyfeiriodd y Prif Weinidog yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog, at yr ysbyty newydd sy'n cael ei adeiladu, sef Ysbyty Athrofaol Grange, sy'n cael ei adeiladu yn Llanfrechfa. Roedd croeso i hyn gan y bobl yr wyf yn eu cynrychioli ym Mlaenau Gwent, sy'n edrych ymlaen at gael yr ysbyty a'r cyfleusterau, a'r ehangu a'r gwelliant ym maes gofal iechyd y mae hyn yn ei gynnig. Ond er mwyn manteisio i'r eithaf ar botensial yr ysbyty i ddarparu gofal iechyd i bobl ledled ardal Aneurin Bevan, wrth gwrs, mae angen y rhwydweithiau trafnidiaeth arnom a fydd yn galluogi pobl i ddefnyddio'r cyfleusterau yno ac i ymweld â'r rheini sy'n gleifion mewnol yn yr ysbyty newydd. Rwyf wedi siarad â'r Gweinidog Iechyd a'r Gweinidog Trafnidiaeth ynghylch y mater hwn, a chredaf i ei bod yn bwysig inni gael datganiad gan o leiaf un ohonyn nhw i sicrhau bod gennym ni'r holl rwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus, y cyllido a'r ddarpariaeth o wasanaethau bysiau i alluogi pobl i gyrraedd yr ysbyty hwnnw. Felly, byddwn i'n ddiolchgar o gael datganiad ar hynny yn gynnar yn y flwyddyn newydd i sicrhau bod yr holl systemau trafnidiaeth hyn yn eu lle pan gaiff yr ysbyty newydd ei gomisiynu. Rebecca Evans AC: Diolch yn fawr iawn i Alun Davies. Wrth gwrs, mae e'n iawn i ddweud y bydd mynediad i'r cyhoedd i ysbyty newydd y Grange yn gwbl hanfodol er mwyn sicrhau bod yr ysbyty hwnnw'n gallu diwallu anghenion pobl yr ardal yn y ffordd orau ac yn cynnig cyfleoedd i'w teuluoedd ymweld â nhw a'u cefnogi, ac ati. Rwy'n falch ei fod wedi cael cyfle i drafod hyn gyda'r Gweinidog Trafnidiaeth a'r Gweinidog Iechyd, ond mae'r Gweinidog Iechyd newydd ddangos i mi y byddai ef yn hapus iawn i gael cyfarfod pellach i drafod y mater yn fanylach, efallai, pan ddaw cyfle yn y dyfodol agos. Diolch i'r Trefnydd am y datganiad yna. 3. Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Canlyniadau PISA 2018 Felly, y datganiad nesaf fydd y datganiad hynny gan y Gweinidog addysg ar ganlyniadau PISA, a dwi'n galw ar Kirsty Williams i wneud y datganiad. Kirsty Williams AC: Llywydd, mae canlyniadau 2018 PISA yn cael eu cyhoeddi heddiw, ac am y tro cyntaf erioed, mae Cymru yn y brif ffrwd ryngwladol, ac i ymdrechion ein hathrawon ni a'n myfyrwyr ni y mae'r diolch am hynny. Rwy'n awyddus i roi gwybod i bob athro, pob myfyriwr, pob rhiant, a phob cyflogwr ein bod ni wedi dal i fyny. Rydym wedi gwella ym mhob maes ac mae gennym fwy o berfformwyr uchel nag erioed o'r blaen. Mae newyddion heddiw yn gadarnhaol i bob un o'r rheini sydd wedi buddsoddi yn llwyddiant ein pobl ifanc a'n system addysg ni. Ydy, mae'n gadarnhaol, ond nid yw'n berffaith. Dair blynedd yn ôl, roeddwn wedi egluro'n groyw nad oeddem mewn sefyllfa foddhaol a bod PISA yn ddangosydd pwysig i gyflogwyr, buddsoddwyr a rhieni. Fe gymerais i gyngor y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, OECD, ynglŷn â'n diwygiadau ni. Fe ddywedon nhw wrthym am ddyfalbarhau, a bod yn ddewr, a bod yr hyn yr oeddem ni'n ei wneud yn gywir. Fe wrandewais i ar y cyngor hwnnw. Yn dilyn hynny, aethom ymlaen i gyflawni'r buddsoddiad mwyaf erioed yn ein hathrawon, y rhaglen dysgu proffesiynol fwyaf erioed, ac rydym wedi parhau i ddiwygio ein cwricwlwm. Nawr, am y tro cyntaf erioed, rydym yn perfformio ar gyfartaledd yr OECD ym mhob un o'r tri maes: sef darllen, gwyddoniaeth, a mathemateg. Am y tro cyntaf erioed, mae ein sgoriau ni wedi codi ym mhob maes a gafodd ei brofi ac ymhlith criw dethol iawn o wledydd ledled y byd sydd wedi gwneud hyn yng nghanlyniadau 2018. Rydym hefyd wedi cyrraedd ein sgôr grai orau erioed ar gyfer darllen ac ar gyfer mathemateg. Felly, ydym, rydym wedi dal i fyny â'r rhelyw. Rydym wedi treulio llawer gormod o amser yn llusgo y tu ôl i wledydd fel yr Iseldiroedd neu'r Swistir, neu'r Alban a Gogledd Iwerddon o ran hynny, ac rydym bellach wedi ymuno â nhw ym mhrif ffrwd yr OECD. Ac, yn hollbwysig yn fy marn i, rydym wedi gwneud hynny ar yr un pryd â chau'r bwlch cyrhaeddiad. Ond gadewch imi fod yn gwbl glir: nid dyma'r amser i godi ein troed ni oddi ar y sbardun. Fel isafswm lleiaf, mae angen inni fynd yr un mor gyflym. Rwyf eisiau ein gweld ni'n cynnal y momentwm hwn ac yn parhau i symud ymlaen. Felly, gadewch i mi droi nawr at faterion a datblygiadau penodol. Mae'r sampl PISA ym mhob gwlad yn adlewyrchu pob system genedlaethol unigol. Felly, wrth gwrs, i ni, mae hynny'n gymysgedd o ysgolion cyfrwng Cymraeg, cyfrwng Saesneg a dwyieithog o fewn addysg gwasanaeth cyhoeddus annetholus. Mae'r sampl mewn systemau eraill yn wahanol iawn, ac yn adlewyrchu ysgolion detholus a rhai nad ydyn nhw'n perthyn i'r wladwriaeth, fel y mae hi dros y ffin. Ond nid dyna'r dull yng Nghymru. Fe fyddwn ni—fe fyddaf i—yn parhau i gefnogi ein system ni, gan ddisgwyl llawer gan bob un, heb ystyried cefndir unrhyw un; gan weithio gyda'n gilydd i godi safonau ar gyfer pawb a sicrhau ein bod ni'n cyplysu tegwch â rhagoriaeth. Felly, fe fyddwn ni'n parhau i weithio gyda'r OECD a systemau y tu hwnt i Gymru a thu hwnt i'r Deyrnas Unedig. Wedi'r cyfan, fe gymerodd 79 o wledydd ran yn PISA, ac rydym yn ein meincnodi ein hunain yn erbyn pob un ohonyn nhw. Mae canfyddiadau'r OECD yn rhoi cyfres gyfoethog o wybodaeth a rhai naratifau diddorol iawn i ni. Pryder cyffredin ym mhob gwlad sy'n cymryd rhan yw'r bwlch mewn perfformiad ar gyfer darllen rhwng bechgyn a merched. Mae merched yn perfformio'n well na bechgyn ym mhob gwlad unigol, ac yng Nghymru, yr un yw'r stori. Mae cyllid ar gyfer addysg yn bwysig, ond mae'r OECD yn dweud bod sut rydych chi'n gwario'r arian yn bwysicach. Mae Estonia yn gwario 30 y cant yn llai na'r cyfartaledd, ond mae'r OECD yn nodi'r wlad honno'n un o'r rhai sy'n perfformio orau. Ac maen nhw'n gallu dangos yr hyn y gall cenedl fach a medrus ei gyflawni. Felly gadewch inni beidio â rhoi unrhyw gyfyngiadau ar ein huchelgeisiau i Gymru. Fe wn i fod athrawon ledled Cymru yn rhannu'r uchelgeisiau hynny. Fe fyddwn ni'n dymuno i ganlyniadau heddiw wneud i bob athro unigol fod yn fwy sionc yn ei gerddediad. Mae gwelliant yn bosibl ac rydym wedi dangos hynny. Rydym yn mynd i'r cyfeiriad iawn, ond, unwaith eto, gadewch imi fod yn glir: mae llawer mwy y mae angen ei wneud eto. Mae ein cenhadaeth genedlaethol wedi mapio'r llwybr cywir ac fe allwn ni, ac mae'n rhaid inni, ddal ati i wella. Er enghraifft, Llywydd, ystyriwch fy her i, dair blynedd yn ôl, i wella ein cyfran ni o ddysgwyr sy'n perfformio orau yn PISA o'r lefelau affwysol o isel a welsom ni yn 2015. O ran darllen, mae gennym 7 y cant o berfformwyr uchel erbyn hyn, o'i gymharu â 3 y cant yn y rownd ddiwethaf, ac rydym wedi cynyddu'r gyfran yn y ddau faes arall. Cafwyd cynnydd tebyg o ran mathemateg, ac ychydig yn llai o ran gwyddoniaeth. Mae hwn yn gam sylweddol ymlaen, ond mae'n rhaid inni wneud mwy. Yn wahanol i'r sgorau yn gyffredinol, nid ydym eto wedi cyrraedd cyfartaledd yr OECD ar gyfer y grwpiau hyn o ddysgwyr. Ond, rwy'n credu bod ein cynllun gweithredu priodol cyntaf ni ar gyfer disgyblion sy'n fwy galluog a thalentog, ac ehangu ein rhaglen Seren i ddisgyblion o flwyddyn 8 i fyny, a gosod disgwyliadau uchel ar bawb yn gwneud gwahaniaeth ac fe fydd yn parhau i wneud gwahaniaeth. Gan weithio gyda busnesau blaenllaw yng Nghymru, yn ogystal â'n colegau a'n prifysgolion, rydym yn gosod safon uchel. Ac mae hynny'n golygu bod ein myfyrwyr yn gwneud argraff fawr pan fyddan nhw'n astudio am gyfnod mewn prifysgolion fel Rhydychen a Chaergrawnt, Yale, Harvard a'r Massachusetts Institute of Technology. Nawr, un o'm blaenoriaethau i erioed fel Gweinidog fu edrych ar ein diwygiadau ni o'r safbwynt rhyngwladol hwnnw. Ac, fel y dywedais i, dyna pam y byddwn ni'n parhau i weithio gyda'r OECD wrth inni fwrw ymlaen â'n rhaglen ni o ddiwygio. Y tro diwethaf, eu negeseuon allweddol i mi oedd y dylem barhau â'r ymdrechion i ddiwygio'r cwricwlwm a chodi safonau addysgu. Wel, fe fydd fframwaith diwygiedig y cwricwlwm yn cael ei gyhoeddi ym mis Ionawr. Fe gaiff ei ategu gan gefnogaeth, adnoddau a chyngor uniongyrchol i ysgolion ac athrawon. Fe fyddwn ni'n parhau i fuddsoddi yn y grant datblygu disgyblion ac i ddiwygio'r anghenion dysgu ychwanegol, gan roi'r gefnogaeth ychwanegol sydd ei hangen i'r dysgwyr hynny lwyddo yn ein system ni. Ac fe fyddwn ni'n parhau i wyrdroi'r blynyddoedd o esgeulustod o ran arweinyddiaeth i fod yn brif ysgogydd ein rhaglen ddiwygio ni, ac fe fyddwn ni'n parhau i roi'r adnoddau sydd eu hangen ar athrawon i gyflawni ar eu gorau. I gloi, Llywydd, yn ein cynllun gweithredu cenhadaeth genedlaethol ni, fe wnes i nodi tri amcan: codi safonau; mynd i'r afael â'r bwlch cyrhaeddiad; a sicrhau system sy'n destun balchder cenedlaethol ac y bydd y cyhoedd yn ymddiried ynddi. Mae canlyniadau heddiw yn dangos llwyddiant yn erbyn pob un o'r amcanion hynny. Sgoriau uwch ym mhob maes; gostyngiad yn y bwlch rhwng ein dysgwyr mwyaf difreintiedig a'u cyfoedion; Cymru yn y brif ffrwd ryngwladol am y tro cyntaf yn ystod oes PISA; y sgoriau gorau erioed mewn mathemateg a darllen; a'r unig genedl yn y DU a welodd welliant ym mhob maes. Unwaith eto, hoffwn i achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'n hathrawon a'n myfyrwyr ni. Mae'r canlyniadau hyn yn tystio i'w gwaith caled a'u hymroddiad nhw, ac maen nhw'n dechrau dangos yr hyn y gall Cymru ei gyflawni. Suzy Davies AC: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad hi, yn enwedig y rhan olaf, yn sôn am yr hyn yr ydych chi'n bwriadu ei wneud nesaf, ac rwy'n siŵr y bydd hynny'n destun i ddadl rywbryd eto? Yr adeg hon dair blynedd yn ôl, Gweinidog, fe ddywedoch chi wrth fy rhagflaenydd i Suzy Davies AC: ni all dim a ddywedwch chi yma heddiw yn y Siambr hon wneud i mi deimlo'n waeth yn bersonol ynglŷn â'r canlyniadau hyn. Felly, rwy'n tybio eich bod chi'n rhoi caniatâd i chi eich hun roi ochenaid fach o ryddhad heddiw, ond eich bod chi'n ymwybodol iawn o'r ffaith mai rhyddhad dros dro yw hyn. Rwy'n cydnabod, fel y gwna eich swyddogion, fod gwelliant wedi digwydd, ac rwyf innau'n awyddus i ddiolch i'r athrawon a'r myfyrwyr am eu hymdrechion nhw wrth wneud hynny. Ond a yw eich swyddogion chi'n cydnabod hefyd nad yw'r rhain wedi bod yn welliannau sylweddol? Nid yw fy nadl i gyda'r athrawon a'r bobl ifanc sydd wedi cymryd rhan yn y profion hyn. Mae fy nadl i gyda chi yn y Llywodraeth a'r gobeithion yr ydych chi wedi eu codi, ar sail y tair blynedd diwethaf o ddiwygiadau, sy'n parhau i gael eu siomi. Felly, ie, er ein bod ni'n cydnabod y gwelliannau cymedrol ond heb fod yn sylweddol, maen nhw'n parhau i olygu mai Cymru yw'r wlad sy'n perfformio waethaf yn y DU. Mae'r canlyniadau hyn, i bob pwrpas, heb fod cyn waethed ag yr oedden nhw. Mae'n atgyfnerthu pa mor uchel yw'r mynydd y mae'n rhaid i ni ei ddringo er mwyn cyrraedd gwledydd eraill y DU, heb sôn am rai o'r gwledydd eraill. Rydym yn parhau i fod yn brin o'r targed hwnnw o 500, a gadarnhawyd bythefnos yn unig yn ôl gan y Prif Weinidog. Rydym yn dal i fod yn is na'r cyfartaledd mewn rhai o'r meysydd a gaiff eu harchwilio, er, fel y gwyddom ni, mae cyfartaledd yr OECD wedi gostwng ynddo'i hunan, ac fe ddylem anelu at gyflawni mwy na bod ar y cyfartaledd beth bynnag. Nid yw dal i fyny gyda'r rhelyw, sy'n mynd tuag yn ôl, yn golygu ennill y ras mewn gwirionedd. Mae angen inni fod yn gwneud mwy na mynd ar yr un cyflymder. Mae angen inni fod yn gwneud yn well yn hyn o beth. Felly, fy nghwestiwn cyntaf i ynglŷn â'r datganiad, ac rwy'n siŵr y bydd yna laweroedd ohonyn nhw, yw: fe ddywedoch chi dair blynedd yn ôl y byddech chi'n edrych ar wledydd eraill i weld beth y maen nhw'n ei wneud yn dda a chael eu syniadau da nhw. Hyd yn oed bryd hynny, roeddem yn gofidio ychydig bach am yr Alban oherwydd ei dylanwad amlwg ar y diwygiadau yr oeddech chi'n eu cyflwyno. Yn amlwg, maen nhw wedi cael canlyniad da o ran darllen y tro hwn. Er hynny, mae eu sgoriau nhw wedi parhau i fod yn isel ers cyfnod Donaldson, ac nid yw sgôr darllen heddiw hyd yn oed yn mynd â nhw'n ôl fel roedd hi cyn hynny. Felly, a wnewch chi ddweud wrthym beth yr ydych chi'n ei ddysgu o hyd o brofiad yr Alban a'u gofidiau nhw, a'r hyn y byddwch chi'n ei ddysgu hefyd o brofiad Lloegr? Yn amlwg, mae eu sgoriau nhw, fel y clywsom gan Mark Reckless yn gynharach, yn llawer gwell ac yn dal i wella. A wnewch chi roi ychydig bach o wybodaeth i ni ynglŷn â tharddle'r gwelliannau hyn yn eich barn chi? Yn 2016, yn gwbl briodol, fe wnaethoch chi gydnabod—ac rydych chi wedi crybwyll hyn heddiw—bod ein plant ni sy'n fwy galluog a thalentog yn tanberfformio. Credaf y byddai pob un ohonom ni'n anfodlon pe bai hynny ag unrhyw ran o gwbl yn ein sefyllfa ni o ran y bwlch cyrhaeddiad. Yn benodol, a yw'r newidiadau wedi effeithio ar yr hanner uchaf—y 75 canradd, os caf gyfeirio ato felly—o'i gymharu â'r 90 canradd? Roeddech chi'n crybwyll rhaglen Seren, ac fe hoffwn i glywed ychydig mwy am hynny. Ond y rheswm yr wyf i'n gofyn y cwestiwn hwn yw: er bod ein safonau ni o ran graddau A* TGAU eleni yn uchel iawn—ac fe soniodd y Prif Weinidog am hynny'n gynharach—mae ein graddau ni o A* i C wedi gostwng eleni ym mhob un o'r pynciau hyn. Dyma'r un garfan o bobl ifanc sydd wedi sefyll y profion PISA yn y flwyddyn cyn iddyn nhw sefyll yr arholiadau TGAU. Fel yr oeddech chi'n cydnabod, mae'r TGAU hyn bellach yn cyd-fynd yn well â'r sgiliau y mae'r profion PISA wedi cael eu llunio i fynd i'r afael â nhw, ac mae eich diwygiadau chi wedi bod ar waith i drwytho'r arholiadau hynny ers peth amser erbyn hyn. Felly, pam mae gwelliant bach o ran canlyniadau PISA yn cyfateb i ostyngiad o ran graddau TGAU A* i C? Fe fuom ni'n siarad yn y Siambr hon rai wythnosau'n ôl bellach am y gostyngiad o ran cyflawniadau ar hyn o bryd drwy flynyddoedd 7 i 9. Os cofiwch chi, roedd hyn yng nghyd-destun dileu'r gofyniad ar lywodraethwyr ysgol i bennu targedau i arweinyddion ysgol at ddibenion gwelliant disgyblion yn y Gymraeg neu'r Saesneg, a mathemateg a gwyddoniaeth. Y plant sydd ym mlwyddyn 7 eleni fydd y garfan nesaf o blant i sefyll prawf PISA. Felly, a ydych chi'n gofidio nawr fod y llwybr presennol ar gyfer y rhai sydd ym mlynyddoedd 7 i 9 yn golygu nad yw'r oedolion na'r plant sy'n rhan o'r system addysg bresennol wedi deall sut y caiff y diwygiadau hyn eu cyflawni? Ac a yw'n edifar gennych chi erbyn hyn y gall dileu'r targedau hyn ar gyfer cyflawniad cyffredinol disgyblion yn y pynciau allweddol hynny gyflwyno darlun inni y gallem i gyd fod yn weddol anfodlon yn ei gylch ymhen ychydig flynyddoedd? Yn gynharach, wrth wrando ar eich ymateb i Mark Reckless ynglŷn â'r ffaith nad oes gan ysgolion ddigon o adnoddau, fe sylwais eich bod chi'n ei borthi ef pan oedd yn siarad â chi, ac, yn amlwg, rydych chi wedi crybwyll Estonia yn y fan hon heddiw. Beth bynnag y gallwch chi ei ddweud wrthym ni am y system addysg a'r gwariant sy'n mynd i mewn iddi, y gwir amdani yw nad yw ysgolion—ysgolion yn benodol—yn cael digon o arian, ac rwy'n gofyn tybed a wnewch chi roi rhywfaint o gysur i ni yn hynny o beth heddiw. Tybed beth yw eich sylwadau chi, er bod y sgoriau darllen wedi gwella, ynglŷn â'r pryder difrifol sydd gan yr OECD o hyd o ran dealltwriaeth. Felly, er bod caru darllen yn dal i fod yn dipyn o her ynddo'i hunan, mae'r mater hwn o ddealltwriaeth—'darllen a deall', fel yr oeddem ni'n ei alw ers talwm—yn parhau i beri pryder sylweddol, yn fy marn i, oherwydd os na allwch chi ddeall yr hyn yr ydych chi'n ei ddarllen, go brin y gellir trosglwyddo'n ddifrifol i faes meddwl yn feirniadol. Ac wrth gwrs, dyma holl ddiben yr hyn y mae PISA yn ceisio ei brofi a'r hyn y mae ein harholiadau ni ein hunain yn gweithio tuag ato. Dyna'r cyfeiriad yr ydym ni'n mynd iddo, ac os oes yna broblem o ran dealltwriaeth, yna, yn amlwg, byddwn yn methu yn ein hamcanion. Yna, yn olaf—gan fy mod i'n deall, yn amlwg, y bydd cwestiynau gan bobl eraill—rwyf am ofyn, yn y bôn: sut y gall ein sgoriau ni yn y meysydd hyn barhau i fod yn is nag yr oedden nhw yn 2006, pan benderfynodd Cymru gymryd rhan? Nid eich diwygiadau chi yw'r rhai cyntaf, Gweinidog, a hyd yn oed gyda nhw, rydym yn dal i fod ymhellach ar ei hôl hi nag yr oeddem ni pan wnaethom ddechrau: ar waelod y DU, yn methu'r targedau, miloedd o blant yn dal i fod y tu ôl i'w perthnasau ar draws y byd, a hynny'n ddi-angen. Felly, fy nghwestiwn olaf i yw hwn: pa sicrwydd a wnewch chi ei roi y byddwn ni, yn 2021, yn uwch na'r cyfartaledd hwn, ac y byddwn ni'n cyrraedd eich targed chi o 500—i bob pwrpas, pryd fyddwn ni yn y sefyllfa yr ydych chi'n dymuno inni fod ynddi? Diolch. Kirsty Williams AC: Llywydd, a gaf i ddiolch i'r Aelod am y gyfres honno o gwestiynau? Fe wnaf i fy ngorau i wneud yn siŵr fy mod i wedi eu cofnodi nhw i gyd ac yn ateb pob un. Nid oes ochenaid o ryddhad o'm rhan i fy hun heddiw, Llywydd—dim ond y penderfyniad i fwrw ymlaen â'r rhaglen ddiwygio a gwneud hyd yn oed yn well. Fe ddywed yr Aelod ein bod ni wedi gostwng y targed o 500 ac yna mae hi'n dweud ar ddiwedd ei datganiad—a wyf i am gyrraedd y targed o 500? Mae'r targed o 500 yn cael ei amlinellu'n eglur yn ein cynllun gweithredu cenhadaeth genedlaethol ar gyfer y gyfres nesaf o ganlyniadau PISA. Fe osodais i darged ar gyfer y gyfres hon o ganlyniadau PISA, sef dangos gwelliant mewn tri maes, yr hyn yr ydym wedi ei wneud heddiw, a gweld cynnydd yn niferoedd y perfformwyr gorau yn ein profion PISA, yr hyn yr ydym wedi ei wneud heddiw. Yn hytrach na methu'r targed, cyflawni'r targed oedd hynny. A gaf i ddweud, Llywydd, nad yw'n wir o gwbl i ddweud ein bod ni ar waelod y domen yn y Deyrnas Unedig? Mae'r rhai sy'n gweinyddu profion PISA, yr OECD, yn eglur iawn bod ein perfformiad ni o ran mathemateg a gwyddoniaeth, yn ystadegol, yn gyfartal â Gogledd Iwerddon a'r Alban. Nawr, rwy'n gwybod bod y Torïaid yn ddi-hid iawn o ran ystyriaeth i ddyfodol yr undeb, ond y tro diwethaf imi edrych, roedden nhw'n dal i fod yn rhan o'r Deyrnas Unedig. Y fi yw'r cyntaf i gydnabod bod gennym ni fwy eto i'w wneud i wella ein sgoriau darllen. Dyna oedd geiriau'r SCYA hefyd, yn dweud ein bod ni wedi cyrraedd, ac yn debyg yn ystadegol i gyfartaledd yr OECD ar draws y tri maes, tra oeddem yn sylweddol is na tharged yr OECD y tro diwethaf. Nawr, o ran y cwricwlwm, mae'r Aelod yn gofyn i ni am gwricwlwm yr Alban. Yr hyn sy'n bwysig ei gofio yw ein bod ni'n datblygu ein cwricwlwm ein hunain yng Nghymru. Nid ydym yn efelychu cwricwlwm yr Alban yng Nghymru—rydym yn cynllunio un i ni ein hunain. Am y tro cyntaf erioed, bydd gennym gwricwlwm sydd wedi cael ei gynllunio gan bobl Cymru ar gyfer plant Cymru, ac rydym ni'n dal i ddysgu gwersi o bob rhan o'r byd ynglŷn â'r hyn y mae arfer da yn ei olygu a'r hyn y mae angen i ni ei osgoi. Mae hynny'n cynnwys dysgu'r gwersi o weithredu llwyddiannus cwricwla ym mhob rhan o'r byd, gan gynnwys yr Alban. Un enghraifft ddisglair iawn o'r hyn yr ydym wedi ei ddysgu yw nad oes raid rhuthro'r broses, a dyna pam y gwnes i'r penderfyniad anodd i oedi cyn rhoi'r cwricwlwm ar waith, gan wneud yn siŵr ein bod ni wedi paratoi ein proffesiwn. O ran y gwersi eraill y gellir eu dysgu, fe wêl yr Aelod fod llawer o ganolbwyntio yn y cyfryngau Prydeinig heddiw—ac rwyf innau wedi sôn am hyn—ar y system yn Estonia. Mae'r system yn Estonia yn canolbwyntio llawer ar ofal ac addysg yn y blynyddoedd cynnar, gan sicrhau bod pob plentyn, pan fydd yn mynd i gael ei addysg ffurfiol, yn meddu ar yr aeddfedrwydd a'r ymdeimlad o lesiant a hyder i fanteisio i'r eithaf ar ei addysg. Dyna pam ein bod ni yn y Llywodraeth hon yn parhau i flaenoriaethu Dechrau'n Deg, rydym ni'n sicrhau bod mwy o ofal plant o safon uchel ar gael i deuluoedd, a pham y byddaf i bob amser, pan fydd adnoddau yn caniatáu, yn buddsoddi ymlaen llaw mewn addysg ar gyfer y blynyddoedd cynnar hynny. Oherwydd dyna lle y gwyddom y gallwn sicrhau y bydd ein plant yn datblygu'r sgiliau cynnar hynny—y llafaredd sydd mor bwysig i ddatblygu darllen a deall da yn ddiweddarach mewn bywyd—a thrwy fuddsoddi yn y blynyddoedd cynnar fe fyddwn ni'n elwa ar y buddsoddiad hwnnw. Fe holodd yr Aelod am Seren fach. Wel, rwyf i wedi bod yn ffodus iawn i ddod y bore yma o gynhadledd Seren yn y Drenewydd, lle'r oedd prifysgolion o Gymru, y DU ac America yn cael eu cynrychioli. Mae mor gadarnhaol clywed pobl o Rydychen a Chaergrawnt yn sôn am y niferoedd uchel o gyfweliadau y maen nhw wedi eu cynnig i fyfyrwyr Cymru eleni, sydd ymhell uwchlaw'r darlun cenedlaethol. Maen nhw'n gwybod am ansawdd myfyriwr Seren Lefel-A yng Nghymru ac maen nhw'n awyddus i gael yr ansawdd hwnnw yn eu sefydliadau nhw. Ond rydym wedi gwrando ar rieni ac athrawon hefyd ynglŷn â sut y gallwn ni gludo manteision Seren yn gynharach yng ngyrfa addysg plentyn, ac rwy'n falch iawn o ddweud bod gennym gynlluniau peilot Seren fach yn cael eu cynnal eleni ym mhob canolfan Seren unigol. Ac, unwaith eto, fe hoffwn i ddiolch i gydlynwyr y canolfannau a'r ysgolion sy'n cymryd rhan sydd wedi gweithio'n galed iawn i ddechrau treialu'r dull hwnnw ar gyfer myfyrwyr iau. O ran yr hyn sydd wedi gwneud y gwahaniaeth, mae'n amhosibl cyfeirio at un ffactor unigol, ond rwy'n credu bod y gwelliant sylweddol yn y perfformwyr gorau wedi cael effaith. A phan ddywedaf 'gwelliant sylweddol', nid fy ngeiriau i mo'r rhain, ond geiriau'r OECD wrth ddisgrifio'r hyn yr ydym ni wedi ei wneud. Ond gadewch imi fod yn hollol glir, fel y dywedais i yn fy natganiad, er ein bod ni wedi gweld y gwelliant sylweddol hwnnw, nid ydym ar gyfartaledd yr OECD eto o ran canran y myfyrwyr sy'n perfformio ar y lefel honno, a dyna pam mae'n rhaid i ni barhau â'n cefnogaeth i'r rhai mwy galluog a thalentog, oherwydd dyna un o'r ffyrdd y byddwn ni'n taro'r targed o 500 yn y rownd nesaf. Materion yn ymwneud ag adnoddau—roeddwn i'n nodio fy mhen pan oedd Mark Reckless yn siarad, oherwydd roedd yn berffaith iawn yn yr hyn a ddywedodd: roedd athrawon yng Nghymru wedi mynegi teimladau cryfach am y ffaith nad oedd ganddyn nhw'r adnoddau angenrheidiol—gwerslyfrau a TGCh yn yr achos hwn. Yr hyn sy'n ddiddorol yw nad oedd athrawon yn ysgolion Cymru wedi nodi nad oedd ganddyn nhw'r niferoedd addas o staff. A dweud y gwir, roedd hynny ar gyfartaledd yr OECD. Felly, nid oedd athrawon Cymru yn teimlo nad oedd ganddyn nhw'r personél addysgu angenrheidiol. Ac rwy'n nodio fy mhen am ein bod ni wedi cydnabod y mater hwnnw yn Llywodraeth Cymru. Felly, eleni, er enghraifft, rydym wedi darparu, ar sail genedlaethol, i bob ysgol unigol yng Nghymru, Microsoft Office, fel nad oes raid i ysgolion ei brynu. Mae'n gyffredinol, mae pawb ar yr un maes chwarae, ac rydym wedi gallu gwneud hynny gan arbed cost, mewn gwirionedd, i'r gwariant cyffredinol. Ac eleni yn unig, fe fyddwn ni'n buddsoddi £50 miliwn mewn technoleg addysg. Rwy'n falch o ddweud ein bod ni'n gwneud hynny mewn partneriaeth â phob un o'r 22 awdurdod lleol. Bydd gan bob awdurdod lleol gyfran o'r buddsoddiad hwnnw, ac fe ofynnwyd i bob awdurdod lleol anfon asesiad o sefyllfa bresennol eu hysgolion nhw. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr holl asesiadau hynny erbyn hyn, ac rydym nawr yn y broses o sicrhau y caiff y £50 miliwn ei wario erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Ac rwy'n credu y bydd hynny'n mynd rhan o'r ffordd i fynd i'r afael â rhai o'r pryderon y mae athrawon wedi eu codi. Mae hwnnw'n ymateb ymarferol, hyd yn oed cyn inni gael yr adroddiad hwn. A gaf i ddweud, o ran y targedau a fethwyd, nid oes angen i'r aelod ond edrych ar y ddogfen genhadaeth genedlaethol lle'r oeddem ni'n dweud mai'r targed y tro hwn oedd gweld cynnydd ym mherfformiad y perfformwyr uchel? Rydym wedi cyflawni hynny. Mae'r genhadaeth genedlaethol yn datgan yn gwbl glir hefyd ein bod ni'n dymuno cyrraedd y targed hwnnw o 500 erbyn y gyfres nesaf o ganlyniadau PISA. Yn ddiddorol, os edrychwch chi ar ddarllen ymysg genethod, mewn gwirionedd, nid yw'r sgôr hwnnw mor bell i ffwrdd. Ond, yn amlwg, mae mwy o waith i'w wneud eto i gyrraedd y targed hwnnw, ac rwyf i, ac, yn fwy pwysig na mi, mae pawb sy'n ymwneud â'r system addysg yn benderfynol o fwrw ymlaen i wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd. Siân Gwenllian AC: Hoffwn innau dalu teyrnged i ddisgyblion Cymru am eu holl waith caled, yn ogystal â diolch i'r holl staff ac athrawon am eu hymdrechion diflino i sicrhau bod ein pobl ifanc ni yn cyflawni. Mae profion rhyngwladol PISA yn un ffordd o fesur cynnydd, ond mae'n rhaid defnyddio'r data'n ddoeth, a dwi'n edrych ymlaen at gael cyfle i ddadansoddi'r cynnwys yn ofalus dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf ac i weld beth ydy barn arbenigwyr addysgol ar y canlyniadau diweddaraf yma. Siân Gwenllian AC: Mae yna gynnydd bychan wedi bod ar draws y tri maes—mathemateg, gwyddoniaeth a darllen—ers 2015, sy'n galonogol. O'i gymharu â 2006, cafwyd cynnydd bychan mewn mathemateg a darllen ond gostyngiad ym maes gwyddoniaeth. Rhaid cofio bod dirywiad wedi digwydd yn y tri maes yn 2009 a 2012 a dim ond megis ailgydio yn sefyllfa 2006 ydym ni rŵan. Mae'n dda gweld arwyddion y gallai'r canlyniadau fod nôl ar y trywydd cywir wedi cyfnod maith o ddirywiad, ond mae hi'n ddyddiau cynnar ac mae'r her yn fawr. Fy nghwestiwn cyntaf i felly ydy: pa mor hyderus ydych chi y byddwn ni yn cyrraedd 500 pwynt erbyn 2021? Dwi'n falch iawn o'ch clywed chi heddiw'n cadarnhau bod y targed yna yn dal yna, ond pa mor hyderus ydych chi y byddwn ni'n ei gyrraedd o a beth ydy'ch blaenoriaethau chi ynglŷn â'r gwaith sydd angen ei wneud er mwyn bod yn y sefyllfa yna yn 2021? Achos mae'n amlwg bod angen parhau efo'r cynnydd bychan yma sydd wedi digwydd rŵan ers 2015, ond mae hi yn gyfnod o newid anferth yn ein system addysg ni, ac mae'r cwricwlwm newydd angen cael cyfle i wreiddio, ac mae angen darparu adnoddau a chyfleoedd digonol ar gyfer datblygiad proffesiynol ein staff ni. Mae'n fy mhryderu i ei bod hi'n ymddangos bod yna anghysondeb mawr ar draws Cymru o safbwynt sut mae athrawon yn ymgymryd â her y cwricwlwm newydd. Dwi'n sôn am astudiaeth mae Prifysgol Caerdydd wedi'i gwneud, sy'n dangos nad yw bron i 40 y cant o athrawon mewn ysgolion arloesi yn teimlo eu bod nhw'n rhan o ddatblygu'r cwricwlwm. Rŵan, dwi'n sôn am 40 y cant mewn ysgolion arloesi; mae'n debyg bod y ffigur yn dipyn is mewn ysgolion sydd ddim yn rhan o'r gyfundrefn o gyflwyno'r cwricwlwm newydd. A dwi'n siŵr eich bod chi'n cytuno efo fi bod anghysondeb fel yna—mae angen cael gwared ohono fo. Felly, fy ail gwestiwn i ydy: beth ydy'r cynlluniau sydd gennych chi i sicrhau bod athrawon ymhob ysgol yn rhan o'r broses o gyflwyno'r cwricwlwm newydd? Ar ben y gwaith cwricwlwm, mae trefniadau asesu a'r systemau atebolrwydd yn newid, ac yn gefndir i hyn oll mae problemau recriwtio athrawon, ac mae un mewn tri o athrawon newydd yn gadael yr ystafell ddosbarth o fewn pum mlynedd. Ac yn ogystal â'r uchelgais o gyrraedd y 500, y targed yma, yn amlwg hefyd—. A dwi'n rhannu'r uchelgais ac yn hyderus bod angen inni fod efo'r uchelgais yna, ond does bosib bod angen chwistrelliad o arian cyson i ysgolion erbyn hyn ac mae angen gwella amodau gwaith athrawon. Mae angen i athrawon fedru neilltuo eu hamser i addysgu ac ysbrydoli ein disgyblion ni, ac mae angen gwneud y proffesiwn yn ddeniadol i ddarpar athrawon, gan arwain at recriwtio mwy i mewn i'n hysgolion ni. Mi ydym ni fel plaid wedi addo darparu £300 miliwn yn ychwanegol y flwyddyn tuag at gyllido ein hysgolion ni yn sgil y gostyngiad o 8 y cant mewn termau real o wariant sydd wedi digwydd, ac, er bod rhywun yn gwybod am sefyllfaoedd fel Estonia ac yn y blaen, mae'r athrawon yn dweud wrthym ni fod y pwysau ariannol maen nhw'n eu hwynebu yn llesteirio eu gwaith nhw. Rydym ni'n gwybod bod llawer gormod o'n hathrawon mwyaf profiadol ni yn gorfod cael eu diswyddo wrth i ysgolion orfod gweithredu ar lai a llai o arian yn sgil toriadau. Ac mae hynny wedyn yn arwain at nifer fawr o blant mewn dosbarthiadau, llai o gyfle i roi sylw i anghenion unigol, a gwaith bugeiliol yn cael ei esgeuluso a'i dorri. A dwi'n troi at y pwynt olaf yna wrth gloi. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at bryderon ynghylch llesiant disgyblion. Mae hyn yn bryderus. Maen nhw'n adrodd am lefelau o ddiflastod a phryder sy'n uwch na'r cyfartaledd rhyngwladol. Hoffwn i gael eich ymateb chi i hynny, a beth rydych chi'n mynd i'w wneud yn ei gylch o. Mae'r comisiynydd plant, a'r pwyllgor plant a phobl ifanc, wedi bod yn tynnu sylw at y broblem llesiant yn benodol ers tipyn o amser rŵan, ond mae'n ymddangos bod y cynnydd yn araf, a hoffwn weld os oes gennych chi gynlluniau penodol i fynd i'r afael â'r broblem gynyddol yma ynghylch llesiant disgyblion. Diolch. Kirsty Williams AC: Diolch yn fawr, Siân. Ac a gaf i ddiolch am gydnabod ymdrechion athrawon i gyflawni'r canlyniadau hyn heddiw? Fel yr aethoch chi ymlaen i'w ddweud, rydym ynghanol y diwygiad mwyaf o addysg yn unman yn y Deyrnas Unedig, felly rydym yn gofyn llawer iawn gan ein proffesiwn eisoes wrth gymryd rhan yn y diwygiadau hynny, yn enwedig yn y cwricwlwm. O ganlyniad, mae gallu cyflawni'r canlyniadau hyn yn tystio'n wirioneddol i'w gallu nhw nid yn unig i gymryd rhan yn y diwygiadau hynny, ond i barhau â'r gwaith beunyddiol o addysgu ein plant ni. Ac rydym ni'n gofyn llawer iawn ganddyn nhw. A gaf i gytuno â chi hefyd bod angen inni ddefnyddio'r data'n ddoeth? Weithiau, ar ôl cymryd rhan yn y profion PISA, mae'n teimlo fel ein bod yn aros am heddiw, pan rydym yn gweld y sgoriau crai, a dyna ddiwedd y stori. A dweud y gwir, mae toreth o wybodaeth yma y mae angen inni ei dadansoddi'n ofalus, nid yn unig o ran ein hysgolion ein hunain, ond ar gyfer edrych ar dueddiadau rhyngwladol a chymryd rhan wirioneddol yn y naratif hwnnw, fel y gallwn weld beth yn union y mae'n ei olygu i gymryd rhan yn y profion PISA. Rydych chi yn llygad eich lle: heddiw, rydym wedi gweld y sgoriau gorau erioed ar gyfer mathemateg a darllen ers i ni gymryd rhan yn 2006. Nid yw ein sgoriau gwyddoniaeth wedi cyrraedd yno eto, ac roeddwn i'n glir iawn y tu allan i'r Llywodraeth, fel yr oeddwn i'n glir y tro diwethaf, pan gawsom ni'r canlyniadau ar gyfer 2015, na allai neb ddisgrifio'r blynyddoedd cyfamserol hynny fel blynyddoedd da na'r sgoriau'n rhai y byddai unrhyw un ohonom ni'n dymuno eu gweld. A dyna pam yr ydym ni wedi cymryd rhan yn y broses hon o ddiwygio addysg. Ond yr hyn y mae'r canlyniadau hyn yn ei ddangos yw nad yw dirywiad yn anochel—fe allwn ni wneud yn well, ac mae'n rhaid inni wneud yn well. Sut y gallwn ni gyflawni hynny? Wel, fe wnawn ni hynny drwy ganolbwyntio ar y pedwar amcan craidd ar gyfer galluogi o fewn ein cenhadaeth genedlaethol. Ac rydym yn canolbwyntio ar y rhain nid oherwydd bod angen cyrraedd targed PISA o 500, ond oherwydd ein bod ni'n gwybod, drwy ganolbwyntio ar yr amcanion hynny, y byddwn ni'n datblygu ac yn cyflenwi safonau dyrchafedig, fe fyddwn ni'n cau'r bwlch cyrhaeddiad, ac fe fyddwn ni'n cyflwyno'r system addysg honno a fydd yn ffynhonnell balchder cenedlaethol. Felly, beth fyddwn ni'n ei wneud? Fe fyddwn ni'n parhau i fuddsoddi yn ein proffesiwn addysgu, drwy sicrhau y cânt yr adnoddau sydd eu hangen i ymgymryd ag addysg broffesiynol. Fe fyddwn ni'n canolbwyntio ar lesiant ein plant. Fe wyddom fod plant sydd â lefelau uwch o lesiant, ar gyfartaledd, yn gwneud yn well yn academaidd. Felly, fe fydd angen inni barhau i ganolbwyntio ar sicrhau y gall ein plant fanteisio i'r eithaf ar eu cyfleoedd nhw yn yr ysgol drwy fynd i'r afael â materion llesiant. Mae angen cyfundrefn atebolrwydd ac asesu arnom sy'n ysgogi'r mathau cywir o ymddygiad yn ein hysgolion ni. Pan edrychwn ar drefn atebolrwydd sy'n rhoi'r un pwysoliad i rai cymwysterau gwyddoniaeth penodol, yn hytrach na chymwysterau gwyddoniaeth TGAU, a hynny'n ddealladwy—yn ddealladwy iawn—fe welsom ymgyrch enfawr tuag at y mathau penodol hynny o gymwysterau. Ac yna rydym ni'n edrych ar ein dirywiad ni o ran sgoriau gwyddoniaeth ac rydym ni'n gofyn tybed beth ddigwyddodd. Rydym wedi newid y marciwr atebolrwydd hwnnw, ac mae'r hyn yr ydym ni wedi ei weld yn gynnydd sylweddol, o dros 50 y cant, yn nifer y myfyrwyr sy'n astudio tri phwnc gwyddoniaeth TGAU, a'r myfyrwyr hynny sy'n gwneud yn dda ynddyn nhw. Felly, mae ysgogi trefn atebolrwydd sy'n gyrru'r mathau cywir o ymddygiad mewn ysgolion, nid yn academaidd yn unig, ond gan fesur llesiant hefyd a sut mae ysgolion yn mynd i'r afael â llesiant, yn gwbl eglur. Rydym wedi bod yn glir iawn hefyd ein bod wedi esgeuluso'r pwynt pwysig o arweinyddiaeth yn y system addysg ac, yn rhy aml o lawer, nid ydym wedi bod yno yn sefyll gyda'n harweinwyr ysgol i roi cyfle proffesiynol iddyn nhw a'r cymorth sydd ei angen arnyn nhw i wneud y gorau y gallan nhw. Felly, canolbwyntio—dysgu proffesiynol, llesiant, atebolrwydd ac asesu ac arweinyddiaeth yw'r meysydd y mae angen inni ganolbwyntio arnyn nhw, a dyna fydd yn sbarduno ein taith ni ymlaen o ran addysg. Mae rhoi'r adnoddau priodol i ysgolion yn bwysig. Mae'r OECD yn dweud hynny, ond mae'n mynd yn ei flaen hefyd i ddweud nad yw gwario mwy a mwy o arian o reidrwydd yn cysylltu'n uniongyrchol â chanlyniadau gwell a gwell. Y ffordd yr ydych chi'n gwario'r adnoddau sydd ar gael sy'n gwneud y gwahaniaeth. A dyna pam, wrth gwrs, yr ydym wedi cyflogi Luke Sibieta i gynnal ein gwerthusiad annibynnol o wariant ar addysg yng Nghymru—ie, i edrych ar y swm cyfan yr ydym ni yn Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu ar gyfer addysg, ond hefyd i ystyried yn wirioneddol sut y defnyddir yr arian hwnnw yn ein system ni wedi hynny, ac a yw'n cael ei defnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol. Felly, nid wyf i'n ceisio ffoi oddi wrth y sefyllfa, pan ydym yn gwbl hyderus bod pob ceiniog yn cael ei defnyddio i'r eithaf, a dyna pam mae gennym rywun o'r tu allan i'r Llywodraeth yn edrych ar y mater hwnnw. Llesiant: mae canlyniadau adran llesiant PISA yn peri pryder i bob un ohonom ni, rwy'n siŵr. Fe fydd unrhyw un ohonom sydd â phlant, neu wyrion, nithod, neiod, neu sydd â diddordeb cyffredinol yn llesiant plant ein cenedl ni, yn awyddus i ddeall beth sydd wrth wraidd y mater hwnnw. Er gwaethaf yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog yn ei atebion i'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, mae angen edrych ar y canlyniadau hyn, ac mae angen gweld beth arall y gallwn ni ei wneud. Wrth gwrs, rydym yn dechrau mynd i'r afael â hynny eisoes, yn fy marn i, yn y gwaith ar ein dull ysgol gyfan, yr ydym ni wedi dechrau arno ers cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac addysg, ac mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo'n dda iawn. Fe gaiff Vaughan Gething a minnau fy nal i gyfrif ym mhob cyfarfod gan Lynne Neagle—a chredwch chi fi, nid yw hi'n aros tan i'r cyfarfodydd ychwaith cyn fy nal i gyfrif ynglŷn â'r materion hynny. Felly, rydym yn dal i weld y gwaith ar y dull ysgol gyfan y mae'r Llywodraeth yn ymgymryd ag ef i fynd i'r afael â hynny. Wrth gwrs, bydd iechyd a llesianr yn un o'r chwe maes addysg a phrofiad o fewn ein cwricwlwm newydd. Ond mae angen inni hefyd, Siân—ac rwy'n gobeithio y byddech chi'n cytuno â mi—edrych y tu allan i'n system addysg ni ac ar rai o'r ffactorau sy'n gyrru hynny o bosib—felly sut gallwn ni weithio gyda'n gwasanaeth ieuenctid, yn enwedig yn y blynyddoedd allweddol hyn i bobl ifanc yn eu harddegau, sut y gallwn ni sicrhau bod ein gwasanaeth ieuenctid —. Rydym wedi gweld cynnydd sylweddol mewn buddsoddiad yn y flwyddyn ariannol hon yn ein gwasanaethau ieuenctid; rwyf wedi cael trafodaethau sylweddol a hir gyda'r Gweinidog Cyllid ynghylch ein gallu ni i barhau i fuddsoddi yn y gwasanaethau ieuenctid. Ond mae'n rhaid inni edrych hefyd ar faterion, a godwyd, eto, yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ynghylch tlodi. Os ydych chi'n blentyn sy'n byw mewn tlodi, mae'n siŵr y byddwch chi'n rhoi ateb yn yr arolygon hynny eich bod chi'n teimlo'n ddigalon. Os ydych chi'n gwylio eich mam a'ch tad yn cael trafferthion, os nad ydych yn gwybod a fydd gwres yno wedi ichi gyrraedd adref, os ydych yn mynd gyda'ch rhiant i lawr i'r banc bwyd, oherwydd dyna'r unig ffordd y gwyddoch chi y bydd bwyd i'ch teulu chi'r wythnos honno, mae'n siwr y byddai hynny'n effeithio ar eich llesiant chi. Ac, felly, mae cyfrifoldeb ar draws Llywodraeth Cymru i gymryd camau i fynd i'r afael â'r materion hyn. Felly, oes, mae gan ysgolion ran i'w chwarae—wrth gwrs eu bod nhw'n gwneud hynny. Ond mae gan y Llywodraeth yn fwy eang ac, yn wir, y gymdeithas yn fwy eang, ran i'w chwarae hefyd i sicrhau bod ein plant ni'n cael ymdeimlad gwell o lesiant; nid dim ond gwaith i'r ysgolion yn unig yw hyn. Mark Reckless AC: Roeddwn i'n eich llongyfarch chi, Gweinidog Addysg, mewn sylwadau cynharach, ynghyd â phawb dan sylw, am y gwelliannau yr ydym ni wedi eu gweld yng nghanlyniadau PISA y tro hwn. Wrth ddarllen eich datganiad yn gynharach, roeddwn i braidd yn bryderus y gallech chi fod ychydig yn rhy barod i ganmol eich hunain. Er enghraifft, roedd y sylwadau sy'n gadarnhaol ond nid yn mynegi perffeithrwydd, braidd yn ormodol, ac nid yw hyn cystal â gweddill y DU. Ond rwy'n credu yn yr hyn yr oeddech chi'n ei ddweud nawr yn yr atebion i'r ddau siaradwr blaenorol—. Ac roeddech chi'n ychwanegu ar ddiwedd eich datganiad—y fersiwn lafar ohono—mai dim ond megis dechrau yw hyn, ac rwyf innau'n cydnabod hynny. Er hynny, pan ddywedwch ein bod wedi treulio llawer gormod o amser yn llusgo'r tu ôl i wledydd eraill—fe wnaethoch chi sôn am yr Iseldiroedd a'r Swistir, ac yna roeddech chi'n dweud, 'Wel, yr Alban a Gogledd Iwerddon, o ran hynny, rydym ni'n ymuno â nhw nawr ym mhrif ffrwd yr OECD.' A ydych chi'n cydnabod bod yr Alban a Gogledd Iwerddon gryn dipyn yn uwch na'r brif ffrwd ar gyfer darllen, ac nid ydym wedi cyrraedd y fan honno eto yn y gymhariaeth gyffredinol? A gaf i gyfeirio at y—? Fe welsom ni sleidiau yn cael eu dangos yn gynharach a oedd â bathodyn Llywodraeth Cymru ac Addysg Cymru arnyn nhw. Ac roedd un o'r rhain am berfformwyr uchel. Roeddech chi'n sôn hefyd nawr am y gwelliant ar lefel 5 neu uwch mewn darllen o 3 y cant i 7 y cant—gwelliant sylweddol, ac er bod hyn ar ei hôl hi mae'n dechrau agosáu at gyfartaledd yr OECD o 9 y cant. O ran mathemateg, ddim cystal—rydym wedi codi o 4 y cant i 7 y cant, ac mae hynny'n cymharu â chyfartaledd o 11 y cant. Roeddech chi'n dweud yn eich datganiad gynnau fach—cyfran uwch o'r perfformwyr uchel yn y ddau faes arall, sy'n cyfeirio at fathemateg a gwyddoniaeth. A gwelwn hyn hefyd yn y sleid a ddangoswyd yn gynharach. Mewn gwyddoniaeth, mae'n dweud bod hyn wedi codi o 4 y cant yn 2015 i 5 y cant yn 2018 ar lefel 5 ac uwch. Serch hynny, yn yr adroddiad canlyniadau a ddosbarthwyd inni yn gynharach hefyd, rwy'n nodi ar dudalen 194, mae'n dweud, ar gyfer gwyddoniaeth, mai dim ond 4 y cant a gafodd lefel 5 neu uwch yng Nghymru yn 2018. Felly, tybed a allem ni wirio hynny, ac os nad ydym wedi gweld y gwelliant o'i gymharu â'r 4 y cant yn 2015, pe gallem ni, o leiaf, unioni hynny gan gydnabod y gwelliannau mewn meysydd eraill ar y lefel hon, sy'n cyfateb i'r pwyslais a roddwyd gennych chi yn gynharach ar gyfran A* Lefel A. Ers ichi ddechrau yn eich swydd, rwyf wedi holi cryn dipyn arnoch chi ynglŷn â phrosiect Seren, ac rwyf i o dan yr argraff ei fod yn rhywbeth yr ydych chi wedi bod yn ei annog yn bersonol ac wedi perswadio cydweithwyr i'w gefnogi hefyd. Efallai ein bod ni'n gweld rhai o ganlyniadau hyn yn dod i'r amlwg. Eto, er hynny, fe fyddwn i'n dweud bod gwelliannau wedi digwydd ac rwy'n barod i groesawu'r rhain, rwy'n rhybuddio rhag mynd yn rhy bell o ran ein cymharu ni â gweddill y DU ynghylch ein sefyllfa bresennol gyda Rhydychen a Chaergrawnt neu Grŵp Russell. Oes, mae gwelliannau wedi bod, ac rwy'n falch iawn bod staff derbyn yn cydnabod hynny. Ond a ydych chi'n cytuno bod ffordd bell i fynd eto, ac mae'n bwysig iawn cadw at y llwybr hwnnw os ydym am ddweud ein bod ni'n well na rhannau eraill o'r DU? Fe fyddwn i'n rhybuddio rhag awgrymu ein bod ni wedi cyrraedd y marc eto. Un maes yr hoffwn i holi yn ei gylch yw bod gennych chi'r uchelgais i gau'r bwlch cyrhaeddiad o ran y sail economaidd-gymdeithasol a chodi safonau hefyd. Tybed a fydd yna densiwn yn dod i'r amlwg rhwng y ddau nod hyn, wrth inni ymlafnio tuag at hynny. Mae'r bwlch cyrhaeddiad yn gymharol wastad ar gyfer Cymru o'i gymharu â gweddill y DU, ond yn arbennig o ran cyfartaledd yr OECD, lle mae cynnydd serth iawn ledled y grwpiau economaidd-gymdeithasol. Ac yn rhyngwladol, fe fydd cryn dipyn o wledydd mewn gwirionedd yn gweld mwy o wariant ar blant i rieni cefnog na rai tlotach, ac efallai y byddai'n unioni hynny, i ryw raddau. Ond rydym yn anghyffredin iawn wrth fynd ymhell y tu hwnt i hynny a gwario llawer mwy ar blant rhieni llai cefnog nag ar y rhieni mwy cefnog. Ac rwy'n sylwi, wrth gymharu â Lloegr ym maes darllen, bod y rhan fwyaf o'r gwahaniaeth â Lloegr yn hanner uchaf y dosbarthiad economaidd-gymdeithasol, ac yn y fan honno, rydym ni ar gyfartaledd 30 i 40 o bwyntiau yn is yn y profion darllen nag yn Lloegr. Os ydym yn dymuno cau'r bwlch hwnnw gyda Lloegr, efallai y bydd angen gweld gwelliannau sylweddol ar y lefel honno o'r sefyllfa economaidd-gymdeithasol, yn ogystal â'r lefel is lle, pe baech chi'n gwneud y cyfan drwy gau'r bwlch o ran cyrhaeddiad, byddech yn gweld cyrhaeddiad a fyddai i'w ryfeddu ar y lefelau is, ac rwy'n croesawu eich uchelgais yn hynny o beth. Ond rwy'n holi o ran cyllid rhai o'r ysgolion, sydd â'u cymeriant economaidd-gymdeithasol yn yr hanner uchaf, ac fe gefais i fy nharo gan y lefel gynradd, sef prin £3,000, ychydig yn uwch weithiau, y flwyddyn, fesul plentyn, ac i ryw raddau, yn yr uwchradd. Yn Lloegr, yr hyn a welir yw codi lefel yr ysgolion hynny sy'n gwario llai, ac mae'n ofid gennyf i, os na welir hynny yng Nghymru hefyd fe fydd hi'n anodd iawn cyrraedd y lefel honno o 500, ac yn arbennig felly i fod â'n lefelau ni'n agos at rai Lloegr o ran darllen yn benodol. Yn olaf, rydych chi'n cyfeirio at gyngor gan yr OECD, ac ar ôl y canlyniadau siomedig y tro diwethaf, rydych chi'n pwysleisio'r canlyniadau hyn a'r cyngor hwn ac yn ymgysylltu â nhw. Tybed a wnewch chi egluro beth yw'r cyngor hwnnw? Mae gennym ni'r adroddiad hwn o 262 o dudalennau ar ganlyniadau. Nid wyf yn gwybod pryd y cawsoch chi hwn neu a oes gennych chi ddeunydd arall nad ydym wedi ei weld eto. Beth ydych chi'n ei wneud gyda'r OECD o ran cyngor? A yw hon yn berthynas barhaus? A oes gan ysgolion sy'n cymryd rhan ym mhrofion PISA gyfle i elwa ar hynny hefyd? A beth, hyd yn hyn, yw'r darnau allweddol o gyngor y maen nhw'n ei ddweud wrthych sy'n angenrheidiol nawr, ar ôl edrych ar y canlyniadau hyn a'r gwelliannau o'u cymharu â'r tro diwethaf, er bod hynny'n golygu llusgo ar ôl gweddill y DU ar sawl cyfrif o hyd? Kirsty Williams AC: A gaf i, Llywydd, ddiolch i Mark Reckless am iddo gydnabod ymdrechion y staff a'r myfyrwyr wrth ennill y canlyniadau hyn heddiw? Pe caf i ddechrau gyda'r pwynt olaf yn gyntaf, nid wyf i'n gwybod pa ysgolion a safodd y profion PISA. Mae rhai pobl yn rhyfeddu at hynny, ond mae hynny'n rhan o'r amodau. Ni allaf ddweud wrthych pa ysgolion a safodd a pha ysgolion na safodd y profion PISA. Felly, nid ydym yn hwyluso perthynas waith barhaus gydag ysgolion unigol a'r OECD. Mae'r OECD yn gweithio ar lefel system i system, ac felly, newydd gael yr adroddiad gan yr OCED yr ydw i yn ystod y dyddiau diwethaf—unwaith eto, mae hynny'n rhan o'r amodau. Kirsty Williams AC: Felly, rwyf wedi cael llai na—gadewch inni weld, dydd Iau, dydd Gwener—. Wel, prynhawn Mercher y gwelais i'r canlyniadau cychwynnol ac yna fe gefais i'r adroddiad ddydd Iau, felly dim ond ychydig ddyddiau a gefais i ddod yn gyfarwydd ag ef. Ond rydym wedi gweld yr OECD yn ôl yng Nghymru yn gynharach yn nhymor yr hydref i roi asesiad annibynnol i ni, unwaith eto, o'n sefyllfa bresennol o ran ein taith ddiwygio ni, ac maen nhw'n gobeithio adrodd am hynny rywbryd yn y flwyddyn newydd. Felly, unwaith eto, rydym wedi eu comisiynu nhw, rydym wedi gofyn iddyn nhw ddod i mewn i gael golwg ar yr hyn yr ydym ni'n ei wneud a chraffu arnom ni fel Llywodraeth; mynd allan i ysgolion a siarad â phenaethiaid; siarad ag awdurdodau addysg lleol; siarad â gwasanaethau gwella ysgolion rhanbarthol i ofyn iddyn nhw fynegi eu sefyllfa bresennol nhw; a siarad â rhanddeiliaid eraill, ac fe fydd yr adroddiad annibynnol hwn yn cael ei gyflwyno i ni, fel y dywedais i, yn y flwyddyn newydd. Ac mae honno'n ymdrech ddiffuant i gadw'r pwysau arnom, i gael craffu annibynol yn edrych fel hyn o'r tu allan ar yr hyn yr ydym ni'n ei wneud fel nad ydym yn mynd dros ben llestri, neu'n mynd yn rhy hyderus yn ein gallu ni ein hunain. Mae'r craffu hwnnw o'r tu allan yn ein cadw ni'n ddiffuant o ran cyflawniad ein rhaglenni ni, ac yna rydym yn defnyddio'r cyngor hwnnw i ddiwygio neu addasu pethau sy'n gweithio'n dda, neu os nad yw pethau'n gweithio cystal, i allu ymateb yn unol â hynny. Felly, fe ddaw hynny yn y flwyddyn newydd. Roeddech chi'n sôn am fater y llwybr, ac rwyf i'n credu bod y llwybr yn bwysig. Yr hyn sy'n rhoi rhywfaint o foddhad i mi heddiw yw ein bod ni wedi gallu cynnal, dros ddau gylch erbyn hyn, y gwelliant hwnnw o ran mathemateg, a dyna'r hyn y mae angen inni ei weld yn digwydd yn y meysydd eraill hefyd. Er ein bod ni ar i fyny gyda darllen, mae hynny o'i gymharu â'r gwaelod isel yr oeddem ni arno'r tro diwethaf, ac er ein bod wedi codi mewn gwyddoniaeth, sy'n wahanol i weddill y DU, unwaith eto, mae hynny o sylfaen isel iawn. Dyma'r tro cyntaf erioed, mewn gwirionedd, inni allu gwella ein sgôr mewn gwyddoniaeth, ond mae'n rhaid i hynny fod yn gynaliadwy. Rydym wedi gweld hynny dros ddau gylch erbyn hyn ar gyfer mathemateg, sy'n gallu rhoi mwy o hyder inni, yn fy marn i, ac fe fydd yn rhaid inni weld hynny'n parhau yn y ddau faes arall hefyd. O ran tegwch a rhagoriaeth, rwyf i o'r farn ei bod yn bwysig dwyn i gof bod y bwlch anfantais yng Nghymru yn sylweddol is, a bod disgyblion yng Nghymru yn gymharol fwy galluog i oresgyn anfanteision eu cefndir nhw nag yng nghyfartaledd gwledydd yr OECD. Felly, rydym ni'n cau'r bwlch cyrhaeddiad, ac rydym yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen ar ein pobl ifanc a'r offerynnau sydd eu hangen arnyn nhw i oresgyn anfantais y gallen nhw eu cludo gyda nhw i'r system. Yr hyn sy'n bwysig hefyd yw nad oedd disgyblion yng Nghymru sydd o gefndir mewnfudol yn wahanol iawn i ddisgyblion nad ydyn nhw'n fewnfudwyr o ran eu perfformiad darllen sydd, unwaith eto, yn uwch na chyfartaledd yr OECD. Felly, o ran dysgwyr a allai wynebu amrywiaeth o heriau wrth ymuno â'r ysgol, boed hynny o bosib o deulu nad yw'n siarad Cymraeg neu Saesneg, neu'n dod o deulu difreintiedig yn gymdeithasol, mae ein system ni'n helpu'r plant hynny i wneud yn dda. Ond a yw hynny'n golygu bod tensiwn rhwng ein cefnogaeth ni i ddisgyblion mwy galluog a thalentog o'i gymharu â'n cefnogaeth ni i'n myfyrwyr o gefndir mwy difreintiedig yn economaidd-gymdeithasol? Nid wyf i'n credu bod tensiwn yno. Ni all y Llywodraeth anwybyddu unrhyw un. Mae'n rhaid i'r system addysg fod yn system sy'n gweithio i bob disgybl unigol i'w alluogi i gyrraedd ei lawn botensial, boed yn ddisgybl ag anghenion dysgu ychwanegol dwys, fel y gwelais i yn Ysgol a Chanolfan Adnoddau Cae'r Drindod yng Nghaerffili ddoe, neu'n ddisgyblion fel y rhai y gwnes i gyfarfod â nhw heddiw sydd ar eu ffordd i brifysgolion byd enwog. Mae'n rhaid creu system addysg sy'n caniatáu i bob unigolyn gyrraedd ei lawn botensial. Ni wnaf i ymddiheuro byth am y buddsoddiad yn y grant datblygu disgyblion. Fe wyddom ni fod y plant hynny'n llai tebygol o wneud yn dda, ac nid wyf i'n dymuno byw mewn gwlad lle mae maint cyflog eich rhieni neu gefndir eich bywyd chi'n eich dynodi ac yn dweud wrthoch chi o'r crud, 'Dyma yw eich tynged chi.' Mae'n rhaid atal hynny. Mae'n rhaid rhoi cyfle i alluoedd cynhenid pob plentyn ddisgleirio, heb ystyried eu cefndiroedd—heb ystyried eu cefndiroedd nhw. Ac nid wyf yn mynd i ymddiheuro byth am fynd ar ôl y freuddwyd honno i'r plant hynny. O ran darllen, rydych chi'n iawn; nid ydym mewn sefyllfa dderbyniol o ran ein sgoriau darllen, ac mae hynny'n arbennig o wir ar gyfer ein bechgyn. Fe fydd angen inni ystyried ein perfformiad a deall beth arall y gallwn ni ei wneud i sicrhau cynnydd yn hyn o beth. O ran darllen i ferched, mae eu sgôr nhw'n sylweddol uwch, ond mae gennym ni—a fi fyddai'r cyntaf i gyfaddef hynny—her yn y fan hon, yn enwedig o ran y bechgyn, i godi'r lefel ddarllen hon. Cafwyd llawer o adroddiadau ar y ffigur o 44 y cant o bobl nad ydyn nhw'n darllen llyfrau. Nawr, nid wyf i'n gwybod a yw'n rhy hwyr yn hynny o beth, ond gwn y gellir olrhain hyn i'r blynyddoedd cynnar, a datblygu arferion darllen yn gynnar yng ngyrfa addysgol y plentyn, a datblygu cariad at ddarllen. Mae'n rhaid inni ennyn y diddordeb hwn o oedran cynnar. Mae troi'n sydyn at blentyn 15 oed—ac yn fam i blentyn 15 oed, rwy'n gwybod hyn—a dweud, 'Mae'n rhaid iti ddarllen y llyfr hwn' yn annhebygol o wneud llawer o ddaioni. Mae'n rhaid i ni ddechrau ar hynny eto yn ein blynyddoedd cynharaf a datblygu'r cariad at ddarllen a'r arfer o ddarllen. Ac, wrth gwrs, mae llawer iawn o waith i'w wneud gan y rhieni. Gall rhieni ein helpu ni'n aruthrol, a helpu ysgolion yn fawr iawn, drwy ddarllen gyda'u plant yn y cartref o oedran cynnar i wneud y plant yn gyfarwydd â'r arfer hwnnw o godi llyfr a chael difyrrwch o'i ddarllen. Ond mae'n rhaid cofleidio technoleg newydd hefyd. Efallai y gwnaiff pobl ifanc—rydym ni'n fwy tebygol o'u denu nhw i gymryd rhan mewn byd o eiriau os rhown wahanol ddewisiadau iddyn nhw, ond mae gennym ni waith i'w wneud eto yn hyn o beth, a fi a fyddai'r person cyntaf i gyfaddef ein bod ni'n is na'r DU o ran ein sgoriau darllen. David Rees AC: A gaf i ymuno ag eraill i longyfarch ein pobl ifanc a'u staff a'u gwaith? Rwy'n siŵr y bydd pawb ar draws y Siambr hon yn ymuno â mi i'w llongyfarch. Gweinidog, rydych chi wedi ateb llawer iawn o'r cwestiynau ar bwyntiau yr oeddwn i eisiau eu codi, oherwydd mae'n amlwg eich bod yn angerddol ynghylch hyn a gallwch chi weld yr angerdd hwnnw yn dod trwodd. Rwy'n cytuno â chi, mae'r blynyddoedd cynnar yn allweddol i fwynhau darllen oherwydd roedd gennyf i ddiddordeb mewn darllen—ac roedd Siân Gwenllian yn llygad ei lle—mae dadansoddi'r testun, nid yn unig y penawdau, yn bwysig. Mae pobl ifanc yn cael naw deg un y cant o'u deunydd darllen o sgyrsiau ar-lein, ac maen nhw'n dweud mai yn anaml, neu byth, y mae 44 y cant yn darllen llyfr. Mae angen ystyried sut yr ydym ni'n mynd i'r afael â hynny ac annog pobl ifanc i ddefnyddio technoleg ar gyfer eu hymchwil a'u datblygiad. Nid oeddwn i'n gallu deall sut oedd yr elfen ddealltwriaeth o ddarllen, neu ddeall, fel y dywedodd Suzy, yn is na'r llinell ac eto i gyd, roedd ein myfyrdod a'n gwerthusiad yn uwch na'r llinell, sy'n amlwg yn bwynt hollbwysig. Ond hefyd, rwyf eisiau atgoffa ein hunain o'r neges gadarnhaol yma: mewn gwirionedd, rydym ni wedi gwella naw lle mewn gwyddoniaeth yn y ffigurau cenedlaethol; rydym wedi gwella wyth lle mewn darllen; ac rydym wedi gwella saith lle mewn mathemateg. Felly, mewn gwirionedd, yn erbyn gwledydd eraill, yn bendant rydym wedi gwella ein hunain ac wedi codi'r llinell ac ni ddylem anwybyddu'r pwynt hwnnw. Nid mater o wella'r ffigurau unigol hynny'n unig yw hyn, rydym wedi codi yn erbyn gwledydd eraill hefyd, ac mae hynny'n hollbwysig. Sylwais hefyd fod y bwlch cyrhaeddiad wedi gostwng, er fy mod yn cydnabod nad yw'r deial 10 y cant a'r deial 90 y cant o reidrwydd ar y lefelau yr ydym ni eisiau iddyn nhw fod i allu cau'r bwlch hwnnw, ond yn rhoi gwell cyfartaleddau inni, ac mae angen gwneud rhywbeth ynglŷn â hynny. A gaf fi ofyn y cwestiwn, yn amlwg, ynghylch sut yr ydym ni'n mynd i'r afael â hyn? Mae rhai o'r pethau—. Rwy'n credu bod addysg alwedigaethol yn agwedd bwysig pan fyddwn ni'n cyrraedd rhai o'r lefelau hyn, oherwydd credaf y gall addysg alwedigaethol hefyd helpu rhai o'r disgyblion hynny i ddeall rhai o'r pwyntiau yr ydym ni'n sôn amdanyn nhw. Nid yw'n ymwneud â'r agenda academaidd yn unig, ond yr agenda alwedigaethol hefyd, a gall y ddwy ddod at ei gilydd i'w cymeradwyo. Felly, sut y byddwch chi'n edrych ar sut y bydd yr agenda alwedigaethol a'r agenda academaidd yn eich cwricwlwm weithio i sicrhau y gallwn ni wella'r lefelau hynny o'r 10 y cant isaf a'r 10 y cant uchaf, sy'n rhoi'r ffigur gwell hwnnw i ni yn hynny o beth? Sut yr ydym ni'n sicrhau ein bod yn codi disgwyliadau ynghylch posibiliadau? Roeddech chi wedi sôn am gyrraedd y potensial, ond rydymni eisiau codi'r disgwyliad a'r cyfleoedd a'r posibiliadau i'r bobl hynny gyrraedd y potensial hwnnw. Felly, beth yr ydych chi'n ei wneud i weithio tuag at hynny fel ein bod ni'n rhoi mwy o obaith iddyn nhw? Soniodd Siân Gwenllian am athrawon. Unwaith eto, rwy'n codi cwestiwn yr athrawon hefyd. Sut mae annog mwy i mewn? Ond hefyd, ni adlewyrchwyd ein hathrawon absennol yn hynny, ond mae gennym lawer o athrawon cyflenwi'n dod i mewn. Sut yr ydym ni'n mynd i'r afael â'r agenda athrawon cyflenwi i sicrhau nad yw hynny'n effeithio ar ddysgu ein pobl ifanc, fel y gallan nhw barhau i ddatblygu? Mewn llawer o ysgolion mae athrawon cyflenwi'n mynd a dod yn eithaf aml, ac mae hynny yn effeithio arnyn nhw. Rydych chi wedi sôn am fanciau bwyd a'u llesiant, ond gadewch inni beidio ag anghofio, mae llesiant yn effeithio ar ddysgu plant, ac mae hynny'n hollbwysig. Mae angen inni roi sylw i hynny. Fe wnes i sylwi bod yr OECD yn adlewyrchu Andreas Schleicher a'i sylw: 'Rwyt ti ar y trywydd iawn.' Dyna'r hyn a ddywedodd ef: 'Rwyt ti ar y trywydd iawn. Dal ati', ond a allwch chi ein hargyhoeddi ni y bydd y newidiadau i'r cwricwlwm a gyflwynir gennych y flwyddyn nesaf yn ein cymryd ar y llwybr hwnnw'n barhaus, ac nad yw'n mynd i'n dargyfeirio oddi ar y llwybr i lwybr arall, i gyfeiriad arall? Oherwydd mae'n bwysig ein bod yn parhau â'r cynnydd a welwyd yn ystod y tair blynedd diwethaf. Rydym i gyd wedi galw am y cynnydd hwn. Ers 2015, rwy'n ei gofio—galwodd pob un ohonom ni am y cynnydd hwn. Rydym wedi'i gael nawr, gadewch inni ei ddathlu, ond gadewch inni hefyd wneud yn siŵr ei fod yn parhau, oherwydd dyna'r nod ar gyfer ein pobl ifanc, er mwyn sicrhau eu bod nhw'n gallu elwa o wella ein systemau. Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair. Kirsty Williams AC: Hoffwn i ddiolch i David am ei ganmoliaeth i'n hathrawon a'n myfyrwyr ac am ei gwestiwn. Nod y cwricwlwm newydd yw bod yn gwricwlwm llawer ehangach a fydd yn mynd i'r afael â'r wybodaeth y bydd ei hangen ar ein plant ni ond hefyd yn rhoi'r sgiliau a'r profiadau iddyn nhw. Ac mae hynny'n golygu, o bosib, fod mwy o botensial yn y cwricwlwm hwnnw ar gyfer ffocws mwy galwedigaethol. Ond byddwch chi hefyd yn ymwybodol bod Cymwysterau Cymru yn cynnal ymgynghoriad ar hyn o bryd ar y cymwysterau, ac mae rhyw awgrym y dylid lleihau'r miloedd, yn llythrennol, o gymwysterau y gall plant eu gwneud, ond hynny, mewn gwirionedd, fydd y canllaw o ran y cymwysterau a fydd ar gael ar ôl yr amser yn yr ysgol. Ond mae'r cwricwlwm mwy eang hwn a gallu'r athrawon i gynllunio cwricwlwm sy'n diwallu anghenion y plant o'u blaenau ac anghenion cyflogwyr lleol a'r economi leol—rwy'n credu y bydd y rhyddid ehangach hwnnw yn gallu mynd i'r afael â mater hanfodol ymgysylltu. Roeddwn i mewn ysgol yn ddiweddar yn cael fy nghyfweld gan fyfyrwyr, ac fe wnaethon nhw ofyn i mi enwi rhywbeth yr oeddwn i wedi'i astudio yn yr ysgol nad wyf erioed wedi'i ddefnyddio eto yn fy ngyrfa broffesiynol gyfan, ac rwy'n amau y gallwn i gyd feddwl am y mathau hynny o bethau. Ac fe wnaethon nhw roi rhestr faith o bethau i mi yr oedden nhw'n teimlo eu bod wedi'u dysgu yn yr ysgol ac yr oedden nhw wedi'u hargyhoeddi na fyddent byth yn mynd i fod o ddefnydd iddyn nhw. Mae'n rhaid inni wrando a rhoi cyfle i'n plant gael lleisio barn o ran, 'beth sydd ei angen arnaf i?', ac i roi perthnasedd i'r dysgu. Felly, hyd yn oed os yw'n rhywbeth—. Mae syrdiau mewn mathemateg yn codi'n aml, felly er nad ydych chi efallai'n deall pam eich bod yn gorfod dysgu syrdiau mewn mathemateg, rydym ni'n gwneud y dysgu'n berthnasol drwy ddweud, 'iawn, efallai nad ydych chi'n hoffi hyn, ond mae angen ichi ddysgu hyn oherwydd— ', a dangos y cysylltiadau i'w sgiliau bywyd yn y dyfodol, i'w gyrfaoedd yn y dyfodol, a dyna sut yr ydym ni'n ymgysylltu â'n dysgwyr i gyd. Mae codi uchelgais yn rhan bwysig o hynny ac esbonio i blant nid yw'r hyn y maen nhw'n ei weld o'u hamgylch yw terfyn eu huchelgais o reidrwydd, a'u bod yn gallu meddwl y tu hwnt i hynny. Ac mae ein rhaglen Seren yn ymgorffori codi dyheadau ein plant i ddweud, 'rydych chi'n ddigon da. Gallwch chi gystadlu â'r goreuon. Mae lle i chi yn y prifysgolion hyn, ar y cyrsiau tariff uchel hyn.' Dyna un o'r rhesymau pam yr ydym eisiau dod â Seren yn is i lawr yr oedran ysgol er mwyn gallu mynd i'r afael â'r materion uchelgais hynny'n gynharach. Mae athrawon, wrth gwrs, yn hollbwysig. Ni all unrhyw system addysg ragori ar ansawdd yr athrawon sy'n gweithio gyda'n plant o ddydd i ddydd. Dyna pam yr ydym ni wedi diwygio ein rhaglen addysg gychwynnol i athrawon, dyna pam yr ydym wrthi'n ystyried symud i gyfnod o ddwy flynedd i athrawon sydd newydd gymhwyso, fel bod mwy o gefnogaeth a mentora i'r rhai sy'n ymuno â'r proffesiwn am y tro cyntaf, a dyna pam mae angen inni ystyried unwaith y rhaglen Meistr eto. Ond rhaid peidio â dweud wrth athrawon yn eu blwyddyn gyntaf o addysgu fod yn rhaid iddyn nhw wneud gradd Meistr, gan fod ganddyn nhw ddigon i ymdopi ag ef, ond creu'r bwlch hwnnw mewn gwirionedd fel y gall athrawon astudio ar lefel gradd Meistr. Ond hefyd mae angen parhau â'r buddsoddiad cychwynnol y dechreuwyd arno mewn dysgu proffesiynol a gwneud yn siŵrfy mod i'n gallu sicrhau'r adnoddau hynny fel y gall dysgu proffesiynol fod yn barhaus. Nawr, mae pennaeth yr adran addysg yn yr OECD yn wirioneddol wedi rhoi gogwydd diddorol ar daith addysg Gymraeg. Mae ef o'r farn mai'r rhaglen ddiwygio yr ydym ni'n ymwneud â hi yw'r cyfle gorau i sicrhau system addysg wych, ac mae'n gefnogol iawn o'r cwricwlwm a'r newidiadau i'r cwricwlwm. Ond yr hyn sy'n hollbwysig i mi—mae'n iawn cael cenhadaeth genedlaethol wedi'i hysgrifennu ar ddarn o bapur—ym mis Ionawr, bydd gennym ni ein cwricwlwm gorffenedig wedi'i ysgrifennu ar ddarnau o bapur. Yna, mae'n rhaid i'n sylw droi at y busnes difrifol o weithredu. Rwyf wedi bod yn y Siambr hon yn ddigon hir i weld cynlluniau gwerthfawr iawn wedi'u llunio ar bapur ac yna'n methu yn y cyfnod gweithred. Rwy'n benderfynol o ddysgu gwersi o hynny a pheidio â gadael i hynny ddigwydd o dan fy ngofal i. Diolch. Yn olaf, Neil Hamilton. Neil Hamilton AC: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dywedodd y Gweinidog yn ei datganiad: 'am y tro cyntaf erioed, rydym yn perfformio ar gyfartaledd yr OECD ym mhob un o'r tri maes: sef darllen, gwyddoniaeth, a mathemateg.' Ond a wnaiff hi gydnabod bod llai o reswm dros longyfarch ein hunain yma, efallai, na'r hyn sy'n ymddangos? Gan fod ei graffiau ei hun yn dangos bod cyfartaledd yr OECD ei hun yn gostwng; mae'n mynd yn is ac yn is o flwyddyn i flwyddyn. Felly, os byddwn ni'n sefyll yn llonydd, yn y pen draw bydd yr OECD yn disgyn yn is na ni, ac ni fyddai hynny'n rheswm dros longyfarch ein hunain. Wedi dweud hynny, rwy'n cydnabod, yn amlwg, fod y Gweinidog wedi cyflawni rhywbeth gwerth chweil—mae hi wedi dod â chyfnod hir o ddirywiad mewn safonau yn ysgolion Cymru i ben. Gan fod Cymru yn edwino islaw gwledydd eraill y DU ar ôl 20 mlynedd o fodolaeth y Cynulliad hwn, nid wyf i'n credu y gallai unrhyw Weinidog Addysg ddisgwyl bod yn falch o'r canlyniadau yr ydym ni wedi bod yn sôn amdanynt heddiw. Yn sicr, ni allwn ddathlu bod yn is na phob gwlad arall yn y DU o hyd. Ni allwn ddathlu bod yn is na chyfartaledd yr OECD. Yn wir, yn achos Gogledd Iwerddon, wrth gwrs, ni fu Cynulliad ar waith ganddyn nhw ers sawl blwyddyn, ac nid oes ganddyn nhw Lywodraeth sydd wedi'i rheoli'n ddemocrataidd, ond maen nhw wedi ein curo yn y canlyniadau hyn. Tybed a wnaiff y Gweinidog gydnabod y dylem edrych ar y canlyniadau diweddaraf drwy lygaid hanes. Ac edrychwn yn ôl at 2006, yr hyn yr ydym wedi'i weld—er fy mod yn cydnabod ac yn croesawu y bu gwelliant ers iddi hi fod yn Weinidog. Nid ydym wedi symud ymlaen rhyw lawer o gwbl. O ran darllen, rydym wedi mynd o sgôr o 481 i 483. Yn fras, mae hynny'n statig. Yn achos mathemateg, rydym wedi mynd o 484 i 487, ac yn achos gwyddoniaeth, yn drychinebus, rydym wedi mynd o 505 yn ôl i 488. Mae'n rhaid inni wneud llawer yn well na hyn cyn y gallwn ni roi clod i'n hunain. Nid wyf i o'r farn ei bod yn llawer o uchelgais mewn bywyd i geisio bod ar y cyfartaledd. Yr hyn y dylem ni fod yn ceisio'i wneud yw bod yn llawer gwell na'r cyfartaledd. Os edrychwn ni ar dablau'r holl wledydd sydd wedi bod yn cymryd rhan yng nghanlyniadau PISA, ac edrychwn ni ar Singapore—bron ar y brig, oherwydd mewn gwirionedd, mae'n Rhif 2—mae sgoriau Singapore mewn darllen yn 549, o'i gymharu â'n rhai ni ar 483, 569 mewn mathemateg, o'i gymharu â'n rhai ni ar 487, a 551 mewn gwyddoniaeth, o gymharu â'n rhai ni ar 488. Wrth gwrs, ni all pawb fod y gorau, dyna holl bwynt cyfartaleddau, ond rwy'n dal i gredu y dylai ein huchelgais fod yn fwy na hynny. Gwn nad yw'r Gweinidog yn hoffi cael ei llongyfarch na'i chanmol gennyf i—nid oes ganddi reswm da dros fod felly—ond rwyf yn ei chanmol am yr egni, yr ymroddiad a'r brwdfrydedd a gyfrannodd at weithgaredd ei swyddfa, a chroesawaf y newid a wnaeth i'r system addysg yng Nghymru. Os yw'r atal ar y dirywio hwn i'w gynnal, ac rwy'n credu ei bod wedi rhoi rhai o'r conglfeini yn eu lle ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol, yna bydd yn cael ei chofnodi yn hanes datganoli yng Nghymru fel y Gweinidog Addysg gorau i ni ei gael, er efallai nad yw hynny'n ganmoliaeth rhy fawr. Kirsty Williams AC: Wel, nid wyf i'n siŵr a wnaeth yr Aelod fanteisio ar y cyfle i fynd i'r sesiwn friffio y bore yma—rwy'n ofni fy mod i yng nghynhadledd Seren—ond os oedd ef yno, byddai wedi cael dadansoddiad dwfn iawn o'r ffigurau, ac nid yw hynny'n wir o gwbl, yr hyn y mae ef wedi'i nodi. Yn ystadegol, rydym ni'n perfformio ar gyfartaledd yr OECD. A yw ar gyfartaledd yn ddigon da? Wel, fel y dywed yr hen ddywediad criced, mae cyfartaleddau ar gyfer chwaraewyr cyffredin, ac rwyf am fod yn well na'r cyffredin. Ond o ystyried mai dim ond tair blynedd yn ôl, roeddem yn is o lawer na chyfartaledd yr OECD, credaf ein bod wedi codi ein hunain ac wedi adennill rhywfaint o urddas yma yn system addysg Cymru, ac mae'n sail y gallwn ni symud ymlaen arni, ac rwy'n benderfynol o wneud hynny. Nid ydym ni'n sefyll yn ein hunfan, rydym wedi gwneud gwelliannau yn ein sgoriau ar draws yr holl rannau. Nawr, mae'r Aelod yn gywir i ddweud ein bod wedi dod o sylfaen isel, ond rydym ni bellach wedi cofnodi heddiw y sgôr gorau erioed mewn mathemateg a'r sgôr gorau erioed mewn darllen. Mae rhagor o waith i'w wneud—rwyf i wedi bod yn glir iawn ers imi godi ar fy nhraed y prynhawn yma nad wyf yn gorffwys ar fy rhwyfau ac nad wyf yn cymryd unrhyw beth yn ganiataol. Mae rhagor o waith caled i'w wneud. Ond mae heddiw yn rhywbeth y gallwn ni fod yn falch ohono. Fel y dywedais, mae'n gadarnhaol, ond nid yw'n berffaith, ac rwyf i, ac, yn bwysicach na hynny, mae athrawon Cymru yn benderfynol o wneud yn well byth. Gwelaf hynny bob dydd yr ymwelaf â nhw; mae yna uchelgais gyffredin ledled ein cenedl. Rydym wedi gwella heddiw, ond byddwn yn gwella eto, rwy'n ffyddiog o hynny. Diolch yn fawr iawn, Gweinidog. 4. Datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Cyflogaeth Pobl Anabl Eitem 4 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ynglŷn â chyflogaeth pobl anabl. Galwaf ar y Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates. Ken Skates AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Heddiw yw Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau y Cenhedloedd Unedig, sef diwrnod a gynlluniwyd i hyrwyddo hawliau pobl anabl a chynyddu ymwybyddiaeth o'r heriau y maent yn eu hwynebu. Fodd bynnag, fel Llywodraeth, mae ein swyddogaeth yn fwy o lawer. Gan weithio gyda sefydliadau pobl anabl, adrannau Llywodraeth, y trydydd sector a byd busnes, rhaid i ni arwain y gwaith o ganfod a chael gwared ar y rhwystrau sy'n analluogi pobl. Mae'r rhan fwyaf o'r rhwystrau hyn wedi'u gwreiddio mewn agweddau negyddol, y ffordd yr ydym yn gwneud pethau, a'r amgylchedd adeiledig. Rhaid inni i gyd gofio bod llawer o'r rhwystrau hyn yn anghyfreithlon, gan arwain at y gwahaniaethu beunyddiol a wynebir gan bobl anabl. I nodi'r diwrnod hwn, hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y gwaith y mae'r Llywodraeth hon yn ei wneud i helpu pobl anabl i oresgyn y rhwystrau y maent yn dweud wrthym eu bod yn eu hwynebu wrth geisio a chadw gwaith. Rydym yn glir ynghylch ein hymrwymiad i greu Cymru fwy ffyniannus a chyfartal, gan geisio cydraddoldeb i bawb. Roedd ein cynllun cyflogadwyedd, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2018, yn cynnwys ymrwymiad i gynyddu nifer y bobl anabl sydd mewn gwaith. Rydym ni wedi gweithredu ar draws y Llywodraeth i gychwyn y newid sylweddol sydd ei angen i ddileu'r rhwystrau y maent yn eu hwynebu. Er fy mod yn falch iawn o ddweud ein bod wedi gweld cynnydd yng nghyfradd cyflogaeth pobl anabl yng Nghymru ar gyfer y flwyddyn hyd at fis Mehefin 2019—cynnydd o 45.2 y cant i 48.6 y cant—mae angen gwneud mwy er mwyn inni gyflawni cyfradd gyflogaeth gyfartalog y DU ar gyfer pobl anabl. Roedd ein fframwaith traws-lywodraethol 'Gweithredu ar Anabledd: Yr Hawl i Fyw'n Annibynnol', a lansiwyd gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, Jane Hutt AC, ar 18 Medi, yn cyfleu ein hymrwymiad i ganfod a herio arferion cyflogaeth gwahaniaethol; cynyddu nifer y bobl anabl sydd mewn gwaith drwy roi cymorth wedi'i deilwra i unigolion oresgyn rhwystrau i gael swyddi cynaliadwy a'u cadw; a newid agweddau cyflogwyr, lleihau'r stigma, a chefnogi cyflogwyr yn well i recriwtio a chadw pobl anabl. Rydym yn ailganolbwyntio ein darpariaeth gyflogaeth bresennol, drwy weithio ar y cyd â phartneriaid a chontractwyr i ganolbwyntio adnoddau er mwyn gwella ymgysylltu a chefnogi mwy o bobl anabl i gael gwaith. Amcangyfrifir, ar draws rhaglenni Llywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop, y gallai hyn gefnogi cynnydd o tua 25 y cant yn ychwanegol dros y tair blynedd nesaf. Rydym ni wedi gwneud camau breision i ddatblygu darpariaeth gyflogadwyedd bwrpasol i fynd i'r afael â rhwystrau i gyflogaeth, drwy gefnogi'r rheini sydd wrth galon y gymuned drwy ein rhaglenni cyflogadwyedd cymunedol; cefnogi'r rhai sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur oherwydd rhwystrau iechyd sylweddol, drwy ein cynlluniau cyflogaeth lle mae pwyslais mawr ar iechyd; a darparu hyfforddiant yn y gwaith drwy raglenni fel prentisiaethau. Ym mis Mai fe wnaethom ni lansio Cymru'n Gweithio, ein gwasanaeth cyngor cyflogadwyedd newydd, sy'n ei gwneud hi'n haws i bobl gael gafael ar gyngor a chymorth proffesiynol, asesiadau ar sail anghenion a chael eu cyfeirio i gyfleoedd gwaith. Mae gan y gwasanaeth hwnnw, a ddarperir gan Gyrfa Cymru, hyfforddwyr a chynghorwyr gyrfaoedd cymwysedig sy'n cynnig cyngor ac arweiniad proffesiynol a phersonol i ganfod a goresgyn rhwystrau y mae unigolion, gan gynnwys pobl anabl, yn eu hwynebu, wrth symud tuag at gyflogaeth. Mae ein cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, 'Cymru Iachach', yn nodi sut y mae angen i ni gefnogi pobl i fyw bywydau iachach. Mae dod o hyd i waith yn hynod o bwysig i'r dull ataliol hwn, ac rydym ni'n sicrhau y gall ein rhaglenni cyflogaeth seiliedig ar iechyd gefnogi mwy o bobl anabl i gael a chadw swyddi. Mae heddiw'n nodi blwyddyn ers i ni lansio ein cynllun gweithredu ar anabledd 'Prentisiaethau Cynhwysol', ac rydym yn gwneud cynnydd da o gymharu â'r camau gweithredu sydd ynddo. Mae'r data diweddaraf ar gyfer 2017/18 yn dangos bod 5.6 y cant o brentisiaid wedi datgan eu bod yn anabl o gymharu â dim ond 3.4 y cant yn 2013/14. Drwy gyflawni'r camau gweithredu yn y cynllun i ddileu'r rhwystrau sy'n atal pobl rhag cyfrannu, rydym yn ffyddiog y gallwn ni weld y ffigur hwn yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn. Nid cefnogi unigolion yn unig ydym ni, ond busnesau hefyd, i greu'r amodau i bobl anabl ffynnu mewn gwaith. Gallaf gadarnhau y caiff hyrwyddwyr cyflogwyr pobl anabl, a fydd yn gweithio gyda chyflogwyr ledled Cymru i wneud gweithleoedd yn fwy cynhwysol ac yn rhoi gwell cefnogaeth i recriwtio a chadw pobl anabl, eu recriwtio yn y flwyddyn newydd. Rydym ni hefyd yn adolygu ein deunydd marchnata ac adnoddau cyflogwyr i chwalu camdybiaethau, dylanwadu ar agweddau cyflogwyr a'u newid, a chodi ymwybyddiaeth o'r gefnogaeth ehangach sydd ar gael i fusnesau wrth gyflogi pobl anabl. Hefyd, rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag ystod o sefydliadau sy'n cynrychioli pobl anabl i asesu dewisiadau ar gyfer adeiladu ar y cynllun Hyderus o ran Anabledd sydd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ar hyn o bryd.Byddaf yn rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau am hyn yn fuan iawn. Rydym ni hefyd yn newid natur sgyrsiau gyda busnesau. Mae Busnes Cymru, ynghyd â'i gyngor busnes cyffredinol, yn cynnwys cyngor ar bolisïau ac arferion cydraddoldeb ac amrywiaeth i gynghori busnesau ar recriwtio a chadw gweithwyr anabl. Bydd hyn yn cynyddu ymwybyddiaeth o gyfleoedd i bobl anabl ddechrau busnes, gan gynnwys modelau busnes amgen fel mentrau cydweithredol a busnesau cymdeithasol. Caiff gwefan Busnes Cymru ei hehangu i ddod â gwybodaeth berthnasol ynghyd ar gyfer pobl anabl sy'n ceisio dechrau a thyfu busnes, ac annog y genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid drwy Busnes Cymru, canolfannau menter, Syniadau Mawr Cymru a Busnes Cymdeithasol Cymru. Ac, er mwyn annog a hyrwyddo arferion busnes a chyflogaeth sy'n mynd y tu hwnt i'r lleiafswm cyfreithiol, rydym yn ystyried dewisiadau i ehangu a dwysáu effaith y contract economaidd fel ei fod yn cynyddu dealltwriaeth a chyfrifoldeb cyflogwyr ymhellach o ran gwella recriwtio a chadw gweithwyr anabl. Yn sicr, o leiaf, gallai hyn gynnwys cyfeiriad penodol yn ein canllawiau ar gyfer contractau economaidd at bolisïau, prosesau a rhaglenni sydd â'r potensial i gefnogi gweithlu mwy amrywiol. Rydym ni'n ymwybodol y gallai cynnal cwmpas a maint y cymorth i unigolion a busnesau fod yn her wrth symud ymlaen, gan fod ein dull o weithredu yn cael ei danategu gan gronfeydd Ewropeaidd. Felly, mae'r Llywodraeth hon yn ailadrodd ei safbwynt clir a diamwys i unrhyw Lywodraeth newydd yn y DU: dim ceiniog yn llai, dim colli unrhyw bwerau os byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Rydym ni i gyd yn gwybod mai ein rhwystrau cymdeithasol sy'n analluogi pobl â namau. Daw'r ddealltwriaeth hon o'r model cymdeithasol o anabledd a fabwysiadwyd gennym ni fel Cynulliad yn 2002, gan wneud Cymru yn un o'r gwledydd cyntaf yn y byd i wneud hynny. Ein nod yw ymgorffori'r model hwn yn weladwy ac yn effeithiol ar draws pob maes gwaith, gan gynnwys datblygu economaidd a chymorth cyflogwyr, er mwyn annog pob sefydliad yng Nghymru i wneud yr un peth. Os byddwn ni, yng Nghymru, yn gweithio gyda'n gilydd, gallwn roi terfyn ar y gwahaniaethu sy'n difetha bywydau cynifer o bobl. Mae'n ddyletswydd foesol, ac os caf fentro dweud, economaidd arnom ni i wneud hynny. Mark Isherwood AC: Fel y dywedoch chi, heddiw yw Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau. Y thema eleni ar y diwrnod rhyngwladol yw 'mae'r dyfodol yn hygyrch'. Ym mis Mawrth 2013, cadeiriais ddigwyddiad yma—'Tuag at Gymru sy'n Galluogi: gwella rhagolygon cyflogaeth i bobl anabl'—ac yna roeddwn yn gyd-gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar anabledd yr wyf yn ei gadeirio heddiw. Yn fy sylwadau cyflwyniadol, felly, rhoddais fanylion am ddiben y grŵp: mynd i'r afael â materion cydraddoldeb anabledd allweddol sy'n cwmpasu sawl amhariad, gan gynnwys gweithredu'r model cymdeithasol o anabledd a'r hawl i fyw'n annibynnol, gan bwysleisio y gwneir pobl yn anabl gan gymdeithas, nid gan nhw eu hunain, fod yn rhaid inni gydweithio i fynd i'r afael â'r rhwystrau i fynediad a chynhwysiant i bawb, a bod yn rhaid caniatáu i bawb gael annibyniaeth, dewis a rheolaeth yn eu bywydau. Ym mis Medi 2013, cadeiriais gyfarfod cyfochrog yn y gogledd ar y thema anabledd a chyflogaeth. Ym mis Mawrth 2017, fe wnes i noddi a siarad yn y digwyddiad prosiect Ymgysylltu i Newid yn y Cynulliad. Dan arweiniad Anabledd Dysgu Cymru, ariannwyd y prosiect am bum mlynedd gan y Gronfa Loteri Fawr mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i gefnogi 1,000 o bobl ifanc yng Nghymru gydag anabledd dysgu, anhawster dysgu a/neu gyflwr ar y sbectrwm awtistiaeth i ennill sgiliau cyflogadwyedd a dod o hyd i gyflogaeth gynaliadwy. Nid oes cyfeiriad at y prosiect ardderchog hwn yn eich datganiad, a byddwn yn ddiolchgar pe baech chi, naill ai nawr neu wedyn, yn sôn am y cynnydd a fu gyda hynny, yn enwedig gan ei fod wedi'i gynllunio i ymgorffori cynaliadwyedd o ddiwedd y prosiect hwnnw. Fel y dywedwch chi, mae llawer o'r rhwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu yn anghyfreithlon. Mae gennym ni yng Nghymru, fel yn y DU, o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus, ac yn anffodus, rwy'n dal i ganfod, wrth gynrychioli etholwyr anabl gyda chyrff cyhoeddus, mai anaml, os o gwbl, y maent yn cydnabod bodolaeth y ddyletswydd o'u gwirfodd hyd nes y byddaf yn eu gwneud yn ymwybodol ohoni. A bu hynny hefyd yn wir o ran cyflogaeth neu bobl anabl sy'n ceisio ymdrin efallai â'r broses gynllunio at ddibenion hunangyflogaeth. Felly, sut gallwn ni roi mwy o hwb i hynny, nid gwneud i awdurdodau lleol ac eraill deimlo bod hyn yn orfodaeth, ond yn gyfle i wneud i bethau weithio'n well i bawb, gwella bywydau ac, yn y pen draw, leihau'r pwysau ar wasanaethau statudol? Fel y dywedwch chi, mae angen gwneud mwy i gyrraedd cyfradd gyflogaeth gyfartalog y DU ar gyfer pobl anabl, lle mae'r ffigur yn 48.6 y cant yng Nghymru. Ond, o ran awtistiaeth, darganfu ymchwil y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol yn 2016 mai dim ond 16 y cant o bobl ag awtistiaeth o oedran gweithio oedd mewn cyflogaeth lawn-amser. Roedd y ffigur hwnnw wedi aros yn ei unfan am ddegawd, a chredwyd bod y ffigur hyd yn oed yn is yng Nghymru. Felly, sut ydych chi'n bwriadu canolbwyntio nid yn unig ar yr agenda hawliau anabledd cyffredinol, o ran cyflogaeth, ond hefyd ar y gwahaniaeth sy'n bodoli rhwng gwahanol gyflyrau, a'r bwlch cyflog anabledd, sydd yng Nghymru yn parhau, mi gredaf, ar 9.9 y cant rhwng pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl? Rydych yn dweud eich bod yn ystyried cyfleoedd i ddarparu hyrwyddwyr cyflogwyr pobl anabl. Yn wir, yng nghyfarfod y grŵp trawsbleidiol ar awtistiaeth a gadeiriais ym Mhrestatyn ar 18 Hydref, bu Ben Morris o NEWCIS, y gwyddoch chi efallai amdano—Gwasanaeth Gwybodaeth Gofalwyr Gogledd-ddwyrain Cymru— yn trafod ei waith yn cefnogi gofalwyr a phobl awtistig i ddod o hyd i waith, yn ogystal â'i brofiadau ei hun fel person awtistig yn y gweithle. A dywedodd, er bod ymwybyddiaeth o awtistiaeth ar gynnydd, nad oedd nifer y bobl awtistig yn y gweithle yn cynyddu. Dywedodd ei fod wedi gweithio gyda chyflogwyr i'w helpu i sylweddoli nad yw eu cyfrifoldeb i wneud addasiadau rhesymol yn dechrau pan fyddant yn cyflogi rhywun, ond eu bod ar eu colled o ran cyflogi llawer o bobl awtistig ac anabl cymwys oherwydd nad ydynt yn gwneud addasiadau yn eu proses recriwtio. Dywedodd hefyd fod ei waith yn golygu helpu cyflogwyr i ddeall rhinweddau gweithwyr awtistig ac anabl a gwerth cael gweithlu amrywiol. Felly, wrth yrru'r agenda honno yn ei blaen, a ydych chi'n cytuno y dylai'r hyrwyddwyr arfaethedig yr ydych yn sôn amdanynt fod â phrofiad bywyd a/neu phrofiad uniongyrchol yn hytrach na bod yn bobl da eu bwriadau, ond yn bobl nad oes ganddynt yr ased ychwanegol allweddol hwnnw? Rydych chi'n dweud bod asesu dewisiadau i adeiladu ar y cynllun Hyderus o ran Anabledd sydd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ar hyn o bryd—neu eich bod yn asesu dewisiadau i adeiladu ar hynny, a newid natur sgyrsiau gyda byd busnes. Wrth gwrs, mae cynllun Hyderus o Ran Anabledd Adran Gwaith a Phensiynau y DU yn helpu cyflogwyr i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sydd i'w cael drwy gyflogi pobl anabl, mae'n wirfoddol, ac mae wedi'i ddatblygu gan gyflogwyr a chynrychiolwyr pobl anabl. Maen nhw'n gweithio gyda chyflogwyr drwy Hyderus o ran Anabledd er mwyn sicrhau bod pobl anabl a'r rhai sydd â chyflyrau iechyd hirdymor yn cael y cyfle i gyflawni eu potensial a gwireddu eu dyheadau. Ac rwyf wedi cwrdd â rhai swyddogion anhygoel yr Adran Gwaith a Phensiynau sy'n gweithio ar y rhaglen hon yng Nghymru—y tro diwethaf ychydig wythnosau'n ôl. Sut ydych chi'n sicrhau y byddwch yn ategu yn hytrach na dyblygu'r gwaith hwn, ac yn sicrhau eich bod chi, gyda'ch gilydd, yn ychwanegu gwerth yn hytrach na gwneud yr un peth? Yn yr un modd, rydych chi'n cyfeirio at wasanaeth cyngor ar gyflogadwyedd Cymru'n Gweithio. Wrth siarad yma y llynedd, ar ôl ymweld â Remploy yn Wrecsam i drafod lansio rhaglen cymorth cyflogaeth Llywodraeth y DU, y Rhaglen Gwaith ac Iechyd, yng Nghymru, dywedais fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru felly roi sicrwydd bod ei rhaglen gyflogadwyedd newydd yn ychwanegu at y rhaglen honno hefyd yn hytrach na'i dyblygu. Tybed a wnewch chi gadarnhau sut yr ydych chi'n sicrhau eich bod chi, drwy weithio mewn partneriaeth yn y ffordd yr ydych chi'n ei disgrifio, yn gweithio gyda rhaglen ategol yr Adran Gwaith a Phensiynau. Yn yr un modd, mae'r rhaglen Mynediad i Waith— [Anghlywadwy.] Yn olaf, diolch. Mark Isherwood AC: —rwy'n ymwybodol bod hynny hyd yn oed wedi cefnogi fy merch fy hun mewn gwaith. Ac yn olaf, os caf i—un cwestiwn terfynol. Un olaf—. Ydy, mae hynny'n iawn. Mark Isherwood AC: Sut ydych chi'n gweithio gyda chyrff allweddol yn y trydydd sector sydd hefyd yn gweithio gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau, megis y Cyfeirlyfr Awtistiaeth yn Nhrefforest, sy'n gweithio gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau ar raglen cyflogaeth awtistiaeth, ac Oxfam Cymru, sy'n gweithio gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau i wreiddio eu dull o fywoliaethau cynaliadwy i sicrhau bod gan staff yr Adran Gwaith a Phensiynau y sgiliau sydd eu hangen i ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan symud oddi wrth atebion tymor byr sy'n caethiwo unigolion mewn sefyllfa gyson o fod yn gweithio ac yna'n ddi-waith, ac felly mewn tlodi? Diolch. Ken Skates AC: A gaf i ddiolch i Mark Isherwood am ei sylwadau hynod adeiladol, a hefyd am ei gwestiynau, a chydnabod yr ymroddiad y mae wedi'i roi i'r agenda arbennig hon dros flynyddoedd lawer? Credaf y byddai Mark Isherwood yn cytuno ein bod i gyd yn dymuno sicrhau bod pob person anabl yn cael yr un rhyddid ac urddas a dewis a rheolaeth â phawb arall mewn cymdeithas, boed hynny yn y cartref, yn y gwaith, mewn addysg neu yn y gymuned. Mae Mark Isherwood wedi codi'r cwestiwn ynghylch sut y gallwn ni gefnogi busnesau a hyrwyddo arferion cyflogi cyfrifol yn fwy ymysg busnesau. Hoffwn dynnu sylw at y ffaith, Dirprwy Lywydd, ar hyn o bryd, fod amrywiaeth o dystiolaeth sy'n dangos pam y dylai busnesau gyflogi pobl anabl. Er enghraifft, mae gweithwyr anabl, a bod yn onest, yn fwy tebygol o aros mewn swydd am gyfnod hwy a chael llai o absenoldeb salwch hefyd. Mae ymchwil hefyd wedi canfod eu bod yn fwy tebygol o ymdrin â phroblemau mewn ffordd greadigol a chyflawni tasgau gwahanol mewn ffyrdd newydd ac arloesol. Felly, mae angen i gyflogwyr fanteisio ar ddoniau pobl anabl a chymryd camau cadarnhaol i amrywio eu gweithlu. Mae Mark Isherwood yn codi nifer o bwyntiau pwysig iawn, gan gynnwys perfformiad rhaglenni cyflogadwyedd hyd yn hyn, yr angen i awdurdodau lleol gydnabod bod y ddyletswydd yn berthnasol iddynt, y swyddogaeth y gallai'r hyrwyddwyr anabledd ei chael yn y dyfodol, y bwlch cyflog i bobl anabl hefyd a sut y byddwn yn ceisio lleihau hynny, a chysylltu â'r Adran Gwaith a Phensiynau a'r trydydd sector. Rwy'n mynd i geisio ymdrin â'r holl bwyntiau pwysig hyn. I ddechrau, fodd bynnag, gyda'r cwestiwn cyntaf a godwyd, sef sut y gallwn ni sicrhau bod gan bobl anabl yr hawl i fyw'n annibynnol, wel byddwn yn cyfeirio at yr adroddiad 'Gweithredu ar Anabledd: Yr Hawl i Fyw'n Annibynnol', a lansiwyd gan y Dirprwy Weinidog ac sy'n cynnwys cyfres o gamau i sicrhau bod darpariaeth a chymorth byw'n annibynnol ar gael i bawb. O ran perfformiad cyflogadwyedd hyd yn hyn, cyfeiriodd yr Aelod at brosiect penodol y byddaf yn fodlon rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau yn ei chylch. Gwyddom fod y canlyniadau drwy raglenni cyflogadwyedd hyd yma wedi bod yn drawiadol. Gwyddom, ers 2014, er enghraifft, fod y cylch cyfredol o raglenni Cronfa Gymdeithasol Ewrop wedi cefnogi mwy na 16,000 o unigolion i gael gwaith, a bod tua 16 y cant o'r rhain wedi datgan bod ganddynt anabledd. O ran ein rhaglen Cymunedau am Waith, mae 1,843 o bobl anabl wedi cael eu cynorthwyo i gael gwaith ers mis Mai 2015. Mae Cymunedau am Waith a Mwy wedi cynorthwyo dros 4,250 i gael gwaith ers ei lansio ym mis Ebrill 2018, ac mae 2,264 o'r rhai a fu'n rhan o hynny hyd yn hyn yn anabl neu mae ganddynt gyflwr iechyd sy'n cyfyngu ar eu gallu i weithio. Ac, o ran y rhaglen hyfforddeiaeth sy'n cael ei gweithredu, mae 750 o bobl ifanc sydd wedi datgan eu bod yn anabl wedi dechrau gweithio. Byddwn yn gwella perfformiad, byddwn yn newid pwyslais ac yn ailflaenoriaethu gwariant o Gronfa Gymdeithasol Ewrop—arian Ewropeaidd y disgwyliwn gael yr un swm yn union, os gadawn yr UE, gan Lywodraeth y DU—a thrwy wneud hynny ein nod yw creu cyfleoedd ar gyfer 25 y cant arall o bobl sy'n wynebu ffactorau yn eu bywydau sy'n achosi anabledd. Credaf fod Mark Isherwood yn cefnogi'r egwyddor o benodi hyrwyddwyr anabledd ledled Cymru. Mae hyn yn rhywbeth y mae'r Dirprwy Weinidog yn awyddus i'w ddatblygu gyda chynnydd cadarn, a byddwn yn cyhoeddi rhagor am y cynllun hwn yn y flwyddyn newydd, ond gallaf sicrhau'r Aelod heddiw y bydd yr hyrwyddwyr hynny wedi byw ac wedi profi ffactorau sydd wedi achosi anableddau iddynt yn bersonol yn eu bywydau, i ddod â'r mewnwelediad sydd mor bwysig y mae'r Aelod ei hun yn ei gydnabod. Tynnodd Mark Isherwood sylw hefyd at y bwlch cyflog anabledd sy'n bodoli yng Nghymru ac sydd ar hyn o bryd yn 9.9 y cant. Mae'r bwlch cyflog hwnnw'n annerbyniol. Fodd bynnag, mae'n is na'r DU yn ei chyfanrwydd, sef 12.2 y cant ar hyn o bryd. Cymru oedd y pumed lleiaf o blith 12 o wledydd a rhanbarthau'r DU yn 2018 o ran y bwlch cyflogau. Er mwyn lleihau'r bwlch hwnnw ymhellach ac er mwyn lleihau'r bwlch cyflogaeth rhwng cyfartaledd Cymru a chyfartaledd y DU, mae gennym ni nifer o ymyriadau newydd y manteisir arnynt yn llawn, gan gynnwys gwaith ar y Bil partneriaeth gymdeithasol, gan gynnwys swm sylweddol o waith sydd eisoes wedi'i wneud o ran gwaith teg ac ymwreiddio egwyddorion gwaith teg a thrwy ymestyn ymhellach y contract economaidd a grybwyllais yn fy natganiad. O ran ymgysylltu a chysylltu, mae ymgysylltu â'r trydydd sector yn ganolog i bopeth a wnawn o ran cynorthwyo pobl sy'n wynebu ffactorau sy'n achosi anableddau iddynt yn eu bywydau. Ac o ran ymgysylltu â'r adran Gwaith a Phensiynau, rwy'n falch o'r graddau y mae Llywodraeth Cymru a'r Adran Gwaith a Phensiynau yn cydweithio â'i gilydd, boed hynny er mwyn sicrhau bod Hyderus o ran Anabledd yn cydnabod yn llawn ac yn gweithredu'n gwbl gyson â'r cymorth ychwanegol sydd ar gael gan raglenni cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru neu'r rhaglen Mynediad at Waith, sy'n hanfodol bwysig, yn fy marn i, ac sy'n ymddangos ar safle Busnes Cymru. Mae wedi'i gynnwys yno er mwyn cyfeirio unigolion a chyflogwyr i gyllid a all helpu i dalu am amrywiaeth o gymorth, gan gynnwys unrhyw addasiadau i'r amgylchedd gwaith, am offer arbennig a gweithwyr cymorth a chefnogi darpariaeth iechyd meddwl. O ran sicrhau ein bod yn cael mwy o gysondeb fyth rhwng ymyriadau'r Adran Gwaith a Phensiynau ac ymyriadau Llywodraeth Cymru ac yn benodol ynghylch Hyderus o ran Anabledd, rydym ni wrthi'n gwneud gwaith polisi i ystyried sut y byddwn yn cyflawni'r cam hwn o fewn fframwaith newydd Llywodraeth Cymru, 'Gweithredu ar Anabledd: Yr Hawl i Fyw'n Annibynnol', o ran datblygu cynllun gwobr anabledd i gyflogwyr yng Nghymru, a allai adeiladu ar y cynllun Hyderus o ran Anabledd neu fod yn gynllun newydd i annog cyflogwyr i anelu at fod yn fwy cefnogol o bobl anabl. Ac wrth ystyried yr anghenion penodol sy'n cael eu cydnabod ar gyfer Cymru a sut y byddai cynllun gwobr anabledd i Gymru yn gweithio, ac yn gyson â'r hyn y mae swyddogion Hyderus o ran Anabledd yn ei gynnig, byddwn yn cyfarfod â nifer o randdeiliaid yn y sector, gan gynnwys y trydydd sector, i geisio eu barn ar y mater pwysig hwn. Dai Lloyd AC: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad ar gyflogaeth pobl anabl? Fel y mae'n dweud, mae heddiw'n ddiwrnod rhyngwladol pobl ag anableddau y Cenhedloedd Unedig, sef diwrnod a gynlluniwyd i hyrwyddo hawliau pobl anabl a chynyddu ymwybyddiaeth o'r heriau y maent yn eu hwynebu. Felly, mae'n bwynt sy'n dal angen ei drafod. A gaf i yn gyntaf oll gefnogi llawer o'r materion y mae Mark Isherwood newydd eu codi? Fel cadeirydd cyntaf erioed y grŵp trawsbleidiol ar awtistiaeth yn y Senedd—neu'r Cynulliad fel yr oedd bryd hynny, 17 mlynedd yn ôl—roedd materion yn ymwneud â chyflogadwyedd ymhlith pobl ag awtistiaeth yn broblem fawr bryd hynny. Mae hynny'n dal i fod yn wir. Felly, os gallwn ni gadw hynny ar eich amserlen, byddai hynny'n wych. A hefyd, a minnau'n gadeirydd presennol y grŵp trawsbleidiol ar faterion pobl fyddar, mae gennyfychydig o heriau o'r gymuned fyddar hefyd. Oherwydd, fel yr ydych chi wedi'i ddweud heddiw, Gweinidog, mae pobl anabl, gan gynnwys, yn amlwg, y rhai sy'n fyddar wedi wynebu rhwystrau ers tro wrth geisio cael gwaith. Mae'n galonogol, fel y dywedwch chi yn eich datganiad, fod Llywodraeth Cymru yn ceisio gwella'r sefyllfa hon, er enghraifft, drwy eich cynllun gweithredu ar gyfer prentisiaethau cynhwysol ar gyfer pobl ag anabledd, a phobl fel hynny. Fodd bynnag, o ran sicrhau y gall pobl ifanc anabl gael cyngor gyrfaoedd priodol fel y gallant ddeall eu hawliau, gan gynnwys eu hawl i addasiadau yn y gweithle a'r gronfa mynediad i waith, mae hynny i gyd hefyd yn hollbwysig er mwyn mynd i'r afael â'r rhwystrau hyn. Dyna pam fy mod i a'r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar yn pryderu bod y cod ymarfer drafft ar anghenion dysgu ychwanegol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn gynharach eleni yn amlinellu dyletswydd sylweddol is i ddarparu cyngor gyrfaol arbenigol i fyfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Nawr, rwy'n sylweddoli bod a wnelo hyn â materion traws-bortffolio, ond rydym ni'n siarad am gyflogadwyedd ac, yn amlwg, mae dysgu, addysg a gyrfaoedd yn rhan bwysig o'r sbectrwm hwnnw. Felly, a gaf i ofyn i'r Gweinidog amlinellu a fu rhagor o ystyriaeth ar ddyletswyddau'n ymwneud â chyngor gyrfaoedd arbenigol o fewn y cod ADY, ac a yw wedi bod yn rhan o drafodaethau o'r fath? Hefyd, rwy'n ymwybodol o'r adolygiad presennol o'r cwricwlwm cenedlaethol. Er bod y cwricwlwm drafft yn rhoi pwyslais ar yrfaoedd, byddai'n ddefnyddiol cael pwyslais penodol ar sicrhau bod pobl ifanc anabl yn ymwybodol o'u hawliau cyflogaeth. Mae hwn yn fater traws-bortffolio arall, ond ni allwch chi fyth drafod cyflogaeth pobl anabl yn hollol ynysig. Felly, a gaf i ofyn pa drafodaethau y mae'r Gweinidog yn eu cael ar y materion hyn gyda chyd-Weinidogion er mwyn i gyngor ar yrfaoedd, cyngor ar gyflogaeth gael ei deilwra i bobl ifanc anabl? Diolch yn fawr. Diolch. Gweinidog. Ken Skates AC: A gaf i hefyd ddiolch i Dai Lloyd heddiw am ei gyfraniad ac am y diddordeb a'r ymrwymiad brwd iawn y mae wedi ei ddangos i'r maes polisi pwysig hwn i Lywodraeth Cymru? Rwy'n siŵr bod Dai Lloyd hefyd yn credu, fel yr wyf fi, fod cydraddoldeb canlyniadau i bawb yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud, ac y dylem ei wneud, a bod ein huchelgeisiau ar gyfer cymdeithas Cymru yn uchelgeisiau sydd wedi'u gwreiddio mewn cydraddoldeb a chyfle cyfartal i bawb. Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud, wrth fyfyrio ar y swyddogaeth arweiniol y bu gan Dai Lloyd ei hun yn y maes hwn yn ystod y blynyddoedd diwethaf, er bod Llywodraeth Cymru yn gallu darparu arweinyddiaeth genedlaethol, a bod gwleidyddion yn y Siambr hon yn gallu darparu arweinyddiaeth genedlaethol, mae gweithredu lleol yn gwbl hanfodol er mwyn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i unigolion yn eu bywydau bob dydd. A gall gweithredu lleol gynnwys y math o gyngor y mae Gyrfa Cymru ac ysgolion eu hunain yn gallu ei gynnig i fyfyrwyr ifanc. Mae Dai Lloyd wedi codi tri phwynt pwysig yn bennaf. Un: 'Gweithredu ar anabledd ', y fframwaith a'r cynllun, gan roi sylw penodol i bobl sy'n fyddar. Yn ail, swyddogaeth Gyrfa Cymru wrth gynnig cyngor a chymorth un-i-un i unigolion. Ac yna, yn drydydd, cyfeiriodd Dai Lloyd hefyd at y 'Prentisiaethau Cynhwysol: Cynllun Gweithredu ar Anabledd ar gyfer Prentisiaethau 2018-21', sy'n rhywbeth sy'n gwneud cryn wahaniaeth o ran creu cyfleoedd. Ac mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos hynny, sydd, ar gyfer 2017-18, yn dangos bod tua 6 y cant o fyfyrwyr ar raglenni dysgu prentisiaethau wedi'u nodi fel rhai sydd ag anabledd sylfaenol a/neu anhawster dysgu, a bod y gyfran honno wedi cynyddu bob blwyddyn ers 2012-13. Yn ôl yn 2012, roedd y ffigur oddeutu 3 y cant, felly mae wedi dyblu o fewn pum mlynedd neu fwy. Dirprwy Lywydd, byddaf yn ymrwymo heddiw i gyhoeddi ym mis Chwefror y flwyddyn nesaf yr ystadegau swyddogol a fydd yn ystyried 2018-19, a fy ngobaith yw, fy nghred yw hefyd, y bydd y ffigurau hynny'n dangos gwelliant pellach. Ac rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud, o ganlyniad i'r gwaith caled sydd wedi'i wneud hyd yn hyn, rydym yn gwneud cynnydd rhagorol o ran y cynllun, ond ni ddylem ni laesu dwylo, a byddwn yn sicrhau bod y cynllun hwnnw'n parhau i gael ei gyflawni. O ran 'Gweithredu ar anabledd', wel, mae'r fframwaith yn ei gwneud hi'n ofynnol i ni weithio tuag at ddileu rhwystrau sy'n atal pobl nid yn unig rhag cael gwaith, ond hefyd yn atal pobl rhag aros mewn gwaith—nid yn unig rhwystrau corfforol mewn adeiladau, mewn trefi ac yng nghefn gwlad, ond hefyd, yn bwysig, y rhwystrau sy'n cael eu creu gan strwythurau a pholisïau sefydliadau ac, yn wir—a'r pwysicaf oll mae'n debyg—agweddau pobl. Ac mae cynllun gweithredu yn cyd-fynd â'r fframwaith. Mae hynny'n tynnu sylw at y prif gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd ac yn arwain arnynt ar hyn o bryd, a'r bwriad yw eu cadw'n gyfredol er mwyn adlewyrchu amgylchiadau newidiol a datblygiadau newydd. A byddwn yn fwy na pharod i drafod gyda Dai Lloyd y cymorth y gellir ei gynnig i unigolion sy'n fyddar. I droi at swyddogaeth Gyrfa Cymru wrth gynnig cefnogaeth, ac, yn arbennig, cyngor i fyfyrwyr a disgyblion, o fewn yr adnoddau presennol—a holodd Dai Lloyd am yr adnoddau sydd ar gael drwy Gyrfa Cymru—mae gennym ni tua 30 o staff cyfwerth ag amser llawn sydd wedi'u neilltuo'n benodol i weithio gyda chwsmeriaid ag ADY a'u teuluoedd. Mae cymorth i'r grŵp cwsmeriaid penodol hwn yn cynnwys cymorth wyneb yn wyneb drwy waith grŵp a chyfweliadau gyrfaoedd. Mae'n llunio cynlluniau dysgu a sgiliau ar gyfer unigolion a'u teuluoedd, ac mae hefyd yn cynnig cymorth ar adegau o drawsnewid, ac eiriolaeth hefyd. O ran y canlyniadau, o ganlyniad i'r cyngor a'r cymorth a gynigir, mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod 3,365 o adolygiadau pontio wedi'u cynnal gan gynghorwyr gyrfaoedd ac iddynt gytuno ar ychydig dros 1,000 o gynlluniau dysgu a sgiliau ar gyfer y rhai sy'n symud o ysgol, gan nodi anghenion addysg a hyfforddiant pobl ifanc a'r cymorth sydd ei angen i ddiwallu'r anghenion hynny. Gobeithio bod y ffigurau hyn, gan gynnwys y ffigurau hynny ynghylch prentisiaethau cynhwysol, yn dangos ein bod yn gwneud cynnydd. Ond yn y pen draw, Dirprwy Lywydd, os ydym ni eisiau lleihau'r bwlch o ran cyflogau a'r bwlch mewn cyfraddau cyflogaeth rhwng y DU a Chymru, mae angen inni ddyblu ein hymdrechion. Mike Hedges AC: Os oes gennych chi anabledd, rydych chi'n fwy tebygol o fod yn ddi-waith, ac os ydych chi mewn gwaith, rydych chi'n fwy tebygol o fod ar yr isafswm cyflog. Dyna'r realiti i bobl ag anableddau yng Nghymru heddiw. Er bod sefydliadau fel Barod—cwmni buddiannau cymunedol wedi'i leoli yn Abertawe, yn arbenigo mewn hyfforddiant a gwybodaeth arloesol, lle mae'r perchenogion a'r gweithlu yn gymysgedd gyfartal o bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl, sy'n arbenigo mewn pontio'r bwlch rhwng sefydliadau yn y sector cyhoeddus a phreifat a phobl ag anableddau dysgu—nid oes digon o bell ffordd o gwmnïau o'r math hwn er mwyn cael pobl ag anableddau dysgu i mewn i gyflogaeth. Rwy'n ddigon hen i gofio pan roedd gennym ni'r system cerdyn gwyrdd. Roedd disgwyl i gwmnïau gyflogi cyfran benodol o bobl gyda chardiau gwyrdd ac adroddwyd ar y ganran. Diflannodd hyn, yn anffodus, gyda'r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995, ac rwy'n credu bod hynny wedi gwneud llawer mwy o niwed na daioni, oherwydd bryd hynny, fe allech chi ddwyn cyflogwyr i gyfrif. Ar hyn o bryd, mae'n anodd iawn dwyn cyflogwyr i gyfrif. Mae gennyf i un sylw pellach a dau gwestiwn. Soniwn am anabledd fel pe bai'n un peth. Mae yna ystod eang o anableddau sy'n amrywio o ran eu graddau a'u problemau i'r bobl sy'n dioddef ohonynt. Mae pobl sydd ag anableddau bach iawn, na fyddech yn gwybod eu bod yn anabl pe byddech yn eu gweld yn cerdded i lawr y stryd, ac eithrio y gallent fod yn cerdded ychydig yn araf, i'r rheini sydd ag anableddau lluosog ac anableddau difrifol iawn. Felly, rwy'n credu ein bod yn tueddu i siarad am bobl anabl fel petaent yn un corff; dydyn nhw ddim, maen nhw'n grŵp o bobl sydd â phroblemau hollol wahanol ac anghenion gwahanol. Soniodd Dai Lloyd am y gymuned fyddar. Mae fy chwaer yn hollol fyddar, yr wyf wedi sôn amdani ar fwy nag un achlysur yn y fan yma, ac mae'n anhygoel o anodd. Mae cyflogwr yn gallu anwybyddu unrhyw Ddeddf drwy ddweud 'y gallu i ateb y ffôn'. Mae hynny'n eithrio unrhyw un sy'n hollol fyddar. Byddai llawer o bobl yn ei ddisgrifio fel rhywbeth nad yw'n afresymol disgwyl i rywun allu ei wneud, ond ar ôl ichi gynnwys hynny, rydych chi'n eithrio unrhyw un sy'n fyddar rhag gweithio yno. Mae gennyf i ddau gwestiwn. Beth mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud i hyrwyddo cyflogi pobl ag anableddau yn Llywodraeth Cymru, ac, yn bwysicach, mewn cyrff a ariennir gan Lywodraeth Cymru? Mae hynny'n rhywbeth y mae gennych chi reolaeth uniongyrchol drosto, ac mae gennych chi reolaeth uniongyrchol hefyd dros y cyrff rydych yn eu hariannu. Y sawl sy'n talu'r delyn sy'n gofyn am y gân. Er hynny, gall yr hwn sy'n ariannu mudiad roi cyfarwyddyd. Beth arall gellir ei wneud i gefnogi sefydliadau fel Barod, sy'n gwneud gwaith mor dda o ran trin pobl ag anableddau a'r rhai nad oes ganddynt anableddau, yr un fath yn union? Un o'r problemau sydd gennym ni yw ein bod, yn rhy aml, yn eu trin yn wahanol. Efallai bod ganddyn nhw anabledd, ond mae'n rhaid eu trin a dylid eu trin yr un fath. Felly, beth allwn ni ei wneud i helpu sefydliadau fel hynny? Ken Skates AC: A gaf i ddiolch i Mike Hedges am ei sylwadau a'i gwestiynau? Roedd yn gywir yn dweud bod pobl anabl yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith, a bod pobl anabl, os ydynt mewn gwaith, yn fwy tebygol o fod ar gyflog gwael. Felly, o ganlyniad, mae'n amlwg bod pobl anabl yn fwy tebygol o fod yn byw mewn tlodi yn yr oes fodern hon, ac mae hynny'n foesol annerbyniol. Mae Llywodraeth Cymru yn gwbl benderfynol o sicrhau bod pobl Cymru yn cael cyfleoedd i gael gwaith ac yna i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd. Mae'n flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon y dylai fod gan bawb yn ddieithriad y cyfle i weithio. Cyfeiriodd Mike Hedges at y ffaith bod pobl sy'n chwilio am waith yn gwbl benderfynol o sicrhau cyfleoedd da, sy'n talu'n dda. Mae'r dystiolaeth sy'n dangos bod pobl sy'n wynebu ffactorau sy'n achosi anabledd yn benderfynol o weithio yn glir iawn yn wir, Dirprwy Lywydd. Gwyddom fod tua 45 y cant o'r grŵp economaidd anweithgar yng Nghymru heddiw yn bobl anabl, a bod traean o bobl ddi-waith yng Nghymru yn wynebu ffactorau sy'n achosi anabledd. Mae tua 49,000 o bobl anabl sy'n economaidd anweithgar naill ai'n chwilio am waith neu ddim wrthi'n chwilio am waith ond yn awyddus i weithio. Mae hynny'n golygu bod dros 50 y cant o bobl economaidd anweithgar sy'n wynebu rhwystrau sy'n achosi anabledd naill ai'n chwilio am waith neu'n dymuno gweithio. Dyna tua 90,000 o bobl yn ein gwlad. Er mwyn cyrraedd y targed o gau'r bwlch o ran cyflogaeth rhwng y DU a Chymru ar gyfer pobl anabl, byddai'n rhaid i ni ddod o hyd i gyfleoedd ar gyfer o leiaf 16,000 o bobl. Yn amlwg, Dirprwy Lywydd, mae'r penderfyniad gan bobl i ddod o hyd i waith, eu hawydd i ddod o hyd i waith, yn dangos na fydd dod o hyd i 16,000 o bobl sy'n dymuno mentro i'r gweithle yn broblem. Yr her yw sicrhau bod busnesau'n sicrhau bod y cyfleoedd hynny ar gael i bobl sy'n wynebu ffactorau sy'n achosi anabledd. Rydym ni'n gweithio gyda Busnes Cymru i gynghori entrepreneuriaid mewn busnesau bach a chanolig ar sut y gallant gael gwared ar y rhwystrau i bobl. Rydym ni hefyd yn gweithio gyda nifer o randdeiliaid a, thrwy'r fframwaith gweithredu ar anabledd, rydym ni wedi amlinellu nifer o gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer canfod sut y gallwn ni wella cyfleoedd i unigolion drwy ein cyflogwyr mawr a llai o faint yn y wlad. O ran y cwestiwn penodol y mae Mike Hedges yn ei holi am yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud a hefyd, yn bwysig iawn, beth y gall y cyrff hynny a ariennir sy'n dibynnu ar adnoddau Llywodraeth Cymru ei wneud, rwy'n falch o hysbysu'r Aelodau heddiw y bydd y contract economaidd yn cael ei ymestyn i nifer sylweddol o gyrff a ariennir gan Lywodraeth Cymru, i sicrhau bod y cyrff hynny a ariennir yn hybu twf cynhwysol ac yn cofleidio'r agenda gwaith teg, sydd wrth wraidd y contract economaidd ac, wrth wneud hynny, yn creu mwy o gyfleoedd i bobl anabl i gael gwaith yn eu sefydliadau. David J Rowlands AC: A gaf i ddiolch i Weinidog y Cabinet am ei ddatganiad, sy'n cydnabod Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau y Cenhedloedd Unedig? Rwy'n credu ei bod hi'n wir i ddweud ein bod ni i gyd yn rhannu pryderon ynghylch sut yr ydym ni'n trin ein cyd-ddinasyddion sydd mewn sefyllfa lle na allent, oherwydd anableddau, ddod o hyd i waith. Ond gallaf ddweud yn y cyswllt hwn ei bod hi'n ymddangos nad yw cyflogwyr yn rhannu'r un lefel o wasanaeth cyhoeddus a oedd ar un adeg yn gyffredin tuag at y rhai yn ein cymdeithas sydd ag anabledd. Rhaid imi ddweud bod rhai ohonom yn gresynu at dranc llawer o unedau Remploy, a gafodd eu beirniadu am wahanu pobl anabl ond o leiaf fe roddodd iddynt yr urddas o waith da tymor hir mewn amodau da. Fodd bynnag, mae'n braf darllen yn yr adroddiad fod Busnes Cymru yn gweithio gyda chyflogwyr, nid yn unig i godi eu hymwybyddiaeth o'r rhai sydd ag anableddau ond hefyd i agor eu llygaid at eu hagweddau negyddol yn aml tuag at alluoedd pobl anabl, yn hytrach na'u hanableddau. Rwyf hefyd yn cydnabod y gwaith y mae Gyrfa Cymru'n ei wneud ar adeg dyngedfennol ym mywydau pobl ifanc anabl, ac mae eu hymyriadau'n dod ar yr adeg dyngedfennol honno, sydd i'w croesawu'n fawr iawn. Un agwedd na soniwyd amdani yn eich adroddiad yw gallu pobl anabl i gyrraedd y gwahanol leoedd gwaith. O gofio y bu trafnidiaeth yn draddodiadol yn rhwystr i'r anabl gael gwaith, dylai'r gwelliannau mawr i drafnidiaeth o ran mynediad i'r anabl, sydd naill ai eisoes ar waith neu i'w rhoi ar waith dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, gael effaith, os nad dileu'r rhwystrau hynny'n llwyr, gan eu gwneud yn llawer llai o rwystr. Dylai'r gwelliannau hyn, nid yn unig i'r drafnidiaeth ei hun, ar ffurf newid sylweddol o ran hygyrchedd bysiau a threnau, ond hefyd i'r gorsafoedd, ar gyfer y ddau ddull o deithio, wneud gwahaniaeth mawr yng ngallu'r anabl i gyrraedd pob math o leoliadau gwaith. Onid yw'n ddyletswydd ar bob un ohonom ni yn y Cynulliad hwn i roi sylw i'r mater o ddiweithdra ymysg pobl anabl yn ein cymuned. Ni ddylid edrych arnynt fel baich ar gymdeithas, ond adnodd enfawr o dalent ddihysbydd. Ni all fod yn iawn, fel y nododd adroddiad Sefydliad Joseph Rowntree 'Poverty in Wales 2018', fod 39 y cant o bobl anabl yng Nghymru mewn tlodi, o'u cymharu â 22 y cant o bobl nad ydynt yn anabl, ac mai'r gyfradd dlodi ymhlith pobl anabl yng Nghymru yw'r uchaf yn y DU gyfan. Fe wnaethoch chi eich hun, Gweinidog, ddweud ar un adeg bod y ffigurau hyn yn warth cenedlaethol. Eto i gyd, er gwaethaf degawdau o ddeddfwriaeth ganmoladwy sydd â'r nod o fynd i'r afael â gwahaniaethu yn erbyn pobl anabl, y profiad fynychaf i lawer yw bywyd o dlodi, eithrio a rhwystrau rhag cyfleoedd. Rwy'n derbyn bod eich adroddiad yn cydnabod y methiannau hyn, ac edrychaf ymlaen at eu gweld yn cael sylw—na, sylw manwl—dros y blynyddoedd nesaf. Ken Skates AC: Dirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch i David Rowlands am ei sylwadau? Rwy'n cytuno â'r farn bod tranc unedau Remploy yn siom fawr ac i hynny roi llawer iawn o bobl yn wir o dan anfantais. A gaf i hefyd ddiolch i David Rowlands am gydnabod y gwaith da sy'n cael ei wneud gan Busnes Cymru a Gyrfa Cymru? Nododd yr Aelod yn gywir yr angen i'w gwneud hi'n haws cael gwaith, ac mae hynny'n cynnwys cludiant, o ganlyniad i fuddsoddiad o £800 miliwn mewn cerbydau. O dan gytundeb masnachfraint newydd Cymru a'r Gororau byddwn yn gweld trenau newydd—y caiff hanner ohonynt eu hadeiladu yng Nghymru—yn cynnig mynediad i bawb, ac rwyf hefyd yn falch o ddweud, o ganlyniad i'n buddsoddiad ym metro de Cymru, y bydd pob gorsaf o fewn y metro yn rai heb risiau. Mae bron i £200 miliwn yn cael ei wario ar orsafoedd ar draws rhwydwaith llwybrau Cymru a'r Gororau, ac, unwaith eto, byddwn yn gweld swm sylweddol o arian yn cael ei fuddsoddi i sicrhau bod cynifer o orsafoedd â phosib yn rhai heb risiau. Rwy'n credu hefyd, o ran dyfodol y diwydiant bysiau—a byddaf yn cyflwyno deddfwriaeth yn y flwyddyn newydd—ynghyd â'r diwygiadau yr ydym ni eisiau eu gwneud i'r ffordd y mae gwasanaethau bysiau lleol yn cael eu rheoli a'u cynllunio, mae gennym ni hefyd gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer adnewyddu'r fflyd o 2,300 o fysiau yng Nghymru sydd â cherbydau dim allyriadau a cherbydau sy'n cynnig, unwaith eto, fynediad i bawb sydd hyd yma yn aml wedi wynebu rhwystrau anablu. Felly, o ran trafnidiaeth, rydym ni yn sicr yn symud i'r cyfeiriad cywir, ac rydym ni'n gwneud hynny'n eithaf cyflym. Cyfeiriodd David Rowlands at yr hyn y bu imi sôn amdano'n gynharach, sef bod adnodd anferthol dihysbydd o dalent y dylai busnesau fanteisio arno. Rwyf eisoes wedi amlinellu'r ymchwil a wnaed ac sy'n dangos bod cyflogeion anabl yn fwy tebygol o aros mewn swydd am gyfnod hwy a chael llai o absenoldeb oherwydd salwch, ond mae hefyd yn wir bod gan bobl anabl gyfleoedd enfawr, enfawr nawr i ddechrau a thyfu eu busnes eu hunain, gyda'r cymorth sy'n cael ei gynnig gan Busnes Cymru. Dylwn bwysleisio wrth Aelodau, fel y gallant ledaenu'r wybodaeth hon i'w hetholwyr, bod cronfa gyfranogi yn bodoli yn rhan o wasanaeth Busnes Cymru, ac sydd ar gael i dalu am unrhyw gymorth ychwanegol y mae pobl anabl yn ei wynebu, i'w helpu i oresgyn y rhwystrau sy'n eu hatal rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau dechrau busnes, ac mae hyn yn ychwanegol at y modiwlau cynllunio busnes safonol sydd ar gael wyneb yn wyneb neu ar-lein. Diolch yn fawr, Gweinidog. 5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cymru Iachach—Y wybodaeth ddiweddaraf am yr Ymgyrch 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' Eitem 5 yw datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cymru Iachach—y wybodaeth ddiweddaraf am yr ymgyrch 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' A galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething. Vaughan Gething AC: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gweithlu'r GIG y mae ei angen arnom i sicrhau'r canlyniadau gorau i bobl sy'n cael gofal. Rydym yn cyflawni hyn drwy gael mwy o leoedd hyfforddi, drwy annog pobl ifanc i ddilyn gyrfa fel gweithiwr iechyd proffesiynol, a chefnogi recriwtio drwy ein hymgyrch farchnata lwyddiannus, 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' Mae'r ymgyrch 'Hyfforddi. Gweithio. Byw' yn parhau i farchnata gyrfaoedd gofal iechyd GIG Cymru ynghyd â'r cyfleoedd ffordd o fyw sydd ar gael yng Nghymru. Mae hynny wedi'i farchnata o fewn y DU ac, wrth gwrs, yn rhyngwladol. Mae'r hyn a ddechreuodd fel ymgyrch yn canolbwyntio ar hyrwyddo manteision gweithio yn feddyg teulu yng Nghymru, dros y tair blynedd diwethaf, wedi ehangu i gynnwys amrywiaeth o broffesiynau allweddol eraill—nyrsio, seiciatreg, fferylliaeth ac yn fwyaf diweddar, bydwreigiaeth. Mae'r ymgyrch yn creu darlun cadarnhaol o Gymru a'r hyn y gallwn ei gynnig i weithwyr gofal iechyd proffesiynol. Eleni, roeddwn yn bresennol fy hun yng nghynadleddau y Coleg Nyrsio Brenhinol a'r Coleg Bydwreigiaeth Brenhinol, gan weld drosof fy hun yr ymateb cadarnhaol i'n presenoldeb yn y digwyddiadau mawr hyn a'r diddordeb a ddeilliodd o hynny. Y flwyddyn nesa bydd arddangosfa am yr ymgyrch 'Hyfforddi. Gweithio. Byw' yn nigwyddiadau'r Coleg Nyrsio Brenhinol a'r Coleg Bydwreigiaeth Brenhinol yn rhan o flwyddyn ryngwladol y nyrs a'r fydwraig. O ran digwyddiad y Coleg Bydwreigiaeth Brenhinol, bydd yn digwydd am y tro cyntaf yma yng Nghymru. Bu'r ymgyrch yn allweddol hefyd wrth sefydlu cysylltiadau â systemau gofal iechyd y tu allan i'r DU, ac mae gwaith ar y gweill i ddatblygu dull cydgysylltiedig o recriwtio nyrsys yn rhyngwladol. Mae hyfforddi meddygon teulu wedi parhau i fod yn ganolbwynt allweddol i'r ymgyrch. Yn dilyn y llwyddiant sylweddol a fu wrth lenwi lleoedd ers 2016, cytunais ar gynnydd yn y dyraniad llinell sylfaen o 136 i 160 o leoedd, gan ddechrau'r hydref hwn. Mae hyn yn atgyfnerthu ymrwymiad y Llywodraeth hon i gyflwyno'r gweithlu sydd ei angen arnom yn dilyn y lefelau uchaf erioed o feddygon yn dewis Cymru ar gyfer eu hyfforddiant meddyg teulu. Eleni llwyddwyd i gyrraedd y gyfradd lenwi uchaf erioed, gan lenwi 186 o leoedd o ddyraniad o 160, gan ragori ar y dyraniad newydd hwnnw hyd yn oed, gyda phob cynllun hyfforddi ledled Cymru yn llenwi hyd at gapasiti, gan gynnwys yr ardaloedd hynny a oedd yn anodd recriwtio ar eu cyfer yn hanesyddol. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, cynllun Sir Benfro, a oedd â chyfradd llenwi o sero mor ddiweddar â 2016. Eleni, yn dilyn pob rownd recriwtio, mae Sir Benfro bellach wedi llenwi saith lle. Llenwodd y tri chynllun yn y gogledd 28 o leoedd o'u dyraniad targed cychwynnol o 22 lle. Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn parhau i weithio i sicrhau bod y seilwaith yn ei le i gefnogi nifer cynyddol bobl sydd eisiau hyfforddi i fod yn feddygon teulu, gyda'r bwriad o ehangu'r cynlluniau hyfforddi ymhellach dros y ddwy flynedd nesaf. Cyflawnwyd y gwelliant parhaus yn y sefyllfa recriwtio drwy osod targedau realistig ynglŷn â'r hyn y gellir ei gyflawni ac ymestyn ein huchelgais bob yn dipyn wrth i'r system ddatblygu'r gallu i gyflenwi'r niferoedd ychwanegol hynny. Mae'r ymgyrch hefyd wedi hybu arbenigeddau meddygol eraill sydd wedi gweld cynnydd yn eu cyfraddau llenwi. Mae'r gyfradd lenwi ar gyfer hyfforddiant seiciatreg graidd wedi cynyddu o ddim ond 33 y cant i 100 y cant mewn dwy flynedd. Mae hynny'n ganlyniad cadarnhaol arall. Er gwaethaf yr hinsawdd ariannol anodd sy'n parhau, rydym yn parhau i fuddsoddi yn y gwaith o sicrhau cynaliadwyedd hirdymor ein gweithlu yn y GIG, sy'n parhau i dyfu flwyddyn ar ôl blwyddyn. Am y chweched flwyddyn yn olynol, bydd cyllid i gefnogi addysg a hyfforddiant i weithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru yn cynyddu. Gwneuthum y penderfyniad i fuddsoddi £127.8 miliwn yn 2020-1. Mae hynny'n cyfateb i gynnydd blynyddol o 13 y cant, gyda £16.4 miliwn ychwanegol ar gyfer rhaglenni addysg a hyfforddiant i weithwyr gofal iechyd proffesiynol yma yng Nghymru. Mae hynny'n cynnwys £1.4 miliwn ar gyfer 47 o leoedd hyfforddi ôl-raddedig meddygol ychwanegol. Mae hynny'n golygu, ers 2014, bod nifer y lleoedd hyfforddi i nyrsys wedi cynyddu 89 y cant, bod nifer y lleoedd hyfforddi i fydwragedd wedi cynyddu 71 y cant, bod nifer y lleoedd hyfforddi i ffisiotherapyddion wedi cynyddu 71 y cant hefyd, a bod lleoedd hyfforddiant radiograffeg wedi cynyddu 57 y cant. Dyma'r lefel uchaf erioed o gyllid a bydd yn cefnogi'r nifer mwyaf erioed o gyfleoedd hyfforddi yng Nghymru. Mae'n cynyddu gallu ein gweithlu i helpu'r GIG i ymateb i'r heriau sy'n ei wynebu yn awr ac yn y dyfodol. Rwy'n falch o record y Llywodraeth hon o ran buddsoddi. Yn nannedd degawd o gyni, mae gan y GIG fwy o bobl yn gweithio ynddo nag ar unrhyw adeg yn ei hanes, a'r cyfan wedi'i anelu at atal a gofalu am bobl ym mhob un cymuned yma yng Nghymru. Yn ogystal â recriwtio a hyfforddi, mae cadw'r gweithlu presennol yn allweddol i sicrhau gweithlu medrus a chynaliadwy. Dyna pam roedd lles staff yn ganolog i'n gweledigaeth a nodwyd yn 'Cymru Iachach' a bydd yn rhan o strategaeth y gweithlu sy'n cael ei datblygu ar y cyd gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru. Roeddwn yn falch o gyhoeddi yr wythnos diwethaf fy mod yn ymestyn bwrsariaeth GIG Cymru tan 2023. Bydd y fwrsariaeth ar gael ar gyfer dwy garfan ychwanegol ar gyfer y blynyddoedd academaidd 2021-22 a 2022-23. Bydd ar gael i nyrsys a bydwragedd, ond, yn wahanol i'r Alban, byddwn yn parhau i ddarparu'r fwrsariaeth i weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd hefyd. Mae'r cyhoeddiad hwn yn rhoi eglurder ynghylch trefniadau bwrsariaeth ar gyfer y tair blynedd academaidd nesaf i fyfyrwyr a darparwyr. Mae'n hanfodol ein bod yn ymgysylltu â'n cenhedlaeth nesaf o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ym mhob cyfnod yn eu haddysg. Nod y rhaglen cefnogi gyrfaoedd meddygol yw cynyddu nifer y ceisiadau llwyddiannus gan siaradwyr Cymraeg i ysgolion meddygol yng Nghymru, ac rwyf wedi ymestyn hyn am flwyddyn arall. Yn dilyn llwyddiant rhaglen 2018, cytunais y byddai'r cynllun yn rhedeg am ail flwyddyn yn 2019. O'r 60 o fyfyrwyr a oedd yn rhan o'r rhaglen yn 2018, cofrestrodd 43 ar gyrsiau yn ymwneud ag iechyd yng Nghymru—28 ar gyrsiau meddygaeth a 15 ar gyrsiau anfeddygol. Yn ogystal â hyn, rwyf wedi cytuno ar estyniad pellach o flwyddyn i ehangu mynediad i feddygfeydd teulu drwy'r rhaglen profiad gwaith. Nod y rhaglen, sydd bellach yn ei phedwaredd flwyddyn, yw rhoi cyfle i fyfyrwyr blwyddyn 12 weld y gwaith sy'n gysylltiedig â phractis cyffredinol. Hyd yma, mae dros 200 o fyfyrwyr o bob cwr o Gymru wedi cymryd rhan yn y rhaglen yn llwyddiannus. Eleni, rydym ni hefyd wedi cyflwyno tri phrif ddull i fod yn sail i ymagwedd fwy cyfannol a chefnogi gwaith cynllunio gweithlu effeithiol mewn gofal sylfaenol: cofrestr Cymru gyfan ar gyfer meddygon teulu locwm, system adrodd gweithlu genedlaethol i gasglu gwybodaeth am staff practis cyffredinol, a gwefan symlach i bractisau meddygon teulu reoli a hysbysebu swyddi gwag. Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo drwy'r rhaglen strategol ar gyfer gofal sylfaenol i nodi meysydd blaenoriaeth ar gyfer yr ymgyrch 'Hyfforddi. Gweithio. Byw' yn y dyfodol, gan gynnwys gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, sydd wrth gwrs yn rhan allweddol o'r gweithlu. Lansiwyd fframwaith y proffesiynau perthynol i iechyd, 'Edrych Ymlaen Gyda'n Gilydd', yn y gynhadledd genedlaethol ar ofal sylfaenol ar 7 Tachwedd. Datblygwyd y fframwaith ar y cyd ag aelodau o'r proffesiynau a nifer o randdeiliaid. Diben y fframwaith yw sicrhau bod dinasyddion yn cyflawni'r canlyniadau sy'n bwysig iddynt ac yn cael gofal a thriniaeth o'r safon uchaf bob amser. Mae'n darparu cyfeiriad clir ar gyfer trawsnewid y ffordd y mae gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn cael eu defnyddio a'u cyrchu. Yn benodol, bydd yn helpu i gefnogi'r symudiad o weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd i wasanaethau sylfaenol a gofal yn y gymuned sydd ar gael yn uniongyrchol. Mae hyn yn gyson o ran cyflawni ein gweledigaeth genedlaethol i ddarparu gofal yn agosach at y cartref, i wella iechyd a lles y boblogaeth, ac i sicrhau'r adferiad mwyaf posibl sy'n galluogi pobl i fyw mor annibynnol â phosibl am gyhyd â phosibl. Ategir y fframwaith gan gynllun gweithredu i ysgogi newid. Un o'r camau gweithredu a weithredwyd eisoes yw penodi arweinydd cenedlaethol gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd ar gyfer gofal sylfaenol yn y rhaglen strategol ar gyfer ein tîm gofal sylfaenol. Edrychaf ymlaen at gymryd cwestiynau heddiw, ac, wrth gwrs, yn y dyfodol. Angela Burns AC: Prynhawn da, Gweinidog, a diolch am y datganiad heddiw ac am gael ei weld o flaen llaw. Rwy'n credu bod rhai arwyddion da iawn i'w gweld yn yr ymgyrch'Hyfforddi. Gweithio. Byw,' a chroesawaf yn arbennig yr ymdrechion i wella'r broses o recriwtio pobl ifanc a chynyddu'r lleoedd hyfforddi ym mhob un o'r proffesiynau gofal iechyd. Nawr, un o'r nodau oedd denu demograffig mwy amrywiol i'r proffesiwn. Lansiwyd ymgyrch ddechrau'r flwyddyn hon, yn cynnwys Richard Desir, nyrs wrywaidd, i geisio denu mwy na'r 12 y cant o nyrsys gwrywaidd sydd gennym ni ar hyn o bryd, a tybed a wnewch chi amlinellu sut y mae'r ymgyrch hon yn datblygu ac a oes mwy o nyrsys gwrywaidd wedi cael eu recriwtio ac a yw nyrsys wedi cael eu recriwtio o blith oedrannau ehangach. Hefyd, a wnewch chi amlinellu a fu unrhyw lwyddiannau ai peidio o ran denu nyrsys yn ôl i'r proffesiwn sydd wedi gadael yn y gorffennol? Nawr, rwy'n siŵr y byddwch yn gwybod bod y Coleg Nyrsio Brenhinol wedi amlinellu bod bylchau difrifol yn y gweithlu nyrsio, gan nodi bod nyrsys yng Nghymru, bob wythnos, yn rhoi oriau ychwanegol i'r GIG gwerth 976 o nyrsys llawn amser. Nawr, y llynedd, 2018-19, gwariodd GIG Cymru dros £63 miliwn ar nyrsys asiantaeth, sy'n gynnydd o ryw 24 y cant ers y llynedd, ac mae hynny'n cyfateb i dros 2,600 o nyrsys sydd newydd gymhwyso. Nawr, rwyf yn cydnabod y cyhoeddiad diweddar fod rhagor o leoedd hyfforddiant nyrsio, ond mae'n gwestiwn ynghylch a fyddai'r lleoedd hyfforddi ychwanegol hynny'n ddigonol mewn gwirionedd ar gyfer y lefel honno o swyddi gwag dros y tymor hir, a tybed a wnewch chi, yn eich barn chi, ddweud sut y byddech yn rhagweld cai'r broblem honno o brinder nyrsys ei datrys a faint o amser y credech y byddai'n ei gymryd i wneud hynny. Yr wythnos diwethaf, lansiodd Llywodraeth yr Alban ei hymgyrch 'What did you do today?' i recriwtio mwy o staff iechyd, a hoffwn wybod a ydych chi wedi cael unrhyw drafodaethau gyda'ch cymheiriaid yn yr Alban ynghylch eu hymdrechion i wneud iechyd yn llwybr gyrfa mwy deniadol i bobl ifanc, ac a oes unrhyw beth y gallem ei ddysgu oddi wrthyn nhw. Rwy'n falch iawn o glywed bod meysydd penodol o ran recriwtio meddygon teulu wedi bod yn llwyddiant, yn enwedig—ac rwy'n bleidiol iawn, fel y gwyddoch chi mae'n siŵr—ardal Sir Benfro, ond a oes unrhyw gynlluniau i ehangu hyn ymhellach, gan ganolbwyntio'n benodol ar siroedd eraill neu feysydd penodol eraill? Oherwydd, er bod y lleoedd hyfforddi newydd hyn yn newyddion da, rwy'n dal i bryderu am allu byrddau iechyd Cymru i gadw'r meddygon teulu presennol. Mae ffigurau Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu yn tynnu sylw at y ffaith bod 31 y cant o feddygon teulu yn dweud eu bod dan bwysau mawr ac na allant ymdopi o leiaf unwaith yr wythnos, mae 23 y cant o feddygon teulu yn dweud eu bod yn annhebygol o fod yn gweithio mewn practis cyffredinol ymhen pum mlynedd, ac mae 72 y cant o feddygon teulu yn dweud eu bod yn disgwyl i weithio mewn practis cyffredinol waethygu yn ystod y pum mlynedd nesaf. Felly, rwy'n credu mai'r hyn y mae'n ei ddweud yw bod dadrithiad a phryder gwirioneddol ynghylch eu harferion gwaith ymhlith meddygon teulu. Felly, er y croesewir yn fawr eich bod wedi llwyddo i lenwi'r holl leoedd sydd ar gael i chi, ein bod wedi recriwtio yn rhai o'r ardaloedd sy'n anodd recriwtio ar eu cyfer yn draddodiadol, roeddwn eisiau deall yn glir beth yw eich strategaeth hirdymor i newid y sefyllfa hon, i gadw'r meddygon teulu sydd gennym ni, er mwyn gwella eu hamodau yn y fath fodd fel nad ydym yn cael y bygythiad posibl hwn o ran pobl yn gadael. Yn olaf, rwy'n dal i bryderu bod llawer o fylchau'n parhau yn y gweithlu diagnostig a tybed a wnewch chi roi'r newyddion diweddaraf ynghylch strategaeth weithlu Addysg a Gwella Iechyd Cymru a sut y mae'n bwriadu mynd i'r afael yn benodol â'r bylchau yn y gweithlu diagnostig. Rwy'n siŵr ein bod i gyd yn cytuno, os gallwn ddiagnosio pobl yn gynharach, mae'n debyg y gallwn eu cyrraedd, cael gwell canlyniadau o ran iechyd gyda llai o gost i'r wlad. Beth ydych chi yn ei wneud i gynyddu nifer y lleoedd hyfforddi clinigol yn unol ag anghenion cleifion heddiw ac yn y dyfodol? Ac—mae hwn yn gwestiwn, mewn gwirionedd, gan rai o'r elusennau canser—a fydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i gynnal archwiliad cynhwysfawr o niferoedd y staff diagnostig yn y GIG yng Nghymru? Pan gymerais olwg ar y sefyllfa honno, roeddwn yn credu nad oedd yn beth hollol afresymol i'w ofyn a tybed a allai AaGIC fod yn rhoi sylw i hynny. Diolch. Vaughan Gething AC: Diolch am y gyfres o gwestiynau. Rwy'n credu bod rhywfaint o hynny ychydig y tu allan i ble'r ydym ni o ran 'Hyfforddi. Gweithio. Byw', ond fe wnaf fy ngorau i ymateb i'r pwyntiau heddiw ac rwy'n eithaf sicr, gyda dadleuon ar nyrsio yfory ac o bosibl yn y dyfodol, y bydd digon o gyfleoedd i siarad am y gweithlu. O ran nyrsio gwrywaidd, ni chawn y ffigurau tan o leiaf diwedd y flwyddyn hon ac i mewn i'r flwyddyn nesaf i weld a oes tuedd, ac, yn ddiddorol, mae hyn yn peri pryder i'r Coleg Nyrsio Brenhinol ac, yn wir, i Unsain hefyd, lle maen nhw wedi cael problemau penodol ynghylch dymuno gweld nyrsio fel gyrfa i ddynion, oherwydd menywod yw'r delweddau traddodiadol o nyrsys ac yna, er gwaetha'r holl Charlie Fairheads, mae llawer o rai eraill o ran ein portread rheolaidd o'r gweithlu nyrsio. Felly, mae her yn y fan honno, ac, fel y dywedwch chi, roedd hi'n ddewis bwriadol i ddewis nyrs wrywaidd i arwain yr ymgyrch recriwtio y llynedd, ond credaf y byddai'n her annheg i'w gosod drwy ddweud y dylid cael newid sylweddol o fewn un flwyddyn, oherwydd rydym ni'n ymdrin â'r angen am newid diwylliannol, ond mae'n bwysig ein bod ni'n ceisio mynd i'r afael ag ef yn fwriadol. Ac, eto, o ran eich pwynt ynglŷn â dysgu oddi wrth yr Albanwyr a denu pobl i yrfaoedd yn y GIG, rwy'n hapus i gymryd syniadau da o ble maen nhw'n dod. Os ydyn nhw'n effeithiol, mae gen i ddiddordeb yn y ffordd y gallem ni eu haddasu a'u mabwysiadu yma yng Nghymru yn hytrach na cheisio nodi sut a pham na allen nhw weithio. Ac mae syniadau sy'n gweithio yng nghyd-destun y teulu o genhedloedd yn y DU yn llawer mwy tebygol o gael eu haddasu a'u mabwysiadu yng Nghymru oherwydd y tebygrwydd o fewn ein systemau. Felly, rwyf wir yn dal yn chwilfrydig ac yn ymddiddori yn yr hyn y mae gwledydd eraill y DU yn ei wneud yn wyneb heriau gweddol debyg. Dylai fod gennym ni fwy o wybodaeth ar ddiwedd y flwyddyn hefyd ynghylch rhywfaint o'r wybodaeth am ddychwelyd i waith nyrsio a'r tueddiadau a welwn ni. Felly, mae her o ran deall yr hyn a wnawn ni fel bod pobl yn dychwelyd i yrfa yn y GIG os ydynt wedi gadael, ond hefyd sut yr ydym yn cadw rhai o'r bobl hynny a fyddai'n gadael fel arall, ac mae a wnelo hynny â rhai o'r patrymau gwaith sydd gennym ni. Mae a wnelo hynny hefyd â'r hyblygrwydd yr ydym ni eisiau ei weld yn y gweithlu, oherwydd efallai y bydd rhai pobl eisiau parhau i weithio'n rhan amser. Nawr, yr hyn nad ydw i eisiau ei wneud yw mabwysiadu agwedd artiffisial a dweud, 'Wel, er bod ein niferoedd nyrsio wedi codi'n net, wrth feddwl am y peth, mae wedi cynyddu mwy oherwydd ein bod wedi cadw pobl a fyddai fel arall wedi mynd.' Dydw i ddim yn credu bod hynny'n ddefnyddiol iawn. Ond rwyf eisiau nodi faint yn fwy y gallem ei wneud gyda'r hyblygrwydd yr ydym eisiau ei gynnig i gadw pobl yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, boed yn borthorion, yn weithwyr gweinyddol neu'n nyrsys neu'n weithwyr eraill. O ran gwariant ar asiantaethau, edrychwch, rhan o hyn yw'r realiti o fod eisiau cyflwyno'r ddeddfwriaeth yr ydym ni wedi ei llunio, pan rydych yn meddwl am ddymuno cael niferoedd digonol o staff ar draws y gweithlu, y gallu i addasu a chyflawni hynny, yn enwedig gyda'r heriau a gawsom ni o ran recriwtio—. Oherwydd ni allwn ni anwybyddu'r realiti nad yw tua 90 y cant o nyrsys a oedd fel arall yn cofrestru ar yr NMC a gofrestrodd yn Ewrop bellach yn dod yma. Mae hynny'n rhoi pwysau mawr ar y gweithlu nyrsio sydd gennym ni eisoes. Gwyddom, yn y byd gorllewinol yn fwy cyffredinol, fod pwysau ar niferoedd nyrsio. Felly, mewn gwirionedd, mae ein gallu i recriwtio a chadw nyrsys o Ewrop yn rhan fawr o'r hyn yr ydym ni eisiau ei wneud, yn ogystal â recriwtio rhyngwladol. Ond mae hynny yn nwylo'r pleidleiswyr ac eraill yn yr wythnosau nesaf ynghylch beth fydd ein perthynas yn y dyfodol. Ond bwriad y buddsoddiad sylweddol mewn hyfforddiant nyrsys yw ei gwneud hi'n glir ei fod yn golygu mwy na dim ond recriwtio o wledydd eraill, mae'n ymwneud, mewn gwirionedd, â hyfforddi ein nyrsys ein hunain, sy'n llawer mwy tebygol o aros. Oherwydd mae nyrsys sy'n mynd i'r gweithlu yn tueddu i fod â chyfrifoldebau a chysylltiadau ag ardal eisoes, ac nid yw hynny yr un fath mewn rhannau eraill o'r gweithlu a raddiodd yn ddiweddar. O ran eich pwynt am y gweithlu diagnostig, gallwch ddisgwyl gweld rhywfaint o hynny yn y strategaeth gweithlu ar y cyd, ond rwy'n credu y byddwch yn gweld mwy o hynny wrth imi ddychwelyd i sôn nid yn unig am y gweithlu canser ond yn fwy penodol am ddiagnosteg fel maes. O ran cadw ein meddygon teulu presennol, mae gennym ni ystod o waith yr wyf wedi siarad amdano'n rheolaidd ar ddiwygio'r contract, am y gwaith ar ddatrys indemniad yn y Bil byr sydd gerbron y Cynulliad ar hyn o bryd. Mae'r her yn ymwneud â'r awydd i recriwtio pobl a gwneud hynny'n llwyddiannus, ac mae a wnelo rhan fawr ohono â chael mwy o bractisau hyfforddi mewn gwirionedd. Ac mae hynny'n rhywbeth y mae meddygon teulu wedi dweud wrthyf, a byddai AaGIC eu hunain eisiau eu helpu i fod ag awydd i ymrwymo i aros yn y system gwasanaeth iechyd hefyd, yn y gwasanaeth iechyd gwladol. O ran yr agenda ddiwygio, fodd bynnag, mae'n bwysig eu bod yn gallu gweld bod rhywbeth yn cael ei wneud o ran meddygon teulu, oherwydd mae llawer o'r diwygio hwnnw'n cael ei sbarduno gan bobl yn y gwasanaeth. Yn y gynhadledd genedlaethol ar ofal sylfaenol, un o'r rhannau mwyaf trawiadol ohoni oedd edrych ar y llawlyfr clwstwr sydd wedi cael ei ddarparu, lle mae pob clwstwr yn siarad am yr hyn y mae'n dewis ei wneud a'r arweiniad gan feddygon teulu, yn gweithio gydag eraill. Ac nid oherwydd fy mod wedi dweud wrthynt yn benodol beth y dylent ei wneud—mae llawer mwy o berchenogaeth a syniadau ac arloesedd yn dod at ei gilydd. Pan gyfarfûm ag arweinwyr y clystyrau mewn dau gyfarfod penodol, gwnaed argraff fawr arnaf gan y brwdfrydedd i berchenogi rhai o'r heriau a dod o hyd i atebion yn eu sgil. Oherwydd, fel y gwyddoch chi a minnau, yn anffodus, mae'n wir, beth bynnag fo'r areithiau y gallaf eu gwneud, nad yw pobl bob amser yn credu mai gwleidydd yw'r person y dylent wrando arno ynghylch sut y dylent wella eu swydd o fewn y gwasanaeth. Maen nhw'n barod i wrando ar eu cymheiriaid sy'n darparu'r dyfodol yn barod. A dyna'r rhan galonogol: mae'r dyfodol yma eisoes mewn rhannau eraill o'r system yma yng Nghymru. Yr her i ni yw sut ydym ni'n rhannu hynny ac yn cyflawni hynny'n fwy cyson. Ond rwy'n edrych ymlaen at allu gwneud hynny. Helen Mary Jones AC: Diolch, Dirprwy Lywydd, a hoffwn hefyd ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad ac am y copi o flaen llaw. Mae'n galonogol iawn ei bod hi'n amlwg bod rhywfaint o newyddion cadarnhaol. Hoffwn ofyn rhai cwestiynau penodol i'r Gweinidog—dim un nad yw'n ymwneud â materion a godwyd yn ei ddatganiad, ond, os oes rhai sy'n rhy benodol i'w trafod yn y fformat hwn, efallai y gallai'r Gweinidog ysgrifennu ataf gyda'r manylion os wyf yn turio gormod. Hoffwn ofyn, yn gyntaf oll, pa werthusiad penodol sy'n cael ei wneud o effaith yr ymgyrch ei hun. Gallwch weld beth yw effaith yr ymgyrch o ran mwy o recriwtio, ond a yw'r Gweinidog yn gwneud unrhyw waith penodol i benderfynu a yw—ai'r ymgyrch ydyw, a yw'n gyfuniad, fel y tybiaf y gallai fod, o'r ymgyrch a rhai ffactorau eraill? Mae'n rhaid imi ddweud ei bod hi'n ymddangos i mi ei bod hi'n sicr yn effeithiol, ond mae'n amlwg bod buddsoddiad sylweddol yn cael ei wneud, a byddai'n ddefnyddiol gwybod pa werthusiad roedd y Gweinidog a'i swyddogion yn ei wneud o effaith benodol yr ymgyrch ei hun. Mae'r Gweinidog yn sôn yn ei ddatganiad am y cynnydd canrannol mewn lleoedd hyfforddi ar gyfer nyrsio, bydwreigiaeth a ffisiotherapi, ac mae'r rheini, wrth gwrs, i'w croesawu'n fawr. Nawr, tybed a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni heddiw pa mor ffyddiog ydyw y bydd y cynnydd hwn mewn lleoedd yn diwallu'r angen yn y dyfodol. Sylweddolaf y gall rhywfaint o hyn ddod yn rhan o'r gwaith sy'n cael ei wneud gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru mewn cysylltiad â strategaeth y gweithlu, ond gallai cynnydd crai mewn lleoliadau hyfforddi, os nad ydym yn sicr bod y rhain wedi'u cysylltu â'r angen presennol a'r angen yn y dyfodol, wrth gwrs, greu risg o hyfforddi'r gweithlu hwnnw ac yna aelodau'r gweithlu hwnnw yn gorfod mynd i rywle arall i chwilio am waith os nad yw'r swyddi yno ar eu cyfer. Clywodd y grŵp trawsbleidiol ar strôc heddiw nad oes meddygon mewn lleoedd hyfforddi uwch mewn gwasanaethau strôc ar hyn o bryd. Nawr, rwy'n seilio fy nghwestiwn, wrth gwrs, ar yr hyn y maen nhw’n ei ddweud, ac mae'n bosib bod yr wybodaeth honno'n hen, ond, yn amlwg, os yw hynny'n wir, mae'n rhoi straen enfawr ar ddarparu gwasanaethau gofal strôc, a tybeda all y Gweinidog ymchwilio i'r sefyllfa hon a chanfod os yw'n wir a beth y gall ei wneud i unioni'r mater penodol hwn. Mae datganiad y Gweinidog yn cyfeirio at recriwtio i hyfforddiant mewn seiciatreg graidd yn codi o 33 y cant i 100 y cant. Eto, wrth gwrs, mae hynny'n newyddion da, ond 30 y cant o beth i 100 y cant o beth? Tybed a fyddai'r Gweinidog yn barod i rannu gyda ni beth yw'r data crai er mwyn inni allu gweld yn union beth yw niferoedd y bobl sy'n cael eu hyfforddi. Tybed hefyd a oes ganddo unrhyw wybodaeth am y lleoedd hyfforddi ar gyfer seicolegwyr clinigol ac a ydym yn llwyddo i lenwi'r lleoedd hynny, ac, unwaith eto, a ydynt yn diwallu'r angen yn benodol. Mae datganiad y Gweinidog yn cyfeirio at brofiad gwaith, a tybed a yw'r Gweinidog yn derbyn canfyddiadau prosiect y Cyngor Ysgolion Meddygol ar ehangu mynediad ac mai'r lle cyntaf y bydd athrawon a dylanwadwyr allweddol yn mynd i gael cyngor ac arweiniad o ran ceisiadau ysgolion meddygol ac, weithiau, y gall eu gwybodaeth am dderbyniadau, swyddogaeth y meddyg, ac ati, fod yn dameidiog ac nid yn gyfredol—. A tybed a fyddai'r Gweinidog yn barod i gael rhagor o sgyrsiau gyda'r Gweinidog Addysg ynghylch sut y gallwn ni sicrhau—unwaith eto, mae gan y datganiad rai pethau cadarnhaol i'w dweud am hyn—y gall ysgolion roi cyngor cywir i bobl ifanc a allai fod yn ystyried gyrfaoedd yn y gwasanaeth iechyd yn ehangach. Rwy'n credu'n arbennig nad yw rhagdybiaethau'n cael eu gwneud ynghylch priodoldeb plant o gefndiroedd llai llewyrchus, ardaloedd llai llewyrchus, yn gwneud cais am hyfforddiant meddygol. Mae yna bwynt penodol iawn am system adrodd y gweithlu cenedlaethol i gasglugwybodaeth staff mewn practis cyffredinol. Mae hynny'n amlwg yn ffordd synhwyrol o symud ymlaen, ond mae Angela Burns eisoes wedi sôn am y pwysau ar bractisau meddygon teulu, a tybed beth all y Gweinidog a'i swyddogion ei wneud i sicrhau na fydd casglu'r wybodaeth hon yn rhoi baich ychwanegol ar bractisau meddygon teulu. Dylwn fod yn glir fy mod yn cefnogi'n fawr yr wybodaeth sy'n cael ei chasglu. Pa wybodaeth y mae'n ei rhannu gyda phractisau meddygon teulu er mwyn i bobl ddeall pam mae'r wybodaeth yn bwysig, oherwydd mae'n sicr yn wir fod pobl yn llawer mwy tebygol o gasglu ac adrodd yn rheolaidd ar ystadegau os ydynt yn gwybod beth rydym yn mynd i'w wneud gyda nhw? Yn amlwg, mae'n hanfodol ar gyfer cynllunio'r gweithlu. Dim ond yn olaf, Dirprwy Lywydd, mae'r Gweinidog yn sôn am gadw yn ei ddatganiad, a chrybwyllodd hynny eto yn rhai o'i ymatebion i Angela Burns. Mae hyn yn amlwg yn hollbwysig, oherwydd y peth olaf yr ydym ni eisiau ei wneud yw hyfforddi staff ac yna eu colli. Felly, tybed a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni a yw'n ffyddiog heddiw y cawn y strategaeth gweithlu newydd yn fuan a fydd yn mynd i'r afael â hyn yn fanwl. Bu rhywfaint o oedi. Byddem i gyd eisiau dweud ei bod hi'n llawer gwell cymryd mwy o amser a gwneud y gwaith yn iawn, ond byddai'n dda cael sicrwydd bod hynny'n mynd i ddigwydd. Ac ar y diwrnod hwn, diwrnod rhyngwladol pobl anabl, bydd y Gweinidog yn ymwybodol iawn ein bod yn colli llawer o staff o'r GIG oherwydd anableddau y maen nhw'n eu cael yn ystod eu gwasanaeth yn y GIG. A all ein sicrhau y bydd y materion sy'n ymwneud â chadw staff yn strategaeth y gweithlu yn mynd i'r afael â'r mater hwnnw'n benodol ac, os oes gennym ni, efallai, nyrs sydd wedi bod yn gweithio mewn amgylchedd sy'n gofyn llawer yn gorfforol, pa mor ffyddiog ydym ni fod byrddau iechyd lleol yn cymryd y camau priodol i ddod o hyd i waith arall sy'n defnyddio'r sgiliau hynny fel nad ydym yn colli'r gweithwyr proffesiynol hynod fedrus hynny? Diolch. Vaughan Gething AC: O ran y pwynt olaf, bûm yn ymwneud rywfaint â'r gwasanaeth iechyd cyn dod i'r fan yma, yn glaf ond hefyd yn weithiwr proffesiynol, ac roedd llawer o hynny mewn gwirionedd—nid yn unig o fewn y gwasanaeth iechyd, ond mewn ystod eang o feysydd yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat—yn ymwneud â'r busnes o wneud addasiadau rhesymol, i weld y gwerth parhaus mewn staff, beth bynnag fo'u hiechyd meddyliol neu gorfforol, ond i weld beth y gallant ei wneud mewn gwirionedd, ac i weld hynny fel budd gwirioneddol a pheidio â cholli golwg ar brofiad y bobl hynny. Vaughan Gething AC: Nid ennill hawliad mewn tribiwnlys mewn gwirionedd oedd y rhan fwyaf llwyddiannus o hyn; ond pan oeddech yn gallu newid natur y berthynas yng ngweithle rhywun fel y gallen nhw aros mewn gwaith, yn hytrach nag ennill swm o arian ar ôl iddyn nhw adael y gweithle, neu wneud hawliad yn erbyn cyflogwr a chael canlyniad llwyddiannus a arweiniai'n aml at ddiwedd y berthynas yn y gweithle yn ymarferol. Rwy'n disgwyl i'r gwasanaeth iechyd fod yn rhan o hynny'n llwyr. Rwy'n credu bod yna bwynt ehangach ynghylch cadw ein staff—ac mae'n bosibl y bydd y telerau'n newid, efallai y bydd yr oriau y maen nhw'n gweithio yn newid, efallai y bydd y patrwm yn newid—sef bod eisiau dechrau o'r safbwynt ein bod eisiau cadw'r staff o fewn y gwasanaeth. O ran y pwynt fod gan yr ymgyrch, 'Hyfforddi. Gweithio. Byw' gyllideb o £0.5 miliwn. Mae'r cymelliadau ychydig dros £400,000—y cymelliadau ariannol ar gyfer yr hyfforddiant meddygol gan gynnwys meddygfeydd teulu. A dweud y gwir, byddaf yn cyhoeddi rhywfaint o wybodaeth am nifer y bobl y credwn eu bod wedi'u denu i Gymru o ganlyniad i'r ymgyrch farchnata, ond bydd rhywfaint o hynny'n ymwneud â'r cyfuniad o ffactorau yr ydych yn gywir yn eu nodi. Mae arnaf eisiau deall gwerth parhaus yr ymgyrch, a rhan o'r her yw cyflawni a deall yr hyn y mae ymgyrch farchnata yn ei chyflawni a phetaech yn cael gwared ar hynny, yna beth a gredwn ni fydd yn digwydd hefyd. Ond, gallaf ddweud yn onest, ym mhob un o'r digwyddiadau yr wyf wedi bod ynddynt yng nghyngres yr RCN yn ystod y tair blynedd diwethaf, ac yng nghynhadledd yr RCM, mae'n anodd gorbwysleisio brwdfrydedd ein cynrychiolwyr ein hunain yn y cynadleddau hynny—. Felly, mewn gwirionedd, mae ein nyrsys a'n bydwragedd yng Nghymru yn falch iawn o weld Cymru ar ganol y llwyfan, ac maen nhw eu hunain yn eiriolwyr gwirioneddol dros bobl sydd eisiau dod i weithio yng Nghymru. Ond y brwdfrydedd gwirioneddol a fynegwyd gan amrywiaeth o bobl eraill ynghylch canfod beth yw'r cyfleoedd—. Nid yw ynghylch dod i edrych ar stondin grand a chael cacen gri am ddim. Lefel y diddordeb a geir, gyda'r un pwynt mynediad i fynd yn ôl at bobl—. Mae wedi gwella bob blwyddyn. Felly, mae'n dangos gwir werth yr hyn yr ydym ni'n ei wneud, ac mae yna frand cenedlaethol cyson; mae hynny mewn gwirionedd yn helpu byrddau iechyd i ymgymryd â'u gweithgarwch recriwtio eu hunain hefyd. Felly, mae gwerth go iawn. Rwyf eisiau ceisio deall hynny'n iawn, ac rwyf eisiau rhoi mwy o fanylion i Aelodau'r Cynulliad ynghylch hynny yn ystod y flwyddyn nesaf. O ran anghenion y dyfodol—ac mae hyn yn cysylltu â phwynt strategaeth y gweithlu a wnaethoch a'r ymgynghoriad a gyflwynwyd gan AaGIC a Gofal Cymdeithasol Cymru—mae hyn yn cysylltu'n ôl â'r diwygio bwriadol yr ydym yn ei wneud i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn 'Cymru Iachach' a'r awydd i ddeall sut mae hyfforddiant yn digwydd. Sut mae pobl yn cael eu hyfforddi i'w hyfforddi nhw ar gyfer y byd gwaith y maen nhw'n mynd iddo, nid y byd gwaith a fodolai 10 mlynedd yn ôl; ond, yn fwy na hynny, y niferoedd y bydd eu hangen arnom ni hefyd. Felly, mae'n cysylltu'n rhannol â strategaeth y gweithlu. Mae hefyd yn cysylltu'n rhannol â'r ail-lunio bwriadol sy'n mynd i ddigwydd. Mae'r fframweithiau yr ydym ni wedi ymgymryd â nhw ar gyfer gwyddoniaeth gofal iechyd a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd hefyd yn sôn am swyddogaeth ehangach i'r grŵp hwnnw o staff. Nid oes a wnelo hynny ddim â'r staff sydd gennym ni nawr. Mae'n ymwneud â dymuno ail-lunio'r cydbwysedd yn y niferoedd sydd gennym ni yn fwriadol. Mae rhywfaint o hyn yn ymwneud â mwy na'r hyn yr ydym ni eisiau yn y dyfodol. Mae'n ymwneud â'n gallu i recriwtio. Nid wyf yn golygu nad oes gennym ni bobl sy'n gallu darparu hyfforddiant ac addysg o ansawdd uchel i'r bobl hynny o fewn y system yma yng Nghymru. Mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â'r ffaith bod yn rhaid i lawer o'r hyfforddiant hwnnw ddigwydd o fewn y gwasanaeth iechyd. Mewn sgyrsiau blaenorol yr wyf wedi'u cael gyda phobl ar draws y pleidiau—er enghraifft, am hyfforddi nyrsys yn Wrecsam—mae un o'r camau mwyaf cyfyngol mewn gwirionedd ynghylch gallu'r gwasanaeth iechyd i sicrhau bod y lleoedd hyfforddi hynny ar gael. Felly, mae'n ymwneud â gallu ein system i gyflawni hynny, ac rwyf wedi dewis yr opsiwn mwyafsymiol ym mhob un o'r blynyddoedd yr wyf wedi gwneud y dewis hwnnw, gan gofio gallu'r system i hyfforddi'r bobl hynny yn ddigonol ac yn briodol, o ystyried y profiad o hyfforddiant y dylent fod ei angen a'i eisiau, er mwyn iddynt gael profiad da, cymhwyster da a'r awydd i aros o fewn y system yma yng Nghymru. Byddaf yn falch o ysgrifennu'n ôl at y grŵp trawsbleidiol ar strôc ar y mater penodol a godwch. Efallai y byddai'n ddefnyddiol pe bai'r Cadeirydd, rwy'n cydnabod ei fod yn yr ystafell, yn ysgrifennu ataf gyda chwestiwn penodol, a byddaf yn falch o ymateb. O ran lleoedd seiciatreg, rydym ni wedi llenwi 21 o 21 lle. O ran y materion sy'n ymwneud ag addysgu ac annog pobl i ystyried gyrfa yn y gwasanaeth iechyd, a dweud y gwir, wrth siarad â chyrff proffesiynol ac undebau llafur yn y gwasanaeth iechyd, dywedant mai eu pryder mwyaf ynghylch pobl yn dewis peidio â mynd i'r gwasanaeth iechyd yw'r ffordd y caiff y gwasanaeth iechyd ei bortreadu'n rheolaidd. Maen nhw'n poeni am y tudalennau blaen ar bapurau newydd, yn arbennig—ond safleoedd ar-lein hefyd—sy'n sôn am y gwasanaeth iechyd, ac mae pobl yn meddwl, 'Wel, does dim angen i mi fynd yno i ennill bywoliaeth dda, a pham y byddwn i'n gwneud hynny os ydw i wedyn yn mynd i gael fy ngwawdio?' Felly mae yna her yn bodoli ynglŷn â sut yr ydym ni'n siarad am y gwasanaeth, ac, i fod yn glir, nid problem yng Nghymru'n unig yw hon— mae'n broblem i'r DU gyfan, ac mae'n ymwneud â sut yr ydym yn trafod y gwasanaeth nad yw'n peri i bobl ei ddiystyru. Ond wrth gwrs mae eisiau annog pobl i weithio hyd eithaf eu gallu. Soniwn am hynny yn nhermau gofal iechyd darbodus, rydym yn siarad am hynny gyda phobl ifanc hefyd. Rwyf yn dal i fod o'r farn, ers yr hen ddyddiau yn Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru—a byddaf yn gorffen ar y pwynt hwn; na, mae gennyf un pwynt arall—. Byddaf yn ysgrifennu atoch am adnodd y gweithlu, ac at yr Aelodau, oherwydd rwy'n credu bod yna rai manylion yno y gallaf eu darparu, ond mae'n rhan o'r contract meddygon teulu y cytunwyd arno eleni. Mae'n rhan orfodol, a bydd yr adnodd ar gael i bractisau, clystyrau a byrddau iechyd hefyd. Ond byddaf yn rhoi mwy o fanylion. Ond ynghylch y pwynt hwn am yrfaoedd yn y gwasanaeth, erbyn i bobl gyrraedd blynyddoedd 12 a 13, y chweched isaf a'r chweched uchaf i roi'r hen enwau arnynt, os cofiwch hynny, bydd y rhan fwyaf o bobl wedi gwneud dewisiadau yn barod, hyd yn oed os nad ydynt yn ymwybodol o hynny. Felly, mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â chyfnod llawer cynharach cyn i blant adael yr ysgol gynradd ac ar ddechrau cyfnod yr ysgol uwchradd; eu hatgoffa nhw eu bod yn ddigon da ac y dylen nhw feddwl am yrfa, a chael darlun a dealltwriaeth ehangach o'r byd a'r hyn y gallent ei gyflawni. Oherwydd bydd hynny'n rhoi grŵp ehangach fyth o bobl i ni, a dyna pam mae'r gwaith ehangu mynediad y cyfeiriais ato yn fy natganiad mor bwysig, er mwyn sicrhau bod gennym ni feddygon sy'n debyg i'r bobl y byddant yn eu trin a'u gwasanaethu yn y dyfodol. Hefin David AC: Bydd y Gweinidog yn ymwybodol imi gyfarfod â phractis Gelligaer i drafod cau meddygfa'r Gilfach, ac un o'r materion a godwyd ganddynt oedd nad prinder meddygon teulu yn yr ardal yn unig oedd yn peri iddynt frwydro yn erbyn dull y Llywodraeth o ran y model gofal sylfaenol, ond hefyd prinder gweithwyr proffesiynol eraill ym maes iechyd meddwl, parafeddygon, a'r gweddill. Felly, mae'r ymgyrch hon—a chredaf eich bod wedi dweud eich bod am ei hehangu'n ymgyrch recriwtio ar gyfer pob math o weithwyr proffesiynol, gan gynnwys nyrsys a fferyllwyr—i'w chroesawu. Y cwestiwn y byddwn i'n ei ofyn yn syml yw: a yw'r Gweinidog yn credu y bydd yr ymgyrch hon yn ei gwneud hi'n haws cyflawni'r dull gofal sylfaenol y mae'n ei arloesi, ac a yw'n credu bod meddygon teulu yn ymgysylltu'n llawn â'r dull gweithredu hwnnw? Vaughan Gething AC: Rwy'n credu ei fod yn gwestiwn pwysig oherwydd mae yna rywbeth ynghylch ein gallu i ddweud, 'Dyma'r ffordd iawn i weithio yn y dyfodol'. Mae yna farn gyffredinol o blaid hynny, ac yna ein gallu i gael y niferoedd cywir o staff yn y lle priodol i ddarparu'r gofal hwnnw. Mae hynny'n her oherwydd, os edrychwch yn ôl i dair blynedd yn ôl ac yna bum mlynedd yn ôl, credaf y byddai lefel ehangach o sinigiaeth, mae'n deg dweud, ymhlith llawer o'n haelodau staff rheng flaen, gan gynnwys mewn practis cyffredinol, ynghylch y dull a gyflwynodd y Llywodraeth. Ar ddechrau'r cyfnod o weithio mewn clystyrau, yn sicr ni chafodd ei groesawu gan bawb, ac mewn gwirionedd, nawr, gwelaf o'r gynhadledd gofal sylfaenol ac, yn fwy na hynny, o'm rhyngweithio rheolaidd, nid yn unig â chyrff cynrychioliadol fel Cymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, ond o'm rhyngweithio rheolaidd o gwmpas y wlad, bod barn llawer mwy cadarnhaol am glystyrau a'u potensial a'u gallu i gyflawni. Ond nid yw'r sefyllfa'n gyson. Mae rhai rhannau o'r wlad yn dal i fod ychydig yn fwy cyndyn nag eraill, a rhan o'r hyn yr wyf eisiau ei wneud yw cyrraedd y sefyllfa pryd y bydd pobl mewn gwirionedd yn cydnabod ei fod yn ffordd well o weithio a byddent ar eu colled os na fyddent yn gwneud hynny. Mae hynny'n golygu bod angen y niferoedd cywir o staff arnom ni. O ran parafeddygon, er enghraifft, mae gennym ni fwy o barafeddygon—bu cynnydd o 7 y cant yn y gweithlu parafeddygon yn y blynyddoedd diwethaf. Nid yn unig hynny, fodd bynnag; rydym yn buddsoddi yn sgiliau parafeddygon hefyd. Felly, o ran y parafeddygon ymarfer uwch, sydd nid yn unig yn ddefnyddiol o fewn y system argyfwng ond mewn gwirionedd o fewn gofal sylfaenol hefyd, rydym ni'n dod o hyd i fodd iddyn nhw weithio fel nad oes angen iddyn nhw roi'r gorau i un i wneud y llall. Mae hynny wedi bod yn stori lwyddiant go iawn. Os cofiwch Fryntirion, fe wnaethon nhw lwyddo i ddod o hyd i fodel a wnaeth hynny, ac fe wnaeth yr union beth hynny, a rhoddodd fwy o sefydlogrwydd o fewn y gweithlu wrth wneud hynny. Os ydych yn edrych ar lwyddiant, er enghraifft, ein dull cyswllt cyntaf o ran ffisiotherapi hefyd, gwelwn lwyddiant mewn gwahanol rannau o'r wlad. Mae'n dal yn rhan o fy rhwystredigaeth, ac yn her i'r system gyfan, i weld hynny'n cael ei ddosbarthu'n fwy cyson. Rwy'n cydnabod bod gan yr Aelod her arbennig mewn un rhan o'r etholaeth, ond rwy'n credu y dylai pobl fod yn fwy hyderus. Rydym yn rhoi ein harian ar ein gair ac yn buddsoddi yn nyfodol y gweithlu, a byddwn yn helpu ac yn cefnogi pobl i gyflwyno'r model gofal sylfaenol newydd, gan fy mod yn gwbl argyhoeddedig ei fod yn darparu gwell gofal i bobl ac mae mewn gwirionedd yn lle gwell i'n staff weithio ynddo. Caroline Jones AC: Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Staff y GIG yw ein hadnodd pwysicaf. Ofer yw pwmpio miliynau o bunnau yn ychwanegol i ofal iechyd oni chawn y meddygon, y nyrsys, y radiograffyddion, y technegwyr labordy a'r cynorthwywyr gofal iechyd sydd eu hangen i ddarparu gofal o'r radd flaenaf. Croesawaf y cynnydd y mae 'Hyfforddi. Gweithio. Byw' yn ei wneud, ac mae'r ffaith eich bod wedi llwyddo i ragori ar y lleoedd hyfforddi i feddygon teulu ym mhob cynllun hyfforddi ar draws Cymru yn newyddion gwych. Rwyf yn croesawu'r cynnydd yn nifer y lleoedd hyfforddi ym maes nyrsio, radiograffeg a ffisiotherapi hefyd. Mae'n wych gweld ein bod o'r diwedd yn gwneud cynnydd. Fodd bynnag, gan roi canmoliaeth o'r neilltu, Gweinidog, nid yw'n ddigon o hyd. Bedair blynedd yn ôl, dywedodd Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol wrthym fod angen i ni hyfforddi 200 o feddygon teulu y flwyddyn er mwyn cadw'r niferoedd fel y maen nhw ar hyn o bryd, ac rydym yn gweld y nifer mwyaf erioed o feddygon teulu yn gadael y proffesiwn. Felly, Gweinidog, faint o feddygon teulu a gaiff eu hyfforddi a'u recriwtio y flwyddyn nesaf? Dyna fy nghwestiwn cyntaf. Yn ddiweddar, amlygodd Cymdeithas Feddygol Prydain y ffaith bod byrddau iechyd lleol ledled Cymru yn atal ehangu safleoedd meddygon teulu ledled Cymru—ehangu sy'n angenrheidiol i ddarparu lle ymgynghori i feddygon teulu dan hyfforddiant. Gweinidog, pa asesiad ydych chi wedi'i wneud o'r effaith y mae hyn yn ei gael ar yr ymgyrch i hyfforddi a recriwtio mwy o feddygon teulu yng Nghymru, os gwelwch yn dda? Os ydym am hyfforddi mwy o staff, rhaid inni hefyd sicrhau eu bod eisiau aros yng Nghymru pan fyddant wedi cymhwyso. Dywed bron i dri chwarter o feddygon teulu Cymru eu bod yn disgwyl i'r gwaith mewn practis cyffredinol waethygu yn ystod y pum mlynedd nesaf. Felly, Gweinidog, sut bydd ymgyrch recriwtio meddygon teulu yn mynd i'r afael â'r ffaith hon a'r ffaith frawychus nad yw chwarter y meddygon teulu presennol yn disgwyl bod yn gweithio ym maes ymarfer meddygol? Ac yn olaf, Gweinidog, rydych chi wedi cyflwyno cofrestr locwm i Gymru gyfan. A fydd hi'n ofynnol i staff locwm ar gofrestr Lloegr ymuno â chofrestr Cymru, ac a fydd cofrestr Cymru yn caniatáu i staff locwm o ranbarthau ffiniol yng Nghymru weithio ar ddwy ochr Clawdd Offa? Mae angen inni wneud cymaint mwy os ydym ni eisiau osgoi chwalu gofal sylfaenol yng Nghymru, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi, Gweinidog. Diolch. Vaughan Gething AC: Diolch am y cwestiynau. O ran nifer y meddygon teulu fydd yn cael eu hyfforddi y flwyddyn nesaf, rwyf wedi gosod llinell sylfaen o 160, ac fel y nodais yn fy natganiad, fy mwriad yw gallu cynyddu'n raddol nifer y lleoedd hyfforddi meddygon teulu a fydd ar gael gennym ni ar gyfer ein llinell sylfaen newydd. Fodd bynnag, mae hynny'n dibynnu ar ein gallu i gael y nifer angenrheidiol o leoedd hyfforddi mewn practisau. Felly, rwy'n edrych ymlaen at gael rhywfaint o gyngor gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru ynghylch ein gallu o fewn y system i gynyddu'n raddol a llwyddo i recriwtio ar gyfer y niferoedd hynny. O ran y mater penodol y sonioch chi amdano ynghylch yr ystad gofal sylfaenol, nid wyf yn ymwybodol o'r mater penodol yr ydych yn ei godi lle mae bwrdd iechyd yn atal pobl rhag ehangu darpariaeth, oherwydd dylem gofio bod cydbwysedd yma, onid oes? Gan fod practis cyffredinol yn cael ei ddarparu'n bennaf gan gontractwyr annibynnol, y mae rhai ohonynt yn berchen ar eu hadeiladau eu hunain, ac mae gan rai ohonynt bartneriaeth gydag amrywiaeth o wasanaethau eraill i weithio o safleoedd penodol. Felly, wrth fuddsoddi yn yr ystad gofal sylfaenol, rydym fwyfwy yn bwriadu buddsoddi mewn cyfuniad o'r rhain, ac i ddeall, yn y gorffennol, pan oeddem yn helpu i adeiladu cyfleusterau nad oedd y GIG yn berchen arnynt, byddhynny yn cynnig gwahanol heriau hefyd. Felly, mae hynny'n rhannol yn ymwneud â'r model partneriaeth a'r hyn sy'n digwydd. Mae'r rhain yn faterion ymarferol go iawn sy'n rhan o'n sgwrs â phwyllgor meddygon teulu Cymdeithas Feddygol Prydain. Ond, o ran darparu cenhedlaeth newydd o ganolfannau, llif prosiect gofal sylfaenol, 19 o gynlluniau unigol, gan gynnwys y newyddion da a gawsom yn ddiweddar bod cynllun Aberpennar ar y safle nawr. Felly, rydym ni mewn gwirionedd yn darparu amrywiaeth newyddo safleoedd eisoes. O ran y mater ynghylch cadw meddygon teulu presennol, ceisiaf ymdrin â hynny o ran y cwestiynau a ofynnodd Angela Burns. Doeddwn i ddim wedi'i gyrraedd o ran y rhestr o gwestiynau, ond o ran y pwyntiau ynghylch y cynlluniau cymhelliant, mae hynny'n bwysig ar gyfer cadw meddygon teulu presennol mewn practis hefyd, fel nad ydyn nhw'n teimlo nad oes unrhyw gyflenwad ar gyfer meddygfeydd teulu yn y dyfodol hefyd. Ond rydym yn bwriadu adolygu effaith y cymhellion hynny, nid yn unig yn yr ardaloedd sydd wedi cael cymhellion ar gyfer yr ardaloedd sydd wedi bod yn anodd recriwtio ar eu cyfer, ond hefyd i weld a fu effaith ar gynlluniau cyfagos o ran meddygfeydd teuluol. Eleni, ymddengys na fydd hynny'n digwydd, oherwydd inni lenwi pob cynllun. Ond fel y yr ydym ni wedi dweud, llinell sylfaen newydd ar gyfer pob un o'r cynlluniau hyfforddi hynny, rwyf eisiau gweld beth yw'r effaith uniongyrchol. O ran y gofrestr locwm, rwy'n credu bod hyn yn bwysig iawn er mwyn i ni ddeall ble a faint o feddygon locwm sydd gennym ni a beth yw telerau eu cytundeb gwaith. Ac mae rhan o'r cytundeb yn y contract newydd yr ydym wedi cytuno arno gyda phwyllgor meddygon teulu Cymdeithas Feddygol Prydain yn ymwneud mewn gwirionedd â'r ffordd yr ydym yn cymell pobl i adael y dull locwm o weithio ac i fod naill ai'n gyflogedig neu, yn wir, yn bartneriaid mewn practis cyffredinol hefyd, ac i roi inni'r sefydlogrwydd y byddem eisiau ei gael. Ac mae her o ran y genhedlaeth sy'n codi hefyd, sydd, yn onest, nid yn unig o fewn y gwasanaeth iechyd ond yn ehangach o lawer, ynghylch sut y gallwn ni helpu pobl i edrych ar yr hyn a gynigir o fewn y GIG ac i ddeall beth sy'n cael ei gynnig, ac ymrwymo i'r yrfa honno, boed fel contractwr gofal sylfaenol neu fel arall, ac yna dylai'r gofrestr ein helpu i wneud hynny a bod yn llawer cliriach o ran y telerau cyflogi. Diolch yn fawr, Gweinidog. 6. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Rhwydwaith Clwstwr Bwyd a Diod Cymru Eitem 6 ar yr agenda yw datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar rwydwaith clwstwr bwyd a diod Cymru. Galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig—Lesley Griffiths. Lesley Griffiths AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae ein sector bwyd a diod yng Nghymru yn parhau i fynd o nerth i nerth ac mae'n sylfaen i'n heconomi, gyda 217,000 o weithwyr ar draws y gadwyn gyflenwi, sy'n cynnwys amaethyddiaeth, gweithgynhyrchu, manwerthu, arlwyo a chyfanwerthu, gan ategu twristiaeth a rhoi delwedd gadarnhaol o Gymru i'r byd. Roedd hyn yn amlwg iawn yn Blas Cymru 2019, ein digwyddiad masnach arddangos, lle daethom â phrynwyr rhyngwladol ac o'r DU at ein cynhyrchwyr a'n cynnyrch. Mae llwyddiant yn seiliedig ar bartneriaeth. Mae Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru wedi bod yn bartner egniol i ni. Gyda'n gilydd rydym yn cyflymu uchelgais, yn creu llwybrau i'r farchnad, yn dileu rhwystrau ac yn hyrwyddo sector â chwmpas ac enw da cynyddol. Wrth gwrs, rydym yn wynebu heriau, a'r mwyaf uniongyrchol yw Brexit. Ond mae'n rhaid i ni hefyd weithio i gynyddu cynhyrchiant, datblygu busnesau i fod yn fwy cadarn a chynaliadwy, a chynnal ein henw da am safonau cynhyrchu uchel er mwyn sicrhau y gall y diwydiant ffynnu mewn marchnad gystadleuol. Mae dod â busnesau at ei gilydd yn rhan annatod o fynd i'r afael â'r heriau hyn a hybu llwyddiant hirdymor. Mae hyn yn gonglfaen i'n dull o weithredu ac yn sylfaen ar gyfer llwyddiant. Elfen allweddol o hyn yw ein rhwydwaith clwstwr bwyd a diod sydd wedi'i ddatblygu'n dda iawn. Mae'r rhwydwaith clwstwr yn rhaglen uchelgeisiol sydd â'r nod o greu newid gwirioneddol yn y diwydiant. Fe'i datblygwyd i roi gwell cefnogaeth i'r diwydiant trwy greu llwyfan i fusnesau o'r un anian gydweithio a chael cymorth sy'n benodol i'r sector. Mae'n hwyluso twf y sector, rhannu adnoddau, gwybodaeth ac arbenigedd drwy ddigwyddiadau a gweithdai rhwydweithio, ac mae'n creu cadernid yn ein cadwyni cyflenwi drwy ddatblygu gwe o gysylltiadau a chydberthnasau sy'n atgyfnerthu'r naill a'r llall. Mae clystyrau'n hanfodol i lwyddiant mewn diwydiant ledled y byd. Maen nhw'n esblygu'n naturiol: technoleg yn Silicon Valley; esgidiau lledr a thecstilau yng ngogledd yr Eidal; a chyllid yn Ninas Llundain, i enwi dim ond rhai. Trwy ddod â busnesau a thalent at ei gilydd, maen nhw'n hybu arloesi a datblygu. Mae llwyddiant yn magu llwyddiant. Ein strategaeth yw cyflymu clystyru. Trwy gymorth integredig gan y Llywodraeth, gwybodaeth dechnegol drwy Arloesi Bwyd Cymru a Phrosiect Helix, ac uchelgais ein bwrdd, gall ein teulu clwstwr sy'n tyfu, helpu diwydiant bwyd a diod Cymru i barhau i ddatblygu a ffynnu. Erbyn hyn mae yna wyth clwstwr o fewn rhwydwaith clwstwr bwyd a diod Cymru, gyda dros 450 o fusnesau yng Nghymru yn cymryd rhan. Yn Blas Cymru, roedd y parth dysgu clwstwr yn galluogi gwneud cysylltiadau wyneb yn wyneb rhwng aelodau'r clwstwr a phartneriaid eraill. Mae ein clystyrau'n amrywio o grwpiau o fusnesau sy'n cynhyrchu math penodol o fwyd neu ddiod, i fusnesau sydd â gwahanol gynhyrchion ond sy'n rhannu nodau ac uchelgeisiau, fel cynhyrchion allforio neu gynnyrch uchel eu gwerth. Mae ein clwb allforio yn galluogi busnesau i gydweithio a rhannu profiadau ynglŷn ag allforio, gan hwyluso allforwyr profiadol a'r rhai hynny sydd ond yn dechrau ar y daith hon i drafod rhwystrau a chyfleoedd o ran allforio. Rydym wedi cyflwyno'r system cyfeillio allforio, gan baru allforiwr profiadol ag allforiwr newydd er mwyn cadw'r cwmnïau'n atebol ac yn llawn cymhelliant.Rydym hefyd wedi datblygu cysylltiadau â mentrau cydweithredol rhyngwladol, gan ddatblygu ein huchelgais i gynyddu allforion a mewnfuddsoddi a chodi proffil rhyngwladol Cymru. Mae Prosiect Allforio Bwyd yr Iwerydd yn dod â busnesau o Gymru ynghyd â busnesau o ranbarthau yn Ffrainc, Sbaen, Portiwgal, Gweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon i oresgyn rhwystrau i allforio a gwella cystadleurwydd mewn marchnadoedd rhyngwladol. Mae'r clwstwr maeth Cymru yn cynnwys dros 75 o fusnesau a sefydliadau sy'n cydweithio ar brosiectau sy'n amrywio o beirianneg bwyd i raglen datgarboneiddio strategol. Mae'n cynnwys rhaglen bwydydd y dyfodol ym Mhrifysgol Aberystwyth a'n canolfannau bwyd ar draws y wlad, gyda'r nod o fwy o ymchwil a datblygu yn y diwydiant bwyd, gan ei gwneud yn wirioneddol arloesol a chynaliadwy mewn amgylchedd cynyddol gystadleuol. Mae'r clwstwr effaith uchel yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â'r broblem gwastraff frys. Mae wedi nodi cyfleoedd i leihau gwastraff, sydd hefyd werth degau o filoedd o bunnoedd o arbedion uniongyrchol, i'r busnesau dan sylw. Mae hyn yn helpu busnesau a ffyniant ehangach ac mae'n helpu lles Cymru, gan ei fod yn cyd-fynd â strategaeth Llywodraeth Cymru 'Tuag at Ddyfodol Diwastraff' a'i nod o ailgylchu 70 y cant erbyn 2025, a 100 y cant erbyn 2050. Mae'r clwstwr bellach yn bwriadu datblygu hyn ymhellach, ar ôl cynnal cynhadledd a oedd yn canolbwyntio ar wastraff ac effeithlonrwydd adnoddau yn ddiweddar, ac rwy'n ffyddiog y bydd yn creu atebion newydd i fynd i'r afael â gwastraff deunydd pacio. Mae'r clwstwr diodydd wedi cydweithio â Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru i ddatblygu strategaeth sector yfed drosfwaol i gefnogi'r rhan amrywiol a gwerthfawr hon o'n diwydiant. Mae'n datblygu grwpiau diddordeb arbennig, gan weithio tuag at brosiectau strategol penodol â phwyslais. Mae aelodau ein clwstwr bwydydd da wedi gwerthfawrogi'n fawr y gallu i rwydweithio, gyda chwmnïau'n partneru i gyflwyno cynigion i brynwyr yn Blas Cymru yn llwyddiannus, ac maen nhw bellach yn rhannu gwerthwyr hyd yn oed. Mae hyn yn dangos bod y rhwydwaith nid yn unig yn ymwneud â chwmnïau sy'n cael eu cefnogi gan y clwstwr, ond yn ymwneud â'r cymorth gweithredol y mae aelodau'r clwstwr yn ei roi i'w gilydd. Mae'r clwstwr bwyd môr yn codi ymwybyddiaeth o'n diwydiant cynhyrchion pysgodfeydd. Maen nhw wedi creu fideos llawn gwybodaeth am y diwydiant hwn ac wedi sefydlu grŵp diddordeb arbennig brandio a bandio, gyda'r nod o gynyddu'r gallu i olrhain ac ymwybyddiaeth o darddiad y pysgod cregyn. Maen nhw hefyd yn sefydlu cyfeirlyfr bwyd môr Cymru i gyfeirio at leoedd lle gallwch chi brynu bwyd môr blasus o Gymru ledled y wlad. Mae'r clwstwr mêl wedi'i ddatblygu yn fwy diweddar ac mae'n codi proffil cynhyrchion gwenynwyr Cymru ac yn helpu i rannu arferion gorau yn eu plith. Wrth i ni ddatblygu'r cynllun strategol newydd ar gyfer y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru, rydym yn awyddus i ddysgu gwersi o'r llwyddiannau hyn er mwyn adeiladu ar y seiliau hyn a sicrhau bod y rhwydwaith clwstwr yn parhau i ffynnu yn y dyfodol. Mae'r rhwydweithiau y maen nhw'n eu creu gyda'i gilydd, ac i'r gadwyn gyflenwi ehangach, yn creu cadernid yn ein system fwyd. Mae hon wedi bod yn daith ysbrydoledig, yn esiampl o'r hyn y gallwn ni ei gyflawni yng Nghymru, gan gefnogi ein gweledigaeth i greu cenedl ffyniannus a theg o fri byd-eang. Diolch. Andrew R.T. Davies. Andrew RT Davies AC: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch ichi, Gweinidog, am eich datganiad y prynhawn yma. Mae'n debyg mai'r peth mwyaf cyffrous sydd wedi digwydd i mi heddiw yw fy mod yn cael defnyddio'r darllenfwrdd, oherwydd bod gennym ni ddatganiad materion gwledig. Ond, mae'n werth myfyrio ar faint y diwydiant i Gymru: cyfanswm trosiant o £20.5 biliwn, 210,000 neu 217,000 o swyddi i gyd, os ydych chi'n ystyried y sector arlwyo. Ac mae twf y sector a'r ymwybyddiaeth ymhlith y defnyddwyr yn syfrdanol dros, yn sicr, y 10, 15 mlynedd diwethaf. Ac mae pobl yn poeni'n fawr am darddiad y bwyd y maen nhw'n ei brynu, ac maen nhw'n barod i weithredu drwy benderfynu gwario'r arian ar fwyd y gallan nhw fod â ffydd ynddo. Felly, mae'n bwysig bod gan bobl y gallu i dyfu eu busnesau yma yng Nghymru, ac os gellir nodi arfer gorau yn y gwahanol glystyrau, yna bod arfer gorau yn cael ei rannu. Rwy'n credu eich bod wedi nodi ehangder y clystyrau, o'r mwyaf diweddar, y sector mêl, drwodd at y farchnad allforio, sy'n faes cymhleth iawn a dweud y lleiaf. Ac, yn aml iawn, er mwyn rhoi hyder i gwsmeriaid i fynd i'r farchnad allforio honno, mae'n amlwg bod angen iddynt gael eu harwain gan gymheiriaid a gwybod bod y Llywodraeth yno i'w cefnogi. Mae un neu ddau o gwestiynau y mae'n rhaid imi eu gofyn. Yn amlwg, dim ond yn ddiweddar y mae Tomlinson wedi mynd yn fethdalwr yn y gogledd, neu wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr, ddylwn i ddweud, ac mae cyflwr ansicr ymhlith rhai o'r proseswyr mawr yma yng Nghymru. Pan edrychwch chi ar fodel Tomlinson, a oedd yn ymwneud â chefnogi cynnyrch Cymru—yn yr achos hwn, llaeth—a chaniatáu i'r llaeth hwnnw gael lle ar silff ymysg y manwerthwyr mawr, mae'n dangos bod angen esblygiad graddol yn y maes hwn, oherwydd, yn amlwg, gall busnes sydd wedi hen ennill ei blwyf dyfu'n gyflym iawn dros nos, a rhoi straen ariannol penodol a phwysau ar y busnes. A wnewch chi roi syniad inni o sut y mae'r rhwydwaith clwstwr o fudd i'r sector prosesu yma yng Nghymru, yn enwedig yn y sector cig coch? Oherwydd, rwy'n credu, petaech chi'n hepgor un lladd-dy mawr ym Merthyr, ychydig iawn o gapasiti prosesu cig eidion a fyddai ar ôl yng Nghymru. Felly, mae'n bwysig deall, o'r ddwy enghraifft hynny yr wyf wedi'u rhoi i chi, sut y mae'r sector prosesu yn elwa ar y rhwydwaith clwstwr. Hoffwn i hefyd geisio deall sut mae'r cynllun datblygu gwledig yn helpu i lywio'r rhwydwaith clwstwr, ac o ran y cynllun datblygu gweledig yn llywio, yr hyn rwy'n ei olygu yw faint o arian sy'n mynd i'r rhwydwaith clwstwr o'r cynllun datblygu gwledig. Oherwydd, unwaith eto, dylai'r rhwydwaith clwstwr fod yn ysgogi arbedion yn y diwydiant, boed hynny wrth glwyd y fferm, neu boed hynny yn y sector prosesu, neu boed hynny yn y sector manwerthu, fel bod gennym gadwyn effeithlon a all gystadlu yn y farchnad allforio a'r farchnad ddomestig. Felly, pe byddech yn rhoi rhyw syniad i ni pa mor bwysig fu'r cynllun datblygu gwledig i lywio datblygiad y rhwydwaith clwstwr yng Nghymru, rwy'n credu y byddai hynny'n wirioneddol ddefnyddiol. Hoffwn ddeall hefyd sut yr ydych chi'n cadw'r rhwydwaith clwstwr yn ffres ac yn fywiog. Gan fod wyth sector wedi'u cynrychioli, mae'n bwysig nad ydynt yn troi'n siopau siarad yn y pen draw, ac nad ydynt yn datblygu'r hyn yr ydym ni eisiau ei weld fel arfer gorau, yr arloesedd, a sbarduno'r syniadau newydd, a phan fo angen adfywio, neu ailwampio ar y sector penodol hwnnw, bod hynny'n digwydd, yn hytrach na bod gennym ni yr ymarfer ticio blychau o ddweud, 'Wel, mae'r sector hwnnw'n cael sylw gan y rhwydwaith clwstwr penodol hwnnw.' Gwelsom ni i gyd yr hyn a ddigwyddodd gyda'r canolfannau technium ar ddechrau oes y Cynulliad, ac, yn anffodus, nid oeddent mor llwyddiannus ag yr oedd pobl, yn amlwg, yn dymuno iddyn nhw fod, oherwydd teimlwyd nad oedden nhw'n gallu cyflawni'r hyn a oedd yn digwydd mewn rhannau eraill. Ac yn eich datganiad y prynhawn yma rydych chi'n sôn am wahanol glystyrau, yng Nghaliffornia, yn yr Eidal, ac mae'n ymddangos eu bod wedi gweithio dda yno. Wel, roedd y model technium yn canolbwyntio'n fawr iawn ar yr hyn a oedd yn digwydd yng Nghaliffornia, ond eto ni wnaeth drosglwyddo ar draws yr Iwerydd i Gymru. Felly, byddwn yn awyddus iawn i ddeall sut y mae'r adran, a chithau fel Gweinidog, yn gweithio i sicrhau bod y rhwydwaith clwstwr yn aros yn ffres ac yn aros yn fywiog. Ac yn bwysig, yn amlwg, ar agenda, radar—galwch e' beth bynnag y dymunwch chi—y defnyddwyr yw'r argyfwng newid yn yr hinsawdd sydd wedi'i ddatgan, a lleihau carbon. Ac rwy'n sylwi yn eich datganiad eich bod yn cyfeirio at hynny, a rhai o'r modelau arfer gorau, a'r buddsoddiad sydd wedi'i wneud ym Mhrifysgol Aberystwyth ar gyfer ymchwil. Byddwn i'n awyddus iawn i ddeall meddylfryd y Llywodraeth ar hyn, oherwydd, yn amlwg, rydym ni mewn etholiad cyffredinol ar hyn o bryd—rwyf wedi eich holi chi am hyn o'r blaen. Mae gan wahanol bleidiau gwleidyddol yr agenda hon er mwyn ceisio cywasgu'r agenda garbon niwtral honno i darged 2030, yn hytrach na tharged 2050 y mae'r pwyllgor ar y newid yn yr hinsawdd yn dweud yw'r unig opsiwn credadwy sydd ar gael ar hyn o bryd gyda'r technolegau sydd gennym. Pa mor ffyddiog ydych chi y bydd y lleihad mewn carbon a nodir yn eich cynllun chi eich hun fel Llywodraeth Cymru yn cyflawni nodau'r hyn y mae'r defnyddwyr eisiau eu gweld, sef byd carbon niwtral, sydd ag ôl troed amgylcheddol da, ac y gellir ei gyflawni heb achosi niwed hirdymor i'r diwydiant, ac y gall y diwydiant gyd-fynd â'r nodau yr ydych yn eu gosod? Oherwydd, mae'n ymwneud â gosod nodau y gellir eu cyflawni ac nad ydynt, yn y pen draw, yn achosi'r niwed economaidd y gallai, o bosibl, rhywfaint o fyrhau'r amserlen honno ei achosi pe byddai targed 2030 yn cael ei rhoi ar waith. Felly, pe bawn i'n gallu cael atebion ar y ddau gwestiwn hynny yr wyf wedi'u gofyn i chi, byddwn i'n ddiolchgar iawn, Gweinidog. Lesley Griffiths AC: Diolch, Andrew, am y gyfres o gwestiynau. Rwy'n credu eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn sef bod y defnyddwyr eisiau gwybod mwy am darddiad eu bwyd, ac, yn sicr, yn y tair blynedd a hanner y bûm yn y portffolio hwn, rwyf wedi gweld cynnydd aruthrol yn nifer y bobl sy'n mynd i wyliau bwyd, neuaddau bwyd yn ein sioeau amaethyddol, a gallwch chi weld eu bod nhw'n awyddus iawn i brynu'r cynnyrch o Gymru. Ac rydych chi'n gweld hynny hefyd yn yr archfarchnadoedd, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod gan archfarchnadoedd y cynnig hwnnw o gynnyrch o Gymru. Ac, unwaith eto, mae'n rhywbeth yr wyf i wedi fy nghalonogi'n fawr yn ei gylch yn ein lolfa fusnes yn Sioe Frenhinol Cymru, lle mae llawer iawn o fusnes yn cael ei wneud. Rwy'n credu ein bod wedi cyfarfod—cyfarfu swyddogion â rhai, a chyfarfûm innau â rhai ohonyn nhw—tua 90 y cant o'r rhwydwaith archfarchnad gyfan, gan nad oes gwell gair. Cyfarfuom â chynrychiolwyr yr archfarchnadoedd hynny i sicrhau bod eu defnyddwyr, a phobl ar hyd a lled Cymru, a'r DU, yn gallu prynu cynnyrch o Gymru os ydyn nhw'n dymuno gwneud hynny. Rydych chi'n sôn am y rhwydwaith clwstwr, ac mae'n debyg mai dyma'r unig enghraifft, rwy'n credu, sydd gennym o'r polisi clwstwr hwn yn Llywodraeth Cymru. Ac roeddwn yn ffodus iawn i fynd allan i Gatalonia a Gwlad y Basg, tua 18 mis yn ôl, i edrych ar eu rhwydwaith clwstwr nhw—y rhwydwaith clwstwr bwyd yn arbennig. Ond mae gan y ddwy wlad hynny, yn enwedig Catalonia, bolisi clwstwr ers blynyddoedd lawer—rwy'n credu ei fod tua 30 mlynedd. Felly, mae ganddyn nhw glwstwr ar gyfer plant, er enghraifft, a gall pob sefydliad a chwmni dalu i mewn i'r clwstwr hwnnw os ydyn nhw'n gwneud dodrefn i blant, os ydyn nhw'n gwneud dillad plant. Felly, nid yw'n ymwneud ag un math o fwyd yn unig, a dyna yr ydym ni wedi'i wneud yn y fan yma—fe wnaethoch chi sôn am fwydydd da, mae gennym ni'r clwstwr diodydd—felly mae'n ymwneud ag amrywiaeth o sefydliadau yn dod at ei gilydd, a chefnogi ei gilydd. A'r un peth yr wyf i'n ei hoffi'n fawr am y polisi clwstwr—fe wnaethoch chi sôn am y clwstwr mêl, ac, fel y dywedais, dyma'r un mwyaf diweddar sydd gennym. Ac i eistedd o amgylch y bwrdd—rwyf wedi bod yn ffodus i gwrdd â nhw ychydig o weithiau—maen nhw'n gystadleuwyr, ond maen nhw'n wirioneddol hapus i rannu'r arfer gorau hwnnw y gwnaethoch chi gyfeirio ato. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn ei gadw'n ffres, ac rwy'n tybio mai'r ffordd yr ydym yn ei gadw'n ffres yw drwy sicrhau ein bod yn cyflwyno rhwydweithiau clwstwr newydd, ond mae'n cael ei arwain gan gymheiriaid, llawer ohono, hefyd. Ac yn sicr, rwy'n credu mai'r rhaglen allforio sydd gennym, lle mae pobl yn cefnogi eich gilydd—. Felly, rwy'n gwybod yn fy etholaeth i fy hun bod gen i Wrexham Lager, ac mae'r Rheolwr Gyfarwyddwr yno yn awyddus iawn i gefnogi cwmnïau newydd eraill sy'n ceisio allforio. Rwy'n gwybod bod cwmni yn etholaeth Jeremy Miles yng Nghastell-nedd yr ymwelais ag ef gydag ef, felly maen nhw wedi cyfeillio â'i gilydd, ac maen nhw yn eu tro, wedyn, yn cefnogi gwyliau bwyd ei gilydd, er enghraifft. Felly, rwy'n credu eu bod nhw'n ei gadw'n ffres eu hunain drwy sicrhau eu bod yn cefnogi ei gilydd. O ran yr argyfwng hinsawdd, rwy'n gwybod eich bod wedi gofyn ychydig o weithiau am wahanol dargedau. Byddwch yn ymwybodol bod ein targed ni ar gyfer 2050, a'i fod ar hyn o bryd yn ostyngiad o 95 y cant mewn allyriadau. Rwy'n mynd i Gynhadledd y Pleidiau y penwythnos hwn, lle bydd yn dda clywed am arfer gorau o wledydd eraill. Mae Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd, sef ein corff cynghori ac sy'n rhoi cyngor imi, wedi dweud y dylai ein targed fod yn 95 y cant. Rwyf wedi gofyn iddyn nhw fynd yn ôl i weld a allwn ni gyflawni 100 y cant. Maen nhw'n dargedau uchelgeisiol iawn, fel y dywedwch chi, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn nad ydym ni dim ond yn mynd â chwmnïau gyda ni, ond ein bod hefyd yn mynd â'r cyhoedd gyda ni. Ac rwy'n credu bod pobl yn cydnabod na allwn ni barhau i wneud pethau yn y ffordd y buom ni yn eu gwneud. Mae'n rhaid i ni wneud pethau gwahanol. Fe wnaethoch chi holi am y cynllun datblygu gwledig, ac mae'n gyfle da i sôn am Arloesi Bwyd Cymru a Phrosiect Helix. Mae gennym ni dair canolfan ragoriaeth Arloesi Bwyd Cymru, yr wyf yn siŵr bod yr Aelod yn ymwybodol ohonynt, ZERO2FIVE ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, un yn Horeb yng Ngheredigion a'r ganolfan technoleg bwyd yn Llangefni. Mae gennym ni Brosiect Helix hefyd. Mae hwnnw bellach yn cael ei ddarparu o dan frand Arloesi Bwyd Cymru, a chefnogir hwnnw gan £21.2 miliwn o gyllid cynllun datblygu gwledig. Unwaith eto, bydd yn casglu gwybodaeth am gynhyrchu bwyd, am dueddiadau, am wastraff, sy'n bwysig iawn ac a godwyd gennych chi, o bob cwr o'r byd, a byddan nhw wedyn yn trosglwyddo'r wybodaeth honno i'n proseswyr, ein cynhyrchwyr a'n gweithgynhyrchwyr bwyd. Ac mae disgwyl iddo gynhyrchu dros £100 miliwn ar gyfer economi Cymru, a chreu a diogelu miloedd o swyddi. Rwy'n gwybod bod y data cyntaf a dderbyniais yn dangos ein bod ar y trywydd iawn i wneud hynny. Llyr Gruffydd AC: Diolch i chi, Weinidog, am eich datganiad. Dwi ddim yn meddwl ein bod ni wedi cael unrhyw gyhoeddiad arwyddocaol yn y datganiad, ond yn amlwg mae e'n ddiweddariad defnyddiol o'r hyn sydd yn digwydd. Dwi yn credu bod dod â gwahanol fudd-ddeiliaid ynghyd drwy'r gadwyn gyflenwi fesul sector yn amlwg yn mynd i ddod â buddiannau, i adeiladu ar gryfderau, rhannu profiadau, a chreu rhyw fath o critical mass, gobeithio, sydd yn mynd i weld y cynnydd yn y sectorau hynny rŷn ni gyd yn awyddus i'w weld. Mae gen i gwpwl o sylwadau, wrth gwrs, fel y byddech chi yn ei ddychmygu. Yn bennaf, dwi'n pigo fyny o'r ddwy sector, o'r sector fwyd a hefyd o'r sector amaethyddol, fod yna ddiffyg cyswllt, fod yna disconnect rhwng eich dogfennau ymgynghori diweddar chi ar ddatblygu'r sector bwyd a diod yng Nghymru a 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir'. Yr awgrym yw y dylai'r ddwy ddogfen hynny wneud mwy i gael eu datblygu law yn llaw, neu hyd yn oed i fod yn un strategaeth integredig. Felly, fy nghwestiwn cyntafi ofyn i chi yw a oes yna berygl bod gwendid sylfaenol yn hynny o beth, hynny yw bod yna ddwy broses wahanol, dau ymgynghoriad, dwy ddogfen, i feysydd a ddylai fod yn mynd law yn llaw? Efallai y gallwch chi roi eich ymateb chi i hynny. Rŷch chi'n sôn yn eich datganiad am dyfu cyrhaeddiad ac enw da'r sector fwyd a diod, y reach and renown yma. Wrth gwrs, mae brandio Cymreig yn ganolog i'r enw da a'r cyrhaeddiad hynny, boed yn y farchnad ddomestig neu, wrth gwrs, yng nghyd-destun nifer o'r marchnadoedd rhyngwladol ryn ni'n cael mynediad iddyn nhw. Sut felly ydych chi'n sicrhau fod brandio bwyd a diod Cymru yn cael ei gryfhau ac nid yn cael ei danseilio gan ymgyrchoedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig, er enghraifft yr ymgyrch 'mae bwyd yn GREAT Britain', sydd ddim yn gweithio yn Gymraeg o gwbl? Mae yna berygl i'r brand hwnnw lastwreiddio y brand Cymreig a'r gwerthoedd mae'r ddraig goch yn eu cynrychioli ar ein cynnyrch ni. Rŷch chi'n sôn am heriau, wrth gwrs, yn enwedig Brexit a'r angen inni sicrhau bod y sector yn fwy cydnerth a chynaliadwy. A wnewch chi felly esbonio sut y byddwch chi'n cynorthwyo'r sector fwyd a diod yn wyneb y posibilrwydd o golli rhai o'n marchnadoedd rhyngwladol ni, a hefyd colli marchnadoedd ar yr un llaw, ond hefyd gweld mewnforion rhad yn llifo i mewn i'r farchnad ddomestig ar y llaw arall, a sut bo hynny yn risg, wrth gwrs, i fod yn ras i'r gwaelod? Rŷch chi'n cyfeirio at sut mae'r clwstwr impact uchel yn gwneud gwaith ar wastraff pecynnu. Mae hynny, wrth gwrs, i'w groesawu, ond tra eu bod nhw, wrth gwrs, yn gallu gwneud eu rhan, mae yna lawer mwy y gall Lywodraeth Cymru ei wneud, a dwi eisiau gwybod pryd y gwelwn ni'r Llywodraeth o'r diwedd yn dod i benderfyniad ar bethau megis cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr, yr extended producer responsibility, er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn. Dwi'n gwybod bod ymgynghori wedi bod, mae yna drafod wedi bod—wel, mae'r amser wedi dod nawr inni weld gweithredu, does bosib. Yn olaf, allwch chi sôn wrthyf i beth yn fwy rŷch chi'n credu y gallwch chi ei wneud o safbwynt caffael cyhoeddus, oherwydd mae hwn yn un mater dwi ddim yn teimlo bod y Llywodraeth wedi llwyddo i'w ddatrys, nag i fynd i'r afael ag ef yn ddigonol? Mae yna'n dal ormod o gytundebau bwyd a diod sector gyhoeddus yn mynd allan o Gymru. Esboniwch inni sut ŷch chi'n gweld rôl y clystyrau yma ac unrhyw ddulliau eraill sydd gennych chi, yn benodol o safbwynt y sector fwyd a diod, i wella hynny, oherwydd rŷn ni'n gwybod bod pob 1 y cant rŷn ni'n llwyddo i'w gynnal yng Nghymru yn golygu tua 2,000 o swyddi, a hynny oll, wrth gwrs, heb wario rhagor o arian—dim ond gwario'r arian rŷn ni'n ei wario yn barod yn llawer mwy effeithiol. Lesley Griffiths AC: Diolch, Llyr, am y gyfres yna o sylwadau a chwestiynau. Lansiwyd yr ymgynghoriad ar ein cynlluniau ar gyfer y bwrdd diwydiant bwyd a diod yn y dyfodol yn Sioe Frenhinol Cymru. Soniodd rhai pobl efallai y dylai'r ddau ymgynghoriad fod wedi'u cysylltu â'i gilydd; roeddwn i'n credu ei bod yn bwysig iawn eu bod ar wahân, ond yn amlwg mae yna orgyffwrdd. Yn amlwg, bydd yr ymgynghoriad ar fwyd a diod a'r cynllun gweithredu nesaf yn adeiladu ar y cynllun gweithredu presennol, sy'n dod i ben yn 2020. Yn sicr, rwy'n credu y byddwn ni wedi cyflawni'r targed uchelgeisiol iawn o £6 biliwn, i'w gyrraedd erbyn 2020—ac roeddwn i'n credu ei fod yn uchelgeisiol iawn ar y pryd—erbyn diwedd y flwyddyn hon, mae'n debyg; yn sicr, rwy'n credu ein bod yn agos iawn, iawn ato ddiwedd y llynedd. Felly, er fy mod i'n llwyr werthfawrogi'r bwyd-amaeth—ac rydym ni'n defnyddio'r frawddeg honno cryn dipyn, onid ydym ni, 'bwyd-amaeth'—mae'n wirioneddol bwysig bod gennych chi'r gorgyffwrdd hwnnw. Roeddwn i'n credu mai dyna oedd y peth iawn, eu bod ar wahân, ac rwy'n sicr yn credu, yn y trafodaethau yr wyf i wedi'u cael yn gyffredinol, bod hynny wedi'i dderbyn. Ond mae'n bwysig, pan fyddwn ni'n edrych ar ganfyddiadau cyffredinol y ddau, ein bod yn sicrhau bod y gorgyffwrdd hwnnw'n parhau. Mae brandio Cymreig yn bwysig iawn i mi. Rwy'n benderfynol na chawn ni ein tanseilio gan frandio 'Food is GREAT' Llywodraeth y DU. Mae'n debyg eich bod chi'n cyfeirio at yr hyn a ddigwyddodd y llynedd yn Sioe Frenhinol Cymru. Ni ddigwyddodd hyn eleni, a hynny am fy mod i'n glir iawn mai ein ffenest siop ni yw'r neuadd fwyd, a doeddwn i ddim eisiau 'Food is GREAT'. Fodd bynnag, mae'n wir bod rhai cwmnïau o Gymru eisiau bod yn rhan o 'Food is GREAT', ac mae hynny'n gwbl briodol iddyn nhw, ond rwy'n credu po fwyaf y bydd brand bwyd cynaliadwy o'r fath yn dod i feddyliau pobl—mae'n amlwg bod draig Cymru yn bwynt gwerthu enfawr i'n cynhyrchwyr bwyd. Felly, rwy'n hapus iawn i barhau i sicrhau bod y ffenest siop honno yn parhau i fod ar gyfer cynnyrch o Gymru yn unig, ond, wrth gwrs, rwy'n parchu dewis pobl sydd o bosibl eisiau bod yn rhan o rywbeth arall. O ran cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr, fel y gwnaethoch chi ei grybwyll, rydym ni wedi bod yn ymgynghori. Mae fy nghydweithiwr, Hannah Blythyn, yn gwneud hynny bellach, a byddaf yn sicrhau ei bod yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf. Fe wnaethom ni gynnal ymgynghoriad, ac yn amlwg, mae'n briodol bod yn rhaid i gynhyrchwyr ystyried eu rhan nhw wrth leihau pecynnu bwyd. O ran Brexit a'r heriau a masnach yn y dyfodol, rydym ni'n gwybod bod aelodaeth o'r UE yn rhoi mynediad heb gyfyngiad i gynhyrchwyr bwyd a diod Cymru at 0.5 biliwn o bobl. I mi, nid oes dim a all gymharu â hynny, felly er bod ganddyn nhw, ar hyn o bryd, ryddid rhag tariffau gwahaniaethol—mae gennym ni rwystrau nad ydyn nhw'n ymwneud â thariffau ac felly mae ein cynhyrchwyr yn gallu allforio i wledydd yr UE yn rhwydd iawn. Rydym ni'n gwybod bod 90 y cant o allforion cig oen a chig eidion Cymru yn mynd i wledydd eraill yn yr UE, felly gall Brexit, i mi, dim ond golygu y bydd allforion yn ddrutach os ydyn nhw'n agored i dariffau a rhwystrau nad ydyn nhw'n ymwneud â thariffau. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU, yn amlwg, i wneud yn siŵr eu bod yn gwybod beth yw ein barn. Rydym ni'n gwybod bod yn rhaid i ni gefnogi ein sector cig coch yn benodol, ac rydym ni wedi bod yn gwneud hynny dros y tair blynedd diwethaf. Byddwch chi'n ymwybodol fy mod wedi rhoi arian ar gyfer meincnodi cig coch i sicrhau bod ein ffermwyr yn fwy cystadleuol. Unwaith eto, mae rhyddid pobl i symud yn mynd i gael effaith ar ein cynhyrchwyr bwyd. Roeddwn i'n edrych ar ffigurau ynghylch faint o bobl—o blith y 217,000 o bobl hynny y soniais amdanyn nhw ar draws y gadwyn gyfan, faint ohonyn nhw sy'n wladolion yr UE, ac rwy'n credu ei fod dros 30 y cant. Felly, gallwch chi weld bod hynny hefyd yn mynd i wneud gwahaniaeth enfawr i'n cynhyrchwyr bwyd. Felly, heriau enfawr yn ymwneud â Brexit, a byddwn ni'n parhau i weithio'n agos iawn gyda'r sector. Jenny Rathbone AC: Wrth fynd ar drywydd y ddau gyfraniad blaenorol, a oedd yn cwmpasu rhywfaint o'r hyn yr oeddwn i yn mynd i'w godi, nid wyf i'n rhannu'n llwyr hyder Andrew R.T. Davies fod pobl yn barod i roi eu harian ar eu gair. Oherwydd, yn anffodus, mae llawer o bobl yn gorfod prynu ar sail pris ac mae llawer o bobl, hyd yn oed os nad ydyn nhw'n cael eu gorfodi i wneud hynny, maen nhw yn y bôn yn prynu ar sail pris. Ac yn aml mae'r hyn sy'n ymddangos yn rhatach mewn gwirionedd yn ddrutach, gan fod bwyd wedi'i brosesu yn llawn siwgr, halen a braster dirlawn, ac, yn anffodus, rwy'n arswydo o glywed nad yw rhywbeth fel dwy ran o dair o'r holl bobl, ledled y DU, byth yn bwyta bwyd wedi'i baratoi'n ffres. Felly, rydym ni'n wynebu heriau iechyd cyhoeddus eithaf mawr yn hynny o beth. Ond rydych chi eisoes wedi sôn am yr argyfwng dirfodol yn sgil Brexit, sydd wedi'i ohirio am nawr, ond nid yw'r bygythiad o orfod ymadael yn drychinebus â'n prif farchnad allforio a mewnforio bwyd wedi diflannu—mae wedi'i ohirio am flwyddyn yn unig. Ac felly, yn union fel y mae'r Llywodraeth sy'n ymadael—Llywodraeth y DU—yn hapus i agor gwasanaeth caffael cyffuriau y GIG i gwmnïau fferyllol mawr yr Unol Daleithiau, rwy'n ofni hefyd nad oes ganddyn nhw unrhyw amheuon ynghylch aberthu safonau bwyd ar allor cytundebau masnach rydd, fel y'u gelwir. Felly, gallai hynny olygu buddiannau ffermio o'r Unol Daleithiau, y mae cwmnïau prosesu bwyd rhyngwladol yn tra-arglwyddiaethu arnyn nhw, nad ydyn nhw'n poeni dim am y niwed amgylcheddol y maen nhw'n ei achosi i'n priddoedd, ein moroedd a'n haer, gan sathru ar fuddiannau ffermio Cymru. Felly, mae gennym ni rai heriau eithaf sylweddol o'n blaenau. Hoffwn ddathlu'r pethau yr ydych chi wedi'u hamlinellu eisoes yn eich datganiad. Fe wnaethoch chi sôn am chwech o'r wyth clwstwr bwyd a diod, ac rwy'n credu bod clwstwr garddwriaeth hefyd, ac ni fyddwch yn synnu o fy nghlywed yn eich holi am hyn, oherwydd rwy'n credu mai dyma un o'r pethau pwysicaf i bob un ohonom. Mae dros 60 o gynhyrchwyr llysiau masnachol ar gronfa ddata Tyfu Cymru. Pa gynnydd allwch chi ddweud wrthym ni amdano am eu gallu i wneud Cymru'n gynhyrchydd mwy cynaliadwy o'n llysiau a'n ffrwythau ein hunain, ac yn llai agored, felly, i ymadawiad trychinebus o'r UE ddiwedd y flwyddyn nesaf? Rwy'n sylwi hefyd y bydd cyfarfod yfory o enillwyr cronfa her yr economi sylfaenol yn Llanelwedd, y mae Lee Waters yn mynd iddo, yn ôl pob tebyg. Mae gennyf i ddiddordeb mawr mewn gwybod pa gynlluniau sydd ar y gweill i ymestyn uchelgais bwrdd gwasanaethau cyhoeddus Sir Gaerfyrddin i gaffael mwy o fwyd sector cyhoeddus yn nes at adref o fusnesau lleol, a sut ydych chi'n credu y gallai arferion da gael eu lledaenu i'r holl fyrddau gwasanaethau cyhoeddus eraill. Rwy'n nodi yn arbennig y bu'r Athro Sonnino o adran ddaearyddiaeth Prifysgol Caerdydd yn annerch sefydliad bwyd ac amaeth y Cenhedloedd Unedig ddoe a'i fod wedi tynnu sylw at bwysigrwydd rhwydweithiau bwyd trefol lleol ar gyfer mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd a datgarboneiddio ein rhwydweithiau bwyd. Lesley Griffiths AC: Diolch, Jenny. Rwy'n meddwl mai'r pwynt yr oedd Andrew R.T. Davies yn ei wneud ac yn sicr y byddwn i'n cytuno ag ef yw—ac rwyf wedi ei weld fy hun dros y tair blynedd diwethaf—bod pobl—yn enwedig mewn archfarchnadoedd, rwy'n credu, rwyf wedi ei weld—yn chwilio am fwyd a diod o Gymru ac yn mynnu bod ein harchfarchnadoedd yn ei stocio, yn amlwg, er mwyn iddyn nhw allu dewis gwneud hynny. Bydd fy mam fy hun yn chwilio am gaws o Gymru. Ni fydd hi'n prynu unrhyw gaws arall ar wahân i gaws o Gymru, ac, yn amlwg, mae llawer o fathau o gaws o Gymru. Ond rwy'n credu ei fod yn dda iawn; anaml y byddwch chi'n mynd i archfarchnad yng Nghymru bellach ac nad ydych chi'n gweld caws o Gymru'n cael ei arddangos. Rwy'n credu bod y ffigur a gawsoch chi—nad yw dwy ran o dair o bobl ledled y DU yn bwyta bwyd ffres—yn amlwg, mae effaith bwyd ar iechyd y cyhoedd yn cael ei gydnabod yn dda iawn, ac rwy'n credu bod gan y diwydiant bwyd ran bwysig o ran dylanwadu ar yr hyn y mae pobl yn ei ddewis i fwyta ac yfed. Fe wnaethoch chi sôn am y clwstwr garddwriaeth. Yn wir, mae yna glwstwr garddwriaeth. Fel y gwyddoch chi, nid yw'n farchnad enfawr yng Nghymru, ond rwy'n credu mai un o'r cyfleoedd o 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir', wrth fwrw ymlaen, yw gweld cynnydd yn nifer y garddwriaethwyr. Rwyf wedi ymweld ag o leiaf dau dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, lle maent yn awyddus iawn i sicrhau eu bod yn ymestyn eu cynnig. Nid wyf yn ymwybodol o'r digwyddiad y gwnaethoch chi nodi bod y Dirprwy Weinidog Lee Waters yn mynd iddo yfory, ond mae ef newydd gerdded i mewn i'r Siambr, a byddwn i'n hapus iawn i gael trafodaeth, os bydd yn mynd i'r digwyddiad hwnnw yfory, rwy'n cymryd, ar faes y Sioe Frenhinol. Rydych chi yn llygad eich lle ynglŷn â phryderon, ar ôl Brexit, o ran pa gytundebau masnach rydd y mae Llywodraeth y DU yn eu gwneud, ac rwyf bob amser yn dweud, os yw UDA fwy na thebyg ar frig eu rhestr, ni fyddai ar frig fy rhestr i, yn sicr. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cael y trafodaethau hynny gyda Llywodraeth y DU, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog sy'n gyfrifol am fasnach yn sicrhau eu bod o gwmpas y bwrdd ar gyfer unrhyw drafodaethau. Ond, yn amlwg, cynnal ein safonau uchel iawn yn y ffordd y cynhyrchir ein bwyd a diod—rydym ni eisiau cynnal y safonau hynny ac nid ydym ni eisiau i'r farchnad gael ei boddi gan fwyd rhad, oherwydd, fel yr ydych chi'n dweud, i lawer o bobl, mae pris yn sicr o fod yn rhywbeth y bydd yn rhaid iddyn nhw edrych arno pan fydden nhw'n prynu eu bwyd. Felly, mae'n ymwneud â chefnogi pobl i wneud yn siŵr eu bod nhw'n gallu gwneud dewisiadau iach, a hefyd rhoi cyngor a gwybodaeth a chymorth. Ac, yn amlwg, mae hynny'n rhan o'r cynnig bwyd a diod sydd gennym ni. Diolch yn fawr iawn, Gweinidog, ac mae hynny'n dod â thrafodion heddiw i ben. Diolch. Daeth y cyfarfod i ben am 17:52. QNR Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru Huw Irranca-Davies: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gryfhau a datblygu partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru? Mark Drakeford: In July, I announced plans to bring forward a social partnership Bill to strengthen social partnership arrangements in Wales.A White Paper consulting on our proposals was published on 7 November. Russell George: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am Fynediad at Fand Eang y Genhedlaeth Nesaf: adolygiad o'r farchnad agored 2019? Mark Drakeford: The public consultation on the open market review began on 12 November and will run until 12 December. The initial request for information from the industry identified 96,000 premises without access to superfast broadband. Suzy Davies: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad yn dilyn cyhoeddiad Tata Steel Europe bod y cwmni yn disgwyl torri 1,000 o swyddi o'u gweithrediadau yn y DU? Mark Drakeford: The announcement on 27 November of 1,000 job losses in UK is extremely disappointing news and it is a worrying time for workers in Tata Steel’s sites across Wales and their families.
uk-hansard-senedd-cy
senedd2019-12-03
2024-06-01T00:00:00
{ "year": "2019", "language": "cy", "license": "Open Parliament Licence - https://www.parliament.uk/site-information/copyright-parliament/open-parliament-licence/" }
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog Y Llywydd / The Llywydd: Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma eto fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Hefin David. Tomenni Glo Hefin David AC: 1. Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i adfer tomenni glo yn ddiogel yng Nghaerffili? OQ60191 Mark Drakeford AC: Wel, diolch i Hefin David am y cwestiwn, Llywydd. Rydyn ni’n rhoi rhaglen arolygu a chynnal a chadw ar waith ac yn moderneiddio’r fframwaith deddfwriaethol. Dyma sail ein rhaglen ar gyfer sicrhau diogelwch tomenni glo yng Nghaerffili a ledled Cymru. Hefin David AC: Diolch, Prif Weinidog. Yn fy etholaeth i, ceir tair tomen lo categori D sy'n eiddo i'r awdurdod lleol, sef Bedwas yn Nhretomas, glofa ganolog gogledd Bedwas a glofa gogledd Bedwas. Maen nhw wedi'u categoreiddio fel y risg uchaf. Nid oes unrhyw risg o berygl uniongyrchol ohonyn nhw, ond mae angen ei harchwilio yn rheolaidd, ac mae'r awdurdod lleol wedi fy sicrhau bod hynny'n digwydd. Fel y dywedais i, mae angen i mi bwysleisio nad oes unrhyw bryderon diogelwch uniongyrchol, ond mae swyddogion cyngor Caerffili wedi ffurfio rhan allweddol o'r grŵp technegol cynghori ar ddiogelwch tomenni glo dan arweiniad Llywodraeth Cymru, a sefydlwyd i gefnogi'r adolygiad o Ddeddf Mwyngloddiau a Chwareli (Tomenni) 1969, mewn partneriaeth â Chomisiwn y Gyfraith. Beth all deddfwriaeth arfaethedig Llywodraeth Cymru ei wneud i gynorthwyo awdurdodau lleol i gywiro ac adfer tomenni glo sydd mewn perygl? A hefyd, a yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried gweithio gyda chwmnïau preifat a allai roi mantais i'r sector cyhoeddus o ran adfer am gost lawer is? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, diolch i Hefin David am y pwyntiau pellach yna. Mae'n iawn, wrth gwrs, bod gan Gaerffili grynodiad penodol o domenni glo segur. Mae gennym ni 40 y cant o'r holl domenni glo segur yn y Deyrnas Unedig yma yng Nghymru—dros 2,500 ohonyn nhw—ac rydyn ni'n gwybod llawer iawn mwy amdanyn nhw o ganlyniad i waith y grwpiau y cyfeiriodd yr Aelod atyn nhw. Ac rwy'n ddiolchgar iawn am gymorth swyddogion cyngor Caerffili i'n helpu i baratoi ar gyfer y Bil diogelwch tomenni segur, a fydd yn dod gerbron y Senedd y flwyddyn nesaf. O ganlyniad i'r holl waith hwnnw, ceir rhaglen llawer mwy trylwyr o archwiliadau diogelwch tomenni erbyn hyn. Mae'r Awdurdod Glo wedi cynnal 92 o archwiliadau tomenni glo y gaeaf eisoes ers iddo ddechrau ei waith ar 9 Hydref, a bydd hynny yn cynnwys tomenni yn etholaeth Caerffili. Ceir dwy set wahanol o bethau, Llywydd, yr ydym ni'n eu gwneud. Bydd y Bil yn sefydlu system newydd sydd y gyntaf o'i math yn y byd o oruchwylio tomenni segur yma yng Nghymru, gan wneud y system yn addas ar gyfer cyfnod o newid yn yr hinsawdd. Ochr yn ochr â hynny, ac nid yn ddibynnol ar y Bil ei hun, rydym ni'n parhau i fuddsoddi £44.4 miliwn a ddarperir i awdurdodau lleol ar gyfer cynnal ac adfer tomenni glo yng Nghymru. Rydym ni'n canolbwyntio ar y bwlch sgiliau—mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni wedi ei ddysgu gan ein cydweithwyr awdurdod lleol, bod angen i chi adeiladu capasiti awdurdodau lleol ar gyfer archwilio ac adfer y tomenni glo hynny—ac rydym ni'n defnyddio technoleg newydd ar gyfer monitro ac archwilio'r 70 tomen â'r sgoriau uchaf yng Nghymru. Bydd hynny yn gwneud yn siŵr ein bod ni'n gallu manteisio yn y dyfodol ar y posibiliadau technolegol newydd hynny a fydd yn helpu i gadw cymunedau'n ddiogel. O ran cyfranogiad cwmnïau sector preifat yn y gwaith o adfer tomenni, nid oes gennym ni unrhyw wrthwynebiad, wrth gwrs, i hynny. Byddai'n rhaid iddyn nhw ddilyn yr un prosesau ag unrhyw sefydliad arall sy'n ceisio gwneud gwaith adfer, ac mae hynny fel rheol yn golygu cais cynllunio i'r awdurdod lleol, i wneud yn siŵr y bydd pa bynnag waith sydd wedi'i gynllunio yn cyfrannu'n wirioneddol at wella'r ardal, oherwydd mae adfer tomenni yn dod â chyfleoedd economaidd yn ogystal â chyfleoedd amgylcheddol yn ei sgil, ac mae'r system ar waith i wneud yn siŵr y gellir casglu'r manteision hynny ar gyfer cymunedau lleol. Natasha Asghar AS: Prif Weinidog, diolch yn fawr iawn am yr ateb yna. Roeddwn i'n gwrando'n astud iawn ar yr hyn yr oeddech chi'n ei ddweud wrth yr Aelod. Mae'n amlwg eich bod chi wedi darllen fy meddwl, gan fy mod i'n mynd i ddechrau drwy ddweud bod bron i 2,500 o domenni glo ledled Cymru, ac rwy'n siŵr y gallwn ni i gyd gofio'r digwyddiadau gwirioneddol ysgytwol yn Tylorstown yn ystod storm Dennis. Ers hynny, mae cymunedau ar hyd a lled y wlad sy'n byw ger tomenni glo wedi bod yn byw mewn ofn. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn miliynau o bunnoedd gan Lywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r nifer fawr o domenni glo segur sydd gennym ni, ac eto rydym ni'n dal i aros i gamau cadarn gael eu cymryd, er gwaethaf i adolygiad o ddeddfwriaeth tomenni glo segur gychwyn dair blynedd yn ôl. Prif Weinidog, gyda'r gaeaf ar y gorwel, mae'r ymdeimlad o ofn a phryder mewn cymunedau yn mynd i gael ei ddwysáu'n fawr, felly pryd allwn ni ddisgwyl gweld Llywodraeth Cymru yn gweithredu o'r diwedd a chyflwyno deddfwriaeth diogelwch tomenni glo yma yn Senedd Cymru? Mark Drakeford AC: Llywydd, bydd y ddeddfwriaeth honno yn dod gerbron y Senedd y flwyddyn nesaf. Bydd yn mynd yn ehangach na diogelwch tomenni glo gan y bydd yn edrych ar y nifer o fathau eraill o domenni segur sydd, yn anffodus, yn nodweddiadol o gyfranogiad Cymru yn y chwyldro diwydiannol, ac, yn achos mwyngloddiau metel, yn mynd yn ôl ganrifoedd lawer cyn hynny hefyd. Nid yw Llywodraeth Cymru, Llywydd, wedi derbyn miliynau o bunnoedd gan Lywodraeth y DU i'w hadfer—dim o'r fath. Mewn gwirionedd, rydym ni'n dal i fod mewn trafodaethau â Llywodraeth y DU ynghylch y cyfraniad yr ydym ni'n ei gredu a ddylai ddod i Gymru yn briodol ar gyfer yr hyn sy'n ddiwydiant etifeddiaeth. Mae'r anawsterau y mae'n rhaid i ni eu hunioni yn rhagflaenu datganoli o bell, ac mae'r datganiad polisi ariannu, rwy'n credu, yn eglur, pan fydd rhwymedigaethau yn codi ar ôl datganoli sydd wedi'u gwreiddio mewn amgylchiadau cyn datganoli, bod Llywodraeth y DU yn dal i fod â chyfrifoldeb i gyfrannu at ariannu'r rhwymedigaethau hynny. Rydyn ni wedi gwneud dim—dim—cynnydd o gwbl gyda Llywodraeth y DU gyda'r ddadl honno hyd yma, ond rydym ni'n sicr yn parhau i'w gwneud. Delyth Jewell AC: Mae'r tomenni glo yn ein cymoedd yn rhywbeth gweledol sy'n ein hatgoffa bob dydd o sut rydyn ni wedi cael ein hecsbloetio, sut y gwnaeth ein cymunedau yn aml dalu pris marwol ar gyfer glo, ac, er i'r cyfoeth gael ei gludo'n syth allan o'r glannau hyn, cafodd y baw a'r budreddi eu gadael ar ochrau ein bryniau i staenio ein gorwelion. Ond maen nhw hefyd yn gallu cael eu gweld gan bobl, ac mae'r niwed seicolegol o boeni am domenni yn llithro mewn glaw trwm yn pwyso'n drwm ar lawer o bobl. Prif Weinidog, nid yw llawer o domenni yn peri unrhyw risg o lithro a dim ond dolur llygad ydyn nhw, ond fy mhrif bryder yw y tomenni sydd wir mewn perygl o ddymchwel hyd yn oed yn rhannol. Nawr, rwy'n gwybod ein bod ni'n disgwyl datganiad yr wythnos nesaf a fydd, hyderaf, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ba waith sydd eisoes ar y gweill i gatalogio a dadansoddi unrhyw risg sy'n cael ei pheri gan domenni yn llithro. Mae hynny'n hanfodol bwysig, ac mae cost iddo. A allwch chi ddweud wrthyf i, os gwelwch yn dda, pa gam y mae eich Llywodraeth wedi ei gyrraedd mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â nhw'n talu tuag at unioni'r cam hwn a wnaed, fel y dywedwch chi, ddegawdau cyn dechrau datganoli? Mae'r tomenni glo hyn yn etifeddiaeth o esgeulustod a dirmyg Llywodraethau San Steffan i'n cymoedd. Mae'n rhaid iddyn nhw dalu i'w clirio. Mark Drakeford AC: Wel, rwy'n sicr yn cytuno â Delyth Jewell, Llywydd, bod hanes Cymru yn un o ecsbloetio ein hadnoddau naturiol, lle nid yn unig yr echdynnwyd glo ond echdynnwyd cyfoeth ac fe'i cymerwyd ymhell y tu hwnt i lannau Cymru, gan adael y cymunedau a gynhyrchodd y cyfoeth hwnnw ar ôl i ymdopi â'r canlyniadau. Dyna pam mae'r Aelod yn llygad ei lle, Llywydd, bod rhwymedigaeth ar Lywodraeth y DU i gynorthwyo i unioni camau'r gorffennol. Nid ydym ni'n disgwyl iddyn nhw ei wneud ar eu pennau eu hunain; mae Llywodraeth Cymru eisoes, fel y dywedais i, yn sicrhau bod £44.4 miliwn ar gael at y dibenion hyn. Yr hyn yr ydym ni'n dymuno i'r Trysorlys ei gytuno yw rhaglen hirdymor, wedi'i hariannu dros ddegawd. Dydyn ni ddim yn disgwyl symiau enfawr o arian mewn unrhyw flwyddyn unigol, ond yn gronnol, dros ddegawd, gallem ni ddechrau gyda'r tomenni hynny lle mae'r risg fwyaf, ac yna gweithio ein ffordd yn raddol i lawr y rhestr honno—mae'r rhestr, fel y dywedais i, mewn cyflwr llawer iawn gwell nag yr oedd cyn digwyddiad Tylorstown, y cyfeiriodd Natasha Asghar ato—ac yna troi'r pethau hynny, sy'n taflu cysgod dros gymunedau heddiw ac yn creu ofn ym mywydau pobl sy'n byw'n gyfagos, yn bethau a all fod yn asedau iddyn nhw. Llifogydd Russell George AC: 2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwaith i liniaru llifogydd lleol yng nghanolbarth Cymru? OQ60194 Mark Drakeford AC: Diolch i Russell George, Llywydd, am hynna. Rydym ni wedi darparu dros £75 miliwn ar gyfer gweithgarwch rheoli perygl llifogydd ledled Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol hon, gyda £5.25 miliwn mewn refeniw a £12 miliwn o gyllid cyfalaf ar gael i bob awdurdod llifogydd lleol arweiniol, gan gynnwys y rhai yn y canolbarth. Russell George AC: Diolch, Prif Weinidog, am eich ateb. Wrth gwrs, un o'r ardaloedd arwyddocaol i helpu i liniaru llifogydd yn y canolbarth yw rheoli cronfeydd dŵr Clywedog ac Efyrnwy yn well. Ni fyddai'n datrys problemau yn gyfan gwbl, ond byddai'n gwneud hynny i raddau helaeth. Nawr, rwy'n gwybod bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn rhan o'r gwaith o ran edrych ar y posibilrwydd o wella Clywedog i fod â mwy o gapasiti yn ystod misoedd y gaeaf. Felly, ceir y mater hwnnw, a hefyd ceir y mater o archwilio'r amseroedd tynnu i lawr i ganiatáu i ddŵr gael ei dynnu i lawr i roi llai o gyfle wedyn o weld digwyddiadau llifogydd ledled y canolbarth. I mi, mae'n bwysig bod asiantaethau ar ddwy ochr y ffin yn cydweithio—Cyfoeth Naturiol Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd Lloegr, a hefyd Llywodraethau'r DU a Chymru hefyd, oherwydd bydd unrhyw waith sy'n cael ei wneud o fudd i ganolbarth Cymru a hefyd ardaloedd eraill i lawr yr afon yn Lloegr hefyd. Felly, rwy'n gobeithio, Prif Weinidog, y gallwch chi gadarnhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru a chithau yn gweithio gyda chymheiriaid dros y ffin a, lle ceir cyfle, wrth gwrs, am gyllid gan Asiantaeth yr Amgylchedd i helpu gwaith cydnerthedd yng nghanolbarth Cymru i helpu i liniaru llifogydd hefyd. Mark Drakeford AC: Wel, diolch i Russell George am hynna, ac rwy'n gwybod bod ganddo ddiddordeb hirsefydlog yn rheolaeth cronfeydd dŵr Clywedog ac Efyrnwy. Rwy'n gwybod ei fod wedi codi rhai o'r union bwyntiau y mae wedi eu codi heddiw yn ôl yn ystod y llifogydd yn 2020. Felly, gadewch i mi gymryd y ddau fater a gododd yn eu tro. Rwy'n dal i gredu bod problem yn ymwneud â thynnu dŵr o'r cronfeydd hynny, ac mae'n ddealladwy bod pobl ymhellach i lawr yn credu, ar adegau o lawiad uchel, os yw dŵr yn cael ei ollwng o'r argaeau, ei fod yn ychwanegu at berygl llifogydd yn y cymunedau hynny. Ac mae'n ymddangos i mi, gyda soffistigedigrwydd rhagolygon modern, y dylid gwneud mwy i baratoi ar gyfer digwyddiadau glawiad uchel. Dylid rhyddhau'r dŵr nid ar ôl y digwyddiad glawiad ond cyn iddo ddigwydd er mwyn creu'r capasiti ychwanegol hwnnw yng Nghlywedog ac yn Efyrnwy. Ac nid wyf i'n credu bod tystiolaeth ddigon da eto bod Asiantaeth yr Amgylchedd, sy'n gyfrifol am yr agwedd honno ar y cronfeydd dŵr yn y pen draw, yn gwneud digon i wneud yn siŵr bod pethau'n cael eu paratoi cyn tywydd garw yn hytrach nag ymateb i dywydd garw pan fydd yn digwydd. O ran gwella capasiti'r cronfeydd dŵr, darllenais o bryd i'w gilydd ddyfalu yn hytrach nag unrhyw beth mwy pendant am gynlluniau i godi lefel yr argae fel y gallai ddal mwy o ddŵr yn ddiogel. Yn gwbl sicr, byddwn i'n disgwyl i Cyfoeth Naturiol Cymru fod yn rhan o unrhyw drafodaethau o'r fath. Mae problemau. Rwy'n cofio Adam Price yn codi'r rhain gyda mi yn benodol am y cronfeydd dŵr hynny, am ble fyddai'r dŵr hwnnw yn mynd wedyn a sut y gallwn wneud yn siŵr bod buddiannau Cymru yn cael eu hamddiffyn yn briodol pe bai cynlluniau ar gyfer cynyddu capasiti'r cronfeydd dŵr ac i wneud defnydd o'r dŵr a gesglir ar gyfer cymunedau eraill y tu allan i Gymru. Nid oes gen i unrhyw anhawster gyda hynny, cyn belled ag y bo adnoddau Cymru yn cael eu cydnabod yn briodol ac, yn ôl yr angen, yn cael eu gwobrwyo. Jane Dodds AS: Prynhawn da, Prif Weinidog. Diolch i Russell George am godi'r mater hwn. Mae trigolion ar draws y canolbarth, gan gynnwys, i mi, drigolion yn Llanandras, yn Llanfechain, yn Abercraf, wedi codi pryderon ynghylch llifogydd yn eu hardaloedd, ac mae'n rhaid i ni i gyd gydnabod y rhan y mae'r argyfwng hinsawdd yn ei chwarae mewn llifogydd, a'n rhan, a dweud y gwir, yn anffodus yng nghyflymu hynny. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru a'u staff wedi gwneud gwaith anhygoel ar draws storm Babet a storm Ciarán o ran rheoli ac ymateb i argyfyngau. Ond, un o'r materion a godir gan Cyfoeth Naturiol Cymru yw eu hadnoddau. Rydym ni'n gwybod eu bod nhw tua 25 y cant yn is na'r hyn a fyddai'r lefel orau bosibl. Felly, meddwl oeddwn i tybed beth mae'r Prif Weinidog yn ei wneud er mwyn sicrhau bod gan Cyfoeth Naturiol Cymru a'u staff gwych yr adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw i reoli llifogydd, nid yn unig yn y canolbarth a'r gorllewin, ond ledled Cymru. Diolch yn fawr iawn. Mark Drakeford AC: A gaf i ddechrau drwy ddiolch i Jane Dodds am gydnabod yr ymdrechion rhyfeddol y mae staff Cyfoeth Naturiol Cymru yn eu gwneud, nid yn unig yn y stormydd diweddaraf, ond pryd bynnag y mae cymunedau mewn perygl. Dyma'r unigolion yr ydych chi'n eu gweld allan yna ar lawr gwlad yn clirio pethau, yn gwneud yn siŵr bod cwlfertau yn gweithio ac yn y blaen, ac roedden nhw'n gweithio'n galed dros ben yn ystod yr wythnos ddiwethaf, pan ddigwyddodd y stormydd diweddar hyn. Ac rwy'n diolch i Jane Dodds hefyd am gydnabod bod y buddsoddiad sydd wedi cael ei wneud drwy Cyfoeth Naturiol Cymru wedi atal llifogydd. Rydyn ni'n canolbwyntio, yn gwbl briodol, ar ble mae'r effeithiau gwaethaf yn cael eu teimlo—ac roedd effeithiau a deimlwyd ym Mhowys ac mewn rhannau eraill o Gymru yn y ddwy storm ddiweddar—ond mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn amcangyfrif na ddioddefodd dros 1,000 o eiddo lifogydd yn y stormydd hynny oherwydd y buddsoddiad y maen nhw wedi gallu ei wneud. Mae pob gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru yn teimlo effaith dros ddegawd o gyni cyllidol, gyda llai o arian i wneud yr holl bethau y mae angen i ni eu gwneud. Mae'r Gweinidog wedi gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i edrych ar eu cyllideb gyfan i wneud yn siŵr bod y buddsoddiadau yn cyd-fynd mor agos ag y gallan nhw â blaenoriaethau allweddol Llywodraeth Cymru a chymunedau Cymru, ac mae atal llifogydd—boed hynny'n atal llifogydd arfordirol neu'n atal llifogydd mewn afonydd—i fyny ar frig y rhestr o bethau yr ydym ni'n gwybod sy'n bwysig. Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau Y Llywydd / The Llywydd: Cwestiynau gan arweinwyr y pleidiau nawr. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies. Andrew R.T. Davies AC: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, rydym ni'n gwybod o ohebiaeth ddiweddar a welwyd mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig y bu'n ofynnol i wahanol Lywodraethau rannu negeseuon WhatsApp a negeseuon electronig eraill a ddefnyddiwyd i gyfleu deialog rhwng swyddogion a Gweinidogion yn ystod argyfwng COVID. Mae ymchwiliad COVID y DU wedi cyflwyno gorchymyn adran 21 i Lywodraeth yr Alban o dan Ddeddf Ymchwiliadau 2005. A yw Llywodraeth Cymru wedi cael gorchymyn tebyg, ac a yw Llywodraeth Cymru wedi darparu'r holl ohebiaeth electronig y gofynnwyd amdani gan yr ymchwiliad COVID ar lefel y DU? Mark Drakeford AC: Llywydd, nid ydym ni wedi derbyn gorchymyn o'r fath ar hyn o bryd, ond mae hynny oherwydd bod modiwl 2A, sef y modiwl a fydd yn canolbwyntio ar brofiad yr Alban, yn dod cyn modiwl 2B—profiad Cymru—a fydd yn cael ei archwilio gan yr ymchwiliad, rydym ni'n credu, ym mis Chwefror ac i mewn i fis Mawrth. Mae cyfarfod, rwy'n gwybod, wedi'i drefnu rhwng y bobl hynny sy'n gyfrifol am redeg yr ymchwiliad a swyddogion yma a fydd yn siŵr o drafod y mater o ba ddeunydd sydd wedi cael ei ddatgelu i'r ymchwiliad. Ond rwyf i eisiau gwneud yn siŵr bod cyd-Aelodau yma yn gwybod, Llywydd, fy mod i wedi gwneud penderfyniad cynnar, ynghyd â'm cyd-Weinidogion, y byddai Llywodraeth Cymru yn datgelu'r holl ddeunydd y mae ymchwiliad COVID y DU yn gofyn amdano, gan gynnwys negeseuon WhatsApp. Cymerais wahanol safbwynt i Swyddfa'r Cabinet, a oedd yn credu, fel y gwyddoch chi, mai mater iddyn nhw oedd penderfynu pa ddeunydd fyddai'n berthnasol i'r ymchwiliad. Fy marn i yw mai mater i'r ymchwiliad yw gwneud y dyfarniad hwnnw. Rydyn ni'n rhyddhau'r holl wybodaeth sydd gennym ni y mae'r ymchwiliad yn gofyn amdani, ac yna rydym ni'n dibynnu arnyn nhw i benderfynu, o'r deunydd helaeth hwnnw—na fydd y cwbl, rwy'n credu, yn berthnasol i'w hymholiadau, ond rwy'n credu ei bod hi'n well iddyn nhw wneud y dyfarniad hwnnw. Ac felly rydyn ni'n darparu popeth sydd gennym ni, rydym ni'n ei wneud ar gael iddyn nhw, maen nhw'n penderfynu sut y gallan nhw wneud defnydd da ohono. Andrew R.T. Davies AC: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Yn amlwg, fe wnaethoch chi dynnu sylw at yr wybodaeth sydd gennych chi; un o'r meysydd a ystyriwyd yw dileu negeseuon ar ddyfeisiau electronig—a rhoddwyd cyfarwyddyd gan wahanol Lywodraethau i wneud yn siŵr na fyddai hynny'n digwydd drwy gyfnod argyfwng COVID. A ydych chi'n hyderus na ddefnyddiwyd mecanweithiau neu apiau dileu gan Weinidogion y Llywodraeth yma yng Nghaerdydd na swyddogion, fel bod gwybodaeth yn cael ei chadw i roi eglurder a chyfanrwydd ynghylch y broses o wneud penderfyniadau a wnaed drwy'r negeseuon WhatsApp neu electronig ar ddyfeisiau a ddefnyddiwyd gan Weinidogion neu swyddogion Llywodraeth Cymru? Mark Drakeford AC: Gadewch i mi wneud tri phwynt os caf i, Llywydd. Yn gyntaf oll, ni wnaeth Llywodraeth Cymru ddibynnu ar ddulliau cyfathrebu anffurfiol er mwyn gwneud penderfyniadau yn ystod cyfnod COVID. Ni allaf feddwl am gyferbyniad cryfach rhwng y ffordd y cafodd busnes ei gyflawni y tu mewn i Lywodraeth Cymru ac o flaen y Senedd hon trwy gydol cyfnod COVID na'r hyn yr ydym ni wedi ei weld o flaen yr ymchwiliad yn ystod y dyddiau diwethaf. Yna hoffwn wneud y gwahaniaeth hwn: cyn gynted ag yr oeddem ni'n ymwybodol y byddai'r ymchwiliad yn dymuno i ddeunydd gael ei ddatgelu iddo, ni chyhoeddwyd cyfarwyddyd o unrhyw fath yn Llywodraeth Cymru y dylid dileu deunydd. Felly, cyn gynted ag yr oeddem ni'n gwybod bod yr ymchwiliad eisiau rhywbeth, nid oes unrhyw ddileu y tu hwnt i'r pwynt hwnnw. Fodd bynnag, yn ystod y cyfnod COVID ei hun, bydd llawer o gydweithwyr sy'n gweithio i Lywodraeth Cymru wedi meddu ar ddyfeisiau â chyfarwyddiadau dileu arnyn nhw eisoes, ac efallai fod y pethau hynny wedi aros ar eu ffonau, oherwydd ar y pryd nid oedd neb, rwy'n credu—neb o gwbl—yn canolbwyntio ar ba un a fyddai angen y negeseuon hynny ar ryw adeg bell yn y dyfodol. Felly, cyn gynted ag yr oeddem ni'n gwybod bod gan yr ymchwiliad ddiddordeb ynddo, dim dileu. Ni allaf addo bod pobl nad oedd gan eu ffonau, yn ystod cyfnod COVID, drefniadau dileu ynddyn nhw a oedd wedi'u gwneud ymhell cyn COVID ac a barhaodd yn union fel y bydden nhw wedi ei wneud fel arfer. Andrew R.T. Davies AC: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. A gaf i eglurhad, felly, ei bod hi'n rhesymol meddwl, hyd at adeg sefydlu'r ymchwiliad COVID, y byddai rhai negeseuon wedi cael eu dileu, a dim ond pan nododd yr ymchwiliad COVID y bydden nhw'n edrych ar negeseuon electronig, a oedd gryn amser i mewn i'r pandemig, y rhoddwyd y cyfarwyddyd neu'r trefniant gweithio hwnnw ar waith o fewn Llywodraeth Cymru, a'i bod hi'n deg dweud bod dileu negeseuon WhatsApp yn digwydd yn yr wythnosau a'r misoedd cynnar, oherwydd yn amlwg roedd dealltwriaeth efallai na fyddai'r wybodaeth honno yn berthnasol? Mark Drakeford AC: Rwy'n credu mai'r ffordd decach o'i ddweud yw y gallai dileu fod wedi digwydd. Rwy'n gwybod, yn fy achos i, ni fu gen i unrhyw drefniadau dileu ar y ffôn erioed, oherwydd ni fyddai gen i unrhyw syniad sut i wneud iddo ddigwydd. [Chwerthin.] Dydw i ddim yn defnyddio WhatsApp chwaith.FootnoteLink Yr hyn nad wyf i eisiau ei ddweud yw nad oedd rhai pobl a oedd yn gweithio yn Llywodraeth Cymru ac yn gweithio ar COVID nad oedd ganddyn nhw drefniadau a oedd eisoes yn bodoli a barhaodd ar ôl i COVID ddechrau. Ond, cyn gynted ag yr oeddem ni'n ymwybodol y byddai gan yr ymchwiliad ddiddordeb mewn deunydd o'r math hwnnw, a oedd wedi'i storio ar ffonau, nid oedd unrhyw gamau i'w ddileu unwaith yr oeddem ni'n gwybod y byddai'r ymchwiliad yn cymryd diddordeb ynddo. Gohebiaeth oddi wrth y Prif Weinidog Y Llywydd / The Llywydd: Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch, Llywydd. Mi fydd y Prif Weinidog, fel finnau, wedi bod yn edrych ymlaen, dwi'n siŵr, i weld beth oedd yn rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig heddiw, ac, fel finnau, wedi eu siomi. Rhun ap Iorwerth AC: Gwelsom yn San Steffan heddiw ymgais anobeithiol braidd i ailgynnau marwor olaf Llywodraeth Geidwadol y DU—gan ddefnyddio mwy o danwydd ffosil i wneud hynny, wrth gwrs. Gwelsom galedu ymrwymiad y Torïaid i wadu'r newid yn yr hinsawdd, ac anwybyddu Cymru yn llwyr ar adeg pan fo angen i ni weld mwy o degwch a mwy o uchelgais i'n cenedl. Byddai Plaid Cymru wedi blaenoriaethu pum Bil ar gyfer Araith y Brenin, pob un â'r bwriad o leddfu'r argyfwng costau byw a gosod y sylfeini ar gyfer dyfodol mwy llewyrchus: Bil ynni fforddiadwy i helpu pobl sy'n ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd; Bil cyllido teg, cael gwared ar fformiwla Barnett, atal mwy o ladradau trên HS2; Bil i drosglwyddo pwerau cyfiawnder, gan greu system sy'n gweithio i Gymru; Bil nawdd cymdeithasol i drawsnewid bywydau pobl yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig; a Bil i ddod ag Ystâd y Goron o dan reolaeth Cymru, gan greu cronfa gyfoeth newydd a swyddi mwy gwyrdd, sy'n talu'n dda. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod y rhain yn flaenoriaethau gwirioneddol i Gymru, pwy bynnag sydd â'r allweddi i 10 Downing Street? Mark Drakeford AC: Llywydd, diolch i Rhun ap Iorwerth, a dwi'n cytuno, wrth gwrs. Roedd y rhaglen ddeddfwriaethol o flaen Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi heddiw. Does dim byd yn y rhaglen sy'n mynd i wneud pethau ym mywydau'r bobl yma yng Nghymru, ac mae'n dangos Llywodraeth lle does dim uchelgais gyda nhw am y dyfodol. Mark Drakeford AC: Mae Araith y Brenin yn ddogfen hynod denau. Rwyf i fy hun yn credu ei bod hi'n ddogfen clirio'r-deciau-cyn-etholiad. A chafodd Cymru mo'i chrybwyll unwaith yn yr araith honno. Rwy'n sôn am hynny'n arbennig, oherwydd soniwyd am Northern Rail ynddi, ac eto ni soniwyd o gwbl am brosiect trydaneiddio uchel ei glod gogledd Cymru. O ran cynllun pum pwynt Plaid Cymru—cynllun pum pwynt arall, Llywydd; nid oes llawer o wythnosau yn mynd heibio heb un—yna, yn yr achos hwn, ceir cyfres o faterion a rennir, yn sicr ar yr ochr hon i'r Siambr. Datganoli Ystâd y Goron yw polisi Llywodraeth Cymru. Cyllido teg—rydym ni wedi dadlau ers blynyddoedd lawer dros ddisodli fformiwla Barnett gyda fformiwla yn seiliedig ar angen. Ac mae ynni ar gyfer y dyfodol ac ynni fforddiadwy yn un o'r cyfleoedd gwych sydd yno i Gymru yn y dyfodol. Felly, mae llawer yn y cynllun sy'n cael ei rannu ar yr ochr hon i'r Siambr. Bydd angen Llywodraeth Lafur arnom ni, oni fydd, os oes unrhyw un o'r pethau hyn yn mynd i ddigwydd mewn gwirionedd. Rhun ap Iorwerth AC: Mae'r Prif Weinidog yn dirmygu cynllun pum pwynt Plaid Cymru, fel mae'n ei alw. Ar ôl 24 mlynedd o Lywodraeth Lafur yng Nghymru, mae'n rhaid i rywun fod yn cyflwyno syniadau da. Ond hoffwn ganolbwyntio, os caf i, ar y mater cyllido teg. Dywedodd rhagflaenydd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn 2017: "Ni all neb amddiffyn sefyllfa lle mae gennym fformiwla ariannu sydd dros 38 oed erbyn hyn, a oedd yn seiliedig ar y ffordd yr oedd pethau yn y 1970au." Gallwn ni ddweud yn eithaf hyderus y byddai cyllido Cymru yn ôl yr angen yn arwain at gynnydd mawr ei angen mewn cyllid. Mae isafswm cyllido ar waith, ond disgrifiwyd hynny gan ei greawdwr, comisiwn Holtham, fel datrysiad lleiaf posibl yn unig. Felly, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi y dylai'r egwyddor syml hon o gyllid teg i Gymru fod ym maniffesto etholiad cyffredinol pob plaid, ac o ystyried iddo gael ei hepgor o Araith y Brenin hwn, a yw'n credu y dylai fod yn y nesaf? Mark Drakeford AC: Wel, yn sicr dydw i ddim yn synnu o weld nad oes ymrwymiad i ddiwygio Barnett yn Araith y Brenin presennol, ac, wrth gwrs, mae arweinydd Plaid Cymru yn iawn—gwnaeth Joel Barnett ei hun wrthod fformiwla Barnett lawer o weithiau, flynyddoedd lawer ar ôl iddi gael ei dyfeisio gyntaf. Roeddwn i'n falch o allu trafod gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys ar y pryd rhywbeth a oedd yn debyg i isafswm Holtham, ond dyna'r isafswm sydd ei angen arnom; mae angen diwygiad llawer mwy trylwyr arnom o'r ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus ledled y Deyrnas Unedig yn cael eu hariannu. Ni ddylai'r arian sy'n dod i Gymru ddibynnu ar benderfyniadau sy'n cael eu gwneud yn gyfan gwbl ar gyfer amgylchiadau yn Lloegr, a dyna sut mae fformiwla Barnett yn gweithio, fel y gwyddoch chi. Yr hyn sydd ei angen arnom yw fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion sy'n gwarantu bod lefel y gwasanaeth a allai fod ar gael mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig yn un sy'n diwallu anghenion pobl sy'n byw yn y rhan honno o'r Deyrnas Unedig, a dyna fyddai dull diwygiedig o ariannu yn ei gynhyrchu. Rhun ap Iorwerth AC: Y ffordd o gael penderfyniadau gwariant annibynnol wedi'u gwneud gan Gymru yw cael Trysorlys annibynnol i Gymru, wrth gwrs, ond rwy'n falch bod y Prif Weinidog yn cytuno â mi y dylai Llywodraeth y DU newid y fformiwla ariannu. Ond o gofio, rwy'n tybio, ei fod yn gobeithio y bydd Araith nesaf y Brenin yn cael ei hysgrifennu gan Brif Weinidog Llafur, mae'r broblem sydd gennym ni yn un amlwg, nad yw Llafur yn gwneud unrhyw ymrwymiad i'w newid. Mae'n siomedig, fel rwy'n dweud yn aml, nad yw'r Prif Weinidog, fel y gwleidydd Llafur etholedig mwyaf grymus yn yr ynysoedd hyn, yn gallu perswadio arweinydd ei blaid yn San Steffan i wneud y peth iawn ar hyn a materion eraill sy'n ymwneud â thegwch i Gymru. Nawr, yn ôl ym mis Mawrth, dywedodd Keir Starmer wrth aelodau Llafur ei bod hi'n bryd i Gymru 'gymryd rheolaeth yn ôl'. Roedd hynny yn ymwneud yn benodol â disodli cyllid yr UE, ond siawns na fyddai'r un egwyddor yn berthnasol i un arall o geisiadau Plaid Cymru heddiw, sef rheolaeth o Ystâd y Goron. Mae'n ymwneud â helpu Cymru i gyrraedd ei nodau sero net a chreu ffyniant ar yr un pryd. Felly, a yw'r Prif Weinidog cytuno â mi felly na ddylai'r cyfle a gollwyd heddiw i addo datganoli Ystâd y Goron gael ei ailadrodd gan Lywodraeth nesaf y DU? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, gadewch i mi wneud un pwynt cyn mynd i'r afael â mater Ystâd y Goron. Nid wyf i erioed wedi dadlau na allai Cymru fod yn annibynnol oherwydd na allem ni ei fforddio. Rwy'n credu, os yw pobl yng Nghymru eisiau bod yn annibynnol, yna dyna'r penderfyniad y gallan nhw ei wneud. Ond mae'n rhaid i bobl sy'n gwneud y ddadl honno wynebu'r mater ein bod ni, yng Nghymru, yn gwario £13 biliwn y flwyddyn yn fwy nag yr ydym ni'n ei godi mewn refeniw. [Torri ar draws.] A—. Wel, mae gen i ofn nad yw'r 'bwrw i lawr' hwnnw, fel y'i gelwir, yn wir o gwbl mewn gwirionedd. Rwy'n credu bod £13 biliwn yn ffigur y gellir ei brofi'n gywir. Ac os ydym ni'n mynd i fod yn annibynnol, fel y byddai'n dadlau, mater iddo ef yw esbonio o ble mae'r £13 biliwn hwnnw yn mynd i ddod, ac nid yw galw am gyllid teg gan rywun arall yn mynd i lenwi'r bwlch hwnnw o gwbl. O ran Ystâd y Goron, fel y dywedais i yn fy ateb agoriadol, mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi dadlau dros ddatganoli Ystâd y Goron sawl gwaith. Ni ddylai neb dwyllo ei hun gyda'r syniad, fodd bynnag, bod hwn yn fater syml, ac os ydych chi eisiau gwybod pa mor gymhleth ydyw, edrychwch ar y trafodaethau y bu'n rhaid i Lywodraeth yr Alban ymgymryd â nhw yn ei diwygiad o'r fframwaith cyllidol, lle mae bellach yn gorfod dychwelyd i’r Trysorlys—dychwelyd i'r Trysorlys—miliynau lawer o bunnoedd i gydnabod y ffaith bod Ystâd y Goron yn yr Alban wedi'i datganoli. Felly, ni ddylai neb gredu bod datganoli Ystâd y Goron yn rhyw fath o bas am ddim lle’r ydych chi'n cael cadw'r holl fanteision a chael dim un o'r anfanteision presennol. Rydym ni'n credu mewn datganoli Ystâd y Goron, oherwydd byddai'n caniatáu i ni gael mwy o gysondeb rhwng ein cyfrifoldebau a'n huchelgeisiau ar gyfer casglu ynni adnewyddadwy yn y môr Celtaidd, ac rydym ni'n credu y byddem ni'n gallu cysoni'r cyfrifoldebau hynny mewn ffordd a fyddai'n manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd hynny. Nid yw mor syml ag ysgrifennu paragraff mewn cynllun pum pwynt, fodd bynnag; mae'n llawer iawn mwy cymhleth na hynny. Meddygon Teulu Heledd Fychan AS: 3. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gan bawb yng Nghanol De Cymru fynediad at feddyg teulu mor agos i'w cymuned â phosibl? OQ60184 Mark Drakeford AC: Wel, diolch am y cwestiwn. Llywydd, polisi Llywodraeth Cymru yw gwneud yn siŵr bod cleifion yn gallu cael mynediad at y tîm gofal sylfaenol ehangach. Mae hyn yn rhan o set gyfoes o ffyrdd i sicrhau bod cleifion yn cael y cymorth cywir yn y ffordd gywir. Heledd Fychan AS: Diolch, Prif Weinidog. Mae ymgynghori ar fin dechrau ynglŷn â chau canghennau meddygfa Taff Vale yn Ynysybwl a Chilfynydd yn barhaol. Mae hyn yn bryderus dros ben i drigolion sydd eisoes yn cael trafferth cyrraedd apwyntiadau mewn meddygfeydd eraill os nad oes ganddynt gar, gan fod angen dal isafswm o ddau fws i'w cyrraedd. Mae lleihad wedi bod yn y gwasanaethau bws lleol ac mae'r gwasanaethau sydd yn rhedeg yn anghyson, gan olygu bod pobl yn barod yn hwyr i apwyntiadau neu'n methu â'u cyrraedd, er bod dirfawr angen yr apwyntiadau hyn arnyn nhw. A ydych chi'n credu y dylai byrddau iechyd fod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gadw meddygfeydd mewn cymunedau ar agor er budd cleifion, ond hefyd y gwasanaeth iechyd, fel nad oes apwyntiadau yn cael eu colli? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, wrth gwrs dwi'n cydnabod y ffaith pan fydd pethau'n newid mae hwnna'n codi pryderon gyda'r bobl leol. Ond yn yr achos mae'r Aelod wedi cyfeirio ato, mae proses ar gael, ac mae'n bwysig i'r bwrdd iechyd fynd ar ôl y broses mewn ffordd sy'n ymateb i'r pwyntiau mae pobl leol yn eu codi. Mae yn bwysig, dwi'n meddwl, i roi rhyw fath o gyd-destun i'r pwyntiau mae Heledd Fychan wedi'u codi. Mark Drakeford AC: Y ddau safle y mae'r Aelod yn cyfeirio atyn nhw, Llywydd, i fod yn eglur, mae'r ddau safle hynny wedi bod ar gau ers mis Medi 2022. Felly, nid yw hwn yn fater o gau yn sydyn dau safle a oedd yn cynnig gwasanaethau i'r poblogaethau hynny heddiw; maen nhw wedi bod ar gau ers ymhell dros flwyddyn. Ac mae'n wir hefyd bod nifer eithaf bach o wasanaethau yn cael eu darparu yn y lleoliadau hynny cyn y dyddiad hwnnw. Ers mis Medi 2022, mae safle Cilfynydd wedi dioddef llifogydd. Dioddefodd lifogydd ym mis Rhagfyr 2022, ac mae mewn cyflwr eithaf gwael. Mae gan y boblogaeth leol dri safle o hyd sy'n cael eu gwasanaethu gan ganolfan feddygol Dyffryn Taf: Ysbyty Dewi Sant ym Mhontypridd, y ganolfan yng Nglyncoch, a'r brif feddygfa yn Rhydyfelin. Ond yr hyn sy'n bwysig, fel y dywedais i, yw bod y broses, sydd wedi cychwyn bellach, yn cael ei rhedeg yn iawn ac yn ofalus, y gwrandewir ar bryderon pobl, a lle mae atebion iddyn nhw, y gellir eu darparu. Mae'r pwyllgor meddygol lleol eisoes wedi dweud ei fod o blaid y cynigion, ac mae Llais, corff olynol y cynghorau iechyd cymuned, llais cleifion, hefyd wedi dweud ei fod yn cefnogi'r cynnig. Nawr, bydd lleisiau eraill a safbwyntiau eraill a dyna pam mae'r broses ei hun yn bwysig. Joel James AS: Prif Weinidog, fel rydych chi newydd sôn, mae meddygfeydd teulu Cilfynydd ac Ynysybwl wedi bod ar gau i'r cyhoedd ers pandemig COVID, a chyda meddygfa Cilfynydd yn dioddef llifogydd bron i flwyddyn yn ôl, mae'n edrych yn fwyfwy annhebygol y bydd yn ailagor. Ond, fel mae fy nghyd-Aelod Heledd Fychan newydd sôn, mae'r gymuned yng Nghilfynydd yn bryderus iawn am y ffaith nad oes ganddyn nhw fynediad at feddygfa meddyg teulu leol hyd yn oed, ac maen nhw'n teimlo'n rhwystredig iawn am y diffyg cyfathrebu a gwasanaeth gan feddygfa Dyffryn Taf, ac mae hyn i gyd wedi ychwanegu'n sylweddol at eu straen a'u gofid. Yn amlwg, byddwn wrth gwrs yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud yn siŵr bod gan Gilfynydd feddygfa, ond gyda hyn mewn golwg, ac o ystyried yr anawsterau yn gysylltiedig â thrafnidiaeth gyhoeddus yn y pentref, pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i weithio gyda'r awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd i ddarparu gwell opsiynau trafnidiaeth, a hefyd i hyrwyddo'r defnydd o weithredwyr trafnidiaeth gymunedol fel dewis amgen byrdymor ymarferol, tra bod trigolion yn aros i'w meddygfa ailagor? Diolch. Mark Drakeford AC: Wel, rwy'n cymryd o ddifrif y pwynt y mae'r Aelod wedi ei wneud ynglŷn â chyfathrebu. Dyna pam wnes i bwysleisio, yn fy ateb i Heledd Fychan, bwysigrwydd dilyn y broses yn iawn, a'r cyfleoedd yno i bobl allu lleisio eu barn, ac mae cyfathrebu yn bwysig iawn yn hynny i gyd. Ac nid wyf i'n synnu o glywed—ac rwy'n credu fy mod i eisoes wedi clywed gan y gymuned leol—bod trafnidiaeth gyhoeddus yn un o'r materion sy'n debygol o gael eu codi. Mae un o'r meddygfeydd 2 filltir i ffwrdd o un o'r tair meddygfa sy'n weddill, a'r llall yn 3 milltir, neu ychydig o dan 3 milltir, i ffwrdd o feddygfa arall. Felly, nid yw'r rhain yn bellteroedd enfawr. Pe baech chi'n byw mewn rhai rhannau eraill o Gymru, lle cefais i fy magu, byddai bod o fewn 2 filltir i feddygfa yn cael ei ystyried yn weddol freintiedig. Ond, ar gyfer y boblogaeth leol honno, bydd angen sicrwydd arnyn nhw y bydd y meddygfeydd hynny ar gael iddyn nhw, ac rwy'n disgwyl i'r bwrdd iechyd wrando'n ofalus ar y pwyntiau y mae'r cyhoedd yn eu gwneud am gysylltedd trafnidiaeth gyhoeddus. Trafnidiaeth yng Ngorllewin De Cymru Tom Giffard AS: 4. Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer trafnidiaeth yng Ngorllewin De Cymru? OQ60206 Mark Drakeford AC: Llywydd, cyflwynir y strategaeth honno yn 'Llwybr Newydd', a gyhoeddwyd yn 2021. Tom Giffard AS: Diolch, Prif Weinidog. Wrth i Lywodraeth Cymru symud tuag at bolisi o newid dulliau teithio, gan ein symud ni allan o'n ceir ac ar drafnidiaeth gyhoeddus, byddech chi'n meddwl y byddai Llywodraeth Cymru yn darparu system trafnidiaeth gyhoeddus werth chweil i sicrhau y gallai hynny ddigwydd. Ond, yn anffodus, mae rhyfel Llywodraeth Cymru ar fodurwyr wedi arwain at ddull tebyg o ymdrin â thrafnidiaeth gyhoeddus. Nid yn unig y mae cymorthdaliadau ar gyfer bysiau wedi cael eu torri, gan arwain at leihau llwybrau ac amserlenni ledled Cymru, ond rydym ni hefyd wedi gweld y cynllun 20 mya diofyn yn achosi anhrefn gydag amserlennu bysiau hefyd. Dywedodd Arriva Bus, fis diwethaf, bod y terfyn newydd yn achosi 'amodau gweithredol heriol'. A siaradais â chwmni bysiau yn fy rhanbarth i, Adventure Travel, a oedd ond yn rhy hapus i ddweud bod 20 mya yn 'achosi problemau o ran amseroedd rhedeg', ac roedden nhw hefyd yn edrych ar y posibilrwydd o ddiwygio amserlenni o ganlyniad. Felly, Prif Weinidog, mae'n amlwg bod y polisi 20 mya hwn yn methu. Onid nawr yw'r amser i'w dynnu'n ôl? Mark Drakeford AC: Nage, Llywydd. Sioned Williams AS: Yr wythnos diwethaf, cafodd llawer o wasanaethau bysiau yn fy rhanbarth i naill ai eu crebachu neu eu tynnu'n ôl yn llwyr, a dros y penwythnos, rhannodd mwy na 100 o bobl yng Nghastell-nedd Port Talbot ac Abertawe eu safbwyntiau ar rai o'r newidiadau hyn gyda mi. Roedd y darlun a gyflwynwyd ganddyn nhw o'r ffordd y maen nhw'n dibynnu ar fysiau, sut maen nhw'n gwerthfawrogi'r gwasanaethau hyn, a sut y bydd toriadau yn cael effaith ofnadwy arnyn nhw. Er fy mod i wedi clywed gan etholwyr bod y bws 256 o Bontardawe i Gastell-nedd mor llawn bellach, oherwydd gwasanaeth cyfyngedig, bod pobl yn ofni am eu diogelwch, mewn ateb i gwestiwn a ofynnais i chi am wasanaethau, Prif Weinidog, fe wnaethoch chi gyfeirio at y ffaith mai nifer y teithwyr yw un o'r prif ysgogiadau sy'n sail i'r argyfwng presennol. Felly, pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i roi hwb i nifer y teithwyr ar fysiau? A ydych chi'n derbyn y bydd toriadau sy'n lleihau cwmpas daearyddol, amlder, dibynadwyedd ac yn achosi gorlenwi yn gwneud y dasg o hybu niferoedd teithwyr yn anoddach? Fis diwethaf, cyhoeddodd pwyllgor hinsawdd ac amgylchedd Senedd Ieuenctid Cymru eu hadroddiad 'Ffyrdd Gwyrdd'. Pa ystyriaethau a wnaed o'r argymhellion, yn enwedig yr alwad am deithiau am ddim ar fysiau i bobl ifanc a sut y gallai hynny helpu i roi hwb i niferoedd teithwyr? Diolch. Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, pan ddywedais i wrth yr Aelod fod methiant y blwch arian tocynnau i ddychwelyd i lefelau cyn y pandemig wedi bod wrth wraidd yr heriau sy'n wynebu'r gwasanaeth bysiau ledled Cymru, y cwbl roeddwn i'n ei wneud oedd adlewyrchu ffeithiau'r mater. Mae llai o bobl yn defnyddio bysiau yng Nghymru heddiw nag oedd yn ôl yn 2019, ac mae hynny yn cael effaith sylweddol ar allu cwmnïau i barhau i redeg gwasanaethau a oedd yno pan oedd mwy o deithwyr. Mae hefyd yn cael effaith sylweddol ar gyllideb Llywodraeth Cymru, gan ein bod ni'n rhoi cymhorthdal i wasanaethau bysiau ledled Cymru i raddau mwy nag erioed o'r blaen. Bydd yr Aelod yn gwybod, yn ystod hynt y gyllideb ddiwethaf, bod Plaid Cymru wedi nodi tair blaenoriaeth yr oedden nhw'n dymuno i Lywodraeth Cymru eu cymryd i ystyriaeth wrth lunio'r gyllideb honno. Un o'r rheini oedd rhagor o gymorth i'r diwydiant bysiau, a dyna pam rydym ni'n darparu £46 miliwn yn ychwanegol at y cymorthdaliadau a oedd eisoes yno ar gyfer y diwydiant hwn yn y flwyddyn ariannol hon. Nawr, wrth gwrs, hoffwn pe bai pobl yn defnyddio'r bysiau yn y niferoedd yr oedden nhw'n ei wneud yn flaenorol. Mae'n batrwm cymhleth pam nad yw hynny'n wir. Mae'r gostyngiad mwyaf i nifer y teithwyr ymhlith pobl nad oedden nhw'n talu am deithio ar fysiau, ymhlith pobl a oedd wedi'u heithrio rhag talu am deithio gan eu bod nhw dros 60 oed neu mewn categori cymhwyso arall. Digwyddodd rhywbeth yn ystod COVID sy'n golygu nad yw'r bobl hynny yn dal i ailddechrau'r mathau o batrymau o fyw eu bywydau a oedd yno cyn i COVID daro. Ac er fy mod i'n awyddus iawn i annog pobl i ddychwelyd i'r bws, rwy'n credu y bydd yn cymryd ymdrech sy'n cynnwys gwasanaethau bysiau a chwmnïau bysiau eu hunain, ac effaith y Bil bysiau y byddwn ni'n ei gyflwyno gerbron y Senedd i'ncaniatáu i ddefnyddio'r cymhorthdal a ddarperir i gael yr effaith fwyaf posibl. Rwy'n credu bod annog pobl ifanc i ddefnyddio bysiau yn ffordd dda iawn o recriwtio defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus y dyfodol, a dyna'r pwynt a wnaeth y Senedd Ieuenctid yn eu sylwebaeth ar y mater hwnnw. Rydym ni eisoes yn rhoi cymhorthdal uniongyrchol i bobl o dan 25 oed o dan amodau penodol. Yn y pen draw, mae'r holl bethau hyn yn ddewisiadau, onid ydyn nhw? Rydym ni'n gwneud dewisiadau lle'r ydym ni'n defnyddio'r adnoddau cyfyngedig sydd gennym ni. Fe wnaethom ni ddewis, yn dilyn y drafodaeth honno ar y gyllideb, i gymryd un arall o dair blaenoriaeth Plaid Cymru i gynyddu lefel y lwfans cynhaliaeth addysg i bobl ifanc yng Nghymru, gan ei godi o £30 i £40. Gallai'r arian hwn fod wedi cael ei ddefnyddio at wahanol ddiben. Gallai fod wedi cael ei ddefnyddio i wneud mwy i roi cymhorthdal teithio i bobl ifanc yng Nghymru. Yn anffodus, mae un swm o arian a llawer o flaenoriaethau cystadleuol y gellid ei ddefnyddio ar eu cyfer. Mae angen i ni barhau trafodaeth, fel y byddwn ni wrth i'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf ddechrau cael ei ffurfio a gwneud ei ffordd drwy'r Senedd, o ran sut y gallwn ni ddefnyddio'r adnoddau cyfyngedig ac sy'n lleihau sydd ar gael i ni yn erbyn y nifer o wahanol ddibenion pwysig a theilwng y gellid eu nodi ar eu cyfer. Sarah Murphy AS: Rwyf i a Huw Irranca-Davies, yr AS dros Ogwr, wedi bod yn cyfarfod yn ddiweddar â llawer o bobl ifanc ar draws ein dwy etholaeth. Yn wir, fe wnaethom ni gyfarfod â grŵp o bobl ifanc, a drefnwyd gan Leonard Cheshire, tua 50 o bobl ifanc, ac roedd cyfle iddyn nhw ofyn unrhyw gwestiwn yr oedden nhw ei eisiau i ni. Ac fe aethom ni hefyd i Ysgol Gyfun Cynffig yn y Pîl, a drefnwyd gan Tyler Thomas, i siarad â'r chweched dosbarth yno. Eto, roedd cyfle iddyn nhw ofyn unrhyw gwestiynau yr oedden nhw ei eisiau. Am ddwy awr gyfan, y cwbl y gwnaethon nhw siarad â ni amdano oedd trafnidiaeth. Mae mor bwysig iddyn nhw. Maen nhw'n ei gysylltu'n fawr â'r newid yn yr hinsawdd hefyd, a'r amcanion sydd gennym ni fel Llywodraeth Cymru y maen nhw wedi galw arnom ni yn bennaf i'w cyflawni hefyd, ac maen nhw'n gwerthfawrogi hynny. Roedd cymysgedd o'r mathau o gwestiynau. Roedd rhai ohonyn nhw am wasanaeth—bysiau ddim yn cyrraedd, achosion o ganslo. Dydyn nhw ddim yn deall pam na allan nhw gael diweddariadau byw ar eu ffôn, a phethau fel hyn. Ond hefyd, dim ond am y ffaith nad oes rhai llwybrau masnachol mewn rhai ardaloedd a all ddyblu wedyn fel y gallan nhw eu defnyddio ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus, y gallai'r rhan fwyaf ohonyn nhw ei weld oedd yn ffordd dda iawn ymlaen. Felly, Prif Weinidog, gallaf weld hefyd heddiw fod gennym ni lawer o bobl ifanc yn yr oriel hefyd. Awgrymais hefyd y gallen nhw gynnal disgo distaw ar y teithiau bws o Ben-y-bont ar Ogwr i'r Senedd, yr oedden nhw i gyd yn meddwl oedd yn syniad gwych, i geisio cael pobl yn ôl ar y bws. Mae'n rhaid i ni ddechrau meddwl am syniadau mentrus yma. Ond roeddwn i'n meddwl tybed a allech chi siarad â'n pobl ifanc, Prif Weinidog, a rhoi rhywfaint o obaith iddyn nhw ynglŷn â ble rydym ni'n mynd gyda hyn yn y dyfodol gyda'r Bil diwygio bysiau a sut mae hwn yn cyd-fynd â'n hamcanion cyfiawnder hinsawdd. Diolch. Mark Drakeford AC: Diolch i Sarah Murphy, Llywydd, ac rwy'n ei llongyfarch hi a Huw Irranca-Davies ar y sgyrsiau maen nhw wedi bod yn eu cael. Rwy'n lwcus fy hun i gael llawer o gyfleoedd, yn yr un modd â chyd-Aelodau eraill yma, i gael y sgyrsiau hynny. Ac rydych chi'n iawn, wrth gwrs—mae yna bethau sy'n digwydd bob tro. Dydw i byth yn cael sgwrs gyda phobl ifanc heb i'r mater iechyd meddwl gael ei godi gyda mi, a chael ei godi mewn cyd-destun ôl-bandemig hefyd. Ac fel y mae Sarah Murphy yn ei ddweud, Llywydd, mae'r argyfwng hinsawdd hefyd yn rhywbeth y mae pobl ifanc yn ei godi'n gwbl reolaidd gydag unrhyw un sy'n gallu gwrando arnyn nhw. Rwy'n credu ein bod ni wedi clywed rhai syniadau yn y fan yna, Llywydd, ynglŷn â sut y gallen ni gynyddu nifer y teithwyr yn y ffordd yr awgrymodd Sioned Williams. Rwy'n credu y dylai cwmnïau bysiau fod yn defnyddio technolegau modern i sicrhau bod gwybodaeth dda ar gael yn hawdd i bobl. Rwy'n cymeradwyo Bws Caerdydd o ran hynny. Roeddwn i'n siarad â rhai pobl eraill, ychydig yn hŷn yn ddiweddar a ddywedodd fod defnyddio bysiau yng Nghaerdydd wedi ei drawsnewid iddyn nhw gan y ffaith nad oes angen i chi fynd at safle bws nawr a meddwl tybed a yw'r bws newydd fynd, neu faint y bydd hi cyn i'r un nesaf gyrraedd, oherwydd gallwch chi edrych ar eich ffôn ac amseru gadael eich tŷ, oherwydd eich bod chi’n gwybod pryd y bydd y bws hwnnw ar gael. O ran a fydd disgos tawel yn dod â llawer o'r bobl dros 60 oed nôl nad ydyn nhw bellach yn defnyddio'r bws, wel, gallwn i ddatgan buddiant a dweud nad wyf i'n sicr mai dyma'r peth a fyddai'n gwarantu y byddwn i'n ciwio amdano. Ond rwy'n credu, o ran y darlun ehangach, y mae'r Aelod yn gofyn amdano, mae'r ateb i hynny i'w gael yn y Bil bysiau sydd ar ddod, oherwydd bydd yn caniatáu i ni gyfochri gwasanaethau bysiau a thrafnidiaeth ysgol â'i gilydd mewn ffordd llawer gwell, i sicrhau bod gwasanaeth mwy effeithlon i ddysgwyr. Rydyn ni eisoes yn gweld hyn yn digwydd. Rwy'n canmol gwaith Cyngor Sir Fynwy y mae Llafur yn ei reoli, sydd wedi bod yn arwain y ffordd yn hyn o beth, gan ddangos sut y gall rheolaeth gyhoeddus dros rwydweithiau bysiau ganiatáu i ni gyfochri gwasanaethau ar gyfer dysgwyr â'r cyhoedd, ac, yn y broses, bod â gwell gwasanaeth i bawb. Atal Llifogydd Carolyn Thomas AS: 5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gwneud tirfeddianwyr yn ymwybodol o bwysigrwydd cynnal a chadw ceuffosydd a ffosydd yn briodol ar gyfer atal llifogydd? OQ60190 Mark Drakeford AC: Diolch yn fawr iawn Carolyn Thomas. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'n hawdurdodau rheoli risg. Maen nhw'n cadw golwg ar geuffosydd a ffosydd preifat. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer perchnogion glannau afon yn amlinellu eu risgiau a'u cyfrifoldebau. Drwy gadw at y canllawiau, mae perchnogion tir yn chwarae eu rhan i leihau perygl llifogydd. Carolyn Thomas AS: Diolch am eich ymateb, Prif Weinidog. Mae llawer yn disgwyl i Cyfoeth Naturiol Cymru a'n cynghorau gynnal pob ffos a draen a bod bagiau tywod yn cael eu darparu. Efallai cyn cyni, ond gydag adnoddau cyfyngedig a llifogydd yn digwydd yn gynyddol, mae'n ormod heddiw. Mae angen ymdrech ar y cyd gan yr holl bartneriaid gan roi gwybodaeth glir o ran cyfrifoldeb. Bydd mapio yn helpu grwpiau cymunedol i wybod pa awdurdod neu berchennog tir sy'n gyfrifol am orfodi neu glirio. Mewn ardaloedd gwledig, mae angen i berchnogion tir fod yn gyfrifol am atal dŵr rhag draenio i'r priffyrdd. Felly, a fyddai modd cynhyrchu rhywfaint o wybodaeth gyson mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru a chynghorau i'w rhoi i berchnogion tir gan egluro eu bod yn gyfrifol am gynnal eu ffosydd a'u draeniau o dan gyfraith y glannau? Rwy'n gwybod eich bod chi wedi dweud bod hynny'n cael ei ddarparu, ond pe bai gan gynghorau a Cyfoeth Naturiol Cymru daflen i'w dosbarthu hefyd, fel bod y cyfan yno, yn syml iawn, i'w rhoi trwy ddrysau, byddai'n arbed llawer o amser. Byddai hyrwyddo peidio â gorchuddio tir ag ardaloedd anhydraidd, cofrestru ar gyfer rhybuddion llifogydd, grwpiau llifogydd cymunedol ar gyfer preswylwyr, a gwybodaeth am amddiffynfeydd rhag llifogydd, gan gynnwys bagiau tywod, yn helpu i egluro pethau i'n trigolion. Diolch. Mark Drakeford AC: Diolch i Carolyn Thomas am hynny. Rwy'n credu fy hun bod y mater yma yn fwy o fater cyfathrebu na gwybodaeth, oherwydd, mewn gwirionedd, mae llawer iawn o wybodaeth eisoes ar gael yn ymdrin â'r union bwyntiau y mae'r Aelod wedi'u codi. Ar brynhawn Sadwrn gwlyb iawn, wrth i mi fynd drwy'r ffolder cwestiynau fel y gwnaf i, es i i edrych ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru i weld pa wybodaeth oedd yno eisoes i berchnogion tir yn y ffordd y cafodd y cwestiwn ei ofyn. Fe wnes i ddod â'r canllaw gyda mi y prynhawn yma, nad oeddwn i, mewn gwirionedd, mae'n rhaid i mi gyfaddef, erioed wedi'i weld o'r blaen. Ond pan gefais i gyfle i edrych drwyddi, rwy'n credu, mewn gwirionedd, ei bod yn ddogfen drefnus iawn ac yn llawn gwybodaeth: 'Canllaw i’ch hawliau a’ch cyfrifoldebau fel perchennog glannau afon yng Nghymru'. Ac roedd llawer mwy. Rwy'n ofni i mi dreulio mwy o fy mhrynhawn nag y dylwn i wedyn yn archwilio gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru ac edrych ar yr holl fapiau sydd ar gael yno a'r wybodaeth sydd ar gael i bobl sydd eisiau gwybod mwy am berygl llifogydd yn eu hardaloedd eu hunain. Lle rwy'n cytuno â Carolyn Thomas yw, os nad oeddwn i erioed wedi clywed amdano na'i weld, yna rwy'n siŵr mai dyna yw profiad y rhan fwyaf o ddinasyddion Cymru, mae'n debyg. Felly, mae mwy y mae modd ei wneud yn sicr i sicrhau bod yr adnoddau rhagorol yr wyf i'n credu sydd erbyn hyn ar gael i bobl, gan ddefnyddio ffynonellau data a mapio soffistigedig iawn, yn fwy adnabyddus i bobl. Ac yn y modd hwnnw, gall Llywodraeth Cymru weithio gydag eraill i sicrhau bod pobl yn fwy ymwybodol o'r wybodaeth honno ac felly yn gallu'i defnyddio'n well. Janet Finch-Saunders AC: Rwy'n cyfeirio Aelodau at fy ffurflen datgan buddiant o ran perchnogaeth eiddo. Fel y mae Aelodau'r Senedd yn ymwybodol—er nad ydw i wedi fy argyhoeddi'n fawr—mae ein cyrsiau dŵr wedi'u rhannu'n ddau gategori: prif afonydd a chyrsiau dŵr cyffredin. Rydyn ni wedi mynegi pryderon o'r blaen am brif afonydd gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a bod problemau mawr wedi codi mewn rhai achosion o lifogydd o ran cyrsiau dŵr cyffredin. Rydyn ni wedi ymgyrchu'n hir dros well gwybodaeth a dealltwriaeth o'r cyfrifoldebau sydd gan berchnogion glannau afon. Yn wir, yn 2021, gwnaethom gynnig Bil llifogydd Cymru a oedd â sawl nod, yn anad dim i sicrhau bod ymgyrch barhaus i wella ymwybyddiaeth perchnogion glannau afon o'u cyfrifoldebau. Oherwydd, nid afonydd o reidrwydd ydyn nhw—gallen nhw fod yn geuffosydd, ffosydd, draeniau ar dir sy'n eiddo i'r perchnogion tir hyn. Ac roedden ni hefyd eisiau creu system gymorth sy'n nodi ac yn cynorthwyo perchnogion glannau afon nad ydyn nhw'n cyflawni eu cyfrifoldebau eu hunain. Yn Aberconwy mae gennym ni rannau o gyrsiau dŵr cyffredin lle nad yw perchennog y glannau afon hyd yn oed yn hysbys, felly nid oes unrhyw waith cynnal a chadw yn digwydd ac mae hyn yn rhoi pwysau pan fo llifogydd. Felly, a wnewch chi ystyried hyn eto, Prif Weinidog, gyda'r Gweinidog, ac efallai gydweithredu â Chofrestrfa Tir EF i geisio creu cronfa ddata o'r holl berchnogion glannau afon cyfrifol yng Nghymru, ac yna eu gwneud yn ymwybodol o'r wybodaeth honno y bu'n rhaid i chi fynd i chwilio amdani ar wefan? Ac yna gobeithio y bydd hyn oll yn cyfrannu at beidio â gweld cymaint o'n hardaloedd cymunedol dan ddŵr. Diolch. Mark Drakeford AC: Rwy'n credu bod yr Aelod yn codi nifer o bwyntiau pwysig yn y fan yna am gyfrifoldebau a bod pobl yn ymwybodol ohonyn nhw, ac, yn wir, pobl yn deall eu bod wir yn gyfrifol. Os ydych chi'n berchen ar eiddo o'r math hwnnw, mae hynny'n dod gyda hawliau, fel y mae dogfen Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei nodi, ond mae bendant yn dod â'r cyfrifoldebau y mae angen i bobl eu cyflawni. Fe gaf i sgwrs â'r Gweinidog Newid Hinsawdd ar y syniad o gronfa ddata o berchnogion glannau afon i weld pa mor hawdd y byddai gwneud hynny ac a fyddai'r budd yn werth yr ymdrech. Ffordd A465 Blaenau’r Cymoedd Vikki Howells AC: 6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith o uwchraddio adrannau 5 a 6 yr A465 Blaenau’r Cymoedd? OQ60182 Mark Drakeford AC: Ar hyn o bryd mae rhannau 5 a 6 o brosiect yr A465 dair blynedd i mewn i'w cyfnod adeiladu, ac er i'r prosiect ddechrau yn ystod anterth pandemig COVID, mae cynnydd da wedi'i gynnal. Mae disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau erbyn haf 2025. Vikki Howells AC: Prif Weinidog, mae'n siŵr mai deuoli'r rhan hon o ffordd Blaenau'r Cymoedd yw'r prosiect peirianneg sifil mwyaf trawiadol sy'n cael ei gyflawni yng Nghymru ar hyn o bryd. Bydd y gwaith yn gwella'r cysylltedd rhwng Hirwaun a Dowlais Top a bydd yn cael effaith drawsnewidiol ar ddiogelwch ar y darn hynod beryglus hwn. Mae'r gwaith adeiladu yn rhychwantu nifer o geunentydd heriol, ac mae hefyd yn cynnwys creu milltiroedd lawer o lwybrau cerdded, beicio a marchogaeth, cynlluniau rheoli cynefinoedd gofalus, rhwydwaith o gynlluniau lliniaru i wrthsefyll llifogydd, a phlannu dwy goeden am bob un y bu'n rhaid ei thynnu oddi yno. Rwy'n falch iawn o fod â'r prosiect hwn, wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn cael ei gynnal yn fy etholaeth i. Felly, Prif Weinidog, a hoffech chi ymweld â'r gwaith gyda mi i weld drosoch chi eich hun y rhagoriaeth beirianneg unwaith mewn oes ar raddfa fawr hon? Mark Drakeford AC: Diolch i'r Aelod am yr achos cymhellol hwnnw. Wrth gwrs, rwy'n cytuno'n llwyr â hi am y gamp beirianneg a'r manteision enfawr a ddaw yn y cyfnod adeiladu ei hun: dros 800 o bobl yn gweithio yn y prosiect yn byw yn ardaloedd y Cymoedd; bron i 100 o brentisiaethau wedi'u creu fel rhan ohono; 12,600 o goed wedi'u plannu eisoes; a 12,000 arall i ddod eleni. Llywydd, yn ystod cyfnod yr etholiad yn arwain at ein hetholiad yn 2021, bûm ar ymweliad cofiadwy â'r Aelod dros Flaenau Gwent. Mae wir yn aros yn fy meddwl i, oherwydd aethom at bont a oedd yn cael ei hadeiladu dros ran o ffordd Blaenau'r Cymoedd, ac roedd camp enfawr y beirianneg ei hun yn rhyfeddol. Ond ochr yn ochr â hynny, roeddem ni hefyd yn gallu gweld y gwelliannau diogelwch a ddaw yn sgil hynny, a'r cryn sensitifrwydd a oedd yn cael ei gymhwyso i effaith amgylcheddol y ffordd, a'r cyfleoedd a oedd yn dod gyda hynny yn y fan yna. Felly, mae'r ymweliad hwnnw wedi aros yn fy meddwl yn fyw iawn byth ers hynny, a byddwn i'n falch iawn o ddod i weld yr un effaith yn digwydd yn etholaeth Vikki Howells. Mynediad at Driniaeth Iechyd Darren Millar AC: 7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella mynediad at driniaeth i gleifion yng ngogledd Cymru? OQ60209 Mark Drakeford AC: Diolch i Darren Millar am hynny, Llywydd. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwell mynediad at fuddsoddiad mewn gwasanaethau newydd, hyfforddi staff â'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol, gweithredu ffyrdd o weithio ar sail technolegau arloesol, a chefnogi'r bwrdd i gyflawni ei gyfrifoldebau. Darren Millar AC: Prif Weinidog, mae dau adroddiad brawychus wedi bod yn ystod y dyddiau diwethaf am oedi mewn triniaeth sydd wedi arwain at niwed sylweddol i gleifion yn y gogledd. Daethpwyd â'r cyntaf i'n sylw ni i gyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, a ymchwiliodd i gŵyn—cŵyn a oedd wedi cymryd pedair blynedd i'r bwrdd iechyd ei hystyried cyn iddi gael ei throsglwyddo i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru—am oedi mewn triniaeth ar gyfer claf strôc, a wnaeth arwain ato fod yn barhaol ddall mewn un llygad a bod mewn poen cronig. Roedd hynny er gwaethaf y ffaith ei fod wedi mynd i adran frys ac y dylai fod wedi cael llawdriniaeth frys—llawdriniaeth daer ei hangen. Cymerodd hyn 11 mis cyn ei gael o'r diwedd. Yn ogystal â hynny, mae crwner y gogledd wedi codi pryderon yn dilyn marwolaeth claf o niwmonia a sepsis ym mis Chwefror y llynedd. Bu farw oherwydd bod ei nodiadau meddygol wedi mynd ar goll. Roedd angen sganiau brys arni ac nid oedd yn gallu eu cael. Roedd y crwner mor bryderus am hyn nes iddi gyhoeddi adroddiad er budd y cyhoedd, a mynegodd y ffaith nad oedd hi'n teimlo bod unrhyw wersi wedi eu dysgu gan staff. Nawr, rydych chi a minnau'n gwybod y gall unrhyw sefydliad sy'n ceisio gwella ei hun ond gwneud hynny os yw'n dysgu o'i gamgymeriadau. Yn amlwg, nid yw hynny wedi bod yn digwydd yn y gogledd. Ac rwy'n gofyn i chi, o ystyried mai bwrdd iechyd sydd mewn mesurau arbennig yw hwn, pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd nawr i sicrhau nad yw cleifion yn dioddef y mathau hynny o ganlyniadau byth eto. Mark Drakeford AC: Rwy'n gyfarwydd, yn anffodus, â'r ddau achos y mae Darren Millar yn cyfeirio atyn nhw, ac mae darllen y ddau adroddiad yn sobreiddiol iawn. Rwyf i wedi gweld yr ymateb y mae'r bwrdd iechyd wedi'i gyhoeddi yn y ddau achos. Nid wyf i'n credu ei bod yn deg creu argraff nad oes gan y bwrdd ddiddordeb mewn dysgu gwersi. Ac, yn yr un modd ag y mae adroddiadau anodd iawn wedi eu cyhoeddi'n ddiweddar, mae adroddiadau eraill, mwy calonogol, hefyd. Efallai nad yw'r Aelod wedi cael cyfle i weld adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, a gafodd ei gyhoeddi heddiw, am ysbyty Llandudno. Ac rwy'n credu bod yr adroddiad hwnnw'n dangos bwrdd sydd wedi ymrwymo i ddysgu rhai o wersi'r gorffennol ac i roi'r gwersi hynny ar waith. Ac rydw i wir yn credu bod y prif weithredwr dros dro a chadeirydd y bwrdd yn dod i'w gwaith yn benderfynol iawn o sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu, a bod penodau sy'n gwbl annerbyniol, o'r math a amlygwyd gan yr ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus ac yn myfyrdodau y crwner hwnnw ar achos o fis Chwefror y llynedd—bod y gwersi hynny'n cael eu dysgu'n systematig ar draws y bwrdd iechyd, a bod yr hyn sy'n cael ei ddysgu yn cael ei roi ar waith i'r defnydd gorau yn ein plith, fel y gwn i y bydd Darren Millar yn cydnabod, y miloedd hynny o staff ymroddedig iawn sy'n gweithio i'r bwrdd iechyd, ac sy'n dod i mewn bob dydd eisiau gwneud eu gorau glas dros gleifion yn y gogledd. Y Llywydd / The Llywydd: Y cwestiwn olaf, cwestiwn 8, Rhys ab Owen. Deddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023 Rhys ab Owen AS: 8. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i fusnesau lleol i sicrhau cydymffurfiaeth â Deddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)? OQ60202 Mark Drakeford AC: Llywydd, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda chynrychiolwyr o’r byd busnes er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth. Mae canllawiau wedi cael eu llunio er mwyn helpu i roi’r gwaharddiadau ar waith, gan gynnwys ymgyrch gyfathrebu genedlaethol. Mae busnesau hefyd wedi gallu gofyn am gyngor drwy Busnes Cymru a’r bwlch—bwlch; blwch, sori—[Torri ar draws.]—bwlch electronig sydd gennym at y diben hwn. Y Llywydd / The Llywydd: Na, 'blwch'. Mark Drakeford AC: Blwch? Y Llywydd / The Llywydd: Ie, 'blwch'. Mark Drakeford AC: Roeddwn i eisiau dweud 'bwlch', ond 'blwch' yw e. Y Llywydd / The Llywydd: Mae dau air. Mae 'blwch' a 'bwlch', a 'blwch' oedd hwnna. Mark Drakeford AC: Blwch electronig—bocs electronig. [Chwerthin.] Y Llywydd / The Llywydd: Bocs. [Chwerthin.] Rhys ab Owen. Rhys ab Owen AS: Diolch yn fawr, Prif Weinidog, ac i'r Llywydd am y wers. Rhys ab Owen AS: Nid wyf i'n gwybod a yw'r Prif Weinidog yn mwynhau cyri a sglodion ar Stryd Caroline neu 'Chippy Lane', fel y mae rhai'n ei galw, ond mae llawer o'r perchnogion siopau cludfwyd yno yn cael trafferth gyda chost cynhyrchion cynaliadwy i weithredu'r ddeddfwriaeth bwysig iawn hon. Mae rhai perchnogion siopau yn adrodd cynnydd o dair gwaith o'i gymharu â'r cynhyrchion plastig untro yr oedden nhw'n eu defnyddio. Maen nhw'n honni mai mater o economeg syml ydyw. Yn syml, nid oes digon o gynhyrchion eco-gyfeillgar ar y farchnad i wneud y pris yn gystadleuol. Mae hyn nid yn unig yn effeithio ar y busnesau, wrth gwrs, ond mae'n cynyddu felly pris cyri a sglodion i ddefnyddwyr. A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried ffyrdd o annog gweithgynhyrchwyr dewisiadau amgen ecogyfeillgar i helpu i gefnogi busnesau Cymru, a helpu i gefnogi'r traddodiad pwysig o gyri a sglodion yng Nghaerdydd ar Stryd Caroline? Diolch yn fawr. Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, darllenais i adroddiad gan y BBC gan ohebydd a oedd wedi bod i Stryd Caroline, ac rwy'n credu'i fod wedi cael argraff eithaf gwahanol, nid yn unig gan ddefnyddwyr ond gan berchnogion siopau sglodion a thai cyri hefyd. Y gwir amdani yw, hyd nes y byddwch chi'n creu galw torfol am declynnau diblastig, ni fydd y gost yn gostwng. A dyna'r hyn y mae'r ddeddfwriaeth hon yn ei wneud, a dyna pam y cafodd ei chefnogi mor bwerus yn y Siambr hon. Mae'n rhaid i ni sicrhau'r math hwnnw o newid lle nad plastigau untro bellach, er gwaethaf mantais eu pris ar hyn o bryd, yw'r ffordd arferol yr ydyn ni'n mynd ati i wneud pethau yma yng Nghymru. A thrwy greu marchnad dorfol ar gyfer ffurfiau diblastig o gyllyll a ffyrc ac yn y blaen, dyna'r ffordd y bydd prisiau'n gostwng hefyd. Ac fe gafodd hynny ei gydnabod gan lawer o berchnogion bwytai yn Stryd Caroline fel rhan o'r adroddiad hwnnw gan y BBC. Y Llywydd / The Llywydd: Diolch yn fawr i'r Prif Weinidog. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Y Llywydd / The Llywydd: Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny—Lesley Griffiths. Lesley Griffiths AC: Diolch, Llywydd. Mae sawl newid i fusnes yr wythnos hon, ac mae pob un ohonyn nhw wedi'u nodi ar yr agendâu sydd wedi'u cyhoeddi. Mae'r busnes drafft am y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig. Darren Millar AC: Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad gan Weinidog priodol Llywodraeth Cymru ar ymarferoldeb sefydlu arsyllfa genedlaethol i Gymru? Fe wyddoch chi fod hwn yn rhywbeth yr wyf i wedi ymddiddori ynddo yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac rwy'n arbennig o awyddus i weld arsyllfa genedlaethol wedi'i sefydlu ym mryniau Clwyd, yn yr hyn fydd ein parc cenedlaethol newydd, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr ato. Es i ar ymweliad â Phrifysgol Wrecsam ddoe, lle y gwnes i gyfarfod â'r is-ganghellor. Roeddem ni'n trafod yr ymchwil a'r gwaith arloesol sy'n cael ei wneud yn Llanelwy, yn y ganolfan dechnoleg optoelectroneg yno, a fyddai, wrth gwrs, yn ddefnyddiol iawn o ran cymhwyso peth o'r wybodaeth a'r ymchwil honno i ddatblygu lensys ar gyfer telesgopau, er mwyn arsylwi awyr y nos. Ac mae'n ymddangos i mi fod llawer o synergedd yma gyda gallu sefydlu lleoliad ymchwil yn y gogledd, ym mryniau Clwyd, i fanteisio ar hyn, a allai ddod yn ganolfan ragoriaeth genedlaethol. Mae prosiectau tebyg wedi eu cyflawni yng Ngweriniaeth Iwerddon. Ac rwy'n credu bod hyn, felly, yn rhywbeth y byddwn i'n gobeithio y gallem fynd ar ei ôl, ar y cyd â'r sector addysg uwch, gan weithredu hefyd fel atyniad i ymwelwyr. Felly, a gaf i ofyn i Lywodraeth Cymru gynnal astudiaeth ddichonoldeb er mwyn gweld a yw hyn yn rhywbeth y byddai modd ei ddatblygu? Lesley Griffiths AC: Diolch. Rwy'n credu eich bod chi wedi codi pwynt pwysig iawn. Rwy'n credu mai fi fyddai'r Gweinidog mewn gwirionedd, oherwydd yn amlwg fi sy'n gyfrifol am y parc cenedlaethol newydd. Ond byddwn i'n hapus iawn i gael golwg arno, ac efallai cael trafodaeth gyda fy nghyd-Aelod, Jeremy Miles, i weld a fyddai hyn yn rhywbeth a fyddai'n werth ei wneud cyn i'r parc cenedlaethol newydd ddod i fodolaeth, sy'n datblygu'n dda iawn, dim ond i'r Aelodau fod yn ymwybodol, ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn amlwg yn bwrw ymlaen â hynny. Ond rwy'n credu bod hwnna'n bwynt pwysig iawn a byddwn i'n hapus iawn i ystyried hynny. Heledd Fychan AS: Ym mis Awst cyhoeddodd 145 o awduron, newyddiadurwyr, academyddion a chyfranwyr eraill i gylchgronau a gwefannau o Gymru sy'n cael eu hariannu gan Gyngor Llyfrau Cymru lythyr agored wedi'i gyfeirio at Lywodraeth Cymru, Cymru Greadigol a'r Cyngor Llyfrau. Y mater allweddol a gafodd ei godi oedd ynghylch gostyngiadau enfawr mewn grantiau craidd sy'n cael effaith ddinistriol ar amodau gwaith, ac mae hyn yn peryglu'r sector, gan wneud ei ddyfodol yn ansicr. A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth am y trafodaethau y mae ei swyddogion wedi'u cael o ran y materion a gafodd eu codi a sut y mae'r rhain yn cael eu hymdrin â nhw? Lesley Griffiths AC: Diolch. Fel y gwyddoch chi, yn ystod yr haf, a chyn i'r gyllideb ddrafft gael ei chyhoeddi, roedd gennym ni benderfyniadau anodd iawn i'w gwneud, a gan edrych ar gyllideb y flwyddyn nesaf hefyd, ac, yn amlwg, mae'r Dirprwy Weinidog wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn. Nid wyf i'n credu y byddai datganiad ynghylch trafodaethau y cafodd hi, na'i swyddogion, gyda rhanddeiliaid, yn briodol. Ond rwy'n credu mai'r hyn a fyddai o fantais, yn amlwg, wrth graffu ar y gyllideb yma yn y Siambr, yw y gellid gofyn cwestiynau. Jane Dodds AS: Prynhawn da, Gweinidog. Byddwn yn gwerthfawrogi datganiad, os gwelwch yn dda, gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch cau meddygfa Belmont, sy'n gwasanaethu Crughywel, a hefyd maen nhw wedi colli'u gwasanaethau deintyddol GIG yno. Rydyn ni'n gwybod bod cymunedau gwledig yn arbennig yn wynebu heriau o ran cael gofal iechyd, a dyna pam mae colli meddygfa Belmont, gyda'i meddygon teulu, a gwasanaeth deintyddol y GIG, yn peri cymaint o bryder difrifol i'r gymuned leol benodol honno. Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n sicrhau bod gan y bobl leol yr adnoddau lleol hynny, ac rydyn ni'n gwybod sut mae'r ddarpariaeth leol mewn gwirionedd yn sicrhau eu bod yn cael y sylw sydd ei angen arnyn nhw. Felly, byddwn i'n ddiolchgar am ddatganiad gan y Gweinidog ar y cynlluniau i wella gofal iechyd gwledig yn ne Powys. Diolch yn fawr iawn. Lesley Griffiths AC: Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn nodi o'r dechrau na ddylai neb, dim claf yng Nghymru fod heb fynediad at feddyg teulu, p'un ai yw hynny mewn ardal wledig neu mewn ardal drefol. Os oes unrhyw un yn cael trafferth wrth ddod o hyd i feddyg teulu y mae'n bosibl iddo gael mynediad ato, dylai gysylltu â'i fwrdd iechyd lleol. Rwy'n deall bod Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi rhoi cynllun lliniaru ar waith i leihau'r effaith ar fynediad at feddygon teulu o ganlyniad i gau meddygfa gangen Belmont. Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud y gallai fod angen newid y model darparu lleol ar gyfer gofal sylfaenol weithiau i sicrhau gwasanaethau diogel a chynaliadwy i gleifion, ac mae byrddau iechyd wedi sefydlu gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â chynigion ar gyfer newidiadau i ddarparu gwasanaethau lleol sydd wedi dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru. Gareth Davies AS: A gaf i ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y prynhawn yma ar ddeintyddiaeth y GIG yn Nyffryn Clwyd a'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud i leddfu'r pwysau ar ddeintyddiaeth leol yn sir Ddinbych, yn enwedig cleifion sydd yn cael eu gwasanaethu gan Feddygfa Ddeintyddol Elwy yn y Rhyl, neu a arferai eu cael ganddi? Maen nhw wedi cysylltu â mi yn llu yn ddiweddar, gan ddweud eu bod nhw wedi cael eu dileu oddi ar restr y GIG heb unrhyw fai arnyn nhw eu hunain ac maen nhw nawr yn gorfod talu am driniaeth breifat. Ac mae hyn mewn cyfnod lle mae arian yn brin a'r ffaith bod gorllewin Y Rhyl, lle mae Practis Deintyddol Elwy wedi'i leoli, mewn ardal o amddifadedd uchel. Felly, yr hyn sy'n ymddangos yn wir yw'r ffaith bod contract y GIG sy'n cael ei gynnig i ddeintyddion gan Lywodraeth Cymru yn anghystadleuol â'r sector preifat, ac mae gweithwyr proffesiynol ym maes deintyddiaeth yn mudo o'r GIG i'r sector preifat i geisio cael gwell tâl, telerau ac amodau gwell a llai o fiwrocratiaeth. Felly, mae'n ymddangos ei bod yn ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i fynd yn ôl o amgylch y bwrdd â'r sector a chreu contract GIG sy'n gystadleuol, a fydd yn helpu deintyddion i fynd yn ôl i'r GIG a darparu gofal y geg o'r radd flaenaf y mae pobl Y Rhyl a sir Ddinbych wedi arfer ag ef ac nad ydyn nhw'n ei dderbyn ar hyn o bryd. Felly, a gaf i ddatganiad am y cynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar y mater hwn a pha gyfarfodydd a thrafodaethau yr ydych chi wedi'u cael gyda'r sector deintyddol i leddfu'r broblem gynyddol hon i fy etholwyr? Diolch. Lesley Griffiths AC: Wel, mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'i swyddogion yn parhau i gynnal trafodaethau. Rwy'n credu mai dim ond teg yw nodi mai 24 yn unig o blith 413 o gontractau sydd wedi eu trosglwyddo yn ôl ers mis Ebrill 2022. Y Llywydd / The Llywydd: Diolch i'r Trefnydd. 3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Diwygio Bysiau Y Llywydd / The Llywydd: Eitem 3 yw'r eitem nesaf. Mae'r eitem yma wedi ei ohirio ac i'w gyflwyno fel datganiad ysgrifenedig. 4. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Diweddariad ar y Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia Y Llywydd / The Llywydd: Mae eitem 4 yn eitem sydd wedi ei ohirio. 5. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Cymorth i Aros Y Llywydd / The Llywydd: Eitem 5, felly, fydd nesaf, y datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar Cymorth i Aros. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad. Julie James. Julie James AC: Diolch, Llywydd. Diolch yn fawr iawn i chi am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynllun cymorth morgais Cymorth i Aros Cymru. Mae'r cefndir economaidd ar hyn o bryd yn cynnwys llawer o heriau. Ni ddylid diystyru effaith gronnol y cynnydd sylweddol o ran costau tanwydd, chwyddiant uchel, cynnydd ym mhrisiau rhent a thai, gydag incwm pobl heb fod yn cynyddu digon i ddiwallu eu hanghenion. Yn ystod 2022-23 a 2023-24, fe wnaethom ddyrannu cymorth gwerth mwy na £3.3 biliwn trwy raglenni wedi'u targedu a rhaglenni sy'n rhoi arian yn ôl ym mhocedi teuluoedd. Fe fyddwn ni'n parhau i flaenoriaethu ein cefnogaeth ar sail ein hegwyddorion amlwg o ddiogelu gwasanaethau rheng flaen cystal ag y gallwn ni, gan gefnogi'r aelwydydd sy'n cael eu taro galetaf gan yr argyfwng costau byw a blaenoriaethu swyddi. Mae 12 cynnydd ar ôl ei gilydd i'r gyfradd llog gan Fanc Lloegr yn ystod y 18 mis diwethaf wedi arwain at gostau cynyddol sylweddol o ran benthyca arian. Mae hwn yn bryder i lawer ac fe welir hynny ar draws y farchnad fenthyca boed hynny o ran benthyciadau morgais, cynydd mewn rhent preifat o ganlyniad i gynnydd i forgais prynu i osod, benthyciadau llog uwch i fusnesau neu o ran ariannu cartrefi cymdeithasol newydd. Yn ôl ffigyrau UK Finance, fe fydd tua 800,000 o forgeisi sefydlog yn dod i ben cyn diwedd eleni, ac 1.6 miliwn arall yn dod i ben yn 2024. Nid yw'r ffigurau yn cynnwys morgeisi cyfraddau amrywiol a morgeisi tracio, a fydd eisoes wedi codi yn gyflym iawn a hynny wedi arwain at daliadau uwch. Mae'r Resolution Foundation yn dweud y bydd ad-daliadau morgais blynyddol £15.8 biliwn y flwyddyn yn uwch erbyn 2026 o gymharu â mis Rhagfyr 2021, pan ddechreuodd y banc godi cyfraddau llog. Mae disgwyl i ad-daliadau blynyddol i bobl sy'n ailforgeisio yn y flwyddyn nesaf godi gan £2.9 biliwn ar gyfartaledd—mae'n ddrwg gen i, £2,900 ar gyfartaledd. Mae angen i mi gael fy seros mewn rhes yma. Mae ystadegau meddiant morgeisi a landlordiaid ar gyfer misoedd Ebrill hyd Fehefin 2023 yn dangos, o gymharu â'r un chwarter yn 2022, bod hawliadau meddiant morgais wedi cynyddu 15 y cant. Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair. Julie James AC: Mae trafodaethau manwl am y farchnad forgeisi yn rhan o ymrwymiad y cytundeb cydweithio i archwilio cymorth morgeisi lleol wedi cyfrannu at ein dealltwriaeth ni o'r bylchau yn y farchnad a'r mannau y gallwn ni gyfeirio cefnogaeth iddyn nhw. Mae gennym ni gyfle nawr i helpu mwy o bobl drwy ehangu ein cynnig achub morgeisi cyfredol i gefnogi'r rhain yn gynharach, nid dim ond y rhai sydd cael eu bygwth gan adfeddiannu. Mae hyn yn cynnwys rhoi cefnogaeth i'r rhai sy'n gaeth i gynnyrch amrywiol safonol ac nad ydyn nhw'n gallu trefnu morgais newydd sy'n fforddiadwy. Trwy weithredu nawr â rhagor o fuddsoddiad, fe allwn ni rwystro llawer o unigolion a theuluoedd rhag mynd i weithrediadau adfeddiant a bod yn ddigartref, gan ychwanegu at y rhestrau aros sydd eisoes dan straen a chostau llety dros dro uchel i'r awdurdodau lleol. Mae swm o £40 miliwn o gyllid cyfalaf ad-daladwy wedi'i wneud ar gael dros y ddwy flynedd nesaf i gyflwyno cynlluniau ar gyfer darparu cymorth ariannol sy'n hyblyg, ac fe allaf i gyhoeddi heddiw lansiad cynllun cymorth morgais Cymorth i Aros Cymru a rhoi gwybodaeth i berchnogion cartrefi, gan gynnwys y meini prawf cymhwysedd. Cytunwyd ar hynny'n rhan o'r cytundeb cyllideb gyda Phlaid Cymru ar gyfer 2023-24. Fe fydd y cynllun Cymorth i Aros Cymru yn cynnig dewis i berchnogion tai sy'n ei chael hi'n anodd fforddio eu taliadau morgais ac sydd mewn perygl difrifol o golli eu cartrefi drwy gynnig ad-daliad rhannol o falans morgais cyfredol trwy fenthyciad ecwiti cost isel, a sicrheir drwy ail daliad, y tu cefn i fenthyciwr y taliad cyntaf, gan leihau ad-daliadau morgais diwygiedig hyd at gyfradd y gall yr ymgeisydd ei fforddio. Mae'r rhan fwyaf o gynlluniau cyfredol yn ei gwneud hi'n ofynnol i bobl fod mewn gweithrediadau adfeddiant eisoes i fod yn gymwys ar eu cyfer. Fe fydd Cymorth i Aros yn ymestyn hynny i gynnwys rhai sy'n wynebu gweithrediadau adfeddiant a/neu mewn caledi ariannol. Nid yw'r cynllun ar gael ond i aelwydydd cymwys sydd wedi archwilio'r holl fesurau eraill a gynigir gan y darparwr morgais drwy siarter morgeisi'r DU ac sydd wedi gofyn am gymorth drwy wasanaethau cyngor ar ddyledion. Fe fydd perchnogion tai sy'n gymwys yn cael cyngor morgais rhad ac am ddim gan gynghorwyr dyledion arbenigol, gyda chostau hynny'n cael eu talu yn llawn gan Lywodraeth Cymru. Fe fydd hyn yn sicrhau bod yr ymgeisydd wedi derbyn cyngor annibynnol ynghylch y dewisiadau sydd ar gael, ac yn cadarnhau bod pob trywydd arall wedi ei ddilyn, ac yn gwirio cyfraddau'r gwasanaeth dyled y gallai'r ymgeisydd ei fforddio yn rhesymol ar sail adolygiad o'i amgylchiadau ar hyn o bryd. Mae canllawiau llawn ar y cynllun, gan gynnwys y meini prawf ar gyfer cymhwysedd, ar gael erbyn hyn ar wefan Llywodraeth Cymru. Dirprwy Lywydd, fe hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r partneriaid allanol ac arbenigwyr yn y sector sydd wedi ein cynorthwyo ni i ddatblygu'r cynllun hwn ar gyflymder. Mae eu cefnogaeth a'u gwaith caled wedi bod yn hanfodol i sefydlu'r meini prawf cymhwyso priodol a chefnogi'r prosesau hyn. Fe hoffwn i ddiolch hefyd i UK Finance a'r benthycwyr hynny sy'n cefnogi'r cynllun. Rwy'n gobeithio y bydd mwy yn gallu rhoi eu cefnogaeth nhw dros yr wythnosau nesaf. Fe fyddwn ni'n parhau i wneud popeth yn ein gallu gyda'r pwerau sydd gennym ni i helpu i amddiffyn aelwydydd sy'n agored i niwed drwy'r argyfwng costau byw hwn. Mae cynllun newydd Cymorth i Aros Cymru yn ategu'r cymorth hwn ac fe fydd yn helpu i ddarparu'r cymorth angenrheidiol i berchnogion tai sydd dan bwysau ariannol allu aros yn eu cartrefi eu hunain. Diolch. Janet Finch-Saunders AC: Diolch i chi, Gweinidog, am gyflwyno'r datganiad hwn. Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud bod pawb ohonom ni'n ymwybodol iawn nawr pa mor anodd yw hi ar bobl, yn enwedig ar y rhai sydd â morgais a'r ymrwymiad rheolaidd hwnnw y mae'n rhaid iddyn nhw ei dalu bob mis. Fe fydd penderfyniad Banc Lloegr i ddal y gyfradd llog sylfaenol ar 5.25 y cant am yr eildro yn olynol yn ymestyn y cyfnod hwn o galedi, ond rydym ni i gyd yn gobeithio y daw rhywfaint eto o haul ar fryn. Mae pwyllgor polisi ariannol y banc, sy'n gwneud y penderfyniadau am y cyfraddau, yn disgwyl i chwyddiant arafu yn sydyn iawn hyd 4.8 y cant yn ffigyrau mis Hydref, ac rydym ni'n dal i obeithio y byddwn ni'n bwrw ymlaen â chyfraddau chwyddiant sy'n is. Mae Llywodraeth y DU eisoes yn darparu cymorth hefyd i'r rhai sydd â morgeisi. Mae benthycwyr sy'n cwmpasu dros 75 y cant o'r farchnad wedi cytuno i siarter morgeisi newydd y Canghellor, gan estyn cefnogaeth i gwsmeriaid morgeisi preswyl, ac fe all unrhyw un sy'n poeni am ei ad-daliadau morgais ffonio'r benthyciwr—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gen i. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Anwybyddwch e, Janet, os gwelwch chi'n dda. Ewch ymlaen â'ch cyfraniad chi. Janet Finch-Saunders AC: Fe all unrhyw un sy'n poeni am ei ad-daliadau morgais ffonio ei fenthyciwr am wybodaeth a chymorth heb effeithio ar ei sgôr credyd. Ni fydd cwsmeriaid yn cael eu gorfodi i weld adfeddiannu eu cartrefi o fewn 12 mis i'r taliad cyntaf y methwyd ei wneud, ac estynnir cyfle i gwsmeriaid sy'n agosáu at ddiwedd cytundeb cyfradd sefydlog allu cloi cytundeb am hyd at chwe mis i ddod, ac felly fe allan nhw wneud cais hefyd am gytundeb gwell hyd nes y bydd eu tymor newydd yn dechrau os oes un ar gael. Mae'r cytundeb newydd y cytunwyd arno rhwng benthycwyr, yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol a'r Llywodraeth yn caniatáu i gwsmeriaid drosglwyddo i forgais llog yn unig am chwe mis, neu hyd yn oed ymestyn tymor eu morgais er mwyn lleihau eu taliadau misol a newid yn ôl i'w tymor gwreiddiol o fewn y chwe mis cyntaf os ydyn nhw'n dewis gwneud felly. Gellir manteisio ar y ddau ddewis heb unrhyw wiriad fforddiadwyedd newydd nac effaith ar sgôr credyd. Fe wyddom ni fod cefnogaeth ar gael nawr i gwsmeriaid sy'n gyfredol o ran eu taliadau i drosglwyddo i gytundeb morgais newydd ar ddiwedd eu cytundeb cyfradd sefydlog cyfredol heb unrhyw wiriad fforddiadwyedd arall. Ceir gwybodaeth ar yr amser priodol i helpu cwsmeriaid i gynllunio ymlaen llaw pe byddai disgwyl i'w cyfradd bresennol ddod i ben, ac fe gynigir cymorth wedi ei deilwra i unrhyw un sy'n ei chael hi'n anodd. Fe allai hyn olygu ymestyn tymor y morgais i leihau taliadau, a fyddai'n cynnig trosglwyddo i daliadau llog yn unig, ond ystod o ddewisiadau eraill hefyd fel gohirio taliadau dros dro neu i gyfran o log, ac ad-daliad rhannol. Ac rwy'n cytuno, mae angen i ni sicrhau bod pawb yn gwybod beth yw eu hawliau nhw os ydyn nhw'n cael trafferthion â'u morgais er mwyn teimlo yn ddigon hyderus i siarad â'u benthyciwr a deall y camau y gallan nhw ofyn amdanynt i gael cymorth. Felly, yn ogystal â chyflwyno'r arian hwn, pa gamau fyddwch chi'n eu cymryd i helpu i wella ymwybyddiaeth o'r siarter morgeisi yng Nghymru? Pam nad ydych chi wedi dewis cynllun sy'n caniatáu i landlordiaid cymdeithasol brynu cartrefi sydd dan fygythiad o'u hadfeddiannu er mwyn i berchennog y tŷ allu barhau i fyw yn yr annedd y bu'n ei ystyried yn gartref iddo am gryn dipyn o flynyddoedd yn ôl pob tebyg? Rwy'n ymwybodol bod y meini prawf cymhwysedd yn fanwl iawn, megis yr uchafswm o £300,000 yng ngwerth yr eiddo a £67,000 o uchafswm yn incwm y cartref. Sut y daethpwyd at y meini prawf hyn o ran cymhwysedd ac a ydych chi'n hyderus y bydd hynny'n arwain at estyn cymorth i'r rhai sydd ag angen gwirioneddol amdano? Diolch i chi. Diolch. Julie James AC: Wel, diolch i chi, Janet, am roi darlleniad i ni o gymorth honedig Llywodraeth y DU. Fel rwy'n siŵr y gwnaethoch chi sylwi pan oeddech chi'n ei ddarllen, y cyfan y mae hynny'n ei olygu yw gofyn i'ch benthyciwr chi naill ai ymestyn eich benthyciad neu eich helpu chi i gael un sydd hyd yn oed yn ddrytach. Wyddoch chi, ni fydd hynny'n helpu llawer iawn o bobl o gwbl. Rwy'n croesawu'r cyngor o ran cysylltu â'ch benthyciwr chi—rydym ni'n cyd-fynd â hynny. Yn bendant, cyn gynted ag y bydd rhywun o'r farn ei fod mewn unrhyw anhawster o gwbl gyda thaliad morgais, mae hi'n amlwg y dylai gysylltu â'i fenthyciwr ar ei union. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu cyfres gyflawn o wasanaethau o ran cyngor ynglŷn â dyledion y dylai pobl gysylltu â nhw, oherwydd nid ydym ni'n awyddus i unrhyw un ddechrau llithro i golli taliadau morgais os oes yna unrhyw ddewis arall o gwbl yn bosibl. Diben y cynllun hwn yw helpu'r bobl hynny na allan nhw fforddio talu eu morgais yn eu sefyllfa nhw a heb fod yn gallu gwerthu eu cartrefi yn drefnus, mewn pryd i allu canfod rhywle arall i fyw, a hynny oherwydd ystod eang o amgylchiadau. Fe geir amrywiaeth o amgylchiadau a allai amrywio llawer iawn ar gyfer pob teulu. Efallai eich bod chi ar flynyddoedd olaf cyfraddau uchel iawn o ofal plant, er enghraifft, ac, yn ystod y ddwy flynedd nesaf, mae hi'n ddigon posibl y byddwch chi mewn sefyllfa lle bydd eich plant yn yr ysgol amser llawn ac y bydd eich sefyllfa ariannol chi'n gwella o ganlyniad i hynny, ac yn y blaen. Felly, mae yna amrywiaeth enfawr o amgylchiadau y mae pobl yn cael eu hunain ynddyn nhw. Rwy'n credu, serch hynny, Janet, ei bod hi'n rhaid i chi dderbyn bod y sefyllfa bresennol, o ran chwyddiant a'r hyn a ddigwyddodd y llynedd gyda Llywodraeth Truss, wedi distrywio cyllid pobl yn llwyr. Nid wyf i'n credu mai pwynt gwleidyddol mohono erbyn hyn—fe wnaeth hynny mewn gwirionedd. Roedd pobl yn mynd oddi wrth gyfraddau llog sefydlog o 1.9 y cant i 6.2 y cant—ni all neb fforddio hynny. Mae hi'n gwbl gywilyddus. I ateb un o'ch cwestiynau eraill chi, nid dyma'r unig gynnyrch sydd gennym ni; un cynnyrch yn unig yw hwn. Rydym ni'n llwyr yn caniatáu i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a chynghorau brynu pobl allan—pecyn achub morgais. Cymorth i Aros yw hwn, nid yw'n golygu prynu neb allan, ond fe hoffwn i bwysleisio bod hwn yn un o gyfres gyflawn o ymyriadau a wnaethom ni'n rhan o'r cytundeb cydweithio. Rydym ni wedi bod yn gweithio ar becyn achub morgeisi ers peth amser gyda Siân Gwenllian, yn rhan o'r pecyn hwn, oherwydd rydym ni'n awyddus hefyd i bobl aros yn eu cartrefi eu hunain. Ond y pwynt sylfaenol yn hyn o beth yw, pe byddai rhywun yn mynd yn ddigartref, nid ffordd o fyw y mae unigolyn yn ei dewis—wyddoch chi, ni allaf i gredu fy mod i wedi clywed hynny oddi wrth un o Weinidogion Llywodraeth y DU, a dweud y gwir. Am beth cwbl gywilyddus i'w ddweud. Y rheswm am hynny yw eich bod wedi profi cyfres o ddigwyddiadau anffodus, a dweud y lleiaf, ac fe allai hynny ddigwydd i unrhyw un ohonom ni—unrhyw un ohonom ni. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yma yw mynegi, mewn termau dynol ac ariannol, ei bod hi'n llawer mwy caredig ac yn ariannol ddoeth hefyd i ni helpu pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain. Yn arferol, mae teulu sy'n mynd yn ddigartref yn costio pum gwaith yn fwy i'w cadw, o ran dewisiadau tai, nag yr oedden nhw'r diwrnod cyn hynny, pan nad oedden nhw'n ddigartref. Felly, mae hwn yn ddefnydd da iawn o arian cyhoeddus, sy'n lleihau archollion pobl ac, mewn gwirionedd, mae hwn yn fuddsoddiad da iawn sy'n arbed arian yn y pen draw, oherwydd fe fydd yn helpu pobl i sefyll ar eu traed, ac aros yn eu cartrefi eu hunain, a phan fo rheidrwydd arnyn nhw i symud, fe fydd yn estyn cyfle iddyn nhw wneud hynny'n drefnus fel nad oes raid iddyn nhw wneud hynny'n frysiog, sy'n ddirdynnol iawn. Felly, rwy'n credu bod hwn yn gynnyrch rhagorol, sy'n tarddu o set o benderfyniadau gwael dros ben gan Lywodraeth y DU. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Ac yn olaf, Mabon ap Gwynfor. Mabon ap Gwynfor AS: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Gweinidog am y cyhoeddiad yma heddiw. Ar ran Plaid Cymru, dwi'n croesawu'n fawr y cynllun Cymorth i Aros a'r pecyn o £40 miliwn sydd wedi cael ei neilltuo ar ei gyfer drwy'r cydweithio efo Plaid Cymru. Mae nifer cynyddol o bobl yng Nghymru yn wynebu ansicrwydd anferthol ac yn ofni digartrefedd yn sgil y chwyddiant anferthol sydd yn parhau a'r argyfwng costau byw. Bydd y pecyn cymorth yma'n sicrhau to uwchben nifer o'n teuluoedd yng Nghymru, ac mae hyn i'w groesawu. Mae hyn, wrth gwrs, yn wahanol iawn i'r Llywodraeth anfoesol sydd yn gweinyddu yn San Steffan. Chlywsom ni ddim byd tebyg yn Araith y Brenin heddiw a dwi'n hyderus na chlywn ni ddim byd tebyg yn natganiad yr hydref mewn pythefnos chwaith. Ond mae'n amlwg mai ein blaenoriaeth ni yma, drwy'r cytundeb cydweithredu rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth, ydy sicrhau bod gan bobl do uwch eu pennau a bod pobl yn gallu byw mewn urddas a diogelwch. Mae’r gefnogaeth yma'n bosib oherwydd ein bod ni’n gweld sefydliadau Cymru yn cael eu defnyddio er lles pobl Cymru. Dyma ddatganoli, er gwaethaf mor gyfyngedig a thila ydy o, yn gweithio dros bobl Cymru, gan sicrhau cymorth i’r bobl hynny sydd ei angen yn ystod eu hawr fwyaf anghenus. Dyma Cymru yn lliniaru ar effeithiau niweidiol argyfwng a grëwyd yn San Steffan. Ystyriwch beth fedren ni ei gyflawni gyda’r grymoedd llawn a ddaw yn sgil annibyniaeth. Efo annibyniaeth, ni fyddai Cymru bellach ar drugaredd Ceidwadwyr ciaidd San Steffan, ond yn hytrach yn medru torri ein cwys ein hun yn llwyr a chreu'r polisïau economaidd tecach sydd eu hangen arnom ni er mwyn cael gwared ar ddigartrefedd a sicrhau bod pawb yn byw gydag urddas yng Nghymru. Ydy’r Gweinidog, tybed, yn cytuno efo’r dadansoddiad yma? Mae gan Blaid Cymru hanes balch o gynorthwyo pobl yn y modd yma. Dŷn ni’n cofio gwaith gwych Jocelyn Davies pan oedd hi’n Weinidog tai nôl yn 2008 a’i chynllun achub morgeisi bryd hynny. Mae’r pecyn newydd yma, Cymorth i Aros, am fynd gam ymhellach na hynny a chynorthwyo pobl yn gynt yn y broses, nid dim ond pobl sydd o dan fygythiad uniongyrchol o golli eiddo yn syth. Mae hyn, felly, yn golygu y gall pobl aros yn eu cartrefi ac osgoi'r straen a’r gorbryder a ddaw yn sgil trafferthion talu morgais. Mabon ap Gwynfor AS: Mewn cyfnod fel hyn o bwysau economaidd difrifol ar aelwydydd, fe fydd ehangu'r gefnogaeth i'r rhai sy'n wynebu adfeddiannu a chaledi ariannol yn lleihau nifer y perchnogion tai sydd mewn perygl o brofi adfeddiant a digartrefedd trwy roi amser iddyn nhw ddatrys eu problemau ariannol gwaelodol. Yn ei hanfod, fe fydd y cynllun yn helpu llawer i osgoi profiad ingol digartrefedd sy'n cynyddu, ac fe fydd yn helpu i ysgafnu'r pwysau ar wasanaethau llety dros dro, sydd dan straen aruthrol ar hyn o bryd, gyda'r ystadegau diweddaraf yn nodi bod 11,185 o unigolion mewn llety dros dro. Fe fydd y cynllun sydd ger ein bron heddiw, wrth gwrs, yn gweithio ochr yn ochr â pholisïau eraill yr ydym ni wedi dadlau o'u plaid nhw ers cryn amser ac erbyn hyn, rydym ni wedi eu sicrhau nhw drwy'r cytundeb cydweithio, sef y gwaith ar ail gartrefi a thai gwag, deddfwriaeth newydd ar atal digartrefedd, a'r Papur Gwyn ar eiddo a rhenti teg. Mae Plaid Cymru a'r Llywodraeth Lafur yn amlwg yn rhannu'r nod o sicrhau y bydd pawb yng Nghymru gyda diogelwch o fod â tho uwch eu pennau ac aelwyd yn gartref. Ac wrth groesawu lansiad y cynllun heddiw, fe fyddaf i'n parhau i ddadlau'r achos y dylai Llywodraeth Cymru gofleidio a gwreiddio'r hawl i annedd weddus yn y gyfraith yng Nghymru, i ysgogi'r newid yr ydym ni'n dyheu amdano. Yn y pen draw, mae'r sefyllfa ansicr y mae llawer o ddeiliaid morgeisi yn ei hwynebu yn bodoli oherwydd strwythur presennol y farchnad dai, sydd yn ei hanfod yn golygu mai'r unig ddewis i'r rhan fwyaf o bobl ar gyfer prynu tŷ yw cael morgais am eiddo na ellir ei fforddio, yn y bôn. Yr hyn sydd angen i ni ei wneud mewn gwirionedd yw cyflymu'r gwaith o adeiladu tai trefol i leihau costau, gan alluogi mwy o bobl i allu byw mewn tai diogel a fforddiadwy. Fe fydd y cynllun hwn yn mynd ffordd bell o ran helpu pobl ledled Cymru, ond mae'n rhaid iddo weithredu ochr yn ochr ag ystod o bolisïau eraill hefyd. Diolch yn fawr iawn. Julie James AC: Diolch, Mabon. Rwy'n cytuno yn llwyr â'r gyfres olaf honno o sylwadau. Un rhan yw hon o gyfres o bolisïau, fel roeddech chi'n gywir i'w ddweud, ac fe fuom ni'n gweithio gyda'n gilydd ar lawer ohonyn nhw yn rhan o'r cytundeb cydweithio. Nid y bwriad mewn unrhyw fodd yw disodli adeiladu cartrefi cymdeithasol, ac mae hi'n amlwg fod angen i ni wneud hynny, ond mae hyn yn deillio o'r un amgylchiadau â'r rhai sy'n achosi'r anhawster o ran adeiladu cartrefi cymdeithasol. Felly, roeddem ni'n arfer gallu adeiladu cartref cymdeithasol am rywbeth rhwng £175,000 a £195,000, a nawr y mae hynny rhwng £235,000 a £250,000. Felly, fe gollwn ni ddau ym mhob miliwn os ydych chi'n ystyried y peth fel yna. O ganlyniad i hynny, fe fydd nifer fawr o bobl a allai fod wedi bod yn wynebu'r math hwn o galedi ac a fyddai wedi gwneud cais am dai cymdeithasol ymhellach yn eu holau, am nad ydym ni'n gallu adeiladu'r tai hyn fel byddem ni. Fe ysgogwyd hyn i gyd gan bolisïau cyllidol sobr o wael Llywodraeth y DU. Nid oedd angen o gwbl iddi fod fel hyn. Mae hon yn set drychinebus o amgylchiadau a ddaeth yn weithredol oherwydd anghyfrifoldeb cyllidol. Nid oes ffordd arall o fynegi'r peth. Felly, yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud yw sicrhau bod yr archoll a achosir gan hynny mewn llawer o gartrefi ledled Cymru yn cael ei lliniaru, ac, wrth gwrs, mae hon yn gyfres o bolisïau. Felly, ydym, rydym ni'n edrych yn hollol ar achub morgais lle bydd rhywun yn colli buddiant yr ecwiti sydd yn ei gartref ond yn parhau i fod yn gallu byw ynddo. Nid yw hynny'n ddelfrydol, ond serch hynny, mae'n llawer gwell na mynd yn ddigartref. Mae hyn yn eich galluogi chi i gadw eich troed ar yr ysgol eiddo. Mae'r farchnad dai yn doredig ym Mhrydain—mae hynny'n hollol wir. Felly, mae'r mathau hyn o ymyriadau yn angenrheidiol i sicrhau ein bod ni'n cadw cymaint o bobl â phosibl yn eu cartrefi, felly mae hynny'n gyfran fawr o'r hyn yr ydych chi, Dirprwy Lywydd, wedi fy nghlywed i'n ei ddweud lawer gwaith o ran agenda ataliaeth. Nid ystyr hyn yn unig yw helpu pobl mewn trybini nad ydyn nhw wedi dewis ffordd o fyw fel hyn, ond sy'n ddi-fai yn y mwyafrif o achosion—fe fyddwn i'n mynd mor bell â dweud ym mhob achos, mewn gwirionedd—ac mae ar waith i wneud yn siŵr ein bod ni'n bwrw ymlaen â hynny ac yn ceisio atal hynny rhag digwydd. Mae pwysau ariannol fel hyn yn peri i deuluoedd chwalu. Dyna'r gwir amdani. Pwysau oherwydd dyledion yw un o achosion pennaf chwalfa deuluol. Felly, mae ceisio bwrw ymlaen yn hyn o beth yn un o brif amcanion y polisi hwn. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Diolch i'r Gweinidog. 6. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol: Adroddiad Blynyddol 2022-23 Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Yr eitem nesaf yw datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, adroddiad blynyddol 2022-23, a galwaf ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt. Jane Hutt AC: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae hi'n ffaith ofnadwy fod trais yn erbyn menywod a merched yn parhau i ddifetha bywydau, gydag aflonyddu, cam-drin a thrais yn rhywbeth sy'n digwydd yn ddyddiol i lawer un. Mae hi'n frawychus fod dwy fenyw bob wythnos ar gyfartaledd yn cael eu lladd gan bartner presennol neu gyn-bartner yng Nghymru a Lloegr. Mae Llywodraeth Cymru yn eglur o ran ein huchelgais i weld diwedd ar drais yn erbyn menywod a merched. Mae hi'n broblem yn y gymdeithas, sy'n gofyn ymateb cymdeithasol, y byddwn ni'n ei arwain a'i ysgogi fel ei gilydd. Heddiw, rwy'n falch o gyhoeddi adroddiad blynyddol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ar gyfer 2022–2023. Mae cyhoeddi'r adroddiad hwn yn ofyniad statudol yn unol ag adran 12 Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y cynnydd a wnaeth Llywodraeth Cymru tuag at ei nod i weld diwedd terfyn ar drais ar sail rhyw. Mae'n cwmpasu'r gwaith a gwblhawyd rhwng 1 o fis Ebrill 2022 a 31 o fis Mawrth 2023, gan gyfeirio at y chwe amcan a nodir yn y strategaeth genedlaethol. Cyhoeddwyd strategaeth genedlaethol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ym mis Mai 2022, a hon yw'r ail strategaeth o'r fath i'w chyhoeddi yn unol â Deddf 2015. Mae'r strategaeth yn nodi sut mae Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector yn mynd i'r afael â thrais gan ddynion, anghydraddoldeb rhywiol a chasineb at fenywod. Mae'r adroddiad blynyddol yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â'r cynnydd tuag at gyflawniad pob un o'r amcanion. Mae'n tynnu sylw at y gwaith pwysig a wneir yma yng Nghymru i sicrhau bod menywod a merched yn gallu byw heb ofn a bod pob tramgwyddwr a goroeswr yn derbyn y cymorth sydd ei angen. Mae'n cydnabod hefyd bwysigrwydd ymagwedd groestoriadol. Fe fydd hyn yn ein helpu ni i ddatblygu ein dealltwriaeth ni o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol hefyd ac yn mynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n wynebu anghenion ac amrywiol pawb sy'n cael eu heffeithio arnyn nhw, gan gynnwys plant, pobl hŷn, pobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, pobl anabl a phobl a chymunedau LHDTC+. Mae'r adroddiad hwn yn dangos y ffordd arloesol y datblygir y strategaeth hon drwy ddull y glasbrint, sy'n dwyn sefydliadau datganoledig a sefydliadau heb eu datganoli at ei gilydd, yn ogystal â grymuso'r bartneriaeth rhwng sectorau cyhoeddus, preifat ac arbenigol. Drwy gydol 2022-23, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Plismona yng Nghymru a'r sector arbenigol, i sefydlu strwythur glasbrint newydd ar gyfer trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol er mwyn cyflawni'r strategaeth genedlaethol. Mae hyn yn adeiladu ar ein modelau glasbrint llwyddiannus ar gyfer cyfiawnder i fenywod a chyfiawnder i ieuenctid. Mae glasbrint trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn cynnwys chwe ffrwd waith sy'n adrodd i fwrdd rhaglenni gweithredol, sydd, yn ei dro, yn cael ei oruchwylio gan fwrdd partneriaeth cenedlaethol strategol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yr wyf i'n ei gadeirio gyda'r Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn. Rwyf i wedi ymrwymo i roi gwrando ar lais y goroeswr wrth galon y gwaith hwn. Yn ystod y cyfnod adrodd, cafodd panel craffu i wrando ar leisiau goroeswyr a rhoi cyfranogiad iddyn nhw ei sefydlu yn rhan o'r glasbrint, ac mae hwnnw'n sicrhau y bydd y gwaith glasbrint i gyd yn cael ei graffu arno gan oroeswyr cyn cael ei ystyried gan fwrdd partneriaeth genedlaethol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Dim ond drwy ymgysylltiad gwirioneddol ac ar y cyd â goroeswyr y gellir gweld cynnydd. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun gweithredu lefel uchel y glasbrint ym mis Mawrth 2023. Mae hwnnw'n disgrifio diben pob un o'r ffrydiau gwaith ac yn nodi pob un o'u cynlluniau cyflawni lefel uchel. Mae sefydlu'r glasbrint wedi gosod sylfaen gref i weithio ar y cyd ac fe hoffwn i ddiolch i'n holl bartneriaid ni am eu hymrwymiad cyffredin i'r agenda hon. Dim ond drwy weithio gyda'n gilydd, drwy gyfuno ein harbenigedd a'n hadnoddau, y byddwn ni'n gallu mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a sicrhau y bydd pawb yn gallu cael cymorth, ac y gall atal liniaru niwed ac y bydd tramgwyddwyr yn gallu mynd i'r afael â'u hymddygiad nhw. Fe hoffwn i ddiolch hefyd i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am y gwaith pwysig a wnaethon nhw yn eu hymchwiliadau i'r maes hwn o bolisi. Yn ogystal â'r adroddiad blynyddol hwn ar y strategaeth genedlaethol, rydym ni newydd gyhoeddi diweddariad hefyd ar gynnydd ar y glasbrint. Yn ogystal â hynny, fe hoffwn i dynnu sylw at waith amhrisiadwy ein cynghorwyr cenedlaethol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, sef Yasmin Khan a Johanna Robinson. Maen nhw'n cefnogi'r glasbrint, yn ogystal â'm cynghori a'm helpu i godi proffil y gwaith hwn a wneir ledled Cymru a'r tu hwnt. Maen nhw newydd gyhoeddi eu hadroddiad blynyddol eu hunain, ac rwy'n ei gymeradwyo i Aelodau'r Senedd ac unrhyw un arall sy'n ymddiddori ym maes rhoi diwedd ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae rhai o'r cyflawniadau allweddol eraill a ddaeth i'r amlwg yn yr adroddiad blynyddol ar y strategaeth genedlaethol yn cynnwys, ym mis Mawrth eleni, fy nghyhoeddiad o becyn cyllid ar gyfer BAWSO i ddarparu cefnogaeth i fenywod mudol sy'n ffoi rhag cam-drin nad ydyn nhw'n gallu hawlio arian cyhoeddus; ymgysylltiad helaeth â Llywodraeth y DU ar wahanol ddarnau o ddeddfwriaeth, gan gynnwys y Bil Dioddefwyr a Charcharorion, i sicrhau bod natur ddatganoledig darpariaeth gwasanaethau yng Nghymru yn cael ei hystyried; datblygiad a lansio ymgyrch Iawn, ymgyrch ymyrraeth gynnar ac atal ar gyfer dynion ifanc, gan eu hannog nhw i wneud dewisiadau personol adeiladol a dechrau sgyrsiau agored gyda'u cyfoedion; cafodd 21,500 o blant a phobl ifanc fwy o wybodaeth, ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o berthnasoedd iach drwy sesiynau Sbectrwm mewn ysgolion cynradd; caffael ar gyfer rhaglen hyfforddiant gwyliwr genedlaethol gyntaf Llywodraeth Cymru i herio agweddau cymdeithasol a chynyddu annerbynioldeb cam-drin ar sail rhywedd; ac, erbyn diwedd mis Mawrth 2023, roedd dros 342,000 o weithwyr proffesiynol yng Nghymru wedi cael hyfforddiant drwy'r fframwaith hyfforddi cenedlaethol, gan sicrhau bod y wybodaeth a'r profiad ganddyn nhw i ymateb yn hyderus i'r rhai sy'n profi unrhyw fath o gam-drin ar sail rhywedd; a chefnogwyd dros 34,000 o ddioddefwyr a goroeswyr trais yn erbyn menywod gan linell gymorth Byw Heb Ofn 24/7, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n cyhoeddi'r adroddiad hwn yn y cyfnod cyn Diwrnod y Rhuban Gwyn ar 25 o fis Tachwedd a'r 16 diwrnod o weithgarwch sy'n ei ddilyn. Y Rhuban Gwyn yw'r brif elusen yn y DU sy'n ymgysylltu â dynion a bechgyn i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched. Ac rwy'n falch o adrodd, dros y cyfnod adrodd, fod Llywodraeth Cymru wedi adnewyddu ei hachrediad Rhuban Gwyn. Llywodraeth Cymru yw'r unig Lywodraeth y DU neu adran lywodraethol i gael ei hachredu gan y Rhuban Gwyn. Fel y gwelwch chi o'n hadroddiad blynyddol, mae Cymru wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac fe ddylem ni fod yn falch o'n henw da. Serch hynny, mae llawer i'w wneud eto, ac mae creu'r glasbrint yn dangos maint ein huchelgais ni'n eglur. Rydym ni wedi cyflawni llawer iawn ond mae heriau sylweddol iawn yn parhau ac fe fyddwn ni'n ymdrin â'r rhain yn uniongyrchol. Yn 2023-24 fe fyddwn ni'n parhau i weithio gyda'n gilydd yn ysbryd cydgynhyrchu a chydweithio i ddatblygu'r glasbrint ymhellach a chyflawni yn ôl strategaeth genedlaethol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Ein hymrwymiad ni yw sicrhau y gall pawb fyw heb ofn, ac ni fydd Cymru yn sefyll yn ôl o ran gwrthsefyll trais. Mark Isherwood AC: Neithiwr, fe anfonodd Llywodraeth Cymru ddogfen i'r Aelodau, 'Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: adroddiad blynyddol 2022 i 2023 o gynnydd'. Pam mae hon yn wahanol i'r ddogfen 'Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: adroddiad blynyddol cynghorwyr cenedlaethol 2022 i 2023', a gyhoeddwyd fis diwethaf, o ran ei chynnwys a'i hamcanion fel ei gilydd? Ym mha le mae'r strategaeth gydlynol, gadarn sy'n manylu ar beth, sut, ym mha le, pa bryd, a phwy sydd am gyflawni yn ôl yr amcanion hyn? Mae'r adroddiad cynghorwyr cenedlaethol yn nodi, ac rwy'n dyfynnu: 'Darparodd Comisiynydd Cam-drin Domestig Cymru a Lloegr adroddiad cynhwysfawr yn 2022 "A Patchwork of provision: mapping report" sut i ddiwallu anghenion dioddefwyr a goroeswyr ledled Cymru a Lloegr.' Mae'n mynd ymlaen i ddweud: 'Amlygodd yr adroddiad hwn yr heriau o ran gallu dioddefwyr a goroeswyr i gael gafael ar gymorth cwnsela, roedd gwahaniaeth o 21 pwynt canran rhwng yr ardal orau (58% yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr) a'r ardal waethaf (37% yng Nghymru). Ymhellach, mae'n dweud: 'wrth geisio dwyn cyflawnwyr trais i gyfrif a gweithredu’r ymyriadau newid ymddygiad penodol, dywedodd 16% o oroeswyr yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr fod cymorth newid ymddygiad ar gael i’w camdriniwr, o'i gymharu â 3% yng Nghymru.' Felly, sut ydych chi am lenwi'r bwlch hwn o ran mynediad at wasanaethau yma yng Nghymru? Mae'r adroddiad yn dweud hefyd: 'Mae ymgysylltu â goroeswyr a sicrhau bod unigolion sy'n arbenigwyr drwy brofiad yn rhan o'r gwaith o lunio polisïau a chraffu ar yr hyn sy'n digwydd ar bob lefel yn hanfodol.' Fodd bynnag, mae Cymorth i Ferched Cymru wedi tynnu sylw at bryderon ynghylch Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, ac nad yw Llywodraeth Cymru yn gwrando arnyn nhw, ac yn dweud nad ydyn nhw o'r farn fod y Ddeddf yn cydweddu â natur hyblyg ac ymdriniaeth ag argyfwng y ddarpariaeth lloches. Ni fwriedir fyth i ddarpariaeth lloches fod yn gartref parhaol, ac mae goroeswyr yn byw yno wrth iddyn nhw ffoi rhag perygl o niwed difrifol neu farwolaeth sydd wrth law. Mae lloches yn dibynnu ar denantiaethau hyblyg, fel trwyddedau, er mwyn gallu symud y goroeswr ymlaen yn gyflym pan nad yw'r lloches yn briodol bellach. Mae'r ddeddfwriaeth hon, medden nhw, wedi trin y llety brys y mae lloches yn ei ddarparu fel cartref at ddibenion Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru), a hynny'n amhriodol. Maen nhw'n credu'n gryf y gallai'r Ddeddf dorri'r system lloches rhag trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru. Mae hi wedi achosi canlyniadau parhaol a dinistriol eisoes i oroeswyr a darpariaeth y gwasanaethau, chwedl nhw, ers ei rhoi ar waith. 'Codwyd pryderon ynglŷn â materion fel diogelu, risg, cymhlethdod statws tenantiaeth preswylwyr a baich gweinyddol ychwanegol ar ddarpariaeth lloches, sy'n ymdopi â galw mawr eisoes.' Diwedd y dyfyniad. Er eu bod nhw wedi codi a thystiolaethu am eu pryderon nhw i Lywodraeth Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud nad oes gennych sylfaen dystiolaeth ddigonol ar gyfer newid deddfwriaethol nac ymgynghoriad cyhoeddus. Cyn pen-blwydd cyntaf ei weithrediad ar 1 o fis Rhagfyr, fe fydd Cymorth i Ferched Cymru yn cynnal digwyddiad heddychlon 'Cyrch ar y Senedd' ar 28 o fis Tachwedd, ac maen nhw'n gwahodd Aelodau i ddod draw i ddangos cefnogaeth. Rwy'n noddi digwyddiad galw heibio ar y cyd ar 13 o fis Rhagfyr ar y mater hwn. Felly, pa drafodaethau a gawsoch chi, neu a fydd gennych chi nawr gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd i fynd i'r afael â'r pryderon gwirioneddol hyn ynghylch y Ddeddf, ac a wnewch chi ddod i'r naill neu'r llall o'r digwyddiadau hyn i glywed mwy am bryderon Cymorth i Ferched Cymru? Mae'r adroddiad a gyhoeddwyd gennych chi neithiwr yn nodi 'bod pobl anabl bron i deirgwaith yn fwy tebygol o brofi cam-drin domestig, ac eto mae cymaint o wasanaethau yn anhygyrch iddynt o hyd', ac eto nid yw tîm trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol Llywodraeth Cymru ond, dyfyniad, 'wrthi'n ystyried y dull gorau o ddeall pa gamau a mesurau y mae derbynwyr grant yn eu rhoi ar waith i sicrhau bod y prosiect/au a ariennir yn diwallu anghenion dioddefwyr a goroeswyr anabl'. Pryd fydd hyn ar waith er mwyn galluogi monitro effeithiol? Mae'r adroddiad hwn yn cyfeirio at gynllun gweithredu i ddiwallu anghenion pobl hŷn. Pryd fydd hwnnw'n digwydd a sut caiff ei fonitro? Mae'r adroddiad hwn yn cyfeirio at gynyddu ymwybyddiaeth ymhlith plant a phobl ifanc o bwysigrwydd cydberthynas iach a bod cam-drin yn anweddus pob amser. Mae'n cyfeirio hefyd at ddatblygu dull system gyfan i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc y mae cam-drin domestig a thrais rhywiol yn effeithio arnyn nhw. Er hynny, ar ôl dau ddegawd o siarad am hyn, pa gymorth a monitro penodol a gaiff ei roi ar waith i ddiwallu anghenion cymhleth plant a phobl ifanc sy'n agored i gam-drin domestig a thrais rhywiol? Yn olaf, er mai gwrywod yw mwyafrif y tramgwyddwyr, mae ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn nodi mai dynion a bechgyn yw un rhan o dair y rhai sy'n dioddef cam-drin domestig. Sut felly y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y dioddefwyr a'r goroeswyr hyn yn gallu cael gafael ar gymorth sy'n ddiogel, yn addas ac yn arbenigol yn eu hardaloedd nhw? Jane Hutt AC: Diolch yn fawr iawn i chi, Mark Isherwood. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn i ni gydnabod swyddogaeth ein cynghorwyr cenedlaethol, ac roeddwn i'n croesawu eu hadroddiad blynyddol nhw'n fawr iawn. Fe gawson nhw eu sefydlu dan ddarpariaeth Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, fel y gwyddoch chi, ac mae hi'n bwysig bod ganddyn nhw swyddogaeth annibynnol; mae ganddyn nhw swyddogaeth allweddol o ran cynghori Gweinidogion Cymru ynghylch dilyn pwrpas y Ddeddf a mynd i'r afael â materion cysylltiedig. Rwy'n credu mai'r hyn sydd wirioneddol bwysig o ran ein cynghorwyr cenedlaethol—ac rwy'n gwybod bod nid yn unig y pwyllgor, ond Aelodau eraill y Senedd yn ymwybodol iawn o'n cynghorwyr cenedlaethol, yr arbenigedd, y profiad a'r annibyniaeth y maen nhw'n eu cyfrannu yn y swyddi hynny, ac mae hi'n bwysig iawn eu bod nhw'n gallu darparu'r adroddiadau hynny. Mewnbwn annibynnol, cytbwys yw'r hyn—. Wyddoch chi, yn unol â thelerau eu penodi, ond gan gynnig yr arbenigedd a'r cyngor hwnnw i ni a'n helpu ni i lunio datblygiad a darpariaeth o ran polisi. A'r hyn sy'n bwysig iawn yw eu bod nhw â rhan allweddol yn y strategaeth hon a chyflawniad y strategaeth hon. Felly, maen nhw'n cadeirio ein ffrydiau gwaith ar y cyd ac maen nhw wedi bod yn rhan o sefydlu'r fframwaith a'r panel goroeswyr, oherwydd eu bod nhw'n ymgysylltu yn uniongyrchol â phobl sydd â phrofiad byw o ganlyniad i'w swyddogaeth a'u harbenigedd annibynnol. Jane Hutt AC: Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni gydnabod y gwaith a wnaethpwyd yn barod, yn enwedig o ran yr amcan, amcan 3, sy'n ymwneud â chanolbwyntio mwy ar ddwyn y rhai sy'n cyflawni camdriniaeth i gyfrif, gan gefnogi'r rhai a allai ymddwyn yn ymosodol neu dreisgar wrth newid eu hymddygiad ac osgoi troseddu. Yn amlwg, mae'r adroddiad yn cofnodi'r hyn a wnaethpwyd dros y flwyddyn ddiwethaf, ac yn wir yr hyn sydd o'n blaenau ni o ran yr amcanion. Mae hi'n bwysig iawn fod gennym ni ffrwd waith i ymdrin â throseddau, i gydnabod bod gennym dîm polisi o ran troseddau. Mae hwnnw'n gweithio gyda'n comisiynwyr heddlu a throseddu. Er enghraifft, mae'n llunio ymateb ar sail Cymru gyfan i rybuddion amodol i dramgwyddwyr o ran trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ym maes ymyrraeth gynnar. Ond yr hyn sy'n bwysig iawn o ran y ffrwd waith yw ein bod ni'n gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu map o wasanaethau i nodi argaeledd gwasanaethau sy'n gweithio gyda thramgwyddwyr a rhai sy'n peri niwed i eraill, ar gyfer deall y dirwedd yng Nghymru yn well o ran newid ymddygiad a gweithgaredd. Mae hi'n bwysig ein bod ni'n ystyried hyn o safbwynt rhyngblethol, a dyna'r hyn yr oedd y ffrydiau gwaith ac yn wir gyfarfod olaf y bwrdd gweithredu strategol, yr wyf i'n ei gadeirio, yn ei drafod. O ran croestoriad, rydym ni'n edrych ar ein gwasanaethau arbenigol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol o ran anghenion dioddefwyr anabl, i sicrhau nad oes unrhyw ddioddefwr yn mynd drwy'r rhwyd o ran darpariaeth gwasanaethau, yn enwedig y rhai sydd â risg uwch, ac mae hynny'n cynnwys dioddefwyr hŷn yn ogystal â phobl anabl. Un pwynt o ddatblygiad sy'n bwysig yw cronfa grant cyfalaf trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, sy'n galluogi gwasanaethau arbenigol i addasu eu darpariaethau nhw neu brynu llety addas, ac mae'n rhaid i ni sicrhau bod gofynion pobl anabl o ran hygyrchedd yn cael eu cydnabod yn y ddarpariaeth honno o gymorth grant cyfalaf. Mae amcan 2 yn ymwneud â phlant a phobl ifanc, ac fe roddais i'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith a wnaethpwyd eisoes i estyn allan at blant a phobl ifanc, oherwydd yn amlwg mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ag effaith mor enfawr ar blant a phobl ifanc, ac mae gennym ni ffrwd waith sy'n arwain ar y pwnc hwn. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod hefyd yn ymgorffori dealltwriaeth a'r hyn a ddysgir. Fel y dywedais i, fe soniais i am brosiect Sbectrwm, sydd wedi datblygu adnoddau ar gyfer athrawon, gan weithio mewn ysgolion cynradd, ond sy'n ystyried gweithio gyda CCAUC hefyd, gyda Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, o ran sicrhau bod staff a myfyrwyr yn ymgysylltu â hyn, i weld sut y gall prifysgolion a sefydliadau'r trydydd sector fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod o fewn lleoliadau prifysgol ar gyfer pobl ifanc. Mae gennym ni addysg cydberthynas a rhywioldeb yn ofyniad statudol erbyn hyn yn fframwaith Cwricwlwm i Gymru, ac mae'n orfodol i ddysgwyr. Rwyf i am wneud sylw terfynol mewn ymateb i'ch cwestiynau chi ynglŷn â Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016. Er mwyn egluro unwaith eto i'r Aelodau, mae'r Ddeddf yn cydnabod ac yn diogelu hawliau'r rhai sy'n byw mewn tai sydd â chymorth, ac mae'n dilyn adolygiad sylweddol o'r defnydd blaenorol o drwyddedau mewn ystod o leoliadau, gan gynnwys llochesau, gan Gomisiwn y Gyfraith. Felly, mae Deddf 2016 yn rhoi sail gyfreithiol i lety â chymorth, gan ddarparu hawliau tebyg i unrhyw un arall sy'n byw mewn llety ar rent. Rwyf i wedi cwrdd â Chymorth i Ferched Cymru i drafod y materion hyn. Maen nhw wedi codi pryderon am weithrediad y Ddeddf ac mae'n rhaid i ni edrych ar hyn, ac yn wir rydym ni wedi gwneud hynny, ac fe wnes i hynny gyda'm cyd-Aelod Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, sy'n gyfrifol am dai. Rwy'n credu mai ystyr hyn yw cydbwyso hawliau a buddiannau'r rhai sy'n byw mewn llochesau. Felly, mae ein swyddogion ni, gyda'i gilydd, yn trafod gyda Chymorth i Ferched Cymru ynglŷn â'u pryderon nhw sy'n ymwneud â'r Ddeddf. Mae yna gynlluniau i ddatblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o'r effaith ymarferol drwy werthuso gweithrediad y Ddeddf, ac mae hynny ar y gweill ar hyn o bryd. Felly, da o beth yw ein bod ni'n casglu cymaint â phosibl o dystiolaeth o'r byd gwirioneddol o ran ystyried effaith y Ddeddf. Mae hi'n galonogol hefyd fod hyn yn cael ei rannu a'i graffu arno mewn ffordd sy'n agored a bod cyfarfodydd yn cael eu cynnal a bod trafodaethau yn cael eu cynnal hefyd. Rwy'n gobeithio y gwnewch chi gydnabod o'r adroddiad—yr adroddiad yr wyf i'n ei gyflwyno heddiw—y cynnydd a wneir, ac y byddwn ni'n cyhoeddi cylchlythyrau chwarterol hefyd oddi wrth ffrydiau gwaith sy'n ymgysylltu, yn bwysicaf i gyd, o ran y glasbrint. Mae gennym ni wasanaethau ac awdurdodau datganoledig a heb eu datganoli yn gweithio gyda'i gilydd. Wedi bod â rhan yn y maes hwn ers blynyddoedd lawer, o ddechrau datblygu Cymorth i Fenywod, oes, mae gennym ni gyfrifoldebau enfawr yn y gwasanaethau datganoledig, ond os na ellir rhoi hyn yng nghyd-destun cyfrifoldebau cyfiawnder troseddol, yn enwedig o ran plismona a'u swyddogaeth nhw, a Gwasanaeth Erlyn y Goron a'r llysoedd, ni fyddwn ni'n gweld y newid y mae angen i ni ei weld. I mi, mae hi'n rhwystredigaeth enfawr ac yn frawychus, fel y dywedais i, ar gyfartaledd, fod dwy fenyw yn cael eu lladd bob wythnos gan bartner presennol neu gyn-bartner yng Nghymru. Ac, wrth gwrs, rydym ni'n dwyn y dioddefwyr hynny i gof. Rydym ni'n parhau i gefnogi prosiect Dyn Cymru Ddiogelach, sy'n amddiffyn ac yn cefnogi pob dyn, gan gynnwys dynion hoyw, heterorywiol, deurywiol a thrawsryweddol, sydd wedi profi cam-drin domestig yng Nghymru. Ac, yn bwysig iawn, y ffaith fod prosiect Dyn yn gweithio i wella diogelwch a chynyddu llesiant drwy ddull cydweithredol gyda phartneriaid ledled Cymru. Sioned Williams AS: Diolch am y datganiad, Weinidog. Mae lefel trais a cham-drin domestig yn erbyn menywod, wrth gwrs, yn dal i fod yn gwbl annerbyniol, a'r cynnydd heb fod yn ddigonol i atal yr agweddau misogynistaidd yna sy'n arwain at drais ac ymddygiad sy'n peri cymaint o drawma a loes. Mae'n parhau, fel gwnaethoch grybwyll, efallai, yn fanna, i fod yn rhwystredig nad oes ffigurau penodol i Gymru ar gael oherwydd nad yw cyfiawnder wedi'i ddatganoli, a gallwn ni ddim, felly, cael y darlun llawn o'r hyn sy'n digwydd yng Nghymru hebddynt. Ydych chi'n cytuno, heb y ffigurau yma sy'n benodol i Gymru, ei bod hi'n anodd craffu yn iawn ar unrhyw strategaeth sy'n helpu mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol gan ein bod yn ansicr a yw'r niferoedd yng Nghymru'n gwella ai peidio, mewn gwirionedd? Mae angen hefyd asesiad gwell o'r croestoriadedd sy'n bodoli yn yr adroddiad yma, yn benodol sut mae'r argyfwng costau byw, er enghraifft, yn effeithio ar ba mor agored i niwed yw unigolion i gam-drin domestig a thrais rhywiol. Yng ngoleuni’r toriadau diweddar i'r gyllideb cyfiawnder cymdeithasol, a allwch chi, Weinidog, amlinellu os, a sut, y bydd y toriadau'n effeithio ar y gwaith hanfodol sy'n cael ei wneud i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru? Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod plant a phobl ifanc y mae cam-drin domestig yn effeithio arnynt ledled Cymru yn gallu cael mynediad at y gwasanaethau arbenigol hollbwysig yna sydd eu hangen arnyn nhw, ac sydd, efallai, nawr dan fygythiad oherwydd toriadau mewn cyllid? Hoffwn i adleisio'r pryderon ynghylch effaith Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) ar ddarpariaeth llochesi. Gwnaethoch chi sôn yn eich ateb chi i Mark Isherwood fod yna werthusiad o ryw fath yn cael ei wneud, a bod yna sgyrsiau yn digwydd gyda'r rhai sy'n darparu lloches ac sy'n cefnogi goroeswyr. Felly, allwch chi roi gwybod i ni pryd ŷch chi'n rhagweld y bydd y gwaith gwerthuso yna'n dod i ben? Mae'r pryderon yma'n rhai difrifol—mor ddifrifol bod Cymorth i Ferched Cymru yn gorfod dod i risiau'r Senedd er mwyn gwneud eu pwynt unwaith eto; maen nhw wedi bod yn sôn am y mater yma ers blwyddyn, ers i'r Ddeddf ddod i rym. Felly, os gallwn ni gael mwy o sicrwydd ynglŷn â phryd y byddwn ni'n gallu disgwyl gwybod pen draw'r gwaith gwerthuso yna. Gwnaethoch chi hefyd sôn yn eich datganiad am waith y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol dwi'n aelod ohono, a'i effaith ar strategaeth a gwaith y Llywodraeth yn y maes yma. Mae'n hymchwiliad diweddar ni wedi amlygu'r angen am ddarpariaeth gydweithio gynhwysfawr rhwng Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid, i nodi a blaenoriaethu rhaglenni atal effeithiol ar gyfer cyflawnwyr, sy'n cael yr effaith hirdymor yna ar atal trais ar sail rhywedd. Mae'n waith hanfodol, onid yw e, yn enwedig os ydym ni am atal hynny ar raddfa'r boblogaeth. Mae'n amlwg bod angen canllawiau ar sail tystiolaeth ar bartneriaid i'w helpu i benderfynu beth sy'n gweithio orau ac i bwy. Gwnaethoch chi sôn bod Llywodraeth Cymru yn edrych ar hyn, yn ceisio adeiladu rhyw fath o storfa o wybodaeth i roi ffocws ar gyfer datblygu tystiolaeth a gwerthuso. Felly eto, a allwn ni gael amserlen ar gyfer y gwaith pwysig yma? Ac, wrth gwrs, wedyn, yr hinsawdd ariannol heriol yma sy'n wynebu Cymru ar hyn o bryd, mae hyn yn codi cwestiynau ynglŷn â'r ffaith a oes yna gyllid digonol i asesu a gwerthuso effaith a chanlyniadau ymyriadau, fel rhaglenni ar gyfer cyflawnwyr, yn effeithiol. Ydyn nhw ar gael? Ydych chi'n cytuno bod y data hwn yn hanfodol bwysig er mwyn deall a yw strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru a'r dull glasbrint yn effeithiol? Diolch. Jane Hutt AC: Diolch yn fawr, Sioned Williams. Rwy'n cytuno yn llwyr â chi: rhwystredigaeth barhaus i ni yw peidio â bod â mynediad at y data llawn, i ddeall natur a chyfraddau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru. Ac, yn wir, mae hynny'n rhan wirioneddol fawr o'n gwaith ar gyfer datganoli cyfiawnder i Gymru, ac fe fyddwn ni'n gwneud diweddariad, gydag adroddiad cynnydd, ar ein 'Sicrhau Cyfiawnder i Gymru', sef, wrth gwrs, adroddiad gan y Cwnsler Cyffredinol a minnau a gyhoeddwyd gennym ni'r llynedd. Rwy'n canolbwyntio i raddau helaeth iawn ar y ffaith nad yw'r holl arfau i wneud y swydd ar gael i ni o ran mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Rydym ni'n defnyddio arddull y glasbrint, fel gwnaethom ni gyda'r fframwaith cyfiawnder ieuenctid ac, yn wir, y fframwaith troseddwyr benywaidd, lle ceir meysydd cyffredin eglur iawn rhwng y glasbrint troseddol benywaidd a'r strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Fe wyddom ni fod llawer o'r menywod sydd yn y carchar, er enghraifft, yn oroeswyr, ac wedi profi trais domestig a cham-drin rhywiol, ond roedd y trawma sydd wedi effeithio ar eu bywydau yn cynnwys nid yn unig trais domestig, ond tlodi hefyd a chamddefnyddio sylweddau yn aml. Felly, mae croeso unwaith eto i'r alwad honno am y data hynny y mae eu hangen nhw arnom ni. Hynny yw, fe ddylid rhoi hyn i ni yn weithredol, heb sôn am unrhyw achos yr ydym yn ei wneud ar gyfer datganoli cyfiawnder a datganoli'r ddarpariaeth ac argaeledd y ffynonellau hynny o ddata. Rydych chi'n gwneud pwynt pwysig ynglŷn â'r effaith ar fywydau menywod ac ar fywydau'r rhai yr ydym ni'n eu cefnogi nhw drwy ein gwasanaethau arbenigol o ran yr argyfwng costau byw. Ac i raddau helaeth iawn, unwaith eto, i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a'r gwaith a wnaethon nhw—y gwaith gwych ar fenywod mudol a sefyllfa menywod mudol a'r rhai nad oes hawl ganddyn nhw am arian cyhoeddus—a'r ffaith bod BAWSO yn sefydliad arbenigol gennym ni y mae'r diolch am hynny, ac roeddwn i'n falch iawn o allu ymateb yn uniongyrchol i'r argymhelliad hwnnw y dylem ni fod â chronfa i gefnogi'r rhai nad oes unrhyw hawl ganddyn nhw i dderbyn arian cyhoeddus. Ac mae hyn yn adeiladu ar y gwaith y maen nhw'n ei wneud eisoes, gyda chynllun peilot gyda'r Swyddfa Gartref. Felly, dim ond dweud, fe wnaethom ni ariannu BAWSO ar gyfer cynllun peilot o flwyddyn yma yng Nghymru. Ystyr hyn mewn gwirionedd yw dysgu o'r cynllun peilot, ac fe geir gwerthusiad o gynllun cefnogaeth y Swyddfa Gartref i ddioddefwyr mudol, oherwydd pobl yw'r rhain a fyddai'n amddifad heb ymyrraeth fel hynny. Fe ddylai menywod mudol allu cael arian cyhoeddus heb wynebu amddifadedd o ganlyniad i'w statws o ran mewnfudo. Rydych chi'n codi pwyntiau pwysig hefyd o ran sut y gallwn ni ymestyn allan a chyflawni er mwyn plant a phobl ifanc. Mae ffrwd waith y plant a'r bobl ifanc yn allweddol, ac mae honno'n ystyried materion economaidd-gymdeithasol hefyd—pob agwedd ar anghenion ac effaith trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ar blant a phobl ifanc. Fe gyfeiriais i at rai o'r ffyrdd yr ydym ni'n ceisio ymgysylltu a chodi ymwybyddiaeth o blant a phobl ifanc mewn ysgolion, yn ogystal â'u hathrawon, yr amgylchedd addysgol, hyd at addysg uwch. Oherwydd ystyr hyn yw ymyrraeth gynnar ac ataliaeth, mewn gwirionedd, a newid y ffordd y mae plant a phobl ifanc yn dysgu sut i dyfu i fyny a pharchu ei gilydd. Y ffrwd waith plant a phobl ifanc honno, rwy'n credu y bydd cylchlythyrau yn cael eu hanfon yn chwarterol erbyn hyn ynglŷn â'r ffrydiau gwaith hynny. Ond rwyf i o'r farn fod yr ymyrraeth o ran plant a phobl ifanc yn bwysig iawn, ond cyfran hefyd o'r gwaith a wnaethpwyd, sy'n dod i'r amlwg yn yr adroddiad blynyddol—y canllawiau statudol ynglŷn â chadw dysgwyr yn ddiogel. Mae hwnnw'n ganllaw pellgyrhaeddol ar gyfer cefnogi lleoliadau addysg ynglŷn ag ataliaeth ac ymateb effeithiol i gam-drin plant yn rhywiol. Rydym ni'n ariannu Childline Cymru Wales, rydym ni'n ariannu llinell gymorth Byw Heb Ofn, ac rydym ni'n ariannu gwasanaeth Meic. Roedd cyflwyno tystiolaeth i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn beth da iawn hefyd—yn ogystal â'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol—ynglŷn â'u hymchwiliad nhw i aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr ifanc, ac ystyried hyn yn gyfrifoldeb trawslywodraethol o ran adroddiad Estyn hefyd, a'r argymhellion a ddaeth oddi wrth Estyn, a gweithio gydag awdurdodau lleol o ran edrych unwaith eto ar fwlio, aflonyddu, gan roi gwybodaeth a sicrhau bod ysgolion â'r wybodaeth ddiweddaraf am arfer gorau. Rydym yn gweithio gydag ystod eang o randdeiliaid, ac rwyf wedi sôn am nifer y plant sydd wedi cael gafael ar wybodaeth ac wedi dod i ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Ond yn ogystal â hynny, mae'r arian yr ydym ni'n ei roi i Stori Cymru, er enghraifft, ar gyfer datblygu adnoddau ynglŷn âg addysg rhyw a chydberthynas mewn ysgolion. Rwy'n credu, hefyd, o ran ymyrraeth gynnar ac ataliaeth, i mi wneud sylwadau eisoes, yn amlwg, a ffrwd waith mynd i'r afael â chyflawniad, ond mae ymyrraeth gynnar ac ataliaeth a mynd i'r afael â chyflawniad yn allweddol yn y chwe amcan allweddol. Amcan 3 yw hwn, fel dywedais i. Ac rydym ni'n canolbwyntio ar hwn. Dim ond gair byr am rai o'r camau gweithredu lefel uchel hynny, ac fe soniais i am gyfran o'r gwaith a gafodd ei wneud yn uniongyrchol gyda'r heddluoedd ynglŷn â rhybuddion amodol o ran trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Heddlu De Cymru yw'r ardal heddlu gyntaf i ddechrau gyda'r cynllun peilot hwn yn ystod yr hydref eleni, a bydd Gwent yn dilyn. Rydym ni wedi cytuno i ddarparu cyllid, mewn gwirionedd. Unwaith eto, rydym ni'n ariannu gwasanaethau sydd heb eu datganoli. Rydym ni'n darparu cyllid i heddluoedd yng Nghymru ar gyfer dod ynghyd a defnyddio'r fframwaith rhybuddion amodol newydd sydd â dwy haen, am ein bod ni'n credu mai dyna'r peth iawn i'w wneud. Ond mae gorchymyn amddiffyn cam-drin domestig newydd yn cael ei ddatblygu yn ardal cynllun peilot Gwent hefyd, ac rydym ni'n cyfranogi llawer, wrth gwrs, ar lefel y pedair gwlad, gan weithio ar draws ardaloedd i ganfod yr arfer gorau a fydd yn deillio o'r gorchymyn amddiffyn cam-drin domestig hwnnw. Rwy'n credu bod yr ymyrraeth gynnar yn cynnwys yr holl waith a wnawn ni ynglŷn â chyfathrebu hefyd, ac rydych chi wedi gweld lansio ymgyrch Sain. Rydym ni'n nodi'r rhai ag ymddygiadau niweidiol cynnar a allai arwain at niwed pellach, ac yn herio ac yn cefnogi pobl er mwyn i ni fynd i'r afael yn uniongyrchol â dynion a bechgyn ifanc, a dyna pryd, wrth gwrs, y gallan nhw fod, hefyd, yn gyfryngau i newid. Rydym ni wedi gweld hynny drwy Sain, ac, wedyn, mae hynny'n amlwg iawn yn ein hymgyrch Rhuban Gwyn. Mae'n rhaid i ni fod yn eglur iawn ein bod ni'n grymuso mecanweithiau atebolrwydd—ac rwy'n credu mai hwnnw yw eich pwynt allweddol hi—ar gyfer sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn cyflawni eu cyfrifoldebau o ran ymyrraeth gynnar. Fe roddais i sylwadau ar y Ddeddf rhentu cartrefi, a'r ffaith fy mod i wedi cael trafodaethau uniongyrchol, un wrth un, â phrif weithredwr Cymorth i Ferched Cymru, ac ymgysylltu â'r Gweinidog Newid Hinsawdd, a'i swyddogion a'i chynghorwyr hi, i sicrhau y gallwn ni ddeall effaith ymarferol gweithredu'r Ddeddf hon, a chysoni, unwaith eto, yr hyn sy'n ymwneud â hawliau a buddiannau, fel y dywedais i, a sicrhau bod ystyriaeth annibynnol fel hon yn cael ei rhoi i'r yr hyn y gallai hyn ei olygu o ran, yn sicr, peidio â chyfyngu ar hawliau ac atal digartrefedd hefyd. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Rydym wedi clywed gan y ddau lefarydd gyda'u cwestiynau, a'r ymatebion gan y Gweinidog, ac rydym eisoes wedi mynd dros ein hamser penodedig. Ac mae yna chwe Aelod sy'n dymuno gofyn cwestiynau hefyd. Byddaf yn eu galw, ond rwy'n gofyn i chi i gyd gadw o fewn eich terfyn amser o un munud i sicrhau y gall pawb ofyn eu cwestiwn. Ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn gryno wrth ateb hefyd. Jack Sargeant AC: Gweinidog, mae heddiw'n nodi chwe blynedd ers i fy nhad farw yn yr amgylchiadau mwyaf trasig. Fel y bydd llawer yn y Siambr hon yn cofio, roedd yn ymgyrchydd diflino i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, gan sicrhau bod y Bil trais yn erbyn menywod yn cael ei basio yn y Senedd hon. Roedd hefyd yn ymgyrchydd angerddol ac yn gefnogwr i ymgyrch y Rhuban Gwyn a'i neges mai dynion sy'n gorfod newid. Dirprwy Lywydd, mae'r neges hon mor bwysig nawr ag yr oedd bryd hynny. Dyna pam rwy'n falch o fod yn llysgennad Rhuban Gwyn, i'w gefnogi. Gweinidog, beth gall Llywodraeth Cymru ei wneud i adeiladu ar waith ymgyrchu fy nhad, ac i sicrhau bod dynion ledled Cymru yn ymuno â mi ac yn ymrwymo i addewid y Rhuban Gwyn, ac yn cadw at yr hyn mae'n ei olygu? Jane Hutt AC: Diolch yn fawr, Jack Sargeant. A gaf i ddweud, ac rwy'n siŵr fy mod yn siarad ar ran pawb yn y Siambr hon, ein bod ni gyda chi yn ein meddyliau, ein hatgofion am eich tad annwyl a'r cyn-Weinidog, a chwaraeodd ran mor allweddol? Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cofio, ac wrth i mi wisgo fy mathodyn heddiw, y rhuban gwyn gyda baner Cymru, fe wnaeth ein hatgoffa ni unwaith eto. Ac felly, mae ein meddyliau gyda chi a'ch teulu. Ond hefyd, rwy'n gwybod y byddai Carl eisiau i ni fod yn siarad heddiw am beth arall y gellid ei wneud. Byddai mor rhwystredig ag yr ydym ni, nad ydym wedi dod â melltith trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i ben. O ran ymgyrch y Rhuban Gwyn—ac mae Joyce yn eistedd wrth eich ymyl—rydyn ni'n dechrau ddydd Llun, a bydd gennym ddigwyddiad yn y Senedd. Ond rwyf eisoes wedi tynnu sylw at y ffaith ein bod ni wedi ymrwymo iddo fel Llywodraeth Cymru, rydych chi'n llysgennad, ac rwy'n gobeithio y bydd yr holl ddynion yn y Siambr hon hefyd yn chwarae eu rhan yn ystod yr 16 diwrnod hynny o weithredu. Jane Dodds AS: Diolch yn fawr iawn, Gweinidog, a diolch i Jack hefyd. Hoffwn gadarnhau diolch y Gweinidog i'r cynghorwyr cenedlaethol hefyd, am eu gwaith. Fe wnaethant dynnu sylw at hyfforddiant cynhwysfawr ar draws ein holl wasanaethau cyhoeddus, y maen nhw o'r farn eu bod yn hanfodol i gynnydd ystyrlon ar y mater pwysig iawn hwn. Dywedodd Mahatma Gandhi, "Rhaid i chi fod y newid yr ydych am ei weld." Roedd hynny'n golygu na allwch ysbrydoli eraill i wneud pethau os na fyddwch chi yn eu gwneud yn gyntaf. Felly, rwy'n galw—a bydd aelodau fy mhwyllgor yn gwybod hyn—ar y Senedd i sefydlu hyfforddiant ynghylch trais yn erbyn menywod a merched i ni fel Aelodau o'r Senedd, ond hefyd i staff y Comisiwn. A tybed a fyddech chi'n cadarnhau eich ymrwymiad i sicrhau bod yr hyfforddiant a'r codi ymwybyddiaeth hynny ar waith. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Jane Hutt AC: Diolch yn fawr, Jane Dodds. A gaf i ddweud mai'r ffaith yw y gall y newid—fel mae Jack Sargeant wedi dweud—ddod gan ddynion, ac yn sicr ein Haelodau etholedig, ond gan bob un ohonom ni o ran unrhyw gyfrifoldebau sydd gennym ni? A gaf i ddiolch i chi? Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn cael ei weithredu gan y Comisiwn—mae gennych chi'r Comisiynydd yma heddiw. Ond y fframwaith hyfforddi cenedlaethol yw'r llwybr i hyn, rwy'n credu; mae'n fodiwl e-ddysgu, mae ar gael i bawb trwy fynediad i westeion. Mae dros 100,000 o ymweliadau wedi bod ers iddo agor ar gyfer mynediad i westeion. Ac ers iddo agor, yn 2015, mae wedi cael ei agor 314,000 o weithiau. Felly, a gaf i awgrymu bod hwn yn llwybr i mewn? Mae'n ddechrau, ac yna, wrth gwrs, gallwn fynd ymlaen i'r 'gofyn a gweithredu' ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, ac mae'r contract ar gyfer hynny wedi ei ddyfarnu i Gymorth i Ferched Cymru. Rwy'n credu efallai y gallech chi ddilyn y ddau lwybr yna i'r hyfforddiant. Jenny Rathbone AC: Cefais y fraint o weithio gyda Carl Sargeant ar y Bil VAWDASV, ac rwy'n siŵr y byddai'n cymeradwyo'r gwaith yr ydym yn ei wneud heddiw i roi blaenoriaeth mor uchel i hyn, gan ei fod yn gwbl endemig yn ein cymdeithas. Diolch i chi am sôn am waith y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol; mae ein hymchwiliad ni yn amlwg yn gweithio ar yr adroddiad yr ydym yn mynd i'w roi gerbron y Senedd maes o law, felly nid wyf am ofyn am hynny heddiw. Fodd bynnag, mae'n siŵr bod y panel craffu a chyfranogiad llais goroeswyr yr ydych chi wedi'i sefydlu yn adleisio rhai o feddyliau goroeswyr y clywsom ni ganddyn nhw, nad ydyn nhw wir yn ymwneud â'n gwaith ar atal ac ymyrraeth gynnar. Rwy'n sôn am blant sydd wedi bod yn dyst i drais difrifol neu wedi ei ddioddef eu hunain, a'r angen i sicrhau eu bod yn cael cefnogaeth, fel bo'n briodol. Rwy'n gwybod bod ysgolion yn gwneud gwaith gwych wrth ddarparu cwnsela, ond weithiau, yn anffodus, mae angen gwasanaethau mwy arbenigol ar blant, ac mae eu hangen arnynt mewn modd amserol. Rwy'n ofni bod ysgolion yn aml yn adrodd, i blant cythryblus iawn, ei bod yn anodd iawn cael y gefnogaeth gywir trwy wasanaethau iechyd meddwl, a meddwl oeddwn i tybed pa waith sy'n cael ei wneud i sicrhau bod plant yn cael y math hwnnw o gefnogaeth mewn modd amserol. Jane Hutt AC: Diolch i Jenny Rathbone am ei chwestiwn heddiw ond hefyd am gadeirio'r ymchwiliadau hynny, ac edrychwn ymlaen at ganlyniad eich ymchwiliad presennol. Rwyf eisoes wedi sôn am y ffaith bod gennym ni ffrwd waith plant a phobl ifanc, ac rwy'n credu bod hyn hefyd yn effeithio ar y dangosyddion. Rydych chi'n gwybod ein bod ni nawr yn adolygu'r dangosyddion cenedlaethol hyn ac yn sicrhau eu bod yn gyfredol â'r strategaeth ddiwygiedig, ac o fewn y set o ddangosyddion sydd gennym yn awr mae codi ymwybyddiaeth ymhlith plant a phobl ifanc, iddyn nhw, bod cam-drin bob amser yn anghywir. Rwyf wedi sôn am y ffyrdd yr ydym yn ceisio codi'r ymwybyddiaeth honno, ond rwyf hefyd wedi ymateb i gwestiynau am y ffyrdd yr ydym yn estyn allan i ysgolion, i'r proffesiwn addysgu, a thrwy'r cwricwlwm bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth. Ond rwy'n gobeithio y bydd y ffrwd waith plant a phobl ifanc yn eu hadroddiadau chwarterol yn rhoi'r anogaeth a'r sicrwydd i chi ein bod yn edrych ar hyn yn sicr o safbwynt y plentyn a'r person ifanc. Sarah Murphy AS: Rwyf hefyd eisiau adleisio popeth a ddywedodd pawb am eich tad, Jack. Roedd Carl Sargeant yn arloeswr mawr wrth ddweud mai dynion sydd angen newid ar adeg pan nad oedd neb yn dweud hynny. Arweiniodd drwy esiampl, ac rydych chi'n parhau â'r etifeddiaeth honno. Fy nghyfraniad i heddiw, Gweinidog, yw dweud fy mod yn croesawu'r adroddiad hwn yn fawr. Rwy'n credu, i bob un ohonom ni, mewn gwirionedd, ar y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, fod llawer o'r pethau yr ydym wedi bod yn eu codi gyda Llywodraeth Cymru wedi'u hymgorffori: cefnogaeth i fenywod mudol, eglurhad a gwybodaeth am y gwahanol ffrydiau gwaith, y croestoriadedd, tai, plant. Felly, hoffwn ddweud 'diolch' enfawr am hynny. Ac rwy'n credu, o'r menywod yr wyf i wedi siarad â nhw, yr wyf i'n eu cefnogi yn fy etholaeth i ar hyn o bryd, eu bod nhw wedi dweud wrthyf, o ran mynd allan o'r perygl uniongyrchol hwnnw iddyn nhw eu hunain a'u plant, bod hynny wedi gwella'n aruthrol yng Nghymru. Mae'r gefnogaeth yno, mae'r cyllid yno. Felly, rwy'n teimlo bod Llywodraeth Cymru, yng Nghymru, yn cadw at y glasbrint ac yn gwneud cymaint ag y gall, ond nid wyf yn credu bod Llywodraeth y DU yn gwneud hyn, oherwydd yna beth sy'n digwydd yw eu bod yn gorfod mynd i'r system gyfreithiol yn y pen draw a, phan fyddant yn cyrraedd yno, mae'r trawma yn parhau gan sut y maen nhw'n cael eu trin pan fyddan nhw'n mynd trwy'r system gyfreithiol honno— Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Mae angen i chi ofyn cwestiwn nawr, os gwelwch yn dda. Sarah Murphy AS: Felly, hoffwn wybod pa drafodaethau yr ydych wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch yr adroddiad a gyflwynwyd ganddynt yn 2020 yn galw am weithredu i'w gwneud yn well i blant a mamau sy'n mynd drwy'r sefyllfa honno, oherwydd ar hyn o bryd mae'n ofnadwy ac mae'n cael ei ddisgrifio fel y cam-drin ar ôl gwahanu sy'n parhau mewn llysoedd teulu. Diolch. Jane Hutt AC: Diolch. Yn sicr, hoffwn adrodd yn ôl ar gynnydd. Ar hynny yn benodol, dydw i ddim—. Gallaf godi hyn gyda'r comisiynydd cam-drin domestig pan fyddaf yn cwrdd â hi nesaf. Dyma reswm arall pam mae ein cynghorwyr cenedlaethol mor bwysig, oherwydd eu bod yn cyd-gysylltu'n uniongyrchol hefyd â Llywodraeth y DU. Ond fe wnaf waith dilynol ar hyn o ran beth sy'n gyfystyr â cham-drin o ran atal ac ymyrraeth gynnar i blant a phobl ifanc. Ond a gaf i ddweud—ac nid wyf wedi ymateb, mae'n ddrwg gen i, Dirprwy Lywydd—ein bod wedi diogelu ein cyllid, sy'n bwysig iawn, i'r gwasanaethau arbenigol hynny yr ydych chi wedi sôn amdanyn nhw? Yn y cyfnod anodd hwn, pan fyddwn ni wedi gorfod dod o hyd i'r arian hwn oherwydd y toriadau i'n cyllideb gan Lywodraeth y DU, rwyf wedi sicrhau ein bod yn diogelu ein cyllid VAWDASV, yn enwedig ar gyfer ein gwasanaethau arbenigol. Joyce Watson AC: Hoffwn dalu teyrnged i Carl Sargeant. Gallaf ei gofio yn cerdded milltir yn eu hesgidiau, yn gwisgo'r sodlau uchel mwyaf chwerthinllyd i wneud pwynt, ac fe wnaeth y pwynt. Ond hoffwn ddiolch i'r Gweinidog. Mae llawer i'w groesawu yn yr adroddiad hwn. Ni wnaf eu hailadrodd, ond a allwch chi roi rhagor o fanylion am y prosiect Spectrum, os gwelwch yn dda, sy'n hyrwyddo perthnasoedd iach, yn enwedig y nifer sy'n manteisio ar yr elfen hyfforddi ar gyfer staff ysgolion a llywodraethwyr? Mae un o bob pump plentyn, rydyn ni'n gwybod, yn dyst i gam-drin yn y cartref, ac mae'r prosiect Spectrum, a gyflwynir gan Stori Cymru, yn offeryn pwysig ar gyfer helpu staff ac awdurdodau ysgolion i ddeall a rheoli'r effaith ar y plentyn. Felly, rwy'n awyddus i glywed sut mae'n cael ei weithredu. Yn y cyfnod cyn Diwrnod y Rhuban Gwyn, byddaf yn ymgysylltu ag ysgolion yn ardal Rhydaman a'r Gwendraeth, felly byddwn i'n hapus i hyrwyddo a'u cyfeirio at adnoddau addas, os ydych chi neu'r Gweinidog addysg yn gallu fy helpu gyda hynny. Ac edrychaf ymlaen at glywed mwy am y cynnydd o ran bwrw ymlaen ag argymhellion Estyn ynghylch gwella'r ffyrdd y mae ysgolion yn casglu gwybodaeth am fwlio ac aflonyddu, oherwydd os ydym ni'n mynd i wneud unrhyw beth o ran lleihau a rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched, yn sicr mae'n rhaid i ni ddechrau gyda'r genhedlaeth nesaf. Rwyf i, fel chi, wedi bod yn ymgyrchu am 30 mlynedd, ond mae'r ystadegau yn dal yr un fath. Jane Hutt AC: Diolch yn fawr, Joyce Watson, ac am eich arweinyddiaeth o ran ymgyrch y Rhuban Gwyn. Ddydd Llun nesaf, byddwn ni'n cyfarfod ac yn talu teyrnged i Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau'r Merched, sydd wedi gweithio gyda chi erioed, ac yna gyda BAWSO byddwn yn gorymdeithio i gynnau cannwyll mewn gwasanaeth aml-ffydd yn Eglwys Gadeiriol Llandaf. Rwyf wedi ateb rhai o'r cwestiynau hyn, ond rydym yn parhau i ariannu Spectrwm. Mae hwn yn ymrwymiad trawslywodraethol, cydnabyddiaeth bod yn rhaid i ni edrych ar bob llinell ariannu. Rydym yn parhau i'w ariannu. Mae'n bwysig mewn gwirionedd dangos beth yw perthnasoedd iach—. Mae'n bobl ifanc yn dysgu am berthnasoedd iach, codi ymwybyddiaeth o Spectrwm, ond hefyd mae'n darparu hyfforddiant i staff a llywodraethwyr ysgolion, a bydd pob un ohonoch sydd wedi bod yn llywodraethwr yn gwybod bod y rhain yn faterion y mae'n rhaid i ni eu deall. Mae'n rhaid i ni ddeall y dull ysgol gyfan hwn o fynd i'r afael â cham-drin domestig, ac rwyf wedi sôn am Stori Cymru, y prosiect Spectrwm. Mae hyn yn ymwneud ag adnoddau, hyfforddiant ar-lein, deunydd wedi'i argraffu, sut rydym yn delio yn effeithiol â datgeliadau VAWDASV gan ddisgyblion. Byddwn ni'n gwneud gwaith dilynol—. Rydych chi wedi gweld yn yr adroddiad ein bod wedi gofyn i awdurdodau lleol wella'r ffordd y maen nhw'n casglu gwybodaeth am fwlio ac aflonyddu gan ysgolion. Maen nhw ar flaen y gad, ac unwaith eto, mae hyn yn ymateb i'r pwyntiau y mae Sarah Murphy wedi'u gwneud. Os ydych chi'n darllen y bennod ar blant a phobl ifanc, mae gennym ni y ffrwd waith hon ar blant a phobl ifanc. Nid oedd gennym hon o'r blaen. Cyfarfu yn gynharach y flwyddyn hon. Mae ganddi gynllun clir ac mae ganddi bobl arni gydag arbenigedd a dealltwriaeth o anghenion plant a phobl ifanc y mae cam-drin domestig a thrais rhywiol yn effeithio arnynt. Ac mae hynny, rwy'n credu, yn symudiad go iawn i newid, o ganlyniad i'r ffordd rydyn ni'n ymdrin â hyn gyda cham nesaf y strategaeth hon, ers i ni weithredu—ac roedd llawer ohonom yma—y darn mwyaf arloesol o ddeddfwriaeth, y cyntaf yn y DU—Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Ond mae'n rhaid i ni nawr ei wneud i weithio i fenywod a dioddefwyr trais yng Nghymru. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Ac yn olaf, Carolyn Thomas. Carolyn Thomas AS: Diolch. Yn y grŵp trawsbleidiol ar les anifeiliaid ddoe, clywsom gan gynrychiolydd o'r grŵp Links. Dywedodd hi sut mae anifeiliaid anwes yn cael eu defnyddio'n aml i gamfanteisio, a hefyd y gall cam-drin anifeiliaid anwes fod yn arwydd o gam-drin plant neu rieni, ac fe welsom ni rai ffotograffau erchyll. Mae anifeiliaid anwes mor bwysig ar gyfer cysur ac yn aml ni fydd menywod yn eu gadael ar ôl, ac rydym yn gwybod nad yw llety rhent preifat yn aml yn caniatáu anifeiliaid anwes ac nid yw llochesi chwaith. A yw hyn wedi bod yn ystyriaeth ac a wnewch chi siarad â'r Gweinidog tai ynglŷn â mynd ag anifeiliaid anwes i lety rhent preifat? Diolch. Jane Hutt AC: Diolch yn fawr iawn—cwestiwn pwysig iawn. Bydd ar gyfer y Gweinidog Newid Hinsawdd, ond hefyd y—. Rwyf wedi cyfarfod â sefydliad yng Nghaerffili, a dweud y gwir, elusen sy'n gofalu am anifeiliaid anwes, cŵn yn arbennig, os oes rhaid i fenyw ffoi o'i chartref. Gellir eu defnyddio yn y ffordd honno, ac mae'n rhywbeth y byddwn yn ystyried o ran mynediad i'r creaduriaid hollbwysig hynny ym mywyd person. Ac, wrth gwrs, mae'r anifeiliaid anwes hyn yn aml yn bwysig iawn i'r plant hefyd. Felly, diolch am godi'r cwestiwn hwnnw. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Diolch i'r Gweinidog. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Hanner cant y cant o fewn amser, 50 y cant ddim—rydyn ni'n dechrau llwyddo. 7. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Parthau Buddsoddi Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Eitem 7 yw'r datganiad gan Weinidog yr Economi: parthau buddsoddi. A galwaf ar Weinidog yr Economi, Vaughan Gething. Vaughan Gething AC: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o allu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y trafodaethau diweddaraf gyda Llywodraeth y DU ynghylch parthau buddsoddi. Dair wythnos yn ôl, rhoddais y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd yr ydym yn ei wneud i gefnogi datblygiad economaidd rhanbarthol cryfach ledled Cymru. Yn y datganiad hwnnw tynnais sylw at gryfderau a chyfleoedd penodol ym mhob un o'n rhanbarthau a'r rôl y gallant ei chwarae wrth gynyddu twf tymor hir a chyflogaeth o ansawdd mewn economi fwy cytbwys. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod o'r farn gadarn y dylid cyfeirio strategaeth ddiwydiannol gynhwysfawr yn y DU a gefnogir gan bolisïau macro-economaidd at y cyfleoedd hyn, mewn model sy'n rhoi'r hyder sydd ei angen i ddatgloi buddsoddiad mewn busnesau a swyddi mwy diogel. Vaughan Gething AC: Dirprwy Lywydd, rydym ni wedi bod yn gyson o ran nodi bod dull tameidiog o ymdrin â pholisi economaidd rhanbarthol ar lefel y DU yn tanseilio cyfleoedd twf posibl ac nad yw'n cydnabod yr angen mewn ffordd sy'n mynd i'r afael â thlodi. Rydym ni'n parhau i alw am ddychwelyd cyllid rhanbarthol ôl-UE i Gymru, a fyddai'n ein helpu i ddarparu polisi rhanbarthol mwy cydlynol ar gyfer pob rhan o Gymru. Er gwaethaf yr heriau hyn, rwy'n hapus gyda'r dull adeiladol sy'n cael ei fabwysiadu gan adran ffyniant bro Llywodraeth y DU o ran datblygu cynigion ar gyfer parthau buddsoddi yng Nghymru. Mae hyn wedi adeiladu ar y bartneriaeth lwyddiannus ac adeiladol a sefydlwyd gennym ni i gytuno ar raglen porthladdoedd rhydd Cymru. Gall y ddwy raglen gynnig cyfleoedd gwirioneddol i ddod ag ysgogiadau datganoledig ac a gedwir yn ôl ynghyd i gefnogi economi Cymru mewn partneriaeth gyfartal. Mae'r dull pragmatig y mae'r ddwy Lywodraeth wedi ei fabwysiadu wedi caniatau i ni sicrhau bod blaenoriaethau polisi Cymru yn cael eu hadlewyrchu yn y dull gweithredu ar y cyd yr ydym ni wedi bod yn ei drafod dros y misoedd diwethaf. Fel gyda phorthladdoedd rhydd Cymru, rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod buddsoddiadau yn cyfrannu at ein huchelgeisiau sero net, ein dyletswyddau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a hybu gwaith teg, gan gynnwys mynediad at undebau llafur. Ni fyddwn yn derbyn unrhyw wanhau i hawliau gweithwyr mewn parthau buddsoddi. Mae hwn yn brawf hanfodol o egwyddor ac mae'n rhaid i hyn ychwanegu at ein cenhadaeth economaidd. Rydym ni hefyd wedi pwysleisio pwysigrwydd y dull rhanbarthol cydweithredol yr ydym ni wedi ei ddatblygu ledled Cymru a'r angen i symleiddio cynllunio a llywodraethu datblygu economaidd rhanbarthol drwy'r cyd-bwyllgorau corfforedig statudol y mae'r Senedd hon wedi deddfu ar eu cyfer. Mae'n bwysig nodi y bydd angen i Lywodraeth y DU wneud penderfyniad o hyd ar y cymorth y bydd yn ei ddarparu i barthau buddsoddi yng Nghymru cyn neu'n rhan o broses datganiad yr hydref. Fodd bynnag, gallaf gadarnhau bod Cabinet Llywodraeth Cymru wedi cyfarfod i drafod y cynigion sydd wedi bod yn cael eu datblygu. O ganlyniad, rwyf i wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol yn yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn dilyn ein hymgysylltiad adeiladol i nodi ein parodrwydd i ddefnyddio ysgogiadau ac arbenigedd datganoledig i gefnogi dau barth buddsoddi yng Nghymru. Mae polisi parthau buddsoddi, wrth gwrs, wedi newid yn sylweddol ers 2022, yn ystod rhyngdeyrnasiad byr Truss a Kwarteng. Mae'r polisi presennol yn canolbwyntio ar nifer fach o glystyrau potensial uchel yn gysylltiedig â galluoedd ymchwil cryf. Ceir meysydd lle gall ein cryfderau cymharol hybu cynhyrchiant ehangach a thwf economaidd. Byddai'r canlyniadau hyn yn cyd-fynd â'n cenhadaeth economaidd a thystiolaeth a gyflwynwyd gan leisiau arbenigol blaenllaw, gan gynnwys y Resolution Foundation, ar yr angen i gryfhau manteision cymharol yn y DU. Mae fy swyddogion wedi gweithio gyda swyddogion Llywodraeth y DU ar ddull ar y cyd o nodi meysydd potensial uchel sy'n adlewyrchu blaenoriaethau polisi Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Fel y dywedais, rwyf i wedi trafod y mater hwn gyda chyd-Weinidogion Llywodraeth Cymru wrth i'r trafodaethau ddatblygu i ystyried y goblygiadau trawslywodraethol ac i sicrhau proses gwneud penderfyniadau gydgysylltiedig. Yn seiliedig ar ein dadansoddiad o'r cyfleoedd ar gyfer twf mewn clystyrau potensial uchel, rydym ni'n cytuno bod dadl dros ddau barth buddsoddi yng Nghymru. Rydym ni'n ffafrio un parth buddsoddi yn y de-ddwyrain ac un yn y gogledd-ddwyrain, sy'n cynnwys sir y Fflint a Wrecsam. Mae hyn yn adlewyrchu'r cryfderau sectoraidd penodol a'r clystyrau presennol ym mhob rhanbarth, yn enwedig lled-ddargludyddion cyfansawdd yng Nghasnewydd, â chysylltiad â Phrifysgol Caerdydd ac ardal ehangach y de-ddwyrain, a gweithgynhyrchu uwch gwerth uchel yn y gogledd-ddwyrain. Bydd y sectorau hyn ynddynt eu hunain yn rhan annatod o'r llwybr i dwf economaidd cryfach yng Nghymru a'r DU yn ei chyfanrwydd. Rydym ni eisiau gweld mwy o fuddsoddiad sector preifat mewn swyddi, sgiliau a chynhyrchiant o ansawdd uchel. Nid yw nodi parthau buddsoddi posibl yn adlewyrchiad o bell ffordd o gyfyngiadau cyfleoedd economaidd na'r angen am fuddsoddiad uchelgeisiol mewn rhannau eraill o Gymru. Mae parthau buddsoddi yn cynrychioli un ymyriad yn unig, ac un a fyddai'n cael ei gryfhau pe bai'n dod o fewn y dull polisi diwydiannol ehangach yr ydym ni'n parhau i eirioli drosto. Mae ein cynnig yn deillio o ddyfarniad gwrthrychol yn seiliedig ar y meini prawf penodol ar gyfer parthau buddsoddi. Bydd angen nawr i Lywodraeth y DU benderfynu a ddylid darparu'r cyllid a'r ysgogiadau a gedwir yn ôl i gefnogi parthau buddsoddi yng Nghymru. O'n rhan ni, rydym ni wedi nodi parodrwydd i weithio tuag at sicrhau bod ysgogiadau treth datganoledig a lleol ar gael i barthau buddsoddi, ac i weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU ar ddarparu pecyn o gymorth buddsoddi, yn amodol ar gytuno ar gynlluniau o bob parth yn nodi sut y bydd y cymorth yn cael ei ddefnyddio i sicrhau manteision net i bobl Cymru. Bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn wynebu pwysau ariannol mawr ac mae ein parodrwydd i fwrw ymlaen â pharthau buddsoddi yng Nghymru yn seiliedig ar gynnig gan Drysorlys y DU sy'n talu costau disgwyliedig llawn ariannu pob parth buddsoddi. Bydd hyn yn cyfateb i gyllid ar gyfer parthau buddsoddi yn Lloegr. Er gwaethaf y gwahaniaethau o ran dull, ceir cysondeb o ran agweddau ar bolisi economaidd rhwng ein Llywodraethau, gan gynnwys uchelgais i dyfu clystyrau potensial uchel, cynyddu buddsoddiad mewn sgiliau, ymchwil, arloesi a seilwaith, a chefnogi lefelau uwch o gynhyrchiant a mwy o swyddi sgiliau uchel. Rwy'n bwriadu cyflwyno fy mlaenoriaethau economaidd mewn datganiad i'r Siambr ar 28 Tachwedd, a fydd yn adeiladu ar ein cenhadaeth economaidd. Os caiff parthau buddsoddi eu hariannu yng Nghymru, edrychaf ymlaen at weithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y DU a chydbwyllgorau corfforedig i sicrhau pwyslais eglur i fuddsoddiadau arfaethedig ddarparu twf, swyddi o ansawdd uchel, sgiliau a mwy o gynhyrchiant. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Paul Davies AC: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Rwy'n croesawu'n fawr y cynnydd sy'n cael ei wneud i sicrhau parthau buddsoddi yma yng Nghymru. Mae'r manteision i'r gymuned fusnes yn gwbl amlwg a gall creu parthau buddsoddi yng Nghymru helpu i ysgogi buddsoddiad hirdymor a thwf economaidd. Rwy'n gwybod mai Llywodraeth y DU sy'n meddu ar lawer o'r ysgogiadau i sefydlu parthau buddsoddi, ond mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn chwarae rhan lawn o ran helpu i sicrhau bod parthau buddsoddi yn cael eu datblygu yma yng Nghymru, ac mae'r datganiad heddiw yn dweud ychydig mwy wrthym ni am swyddogaeth Llywodraeth Cymru yma. Nawr, bydd y Gweinidog yn ymwybodol o'r ymchwiliad parhaus i barthau buddsoddi gan Bwyllgor Busnes a Masnach Llywodraeth y DU, sy'n edrych ar eu perfformiad yn Lloegr. Yn ystod yr ymchwiliad hwnnw, fe wnaeth yr Athro Steve Fothergill ei gwneud hi'n eglur iawn, ac rwy'n dyfynnu, 'nid yw'n dda i ddim tynnu llinellau o gwmpas darnau o dir ar fapiau a dweud, "Dyna'r parth buddsoddi newydd". Mae'n rhaid i'r safleoedd fod yn barod i fynd. Mae'n rhaid iddyn nhw fod yn barod ar gyfer datblygiadau adeiladu. Mae'n rhaid i'r seilwaith fod yno.' Aeth ymlaen i ddweud bod rhai o'r parthau menter mwyaf llwyddiannus yn y gorffennol wedi caffael y statws hwnnw ar ôl efallai degawd o waith paratoi yn troi safleoedd segur yn safleoedd parod i fynd. Gyda hynny mewn golwg, ac o ystyried yr wybodaeth yn natganiad heddiw, mae'n hanfodol bod gan gynigion i greu parthau buddsoddi y seilwaith angenrheidiol a'u bod yn barod i fynd. Nawr, rwy'n sylweddoli bod y datganiad heddiw yn cadarnhau ffafriaeth i barth buddsoddi yn y de-ddwyrain ac yn y gogledd-ddwyrain yn cynnwys sir y Fflint a Wrecsam. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog ddweud wrthym ni a yw'n hyderus bod gan y cynigion hyn y seilwaith eisoes ar waith i ddod yn barthau buddsoddi effeithiol. Mae'r datganiad heddiw yn cyfeirio at borthladdoedd rhydd ac eto er bod porthladdoedd rhydd wedi'u hadeiladu o amgylch porthladdoedd, mae parthau buddsoddi wedi'u canolbwyntio ar brifysgolion yn bennaf. Felly, mae'n gwbl hanfodol nid yn unig bod prifysgolion yn cefnogi unrhyw gynigion, ond eu bod nhw'n ganolog i'w datblygiad. Ac felly byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog ddweud ychydig mwy wrthym ni am y trafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gyda phrifysgolion am y rhan y gallan nhw ei chwarae o ran bwrw ymlaen â'r cynigion hyn. Mae parthau buddsoddi yn cynnig cyfle i harneisio'r rhan bwysig y mae prifysgolion a sefydliadau ymchwil lleol yn ei chwarae mewn twf lleol a chefnogi ffyniant bro. Ac felly mae angen i ni ddeall yn well y rhan y mae Llywodraeth Cymru yn ei chwarae o ran hwyluso hynny ac adeiladu rhwydweithiau i sicrhau bod unrhyw geisiadau mor gryf â phosibl. Nawr, mae rhywfaint o'r adborth ar barthau buddsoddi yn Lloegr wedi awgrymu nad yw'r cymhellion i fusnesau yn ddigon hirdymor. Mae'r cymhellion ariannol ar y parthau buddsoddi bron yn union yr un fath â'r cymhellion ariannol cyfatebol sydd ar gael mewn porthladdoedd rhydd, ac eithrio tollau tramor. Ond mae pum mlynedd yn gyfnod byr o amser i ddisgwyl effaith economaidd enfawr. Dadleuwyd bod manteision economaidd wedi bod yn fwy i raddau helaeth pan fo pecynnau ariannol wedi cael eu cyflwyno ar sail dymor hwy, fel y parthau menter a sefydlwyd ar ddechrau'r 1990au, lle'r oedd yr eithriad o ardrethi busnes am 10 mlynedd. Felly, efallai y gallai'r Gweinidog ddweud wrthym ni a yw'n credu y dylai'r pecynnau hyn fod ar gael ar sail hirdymor, fel y gallan nhw gael effaith economaidd lawer mwy cadarnhaol. Mae'r datganiad heddiw yn nodi bod y cyllid a'r ysgogiadau a gedwir yn ôl i gynorthwyo parthau buddsoddi yng Nghymru bellach yn nwylo Llywodraeth y DU, ond gallai Llywodraeth Cymru ddefnyddio ei hysgogiadau ei hun i adeiladu ar y pecyn buddsoddi presennol gan Lywodraeth y DU. Gallai Llywodraeth Cymru, er enghraifft, ddewis adeiladu ar y rhaglen parthau buddsoddi drwy ymestyn ar unwaith y gwyliau ardrethi busnes i fusnesau yn rhai o'r ardaloedd hynny, ac felly byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog ddweud wrthym ni a yw hyn yn rhywbeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ystyried yn y dyfodol agos. Nawr, mae creu swyddi yn gwbl hanfodol i ddatblygu parth buddsoddi effeithiol. Ceir pryderon ynghylch dadleoli swyddi pan gaiff parthau buddsoddi eu creu, ac mae'n bwysig bod y rhybuddion hynny yn cael sylw difrifol iawn. Mae angen i Lywodraeth Cymru hefyd ystyried ei phiblinell sgiliau a gweithio gyda rhanddeiliaid i fynd i'r afael ag unrhyw brinder. Felly, efallai y gallai'r Gweinidog ddweud wrthym ni beth fyddai Llywodraeth Cymru yn ei wneud i liniaru unrhyw ddadleoli swyddi posibl yn ardaloedd cyfagos parth buddsoddi. Felly, i gloi, Dirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw, a phwysleisio y gallai ac y dylai Cymru elwa o'r rhaglen parthau buddsoddi? Mae'r Gweinidog wedi nodi bod dau gais cryf yng Nghymru, ac rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gweld rhywfaint o gynnydd cadarnhaol o ran sefydlu'r parthau hyn yn y dyfodol agos iawn. Diolch. Daeth y Llywydd i’r Gadair. Vaughan Gething AC: Diolch. Rwy'n credu bod pedwar maes eang o gwestiynau yno. Fe wnaf i ymdrin â'r prifysgolion yn gyntaf. Ym mhob rhan o Gymru, rydym ni'n ymwybodol bod pobl wedi bod yn siarad am hyn ar draws cyd-bwyllgorau corfforedig, ardaloedd bargen dwf ac mewn ardaloedd llai, gan gynnwys gyda phartneriaid prifysgol. Felly, roedd trafodaethau posibl, rwy'n credu. Rwyf i wedi clywed nifer o bobl, rwy'n credu, mewn o leiaf pump os nad chwe rhan wahanol o Gymru, sydd wedi cael gwybod bod ganddyn nhw botensial ar gyfer parth buddsoddi. Mae rhywfaint o hynny wedi codi ysgyfarnogod. Rwy'n credu ei fod wedi bod yn annefnyddiol, oherwydd nid oedd pump neu chwech o barthau buddsoddi erioed yn mynd i gael eu creu yng Nghymru. Ac fe wnaeth y cynnig symud i ddechrau o un i drafodaeth am y posibilrwydd o ddau yng Nghymru. Yn yr un modd wedyn, ag yn y rhaglen porthladdoedd rhydd, fe wnaethom ni ddechrau gyda phorthladd rhydd a allai ddod i Gymru i ddod i gytundeb ar gyfer dau wedyn. Felly, mae prifysgolion yn ymwybodol o'r hyn sydd ei angen ar y rhaglen, a byddwn yn disgwyl nawr, gan dybio bod Llywodraeth y DU yn cytuno â'n safbwynt ar ddau barth buddsoddi, y byddai angen achos busnes, gan ddod â'r partneriaid hynny at ei gilydd, sut y mae o fewn y strwythur cyd-bwyllgorau corfforedig—nid wyf i eisiau mathau o lywodraethu sy'n cystadlu neu amgen yng nghyswllt y rhain—ac yna bydd angen iddyn nhw nodi sut y byddan nhw'n gweithio ochr yn ochr â'r prifysgolion i wneud y gwaith ymchwil ac arloesi a fydd yn ofynnol. Ar eich ail bwynt, rwy'n credu, am y buddsoddiad hirdymor, mae'r cynigion ar gyfer parth buddsoddi yn Lloegr, fel yr ydym ni'n eu deall nhw, yn y bôn, yn £80 miliwn o gyllid dros bum mlynedd. Felly, rydych chi'n iawn. Mae hwnnw'n swm cyfyngedig o arian. Yr her, fodd bynnag, yw pa un a fydd yn ein helpu i ddatgloi twf yn yr ardaloedd sy'n cael eu hystyried. Mae'n fuddsoddiad ar gyfer twf, yn hytrach na—a dyma ddewis Llywodraeth y DU—yn hytrach na ni yn dweud y bydd parthau buddsoddi yn rhan o weithgarwch economaidd ffyniant bro a buddsoddi yn ein cymunedau lleiaf cefnog. Nid dyna'r hyn y crëwyd y rhaglen parth buddsoddi ar ei gyfer. Felly, eto, mae'n fater ohonom ni'n dod o hyd i ffordd o weithio gyda menter bolisi Llywodraeth y DU a bod yn adeiladol wrth wneud hynny. Ond, ar eich pwynt ar fuddsoddiad hirdymor, yfory, wrth gwrs, gan wisgo het ychydig yn wahanol, byddwn yn siarad am y buddsoddiad hirdymor y gallwn ni ei ddarparu gyda chyn-gronfeydd strwythurol yng Nghymru, gan fabwysiadu dull rhanbarthol mwy cydlynol a chael tymor hwy i wario'r arian hwnnw. A'r dysgu a wnaethom dros nifer o flynyddoedd—. Ac rwy'n credu, mewn Senedd flaenorol, eich bod chi wedi bod ar bwyllgor sydd wedi edrych ar wersi a ddysgwyd o raglenni ariannu strwythurol blaenorol. Rydym ni'n credu mai'r math hwnnw o ddull, gan Lywodraeth y DU o ba bynnag fath, o ymdrin â'n cydlyniad tymor hwy yw'r peth iawn i'w wneud i ganiatáu i ni edrych yn fwy cydlynol ar draws Cymru gyfan lle'r ydym ni'n credu bod cyfleoedd, lle mae angen gweld datblygiad economaidd. Yn anffodus, mae'r dyluniad presennol yn fwy tameidiog nag yr hoffem ac mae'n fwy byrdymor nag yr hoffem. Byddwn yn siarad yn fanwl am y gronfa ffyniant gyffredin a chael terfynau amser gwario blynyddol yfory. Ar eich trydydd pwynt ar ardrethi busnes, rwy'n gweld bod y Gweinidog cyllid yn edrych drosom ni yn y rhith-fyd, ac fe wnaf i wrthod eich awgrym cwrtais y dylwn i geisio gosod paramedrau ar gyfer y gyllideb nad yw wedi'i gosod eto. Mae angen i ni aros i ddeall yr hyn fydd yn digwydd yn natganiad yr hydref ar 22 Tachwedd, pa un a fydd hynny yn arwain at gynnydd net i gyllid yng Nghymru, neu pa un a ydym ni'n canfod, y tu ôl i'r penawdau, ein bod ni wedi dioddef lladrad ac nad yw mor hael ag y bydd y penawdau, rwy'n siŵr. Mae angen i ni ddeall hynny, ac yna mae angen i ni bennu cyllideb ar draws y Llywodraeth gyfan. Bydd angen cymryd unrhyw ddewisiadau ynghylch ardrethi busnes i ystyriaeth ar ôl datganiad yr hydref ac yn y gwaith y mae'r Aelod yn deall, rwy'n gwybod, sy'n digwydd rhwng Gweinidogion nawr. Ac ar eich pwynt olaf, rhan o'r rheswm pam rydym ni wedi edrych ar y gogledd-ddwyrain, o amgylch Wrecsam a'r Fflint a gweithgynhyrchu gwerth uchel, y rheswm pam rydym ni wedi edrych ar led-ddargludyddion cyfansawdd yn benodol, wedi'u lleoli o amgylch Casnewydd gyda chysylltiad â Phrifysgol Caerdydd a gweithlu sydd eisoes yn dod o'r ardal ehangach, gan gynnwys y Cymoedd, yw oherwydd ein bod ni'n edrych ar y potensial ar gyfer twf, rydym ni'n edrych ar le mae seilwaith eisoes wedi'i sefydlu a dealltwriaeth sefydledig o'r hyn sy'n bosibl, a hefyd i geisio gwrthweithio'r potensial i fusnesau gael eu denu i symud ac i ddadleoli gweithgarwch—mae wedi bod yn un o'n pryderon erioed am borthladdoedd rhydd ac am barthau buddsoddi. Felly, dewis canolfannau sefydledig sydd eisoes yn bodoli yw'r hyn sy'n rhannol yn sail i'n rhesymeg na ddylem ni, er enghraifft, geisio creu clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd newydd yng Ngheredigion. Er y gallai'r Llywydd feddwl bod hynny'n syniad gwych, mae hynny'n annhebygol o arwain at dwf sylweddol, ac mae'n llawer mwy tebygol o arwain at ddadleoli, pe bai modd perswadio pobl i fynd yno at y diben hwnnw. Felly, rydym ni'n canolbwyntio ar ardaloedd lle'r ydym ni'n gwybod bod gweithgarwch sefydledig a'r potensial i dyfu mwy. Luke Fletcher AS: Diolch am y datganiad, Gweinidog. Luke Fletcher AS: Hoffwn ddechrau drwy ddweud ei bod hi'n bwysig bod y parthau hyn yn gwasanaethu'n llawn fuddiannau a dyheadau cymunedau a phobl y rhanbarthau y byddan nhw'n cael eu sefydlu ynddyn nhw. Mae profiad blaenorol wedi dangos, heb oruchwyliaeth gadarn ac eglurder strategol, y bydd mentrau o'r fath yn seiliedig ar le yn cael eu hecsbloetio gan gwmnïau amlwladol at ddibenion treth heb sicrhau buddion diriaethol o ran datblygu sgiliau lleol ac enillion cynhyrchiant. Er enghraifft, roedd y rhaglen parthau menter a arweiniwyd gan George Osborne ymhell o lwyddo i gyflawni ei huchelgeisiau ar gyfer creu swyddi. Er i'r Trysorlys ragweld yn wreiddiol yn 2011 y byddai creu'r parthau yn arwain at 54,000 o swyddi newydd erbyn 2015, dangosodd y gwaith dadansoddi dilynol yn 2017 mai dim ond 17,500 o swyddi yr oedd pum mlynedd o'r rhaglen wedi eu darparu, ac roedd o leiaf traean o'r rheini yn swyddi a oedd wedi cael eu hadleoli o rannau eraill o'r DU. Roedd gan bolisi porthladdoedd rhydd trychinebus Llywodraeth Thatcher, y rhoddwyd pen ar ei thrafferthion yn y pen draw gan y Torïaid yn 2012, record debyg o dangyflawni ar gyfer yr economïau lleol y'i bwriadwyd ar eu cyfer. Ac nid yw'r wyth parth menter a grëwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2012 wedi gwneud yn llawer gwell. Daeth adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar y pryd yn 2018 i'r casgliad nad oedd nodau gwreiddiol y polisi parthau menter yng Nghymru, o greu twf a swyddi, wedi cael eu cyflawni yn gyffredinol, tra hefyd yn codi amheuon am y diffyg data olrhain perfformiad rheolaidd. Nawr, rwy'n mawr obeithio bod y Llywodraeth, felly, wedi dysgu o'i menter flaenorol i barthau menter ac wedi ymgorffori rhai o'r gwersi hynny a ddysgwyd o fethiannau blaenorol. Mae Cymru wedi bod yn dyst i lawer gormod o wawriau ffug o ran strategaethau economaidd. Felly, sut fydd y Llywodraeth yn dysgu o'r gwersi hynny, a beth sydd i ddweud na fyddwn ni yn yr un sefyllfa eto, lle nad yw'r canlyniadau yn cyfateb i'r uchelgais? A fyddwn ni hefyd yn cael y data rheolaidd, a amlygwyd gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar y pryd, i allu craffu wedyn ar y perfformiad ac olrhain perfformiad y parthau menter newydd hyn, er mwyn dwyn y Llywodraeth i gyfrif? Nawr, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni ystyried y ffactor ychwanegedd hefyd yn hyn—felly, i ba raddau y gall polisi buddsoddi seiliedig ar le ysgogi twf yn y ffynhonnell, yn hytrach nag ailgyfeirio datblygiad economaidd a fyddai wedi digwydd yn rhywle arall beth bynnag, fel yr amlygwyd eisoes gan lefarydd y Torïaid. Mae hyn hefyd wedi bod yn bryder i mi gyda'r cynigion ar gyfer porthladdoedd rhydd. Nawr, rwy'n deall ateb y Gweinidog mewn ymateb i lefarydd y Torïaid ynghylch dewis canolfannau sefydledig. Ond nid wyf i'n credu ei fod yn esbonio'n llawn yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i liniaru'r broblem bosibl o adleoli. Felly, faint o feddwl a wnaed yn ei gylch, a beth yw'r polisïau lliniaru penodol sydd gan y Llywodraeth ar waith? Oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni nid yn unig yn lliniaru dadleoli, ond yn ei fonitro trwy gydol oes y parthau menter hyn. Wrth gwrs, rydym ni'n croesawu na fydd y Llywodraeth yn derbyn unrhyw wanhau o hawliau gweithwyr. Byddwn yn ei werthfawrogi, fodd bynnag, pe gallai'r Gweinidog nodi'n union sut y bydd y Llywodraeth yn amddiffyn rhag gwanhau hawliau gweithwyr. Beth yn union yw'r mecanweithiau ar gyfer monitro ac yna gweithredu os oes tor-cyfraith yn digwydd? Yn olaf, Llywydd, dylem ni sicrhau nad yw'r cymhellion masnachol ar gyfer denu busnesau yn ffafrio corfforaethau mwy yn anghymesur ar draul menter ddomestig. Rwyf i wedi bod yn eglur ers cryn amser bod cefnogi twf yn ein sector busnesau bach a chanolig, a sicrhau bod cwmnïau domestig yn wydn, yn gystadleuol ac yn ddynamig, yn hanfodol fel ffordd o adfywio ein heconomi. Nawr, dylid gwneud pob ymdrech felly i sicrhau bod busnesau bach a chanolig lleol yn gyfranddalwyr gweithredol yn sefydliad parthau o'r fath, ac nad yw gwerth cyfleoedd parthau buddsoddi yn cael ei bennu gan faint y cwmnïau sy'n cymryd rhan. Felly, yn yr ystyr hwnnw, sut mae hyn yn rhan o strategaeth Llywodraeth Cymru i gefnogi busnesau bach a chanolig Cymru? Vaughan Gething AC: Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Fe wnaf i ymdrin yn gyntaf â'r pwynt ynghylch gwaith teg. Rydym ni wedi bod yn eglur iawn ein bod ni'n disgwyl i hyn fod yn rhan o unrhyw achos busnes a ddarperir i ni. Byddai hefyd yn cynnwys rhai o'r pwyntiau yr ydych chi hefyd wedi eu trafod ynghylch sylfaen gychwyn gweithgarwch economaidd, ynghylch y safleoedd treth, pa fusnesau fyddai yno, y math o weithgarwch sy'n digwydd, a chael metrigau ar dwf fel y gallwn ni i gyd ddeall a yw hyn wir yn mynd i sicrhau twf. Rhan o'r her, fel y dywedais mewn ymateb i Paul Davies a hefyd yn fy natganiad, yw mai menter Llywodraeth y DU yw hon, lle mae gennym ni'r dewis o a ydym ni'n barod i weithio â hi i geisio dod o hyd i ffordd lle y gall o bosibl gyflawni ein hamcanion ni hefyd, neu a ydym ni'n barod i gael sefyllfa lle naill ai nad yw buddsoddiad yn cael ei wneud neu lle mae Llywodraeth y DU yn gweithio o'n cwmpas ni, gan ddefnyddio ysgogiadau a gedwir yn ôl yn unig. Rwy'n credu mai dyma'r dewis iawn ac mae'n ddewis pragmatig, lle'r ydym ni'n amlwg eisiau gweld mwy o dwf yn yr economi. Rydym ni eisiau gweld mwy o swyddi o ansawdd uchel ar gael, nid llai. Rydym ni hefyd eisiau gweld twf economaidd mewn ardaloedd y tu allan i barthau buddsoddi, lle mae gwir angen gweld mwy o weithgarwch economaidd. Ar eich pwynt ar gadwyni cyflenwi ehangach, a busnesau bach a chanolig yn benodol, byddem ni eto'n disgwyl gweld rhywfaint o hynny yn cael sylw nid yn unig yn gwaith cynllunio busnes, ond o ran beth fydd ein disgwyliad ynghylch sut rydym ni'n gweithio gyda busnesau sy'n gweithredu yn y safleoedd hynny. Felly, byddwn i eisiau gweld pobl yn ymrwymo i gontract economaidd. Byddwn i eisiau gweld sut maen nhw'n edrych mewn gwirionedd ar adeiladu cadwyn gyflenwi yn yr ardal honno. A cheir enghreifftiau da o hynny eisoes: er enghraifft, GE ac Airbus—un yn y de, un yn y gogledd—y ddau â chadwyni cyflenwi sylweddol, gwerth sylweddol, ac maen nhw'n edrych yn ofalus iawn ar gadernid eu cadwyni cyflenwi a pha mor lleol ydyn nhw. Mae'r ddau ohonyn nhw wedi gwneud gwaith yn ystod y blynyddoedd diwethaf i geisio gwneud yn siŵr eu bod nhw'n deall o le mae eu cyflenwyr yn dod ac maen nhw'n gwneud pwynt o ddeall sut maen nhw'n buddsoddi yn eu heconomi leol. Mae hynny yn eu helpu gyda'u gweithlu eu hunain yn ogystal â chyda cwmnïau eraill a'r effaith a'r gwerth economaidd ehangach. Rwy'n awyddus i weld dull sy'n adeiladu ar hynny hefyd. Ar eich pwynt ar fuddsoddiad yn seiliedig ar le, rwy'n credu bod ganddo ran yn sicr. Yn sicr mae ganddo ran yn y dyfodol. Rydym ni wedi gwneud buddsoddiadau seiliedig ar le mewn amrywiaeth eang o ardaloedd. Mae'n rhan o'r rheswm pam rydym ni'n cael sgyrsiau gyda rhanbarthau economaidd ynglŷn â ble a sut i fuddsoddi, ac fe wnaf i roi dwy enghraifft i chi—na, tair enghraifft. Os meddyliwch chi am weithgynhyrchu, rydym ni wedi buddsoddi yn y ganolfan ymchwil gweithgynhyrchu uwch; rydym ni wedi buddsoddi ochr yn ochr â phartneriaid eraill i fod eisiau ceisio angori mwy o weithgarwch economaidd yn yr ardal honno. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod mwy o fusnesau, ar draws y gogledd-ddwyrain gyfan ac yn genedlaethol, yn deall yr hyn y gallan nhw ei gael o hynny ac, er enghraifft, ein cefnogaeth i ganolfan ymchwil dechnegol uwch yn y gogledd-ddwyrain hefyd. Rydym ni'n adeiladu ar faes o gryfder sefydledig. Yn y de, mae lled-ddargludyddion yn enghraifft arall o ble'r ydym ni eisiau gweld gweithgarwch penodol yn cael ei dargedu a'i lenwi mewn ardal o gryfderau presennol. A'r trydydd un, lle'r ydym ni wedi gwneud rhywbeth newydd yn y ddau dymor diwethaf, yw'r ganolfan fyd-eang ar gyfer rhagoriaeth rheilffyrdd. Mae'n bleser gweld fy rhagflaenydd fel Gweinidog yr economi yn y Siambr heddiw, oherwydd, ar y pryd, nid wyf i'n credu bod pawb yn credu y byddai honno'n llwyddiannus, ac eto, mewn gwirionedd, ceir rheswmgwirioneddol i fod yn optmistig am ei dyfodol. Mae'n ddewis bwriadol ymyrryd mewn ardal benodol, ac rwy'n meddwl bod pob rheswm i gredu y bydd yn llwyddiannus. Pe na bai'r Llywodraeth wedi gwneud hynny, yna ni fyddem wedi gweld yr ymyrraeth honno yn digwydd yno, ac rwy'n credu y byddwn ni'n gweld dyfodol economaidd gwell i'r rhan honno o Gymru o ganlyniad uniongyrchol. Ac, yn olaf, ar eich pwynt ar yr her bod yn rhaid tyfu ac nid dadleoli swyddi, dyna'n sicr y mae gen i ddiddordeb ynddo. Wrth gwrs, roedd yn ddiddorol bod Paul Davies wedi codi'r un pwynt. Dyna eto pam rydym ni'n bwriadu adeiladu ar feysydd cymharol o gryfder ac adeiladu ar y meysydd hynny o gryfder cymharol sydd eisoes wedi'u sefydlu yng Nghymru, yn hytrach na cheisio eu denu nhw i un gornel o Gymru o weddill y wlad. Rwy'n credu bod y cynnig yr ydym ni wedi ei gyflwyno yn rhoi'r gobaith gorau o wneud hynny. Mike Hedges AC: Rwy'n croesawu'n fawr y datganiad heddiw. Mae'n gadarnhaol bod y polisi presennol yn canolbwyntio ar nifer fach o glystyrau potensial uchel sy'n gysylltiedig â galluoedd ymchwil cryf. Y perygl bob amser yw eich bod chi'n gwasgaru'n rhy fân yn y pen draw ac nad oes unrhyw beth byth yn deillio ohono. Mae'r Gweinidog yn iawn—ceir meysydd lle gall ein cryfder cymharol hybu cynhyrchiant a thwf economaidd ehangach. Mae diwydiannau a allai dyfu'n sylweddol yn cynnwys TGCh, gwyddorau bywyd, gwasanaethau cyllid a phroffesiynol, ac nid yw'r rhain wedi'u cyfyngu'n ddaearyddol. Os mai ein nod yw llwyddo yn y sectorau hyn, mae angen i ni ddysgu gan orllewin Ewrop a gogledd America a'r dinasoedd a'r rhanbarthau yn y rheini sy'n cael llwyddiant aruthrol yn y meysydd hynny. Fel rhywun sy'n cynrychioli rhan o ddinas-ranbarth Bae Abertawe, rwy'n siomedig mai dim ond dau barth yw'r bwriad—un yn y de-ddwyrain ac un yn y gogledd. Ond dyna fel y mae hi. A yw'r Gweinidog yn cytuno ei bod hi'n bwysig defnyddio prifysgolion yng Nghymru fel canolfannau i ysgogi arloesedd a buddsoddiad, gyda phrifysgolion yn creu parciau gwyddoniaeth ac arloesi, fel y gallwn ni fod mor llwyddiannus ag ardaloedd eraill yn Ewrop a Gogledd America? Vaughan Gething AC: 'Ydw' yw'r ateb byr. I fod yn deg, mae Mike Hedges yn gwneud y pwynt yn rheolaidd am werth a phwysigrwydd prifysgolion yn rhan o'n seilwaith ymchwil ac arloesi a'r ecosystem yr ydym ni'n ceisio ei datblygu. Fe wnaeth bwyntiau tebyg, yn wir, pan oeddem ni'n trafod lansio'r strategaeth arloesi, ac mae'n iawn i wneud hynny. Ein her yw sut rydym ni'n gwneud yn siŵr bod gennym ni amgylchedd lle mae'r llwyddiant hwnnw'n cael ei gyflawni, trwy ymchwil, a'i roi ar waith wedyn fel gwerth a budd economaidd. Ac rwy'n credu mai rhan o hyn yw pwysigrwydd allweddol y datganiad a wnes i ychydig wythnosau yn ôl ar ddull cydlynol o ddatblygu economaidd, gan weithio gyda rhanbarthau fel partneriaid a deall y cryfderau penodol sy'n bodoli yn y rhanbarthau hynny, y bydd rhai ohonyn nhw, wrth gwrs, wedi'u cynnwys yn y sector prifysgol perthnasol. Jack Sargeant AC: Gweinidog, rwy'n croesawu'n arbennig eich sylwadau ar gwestiwn blaenorol am y Ganolfan Ymchwil Technoleg Uwch a'ch cefnogaeth i honno. Gan droi at y datganiad hwn, byddwch yn gwbl ymwybodol o'r nifer o weithiau yr wyf i wedi siarad yn y Siambr hon am yr heriau sy'n ein hwynebu i sicrhau sero net, y rhan sydd gan weithgynhyrchu uwch i'w chwarae o ran arloesi ac ysgogi cyfraddau cynhyrchiant. Rydych chi hefyd wedi cyfeirio yn eich datganiad at bwysigrwydd chwaraewyr allweddol, fel Airbus, fel yr AMRC, sydd eisoes yn dangos hynny. Gallai hyn fynd ymhellach a chael hwb pellach drwy ddarparu parth buddsoddi—ac rwy'n croesawu eich cefnogaeth i alwadau am barth buddsoddi yn y gogledd-ddwyrain—gyda chanolfan sgiliau a hyfforddiant wedi'i hymgorffori i helpu i ddarparu ymhellach y cenedlaethau nesaf o sgiliau. Tybed, gyda'ch cefnogaeth i un wedi'i lleoli yn sir y Fflint a Wrecsam, pa sgyrsiau y gallech chi eu cael gyda rhanddeiliaid fel Airbus a chwmnïau eraill o gwmpas yr etholaeth i gefnogi eu galwadau ar lefel y DU. Vaughan Gething AC: Byddwn yn hapus iawn i gael sgwrs gydag Airbus am unrhyw gynigion y maen nhw'n eu datblygu gyda phartneriaid ar gyfer canolfan sgiliau a hyfforddiant bwrpasol. Fy nealltwriaeth a'm hamlinelliad i yw nad ydyn nhw'n chwilio am rywbeth sydd ar gyfer Airbus yn unig, ond sydd â chyrhaeddiad ac effaith ehangach. Dyna un o'r pethau ydym ni eisiau eu gweld gan ein cwmnïau angori, i gael effaith ehangach na'u busnesau eu hunain, ac rydym ni wedi gweithio'n adeiladol gydag Airbus yn unigol ac, yn wir, gyda Llywodraeth y DU ar wneud dadleuon dros fuddsoddiad. Mae'n enghraifft dda iawn o faes lle ceir busnes â llawer o waith, gwaith o ansawdd uchel, sy'n gofyn am fuddsoddiad parhaus mewn sgiliau, a'n her yw sut rydym ni'n parhau i wneud yn siŵr bod mwy o bobl yn ymwybodol o'r cyfleoedd, nid yn unig yn Airbus a'r gadwyn gyflenwi ehangach, ond yr effaith ehangach y gall ei chael, yn enwedig yn y sector gweithgynhyrchu gwerth uchel, ac, wrth gwrs, y meysydd peirianneg cysylltiedig a mwy. Felly, byddwn yn fwy na pharod i ddatblygu'r sgwrs adeiladol honno gydag Airbus a'r rhanbarth. Alun Davies AC: Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma. Roeddwn i eisiau siarad y prynhawn yma, oherwydd mae gen i ddiddordeb yn yr hyn y mae'r datganiad yn ei ddweud am bolisi economaidd Cymru. Er y byddwn yn croesawu'r datganiad cyn belled ag y mae'n mynd o ran y datblygiad a'r parthau buddsoddi y mae'r Gweinidog wedi'u cyhoeddi heddiw, mae gen i ddiddordeb mewn lle mae hynny'n ein gadael ni o ran y dull cyffredinol o ymdrin â pholisi. Efallai fod y Gweinidog wedi ateb y cwestiwn, a dweud y gwir, wrth ateb llefarydd y Ceidwadwyr pan ddywedodd ei fod yn mynd i ganolbwyntio ar ardaloedd lle ceir potensial ar gyfer twf. Nawr, mae hwnnw wedi bod yn bolisi gan Lywodraeth Cymru o'r blaen ac mae wedi cyfeirio cyllid Llywodraeth Cymru a chymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer busnes i'r gogledd-ddwyrain a'r de-ddwyrain. Yr hyn nad yw wedi'i wneud yw cyfeirio cyllid a chymorth y Llywodraeth i ardaloedd lle ceir tlodi ac ardaloedd lle mae methiant sylweddol yn y farchnad eisoes. Nawr, byddwn i'n dadlau y dylai fod gan Lywodraeth ymyraethol wahanol ddull, y dylai fod ganddi dull o ymdrin â pholisi economaidd sy'n cywiro methiant y farchnad, sy'n rhoi arian cyhoeddus ac adnoddau trethdalwyr yn y cymunedau hynny sydd ei angen fwyaf, nid yn unig yn yr ardaloedd hynny lle mae popeth ar gael yn rhwydd, lle gellir cyflawni'r canlyniadau gorau o fuddsoddiad lleiaf posibl. Mae'r farchnad eisoes yn gwneud hynny. Felly, fy nghwestiwn i'r Gweinidog yw hwn: sut fydd y dull hwn o fudd i'r cymunedau hynny lle nad yw'r farchnad yn darparu buddsoddiad, lle nad oes yr un potensial ar gyfer twf a lle mae'r tlodi yn fwy? Vaughan Gething AC: Rwy'n credu y byddwn i'n dweud dau beth cyffredinol. Y cyntaf, fel yr wyf i wedi ceisio ei nodi yn fy natganiad, yw nad parthau buddsoddi a'r polisi porthladdoedd rhydd yw cyfanswm yr hyn y mae'r Llywodraeth hon eisiau ei weld yn cael ei gyflawni. Rydym ni'n ymdrin ag ymyriadau gan Lywodraeth y DU, eu mentrau polisi, ac rydym ni'n gorfod gwneud dewisiadau ynghylch a ydym ni'n dymuno dod o hyd i ffordd y gallwn ni fyw gyda'r ymyriadau polisi hynny yng Nghymru gyda'r defnydd o ysgogiadau datganoledig, neu a ydym ni eisiau gadael Llywodraeth y DU i geisio gwneud rhywbeth yn gyfan gwbl ar wahân gyda phwerau a gedwir yn ôl. Rwy'n credu, fodd bynnag, bod un o'r pwyntiau yn rhywbeth am naws, hefyd. Ni ddylem ni fod yn swil am fod eisiau cefnogi twf a sectorau twf. Y gwahaniaeth, fodd bynnag, yw na allwch chi ddweud y bydd yn digwydd lle mae'n digwydd, ac rwy'n credu mai dyma lle rwy'n sicr yn cytuno â'r Aelod. Rydych chi eisiau i bobl allu cael gafael ar y gwaith hwnnw ac edrych ar yr hyn sy'n ardal teithio i'r gwaith ehangach, rydych hefyd eisiau ymyrryd yn fwriadol mewn meysydd lle nad oes gweithgarwch economaidd sylweddol. Mae hynny, er enghraifft, yn meddwl am etholaeth yr Aelod ei hun, nid yn unig y cymorth cynhyrchiant yr ydym ni wedi ei ddarparu i fusnesau ym Mlaenau Gwent, ond y ffaith ein bod ni wedi cefnogi datblygiadau eiddo i ganiatáu i fwy o ardaloedd ddod o hyd i waith yn rhanbarthau Blaenau Gwent a rhanbarthau eraill y Cymoedd i wneud yn siŵr bod gweithgarwch economaidd yn digwydd. Mae'r ymyrraeth honno mewn marchnad na fyddai'n creu'r cyfleoedd hynny fel arall yn bwysig iawn. Felly, i mi, mae'n dal i fod yn ymwneud â deall yr angen am ddull cydlynol o ddatblygu economaidd rhanbarthol a dealltwriaeth bod angen i ni ddeall yr hyn a all weithio ac a fydd yn gweithio ym mhob un o ranbarthau Cymru. Bydd angen a swyddogaeth i Lywodraeth ymyrryd bob amser i wneud yn siŵr nad oes gennym ni ddwy gornel o Gymru yn unig sy'n perfformio'n gymharol dda o'u cymharu â gweddill Cymru, ond mewn gwirionedd ni allwn adael gweddill Cymru i'w dynged. Nid dyna farn y Llywodraeth hon, nid dyna ein polisi, ac rwy'n gobeithio bod yr hyn y llwyddais i'w gyflwyno dair wythnos yn ôl ar ddatblygu economaidd rhanbarthol yn rhoi rhywfaint o gysur i'r Aelod ein bod ni o ddifrif am hynny. Ken Skates AC: Gweinidog, ar ran Aelodau ar draws y pleidiau yn y gogledd, a gaf i ddiolch i chi am y cyhoeddiad hwn heddiw? Rydych chi eisoes wedi cyflawni ar ran pobl y gogledd-orllewin gyda'r cytundeb dros y porthladd rhydd, sy'n hynod bwysig i economi Ynys Môn a Gwynedd, ac ar draws y gogledd o ran hynny. Heddiw, rydych wedi cyflawni ar ran cymunedau y gogledd-ddwyrain drwy gyhoeddi cais llwyddiannus gan bartneriaid rhanbarthol yno i helpu i sicrhau y gall Cymru, ynghyd â'r clwstwr de-ddwyreiniol, barhau i gadw i fyny â'r sectorau hynny lle rydym gryfaf. Rwy'n credu bod hyn yn dangos, ac a fyddech chi'n cytuno bod hyn yn dangos gwerth cydweithio, ar draws pleidiau gwleidyddol ac ar draws sefydliadau hefyd? A fyddech chi hefyd yn cytuno ei fod yn adlewyrchu gwaith partneriaid yn y gogledd-ddwyrain sydd wedi gweithio mor gydweithredol dros y misoedd diwethaf? Mae llawer o bobl i'w diolch am y gwaith hwnnw, ond, yn benodol, a fyddech chi'n cytuno bod y broses hon yn dangos gwerth anhygoel Cyngor Wrecsam a Chyngor Sir y Fflint yn gweithio mor agos gyda'i gilydd? Gweinidog, yn olaf, a fyddech chi hefyd yn cytuno bod angen cytundeb cyflym gan Lywodraeth y DU dros y ddau barth yn awr ynghyd â sicrwydd y bydd cyllid cyfatebol ar gael i'r parthau hynny fel sy'n digwydd dros y ffin yn Lloegr? Diolch. Vaughan Gething AC: Diolch. Diolch am y geiriau caredig. Mae deall beth y mae'n bosibl ei wneud a chyflawni a deall sut i sicrhau twf mewn ffordd sy'n dal i gyd-fynd â'r hyn yr ydym am ei wneud â'n huchelgais economaidd bresennol wedi bod yn bwysig iawn yn y dewisiadau yr ydym wedi'u gwneud. Mae yna nifer o bobl sydd wedi gwneud cynnydd gwirioneddol o ran cydweithio o fewn rhanbarthau. Nid yw'n berffaith, nid yw'n digwydd trwy ddamwain, mae angen i bobl allu eistedd gyda'i gilydd, dod o hyd i feysydd o gytundeb ac nid bob amser i chwilio am feysydd anghytuno. Rydym yn gweld mwy o gynnydd ar hynny ym mhob un o'r rhanbarthau yng Nghymru. Cadeirydd y fargen dwf yn y gogledd, y bwrdd uchelgais economaidd, yw arweinydd Gwynedd, ac eto rydym yn cyhoeddi heddiw ymyriad a fydd yn cael ei sefydlu yn Wrecsam a sir y Fflint, ond a fydd yn dal i fod â pherthynas â'r hyn y maent am ei wneud ar draws y gogledd-ddwyrain cyfan. Mae'n un o'r blaenoriaethau yng nghynllun y gogledd i weld dyfodol hyd yn oed yn well ar gyfer gweithgynhyrchu gwerth uchel. Pan oeddwn i yn etholaeth yr Aelod yn ddiweddar, fe wnaethon ni gyfarfod â nifer o weithgynhyrchwyr gwerth uchel—rwy'n meddwl am Kronospan a'r bobl eraill y gwnaethon ni gwrdd â nhw pan oedden ni yno. Felly, rwy'n optimistaidd bod yna faes cryfder sy'n bodoli eisoes, ac un o'r pethau yr ydym wedi ymrwymo i'w wneud yw parhau i weithio gyda phartneriaid i gadw partneriaid gyda'i gilydd wrth symud ymlaen. Mae Llywodraeth y DU yn rhan o hyn ac mae angen iddynt barhau i fod yn bartner adeiladol yn y maes hwn. Rwy'n dymuno bod y cydweithio yma ar gael mewn meysydd eraill o weithgarwch gyda Llywodraeth y DU yr ydym wedi'u gweld yn rhai o'r meysydd y gallwn eu trafod heddiw. Rwy'n glir iawn na fyddem yn bwrw ymlaen â pharth buddsoddi yn unrhyw le yng Nghymru oni bai am yr ymrwymiadau yr ydym wedi'u sicrhau ar gydraddoldeb cyllid ar gyfer parthau buddsoddi yng Nghymru o'i gymharu â Lloegr, ac edrychaf ymlaen at benderfyniad cyflym ar gynigion parthau buddsoddi i ganiatáu i bob un ohonom symud ymlaen gyda'n gilydd. Carolyn Thomas AS: Mae busnesau a'r sector cyhoeddus yng ngogledd-ddwyrain Cymru, roeddent wedi canolbwyntio ar weithgynhyrchu uwch, ond hefyd y diwydiannau creadigol a digidol. Rwy'n gweld cymaint o botensial i'r gogledd yn y diwydiant hwn sy'n tyfu'n gyflym. Mae gennym Theatr Clwyd, Glyndŵr Wrecsam a'r colegau yn gweithio gyda'i gilydd, ond ar y cyd, gallent ychwanegu cryn dipyn o gryfder ar gyfer ceisiadau. Ni wnaethoch sôn am greadigol a digidol; dim ond gweithgynhyrchu uwch a gwerth uchel y gwnaethoch chi sôn amdano. Ai hepgoriad ar eich rhan chi yn unig yw hynny, neu a yw hynny'n rhywbeth yr ydych chi'n gobeithio y gallwch chi ddod ag ef i'r ardal honno hefyd? Vaughan Gething AC: Rwy'n credu bod hwn yn gwestiwn teg y mae'r Aelod yn ei ofyn, ac yn sicr mae'n ddefnyddiol egluro eto: rydym yn chwilio am genhadaeth benodol o amgylch parthau buddsoddi i adeiladu ar faes o gryfder cymharol. Nid yw hwn yn gynllun datblygu economaidd rhanbarthol cyfan; mae'n edrych ar un ardal gydag un set benodol o gyfleoedd economaidd yr ydym yn credu sy'n bodoli yno. Mewn gwirionedd, rydym yn parhau i weld twf yn y sector creadigol, ac ni fydd y cynnig hwn yn atal y twf sy'n digwydd yn y sector honno. Rydych chi'n iawn: mae cyfleoedd sylweddol ledled Cymru. Mae'n un o'r pethau y mae'r fargen dwf yn edrych arno, am sut i gefnogi twf y sector creadigol ymhellach, ac ni fydd hyn yn atal hynny rhag digwydd, a dyna'r pwynt rwyf wedi bod yn ceisio ei wneud—mewn ymateb i Alun Davies ac eraill—na ddylid ystyried y ddau gynnig parth buddsoddi fel cyfanswm yr hyn yr ydym am ei weld yn digwydd a'r hyn rydym yn barod i'w gefnogi. Mae'r gefnogaeth honno gennyf i a'r Dirprwy Weinidog am y cyfleoedd parhaus yn y sector creadigol yn bethau y byddwn yn dychwelyd atynt a gallwch ddisgwyl ein gweld yn parhau i gefnogi'r sector hwnnw, ac mae—fel yr ydych yn nodi—stori lwyddiant yn barod. Fodd bynnag, rwy'n credu ei fod yn tynnu sylw at y ffaith bod parthau buddsoddi eu hunain yn gallu gwneud rhai pethau ond nid popeth, a dyna pam mae angen dull cydlynol arnom o hyd o ddatblygu economaidd rhanbarthol y gellir ei wneud trwy weithio gyda phartneriaid yn unig. Y Llywydd / The Llywydd: Diolch i'r Gweinidog. 8. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Cydnabod y cyfraniad y mae digwyddiadau yn ei wneud i Gymru Y Llywydd / The Llywydd: Yr eitem nesaf oedd i fod yr eitem ar ddigwyddiadau. Mae'r eitem yna wedi ei gohirio. 9. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Tata Steel Y Llywydd / The Llywydd: Felly'r eitem nesaf fydd eitem 9, datganiad unwaith eto gan Weinidog yr Economi ar Tata Steel. Vaughan Gething. Vaughan Gething AC: Diolch yn fawr, Llywydd. Ar 15 Medi, cyhoeddodd Tata Steel a Llywodraeth y DU gytundeb ar y cyd ar gynnig i fuddsoddi mewn gwneud dur ffwrnais arc trydan ar safle Port Talbot, gyda buddsoddiad cyfalaf o £1.25 biliwn, gan gynnwys grant gan Lywodraeth y DU o hyd at £500 miliwn. Yn fy natganiad i'r Aelodau bryd hynny, tynnais sylw at bryderon Llywodraeth Cymru, gan groesawu'r buddsoddiad yn nyfodol y diwydiant dur yng Nghymru. Yn benodol, tynnais sylw at effaith bosibl bargen o'r fath nid yn unig ar y gweithlu a'r diwydiant, ond ar yr economi leol, y gadwyn gyflenwi ehangach a'r cymunedau hynny sy'n dibynnu ar ddur. Llywydd, rydym wedi pwysleisio'r pryder y byddai hyn yn ei achosi i weithwyr a theuluoedd mewn sawl rhan o Gymru ac wedi egluro ei bod yn hanfodol bod Tata yn cynnal ymgynghoriad ystyrlon gyda'i weithwyr trwy eu cynrychiolwyr undebau llafur cydnabyddedig ynghylch eu cynigion. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol y bu dyfalu eang yr wythnos diwethaf, ar 1 Tachwedd, fod Tata yn bwriadu cyhoeddi ei fwriad i gau gweithrediadau trwm ym Mhort Talbot yn llwyr, gan gynnwys cau'r ddwy ffwrnais chwyth erbyn diwedd mis Mawrth 2024. Bydd hyn yn arwain at golli miloedd o swyddi. Yn dilyn hynny, ni wnaeth Tata Steel gyhoeddiad ffurfiol yn dilyn eu cyfarfod bwrdd ym Mumbai. Mae hyn wedi gadael miloedd o weithwyr a'u teuluoedd, yn Tata Steel ac ar draws y gadwyn gyflenwi ehangach, yn wynebu dyfodol ansicr yn y cyfnod cyn y Nadolig. Bydd y cymunedau lle mae'r gweithfeydd dur hyn wedi'u lleoli, yn rhai o'r rhannau lleiaf cefnog o'r DU, hefyd yn poeni ac yn bryderus. Ar 1 Tachwedd, siaradais â'r Aelodau lleol dros Bort Talbot a'r undebau llafur dur, a lleisiodd pob un eu pryder enfawr ynghylch y cyhoeddiad posibl hwn. Siaradais hefyd ag uwch gynrychiolwyr o Tata Steel UK. Yn ystod y cyfarfodydd hyn, pwysleisiais bwysigrwydd ymgynghori'n briodol â'r undebau llafur cydnabyddedig ac ystyriaeth lawn o'r adroddiad i opsiynau amgen y mae'r undebau llafur yn eu paratoi gyda Syndex, sy'n ymgynghoriaeth arbenigol gydag arbenigedd yn y sector dur. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi trosglwyddiad cyfiawn i sero net mewn ffordd sy'n cyd-fynd â'n Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Rydym yn pryderu nid yn unig am yr effaith ar weithwyr a chymunedau, ond hefyd i osgoi gwrthbwyso ein hallyriadau o Gymru i rannau eraill o'r byd. Mae angen ystyried allyriadau o gynhyrchu a thrafnidiaeth fel rhan o unrhyw asesiad. Mae'r Prif Weinidog a minnau wedi cael trafodaethau pellach gyda'r cwmni a'r undebau dur yr wythnos hon. Byddaf wrth gwrs yn parhau i gadw llinellau cyfathrebu ar agor. Rydym yn barod i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi'r rhai yr effeithiwyd arnynt ar hyn o bryd, ac rwyf yn ailadrodd fy ngalwadau ar i Lywodraeth y DU weithio'n agosach gyda ni. Wrth gwrs, rwyf wedi ysgrifennu eto at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Masnach, yn gofyn am gyfarfod brys i drafod y mater a sut y gallai ein dwy Lywodraeth gydweithio. Llywydd, rydym yn canolbwyntio ar fuddiannau'r miloedd lawer o weithwyr Tata, eu teuluoedd, y cymunedau ehangach a phawb sy'n ymwneud â gweithio gyda phum cyfleuster Tata yng Nghymru a'u cefnogi. Mae eu cyfraniad i'n heconomi yn anferthol, gan ddod â chyrhaeddiad gwirioneddol fyd-eang gydag ef. O gerbydau trydan a thyrbinau gwynt i duniau o ffa a chartrefi newydd, dur yw'r edau a fydd yn rhedeg trwy economi heddiw ac yfory. Mae'r diwydiant yn bwysig i dwf, diogelwch, sero net a lle'r DU yn y byd. Mae ein hymrwymiad hirdymor i'r sector yn seiliedig ar y realiti hwn. Byddwn yn parhau i gyflwyno'r achos dros sector cryfach, gwyrddach, sy'n gallu manteisio ar y cyfleoedd enfawr y gellid eu hennill yma yng Nghymru. Diolch yn fawr, Llywydd. Paul Davies AC: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad? Rwy'n rhannu siom y Gweinidog nad oes datganiad wedi ei gyflwyno gan Tata ar ei gynlluniau ailstrwythuro yn ystod yr wythnos ddiwethaf, ac felly, rwy'n annog y Gweinidog i weithio mor adeiladol â phosibl gyda'r busnes nes ein bod yn gwybod mwy am ei sefyllfa bresennol a'i gynlluniau penodol ar gyfer y dyfodol. Mae'r Gweinidog yn iawn i ddweud bod gweithwyr a'u teuluoedd ym Mhort Talbot yn poeni ac yn bryderus, a hynny'n ddealladwy, am yr hyn sydd gan y dyfodol ar eu cyfer nhw, ac rwy'n cytuno bod angen llawer mwy o ymgysylltu rhwng Tata a'i weithwyr. Mae'r Gweinidog wedi dweud ei fod wedi siarad yn uniongyrchol ag uwch gynrychiolwyr am ei bryderon, ac efallai y gallai ddweud wrthym pa fath o ymateb a gafodd ganddynt. Mae angen hanfodol i Tata gyfathrebu'n fwy agored â'i weithlu ac mae angen i Lywodraeth Cymru ddeall yn wrthrychol pam mae'r cwmni wedi dewis cymryd rhan yn y ffordd yma fel y gall helpu i sicrhau bod unrhyw broses ymgynghori wrth symud ymlaen yn ystyrlon a bod rhyngweithio gwirioneddol rhwng y busnes a'i weithlu. Yn ôl rhai adroddiadau, mae swyddogion gweithredol Tata wedi rhybuddio bod ei weithrediadau yn y DU yn colli mwy na £1 miliwn y dydd, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cydnabod nad yw hyn yn gynaliadwy yn y tymor hir. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog ddweud wrthym beth yw asesiad economaidd Llywodraeth Cymru o'r busnes a'i weithrediadau yng Nghymru mewn gwirionedd a sut olwg sydd ar ddyfodol Tata Steel yng Nghymru i Lywodraeth Cymru. Mae'n rhaid dweud bod Tata yn gyflogwr sylweddol iawn, ac rwy'n siŵr ein bod i gyd yn cytuno y bydd yn rhaid i'r model busnes newid yn ddi-os wrth symud ymlaen er mwyn datgarboneiddio ei weithrediadau. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog eisoes wedi dweud ei fod yn gweithio gyda'r Gweinidog cyllid i weld beth y gellir ei wneud i gryfhau caffael Cymru ymhellach, a fydd, gobeithio, yn rhoi mwy o gyfleoedd i'n diwydiant dur. Felly, byddwn yn ddiolchgar am unrhyw ddiweddariad sydd ganddo ar y gwaith hwnnw i gryfhau cyfleoedd caffael, yn ogystal ag amlinellu pa gyfleoedd sydd wedi'u canfod neu sydd o leiaf ar y gweill ar gyfer dur a gynhyrchir yn y DU. Llywydd, mae angen i ni gofio mai safle Port Talbot yw'r allyrrydd carbon deuocsid mwyaf yn y DU, ac felly mae'n ddealladwy o dan bwysau, fel y dywedais i yn gynharach, i symud i ffurfiau gwyrddach, llai carbon-ddwys o wneud dur. Yn wir, mae Llywodraeth Cymru bob amser wedi honni mai ei ffocws yw archwilio pob llwybr i sicrhau dyfodol carbon isel llwyddiannus i ddur Cymru, ac mae'r datganiad heddiw yn ailddatgan hynny. Mae'n ffaith bod ein bywydau yn dibynnu ar ddur o ansawdd da: dur i wneud pontydd, piblinellau a cheir. Mae hyd yn oed rhywfaint o gynhyrchu ynni adnewyddadwy yn dibynnu ar ddur. Felly, efallai y gallai'r Gweinidog amlinellu pa gynigion o gefnogaeth, os o gwbl, y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud i helpu'r busnes ar ei daith ddatgarboneiddio. Mae'r Gweinidog wedi dweud y gallai sefydliadau yng Nghymru gymryd rhan yn y gwaith o ymchwilio a datblygu'r gwaith o wneud dur arc trydan, yn ogystal â defnyddio hydrogen yn fwy yn y broses. Mae angen i Lywodraeth Cymru ddweud mwy wrthym am yr union waith y maent am ei weld sy'n digwydd yma a sut y dylid ariannu'r gwaith ymchwil a datblygu hwnnw. A yw hwn yn faes lle mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwneud rhywfaint o fuddsoddiad sylweddol, ac os felly, faint yw hynny? Wrth gwrs, wrth wraidd hyn mae angen i bartneriaeth a phleidiau ddod at ei gilydd—Tata fel busnes, Llywodraethau'r DU a Chymru, a'r gweithlu hefyd. Wrth gloi, Llywydd, a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw? Unwaith eto, ailadroddaf fy nghefnogaeth i helpu Tata i ddatgarboneiddio a chynhyrchu dur mewn ffordd llawer mwy gwyrdd yn y dyfodol. Hoffwn hefyd ailadrodd pa mor hanfodol yw hi i Tata gyfathrebu'n addas ac yn briodol â'i weithwyr cyn gynted â phosibl, er mwyn lleihau'r poeni a'r pryderon a deimlir gan y gweithwyr ac, yn wir, gan y gymuned gyfan. Diolch. Vaughan Gething AC: Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Dechreuaf gyda chwestiwn yr Aelod am sgyrsiau gydag uwch gynrychiolwyr Tata. Fe wnaeth y Prif Weinidog a minnau gyfarfod ag uwch gynrychiolwyr Tata heddiw. Fe wnaethon ni drafod eto, heb ofyn am adroddiad manwl o'r hyn ddigwyddodd yr wythnos diwethaf, ond i ddeall effaith yr hyn a ddigwyddodd, i gydnabod bod hynny'n dal i fod yno o hyd. Nid yw wedi diflannu. Dydy pobl ddim wedi stopio poeni nawr. Roedd natur y briff a gyflwynwyd yn fanwl, ac mae pobl yn dal i bryderu am eu swyddi a'u dyfodol ar yr adeg waethaf yn y flwyddyn siŵro fod. Mae Tata wedi nodi'n glir eu bod am weld adroddiad Syndex, gyda'i argymhellion, i ddeall a oes cynigion gwahanol i gyflawni taith datgarboneiddio ar gyfer cynhyrchu dur ym Mhort Talbot. Dyna y mae'r undebau llafur wedi bod yn gofyn amdano. Mae'n gadarnhaol eu bod nhw'n dweud eu bod nhw'n mynd i aros i'r adroddiad hwnnw gael ei ddarparu—rwy'n deall ei fod ar fin digwydd—a byddem wedyn eisiau gweld ymgynghoriad gwirioneddol ystyrlon yn digwydd. Byddai angen amser i'r adroddiad hwnnw gael ei drafod, fel nad yw hynny'n golygu sbarduno'r broses gyfreithiol, gan y byddai hynny'n ei gwneud yn ofynnol i Tata gael cynigion cadarn ar gyfer newid swyddi. Credwn y byddai angen trafod hyfywedd unrhyw gynigion amgen a allai ddod o'r adroddiad Syndex hwnnw, ac mae'n bwysig bod yr amser ar gael i wneud hynny. Gall hynny hefyd ddelio ag un o'i gwestiynau eraill am asesiad ariannol y cwmni. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cynnal dadansoddiad fforensig o asesiad ariannol y cwmni. Nid ydym mewn sefyllfa i wneud hynny. Ond mae gennym ddiddordeb, wrth gwrs, yn nyfodol y sector, y dyfodol i weithwyr, a dyfodol cymunedau, a'r ddealltwriaeth y bydd angen llawer mwy o ddur arnom yn ein dyfodol. Roeddech chi'n sôn am allyriadau—yr allyriadau dur sy'n cael eu cynhyrchu ym Mhort Talbot heddiw o'i gymharu â sut y gellid cynhyrchu dur yn y dyfodol. Os gwelwn ddur sy'n cael ei fewnforio i'r DU, byddem hefyd am ddeall cost allyriadau'r dur hwnnw, ble bynnag y caiff ei gynhyrchu, yn ogystal â chostau cludo'r dur hwnnw o rannau eraill o'r byd i'r DU. Felly, mae'n bwysig peidio a meddwl bod un swm i'w wneud yma am y daith i ddatgarboneiddio, y mae'r undebau llafur dur a chyflogwyr dur yn cydnabod ei bod wedi bod yn angenrheidiol. Roedd honno'n sgwrs a gefais ar ddod yn Weinidog yr economi. Rwy'n gwybod bod honno'n sgwrs sydd wedi digwydd yn ystod cyfnod fy rhagflaenydd Ken Skates hefyd. Felly, rydym am weld trosglwyddiad gwirioneddol sydd ddim yn rhoi swyddi ar y môr ac allyriadau i rannau eraill o'r byd. Rwy'n credu ei bod yn werth nodi hyn hefyd wrth orffen. Ym mhob un o'r heriau sydd gennym, roedd y cynnig buddsoddi a wnaed ar gyfer arc trydan yn cynnwys Tata a Llywodraeth y DU yn buddsoddi mewn dyfodol gwahanol. Rydym bob amser wedi dweud ein bod yn deall bod mwy o ddur arc trydan yn rhan o'r ateb, ond eisiau gweld pob ateb technoleg arall yn cael ei ystyried—felly, llai o haearn yn uniongyrchol fel dewis arall hefyd, pryd y gallai hynny fod yn bosibl. Ym mhob un o'r dyfodol hyn, serch hynny, parodrwydd Llywodraeth y DU i barhau i weithredu fel rhanddeiliad, i barhau i weithredu fel rhywun sy'n barod i fuddsoddi yn y dyfodol, yn enwedig os yw hynny'n darparu llwybr lle gallwch weld gostyngiad net mewn allyriadau, gan gynnwys sut y gallai allyriadau fod ar y môr, barhau i weld dyfodol i nifer fawr o weithwyr a allai golli eu swyddi fel arall, yn rhan o'r drafodaeth agored y mae angen i ni ei chael, gan Lywodraeth y DU i wneud hynny. Ac mae'n deg dweud nad sgwrs yn unig yr wyf wedi bod yn ceisio ei chael gyda gwahanol Weinidogion y DU yw hon. Unwaith eto, rwy'n cydnabod y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, sydd ar y sgrin—gyda phob un o'r gwahanol Brif Ysgrifenyddion i'r Trysorlys y bu'n rhaid iddi ddelio â nhw, mae hi wedi bod yn eiriolwr cyson i Lywodraeth y DU weithredu i gefnogi a buddsoddi yn nyfodol gwneud dur. Efallai na fyddwch yn clywed yr hyn a adroddir yn aml iawn, ond gwn fod hynny'n rhan o'r sgwrs a gawn. Ac yn wir mae'r Gweinidog newid hinsawdd yn cael sgyrsiau tebyg gyda'i chymheiriaid hefyd. Felly, mae barn Llywodraeth Cymru yn glir ac yn ddiamwys iawn, ac rydym yn gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn parhau i fod yn bartner gweithredol sy'n barod i edrych eto ar yr hyn y maent yn barod i'w wneud i fuddsoddi yn y dyfodol, oherwydd credaf fod gwir reswm dros feddwl bod dyddiau da o'n blaenau ar gyfer gwneud dur a'i ddefnydd yma yng Nghymru a thu hwnt. Luke Fletcher AS: Ychydig dros fis yn ôl, fe ddysgon ni, fel yr amheuwyd ers peth amser, fod cytundeb Llywodraeth y DU gyda pherchnogion Tata Steel yn debygol o ddod am bris uchel sef colli 3,000 o swyddi, gyda'r mwyafrif llethol yn effeithio ar y safle ym Mhort Talbot. Bydd aelodau ar draws y Siambr hon yn ymwybodol iawn o oblygiadau dinistriol y senario hwn i'r gymuned leol, sydd, er eu bod wedi cyflenwi cenedlaethau o weithwyr i'r ffatri, wedi gorfod ymgodymu ers amser maith â'r ansicrwydd dirfodol sydd wedi amgylchynu diwydiant dur Cymru ers blynyddoedd lawer. Heb os, bydd yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yn cynyddu teimladau o orbryder i lawer. Yr hyn sydd wedi bod yn arbennig o ofidus, er nad yw'n syndod o ystyried dirmyg Llywodraeth y DU hon tuag at weithwyr, yw'r ffaith bod undebau llafur a'u cynrychiolwyr wedi cael eu cau allan o'r trafodaethau o'r cychwyn cyntaf. Dyma'r un driniaeth ddidwyll o weithwyr yr ydym wedi'u gweld yn parhau dros y ddau fis diwethaf tra bod Tata wedi bod yn datrys y pwyntiau manylach ar gyfer gweithredu'r fargen hon, ac roedd hynny i'w weld yr wythnos diwethaf. Mae cytundeb eang ymhlith yr undebau am yr angen i ddatgarboneiddio'r diwydiant a harneisio potensial Cymru fel canolbwynt ar gyfer yr esblygiad diwydiannol gwyrdd, ond fel rwyf wedi pwysleisio sawl gwaith, rhaid i'r newid i'r canlyniad hwn yr ydym i gyd eisiau ei weld fod yn gyfiawn, ac rwy'n gwrthod y rhagdybiaeth sylfaenol i'r fargen hon bod gosod y dechnoleg angenrheidiol yn gorfod cynnwys rhyw fath o fasnachu, gyda gweithwyr Cymru yn ddieithriad yn gorfod ysgwyddo'r costau. Fel y mae'r Undeb Cymunedol wedi nodi'n briodol, mae rhywfaint o ragrith i safle Tata ar y trawsnewidiad gwyrdd, o gofio ei bod yn bygwth cau ei weithrediadau yng Nghymru heb y pecyn hwn o gefnogaeth ar gyfer gosod y ffwrneisi arc trydan newydd, gan barhau i allforio dur a weithgynhyrchir gan ffwrnais chwyth o safleoedd nad ydynt yn wyrdd yn India a'r Iseldiroedd. Yn y pen draw, os byddwn yn parhau i lawr y llwybr hwn, bydd gennym ddur budr, a thrwy hynny byddwn yn alldraethu allyriadau carbon yn y broses. Mae gan ffwrneisi arc trydan rôl i'w chwarae, ond fel technoleg, dim ond un cog mewn peiriant cymhleth ydyw. Mae hydrogen yn ddatrysiad tymor hir, llai o haearn yn uniongyrchol yn garreg gamu gyflymach. Ymddangosodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru gerbron ETRA—Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig—a ymunodd aelod o'r pwyllgor newid hinsawdd ag ef hefyd, ac nid oedd yn credu bod hydrogen yn werth buddsoddi ynddo, gan nad oedd yn fasnachol hyfyw. Beth fyddai barn y Gweinidog ar hyn? Roedd yn agwedd eithaf brawychus, yn enwedig oherwydd yr awgrym yw nad rôl y wladwriaeth yw datblygu adnoddau strategol oni bai ei bod yn fasnachol hyfyw ar gyfer busnes preifat. Efallai mai dyma pam mae angen i ni feddwl am fodelau amgen o berchnogaeth ddiwydiannol yng Nghymru, oherwydd dyma'r realiti: mae wedi cael ei roi i mi sawl gwaith bod Tata yn gwmni preifat, ac os nad yw'n gwneud elw ym Mhort Talbot, yna ni all pobl ddisgwyl iddo barhau i weithredu yno. Byddwn i'n derbyn y rhagosodiad hwnnw pe baem yn siarad am gwmni a oedd yn cynhyrchu nwyddau moethus, ond nid dyna beth rydyn ni'n sôn amdano yma, onid e'? Yr hyn yr ydym yn sôn amdano yma yw adnodd strategol. Mae'n adrodd cyfrolau am y diffyg effaith sydd gennym yng Nghymru dros ein heconomi bod penderfyniadau ar ddyfodol un o'r gweithrediadau gweithgynhyrchu pwysicaf yn y wlad wedi'u gwneud y tu ôl i ddrysau caeedig gan Lywodraeth y DU a chwmni rhyngwladol. Yn hytrach na derbyn y status quo, lle mae statws cymaint o swyddi yng Nghymru yn cael eu hystyried yn gynhenid i fuddiannau masnachol partïon nad ydynt wedi'u lleoli yng Nghymru, rhaid i ni ymdrechu am ddewisiadau gwell eraill, megis cefnogi amlhau cydweithredu, gan sicrhau, pan fo diwydiannau critigol yn cael eu peryglu drwy ailstrwythuro corfforaethol neu ailflaenoriaethu bod fframwaith cadarn ar waith i weithwyr gymryd rheolaeth gweithrediadau, ac felly'n cynnal eu presenoldeb yng Nghymru. Ac nid yw hyn, wrth gwrs, yn ddamcaniaethol: dyna'n union sydd wedi'i wneud yng Ngwlad y Basg. Felly, byddai gennyf ddiddordeb ym meddyliau'r Gweinidog ar hyn y tu hwnt, a chyda pharch, i ddweud, 'Yn syml, ni allwn ei fforddio', oherwydd os na fyddwn yn cymryd camau i ddiogelu'r sector dur yma yng Nghymru, yna bydd y costau yn y dyfodol yn llawer uwch. Ac nid wyf yn disgwyl iddo ddweud, i fod yn deg, 'Fe wnawn ni rywbeth yfory', ond siawns bod angen i ni ddechrau meddwl. Nid yw hyn yn gynaliadwy ac mae angen i ni feddwl o ddifrif am y dyfodol. Byddaf yn gorffen, Llywydd, trwy ddweud, yn yr achos hwn, clod lle mae'n ddyledus. Mae Llywodraeth Cymru, ac yn enwedig y Gweinidog, rwy'n gwybod, wedi bod yn rhagweithiol wrth geisio sicrhau dyfodol y safle. Rwy'n gwybod, trwy waith y grŵp trawsbleidiol ar ddur, a dyna pam rwy'n estyn allan yma i ni weithio gyda'n gilydd, i ddatblygu dyfodol newydd i'r sector gyda'n gilydd. Yr hyn rwy'n ofni ein bod yn ei weld yma, mewn gwirionedd, yw Llywodraeth y DU sydd â dim uchelgais i'r sector dur, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU hefyd, a bydd hynny er anfantais i'n cymunedau a chenedlaethau'r dyfodol, os na fyddwn yn dangos yr uchelgais nawr ac nad ydym yn cael hyn ar hyn o bryd. Vaughan Gething AC: Diolch am y sylwadau. Rwy'n credu bod llawer o feysydd lle roedd yna gysondeb yn fy natganiad ac, yn wir, fy ymateb i gwestiynau gan Paul Davies—y pwyntiau ynghylch proses bontio gyfiawn gyffredinol; yr angen i ymgynghori'n ystyrlon gydag undebau llafur; i gymryd o ddifrif adroddiad Syndex, sydd ar fin digwydd, rydyn ni'n ei ddeall; i ddeall gwirionedd ôl traed allyriadau. Os ydych chi'n bwriadu creu dur mewn rhannau eraill o'r byd, dymor hir, drwy broses ffwrnais chwyth, a'i fewnforio yma, mae angen i ni ddeall sut olwg sydd ar hynny. Mae angen i ni hefyd ddeall y cyfleoedd ar gyfer technolegau amgen hefyd, a pha mor agos ydyn nhw at fod wedi'u datblygu'n llawn. Yr her yn hyn i gyd yw, a gyda pharch, rwy'n credu bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru—nid ei faes arbenigol ef yw hwn, ond nid wyf i'n credu ei bod hi'n deg dweud nad oes dyfodol i hydrogen. Mewn gwirionedd, mae'r buddsoddiadau eraill yn cael eu cynnal, ac os na fyddwch chi'n buddsoddi yn y rheini, yna ni fyddwch chi byth yn gwybod eich hun. Mae'n rhan o'r rheswm pam—ac nid fi a wnaeth hynny; rwy'n credu unwaith eto, mai fy rhagflaenydd Ken Skates, a fuddsoddodd arian mewn sefydliad metelau ym Mhrifysgol Abertawe, i ystyried y ffyrdd y gallwch chi gynhyrchu metelau, sut y gallwch chi gynhyrchu'r graddau a'u hansawdd nhw hefyd. Ac mae hynny'n bwysig mewn gwirionedd, ac mae hynny'n golygu partneriaeth, gyda Tata yn buddsoddi mewn gwneud hynny. Byddwn i'n dweud, er hynny, ein bod ni'n dal i ddod yn ôl at her buddsoddiad Llywodraeth y DU. Faint maen nhw'n barod i'w fuddsoddi yn y dyfodol a beth yw eu disgwyliad ar gyfer yr hyn y bydd y buddsoddiad hwnnw'n ei gyflawni? Oherwydd yn hyn o beth, mae angen i ni gydnabod bod dur yn ased strategol nid yn unig i Gymru ond i'r DU gyfan. Ac ni allwch chi ymgymryd ag ased strategol y DU heb ystyried maint ac ansawdd y gwaith o gynhyrchu dur yma yng Nghymru. Mae'r newyddion o Scunthorpe ddoe wir yn bwysig, a dylai fod o bwys i bob un ohonon ni, oherwydd nid yw'r un cynnig eang i symud o gynhyrchu gan ddefnyddio ffwrnais chwyth i gynhyrchu gan ddefnyddio arc trydan yn golygu bod miloedd o weithwyr eraill yn poeni am eu swyddi—ac rwy'n credu y dylai pob un ohonon ni fod yn bryderus am hynny hefyd—ond, o safbwynt y DU, mae'n bosibl ei fod yn golygu na fyddai'r broses o wneud dur sylfaenol yn bodoli. Mae hynny wedyn yn golygu y bydden ni'n dibynnu ar rannau eraill o'r byd am wneud yr holl dur sylfaenol hwnnw, ac mae hynny'n rhan o'r her. Mae dewis strategol mawr i Lywodraeth y DU. Dyna pam y mae'r dewisiadau y maen nhw'n eu gwneud mor bwysig y tu hwnt i'r gweithlu ym Mhort Talbot; byddan nhw'n bwysig i'r hyn y gallwn ni ei wneud yma yng Nghymru ac ar draws y DU. Os ydych chi'n ystyried cyfleoedd yn y dyfodol, mae angen i ni feddwl—. Bydd angen dur plât arnoch chi i ddarparu rhai o'r cyfleoedd adnewyddadwy. Nid ydyn ni'n cynhyrchu hynny yn unman yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd. A dweud y gwir, byddai hynny'n ei gwneud hi'n ofynnol i Lywodraeth y DU fod yn barod i siarad â'r sector a deall sut y gall fuddsoddi'n strategol, er mwyn cyflawni'r gallu hwnnw. Ac yna mae cyfle nid yn unig ar gyfer y DU ond ar gyfer y tu hwnt iddi hefyd, a dyna'r sgwrs yr wyf i eisiau gallu'i chael gyda Llywodraeth y DU. Hoffwn i gael y sgwrs honno gyda Llywodraeth bresennol y DU. Rwy'n credu y byddwn i yn cael y sgwrs honno pe bai Llywodraeth Lafur yn ei lle. Yr anhawster yw, a allwn ni aros tan etholiad cyffredinol, neu a fydd y dewisiadau hynny eisoes wedi'u gwneud? Rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd arnaf i geisio gweithio gyda Llywodraeth bresennol y DU i gael y cytundeb gorau bosibl i Gymru. A dyna yr wyf yn barod i'w wneud, beth bynnag yw ein gwahaniaeth, oherwydd dyna y mae gweithwyr yn ei haeddu, rwy'n credu, ac rwy'n credu mai dyna y mae pobl Cymru yn ei haeddu. David Rees AC: Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi am eich datganiad, ond yn bwysicach fyth, diolch i chi am eich ymateb cyflym yr wythnos diwethaf, pan wnaethon ni glywed yr adroddiadau a'r trafodaethau y cawson ni brynhawn Mercher? Roedd y taranfollt y gwnaethon ni ei glywed o'r adroddiad hwnnw yn ddinistriol i'r gweithlu, eu teuluoedd a'r cymunedau ym Mhort Talbot a'r cylch, sy'n dibynnu ar yr incwm o'r swyddi yno. Ac nid dim ond y 3,000 y gwnaethon ni sôn amdanyn nhw, oherwydd maen nhw'n sôn am roi'r felin boeth a'r gweithfeydd castio parhaus o'r neilltu. Dyna swyddi'n cael eu colli am bedair blynedd, petai cynhyrchu dur yn dod yn ôl. Dyna'r contractwyr a'r holl gyflenwyr yn mynd hefyd, a'r holl fusnesau sy'n dibynnu ar y dynion a'r menywod hynny sy'n gweithio yno. Mae'n effaith enfawr, a gadewch i ni fod yn ddi-flewyn-ar-dafod: rydyn ni wedi sôn am broses bontio gyfiawn, ac rwy'n cytuno â chi—mae angen proses bontio gyfiawn arnon ni—ond nid proses bontio'n unig yw hwn, mae'n broses cau. Mae'n broses cau'r gweithfeydd hynny ac, os ydyn ni'n lwcus, efallai y byddan nhw'n penderfynu adeiladu ffwrnais arc mewn gwirionedd, oherwydd nid yw hynny'n sicr ar hyn o bryd. Maen nhw ond yn sôn am gau'r gweithfeydd ym mis Mawrth 2024, a phedair blynedd yn ôl pob tebyg cyn i unrhyw beth ddigwydd. Bydd y dynion hynny wedi mynd. Bydd y menywod hynny wedi mynd. Ni fydd unrhyw sgiliau yno. Mae hi wir yn bygwth proses gau i'r dref. Felly, rwy'n ymwybodol o fy amser ac rwy'n ymwybodol o'r hyn yr wyf i'n ei ddweud yn aml wrth yr Aelodau, ond mae'n bwysig, rwy'n credu bod cyhoeddiad ddoe, sy'n tynnu sylw at golli cynhyrchu dur yn y DU, yn y bôn—dur sylfaenol—hefyd wedi'i gynnwys yma. Mae'n bwysig ein bod ni'n cael y neges i Tata a Llywodraeth y DU, ac rwyf i eisiau i chi anfon y neges gryf hon ein bod ni eisiau proses bontio gyfiawn, mae undebau eisiau proses bontio gyfiawn. Maen nhw'n derbyn y broses o symud i ddur gwyrdd, maen nhw'n derbyn y newidiadau, ond nid dyna y maen nhw'n ei gynnig ar hyn o bryd, ac mae'n rhaid i ni barhau i bwyso'r neges mai dyna yr ydyn ni ei eisiau. Rydych chi'n sôn am ddewisiadau eraill. Rydyn ni eisiau'r dewisiadau eraill, rydyn ni eisiau ffwrneisi haearn llai uniongyrchol, byddwn ni'n cymryd y ffwrneisi arc trydan, ond mae'n rhaid iddo fod wedi'i ganolbwyntio ar ymgynghori â'r undebau, nid cyfathrebu'n unig. Mae'n rhaid iddo fod yn ymgynghori ac yn ymgynghori ystyrlon gyda'r undebau. A wnewch chi sicrhau bod y neges honno'n cael ei chyfleu iddyn nhw, os gwelwch yn dda? Vaughan Gething AC: Diolch yn fawr, David. Ac rwy'n diolch iddo am ei neges i mi ben bore yr wythnos diwethaf yn gofyn am gyfarfod. Edrychwch, mae David Rees wedi bod yn gefnogwr cyson i ddur. Byddech chi'n disgwyl iddo ef fod gyda'i etholaeth ef a'i fod yn gadeirydd y grŵp trawsbleidiol. Ac mae'r pwyntiau mae e'n eu gwneud yn bwyntiau sydd wedi codi mewn sgwrs gydag undebau llafur dur, ac, yn wir, gyda Tata—sef yr angen am broses pontio gyfiawn, i ystyried gwirionedd allyriadau ac a ydyn ni ond yn anfon ein hallyriadau alltraeth ai peidio; yr angen i ystyried sut wedd sydd ar broses bontio gyfiawn o ran gweithwyr a'u swyddi, a dim ond o ymgynghori ystyrlon gyda'r undebau llafur dur cydnabyddedig y gall hynny ddod, a'r gwirionedd ei fod, a dweud y gwir, yn pontio i'r dyfodol lle bydd dal angen dur arnon ni. A'r dewis strategol y mae angen i nid yn unig Tata ei wneud am ei fusnes, ond mae angen i'r DU ei wneud yw: a ydyn ni'n barod ar gyfer dyfodol lle nad yw cynhyrchu dur sylfaenol yn rhywbeth y mae'r DU yn ei wneud? Ydyn ni'n barod i dderbyn ddyfodol lle mae'n rhaid i ni fewnforio o rannau eraill o'r byd yn gyson? Gall mewnforio'r dur hwnnw, i'w rolio yma, ddigwydd yn y tymor canolig, ond yr her yw, yn y tymor hir, a yw hynny'n caniatáu i ni wneud yr hyn y dylai economi fodern allu ei wneud i ymgymryd â'r holl gyfleoedd hynny, neu a fyddwn ni'n ildio'r cyfle i wneud ein dewisiadau strategol ein hunain? Rwy'n credu mai dyma'r dewis anghywir fyddai gwneud hynny. Mae honno'n neges yr ydyn ni wedi'i chael yn gyson gyda Llywodraeth y DU pan ydyn ni wedi gallu siarad â nhw, ac rydyn ni wedi nodi'n glir ein bod ni'n credu y byddai colli gwneud dur sylfaenol yn gamgymeriad o safbwynt y DU. Rwy'n cydnabod y pryderon, os bydd ffwrneisi chwyth ar gau, faint o sicrwydd y gall pobl ei gael y bydd dur yn parhau i ddod i Gymru i fynd trwy gweithrediadau eraill sy'n gofyn am fewnforio dur. Ac nid Port Talbot yn unig yw hyn; mae yna safleoedd eraill o amgylch Cymru sy'n edrych yn bryderus am i'w dyfodol. Cafodd hynny'n ei wneud yn glir iawn i mi pan es i i Lanwern gyda John Griffiths ac aelodau o'r gymuned ac Unite. Felly, mae llawer o agweddau ar hyn y mae angen i ni eu deall, a gallaf i sicrhau'r Aelod ein bod ni'n gwneud y pwyntiau hynny'n gadarnhaol ond yn glir ym mhob un o'n sgyrsiau, a dyna pam yr wyf i wir eisiau cael y sgwrs honno gyda Llywodraeth y DU hefyd, i ddeall a ydyn ni ar yr un ochr mewn gwirionedd, oherwydd, a bod yn deg, rwy'n credu bod Paul Davies yn gadarnhaol. Pe bai ymateb Llywodraeth y DU oedd hynny, rwy'n credu y bydden ni'n gallu gwneud rhywbeth i sicrhau dyfodol cryfach i'r sector dur. Altaf Hussain AS: Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Yn dilyn eich trafodaethau gyda Tata a'r undebau dur, a oes gennych chi unrhyw bryderon y gallai mynd ar drywydd ffwrneisi arc trydan danseilio'r cytundeb sydd wedi'i gytuno arno? Ers eich datganiad blaenorol yn dilyn y newyddion am y cytundeb rhwng Tata a Llywodraeth y DU, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i gefnogi'r gweithwyr sydd mewn perygl o gael eu diswyddo? Ac yn olaf, Gweinidog, gyda'r cyhoeddiad heddiw y bydd angen pedair gwaith y nifer o ffermydd gwynt ar Gymru er mwyn cyrraedd targedau ynni eich Llywodraeth. Pa gamau ydych chi'n eu cymryd i sicrhau bod Port Talbot yn dod yn ganolbwynt ar gyfer cynhyrchu tyrbinau angenrheidiol? Diolch yn fawr iawn. Vaughan Gething AC: Ar y pwynt olaf, dyma'r hyn yr ydyn ni eisiau'i weld yn cael ei gyflawni—buddsoddi mewn seilwaith porthladdoedd. Mae'n rhaid i hynny ddod ochr yn ochr ag eglurder, a phiblinell ar gyfer y diwydiant alltraeth ei hun. Nid yw'r arwydd presennol o 4 i 4.5 GW o bŵer yn darparu digon i fusnesau fuddsoddi yn y tymor hwy. Mae'r potensial am bedair i bum gwaith cymaint yn bwysig iawn i'w ryddhau, ac yna rwy'n credu y byddwn ni'n gweld y mathau hynny o ddewisiadau buddsoddi yn cael eu gwneud. Hefyd, dyma pam mae'r dewisiadau seilwaith porthladdoedd, dewisiadau cynllun y diwydiant gweithgynhyrchu gwynt arnofiol ar y môr, sydd eto i'w gwneud i Gymru—mae'n bwysig iawn bod y buddsoddiad hwnnw'n cael ei wneud. Ac mae'n sail i'r cais porthladd rhydd Celtaidd. Mae angen i Bort Talbot a phorthladd Aberdaugleddau weld y dewisiadau buddsoddi hynny'n cael eu gwneud, ac a bod yn deg, unwaith eto, gwn i fod yna Aelodau ym mhlaid Altaf Hussain ei hun sy'n gwneud yr achos hwnnw. Mae'n bwysig iawn bod y penderfyniadau yn dod nawr, ac rwy'n gobeithio na fydd datganiad yr hydref yn gyfle wedi'i golli, oherwydd os yw Llywodraeth y DU yn cyhoeddi y bydd buddsoddiad yn dod i borthladdoedd Cymru, yna byddwn i'n un sy'n ei groesawu. Byddai'n caniatáu i ni wneud mwy a gweld swyddi'n cael eu creu. Mae'r her, er hynny, yn parhau, os daw'r cynigion presennol i mewn ar gyfer gwneud dur arc trydan yn unig, yna mae hynny'n rhan o'r risg a welwn ar gyfer y newid mewn swyddi, ond hefyd y raddfa y byddai hynny'n digwydd arni. Nid ydyn ni'n gallu cael sgyrsiau penodol eto gyda phobl sydd wynebu risg cael eu diswyddo, oherwydd nid yw'r ymgynghoriad wedi dod i ben, ac mae'n bwysig iawn nad wyf i'n mynd ar goll wrth geisio rhoi ffigurau penodol ar golli swyddi sy'n digwydd, neu a allai ddigwydd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod gennyf i'r eglurder wrth ddweud bod angen i ni gael ymgynghoriad ystyrlon ar gyfer cynigion Syndex sy'n dod, ac y mae'r cwmni'n ymwybodol ohonyn nhw, i'w hystyried, eu trin yn ystyrlon ac o ddifrif, cyn cynnal unrhyw ymgynghoriad ffurfiol. Bydd hynny'n gofyn—. Os yw'n ofynnol i ni wneud pethau o'i amgylch, byddwn i'n gwneud hynny, ond yn sicr, bydd yn ei gwneud yn ofynnol i'r cwmni a'r undebau edrych eto yr hyn a allai fod yn bosibl. Felly, rwy'n edrych ymlaen at dderbyn copi o'r adroddiad hwnnw pan gaiff ei ddarparu, ac edrychaf ymlaen at gael sgwrs gyda'r undeb o leiaf ynghylch beth allai'r dyfodol fod, a dyfodol gwell na'r un a oedd yn bosibl yr wythnos diwethaf. John Griffiths AC: Gweinidog, diolch i chi am sôn am holl weithfeydd Tata yng Nghymru, ac yn enwedig eich ymweliad â ffatri Llanwern i siarad â'r undebau a chlywed ganddyn nhw'u hunain. Fel y gwyddoch chi, mae Llanwern yn dal i fod yn rhan sylweddol o'r economi leol, ac mewn gwirionedd mae'r proffil oedran yn Llanwern erbyn hyn yn iau nag y bu ers cryn amser, sydd hefyd yn arwyddocaol o ran unrhyw ailstrwythuro sy'n digwydd. Yn amlwg, yn bennaf ym mhryderon yr undebau llafur yn Llanwern, Gweinidog, yw dyfodol Llanwern a sut mae'n cyd-fynd â'r darlun cyffredinol, a'r felin oer, er enghraifft, ac ofnau efallai na fydd unrhyw ddur sy'n cael ei gynhyrchu gan ffwrneisi arc trydan o'r ansawdd a fyddai'n cefnogi gweithrediad parhaus gweithfeydd Zodiac, er enghraifft. Felly, mae llawer o faterion penodol a materion neilltuol gan Llanwern, a'r gweithlu yno, fel rhan o'r sefyllfa gyffredinol honno sy'n ein hwynebu ni o ran dur yng Nghymru. Felly, dim ond fy apêl arferol, mewn gwirionedd, Gweinidog, nad yw Llanwern yn cael ei anwybyddu mewn unrhyw ffordd o ran y darlun ehangach wrth i faterion fynd yn eu blaen. Vaughan Gething AC: Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am dynnu sylw at natur cydgysylltiedig y dewisiadau sy'n cael eu gwneud o amgylch Port Talbot a'u heffaith uniongyrchol ar nifer sylweddol o swyddi mewn rhannau eraill o Gymru, gan gynnwys Llanwern. Ac roedd yn ymweliad addysgiadol iawn, nid yn unig cyfarfod â chynrychiolwyr undebau llafur o Community ac Unite, ond hefyd, wedyn, gweld rhywfaint o'r gweithredu hefyd. Mae ansawdd y dur sy'n dod i mewn yn bwysig iawn o ran y cynnyrch y mae'n bosibl iddyn nhw ei wneud yn y pen draw, a hyfywedd y gweithfeydd a'r swyddi sy'n cyd-fynd ag ef. Rwy'n credu ei bod yn werth nodi, Llywydd, ar y pwynt y cafodd ei wneud ynghylch oedran cyfartalog y gweithlu. Mae oedran cyfartalog y gweithlu yn iau nag yr hyn rwy'n credu y byddai pobl yn tybio. Pobl, dynion a menywod yw'r rhain, sydd â chyfrifoldebau na fyddan nhw'n diflannu ymhen blwyddyn neu ddwy. Bydd ganddyn nhw alldaliadau ar gyfer teuluoedd a chartrefi a fydd yn cynyddu'r pryder y maen nhw'n ei wynebu, ac mae'n bwysig iawn deall hynny. Ac mae hynny'n sicr yn llywio'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati i ymgysylltu â rhanddeiliaid eraill, ac mae hi wir yn ategu'n disgwyliadau bod ymgynghori yn ystyrlon ac rydyn ni eisiau cymaint o fuddsoddi â phosibl, a'r dyfodol gorau posibl i'r sector dur a'u gweithwyr. Sioned Williams AS: Dwi eisiau cyfeirio nôl at yr ansicrwydd a'r pryder yna roeddech chi'n cyfeirio atyn nhw, achos mae ansicrwydd a phryder yn drwch drwy'r cymunedau dwi'n eu cynrychioli. Mae busnesau a theuluoedd tu hwnt i'r gweithwyr sy'n gweithio'n uniongyrchol yng ngwaith dur Port Talbot yn cael eu heffeithio gan y sïon yma, y sibrydion yma am y dyfodol, ac mae'n creu ing ac mae'n creu dicter. Felly hoffwn wybod sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau eu bod nhw'n cyfathrebu'r hyn sy'n digwydd y tu ôl i ddrysau caeedig ac o gylch byrddau busnes gyda'r gymuned ehangach sydd hefyd yn poeni am lewyrch eu hardal. A sut mae gwaith y bwrdd pontio, yn enwedig, yn ymgorffori cyfranogiad gan y gymuned ehangach? Vaughan Gething AC: Diolch am y cwestiwn. Vaughan Gething AC: Rwy'n credu y dylwn ni nodi bod heddiw yn ymarfer o ran cyfathrebu â'r gweithlu ehangach a'r gymuned ehangach sy'n pryderi. Rhan o'r hyn y mae angen i ni ei wneud yn Llywodraeth Cymru yw parhau i fod yn froceriaid onest ac eiriolwyr onest â phawb yr ydyn ni'n siarad â nhw, i fod yn glir ynghylch pryd yr ydyn ni'n cael trafodaethau sy'n gyfrinachol, a bod yn glir am y cysondeb yr ydyn ni'n ei gael mewn trafodaethau â gwahanol bartneriaid, a'r hyn y gallwn ni ei ddweud ac na allwn ni ei ddweud wedyn mewn cynulleidfa ehangach. Yr anhawster, wrth gwrs, yw peidio â gwybod beth yw'r cynigion terfynol, felly ar ôl cael y briff manwl sydd wedyn wedi cael ei adrodd arno ac yna nad yw hynny'n mynd yn ei flaen—. Wel, mewn gwirionedd, roedd y cynigion wir yn achosi pryder. Pe bydden nhw wedi mynd yn eu blaen byddai hynny wedi bod yn bryder mawr, ond mae pobl nawr yn byw gyda'r ansicrwydd o beidio â gwybod. Bydd cael adroddiad Syndex, deall sut wedd fydd ar hwnnw, eisiau dal Tata i'w hymrwymiad i gymryd rhan mewn ymgynghoriad ystyrlon ynghylch hynny, yn bwysig iawn i ni. Mewn sawl ffordd, y sefyllfa waethaf yw'r un yr ydyn ni ynddi. Pan fydd pobl yn dweud, 'Beth sydd wir yn mynd i ddigwydd?', mae gorfod dweud wrth rywun, 'wn i ddim' yn anodd iawn. Ac mae hynny'n anodd iawn i gynrychiolwyr undebau llafur hefyd. Felly, mae cynrychiolwyr GMB, Community ac Unite sy'n cael eu holi gan eu haelodau mewn gweithfeydd ar draws y sector dur, yn gorfod dweud wrth eu haelodau nad ydyn nhw'n gwybod beth sy'n digwydd mewn gwirionedd. A gall hynny fod yn anodd, oherwydd weithiau mae'ch aelodau'n tybio eich bod chi wir yn gwybod beth sy'n digwydd ac nad ydych chi eisiau dweud wrthyn nhw, ond mewn gwirionedd, nid oedden nhw'n ymwybodol. Rwy'n credu, er hynny, mae bod â safbwynt unedig gan undebau llafur dur o amgylch adroddiad gan Syndex—os oes dewis arall hyfyw mae angen i ni sicrhau bod hynny'n cael ei ystyried yn gywir. Dyna pam yr wyf i'n ailadrodd yr alwad unwaith eto ar i'r cwmni gymryd unrhyw gynigion eraill o ddifrif ac i Lywodraeth y DU fod yn barod i symud ymlaen o'u sefyllfa bresennol o ran faint o gymorth y maen nhw'n barod i'w ddarparu, a deall y gwerth y byddai modd ei golli os na allwn ni sicrhau'r nifer fwyaf o swyddi posibl a'r cyfleoedd economaidd ehangach sy'n dal i fodoli ar gyfer gwneud dur yma yn Cymru a'r Deyrnas Unedig yn ehangach. Vikki Howells AC: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad ar yr hyn sydd, wrth gwrs, yn ddiwydiant hanfodol i ni, fel rhan allweddol o economi Cymru ac o ran ein diogelwch cenedlaethol hefyd. Rwy'n falch o glywed eich bod chi'n cadarnhau eich ymrwymiad i hydrogen fel dewis arall i'r pen trwm. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, yn absenoldeb strategaeth hirdymor glir a blaengar gan Lywodraeth y DU, fod Llywodraeth Cymru yn mynegi dewis arall y byddai modd ei gyflawni, o bosibl, naill ai gyda newid cyfeiriad gan Lywodraeth Dorïaidd bresennol y DU neu, ac yn fwy tebygol yn fy marn i, Llywodraeth Lafur fwy blaengar yn y dyfodol. Fy nghwestiwn i chi y prynhawn yma: mae'r Gynghrair Cymunedau Diwydiannol wedi tynnu sylw at nifer o bryderon ynghylch cynigion Llywodraeth y DU, gan gynnwys o ran gweithlu'r diwydiant dur, yr effaith amgylcheddol a'r effaith ar yr economi leol a chenedlaethol. Beth yw'ch ymateb i'r pryderon hyn fel y mae papur 'The Wrong Deal for Steel' yr ICA yn eu nodi? Vaughan Gething AC: Rwy'n credu mai'r pwynt cyffredinol yw ein bod ni'n rhannu nifer o'r pryderon ynghylch yr hyn a allai ddigwydd. Os ydych chi'n colli'r holl allu i wneud dur sylfaenol, rydych chi'n dibynnu wedyn ar fewnforio o wledydd eraill a'r prisiau y mae'n rhaid i chi eu talu. Mae hynny'n broblem ynddi'i hun. A fydd pawb wedyn yn barod yn y tymor hwy i barhau i fewnforio'r dur hwnnw i'w roi trwy felinau yng Nghymru, neu a fyddwch chi, mewn gwirionedd, yn symud tuag at y posibilrwydd bod y gwaith hwnnw'n newid? Oherwydd os yw'n newid, y risg yw y bydd y newid yn barhaol. Nawr mae hynny'n risg gwirioneddol sy'n cael ei drafod yn agored; mae'n rhan o'r pryder y mae teuluoedd sy'n gwneud dur yn ei ddeall rhyngddyn nhw eu hunain. Rwy'n credu mai'r pwynt arall yw—. Y pwynt yr wyf i'n ceisio'i wneud am Lywodraeth y DU yw bod angen iddyn nhw wneud dewis, pa liw bynnag o Lywodraeth y DU sydd yna, i wneud dewis ynghylch beth sydd er budd strategol y Deyrnas Unedig o ran gwneud dur a chael y gallu hwnnw yma, a'r ffaith y bydd economi'r dyfodol yn dibynnu ar ddur. Gallwn ni naill ai ei wneud ein hunain, neu gallwn ni ei fewnforio, gyda'r holl risgiau sy'n gysylltiedig â hynny. Yna, os ydych chi'n barod i fuddsoddi ar y cyd gyda'r sector mewn dyfodol gwahanol, faint ydych chi'n barod i'w fuddsoddi a beth yw'ch disgwyliad o ran yr enillion ar hynny, o ran swyddi wedi'u sicrhau a chael dewisiadau technoleg gwahanol hefyd? Rwy'n dal i feddwl bod lle i Lywodraeth y DU wneud y peth iawn, ac eisiau sicrhau gwell cytundeb i weithwyr dur yma yng Nghymru, ac rwy'n credu y byddai hynny o fudd ar draws y DU. Byddwn ni'n parhau i wneud yr achos hwnnw. Rwy'n credu y byddai gennym ni well gobaith o weld yr achos hwnnw'n cael ei wireddu pe bai Llywodraeth wahanol. Er hynny, ein cyfrifoldeb ni yw parhau i gyflwyno'r achos hwnnw i'r Llywodraeth bresennol, gan gydnabod y gallai eu dewisiadau bennu dyfodol y sector. Jane Dodds AS: Efallai fod llawer ohonoch chi'n pendroni pam mae Aelod Canolbarth a Gorllewin Cymru yn sefyll yma yn gwneud sylwadau ar y mater penodol hwn. Oni bai eich bod chi heb sylwi, fel yr unig Ddemocrat Rhyddfrydol, fi yw'r llefarydd ar bopeth. Yn fy rôl yma, fi yw'r llefarydd ar ran yr economi ac, os oedd yna berson o'r fath, y llefarydd ar hawliau gweithwyr. Fel cyn stiward llawr gwaith, mae'n ymddangos yn hollol ffiaidd i mi, y ffordd y mae Tata wedi trin eu gweithwyr. Y straen ychwanegol ar y gweithwyr hynny ar hyn o bryd—rydych chi wedi sôn am hynny, a nifer yma wedi hefyd. Mae'n teimlo eich bod chi'n gwneud popeth y gallwch chi, ond meddwl oeddwn i—. Un o'r materion rwy'n ei godi yw mater o incwm sylfaenol trosiannol. Mae hynny'n gyfle i symud pobl sy'n gweithio mewn diwydiannau carbon-drwm, gan roi'r sicrwydd hwnnw iddyn nhw o incwm rheolaidd, i ddiwydiant gwyrdd, gyda'r sgiliau hefyd, ar ben popeth arall y mae ganddyn nhw'r hawl iddyn nhw drwy unrhyw becynnau cyflogaeth. Felly, tybed a wnewch chi roi sylwadau ar sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar hyn o bryd i feddwl am incwm sylfaenol trosiannol o ran y senario hwn? Diolch yn fawr iawn. Vaughan Gething AC: Diolch. Dylwn i gydnabod fy mod i'n gyn stiward llawr gwaith fy hun. Dylwn i hefyd gydnabod bod o leiaf un cyn-gyfreithiwr arall yr undeb llafur yn yr ystafell, ac o leiaf un arall llawn amser—na, dau gynrychiolydd undeb llafur llawn amser arall yn eu bywydau blaenorol hefyd. Edrychwch, rwy'n credu mai'r her yw—[Torri ar draws.] Beth? Rwy'n credu mai'r her yw: sut allwn ni gefnogi'r gweithlu orau yn y cyfnod ansicr presennol, ac eisiau ei gwneud hi'n glir nad ydyn ni eisiau ond derbyn y bydd swyddi sylweddol yn cael eu colli yn y dyfodol agos? Rydyn ni eisiau gweld yr adroddiad sy'n cael ei gymryd o ddifrif. Dyna pam yr ydyn ni'n galw ar Lywodraeth y DU i fod yn bartneriaid mewn sgwrs am y dyfodol. Os bydd swyddi yn cael eu colli, mae angen i ni edrych ar yrysgogiadau sydd gennym ni ar gael ar hyn o bryd. Byddwch chi'n ymwybodol o'r cynllun peilot incwm sylfaenol presennol, ac rwy'n falch bod y Llywodraeth hon yn ei chyflawni. Mae'n ystyried yn benodol, pobl sy'n gadael gofal. Nid wyf i'n credu y gallen ni drosglwyddo hynny i'r materion presennol a allai grisialu dros y misoedd nesaf. Yr hyn sydd gennym ni, er hynny, yn fy adran i, yw'r gefnogaeth yr ydyn ni'n ei darparu drwy ein rhaglen ReAct+ a Cymunedau am Waith a Mwy, lle rydyn ni'n ceisio helpu pobl wrth drosglwyddo o un gyflogaeth i'r llall. Rydyn ni wedi gweld hynny wedi'i ddefnyddio gyda Tillery Valley Foods. Rydyn ni wedi'i weld yn cael ei ddefnyddio ynghylch 2 Sisters hefyd, i geisio defnyddio'r liferi sydd gennym ni. Dyna pam mae'r gyllideb yn bwysig hefyd. Mae hon yn gyllideb sy'n cael ei harwain gan alw. Felly, bydd graddfa a maint yr hyn sy'n digwydd, a pha mor gyflym y mae'n digwydd, yn gwneud gwahaniaeth i'r math o gefnogaeth y gallwn ni ei darparu a pha mor effeithiol y gallwn ni ddarparu hynny. Felly, p'un ai yw'n cael ei alw'n incwm sylfaenol neu fel arall, y man cychwyn yw: pa gymorth y gallwn ni ei ddarparu, pa mor effeithiol y gall fod, sut ydyn ni'n deall y cyfleoedd am swyddi sy'n bodoli, ac yna sut mae helpu pobl i'w cyflawni'n ymarferol? Sarah Murphy AS: Gwnaeth fy nhad-cu, Patrick Murphy, o New Ross, Wexford, helpu i adeiladu gwaith dur Port Talbot yn y 1950au a gwnaeth weithio yno nes iddo ymddeol, fel y gwnaeth fy Nhad yn ei wyliau haf, a fy ewythrod a fy nghefndryd, a chafodd bob un ohonyn nhw eu magu ym Mhen-y-bont ar Ogwr o ganlyniad i hyn. Felly, mae hon yn stori darddiad gyffredin iawn yn fy nghymuned i ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae gennym ni lawer o'r gweithlu yn byw yn fy etholaeth i o hyd, felly mae pryder enfawr, yn ogystal ag undod enfawr â'r holl weithlu ledled de Cymru. Rwyf i wir eisiau ategu popeth y mae fy nghyd-Aelod David Rees wedi'i ddweud heddiw. Hoffwn i ddiolch i'r holl undebau llafur am sefyll dros y gweithlu—Cymuned, Unite, GMB—Stephen Kinnock, AS Port Talbot, a hefyd chi eich hun, Gweinidog. Oherwydd, fel yr ydych chi wedi ei bwysleisio heddiw, mae'n ymwneud â blaenoriaethu'r bobl hynny a'r teuluoedd hynny sydd wrth wraidd hyn. Fy nealltwriaeth i yw bod Llafur y DU wedi ymrwymo addewid dur gwyrdd gwerth £3 biliwn i helpu i wella gweithfeydd yn y DU a chadw swyddi mewn proses bontio teg, proses bontio ystyrlon, a hefyd bod â diwydiant dur bron heb allyriadau erbyn 2035. Felly, mae'n ddrwg gen i, ond yr eliffant yn yr ystafell yn y fan yma yw fy mod yn sefyll yma heddiw yn clywed sut mae Llywodraeth y DU a Tata Steel wedi methu'n llwyr â dod o hyd i gytundeb sydd er budd gorau'r gweithlu a'n hamgylchedd a'n heconomi, ac yna mae gennym ni'r ymrwymiad hwn gan Lafur y DU sy'n uchelgeisiol ac rwyf i ond eisiau gofyn: a yw'r Gweinidog yn cytuno â mi mai'r unig ffordd i achub dur Prydain yw ethol Llywodraeth Lafur y DU yn yr etholiad cyffredinol nesaf cyn gynted â phosibl? Diolch. Vaughan Gething AC: Wel, hoffwn i ddiolch i'ch tad-cu, Patrick Murphy, am wneud y daith yma a helpu i fod yn rhan ohoni, nid dim ond stori Iwerddon, ond dyfodol Cymru, ac mae honno'n stori gyffredin y dylen ni fod yn barod i'w dathlu bob amser. Ar eich pwynt o ran agwedd Llywodraeth bresennol y DU, fel rwyf i wedi'i ddweud dro ar ôl tro, byddwn i'n parhau i geisio gweithio ar gyfer y dewis amgen gorau posibl a pharhau i gyflwyno'r achos dros barhau i fuddsoddi mewn dyfodol arall. Ond o ran hyn a chymaint o bethau eraill, byddai'r rhagolygon o gyflawni proses bontio wirioneddol gyfiawn, gyda'r gwerth gorau posibl i weithwyr presennol a gweithwyr y dyfodol, yn cael eu gwella'n anfesuradwy pe bai yna Lywodraeth Lafur y DU, ac rwy'n edrych ymlaen at gynnal yr etholiad hwnnw cyn gynted â phosibl. Rhianon Passmore AC: Gweinidog, fel y dywedoch chi wrth y cyfryngau, yn ystod cynhadledd newyddion gynnau, pe bai holl weithgareddau'r ffwrnais chwyth yn dod i ben heb ffordd arall o wneud dur sylfaenol, yna gallai'r DU fod yr unig wlad G7 nad yw'n gallu gwneud dur sylfaenol, ac yn y byd anwadal presennol, nid yw hyn yn synhwyrol nac yn ddiogel. Felly, mae'n hanfodol bod Tata nawr yn cymryd rhan mewn ymgynghori dwys ac ystyrlon gydag undebau llafur ac yn archwilio'n drylwyr y cyhoeddiad sydd ar ddod o adroddiad Syndex, sydd wedi bod yn archwilio dewisiadau arall i ddatgarboneiddio'r diwydiant. Gweinidog, mae'r undebau llafur Community, GMB ac Unite yn amcangyfrif y gallai ffwrneisi arc trydan ym Mhort Talbot arwain at golli 3,000 o swyddi yn y gwaith dur a nifer o weithrediadau is Tata yng Nghymru, sy'n cynnwys Llanwern, cyflogwr pwysig yng Ngwent i gymunedau Islwyn, ochr yn ochr ag effeithiau economaidd sylweddol y gadwyn gyflenwi eilaidd. Gwnaethoch chi ddweud eich bod chi wedi cael trafodaethau eraill â Tata a'r undebau yr wythnos hon ochr yn ochr â'r Prif Weinidog, felly, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd ar eich cais brys i gwrdd wyneb yn wyneb ag Ysgrifennydd Gwladol y DU dros Fusnes a Masnach? Ac a wnewch chi ddatganiad brys arall i'r lle hwn pan gaiff Syndex ei gyhoeddi, fel bod Cymru'n parhau i wneud dur cynhenid, gan sicrhau diogelwch a chynhyrchiant yn y dyfodol a sicrhau swyddi dur gwyrdd Cymru nawr ac yn y dyfodol? Vaughan Gething AC: Rwy'n fwy na pharod i ymrwymo i roi gwybod i Siambr y Senedd gan fod datblygiadau a meysydd sylweddol y gallwn ni wneud sylwadau defnyddiol arnyn nhw. Pan fydd adroddiad Syndex ar gael, rwy'n credu, bydd angen sicrhau bod eglurder y disgwyliad gan y Llywodraeth hon ac eraill bod ymgynghoriad ystyrlon yn digwydd ynghylch yr adroddiad hwnnw cyn bod unrhyw fath o grisialu ar gynigion yn bwysig, ac mae'r amser i hynny ddigwydd yno, a'r lle i hynny ddigwydd hefyd. Mae'n ddigon posibl mai dewis undebau llafur sy'n cynrychioli'r gweithlu yw bod sbel cyn gwneud datganiad arall yn y Siambr hon, ond rwy'n fwy na pharod i ymrwymo i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am unrhyw gynnydd ystyrlon sy'n cael ei wneud mewn sgyrsiau â Llywodraeth y DU neu yn wir am unrhyw gynigion, cynigion eraill, ein bod ni'n gallu eu hamlygu ar gyfer yr Aelodau yma, a gwn i fod Aelodau ar draws y Siambr yn mynegi barn oherwydd dealltwriaeth o gyrhaeddiad y sector dur hefyd. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny'n addewid defnyddiol i'w roi. Y Llywydd / The Llywydd: Yn olaf, Huw Irranca-Davies. Huw Irranca-Davies AC: Diolch, Llywydd, a'r Gweinidog, diolch am y datganiad. Ni fyddai unrhyw un yn gwrthwynebu bod arc trydan yn rhan o'r cymysgedd o wneud dur yn y DU yn y dyfodol, ond oni fyddai'n hollol wrthun pe baem ni, ar hyn o bryd, lle mae brys, yn fyd-eang, i fod y cyntaf i'r farchnad wrth ddatblygu gwneud dur sylfaenol gwyrdd, yn gadael y gystadleuaeth honno? Ond yr hyn sydd ei angen yw cyfranogiad gweithredol y Llywodraeth, ochr yn ochr â Tata Steel, ochr yn ochr â'r gweithlu, ond mae angen Llywodraeth y DU yn ogystal â Llywodraeth Cymru—rwy'n dweud hyn yn hollol onest, oherwydd fel arall byddwn ni'n ei golli, ac ni fydd cenedlaethau'r dyfodol yn diolch i ni amdano. Byddwn ni'n troi ein cefn ar wneud dur sylfaenol, a byddwn ni'n ei anfon alltraeth, ac ni fyddwn ni'n cael y fantais gystadleuol honno o fod y cyntaf i'r farchnad. A bydd, bydd yn costio. Efallai y bydd yn rhaid i ni edrych ar gostau ynni yn y ffordd y mae gwledydd Ewropeaidd eraill yn ei wneud. Efallai y bydd yn rhaid i ni edrych ar fuddsoddiad a chyllid grant i ddatblygu'r technolegau newydd. Wrth gwrs, y bydd yn rhaid i ni. Felly bydd pobl eraill hefyd. Ond efallai na fyddwn ni'n ystyried swyddi'r gorffennol, ond swyddi'r dyfodol mewn dur gwyrdd. Felly, Gweinidog, a gaf i ofyn i chi: yn y cyfnod o oedi hwn yr ydyn ni ynddo nawr, a fydd ef yn gwneud ei orau glas i weithio gyda Tata Steel, Llywodraeth y DU, yr undebau, y gweithlu, edrych ar gefn yr adroddiad yr ydyn ni'n aros yn eiddgar amdano, a dadlau'r achos hwnnw dros strategaeth ddiwydiannol weithredol sy'n dweud y dylen ni fod yn arwain y byd wrth ddatblygu dur gwyrdd, dur sylfaenol gwyrdd, yn ogystal ag arc trydan? Oherwydd y byddai'n drychineb, ac ni fydd cenedlaethau'r dyfodol yn diolch i ni, nid yn unig am golli swyddi, ond am ddweud mai swyddi'r gorffennol yw'r rhain pan ddylen nhw fod yn swyddi'r dyfodol mewn gwirionedd a dylen ni fod yn arwain y ffordd. Vaughan Gething AC: Diolch i'r Aelod. Rwyf eisiau amlygu'n benodol ein bod yn cytuno bod gwneud dur arc trydan yn rhan o'r dyfodol. Y gwahaniaeth yw nad ydym yn credu mai dyma'r unig ddyfodol ar gyfer gwneud dur yn y DU. Byddwn yn parhau i gyflwyno'r achos hwnnw ym mhob un o'n hymrwymiadau. Mae'n ddewis i Lywodraeth y Deyrnas Unedig mewn gwirionedd. Os ydyn nhw'n barod i ddweud eu bod eisiau i gynhyrchu dur sylfaenol ddigwydd a'u bod yn barod i gyd-fuddsoddi yn y dyfodol hwnnw, mae'n bosibl. Mae mwy y gallant ei wneud ac rwy'n falch bod yr Aelod wedi sôn am gostau ynni. Mae gwledydd Ewropeaidd eraill, yn nodweddiadol, wedi bod ag amgylchedd mwy cefnogol ynghylch ynni. Mae hynny'n bwysig i bawb, gan gynnwys—. Dylwn nodi bod o leiaf un gwneuthurwr dur yn fy etholaeth i sy'n gwneud dur arc trydan. Mae costau ynni yn broblem wirioneddol a fyddai'n gwneud gwahaniaeth mawr iawn a dylem edrych ar yr hyn y mae gwledydd eraill Ewrop yn ei wneud. Mae wedi bod yn alwad yn rheolaidd, pan arferai Cyngor Dur y DU gyfarfod, gan y sector ac undebau llafur, ac roedd Llywodraeth y DU yn deall yn dda iawn ei fod yn alwad lle gallech weld diffyg cywerthedd â gwledydd cystadleuol Ewrop. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi bod angen Llywodraeth weithredol arnom sy'n barod i gymryd perchnogaeth ac i ymyrryd i sicrhau bod gennym y gallu i fod yn berchen ar y dyfodol yn hytrach na'i fewnforio o rannau eraill o'r byd. Mae hynny'n rhan o'r hyn sydd yn y fantol heddiw. Y Llywydd / The Llywydd: Diolch i'r Gweinidog. Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro Y Llywydd / The Llywydd: Bydd yn rhaid nawr cael cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro i ganiatáu'r ddadl ar y cofio. Y Dirprwy Weinidog i wneud y cynnig hynny. Y Llywydd / The Llywydd: Yn ffurfiol i— Cynnig NNDM8394 Lesley Griffiths Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8: Yn atal dros dro y rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM8393 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn 7 Tachwedd 2023. Cynigiwyd y cynnig. Hannah Blythyn AC: Yn ffurfiol. Y Llywydd / The Llywydd: Yn ffurfiol i wneud y cynnig i atal Rheolau Sefydlog. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 10. Dadl: Coffa Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan. Y Llywydd / The Llywydd: Yr eitem nesaf, felly, fydd y ddadl ar y cofio a dwi'n galw ar y Dirprwy Weinidog nawr i wneud y cynnig hynny. Hannah Blythyn. Cynnig NNDM8393 Lesley Griffiths, Darren Millar, Heledd Fychan Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd parhaus cyfnod y Cofio i deuluoedd a chymunedau yng Nghymru. 2. Yn talu teyrnged i wasanaeth ac aberth unigolion o bob rhan o Gymru sydd yn gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn ein lluoedd arfog. 3. Yn cydnabod gwaith diflino sefydliadau, unigolion a gwirfoddolwyr sy'n cefnogi cymuned a chyn-aelodau’r lluoedd arfog ledled Cymru. Cynigiwyd y cynnig. Hannah Blythyn AC: Diolch. Dwi'n croesawu'r cyfle i ddod at ein gilydd unwaith eto yn y Senedd i nodi cyfnod blynyddol y cofio. Bydd llawer o ddigwyddiadau coffa yn cael eu cynnal dros y penwythnos mewn cymunedau ar draws y wlad. Dwi'n ddiolchgar hefyd am y gefnogaeth ar draws y pleidiau, fel ein bod ni'n gallu dod at ein gilydd i gofio am y rhai sydd wedi gwasanaethu a'r rhai sydd wedi gwneud yr aberthfwyaf. Hannah Blythyn AC: Yn drist, fodd bynnag, mae'r ddadl heddiw yn digwydd yng nghanol gwrthdaro parhaus ar draws y byd. Rwy'n gwybod bod pobl a chymunedau yng Nghymru yn meddwl am anwyliaid yn ogystal â phobl nad ydyn nhw erioed wedi cwrdd â nhw ac na fyddant byth yn cwrdd â nhw, gan gynnwys yn Wcráin, Israel a Gaza. Mae digwyddiadau diweddar yn atgyfnerthu'r trallod yn llwyr, y trallod, y boen a'r galar y mae gwrthdaro yn ei achosi i bobl a lleoedd. Ac felly, er nad ydym yn anghofio neu'n lleihau hynny mewn unrhyw ffordd, mae'n briodol iawn ein bod yn manteisio ar y cyfle i ganolbwyntio ar y cyd ar y cofio a'r pwysigrwydd parhaus i deuluoedd a chymunedau yng Nghymru. Gyda phob cyfnod coffa blynyddol a gyrhaeddwn, mae ein cenhedlaeth ail ryfel byd, er nad yw'n llai arwyddocaol, yn mynd yn llai. Erbyn hyn, ein cenhedlaeth gwasanaeth cenedlaethol yn bennaf yw carfan hynaf ein gwlad o gyn-filwyr. Yn ôl ym mis Mehefin, cefais yr anrhydedd o fynd i goffâd pen-blwydd 60 ar gyfer diwedd gwasanaeth cenedlaethol yn yr Ardd Goed Goffa Genedlaethol. Rhwng 1949 a 1963, cafodd mwy na 2 filiwn o ddynion eu gorfodi i ymuno â'r Fyddin Brydeinig, y Llynges Frenhinol neu'r Llu Awyr Brenhinol. Buont yn gwasanaethu ac yn ymladd mewn ymgyrchoedd ledled y byd, ym mharth camlas Suez, fel ceidwaid heddwch yng Nghyprus, ar weithrediadau gwrthchwyldroadaeth ym Malaysia, ymhlith eraill. Ac mae'r Aelodau yma wedi fy nghlywed yn dweud o'r blaen fy mod wedi tyfu i fyny gyda straeon am wasanaeth cenedlaethol fy nhad-cu fy hun yn Nigeria ac wedi gweld y lluniau a anfonodd at fy nain, gyda negeseuon hoffus arnyn nhw, pan oeddent, fel yr oeddent yn ei alw yn y dyddiau hynny, yn 'canlyn'. Bu milwyr cenedlaethol hefyd yn ymladd a marw yn rhyfel Korea, a barhaodd o 1950 i 1953. Dyma hanner canmlwyddiant arwyddocaol arall a gyrhaeddwyd eleni. Gall y blynyddoedd fynd heibio, ond mae cofio'n parhau i fod yn bwysig yng Nghymru, fel y bu erioed, a bydd yn parhau i fod yn ddarparwr sylweddol o bersonél y lluoedd arfog. Er bod gennym 5 y cant o gyfran poblogaeth y DU, daw 7 y cant o gryfder gwasanaethu'r gwasanaethau arfog o Gymru, a gwyddom o gyfrifiad 2021 fod un o bob 12—hynny yw, 8.1 y cant o aelwydydd yng Nghymru—â rhywun sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog o'r blaen. Mae tua un o bob 20, 4.5 y cant o boblogaeth Cymru, yn gyn-filwr. Hannah Blythyn AC: Ac mae pwysigrwydd a maint y cofio yn amlwg o'r arddangosfeydd a'r gweithgareddau yn ein trefi a'n pentrefi, yn ogystal â'r gwasanaethau cofio niferus yr wyf yn disgwyl y bydd llawer o Aelodau yn mynd iddynt yr wythnos hon a thros y penwythnos, boed hynny mewn ysgolion, mewn ysbytai neu yn ein cofebion rhyfel niferus. Mae ein cofebion rhyfel yn ganolbwynt cymunedol yn ogystal ag yn ein hatgoffa o ganlyniadau rhyfel, ac mae'r ymateb cymunedol cadarnhaol i waith yr artist Tee2Sugars wrth ddarparu murlun cofio maint y tŷ fel cefndir i gofeb yn Abertyleri yn enghraifft o sut mae coffáu wedi'i wreiddio cymaint ar lefel leol. Mae gwaith sylweddol a pharhaus y Lleng Brydeinig Frenhinol hefyd yn ganolog i weithgarwch cofio, ym mhwysigrwydd ei apêl pabi a gwaith casglwyr pabi gwirfoddol mewn cymunedau ledled Cymru sydd wedi bod allan ym mhob awr o'r dydd a hefyd ym mhob tywydd dros yr wythnosau diwethaf. Ac, wrth gwrs, eleni, mae'r Lleng Brydeinig Frenhinol wedi newid i ddefnyddio pabi di-blastig cynaliadwy newydd, yr wyf yn ei wisgo gyda balchder y prynhawn yma. Mae'r arian a godir yn ystod cyfnod y cofio yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran gofalu am deuluoedd y rhai sydd wedi rhoi eu bywydau mewn gwrthdaro a'r rhai sydd wedi cael eu creithio am byth gan eu gwasanaeth. Mae ein coffâd hefyd yn adlewyrchu'n briodol ein hamrywiaeth yng Nghymru. Mae gardd goffa'r Lleng Brydeinig yng nghastell Caerdydd yn cynnwys llu o nodwyr pren, croesau, cilgantau, sêr Dafydd a nodwyr eraill sy'n cynrychioli amrywiaeth a chydraddoldeb aberth mewn gwrthdaro yn y gorffennol. Ym Mhen-bre y penwythnos hwn, bydd y gymuned Bwylaidd yn cynnal coffâd ar feddau y saith awyrennwr o Wlad Pwyl a gollodd eu bywyd yn yr ail ryfel byd. Mae hefyd yn Ddiwrnod Annibyniaeth Cenedlaethol Gwlad Pwyl, felly bydd yn ddiwrnod o ddathlu yn ogystal â chofio. Ddydd Sadwrn, bydd y Prif Weinidog yn bresennol yng nghoffâd Cymdeithas y Llynges Fasnachol wrth y gofeb yma y tu allan i'r Senedd, a'r wythnos nesaf bydd fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip, gyda Chyngor Hil Cymru a henuriaid Windrush yn y gwasanaeth coffa pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yng ngerddi Alexandra. Mae'n saith deg pump o flynyddoedd ers Windrush, ac mae llawer o'r rhai a ddaeth drosodd o wledydd y Gymanwlad i fyw a gweithio yma yn rhai a oedd wedi gwasanaethu yn y gorffennol mewn rhyfeloedd byd. Mae coffâd Cymdeithas y Llynges Fasnachol hefyd yn gyfle i gofio'r amrywiaeth o forwyr a'u teuluoedd o gymunedau Caerdydd a phorthladdoedd Cymru a wasanaethodd. Roedd eleni hefyd yn flwyddyn pan gafodd cyfraniad milwyr LHDTQ+ ei gydnabod yn ffurfiol o'r diwedd trwy adolygiad annibynnol yr Arglwydd Etherton. Roedd llawer yn y gymuned hon yn awyddus iawn i wasanaethu, ond cafodd gyrfaoedd eu torri'n fyr gyda loes ofnadwy a niwed wedi'i wneud. Roedd eraill yn gwasanaethu ond gyda bywydau yn cael eu byw yn gyfrinachol gydag ofn y byddai'r gwir yn cael ei ddatgelu gan arwain at eu diswyddo o swydd yr oeddent yn ei charu. Roedd ymddiheuriad cyhoeddus Prif Weinidog y DU yn y Senedd ym mis Mehefin yn gam cyntaf pwysig ar y ffordd i unioni camweddau'r gorffennol. Mae cyn-filwyr LHDTQ+ bellach yn gorymdeithio gyda balchder heibio'r senotaff yn Whitehall a byddant yn gwneud hynny y penwythnos hwn eto fel rhan o Fighting With Pride. Mae hon hefyd yn flwyddyn pryd y dylem gofio ein cyn-filwyr prawf niwclear, gyda medal yn cael ei dyfarnu o'r flwyddyn hon i'r rhai a wasanaethodd yn y rhaglen profion niwclear rhwng 1952 a 1967. Mae'n elfen arbennig o wasanaeth ac aberth lle mae'r effeithiau wedi mynd trwy genedlaethau a'n bod ni'n cofio'r wythnos hon. Mae cyfnod y cofio hefyd yn gyfle i adlewyrchu a chydnabod y rhai sydd wedi gwasanaethu a'r rhai sy'n parhau i wasanaethu. O ran y rhai sy'n gwasanaethu, wrth gwrs, rydym yn meddwl am ein hunedau bathodynnau cap a'n llongau rheolaidd ymhlith ein 7 y cant o'n lluoedd arfog: y Cymry Brenhinol yn Tidworth, Gwarchodlu Dragoon y Frenhines yn Norfolk, y Gwarchodlu Cymreig yn Windsor, Llongau Ei Mawrhydi Cambria a'r Ddraig a'r criwserau sy'n eu gwasanaethu. Rydym yn meddwl am bresenoldeb y lluoedd arfog yng Nghymru yn RAF y Fali, yn Aberhonddu, Breudeth, Sain Tathan a mannau eraill, ac yn cofio am ein llu o filwyr wrth gefn ledled Cymru a'r cyflogwyr hynny sy'n eu cefnogi i reoli eu swyddogaethau deuol. Rydym hefyd yn meddwl am deuluoedd y lluoedd arfog ar yr adeg hon. Rydym yn ymwybodol bod gennym lawer yng Nghymru sydd wedi colli anwyliaid ac y mae hwn yn gyfnod eithriadol o anodd iddynt. Yr adeg yma y llynedd cefais y fraint o orymdeithio i'r senotaff yn Whitehall gyda'r War Widows Association a gwrando ar eu straeon am falchder, cariad a cholled. Rydym yn aml yn dathlu milwyr a chyn-filwyr, ond nid plant milwyr i'r fath raddau, felly roeddwn yn falch o weld bod Sean a Rhia Molino o Wobrau Cyn-filwyr Cymru wedi trefnu digwyddiad newydd yn Aberhonddu ar 28 Hydref, i gydnabod plant y lluoedd arfog. Wrth gwrs, mae ein milwyr sydd wedi gwasanaethu ein gwlad yn aml yn mynd ymlaen i wasanaethu ein cymunedau ac, fel Llywodraeth, rydym eisiau sicrhau y gall Cymru elwa ar y sgiliau y mae'r lluoedd arfog yn eu datblygu pan fyddant yn pontio'n ôl i fywyd sifil. Dyna pam rydym yn parhau â'n gwaith mewn partneriaeth â Brigâd 160 (Cymru), Career Transition Partnership, a'r Cymdeithasau Lluoedd Arfog Wrth Gefn a Chadetiaid i ddod â chyfleoedd cyflogaeth i gymuned y lluoedd arfog trwy drydedd ffair gyflogaeth a gweithdy cyflogwyr blynyddol yng Nghymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd yr wythnos nesaf, 16 Tachwedd. Rydym yn disgwyl gweld 50 o gyflogwyr â chynigion swyddi gweithredol yn y digwyddiad, ac rwyf hefyd yn falch o weld y bartneriaeth rhwng Building Heroes a Choleg Caerdydd a'r Fro a'i chwrs newydd yn dychwelyd yr wythnos hon, gan ddarparu llwybr i'r lluoedd arfog i gyfleoedd adeiladu yng Nghymru. Er bod gwasanaethu yn brofiad cadarnhaol i lawer, mae hwn yn amser pan fyddwn yn cofio'r rhai y mae cyfamod y lluoedd arfog yno ar eu cyfer i roi cymorth. Rydym yn parhau i ariannu GIG Cymru Cyn-filwyr i ddarparu llwybr iechyd meddwl mynediad agored ledled Cymru, ac er y gall cyn-filwyr gael eu cyfeirio gan eu meddyg teulu, mae'r mynediad agored hwn yn caniatáu i gyn-filwr hunangyfeirio at y gwasanaeth neu i gael ei atgyfeirio gan ei deulu. Ers y cyfnod cofio diwethaf, mae'r ddyletswydd o sylw dyledus wedi dod i rym, gan ei gwneud yn ofynnol ystyried anghenion cymuned y lluoedd arfog lleol ar y lefel leol wrth gynllunio, cyflawni ac adolygu polisi. Mae hyn yn effeithio ar ddarpariaeth leol mewn meysydd datganoledig gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn benodol, ac mae swyddogion cyswllt ein lluoedd arfog wedi bod yn weithgar yn y maes hwn, yn ogystal â Cefnogi Plant Milwyr Mewn Addysg Cymru. Gwn hefyd fod y trydydd sector yn allweddol wrth gefnogi cyn-filwyr ledled Cymru trwy hybiau, yn sefydlog ac yn symudol, trwy lety dros dro, trwy gyngor a phensiynau a hawliau a llawer mwy, a gwn fod llawer o Aelodau wedi cefnogi'r mentrau hynny yn eu cymunedau a'u hetholaethau eu hunain. Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair. Hannah Blythyn AC: Yn olaf, dwi eisiau sôn am waith y comisiynydd cyn-filwyr, grŵp arbenigol Llywodraeth Cymru a grŵp trawsbleidiol y Senedd ar y lluoedd arfog a cadetiaid. Dwi'n gwybod ein bod ni'n benderfynol o weithio gyda'n gilydd i gefnogi cymuned y lluoedd arfog yng Nghymru. Hannah Blythyn AC: Mae'r craffu a'r her trwy'r grwpiau hyn yn cael eu gwerthfawrogi, ac mae'n chwarae rhan wrth helpu i sicrhau bod gwasanaeth ac aberth cymuned y lluoedd arfog yn derbyn y sylw a'r gefnogaeth y maent yn eu haeddu'n briodol. Diolch. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Sioned Williams i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Gwelliant 1—Heledd Fychan Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cefnogi'r angen i ymdrechu am ddatrysiadau heddychlon i bob gwrthdaro ac am ddiwedd ar ryfel. Yn cofio pawb sydd wedi colli eu bywydau mewn rhyfeloedd a gwrthdaro, gan gynnwys cwympiedigion sifil. Cynigiwyd gwelliant 1. Sioned Williams AS: Diolch, Dirprwy Lywydd, a dwi’n cynnig y gwelliant. Gyda Sul y Cofio yn agosáu, mae’n iawn ein bod yn myfyrio ar aberth a dewrder y rhai sydd wedi gwasanaethu yn ein lluoedd arfog yn y gorffennol. Ond dylwn hefyd fyfyrio ar y ffaith bod yna rai sy'n dal yn cael eu rhoi yn y sefyllfa erchyll ac annerbyniol o gael eu hanafu, eu trawmateiddio a'u lladd yn sgil y gwrthdaro sy'n codi oherwydd anallu dyn i fyw mewn heddwch â'i gyd-ddyn, yn sgil y ffaith bod dyn yn chwennych grym neu fynnu rheolaeth dros ei gyd-ddyn, bod dyn yn ceisio tiriogaeth neu adnoddau ei gyd-ddyn drwy drais. Yr hyn sydd angen inni gofio wrth inni gofio yw rhybudd clir beirdd fel Wilfred Owen mai nonsens peryglus ac afiach yw'r sentiment y tu ôl i'r hyn sydd wedi ei ysgrifennu ar ormod o gofebau rhyfel ein cenedl: dulce et decorum est pro patria mori. Nid yw'n felys nac yn anrhydeddus, ac ni ddylai neb fyth gael eu gofyn i farw dros eu gwlad. Nid clodfori y meirw dylem ni, ond bwrw dagrau dros eu haberth sy'n deillio o fethiant dynoliaeth i fyw mewn heddwch; cofio eu dioddefaint, a thrwy hynny gofio pris annerbyniol rhyfel; ac addo iddynt, y milwyr ifanc a dalodd y pris drud hwn, y byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i greu a chynnal heddwch yn ein byd. Fel yr amlinellir yng ngwelliant Plaid Cymru, dylem hefyd gofio’r llu o bobl sy'n cael eu niweidio yn gorfforol, yn feddyliol neu'n economaidd gan ryfel—boed yn filwyr, eu teuluoedd, neu’n bobl gyffredin—a phwysleisio’r angen i ymdrechu am atebion heddychlon i bob gwrthdaro a cheisio atal y gwrthdaro hwnnw godi yn y lle cyntaf. Disgrifiwyd y rhyfel byd cyntaf, a arweiniodd at ein traddodiadau modern o gofio, yn wallus ar y pryd fel y rhyfel i roi terfyn ar bob rhyfel. Ond yn anffodus, mae pob cenhedlaeth ers hynny wedi profi rhyfel a'i bris enbyd. Fe fuodd fy mab, sy newydd droi'n 18, mas i feysydd y gad yng ngogledd Ffrainc yn ddiweddar i gymryd rhan mewn gemau rygbi rhwng timau gwahanol genhedloedd Ewropeaidd, fel arwydd o gyfeillgarwch rhyngwladol rhwng llanciau ifanc, a hynny ar dir lle buodd dynion ei oedran e yn gorfod lladd ac anafu eu cyd-ddyn yn eu miliynau. Dywedodd wrthyf i ar ôl dychwelyd ei fod yn synnu bod arysgrifau ar y cofebau rhyfel byd cyntaf a welodd ar y daith yn dweud ‘For our tomorrow they gave their today’, achos mae e'n gwybod o'i astudiaethau taw rhyfel a achoswyd gan filitariaethymosodol imperialaeth oedd y rhyfel erchyll hwnnw. Wrth gofio, rhaid i ni fod yn gadarn yn ein gwrthwynebiad yn erbyn yr hyn sy'n gallu arwain at ryfel, boed hwnnw yn deillio o imperialaeth neu o drin rhai grwpiau o bobl yn llai cydradd nag eraill. Mae digwyddiadau diweddar wedi pwysleisio o'r newydd bod chwant y ddynoliaeth am ryfel yr un mor amlwg nawr ag yr oedd yn 1914. Mae ymosodiad anghyfreithlon Putin ar Wcráin wedi ein hatgoffa unwaith eto o erchyllterau rhyfel, gyda thrigolion Wcráin a miliwyr o Wcráin a Rwsia yn dioddef. Rydym hefyd wedi bod yn dyst i ddadleoli miloedd o Armeniaid o ranbarth Nagorno-Karabakh gan ymosodiad milwrol Azerbaijan. Ac yn ystod y mis diwethaf, wrth gwrs, mae erchyllterau wedi'u cyflawni gan Hamas a lluoedd arfog Llywodraeth Israel ar filoedd o sifiliaid diniwed, gyda'r sefyllfa yn Gaza yn mynd yn fwyfwy enbyd i bobl Palesteina a gwystlon Israel. Yn wyneb y fath gyflafan, cawn ein hatgoffa o ddisgrifiad y bardd Hedd Wyn o erchyllterau rhyfel yn ei gerdd 'Rhyfel': 'Mae sŵn yr ymladd ar ein clyw, / A'i gysgod ar fythynnod tlawd.' Dros ganrif yn ddiweddarach, mae gwirionedd ei eiriau yn canu yn ein clustiau. Gyda churiad di-baid drymiau rhyfel yn codi'n uwch, mae'n ddyletswydd foesol arnom ni i sefyll dros heddwch. Mae hefyd yn bwysig ein bod yn sicrhau bod cyn-filwyr yng Nghymru yn cael eu cefnogi. Achos er gwaethaf rhai datblygiadau positif mewn gwasanaethau cymorth dros y blynyddoedd diwethaf, mae cyn-filwyr Cymru yn parhau i wynebu heriau sylweddol mewn bywyd sifil. Er enghraifft, mae’r argyfwng tai yng Nghymru yn effeithio’n anghymesur ar gyn-aelodau o'r lluoedd arfog. Mae ymchwil gan y Lleng Brydeinig Frenhinol wedi canfod bod oedolion o oedran gweithio sy'n gyn-filwyr yn fwy tebygol o ddioddef o afiechyd neu anabledd, ac mae hyn wedyn yn golygu bod y rhai sydd angen llety hygyrch yn gorfod aros yn hwy ar restrau aros tai cymdeithasol. Mae'r argyfwng costau byw hefyd wedi effeithio'n anghymesur ar gyn-filwyr, achos ar gyfartaledd mae pobl anabl yn wynebu costau ychwanegol o tua £584 y mis. Sioned Williams AS: Fy ngobaith diffuant, wrth i ni nodi'r cyfnod pwysig a thrist, yw y gallwn symud ymlaen tuag at ddyfodol lle mae canlyniadau ofnadwy rhyfel yn cael eu bwrw i ebargofiant. Sioned Williams AS: Hoffwn orffen gydag englyn y Prifardd Alan Llwyd, un o'm etholwyr, a gofyn i chi ei gofio wrth gofio y Sul hwn, a chofio am bawb sydd wedi dioddef yn sgil rhyfel: 'Er mawrhau'r meirw o hyd—ofer oedd / Eu llofruddio'n waedlyd, / Dan anfri daw, yn unfryd, / Eu rhegfeydd drwy'r garreg fud.' Mark Isherwood AC: Mae cyfnod y cofio yn gyfle i ni, fel y dywed y cynnig, dalu teyrnged i wasanaeth ac aberth unigolion o bob rhan o Gymru sydd bellach yn gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn ein lluoedd arfog, cydnabod gwaith sefydliadau, unigolion a gwirfoddolwyr sy'n cefnogi cymuned a chyn-aelodau’r lluoedd arfog ledled Cymru, yn helpu cenedlaethau'r dyfodol i ddeall gwrthdaro'r gorffennol, Lle mae'r gorffennol yn llywio'r dyfodol, cofiwch bawb sydd wedi colli eu bywyd mewn rhyfeloedd a gwrthdaro, gan gynnwys anafusion sifil, a chefnogi'r angen am ddatrysiadau heddychlon i bob gwrthdaro. Fel y clywsom, mae cofio'r flwyddyn hon yn nodi hanner can mlynedd ers y cadoediad a ddaeth â'r ymladd yn rhyfel Korea i ben—y rhyfel anghofiedig. Mae hefyd yn anrhydeddu cyfraniad y genhedlaeth mewn lifrai a ymgymerodd â gwasanaeth cenedlaethol, 60 mlynedd ar ôl i'r aelod olaf o'r lluoedd arfog gael ei ryddhau o'r fyddin. Roedd fy nhad yn filwr gwasanaeth cenedlaethol ddegawd cyn hynny, yn gwasanaethu yng Nghyprus a'r Aifft. Yn ystod rhyfel Korea, anfonwyd unedau o'r gatrawd Gymreig ar y pryd i Korea, yng nghwmni y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a phlatŵno Gyffinwyr De Cymru. Lladdwyd 32 aelod o'r gatrawd Gymreig yn y gwrthdaro. Fel y clywsom, mae cofio 2023 hefyd yn nodi saith deg pum mlynedd ers i bobl o'r Caribî gyrraedd ar yr Empire Windrush, llawer ohonynt yn gyn-filwyr yr ail ryfel byd. Wrth siarad yma ym mis Gorffennaf, amlygais yr ymgyrch Credit their Service a lansiwyd gan y Lleng Brydeinig Frenhinol, gan alw am roi diwedd ar drin iawndal milwrol fel incwm ar draws profion modd budd-dal lles a phwysleisiodd yr angen am weithredu gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol Cymru i sicrhau bod hyn yn digwydd. Mae tua 150,000 o aelodau o gymuned lluoedd arfog y DU yn derbyn iawndal milwrol a ddyfarnwyd i gefnogi costau parhaus salwch neu anaf a gafwyd yn ystod gwasanaeth. Canlyniad prawf modd yw bod rhai o aelodau tlotaf cymuned y lluoedd arfog yn cael eu hamddifadu o filoedd o bunnoedd o gymorth, tra bod iawndal sifil, megis ar gyfer anaf personol neu esgeulustod meddygol, wedi'i eithrio rhag hyn. Er ei fod yn fater ledled y DU, mae hyn yn cynnwys meysydd lle mae Llywodraeth Cymru yn arwain, ac felly rydym yn edrych arnyn nhw i ymateb. Arweiniais ddadl fer yma ym mis Ionawr 2008 yn cefnogi ymgyrch Anrhydeddu'r Cyfamod, y Lleng Brydeinig Frenhinol, gan ddod i'r casgliad bod yn rhaid ymladd hyn nes iddo gael ei ennill, a chroesawais gyhoeddi cyfamod lluoedd arfog y DU ym mis Mai 2011. Llofnododd Llywodraeth Cymru a phob awdurdod lleol yng Nghymru y cyfamod a thanysgrifio i weithio gyda sefydliadau partner i gynnal ei egwyddorion, yn ogystal â byrddau iechyd, yr heddlu a busnesau ers hynny. Mae'r Lleng Brydeinig Frenhinol yn annog Llywodraeth nesaf y DU, pwy bynnag ydyw, i gryfhau dyletswydd cyfamod y lluoedd arfog. Mae hyn yn cynnwys ymestyn ei gyrhaeddiad i gwmpasu Llywodraethau'r DU a'r rhai datganoledig a phob mater polisi. Yn y cyd-destun hwn, nodwyd, fel y clywsom, fod y canllawiau statudol ar ddyletswydd cyfamod y lluoedd arfog wedi'u cyhoeddi fis Tachwedd diwethaf, a luniwyd gan Lywodraeth y DU mewn ymgynghoriad â'r Llywodraethau datganoledig, gan osod dyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau penodedig i roi sylw dyledus i egwyddorion cyfamod y lluoedd arfog wrth arfer swyddogaethau statudol ym meysydd datganoledig gofal iechyd, addysg a thai. Nodir hefyd bod Llywodraeth y DU wedi lansio pecyn ariannu gwerth £33 miliwn ym mis Mawrth i gefnogi cyn-filwyr dros y tair blynedd nesaf, a'u bod wedi lansio Ymgyrch Op FORTITUDE ar gyfer cyn-filwyr digartref ym mis Gorffennaf—llinell gymorth gyntaf o'i math ac yn rhan o raglen ddwy flynedd gwerth £8.55 miliwn i gyflawni addewid Llywodraeth y DU i atal cyn-filwyr rhag gorfod cysgu allan. Mae darparwyr tai, gan gynnwys Alabaré Homes for Veterans, wedi'u rhestru fel rhai sy'n derbyn atgyfeiriadau Op FORTITUDE. Mae Alabaré Homes for Veterans yn darparu cymorth pwrpasol i gyn-filwyr yn y gogledd a'r de—yn benodol Caerdydd, Pontypridd, Abertawe a Chonwy. Fel y gwnaethcyn-filwr yn y fyddin Brydeinig sy'n byw yn y gogledd e-bostio'n ddiweddar, 'Mae gennyf i ffrindiau a chydweithwyr sydd wedi llithro drwy'r rhwyd ac sydd neu wedi bod yn ddigartref. Fel y gwyddom, mae canran fawr o bobl ddigartref y DU yn gyn-filwyr Lluoedd Arfog Prydain, sy'n annerbyniol o ystyried eu bod wedi rhoi eu bywydau i amddiffyn y deyrnas a'r wlad. Mae'r elusen iechyd meddwl Adferiad wedi dweud wrthyf, er bod dau fentor cymheiriaid cyn-filwyr, Change Step, wedi'u hymgorffori ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr—. Maen nhw a GIG Cymru i gyn-filwyr wedi dweud wrthyf fod angen penodi mentoriaid cymheiriaid i'r pum bwrdd iechyd arall nad oes ganddynt un. Maen nhw'n ychwanegu ei fod wedi dod yn loteri cod post nawr o ran mynediad cyn-filwyr at fentor cymheiriaid. Felly, pan fyddwn yn dweud, 'Ni â'u cofiwn hwy', mae'n rhaid i ni gofio beth mae hynny'n ei olygu mewn gwirionedd. Diolch yn fawr. Jack Sargeant AC: Dirprwy Lywydd, cefais y fraint o fod yn bresennol yn agoriad swyddogol Caffinaafi ychydig o benwythnosau yn ôl yn yr hyb cymunedol a chyn-filwyr sydd newydd ei lleoli yng Nghei Connah. Mae'n fan i bawb ddod at ei gilydd—cyn-filwyr a'u teuluoedd a'r gymuned ehangach—i gefnogi ei gilydd. Rwy'n gwybod bod cadeirydd grŵp trawsbleidiol y lluoedd arfog a'r cadetiaid, Darren Millar, wedi ymweld yn ddiweddar i glywed am y profiad, a hoffwn estyn gwahoddiad i'r Dirprwy Weinidog ymuno â mi dros baned gyda rhai cyn-filwyr yng Nghaffinaafi yng Nghei Connah i glywed profiadau gwrthdaro, lle buont mewn gwrthdaro. Gan fy mod yn credu, Dirprwy Lywydd, mai'r ffordd orau o anrhydeddu'r gorffennol yw gwrando a dysgu ohono. Ac yn y cyfnod anodd hwn mae'r neges honno'n un y dylem ni i gyd geisio ei chofio. Felly, rwy'n ddiolchgar am y cyfle eto i siarad yn ein dadl gofio flynyddol, i dalu teyrnged i bawb ledled Cymru sydd wedi gwasanaethu neu'n parhau i wasanaethu, i gofio'r rhai sydd wedi cael eu hanafu a'u lladd wrth wasanaethu, ac i gofio'r sifiliaid hynny a anafwyd hefyd. Ni ddylid anghofio eu haberth. Rhaid i'r fflam gofio losgi bob amser. Dyna pam rwyf bob amser eisiau talu teyrnged i'r rhai sy'n trefnu ein digwyddiadau cofio blynyddol yn lleol, yn enwedig y rhai ar draws fy nghymuned sy'n galluogi ein cornel o'r gogledd-ddwyrain i ddod ynghyd i gofio dros y penwythnos nesaf. Diolch. Jane Dodds AS: Rydyn ni'n oedi heddiw o'n harferion arferol yn y Siambr er mwyn i ni ddod at ein gilydd a myfyrio ar y rhai yr effeithiwyd arnynt gan ryfel. Cafodd y rhyddid sydd gennym yma yng Nghymru i bleidleisio mewn etholiadau rhydd, siarad ein meddyliau'n agored, a byw heb ofni gormes, ei ffurfio trwy aberth anhunanol dynion a menywod cyffredin o bentrefi, trefi a dinasoedd ar draws ein cenedl. Ni fydd eu hamddiffyn dewr yn erbyn gormes yn cael ei anghofio. Er hynny, torrwyd dyfodol disglair gormod ohonynt yn fyr. Gadawyd gormod o deuluoedd yn galaru am y rhai nad oeddent yn dod adref. Cafodd gormod o filwyr eu hanafu neu eu creithio yn feddyliol gan eu gwasanaeth rhyfel anhunanol. Roedd y pris a dalwyd yn uchel, ac yn aros yn hir yn atgofion cymunedau ledled Cymru. Rydym yn anrhydeddu aberth a dewrder y rhai a wasanaethodd, nid yn unig trwy ein myfyrdodau heddiw, ond trwy ein gweithredoedd parhaus i hyrwyddo heddwch parhaol, i adeiladu byd lle nad oes mwy o fywydau yn cael eu colli mewn rhyfel, lle ceisir datrysiad wrth y bwrdd trafod, nid ar faes y gad. Ar adegau, gall heddwch ymddangos yn rhy fregus—fflam fregus, fflachlyd. Gall ein hymdrechion i ddatrys gwrthdaro trwy drafod yn hytrach na thrwy dywallt gwaed ymddangos, weithiau, bron yn hurt pan wynebwn anhrefn a dinistr rhyfel. Er y gall heddwch deimlo allan o gyrraedd, ni allwn roi'r gorau i obaith na rhoi'r gorau i'n hymdrechion. Os byddwn yn rhoi'r gorau i geisio, os ydym yn esgeuluso gwaith caled meithrin clymau agosrwydd rhwng pobl, bydd dioddefaint yn y gorffennol wedi bod yn ddiystyr. Oherwydd mae bywydau diniwed wedi'u rhwygo gan ryfel, ac yn dal i gael eu rhwygo heddiw gan ryfel, y gobaith gwan hwn am heddwch yw'r cyfan y maent wedi'i adael. Rwy'n gorffen gyda dwy linell: 'Iôr, gwna fi’n offeryn dy hedd. / Lle bo casineb dof â’th gariad di.' Diolch yn fawr iawn. Darren Millar AC: Yn gyntaf, amen i'r geiriau olaf yna. Rydyn ni i gyd eisiau byd heddychlon, ac eisiau bod yn asiantau heddwch ynddo. Rwy'n sefyll i dalu fy nheyrnged i'r rhai sydd wedi syrthio a'r rhai sydd wedi'u hanafu a phawb sydd wedi talu pris yn y gwrthdaro y mae'r ynysoedd hyn yr ydym yn byw arnynt wedi ei ddioddef dros y cenedlaethau. Ac wrth gwrs, byddaf yn bresennol ger y senotaff yn Abergele dros y penwythnos, er mwyn gosod torch, fel y bydd llawer o bobl yn ei wneud yn eu hetholaethau lleol eu hunain. Rwy'n ei hystyried yn fraint cael cadeirio'r grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog a'r cadetiaid yma yn y Senedd, sy'n dangos sut y gallwn weithio gyda'n gilydd ar sail drawsbleidiol er budd y rhai sy'n parhau i wasanaethu, sy'n gweithio'n galed i'n cadw'n ddiogel, o ddydd i ddydd, rhag y bygythiadau sydd yn anffodus yn dal yno yn y byd, a hefyd i dalu teyrnged i'r cyn-filwyr hynny ac i gefnogi'r cyn-filwyr hynny sydd wedi rhoi cymaint o'u bywyd i'r gwasanaethau hefyd. Ac wrth gwrs, mae llu o sefydliadau gwych sy'n gweithio ledled Cymru i gefnogi teulu'r lluoedd arfog a'n cymuned cyn-filwyr: y Lleng Brydeinig Frenhinol, Woody's Lodge, Caffinaafi, a llawer o rai eraill, wrth gwrs, ledled y wlad—SSAFA a'r gweddill. Yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud yw parhau i ymgysylltu â nhw mewn ffordd gadarnhaol, trwy'r grŵp arbenigol sydd gan Lywodraeth Cymru, sydd hefyd yn gwneud gwaith gwych, ond hefyd yn cydnabod y bylchau hynny yn ein gwasanaethau y mae angen eu cau o hyd, mae angen eu gwella o hyd. Mae gennym rwydwaith rhagorol, wrth gwrs, o hyrwyddwyr y lluoedd arfog mewn llawer o'n cyrff cyhoeddus ledled Cymru. Mae gennym swyddogion cyswllt gwych y lluoedd arfog sy'n gwneud gwaith gwych. Nid oes gennym ddigon o bobl yn hyrwyddo cyfamod y lluoedd arfog yn ein gwasanaeth iechyd gwladol ar hyn o bryd. Mae hynny'n rhywbeth y mae angen mynd i'r afael ag ef. Rydym yn dathlu llwyddiant GIG Cymru i Gyn-filwyr, ond mae angen mwy o adnoddau arno o hyd, yn anffodus. Ac wrth weithio gyda'n gilydd credaf y gallwn barhau i wella byd ein lluoedd arfog yma yn y genedl hon. Mae angen i ni hefyd, wrth gwrs, sicrhau ein bod yn cofio'r rhan bwysig y gall cyflogwyr ei chwarae wrth gofio'r rhai sydd wedi syrthio yn eu sefydliadau a chefnogi'r cyn-filwyr sy'n gweithio iddyn nhw hefyd. A dylwn gofnodi fy mod yn aelod o fwrdd Cymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru, ac rwyf yn gwisgo ei thei heddiw, ac wrth gwrs, maent yn gweithio'n galed iawn i sicrhau bod pobl yn cymryd rhan yn y cynllun cydnabod cyflogwyr, a sefydlwyd gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, a chynlluniau cydnabyddiaeth eraill hefyd, megis cynllun ysgolion y lluoedd arfog, sydd wedi cael cychwyn mor dda yng Nghymru, ac sy'n rhywbeth y gellir ei hyrwyddo hefyd. Felly, a gaf i ddiolch i Lywodraeth Cymru am ei chydweithrediad wrth gyflwyno'r ddadl heddiw a dweud fy mod yn parhau i ddymuno gweithio gyda chi, o dan nawdd y grŵp trawsbleidiol, er mwyn gwneud bywyd yng Nghymru yn well i'n cyn-filwyr ac yn well i bawb sy'n gwasanaethu, yn enwedig mewn wythnos fel hon, Wythnos y Cofio? Alun Davies AC: Unwaith eto, rydyn ni'n nodi'r adeg hon o gofio ar adeg o ryfel. Rydyn ni'n gweld y delweddau o'r dwyrain canol ac o Wcráin, ac rydyn ni'n cofio eto beth mae rhyfela yn ei wneud i bobl a chymunedau. Roeddwn i'n myfyrio, Dirprwy Lywydd, nad taith trwy Ewrop yn unig yw taith i Wcráin, mae'n daith trwy hanes Ewrop. Rydych chi'n croesi ffrynt y gorllewin y rhyfel byd cyntaf mewn mater o 40 munud ar draffordd gyflym; rydych chi'n pasio'r holl ddioddefaint, yr aberth hwnnw, yr holl golled honno, mewn ychydig funudau mewn car cyflym. Rydych hefyd yn pasio trwy bob man y mae eu henwau yn atseinio i lawr y blynyddoedd. Wrth deithio i Wcráin ychydig wythnosau yn ôl, fe wnes i aros mewn tref yn yr Iseldiroedd, s-Hertogenbosch, a gafodd ei rhyddhau gan Adran 53 (Cymreig), ac roeddem yno ar y diwrnod pryd yr oeddent yn cofio y milwyr Cymreig hynny yn rhyddhau'r dref. Ac wrth i ni fynd i mewn i'r dref, gwelsom faner Cymru yn cyhwfan, a gwelsom bobl yn ymgynnull wrth y gofeb, ac fe wnaethom ni ymuno â nhw, ac fe wnaethom ni ymuno â nhw yn dawel i gofio'r bobl hynny a aberthodd gymaint i'w rhyddhau gymaint o flynyddoedd yn ôl. Ond gallwch hefyd aros ar y daith honno i Wcráin mewn lle fel Dresden, lle gwelwch mewn dinas Almaenaidd fodern atgofion o'r noson ofnadwy honno ym mis Chwefror 1945, lle talodd poblogaeth bris rhyfel. Ac yna rydych chi'n aros eto yn Krakow, a'r wythnos diwethaf cymerais ychydig oriau i gerdded trwy geto Iddewig Krakow. Heddiw mae'n ddinas brysur, ond yr adeg honno, wrth gwrs, yn fan lle cafodd degau o filoedd o Iddewon eu casglu at ei gilydd cyn eu cludo i gael eu difodi. Ac mae'r cof yn aros gyda ni i gyd; 200 km i ffwrdd, rydych chi'n croesi'r ffin i Wcráin, lle nad yw rhyfel yn rhywbeth i'w gofio, ond mae'n rhywbeth sy'n ein hwynebu bob dydd. Ac o'r herwydd, mae cofio'n beth personol iawn, ond mae hefyd yn weithred ar y cyd, ac nid gweithred oddefol yn unig yw'r distawrwydd yr ydym i gyd yn ei nodi ac yr ydym i gyd yn ei barchu at adeg y cofio, mae'n ddatganiad pwerus. Mae grym distawrwydd yn gweithredu fel catalydd ar gyfer myfyrio—myfyrio ar wrthdaro, myfyrio ar golled, ond hefyd myfyrio ar wasanaeth, gwasanaeth dynion a menywod a wnaeth yr aberth eithaf, ond hefyd gwasanaeth y dynion a'r menywod hynny nad yw rhyfel yn atgof iddynt, ond rhywbeth y maent yn byw gydag ef bob diwrnod o'u bywyd. Mae'r distawrwydd yn rhoi llais i'r myfyrdodau hynny, ond mae'n beth mwy pwerus na sŵn rhyfel: tawelwch sy'n adleisio i lawr y blynyddoedd ac i lawr y cenedlaethau. Dirprwy Lywydd, rwy'n gweld fy mab fy hun bellach yn sefyll o flaen senotaff, fel y gwnaeth ei dad yr holl flynyddoedd hynny yn ôl. Ac eleni byddaf yn myfyrio ar y bobl hynny sydd wedi gwasanaethu mewn gwrthdaro yn y blynyddoedd a fu. Byddwn, cyn bo hir yn cofio 80 mlynedd ers D-day ac 80 mlynedd ers i'r ail ryfel byd ddechrau dirwyn i ben. Ond gadewch i ni wneud y tawelwch hwn, nid yn dawelwch goddefol ond yn her bwerus i bob un ohonom gofio a byth anghofio beth mae rhyfel yn ei wneud i bobl a'r hyn y mae'n ei wneud i gymdeithas. Wrth ddychwelyd o Wcráin yr wythnos diwethaf, neilltuais amser i ymweld ag Auschwitz. Ymwelais ag Auschwitz am y tro cyntaf fel myfyriwr, a sefais yno gydag Iddew Americanaidd a ffrind o Sri Lanka. Tynnodd y ddau sylw at y ffaith na fyddai'r naill na'r llall ohonynt wedi goroesi. Mae'r cof o sefyll gyda nhw yn aros gyda mi bob dydd o fy mywyd. Yn rhy aml o lawer, gwelwn ddrychiolaeth gwrth-Semitiaethyn dechrau cerdded dros ein cyfandir a'n cymdeithas eto. Mae tawelwch a myfyrdod yn bwysig, ond mae gweithredu hefyd. Mae grym y distawrwydd yn grymuso pob un ohonom i fyfyrio, cofio, a dweud gyda'n gilydd na fyddwn byth eto yn caniatáu i'n cyfandir a'n byd syrthio, fel y gwnaeth bryd hynny. Ni ddylem fyth anghofio'r hyn a ddigwyddodd a rhaid i ni sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein pwerau i sicrhau nad yw byth yn cael ei ailadrodd. Diolch. Peter Fox AS: Diolch i'r Llywodraeth hefyd am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Ac mae'r adeg hon o'r flwyddyn yn gyfnod hynod bwysig yn ein calendr blynyddol, onid ydyw? Cyfnod lle rydyn ni'n dod at ein gilydd, yn unedig yn ein dymuniad cyffredin i gofio a rhoi teyrnged i'r dynion a'r menywod dewr hynny a roddodd bopeth, trwy'r gwrthdaro niferus dros hanes diweddar, er mwyn ein rhyddid parhaus—rhywbeth mor werthfawr, fel y gwyddom heddiw. Mae'r dyddiau nesaf yn ein galluogi i gasglu ein meddyliau a myfyrio nid yn unig ar y rhai sydd wedi gwasanaethu ein cenhedloedd dros y blynyddoedd ond hefyd y rhai sy'n dal i wasanaethu heddiw, yn barod i'n cadw'n ddiogel, yn enwedig ar yr adegau hyn o aflonyddwch byd-eang sydd mor sylweddol. Yn ystod y gwasanaethau sydd i ddod, byddwn yn tawelu, gan feddwl am y rhai a wasanaethodd, a wnaeth yr aberth eithaf. Byddwn yn gwrando unwaith eto ar yr enwau ar ein senotaffau yn cael eu darllen, ac nid yw dwyster yr achlysur byth yn lleihau, wrth i ni geisio darlunio'r bobl hyn a safodd o'n blaenau ac a syrthiodd ar ein rhan. Mae'n anodd, fodd bynnag, onid yw, deall sut brofiad oedd hi iddyn nhw, yn enwedig yn eu dyddiau a'u horiau diwethaf? Mae'n anodd dychmygu eu sefyllfaoedd neu sut yr oedden nhw'n teimlo bob dydd yn y gwrthdaro hwnnw. Ond rydyn ni'n gwybod am eu gwroldeb a'u dewrder, a byddwn ni'n ddiolchgar iddyn nhw am byth. Ac ar yr adeg hon, mae'n rhaid i ni hefyd feddwl am y llu o gyn-filwyr yn ein cymunedau, fel y clywsom, sy'n cario creithiau corfforol a meddyliol gwasanaeth gweithredol diweddar. Mae'n rhaid i ni barhau i wneud popeth o fewn ein gallu i'w cefnogi ym mha bynnag ffordd y gallwn. Mae cyfamodau'r lluoedd arfog mor sylfaenol bwysig i'r nod hwnnw, ac fel Senedd, dylem sefyll y tu ôl i bawb sy'n gwneud cymaint i gefnogi ein lluoedd arfog a'u cymunedau. Yn benodol, hoffwn ddiolch i'n swyddog cyswllt lleol, Lisa Rawlings, am bopeth y mae'n ei wneud, a hefyd i ddiolch i Gomisiynydd Cyn-filwyr Cymru, y Cyrnol James Phillips, am ganolbwyntio ar ein cyn-filwyr. Ac fel y soniais yn y Siambr hon ychydig flynyddoedd yn ôl, rwy'n dad i gyn-filwr a anafwyd yn Afghanistan. Rwyf i, fel llawer o rieni a chyn-filwyr, wedi gweld y creithiau meddyliol gwanychol y mae gwrthdaro yn eu gadael ar ein hanwyliaid, ac rwy'n lwcus, dychwelodd fy mab adref yn fyw. Ond mae llawer o deuluoedd heddiw, o fewn llawer o'n hetholaethau, sy'n byw o ddydd i ddydd gyda'r galar o golli eu meibion neu ferched, ac ar yr adegau hyn, rydyn ni'n meddwl amdanyn nhw hefyd, ac rydyn ni'n myfyrio ar eu colledion ac rydyn ni'n gweddïo drostyn nhw hefyd. Rydym hefyd yn diolch i'r Lleng Brydeinig Frenhinol a llawer o elusennau eraill sy'n gwneud cymaint o waith gwych bob dydd i gefnogi ein cyn-filwyr. Yn fy etholaeth i, Trefynwy, mae Lleng Brydeinig Frenhinol Sir Gwent wedi bod yn gonglfaen i gyn-filwyr yn yr ardal ers 1921, gan weithio'n ddiflino i gadw'r fflam ynghyn, gan sicrhau nad anghofir byth fywydau'r rhai a gollwyd, a bod brwydrau ein cyn-filwyr yn cael eu cadw ar flaen ein meddyliau, ac mae elusennau fel nhw yn amhrisiadwy. Rydym yn ffodus o gael y lluoedd arfog sydd gennym, gyda milwyr a menywod o'r radd flaenaf, pobl sy'n gwbl ymroddedig i'r bobl y maent yn eu gwasanaethu. Yn y dyddiau nesaf, byddwn yn meddwl amdanynt a'r rhai sydd wedi mynd o'n blaenau ac wedi rhoi cymaint, ynghyd â'r rhai sy'n parhau i fyw gyda thrawmâu gwrthdaro. Maen nhw i gyd yn ein meddyliau. Diolch. Rhianon Passmore AC: Mae pwysigrwydd parhaus y cyfnod coffa blynyddol i deuluoedd a chymunedau Islwyn yn amlwg iawn ym mhob stryd fawr yn fy etholaeth. Am wythnosau mae gwirfoddolwyr wedi bod mewn mannau cyhoeddus yn Islwyn yn addurno, dadorchuddio arddangosfeydd o gariad wedi eu cysegru gyda diolchgarwch am yr aberth eithaf a wnaed. Y penwythnos hwn mae gwasanaethau coffa yn cael eu cynnal ar draws Islwyn, ac rwyf hefyd eisiau diolch i bawb yn y Lleng Brydeinig Frenhinol, SSAFA, hyrwyddwyr a swyddogion cyswllt y lluoedd arfog, ac yn enwedig y Cynghorydd Teresa Heron a'n holl wirfoddolwyr yn Islwyn. Bydd pob un o'n cymunedau, o Bontymister i Faesycwmwr yn ymgynnull yn dawel, a hefyd mewn diolchgarwch, er cof am bawb sydd wedi syrthio, ac a syrthiodd i amddiffyn yr hawliau sylfaenol, yr hawliau dynol a'r rhyddid yr ymladdwyd yn galed amdanynt yr ydym i gyd yn y Siambr hon bob dydd yn eu mwynhau, yn rhydd o orthrwm a gormes. Ni fydd rhyfeloedd byd yr ugeinfed ganrif byth yn cael eu hanghofio, er ein bod yn gweld bob blwyddyn y rhai a roddodd bopeth, yn gorfforol maent yn cilio, ond ni fyddwn byth yn eu hanghofio, ac ni fyddwn yn anghofio rhyfel y Falklands, rhyfel Irac na'r rhyfel yn Afghanistan, neu achosion o wrthdaro niferus eraill y gwasanaethodd ein milwyr ynddynt. Ni fyddant yn cael eu hanghofio. Mae'r rhyfeloedd a'r gwrthdaro presennol rhwng Wcráina Rwsia a'r erchyllterau dynol ofnadwy sy'n cael eu profi ac yn datblygu'n ddyddiol ledled Israel a Phalestina yn dangos i ni i gyd mor uniongyrchol yr angen i ystyried pwysigrwydd swyddogaeth heddychwr, a hefyd pwysigrwydd arweinwyr gwleidyddol fel heddychwyr. Felly, hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol am ei diweddariadau, ac am y gefnogaeth ymarferol sy'n cael ei darparu ar gyfer cymuned y lluoedd arfog yng Nghymru. Amlygodd adroddiad diweddar, mewn gwirionedd, o'r grŵp trawsbleidiol ar gyfer y lluoedd arfog, dan gadeiryddiaeth Darren Millar, ehangder y gefnogaeth sydd ar gael yng Nghymru, ac wrth gwrs, mae llawer i'w wneud o hyd. Yn wir, ar 16 Tachwedd byddwn yn gweld Llywodraeth Cymru yn cefnogi ffair gyflogaeth Cymru wrth iddi ddod â 130 o ddysgwyr a chyn-filwyr gwasanaeth ynghyd gyda 50 o gyflogwyr, pob un â swyddi ar gael, ac mae croeso mawr iddynt ar draws Islwyn i gefnogi'r rhai sy'n pontio o luoedd i fywyd sifil. Byddwn yn eu cofio gyda'n gilydd, gyda'n gilydd byddwn ni, a chredaf fod penillion olaf cerdd Laurence Binyon 'For the Fallen' yn addas iawn, ac mae'n nodi: 'Fel y sêr sy'n serennog yn ein cyfnod o dywyllwch, / Hyd y diwedd, hyd y diwedd, maen nhw'n aros.' Diolch. James Evans AS: Hoffwn ddiolch hefyd i'r Dirprwy Weinidog a'r Llywodraeth am gyflwyno'r datganiad hwn heddiw, oherwydd rydym yn dod at ein gilydd i gydnabod ac anrhydeddu'r rhai sydd wedi gwneud yr aberth eithaf dros ein gwlad. Rydym yn dod at ein gilydd nid yn unig i goffáu eu dewrder a'u haberth, ond hefyd i fyfyrio ar bwysigrwydd cofio pawb sydd wedi syrthio mewn rhyfel. Mae gan Gymru, fel gweddill y Deyrnas Unedig, hanes cyfoethog o ddewrder ac aberth ar faes y gad. Mae straeon milwyr, morwyr ac awyrenwyr Cymreig sydd wedi gwasanaethu mewn gwrthdaro ledled y byd wedi'u hymgorffori yng ngwead ein cenedl, wrth iddynt roi eu bywydau fel y gallem fod yma heddiw. Fel llawer o Aelodau yn y Siambr hon, mae gan fy nheulu gysylltiadau cryf iawn â'r lluoedd arfog. Roedd fy hen dad-cu yn gapten llong danfor yn ystod y rhyfel byd cyntaf yn ystod dyddiau cynnar iawn rhyfela tanddwr—profiad brawychus iawn, iawn. Gwasanaethodd fy nhad-cu yn y llynges fasnachol, ac rwy'n falch iawn bod honno bellach wedi cael ei chydnabod gan y llynges am ei gwasanaeth hefyd. Cafodd ei daro ddwywaith gan dorpido o longau tanfor Almaenig a chafodd ei dynnu o'r dŵr ar y ddau achlysur. Roedd llawer o'i ffrindiau nad oeddent mor lwcus i gael eu tynnu o'r dŵr. A hefyd bu fy nhad-cu arall yn gwasanaethu gyda'r Magnelwyr Brenhinol, a gwasanaethodd fy nhad yn ystod yr Helyntion yng Ngogledd Iwerddon. Ni siaradodd yr un ohonyn nhw, mewn gwirionedd, am yr hyn yr oeddent wedi ei weld na'i brofi, ond rwy'n falch iawn bod fy nheulu wedi sefyll yn erbyn ffasgaeth a therfysgwyr. Ac rwy'n falch o ddweud y byddaf yn gosod torch yn Aberhonddu ar y penwythnos i gofio fy nheulu a'r holl bobl hynny sydd wedi gwasanaethu neu sy'n gwasanaethu yn ein lluoedd arfog, a'r hyn y maent yn ei wneud i'n cadw'n ddiogel, o ddydd i ddydd. Nid defod flynyddol yn unig yw cofio yng Nghymru, ond mae'n fynegiant dwys o'n diolchgarwch a'n parch at y rhai sydd wedi gwasanaethu. Mae ein hanes wedi'i fritho â gweithredoedd di-ri o ddewrder ac anhunanoldeb, boed hynny ar gaeau Fflandrys, traethau Normandi, mynyddoedd Afghanistan, neu mewn llawer o achosion o wrthdaro eraill ledled y byd. Rydym yn cofio'r rhai a frwydrodd ac a syrthiodd, y rhai a anafwyd, y carcharorion rhyfel a'r rhai sy'n dwyn creithiau corfforol ac emosiynol gwrthdaro. Mae eu haberth yn ein hatgoffa o gostau dynol rhyfel, a dyna pam mae'n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi ein cymuned o gyn-filwyr. Rwy'n gwybod bod gan gadeirydd ein grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog weledigaeth glir, fel sydd gennym ar y grŵp hwnnw, i gefnogi ein cymuned gyn-filwyr ledled Cymru. Mae cofio hefyd wedi'i wreiddio yn ein holl gymunedau. Mae gennym gofebion rhyfel yn ein trefi a'n pentrefi ledled Cymru, a gwerthwyr pabi ymroddedig sy'n mynd allan i godi arian i'r Lleng Brydeinig Frenhinol. Mae ein hysgolion yn chwarae rhan bwysig iawn wrth ddysgu hanes yr aberth a wnaed gan ein cenedlaethau blaenorol, oherwydd mae'n rhaid i ni ddysgu cenedlaethau'r dyfodol am yr hyn sydd wedi digwydd o'r blaen fel na allwn fyth brofi erchyllterau'r hyn a ddigwyddodd. Rhaid i ni beidio ag anghofio bod y rhyddid rydyn ni'n ei fwynhau heddiw wedi'i sicrhau trwy waed, chwys a dagrau'r rhai a ddaeth o'n blaenau, ac mae'n ddyletswydd arnom i sicrhau nad yw'r aberthau hynny a wnaed ganddynt byth yn ofer. Nid dyletswydd yw cofio; mae'n gyfrifoldeb. Mae'n gyfrifoldeb i drosglwyddo straeon o ddewrder ac aberthu i'r genhedlaeth nesaf. Felly, gadewch i ni gofio'r rhai a fu farw gyda diolchgarwch, y byw gyda chefnogaeth, a'r dyfodol gyda gobaith y gallwn fyw mewn byd heb ryfel a gwrthdaro. Joyce Watson AC: Hoffwn ddechrau drwy dalu teyrnged i holl bersonél y lluoedd arfog yn y gorffennol a'r presennol sydd wedi rhoi eu bywydau i'n diogelu ni i gyd, miliynau o unigolion a wnaeth yr aberth eithaf fel y gallwn fwynhau'r rhyddid a gymerwn yn ganiataol heddiw. Rwy'n ferch i filwr a frwydrodd yn yr ail ryfel byd, ac rwy'n ymwybodol o gefnogaeth Cymru i'n gwasanaethau arfog. Mae bod yn garcharor rhyfel, fel oedd fy nhad am bedair blynedd, yn gadael creithiau meddyliol, a chreithiau corfforol hefyd. Felly, rwy'n falch iawn bod GIG Cymru i Gyn-filwyr wedi'i sefydlu gan Lywodraeth Cymru yn 2010 i helpu cyn-filwyr sy'n dioddef o anhwylder straen ôl-drawmatig, gwasanaeth hynod bwysig i unrhyw un sydd wedi gwasanaethu yn ein lluoedd arfog ac a fydd yn profi problemau iechyd meddwl sy'n ymwneud yn benodol â'u gwasanaeth milwrol. Gall unigolion gyfeirio eu hunain, sy'n gwneud mynediad yn llawer haws, a hyd yn hyn maent wedi helpu 4,500 o bobl. Ar ôl cynrychioli'r Senedd yng Nghymdeithas Seneddol y Gymanwlad am nifer o flynyddoedd, rwyf hefyd yn ymwybodol o'r aberth y mae eraill wedi'i wneud ar gyfer ein rhyddid. Gweinidog, a wnewch chi ymuno â mi i gofio cyfraniad unigolion o wledydd y Gymanwlad, sy'n rhychwantu Affrica, Asia, America, Ewrop a'r Môr Tawel, yn ystod y ddau ryfel byd? Gwasanaethodd dros chwe miliwn o ddynion a menywod o'r Gymanwlad ochr yn ochr â lluoedd Prydain yn ystod yr ail ryfel byd yn unig. Roedd eu haberth a'u cyfraniad yn hollbwysig i sicrhau ein rhyddid—rhyddid a ddaeth ar gost enfawr. Byddaf yn mynd i wasanaeth yng Ngerddi Alexandra yng Nghaerdydd ddydd Mawrth nesaf i osod torch a choffáu milwyr a menywod o leiafrifoedd ethnig a'r Gymanwlad. Roedd yr unigolion hyn naill ai'n byw yng Nghymru neu'n dod yma i'n cefnogi yn ein cyfnod mwyaf anobeithiol o angen yn ystod y rhyfeloedd byd a rhyfeloedd blaenorol. Fel y dywedais, collodd llawer eu bywyd. Mae'n hanfodol ein bod yn cofio'r arwyr hynny sydd wedi syrthio. Mae'n anrhydedd mawr i mi gael fy ngwahodd i fod yn bresennol yn y gwasanaeth hwn, ac mae'n cael ei gynnal gan Race Council Cymru a Hanes Pobl Dduon Cymru mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd, y Lleng Brydeinig Frenhinol, Cymdeithas Frenhinol y Gymanwlad Cymru, lluoedd arfog Prydain a llawer o rai eraill. Rydym i gyd yn ymwybodol bod digwyddiadau coffa eleni yn digwydd yn erbyn cefndir o sefyllfaoedd torcalonnus yn Ewrop a hefyd yn y dwyrain canol. Altaf Hussain AS: Diolch am ganiatáu i ni drafod y mater pwysig hwn heddiw. Wel, roeddech chi'n gryf iawn ynghylch y tawelwch a gadewch i ni obeithio nad ydym byth yn dyst i dawelwch o ddiymadferthwch. Y penwythnos hwn mewn eglwysi a ger cofebion rhyfel ar draws ynysoedd Prydain byddwn yn sefyll gyda'n gilydd ac yn cofio'r aberth a wnaed gan filwyr dewr a roddodd eu bywydau i amddiffyn ein rhyddid a'n cadw rhag gormes. Mae'n rhaid i ni eu cofio. Byddwn yn anrhydeddu eu haberthau. I wneud hynny, rydym yn falch o wisgo'r pabi. Nid yw hynny'n symbol ar gyfer gormes trefedigaethol; mae'n symbol gostyngedig, perthnasol o gofio a gobaith, gan gofio'r rhai a fu farw mewn gwrthdaro ac yn symbol o obaith am ddyfodol heddychlon. Wedi'r cyfan, roedd y rhai a ymladdodd ac a fu farw yn yr holl frwydrau mawr yn dod o bob hil a ffydd. Ymladdodd pedwar can mil o filwyr Mwslimaidd dros Brydain yn ystod y rhyfel byd cyntaf. Yn eu plith roedd Khudadad Khan, Mwslim o'r hyn a elwir bellach yn Pacistan, sef y milwr Indiaidd cyntaf i ennill Croes Fictoria, y wobr filwrol uchaf am ddewrder. Roedd yn beiriant-saethwr mewn catrawd yn cefnogi Llu Alldeithiol Prydain i atal milwyr Almaenig rhag cymryd porthladdoedd Boulogne yn Ffrainc a Nieuwpoort yng Ngwlad Belg. Er gwaethaf cael ei orlethu, cadwodd gwarchodlu Khan luoedd yr Almaen draw yn ddigon hir i ganiatáu i filwyr atgyfnerthu gyrraedd. Lladdwyd pob un heblaw am Khan, a oedd, er gwaethaf iddo gael ei anafu'n wael, yn parhau i ddefnyddio ei wn. Gadawyd ef dan yr argraff ei fod wedi marw, ond llwyddodd i ymlusgo i ddiogelwch. Fe wnaeth ei ddewrder achub llawer o fywydau. Gan symud ymlaen i'r ail ryfel byd, dewisodd pobl o bob rhan o'r Gymanwlad ymladd o dan faner Prydain. Defnyddiodd Byddin Indiaidd Prydain 2.5 miliwn o bersonél a daeth yn rym gwirfoddol a oedd y mwyaf mewn hanes. Pan frwydrodd Prydain dros ryddhau de-ddwyrain Asia, fe wnaethom gynnull bron i filiwn o filwyr. Daeth mwyafrif helaeth y milwyr yn yr hyn a oedd yn Bedwaredd Fyddin ar Ddeg o India ac Affrica. Helpodd gwirfoddolwyr o mor bell â Sierra Leone a Nigeria i ryddhau Myanmar o feddiant Japan. Felly, y penwythnos hwn, ni ddylai eglwysi yn unig fod yn cynnal gwasanaethau i gofio, ond hefyd y mosgiau, y gurdwaras, synagogau, temlau ac addoldai eraill. Fel y dywedodd Rabbi Laura Janner-Klausner, nid oedd y gwaed o feysydd y gad yn gwahaniaethu rhwng Sikhiaid, Mwslimiaid, Hindŵiaid, Cristnogion ac Iddewon. Felly rydym yn anrhydeddu'r rhai a frwydrodd gyda'i gilydd trwy eu cofio gyda'i gilydd. Diolch yn fawr. Gareth Davies AS: Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl bwysig ac amserol hon wrth i ni gychwyn ar y cyfnod cofio hwn. Diolch i'r Llywodraeth am gyflwyno'r ddadl hon heno. Yn bersonol, nid wyf wedi gwasanaethu yn y lluoedd ond gwnaeth fy nhad-cu ei wasanaeth cenedlaethol rhwng 1948 a 1950, ac ef oedd yn gyfrifol am symud pobl Iddewig o Ewrop i Israel trwy Gyprus, ac roeddwn i'n meddwl y byddai hynny'n sylw amserol i'w wneud o ystyried y trafferthion presennol yn Gaza. Ac mae fy nhad-cu bob amser wedi bod yn falch o'i gyflawniadau yn ystod y cyfnod hwnnw, oherwydd, yn wir, felly hefyd rydym ni fel teulu, wrth helpu'r bobl fwyaf agored i niwed yn eu cyfnod o angen. A rhyfedd i raddau yw myfyrio'n bersonol ar y ffaith fod fy nhad-cu bellach yn 93 ac roedd yn rhy ifanc i wasanaethu yn yr ail ryfel byd. Felly, mae'n ffaith sobreiddiol bod arwyr sy'n goroesi o'r cyfnod hwnnw yn mynd yn brinnach yn anffodus. Dyna pam ei bod mor bwysig ein bod yn parhau i nodi'r adeg hon o gofio nawr ac yn y dyfodol, fel bod ein plant, eu plant a'u cenedlaethau y tu hwnt i hynny yn parhau i gofio'r rhai sydd wedi aberthu eu bywydau am y rhyddid rydyn ni'n ei fwynhau heddiw. Yn lleol, yn Nyffryn Clwyd, gwirfoddolais yn Sainsbury's yn y Rhyl, gan werthu pabïau gyda fy mab ar gyfer y Lleng Brydeinig Frenhinol yn ystod toriad yr wythnos diwethaf, a byddaf yn ymuno â fy etholwyr dros y penwythnos i gofio am arwyr lleol sir Ddinbych a roddodd eu bywydau eto er mwyn y rhyddid sydd gennym heddiw. Byddaf yn mynd i wasanaeth yng nghadeirlan Llanelwy ddydd Sadwrn, Diwrnod y Cadoediad, ac i wasanaeth arall yn eglwys blwyf Prestatyn ddydd Sul, gyda thorchau yn cael eu gosod ar fy rhan ym mhob safle coffa arall yn yr etholaeth, oherwydd yn anffodus mae'n amhosibl bod ym mhobman ar yr un pryd. Rwyf eisiau cau fy sylwadau drwy ddweud y llinell adnabyddus o'r gwasanaeth: 'Pan elo’r haul i lawr, ac ar wawr y bore / Ni â’u cofiwn hwy.' Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Galwaf ar y Diprwy Weinidog PartneriaethGymdeithasol i ymateb i'r ddadl. Hannah Blythyn AC: Diolch, Dirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau heddiw. Hannah Blythyn AC: Rydym wedi dod ynghyd yn Siambr y Senedd heddiw i gydnabod y cysylltiadau teuluol niferus a gawsom ni, fel y clywsom gan James Evans, Peter Fox a Gareth yna yn y cyfraniad olaf. Mae Joyce Watson, wrth gwrs, yn ferch i filwr a oedd nid yn unig yn ymladd yn yr ail ryfel byd ond a gafodd ei ddal fel carcharor rhyfel hefyd, gyda'r holl greithiau a ddaw yn sgil hynny. Joyce, rwy'n sicr yn ymuno â chi i nodi cyfraniad personél y Gymanwlad ochr yn ochr â'n personél sy'n gwasanaethu yng Nghymru mewn gwrthdaro a sefyllfaoedd ar hyd y blynyddoedd. Rydym hefyd wedi clywed am bwysigrwydd dod at ein gilydd gan Jane Dodds a chan Sioned Williams. Mae cofio hefyd yn gyfle i ddyblu ein hymdrechion tuag at heddwch, ac i gofio aberth pobl a phawb sydd wedi dioddef o ganlyniad i ryfel, ac i'n hatgoffa y dylem bob amser weithio gyda'n gilydd i ymdrechu dros heddwch a rhoi diwedd ar wrthdaro yn y dyfodol. Darren Millar, gwn fod hwn yn un o'r meysydd lle gallwn ddod o hyd i dir a chytundeb cyffredin. Yn yr un modd, ar draws y DU, cwrddais ag aelodau cyfatebol o Lywodraeth yr Alban yn ddiweddar, ochr yn ochr â Johnny Mercer, Gweinidog y Cyn-filwyr, lle gallwn weithio gyda'n gilydd yn yr achos cyffredin hwnnw i gefnogi cyn-filwyr a sicrhau bod cefnogaeth mewn cymunedau ledled y wlad. Bu Alun Davies yn siarad â ni drwy daith o'r gorffennol a'r presennol, a phwysigrwydd cofio a sut mae hynny'n ein gwasanaethu i'r dyfodol hefyd. Soniodd Rhianon Passmore ac Altaf ac eraill am y rôl y mae llawer o lengoedd o wirfoddolwyr yn ei chwarae mewn cymunedau ledled y wlad, wrth gofio'r enwau hynny sydd ar senotaffau a chofebion eraill ar hyd a lled Cymru. I fy nghymydog agos a chymydog etholaethol, Jack Sargeant, byddwn yn fwy na pharod i ddod i ymweld â Chaffinaafi. Mewn gwirionedd, cawsoch eich curo gennyf mewn gwirionedd, oherwydd ar y diwrnod y buoch chi yno, roeddwn i mewn parti teulu yng nghlwb criced Cei Connah, ac roedd y Cynghorydd Gill Faulkner eisoes wedi ei godi gyda mi. Ond rwy'n fwy na hapus i ymweld. Ni fyddwn yn gorfod mynd yn bell. Heddiw, rydym yn ymgasglu yma i gofio, ar gyfer y ddadl goffa. Ond, Dirprwy Lywydd, os caf, hoffwn achub ar y cyfle hefyd i gofio ein cyd-Aelod, Carl Sargeant, ar ben-blwydd ei farwolaeth drasig heddiw. Dilynais yn ôl troed Carl, nid yn unig fel rhywun arall a etholwyd o Gei Connah, ond wrth gael yr anrhydedd o arwain cefnogaeth Llywodraeth Cymru i gyn-filwyr. Rwy'n credu ei bod hi'n iawn, heddiw, ein bod ni hefyd yn myfyrio ar y rhan a chwaraeodd Carl a'r gwaith a wnaeth fel hyrwyddwr balch cyn-filwyr a'n cymuned lluoedd arfog. Mae'n fraint fawr i mi adeiladu ar y gwaith hwnnw heddiw. Dirprwy Lywydd, i gloi, rwy'n gwerthfawrogi, i lawer mewn cymunedau ledled y wlad sy'n gwasanaethu, a chymunedau cyn-filwyr, pan glywir y caniad olaf mewn gwasanaethau, ac yn y distawrwydd dau funud sy'n dilyn, efallai daw wynebau arbennig i'r meddwl. Mewn cymunedau ar draws y wlad, bydd pobl yn cael eu cofio, a bywydau wedi'u torri'n rhy fyr o lawer. Felly, pan fyddwn yn stopio ac yn oedi ar Ddydd y Cadoediad, ar Sul y Cofio, fel y gwnaethom heddiw yn y Siambr hon, rydym yn cofio'r rhai sydd wedi gwasanaethu a'r rhai sydd wedi gwneud yr aberth eithaf. Er cof amdanyn nhw, rydyn ni'n ymroi i'n hachos o gael diwedd ar wrthdaro, a byddwn ni'n eu cofio. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Y cwestiwn nawr yw: a ddylid derbyn y cynnig wedi'i ddiwygio? Cynnig NNDM8393 fel y'i diwygiwyd: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd parhaus cyfnod y Cofio i deuluoedd a chymunedau yng Nghymru. 2. Yn talu teyrnged i wasanaeth ac aberth unigolion o bob rhan o Gymru sydd yn gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn ein lluoedd arfog. 3. Yn cydnabod gwaith diflino sefydliadau, unigolion a gwirfoddolwyr sy'n cefnogi cymuned a chyn-aelodau’r lluoedd arfog ledled Cymru. 4. Yn cefnogi'r angen i ymdrechu am ddatrysiadau heddychlon i bob gwrthdaro ac am ddiwedd ar ryfel. 5. Yn cofio pawb sydd wedi colli eu bywydau mewn rhyfeloedd a gwrthdaro, gan gynnwys cwympiedigion sifil. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig wedi'i ddiwygio, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig wedi'i ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Daeth y cyfarfod i ben am 18:15. QNR Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru Cefin Campbell: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fanteisio ar botensial economaidd a chymdeithasol ardaloedd arfordirol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? Mark Drakeford: We assist the economic and social development of coastal areas through a series of specific actions. These include our investment in city and growth deals, our investment in the £11 million Arfor programme and our support for the free-port programme. James Evans: Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog newydd-ddyfodiaid ifanc i'r diwydiant amaethyddol? Mark Drakeford: The Welsh Government continues to encourage young entrants into the agricultural industry through programmes such as Farming Connect and Start to Farm, formerly Venture. In the future, the proposed sustainable farming scheme will be available to all types of farms and will support new entrants to establish sustainable agricultural businesses. Adam Price: Pa gamau pellach sydd wedi'u cymryd gan y Llywodraeth o ran adeiladu ffordd osgoi Llandeilo ers datganiad ysgrifenedig y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ym mis Gorffennaf eleni? Mark Drakeford: Rydyn ni wrthi’n gweithio ar opsiynau i ddatblygu’r cynllun hwn ac yn trafod â Chyngor Sir Gâr i gytuno ar y ffordd orau o wella trafnidiaeth ar yr A483 yn Llandeilo cyn gynted â phosib. Mae gwaith yr Athro Andrew Potter, sy’n cynnwys edrych ar wyro cerbydau nwyddau trwm i ffwrdd o Landeilo, i fod i gael ei gwblhau cyn hir. Natasha Asghar: Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i fusnesau yn Nwyrain De Cymru? Mark Drakeford: Our Business Wales service provides individuals and entrepreneurs with access to a wide range of information, guidance and support, both financial and non-financial, to help set up new businesses.
uk-hansard-senedd-cy
senedd2023-11-07
2024-06-01T00:00:00
{ "year": "2023", "language": "cy", "license": "Open Parliament Licence - https://www.parliament.uk/site-information/copyright-parliament/open-parliament-licence/" }
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. Galw'r Aelodau i drefn. 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Paul Davies. Gwasanaethau Band Eang Paul Davies AC: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella gwasanaethau band eang yng ngorllewin Cymru? OAQ54942 Lee Waters AC: Drwy Cyflymu Cymru, rydym wedi darparu band eang ar gyflymder cyfartalog o 82 Mbps i dros 111,350 o safleoedd ledled gorllewin Cymru, gan fuddsoddi dros £32.3 miliwn. Bydd ein cynllun olynol yn darparu cysylltedd i 1,348 o safleoedd eraill, ynghyd â chefnogaeth gan Allwedd Band Eang Cymru a'r Cynllun Talebau Band Eang Gigabid. Ac mae cronfa gymunedol newydd yn cael ei datblygu hefyd. Paul Davies AC: Rwy'n gwerthfawrogi'r ymateb hwnnw gan y Dirprwy Weinidog. Rwyf eisoes wedi codi'r sefyllfa sy'n wynebu pobl Mynachlog-ddu yn fy etholaeth, sydd, yn anffodus, yn cael gwasanaeth band eang araf ac ysbeidiol, ynghyd â thechnoleg segur lle mae gwifrau'n hongian ar bolion i bob pwrpas. Fel y gŵyr y Dirprwy Weinidog, ar hyn o bryd, Sir Benfro yw’r ugeinfed o'r 22 awdurdod lleol o ran nifer y safleoedd yng Nghymru lle mae gweithredwyr seilwaith band eang yn bresennol. Rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru wedi lansio cronfa band eang gwledig gwerth £10 miliwn yn ddiweddar. Felly, a gaf fi ofyn i'r Dirprwy Weinidog sut y mae'n bwriadu sicrhau bod y cyllid hwn yn cyrraedd siroedd fel Sir Benfro, a phryd y bydd yr arian mawr ei angen hwnnw'n cael ei ddarparu fel y gall cymunedau fel Mynachlog-ddu fod yn hyderus fod eu sefyllfa'n cael sylw? Lee Waters AC: Wel, diolch yn fawr iawn, ac rwy’n cydymdeimlo â phobl Mynachlog-ddu, oherwydd yn amlwg, mae hwn yn gysylltedd hanfodol y mae pob un ohonom yn dibynnu arno bellach. Ond ailadroddaf eto wrth yr Aelod nad yw hwn yn fater datganoledig. Llywodraeth y DU sydd â'r cyfrifoldeb arweiniol am gysylltu pobl drwy bolisïau telathrebu, ac mae hwn yn faes lle dylent fod yn arwain, ac maent wedi methu arwain. Nawr, oherwydd y methiant hwnnw, rydym wedi camu i'r adwy yn eu lle, ac rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol—mae 95 y cant o bobl yng Nghymru bellach wedi'u cysylltu â chynlluniau band eang cyflym iawn, ac rydym wedi dargyfeirio cyllid o feysydd datganoledig i'r maes hwn sydd heb ei ddatganoli oherwydd methiant y farchnad a diffyg gweithredu gan Lywodraeth y DU. Mae cyfanswm o oddeutu £200 miliwn wedi'i wario. Felly, rwy'n blino ar gael llythyrau gan ASau Ceidwadol yn arbennig, yn gofyn beth arall y mae'r Llywodraeth yn mynd i'w wneud ynglŷn â hyn, er bod hyn yn gyfrifoldeb i'w Llywodraeth eu hunain nad ydynt wedi'i gyflawni. Rwy'n sylweddoli nad dyna'r ateb y mae'r Aelod yn chwilio amdano, ond mae'n wirionedd y mae'n rhaid iddo ei wynebu. Cefais gyfarfod da iawn ddydd Llun gyda'r cynghorydd Paul Miller, yr aelod cabinet dros yr economi yn Sir Benfro, ac yn amlwg, mae'r awdurdod lleol yn chwarae rhan weithredol iawn, ac rwy’n eu canmol am hynny. Maent bellach wedi penodi tîm digidol, fel y mae Sir Gaerfyrddin wedi’i wneud, ac rwy’n canmol hynny. Maent yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar gynnig am £4 miliwn drwy'r rhaglen Rhwydweithiau Ffibr Llawn Lleol i gysylltu 80 o safleoedd sector cyhoeddus, y dylent allu eu rhannu wedyn i gysylltiadau preifat. Ac maent hefyd yn edrych ar sut y gallant gydgrynhoi'r talebau sydd ar gael drwy greu 88 parth a all gysylltu aelwydydd ymhellach. Fel y nododd Paul Davies, rwyf wedi cyhoeddi cronfa gwerth £10 miliwn, sy'n edrych yn benodol ar ddulliau anghonfensiynol o gyflawni hyn, oherwydd yn enwedig mewn ardaloedd gwledig iawn, mae darparu cysylltiad ffeibr llawn yn uniongyrchol i safleoedd, i dai, gyda llawer ohonynt heb eu cysylltu â charthffosiaeth neu nwy o’r prif gyflenwad, yn anodd, yn enwedig os nad yw Llywodraeth y DU yn barod i ymyrryd. Yn ei ymgyrch am yr arweinyddiaeth, fe wnaeth Boris Johnson addewidion mawr ynglŷn â hyn, ac edrychaf ymlaen at weld mwy o fanylion amdanynt, gan ei fod yn llygad ei le yn dweud bod hwn yn faes o seilwaith digidol y mae taer angen mwy o sylw iddo. Ond mae'r gronfa £10 miliwn yn cael ei chydgynhyrchu gyda'r awdurdodau lleol, gan gynnwys Sir Benfro. Rydym yn gobeithio cael y cynigion hynny erbyn mis Ebrill i ddechrau gwario'r arian hwnnw, ac i edrych i weld sut y gallwn gysylltu'r bobl hynny sydd eto i elwa o'r ymyrraeth a gafwyd gan Lywodraeth Cymru pan fethodd Llywodraeth y DU â gweithredu. Joyce Watson AC: Rwy'n cytuno â chi, Weinidog, y byddai'n well pe bai Paul Davies yn gofyn i'w feistri yn San Steffan am rywfaint o arian yma i ariannu rhywbeth y maent yn gyfrifol amdano yn y pen draw. A'r peth arall, wrth gwrs, gan y bu’n rhaid i ni, Lywodraeth Cymru, fuddsoddi arian mewn maes heb ei ddatganoli, yw y byddant yn gofyn i ni am arian ar gyfer rhywbeth arall sydd wedi'i ddatganoli, ac rydym wedi gorfod defnyddio ein harian i lenwi'r bwlch y maent wedi gwrthod ei lenwi. Ond mae bwlch posibl arall ar y gorwel, ac mae llawer iawn o arian yr UE wedi'i fuddsoddi mewn darparu band eang cyflym iawn. Felly, credaf mai'r cwestiwn arall yw: ble a pha mor siŵr rydych chi y bydd modd i ni gael mynediad at y cronfeydd hynny yn y dyfodol, drwy eich swyddfeydd, gan gymryd eich bod wedi cael y sgyrsiau hynny â San Steffan? Ac rwy'n cymryd hefyd, gan fod Paul Davies yn poeni cymaint am y mater, ei fod yntau wedi cael y sgyrsiau hynny hefyd. Lee Waters AC: Diolch yn fawr iawn. Mae Joyce Watson yn llygad ei lle yn tynnu sylw at y dimensiwn Ewropeaidd yn hyn, gan fod y £200 miliwn a fuddsoddwyd gennym yn Cyflymu Cymru yn gyfuniad o gyllid Llywodraeth y DU, cyllid Ewropeaidd, a chyllid Llywodraeth Cymru. Felly cafwyd cyfraniad gan Lywodraeth y DU, ond bu'n rhaid dibynnu ar arweinyddiaeth Llywodraeth Cymru er mwyn rhoi'r pecyn hwnnw at ei gilydd, a defnyddio'r arian hwnnw, a rheoli'r arian hwnnw, mewn maes a ddylai fod wedi'i wneud o San Steffan. A bellach, wrth i ni edrych at yr hyn sy'n digwydd ar ôl i ni adael yr UE, mae bwlch yno o hyd. Ar hyn o bryd, rydym yn cynnal adolygiad o'r farchnad agored, sy'n ein galluogi i gasglu gwybodaeth am gynlluniau darparwyr masnachol i'w cyflwyno yn y dyfodol. A thrwy hynny, bydd gennym ddarlun cywir wedyn o ble mae bylchau'n parhau. Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau ein bod yn gallu rheoli a denu'r buddsoddiad i lenwi'r bylchau hynny. Ond dywedaf eto, mae angen i arweinyddiaeth Llywodraeth y DU gamu i'r bwlch hwnnw mewn maes heb ei ddatganoli er mwyn darparu'r buddsoddiad a gwneud i hynny ddigwydd, yn hytrach na dibynnu arnom ni i wneud hynny. Parcio ar Balmentydd Hefin David AC: 2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i wahardd parcio ar balmentydd yng Nghymru? OAQ54962 Lee Waters AC: Gwnaf. Rydym wedi creu grŵp tasglu arbennig i ymchwilio i'r materion sy'n ymwneud â pharcio ar balmentydd a phenderfynu ar y ffordd orau o weithredu ateb i'r broblem hon. Disgwylir i'r grŵp adrodd ar ei ganfyddiadau ym mis Mehefin eleni. Hefin David AC: Mynegwyd pryderon i mi, mewn e-byst a llythyrau, gan etholwyr sy'n poeni am barcio ar balmentydd. Mae llawer o ddatblygiadau tai newydd yn cael eu hadeiladu gyda cherbytffyrdd cul iawn a heb ddigon o le i geir. Mae hynny'n wir mewn perthynas ag un o ddatblygiadau Redrow yn fy etholaeth, Cwm Calon, sy'n ddatblygiad cymharol newydd, ac nid oes gan bobl unrhyw ddewis ond parcio ar y palmentydd oherwydd cynllunio gwael ar ran Redrow. Un mater penodol y mae'n rhaid i unrhyw gamau pellach ei ystyried hefyd yw cerbydau contractwyr a cherbydau gwaith y mae pobl yn eu gyrru adref o'r gwaith. Mae'r rhain wedi achosi rhwystrau sylweddol mewn gwahanol rannau o fy etholaeth, a chredaf ei fod yn fater cynllunio lawn cymaint â mater trafnidiaeth, ac mae angen mynd i'r afael ag ef. Rwy'n teimlo mai'r ffordd ymlaen, yn dilyn y grŵp gorchwyl, fyddai archwilio sut y bydd gwaith ymgynghori pellach yn mynd rhagddo, ac mae'n rhaid cynnwys preswylwyr yn y gwaith hwnnw, a datblygwyr hefyd. Felly, a allwch ddweud wrthyf, pan fydd y grŵp gorchwyl yn adrodd, beth fydd y cynlluniau pellach a sut y bydd hynny'n cael ei ddatblygu wedyn? Lee Waters AC: Diolch. Credaf fod gan bob un ohonom brofiad diweddar o gerdded milltiroedd yn ein hetholaethau dros y misoedd diwethaf, a byddwn wedi gweld drosom ein hunain fod hon yn broblem mewn amryw o gymunedau. Ac mae Hefin David yn llygad ei le: mewn rhai mannau, yn enwedig ar yr ystadau mwy newydd, yn aml nid oes ganddynt fawr o ddewis ond parcio ar y palmant, yn enwedig os oes ganddynt fwy nag un car. Dyna pam rwy'n awyddus, wrth i mi sefydlu'r tasglu hwn, i ni gael ateb i'r hyn sy'n digwydd yn ein cymunedau ar hyn o bryd. Felly, mae Phil Jones, a wnaeth waith rhagorol i Lywodraeth Cymru ar lunio ein canllawiau cynllunio teithio llesol, yn arwain y tasglu hwn i ni, a'r tasglu ar derfynau cyflymder 20 mya. A hoffwn weld y ddau ohonynt yn rhan o'r un ateb. Oherwydd mae parcio ar balmentydd yn symptom o ddibyniaeth ein cymdeithas ar geir—nid yw'n un o'r achosion. Ac mae angen inni fynd i'r afael ag effeithiau negyddol yr hyn sydd, i bob pwrpas, yn ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn sawl achos—y ffordd ddiofal a'r ffordd ddifeddwl y mae llawer o bobl yn parcio—ond gan gofio hefyd, fel y dywed Hefin David, nad oes fawr o ddewis ond gwneud hynny mewn rhai ardaloedd. Felly, dyna pam fod y tasglu y mae Phil Jones wedi'i ddwyn ynghyd yn un pragmatig. Mae'n rhaid iddo ddod o hyd i ateb sy'n gweithio, nad yw'n dieithrio pobl ac yn gwneud iddynt ymbellhau oddi wrth y newid ymddygiad ehangach rydym yn ceisio'i gyflawni, ac nad yw'n gwneud bywyd yn anos i awdurdodau lleol sydd eisoes dan bwysau. Mae'n rhaid i hyn fod yn rhywbeth sy'n mynd i weithio. Felly, mae gennym ystod o ffrydiau gwaith: mae cyfathrebu'n un ohonynt, gan fod angen i hyn ymwneud, yn y pen draw, â newid ymddygiad. Mae'n rhaid iddo ymwneud hefyd â gorfodaeth. Felly, yn y bôn, mae gennym ddau ddewis: naill ai dull cyffredinol, a cheisio gwahardd parcio ar balmentydd yn gyfan gwbl, ac mae cwestiynau'n codi ynglŷn ag a oes gennym y pwerau i wneud hynny ai peidio, neu ddull mwy gwahaniaethol, sy'n rhoi’r pwerau i awdurdodau lleol fynd i’r afael â mannau problemus drwy orfodaeth sifil fel y gwelant yn addas. Nawr, nid wyf am ragfarnu argymhellion y panel arbenigol ar hyn, ond fel y dywedais, y peth pwysig yw bod angen inni fynd i'r afael â'r broblem gan ei bod yn broblem, ond mae angen inni fynd i'r afael â hi mewn ffordd nad yw'n cosbi pobl a gwneud bywyd yn anos, ac mae'n rhaid iddi weithio yn y tymor hwy. David Melding AC: A gaf fi gytuno â Hefin? Credaf fod pob un ohonom wedi gwneud gwaith achos yn ogystal â gweld arferion gwael iawn. Hoffwn ganmol Living Streets Cymru, a gomisiynodd arolwg ymchwil o dros 1,000 o bobl—felly llawer o bobl yng Nghymru—a ganfu fod 83 y cant o’r ymatebwyr o blaid gwahardd parcio ar balmentydd. Nawr, yn ymarferol, gwn y byddai hynny'n creu problemau, yn enwedig mewn ardaloedd sydd wedi'u cynllunio mor wael fel nad oes fawr o ddewis ond parcio ar y palmant neu ar ran o'r palmant, ond dylai peidio â rhwystro palmentydd fod yn egwyddor sylfaenol. Beth ar y ddaear y mae rhieni â phramiau neu bobl sy'n ddibynnol ar gadeiriau olwyn, neu gerddwyr, hyd yn oed, i fod i'w wneud? Nid dyma'r ffordd y dylem fod yn dylunio mannau trefol newydd. Ond mae'n broblem ers amser maith mewn sawl ardal lle nad oes yn rhaid i bobl barcio ar y palmant mewn gwirionedd, ond maent yn gwneud hynny gan fod hynny wedyn yn caniatáu i draffig lifo'r ddwy ffordd mewn ardaloedd trefol. Weithiau, dylem ystyried ciw traffig fel rhan o reolaeth draffig, ac nid oes gennych hawl i rasio drwodd ar ba gyflymder bynnag er mwyn mynd o A i B. Y cerddwr ddylai fod bwysicaf yn y cyswllt hwn. Lee Waters AC: Diolch i David Melding. Yn ogystal â chanmol Living Streets am eu hymchwil, buaswn wedi gobeithio y byddai wedi canmol Llywodraeth Cymru am gymryd camau yn y maes hwn. Rydym yn gweithio'n agos gyda Living Streets. Fel y dywedaf, mae wedi tynnu sylw at rai o'r cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â chyflwyno gwaharddiad, a byddwn yn mynd i'r afael â'r rheini. Oherwydd mae'r ddeddfwriaeth gyfredol yn gymysgedd cymhleth o sancsiynau troseddol a sifil. Felly, bydd yn cymryd amser i benderfynu beth yw'r dewis gorau er mwyn bwrw ymlaen â hyn i Gymru, ond rwy'n gobeithio parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau dros y misoedd nesaf a darparu sesiynau briffio ynglŷn â sut yn union y bwriadwn wneud hynny. Ond fel y dywedaf, mae angen inni ystyried hyn yn rhan o'r gyfres ehangach o fesurau sydd gennym, ynghyd â therfynau cyflymder 20 mya, i ddechrau sicrhau newid moddol a mynd i'r afael â thra-arglwyddiaeth y car yn ein cymdeithas, ond ni fydd hynny'n gweithio oni bai ein bod yn rhoi dewisiadau amgen i bobl hefyd. Delyth Jewell AC: Rwy'n ddiolchgar fod y mater hwn wedi'i godi gan fod mater arall yng Nghaerffili y byddwch yn ymwybodol ohono, rwy'n siŵr, lle nad yw preswylwyr lleol yn gallu parcio, sef ym Mryn Heol ym Medwas, lle mae'r preswylwyr wedi cael llond bol ar ddiffyg penderfyniadau gan Gyngor Bwrdeistref Sir Caerffili neu ddiffyg unrhyw gamau i fynd i'r afael â'r broblem. Dywedir wrthynt na allant barcio y tu allan i'w tai ar y stryd, ond ni allant barcio ar y palmant chwaith, am resymau amlwg. Ac roedd y cyngor wedi cyhoeddi y byddent yn rhoi camau ar waith i'w helpu, ond maent wedi tynnu'n ôl o wneud hynny. Felly, yn amlwg, er fy mod yn llwyr gefnogi’r hyn y mae’r Llywodraeth yn ei wneud o ran ei huchelgais i wahardd parcio ar balmentydd, a fyddai’r Dirprwy Weinidog yn cytuno â mi, er mwyn i hyn weithio, fod yn rhaid i awdurdodau lleol ddarparu lleoedd parcio priodol fel y gall preswylwyr barcio'n ddiogel y tu allan i'w cartrefi eu hunain? Lee Waters AC: Ni chredaf y dylem ladd ar awdurdodau lleol yma gan eu bod mewn sefyllfa anodd iawn. Y broblem, yn y bôn, yw nifer y ceir y mae llawer ohonom bellach yn berchen arnynt. Ac yn syml, ni ddyluniwyd y strydoedd i ddarparu ar gyfer nifer y cerbydau sy'n ceisio gwasgu i mewn i stryd a gynlluniwyd ar gyfer ceffyl a throl. Felly, mae hyn yn fwy na mater o ddarparu mwy o dir i geir gael parcio, oherwydd lle fydd pen draw hynny? Ac ai dyma'r defnydd gorau o dir yn ein cymuned—ei ddarparu ar gyfer ceir? Does bosibl nad yr ateb go iawn yw ceisio rhoi dewisiadau amgen i bobl fel nad oes angen i aelwydydd fod yn berchen ar fwy nag un car, a bod ffyrdd eraill o fynd o le i le. Credaf fod dyfodiad ceir trydan a cheir di-yrrwr, lle mae ceir yn llawer llai tebygol o fod yn eiddo i rhywun, maent yn fwy tebygol o gael eu prydlesu a'u rhannu gan y bydd y costau cyfalaf mor uchel—bydd yn gludiant ymatebol ar alw, a dim ond 15 i 20 mlynedd i ffwrdd yw hyn. Felly, mae technoleg yn cynnig rhyw lun o ateb i ni y hyn o beth. Yn y tymor byr, mae gan gynghorau broblem anodd iawn wrth geisio cymrodeddu rhwng galwadau sy'n gwrthdaro gan bobl sy'n awyddus i barcio mor agos â phosibl i'w cartref. Credaf fod angen i ni roi set o arfau iddynt lle gallant ddefnyddio eu crebwyll o ran yr hyn sy'n iawn i'w cymunedau, ac anfon neges glir iawn hefyd nad yw'n dderbyniol iddynt barcio ble y mynnant pryd y mynnant pan fo hynny'n rhwystro pobl â phramiau ac anableddau rhag symud o gwmpas. Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George. Russell George AC: Diolch, Lywydd. Weinidog, a ydych chi'n credu bod cefnogaeth Llywodraeth Cymru i fusnes yn cynrychioli gwerth am arian? Ken Skates AC: Yn sicr, ac rwy’n siŵr y byddai'r Aelod yn croesawu’r ffaith ein bod, o ganlyniad i’r gwaith caled gan fusnesau a sefydliadau, ac wrth gwrs, Llywodraeth Cymru, bellach wedi cyflawni’r gyfradd ddiweithdra isaf erioed yng Nghymru, y lefel isaf ers dechrau cadw cofnodion, 3 y cant yn is na chyfartaledd y DU, sef 3.8 y cant. Yn ychwanegol at hynny, rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn croesawu'r ffaith bod gwerth ychwanegol gros a gwerth ychwanegol gros y pen yng Nghymru yn tyfu'n gyflymach na lefel y DU a bod gennym gyfradd uwch na'r DU o fusnesau yn dechrau yng Nghymru. Russell George AC: Diolch am eich ateb, Weinidog. Roedd fy nghwestiwn yn ymwneud yn benodol â gwerth da am arian mewn perthynas â chymorth Llywodraeth Cymru i fusnesau. Yn dilyn y gwaith a edrychai ar gymorth ariannol Llywodraeth Cymru i fusnesau, mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, wrth gwrs, wedi cwestiynu cefnogaeth Llywodraeth Cymru i fusnesau ac wedi dweud ei bod yn destun pryder ac yn annerbyniol fod Llywodraeth Cymru wedi methu cyflawni ei hymrwymiad ei hun i adrodd yn gyhoeddus ar ei chynnydd yn cyflawni ei strategaeth economaidd flaenorol. Roedd y pwyllgor yn eithaf deifiol, yn fy marn i, pan ddywedodd fod y methiant wedi rhwystro atebolrwydd a chraffu effeithiol gan y Senedd hon. Felly, tybed a yw'r methiant yn deillio o embaras eich Llywodraeth ynglŷn â'i chyflawniad ar yr economi dros yr 20 mlynedd diwethaf. Ac er atebolrwydd a thryloywder, a allwch amlinellu pa gamau penodol y byddwch yn eu cymryd yn y dyfodol i adrodd ar yr allbynnau a gyflawnir bob blwyddyn gan weithgarwch cymorth busnes Llywodraeth Cymru? Ken Skates AC: A gaf fi ateb y pwynt olaf yn gyntaf, Lywydd? Rydym wedi defnyddio cymorth y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd i archwilio dangosyddion perfformiad allweddol ac i fonitro allbynnau datblygu economaidd yng Nghymru. Ond o ran edrych ar y cyflawniad mewn perthynas â chyflogaeth a'r economi dros yr 20 mlynedd diwethaf, yn ogystal â'r ffaith bod gennym bellach y lefel isaf o ddiweithdra ers dechrau cadw cofnodion, mae gennym hefyd y nifer uchaf erioed, neu'n agos at y nifer uchaf erioed, o bobl mewn gwaith; mae cyfraddau anweithgarwch wedi bod yn gostwng yn gyson dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Bellach, yn nhymor y Cynulliad hwn yn unig, mae gennym 75,000 o gyfleoedd prentisiaeth wedi'u sefydlu a'u cymryd gan bobl uchelgeisiol yng Nghymru. Mewn cyferbyniad â hynny, dros y ffin yn Lloegr, mae ffigurau prentisiaethau wedi cwympo oddi ar glogwyn, gan eu bod wedi cael gwared ar ddull sefydledig o ddarparu cymorth prentisiaethau a chyflwyno mecanwaith rhyfedd o drethu busnesau am gyflogi pobl. Rwy'n hyderus ein bod, o ganlyniad i'n hymyriadau, gan gynnwys y rheini a wnaed gan Busnes Cymru, wedi gallu sefydlu cymuned fusnes gref a gwydn yng Nghymru sy'n cyflogi'r nifer uchaf erioed o bobl ac yn cynyddu cyfraddau gwerth ychwanegol gros a chynhyrchiant ar gyfradd uwch a chyflymach na'r DU. Russell George AC: Wel, diolch am eich ateb, Weinidog, ond rydym ar y bedwaredd strategaeth economaidd—ac yn anffodus, mae pob un ohonynt wedi methu gwella economi Cymru, a dywedaf hynny ac edrychaf ar eich Gweinidog addysg sydd wedi dweud o'r blaen ei bod yn pryderu bod dod yn olaf ym mhob tabl gwasanaeth cyhoeddus bellach yn dod yn arfer. O ran cynhyrchiant economaidd, yn anffodus, rydym ar waelod y tabl, ac o ran enillion wythnosol, rydym ar waelod y tabl eto. Ac o ran anghydraddoldeb rhanbarthol, mae Ynys Môn ymhell y tu ôl i Gaerdydd, a dywed eich Dirprwy Weinidog ei hun mai'r gwir amdani yw na wyddom mewn gwirionedd beth rydym yn ei wneud ar yr economi. Yr hyn y buaswn yn awgrymu sydd ei angen arnom yw Llywodraeth Cymru ffres ac uchelgeisiol sy'n falch o adrodd yn gyhoeddus ar ei chynnydd mewn perthynas â darparu'r cyfeiriad economaidd newydd sydd ei angen ar ein gwlad, yn hytrach na chuddio tu ôl i graffu cyhoeddus. Mae arnom angen Llywodraeth sy'n cefnogi busnesau bach, er enghraifft drwy ddileu ardrethi busnes ar gyfer busnesau bach, a Llywodraeth a fydd yn cyflwyno band eang cyflym iawn ar gyfer pob busnes, ac sydd â'r seilwaith rheilffyrdd a ffyrdd cywir i helpu busnesau i dyfu. Felly, a fyddech yn cytuno â mi fod angen Llywodraeth Cymru arnom sydd â'r un uchelgais a gweledigaeth gadarnhaol ar gyfer economi Cymru ag sydd gan Lywodraeth newydd y DU, ac sy'n manteisio ar gyfleoedd Brexit a gwerthu Cymru i'r byd a rhyddhau potensial Cymru? A ydym—Weinidog, hoffwn ofyn pryd fydd gennym y math o gymorth busnes y gall y Llywodraeth ei hun fod yn falch ohono a dangos gwerth cyffredinol am arian mewn perthynas â'i chefnogaeth ariannol ei hun i fusnesau? Ken Skates AC: Yr hyn y mae'r bobl yn dymuno'i gael yw mynediad at swyddi o ansawdd uchel. Dyna'n union y mae'n strategaeth economaidd wedi'i gyflawni ac yn ei gyflawni. Rydym yn creu'r nifer uchaf erioed o swyddi, swyddi o ansawdd uwch, swyddi y gall pobl gael mynediad atynt. Mae gennym system hyfforddi sgiliau sy'n destun cenfigen i weddill y Deyrnas Unedig, a gallwch gymryd, fel y dywedais yn awr, y cyfraddau cwblhau prentisiaethau, er enghraifft, sy'n parhau i fod yn uwch na chyfartaledd Lloegr—yn uwch o lawer na chyfartaledd Lloegr. Mae gennym hefyd fynediad at fanc datblygu sydd, unwaith eto, yn destun cenfigen i weddill y DU. Mae llywodraethau yn yr Alban a thu hwnt yn edrych ar Fanc Datblygu Cymru, gan archwilio sut y gallant efelychu'r gwasanaethau a gynigir yma yn ein gwlad. Buaswn yn croesawu unrhyw fynegiant o optimistiaeth ynghylch dyfodol disglair, ond mae'n rhaid i chi gynnal hynny gydag arian, mae'n rhaid i chi ei gynnal â buddsoddiad. A'r gwir amdani yw, dros y 10 mlynedd diwethaf, fod £1 biliwn wedi'i ysbeilio o'r seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru. Nawr, wrth inni agosáu at y gyllideb ym mis Mawrth, rwy'n addo hyn, Lywydd: byddaf yn gweithio law yn llaw â Llywodraeth y DU i ddarparu gwell seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru os gwnânt yr hyn y maent i fod i'w wneud, sef buddsoddi ynddo'n iawn. Mae'n rhaid rhoi terfyn ar y tanfuddsoddi yn seilwaith rheilffyrdd Cymru, a gall hynny ddigwydd yn y gyllideb ym mis Mawrth. Llefarydd Plaid Cymru, Helen Mary Jones. Helen Mary Jones AC: Diolch yn fawr, Lywydd. Mae'n bleser gennyf annerch y Siambr hon am y tro cyntaf yn fy rôl newydd fel Gweinidog yr wrthblaid dros yr economi, trechu tlodi a thrafnidiaeth. Roedd yn ddiddorol clywed y Gweinidog yn dweud yn ei ymateb i Russell George ei fod yn teimlo bod ein heconomi'n gwneud yn dda a bod yn rhaid i ni dderbyn, oes, fod gennym gyfradd ddiweithdra isel. Ond tybed a fyddai'r Gweinidog yn derbyn bod hynny'n adlewyrchu tangyflogaeth—gyda llawer o bobl mewn swyddi rhan-amser. Mae'n adlewyrchu sefyllfa lle mae llawer o deuluoedd yn gweithio'n galed iawn am gyflogau isel iawn, ac er eu bod yn gyflogedig, prin eu bod yn byw'n dda pan fo traean o'n plant yn byw mewn tlodi. Credaf mai un o'r pethau rwy'n mawr obeithio yn y rôl hon yw y byddwn yn osgoi unrhyw hunanfodlonrwydd ar ran Llywodraeth Cymru, oherwydd er bod pethau efallai'n well nag y byddent heb rai o ymyriadau Llywodraeth Cymru, fel y dywedaf, mae traean o'n plant yn byw mewn tlodi o hyd, ac mae gan y rhan fwyaf o'r plant hynny sy'n byw mewn tlodi rieni sy'n gweithio, weithiau dau riant sy'n gweithio. Hoffwn droi at fuddsoddiad mawr penodol diweddar gan Lywodraeth Cymru. O ystyried maint buddsoddiad a chyfran Llywodraeth Cymru yn Aston Martin, a gaf fi ofyn i'r Gweinidog pa asesiad y mae wedi'i wneud o'r sefyllfa ddiweddar, y sefyllfa sy'n datblygu, mewn perthynas â sefyllfa'r cwmni? Ken Skates AC: Iawn. A gaf fi, yn gyntaf oll, groesawu Helen Mary Jones i'r rôl? Credaf mai chi yw’r trydydd llefarydd ar ran Plaid Cymru i ymgymryd â'r rôl benodol hon yn ystod fy nghyfnod fel Gweinidog yr economi, a gobeithiaf fod hon yn enghraifft o dri chynnig i Gymro, y byddwch yn para tan yn yr etholiad nesaf, ac y cawn lawer o gyfleoedd i drafod yr economi a'r system drafnidiaeth yn ein gwlad. Buaswn yn cytuno, o ran ffigurau cyflogaeth, eu bod yn aml yn cuddio heriau eraill, a bod gennym her o hyd o ran tangyflogaeth ac o ran presenoliaeth, a dyna'n union pam fod y Llywodraeth hon yn benderfynol o fwrw ymlaen â'r agenda gwaith teg. Mewn perthynas ag Aston Martin, Lywydd, mae hwn yn fuddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn falch iawn ohono, a buaswn yn hoff iawn o weld yr Aelod yn croesawu’r buddsoddiad y mae’r Llywodraeth wedi’i wneud yn Aston Martin a’r buddsoddiad y mae’r cwmni’n ei wneud yng Nghymru, gan y byddant yn cyfrannu, dros y 30 mlynedd nesaf, £0.5 biliwn i economi Cymru. Bydd hyn yn arwain at gyflogi 1,000 o bobl yn ne Cymru, a llawer iawn mwy o gyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi. Nawr, wrth gwrs, mae llawer o ddyfalu wedi bod yn ddiweddar ynglŷn â sefyllfa ariannol Aston Martin, yn enwedig gan y bu sïon y gellid cymryd cyfran fawr yn y cwmni. Cawn sicrwydd cyson mai safle Bro Tathan yw dyfodol Aston Martin, mai dyna yw eu prif ffocws ar hyn o bryd ac yn y blynyddoedd i ddod, wrth iddynt ddatblygu'r cyfleuster yn ne Cymru fel cartref trydaneiddio yng Nghymru. Gwyddom hefyd, Lywydd, fod bron i 2,000 uned o'r model newydd, y DBX, eisoes wedi eu harchebu. Mae hynny'n llwyddiant ysgubol i frand moethus mor fuan ar ôl cyhoeddi datblygiad cerbyd SUV o'r math hwn ac mor fuan ar ôl ei gyflwyno. Mae dyfodol y cwmni'n ddisglair iawn yn wir. Byddant yn cyflwyno car newydd bob blwyddyn am y saith mlynedd nesaf, gan gynyddu nid yn unig nifer yr unedau y maent yn eu cynhyrchu, ond eu proffidioldeb hefyd. Helen Mary Jones AC: Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei eiriau caredig ynglŷn â fy mhortffolio newydd ac ynglŷn â'r hyn y mae wedi'i ddweud wrthym am sefyllfa Aston Martin. Ond buaswn yn awgrymu bod rhai cwestiynau angen eu hateb o hyd, a bod rhai pryderon yn codi. Y gwir yw bod gwerthiant Aston Martin wedi gostwng 16 y cant yn gyffredinol rhwng Gorffennaf 2019 a Medi 2019. Mae Llywodraeth Cymru wedi addo £18.8 miliwn, sy'n fuddsoddiad sylweddol iawn, ac wrth gwrs, yn gyfnewid, fel y dywedodd y Gweinidog, mae Aston Martin wedi dweud y byddant yn gwneud safle Sain Tathan yn gartref trydaneiddio. Ond rydym yn gweld adroddiadau bellach y bydd y cwmni'n rhoi'r gorau i ddatblygu'r car trydan blaenllaw, ac mae angen i ni wybod a yw hynny'n wir gan ein bod yn awyddus, rwy'n siŵr, i fuddsoddiad Llywodraeth Cymru gefnogi'r economi werdd. Yn benodol, hoffwn ofyn i'r Gweinidog, yng ngoleuni'r sicrwydd 30 mlynedd a roddwyd gan Lywodraeth Cymru a fydd yn golygu y byddai arian trethdalwyr Cymru yn talu'r rhent ar ran Aston Martin pe baent yn penderfynu gadael ffatri Sain Tathan—a gobeithiaf yn fawr fod y Gweinidog yn iawn ac na fydd hynny byth yn digwydd, ond pe baent yn gwneud hynny—credaf fod angen mwy o dryloywder arnom o ran y trefniadau a'r ymrwymiadau i Aston Martin, yn enwedig y sicrwydd 30 mlynedd. Beth fyddai'r gost i bwrs y wlad pe bai'n rhaid i Aston Martin adael? Ken Skates AC: Mae'n gwestiwn diangen, gan fod dyfodol Aston Martin yn arbennig o ddisglair. Nid wyf wedi clywed unrhyw un o lefarwyr Plaid Cymru yn croesawu’r ffaith bod Aston Martin wedi ymgartrefu yng Nghymru. Roedd hon yn enghraifft o lwyddiant ysgubol i Lywodraeth Cymru. Roedd yn foment hanesyddol pan allasom gyhoeddi'r ffaith bod Aston Martin yn dod i Gymru, gan mai dyma'r tro cyntaf i geir gael eu cynhyrchu yn ein gwlad ers dros 50 mlynedd. Oedd, roedd gwerthiant yn isel, ond roedd costau gweithredu a chostau gwerthu uwch hefyd yn cyfrannu at y gostyngiad mewn elw. Fodd bynnag, gwyddom o ffigurau gwerthiant y DBX fod sefyllfa'r cwmni'n gwella. Ac wrth iddynt gyhoeddi a chyflwyno mwy o fodelau, bydd hynny'n cynyddu nifer y gwerthiannau ymhellach. Helen Mary Jones AC: Wel, rwy'n siomedig, Lywydd, na chlywodd y Gweinidog yr hyn a ddywedais, gan i mi ddweud fy mod yn mawr obeithio y byddai hyn yn llwyddiant, ond rwy'n credu bod yna bryderon. Mae'n rhaid i'r Gweinidog gydnabod bod yna bryderon. Mae Aston Martin o dan faich dyled o $1 biliwn, £138 miliwn yn unig a oedd ganddynt mewn arian parod ddiwedd y llynedd, ac nid yw hynny'n swnio i mi fel cwmni y gallwn fod 100 y cant yn sicr ei fod yn ddiogel. Nawr, buaswn yn awgrymu wrth y Gweinidog fod y math hwn o fuddsoddiad mewn gwirionedd yn adlewyrchu dull hen ffasiwn o benderfynu ble mae angen inni wario ein harian datblygu economaidd. Efallai fod lle i gwmnïau blaenllaw, ond does bosibl na ddylem fod yn rhoi’r lefel hon o fuddsoddiad—fel y mae'r Dirprwy Weinidog wedi'i ddweud yn y gorffennol, nid yw’r dull hen ffasiwn o ddenu cwmnïau rhyngwladol mawr i mewn yn gweithio’n arbennig o dda, a buaswn yn cytuno bod angen i ni ganolbwyntio ein buddsoddiad ar dyfu cwmnïau canolig eu maint, ar edrych ar gyfraniad yr economi sylfaenol a'r economi werdd. Felly, os yw'r Gweinidog mor hyderus fod dyfodol Aston Martin yn ddiogel—a gobeithiaf ei fod yn iawn, gadewch i mi ddweud hynny'n gwbl glir, a phawb arall ar y meinciau hyn—mae'n rhaid i mi bwyso ar y Gweinidog i gyhoeddi ei ohebiaeth ag Aston Martin cyn iddynt lunio'r cytundeb. Rwy'n deall yn iawn y gallai'r sgyrsiau sy'n mynd rhagddynt fod yn fasnachol gyfrinachol, ond ar ôl i'r cytundeb gael ei gwblhau, dylai'r pethau hyn fod yn gyhoeddus fel y gall pob un ohonom graffu ar y lefel hon o fuddsoddiad a sicrhau ei fod mor ddiogel ag y byddai'r Gweinidog am i ni feddwl, ac rwy'n mawr obeithio ei fod. Ken Skates AC: Edrychwch, rydym wedi ei glywed. Ni fyddai Plaid Cymru wedi cefnogi buddsoddiad yn Aston Martin Lagonda. Rydym wedi ei glywed yma. Mae'n glir iawn: ni fyddai Plaid Cymru wedi buddsoddi mewn 1,000 o swyddi mewn cwmni blaenllaw ar gyfer economi Cymru. Credaf ei bod yn bwysig yn awr fod pobl Cymru yn cydnabod mai dyna safbwynt Plaid Cymru. Byddech wedi gwario'r arian yn rhywle arall. Rydym eisoes wedi treblu gwerth cronfa'r economi sylfaenol, cronfa sydd wedi'i chynllunio i hybu arloesedd yn yr economi sylfaenol, ac mae'n swnio'n debyg i mi, yn hytrach na chroesawu—nad wyf wedi'i glywed o hyd—Aston Martin i Gymru, fod yna ddymuniad i'w gweld yn methu. Nawr, y gwir amdani yw bod brand Aston Martin Lagonda wedi bod gyda ni ers sawl degawd. Fe'i hystyrir yn fyd-eang yn un o'r brandiau modurol o'r ansawdd uchaf, ac ymhell o—[Torri ar draws.] Mae'n newyddion da. Mae'n newyddion da, a dylai'r Aelodau yn y Siambr hon ddechrau croesawu'r ffaith bod gennym y ffigurau cyflogaeth uchaf erioed yn y wlad hon, fod gennym y ffigurau diweithdra isaf erioed yn y wlad hon, fod cyfradd cynhyrchiant y wlad hon yn codi'n gyflymach na'r DU, a dylai pobl roi'r gorau i fychanu Cymru. Llefarydd Plaid Brexit, David Rowlands. David J Rowlands AC: Diolch, Lywydd. Wel, a gaf fi ddechrau drwy ddweud bod Plaid Brexit yn dal i'ch llongyfarch ar ddenu cwmni mor eiconig i Gymru, ac y cewch ein cefnogaeth barhaus yn eich gwaith gyda'r cwmni hwnnw? A fyddai'r Gweinidog yn ystyried cefnogi'r defnydd o fentrau cydweithredol i adfywio canol ein trefi a'n strydoedd mawr? Ken Skates AC: Buaswn, yn sicr, ac mae hyn yn rhywbeth y gwn fod y Dirprwy Weinidog yn edrych arno'n frwdfrydig iawn, yn ogystal â fy Nirprwy Weinidog, yn enwedig mewn perthynas â thyfu'r economi sylfaenol—y meysydd o weithgarwch economaidd cyffredin, os mynnwch, sy'n cyfrannu cymaint at gyflogaeth yng Nghymru. David J Rowlands AC: Diolch am eich ymateb, Weinidog. Y rheswm y gofynnais y cwestiwn yw i gydnabod cwmnïau cydweithredol fel sector deinamig, ffyniannus o economi Cymru. Nid yn unig fod llawer o gwmnïau cydweithredol unigol yn gwneud yn dda, mae'r sector yn gyffredinol yn perfformio'n well na mathau eraill o fusnesau. Mae wyth o gwmnïau cydweithredol Cymru ymhlith y 100 uchaf, o ran trosiant, o gwmnïau cydweithredol y DU. Mae gan yr wyth cwmni hynny'n unig drosiant o fwy na £165 miliwn. Gyda dirywiad ein strydoedd mawr a chanol ein trefi, onid yw'n bryd edrych ar hyrwyddo cwmnïau cydweithredol lle ceir bylchau yng nghyfansoddiad manwerthu tref? Mae Plaid Brexit yn credu y dylai Llywodraeth Cymru roi cefnogaeth ariannol a gweinyddol i fentrau o'r fath, ac annog Banc Datblygu Cymru a Busnes Cymru hyd yn oed i roi adrannau penodol ar waith i fynd i'r afael â sefydlu cwmnïau cydweithredol. Gallai fod modd alinio cwmnïau cydweithredol â sefydliadau undebau credyd hefyd. Ken Skates AC: Mae fy Nirprwy Weinidog newydd fy atgoffa ein bod yn ariannu'r academi entrepreneuriaid cymdeithasol. Rydym hefyd yn ariannu Busnes Cymru, wrth gwrs, i ofalu am anghenion busnesau cymdeithasol yng Nghymru. Ac rydym hefyd yn cefnogi Canolfan Cydweithredol Cymru, lle gwneir gwaith gwych i gefnogi mentrau cydweithredol ledled y wlad. Rwy'n credu bod mentrau cydweithredol yn gwbl hanfodol ar gyfer sbarduno twf cynhwysol—twf teg—ar draws pob cymuned yng Nghymru, yn ogystal â chyfrannu at yr agenda bwysig honno rwyf eisoes wedi'i chrybwyll, sef gwaith teg. Cysylltiadau Trafnidiaeth Darren Millar AC: 3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cysylltiadau trafnidiaeth yng Nghymru? OAQ54949 Ken Skates AC: Wel, mae llawer ohonynt, yn cynnwys cytundeb masnachfraint rheilffyrdd gwerth £5 biliwn a channoedd o filiynau o bunnau ar gyfer gwella ffyrdd; yn benodol, £600 miliwn ar gyfer ffyrdd gwell yn rhanbarth yr Aelod yng ngogledd Cymru. Darren Millar AC: Rwy'n ddiolchgar iawn am yr ymateb hwnnw. Un o'r llwybrau allweddol yng Nghymru, wrth gwrs, yw'r llwybr o'r dwyrain i'r gorllewin ar hyd coridor yr A55, sydd, fel rydych eisoes wedi'i ddweud, yn mynd drwy fy etholaeth. Nawr, rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud rhywfaint o ymdrech i fuddsoddi mewn rhai o'r mannau cyfyng ar hyd y ffordd honno. Ond a fyddech yn cytuno â mi ei bod yn bryd inni wella'r A55 yn sylweddol, fel y gallwn ei chodi i statws traffordd, lle mae'n cael y buddsoddiad sylweddol sydd ei angen er mwyn ymdopi â'r gofynion a roddir arni? Fel y brif ffordd i mewn ac allan o ogledd Cymru, mae'n hollbwysig i'r rhanbarth, ac mae angen inni wneud yn siŵr ein bod yn mynd i'r afael â'r tagfeydd sy'n digwydd yn rheolaidd yno mewn ffordd lawer mwy sylweddol nag rydym wedi'i wneud hyd yma. Ken Skates AC: A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Mae'n rhoi cyfle i mi roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddo ef ac i eraill ynglŷn â faint rydym yn ei wario ar welliannau a mannau cyfyng ar y ffyrdd yng ngogledd Cymru. Mae ein rhestr o welliannau yn £600 miliwn, ac mae'n ymestyn o ben gorllewinol gogledd Cymru, yr holl ffordd ar draws at y ffin â Lloegr—rhaglenni gwaith pwysig iawn ar yr A55 a fydd yn gwella trafnidiaeth drawsffiniol a thrawsgymunedol, gan ddefnyddio prif ffordd gogledd Cymru. Ond mae'n rhaid dweud nad yw'n ymwneud â ffyrdd yn unig, mae rheilffyrdd yn hanfodol bwysig hefyd ar gyfer teithio rhwng y dwyrain a'r gorllewin. Dyna pam rwy'n obeithiol y bydd Llywodraeth y DU, yn y gyllideb, yn gwneud taliad o £215 miliwn, sef, yn fras, y swm y byddem wedi disgwyl ei weld yn cael ei wario yng ngogledd Cymru pe bai Llywodraeth y DU wedi darparu'r un faint o fuddsoddiad y pen i'r rhanbarth ag y gwnaeth i rannau eraill o Loegr. David Rees AC: Weinidog, mae rhwydweithiau trafnidiaeth yn fwy effeithiol pan fyddant yn cyfuno dulliau o deithio—bysiau sy'n cysylltu â gorsafoedd rheilffordd a chysylltiadau rheilffordd. Fel y dywedodd y Dirprwy Weinidog mewn ymateb i gwestiwn cynharach, mae'r dull hwnnw'n caniatáu inni fod yn fwy effeithiol yn ein system drafnidiaeth. Fodd bynnag, pan nad oes bysiau'n mynd, mae gennym broblemau wrth roi'r cyfuniad hwnnw at ei gilydd. Rydym yn gweld llawer o broblemau gyda bysiau. Gwn y bydd Bil ar wella bysiau yn cael ei gyflwyno drwy Lywodraeth Cymru, ond os na fydd y bysiau yno ymhen blwyddyn neu ymhen dwy flynedd, pan fydd gan awdurdodau lleol allu i'w rheoleiddio, bydd gennym broblem enfawr, oherwydd bydd y bobl hynny ar eu colled. Beth allwch chi ei wneud yn awr i sicrhau bod gwasanaethau bysiau'n gweithio i bobl, yn y Cymoedd, yng nghwm Afan, ac ar draws llawer o gymunedau eraill? Rydym yn gweld gwasanaethau bysiau'n cael eu torri oherwydd bod y gweithredwr yn gweld cyfleoedd masnachol yn diflannu. Maent yn gweld nad yw'n fasnachol hyfyw mwyach. Nawr, os ydym eisiau i'r bobl hynny weithio o gwmpas yr ardal a gallu cael mynediad at swyddi oherwydd eu bod yn defnyddio cyfuniad o rwydweithiau, yr un sylfaenol yw'r bws. A wnewch chi sicrhau bod gennym wasanaethau bysiau, os gwelwch yn dda? Ken Skates AC: Tri pheth sydd gennyf i'w ddweud mewn ymateb i gwestiwn Dai Rees. Yn gyntaf oll, rydych yn iawn: bydd y Bil yn cyflawni llawer o ran darparu amrywiaeth o arfau i awdurdodau lleol y cawsant eu hamddifadu ohonynt ers sawl degawd. Ond ni fydd y Bil ar ei ben ei hun yn datrys y problemau sy'n ein hwynebu mewn perthynas â gwasanaethau bysiau ledled Cymru. Mae'r grant cynnal gwasanaethau bysiau yn hanfodol bwysig. Rydym wedi gallu ei gynnal drwy gyfnod hir o gyni ar £25 miliwn y flwyddyn, ond mae angen i mi wneud datganiad clir iawn ynghylch parhad y grant cynnal gwasanaethau bysiau. Disgwylir y bydd yr arian hwn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i awdurdodau lleol yn ychwanegol at, nid yn lle, cyllid yr awdurdodau lleol eu hunain. Mae'n gwbl hanfodol fod awdurdodau lleol, hyd yn oed yn ystod y cyfnod hwn o gyni, yn gallu gwneud cyfraniadau i wasanaethau bysiau lleol.Ac mae'r trydydd pwynt rwyf am ei wneud, Lywydd, yn ymwneud â'r ddeddfwriaeth sy'n cael ei datblygu gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, ac yn benodol, gallu awdurdodau lleol i gynllunio ymyriadau trafnidiaeth, a gwasanaethau bysiau yn benodol, ar sail ranbarthol. Bydd sefydlu cyd-bwyllgorau corfforaethol yn amhrisiadwy yn hyn o beth. John Griffiths AC: Weinidog, fel y gwyddoch, mae llawer iawn o rwystredigaeth a diffyg amynedd ynghylch y ffaith nad yw'r cyswllt rheilffordd i deithwyr rhwng Casnewydd a Glynebwy wedi'i sefydlu eto. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni heddiw am y gwaith sydd angen ei wneud i sefydlu'r cysylltiad hwnnw? Ken Skates AC: Wrth gwrs. Fel y gŵyr yr Aelod, mae Trafnidiaeth Cymru wedi cynnal astudiaeth achos busnes amlinellol o linell Glynebwy ar ran Llywodraeth Cymru, ac rydym yn awr yn adolygu eu canfyddiadau er mwyn nodi'r camau nesaf. Gallaf gadarnhau hefyd fod yr achos busnes amlinellol wedi amcangyfrif cyfanswm y gost gyfalaf i redeg pedwar trên yr awr ar linell Glynebwy. Mae'n bwysig nodi mai Network Rail sy'n berchen ar y llwybr hwn ac yn ei gynnal ac o'r herwydd, mae'n atebol i'r Adran Drafnidiaeth. Felly, bydd y gallu i gyflawni unrhyw welliannau i'r seilwaith dros y blynyddoedd nesaf yn dibynnu'n llwyr ar gymorth llawn gan Lywodraeth y DU. Byddaf yn gwneud cyhoeddiad arall ar gyfleoedd yn y dyfodol i wella gwasanaethau cyn bo hir, Lywydd. Cwestiwn 4, Gareth Bennett. Gareth Bennett AC: Diolch, Lywydd. Weinidog, cafwyd rhywfaint o drafodaeth yn y Siambr ddoe am y cynnig— A wnewch chi ofyn y cwestiwn ar y papur trefn? Cwestiwn 4. Gareth Bennett AC: Mae'n ddrwg gennyf. Ymddiheuriadau. Trafnidiaeth Gyhoeddus Gareth Bennett AC: 4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghanol De Cymru? OAQ54944 Ken Skates AC: Diolch. Rydym yn parhau i weithio gyda Thrafnidiaeth Cymru a chydag awdurdodau lleol i weddnewid ein rhwydwaith trafnidiaeth, nid yn unig yng Nghanol De Cymru, ond ledled Cymru gyfan, fel y gall fod yn gwbl gynaliadwy ac yn addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Gareth Bennett AC: Ie, diolch am yr ateb. Roeddwn yn ceisio dweud, cafwyd rhywfaint o drafodaeth ddoe ynglŷn â'r tâl tagfeydd arfaethedig—y byddwch yn helpu i lunio'r adroddiad gyda chyngor sir Caerdydd, ac mae hynny'n newyddion da, y bydd rhywfaint o gyswllt ystyrlon, gobeithio, rhyngoch. Nawr, a gaf fi godi un o'r nifer o faterion y mae'n bosibl y bydd angen i chi eu hystyried? Mae'n gysylltiedig â rhywbeth y mae cwpl o Aelodau o'ch plaid eich hun yn y Cymoedd wedi'i godi yn ddiweddar, sef pobl na allant gyrraedd Caerdydd mewn pryd ar gyfer gwaith oherwydd problemau'n ymwneud â gwasanaethau hwyr neu newidiadau i wasanaethau, ac maent weithiau'n wynebu gweithdrefnau disgyblaeth yn eu gweithle. Mae hyn yn ymddangos ar ei hôl hi braidd, mewn llawer o swyddfeydd, gellir cofnodi a monitro allbwn. Nid wyf yn gweld yr angen, ym mhob achos, i bobl fod yn y gwaith am 9 o'r gloch. Tybed a oes unrhyw gyfle i gymell cwmnïau yng Nghaerdydd i ganiatáu gweithio mwy hyblyg, a allai, o bosibl, edrych ar y broblem o safbwynt y galw, a lleihau'r galw am drafnidiaeth yn ystod oriau brig i mewn i Gaerdydd. Ken Skates AC: Mae'r Aelod yn swnio fel rhywun sy'n cefnogi'r agenda gwaith teg mewn gwirionedd. Yr hyn rydym yn ei wneud drwy'r contract economaidd yw annog cyflogwyr i ymddwyn yn fwy cyfrifol, nid yn unig ar gyfer yr amgylchedd ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, ond ar gyfer eu gweithlu presennol. O ganlyniad i'r contract economaidd, rydym yn disgwyl i fusnesau allu dangos sut y maent yn gwella llesiant ac iechyd meddwl eu gweithwyr, ac rydym eisoes yn canfod bod yr ymyrraeth benodol hon yn cymell busnesau i gymhwyso'r math hynny o strwythurau gweithio hyblyg y mae'r Aelod wedi'u hamlinellu. Mae'r Aelod hefyd yn sôn am y gwaith y bydd Llywodraeth Cymru yn ei gomisiynu mewn perthynas â dyfodol rheoli ffyrdd a rheoli galw. Rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol fod gwaith yn cael ei wneud oherwydd bydd gan Lywodraeth y DU gwestiwn mawr iawn i ymgodymu ag ef yn y blynyddoedd sydd i ddod, sef beth y maent yn bwriadu ei wneud gyda threth car a threth tanwydd. Bydd y newid i gerbydau allyriadau isel iawn yn golygu y bydd y dreth bosibl a gymerir o ran treth car a threth tanwydd yn gostwng yn ddramatig. Ar hyn o bryd, mae oddeutu £35 biliwn y flwyddyn. Mae hynny rhwng 4 y cant a 5 y cant o refeniw i Drysorlys y DU. Os yw'r newid i geir trydan yn digwydd yn gyflymach wrth inni symud tuag at ddiwedd y degawd fel rydym yn disgwyl iddo ei wneud, bydd y refeniw hwnnw'n gostwng yn ddramatig, a bydd yn rhaid i Lywodraeth y DU wneud rhywbeth er mwyn mynd i'r afael â hynny. Dyna pam rwy'n awyddus iawn i sicrhau bod ein gwaith yn cydweddu ag unrhyw waith a wneir gan Drysorlys y DU neu'r Adran Drafnidiaeth. Vikki Howells AC: Yn amlwg, gyda'r argyfwng hinsawdd sy'n ein hwynebu, rydym i gyd yn deall yr angen i ddatgarboneiddio ein teithio ar frys. Mae'r papur gwyn y mae Cyngor Caerdydd wedi'i gynhyrchu, sy'n edrych ar deithio o amgylch y ddinas, yn amlwg yn rhan o'r agenda honno. Ond hoffwn gysylltu fy hun â rhai o'r sylwadau a godwyd gan rai o fy nghyd-Aelodau Llafur eraill ar y meinciau cefn o Gymoedd de Cymru. Fy mhryder i yw na all hon, os aiff rhagddi, fod yn dreth ar rai o'r cymunedau mwyaf heriol o amgylch Caerdydd lle nad yw trafnidiaeth gyhoeddus, ar hyn o bryd, yn effeithiol o ran cael pobl i mewn i'r ddinas ac i'w gweithle. Hyd yn oed pan fydd y metro wedi'i sefydlu ac yn weithredol, Weinidog, rwy'n pryderu bod yr ystadegau'n dangos y bydd nifer fawr o bobl yn dal i ddefnyddio'u ceir i fynd i mewn i'r ddinas—oni bai, wrth gwrs, ein bod yn gallu datrys problem teithio ar fysiau. Felly, hoffwn wybod eich barn, yn benodol, am y cyfeiriad yn y papur gwyn at y prosiect bysiau cyflym rhanbarthol a sut y gallai teithio ar fws fod yn rhan hanfodol o'r agenda hon. Ken Skates AC: A gaf fi ddiolch i Vikki am ei chwestiwn? Cytunaf yn llwyr, o ran y cynigion sydd wedi'u gwneud, ei bod yn gwbl hanfodol fod angen inni archwilio ac ystyried yr holl faterion cydraddoldeb a thegwch yn fanwl, nid yn unig o ran sut y gallai tâl atal tagfeydd fod yn berthnasol, ond hefyd sut y gellir gwario unrhyw refeniw a godir ohono. O ran y weledigaeth o well gwasanaethau bysiau, nid yn unig o fewn y ddinas, ond hefyd yn y rhanbarth, rwy'n croesawu'n gynnes y weledigaeth gref, feiddgar y mae'r cyngor wedi gallu ei darparu. Andrew RT Davies AC: Yn amlwg, mae gan y Llywodraeth amryw o ysgogiadau y gall eu defnyddio ym maes trafnidiaeth gyhoeddus a modelau trafnidiaeth y gall eu cefnogi. Buaswn yn awgrymu bod cyswllt awyr Ynys Môn, yn amlwg, yn un model o drafnidiaeth gyhoeddus sy'n cael ei gefnogi gan y Llywodraeth, ac mae'n rhaid i mi ddweud, mae'r gwasanaeth wedi gwella'n ddramatig dros y 12 i 18 mis diwethaf, ac mae nifer fawr wedi manteisio ar y llwybr hwn. Yn ei chyfweliad ar Sharp End, nododd Ysgrifennydd yr amgylchedd mewn gwirionedd fod hwn yn faes gwariant cyhoeddus y dylai'r Llywodraeth ei ailystyried oherwydd y datganiad argyfwng hinsawdd. A yw hwnnw'n un o bolisïau’r Llywodraeth, ailystyried y cymhorthdal y mae'n ei ddarparu ar gyfer y llwybr hedfan hwnnw, o gofio'r sylwadau a wnaeth Ysgrifennydd yr amgylchedd ar Sharp End ddydd Llun? Ken Skates AC: Yng ngoleuni'r ffaith ein bod wedi datgan argyfwng hinsawdd, wrth gwrs, mewn blynyddoedd i ddod, pan fyddwn yn ystyried a ddylid parhau â'r gwasanaeth hwn, byddwn yn rhoi mwy o sylw i'r allyriadau a achosir o ganlyniad i weithredu'r gwasanaeth. Ond yn y cyfamser, rwy'n falch fod yr Aelod wedi cydnabod gwelliannau yn y gwasanaeth hwnnw. Mae'n darparu gwasanaeth gwerthfawr i lawer o bobl yng Nghymru, ond yn union fel rydym yn ei wneud gyda phob math arall o gymorth trafnidiaeth drwy strategaeth drafnidiaeth Cymru, heb amheuaeth byddwn yn edrych ar drafnidiaeth carbon isel fel maes blaenoriaeth i fuddsoddiad Llywodraeth Cymru. Leanne Wood AC: Rwyf am ddychwelyd at y bysiau, sy'n ffordd hollbwysig o deithio mewn ardaloedd fel y Rhondda Fach sydd heb unrhyw orsaf drenau ac sydd â ffordd osgoi sy'n dod i ben hanner ffordd i fyny'r cwm. Ni fyddai hyn mor ddrwg, wrth gwrs, pe bai'r gwasanaeth bws yn wych, ond nid dyna'r sefyllfa. Yn wir, credaf ei bod yn deg dweud, ar brydiau, ei fod yn druenus. Gall y llwybrau i Gaerdydd gymryd dwy awr, gan fod y rhan fwyaf o deithiau—gydag ambell eithriad—yn gallu aros mewn bron i 100 safle bws ar hyd y ffordd. Mae noson allan yng Nghaerdydd yn amhosibl i unrhyw un sy'n byw yn y Rhondda Fach os ydynt yn dibynnu ar drafnidiaeth cyhoeddus. Felly, yn ddealladwy, mae pobl yn teimlo eu bod wedi'u datgysylltu'n llwyr, ac maent yn haeddu gwell. A allwch chi ddarparu rhagor o wybodaeth am y ffordd y mae'r Llywodraeth yn bwriadu gwella trafnidiaeth bysiau ar gyfer lleoedd fel y Rhondda Fach, a'r Rhondda yn fwy cyffredinol yn wir? A ydych yn hyderus mai'r system arfaethedig ar ffurf system fysiau Llundain, sy'n ceisio annog gweithredwyr i wneud cais am y gwaith o ddarparu gwasanaethau, yw'r ateb i'r problemau hyn? Ken Skates AC: A gaf fi ddiolch i Leanne Wood am ei chwestiwn? Rwy'n rhannu ei phryderon ynghylch diffyg cyfleoedd i lawer o bobl mewn llawer o ardaloedd anghysbell allu cyrraedd y gwaith a gwasanaethau, oherwydd diffyg gwasanaethau bws neu oherwydd eu bod yn rhy ddrud i bobl eu defnyddio. Mae'n wir y bydd y Bil bysiau yn gwneud gwahaniaeth sylweddol drwy roi mwy o bŵer i awdurdodau lleol fel eu bod yn gallu ymyrryd, a gweithredu gwasanaethau eu hunain yn wir. Bydd yn sicrhau bod y prif gymhelliad ar gyfer gweithredu gwasanaethau bws yng Nghymru yn newid o wneud elw i fodloni disgwyliadau teithwyr. Rwy'n hyderus y bydd y Bil yn cyfrannu'n fawr at y gwaith o wella gwasanaethau bysiau lleol yng Nghymru. Yn ogystal â hynny, fel y dywedais mewn ymateb i Dai Rees, mae'n gwbl hanfodol ein bod yn cynllunio gwasanaethau'n fwy rhanbarthol fel y gallwn gael pobl o Rondda Fach i Gaerdydd yn gyflymach a chyda gwasanaethau mwy dibynadwy, a hefyd, ein bod yn sicrhau bod y gyfundrefn gymorthdaliadau yn y dyfodol yn ychwanegol at gyllid ac nid yn disodli cyllid. Mark Reckless AC: Oni ddylai Gweinidog yr economi fod wedi bod yn gliriach yn ei lythyr at arweinydd ei blaid yng Nghyngor Caerdydd ei bod yn gwbl annerbyniol, wrth geisio codi arian ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus, i dâl gael ei strwythuro yn y fath fodd fel na chaiff ond ei dalu gan bobl o'r tu allan i ardal ei gyngor, tra bod pawb o fewn yr ardal wedi'u heithrio'n llwyr? Ken Skates AC: Rwy'n credu fy mod wedi dweud yn glir iawn, nid yn unig yn y llythyr ond hefyd yn fy atebion heddiw, fod unrhyw gynnig o'r fath—ac ar hyn o bryd, syniad yn unig ydyw—yn cael ei gymhwyso mewn ffordd deg; nad yw cynnig fel hwn yn arwain at gymunedau'n teimlo'n eu bod yn cael eu gosod yn erbyn ei gilydd, fod eu buddiannau'n cael eu blaenoriaethu'n is neu'n uwch na buddiannau cymuned arall; fod pawb yn teimlo eu bod yn elwa o gyfundrefn o'r math hwn; a bod pawb yn cyfrannu'n gyfartal tuag ati. Dywedais yn fy llythyr at arweinydd y cyngor fy mod yn awyddus iawn i weithio gyda'r awdurdod lleol a chydag awdurdodau'r rhanbarth i archwilio'r mecanweithiau y gallwn eu defnyddio i ddiwallu anghenion y cyhoedd sy'n teithio, ond hefyd i wneud yn siŵr ein bod yn ymateb yn ddigonol ac yn briodol i'r argyfwng hinsawdd. Ac mae hynny'n golygu bod angen inni ysbrydoli newid moddol yn well, nid yn unig yn y rhanbarth hwn, ond ledled Cymru. Tagfeydd Traffig Mike Hedges AC: 5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i leihau tagfeydd traffig rhwng cyffordd 44 a chyffordd 46 o'r M4? OAQ54936 Ken Skates AC: Gwnaf. Yn ogystal ag ystyried gwella cysylltedd ar draws y rhanbarth, mae astudiaeth cam 1 Llywodraeth Cymru o ganllawiau arfarnu trafnidiaeth wedi nodi opsiynau gwella rhwng cyffyrdd 43 a 47 ar yr M4. Caiff atebion eu datblygu drwy astudiaeth cam 2, gyda'r nod o fynd i'r afael â thagfeydd, diogelwch, amseroedd teithio gwael ac ansawdd aer gwael hefyd. Mike Hedges AC: Pan fo problemau traffig ar yr M4 yn cael eu trafod, mae problemau tagfeydd traffig yn ystod cyfnodau brig rhwng cyffyrdd 44 a 46 yn tueddu i gael eu hanwybyddu, ond nid gan y rhai ohonom sy'n teithio ar hyd y ffyrdd hynny. Mae'r rhesymau dros dagfeydd traffig yn cynnwys cerbydau sy'n newid lonydd a cherbydau sy'n cyrraedd ac yn gadael y draffordd—yr un pethau ag sy'n achosi tagfeydd traffig ym mhobman arall ar yr M4. Rwy'n galw am arwyddion ar yr M4 i gyfeirio traffig sy'n mynd i'r ardal fenter i ddefnyddio cyffordd 45 yn hytrach na chyffordd 46, gan fod cyffordd 45 yn gyffordd uwchraddol ac mae ganddi'r fantais, drwy wneud hynny, nad oes rhaid i draffig arafu ar y draffordd er mwyn ymuno â'r gylchfan. Ken Skates AC: A gaf fi ddiolch i Mike Hedges am ei awgrym? Byddaf yn sicr yn trosglwyddo'r awgrym am arwyddion gwell ar gyffordd 45 i swyddogion. Fel rwyf eisoes wedi'i ddweud, bydd astudiaeth cam 2 Llywodraeth Cymru ar ganllawiau arfarnu trafnidiaeth rhwng cyffyrdd 43 a 47 yn penderfynu beth yw'r atebion gorau i fynd i'r afael â thagfeydd, diogelwch ac amseroedd teithio gwael. Yn amlwg, os tybir, am resymau diogelwch neu amseroedd teithio gwell, y dylid gosod arwyddion gwell lle mae'r Aelod wedi awgrymu, byddwn yn ymateb yn gadarnhaol. Buddsoddi Economaidd Rhianon Passmore AC: 6. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith buddsoddi economaidd yn Islwyn ers 2016? OAQ54939 Ken Skates AC: Rydym yn parhau i roi cymorth i nifer o fusnesau yn etholaeth Islwyn, wedi'i gefnogi gan lansiad ein cynllun gweithredu economaidd. Rydym yn parhau i helpu busnesau Cymru i ddechrau, tyfu a ffynnu drwy Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru ochr yn ochr â sefydlu swyddfa ranbarthol benodol. Rhianon Passmore AC: Weinidog, diolch i ymyriadau Llywodraeth Cymru rhwng 2011 a 2016, mae nifer y bobl sydd mewn gwaith yn fy etholaeth i, sef Islwyn, wedi cynyddu 10.9 y cant, ac mae hynny'n uwch na chynnydd Cymru o 10.6 y cant.Yn ogystal â hyn, mae nifer y bobl ddi-waith yn Islwyn dros y cyfnod hwnnw wedi mwy na haneru, sydd unwaith eto yn fwy na'r gostyngiad a welwyd yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig. A fyddai'r Gweinidog yn cytuno â mi, er mwyn adeiladu ar y perfformiad economaidd pwysig hwn, fod buddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth o ansawdd uchel yn hanfodol er mwyn parhau i ddenu mewnfuddsoddiad cryf a chynorthwyo mwy o bobl i gael swyddi sgiliau uchel o ansawdd da, fel yng Nglynebwy ac mewn cymunedau cyfagos? A fyddai felly'n rhoi amlinelliad o fuddsoddiadau metro arfaethedig ar reilffordd Rhymni, sydd hefyd yn gwasanaethu etholwyr Islwyn, dros y pum mlynedd nesaf? Ken Skates AC: Wel, a gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn? Mae'r Aelod yn llygad ei lle—mae perfformiad yr economi leol yn Islwyn yn rhywbeth i'w ddathlu. Soniodd Aelod yn gynharach fod enillion wythnosol yn destun pryder yng Nghymru. Wel, rwy'n falch o ddweud, o ganlyniad i'n gwaith caled, mae enillion wythnosol gros amser llawnyn Islwyn oddeutu £598 ar gyfartaledd. Mae hynny'n sylweddol uwch na chyfartaledd Cymru a chyfartaledd y DU. Mae'n rhywbeth y mae'r Aelod, rwy'n siŵr, yn falch iawn ohono. Ond mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig fod yn rhaid i ni fuddsoddi mewn seilwaith cysylltiol er mwyn sbarduno twf economaidd parhaus sy'n deg i bob cymuned, a dyna pam ein bod yn buddsoddi £738 miliwn i uwchraddio'r rheilffyrdd i Aberdâr, Coryton, Merthyr Tudful, Treherbert a Rhymni wrth gwrs. Rydym yn buddsoddi £800 miliwn mewn cerbydau newydd erbyn 2023, ac rydym yn trydaneiddio oddeutu 170 km o drac. Rydym yn uwchraddio ein holl orsafoedd a signalau, ac yn adeiladu o leiaf bum gorsaf newydd ar gyfer y metro. Amserlenni Tren Rhun ap Iorwerth AC: 7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith y newid diweddar yn yr amserlenni tren ar orsafoedd llai? OAQ54951 Ken Skates AC: Newidiadau amserlen mis Rhagfyr oedd y newid mwyaf i wasanaethau ers dros dri degawd. Mae hyn wedi bod o fudd i rai defnyddwyr rheilffyrdd, tra bo gwasanaethau eraill, yn anffodus, wedi cael eu heffeithio. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ceisio cyflwyno mesurau amgen lle effeithiwyd ar wasanaethau, ac maent yn adolygu posibiliadau pellach ar gyfer diwygio'r amserlen fel rhan o newidiadau amserlen mis Mai. Rhun ap Iorwerth AC: Mae hwn yn achos o gwestiwn yn cael ei ateb cyn i mi gael ei ofyn o ar lafar, ond mae yna faterion pwysig sydd yn dal angen eu trafod. Mi wnaeth nifer o etholwyr gysylltu efo fi yn dilyn newidiadau amserlenni yn siomedig bod gwasanaethau i orsafoedd llai Môn—Fali, Rhosneigr, Tŷ Croes, Bodorgan a Llanfairpwll—wedi cael eu lleihau. Oes, mae eisiau gwasanaethau cyflym, ond mae angen gwasanaethu ein cymunedau ni hefyd. Dwi yn falch bod Trafnidiaeth Cymru wedi dod yn ôl ataf i rŵan, ers i mi gyflwyno'r cwestiwn yma, i ddweud bod yna newidiadau wedi cael eu gwneud i amserlenni sydd yn bodloni nifer o'r cwynion a gafodd eu gwneud. Wedi dweud hynny, mae yna sawl bryder o hyd ynglŷn ag argaeledd trenau i orsafoedd llai ar ddiwedd y diwrnod ysgol ac yn y blaen. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyfaddef i mi, 'Na, wnaethon ni ddim efallai ymgynghori digon efo'r cymunedau wrth wneud y penderfyniadau', a dwi'n meddwl bod y pryderon eraill yma ynglŷn â threnau diwedd y dydd yn enghraifft arall o rywbeth fyddai wedi cael ei fflagio i fyny pe bai ymgynghori iawn wedi cael ei wneud. Ydy'r Gweinidog yn cytuno efo fi bod yn rhaid cael ymrwymiad i ymgynghori yn ofalus iawn efo cymunedau ynglŷn â sut mae newidiadau arfaethedig yn mynd i effeithio arnyn nhw? Ken Skates AC: Ydw, rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod, ac mae ymgynghori priodol yn rhywbeth rwyf wedi'i godi gyda Trafnidiaeth Cymru wrth inni nesáu at newidiadau amserlen mis Mai. Rwy'n credu ei bod yn hanfodol fod grwpiau rhanddeiliaid, a chymunedau, yn cael eu hysbysu ymhell cyn y newidiadau arfaethedig fel y gallant gyfrannu rhywfaint o fewnbwn i weld a yw'r newidiadau hynny'n fuddiol ai peidio. Ceir rhwymedigaeth gytundebol, wrth gwrs, i sicrhau nad yw gorsafoedd yn cael llai o wasanaethau nag a oedd ganddynt pan gafodd y fasnachfraint ei gosod, ac mae'n rhaid cynnal y rhwymedigaeth honno, a dyna'r rheswm pam fod Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn gweithio i bennu gwasanaethau amgen hyd at fis Mai, pan eir i'r afael â'r gwasanaethau a dynnwyd yn ôl o rai o'r gorsafoedd llai o faint. Ac, yn olaf, cwestiwn 8—Neil Hamilton. Achosion a Darfu ar Reilffyrdd Neil Hamilton AC: 8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Trafnidiaeth Cymru yn ymateb i unrhyw achosion o darfu ar reilffyrdd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ54967 Ken Skates AC: Ie. Mae'r ffordd y mae Trafnidiaeth Cymru yn ymateb i darfu yn dibynnu ar nifer o ffactorau, fel yr amser, y lleoliad a'r adnoddau sydd ar gael lle mae'n digwydd. Bydd Trafnidiaeth Cymru bob amser yn ceisio gweithredu gwasanaethau lle bo hynny'n bosibl, gan ddefnyddiocanslo os oes angen i adfer y gwasanaeth ac i osgoi tarfu pellach yn ddiweddarach yn y dydd. Neil Hamilton AC: Diolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw. Hoffwn godi achos etholaeth y gallai fod wedi'i weld. Roedd un o fy etholwyr yn teithio ar drên o Birmingham i Aberystwyth, a bu'n rhaid iddo fynd allan yn Amwythig oherwydd un methiant ar y rheilffordd o Amwythig i'r Trallwng, ond collodd y bws a ddarparwyd yn lle'r gwasanaeth y cysylltiad trên yn y Trallwng ac felly bu'n rhaid iddo barhau'r daith gyfan i Aberystwyth, tair awr o hyd, ar fws, ond roedd yn fws deulawr gyda lle i gant o bobl a dim mynediad i gadeiriau olwyn, ac i mi, nid yw'n ymddangos ei fod yn gerbyd addas ar gyfer gwasanaeth yn lle trên am gymaint o amser ar ffyrdd o'r fath. Felly, tybed a allai'r Gweinidog ddweud wrthyf faint o'r hen fysiau a'r bysiau anaddas hyn y mae Trafnidiaeth Cymru yn eu gweithredu neu'n eu contractio gyda chwmnïau allanol a pha gynlluniau sydd ar y gweill i'w dileu'n raddol a chyflwyno cerbydau mwy addas yn eu lle. Ken Skates AC: A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Rwy'n ymwybodol o'r achos, ac rwy'n credu bod yr etholwr dan sylw wedi derbyn ymddiheuriad. Yn amlwg, ar yr achlysur hwnnw, roedd yn fethiant signal. Nid Trafnidiaeth Cymru sy'n gyfrifol am hynny; cyfrifoldeb Network Rail ydyw. Ond mae'r Aelod yn iawn nad yw gwasanaethau bysiau yn lle trenaubob amser yr hyn y dylai teithwyr ei ddisgwyl—nid ydynt yn cyrraedd y safon y dylent allu ei disgwyl. Am y rheswm hwnnw, rwyf wedi gofyn i Trafnidiaeth Cymru archwilio'r posibilrwydd, pan fyddant yn gallu dod allan o'r contract a drefnwyd gan eu rhagflaenydd, Trenau Arriva Cymru, i sefydlu fflyd o fysiau ar gyfer gwasanaethauamgen, gan fy mod yn credu ei bod yn gwbl hanfodol fod teithwyr yn gwybod, os darperir gwasanaeth bws amgen, y bydd yn eu cludo yn y ffordd y dylai gwasanaeth trên fod wedi eu cludo, ac mewn modd amserol. Diolch i'r Gweinidog. 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit heddiw. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Joyce Watson. Cyllid Buddsoddi Rhanbarthol Joyce Watson AC: 1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cyllid buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit? OAQ54960 Russell George AC: 4. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch y gronfa ffyniant gyffredin? OAQ54935 Rhun ap Iorwerth AC: 5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y trafodaethau mae'n eu cael gyda Llywodraeth y DU am y gronfa ffyniant gyffredin? OAQ54940 Jeremy Miles AC: Lywydd, rwy'n deall eich bod wedi rhoi caniatâd i gwestiynau 1, 4 a 5 gael eu grwpio. Cefais gyfarfod ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar 9 Ionawr ac ailadroddais safbwynt Llywodraeth Cymru, fel gwneuthum wrth Weinidogion eraill Llywodraeth y DU, sef 'Heb golli'r un geiniog, heb golli'r un grym' mewn perthynas â'r arian a ddaw yn lle arian yr UE yng Nghymru. Joyce Watson AC: Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog, ond credaf mai'r ddau gwestiwn mawr ynglŷn â chronfa ffyniant gyffredin y DU yw: a fydd yn darparu yr un faint o arian ag y mae Cymru'n ei gael gan Ewrop ar hyn o bryd, ac fel yr addawyd gan gefnogwyr Brexit?' ac 'a fydd wedi'i ddatganoli?' A yw Llywodraeth y DU wedi gweld yn dda i rannu ei chynlluniau â Chymru eto, neu, o ran hynny, yr Alban neu Ogledd Iwerddon? Jeremy Miles AC: Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn pellach hwnnw. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i roi'r un faint o arian ag a gollir i Gymru drwy gronfeydd strwythurol Ewropeaidd. Rydym wedi gofyn faint ydyw ac iddo ddod drwy addasiad i'r grant bloc fel bod gwariant yr arian hwnnw, cant y cant o'r arian hwnnw, yn unol â'r setliad datganoli ac yn galluogi Llywodraeth Cymru, fel y mae'n ei wneud heddiw, i ddefnyddio'r cyllid hwnnw yng Nghymru er budd gorau pobl Cymru ac i wneud hynny mewn ffordd lle gall integreiddio â'r ffynonellau eraill o gyllid rhanbarthol ledled Cymru. Russell George AC: Weinidog, gofynnais gwestiwn i'ch cyd-Aelod, y Prif Weinidog, rai wythnosau'n ôl ynglŷn â'r gronfa ffyniant gyffredin, a rhoddodd y Prif Weinidog ateb eithaf cadarnhaol i mi. Ond wrth lunio cynllun newydd, a allwch roi rhywfaint o wybodaeth i ni ynglŷn â sut y bydd y cynllun newydd hwnnw'n mynd i'r afael â meysydd nad ydynt wedi llwyddo, yn y gorffennol, i sicrhau cyllid drwy gronfeydd strwythurol yr UE? Jeremy Miles AC: Wel, bydd yr Aelod yn gwybod bod cronfeydd strwythurol yr UE wedi'u cynllunio i ymdrin ag anghydraddoldebau incwm ac yn y blaen mewn rhannau penodol o Gymru sy'n gymwys ar gyfer gwario'r arian hwnnw. Wrth gynllunio cronfeydd yn lle'r rheini, mater i Lywodraeth Cymru yw bwrw'r rhwyd yn ehangach yn ddaearyddol yng Nghymru. Rydym wedi ystyried y cyfle hwnnw ac wedi gweithio, fel rhan o'r gwaith y bu grŵp llywio Huw Irranca-Davies yn gweithio arno, wel, mae hyn wedi bod yn un o'r materion sy'n codi. Rydym yn awyddus i sicrhau bod cyfle i bob cymuned mewn gwahanol rannau o Gymru fanteisio ar y cronfeydd hynny, ac mae'r blaenoriaethau rydym wedi'u pennu ar gyfer ariannu rhanbarthol yn ymwneud â chymunedau iach a thecach, anghydraddoldebau incwm, busnesau cynhyrchiol a Chymru ddi-garbon, sy'n faterion y byddai pob rhan o Gymru, rwy'n credu, yn eu hystyried yn flaenoriaethau, ac yn wir, yn gyfleoedd i elwa o gyllid dilynol. Gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn cymryd y camau rydym yn galw arnynt i'w gwneud, er mwyn sicrhau y gellir rhoi'r gwaith y buom yn ei wneud gyda rhanddeiliaid ledled Cymru—a diolch i'r rhanddeiliaid hynny am eu gwaith—ar y gweill mewn ffordd a all fod o fudd i bob rhan o Gymru. Rhun ap Iorwerth AC: Mae yna sawl elfen i'r hyn rydym ni angen sicrwydd ynglŷn â fo o ran dyfodol yr arian a ddaw i gymryd lle arian cymorth strwythurol Ewropeaidd. Mae'r swm arian a ddaw yn y blynyddoedd nesaf yn un mater, ac mewn ffordd, hwnna ydy'r peth hawdd i Lywodraeth Prydain ei wneud: wrth gwrs byddan nhw eisiau trio cael eu gweld yn rhoi yr un fath o arian ag sydd wedi bod yn ddiweddar ar gyfer y cyfnod sydd i ddod rŵan. Ond, wrth gwrs, mae'r cwestiwn yma o sut mae'r arian yn cael ei reoli. Dydw i ddim yn cytuno efo popeth sydd wedi cael ei wneud efo gwariant arian Ewropeaidd yng Nghymru; mae yna benderfyniadau gwariant dwi ddim yn cyd-fynd â nhw. Ond lle mae'r arian wedi cael impact go iawn, mae hynny wedi cael ei arwain mewn difrif gan y ffaith bod penderfyniadau yn cael eu gwneud yma yng Nghymru gan bobl sydd yn deall y cyd-destun Cymreig. Ydych chi fel Gweinidog yn cytuno efo fi mai dyna ydy'r peryg mawr rŵan, nad oes gan Lywodraeth Prydain y capasiti na'r ddealltwriaeth i benderfynu sut i wario arian yn synhwyrol yng Nghymru, ac mai cadw rheolaeth ar le i fuddsoddi arian er mwyn sicrhau tegwch i'r economi Gymreig sydd yn bwysig rŵan, llawn cyn bwysiced bron iawn â'r swm ei hun? Jeremy Miles AC: Wel, mae'r cwestiwn hwnnw o gapasiti a dealltwriaeth yn bwysig, ac mae'r cwestiwn hefyd o bwerau cyfansoddiadol yn dod i'r cwestiwn hwnnw hefyd. Mae hynny yn anorfod yn digwydd yn sgil y ffaith bod y penderfyniadau hynny wedi cael eu gwneud yma yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru am ddau ddegawd, ac ychydig yn fwy na hynny. Ac, felly, rwy'n cytuno â phwynt yr Aelod, hynny yw, bod yn rhaid cael eglurder a chytundeb i'r egwyddor sylfaenol honno o safbwynt cyfansoddiadol, ond hefyd—ac rwy'n credu bod hyn ynghlwm yng nghwestiwn yr Aelod—o safbwynt ymarferol, hynny yw, y gallu i wario'r arian hwnnw mewn ffordd sydd yn cael impact ac yn gallu gweithio ar y cyd â ffynonellau eraill sydd ar gael i Lywodraeth Cymru a chyrff eraill yng Nghymru. Ac rwy'n credu hefyd fod yr elfen yn bwysig bod cyfle i ni yma i wneud penderfyniadau ar lefel rhanbarthol y tu fewn i Gymru hefyd, ynghyd â gwneud hynny ar draws Cymru fel cenedl. David Melding. David Melding AC: Na, mae'n ddrwg gennyf. David Rees. David Rees AC: Diolch, Lywydd. Weinidog, fel y dywedwyd yn glir, nid oes gennym syniad beth fydd y gronfa ffyniant gyffredin yn ei wneud eto, ond rydym eisiau gallu sicrhau y byddai'r arian a ddaw o'r gronfa ffyniant gyffredin i Gymru yn cymryd lle'r arian y byddem wedi'i gael o gyllid Ewropeaidd, ac y bydd yn caniatáu i Lywodraeth Cymru benderfynu ar yr hyn sydd orau i Gymru. Rydych wedi cael trafodaethau gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol blaenorol ei fod yn bwriadu cynnal proses ymgynghori. A ydym yn gwybod a yw'r broses ymgynghori honno'n mynd i ddigwydd? Beth y maent yn ei wneud? Pryd y cawn ddatganiad pendant gan Lywodraeth y DU ynglŷn â beth fydd y gronfa ffyniant gyffredin; sut y gallwn gael mynediad ati? A fydd unrhyw fesurau rheoli'n cael eu gosod i edrych ar beth y maent eisiau ei wario, neu a fydd gennym ryddid? Mae'n bwysig ein bod yn parhau i gael y manylion hyn, oherwydd heb y manylion, rydym yn dal i siarad am ddim byd; nid oes gennym syniad beth sy'n digwydd. Jeremy Miles AC: Rwy'n rhannu rhwystredigaeth yr Aelod. Rydym yn croesawu'r ymrwymiadau bras, rhaid cyfaddef, ond cadarnhaol gan Lywodraeth y DU i gydweithio â ni mewn modd cydsyniol mewn perthynas â hyn. Ond mae angen inni symud ymlaen i weithredu'n ymarferol, ac mae'n gwbl hanfodol fod Llywodraeth y DU yn awr yn rhannu manylion yr hyn y mae'n ei gynnig gyda ni. Rydym wedi bod yn gweithio—ac rwyf wedi bod yn agored ynglŷn â hyn gyda Llywodraeth y DU—rydym wedi bod yn gweithio'n fanwl ar gynigion y credwn eu bod wedi'u cynllunio'n dda ar gyfer ymgynghori, fel petai, ond mae'n bwysig yn awr fod Llywodraeth y DU yn cyflwyno ymrwymiad syml, rwy'n credu, y gellir defnyddio'r arian sydd ar gael i Gymru ar hyn o bryd drwy'r cronfeydd hynny yng Nghymru, a bod pob un ohonynt yn ddarostyngedig i'r pwerau presennol sydd gan Lywodraeth Cymru ar ran pobl Cymru, a'u bod, i bob pwrpas, yn ffurfio addasiad i'r grant bloc, fel y gellir eu defnyddio'n effeithiol ar ran pobl Cymru. Ond rwy'n rhannu rhwystredigaeth yr Aelod: nid ydym wedi cael y manylion a'r wybodaeth y dylem fod wedi'u cael ar y pwynt hwn, ac rwy'n gobeithio y caiff hynny ei unioni yn hwyr yn hytrach na'n hwyrach. Dinasyddion Ewropeaidd Jenny Rathbone AC: 2. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ynghylch nifer y dinasyddion Ewropeaidd sydd wedi cofrestru i aros yng Nghymru ar ôl i'r DU ymadael â'r UE? OAQ54966 Jeremy Miles AC: Byddaf yn cael trafodaethau rheolaidd, fel y bydd fy swyddogion, gyda Llywodraeth y DU, a chyda rhanddeiliaid o Gymru, ynghylch nifer y dinasyddion UE sydd wedi gwneud cais am y cynllun preswylio'n sefydlog yng Nghymru. Rydym ni fel Llywodraeth wedi rhoi ystod eang o wasanaethau ar waith i gefnogi gwladolion yr UE gyda'u ceisiadau, ac rydym yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i roi cymorth pellach i ddinasyddion yr UE yma yng Nghymru. Jenny Rathbone AC: Mae'r adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos hon gan sefydliad the3million yn crynhoi'r pryder, y dicter a'r teimlad fod neb eu heisiau roedd yr holl bobl a holwyd yn ei deimlo, hyd yn oed pan oedd ganddynt statws preswylydd sefydlog eisoes. Roedd yn ddigalon darllen, yng ngoleuni sgandal Windrush, fod menywod, pobl hunangyflogedig, y di-waith, pensiynwyr, myfyrwyr, a'r rheini nad oeddent yn gweithio am resymau meddygol i gyd yn fwy tebygol o gael eu holi am wybodaeth ychwanegol. A statws preswylydd cyn-sefydlog yn unig y mae llawer o'r bobl hyn wedi'i gael. Yng ngoleuni'r pryder a fynegwyd gan yr holl ymatebwyr, a'r ymdeimlad fod ymadroddion torri a gludo am gyfeillgarwch a diogelu hawliau dinasyddion Ewropeaidd wedi'u cynnwys yn yr ymatebion, yn lle taro'r bong ar 31 Ionawr gydag ymdeimlad o orchest, mae'n bwysig iawn ein bod yn estyn llaw cyfeillgarwch i'r holl bobl sydd wedi byw yn y wlad hon ers blynyddoedd lawer. Felly, roeddwn yn meddwl tybed pa sicrwydd y gall Llywodraeth Cymru ei roi i bobl, ar sail eich sgyrsiau â Llywodraeth y DU, na fydd teuluoedd yn cael eu rhannu yn y tymor hir, ac bod statws preswylydd sefydlog yn fwy na dim ond ymarfer, cyn ceisio cael gwared ar bobl sy'n anghyfleus. Jeremy Miles AC: Diolch i'r Aelod am dynnu sylw at y pryder difrifol iawn sydd gan nifer o bobl, ac mae pobl wedi'i fynegi wrthyf yn uniongyrchol hefyd—fwy neu lai yn yr un ffordd ag y cawsant eu disgrifio gan yr Aelod heddiw. Mae gennym rhwng 70,000 ac 80,000 o ddinasyddion yn byw yng Nghymru a gafodd eu geni mewn rhannau eraill o'r UE, y tu allan i'r DU, ac rydym eisiau iddynt aros yng Nghymru a pharhau i wneud y cyfraniad llawn a wnânt i'n cymdeithas ac i'n heconomi. Rwy'n llwyr gydnabod y pwynt y mae'n ei wneud am y pryder y mae llawer o bobl yn ei deimlo, yn enwedig mewn perthynas â'r cwestiwn o gael statws preswylydd cyn-sefydlog yn unig. Rwy'n credu bod nifer y ceisiadau sy'n arwain at hynny ledled y DU oddeutu 44 y cant ar hyn o bryd, sy'n eithaf rhyfeddol mewn gwirionedd. Codais y pwynt hwnnw gyda Llywodraeth y DU, pan gyfarfûm â Gweinidogion yr wythnos cyn y ddiwethaf, a dywedwyd wrthyf fod statws preswylydd cyn-sefydlog yn troi'n statws preswylydd sefydlog yn awtomatig dros amser i bob pwrpas, ac nid yw hynny o reidrwydd yn wir, fel y gwyddom. Ac rwyf wedi ysgrifennu atynt i nodi hyn, ac i wneud y pwynt fod angen inni wneud mwy i fynd i'r afael â'r mater pryder hwn. Fel Llywodraeth, rwy'n credu ein bod wedi ymrwymo oddeutu £2 filiwn hyd yma, fwy neu lai, ar gyfer ceisio cyfathrebu â phobl a ddylai fod yn cymryd camau i geisio statws preswylwyr sefydlog yng Nghymru. Rydym wedi gwneud hynny drwy—. Rydym wedi cael ymgyrch ar-lein newydd yn ddiweddar, ond ceir carfan fawr o bobl na fyddai'r rhyngrwyd yn brif gyfrwng cyfathrebu iddynt. Felly rydym wedi bod yn gweithio gyda Settled ac eraill i hysbysebu, fel petai, argaeledd y cynllun, a'r ystod amrywiol o gymorth y mae Llywodraeth Cymru, a sefydliadau eraill, yn ei ddarparu, a cheisio targedu pobl mewn lleoedd fel siopau a chaffis ac eglwysi, lle gallai dinasyddion yr UE gael gafael ar y wybodaeth honno mewn ffyrdd eraill heblaw ar-lein. Felly rydym yn ceisio dod o hyd i wahanol ffyrdd o gyfathrebu â phobl, ac ar yr un pryd byddaf yn cyfarfod yn eithaf rheolaidd â swyddogion y Swyddfa Gartref, ac yn manteisio ar bob cyfle i dynnu sylw at rai o'r pwyntiau ymarferol y mae'r Aelod yn eu gwneud yn ei chwestiwn sy'n peri pryder i gynifer o bobl yng Nghymru. Mandy Jones AC: Weinidog, rwy'n credu eich bod wedi ateb fy nghwestiwn i raddau yn eich ateb i Jenny Rathbone. Pa gynlluniau sydd gan eich Llywodraeth i weithio gyda Llywodraeth San Steffan mewn perthynas â statws preswylydd sefydlog dinasyddion yr UE, a pha rolau ychwanegol rydych yn eu rhagweld ar gyfer Llywodraeth Cymru, ar wahân i'r hyn rydych yn ei wneud yn awr? Jeremy Miles AC: Byddwn yn parhau â'r gwaith rydym wedi bod yn ei wneud. Rydym wedi bod yn ariannu gwahanol wasanaethau cynghori yn ogystal ag ymgyrch gyfathrebu. Rydym wedi bod yn pwyso ar Lywodraeth y DU hefyd mewn perthynas ag argaeledd canolfannau sganio digidol yng Nghymru. Efallai fod yr Aelod yn ymwybodol mai dim ond un oedd yna ar y dechrau. Rydym yn edrych ar oddeutu saith, rwy'n credu, ar hyn o bryd, ac yn pwyso hefyd am ehangu darpariaeth y ganolfan cymorth technoleg ddigidol, sy'n galluogi dinasyddion yr UE sydd angen cymorth ychwanegol i wneud y cais. Credaf fod 26 o'r rheini yng Nghymru bellach, ac rydym wedi bod yn pwyso'n galed iawn dros y cyfnod i sicrhau bod y niferoedd hynny'n cynyddu, a chyda pheth llwyddiant. I'r rhan fwyaf o bobl, ni fydd angen cael y cymorth ychwanegol hwnnw, ond bydd carfan sylweddol a fydd angen yr help ychwanegol er mwyn gallu cofrestru. Ond mae rhai diffygion dylunio yn y cynllun ei hun, ac rydym hefyd yn pwyso ar Lywodraeth y DU mewn perthynas â hynny. Un mater y bydd yr Aelodau'n ymwybodol ohono, rwy'n credu, yw diffyg ardystiad neu ddogfen ffisegol sy'n arddangos y statws preswylydd sefydlog. Er y byddai'r rhan fwyaf ohonom yn fodlon cael cydnabyddiaeth ar-lein o hynny, mae'n debyg, rhywbeth y gallwn ei rannu â sefydliadau, cyrff ac asiantaethau os dymunwn, unwaith eto, bydd llawer o bobl yn teimlo'n llawer mwy diogel o gael darn o bapur neu fathodyn ffisegol, ac felly, rydym wedi bod yn pwyso i'r perwyl hwnnw hefyd. Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Dai Lloyd. Dai Lloyd AC: Diolch, Lywydd. Er bod Ysgrifennydd Gwladol newydd Cymru, Simon Hart, wedi dweud yr wythnos diwethaf na fyddai cronfa ffyniant gyffredin y DU y clywsom gryn dipyn amdani eisoes, ac rwy'n dyfynnu, yn gyrru ceffyl a throl drwy'r setliad datganoli, yn anffodus, nid yw wedi rhoi sicrwydd pendant mai Llywodraeth Cymru fyddai'n rheoli'r gronfa newydd hon. Byddai unrhyw golli rheolaeth ar gyllid Ewropeaidd, wrth gwrs, yn gipio pŵer. Yr wythnos hon, mae arweinwyr llywodraeth leol yng Nghymru hefyd wedi mynegi pryder ynglŷn â'r ansicrwydd ynghylch lefel y cyllid yn y gronfa, o ystyried ei bwysigrwydd mewn perthynas â chynlluniau adfywio mewn sawl rhan o Gymru. Felly, a gaf fi ofyn: a ydych wedi siarad ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru ers yr wythnos diwethaf? Beth yw eich dealltwriaeth ddiweddaraf o gynnig Llywodraeth y DU, ac a wnewch chi roi ymrwymiad i sicrhau bod llais arweinwyr llywodraeth leol yng Nghymru yn cael ei glywed? Jeremy Miles AC: Diolch i Dai Lloyd am y cwestiwn hwnnw ac rwy'n ei groesawu i'w rôl newydd. Rwyf wedi siarad yn fyr â'r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â mater arall yng nghyd-destun cyfarfod mwy, ond nid yw'n ymwneud yn benodol â'r pwynt hwnnw. Rydym yn dal i ddisgwyl, fel y crybwyllais yn fy nghwestiwn cynharach, am fanylion mewn perthynas â chydnabyddiaeth, i bob pwrpas, fod y cronfeydd hynny'n ddarostyngedig i bwerau datganoledig. Mae'n bwynt syml iawn i gytuno arno ac i'w gydnabod. Y pwynt yn syml yw y dylai'r symiau cyfatebol sy'n dod i Gymru ar hyn o bryd gael eu trosglwyddo i Lywodraeth Cymru drwy addasiad i'r grant bloc ac i Lywodraeth Cymru allu defnyddio'r cronfeydd hynny'n llawn yn y ffordd y mae cwestiwn yr Aelod yn ei awgrymu, gyda phartneriaid eraill yng Nghymru—felly, gyda llywodraeth leol, sydd ei hun yn fuddsoddwr sylweddol yn y swyddi a'r seilwaith sy'n elwa o'r math hwnnw o fuddsoddiad. A dyna'r cyfle, sy'n sicr yn bwysig o safbwynt datganoli, ond mae hefyd yn bwysig o ran gallu integreiddio'r buddsoddiad hwnnw gyda buddsoddiadau eraill y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud. Dai Lloyd AC: A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am fy nghroesawu i fy rôl newydd? Yn amlwg, ni fyddaf mor wefreiddiol â fy nghyd-Aelod, Delyth Jewell, yn y swydd, ond rwy'n gobeithio straffagludrwyddi beth bynnag yn fy ffordd dawel fy hun. [Chwerthin.] Yn eich datganiad ysgrifenedig ddoe, fe nodoch eich bod yn cynnal cyfarfod negodiadau nesafCydbwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau'r UE) yng Nghaerdydd yn ddiweddarach y mis hwn, a'ch bod yn gobeithio y byddai'r cyfarfod hwnnw'n canolbwyntio ar gwblhau cynigion terfynol, gan gynnwys cadarnhau rôl y Llywodraethau datganoledig yn negodiadau'r UE yn y dyfodol. Felly, a ydych wedi cael unrhyw arwyddion gan Lywodraeth y DU eu bod yn barod i wrando neu dderbyn unrhyw rai o'ch awgrymiadau er mwyn sicrhau bod gan Lywodraeth Cymru ryw fath o sedd wrth y bwrdd, os nad y bwrdd cyfan ei hun, neu unrhyw fath arall o ddodrefnyn? Jeremy Miles AC: Rwyf am ymwrthod â'r demtasiwn i ymestyn y trosiad penodol hwnnw. Ond rwy'n credu mai'r hyn rwyf am ei ddweud wrth yr Aelod yw, ydy, mae'n wir y byddaf yn cynnal cyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau'r UE) yma yng Nghaerdydd yr wythnos nesaf. Yng nghyfarfod diwethaf y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau'r UE), manteisiais ar y cyfle, fel y gwneuthum, ac fel y mae Gweinidogion eraill wedi'i wneud, dros fisoedd lawer i egluro ein safbwynt ynghylch beth yw'r rôl briodol i Lywodraeth Cymru yn ein barn ni yng nghyd-destun y negodiadau a fydd yn dilyn dros y misoedd sydd i ddod. Felly, credaf ei bod yn hollbwysig na all fod gan Lywodraeth y DU unrhyw amheuaeth beth yw ein disgwyliadau rhesymol iawn, rwy'n credu, o'n rôl, h.y. ni ddylai Llywodraeth y DU gynnig safbwynt negodi sy'n ymwneud â chymhwysedd datganoledig heb ei bod fel arfer wedi ceisio cytuno ar y safbwynt hwnnw gyda Llywodraeth ddatganoledig ymlaen llaw. Credaf fod honno'n ffordd ymarferol ymlaen. Mae'n rhoi hyder i'n partneriaid negodi dramor fod Llywodraeth y DU yn gallu cyflawni'r ymrwymiadau a wna yn y negodiadau hynny ac wrth gwrs, yn bwysig, ei bod yn cydnabod rôl Llywodraeth Cymru a'r cymhwysedd a'r setliad datganoli. O ran yr hyn rwy'n ei ddisgwyl o gyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau'r UE), rwy'n gobeithio y bydd yn gyfle i Lywodraeth y DU gynnig ymateb o sylwedd i'r cynigion hynny a chyflwyno ei chynigion ei hun ar gyfer ein cynnwys yn y misoedd sydd i ddod. Yng nghyfarfod diwethaf y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau'r UE), yr arwyddion yn y drafodaeth oedd eu bod yn bwriadu gwneud hynny a'u bod wedi clywed, i ryw raddau yn sicr, yr hyn y buom yn galw amdano ers misoedd lawer. Rwy'n gobeithio'n fawr y byddant yn rhoi sylw llawn i'r hyn rydym ni a'r Llywodraethau datganoledig eraill wedi bod yn pwyso amdano ers amser maith bellach. Dai Lloyd AC: Weinidog, drwy fwrw ymlaen â chymal 21 o'r Bil ymadael â'r UE ac anwybyddu confensiwn Sewel, mae Llywodraeth y DU yn dangos yn union beth y mae'n ei feddwl mewn gwirionedd o ddeddfwrfeydd datganoledig yn y Deyrnas Unedig. Ynghyd â'r ffaith nad oes gan y Blaid Geidwadol fwyafrif yng Nghymru, yr Alban na Gogledd Iwerddon, onid ydych yn rhannu fy mhryderon fod Llywodraeth y DU yn siarad ar ran un genedl yn unig o fewn y Deyrnas Unedig, a beth y mae hyn yn ei olygu, yn eich barn chi, i ddyfodol yr undeb? Jeremy Miles AC: Wel, rwy'n credu bod ddoe yn foment gyfansoddiadol bwysig oherwydd mae pob un o'r tair deddfwrfa ddatganoledig bellach wedi mynegi eu barn glir mewn perthynas â Bil y cytundeb ymadael. Roeddwn yn teimlo bod y ddadl a gawsom yn y Siambr hon ddoe yn nodi'r achos dros amddiffyn hawliau cyfansoddiadol y sefydliad hwn a Llywodraeth Cymru yn glir iawn, ac roedd y rhai ohonom a bleidleisiodd yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ddoe yn gwneud hynny am y rheswm hwnnw. Ac rwy'n falch iawn fod barn Cynulliad y Senedd mor glir. Rwy'n credu y dylai Llywodraeth y DU gymryd sylw o hynny ac na ddylai fwrw ymlaen yn wyneb y gwrthwynebiad hwnnw. Mae confensiwn Sewel yn nodi, wrth gwrs, ei bod yn bosibl nad oedd yr amgylchiadau yn amgylchiadau arferol, a byddaf yn cael rhywfaint o gysur o'r geiriau yn llythyr yr Ysgrifennydd Gwladol ddydd Llun yr wythnos hon y byddai'n ystyried yr amgylchiadau'n rhai 'penodol'.Ond rwy'n credu ei bod yn sicr yn wir fod confensiwn Sewel yn gonfensiwn pwysig nad yw, fel y mae wedi'i gynllunio ar hyn o bryd, yn gwbl addas at y diben. Mae'n rhoi gormod o ddisgresiwn i Lywodraeth y DU; nid yw'n rhoi dealltwriaeth ddigon clir o ran pryd y mae'n gymwys a phryd na ddylai fod yn gymwys. Rwy'n credu bod achos dros fynd ymhellach na'r confensiwn i'w gwneud yn glir na ddylai Senedd y DU fyth ddeddfu pan fo cydsyniad wedi'i gadw'n ôl mewn perthynas â mater datganoledig. Yr hyn a ddywedaf am ddyfodol yr undeb, ac rwyf wedi'i ddweud o'r blaen—credaf fod dewisiadau o'n blaenau yn y misoedd sydd i ddod, a bydd natur y dewisiadau hynny'n effeithio ar allu'r undeb i oroesi. Rwy'n mawr obeithio y bydd Prif Weinidog y DU yn dilyn y trywydd y gwnaethom ni fel Llywodraeth ei amlinellu yn ein cyhoeddiad yn gynharach yr wythnos hon, oherwydd os awn ar hyd llwybr Brexit caled iawn, a chytundeb masnach rydd cyfyngedig iawn, rwy'n ofni y bydd y pwysau sydd ar yr undeb ar hyn o bryd yn gwaethygu. Llefarydd y blaid Dorïaidd, Darren Millar. Darren Millar AC: Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r cyfleoedd sy'n codi yng Nghymru o ganlyniad i Brexit? Jeremy Miles AC: Wel, bydd yr Aelod gyferbyn yn ymwybodol ein bod, yn gynharach yr wythnos hon, wedi cyhoeddi ein barn ar y math o berthynas y dylai Cymru a'r DU ei chael gyda'r Undeb Ewropeaidd, gan gydnabod bod Prif Weinidog y DU wedi ennill mandad yn yr etholiad cyffredinol diweddar ac y bydd yn cychwyn y negodiadau hynny o safbwynt cytundeb masnach rydd. Ein barn ni yw bod cytundeb masnach rydd, fel y'i hystyriwyd yn y datganiad gwleidyddol, yn niweidiol i Gymru, ac rydym yn gobeithio llywio'r cyfeiriad teithio oddi wrth hynny i fan lle ceir mwy o gyfleoedd i Gymru barhau i elwa ar y math hwnnw o berthynas â'r Undeb Ewropeaidd. Rwy'n meddwl weithiau ein bod yn cael ein gwahodd i feddwl bod y mathau o ryddid sy'n bodoli, fel petai, i negodi cytundebau â gwledydd eraill, o ganlyniad i'r math o ddisgrifiad o'r berthynas y mae Prif Weinidog y DU wedi'i nodi yn y datganiad gwleidyddol, yn wobr enfawr i ni. Er y byddwn bob amser yn manteisio ar y cyfle, ar ran busnesau ac allforwyr Cymru, i ddatblygu marchnadoedd newydd, y gwir amdani yw bod manteision y cytundebau hynny i economi Cymru yn ymylol o'u cymharu â'r farchnad a gollir, pe bai hynny'n digwydd, i'r Undeb Ewropeaidd. Darren Millar AC: Weinidog, diolch am eich ateb, ond i mi, fel y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig gyfan yn wir, rwy'n edrych ymlaen yn arw at wythnos i ddydd Gwener, am 11 o'r gloch, pan fydd cloch yn canu yn fy nhŷ i ddathlu'r ffaith y bydd Cymru'n gadael yr Undeb Ewropeaidd, ynghyd â gweddill y Deyrnas Unedig. A bydd yn gadael yr Undeb Ewropeaidd er gwaethaf ymdrechion gorau Llywodraeth Lafur Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru yn wir, sydd i gyd wedi bod yn ceisio rhwystro ewyllys ddemocrataidd y bobl rhag cael ei gweithredu yn y wlad hon. Ac wrth i ni symud ymlaen at y bennod nesaf yn hanes ein cenedl, yn y Blaid Geidwadol, gwelwn fod Brexit yn gyfle, ac mae'n gyfle i gyflawni dros Gymru mewn ffordd nad yw eich Llywodraeth chi, a bod yn onest, wedi'i wneud ers dros 20 mlynedd. Mae yna bobl, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus a fydd yn elwa o'r cytundebau a'r trefniadau masnach rydd y bydd gennym ryddid bellach i'w llunio gyda gwahanol wledydd a blociau masnachu ym mhob cwr o'r byd. Ac wrth gwrs, ni fyddwn yn cael ein cyfyngu i lunio cytundebau â'r Undeb Ewropeaidd yn unig. Fel chithau, rwyf eisiau cytundeb masnach rydd gweddus gyda'r Undeb Ewropeaidd. Ac wrth gwrs, byddwn yn gallu gwario arian ein trethdalwyr ein hunain ar gynllun buddsoddi rhanbarthol newydd ac uchelgeisiol nad yw'n ffafrio rhai rhannau o Gymru yn unig, fel gorllewin Cymru a'r Cymoedd, ond hefyd gallwn ganolbwyntio sylw ar ardaloedd difreintiedig eraill y tu hwnt i'r lleoedd hynny. Nawr, rwy'n credu mai'r hyn sydd wedi bod braidd yn ddigalon yn ystod yr wythnosau diwethaf, ers yr etholiad cyffredinol—ac mae'n ymddangos bod rhywfaint o newid yn y sylwebaeth sy'n dod gan Lywodraeth Cymru, yn sicr heddiw, ac rwy'n croesawu hynny. Ond mae'r un hen ddadleuon wedi cael eu hailgyflwyno, rwy'n credu, ac nid oes gennym yr agwedd gadarnhaol y credaf yn gryf ein bod ei hangen yma yng Nghymru o ran sut y gallwn ymgysylltu â Llywodraeth ei Mawrhydi, wrth symud ymlaen, i wneud yn siŵr ein bod wrth y bwrdd a bod gennym lais cryf a phwerus. Felly, a gaf fi ofyn pa sicrwydd y gallwch ei roi i ni y byddwch chi a'ch cyd-Aelodau yn Llywodraeth Cymru yn dechrau ymgysylltu'n gadarnhaol yn awr, ac nid mewn ffordd elyniaethus, gyda Llywodraeth y DU wrth iddi geisio sicrhau Brexit cadarnhaol ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan, gan gynnwys Cymru? Jeremy Miles AC: Wel, nid yw'n glir i mi i ba raddau y bu'r Aelod yn talu sylw i'r hyn rydym wedi bod yn ei ddweud dros yr ychydig wythnosau diwethaf mewn perthynas â chysylltiadau â Llywodraeth newydd y DU. Rwyf am ei atgoffa, gan ei fod yn fy ngwahodd i wneud hynny, i bob pwrpas. Yr hyn rydym wedi'i ddweud, fel rydym wedi'i ddweud erioed, yw y bydd Llywodraeth y DU yn gweld ein bod yn Llywodraeth sy'n cydweithredu, ac yn ceisio gweithio er budd gorau Cymru, ond ni fyddwn yn gwneud hynny lle na chaiff y ffin ddatganoli ei pharchu. Mae rôl i Lywodraeth Cymru ac mae rôl i Lywodraeth y DU, a bydd y berthynas yn gweithio orau ac ar ei mwyaf adeiladol pan gaiff y ffin honno ei deall a'i pharchu'n ymarferol. Nid wyf yn hollol siŵr fy mod wedi clywed dadl y Ceidwadwyr Cymreig yn mynd y tu hwnt i'r rhethreg ar unrhyw un o'r pwyntiau hyn o sylwedd. Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw gyhoeddiad gan Blaid Geidwadol Cymru sy'n nodi ei barn ei hun am y math o Brexit a fyddai'n gweithio er budd gorau Cymru. Drwy gydol y broses hon, nid yw wedi gwneud fawr ddim mwy na dilyn safbwynt y blaid yn San Steffan. Yr hyn rydym wedi'i gael ar yr ochr hon i'r Siambr yw cyfres o gynigion rhesymegol a dogfennau polisi sy'n ystyried buddiannau Cymru yn benodol. Ni chafwyd lefel gyffelyb o feddwl ar ochr arall y Siambr, ac mae'n amlwg i mi nad yw'r Aelod yn dilyn dadansoddiad ei Lywodraeth ei hun hyd yn oed, sydd, yn ôl eu ffigurau eu hunain, yn dweud wrthym mai manteision dychmygol i economi Cymru a ddaw yn sgil y nirfana masnach rydd y mae'n ei disgrifio. Darren Millar AC: Mewn gwirionedd, yr hyn rydym wedi'i weld gan Lywodraeth Lafur Cymru yw dogfen ar ôl dogfen yn proffwydo gwae. Wrth gwrs, mae eich pesimistiaeth ynghylch Brexit yn gwbl anghymesur â realiti. Lle rydym ni'r Ceidwadwyr, fel y nodir yn ein maniffesto a'n dogfennau eraill, yn gweld cyfle a ffyniant hirdymor y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, mae arnaf ofn eich bod chi'n gweld anobaith diddychymyg, a'r cyfan rydych chi i'ch gweld yn ei wneud yw ceisio dychryn pobl a chodi bwganod. Mae hi fel pe baech chi eisiau i Gymru fethu er mwyn i chi allu dathlu bod eich proffwydoliaethau Nostradamus wedi dod yn wir. Ond rydym ni'n gweld dyfodol lle gall busnesau yng Nghymru allforio nwyddau o amgylch y byd mewn ffordd gystadleuol a chystadlu yn y marchnadoedd y mae'r UE wedi'u blocio ar hyn o bryd. Ac wrth gwrs, bydd gennym system fewnfudo deg—system fewnfudo sy'n gweithio i'r Deyrnas Unedig gyfan, un sy'n deg ac a fydd yn gweithio i fusnesau, yn gweithio dros Gymru, ond a fydd hefyd yn deg i bobl ni waeth o ble yn y byd y deuant, boed hynny yn yr UE neu o'r tu allan i'r UE. Yn bersonol, rwy'n obeithiol. Rwy'n llawn cyffro ynglŷn â'r cyfleoedd a ddaw yn sgil Brexit. Gwn nad ydych yn hoffi siarad am y cyfleoedd hynny, ac nad ydych yn hoffi siarad am y manteision hynny, ond a wnewch chi o leiaf gydnabod bod rhai cyfleoedd, yn enwedig mewn perthynas â'r system fewnfudo newydd hon a fydd gennym, a fydd yn system sy'n seiliedig ar bwyntiau sy'n deg i bawb o bob rhan o'r byd, lle gall pobl ddod i fyw a gweithio yng Nghymru, lle gallant ddod â budd i'r cymunedau y byddant yn byw ynddynt ac i Gymru fel gwlad? Jeremy Miles AC: Wel, nid wyf yn siŵr a glywodd yr Aelod yr atebion i'r cwestiynau blaenorol am yr heriau y mae dinasyddion yr UE sydd eisoes yn byw yng Nghymru yn eu hwynebu o ganlyniad i bolisïau ymfudo Llywodraeth y DU. Rwy'n awgrymu ei fod yn darllen y cofnod o'r drafodaeth a gawsom ynglŷn â hynny. Byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed ei farn ar system fewnfudo lle mae lefelau'r cyflogau'n gwbl anghydnaws ag anghenion economi Cymru, lle nad yw'r proffil sgiliau'n cyfateb mewn unrhyw ffordd i anghenion ein heconomi a lle mae wedi'i gynllunio yn gyfan gwbl o safbwynt de-ddwyrain Lloegr. [Torri ar draws.] Credaf fod cyfle yma mewn gwirionedd. Credaf yma, i Lywodraeth y DU, wrth ailgynllunio—. Byddem eisiau gweld system ymfudo wahanol iawn. Byddem eisiau gweld system—[Torri ar draws.]—sy'n rhoi trefniadau ffafriol i'r Undeb Ewropeaidd—[Torri ar draws.]—ac yn clymu hynny'n agosach wrth gyflogaeth. Ond os yw Prif Weinidog y DU yn cyflwyno newidiadau i'r system honno, mae cyfle yma iddo adlewyrchu anghenion yr economi yng Nghymru mewn ffordd nad yw'n cael ei wneud o gwbl yn y cynigion presennol. A gaf fi wneud y pwynt, pan fydd Gweinidog yn ceisio ateb cwestiwn, nad yw'n helpu os yw'r Aelod sydd wedi gofyn y cwestiwn yn gweiddi 'Sothach' ar draws y Siambr—[Anghlywadwy.] Nid yw'n help i graffu da. Cwestiwn 3—Mick Antoniw. Mynediad at Gyfiawnder Mick Antoniw AC: 3. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch ehangu mynediad at gyfiawnder yng Nghymru ar ôl Brexit? OAQ54955 Jeremy Miles AC: Mae'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru wedi canfod nad oes mynediad priodol at gyfiawnder ar gael yng Nghymru, ac na ellir ond mynd i'r afael ag ef o ddifrif drwy drosglwyddo'r awdurdod cyfiawnder i Gymru. Bydd Brexit yn lleihau mynediad at gyfiawnder ymhellach, er enghraifft drwy amddifadu mynediad i bobl Cymru at Lys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd a siarter hawliau sylfaenol yr UE. Mick Antoniw AC: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol. Mae'n bwysig iawn ein bod yn deall rhai o'r newidiadau sy'n debygol o ddigwydd yn dilyn Brexit. Mae'n amlwg iawn na chawn amddiffyniadau sylfaenol yr Undeb Ewropeaidd o ran hawliau cyflogaeth. Yn barod, mae nifer o ganlyniadau anffafriol i'r hyn a allai ddigwydd o ran deddfwriaeth cyflogaeth. Mae Llywodraeth y DU wedi nodi ei bod yn bwriadu diddymu Deddf Hawliau Dynol 1998. Mae hefyd yn bwriadu dileu neu gyfyngu ar allu adolygiad barnwrol mewn perthynas â gweithredoedd y Llywodraeth. Mae hefyd wedi nodi ei bod eisiau ymyrryd ag annibyniaeth y farnwriaeth drwy newid y system benodi ar gyfer barnwyr. Mae i bob un o'r rhain ganlyniadau arwyddocaol iawn o ran tanseilio rheolaeth y gyfraith, ac mae hynny'n gwneud eich pwynt penodol ynghylch colli, mae'n debyg, ymbarél cyfreithegol Llys Cyfiawnder Ewrop yn un arwyddocaol iawn. A ydych yn cytuno â mi mai un o'r ffyrdd ymlaen yn awr, efallai, nid yn unig o ran datganoli swyddogaethau cyfiawnder, ond bod angen inni edrych ar ffyrdd o rymuso ein dinasyddion ein hunain yng Nghymru mewn gwirionedd, ac mae angen inni ystyried creu cynllun cymorth a chynghori cyfreithiol Cymreig sy'n sefyll ar ei draed ei hun yng Nghymru i rymuso dinasyddion yn y byd newydd hwn rydym yn debygol o'i wynebu? Jeremy Miles AC: Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn atodol pwysig. Gwn y bydd yn rhannu fy siom nad yw'r Bil cytundeb ymadael bellach yn cynnwys yr amddiffyniad i hawliau gweithwyr sy'n deillio o'r UE a oedd wedi'i gynnwys yn y Bil blaenorol, heb i unrhyw achos synhwyrol na rhesymol gael ei wneud dros y newid hwnnw. Mewn cyd-destun lle mae Llywodraeth y DU yn ceisio bwrw ymlaen ag agenda ddadreoleiddiol radical, gwn y bydd yn rhannu fy mhryderon ynghylch yr hyn y mae hynny'n ei olygu yn ymarferol. Mae'n sôn am y Goruchaf Lys, a gwelsom, wrth gwrs, y penderfyniad yn achos Unsain lle roedd Llywodraeth y DU yn ceisio cyfyngu mynediad at dribiwnlysoedd cyflogaeth, ac roeddwn yn falch iawn ynglŷn â phenderfyniad y Goruchaf Lys mewn perthynas â hynny. O ran y cwestiwn penodol y mae'n ei godi mewn perthynas â chymorth cyfreithiol a chyngor cyfreithiol, mae comisiwn Thomas yn cynnig, yn ddiddorol iawn yn fy marn i, y dylid dod â chyllid ar gyfer cymorth cyfreithiol a chyllid ar gyfer cyngor y trydydd sector ynghyd yng Nghymru mewn un gronfa o dan gyfarwyddyd strategol corff annibynnol. Credaf fod hynny'n argymhelliad pwysig iawn i'r comisiwn ei wneud. Yn amlwg, fel gyda llawer o argymhellion eraill, byddwn yn ystyried yn ofalus sut y cyflwynwn ein safbwynt i Lywodraeth y DU. Y Sector Modurol Helen Mary Jones AC: 6. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch effaith Brexit ar y sector modurol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ54963 Jeremy Miles AC: Rydym yn cael trafodaethau rheolaidd â chwmnïau yn y sector, gyda Fforwm Modurol Cymru, a chyda chyrff cenedlaethol y sector ynghylch effaith bosibl Brexit. Mae cael perthynas fasnachu barhaus a dirwystr gyda'r UE yn bwysig iawn i'r sector modurol, ac yn wir, i sectorau eraill. Helen Mary Jones AC: Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ateb. Wrth gwrs, fe fydd yn ymwybodol fod blwyddyn wedi bod, bron i'r diwrnod, ers i ffatri fodurol Schaeffler yn Llanelli gyhoeddi y byddai'n cau gan arwain at golli 220 o swyddi—ac nid swyddi yn unig, ond swyddi o ansawdd da, swyddi a allai gynnal teuluoedd yn gynhyrchiol. Ni fydd angen i mi ddweud wrth y Gweinidog fod pryderon gwirioneddol yn y sector ynghylch mynediad at farchnadoedd. Pa drafodaethau pellach y gallai eu cael gyda Llywodraeth y DU i geisio sicrhau bod gennym lais—Llywodraeth Cymru ar ran y diwydiant—o amgylch y bwrdd yn ystod y negodiadau, mewn perthynas â'r cytundeb masnach newydd a fydd gennym, gobeithio, gyda'r Undeb Ewropeaidd ac unrhyw gytundebau masnach rydd eraill, i sicrhau na cheir unrhyw ganlyniadau anfwriadol? Er enghraifft, caniatáu mynediad at farchnadoedd i gerbydau a rhannau cerbydau o'r tu allan i Gymru a allai gael effaith negyddol ar y gadwyn gyflenwi y mae cwmnïau wedi gwneud llawer o ymdrech i'w datblygu dros nifer o flynyddoedd. Jeremy Miles AC: Diolch i Helen Mary Jones am ei chwestiwn pellach. Credaf mai un o'r pwyntiau sy'n amlwg o'i chwestiwn yw lefel yr integreiddio yn y sector gweithgynhyrchu ceir drwy wahanol rannau o'r DU. Gall effeithiau mewn un rhan o'r DU effeithio'n sylweddol iawn ar gwmnïau yn y gadwyn gyflenwi a allai fod mewn gwledydd eraill yn y DU. Credaf fod hyn yn mynd at wraidd yr angen i sicrhau bod y math o berthynas sydd gan Gymru a'r DU â'r Undeb Ewropeaidd yn dilyn Brexit yn un sydd—. A chroesawaf yr arwydd yn y datganiad gwleidyddol fod Prif Weinidog y DU yn ceisio sicrhau perthynas di-dariff; yn amlwg, mae hynny i'w groesawu. Mae'r tariffau, tariffau Sefydliad Masnach y Byd, ar geir oddeutu 10 y cant, fel y gŵyr, a byddent yn niweidio'r sector yng Nghymru a ledled y DU yn ddifrifol. Ond mae hefyd yn bwysig sicrhau cyn lleied â phosibl o rwystrau di-dariff yn y negodiadau hynny hefyd. Mewn gwirionedd, ni roddir y sicrwydd hwnnw yn yr un modd yn hollol yn y datganiad gwleidyddol, er fy mod yn gobeithio mai i'r cyfeiriad hwnnw y mae Llywodraeth y DU yn ceisio mynd â'r berthynas. Amcangyfrifodd PricewaterhouseCoopers yn ddiweddar y gallai cludo nwyddau i'r Almaen o'r DU, sy'n siwrnai y gellir ei chyflawni mewn 12 awr ar hyn o bryd, gymryd hyd at 72 awr pan na fydd y DU yn rhan o'r undeb tollau. Yn amlwg, mewn sector lle mae cludo cydrannau mewn amser byr ac ati mor bwysig i gynhyrchiant, gallai'r math hwnnw o oedi ychwanegol fod yn anfanteisiol iawn. Dyna'r mathau o ystyriaethau—nad ydynt efallai'n unigryw i Gymru, ond mae gennym gwmnïau yn y gadwyn gyflenwi sy'n croesi'r DU—y byddem yn dymuno dadlau drostynt os bydd gennym rôl yn y negodiadau hynny, fel y dylai fod gennym. Nid yw John Griffiths yma i ofyn cwestiwn 7. Cwestiwn 8, Vikki Howells. Ni ofynnwyd cwestiwn 7 [OAQ54968]. Hawliau Plant Vikki Howells AC: 8. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith Brexit ar hawliau plant? OAQ54948 Jeremy Miles AC: Bydd deddfwriaeth Llywodraeth Cymru sy’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn wrth ddatblygu neu adolygu polisïau neu ddeddfwriaeth yn gymwys ar ôl Brexit, a bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i hyrwyddo hawliau plant yn ein trafodaethau â Llywodraeth y DU ar y berthynas â'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol. Vikki Howells AC: Diolch am eich ateb, Weinidog. Gwn fod penderfyniad Llywodraeth Dorïaidd y DU i roi'r gorau i gynigion i amddiffyn plant sy'n ffoaduriaid rhag y Bil ymadael â'r UE wedi'i drafod yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, ac rwy'n siŵr, fel finnau, eich bod wedi bod yn gwylio'r datblygiadau mewn perthynas â gwelliant Dubs hefyd. Mae llawer o ffoaduriaid yn blant, felly mae hon yn weithred arbennig o greulon, yn enwedig o gofio mai 5 y cant yn unig o geisiadau am loches i blant yn Ewrop a wneir yn y DU mewn gwirionedd; mae hynny'n llai na 5,000 o blant agored i niwed, o'r ffigurau ar gyfer hanner cyntaf 2019. Cawsom ymosodiad chwyrn gan y Prif Weinidog ar y polisi, ond a gaf fi ofyn: a wnewch chi, fel Gweinidog Brexit, ymrwymo i godi'r penderfyniad hwn ym mhob trafodaeth briodol gyda Gweinidogion y DU, a sicrhau nad yw plant yn dioddef yn anghymesur yn sgil Brexit? Jeremy Miles AC: Mae'r mater y mae'r Aelod wedi'i godi heddiw yn y Siambr yn un pwysig iawn. Yn amlwg, rwy'n adleisio'r pwynt a wnaeth y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf mewn perthynas â’r mater pwysig hwn. Yr hyn sy'n hynod i mi yw bod y ddeddfwriaeth flaenorol yn cynnwys dyletswydd ar ran Llywodraeth y DU mewn gwirionedd i negodi parhad trefniadau Dulyn III—y trefniadau ar gyfer aduniadau teuluol ffoaduriaid—ac felly mae gwanhau hynny, yn fy marn i, yn weithred eithriadol. Fe fydd yn ymwybodol fod y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, ac yn wir, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref i egluro safbwynt Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r mater hwn. Credaf fod hynny'n mynd at wraidd y math o wlad y dymunwn i'r DU fod wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd, a chredaf fod gwanhau'r ddeddfwriaeth yn beryglus yn hynny o beth. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn parhau i ddatblygu ei safbwynt datganedig blaenorol, hyd yn oed os nad yw hynny ar wyneb y ddeddfwriaeth. Gwn y byddai hi a llawer o Aelodau eraill yn y Siambr hon yn teimlo'n gryf iawn y dylent wneud hynny, fel rwyf innau. Nid yw David Rowlands yn y Siambr i ofyn cwestiwn 9. Felly, cwestiwn 10, Janet Finch-Saunders. Ni ofynnwyd cwestiwn 9 [OAQ54950]. Cryfhau'r Undeb Janet Finch-Saunders AC: 10. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ar ffyrdd o gryfhau undeb Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon ar ôl Brexit? OAQ54945 Jeremy Miles AC: Yn ddiweddar, cyfarfûm ag uwch Weinidogion y DU a chefais drafodaethau adeiladol ar yr ymrwymiad a rennir gennym i'r undeb. Ond fis Mawrth, bydd dwy flynedd wedi bod ers dechrau'r adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol, a fis Mehefin, bydd tair blynedd wedi bod ers ein papur 'Brexit a Datganoli'. Mae angen inni wneud cynnydd ar unwaith ar ddiwygio. Janet Finch-Saunders AC: Gwych. Yn gynharach y tymor hwn, fe sonioch chi am yr angen i rannu mwy o weledigaeth ynglŷn â'r modd y llywodraethir y Deyrnas Unedig, a diwylliant newydd o barch cyffredin a chydraddoldeb yn y math o gysylltiadau rhynglywodraethol. Mae neges debyg yn cael ei chyfleu yn y ddogfen 'Diwygio ein Hundeb: Cydlywodraethu yn y DU'. Er enghraifft, mae cynnig 1 yn sôn am gynghrair wirfoddol o genhedloedd, a chynnig 8 am yr angen i'r pedair Llywodraeth weithio ar sail partneriaeth gyfartal. Croesawaf y ffaith nad ar ein perthynas â Senedd Ei Mawrhydi yn unig y mae'r ffocws, ond ar bob un o’r pedair deddfwrfa yn wir. Un o ganlyniadau Brexit yw ein bod wedi gweld Llywodraeth Cymru yn gweithio ar y cyd â Llywodraeth yr Alban. Gan fod Cynulliad a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon wedi ailgychwyn bellach, a oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw fwriad i gryfhau ei pherthynas rynglywodraethol ei hun â Stormont? Ac os felly, sut? Jeremy Miles AC: Yn gyntaf, a gaf fi achub ar y cyfle a gyflwynir gan gwestiwn yr Aelod i ddweud fy mod yn croesawu ailgychwyn rhannu grym yng Ngogledd Iwerddon ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon? Os caf, hoffwn achub ar y cyfle hwn i dalu teyrnged i waith gwasanaeth sifil Gogledd Iwerddon sydd, o dan amgylchiadau anodd, wedi cynrychioli Gogledd Iwerddon mewn llawer o fforymau rhynglywodraethol yn effeithiol dros ben, os caf ddweud. Mae'n llygad ei lle i ddweud, a chredaf ei fod ymhlyg yn ei chwestiwn, y bydd Llywodraeth Cymru bob amser yn manteisio ar bob cyfle, lle mae ganddi fuddiannau a rennir gydag unrhyw Lywodraeth arall yn y DU, Llywodraeth ddatganoledig neu Lywodraeth y DU, i gynrychioli buddiannau pennaf Cymru. Credaf ein bod wedi bod yn greadigol ac yn ddychmygus yn y cynigion a ddatblygwyd gennym ar gyfer cryfhau cysylltiadau rhynglywodraethol a sicrhau eu bod yn seiliedig ar barch cyffredin a chydraddoldeb a chyfranogiad, fel y noda'r cwestiwn. Ceir sawl ffordd y caiff hynny ei amlygu, ac mae'r ddogfen 'Diwygio ein Hundeb' yn eu nodi mewn mwy o fanylder. Mae'n adeg bwysig, yn fy marn i, i Lywodraeth y DU gydnabod ein bod mewn byd gwahanol wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd, a bod angen iddynt edrych o'r newydd ar gyfansoddiad y DU. Rydym wedi ymgysylltu'n adeiladol â chynigion cadarnhaol. Credwn eu bod yn rhesymol, credwn eu bod yn synhwyrol, credwn eu bod yn angenrheidiol ar gyfer llwyddiant yr undeb yn y dyfodol, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn eu derbyn yn y ffordd honno. Diolch i'r Gweinidog. 3. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) Yr eitem nesaf, felly, ar ein hagenda ni yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol). Dwi'n galw ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i wneud y cynnig, Lesley Griffiths. Cynnig NDM7231 Lesley Griffiths Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau yn y Bil Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol), i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried gan Senedd y DU. Cynigiwyd y cynnig. Lesley Griffiths AC: Diolch, Lywydd. Croesawaf y cyfle i egluro cefndir y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Cyflwynwyd y Bil Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol), y Bil taliadau uniongyrchol, gan Lywodraeth y DU ar 9 Ionawr 2020. Mae'r Bil hwn yn rhoi sylfaen gyfreithiol i Lywodraethau'r pedair gwlad barhau i weithredu'r cynllun taliadau uniongyrchol yn 2020, gan roi sefydlogrwydd mawr ei angen i’n ffermwyr yn y cyfnod hwn o ansicrwydd wrth i'r Deyrnas Unedig baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd. Bydd Bil y cytundeb ymadael, os caiff ei dderbyn gan Senedd y DU, o’i ddarllen ynghyd â’r cytundeb ymadael, yn datgymhwyso rheoliad y taliadau uniongyrchol a deddfwriaeth gysylltiedig arall yr UE sy’n llywodraethu cynllun 2020 yma yn y DU. Bydd y Bil taliadau uniongyrchol yn ymgorffori deddfwriaeth yr UE sy'n llywodraethu'r cynllun taliadau uniongyrchol yn 2020 mewn cyfraith ddomestig, ac yn darparu pwerau gwneud rheoliadau â therfyn amser i ddiwygio'r ddeddfwriaeth gorfforedig, gan sicrhau ei bod yn weithredadwy ar ôl i'r DU adael yr UE. Nid yn unig y bydd hyn yn caniatáu i ni barhau i wneud taliadau i ffermwyr yn 2020, bydd hefyd yn caniatáu i ni barhau i fonitro, archwilio a gorfodi safonau trawsgydymffurfio. Er mwyn sicrhau bod y pwerau cyfreithiol angenrheidiol ar waith erbyn y diwrnod ymadael, mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno'r Bil taliadau uniongyrchol drwy broses gyflym, a disgwylir i Gydsyniad Brenhinol gael ei roi erbyn 31 Ionawr. O ganlyniad i'r daith seneddol gywasgedig hon, ni fu modd i bwyllgor graffu ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil hwn. Fodd bynnag, wrth benderfynu a ddylid argymell cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil hwn, rwyf wedi ystyried y sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn ystod eu gwaith craffu ar Fil amaethyddiaeth y DU. Mae'r darpariaethau yn y Bil taliadau uniongyrchol wedi'u cyfyngu i reoliadau taliadau uniongyrchol sy'n berthnasol i flwyddyn gynllun 2020 yn unig, ac maent yn hanfodol i sicrhau bod cymorth y taliadau uniongyrchol i'r sector amaethyddol yn parhau’n syth ar ôl Brexit. O ystyried yr amser sydd ar gael, credaf fod Bil y DU yn gyfrwng priodol i gyflawni hyn. Gan fod diben y Bil taliadau uniongyrchol yn ymwneud ag amaethyddiaeth a'r polisi amaethyddol cyffredin, rwyf o'r farn ei fod yn gwneud darpariaeth ynghylch materion datganoledig. Fodd bynnag, rwy'n fodlon y dylid gwneud y darpariaethau hyn yn y Bil ar gyfer Cymru, er mwyn sicrhau bod gennym y pwerau angenrheidiol mewn pryd i barhau i gefnogi ffermwyr drwy'r cynllun taliadau uniongyrchol. Fel rydym wedi'i ddweud yn glir wrth Lywodraeth y DU, roedd ein hargymhelliad i'r Senedd wrthod rhoi cydsyniad i Fil y cytundeb ymadael yn seiliedig ar bryderon penodol gyda'r Bil penodol hwnnw. Nid yw'r argymhelliad hwn, na phenderfyniad y Senedd, yn effeithio ar gysylltiadau rhynglywodraethol ehangach. Felly, gofynnaf i Aelodau'r Cynulliad gefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn ar gyfer y Bil taliadau uniongyrchol, ac rwy'n gwneud y cynnig. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, Mike Hedges. Mike Hedges AC: Diolch, Lywydd. Rwy’n falch o allu cyfrannu at y ddadl heddiw ar ran y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig. Cyn trafod ein barn ynglŷn â’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol, hoffwn nodi mai ychydig iawn o amser a gawsom i'w ystyried ac i adrodd arno. Yn yr amser a oedd ar gael, ni fu modd ystyried y cynnig cydsyniad deddfwriaethol na darpariaethau'r Bil yn fanwl iawn. Wedi dweud hynny, yr hyn a wyddom yw y bydd y Bil yn galluogi Llywodraeth Cymru i barhau i dalu ffermwyr ar ffurf taliadau uniongyrchol yn y cyfnod yn syth ar ôl Brexit. Ers canlyniad y refferendwm ar Ewrop, mae'r pwyllgor wedi dangos cryn ddiddordeb yn nyfodol cymorth amaethyddol ar ôl Brexit. Yn ein hadroddiad ar Fil amaethyddiaeth blaenorol y DU, gwnaethom dynnu sylw at yr ansicrwydd digyffelyb a oedd yn wynebu ffermwyr Cymru yn y cyfnod yn arwain at Brexit. Rydym wedi nodi’n glir yr angen i ddarparu sefydlogrwydd i ffermwyr drwy sicrhau parhad y taliadau uniongyrchol yn y cyfnod yn syth ar ôl Brexit. Gwyddom fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno system newydd o gymorth ariannol i ffermwyr, ac edrychwn ymlaen at graffu ar gynigion terfynol y Llywodraeth pan gânt eu cyflwyno. Ond mae unrhyw system newydd yn bell i ffwrdd o hyd. Tan hynny, bydd angen i ffermwyr ddibynnu ar y system y byddwn yn ei hetifeddu gan yr Undeb Ewropeaidd, y mae taliadau uniongyrchol yn rhan fawr iawn ohoni. Bydd y Bil yn galluogi Llywodraeth Cymru i barhau i ddarparu taliadau uniongyrchol i ffermwyr Cymru wrth i ni adael yr UE. Gyda therfyn amser Brexit ychydig ddyddiau i ffwrdd yn unig, nid yw peidio â deddfu yn opsiwn—mae cynnwys darpariaethau yn y Bil yn bragmatig ac yn angenrheidiol. Felly, nid yw'r pwyllgor yn gweld unrhyw reswm dros wrthwynebu i’r Cynulliad gytuno ar y cynnig sy’n gysylltiedig â’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol, a buaswn yn gobeithio y bydd pob Aelod yn gwneud hynny, gan y byddai peidio â gwneud hynny'n drychinebus i ffermwyr Cymru. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Mick Antoniw. Mick Antoniw AC: Diolch, Lywydd. Fe wnaethom ystyried y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) yn ein cyfarfod ddydd Llun yr wythnos hon, a chyflwynasom ein hadroddiad ddoe. O ystyried yr amser cyfyngedig a oedd gennym, ni fu modd i ni edrych yn fanwl ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol a'r cynigion yn y Bil. Fodd bynnag, rydym wedi dod i dri chasgliad. Cyn sôn am ein casgliad cyntaf, hoffwn nodi'n fyr y pŵer gwneud rheoliadau yng nghymal 3. Mae gan gymal 3, sy’n ymwneud â chadw deddfwriaeth yr UE, bum pŵer gwneud rheoliadau, ac mae pob un ohonynt yn caniatáu addasu deddfwriaeth sylfaenol, ac felly, maent yn bwerau Harri'r Wythfed. Rydym yn croesawu'r ffaith y bydd rheoliadau cymal 3 yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol a wnaed neu'r weithdrefn gadarnhaol ddrafft. Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair. Mick Antoniw AC: Mae ein casgliad cyntaf yn ymwneud â'r pwerau gwneud rheoliadau yng nghymal 6(1), y gall Gweinidogion Cymru a'r DU eu harfer. Mae'n bŵer Harri'r Wythfed, ond bydd y rheoliadau'n cael eu gwneud o dan y weithdrefn negyddol. Ein safbwynt ers tro yw y dylai rheoliadau sy'n caniatáu i ddeddfwriaeth sylfaenol gael ei haddasu fod yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol. Mae ein casgliad cyntaf yn ailadrodd y pwynt hwn. Mae'r pŵer Harri'r Wythfed yng nghymal 6(1) hefyd yn berthnasol i’n hail gasgliad, sy’n ymwneud â diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006, mater a godwyd ddoe yn ystod y ddadl ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer Bil y cytundeb ymadael â'r UE. Rydym yn pryderu ynghylch diffyg ymddangosiadol unrhyw gyfyngiad ar wyneb y Bil hwn o ran atal diwygio Deddf 2006. Mae hyn yn arbennig o bwysig gan y gall y pŵer Harri'r Wythfed yng nghymal 6(1), pŵer y gellid ei ddefnyddio i ddiwygio Deddf 2006, gael ei arfer gan reoliadau sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn negyddol. Mae ein hail gasgliad yn ailadrodd ein safbwynt sefydledig y dylid cyflawni unrhyw addasiad i Atodlen 7A neu 7B i Ddeddf 2006 drwy'r broses a nodir yn adran 109 y Ddeddf honno. Mae ein trydydd casgliad yn ymwneud â Gweinidogion y DU yn gwneud rheoliadau mewn meysydd datganoledig. Ar hyn o bryd, mae Rheol Sefydlog 30C yn ymwneud â Gweinidogion y DU yn gwneud rheoliadau mewn meysydd datganoledig o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. Ein barn gyffredinol yw y dylid ymestyn Rheol Sefydlog 30C i fod yn berthnasol i reoliadau a wneir gan Weinidogion y DU mewn meysydd datganoledig gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru o dan unrhyw Ddeddf sy'n gysylltiedig â Brexit. Mae ein trydydd casgliad yn adlewyrchu'r safbwynt hwn. Cyn cloi, hoffwn sôn am y ddarpariaeth fachlud sy'n berthnasol i reoliadau a wneir o dan adran 3. Rydym yn cydnabod y bydd y pwerau gwneud rheoliadau yng nghymalau 3(1) a 3(3) i wneud y ddarpariaeth briodol i atal neu unioni unrhyw ddiffyg yng nghyfraith yr UE a gedwir sy'n llywodraethu cynllun taliadau uniongyrchol y PAC yn machlud ar 31 Rhagfyr 2020. Fe wnaethom nodi bod y Gweinidog wedi ei alw'n amddiffyniad pwysig. Fodd bynnag, hoffwn dynnu sylw at gymal 6. Nid yw'r pwerau gwneud rheoliadau yng nghymal 6 yn ddarostyngedig i derfyn amser o'r fath. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch. A gaf fi alw ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ymateb? Lesley Griffiths AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i Mike Hedges, Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, ac i Mick Antoniw, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, am eu sylwadau. Credaf fod Mike Hedges wedi egluro'n gryno iawn pam fod angen y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, a diolch iddo am ei gefnogaeth. Mewn perthynas â sylwadau Mick Antoniw, rwyf wedi darllen eich adroddiad a ddaeth o'ch cyfarfod ddydd Llun, ac os caf ddweud, mewn perthynas â'r pwerau Harri'r Wythfed, nodaf fod yn well gennych weithdrefn gadarnhaol, ond o ystyried cwmpas cul iawn y pŵer a'r ffaith bod unrhyw ddarpariaethau canlyniadol a wneir yn debygol o ymwneud â materion technegol iawn, rydym o'r farn fod y weithdrefn penderfyniad negyddol yn briodol. Mewn perthynas â'r ddarpariaeth fachlud sy'n berthnasol i bwerau gwneud rheoliadau, unwaith eto, o ystyried cwmpas cyfyngedig iawn y pŵer yng nghymal 6(1), nad yw ond yno, mewn gwirionedd, i fynd i'r afael ag unrhyw faterion canlyniadol sy'n codi o'r darpariaethau eraill yn y Bil cul iawn hwn, mae terfyn amser ar y pŵer yn ddiangen yn yr achos hwn. O ran eich trydydd casgliad ynghylch Gweinidogion y DU yn gwneud rheoliadau mewn meysydd datganoledig, rwy'n gobeithio fy mod wedi egluro yn fy sylwadau agoriadol pam y gwnaethom hyn, ond mewn perthynas ag ymestyn Rheol Sefydlog 30C, mater i'r Pwyllgor Busnes fyddai hynny, Ddirprwy Lywydd, ond mae'n dal i fod yn fwriad gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod sylw'r Senedd yn cael ei dynnu at unrhyw reoliadau a wneir gan Weinidogion y DU mewn meysydd datganoledig gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru. Diolch. Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 4. Cwestiynau Amserol Cwestiynau amserol oedd eitem 4. Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau amserol. 5. Datganiadau 90 Eiliad Eitem 5 yw'r datganiadau 90 eiliad, ac mae gennym un y prynhawn yma—y Llywydd, Elin Jones. Elin Jones AC: Hanner can mlynedd yn ôl, ym mis Ionawr 1970, sefydlwyd elusen arloesol yng Ngheredigion ar gyfer pobl ddall, gan gynnig y gwasanaeth cyntaf o'i fath yng Nghymru ac yn y Deyrnas Gyfunol, gwasanaeth a fyddai'n galluogi pobl ddall Ceredigion i glywed darlleniadau o'r newyddion lleol diweddaraf yn y wasg. Papur Sain Ceredigion oedd hwnnw. Sefydlwyd y papur sain gan Ronald Sturt, darlithydd yng Ngholeg Llyfrgellyddiaeth Cymru yn Llanbadarn Fawr. I ddechrau, 18 o bobl oedd yn derbyn recordiadau o leisiau lleol yn darllen straeon o'r wasg leol ar gasetiau tâp. Erbyn heddiw, mae'r recordiadau ar declyn USB, gyda dros 100 o wrandawyr rheolaidd i'r papur sain a mwy na 60 o wirfoddolwyr yn cyfrannu'n rheolaidd. Mae'r recordiadau'n cael eu cyhoeddi'n wythnosol ac mae'r arlwy'n cynnwys y Cambrian News, Golwg, ac Y Cymro. Mae un darllenwraig, Eileen Sinnet Jones, wedi gwirfoddoli am yr hanner can mlynedd yn ddi-dor. Am gyfraniad gan Eileen. Hoffwn longyfarch Papur Sain Ceredigion am dorri tir gwbl newydd yn 1970, am hanner can mlynedd o wasanaeth, ac am ddod â'r newyddion yn fyw i'r bobl hynny sy'n methu ei weld na'i ddarllen, yn y Gymraeg a'r Saesneg, yng Ngheredigion a thu hwnt. Diolch. 6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Cefnogaeth mewn Profedigaeth ar ôl Hunanladdiad Eitem 6 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r Ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Cefnogaeth mewn Profedigaeth ar ôl Hunanladdiad, a galwaf ar Lynne Neagle i gyflwyno'r cynnig. Lynne. Cynnig NDM7211 Lynne Neagle, Dai Lloyd, David Melding Cefnogwyd gan Angela Burns, David Rees, Jack Sargeant, Jayne Bryant, Joyce Watson, Mark Isherwood Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod bod colli rhywun i hunanladdiad yn golled unigryw o ddinistriol i deuluoedd, ffrindiau a chymunedau cyfan. 2. Yn nodi'r cymorth cyfyngedig sydd ar gael yng Nghymru i gefnogi'r rhai sy'n dioddef profedigaeth drwy hunanladdiad. 3. Yn nodi bod colli rhywun i hunanladdiad yn ffactor risg mawr ar gyfer marw drwy hunanladdiad a bod cymorth i'r rhai sydd wedi cael profedigaeth yn rhan hanfodol o atal hunanladdiad. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau ar frys bod cymorth ar gael i'r rhai sydd mewn galar ar ôl hunanladdiad ledled Cymru fel rhan o lwybr ôl-gyflawni cynhwysfawr i Gymru. Wrth wneud hynny, rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod gwelliannau i wasanaethau a'r llwybr newydd yn cael eu llunio ar y cyd gan y rhai sydd wedi byw drwy brofedigaeth hunanladdiad. Cynigiwyd y cynnig. Lynne Neagle AC: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon ar brofedigaeth ar ôl hunanladdiad. Hoffwn ddiolch i Dai Lloyd AC a David Melding AC am gyd-gyflwyno'r cynnig gyda mi heddiw, ac i Dai Lloyd am gloi'r ddadl. Hoffwn ddiolch hefyd i'r holl Aelodau sydd wedi cefnogi'r cynnig. Heddiw, rwyf am ddechrau drwy gydnabod bod colli rhywun i hunanladdiad yn golled unigryw o ddinistriol. Mae'n gadael pobl mewn lle tywyll iawn. Nawr, gwn fod galar yn beth personol iawn, a bod pawb yn ei brofi yn eu ffordd eu hunain ac yn ymdopi'n wahanol. Nid wyf yn bwriadu bychanu effaith profedigaethau eraill mewn unrhyw ffordd, ond er mwyn sicrhau y rhoddir y gefnogaeth gywir i'r rheini sydd wedi cael profedigaeth drwy hunanladdiad, mae'n rhaid i ni gydnabod y ffyrdd y mae'n wahanol i fathau eraill o brofedigaeth a pha mor unigryw o ddinistriol ydyw. Yn wir, mae'n anodd ei roi mewn geiriau, hyd yn oed. Yn ogystal â'r brofedigaeth dorcalonnus o golli rhywun rydych yn eu caru, yn aml ceir stigma ac arwahanrwydd, teimladau dinistriol o euogrwydd, ac oes o ofyn, 'Beth os?', 'O na bai', ac yn anad dim, 'Pam?'—cwestiwn na fydd rhai pobl byth yn gallu dod o hyd i'r ateb iddo. Gall colli rhywun i hunanladdiad gael effaith fawr hefyd ar bobl ymhell y tu hwnt i deulu a ffrindiau agos yr ymadawedig. Rwyf wedi disgrifio hunanladdiad o'r blaen fel craig fawr yn cwympo i mewn i bwll. Mae'r tonnau'n crychdonni tuag allan ac maent yn eang ac yn bellgyrhaeddol. Bob blwyddyn yng Nghymru, collir oddeutu 300 i 350 o fywydau drwy hunanladdiad. Arferid dweud bod pob hunanladdiad yn effeithio ar chwech o bobl, ond mae ymchwil fwy diweddar wedi canfod bod 135 o bobl yn cael eu heffeithio mewn gwirionedd. Mae colli rhywun i hunanladdiad yn dinistrio teuluoedd, ffrindiau a chymunedau cyfan. Gwyddom hefyd fod colli rhywun i hunanladdiad yn ffactor risg sylweddol ar gyfer marw drwy hunanladdiad, yn enwedig i bobl ifanc sydd mewn grŵp risg uchel. Felly, cefnogaeth i'r rheini sydd mewn profedigaeth ar ôl hunanladdiad yw un o'r pethau mwyaf effeithiol y gallwn eu gwneud i atal pobl rhag marw drwy hunanladdiad. Lynne Neagle AC: Bydd yr Aelodau'n cofio i’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, o dan gadeiryddiaeth fedrus Dai Lloyd, gynnal ymchwiliad pwysig i atal hunanladdiad yng Nghymru yn 2018, gan gynhyrchu adroddiad o'r enw 'Busnes Pawb'. Fel rhan o'r ymchwiliad hwnnw, fe wnaethom edrych yn ofalus ar y gefnogaeth sydd ar gael i bobl sydd mewn profedigaeth o ganlyniad i hunanladdiad, gan gynnwys cyfarfod â phobl sy'n byw gyda cholli rhywun i hunanladdiad. Rwyf wedi siarad o’r blaen yn y Siambr hon am ymweliad y pwyllgor â Sefydliad Jacob Abraham yng Nghaerdydd lle cyfarfuom â grŵp o berthnasau, pob un ohonynt wedi colli meibion, gwŷr, tadau, a brodyr i hunanladdiad. Roedd un ddynes wedi colli nid un ond dau fab i hunanladdiad—sy'n atgoffa rhywun, yn gwbl dorcalonnus, o'r risg y mae profedigaeth o ganlyniad i hunanladdiad yn ei chreu. Mae'n arswydus meddwl nad oedd unrhyw un o’r teuluoedd hynny wedi cael unrhyw gymorth arbenigol, heblaw am y gefnogaeth a gynigiai'r sefydliad. Nid oeddent wedi cael 'Cymorth wrth Law Cymru' hyd yn oed, llyfryn rhagorol Llywodraeth Cymru ar brofedigaeth o ganlyniad i hunanladdiad. Nawr, nid yw Sefydliad Jacob Abraham yn cael unrhyw arian statudol ac mae wedi bod yn gweithredu o'r llaw i'r genau ers ei sefydlu gan Nicola Abraham ar ôl iddi golli ei mab Jacob i hunanladdiad yn 2015. Yn ‘Busnes Pawb', dywedodd y pwyllgor yn glir iawn, a dyfynnaf: 'Cawsom ein syfrdanu i glywed am y diffyg cymorth sydd ar gael i’r rhai sydd wedi dioddef profedigaeth o ganlyniad i hunanladdiad.’ Dyna pam fod y pwyllgor wedi gwneud tri argymhelliad ar gymorth profedigaeth. Fe wnaethom alw am ddatblygu llwybr ôl-ymyrraeth ledled Cymru ar gyfer hunanladdiad fel blaenoriaeth ar unwaith. Fe wnaethom alw am hyrwyddo 'Cymorth wrth Law Cymru' yn fwy gweithredol, ac fe wnaethom alw ar Lywodraeth Cymru i roi ystyriaeth weithredol i ddarparu cyllid ar gyfer grwpiau cymorth i'r rheini sydd mewn profedigaeth ar ôl hunanladdiad. Fe wnaethom yr argymhellion hynny yn ôl ym mis Tachwedd 2018, a bellach, fwy na blwyddyn yn ddiweddarach, nid oes digon wedi newid o bell ffordd. Croesawais y cyllid ychwanegol o £500,000 a ddarparwyd mewn ymateb i adroddiad y pwyllgor iechyd i ariannu swydd arweinydd atal hunanladdiad cenedlaethol newydd yng Nghymru a chydgysylltwyr rhanbarthol. Rwy'n cydnabod y bu oedi wrth benodi'r unigolyn hwnnw, a bod hynny wedi arafu cynnydd, ond gan fod penodiad wedi'i wneud bellach, mae gwir angen i ni symud yn gyflym. Croesawaf hefyd y 1,500 copi o 'Cymorth wrth Law Cymru' a argraffwyd gan Lywodraeth Cymru yn dilyn ein hadroddiad, ond rwy'n dal i gyfarfod pobl sydd wedi cael profedigaeth o ganlyniad i hunanladdiad nad ydynt wedi cael copi o’r adnodd hanfodol hwn, nac wedi cael gwybod amdano. Ac ni wnaed unrhyw fuddsoddiad mewn grwpiau cymorth, ac yn wir, mae’r grŵp olaf ar gyfer goroeswyr profedigaeth ar ôl hunanladdiad yng Nghymru wedi dod i ben. Bob tro y mynegais fy mhryderon ynghylch profedigaeth ar ôl hunanladdiad dros y flwyddyn ddiwethaf, tynnwyd fy sylw at adolygiad Llywodraeth Cymru o wasanaethau profedigaeth, er fy mod wedi dweud dro ar ôl tro nad wyf yn credu bod angen adolygiad arnom i ddweud wrthym fod gwasanaethau profedigaeth ar ôl hunanladdiad yn druenus o annigonol yng Nghymru. Mae'r adolygiad hwnnw bellach wedi cyflwyno ei adroddiad, ac mae'n rhaid i mi ddweud, rwy'n wirioneddol siomedig ag ef. Nid wyf yn cydnabod y darlun y mae'n ei baentio o'r gefnogaeth y mae'n honni ei bod ar gael ar gyfer profedigaeth ar ôl hunanladdiad. Yn ôl pob tebyg, mae chwe gwasanaeth yn cynnig cymorth profedigaeth ar ôl hunanladdiad yn Nhorfaen. Mae Caerffili, Caerdydd, Sir y Fflint, Sir Benfro, a Rhondda Cynon Taf yn gwneud yn well byth, gydag wyth yr un. Pwy fyddai'n meddwl? Yn sicr, nid y bobl y cyfarfûm â hwy sydd mewn profedigaeth ar ôl hunanladdiad. A bod yn deg â'r adroddiad, mae'n amlwg fod y mwyafrif—81 y cant o ddarparwyr—yn cynnig gwybodaeth a chefnogaeth ac yn cyfeirio at wasanaethau cymorth eraill, ac mae hynny, i mi, yn codi llawer o gwestiynau ynglŷn â sut beth yw'r gefnogaeth hon. A yw'n daflen, e-bost, galwad ffôn? Ac oni ddylai'r adroddiad fod wedi nodi’n glir pa fath o gefnogaeth sy'n cael ei chynnig a chan bwy? Gwyddom o'r adroddiad fod cefnogaeth arbenigol yn brin ar lawr gwlad, ond nid yw'n dweud unrhyw beth wrthym am bwy sy'n darparu'r gefnogaeth honno, pa mor hir y mae'n rhaid i bobl aros amdani nac unrhyw beth am ansawdd y gwasanaethau, nac unrhyw beth arall yn ei gylch. Gŵyr y Gweinidog yn iawn fod hunanladdiad ymhlith pobl ifanc yn achos sy'n agos iawn at fy nghalon. Mae elusen 2 Wish Upon a Star yn darparu cefnogaeth mewn profedigaeth i deuluoedd sy'n colli plentyn neu oedolyn ifanc mewn ffordd sydyn a thrawmatig, gan gynnwys drwy hunanladdiad. Fe’i sefydlwyd gan Rhian Mannings, yn dilyn marwolaeth ei babi bach, George, a hunanladdiad trasig ei gŵr, Paul, bum niwrnod yn unig yn ddiweddarach. Yn union fel Nicola Abraham, mae Rhian wedi defnyddio'i phrofiad byw o brofedigaeth ar ôl hunanladdiad i geisio atal teuluoedd eraill rhag dioddef yr hyn y mae hi wedi'i ddioddef. Maent yn gwneud gwaith gwych ledled Cymru. Mae'r blychau cofio y maent yn eu darparu ar gyfer teuluoedd sydd wedi colli plentyn yn yr ysbyty yn rhoi ychydig gysur ar yr adeg dywyllaf, heb os, ym mywyd unrhyw riant. Mae eu gallu i gynnig cefnogaeth yn fuan ar ôl y brofedigaeth, neu pan fo angen y gefnogaeth honno, yn achub bywydau, yn llythrennol, i rai teuluoedd. Maent hefyd yn darparu cefnogaeth fawr ei hangen ar gyfer brodyr a chwiorydd sydd mewn profedigaeth. Ac eto, er eu bod yn derbyn atgyfeiriadau gan bob bwrdd iechyd yng Nghymru, ac yn darparu gwasanaeth ym mhob adran ddamweiniau ac achosion brys a'r rhan fwyaf o adrannau gofal critigol, nid yw 2 Wish Upon a Star yn cael ceiniog o arian cyhoeddus gan unrhyw un o'r byrddau iechyd. Mae hynny'n gwbl anghywir. Lynne Neagle AC: Mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu’r argymhellion yn 'Busnes Pawb' ar frys i ddatblygu strategaeth ôl-ymyrraeth ar gyfer hunanladdiad. Dylai'r strategaeth honno gael ei chydgynhyrchu gyda phobl sydd â phrofiad o brofedigaeth ar ôl hunanladdiad, a sicrhau bod cefnogaeth hyblyg ar gael i bobl pan fydd ei hangen arnynt, boed hynny’n syth ar ôl hunanladdiad, mewn chwe wythnos, neu ddwy, dair neu 10 mlynedd yn ddiweddarach. Mae’n rhaid i hynny hefyd gynnwys mynediad amserol at driniaeth arbenigol ar gyfer anhwylder straen wedi trawma, a ddioddefir yn aml gan rai sydd mewn profedigaeth ar ôl hunanladdiad, yn enwedig y rhai a ddaeth o hyd i'w hanwylyd. Rydym ar ei hôl hi o gymharu â rhannau eraill o'r DU ar hyn. Mae gan Loegr lwybr ôl-ymyrraeth eisoes a allai helpu i lywio ein llwybr ni, ac mae enghreifftiau gwych o gefnogaeth mewn profedigaeth ar ôl hunanladdiad yn Lloegr, a llawer ohonynt wedi'u cydgynhyrchu gyda theuluoedd sydd wedi cael profedigaeth. Ond mae'n ymwneud â mwy na chefnogi unigolion yn unig; mae'n ymwneud hefyd ag ôl-ymyrraeth mewn sefydliadau lle bu marwolaeth drwy hunanladdiad, boed hynny mewn ysgol, gwasanaeth tân, ysbyty, practis meddyg teulu neu orsaf drenau. Dylem ni yn y Cynulliad hwn fod yn fwy ymwybodol na llawer am bwysigrwydd hanfodol ymateb ôl-ymyrraeth i golli ffrind a chydweithiwr i hunanladdiad. Mae'r angen am ôl-ymyrraeth hunanladdiad ym mhob ysgol yng Nghymru yn arbennig o agos at fy nghalon. Yn Lloegr, cyhoeddwyd canllawiau newydd sy'n nodi y dylid trin un achos o hunanladdiad mewn ysgol fel clwstwr posibl am fod pobl ifanc mor agored fel grŵp risg uchel ar gyfer hunanladdiad. Rwy’n canmol y canllawiau newydd a gomisiynodd Llywodraeth Cymru gan yr Athro Ann John ar siarad am hunanladdiad gyda phobl ifanc sy'n hunanladdol ac yn hunan-niweidio, ond nid ydynt yn ddigon. Mae angen inni sicrhau bod iechyd meddwl ac atal hunanladdiad wedi'i ymgorffori yn y cwricwlwm yng Nghymru, er mwyn cyrraedd y bobl ifanc nad oes unrhyw un yn gwybod eu bod yn hunanladdol tan eu bod, yn drasig, yn cyflawni hunanladdiad. Mae’n rhaid inni sicrhau hefyd fod pob ysgol yn ymgymryd ag ôl-ymyrraeth yn dilyn hunanladdiad. Gwn fod rhai ysgolion wedi bod yn barod iawn i ddefnyddio rhaglen ôl-ymyrraeth Cam wrth Gam y Samariaid, ond mae eraill y gwn amdanynt heb wneud unrhyw beth o gwbl, heblaw am ambell sesiwn gwnsela. Rwy'n falch iawn fod gan Papyrus ganolfan yng Nghymru bellach, ac mae’n rhaid i ni sicrhau bod ysgolion yn defnyddio gwasanaethau’r sefydliad hwnnw a'r Samariaid. Ni all fod yn ychwanegiad dewisol; mae'n rhy hwyr pan fydd unigolyn ifanc arall wedi marw. A bydd, fe fydd angen adnoddau ychwanegol i wneud hyn, ond wrth unrhyw sy'n dweud na allwn fforddio gwneud hyn, rwy'n dweud na allwn fforddio peidio. Amcangyfrifwyd bod pob achos o hunanladdiad yn costio £1.6 miliwn i bwrs y wlad. Faint yn well fyddai gwneud yr hyn y mae'r Llywodraeth yn siarad cymaint amdano a buddsoddi mewn cymorth ac ymyrraeth gynnar i'r rheini sydd mewn profedigaeth? Mae gennym bobl a sefydliadau gwych yn gweithio yn y maes hwn yng Nghymru. Hoffwn dalu teyrnged i'r Athro Ann John, sy'n cadeirio grŵp cynghori cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar atal hunanladdiad. Mae Ann yn gweithio'n ddiflino, a diolch iddi am hynny. Ond mae'n rhaid inni sicrhau bod gan bobl fel Ann adnoddau ac ymrwymiad llawn Llywodraeth Cymru i wneud y gwaith y maent yn dymuno’i wneud. Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn aml yn cael sylw gwael, ac rwy'n siŵr y gall pob un ohonom ddeall hyn yma. Fodd bynnag, rwyf wedi gweld bod Twitter yn gyfle gwych i rwydweithio â phobl o'r un anian. Drwy Twitter, rwyf wedi dod i adnabod grŵp o famau sydd wedi colli plant drwy hunanladdiad. Daw rhai ohonynt o Gymru; daw eraill o fannau eraill yn y DU. Maent wedi llysenwi eu hunain yn 'The Warrior Mums', ac maent yn rhyfelwyr go iawn, a hynny bob dydd. Felly, hoffwn gloi heddiw drwy dalu teyrnged twymgalon i'r holl famau dewr, y tadau dewr, ac i ddewrder pawb sy'n byw bob dydd gyda cholli rhywun i hunanladdiad. Ein dyletswydd ni, Weinidog, yw anrhydeddu eu dewrder, drwy weithio gyda hwy i ddarparu'r cymorth profedigaeth ar ôl hunanladdiad y mae ei ddirfawr angen yng Nghymru, ac achub bywydau wrth wneud hynny. David Melding. David Melding AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd, am fy ngalw yn y ddadl hollbwysig hon. A gaf fi ddechrau drwy dalu teyrnged i Lynne Neagle, sy'n llais ac yn arweinydd rhagorol yn y maes hwn, fel Cadeirydd y pwyllgor, ac yn gyffredinol yn ein dadleuon yma, ac sydd wedi gwneud cymaint i ddwyn y Llywodraeth i gyfrif, i ganmol y Llywodraeth pan fo'n gwneud yn dda, ond hefyd i'w hatgoffa pan fo bwlch enfawr sy'n dal i fod angen ei lenwi? Credaf y bydd pob un ohonom sydd wedi gwasanaethu fel Aelodau Cynulliad am unrhyw gyfnod o amser wedi cael gwaith achos yn y maes hwn sy'n anodd ac yn boenus tu hwnt. Mae’n rhaid i mi ddweud bod o leiaf ddau achos yn dod i’r meddwl yn fy mhrofiad fy hun, ac roedd cymhlethdod yr achosion, yr amser oedd ei angen yn ein hymdrechion i gefnogi’r rheini yr effeithiwyd arnynt, yn aruthrol, ac o ryw werth o ran gwella gwasanaethau cyhoeddus, ond wrth gwrs, fel therapi uniongyrchol nid oedd o unrhyw ddefnydd i'r bobl roeddem yn eu cefnogi. A dyna pryd y gwelais mai'r tro cyntaf y byddai rhai o fy etholwyr yn siarad â rhywun y tu allan i'w teulu neu grŵp o ffrindiau agos ynglŷn â hyn oedd pan ddeuent i siarad am yr anawsterau a gaent i gael mynediad at gefnogaeth ddigonol. Mae’n rhaid i mi ddweud, rwyf wedi cyfarfod â phobl sydd wedi siarad amdano hefyd—a soniodd Lynne am hyn—ac wedi rhoi tystiolaeth anhygoel. Am weithred hael yw dod i gyfarfod yma, yn yr Oriel neu'r Neuadd efallai, neu'n wir i sesiwn pwyllgor ffurfiol hyd yn oed, ac i’r grŵp hollbleidiol y mae Lynne wedi'i sefydlu hefyd, ac i sôn am eu profiadau, i roi'r dystiolaeth honno, fel y gellir lleddfu’r boen ofnadwy hon i eraill. Ac roeddech yn llygad eich lle, Lynne, yn talu teyrnged i bawb sydd wedi gwneud hynny. Mae'n eithriadol o boenus pan fydd hunanladdiad yn digwydd ymhlith plant a phobl ifanc. Ac rwy'n talu teyrnged yma i waith Prifysgol Abertawe ac Iechyd Cyhoeddus Cymru am eu hastudiaeth thematig a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sy’n gymorth mawr yn fy marn i i roi dealltwriaeth lawnach i ni. Ac roedd hon yn astudiaeth o bawb rhwng 10 a 17 oed a oedd, yn ôl pob tebyg, wedi cyflawni hunanladdiad. Anaml y digwyddai eu marwolaethau o ganlyniad i un rheswm yn unig, a deillient o gyfuniad cymhleth o ffactorau risg, amgylchiadau a phrofiadau niweidiol. Ond yn aml, bydd teuluoedd yn beio'u hunain ac yn dioddef euogrwydd echrydus, ac mae hynny ynddo’i hun yn cynyddu'r risg o hunanladdiad. Ac ar y pwynt hwnnw, gan y credaf ei bod yn duedd naturiol i lawer ofyn y cwestiwn, ‘Beth y gallwn fod wedi'i wneud?', neu hyd yn oed, 'Beth na wnes i?' Nid yw'r rhain yn gwestiynau y gellir eu cyfiawnhau. Mae'r amgylchiadau hyn yn llethol, ond dyna’r pethau sy'n dod i'r meddwl, ac maent yn feddyliau tywyll ac annymunol, ac yn feddyliau sy'n tanseilio penderfyniad pobl yn aml iawn, oni bai eu bod yn gallu siarad amdanynt, a chael eu cefnogi gan bobl sy'n sylweddoli mai dyma'r ymateb anochel, yn aml, y bydd pobl sydd wedi dioddef trawma o'r fath yn ei brofi. Yn amlwg, gall gwasanaethau profedigaeth chwarae rhan hanfodol yn cefnogi'r rhai yr effeithir arnynt gan hunanladdiad. Mae'r sector gwirfoddol yn chwarae rhan fawr yma, ac maent yn arloesol iawn, ac fel y dywedodd Lynne, mae 2 Wish Upon a Star yn enghraifft ardderchog o hyn yn fy marn i. Ond ceir pethau fel Gofal mewn Galar Cruse hefyd. Maent yn darparu cefnogaeth i oddeutu 360 o bobl sydd mewn profedigaeth o ganlyniad i hunanladdiad, ac yn rhoi cymorth un i un a chymorth grŵp, a hefyd yn cynnig gwybodaeth anhygoel ynghylch y mathau o wasanaethau sydd eu hangen. Ac mae Cruse yn nodi ei bod yn hanfodol fod y gefnogaeth iawn ar gael ar yr amser iawn, a bydd hynny'n wahanol i wahanol bobl. Efallai na fydd dulliau strwythuredig iawn a dulliau therapiwtig yn bosibl ar unwaith nac yn ddymunol ar unwaith i’r rhai yr effeithir arnynt, ond bydd eu hangen yn fawr yn nes ymlaen. Felly, mae angen i chi edrych ar yr achos cyfan a'r llwybr cyfan. Ond mae Cruse wedi tynnu sylw at y ffaith mai prin iawn yw'r gwasanaethau cymorth cwnsela sydd ar gael i rai sydd mewn profedigaeth ar ôl hunanladdiad, a chredaf fod hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni ganolbwyntio arno y prynhawn yma yn ein dadl. Credaf ei bod yn briodol cydbwyso ein sylwadau drwy ganmol y gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddechrau. A sylwais o’r adolygiad canol tymor, a gynhaliwyd gan Brifysgol Abertawe a Hybu Iechyd Cymru, fod strategaeth bum mlynedd Llywodraeth Cymru ar gyfer atal hunanladdiad wedi gweld cynnydd rhagorol ac wedi gwireddu’r gwaith o ddatblygu cynlluniau gweithredu lleol ar atal hunanladdiad, a’u bod yn dod yn weithredol. Ond mae angen i bob un ohonynt edrych ar ba wasanaethau profedigaeth sydd ar gael. Mae hwnnw’n faes allweddol o ran atal hunanladdiad. Fel rydym newydd glywed, mae'r rheini sydd wedi colli ffrind agos neu berthynas i hunanladdiad mewn perygl eu hunain, ond maent hefyd wedi rhoi'r mewnwelediad sydd eu hangen arnom i gynllunio gwasanaethau effeithiol. Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Jack Sargeant AC: Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Lynne Neagle ac eraill am gyflwyno'r ddadl hon y prynhawn yma. Fodd bynnag, mae'n hynod drist fod yn rhaid i ni wneud hyn a thrafod y pwnc hwn heddiw, nid yn unig am fod cymorth profedigaeth ar ôl hunanladdiad yn gyfyngedig, a heb fod yn ddigon da a dweud y gwir, ond am fod hunanladdiad yn dal i ddigwydd ar raddfa enfawr ac yn argyfwng iechyd cyhoeddus. Y llynedd, siaradais yn ystod y ddadl ar atal hunanladdiad a gosodais her i bob un ohonom. Yr her oedd i bob un ohonom wneud yn well a deall a derbyn bod hunanladdiad yn fusnes i bawb. Gofynnais i'r Aelodau ac aelodau o'r cyhoedd wneud mwy i gefnogi ei gilydd ac i wneud mwy i atal hunanladdiad. Nawr, gwneuthum hyn, Ddirprwy Lywydd, am nad wyf eisiau i deulu arall brofi’r hyn y bu’n rhaid i fy nheulu i fynd drwyddo a'r hyn rydym yn parhau i fynd drwyddo. Felly, gadewch inni gofio, Ddirprwy Lywydd, na ddylem byth roi'r gorau i geisio helpu eraill, yn enwedig pan all hynny achub bywydau. Ar ddechrau’r ddadl, soniodd Lynne Neagle fod pobl sydd mewn profedigaeth ar ôl hunanladdiad mewn perygl o gyflawni hunanladdiad ac mewn mwy o berygl o gyflawni hunanladdiad, ac nid yw hynny’n syndod i mi. Yn dilyn fy mhrofiad, rwy'n dioddef o iselder ac anhwylder straen wedi trawma. Felly, rwyf am i aelodau'r cyhoedd ac Aelodau'r Siambr ddeall sut beth yw bywyd i bobl mewn profedigaeth a pham ei bod mor bwysig ein bod yn gwneud mwy, a bod Llywodraeth Cymru a Llywodraethau ledled y Deyrnas Unedig yn gwneud yn well—yn gwneud yn well i gefnogi'r rheini sydd mewn profedigaeth ar ôl hunanladdiad ac i gefnogi'r rheini sy'n dioddef cyn ei bod yn rhy hwyr. Felly, beth yw profedigaeth ar ôl hunanladdiad? Mae'n cynnwys nosweithiau di-gwsg; hunllefau pan fyddwch yn cysgu; methu codi o'r gwely i wynebu'r byd; ôl-fflachiadau a phryderon pan fyddwch yn codi; gwybod bod bywyd rhywun wedi dod i ben yn rhy fuan; y teimlad na fyddwch byth yn mynd i weld pêl-droed gyda'ch ffrind gorau eto; ac er y bydd eraill yn gallu symud ymlaen, y sylweddoliad na fydd eich bywyd byth yr un fath eto. Ddirprwy Lywydd, mae’n rhaid gwella ymwybyddiaeth o sut y gall ymddygiad effeithio ar y rheini sydd wedi colli rhywun. Mae adroddiadau ar hunanladdiad yn enghraifft benodol a dylai'r rhai sy'n ceisio llywio'r mathau hyn o adroddiadau ateb y cwestiwn syml hwn: pa effaith fydd fy ngweithredoedd yn ei chael ar y rheini sydd mewn profedigaeth? Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, hoffwn sôn am wasanaethau iechyd meddwl yn gyffredinol a'r rôl y gallant ei chwarae yn atal hunanladdiad. Nawr, rydym yn llawer mwy agored wrth siarad am y mater erbyn hyn, ond fel y dywedais ar y dechrau, mae hunanladdiad a salwch meddwl yn argyfwng iechyd cyhoeddus. Rydym bob amser yn dweud y dylid trin iechyd meddwl gyda'r un brys a pharch ag iechyd corfforol, wel, mae'n bryd gweld prawf o hynny. Ac i gloi, os caf ddweud, yn niffyg cefnogaeth ddigonol i'r rheini sydd mewn profedigaeth ar ôl hunanladdiad a'r rheini sy'n dioddef o salwch meddwl, ceir byddin o wirfoddolwyr ac aelodau'r cyhoedd sy'n camu i'r adwy bob dydd i ddarparu cefnogaeth. A hoffwn gloi, Ddirprwy Lywydd, drwy ddiolch iddynt, bob un ohonynt, am newid bywydau, am achub bywydau. Diolch. Mark Isherwood AC: Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar angladdau a phrofedigaeth, rwy'n croesawu'r ddadl hon. Deallwn fod rhwng 300 a 350 o bobl yn marw drwy hunanladdiad bob blwyddyn yng Nghymru, yn ôl Samariaid Cymru, gyda’r gyfradd hunanladdiad ymysg dynion bron dair gwaith yn uwch na’r gyfradd ar gyfer menywod. Mae Samariaid Cymru yn nodi’r ffigur y cyfeiriodd Lynne Neagle ato, fod pob achos o hunanladdiad yn effeithio'n ddifrifol ar o leiaf chwech o bobl. Nododd Lynne, mewn gwirionedd, fod y lluosydd yn llawer iawn uwch na hynny, a bod unigolyn sydd mewn profedigaeth ar ôl hunanladdiad yn llawer mwy tebygol o geisio cyflawni hunanladdiad eu hunain. Ac maent yn ychwanegu bod llawer o bobl sydd mewn profedigaeth o'r fath yn ei chael hi'n anodd cael y cymorth sydd ei angen arnynt a bod yn rhaid inni ddarparu gwell gwybodaeth a chefnogaeth i'r rheini sydd mewn profedigaeth neu yr effeithiwyd arnynt gan hunanladdiad, a bod yn rhaid cydnabod bod cymorth i'r grŵp hwn yn elfen allweddol yn y gwaith o atal hunanladdiad. Cyfeiriwyd at Rhian Mannings, sylfaenydd yr elusen Cymru gyfan 2 Wish Upon a Star, ac mae'r elusen a Rhian yn rhan o’r grŵp trawsbleidiol. Mae'r elusen hon, fel y clywsom, yn darparu cymorth profedigaeth hanfodol i deuluoedd sydd wedi colli plentyn neu oedolyn ifanc o dan 25 oed yn sydyn ac yn drawmatig o ganlyniad i hunanladdiad neu drwy ddamwain neu salwch. Dywedodd wrthyf mai marwolaeth sydyn yw'r farwolaeth sy’n cael ei hanghofio yng Nghymru. Ac er bod yr elusen wedi dod yn wasanaeth statudol i bob pwrpas yng Nghymru, gan weithio, fel y clywsom, gyda phob bwrdd iechyd a phob heddlu, nid ydynt yn cael unrhyw gymorth statudol o gwbl, ac mae’n rhaid iddynt godi pob ceiniog eu hunain, er eu bod yn lleihau'r pwysau ar dimau iechyd meddwl, gan helpu i fynd i'r afael â thrawma annisgwyl marwolaeth a cholled na ellid bod wedi'u rhagweld. Dywed Rhian Mannings iddi ddechrau ei brwydr ar ôl iddi golli ei gŵr a’i mab yn sydyn—dim paratoi, dim rhybudd ac yna dim byd, meddai—a bod y diffyg cymorth a gawsant wedi arwain yn uniongyrchol at hunanladdiad ei gŵr. Lansiodd Gofal mewn Galar Cruse eu maniffesto ar gyfer pobl mewn profedigaeth ddeufis yn ôl. Credant y gall mynediad at y gefnogaeth gywir, wedi'i theilwra i anghenion pob unigolyn mewn profedigaeth, eu helpu i oresgyn heriau galar ac adeiladu bywyd ystyrlon, gan gofio a dathlu bywydau'r rheini y maent wedi'u colli. Dywedant y gall hyn, yn ei dro, helpu i wella iechyd meddwl a lleihau'r effaith ar wasanaethau'r GIG. Ymhlith pethau eraill, mae Cruse yn galw am Weinidog penodol gyda chyfrifoldeb am brofedigaeth a strategaeth drawsadrannol, ac am gyllid lleol ar gyfer cymorth profedigaeth o ansawdd uchel, lle dywedant fod gormod o bobl yn dal i fethu cael cymorth ar ôl profedigaeth, lle nad oes cyllid statudol mewn gormod o ardaloedd ar gyfer yr asiantaethau a'r elusennau sy'n helpu pobl sydd mewn profedigaeth. Ac maent yn galw am gymunedau mwy tosturiol lle mae pawb yn gwybod digon am alar i chwarae eu rhan yn cefnogi pobl pan fo rhywun yn marw. Dywed Marie Curie fod sicrhau cefnogaeth ddigonol i deuluoedd sydd wedi cael profedigaeth yn rhan bwysig o broses marwolaeth a marw. Ac mae 2 Wish Upon a Star yn nodi'r gydberthynas rhwng y sefydliadau hynny a ariennir gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol neu fyrddau iechyd sy'n cyfeirio neu'n atgyfeirio’n bennaf at sefydliadau a'r rheini sy'n darparu gwasanaethau profedigaeth ond nad ydynt yn cael fawr o gyllid, os o gwbl. A dywedant fod angen i wasanaethau fod yn dra hysbys, ac y dylid defnyddio dull amlasiantaethol i sicrhau y gellir darparu cymorth ledled Cymru ac y gellir lleihau canlyniadau hirdymor difrifol. Mae'r grŵp trawsbleidiol ar ofal lliniarol a hosbisau, a gadeirir gennyf hefyd, yn cynnig pedwar argymhelliad i wella gofal a chefnogaeth i bobl sydd mewn profedigaeth yng Nghymru, er mwyn sicrhau gwell canlyniadau i bobl ar ôl iddynt golli rhywun annwyl. Yn gyntaf, gwella data ar yr angen am gefnogaeth mewn profedigaeth lle mae'n anodd iawn ar hyn o bryd, oherwydd diffyg asesiad cadarn o anghenion, i wasanaethau gynllunio i ddiwallu anghenion neu ddeall pa adnoddau y gallai fod eu hangen arnynt i wneud hynny. Yn ail, sicrhau bod profedigaeth yn nodwedd allweddol o'r holl bolisi perthnasol sydd i'w ystyried a'i ymgorffori yn strategaethau a pholisïau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys lles ac iechyd meddwl oedolion a lles ac iechyd meddwl plant. Yn drydydd, ymgorffori cymorth profedigaeth mewn ysgolion. Ac yn bedwerydd, sicrhau bod darpariaeth gofal profedigaeth yn gynaliadwy lle ceir tystiolaeth o ddiffyg blaenoriaethu strategol a pholisi ar gyfer cymorth profedigaeth yn y lefelau isel iawn o gyllid statudol ar gyfer gofal i bobl mewn profedigaeth. Cyfeiriodd Lynne Neagle at gyhoeddi 'Arolwg cwmpasu o wasanaethau profedigaeth yng Nghymru: Adroddiad Diwedd Astudiaeth' y mis diwethaf a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru. Nodai fod mwy o wasanaethau profedigaeth ar gael yn ne-ddwyrain Cymru, gyda'r nifer leiaf yng ngogledd a gorllewin Cymru. Roedd yn nodi hyn: Disgrifiodd yr ymatebwyr nifer o fylchau a heriau yn y ddarpariaeth o wasanaeth profedigaeth... Ymddengys bod llawer yn ymwneud â diffyg fframwaith clir ar gyfer comisiynu a darparu gwasanaethau profedigaeth gan gynnwys diffyg blaenoriaeth i ofal profedigaeth mewn sefydliadau, diffyg mynediad at gyllid a mynediad cyfyngedig i hyfforddiant a chyfleusterau priodol. Un ystyriaeth allweddol— A ydych yn dirwyn i ben, os gwelwch yn dda? Dowch i ben, os gwelwch yn dda. Mark Isherwood AC: Iawn. Un ystyriaeth allweddol o'r canlyniadau, felly, yw datblygu fframwaith gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer gofal profedigaeth. Mae hyn yn fater o frys ac mae'n rhaid iddo gynnwys cymorth i'r rheini sydd mewn profedigaeth ar ôl hunanladdiad, a chael ei gydgynhyrchu gan bobl sydd â phrofiad o hynny. Diolch. Jenny Rathbone AC: Credaf fod hon yn ddadl bwysig ond anodd iawn, ond yr hyn yr hoffwn ei wneud yw defnyddio fy mhum munud i ganolbwyntio ar yr agenda ataliol, oherwydd yn amlwg, o ran yr adolygiad seneddol a gynhaliwyd o bobl rhwng 13 a 17 oed—yn ffodus, 33 o bobl yn unig yr effeithiwyd arnynt. Ond yn amlwg, mae mwy o lawer o bobl y gallent fod wedi cyflawni hunanladdiad, ac mae’n rhaid inni ganolbwyntio ar yr hyn y gallwn ei wneud i geisio atal hunanladdiad lle bo modd. Rydym wedi gwneud cryn dipyn o gynnydd, yn hanesyddol, ers y stigma a oedd yn gysylltiedig â hunanladdiad pan laddodd fy nhaid ei hun ym 1928, oherwydd bryd hynny, byddai eglwysi’n gwrthod caniatáu i'r teulu gladdu eu hanwylyd ym mynwent yr eglwys hyd yn oed. Roedd y rhan fwyaf o bobl yn ceisio cuddio’r hyn a oedd wedi digwydd ac yn esgus bod rhyw achos arall dros eu marwolaeth. Felly, mae’r ffaith ein bod bellach yn gallu siarad yn agored am hunanladdiad, ac mae Jack, yn amlwg, yn enghraifft ragorol o hynny—. Mae'n rhaid inni geisio sicrhau bod yr holl wasanaethau cyhoeddus, a rhanddeiliaid eraill yn wir, yn rhan o’r gwaith o atal hunanladdiad. Felly, er bod llawer o bobl ifanc yn cael teimladau hunanladdol, nifer fach yn unig sy'n marw yn y ffordd honno, ac mae hynny wedi'i nodi yn yr adolygiad seneddol. Felly, mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar y rheini a all wynebu'r fath anobaith fel eu bod yn cyflawni hunanladdiad, a gwyddom am rai o'r arwyddion ac mae angen inni sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â hwy. Maent yno yn y cyfleoedd a argymhellir ar gyfer atal. Gwyddom fod hunan-niweidio yn arwydd posibl, ac mae angen inni ddod yn llawer gwell am sicrhau bod pawb yn gwybod pwy sy'n hunan-niweidio a pha wasanaethau rydym yn darparu ar eu cyfer, gan fod hunan-niweidio yn alwad am help tan ei fod yn troi'n hunanladdiad. Atal camddefnyddio alcohol a sylweddau: camau parhaus i gyfyngu ar fynediad plant a phobl ifanc at alcohol. Euthum i weld drama ragorol o'r enw Smashed a oedd wedi'i hanelu at ddisgyblion blwyddyn 8 yn Ysgol Bro Edern yn fy etholaeth. Mae'n bwysig iawn dangos i ddisgyblion sy'n credu bod arbrofi gydag alcohol yn beth cŵl i'w wneud eu bod, mewn gwirionedd, yn gwneud eu hunain yn agored i gael eu hecsbloetio gan bobl os ydynt allan o reolaeth, ddim yn gwybod beth sy'n digwydd, yn methu cyrraedd adref yn ddiogel. Dyma rai o'r ffactorau risg y mae angen i bobl ifanc eu deall, ac nid oes unrhyw ddiben mewn dweud wrth bobl am beidio ag yfed gan ei fod i'w gael ym mhob man. Ond mae angen iddynt wneud hynny mewn ffordd synhwyrol a diogel. Lliniaru profiadau niweidiol yn ystod plentyndod: gwyddom fod pethau fel mabwysiadu, pethau fel rhiant yn y carchar, cam-drin rhywiol—mae pob un o’r rhain yn ffactorau risg. Mynychodd Lynne Neagle a minnau lansiad Papyrus yng Nghanol Caerdydd ddydd Gwener diwethaf, ac roedd y Prif Weinidog yno hefyd, sy'n dangos y pwyslais y mae'n ei roi ar y mater hwn. Roedd yn sobreiddiol iawn clywed profiad cadeirydd Papyrus, a esboniodd y bu’n rhaid iddo roi'r gorau i ddod yn bennaeth pan laddodd ei fab mabwysiedig ei hun. Ond ni wnaeth hynny am nad oedd ei deulu’n un cwbl gariadus. Y cefndir, y rhesymau pam y cafodd y plentyn hwn, a oedd yn oedolyn ifanc ar y pryd, ei fabwysiadu—dyna oedd yn ei boeni. Pan fydd pobl yn mynd drwy'r glasoed, gwyddom y gall hyn fod yn fater o bwys mawr. Dywedodd yr adroddiad a wnaethom gyda'r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn y pedwerydd Cynulliad wrthym pa mor gymhleth yw hynny. Ond mae angen inni sicrhau bod pob ysgol o ddifrif ynghylch yr agenda hon. Mae rhai ysgolion yn gwneud yn hollol wych, ac mae ysgolion eraill o'r farn mai problem rhywun arall yw hi. Credaf yr hoffwn dynnu sylw at yr adroddiad a gyhoeddwyd gan y Samariaid dros yr haf, a oedd yn ymwneud â gwahardd disgyblion o'r ysgol yng Nghymru, a'r gost gudd. Gwyddom y bydd rhai ysgolion yn defnyddio pob cyfle i ddadlwytho plant ar rywun arall a chael gwared arnynt am nad ydynt eisiau iddynt ymddangos yn eu hystadegau arholiadau. Nid yw hyn yn ddigon da o gwbl. Mae angen inni sicrhau bod pob ysgol yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau lles tuag at bobl ifanc, ac mae'n rhaid inni fod yn wyliadwrus nad yw pobl yn defnyddio ffyrdd cudd o gael gwared ar bobl a’u gwneud yn gyfrifoldeb i rywun arall—. Oherwydd gwyddom fod y bobl sy'n byw mewn tlodi yn siŵr o wynebu mwy o broblemau’n ymwneud â statws, â hunan-werth, ac mae'r rhain yn bobl y mae'n rhaid inni sicrhau bod yr ysgol yn gofalu amdanynt fel eu hail deulu os na all eu teulu cyntaf ddarparu'r cartref cariadus y mae’r rhan fwyaf ohonom yn ddigon lwcus i’w gael. Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething? Vaughan Gething AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r ddadl heddiw ar fater sy’n hynod o emosiynol a phwysig. Mae effaith colli rhywun i hunanladdiad yn ddinistriol, a heb os yn cael effeithiau pellgyrhaeddol ar deuluoedd, ffrindiau a chymunedau, fel y nododd Lynne Neagle wrth agor y ddadl, ac fel yr ychwanegodd pob Aelod arall mewn ffordd wahanol yn ystod y ddadl. Rwy’n cydnabod, fel y mae'r llefarwyr yn ei wneud, fod profedigaeth ar ôl hunanladdiad yn fath unigryw o golled, a bod pobl yn profi ystod eang o emosiynau. Ni all unrhyw un ragweld sut yn union y bydd pobl yn ymateb i ddigwyddiad o'r fath, ond mae'n bwysig fod cefnogaeth ar gael yn y mannau iawn ac ar yr adegau iawn i'r rhai sydd ei hangen. Rwy'n cydnabod y gall pobl sydd mewn profedigaeth ar ôl hunanladdiad fod mewn perygl eu hunain, felly mae sicrhau bod y gefnogaeth ôl-ymyrraeth briodol honno ar gael yn hanfodol bwysig. Rwyf wedi ymrwymo i wella cefnogaeth ôl-ymyrraeth fel rhan o'n rhaglen waith ehangach i atal hunanladdiad a hunan-niweidio. Mae deall cymhlethdod yr amgylchiadau a’r ffactorau risg sy'n cyfrannu at hunanladdiad yn allweddol os ydym am atal marwolaethau drwy hunanladdiad yn y dyfodol. Mae'r adolygiad diweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, y cyfeiriwyd ato yn gynharach a'r wythnos diwethaf, i farwolaethau plant a phobl ifanc drwy hunanladdiad tebygol yn rhan o’r hyn a fydd yn ein helpu i ddeall hyn. Amlygodd yr adolygiad y nifer sylweddol o blant a phobl ifanc roedd gwasanaethau cyhoeddus yn gwybod amdanynt, er enghraifft gwasanaethau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau cyfiawnder troseddol, gan herio'r holl wasanaethau cyhoeddus i ystyried cyfleoedd yn y dyfodol i ymyrryd yn gynnar i atal marwolaeth drwy hunanladdiad. Mae'n amlwg na all unrhyw un unigolyn neu asiantaeth atal hunanladdiad a hunan-niweidio. Felly, mae gweithio mewn partneriaeth ac ar draws y sectorau yn hanfodol er mwyn sicrhau y ceir cymaint o gyfleoedd â phosibl i atal. Mae creu diwylliant—fel rydym wedi cymryd rhai camau tuag at ei wneud—sy’n annog pobl i siarad, a mabwysiadu dull iechyd y cyhoedd o gefnogi lles emosiynol hefyd yn rhan hanfodol o sicrhau gwelliant. Yn sail i'n strategaeth 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' ceir partneriaethau a chydweithredu ystyrlon gan ystod o sefydliadau, o'r sector cyhoeddus i'r trydydd sector, a chânt eu goruchwylio gan fwrdd partneriaeth cenedlaethol amlasiantaethol. Mae cyhoeddiad diweddar yn y gyllideb ddrafft yn ymrwymo £20 miliwn ychwanegol i wasanaethau iechyd meddwl, gan godi'r arian sydd wedi'i glustnodi i £712 miliwn, sy'n dangos ein hymrwymiad parhaus i wella'r gwasanaethau. Mae hynny'n adeiladu ar y £0.5 miliwn ychwanegol a gyhoeddwyd eleni yn benodol ar gyfer atal hunanladdiad a chymorth. Rwyf hefyd wedi ymrwymo, gyda'r Gweinidog addysg, i ddyblu'r cyllid ar gyfer gwaith y dull ysgol gyfan, ac wrth gwrs, daw’r cyllid hwnnw o’r portffolios addysg ac iechyd. Vaughan Gething AC: Mae'r cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' newydd, a gyhoeddir ddydd Gwener yr wythnos hon, yn nodi bod atal hunanladdiad a hunan-niweidio yn gam gweithredu allweddol, gan wneud hynny'n flaenoriaeth ar gyfer y tair blynedd nesaf. Ymhlith y camau gweithredu, mae datblygu a gweithredu llwybr cymorth profedigaeth ar gyfer hunanladdiad, yn ogystal ag ymrwymiad i wella mynediad at adnoddau gwerthfawr, megis yr adnodd 'Help wrth Law' y cyfeiriwyd ato sawl gwaith heddiw. Bydd hyn yn adeiladu ar y gwaith rydym eisoes wedi'i wneud i wella lles emosiynol ein plant a'n pobl ifanc. Roedd ein gwaith diweddar yn cynnwys ymestyn y cynllun peilot mewngymorth i ysgolion er mwyn ehangu capasiti, galluogi staff arbenigol i weithio gyda mwy o ysgolion, a chyhoeddi canllawiau newydd ar hunanladdiad a hunan-niweidio. Nod y canllawiau yw cynorthwyo athrawon a gweithwyr proffesiynol eraill i ymyrryd yn gynnar a hunanreoli hunan-niwed a meddyliau hunanladdol pan fyddant yn digwydd. Mae'r dull ysgol gyfan yn elfen allweddol o'n ffocws ar atal a sicrhau mynediad cynnar at gymorth. Fel y crybwyllwyd, yr wythnos diwethaf, mynychodd y Prif Weinidog lansiad Papyrus, sefydliad arbennig ar gyfer atal hunanladdiad ymhlith pobl ifanc yng Nghymru, gan gadarnhau cefnogaeth ar draws y Llywodraeth yn y maes hwn. Yn y flwyddyn ariannol hon, rydym hefyd wedi cefnogi amrywiaeth o raglenni rhanbarthol ar atal hunanladdiad, gan gynnwys dulliau arloesol fel gweithio gyda thimau rygbi i annog dynion i siarad am iechyd meddwl, a darparu sesiynau cwnsela profedigaeth ychwanegol. Ddiwedd y mis, byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon am ein camau gweithredu i gyflawni ein hymateb i'w hadroddiad ar atal hunanladdiad, 'Busnes Pawb', a bydd hynny'n cynnwys ein gwaith ar wella gwasanaethau profedigaeth yng Nghymru. Gwyddom fod mynediad at ofal profedigaeth o ansawdd da o'r pwys mwyaf. Mae'n helpu rhai sydd mewn galar i fynd drwy broses alaru iach a dylai gynnwys mynd ati'n weithredol i gadw mewn cysylltiad â phawb sydd wedi cael profedigaeth, hyd yn oed os gwrthodir cymorth ar y cychwyn. Cyhoeddwyd yr adolygiad cwmpasu ar wasanaethau profedigaeth a gyflwynwyd gan fwrdd gofal diwedd oes Marie Curie ym Mhrifysgol Caerdydd ym mis Rhagfyr, ac fel y crybwyllwyd yn y ddadl, mae'n mapio'r cymorth presennol, yn amrywio o gyfeirio, i gwnsela arbenigol, a nodi meysydd lle mae angen rhagor o adnoddau. Roedd yr adroddiad yn cynnwys yr ystod eang o gymorth profedigaeth, gan gynnwys hunanladdiad. Mae'n tynnu sylw at fylchau a heriau o ran darparu gwasanaethau profedigaeth, ac yn crybwyll nifer o ystyriaethau ar gyfer datblygu a gwella. Mae'r rhain yn canolbwyntio ar yr angen i ddatblygu fframwaith cenedlaethol ar gyfer darparu gofal profedigaeth yng Nghymru. Byddai hyn wedyn yn hwyluso'r gwaith o flaenoriaethu cymorth profedigaeth ar lefel sefydliadol a rhanbarthol, ac yn helpu i sicrhau tegwch a mynediad at fathau a lefelau priodol o gymorth sy'n ymatebol i anghenion lleol. Byddai fframwaith cyflawni cenedlaethol hefyd yn cefnogi'r broses o sefydlu llwybrau cyfeirio clir, dulliau o asesu risg ac angen, hyfforddiant ar gyfer staff a gwirfoddolwyr, a datblygu cyfeirlyfr o'r ddarpariaeth sydd ar gael ar gyfer profedigaeth. Yn olaf, bydd fframwaith profedigaeth cenedlaethol yn cefnogi gwelliannau yn y ffordd y caiff gwasanaethau eu gwerthuso a'u hasesu, a gellid datblygu safonau ymhellach wedyn i'w defnyddio i archwilio a gwella ansawdd. Er mwyn bwrw ymlaen â'r broses o ddatblygu'r fframwaith, rydym wrthi'n recriwtio rheolwr prosiect penodedig. Rydym wedi gofyn i'r arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer gofal diwedd oes, Dr Idris Baker, sefydlu grŵp llywio cenedlaethol ar brofedigaeth i gefnogi'r gwaith hwn. Fel y bydd llawer ohonoch yn gwybod, mae gan Dr Baker gryn wybodaeth a phrofiad mewn gofal profedigaeth. Fel mesur dros dro, yn ddiweddar cytunais i roi cyllid ychwanegol yn ystod y flwyddyn i gryfhau'r cymorth a roddir ar hyn o bryd gan y trydydd sector i rai sydd wedi colli rhywun i hunanladdiad. Cafodd pum sefydliad eu cefnogi. Yn ogystal, mae cyllid rhanbarthol Llywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio i greu gwasanaeth cymorth profedigaeth newydd ar gyfer gogledd Cymru. Byddaf yn gwneud datganiad ysgrifenedig cyn y toriad hanner tymor i amlinellu ein cynlluniau mwy hirdymor. Gallaf gadarnhau hefyd ein bod bellach wedi penodi cydlynydd atal hunanladdiad cenedlaethol ar gyfer Cymru a fydd yn allweddol er mwyn uno dulliau ac arwain y broses o ddatblygu a gweithredu camau newydd i atal hunanladdiad a hunan-niwed mewn ffordd lawer mwy cydgysylltiedig ac effeithiol. Caiff swydd y cydgysylltydd ei chefnogi gan dair swydd ranbarthol i gyflawni cynlluniau gweithredu ledled Cymru. Bydd cynnwys pobl sydd wedi byw drwy brofedigaeth hunanladdiad yn allweddol i ddatblygiad y llwybr ymyrraeth ar ôl hunanladdiad. Bydd y cydgysylltydd cenedlaethol yn canolbwyntio ar ddatblygu'r llwybr ymyrraeth ar ôl hunanladdiad fel rhan o'n gwaith ehangach i wella cymorth profedigaeth. Mae'r grŵp cynghori cenedlaethol ar hunanladdiad a hunan-niweidio bellach yn cynllunio tri gweithdy rhanbarthol i randdeiliaid i lywio'r gwaith hwnnw. Rwy'n gobeithio bod hyn yn helpu i ddangos y pwyslais rydym yn parhau i'w osod ar yr agenda hon, ac yn amlinellu'r camau rydym yn eu cymryd i atal hunanladdiad a hunan-niwed, a hefyd i wella cymorth profedigaeth. Rwy'n cydnabod uchelgais yr Aelodau ar draws y Siambr i gyflawni'r gwelliant hwnnw'n gyflymach. Byddaf yn cynnwys mwy o fanylion am amserlenni ar gyfer y llwybr profedigaeth yn y datganiad ysgrifenedig y bwriadaf ei gyhoeddi cyn y toriad hanner tymor. Diolch. Galwaf ar Dai Lloyd i ymateb i'r ddadl. Dai Lloyd AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddweud, yn gyntaf oll, pa mor falch wyf fi o allu cymryd rhan yn y ddadl hon? Oherwydd cawsom ddatganiadau pwerus ac emosiynol o deimladau dwfn a didwyll gan bawb sydd wedi cyfrannu. Mae hi wedi bod yn ddadl wirioneddol wych, a dweud y gwir. Rwy'n gwybod na fydd yn cael fawr o sylw y tu allan, ond mae wedi bod yn fraint cael bod yma i dystio i'r hyn y mae pawb wedi'i ddweud. Oherwydd, fel y dywedodd Lynne Neagle wrth agor, mae profedigaeth trwy hunanladdiad yn gwbl ddinistriol, ac fe amlinellodd, mewn rhai achosion, brinder y gefnogaeth sydd ar gael yn benodol i'r rhai sydd wedi colli rhywun i hunanladdiad. Gwelwyd 360 o farwolaethau trwy hunanladdiad flwyddyn neu ddwy yn ôl yng Nghymru; dyna un y dydd. Pe bai unrhyw beth arall yn achosi un farwolaeth y dydd yng Nghymru, byddai pobl allan yn protestio a phethau, byddai gennym gwestiynau brys yma bob yn ail wythnos yn dweud, 'Beth sy'n digwydd?' Nawr, rwy’n clywed y Gweinidog yn dweud bod llawer o bethau’n digwydd, ac rwy’n cymeradwyo dull y Llywodraeth, ond mae angen cymaint mwy arnom, oherwydd mae yma gyfle. Ceir dwy agwedd ataliol wahanol. Y gyntaf yw atal hunanladdiad yn y lle cyntaf, ac mae hynny'n ymwneud â sut rydym yn ymdrin â phobl sy'n hunan-niweidio—nid yw pob un ohonynt yn mynd ymlaen i wneud unrhyw beth arall heblaw rhoi gwaedd am help. Ond yr her i ni ym maes gofal sylfaenol yw nodi pwy sy'n debygol o fynd ymlaen i wneud rhywbeth llawer mwy dinistriol. A phan fyddwn yn penderfynu fel meddygon teulu fod angen gweld yr unigolyn dan sylw yn y fan a'r lle, mae angen eu gweld yn y fan a'r lle. Rydym yn parhau i siarad ynglŷn â sut y dylid rhoi parch cydradd i iechyd corfforol ac iechyd meddwl, ond os yw rhywun yn ddifrifol wael yn feddyliol, nid yw'r cydraddoldeb hwnnw'n amlwg i mi fel meddyg teulu. Ugain mlynedd yn ôl, pe bai rhywun yn dweud eu bod yn hunanladdol, buaswn yn ffonio'r ysbyty seiciatryddol agosaf a byddai meddyg yn eu gweld yn y fan a'r lle; fel a fyddai'n digwydd pe baech chi'n dod i fy ngweld pe bai gennych boen yn y frest, a minnau yn eich cyfeirio at yr adran iechyd corfforol agosaf yn y fan a'r lle. Nid yw hynny'n digwydd mwyach gyda salwch meddwl acíwt. Mae angen inni edrych ar sut yr ymdrinnir ag argyfyngau iechyd meddwl acíwt. Y sefyllfa bresennol yw y bydd timau argyfwng yn ffonio'r meddyg teulu yn ôl yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, y diwrnod canlynol, neu'n cynnig apwyntiad ar gyfer yr wythnos ganlynol. Nid yw'n ddigon da. Oherwydd mae meddygon teulu yn gwybod cryn dipyn am salwch seiciatryddol a hunanladdiad, rhywbeth nad yw bob amser yn cael ei gydnabod yn y sector gofal eilaidd. Fel arall, mae pobl yn cael eu gadael mewn gofid a chawn ein gadael yn y sefyllfaoedd dinistriol hyn a ddisgrifiwyd mor huawdl gan Lynne, David, Jack Sargeant—rwy'n talu teyrnged eto, Jack, at eich dirnadaeth unigryw yn hyn o beth—a Mark Isherwood, yn ogystal â Jenny. Ceir atal hunanladdiad yn y lle cyntaf, ond yn y cyd-destun rydym yn siarad amdano heddiw, mae atal hunanladdiad yn y rhai sydd eisoes wedi colli rhywun i hunanladdiad yn bwysig. Rydym bob amser yn dweud, ac roedd yn amlwg yn adroddiad y pwyllgor iechyd 'Busnes Pawb', fod hunanladdiad yn fusnes i bawb. A gaf fi ddweud, byddwch yn fwy caredig wrth eich gilydd, bobl, iawn? Fel y mae Jack bob amser yn dweud, 'Byddwch yn garedig wrth eich gilydd.' Os yw rhywun yn edrych yn ofidus, gofynnwch iddynt sut maent. Dyna ran dda o atal hunanladdiad. Efallai mai chi yw'r unig berson sydd wedi siarad â hwy y diwrnod hwnnw. Nawr, nid yw siarad am hunanladdiad, yn y lle cyntaf, yn ei gwneud hi'n fwy tebygol y bydd hunanladdiad yn digwydd—mae'n bwysig cofio hynny. Ond pan fydd hunanladdiad wedi digwydd mewn teulu, mae aelod o'r teulu’n fwy tebygol o farw trwy hunanladdiad o ganlyniad i ddinistr yr hunanladdiad yn y teulu hwnnw. A dyna lle gallwn gael cyfle unigryw, trwy i'r gwasanaethau cymorth profedigaeth yn sgil hunanladdiad ddod i mewn ar y pwynt hwnnw, i atal hunanladdiad pellach yn y teulu hwnnw. Felly, dyna sydd o'n blaenau. Mae angen newid perfformiad yn sylweddol. Rwy’n croesawu’r holl waith caled sy’n digwydd, ac rydym wedi clywed am y gwaith rhagorol yn y trydydd sector: Papyrus, 2 Wish Upon A Star, Cruse, y Samariaid, a Survivors of Bereavement by Suicide—am sefydliad aruthrol—a dyna bobl sydd wedi byw drwy brofedigaeth hunanladdiad. Mae angen i ni fanteisio ar hynny. Mae angen i'r newid sylweddol mewn ymddygiad ddal ati i gamu ymlaen a newid. I orffen, soniodd Lynne fod llwyth o famau rhyfelgar a thadau rhyfelgar allan yna yn y sefyllfaoedd teuluol anodd hyn. Rwy'n edrych ar un neu ddau o ACau rhyfelgar, mae'n rhaid i mi ddweud, yn Lynne, Jack ac eraill. Mae angen i bawb ohonom fod yn ACau rhyfelgar gyda Llywodraeth ryfelgar yn y sefyllfa hon. Diolch yn fawr . Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Felly, gohiriwn y bleidlais tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. 7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Iechyd Meddwl yng nghyd-destun Plismona a dalfa'r Heddlu Eitem 7 ar yr agenda yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, 'Iechyd Meddwl yng nghyd-destun Plismona a Dalfa'r Heddlu', a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i gyflwyno'r cynnig, Dai Lloyd. Cynnig NDM7233 Dai Lloyd Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar Iechyd meddwl yng nghyd-destun plismona a dalfa’r heddlu, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Hydref 2019. Cynigiwyd y cynnig. Dai Lloyd AC: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser gen i agor y ddal yma y prynhawn yma ynghylch adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i iechyd meddwl yng nghyd-destun plismona a dalfa'r heddlu. Yn ystod dau ymchwiliad gan wahanol bwyllgorau yn y Cynulliad yma, mae Aelodau'r Cynulliad wedi clywed gan gynrychiolwyr yr heddlu bod mwy a mwy o adnoddau'r heddlu yn cael eu defnyddio i reoli argyfyngau iechyd meddwl. Cytunodd y pwyllgor, felly, i gynnal ymchwiliad byr gan ganolbwyntio ar weithio mewn partneriaeth rhwng yr heddlu, gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac eraill. Roeddem yn arbennig o awyddus i weld pa mor effeithiol y mae gwasanaethau'n gweithio gyda'i gilydd i atal pobl sydd efo problemau iechyd meddwl rhag cael eu cymryd i ddalfa'r heddlu, ac i roi sicrwydd i ni ein hunain bod pobl sy'n agored i niwed ac yn profi argyfwng iechyd meddwl yn cael y gofal a'r cymorth sydd eu hangen arnyn nhw. Mae adrannau 135 a 136 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 yn rhoi pwerau i swyddogion yr heddlu mewn perthynas ag unigolion sydd ag anhwylder meddwl, neu sy'n ymddangos fel pe baent ag anhwylder meddwl. Gwnaeth Deddf Plismona a Throsedd 2017 rai newidiadau sylweddol i adrannau 135 ac 136. Bwriad y rhain oedd gwella dulliau o ymateb i bobl mewn argyfyngau iechyd meddwl y mae angen cymorth ar frys arnyn nhw gyda'u hiechyd meddwl mewn achosion lle mai swyddogion yr heddlu ydy'r cyntaf i ymateb. Dai Lloyd AC: Yn flaenorol, roedd adran 136 yn gymwys i bobl mewn man cyhoeddus, roedd adran 135 yn ei gwneud yn ofynnol i heddwas gael warant gan ynad i fynd i fangre breifat i symud unigolyn i le diogel ar gyfer asesiad. Cyflwynodd Deddf 2017 newidiadau a oedd yn caniatáu i'r asesiad hwnnw ddigwydd yng nghartref unigolyn neu mewn mangre breifat o dan amgylchiadau penodol, ac mae'n dileu'r angen iddynt fod mewn man cyhoeddus. Cyflwynodd y Ddeddf nifer o newidiadau eraill, gan gynnwys gwahardd defnyddio gorsafoedd heddlu fel man diogel i bobl o dan 18 oed. Yn achos oedolion, ni cheir defnyddio gorsafoedd heddlu fel man diogel heblaw mewn amgylchiadau eithriadol penodol. Nawr, rydym yn cydnabod bod yr heddlu'n aml yn ymateb i bobl â phroblemau iechyd meddwl, ond at ddibenion ein hymchwiliad rydym wedi canolbwyntio ar y defnydd o adran 136, oherwydd fel arfer defnyddir yr adran hon pan fydd pobl yn fwyaf agored i niwed. Yn rhy aml, ac ers gormod o amser, mae pobl agored i niwed sy'n dioddef argyfyngau iechyd meddwl, ond nad ydynt wedi cyflawni unrhyw drosedd, wedi cael eu rhoi mewn cell heddlu am nad oes unman arall iddynt fynd. Felly rydym yn croesawu'r sicrwydd a gawsom gan uwch swyddogion yr heddlu, arolygwyr a swyddogion Llywodraeth Cymru nad yw dalfa'r heddlu'n cael ei ddefnyddio mwyach fel man diogel ar gyfer y rhai a gedwir o dan adran 136, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol. At hynny, cawsom ein calonogi wrth glywed na fu unrhyw achosion o ddefnyddio cell heddlu fel man diogel i berson o dan 18 oed yng Nghymru ers 2015. Roeddem hefyd yn falch o glywed bod arolygiadau o ddalfeydd yr heddlu yng Nghymru wedi canfod, lle caiff oedolion eu cadw yn nalfa'r heddlu mewn amgylchiadau eithriadol, fod y ddarpariaeth gofal iechyd meddwl yn dda at ei gilydd. Er bod nifer y bobl mewn argyfwng iechyd meddwl a gedwir yn nalfa'r heddlu wedi gostwng, mae'n ymddangos bod nifer y rhai a gedwir o dan adran 136 yn cynyddu. Dangosodd data a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref fod 2,256 o bobl wedi'u cadw yng Nghymru o dan adran 136 yn 2018-19, o'i gymharu â 1,955 yn 2017-18. Mae'r heddlu hefyd yn adrodd am gynnydd yn y galw gan bobl mewn argyfyngau iechyd meddwl. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r heddlu i gasglu tystiolaeth ynglŷn â pham y mae nifer y rhai a gaiff eu cadw o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 yn cynyddu, ac i ddarparu dadansoddiad o ddata cenedlaethol a lleol i esbonio'r amrywiadau rhanbarthol. Yn ei ymateb i'r argymhelliad hwn, mae'r Gweinidog yn pwysleisio bod casglu a dadansoddi tystiolaeth am nifer y rhai a gaiff eu cadw o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 a darparu dadansoddiad o ddata cenedlaethol a lleol i esbonio'r amrywiadau rhanbarthol yn gyfrifoldeb canolog i grŵp sicrwydd y concordat gofal mewn argyfwng iechyd meddwl. Dywedwyd wrthym hefyd fod y ddarpariaeth o wasanaethau brysbennu iechyd meddwl yn amrywio ac nad yw'n cael ei hariannu'n gyson ledled Cymru. Gall gwasanaethau brysbennu chwarae rhan bwysig yn y gwaith o leihau nifer y bobl a gaiff eu cadw o dan adran 136 ac yng nghelloedd yr heddlu, a'r nifer sy'n mynd i'r ysbyty drwy'r adran achosion brys neu wasanaethau iechyd meddwl acíwt. I'r perwyl hwnnw, rydym wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â'r heddlu i adolygu'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg ar effeithiolrwydd y gwahanol gynlluniau brysbennu yng Nghymru. Roedd y dystiolaeth a gawsom am y cyswllt a gafodd pobl â'r heddlu pan fyddent yn dioddef argyfwng iechyd meddwl yn gadarnhaol iawn ar y cyfan. Dywedwyd wrthym fod unigolion a'u teuluoedd sydd wedi ffonio'r heddlu yn ystod argyfwng iechyd meddwl wedi bod yn ddiolchgar am y cymorth a gawsant. Mae hyn yn herio'r dybiaeth gyffredinol fod gan bobl sy'n dioddef argyfwng iechyd meddwl farn negyddol am gael eu cadw yn nalfa'r heddlu. Felly, rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru weithio gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i sicrhau bod yr adolygiad thematig o ofal argyfwng a gofal y tu allan i oriau yn cynnwys adolygiad o'r llwybr gofal ar gyfer pobl sy'n cael eu cadw o dan adran 136, i edrych ar ansawdd, diogelwch ac ymatebolrwydd y gofal a ddarperir i bobl a gedwir o dan adran 136. Mae adran 136 hefyd yn caniatáu i berson gael ei gadw yn y ddalfa ar gyfer eu hasesu gan feddyg a gweithiwr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy er mwyn gallu gwneud trefniadau ar gyfer triniaeth neu ofal. Clywsom, fodd bynnag, fod y rhan fwyaf o bobl a gedwir o dan adran 136 yn cael eu rhyddhau yn dilyn asesiad heb driniaeth bellach. Mewn ffigurau a ddarparwyd gan Mind Cymru, ni chafodd 68 y cant o'r rhai a aseswyd yn 2016-17 eu derbyn i'r ysbyty am driniaeth. Mae hyn yn ddwy ran o dair o gyfanswm y nifer a gadwyd o dan adran 136 yn ystod y flwyddyn honno. Mae'n destun pryder fod y rhan fwyaf o bobl a gedwir o dan adran 136 yn cael eu rhyddhau yn dilyn asesiad am nad ydynt angen triniaeth frys yn yr ysbyty ar gyfer cleifion iechyd meddwl. Mae'r cod ymarfer i Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 yn ei gwneud yn ofynnol bob amser i fynd â phobl sy'n cael eu cadw o dan y Ddeddf i'r ysbyty yn y modd mwyaf tebygol o warchod eu hurddas a'u preifatrwydd—hynny yw, nid mewn car heddlu. Fodd bynnag, roedd y dystiolaeth a glywsom yn awgrymu nad yw hyn yn digwydd. Yn wir, dywedodd grŵp partneriaeth Heddlu De Cymru wrthym fod mwyafrif helaeth y rhai a gedwir o dan adran 136 yn dal i gael eu cludo i fan diogel gan yr heddlu. Clywsom hefyd fod y pwysau gweithredol ar y gwasanaeth ambiwlans a'r gwasanaethau iechyd meddwl yn golygu bod yr heddlu'n llenwi'r bwlch, a bod cerbydau'r heddlu'n cael eu defnyddio'n gyson i gludo pobl i sefydliadau iechyd meddwl. Dai Lloyd AC: Cawsom wybod gan y Gweinidog fod cynlluniau peilot yn mynd rhagddynt yn ardaloedd bwrdd iechyd Aneurin Bevan a Hywel Dda i edrych ar gludiant heb fod mewn argyfwng. At hynny, gofynnodd i uned gomisiynu cydweithredol y gwasanaeth iechyd gynnal adolygiad o fynediad a chludiant brys o ran iechyd meddwl i edrych ar sut a ble y darperir mynediad. Rydym felly'n argymell bod Llywodraeth Cymru, fel mater o frys, yn rhoi ei hadolygiad ynghylch cludiant ar waith. Dylai hefyd nodi sut y bydd yn sicrhau y bydd cludiant amgen i gleifion yn cael ei ddarparu ar gyfer unigolion sy'n wynebu argyfyngau iechyd meddwl, a thrwy hynny gyfyngu ar y defnydd o gerbydau'r heddlu wrth gludo unigolion sy'n cael eu cadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl i'r ysbyty. Er fy mod yn croesawu'r ffaith bod y Gweinidog yn derbyn yr argymhelliad hwn, mae'n siomedig, er gwaethaf galwadau'r pwyllgor am frys yn y maes hwn, na fydd canfyddiadau'r adolygiad mynediad a chludo brys ar iechyd meddwl ar gael tan fis Ebrill, ac y bydd camau pellach yn ddibynnol ar ystyriaeth y grŵp sicrwydd. I gloi, credaf ein bod ni i gyd yn gytûn ei bod yn annerbyniol cadw unigolion sydd efo salwch meddwl yn nalfa’r heddlu, ac y dylai'r arfer o gadw pobl o dan adran 136 o'r Ddeddf Iechyd Meddwl ond digwydd mewn amgylchiadau eithriadol. Rydym ni'n croesawu'r cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma, ond rydym o'r farn fel pwyllgor bod angen symud yn gyflymach erbyn hyn. Diolch yn fawr. David Rees AC: A gaf fi ddiolch i'r Cadeirydd am ei gyflwyniad a'i esboniad manwl o'r adroddiad? Nid yw'n gadael llawer i ni ei ddweud. A gaf fi hefyd ddiolch i'r tîm clercio a'r tystion a ddaeth gerbron y pwyllgor? Ddirprwy Lywydd, yn y Siambr hon rydym yn trafod yn rheolaidd y ffordd y mae Cymru'n mynd i'r afael â darpariaeth iechyd meddwl. Yn wir, rydym newydd gael dadl a oedd yn tynnu llawer o sylw at iechyd meddwl a sut yr awn i'r afael â hynny ac atal hunanladdiad. Rydym yn aml yn myfyrio ar y gallu i ddarparu gofal mewn argyfwng a chynllunio gofal a thriniaeth, sydd weithiau'n gysylltiedig â gofal iechyd corfforol ac weithiau, yn ogystal, â gofal iechyd meddwl. Edrychwch yn ôl ar ddadleuon yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ar adroddiadau'r pwyllgor iechyd a gofal cymdeithasol ac ar adroddiadau'r pwyllgor plant a phobl ifanc. Maent wedi cynhyrchu sawl adroddiad ar iechyd meddwl yn arbennig. Nawr, rydym i gyd yn gwybod y ffigurau. Gwn ei fod yn cael ei ddyfynnu'n aml: bydd un o bob pedwar yn dioddef o broblemau iechyd meddwl. Ac mae'n rhwystredig iawn fod hyn yn dal i fodoli yn y gymdeithas. Mae stigma'n parhau ynglŷn ag iechyd meddwl, ac mae hynny, yn ddi-os, yn atal pobl rhag siarad a chael y cymorth sydd ei angen arnynt, ond rwy'n falch o weld bod camau'n cael eu cymryd i newid hynny ac rwy'n cefnogi'n fawr yr holl gamau sydd ar waith i wneud hynny. Mae llawer o argymhellion yn yr adroddiad, ac rwy'n falch fod y mwyafrif wedi'u derbyn gan y Llywodraeth neu wedi'u derbyn mewn egwyddor. Fodd bynnag, mae gennyf bryderon ynghylch gwrthod argymhelliad 11. Cefais sylwadau gan nifer o sefydliadau yn fy rôl fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar iechyd meddwl ynglŷn â gofal mewn argyfwng a chynllunio gofal a thriniaeth, a pha mor gyflym y cyflawnwyd argymhellion a chamau gweithredu blaenorol o ganlyniad. Nawr, rydym i gyd yn cydnabod bod y concordat gofal mewn argyfwng iechyd meddwl yn gytundeb uchelgeisiol rhwng Llywodraeth Cymru a phartneriaid i wella'r gofal a'r cymorth i bobl sy'n wynebu argyfwng iechyd meddwl neu sydd mewn perygl o wneud hynny. Mae'r concordat yn seiliedig ar y pedair egwyddor graidd a'r canlyniadau disgwyliedig canlynol: mynediad effeithiol at gymorth cyn cyrraedd pwynt argyfwng; mynediad brys at ofal mewn argyfwng; triniaeth a gofal o ansawdd mewn argyfwng; ac adferiad a chadw'n iach. Mae darparu gofal rhagorol mewn argyfwng yn galw am ffocws pendant ar y person sy'n dioddef yr argyfwng, gan eu cydnabod fel unigolion mewn angen ac ymateb mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae'r concordat yn nodi'n glir fod cefnogi unigolion sy'n wynebu argyfwng yn gyfrifoldeb amlasiantaethol, sy'n galw am ddull gweithredu cydgysylltiedig, a rhaid inni beidio â cholli golwg ar y mater allweddol: anghenion y sawl sy'n dioddef argyfwng iechyd meddwl. Clywodd y pwyllgor fod gostyngiad o 90 y cant wedi bod yn nifer yr unigolion mewn argyfwng iechyd meddwl a gafodd eu cadw mewn celloedd heddlu ers 2015, pan gyflwynwyd y concordat, felly mae'n gallu helpu. Er bod yr ymchwiliad hwn wedi edrych yn benodol ar ddefnyddio adran 136, gall argymhellion, os cânt eu rhoi ar waith yn effeithiol ac yn gyflym, gael effaith ehangach a chefnogi'r broses o sicrhau newid trawsnewidiol, sef uchelgais y concordat gofal mewn argyfwng. Mae Noddfa Gyda'r Hwyr yn Llanelli—y gyntaf o'i bath yng Nghymru—yn enghraifft o weithio mewn partneriaeth o dan y concordat gyda Heddlu Dyfed Powys, Cyngor Sir Caerfyrddin a Bwrdd Iechyd Hywel Dda, ar ôl comisiynu'r gwasanaeth i weithio gyda Mind a Hafal. Edrychaf ymlaen at weld myfyrio ar yr arferion da yn Llanelli yn digwydd ledled Cymru. Hoffwn drafod argymhelliad 8 hefyd, sy'n seiliedig ar gynllunio gofal a thriniaeth. Mae cynllunio gofal a thriniaeth yn hollbwysig i bobl, boed eu bod yn dioddef o gyflwr iechyd corfforol neu gyflwr iechyd meddwl. Fodd bynnag, i'r rheini sy'n byw gyda salwch meddwl, gall methu darparu cynllun gofal a thriniaeth holistaidd fod yn hynod niweidiol, a gallwn weld nifer yn cael eu dal yn y drws troi o ddod allan, mynd yn ôl i mewn, dod allan, mynd yn ôl a chael eu cadw yn y ddalfa. Nid ydym wedi gweld digon o gynnydd o hyd o ran cynllunio gofal a thriniaeth. Mae cynlluniau gofal a thriniaeth effeithiol yn arf gwych i atal argyfyngau rhag digwydd, yn ogystal â sicrhau bod pobl, boed eu bod yn dioddef salwch meddwl eu hunain, neu eu gofalwyr a'u teuluoedd, yn gwybod sut i gael cymorth brys pan fydd arnynt ei angen. Fodd bynnag, dengys tystiolaeth sylweddol na chaiff cynlluniau gofal a thriniaeth, yn enwedig cynlluniau argyfwng, mo'u defnyddio'n effeithiol. Rydym yn methu yn y maes hwn, ac fel Llywodraeth Cymru mae'n bwysig inni sicrhau bod sylw'n cael ei roi i hyn fel mater o frys. Nawr, codais hyn yn ystod cwestiynau busnes yn ôl ym mis Tachwedd, ac fe'i codaf yma eto: rhaid inni gael y cynlluniau gofal a thriniaeth yn iawn a rhaid inni sicrhau bod gan y bobl sy'n eu defnyddio ffydd yn eu cynlluniau gofal a thriniaeth ac nad ydynt yn teimlo mai geiriau'n unig ydynt nad ydynt yn cyflawni ar eu cyfer hwy. Ddirprwy Lywydd, rhaid i ofal iechyd meddwl, boed yn y gymuned neu yn nalfa'r heddlu, barhau i wella a rhaid inni wneud mwy. Mark Isherwood AC: Diolch i'r pwyllgor am gyflawni'r adroddiad hwn. Er bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn saith o'i 11 o argymhellion, rwy'n annog y pwyllgor i fonitro'r camau gweithredu a argymhellir gan Lywodraeth Cymru lle mae ond wedi derbyn argymhellion mewn egwyddor. Mae adran 136 o'r Ddeddf iechyd meddwl wedi'i chynllunio i ganiatáu i swyddogion yr heddlu symud rhywun o fan cyhoeddus er eu diogelwch eu hunain neu ddiogelwch y cyhoedd os credant eu bod mewn argyfwng iechyd meddwl, a mynd â hwy i fan diogel. Fel y dywed yr adroddiad, mae'r defnydd o ddalfa'r heddlu fel mannau diogel wedi gostwng yn sylweddol dros y pedair blynedd diwethaf. Yn ogystal, dywedodd cadeirydd grŵp sicrwydd y concordat gofal mewn argyfwng iechyd meddwl fod gostyngiad o 90 y cant wedi bod yn nifer yr unigolion a gedwir yng nghelloedd yr heddlu sydd mewn argyfwng iechyd meddwl ers cyflwyno'r concordat gofal mewn argyfwng yn 2015. Fel y mae'r adroddiad yn ychwanegu, mae'r concordat, a thaith Deddf Plismona a Throsedd 2017 yn dilyn hynny, wedi arwain at leihad sylweddol yn y defnydd o orsafoedd heddlu fel mannau diogel, er gwaethaf y duedd gynyddol gyffredinol a welwyd yn y nifer a gadwyd o dan adran 136. Fodd bynnag, fel y clywsom, mae nifer y rhai a gadwyd mewn unedau eraill wedi codi rhwng 2017-18 a 2018-19. Felly, mae angen deall yn well pam y gwelodd rhai heddluoedd wahanol gyfraddau o gynnydd yn nifer y rhai a gadwyd yn y ddalfa ac i weld a ellir dysgu gwersi gan heddluoedd fel Gwent, lle disgynnodd y ffigurau mewn gwirionedd. Roedd y ffigurau hefyd yn dangos gwahanol ddulliau o weithredu yn y modd y gweithredwyd cynlluniau brysbennu iechyd meddwl. Bwriad y cynlluniau hyn yw dod â'r heddlu ac ymarferwyr iechyd meddwl at ei gilydd i asesu digwyddiad iechyd meddwl ar y cyd er mwyn lleihau'r defnydd o adran 136. Er bod Heddlu Gogledd Cymru wedi gweld cynnydd o 70 y cant yn nifer y rhai a gadwyd o dan adran 136 rhwng 2014 a 2019 i 795, mae clinigwyr iechyd meddwl yn gweithio ochr yn ochr â Heddlu Gogledd Cymru i ddarparu gwasanaeth brysbennu newydd wedi'i leoli yng nghanolfan rheolaeth yr heddlu. Nod hyn yw helpu pobl y nodwyd eu bod mewn argyfwng iechyd meddwl a gwella'r llif gwybodaeth rhwng Heddlu Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Derbyniodd Llywodraeth Cymru argymhelliad 2, sy'n nodi bod angen gwell dealltwriaeth o ba fodel o gydweithio rhwng yr heddlu a staff iechyd sy'n helpu i roi'r cymorth a'r gefnogaeth gywir i bobl mewn argyfwng, ac a all gyfrannu at leihau'r defnydd o adran 136 yn gyffredinol. Roedd tystiolaeth Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu yn awgrymu yn yr adroddiad fod y ddarpariaeth o fannau diogel sy'n seiliedig ar iechyd yn dameidiog ledled Cymru, o safbwynt gwasgariad daearyddol ac amseroedd mynediad. Nododd byrddau iechyd fod gan lawer gyfleusterau addas ond nad oeddent wedi'u staffio'n ddigonol neu y gallai eu defnydd achlysurol olygu nad oedd gan staff a ddefnyddid yn y cyfleusterau hyn sgiliau cywir i ymdrin ag achosion cymhleth yn ymwneud â chleifion mewn gwahanol fathau o drallod emosiynol. Roedd y dystiolaeth a gafodd y pwyllgor yn manylu ar amrywiaeth o fodelau arferion da, megis y cynllun ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, a oedd wedi datblygu un pwynt cyswllt sy'n hygyrch 24 awr y dydd i unigolion, teulu neu weithwyr proffesiynol. Derbyniodd Llywodraeth Cymru argymhelliad 5, sy'n amlinellu'r angen i ddatblygu mannau diogel ychwanegol yn seiliedig ar iechyd lle bo angen. Fodd bynnag, mae'n dibynnu ar y byrddau iechyd felly i roi sicrwydd fod eu capasiti presennol yn bodloni'r galw er mwyn eu helpu hwy a'u partneriaid i ddeall pa elfennau o'r llwybr argyfwng y mae angen eu hatgyfnerthu. Felly, mae angen sicrwydd arnom y bydd y costau cysylltiedig yn cael eu talu pe bai angen mannau diogel ychwanegol yn seiliedig ar iechyd. Nid yw awtistiaeth yn gyflwr iechyd meddwl, ond mae llawer o bobl awtistig yn datblygu problemau iechyd meddwl ar wahân sy'n deillio o ddiffyg cymorth priodol ac yn golygu y gall pobl awtistig ddatblygu anghenion mwy arwyddocaol. Fodd bynnag, er y credir bod y gyfran o bobl awtistig yng ngharchardai'r DU yn fwy na dwbl yr hyn ydyw yn y boblogaeth gyffredinol, fod strategaeth Llywodraeth y DU ar awtistiaeth yn cynnwys carcharorion, a bod Carchar EM Parc wedi ennill achrediad awtistiaeth y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol, ni allaf ddod o hyd i unrhyw gyfeiriad at awtistiaeth yn yr adroddiad hwn. Mae'n destun pryder fod cynlluniau Ysbytai'r Brawdlys ar gyfer holi rhywun sydd ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth, gan gynnwys canllawiau ar syndrom Asperger, sy'n gymwys ar gyfer tystion a diffynyddion, yn cael eu hanwybyddu'n rhy aml. Ond fel y mae'r rhain yn datgan—ac mae'n neges i bawb—rhaid rhoi ystyriaeth nid yn unig i'r mathau o gwestiynau a ofynnir ond hefyd i'r modd y gwneir hynny. Diolch. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Doeddwn i ddim yn aelod o'r pwyllgor yn ystod yr ymchwiliad yma, a dwi'n edrych ymlaen at ailymuno â'r pwyllgor wrth i fi ailafael yn fy rôl fel Gweinidog cysgodol dros iechyd. Ond, dwi yn ddiolchgar iawn i'r pwyllgor am gynhyrchu adroddiad sydd yn ddiddorol tu hwnt, a dwi'n meddwl sy'n dysgu llawer iawn inni. Mae'r mater penodol a'r hyn rydyn ni'n trio ei gyflawni fan hyn yn rhywbeth lle mae yna gonsensws eithaf clir wedi bod arno fo ers nifer o flynyddoedd. Ond mae'r dull gweithredu a'r camau gweithredu sydd angen eu cymryd er mwyn cyflawni'r nod yna yn rhai, o bosib, lle mae yna beth anghytuno. Does yna neb wir yn credu ei bod hi'n addas i bobl fregus sydd yn profi argyfwng iechyd meddwl gael eu hanfon i orsaf heddlu, ond yn rhy aml yn y gorffennol, wrth gwrs, dyna sydd wedi bod yn digwydd, a hynny gan nad oedd yna unman i'r heddlu fynd â'r person neu'r bobl hynny. Mi oeddwn i'n falch iawn o ddarllen yn yr adroddiad yma nad oes yna unrhyw berson dan 18 oed sy'n profi argyfwng iechyd meddwl wedi cael eu hanfon i orsaf heddlu ers 2015 bellach ac mae niferoedd yr oedolion sydd yn diweddu mewn gorsafheddlu yn lleihau. Ond rydyn ni hefyd yn gweld yn yr adroddiad yma fod nifer y carchariadau yn adran 136 wedi cynyddu ar y cyfan, ac mi oedd yr heddlu hefyd wedi dweud wrth y pwyllgor eu bod nhw'n teimlo mai nhw'n dal sydd yn cael eu galw yn rhy aml at faterion sydd, mewn difrif, yn ymwneud ag iechyd a gofal neu ofal cymdeithasol. Beth sy'n cael ei amlygu mewn difrif ydy'r ffaith nad ydy'r math o wasanaethau iechyd meddwl 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos y byddem ni'n licio eu gweld yn bodoli, felly mae pobl yn cael eu gorfodi o hyd i ddefnyddio'r gwasanaethau sydd yno bob awr o'r dydd—yr heddlu, adran gwasanaethau brys ysbyty, ac ati. Felly, rydyn ni'n dod yn ôl, onid ydym, at thema sydd wedi ymddangos droeon mewn nifer helaeth o ymholiadau ac ymgynghoriadau eraill—gallaf i ond cyfeirio nôl at y ddadl ddiwethaf a gawsom ni ynglŷn ag hunanladdiad, er enghraifft—y teimlad a'r dystiolaeth nad ydy ein gwasanaethau iechyd a gofal ni yn addas, yn sicr y tu allan i oriau, a bod hynny yn rhoi pwysau ar wasanaethau eraill sydd yn rhai 24 awr y dydd. Thema gyffredinol arall rydw i'n meddwl sy'n cael ei hamlygu yn yr adroddiad ydy'r ffaith bod cyfathrebu yn annigonol rhwng gwasanaethau, yn enwedig gwasanaethau sydd yn ddatganoledigâ gwasanaethau sydd ddim yn ddatganoledig. Mae'n rhaid mynd i'r afael â hynny. Felly, themâu yn fanna sydd yn rhai cyfarwydd iawn inni mewn difrif, a themâu rydw i'n teimlo nad ydyn nhw wedi cael y sylw y maen nhw wedi ei haeddu a sydd ei angen arnyn nhw yn ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yma. Felly, mi orffennaf i drwy ofyn i'r Gweinidog sut mae'r Llywodraeth yma yn bwriadu gwella'r ddarpariaeth o ofal argyfwng y tu allan i oriau yn arbennig, fel bod pobl sydd yn profi argyfwng neu'r rhai sydd yn gofalu amdanyn nhw yn gwybod pwy i ffonio, ac yn fwy na hynny, yn gwybod y bydd cefnogaeth yn cael ei darparu pan fyddan nhw'n gwneud yr alwad honno. Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething? Vaughan Gething AC: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i aelodau'r pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon am eu gwaith yn cynhyrchu'r adroddiad 'Iechyd meddwl yng nghyd-destun plismona a dalfa'r heddlu'. Mae'n bwysig cydnabod rôl yr heddlu yn helpu pobl mewn argyfwng iechyd meddwl. Mewn llawer o achosion, yr heddlu yw'r pwynt cyswllt cyntaf ac mae'r cymorth a roddant i rai o'n pobl fwyaf agored i niwed yn dyngedfennol. Mae'r argymhellion a wnaed gan y pwyllgor yn ceisio cryfhau ein dull o wella gofal mewn argyfwng, sef un o'r prif flaenoriaethau a gynhwyswyd yng nghynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' Llywodraeth Cymru y disgwyliaf ei gyhoeddi ddiwedd yr wythnos hon. Mae'r argymhellion a wnaed yn adroddiad y pwyllgor yn cyd-fynd â'r dull a weithredwn gyda phartneriaid i gefnogi pobl sy'n wynebu argyfwng drwy'r concordat gofal mewn argyfwng iechyd meddwl, ac roeddwn yn falch fod llawer o bobl yn cydnabod y gwelliannau a wnaed o ran nifer y bobl sy'n cael eu cadw yn nalfa'r heddlu. Nid yw hynny wedi digwydd yn ddamweiniol; mae wedi digwydd drwy weithio mewn partneriaeth ar draws y maes iechyd, yr heddlu a sectorau eraill. Ond rwy'n cydnabod y pryderon parhaus a godwyd gan yr heddlu o ran amser swyddogion a dreulir yn ymateb i faterion lle tybir bod iechyd meddwl yn ffactor. Bydd rhywfaint o'r galw hwn yn ddefnydd cwbl briodol o rôl ac amser yr heddlu o dan y ddeddfwriaeth iechyd meddwl bresennol. Ond bydd hefyd yn cynnwys gwneud yn siŵr fod pobl sy'n agored i niwed yn gallu cael y cymorth cywir, a'i fod yn cael ei ddarparu ar draws amrywiaeth o asiantaethau. O safbwynt y GIG, rwyf wedi gwneud gwella gofal mewn argyfwng yn flaenoriaeth, gyda chymorth arian ychwanegol. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod mai un partner yn unig yn y llwybr argyfwng yw'r GIG. Rydym yn gweithio'n agos gydag amrywiaeth o bartneriaid, gan gynnwys yr heddlu, awdurdodau lleol a'r trydydd sector, i wella cymorth a chanlyniadau i bobl. Roeddwn yn falch o gytuno felly, neu gytuno mewn egwyddor, i dderbyn 10 o'r 11 argymhelliad yn adroddiad y pwyllgor. Rwy'n cytuno â'r pwyllgor ynglŷn â phwysigrwydd data a thystiolaeth gadarn ar ganlyniadau. Mae grŵp sicrwydd gofal mewn argyfwng iechyd meddwl wedi datblygu set ddata ddiwygiedig ar gyfer y rhai a gedwir o dan adran 135 ac adran 136, set ddata a gyhoeddwyd am y tro cyntaf ar 5 Rhagfyr. Mae'r data'n darparu mwy o wybodaeth nag a gyhoeddwyd yn flaenorol, er enghraifft drwy gynnwys ethnigrwydd a math o gludiant, a chaiff ei gyhoeddi bob chwarter o hyn ymlaen. Rydym yn bwriadu parhau i weithio gyda phartneriaid i ddadansoddi'r data ymhellach er mwyn helpu i lywio ein dull gweithredu a'n harferion dros amser. Mae pob partner yn cytuno, er mwyn gwella'r llwybr gofal mewn argyfwng, fod arnom angen system sy'n gallu ymateb i'r amrywiaeth o ffyrdd y mae pobl yn wynebu argyfwng personol. Nid oes un ateb sy'n addas i bawb. I wneud hyn, mae angen inni ddeall yn well a bod â dealltwriaeth gyffredin o'r galw a ddisgrifir ar hyn o bryd fel galw iechyd meddwl yn ein system gyfan. Mewn ymateb, rydym wedi comisiynu uned gomisiynu genedlaethol gydweithredol y GIG i gynnal adolygiad mynediad a chludo brys ar gyfer iechyd meddwl. Mae'r adolygiad hwnnw'n cael ei oruchwylio gan grŵp llywio amlasiantaethol ac mae'n dadansoddi data ar draws ystod o bartneriaid, gan gynnwys yr heddlu, awdurdodau lleol, 111, a theulu ehangach y GIG, gan gynnwys gwasanaeth ambiwlans Cymru. Bydd yr adolygiad, a fydd yn cyflwyno'i adroddiad ym mis Ebrill, fel y crybwyllwyd, yn ein helpu i ddeall y galw ar hyn o bryd, er enghraifft os yw'n salwch meddwl neu'n ofid oherwydd ffactorau cymdeithasol. Bydd hyn yn galluogi pob partner i ystyried ei rôl yn sicrhau bod anghenion yn cael eu diwallu wrth inni wella gofal mewn argyfwng a chanlyniadau i bobl. Derbyniais argymhellion yn galw ar y Llywodraeth i weithio mewn partneriaeth â'r heddlu i adolygu'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg ar effeithiolrwydd y gwahanol gynlluniau brysbennu ledled Cymru. Un o nodau allweddol grŵp sicrwydd y concordat yw cyd-ddealltwriaeth o ba ddulliau sy'n fwyaf effeithiol ar gyfer gwella canlyniadau i unigolion. Mae'n ofynnol i bartneriaid rhanbarthol roi gwybod am ddatblygiadau a mentrau lleol i grŵp sicrwydd y concordat er mwyn galluogi'r dysgu hwnnw ac i rannu gwelliannau. Rydym yn gweithio gyda chlinigwyr iechyd meddwl, byrddau iechyd lleol ac 111 i nodi cyfleoedd i ddatblygu llwybr argyfwng iechyd meddwl. Bydd hynny'n caniatáu inni nodi pa ddulliau y gellid eu huwchraddio wedyn ar lefel genedlaethol. Yn unol ag argymhellion y pwyllgor, rydym wedi ymrwymo'n llawn i fuddsoddi mewn ymyrraeth gynnar ac atal er mwyn lleihau'r risg o argyfwng iechyd meddwl yn y lle cyntaf. Mae cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' a'r cynllun cyflawni ar gyfer argyfwng iechyd meddwl yn adlewyrchu'r ffocws hwnnw. Bydd gan yr holl bartneriaethau iechyd meddwl a chyfiawnder troseddol rhanbarthol gynlluniau lleol ar waith i sicrhau ymyrraeth gynnar ac atal. Felly, mae gofal mewn argyfwng a gofal y tu allan i oriau yn parhau i fod yn flaenoriaeth, i'r GIG ac yn y cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' newydd ar gyfer y tair blynedd nesaf. Byddwn yn parhau i weithio ar y cyd â'n partneriaid i wella'r ymateb gyda phobl mewn argyfwng iechyd meddwl ac ar eu cyfer, ac wrth gwrs, byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd a wnawn. Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Dai Lloyd i ymateb i'r ddadl? Dai Lloyd AC: Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch am eich amynedd, a dweud y gwir, achos dwi'n sylweddoli bod llai na dim amser gyda fi i ymateb i'r ddadl yma. Ond, a allaf ddiolch, felly, yn yr amser prin sydd ar gael, i bawb am eu cyfraniadau? Hefyd, dwi'n credu ei bod hi'n berthnasol inni allu talu teyrnged am waith yr heddlu yn y cyd-destun anodd yma o fynd i'r afael efo argyfyngau iechyd meddwl mewn achosion brys fel hyn. Dros y blynyddoedd, dwi wedi bod yna efo nhw, yn aml yng nghanol y nos ac ati. Pan fydd yna bethau mawr yn digwydd yn hanes pobl, mae'r heddlu yno i'n helpu ni, fel meddygon, allan o dwll hefyd, yn ogystal â'r teuluoedd. Felly, dwi'n falch iawn o allu cael y cyfle yna i dalu teyrnged i'r heddlu am eu gwaith. A allaf bellach gydnabod cyfraniadau pwysig gan David Rees, Mark Isherwood, Rhun ap Iorwerth a hefyd, wrth gwrs, y Gweinidog? A allaf hefyd ddiolch i'r holl dystion a wnaeth ddarparu tystiolaeth mor fendigedig inni yn ystod ein hymchwiliad fel pwyllgor? Wrth gwrs, gwnaf hefyd achub ar y cyfle i ddiolch am waith dygn a chaled y clercod a'r ymchwilwyr ar y pwyllgor iechyd, achos dwi ddim wastad, bob tro, yn cofio gwneud hynny. Felly, diolch yn fawr iddyn nhw. I gloi, felly, mae yna gamau breision wedi'u cymryd yn y maes yma. Mae o'n parhau yn faes dyrys, anodd, achos fel rydym ni i gyd yn gwybod, dydy'r heddlu ddim wedi'u datganoli i'r fan hyn. Mae iechyd a iechyd meddwl wedi'u datganoli i'r fan hyn, ond mae profiad yn gynyddol yn dangos bod yna gydweithio bendigedig yn gallu digwydd. Wedi dweud hynna, erys nifer o heriau yn y maes. Diolch yn fawr. Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 8. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: Newidiadau i ryddid i symud ar ôl Brexit—Goblygiadau i Gymru Eitem 8 ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, 'Newidiadau i ryddid i symud ar ôl Brexit—goblygiadau i Gymru', a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor hwnnw i gyflwyno'r cynnig, David Rees. Cynnig NDM7237 David Rees Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar ei ymchwiliad i Newidiadau i ryddid i symud ar ôl Brexit—y goblygiadau i Gymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Tachwedd 2019. Cynigiwyd y cynnig. David Rees AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl heddiw a chyflwyno'r cynnig a gyflwynwyd yn fy enw ar ein hadroddiad ar y newidiadau i ryddid i symud ar ôl Brexit a'i oblygiadau i Gymru. Gadewch i mi gofnodi ein diolch i bawb a gyfrannodd at ein gwaith, yn enwedig dinasyddion yr UE sydd wedi gwneud Cymru yn gartref newydd iddynt. Mae ein hadroddiad yn edrych ar dri maes cyffredinol sy'n ymwneud â newidiadau i ryddid pobl i symud ar ôl Brexit, sef polisi mewnfudo ar ôl Brexit, gweithrediad cynllun preswylio yr UE, a'r achos posibl dros amrywiadau rhanbarthol i bolisi mewnfudo yn y dyfodol. Cyhoeddasom yr adroddiad mewn tirlun polisi ansicr iawn. Dylwn nodi hefyd, er bod cenedligrwydd a mewnfudo yn faterion a gadwyd yn ôl o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae nifer o gynigion penodol i Gymru ym Mhapur Gwyn Llywodraeth y DU a'r ddadl ehangach ynghylch polisi sy'n haeddu ystyriaeth fanwl gan y Cynulliad hwn. At hynny, mae dyletswydd arnom i gynrychioli buddiannau pobl Cymru. Mae hynny'n cynnwys sicrhau bod yr effaith ar feysydd datganoledig yn cael ei hadlewyrchu ym mholisi'r DU. Gan droi at ein hargymhellion ac ymateb Llywodraeth Cymru, gwnaed cyfanswm o 12 o argymhellion gennym ac rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn 11 yn llawn, ac un mewn egwyddor. Rwy'n cydnabod y rheswm a roddwyd yn ymateb Llywodraeth Cymru i'r rhesymau pam mai mewn egwyddor yn unig y gallent ei dderbyn.   Yn ogystal â'n hargymhellion, rydym yn gwneud nifer o gasgliadau. Y casgliadau hyn oedd sail cyflwyniad ein pwyllgor i'r Swyddfa Gartref, ac mae'n ymwneud yn bennaf â gweithredu cynllun preswylio yr UE y byddaf yn ymdrin ag ef yn fanylach yn nes ymlaen. Byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa mewn perthynas â'r cynllun a bwriadwn ddod â'r achos i sylw'r Ysgrifennydd Cartref gan fod canlyniad etholiad cyffredinol 2019 tu ôl i ni bellach. Bydd ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd yn arwain at rai o'r newidiadau mwyaf i bolisi mewnfudo ers degawdau. Yr hyn sy'n hollbwysig yw mai polisi'r Llywodraeth yw y bydd y rhyddid i symud yn dod i ben ac y bydd system fewnfudo newydd debyg i un Awstralia sy'n seiliedig ar bwyntiau yn disodli'r system bresennol. Yn ganolog i hyn, ceir y cynigion ar gyfer trothwy cyflog o £30,000 y flwyddyn i'w gymhwyso i'r rhan fwyaf o fewnfudwyr sy'n dod i mewn i'r DU o'r UE ar ôl Brexit. Bydd hyn yn cyd-fynd â'r system bresennol ar gyfer gweithwyr nad ydynt yn weithwyr o'r UE. Roedd y rhan fwyaf o'r dystiolaeth a gawsom yn tynnu sylw at bryderon ynghylch y trothwy cyflog arfaethedig. Roedd llawer o bobl yn tynnu sylw at y ffaith bod y mwyafrif helaeth o wladolion yr UE sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru ar hyn o bryd yn ennill llai na'r trothwy cyflog hwnnw, hyd yn oed y rhai mewn swyddi canolig a medrus. Roedd ein hadroddiad yn croesawu'r ffaith bod y pwyllgor cynghori ar ymfudo wedi cael y dasg o adolygu'r trothwy hwn. Wrth gynnal yr adolygiad, roedd yn amlwg i ni y dylai'r pwyllgor cynghori ar ymfudo ystyried y byddai trothwy cyflog o £30,000 yn gosod y bar ar lefel uwch na'r enillion cyfartalog yng Nghymru. Mae ein set gyntaf o gasgliadau ac argymhellion yn tynnu sylw at y pryderon hyn ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio popeth a all i sicrhau bod y trothwy'n cael ei ostwng er mwyn adlewyrchu'r cyd-destun Cymreig yn well. Rwy'n nodi bod yna adroddiadau heddiw'n rhagweld y bydd y trothwy naill ai'n cael ei ddileu neu ei ostwng. Fe arhosaf am gyhoeddiad adroddiad y pwyllgor cynghori ar ymfudo, sydd i fod i gael ei gyhoeddi cyn bo hir. Os yw'r adroddiadau hynny'n gywir, rwy'n croesawu'r posibilrwydd y caiff hyn ei newid. Clywsom bryderon amrywiol hefyd ynglŷn â gweithrediad cynllun preswylio yr UE yng Nghymru. Llywiwyd ein gwaith ar gynllun preswylio yr UE gan fforwm ar-lein a thrafodaethau wyneb yn wyneb â dinasyddion o wledydd eraill yr UE sy'n byw yng Nghymru a chynrychiolwyr elusennau a sefydliadau sy'n gweithio gyda hwy fel unigolion a theuluoedd. Yn benodol, clywsom am lefelau cofrestru isel yng Nghymru o'u cymharu â gwledydd eraill y DU. Roedd y ffigurau ym mis Tachwedd 2019 yn nodi bod oddeutu 59 y cant o ddinasyddion yr UE yng Nghymru wedi gwneud cais i'r cynllun, o'i gymharu â 79 y cant yn Lloegr, 63 y cant yn yr Alban, a 66 y cant yng Ngogledd Iwerddon. Felly, rydym ar waelod y lefelau hynny. Tynnwyd sylw at bryderon ynghylch yr elfennau digidol diofyn o'r cynllun a'r ymwybyddiaeth gyffredinol o sut a ble i gael gafael ar y cyngor a'r cymorth. Nawr, rydym yn rhannu'r pryderon hyn, a nodasom farn pwyllgor Tŷ'r Arglwyddi ar gyfiawnder yr UE fod y diffyg dogfennaeth ffisegol a ddarperir i ddinasyddion yn dangos elfennau sy'n debyg i sgandal Windrush. Mae'n amlwg fod gan y ddwy Lywodraeth rôl i'w chwarae yma o ran rhoi cyngor a chymorth i ddinasyddion yr UE ddefnyddio'r cynllun, a hefyd o ran rhoi sicrwydd y bydd eu statws yn ddiogel ac yn barhaol ar ôl Brexit. Dyma pam y galwn ar Lywodraeth Cymru i roi arweiniad cryfach o ran cyfeirio dinasyddion at y pecyn o fesurau sydd ganddi i'w cefnogi, ac i ailadrodd ei negeseuon o gefnogaeth yn uchel i ddinasyddion yr UE yma. Wrth gyfleu'r neges hon, dylem gofio hefyd fod ein cydweithwyr yn Senedd Ewrop hefyd wedi dangos diddordeb brwd yn hawliau dinasyddion ar ôl Brexit. Yn wir, mae ffigurau allweddol yn Senedd Ewrop wedi dweud dro ar ôl tro y bydd hawliau dinasyddion yr UE ymysg eu prif ystyriaethau pan ddaw'n fater o roi eu barn a ddylid cefnogi cytundeb ymadael y DU â'r UE ai peidio, ac os wyf yn iawn, bydd hynny'n digwydd yr wythnos nesaf. A dylem fod yn gwbl ymwybodol, felly, fod Senedd Ewrop wedi pasio cynnig yr wythnos diwethaf—gyda 610 o blaid, 29 yn erbyn, a 68 yn ymatal, felly mwyafrif go fawr—yn mynegi pryderon eang am ddull Llywodraeth y DU o sicrhau hawliau dinasyddion ar ôl Brexit. Mewn llawer o feysydd, roedd y pryderon hyn yn debyg i'n rhai ni, gan gynnwys diffyg dogfennaeth ffisegol ar gyfer ymgeiswyr llwyddiannus, a materion yn ymwneud â hygyrchedd y cynllun. Felly, rwy'n ailadrodd galwadau ein pwyllgor am i'r materion hyn gael sylw fel mater o frys. Roedd ein trydedd thema ganolog yn ystyried a oes achos dros reolau mewnfudo gwahanol i Gymru ar ôl Brexit. Cawsom gryn dipyn o dystiolaeth a oedd yn amlygu heriau demograffig ac anghenion economaidd penodol Cymru. Mae'r heriau, yn enwedig poblogaeth sy'n heneiddio, yn debygol o waethygu wrth i ryddid i symud ddod i ben. Ar ben hynny, mae'n wir fod rhai sectorau o'r economi yn debygol o ddioddef yn waeth nag eraill wrth i ryddid i symud ddod i ben. Ni ddaethom i gasgliad cadarn ynglŷn ag a ddylai Llywodraeth Cymru wasgu am fwy o reolaeth dros y system fewnfudo yng Nghymru ar ôl Brexit. Fodd bynnag, hoffem dynnu sylw'r Cynulliad at enghreifftiau mewn gwledydd eraill, yn fwyaf nodedig yng Nghanada ac Awstralia, lle mae gwahaniaethu o'r fath yn digwydd. Ac yn yr un modd, cytunasom y dylai Llywodraeth Cymru wneud gwaith i archwilio polisi mewnfudo sy'n gwahaniaethu'n ofodol ar ôl Brexit. Dylai hyn gynnwys ymchwil ar dueddiadau demograffig yn y dyfodol ac effaith bosibl lefelau is o ymfudo ar economi Cymru. Hyd nes y gwneir hynny, ni fydd gennym y sylfaen dystiolaeth gadarn sydd ei hangen i lywio polisi yn y maes hwn yn y dyfodol, wedi'i deilwra i anghenion Cymru. A nodais yn ymateb Llywodraeth Cymru fod yr awgrym o ostyngiad yn y boblogaeth yn y blynyddoedd i ddod yn rhywbeth y mae angen i ni fyfyrio yn ei gylch, yn enwedig gan ein bod yn boblogaeth sy'n heneiddio. Os bydd y boblogaeth yn lleihau, mae'n fwy tebygol nad yw'r bobl iau yn mynd i fod yma. Yn olaf, cyn cloi fy sylwadau agoriadol, hoffwn ystyried y neges bwysicaf o bosibl a gesglais o'n gwaith yn y maes hwn. Clywsom yn uniongyrchol gan ddinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru am y dreth y mae rhethreg negyddol ynghylch ymfudo yn ei chael ar eu lles emosiynol hwy a'u ffrindiau a'u teuluoedd. Galwaf ar bob un o fy nghyd-Aelodau yn y Siambr hon a chynrychiolwyr etholedig eraill ar bob lefel, o bob plaid wleidyddol, i ystyried yr effeithiau niweidiol y mae peth o'r rhethreg a'r iaith a ddefnyddiwyd mewn perthynas â mewnfudo yn eu cael ar y bobl yr effeithir arnynt. Efallai nad ydym bob amser yn deall y geiriau a ddefnyddiwn a'r effaith y maent yn ei chael ar bobl. Mae angen inni fod yn ofalus. Mae dyletswydd arnom i weithredu ar ran y bobl a ddywedodd wrthym eu bod yn teimlo nad oes croeso iddynt ac nad oes mo'u heisiau yn ein gwlad oherwydd yr iaith a ddefnyddir, a'r iaith honno'n cael ei hailadrodd gan unigolion yn ein bywyd cyhoeddus. Mae dyletswydd arnom i arwain ar hynny. Mae angen inni sicrhau bod y bobl hyn—sydd yma i helpu a gweithio, pobl nad ydynt yma am unrhyw reswm arall—yn teimlo'n gartrefol, eu bod yn teimlo'n rhan o'n cymuned. Maent am fod yn rhan o'n cymuned. Ein gwaith ni yw sicrhau bod y genedl yn siarad un iaith groesawgar wrth y bobl hyn. Dyna pam rwy'n dweud heddiw ein bod yn sefyll gyda chi. Felly, cyflwynaf y cynnig a gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r adroddiad. Daeth y Llywydd i’r Gadair. David Melding AC: Diolch i David Rees, Cadeirydd y pwyllgor am y ffordd y mae—wel, mae bob amser yn arwain y pwyllgor mewn modd rhagorol. Roedd hwn yn ymchwiliad pwysig iawn, ac rwy'n hapus i gefnogi'r cynnig a'r adroddiad heddiw. Credaf fod David wedi ymdrin â'n prif bwyntiau, ond gadewch i mi ymhelaethu arnynt. Nid wyf yn meddwl y cânt eu lleihau mewn unrhyw fodd wrth eu hailadrodd. Mae'n amlwg mai'r trothwy cyflog o £30,000 oedd y prif fater a wynebwyd gennym ac fel y nodwyd, mae hwnnw gryn dipyn yn uwch na lefel y cyflog cyfartalog yng Nghymru, ac rwyf innau hefyd yn falch o weld bod hynny'n cael ei adolygu erbyn hyn. Ac rwy'n credu ein bod yn hollol iawn i argymell caniatáu rhywfaint o amrywio yng Nghymru pe bai'n aros ar £30,000, fel y gallem o leiaf ei addasu. Ond o ran y cynllun cyfan, clywsom gan gyflogwyr am y gost uwch y gallant ei hwynebu am recriwtio, yr anhawster penodol mewn sectorau mwy bregus, a hyd yn oed pe bai'r trothwy'n gostwng, efallai na fydd modd cael digon o weithwyr, fel y rhai mewn gofal cymdeithasol—yn enwedig os ydynt yn weithwyr rhan-amser, er enghraifft—bwyd-amaeth, lletygarwch. Mae'r rhain i gyd yn feysydd allweddol i economi Cymru. Nodais innau hefyd y gyfradd is ymhlith dinasyddion yr UE yng Nghymru sy'n gwneud cais am y cynllun statws preswylydd sefydlog, ac mae gryn dipyn yn is na rhannau eraill o'r DU. Ac i ryw raddau, rhaid i mi ddweud bod hyn yn adlewyrchu fy mhrofiadau fy hun dros y flwyddyn neu'r 18 mis diwethaf gyda'r gymuned Roegaidd yn ne Cymru. Maent wedi lleisio'r pryderon hyn ynglŷn â gwybodaeth a sut i fynd ati, ac mae llawer ohonynt wedi bod yma ers degawdau, a rhai ohonynt yn Gypriaid Groegaidd sydd wedi bod yma er y 1970au. Rwy'n credu bod llawer iawn o ansicrwydd a phryder, a rhywfaint ohono'n gyfeiliornus mae'n siŵr, ond roedd y diffyg eglurder hwnnw'n broblem wirioneddol. Ac os caf hysbysu'r cyd-Aelodau, Lywydd, y bydd cyflwyniad yn cael ei gynnal wythnos i heddiw yn ystafell gynadledda C a D ar gyfraniad y gymuned Roegaidd dros y 150 mlynedd diwethaf i Gaerdydd yn benodol, felly rwy'n annog yr Aelodau i ddod draw. Yn sicr, byddai'n gwneud y pwynt y mae David wedi'i wneud yn fyw iawn am ein hangen i groesawu mewnfudwyr gan eu bod yn rhoi cymaint i ni ac yn cyfoethogi ein treftadaeth ddiwylliannol ein hunain yng Nghaerdydd a de Cymru, ac mewn rhannau eraill o Gymru mae'n siŵr. A gaf fi ddweud y byddai cynllun pwyntiau, os mai dyna a gawn yn y pen draw, yn caniatáu ar gyfer mwy o amrywio rhanbarthol o bosibl? Rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru yn gyndyn o fynd ar drywydd y math o gynllun a fyddai'n rhoi llawer o allu i amrywio rhywbeth fel y trothwy, a all fod yn anodd ei weinyddu, ond gallai caniatáu mwy o bwyntiau i fewnfudwyr sy'n dod yma i chwilio am waith, a gallu ymgartrefu yng Nghymru ac yn enwedig swyddi, efallai, fod yn ffordd ymlaen, a chredaf y dylid ystyried hynny'n ofalus iawn. Rwy'n gwerthfawrogi'r meddwl a aeth i mewn i hynny gan Lywodraeth Cymru. A hefyd, credaf y gellid cyfuno hyn â'r angen am restr o alwedigaethau lle ceir prinder o weithwyr, fel y bydd ganddynt yn yr Alban, a dechrau caniatáu'r hyblygrwydd mwyaf posibl i ni, gan fod ein heconomi yn wahanol iawn i'r rhai sy'n eithaf agos atom o gwmpas Bryste, ac yn sicr o gwmpas Llundain a dyffryn y Tafwys. Felly, rwy'n credu bod y pethau hyn yn bwyntiau y gellid cyfiawnhau eu codi a'u hystyried, oherwydd rydym ar fin cael newid mawr i ymarfer o ran pobl o weddill Ewrop a fydd yn ceisio byw a gweithio ym Mhrydain ac yn ein hachos ni yn arbennig, yng Nghymru. Rhaid rheoli'r newidiadau'n ofalus iawn. Gallent effeithio ar lawer o bobl—y rhai sydd eisoes wedi ymgartrefu; mae mwy o duedd i'w perthnasau ddod yma i weithio lle mae ganddynt gysylltiadau teuluol. Felly, mae'r rhain yn bwyntiau eithriadol o bwysig. Er ein bod bellach ar fin mynd drwy holl realiti Brexit a'r newidiadau mawr, mae llawer o gyfleoedd o hyd i ymateb i'r pryderon digon dealladwy a gawn, hyd yn oed ar y cam hwn, drwy'r ymgynghoriadau a'r ymchwiliadau. Ac rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn ymateb yn yr ysbryd cywir, ac adeiladol buaswn yn dweud, wrth nodi'r pwyntiau hyn a gwneud awgrymiadau, a hyrwyddo rhai o'r pwyntiau sydd gennym a allai wella'r cynllun yn fawr, heb fod ynddynt unrhyw fwriad yn y bôn i danseilio'r agweddau ymarferol ar yr hyn a fydd yn ein hwynebu yn y byd ôl-Brexit. Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Delyth Jewell AC: Yr wythnos hon yw fy olaf fel aelod o'r pwyllgor materion allanol, a hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i'r Cadeirydd, David Rees, a phob aelod arall o'r pwyllgor am y croeso a'r cyfeillgarwch dros y flwyddyn ddiwethaf, wrth inni graffu ar wahanol elfennau o gynlluniau Llywodraethau Cymru a'r Deyrnas Gyfunol o ran ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Un agwedd ar waith y pwyllgor wnaeth argraff arnaf i o'r ddechrau oedd, er taw cymryd trosolwg rhyngwladol oedden ni—serch hynny, mae effaith y polisïau, y ddeddfwriaeth a phenderfyniadau yn rhai lleol, ac, mewn sawl achos, yn unigol. Roedd hyn yn enwedig yn wir o ran yr ymchwiliad rydyn ni'n ei drafod heddiw, sef y newidiadau i ryddid i symud wedi inni adael yr Undeb Ewropeaidd. Hoffwn gysylltu fy hun â'r sylwadau sydd eisoes wedi cael eu gwneud o ran diolch i'r bobl a'r sefydliadau wnaeth gyfrannu at ein gwaith, yn enwedig y dinasyddion o'r Undeb Ewropeaidd wnaeth gymryd rhan yn ein grŵp ffocws. Pan ddigwyddodd y refferendwm yn 2016, doedd dim llawer o eglurder ynghylch ystyr y bleidlais. Mae nifer bellach yn credu bod pobl wedi pleidleisio er mwyn lleihau mewnfudo, er nad oes tystiolaeth gadarn fod hyn yn wir ymhob achos. Felly, mae e'n destun tristwch inni ein bod yn gorfod colli'r pedwar rhyddid nad oes modd eu rhannu. Delyth Jewell AC: Mae rhyddid i symud yn agor gorwelion. Mae pobl sy'n byw yn ein plith yn ein cymunedau wedi elwa o'r rhyddid hwn—pobl a fydd yn awr yn gweld y gorwelion hynny'n diflannu. Mae'n ffenomen hynod a thrist iawn, ond dyma ni. Crybwyllais y grwpiau ffocws a gynhaliwyd gennym fel pwyllgor, ac roedd eu tystiolaeth yn drychinebus: pobl sydd wedi byw am lawer o'u hoes yng Nghymru nad ydynt yn teimlo mwyach eu bod yn cael croeso oherwydd polisi'r Llywodraeth, oherwydd ansicrwydd ac oherwydd y rhethreg niweidiol iawn sydd wedi gwenwyno'r ddadl—y diafoliaid a gafodd eu dihuno gan rai elfennau o ddadl y refferendwm. Soniodd y bobl yn y grwpiau ffocws am y sefyllfa ddystopaidd oedd yn eu hwynebu, y rhwystrau yn eu ffordd rhag gwneud cais am statws preswylydd sefydlog, y cylchoedd y mae'n rhaid iddynt neidio drwyddynt, y pryder sy'n gysylltiedig â darganfod mai dim ond statws preswylydd cyn-sefydlog a roddwyd i chi, a'r ffaith Kafkaesgaidd, hyd yn oed os ydych chi'n cael statws preswylydd sefydlog, nad ydych yn cael unrhyw brawf copi caled o'r statws hwnnw—fel rhyw rith hunllefus. Y peth a'm trawodd i'r byw oedd y straeon a glywsom am blant yn dod yn destun gwawd yn yr ysgol—mor ifanc â phump neu chwech oed—am nad yw eu rhieni wedi'u geni yma, neu am na chawsant hwy mo'u geni yma, a bod eu cyd-ddisgyblion yn dweud wrthynt, 'Fe wnaethom bleidleisio dros eich gweld chi'n mynd adref.' Pa fath o wlad ydym ni eisiau bod: un lle mae pobl sydd wedi dewis byw eu bywydau yma yn cael croeso a chefnogaeth, neu un lle rydym yn codi rhwystrau? Mae'r adroddiad hefyd yn egluro pa mor ddinistriol a niweidiol fydd y trothwy cyflog o £30,000 i'n heconomi. Nid yw'r pris y mae Llywodraeth y DU wedi dewis ei roi ar y croeso a roddwn i rai dinasyddion yn cyd-fynd â'n hanghenion yng Nghymru. Ac mae ein hadroddiad yn dweud yn glir fod y mwyafrif helaeth o wladolion yr UE sy'n byw ac yn cyfrannu at ein heconomi yng Nghymru eisoes yn ennill llawer llai na'r trothwy hwnnw. Ac maent yn cyfri. Maent yn cyfrannu. Hwy yw ein cymdogion, ein cydweithwyr, ein ffrindiau. Oni chaiff hyn ei herio a'i newid fe gaiff effaith ofnadwy ar ein gwasanaethau, ar ein GIG, ond hefyd arnom ni fel pobl. Lywydd, os ymwelwch â Shakespeare and Company ym Mharis—er y gallai hynny fod yn anos i'w wneud ar ôl Brexit, pwy a ŵyr? Ond os ewch yno, mae ganddynt ddyfyniad bendigedig ar y wal: Peidiwch â bod yn anfoesgar wrth ddieithriaid rhag ofn mai angylion mewn cuddwisg ydynt. Nawr, yn hyn o beth, rwy'n un o ddisgyblion John Donne. Rwy'n credu nad oes yr un ohonom yn ynys, nad ydym yn ddieithriaid go iawn i'n gilydd, ni waeth ble y cawsom ein geni. Rwy'n rhyngwladolwr, a chredaf yn gryf fod y ffordd rydym yn trin ein cyd-ddyn yn talu ar ei ganfed. Mae gwladolion yr UE yn cyfrannu at ein cymdeithas. Ni fydd y cyfraniad hwnnw'n lleihau ar ôl Brexit, ac ni ddylai ein gwerthfawrogiad ohonynt leihau ychwaith. Dylem ni a'n polisïau ddilyn yr elfennau gwell yn ein natur, nid y rhai gwaethaf. David J Rowlands AC: A gaf fi ddweud ar y dechrau y byddwn yn cefnogi'r cynnig hwn? Fodd bynnag, rhaid i mi nodi fy mod yn credu bod pob plaid yn y Siambr wedi mynegi ei chred a'i chefnogaeth i ddinasyddion yr UE sy'n gweithio yn y DU ar hyn o bryd, a sut y dylid caniatáu iddynt—na, eu hannog hyd yn oed—i aros, ac mae hynny'n arbennig o berthnasol i'r rhai sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru. Felly, ni fydd y ddadl hon ar yr adroddiad materion allanol yn ychwanegu fawr ddim os o gwbl at yr hyn sydd wedi cael ei ddweud a'i gytuno yn y Siambr o'r blaen. Yr hyn na ddylem ei anghofio—[Torri ar draws.] David Rees AC: A wnaiff yr Aelod ildio? David J Rowlands AC: Gwnaf. David Rees AC: Diolch i'r Aelod am dderbyn yr ymyriad. Roedd yn rhaid i mi godi oherwydd fy mod i wedi bod yn eistedd yn y Siambr ac wedi clywed sylwadau am 'estroniaid' yn y Siambr hon. A ydych yn cytuno nad yw'r math hwnnw o sylw'n helpu'r agenda pan fyddwn yn siarad â phobl? Maent yn rhan o'n cymunedau, maent yn rhan o'n cymdeithas, ac mae siarad amdanynt fel 'estroniaid' yn amhriodol. David J Rowlands AC: Yn sicr. Rwy'n credu bod hwnnw'n ymadrodd anffodus iawn, David. Nid oes amheuaeth am hynny o gwbl. [Torri ar draws.] Wel, nid wyf fi wedi ei ddefnyddio yn y Siambr. Yr hyn na ddylem ei anghofio, fodd bynnag, yw mai rhyddid i symud oedd y prif fater oedd yn codi gan bobl y DU, yn enwedig pobl yng Nghymru. Mae'r blaid Lafur, ac i ryw raddau, Plaid Cymru, wedi talu pris mawr am anwybyddu pryderon ei chyn-gefnogwyr dosbarth gweithiol. Rwyf wedi darllen drwy'r adroddiad hwn, ac ymatebion y Llywodraeth, sydd wrth gwrs yn cynnwys yr holl ystrydebau arferol tra'n anwybyddu gwir realiti yr hyn y mae mewnfudo torfol wedi ei olygu, nid yn unig i'r boblogaeth frodorol ond i'r niferoedd helaeth o fewnfudwyr sydd wedi cael eu hecsbloetio'n greulon heb ddim o'r hawliau a roddwyd iddynt gan ddeddfwriaeth hawliau gweithwyr Ewropeaidd sy'n aml yn cael ei chanmol. Nid yw llawer ohonynt yn fawr mwy na chaethweision, ac rwy'n cyfeirio yma nid yn unig at y fasnach ryw, ond at lawer o alwedigaethau honedig eraill, fel y rhai sy'n golchi ceir, rhywbeth rwyf wedi'i godi sawl gwaith yn y Siambr. Nid oes unrhyw sôn yn yr adroddiad nac yn ateb y Llywodraeth am fanteisio ar gyfle Brexit i fynd i'r afael â'r galwedigaethau camfanteisiol hyn a cheisio helpu'r rhai sy'n gwneud gwaith o'r fath i gael y rhyddid i ddychwelyd adref a rhyddhau eu hunain o'r caethiwed a orfodir gan y sefydliadau troseddol sy'n manteisio arnynt. Rwy'n atgoffa'r Siambr nad oedd gennym arferion o'r fath yn y DU hyd nes y cyflwynwyd mewnfudo torfol, yn enwedig o hen wledydd dwyrain Ewrop. Does bosibl nad yw mynd i'r afael â'r arferion hyn yn angen llawer mwy dybryd a dyngarol na llu o fentrau a gynlluniwyd i roi gwybod i'r rheini sydd eisoes yn ymwybodol iawn yn ôl pob tebyg o'u hawl i aros ar ôl Brexit. Yn wir, mae miloedd lawer eisoes wedi ffeilio'r papurau angenrheidiol i sicrhau eu bod yn parhau i breswylio yma. Yr hyn nad yw'r adroddiad yn mynd i'r afael ag ef yw pam fod angen y bobl hyn o wledydd eraill yn y lle cyntaf. Wedi'r cyfan, mae 22.7 y cant o boblogaeth Cymru—bron chwarter—yn economaidd anweithgar. Mae'r ateb, wrth gwrs, i'w ganfod yn esgeulustod y blaid Lafur a'r blaid Dorïaidd o ran darparu'r cyfleusterau a'r cyfleoedd hyfforddi i'n poblogaeth frodorol. Clywn yn aml na allem weithredu ein gwasanaeth iechyd gwladol heb wladolion tramor, ac eto, bob blwyddyn, caiff 80,000 o ymgeiswyr hyfforddiant nyrsio sydd â'r cymwysterau angenrheidiol eu gwrthod, ac mae miloedd lawer sy'n dymuno dychwelyd i'r gwasanaeth iechyd ar ôl gadael am gyfnod o absenoldeb yn cael eu gwrthod am fod eu sgiliau'n eu gwneud yn gymwys ar gyfer bandiau cyflog uwch. Gwell yw manteisio ar lafur rhad o dramor. Mae prinder lleoedd hyfforddi meddygon ledled y DU, gan gynnwys Cymru, wedi cael sylw lawer gwaith yn y Siambr hon. Felly, nid yw Plaid Brexit yn gweld fawr ddim yn yr adroddiad nac yn ymatebion y Llywodraeth na chafodd sylw o'r blaen, naill ai gan Lywodraeth y DU neu Lywodraeth Cymru, na dim nad yw llawer o ymatebion Llywodraeth Cymru wedi'i gadarnhau. Rwy'n siŵr nad yw pobl Cymru eisiau gweld gweithwyr Ewropeaidd da a gweithgar yn cael eu hel oddi yma, eu hailwladoli neu weithredu unrhyw fath arall o wrthodiad. Ond yr hyn y maent yn amlwg am ei gael yw polisi mewnfudo rheoledig sy'n dilyn system Awstralia sy'n seiliedig ar bwyntiau, ac sydd bellach yn cael ei hargymell yn rhannol gan y Torïaid, ond un y mae rhai ohonom wedi'i hargymell ers amser hir iawn. Alun Davies AC: Rwyf wedi cefnogi'r rhyddid i symud yn frwd ar hyd fy oes fel oedolyn. Fel person ifanc yn fy arddegau, rwy'n cofio sefyll wrth yr arolygfeydd ffin a arferai fodoli yn ein cartref Ewropeaidd cyffredin. Mae gennyf stamp ar basborto Ffrainc. Rwy'n cofio gorfod dangos fy mhasbort i groesi afonydd a ffyrdd ein cyfandir. Un o'r rhoddion mwyaf a gawsom gan yr Undeb Ewropeaidd oedd dileu'r ffiniau hynny a chael gwared ar yr arolygfeydd ffin, a dileu'r angen i ddangos na allem symud o un darn o dir i'r llall. Alun Davies AC: Daeth ein cartref Ewropeaidd cyffredin, yn aml y man lle buom yn ymladd ein rhyfeloedd sifil, yn fan lle gallem estyn allan a pheidio ag adeiladu waliau pellach. Nid yw'n gyd-ddigwyddiad fod arolygfeydd ffin wedi'u marcio gan luniau rhyfel hefyd. Mae symud y tu hwnt i'r ffiniau hynny ac edrych ar fyd drwy sbectol, 'A ydych chi'n frodorion? A wyf fi'n frodor? A yw rhywun arall yn frodor?', wedi arwain at un o'r mathau mwyaf o ryddid y mae pawb ohonom wedi'u mwynhau. Ond mae'r rhyddid i symud hefyd yn un o'r mathau o ryddid a gamddeallwyd ac a gamliwiwyd fwyaf. Wrth gwrs, rhyddid i lafur symud ydyw. Gallu pobl i symud ac i weithio ar draws 28 o diriogaethau gwahanol. Nid yw'n rhyddid y byddant hwy'n ei golli, ond mae'n un y byddwn ni yn ei golli. Mae'n rhyddid sydd wedi galluogi pobl, yn y Siambr hon a'r bobl y mae pawb ohonom yn eu cynrychioli, i fwynhau'r cyfleoedd na allai ein hynafiaid ond breuddwydio amdanynt. Ond mae hefyd yn rhyddid, wrth gwrs, a gafodd ei droi'n arf mewn sawl ffordd, a gwelsom benawdau gwasg y gwter, y papurau tabloid, yn defnyddio hil fel modd o greu rhagfarn, ac rydym wedi clywed hynny y prynhawn yma yn y ddadl hon. Gadewch i mi ddweud hyn wrth Blaid Brexit: mae Cymru'n genedl a gafodd ei hadeiladu gan fewnfudwyr ac ar fewnfudo. Fy nghymuned i—[Torri ar draws.] Na, nid wyf am ildio i chi. Rwyf wedi cael digon arnoch. Mae Cymru'n wlad a adeiladwyd ar fewnfudo a chan fewnfudwyr, a fy etholwyr i yw canlyniadau'r mewnfudo hwnnw, fel y rhan fwyaf ohonom yn yr ystafell hon, yn y Siambr heddiw. Symudodd ein cyndadau i'r wlad hon a'i gwneud y wlad ydyw, y wlad rydym yn ei dathlu, y wlad rydym yn ei charu, y wlad rydym yn buddsoddi ein bywydau ynddi; fe'i hadeiladwyd ar, a'i chreu gan don ar ôl ton o fewnfudwyr, a dylem groesawu hynny. Mae hefyd yn un o'r meysydd lle mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cam-drin pobl yn y modd mwyaf gwarthus. Mae methiant cynllun preswylio yr UE wedi creu mwy o drallod diangen na bron unrhyw faes polisi arall, ac eithrio credyd cynhwysol o bosibl. Fel Delyth Jewell, siaradais â'r bobl hynny, edrychais i'w llygaid a gwelais y siom, y loes a'r trallod a achoswyd, nid o ganlyniad anfwriadol i bolisi ond fel canlyniad bwriadol i bolisi, a chan y geiriau a ddefnyddiwyd gan Weinidogion y DU a'r rhagfarn a glywsom yn y Siambr y prynhawn yma. Mae hynny wedi creu trallod yn ein cymunedau ymhlith y bobl y ceisiwn eu cynrychioli, a dylem fod â chywilydd mawr o hynny. A hefyd, gwyddom fod Llywodraeth y DU wedi gwneud camgymeriad gyda'r polisi hwn. Gwyddom y bydd y cap cyflog, y trothwy cyflog, yn creu anawsterau i'n GIG, yn creu anawsterau i'n gwasanaethau cyhoeddus, ac yn creu anawsterau i'n heconomi. Ond a wyddoch chi beth fydd y polisi hwn a'r dull gweithredu hwn yn ei wneud yn fwy nag unrhyw beth arall a fydd yn effeithio arnom i gyd? Bydd yn rhoi'r argraff ein bod ni'n bobl gul ac yn wlad gul, gwlad lle mae'r term 'brodorol' yn cael ei ddefnyddio mewn dadleuon gwleidyddol. Ac fe ddywedaf yn hollol glir wrthych, yr unig dro arall y clywais y gair 'brodorol' yn cael ei ddefnyddio gan wleidydd oedd gan Blaid Genedlaethol Prydain a'r Ffrynt Cenedlaethol, lle mae hil yn cael ei ddefnyddio i wahaniaethu. Ac fe ddylem bob amser, bob un ohonom sy'n rhannu'r gwerthoedd rhyddfrydol sydd wedi creu'r gymdeithas sydd gennym heddiw, ymladd ac ymladd ac ymladd yn erbyn y rhagfarn honno, a'i hymladd eto. Ac fe wnawn ni wynebu'r bobl sy'n lledaenu'r rhagfarn honno, ac a wyddoch chi beth? Fe wnawn eu trechu. Oherwydd nid yw hon yn wlad gul ac nid yw'n genedl gul. Rydym yn wlad sy'n croesawu pobl i'n cymunedau, gwlad sy'n croesawu pobl i'n trefi a'n pentrefi, ac rydym yn wlad sy'n cydnabod ac yn deall ein hanes. Ac o ganlyniad, fe ymladdwn yn erbyn rhagfarn ac fe wnawn ni ennill. Mandy Jones. David J Rowlands AC: [Anghlywadwy.]—a phobl ddu. Alun Davies AC: Rydych chi'n hiliol. Mandy Jones AC: Diolch, Lywydd. Mae'n ddrwg gennyf, Alun, ond pobl fel chi sy'n ysgogi'r rhaniadau mewn gwirionedd lle nad oes rhai. Fel aelod o'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch i staff cymorth y pwyllgor am eu help a'u cymorth drwy gydol yr adroddiad hwn. Mae hefyd yn bwysig cydnabod cyfraniad dinasyddion yr UE a'r rhai o wledydd eraill sydd wedi ymgartrefu yma yng Nghymru ac a roddodd o'u hamser i ddod i siarad â'r pwyllgor, gan ychwanegu gwerth a chrebwyll go iawn hefyd i'r adroddiad. Yn olaf, hoffwn ddiolch i'r holl randdeiliaid am eu cyfraniad ac wrth gwrs, diolch i David Rees fel Cadeirydd y pwyllgor am ei holl waith caled. Yn ystod refferendwm yr UE, roedd mewnfudo a diffyg rheolaeth yn bryder amlwg i ran helaeth o'r cyhoedd, pa un a ydych yn hoffi hynny ai peidio. Ond mae hefyd yn bwysig iawn deall bod y pryderon yn ymwneud yn bennaf â system fewnfudo sydd wedi torri ac nid rhagfarn lwyr yn erbyn y rhai sy'n dod o genedl-wladwriaethau'r UE neu fel arall. Fel y dywedais o'r blaen, pobl ac areithiau fel hynny sy'n creu rhaniad lle nad oes un mewn gwirionedd. Wrth gasglu tystiolaeth ar gyfer yr adroddiad hwn, cynhaliodd y pwyllgor ddau grŵp ffocws, ac o'r rhai a fynychodd, mae'n glir fod yn rhaid i Lywodraeth y DU wneud mwy i gyfathrebu â dinasyddion o wledydd eraill ynglŷn â sut y maent yn gwneud cais am eu statws preswylydd sefydlog a darparu'r sicrwydd sydd ei angen. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y newyddion heddiw ynglŷn â gostwng neu hyd yn oed ddileu'r trothwy o £30,000 yn cael ei wireddu. Diolch. Huw Irranca-Davies AC: Mae wedi bod yn ddadl ddiddorol y prynhawn yma eisoes. Mae'n fy atgoffa o'r dyfyniad gan ddyn a aned yn 1911, Max Frisch, a ddywedodd: Gofynasom am weithwyr. Cawsom bobl yn lle hynny. Daw pobl â'u diwylliannau eu hunain, eu diddordebau a'u safbwyntiau eu hunain, a deuant â thapestri cyfoethog a dwfn o'u cefndir eu hunain a'u hanghenion teuluol gyda hwy. Nid dod yma fel gweithwyr yn unig a wnânt, deuant yma i ymgartrefu, ac i fod yn rhan o'r gymdeithas hon. Deuant yma ac weithiau, wyddoch chi, maent am ddod â'u teuluoedd gyda hwy? Nid ydynt am ddod am gyfnod byr er eu mwyn eu hunain yn unig, oherwydd os ydynt eisiau dod yma a chyfrannu a thalu eu trethi, byddent yn hoffi dod â'u gwraig a'u plant hefyd weithiau. Gofynasom am weithwyr. Cawsom bobl yn lle hynny. Mae hyn lawn mor wir yn awr ag yr oedd bryd hynny. Ac mae'n fy nharo ein bod—. A diolch i David am gadeirio'r pwyllgor hwn, a'r holl aelodau am eu cyfranogiad da yn y dystiolaeth a glywsom, a oedd yn rymus, yn bersonol iawn ac yn ddynol iawn. Ond mae'n fy nharo'n aml fod ein safbwyntiau ar fewnfudo yn gyffredinol yn gwrthdaro'n eithafol. Un maes nad ydym yn ei drafod heddiw, er enghraifft, yw'r cannoedd o bobl sy'n dod i mewn i Lundain yn bennaf bob blwyddyn ar fisâu aur. Nid ydym yn trafod y rhai a all roi £2 filiwn y flwyddyn i Lywodraeth y DU er mwyn prynu mynediad i'r DU, a llawer o'r arian hwnnw—. Fe'i ataliwyd ar un adeg oherwydd ofnau ynghylch gwyngalchu arian a llygredd, ac arian Rwsia, ac arian a oedd yn cael ei drosi ar draws sawl gwlad wahanol cyn dod i'r lan yma, a'r effaith ar farchnad dai Llundain. Cafodd ei atal am gyfnod byr; mae'n ôl fel y bu. Mae bellach ar ei uchaf ers pum mlynedd. Felly, nid ydym yn trafod hynny heddiw. Mae ein hagweddau at fewnfudo'n gwrthdaro braidd. Yr hyn rydym yn ei drafod yw pethau fel y bobl sydd islaw'r cap o £30,000. Mae'r cyflog cyfartalog yng Nghymru yn £26,000 y flwyddyn, nid £30,000. Os caiff y cap o £30,000 ei gadw fel y mae—ac rwy'n gobeithio y byddant yn newid eu barn ar hyn—dengys ymchwil y gallai gael effaith mor sylweddol â 57 y cant ar fewnfudo dros y 10 mlynedd nesaf yng Nghymru. Wel, bydd yr effaith o 50 y cant ar ein mewnfudo i'w deimlo. Gweithwyr gofal fyddant—nid dim ond y bobl sy'n gweini coffi i chi, er y bydd yn cynnwys y rheini—gweithwyr gofal fyddant, a gweithwyr iechyd, a'r bobl yn y diwydiant gweithgynhyrchu sy'n gweithio ar y llinellau cynhyrchu, a hynny i gyd. Nawr, dyna pam rwy'n credu bod rhaid i Lywodraeth y DU ailfeddwl ynglŷn â hyn. Neu fel arall, fel y maent wedi bod yn gwthio'n ddi-baid amdani, ynglŷn â system fewnfudo sy'n seiliedig ar bwyntiau fel yn Awstralia, sef y zeitgeist. Mae'n ymadrodd sy'n cynnwys popeth ac yn y blaen—. Yn Awstralia, mae ganddynt allu i sicrhau amrywio rhanbarthol yn hynny. Felly, gall llywodraethau rhanbarthol fynnu amrywio mewn gwirionedd; gallant ddweud, 'Wel, ar gyfer ein sectorau penodol a'n meysydd penodol, ac ar gyfer ein lefelau cyflog, rydym angen rhywbeth gwahanol. Rydym angen cymhellion i annog pobl i symud o Lundain a de-ddwyrain Lloegr a symud i Gymru, i'r Alban, i'r gogledd-ddwyrain, i'r gogledd-orllewin, ac ati'. Felly, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn hyblyg yn hynny o beth. Hoffwn nodi un agwedd ddiddorol ar hyn, ac fe'i crybwyllwyd, mewn gwirionedd, mewn cyfweliad a wnaeth ein Cadeirydd yr wythnos hon. Rwy'n credu ei fod yn ymddangos heddiw neu ddoe yn y wasg. Roeddwn yn teimlo'i fod yn eithaf diddorol oherwydd fe ddyfynnodd un o'r bobl a roddodd dystiolaeth inni—Pwyliad, a oedd yn gweithio, yn talu treth yn Abertawe, a ddywedodd: Mae'n ymddangos bod y neges a ailadroddir gan wleidyddion yr un fath: 'Fe gewch chi ganiatâd i aros—' —dyma'r gwahaniaeth rhwng y bobl sydd â thocyn aur sy'n cyrraedd Llundain a'r bobl o'r UE sy'n gweithio, yn talu cyflog—nid yn gwneud eu miliynau, ond sy'n gweithio yn economi Cymru. Mae'n ymddangos bod y neges a ailadroddir gan wleidyddion yr un fath: 'Fe gewch chi ganiatâd i aros. Rydym am i chi aros.' Wrth gwrs, yn economaidd, maent angen i ni aros, am y tymor byr o leiaf. Ond mae gwahaniaeth mawr rhwng cael caniatâd i aros, a chael eich croesawu. Dyma beth yw hyn hefyd. Dyma yw naws y ddadl a osodwn. Rwy'n croesawu rhai o'r cyfraniadau heddiw oherwydd eu bod yn ceisio cael y cywair hwnnw'n iawn. Ond mae'n rhaid i mi feddwl am aelodau o fy nheulu pan gawsant eu herio, yn gyntaf oll, gyda'r cyfle i gael statws preswylwyr sefydlog ac ar y pwynt hwnnw, i dalu am y fraint o wneud hynny mewn gwirionedd—. Fe atgoffodd rai ohonom—oherwydd rwy'n dod o gefndir Gwyddelig-Eidalaidd cymysg, yn ogystal â'r ochr Gymreig hefyd—fod yna adegau yn ystod gwrthdaro'r rhyfel pan gafodd Eidalwyr eu cloi allan o'r gymdeithas ehangach. Dyna a ddigwyddodd i fy nheulu. Mae statws preswylydd sefydlog yn atgoffa o hynny: yr 'arall' ydych chi. Nawr, rhaid inni fod yn eithriadol o ofalus yn y fan hon wrth fwrw ymlaen â hyn, ond rwy'n falch o weld bod y Llywodraeth wedi derbyn yr holl argymhellion, ac un ohonynt mewn egwyddor. Rwy'n credu bod hynny'n ddoeth. Buaswn yn eu hannog i barhau i ymgysylltu'n adeiladol â Llywodraeth y DU, a gobeithio y byddant yn gwrando. Mae a wnelo hyn â gweithwyr. Mae a wnelo hyn â llenwi cyfleoedd cyflogaeth. Ond fel y dywedodd Max Frisch: 'Gofynasom am weithwyr. Cawsom bobl yn lle hynny.' Dyna yw hyn. Rydym i gyd yn fewnfudwyr. Y Gweinidog Brexit i gyfrannu at y ddadl—Jeremy Miles. Jeremy Miles AC: Diolch, Llywydd. A gaf i ddechrau drwy groesawu adroddiad y pwyllgor a'r dystiolaeth helaeth a gasglwyd yn ystod yr ymchwiliad? Hoffwn i hefyd ddiolch i bawb am eu cyfraniad. Jeremy Miles AC: Roedd y rhan fwyaf o'r cyfraniadau, beth bynnag, yn feddylgar ac yn adeiladol. Jeremy Miles AC: Cyn imi droi at sylwedd yr adroddiad a'r tri phwnc dan sylw ynddo fe, sef y cynigion ar gyfer system fewnfudo yn y dyfodol, gweithredu'r cynllun preswylio'n sefydlog i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd, a'r dadleuon dros wahaniaethau mewn dulliau mewnfudo rhwng cenhedloedd a rhanbarthau'r Deyrnas Unedig ar ôl Brexit, gaf i, cyn hynny, fanteisio ar y cyfle hwn i siarad yn uniongyrchol â'r dinasyddion hynny o rannau eraill o Ewrop sydd wedi dewis ymgartrefu yma yng Nghymru, i fwrw eu gwreiddiau ac i gyfoethogi ein cymunedau ni? Hoffwn i eich sicrhau chi ein bod ni'n gwerthfawrogi eich cyfraniad chi at Gymru, ac y bydd bob amser croeso i chi yma. Gan droi yn gyntaf at y system fewnfudo yn y dyfodol, mae'n parhau'n aneglur beth fydd y system a sut y bydd yn cael ei gweithredu. Heblaw am y dywediadau ynglŷn â rhoi diwedd ar y rhyddid i symud ac adennill rheolaeth dros ein ffiniau, doedd dim manylion, a dweud y gwir, ar gael am dros ddwy flynedd cyn cyhoeddi'r Papur Gwyn ym mis Rhagfyr 2018. Ond, ers ethol Boris Johnson, nid yw hi bellach hyd yn oed yn glir a yw hynny'n adlewyrchu safbwynt y Llywodraeth bresennol. Er gwaethaf hynny, rŷm ni'n dal i gael ar ddeall mai'r bwriad o hyd yw i'r system fewnfudo newydd fod ar waith yn llawn o'r 1 Ionawr 2021, llai na blwyddyn i ffwrdd erbyn hyn. Ond, gadewch inni fod yn gwbl glir: bydd polisi mudo'r Deyrnas Unedig yn cael effaith ddofn ar gymunedau ac ar economi Cymru. Yn wahanol i'r dryswch o fewn Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, rŷm ni wedi egluro ein blaenoriaethau ni ar gyfer polisi mudo yn eglur. Yn 'Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl', gwnaethom gynnig y dylid cadw rhyddid symud, ond ei gysylltu'n agosach â chyflogaeth, ac rŷm ni'n dal i gredu hynny. Jeremy Miles AC: Rydym wedi defnyddio tystiolaeth i gefnogi ein heriau i Lywodraeth y DU ynglŷn â natur eu cynigion, yn enwedig y cynnig presennol ar gyfer dull detholus o ymdrin â mewnfudo yn y dyfodol yn seiliedig ar sgiliau a chyflog gyda'r trothwy posibl o £30,000 y cyfeiriodd llawer o'r Aelodau ato. Tanlinellodd yr adroddiad y comisiynwyd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru gennym i'w gyflawni y llynedd ar effaith ymfudo yng Nghymru ar ôl Brexit y difrod y byddai trothwy cyflog yn ei achosi i Gymru, ac os yw'r damcaniaethu yn y wasg a nodwyd gan yr Aelodau ar gael gwared ar y gofynion cyflog yn gywir, byddai Llywodraeth Cymru yn croesawu'r datblygiad hwnnw. Jeremy Miles AC: Gwyddom hefyd y bydd rhai sectorau i'w gweld yn rhai sy'n arbennig o agored i ostyngiadau yn y dyfodol yn y nifer o ymfudwyr o'r UE. Mae'r rhain yn cynnwys gofal cymdeithasol, iechyd a gweithgynhyrchu wrth gwrs, gan gynnwys bwyd-amaeth, twristiaeth, lletygarwch, manwerthu ac addysg uwch. Bydd yr effaith yn arbennig o llym ar y sector gweithgynhyrchu bwyd yng Nghymru, lle mae dros 80 y cant o weithwyr yn ennill llai na £30,000. Mae ein gwrthwynebiad i drothwy cyflog, yn enwedig un a osodwyd ar lefel mor uchel, wedi taro tant gyda rhanddeiliaid, yn enwedig o fewn y gymuned fusnes, a rhaid inni obeithio y bydd y pwyllgor cynghori ar ymfudo, y gofynnwyd iddo ailedrych ar hyn, yn cynnig trothwy is a llai niweidiol, neu ddim trothwy o gwbl, pan fydd yn adrodd ymhen wythnos neu ddwy. Bydd yr adroddiad hwnnw hefyd yn edrych ar y system sy'n seiliedig ar bwyntiau yn Awstralia a gafodd sylw gan nifer o'r Aelodau unwaith eto. Er bod Prif Weinidog y DU wedi siarad yn ffafriol am gyflwyno system o'r fath, nid yw'n glir o gwbl sut y byddai hynny'n gydnaws â system a arweinir gan gyflogwyr wedi'i chyfyngu gan drothwy cyflog. Felly, byddwn yn parhau i ddadlau dros bolisi ymfudo sy'n diwallu anghenion Cymru, a gobeithiwn y bydd Llywodraeth y DU yn gwrando ac yn gweithredu ar y safbwyntiau hynny. Hyd yma, ni fu hanner digon o ymgysylltu ystyrlon rhyngom a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill. Mewn perthynas â chynllun preswylio yr UE, rwy'n dal yn bryderus iawn fod llawer o bobl nad ydynt yn gwybod, neu nad ydynt yn deall yn iawn o bosibl, beth y mae'r cynllun yn ei olygu iddynt hwy. Mae yna rai sy'n ei chael hi'n anodd dilyn y broses gyfan gwbl ddigidol. Mae yna ddryswch ynglŷn â chael statws preswylydd sefydlog neu statws preswylydd cyn-sefydlog, a beth y mae hynny'n ei olygu i bobl mewn gwirionedd. Mae hyd yn oed Gweinidogion y DU yn ddryslyd ynglŷn â hyn. Dywedodd un wrthyf ychydig wythnosau yn ôl yn unig y byddai'r rhai sydd â statws preswylwyr cyn-sefydlog yn cael eu huwchraddio'n awtomatig i statws preswylwyr sefydlog ar ôl iddynt gyflawni'r maen prawf o fod wedi preswylio yma ers pum mlynedd. Nid yw hynny'n wir, wrth gwrs. I fod yn glir, nid yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r cynllun; byddai'n llawer gwell gennym gael system nad yw'n dibynnu ar dystiolaeth a all fod yn anodd ei darparu, ac sy'n darparu copi caled o'r dystiolaeth o hawl i fyw a gweithio yn ein gwlad, yn hytrach na chopi digidol yn unig. Fodd bynnag, rydym wedi ymrwymo i wneud popeth yn ein gallu i gefnogi gwladolion yr UE yng Nghymru i fynd drwy'r broses ymgeisio yn llwyddiannus. Felly, fel Llywodraeth, rydym wedi darparu cyngor a chymorth ychwanegol i ddinasyddion yr UE yma yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys ariannu gwasanaethau cynghori cynllun preswylio yr UE drwy Newfields Law, drwy Cyngor ar Bopeth Cymru, a hefyd cyllid ychwanegol i Settled i reoli rhwydwaith o wirfoddolwyr sy'n rhoi cyngor a chymorth i ddinasyddion yr UE. Yn ddiweddar hefyd, rydym wedi darparu cyllid ychwanegol o gronfa bontio'r UE, i gynyddu ein cysylltiadau â dinasyddion yr UE, yn ogystal â rhoi adnoddau ychwanegol i awdurdodau lleol i gynyddu eu rhan hwy yn y broses. Rwyf wedi ymrwymo i wneud popeth yn ein gallu i gefnogi gwladolion yr UE yng Nghymru i sicrhau eu statws, yn enwedig y rheini sy'n agored i niwed ac anoddaf eu cyrraedd. Rydym wedi ymrwymo i'w cefnogi, a gofynnwn i Lywodraeth y DU hefyd gydnabod yr angen i roi cyhoeddusrwydd digonol i'w chynllun. Yn olaf, o ran y posibilrwydd o gael polisi mewnfudo mwy gofodol wahaniaethol, gadewch i mi ddweud y canlynol: fel y mae adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn nodi, mae gennym ni yng Nghymru achos sy'n gyffredin â gweddill y DU y tu allan i Lundain a de-ddwyrain Lloegr o ran effaith niweidiol y trothwy o £30,000. Dylai ein blaenoriaeth gyntaf ganolbwyntio ar weithio gydag eraill, gan gynnwys busnesau ac undebau llafur, sy'n amheus at ei gilydd o gael dulliau gwahanol o weithredu mewn gwahanol rannau o'r DU, er mwyn sicrhau na orfodir trothwy ar economi'r DU yn ei chyfanrwydd. Ond os byddwn yn aflwyddiannus, fe wnawn ailystyried wrth gwrs. Yn y cyfamser, os yw Llywodraeth y DU o ddifrif ynglŷn â system sy'n seiliedig ar bwyntiau, nad wyf yn credu ei bod yn gydnaws â throthwy cyflog caled mewn system a arweinir gan gyflogwyr rhaid i mi ddweud, yna o ran y pwynt a wnaeth David Melding, byddwn yn sicr yn awyddus i drafod gyda Llywodraeth y DU a rhanddeiliaid y potensial i roi pwyntiau ychwanegol i unigolion sy'n bwriadu symud i Gymru, neu'n wir i rannau eraill o'r wlad, lle mae'r lefelau ymfudo yn is a lle mae tueddiadau demograffig yn anffafriol o bosibl. Huw Irranca-Davies AC: A wnaiff y Gweinidog ildio? Jeremy Miles AC: Gwnaf, yn bendant. Huw Irranca-Davies AC: Cyn i'r Gweinidog orffen ei sylwadau, roeddwn am grybwyll rhywbeth nad yw wedi cael sylw heddiw. Tybed a yw wedi cael amser i gael unrhyw eglurder gan Lywodraeth y DU ynglŷn â'r effaith ar gyflogwyr Cymru? Oherwydd yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall, ceir gordal am weithwyr haen 2 o'r tu allan i'r UE sy'n dod i'r DU—o'r tu allan i'r UE, sef yr hyn a fydd i gyd bellach—gordal sgiliau mewnfudo, sef £1,000 y flwyddyn y gweithiwr fel arfer. Rwy'n edrych o gwmpas ar bobl busnesau bach yma yn y Siambr sydd â phrofiad. Gallai effaith hynny ar fusnesau bach a chanolig fod yn sylweddol os caiff ei gymhwyso'n gyffredinol i bawb, ac rwy'n tybio y bydd hynny'n digwydd yn awr. Jeremy Miles AC: Wel, yn sicr, mae'r math hwnnw o fater, yn y nifer o gyfarfodydd bwrdd crwn a gawsom gyda busnesau mawr a bach ledled Cymru, mae'r mathau hynny o bryderon yn agos iawn at frig eu rhestr. Yn arbennig, fel y dywed yr Aelod, mewn perthynas ag effaith costau ar fusnesau llai o faint. Wrth gloi, a gaf fi bwysleisio bod ymfudo yn ymwneud â mwy na syniadau haniaethol yn unig ynghylch economeg a demograffeg; mae'n ymwneud â phobl go iawn sydd â bywydau go iawn, doniau go iawn a theimladau go iawn? Carwyn Jones AC: Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ganiatáu i mi gyfrannu ar y cam hwyr hwn. Wrth wylio'r ddadl hon, clywais y gair 'brodorol' yn cael ei ddefnyddio. Nid wyf yn gwybod beth yw ystyr 'brodorol', oherwydd mae pawb yn y Siambr hon yn ddisgynyddion i fewnfudwr. Nid yw ond yn fater o ba bryd y daeth ein teuluoedd yma. A fyddech yn cytuno â mi, pan ddefnyddir y gair 'brodorol', fod modd iddo gael ei ddefnyddio mewn ffordd lawer casach nag y byddai'n ymddangos ar yr olwg gyntaf? Jeremy Miles AC: Wel, buaswn yn uniaethu â'r sylwadau y mae'r Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr wedi'u gwneud. Rwy'n credu mai'r hyn sydd wedi taro tant gyda mi yn y drafodaeth hon a thrafodaeth y pwyllgor yw pwysigrwydd iaith a rhethreg. A thrwy gydol y tair blynedd a hanner ddiwethaf, cefais fy syfrdanu gan beth o'r iaith ddifeddwl a ddefnyddiwyd gan wleidyddion ar brydiau, yn enwedig yng nghyswllt dinasyddion yr UE yn y wlad hon, a chefais fy nychryn wrth glywed y defnydd o iaith megis 'poblogaethau brodorol' a 'mewnfudo torfol', sydd wedi hen ennill eu plwyf fel ymadroddion 'chwiban y ci', ac rydym wedi'u clywed heddiw yn y Siambr gan wleidyddion mewn ffordd nad yw'n ddifeddwl, mewn gwirionedd, ond yn fwriadol. A thros y flwyddyn hon, byddwn ni fel Llywodraeth yn gwneud popeth a allwn helpu i ffurfio'r hinsawdd gyhoeddus yng Nghymru er mwyn ceisio gwrthdroi peth o'r niwed a achoswyd gan y defnydd o'r iaith honno, ac i wneud yn siŵr, pan fydd dinasyddion yr UE yn gwrando ar drafodion y Siambr hon, y byddant yn parhau i deimlo bod croeso iddynt yma yng Nghymru a'u bod yn gwybod faint rydym yn eu gwerthfawrogi. Ac fel y dywedodd David Rees yn ei gyfraniad, o ran gwneud i ddinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru deimlo eu bod yn cael eu croesawu, rydym i gyd yn arweinwyr wrth wneud hynny. David Rees i ymateb i'r ddadl. David Rees AC: Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau am y cyfraniadau i'r ddadl heddiw, ac i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit am nodi safbwynt Llywodraeth Cymru. A chyn i mi barhau â fy nghyfraniad i gloi, hoffwn gofnodi fy niolch i'r tîm clercio a'r tîm ymchwil a drefnodd hyn oll mewn gwirionedd, oherwydd heb eu gwaith caled a'u hymroddiad, ni fyddem wedi cael y fforymau i siarad â'r bobl. Mae'n cael ei werthfawrogi'n fawr. Fe geisiaf dynnu sylw at rai o'r pwyntiau a godwyd yn ystod y ddadl, ac fe geisiaf ei gadw mor gyflym ag y gallaf gan fy mod yn ymwybodol o'r amser. David Melding, rwy'n croesawu'n fawr eich cyfraniad gwerthfawr i'r pwyllgor. Rydych bob amser wedi cynnig syniadau dwfn i ni ac rydych yn ein hatgoffa'n aml am gyfraniad hanesyddol mewnfudo i'n gwlad, yn enwedig yn eich achos chi, er enghraifft rydych wedi sôn am y grwpiau Groegaidd—ond mae llawer o rai eraill o wledydd eraill yr UE ac o wledydd y tu allan i'r UE hefyd—a sut rydym wedi elwa. Gwnaethoch ein hatgoffa hefyd fod angen ystyried y cynllun pwyntiau er mwyn sicrhau nad yw Cymru ar ei cholled, a thynnodd y Cwnsler Cyffredinol sylw at hynny hefyd. Delyth, rydych yn rhyngwladolwr angerddol ac fe ddangosoch chi unwaith eto eich rhinweddau cryf yn y maes hwnnw. A chawsom ein hatgoffa ganddi am ein pedwar rhyddid, a chanlyniad y refferendwm yw y byddwn yn colli'r pedwar rhyddid hwnnw. A'r straeon a glywsom gan y bobl, yn enwedig y plant a'r ffordd y maent wedi cael profiad o'r hyn y buaswn yn ei alw'n ymddygiad gwarthus gan blant eraill a'i dysgodd gan eu rhieni yn ôl pob tebyg. Mae'n rhywbeth na ddylem fyth ei dderbyn yma yng Nghymru. Ni ddylai unrhyw blentyn orfod clywed 'Cer adref' gan blentyn arall am ei fod yn dod o wlad wahanol. Ni ddylai ddigwydd. Cawsom ein hatgoffa eto gan Alun am ryddid llafur i symud. Roedd hwnnw'n fater a oedd yn codi gyda phobl yn dod i Gymru, ac mae yna lawer sy'n dod i Gymru, ac fe wnaeth y cyn-Brif Weinidog yn ei ymyriad ein hatgoffa hefyd ein bod ni oll yn fewnfudwyr. Ac fe fyddaf yn onest: roedd fy mam yn dod o wlad Belg. Mae hanes fy nhad yn mynd yn ôl ychydig o gannoedd o flynyddoedd ym Mhort Talbot, ond roedd fy mam yn dod o wlad Belg felly, yn dechnegol, roedd fy mam yn fewnfudwr a ddaeth yma ar ôl yr ail ryfel byd. Felly, rydym yn genedl o hiliau ac amgylchiadau cymysg, ac rydym yn gweithio gyda'n gilydd, rydym yn byw gyda'n gilydd a dyna sut y dylem fod bob amser. Ni ddylem herio gorffennol neu hanes rhywun arall byth; dylem edrych tua'r dyfodol, ac rwy'n gobeithio y gwnawn hynny. Nododd Huw fater yr unigolyn o wlad Pwyl, a dywedodd hyn hefyd: fod yr EUSS—atgoffwch fi beth ydyw—cynllun preswylio—ni allwn gofio—ac mae'r cynigion mewnfudo Ewropeaidd ar ôl Brexit yn ymwneud â mwy na phrosesau gweinyddol yn unig; maent yn ymwneud â phobl. A chawsom ein atgoffa gan Huw, pan fyddwn yn sôn am weithwyr, mae'n ymwneud â phobl. Pan soniwn am hyn heddiw, rydym yn sôn am bobl. Nid ydym yn sôn am gysyniad haniaethol; mae'n ymwneud â phobl—y person sy'n byw drws nesaf i chi, eu plentyn, y plentyn sy'n chwarae gyda'ch plentyn chi—am y rheini rydym yn sôn, a gadewch inni beidio ag anghofio hynny. Pan ddaw sylwadau mewn perthynas â—. Nid wyf am ailadrodd y sylwadau hynny oherwydd nid wyf yn credu eu bod yn briodol. Ni ddylid chwerthin am hyn, ni ddylid ei gefnogi; dylid ei ddileu ar unwaith a'i herio. Ni ddylem byth ddefnyddio iaith sy'n newid hynny. A Mandy, rwy'n croesawu eich safbwynt nad ydych yn chwilio am raniadau ac nad ydych yn credu bod rhaniad yn digwydd, ond yn anffodus, fe wnaethoch chi a David ddal ati i dynnu sylw at fewnfudo fel problem. Rwy'n cytuno â chi: rwy'n credu bod mewnfudo yn broblem yn y refferendwm, ond dim ond am ei iddi gael sylw fel hysteria. Os edrychwn ar y cyfraniadau y mae mewnfudwyr yn eu gwneud i'n gwlad— Mandy Jones AC: A wnewch chi dderbyn ymyriad? David Rees AC: Rwy'n hapus iawn i wneud hynny. Mandy Jones AC: Onid ydych yn meddwl bod yr hysteria'n dod, dyweder, oddi ar feinciau Llafur a Phlaid Cymru? Rydych yn cymell yr holl raniadau hyn. O ddifrif. Lee Waters AC: Fe ddywedoch chi fod Twrci'n dod yn aelod o'r UE. Mandy Jones AC: Wnes i? David Rees AC: Na, nid wyf yn meddwl ei fod yn dod o'n meinciau ni. Rwy'n credu bod ein meinciau ni'n ceisio adlewyrchu, yn anffodus, yr hyn sy'n digwydd yn y gymdeithas oherwydd sylwadau eraill a wneir, yn bennaf gan bleidiau asgell dde, a chredaf ei fod yn rhywbeth y dylem fod yn ei herio ar bob achlysur am ein bod yn sôn am bobl sydd am fyw yma, sydd am weithio yma, sydd am gyfrannu yma, ac mae'r rheini'n bwysig i ni. Dylem wneud iddynt deimlo bod croeso iddynt bob amser. Ni ddylem byth geisio eu cysylltu â chysyniad o fewnfudo torfol. Ni ddylem byth geisio eu cysylltu â'r cysyniad nad oes croeso iddynt. Dylem bob amser eu cysylltu—. O, mae'n ddrwg gennyf. Dylem bob amser eu cysylltu â'r cysyniad o groeso. Carwyn Jones AC: Diolch i'r Aelod am ildio. A yw'n rhannu fy nhristwch na fydd dinasyddion y DU ond yn gallu byw a gweithio mewn dwy wlad bellach—y DU a Gweriniaeth Iwerddon—tra bydd dinasyddion yr UE yn gallu gweithio mewn 28 o wledydd a bydd dinasyddion Iwerddon yn gallu gweithio mewn 29 o wledydd, fel fy ngwraig a fy nau blentyn? Ac onid yw'n drist gweld hynny, ac onid yw'n wir mai'r dinasyddion a fydd fwyaf ar eu colled o ganlyniad i roi diwedd y rhyddid i symud yw dinasyddion y DU mewn gwirionedd? David Rees AC: Diolch i'r Aelod am ei gyfraniad. Mae'n llygad ei le: dinasyddion y DU yw'r unigolion a fydd yn wynebu fwyaf o gyfyngiadau arnynt mae'n debyg, ac mae'n siomedig mai dyna fydd y sefyllfa. A gadewch i ni beidio ag anghofio pobl ifanc y DU sydd am fynd i weld y byd. Rydym yn cyfyngu ar eu cyfleoedd hwythau mewn bywyd hefyd. Tynnodd y Gweinidog Brexit sylw at weithgarwch Llywodraeth Cymru, ac rwy'n ei werthfawrogi'n fawr. Rwy'n gallu gwerthfawrogi'n fawr yr heriau parhaus rydych chi'n mynd i'w cyflwyno i Lywodraeth y DU er mwyn sicrhau bod y polisi mewnfudo yn gweithio i Gymru. Mae'n bwysig dros ben ein bod yn gwneud hynny. Lywydd, mae'n faes polisi sy'n esblygu ac rwy'n derbyn hynny. Bwriad ein pwyllgor yw cadw golwg ar weithgarwch y ddwy Lywodraeth wrth inni ddisgwyl am ganlyniad adolygiad y pwyllgor cynghori ar ymfudo y disgwyliaf iddo gael ei gyhoeddi cyn bo hir. Ac rwyf am ailadrodd fy neges, a'r neges gan fwyafrif helaeth yr Aelodau yma heddiw, fod pobl sydd wedi dod yma i weithio, sydd wedi dod yma i fod yn rhan o'n cymuned, sydd wedi dod yma i adeiladu bywyd i'w croesawu'n fawr, yn cael eu cefnogi'n gadarn, a pha un a oes gennych ddarn o bapur ai peidio, rydym yn ystyried eich bod yn ffrindiau i ni. Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Rydym ni'n derbyn, felly, y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Sgiliau'r Gweithlu ar ôl Brexit Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 3 a 4 yn enw Siân Gwenllian, a gwelliant 2 yn enw Rebecca Evans. Yr eitem nesaf yw dadl y Blaid Geidwadol ar sgiliau'r gweithlu ar ôl Brexit, a dwi'n galw ar Mohammad Asghar i wneud y cynnig. Mohammad Asghar. Cynnig NDM7234 Darren Millar Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd darpariaeth addysg bellach o ran datblygu sgiliau gweithlu Cymru i fodloni gofynion economi Cymru ar ôl Brexit. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi ym mhobl Cymru drwy: a) gynyddu'r cyllid i addysg bellach; b) ehangu nifer y prentisiaethau gradd yng Nghymru; c) creu lwfans dysgu oedolion i helpu pobl i wella a meithrin eu sgiliau; a d) datblygu Sefydliad Technoleg yng ngogledd Cymru. Cynigiwyd y cynnig. Mohammad Asghar (Oscar) AC: Diolch yn fawr, Lywydd. Mae'n rhoi pleser mawr i mi agor y ddadl hon heddiw ar gydnabod pwysigrwydd addysg bellach yn y broses o ddatblygu sgiliau'r gweithlu yng Nghymru. Mae economi Cymru'n methu cyflawni ei photensial llawn. Mae'n wynebu nifer o heriau sylfaenol. Mae'r rhain yn cynnwys bwlch sgiliau mewn uwch-dechnoleg, a'r gofyniad am weithlu sydd â'r hyblygrwydd i addasu i economi fyd-eang sy'n newid yn barhaus. Mae pwysigrwydd sicrhau bod gan Gymru weithlu digon medrus a hyblyg i helpu i greu economi wydn ac ateb gofynion cyflogwyr yn glir. Dywed Llywodraeth Cymru ei hun: 'Dylai pob unigolyn feddu ar y sgiliau y mae eu hangen arno i ddod o hyd i swydd, a dylai gael y cyfle i feithrin sgiliau newydd drwy gydol ei fywyd gwaith.' Cau'r dyfyniad. Fodd bynnag, mae bwlch sgiliau wedi datblygu yng Nghymru sy'n costio tua £155 miliwn i fusnesau. Yn 2019, canfu 'Baromedr Busnes y Brifysgol Agored' fod 67 y cant o uwch arweinwyr busnes yn dweud bod eu sefydliad yn profi prinder sgiliau ar hyn o bryd; dywedodd 54 y cant o gyflogwyr na allent recriwtio digon o staff â'r sgiliau sydd eu hangen arnynt, yn enwedig ym maes peirianneg. Canfu adroddiad diweddar gan Barclays LifeSkills fod mwy na hanner y rhai dros 16 oed yng Nghymru yn methu arddangos yr holl sgiliau cyflogadwyedd sydd eu hangen yn y gweithle yn y dyfodol. Mae'r ffigurau ar gyfer sgiliau digidol hefyd yn destun pryder. Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Cymru sydd â'r gyfran isaf o ddefnyddwyr y rhyngrwyd sy'n meddu ar y pum sgìl digidol sylfaenol. Dim ond 66 y cant o ddefnyddwyr y rhyngrwyd yng Nghymru sydd â'r pum sgìl sylfaenol, o'i gymharu â chyfartaledd y DU o 79 y cant. Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd addysg bellach i fynd i'r afael â'r problemau hyn. Fodd bynnag, nododd ColegauCymru fod angen rhoi trefniadau ariannu mwy hirdymor ar waith. Mae'r cylch ariannu un flwyddyn cyfredol yn llesteirio meddwl a chynllunio hirdymor. Mae cyfanswm y cyllid grant ar gyfer y sector addysg bellach wedi gostwng 13 y cant mewn termau real rhwng 2011-12 a 2016-17. Gostyngodd cyllid ar gyfer darpariaeth ran-amser a rhaglenni penodol dros 70 y cant mewn termau real. Cred y Ceidwadwyr Cymreig fod yn rhaid i'r ansicrwydd ariannol hwn ddod i ben er mwyn galluogi colegau addysg bellach i barhau i ddarparu hyfforddiant sgiliau blaenllaw ac annog mwy o bobl i mewn i addysg bellach a dysgu gydol oes. Nid yw pawb yn gallu cymryd amser o'r gwaith i gael addysg amser llawn. Dywed y Brifysgol Agored yng Nghymru na ddylai addysg fod yn gynnig untro i bobl ifanc; dylai fod yn gynnig gydol oes, drwy gydol gyrfa rhywun. Mae arnom angen cynllun cyllido addysg, sgiliau a chyflogaeth cynhwysfawr ar gyfer oedolion i dyfu ein gweithlu ein hunain. Er bod Llywodraeth Cymru yn darparu grant i'r rhai 19 oed a throsodd sy'n astudio mewn addysg bellach, mae nifer y ceisiadau a nifer yr ymgeiswyr llwyddiannus wedi gostwng. Byddem yn cyflwyno lwfans dysgu i oedolion i'w ddefnyddio ar gyfer cwrs gradd, hyfforddiant technegol neu gyrsiau penodol. Byddai hyn yn gwneud y sgiliau, y cyrsiau a'r hyfforddiant yn fwy hygyrch i bobl, waeth beth fo'u sefyllfa ariannol. Mae Cymru ar ei hôl hi o ran cyflwyno prentisiaethau gradd. [Torri ar draws.] Mae Cymru ar ei hôl hi o ran cyflwyno prentisiaethau gradd. Mewn ymateb i alwadau cynyddol gan gyflogwyr am sgiliau lefel uwch a llwybrau dysgu seiliedig ar waith ar lefel gradd, mae prentisiaethau gradd wedi dod yn ddull mwyfwy deniadol o gyflwyno addysg. Yng Nghymru, mae nifer y llwybrau prentisiaeth gradd yn gyfyngedig. Yn Lloegr, ar hyn o bryd mae 70 o safonau prentisiaeth gradd wedi'u cymeradwyo i'w cyflwyno. Mae angen inni ehangu nifer y prentisiaethau gradd sydd ar gael yn sylweddol, yn enwedig yn y sectorau newydd. Mae angen inni gael mwy o gyfleoedd ledled Cymru hefyd, drwy sicrhau bod pawb yn gallu cyflawni eu potensial, waeth ble maent yn byw neu o ble y deuant. Mae gan Gymru tua 14 o golegau addysg bellach, ond dim ond dau sydd wedi'u lleoli yng ngogledd Cymru. Credwn y dylai potensial gogledd Cymru gael ei wella a'i feithrin i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd a fydd yn cael eu creu gan fargen twf gogledd Cymru. Byddem yn mynd i'r afael â'r anghydbwysedd hwn yn y ddarpariaeth drwy ddatblygu sefydliad technoleg yng ngogledd Cymru, sy'n canolbwyntio ar bynciau STEM—gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Lywydd, er mwyn cyrraedd y nod o gryfhau economi Cymru, rhaid inni ganolbwyntio ar rai o'r materion allweddol sy'n ein hwynebu. Mae'r rhain yn cynnwys y bwlch sgiliau sy'n bygwth gadael gweithwyr Cymru yn llusgo ar ôl gweddill y Deyrnas Unedig. Tan hynny, ni allwn fanteisio ar y cyfleoedd a grëir gan gynnydd technolegol. Mae'n rhaid inni gymryd y camau sy'n ofynnol i helpu pobl i ddiwallu anghenion economi Cymru, y Deyrnas Unedig a'r byd sy'n newid yn barhaus. Gallwn chwarae rhan fawr yn y broses o wella ein bywydau. Diolch. Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair. Diolch. Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i'r cynnig a galwaf ar Bethan Sayed i gynnig gwelliannau 1, 3 a 4, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Bethan. Gwelliant 1—Siân Gwenllian Ym mhwynt 2, mewnosod fel is-bwynt newydd ar ôl is-bwynt (b) ac ail-rifo yn unol â hynny: 'cynyddu rhwydweithiau cymorth i brentisiaid drwy drefniadau partneriaeth ffurfiol gyda cholegau addysg bellach;' Gwelliant 3—Siân Gwenllian Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod pwysigrwydd Erasmus+ o ran denu pobl i Gymru i ddiwallu anghenion economi Cymru drwy’r sectorau addysg bellach ac addysg uwch, ac ymrwymo i wrthwynebu unrhyw ymgais gan Lywodraeth y DU i adael y rhaglen yn 2021. Gwelliant 4—Siân Gwenllian Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu gwell amodau ar gyfer datblygu sgiliau gweithlu Cymru drwy gynyddu isafswm cyflog y flwyddyn gyntaf ar gyfer prentis i’r isafswm cyflog cenedlaethol safonol, yn unol â grŵp oedran y person. Cynigiwyd gwelliannau 1, 3 a 4. Bethan Sayed AC: Diolch. Rwy'n falch o allu cymryd rhan yn y ddadl hon. Nid wyf am fynd drwy'r cynnig cyfan, oherwydd credaf ein bod wedi mynegi llawer o hynny mewn dadl flaenorol, felly fe af drwy'r gwelliannau. Credaf ei bod braidd yn eironig fod y Torïaid yn dweud eu bod am i bobl gyflawni eu potensial, gan fod ein gwelliant cyntaf yn rhywbeth a allai gael ei fygwth gan hynny, oherwydd yr ansicrwydd posibl ynghylch dyfodol Erasmus+, a fu'n rhan hanfodol o'r cymysgedd addysg mewn addysg uwch ac addysg bellach ers nifer o flynyddoedd, a gall sefydliadau ieuenctid ac ysgolion ymgeisio am Erasmus yn ogystal ag oedolion sy'n dysgu. Mae'r potensial ar gyfer gwella sgiliau yn glir a gall Erasmus gynnig profiad gwerthfawr o ffyrdd newydd o weithio ac astudio, gan roi cipolwg ar arferion gwahanol o bob rhan o Ewrop a gwella cyflogadwyedd a rhagolygon y rhai sy'n cymryd rhan. Y llynedd, sicrhaodd ColegauCymru £1.57 miliwn o gyllid Erasmus+ ar gyfer colegau addysg bellach ac mae'r colegau'n parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi symudedd Ewropeaidd ar gyfer eu dysgwyr a'u staff, er gwaethaf ansicrwydd Brexit. A bydd y cyllid hwn yn galluogi dros 640 o ddysgwyr galwedigaethol, prentisiaid a staff o golegau ledled Cymru i gymryd rhan yn y rhaglen hyfforddi gyffrous honno. I rai myfyrwyr sy'n dod o gefndiroedd cymdeithasol difreintiedig iawn yng Nghymru, mae hwn yn brofiad sy'n newid bywyd. Nid oedd gan un myfyriwr gofal plant a aeth i wneud lleoliad gwaith am bythefnos yn yr Eidal basbort hyd yn oed ac nid oedd erioed wedi teithio ar ei phen ei hun cyn hynny. Felly, mewn gwirionedd, pe na bai wedi cael y cyfle hwnnw, efallai na fyddai erioed wedi cael cyfle i astudio mewn gwlad arall ac ehangu ei gorwelion, a chredaf fod angen i rai ohonom yn yr ystafell hon wneud mwy o hynny. Mae Llywodraeth y DU wedi dweud, ac rwy'n dyfynnu: Mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i barhau'r berthynas academaidd rhwng y DU a'r UE, gan gynnwys drwy'r rhaglen Erasmus+ nesaf os yw o fudd i ni wneud hynny. Sut nad yw er budd Cymru i fod yn rhan o'r rhaglen hon? Nid wyf yn gwybod pam roeddent hyd yn oed yn trafferthu defnyddio'r gair hwnnw. Gallant weld, oni allant, pa mor bwysig yw Erasmus i bobl Cymru? Byddent yn ffôl i roi'r gorau i'w hymwneud â'r rhaglen. O ran ein gwelliant 1, dylid ystyried prentisiaeth nid yn unig yn bwynt mynediad i un math o gyflogaeth fedrus, ond yn brofiad addysgol hefyd. Ac mae llawer o brentisiaid yn dweud wrthym, ac maent wedi dweud wrth fy swyddfa, y byddent yn hoffi cael opsiwn a mynediad at gyfleoedd i gymryd rhan mewn addysg a sgiliau eraill. Ac yn fwyaf arbennig, mae prentisiaid ifanc a'r rheini ar brentisiaethau lefel sylfaen yn dweud wrthym y gallant deimlo, ar adegau, eu bod wedi'u hymddieithrio a heb fod yn rhan o'r gymuned addysg bellach ehangach. Mae cynnal ansawdd yn hanfodol hefyd, ac er bod y mwyafrif helaeth o ddarparwyr yn cynnig prentisiaethau o safon uchel, gan ganolbwyntio ar y sgiliau a'r gwaith a fwriadwyd, nid yw rhai ohonynt yn gwneud hynny ac mae rhai'n well na'i gilydd. Rwyf wedi dweud o'r blaen yn y Siambr hon, ac fe'i dywedaf eto: dywedwyd wrthym am un enghraifft lle roedd menyw ifanc ar brentisiaeth mewn cwmni pensaernïaeth yng Nghymru pan ddaeth yn amlwg fod derbynnydd, ar ryw bwynt yn ystod y brentisiaeth, yn absennol oherwydd salwch, a chafodd ei thynnu i mewn yn lle'r derbynnydd ac ni ddychwelodd i wneud y cwrs prentisiaeth roedd hi yno i'w wneud. Felly, rwy'n credu bod hynny'n dramgwydd mawr, mewn gwirionedd, fod dynes wedi cael ei hamddifadu o'r profiad hwnnw. Dengys hyn fod angen proses well, fwy ffurfiol ac unffurf, o sicrhau ymgysylltiad parhaus â phrentisiaethau, a gallai gynnwys partneru pob prentis dan 21 oed yn ffurfiol â choleg addysg bellach er mwyn sicrhau cymorth priodol, gan gynnwys mynediad i ddiwrnodau coleg neu hyfforddiant/addysg oddi ar y safle mewn sgiliau allweddol neu ddewisiadau addysg eraill y gallai'r prentis fod eu heisiau, ac mewn partneriaeth â cholegau addysg bellach i sicrhau mynediad at leisiau myfyrwyr yn y sefyllfa addysg bellach honno. Mae amser yn brin, felly ein gwelliant 4: costau byw a chyflogau yw un o'r rhwystrau mwyaf arwyddocaol i brentisiaethau a hyfforddiant sgiliau yn y gwaith. Er y byddem ni ym Mhlaid Cymru eisiau i'r Cynulliad gael pwerau dros lefelau cyflog statudol, nid yw'r pwerau hynny gennym. Ond mewn egwyddor, dylem gydnabod bod tâl yn rhwystr sylweddol. Cydnabu Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yr wyf yn aelod ohono y broblem hon mewn adroddiad a gyflwynwyd yn 2018, lle dywedasom fod angen grant cynhaliaeth ar gyfer prentisiaethau, sy'n debyg i gynhaliaeth a roddir i'r rhai sy'n aros mewn addysg amser llawn. Ar hyn o bryd, yr isafswm cyflog cenedlaethol ar gyfer pob prentis blwyddyn gyntaf, boed yn 16, 26 neu 46 oed, yw £3.90 am bob awr o waith, hyfforddiant neu astudio. Dyna £7,605 y flwyddyn. Sut y mae hyn yn caniatáu i rywun a allai fod ag ymrwymiadau ariannol ac sydd am gael prentisiaeth allu ailhyfforddi? Ni chredwn fod hynny'n digwydd yn dda iawn ar hyn o bryd a chredwn y dylid unioni hyn i gynyddu tâl y flwyddyn gyntaf i'r isafswm cyflog cyfatebol sy'n berthnasol i oedran rhywun. Mae llawer o bwyntiau eraill y byddem wedi hoffi eu hychwanegu at y cynnig hwn, ond ni allwn drafod hynny heddiw. Dylem edrych ar adolygiad Augar ar gyfer Lloegr fel ein bod yn annog mwy o astudio rhan-amser. Gwn fod y Gweinidog wedi gweithio'n galed iawn yn y maes ac wedi gwella'r ystadegau hynny. Hoffem weld prentisiaethau gradd yn ehangu ymhellach, a deall yr angen i weld y niferoedd sy'n cymhwyso yn cyfateb i'r sgiliau sydd eu hangen, ond ni all hyn fod yn unig ffocws gan na fydd yn gynaliadwy. Y pwynt olaf yr hoffwn ei wneud yw'r un a wneuthum mewn cwestiynau i'r Gweinidog yr wythnos hon. Mae'n ymwneud ag edrych yn fanwl ar sut y gallwn fynd i'r afael â'r draen dawn yma yng Nghymru a sut y gallwn gefnogi ac annog pobl i aros yn sefydliadau Cymru fel y gallwn annog y sefydliadau hynny i lwyddo ac i ffynnu yn y dyfodol. Rwy'n mynd i alw ar y Gweinidog Addysg i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol. Gwelliant 2—Rebecca Evans Ym mhwynt 2, dileu is-bwynt 2(d) a rhoi yn ei le: 'gweithio gyda sefydliadau addysg bellach, prifysgolion a chyflogwyr i sicrhau bod y ddarpariaeth yn diwallu anghenion technoleg esblygol yr economi.' Cynigiwyd gwelliant 2. Kirsty Williams AC: Cynnig yn ffurfiol. Diolch. Paul Davies. Paul Davies AC: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. Mae'r siaradwyr blaenorol wedi hyrwyddo pwysigrwydd y sector addysg bellach yma yng Nghymru, ac wedi tynnu sylw at enghreifftiau rhagorol o'r sgiliau a'r cyrsiau y mae ein darparwyr addysg bellach yn eu cyflwyno. Wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, mae'n hanfodol fod ein darparwyr yn gallu parhau i gyflwyno'r sgiliau hanfodol hyn. Yn fy etholaeth fy hun, fel y gŵyr y Gweinidog, mae Coleg Sir Benfro yn cynnig cyfoeth o wahanol raglenni, o'r Safon Uwch draddodiadol i brentisiaethau a chyrsiau dysgu sy'n seiliedig ar waith, a'r amrywiaeth hon o ddewis sy'n gwneud addysg bellach mor atyniadol i lawer o bobl ar draws Cymru. Nawr, nid yw pawb yn gallu astudio rhwng 9 y bore a 5 yr hwyr, nid yw mynd ar drywydd gradd academaidd strwythuredig yn addas i bawb, ac felly mae'r cyfleoedd dysgu hyblyg sy'n cael eu cynnig gan ddarparwyr addysg bellach yn hanfodol i rieni, pobl hŷn a'r rhai mewn gwaith amser llawn. Mae darparwyr addysg bellach fel Coleg Sir Benfro yn agor eu drysau i fyfyrwyr o bob oed, nid yn unig i bobl ifanc rhwng 16 a 21 oed, ac felly maent yn ganolog iawn i'r gwaith o wella sgiliau'r genedl a darparu cyfleoedd dysgu gydol oes. Wrth gwrs, mae'n arbennig o bwysig cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae addysg bellach a sgiliau galwedigaethol yn ei wneud i ddysgwyr, ond maent hefyd yn gwneud cyfraniad pwysig iawn i economi Cymru. Dangosodd astudiaeth ddiweddar a gyflawnwyd gan y cwmni modelu economaidd, Emsi, ein bod yn derbyn £7.90 am bob £1 a fuddsoddir mewn colegau addysg bellach yng Nghymru, gyda'r gyfradd enillion flynyddol gyfartalog ar eu buddsoddiad yn 24 y cant. Rwy'n credu y dylem ystyried am eiliad pa mor werthfawr yw'r buddsoddiad hwnnw. Mae colegau'n dod â chyfoeth i mewn i'w rhanbarth trwy gyflogi staff sy'n gwario ar nwyddau a gwasanaethau, a sgiliau'r gweithlu a ychwanegir at y rhanbarth gan fyfyrwyr sy'n dod o hyd i waith yn yr ardal ar ôl gadael. Yn hynny o beth, mae colegau a darparwyr addysg bellach yn fentrau cymdeithasol, sy'n gweithio gyda dysgwyr o bob oed trwy wella eu cyflogadwyedd a gwella eu potensial fel unigolion. Bydd yr Aelodau wedi fy nghlywed yn galw am fwy o'r math hwn o weithgarwch yn ein system ysgolion fel ffordd o hyrwyddo sgiliau bywyd a mentergarwch, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn edrych ar annog ysgolion uwchradd i sefydlu mentrau cymdeithasol i'w rheoli a'u rhedeg gan y disgyblion. Wrth gwrs, un o'r ffyrdd pwysicaf o ddarparu sector addysg bellach cryf yng Nghymru yw drwy sicrhau bod y sector yn cael ei ariannu ar sail fwy hirdymor, fel y crybwyllodd Mohammad Asghar yn gynharach. Yn y gorffennol, mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi galw am ddull mwy integredig a mwy hirdymor o ddarparu cyllid addysg bellach, gan y byddai dull mwy hirdymor yn sicr yn helpu colegau i gynllunio'n fwy effeithiol yn y tymor canolig ac yn mynd i'r afael â materion cynaliadwyedd yn y sector. Nawr, nid wyf wedi fy argyhoeddi bod y newid i gyflwyno dyraniadau cyllid un flwyddyn wedi arwain at gymorth gwell i sefydliadau addysg bellach allu cynllunio ar gyfer y tymor canolig, ac mewn gwirionedd, mae'n fwy tebygol o fod yn wir ei fod wedi cael effaith negyddol ar ddenu myfyrwyr. Mae'r trefniadau ariannu anghyson yn y sector wedi effeithio ar niferoedd staff hefyd. Gwyddom fod cyfanswm y staff sydd gan ddarparwyr addysg bellach ychydig dros 9,300 yn 2012-13. Gostyngodd i oddeutu 7,800 yn 2015-16, cyn cynyddu i oddeutu 8,500 yn 2017-18. Felly, mae'n eithaf clir fod angen buddsoddi yn y gweithlu addysg bellach er mwyn sicrhau bod ei sgiliau a'i arbenigedd yn parhau i fod yn gyfredol ac y gall gynnal cysylltiadau â diwydiannau eraill. Mae Cymru'n wlad uchelgeisiol, ond yn awr mae angen inni gynnal yr uchelgais hwnnw â'r rhwydweithiau cywir i sicrhau bod cyfleoedd lleol ar gael. Hefyd, mae angen inni sicrhau bod unrhyw strategaeth yn cael ei chydlynu ag adrannau eraill y Llywodraeth er mwyn gallu gweld y darlun llawn. Er enghraifft, mae'n hanfodol fod gan ardaloedd lleol rwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus sy'n annog dysgwyr i ddilyn cyrsiau, yn enwedig dysgwyr mewn ardaloedd gwledig. Mae angen inni sicrhau hefyd fod dysgwyr yn cael cyfle i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, a sicrhau bod dysgwyr sydd ag anghenion ychwanegol hefyd yn gallu manteisio ar gyfleoedd addysg bellach. Felly, pan fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried y ffordd orau o gefnogi'r sector addysg bellach yng Nghymru, mae'n hanfodol ei bod yn mabwysiadu dull o weithredu sy'n cwmpasu pob adran, fel bod Gweinidogion yn ystyried y darlun ehangach pan ddaw'n fater o gefnogi'r sector. Ddirprwy Lywydd, er mwyn i Gymru ffynnu yn y dyfodol, rhaid inni sicrhau bod y sector addysg bellach yn cael digon o gefnogaeth a bod dysgwyr yn gallu dilyn y cyrsiau a'r rhaglenni y maent yn eu cynnig. Mae darparwyr addysg bellach yn ymateb i anghenion sgiliau eu hardal leol ac yn gweithio'n agos gyda chyflogwyr lleol. Yn ddiweddar, cynhaliodd Coleg Sir Benfro ei bumed digwyddiad cinio i gyflogwyr, a noddwyd gan Dragon LNG ac a gefnogwyd gan gyflogwyr lleol fel porthladd Aberdaugleddau, Cyngor Sir Penfro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Dyma'r math o gydweithredu y mae'n rhaid i ni adeiladu arno a'i ddatblygu er mwyn helpu i sicrhau bod dysgwyr yn gadael addysg yn meddu ar y sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer y gweithle. Felly, rwy'n annog y Gweinidog i weithio gyda rhanddeiliaid i ystyried ffurf y sector addysg bellach yn y dyfodol yn ofalus a sicrhau ei fod yn cael y buddsoddiad hollbwysig sydd ei angen arno, ac felly rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig. David J Rowlands AC: Teimlaf fod yn rhaid i mi ddechrau fy nghyfraniad drwy gydnabod y nifer enfawr o fentrau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyflwyno dros y blynyddoedd diwethaf i wella'r ddarpariaeth o weithlu medrus yng Nghymru, yn enwedig lle maent wedi newid y ffocws i hyfforddiant galwedigaethol. Dylem hefyd gydnabod yr effaith gadarnhaol y mae gweithwyr ymfudol medrus wedi'i chyfrannu at economi Cymru, ond erys y ffaith ein bod wedi dod yn llawer rhy ddibynnol ar lafur mewnfudwyr, yn aml iawn ar draul ein poblogaeth frodorol. Rwy'n defnyddio'r gair 'brodorol', ond hoffwn nodi bod y Llywodraeth Lafur, yn eu dogfen 'Ffyniant i Bawb', wedi defnyddio'r gair 'brodorol' droeon. [Torri ar draws.] Fel y crybwyllais yn y ddadl gynharach, mae'r gwasanaeth iechyd yn y DU yn gwrthod—[Torri ar draws.] Mae'r gwasanaeth iechyd yn y DU yn gwrthod 80,000 o ymgeiswyr nyrsio cymwys o Brydain bob blwyddyn am ei bod yn rhatach i ysbeilio gwledydd y trydydd byd am eu staff hyfforddedig. Nid oes unrhyw amheuaeth fod Llywodraeth Cymru, yn enwedig yn ystod y blynyddoedd diweddar, wedi ehangu ei chyfleusterau gwella sgiliau yn fawr, yn y sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch. Mae'r cyfleusterau ariannu hyblyg sydd bellach ar waith wedi gwella gallu myfyrwyr i gynyddu eu sgiliau ar sail ran-amser, ac mae nifer yn manteisio ar y cyfleoedd a gynigir gan y Brifysgol Agored i ennill cymwysterau uwch. Gwelwyd newid sylweddol yn yr agwedd tuag at gymwysterau galwedigaethol, a chredaf fod hyn yn dechrau dwyn ffrwyth yn awr yn y nifer o brentisiaethau galwedigaethol newydd a geir. Er ein bod i gyd yn cydnabod y bydd yn cymryd peth amser i'n gwneud yn llai dibynnol ar lafur Ewropeaidd—yn wir, fe fyddwn bob amser yn dibynnu i ryw raddau ar weithwyr o bob cwr o'r byd i lenwi swyddi na allant, am amryw o resymau, gael eu llenwi gan y boblogaeth frodorol. Ond mae hon, mewn sawl ffordd, yn sefyllfa ddymunol; cymysgedd o bobl o wahanol wledydd yn helpu i bwysleisio pa mor debyg ydym i'n gilydd a pham y dylai ein gwlad gydweithredu er lles pob un ohonom. Mark Reckless AC: A wnaiff yr Aelod ildio? David J Rowlands AC: Gwnaf, wrth gwrs. Mark Reckless AC: Mae'n ymddangos bod rhywfaint o wrthwynebiad gan Aelodau Llafur i'w ddefnydd o'r gair 'brodorol'. Pan ddaw pobl i wneud eu bywydau yng Nghymru, tybed a yw hi'n iawn inni eu croesawu fel y dymunwn neu a ddylem ddifrïo'r unigolion hynny drwy eu galw'n 'ymwelwyr'. David J Rowlands AC: Yn hollol. Os deuant i fyw yng Nghymru, credaf eu bod yn dod yn rhan o economi Cymru. Felly, gadewch i ni beidio ag edrych ar Brexit fel rhywbeth negyddol, ond yn hytrach fel cyfle i adeiladu cenedl fywiog, allblyg, sy'n cofleidio ein diaspora gyda'r byd yn gyffredinol, nid Ewrop yn unig. Drwy adeiladu economi gref, fywiog yn y ffordd honno, byddwn yn ddiofyn yn creu gweithlu medrus sy'n hyblyg, gan newid y sgiliau i addasu i newidiadau sy'n digwydd naill ai yn eu hamgylchedd gwaith eu hunain neu wrth chwilio am gyfleoedd gwaith newydd. Andrew RT Davies AC: Rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu yn y ddadl heddiw. Mae'n werth ystyried nad yw dwy ran o dair o bobl ifanc yn mynd i'r brifysgol, ac mewn gwirionedd, y sector addysg bellach, boed yn rhan-amser neu'n amser llawn, yw'r prif lwyfan dysgu ar eu cyfer er mwyn iddynt wella eu rhagolygon gyrfa. Rwy'n credu bod honno'n ystyriaeth bwysig. Crybwyllodd arweinydd yr wrthblaid y nifer enfawr o staff sy'n gysylltiedig ag addysgu yn ein colegau addysg bellach ar hyd a lled Cymru, sef 9,330 yn 2013, a gostyngodd hynny, gwaetha'r modd, i 7,815 yn 2015-16, cyn y gwelwyd gynnydd i'w groesawu i tua 8,500 , ond mae hynny'n dal i fod oddeutu 800 o swyddi addysgu yn llai na'r hyn a oedd gennym tua chwech neu saith mlynedd yn ôl, ac mae honno'n rhan hanfodol o'r elfen addysgu y mae angen ei hunioni os ydym am gynyddu cynhyrchiant a gwella sgiliau ein gweithlu yma yng Nghymru. Mae'n werth ystyried hefyd er enghraifft fod bron i 170,000 o fyfyrwyr yn ein colegau addysg bellach yn cymryd rhan mewn profiad addysgol ar ryw ffurff neu'i gilydd mewn colegau addysg bellach ar hyd a lled Cymru, ond hoffwn ganolbwyntio ar y sector amaethyddol ac yn enwedig, yn anffodus, y nifer fach iawn o brentisiaethau amaethyddol a gynigir yma yng Nghymru. Ymddengys mai 1 y cant o brentisiaethau a gynigiwyd ym maes amaethyddiaeth yng Nghymru yn ystod y ddwy flynedd academaidd ddiwethaf, ac mae hynny'n sicr yn bryder mawr. Oherwydd, yn amlwg, yn fy mhrofiad personol i, os caf gyffwrdd ar hynny am eiliad, y ffordd y mae'r diwydiant amaethyddol wedi datblygu dros y 30 mlynedd diwethaf, mae hi bron yn amhosibl dirnad heddiw ble roeddem yn y 1990au. A chaiff hynny ei yrru gan ddewis y defnyddiwr, oherwydd yn amlwg mae gan ddefnyddwyr allu i ddewis y cynnyrch y dymunant ei brynu ac mae'r defnyddiwr eisiau bod yn fwy gwybodus am y modd y datblygwyd y cynnyrch hwnnw a sut y cynhyrchwyd y cynnyrch hwnnw, ac yn benodol, sut y caiff y cynnyrch hwnnw ei gyflwyno ar silffoedd ein harchfarchnadoedd. Felly, mae angen gweithlu amaethyddol sy'n fedrus ac sydd mewn cysylltiad â'i sylfaen ddefnyddwyr, ond 30 i 40 mlynedd yn ôl o bosibl, yn draddodiadol, byddai llawer o ffermwyr, cyn gynted ag y byddent wedi gadael gât y fferm, yn cymryd dim sylw o gwbl i'r ffordd y câi'r cynnyrch ei gyflenwi a pha werth ychwanegol y gellid ei roi i'r cynnyrch hwnnw. A hoffwn awgrymu mai dyna lle mae gan golegau addysg bellach rôl hanfodol i'w chwarae. Ac felly mae taer angen inni gynyddu'r ganran honno o fyfyrwyr amaethyddol sy'n gweld eu hamgylchedd dysgu yn y sector addysg bellach. Buaswn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog, yn ei hymateb heddiw, roi rhyw syniad inni sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried cynyddu'r niferoedd o brentisiaethau amaethyddol sydd ar gael drwy'r sector addysg bellach, gan nad yw aros ar 1 y cant yn mynd i fod yn dderbyniol yn y dyfodol, yn enwedig gan fod bron i 4 y cant o'r gweithlu'n gweithio yn y diwydiant amaethyddol. Ac mae'n werth nodi hefyd, wrth i economi Cymru wynebu ei heriau unigryw, demograffeg yw un o'r heriau mwyaf a wynebwn, oherwydd rhwng 2016 a 2041 rhagwelir y bydd nifer y bobl 16 i 64 oed yn gostwng bron 5 y cant. Felly, os ydym yn mynd i gynyddu cynhyrchiant ein gweithlu, ac yn arbennig ein heconomi gyffredinol, mae angen inni wneud yn siŵr fod lefelau sgiliau'n codi fel y gellir sicrhau mwy o waith a gwaith cynhyrchiol sy'n ychwanegu gwerth i'n heconomi gyffredinol gan bob gweithiwr yn y pen draw. A bydd hynny wedyn yn codi lefelau cyflog, sy'n brawf o economi fwy ffyniannus. A sut y mae codi lefelau cyflog? Wel, drwy wella sgiliau'r union weithlu rydym yn treulio cymaint o amser, wythnos ar ôl wythnos, yn siarad amdano yma. Ac felly, unwaith eto, buaswn yn hapus iawn i allu deall sut y bydd y Gweinidog, ynghyd â'n colegau addysg bellach a'r rhai o fewn y sector, yn ceisio hybu'r cynhyrchiant hwnnw sydd, ysywaeth, wedi llusgo ar ôl gweddill y Deyrnas Unedig. Rwy'n credu fy mod yn gywir i ddweud, o ran gwerth ychwanegol gros yr awr a weithiwyd, mai'r unig ran o'r Deyrnas Unedig sydd oddi tanom yw Gogledd Iwerddon. Yn sicr, gyda'r 14 coleg sydd gennym yma yng Nghymru a rhai o'r cyfleusterau rhagorol y mae'r colegau hynny wedi buddsoddi ynddynt yn ystod y blynyddoedd diwethaf—. Mae Coleg Caerdydd a'r Fro sy'n agos at y fan hon ar Heol Dumballs yn batrwm o gynnydd da, ac yn fy rhanbarth i, mae llawer o fyfyrwyr hefyd yn mynd i Goleg Pen-y-bont a champws Pencoed. Felly, mae gennym y campysau, ond yr hyn a welwn yw diffyg cynhyrchiant yn bwydo i'r economi yn gyffredinol. Yn fwyaf arbennig, os yw'r Gweinidog yn edrych ar ei hardal ei hun ym Mhowys, er enghraifft, lle mae cynhyrchiant 35 y cant yn is na chyfartaledd y DU, rwy'n siŵr fod hynny'n rhywbeth y bydd y Gweinidog yn canolbwyntio arno, ac yn ceisio mynd i'r afael â'r gostyngiad o 35 y cant yn y cynhyrchiant sy'n golygu bod Powys, er enghraifft—y sir fwyaf yng Nghymru, a sir amaethyddol fawr—yn llusgo mor bell ar ei hôl hi. Oherwydd nid yw hynny'n dda i wasanaethau lleol ac nid yw'n dda i'r economi leol yn arbennig, oherwydd mae'n cadw lefelau cyflog yn isel yn yr ardal honno. Felly, rwy'n gobeithio y bydd trafodaeth gadarnhaol am y rôl bwysig sydd gan addysg bellach i'w chwarae yn ein hystâd addysg yma yng Nghymru—cydnabod maint y sector addysg bellach, ond pwysigrwydd dysgu rhan-amser a dysgu amser llawn yn y maes penodol hwnnw o addysg yma yng Nghymru. A gadewch inni beidio ag anghofio bod yna newyddion da i'w adrodd am addysg bellach, ond ni ddylem dynnu ein sylw oddi ar y bêl o ran lle mae rhai o'r problemau ystyfnig hyn yn bodoli o ran cynhyrchiant, o ran cywiro'r problemau demograffig a wynebwn gyda gweithlu rhwng 16 a 64 oed sy'n crebachu. Ac yn anad dim, sicrhau ein bod yn gallu hybu'r profiad sy'n annog mwy o bobl i fanteisio ar addysg bellach, drwy fuddsoddi'n ariannol a buddsoddi yn y cyrsiau sydd ar gael, ac mae hynny'n golygu rhoi mwy o ddarlithwyr a mwy o athrawon yn y colegau hynny er mwyn inni fynd i'r afael â'r prinder. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cefnogi'r cynnig sydd gerbron y prynhawn yma. Janet Finch-Saunders AC: Mae sgiliau wedi dod yn ddraenen yn ystlys y ddraig Gymreig. Mae 67 y cant o uwch arweinwyr busnes wedi dweud bod eu sefydliad yn profi prinder sgiliau ar hyn o bryd; dywedodd 54 y cant o gyflogwyr na allent recriwtio digon o staff gyda'r sgiliau sydd eu hangen arnynt. Ac mae'r prinder sgiliau yn costio tua £155.2 miliwn i fusnes yng Nghymru. Er mwyn i fusnesau Cymru allu gwneud yn fawr o'r manteision a ddisgwylir yn sgil Brexit, mae'n rhaid datblygu sgiliau ein gweithlu er mwyn ateb galwadau economi Cymru. Os nad ydych yn fy nghredu, canfu Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru fod tystiolaeth dda fod sgiliau... yn ffactorau pwysig ar gyfer hybu twf mewn rhanbarthau sydd ar ei hôl hi. Yn ganolog i gryfhau sgiliau, wrth gwrs, mae cyllid teg ar gyfer addysg bellach. Mae ColegauCymru wedi tynnu sylw at y ffaith bod y cylch ariannu cyfredol o flwyddyn yn llesteirio cynllunio mwy hirdymor, ac argymhellodd adolygiad Graystone y dylech symud tuag at gylch cynllunio tair i bum mlynedd. Hefyd, mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi galw am ddull hirdymor o gyllido addysg bellach. Felly, mewn gwirionedd, nid oes esgus yn awr dros beidio â gweithredu'r argymhellion hyn. Yn yr un modd, rwy'n cefnogi galwadau i greu lwfans dysgu oedolion. Fel y dadleuodd y Brifysgol Agored yng Nghymru, ni ddylai addysg fod yn gynnig untro ar gyfer pobl ifanc. Mae nifer yr ymgeiswyr llwyddiannus am y grant dysgu i'r rheini sy'n 19 oed neu'n hŷn wedi lleihau. Mae llai nag 1 y cant o'r rheini sy'n cymryd rhan mewn prentisiaethau a chynlluniau dysgu yn y gweithle yn bobl hŷn. Mae'r ffeithiau hyn yn gwrthddweud eich nod eich hun o roi cyfleoedd cyfartal i bobl gael sgiliau am oes. Mae'r newyddion yn waeth byth wrth ystyried canfyddiad Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru fod yr economi bellach yn mynd yn fwyfwy dibynnol ar ein gweithwyr hŷn. Yn amlwg, buaswn yn gobeithio eich clywed yn mynd i'r afael â hyn heddiw ac yn ystyried yn ofalus ein cynllun i roi hwb i ddysgu gydol oes drwy gyflwyno lwfans dysgu oedolion. Nawr, yr un mor ddiddorol i Aberconwy, sut y gellir gwella sgiliau ar draws gogledd Cymru yn fwy cyffredinol. Bûm yn gweithio gydag eraill i roi hyn ar waith y tymor diwethaf, gyda chwestiwn ysgrifenedig yn y Cynulliad yn gofyn am ddylanwad y sector preifat ar y sgiliau a addysgir mewn addysg bellach. Mae cyflogwyr i fod i allu dylanwadu drwy'r bartneriaeth sgiliau rhanbarthol. Fodd bynnag, canfu Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau fod rôl y partneriaethau yn datblygu sylfaen sgiliau Cymru yn parhau i fod yn aneglur. Mae gennym ddau goleg addysg bellach rhagorol yng ngogledd Cymru, a hoffwn dalu teyrnged arbennig i waith rhagorol Mr Lawrence Wood, Prifathro Coleg Llandrillo. Yn ddiweddar, mae wedi gweld gwaith adnewyddu helaeth ar y sefydliad iechyd a gofal cymdeithasol, sy'n galluogi myfyrwyr i archwilio pob agwedd ar ofal ystafell wely a dysgu mewn ystafelloedd ar ffurf ward rithwir mewn ysbyty, gan ddefnyddio offer rhithwir i archwilio organau a gwaed—yn union fel bod y tu mewn i gorff dynol. Hefyd, mae ei goleg yn gweithio gyda bargen twf gogledd Cymru, Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gyflawni prosiect gwerth £14 miliwn. Mae nodau canolfan ragoriaeth gogledd Cymru ar gyfer twristiaeth a lletygarwch hefyd yn cynnwys darpariaeth ddatblygu sgiliau wedi'i thargedu yn y rhanbarth er mwyn cyflymu twf y sector twristiaeth a lletygarwch. Mae hyn yn newydd sbon, mae'n ysbrydoliaeth, ond mae angen inni wneud mwy i gysylltu addysgu o ansawdd â busnesau. Un ateb fyddai creu sefydliad technoleg sy'n canolbwyntio ar wyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg yng ngogledd Cymru. Yn sicr, byddai'n helpu i sicrhau y gall fy nhrigolion a busnesau ddylanwadu a sicrhau'r sgiliau sydd eu hangen yn y rhanbarth hwn. A dweud y gwir, gallai fod yn un o'r triniaethau sydd eu hangen i dynnu'r ddraenen o ystlys y Ddraig economaidd Gymreig—sef sgiliau. Diolch. A gaf fi alw ar y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams? Kirsty Williams AC: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Mae wedi bod yn ddiddorol, ac weithiau'n ddadlennol, clywed y cyfraniadau y prynhawn yma, ond rwy'n credu y gallwn i gyd gytuno bod datblygu sgiliau'r gweithlu yn hanfodol os yw Cymru am lwyddo a ffynnu ar ôl Brexit. Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i gefnogi addysg bellach, addysg uwch a phrentisiaethau er mwyn sicrhau bod gan ein pobl y sgiliau sydd eu hangen i ateb heriau'r economi ar ôl Brexit ac wedi'r cyfan, yn unigryw o fewn y DU, ymatebodd Cymru i'r her o adael yr UE drwy greu cronfa bontio benodol, ac mae hon eisoes wedi arwain at £10 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol yn benodol ar gyfer addysg a sgiliau. O'r gronfa hon, bydd dros £6 miliwn yn cefnogi cyflogwyr yn y sectorau modurol ac awyrofod, gan eu galluogi i gyflwyno prosiectau i fynd i'r afael â phrinder sgiliau posibl a waethygir drwy adael yr UE. Ochr yn ochr â hyn, dyrannwyd £3.5 miliwn i wella ein cysylltiadau addysg rhyngwladol, gan gynnal ein henw da fel lle croesawgar i fyfyrwyr er gwaethaf y penderfyniad i adael yr UE, yn ogystal â'n cynllun pwrpasol i gynnig mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr o Gymru allu teithio oddi yma. Nawr, mae'r cynnig gan y Ceidwadwyr a drafodir gennym heddiw yn galw'n bennaf am fuddsoddi mewn prentisiaethau gradd, mewn lwfansau dysgu oedolion ac yn y sector addysg bellach yn fwy cyffredinol, ac mae pob un o'r rhain, Ddirprwy Lywydd, yn cael sylw yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru. Yn ei chyfraniad, dywedodd Janet Finch-Saunders nad oedd yn deall beth oedd yn ein hatal rhag symud i gylch cyllido tair blynedd. Wel, gadewch i mi roi rheswm da iawn i chi—un rheswm da iawn—Janet: nid oes gennyf gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Ni allaf—[Torri ar draws.] Nid oes unrhyw fodd y gallaf roi cyllideb tair blynedd i golegau addysg bellach gan mai cyllideb un flwyddyn yn unig rwy'n ei chael. Nawr, gyda'i gilydd—[Torri ar draws.] Gyda'i gilydd, yn y flwyddyn newydd—[Torri ar draws.] Gyda'i gilydd, disgwylir cynnydd o dros £25 miliwn yn y gyllideb addysg bellach ar ddechrau'r flwyddyn ariannol newydd hon, gan gynnwys cyllid ychwanegol i gefnogi iechyd meddwl, cyllid ar gyfer dysgu proffesiynol i'r rhai sy'n gweithio ym maes addysg bellach, a chyllid i gynnali pwysau pensiynau a chyflogau. [Torri ar draws.] Ie. Bethan Sayed AC: Roeddwn eisiau gwybod, o'r £24 miliwn—. Gan fy mod yn cadeirio'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu; fe ofynasom i'r Gweinidog a ddaeth yno faint o'r arian hwnnw a fyddai'n mynd tuag at brentisiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg. Oherwydd ni chawsom wybodaeth lawn ynglŷn â faint fyddai hynny, ac os gallech egluro, byddai hynny'n ddefnyddiol iawn. Kirsty Williams AC: Wel, bydd yn rhaid i fy nghyd-Weinidog, Gweinidog yr economi, egluro hynny, oherwydd mewn gwirionedd mae prentisiaethau'n dod o dan ei adran ef, nid o fewn yr adran addysg. Ond byddaf yn sicrhau bod y wybodaeth honno ar gael i chi. Mae'r cynnig yn trafod—[Torri ar draws.] Mae'r cynnig yn trafod prentisiaethau gradd, sydd unwaith eto i'w gweld eisoes yn y gyllideb ddrafft. Mae Gweinidog yr economi a minnau'n parhau'n ymrwymedig i ehangu prentisiaethau gradd lle maent yn gweithio er budd cyflogwyr a dysgwyr. Nawr, roedd fel pe bai wedi'i fethu gan rai o'r siaradwyr, ond mae gennym gynllun peilot sy'n gweithredu eisoes ar gyfer creu rhaglen integredig sy'n meddu ar hygrededd a bri gradd academaidd a'r sgiliau diwydiant cymhwysol y byddech yn disgwyl eu cael mewn prentisiaeth. Mae'r cynlluniau peilot hynny eisoes ar waith, gyda myfyrwyr yn cael eu recriwtio ac ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer prentisiaethau gradd mewn technoleg ddigidol, peirianneg a gweithgynhyrchu uwch. Nawr, mae hyn yn rhywbeth rwy'n siŵr y gallwn i gyd gytuno sy'n rhaid inni ei gael yn iawn, a gadewch inni beidio ag anghofio, y mis hwn, honnodd melin drafod a weithredir gan gyn-ymgynghorydd i Lywodraeth San Steffan y gellid ystyried hanner y cyrsiau prentisiaeth yn Lloegr yn rhai ffug, a chanfu enghreifftiau lle roedd rhaglenni israddedig presennol, i bob pwrpas, yn cael eu hail-labelufel prentisiaeth, yn hytrach na'r dull rydym yn ei weithredu yma yng Nghymru. Felly, gadewch i mi fod yn glir y bydd datblygiad y rhaglen prentisiaethau gradd yng Nghymru yn y dyfodol yn dibynnu ar ganlyniad gwerthusiad annibynnol ac ystyriaethau gwerth am arian, a chredaf fod hynny'n gwrthgyferbynnu'n llwyr â'r hyn a welwn yn digwydd dros y ffin. Mae'r cynnig hefyd yn galw am greu lwfans dysgu oedolion, ac yn amlwg mae rhai o'r siaradwyr Ceidwadol wedi methu'r ffaith ein bod yn arwain y ffordd yn y maes hwn yng Nghymru gyda sefydlu cyfrifon dysgu personol. Nawr, mae'r fenter hon, sy'n cael ei threialu ar hyn o bryd gan Goleg Gwent a Llandrillo Menai, ar gael i bobl sydd mewn gwaith ar hyn o bryd ond sy'n ennill llai na £26,000 y flwyddyn. Mae'n sicrhau bod pobl yn cael cyfle i gael y sgiliau, y wybodaeth a'r cymwysterau sydd eu hangen arnynt naill ai i newid gyrfa i swydd sy'n talu'n well neu i allu dod o hyd i gyfleoedd yn eu gwaith presennol ar gyfer camu ymlaen. Rwy'n chwilio am gyfle cynnar i ehangu'r cynllun peilot hwnnw i leoliad arall yng Nghymru. Treuliodd Mohammad Asghar lawer o amser yn dyfynnu'r Brifysgol Agored a'r angen i gefnogi addysg ran-amser. Mae'r wlad hon yn unigryw yn yr ystyr nad ydym yn gwahaniaethu rhwng cymorth sydd ar gael naill ai i israddedigion neu raddedigion, yn rhan amser neu'n amser llawn, ac rwy'n falch iawn, ers cyflwyno ein pecyn diwygio cyllid myfyrwyr, fod y Brifysgol Agored yma yng Nghymru yn nodi cynnydd o 46 y cant yn nifer y bobl sy'n dechrau astudio am radd gyda hwy—cynnydd o 46 y cant—a dim ond yn ail flwyddyn academaidd y diwygiadau hynny rydym ni. A gaf fi ddweud hefyd—a gaf fi ddweud hefyd—fod angen inni edrych ar sgiliau ar lefel ehangach? Er bod angen i ni sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â sgiliau ar lefel is, rydym hefyd am weld mwy o bobl yn astudio ar lefel uwch, gan gynnwys graddau Meistr, ac rwyf wedi gosod targedau ymestynnol iawn i mi fy hun ar gyfer y nifer o fyfyrwyr o Gymru rwyf am eu gweld yn astudio am radd Meistr. Ond ers dechrau'r sesiwn hon o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, rhaid i mi ddweud ein bod wedi gweld cynnydd o 33 y cant yn nifer y rhai sy'n dechrau rhaglenni gradd Meistr—cynnydd o 33 y cant. Mae gennym gynllun arloesol hefyd i gefnogi rhaglenni graddau Meistr ar gyfer rhai dros 60 oed. Oherwydd rheolau'r Trysorlys yn Llundain, ni allwn ganiatáu i bobl dros 60 oed gael mynediad at y llyfr benthyciadau i fyfyrwyr, ond llwyddasom i oresgyn hynny, ac felly, os ydych dros 60 oed yng Nghymru a'ch bod am astudio ar gyfer gradd Meistr, fe gewch gymorth gan Lywodraeth Cymru trwy ein prifysgolion yng Nghymru. Yn gwbl briodol, holodd Bethan am yr hyn a wnawn i ddenu mwy o bobl i ddychwelyd i Gymru. Nawr, mae gennym gymorth cyffredinol i fyfyrwyr graddau Meistr ni waeth pa ran o'r DU y maent yn astudio ynddi, ond os dychwelwch i Gymru neu ddod i Gymru i astudio ar gyfer gradd Meistr mewn rhai meysydd allweddol fe gewch chi fwrsariaeth ar ben yr hyn y gallwch ei hawlio a'r hyn y gallwch wneud cais amdano gan y system gymorth arferol i fyfyrwyr. Crybwyllodd Paul Davies y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Rwyf wedi ymrwymo i ehangu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y sector addysg bellach. Dyna pam, ers inni ddod i rym, ein bod wedi cynyddu rôl y coleg cenedlaethol, nid yn unig mewn addysg uwch, ond i gynnwys addysg bellach hefyd. Rwyf wrth fy modd gyda'r gwaith y maent wedi'i wneud, ochr yn ochr â ColegauCymru, ar sefydlu cynllun clir iawn ar gyfer sut y gallwn gynyddu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y sector addysg bellach. Andrew R.T. Davies, rydych yn llygad eich lle—mae angen dadeni mewn hyfforddiant amaethyddol ar gyfer ein pobl ifanc os ydym am gael sector amaethyddol bywiog yn y dyfodol, a chefais nifer o sgyrsiau eisoes gyda'r darparwyr sydd gennym yn barod ar lefel addysg bellach ynglŷn â sut y gall cwricwlwm diwygiedig edrych, gan wneud yn siŵr fod plant sy'n dod o'r—'plant', maent oll yn blant i mi; pobl ifanc, mae'n ddrwg gennyf—pobl ifanc sy'n dod o'r colegau hynny yn meddu ar y cymwysterau, y sgiliau a'r cymwyseddau parod ar gyfer gwaith ac i fod yn wirioneddol lwyddiannus yn y diwydiant hwnnw. [Torri ar draws.] Wrth gwrs. Andrew RT Davies AC: [Anghlywadwy.] Ar y pwynt penodol hwn, oherwydd mae wedi bod yn ystyfnig o isel ar ddim ond 1 y cant—nifer y prentisiaethau amaethyddol—allan o ffigur o fwy na 30,000 o brentisiaethau. Gyda'r trafodaethau hyn, ble y credwch y gallai'r ffigur hwnnw fod ymhen dwy neu dair blynedd? A ydym yn mynd i weld cynnydd yn nifer y prentisiaethau amaethyddol yn gyffredinol? Rwy'n siŵr nad oes neb am ei gadw ar y lefel honno, ond mae angen inni weld cynlluniau ar gyfer cynyddu'r niferoedd hyn. Kirsty Williams AC: Fel y dywedais, nid wyf yn gyfrifol am brentisiaethau, ond rwy'n gyfrifol am ein darpariaeth addysg bellach, ac rwyf am allu gweithio gyda'n colegau i wneud yn siŵr fod y ddarpariaeth honno a chymwysterau amaethyddol cystal ac mor berthnasol ag y mae angen iddynt fod ar gyfer y sector yn y dyfodol. Mae'n ddrwg gennyf, rwy'n gwybod fy mod yn profi amynedd y Dirprwy Lywydd, ond rwyf am droi at welliant Plaid Cymru, yn enwedig ar fater Erasmus+, oherwydd rwy'n credu bod hwnnw o bwys gwirioneddol i'r Siambr hon. Dros y pum mlynedd diwethaf, amcangyfrifir bod 10,000 o fyfyrwyr a staff yng Nghymru wedi cael budd o gymryd rhan yn rhaglen Erasmus+, ac mae'n hynod siomedig gweld safbwynt Llundain ar y mater ar hyn o bryd. I gloi, mae cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn un sy'n sicrhau buddsoddiad sylweddol i'n sefydliadau addysg bellach, er mwyn codi safonau a chefnogi myfyrwyr. Rwy'n falch ein bod ni, yn wahanol i Loegr, yn darparu buddsoddiad i sicrhau bod darlithwyr addysg bellach yng Nghymru yn cael yr un faint â'u cyd-addysgwyryn yr ysgolion. Rwy'n falch ein bod yn parhau i ddarparu buddsoddiad i gefnogi colegau sydd dan bwysau yn ariannol o ganlyniad i bensiynau. Fel y dywedais: £2 filiwn ar gyfer iechyd meddwl; £5 miliwn ar gyfer dysgu proffesiynol; a £10 miliwn ar gyfer y gronfa datblygu sgiliau. Rydym yn cefnogi ein sefydliadau addysg bellach, yn cefnogi ein myfyrwyr a'n dysgwyr, ac rydym yn datblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar Gymru i ateb gofynion ein heconomi. Diolch. A gaf fi alw ar David Melding i ymateb i'r ddadl? David Melding AC: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n credu ein bod wedi cael dadl ddiddorol iawn, a hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu. Dechreuodd Mohammad Asghar yn gadarn iawn a fframiodd ei ddadl yn gadarnhaol iawn yn fy marn i. Mae angen inni gyrraedd ein potensial llawn fel pobl ac fel economi, a chredaf ein bod i gyd yn cytuno â hynny. Mae gweithlu medrus yn ganolog i economi wydn; unwaith eto, mae hwnnw'n wirionedd mawr. Ond ar brydiau, mae prinder sgiliau yn ein dal yn ôl, ac wrth geisio unioni'r diffyg hwn, mae addysg bellach yn gwbl hanfodol. Nid wyf yn credu bod neb yn anghytuno â hynny fel cnewyllyn gwirioneddol bwysig y ddadl hon. Yn wir, Oscar, clywais lawer o fwmian o'r fainc flaen yn cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedoch chi, ac yn cymeradwyo eich ymagwedd. Soniodd Bethan Jenkins am Erasmus+ a materion eraill, a hoffwn—[Torri ar draws.] Mae'n flin gennyf, mae'n ddrwg gennyf. Soniodd am Erasmus+, ac rwyf am dreulio ychydig o amser ar hyn oherwydd rwy'n credu ei fod yn fater pwysig iawn. Rwy'n credu bod Erasmus+ wedi bod o fudd enfawr i fyfyrwyr Cymru, gan gyfoethogi eu profiad a gadael iddynt ffynnu, ac mae iddo fanteision economaidd mawr. Byddaf yn annog Llywodraeth y DU i sicrhau ein bod yn negodi'n dda fel y gallwn gymryd rhan yn y rhaglen hon mewn ffordd a fydd yn sicrhau manteision yn y dyfodol. Ond rwy'n meddwl y byddai ei roi ym Mil ymadael yr UE wedi cyfyngu'n fawr ar ein polisi negodi, ac nid wyf yn credu mai dyna'r ffordd orau o fynd ati. Ond—ac mae fy nghyd-Aelodau'n cytuno â mi—byddwn yn pwysleisio pa mor bwysig yw hyn wrth Lywodraeth y DU, fel y gwnaeth y Gweinidog. Felly, rydym yn cytuno ar hynny. Soniodd Paul Davies am Goleg Sir Benfro. Cafwyd llawer o gyfeiriadau penodol at golegau addysg bellach lleol a'r modd y maent yn ganolog i gymaint o fywyd yn ein heconomïau lleol rhanbarthol. Mae drysau ar agor yno i bobl o bob oed, ac rwy'n credu o ddifrif mai dyna'r peth clasurol y mae addysg bellach wedi'i ddarparu. Mae gennym hanes da iawn yn draddodiadol yng Nghymru. Cymru oedd un o'r ychydig leoedd ar ôl yr ail ryfel byd lle gwelwyd colegau technegol yn llwyddo o ddifrif. Un o fethiannau'r diwygiadau yn y cyfnod hwnnw oedd na lwyddodd addysg dechnegol i ennill y math o amlygrwydd ag a roddwyd i lwybrau mwy academaidd. Ond yng Nghymru, fe wnaethom yn dda yn y sector hwnnw mewn gwirionedd, ac rydym wedi gweld ein colegau addysg bellach yn bwrw ymlaen â'r traddodiad. Ond pwysleisiodd Paul yr angen am fodel ariannu mwy hirdymor, ac roedd honno'n dipyn o ddadl yn ystod ein trafodaeth hefyd. Fe ddychwelaf at hynny mewn munud o bosibl. David Melding AC: Wedyn, gwnaeth nifer o'r Aelodau y cysylltiad rhwng colegau addysg bellach a chyflogwyr, unwaith eto. Dechreuodd David Rowlands, yn deg iawn yn fy marn i, drwy dalu teyrnged i raglenni galwedigaethol Llywodraeth Cymru, fel y dywedodd, a chanmolodd yr hyn a oedd wedi bod yn llawer o weithgarwch cadarnhaol yn ei farn ef. Yna, dychwelodd at ei araith flaenorol yn y ddadl a gawsom yn gynharach, a chafwyd llawer o anghydfod geiriol ynglŷn ag un gair penodol, nad wyf yn mynd i'w grybwyll. Ond rwy'n credu bod angen inni fod ychydig yn fwy caredig wrth ein gilydd weithiau. Rwy'n meddwl mai cywair, cyd-destun a bwriad yw'r hyn sy'n gyrru'r defnydd o eiriau, ac mae'n rhaid i mi ddweud bod gennyf rywfaint o gydymdeimlad â'r rhwystredigaeth a deimlai yn gynharach. Yna siaradodd Andrew R.T. Davies am golegau addysg bellach fel y prif lwybr i lawer o bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau. Rydym yn sôn llawer am brifysgolion, a hynny'n ddigon priodol, ond i lawer o fyfyrwyr, mae colegau addysg bellach yn llawer mwy perthnasol, ac roeddwn yn meddwl bod hynny wedi adfer cydbwysedd y ddadl. Soniodd, wrth gwrs, am y sector amaethyddol—byddem yn disgwyl hynny—ond gyda'r fath rym, ac ef oedd yr unig un i fynd i'r afael â hyn yn y ddadl y prynhawn yma. Yn anffodus, oddeutu 1 y cant yn unig o brentisiaethau sydd yn y sector amaethyddol ar hyn o bryd, ac mae honno'n ystyriaeth ddigon digalon. Soniodd am y buddsoddiad cyfalaf mawr a welwyd yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro, a deallaf fod yna enghreifftiau eraill. I unrhyw un sy'n mynd i safle Heol Dumballs—mae'n bleser pur gweld y myfyrwyr yno wedi'u hamgylchynu gan y cyfleusterau rhagorol hyn. Rwy'n argymell y bwyty yno, ymysg llawer o bethau eraill sydd ganddynt. Janet Finch-Saunders, roeddwn yn meddwl mai chi oedd â'r ddelwedd orau heddiw: sgiliau yw'r ddraenen yn ystlys y ddraig Gymreig. Gwnaeth y ddelwedd honno argraff ar bobl a gwneud iddynt feddwl pa mor bwysig yw hi ein bod yn unioni'r llyffethair a welwn ar hyn o bryd mewn gormod o feysydd am nad ydym yn cryfhau sgiliau cymaint ag y dylem. Oherwydd maent yn ysgogi gwelliant mewn perfformiad economaidd yn ogystal â dod â budd mawr i unigolion. Fe sonioch chi hefyd fod dylanwad y sector preifat yn bwysig, a'r partneriaethau sydd yno fel y gall cyflogwyr yrru llawer o'r dulliau strategol o ddatblygu sgiliau. Rwy'n credu bod y rhain yn bwyntiau pwysig iawn. O ran sgiliau, buaswn yn ychwanegu mai dyna'r ysgogiad gorau sydd gennym yn ôl pob tebyg. Mae gennym lawer o bŵer yno, a dylid dweud ein bod yn gwario llawer o arian hefyd. Mae angen inni wneud hynny'n effeithlon ac yn effeithiol. Mae hyn yn rhywbeth y credaf ei fod yn cael ei anghofio weithiau—pa mor bwerus yw'r ysgogiad hwnnw i sefydliad datganoledig. Atebodd Kirsty wedyn, a chytuno â llawer o'r hyn a gyflwynwyd gennym, rwy'n credu. Wrth gwrs, mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i wella sgiliau, fel y dywedodd y Gweinidog, er mwyn i Gymru allu ffynnu. Nid wyf yn credu bod neb yn amau nad yw'r ymrwymiad hwnnw'n un diffuant iawn a bod hyn hyd yn oed yn bwysicach ar gyfer economi ôl-Brexit. Ac unwaith eto, rwy'n credu y byddai pawb yn y Siambr yn cytuno. Gyda'ch caniatâd, Ddirprwy Lywydd, ar y pwynt hwn, awgrym o feirniadaeth. Fe feddyliais fod rhywfaint o naws ddidactig yn eich anerchiad ar y pwynt hwnnw wrth i chi ddweud y drefn wrthym am fod â chynnig a oedd yn cyfeirio at yr hyn a oedd eisoes wedi'i wreiddio yn null Llywodraeth Cymru o weithredu. 'Wel, mae hon yn rhyw fath o ganmoliaeth mewn ffordd', meddyliais, ond wedyn fe wnaethoch chi ryw lun o'i difetha drwy ddweud ei bod yn amhosibl cael cyllidebau tair blynedd. Mae'r amgylchedd ariannol wedi bod yn heriol iawn—mae hynny'n sicr yn wir. Rydym wedi cael newidiadau mawr o ran gweinyddiaethau, ac etholiad cyffredinol wedyn, ac mae llawer o hyn wedi arwain at heriau pellach. Rwy'n eich atgoffa'n gwrtais mai eich plaid chi a'r Blaid Lafur a'n rhwystrodd rhag cael etholiad cyffredinol cynharach. Pe bai hynny wedi digwydd yn gynharach yn yr hydref—[Torri ar draws.]—efallai y byddai'r pethau hyn wedi bod ychydig yn haws i'w rheoli. Rwy'n derbyn y pwynt nad yw ein dulliau cyllidebu yn y DU wedi gweddu'n dda iawn i gyllidebau tair blynedd. Mae angen i ni wella yma, fel ein bod yn datblygu cyllidebau dangosol a dulliau gweithredu lle ceir rhyw fath o sicrwydd ynglŷn â'r lefel a fydd yn cael ei rhoi. Nid wyf yn meddwl—o leiaf, rwy'n gobeithio'n fawr na fyddwn yn gweld y math o aflonyddwch ariannol sydyn a gawsom yn ystod yr argyfwng ariannol. Felly, nid wyf yn credu y cawn newid sydyn yn null Llywodraeth y DU o weithredu, ac maent wedi dweud ein bod bellach yn symud tu hwnt i'r cyfnod o gyni ariannol. A gaf fi ddweud yn olaf fy mod yn credu bod y pwynt a wnaethoch am yr angen i edrych ar sgiliau uwch wedi'i wneud yn dda iawn ac wedi ychwanegu llawer at y ddadl? Rhaglenni gradd Meistr: mae llawer o dystiolaeth eto eu bod hyd yn oed yn bwysicach i economi na'r nifer sy'n cwblhau PhD, oherwydd mae llawer o bobl sy'n gwneud rhaglenni Meistr yn awyddus i'w defnyddio wedyn mewn modd entrepreneuraidd. Felly, roeddwn yn meddwl bod y pwynt a wnaethoch yn ffordd gadarnhaol iawn o orffen. Diolch i bawb am eu cyfraniadau y prynhawn yma, ac rwy'n eich annog i gefnogi ein cynnig heb ei ddiwygio. Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Felly, gohiriwn y pleidleisio ar hyn tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. Symudwn ymlaen yn awr at y cyfnod pleidleisio, oni bai fod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu. Na. O'r gorau. 10. Cyfnod Pleidleisio Felly, symudwn ymlaen yn awr at y cyfnod pleidleisio. Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma, felly, ar y ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv), cefnogaeth mewn profedigaeth ar ôl hunanladdiad, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Lynne Neagle. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 35, roedd 12 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig hwnnw. NDM7211 - Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Cefnogaeth mewn Profedigaeth sy’n deillio o Hunanladdiad: O blaid: 35, Yn erbyn: 0, Ymatal: 12 Derbyniwyd y cynnigCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar sgiliau'r gweithlu ar ôl Brexit. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 13, neb yn ymatal, 34 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig a symudwn ymlaen at welliant 1. NDM7234 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 13, Yn erbyn: 34, Ymatal: 0 Gwrthodwyd y cynnigCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Felly, galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant, 20, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 1. NDM7234 - Gwelliant 1: O blaid: 20, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0 Gwrthodwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Galwaf am bleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 34, roedd un yn ymatal, 12 yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 2. NDM7234 - Gwelliant 2: O blaid: 34, Yn erbyn: 12, Ymatal: 1 Derbyniwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Galwaf am bleidlais ar welliant 3 a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 34, roedd 13 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 3. NDM7234 - Gwelliant 3: O blaid: 34, Yn erbyn: 0, Ymatal: 13 Derbyniwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Galwaf am bleidlais ar welliant 4 a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant naw, roedd wyth yn ymatal, 30 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 4. NDM7234 - Gwelliant 4: O blaid: 9, Yn erbyn: 30, Ymatal: 8 Gwrthodwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd. Cynnig NDM7234 fel y'i diwygiwyd: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd darpariaeth addysg bellach o ran datblygu sgiliau gweithlu Cymru i fodloni gofynion economi Cymru ar ôl Brexit. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi ym mhobl Cymru drwy: a) gynyddu'r cyllid i addysg bellach; b) ehangu nifer y prentisiaethau gradd yng Nghymru; c) creu lwfans dysgu oedolion i helpu pobl i wella a meithrin eu sgiliau; a d) gweithio gyda sefydliadau addysg bellach, prifysgolion a chyflogwyr i sicrhau bod y ddarpariaeth yn diwallu anghenion technoleg esblygol yr economi. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod pwysigrwydd Erasmus+ o ran denu pobl i Gymru i ddiwallu anghenion economi Cymru drwy’r sectorau addysg bellach ac addysg uwch, ac ymrwymo i wrthwynebu unrhyw ymgais gan Lywodraeth y DU i adael y rhaglen yn 2021. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig fel y'i diwygiwyd 38, roedd naw yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig fel y'i diwygiwyd. NDM7234 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 38, Yn erbyn: 0, Ymatal: 9 Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwydCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer. Os oes pobl yn gadael, a allant wneud hynny'n gyflym ac yn dawel os gwelwch yn dda? 11. Dadl Fer: Yr achos dros drefi angor: Eu rôl o ran adeiladu economi decach Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Hefin David i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddo. Hefin. Hefin David AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'r ffordd rwy'n mynd ati i wneud y ddadl fer hon yn un rwyf wedi'i thrafod gyda'r Gweinidog. Nid wyf wedi ysgrifennu araith mewn gwirionedd. Mae gennyf nodiadau, ond nid wyf wedi ysgrifennu araith, felly nid wyf yn gwybod beth rwy'n mynd i'w ddweud yn yr araith hon. Ond rwyf hefyd wedi cytuno gyda'r Gweinidog nad yw yntau wedi ysgrifennu fawr o araith chwaith, ac nid yw'n dibynnu ar nodiadau'r gwasanaeth sifil; mae'n mynd i ateb yr hyn rwy'n ei ddweud. Efallai y bydd rhai pobl yn dweud ei fod yn ddull unigryw o gynnal dadl fer; hoffwn ei galw'n 'ddadl fer heb ei pharatoi ymlaen llaw.' Dyna rwy'n mynd i'w galw, er i'r Gweinidog ei galw'n rhywbeth arall, na ellir ei ailadrodd yn y Siambr hon. Yr hyn yr hoffwn edrych arno yw adroddiad Sefydliad Bevan ar drefi angor, sef eu cyfraniad at rywfaint o'r ddadl, a chredaf ei fod wedi canolbwyntio ar beth o'r ddadl mewn perthynas â thasglu'r Cymoedd, a'r hyn y mae tasglu'r Cymoedd yn ei wneud, er eu bod yn dweud yn glir y gellir cymhwyso'r cysyniadau yn yr adroddiad hwn i Gymru gyfan. A'r hyn yr hoffwn ei wneud yw edrych ar y cysyniad o drefi angor, 'anchor towns' nid 'Irranca towns' fel y dywedodd Huw pan oedd yn eistedd wrth fy ymyl. Pe bai'n ymwneud â hynny, meddai, byddai wedi aros i wrando ar y ddadl, ac addewais y buaswn yn cynnwys y jôc honno. Mae arnaf eisiau siarad am y cysyniad o drefi a threfi angor, a'r gwahaniaeth rhwng y ddau, a chanolbwyntio wedyn ar rai o'r pethau cadarnhaol a rhai o'r anawsterau gyda'r cysyniad yn fy marn i, a cheisio cael gwybod gan y Gweinidog beth yw ei farn ef. Beth, yn ei farn ef, y dylai Llywodraeth Cymru ei nodi o'r adroddiad hwn, a'i wneud yn sgil hynny? Rwy'n meddwl bod trefi angor yn esblygiad o'r hybiau strategol, a oedd yn nhasglu gwreiddiol y Cymoedd, ac mae'r cyn-Weinidog yma wedi bod mor garedig ag aros i wrando ar y ddadl hon; rwy'n gobeithio y bydd yn aros ar gyfer y ddadl gyfan ac na fydd yn cerdded allan— Alun Davies AC: Wel, mae hynny'n dibynnu ar ba mor ddiddorol fydd hi. [Chwerthin.] Hefin David AC: Dywedodd ei fod am aros cyhyd ag y byddaf yn ei gwneud yn ddiddorol, felly os yw'n mynd, rydym yn gwybod beth fydd yn ei feddwl. A'r diffiniad yn yr adroddiad—maent yn disgrifio trefi angor fel canolfannau is-ranbarthol ar gyfer cyflogaeth, addysg a gwasanaethau allweddol, gyda chysylltiadau trafnidiaeth cryf, ac maent yn cefnogi busnesau newydd a rhai sy'n tyfu ac sy'n darparu sylfaen gwsmeriaid sy'n ddigon mawr i fusnesau lleol fel siopau bwyd, bwytai a chaffis a gwasanaethau lleol, fel swyddfeydd post a banciau, allu ffynnu ochr yn ochr â chynnig diwylliannol a chymunedol cryf. Nawr, bydd y rhai ohonom yn y Siambr hon sy'n cynrychioli cymunedau â threfi sydd mewn trafferthion yn gwybod mai dyna'r greal sanctaidd bron iawn; mae'n eithaf anodd inni gyflawni hynny, mae honno'n her go fawr inni ei chyflawni. Ac mae'n cysylltu'r economi sylfaenol o fewn yr adroddiad yn ogystal, Ddirprwy Weinidog. Mae hwnnw'n ddatganiad cadarnhaol iawn ar yr economi sylfaenol y credaf ei fod wedi dechrau a datblygu ar feinciau cefn Llafur ac wedi lledaenu ar draws y Siambr a'i chynnwys o fewn y Llywodraeth yn effeithiol iawn gan y Dirprwy Weinidog. Y rheswm pam y cafodd yr economi sylfaenol ei hyrwyddo yn y Llywodraeth yw oherwydd y Dirprwy Weinidog yn y fan honno; nid wyf yn ei ganmol yn aml iawn, felly, os gwelwch yn dda, Weinidog, gwnewch y gorau o hynny. Ceir nifer gyfyngedig o drefi y gellir eu categoreiddio'n drefi angor, ac nid yw pob un ohonynt yn arddangos y nodweddion hynny. Yn anochel felly, oherwydd maent mor benodol ac anodd eu cyflawni. Ac eto, yn ôl Sefydliad Bevan, mae trefi bach yn gartref i 40 y cant o boblogaeth Cymru, ac mae llawer yn byw'n agosach at dref nag at ddinas fawr. Ac rwy'n cofio tyfu i fyny yn Mhenpedairheol, sy'n bentref; byddem yn sôn am fynd allan am y diwrnod gyda fy nhad-cu i Fargoed—dyna lle byddech yn mynd am y diwrnod, nid i Gaerdydd, nid i'r Coed-duon, ond i Fargoed. Rwy'n amheus iawn a yw'r bobl ym Mhenpedairheol yn sôn y dyddiau hyn am fynd am y diwrnod i Fargoed. Dyna ran o'r drasiedi. Mae pobl yn hoff iawn o'u trefi—mae pobl yn caru eu trefi—ac maent yn anobeithio pan fydd y trefi dan orthrwm a heb fod mor effeithiol ag yr arferent fod. Rwy'n meddwl hefyd, Alun Davies, am Fryn-mawr, a'r ymgyrch i achub Sinema Neuadd y Farchnad. Dyna enghraifft o gariad tuag at dref, a bu'r ymgyrch honno'n weithredol drwy dref Bryn-mawr i gyd, a theimlai'r bobl yn anhygoel o gryf am y peth, a gwn eich bod chithau hefyd. Ac yn fy etholaeth i, ymysg eraill, mae gennym Fargoed, Senghennydd, Bedwas, Nelson, Ystrad Mynach, ac wrth gwrs, Caerffili, a byddai pob un ohonynt yn ystyried eu hunain yn drefi i ryw raddau neu'i gilydd. Felly, gadewch inni feddwl am drefi angor. A allant fod yn drefi angor, a beth yw manteision y cysyniad hwn? Gadewch i ni feddwl am hynny. Wel, yn gyntaf oll, fel y dywedais, rwy'n credu bod yr adroddiad hwn wedi bod yn gyfraniad gwerthfawr i'r ddadl, a chredaf fod yna bethau yma a ddylai lywio strategaeth Llywodraeth Cymru yn y dyfodol. Mae'n cyd-fynd yn dda â'r fersiwn wreiddiol o dasglu'r Cymoedd—fersiwn wreiddiol y Gweinidog o dasglu'r Cymoedd. Rwy'n credu ei fod yn cyd-fynd yn dda â hynny, ac efallai'n cyd-fynd yn well â hynny nag â'r fersiwn ddilynol a ddatblygwyd gan y Gweinidog. Wedi dweud hynny, mae hefyd yn symud y tu hwnt i'r cysyniad diffygiol hwnnw o hybiau strategol. Ac rwy'n credu eu bod yn ddiffygiol, ac fe ymhelaethaf ar hynny yn nes ymlaen. Ac mae'r cysyniad o drefi angor yn sôn mwy am wasanaethau sydd wedi'u hintegreiddio i'r cysyniad o le mewn ffordd nad oedd yr hybiau strategol yn ei wneud yn fy marn i. Ffactor cadarnhaol arall hefyd, rwy'n credu, yw bod trefi angor i ffwrdd oddi wrth goridor yr M4. Felly, rydym yn sôn am ail-gydbwysoteithio, oddi wrth y gogledd i'r de yn y bore, a dechrau symud o'r de i'r gogledd—mwy am y dwyrain a'r gorllewin mewn munud. Ac rwy'n credu bod hynny'n beth da iawn, ac yn sicr bydd yn gwneud mwy i dynnu ceir allan o Gaerdydd na'r tâl atal tagfeydd gwarthus, sy'n dreth mewn gwirionedd, pan nad oes unrhyw ddewisiadau eraill yn lle defnyddio'u ceir ar gael i bobl ddod i mewn i Gaerdydd. Felly, rwy'n credu bod y cysyniad hwn o drefi angor yn llawer mwy cadarnhaol gan ei fod yn cynnig dewis arall yn lle teithio i mewn i Gaerdydd. Hefin David AC: Mae hefyd, fel y dywedais, yn ymgais i ategu polisi'r Llywodraeth ar yr economi sylfaenol. Ac ar dudalen 8, mae'n siarad mewn gwirionedd am y gallu i fyw'n sylfaenol, ac mae'n dweud, Mae llwyddiant yn ymwneud â pha un a yw lleoedd yn gweithio mewn ffordd y gellir byw ynddynt i lawer o fathau o aelwydydd. Nid a ydynt yn ddiffygiol yn ôl mesur gwerth ychwanegol gros neu a ydynt yn brin o baraffernalia byw ffasiynol y dosbarth canol. Rwy'n hoff o hynny, a dyna'u barn am fyw sylfaenol, sy'n cyd-fynd yn dda iawn â'r modd y mae'r Gweinidog yn hyrwyddo'r economi sylfaenol. Mae'n ystyried y gwasanaethau sy'n bodoli'n barod hefyd, rhywbeth roeddwn yn ei feirniadu mewn perthynas â'r hybiau strategol. Ond gadewch i ni fod yn gadarnhaol—ceir rhai pethau yn y cysyniad sy'n dweud y dylai'r pethau hyn gysylltu â threfi angor, a'r pethau hynny yw: ysbytai a byrddau iechyd, sefydliadau addysgol, llywodraeth leol, cyrff cyhoeddus eraill fel swyddfeydd llywodraeth a chymdeithasau tai. Felly, os edrychaf ar fy etholaeth i, gallaf weld, yn Ystrad Mynach, Ysbyty Ystrad Fawr, gallaf weld Coleg y Cymoedd, gallaf weld swyddfeydd y cyngor, Tŷ Penallta, a swyddfeydd busnes Tredomen, gallaf weld cymdeithasau tai—wel, bron iawn, gallaf weld United Welsh, sydd ar Ffordd Beddau, yn nes at Gaerffili, ond gallech wneud hynny i raddau. Ac rwyf wedi ychwanegu fy nghategori bach fy hun—gweithgareddau chwaraeon. Oherwydd lleolwyd Canolfan Ragoriaeth Dreigiau Casnewydd Gwent ar draws y ffordd i Ysbyty Ystrad Fawr. Felly, mae gennych hynny yn ogystal. Ond y pwynt a wnânt—y pwynt a wnânt—yw mai dim ond os yw'r sefydliadau hyn yn cydweithio â'i gilydd y mae'n gweithio. Ac os siaradwch ag unrhyw un yn Ystrad Mynach, ni fyddent yn gweld canolfan ragoriaeth y Dreigiau fel cyfleuster cymunedol; caiff ei weld fel cyfleuster elitaidd, sy'n achosi mwy o broblemau i glwb rygbi Penallta nag y mae'n eu datrys mewn gwirionedd. Felly, gwelir y ganolfan ragoriaeth fel cyfleuster hyfforddi elitaidd, ac mae'n anodd ac yn ddrud iawn i'r gymuned ei defnyddio. Felly mae yna ffyrdd y gall y trefi angor hyn wella mynediad. Yn y ffordd y soniwn am ysgolion cymunedol, wel, pam nad cyrff cyhoeddus sy'n canolbwyntio ar y gymuned a chyrff busnes hefyd? Mae angen iddynt ganolbwyntio ar economi deg a chynhwysol. Felly beth am yr anawsterau? Mae yna bethau cadarnhaol, a dyma rai o'r pethau sy'n anodd am y cysyniad o drefi angor yn fy marn i. Rwy'n credu ei fod yn seiliedig ar un o gysyniadau blaenorol tasglu'r Cymoedd yr ydym yn symud oddi wrtho. Felly beth y mae hynny'n ei olygu ar gyfer meddwl yn strategol? A yw'n golygu y bydd y Gweinidog, felly, yn gwrthod trefi angor? A yw hynny'n golygu, Ddirprwy Weinidog, eich bod yn teimlo bod trefi angor yn gysyniad nad yw'n werth ei ystyried gan Lywodraeth Cymru, neu a oes pethau yno y byddech yn hoffi eu defnyddio? Ond mae'n sicr yn cyd-fynd yn well â barn eich rhagflaenydd ynglŷn â'r hyn y dylai tasglu'r Cymoedd fod—rwy'n credu—na'r hyn rydych chi'n ei weld ydyw ar hyn o bryd. Yn ôl y diffiniad mwyaf llym hefyd—dyma feirniadaeth blwyfol—yr unig dref angor go iawn yn fy etholaeth i yw Ystrad Mynach. Ni fyddai Bargoed, Senghennydd, Nelson, na Chaerffili hyd yn oed—Caerffili ar binsh—yn cael eu categoreiddio fel trefi angor. Mae hynny'n creu rhywfaint o anhawster os ydych yn pryderu am yr effaith luosydd y gallai trefi angor ei chreu. Mae 'A oes effaith luosydd?', yn gwestiwn da iawn i'w ofyn, oherwydd gallai fod yn fantais atgyfnerthol. Mae'r holl wasanaethau hyn gan Ystrad Mynach eisoes; nid yw hynny'n wir am Fargoed, na Senghennydd. Beth a wnawn dros y cymunedau hynny? Mae hi'r un broblem ag a oedd gennyf gyda hybiau strategol. Datblygwyd hybiau strategol mewn cymunedau fel Ystrad Mynach a Chaerffili, lle mae pobl am adeiladu tai, lle mae pobl am dyfu busnesau. Ond beth am y cymunedau nad ydynt yn drefi angor? Sut y gallant gysylltu â'r cymunedau hynny? Sut y gall lluosydd weithio tu hwnt i'r eirlin? Sut y gallwch wneud i hynny ddigwydd? Ac mae hwn yn gwestiwn rwy'n ei ofyn i chi, Weinidog. Mae fy etholaeth yn eithaf llinol—mae'n symud o'r gogledd i'r de. A yw ond yn gweithio—ai dim ond mewn mannau consentrig y gall trefi angor weithio? Mae Ystrad Mynach yn gonsentrig; dyna'r unig dref gonsentrig yn fy nghymuned—mae pob un o'r lleill yn llinol. A yw hynny'n rhan o'r rheswm dros eu llwyddiant? Nawr, nid ydym yn sôn chwaith am greu trefi newydd—rydym yn gweithio gyda'r hyn sydd gennym eisoes. A phe baem yn adeiladu trefi newydd, byddem yn eu hadeiladu fel trefi angor, ond nid ydym yn gwneud hynny; rydym yn gweithio gyda'r hyn sydd gennym, ac efallai nad yw'r hyn sydd gennym yn ei gwneud hi'n hawdd creu hynny. Mae'n galw am seilwaith trafnidiaeth a chysylltedd er mwyn llwyddo. Mae gan Ystrad Mynach hynny, ond rydym ymhell o fod â system trafnidiaeth gyhoeddus effeithiol eto. Y bore yma, roeddwn ar y gwasanaeth trên i Gaerffili. Ynghyd â'r holl deithwyr eraill, roedd yn rhaid i ni ddod oddi ar y trên yng Nghaerffili a mynd ar fws Stagecoach poeth a chwyslyd, ac o ganlyniad, fe gollais bwyllgor—ni chyrhaeddais tan 10:38. Pe bawn yn weithiwr a gyflogid fesul awr neu pe na bai gennyf gyflogwr caredig, buaswn mewn anhawster mawr. Nid ydym wedi sicrhau cysylltedd trafnidiaeth eto. Yn ffodus, cefais faddeuant gan y prif chwip heddiw. A'r peth arall, wrth gwrs, yw bod angen cymhorthdal cyhoeddus mawr ar gyfer hyn—y mathau hyn o weithgarwch trafnidiaeth. Ar hyn o bryd, mae cyngor Caerffili yn talu £81,000 y flwyddyn i'r gwasanaeth bysiau i redeg bws sy'n cysylltu'r Coed-duon â gorsaf Ystrad Mynach, dwyrain a gorllewin. Mae hynny o dan fygythiad oherwydd toriadau llywodraeth leol. A'r peth arall yw ein bod yn tueddu i beidio ag edrych i'r dwyrain a'r gorllewin yn y Cymoedd. Nodir yn yr adroddiad fod Merthyr Tudful yn dref angor bosibl. Gadewch i mi ddweud wrthych, nid wyf ond wedi bod ynghanol tref Merthyr Tudful dair gwaith yn fy mywyd, ac un o'r adegau hynny oedd i ymweld â Dawn Bowden. Nid wyf wedi bod yno. Bûm ym Mharc Cyfarthfa—[Torri ar draws.] Wel, mi wnaf bwynt o fynd yno, gan fy mod yn cael argymhellion o'r llawr. Bûm ym Mharc Cyfarthfa ac rwyf wedi bod yn y parc manwerthu, ond canol tref Merthyr Tudful—ni fûm yno. Nid yw'n rhywbeth rydym yn meddwl amdano yn fy nghymuned i. Nid ydym yn edrych i'r dwyrain a'r gorllewin. Rwyf wedi bod yn Aberdâr ychydig yn fwy aml yn ddiweddar nag yn y gorffennol, ond mater o raid oedd hynny. Felly, beth sy'n cyd-fynd â'r adroddiad hwn? Rwy'n credu bod yn rhaid i ni weithio gyda sut y mae pobl yn byw mewn gwirionedd, nid gyda'r ffordd y mae gweision sifil Llywodraeth Cymru yn meddwl ein bod ni'n byw, ac felly, mae angen iddo gael ei ddatblygu gan y bobl eu hunain. Mae angen ei wneud ar y cyd â phrifddinas-ranbarth Caerdydd, gan weithio tuag at gynllun datblygu strategol, a gafodd ei danseilio, gyda llaw, gan yr argymhelliad ynglŷn â thâl atal tagfeydd ar gyfer Caerdydd. Mae angen inni weithio gyda'n gilydd ac yn gydweithredol arno, ac nid yw hynny'n digwydd. Mae'n dangos rôl werthfawr y byrddau gwasanaethau cyhoeddus. Rwy'n hoffi hynny, ond a wyddoch chi beth? Ar ddiwedd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yr wythnos diwethaf, gofynnais i Aelodau o bob plaid o amgylch y bwrdd faint o ran roeddent wedi'i gael gyda'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus, a dywedasom, 'Beth yw bwrdd gwasanaethau cyhoeddus?' Nid ydym wedi ymwneud â hwy; nid ydym wedi ymgysylltu â nhw. Nid ydynt wedi cysylltu â ni. Russell George, Bethan Sayed—mae hynny'n wir, onid yw? Nid ydym wedi gwneud hynny. Cawsom y drafodaeth honno, ac felly, os yw byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn mynd i chwarae rhan, mae'n rhaid iddynt fod yno'n gwneud hynny, yn ein cynnwys ni ac yn cydweithio. Ar hyn o bryd, nid wyf yn ei weld. A'r cwestiwn arall yw bod Sefydliad Bevan yn cyfeirio at y Bil partneriaeth gymdeithasol, gan gysylltu'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r sector gwirfoddol gyda'i gilydd er y lles cyffredin. Gwych—peth ardderchog—ond beth fydd manylion hynny, Ddirprwy Weinidog? Sut y bydd y Bil partneriaeth gymdeithasol yn galluogi pethau fel trefi angor i ffynnu? Nid wyf yn gwybod; hoffwn gael mwy o fanylion. Dadl yw hon, ac rwyf wedi nodi ambell gwestiwn. Er nad wyf wedi fy argyhoeddi'n llwyr gan y cysyniad o drefi angor, mae egwyddorion sylfaenol cydweithredu cymunedol, cydgynhyrchu ac egwyddorion o'r bôn i'r brig yn rhywbeth rwy'n ei gefnogi ac rwy'n eu cefnogi'n fawr iawn. Ond Ddirprwy Weinidog, y Llywodraeth sydd i ateb y cwestiwn ynglŷn â sut y caiff yr egwyddorion hynny eu gweithredu yn ymarferol. Y cwestiwn mawr rwy'n ei ofyn o ganlyniad i'r ddadl hon, ac o ganlyniad i'r cysyniad o drefi angor yw: ble mae tasglu gweinidogol y Cymoedd yn dymuno mynd gyda hyn? Ac efallai y gallech ateb y cwestiwn yn eich anerchiad. Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ymateb i'r ddadl? Lee Waters. Lee Waters AC: Ie, diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Roedd agoriad Hefin David yn fy atgoffa o'r sylwadau a wnaed am A. J. Cook, yr undebwr llafur—nad oedd yn gwybod beth y byddai'n ei ddweud hyd nes y byddai'n dechrau ei ddweud; ni wyddai beth a ddywedai tra roedd yn ei ddweud, ac ni allai gofio'r hyn a ddywedodd ar ôl iddo orffen ei ddweud. Fe af yn yr ysbryd y mae wedi ei gofyn i mi wneud, ac mae'n bosibl fod hon yn un o'r dadleuon hynny i Aelodau eraill ymyrryd ar y Gweinidog sy'n ymateb, felly rwy'n hapus i dderbyn ymyriadau gan yr ychydig Aelodau sy'n weddill, os ydynt am ymyrryd. Rwy'n gwerthfawrogi'r ysbryd y mae wedi cynnig y pwnc hwn i'w drafod, oherwydd rwy'n credu ei bod yn hen bryd ei drafod. Ac fel mae'n digwydd, rwyf wedi gwahodd Sefydliad Bevan i fynychu cyfarfod nesaf tasglu'r Cymoedd i drafod yr union bapur hwn. Oherwydd, fel yntau, fe'i darllenais ac roedd yn ddiddorol ac roedd llawer ohono'n fy argyhoeddi'n reddfol, er fy mod yn amheus ynghylch rhannau eraill ohono, ac rwy'n awyddus iawn iddynt ddod i mewn, a mynd drwyddo a'i drafod. Rwyf hefyd, gyda llaw, wedi cyhoeddi gwahoddiad parhaol iddynt fynychu holl gyfarfodydd y tasglu yn y dyfodol, ond yn benodol gyda mandad i herio. Nid wyf am eu rhwymo i'r tasglu ac maent yn gyndyn o wneud hynny, ond mae yna eitem sefydlog ar yr agenda iddynt ddod i mewn a chyfrannu os dymunant wneud hynny, oherwydd yn union fel Alun Davies a arweiniai ar hyn yn flaenorol, a Hefin David yn ysbryd ei sylwadau, nid wyf yn credu bod gennym dempled yma, yn hollol. Rydym yn ceisio dod o hyd i ffordd yn erbyn llanw sy'n gwthio trefi i gyfeiriad penodol, llanw sydd wedi eu hamddifadu o lawer o'u diben economaidd. Ac fel y dywedodd Hefin, er bod pobl yn caru eu trefi, yn anffodus mae pobl yn defnyddio llai a llai arnynt, a dyna baradocs trefi a'r rôl a gawn fel gwleidyddion, rwy'n meddwl, o fod eisiau iddynt ffynnu a gwneud llwyth o bethau i wneud iddynt ffynnu. Yr unig ran o nodyn briffio'r gwasanaeth sifil a ddefnyddiaf yw sôn yn fyr iawn am bedwar peth rydym yn eu gwneud i helpu trefi. Mae gennym raglen adfywio £100 miliwn wedi'i thargedu. Mae gennym gronfa adeiladu ar gyfer y dyfodol o £54 miliwn ar gyfer caffael ac ailddatblygu adeiladau segur. Mae gennym gynllun benthyca gwerth £31.5 miliwn ar gyfer canol trefi, ac rydym yn gwario £23.5 miliwn ar ryddhad ardrethi busnes. Felly, rydym yn gwneud llawer. Tybiaf mai'r her o bosibl yw gweld a oes digon o ffocws i hynny, ac a ydym yn glir ynglŷn â beth yw'r weledigaeth. Mae hyn yn aml yn wir am awdurdodau lleol. Yn sicr, mae fy un i yn Sir Gaerfyrddin wedi bod yn dda iawn am adnewyddu hen adeiladau, ond nid yw'n glir i mi beth yw'r strategaeth a'r cynllun ar gyfer canol y dref, ac mae hwnnw'n bwynt y mae'r Ffederasiwn Busnesau Bach wedi'i wneud yn eu gwaith. Felly, nid wyf yn credu bod gennym ni i gyd ateb clir ar gyfer hyn eto, ond mae'r her yn un gywir, ac rwyf am barhau i drafod sut i siapio dull y Llywodraeth o fynd ati er mwyn ceisio gwneud hynny mor gywir ag y gallwn. Os nad oes ots ganddo i mi ddweud hynny, credaf ei fod yn gor-ddweudy gwahaniaethau rhyngof ac Alun Davies i raddau ar rôl yr hybiau strategol, a pha un a yw'r cysyniad blaenorol yn wahanol i'r un presennol a sut y mae hynny'n cyd-fynd â chysyniad Sefydliad Bevan. Credaf fod rhywfaint o wirionedd yn hynny, yn yr ystyr mai cyfrwng ariannu oedd yr hybiau strategol yn y fersiwn wreiddiol ac nad ydynt yn gyfrwng ariannu bellach, ond maent yn dal i fod yn rhan bwysig iawn o waith y tasglu a gwaith y Llywodraeth am eu bod yn rhoi ffocws gofodol i'n gwaith. Alun Davies AC: A wnaiff y Gweinidog dderbyn ymyriad? Lee Waters AC: Rwy'n hapus i dderbyn ymyriad. Alun Davies AC: Gan mai fi oedd y Gweinidog a ddyfeisiodd y pethau hyn a'u bod wedi cael eu trafod nifer o weithiau, efallai y byddai'n ddefnyddiol i mi ddweud beth oedd y tu ôl iddo ar y pryd. Nid oedd yr hybiau strategol erioed yn ffordd o wneud dim heblaw canolbwyntio buddsoddiad mewn mannau penodol, oherwydd y feirniadaeth a glywsom a'r feirniadaeth a wnaed—yn deg, rwy'n credu, yn y gorffennol—oedd mai adnoddau cyfyngedig oedd gan Lywodraeth Cymru a'i bod wedi'u rhannu mor denau fel nad oedd iddynt effaith wirioneddol. A'r ystyriaeth oedd os ydym am gael effaith ddifrifol a chyflawni'r targedau a osodwyd ar ein cyfer dros dymor o bedair neu bum mlynedd, roedd hynny'n galw ac yn gofyn am fuddsoddi mewn lleoedd penodol. Ond defnyddiasom y term 'hybiau' yn rhannol oherwydd bod pawb arall yn defnyddio'r term ac yn ail, am ein bod wedi ceisio osgoi'r ddadl ar drefi angor. Er enghraifft, yn fy etholaeth i, byddai hynny'n golygu dweud wrth Lynebwy, 'Rydych yn cael yr holl fuddsoddiad hwn', a dweud wrth Dredegar yn yr un modd, wrth Fryn-mawr, wrth Nant-y-glo, wrth Flaenau, wrth Abertyleri, 'Nid ydych yn cael y buddsoddiad hwnnw.' Ac roedd yn bwysig felly i ni ddweud ein bod am ganolbwyntio buddsoddiad o gwmpas mannau penodol sy'n hybiau trafnidiaeth y dyfodol, a phopeth, ond a fyddai wedyn yn arwain at fuddsoddiad pellach. Ni chaent eu gweld fel holl hanfod a diben y polisi. Lee Waters AC: Rwy'n cytuno â hynny ac wrth gwrs, roedd yna fethodoleg yn sail i'r dewis. Alun Davies AC: Oedd, yn wir. Lee Waters AC: Felly, nid ymarferiad cefn pecyn sigarennau oedd hwn; gwnaed llawer o waith ar eu dewis. Rwy'n credu bod Alun Davies wedi taro'r hoelen ar ei phen o ran hanfod y broblem gyda'r hybiau strategol fel rwyf wedi eu gweld, ac mae hefyd yn berthnasol i'r trefi angor. Nid y cysyniad sy'n anghywir; plwyfoldeb cymunedol yw'r her, oherwydd faint o bobl ydych chi'n penderfynu eu cynnwys? Pan drosglwyddwyd y briff hwn i mi, dywedais wrth y gweision sifil, 'Pam fod gennym saith hyb strategol? Mae hynny i'w weld yn llawer', ac atebodd y gwas sifil, 'Roeddem yn eithaf balch ein bod wedi'i gadw i gyn lleied â saith.' A dyna'r her a osodais i Sefydliad Bevan wrth noddi'r syniad hwn oherwydd nid wyf yn gwrthwynebu'r egwyddor, ond sut ydych chi'n mynd i atal—? Pe baech yn gallu penderfynu ar dri byddai grym i'r ddadl, ond nid ydym byth yn mynd i benderfynu ar dri, felly a yw'n werth y drafferth mewn gwirionedd? Teimlaf fod Alun Davies am ymyrryd unwaith eto. Alun Davies AC: Buaswn yn dweud nad oedd y fersiwn gyntaf yn cynnwys unrhyw hybiau strategol yn y Cymoedd chwaith, felly roedd yn broses hwy nag y byddai pobl yn ei feddwl o bosibl. Lee Waters AC: Yn hollol. Ac fel y dywedais, rydym yn cadw hybiau strategol fel offeryn cynllunio gofodol. Gyda Chaerffili er enghraifft, gwnaed llawer o waith, a buddsoddwyd llawer, ym mhrif gynllun Caerffili na fyddai wedi bodoli pe na bai cysyniad yr hybiau strategol wedi bod yno. [Torri ar draws.] Rwy'n hapus i ildio. Hefin David AC: Cefais gyfarfod gyda phrif weithredwr cyngor Caerffili, ac rydych chi'n hollol gywir, y rheswm pam yr aethant am brif gynllun Caerffili oedd oherwydd yr hybiau strategol. Y broblem yw bod Senghennydd wedi'i hepgor ynddo. Felly cafodd hynny yr union effaith honno. Lee Waters AC: Do, a dyma ni'n dod at y broblem eto. Felly, beth a wnawn ynglŷn â hyn? Soniaf yn fras am hyn fel prif bwynt olaf: y byrddau gwasanaethau cyhoeddus a'r rôl sydd ganddynt, a sut y mae cysyniad yr economi sylfaenol yn cyd-fynd â hynny. Dylwn gydnabod yn briodol fod yr economi sylfaenol yn fudiad cefnogwyr roedd Hefin David, Vikki Howells, Jeremy Miles a Jenny Rathbone ar ein meinciau ni yn rhan ohono, ac roedd Adam Price a David Melding ar y meinciau eraill yn rhan ohono hefyd. Roedd yn fudiad trawsbleidiol, ac mae'n bwysig ei fod yn parhau felly. Fel y gwyddoch, rydym wedi treblu maint cronfa her yr economi sylfaenol, ond y wir wobr yw lledaenu a thyfu arferion da, a dyna lle mae gan y byrddau gwasanaethau cyhoeddus botensial i gyflawni eu diben. Buaswn yn cytuno â'i sylwadau nad oes llawer yn eu deall hyd yn hyn, a thu hwnt i gynhyrchu strategaethau, nid ydynt eu hunain wedi cael effaith mewn gwirionedd. Felly, mae fy her i'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn dechrau nawr, gan ein bod ar fin penodi partner i weithio gyda phedwar clwstwr ohonynt i ledaenu ac i rannu model caffael Preston ac yna, fel y dengys y cronfeydd arbrofol—ac roeddwn yn swyddfeydd United Welsh yn etholaeth Hefin David ddydd Llun i gyfarfod â phrosiectau'r Cymoedd y gronfa arbrofol—rydym yn awyddus i ledaenu a thyfu'r rheini'n gyflym ar draws y byrddau gwasanaethau cyhoeddus. Ac os cawn hynny'n iawn, yn enwedig o ran caffael, bydd budd y gwariant cyhoeddus, sy'n £6 biliwn y flwyddyn yng Nghymru, yn llifo i'r cymunedau yn ei etholaeth sydd ar hyn o bryd yn teimlo eu bod yn cael eu hesgeuluso. Ac yna, rwy'n meddwl, bydd pa un a ydym yn eu galw'n 'drefi angor' a'r nifer sydd gennym yn faterion bron yn ymylol. Y pwynt yw: sut y gallwn feithrin ac annog gwead ein cymunedau sydd wedi teimlo eu bod wedi'u hesgeuluso, ac am reswm da? A dyna yw holl ddiben ein dull o weithredu ar yr economi bob dydd a rôl byrddau gwasanaethau cyhoeddus wrth wneud hynny. Pa un a allwn ei wneud ac a allwn ei wneud yn ddigon cyflym i ddangos effaith, wel cawn weld am hynny, ond rwy'n sicr yn canolbwyntio fy egni ar geisio gwneud hynny. Ond mae yna gryn rwystredigaethau, rhwystrau ac oedi ar y daith. Hoffwn orffen ar y pwynt a wnaeth Hefin David ynglŷn â'r tâl atal tagfeydd. Rwy'n credu bod y pwynt a wnaeth am gysylltedd trafnidiaeth yn un allweddol ar gyfer y modd y mae pobl yn teimlo eu bod wedi'u cysylltu â'u trefi, a'r cyfyng-gyngor y nododd fod ei awdurdod lleol ei hun yn ei wynebu wrth ymdrechu i gynnal y cymorthdaliadau i wasanaethau cymdeithasol sy'n angenrheidiol ond nad ydynt yn fasnachol hyfyw. Mae ein model bysiau preifat wedi torri, ac rydym yn ceisio ei ddal at ei gilydd ac mae'n mynd yn anos bob blwyddyn. Er clod i arweinyddiaeth cyngor Caerdydd, maent wedi edrych ar dagfeydd cynyddol yn eu dinas, sgil-effaith y model crynodref a ganmolwyd gennym yn y lle hwn ers amser maith, sef yn y bôn fod pobl yn gweithio yng Nghaerdydd ond yn byw mewn mannau eraill ac rydym yn datblygu'r ddinas. Y broblem gyda hynny, wrth gwrs, yw bod pobl yn teithio pellteroedd i mewn i'r ddinas i gyrraedd y gwaith, ac mae hynny wedi arwain at brifddinas brysur gyda lefelau peryglus a marwol o lygredd aer. A rhaid gwneud rhywbeth am hynny. Nid yw edrych ar yr ochr gyflenwi o gynhyrchu mwy byth o gapasiti'n gweithio. [Torri ar draws.] Rwyf am orffen y pwynt a'ch gadael i mewn wedyn. I fod yn deg â hwy, maent yn dechrau'r sgwrs i fynd i'r afael ag ochr y galw. Hefin David AC: Ond rwy'n meddwl mai'r broblem gyda'u cynnig ar hyn o bryd yw nad oes ffordd arall i bobl fynd i mewn i'r ddinas. Mae'r trenau'n llawn, mae'r bysiau'n rhedeg yn llawer rhy hwyr ar gyfer y gwaith. Cefais broblemau enfawr y bore yma. Bydd y bobl yn dal i deithio yn yr un niferoedd yn union, byddant yn talu'r tâl, dyna i gyd. Mae'n dreth, fel y mae'r cynigion wedi'u gosod ar hyn o bryd, hyd nes y gallwch sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn gwella'n sylweddol a bod gan bobl hyder ynddi. Lee Waters AC: Nid wyf yn cymryd y cynigion y mae Caerdydd wedi'u cyflwyno fel y gair olaf ar y mater. Rwy'n credu mai dechrau sgwrs ydynt. Alun Davies AC: A wnewch chi dderbyn ymyriad? Lee Waters AC: Nid wyf wedi gorffen y pwynt, ond os oes gennyf amser, rwy'n hapus i wneud hynny. Maent wedi dweud—. Mae'n ddrwg gennyf, Ddirprwy Lywydd, a ydych yn ceisio rhoi arweiniad imi? Mae gennych amser. Mae gennych hyd at 15 munud. Lee Waters AC: Gwych. Ond ar ôl 15 munud, bydd y meic yn diffodd. Lee Waters AC: A bydd pawb yn mynd adref. Gwych. Gadewch i mi ymateb yn fyr i bwynt Hefin cyn gofyn i Alun ddod i mewn. Rydym ar ddechrau sgwrs. Ni chânt eu cyflwyno am bedair blynedd. Mae rhesymau ymarferol dros wneud hyn yn y ffordd y maent wedi ei wneud, gan fod y pwyntiau mynediad i'r ddinas yn llai niferus, a gallwch osod y seilwaith i nodi rhifau ceir, ond pe baech yn ei gymhwyso i holl drigolion Caerdydd, byddai angen camerâu ym mhob rhan o'r ddinas a bydd hynny'n anodd ac yn ddrud i'w wneud. Felly gallaf ddeall yn ymarferol pam eu bod wedi ei wneud yn y ffordd hon. Ond ymhen pedair blynedd, erbyn i hyn gael ei gyflwyno, os caiff y Bil llywodraeth leol y mae Julie James yn ei gyflwyno ei gymeradwyo gan y Senedd hon, bydd trafnidiaeth yn cael ei rheoli ar sail ranbarthol. Nid yw'n wir y gall y dinas-ranbarth gyflwyno cynllun trafnidiaeth sy'n ymwneud â Chaerdydd yn unig. Bydd arweinwyr yr awdurdodau lleol o amgylch y bwrdd hwnnw'n mynnu dull gweithredu ar draws y rhanbarth cyfan. Felly, rwy'n credu mai dechrau sgwrs yw hyn. Bydd yr holl awdurdodau lleol dros y pedair blynedd nesaf yn gallu siapio hynny, fel y gall pobl Caerdydd, yn wir, drwy etholiadau llywodraeth leol, ac rwy'n tybio y bydd y cynigion a fydd gennym yn y diwedd yn wahanol i'r cynigion a oedd gennym ar y dechrau. Ond rwy'n credu y dylem roi sicrwydd a hyder a chefnogaeth i arweinyddiaeth Caerdydd am fod yn barod i fynd i'r afael â mater anodd rheoli galw, oherwydd nid yw mynd i'r afael â chyflenwad yn unig yn mynd i weithio. Rwy'n hapus i ildio i Alun Davies. Alun Davies AC: Rwy'n ddiolchgar i chi, Weinidog. Rwy'n dod i mewn i gefnogi'r sylwadau a wnaethpwyd gan fy nghyfaill o Gaerffili, oherwydd mae'n creu amgylchedd 'ni a nhw' rhwng y gefnwlad a dinas Caerdydd, a'r un peth y mae hanes wedi ei ddysgu inni yw, os llwydda Caerdydd, bydd y Cymoedd yn llwyddo, ac os llwydda'r Cymoedd, mae Caerdydd yn llwyddo. Ni fydd gwahanu a rhannu yn galluogi'r naill na'r llall ohonom i lwyddo. Rwy'n croesawu'r Papur Gwyn gan y cyngor yng Nghaerdydd. Hoffwn pe bai gan awdurdodau lleol eraill yr un gallu i ddatblygu cynigion tebyg. Ond mae'r pwynt a wnaed am dreth ar y Cymoedd yn un da, ac ni fydd yn dderbyniol i'r Aelodau sy'n cynrychioli etholaethau'r Cymoedd canol a dwyreiniol. Ond buaswn yn dweud wrthych, Weinidog, fy mod yn cymeradwyo byrdwn eich dadl, ond byddai'r pwynt a wnewch am fysiau yn un gwell pe na bai Llywodraeth Cymru yn bwriadu torri'r cymhorthdal presennol i fysiau yn y gyllideb bresennol. Yr hyn sydd angen inni ei wneud yn sicr yw cael y ddeddfwriaeth rydych wedi'i thrafod a dadlau yn ei chylch, ac rwy'n hapus iawn i gefnogi hynny, ond yn y cyfamser, mae angen inni gynnal a chefnogi'r gwasanaethau bysiau sydd gennym ar hyn o bryd. Lee Waters AC: Ar y pwynt am raniadau â'r Cymoedd, credaf fod Ken Skates, Gweinidog yr economi, wedi gwneud y pwynt yn ei lythyr at gyngor Caerdydd, sydd wedi'i ryddhau, fod yn rhaid gwneud hyn ar sail ranbarthol. Fel rwyf newydd ei ddweud, rwy'n meddwl mai dyna fydd yn digwydd am nifer o resymau. Ar y pwynt am wasanaethau bysiau, rwy'n cefnogi trafnidiaeth gynaliadwy yn frwd. Mae gennym gyfres o broblemau ymarferol, yn enwedig setliad cyllideb anodd iawn a fu'n boenus i'w gytuno, sydd wedi golygu rhewi'r grant cymorth—nid ei dorri. Rwy'n derbyn bod yr effaith mewn termau real yr un fath fwy neu lai, ond mae hwnnw wedi bod yn setliad anodd iawn ac mae gennym broblem ymarferol gan fod y cyllid refeniw sydd ar gael i ni—a chyllid refeniw yw'r hyn sy'n rhedeg gwasanaethau bysiau—ym maes trafnidiaeth yn gyfyngedig iawn, a'r broblem sydd gennym oll os ydym yn ddiffuant ynglŷn â mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd yw bod angen inni fynd i'r afael â newid ymddygiad. Mae newid ymddygiad yn ymwneud â phobl, mae'n ymwneud â gwasanaethau, mae'n ymwneud â chyllid refeniw. Mae problem strwythurol gennym yng nghyllideb Llywodraeth Cymru na all yr un Gweinidog ei datrys yn hawdd, oherwydd er mwyn sicrhau newid moddol mae angen mwy o arian refeniw arnom, ac nid oes gennym hynny. Mae'n haws dod o hyd i gyllid ar gyfer cyfalaf. Felly, mae hynny'n rhywbeth y bydd yn rhaid i bawb ohonom ei wynebu wrth i strategaeth drafnidiaeth Cymru gael ei chyhoeddi eleni, ac wrth i ni fwrw ymlaen â'n hymrwymiad i newid moddol, ac mae'n rhaid gwireddu hynny er mwyn cyflawni'r weledigaeth a nodwyd gan Hefin David ar gyfer adnewyddu ac ailfywiogi ein trefi. Rwy'n addo parhau i drafod hyn gyda'r holl Aelodau. Da iawn. Diolch yn fawr iawn. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Daeth y cyfarfod i ben am 18:59. QNR Cwestiynau i Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit Huw Irranca-Davies: Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r risgiau i'r trefniadau datganoli yng Nghymru yn sgil Bil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael)? Jeremy Miles: The principal risk is that the Government of Wales Act could be amended using subordinate legislation powers in the Bill. We have sought to protect the devolution settlement in our discussions with the UK Government and in the amendments we are seeking in the House of Lords. Paul Davies: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i baratoi ar gyfer Brexit? Jeremy Miles: The Welsh Government continues to work hard to prepare for the UK's exit from the EU. We are ready to do all we can to protect the economic, social and environmental interests of Wales, and the whole UK, as the UK enters negotiations with the EU on our future relationship. Cwestiynau i Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Jack Sargeant: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi economi gogledd-ddwyrain Cymru? Ken Skates: We are supporting the north-east Wales economy in many ways, as outlined in the economic action plan. A recent example is the creation of a further 40 jobs at KK Fine Foods in Deeside, thanks to investment of just over £0.5 million through our economy futures fund. Bethan Sayed: A wnaiff y Gweinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i wella trafnidiaeth gyhoeddus yng Ngorllewin De Cymru? Ken Skates: The Welsh Government will invest in all modes to deliver the modern, high quality transport system that is fundamental to achieving our sustainability and climate change objectives and delivering economic growth across Wales, including South Wales West, connecting people to jobs and services, and businesses to markets. Llyr Gruffydd: Pa effaith y bydd buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn trafnidiaeth ar gyfer 2020/2021 yn ei chael ar yr argyfwng hinsawdd? Ken Skates: Mae 'Cymru Carbon Isel' yn cynnwys targed sy'n pennu y bydd allyriadau yn sgil trafnidiaeth 11 y cant yn is nag oeddent yn 2016 erbyn 2020. Mae angen newid radical o ran y ffordd rydym yn teithio er mwyn mynd i’r afael â'r argyfwng hinsawdd. Rydym yn neilltuo £74 miliwn yn ychwanegol ar gyfer mesurau datgarboneiddio yn 2020-21, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol. Jenny Rathbone: Pa flaenoriaeth y mae'r Gweinidog yn ei rhoi i drafnidiaeth gyhoeddus o fewn cyllideb yr economi a thrafnidiaeth? Ken Skates: Public transport is a top priority to connect communities across Wales as well as tackling climate change. We are investing in rail and bus services with an additional £29 million to encourage low-emission vehicles, providing increased greener public transport for the future.
uk-hansard-senedd-cy
senedd2020-01-22
2024-06-01T00:00:00
{ "year": "2020", "language": "cy", "license": "Open Parliament Licence - https://www.parliament.uk/site-information/copyright-parliament/open-parliament-licence/" }
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. Galw’r Cynulliad Cenedlaethol i drefn. 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni’r prynhawn yma yw’r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. A’r cwestiwn cyntaf, Angela Burns. <p>Bagloriaeth Cymru</p> Angela Burns AC: 1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y broses o gyflwyno Bagloriaeth Cymru? OAQ(5)0117(EDU) Kirsty Williams AC: Diolch, Angela. Cyflwynwyd bagloriaeth Cymru newydd, fwy trylwyr, ym mis Medi 2015, a chredaf yn gryf y bydd dysgwyr yng Nghymru yn elwa o’i hastudio. Rwy’n dal i ddisgwyl i bob ysgol yng Nghymru ddarparu bagloriaeth Cymru yng nghyfnod allweddol 4 ac i bob sefydliad ôl-16 weithio tuag at ei rhoi ar waith yn llawn erbyn 2019-20. Angela Burns AC: Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Ond mae gennyf bryder o ran y modd y caiff bagloriaeth Cymru ei rhoi ar waith, a hoffwn eich barn ynglŷn â hynny. Mae gennym unigolion sydd ar ben uchel-weithredol y sbectrwm awtistig, neu sydd ag anghenion dysgu eraill, sydd er hynny’n gallu ymdopi â phynciau academaidd. Fodd bynnag, mae’r unigolion hyn yn aml yn ei chael yn anodd ymgymryd ag elfen her sgiliau’r fagloriaeth, lle rhoddir pwyslais ar heriau unigol a lle mae’n rhaid i ddysgwyr weithio fel tîm. Mae gennyf enghreifftiau o sefyllfaoedd lle mae dysgwyr yn dechrau dioddef o salwch meddwl neu’n gwrthod mynd i’r ysgol oherwydd y straen o ymdopi â sefyllfa o’r fath. Yn wir, bu tad un o fy etholwyr ar wyliadwriaeth hunanladdiad gan ei fod mor bryderus am ei blentyn.Ond mae ysgolion yn bod yn llym ac yn gwrthod eithrio dysgwyr rhag gwneud y fagloriaeth, er bod y canllawiau cyfredol yn dweud nad yw’n ofyniad statudol. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n amau bod yr ysgolion yn bod yn llym fel hyn oherwydd, ac rwy’n dyfynnu canllawiau Estyn,‘bydd cyflawni Bagloriaeth Cymru yn un o fesurau perfformiad ysgolion yng nghyfnod allweddol 4 a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru i adrodd ar safonau ysgol o 2018 ymlaen.’Sut y byddwch yn sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion dysgwyr unigol, a dyhead ysgolion i wneud yn siŵr nad ydynt ar ei hôl hi o ran safonau ysgolion? Kirsty Williams AC: Diolch, Angela. Yn gyntaf, a gaf fi ddweud fy mod yn credu ei bod yn bwysig i bob dysgwr gael cyfle, yn y cyfnod ôl-16, i ddewis cyrsiau sy’n adlewyrchu ystod eang o ddiddordebau a galluoedd ac sy’n berthnasol i amgylchiadau unigol? Nawr, yn unol ag argymhellion yr adolygiad o gymwysterau, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i annog pob ysgol i fabwysiadu Bagloriaeth Cymru. Ond fel roeddech yn hollol iawn i ddweud y prynhawn yma, nid yw’n ofyniad statudol i ddysgwyr ei ddilyn, ac nid yw’n orfodol i ganolfannau ei ddarparu. Er ein bod yn annog ysgolion a cholegau i gyflwyno bagloriaeth Cymru oherwydd ei fudd i’w myfyrwyr, gall dysgwyr gael eu heithrio rhag y pwnc ar eu cais. O ran mesurau atebolrwydd arbenigol, rwyf wedi ymrwymo i adolygu mesurau atebolrwydd arbenigol er mwyn inni gael adlewyrchiad cywirach a gwell o safonau ysgolion, ac mae swyddogion wrthi’n gweithio ar hyn. Jenny Rathbone AC: Rwy’n falch o glywed, Ysgrifennydd y Cabinet, nad yw’n rhwymedigaeth ar y myfyriwr i lynu wrth fagloriaeth Cymru. Rwy’n deall y dylai fod yn rhwymedigaeth ar y darparwr addysg i roi cyfleoedd i fyfyrwyr, a chredaf fod yr agwedd wirfoddoli cymunedol a’r agwedd gydnerthedd emosiynol yn rhannau pwysig iawn o addysg unrhyw un.Ond rwyf wedi derbyn gohebiaeth gan bobl yn mynegi pryder eu bod, drwy gael eu gorfodi i wneud bagloriaeth Cymru, yn gorfod cyfyngu ar eu dewisiadau o ran yr hyn y byddent yn dewis ei astudio. A chredaf fod hwnnw’n achos pryder arbennig yng nghyfnod allweddol 5, pan fo myfyrwyr o bosibl yn cystadlu i gael eu derbyn i rai o’r prifysgolion mwyaf cystadleuol. Bydd penderfyniadau’n cael eu gwneud ar sail Safon Uwch, ac mae lleoedd fel Caergrawnt a Warwick yn gofyn am dair Safon Uwch, ac nid yw bagloriaeth Cymru yn cael ei hystyried. Felly, credaf ei bod yn eithaf pwysig nad ydym yn gorfodi myfyrwyr, yng nghyfnod allweddol 5 yn arbennig, pan nad ydynt bellach mewn addysg orfodol, i’w wneud, ac y dylai fod lle yn y system, yng nghyfnod allweddol 4, i alluogi myfyrwyr y byddai’n well ganddynt ddilyn opsiwn arall i optio allan. A thybed a allwch roi arweiniad ynglŷn ag a yw hynny’n bosibl mewn gwirionedd. Kirsty Williams AC: A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei chwestiwn a’i sylwadau? Ond gadewch i mi fod yn gwbl glir, bwriad bagloriaeth Cymru yw ceisio darparu ehangder ychwanegol i ddysg pobl ifanc yng Nghymru a’u cynorthwyo i gaffael sgiliau, sy’n ddymunol, yn fy marn i, i brifysgolion ac i gyflogwyr. Nawr, mae hyblygrwydd y cydrannau yn caniatáu i ganolfannau ddarparu ar gyfer anghenion unigol y myfyrwyr, gan roi platfform i fyfyrwyr archwilio a chynyddu eu gwybodaeth fanwl a phwnc-benodol. Mewn perthynas â sefydliadau’n derbyn bagloriaeth Cymru, gadewch i mi fod yn glir fod y mwyafrif helaeth o brifysgolion yn derbyn bagloriaeth Cymru. Mae Cymwysterau Cymru wedi dynodi pwyntiau Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau iddi oherwydd y safonau uchel, trylwyr sydd ynghlwm wrthi, ac rwy’n gyson yn cyfarfod â phobl ifanc a rhieni sy’n dweud wrthyf fod eu plentyn wedi sicrhau lle mewn prifysgol uchel ei pharch ar sail cymhwyster Bagloriaeth Cymru. Er enghraifft, merch ifanc a fu ar brofiad gwaith gyda mi a fydd yn dechrau ar ei chwrs gradd yng Nghaerdydd ym mis Medi. Yr wythnos hon, dywedodd Tudur Owen, y digrifwr Cymraeg wrthyf yn y gwobrau addysgu fod ei fab wedi ennill ei le ym Mhrifysgol Bryste y llynedd ar sail ei gymhwyster bagloriaeth Cymru. Gadewch i ni fod yn gwbl glir: mae’r cymhwyster yn ychwanegu gwerth i fyfyrwyr, ac nid yw’n tynnu dim oddi ar eu cyfleoedd i astudio yn y prifysgolion uchaf eu parch, boed yma yng Nghymru neu yn unrhyw le arall. <p>Plant o Deuluoedd sydd yn y Lluoedd Arfog</p> Huw Irranca-Davies AC: 2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth addysgol sy’n cael ei ddarparu i blant o deuluoedd sydd yn y lluoedd arfog yng Nghymru? OAQ(5)0113(EDU) Kirsty Williams AC: Diolch, Huw. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod yr holl blant a phobl ifanc, gan gynnwys y rheini o deuluoedd sydd yn y lluoedd arfog, yn cael eu cynorthwyo i gyflawni eu potensial llawn, beth bynnag fo’u cefndiroedd neu eu hamgylchiadau personol. Huw Irranca-Davies AC: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hateb. Ysgrifennydd y Cabinet, fel cefnogwr ac eiriolwr hirdymor dros aelodau o’r lluoedd arfog a’u teuluoedd yng Nghymru, fe fyddwch yn ymwybodol iawn o’r cyfraniad enfawr y mae ein lluoedd arfog yn ei wneud i’n cymunedau. Mae amcangyfrifon yn awgrymu bod cymuned y lluoedd arfog yng Nghymru yn cynnwys rhywle rhwng 250,000 a 350,000 o bobl, a bydd cyfran o’r rhain, wrth gwrs, yn aelodau o’r teulu ac yn blant dibynnol. Nawr, mae rhai ysgolion yng Nghymru yn gwneud gwaith gwych yn y maes hwn, ynghyd â gwaith y prosiect Cynorthwyo Plant Milwyr yn Ysgolion Cymru, Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a phartneriaid megis y Lleng Brydeinig Frenhinol. Yn wir, y llynedd, daeth dros £650,000 i Gymru drwy gronfa cymorth addysg y Weinyddiaeth Amddiffyn i gefnogi ysgolion sy’n cynnwys plant y lluoedd arfog, er fy mod yn deall y gallai’r cyllid hwnnw ddod i ben yn 2018.Nawr, o ystyried bod o leiaf 2,500 o blant y lluoedd arfog mewn ysgolion ledled Cymru, a gaf fi i ofyn pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i nodi’r plant hyn drwy’r cyfrifiad ysgolion, er enghraifft, ac yn bwysig, i nodi a chynorthwyo gydag unrhyw anghenion ychwanegol sydd ganddynt, er enghraifft drwy gyllid uniongyrchol i ysgolion? Kirsty Williams AC: Wel, Huw, yn gyntaf, a gaf fi ddiolch i chi am gydnabod y gwaith da a wneir mewn llawer o’n hysgolion yng Nghymru i ddarparu’r gefnogaeth angenrheidiol ar gyfer plant sydd â theulu yn ein lluoedd arfog? Ac rwyf hefyd yn cymeradwyo gwaith nifer o grwpiau, gan gynnwys CLlLC a’r Lleng Brydeinig, yn gallu darparu ystod o adnoddau a chyfleoedd dysgu proffesiynol i athrawon er mwyn iddynt allu cefnogi’r plant hyn yn well. Yn ddiweddar, rwyf wedi ysgrifennu at nifer o ysgolion yng Nghymru, gan gynnwys Ysgol Llanilltud Fawr, ysgol Prendergast yn Sir Benfro, ac yn wir, tair yn fy etholaeth fy hun yn Aberhonddu, sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn yn denu adnoddau ychwanegol i’w helpu i ddiwallu anghenion eu plant o deuluoedd sydd yn y lluoedd arfog.Rwy’n awyddus iawn, gyda swyddogion, i ddeall anghenion y dysgwyr penodol hyn yn well, er mwyn canfod a oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu fod eu cyrhaeddiad, o ganlyniad i berthyn i deulu sydd yn y lluoedd arfog, yn cael ei effeithio mewn unrhyw ffordd. Ceir data sy’n awgrymu nad yw hynny’n wir, er bod rhai materion yn codi mewn perthynas â chamu ymlaen i addysg uwch. Ond rwy’n ymwybodol iawn, o ran plant personél y lluoedd arfog, yn enwedig y rheini sydd ar wasanaeth gweithredol, y gall fod yn amser pryderus iawn iddynt ac y gall beri straen. Felly, mae angen i ni edrych nid yn unig ar gyrhaeddiad ond ar faterion sy’n ymwneud â lles. Byddaf yn parhau i ofyn i fy swyddogion weithio i nodi’r dystiolaeth ynglŷn ag a fyddai angen i ni ystyried cyllid ychwanegol, a byddaf yn ysgrifennu at y Weinyddiaeth Amddiffyn i bwyso arnynt i ystyried peidio â dirwyn eu cylch ariannu presennol i ben, ac i ddweud bod angen iddynt ystyried effaith eu dewisiadau ar wasanaethau datganoledig, a byddwn yn eu hannog i barhau â’r cyllid hwnnw. Nick Ramsay AC: Ysgrifennydd y Cabinet, cwmpasodd Huw Irranca-Davies y rhan fwyaf o bethau yn ei gwestiwn ardderchog i chi, a rhoesoch ateb cyflawn. Credaf y byddem oll yn cytuno bod pob plentyn yn haeddu’r dechrau gorau mewn bywyd, ond i rai pobl ifanc, mae eu cefndiroedd a phroffesiynau eu rhieni yn gwneud hynny’n anodd, ac mae hynny’n arbennig o wir mewn perthynas â phlant ein lluoedd arfog. Rydych wedi crybwyll data’r cyfrifiad a’r mesurau rydych yn eu rhoi ar waith ar hyn o bryd mewn ysgolion i geisio nodi a chynorthwyo’r plant hyn. Gan symud ymlaen o hynny, pa asesiad a wnaethoch, neu y byddwch yn ei wneud, ynglŷn â chynnydd yn y dyfodol a thueddiadau’r cynnydd yn y dyfodol yn nifer y plant o deuluoedd ein lluoedd arfog yn ysgolion Cymru, er mwyn i chi allu gwneud cynlluniau wrth gefn digonol i’w cefnogi yn y ffordd orau dros y pum mlynedd nesaf, neu weddill tymor y Cynulliad? Kirsty Williams AC: Diolch, Nick. Mae’r rhaglen lywodraethu yn ymrwymo i ddarparu cymorth a gwasanaethau yn unol â chyfamod y lluoedd arfog, ac felly, bydd yr un safonau a mynediad at addysg yn berthnasol i blant aelodau’r lluoedd arfog ag i holl ddinasyddion eraill y DU yn yr ardal lle maent yn byw. Mae data’n parhau i fod yn broblem, yma yng Nghymru ac yn genedlaethol. Rwy’n siŵr y bydd llawer o Aelodau’r Cynulliad wedi manteisio ar y cyfle ddoe i siarad ag aelodau o’r lleng Brydeinig a fu yma’n hyrwyddo eu hymgyrch, o ran cynnwys cwestiynau penodol yng nghyfrifiad nesaf Llywodraeth San Steffan fel y gallwn gael gwell dealltwriaeth o natur y peth. Fel arfer, yng Nghymru, mae diffyg data yn parhau i fod yn broblem ac rwy’n parhau, gyda fy swyddogion, i archwilio’r ffordd orau o nodi nifer y plant dan sylw, lle maent, a’r ffordd fwyaf effeithlon a llwyddiannus y gallwn eu cefnogi. <p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p> Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau i’r Ysgrifennydd Cabinet. Llefarydd UKIP, Michelle Brown. Michelle Brown AC: Diolch, Llywydd. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno ag UKIP y dylai rhieni allu sbarduno arolygiad Estyn o ysgol eu plentyn os oes ganddynt bryderon penodol ynglŷn â’r ysgol? Kirsty Williams AC: Nac ydw. Mae Estyn, yr arolygiaeth annibynnol, yn penderfynu ar eu rhaglen eu hunain o gyfundrefnau arolygu, ac fel arolygiaeth annibynnol, sy’n rhydd o unrhyw ymyrraeth gan y Llywodraeth, eu penderfyniad hwy yw nodi’r ffordd orau i fynd ati i arolygu ysgolion. Michelle Brown AC: Diolch am eich ateb. Nodaf nad yw Estyn yn edrych ar gyfraddau gadael ysgolion nac ar farn rhieni, gan fethu arwyddion posibl o broblem yn yr ysgol. Os yw rhiant yn tynnu plentyn o’r ysgol oherwydd problem gyda’r ysgol, gallai hynny fod o ganlyniad i bryderon ynglŷn ag addysgu gwael neu oherwydd rhywbeth roeddent eisoes wedi ceisio’i ddatrys gyda’r ysgol. Hefyd, gallai fod yn syml am eu bod wedi symud tŷ, wrth gwrs. Felly, dylid gofyn i rieni sy’n cymryd y cam o dynnu plentyn o’r ysgol o ganlyniad i faterion penodol pam eu bod yn symud y plentyn fel y gellir tynnu sylw at broblemau. Felly, onid ydych yn credu y dylai Estyn gynnwys hynny yn eu hadroddiad? Kirsty Williams AC: Gadewch i ni fod yn glir: mae Estyn o ddifrif ynglŷn â materion ysgol sy’n ymwneud â phresenoldeb ac maent yn eu hystyried yn eu hadroddiadau. Gwyddom mai lefelau uchel o bresenoldeb, a phresenoldeb rheolaidd, yw’r pethau gorau y gall rhiant eu gwneud i wella a chefnogi cynnydd addysgol eu plant.O ran y rhesymau posibl pam fod plant yn symud ysgol, nid wyf yn credu bod hwnnw’n fater strategol rydym angen i Estyn edrych arno. Os oes gan rieni bryderon ynglŷn â safonau mewn ysgol, mae amrywiaeth o ffyrdd y gellir mynd i’r afael â’r pryderon hynny, yn bennaf drwy gadeiryddion cyrff llywodraethu pob ysgol unigol, ac os nad ydynt yn fodlon â hynny, drwy’r awdurdod addysg lleol. Michelle Brown AC: Iawn, diolch am hynny. Fel y gwyddoch, mae gormod o ysgolion yn y categorïau oren a choch. A ddylid sicrhau mecanwaith sy’n ei gwneud yn haws nag yw hi ar hyn o bryd i blant sy’n mynychu ysgol yr aseswyd ei bod yn y categori oren neu goch newid i ysgol nad yw’n methu? Kirsty Williams AC: Gadewch i mi fod yn gwbl glir: os yw ysgol yn cael ei rhoi mewn categori oren neu goch, nid yw hynny’n arwydd fod yr ysgol yn methu. Cyflwynwyd y system gategoreiddio i nodi lefelau o gefnogaeth y mae angen i’r ysgol honno eu gwella, ac er fy mod yn gweithio tuag at sefyllfa lle nad oes unrhyw ysgol yng Nghymru yn y categori oren neu goch, dylai’r Aelod gydnabod bod nifer yr ysgolion sy’n cael eu rhoi yn y categorïau gwyrdd neu felyn yn cynyddu. Rwy’n cymeradwyo athrawon a phenaethiaid yr ysgolion hynny sy’n codi’r safonau.Dylai’r Aelod fod yn glir iawn, yn ei rôl fel llefarydd addysg ei phlaid, beth yw gwerth a diben categoreiddio, ac fe’i camfynegwyd gennych yn llwyr yn eich cwestiwn heddiw. Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd. Llyr Gruffydd AC: Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae disgyblion ledled Cymru, wrth gwrs, dros yr wythnos ddiwethaf wedi bod yn sefyll eu profion llythrennedd a rhifedd cenedlaethol, ac mae tystiolaeth yn dangos i ni fod profion safonedig arbenigol yn culhau’r cwricwlwm ac yn effeithio’n negyddol ar greadigrwydd yn yr ystafell ddosbarth, gan arwain at y perygl o addysgu plant ar gyfer y prawf, ac nad yw’r amcan yn y pen draw yn ymwneud â gwella addysg y plant, ond yn hytrach â gwella eu gallu i lwyddo mewn profion. Mae hynny, wrth gwrs, yn gwrthdaro’n llwyr â’r argymhellion a gyflwynwyd gan adolygiad Donaldson ar gyfer y cwricwlwm ac sy’n cael eu rhoi ar waith.Felly, a gaf fi ofyn: a oes gwir angen system brofi fras ac anghynnil arnom i ddweud wrthym yr hyn y mae athrawon, drwy eu hasesiadau, yn ei wybod eisoes? Kirsty Williams AC: A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiynau ynghylch profion safonedig? Gadewch i mi fod yn gwbl glir ynglŷn â diben yr asesiadau hynny, gan mai dyna yw eu prif ddiben. Mae’n darparu ffordd arall o asesu lle mae plentyn arni yn ei addysg—ffordd annibynnol o wneud hynny. A chredaf fod hynny’n darparu sicrwydd a ffynhonnell bwysig o wybodaeth i athrawon, i benaethiaid, ac yn hanfodol, i rieni hefyd. Mae’n darparu’r cerrig sylfaen ar gyfer y sgyrsiau hynny gydag athro eich plentyn ynglŷn â’r ffordd orau o gynorthwyo eich plentyn i gyrraedd ei lawn botensial. Fodd bynnag, rwyf wedi cydnabod bod yr asesiadau hyn, mewn nifer o ffyrdd, yn rhai bras, a dyna pam y cyhoeddais fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd yr wythnos diwethaf i ddatblygu profion ymaddasol ar-lein, a fydd yn rhoi ffordd hyd yn oed yn well o asesu lle mae plentyn arni yn ei addysg. Llyr Gruffydd AC: Ie, ac os ydych yn mynd ar drywydd profion, yn amlwg, fel y dywedais mewn ymateb i’ch cyhoeddiad, byddai unrhyw beth sy’n helpu i leihau llwyth gwaith athrawon—er enghraifft, drwy brofion ar-lein—yn rhywbeth i’w groesawu, cyhyd â’n bod yn gwylio rhag datblygu diwylliant ‘cyfrifiadur yn dweud ie neu gyfrifiadur yn dweud na’. Mewn perthynas â phwysau llwyth gwaith ar y gweithlu, fe fyddwch hefyd yn gwybod bod Cyngor y Gweithlu Addysg wedi cyhoeddi arolwg yn ddiweddar a oedd yn amlygu rhai o’r meysydd mwyaf cyffredin sy’n effeithio ar allu athrawon i reoli eu llwyth gwaith yn effeithiol, gyda mwy na thri chwarter y gweithlu yn crybwyll gweinyddu a gwaith papur, a bron i hanner yn dweud eu bod yn ei chael hi’n anodd ffitio cynnwys y cwricwlwm i mewn i’r oriau addysgu sydd ar gael. Dywedodd bron i 90 y cant o ymatebwyr yr arolwg nad oeddent yn gallu rheoli eu llwyth gwaith o fewn yr oriau gwaith y cytunwyd arnynt. Ac mae tystiolaeth hefyd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd fod athrawon yng Nghymru yn gweithio oriau llawer anoddach a hirach nag athrawon mewn gwledydd eraill. Mae hynny’n amlwg yn effeithio ar ansawdd yr addysgu yng Nghymru, ac yn sicr yn effeithio hefyd ar recriwtio a chadw staff, ac yn creu nifer o anawsterau yn y cyswllt hwnnw. Felly, gyda chyflog ac amodau athrawon yn cael eu datganoli, onid yw’n bryd edrych eto ar y cytundeb cenedlaethol, yn enwedig mewn perthynas â llwyth gwaith, i gynorthwyo’r byd addysg i osgoi’r math o argyfwng a welsom dros y blynyddoedd diwethaf ym maes iechyd? Kirsty Williams AC: Diolch, Llyr. A gaf fi fod yn gwbl glir mai’r prif reswm dros fuddsoddi mewn profion ymaddasol ar-lein yw ein bod yn credu y byddant yn fwy defnyddiol wrth asesu dysgu ac ar gyfer codi safonau? Sgil-effaith yw’r ffaith eu bod yn lleihau llwyth gwaith a biwrocratiaeth i athrawon, er ei bod yn sgil-effaith i’w chroesawu. Rwy’n deall bod materion sy’n ymwneud â llwyth gwaith yn faterion real iawn i’n hathrawon, ac rwy’n awyddus i edrych ar amrywiaeth o gyfleoedd lle gallwn ryddhau athrawon ysgol ac arweinwyr er mwyn rhoi amser iddynt ganolbwyntio ar y pethau pwysicaf. Felly, fe fyddwch yn gwybod ein bod yn edrych, er enghraifft, ar raglen o reolwyr busnes a bwrsariaid i gyflawni tasgau y gall gweithiwr proffesiynol arall eu cwblhau ar ran penaethiaid, gan adael i’r pennaeth ganolbwyntio ar ddysgu proffesiynol, datblygu’r cwricwlwm a’r addysg yn yr ysgol. Ac mae’r un peth yn wir ar gyfer athrawon unigol: rydym yn cynnal prosiect biwrocratiaeth newydd ar hyn o bryd i nodi lle rydym ni, fel Llywodraeth Cymru, yn gofyn i athrawon wneud pethau, pa un a yw hynny’n ychwanegu gwerth at ddysgu, ac os nad yw, rydym yn barod i gael gwared arno. Rydym hefyd yn cyflawni gweithdrefn chwalu camargraffiadau. Mae llawer o’r gweithwyr proffesiynol rwy’n siarad â hwy yn mynd y tu hwnt i’r hyn y gellir disgwyl yn rhesymol iddynt ei wneud, gan eu bod yn ofni, er enghraifft, y bydd Estyn yn disgwyl iddynt wneud hynny. Rydym yn gweithio’n agos iawn gydag Estyn i ddatblygu prosiect chwalu camargraffiadau, er mwyn i athrawon fod yn glir iawn ynglŷn â’r hyn y disgwylir iddynt ei wneud, ac fel nad ydynt yn mynd y tu hwnt i hynny ac yn gwneud pethau nad ydynt yn ychwanegu gwerth, ond sydd mewn gwirionedd yn achosi straen a llwyth gwaith ychwanegol nad yw ein trefn arolygu yn ei wneud yn ofynnol. Llyr Gruffydd AC: Yn eich geiriau eich hun, rydych yn edrych ar nifer o faterion, ond yn y cyfamser rydych yn rhuthro tuag at y diwygiadau i’r cwricwlwm y mae llawer ohonom wedi rhybuddio eu bod yn cronni problemau, gan nad oes capasiti yn y system fel y mae ar hyn o bryd i’r athrawon ymdopi â’r diwygiadau enfawr sydd ar y gweill. A gelwais arnoch eisoes i ymatal rhag cyflwyno’r cwricwlwm yn ôl yr amserlen bresennol, er mwyn inni allu sicrhau ein bod yn ei wneud yn gywir yn hytrach na cheisio’i wneud yn gyflym. Mae NUT Cymru, wrth gwrs, wedi ychwanegu eu llais at y galwadau hynny bellach. Felly, rwy’n gofyn i chi a wnewch chi wrando ar y proffesiwn? A wnewch chi wrando ar y rheini sy’n gweithio yn y rheng flaen sy’n dweud wrthym nad yw rhoi’r holl ddiwygiadau ar waith er mwyn sicrhau bod y cwricwlwm newydd yn barod i’w gyflwyno mewn, beth, 12, 16 mis, yn realistig bellach? Neu a ydych yn benderfynol o fwrw ymlaen doed a ddelo? Kirsty Williams AC: Yr hyn y byddaf yn ei wneud yw gwrando ar y rheini yn y rheng flaen sy’n datblygu’r cwricwlwm hwn. Mae’r syniad fod y cwricwlwm yn cael ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru yn unig ac y bydd yn cael ei orfodi ar y proffesiwn addysgu yn wahanol i’r ffordd y mae’r system yn cael ei datblygu ar hyn o bryd. Mae ein rhwydweithiau ysgolion arloesi, ein hathrawon a’n gweithwyr addysg proffesiynol yn ganolog i’r broses hon. Rydych yn hollol gywir, mae’n rhaid i ni—mae’n rhaid i mi—fod yn sicr fod y proffesiwn addysgu mewn sefyllfa i allu defnyddio’r cwricwlwm newydd cyffrous hwn, a byddaf yn cael fy arwain gan y gweithwyr proffesiynol sy’n ymdrin nid yn unig â maes profiad dysgu ond hefyd ag agweddau dysgu proffesiynol ar y cwricwlwm wrth inni symud ymlaen. Ac os oes ganddynt bryderon, byddaf yn eu hystyried. Llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar. Darren Millar AC: Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, tynnwyd sylw eisoes at y ffaith ein bod yn wynebu argyfwng recriwtio yn ein proffesiwn addysgu, ac wrth gwrs, amlygwyd hyn gan arolwg Cyngor y Gweithlu Addysg, a ganfu fod mwy nag un o bob tri athro yn bwriadu gadael y proffesiwn yn y tair blynedd nesaf. Beth yn benodol rydych chi’n ei wneud i gau’r bwlch os bydd yr un o bob tri hynny’n gadael y proffesiwn mewn gwirionedd? Kirsty Williams AC: Diolch, Darren. Mae’r arolwg addysgu cyntaf erioed wedi rhoi cyfoeth o wybodaeth inni, nid yn unig ar gyfer ystadegau, ond gwybodaeth ansoddol a data hefyd, ac rydym wrthi’n ei astudio. Mae angen i ni sicrhau ein bod yn creu system addysg yng Nghymru sy’n cadw ein talent gorau yn ein system, ond sydd hefyd yn recriwtio ein hunigolion gorau a mwyaf disglair i mewn i’r system honno. Felly, fel y gwyddoch, rydym wrthi’n diwygio ein darpariaeth addysg gychwynnol i athrawon, ac rydym yn edrych ar ffyrdd newydd o ddenu rhai sy’n newid gyrfa at y proffesiwn addysgu, yn ogystal â mynd i’r afael â materion fel llwyth gwaith, y soniodd Llyr Gruffydd amdanynt, er mwyn i bobl sydd eisoes yn athrawon deimlo cymhelliant i aros yn yr ystafell ddosbarth. Rwy’n falch o ddweud bod y ffigurau recriwtio i addysg gychwynnol i athrawon eleni yn well na’r hyn a welsom y llynedd ac yn well na Lloegr mewn gwirionedd. Darren Millar AC: Cafwyd ymgyrch recriwtio enfawr yn ddiweddar ar gyfer nyrsys newydd yn y GIG yng Nghymru, gyda llawer o arian a llawer o waith hyrwyddo yn cael ei wneud mewn nifer o ffyrdd gwahanol ar draws y cyfryngau cymdeithasol, y cyfryngau print a chyfryngau eraill yn gyffredinol. Pam nad ydym yn gweld ymdrech debyg i recriwtio’r athrawon sydd eu hangen ar y system addysg yng Nghymru, er mwyn sicrhau bod digon o athrawon cyfrwng Cymraeg ac athrawon pynciau STEM gennym ar gyfer y dyfodol? Oherwydd, fel arall, rydym yn mynd i barhau i lithro i lawr graddfa PISA y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd fel rydym wedi’i wneud dros y 10 mlynedd diwethaf. Kirsty Williams AC: Hoffwn ailadrodd i’r Aelod, unwaith eto: mae ein ffigur recriwtio ar gyfer pobl sy’n dechrau cyrsiau ym mis Medi eleni yn well na’r llynedd, ac yn well na recriwtio i ddarpariaeth addysg gychwynnol i athrawon yn Lloegr. Ond wrth gwrs, mae mwy y gallwn ei wneud bob amser. Bydd yr Aelod yn ymwybodol fod y pedwar consortiwm rhanbarthol, gan weithio gyda’i gilydd, wedi bod yn cynhyrchu ymgyrch recriwtio i ddenu’r bobl sydd o bosibl wedi cael digon ar system addysg Lloegr er mwyn dangos iddynt y gallant ddod i weithio mewn amgylchedd cefnogol yma yng Nghymru, ac rydym yn gweld canlyniadau o ganlyniad i’r ymgyrch recriwtio honno. Ond os oes gan yr Aelod syniadau newydd ynglŷn â sut y gallwn recriwtio mwy o athrawon, rwyf bob amser yn barod i wrando. Darren Millar AC: Rhoddaf un syniad i chi, Gweinidog, ac yn wir, rydym wedi awgrymu un yn y gorffennol, ac rydych wedi gwrando arno, yn ffodus, a’i roi ar waith. Roedd un yn ymwneud â gwella’r bwrsariaethau sydd ar gael i ddenu pobl newydd i’r proffesiwn, ac mae’r ail yn ymwneud â chael gwared â rhai o’r rhwystrau gwarthus y mae athrawon a hyfforddwyd dramor yn eu hwynebu yma ar hyn o bryd os ydynt yn dymuno dod i weithio yng Nghymru. Mae’n warthus fod athrawon sydd wedi cymhwyso dramor yn Awstralia, Canada, yr Unol Daleithiau a Seland Newydd yn gallu gweithio mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig heb orfod cwblhau cyrsiau ymaddasu, ac eto ni allant ddod i Gymru i weithio, gan gynnwys dirprwy benaethiaid a phenaethiaid. Mae hynny’n rhwystr annerbyniol i recriwtio yma yng Nghymru, a gallai helpu i atal y llu o bobl sy’n ymbellhau oddi wrth y proffesiwn o ganlyniad i enw drwg y system addysg yng Nghymru. Kirsty Williams AC: Wel, Darren, rydych yn codi mater difrifol. Nid wyf yn dymuno troi unrhyw dalent ymaith o Gymru, ac os oes gan unrhyw un rywbeth i’w gyfrannu at y system addysg yng Nghymru, rwy’n awyddus iddynt allu gwneud hynny. Mae fy swyddogion wrthi’n adolygu’r rheolau ynglŷn â pha gymwysterau sy’n angenrheidiol ar gyfer addysgu mewn ysgol yng Nghymru. Gadewch i mi fod yn gwbl glir: mae’r rheolau sydd ar waith ar hyn o bryd yn deillio o ymgynghoriad Llywodraeth flaenorol, lle roedd consensws clir iawn ynglŷn â’r angen am y rheolau sydd ar waith gennym ar hyn o bryd. Ond mae’n rhaid i mi ddweud, Llywydd, na fyddaf yn gwrando ar unrhyw bregeth gan Aelod Cynulliad Torïaidd pan fo’n rhaid i mi wrando ar rethreg arweinydd ei blaid ar fewnfudo. Dyma aelod o blaid sy’n treulio’i holl amser yn pardduo pobl sy’n dymuno dod i gyfrannu yn y wlad hon. <p>Gwella Addysg yn Sir Benfro</p> Paul Davies AC: 3. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella addysg yn Sir Benfro? OAQ(5)0114(EDU) Kirsty Williams AC: Diolch, Paul. Fel Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi nodi’r rhaglen o ddiwygiadau addysg i wella addysg ledled Cymru ar sawl achlysur, ac wrth gwrs, mae hynny’n cynnwys Sir Benfro. Mae’r rhain yn cynnwys datblygu cwricwlwm newydd a diwygio’r broses asesu, gwella addysg gychwynnol i athrawon, dysgu proffesiynol athrawon, meithrin arweinwyr a lleihau’r bwlch cyrhaeddiad. Paul Davies AC: Rwy’n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb. Nawr, efallai eich bod yn ymwybodol, Ysgrifennydd y Cabinet, o’r cynllun llysgenhadon darllen, sy’n gobeithio gwella sgiliau darllen plant drwy weithio’n agos gyda chlystyrau ysgolion cynradd yn fy etholaeth. Canmolwyd y cydweithio hwn mewn adroddiad diweddar gan Ein Rhanbarth ar Waith, gyda chynghorydd Her Ysgolion Cymru, Hefina Thomas, yn dweud ei fod wedi arwain at ‘effaith uniongyrchol ar safonau’. Yng ngoleuni hyn, a allwch ddweud wrthym beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo’r gweithgarwch hwn, er mwyn i bob ysgol ledled Sir Benfro allu elwa ar y math hwn o gydweithredu? Kirsty Williams AC: Paul, diolch yn fawr iawn am dynnu sylw at yr arferion da sy’n digwydd yn eich ardal. Fel y gwyddoch, oherwydd pryderon ynghylch safonau addysg yn Sir Benfro, yn enwedig anallu ysgolion uwchradd Sir Benfro i wella eu cyfraddau cyrhaeddiad lefel 2 ac uwch mor gyflym â’r cyfartaledd yng Nghymru, mae’r consortiwm rhanbarthol wedi cyflwyno cymorth cynghorol ychwanegol yn ddiweddar ar gyfer Sir Benfro. Mae Estyn wedi cynnal cynhadledd achos yn Sir Benfro er mwyn ceisio cymell y cyngor a’r awdurdod addysg lleol i weithredu mesurau y teimlant y dylai’r cyngor eu rhoi ar waith er mwyn gwella safonau. Ond mae’n amlwg fod cynlluniau o’r fath, lle gallwn wella llythrennedd disgyblion yn y sector cynradd, yn argoeli’n dda o ran eu gallu i gael mynediad at y cwricwlwm yn nes ymlaen, a byddwn yn gobeithio ac yn disgwyl bod y consortia rhanbarthol yn dysgu o arferion da ac yn defnyddio’r adnoddau sydd ganddynt o’r grant gwella addysg i sicrhau bod rhaglenni, lle maent yn llwyddiannus, yn cael eu hailadrodd. Simon Thomas AC: Wel, tua phum mlynedd yn ôl, roedd addysg yn sir Benfro mewn cyflwr cyn waethed roedd yn rhaid i’r Llywodraeth yrru tîm arbenigol i mewn i achub y cam a’r cyfle yn fanna. Ers hynny, mae addysg yn sir Benfro wedi gwella, nawr bod y sir tua chanol y rhestr o siroedd o ran cyflawniad addysgiadol. Byddwn i’n tybio bod lle i wella o hyd. Mae’r anghytuno sydd wedi bod yn ddiweddar dros y chweched dosbarth yn sir Benfro hefyd yn awgrymu nad oedd y cyngor sir wedi dal gafael cystal ag y dylen nhw fod ar gynnydd yn addysg yn y sir yma. Gyda’r ffaith bod newid arweinyddiaeth posib yn sir Benfro ar hyn o bryd, a ydy’r Ysgrifennydd Cabinet yn bwriadu mynd i gyswllt â’r cyngor sir i wneud yn siŵr bod y cynnydd—peth cynnydd—rydym ni wedi ei weld yn ystod y pedair blynedd diwethaf yn parhau a bod disgyblion yn sir Benfro yn gallu disgwyl i’w cyngor sir nhw gario ymlaen ar y llwybr o’r sefyllfa wael lle’r oedden nhw bum mlynedd yn ôl i rywbeth llawer mwy llawn elw ar gyfer y disgyblion hynny? Kirsty Williams AC: Diolch, Simon. Mae’n wir dweud bod y trothwy cynwysedig Lefel 2 ac uwch yn Sir Benfro wedi gwella o 51 y cant yn 2011 i ychydig dros 59 y cant yn 2016, ac mae hwn yn welliant o 8.3 y cant yn y cyrhaeddiad ers 2011, ond nid yw ar y lefel y byddech chi a minnau’n dymuno gweld Sir Benfro. Rydych yn hollol iawn, prif gyfrifoldeb y weinyddiaeth newydd fydd mynd i’r afael â’u cynlluniau gwella ysgolion, cynlluniau trefniadaeth ysgolion, i godi safonau’n uwch byth. Fel y dywedais mewn ymateb i Paul Davies, mae’r consortia rhanbarthol, oherwydd pryderon ynghylch Sir Benfro, wedi darparu cymorth ychwanegol i’r sir a gallaf roi sicrwydd i chi y byddaf yn cyfarfod â deiliad y portffolio a’r cyfarwyddwr addysg yn Sir Benfro, fel y gwnaf yn rheolaidd gyda deiliaid pob portffolio a phob cyfarwyddwr addysg, i bwysleisio’r angen i wneud cynnydd. <p>Addysg Alwedigaethol </p> David Rees AC: 4. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo cryfderau addysg alwedigaethol ymysg pobl ifanc 14-16 oed? OAQ(5)0125(EDU) Alun Davies AC: Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried bod sicrhau bod cymwysterau galwedigaethol ar gael i bobl ifanc 14 i 16 oed yn bwysig iawn. Drwy Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009, mae pob dysgwr yn cael cynnig o leiaf tri chymhwyster galwedigaethol yng nghyfnod allweddol 4 mewn cynigion cwricwlwm lleol. David Rees AC: Diolch am eich ateb, Gweinidog, ac mae’n bwysig ein bod yn sicrhau parch cydradd i gymwysterau galwedigaethol, oherwydd i lawer o bobl, bydd hwnnw’n llwybr cryfach tuag at addysg bellach a chyfleoedd gwaith, ac mae’n galluogi pobl ifanc i ddangos y sgiliau nad yw’r llwybr academaidd, o bosibl, yn eu cynnig.Nawr, fel y cyfryw, mae gormod o rieni a gormod o bobl ifanc yn dal o’r farn mai’r Safon Uwch draddodiadol yw’r unig ffordd ymlaen ar eu cyfer hwy. Mae ffordd wahanol ar gael, a nodoch eich bod yn cynnig addysg alwedigaethol, ond mae’n ymwneud â dweud wrthynt ynglŷn â manteision hynny fel eu bod yn deall beth y gallant ei elwa ohono. Nawr, mae cymwysterau galwedigaethol yn cynnig mynediad i lawer o bobl ifanc at addysg bellach neu uwch, at gyfleoedd gwaith, at feysydd sy’n galw am sgiliau a chymwyseddau’r unigolion hynny. Felly, sut y byddwch yn gweithio gyda cholegau addysg bellach a sefydliadau eraill mewn gwirionedd i hyrwyddo’r cymwysterau galwedigaethol ymysg pobl ifanc 14 i 16 oed fel eu bod yn ymwybodol iawn, pan fyddant yn gorffen eu cyrsiau TGAU, o’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt, a’r llwybrau y gallant eu cymryd pan fyddant yn gadael? Alun Davies AC: A gaf fi ddweud fy mod yn cytuno’n llwyr â’r pwyntiau a wnaeth yr Aelod yn ei gwestiwn? Mae’n bwysig fod gan bob dysgwr fynediad at gwricwlwm sy’n gweddu orau i’w llwybrau dysgu unigol ac sy’n bodloni eu hystod eang o ddiddordebau a galluoedd, a bod parch cydradd rhwng y dewisiadau hynny. Bydd yr Aelodau’n falch o glywed, yn y flwyddyn academaidd hon, fod pob ysgol a choleg addysg bellach yng Nghymru naill ai wedi bodloni neu ragori ar ofynion cynnig y cwricwlwm lleol mewn perthynas â’r llwybrau dysgu 14-19 oed. Ond a gaf fi ddweud hyn mewn ymateb i’w gwestiwn? Credaf ei fod yn llygad ei le i nodi’r cwestiwn ynglŷn â sut rydym yn bwrw ymlaen â chyfle hyfforddi o’r fath, caffael sgiliau, a’r cwricwlwm ar gyfer pobl ifanc 14 i 16 oed.Efallai fod yr Aelodau’n ymwybodol fod Llywodraeth Cymru yn cynnal cynllun peilot i gefnogi prentisiaethau iau, sy’n cael ei roi ar waith ar y cyd â Choleg Caerdydd a’r Fro. Dechreuodd hwnnw eleni, ac rydym yn edrych, ar hyn o bryd, ar y cynllun peilot hwn. Mae’n rhaid i mi ddweud, rwy’n awyddus, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion ymchwilio os neu sut y gallwn ehangu ac adeiladu ar y cynllun peilot hwn a symud ymlaen gyda mwy o frys, er mwyn sicrhau, os yw’r cynllun peilot yn profi’n ffordd effeithiol o sicrhau nid yn unig parch cydradd, ond cymwysterau gwell i bobl yn 16 oed, y gallwn ei ehangu’n fwy cyffredinol cyn gynted â phosibl. David Melding AC: Gweinidog, mae addysg alwedigaethol yn bwysig iawn i blant sy’n derbyn gofal, ac a gaf fi groesawu’r newyddion da iawn a gawsom heddiw ynglŷn â nifer y plant sy’n derbyn gofal ac sy’n cyrraedd y trothwy cynwysedig Lefel 2, sef 23 y cant erbyn hyn? Mae hynny’n dal i fod 37 y cant yn is na’r grŵp cyfoedion, ac yn amlwg mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod mor agos â phosibl at y grŵp cyfoedion, ond mae’n welliant o 10 pwynt canran ers 2012. Gobeithiaf y gallwch gadarnhau bod y Llywodraeth yn ystyried y newyddion calonogol hwn yn gam cyntaf, a hefyd o ran edrych ar addysg alwedigaethol a sicrhau bod cynnydd yn y cyswllt hwnnw yn cyfateb i’r uchelgais rydym yn ei bennu yn awr ar gyfer cyrhaeddiad addysgol yn gyffredinol i blant sy’n derbyn gofal. Alun Davies AC: Gallaf. Rydym yn amlwg yn croesawu’r gwelliant, ond rydym hefyd yn teimlo’n rhwystredig gan ein bod yn awyddus i symud ymhellach ac yn gyflymach. Mae’r sgyrsiau rwyf wedi’u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn canolbwyntio ar sut rydym yn sicrhau bod y bwlch cyrhaeddiad yn cau, a sut rydym yn sicrhau bod pob plentyn, beth bynnag fo’u cefndir, yn cael y gefnogaeth briodol i’w galluogi i wneud hynny. Gall prentisiaethau iau fod yn un ffordd o gyflawni hynny—yn amlwg, nid dyna’r unig ffordd o gyflawni hynny—ond yn sicr, byddwn yn sicrhau bod y cyfleoedd hyn ar gael i bob dysgwr ym mhob rhan o Gymru. Gareth Bennett AC: Mae prinder sgiliau yn y diwydiant adeiladu ar hyn o bryd, felly tybed a yw’r rhaglen addysg alwedigaethol yn rhoi unrhyw bwyslais ar addysgu gwaith coed, gosod brics, ac unrhyw sgiliau cysylltiedig eraill sydd eu hangen yn y diwydiant hwnnw. Alun Davies AC: Mae’r rhaglen brentisiaethau iau, a weithredir ar y cyd â Choleg Caerdydd a’r Fro, yn astudio llwybrau allweddol megis adeiladu, modurol, ac yn paratoi dysgwyr i gamu ymlaen yn uniongyrchol i raglenni prentisiaeth llawn pan fyddant yn eu cwblhau yn 16 oed. <p>Technolegau Digidol mewn Ysgolion Cynradd</p> Hannah Blythyn AC: 5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddefnyddio technolegau digidol mewn ysgolion cynradd yng Nghymru? OAQ(5)0118(EDU) Alun Davies AC: Drwy raglen Dysgu yn y Gymru Ddigidol, mae Llywodraeth Cymru yn darparu ystod o dechnolegau digidol a ariennir yn ganolog ar gyfer ysgolion cynradd. Rydym yn darparu offer ac adnoddau digidol drwy Hwb ac yn buddsoddi’n sylweddol mewn cysylltedd band eang. Fodd bynnag, mae gan ysgolion reolaeth ddirprwyedig i sicrhau bod y technolegau digidol mwyaf priodol ar gael i’w dysgwyr. Hannah Blythyn AC: Diolch am eich ateb, Gweinidog. Mae ysgol gynradd Parc Cornist yn y Fflint, yn fy etholaeth, wedi cael ei henwi yn ysgol arloesi ddigidol, lle mae’r pennaeth, Nicola Thomas, wedi sicrhau rhoi technolegau digidol wrth wraidd eu haddysgu a’u dysgu ac wedi cynorthwyo disgyblion i allu cymryd yr awenau yn hyn o beth. Mae’r disgyblion wedi arwain prosiectau, sy’n cynnwys codi ymwybyddiaeth, ymchwil, ac sy’n ymwneud â’u bod yn cyflawni rolau fel e-gadetiaid. Maent hyd yn oed wedi cynnal sesiwn alw heibio mewn banc lleol i addysgu cwsmeriaid ynglŷn â sut i fod yn ddiogel ar-lein. Gweinidog, a wnewch chi ymuno â mi i gydnabod bod ysgol Parc Cornist yn enghraifft o arfer orau ac annog ysgolion eraill ledled Cymru i sicrhau bod technolegau digidol yn ganolog i’w dysgu? Alun Davies AC: Cytunaf yn llwyr â’r hyn a ddywed yr Aelod dros Ddelyn. Mae ysgol gynradd gymunedol Parc Cornist wedi gwneud cryn gynnydd ers cael ei henwi’n ysgol arloesi ddigidol, gan ddod yn fuddugol, wrth gwrs, yn y categori e-ddiogelwch yng ngwobrau dysgu digidol cenedlaethol Llywodraeth Cymru yn 2016. Mae hyn bellach, wrth gwrs, wedi’i droi yn astudiaeth achos er mwyn i eraill ddeall a rhannu’r arferion gorau hynny. Credaf fod ysgol gynradd Parc Cornist yn enghraifft wych o’n huchelgeisiau ar gyfer pob ysgol ledled Cymru: cynnwys dysgu o’r math hwn yn y cwricwlwm, a galluogi pob plentyn a phob dysgwr i brofi hynny. Rwy’n arbennig o awyddus i ni ganolbwyntio ar e-ddiogelwch. Un o brif fanteision y dyddiau hyn, yr oes hon, yw ehangder yr hyn y gallwn ei wneud ar-lein, ond ar yr un pryd, mae angen i ni sicrhau y gall pawb sy’n defnyddio gwasanaethau newydd ar-lein wneud hynny’n ddiogel. Russell George AC: Gweinidog, roeddwn yn falch o gael adroddiadau gan Ysgol Pontrobert eu bod bellach yn gallu defnyddio platfform dysgu digidol Hwb ar ôl cael uwchraddiad hirddisgwyliedig i’w band eang. Fodd bynnag, nododd y ‘Gwerthusiad o weithrediad y Rhaglen Dysgu yn y Gymru Ddigidol’, a gyhoeddwyd chwe mis yn ôl, nad oedd bron i draean yr ysgolion wedi mewngofnodi unwaith ar Hwb, a gwnaeth gyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru er mwyn gwella’r sefyllfa hon, gan gynnwys datblygu strategaeth gyfathrebu sydd wedi’i thargedu at athrawon a rhieni, a phennu targedau ar gyfer cyfraddau mabwysiadu a defnyddio Hwb. A allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r cynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar weithredu argymhellion yr adroddiad? Alun Davies AC: Rwy’n siŵr y bydd yr Aelod yn ymuno â phawb i groesawu’r ffaith ein bod bellach wedi cyflawni’r cysylltedd y cyfeiriodd ato yn ei gwestiwn. Credaf iddo ofyn cwestiwn yn ei gylch rai misoedd yn ôl, ac rydym bellach wedi cyflawni ein huchelgais yn hyn o beth. Roedd Ysgrifennydd y Cabinet yn siarad ynglŷn â sut yr awn gam ymhellach, a buddsoddi hyd yn oed mwy o adnoddau er mwyn sicrhau bod ysgolion yn cael mynediad at y band eang cyflymaf sydd ar gael i ni. A gaf fi ddweud hyn o ran y rhaglen gyffredinol rydym yn ei dilyn gyda Hwb? Mae’n amlwg wedi gwneud cryn wahaniaeth i ysgolion ac i ddysgwyr ledled Cymru. Rydym am weld hyn yn ehangu, ac rydym am ei weld yn parhau i sbarduno a darparu cyfleoedd i bawb—i’r holl ddysgwyr ledled Cymru—gael mynediad at y mathau o wybodaeth a’r mathau o sgiliau digidol sy’n hanfodol mewn bywyd bob dydd. Rydym yn gwneud cynnydd o ran rhoi’r argymhellion a wnaed ar ein cyfer ar waith, a byddaf yn fwy na pharod i roi’r wybodaeth ddiweddaraf yn fwy cyflawn i’r Aelodau mewn perthynas â hynny drwy ddatganiad ysgrifenedig yn ystod yr wythnosau nesaf. Vikki Howells AC: Er mwyn i ddisgyblion allu gwneud y defnydd gorau o dechnolegau digidol, mae’n rhaid i ni sicrhau bod athrawon yn cael eu hyfforddi’n briodol yn y maes hwn. Yn wir, yn ddiweddar, manteisiodd staff yn ysgol gynradd Cwmdâr yn fy etholaeth ar hyfforddiant di-dâl BT, Barefoot Computing, er mwyn gwneud hynny. Sut y gall Llywodraeth Cymru sicrhau bod yr holl staff mewn ysgolion cynradd yng Nghymru yn dysgu’r sgiliau priodol i helpu disgyblion i baratoi ar gyfer yr oes ddigidol? Alun Davies AC: Rwy’n falch iawn o glywed bod ysgol gynradd Cwmdâr yn manteisio ar adnoddau di-dâl Barefoot Computing. Efallai yr hoffai’r Aelodau wybod bod Llywodraeth Cymru wedi gweithio’n agos gyda BT i adolygu a datblygu’r adnoddau yn unol â’r cwricwlwm Cymreig a’r fframwaith cymhwysedd digidol. Rydym hefyd yn gweithio gyda BT i hyrwyddo’r gweithdai gwirfoddol, lle mae gwirfoddolwyr yn mynd i ysgolion cynradd yng Nghymru i addysgu hyfforddwyr ac i hyfforddi athrawon ar sut rydym yn darparu’r adnoddau Barefoot. Yn ogystal â hyn, rydym yn buddsoddi £500,000 y flwyddyn yn y consortia rhanbarthol er mwyn hyfforddi ysgolion i ddefnyddio technolegau digidol, gan ganolbwyntio’n benodol ar yr offer a’r adnoddau sydd ar gael drwy blatfform Hwb. Rydym hefyd wedi datblygu offeryn hunanasesu, a fydd yn cael ei ddiweddaru i ddarparu ar gyfer anghenion hyfforddi ysgolion ac athrawon, fel y nodir gan ysgolion arloesi digidol. Bydd yr offeryn wedi’i ddiweddaru yn galluogi athrawon i asesu eu sgiliau a’u hyder wrth gyflawni elfennau o’r fframwaith cymhwysedd digidol ac i nodi eu hanghenion dysgu proffesiynol pellach. <p>Derbyn Disgyblion i Ysgolion ym Mhowys</p> Russell George AC: 6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y newidiadau arfaethedig i’r broses o dderbyn disgyblion i ysgolion ym Mhowys o fis Medi 2017? OAQ(5)0121(EDU) Alun Davies AC: Llywydd, cyn ateb y cwestiwn hwn, rwyf am ddatgan diddordeb, gan fod gennyf blentyn yn y system ysgolion ym Mhowys.Cyngor Sir Powys yw’r awdurdod derbyn ar gyfer ysgolion cymunedol ym Mhowys, a’r Cyngor, felly, sy’n gyfrifol am bennu trefniadau derbyn a sicrhau bod y trefniadau hyn yn cael eu gweithredu’n deg. Russell George AC: Gweinidog, mae’r cylchoedd meithrin a’r cylchoedd chwarae cyn-ysgol eisoes yn orlawn, ac mae pryder gwirioneddol, pan ddaw’r polisi derbyn i ysgolion newydd i rym ym Mhowys ym mis Medi, y bydd y pwysau ar y cylchoedd chwarae yn anghynaladwy. A gaf fi ofyn beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynnal y pwysau ychwanegol ar y cylchoedd chwarae hyn? Alun Davies AC: Hyderaf fod pawb a oedd yn aelodau o Gyngor Sir Powys pan wnaed y penderfyniad hwnnw yn ymwybodol o oblygiadau eu penderfyniadau. Bydd yr Aelod yn ymwybodol, wrth gwrs, fel cyn aelod o’r awdurdod hwnnw, fod yr awdurdod yn gyfrifol am bennu ei godau derbyn ei hun, a chanlyniadau hynny. <p>Adeiladau Ysgolion yn Islwyn </p> Rhianon Passmore AC: 7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i adeiladau ysgolion yn Islwyn? OAQ(5)0119(EDU) Kirsty Williams AC: Bydd Band A rhaglen ysgolion ac addysg yr unfed ganrif ar hugain yn gweld dros £56 miliwn o fuddsoddiad mewn ysgolion ym mwrdeistref sirol Caerffili dros y cyfnod o bum mlynedd a ddaw i ben yn 2019. O’r swm hwn, bydd dros £28 miliwn wedi cael ei wario yn etholaeth Islwyn. Rhianon Passmore AC: Diolch. Mae pennaeth Ysgol Uwchradd Islwyn, Tim Williams, newydd dderbyn allweddi’r Ysgol Uwchradd Islwyn newydd gwerth £25.5 miliwn a adeiladwyd ar safle hen bwll glo Oakdale. Mae gan yr ysgol nodweddion gwefreiddiol, mannau dysgu modern, gweithdai technoleg o’r radd flaenaf, labordai gwyddoniaeth addas at y diben ac ystafelloedd TG, wedi’u gwasgaru dros dri llawr. Ysgrifennydd y Cabinet, pa effaith drawsnewidiol y bydd y chwistrelliad enfawr hwn o fuddsoddiad gan Lywodraeth Lafur Cymru yn ei chael ar ganlyniadau addysgol cenedlaethau o blant Islwyn yn y dyfodol? Kirsty Williams AC: Wel, Llywydd, mae’r Aelod yn iawn: mae’r buddsoddiad sylweddol hwn, yn wir, wedi darparu adeilad ysgol o’r radd flaenaf i ddysgwyr yn Ysgol Uwchradd Islwyn. Mae’r amgylchedd dysgu newydd yn darparu’r cyfleusterau gorau i’r disgyblion, ac yn rhoi’r cyfle gorau iddynt wneud y gorau o’u potensial. I’r athrawon yn yr ysgol, mae’n darparu llwyfan iddynt ysgogi gwell canlyniadau addysgol. Deallaf y bydd y disgyblion yn symud i’r ysgol ar ddechrau mis Gorffennaf, ac rwy’n edrych ymlaen at gael cyfle i weld drosof fy hun y gwahaniaeth y bydd yr adeilad ysgol newydd yn ei wneud i gyfleoedd dysgu’r gymuned honno. <p>Dysgwyr sydd ag Anghenion Gofal Iechyd </p> Mark Isherwood AC: 8. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi dysgwyr sydd ag anghenion gofal iechyd? OAQ(5)0115(EDU) Alun Davies AC: Ar 30 Mawrth, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau diwygiedig i gefnogi dysgwyr sydd ag anghenion gofal iechyd tymor byr a hirdymor. Mae’r canllawiau hyn yn statudol ar gyfer cyrff llywodraethu’r holl ysgolion a gynhelir, unedau cyfeirio disgyblion, ac awdurdodau lleol. Mae’n nodi disgwyliadau clir ynglŷn â sut y dylid cefnogi’r dysgwyr hyn. Mark Isherwood AC: Sut rydych yn ymateb i’r pryder a fynegwyd gan Diabetes UK a’u partneriaid nad yw’r canllawiau, er eu bod i’w croesawu, yn mynd yn ddigon pell o ran egluro’r sefyllfa, er y ceir sawl cyfeiriad neu ddatganiad a fydd yn arwain at gynnwys cyflyrau meddygol hirdymor yn rhan o’r fframwaith anghenion dysgu ychwanegol, nad yw Llywodraeth Cymru eto’n cefnogi gwelliant y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) a’r cod i adlewyrchu hyn, nad yw’r ddogfen eto’n gwarantu unrhyw gymorth a’i bod yn ei gwneud yn glir iawn mai gwirfoddol fydd unrhyw gymorth a ddarperir, ac nad yw gofynion sylfaenol, fel sicrhau bod cynllun unigol ar waith, wedi’u gwarantu gan y canllawiau? Alun Davies AC: Mae’r Aelod yn anghywir, wrth gwrs, i awgrymu na fydd y Llywodraeth yn cefnogi unrhyw ddiwygiadau i’r Bil hwn. Nid ydym wedi cyrraedd y cam o ystyried unrhyw ddiwygiadau i’r Bil ar hyn o bryd. Mewn gwirionedd, nid ydym wedi cyrraedd diwedd ystyriaeth Cam 1 o’r Bil. Rwy’n hapus iawn â gwaith caled y pwyllgor, o dan arweiniad medrus fy nghyfaill, yr Aelod dros Dorfaen, sydd wedi ystyried y materion hyn yn drylwyr iawn. Mae’r pwyllgor hwn wedi gwneud gwaith craffu penodol ar y canllawiau statudol y cyfeiria’r Aelod atynt. Edrychaf ymlaen at glywed casgliadau’r gwaith craffu hwnnw, a byddaf yn sicr yn ymateb i adroddiad y pwyllgor ar y mater hwn, ac rwy’n fwy na pharod i roi ystyriaeth lawn a haeddiannol i’r holl awgrymiadau ac argymhellion a ddaw gan y pwyllgor ar y cam priodol, cam 2, pan fyddwn yn cyrraedd y cam hwnnw ym mis Mehefin. Ac yn olaf, cwestiwn 9, Dai Lloyd. <p>Addysgu Hanes </p> Dai Lloyd AC: 9. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am addysgu hanes yn ysgolion Cymru? OAQ(5)0116(EDU) Kirsty Williams AC: Diolch, Dai. Mae hanes yn bwnc gorfodol yn y cwricwlwm cenedlaethol i bob dysgwr yng nghyfnodau allweddol 2 a 3. Bydd hanes yn cael ei gynnwys ym maes dysgu a phrofiad y dyniaethau yn y cwricwlwm newydd, a bydd hyn yn rhoi cyfle newydd inni sicrhau y bydd y platfform hanes yn cynnwys dimensiwn Cymreig gwell a phersbectif rhyngwladol. Dai Lloyd AC: Diolch am yr ateb yna. Mae’n wir dweud bod llawer o bobl yn pryderu ynglŷn â dysgu hanes Cymru yn ein hysgolion. Yn dilyn adroddiadau beirniadol yn y maes, mae angen sôn am Aneirin a Taliesin, Gwenllian ym 1136, Llywelyn ein Llyw Olaf, Owain Glyndŵr, yr Esgob William Morgan, Williams Pantycelyn, terfysg Merthyr, terfysg Rebecca, brad y llyfrau gleision, y ‘Welsh Not’, ac yn y blaen. Pa obaith diwygio cwricwlwm hanes ein plant i adlewyrchu hanes eu cenedl eu hunain? Kirsty Williams AC: Wel, Dai, fel y dywedais, mae’r broses o ddiwygio’r cwricwlwm, y cefais fy annog yn gynharach gan eich cyd-Aelod i’w hatal a’i harafu a’i hoedi, yn rhoi’r cyfle newydd hwn inni wella’r gallu i addysgu plant Cymru am eu hanes. Fel y dywedais, mae’r dimensiwn Cymreig yn y cwricwlwm presennol a’r cwricwlwm newydd yn rhan bwysig ac amlwg o’r system addysg, a chafodd adroddiad Dr Elin Jones, ‘Y Cwricwlwm Cymreig, hanes a stori Cymru’, ei gyflwyno a’i ystyried yn rhan o adolygiad yr Athro Donaldson yn ‘Dyfodol Llwyddiannus’ a bydd yn ffurfio rhan bwysig o’r ystyriaeth wrth ddatblygu meysydd dysgu a phrofiad.Ond gadewch i mi fod yn gwbl glir: mae llawer iawn, iawn o gyfleoedd yn y cwricwlwm presennol i blant ddysgu am eu cymunedau, yr effaith ar ddigwyddiadau rhyngwladol a sut y cafodd eu cymunedau eu heffeithio a’u newid. Gwn fod pryder, yn aml, ynglŷn â’r hyn y mae hanes Cymru yn ei gynnwys ar gyfer yr arholiad TGAU, ac yn aml, mae pobl yn mynegi pryderon fod y papurau’n ymwneud â hanes America, â hanes Ewrop, â’r ddau ryfel byd. Fe fyddwch yn gwybod y bydd y TGAU Hanes newydd yn barod i gael ei addysgu ym mis Medi eleni, ac unwaith eto, ceir cyfleoedd gwell i fyfyrwyr dreulio mwy o’u hamser yn ystyried eu hanes eu hunain ac effaith digwyddiadau rhyngwladol pwysig arno. Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet. 2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg. Yr eitem nesaf yw’r cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol, ac mae’r cwestiwn cyntaf gan Dawn Bowden. <p>Ffioedd Tribiwnlysoedd </p> Dawn Bowden AC: 1. Pa asesiad y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’i wneud o’r effaith a gaiff ffioedd tribiwnlysoedd cyflogaeth ar fynediad at gyfiawnder yng Nghymru? OAQ(5)0037(CG) Mick Antoniw AC: Mae Llywodraeth Cymru yn bryderus fod cost dwyn hawliadau sy’n gysylltiedig â chyflogaeth bellach yn rhy ddrud i lawer o bobl ac yn eu hatal rhag cael mynediad at gyfiawnder. Dawn Bowden AC: Diolch, Cwnsler Cyffredinol, ac rwy’n siŵr eich bod yn ymwybodol fod y ffigurau diweddar yn dangos bod gostyngiad o 81 y cant wedi bod yn nifer yr hawliadau tribiwnlys cyflogaeth a ddygwyd gerbron ers i Lywodraeth y DU gyflwyno ffioedd yn 2013. Mae Unsain yn herio’r ffioedd hyn yn y Goruchaf Lys ar hyn o bryd. A ydych yn cytuno â mi, Cwnsler Cyffredinol, fod ffioedd o’r fath, sy’n amrywio rhwng £160 a £950, gyda hawliadau gwahaniaethu yn denu’r lefel uchaf o ffioedd, yn golygu bod pobl gyffredin yn cael eu hamddifadu o gyfiawnder i bob pwrpas oherwydd y gost a bod hyn yn cosbi menywod, gweithwyr ar gyflogau isel, lleiafrifoedd ethnig, pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol a gweithwyr anabl yn anghymesur, ac yn enghraifft arall o ymosodiadau Torïaidd ar bobl sy’n gweithio? Mick Antoniw AC: Wel, rydych yn gwneud rhai pwyntiau da iawn. Cyhoeddwyd adolygiad Llywodraeth y DU o gyflwyno ffioedd mewn tribiwnlysoedd cyflogaeth ym mis Ionawr, ac yn wir, mae’n tynnu sylw at nifer o feysydd sy’n peri cryn bryder. Yn gyntaf, yn amlwg, y gostyngiad amlwg a sylweddol iawn a fu yn nifer yr hawliadau: gostyngiad o 80 y cant yn nifer yr hawliadau i dribiwnlysoedd ers cyflwyno’r ffioedd. Dengys tystiolaeth y Llywodraeth ei hun hefyd fod rhai pobl na allodd ddatrys eu hanghydfod drwy gymodi er hynny heb ddod â hawliad gerbron y tribiwnlysoedd cyflogaeth am eu bod yn dweud na allent fforddio’r ffi, er gwaethaf unrhyw gymorth ariannol a oedd ar gael. Yn yr un modd, yr asesiad a wnaed o dan ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus gan Lywodraeth y DU o effaith ffioedd yw eu bod wedi effeithio’n sylweddol ar achosion gwahaniaethu a’r maes gwahaniaethu. Mae cyfeiriad y Goruchaf Lys ei hun—ac rydym yn dal i aros am ddyfarniad yn yr achos penodol hwnnw—yn tynnu sylw at y ffioedd sylweddol, sy’n amrywio rhwng £390 a £1,600, i fynd i’r tribiwnlys apelau cyflogaeth, ac yn dilyn hynny, mae’r ystadegau swyddogol yn dangos gostyngiad sylweddol yn nifer yr hawliadau a ddygwyd gerbron—oddeutu 80 y cant.Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ei sylwadau ei hun yn yr ymgynghoriadau, gan ei gwneud yn glir, yn y bôn, nad ydym yn credu y dylai fod unrhyw ffioedd o gwbl, ac yn sicr ni ddylai fod unrhyw ffioedd sy’n atal mynediad at gyfiawnder, ac yn sicr, mae’n amlwg yn y maes hwn fod pobl sy’n gweithio yng Nghymru yn cael eu hamddifadu o gyfiawnder. Michelle Brown AC: Os caf fi wneud pwynt ynglŷn â’r hyn a ddywedodd Dawn, mae’r ffioedd yn uwch, mewn rhai achosion, nag yr awgrymodd Dawn Bowden. Mae bellach yn costio oddeutu £1,250 i wneud hawliad diswyddo annheg. Gall hawlwyr wneud cais i beidio â thalu ffioedd, ond bydd llawer o bobl angen cymorth i wneud hynny. Bydd llawer o bobl angen cymorth gyda chyflwyno’r hawliad a’i drin. Mae’r ganolfan cyngor ar bopeth wedi bod yn ffynhonnell o gyngor ac arweiniad am ddim ers peth amser, nid yn unig ar faterion cyflogaeth, ond ar faterion eraill—ond rwy’n gwybod cymaint o bwysau sydd ar y gwasanaeth hwnnw. Sut y byddech yn argymell cefnogi’r ganolfan cyngor ar bopeth yng Nghymru? Mick Antoniw AC: Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r ganolfan cyngor ar bopeth mewn gwirionedd drwy ariannu cyngor a chymorth drwy asiantaethau cynghori amrywiol. Wrth gwrs, y ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau cymorth mewn materion galwedigaethol yw drwy fod yn aelod o undeb llafur mewn gwirionedd, ac wrth gwrs, ymddengys bod Llywodraeth y DU yn treulio’r rhan fwyaf o’i hamser yn edrych ar ddeddfwriaeth sy’n rhwystro ac yn cyfyngu ar rôl a gweithrediad undebau llafur. Mae’n rhaid i mi ddweud nad yw’r maes gwaith hwn erioed wedi cael ei gydnabod yn briodol gan Lywodraeth y DU na’r Blaid Geidwadol. <p>Ehangu Amrywiaeth Farnwrol </p> Mike Hedges AC: 2. Beth yw asesiad y Cwnsler Cyffredinol o’r effaith a gaiff adroddiad y cyngor cyfiawnder ar ehangu amrywiaeth farnwrol ar Gymru? OAQ(5)0034(CG) Mick Antoniw AC: Gallai’r argymhellion sy’n ymwneud â datblygiad personol a gallu barnwyr ar safle is ac aelodau tribiwnlysoedd i gamu ymlaen yn eu gyrfa effeithio’n gadarnhaol ar gyfleoedd gyrfaol i’r farnwriaeth dribiwnlysoedd yng Nghymru. Mike Hedges AC: A gaf fi ddiolch i’r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb? Daw’r adroddiad i’r casgliad fod ymagwedd hollol organig tuag at ehangu amrywiaeth yn golygu bod newid yn digwydd yn llawer rhy araf, a geilw am newidiadau systematig a strwythurol er mwyn hybu newid. A yw’r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno? Pa drafodaethau a gafodd ynglŷn â sut y gall Llywodraeth Cymru gyfrannu at y broses o newid? Nid yw’n welliant enfawr os yw menyw a addysgwyd yn breifat yn dod yn lle dyn a addysgwyd yn breifat. Rydym yn awyddus i weld gwir amrywiaeth. Mick Antoniw AC: Diolch am eich cwestiwn atodol. Wrth gwrs, rydych yn codi rhai o’r pwyntiau a wnaed yn glir yn adroddiad Justice, a ddywedai, i bob pwrpas, fod yr uwch farnwriaeth yn cael ei dominyddu gan ddynion gwyn a addysgwyd yn breifat, ac efallai y byddai angen targedau beiddgar er mwyn ehangu amrywiaeth ar y fainc. Wrth gwrs, mae proses o newid sylweddol yn mynd rhagddi ar hyn o bryd, ac mae’r astudiaeth y cyfeiriodd yr Aelod ati gan y grŵp diwygio Justice yn feirniadol iawn, fel rhai o uwch aelodau’r farnwriaeth eu hunain mewn gwirionedd, o’r cynnydd araf a wnaed. Felly, rydym yn aros i weld canlyniad yr ystyriaethau hynny, ond maent wedi disgrifio i raddau helaeth iawn fod y methiant i sicrhau bod y farnwriaeth yn adlewyrchu cyfansoddiad ethnig, cyfansoddiad o ran y rhywiau a chyfansoddiad cymdeithasol y DU wedi dod yn fater cyfansoddiadol o bwys.Rydym yn effro iawn i’r materion hyn mewn perthynas â’r rhan honno o’r farnwriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdani. Yn y sylwadau a wnawn, rydym yn gwneud y pwyntiau sy’n ymwneud ag amrywiaeth yn glir iawn. Rydym hefyd yn gwneud y pwynt, yn gryf iawn, ei bod yn hanfodol fod cynrychiolaeth Gymreig yn y llysoedd uwch gan farnwyr â gwybodaeth a dealltwriaeth o ddatganoli a’r gyfraith fel y mae’n gymwys i Gymru. Felly, mae’r ddwy agwedd honno’n bendant yn cael eu hystyried gan Lywodraeth Cymru pan fo unrhyw gyfle i hyrwyddo’r amrywiaeth ehangach rydym oll yn awyddus i’w gweld. <p>Contractau Dim Oriau </p> Jeremy Miles AC: 3. Pa asesiad y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’i wneud o ran a oes gan y Cynulliad y cymhwysedd deddfwriaethol i wahardd y defnydd o gontractau dim oriau yng Nghymru? OAQ(5)0036(CG) Mick Antoniw AC: Bydd yr Aelodau’n ymwybodol fod fy nghyngor yn gyfreithiol freintiedig. Byddai cynigion i ddeddfu ar gontractau dim oriau yn galw am ddadansoddiad manwl o gymhwysedd deddfwriaethol sy’n ystyried yr amgylchiadau a’r cyd-destun ffeithiol penodol. Jeremy Miles AC: Diolch iddo am ei ateb. Mae amodau cyflogaeth camfanteisiol yn bla difrifol ar yr economi fodern, ac mae dod o hyd i ffordd o wahardd cyflogaeth gamfanteisiol yn flaenoriaeth absoliwt i ni ar y meinciau hyn. Rwy’n croesawu ymrwymiadau gan Blaid Lafur y DU i ddefnyddio pwerau a gedwir yn San Steffan i wahardd cyflogaeth gamfanteisiol ledled y DU.O ystyried ei ateb ynglŷn â chymhwysedd y lle hwn, beth yw ei farn ynglŷn ag ymdrechion Plaid Cymru i atodi diwygiadau i ddeddfwriaeth arall na all fynd i’r afael â’r malltod hwn o ddifrif, ac sy’n peryglu’r ddeddfwriaeth honno, hyd yn oed os yw hynny’n sicrhau pennawd da i Blaid Cymru? Mick Antoniw AC: Wel, nid wyf yn credu mai fy lle i yw gwneud sylwadau ar argymhellion a wnaed gan unigolion penodol neu gan bleidiau gwleidyddol. Beth y byddwn yn ei ddweud yw hyn: mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn effro iawn i fater amodau cyflogaeth yn ei gyfanrwydd, ac ar sawl achlysur, mae wedi tynnu sylw at faterion yn ymwneud â’r ffordd y gellir defnyddio’r broses gaffael.Rydym eisoes wedi gweld y gwaith a wnaed gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â chosbrestru. Yn amlwg, rydym wedi cael y drafodaeth ar yr egwyddorion mewn perthynas â’r Ddeddf undebau llafur, ac wrth gwrs, gwnaed cryn dipyn o waith, a gwelwyd cryn effaith, mewn perthynas â Deddf y Sector Amaethyddol (Cymru) 2014, ac wrth gwrs, effaith y dyfarniad penodol hwnnw.Lansiwyd y cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn gynharach eleni. Mae’n god gwirfoddol, ond disgwylir i bob sefydliad sy’n derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru ymrwymo iddo, ac mae’n darparu na ddylid defnyddio contractau dim oriau mewn modd annheg.Mae Comisiwn Staff y Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cynhyrchu canllawiau ynglŷn â’r defnydd o gontractau heb oriau gwarantedig ac egwyddorion a chanllawiau ar y defnydd priodol o drefniadau heb oriau gwarantedig mewn gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru.Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi comisiynu a chyhoeddi gwaith ymchwil ynglŷn â’r defnydd o gontractau dim oriau yn y gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru ac yng nghyd-destun gofal cartref. Wrth gwrs, bydd yr Aelodau’n ymwybodol o ddatganiadau a wnaed gan Weinidogion mewn perthynas â gwaith parhaus Llywodraeth Cymru ar y mater o fynd i’r afael ag ansicrwydd swyddi, contractau dim oriau a gosod amodau hunangyflogaeth, yn ogystal ag ystyriaethau penodol a roddir i’r sector gofal. Suzy Davies AC: Wel, er mwyn helpu i brofi’r cwestiwn canolog ynglŷn â chymhwysedd, efallai y gall Llywodraeth Cymru geisio cynnig cyngor ac arweiniad, wrth gwrs, fel rydych newydd sôn, Cwnsler Cyffredinol. Os felly, pa statws sydd i hynny o ran diffyg cydymffurfio, a beth yw eich barn ynglŷn â’r ffaith fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, tan yr wythnos diwethaf, yn ôl fy set ddiwethaf o ffigurau, yn cyflogi bron i 350 aelod o staff ar gontractau dim oriau? A ydych yn credu bod hynny’n cydsynio â’r math o genhadaeth sydd gennych yn erbyn defnydd annheg o’r contractau hynny? Mick Antoniw AC: Wel, mae’r cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi ar waith. Mae’n bodoli er mwyn i gyrff cyhoeddus roi sylw iddo wrth ystyried contractau yn y dyfodol. Yn amlwg, disgwylir y bydd pob corff cyhoeddus yn ystyried y cod penodol hwnnw. Bydd yn rhaid i unrhyw gamau pellach y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r cymhwysedd sydd gan y Cynulliad hwn mewn gwirionedd.Bydd yr Aelodau’n ymwybodol iawn o’r materion a gododd yn y Ddeddf amaethyddiaeth (Cymru)—rhywbeth yr oedd plaid yr Aelod yn ei wrthwynebu, gyda llaw—ac a roddodd ddealltwriaeth glir iawn mewn gwirionedd o’r ffordd yr ystyrir cymhwysedd o dan y model rhoi pwerau. Wrth gwrs, byddwn yn newid i fodel gwahanol maes o law, model cadw pwerau, yn y dyfodol. Mae’r canllawiau a gyhoeddir yn wirfoddol, ond byddem yn disgwyl cydymffurfiaeth â hwy. Ac wrth gwrs, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth o gwbl y bydd y Gweinidog yn awyddus i weld system lle caiff hynny ei adolygu maes o law yn y dyfodol. Gareth Bennett AC: Diolch am eich atebion ar y pwnc hyd yn hyn. Mae’n dda eich bod wedi llunio cod ymarfer, o leiaf, ond y pwynt a wnaeth Plaid Cymru yr wythnos diwethaf drwy Adam Price ar fater contractau dim oriau oedd eich bod wedi hawlio cymhwysedd cyfreithiol dros faes cyflogaeth y sector cyhoeddus drwy gyflwyno Deddf yr undebau llafur, felly ymddengys bod hynny’n anghyson â’ch ymagwedd at gontractau dim oriau. Mick Antoniw AC: Nid oes unrhyw anghysondeb. Mae’n rhaid ystyried unrhyw set o amgylchiadau lle cynigir darn o ddeddfwriaeth neu ddiwygiad yng ngoleuni’r cymhwysedd deddfwriaethol sydd gennym mewn gwirionedd. Credaf mai dyna’r pwynt a wneuthum yn fy ateb cyntaf, sef ein bod yn ystyried yr amgylchiadau a’r cyd-destun ffeithiol penodol. Ac yng ngoleuni hynny, penderfynir ar gymhwysedd. <p>Arferion Gwrth-gystadleuol gan y Diwydiant Fferyllol</p> Lynne Neagle AC: 4. Pa asesiad y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’i wneud o’r goblygiadau cyfreithiol i Gymru yn sgil ymchwiliad 2008 Comisiwn yr UE i arferion gwrth-gystadleuol gan y diwydiant fferyllol? OAQ(5)0035(CG) Mick Antoniw AC: Wel, bob blwyddyn, mae’r gwasanaethau iechyd cenedlaethol ledled y DU yn colli miliynau o bunnoedd o ganlyniad i’r ffaith fod rhai cwmnïau fferyllol yn torri cyfreithiau cystadlu Ewropeaidd a domestig. Rydym yn gweithio’n agos ac yn effeithiol iawn gyda’r Adran Iechyd, a’r gweinyddiaethau datganoledig eraill, sy’n rhannu ein diddordeb yn y materion hyn, i adennill ein colledion, a lle ceir sail dros roi camau cyfreithiol ar waith. Lynne Neagle AC: Diolch, Cwnsler Cyffredinol. Mae’n amlwg o lefel y canfyddiadau diweddar fod Llywodraeth Cymru yn wynebu risg sylweddol o gostau am fod rhai cwmnïau fferyllol i’w gweld fel pe baent yn gweithio gyda’i gilydd i bennu prisiau. A yw’r Cwnsler Cyffredinol yn credu y bydd y risg yn cynyddu wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd, a pha gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd i ddiogelu GIG Cymru ar ôl Brexit? Mick Antoniw AC: Wel, rydych yn tynnu sylw at fater pwysig iawn. Ac wrth ateb y cwestiwn hwnnw mor llawn ag y gallaf, credaf fod angen i mi fod yn ochelgar iawn ynglŷn â sensitifrwydd cyfreithiol a dyletswyddau cyfrinachedd i’r llys ac i drydydd partïon eraill, y bydd yr Aelod yn eu deall, ac y mae’n rhaid i mi eu parchu. Felly, mae’n debyg, wrth ateb eich cwestiwn, nid wyf am wneud unrhyw gyfeiriad penodol at unrhyw achosion penodol a ddygwyd gerbron neu a setlwyd, na nodi unrhyw gwmnïau unigol, neu achosion cyfreithiol sydd ar y gweill, neu achosion posibl, ac mae llawer ohonynt. Serch hynny, rydych yn tynnu sylw at fater pwysig iawn a materion o ddiddordeb clir i’r cyhoedd, lle mae problemau amlwg sydd angen eu datrys yn rhan o drafodaethau Brexit.Yn 2008, fel y nodwch yn eich cwestiwn, lansiodd y Comisiwn Ewropeaidd ymchwiliad i edrych ar amodau gwrth-gystadleuol posibl yn y sector fferyllol. Cyhoeddodd y comisiwn ei adroddiad terfynol ym mis Gorffennaf 2008. Mae’r adroddiad yn cyflwyno canfyddiadau manwl y comisiwn, ac yn argymell ffyrdd o wella mynediad cyflym i gleifion at feddyginiaethau. A daw prif ganfyddiadau’r adroddiad, sydd wedi’u cofnodi’n gyhoeddus, i’r casgliad ei bod yn cymryd gormod o amser i gyffuriau generig gyrraedd y farchnad, fod llai o feddyginiaethau arloesol yn cyrraedd y farchnad, a bod arferion rhai cwmnïau cyffuriau penodol yn cyfrannu at y sefyllfa hon.Mae’n amlwg o benderfyniadau’r comisiwn a’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd fod ymddygiad rhai cwmnïau penodol yn y sector fferyllol yn wrth-gystadleuol, ac y gallai hyn achosi colledion ariannol i Weinidogion Cymru, i’r gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru ac i’r GIG ehangach yn y DU, ac yn wir, ledled Ewrop. Mae Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda’r adrannau iechyd yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i ymchwilio i achosion o’r fath. Pan fo ymddygiad gwrth-gystadleuol yn achosi colledion i Weinidogion Cymru a’r GIG yng Nghymru, cymerir camau cyfreithiol priodol i adennill colledion o’r fath. Gallaf gadarnhau bod Gweinidogion Cymru wedi bod yn llwyddiannus mewn nifer o achosion drwy sicrhau setliadau.Gall natur draws-Ewropeaidd y gweithgarwch gwrth-gystadleuol hwn gan rannau o’r diwydiant fferyllol arwain at golledion enfawr. Mae’n fater a gofnodwyd yn gyhoeddus fod lefelau rhai o’r dirwyon yn adlewyrchu hyn. Er enghraifft, mae camau a gymerwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd wedi arwain at ddirwyon, mewn un achos o €427 miliwn am dorri rheolau gwrth-ymddiriedaeth yr UE, ac mewn achosion eraill am gamddefnyddio statws goruchafol o fewn y farchnad; €180 miliwn mewn achos arall; mewn achosion eraill, €10 miliwn a €5.5 miliwn. Yn sicr, symiau enfawr a sylweddol. Mae gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd bwerau cyfochrog â rhai’r comisiwn i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrth-gystadleuol yn y DU, a gall osod ei sancsiynau ei hun. Mewn un achos, gosododd ddirwy o £45 miliwn. Mae effaith ariannol bosibl yr ymddygiad hwn yn enfawr, ac os nad eir i’r afael ag ef, gall arwain at gost ddiangen o ddegau a channoedd o filiynau o bunnoedd i’r GIG, ac mae’r GIG yn ysgwyddo cyfran o hynny.Felly, mae’n faes lle mae Llywodraeth Cymru yn weithgar iawn, ar y cyd â’n cymheiriaid cyfatebol, ledled y DU, yn yr Adran Iechyd, a’r Llywodraethau datganoledig. Bydd sicrhau strategaeth ôl-Brexit yn bwysig iawn, er mwyn sicrhau nad ydym o dan anfantais wrth fynd i’r afael â gweithgarwch gwrth-gystadleuol. Er gwaethaf pwerau domestig yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd, ar hyn o bryd, nid yw’n glir os bydd y gallu i ddibynnu ar ymchwiliadau a phenderfyniadau’r Comisiwn Ewropeaidd, fel rydym wedi’i wneud yn y gorffennol, yn parhau, neu sut y byddant yn parhau. Yn fy marn i, mae diddordeb cyffredin clir yng Nghymru, gweddill y DU ac awdurdodau Ewrop i barhau i fynd i’r afael â’r materion rhyngwladol cymhleth hyn gyda’n gilydd. <p>Datganoli’r Gyfundrefn Gyfiawnder</p> Simon Thomas AC: 5. Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cynnal gyda swyddogion y gyfraith ynghylch datganoli y gyfundrefn gyfiawnder? OAQ(5)0038(CG)[W] Mick Antoniw AC: Bydd yr Aelodau’n gwybod bod yr ateb hwn yn amodol ar gonfensiwn sefydledig swyddogion y gyfraith ac nad wyf yn trafod cyfarfodydd o’r fath yn gyhoeddus. Simon Thomas AC: Diolch am yr ateb arferol. Ydy’r Cwnsler Cyffredinol yn digwydd cytuno â fi, serch hynny, mai’r rhan o’r gyfundrefn sydd fwyaf hawdd i ddatganoli o ran y gyfraith, ac o ran cyfansoddiad hefyd, fyddai heddlua? A chan fod y Prif Weinidog wedi dweud wrth y Siambr ddoe ei fod yntau yn gryf iawn o blaid datganoli heddlua, a chan ein bod ni yn cynnal dadl o fewn ryw chwarter awr, efallai, ar y mater yma hefyd, pa gamau, felly, mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd nawr, gyda chyngor y Cwnsler Cyffredinol, i sicrhau bod y camau cyfansoddiadol yn eu lle i ganiatáu i hynny ddigwydd? Mick Antoniw AC: Wel, mae unrhyw gamau cyfansoddiadol mewn perthynas â datganoli plismona yn galw am newid yn y gyfraith mewn gwirionedd ac nid yw’n briodol i mi sathru ar draed y Prif Weinidog yn ei ddisgrifiad a’i argymhellion gogyfer ag unrhyw newidiadau polisi y teimla eu bod yn briodol. Ond wrth gwrs, gwnaeth yn glir iawn ddoe yn y Siambr hon beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru mewn perthynas â datganoli plismona. <p>Llygredd Awyr</p> Simon Thomas AC: 6. Pa asesiad y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’i wneud ynglŷn ag effaith deddfwriaeth Ewropeaidd ynglŷn â llygredd awyr ar Gymru? OAQ(5)0039(CG)[W] Mick Antoniw AC: Bydd yr Aelodau unwaith eto yn gwybod bod fy nghyngor yn gyfreithiol freintiedig ac yn amodol ar gonfensiwn sefydledig swyddogion y gyfraith, ond rwy’n llwyr gefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella ansawdd aer ledled Cymru a’i mentrau amrywiol i fynd i’r afael â llygredd aer. Simon Thomas AC: Diolch yn fawr i’r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb. Wrth gwrs, cawsom ddadl ynglŷn â hyn ddoe ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), a chadarnhaodd y Gweinidog yn ystod y ddadl honno fod pwerau presennol Gweinidogion Cymru yn dod o dan adran 80 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995. Credaf fod dwy broblem gyda hyn. Un yw bod y ddeddf honno wedi cael ei phasio yn y lle cyntaf, wrth gwrs, cyn datganoli, ac felly, mae’r pwerau sydd gan Weinidogion Cymru yn bwerau datganoli gweinyddol, yn hytrach na bod deddfwriaeth wedi’i datganoli. Ac yn ail, hyd y gwelaf, er ei bod yn gosod rhwymedigaeth ar Weinidogion i gynhyrchu strategaethau mewn perthynas â llygredd aer, nid yw Deddf yr Amgylchedd yn cynnwys unrhyw rwymedigaeth i leihau llygredd aer, neu i wella’r sefyllfa, mewn geiriau eraill. Felly, gallwch ymateb i’r ddeddfwriaeth heb wneud unrhyw beth amdani. Ac yn amlwg, roedd hynny 20 mlynedd yn ôl, a dyna pam rwyf mor awyddus i ni ailedrych ar hyn. Ac yn benodol, gyda’r wybodaeth sydd gennym y byddwn, wrth adael yr Undeb Ewropeaidd, yn colli’r fframwaith ehangach hwnnw o ddeddfwriaeth amgylcheddol Ewropeaidd, onid yw’r Cwnsler Cyffredinol o’r farn, yn ei waith parhaus ar godeiddio’r ddeddfwriaeth Gymreig, fod llygredd aer yn faes lle mae angen a lle rydym yn haeddu deddfwriaeth Gymreig benodol? Mick Antoniw AC: Wel, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, nid yw’r broses o godeiddio, wrth gwrs, os caf ymdrin â’r pwynt olaf, yn ymwneud â diwygio’r gyfraith, mae’n ymwneud â chodeiddio’r gyfraith sy’n bodoli eisoes, ac mae’r angen i wneud unrhyw ddiwygiadau neu newidiadau yn fater hollol ar wahân ac wrth gwrs, byddai angen eu hystyried, ymgynghori yn eu cylch a chraffu arnynt ar lefel hollol wahanol.O ran y mater polisi y mae’r Aelod yn ei godi, wel, wrth gwrs, mae hwnnw’n fater i Weinidog arall ac nid yw’n briodol i mi groesi i’r diriogaeth benodol honno. Yr hyn y gallaf ei ddweud, drwy ailadrodd rhai o’r pwyntiau a wnaed eisoes gan Weinidogion yn y maes hwn, rwy’n tybio, yw bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n gadarn i wella ansawdd yr aer ledled Cymru, a’i bod yn mynd i’r afael â llygredd aer mewn nifer o ffyrdd, ac wrth gwrs, amlinellwyd y rhain yn y ddadl ddoe ac maent yno yn y trawsgrifiad. Ac wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar welliannau i ‘Polisi Cynllunio Cymru’ ar hyn o bryd mewn perthynas ag ansawdd aer ac mae ymgynghoriad ar y gweill. Mae’n bosibl fod yr Aelod yn cyfeirio, wrth gwrs, at y materion sy’n ymwneud â nitrogen deuocsid, sy’n amlwg yn destun pryder, ac ers yr wythnos ddiwethaf, mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar y cyd â gweinyddiaethau eraill y DU ac yn ceisio barn ar gynllun diwygiedig i leihau lefelau nitrogen deuocsid ger ffyrdd mewn cyn lleied o amser ag sy’n bosibl. Rwy’n credu bod unrhyw feysydd eraill, mewn gwirionedd, yn faterion polisi, a dylid eu cyfeirio at y Gweinidog priodol. Diolch i’r Cwnsler Cyffredinol. 3. 3. Cwestiynau Amserol Yr eitem nesaf ar ein hagenda yw’r cwestiynau amserol, ac mae’r cwestiwn cyntaf gan Simon Thomas. <p>Torri Rheolau Dŵr Glân</p> Simon Thomas AC: Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o ddyfarniad Llys Cyfiawnder Ewrop ynghylch torri rheolau dŵr glân yng Nghymru, gan gynnwys yng Nghilfach Tywyn ger Llanelli? TAQ(5)0134(ERA)[W] Jane Hutt AC: Rydym yn cydnabod y dyfarniad. Byddwn yn parhau i weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru ar ein rhaglen £130 miliwn ar gyfer Llanelli a Thre-gŵyr i leihau nifer y colledion, gwella ansawdd dŵr a lleihau’r perygl o lifogydd lleol erbyn 2020. Simon Thomas AC: Diolch i’r Gweinidog am gamu i’r adwy unwaith eto ac ymateb ar ran Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd. Rwy’n credu mai’r ymateb gorau i’r penderfyniad hwn gan Lys Cyfiawnder Ewrop yw, ‘Sut y gallai’r UE feiddio dweud wrthym na allwn ymdrochi yn ein carthion eu hunain’, oherwydd dyna yw hyn mewn gwirionedd. Mae wedi cymryd Llys Cyfiawnder yr UE i ddweud wrth Lywodraeth y DU bod y 3,000 o bibellau gorlifo sy’n dal i fod gennym yng Nghymru heddiw, sy’n gallu gollwng carthion yn uniongyrchol i mewn i’n dŵr pan gawn gyfnodau o law trwm—ac mae glaw trwm yn digwydd yng Nghymru, er ei bod yn bosibl nad yw wedi digwydd yn ddiweddar iawn, ond mae’n digwydd yng Nghymru—ac mae’r 14 o bibellau gorlifo yng nghilfach Tywyn yn benodol yn torri cyfraith yr UE ac yn llygru ein dŵr ymdrochi yn ogystal â chynefinoedd degau o filoedd o adar gwyllt, er enghraifft, o gwmpas y morfeydd heli ym Mhorth Tywyn.Mae’r diwydiant cocos, yn arbennig, bob amser wedi teimlo bod y llygredd yng nghilfach Tywyn yn effeithio ar farwolaeth cocos. Nid yw hyn wedi cael ei brofi, ond mae cydberthynas gref rhwng y digwyddiadau hyn a phrinder y diwydiant hwnnw a’r effaith economaidd a’r effaith draddodiadol ar ffyrdd o fyw ar rannau o’r gilfach a’r aber.Yn benodol, rwyf wedi gweld prosiect GlawLif Dŵr Cymru yn Llanelli a Phorth Tywyn—mae gwelliannau’n digwydd yno ac rwyf wedi croesawu’r hyn y maent yn ceisio ei wneud yn fawr, ond dadl y DU, dadl a gollodd yn Llys Cyfiawnder Ewrop, oedd bod y gwelliannau hyn yn ddigon da erbyn y flwyddyn 2020. Felly, rwy’n awyddus i wybod: a yw Llywodraeth Cymru hefyd yn credu ei bod yn ddigon da i wella erbyn 2020, oherwydd mae Llys Cyfiawnder Ewrop yn credu y dylem ei wneud yn gynt, a chan fod Llys Cyfiawnder Ewrop yn credu y dylem ei wneud yn gynt, beth yn union y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn awr i sicrhau nad oes gennym ddŵr ymdrochi budr a dŵr budr mewn cynefinoedd yng Nghymru mwyach? Jane Hutt AC: Diolch i Simon Thomas am y cwestiwn. Mewn ymateb i’r pwyntiau penodol hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru i ddatblygu a gweithredu rhaglen waith i leihau nifer y colledion, i wella ansawdd dŵr ymhellach ac i leihau’r perygl o lifogydd lleol erbyn diwedd 2020. Yn amlwg, rwyf wedi crybwyll y buddsoddiad o £130 miliwn. Mae’n bwysig adrodd eto heddiw pa mor agos y mae’r ymgysylltiad â thrigolion lleol a busnesau lleol, yn ogystal â chynrychiolwyr etholedig, wedi bod yn yr ardal, gan weithio’n galed i leihau aflonyddwch i breswylwyr, a fydd, wrth gwrs, o ganlyniad i’r buddsoddiad cyllid—. Ond, wrth gwrs, mae’n amlwg bod yn rhaid mynd i’r afael ag oedran y system seilwaith bresennol yn yr ardal leol.Rwy’n credu ei bod yn bwysig cydnabod bod y gyfarwyddeb trin dŵr gwastraff trefol wedi’i mabwysiadu yn ôl ym 1991 ac roedd yn hanfodol o ran llywio tuag at asesu ansawdd. Mae’n cael ei gweithredu a’i gorfodi yn bennaf bellach drwy faterion datganoledig a mynegwyd y pryderon hynny ynglŷn ag ansawdd dŵr gan gynrychiolwyr y casglwyr cocos a chynghorwyr lleol a gwahanol bartïon yn Llanelli a Gŵyr. Felly, yn amlwg, o ran y llys ar 4 Mai, mae’n rhaid cael ymateb clir a chadarn iawn i’r dyfarniad hwn. Lee Waters AC: Gweinidog, mae 12 mlynedd wedi bod bellach ers i gasglwyr cocos cilfach Tywyn adrodd bod nifer sylweddol o bysgod cregyn yn marw ac nid ydym eto’n gwybod beth sy’n achosi’r marwolaethau hyn. Rydym yn gwybod, fodd bynnag, am ei effaith economaidd: mae diwydiant allforio wedi cael ei ddinistrio ac mae’r casglwyr cocos lleol bellach yn cael trafferth i ennill bywoliaeth sylfaenol hyd yn oed.Chwe blynedd yn ôl, dyfarnodd y llysoedd yn erbyn Dŵr Cymru ac yn awr maent wedi dyfarnu yn erbyn Llywodraeth y DU. A wnaiff y Llywodraeth edrych ar hyn eto ac ystyried helpu’r diwydiant lleol hwn sydd wedi’i ddinistrio, fel y mae wedi helpu diwydiannau eraill? Jane Hutt AC: Diolch i Lee Waters am y cwestiwn hwnnw, ac yn amlwg, mae’n hollbwysig deall a nodi’r rhesymau pam fod mwy o gocos wedi marw. Yn wir, comisiynodd Llywodraeth Cymru ymchwil i hyn. Fel y byddwch yn gwybod, roedd canfyddiadau’n dangos ei bod yn annhebygol mai ansawdd dŵr oedd wrth wraidd y problemau a brofwyd gan y diwydiant cocos, ond mae ymgysylltu â’r diwydiant cocos, y casglwyr cocos eu hunain, a’u cynrychiolwyr ac fel y dywedais, cynrychiolwyr etholedig a busnesau lleol, wedi bod yn hollbwysig wrth fynd i’r afael â hyn a sicrhau bod camau’n cael eu rhoi ar waith. Rwy’n credu ei bod hefyd yn bwysig cydnabod bod Dŵr Cymru wedi monitro ac wedi datblygu rhaglen waith i leihau nifer y colledion. Rwyf eisoes wedi sôn am hyn. Er enghraifft, yn yr asedau tanciau stormydd trin dŵr gwastraff yn Llanelli a Thre-gŵyr, fel y byddwch yn gwybod, roedd colledion yn digwydd yn llawer amlach, ac er eu bod yn cydymffurfio â gweithrediad cyfarwyddeb gyfredol y DU ar drin dŵr gwastraff trefol, roeddent yn gwneud mwy na’r hyn y byddai’r Comisiwn yn ei ystyried yn dderbyniol. Felly, rwy’n credu, unwaith eto, ac rwy’n gobeithio bod y dystiolaeth o ymgysylltiad yn lleol, y camau a gymerwyd, y buddsoddiad erbyn 2020 ym mhrosiect GlawLif, wrth gwrs, yn sicrhau y gellir mynd i’r afael â hyn ac y bydd yn tawelu meddyliau’r bobl yn y gymuned ac mewn busnesau, yn enwedig y casglwyr cocos, ac yn galluogi’r ansawdd dŵr i wella, wrth gwrs, a lleihau’r risg o lifogydd. Suzy Davies AC: Wel, rwy’n cytuno ei bod yn siomedig iawn fod tramgwyddo o’r fath wedi digwydd a bod yna ail ddyfarniad llys wedi bod yn awr ar yr un mater yn union. Mae’n bosibl iawn fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gywir i ddweud bod datrys y broblem yn anodd, ond o gofio nad ydym yn sôn yn unig am achosion o dorri’r gyfraith, ond yn hytrach am newidiadau difrifol i ecoleg yr ardal, nid wyf yn credu ei bod yn briodol rhoi’r bai i gyd ar Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru yn y mater hwn.Nawr, mae Dŵr Cymru, wrth gwrs, yn mynnu nad y tramgwydd yw achos y marwolaethau cocos a nodwyd yma eisoes. Mae’n ddigon posibl mai dyna’r gwir, ond mae pum mlynedd wedi bod ers yr adroddiad parasitoleg rydych wedi cyfeirio’n anuniongyrchol ato, arweinydd y tŷ, ac nid oedd yr adroddiad hwnnw’n sôn yn uniongyrchol o reidrwydd am ansawdd dŵr, ond roedd yn dweud nad paraseitiaid oedd yr unig reswm dros unrhyw farwolaethau. Felly, rydym yn sôn am bum mlynedd yn ôl ac ers hynny, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cynnal yr hyn y mae wedi’i alw’n ‘drosolwg’ o’r wyddoniaeth. Mae yna lu o fentrau ymchwil naill ai ar y cam ymgeisio neu’r cam cais terfynol. Felly, yn fyr, mae’n fy nharo, ers 2012, nad yw’n ymddangos bod llawer iawn o ymyrraeth wedi bod i geisio cynnal yr hyn sydd, o ran ei botensial, yn dal i fod yn ddiwydiant lleol proffidiol ac yn amlwg, yn un o arwyddocâd diwylliannol lleol hefyd. A fyddai’n deg i mi ddweud, efallai, fod y ffocws ar seilwaith rydych wedi cyfeirio ato yn rhai o’ch atebion heddiw wedi bod ar draul ymchwil wyddonol a allai fod wedi datrys y broblem mewn perthynas â’r cocos? Diolch. Jane Hutt AC: Rwy’n credu, o ran edrych nid yn unig ar ganlyniad yr ymchwil ond hefyd ar yr hyn a oedd yn effeithio ar y gwaith a fyddai’n cael ei wneud—y buddsoddiad o £113 miliwn—byddwn yn dweud bod hyn i raddau helaeth yn cynnwys technegau draenio cynaliadwy ecogyfeillgar sy’n gwella ansawdd yr amgylchedd lleol ac yn lleihau’r perygl o lifogydd yn lleol yn sgil y gwaith hwnnw. Hefyd, er gwaethaf y dyfarniad gan y llys ar 4 Mai, mae ansawdd dŵr pysgod cregyn yn yr ardal wedi cyrraedd safonau statudol yn gyson ers 2000. Rwy’n credu bod pwysigrwydd yr ymateb yn awr, o ran mynd i’r afael â’r mater hwn fel y’i nodwyd gan y llys, yn flaenoriaeth, nid yn unig i Dŵr Cymru, ond hefyd i Lywodraeth Cymru, a bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn monitro hynny. Diolch i arweinydd y tŷ. Y cwestiwn nesaf gan Llyr Gruffydd. <p>Diswyddiadau Posibl ym Mhrifysgol Aberystwyth</p> Llyr Gruffydd AC: Beth yw asesiad Llywodraeth Cymru o effaith y diswyddiadau posibl ym Mhrifysgol Aberystwyth? TAQ(5)0130(EDU)[W] Kirsty Williams AC: Diolch, Llyr. Mae prifysgolion yng Nghymru yn gyrff ymreolaethol. Fel y cyfryw, cyfrifoldeb Prifysgol Aberystwyth yn unig yw materion staffio. Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw lais yn y mater hwn. Ond wrth gwrs, rwy’n deall bod y brifysgol mewn trafodaethau gydag aelodau o’r staff a’r undebau llafur ynglŷn ag argymhellion i adolygu ei strwythurau staffio. Llyr Gruffydd AC: Wel, diolch i chi am eich ateb. Mae’r brifysgol, wrth gwrs, wedi cyfeirio at y gystadleuaeth am fyfyrwyr—gostyngiad o 8 y cant yng ngheisiadau i astudio yng Nghymru, a Brexit, ymhlith ffactorau eraill, sydd yn dylanwadu ar y sefyllfa maen nhw’n ffeindio eu hunain ynddi hi. Ond y pwynt pwysig i fi fan hyn, wrth gwrs, yw nad un achos sydd gyda ni, ond rydym ni wedi clywed yn yr wythnosau diwethaf am Brifysgol De Cymru yn sôn am leihau staffio o ryw 4.6 y cant, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn sôn am doriadau o hyd at 10 y cant, a hwythau hefyd yn cyfeirio at nifer o’r un ffactorau. Mae cynrychiolwyr undeb Unsain wedi dweud bod yn rhaid i’r Llywodraeth ystyried pecyn o opsiynau i ymyrryd yn y sefyllfa yma er mwyn amddiffyn swyddi’r gweithwyr rheng flaen. A gaf i ofyn a ydy’r Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg, felly, yn cyfaddef nawr bod gennym ni argyfwng yn y sector addysg uwch o safbwynt ariannu a staffio, ac, er bod diwygiadau Diamond, wrth gwrs, yn mynd rhagddynt, fod angen i’r Llywodraeth ymyrryd ar fyrder cyn i’r sefyllfa yma waethygu ymhellach? Kirsty Williams AC: Diolch i chi, Llyr. Fel rwyf wedi’i ddweud, mae pob prifysgol, gan gynnwys Aberystwyth a’r sefydliadau eraill rydych wedi’u crybwyll, yn gyrff ymreolaethol ac felly, fel y dywedais eisoes, nid oes gennym lais yn y maes hwn. Rwy’n ymwybodol bod y sector addysg uwch yng Nghymru yn wynebu nifer o heriau, yn enwedig methiant rhai sefydliadau i gyrraedd eu targedau recriwtio myfyrwyr. Ac wrth gwrs, fe sonioch am Brexit, sy’n creu her sylweddol i’r sector addysg uwch. Fel Llywodraeth, rydym yn symud yn gyflym iawn i geisio sicrhau myfyrwyr rhyngwladol, o’r Undeb Ewropeaidd a’r tu hwnt i’r Undeb Ewropeaidd, fod croeso iddynt astudio yma yng Nghymru. Rydym yn parhau i wneud penderfyniadau cyflym ynglŷn ag argaeledd pecynnau ariannol er mwyn i fyfyrwyr Ewropeaidd allu astudio yma yng Nghymru.Rwyf wedi sefydlu gweithgor sy’n edrych yn benodol ar yr hyn y gallwn ei wneud i gefnogi’r sector addysg uwch wrth i ni symud drwy’r trafodaethau Brexit, ac mae’r sector addysg uwch yn cael ei gynrychioli hefyd yng ngrŵp y Prif Weinidog. Rwy’n parhau i gyflwyno sylwadau i’r Llywodraeth flaenorol yn San Steffan ynglŷn ag amrywiaeth o gamau y gallai eu cymryd i’n cynorthwyo yn y maes hwn. Mae’n warthus na ymgynghorwyd â gweinyddiaethau Cymru na’r Alban mewn perthynas â chynllun treialu fisa i weithio ar ôl astudio. Byddem wedi elwa o hynny yng Nghymru, fel y byddai ein cymheiriaid yn yr Alban. Byddwn yn awyddus iawn i Lywodraeth y DU edrych ar y mater hwnnw eto. Mae hefyd yn amlwg iawn i mi fod angen i ni eithrio myfyrwyr tramor fel rhan o obsesiwn parhaus y Llywodraeth gyda ffigurau mewnfudo. Mae gennym sector addysg uwch yma yng Nghymru sy’n ddigon cryf ac yn ddigon da i’w werthu i’r byd. Mae’n batrwm o ragoriaeth ac mae angen i Lywodraeth y DU ddatblygu trefn fewnfudo nad yw’n ei gwneud yn anos i fyfyrwyr rhyngwladol fanteisio ar y cyfleoedd sydd gennym yn ein prifysgolion a’n colegau yma yng Nghymru. Deallaf fod Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, fel y corff noddi a chyllido addysg uwch, yn parhau i fod mewn cysylltiad agos â Phrifysgol Aberystwyth, a’n holl brifysgolion yn wir. Huw Irranca-Davies AC: Diolch, Llywydd, a diolch i Llyr am roi sylw i hyn o dan y cwestiynau amserol. Cafodd rhan o’r broblem ynglŷn â hyn ei thrafod yn ein grŵp trawsbleidiol ar brifysgolion ar 1 Chwefror a dyna rwyf eisiau canolbwyntio arno ar hyn o bryd, oherwydd mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gywir yn dweud bod gennym gynnig o safon fyd-eang yma, ond mae rhywbeth yn mynd o’i le, ac rwyf eisiau crybwyll hynny’n fyr yma.Rydym yn gwybod, yng Nghymru, fod ein hallforion addysg i fyfyrwyr rhyngwladol yn werth tua £530 biliwn, sef 4 y cant o holl allforion Cymru. Mae ein myfyrwyr rhyngwladol ar hyn o bryd—ar hyn o bryd—yn cynnal dros 7,500 o swyddi ym mhrifysgolion Cymru, ac o amgylch Cymru hefyd, nid yn y prifysgolion yn unig. Ond rydym wedi cael gostyngiad o 26 y cant yn nifer y myfyrwyr o’r tu hwnt i’r UE ym mhrifysgolion Cymru ers y lefel yn 2013-14, ac mae hyn o’i gymharu â gostyngiad o 4 y cant yn y DU yn gyffredinol a phrifysgolion Grŵp Russell a’r Alban. Felly, mae gennym broblem benodol, ac mae hyn er gwaethaf cynnig o safon fyd-eang ym mhrifysgolion Cymru ac er gwaethaf y ffaith fod costau byw a dysgu yma yng Nghymru yn llawer mwy fforddiadwy. Ond rydym yn gwybod, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet yn iawn, fod astudiaethau rhyngwladol yn dangos bod y DU bellach yn cael ei hystyried fel y lle lleiaf fforddiadwy i astudio ar gyfer israddedigion a graddedigion o’i chymharu â Seland Newydd, Awstralia, Canada a’r Unol Daleithiau. Mae’n rhaid i ni wneud llawer mwy o waith marchnata. Felly, a gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet: beth allwn ni ei wneud i farchnata sector prifysgolion Cymru yn well, i gael cynnig polisi mewnfudo a fisa mwy croesawgar, ac i hybu niferoedd y myfyrwyr rhyngwladol sy’n cael eu recriwtio? Nid dyna’r unig beth sydd angen ei wneud i wella’r sefyllfa, ond mae’n ffordd bwysig i ni ddatrys yr heriau hynny, gwella’r sefyllfa a hybu niferoedd ein myfyrwyr rhyngwladol. Kirsty Williams AC: Diolch i chi, Huw. Fel rydych yn ei ddweud, nid hwn yw’r unig fater sydd angen i ni ei ystyried, ond mae’n un pwysig. Ychydig cyn y Nadolig, cynhaliais gyfarfod pedairochrog gyda Gweinidogion y DU sydd â chyfrifoldeb yn y maes hwn, ac ailadroddais yr holl bwyntiau rwyf newydd eu gwneud i Llyr Gruffydd i Jo Johnson, y Gweinidog a oedd yn gyfrifol am addysg uwch ar y pryd. Pwy a ŵyr a fydd yn cadw’r swydd honno ar ôl yr etholiadau ym mis Mehefin? Credaf fod Jo Johnson yn deall yn union pa fath o system fewnfudo y mae angen i Lywodraeth y DU ei rhoi ar waith i gefnogi’r sector addysg uwch, yng Nghymru a thu hwnt. Yn anffodus, mae’n brwydro gyda Swyddfa Gartref nad yw’n rhannu’r ddealltwriaeth honno ac yn rhannu’r uchelgais hwnnw. Ond rydych yn iawn—ni allwn laesu ein dwylo a beio pobl eraill; mae’n rhaid i ni godi oddi ar ein pengliniau a gwneud yr hyn a allwn i gefnogi’r sector ein hunain. Dyna pam rwy’n awyddus iawn i drafod gyda fy nghyd-Aelod Cabinet, y Gweinidog dros yr economi, er enghraifft, pan fydd ei adran ar deithiau masnach ar draws y byd, y dylai addysg fod yn rhan o hynny. Fel y dywedoch yn hollol gywir, mae gennym gynnig cryf yma mewn llawer o feysydd, ond nid am ein cynnig gweithgynhyrchu, neu’n wir, ein maes awyr, yn unig y dylem fod yn siarad â gwledydd; dylem fod yn siarad â hwy hefyd am y sylfaen addysg uwch gref sydd gennym yma, ac rwy’n siŵr y gallwn wneud cynnydd yn y maes hwn. Simon Thomas AC: Wrth gwrs, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn iawn—nid yw’n gyfrifol am faterion staffio. Fodd bynnag, hi sy’n bennaf gyfrifol am y fframwaith cyllidol y mae prifysgolion Cymru yn gweithredu o’i fewn. Ei phlaid oedd yn gyfrifol am dreblu ffïoedd dysgu bum mlynedd yn ôl. Cafodd hynny effaith wirioneddol ar Brifysgol Aberystwyth; mae nifer gryn dipyn yn llai o fyfyrwyr o Loegr yn mynychu Prifysgol Aberystwyth bellach, nid am fod y brifysgol wedi gwaethygu, ond oherwydd bod prifysgolion Lloegr a threblu ffïoedd dysgu bellach yn cystadlu â’i gilydd am fyfyrwyr, yn enwedig y rhai o gefndiroedd mwy difreintiedig, a cheir cymhellion deniadol iddynt astudio yn Lloegr gyda’r arian yn system addysg Lloegr. Mae ganddi argymhelliad, wrth gwrs, yn adolygiad Diamond i geisio, rwy’n gobeithio, dychwelyd rhywfaint o’r arian rydym yn ei anfon dros y ffin ar hyn o bryd yn ôl i mewn i’r system brifysgolion, ond ni fyddai hwnnw’n dod yn weithredol am o leiaf ddwy flynedd, ac ni fyddai’n dod yn llawn am oddeutu pum mlynedd hyd yn oed, ac mae Prifysgol Aberystwyth yn argymell toriadau dros y ddwy flynedd nesaf. Y bwlch gwirioneddol hwn rhwng lle rydym heddiw a lle y gallem fod o dan Diamond yw’r broblem i brifysgol fel Aberystwyth a’r prifysgolion eraill sydd wedi cyhoeddi toriadau tebyg dros yr ychydig wythnosau diwethaf.Mae’n cwyno am y fisas ac mae’n iawn i gwyno amdanynt. Rydym i gyd wedi cwyno amdanynt, ond unwaith eto, ni lwyddodd ei phlaid a oedd mewn grym am bum mlynedd—Vince Cable a Clegg—i newid y drefn fisa yn y pum mlynedd hynny. Felly, rwy’n credu bod llawer o wasgu dwylo’n digwydd y prynhawn yma, ond mae yna brifysgol go iawn yn wynebu problemau go iawn a dros 100 o bobl yn wynebu diswyddiadau posibl. Yr hyn sydd ei angen gan Lywodraeth Cymru yw arwydd clir o gynaliadwyedd yn y dyfodol. Mae gennym Diamond ar y ffordd, ond nid yw’n weithredol eto. Beth a wnewch dros y ddwy flynedd nesaf i sicrhau bod cynaliadwyedd yn y sector addysg uwch yng Nghymru, ac yn benodol pa un a oes cefnogaeth i Brifysgol Aberystwyth i sicrhau nad yw’n llithro i safle is neu’n colli ei gallu i gystadlu yn y farchnad addysg uwch? Kirsty Williams AC: A gaf fi hysbysu’r Aelod fod y rhagolygon diweddaraf yn dangos bod £50 miliwn yn rhagor o gyllid wedi dod i mewn i’r system addysg uwch yng Nghymru yn 2015-16 nag a wariwyd ar grantiau ffïoedd dysgu i sefydliadau y tu allan i Gymru? Nawr, bydd ein diwygiadau Diamond yn helpu i sicrhau sefydlogrwydd a chynaliadwyedd y sector yma yng Nghymru yn y dyfodol, ac roedd fy llythyr cylch gwaith i CCAUC yn cadarnhau fy mod yn llawn ddisgwyl i setliadau ariannol i CCAUC yn y dyfodol gynyddu ym mhob blwyddyn ariannol am weddill oes y Llywodraeth hon. Rwy’n synnu bod Simon Thomas wedi cymryd y sefyllfa ddifrifol iawn hon i’r bobl sy’n gweithio yn Aberystwyth a’i throi’n gyfle i sgorio pwyntiau gwleidyddol. Hoffwn atgoffa’r Aelod fod bywoliaeth pobl mewn perygl yma, sy’n fater difrifol iawn, ac os ydym am ei wneud yn wleidyddol, hoffwn atgoffa’r Aelod ei fod yn eistedd yno yn ei sedd ar sawl achlysur ac yn annog Llywodraeth Cymru i ddadfuddsoddi yn y sector addysg uwch a buddsoddi yn y sector addysg bellach. Nid wyf erioed wedi clywed yr Aelod yn gofyn yn ei drafodaethau ar y gyllideb am fwy o arian ar gyfer y sector addysg uwch. 4. 4. Datganiadau 90 Eiliad Datganiadau 90 eiliad yw’r eitem nesaf ar yr agenda. Jayne Bryant. Jayne Bryant AC: Diolch, Llywydd. Dydd Gwener yw Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys, dathliad blynyddol o waith diflino ac ymroddiad nyrsys ar draws y byd. Eleni, y thema yw ‘arwyr nyrsio’. Er y gall pawb ohonom enwi nyrsys o’r gorffennol a’r presennol sy’n arwyr, byddaf yn ymuno â nyrsys o fwrdd iechyd Aneurin Bevan i siarad am fenyw wirioneddol anhygoel: Annie Brewer. Ganed Annie ym 1874 yng Nghasnewydd. Cafodd ei chymhwyster nyrsio ym 1899, ac roedd hi’n teithio drwy Ffrainc ar ddechrau’r rhyfel byd cyntaf. Yn ystod y rhyfel, gweithiodd Annie ar y rheng flaen, gan drin cannoedd o filwyr, yn aml yng nghanol brwydr. Ym 1917, trawyd ambiwlans Annie gan ffrwydryn a chafodd ei chlwyfo wrth geisio mynd â milwyr wedi’u hanafu yn ôl i fan diogel. Er gwaethaf y perygl roedd hi ynddo, rhoddodd Annie ei bywyd ei hun mewn perygl i ofalu am y clwyfedig. Yn ystod brwydr Verdun, cynorthwyodd Annie mewn 229 o lawdriniaethau mewn saith diwrnod. Dyna un bob 45 munud. Am ei dewrder a’i haberth bersonol, dyfarnwyd un o’r medalau uchaf am ddewrder y gall Llywodraeth Ffrainc eu rhoi i Annie. Dywedwyd bod Annie wedi gosod esiampl wych o hunanfeddiant a’r gallu i ddiystyru peryglon yn llwyr, gan ofalu’n hael am y clwyfedig wrth i’r gelyn danio atynt. Dychwelodd Annie i Gasnewydd ar ôl y rhyfel i ofalu am ei mam ei hun, ond bu farw’n fuan wedyn. Mae’r dewrder a’r tosturi anhygoel hwn yn dangos ei bod yn berson rhyfeddol, yn rhywun y mae’n rhaid i ni ei chofio ac yn enghraifft berffaith o arwr nyrsio. Huw Irranca-Davies AC: Cyfeiriaf yr Aelodau at fy nghofnod o fuddiannau a fy rôl anrhydeddus fel is-lywydd Cerddwyr Cymru. Y penwythnos diwethaf, fel pe na baem ni i gyd wedi cerdded ddigon yn ystod yr etholiadau lleol, euthum i a Suzy Davies AC ar Daith Gerdded Fawr Cymru a drefnwyd gan Gerddwyr Cymru, a elwir hefyd yn ‘her “Y Gwyll”‘, am ei bod yn digwydd ger Pontarfynach. Gan ddefnyddio llety hyfryd Tynrhyd fel ein man cychwyn, patrwm o arallgyfeirio cefn gwlad, dechreuodd cerddwyr o bob cwr o’r DU ar deithiau cerdded o wahanol hyd, o deithiau dwy filltir i rai 15 milltir mwy egnïol, i fyny’r allt ac i lawr i’r ddôl, ar draws y rhostir a’r gweundir mwyaf gogoneddus, creigiau a dyffrynnoedd coediog a thir pori isel gydag afonydd yn disgleirio yn yr heulwen. Ond cyn i mi fynd yn rhy farddonol, gadewch i mi hefyd fod yn ymarferol.Roedd y teithiau cerdded hefyd yn dangos gwaith anhygoel gwirfoddolwyr Cerddwyr Cymru yn gweithio gyda thirfeddianwyr ac awdurdodau lleol i gynnal hawliau tramwy sy’n bodoli’n barod, a hyd yn oed i greu llwybrau cerdded newydd. Roedd yn dangos y manteision o fod yn dref a sir sy’n ystyried cerddwyr i dwristiaeth a’r economi leol, drwy gysylltu pobl â’r lleoedd lle maent yn byw, cyflwyno pobl i lefydd na fyddent wedi’u gweld fel arall, ac roedd yn dangos y manteision amlwg i iechyd a lles o wneud rhywbeth mor syml â cherdded yn rheolaidd. Fel y dywed Cerddwyr Cymru, drwy uno cymunedau, cysylltu pobl â’u tirweddau lleol, datgelu lleoedd newydd i’w darganfod a pharhau i gynnal ein rhwydwaith o lwybrau o’r radd flaenaf, gallwn sicrhau mai Cymru fydd y wlad orau yn y byd i gerdded ynddi, nid yn unig i ni ond i genedlaethau’r dyfodol. Yn sicr, mae hwnnw’n uchelgais sy’n werth camu ymlaen arno. [Aelodau’r Cynulliad: ‘Clywch, clywch’.] Roedd y dirwedd honno’n swnio’n debyg iawn i Geredigion i mi. Huw Irranca-Davies AC: Yn wir. [Chwerthin.] 5. 5. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Datganoli Plismona Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r ddadl gan Aelodau unigol, o dan Reol Sefydlog 11.21(iv), ar ddatganoli plismona. Rydw i’n galw ar Steffan Lewis i wneud y cynnig. Cynnig NDM6288 Mike Hedges, Steffan Lewis, Julie Morgan, Sian GwenllianCynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:1. Yn nodi bod plismona yn fater sydd wedi’i ddatganoli yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.2. Yn galw am ddatganoli plismona i Gymru.3. Yn credu ei bod yn well cydgysylltu materion plismona arbenigol, fel polisïau gwrth-frawychiaeth, ar lefel y DU. Cynigiwyd y cynnig. Steffan Lewis AC: Diolch, Llywydd. Rwy’n falch i gynnig y cynnig heddiw gyda fy nghyd-Aelodau Mike Hedges, Sian Gwenllian a Julie Morgan. Mae ein cynnig mewn tair rhan: yn gyntaf, nodi bod plismona wedi’i ddatganoli i ddwy genedl ddatganoledig arall y DU; yn ail, galw am ddatganoli plismona i Gymru—yr unig genedl lle nad yw wedi cael ei ddatganoli; ac yn drydydd, mynegi’r farn ei bod yn well cydgysylltu meysydd plismona arbenigol penodol ar lefel y DU.Caiff anomaledd Cymru, wrth gwrs, ei ddrysu ymhellach gan y ffaith fod pwerau dros blismona bellach wedi’u datganoli i Fanceinion, gydag ethol eu maer metropolitanaidd cyntaf, ac eto mae’r broses o ddatganoli plismona i Gymru yn parhau i fod yn rhwystredig o ddisymud. Er gwaethaf consensws pellgyrhaeddol yn y Senedd hon, nid oes gan San Steffan unrhyw gynlluniau i drosglwyddo pwerau dros blismona i Gymru. Roedd yn siomedig na chafodd ei gynnwys yn Neddf Cymru 2014 na Deddf Cymru 2017, er ei fod yn un o argymhellion comisiwn trawsbleidiol Silk yr holl flynyddoedd hynny’n ôl. Cafwyd dau gyfle deddfwriaethol i weithredu ac ni wnaed unrhyw gynnydd.Fodd bynnag, nid pwynt o egwyddor gyfansoddiadol yn unig yw hwn. Mae’n gwneud synnwyr perffaith i benderfyniadau’n ymwneud â’n holl wasanaethau brys gael eu gwneud ar y lefel genedlaethol. Ar hyn o bryd plismona yw’r unig wasanaeth brys nad yw wedi cael ei ddatganoli, ac eto mae plismona modern yn galw am gryn dipyn o orgyffwrdd rhwng gwasanaethau cyhoeddus a meysydd cyfrifoldeb datganoledig eraill. Wrth gwrs, eisoes mae’n rhaid i’r heddlu weithio’n agos ochr yn ochr â chydweithwyr iechyd ac addysg. Er bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn aml yn gweithio’n dda iawn gyda’i gilydd, ceir tystiolaeth y gellid gwella cydweithrediad hyd yn oed ymhellach pe bai’r pwerau i wneud y penderfyniadau strategol i’w cael yma yn y wlad hon.Mae’r cynnig trawsbleidiol heddiw yn nodi agwedd synhwyrol tuag at ddatganoli plismona. I’r rhan fwyaf o bobl yr hyn sy’n bwysig, wrth gwrs, yw’r gwasanaethau heddlu y maent yn fwyaf tebygol o ddod i gysylltiad â hwy o ddydd i ddydd. Yr hyn y mae pobl ei eisiau yw plismona cymunedol, nid yn unig y syniad traddodiadol o’r plismon ar y stryd, ond gwasanaeth heddlu sy’n meddu ar wybodaeth leol a’r gallu i ymateb i anghenion y cymunedau y maent yn eu cynrychioli. Nid yw’r gyllideb ar gyfer plismona cymunedol wedi’i chlustnodi mwyach ac er bod yn rhaid i heddluoedd warantu isafswm o blismona yn y gymdogaeth, mae’r ffordd y caiff hyn ei gyflawni’n amrywio’n fawr o un gwasanaeth heddlu i’r llall mewn gwirionedd. Ar un adeg roedd gan bob ward swyddog ward a oedd yn gyfrifol am adeiladu perthynas â chymunedau a chynyddu ymddiriedaeth yn yr ardal leol, ond rwy’n credu bod llawer o bobl yn teimlo fel pe bai’r cysylltiad hwnnw’n cael ei golli, a phlismona cymunedol effeithiol yn seiliedig ar wybodaeth gydag ef.Mae’r adroddiad ‘Cyflwr Plismona’ diweddaraf gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi yn amlinellu eu pryder fod plismona yn y gymdogaeth yn cael ei erydu. Ond gyda heddluoedd yn profi toriadau o 22 y cant, ar gyfartaledd, yng nghyllid y Llywodraeth rhwng 2010 a 2015, a llawer yn dal i weld eu cyllidebau gweithredol yn parhau i grebachu, mae heddluoedd wedi gorfod ymateb drwy ddiswyddo gweithwyr. Canfu adroddiad Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi fod rhai heddluoedd wedi’i chael yn anodd ymateb i’r lleihad yn lefel yr adnoddau sydd ar gael iddynt. Mae ymatebion tymor byr, wedi’u cynllunio’n wael, i bwysau uniongyrchol ar y gyllideb yn rhoi pobl sy’n agored i niwed mewn perygl difrifol o gael eu niweidio mewn rhai heddluoedd, a chaiff nifer fawr o droseddau eu diystyru i bob pwrpas yn hytrach na dod o hyd i gasgliad boddhaol i’r dioddefwr a’r gymuned.O safbwynt polisi, byddai datganoli plismona i Gymru yn rhoi’r gallu i flaenoriaethu plismona cymunedol ac ymgorffori’r egwyddor honno ar draws y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Byddai yna fudd ariannol hefyd i gyd-fynd â’r dyhead polisi hwnnw. Yn ôl cyfrifiadau Plaid Cymru, pe bai Cymru’n cael ei thrin fel endid plismona cydradd â’r gwledydd datganoledig eraill, byddai heddluoedd Cymru dros £25 miliwn y flwyddyn yn well eu byd, gan y byddai Barnett yn gymwys. Pe bai fformiwla Barnett yn cael ei defnyddio i ariannu ein heddluoedd yn unol â’r boblogaeth, byddai’n arwain at gynnydd sylweddol yn eu cyllidebau.Fel y nodwyd yn y cynnig, ceir elfennau o blismona arbenigol, megis gwrth-frawychiaeth, lle mae cydgysylltu ledled y DU yn gwneud synnwyr perffaith. Gyda’r materion hyn, lle y ceir elfen ryngwladol yn aml, cyrff sy’n gweithredu ar draws y wladwriaeth sydd fel arfer yn arwain ac yn cydgysylltu, yn enwedig pan fo’r rhain yn berthnasol i waith y gwasanaethau diogelwch a chudd-wybodaeth. Gellir meddwl am y Swyddfa Ymchwiliadau Ffederal yn yr Unol Daleithiau, neu’r Bundespolizei yn yr Almaen, er enghraifft. Gydag unrhyw wasanaeth brys, mae angen sicrhau cydweithrediad bob amser ar draws ffiniau cenedlaethol, wrth gwrs. Yn wir, mae hynny eisoes yn wir am y gwasanaeth ambiwlans a’r gwasanaethau tân ac achub rhwng Cymru a Lloegr.O ran plismona, mae cymorth ar y cyd wedi bodoli ers cryn dipyn o amser a buasai, wrth gwrs, yn berthnasol os a phan fydd plismona’n cael ei ddatganoli i Gymru. Ar yr ynysoedd hyn, mae cymorth ar y cyd wedi’i ymgorffori yn y berthynas rhwng y gwahanol awdurdodaethau eisoes. Yn Iwerddon, lle y ceir ffin ryngwladol i bob pwrpas, mae Deddf Awdurdodaeth Droseddol 1975 yng Ngogledd Iwerddon a Deddf Cyfraith Trosedd (Awdurdodaeth) 1976 yn y Weriniaeth yn caniatáu i bob awdurdodaeth drin ac ymdrin ag ystod benodol o droseddau a gyflawnwyd yn yr awdurdodaeth arall fel pe bai wedi digwydd yn eu hawdurdodaeth eu hunain.I gloi, Llywydd, mae datganoli plismona’n ddymunol o safbwynt polisi a chydgysylltu er mwyn adfer plismona cymunedol a sicrhau mwy o gydweithio ar draws y gwasanaethau cyhoeddus. Byddai datganoli plismona o fudd ariannol i Gymru, lle byddai difidend datganoli yn ein galluogi i fuddsoddi mwy i wneud ein cymunedau’n fwy diogel. Mae datganoli plismona yn gadarn yn weithredol, fel y mae bron unrhyw wladwriaeth arall yn y byd yn ei brofi, ac mae eisoes yn amlwg yn yr awdurdodaethau plismona gwahanol ar yr ynysoedd hyn. Bydd pleidlais gadarnhaol o’r Cynulliad hwn heddiw yn alwad glir ar Lywodraeth nesaf y DU i fynd i’r afael â’r anomaledd diangen hwn. Mark Isherwood AC: Fel y mae’r cynnig hwn yn nodi,‘[mae’n] well cydgysylltu materion plismona arbenigol, fel polisïau gwrth-frawychiaeth, ar lefel y DU.’Fodd bynnag, mae ei alwad am ddatganoli plismona i Gymru yn herio realiti. Mae plismona’n fater datganoledig yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Am resymau daearyddol a hanesyddol, mae’r sefyllfa yng Ngogledd Iwerddon yn gwbl wahanol. Cyn cyflwyno rheolaeth uniongyrchol yn 1972, hen Senedd Stormont oedd yn gyfrifol am blismona a chyfiawnder yng Ngogledd Iwerddon, ac ymrwymodd Llywodraethau olynol y DU i ailddatganoli plismona a chyfiawnder pan oedd yr amgylchiadau’n iawn i wneud hynny. Mae 48 y cant o bobl Cymru yn byw o fewn 25 milltir i’r ffin â Lloegr, ac mae 90 y cant yn byw o fewn 50 milltir. Ar y llaw arall, 5 y cant yn unig o boblogaeth gyfunol yr Alban a Lloegr sy’n byw o fewn 50 milltir i’r ffin rhwng y gwledydd hynny. Fe gymeraf un ymyriad. Steffan Lewis AC: Diolch i’r Aelod am ildio. Fel y dywedais yn fy nghyfraniad, mae yna ffin agored rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon, ac mae’r cytundebau cymorth ar y cyd wedi gweithio yno, hyd yn oed ar adegau pan nad oedd plismona wedi’i ddatganoli i Ogledd Iwerddon. Felly, a fyddai o leiaf yn cydnabod nad yw ffiniau agored, neu unrhyw ffiniau o ran hynny, yn rhwystr i blismona cymunedol datganoledig gwell? Mark Isherwood AC: Yn anffodus, mae gan Lywodraeth Cymru hanes ers 1999 o adeiladu rhwystrau trawsffiniol yn hytrach na chael gwared arnynt. Mae’r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn byw ar hyd coridorau’r M4 a’r A55, wedi’u gwahanu gan ardal wledig eang, ac mae ganddynt ofynion plismona gwahanol iawn. Dangosir cyd-ddibyniaeth plismona rhwng gogledd-ddwyrain Cymru a gogledd-orllewin Lloegr gan y ffaith mai hon yw’r unig ran o’r DU sydd ag ardal drefol gysylltiedig wedi’i rhannu gan ffin genedlaethol. Mae fy nghysylltiadau fy hun, yn Heddlu Gogledd Cymru a Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru wedi dweud wrthyf dro ar ôl tro fod ganddynt gysylltiad agosach â gogledd-orllewin Lloegr nag sydd ganddynt â gweddill Cymru, a bod diffyg cymhwysedd yn Llywodraeth Cymru i ymdrin â datganoli plismona. Rhun ap Iorwerth a gododd— Mark Isherwood AC: Dim amser. Maent wedi mynegi pryder wrthyf yr wythnos hon y byddai cael Llywodraeth Cymru’n rheoli cyllidebau plismona yn arwain at arian yn trylifo i’r de, a dywedasant y byddent yn hoffi gwybod a oes awydd yn Llywodraeth Cymru i uno’r heddluoedd yng Nghymru—argymhelliad a wrthodwyd nifer o flynyddoedd yn ôl. Fel y dywedasant,mae daearyddiaeth a chysylltiadau cyfredol gyda gwahanol heddluoedd yn Lloegr yn gwneud y cysyniad o Heddlu Cymru gyfan yn un anodd iawn— Rhun ap Iorwerth a gododd— Mark Isherwood AC: gan ychwanegu,dylid monitro’n ofalus unrhyw gamau i orfodi symudiad o’r fath i fodloni egos gwleidyddion penodol. Nid yw’n ildio—. Nid wyf yn credu bod yr Aelod yn ildio. Mark Isherwood AC: Rwy’n dyfynnu. Yn eu briff i Aelodau Cynulliad ac Aelodau Seneddol gogledd Cymru ym mis Ionawr, dywedodd Heddlu Gogledd Cymru wrthym fod eu cydweithrediad gweithredol gyda heddluoedd Glannau Mersi a Swydd Gaer yn cynyddu mewn rhai meysydd, gan gynnwys arfau tanio, cudd-wybodaeth, arestio, eiddo a gwasanaethau fforensig. Pan fu Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio y Cynulliad yn adolygu strwythur plismona yn 2005, roedd ein hadroddiad yn nodi nad yw gweithgarwch troseddol yn cydnabod ffiniau cenedlaethol neu ranbarthol, ac mae’n rhaid i bartneriaethau trawsffiniol adlewyrchu realiti gweithredol. Arweiniodd gwaith is-bwyllgor y Cynulliad, yr oeddwn yn aelod ohono ac a oedd yn ystyried yr argymhelliad ar y pryd i uno heddluoedd Cymru, at roi’r gorau i’r argymhellion i uno heddluoedd ar draws Cymru a Lloegr. Fel y dywedais yn y ddadl ar hyn ym mis Chwefror 2006, dywedodd awdurdodau’r heddlu wrthym y byddai ad-drefnu’n costio hyd at £57 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol i Gymru gyfan, gyda’r prif gwnstabl yn datgan y byddai’n fwy na hynny hyd yn oed. Cadarnhaodd ein gwaith dilynol fod y prif gwnstabliaid yn gywir. Carl Sargeant AC: A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad? Mark Isherwood AC: Er bod ymgyrch y Blaid Lafur yn yr etholiad cyffredinol yng Nghymru wedi datgan bod maniffesto 2017 y Blaid Lafur— A ydych yn derbyn ymyriad gan Ysgrifennydd y Cabinet? Mark Isherwood AC: Mae’n dibynnu a wnewch chi ganiatáu digon o amser i mi ar y diwedd ai peidio, os derbyniaf ymyriad arall. Pam ddim? Rwyf mewn hwyliau da. Carl Sargeant AC: Diolch i chi, Mark, am dderbyn yr ymyriad. Mae eich cyfraniad wedi ennyn fy chwilfrydedd, oherwydd cefais lythyr dyddiedig 5 Medi gan bob un o’r cwnstabliaid heddlu yng Nghymru, y grŵp plismona Cymru gyfan, sy’n dweud eu bod, yn wir, wedi cytuno ar ddatganiad ar y cyd sy’n cefnogi datganoli plismona i Gymru. O ble rydych yn cael eich gwybodaeth, Mark? Mark Isherwood AC: Nid wyf am enwi unigolion oherwydd gallai’r unigolion hynny gael eu dwyn i gyfrif gan Weinidogion. Mae’r wybodaeth rwyf yn ei derbyn yn gywir. Daw’r wybodaeth yn uniongyrchol gan y bobl berthnasol, ond nid wyf am ddweud pwy yw’r bobl hynny. Mae’r hyn y maent yn ei ddweud yn breifat yn wahanol iawn i’r hyn y maent yn barod i’w ddweud yn gyhoeddus wrth bobl fel chi.Er bod cadeirydd ymgyrch y Blaid Lafur yn yr etholiad cyffredinol yng Nghymru wedi dweud y bydd maniffesto 2017 y Blaid Lafur yn rhoi rôl fwy i Weinidogion Cymru mewn plismona, roedd hefyd yn gwadu bod Ysgrifennydd Cartref yr wrthblaid, Diane Abbott, wedi cael ei ffeithiau’n anghywir pan ddywedodd,Nid ydym yn credu ei bod yn iawn, ar yr adeg hon, i ddatganoli plismona, ond mae hwn yn fater a drafodir yn gyson yn y Blaid Lafur.Yn 2013, rhybuddiodd Gweinidog yr wrthblaid dros yr heddlu a’r cyn-Weinidog dros yr heddlu, David Hanson, y byddai datganoli rheolaeth i’r heddlu yn gam mawr gyda llawer o heriau, a bod lleihau troseddau’n bwysicach na phenderfynu pa Lywodraeth sy’n rheoli’r heddlu. Mae ffigurau newydd gan Brifysgol Caerdydd yn dangos bod nifer y bobl a anafwyd o ganlyniad i drais difrifol wedi gostwng 10 y cant y llynedd, a 40 y cant ers 2010. Mae plismona eisoes wedi cael ei ddatganoli i gomisiynwyr heddlu a throseddu, gan rymuso cymunedau lleol i roi eu barn ar flaenoriaethau plismona ac i ddwyn cynrychiolydd etholedig i gyfrif. Mae’r alwad am ddatganoli plismona o du’r Blaid Lafur a’r ymwahanwyr yn ymgais amlwg i fachu pwerau, a byddai hynny’n cyflawni’r gwrthwyneb i ddatganoli go iawn. Mae’r Prif Weinidog hwn yn cyfeirio at ddatganoli plismona i Fanceinion fel model ar gyfer Cymru, ond pwerau’r comisiynwyr heddlu a throseddu’n unig yw’r rheini, ac maent eisoes wedi’u datganoli yng Nghymru. Felly, yr hyn y mae’n sôn amdano mewn gwirionedd yw bachu mwy fyth o bwerau o ranbarthau Cymru a’u canoli yng Nghaerdydd, gan roi’r pŵer i’w hunain i gyflogi a diswyddo prif gwnstabliaid. Wel, o ystyried hanes y Blaid Lafur o wleidyddoli gwasanaethau cyhoeddus datganoledig mewn modd cynyddol, a bygythiol yn aml, mae hwn yn gynnig gwirioneddol iasoer. Julie Morgan. Julie Morgan AC: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, am alw arnaf i siarad yn y ddadl drawsbleidiol hon. Rwyf wedi bod yn fodlon iawn i roi fy enw ar y cynnig hwn. Rwy’n credu ei bod yn ddirgelwch llwyr pam na chafodd plismona ei ddatganoli yn y Bil Cymru diweddaraf, ac rwy’n credu mai dyna un o’r prif resymau pam fod datganoli yn dal i fod yn fusnes anorffenedig. Rwy’n siŵr y bydd yna adeg pan gaiff plismona ei ddatganoli, ond yn anffodus, ni ddigwyddodd gyda’r cyfle hynod o dda hwn.Fel y dywedodd Steffan Lewis yn ei gyflwyniad, mae plismona wedi’i ddatganoli yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, felly pam nad yw Cymru yn gymwys i gyflawni plismona? Gallaf glywed yng nghyfraniad Mark Isherwood fod ganddo farn mor isel o allu’r Cymry i ddarparu gwasanaethau yn eu gwlad eu hunain fel ei fod yn credu na ellir ymddiried ynom yma gyda phlismona. Rwy’n credu bod dweud y math hwnnw o beth yn gryn feirniadaeth.Os edrychwch ar rannau eraill o Loegr, rhoddwyd mandad uniongyrchol ar gyfer plismona i faer Llundain yn 2011. Mae gan y maer rôl bwysig, ar y cyd â’r Ysgrifennydd Cartref, yn penodi comisiynydd heddlu’r Met, yn craffu ar blismona, ac ef sy’n llunio’r strategaeth blismona yn Llundain. Mae gan Gynulliad Llundain rôl hefyd yn craffu ar blismona yn Llundain, yn yr un modd ag y gallai’r Cynulliad hwn ei wneud pe bai plismona wedi’i ddatganoli. Rwy’n credu y byddai hynny’n bolisi llawer mwy cydlynol. Ac wrth gwrs, cawsom etholiad y meiri metro yn ddiweddar iawn.Cafodd Manceinion, sydd bellach â phŵer dros blismona, ei chrybwyll sawl gwaith. Ond mae Llywodraeth y DU wedi cytuno hefyd i roi mwy o bwerau dros gyfiawnder troseddol a rheoli troseddwyr i Fanceinion. Bydd gan Fanceinion fwy o ran mewn cynlluniau yn y dyfodol ar gyfer llysoedd lleol ac wrth gomisiynu gwasanaethau rheoli troseddwyr ochr yn ochr â’r Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr. Rwy’n falch fod Manceinion yn cael hyn, ond beth am Gymru? Mae Cymru’n wlad, ac nid oes gennym y pwerau hyn. Felly, rwy’n credu ei fod yn ddirgelwch llwyr. Rydym hefyd yn gwybod bod yna saith—. Rydym hefyd yn gwybod bod yna chwech o etholiadau eraill wedi bod i ethol meiri metro, ac un arall i ddod. Dros amser, bydd pwerau’r meiri metro, rwy’n siŵr, yn cynyddu, fel sydd wedi digwydd yn Llundain. Mewn cyferbyniad â Chymru, mae’r Bil datganoli a sefydlodd y meiri metro yn ddeddfwriaeth fwriadol o amhenodol sy’n caniatáu ar gyfer datganoli unrhyw beth bron—tai, iechyd, lles, plismona, a mwy.Felly, y cwestiwn mawr yw: beth sydd o’i le ar Gymru? Mae’n ymddangos o ddifrif fod rhyw rwystr yn y canol nad yw’n cydnabod rhesymeg pur datganoli plismona i Gymru. Nid oedd unrhyw broblem wrth drosglwyddo’r pŵer dros y gwasanaeth tân yn ystod sesiwn gyntaf y Cynulliad, pan gafodd ei gynnig i’r Cynulliad, fel rwy’n deall; nid wyf yn credu bod y Llywodraeth hon wedi gorfod gofyn amdano hyd yn oed. Ac yn amlwg, mae’r gwasanaeth ambiwlans wedi cael ei ddatganoli fel rhan o’r gwasanaeth iechyd. Felly, mae hyn yn golygu bod dau o’r tri gwasanaeth brys eisoes wedi’u datganoli i Gymru, felly nid yw’n gwneud synnwyr peidio â datganoli’r trydydd. Mae’r tri gwasanaeth eisoes yn gweithio gyda’i gilydd i raddau helaeth, ond byddai’n sicr yn gwneud synnwyr gweithredol i gael y tri gwasanaeth dan reolaeth wleidyddol Llywodraeth Cymru.Felly, un o’r prif resymau y dylem ei gael: mae’r pwerau wedi’u datganoli i leoedd eraill. Ail reswm: mae gennym ddau o’r tri gwasanaeth brys wedi’u datganoli eisoes. Ac wrth gwrs, rheswm pwysig arall yw’r modd y caiff yr heddlu eu hariannu yng Nghymru, oherwydd cânt eu hariannu gan gymysgedd o gyllid y Swyddfa Gartref, cyllid Llywodraeth Cymru, a chyllid y dreth gyngor. Yn ei maniffesto ar gyfer y Pedwerydd Cynulliad, ymrwymodd y Blaid Lafur i ariannu 500 yn ychwanegol o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu. Wrth gwrs, mae’r rhain wedi cael eu gwerthfawrogi’n fawr iawn gan y cyhoedd dros y pum mlynedd diwethaf. Hefyd, gyda’n haddewid etholiad cyffredinol yn awr ar gyfer yr etholiad sydd i ddod, bydd 853 o swyddogion yr heddlu ychwanegol yng Nghymru. Mae’r Blaid Lafur wedi ymrwymo i sicrhau bod y cyhoedd yn teimlo’n ddiogel ar y strydoedd, a bod yr heddlu a swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ar lefel leol yn rhannau allweddol o’r gymuned leol.· Maent hefyd yn ymwneud llawer yn awr gyda phobl sy’n agored i niwed. Mae’r gwaith o blismona troseddau y mae’r heddlu’n ei wneud yn llawer llai bellach na’r gweithgareddau cymunedol y maent yn ymwneud â hwy—gweithio gyda phobl hŷn, gweithio gyda phobl ifanc. Heddiw, yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, cawsom dystiolaeth gan unigolyn a ariannir ar y cyd gan yr heddlu ac iechyd y cyhoedd. Dyma sut y bydd pethau yn y dyfodol—cydweithio gyda’n gilydd. Yn olaf, roeddwn yn awyddus i ddweud, os edrychwch ar enghraifft o ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru, er enghraifft, megis y Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, y dull partneriaeth o drechu ac atal cam-drin, sydd—. Yn amlwg, mae trechu cam-drin domestig yn un o’r heriau mwyaf sydd gennym. Mae’n gwbl hanfodol fod hyn yn cael ei wneud drwy ddull partneriaeth, ac nid oes amheuaeth o fath yn y byd yn fy meddwl y byddai hyn yn gwella pe bai’r cyfrifoldeb gwleidyddol dros blismona yn nwylo’r Cynulliad. Gareth Bennett AC: Diolch i’r Aelodau unigol am gyflwyno’r ddadl heddiw. Rwy’n credu bod datganoli plismona yn fater pwysig, a dylwn nodi ei fod yn fater rydym ni yn UKIP heb benderfynu arno hyd yn hyn. Rwy’n credu bod angen i ni fod yn wyliadwrus, fodd bynnag, cyn i ni ddechrau ar y cam hwn. Os yw’r Cynulliad yn galw am fwy o bwerau, am ddatganoli dros fwy o bethau, yna credaf fod yn rhaid cael rhesymau da dros wneud hynny. Yn fy marn i, ni all fod yn unig am fod rhannau eraill o’r DU wedi cael y pwerau hynny, felly mae’n rhaid i ni eu cael. Pan fuom yn trafod y pwnc hwn yn 2014, gwnaeth Ann Jones y pwynt cymwys hwn, ac rwy’n dyfynnu:‘Mae dweud yn syml ein bod eisiau pwerau am fod gan yr Alban bwerau yn ddadl wan iawn.’Diwedd y dyfyniad. Credaf fod hynny’n parhau i fod yn wir heddiw, ac rwy’n credu ei fod yn parhau i fod yn wir hyd yn oed os ydym yn ei ymestyn i gynnwys cyfeiriadau at Fanceinion Fwyaf hefyd, fel y cawsom heddiw. Beth yw manteision ymarferol go iawn datganoli plismona i’r lle hwn? Maent yn aneglur ar y gorau. [Torri ar draws.] Iawn, Steffan, rydym wedi clywed yr hyn a ddywedoch. Roeddwn am godi rhai o’r pwyntiau a wnaethoch. Fe sonioch am y ddadl fod y ddau wasanaeth brys arall eisoes wedi’u datganoli; gwnaeth Julie Morgan y pwynt hwnnw hefyd. Wel, roedd y pwynt hwn wedi’i wneud o’r blaen. Yn y Cynulliad diwethaf—[Torri ar draws.] Iawn, wel, rydych yn dweud ei fod yn gywir. Rwy’n trafod y pwynt; gadewch i mi ei drafod, os gwelwch yn dda. Roedd gennym Aelod o’r enw Byron Davies yn y Cynulliad diwethaf, a chanddo 32 mlynedd o brofiad gweithredol yn yr Heddlu Metropolitanaidd mewn gwirionedd. Nawr, pan godwyd y mater hwn ddiwethaf, yn 2014, dywedodd mai’r unig gysylltiad rhwng y tri gwasanaeth brys oedd eu bod i gyd yn rhannu’r un rhif ffôn, 999. Nid oedd yn argyhoeddedig y byddai datganoli plismona yn effeithiol.Mae’r ddadl arbed costau y mae Steffan wedi’i chyflwyno yn ddamcaniaethol ar y gorau. A fyddem yn cael y setliad ariannol y mae’n ei awgrymu ar gyfer yr heddlu mewn gwirionedd? Yn wir, gallai’r costau gynyddu. Steffan Lewis AC: A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad? Gareth Bennett AC: Gwnaf, yn sicr. Steffan Lewis AC: Yn amlwg, mae’r ffordd y mae Cymru’n cael ei hariannu ar hyn o bryd yn golygu nad ydym yn cael ein hariannu fel endid yn ein hawl ein hunain oherwydd ein bod yn dod o dan endid Cymru-a-Lloegr. Ond pe baem yn dod yn endid plismona, gyda phwerau datganoledig dros blismona, yna byddem yn dod yn endid datganoledig o ran plismona, a byddai fformiwla Barnett i’w chymhwyso. Mae hynny’n golygu y byddai ein cyllidebau’n cynyddu, yn seiliedig ar y boblogaeth; byddai mwy o arian, nid llai. Gareth Bennett AC: Iawn. Roeddwn yn ymwybodol o’r ddadl y tro cyntaf i chi ei chyflwyno. Diolch i chi am ei chyflwyno eto. Hoffwn glywed beth y byddai’r Gweinidog yn ei ddweud ar y pwynt hwnnw. Rwy’n siŵr y bydd yn ystyried hynny.Cafodd rhai anfanteision go gadarn—[Torri ar draws.] Cafodd rhai anfanteision go gadarn eu gwyntyllu yn y gorffennol ynglŷn â datganoli plismona. Nawr, roedd gennyf ddiddordeb yn ymyrraeth y Gweinidog Carl Sargeant yn gynharach ynglŷn â sylwadau gan brif gwnstabliaid. Byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed mwy am hynny, oherwydd, hyd yn hyn, o’r hyn rwyf wedi’i ddarllen, mae llawer o swyddogion profiadol wedi mynegi pryderon ynglŷn â’r posibilrwydd o ddatganoli plismona. Er enghraifft, mae cyn-Brif Gwnstabl Heddlu Gwent, Mick Giannasi, wedi datgan y gallai datganoli plismona beri ‘peryglon gweithredol difrifol’ a chyda llai na 7,000 o swyddogion yr heddlu, byddai heddluoedd yng Nghymru yn ddibynnol iawn ar heddluoedd Lloegr am gefnogaeth mewn sawl maes sy’n ymwneud ag ymladd troseddu. ‘Byddai’r gost o greu cydnerthedd annibynnol yn afresymol ac yn anodd ei chyfiawnhau’meddai. Adleisiwyd yr ofnau hyn yn 2016 gan gomisiynydd heddlu a throseddu Gwent, Ian Johnston, a rybuddiodd y gallai Cymru ddod yn adain wan plismona yn y DU. Ar y pryd, dywedodd comisiynydd heddlu a throseddu Dyfed-Powys, Chris Salmon, nad oes unrhyw beth y gall y Cynulliad ei wneud— Lee Waters AC: A wnaiff yr Aelod ildio? Gareth Bennett AC: Gwnaf, yn sicr. Lee Waters AC: Nid oes amheuaeth fod yna faterion ymarferol y mae angen eu datrys, ond fel y mae Carl Sargeant newydd wneud yn glir, mae’r prif gwnstabliaid bellach i gyd o’r farn fod y rhain yn faterion y gellir eu goresgyn a bod datganoli er budd pennaf plismona, fel y gellir ei alinio â gwasanaethau cyhoeddus lleol eraill. Gareth Bennett AC: Ie, ac fel y dywedais, Lee, mae gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed yr hyn y mae’n ei ddweud am y prif gwnstabliaid er mwyn taflu goleuni ar yr hyn y mae’n ei awgrymu, sef bod y prif gwnstabliaid o blaid hyn. Nid wyf wedi cau fy meddwl yn y mater hwn, ond mae’n rhaid i chi ddeall fod yn rhaid i mi leisio’r pryderon er mwyn inni allu eu trafod yn briodol.Iawn. Soniais am Byron Davies. Rwyf am ddyfynnu yr hyn a ddywedodd y tro diwethaf—y tro diwethaf o bosibl—i ni drafod hyn, 2014:‘Yn ystod fy amser fel swyddog yr heddlu, roedd yna bob amser lawer o arbenigwyr yn barod i gyflwyno syniadau a chynlluniau ar gyfer diwygio plismona. Roedd yn achos diflastod i rai ohonom fod yna bob amser bobl a oedd yn gwybod yn well. Roedd yn aml yn wir, os nad bob amser, fod y bobl hyn yn brin o ddealltwriaeth o’r hyn roedd plismona a phlismona gweithredol yn ei olygu mewn gwirionedd ac roeddent yn brin o wybodaeth ymarferol am blismona. Nid wyf yn credu y dylai plismona gael ei ddatganoli i Gymru.... Mae troseddu trawsffiniol, troseddu rhyngwladol a throseddu ar-lein yn gwneud achos Llywodraeth Cymru dros gymryd drosodd gan y Swyddfa Gartref yn wan iawn yn wir.’Diwedd y dyfyniad. Nid ydym ni yn UKIP Cymru yn credu bod y ddadl dros ddatganoli plismona wedi cael ei gwneud hyd yn hyn. Dyna pam ein bod yn bwriadu ymatal ar y cynnig heddiw. Siân Gwenllian AC: Er gwaethaf beth yr ydym ni wedi ei glywed o un cyfeiriad y prynhawn yma, mae yna gonsensws cyffredinol yng Nghymru y dylid datganoli heddlua i Gymru, fel sydd wedi digwydd yn yr Alban, Gogledd Iwerddon, Llundain a Manceinion. Rydw i am ganolbwyntio ar ddwy ddadl pam mae’n gwneud synnwyr i ddatganoli i Gymru.Mae plismona effeithiol yn golygu perthynas effeithiol ac agos efo’r gwasanaethau datganoledig yng Nghymru, ac mi fyddai datganoli’r heddlu yn adlewyrchu yn llawer gwell yr amgylchiadau sydd yn bodoli yng Nghymru, ac mi fyddai fo’n gwella’r plethiad angenrheidiol rhwng yr holl wasanaethau brys a’r gwasanaethau cyhoeddus. Ac, yn y pen draw, mi fyddai hynny’n gwella’r gwasanaethau, ac yn y pen draw un, mi fyddai gwella’r gwasanaethau yn gwella ansawdd bywyd pobl Cymru—rhywbeth, gobeithio, y mae pawb yn y Siambr yma yn ei ddeisyfu. A dyma gyflwyno dadl arall nad ydym ni wedi ei chlywed cyn belled y prynhawn yma. Mi fyddai datganoli’r heddlu hefyd yn gwella atebolrwydd. Roedd comisiwn Silk yn canfod bod y sefyllfa bresennol yn anfoddhaol, gan nodi bod llawer o gyllid yr heddlu’n dod o ffynonellau datganoledig, er gwaethaf y ffaith bod polisi strategol a materion yr heddlu yn cael eu penderfynu yn San Steffan. Mae yna ‘mismatch’ yn y fanna. Mae yna gydnabyddiaeth bod atebolrwydd yn broblem, a dyna oedd y tu ôl i greu’r comisiynwyr heddlu a throsedd. Er, mae modd dadlau y dylid, efallai, gael eu gwared nhw os byddai plismona’n cael ei ddatganoli. Nid wyf yn mynd i fynd i’r fanna y prynhawn yma, ond mi fyddai sut yn union y byddai’r atebolrwydd lleol yn digwydd yn fater ar gyfer trafodaeth bellach. Ond, yn sicr, mae hyn yn rhoi cyfle inni feddwl am ddulliau newydd o gryfhau’r atebolrwydd sydd fawr ei angen.Felly, o ran gwella’r plethiad angenrheidiol rhwng yr heddlu a’r holl wasanaethau cyhoeddus, ac er mwyn gwella atebolrwydd yr heddlu, mae’n gwneud synnwyr datganoli’r heddlu.Dwy ddadl yn unig—rydych chi wedi clywed dadleuon eraill hefyd, ac mae yna lawer mwy o resymau a llawer mwy i ddadlau yn ei gylch i greu’r achos dros ddatganoli heddlua i Gymru. Diolch yn fawr iawn i Steffan Lewis, Mike Hedges, a Julie Morgan am ddod â hwn gerbron heddiw, ac rydw i’n mawr obeithio y cawn ni o leiaf fwyafrif teilwng iawn o blaid y cynnig. Diolch. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant. Carl Sargeant AC: Diolch i chi, Llywydd. Rwy’n croesawu’r cyfle i drafod y mater pwysig hwn yma heddiw. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu yn y Siambr. Mae Llywodraeth Cymru bob amser wedi bod yn glir iawn ein bod am weld cyfrifoldeb dros blismona yn cael ei ddatganoli i Gymru. Mae Llywodraeth Cymru’n cefnogi’r cynnig i nodi bod plismona yn fater sydd wedi’i ddatganoli yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac yn cytuno â’r alwad dros ddatganoli plismona.O ran materion arbenigol, fel gwrth-frawychiaeth, yn cael eu cydgysylltu ar lefel y DU, rwy’n ymwybodol mai model yr Alban ar gyfer gwrth-frawychiaeth yw bod Police Scotland yn cymryd eu cyfeiriad polisi gan Lywodraeth y DU, a chaiff ei gyflwyno drwy Police Scotland a’i ariannu drwy Lywodraeth yr Alban. Mae hyn yn gwneud synnwyr perffaith, ac fel y mae’r cynnig hwn yn ei awgrymu, mae’n well cydgysylltu gwrth-frawychiaeth ar lefel y DU. Wrth ddatblygu model ar gyfer datganoli, bydd hon yn ystyriaeth allweddol ar gyfer unrhyw waith a wneir yma yng Nghymru.Plismona yw’r unig wasanaeth brys nad yw wedi’i ddatganoli. Mae’n anochel y byddai unioni hyn yn caniatáu mwy o gydweithio, gan ddatblygu cysylltiadau gwell, i helpu i gryfhau cydweithrediad â gwasanaethau datganoledig eraill. Fel y dywedodd Julie Morgan yn gynharach, cydweithio yw’r allwedd wrth i ni symud ymlaen. Mae rhannu staff ac ymarfer yn rhywbeth y mae’r tri chomisiynydd heddlu a throseddu, a’r prif gwnstabliaid, yn ei gefnogi’n llwyr ar hyn o bryd.Mae diogelwch ein cymunedau bob amser wedi bod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac rydym wedi ymrwymo i’w gryfhau ymhellach. Byddai datganoli’n sicrhau bod unrhyw ddeddfwriaeth sy’n effeithio ar blismona a diogelwch cymunedol yng Nghymru yn y dyfodol wedi’i deilwra’n briodol i amgylchiadau Cymru. Hefyd, rydym eisoes wedi cael perthynas waith agos gyda’r pedwar prif gwnstabl yng Nghymru a’r comisiynwyr heddlu a throseddu yma yng Nghymru, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ac rwy’n cyfarfod â hwy’n rheolaidd i drafod ffyrdd o weithio gyda’n gilydd i wneud ein cymunedau’n fwy diogel.Ym mis Medi, cyhoeddodd comisiynwyr yr heddlu a throseddu ddatganiad ar y cyd yn cefnogi datganoli plismona i Gymru, ac rwy’n falch fod Bob Evans, sef dirprwy brif gwnstabl Cymru gyfan erbyn hyn, wedi cael ei benodi, a bydd yn gweithio gyda ni ar y mater hwn. Ei rôl fydd cynnal y berthynas rhwng yr heddluoedd, swyddfeydd y comisiynwyr, a Llywodraeth Cymru. O ran datganoli, byddwn yn sicrhau ein bod yn gweithio’n effeithiol o fewn y trefniadau presennol, er mwyn ystyried sut y byddai’r trefniadau hyn yn gweithio mewn sefyllfa ddatganoledig. Mae hyn yn allweddol i ddyfodol cynllunio ar gyfer datganoli.Gwrandewais ar gyfraniadau Mark Isherwood a’r Aelod UKIP. Nawr, roedd y ddau’n ddiddorol iawn, ond a gaf fi, er eglurder, ailgadarnhau ymrwymiad y llythyr a gefais gan y comisiynwyr heddlu a throseddu a chadeirydd y grŵp plismona Cymru gyfan? Mae’r sylw’n dweud: ‘Fel cadeirydd presennol y grŵp plismona Cymru gyfan, amgaeaf gopi o’n datganiad ar y cyd, a gafodd ei ryddhau’n gyhoeddus. Mae’r datganiad hwn wedi cael ei drafod gyda’r pedwar prif gwnstabl, ac er y byddwch yn deall na fyddent yn dymuno rhoi sylwadau ar y mater sy’n galw am benderfyniad gwleidyddol, maent yn fodlon â’r hyn rydym wedi’i ddweud yn y llythyr.’Felly, mae’r sylwadau a wnaed gan Mark Isherwood, ynglŷn ag unigolyn yn dweud un peth wrthyf fi ac yn dweud rhywbeth arall wrtho ef, yna’n ysgrifennu ataf i ddweud rhywbeth arall, yn rhywbeth y byddaf yn mynd ar ei ôl gyda’r prif gwnstabliaid ledled Cymru. Nid yw hwnnw’n sylw addas i’w wneud. Fe gymeraf ymyriad gan yr Aelod. Mark Isherwood AC: Rwyf am gadarnhau na ddaeth y sylw rydych yn cyfeirio ato gan brif gwnstabl. Fodd bynnag, rwy’n cael cyfarfodydd preifat gydag aelodau o’r heddlu, ar wahanol lefelau, na allaf rannu’n gyhoeddus heb eu caniatâd. Ond gallaf ddweud wrthych yn gwbl bendant fod pob dyfyniad rwyf wedi’i roi, yn y gorffennol ac yn y presennol, wedi dod yn uniongyrchol o’u cegau, a chyfleu’r rheini, yn syml, a wneuthum.A gaf fi ofyn hefyd, os caf, a ydych yn sôn am ddatganoli pwerau fel yn yr Alban, neu a ydych yn sôn am ddatganoli pwerau fel ym Manceinion—ac os felly, pwerau’r comisiynydd heddlu a throseddu yn unig? Beth fyddai hynny’n ei olygu i’r comisiynwyr heddlu a throseddu sydd gennym ar hyn o bryd? Carl Sargeant AC: Wel, rydym yn sôn am ddatganoli’r heddlu i Gymru, ac mae llawer o drafodaethau i’w cael am hynny. Mae’r drafodaeth yn ymwneud â’r cysyniad, yr egwyddor o alinio hynny fel gwaith ar y cyd i’r Cynulliad hwn. Mae’r Prif Weinidog wedi bod yn eithaf clir ein bod yn credu, ochr yn ochr â’r comisiynwyr heddlu a throseddu sydd gennym yma yng Nghymru eisoes, mewn darparu gofod yn y cynlluniau er mwyn i ddatganoli ddod ar yr adeg briodol i’r Llywodraeth sy’n dymuno gwneud hynny.Yr eironi arall oedd bod y Blaid Geidwadol hefyd yn gwrthwynebu’r egwyddor hon, ac eto roedd Nick Bourne, a oedd yn aelod o Gomisiwn Silk, yn cymeradwyo egwyddorion Silk—Aelod Ceidwadol anrhydeddus. Felly, unwaith eto, rwy’n synnu bod yr Aelod yn dymuno siarad yn ei erbyn ef hefyd.Rwyf am nodi cyfraniad UKIP. Dechreuodd gyda’r sylwadau fod y mater yn un pwysig—yn fater pwysig iawn—’ond nid oes gennym safbwynt cadarn ar hyn’. Yna parhaodd i ddadlau yn erbyn yr achos dros wneud hyn, a pharodd hynny i mi amau cysondeb ei ddadl ar y cysyniad o ddatganoli. Mae’n amau’r fformiwla ariannu a gyflwynodd Steffan Lewis yn gryf iawn. Dyma un o’r Aelodau a ddadleuodd ynglŷn â £340 miliwn i’r GIG ei wario drwy Brexit—ac yna ni all ddeall y cysyniad o ddatganoli a’r fformiwla Barnett ar gyfer gwariant yr heddlu yma yng Nghymru. Byddwn yn annog yr Aelod i wneud ychydig bach mwy o waith ymchwil ar y mater, os gall. Llywydd, fel y dywedais yn gynharach, mae’r Llywodraeth wedi bod yn glir iawn ar hyn.I gloi, mae’n rhaid i mi hefyd dalu teyrnged i’r staff gweithredol ar lawr gwlad—yr arwyr ac arwresau di-glod sy’n gweithio y tu ôl i’r llenni. Maent i gyd yn barod i fynd y tu hwnt i’w dyletswyddau i gadw ein cymunedau’n ddiogel, a hoffwn ddiolch iddynt ar ran y Llywodraeth a’r Cynulliad hwn. Ni ddylai unrhyw un anghofio faint ein dyled iddynt am eu hewyllys da a’u hymroddiad. Mae yna lawer o faterion yn ymwneud â chyllid hefyd, y bydd yn rhaid eu hystyried ar gyfer y dyfodol, ond gallaf roi sicrwydd ac eglurder gan y Llywodraeth hon: ein bod yn awyddus i ddatganoli plismona i’r sefydliad hwn. Galwaf ar Mike Hedges i ymateb i’r ddadl. Mike Hedges AC: Diolch, Llywydd. A gaf fi ddweud fy mod yn siarad fel cyn aelod o Awdurdod Heddlu De Cymru, y bûm yn gwasanaethu arno am ychydig o dan bedair blynedd? A gaf fi ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y ddadl hon? Rwy’n credu ei bod yn ddefnyddiol iawn fod pobl wedi siarad yn erbyn, oherwydd mae’n rhoi cyfle i brofi’r dadleuon sy’n cael eu cyflwyno. Mae angen i bobl brofi’r dadleuon, ac mae’n ddyletswydd arnom wedyn i egluro pam fod yr hyn rydym yn ei ddweud yn gywir. Ond diolch i bawb a gymerodd ran.Gwnaeth Steffan Lewis dri phwynt allweddol. Yn gyntaf, mae plismona wedi’i ddatganoli, nid yn unig i’r Alban a Gogledd Iwerddon—. Ac roedd Gogledd Iwerddon yn ddiddorol yn y ffordd y cafodd ei ddatganoli, gan ei fod wedi cael ei ddatganoli gan uwchfwyafrif o Gynulliad Gogledd Iwerddon. Rwy’n siarad, yn ôl pob tebyg, fel yr unig berson yma sy’n credu mewn uwchfwyafrif ar gyfer llawer o bethau, ond rwy’n credu pan fydd pethau’n cael eu datganoli fel hynny, y dylai fod ar gael, ac os cawn uwchfwyafrif o 40 allan o 60 o Aelodau—nid ydym am iddo gael ei wneud drwy 31 i 29—uwchfwyafrif yw’r ffordd ymlaen. Mae ar gael ar gyfer Manceinion Fwyaf, mae ar gael ar gyfer Llundain, ond nid Cymru. Mae’n rhaid bod pawb yng Nghymru yn gofyn yr un cwestiwn: ‘Pam?’Yn ail, mae angen ymdrin â phlismona arbenigol ar lefel y DU, ond nid ar lefel y DU yn unig. Rwy’n credu y dylem barhau i fod yn aelod o Europol. Nid wyf yn siŵr fod pawb sydd wedi siarad yn y ddadl yn credu hynny. Rwyf hefyd yn credu y dylem barhau i fod yn aelodau o Interpol, oherwydd nid yn unig yr hyn sy’n digwydd yn Lloegr sy’n effeithio ar Gymru; mae’r hyn sy’n digwydd yn ne Iwerddon yn effeithio ar Gymru. Ac o ran y cyffuriau’n cael eu cludo i mewn, efallai’n wir mai’r hyn sy’n digwydd yn Amsterdam sy’n effeithio ar Gymru—ac yn sicr mae’r hyn sy’n digwydd yng Ngholombia yn effeithio ar Gymru. Yn sicr, mae angen i’r gwasanaethau brys weithio gyda’i gilydd, ond plismona yw’r unig un nad yw wedi cael ei ddatganoli. Nid yw’n gwneud unrhyw synnwyr o gwbl.Dywedodd Mark Isherwood fod yn rhaid ymdrin â phlismona arbenigol ar lefel y DU o leiaf. Mae hynny’n hollol gywir—ond fel y dywedais o’r blaen, Europol ac Interpol hefyd. Nid wyf yn gwybod am neb o gwbl sydd eisiau heddlu Cymru gyfan. Pe baem yn trafod hynny heddiw, Mark, byddwn ar eich ochr chi. Byddwn yn dadlau yn erbyn heddlu Cymru gyfan, oherwydd credaf na fyddai o fudd i rannau helaeth o Gymru pe bai gennym heddlu Cymru gyfan, am fod anghenion plismona gwahanol rannau o Gymru yn wahanol. Ond nid yw hon yn ddadl dros gael heddlu Cymru gyfan. Mark Isherwood AC: A ydych felly’n datgan yn bendant na fyddai Llywodraeth gyfredol Cymru yn argymell uno heddluoedd pe bai pwerau’n cael eu datganoli iddi? Mike Hedges AC: Ni allaf siarad ar ran Llywodraeth Cymru. Rwy’n siŵr y bydd Carl Sargeant yn ymyrryd o bosibl ac yn siarad am hynny, ond ni chafwyd unrhyw awgrym o heddlu Cymru gyfan gan unrhyw un. Ond os down at hynny, Mark, rydych chi a minnau ar yr un ochr. Ac rwy’n siŵr fod yna bobl eraill yma sy’n dadlau yr un mor rymus dros ddatganoli plismona a fyddai hefyd ar yr un ochr â ni.Mae gan Fanceinion Fwyaf gysylltiad sylweddol â Swydd Gaer a Glannau Mersi. Yn wir, mae’n llifo i mewn i’r ddwy ardal, yn yr un modd ag y mae gogledd Cymru yn llifo i mewn i Swydd Gaer. Wrth gwrs, mae rhai pethau’n wahanol rhyngom, ond mae’n ymwneud â gweithio gyda’n gilydd. Ac un o’r pethau y mae’r heddlu wedi bod yn ei wneud yn dda iawn ledled Prydain yw gweithio gyda’i gilydd. Nid ydynt wedi rhoi’r gorau i weithio gyda Northumberland neu Cumbria yn yr Alban oherwydd bod plismona wedi’i ddatganoli yno. Mae’n rhaid iddynt weithio gyda’i gilydd.Dywedodd Julie Morgan ei bod yn ddirgelwch pam nad yw plismona wedi’i ddatganoli. Rwy’n cytuno’n llwyr â hi. Mae’n ddirgelwch. Ac a gaf fi hefyd ychwanegu nad yw datganoli anghymesur yn gweithio? Yr unig wlad sydd wedi dewis datganoli anghymesur hyd y gwn i—er, rwy’n amau y bydd Steffan yn fy nghywiro os wyf yn anghywir—yw Sbaen, ac maent wedi symud fwyfwy at gymesuredd gydag amser. A llefydd fel Unol Daleithiau America, sydd â datganoli sylweddol—mae ganddynt yr un lefel o ddatganoli yng Nghaliffornia, gyda’i phoblogaeth o bron i 30 miliwn, ag sydd ganddynt yn rhai o’r taleithiau llai, sydd ychydig yn llai na dinas-ranbarth Caerdydd.Pam nad yw Cymru’n ddigon cymwys i reoli plismona? Pam fod gennym y cymhleth israddoldeb hwn? Mae gan rai pobl yng Nghymru y cymhleth israddoldeb hwn: ‘O, ni allwn ei wneud yng Nghymru; iawn, maent yn gallu ei wneud yn yr Alban, iawn, maent yn gallu ei wneud yng Ngogledd Iwerddon, iawn, maent yn gallu ei wneud yn Llundain, ond ni’r Cymry, nid ydym yn barod amdano eto.’ Credaf ein bod ni yng Nghymru cystal ag unrhyw le arall yn y byd, ac yn sicr nid wyf yn ystyried ein bod yn perthyn i’r ail, trydydd neu bedwerydd dosbarth.Crybwyllodd Julie Morgan bwynt pwysig iawn fod swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ychwanegol wedi bod yn boblogaidd iawn, ond swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yn unig y gallem eu darparu am nad oedd plismona wedi’i ddatganoli. Gallem fod wedi darparu heddlu pe bai wedi cael ei ddatganoli. Mae cymorth ar gyfer heddlu ychwanegol ym maniffesto’r Blaid Lafur, ac rwy’n siŵr y byddai llawer o bobl eisiau i hynny ddigwydd mewn gwirionedd, oherwydd mae pobl yn hoffi gweld yr heddlu. Rwyf wedi cael gwybod gan yr heddlu ar fwy nag un achlysur mai anaml iawn y byddant yn dal rhywun pan fyddant yn cerdded ar y stryd. Yr hyn rwy’n ei ddweud wrthynt, ac rwyf am ei ddweud wrthych yma yn awr, yw eu bod yn sicr yn atal llawer iawn o droseddau rhag digwydd yn rhinwedd y ffaith eu bod yno.Mae Gareth Bennett yn dweud bod angen i ni fod yn wyliadwrus. Pam? Pam fod yn rhaid i ni fod yn wyliadwrus yng Nghymru pan nad oes yn rhaid iddynt fod yn wyliadwrus yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban? Nid wyf yn deall y wyliadwriaeth honno. Fel y dywedais, nid yw datganoli anghymesur yn gweithio. Mae Steffan wedi’i esbonio, ond mae fformiwla Barnett, os caiff ei chymhwyso i blismona, yn golygu ein bod yn cael mwy o arian. Mae gan Ogledd Iwerddon boblogaeth lai na Chymru; mae Gogledd Iwerddon gryn dipyn yn llai na Chymru. Mae wedi wynebu anawsterau na chawsom yng Nghymru. Ac er fy mod o bosibl yn anghytuno gyda rhai o’r gwleidyddion ar yr ochr arall i’r Siambr, nid wyf erioed—os af yn ôl 40 mlynedd, nid oeddwn yn ceisio’u lladd.Crybwyllwyd Byron Davies, ond ni fu erioed ar y lefel reoli— Angela Burns AC: A yw newydd ddweud ei fod eisiau’n lladd ni? Na, yn sicr, ni ddywedodd hynny. Yn sicr, ni wnaeth. Parhewch, Mike Hedges. Mike Hedges AC: Rwyf am ei ailadrodd eto: yr hyn a ddywedais oedd—. Roeddwn yn cymharu Cymru â Gogledd Iwerddon. Mae yna bobl yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon sy’n eistedd yno heddiw, a oedd, 40 mlynedd yn ôl, ar ddwy ochr wahanol, ac mae’n bosibl bod llawer ohonynt wedi bod yn awyddus i Aelodau eraill yno gael eu lladd. Dywedais fy mod yn anghytuno â’r Blaid Geidwadol ac rwy’n anghytuno ag UKIP, ond nid wyf eisiau eu lladd mewn gwirionedd; rwyf eisiau eu curo mewn dadl. Dyna’r pwynt y ceisiwn ei wneud, ac rwy’n credu ei fod yn bwysig: fod Gogledd Iwerddon, gyda’i holl hanes a’i holl broblemau yn y gorffennol, wedi cael plismona wedi’i ddatganoli iddynt, ond nid ydym ni.Dywedodd Sian Gwenllian fod yna gonsensws yng Nghymru. Rwy’n credu ein bod wedi gweld hynny. Gwn fod Mark Isherwood wedi crybwyll ei fod wedi siarad â heddweision, ond byddwn yn tybio nad oeddent yn brif gwnstabliaid, ac nad oeddent ar y lefel reoli chwaith. Rwyf wedi siarad â heddlu ar bob math o lefelau is sydd â phob math o safbwyntiau diddorol. Y bobl ar y lefel reoli sy’n gallu gweld sut y mae plismona’n cael ei gyflawni ar draws yr ardal—nid y rhingyll lleol sy’n gweithredu mewn ardal. Er mor bwysig yw ei swydd, mae ei ddealltwriaeth o blismona’r ardal gyfan a pholisi plismona gryn dipyn yn llai na’r rhai ar y lefel reoli.Mae’n ymwneud yn agos â gwasanaethau datganoledig eraill, ac nid gwasanaethau tân ac ambiwlans yn unig, ond pethau sylweddol eraill a reolir gan Lywodraeth Cymru hefyd. Mae’n ymwneud â llywodraeth leol ac mae’n ymwneud â gwasanaethau cymdeithasol. Mae’n ymwneud ag ystod eang o gyrff—nid oes gennyf amser i’w rhestru i gyd mae’n siŵr—ac nid gwasanaethau tân ac ambiwlans yn unig.I gloi, a gaf fi ddweud fy mod yn cytuno â phopeth y mae’r Gweinidog wedi’i ddweud? Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn credu yng Nghymru, yn credu ynom ein hunain ac yn cefnogi datganoli plismona i Gymru. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 6. 6. Dadl Plaid Cymru: Preifateiddio’r GIG Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies. Yr eitem nesaf ar yr agenda yw dadl Plaid Cymru ar breifateiddio’r gwasanaeth iechyd. Rwy’n galw ar Rhun ap Iorwerth i wneud y cynnig—Rhun ap Iorwerth. Cynnig NDM6303 Rhun ap IorwerthCynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:1. Yn cefnogi’r egwyddor bod Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru yn cael ei gadw yn nwylo’r cyhoedd.2. Yn pryderu ynghylch y goblygiadau cyllidebol a thrawsffiniol i wasanaethau iechyd yng Nghymru yn sgil preifateiddio graddol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Lloegr.3. Yn credu bod yn rhaid i unrhyw gytundebau masnach y DU yn y dyfodol fod yn amodol ar gydsyniad y Cynulliad hwn, os bydd y cytundebau hynny’n effeithio ar feysydd polisi datganoledig, fel iechyd. Cynigiwyd y cynnig. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch, Llywydd. Mae’n ymddangos yn rhyfeddol, mewn dadl fel hon, fod yn rhaid i ni fynd yn ôl i drafod rhai o’r pethau sylfaenol megis sut y mae Llywodraeth Cymru yn cael ei chyllid a pham fod y penderfyniadau ynglŷn â sut y mae Lloegr yn dewis rhedeg ei gwasanaeth iechyd gwladol yn berthnasol i’r penderfyniadau ariannol a’r penderfyniadau ynglŷn â’r gweithlu sy’n bosibl yng Nghymru. Felly, er budd y bobl nad ydynt efallai’n cydnabod neu’n sylweddoli pam y mae hyn yn berthnasol, mewn termau syml, dyma pam: mae’r gyllideb sydd ar gael ar gyfer y GIG yng Nghymru yn cael ei dylanwadu’n fawr gan wariant cyhoeddus cyffredinol yn Lloegr. Felly, os yw Llywodraeth y DU yn torri cyllideb y GIG yno, yna byddai’n rhaid i Lywodraeth Cymru naill ai dorri cyllideb y GIG yma neu dorri cyllideb arall i adennill costau. Os yw Llywodraeth y DU yn penderfynu cynyddu cyllideb y GIG yn Lloegr, ac nad ydynt yn torri cyllidebau adrannau perthnasol eraill, yna gall Llywodraeth Cymru wneud y penderfyniad hwnnw hefyd. Ond y ffactor allweddol bob amser yw’r penderfyniadau a wneir ynglŷn â lefelau gwario yn Lloegr. I bob pwrpas, byddai’n amhosibl i Loegr gael GIG gyda chyllideb sydd gryn dipyn yn llai ac i Gymru gynnal cyllideb uwch. Dyma pam y mae penderfyniadau gwariant ar gyfer y GIG yn Lloegr, a natur y gwariant hwnnw a’i strwythur yn bwysig i ni. Os yw’r GIG yn Lloegr yn debygol o fod yn gwario swm cryn dipyn yn llai o arian, yna mae gan Gymru lai o arian i wneud penderfyniad gwahanol.Ceir goblygiadau eraill hefyd: os yw’r GIG yn Lloegr yn torri gwasanaethau a ddefnyddir gan gleifion o Gymru, er enghraifft; os yw’r safonau hyfforddiant ar gyfer y gweithlu’n gostwng oherwydd bod cwmnïau sy’n darparu gwasanaethau’n dechrau datsgilio er mwyn gwneud cymaint â phosibl o elw, ac fel arall, byddai gorchwyddiant yng nghyflogau uwch-reolwyr—canlyniad y gellir ei ragweld yn sgil twf y sector preifat—yn effeithio’n anochel ar y fan hon. Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair. Rhun ap Iorwerth AC: Ond nid y preifateiddio honedig a chaledi yw’r unig bethau sy’n destun pryder am fod strwythur gwleidyddol Cymru yn rhy ddibynnol ar benderfyniadau a wneir gan wleidyddion yn Llundain. Creodd trafodaethau’r bartneriaeth masnach a buddsoddiad trawsiwerydd a oedd yn mynd rhagddynt flwyddyn neu ddwy yn ôl bryder mawr oherwydd yr effeithiau y gallai cytundeb o’r fath eu cael ar y GIG. Pe bai ffurf gynnar ar y bartneriaeth masnach a buddsoddiad trawsiwerydd wedi cael ei llofnodi, yn sicr ni fyddai unrhyw ddewis gan y GIG ond agor y ddarpariaeth i’r cwmnïau iechyd preifat niferus sy’n lobïo am gytundeb o’r fath, cofiwch. Yn wir, mynegwyd peth gwrthwynebiad i’r bartneriaeth masnach a buddsoddiad trawsiwerydd yn gyhoeddus gan y mudiad Eurosceptic fel ffordd o feithrin safbwynt gwrth-Ewropeaidd mewn pobl. Ond byddwn yn dadlau ein bod bellach efallai’n wynebu mwy fyth o berygl y bydd Llywodraeth y DU yn mynd ar ôl cytundeb o’r fath, yn unochrog gyda’r Unol Daleithiau. O leiaf mae gan yr UE bwysau gwleidyddol mewnol cryf i gynnal systemau iechyd y cyhoedd. Naïfrwydd o’r mwyaf yn fy marn i yw esgus bod y Thatcheriaid sy’n debygol o adfer rheolaeth ar Lywodraeth y DU yn mynd fod â budd y GIG yn agos at eu calonnau wrth drafod cytundebau masnach. Byddwn hyd yn oed yn ychwanegu y gallai llawer o bobl weld hyn fel ffordd o hyrwyddo’u hagenda hirdymor o breifateiddio’r GIG, a gallu osgoi bai drwy feio canlyniad anfwriadol yn dilyn hynny.Gyda hynny, trof at yr agwedd olaf ar y ddadl hon. Ydy, mae’r GIG mewn perygl yn sgil preifateiddio. Rwy’n ymwybodol fod y Ceidwadwyr bellach yn bychanu’r graddau y mae darparwyr preifat wedi cymryd drosodd y gwaith o redeg gwasanaethau GIG mewn gwirionedd ers Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 yn Lloegr, ond mae’r ffeithiau’n dangos twf: mae preifateiddio graddol wedi gweld y ganran o’r gyllideb iechyd sy’n cyrraedd dwylo preifat yn codi o 4 y cant yn 2009-10 i 8 y cant yn 2015. Gyda llaw, mae arafwch y twf hwn yn adlewyrchu rhai ffeithiau anghyfleus. Mewn gwirionedd mae’n eithaf anodd gwneud arian o rai rhannau o’r GIG, felly pam y byddai darparwr sector preifat yn awyddus i’w rhedeg? Gallech ddadlau na allwch ddechrau preifateiddio’n sylweddol mewn gwirionedd heb adael i ddarparwyr wrthod triniaeth i bobl os nad ydynt yn gallu talu.Yn olaf, nid rheolau comisiynu a chynlluniau contract aneglur sy’n peri’r perygl mwyaf i wasanaethau craidd ond perfformiad gwael parhaus, gan arwain pobl i gredu bod yswiriant iechyd preifat, neu’r llwybr gofal iechyd preifat, yn hanfodol er mwyn sicrhau eu bod yn cael diagnosis prydlon yn rhan o’u triniaeth. Rwy’n siŵr nad fi yw’r unig Aelod yn y Siambr hon sydd wedi clywed etholwyr yn dweud eu bod wedi cael eu hannog a’u cynghori gan feddygon teulu neu feddygon ymgynghorol mewn ysbytai i gael triniaeth breifat am y byddai hynny’n sicrhau triniaeth gyflymach iddynt. Mae’r etholwyr hynny’n dweud wrthyf eu bod yn teimlo nad oes ganddynt unrhyw ddewis. Ni all darparwyr preifat ddechrau gwneud arian go iawn nes i yswiriant iechyd gynyddu, felly maent angen i restrau aros fynd yn hwy, i’r graddau fod pobl yn ofni am eu hiechyd.Felly, nid wyf yn credu ei bod yn debygol o gyrraedd cam pan fydd plaid wleidyddol brif ffrwd yn dadlau dros system wedi’i phreifateiddio’n llawn. Caiff ei wneud yn raddol, rwy’n credu, gan yr ychydig wir gredinwyr, a bydd yn ymddangos yn araf o ganlyniad i fil o benderfyniadau a wnaed gan bragmatyddion yn gweithredu mewn amgylchiadau ariannol cyfyng. Y canfyddiad yw bod cynnig gwasanaethau ar gyfer tendro cystadleuol yn sicrhau arbedion effeithlonrwydd neu ofal gwell. Bydd hyn yn digwydd ochr yn ochr â chamau i gael gwared ar unrhyw driniaeth am ddim ar gyfer pethau y tybir gan rai eu bod yn driniaethau moethusrwydd neu ffordd o fyw—IVF, efallai; hunaniaeth rywedd.Felly, dyma risg GIG y Ceidwadwyr: yn y tymor hir, bydd eu GIG wedi crebachu ac yn dod yn debyg i fersiwn y DU o Medicare. Os ydych yn lwcus—[Torri ar draws.] Yn bendant, fe ildiaf. Mark Isherwood AC: A ydych yn rhannu fy mhryder fod y ffigurau canran rydych yn eu dyfynnu yn cynnwys pethau fel hosbisau cymunedol, Marie Curie, Macmillan—cyrff felly? Dylai’r GIG a gefnogwn, ac sy’n cael ei ariannu gan y trethdalwyr, am ddim yn y man darparu, fod yn gofyn sut y gallent eu helpu i ddarparu mwy ar gyfer y cleifion am yr adnoddau sydd ar gael. Rhun ap Iorwerth AC: Roedd y ffigurau a ddyfynnais yn ymwneud â’r arian sy’n mynd i’r sector preifat, ac rwy’n cyfaddef ei fod yn cynyddu’n araf, ond dyma’n union yw’r farwolaeth araf a phoenus sy’n bygwth dyfodol y GIG. [Torri ar draws.] O’i eistedd, mae llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yn gofyn a wyf i’n mynd i siarad am Gymru. Dyma’r cyd-destun y bydd dyfodol y GIG yng Nghymru yn ceisio’i oroesi. Yn y cyfamser, bydd gwaith pob Llywodraeth Cymru olynol ar gynnal a gwella GIG cyhoeddus yn mynd yn galetach yn y cyd-destun hwn. Dyna pam ei bod yn bwysig inni amddiffyn Cymru a chael llais cryf Plaid Cymru yn San Steffan. Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol y gwelliant i’r cynnig. Galwaf ar Angela Burns i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Gwelliant 1—Paul DaviesDileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle:Yn cydnabod y cydweithredu rhwng gwasanaethau iechyd Cymru a Lloegr a dibyniaeth cleifion Cymru ar wasanaethau arbenigol yn Lloegr, fel gwasanaethau trawsryweddol, gwasanaethau newyddenedigol aciwt a gwasanaethau iechyd meddwl i blant. Cynigiwyd gwelliant 1. Angela Burns AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n falch o gynnig gwelliant y Ceidwadwyr a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Mae’r cynnig a gyflwynwyd gan Blaid Cymru yn amlwg wedi’i gymell yn wleidyddol a’i gynllunio i godi bwganod am ddyfodol ein GIG. Er mwyn osgoi amheuaeth, mae fy mhlaid yn credu’n llwyr y dylid cadw’r GIG yng Nghymru mewn dwylo cyhoeddus. Yn wir, rwy’n credu bod pob plaid yn y Cynulliad hwn yn cefnogi’r egwyddor y dylid cadw gwasanaeth iechyd gwladol Cymru mewn dwylo cyhoeddus.Yn ystod cyfnod yr etholiad cyffredinol, lle mae Plaid Cymru’n amlwg yn cael trafferth i gysylltu â’r cyhoedd yng Nghymru, yn sicr bydd nifer o achosion o newyddion ffug fel hyn yn cael eu datgan ar goedd. Y gwirionedd yw bod yna elfennau o ddarparwyr preifat yn y GIG eisoes, a hoffwn dynnu sylw at y ffigurau a ddangosir yng nghyfrifon cryno’r GIG yng Nghymru ar gyfer y ddwy flynedd ariannol ddiwethaf, sy’n tynnu sylw at y gwariant ar ofal iechyd gan ddarparwyr eraill. Mae’r golofn sy’n cynrychioli darparwyr preifat wedi codi o £43,015,000 yn 2014-15 i £49,732,000 yn 2015-16. Byddai’n dda gennyf glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet, a oedd ar y teledu yr wythnos hon yn lladd ar fy mhlaid am breifateiddio’r GIG yn raddol, i esbonio’r gwariant hwn a’n goleuo pwy neu beth yn union yw darparwyr preifat.Mae pwynt 3 y cynnig yn ceisio cysylltu Brexit a chytundebau masnach newydd â’r ddarpariaeth iechyd. Hoffwn dynnu sylw llefarydd Plaid Cymru at y ffaith mai’r Undeb Ewropeaidd y maent yn ei gefnogi mor angerddol oedd yn gyfrifol am gytundeb masnach y bartneriaeth masnach a buddsoddiad trawsiwerydd, a chan ein bod bellach ar ein ffordd allan o Ewrop, nid yw’r bygythiad canfyddedig hwn yn bodoli mwyach. Mae gennyf bob ffydd y bydd ein Prif Weinidog yn cael cytundebau da a chadarn—[Torri ar draws.] na, ni wnaf, a dweud y gwir—yn cael cytundebau da a chadarn ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan a lle bo angen, fe ymgynghorir â’r gweinyddiaethau datganoledig.Nid oes gan yr un ohonom belen grisial, ond mae’n ddyletswydd arnom fel gwlad i fod yn gadarnhaol ar ddechrau’r trafodaethau ac ymdrechu i sicrhau’r canlyniad gorau posibl i bob un ohonom. Nid wyf yn gweld cefnogaeth felly gan grŵp Plaid Cymru, sydd i’w gweld fel pe baent yn dymuno i’r trafodaethau fethu. Yn hytrach na bwrw amheuaeth ar y ffordd y mae gwasanaethau iechyd trawsffiniol yn cael eu darparu, mae ein gwelliant yn ceisio atal rhagor eto o godi bwganod gan y cenedlaetholwyr ac yn amlygu’r rôl bwysig y mae darpariaeth o’r ochr arall i’r ffin yn ei chwarae wrth ddarparu triniaeth i gleifion o Gymru.Rwyf am gyffwrdd yn fyr ar un neu ddau o’r gwasanaethau a nodwyd yn ein gwelliant, sy’n helpu i ddangos pa mor bwysig yw cydweithio rhwng y ddau wasanaeth GIG. Gwasanaethau newyddenedigol acíwt—roedd adroddiad gan Bliss y llynedd yn tynnu sylw at dystiolaeth gan unedau newyddenedigol, gwasanaethau cludiant newyddenedigol a rhieni ar draws Cymru a ddangosai brinder sy’n peri pryder o nyrsys, meddygon a gweithwyr iechyd proffesiynol hanfodol eraill sydd eu hangen ar fabanod a enir yn gynamserol a babanod sâl. Mae hyn yn rhoi unedau newyddenedigol o dan bwysau difrifol; mae’n golygu eu bod yn methu cyrraedd safonau ansawdd a diogelwch cenedlaethol, neu gynorthwyo rhieni i fod yn rhan o ofal eu baban. Canfu’r adroddiad mai dwy yn unig o 10 o unedau newyddenedigol a oedd â digon o nyrsys i staffio eu holl gotiau’n unol â safonau diogelwch ac ansawdd cenedlaethol, nid oedd gan dros hanner yr unedau ddigon o staff meddygol i gyrraedd safonau cenedlaethol, ac nid oes gan yr un o adrannau gofal newyddenedigol dwys Cymru ddigon o unedau llety dros nos i rieni i allu cyrraedd y safonau cenedlaethol.Dylem fod yn ddiolchgar fod ymddiriedolaethau’r GIG yn Lloegr yn gallu derbyn achosion brys a darparu’r cotiau nad ydynt ar gael bob amser yng Nghymru. Rwy’n adnabod etholwyr na fyddai eu babanod yma gyda ni pe na baent wedi gallu defnyddio rhai o’r gwasanaethau GIG anhygoel yn Lloegr, megis yr uned gofal dwys pediatrig yn Ysbyty Cyffredinol Southampton. Gwn y byddwn i, fel rhiant, am gael y driniaeth orau i fy mhlentyn, ble bynnag y bo ar gael.Gadewch i ni edrych ar wasanaethau trawsryweddol a gwasanaethau iechyd meddwl. Ddwy flynedd yn ôl, pleidleisiodd y Siambr hon dros archwilio’r posibilrwydd o agor y clinig hunaniaeth rywedd cyntaf yng Nghymru. Ar hyn o bryd, Cymru yw’r unig un o bedair gwlad y Deyrnas Unedig heb glinig hunaniaeth rywedd, sy’n golygu bod pobl drawsryweddol yn gorfod teithio i Loegr. Roedd ffigurau ar gyfer 2012 yn amcangyfrif bod dros 31,300 o bobl drawsryweddol yng Nghymru, er nad oes gennym unrhyw ganolfan bwrpasol, a byddwn yn awyddus i glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet a ydym wedi symud ymlaen o gwbl ar y mater hwn, ond unwaith eto, rwy’n pwysleisio i lefarydd Plaid Cymru, gan nad yw’r gwasanaeth ar gael yng Nghymru, mai’r GIG yn Lloegr sy’n camu i’r adwy, ac mae’r un peth yn wir am elfennau o ddarpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl plant. Y GIG yn Lloegr sy’n darparu gwasanaeth ychwanegol a chefnogaeth i ni.Wrth ddod â fy nghyfraniad i ben, rwy’n annog Plaid Cymru i feddwl eto am y cynnig hwn. Mae angen i ni ystyried yr hyn sydd orau i’r claf, ac nid yr hyn sy’n gweddu orau i farn gul, ideolegol Plaid Cymru am y byd. Fel y casglodd y Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan yn ei adroddiad ar gyfer 2015, mae symud trawsffiniol wedi bod yn un o ffeithiau bywyd ers blynyddoedd lawer, ac mae hynny yr un mor wir yn achos gwasanaethau iechyd. I’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd ar y ffin, efallai na fydd y darparwr iechyd agosaf yn y wlad y maent yn preswylio ynddynt, fel y byddwch chi, Dirprwy Lywydd, yn gwybod yn iawn, gan eich bod yn cynrychioli etholaeth ogleddol. Felly, byddwn yn annog yr Aelodau i wrthod y cynnig a chefnogi ein gwelliant. Rwy’n gobeithio na fydd Llywodraeth Cymru yn goddef y math hwn o nonsens. Dai Lloyd AC: Rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl ar y GIG yng Nghymru, ac yn falch hefyd o ddathlu llwyddiannau’r GIG yng Nghymru. Gwnaf hyn, yn amlwg, yn seiliedig ar fy mhrofiad o fod yn feddyg yng Nghymru ers 1980. Mae gweithio yn y GIG wedi bod yn gyffrous, yn heriol, ac yn werth chweil—i gyd ar unwaith weithiau—er gwaethaf yr holl dryblith ac ad-drefnu llywodraethol a rheolaethol a hyrddiwyd yn fy ffordd ar hyd y blynyddoedd. Mae’n creu bond aruthrol gyda phobl. Rwyf wedi tyfu i fyny gyda phobl yn Abertawe. Mae cleifion a oedd yn blant pan ddechreuais yn neiniau a theidiau bellach. Bu’n fraint cael bod yn llinyn cyson ym mywydau cymaint o bobl. Mae’n dangos ymddiriedaeth a pharch cadarn—o’r ddwy ochr—wrth i bobl gydnabod ymrwymiad a sgiliau aruthrol staff y GIG.Nawr, nid yw’r GIG heb ei ddiffygion, wrth gwrs. Gall adnoddau dynol iawn o’r fath wneud camgymeriadau hefyd, ac nid oes byth ddigon o arian ar gyfer y technolegau a’r cyffuriau diweddaraf. Ond yma yng Nghymru mae gennym GIG—ie, un sydd o dan straen bob dydd, ond eto un sy’n wasanaeth hynod o gyhoeddus mewn dwylo cyhoeddus, ac sy’n ennyn lefelau rhyfeddol o deyrngarwch a pharch gan gleifion Cymru. Ac oherwydd nad yw’n breifat, nid oes arian yn newid dwylo yn ystod yr ymgynghoriad. Mae pobl yn gwybod mai’r cyngor a roddaf iddynt yw’r hyn y byddwn yn ei roi fy nheulu fy hun, heb ei ddifwyno gan gyllid yn sgiwio’r drefn reoli. Gyda phresgripsiynau am ddim, gallaf argymell meddyginiaeth ataliol hirdymor, tabledi sy’n achub bywydau fel statinau a thabledi pwysedd gwaed uchel ac anadlyddion asthma, gan wybod y bydd pobl yn eu cymryd, heb gael eu dylanwadu gan yr angen i dalu mwy na £8 yr eitem amdanynt, fel yn Lloegr.Rwy’n falch o’r datblygiadau arloesol ym maes iechyd yma yng Nghymru. Mae ein dwy ysgol feddygol ragorol ar flaen y gad mewn gwaith ymchwil a thriniaethau o’r safon orau, gan gynnwys cleifion o Gymru a thu hwnt. Imiwnotherapi cyffrous ar gyfer mesothelioma, fel y clywsom yn y grŵp trawsbleidiol ar asbestos neithiwr: imiwnotherapi ar gyfer mesothelioma yng Nghaerdydd, a chleifion yn dod o bob cwr. Llawdriniaethau blaengar yng Nghaerdydd, ac yn Abertawe, uwch uned losgiadau a phlastig Treforys—sy’n gwasanaethu de-orllewin Lloegr yn ogystal â de Cymru gyfan. Mae’r uned losgiadau a phlastig honno’n wirioneddol anhygoel. Mae canmoliaeth uchel o’r fath i lawdriniaeth y galon yng Nghymru hefyd. Caiff bywydau eu hachub mewn modd na fyddai’n digwydd genhedlaeth yn ôl, ac rwy’n falch o fod yn gysylltiedig â hynny i gyd. A rhoi organau: mae’r system optio allan newydd arloesol yma yng Nghymru, yn trawsnewid trawsblannu arennau yn y Deyrnas Unedig. Dylai’r Cynulliad fod yn haeddiannol falch o’i rôl yn gwireddu hyn, ac am gynnig ysbrydoliaeth ar draws yr ynysoedd hyn, ac organau ychwanegol ar gyfer eu trawsblannu ar draws yr ynysoedd hyn ac ar draws Ewrop.Mae ein GIG ni’n gydweithredol, yn ddynol, ac mae unrhyw ddibyniaeth yn gweithio’r ddwy ffordd, fel y nodais eisoes. Oes, ceir unedau arbenigol yn Lerpwl a Manceinion yn gwasanaethu pobl gogledd Cymru, ond maent yn dibynnu ar y 600,000 o bobl o ogledd Cymru i wneud eu hunedau arbenigol yn hyfyw, o ran màs critigol. Heb y 600,000 o bobl yng ngogledd Cymru, ni fyddai’r unedau hynny yn Lerpwl a Manceinion yn hyfyw ychwaith. Mae dibyniaeth yn gweithio’r ddwy ffordd ac ar hyd Clawdd Offa mae tua 15,000 o bobl yn Lloegr wedi cofrestru gyda meddygon teulu yng Nghymru, ac mae tua 13,000 o bobl yng Nghymru wedi cofrestru gyda meddygon teulu yn Lloegr, i fod yn deg. Ond mae ystyriaeth ddynol aeddfed ac anhunanoldeb yn golygu bod y gofal yn parhau beth bynnag am y ddaearyddiaeth. Ond rydym yn byw mewn cyfnod ansicr. Mae Brexit wedi peryglu ein GIG a staff gofal. Mae pleidleisio dros Brexit caled yn cyflwyno ffyrdd Torïaidd eraill o ymdrin â gwasanaethau cyhoeddus hefyd, megis preifateiddio graddol y gwasanaeth iechyd fel yn Lloegr. Rhaid i grwpiau comisiynu yno gomisiynu o’r tu allan i’r GIG. Rhaid iddynt breifateiddio; nid oes ganddynt unrhyw ddewis. Mae rhaniadau a chystadleuaeth yn rhemp; peidio â rheoleiddio a chyfrinachedd sy’n teyrnasu; ac mae ysgrifennydd iechyd Torïaidd yn Lloegr wedi ysgogi streiciau gan feddygon iau am y tro cyntaf ers dros 40 mlynedd. Yng Nghymru, mae’n wahanol. Na, amddiffynwch Gymru ac amddiffynwch ein GIG. Diolch yn fawr. Jenny Rathbone AC: Rwy’n credu ei bod yn hollol briodol fod rhai gwasanaethau’n cael eu darparu yn Lloegr ac na ellir darparu gwasanaethau prin, arbenigol yng Nghymru oni bai bod nifer ddigonol o gleifion â’r cyflwr i gynnal y rhagoriaeth glinigol y mae pob claf yn dymuno ei chael. Felly, rwy’n cytuno â Dai Lloyd fod rhai o’r gwasanaethau arbenigol ar Lannau Mersi a Manceinion yn dibynnu ar nifer yr atgyfeiriadau o ogledd Cymru, ond mae’r un peth yn berthnasol i bobl yn Swydd Gaerhirfryn ag sy’n berthnasol i bobl yn y gogledd. Mae pawb eisiau gwasanaeth ardderchog ac mae hynny’n golygu bod yn rhaid i chi allu cael llif digonol o gleifion i glinigwyr allu cynnal eu rhagoriaeth glinigol.Ond rwy’n anghytuno ag Angela Burns. Nid newyddion ffug yw poeni bod canlyniadau gwariant allanol ar iechyd yn Lloegr o ddifrif yn fygythiad posibl i’r symiau cyffredinol yn y grant bloc a ddaw i Gymru, ac ni allwn anwybyddu hynny. Mae’n rhaid i ni gydnabod hynny a’i glustnodi fel testun pryder go iawn y gallai rhai pobl fod eisiau ei ystyried pan fyddant yn bwrw eu pleidlais yn yr etholiad cyffredinol.Credaf ein bod i gyd yn cefnogi’r ffaith fod y GIG yn wasanaeth am ddim yn y man darparu, ac na ddylid defnyddio anffawd neb sy’n mynd yn sâl fel ffordd i rywun arall wneud elw ar eu traul. Rwy’n gobeithio y gall pawb ohonom gefnogi hynny, ond credaf fod y sefyllfa’n fwy cymhleth nag y mae’r cynnig yn ei awgrymu o bosibl. Er enghraifft, mae pob meddyg teulu’n gontractwr annibynnol, fel y gŵyr Dai Lloyd, ac er bod y mwyafrif helaeth yn gwbl ymrwymedig i wasanaethu’r cleifion ar eu rhestr, cafwyd rhai enghreifftiau o feddygon teulu’n addasu eu gweithgaredd i elwa ar gymhellion ariannol penodol, naill ai drwy’r fframwaith canlyniadau ansawdd neu drwy gael perthynas amhriodol gyda chwmni fferyllol penodol er mwyn hyrwyddo meddyginiaeth arbennig ar draul un arall ratach. Ni allwn ddianc rhag hynny. Ceir cryn dystiolaeth o hynny ac mae’n un o’r pethau sy’n rhaid i ni ei gadw mewn cof. Awgrymwyd hefyd y gallai ysbyty fod yn awyddus i bresgripsiynu meddyginiaethau cyn i glaf adael yr ysbyty am y gallant wneud arian allan o’r trafodiad hyd yn oed pan fyddai meddyginiaethau’n cael eu rheoli’n well gan feddyg teulu neu fferyllfa leol y claf. Mae’r tensiynau hyn yn bodoli ac mae angen eu rheoli. Y gobaith yw y dylai’r strwythur integredig presennol sydd gennym ar gyfer gofal iechyd, gyda saith bwrdd iechyd yn gyfrifol am ddarparu gofal sylfaenol ac eilaidd, ei gwneud yn haws i gael gwared ar arferion amhriodol o’r fath. Ond mae’n rhaid i ni gydnabod nad yw hynny’n digwydd bob amser.Rhan o’r egwyddor gofal iechyd darbodus yw y dylai gwasanaethau gael eu darparu gan y person sy’n gymwys i ddarparu’r gwasanaeth hwnnw a dim mwy. Mewn egwyddor, gallai gael ei ddarparu gan sefydliad yn y sector preifat mewn rhai achosion. Ddoe, ymwelais â phanel amlddisgyblaethol sy’n gweithio ar sut i reoli mynychwyr rheolaidd yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys yng Nghaerdydd a’r Fro. Roedd un unigolyn wedi defnyddio’r gwasanaeth y tu allan i oriau, yr adran ddamweiniau ac achosion brys neu’r gwasanaeth ambiwlans dros 50 o weithiau yn ystod y mis diwethaf, a hynny oherwydd eu bod wedi bod yn aros ers 18 mis i gael eu gweld gan seiciatrydd. Roedd un arall yn hunan-niweidio, gan gynnwys llyncu gwrthrychau miniog, yn ôl pob golwg er mwyn osgoi gorfod cyfarfod â’i swyddog prawf. Mae’r achosion hyn yn bodoli, ac mae’n rhaid i ni fod yn greadigol yn y ffordd yr ydym yn ymdrin â heriau o’r fath.Mewn rhai achosion, efallai mai’r ffordd orau o wasanaethu unigolion sy’n isel eu hysbryd, yn ynysig neu’n gaeth i rywbeth yw cyrsiau meithrin hyder, cyrsiau byw bywyd llawn, sy’n dod â hwy’n ôl i’r gymuned am fod eu hiselder yn gysylltiedig â’u harwahanrwydd. Mae’r gwasanaethau hynny’n cael eu darparu ar hyn o bryd gan Cymunedau yn Gyntaf, ond gallai cwmni sector preifat eu darparu mewn egwyddor. Nid wyf yn dweud y dylent, ond mae angen i ni o leiaf ei drafod. Mae cwmnïau preifat wedi bod yn rhan o’r gwaith o ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl yn y GIG erioed. Fodd bynnag, ceir anfanteision strwythurol, er enghraifft, ansefydlogrwydd—gallai’r corff symud allan os yw eu helw’n gostwng; cost—mae’n bosibl y bydd rhaid iddynt dalu eu cyfranddalwyr; y prosesau trafodaethol y dylid eu hosgoi pan fyddwn yn trafod darpariaeth gyfannol gwasanaethau gan weision cyhoeddus; ac yna ceir y diffyg atebolrwydd y dylai pawb ohonom boeni yn ei gylch. Ond byddai’r GIG yn chwalu heb fewnbwn cwmnïau preifat. Maent yn darparu’r holl offer, yn adeiladu’r ysbytai, yn gwneud y cyffuriau ac yn y byd TG, caiff y cyfan o’r TG mewn gofal sylfaenol ei redeg yn breifat. Felly, ceir digonedd o dystiolaeth y gall darparwyr eraill herio darpariaeth y wladwriaeth, ac o bryd i’w gilydd, gallant wella syniadau, gweledigaeth a pherthynas gyda defnyddwyr gwasanaethau, ac felly mae’n rhaid i ni gael ymagwedd ehangach tuag at y mater hwn. Siân Gwenllian AC: Rwyf am siarad am integreiddio gofal cymdeithasol a iechyd, a’r problemau y byddai creu darpariaeth a system a fyddai’n mynd yn fwy a mwy darniog ei natur yn eu creu pe baem ni’n symud at ddefnyddio mwy a mwy o gontractwyr preifat. Rydym wedi trafod yr angen i integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol sawl tro. Mae nifer o broblemau yn cael eu hachosi wrth i sefydliadau gwahanol ddadlau dros y gwahanol elfennau—er enghraifft, brwydrau gweinyddol a biwrocrataidd ynglŷn â lle mae’r cyfrifoldeb dros gleifion yn cael ei basio rhwng sefydliadau, cleifion yn methu cael eu rhyddhau i’r gymuned oherwydd diffyg cyfleusterau a gwasanaethau cymunedol iechyd i alluogi pobl i fyw yn annibynnol, a dadlau am bwy sydd yn talu am beth. Erbyn hyn, rydym i gyd, fwy neu lai, yn cytuno bod angen integreiddio a bod angen trafodaeth ar hynny, a thrafodaeth ar frys, yn wir, ond un peth a fyddai’n gwneud integreiddio yn anodd fyddai mwy o dendro cystadleuol a rhagor o ddarparwyr yn cystadlu dros gytundebau proffidiol, tra wedyn yn gadael y gwasanaethau hanfodol sydd ddim yn broffidiol yn nwylo system sy’n cael ei gwaedu o fuddsoddiad. Dyna ydy’r perygl a dyna all ddigwydd yng Nghymru os ydy’r Deyrnas Unedig yn arwyddo bargeinion masnach sy’n gorfodi ein gwasanaethau iechyd a gofal i agor eu drysau i ddarparwyr preifat. Bydd rhai pobl yn codi’r pwynt bod llawer o gontractwyr preifat yn darparu gwasanaethau gofal a iechyd yn barod, ond dyna’n union ydy’r broblem: mae contractio gwasanaethau allan i ddarparwyr sydd o safon isel wedi arwain at weithlu gofal cymdeithasol sydd ddim yn cael eu talu’n ddigonol, ac sy’n dioddef o amodau gwaith sâl. Yn ei dro, mae hynny yn arwain at ddiffyg statws a pharch i’r sector ofal. Os ydym yn cael ein gorfodi i agor ein gwasanaeth iechyd i ddarparwyr preifat oherwydd fod Llywodraeth Lloegr wedi ymrwymo yn ideolegol i’r sector breifat, ac yn arwyddo bargeinion masnach ar ran Cymru, mae perygl gwirioneddol y byddwn ni yn colli rhagor o sgiliau ac y bydd safonau yn disgyn eto. Rydym yn barod wedi gweld problemau system ddarniog Lloegr yn sgil pasio’r Ddeddf iechyd a gofal cymdeithasol yn 2012. Mae’r penderfyniad i roi dyletswyddau iechyd cyhoeddus i awdurdodau lleol wedi arwain at benderfyniad gwarthus gan yr NHS yn Lloegr, sef peidio ariannu’r cyffur PrEP, gan ei fod yn atal trosglwyddiad HIV ac felly yn cael ei gyfrif fel ‘iechyd cyhoeddus’. Ac oherwydd y penderfyniad trychinebus i wneud toriadau anferth i awdurdodau lleol er mwyn talu am warchod yr NHS, mae gwariant ar iechyd cyhoeddus wedi gostwng. Mae iechyd cyhoeddus mewn systemau iechyd yn cael ei ddominyddu gan y sector breifat yn rhwym o wynebu tanfuddsoddiad, oherwydd nid oes arian i’w wneud yn y maes yna. Ac wrth weld y pwyslais yn symud at drin afiechyd yn hytrach na gwasanaethau ataliol, nid yw hynny’n gwneud synnwyr busnes, wrth gwrs, achos mae hi’n ddrytach yn y pen draw.Mae hi’n hanfodol ein bod ni’n cadw’r gwasanaeth iechyd cyhoeddus yn nwylo’r cyhoedd ac yn cadw dwylo’r Toriaid a’u cytundebau masnachol allan o Gymru. Bydd Plaid Cymru yn amddiffyn gwasanaeth iechyd cyhoeddus Cymru bob cam o’r ffordd. Caroline Jones AC: Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl hon heddiw, ac rwy’n falch o gymryd rhan. Mae UKIP yn credu’n gryf y dylai’r GIG barhau mewn dwylo cyhoeddus a bod yn wasanaeth am ddim yn y man darparu am byth. Rydym hefyd yn gwrthwynebu’r bartneriaeth masnach a buddsoddiad trawsiwerydd yn llwyr, ac wedi ymgyrchu’n drwm yn ei herbyn. Cyhyd â bod y claf yn cael ei weld ac yn cael diagnosis cyflym, y canlyniad yw’r ffactor pwysig yn hyn o beth, cyhyd â bod y gwasanaeth am ddim i’r claf. Heb gyfranogiad y sector preifat, ni fyddai rhannau helaeth o’n sector iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithredu.Ni fyddai gennym yr arf pwysicaf yn ein harfogaeth iechyd, yr ymyrraeth therapiwtig a ddefnyddir fwyaf, sef meddyginiaethau. Mae’r rhan fwyaf o’n meddyginiaethau’n cael eu hymchwilio, eu datblygu a’u cynhyrchu gan y sector preifat, sy’n cyfrannu biliynau o bunnoedd i economi’r DU, gan gyflogi miloedd o bobl a darparu cyffuriau sy’n achub bywydau i gleifion y GIG. Yn y tair blynedd diwethaf, mae’r diwydiant fferyllol yn y DU wedi talu dros £1 biliwn o bunnoedd tuag at y cynllun rheoleiddio taliadau fferyllol a wellodd y llif o feddyginiaethau newydd i gleifion y GIG, gan ganiatáu i gleifion gael mynediad at driniaethau sydd ar gael yn eang yng ngwledydd eraill Ewrop.Y model contractwr annibynnol yw conglfaen ein sector gofal sylfaenol. Mae meddygon teulu a meddygfeydd yn gontractwyr a chwmnïau sector preifat sy’n darparu gofal iechyd i gleifion y GIG. Heb y sector preifat, byddai darpariaeth gofal cymdeithasol yn diflannu ar draws rhannau helaeth o’r wlad, wrth i nifer fawr o gartrefi gofal gael eu rhedeg yn breifat. Heb y sector preifat, ni fyddai gennym fynediad at dechnolegau iechyd arloesol. Bydd canolfan therapi pelydr proton yn agor yn nes ymlaen eleni, gan roi mynediad i gleifion y GIG at y driniaeth ganser arloesol hon. Mae’r ganolfan, ychydig y tu allan i Gasnewydd, yn cael ei rhedeg gan Proton Partners—cwmni preifat a sefydlwyd i ddod â therapi pelydr proton i’r DU. Efallai eich bod wedi darllen yn y wasg dros y penwythnos am driniaeth newydd ar gyfer dioddefwyr llosgiadau, SkinGun, sy’n defnyddio bôn-gelloedd o groen rhoddwr ac yn tyfu haen newydd o groen ar y claf, gan roi diwedd ar impiadau croen poenus a chreithio helaeth. Datblygwyd y dechnoleg hon gan gwmni sector preifat.Mae’n amlwg i mi fod ymwneud preifat yn y GIG nid yn unig i’w groesawu, ond yn angenrheidiol. Er mwyn i’r GIG ffynnu, rhaid cael cydweithio go iawn rhwng y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector. Nid yw cleifion yn poeni pa sector sy’n darparu triniaeth fawr ei hangen, cyn belled â’i bod y driniaeth orau sydd ar gael ac nad oes yn rhaid iddynt dalu amdani. Mae angen i ni roi’r gorau i’r dogma sy’n ystyried bod y sector cyhoeddus yn dda, a’r sector preifat yn ddrwg. Cydweithio yw’r peth pwysicaf ac mae canlyniadau i gleifion yn hollbwysig. Heb y sector preifat ni fyddai ein GIG yn goroesi, felly bydd UKIP yn ymatal ar gynnig Plaid Cymru y prynhawn yma. Diolch yn fawr. Steffan Lewis AC: Rwyf am ganolbwyntio fy sylwadau y prynhawn yma ar oblygiadau trefniadau tollau newydd i’r gwasanaeth iechyd gwladol a materion datganoledig eraill, oherwydd beth bynnag yw ein barn wahanol ar y penderfyniad i adael yr undeb tollau a gadael y farchnad sengl Ewropeaidd, gallwn i gyd gytuno, pa un a oeddem yn ffafrio gadael neu aros, neu’n genedlaetholwyr neu’n unoliaethwyr, fod hynny’n mynd i arwain at ganlyniadau nad ydym wedi gorfod eu hystyried ers peth amser. Caiff ei gymhlethu ymhellach, wrth gwrs, os oes gennym sefyllfa lle mae marchnad sengl newydd y DU ac undeb tollau newydd y DU yn cael eu gweinyddu’n unig gan Lywodraeth y DU, caiff ei gymhlethu gan y ffaith fod Llywodraeth y DU, wrth gwrs, yn gweithredu fel Llywodraeth Lloegr mewn pethau fel iechyd. Felly, rwy’n meddwl y gallwn i gyd gytuno y bydd awydd dilys i weld polisi iechyd a model iechyd gan Lywodraeth y DU hefyd yn gorgyffwrdd â threfniadau tollau yn y dyfodol. Felly, rwy’n gwybod ein bod i gyd yn llawn o gyffro etholiad ar hyn o bryd; rwy’n mynd i geisio gweld a allwn gael rhyw fath o gonsensws ynglŷn â chydnabod y gallai cytundebau masnach yn y dyfodol, yn fwriadol neu beidio, os na chânt eu gwneud yr un pryd rhwng Llywodraethau’r DU, arwain, yn anfwriadol neu beidio, at roi gwasanaethau cyhoeddus datganoledig, gan gynnwys y GIG, dan anfantais.Pan gafodd y bartneriaeth masnach a buddsoddiad trawsiwerydd ei chrybwyll—mae wedi’i chrybwyll sawl gwaith, wrth gwrs—mynegwyd pryderon dilys bryd hynny. Roedd gan Gydffederasiwn y GIG yn benodol broblem gyda chynnwys mecanweithiau setlo dadleuol rhwng buddsoddwr a’r wladwriaeth, sydd, wrth gwrs, yn normal mewn cytundebau masnach, ond mae natur y cyrff hyn yn allweddol mewn perthynas â diogelu gwasanaethau cyhoeddus. Caiff yr achosion hyn eu clywed yn gyfrinachol, mewn llysoedd cyflafareddu preifat, ac maent yn caniatáu i gorfforaethau erlyn llywodraethau sy’n ceisio gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar eu mandadau gwleidyddol eu hunain. Mewn un achos enwog, pan gyflwynodd Awstralia becynnau plaen ar gyfer sigaréts, defnyddiodd cwmni tybaco Philip Morris gymal setlo anghydfodau buddsoddwr-i-wladwriaeth a gynhwyswyd yng nghytuniad buddsoddi Awstralia a Hong Kong yn 1993 i geisio mynd â Llywodraeth Awstralia i’r llys. Yn y pen draw, methodd eu hymgais, ond nid heb lawer o flynyddoedd o gynnen wleidyddol.Y brotest gyhoeddus ledled Ewrop, wrth gwrs, dros y bartneriaeth masnach a buddsoddiad trawsiwerydd a arweiniodd, yn y pen draw, at gynnwys mecanweithiau eraill. Mae cytundeb masnach yr UE gyda Canada, CETA, yn cynnwys rhai darpariaethau sy’n cyfyngu ar y defnydd o’r pwerau hyn a rhai esemptiadau i wasanaethau cyhoeddus. Er ei fod ymhell o fod yn ganlyniad perffaith yn CETA, mae pryder y cyhoedd ynghylch yr effaith y gall cytundebau masnach rhyngwladol ei chael ar wasanaethau cyhoeddus cenedl yn newid y ffordd y caiff cytundebau masnach eu trafod bellach, ac mae hynny’n rhywbeth y bydd yn rhaid inni ei gofio os a phan fydd y DU yn gadael undeb tollau Ewrop yn llwyr.Ond fel y dywedais, gallwn i gyd gytuno y bydd unrhyw gytundebau masnach yn y dyfodol yn effeithio’n fawr ar Gymru ac ar ein gwasanaethau cyhoeddus yn benodol. Ddoe, gwrandewais yn ofalus ar ateb a roddodd y Prif Weinidog i gwestiwn gan yr Aelod dros Gastell-nedd ar y mater hwn ac a dweud y gwir, mae’n rhaid i mi ddweud nad yw’n ddigon da yn fy marn i fod ein Prif Weinidog yn dweud y dylai Cymru gael llais yn y trafodaethau masnach yn y dyfodol wedi inni adael yr undeb tollau Ewropeaidd. Rhaid inni fod yn fwy nag ymgyngoreion ar faterion sy’n amlwg wedi’u datganoli ac yn rhan o awdurdodaeth y ddeddfwrfa hon. Yr ateb rhesymegol yn gyfansoddiadol, yn fy marn i, os ydym yn mynd i fod y tu allan i’r undeb tollau yn enwedig, yw ffederaleiddio masnach fel bod hwnnw’n gymhwysedd a rennir rhwng y cenhedloedd a Llywodraethau’r DU, wedi’i oruchwylio gan gyngor Gweinidogion y DU ac yn atebol i holl Seneddau’r DU. Wrth gwrs, dyma pam y mae gan sawl gwlad ffederal eu trefniadau tollau eu hunain—dyna pam y maent wedi ffederaleiddio masnach ryngwladol yn hytrach na’i gadw yn y canol yn unig, oherwydd bydd yna orgyffwrdd yn ddieithriad. Fel y soniais yn gynharach, gyda ffactor sy’n cymhlethu fel Llywodraeth y DU yn gweithredu fel Llywodraeth Lloegr ar faterion datganoledig, mae’n gwneud mwy fyth o synnwyr i gael cyngor Gweinidogion y DU i oruchwylio ein buddiannau a rennir mewn perthynas â chytundebau masnach y DU yn y dyfodol. Felly, gall unrhyw un gael llais, a hoffwn ofyn i Lywodraeth Cymru roi’r gorau i’r alwad honno am ei bod yn druenus, a bod yn onest. Rwy’n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn ailystyried yr amwysedd yn y maes hwn, oherwydd bydd hynny’n allweddol wrth sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus yma’n cael eu diogelu mewn modd a fynegir yn ddemocrataidd gan bobl yn y blwch pleidleisio yn hytrach nag er budd gorelwa rhyngwladol. Hannah Blythyn AC: Hoffwn gyfrannu’n fyr at y ddadl hon gan Blaid Cymru heddiw fel Aelod sy’n gwasanaethu etholaeth lle mae teithio ar draws y ffin i gael gwasanaethau arbenigol penodol yn ddigwyddiad arferol, boed yn daith i Clatterbridge neu Christie’s am driniaeth oncoleg arbenigol, ysbyty plant Alder Hey yn Lerpwl, neu hyd yn oed y cyswllt hirsefydlog rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac ysbyty Stoke-on-Trent i gael triniaeth trawma mawr. Fel y cyfeiriodd Aelodau eraill yn flaenorol, sefydlwyd ysbytai fel Ysbyty Iarlles Caer i wasanaethu cleifion ar y ddwy ochr i’r ffin. Heb y niferoedd o ochr Cymru, ni fyddai gwasanaethau ysbyty yng Nghaer yn gynaliadwy nac yn hyfyw, ac rwy’n falch fod GIG Cymru, o dan Lywodraeth Lafur Cymru wedi aros yn ffyddlon i weledigaeth ei sylfaenydd, Nye Bevan, yn rhydd o farchnadeiddio a phreifateiddio. Ond yr hyn sy’n glir yw nad ydym yn bodoli na’n gweithredu ar wahân, ac mae cynnig heddiw yn briodol yn ei bryder clir ynglŷn â’r goblygiadau cyllidebol a achosir gan breifateiddio cynyddol y GIG yn Lloegr, yn wir, a’r ad-drefnu o’r brig i lawr gwerth £3 biliwn. Mae’r preifateiddio a’r darnio cynyddol hwn yn creu goblygiadau nid yn unig i’n gallu canlyniadol i ariannu’r GIG yng Nghymru—gwasanaethau iechyd yng Nghymru—yn briodol, ond mae hefyd yn destun pryder i mi o ran y goblygiadau i ddarpariaeth a safon y gwasanaethau y mae fy etholwyr sy’n teithio dros y ffin i ogledd-orllewin Lloegr yn eu cael.Rwy’n deall bod yna brotocol trawsffiniol wedi’i sefydlu rhwng y GIG yng Nghymru a’r GIG yn Lloegr, gyda’r nod o ddarparu gofal o ansawdd uchel ar gyfer cleifion sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd trawsffiniol, a bod Llywodraeth Cymru yn parhau â’i gwaith a’i chydweithrediad â’r GIG yn Lloegr i fynd i’r afael â’r ddarpariaeth gofal iechyd yn ardal y ffin. Fodd bynnag, tynnodd etholwyr fy sylw at achosion lle nad yw cleifion o Gymru sy’n defnyddio gwasanaethau dros y ffin wedi cael gwybodaeth deg, gawn ni ddweud, yn niffyg gair gwell, mewn perthynas ag amseroedd aros a gwasanaethau gan unigolion a sefydliadau yn y GIG yn Lloegr, ac maent wedi teimlo weithiau fel pe bai’r cleifion sy’n dod o Gymru i gael triniaeth yn Lloegr yn cael eu rhoi ar ris is na’r rhai sy’n byw yn Lloegr ac sy’n defnyddio’r un gwasanaethau.Felly, gyda’r cytundebau a’r trefniadau cyllido hyn ar waith, nid fel hyn y dylai fod, yn sicr, ac mae ychydig o achosion yn unig yn ychydig o achosion yn ormod. A phan dynnais sylw at hyn o’r blaen mewn cyfarfod gydag Ysgrifennydd y Cabinet, gwn ei fod yn rhannu fy mhryderon ynglŷn â hyn, ac i orffen, hoffwn apelio ar eraill a Llywodraeth Cymru, wrth barhau’r ymrwymiad i ddarparu’r gofal iechyd o’r ansawdd gorau posibl a chyllido teg i bobl Cymru, i roi’r un gwasanaeth o’r radd flaenaf ag y byddai disgwyl i unrhyw un arall ei gael i fy etholwyr i ac eraill sy’n defnyddio gwasanaethau yn Lloegr. Diolch yn fawr iawn. Galwaf yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething. Vaughan Gething AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r Aelodau am gyflwyno dadl ar y pwnc hwn, gan ei fod yn caniatáu i mi ailadrodd ymrwymiad parhaus y Llywodraeth Cymru hon dan arweiniad Llafur Cymru i’r egwyddor o wasanaeth iechyd gwladol a ariennir yn gyhoeddus ac sydd am ddim yn y man darparu. Rydym yn cytuno â’r rhai a gynigiodd y cynnig. Yn wir, roedd diwygiadau 2009 yng Nghymru yn cadarnhau egwyddorion sefydlol Nye Bevan drwy gael gwared ar y trefniadau prynwr-darparwr sy’n seiliedig ar y farchnad a gweithredu gwasanaeth iechyd integredig wedi’i gynllunio. A bellach, mae Simon Stevens wedi tynnu sylw at y gwasanaeth iechyd integredig wedi’i gynllunio hwnnw fel ffordd ymlaen ar gyfer y GIG yn Lloegr. Maent yn symud oddi wrth y rhaniad prynwr-darparwr; maent yn cydnabod ei fod yn aneffeithlon ac yn ddi-fudd. Fodd bynnag, ni allai’r gwrthgyferbyniad rhwng y systemau presennol yng Nghymru a Lloegr fod yn gliriach.Fel y soniwyd eisoes, mae Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 ar gyfer Lloegr yn gweld iechyd fel nwydd, yn amodol ar ddarpariaethau caffael a chystadleuaeth, gan gynnwys sefydlu Monitor fel y rheoleiddiwr economaidd. Wrth wneud hynny, gwnaeth Llywodraeth y DU ar y pryd ddewis gweithredol i agor y farchnad ddarpariaeth gofal iechyd i unrhyw ddarparwr sy’n awyddus, gan gynnwys darparwyr gofal iechyd preifat. Mae’r ffigurau a ddyfynnodd Angela Burns ar wariant cyhoeddus, neu wariant preifat yn hytrach, yma yng Nghymru, yn cyfateb i lai nag 1 y cant o gyllideb y GIG, ac mae’r gwasanaethau contract—. Ond nid ydym yn rhoi’r gwasanaethau hynny i ddarparwyr allanol. Ond fe welwch hynny mewn trosglwyddiadau ar raddfa eang yn y system yn Lloegr: o wasanaethau ambiwlans di-argyfwng i wasanaethau iechyd rhyw yn Lloegr, mae’r rhain yn cael eu rhoi allan ar raddfa eang i ddarparwyr preifat. Nid yw hynny, ac ni fydd hynny, yn digwydd yma yng Nghymru.Ni ellir gwadu bod Deddf 2012 wedi arwain at gynyddu preifateiddio yn Lloegr. Mae cyfrifon yr Adran Iechyd ar gyfer 2015-16 yn dangos bod y sector preifat wedi darparu gwerth dros £8.7 biliwn o wasanaethau’r GIG, neu dros 7.5 y cant o gyllideb y GIG yn Lloegr. Ac mae canlyniadau sylweddol i breifateiddio graddol o’r fath, gan gynnwys cynnydd mewn costau cyfreithiol a chostau trafodion yn y system yn Lloegr gyda chwmnïau preifat, ond mae darparwyr GIG hefyd yn cyflwyno achosion llys os ydynt yn colli ymarfer caffael ar gyfer contractio gwasanaethau, a hefyd y pwyntiau a wnaeth Rhun ap Iorwerth , Julie Morgan—neu Jenny Rathbone yn hytrach—ac eraill am yr effaith ar y gyllideb yma yng Nghymru hefyd. A dylai pawb ohonom fod yn bryderus hefyd ynglŷn â system sy’n fwy seiliedig ar yswiriant. Mae’n golygu taliadau ymlaen llaw am ofal sylfaenol. Er enghraifft, yn Iwerddon, os ydych am weld meddyg teulu, gallwch ddisgwyl talu mwy na €50 am ymgynghoriad yn unig, ac mae ffi go iawn i’w thalu wedyn am y feddyginiaeth hefyd. Mae’n newid y ffordd y mae pobl yn ymddwyn a hygyrchedd meddyginiaeth o ansawdd uchel. Mae’n newid yr ymddiriedaeth yn y bobl hynny hefyd. Os ydym yn mynd i weld ewyllys wleidyddol yn cael ei chynnal—ailadrodd y gwirionedd fod gwasanaeth iechyd gwladol a ariennir yn gyhoeddus yn werth da am arian ac yn gynaliadwy, os oes ewyllys wleidyddol i fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Mae hynny’n galw am newid agwedd sylweddol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.Ond er gwaethaf y preifateiddio diymwad yn Lloegr, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fabwysiadu ymagwedd bragmatig tuag at lifau trawsffiniol, fel yr amlinellodd nifer o siaradwyr yn y ddadl hon, gan gynnwys Hannah Blythyn cyn i mi siarad. Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar ddarparu’r gofal gorau i bawb sydd ei angen. Wrth gwrs, mae ein dull o gydweithio rhwng y gwasanaeth iechyd yng Nghymru a’r gwasanaeth iechyd yn Lloegr yn canolbwyntio ar anghenion ein poblogaethau. Anghytundeb bach â Dr Lloyd, ond rwy’n deall bod mwy na 20,800 o drigolion Lloegr wedi cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru, ond bod ymhell dros 14,000 o drigolion Cymru wedi cofrestru gyda meddyg teulu yn Lloegr—realiti llifau trawsffiniol. Ac wrth gwrs, rydym yn gweld y rheini mewn gofal iechyd arbenigol rhwng Cymru a Lloegr ac o Loegr i Gymru. Disgrifiodd Hannah Blythyn lif ei hetholwyr i ogledd-orllewin Lloegr, ond wrth gwrs, fel y crybwyllodd Dai Lloyd, mae ysbyty Treforys—yr uned losgiadau—yn ganolfan arbenigol, nid yn unig i Gymru ond i dde-orllewin Lloegr yn ogystal. Mae canolfan ganser Felindre yng Nghaerdydd yn darparu gwasanaethau canser arbenigol i’r rhan fwyaf o Gymru, yn ogystal â thrin cleifion a gyfeirir yno o Loegr yn ogystal. Mae’r llif yn mynd i’r ddau gyfeiriad. Rydym am weld hynny’n cael ei gynnal. Ein nod, fel Llywodraeth, yw sicrhau bod pob claf yn cael gofal iechyd o ansawdd uchel ar yr adeg iawn ac yn y lle iawn. Weithiau, gwasanaethau a ddarperir ar draws y ffin yn Lloegr fydd y rheini. Ar adegau eraill, bydd yn digwydd yma, y gwasanaeth yng Nghymru. Ceir llifau cleifion hirsefydlog i Loegr i gael gofal ysbyty i’r bobl sy’n byw yn nwyrain ein gwlad. Mae gan fyrddau iechyd lleol hyblygrwydd i gyfeirio cleifion am driniaeth allan o’u hardal lle mae angen clinigol ac amgylchiadau’r claf yn cyfiawnhau hynny neu lle na chaiff gwasanaethau eu darparu yma yng Nghymru.Nawr, i droi at y pwynt a wnaed yn y cynnig am yr Undeb Ewropeaidd, rydym yn cydnabod bod mwyafrif pobl Cymru wedi pleidleisio dros adael. Rydym wedi bod yn glir y bydd y penderfyniad democrataidd yn cael ei barchu. Fodd bynnag, nid ydym yn credu bod pobl Cymru wedi pleidleisio dros fod yn waeth eu byd, i weld niwed yn cael ei wneud i’n heconomi neu i’n gwasanaethau cyhoeddus. Felly, rydym yn benderfynol o sicrhau dyfodol cadarnhaol i Gymru ar ôl Brexit, ac rydym wedi bod yn glir mai ein blaenoriaeth ar gyfer y berthynas rhwng yr Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol yw mynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl. Rydym wedi gosod ein safbwynt ehangach yn fanwl yn y Papur Gwyn ar y cyd gyda Phlaid Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i—. Steffan Lewis AC: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ildio. Rwy’n gwybod ei fod yn ailadrodd y safbwynt ar y farchnad sengl, ond yn benodol yn fy nghyfraniad gofynnais am drefniadau tollau a bwriad neilltuol Llywodraeth y DU i dynnu’n ôl yn rhannol o leiaf o Undeb Tollau’r Undeb Ewropeaidd. Felly, gyda hynny mewn golwg, fel Ysgrifennydd y Cabinet yn Llywodraeth Cymru, beth yw eich barn am y trefniadau ar gyfer cytundebau masnach yn y dyfodol? A ydych eisiau i’ch Llywodraeth gael llais llawn sy’n ystyrlon ar lefel y DU mewn cytundebau masnach yn y dyfodol er mwyn amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus, neu a ydych am fod yn ddim mwy nag ymgynghorai yn y broses honno? Vaughan Gething AC: Wel, fe glywsoch y Prif Weinidog yn nodi ein safbwynt ar sawl achlysur am y berthynas gyda’r undeb tollau o ran cael cyd-bwyllgor gweinidogion i symud y materion hynny yn eu blaenau. Mae angen i ni gael llais go iawn i Gymru yn y dyfodol, a byddwn yn parhau i bennu ein blaenoriaeth ar gyfer ymadael a chytundebau masnach yn y dyfodol drwy gyd-bwyllgor gweinidogol. Rydym hefyd wedi bod yn glir, o dan y setliad datganoli, fod rhaid i unrhyw bwerau mewn meysydd sydd wedi’u datganoli a ddelir ar hyn o bryd ar lefel yr Undeb Ewropeaidd gael eu harfer ar lefel ddatganoledig. Ac oni bai bod rheswm clir wedi’i gytuno’n ddiamwys dros iddynt gael eu harfer gan Lywodraeth y DU, rhaid i’r pwerau hynny ddod i’r lle hwn yn gyntaf heb lifo drwy Lywodraeth y DU. Yn syml iawn, ni fydd unrhyw safbwynt arall yn dderbyniol.Gan droi at rai o’r sylwadau a wnaed, i egluro, rwy’n meddwl, rhywfaint o’r gamddealltwriaeth ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd yn y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru, a’r sylwadau a wnaed gan lefarydd UKIP, oherwydd rwy’n meddwl bod y cyfeiriad at ymwneud preifat yn y gwasanaeth iechyd gwladol yn mynd â ni grym bellter oddi wrth breifateiddio a ddeallwn—. Nid yw’n anodd deall y gwahaniaeth. Nid wyf i na chynigwyr y cynnig hwn yn dweud y dylem geisio cael gwared ar y bobl hynny yn y sector preifat a ddatblygodd nwyddau meddygol, offer meddygol, dyfeisiau meddygol, neu’r holl fathau eraill o driniaethau a gwelliannau y gwelwn ein gwasanaeth iechyd gwladol yn manteisio arnynt. Mae hynny gryn bellter oddi wrth realiti preifateiddio, wrth gwrs. Mae arweinydd presennol y DU o’r hyn sydd ar ôl o UKIP ar sawl achlysur yn y gorffennol wedi dweud ei fod yn credu bod y gwasanaeth iechyd gwladol yn rhwystr i gystadleuaeth, ac y byddai’n ei israddio a’i ddileu.Nid ydym yn cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr, sy’n ymgais eithaf amlwg i ddileu’r cyfeiriad at breifateiddio’r Torïaid yn Lloegr. Mae’r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i wasanaeth iechyd gwladol o ansawdd uchel mewn dwylo cyhoeddus, ac rwy’n falch o ddweud y byddwn yn parhau i sefyll dros Gymru a byddwn yn parhau i sefyll dros y gwasanaeth iechyd gwladol. Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i ymateb i’r ddadl. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu heddiw. Mae pwrpas y ddadl yma, a phwrpas y cynnig, yn glir, rwy’n meddwl, ac yn eithaf syml. Rwy’n credu bod y Ceidwadwyr yn eiddgar i drosglwyddo rhagor o rym a chyllideb dros y gwasanaeth iechyd i’r sector preifat. Mae tystiolaeth yn dangos hynny. Mi oedd y ffigurau—. Roedd yr 8 y cant o’r gyllideb a oedd yn mynd i’r sector breifat, gyda llaw, yn eithrio’r trydydd sector. Ond, hyd yn oed os nad yw’r Ceidwadwyr yn gallu dylanwadu’n uniongyrchol ar bolisi NHS yng Nghymru, mae eu penderfyniadau gwariant nhw fel plaid yn Llundain yn effeithio yn uniongyrchol arnom ni. Rwy’n gobeithio ein bod ni wedi gallu egluro hynny heddiw.Ar ben hynny, wrth gwrs—a thra’r wyf yn croesawu cefnogaeth Llafur i’r cynnig yma— mae methiannau Llywodraeth Lafur Cymru i gynnal gwasanaethau, rwy’n meddwl, o’r safon y mae staff yr NHS yng Nghymru a chleifion yng Nghymru yn ei haeddu yn gwthio mwy a mwy o bobl at y sector preifat. Mi gawsom araith gan Angela Burns yn dweud na ddylai Plaid Cymru fod yn gul a gwrthwynebu gwasanaethau trawsffiniol. Nid wyf yn hollol siŵr o ble y cafodd hi hynny. Ni wnes i, yn sicr, grybwyll hynny. Nid yw’r cynnig sydd o’m blaen i fan hyn yn crybwyll hynny. Yn wir, mi wnaeth Dr Dai Lloyd, yn ei araith o, bwysleisio pa mor dda y mae gwasanaethau trawsffiniol yn gweithio yn y ddau gyfeiriad. Mi roddaf gyfle i chi, os dymunwch chi, egluro yn union pam yr aethoch chi i lawr y trywydd hwnnw. Fel arall, mi wnaf i gario ymlaen. Mi soniodd am wasanaethau rhagorol yn Southampton. Mi fuaswn i yn gyrru fy mhlentyn i’r lleuad am y gofal gorau, ac mi fyddwn i yn ei gymryd fel sarhad personol pe baech yn awgrymu, rhywsut, ei fod yn well gen i ddim gwasanaeth yn hytrach na gwasanaeth oddi ar dir Cymru. Chi sy’n siarad nonsens drwy awgrymu’r fath beth am gleifion Cymru. Ond—ac rwy’n gobeithio’n arw y buasai’r Ceidwadwyr yn cytuno efo fi ar hyn—ni ddylai tanberfformiad yr NHS yma, nac unrhyw agenda breifateiddio, danseilio’r gwasanaethau y dylem ni allu eu disgwyl i gael eu darparu yng Nghymru. O edrych ar eich rhestr chi, yn eich gwelliant chi, o wasanaethau yr ydych chi yn credu y dylem eu cydnabod fel bod yn Lloegr, a ydych chi wir yn credu y dylem eistedd yn ôl a derbyn nad yw plant efo problemau iechyd meddwl yn gallu cael eu trin yn agos at eu cartref? Yn Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl—[Torri ar draws.] Mae’r Aelod yn dweud na wnaeth hi ddweud hynny. Mi wnaf i ddarllen o’ch gwelliant chi, sef y dylai’r Cynulliad gydnaboddibyniaeth cleifion Cymru ar wasanaethau arbenigol yn Lloegr’,gan gynnwys ‘gwasanaethau iechyd meddwl i blant’. Os ydych chi yn meddwl y dylem eistedd yn ôl a derbyn hynny yn Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, cywilydd arnoch chi. Mae gen i ofn bod bwriad a bygythiad y Ceidwadwyr yn glir. Cefnogwch y cynnig heddiw. Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. 7. 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Benthyca a’r Economi Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 2 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Yr eitem nesaf ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar fenthyca a’r economi. Galwaf ar Andrew R.T. Davies i gynnig y cynnig. Cynnig NDM6302 Paul DaviesCynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:1. Yn nodi bod angen arweinyddiaeth gryf a chadarn ar Gymru a’r Deyrnas Unedig er mwyn parhau â ffyniant economaidd y wlad.2. Yn gresynu at gefnogaeth gyhoeddus y Prif Weinidog i gynnig i fenthyca £500 biliwn yn ychwanegol a fyddai’n peryglu dyfodol economi Cymru.3. Yn cydnabod yr angen i ystyried costau polisïau yn llawn er mwyn sicrhau nad yw cynnydd economaidd Cymru a’r DU yn cael ei beryglu. Cynigiwyd y cynnig. Andrew RT Davies AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig ar y papur trefn yn enw Paul Davies yn ffurfiol, cynnig sy’n canolbwyntio ar yr arweinyddiaeth gref a chadarn sydd ei hangen ar y wlad hon er mwyn parhau â’i ffyniant economaidd; yn gresynu at gefnogaeth gyhoeddus y Prif Weinidog i fenthyca £500 biliwn yn ychwanegol ar gerdyn credyd y wlad a fyddai’n peryglu dyfodol economi Cymru; ac sy’n cydnabod yr angen i gostio polisïau’n llawn, pan gânt eu cyflwyno, er mwyn sicrhau nad yw cynnydd economaidd Cymru a’r DU yn cael ei beryglu, ac nad yw’r glymblaid o anhrefn yn dychwelyd i wneud yn siŵr fod y goblygiadau economaidd hirdymor yn drychinebus i gymunedau ar hyd a lled y wlad hon. Mike Hedges a gododd— Andrew RT Davies AC: Wel, os gallaf ymdrin â’r gwelliannau yn gyntaf, Mike, ac fe fyddaf yn falch o gymryd yr—. Darllen yr hyn a oedd ar y papur trefn yn unig yr oeddwn yn ei wneud ar y cam hwnnw, i fod yn onest, gydag ychydig o sylwadau bachog. Ni fyddwn yn derbyn y gwelliannau, ac ni fydd hynny’n syndod. Mae gwelliant ‘dileu popeth’ y Llywodraeth yn codi cwestiwn ynglŷn â phwy a ysgrifennodd y gwelliant hwnnw, i fod yn onest gyda chi, oherwydd, yn amlwg, ni all llawer o’r materion ynddo wrthsefyll unrhyw graffu o gwbl, ac yn y pen draw, pan edrychwch ar y fframwaith cyllidol a mesurau eraill y mae Llywodraeth y DU wedi’u rhoi ar waith yn ystod y saith mlynedd gyntaf ers 2010 sydd wedi arwain at gyfraddau uwch nag erioed o gyflogaeth yma yng Nghymru, cyfraddau uwch nag erioed o fewnfuddsoddiad a chyfraniad parhaus, wrth gwrs, i sicrhau bod lle Cymru yn y Deyrnas Unedig yn ddiogel a sicr—mae’n gwneud yn berffaith siŵr y dylai pobl bleidleisio i’r Ceidwadwyr yn y blwch pleidleisio ar 8 Mehefin.Mae gwelliant 2 gan y cenedlaetholwyr Cymreig yn gofyn i bobl gydnabod bod angen amddiffyn Cymru rhag y posibilrwydd o Lywodraeth Geidwadol ddi-hid yn y DU. Rhaid i mi ddweud mai’r unig beth a fyddai’n ddi-hid fyddai gwneud yn siŵr fod Cymru’n dod yn annibynnol a’r canlyniadau difrodus y byddai hynny’n eu cael ar ein GIG yng Nghymru. Roedd yn eironig iawn gwrando ar Blaid Cymru yn siarad am GIG wedi’i ariannu’n gyhoeddus, ac sy’n eiddo cyhoeddus, ac mewn gwirionedd, y canlyniad mwyaf dinistriol i’r GIG yng Nghymru fyddai i Gymru ddod yn annibynnol a methu darparu, yn economaidd—[Torri ar draws.]—darparu—[Torri ar draws.]—darparu—[Torri ar draws.]—ar gyfer pobl Cymru. Rwy’n hapus i gymryd ymyriad gan Mike. Mike Hedges AC: Fe sonioch am glymblaid o anhrefn; ai’r glymblaid rhyngoch a’r Democratiaid Rhyddfrydol rhwng 2010 a 2015 a olygwch? Neu’r glymblaid y ceisioch ei chael gyda Phlaid Cymru ac UKIP ar ôl yr etholiad diwethaf? Andrew RT Davies AC: Un glymblaid o anhrefn sydd ar y papur pleidleisio ar gyfer 8 Mehefin, Mike, fel y gwyddoch yn iawn, sef y glymblaid o anhrefn a fyddai’n cael ei harwain gan Jeremy Corbyn a’r canlyniadau dinistriol, yn economaidd ac i ddyfodol y Deyrnas Unedig. Ac wrth gwrs, rydych yn rhan o glymblaid gyda’r cenedlaetholwyr a chyda’r Democratiaid Rhyddfrydol, fel y gwelsom, ers mis Mai diwethaf. Mae clymblaid ffurfiol yma. Fe’i gwelwch ar adeg y gyllideb, ac fe’i gwelwch am fod gennych Weinidog Addysg sy’n Ddemocrat Rhyddfrydol a fu’n ateb cwestiynau yn gynharach. Mae’n rhan o’ch Llywodraeth rydych yn ei chymeradwyo, Mike, ydych.Ond gan edrych ar yr hyn sy’n ofynnol wrth inni symud ymlaen, y brif thema ar gyfer y Senedd nesaf, yn ddi-os, ac i’r Cynulliad hwn, fydd cyflawni canlyniad refferendwm Brexit ar 23 Mehefin y llynedd, a dyna pam y mae arweinyddiaeth gref a chadarn yn angenrheidiol—[Torri ar draws.]—yn angenrheidiol—[Torri ar draws.]—fe allwn gael bisged ar fel y mae pethau—yn angenrheidiol er mwyn sicrhau ein bod yn parhau â’r twf economaidd hirdymor sy’n sail i fuddsoddiad yn ein gwasanaethau cyhoeddus gwych, sy’n sail i’r gallu i bobl gael cyflog gweddus i fynd adre, ac sy’n sail i’r gallu i entrepreneuriaid ddechrau busnesau newydd, yma yng Nghymru neu’n wir, mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig.A all fod yn wir mewn gwirionedd y gall unrhyw un fod ag unrhyw hyder yn arweinyddiaeth y Blaid Lafur bresennol mewn perthynas â diogelwch, mewn perthynas â negodi trafodaethau Brexit? Ddoe, er enghraifft, gofynnwyd i arweinydd y Blaid Lafur chwe gwaith am ei syniadau ynglŷn â Brexit ac ni allodd roi ateb argyhoeddiadol ar unrhyw un o’r troeon hynny. A hyn gan blaid sydd wedi treulio’r 18 mis diwethaf, mewn dwy ddadl arweinyddiaeth, yn rhwygo’i hun yn ddarnau ac sydd erbyn hyn yn y bôn yn sefyll gerbron yr etholwyr i ddweud, ‘Gallwch ymddiried ynom, fe fyddwn yn cyflawni’. A phan edrychwn ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi’i gyflawni yma, pan edrychwn ar y GIG, dyma’r unig ran o’r Deyrnas Unedig a oedd â Llywodraeth yn y sesiwn ddiwethaf a gyflwynodd doriadau mewn termau real i’r GIG—penderfyniad gwleidyddol ymwybodol, gallwn ychwanegu, a gymerwyd ar y pryd.Rhoddodd y Llywodraeth lawer o hygrededd yn y fantol mewn perthynas ag ad-drefnu llywodraeth leol a bu’n rhaid iddi wneud tro pedol ar ad-drefnu llywodraeth leol. O ran addysg, pan edrychwn ar y ffigurau addysg sydd wedi’u cyhoeddi, nid gan y Ceidwadwyr, nid gan bleidiau gwleidyddol eraill yma, ond ar y safleoedd rhyngwladol a PISA—beirniadaeth ddinistriol ar bolisïau addysg aflwyddiannus yma yng Nghymru sydd wedi difetha cyfleoedd bywyd cenedlaethau olynol o bobl ifanc sy’n mynd drwy ein system addysg yma yng Nghymru. Ac maent yn gofyn o ddifrif i ni ymddiried ynddynt gydag arweinyddiaeth y Deyrnas Unedig. Dyna pam ei bod yn hanfodol fod pobl yn deall y canlyniadau pan fyddant yn bwrw eu pleidlais ar 8 Mehefin, er mwyn sicrhau bod diogelwch a dyfodol hirdymor eu cymunedau, hwy eu hunain, a’r wlad hon yn y dyfodol yn cael eu diogelu gan fandad Ceidwadol cryf yma yng Nghymru, ond mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig hefyd.Ac rwy’n rhyfeddu bod y Prif Weinidog wedi treulio ei amser ar ‘The Politics Show’ yn cymeradwyo—yn cymeradwyo—defnyddio cerdyn credyd y DU i’r pen un i fenthyca gwerth £500 biliwn ychwanegol. Mewn geiriau eraill, cost anhrefn hyd yn hyn. Ar hyn o bryd, mae’r Blaid Lafur yn sefyll gerbron yr etholwyr yma yn y Deyrnas Unedig gyda gwerth £45 biliwn o ymrwymiadau heb eu costio—gwerth £45 biliwn o ymrwymiadau heb eu costio. Mae hynny’n gwbl anghredadwy, ac mae’r Prif Weinidog yn cymeradwyo’r polisi economaidd a fyddai mewn gwirionedd nid yn unig yn gosod dyfodol economaidd y genhedlaeth hon yn y fantol, ond dyfodol cenedlaethau’r dyfodol. Oherwydd nid y genhedlaeth hon yn unig a fydd yn talu am hynny—bydd cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth yn gorfod codi’r darnau wedi i’r wlad fynd i’r wal.Mae’r hyn a welsom yn ystod tymor cyntaf ac ail dymor y Ceidwadwyr mewn Llywodraeth yn San Steffan, fel y dywedais o’r blaen, yn werth ei ailadrodd: cyfraddau cyflogaeth uwch nag erioed, sydd wedi codi o 28 miliwn o bobl yn cael eu cyflogi yn y Deyrnas Unedig i 31.8 miliwn o bobl fel y mae heddiw; y cyfraddau uchaf erioed o fuddsoddiad yn yr economi; y cyfraddau uchaf erioed o fuddsoddiad mewn busnesau sy’n dechrau; y cyfraddau uchaf erioed o brentisiaethau. Bydd hyn oll yn cael ei beryglu gan y glymblaid o anhrefn y bydd Jeremy Corbyn yn ei harwain, wedi’i chynnal gan y Democratiaid Rhyddfrydol a chan y cenedlaetholwyr, o’r Alban ac yma yng Nghymru. Dyna pam y mae arnom angen arweinyddiaeth gref a chadarn Theresa May—[Torri ar draws.]—Theresa May i wneud yn siŵr yn y pen draw nad yw dyfodol pobl yn cael ei beryglu oherwydd agwedd drahaus, nid yn unig y Blaid Lafur yn Llundain, ond y Blaid Lafur yma yn y Cynulliad.Yn anad dim, yr hyn sy’n ofynnol gan Lywodraethau yn y dyfodol yw bod yna raglen wedi’i chostio’n llawn ar gyfer cyflawni a rhaglen wedi’i chostio’n llawn ar gyfer seilwaith a buddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Mae adeiladu gobeithion gwag, sef yr hyn y mae’r Blaid Lafur a’r cenedlaetholwyr yn ei wneud ar hyn o bryd, yn rhywbeth na fydd y cyhoedd yn ei faddau, ac fel y dywedais, mae cost anhrefn hyd yn hyn yn dangos yn glir fod yna dwll du o £45 biliwn—[Torri ar draws.] Os yw Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd yn awyddus i siarad, rwy’n fwy na pharod i gymryd ymyriad ganddo, gan ei fod yn grwgnach yn y fan acw. Ond mae’n gwybod, yn y pen draw, fod yr ystadegau yn y GIG yng Nghymru, lle mae un o bob saith o bobl ar restr aros yma yng Nghymru, lle mae amseroedd aros damweiniau ac achosion brys—[Torri ar draws.] Wel, fe ildiaf i chi. A ydych chi am ymyrryd? Fe ildiaf i chi. Dyna ni—nid ydych yn mynd i amddiffyn y safbwynt. Mae un o bob saith o bobl ar restr aros, ac mae pobl yn aros yn hwy ac yn hwy am driniaeth yma yng Nghymru.Felly, fel y dywedais, y dewis clir gerbron pobl Cymru, a gerbron pobl y Deyrnas Unedig, yw’r arweinyddiaeth gref a chadarn—[Torri ar draws.]—y mae angen i bobl bleidleisio drosti ar 8 Mehefin yn erbyn y glymblaid o anhrefn y bydd y Blaid Lafur, y cenedlaetholwyr a’r rhyddfrydwyr yn ei chyflwyno, na fydd yn cyflawni’r trafodaethau Brexit sydd eu hangen ar y wlad i wrthsefyll y 27 o aelod-wladwriaethau eraill a fydd yn gwneud cam â ni; na fydd yn cyflawni’r ffyniant economaidd sydd ei angen ar y wlad hon a’i chymunedau; na fydd yn diogelu ein gwasanaethau cyhoeddus; ac yn anad dim, na fydd yn sicrhau’r dyfodol disglair y gwyddom ei fod ar gael i’r wlad hon. Rwy’n hapus i gymryd yr ymyriad. David Rees AC: Diolch am gymryd yr ymyriad. Rydych newydd ei ddweud: a ydych yn dweud yn gyhoeddus, cyn i chi gychwyn ar y trafodaethau, fod 27 gwlad yr UE yn bwriadu gwneud cam â ni? Oherwydd dyna beth rydych newydd ei ddweud. Andrew RT Davies AC: Pan edrychwch ar yr hyn sy’n dod o’r Comisiwn Ewropeaidd, mae negodi’n golygu dau barti’n trafod er mwyn sicrhau’r fantais orau iddynt. Mae’n ffaith fod gan yr UE fel y mae ar hyn o bryd 27 aelod yn y trafodaethau hynny. Rydym ar yr ochr arall i’r bwrdd hwnnw. Wrth gwrs, maent yn mynd i uno ar safbwynt negodi. Pwy hoffech ei weld yn trafod y strategaeth honno ar ran Prydain? A ydych eisiau Jeremy Corbyn neu a ydych eisiau Theresa May? Oherwydd yr hyn y mae’r rhan fwyaf o bobl y Deyrnas Unedig a’r rhan fwyaf o bobl Cymru yn ei ddweud yw bod ganddynt ffydd yn ein Prif Weinidog, Theresa May, i negodi ar ran y wlad wych hon sydd gennym. Nid oes ganddynt fawr o ffydd, os o gwbl, yng ngallu Jeremy Corbyn i negodi.Gwnaf y pwynt hwn eto, ac os oes rhywun am ei wrthod—. Gwn fod y Gweinidog cyllid yn un o gefnogwyr brwd Jeremy Corbyn—chwe gwaith ddoe—chwe gwaith—gofynnwyd i Jeremy Corbyn amlinellu beth fydd ei safbwynt yn y pen draw yn y trafodaethau hyn, ac ar chwe achlysur ni allai roi ateb. Digwyddodd hynny wrth lansio cynhadledd y Blaid Lafur. A all fod yn iawn, gyda’r Cwnsler Cyffredinol yn eistedd yno, gyda’r Gweinidog cyllid yn eistedd yno, gyda Mike Hedges yn eistedd draw acw, fod Llafur Cymru mor hapus i ddileu Jeremy Corbyn o’r ymgyrch hon? A ydych yn credu y byddai Jeremy Corbyn yn gwneud Prif Weinidog da? Oherwydd ni all Carwyn Jones ddweud hynny mewn unrhyw ddatganiad y mae’n ei gyhoeddi. Dyna pam y mae angen cefnogaeth yr Aelodau yn y tŷ hwn i’r ddadl hon heddiw, fel y gallwn gael arweinyddiaeth gref a chadarn y Ceidwadwyr mewn Llywodraeth ar ôl 8 mis Mehefin. Rwyf wedi dethol dau welliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt, yn ffurfiol. Gwelliant 1—Jane HuttDileu popeth a rhoi yn ei le:1. Yn nodi y byddai Cymru a’i heconomi’n elwa fwyaf ar Lywodraeth y DU sy’n ymrwymo i fuddsoddi mewn modd teg a chynaliadwy ymhob rhan o’r wlad.2. Yn gresynu at y ffaith y bydd cynlluniau gwario Llywodraeth bresennol y DU yn golygu bod cyllideb refeniw Llywodraeth Cymru £1 biliwn yn is mewn termau real erbyn diwedd y degawd hwn nag ydoedd ar y dechrau ac y bydd cyllidebau cyfalaf werth £200 miliwn yn llai.3. Yn gresynu at gynlluniau Llywodraeth y DU i dorri £3.5 biliwn arall o’i chyllideb, gan y gallai olygu bod Cymru’n derbyn £175 miliwn yn llai yn 2019-20.4. Yn nodi hanes Llywodraeth Cymru o ysgogi twf economaidd, a’r ffaith bod bron i 150,000 o swyddi wedi’u cefnogi yn ystod tymor y Cynulliad diwethaf.5. Yn croesawu cynlluniau buddsoddi cyfalaf gwerth £7 biliwn Llywodraeth Cymru dros y pedair blynedd nesaf er mwyn cefnogi seilwaith cyhoeddus.6. Yn nodi rhaglen lywodraethu uchelgeisiol Llywodraeth Cymru sy’n nodi cynlluniau wedi’u prisio ar gyfer:a) Buddsoddiad ychwanegol gwerth £100 miliwn mewn ysgolion yng Nghymru;b) O leiaf 100,000 o brentisiaethau ar gyfer pobl o bob oedran;c) Lleihad bychan yn y dreth fusnes;d) Cronfa gwerth £80 miliwn ar gyfer triniaethau;e) Dyblu terfyn cyfalaf gofal preswyl;f) 30 awr o ofal plant am ddim ar gyfer plant tair a phedair oed y mae eu rhieni’n gweithio, 48 wythnos y flwyddyn. Cynigiwyd gwelliant 1. Ken Skates AC: Yn ffurfiol. Diolch. Galwaf ar Adam Price i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth—Adam. Gwelliant 2—Rhun ap IorwerthDileu popeth a rhoi yn ei le:1. Yn cydnabod yr angen i amddiffyn Cymru rhag y posibilrwydd o Lywodraeth Geidwadol ddi-hid y DU.2. Yn credu na ellir dibynnu ar Lywodraeth Cymru na Llywodraeth y DU i amddiffyn Cymru, i hyrwyddo buddiant cenedlaethol Cymru, na chyflawni potensial economaidd y genedl. Cynigiwyd gwelliant 2. Adam Price AC: Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Wyddoch chi, wrth wrando ar dôn y Blaid Geidwadol yn yr etholiad hwn, gallech ddod i’r casgliad ein bod, mewn rhyw ffordd, ar drothwy awr orau Prydain. Pan edrychwch ar yr hyn sy’n digwydd i’r wlad hon mewn gwirionedd, yr hyn a welwch yw Teyrnas Unedig ranedig tu hwnt. Nid hon yw ein hawr fawr, gallai fod yn awr olaf, oherwydd yr hollt economaidd, sef etifeddiaeth fwyaf gwenwynig y Llywodraeth Geidwadol hon.Gadewch i ni edrych ar y ffeithiau: yn Swydd Efrog, Glannau Humber, Gogledd Iwerddon, Cymru, gorllewin canolbarth Lloegr a gogledd-orllewin Lloegr, mae gweithwyr yn cynhyrchu llai yr awr bellach, yn y flwyddyn ddiweddaraf y mae ffigurau ar gael ar ei chyfer, nag yn 2007. Ble mae’r cynnydd economaidd yno? Ble mae’r tegwch economaidd i’r gwledydd a’r rhanbarthau hynny ar draws y DU? Mae anghydraddoldeb rhanbarthol yn y DU yn uwch nag erioed yn awr—yn uwch nag erioed yn awr, ers dechrau cadw cofnodion, ac mae wedi gwaethygu bob blwyddyn ers 2010.Rydym yn ei fesur drwy gyfernod Gini ar gyfer anghydraddoldeb rhanbarthol. Roedd yn weddol sefydlog tan yr argyfwng economaidd. Cyn y cwymp hwnnw, roedd yn 0.106. Am y flwyddyn ddiwethaf y mae gennym ffigurau ar ei chyfer, a gyhoeddwyd yn 2016, mae bellach ar 0.126. Mae hynny’n ddigynsail. Dyna gynnydd o 200 y cant ym maint anghydraddoldeb economaidd rhwng gwledydd a rhanbarthau’r Deyrnas Unedig mewn llai na degawd. Dylai fod cywilydd arnoch. A gadewch i ni beidio ag anghofio hefyd fod stori ddynol iawn y tu ôl i’r ystadegau hyn. Dewch gyda mi i rai o drefi’r Cymoedd gogleddol a gweld ar wynebau’r bobl yno yr anobaith sy’n pontio’r cenedlaethau rydych wedi’u taflu iddo. [Torri ar draws.] Yn bendant, fe gymeraf ymyriad. Suzy Davies AC: A gaf fi ofyn, felly, oherwydd mae’n amlwg ers degawdau bellach fod Cymru wedi bod yn cael mwy o arian gan yr UE mewn cymorth rhanbarthol na rhannau eraill o’r DU—a allwch egluro pam ein bod yn dal yn y sefyllfa honno, oherwydd nid mater o’r 10 mlynedd diwethaf yn unig ydyw, nage? Adam Price AC: Roedd cronfeydd rhanbarthol Ewropeaidd bob amser yn ysgogiad pitw o’i gymharu â maint y broblem. Roeddem ni yn blaid hon a phleidiau blaengar eraill ledled y DU yn dadlau’r achos yn barhaus na allem ddibynnu’n unig ar gyfran bitw. Roedd y Blaid Geidwadol yn dadlau, wrth gwrs, dros dorri’r gyllideb ar gyfer arian datblygu rhanbarthol Ewropeaidd drwy gydol y cyfnod hwn.Gadewch i ni edrych ar y ffeithiau. Nid problem yng Nghymoedd yr hen faes glo yn unig yw hon. Edrychwch ar Bowys, ardal a gynrychiolir gan y Blaid Geidwadol—hi sydd wedi perfformio waethaf o gymharu ag unrhyw ran o’r DU o safbwynt cynhyrchiant y pen, 35 y cant yn is na chyfartaledd y DU. Mae’n siarad am ‘ein cenedl’, rwy’n tybio ei fod yn golygu’r Deyrnas Unedig, wel, yn economaidd, nid yw Powys yn yr un wlad â gweddill y Deyrnas Unedig. [Torri ar draws.] Ni dderbyniaf ymyriad arall; rwy’n credu eich bod wedi dweud digon, a bod yn hollol onest. Edrychwch, yn 2010, dywedodd y Canghellor hyn: addawodd ailgydbwyso’r economi fel ei bod yn creu twf economaidd lleol ym mhob rhan o’r wlad. Yn hytrach na chadw at ei addewidion, cyflawni’r gwrthwyneb a wnaeth y weinyddiaeth a gâi ei harwain gan y Ceidwadwyr. Ac onid dyna oedd y patrwm? A ydych yn cofio ‘pleidleisiwch dros las, ac fe gewch wyrdd’? A ydych yn cofio’r ‘Geidwadaeth dosturiol’? Wyddoch chi, gallaf feddwl am rai ansoddeiriau sy’n dechrau gydag ‘c’ i ddisgrifio’r Llywodraeth Dorïaidd hon, ond yn bendant, nid yw ‘compassionate’ yn un ohonynt. Mae ‘ciaidd’, ‘calon-galed’, ‘creulon’ i’w gweld i mi yn eiriau mwy addas am y blaid a roddodd y dreth ystafell wely, y cymal trais rhywiol ac epidemig o hunanladdiadau ymhlith dioddefwyr sâl ac anabl eich diwygiadau ‘lles’, fel y’i gelwir.Wyddoch chi, mae rhai pobl yn priodoli rhinweddau Churchillaidd i Brif Weinidog y DU? Rwy’n gweld mwy o Chamberlain—o godi disgwyliadau na ellir eu cyflawni. Nawr, yr hyn na all neb ohonom ei wneud yw rhagweld beth fydd yn digwydd nesaf. A fydd Brexit yn ddydd-D, Dunkirk neu Dardanelles—yn fuddugoliaeth ogoneddus, yn fethiant arwrol, neu’n drasiedi ddiangen? Ni all yr un ohonom ragweld hynny gyda sicrwydd, ond yr hyn y gallwn ei ddweud yw bod canlyniad yr etholiad, yn anffodus, ar lefel y DU, eisoes yn glir. Bydd y Prif Weinidog yn ennill, ac fe gaiff ei Brexit di-hid, dinistriol, doed a ddêl. Ond mae’r hyn sy’n digwydd nesaf yn ein dwylo ni. Efallai y bydd y frwydr dros Brydain eisoes ar ben. Y frwydr dros Gymru sydd ar fin dechrau. Ni all Plaid Lafur wan a rhanedig amddiffyn Cymru. Mae’n rhaid i ni ddibynnu arnom ein hunain fel cenedl. Ni yw ein gobaith gorau. Mark Isherwood AC: Wrth adael Llywodraeth y DU yn 2010, gadawodd y Blaid Lafur economi ar fin mynd i’r wal, gyda’r diffyg mwyaf yn Ewrop yn ei chyllideb, ac eithrio Iwerddon yn unig. Ond dan law’r Ceidwadwyr, cafwyd yr economi G7 a oedd yn tyfu gyflymaf yn 2016. Mewn cyferbyniad, cafodd y gwledydd a wrthododd galedi fesur llawn ohono.Wrth hyrwyddo economeg Keynesaidd fel dewis arall, mae’r Blaid Lafur yn methu cydnabod—a Phlaid Cymru—er bod Keynes yn argymell gwario ar fenthyciadau pan fo economi’n dioddef, roedd hefyd yn argymell cwtogi ar wariant y Llywodraeth yn ystod cyfnodau o ffyniant. Ond torrodd Gordon Brown y cylch economaidd drwy esgus bod yna ben draw i ffyniant a methiant. Fel y gŵyr unrhyw ddyledwr, ni allwch ddechrau lleihau dyled nes y bydd gwariant yn disgyn yn is nag incwm. Pe bai’r Trysorlys wedi ceisio lleihau’r diffyg yn gyflymach, byddai’r toriadau wedi bod yn fwy. Yn y byd ariannol go iawn, mae benthycwyr yn benthyg, ond y rhai sy’n rhoi benthyg sy’n gosod y telerau. Pe bai’r Trysorlys wedi ceisio lleihau’r diffyg i raddau llai, byddai toriadau mwy wedi cael eu gwneud.Roedd yr Aelodau Llafur yma’n gwawdio pan rybuddiais, 13 mlynedd yn ôl, y byddai benthyca Gordon Brown yn arwain at ddydd o brysur bwyso. Roeddent yn gwawdio pan ddywedais, 12 mlynedd yn ôl, fod y Gronfa Ariannol Ryngwladol wedi rhybuddio bod system fancio’r DU yn fwy agored i ddyledion eilaidd nag unman arall yn y byd. Roeddent yn gwawdio pan ddywedais fod y Swyddfa Archwilio Genedlaethol wedi rhybuddio Trysorlys Mr Brown, dair blynedd cyn i Northern Rock fynd i’r wal bron iawn, fod angen iddo sefydlu cynlluniau wrth gefn i ymdrin ag argyfwng bancio, ond ni wnaeth y Blaid Lafur ddim yn ei gylch. Roeddent yn gwawdio pan ddywedais fod yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol wedi adrodd fod y Llywodraeth Lafur yn rhoi pwyslais gwleidyddol parhaus ar yr angen iddynt beidio â bod yn rhy llawdrwm wrth reoleiddio bancio. Nid oes amheuaeth y byddant yn gwawdio yn awr, pan ddywedaf fod Carwyn Jones, wrth gymeradwyo cynllun Jeremy Corbyn i fenthyg £500 biliwn ychwanegol, yn methu dweud wrth bobl Cymru mai toriadau mwy fydd y canlyniad.Wrth gwrs, nid yw Carwyn Jones yn ddyn diymhongar, ond mae ganddo lawer i fod yn ddiymhongar yn ei gylch. Mae’n parhau i ddatgan mai Cymru sydd â’r lefelau diweithdra isaf yn y DU, ond mae’r ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd yn dangos bod diweithdra yng Nghymru yn uwch na’r lefelau yn Lloegr, Yr Alban a’r DU. Mae’n parhau i gymryd y clod am fewnfuddsoddiad i Gymru, pan chwaraeodd Adran y DU dros Fasnach Ryngwladol ran mewn 97 o’r 101 o fuddsoddiadau tramor uniongyrchol i Gymru y llynedd, a’r DU yw’r wlad sy’n parhau yn y trydydd safle’n fyd-eang o ran faint o fuddsoddiadau tramor y mae’n eu derbyn.Mae’n fuddiol i Gymru a’r DU gael Undeb Ewropeaidd gref, sefydlog a ffyniannus fel ein cymydog agosaf. Er nad ydym yn cychwyn y trafodaethau Brexit ar ein gliniau, mae ef yn pregethu gwae Brexit, fel y clywsom gan ein cyfeillion ym Mhlaid Cymru hefyd. Wel, ni fydd unrhyw enillydd a chollwyr, dim ond dau enillydd neu ddau gollwr. Bydd unrhyw rwystrau newydd i fasnach a buddsoddiad yn Ewrop nid yn unig yn anghyfrifol yn wleidyddol ond yn beryglus yn economaidd, ac nid yn unig i Ewrop, ond i’r economi fyd-eang ehangach hefyd. Trwy 18 mlynedd o Lywodraeth Lafur Cymru, maent wedi cyflwyno’u hunain fel gwarcheidwaid cyfiawnder cymdeithasol. Ond po fwyaf y siaradent am y peth, y gwaethaf y mae pethau wedi mynd. Ar ôl gwario £0.5 biliwn ar eu prif raglen ar gyfer trechu tlodi, Cymunedau yn Gyntaf, maent yn awr yn ei dirwyn i ben yn raddol ar ôl methu lleihau prif gyfraddau tlodi yng Nghymru, fel y dywedodd y Sefydliad Bevan.Mae Llafur wedi rhoi i Gymru y ganran uchaf o weithwyr nad ydynt ar gontractau parhaol; y lefelau uchaf o dangyflogaeth ar draws 12 gwlad a rhanbarth y DU; y lefelau ffyniant isaf y pen yn y DU; y ganran uchaf o weithwyr nad ydynt ar gontractau parhaol—rwyf wedi’i ddweud eto; cyfraddau uwch na lefelau’r DU o gyflogau isel, tlodi, tlodi plant a phlant sy’n byw mewn cartrefi di-waith yn hirdymor; canran uwch o blant sy’n byw mewn cartrefi di-waith yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru ac argyfwng cyflenwad tai gyda’r lefel gyfrannol isaf o wariant tai o gymharu ag unrhyw un o bedair gwlad y DU ers 1999, ac felly, y toriadau mwyaf yn niferoedd tai newydd, tai cymdeithasol a thai fforddiadwy ers 1999. Mae Llafur y DU, yn y cyfamser, yn nwylo grŵp teyrnged Trotsciaidd—dilynwyr ffwndamentalaidd ideoleg warthus a pheryglus o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ond mae Cymru wedi bod yn beilot iddynt ac yn rhybudd i bobl ar draws ein hynysoedd. Mae Llafur yn credu bod ganddynt hawl i reoli a dweud wrth y bobl beth sy’n dda iddynt. Ar y llaw arall, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn ceisio grymuso pobl a chymunedau, a gwneud pethau gyda hwy yn hytrach nag iddynt. Yn lle’r glymblaid o anhrefn a gynigir gan Corbyn a Carwyn, mae’r bobl angen arweinyddiaeth gref a chadarn Theresa May. Mike Hedges AC: A gaf fi yn gyntaf oll atgoffa pobl fod yr argyfwng bancio wedi’i achosi gan farchnad eilaidd yr Unol Daleithiau lle’r oedd pobl yn rhoi benthyg arian a banciau Prydeinig yn prynu eitemau nad oedd ganddynt unrhyw reolaeth drostynt? Achubodd Llafur yn San Steffan y banciau rhag mynd i’r wal. Pe bai’r banciau wedi mynd i’r wal, byddai ein system gyfan wedi mynd i’r wal. A gaf fi—? [Torri ar draws.] Yn bendant. Nick Ramsay AC: Diolch i chi, Mike—dim ond rhoi tamaid o’ch meddyginiaeth eich hun i chi. Rydych yn iawn i ddweud bod yr argyfwng bancio wedi’i achosi gan America, ond wrth gwrs, aeth y Llywodraeth Lafur honno i mewn i’r argyfwng yn 2008 gyda diffyg o £80 biliwn. Nid oeddem yn dechrau o’r safle y dylem fod ynddo. Mike Hedges AC: Wel, mater o farn yw hynny ac nid oes gennyf amser i drafod hynny y prynhawn yma. Rwy’n gobeithio y cawn gyfle i wneud hynny eto yn y dyfodol.Rydych yn dod allan o ddirwasgiad drwy wneud dau beth: yn gyntaf, rydych yn dibrisio arian cyfred ac yn ail, rydych yn atchwyddo’r economi. Mae’r bunt yn hofran felly nid yw wedi mynd drwy ddibrisio ffurfiol ond mae wedi cael ei dibrisio rhwng 14 a 20 y cant yn erbyn y ddoler ers mis Mehefin 2016. Gwyddom hefyd fod dibrisiant yn rhoi hwb yn y tymor byr i allforion, ond yn dod â chwyddiant yn ei sgil. Gan fod gwerth y bunt yn erbyn y ddoler wedi gostwng o dros 4 i rhwng 1.3 a 1.2 o ddoleri i’r bunt, cyn hir byddwn yn siarad am y ffordd arall rownd oni wneir rhywbeth. Nid oes budd hirdymor i ddibrisio, dim ond hwb byr, cicdaniad.Mae chwyddiant ym Mhrydain, mewn byd heb chwyddiant, wedi dechrau gwneud ei ffordd i fyny ac mae prisiau tai wedi dechrau gwneud eu ffordd i lawr. Rydym wedi cael y ffyniant, yn awr rydym yn aros am y methiant. Bydd £500 biliwn ar brosiectau cyfalaf yn helpu i atchwyddo’r economi. Gan ragdybio bod y Llywodraeth yn benthyca ar 2 y cant drwy fondiau’r Llywodraeth neu fenthyca uniongyrchol, sy’n amcangyfrif uchel yn ôl pob tebyg, yna, dros 30 mlynedd, mae’r ad-daliad cyfalaf yn llai na £1.7 biliwn y flwyddyn a byddai llog ar 2 y cant yn rhywbeth fel £10 biliwn—[Torri ar draws.]—iawn, fe wnaf—ac ar 4 y cant byddai’n rhywbeth fel £20 biliwn. Gan ragdybio mai dim ond ei hanner fyddai’n mynd ar gyflogau—amcangyrif isel—yna bob blwyddyn, drwy drethi, bydd o leiaf £50 biliwn yn dod yn uniongyrchol i’r Llywodraeth—mewn gwirionedd mae’n gwneud mwy na golchi ei wyneb ac ailgylchdroi’r arian yn yr economi. Andrew RT Davies AC: Byddwn yn ddiolchgar pe gallech—oherwydd rydych yn amlwg wedi gwneud ymchwil ar hyn—enwi un ariannwr, un person sy’n deall dyled gyhoeddus, a fyddai’n cefnogi’r polisi hwn o roi £500 biliwn arall ar gerdyn credyd y Deyrnas Unedig. Clywais yr hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ac nid yw’r Gronfa Ariannol Ryngwladol yn cefnogi’r polisi hwnnw. Mike Hedges AC: Mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn ei gefnogi, fel y mae nifer o economegwyr eraill, gan gynnwys rhai economegwyr Americanaidd mawr. Fe ysgrifennaf atoch i roi enwau i chi. Nid ydynt gennyf ar hyn o bryd. Nid oeddwn yn disgwyl gorfod ateb hynny. [Torri ar draws.] Soniwyd wrthyf am Paul Krugman ond ceir nifer ohonynt yn America sy’n credu hynny.Rydych yn benthyg ar gyfer offer ac adeiladau. Nid ydym yn benthyca ar gyfer cyflogau, rydym yn benthyca ar gyfer gwariant cyfalaf. Gallwn edrych ar hanes America a Phrydain. Herbert Hoover oedd arlywydd America ar adeg o gyni. Trodd ddirywiad economaidd yn ddirwasgiad. Aeth Hoover ar drywydd llawer o bolisïau mewn ymgais i dynnu’r wlad allan o ddirwasgiad; yr hyn na wnaeth oedd atchwyddo’r economi. Cefnogai Hoover ddatblygiadau cyhoeddus newydd, ond nid oedd digon ohonynt. Felly yn awr mae gan Brydain Lywodraeth i’r dde o Herbert Hoover. Sut y daeth America allan ohoni? Drwy ethol Franklin Delano Roosevelt, nid comiwnydd, Trotscïad na dyn yr ystyrid ei fod ar yr asgell chwith hyd yn oed yn y byd ar y pryd; heddiw, mae’n debyg y byddai, gan fod y byd wedi symud gryn dipyn o ffordd i’r dde. Ac fe atchwyddodd yr economi—un enghraifft oedd prosiect dyffryn Tennessee. Roedd angen yr ail ryfel byd ar y Torïaid i atchwyddo economi Prydain drwy fod y Llywodraeth yn benthyca’n sylweddol i dalu am yr ail ryfel byd. Roedd yn rhaid talu am y benthyca a wrthodwyd ganddynt yn y cyfnod cyn yr ail ryfel byd, a fyddai wedi atchwyddo’r economi, yn ystod y rhyfel. Rwy’n siŵr fod y Ceidwadwyr yn edrych at y 1930au fel cyfnod o reolaeth Dorïaidd ddi-dor. Mae Llafur, a Phlaid Cymru rwy’n siŵr, yn edrych arno fel cyfnod o dlodi ac anobaith i lawer a oedd yn byw yng Nghymru.Nid oes gennyf amser i esbonio sut y cynorthwyodd Cynllun Marshall i ailadeiladu economi gorllewin Ewrop. Gan droi at Lywodraeth gref a chadarn, rwy’n meddwl mai’r dyn sy’n siarad fwyaf am Lywodraeth gref a chadarn yw’r Arlywydd Erdogan, arlywydd Twrci; mae’n credu’n gryf mewn Llywodraeth gref a chadarn. Byddai rhai’n meddwl nad yw ei syniad ef o gryf a chadarn yn arbennig o debyg i’r math o Lywodraeth yr hoffem ei chael. Yr hyn sydd gennym yw Prif Weinidog Torïaidd sy’n gryf gyda’r gwan ac yn wan gyda’r cryf. Theresa May yw’r person lleiaf addas i fod yn Brif Weinidog ers Neville Chamberlain, ac fe weithiodd hynny’n dda, oni wnaeth? Yr hyn rydym ei eisiau yw arweinyddiaeth ar gyfer y wlad gyfan, nid i’r cyfoethog a’r grymus yn unig; parodrwydd i drafod, nid i droi cefn ar ddadleuon arweinwyr; a pharodrwydd i egluro, nid i sloganeiddio. Mae’r arweinwyr gorau bob amser wedi gwrando. Bydd yr arweinwyr gorau bob amser yn gwneud hynny.Yn olaf, ar yr economi, nid wyf yn siŵr beth sydd dristaf, y rhai ar feinciau’r Ceidwadwyr sy’n gwybod bod angen atchwyddo’r economi ond a fydd yn pleidleisio dros y cynnig hwn, neu’r rhai nad ydynt. Mohammad Asghar (Oscar) AC: Mae’r ddadl hon y prynhawn yma yn gyfle i dynnu sylw at y trawsnewid sydd wedi digwydd yn economi’r Deyrnas Unedig, diolch i bolisïau’r Llywodraeth Geidwadol. Gwastraffodd Llafur 13 mlynedd mewn grym a gadael etifeddiaeth economaidd ddigalon ar ei hôl. Credaf fod yn rhaid bod Adam Price yn cofio’n iawn yr hyn y mae newydd ei weiddi’n glir ac yn uchel iawn, gan ddweud wrth y Siambr hon am y gofid a’r gwae sy’n digwydd yn awr. Roedd Prydain wedi dioddef y dirwasgiad gwaethaf ers y rhyfel dan law’r Llywodraeth honno a Llafur yn Llundain, nid dan law ein plaid ni. Roedd y wlad yn benthyca £150 biliwn y flwyddyn ar y pryd. Roedd diweithdra wedi cynyddu bron i 0.5 miliwn. Etifeddiaeth o ddyled, dirywiad ac anobaith oedd un Llafur. Dyna oedd eu hetifeddiaeth pan ddaethom i rym yn Llundain. Diolch i benderfyniadau a wnaed gan y Llywodraeth Geidwadol, mae hanfodion yr economi’n gryf.Y llynedd, tyfodd ein heconomi’n gyflymach na holl economïau gwledydd datblygedig eraill y byd, ar wahân i’r Almaen. Uwchraddiodd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ei rhagolwg o dwf y DU ar gyfer 2017 i 2 y cant o 1.24 y cant ers mis Tachwedd diwethaf. Mae honno’n dipyn o gamp. Mae cyflogaeth yn uwch nag erioed. Mae 2.8 miliwn yn uwch ers i Lafur fod mewn grym. Dyna 2.8 miliwn o bobl sydd â sicrwydd o ddod â phecyn cyflog rheolaidd adref i edrych ar ôl eu plant a’u teuluoedd. Dyna dwf economaidd. Rydym wedi torri’r diffyg ariannol bron i ddwy ran o dair. Nid fi sy’n dweud hynny; dyna ffigurau rhagolygon economaidd y byd a welwn. Peidiwch ag ysgwyd eich pen; mae hyn yn wir. Mewn arian parod, mae’r diffyg i lawr o £150 biliwn pan ddaethom i rym i ychydig dros £51 biliwn heddiw. Dangosodd arolwg ym mis Ebrill fod gweithgarwch y sector gweithgynhyrchu yn y DU wedi tyfu ar ei gyflymaf dros y tair blynedd diwethaf. Canfu’r arolwg hefyd fod archebion newydd yn cael eu derbyn ar y gyfradd gyflymaf ers mis Ionawr 2014. Y sector gwasanaeth yw oddeutu tair rhan o bedair o economi’r DU. Tyfodd gweithgaredd yn y sector hwn yn gynt na’r disgwyl ym mis Mawrth eleni. Mae allforion yn cynyddu ac mae’r bwlch masnach yn culhau. Dyna ble mae’r economi’n tyfu gyda pholisi Llundain. Adam Price a gododd— Mohammad Asghar (Oscar) AC: Arhoswch funud. Nid yw penderfyniad Prydain i adael yr Undeb Ewropeaidd wedi rhwystro buddsoddiad tramor, gan fod cwmnïau’n dymuno manteisio ar ein heconomi gref a chadarn. Dewch, Adam. Adam Price AC: A yw’n derbyn ffigurau ei Lywodraeth ei hun a ddyfynnais fod allbwn fesul gweithiwr yng Nghymru a sawl rhan o’r DU yn dal i fod yn awr mewn gwirionedd, yn y ffigurau diweddaraf, yn is nag yn 2007 pan gafodd ei ethol yn AC Plaid Cymru? Mohammad Asghar (Oscar) AC: Adam, yr hyn rwy’n ei ddweud yw hyn: peidiwch â chymysgu orennau â—. Mae ein heconomi yng Nghymru, mewn gwirionedd—rydym wedi cael arian gwahanol gyda fformiwla Barnett. Mae ein Llywodraeth yno i ateb. Mae’r rhan fwyaf o’n heconomi yn cael ei rheoli gennym ni yma hefyd. Ni ddylech feio Llundain. Eich addysg, trafnidiaeth, iechyd—enwch unrhyw beth. Ugain maes sydd wedi’u datganoli, nid oes yr un ohonynt wedi cyrraedd y lefel rydych yn ei dyfynnu ar gyfer y rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Maent wedi cyflawni’n well na ni, ac mae’n fater ohonoch chi a hwythau, nid ni sydd wedi bod yn rheoli ein heconomi ers 1999 mewn gwirionedd.Mae Qatar yn wlad fach, a bellach maent yn gwario £5 biliwn yn y tair blynedd nesaf yn y rhan hon o’r byd. Pam? Oherwydd eu bod yn gallu gweld y twf economaidd yn dod. Mae Google wedi cyhoeddi y bydd yn buddsoddi £1 biliwn mewn pencadlys newydd yn Llundain a allai greu 3,000 o swyddi newydd erbyn 2020. Mae Toyota, Jaguar, Land Rover a McLaren oll wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer buddsoddiad o £1 filiwn mewn ffatri weithgynhyrchu yn y Deyrnas Unedig. Wedi manteisio ar y cyfle yno, Adam. Wrth i ni i gyd adael yr Undeb Ewropeaidd, mae Prydain yn parhau i fod ar agor i’r byd i gyd ar gyfer busnes. Rydym i gyd yr un fath. Rydym yr un wlad eangfrydig, hyblyg a dynamig sy’n meddwl yn fyd-eang ag y buom erioed ac rydym bob amser yma i wneud yn siŵr fod y byd yn dod i fasnachu gyda ni a byddwn yn masnachu â hwy. Nid Ewrop yw’r unig ran. Ar y pwynt hwn, mae’n rhaid i mi sôn am Jeremy Corbyn—[Torri ar draws.] A ydych yn dirwyn i ben, os gwelwch yn dda? Mohammad Asghar (Oscar) AC: Rhywbeth y methodd y Prif Weinidog ei wneud wrth lansio ei ymgyrch ddydd Llun. Ni allwn ganiatáu—[Torri ar draws.] A ydych yn dirwyn i ben, os gwelwch yn dda? Mohammad Asghar (Oscar) AC: Ni allwn ganiatáu—. Ni allwn ganiatáu i Lywodraeth [Anghlywadwy.]— A ydych yn dirwyn i ben, os gwelwch yn dda? A ydych yn dirwyn i ben, os gwelwch yn dda? Mohammad Asghar (Oscar) AC: [Yn parhau.]—i roi ein heconomi mewn perygl. Na. Diolch. Neil Hamilton. Neil Hamilton AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel Aelod cryf a gweddol gadarn o’r Cynulliad hwn, rwy’n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon. Roedd yn ddigon teg fod arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi canolbwyntio ar gynnig y Blaid Lafur i fenthyca £500 biliwn yn ychwanegol. Wrth gwrs, mae Canghellor yr wrthblaid yn Farcsydd addefedig, ond rwy’n meddwl bod y polisi hwn yn fwy dyledus i Groucho nag i Karl. Rwy’n cofio bod Groucho Marx wedi dweud mai gwleidyddiaeth yw’r grefft o chwilio am drwbl, ei gael ym mhob man, gwneud diagnosis anghywir ohono, cyn darparu’r feddyginiaeth anghywir. A dyna’n union y mae polisi economaidd y Blaid Lafur yn ei wneud. Fodd bynnag, efallai y byddai mwy o rym i bwynt Andrew R.T. Davies pe na bai am hanes George Osborne fel Canghellor y Trysorlys, lle benthycodd fwy hyd yn oed na’r £500 biliwn y mae Llafur yn awr yn argymell ei wario. Yn wir, fe ddyblodd y ddyled genedlaethol yn y blynyddoedd ers 2010, a benthyciodd £850 biliwn, a’r flwyddyn diwethaf—2016—cynyddodd y ddyled genedlaethol £91.5 biliwn. Dyna £250 miliwn y dydd ac mae bellach yn gyfystyr â £26,000 ar gyfer pob person yn y Deyrnas Unedig. Mae’r llog a dalwn ar y ddyled genedlaethol yn gyfystyr â £40 biliwn y flwyddyn erbyn hyn, sydd bron mor fawr â’r gyllideb amddiffyn yn ei chyfanrwydd. Dyma beth y mae’r Blaid Lafur bob amser yn ei anghofio, wrth gwrs, fod yn rhaid ariannu’r ddyled genedlaethol ac yn y pen draw mae’n rhaid ei had-dalu. Gwnaf, fe ildiaf i’r Aelod. Nick Ramsay AC: Diolch, Neil Hamilton, am ildio. Ac rydych yn hollol iawn i ddweud bod y ddyled genedlaethol, wrth gwrs, wedi cynyddu ers 2010, ond y diffyg oedd y pwynt. Mae’r diffyg wedi cael ei leihau, ac roedd y Canghellor George Osborne bob amser yn onest am y ffaith y byddai’n cymryd amser hir i droi’r llong fawr hon o gwmpas. Ni allwch wneud hynny dros nos, oni bai eich bod am achosi difrod enfawr i’r economi. Neil Hamilton AC: Mae’n sicr yn wir ei bod yn cymryd amser hir i glirio’r diffyg, ac mae’r Canghellor presennol newydd ymestyn y dyddiad y mae’n honni y byddwn yn dychwelyd i warged i 2025, neu wedi hynny o bosibl, felly nid oes gennyf lawer o hyder y bydd cangellorion Ceidwadol yn y ffrâm honno o feddwl yn gwireddu eu rhethreg.Ond rhaid i mi ddweud nad yw Plaid Cymru yn cynnig unrhyw ateb i’r broblem hon chwaith, oherwydd, wrth gwrs, pe bai Cymru’n dod yn annibynnol oddi ar y Deyrnas Unedig, byddai yna ddiffyg ariannol anferth i’w leihau. Ac nid oes unrhyw ffordd y gellid gwneud hynny heb greu crebachiad enfawr yn economi Cymru, a fyddai’n achosi crebachiad mwy nag y mae Gwlad Groeg wedi’i brofi ers i’r argyfwng ariannol ddechrau, oherwydd gŵyr pawb ohonom fod Llywodraeth Cymru—. Mae pawb ohonom yn cofio bod Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi rhoi ffigurau inni y llynedd, fod yna ddiffyg ariannol o £15 biliwn y flwyddyn yma a bod gwariant y Llywodraeth £15 biliwn yn fwy nag y gellid ei godi o drethi yng Nghymru. Mae hynny’n cyfateb i 24 y cant o economi Cymru. Ni allwch, yn yr amgylchiadau hynny, gyflwyno cynlluniau mawreddog ar gyfer gwariant ar brosiectau cyfalaf neu unrhyw bethau eraill y byddem i gyd yn hoffi gwario arian arnynt os nad yw’r arian gennych ac os nad oes gennych fodd o fenthyg. Yn sicr, ni fydd gennych fodd i fenthyg byth os na allwch gynhyrchu cynllun credadwy ar gyfer sut rydych yn mynd i’w dalu’n ôl. Ildiaf i Mike Hedges. Mike Hedges AC: Oni fyddech yn derbyn bod benthyca ar gyfer cyfalaf yn hollol wahanol i fenthyca ar gyfer refeniw? Mae’n cyfateb i gael morgais i brynu tŷ a benthyca i dalu am y bil bwyd. Neil Hamilton AC: Rwy’n cytuno, wrth gwrs, yn amlwg, os yw prosiect cyfalaf yn fasnachol hyfyw, yna mae’n werth ei wneud. Y drafferth gyda chymaint o brosiectau cyfalaf y Llywodraeth yw nad ydynt yn hyfyw. Rydym wedi gweld cymaint o ffiasgos mewn cymaint o feysydd fel nad wyf yn credu bod hwnnw’n mynd i fod yn bolisi credadwy iawn ar gyfer gwario £500 biliwn.O ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, fel y soniodd Adam Price yn gywir ddigon yn y ddadl hon, byddwn yn cael llawer o ryddid, wrth gwrs, i gynyddu effeithlonrwydd a chynhyrchiant economi Cymru fel rhan o economi fwy cynhyrchiol y Deyrnas Unedig. Wrth gwrs, ceir difidend Brexit o’r arian a dalwn i Frwsel, sef cyfanswm o tua £8 biliwn y flwyddyn, a fydd ar gael naill ai ar gyfer lleihau diffyg neu i’w wario ar y gwasanaeth iechyd gwladol neu beth bynnag. Mae llawer o welliannau eraill yn y ffordd y bydd yr economi’n gweithredu a allai ddeillio o’r rhyddid a fydd gennym i ddyfeisio drosom ein hunain y systemau rheoleiddio sy’n berthnasol yn y wlad hon, systemau y gellir eu teilwra i anghenion economi’r Deyrnas Unedig ac yn wir, economi Cymru.Mae UKIP yn cychwyn yr ymgyrch etholiadol hon, fel yn wir y cychwynnodd ei ymgyrch ar gyfer etholiad y Cynulliad fis Mai diwethaf a’r etholiad cyffredinol yn ôl yn 2015, drwy gynnig ein bod yn cael toriadau sylweddol mewn gwariant cyhoeddus mewn rhai meysydd er mwyn dargyfeirio’r arian i rywle arall. Hoffem dorri £8 biliwn oddi ar y gyllideb cymorth tramor er mwyn ei ddargyfeirio i brosiectau gwerth chweil fel y gwasanaeth iechyd yn y cartref. Hoffem dorri £300 y flwyddyn oddi ar filiau trydan pobl drwy gael gwared ar drethi gwyrdd sy’n cynhyrchu’r fforestydd o felinau gwynt o gwmpas y wlad. Ond yn bennaf oll, drwy reoli mewnfudo, byddem yn cyfyngu ar gywasgu cyflogau, sydd wedi effeithio’n andwyol ar y rhai sydd ar waelod y raddfa incwm. Gwnaeth Banc Lloegr astudiaeth yn 2015 sy’n dangos, am bob cynnydd o 10 y cant yn y gyfran o fewnfudwyr mewn sector economaidd, roedd cyflogau sector gwasanaeth lled-grefftus a heb sgiliau yn gostwng 2 y cant. Felly, y bobl sydd wedi teimlo gwasgfa mewnfudo torfol o ddifrif yw’r rhai na allant fforddio ymdopi ag ef.Roedd Adam Price yn hollol iawn i dynnu sylw—fy mhwynt olaf yn yr araith—at y ffaith fod cyflogau Cymru yn 75 y cant o’r cyfartaledd cenedlaethol yn y DU. Mae tlodi yng Nghymru yn warthus. Rydym yn un o ardaloedd tlotaf yng ngorllewin Ewrop, ac mae angen i ni ddefnyddio’r rhyddid newydd a gawn o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd er mwyn trawsnewid economi Cymru o fod yn anialdir y Deyrnas Unedig i fod yn ucheldir eang a heulog y dyfodol. Russell George AC: Nod y ddadl hon heddiw yw tynnu sylw at yr angen i sicrhau’r cynnydd economaidd ardderchog y mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi’i wneud ers dod i rym, ac nid ydym am weld dim yn peryglu hwnnw. Wrth gwrs, Theresa May a Llywodraeth y DU sydd â’r cynllun i hybu ffyniant economaidd drwy broses Brexit a thu hwnt.Ond mae problemau gyda’r economi yma yng Nghymru: gwyddom fod enillion wythnosol yn dal i fod yn is na’r tair gwlad arall; mae gwerth ychwanegol gros Cymru yn dal i fod yn 71 y cant o gyfartaledd y DU; ac mae’r gyfradd gyflogaeth yn is nag mewn unrhyw ran arall o’r DU. Nid oes gan Lywodraeth Cymru fawr o hygrededd economaidd ar ôl, ddywedwn i, wedi cyfres o fethiannau buddsoddi, ac nid wyf yn meddwl eu bod wedi cael eu crybwyll heddiw—Triumph Furniture, Kancoat, Newsquest, cronfa buddsoddi Cymru ar gyfer adfywio, i enwi rhai yn unig. Byddai llawer yn bryderus wrth weld y Prif Weinidog yn cymeradwyo ymagwedd economaidd Jeremy Corbyn yn ddiweddar, fel yr amlygwyd yn ein cynnig a chan arweinydd yr wrthblaid yn y sylwadau agoriadol i’r ddadl hon.Dros y saith mlynedd diwethaf, mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi—. Mae’r diffyg wedi gostwng bron i ddwy ran o dair, mae cyflogaeth wedi codi 2.8 miliwn, mae twf yn 1.8 miliwn mewn termau real, yn ail yn unig i’r Almaen, ac nid oes rhaid i’r rhai ar y cyflogau isaf dalu treth incwm o gwbl, a cheir cyflog byw cenedlaethol newydd. Y rhagolwg presennol yw y bydd economi’r DU yn tyfu 2 y cant eleni, a rhagwelir y bydd cyflogau’n codi bob blwyddyn hyd at 2021. Ac wrth gwrs, pan adawodd Gordon Brown ei swydd, onid yw’n ddiddorol fod ansawdd seilwaith y DU ar safle 33 ar draws y byd, o dan wledydd fel Namibia a Slofenia? Yn awr, diolch i’r camau y mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi’u cymryd, rydym yn seithfed yn y byd. Rydym bellach yn cefnogi prosiectau mawr yng Nghymru, wrth gwrs, fel y gwyddom, megis cytundebau dinesig Caerdydd ac Abertawe, yn ogystal â chytundeb gogledd Cymru. Simon Thomas AC: A wnaiff yr Aelod ildio? Russell George AC: Gwnaf. Simon Thomas AC: A all gadarnhau y bydd y maniffesto Ceidwadol yn ymrwymo i’r morlyn llanw ym mae Abertawe? Russell George AC: Wel, nid wyf yn rhan o’r trafodaethau ar y maniffesto Ceidwadol, ond roedd maniffesto’r Ceidwadwyr, wrth gwrs, yn rhoi’r ymrwymiad hwnnw, ac yn gwneud yr ymrwymiad hwnnw, wrth gwrs, yn ôl yn etholiad cyffredinol 2015. Yn yr hydref, cyhoeddodd y Canghellor y bydd yn darparu—. Cyhoeddodd y bydd yn darparu £400 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol dros y pum mlynedd nesaf, a gobeithiaf y bydd Llywodraeth Cymru yn gwario hwnnw ac yn blaenoriaethu hwnnw ar drafnidiaeth, seilwaith digidol, tai, ac ymchwil a datblygu. Oherwydd gwyddom y byddai buddsoddi mewn rhwydweithiau trafnidiaeth yn creu seilwaith o’r radd flaenaf a bydd hynny’n arwain, wrth gwrs, at swyddi gwell a chyflogau gwell. Mae gennym broblemau cysylltedd enfawr ledled Cymru ac mae’n rhwystr i economi Cymru. Rwy’n gwybod yn iawn am hynny yn fy etholaeth fy hun. Mae angen technolegau newydd arnom i’w gwneud yn haws i gwmnïau tramor fasnachu yma, gan gynnwys datblygu a buddsoddi mewn technoleg ddigidol megis band eang a thechnoleg symudol. Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi strategaeth ddiwydiannol uchelgeisiol ar waith, i wneud Cymru’n lle cryfach, tecach, a mwy llwyddiannus— David Rees AC: A wnewch chi dderbyn ymyriad? Russell George AC: Mewn munud. Mewn munud. Ond rydym yn—[Torri ar draws.] Mewn eiliad. Ond rydym yn dal i aros i Lywodraeth Cymru gyflwyno ei strategaeth economaidd dros flwyddyn—dros flwyddyn—ar ôl ei haddo, ac wrth gwrs, caiff dur ei grybwyll yn helaeth yn y ddogfen honno yn ogystal. Rwy’n gobeithio y bydd gan Ysgrifennydd y Cabinet newyddion i ni heddiw am ei gynlluniau ar gyfer ei strategaeth economaidd. Mae Prif Weinidog Cymru yn parhau i feio, i roi’r bai ar Lywodraeth y DU, wythnos ar ôl wythnos, ond mae gan Lywodraeth Cymru bwerau yn ei dwylo ei hun i wneud penderfyniadau yma, pwerau nad yw’n eu defnyddio. Felly, mewn ymateb i’r ddadl hon heddiw, rwy’n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cadarnhau y bydd yn ymgysylltu’n adeiladol gyda’i gymheiriaid yn y DU er mwyn sicrhau y bydd potensial llawn strategaeth ddiwydiannol y DU yn cael ei wireddu yma yng Nghymru. Mae gan Lywodraeth Geidwadol y DU weledigaeth ar gyfer Cymru fodern, lwyddiannus, uchelgeisiol sy’n sicrhau bod pob rhan o’r DU yn gweithio hyd eithaf ei gallu, ac rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn rhannu’r un uchelgais. Diolch. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates. Ken Skates AC: Diolch, Dirprwy Lywydd, a hoffwn ddechrau drwy ddiolch i’r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno’r ddadl hon yn y Siambr heddiw. Heddiw, mae’r bwlch yn y gyfradd gyflogaeth rhwng Cymru a gweddill y DU oddeutu 1.5 y cant. Cyn y dirwasgiad roedd yn 3 y cant. Ar ddechrau datganoli, roedd yn 6 y cant. Mae wedi haneru a haneru eto, ac o edrych yn ôl dros y blynyddoedd diwethaf, yn erbyn cefndir y dirwasgiad a blynyddoedd o gyllidebau caledi, mae’n amlwg fod economi Cymru wedi perfformio’n dda—nid ar gyfer yr ychydig, ond ar gyfer y lliaws. Mae Llywodraeth Cymru wedi cael llwyddiant amlwg—llwyddiant amlwg a hanes o ddarparu dros dymor y Cynulliad diwethaf. Ac ers datganoli, mae Cymru wedi gweld y cynnydd mwyaf ond pedwar o gymharu â holl genhedloedd a rhanbarthau’r DU yn ei gwerth ychwanegol gros ers datganoli.Ar adeg y cwymp economaidd, pan ostyngodd hyder yn yr economi a phan ddechreuodd cwmnïau ddiswyddo pobl, yr arweinyddiaeth a ddangoswyd gan y Llywodraeth hon yng Nghymru, ochr yn ochr â busnesau, undebau, a phartneriaid eraill, a luniodd raglenni ProAct a ReAct. Y gwaith a wnaethom a ataliodd fwy na 15,000 o bobl ifanc rhag profi diweithdra, oherwydd ein bod wedi cyflwyno Twf Swyddi Cymru. Ac yn ystod tymor diwethaf y Cynulliad, cafodd bron i 150,000 o swyddi eu cynnal drwy gymorth uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, gyda llawer mwy mewn rhwydweithiau cadwyni cyflenwi lleol. Er mwyn parhau i gyflawni’r llwyddiant hwn, rydym wedi nodi ein blaenoriaethau yn ein rhaglen lywodraethu. Mae ‘Symud Cymru Ymlaen’ yn nodi gweledigaeth o ffyniant i bawb, drwy greu Cymru sy’n fwy ffyniannus a diogel, Cymru sy’n fwy unedig a chysylltiedig, yn fwy egnïol, yn fwy uchelgeisiol ac yn dysgu, ac yn fwy cysylltiedig.Dirprwy Lywydd, mae caledi a orfodwyd gan Lywodraeth y DU wedi parhau bellach ers saith mlynedd, ac eto benthyciodd y Torïaid— Andrew RT Davies AC: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ildio? Ken Skates AC: Ac eto benthyciodd y Torïaid—. Fe wnaf mewn munud. Ac eto benthyciodd y Torïaid fwy yn y Llywodraeth ddiwethaf na phob Llywodraeth Lafur arall mewn hanes wedi’u cyfuno. Andrew RT Davies AC: Rwy’n ystyried hynny’n eironig. Un funud rydych yn lladd arnom am galedi, a’r funud nesaf rydych yn dweud ein bod yn benthyca gormod, ydych, yn y fan honno, ond clywsom gan y prif siaradwr ar ran Plaid Cymru am Gymru nad yw’n debyg mewn unrhyw fodd i’r Gymru roeddech chi’n sôn amdani, Ysgrifennydd y Cabinet. Pwy sy’n iawn? Chi neu ef? Ken Skates AC: Byddwn yn cytuno ag Adam Price am gydraddoldeb rhanbarthol ar draws y DU, a dyna pam yr ydym wedi bod yn glir wrth amlinellu ymyrraeth yng Nghymru a fydd yn seiliedig ar atebion yn ymwneud â llefydd ar lefel ranbarthol, gan greu economïau rhanbarthol cryf i ledaenu’r cyfoeth mewn modd dilys, rhywbeth y dylai Torïaid y DU edrych arno. Mae’r Aelod yn sôn am fenthyca gormod. Roedd y Llywodraeth Dorïaidd rhwng 2010 a 2015 wedi benthyg mwy na £500 biliwn, a beth oedd ganddynt i’w ddangos amdano? Wel, gadewch i ni edrych ar yr hyn oedd ganddynt i’w ddangos amdano: y dreth ystafell wely—rhoesant dreth ystafell wely i ni, oni wnaethant? A’r dreth ar basteiod. A gofiwch y dreth ar basteiod? Maent bellach wedi gwneud llanast o drethi ar gyfer pobl hunangyflogedig. Rhoesant dreth y pen anfad i ni yn y gorffennol, wrth gwrs. A wyddoch chi beth y mae pobl yn eu galw yn Ne Clwyd? Taxastrophe Tories. Dyna beth ydynt. Maent yn feistri ar dreth ar werth uwch. Hwy a bedlerodd y dreth ar damponau. Ni allwch ymddiried yn y Torïaid gyda threthi nac arian cyhoeddus.Dirprwy Lywydd, mae’n hollol amlwg o’n galwadau ar Lywodraeth y DU fod yn rhaid i galedi ddod i ben. Mae angen ysgogiad ariannol arnom i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus ac i gynyddu buddsoddiad ar gyfer gweithgareddau economaidd mawr eu hangen, yn enwedig yn awr gan ein bod yn wynebu her ddigynsail sy’n galw am ymateb digynsail. Argymhellwyd buddsoddi mewn seilwaith gan ystod eang o gyrff, gan gynnwys y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a’r Gronfa Ariannol Ryngwladol. Mae’r Gronfa Ariannol Ryngwladol wedi dweud dro ar ôl tro fod tanfuddsoddi wedi bod yn y seilwaith dros flynyddoedd o Lywodraethau Torïaidd, ac mae’n rhaid rhoi sylw i hynny. Y cyngor gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd oedd i wledydd fanteisio ar gostau benthyca isel i ariannu buddsoddiad cyhoeddus. Mae buddsoddi yn y seilwaith yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth hon, gan adlewyrchu tystiolaeth fod seilwaith da’n allweddol i ddatblygiad economaidd, yn ail yn unig i sgiliau uwch. Rydym wedi anfon neges glir i’r farchnad fod Cymru’n agored i fusnes, gydag ymrwymiad i ffrwd o bartneriaethau cyhoeddus-preifat mawr. Mae’r ffrwd yn cynnwys cwblhau gwaith deuoli ar yr A465, adeiladu cyfleuster gofal canser arbenigol, a chyfran ychwanegol o fuddsoddiad yng nghyfnod nesaf y rhaglen ysgolion ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.Dirprwy Lywydd, mae ein record o gefnogi 150,000 o swyddi yn ystod tymor diwethaf y Cynulliad, o ymladd am ddyfodol i’r diwydiant dur, o atal mwy na 15,000 o bobl ifanc rhag profi diweithdra, o sicrhau mewnfuddsoddiad mwy nag erioed, yn dangos y bydd y Llywodraeth hon yng Nghymru yn parhau i sefyll dros fuddiannau Cymru. Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Nick Ramsay i ymateb i’r ddadl. Nick Ramsay. Nick Ramsay AC: Diolch. Wel, os nad oeddech yn ymwybodol fod y Ceidwadwyr Cymreig yn credu mewn arweinyddiaeth gref a chadarn cyn y ddadl hon, rydych yn gwybod hynny bellach, ac mae ein cynnig a’r cyfraniadau a wnaed heddiw, yn sicr o’r ochr hon i’r Siambr, wedi ailadrodd yr angen i’r arweinyddiaeth honno yn y DU barhau y tu hwnt i 8 Mehefin. Nawr, wrth gwrs, er bod Plaid Lafur Jeremy Corbyn yn creu bygythiad go iawn i economi a lles y DU, nid yw o reidrwydd yn golygu y dylid paentio Llywodraeth Lafur Cymru â’r un brwsh. Mae’n debyg mai chi yw’r rhan fwyaf synhwyrol o’r Blaid Lafur sydd ar ôl yn y DU. Nid yw honno’n ganmoliaeth fawr, fe wn, ond cymerwch hi yn yr ysbryd y’i bwriadwyd. Mae’n eironig iawn mai gwaith Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer seilwaith, Ken Skates, oedd amddiffyn Jeremy Corbyn—nid yr Aelod mwyaf Corbynaidd ar y fainc flaen, ond dyna ni. Gwerthfawrogais yr eironi, Ken.Gallwch ddychmygu ein siom pan gymeradwyodd y Prif Weinidog y cynnig i fenthyg £500 biliwn ychwanegol. Byddai cynnydd o £500 biliwn i’r gofyniad benthyca sydd gan Brydain ar hyn o bryd yn gyfan gwbl wallgof. Cofiwch, gallwch weld efallai fod Plaid Lafur y DU bellach yn teimlo bod yn rhaid iddynt fabwysiadu polisïau cyllidol gwallgof o’r fath er mwyn ariannu eu rhestr gynyddol o ymrwymiadau gwariant heb eu hariannu—rhestr wariant a fyddai’n creu risg o suddo’r economi, pe bai’n cael ei gweithredu, yn y glymblaid o anhrefn rydym wedi siarad cymaint o weithiau amdani heddiw. A phe bai’r sefyllfa honno’n digwydd i economi’r DU, diolch i Blaid Lafur y DU, Llywodraeth Cymru yn y fan hon a fyddai’n dioddef yn y pen draw, pa bynnag liw gwleidyddol fydd i honno. Oherwydd os oes gennych bolisi cyllidol heb ei reoli a gofyniad benthyca heb ei reoli’n cynyddu dros y blynyddoedd i ddod, yna ni fyddai gennych arian i’w wario, yn y pen draw, gan na fyddai’r arian yn cael ei gynhyrchu ar draws lefel y DU i ddod yma i’ch cynnal. Steffan Lewis AC: A wnaiff yr Aelod ildio? Nick Ramsay AC: Gwnaf. Steffan Lewis AC: A all ddweud wrthyf ar sawl achlysur yn y 100 mlynedd diwethaf y mae’r DU wedi bod â gwarged ac wedi bod heb unrhyw ddyled genedlaethol o gwbl? Nick Ramsay AC: Mae dyled yn rhan bwysig, yn arf cyllidol pwysig, ac rydym wedi bod mewn dyled. Ond rydych yn mynd yn ôl i’r 1990au, pan oedd y diffyg oddeutu £20 biliwn, ac rydych yn edrych ar yr adeg pan adawodd y Blaid Lafur yn 2010, pan oedd ymhell dros £150 biliwn. Felly, yn amlwg, mae wedi bod ar lwybr tuag i fyny ac mae angen ei reoli. Gan fod Plaid Cymru wedi dod i mewn i’r ddadl hon, a gaf fi ddweud—? Nid oes gennyf lawer o amser, ond fe ddywedaf hyn: Adam Price, fe siaradoch yn angerddol, ond roeddech yn ymddangos yn awyddus i feio’r blaid Geidwadol am holl broblemau Cymru. Wel, Adam, nid y blaid Geidwadol sydd wedi bod yn dominyddu gwleidyddiaeth Cymru ers 100 mlynedd. Ac rydych yn gwybod hynny yn eich calon. Nid y Ceidwadwyr oedd yn dominyddu Prydain rhwng 1997 a 2010, pan gynhyrchwyd cymaint o’r ddyled hon yn y lle cyntaf a’n gadael yn y sefyllfa hon. Ac nid fy mhlaid i yn y fan hon, fy ngrŵp yma, a fu’n dominyddu gwleidyddiaeth Cymru ac yn dominyddu’r Cynulliad hwn ers dyfodiad datganoli yn 1997. Pleidiau eraill a fu’n llywyddu dros hyn. Felly, os oes gennych broblemau gyda’r olwg sydd ar Gymru heddiw—ac rwy’n deall bod gennych—yna peidiwch ag edrych draw ar yr ochr hon i’r Siambr am y broblem. Edrychwch yma am yr atebion, ond nid am y broblem, gan fy mod yn gwybod ble mae honno. Adam Price AC: Wel, mae’r ymateb yn eithaf syml, onid yw? Maent wedi bod mewn grym yng Nghymru ers 100 mlynedd. Am y rhan fwyaf o’r amser hwnnw yn San Steffan, rydych wedi bod mewn grym. Rydych yn gyfrifol am gyflwr ofnadwy ein heconomi a’n cymdeithas fel cenedl. Cywilydd arnoch. Nick Ramsay AC: Ac roedd Plaid—[Torri ar draws.] Ac roedd Plaid Cymru yn rhan o’r Llywodraeth honno yng Nghymru rhwng 1999 a—[Anghlywadwy.] Ni allwch gael eich clywed am fod eich meic wedi’i ddiffodd. Nick Ramsay AC: [Anghlywadwy.]—thros yr ychydig fisoedd diwethaf. Mae’n drueni fod Plaid Cymru’n dewis ymosod ar y Blaid Geidwadol er nad hi sydd i’w beio. Gadewch inni fwrw ymlaen â’r gwaith o ddarparu arweinyddiaeth gref a chadarn ar gyfer y DU. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i’r gloch gael ei chanu symudaf yn syth at y cyfnod pleidleisio yn awr. Iawn, symudwn yn awr at y cyfnod pleidleisio. 8. 8. Cyfnod Pleidleisio Mae’r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar ddadl Plaid Cymru ar breifateiddio’r GIG. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Os gwrthodir y cynnig hwn, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i’r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 33, pedwar yn ymatal, 11 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig. Derbyniwyd y cynnig: O blaid 33, Yn erbyn 11, Ymatal 4. Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6303.Cliciwch i weld canlyniad y bleidlais Symudwn yn awr at ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar fenthyca a’r economi. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Unwaith eto, os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 14, un yn ymatal, 33 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig. Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 14, Yn erbyn 33, Ymatal 1. Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6302.Cliciwch i weld canlyniad y bleidlais Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 1. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 25, neb yn ymatal—[Torri ar draws.] Mae’n ddrwg gennyf. O blaid y gwelliant 26, neb yn ymatal, 22 yn erbyn, felly derbyniwyd gwelliant 1. Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 26, Yn erbyn 0, Ymatal 22. Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6302.Cliciwch i weld canlyniad y bleidlais Cafodd gwelliant 2 ei ddad-dethol. Symudwn yn awr at bleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd. Cynnig NDM6302 fel y’i diwygiwyd:Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:1. Yn nodi y byddai Cymru a’i heconomi’n elwa fwyaf ar Lywodraeth y DU sy’n ymrwymo i fuddsoddi mewn modd teg a chynaliadwy ymhob rhan o’r wlad.2. Yn gresynu at y ffaith y bydd cynlluniau gwario Llywodraeth bresennol y DU yn golygu bod cyllideb refeniw Llywodraeth Cymru £1 biliwn yn is mewn termau real erbyn diwedd y degawd hwn nag ydoedd ar y dechrau ac y bydd cyllidebau cyfalaf werth £200 miliwn yn llai.3. Yn gresynu at gynlluniau Llywodraeth y DU i dorri £3.5 biliwn arall o’i chyllideb, gan y gallai olygu bod Cymru’n derbyn £175 miliwn yn llai yn 2019-20.4. Yn nodi hanes Llywodraeth Cymru o ysgogi twf economaidd, a’r ffaith bod bron i 150,000 o swyddi wedi’u cefnogi yn ystod tymor y Cynulliad diwethaf.5. Yn croesawu cynlluniau buddsoddi cyfalaf gwerth £7 biliwn Llywodraeth Cymru dros y pedair blynedd nesaf er mwyn cefnogi seilwaith cyhoeddus.6. Yn nodi rhaglen lywodraethu uchelgeisiol Llywodraeth Cymru sy’n nodi cynlluniau wedi’u prisio ar gyfer:a) Buddsoddiad ychwanegol gwerth £100 miliwn mewn ysgolion yng Nghymru;b) O leiaf 100,000 o brentisiaethau ar gyfer pobl o bob oedran;c) Lleihad bychan yn y dreth fusnes;d) Cronfa gwerth £80 miliwn ar gyfer triniaethau;e) Dyblu terfyn cyfalaf gofal preswyl;f) 30 awr o ofal plant am ddim ar gyfer plant tair a phedair oed y mae eu rhieni’n gweithio, 48 wythnos y flwyddyn. Agorwch y bleidlais. [Torri ar draws.] Esgusodwch fi, nid yw’r bleidlais wedi cael ei chyhoeddi, os gwelwch yn dda. Os ydych am i’ch pleidlais gael ei chario—[Torri ar draws.] Na, yn eich sedd, os gwelwch yn dda. A yw pawb sydd am bleidleisio wedi pleidleisio? Iawn, caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 25, neb yn ymatal, 22 yn erbyn, felly derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. Derbyniwyd cynnig NDM6302 fel y’i diwygiwyd: O blaid 25, Yn erbyn 22, Ymatal 0. Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6302 fel y’i diwygiwyd.Cliciwch i weld canlyniad y bleidlais 9. 9. Dadl Fer: Ailadeiladu Bywydau drwy Chwaraeon Cymunedol Symudwn yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Caroline Jones i gyflwyno’r pwnc y mae wedi’i ddewis. Caroline Jones AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf wedi dewis defnyddio fy nadl fer heddiw i dynnu sylw at y gwaith rhyfeddol a wneir gan elusen nad oes llawer yn gwybod amdani yn fy rhanbarth, Bulldogs Boxing & Community Activities. Mae’r Bulldogs yn defnyddio grym bocsio i gynnwys, addysgu ac ysbrydoli pobl ifanc a’u teuluoedd ar draws Cymru, ac yng Nghastell-nedd Port Talbot yn arbennig, drwy raglen datblygiad personol eang ag iddi bum piler. Mae canolfan bocsio a datblygu cymunedol Bulldogs wedi’i lleoli ym Maglan ac mae’n ysbrydoli, yn ysgogi ac yn rhyfeddol o’r eiliad y byddwch yn cerdded i mewn. Mae’n ganolfan o gyfle i bobl ifanc a’u teuluoedd ar adeg pan fo llawer o gyfleusterau eraill, yn arbennig gwasanaethau sector cyhoeddus, yn cau. Daw â phobl at ei gilydd a gwneud gwahaniaeth eithriadol a pharhaol i fywydau pobl leol. Dyma’r ganolfan gyntaf o’i bath yng Nghymru ac mae’n aelod o barnteriaeth alumni byd-eang Fight for Peace sy’n defnyddio bocsio a chrefft ymladd wedi’u cyfuno ag addysg a datblygiad personol i wireddu potensial pobl ifanc mewn cymunedau yr effeithir arnynt gan droseddu a thrais.Mae rhaglen bum piler Bulldogs yn agored i bawb yn y gymuned. Mae’n rhaglen datblygiad personol gyfun-cydwedd a gynlluniwyd i weddu i unigolion. Gellir dilyn bob un o’r pileri ar unrhyw adeg, gan ddefnyddio cymaint neu gyn lleied ag y bo angen o gymorth. Mae’r rhaglen yn agored i bobl gyflogedig a di-waith ble bynnag y maent yn byw. Prif ffocws Bulldogs yw pobl o dan 30 oed, er bod cefnogaeth ar gael ar gyfer pobl o bob oed. Daw llawer o’r bobl hyn o gefndiroedd difreintiedig, ac mae’r Bulldogs yn credu y gall pob unigolyn lwyddo gyda’r arweiniad, y gefnogaeth a’r ysgogiad cywir, sydd i’w cael o fewn y pum piler.Mae’r rhaglen bum piler yn gynllun gweithredu a ddewisir gan y bobl eu hunain ac mae’n cynnwys: datblygiad personol, sy’n defnyddio mentora ac ysgogiad i helpu i feithrin hyder, ac sy’n dysgu sgiliau bywyd a gwerthoedd craidd drwy annog unigolion i wirfoddoli; mynediad agored, sy’n galluogi pobl ifanc i ddefnyddio’r gampfa a chlybiau ar ôl ysgol am ddim; addysg, cyflogaeth a hyfforddiant, sy’n cynnig cymorth cyflogaeth, gan gynnwys hyfforddiant sy’n berthnasol i swydd a mynediad at gyflogwyr lleol a lleoliadau gwaith; ffitrwydd a bocsio i weddu i bob lefel ffitrwydd a sgiliau; a gwasanaethau cymorth, sy’n dod ag asiantaethau lluosog ynghyd.Mae’r rhaglen bum piler wedi’i haddasu i weithio gyda grwpiau penodol yn ychwanegol at brif grŵp targed y Bulldogs, sy’n cynnwys llwybr cyflogadwyedd Bulldogs—partneriaeth gyda’r Ganolfan Byd Gwaith. Maent yn darparu cymorth cyflogaeth a hyfforddiant helaeth drwy eu piler cyflogadwyedd pwrpasol. Mae hon yn gangen lwyddiannus iawn o’r Bulldogs ac yn tyfu o un wythnos i’r llall, gyda llwyddiant ar gyfer pobl o bob oed. Lles Bulldogs: rhaglenni ymarfer corff a maeth wedi’u teilwra i greu cymuned iachach. Mae hyn yn rhywbeth i bawb yn Bulldogs, gan ddechrau o’r math mwyaf sylfaenol o ymarfer corff hyd at raglen ddwys. Sesiynau galw heibio Bulldogs/Cymdeithas y Milwyr, Morwyr, Awyrenwyr a’u Teuluoedd (SSAFA) ar gyfer y lluoedd arfog: dull amlasiantaeth yw hwn i helpu’r rhai sydd wedi gwasanaethu neu sydd ar hyn o bryd yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog. Maent hefyd yn helpu pobl ifanc i ddod yn aelodau o’r lluoedd arfog drwy eu llwybr cyflogadwyedd. Grŵp LACES Bulldogs: partneriaeth â gwasanaethau addysg plant sy’n derbyn gofal Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot er mwyn newid sgiliau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol. Troseddwyr ifanc: partneriaeth â chyfiawnder ieuenctid Bae’r Gorllewin, gan greu strategaethau ymadael ar gyfer troseddwyr ifanc, a defnyddio disgyblaeth bocsio er mwyn helpu i lywio troseddwyr ifanc oddi wrth droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y dyfodol.Mae’r Bulldogs yn darparu llwyfan i dros 30 o sefydliadau sy’n gweithio mewn partneriaeth er mwyn darparu cyfle teg mewn bywyd ar gyfer y cenedlaethau nesaf yn ardaloedd Port Talbot ac ardal bae Abertawe a’r cylch. Rwy’n siŵr y bydd yr Aelodau’n cytuno bod eu gwaith yn wirioneddol drawiadol, fel y mae eu canlyniadau. Daeth y Bulldogs i fy sylw yn gyntaf oherwydd y gwaith y maent yn ei wneud gyda SSAFA, yr elusen ar gyfer y lluoedd arfog. Ers gadael y fyddin, mae fy ngŵr wedi cefnogi SSAFA yn frwd iawn, ac mae’n helpu gyda gwaith i gynorthwyo cyn-filwyr i addasu i fywyd y tu allan i’r lluoedd arfog. Mae hefyd yn gweithio gyda dioddefwyr anhwylder straen wedi trawma, a thrwy’r gwaith hwn daethom yn ymwybodol o gampfa Bulldogs.Mae’r Bulldogs yn gweithio gyda phersonél y lluoedd arfog ac eraill sy’n dioddef anhwylder straen wedi trawma, gan gynnig amgylchedd diogel a chyfeillgar i ddioddefwyr siarad â’i gilydd am eu profiadau, a chaniatáu iddynt weithio gyda’i gilydd i ymdopi â’r cyflwr. Mae’r Bulldogs yn gweithio gydag asiantaethau partner i gynorthwyo dioddefwyr anhwylder straen wedi trawma. Mae astudiaethau wedi dangos y gall chwaraeon egnïol iawn megis bocsio helpu i reoli eu symptomau anhwylder straen wedi trawma, a chyda campfa Bulldogs, gall dioddefwyr anhwylder straen wedi trawma gymryd rhan yn y chwaraeon hyn, yn ogystal phobl eraill sy’n dioddef o’r cyflwr. Mae’r Bulldogs hefyd yn helpu rhai sydd wedi gwasanaethu neu sydd ar hyn o bryd yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog drwy gynnig sesiynau galw heibio ar gyfer y lluoedd arfog a chyn-filwyr.Drwy ddod â phobl o’r un anian at ei gilydd, mae’r Bulldogs yn helpu cyn-filwyr i ymdopi â’r cyfnod pontio i fywyd y tu allan i’r lluoedd arfog. Mantais ychwanegol yw y gall cyn-filwyr yn y gampfa helpu pobl ifanc sy’n ystyried ymuno â’r lluoedd arfog. Daw llawer o’r bobl ifanc hyn o gefndiroedd difreintiedig ac mae’r Bulldogs yn eu helpu i gyflawni eu potensial llawn drwy ddarparu cefnogaeth ac arweiniad, ynghyd ag ysgogiad. Defnyddir y dull hwn hefyd i lywio troseddwyr ifanc oddi wrth y system cyfiawnder ieuenctid. Profwyd bod y ddisgyblaeth y mae bocsio yn ei meithrin yn helpu i lywio troseddwyr ifanc oddi wrth droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Ar wahân i’r manteision hyn, cynyddu gweithgarwch corfforol ymhlith pobl ifanc yw prif fudd campfa Bulldogs.Fel y dywedais sawl gwaith, mae’n gywilydd cenedlaethol fod bron i ddwy ran o dair o oedolion Cymru a thraean plant Cymru yn cario gormod o bwysau neu’n ordew. Mae’n rhaid i ni wneud popeth a allwn i gynyddu gweithgarwch corfforol ymhlith pobl ifanc a phlant. Mae campfa Bulldogs yn cynnig mynediad am ddim i’r gampfa a’i chyfleusterau i bobl ifanc yn ystod y prynhawniau, yn ogystal â rhedeg clwb galw heibio ar ôl ysgol. Trwy gynnig y cyfleusterau hyn, mae Bulldogs yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng gordewdra’n uniongyrchol.Mewn ymgynghoriad diweddar gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, amlygodd Cymdeithas Feddygol Prydain yr angen i gynyddu mynediad at weithgareddau chwaraeon—y cyfleoedd i ymarfer corff a chymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden. Mae Cymdeithas Feddygol Prydain yn amcangyfrif bod cost anweithgarwch corfforol yng Nghymru oddeutu £650 miliwn y flwyddyn. Mae cyfleusterau megis y rhai a ddarperir gan Bulldogs yn galluogi’r gymuned leol i ymarfer corff mewn amgylchedd diogel sy’n cynnig cymorth. Maent yn gwneud hyn i gyd heb fawr o gymorth sector cyhoeddus, gan ddibynnu’n bennaf ar eu gweithgareddau elusennol.Rwy’n hynod ddiolchgar i Bulldogs am ddarparu’r cyfle hwn i fy etholwyr, ond fel ysgrifennydd yr wrthblaid UKIP dros iechyd a lles, rwyf am weld pobl yng ngweddill Cymru yn mwynhau manteision tebyg. Hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Bulldogs Boxing & Community Activities i archwilio sut y gellir efelychu’r rhaglen ar draws y wlad.Gadewch i ni sicrhau bod pob person ifanc yng Nghymru yn cael mynediad at y rhaglen bum piler. Gadewch i ni roi llwybr i droseddwyr ifanc o bob rhan o’r wlad oddi wrth droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gadewch i ni helpu ein holl gyn-filwyr i ymdopi â phontio i fywyd y tu allan i’r lluoedd arfog, a gadewch i ni sicrhau bod y rhai sy’n byw yn ein trefi a’n dinasoedd yn cael mynediad at eu Bulldogs eu hunain. Diolch yn fawr. Diolch. A allwch chi gadarnhau eich bod wedi rhoi munud o’ch amser i Gareth Bennett? Caroline Jones AC: Gallaf, rwyf wedi gwneud hynny. Diolch yn fawr—Gareth Bennett. Gareth Bennett AC: Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i Caroline am y disgrifiad o waith campfa Bulldogs. Mae gwaith y mathau hyn o grwpiau gweithgareddau cymunedol yn rhan bwysig iawn o wead ein cymdeithas. Rwy’n siŵr fod grwpiau o’r fath yn etholaethau a rhanbarthau pawb.Yn fy rhanbarth i, mae Ysgol Farchogaeth Caerdydd, er enghraifft, wedi’i lleoli yng nghaeau Pontcanna, ac wedi’i hamgylchynu gan 35 erw o barcdir. Agorwyd yr ysgol gyntaf yn 1970 ac mae’n eiddo i, ac yn cael ei gweithredu gan gyngor Caerdydd fel rhan o’u darpariaeth hamdden ar gyfer y trigolion. Mae hyn yn galluogi’r ysgol i gynnig amrywiaeth o wersi a chyrsiau am brisiau fforddiadwy ar gyfer plant, oedolion ac yn bwysig, ar gyfer marchogwyr anabl. Yn ogystal â sgiliau marchogaeth, mae marchogwyr anabl yn arbennig yn adeiladu ar eu gallu i symud, rheolaeth, sgiliau gwrando, cydsymud, hunan-gred a hyder.Mae tua 40 o geffylau a merlod yn yr ysgol, a naw ohonynt yn geffylau sy’n eiddo i eraill, ceffylau hur, a rhai ohonynt yn cael eu defnyddio mewn gwersi, ceffylau hur sy’n gweithio. Mae’r gwasanaeth yn denu 35,000 o ddefnyddwyr y flwyddyn ar gyfartaledd. Cafodd y ganolfan ei chydnabod yn ddiweddar gan y Gymdeithas Marchogaeth i’r Anabl, a ddyfarnodd iddynt statws y marc hygyrchedd cyntaf yng Nghymru. Mae’r ganolfan hefyd wedi’i chymeradwyo gan Gymdeithas Ceffylau Prydain. Mae 10 o staff amser llawn yn y ganolfan, a gefnogir hefyd gan Gyfeillion Ysgol Farchogaeth Caerdydd, sy’n trefnu digwyddiadau codi arian hanfodol a diwrnodau agored. Hoffwn ganmol yr ysgol farchogaeth am y gwaith y mae’n ei wneud yn cynnal y gwasanaeth hanfodol hwn, yn enwedig ar gyfer marchogwyr anabl. Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i’r ddadl—Rebecca Evans. Rebecca Evans AC: Diolch. Rwy’n falch o gael y cyfle hwn i ymateb i’r ddadl a diolch i Caroline Jones am arwain y ddadl hon heddiw, a hefyd am ddweud wrthym am waith da Bulldogs Boxing & Community Activities. Hefyd, diolch i Gareth Bennett am ddisgrifio peth o’r gwaith da a wneir gan Ysgol Farchogaeth Caerdydd.Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod manteision sicrhau bod cymunedau ledled Cymru gyfan yn dod yn fwy egnïol. Rydym yn awyddus i gynyddu nifer y bobl sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol a gwyddom fod hyn yn bendant yn rhan sylfaenol o greu cenedl iach ac egnïol.Mae gan chwaraeon y pŵer i adfywio ysbryd cymunedol, gwella iechyd, meithrin hyder, ysbrydoli, a dysgu sgiliau bywyd newydd i bobl. Mae ganddo hefyd y gallu unigryw i oresgyn rhwystrau cyffredin a dod â phobl at ei gilydd gyda phwrpas cyffredin. Ceir elfennau eraill, megis hyfforddi a gwirfoddoli, sydd hefyd yn chwarae rôl allweddol wrth ddatblygu chwaraeon a gall hefyd gael effaith gadarnhaol iawn ar fywydau pobl.Mae ein hagwedd tuag at chwaraeon yn chwarae rhan bwysig yn y ffordd rydym yn byw ein bywydau. Gwyddom y gall diffyg gweithgarwch corfforol fyrhau ein hoes yn sylweddol, yn ogystal â chynyddu’r tebygolrwydd o ddioddef o glefydau cronig. I gefnogi hyn, mae angen i ni sicrhau nad oes unrhyw rwystrau i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, a cheir rhai enghreifftiau da iawn o weithio mewn partneriaeth yn arwain at ganlyniadau cadarnhaol iawn.Yn gynharach eleni, mynychais wobrau Chwaraeon Anabledd Cymru. Eu gweledigaeth a’u cenhadaeth yw gweddnewid bywydau drwy rym chwaraeon, wedi’i ysgogi gan eu hymrwymiad i greu Cymru lle mae gan bob unigolyn hawl, beth bynnag fo’u gallu, i allu cymryd rhan lawn a gydol oes mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Mae Chwaraeon Anabledd Cymru bellach yn cefnogi rhaglen gymunedol gyda bron 18,000 o aelodau ac yn gweithio gydag ysgolion a chlybiau i gynnal cyfres o ddigwyddiadau wedi’u cefnogi gan wirfoddolwyr.O ddiddordeb arbennig mae eu partneriaeth gyda bwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr, gan ddarparu cyfleoedd i bobl gymryd rhan mewn chwaraeon sydd wedi helpu i ailadeiladu eu bywydau. Hoffwn rannu rhai o’r straeon hynny gyda chi. Angeline, sydd ag anabledd, oedd un o’r bobl ifanc cyntaf yng Nghonwy i elwa o’r bartneriaeth sy’n cynnwys Chwaraeon Anabledd Cymru a bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Cafodd Angeline ei chyfeirio at Chwaraeon Anabledd Cymru gan ei ffisiotherapydd, a chyflwynwyd pêl-fasged cadair olwyn iddi gyda chymorth gan hyfforddwyr a gwirfoddolwyr. Gwn fod y profiad wedi helpu i feithrin hyder Angeline, ac mae ei rhieni’n dweud wrthym ei fod hefyd wedi helpu i newid bywyd eu merch.Ar ôl cael ei fwlio yn yr ysgol a’i eithrio o gemau pêl-droed am fod y bechgyn eraill yn teimlo ei fod yn rhy araf, cyflwynwyd criced i Mathew drwy Chwaraeon Anabledd Cymru. Mae ei fam yn dweud ei bod yn wych gwylio hunanhyder Mathew yn tyfu wrth iddo gymryd rhan mewn criced. Mae’n rhyngweithio â phobl eraill yn awr, ac yn chwerthin ac yn cellwair, ac nid yw’n cael ei fwlio mwyach.Roedd James yn hyfforddwr pêl-droed a golffiwr brwd cyn iddo ddioddef nifer o strociau, a rhoddwyd ymdeimlad newydd o benderfyniad iddo pan gafodd ei gyflwyno i swyddog datblygu lleol Chwaraeon Anabledd Cymru yng Nghonwy. Trwy gymryd rhan yn rhaglenni Anabledd Cymru, cafodd James ei ysgogi i gyrraedd ei nodau adsefydlu ac mae’n gobeithio cymryd rhan mewn cystadlaethau golff. Ceir enghreifftiau eraill o chwaraeon yn helpu i gefnogi bywyd cymunedol.Mae clybiau’r gynghrair bêl-droed hefyd yn cymryd rhan weithredol yn gweithio gyda phobl ifanc, yn bennaf o gefndiroedd difreintiedig, sy’n tangyflawni, gyda’r nod o’u helpu i wella eu canlyniadau addysgol. Mae GemauStryd Cymru, sy’n derbyn cymorth gan Lywodraeth Cymru drwy Chwaraeon Cymru, yn annog pobl ifanc mewn ardaloedd difreintiedig yn gymdeithasol drwy ddarparu ystod o weithgareddau chwaraeon ar garreg y drws ar gyfer pobl ifanc na fyddent fel arall yn cael cyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon. Maent wedi sefydlu dros 60 o glybiau chwaraeon ar garreg y drws yng Nghymru, ac yn anelu i ddod yn rhan gynaliadwy o wead y gymuned.Trwy Chwaraeon Cymru, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi buddsoddi £0.5 miliwn mewn partneriaeth â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i annog mwy o bobl o gymunedau du a lleiafrifoedd ethnig i gymryd rhan mewn chwaraeon a manteision pellach ehangach. Mae’r rhaglen yn weithredol ar draws pedair ardal, gan gynnwys Abertawe. Yn ddiweddar, cyfarfûm â Phêl-droed Stryd Cymru, ac rwy’n falch iawn o gefnogi eu gwaith, sy’n canolbwyntio ar gynorthwyo dynion a menywod ifanc sydd ag ystod o heriau cymdeithasol, drwy ddefnyddio pêl-droed fel bachyn i’w helpu i drawsnewid eu bywydau. Mae Pêl-droed Stryd Cymru wedi cynorthwyo dros 3,900 o gyfranogwyr. Mewn arolwg diweddar, dywedodd 94 y cant o ymatebwyr fod eu hyder a’u hunan-barch wedi gwella. Dywedodd 93 y cant fod eu hiechyd corfforol wedi gwella, a dywedodd 92 y cant fod eu hiechyd meddwl wedi gwella. Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru hefyd yn cefnogi’r ymgyrch ‘Ry’n ni’n gwisgo’r un crys’, sy’n helpu i fynd i’r afael â stigma salwch meddwl drwy ymwneud â phêl-droed.Mae Gymnasteg Cymru wedi gwneud cynnydd mawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac erbyn hyn mae ganddynt dros 20,000 o aelodau clwb, gan gynnwys clwb penodol i bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn Butetown yr ymwelais ag ef fis Medi y llynedd a chael fy ysbrydoli’n fawr ganddo.Yn fwy diweddar, ym mis Mawrth, ymwelais ag un o brosiectau canolfannau clybiau ysgol Undeb Rygbi Cymru yn Hwlffordd. Mae’r prosiect yn cynnwys rhoi cyfle i ferched a bechgyn gymryd rhan mewn rygbi mewn 89 o ganolfannau yng Nghymru. Trwy’r rhaglen, maent yn cael cymorth ac arweiniad amhrisiadwy’r swyddogion rygbi ac arweinwyr rygbi wedi’u hyfforddi i’w helpu i ddatblygu ystod o sgiliau a chaffael gwybodaeth am bob agwedd ar y gêm, gan helpu i gryfhau cysylltiadau â chlybiau rygbi cymunedol, a gwella cynaliadwyedd rygbi clwb ac ymwneud chwaraewyr yn fwy hirdymor.Hefyd, mae’n galonogol gweld mwy o bobl yn ceisio dod yn egnïol drwy grwpiau rhedeg cymdeithasol Rhedeg Cymru. Nod y rhaglen yw chwarae rhan allweddol yn cefnogi’r GIG yng Nghymru drwy ddarparu’r ysbrydoliaeth hon i bobl Cymru a’r gefnogaeth a’r cyfle i helpu eu hunain i ddod yn iachach, yn hapusach, ac yn fwy egnïol yn gorfforol. Yn yr un modd, mae cynllun Breeze Beicio Cymru, sef teithiau beic i fenywod yn unig, yn hynod o boblogaidd, ac mae hyn yn newyddion gwych, gan ei fod yn annog mwy o fenywod a merched yng Nghymru i gymryd rhan mewn chwaraeon, ac mae gweithgareddau hamdden egnïol yn un o’n blaenoriaethau.Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried unrhyw ddigwyddiad chwaraeon mawr fel cam pwysig ar daith tuag at genedl iach ac egnïol. Er ei bod yn anodd dangos cysylltiad pendant ac uniongyrchol, ceir peth tystiolaeth i awgrymu bod cynnal achlysuron chwaraeon elitaidd, lle bydd y goreuon yn y byd yn perfformio, yn helpu i gynyddu’r niferoedd sy’n cymryd rhan yn nes at adref. Mae digwyddiadau chwaraeon yma yng Nghymru yn tynnu sylw at ein lleoliadau chwaraeon, a’n tirweddau hardd yn aml, ac yn darparu digwyddiad cartref lle gall athletwyr Cymru gystadlu, gan ysbrydoli pobl eraill i barhau â’r math o chwaraeon y maent wedi’i ddewis, neu i roi cynnig ar fathau newydd. Mae rowndiau terfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA eleni yn enghraifft dda o hyn, gan ddod â rhaglen etifeddol yn eu sgil a fydd yn darparu lleoliad cymunedol newydd, a thrwy rownd derfynol y menywod, yn taflu sbotolau ar y gwaith pwysig i annog menywod a merched i gymryd rhan mewn chwaraeon.Felly, rwy’n gobeithio fy mod wedi gallu dangos sut y mae Llywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru yn gweithio’n adeiladol gydag amrywiaeth o bartneriaid i helpu ein cymunedau i fod yn fwy egnïol. Yn ddi-os, mae chwaraeon yn faes sy’n cyfrannu’n sylweddol at helpu i ailadeiladu a thrawsnewid bywydau pobl, a’n nod yw adeiladu ar y momentwm sydd gennym eisoes er mwyn helpu Cymru i ddod yn genedl iachach a mwy heini. Diolch. Diolch yn fawr iawn. Dyna ddiwedd ein trafodion am heddiw. Daeth y cyfarfod i ben am 17:50. QNR Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Jeremy Miles: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddarpariaeth chweched dosbarth yng Nghymru? Kirsty Williams: Sixth form provision provides an important route for learners accessing post-16 education in Wales. It provides a significant option for our learners supporting guided progression into HE, further learning and employment. Steffan Lewis: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddiogelwch disgyblion a myfyrwyr ar deithiau maes dramor? Kirsty Williams: To reiterate the First Minister’s earlier reply, up-to-date advice for trips is produced by the Foreign and Commonwealth Office. This advice is also signposted in the all-Wales guidance for education visits, written by the outdoor education advisers’ panel for Wales and the Health and Safety Executive. It is accessible from the Welsh Government’s website. David J. Rowlands: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am leoli chweched dosbarth mewn un coleg canolog? Kirsty Williams: Local authorities are responsible for sixth form education. When proposing change they must comply with the school organisation code, in the interest of learners, with the impact of proposals on the quality and standards of education being their prime consideration. John Griffiths: Pa gamau pellach y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i wella perfformiad addysgol mewn ysgolion sy'n gwasanaethu cymunedau mwyaf difreintiedig Cymru? Kirsty Williams: I announced my plans for an extended pupil development grant in March. This investment is making a real difference to the lives of learners from deprived communities. I will continue to consider ways in which the investment can have an even greater impact on disadvantaged learners. Suzy Davies: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am addysgu ieithoedd tramor modern mewn ysgolion yng Nghymru? Kirsty Williams: The Welsh Government recognises the value of learners studying a modern foreign language and has invested in the Global Futures plan, which supports the teaching of modern foreign languages in schools, using innovative approaches and expertise from universities and language institutes.
uk-hansard-senedd-cy
senedd2017-05-10
2024-06-01T00:00:00
{ "year": "2017", "language": "cy", "license": "Open Parliament Licence - https://www.parliament.uk/site-information/copyright-parliament/open-parliament-licence/" }
Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd. Cyfarfu'r Senedd drwy gynhadledd fideo am 10:58 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. Datganiad gan y Llywydd Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn inni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw ac mae'r rhain wedi eu nodi ar yr agenda. Hoffwn atgoffa'r Aelodau fod Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn gymwys i'r cyfarfod yma, a'r cyfyngiadau amser o ran hyd cwestiynau a gaiff eu cymhwyso i'r cyfarfod hwn. Hoffwn hefyd hysbysu'r Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, fod y Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 wedi derbyn Cydsyniad Brenhinol ar 1 Mehefin. Hon, felly, yw Deddf gyntaf Senedd Cymru. 1. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Yr eitem gyntaf y bore yma yw'r datganiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad busnes hwnnw—Rebecca Evans. Rebecca Evans AC: Diolch, Llywydd. Mae dau newid i'r agenda heddiw. Bydd y Gweinidog Addysg yn gwneud datganiad y prynhawn yma ar ddiweddariad i'r ddarpariaeth addysg, ac wedyn bydd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn gwneud datganiad ar ddigartrefedd. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w gweld ymhlith papurau'r cyfarfodydd sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig. Diolch i'r Trefnydd. 2. Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (COVID-19) Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Prif Weinidog ar goronafeirws. Galw ar y Prif Weinidog i wneud ei ddatganiad—Mark Drakeford. Mark Drakeford AC: Diolch yn fawr, Llywydd. Unwaith eto, byddaf yn rhoi adroddiad i'r Senedd ar y camau diweddaraf wrth inni ymateb i'r argyfwng coronafeirws. Wythnos diwethaf, daethom i ddiwedd y trydydd cyfnod o dair wythnos pryd mae'n rhaid inni adolygu'r cyfyngiadau sydd mewn lle. Byddaf yn amlinellu'r penderfyniadau a ddaeth i rym ar ddydd Llun, 1 Mehefin. Fel o'r blaen, fe wnaethom ystyried y dystiolaeth ddiweddaraf gan SAGE a chyngor Prif Swyddog Meddygol Cymru. Ar sail y dystiolaeth honno, rydym wedi cymryd camau gofalus tuag at lacio'r cyfnod clo er mwyn galluogi pobl i gwrdd â'i gilydd mewn amodau lle mae'r risg yn isel. Er bod y ffigurau yn mynd i'r cyfeiriad cywir, dydy hi ddim yn saff eto inni fynd ymhellach na hynny. Mark Drakeford AC: Llywydd, fel yn yr wythnosau blaenorol, byddaf yn rhoi sylw i faterion yn y datganiad hwn nad ydyn nhw'n cael sylw yn y datganiadau sy'n dilyn gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Gweinidog Addysg a'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. Yn fy natganiad blaenorol ar 20 Mai, tynnais sylw at effaith coronafeirws ar gyllideb Llywodraeth Cymru. Mae'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd wedi nodi'r newidiadau yn y gyllideb atodol gyntaf a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. Mae hyn yn cynnwys £2.4 biliwn i gynorthwyo'r ymateb i'r coronafeirws, gan gynnwys £750 miliwn i ariannu ein GIG a'n gwasanaethau cyhoeddus. Rydym ni wedi ariannu mwy na 55,000 o grantiau i fusnesau yng Nghymru, am gost o £660 miliwn. Mae'r busnesau hyn hefyd yn elwa ar ryddhad ardrethi drwy'r pecyn £1.4 biliwn a gyhoeddwyd ym mis Mawrth. Llywydd, mae ymateb Llywodraeth Cymru wedi mynd ymhell y tu hwnt i'r symiau a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU, ond rydym ni'n dal i fod yn gaeth i reolau'r Trysorlys sy'n cyfyngu ar ein gallu i ymateb i'r argyfwng. Bydd y Gweinidog cyllid yn parhau i bwyso am fwy o hyblygrwydd i'n galluogi i gyfeirio adnoddau i'r mannau lle mae eu hangen nhw fwyaf. Ac, wrth gwrs, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud dyraniadau newydd mewn ymateb i'r argyfwng. Cynorthwyodd ein cyllid cychwynnol o £10 miliwn fwy nag 800 o bobl ddigartref i mewn i dai ers dechrau'r cyfyngiadau symud. Roedd yn adeg bwysig o ran datganoli, Llywydd, pan oedd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn gallu nodi £20 miliwn arall i helpu sicrhau nad oes yn rhaid i neb ddychwelyd i'r strydoedd yma yng Nghymru, a bydd ganddi fwy i'w ddweud am hynny, mi wn, yn nes ymlaen yn y trafodion. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru gyllid o £65 miliwn i sicrhau bod gwasanaethau rheilffordd yn parhau i weithredu ar rwydwaith Cymru a'r gororau. Mae hyn yn dilyn cyllid o £40 miliwn a gadarnhawyd ym mis Mawrth, gan ddod â chyfanswm y cymorth i uchafswm o £105 miliwn. Byddwn yn parhau i sicrhau bod cysylltiadau cludiant cyhoeddus hanfodol yn cael eu cynnal. Llywydd, rwy'n falch bod y canllawiau a gyhoeddwyd gennym ni yr wythnos diwethaf ar ddiogelwch yn y gweithle wedi cael eu cymeradwyo gan Gydffederasiwn Diwydiant Prydain a Chyngres yr Undebau Llafur. Yr wythnos diwethaf hefyd, cynhaliwyd cyfarfod y cyngor partneriaeth cymdeithasol estynedig, pryd yr oedd cynrychiolwyr y trydydd sector a chomisiynwyr yn bresennol, yn rhan o'n hymateb partneriaeth. Llywydd, trof nawr at ganlyniad yr adolygiad tair wythnos a ddaeth i ben ddydd Iau, 28 Mai. Y cyd-destun yw bod coronafeirws yn parhau i fod yn fygythiad creulon i iechyd yng Nghymru. Ddoe, adroddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ym mhob lleoliad, hyd at 22 Mai, bod 2,122 o farwolaethau yn ymwneud â coronafeirws yng Nghymru. Er bod y niferoedd hyn yn gostwng, gyda chleifion mewn gwelyau gofal critigol, er enghraifft, yn lleihau o wythnos i wythnos, rydym ni'n cofio colled pob bywyd unigol, y teuluoedd sy'n eu galaru nhw a'r angen parhaus i ni i gyd fod yn ofalus. Bydd yr Aelodau yn gwybod bod yn rhaid adolygu ein rheoliadau coronafeirws bob 21 diwrnod. Y prawf y mae'n rhaid i ni ei ddefnyddio yw a yw'r cyfyngiadau ar fywyd yng Nghymru yn gymesur ac yn angenrheidiol i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Wrth ddefnyddio'r prawf hwn, mae'n rhaid i ni ystyried cyngor y prif swyddog meddygol ac rydym ni hefyd yn dibynnu ar y dystiolaeth ddiweddaraf gan y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau. Dyma'r trydydd adolygiad, Llywydd, a byddaf yn crynhoi'r broses yr ydym ni wedi ei dilyn. Yn gyntaf, rydym ni'n llunio rhestr o'r dewisiadau posibl ar gyfer llacio cyfyngiadau, sy'n deillio o syniadau a gynhyrchwyd o fewn ac y tu hwnt i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys yr awgrymiadau niferus yr ydym ni'n parhau i'w cael gan bobl ledled Cymru gyfan. Mae'r rhestr honno'n cael ei byrhau ar gyfer trafodaeth ac archwiliad i restr fer o ddewisiadau, a chaiff y rheini eu gwerthuso'n fanwl yn erbyn y cwestiynau a nodir yn y ddogfen fframwaith a gyhoeddwyd gennym ni ym mis Ebrill, gan gynnwys egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Ein nod yw nodi mesurau sy'n cael effaith gadarnhaol ac yn arwain at y perygl lleiaf i iechyd y cyhoedd. Rydym ni bob amser yn ystyriol o'r niwed sy'n cael ei achosi gan y cyfyngiadau, nid yn unig drwy coronafeirws yn uniongyrchol, ond mewn ffyrdd eraill, i iechyd y cyhoedd ac i lesiant cymdeithasol ac economaidd pobl. Rydym ni wedi cynnal trafodaethau gyda'r llywodraethau eraill yn y Deyrnas Unedig a maer Llundain yn ystod y cyfnod hwnnw o dair wythnos er mwyn rhannu syniadau a dadansoddiadau, i ddeall dulliau ein gilydd a'r dystiolaeth ym mhob un o'n hawdurdodaethau. Nid yw cydlyniaeth yn golygu mabwysiadu'r un dull yn union o lacio nac, mewn gwirionedd, o gyflwyno cyfyngiadau. Mae'n rhaid i bob Llywodraeth fod yn atebol am gydbwysedd y mesurau yr ydym ni'n penderfynu eu mabwysiadu. Yn olaf, rydym ni wedi ystyried y dystiolaeth ddiweddaraf o drosglwyddiad y feirws, sy'n pennu faint o hyblygrwydd sydd i unrhyw lacio heb beryglu'r cynnydd a wnaed hyd yma. Daethom i'r casgliad yng Nghymru bod yr amodau yn caniatáu rhai addasiadau i'r cyfyngiadau, ond y cyngor eglur iawn gan SAGE a Sefydliad Iechyd y Byd yw gwneud un newid ar y tro yn unig a monitro ei effaith. Penderfynasom roi blaenoriaeth i alluogi pobl i gyfarfod ag eraill, gan fod gwahanu oddi wrth deulu a ffrindiau wedi bod mor anodd i bobl yn ystod y ddau fis diwethaf. Trwy wneud hynny, fe wnaethom ymateb i'r neges eglur gan bobl yng Nghymru mai diffyg cyswllt â phobl oedd y mater a oedd fwyaf pwysig iddyn nhw. Roedd y dystiolaeth yn dweud mai'r ffordd fwyaf diogel o wneud hyn oedd yn yr awyr agored, lle mae'r feirws yn goroesi am gyfnod llawer byrrach o amser nag y mae o dan do. Yn unol â hynny, gall pobl gyfarfod bellach a phobl eraill o un aelwyd arall yn yr awyr agored yn eu hardaloedd lleol, ar yr amod y cedwir pellter cymdeithasol. Bydd hyn hefyd yn bosibl i bobl yn y grŵp a warchodir, ar yr amod eu bod nhw'n cadw pellter cymdeithasol, a bydd hynny'n fwy hanfodol fyth, wrth gwrs, iddyn nhw. Llywydd, fe wnaethom rai mân addasiadau eraill i alluogi myfyrwyr i ddychwelyd i golegau addysg bellach ar gyfer yr asesiadau sy'n hanfodol i rai allu cwblhau eu cyrsiau ac i alluogi priodasau i gael eu cynnal lle mae un o'r pâr yn angheuol wael. Rwyf i hefyd wedi cyfarwyddo y caiff busnesau nad ydyn nhw'n hanfodol sy'n gallu cydymffurfio â'r ddyletswydd cadw pellter corfforol ddechrau gwneud paratoadau dros y tair wythnos nesaf fel y byddan nhw mewn sefyllfa i ailagor ar ôl 18 Mehefin, ar yr amod—a bob amser ar yr amod—bod y dystiolaeth ar y pryd yn eu cefnogi i wneud hynny. Llywydd, rydym ni eisoes hanner ffordd drwy wythnos gyntaf y cyfnod adolygu nesaf. Rydym ni'n dechrau ystyried dewisiadau ar gyfer unrhyw lacio pellach a allai fod yn bosibl ar ddiwedd y cyfnod, wedi eu cefnogi gan y system olrhain cyswllt a ddechreuodd o ddifrif ddydd Llun. Byddwn yn parhau i gymryd camau pwyllog tuag at leihau'r cyfyngiadau, mewn dull pedair gwlad, cydweithredol, gan ddiogelu iechyd y cyhoedd ac ymateb i flaenoriaethau pobl yma yng Nghymru. Diolch yn fawr. Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies. Paul Davies AC: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ddydd Gwener diwethaf, fel yr ydych chi newydd sôn, gwnaed y penderfyniad gennych chi i ddechrau llacio'r cyfyngiadau symud yng Nghymru, gan gyflwyno'r rheol i ganiatáu i bobl ymweld â'u hanwyliaid o fewn radiws o 5 milltir gan gadw pellter cymdeithasol. Efallai fod y rheol honno wedi bod yn rhywfaint o gysur i'r rhai sy'n byw mewn rhai ardaloedd, ond mae llawer mewn ardaloedd eraill hefyd wedi ymateb gyda dicter a rhwystredigaeth i hyn, a llawer ohonyn nhw'n teimlo nad yw Llywodraeth Cymru yn poeni o gwbl am y rhai sy'n byw yn y rhannau mwy anghysbell o'r wlad. Dywedasoch eich hun bod annhegwch yn anochel. Prif Weinidog, gan eich bod chi'n awyddus i ddweud wrthym ni bod eich polisïau yn seiliedig ar y cyngor gwyddonol a meddygol diweddaraf sydd ar gael, ble mae'r cyngor gwyddonol a meddygol yr ydych chi wedi ei gael ynglŷn â'r polisi penodol hwn, ac a wnewch chi gyhoeddi'r cyngor gwyddonol a meddygol hwnnw nawr fel y gall pobl Cymru ddeall sut y mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud y penderfyniad penodol hwn? Mark Drakeford AC: Llywydd, gadewch i mi gywiro arweinydd yr wrthblaid ar rywbeth a ddywedodd, a gobeithio na fydd ef na'i gyd-Aelodau yn parhau i ailadrodd rhywbeth nad yw'n wir o gwbl: nid oes unrhyw reol am 5 milltir yng Nghymru. Pe byddai rheol, byddai honno wedi bod yn y rheoliadau. Ceir canllaw, cyfarwyddyd bras i bobl yng Nghymru ddeall yr hyn y gallai 'lleol' ei olygu, ac rwyf i wedi dweud dro ar ôl tro mai cyfrifoldeb pobl yw dehongli, mewn ffordd synhwyrol, yr hyn y mae 'lleol' yn ei olygu yn eu daearyddiaethunigol hwy eu hunain, gan ei bod yn anochel bod 'lleol' yn wahanol mewn dinas fel Caerdydd, lle bydd 5 milltir yn mynd â chi i filoedd o wahanol aelwydydd, a'r hyn y gallai ei olygu mewn rhan wledig o Gymru. Y cyngor gwyddonol yw aros yn lleol, ac rydym ni'n gwybod bod aros yn lleol yn bwysig iawn gan ei fod yn atal y feirws rhag lledaenu o un gymuned i'r llall. Mae'r rheol 5 milltir fras yno am yr union reswm o ddiogelu pobl yn ngorllewin a gogledd pellach Cymru oddi wrth pobl o fannau lle mae'r feirws wedi lledaenu'n fwy rhag teithio i'r cymunedau hynny a dod â'r feirws gyda nhw. Bydd arweinydd yr wrthblaid yn gwybod yn iawn pa mor bendant y mae pobl yn yr ardaloedd hynny wedi bod ynglŷn â'u hamddiffyn rhag ymwelwyr sy'n dod i'r ardaloedd hynny a'u rhoi mewn perygl. Mae'r neges 'aros yn lleol' yn diogelu unigolion ac eraill, ac mae'r canllaw 5 milltir—a dyna beth yw ef; nid rheol yw hi, ond canllaw—yno i ddiogelu'r cymunedau hynny yng nghefn gwlad Cymru rhag pobl sy'n credu fel arall ei bod hi'n iawn teithio mewn niferoedd mawr o'r tu allan i'r ardaloedd hynny, ac er mwyn osgoi'r golygfeydd sy'n peri gofid yr ydym ni wedi eu gweld dros y ffin lle nad yw'r cyngor synhwyrol hwnnw yn cael ei roi. Paul Davies AC: Yn amlwg, Prif Weinidog, mae hyn yn ddryslyd iawn i bobl, gan eich bod chi newydd ddweud mai canllaw bras yw hwn nawr, felly ni fydd pobl yn gwybod bellach a ydyn nhw'n cael teithio 5, 10, 15 milltir. Mae'n ffaith fod y polisi hwn wedi peri gofid i filoedd o bobl ledled Cymru sy'n gwylio eraill yn aduno â'u hanwyliaid ond nad oes ganddyn nhw unrhyw ddewis heblaw aros gartref. Nawr, Prif Weinidog, rhybuddiodd y Gweinidog iechyd ddoe y gallai fod yn rhaid ailgyflwyno rhai mesurau cyfyngiadau symud yn y gaeaf yn dibynnu ar gyffredinolrwydd COVID-19 bryd hynny, ac er fy mod i'n sylweddoli na ellir cau unrhyw ddrws ar gyfyngiadau yn y dyfodol, mae'r sylwadau wedi bod yn frawychus iawn i lawer o bobl ledled Cymru. Wrth gwrs, mae'n rhaid ystyried cynllunio strategol i sicrhau bod Cymru yn barod ar gyfer cyfyngiadau symud yn y dyfodol ym misoedd y gaeaf, ac mae'n rhaid rhoi dyraniadau o'r neilltu pe byddai Cymru yn y sefyllfa lle mae angen i Lywodraeth Cymru ailgyflwyno rhagor o gyfyngiadau symud. Felly, a allwch chi gadarnhau pa fodelu ariannol sy'n digwydd ar hyn o bryd i sicrhau bod Cymru wedi dysgu o'r pandemig hwn? A allech chi hefyd ddweud wrthym ni pa ddyraniadau cyllid y mae Llywodraeth Cymru yn eu neilltuo os bydd angen mwy o gyfyngiadau yn y gaeaf? A pha wersi sydd eisoes wedi'u dysgu am ymateb Cymru i bandemig o'r cyfnod hwn a fydd yn llywio'r cyfeiriad teithio ar gyfer unrhyw gynnydd i achosion o'r pandemig yn y dyfodol? Mark Drakeford AC: Llywydd, diolchaf i Paul Davies am y cwestiynau yna. Mae'n bwysig atgoffa pobl yng Nghymru, er ein bod ni'n credu ein bod ni wedi mynd heibio'r uchafbwynt cyntaf o heintiadau coronafeirws yn bron i bob rhan o Gymru, ac wedi gwneud hynny diolch i ymdrechion aruthrol pobl ledled Cymru, wedi gwneud hynny gan osgoi pethau'n mynd yn drech na'n gwasanaeth iechyd, nid yw hynny'n ddim sicrwydd o gwbl na allem ni gael ail uchafbwynt yn ddiweddarach yn y flwyddyn oni bai ein bod ni'n parhau i wneud yr holl bethau synhwyrol yr ydym ni'n eu gwneud. Bydd yr amodau yn yr hydref yn fwy ffafriol i'r feirws, nad yw'n hoffi golau'r haul ac nad yw'n hoffi'r awyr agored, ond sy'n hoffi'r tu mewn, y tywyllwch a'r lleithder, a byddwn yn y rhan honno o'r flwyddyn wrth i ni symud i ail ran yr hydref. Felly, rwy'n cytuno â'r hyn y mae Paul Davies wedi ei ddweud am yr angen i ddefnyddio'r cyfle hwn i baratoi, pe byddem ni'n canfod ein hunain mewn amodau mwy anodd yn ail ran y flwyddyn. A bydd ef yn gwybod mai un o'r profion yr ydym ni wedi'i gymhwyso i lacio'r cyfyngiadau symud yn ein dogfen fframwaith yw, 'A ellid ail-orfodi unrhyw fesur pe byddai'n cael effaith andwyol annisgwyl?' Felly, rydym ni'n gwneud mwy o fodelu ar y clefyd ei hun, gan wneud yn siŵr, er enghraifft, o ran cyfarpar diogelu personol, ein bod ni'n defnyddio'r sefyllfa gymharol sefydlog yr ydym ni ynddi ar hyn o bryd i ailgyflenwi ein stociau, fel y byddai gennym ni ddeunydd yn barod pe byddai ei angen yn yr hydref. Mae modelu ariannol yn llawer anoddach, oherwydd mae anghenion busnesau, llywodraeth leol, pobl sydd wedi bod heb waith yng Nghymru yn y cyfnod coronafeirws cyntaf hwn wedi bod mor daer ac mor angenrheidiol. Rydym ni wedi trosglwyddo'r holl arian, y symiau canlyniadol yr ydym ni wedi eu derbyn gan Lywodraeth y DU, mor gyflym ag yr ydym ni wedi gallu gwneud hynny. Nid oes pot mawr o arian yn eistedd yn segur yn Llywodraeth Cymru yn aros am bethau a allai ddigwydd yn ail hanner y flwyddyn. Wrth gwrs, mae'r Gweinidog cyllid yn cadw cronfa wrth gefn, gan y byddai ei hangen arnom ni mewn cyfnodau arferol, ac mae ein cyllideb—yr un a basiwyd yn y Cynulliad ym mis Mawrth—wedi'i modelu dros gyfnod o 12 mis. Ond pe byddai ail uchafbwynt a phe byddem ni'n canfod ein hunain yn ôl yn yr anawsterau yr ydym ni wedi'u hosgoi hyd yma, yna byddai'n rhaid i ganlyniadau ariannol hynny gael eu llywio gyda chymorth pellach gan Lywodraeth y DU. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price. Adam Price AC: Prif Weinidog, mae llofruddiaeth droseddol George Floyd drwy law swyddogion yr heddlu yn yr Unol Daleithiau wedi ail-gynnau'r ddadl ynghylch hiliaeth ar y naill ochr a'r llall i Fôr yr Iwerydd. A ydych chi'n cytuno bod hiliaeth strwythurol wrth wraidd yr anghyfiawnder hwn, ac os ydym ni wir yn credu bod bywydau pobl dduon yn bwysig bod yn rhaid i ni gydnabod hynny a mynd i'r afael ag ef? Ac a yw'r hiliaeth strwythurol honno, yn eich barn chi, yn un o'r rhesymau pam yr ydym ni'n gweld nifer llawer uwch o farwolaethau mewn cymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig o ganlyniad i COVID-19? Mark Drakeford AC: Llywydd, a gaf i ddiolch i Adam Price am y cwestiwn yna am un o faterion pwysig ein hoes? Bydd llawer o Aelodau wedi gweld y lluniau cwbl ofnadwy hynny o farwolaeth George Floyd; rwy'n credu mai un o'r pethau mwyaf ofnadwy yr wyf i'n cofio gorfod edrych arno erioed. Fe'm hatgoffwyd ynddo—dim ond i ddweud un peth cadarnhaol i ddechrau—am y berthynas hirsefydlog iawn sydd wedi bodoli rhwng Cymru a'r gymuned pobl dduon yn America, o'r 1930au pan fyddai Paul Robeson, y canwr a'r ymgyrchydd ardderchog hwnnw dros hawliau sifil yn ymweld â Chymru mor rheolaidd, gan siarad yn gofiadwy yn Aberpennar ym 1938 mewn cynulliad enfawr o bobl o dde Cymru i gefnogi rhyfel cartref Sbaen, a'r bobl o Gymru a aeth i ymladd yn y fan honno, hyd at y 1960au gyda'r eglwys yn Birmingham, Alabama, sydd â ffenestr y talwyd amdani gan bobl o Gymru yn rhan o'n diddordeb yn y mudiad hawliau sifil bryd hynny. Felly, mae ein diddordeb yn y boblogaeth pobl dduon a phobl o'r cymunedau hynny yn America yn mynd yn ôl ddegawdau lawer iawn, a chefais fy atgoffa'n rymus o hynny pan welais y lluniau erchyll hynny. Ceir anfantais strwythurol i bobl dduon yn America, ond mae Adam Price yn iawn i ni beidio â meddwl mai dim ond mewn mannau eraill y mae'n bodoli. Mae'n bodoli yn ein cymunedau ni ein hunain hefyd. Ac ar y gwaethaf, mae'n hiliaeth syml, fel y mae arweinydd Plaid Cymru wedi'i ddweud—pobl yn ymddwyn yn fwriadol tuag at eraill ar sail lliw eu croen. Ond ceir anfantais i bobl o'r cymunedau hynny sy'n llai amlwg na hynny—nid hiliaeth ydyw yn yr ystyr fwriadol honno, ond mae'n rhan annatod o'r ffordd y mae sefydliadau'n gweithredu ac y mae penderfyniadau'n cael eu gwneud. Ac mae'r ffordd y mae'n amlwg bod pobl dduon wedi cael eu heffeithio'n andwyol gan argyfwng y coronafeirws, yn fy marn i, yn frigiad amlwg o'r anfanteision strwythurol sylfaenol hynny, ac mae'n rhaid i ni allu mynd i'r afael â nhw yma yng Nghymru, fel y mae angen mynd i'r afael â nhw mewn mannau eraill. Adam Price AC: Mae Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru wedi dweud nad yw'r offeryn asesu gwaith COVID a gyflwynwyd gan GIG Cymru, er ei fod yn cael ei groesawu, yn nodi ar hyn o bryd bod y gweithwyr hynny o gefndiroedd pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig mewn perygl uchel iawn. Pam mae hynny'n wir, ac a wnewch chi weithio gyda nhw i gael hyn yn iawn ar frys? Ac a wnewch chi hefyd sicrhau bod lleisiau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn cael eu cynrychioli'n dda yn y gwaith ar adeiladu'n ôl yn well? Ym mis Mehefin y llynedd, adroddodd y BBC, o 170 o benodiadau diweddar i gyrff cyhoeddus gan Weinidogion Cymru, bod llai na chwech yn dod o gefndiroedd pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. A allwch chi ddweud sut y mae'r sefyllfa wedi gwella ers hynny? Ac o gofio bod gennym ni yng Nghymru, yn ôl Canolfan Llywodraethiant Cymru, gyfradd garcharu sy'n fwy anghyfartal o ran hil na Lloegr, sydd ei hun yn fwy anghyfartal o ran hil na'r Unol Daleithiau hyd yn oed, a wnewch chi ymrwymo i ymchwiliad eang i wreiddiau a chamau i unioni hiliaeth strwythurol ac anfantais hiliol yma yng Nghymru? Mark Drakeford AC: Diolchaf i Adam Price am yr holl gwestiynau ychwanegol yna. Arweiniwyd y dull hunanasesu a fabwysiadwyd gennym ni ar gyfer y GIG gan waith clinigwyr duon yng Nghymru. Roedd yr Athro Keshav Singhal—y gwn y bydd Adam Price wedi ei glywed yn cyflwyno'r offeryn—yn eglur iawn pan wnaeth hynny ei fod bob amser yn mynd i fod yn waith sy'n datblygu'n barhaus, ac y byddai mwy y gellid ei ddysgu wrth ei roi ar waith. A gwn y bydd eisiau siarad â'r Coleg Nyrsio Brenhinol a chyda Chymdeithas Feddygol Prydain ac eraill sydd wedi datblygu offerynnau eraill. Ond rwy'n cael fy nghysuro'n fawr gan y ffaith bod ein dull hunanasesu yng Nghymru wedi cael ei arwain a'i hysbysu'n weithredol gan brofiad rheng flaen uniongyrchol gweithwyr duon yn y GIG yma yng Nghymru, gan edrych ar eu profiad beunyddiol o fod ar y rheng flaen, a gwneud yn siŵr bod yr offeryn hunanasesu yn adlewyrchu hynny i gyd. Rwy'n awyddus dros ben i'r lleisiau hynny barhau i fod yn ddylanwadol wrth i ni weithio ein ffordd y tu hwnt i'r coronafeirws, a bydd y grŵp yr ydym ni wedi ei ffurfio dan gadeiryddiaeth y Barnwr Ray Singh yn rhan bwysig o hynny ar hyn o bryd, a bydd ffyrdd y gallwn ni ddatblygu hynny ymhellach i'r dyfodol. Nid yw ein hanes o benodi pobl o gymunedau pobl dduon ac Asiaidd lleiafrifol i benodiadau cyhoeddus yng Nghymru yn ddigon da. Cawsom adolygiad trwyadl o'n proses benodi yn ystod ail hanner y llynedd, ac roeddem ni ar fin cyflwyno dull hollol wahanol o ymdrin â'r penodiadau hynny pan darodd argyfwng y coronafeirws. Un o'm huchelgeisiau i yw gallu dod â'r darn hwnnw o waith yn ôl i'r amlwg, o'r cefndir, cyn gynted ag y gallwn ni yn yr argyfwng. Oherwydd mae'n rhaid i ni wneud yn well; mae'n rhaid i ni wneud yn well o ran poblogaethau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, mae'n rhaid i ni wneud yn well o ran pobl ag anableddau. A dydyn ni ddim yno o bell ffordd, lle'r ydym ni eisiau bod, er ein bod ni wedi gwneud ychydig yn well o ran cydraddoldeb rhywiol yn y meysydd hynny hefyd. Mae gwaith y ganolfan wrth edrych ar y profiad o garchar yng Nghymru yn arswydus mewn amrywiaeth eang o ffyrdd, ac yn sicr yn syfrdanol o ran yr hyn y mae'n ei ddatgelu am driniaeth pobl dduon yn y system cyfiawnder troseddol. A cheir tystiolaeth ehangach bod pobl dduon yn fwy tebygol o gael eu clystyru ym mhen rheoli pethau, gydag unrhyw system sydd â dewis rhwng ymateb i ymddygiad drwy helpu neu drwy reoli, boed hynny ym maes iechyd meddwl neu yn y system cyfiawnder troseddol. Byddaf yn meddwl am y pwynt a wnaeth Adam Price ar ddiwedd ei gyfraniad, ond hoffwn gytuno â llawer o'r pwyntiau pwysig y mae wedi eu gwneud y prynhawn yma. Arweinydd Plaid Brexit, Mark Reckless. Mark Reckless AC: Prif Weinidog, a allwch chi gadarnhau bod y data yn dangos bod pump o'r 10 ardal cyngor sydd â'r nifer uchaf o achosion o coronafeirws yn y DU yng Nghymru? Bydd ymchwiliadau a'u dosraniad o gyfrifoldeb yn dod maes o law, ond ar gyfer eich cynllunio presennol, beth ydych chi'n ei feddwl yw'r rheswm am hyn? A ydych chi'n credu y gallai'r ffaith fod gofal iechyd wedi'i ganoli mwy a mwy o integreiddiad â gofal cymdeithasol yng Nghymru fod wedi bod yn ffactor a arweiniodd at ryddhau mwy o gleifion i gartrefi gofal lle'r oedd y profi yng Nghymru yn llai cyffredin nag yn Lloegr? Mae llawer o bobl yn dweud wrthyf i nad ydyn nhw'n meddwl bod y rheoliadau sy'n cyfyngu ar symud yng Nghymru nawr yn rhesymol a chymesur. A wnewch chi gadarnhau, os ydyn nhw'n gywir yn yr asesiad hwnnw, yna na fyddai'r rheoliadau a wnaed ar gyfer Cymru yn gyfreithlon? Soniasoch nawr yn eich datganiad am brawf angenrheidrwydd yn ogystal â phrawf cymesuredd wrth adolygu rheoliadau, a fyddech chi cystal â chysoni hynny â chael gwared ar brawf angenrheidrwydd o'r rheoliadau yn eich trydydd cyfres o reoliadau diwygio? A ydych chi'n meddwl bod pobl yn eglur ynghylch y gwahaniaeth rhwng y rheoliadau hynny, a allai rwymo o dan y gyfraith, a'ch canllawiau chi, nad ydyn nhw, yn enwedig pan ddisgrifiwyd y ddau fel 'rheolau' yn flaenorol? Rydym ni wedi siarad o'r blaen am y dryswch a ysgogwyd gan y ffaith eich bod chi'n mynnu gwneud rheolau Cymru rhyw fymryn yn wahanol i reolau Llywodraeth y DU sy'n berthnasol yn Lloegr, does bosib nad oes dryswch pellach yn deillio o'r ffaith eich bod chi'n newid a diwygio rheolau Cymru yn gyson. Pan roesoch chi yn y drydedd gyfres o reoliadau diwygio bod yn rhaid i ymarfer corff fod yn 'lleol', yna dywedasoch, yn y canllawiau ategol, y byddai'n gamgymeriad ceisio diffinio 'lleol', gan y byddai hyn o reidrwydd yn wahanol yn y Gymru wledig i Gaerdydd, er i chi roi'r enghraifft bod Porthcawl, 30 milltir i ffwrdd, yn rhy bell o Gaerdydd. Pam felly ydych chi wedi gwneud tro pedol llwyr erbyn hyn ac wedi diffinio 'lleol' fel pum milltir? Efallai mai dyna'r safbwynt o Bontcanna, ond gyda'r awgrym o wrthwynebiad hwyr gan Aelodau Ceidwadol, a ydych chi'n cydnabod bod eich safbwynt wedi methu â sicrhau consensws, ac y bydd eich rheolau, pa un a honnir eu bod nhw'n gyfraith neu'n ganllawiau, yn dod yn fwyfwy aneffeithiol felly? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, mae'r pwynt cyntaf yng nghyfraniad yr Aelod yn un rhesymol. Pam mae ardaloedd cynghorau yng Nghymru ymhlith y rhai sydd wedi cael eu heffeithio fwyaf? Rwy'n credu bod nifer o resymau y gallem ni eu hawgrymu am hynny ar hyn o bryd. Mae'n bwysig iawn cofio bod y ffigurau hynny yn dibynnu i raddau helaeth ar faint o brofion sy'n cael eu cynnal. Y mwyaf o brofi a wneir, y mwyaf y byddwch chi'n eu darganfod, a bydd rhai mannau lle cynhaliwyd mwy o brofion ac felly mae nifer yr achosion yn edrych yn fwy, ond mewn gwirionedd, dim ond canlyniad gwahanol drefnau profi yw hynny. Ond yr hyn yr ydym ni'n ei wybod am y feirws yw ei fod yn ymosod ar fannau lle mae pobl yn hŷn, yn salach, yn dlotach ac yn byw'n agos at ei gilydd, ac mae Cymru wedi ei gorgynrychioli yn yr holl ffactorau hynny. A phan fydd y pethau hynny i gyd yn dod at ei gilydd, fel y maen nhw yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, yna mae'n debyg—. Efallai nad dyna'r esboniad cyfan, a bydd mwy y byddwn ni'n ei ddarganfod. Ond mae'n rhan o'r esboniad pam eich bod chi'n gweld rhai crynodiadau mewn cymunedau yng Nghymru a fyddai mewn tablau cynghrair eraill, yn yr un math o leoedd difreintiedig ac yn ysgwyddo baich y cyfnod o gyni cyllidol a hyrwyddwyd mor llon gan yr Aelod mewn rhan arall o'i fywyd gwleidyddol. Wel, rwy'n anghytuno'n llwyr ag ef ac rwy'n credu ei bod hi'n beryglus iddo ddechrau awgrymu i bobl yng Nghymru nad yw rheoliadau yn gyfraith briodol. Maen nhw yn gyfraith briodol; dyna gyfraith Cymru. Peidiwch â chael eich camarwain gan yr hyn y mae unrhyw un yn ei awgrymu i chi wrth feddwl nad ydyn nhw; maen nhw. Ac mae gwahaniaeth hawdd iawn rhwng rheoliadau a chanllawiau, ac nid yw'r Llywodraeth erioed wedi drysu pobl. Ceir pobl sydd wedi ceisio drysu pobl drwy ddweud bod y terfyn pum milltir yn rheol, ond rwyf i wedi bod yn eglur iawn bob amser, o'r cychwyn cyntaf, ei bod yn gyfarwyddyd bras, canllaw ydyw i bobl ei ddehongli yn eu daearyddiaeth lleol o ran yr hyn y gallai 'lleol' ei olygu iddyn nhw. Ac, fel yr eglurais wrth Paul Davies, un o'r brif ystyriaethau iddo oedd gwneud yn siŵr na fyddem ni'n cael rhaeadr enfawr o bobl o'r tu allan i ardaloedd llai poblog Cymru yn teithio i'r lleoedd hynny, lle mae coronafeirws wedi bod, diolch byth, mewn cylchrediad cymedrol iawn, ac na fyddem ni'n gweld ymchwydd o coronafeirws yn y mannau hynny am fod pobl wedi teithio o'u hardaloedd eu hunain ac wedi dod â'r feirws gyda nhw. Llywydd, ymhell iawn o newid a diwygio'n gyson, yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud yw cyflwyno newidiadau cymedrol iawn ar ddiwedd pob cyfnod o dair wythnos. Rydym ni'n dilyn y dull mwyaf gofalus a phwyllog. Rydym ni'n datblygu'n araf repertoire newydd o bethau y gall pobl eu gwneud yn ddiogel yng nghyd-destun y coronafeirws. Rwy'n credu bod hynny'n cyd-fynd yn llwyr â'r hyn y mae pobl yng Nghymru eisiau i ni ei wneud, ymhell o'r math o awgrym yr wyf i'n credu y mae'r Aelod yn ei wneud bod pobl yng Nghymru yn ysu i gael mynd ymhellach a gwneud mwy. Yr hyn yr ydym ni'n ei ddarganfod yw bod pobl yng Nghymru yn deall nad yw'r feirws hwn wedi'i drechu o bell ffordd. Teimlir ei effaith bob dydd yn y marwolaethau y mae'n rhaid i ni eu cyhoeddi bob un dydd o'i herwydd, ac yn ogystal â'r ffaith mai ein dull o gymryd un cam ar y tro, gan ei wneud yn ofalus ac yn bwyllog, a datblygu pethau mewn ffordd sy'n parhau i roi hyder i bobl yng Nghymru mai eu hiechyd a'u lles sydd yn flaenllaw ym mhopeth yr ydym ni'n ei wneud, mae'n cyd-fynd yn rymus iawn â'r ffordd y byddai pobl yng Nghymru yn hoffi gweld eu Llywodraeth yn gweithredu. Mick Antoniw AC: Prif Weinidog, un o ganlyniadau'r pandemig yw'r effaith ar y diwydiant awyrennau. Mae pob cyflogwr yn y diwydiant hwn wedi ymgysylltu yn adeiladol ag undebau llafur ar ran eu gweithluoedd i reoli'r amgylchiadau anodd iawn hyn, i ddiogelu swyddi ac i ddiogelu sgiliau ar gyfer y dyfodol. Fodd bynnag, yn anffodus, ceir un cyflogwr sydd wedi cael ei ddisgrifio fel 'ysglyfaethwr masnachol', nad yw wedi ymgysylltu yn y ffordd arbennig hon, sef British Airways. Byddwch yn ymwybodol o hyn, Prif Weinidog, eu bod nhw'n cyflogi 42,000 o bobl ledled y DU, ac maen nhw'n cynnig oddeutu 12,000 o ddiswyddiadau o leiaf. Ond wrth geisio cyflawni hyn, eu bwriad, i bob pwrpas, yw gwneud y gweithlu cyfan yn ddi-waith, dileu 12,000 o swyddi, a chael 30,000 o bobl a fydd wedyn yn cael eu cyflogi ar delerau ac amodau a allai olygu eu bod nhw'n cael 60 neu 70 y cant yn llai o gyflog nag y maen nhw'n ei gael ar hyn o bryd. Nawr, mae'n ymddangos bod hwn yn gyfle—. Yr hyn y mae British Airways yn ei wneud yw ceisio achub mantais economaidd ar gefn COVID. Yn fy etholaeth i, bydd British Avionics yn cau a chynigir y bydd 130 o 186 o swyddi yn cael eu colli, ceir 30 o 169 o swyddi yn Islwyn, ac yng ngwaith cynnal a chadw British Airways Caerdydd ym Maes Awyr Caerdydd, 239 allan o 546. Felly, 400 o swyddi i gyd. Nawr, mae'r cwmni'n gwybod ei bod hi'n amhosibl negodi ac ymgynghori dros 40,000 o ddiswyddiadau posibl gyda 40,000 o aelodau mewn 45 diwrnod. Mae'r undeb wedi mynnu mai'r peth priodol a'r peth moesol a moesegol i'w wneud yw tynnu'r hysbysiadau hynny yn ôl. Nawr, bydd hyn yn destun cwestiwn brys yn San Steffan heddiw, ond a gaf i ofyn y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi ei chefnogaeth lawn i undeb Unite a'r holl weithwyr hynny yn ne Cymru sy'n ddibynnol ar y swyddi hyn, a phawb ym Maes Awyr Caerdydd, oherwydd y diwydiannau cysylltiedig, i'w diogelu nhw a chael British Airways i wneud y peth iawn—i sefyll yn gadarn a negodi gyda'i weithwyr mewn ffordd briodol a moesegol i achub swyddi a sgiliau ar gyfer y dyfodol? Prif Weinidog, a wnewch chi roi'r gefnogaeth honno a phwyso ar Lywodraeth y DU i wneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi'r sector hedfan? Mark Drakeford AC: Llywydd, a gaf i ddechrau drwy gytuno â Mick Antoniw am bwysigrwydd y sector hedfan yma yng Nghymru? Mae gan y sector rai o'r cyflogwyr gorau yng Nghymru—cyflogwyr fel Airbus, gyda hanes mor gryf o gydweithio ag undebau llafur yn y gyd-fenter, sy'n gwneud llwyddiant o'r cwmnïau hynny. Gwn fod fy nghyd-Weinidog, Ken Skates, wedi ysgrifennu yn uniongyrchol at y cwmni arall y mae Mick Antoniw wedi tynnu sylw ato, yn eu hannog nhw i dynnu'n ôl y mesurau y maen nhw wedi'u cynnig ar hyn o bryd i gydweithio â'r undeb llafur sy'n cynrychioli gweithwyr yn y fan honno. Mae cwmnïau doeth yn gwybod nad cydymffurfio'n syml â llythyren y ddeddf yn unig yw'r ffordd orau o lunio dyfodol ar gyfer y cwmnïau hynny sy'n dod â'u gweithlu gyda nhw—eu hased pwysicaf un. Yn y termau hynny y mae Gweinidog yr economi wedi ysgrifennu at y cwmni ac rwy'n annog Llywodraeth y DU i ddefnyddio pa bynnag bwerau perswadio sydd ganddyn nhw hefyd i wneud yn siŵr nad dim ond llythyren y ddeddf ond ysbryd a moeseg y ddeddf, fel y dywedodd Mick Antoniw, y cydymffurfir â nhw yma hefyd. Lynne Neagle AC: Prif Weinidog, roeddwn i'n falch o'ch clywed chi'n cadarnhau unwaith eto nad yw'r 5 milltir y cyfeiriwyd atyn nhw'n gynharach yn rheol fel y cyfryw, oherwydd nid dim ond mewn ardaloedd gwledig y mae hynny'n broblem, fel y gwyddoch; mae hefyd yn broblem mewn llawer o gymunedau yn y Cymoedd, gan gynnwys fy un i, lle, pe glynwyd at hynny'n llym, byddai'n golygu na allai rhywun fynd, er enghraifft, o Gwmbrân i Flaenafon i weld eu teulu, felly rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig iawn. Roeddwn i eisiau gofyn am gadw pellter cymdeithasol, oherwydd rwy'n pryderu, wrth i ni fynd drwy'r cyfyngiadau symud hyn, bod erydiad cyffredinol i ymateb pobl i'r rheoliadau cadw pellter cymdeithasol yn gyffredinol. Rwy'n ei weld mewn archfarchnadoedd, rwy'n ei glywed gan etholwyr o ran cyflogwyr, felly hoffwn ofyn i chi beth arall y gallwn ni ei wneud i ail-bwysleisio i'r cyhoedd nad ydym ni'n agos o fod allan o berygl o ran y pandemig hwn eto, a bod y materion hyn, y rheolau hyn, yn wirioneddol bwysig, a bod yn rhaid i bobl barhau i'w dilyn. Diolch. Mark Drakeford AC: Diolch, Llywydd, ac a gaf i ddiolch i Lynne Neagle am wneud y pwynt yna eto? Rwy'n credu bod y mwyafrif llethol o bobl yng Nghymru yn dal eisiau gwneud y peth iawn ac yn dal i wneud eu gorau i wneud y peth iawn, ac mae'n rhaid i ni beidio â gweld hynny'n dechrau treulio ar yr ymylon mewn ffordd a fyddai'n arwain at fwy o bobl ddim yn cydymffurfio â'r hyn yr ydym ni'n gofyn iddyn nhw ei wneud, oherwydd nid ydym ni'n gofyn i bobl gadw pellter cymdeithasol fel rhyw faith o gosb; rydym ni'n gofyn i bobl ei wneud gan ei fod wir yn eu diogelu ac yn diogelu pobl eraill. Ac mae hwn yn glefyd ffyrnig; mae'n byw am oriau ac oriau ar arwynebau. Gallwch fod yn dioddef o goronafeirws eich hun heb wybod ei fod yn digwydd i chi ac rydych chi'n heintus i bobl eraill, felly efallai y byddwch chi'n teimlo'n iawn ac yn meddwl, 'Wel, beth yw'r niwed i mi fod yn nes at rywun?' Mewn gwirionedd, gallech chi fod yn gwneud llawer iawn o niwed yn anfwriadol, ond gyda chanlyniadau sylweddol iawn, iawn. Felly, mae gennym ni i gyd waith i'w wneud, mae gen i yn sicr a chan y Llywodraeth, ond mae gennym ni i gyd, o ran atgoffa pobl bod y pethau syml yr ydym ni'n gofyn i bobl eu gwneud—cadw pellter o 2m, sicrhau hylendid dwylo, yr holl bethau syml hynny. Gyda'i gilydd ac yn gronnol, dyma'r pethau sy'n gwneud gwahaniaeth. Maen nhw wir yn achub bywydau ac mae angen i bobl barhau i wneud y pethau hynny, oherwydd fel y dywedais mewn ateb cynharach, bob dydd, mae gennym ni'r ddyletswydd drist ofnadwy o orfod cyhoeddi'r nifer ddiweddaraf o bobl sydd wedi marw o'r feirws hwn mewn gwahanol rannau o Gymru a gallwn ni i gyd wneud mwy i helpu i hynny beidio â digwydd. Suzy Davies. Nid yw'r meicroffon yn gweithio i Suzy. A allwch chi roi cynnig arall arni, Suzy? Iawn, galwaf ar Mohammad Asghar ac fe ddown ni yn ôl atoch chi, Suzy. Mohammad Asghar. Mohammad Asghar (Oscar) AC: Diolch, Llywydd, a diolch i chithau, Prif Weinidog, am eich datganiad. Mae nifer o bractisau deintyddol yn fy rhanbarth i wedi cysylltu â mi, sy'n poeni am yr amserlen a gynigiwyd gan Brif Swyddog Deintyddol Cymru i ailgyflwyno gofal deintyddol. Y cynnig yw ailddechrau mwy o ofal brys wyneb yn wyneb o 1 Gorffennaf ymlaen, ac yna archwiliadau rheolaidd ym mis Hydref a gweithdrefnau sy'n cynhyrchu aerosol, fel llenwadau a choronau, o fis Ionawr 2021. Deintyddiaeth breifat yw mwy na hanner y gwasanaethau deintyddol yng Nghymru, ac mae nifer y practisau sy'n gweithredu 100 y cant o dan y GIG yn isel iawn. Mae eu hyfywedd ariannol yn dibynnu naill ai'n rhannol neu'n gyfan gwbl ar daliadau a dderbynnir gan gleifion sy'n cael gweithdrefnau sy'n cynhyrchu aerosol. Mae gwledydd eraill yn caniatáu i ddeintyddion ddilyn gweithdrefnau sy'n cynhyrchu aerosol drwy ddefnyddio masgiau anadlu a chyfarpar diogelu personol arall. Prif Weinidog, a wnewch chi edrych eto ar yr amserlen a'r hyn y mae gwledydd eraill yn ei wneud fel mater o frys i sicrhau hyfywedd ariannol practisau deintyddol yng Nghymru? Ac, yn ail, soniasoch yn gynharach am salwch ymhlith pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru yn ystod y pandemig hwn. Hoffwn wybod faint o bobl, o'r 2,122 o'r rhai sydd wedi marw o'r salwch y soniasoch amdanyn nhw'n gynharach, sy'n dod o'r gymuned pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig mewn gwirionedd, sydd, yn ôl a ddeallaf, yn nifer eithaf uchel, a pha gamau ydych chi'n mynd i'w cymryd, ar lefel eich Llywodraeth, i sicrhau ein bod ni'n ei atal yn y dyfodol. Diolch. Mark Drakeford AC: Diolch, Llywydd. A gaf i ateb yr ail o gwestiynau Mohammad Asghar yn gyntaf? Nid yw'r ffigur hwnnw gen i o fy mlaen, ond bydd gennym ni, ac rwy'n hapus, wrth gwrs, i rannu hwnnw gydag ef. Gwn y bydd wedi bod yn cymryd diddordeb yn y grŵp a gadeirir gan y Barnwr Ray Singh, a gwn ei fod yn adnabod yn bersonol yr Athro Keshav Singhal a chlinigwyr blaenllaw eraill sydd wedi cyfrannu at yr offeryn hunanasesu yr ydym ni'n ei ddefnyddio yng Nghymru. Felly, hoffwn roi sicrwydd iddo ein bod ni'n manteisio ar yr holl arbenigedd y gallwn ni ddod o hyd iddo o'r gymuned yng Nghymru, yn ogystal â thu hwnt, i geisio gwneud yn siŵr bod gennym ni fesurau ar waith i ddiogelu pobl o gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn briodol rhag yr effaith ychwanegol y mae'r clefyd hwn yn ei chael ar bobl o'r cymunedau pwysig hynny. O ran y pwynt cyntaf am bractisau deintyddol, byddwn yn cyhoeddi, Llywydd, y llythyr y mae'r prif swyddog deintyddol wedi'i ddarparu i bractisau deintyddol yng Nghymru, gan nodi ei chynllun tri cham ar gyfer ailagor deintyddiaeth yng Nghymru. Gwn y bydd hi'n parhau i drafod gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain a buddiannau pwysig eraill yn y proffesiwn deintyddol yng Nghymru. Wrth gwrs, hoffem weld mwy o weithgarwch deintyddol ar gael—mae'n rhan bwysig iawn o'r hyn y mae darpariaeth gofal sylfaenol yng Nghymru yn ei gynnig i ddinasyddion Cymru. Ond ceir rhai heriau penodol o ran ymarfer deintyddol. Ni allwch chi ymarfer deintyddiaeth o bellter o 2m, ac mae risg uchel iawn yn gysylltiedig â gweithdrefnau aerosol yn arbennig o ran trosglwyddo'r feirws o gleifion i ddeintyddion ac o ddeintyddion i gleifion. Felly, bydd y prif swyddog deintyddol yn parhau i fod yn y trafodaethau hynny. Byddwn yn cyhoeddi ei chyngor. Rydym ni eisiau i fwy o ddeintyddiaeth ddigwydd yng Nghymru, ond mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n ei wneud mewn ffordd sy'n diogelu iechyd a lles ymarferwyr deintyddol a'u staff, yn ogystal â'r bobl y maen nhw'n eu gwasanaethu. Delyth Jewell AC: Prif Weinidog, cyhoeddodd eich Llywodraeth ddydd Sul bod y canllawiau i bobl y dywedwyd wrthyn nhw am warchod yn newid y diwrnod canlynol. Rwy'n ymwybodol bod llawer o bryder ymhlith pobl y dywedwyd wrthyn nhw i warchod i ddiogelu eu bywydau bod y newidiadau hyn wedi eu cyflwyno heb fawr o rybudd a phan fo'r gyfradd R yn dal i fod yn uchel. Y bore yma, byddwch wedi cael llythyr gan 32 o elusennau iechyd sy'n weithredol yng Nghymru, yn amlinellu eu pryderon dwys am y newidiadau hyn. Maen nhw eisiau esboniad am y rhesymeg dros y newid sydyn o'r canllawiau presennol. Maen nhw'n gofyn i'r rhai sy'n gwarchod gael eu hysbysu'n uniongyrchol am newidiadau yn hytrach na darganfod trwy ddatganiad i'r wasg, ac maen nhw eisiau i'r sector gael ei hysbysu am newidiadau ymlaen llaw yn y dyfodol, fel ei fod yn gallu paratoi. Maen nhw'n gofyn i chi gyfarfod â nhw i drafod eu pryderon. Prif Weinidog, a wnewch chi hynny? Mark Drakeford AC: Llywydd, bydd y prif swyddog meddygol yn ysgrifennu at bawb sydd ar y rhestr a warchodir yr wythnos hon yng Nghymru, gan nodi ein cyngor iddyn nhw ar gyfer y cyfnod sydd i ddod. Gadewch i ni fod yn eglur mai cyngor yw hwn. Nid oes neb yn cyfarwyddo pobl sy'n gwarchod i wneud unrhyw beth nad ydyn nhw'n teimlo'n gyfforddus yn ei wneud. Y cyngor meddygol gan y pedwar prif swyddog meddygol, ar yr adeg hon o'r flwyddyn, pan fo'r feirws yn llawer iawn llai arwyddocaol yn yr awyr agored, yw y dylem ni fod wedi cynnig y cyfle i bob a warchodir a oedd eisiau mynd allan mewn amodau wedi'u rheoli'n ofalus—i roi gwybod iddyn nhw ei bod hi'n ddiogel iddyn nhw wneud hynny os ydyn nhw'n dewis gwneud hynny. Ond nid oes neb yn mynnu bod unrhyw berson sy'n gwarchod yn gwneud dim nad yw'n teimlo'n gyfforddus yn ei wneud. Bydd y prif swyddog meddygol yn nodi ei gyngor diweddaraf mewn llythyr a fydd yn mynd at bob person a warchodir yng Nghymru. Maen nhw'n sicr yn dal i fod ar frig ein rhestr o flaenoriaethau, i wneud yn siŵr ein bod ni'n parhau i gynnig y cyngor gorau iddyn nhw fel eu bod nhw'n cadw'n ddiogel ac yn cadw'n iach. Ni ddylai neb anghofio bod mwy nag un niwed o'r coronafeirws, a bod cael eich cyfyngu i'ch cartref heb ddim gobaith o allu ei adael yn dod â niwed gwirioneddol hefyd i synnwyr pobl o les a rhannau eraill o'u hiechyd. Dyna pam y daeth y pedwar prif swyddog meddygol i'r casgliad a wnaethant, nid oherwydd bod unrhyw un eisiau gwneud unrhyw beth a fyddai'n niweidio pobl a warchodir—nage wrth gwrs. Ond y cyngor iddyn nhw yw os ydyn nhw'n teimlo'n hyderus ac yn barod i wneud hynny, eu bod nhw'n cael gwneud ymarfer corff yn yr awyr agored bellach a chyfarfod ag un aelwyd arall yn yr awyr agored, o dan yr amodau iawn, cyn belled â bod hynny'n rhywbeth y bydden nhw eu hunain yn dewis ei wneud. Mike Hedges AC: Prif Weinidog, fe wnaethoch gyhoeddi ar 1 Mai y byddai Llywodraeth Cymru yn ariannu taliad ychwanegol o £500 i weithwyr gofal cymdeithasol mewn cartrefi gofal a gweithwyr gofal cartref ledled Cymru: 'Diben y taliad hwn yw rhoi cydnabyddiaeth bellach o’n gwerthfawrogiad am bopeth' y mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn ei wneud i 'gefnogi ein GIG a’r gymdeithas ehangach.' Dyma fy nghwestiynau i: pryd y bydd yn cael ei dalu? Sut y bydd yn cael ei dalu? Ai taliad untro ydyw neu a fydd yn cael ei ychwanegu at gyflogau? A fydd yn cael ei drin fel cyflog ac yn cael ei drethu, neu'n cael ei drin fel rhodd a ddim yn cael ei drethu? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, fe fydd atebion i'r holl gwestiynau yna, ond roedd yr atebion hynny yn amodol ar ateb gan Lywodraeth y DU i'n ple iddyn nhw wneud y taliad hwn yn rhydd o dreth ac yn rhydd o gyfraniadau yswiriant gwladol. Siomedig iawn oedd cael ymateb gan yr Ysgrifennydd Ariannol i'r Trysorlys ddydd Llun yn gwrthod gwneud hynny. Mae hynny, wrth gwrs, yn golygu bellach y bydd yn rhaid i ni roi ystyriaeth i amrywiaeth eang o faterion i geisio sicrhau bod effaith y penderfyniad hwnnw gan y Trysorlys cyn lleied â phosibl. Nid yw'n bosibl ateb holl gwestiynau Mike Hedges y bore yma, gan ein bod ni wedi gobeithio y byddai ateb gwahanol a llawer gwell. Roeddem ni eisiau i'n £500 fynd yn syth i'r bobl yr ydym ni wedi eu cydnabod am y cyfraniad y maen nhw wedi ei wneud, oherwydd maen nhw ymhlith y bobl sy'n cael y cyflog lleiaf yn ein gweithlu. Nid oeddem ni'n gofyn i'r Trysorlys am arian, dim ond gofyn yr oeddem ni iddyn nhw beidio â dwyn yr arian yr oedd Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i'r bobl hynny oddi wrthyn nhw. Nawr, bydd swm sylweddol o'r arian y mae Llywodraeth Cymru yn dal i fynd i'w ddarparu i'r gweithwyr gofal cymdeithasol hynny yn y pen draw nid yn eu pocedi nhw ond ym mhocedi'r Trysorlys. Bydd yn rhaid i ni ailystyried nifer fawr o'r cwestiynau y mae Mike Hedges wedi eu codi yn gwbl briodol i geisio dod o hyd i ffyrdd o liniaru'r penderfyniad hwnnw, ond yr ateb gwirioneddol yw na ddylai hyn fod yn destun treth ac na ddylai fod yn destun yswiriant gwladol, ac wedyn ni fyddai'n rhaid i ni boeni am ddod o hyd i ffyrdd o geisio gwneud yr effaith honno'n llai sylweddol. Jenny Rathbone AC: Dim ond i ymateb i'r hyn a ddywedasoch yn gynharach am ddeintyddiaeth, ar ôl i ni weld y cynllun tri cham y bydd y prif swyddog meddygol yn ei gyhoeddi, rwy'n gobeithio ein bod ni'n mynd i allu cyflymu'r amserlen ar gyfer ailddechrau deintyddiaeth fodern lle'r ydym ni'n drilio ac yn llenwi pydredd dannedd yn hytrach na gorfod tynnu'r dant, fel sy'n digwydd ar hyn o bryd, na ellir byth cael un yn ei le yn amlwg, mae hyn yn bwysig iawn i iechyd cyffredinol pobl. Fel arall, byddwn i eisiau edrych ar fusnesau bach sy'n gwbl ddibynnol ar allu gweithredu'n lleol, ac yn amlwg mae enillion eu busnesau yn aros yn lleol hefyd—yn enwedig trin gwallt. Nid oes neb yn mynd i farw o beidio â chael torri ei wallt, ond i bobl oedrannus yn arbennig, gall yr achlysur cymdeithasol hwnnw o fynd at y triniwr gwallt fod yn rhan bwysig iawn o'u hymgysylltiad â'r gymuned. Er enghraifft, mae gan siop trin gwallt Headmistress, sy'n cael ei rhedeg gan Alison Corria yn y Maelfa yn Llanedeyrn ers dros 40 o flynyddoedd, nifer fawr iawn o gwsmeriaid oedrannus. Mae'n awyddus iawn i ailgychwyn cyn gynted ag y bydd ganddi ganiatâd i wneud hynny, ac mae wedi gallu cyflwyno'r holl gyfyngiadau y mae canllawiau'r NHBF yn eu nodi, y gwn fod y Llywodraeth wedi bod yn eu trafod gyda nhw. Felly— Mae angen i chi ddod at gwestiwn nawr, Jenny. Jenny Rathbone AC: Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a allech chi ddweud wrthym ni, os mai dim ond un newid y byddwn ni'n gallu ei wneud ar y tro, fel yr argymhellir gan Sefydliad Iechyd y Byd a SAGE, a allwn ni wir fforddio i wneud unrhyw newid ar ôl pob cyfnod o dair wythnos yn unig? Mark Drakeford AC: Llywydd, diolch. Yr ateb i'r cwestiwn ar y diwedd yw nad oes yn rhaid i ni aros tan ddiwedd cyfnod o dair wythnos i wneud newid, ac rydym ni wedi cael enghreifftiau yn ystod yr argyfwng lle'r ydym ni wedi gwneud newidiadau rhwng cyfnodau o dair wythnos lle bu achos cymhellol dros wneud hynny. Llywydd, hoffwn gytuno a chydnabod yr hyn y mae Jenny Rathbone wedi ei ddweud am bwysigrwydd ehangach trin gwallt. Pan mai fi oedd y Gweinidog iechyd, rwy'n cofio'n eglur feddyg teulu mewn rhan wledig o Gymru yn dweud wrthyf i bod ei ffynhonnell orau o wybodaeth am bobl sy'n dechrau dioddef o ddementia yn dod gan siop trin gwallt leol yn ei gymuned, gan ei bod hi'n rhywun a oedd wedi adnabod ei chleientiaid dros 30 mlynedd. Roedd hi'n gweld pan nad oedd pobl a oedd yn dod i'w siop mor siŵr o'u pethau ag yr oedden nhw'n arfer bod, a gallai wneud ryw fath atgyfeiriad anffurfiol cynnar at y gwasanaeth dementia yr oedd ef yn ei redeg yn ei gymuned. Felly, rwy'n deall yn llwyr yr hyn yr oedd Jenny yn ei olygu pan roedd hi'n sôn am y ffaith ei fod yn fwy na dim ond torri gwallt. Ond byddwn yn ystyried trin gwallt ochr yn ochr â phopeth arall. Un o'r anawsterau gwirioneddol, Llywydd, y mae'n rhaid i mi geisio ei egluro i bobl yw bod cymaint o agweddau ar fywyd lle gallwch chi wneud dadl unigol dros eu hailagor, ac ar eu pennau eu hunain mae pobl yn gwneud y ddadl na fyddai hyn yn ychwanegu'n sylweddol at y risg o coronafeirws yn cylchredeg—bydd yn fân ychwanegiad ymylol yn unig. Y broblem i'r Llywodraeth yw bod yn rhaid i chi adio'r holl ychwanegiadau ymylol hynny at ei gilydd, ac yn eithaf buan mae'r holl ychwanegiadau ymylol hynny yn diweddu fel bod yn risg eithaf sylweddol. Mae'n rhaid i ni bwyso a mesur, nid dim ond practisau deintyddol neu drin gwallt neu chwarae tenis neu'r holl bethau y mae pobl, yn ddealladwy, yn ymddiddori ynddyn nhw, ac yna gwneud penderfyniad cyffredinol. Byddwn ni'n gwneud hynny gyda deintyddiaeth hefyd. Gwn, fel y dywedais wrth Mohammad Asghar, y bydd y prif swyddog deintyddol yn ei thrafodaethau gyda'r proffesiwn eisiau ailgyflwyno pethau cyn gynted a phosibl, ac wrth gwrs mae ei phwyslais gyda'r proffesiwn ar ddeintyddiaeth ataliol. Rydym ni eisiau i ddeintyddion beidio â gorfod drilio na llenwi hyd yn oed, heb sôn am dynnu. Rydym ni eisiau iddyn nhw weithio fel y mae'r contract newydd yn eu gwobrwyo: am wneud yn siŵr bod pobl ifanc yn tyfu i fyny gan ofalu am eu dannedd mewn ffordd sy'n golygu nad oes angen y math hwnnw o ddeintyddiaeth arnyn nhw, ac eithrio yn y ffordd leiaf posibl. Suzy Davies AC: Prif Weinidog, dechreuasoch y sesiwn hon drwy ddweud ychydig wrthym ni y dull a ddefnyddiwyd gennych chi i gyflwyno rheolau a rheoliadau, a hoffwn godi'r pwynt y gall achosion mynych o dorri rheoliadau coronafeirws, o 22 Mai, arwain at ddirwy o £1,920. Cyflwynwyd hynny o dan y pedwerydd gwelliant i'r rheoliadau cyfyngiadau coronafeirws, drwy'r weithdrefn a wnaed yn gadarnhaol, sy'n rhoi 28 diwrnod i'r Senedd hon gadarnhau'r gyfraith honno ai peidio. Nawr, roedd y rheoliadau hyn yn barod cyn toriad y Sulgwyn, cyn i'r cloc deddfwriaeth stopio. Fel y dywedasoch yn gynharach yn y sesiwn hon, deddfau yw'r rhain—deddfau a wneir gan y Weithrediaeth, nid y ddeddfwrfa—ac maen nhw'n gorfodi cosb. Felly, pam nad ydym ni'n eu trafod nhw heddiw yn hytrach na 17 Mehefin, ychydig yn llai na mis ar ôl iddyn nhw ddod i rym fel deddf a wnaed gan y Llywodraeth? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, byddan nhw'n cael eu trafod yn unol â'r rheolau sy'n bodoli ar gyfer y pethau hynny. Dydyn ni ddim yn torri'r terfynau hynny. Nid wyf i'n ceisio bychanu'r pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud; mae'n bwysig iawn. Rwy'n cytuno'n llwyr â hi mai cyfrifoldeb y ddeddfwrfa yw cymeradwyo neu beidio â chymeradwyo'r newidiadau y mae'r Llywodraeth yn eu cynnig, ac mae'n bwysig iawn bod y ddeddfwrfa'n cael y cyfle hwnnw. Ond rydym ni yn cynnig y cyfle hwnnw. Roeddem ni eisiau dod â phecyn o fesurau at ei gilydd fel y gallai'r Senedd edrych arnyn nhw yn y ffordd gynhwysfawr honno, gan fod dewisiadau y mae'n rhaid eu gwneud, ac, yn union fel y dywedais i wrth Jenny Rathbone mai effaith gronnol gwahanol newidiadau y mae'n rhaid i chi feddwl amdanyn nhw, mewn rhai ffyrdd, effaith gronnol yr holl newidiadau i'r gyfraith y bydd gan Aelodau'r Cynulliad ddiddordeb ynddyn nhw hefyd. Felly, nid gydag unrhyw fwriad o beidio â chydymffurfio â'r gofyniad angenrheidiol a phwysig i Aelodau'r Cynulliad gael y gair olaf yn y pethau hyn yr ydym ni wedi cynnig yr amserlen yr ydym wedi ei chynnig; mae er mwyn dod â chyfres o newidiadau yr ydym ni'n eu cynnig ynghyd, gan alluogi Aelodau'r Cynulliad i'w gweld gyda'i gilydd a phenderfynu a ydyn nhw eisiau eu cefnogi nhw ai peidio, ar sail cyfanrwydd yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei gynnig. Alun Davies. Alun Davies AC: Rwy'n ddiolchgar i chi, Llywydd. Prif Weinidog, mae mwyafrif llethol y bobl ym Mlaenau Gwent yn gwbl gefnogol o'r dull yr ydych chi wedi ei fabwysiadu ac mae Llywodraeth Cymru wedi ei fabwysiadu dros y misoedd diwethaf, ac maen nhw'n cydnabod pwysigrwydd parhau â dull gofalus iawn. Mae gen i ddiddordeb mewn deall sut yr ydych chi'n gweld hyn yn symud ymlaen. Dywedasoch mewn cynhadledd i'r wasg ei bod hi'n bosibl, gyda'r system olrhain a phrofi ar waith erbyn hyn, y bydd cyfyngiadau symud lleol lle gallai fod achosion lleol o ran y clefyd yn y dyfodol. Tybed a allech chi egluro sut yr ydych chi'n gweld hynny'n gweithio ac a ydych chi'n gweld y gallu i wahanol reolau gael eu gweithredu mewn gwahanol rannau o'r wlad. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth a fydd o ddiddordeb i lawer o bobl. A hefyd, wrth i ni symud ymlaen dros yr ychydig fisoedd hyn, rydych chi wedi penodi Jeremy Miles i edrych ar adferiad o COVID ac o effaith COVID. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwynt a wnaeth Mick Antoniw yn gynharach yn y sesiwn hon am effaith colli swyddi yn y sector hedfan, ond rydym ni'n gwybod y bydd yr effaith economaidd gyffredinol yn cael ei theimlo fwyaf mewn cymunedau fel Blaenau Gwent. Sut ydych chi'n gweld y gwaith y mae Jeremy yn ei wneud er mwyn mynd i'r afael â'r materion hynny o effaith economaidd COVID? Rydym ni wedi cael cefnogaeth wych gan y cyhoedd i gadw pobl yn ddiogel drwy'r haint hwn. Nawr, sut yr ydym ni'n parhau i gadw pobl yn ddiogel o ran cyflogaeth a swyddi a'r economi wrth i ni symud ymlaen i adferiad? Mark Drakeford AC: Llywydd, a gaf i ddiolch i Alun Davies am y cwestiynau gwirioneddol bwysig yna? Bydd fy nghyd-Weinidog, Vaughan Gething, yn rhoi rhagor o fanylion am gyflwyno'r broses profi, olrhain a diogelu yn ystod rhan gyntaf yr wythnos hon, ac mae yn rhoi i ni—ynghyd â'r Gyd-ganolfan Bioddiogelwch y gobeithiwn fod yn aelodau ohoni, bydd yn rhoi mwy o wybodaeth fanwl iawn a lleol i ni am achosion o coronafeirws. Ac mae'n ddigon posibl mai'r ffordd orau yn y dyfodol o geisio gwneud yn siŵr nad yw coronafeirws yn lledaenu unwaith eto fydd cael mwy o weithredu lleol. Mewn rheolaethau heintiau iechyd cyhoeddus arferol, dyna'n union y byddech chi'n ei weld. Mewn achosion llawer llai o'r frech goch neu rywbeth fel yna, gweithredu lleol fyddai'n cael ei roi ar waith. Nid yw'n sicr o fod fel hynny. Os oes camau'n cael eu cymryd mewn mannau eraill sy'n arwain at ymchwydd sydyn a llawer mwy cyffredinol i coronafeirws, yna ni allwn ddiystyru'r posibilrwydd y gallai mesurau mwy sylweddol ar raddfa ehangach ddal i fod yn angenrheidiol. Ond rydym ni eisiau osgoi hynny os gallwn ni yng Nghymru, ac un ffordd fydd defnyddio profi, olrhain a diogelu a ffynonellau eraill o wybodaeth i geisio mireinio ein hymateb mewn ardaloedd mwy lleol— Nick Ramsay—o, mae'n ddrwg gen i, Prif Weinidog. Mark Drakeford AC: Yn gyflym iawn, oherwydd fe gododd Alun Davies gwestiynau pwysig iawn am adferiad a bywyd y tu hwnt i coronafeirws. Argyfwng iechyd y cyhoedd yw hwn, ond mae'n argyfwng economaidd hefyd. Mae'n rhaid i ni lywio ein ffordd drwy'r misoedd sydd i ddod a pharhau i wneud y pethau hynny sy'n ymateb i'r argyfwng uniongyrchol, ond, ar ôl hynny, bydd yn rhaid i ni feddwl o ddifrif iawn am sut yr ydym ni'n llunio dyfodol i bobl y tarfwyd arnyn nhw gan effaith coronafeirws nid yn unig yn ystod y misoedd hynny, ond am ymhell y tu hwnt i hynny, a dyna'r gwaith y mae Jeremy Miles yn ei arwain. Nick Ramsay AC: Prif Weinidog, os caf i eich holi am ddau faes, yn gyntaf, yn gryno, mae etholwr wedi cysylltu â mi sy'n pryderu, wrth i fusnesau ddod allan o'r cyfyngiadau symud, y gallai fod nifer o broblemau sydd wedi datblygu dros gyfnod hir o fusnesau ar gau, fel clefyd y llengfilwyr, er enghraifft, a allai greu problemau iechyd cyhoeddus dilynol. Felly, tybed a allech chi ddweud wrthyf i pa gyngor a chyfarwyddyd sy'n cael eu rhoi i fusnesau, neu a fydd yn cael eu rhoi i fusnesau, wrth i'r cyfyngiadau symud gael eu llacio ac i bobl ddychwelyd i'w gwaith ac i'w busnesau. Yn ail, a allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am ba gymorth sydd ar gael i wasanaethau iechyd meddwl ar yr adeg hon yn ystod y pandemig? Rydym ni'n gwybod bod y cyfyngiadau symud parhaus yn arwain at broblemau iechyd meddwl i lawer o bobl—llawer o'r rheini mewn teuluoedd, ond yn enwedig y rhai sy'n byw ar eu pennau eu hunain. Ac, wrth gwrs, yn y sefyllfaoedd gwaethaf gall hyn arwain at broblemau difrifol iawn, a hyd yn oed, mewn rhai achosion, hunanladdiad. Tybed pa ddata sy'n cael eu casglu i fonitro sefyllfa iechyd meddwl pobl a beth sy'n cael ei wneud i gynorthwyo'r gwasanaethau iechyd meddwl hynny, gan gynnwys atal hunanladdiad. Mark Drakeford AC: Llywydd, hoffwn ddiolch i Nick Ramsay am hynna. Felly, cyhoeddwyd cyngor a chyfarwyddyd i fusnesau gennym ni ddiwedd yr wythnos diwethaf, ar ôl i'r cyngor partneriaeth cymdeithasol cysgodol eu cymeradwyo, ac, fel y dywedais, roeddwn i'n falch iawn bod y cyngor hwnnw wedi cael ei gymeradwyo ar y cyd gan y TUC a'r CBI yng Nghymru. 'Diogelu Cymru yn y gwaith' yw enw'r canllawiau, a bydd rhagor o ganllawiau mwy penodol i sectorau yn cael eu cyhoeddi hefyd. Byddaf yn gwneud yn siŵr bod y pwynt penodol y mae Nick Ramsay wedi'i godi ynglŷn â phethau a allai fod wedi codi tra bod busnes wedi cau y mae angen i fusnesau feddwl amdanyn nhw a rhoi sylw iddyn nhw—byddaf yn mynd i ffwrdd ac yn gwneud ymholiad i wneud yn siŵr bod y cyngor yn ymdrin â'r mater pwysig hwnnw. O ran gwasanaethau iechyd meddwl, Llywydd, yn fwy cyffredinol, mae'r GIG yn ailddechrau rhai o'i weithgareddau mwy cyffredin. Mae nifer y gwelyau sy'n rhydd yn ein gwasanaeth iechyd wedi gostwng o 3,500 ar ei anterth i lawr i 1,700 heddiw, ac mae hynny oherwydd bod mwy o bobl yn cael eu derbyn i'r ysbyty am resymau nad ydyn nhw'n ymwneud â COVID. Rydym ni wedi cadw ein gwasanaethau iechyd meddwl i fynd drwy'r argyfwng hwn i gyd, ond rydym ni'n gallu ailafael mewn gwasanaethau iechyd meddwl mwy cyffredin hefyd ar hyn o bryd. Rwy'n credu, yr wythnos diwethaf, bod fy nghyd-Weinidogion Vaughan Gething a Kirsty Williams wedi cyhoeddi ar y cyd rhagor o gymorth ariannol i bobl ifanc, yn enwedig mewn teuluoedd. Gallaf roi sicrwydd i Nick Ramsay, ac Aelodau eraill sy'n cymryd diddordeb mawr ynddo, bod iechyd meddwl bob amser wedi bod yn agos at frig y pethau yr ydym ni wedi gofyn i'r gwasanaeth iechyd barhau i'w gwneud yn ystod yr argyfwng ac rydym ni'n awyddus dros ben i gryfhau'r ymateb yr ydym ni'n gallu ei gynnig i'r rhai y mae eu cyflyrau iechyd meddwl wedi eu gwaethygu yn benodol gan brofiad y salwch erchyll hwn. Carwyn Jones AC: Yn gyntaf oll, Prif Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i gyfleu nodyn o rybudd i'r bobl hynny a gaiff eu temtio i dorri eu gwallt eu hunain yn ystod cyfnod y coronafeirws, gan fy mod i'n enghraifft o hynny? Hoffwn esbonio hynny i'r Aelodau. Ond dau bwynt difrifol: yn gyntaf oll, tenis. Gofynnwyd i mi pam nad yw tennis wedi'i ganiatáu eto. Ac, yn ail, mae gen i, o fewn 5 milltir i'm hetholaeth, ddim llai nag wyth traeth, sy'n boblogaidd iawn. Fel arfer, byddai gan bump ohonyn nhw wasanaethau achubwyr bywyd Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub. Nawr, maen nhw'n ddiolchgar iawn nad ydyn nhw wedi gweld y math o anhrefn yr ydym ni wedi ei weld ar rai traethau yn Lloegr—Durdle Door, wrth gwrs, yn un enghraifft. Ond y cwestiwn sydd gennyf yw: beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wneud yn siŵr bod pobl yn ymwybodol o'r ffaith nad oes unrhyw wasanaethau achubwyr bywyd, er y byddai fel rheol ar yr adeg hon o'r flwyddyn? A pha wybodaeth sy'n cael ei rhoi i'r cyhoedd i wneud yn siŵr eu bod nhw'n ddiogel, o ystyried y ffaith nad yw'r ddarpariaeth honno ar gael? Mark Drakeford AC: Diolch yn fawr iawn i Carwyn Jones am ei gwestiynau. Bydd gwylwyr hyn, rwy'n meddwl, yn credu bod rhywfaint o gydgynllwynio rhyngddo ef a Jenny Rathbone yn ei chwestiwn yn annog ailagor siopau trin gwallt yng Nghymru. Ond, ar ei bwyntiau difrifol, o ran tenis, y pwynt yw hyn—rwyf wedi ei ateb unwaith yn barod, Llywydd—y gall tenis wneud ei achos ei hun o fod yn gallu cael ei ailagor, o gael ei drefnu mewn modd ddiogel. Mae rhai heriau mewn tenis nad yw pobl bob amser yn meddwl amdanyn nhw yn hynny o beth. Gall y feirws hwn fyw ar bêl tenis, a, phan fyddwch chi'n chwarae tenis, fel arfer, yn sicr, mae pêl yn dod dros y rhwyd ac mae person yn ei chodi ac mae'r person ar yr ochr arall i'r rhwyd yn codi'r un bêl hefyd. Felly, nid yw gwneud tenis yn ddiogel heb ei heriau, ond, hyd yn oed os gellir ei wneud yn ddiogel, yna wyddoch chi, gall gleidio gael ei wneud yn ddiogel, gall sgïo jet gael ei wneud yn ddiogel, gall bowlio gael ei wneud yn ddiogel. Bydd llawer o'r Aelodau yma wedi derbyn llythyrau gan rai â gwahanol ddiddordebau. Yr hyn y mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ei wneud yw cyfrifo'r holl risgiau ymylol ychwanegol hynny a phenderfynu a yw hynny, yn gyffredinol, yn risg yr ydym ni'n gallu ei chymryd ar hyn o bryd. Fe wnaethom ni benderfynu yr wythnos diwethaf y byddai'r holl hyblygrwydd sydd gennym, fwy neu lai, yn cael ei ddefnyddio i ganiatáu i deulu a chyfeillion weld ei gilydd unwaith eto, ac nid oeddem ni'n teimlo y gallem ni gymryd y risg ychwanegol o agor rhannau eraill o'n bywyd arferol. Byddwn yn parhau i ystyried tenis gyda chwaraeon awyr agored eraill yn rhan o'r adolygiad tair wythnos presennol. Llywydd, mae Carwyn Jones yn gwneud pwynt pwysig iawn am wasanaethau achubwyr bywyd a diogelwch ar draethau. Ar draws y Deyrnas Unedig gyfan, bydd Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub yn gweithredu dim ond 30 y cant o'u gwasanaeth arferol eleni oherwydd y cyfyngiadau y mae'r coronafeirws wedi eu hachosi, ac yng Nghymru mae hynny'n golygu mai dim ond ar 10 traeth yng Nghymru gyfan y bydd gofal gan achubwr bywyd, a hynny o 20 Mehefin hyd at ddechrau mis Medi. Felly, mae'n bwysig iawn i ddweud wrth bobl, hyd yn oed pobl sy'n byw yn lleol, hyd yn oed pobl sy'n gallu cyrraedd traeth o fewn 5 milltir, y bydd yn rhaid iddyn nhw gymryd gofal ychwanegol arbennig eleni, oherwydd ni fydd y cymorth a fyddai wedi bod yno fel arfer, yr oruchwyliaeth a fyddai wedi bod yno fel arfer i sicrhau bod pobl yn gallu defnyddio'r môr yn ddiogel, ar gael yng Nghymru yn y modd y bu o'r blaen, a bydd yn rhaid i bobl gymryd cyfrifoldeb uniongyrchol iawn dros sicrhau eu bod yn ystyried hynny yn eu cynlluniau, oherwydd bydd angen i ddiogelwch fod yn brif ystyriaeth iddyn nhw, ac ni fydd ganddyn nhw wasanaeth cwbl weithredol Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub o'r math yr ydym ni i gyd wedi bod mor falch o'i weld yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf. Diolch i'r Prif Weinidog. 3. Cwestiynau Amserol Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiwn amserol. Mae'r cwestiwn amserol i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog, ac, yn gofyn y cwestiwn amserol, dwi'n galw ar Neil McEvoy. Cydlyniant Cymunedol yn dilyn marwolaeth George Floyd Neil McEvoy AC: 1. Yng ngoleuni'r digwyddiadau yn yr Unol Daleithiau, ar draws y byd a phrotestiadau yng Nghymru yn dilyn marwolaeth George Floyd, a wnaiff Llywodraeth Cymru amlinellu ei pholisïau ar gydlyniant cymunedol? TQ441 Jane Hutt AC: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae marwolaeth George Floyd yn drychineb. Caiff effeithiau'r achos hwn eu teimlo yn fyd-eang, ac nid yw Cymru yn rhydd rhag hiliaeth. Mae'n rhaid i ni barhau i'w wynebu. Mae ein rhaglen cydraddoldeb a chynhwysiant a chydlyniad cymunedol yn ymgorffori ymgysylltiad agos â chymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig er mwyn meithrin cysylltiadau da a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol yng Nghymru. Neil McEvoy AC: Diolch, Gweinidog. Rwy'n eistedd yma heddiw fel y person croenliw cyntaf i'w eni yng Nghymrui gael ei ethol i'n Senedd genedlaethol. Mae fy mhrofiad bywyd wedi bod yr un fath â llawer o bobl â chroen brown neu ddu yng Nghymru: ymosodiadau treisgar, arestio ar gam, sarhad hiliol a stereoteipio negyddol gyda'r hiliaeth dosbarth canol hynod glyfar sy'n dod i'n rhan. Dim ond yr wythnos diwethaf, roedd yn rhaid i mi gywiro erthygl a gyhoeddwyd i ddweud wrthyn nhw fy mod i'n bodoli a bod AC croenliw cyntaf erioed Cymru ar y pryd, sef Dr Altaf Hussain, yn bodoli. Ac roedd BBC Cymru wrthi eto ddoe, wrth anwybyddu dau aelod croenliw o'r Senedd. Rwy'n credu ein bod ni wedi gwneud cynnydd, ond a ydym ni wedi gwneud y cynnydd yr ydym yn credu ein bod ni wedi'i wneud o ran dosbarth a hil? Mae angen i ochr broffesiynol y Senedd fod yn fwy cynrychioliadol o'r Gymru yr ydym yn byw ynddi. Yn ein Senedd ni mae'n anghyffredin gweld pobl croenliw nad ydyn nhw'n gweithio ym meysydd diogelwch, arlwyo neu lanhau. Efallai y dylem ni edrych yn ôl i'r dyfodol. Mae Welsh National Party yn credu y dylai fod gan Gymru gyfansoddiad gyda bil o hawliau, sy'n golygu y gallwn ni i gyd gytuno i fod yn Gymry a siarad am yr hyn sy'n ein huno. Does dim gwahaniaeth o ble'r ydym ni'n dod, gallwn ni i gyd ddewis bod yn Gymry. Dangosodd ein cynfamau a'n cyndadau yn Tiger Bay y ffordd o ddatblygu cymdeithas amlddiwylliannol, gariadus a chytûn yn ardal y dociau, lle cafodd fy mam ei magu. Felly, a wnewch chi gefnogi diffinio yn y gyfraith yr hyn y mae'n ei olygu i fod yn Gymro yng Nghymru drwy gyfansoddiad? Cyn gorffen, mae'n rhaid i mi ddweud bod llofruddiaeth George Floyd yn erchyll. Gorffwysed mewn hedd, a gobeithio mai ei etifeddiaeth fydd newid cymdeithasol ledled y byd. Diolch yn fawr. Jane Hutt AC: Diolch yn fawr, Neil McEvoy, a diolch i chi am ofyn y cwestiwn hwn ac am ei fynegi mewn ffordd mor uniongyrchol a phersonol, o ran eich profiadau eich hun a'r profiadau yr ydych chi wedi eu rhannu gyda ni heddiw. Caf fy atgoffa o'r ffaith ein bod, ychydig dros flwyddyn yn ôl, wedi cael ein dadl gyntaf ar hil yn y Cynulliad, ar fynd i'r afael â hiliaeth ledled Cymru. Yr hyn a oedd yn dda am y ddadl honno oedd ei bod yn ddadl drawsbleidiol. Fe wnaethom ni i gyd ymrwymo i'r ddadl honno. Ond yr hyn sy'n gwbl glir—ac mae'n gyfrifoldeb ar bob plaid wleidyddol, wrth gwrs, ond yn enwedig ar Lywodraeth Cymru ac, yn wir, o ran yr holl waith yr ydym ni wedi bod yn ei wneud yn ystod yr wythnosau diwethaf i fynd i'r afael ag effaith anghyfartal COVID-19 ar gymunedau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a'r rhai sydd ar y rheng flaen, nid yn unig yn y GIG, gofal cymdeithasol, ond hefyd llawer yn yr holl swyddi gweithwyr allweddol. Felly dyna pam yr wyf i'n falch iawn ein bod ni'n cael y drafodaeth hon heddiw, y cwestiwn gan arweinydd Plaid Cymru a'r ymateb gan y Prif Weinidog yn ei gwneud hi'n glir ein bod ni'n unedig o ran bod wedi ein harswydo gan farwolaeth ddychrynllyd George Floyd yr wythnos diwethaf. Rwyf hefyd yn ymwybodol iawn o'r ffaith bod Vaughan Gething wedi siarad fel y Gweinidog du cyntaf o unrhyw un o lywodraethau datganoledig y DU yn 2013, yn siarad ar ôl rhoi ei fideo ar-lein, gan alw ar bob un ohonom ni i uno. Rwy'n parchu gwaith Black Lives Matter. Fe wnaeth Black Lives Matter, wrth gwrs, ddweud eu barn a dod at ei gilydd dros y penwythnos. Yn wir, yr wyf newydd ddod y bore yma o grŵp trawsbleidiol, dan gadeiryddiaeth John Griffiths, ar hil, lle y clywsom y manylion am offeryn asesu risg Cymru, a grybwyllwyd eisoes y bore yma, a gyhoeddwyd ac a lansiwyd yr wythnos diwethaf gan y Prif Weinidog a'r Gweinidog Iechyd a'r Gwasanaethau Cymdeithasol. Rydym hefyd, yn allweddol, yn bwysig, yn ystyried y materion economaidd-gymdeithasol, ac ymrwymais eto y bore yma, fel y gwnes i ychydig fisoedd yn ôl, i gynllun gweithredu ar hil i Gymru. Mark Isherwood. Mark Isherwood. Nid yw'n ymddangos fy mod i'n gallu ei weld ar fy sgrin ychwaith, felly nid yw ef bellach— Mark Isherwood AC: Rwyf i yno. Ydw, rwyf i yma. Ydych, mi ydych chi. Mark Isherwood AC: Mae'n ddrwg gennyf, efallai fod y sŵn wedi ei droi i ffwrdd , ond rwyf i yno. Ydych. Gallwch fynd ymlaen â'ch cwestiwn nawr, Mark. Mark Isherwood AC: Iawn. O ran troseddau casineb, anwybodaeth a rhagfarn, ceir peth gwaith gwych, er enghraifft yn y gogledd, NWAMI, Networking for World Awareness of Multicultural Integration, sy'n cydnabod mai'r ffordd orau o fynd i'r afael â hynny yw drwy integreiddio, drwy ymgysylltu, drwy rannu gyda'n gilydd. Maen nhw'n gwneud gwaith gwych yn ystod y pandemig o ddosbarthu parseli bwyd, yn enwedig i aelodau o'r gymuned pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig sy'n ynysu ac sydd â gofynion dietegol oherwydd anghenion meddygol neu ddiwylliannol. Felly, sut gallwn ni gydnabod gwaith da sefydliadau fel NWAMI yn well a chefnogi'r gwaith hwnnw, pan gaiff ei golli'n aml oherwydd ei fod yn feddal yn hytrach na chaled? Mae'n ymgysylltu â phobl drwy weithgareddau a dathliadau diwylliannol, a bwyd, cerddoriaeth a dawns, ar y cyd â'r prosiectau cadarn a mwy sylweddol y mae Llywodraeth Cymru ac eraill yn ymgysylltu â hwy hefyd. Jane Hutt AC: Diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood, a NWAMI. Rwyf yn gyfarwydd iawn â'u gwaith; rydym wedi ei drafod. Buom yn siarad amdano mewn fforwm yn ddiweddar, mewn cyfarfod pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a gynhaliwyd, wedi ei drefnu gan y Tîm cymorth Ieuenctid Ethnig a Race Council Cymru, sydd wedi trefnu nifer o fforymau dros yr wythnosau diwethaf. A'r un yn y gogledd, clywais yn arbennig gan NWAMI am eu gwaith ym Mangor yn enwedig ynghylch cefnogi'r gymuned—nid myfyrwyr rhyngwladol yn unig, ond y gymuned. A hefyd, rwyf wedi codi gyda Lesley Griffiths, y Gweinidog, ynglŷn â phwysigrwydd cydnabod anghenion diwylliannol o ran cyflenwi blychau bwyd, ac adlewyrchir hyn yn helaeth iawn yn y cydlyniad cymunedol yr ydym wedi ei weld yn ystod yr wythnosau diwethaf. Felly, mae NWAMI yn rym pwysig er daioni ar gyfer cynnydd a chydlyniad cymunedol yn y gogledd, ynghyd â llawer o'r sefydliadau eraill yr wyf wedi siarad â nhw. Mewn gwirionedd, yn ystod yr wythnosau diwethaf rydym wedi cael rhith-fforymau ar-lein; mae fforwm hil Cymru wedi cyfarfod ddwywaith; rydym wedi cyfarfod â'r grwpiau rhanbarthol hyn, un yng Nghasnewydd yr oedd John Griffiths yn bresennol ynddo. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn cydnabod ein bod eisoes wedi rhoi arian i brosiectau troseddau casineb: £480,000 o gronfa bontio'r UE, a'r prosiectau troseddau casineb hynny ac, yn wir, cyllid pellach o £350,000 ar gyfer mynd i'r afael â hiliaeth mewn ysgolion. Gwyddom fod Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth mewn ysgolion yn cael effaith enfawr ar ddysgu a dealltwriaeth plant. A'r gwaith hwnnw, sydd eisoes yn cael ei wneud gan y sefydliadau hynny, y trydydd sector a sefydliadau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, ac mae bob amser yn cynnwys y rhai hynny ar lefel llawr gwlad oherwydd eu bod yn cael cymaint o effaith ac yn gwneud y gwaith, fel y dywedwch, yn ddiwylliannol, yn gymdeithasol a chan fodloni anghenion rhai o'r rhannau o'n cymuned sydd wedi'u hallgáu fwyaf. Diolch i'r Dirprwy Weinidog. Fe fyddwn ni nawr yn torri am awr cyn i'r sesiwn brynhawn gychwyn. Ac felly, fe ddaw'r darlledu i ben am y tro. Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 12:18. Ailymgynullodd y Senedd am 13:20 gyda’r Dirprwy Lywydd (Ann Jones) yn y Gadair. 4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Coronafeirws (COVID-19) Wel, rydym yn ailymgynnull ar gyfer ein cyfarfod llawn y prynhawn yma, a'r eitem nesaf ar ein hagenda yw datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y coronafeirws, COVID-19, a galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething. Vaughan Gething AC: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Prynhawn da. Bydd y datganiad heddiw yn canolbwyntio ar roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am ailddechrau mwy o weithgarwch y GIG yma yng Nghymru. Rwyf yn falch o ddweud, er ein bod yn dal i gefnogi'r rhai sydd â'r coronafeirws arnyn nhw, fod nifer yr achosion a gadarnhawyd yn gostwng, fel y mae nifer y bobl sydd wedi colli eu bywydau yn y pandemig. Ddoe, cadarnhawyd 67 o achosion newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac roedd y ffigurau marwolaethau mewn ffigurau sengl. Fodd bynnag, roedd pob rhif yn unigolyn, ac yn atgof poenus o'r angen am ofal a phwyll gan bob un ohonom ni, nawr ac yn y dyfodol rhagweladwy os ydym ni eisiau lleihau lledaeniad y feirws. Ni ddylai neb ddiystyru pwysigrwydd parhau i fod yn barod os ydym ni'n gweld unrhyw gynnydd yn y feirws yn y dyfodol ac eisiau ymdopi â hynny. Mae angen o hyd i ni gefnogi pobl yn ein cymunedau sydd angen ein gwasanaeth iechyd am resymau eraill nad ydynt yn gysylltiedig â COVID. Cymeradwyais fframwaith gweithredu GIG Cymru a gyhoeddwyd ar 6 Mai. Mae'n disgrifio pedwar math o niwed: niwed uniongyrchol o COVID ei hun; niwed gan y GIG a system gofal cymdeithasol wedi'u llethu, fel y gwelsom ni yn yr Eidal, er enghraifft; niwed yn sgil lleihad mewn gweithgarwch nad yw'n gysylltiedig â COVID; a niwed gan gamau gweithredu cymdeithasol ehangach, gan gynnwys y cyfyngiadau symud. Rwy'n cydnabod bod angen i ni weithredu yn araf ac yn bwyllog. Felly, mae cynllunio tymor byrrach ar gylchoedd chwarterol yn bwysig er mwyn i'n sefydliadau ddangos y gallant fod yn ystwyth ac yn hyblyg. Mae gallu dargyfeirio adnoddau yn hawdd ac yn gyflym er mwyn addasu i'r galw, rhwng y gwasanaethau hanfodol yn ymwneud â COVID-19 â'r rhai nad ydynt yn ymwneud â COVID, yn hollbwysig. Gan gydnabod pob un o'r pedwar niwed posib, mae cynlluniau chwarter 1 wedi'u hanelu'n benodol at gynyddu gweithgarwch hanfodol y GIG yn raddol, gan fynd i'r afael â'r gofynion presennol sy'n deillio o COVID-19. Rydym ni i gyd yn cydnabod ei bod hi'n bwysig sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn gweithredu'n effeithlon i'r rhai sydd eu hangen, ond mewn ffordd ddiogel ac effeithiol. Y ffaith yw y bydd bygythiad COVID-19 gyda ni am beth amser eto. Cafwyd cynlluniau chwarter 1 yn ôl y gofyn ar 18 Mai. Maent yn nodi sut y mae ein byrddau a'n hymddiriedolaethau iechyd yn bwriadu darparu'r amrywiaeth o wasanaethau hanfodol, gan gynnwys canser, y galon, offthalmoleg a gwasanaethau eraill, yn aml mewn ffyrdd newydd ac arloesol. Mae llawer o sefydliadau'n gweithio i aildrefnu eu hadeiladau, i ddarparu ardaloedd lle mae staff a chleifion yn teimlo y gellir cynnal profion diagnostig a chael triniaeth yn ddiogel. Mae defnyddio ysbytai ychwanegol yn y sector annibynnol wedi bod yn ddefnyddiol ar gyfer rhai o'r triniaethau hynny. Mae byrddau iechyd wrthi'n adolygu'r defnydd o'r cyfleusterau sydd ar gael i weld sut y gellid eu defnyddio yn y dyfodol. Ein nod yw i'n system gofal iechyd ail-gydbwyso o fewn amgylchedd ysbyty mwy arferol. Mae'r gwaith hwn gyda'r sector annibynnol wedi bod yn ddefnyddiol, ond wrth gwrs bydd angen i ni adolygu ei ddefnydd, sy'n cael ei archwilio yn y cynlluniau. Mae'r rhan fwyaf o fyrddau iechyd wedi gwneud trefniadau i greu capasiti ychwanegol mewn ysbytai maes. Mae'n beth cadarnhaol iawn ac ni ddylem ni golli golwg ar y ffaith nad ydym ni wedi gorfod gwneud defnydd sylweddol o ysbytai maes yn ystod anterth cyntaf y feirws. Mae'r cynlluniau'n adlewyrchu'r angen i adolygu ac ailasesu wrth i ni gamu i'r dyfodol. Bydd adolygiad cenedlaethol o gyfleusterau ysbytai maes yn ystod mis Mehefin yn cefnogi'r gwaith hwn. Mae problemau i'w goresgyn o hyd wrth inni ddechrau diweddaru ein gwasanaethau hanfodol. Bydd angen sicrhau bod digon o gyfarpar diogelu personol, meddyginiaethau, profion, staff a hyfforddiant ar gael, a dyma'r hyn y mae'r cynlluniau'n ei amlinellu. Yn ogystal, rwyf wedi gofyn i'r GIG barhau i ystyried lle y gall wneud mwy o ddefnydd o ddatrysiadau rhanbarthol, gan gronni adnoddau ac arbenigedd i sicrhau bod cleifion yn cael y gofal gorau. Vaughan Gething AC: Fodd bynnag, o'r argyfwng hwn, rydym ni hefyd wedi gallu cofleidio arloesedd. Mae llawer mwy o dechnoleg wedi'i defnyddio dros y 10 wythnos diwethaf. Yn y pythefnos rhwng 19 a 26 Mai, cafwyd 977 yn fwy o ymgynghoriadau o bell ar draws y GIG drwy ddefnyddio gwasanaeth ymgynghori fideo newydd GIG Cymru. Gan ddefnyddio'r ffyrdd newydd hyn o weithio i'r GIG, gallwn wneud llawer mwy o hyd, gyda modd cynnal cyfran gynyddol o ymgynghoriadau yn rhithwir. Yr un mor bwysig, nododd 97 y cant o gleifion ac 85 y cant o glinigwyr fod y ffordd newydd hon o weithio yn 'ardderchog', 'da iawn', neu'n 'dda'. Rydym ni hefyd wedi gweld cynnydd yn nifer y gwasanaethau dilynol y gellid eu cynnal i gleifion allanol dros y ffôn. Mae hynny'n dangos sut yr ydym ni, yn ein hymateb i'r pandemig, yn defnyddio offer a gwasanaethau sy'n bodoli eisoes i ddarparu gofal mewn ffyrdd mwy effeithlon. Felly, rydym ni'n newid y ffordd yr ydym ni'n darparu gwasanaethau, ac yn defnyddio ein hadnoddau'n wahanol. Er enghraifft, sefydlodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ganolfan ar gyfer y bwrdd iechyd hwnnw yn ei gyfanrwydd i gydgysylltu'r llif cleifion, gan gynnwys rhyddhau cleifion yn gyflym, uwchgyfeirio cymunedol, ac unrhyw gapasiti ychwanegol o fewn eu hysbytai maes o ran ymchwydd neu ymchwydd sylweddol. Mae ganddyn nhw hefyd grŵp moderneiddio gwasanaethau i gleifion allanol sy'n cynllunio i ailgychwyn gwasanaethau. Ac mae'r rhain yn datblygu modelau gofal newydd a ffyrdd o weithio a fabwysiadwyd mewn ymateb i COVID. Bydd fy swyddogion yn cyfarfod â phob sefydliad dros yr wythnosau nesaf i adolygu eu cynlluniau a'u cynorthwyo i sicrhau y cânt eu rhoi ar waith. Roedd y fframwaith gweithredu yn cynnwys nifer o ymrwymiadau i Lywodraeth Cymru fel y corff sy'n galluogi hyn fel modd o gefnogi'r broses weithredu. Ymysg peth o'r gweithredu hwnnw mae'r gronfa fuddsoddi mewn blaenoriaethau digidol a gyhoeddais fis Medi diwethaf. Fe'i defnyddiwyd i gyflymu rhaglenni a mentrau digidol newydd. Mae hyn yn cynnwys cyflymu'r broses o gynnal ymgynghoriad fideo ledled Cymru, seilwaith a dyfeisiau i alluogi gweithio o bell, a system ddigidol newydd ar gyfer olrhain cysylltiadau, a gyflwynwyd i gyd mewn wythnosau. Mae rhaglen i sicrhau bod Microsoft Teams ac Office 365 ar gael i holl staff y GIG, a ddechreuodd yr hydref diwethaf, wedi'i chywasgu o dair blynedd i un. Byddaf hefyd yn cyflwyno system ddigidol newydd i'w defnyddio mewn unedau gofal dwys, adnodd digidol newydd ar gyfer gofal llygaid, a chyflymu'r broses o uwchraddio ein gwasanaethau patholeg digidol. Mae'r modd y mae sefydliadau wedi gweithio gyda'i gilydd mor gyflym i ddefnyddio technolegau digidol newydd wedi bod yn drawiadol. Mae Rhwydwaith Gofal Critigol a Thrawma Cymru wedi datblygu cyngor drafft ar ofal critigol yn ystod y cam nesaf o'r pandemig ac yn ailddechrau gwasanaethau'r GIG, ynghyd â chanllawiau sydd newydd eu cyhoeddi. Mae ymgyrch gyfathrebu barhaus yn cael ei datblygu i annog cleifion i ddefnyddio'r gwasanaethau hanfodol hynny, a darparwyd arian ar gyfer sefydlu ysbytai maes, capasiti sector preifat, ac, yn wir, ein gweithlu myfyrwyr. Gan ddefnyddio'r adborth a'r adolygiad o chwarter 1, byddwn yn symud tuag at ddull fframwaith parhaus ar gyfer chwarter 2. Bydd hyn yn cynnwys deall y camau nesaf yn y cynllunio dros fisoedd yr haf ac ar gyfer cynlluniau wrth gefn y gaeaf yn chwarter 3. Wrth gwrs, byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd. Rwyf hefyd wedi rhoi mwy o fanylion i'r Aelodau am gynlluniau chwarter 1 mewn datganiad ysgrifenedig a gyhoeddais yn gynharach heddiw. Dydd Llun yr wythnos hon, lansiwyd ein gwasanaeth profi, olrhain a gwarchod cenedlaethol gyda GIG Cymru. Mae olrhain cyswllt yn gam nesaf hanfodol yn ein brwydr yn erbyn COVID-19. Bydd yn ein helpu i atal trosglwyddo'r feirws, diogelu'r cyhoedd, canfod achosion o'r haint a gweithredu'n gyflym i reoli clystyrau ac achosion. Dechreuodd y gwasanaeth cenedlaethol newydd, yn ôl y bwriad, ddydd Llun 1 Mehefin. Felly, cysylltir ag unrhyw un sydd wedi profi'n bositif am y coronafeirws yng Nghymru nawr gan ofyn am fanylion yr holl bobl y buont mewn cysylltiad â nhw pan oedd ganddyn nhw'r symptomau. Fel y dywedais o'r blaen, ein dull ni o weithredu yw meithrin a chynyddu ein gallu i olrhain cysylltiadau'n lleol. Y gwir amdani yw na fydd cynllun cenedlaethol yn gweithio oni bai ein bod yn gwneud defnydd llawn o'r wybodaeth, y sgiliau a'r arbenigedd lleol sydd wedi'u datblygu dros flynyddoedd lawer o fewn timau diogelu iechyd yn ein hawdurdodau lleol a'n byrddau iechyd. Mae gweithio mewn partneriaeth fel hyn wedi ein galluogi i ddod â gweithlu o dros 600 o olrheinwyr cyswllt ynghyd drwy Gymru benbaladr i ddechrau'r gwasanaeth cenedlaethol newydd yn gyflym. Bydd cynlluniau rhanbarthol, a gytunir ar y cyd gan bartneriaid llywodraeth leol a byrddau iechyd, yn ein galluogi i gynyddu'r gweithlu'n gyflym, os a phan fydd angen. Mae hyn yn dilyn ymarfer arbrofol llwyddiannus pythefnos o hyd mewn pedwar rhanbarth bwrdd iechyd yng Nghymru. Pwyslais allweddol y cynlluniau arbrofol oedd sicrhau bod staff yn cael yr hyfforddiant, y canllawiau a'r cymorth safonol sydd eu hangen arnyn nhw i allu gwneud y swyddogaeth hynod bwysig a heriol hon yn effeithiol. Ers dydd Sul, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi nodi 208 o achosion cadarnhaol, ac mae pob un ohonyn nhw wedi'u trosglwyddo i'n timau olrhain cyswllt. Lle bo'n briodol, mae pobl wedi cael eu cyfweld ac, ar gyfartaledd, mae hyn yn dynodi tri neu bedwar o gysylltiadau dilynol pellach fesul achos cadarnhaol. Mae'r adborth cynnar hefyd yn dangos bod yr unigolion y cysylltwyd â nhw gan ein timau olrhain yn cymryd rhan yn gadarnhaol. Hyd yn hyn, mae'r arwyddion yn galonogol, ond ni ddylem ni, ac ni ddylem ni fyth gymryd y gefnogaeth gyhoeddus yn ganiataol. Felly, am y tro, canolbwyntir ar yr wythnosau nesaf, lle gallwn ni wneud gwahaniaeth, a chael y cydbwysedd cywir rhwng pob un o'r pedwar maes niwed wrth i ni geisio helpu i gadw Cymru'n ddiogel. Diolch. Janet Finch-Saunders. Janet Finch-Saunders AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Byddwch yn ymwybodol bod y sefyllfa drasig yng nghartrefi gofal Cymru wedi sbarduno'r comisiynydd pobl hŷn i gyfeirio Llywodraeth Cymru at y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Mae wedi tynnu sylw at oedi wrth brofi fel pryder allweddol. Ar 16 Mai, fe wnaethoch chi gyhoeddi y byddai profion yn cael eu hehangu i bawb mewn cartrefi gofal. Fodd bynnag, yn ôl un awdurdod lleol, mae gobaith y caiff eu cartrefi gofal, o fewn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, eu profi erbyn 8 Mehefin. Fodd bynnag, fe'i disgrifiwyd fel targed uchelgeisiol. Pam y mae wedi cymryd dros dair wythnos ers eich cyhoeddiad i brofi pob cartref gofal, i gynnwys ein preswylwyr a'n gweithwyr gofal yno? A gytunwch chi hefyd fod y ffaith y cafodd cleifion eu rhyddhau o ysbytai i gartrefi gofal heb unrhyw brofion, gan roi llawer mewn perygl, yn gwneud hyn yn fwy gwarthus byth? Ac yn olaf, Gweinidog, a wnewch chi egluro pam na chaiff data eu casglu na llygaid eu cadw ar y rhai sy'n derbyn gofal cymdeithasol yn eu cartrefi eu hunain o ran COVID-19? Mae hyn yn ymddangos i mi yn rhan anghofiedig o'n cymdeithas, gan eu rhoi nhw, ein gweithwyr gofal cymdeithasol a'n gweithwyr gofal cartref ein hunain mewn perygl. Vaughan Gething AC: Diolch i'r Aelod am y tri chwestiwn, rwy'n credu, ond dechreuaf gyda'r sylw cyntaf. Mae'n glir iawn nad ydym ni'n llac nac yn gamarweiniol gyda'n hiaith: ni wnaeth y comisiynydd pobl hŷn gyfeirio Llywodraeth Cymru at y Comisiwn Hawliau Dynol—mae hi wedi cael sgwrs ac mae hi wedi egluro ei bod hi eisiau gweld y sefyllfa mewn cartrefi gofal ledled y DU yn cael ei gwerthuso, ac, fel y nododd y Prif Weinidog, ac yn wir fel y gwneuthum i, rydym ni yn disgwyl cynnal ymchwiliadau gwerthuso a byddwn yn hapus i gydweithredu â phob un o'r ymchwiliadau swyddogol hynny. A bydd y Senedd hon, rwy'n tybio, eisiau cynnal ei hymarfer ei hun o ran ystyried y gwersi a ddysgwyd a'r penderfyniadau a wnaed ar y pryd. Felly, o ran gofal cartref, o ran eich cwestiwn olaf, mae'n peri pryder penodol i mi ac i'r Dirprwy Weinidog. Mae'n faes y buom eisoes yn ymwneud ag ef o ran profi gweithwyr allweddol. Ac mae'n faes sydd, rwy'n gwybod, yn bryder rheolaidd i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru hefyd, oherwydd yr ydym ni'n cydnabod bod problem o ran trosglwyddo a sut yr ydym yn amddiffyn pobl, a hynny'n aml yn sgil pobl yn dod i mewn i gartref yr unigolyn hwnnw. Felly, mae ar y staff eu hunain eisiau'r sicrwydd nad ydyn nhw, i bob pwrpas, yn gweithredu i drosglwyddo'r coronafeirws i'r bobl agored i niwed y maen nhw'n helpu i ofalu amdanynt, a dyna pam yr oedden nhw bob amser yn un o'r gweithwyr allweddol yn ein system, ac, wrth gwrs, mae mynediad ar-lein bellach ar gyfer y system o brofion sydd gennym ni yng Nghymru. Bydd pob cartref gofal yn cael ei brofi o fewn y pythefnos nesaf. Mae rhai byrddau iechyd yn meddwl y gallan nhw gael y prawf hwnnw o fewn yr wythnos i 10 diwrnod nesaf. Bydd eraill ychydig yn hwyrach, ond, o fewn y pythefnos nesaf, disgwyliaf i bob cartref gofal, preswylwyr a staff gael eu profi. Dyna'r dewis polisi bwriadol a wnaethom ni, a chredaf mewn gwirionedd fod yr amser a gymer hi i wneud hynny'n cymharu'n dda â phob gwlad arall yn y DU, gan gynnwys, wrth gwrs, Lloegr dros y ffin, lle deallaf nad yw oddeutu chwech o bob 10 cartref gofal wedi cael eu profi eto. Ond fel y dywedais, rydym yn disgwyl, o fewn pythefnos, y bydd pob cartref gofal yng Nghymru wedi cael ei brofi. Peth arall, o ran y sylw olaf a wnaethoch chi, y mae angen imi ymateb iddo, yw y dylai pobl â symptomau fod wedi cael prawf cyn cael eu rhyddhau o'r ysbyty bob tro. Dylai wastad fod prawf cyfredol wedi bod i bobl sydd wedi gadael yr ysbyty. Fe wnaethom ni symud i sefyllfa—a gydnabuwyd gennym ni ar y pryd y tu hwnt i gyngor gwyddonol a chyngor ein prif swyddog meddygol ynghylch a oedd sail wyddonol i wneud hynny—i brofi pawb a ryddheir i gartref gofal, pa un a oes symptomau ganddyn nhw neu beidio, ond roedd a wnelo hynny'n benodol â sicrhau bod hyder o fewn y system, gan ein bod yn cydnabod y gellid achosi mwy o niwed pe bai'r system gyfan wedi ei gorlwytho. Mewn cyfnod arferol, trafodwn y niwed a achosir i bobl nad ydynt yn cael eu rhyddhau'n effeithiol ac yn gyflym, ac felly roedd hyn, rwy'n credu, yn fesur pragmatig a phriodol. Ac rwy'n siŵr y bydd gennyf fwy o amser i ail-drafod y gorffennol ar achlysuron eraill, ond rwy'n fodlon ein bod yn gwneud y peth priodol ar y sail dystiolaeth gywir ar hyn o bryd ar gyfer pobl Cymru. Janet Finch-Saunders AC: Diolch yn fawr, Gweinidog. Mae'n rhaid imi ddweud, er eich bod yn dweud y bydd y profion hyn yn digwydd o fewn pythefnos, gwyddoch am y ffigurau uchel sydd wedi'u cofnodi yma yn y gogledd, yn fy marn i, pe byddech yn profi pob cartref yn sydyn, dyweder o fewn dau neu dri diwrnod, ni fyddem yn gweld ein ffigurau'n cynyddu yn unig, byddem yn eu gweld yn saethu i fyny. Nawr, agorwyd y ganolfan brofi yma yn Llandudno ar 29 Ebrill. Yn ôl cais rhyddid gwybodaeth a gyflwynais i fwrdd Betsi Cadwaladr, dim ond 258 o weithwyr cartref nyrsio ac awdurdod lleol a brofwyd ar safle Llandudno erbyn 28 Mai. Mae hyn mewn gwirionedd yn cyfateb, ar gyfartaledd, i wyth gweithiwr y dydd. Mae beirniadaeth ynghylch y ffaith nad oes llawer o ddefnydd ar y ganolfan brofi pan fo hi'n dal yn angenrheidiol cynnal profion torfol yma yn y gogledd. Felly, hoffwn gael eich barn ar hynny. Pam y gwelwyd cyn lleied o weithwyr allweddol yn y ganolfan hon y mis diwethaf? A beth ydych chi'n ei wneud i fonitro faint o brofion a gynhelir ym mhob canolfan profi drwy ffenest y car drwy Gymru gyfan? Hoffwn weld y ffigurau hynny'n cael eu hadrodd. Mae profi yn parhau'n drafferthus yn hyn o beth. O 27 Mai, gellid cynnal dros 9,000 o brofion bob dydd. Ddydd Llun, dim ond 2,492 o brofion a gynhaliwyd. Pam na ddefnyddir yr holl gapasiti sydd yna i brofi, pan wyddom ni yn ein cymunedau fod gennym ni'r bobl hyn—pobl sy'n agored i niwed—y mae angen y profion hyn arnynt? Sut y gallwn ni felly fod â ffydd mewn profi, olrhain a diogelu os nad yw nifer y profion beunyddiol yn ddim ond tua 10 y cant o'r 20,000 o brofion beunyddiol y mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn y gorffennol y byddid eu hangen i olrhain cysylltiadau? Vaughan Gething AC: Ymdriniaf â'r sylw olaf yn gyntaf. Mae angen hyd at 20,000 o brofion i olrhain cysylltiadau, yn dibynnu ar le yr ydym ni arni o ran codi'r cyfyngiadau symud a chyfradd lledaeniad yr haint. Mae ceisio cymharu lle yr ydym ni arni nawr â'r hyn a allai ddigwydd fisoedd yn y dyfodol yn beth pur ffôl i geisio ei wneud ac nid yw'n ffordd onest o ddisgrifio'r sefyllfa sydd ohoni. Ac rwy'n credu, ar adeg pan fo pobl yn poeni, bod ceisio rhoi syniadau a ffigurau sy'n amlwg ac yn ddiymwad yn gamarweiniol, yn hynod anghyfrifol. Janet Finch-Saunders AC: Chi sy'n gwneud hynny. Vaughan Gething AC: O ran eich ffigurau ar gyfer profion yn y gogledd ac mewn cartrefi gofal, rydym ni mewn gwirionedd yn cloriannu ac yn gweld mai yn y gogledd y mae'r gymhareb fwyaf o ran profion y pen o holl ardaloedd byrddau iechyd y wlad. Felly, cafodd mwy o brofion eu cynnal yma eisoes nag mewn unrhyw le arall. Ond y newyddion da ynghylch hynny yw, er bod yna fwy o bobl a ddynodwyd fel rhai â COVID-19 arnyn nhw, rydym ni'n cydnabod, mewn gwirionedd, o ran y niwed sy'n cael ei achosi, o ran derbyniadau i ysbytai ac, yn wir, wedyn o ran cyfraddau marwolaeth, o ran cyfraddau marwolaeth dyma'r isaf ond un o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru, ac mae hynny'n newyddion da i bobl yn y gogledd. O ran canolfan brofi Llandudno, byddaf yn cael adborth yn rheolaidd gan fforymau cydnerthedd lleol a phartneriaid eraill, gan gynnwys pobl sy'n cynrychioli staff a chyflogwyr yn y sector gofal cymdeithasol, ac maen nhw wedi dweud ers cryn amser bod gwelliant sylweddol o ran gallu cael profion a defnyddio'r trefniadau atgyfeirio. Maen nhw wedi'u gwella ymhellach nawr, ac mae hi bellach yn haws i'r cyhoedd yn ogystal â gweithwyr allweddol gael prawf, gyda phob un ohonyn nhw bellach yn gallu mynd ar y we i archebu eu prawf eu hunain yn y ganolfan profi drwy ffenest y car. Felly, rydym ni wedi ei gwneud hi'n bosib nid yn unig i'r labordy gynnal mwy o brofion, ond ei gwneud hi'n haws cael y profion hynny. Diolch. Rhun ap Iorwerth. Rhun ap Iorwerth AC: Hoffwn ddychwelyd at rywbeth—[torri ar draws]. Mae'n ddrwg gennyf, Gweinidog, credais eich bod wedi gorffen. Vaughan Gething AC: Nac oeddwn, roeddwn i'n siarad ar y pryd. Daeth neges yn dweud bod fy nghysylltiad rhyngrwyd yn ansefydlog. Efallai fy mod wedi tewi am eiliad. Dim ond pwysleisio yr oeddwn i— Iawn. Mae'n ddrwg gennyf, Rhun, dof yn ôl atoch chi. A ydych chi eisiau gorffen yn fyr, felly, Gweinidog? Vaughan Gething AC: Roeddwn ar fy mhwynt olaf. Mae'r ddwy i dair mil o brofion yr ydym yn eu cynnal bob dydd nawr yn fesur o'r angen a'r galw presennol sy'n bodoli o fewn ein system, ond rhagwelwn y bydd hynny'n cynyddu wrth inni godi'r cyfyngiadau symud ymhellach, a chan fod mwy o gyswllt rhwng pobl a mwy o angen, gallwn fynd ar drywydd a phrofi mwy o bobl mewn gwirionedd. Daw hyn â ni'n ôl at yr hyn yr wyf wedi'i ddweud yn gyson—mae angen seilwaith mwy ar ein system profi, olrhain a diogelu, ac rydym ni mewn sefyllfa nawr lle mae gennym ni gapasiti llawer mwy sylweddol i allu gwneud hynny. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Diolch. Rhown gynnig arall arni nawr, felly. Rhun ap Iorwerth. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Nawr, mae Llywodraeth Cymru hyd yma wedi gwrthod argymell y dylai pobl wisgo mygydau wyneb pan fyddant allan yn gyhoeddus. Y cyngor diweddaraf y gallwn ddod o hyd iddo gan Lywodraeth Cymru yw y gallai pobl eu gwisgo os ydyn nhw'n dymuno, ac nid yw hynny'n arbennig o ddefnyddiol, gan fod pobl yn edrych at y Llywodraeth am arweiniad ar adegau fel hyn. Mae'n rhaid imi ddweud, mae'r dystiolaeth yr wyf yn ei gweld yn cryfhau fwyfwy ar hyn. Canfu adroddiad pwysig yn The Lancet yr wythnos hon y gallai gwisgo mygydau wyneb gyfrannu mewn modd defnyddiol iawn at gadw cyfraddau heintio yn isel. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn dweud yn bendant nad yw defnyddio mygydau yn ddigon ar ei ben ei hun, ond maen nhw yn dweud y gall gwisgo mwgwd gyfyngu ar ymlediad rhai clefydau feirysol anadlol, gan gynnwys y coronafeirws. Mae'r Ganolfan Rheoli ac Atal Clefydau yn yr Unol Daleithiau yn eu hargymell. Cafwyd astudiaeth ddiddorol yng Nghaliffornia a Taiwan ddiwedd mis Mai yn dweud y gall y feirws aros yn heintus mewn mannau dan do am oriau, a bodyn rhaid gweithredu mesurau a luniwyd i leihau trosglwyddiad aerosol,— ac rwy'n dyfynnu yn y fan yma— gan gynnwys cymell pawb i wisgo mygydau. Mae tua 50 o wledydd, rwy'n credu, bellach yn mynnu bod pobl yn gwisgo mygydau, mewn rhai sefyllfaoedd o leiaf—dim ond ar drafnidiaeth gyhoeddus mewn rhai gwledydd, ac yn llawer mwy cyffredin mewn eraill. Nawr, nid oes iddynt y sgil-effeithiau corfforol, a geir o bosib gyda chyffur newydd dyweder, na goblygiadau'r cyfyngiadau symud i iechyd meddwl, felly heb os nac oni bai, dylai'r baich profi fod yn is. Ac os yw'n gwneud cyfraniad, yna pam ddim? Hyd yn oed pe bai dim ond manteision cyfyngedig iawn iddo. Felly, a wnaiff y Llywodraeth wrando ar y dystiolaeth gynyddol honno a chyflwyno canllawiau clir gan fynd ati i annog defnyddio gorchuddion wyneb? Vaughan Gething AC: Wel, mae canllawiau a phenderfyniadau'r Llywodraeth y gwnaethoch chi gyfeirio atyn nhw, wrth gwrs, yn dibynnu ar gyngor Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton. Mae wedi adolygu'r dystiolaeth, ac mae'r cyngor cyfredol yng Nghymru yn dod o'i gyngor a'i argymhellion i ni, a hynny yw nad oes fawr o fudd ac nad yw yntau mewn sefyllfa lle mae'r dystiolaeth yn ddigon cryf i argymell bod pobl yn gwisgo mygydau mewn sefyllfaoedd penodol y tu allan i waith gofal rheng flaen, wrth gwrs, fel rhan o gyfarpar diogelu personol. O ran yr hyn a allai ddigwydd yn y dyfodol, fel rwyf wedi'i ddweud ac y byddaf yn ei ddweud ar sawl achlysur, lle mae'r dystiolaeth yn newid, byddwn yn hapus i newid ein safbwynt. Ac yn wir, bydd y prif swyddog meddygol, wrth gwrs, yn parhau i adolygu'r dystiolaeth. Ym mhob un o'r sefyllfaoedd hyn—fel y gwelsom ni o ran y polisi profi—mae'n bosib i'r dystiolaeth honno newid yn eithaf cyflym. Gwnaethom dri dewis polisi gwahanol dros gyfnod o chwe wythnos ynglŷn â phrofi mewn cartrefi gofal oherwydd bod y sail dystiolaeth wedi newid yn gyflym iawn. Ac mae hynny'n peri cryn anesmwythyd i'r cyhoedd, rwy'n gwybod, ond mae hefyd yn peri cryn anesmwythyd i'r rhai sy'n gwneud y penderfyniadau hefyd. Ond os nad ydym ni'n barod i fod yn hyblyg wrth wneud penderfyniadau a bod yn barod i ailystyried lle yr ydym ni arni fel mae'r sylfaen dystiolaeth honno'n dod yn gynyddol amlycach, yna ni fyddwn yn y sefyllfa briodol. Felly, mae'n bosib y bydd newid yn y dyfodol, ond y cyngor presennol gan ein prif swyddog meddygol yw peidio â gwneud hynny. Ond fel rwy'n dweud, ni fyddwn i eisiau gwadu'r realiti y gallai'r cyngor hwnnw newid ac y gallai cyngor y prif swyddog meddygol newid. Bryd hynny, wrth gwrs, byddech yn disgwyl i Weinidogion wneud penderfyniad gwahanol. Rhun ap Iorwerth AC: A byddwn i'n eich annog i ofyn i'r prif swyddog meddygol ystyried hyn. Rydych chi'n dweud y gallai fod yn rhywbeth ar gyfer y dyfodol, ond pan fyddwn ni'n ymladd y coronafeirws, nawr yw'r dyfodol mewn ffordd. Gall y penderfyniadau a wneir nawr effeithio ar yr hyn sy'n mynd i ddigwydd i batrwm y clefyd yng Nghymru dros y misoedd nesaf. Rwyf wedi treulio llawer o'r tri mis diwethaf yn pwyso am y diogelu gorau posib i staff rheng flaen. Fe wnaethoch chi sôn amdanyn nhw, wrth gwrs. Mae angen imi wneud hynny o hyd. Efallai y gallech chi sôn am ar adroddiadau am gyfarpar diogelu personol yn dal i gael eu defnyddio y tu hwnt i ddyddiad terfyn eu hoes—nyrsys yn gweld mygydau â'u hoes wedi dod i ben yn 2008 gyda sticeri oddi tanyn nhw yn dweud 'defnyddiwch erbyn 2016'. Byddwn yn ddiolchgar am gopi o arweiniad ar y broses a ddilynir er mwyn penderfynu pryd y mae cyfarpar diogelu personol a ddaeth i ddiwedd ei oes yn addas ar gyfer ei ailddefnyddio. Unwaith eto, i orffen, ar y mater hwnnw o'r cyhoedd yn gwisgo mygydau—mae mwgwd cartref yn llawer gwell na dim. Wrth gwrs, mae'n golygu nad oes unrhyw effaith wedyn ar gyflenwad cyfarpar diogelu personol i weithwyr allweddol. Dim cost gwirioneddol ychwaith, felly mae materion cydraddoldeb yn cael sylw yn hynny o beth. Ledled y byd, ceir cynlluniau cymunedol sy'n gwneud mygydau, gan gynnwys grwpiau yng Nghymru. Dyma fy mwgwd i, mewn gwirionedd. Mae hwn wedi teithio ar draws y byd. Fe'i gwnaed gan gyfaill yn yr Unol Daleithiau—rhan o grŵp cymunedol yn gwneud mygydau i'w rhoi i eraill. A wnewch chi gefnogi menter mygydau Cymru i annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn gwneud mygydau, rhannu templedi syml ac ati? Mae hyn yn rhywbeth y gallwn ni i gyd ei wneud, gan ein huno fel cymunedau. Gallwn hyd yn oed gael cystadlaethau: pwy sy'n gallu gwneud y mygydau sy'n edrych orau a'r math yna o beth. Mae'n cyfrannu at normaleiddio gwisgo gorchuddion wyneb, ac efallai, os yw'r dystiolaeth gynyddol yn gywir, fel y credaf ei bod, gallai achub bywydau hefyd. Vaughan Gething AC: O ran eich sylw am gyfarpar diogelu personol, mae ein cyfarpar diogelu personol a ddosberthir i gyd yn mynd trwy broses rheoli ansawdd, gan gynnwys enghreifftiau pan fo'r dyddiadau terfyn oes gwreiddiol yn golygu y gellir parhau i ddefnyddio'r cyfarpar diogelu personol, er gwaethaf hynny, a hynny yn ddiogel, oherwydd dyna'r maen prawf yr ydym yn ei ddefnyddio: a oes gennym ni gyfarpar diogelu personol digonol—digonol o ran y diogelwch y mae'n ei ddarparu, gan sicrhau nad yw wedi cyrraedd terfyn ei oes a'i fod yn briodol i staff ei ddefnyddio? Ac fel y gwyddoch chi, rydym ni mewn sefyllfa lle nid yn unig yr ydym ni wedi llwyddo i ddatrys yr heriau y mae ein staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen yn eu hwynebu o ran cyfarpar diogelu personol, ond rydym ni wedi darparu cyd-gymorth mewn niferoedd sylweddol i wledydd eraill y DU, gan gynnwys Lloegr, a dyna oedd y peth cywir i'w wneud. Felly, rydym ni mewn sefyllfa dda o ran cyfarpar diogelu personol o'i chymharu â'r sefyllfa yr oeddem ni ynddi dim ond ychydig wythnosau yn ôl. Rhaid dweud hynny gyda pheth gochelgarwch, oherwydd wrth i ni symud ymlaen gyda'r clefyd ar ei anterth, mae'n gwbl bosib y bydd mwy o bwysau ar le yr ydym ni fel y byddwn ni'n llacio ac yn codi'r cyfyngiadau symud a'r hyn a allai ddigwydd yn y gaeaf, ac yn yr un modd, gallai'r galw mewn rhannau eraill o'r byd olygu bod yna fwy o gystadleuaeth am gyflenwadau cyfarpar diogelu personol yr ydym yn eu caffael, ond unwaith eto, hoffwn ddiolch ar goedd i'r cwmnïau hynny o Gymru sydd wedi creu cyfarpar diogelu personol ar gyfer ein staff rheng flaen. Cafwyd ymateb aruthrol ar hyd a lled y wlad. O ran eich sylw am fygydau a gorchuddion wyneb, credaf ei fod yn bwysig oherwydd pan fydd pobl yn siarad am fygydau, rwy'n credu bod llawer o ddryswch ynglŷn â'r ffaith bod y rheini yn bethau o'r fath safon yr ydych yn disgwyl i weithwyr iechyd a gofal rheng flaen neu eraill eu crybwyll, ond rwy'n cydnabod eich bod yn sôn am orchuddion wyneb, sy'n wahanol. Petai'r cyngor yn newid, yna, wrth gwrs, byddai angen i ni ystyried sut y byddem yn adlewyrchu hynny, oherwydd nid wyf yn credu y bydd y Llywodraeth mewn sefyllfa i ddarparu gorchuddion wyneb i bob aelod o'r cyhoedd, ond mae'r rhain yn bethau y gall pobl eu darparu eu hunain. Ac mae'n bwysig cofio bod hyn yn ymwneud ag amddiffyn pobl eraill rhag ofn fod y coronafeirws arnoch chi. Ond y man cychwyn yw, os oes gennych chi symptomau, ni ddylech fod allan yn gyhoeddus beth bynnag: dylech chi fod yn hunanynysu a chael eich profi. Os yw'r cyngor yn newid, wrth gwrs bydd angen i ni ystyried beth y mae hynny'n ei olygu o ran sut y darperir y gorchuddion wyneb hynny ac ym mha leoliadau. Felly, fel rwy'n dweud, gan fynd yn ôl at fy ateb cyntaf, os bydd y dystiolaeth yn newid, os yw'r cyngor yn newid, bydd y Llywodraeth yn hapus i egluro hynny ac i newid ein safbwynt oherwydd ein nod, fel erioed, yw cadw Cymru'n ddiogel. Caroline Jones AC: Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Er gwaethaf eich haeriad, nid oedd yr hyn a welsom ni yr wythnos hon yn enghraifft o liniaru'r cyfyngiadau symud yn sylweddol. Mewn gwirionedd, newid bach ydyw, oherwydd i'r mwyafrif helaeth o bobl sy'n byw yng Nghymru, bydd teulu'n byw mwy na 5 milltir i ffwrdd. Wrth gyhoeddi'r newidiadau, dywedodd y Prif Weinidog fod y penderfyniad i osod egwyddor gyffredinol o beidio â theithio mwy na 5 milltir yn seiliedig ar dystiolaeth wyddonol. Felly, Gweinidog, a wnewch chi gyhoeddi'r dystiolaeth honno? A yw'r dystiolaeth honno wedi'i hadolygu gan gymheiriaid? Gweinidog, a allwch chi egluro i'm hetholwyr nad ydynt yn gallu ymweld ag anwyliaid pam ei bod hi'n berffaith iawn iddynt deithio mwy na 5 milltir i giwio gyda dieithriaid mewn canolfan arddio, ond na allant deithio i sefyll 2 fetr oddi wrth aelod o'r teulu neu gyfaill? Ddydd Llun, fe wnaethoch chi gyhoeddi pecyn cymorth iechyd meddwl pobl ifanc, sy'n cydnabod yr effaith enfawr y mae'r pandemig hwn yn ei chael ar iechyd meddwl pawb, a po hwyaf y bydd y cyfyngiadau'n para, mwyaf fydd yr effaith a gânt. Gwn fod mynd i'r afael â'r clefyd hwn yn golygu cadw'r ddysgl yn wastad rhwng niwed uniongyrchol COVID-19 a niwed anuniongyrchol. Gweinidog, a gredwch eich bod wedi taro'r cydbwysedd cywir yn yr achos hwn? Mae ein cynllun i godi'r cyfyngiadau symud yn dibynnu ar dracio, olrhain a diogelu. Fodd bynnag, mae'n cymryd gormod o amser ar hyn o bryd i gynnal profion. Gweinidog, beth ydych chi'n ei wneud i gyflymu'r broses ac ehangu ein gallu i brofi? Bydd llawer o'r gweithgareddau'n gofyn am drefn brofi lawer ehangach a symlach, a gwyddom na all triniaethau deintyddol arferol ddechrau tan y flwyddyn nesaf, ond siawns, pe baem yn profi deintyddion a chleifion ac yn ardystio nad yw'r haint arnyn nhw, yna gellid gwneud y driniaeth. Heb system o'r fath ar waith, sut y bydd fy etholwr, perchennog siop gwisgoedd priodas, Elin Baker, yn cynnal ei busnes? Mae hi'n defnyddio ei hamser hamdden nawr a'i chyfleusterau a'i gwybodaeth i wneud cyfarpar diogelu personol i'r GIG, felly mae hi'n defnyddio'i hamser yn ddoeth, ond mae'n rhaid inni ddeall bod rhaid ffitio ffrogiau priodas, ac nad oes modd eu mygdarthu, felly a oes rhaid iddi aros nes bod brechlyn ar gael cyn iddi allu ailagor? Ac yn olaf, Gweinidog, dywedodd Prif Weinidog Cymru ddydd Llun na allwch chi ond gwneud un newid i fesurau bob tair wythnos oherwydd y cyngor gwyddonol gan SAGE a Sefydliad Iechyd y Byd. Felly, a wnewch chi gadarnhau mai dyma'r dull yr ydych yn ei ddilyn ac a wnewch chi amlinellu pa mor hir yr ydych chi'n rhagweld y bydd hi cyn i'r rhan fwyaf o'r cyfyngiadau symud gael eu llacio? Diolch. Vaughan Gething AC: Efallai y gallaf ddechrau gyda'r sylw olaf yna, oherwydd rydym ni wastad wedi dweud—ac mae hyn wedi ei gynnwys yn rhai o'r papurau yr ydym ni eisoes wedi'u cyhoeddi ar y dystiolaeth wyddonol—rwy'n credu y buom ni mor agored os nad yn fwy agored nag unrhyw Lywodraeth arall yn y DU o ran darparu'r dystiolaeth yr ydym ni Weinidogion yn ei chael—y cyngor hwnnw—ac yna bwrw iddi mewn gwirionedd a gwneud ein penderfyniadau a bod yn atebol amdanynt. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod ein hymgynghorwyr yn deall ein bod ni'n cymryd cyfrifoldeb fel Gweinidogion ac yn cymryd eu cyngor o ddifrif. Mae hynny'n cynnwys y sylw hwn ynglŷn â bod un ymyriad sylweddol, ac rwyf eisiau asesu a deall ei effaith cyn cynnwys ymyriad sylweddol arall hefyd. A dyna pam y byddai'n hollol anghyfrifol ac yn gwbl anghywir i mi geisio darogan pryd y bydd y cyfyngiadau symud yn dod i ben ac y bydd bywyd yn dychwelyd i'r hyn yr oedd ym mis Chwefror eleni. Rwy'n credu bod y cyhoedd yn ddoeth yn hynny o beth ac yn cydnabod nad yw'r mathau hynny o derfynau amser artiffisial yn rhoi'r math o sicrwydd y maent yn chwilio amdano ac mae'n llawer gwell bod yn onest ac yn onest ynghylch faint yr ansicrwydd yr ydym yn ymdrin ag ef. O fewn pob adolygiad, pan fyddwn yn cynnal adolygiad o'n rheoliadau ynghylch y cyfyngiadau symud, byddwn yn ystyried yr hyn yr ydym yn ei wneud, byddwn wedyn yn cadarnhau ein bod yn gwneud hynny ac fel rwy'n dweud, byddwn yn parhau i hysbysu'r cyhoedd o'r cyhoeddiadau a'r cyngor rheolaidd yr ydym yn eu cael fel modd o'u cynorthwyo, i gynnal yr ymddiriedaeth hanfodol sydd ei angen arnom ni hefyd. Ac rwyf yn credu bod un newid sylweddol a wnaethom ni y tro hwn yn—. Gall pobl fynd allan a chwrdd ar yr amod eu bod yn cadw pellter cymdeithasol, ehangu hynny a diffinio rhyw gymaint ar deithio, oherwydd yn y cyfnod blaenorol, cawsom gryn dipyn o feirniadaeth gan amrywiaeth o bobl, yn enwedig y rhai sy'n cynrychioli'r cymoedd ac ardaloedd gwledig, nad oedd dweud wrth bobl am ddefnyddio eu crebwyll ar yr hyn oedd yn lleol yn gweithio mewn gwirionedd. Ac wrth ddarparu 5 milltir fel rheol gyffredinol, fel y nododd y Prif Weinidog o'r funud y cyflwynodd y rheolau newydd, credaf ei fod wedi rhoi peth pendantrwydd i hynny heb iddi fod yn rheol gadarn, oherwydd ni fyddai hynny wedi ystyried yr amgylchiadau gwahanol y mae rhai pobl yn byw ynddynt, felly credaf ein bod wedi gwneud y peth iawn, ac mae'r rhesymeg dros aros yn lleol yn ymwneud â chyfyngu'r feirws ac atal ei ledaeniad. Pe baem yn dileu cyfyngiadau er mwyn i bobl deithio o amgylch y wlad, rwy'n credu bod digon o bobl yng Nghymru a fyddai'n gweithredu yn y fath fodd fel y byddech yn dechrau gweld pobl yn heidio i rannau o'r wlad—mannau prydferth a llecynnau eraill—mewn modd na fyddai'r un ohonom ni eisiau ei weld na'i annog. Felly, rwy'n credu ein bod yn gwneud y peth iawn wrth gadw neges 'aros yn lleol' a byddwch yn gweld nad yw hynny'n anghyson â'r negeseuon o'r Alban a Gogledd Iwerddon ac, yn wir, mae arweinydd Cyngor Bournemouth ei hun wedi dweud ei bod eisiau gweld yr un dull yn Lloegr. O ran pa mor gyflym yr ydym ni'n profi, mae hynny'n gwella drwy'r amser; o ran ailddechrau gwasanaethau deintyddiaeth, caiff y llythyr at y prif swyddog deintyddol ei gyhoeddi; byddaf yn darparu datganiad ysgrifenedig byr er mwyn rhoi gwybod i'r Aelodau pryd y bydd ar gael. Nid wyf yn credu eich bod yn awgrymu bod dim ond ardystio nad oes COVID ar bobl o reidrwydd mor syml ag y mae hynny'n ymddangos. Mae'n dweud wrthych beth yw'r sefyllfa ar yr adeg y mae rhywun wedi cael y prawf, ac felly dydw i ddim yn credu bod hynny o reidrwydd yn ffordd ddefnyddiol o weithredu. O ran eich etholwraig, sy'n gwneud ffrogiau priodas, fel y gwyddom ni, nid yw'r rhan fwyaf o briodasau'n cael eu cynnal, ac felly, mewn gwirionedd, nid oes busnes iddi hi yn ei busnes arferol ac mae hynny oherwydd y ffaith bod pobl yn mynd i briodasau ac yn cymysgu â phobl eraill. Cefais amser gwych ar fy niwrnod priodas, ond yn sicr ni allech gael priodas fel honnoar hyn o bryd. Yna, yn olaf, o ran cydbwyso niweidiau, byddwch wedi gweld y cydbwyso hwnnw ar niweidiau yn y penderfyniad anodd a wnaeth y Gweinidog Addysg heddiw. Mae cydbwyso'r niwed y mae'r cyfyngiadau symud yn ei achosi drwy gau ysgolion, yr angen a'r awydd i ddychwelyd mewn modd mor ddiogel â phosib ac nid dim ond wrth wneud hynny, ond wrth feddwl am ffordd hollol wahanol o reoli'r diwrnod ysgol, a chydnabod y byddai peidio â darparu addysg i fwy o blant nes dechrau Medi yn achosi niwed i'r plant, a byddai'r niwed mwyaf i'r plant mwyaf agored i niwed a'u teuluoedd. Felly, rydym ni bob amser yn gorfod cydbwyso'r gwahanol niweidiau sy'n dod o'r coronafeirws, sy'n dod o'r cyfyngiadau symud, a byddwn yn parhau i weld Gweinidogion Cymru yn gwneud y gwaith anodd o ddal y ddysgl yn wastad wrth i ni barhau i gadw Cymru'n ddiogel. Diolch. Dawn Bowden. Dawn Bowden AC: Iawn, Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n ddrwg gennyf, roedd yn rhaid i mi droi fy meicroffonymlaen. Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Un o'r pethau yr hoffwn ei ddweud oedd fy mod yn ddiolchgar iawn am y sesiynau briffio a diweddaru parhaus yr ydym yn eu cael—Aelodau o'r Senedd ac Aelodau o Senedd y DU yn fy ardal—am gyfarfod â'r byrddau iechyd a chael yr wybodaeth reolaidd ganddynt. Rwy'n credu ei bod hi'n werth rhoi ar gof a chadw unwaith eto ein diolch i bawb sy'n gweithio yn y GIG ac yn gwneud pethau anhygoel, rhyfeddol yn ystod y pandemig hwn. Heb fod yn hunanfodlon mewn unrhyw ffordd, rwyf wedi bod yn falch iawn o weld nifer y bobl sy'n cael eu rhyddhau o'r ysbyty wedi gwella'n llwyr o COVID, a gweld bod y capasiti mewn ysbytai ar draws fy ardal, gan gynnwys mewn unedau gofal dwys—yn ymdopi'n eithaf da mewn gwirionedd. Fodd bynnag, yr hyn sy'n parhau'n bryder i mi yw'r cyfraddau sylweddol o heintiau ym Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf, ac mae hynny'n ymddangos yn gwbl groes i'r hyn sy'n digwydd yng ngweddill Cymru. Nawr, gwyddom fod gennym ni lawer o strydoedd teras a theuluoedd yn byw yn agos at ei gilydd ym Merthyr a Rhondda Cynon Taf, ac mae'n ddigon posib yr ystyrir hynny'n un o'r rhesymau dros y niferoedd sylweddol o heintiau, fel y cyfeiriodd y Prif Weinidog ato, mi gredaf, wrth ymateb i gwestiynau am ei ddatganiad y bore yma. Ond mae hefyd yn wir fod gan gymunedau eraill yn y Cymoedd a rhai o'n hardaloedd canol dinas dai teras a theuluoedd yn byw'n agos at ei gilydd ac nid yw'n ymddangos bod ganddyn nhw'r un niferoedd o heintiau yn y mannau hynny. Nawr, rydym ni wedi clywed straeon anecdotaidd— A allwch chi ddod at eich cwestiwn, os gwelwch yn dda? Diolch. Dawn Bowden AC: Rydym ni wedi clywed adroddiadau am bobl yn peidio â pharchu gofynion cadw pellter cymdeithasol mewn rhai ardaloedd, ond hoffwn wybod a oes rhywbeth mwy yn digwydd yn y cymunedau hyn? A byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi ddweud pa waith y mae epidemiolegwyr y Llywodraeth yn ei wneud i geisio sefydlu a oes unrhyw beth arall, mewn gwirionedd, heblaw am ymddygiad yn y cymunedau hyn sy'n cadw cyfradd yr heintio mor gymharol uchel. Vaughan Gething AC: Diolch am y cwestiwn, Dawn, ac mae'n ffaith—i roi hyn mewn rhyw gyd-destun—er bod uchafbwynt yr epidemig yn wahanol mewn gwahanol rannau o Gymru, mae'n ffaith bod ardaloedd Byrddau Iechyd Aneurin Bevan, Caerdydd a'r Fro a Chwm Taf wedi cael mwy o achosion y pen o ran heintiau, a'r niwed sydd wedi'i achosi ac, yn ei dro, y cyfraddau marwolaethau—mae gan ardal Cwm Taf Morgannwg gyfradd marwolaethau uwch nag unrhyw ardal Bwrdd Iechyd arall yng Nghymru. Felly, mae'n fater o bryder amlwg. Ond rydych chi'n iawn i nodi bod gan gymunedau eraill nodweddion ffisegol a daearyddol tebyg, ac nid ydym ni eto wedi cael ar ddeall yn iawn gan ein hepidemiolegwyr yr union resymau pam y mae hyn yn wahanol yn Rhondda Cynon Taf a Merthyr, oherwydd hyd yn oed y sylwadau am iechyd a lles corfforol y cymunedau sy'n cael eu gwasanaethu—wel, dydyn nhw ddim mor wahanol i lawer o gymunedau eraill y Cymoedd, ond rydym ni yn gweld cyfradd heintio sylweddol wahanol. Felly, rydym yn dal i edrych ar hynny wrth i ni arsylwi ar y pandemig yn ei gyfanrwydd a dysgu ohono. Rwyf eisiau rhoi mwy o wybodaeth, nid yn unig am le yr ydym ni arni, ond am yr hyn y credwn y mae angen i ni gynghori pobl i'w wneud. Ond rwy'n credu mai'r man cychwyn yw y dylai pawb gymryd y negeseuon cadw pellter cymdeithasol o ddifrif. Mae'r canllawiau yno i helpu pobl i gadw at y rheolau, i egluro beth sy'n cael ei ganiatáu ac o fewn y rheolau ac ysbryd y rheolau yr ydym ni wedi'u creu, a byddant hefyd yn helpu pobl i ddeall yr hyn nad yw'n cael ei ganiatáu, ac i gydnabod bod hyn yn ymwneud ag atal niwed i'r bobl hynny a'u teuluoedd a'u cymunedau a phobl na fyddant efallai byth yn eu cyfarfod. Os nad yw pobl yn dilyn y canllawiau a ddarparwyd gennym ni ac nad ydynt—. Ym mhob rhan o Gymru yn ddieithriad bron, roedd gennym ni gryn gytundeb â'r rheolau a chefnogaeth sylweddol iddynt, ac mae angen i bob un ohonom ni lynu wrthynt oherwydd mae ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yr wythnos hon yn dangos dros 2,100 o farwolaethau yng Nghymru, a cheir marwolaethau o hyd bob dydd. Felly, ni ddylai neb feddwl y gallwn ni ddychwelyd i sut yr oedd pethau ac ymddwyn fel petai hyn heb ddigwydd erioed. Bydd misoedd a misoedd o ymddygiad anodd yn ein hwynebu pan fyddwn yn gofyn i bobl fod yn hunan-ddisgybledig, oherwydd os na fyddwn ni, os gwelwn y coronafeirws yn dechrau lledaenu'n gyflym eto, byddwn yn gweld miloedd lawer mwy o bobl yn cael eu niweidio gan y coronafeirws. Ac, unwaith eto, yr ymrwymiad gwych yr ydym ni wedi'i gael gan ein holl wasanaeth iechyd gwladol a'r bobl sydd nawr wedi gwella—bydd angen i ni alw ar y bobl hynny hyd yn oed yn fwy, ac nid wyf yn credu y dylem ni bwyso eu hymrwymiad y tu hwnt i hynny. Mae'n rhaid i ni wneud ein dewisiadau ein hunain, pob un ohonom ni, o ran sut y byddwn i gyd yn gwneud ein rhan yn cadw Cymru'n ddiogel. Diolch. Mark Isherwood. Vaughan Gething AC: Ni allaf ei glywed. Mae angen i ni droi meicroffon Mark ymlaen. Mark Isherwood AC: Rwyf wedi gwneud hynny. Allwch chi fy nghlywed i? Gallwn, ewch ymlaen, gallwch siarad nawr. Mark Isherwood AC: Diolch. Roeddwn yn meddwl ei fod yn awtomatig, ymddiheuriadau. Mae cartrefi nyrsio yn cael cynnydd tâl dros dro ar gyfer lleoliadau gofal cymdeithasol i oedolion, ond nid yw hyn yn cynnwys lleoliadau a ariennir gan y bwrdd iechyd. O ran cyllid gofal iechyd parhaus, mae Fforwm Gofal Cymru wedi tynnu sylw at y ffaith bod cartrefi nyrsio yn y gogledd o dan anfantais o'u cymharu â mannau eraill. Sut ydych chi, felly, yn ymateb i bryder y sector, er bod gan drigolion sy'n cael cyllid ar gyfer gofal iechyd parhaus anghenion mwy cymhleth fyth, ni fu sôn am gynnydd yn gysylltiedig â COVID-19? Yn Lloegr, caniateir i bractisau deintyddol ailagor o 8 Mehefin, ar yr amod bod meini prawf caeth wedi'u bodloni cyn y gellir cynnal triniaethau sy'n ymwneud â chynhyrchu aerosol. Yng Nghymru, ni wnaed unrhyw ddarpariaeth i ganiatáu i bractisau deintyddol wneud hyn. Sut, felly, ydych chi'n ymateb i lawfeddygon deintyddol yn y gogledd sy'n dweud wrthyf, oni newidiwch chi'r rheolau, y bydd gwasanaethau deintyddol a bywoliaeth miloedd o weithwyr proffesiynol ymroddedig ac ymrwymedig yng Nghymru yn cael eu dinistrio? Vaughan Gething AC: Diolch. O ran y ddau gwestiwn—ynglŷn â ffioedd cartrefi nyrsio, rydym ni'r Llywodraeth yn trafod yn rheolaidd â Fforwm Gofal Cymru. Buom yn trafod hynny yn yr ymwneud rheolaidd rhyngof i a swyddogion ynglŷn â gwella'r broses o brofi pobl, ac mae hynny bellach mewn gwell sefyllfa o lawer i'r sector gofal preswyl yn arbennig. Ac mae'r Dirprwy Weinidog, Julie Morgan, yn cyfarfod â Fforwm Gofal Cymru yn rheolaidd bob wythnos. Felly, mae trafodaethau a chyfleoedd rheolaidd i Fforwm Gofal Cymru godi pryderon, yn ogystal â'r Dirprwy Weinidog, ond, wrth gwrs, yn y drafodaeth reolaidd a gânt gyda swyddogion hefyd. Felly, byddwn yn parhau i adolygu—[torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, a wnaiff rhywun ddiffodd meicroffon Mr Isherwood? Nid ydym yn derbyn tarfu ar gwestiynau na thorri ar eu traws, mae'n ddrwg gennyf. Vaughan Gething. Vaughan Gething AC: Byddwn yn parhau i siarad â nhw am yr hyn sy'n bosib wrth i ni barhau i adolygu'r hyn y gallwn ni ei wneud wrth ymateb i'r pandemig. Fel y dywedais wrth ateb cwestiynau'n gynharach, os bydd y dystiolaeth yn newid, byddwn yn fwy na pharod i newid y sefyllfa yr ydym ni ynddi ac, wrth gwrs, y ffordd yr ydym yn defnyddio'r adnoddau sydd ar gael i ni. O ran y sefyllfa ynghylch deintyddiaeth yn Lloegr, nid yw mor syml ag yr adroddwyd amdani. Credaf y rhoddwyd yr argraff yn gynharach yr wythnos hon y byddai gwasanaethau deintyddiaeth yn agor ar raddfa eang yn Lloegr, ac nid yw hynny'n hollol gywir. Rydym ni wedi cael cyngor uniongyrchol gan y prif swyddog deintyddol yng Nghymru. Mae wedi ysgrifennu at bob practis deintyddol i egluro sut yr ydym ni eisiau ailddechrau gweithgarwch deintyddol yn ddiogel. Ond mae a wnelo hynny ag ailddechrau gweithgarwch deintyddol yn ddiogel, oherwydd mae perygl i'r claf a'r unigolyn sy'n gweithio'n agos iawn ato. Yn union fel y bu'n rhaid i ni gydbwyso'r holl risgiau, y niwed a'r dystiolaeth sydd gennym ni yn y penderfyniad anodd y mae'r Gweinidog Addysg wedi'i wneud heddiw ynghylch ffurf wahanol ar weithrediad ysgolion am bedair wythnos erbyn diwedd y flwyddyn ysgol hon, rhaid inni feddwl am gydbwysedd y risgiau i bobl sy'n gweithio ym maes deintyddiaeth. Ni fyddwn i eisiau rhoi'r cyfle i wneud arian o flaen gweld ystod o'n gweithwyr deintyddol proffesiynol yn colli eu bywydau os ydym yn mynd ati mewn modd di-hid. Dyna pam mae cyngor proffesiynol y Prif Swyddog deintyddol mor bwysig. Fel y dywedais yn gynharach, byddwn yn parhau i gael ein harwain gan y dystiolaeth, a byddaf yn cyhoeddi ei llythyr a'i chyngor i ddeintyddion ledled Cymru. Delyth Jewell AC: Gweinidog, fis diwethaf, fe wnaethoch chi gyhoeddi y byddai gweithwyr gofal yng Nghymru yn cael taliad bonws o £500 am eu cyfraniad yn ystod pandemig COVID-19. Mae wedi dod yn amlwg erbyn hyn y bydd angen tynnu treth incwm ac yswiriant gwladol o hynny, sy'n golygu mai'r swm gwirioneddol y bydd pobl sy'n ennill dros y lwfans personol yn ei gael fydd £360, nid £500. Nid yw Plaid Cymru yn credu y dylid trethu'r taliad bonws hwn ac y dylid ei gynnig i bob gweithiwr cartref gofal, gan gynnwys staff glanhau a staff cegin. Gweinidog, mae'n bosib bod y gofalwyr a glywodd eich cyhoeddiad y mis diwethaf wedi gwneud cynlluniau i wario'r £500 hwnnw eisoes ar wyliau haeddiannol wedi i hyn i gyd ddod i ben neu i dalu biliau hwyr. A yw'n edifar gan Lywodraeth Cymru na fuont yn agored ynghylch y ffaith y cai'r taliad bonws hwn ei drethu pan wnaed y cyhoeddiad gennych chi ar ddiwrnod rhyngwladol y gweithwyr? Vaughan Gething AC: Rwy'n credu bod dau beth—y cyntaf yw nad oedd Llywodraeth Cymru erioed mewn sefyllfa i roi gwarant na fyddai'n cael ei drethu. Gwnaethom yn glir yn gyhoeddus ein bod eisiau i Lywodraeth y DU gytuno i beidio â threthu hyn fel y gellid ei drin, fel y dywedodd Mike Hedges yn gynharach, fel rhodd, nid fel taliad trethadwy. Maen nhw wedi gwneud hynny yn y gorffennol o dan amgylchiadau eithriadol—er enghraifft, roedd yn gam a oedd i'w groesawu ar ran Llywodraeth y DU i beidio â threthu'r taliadau caledi yr oedd rhai cynghorau'n gallu eu gwneud yn ystod y llifogydd a welsom yn ddiweddar. Rwy'n siomedig dros ben bod Llywodraeth y DU wedi penderfynu trethu'r taliad hwn. Bu Llywodraeth Cymru yn pwyso'n uniongyrchol ar Lywodraeth y DU, nid yn gwneud datganiadau cyhoeddus yn unig, ac maen nhw bellach wedi ymateb drwy ddweud eu bod yn disgwyl gwneud didyniad treth. Penderfyniad i Lywodraeth y DU yw hynny. Credaf y dylent ailystyried, dylent ailfeddwl, er mwyn sicrhau y dylai'r hyn sydd yn ei hanfod yn weithlu isel ei gyflog, sy'n fenywaidd yn bennaf, gael y £500 llawn. Ond mater i Lywodraeth y DU yw penderfynu a yw'n bwysicach iddynt gymryd treth o'r taliad hwn neu wneud y peth iawn i'n gweithwyr gofal. Gobeithio y gwnânt y peth iawn. John Griffiths AC: Gweinidog, rydym ni wedi clywed cyfeiriad heddiw at y gwasanaeth iechyd yn mynd i'r afael yn gynyddol ag amgylchiadau nad oes a wnelon nhw â COVID, ac mae cynlluniau chwarter 1, rwy'n gwybod, i'w cyflwyno'n fuan. Ond rwy'n gwybod bod yr elusennau canser, er enghraifft, yn dal yn bryderus iawn nad ydym ni yn gweld yr ymgynghoriadau, y diagnosis, y canfod a'r driniaeth gynnar o'r cyflyrau canser hynod ddifrifol hyn, sydd yn llawer rhy gyffredin, a ddylai fod yn digwydd. Felly, tybed sut yn union y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r elusennau canser, y byrddau iechyd, y sector iechyd yn gyffredinol, i sicrhau bod dychwelyd i ymdrin â'r achosion hyn nad oes a wnelon nhw â COVID, fel y byddai wedi digwydd cyn y pandemig, yn digwydd yn gynhwysfawr ac yn gyson ledled Cymru, ac ar yr un pryd, wrth gwrs, yn cydbwyso'r ymdriniaeth â'r pandemig, fel sy'n gorfod digwydd. Vaughan Gething AC: Diolch am y cwestiwn. Mae'n un o'r pryderon y bu gennyf ac rwyf wedi ei fynegi ers sawl wythnos bellach, nad yw pobl wedi defnyddio ein gwasanaethau gofal brys sydd wedi aros ar agor, yn rhannol oherwydd y bu pobl yn fwy ofnus o fynd i gyfleuster gofal iechyd na'r symptomau neu'r pryderon y byddent wedi'u cael. Chwe mis ynghynt, byddai pobl wedi bod yn fwy tebygol o fynd i ofyn am gymorth neu gyngor gan weithiwr iechyd proffesiynol. Mae hefyd yn wir ein bod yn darganfod ystod o ganserau pan fydd pobl yn mynychu am reswm gwahanol. Ar gyfer pob un o'r apwyntiadau a'r ymweliadau hynny nad ydynt yn digwydd, mae perygl nid yn unig o'r niwed uniongyrchol y mae rhywun yn ei ddeall sy'n gallu digwydd ond niwed arall sy'n cael ei ddarganfod. Rydym ni nawr yn dechrau gweld cynnydd yn y niferoedd hynny o bobl sy'n mynd i'r cyfleusterau. Soniais rywfaint am hyn ddoe yn y gynhadledd i'r wasg ac rwyf wedi cyfeirio ato yn y datganiad ysgrifenedig hefyd. Fodd bynnag, rydym ni hefyd wedi gweld newid sy'n cael ei groesawu o ran atgyfeirio hefyd, felly po fwyaf o bobl sy'n mynd, mwyaf o bobl sy'n cael eu hatgyfeirio, er enghraifft, drwy ofal sylfaenol. Gwelsom gwymp yn nifer y bobl a gawsant eu hatgyfeirio, ond erbyn hyn rydym yn dechrau gweld adferiad. Yn y datganiadau a wnaed ar gynlluniau chwarter 1, rydym ni hefyd yn y sefyllfa lle yr ydym ni'n gweld gwasanaethau diagnostig yn gwella. Ein bwriad yw bod gwasanaethau endosgopi yn ail-gychwyn. Mae hynny'n mynd i fod yn anodd oherwydd bydd llawer iawn o alw am y gwasanaethau hynny, ond rydym yn dechrau gweld adferiad graddol. Ac yn y cynlluniau rhanbarthol y cyfeiriais atyn nhw, mae gwasanaethau canser yn faes amlwg iawn lle y byddai angen cydweithredu dros fwy nag un ardal bwrdd iechyd. Rydym ni eisoes yn darparu gwasanaethau canser dros fwy nag un ardal bwrdd iechyd yn rheolaidd. Bydd angen i ni weld mwy o hynny o ran cynllunio ein hadferiad. Ac o ran gweithio gyda'r elusennau canser, rwy'n disgwyl gweld y cynghrair canser cyn diwedd y mis hwn, rwy'n credu. Ond mae hyn yn rhan o'n rhaglen ehangach, ac os caf wneud sylw yng nghyswllt rhywbeth arall, sef ein bod, mewn amrywiaeth o feysydd, yn gorfod meddwl am sut yr ydym yn gwneud pethau'n wahanol. Enghraifft dda y tu allan i'r ward ganser o orfod gwneud pethau'n wahanol oherwydd bod risg o hyd yw'r ffordd yr ydym wedi ail-gynllunio ein gwasanaeth retinopatheg diabetig i bobl sy'n feichiog. Felly, mae menywod beichiog sydd â diabetes mewn perygl penodol o ddioddef niwed i'w golwg. Mae gennym ni bellach ffordd newydd o'u trin a gyflwynwyd i sicrhau y gallwn ni ddarparu'r gwasanaeth hwnnw, fel arall gallai niwed sylweddol a pharhaol fod wedi'i achosi i'w golwg. Felly, rydym ni eisoes yn ymateb i hyn, ac ym mhob maes gweithgarwch, nid yn unig mewn gwasanaethau canser, gan orfod ailgynllunio ein gwasanaethau mewn modd fydd yn gwneud y lles mwyaf er mwyn osgoi achosi'r niwed mwyaf. David Melding AC: Gweinidog, rwyf wedi dioddef crawniad deintyddol yn ystod y cyfyngiadau symud. Dywedir wrthyf bod posibilrwydd cryf y gallai ddychwelyd; mae'n digwydd yn aml ar ôl i bobl gael y gwrthfiotigau. Nid mater brys mohono, felly ni allaf ond byw mewn gobaith. Felly, mae'r ffaith na chaiff ei drin yn briodol tan fis Ionawr 2021 yn amlwg yn effeithio'n uniongyrchol arnaf, ond mae llawer o gleifion a llawer, llawer o ddeintyddion yn ysgrifennu atom ni—ac rwy'n siŵr y byddai pob aelod yn cytuno â hyn—ac rwyf yn annog ystyried y cynllun ymhellach. Ac rwyf yn derbyn yn llwyr fod angen ei ystyried yn ofalus iawn, ond mae Cymdeithas Ddeintyddol Prydain, mewn ymateb i'r awgrymiadau diweddar, wedi dweud fod galw mawr, cynyddol am weithredu'n gyflymach cyn Ionawr 2021. Hynny yw triniaethau nad ydynt yn rhai brys. Ac maen nhw hefyd wedi dweud, ac rwy'n dyfynnu: Mae polisïau cadarn, rhagorol ar waith i sicrhau y caiff y cleifion a'r tîm eu diogelu. Felly, a allwn ni edrych ar hyn yn ofalus iawn? Oherwydd rwy'n credu y bu sylwadau dirifedi ynghylch y cynllun cychwynnol ac mae'n debyg bod angen ei adolygu'n ofalus, ac rwy'n gobeithio y bydd Cymdeithas Ddeintyddol Prydain yn cymryd rhan lawn yn hynny. Vaughan Gething AC: Wel, fe fyddwn i'n hapus iawn i wneud yn siŵr bod y Llywodraeth a'r arweiniad proffesiynol a ddarperir gan ein prif swyddog deintyddol yn parhau â'r trafodaethau rheolaidd hynny yr ydym yn eu cael gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain yma yng Nghymru. Unwaith eto, rwy'n credu y dylem ni gyflymu'r broses o ddiwygio'r ffordd yr ydym ni'n darparu gwasanaethau deintyddol er mwyn canolbwyntio mwy ar wneud y gorau o'r adnoddau sydd ar gael i ni. Rwyf i, a'r prif swyddog deintyddol, yn dymuno dychwelyd i gael mwy o weithgarwch deintyddol yn gynt, yn hytrach nag yn hwyrach, ond mae'n rhaid iddo fod mewn ffordd ddiogel, a dyna'r sefyllfa yr ydym ni ynddi. Felly, er y byddaf yn glir ac yn dryloyw wrth gyhoeddi ei chyngor presennol i weithwyr deintyddol proffesiynol yng Nghymru, os bydd diweddariad pellach yn y drafodaeth barhaus honno, yna byddaf yn fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ac i wneud hynny. Ac os oes unrhyw newid pellach yn y ffordd y gallwn ni wneud hynny a pha mor gyflym y gallwn ni wneud hynny i gadw cleifion a gweithwyr deintyddol proffesiynol yn ddiogel, yna byddaf yn hapus iawn i sicrhau bod yr holl Aelodau'n cael gwybod am hynny ar yr un pryd. David Rees AC: Gweinidog, dim ond dau bwynt: rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud y cyhoeddiad y byddai'n profi'r holl breswylwyr a'r staff mewn cartrefi gofal. Mae fy mwrdd iechyd fy hun yn dangos eu bod yn disgwyl cwblhau eu rhai nhw yn y maes hwn erbyn diwedd yr wythnos hon. Fodd bynnag, rwyf yn pryderu am y sefyllfa o ran ailbrofi, oherwydd ceir sefyllfaoedd lle mae rhai profion wedi dod yn ôl yn gadarnhaol, am eu bod yn asymptomatig, ac felly ceir preswylwyr a staff nad oeddent yn dangos arwyddion na symptomau COVID-19 ond sydd wedi profi'n gadarnhaol drwy'r profion. A gallai fod sefyllfa lle y gallai aelodau eraill o'r staff, o ganlyniad i hynny, brofi'n bositif yn y dyfodol gan roi mwy o breswylwyr mewn perygl. Felly, a wnewch chi roi diweddariad manwl ynghylch pryd y gellid dechrau ailbrofi staff cartrefi gofal yn arbennig i sicrhau, wrth iddynt fynd i mewn ac allan o'r cartrefi, nad ydynt yn mynd â'r feirws yn ôl i mewn gyda nhw, gan eu bod yn asymptomatig? A gaf i hefyd gytuno ar y sefyllfa gyda deintyddion? Rwy'n siŵr, fel yr amlygodd David Melding, ein bod i gyd wedi cael gohebiaeth ynglŷn â deintyddiaeth. Gwn, o dan glefyd Creutzfeldt-Jakob, fod y deintyddion wedi cymryd camau arbennig iawn, felly maen nhw eisoes yn hyddysg mewn arferion diogel o ran ymdrin â chleifion. Ond rwyf hefyd yn derbyn y cyfrifoldebau sydd gennych i sicrhau diogelwch y staff yn y practis deintyddol hefyd. Vaughan Gething AC: Wel, mae'r sylw ynglŷn â deintyddiaeth yn ddealladwy ac, wrth gwrs, o'm rhan fy hun yn Aelod etholaeth, mae gen i bobl a fydd eisiau defnyddio gwasanaethau deintyddol. A dweud y gwir, rydym ni wedi cael trafferth yn y gorffennol i gael pobl i fanteisio ar y gwasanaethau hynny yn y ffordd y byddem yn dymuno iddyn nhw wneud, ac agwedd arall yw arferion plant a phobl ifanc mewn gwirionedd a'n gallu i ymyrryd yn gynharach i annog arferion da ynghylch hylendid deintyddol. Felly, rwyf yn cymryd o ddifrif y pwyntiau y mae Aelodau o wahanol bleidiau wedi'u gwneud, yma ond hefyd y tu allan i'r lleoliad hwn, am yr awydd a'r budd a gafwyd o ailgychwyn gwasanaethau deintyddol. Felly, dydw i ddim yn anwybyddu nac yn diystyruhynny; rwyf yn wirioneddol yn ei gymryd o ddifrif. O ran eich sylw am ailbrofi mewn cartrefi gofal: cyn diwedd y cyfnod cychwynnol, disgwyliaf gael cyngor am y cyfnod o amser y byddir yn ailbrofi o'i fewn a sut beth fydd y rhaglen ailbrofi honno, felly ni fydd sefyllfa gennym ni, ymhen tri mis, lle bydd pwl arall o ailbrofi pobl yn y sector cartrefi gofal, ond bod gennym ni raglen reolaidd a dealladwy. Ac yna mae'n rhaid i mi gydbwyso hynny â'r rheidrwydd y bydd angen i ni gynnal a diogelu capasiti o fewn ein rhaglen brofi i wneud hynny, a dal i wneud yn siŵr bod gennym ni ddigon o gapasiti i wneud yn siŵr nad yw olrhain cyswllt yn cael ei beryglu hefyd. Oherwydd yn sicr ni fyddwn i eisiau peryglu gwasanaeth newydd profi, olrhain, diogelu GIG Cymru. Ond, yn yr un modd, mae angen i ni sicrhau ein bod yn cydbwyso'r risgiau sy'n bodoli ym mhob rhan o'r gwasanaeth. Dyna pam y mae'r cynnydd a welsom ni yng nghapasiti labordai i gynnal mwy na 9,500 o brofion yn newyddion mor dda; mae'n caniatáu inni gael y dewisiadau hynny, i beidio â chael ein cyfyngu gan gapasiti. Ond mae angen i mi weld y dystiolaeth, i weld y cyngor, a, chyn gynted ag y bydd y rheini ar gael, byddaf yn falch o hysbysu nid yn unig yr Aelod ond yr holl Aelodau am yr hyn y mae hynny'n ei olygu a'n disgwyliad o ran ailbrofi staff a phreswylwyr yn y sector cartrefi gofal. Helen Mary Jones. Na. Vaughan Gething AC: Nid yw meicroffon Helen Mary yn agored. A allwn ni—a wnaiff rhywun helpu Helen Mary? Ni allwn ei chlywed hi. A all rhywun ei helpu i droi ei meicroffon ymlaen, os gwelwch yn dda? Na. A gaf i adael Helen? Dof yn ôl atoch, Helen, oni bai—a yw eich meicroffon yn agored nawr? Nac ydy. Iawn, dof yn ôl atoch chi. Jack Sargeant. Jack Sargeant AC: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, bydd y coronafeirws, yr angen i ynysu a'r doll ariannol y mae trigolion ledled Cymru yn ei thalu yn cael effaith enfawr, wrth gwrs, ar eu hiechyd meddwl. Nawr, nid yw newyddion bod 1,700 o gleifion wedi'u rhyddhau mewn camgymeriad yn y gogledd yn rhoi hyder i neb fod gwasanaethau yn y gogledd yn union fel y dylent fod. Nawr, rwy'n deall bod pwysau enfawr ar ein GIG ar hyn o bryd, ond mae'n amlwg nad yw hyn yn ddigon da. Mae angen i drigolion yn y gogledd gael ffydd mewn gwasanaethau. Gweinidog, rydym ni i gyd wedi bod yn dioddef o bandemig iechyd meddwl ymhell cyn COVID-19. Felly, nid dim ond fel seneddwyr a Llywodraethau, ond fel bodau dynol, mae angen i ni wneud mwy. Gweinidog, beth allwch chi ei ddweud wrth fy etholwyr i roi sicrwydd iddynt fod gwersi'n cael eu dysgu a bod y rhai yr effeithir arnynt yn cael y gefnogaeth y mae arnynt ei hangen fel mater o frys? Vaughan Gething AC: Rwy'n credu ei fod yn sylw yr wyf wedi ymdrin ag ef o'r blaen, ond mae'n sylw cwbl deg i'r Aelod ei godi yn y fan yma hefyd, am y camgymeriad, ac fe roedd yn gamgymeriad, a wnaethpwyd wrth ryddhau pobl pan na ddylid bod wedi gwneud hynny. Mae'r bwrdd iechyd yn y gogledd yn gwella hynny, oherwydd roedd y canllawiau a ddarparwyd gennym ni i bob bwrdd iechyd yn fy marn i yn glir iawn bod gwasanaethau iechyd meddwl yn wasanaethau hanfodol ac y dylent barhau drwy'r pandemig. Ac mae yna agwedd ehangach yn hyn o beth—ac mae'n rhan, unwaith eto, o'r sylw a wnaethpwyd yn gynharach mewn cwestiynau am y niwed gwahanol sy'n cael ei achosi gan y coronafeirws, ac un o'r niweidiau, wrth ein cadw'n fyw yn gorfforol ac wrth achub bywydau, yw y byddwn yn ddiau wedi gweld niwed yn cael ei achosi i iechyd meddwl a lles pobl. Felly, bydd mwy o alw ar bob haen o'n gwasanaethau, felly mae'r gwasanaethau haen 0 a haen 1, sy'n rhai lefel gymharol isel, yn ddi-os yn gweld mwy o alw, yn union fel y bydd meysydd eraill lle mae galw mwy sylweddol. Dyna pam y bu i mi a'r Gweinidog addysg wneud ein cyhoeddiad ynghylch darparu mwy o adnoddau i blant a phobl ifanc, a dyna pam y byddaf yn parhau i edrych ar y materion iechyd meddwl sy'n cael eu codi nid yn unig yn y pwyllgor plant a phobl ifanc, ac a fydd efallai'n cael sylw yn y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yfory, ond i wneud yn siŵr bod y seilwaith ychwanegol yr ydym ni wedi'i roi ar waith i brofi a gwirio bod gwasanaethau iechyd meddwl yn dal i weithredu ac yn ymdrin ag angen, yn dal ar gael. Fe wnaethom ni brynu mwy o welyau ar ddechrau'r pandemig hwn ar gyfer yr angen mwyaf posib; rwyf wedi darparu mwy o arian drwy'r gyllideb. Felly, gallaf sicrhau Jack Sargeant nad dim ond yr agweddau yn ymwneud â thriniaeth, ond yr agwedd sydd gennym ni ynghylch y sgwrs yr ydym ni'n ei chael am iechyd meddwl yn y wlad hon, mynd yn ôl at y geiriau, 'mae'n iawn dweud nad ydych chi'n iawn'—mae'n bwysig iawn ein bod yn gwneud hynny hefyd yn y ffordd yr ydym yn byw ein bywydau ein hunain gyda'r bobl o'n hamgylch, a'r hyn yr ydym yn ei ddweud a sut yr ydym yn gweithredu yn gyhoeddus hefyd. Diolch. Rhown gynnig ar Helen Mary Jones eto. Helen Mary Jones AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Felly, mae'n ddrwg iawn gennyf, Gweinidog, ond nid wyf wedi fy nhawelu mwyach. [Chwerthin.] Os caf fynd â chi'n ôl at y mater o ran gwarchod a godwyd yn gynharach gyda'r Prif Weinidog gan fy nghyd-Aelod Delyth Jewell, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu rhoi i'r 32 o sefydliadau sydd wedi ysgrifennu atoch yn pryderu am y ffordd y cafodd y cyhoeddiad hwnnw ei wneud, ac yn gofyn am fwy o eglurder—gobeithio y gallwch chi roi ateb llawnach iddyn nhw nag y gwnaeth y Prif Weinidog ei roi i Delyth Jewell y prynhawn yma. Ond, yn benodol iawn—a gobeithio y byddwch yn manteisio ar y cyfle hwn i dawelu meddyliau pobl—a yw'n wir, Gweinidog, y bydd y bobl hynny sydd wedi cael cyngor i warchod eu hunain yn parhau i gael y gwasanaethau cymorth y maen nhw yn eu cael ar hyn o bryd? Rwy'n meddwl am bethau fel y blychau bwyd, amseroedd penodol yn yr archfarchnadoedd. Nid wyf yn gwybod a yw Aelodau eraill wedi profi hyn, ond yn sicr mae etholwyr wedi cysylltu â mi sydd mewn peth dryswch ynghylch pa un a fyddant yn parhau i gael y gwasanaethau hynny ac am ba hyd. Felly, rwy'n gobeithio, Gweinidog, y byddwch chi'n manteisio ar y cyfle i dawelu eu meddyliau y prynhawn yma. Vaughan Gething AC: Efallai ei bod yn werth i mi nodi bod y cyhoeddiad am warchod wedi dod yn dilyn cyngor gan y prif swyddog meddygol. Felly, nid oedd hwn yn achos lle penderfynais fy mod i eisiau newid y categori ac felly gwneud hynny heb unrhyw dystiolaeth na chyngor. Roeddem yn credu ein bod yn mynd i fod mewn sefyllfa i wneud cyhoeddiad unedig gyda gwledydd eraill y DU, ond yna newidiodd yr amserlen ar gyfer hwnnw. Gwnaethpwyd y cyhoeddiad yn Lloegr ar nos Sadwrn, pan oeddwn yn disgwyl y byddai wedi bod yn hwyrach. Byddem yn sicr wedi gallu ei wneud ar brynhawn Sul. Dyna oedd fy nisgwyliad, a byddem wedi cael nid yn unig dydd Sadwrn i fod yn barod, ond wedyn dydd Sul i gyd i siarad â rhanddeiliaid, gan gynnwys pobl mewn llywodraeth leol—nid llywodraeth leol yn unig, wrth gwrs, ond y galwedigaethau gofal iechyd sy'n gofalu am bobl, ac amrywiaeth o rai eraill—i nodi bod newid ar y ffordd ac i nodi beth ydoedd. Pan wnaethpwyd y cyhoeddiad yn Lloegr, i bob pwrpas, drwy erthygl papur newydd a aeth ar-lein nos Sadwrn, a chefais alwad ffôn anarferol ac annisgwyl ar nos Sadwrn i ddweud wrthyf fod hynny wedi ei gyhoeddi, yna cefais ddewis eithaf amlwg i'w wneud, ac roedd y ddau ddewis yn anniben. Y cyntaf oedd ceisio gweithredu yn ôl y bwriad a gwneud cyhoeddiad yn ail hanner dydd Sul, a fyddai wedi golygu'n anorfod y byddem wedi cael cwestiynau am yr hyn yr oeddem yn ei wneud yn ystod hanner cyntaf y Sul, ac rwy'n credu y byddai hynny wedi ein rhoi mewn sefyllfa chwerthinllyd lle, er i ni ddweud wrth randdeiliaid i baratoi ar gyfer cyhoeddiad, byddem yn dweud wrth y wasg, 'Dim sylw. Nid oes gennym unrhyw beth i'w ddweud', a byddai hynny wedi bod yn chwerthinllyd. Erbyn hynny, byddai ansicrwydd eisoes wedi bod ymhlith pobl a warchodir, eu teuluoedd a'u ffrindiau, yn ogystal â phobl sy'n darparu gofal a chymorth iddyn nhw yng Nghymru, ynghylch pa un a oeddem am wneud cyhoeddiad yng Nghymru ai peidio. Felly penderfynais-ac, unwaith eto, fy mhenderfyniad i oedd gwneud hyn-y dylem wneud ein cyhoeddiad fore'r dydd Sul. Nid yw'n ddelfrydol gwneud y cyhoeddiad hwnnw drwy ddatganiad i'r wasg pan nad oedd y datganiad ysgrifenedig ar gael a heb ei gwblhau tan yn ddiweddarach yn y dydd. Fel y dywedais, roedd yn anniben, ond fy marn i oedd mai dyna oedd y peth cywir i'w wneud, yn hytrach na threulio'r bore yn esbonio pam nad oeddem yn mynd i wneud unrhyw beth ac osgoi cwestiynau. Byddai'n well gennyf i, wrth i ni adolygu'r categori gwarchod a'r gefnogaeth a roddir iddyn nhw ledled y DU, nid dim ond yng Nghymru, ein bod yn gallu gwneud hynny drwy sgwrs agored rhwng prif swyddogion meddygol ac yn wir y pedair adran iechyd, a gwn fod hynny'n farn a rennir gan gydweithwyr mewn rhannau eraill o'r DU. Ar gyfer y bobl a warchodir yng Nghymru, bydd y prif swyddog meddygol yn ysgrifennu'n uniongyrchol. Mae llythyrau'n cael eu hargraffu a byddant yn dechrau cael eu hanfon yfory. Byddant yn clywed yn uniongyrchol ganddo am ddyfodol y categori gwarchod. Gall pobl ddisgwyl i'r gwarchod hynny ddigwydd am o leiaf ychydig fisoedd eto. Bydd yn nodi manylion hynny, a bydd hefyd yn arwain y gynhadledd i'r wasg yfory i siarad yn uniongyrchol â'r cyhoedd, ond gall yr Aelodau ddisgwyl gweld copi o'r llythyr a fydd yn mynd i'ch etholwyr hefyd. Byddaf yn sicrhau bod hynny'n cael ei ddarparu i chi gan ei fod yn barod ac wedi'i gymeradwyo. Gwnaethom ni hynny o'r blaen. Gallwch ddisgwyl gweld hynny eto, oherwydd gall Aelodau mewn etholaethau a rhanbarthau o bob plaid ddisgwyl i etholwyr gysylltu i ofyn beth sy'n digwydd. Felly, rwy'n credu ei fod yn bwysig eich bod yn gweld testun y llythyr hwnnw. O ran eich pwynt am y cymorth, fel yr wyf wedi egluro ar sawl achlysur, ac rwy'n falch o wneud hynny yn awr ar gofnod yn y Senedd, yr unig newid a wnaed yw bod pobl a warchodir bellach yn cael gwybod y gallant fynd allan, os ydyn nhw'n dymuno, i wneud ymarfer corff ac i weld un teulu arall gan gadw pellter cymdeithasol. Dyna'r unig newid yr ydym yn ei wneud-felly, gweld pobl y tu allan, mynd allan i wneud ymarfer corff. Mae pob mesur arall yn ei le, felly rydym ni'n dweud wrth unigolion a warchodir, 'Peidiwch â mynd i wneud eich siopa eich hunan. Peidiwch â mynd i mewn i siop i wneud hynny.' Rydym ni'n dweud wrth unigolion a warchodir, 'Os na allwch chi weithio o gartref, peidiwch â mynd i weithle gyda phobl eraill, oherwydd mae'r risgiau o fod mewn amgylchedd dan do yn dal yn sylweddol'. Mae hynny'n golygu, wrth gwrs, ein bod yn parhau i ddarparu'r cymorth ychwanegol hwnnw o ran bwyd, felly, y blaenoriaethau ar gyfer dosbarthu archfarchnadoedd, y bobl hynny sy'n mynd â'r bocsys bwyd, mae'r cymorth hwnnw ar gael o hyd, ac mae'n cynnwys pethau eraill fel darparu meddyginiaethau hefyd. Felly, mae'r cymorth hwnnw i gyd yn dal ar waith, ond, ar gyfer unigolion a warchodir, y gallu i fynd allan nawr, y cyngor o'r blaen oedd i beidio â mynd allan ar gyfer ymarfer corff y tu allan i'ch cartref eich hun, mae hynny wedi newid, ac rwy'n credu bod hwnnw'n fater pwysig i unigolion a warchodir. Ond efallai y bydd angen i ni ailedrych ar hynny. Os bydd hyn yn mynd i mewn i fisoedd y gaeaf, yn yr hydref, efallai y byddwn mewn sefyllfa lle bydd angen i'r cyngor hwnnw newid eto, ac mae'n atgyfnerthu fy mhwynt ein bod yn bell o fod yn gweld diwedd y coronafeirws. Angela Burns AC: Gweinidog, fe wnes i wrando ar yr ateb yna i Helen Mary ac mae'n rhaid i mi ddweud ei fod bob amser yn ymddangos mai problem cyfathrebu rhywun arall ydyw, onid yw? Gadewch i ni fynd yn ôl i'r £500 ar gyfer gofalwyr. Clywais ymateb y Prif Weinidog i Mike Hedges, a oedd yn annidwyll yn fy marn i, a chlywais eich ymateb i Delyth Jewell. Felly, a ydych yn dweud wrthyf naill ai nad oedd Llywodraeth Cymru yn gwybod, o dan gyfraith y DU, fod cyflogau'n cael eu trethu yn unol â lefelau ennill ac felly y byddai'r £500 hynny yn cael ei drethu, neu a ydych yn dweud wrthyf fod Llywodraeth Cymru eisiau i'r Canghellor ei roi fel rhodd, ond nad oeddech wedi trafferthu gofyn iddo cyn i chi wneud y cyhoeddiad? Yn olaf, a allwch chi egluro i bawb pwy fydd yn cael y taliad hwn? Oherwydd, ar 28 Mai, dywedoch chi wrthyf na fyddai'r holl weithwyr cartrefi gofal sy'n gweithio mewn cartref gofal a ariennir yn breifat—hynny yw cartref gofal nad yw'n derbyn unrhyw bobl sy'n cael cymorth gan y wladwriaeth—yn cael y £500 hwnnw. Felly, pan ydym yn dweud y bydd yr holl weithwyr gofal yng Nghymru yn ei gael, mae hynny, yn dechnegol, fel y deallaf o'm sgwrs â chi ar 28 Mai, yn anghywir, a byddwn yn ddiolchgar iawn am eich eglurhad oherwydd pan ddefnyddiwn y geiriau 'wedi'u hariannu'n breifat', rhaid i ni gofio bod hyn yn golygu bod llawer o Gymry yn byw ar eu cynilion olaf i fynd i gartref gofal preifat. Nid oes ganddyn nhw lawer o arian, ni fydd gan eu staff lawer o arian. Vaughan Gething AC: Wel, bydd y manylion terfynol ynglŷn â phwy sy'n mynd i gael y taliad yn cael eu cyhoeddi pan fyddwn wedi cwblhau'r trafodaethau gyda chyflogwyr ac undebau llafur, sydd, yn ôl yr hyn yr wyf yn ei ddeall, yn derfynol, felly byddwch yn clywed hynny yn y dyddiau nesaf, ac rwy'n credu y bydd yn rhoi'r eglurder yr ydych chi'n chwilio amdano, Angela. O ran y dreth ar yr £500, mae hynny wedi bod yn benderfyniad i'r DU erioed. Gwnaethom gyflwyno sylwadau drwy swyddogion ymlaen llaw ynglŷn â'r driniaeth o ran treth, ac fe wnaethom ni ysgrifennu yn uniongyrchol i gyflwyno sylwadau. Fe'i codwyd hefyd gan y Gweinidog cyllid mewn sgyrsiau. Felly, mater i Lywodraeth y DU yw penderfynu a ddylid rhoi'r arian hwn fel rhodd ai peidio, a'u dewis hwy oedd gosod treth arno. Rwy'n dal i gredu mai'r peth iawn iddyn nhw ei wneud yw ailystyried a pheidio â gosod treth ar y £500 ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol. Byddaf yn siomedig, fel rwy'n siŵr y bydd Aelodau eraill ar draws y pleidiau eraill, os na fydd Llywodraeth y DU yn ailystyried cymryd treth o'r arian hwn fel nad yw'n mynd yn uniongyrchol i bocedi menywod sy'n gweithio am gyflog cymharol isel ond yn hytrach yn mynd i'r Trysorlys. Rwy'n credu y byddai hynny—. A dweud y gwir, ni fyddai'n sefyllfa dda i Lywodraeth y DU fod ynddi, ac nid ydyn nhw'n disgwyl cael yr arian hwn, felly byddai yn ei hanfod yn ffawdelw treth i'r Trysorlys, ac yn sicr nid wyf yn credu dylai Trysorlys y DU fod yn cael ffawdelw o ofalwyr gofal cymdeithasol. Mae'r pŵer ganddyn nhw i sicrhau nad yw treth yn cael ei gosod ac unwaith eto rwy'n eu hannog i wneud hynny. O ran y gwarchod, wel, mae beth ddigwyddodd ynglŷnâ gwarchod yn fater o ffaith. Nid yw'n fater o ddweud mai—. Mae'n ffaith mai dyna a ddigwyddodd. Rwyf wedi gallu gweithio'n adeiladol iawn gyda Gweinidogion iechyd ar draws llywodraethau eraill, gyda'r Gweinidog iechyd unoliaethol yn y Llywodraeth amlbleidiol yng Ngogledd Iwerddon, Gweinidog iechyd yr SNP yn yr Alban ac, yn wir, Gweinidog iechyd y Cabinet Ceidwadol yn Lloegr, ond mae adegau pryd nad ydym ni bob amser yn cytuno. Rydym ni'n aeddfed ynghylch hynny. Mae yna adegau pan fydd yr hyn y mae pob un ohonom yn ei wneud yn effeithio ar y llall; roedd hyn yn un o'r achlysuron hynny. Felly yn syml, mae'n ffaith. Nid oeddem yn disgwyl cyhoeddiad ar warchod yn Lloegr i gael ei gyhoeddi drwy golofn papur newydd nos Sadwrn, ond dyna a ddigwyddodd. Mick Antoniw. Vaughan Gething AC: Nid wyf yn clywed Mick. Nid wyf yn gallu darllen gwefusau ychwaith. Na. Nid ydym yn cael—. A all rhywun gynorthwyo Mr Antoniw? Dyna ni. Mick Antoniw AC: Sut mae hwn? A yw hwn yn iawn? Dyna ni. Dechreuwch eto. Mick Antoniw AC: Gweinidog, mae llawer o effeithiau i'r coronafeirws, nid y clefyd yn unig. Rydym wedi trafod effeithiau sy'n gysylltiedig â chyfyngiadau symud, megis iechyd meddwl. Fodd bynnag, yr un yr wyf eisiau ei godi yw'r risg gynyddol o ran dibyniaeth ar gamblo. Byddwch yn gyfarwydd, Gweinidog, am wn i, ag achos Chris Bruney, a oedd yn 25 mlwydd oed a gollodd £119,000 mewn pum diwrnod. Yna cafodd gynnig bonws o £400 gan y cwmni gamblo. Cymerodd ei fywyd ei hun, ac mae'r cwmni newydd gael dirwy. Nawr roedd hynny'n un o'r enghreifftiau cyn y coronafeirws. Wrth gwrs, yr hyn sydd gennym nawr yw marchnad gaeth o ran gamblo ar-lein, ac mae data mis Mawrth yn unig ar gyfer 2020 yn dangos bod betio rhithwir wedi cynyddu 40 y cant, pocer 38 y cant ac, o'r rhai a oedd yn gosod mwy nag un bet, cynyddodd betio ar-lein 88 y cant, 53 y cant ar gyfer pocer ar-lein ac wrth gwrs, roedd llawer o ddata eraill oedd yn debyg hefyd. Dwi'n tybio y bydd ffigurau mis Ebrill yn dangos lefelau uwch fyth o gamblo ar-lein, gan arwain at y risgiau iechyd cyhoeddus a nodwyd cyn y cyfyngiadau symud. Tybed, Gweinidog, a wnewch chi roi gwybod i ni a yw hyn yn rhywbeth yr ydych wedi ei drafod gyda'r prif swyddog meddygol. Os nad ydych, a wnewch ei drafod gyda'r prif swyddog meddygol i weld beth y gallwn ei wneud mewn gwirionedd i baratoi ar gyfer yr hyn sy'n mynd i fod yn gynnydd sylweddol yn y problemau sy'n gysylltiedig â dibyniaeth ar gamblo ar-lein, a bydd yn waddol y bydd yn rhaid i ni ymdrin ag ef wrth inni ddod allan o'r coronafeirws? Vaughan Gething AC: Rwy'n credu bod pwynt yr Aelod yn un da, ac rwy'n cydnabod y diddordeb sydd ganddo ers tro, ac y mae ganddo o hyd, yn y niwed gwirioneddol y mae gamblo yn ei wneud i iechyd y cyhoedd. Nid wyf yn credu mai nawr yw'r amser i fanylu ynglŷn â sut mae pwerau wedi eu rhannu ar hyn o bryd, ond mae yn dal angen i ni ddeall beth mae hynny'n ei olygu ac rydym yn deall y bu cynnydd sylweddol mewn gamblo ar-lein, fel y mae'r Aelod yn ei nodi. Felly, byddaf yn sicr yn ei godi'n benodol gyda'r Prif Swyddog Meddygol, ynghylch lle yr ydym ni arni a beth y mae hynny'n ei olygu, nid yn unig o ran ein dealltwriaeth o'r niwed a achosir nawr, ond o ran yr hyn y mae hynny'n ei olygu yn y dyfodol. Os yw mwy o bobl yn treulio mwy o amser yn gamblo ar-lein, does dim sicrwydd—yn wir, byddem yn disgwyl na fyddai'r bobl hynny yn diflannu ac yn rhoi'r gorau i gamblo ar-lein yn yr union niferoedd wrth i ni symud allan o'r cyfyngiadau symud. Gallem fod yn sôn am heriau tymor hwy o ran pobl yn mynd yn gaeth i gamblo yn anffodus. Felly, byddaf yn fodlon ei godi gyda'r Prif Swyddog Meddygol, ac rwy'n fodlon ymrwymo i ysgrifennu at yr Aelod maes o law. Diolch. Ac yn olaf, Neil McEvoy. Neil McEvoy AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, o ran COVID, rydych chi'n dweud eich bod wastad wedi dilyn cyngor gwyddonol. Ni fyddwn i'n cytuno â hynny, mewn gwirionedd, ond rydych chi'n dweud eich bod wedi dibynnu ar wyddoniaeth. Felly, mae yna gynnig i waredu 780,000 o dunelli o fwd o du allan i orsaf bŵer niwclear Hinkley Point i mewn i'r dyfroedd ychydig y tu allan i Gaerdydd, un filltir oddi ar yr arfordir. Nawr, mae gwyddonwyr yn dweud wrthym eu bod yn argyhoeddedig—ac maen nhw wedi dweud hynny ar goedd—maen nhw wedi'u hargyhoeddi bod y mwd yn cynnwys plwtoniwm. Felly, a chithau'n Weinidog Iechyd a hefyd yr AC dros Dde Caerdydd, a wnewch chi gefnogi galwad y gwyddonwyr i brofi'r mwd am blwtoniwm, am nad yw erioed wedi cael ei brofi am hynny? Diolch. Vaughan Gething AC: Fel y gŵyr yr Aelod, rwyf yma i ateb cwestiynau yn rhinwedd fy swydd yn Weinidog Iechyd yn Llywodraeth Cymru. Rwy'n ymwybodol iawn o'm cyfrifoldebau ar gyfer yr etholaeth yr wyf wedi cael y fraint o gael fy ethol yn uniongyrchol i'w chynrychioli ddwywaith yn y senedd hon. Ac fel y gŵyr yr Aelod, mae digon o dystiolaeth a chyngor gwyddonol ynglŷn â symud a throsglwyddo mwd mewn aberoedd, a chofiaf y sgwrs bigog a gafodd yr Aelod yn y Siambr gydag Alun Davies, a oedd wedi treulio rhywfaint o amser yn edrych ar hyn yn ystod ei amser ger bron y Cynulliad, fel yr oedd bryd hynny, ac yn wir yn ystod ei gyfnod yn Weinidog yr Amgylchedd. Ac mae'r Aelod yn dilyn barn rhai gwyddonwyr yn hytrach na'r consensws gwyddonol a dderbyniwyd. Felly, bydd Lesley Griffiths, y Gweinidog sydd â rhywfaint o gyfrifoldeb yn y maes hwn, yn cael ei harwain gan y cyngor gwyddonol a gaiff. Mater i Gyfoeth Naturiol Cymru, fodd bynnag, wrth gwrs, fel y gwyddoch chi, yw deall y wyddoniaeth honno a phenderfynu beth i'w wneud wrth roi trwyddedau. Ac rwy'n credu bod ceisio dychwelyd at stori frawychus am fwd niwclear ar adeg pan rydym ni'n ymdrin â phandemig sydd ymhell o fod ar ben yn beth hollol anghywir i'w wneud o ran holi'r Gweinidog Iechyd ynglŷn â lle yr ydym ni arni o ran y digwyddiad unwaith mewn canrif hwn. Ond, yn ddiau, bydd Mr McEvoy yn parhau i wneud ei ddewisiadau ei hun. Neil McEvoy AC: Mae hynny'n sylw gwarthus, Gweinidog—gwarthus. Diolch. Diolch, Gweinidog, am hynny. 5. Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Ddarpariaeth Addysg Symudwn ymlaen nawr at eitem 5 ar ein hagenda, sef datganiad gan y Gweinidog Addysg a'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarpariaeth addysg. Felly, galwaf ar y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams. Kirsty Williams AC: Diolch, Dirprwy Lywydd, a phrynhawn da, gyd-Aelodau. Mae'r ymateb i COVID-19 wedi bod yn her enfawr i'r gymuned addysg gyfan. Mae ein hysgolion a'n colegau eisoes wedi camu i'r adwy yn erbyn COVID, gan sefydlu darpariaeth ar gyfer plant gweithwyr hanfodol a phlant sy'n agored i niwed, a rheoli dysgu o bell ar raddfa nas gwelwyd erioed o'r blaen gyda chyflymder rhyfeddol. Unwaith eto, hoffwn ddiolch i'r gweithwyr addysg proffesiynol yn gyffredinol, ac yn enwedig i'r rhai sydd wedi cefnogi gweithredu'r hybiau, am eu hymroddiad, eu proffesiynoldeb a'u gwaith caled dros y cyfnod hwn. Mae'r Llywodraeth heddiw wedi cyhoeddi papur gan ei grŵp cynghori technegol ar COVID-19, sy'n cynrychioli'r ddealltwriaeth ddiweddaraf o'r feirws mewn cysylltiad â phlant ac addysg. Rwy'n fodlon bod lle a chyfle bellach i gynyddu gweithgarwch. I'r perwyl hwn, rwyf wedi gwneud y penderfyniad y dylai ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion gynllunio i gynyddu eu gweithgarwch o 29 Mehefin. Mae hyn yn rhoi tair wythnos a hanner i ysgolion, ac yn wir i rieni, barhau i baratoi ar gyfer y cam nesaf o ran addysg. Ac mae hefyd yn rhoi'r amser sydd ei angen ar gyrff llywodraethu a chynghorau i ddatblygu'r camau statudol angenrheidiol. Kirsty Williams AC: Bydd bron pob un dysgwr yn cael cyfle i fynychu ei ysgol. Rwy'n disgrifio hyn fel cyfle i gydweithio ar gyfer disgyblion er mwyn iddyn nhw allu dod i'r ysgol, dal ati i ddysgu a pharatoi ar gyfer yr haf a mis Medi. Rwy'n cydnabod y gallai bod angen i rai dysgwyr a warchodir ddefnyddio ddulliau digidol. Rwyf hefyd yn cynnig bod ysgolion yn agor am wythnos ychwanegol, gan gau ar 27 Gorffennaf, ac y bydd yr wythnos hon o wyliau yn cael ei throsglwyddo i dymor yr hydref. Mae hyn yn caniatáu mwy o amser cyswllt i ysgolion cyn yr haf ac yn rhoi egwyl ychwanegol yn nhymor yr hydref sy'n debygol o fod yn hir ac yn heriol. Yn ymarferol, byddwn yn disgwyl i ysgolion gymryd nifer llai o ddysgwyr bob dydd yn dibynnu ar eu capasiti unigol eu hunain, gan sicrhau y cedwir pellter cymdeithasol priodol. Disgwylir y bydd hyn yn golygu na fydd mwy na thraean o'r disgyblion yn bresennol ar unrhyw un adeg, er fy mod yn cydnabod ei bod hi'n bosib na fydd rhai ysgolion yn gallu gweithredu yn y modd hwn. Yn y cyfnod hwn, byddwn yn disgwyl i ysgolion ddefnyddio'r amser i gefnogi iechyd a lles dysgwyr a'u staff, a dyna ddylai fod eu blaenoriaeth bennaf; trafod gyda'r dysgwyr a'u cynorthwyo i fod yn barod ar gyfer dysgu ac ystyried y camau dysgu nesaf fel y bo'n briodol; i brofi'r gweithrediadau yn barod ar gyfer tymor yr hydref; a pharhau i feithrin hyder teuluoedd yn y modd gofalus iawn yr ydym yn ei ddilyn. Mae hwn yn gyfle i ddysgwyr a staff baratoi a dod i arfer â'r sefyllfa 'normal newydd' fel y bydd ym mis Medi. Yn y dyfodol rhagweladwy, bydd dysgwyr yn cael cyfuniad o ddysgu wyneb yn wyneb ac ar-lein. Yn yr hydref, disgwyliaf y bydd yn rhaid i ysgolion barhau i ddarparu ar gyfer yr holl ddysgwyr sy'n gallu bod yn bresennol am lai o amser er mwyn cadw pellter cymdeithasol. A phan fyddant yn yr ysgol, bydd yn teimlo'n wahanol iawn, gydag amser cyrraedd, amser gadael ac amseroedd chwarae ar adegau gwahanol, gyda llawer mwy o amser yn cael ei dreulio yn yr awyr agored, pan fydd y tywydd yn caniatáu, ac mewn dosbarthiadau llawer llai. Fodd bynnag, rwy'n disgwyl iddyn nhw fwynhau amser diogel, pwrpasol gydag athrawon a chyd-ddisgyblion y maen nhw'n eu hadnabod yn dda. Mae'n rhaid i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau, boed yn Weinidog, yn rhiant neu'n bennaeth, gydbwyso risgiau bob amser. Yn y cyfnod presennol hwn, mae'n rhaid i bob un ohonom ni ystyried y posibiliadau o niwed uniongyrchol ac anuniongyrchol. Rwyf wedi gwneud y penderfyniad i gynyddu gweithrediadau cyn gwyliau'r haf am nifer o resymau allweddol. Byddai aros tan fis Medi yn golygu na fyddai'r rhan fwyaf o blant wedi tywyllu ysgol ers o leiaf 23 wythnos, a chredaf y byddai hyn yn niweidiol i'w datblygiad, i'w dysgu ac i'w lles. Rwy'n argyhoeddedig mai dim ond drwy ddychwelyd i'w hysgolion eu hunain y byddwn yn gweld mwy o bresenoldeb gan ein plant mwyaf agored i niwed a difreintiedig. Mae'n caniatáu inni fanteisio i'r eithaf ar y tywydd cynnes a'r heulwen, sy'n cael effaith bwysig o ran brwydro i atal trosglwyddo'r feirws. Mae'n sicrhau y bydd y system profi, olrhain a diogelu wedi bod ar waith am fis ac y bydd yn parhau i ehangu. A gallaf gadarnhau y bydd staff ysgol yn grŵp â blaenoriaeth yn ein rhaglen profi gwrthgyrff newydd, gan ddechrau gyda staff sydd wedi bod yn gweithio yn ein hybiau ar hyn o bryd. Ac, yn hollbwysig, mae'r wyddoniaeth sy'n esblygu yn dweud wrthym fod cynnydd sydyn o ran y feirws yn yr hydref yn bosibilrwydd real iawn. Gallem fod yn colli hyd yn oed mwy o amser dysgu, a byddai hyd yn oed yn waeth heb y cyfnod hwn yr wyf yn ei gynllunio heddiw. Wrth gwrs, mae'n hanfodol bod gan ysgolion y gefnogaeth briodol i weithredu ar hyn o bryd, ac rydym ni'n gweithio gyda chynghorau ac ysgolion i gael yr holl stoc hylendid angenrheidiol, mesurau diogelwch a chyfundrefnau glanhau yn barod. Yr wythnos nesaf, byddaf yn cyhoeddi canllawiau i gynorthwyo ysgolion i weithredu o dan yr amodau newydd hyn, ac i gefnogi dysgu. Bydd y canllawiau'n cael eu hadolygu a'u diweddaru dros yr haf er mwyn helpu ysgolion i baratoi ar gyfer yr hydref, yng ngoleuni'r profiadau hyn. Ar gyfer addysg bellach, o 15 Mehefin, bydd colegau a darparwyr dysgu seiliedig ar waith yn dechrau ailagor ar gyfer dysgu wyneb yn wyneb i grŵp cyfyngedig o fyfyrwyr a dysgwyr. Mae fy swyddogion wedi gweithio gyda cholegau a darparwyr hyfforddiant i gytuno ar grwpiau blaenoriaeth o ddysgwyr a fydd yn cael eu cynnwys yn y cyfnod ailagor cychwynnol hwn, gan ganolbwyntio ar y rhai y mae angen iddyn nhw ddychwelyd i'w coleg neu eu canolfan hyfforddi er mwyn parhau i wneud cynnydd gyda'u dysgu. Mae hyn yn cynnwys dysgwyr y mae angen iddyn nhw gynnal asesiadau ymarferol i gwblhau eu cymwysterau, a'r myfyrwyr hynny sydd angen cymorth a chyfarwyddyd ychwanegol i aros ar y trywydd iawn ac i aros mewn addysg. Bydd canllawiau ar gyfer darparwyr gofal plant hefyd yn cael eu cyhoeddi yn ystod yr wythnos nesaf, gan eu cynorthwyo i gynyddu nifer y plant sy'n mynychu ochr yn ochr ag ysgolion. Ar gyfer ysgolion, mae gennym ni dros dair wythnos bellach i barhau i gynllunio, ac i barhau i fod yn barod, ac yn hanfodol, i barhau i ganolbwyntio ar ddiogelwch a lles. Byddwn yn gweithio gyda'r proffesiwn i sicrhau y cânt eu cefnogi nawr ac yn yr hydref. Bydd penaethiaid yn cael y cyfle i weithio gyda'u staff mewn ysgolion i baratoi'n llawn ar gyfer disgyblion. Mae hefyd yn rhoi'r amser sydd ei angen ar gyrff llywodraethu a chynghorau i ddatblygu'r camau statudol angenrheidiol a'r asesiadau risg er mwyn cynorthwyo staff a disgyblion i ddychwelyd. Rwy'n cydnabod bod hwn yn gyfnod pryderus iawn i ni i gyd, ac mae hynny'n parhau. Gwn y bydd llawer yn teimlo'n bryderus. Ond rwyf eisiau dweud nad ydym ni wedi rhuthro'r gwaith hwn na'r penderfyniad hwn. Mae'r cyfnod tair wythnos a hanner cyn y cyfnod nesaf hefyd yn rhoi amser i mi gadw golwg ar ddatblygiadau mewn mannau eraill, a rhoi cyfleoedd gwirio pellach i adolygu'r dystiolaeth, ac i wylio'r gwaith o gyflwyno'r rhaglen profi ac olrhain yn llwyddiannus. Dyma'r dewis ymarferol gorau sy'n bodloni fy mhum egwyddor. Drwy weithio gyda'n gilydd, rwy'n gwybod y byddwn yn sicrhau tegwch a rhagoriaeth i ddisgyblion wrth iddyn nhw ddod i'r ysgol, dal ati i ddysgu a pharatoi ar gyfer yr haf a mis Medi. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Diolch. Suzy Davies. Suzy Davies AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. A diolch i chi hefyd, Gweinidog; rwy'n credu y bydd llawer—plant yn enwedig— ar draws Cymru wedi bod yn edrych ymlaen at gyhoeddiad o'r math hwn. Ac a gaf i gytuno â'r sylwadau a wnaethoch chi ynghylch ein holl athrawon a theuluoedd, ac, wrth gwrs, staff cymorth sydd wedi helpu i weithio yn yr hybiau yn ogystal â gweithio gartref yn ystod y cyfnod hwn? Roeddwn eisiau gofyn hyn i chi: os edrychwn ar wledydd ar draws Gorllewin Ewrop lle y gorfodwyd cyfyngiadau symud tua'r un adeg ag yn y DU, mae codi'r cyfyngiadau yn digwydd mewn modd gwahanol mewn gwahanol wledydd ac, mewn gwirionedd, o fewn rhai o'r gwledydd hynny. Ac ar yr wyneb, nid yw'r un gweithredoedd bob amser yn arwain ar yr un canlyniadau, rhwng y rhanbarthau hyn, heblaw am y ffaith amlwg fod ynysu yn cyfyngu ar ledaeniad y feirws. Er hynny, eu ffordd nhw ymlaen, bron yn gyfan gwbl, fu agor yn raddol mewn grwpiau blwyddyn. Felly, beth sydd wedi digwydd i'ch bodloni bod lle a chyfle i gynyddu gweithrediadau? A pham ydych chi wedi mynd ati i wneud hyn drwy gyflwyno cylch tair wythnos i draean o'r boblogaeth ysgolion, yn hytrach na'r dull mwy poblogaidd hwnnw o weithredu mewn grwpiau blwyddyn? Ac wrth wneud hynny, sut ydych chi wedi pwysoli ffactorau megis lles emosiynol a cholli dysgu o'u cymharu â'r prif bryder o gyfyngu lledaeniad y feirws yn y gymuned? Bydd llwyddiant y dull hwn, wrth gwrs, yn dibynnu ar hyder y gymuned, ac rwy'n croesawu eich sylwadau am ddiogelu staff a phlant sy'n dal yn agored i niwed, fel na fydd neb yn cael ei gosbi am beidio â manteisio ar y cynnig i fynychu'r ysgol. Ond a fydd eich arweiniad i ysgolion yn cynnwys y gwaith o ganfod pa blant nad ydynt eisiau dychwelyd i'r ysgol? A allwch ddweud wrthym beth y mae cylch tair wythnos yn ei olygu mewn gwirionedd? A fydd hyn yn cael ei ymestyn i'r cyfnod sylfaen, ar gyfer plant rhwng tair a phump oed—ac os felly, a gaiff hyn effaith ar leoliadau nad ydynt yn ysgolion? Ac a fydd plant gweithwyr allweddol yn gallu mynychu eu hysgolion eu hunain bum diwrnod yr wythnos ynghyd â dysgwyr sy'n agored i niwed, neu a fyddant yn gorfod parhau i fynd i hybiau? Kirsty Williams AC: Diolch yn fawr iawn. Fe wnaf fy ngorau i geisio ymdrin â'r cwestiynau lluosog y mae Suzy Davies wedi'u gofyn. Bydd plant gweithiwr allweddol yn gallu mynychu eu hysgolion eu hunain, am yr un oriau ag y maen nhw'n mynychu eu hysgolion hyb ar hyn o bryd. Ac mae hynny'n wir ar gyfer plant agored i niwed y mae ganddyn nhw hawl eisoes—byddant yn gwneud hynny nawr yn eu hysgol gartref, pan symudwn at y cam nesaf ddiwedd mis Mehefin. O ran y teuluoedd hynny, rwy'n parchu'r ffaith y bydd pob teulu'n gwneud penderfyniad ar sail nifer o ffactorau, a'r hyn sy'n iawn iddyn nhw, ac rwy'n parchu teuluoedd a'u gallu i wneud yr union beth hwnnw. Os bydd teulu, am ba reswm bynnag, yn penderfynu peidio â manteisio ar y cyfle i blentyn ddod i'r ysgol, yna byddwn yn parchu hynny ac ni fydd neb yn cael dirwy, ac ni fydd presenoldeb yn rhan o unrhyw fesur o berfformiad ysgol ychwaith. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig i'w ddweud wrth athrawon. Rydym yn gwybod, ar hyn o bryd, bod 4,000 o blant sydd eu hunain wedi cael llythyr gwarchod. Ni fydd pob un o'r plant hynny o oedran ysgol, a'n cyngor i'r plant hynny yw na ddylai'r plant hynny fanteisio ar y cyfle hwn i ddod i'r ysgol, a'n bod yn disgwyl y bydd eu hanghenion yn cael eu diwallu mewn ffordd wahanol. Ac i'r rhieni hynny sy'n cael llythyr gwarchod, unwaith eto, ein cyngor ni yw na ddylai eu plant o anghenraid fanteisio ar y cynnig, er mai mater iddyn nhw yw pwyso a mesur. Ond unwaith eto, ni fyddant o dan anfantais—bydd y broses o ddod i'r ysgol yn digwydd mewn ffordd wahanol i'r plant hynny hefyd. Yr hyn sydd wedi bod yn bwysig iawn i mi yw'r egwyddor o degwch a chydnabod bod pob plentyn i gael cyfle cyfartal, ac er y byddai mewn rhai ffyrdd yn symlach yn logistaidd i gael grwpiau blwyddyn, mae hynny'n golygu, i rai plant, na fyddent wedi tywyllu ysgol, fel y dywedais, ers amser maith a chredaf fod hynny'n niweidiol iddyn nhw. Rydym yn symud yn ofalus iawn ac, fel y dywedais, byddwn yn cyfyngu'n ddifrifol ar nifer y plant a all fod ar y safle ar unrhyw un adeg. Rydym yn disgwyl i'r dosbarthiadau fod yn rhai bach iawn, gydag aelod o staff penodol. Ac mae angen imi ei gwneud yn glir iawn i Aelodau, fel y gwnes i, gobeithio, i rieni yn gynharach heddiw, nad yw hyn yn debyg o gwbl i ysgol yn dychwelyd i'r sefyllfa arferol. Felly, ni fydd plant yn gwneud wythnos lawn yn yr ysgol, yn mynychu'r ysgol bob dydd—byddant yn cael amseroedd penodol i fynychu er mwyn iddyn nhw wneud hynny. Nawr, o ran canfod faint o alw sydd yna, byddwn yn disgwyl i benaethiaid yn y tair wythnos a hanner nesaf gysylltu â rhieni i weld pa rieni fydd yn derbyn y cynnig i'w myfyrwyr ddod i'r ysgol ar adegau penodol ac yna byddant yn gallu cynllunio'n unol â hynny i sicrhau nad yw'r niferoedd yn fwy na'r hyn sy'n ddiogel i'w rheoli. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod pob un plentyn yn cael y cyfle i drafod gyda'i athro, bod modd asesu dysgu'r holl blant ar yr adeg hon ac y gellir helpu'r holl deuluoedd ar gyfer y cam nesaf o ran addysg. Suzy Davies AC: Diolch am hynny. Credaf fod pwynt difrifol yma am hyder rhieni, ac mae'n debyg mai un ffordd y gallech helpu i wella hynny yw drwy eu helpu i ddeall, er enghraifft, sut y profwyd unrhyw oedolion mewn hybiau ysgol ledled Cymru a pha ganlyniadau a gafwyd, ac a oes unrhyw gynlluniau ar gyfer profi oedolion asymptomatig mewn ysgolion yn ystod y cyfnod o ddychwelyd fesul cam, a hefyd a fydd rhywfaint o gyllid ychwanegol yma i ysgolion weithredu'r mesurau cadw pellter cymdeithasol a hylendid, ac i gynghorau ddarparu digon o gludiant ysgol i gydymffurfio â'r un gofynion. Rwy'n credu bod cwestiwn hefyd ynglŷn â chysondeb y broses o weithredu'r canllawiau presennol ar draws Cymru gyfan. Mae hyn yn rhywbeth yr wyf wedi ei godi gyda chi o'r blaen. Os na fydd rhai plant yn mynd i'r ysgol o hyd, a bydd dwy ran o dair o'r rhai sy'n gwneud hynny yn dal i gael eu dysgu gartref, rwy'n credu bod angen rhywfaint o sicrwydd arnom ni mewn gwirionedd ynghylch sut yr ydych chi wedi bod yn dilyn cynghorau ac ysgolion dros y cyfnod hwn i gadarnhau y dilynwyd y canllawiau yr ydych chi wedi'u darparu yn gyson ledled Cymru. Kirsty Williams AC: Yn gyntaf, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod gennym ni drefn brofi, olrhain a diogelu sy'n gadarn i gefnogi'r cyfnod nesaf o weithrediadau addysgol. Fe fyddwch yn ymwybodol fod papurau SAGE wedi ei gwneud hi'n glir iawn, wrth agor ysgolion i fwy o ddisgyblion, bod yn rhaid profi ac olrhain. Bydd gennym ni fis o'r drefn profi ac olrhain yma yng Nghymru cyn y bydd plant ychwanegol yn mynd i'r ysgol. Mae hynny'n rhoi hyder inni fod y system honno ar waith ac yn gadarn. O ran profi gwrthgyrff, byddwn yn cynnwys staff addysgu ac addysgol sydd wedi bod yn gweithio yn ein hybiau ar gyfer profion gwrthgyrff. Gall hynny wella ein dealltwriaeth o sut—os oes rhai—mae'r clefyd yn gweithio mewn ysgol, lleoliad gofal plant. Mae'r ffigurau diweddaraf a welais yn dangos bod y mwyafrif helaeth o'r profion sydd wedi'u cynnal ar y rhai sy'n gweithio mewn sefydliadau addysgol wedi dod yn ôl yn negyddol. Rydym wedi cael rhai achosion ond, wrth gwrs, mae'n amhosib gwybod a gafodd yr unigolyn hwnnw'r feirws yn y gweithle neu a gafodd ei heintio pan oedd yn ei archfarchnad leol neu pan oedd, o bosib, yn rhyngweithio mewn ffordd arall. Yr hyn yr ydym yn ei wybod yw mai anaml iawn, iawn, y mae plant yn trosglwyddo'r clefyd mewn unrhyw fodd—mae'n annhebygol iawn eu bod wedi trosglwyddo'r clefyd hwnnw, y feirws, i unrhyw un arall. Ac, wrth gwrs, mae pob athro yn gymwys ar hyn o bryd—felly hefyd y cyhoedd yng Nghymru—i gael eu profi, a byddwn yn cymryd cyngor pellach ynglŷn â sut y dylid cynnal profion rheolaidd, ond mae'r drefn profi, olrhain a diogelu yn gwbl hanfodol inni. O ran gwirio'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd, mae gennym ni rydym ni'n gwneud hynny mewn sawl ffordd. Yn ddiweddar, gwnaeth Parentkind arolwg annibynnol o rieni. Dywedodd 84 y cant o rieni Cymru eu bod yn fodlon gyda'r gefnogaeth yr oedden nhw wedi ei gael gan ysgolion eu plant. Yn amlwg, mae trefn yma i awdurdodau addysg lleol barhau â hi. Nid yw eu gwaith o gefnogi eu hysgolion wedi diflannu, na'r rhan sydd gan y gwasanaethau gwella ysgolion rhanbarthol i'w chwarae ychwaith. Rydym ni wedi gofyn i wasanaethau rhanbarthol gwella ysgolion ddechrau dull trefnus o edrych ar arferion ar hyn o bryd. Bydd eu hadroddiad cyntaf yn cael ei gyhoeddi ar 19 Mehefin, ac yna byddem yn disgwyl adroddiad dilynol rheolaidd i ganfod faint o ymgysylltu sydd yna a natur y broses o ymgysylltu â dysgu ar-lein, a bydd hwnnw'n adroddiad rheolaidd er mwyn inni gael sicrwydd ynghylch yr hyn y mae ysgolion yn ei wneud. Mae Estyn eisoes wedi dechrau gweithio ar ganllawiau arfer da, gan edrych ar sut y mae'r system wedi ymateb i'r argyfwng a sicrhau bod arferion gorau yn cael eu deall a'u lledaenu wrth i ni symud ymlaen. A gaf i ddweud fy mod yn credu bod ysgolion wedi symud gyda chyflymder aruthrol i gofleidio ffyrdd newydd o ddysgu? Bydd hynny'n parhau i ddatblygu, oherwydd yr hyn sy'n ein hwynebu yw cyfnod estynedig o addysg lle bydd cymysgedd o ddysgu ar-lein a chyswllt wyneb yn wyneb. Ond mae'r holl dystiolaeth yn awgrymu bod dysgu ar-lein yn gwella'n fawr pan ellir cefnogi hynny â sesiynau wyneb yn wyneb rheolaidd. Siân Gwenllian AC: Mae gen i amheuon mawr ynglŷn ag ailagor ysgolion ddiwedd Mehefin. Mae'n rhy gynnar. Mi fydd llawer o rieni ac athrawon a phlant a phobl ifanc yn bryderus hefyd. Dydy'r gyfundrefn profi ac olrhain ddim mewn lle eto. Dydyn ni ddim yn gwybod yn iawn sut mae'r feirws yma yn gweithredu—sut mae o'n trosglwyddo rhwng plant a rhwng plant ac oedolion. Dwi'n credu bydd ennyn hyder teuluoedd ei bod hi'n ddiogel hyd yn oed i grwpiau bach o blant i ddychwelyd cyn yr haf yn dasg anodd iawn. Mi oeddem ni ym Mhlaid Cymru wedi awgrymu cynllun arall, cynllun fyddai yn golygu newid patrwm y tymhorau, peidio ailagor yr ysgolion ym Mehefin a Gorffennaf, ac wedyn, dim ond os oedd hi'n saff, i ailagor yn raddol ac i grwpiau bychain o blant o ganol Awst ymlaen, pan, erbyn hynny gobeithio, fyddai gennym ni well darlun o'r hyn sy'n digwydd efo'r feirws. Hoffwn i wybod pam wnaethoch chi ddim mynd efo'r cynllun hwnnw, achos dwi'n deall ei fod o wedi bod yn cael ei drafod. O ran agor i bob disgybl—ac rydych wedi bod yn trafod hynny rŵan—mae'r undebau, fel y gwyddoch chi, o blaid agor i flynyddoedd 6, 10 a 12 fel blaenoriaeth. Rydym ni wedi trafod hyn, ac mae gen i gydymdeimlad efo'ch safbwynt chi o gynnig cyfle i bob disgybl fedru siecio i mewn. Sut ydych chi'n mynd i ofyn i ysgolion roi'r cyfle hwnnw? Ac a fyddwch chi'n annog ysgolion i chwilio'n benodol am y plant hynny, am y bobl ifanc hynny, sydd ddim wedi bod yn cyfranogi o'r gwersi ar-lein neu o'r dysgu ar-lein, ac sydd ddim wedi bod yn cynnal cyswllt rheolaidd efo'r ysgolion? A fyddwch chi'n annog blaenoriaeth ar gyfer y grŵp penodol yna o blant? Kirsty Williams AC: A gaf i ddiolch i Siân Gwenllian am ei chwestiynau? Bydd yn rhaid iddi faddau i mi, nid wyf yn cofio iddi drafod dychwelyd ym mis Awst gyda mi yn ein cyfarfodydd wythnosol, ond mae hi'n gywir yn awgrymu ein bod wedi ymchwilio i'r posibilrwydd o ddod â thymor yr haf i ben yn gynnar a dechrau'r flwyddyn academaidd newydd ym mis Awst. Roedd llawer o atyniadau i'r cynllun penodol hwnnw. Yn gyntaf, gwneud y gorau o fisoedd yr haf, fel y dywedais yn gynharach, rydym yn gwybod bod heulwen a'r tywydd gwell a'r gallu i gael plant y tu allan ac awyru adeiladau ysgolion yn haws yn ystod misoedd yr haf, a byddai wedi caniatáu hyd yn oed mwy o amser i'r gyfundrefn profi, olrhain a diogelu ymwreiddio. Trafodwyd hyn gyda phob un o'n cydweithwyr yn yr undebau—undebau penaethiaid, undebau athrawon ac undebau staff cymorth. Byddem wedi torri tymor yr hydref hwnnw yn nifer penodol o gyfnodau i greu toriadau naturiol. Ond mewn gwirionedd, gwrthododd pob un undeb y cyfle hwnnw. Ac o ystyried y ffaith y byddai hyn, wrth gwrs, yn newid sylweddol i delerau ac amodau ein staff addysgu, ni allwn ond symud ymlaen gyda newid mor ddirfawr os gwneir hynny gyda chydsyniad ein gweithwyr proffesiynol, ac ni chafwyd eu cydsyniad. Felly, roedd yn gynnig da, ond credaf fod yr hyn a gyflwynwyd gennym ni heddiw yn rhannu llawer o'r cyfleoedd tebyg: mae'n caniatáu i'r rhaglen profi ac olrhain ymwreiddio dros fis cyfan; mae'n ein galluogi i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd dysgu yn yr haf; mae'n rhoi toriad naturiol i ni i fyfyrio ar ein hymarfer yn ystod y chwe wythnos o wyliau haf; ac yn caniatáu inni roi ychydig o doriad ychwanegol—saib—yn nhymor yr hydref pan allai pethau fod yn anodd unwaith eto, o bosib. A dyna sut yr ydym ni wedi penderfynu bwrw ymlaen. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod ei bod hi'n anodd iawn nodi addysg pa blant sy'n bwysicach nag addysg pobl eraill. I blant hŷn, nid dim ond mater o nodi grwpiau arholiadau ydyw—mae gan ysgolion gwahanol batrymau arholiadau gwahanol. Byddai rhai plant sydd ym mlwyddyn 8 ar hyn o bryd yn dechrau eu cyrsiau TGAU yn yr hydref. Mae yna blant a fydd yn sefyll uned 1 eu harholiadau TGAU. Felly, mae amrywiaeth eang o ddosbarthiadau arholiadau—nid dim ond y rhai y mae Siân Gwenllian wedi'u hamlinellu, ac rwy'n credu ei bod hi'n gwbl briodol, o ran blwyddyn 6, eu bod yn cael cyfle i ffarwelio â'u hathrawon a'u hysgolion cyn iddyn nhw symud ymlaen i'r ysgol uwchradd. Ond o ran y cwricwlwm, mewn gwirionedd, maen nhw wedi dod i ddiwedd eu cwricwlwm cyn iddyn nhw symud ymlaen i gyfnod nesaf eu haddysg. Cefais nifer o sylwadau gan weithwyr addysgu proffesiynol a oedd yn dweud y dylai blwyddyn 5 gymryd blaenoriaeth dros flwyddyn 6. Yr hyn yr ydym yn ei wneud yw sicrhau bod pob un plentyn yn cael cyfle i drafod gyda'i athro, i gael y newyddion diweddaraf ynghylch yr hyn a fu'n digwydd yn eu bywydau, sut y bu pethau, sut y bu pethau gartref, sut y bu'r dysgu, beth sydd wedi bod yn anodd, beth sydd wedi bod yn hawdd, a oes ganddyn nhw y cyfleusterau sydd eu hangen arnyn nhw o ran y pecyn a'r offer i ganiatáu iddyn nhw ddysgu, a beth yw'r camau nesaf y mae angen iddyn nhw weithio arnyn nhw dros yr haf ac wrth baratoi ar gyfer mis Medi. A phan ystyriwn ni y gallem fod wedi bod yn gofyn i rai plant ifanc iawn fynd yn ôl ym mis Medi, heb iddyn nhw dywyllu'r ystafell ddosbarth ers dros 23 o wythnosau, mae hynny'n ofyn mawr i blentyn bach, a hefyd, mae'r ystafell ddosbarth honno'n mynd i edrych yn wahanol iawn o'i chymharu â'r tro diwethaf yr oedden nhw ynddi, a bydd eu hysgol yn gweithio mewn ffordd wahanol iawn i'r tro diwethaf yr oedden nhw ynddi. Mae hyn yn caniatáu i ni ddychwelyd fesul cam er mwyn gallu cyflwyno ein plant yn araf i'r hyn y bydd addysg yn y dyfodol, a dyna pam y mae angen i ni gymryd y cyfle i wneud hynny cyn diwedd tymor yr haf. Siân Gwenllian AC: Mae hi'n hanfodol, wrth gwrs, nad oes yr un plentyn yn cael ei adael ar ôl a bod pob plentyn yn cael yr addysg orau posib o dan yr amgylchiadau presennol. Mae'n hathrawon ni wedi bod yn hyblyg iawn ac yn gwneud gwaith arbennig, ond ydych chi'n hyderus bod pob plentyn yn ymgysylltu efo'u haddysg? Oes gan bob plentyn ddyfais, band-eang, gofod i weithio ynddo fo a digon o gefnogaeth er mwyn cymryd rhan yn eu gwersi? A sut ydych chi'n mynd i osod disgwyliadau cadarn i bob awdurdod lleol a phob ysgol bod rhaid i ddysgu o bell fod yn rhan greiddiol o'n system addysg ni i'r dyfodol, ddim jest yn ystod cyfnod y coronafeirws, ond mi fydd yna ddisgwyliadau i addysg newid yn sylweddol yn sgil y cwricwlwm newydd, er enghraifft, efo llawer iawn o bwyslais ar ddefnyddio technoleg? Ydych chi'n credu ar hyn o bryd bod yna ddigon yn cael ei wneud i fireinio a datblygu dysgu o bell, gan gynnwys ffrydio gwersi'n fyw? Dydw i ddim yn siŵr ydy hwnna'n digwydd yn gyson ar draws Cymru. A gaf i jest droi'n olaf at Fil y cwricwlwm? Fedrwch chi gadarnhau wrthym ni pa bryd y bydd y drafft yn cael ei gyhoeddi? Dwi'n deall bod hyn ar fin digwydd ond dwi'n deall hefyd bod yna fygythiad i'r arfer o drochi plant ifanc yn y Gymraeg oherwydd y geiriad fydd ar wyneb y Bil, ac mi fyddai hynny'n ergyd drom iawn i'r nod miliwn o siaradwyr. Fedrwch chi ymrwymo felly i newid y cymal yma cyn cyhoeddi'r fersiwn drafft o Fil y cwricwlwm? Diolch. Kirsty Williams AC: Wel, mae Siân Gwenllian yn iawn: mae'r cyfnod hwn yn sicr wedi bod yn hwb gwirioneddol i ddatblygu sgiliau cymhwysedd digidol pawb—plant, athrawon, yn wir, Aelodau'r Senedd. Rydym ni i gyd, rwy'n siŵr, yn llawer mwy cymwys yn ddigidol heddiw nag yr oeddem ni 10 wythnos yn ôl er bod rhai ohonom ni, o bryd i'w gilydd, yn dal i frwydro gyda'n botymau distewi. Mae'n bwysig iawn i mi fod pawb yn cael cyfle i ddysgu ar-lein. Dyna pam y bydd yr Aelod yn ymwybodol o'r cymorth ariannol yr ydym ni wedi'i roi i fynd i'r afael ag allgáu digidol disgyblion. Hyd yma, o ganlyniad i gymorth uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, mae tua 10,849 o unedau wi-fi wedi cael eu dosbarthu. Mae hynny'n gymorth a ddarparwyd ac a ddefnyddiwyd gan bob un o'r 22 awdurdod lleol, ac fe barheir i wneud ceisiadau am gymorth ychwanegol ac rydym yn bodloni'r ceisiadau hynny. O ran dyfeisiau sydd wedi'u haddasu at ddibenion gwahanol, gallaf ddweud ein bod wedi rhoi trwyddedau ar gyfer tua 8,966 o ddyfeisiau. Mae'r rheini'n ddyfeisiau sy'n cael eu dosbarthu ar draws 14 o awdurdodau lleol sydd wedi elwa ar drefniadau canolog Llywodraeth Cymru, ond mae cyfanswm nifer y dyfeisiau sydd wedi'u benthyca yn uwch na hynny gan fod rhai awdurdodau lleol wedi bod yn rhagweithiol iawn wrth ddyrannu'r dyfeisiau hynny ar ddechrau'r argyfwng, ac felly nid ydynt o anghenraid wedi manteisio ar hyn. Felly, gwyddom fod cryn dipyn o gymorth wedi'i ddarparu o ran allgáu digidol. A dyna pam, Siân, mae angen i bawb ddod i'r ysgol neu o leiaf gael y cyfle i ddod i'r ysgol oherwydd, rydych chi'n iawn, ni allaf eich sicrhau bod pob plentyn wedi bod yn dysgu, a gallai hynny fod am amryw byd o resymau, boed hynny'n allgáu digidol, boed hynny am fod mamau a thadau yn gweithio'n galed iawn o gartref ac yn cael trafferth i ddarparu'r gefnogaeth honno. I rai, gallai'r cymhelliant o beidio â bod ymhlith eu cyd-ddisgyblion fod yn anodd iawn. A dyna'n union pam y mae'n rhaid i ni beidio â dewis grwpiau blwyddyn, ond mewn gwirionedd rhoi cyfle i'r holl fyfyrwyr weld eu hathrawon fel y gellir cael y trafodaethau hyn fel y gallwn ni ddarganfod beth sydd wedi bod yn digwydd ym mywydau plant; gallwn ddarganfod pam nad ydynt wedi bod yn ymgysylltu, a'r hyn y mae angen i ni i gyd ei wneud i'w cefnogi'n well. Mae gwersi byw yn fater i ymarferwyr ac ysgolion unigol. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu canllawiau ar sut y gall ymarferwyr wneud hynny'n ddiogel ac yn briodol, felly efallai y byddant yn gallu gwneud hynny a gallaf sicrhau'r Aelod nad oes dim yn y Bil cwricwlwm sydd ar y gweill sy'n atal neu'n tanseilio'r arfer o drochi; yn wir, i'r gwrthwyneb: am y tro cyntaf bydd sail gyfreithiol i'r arfer o drochi. Mark Reckless AC: Roeddwn yn siomedig fod hwn wedi dod ar ôl yn hytrach na chyn y datganiad i'r wasg yn gynharach, ond serch hynny, hoffwn groesawu'r datganiad hwn gan yr Ysgrifennydd Addysg, a'n bod yn mynd i weld o leiaf rhywfaint o ailagor ysgolion. Yn wahanol i Siân Gwenllian, byddai'n well gennyf i petai hynny'n gynharach yn hytrach nag yn hwyrach ond mae'n digwydd ac rwy'n croesawu hynny, a hoffwn ddiolch i'r Ysgrifennydd Addysg am ei gwaith i sicrhau hynny. Roeddech yn onest iawn, fe deimlais, yn eich sylwadau'n gynharach, pan ddywedsoch chi mai'r undebau a rwystrodd yr hyn a oedd yn swnio fel eich dewis cyntaf, sef agor ysgolion yng nghanol mis Awst. A gaf i hefyd fod yn glir a oedd yr undebau hefyd yn ddylanwadol wrth benderfynu pryd y dylid rhoi'r wythnos ychwanegol hon sydd i'w gweithio'n hwyr yng Ngorffennaf yn ôl? Oni fyddai wedi bod yn well efallai i rieni a disgyblion pe bai'r wythnos honno wedi bod yn ystod yr wythnosau nesaf pan nad oedd ond cyfleoedd ar-lein ar gael, yn hytrach na'i bod yn wythnos ychwanegol a gaiff ei cholli nawr yn nhymor yr Hydref? Ni fyddwn yn hoffi, fodd bynnag, i'r cwestiwn hwnnw gael ei ddehongli fel un yn erbyn yr undebau nac fel beirniadaeth o'r Gweinidog am ymgysylltu â'r undebau. Yn amlwg, os yw'r undebau'n gallu cael cefnogaeth eu haelodau, mae'n bragmatig ac yn synhwyrol gweithio gyda nhw i geisio cael mwy o athrawon yn ôl i'r gwaith ac i ddychwelyd mewn ffordd fwy cadarnhaol, cyfranogol a chefnogol. Mae hynny i'w groesawu. Fodd bynnag, a gaf i hefyd ofyn: a yw hi wedi ystyried buddiannau rhieni a disgyblion hefyd, oherwydd maen nhw hefyd yn amlwg yn rhanddeiliaid pwysig iawn yn hyn i gyd? Yn gyffredinol, credaf fod yr hyn y mae'n ei ddweud am ddod â'r holl blant yn ôl o leiaf i gael rhywfaint o addysg yn fy nharo fel cynllun sydd â rhinweddau. Soniodd am yr agwedd o gydraddoldeb yn hynny, ond o ran cefnogi dysgu ar-lein a chyfarfod yn gorfforol hefyd, yn amlwg bydd manteision i hynny: cadw llygad ar blant, gwybod lle mae plant, gallu cyfeirio ac ymyrryd pan fo'n briodol, ac mae cefnogi dysgu ar-lein gyda pheth cyswllt corfforol i bawb yn ymddangos yn gadarnhaol. Yn olaf a gaf i gadarnhau'r hyn y mae'r datganiad ysgrifenedig yn ei ddweud sef bod tua thraean o'r disgyblion yn dychwelyd? Credaf ichi ddweud nawr nad oedd yn fwy na thraean o'r disgyblion. Yn yr un modd, mae cyfeiriad at eu capasiti, eu capasiti unigol eu hunain ar gyfer ysgolion, a chredaf mewn datganiad ysgrifenedig: efallai y bydd angen amser ar ysgolion i allu gweithredu yn y modd hwn. Rwy'n credu i hynny gael ei newid wedyn i: efallai na fydd ysgolion yn gallu gweithredu yn y modd hwnnw. Yn amlwg, mater i'r Gweinidog yw diweddaru datganiadau ysgrifenedig a rhoi'r fersiwn lafar, sef y cofnod, wrth gwrs, ac rwy'n gwerthfawrogi hynny, ond tybed, serch hynny, a yw hynny'n awgrymu bod y pwnc hwnnw'n un dadleuol? A gwestiynwyd ei datganiad yn gynharach a arweiniodd at unrhyw newid meddwl neu bwyslais ar hynny? A soniodd am fwy o ysgolion a allai ei chael hi'n anodd gweithredu yn y modd hwnnw, a oes ysgolion eraill sy'n teimlo y gallant weithredu'n ddiogel gyda mwy o ddisgyblion na thraean, ac a wnaiff hi roi rhyddid i ysgolion ar ddwy ochr yr hafaliad i arfer eu doethineb? Diolch yn fawr iawn. Kirsty Williams AC: Diolch am hynny, Mr Reckless. O ran ei siom nad oeddwn wedi gwneud hyn yn gynharach, nid wyf yn teimlo y byddai wedi bod yn ddiogel gwneud hyn yn gynharach. Fel y dywedais, roedd Cyngor SAGE yn glir iawn, mae angen inni gael trefn i'w defnyddio ar gyfer yr holl waith cyn y gallem ni weld mwy o blant yn cael addysg. Dim ond yr wythnos hon y mae'r system wedi dechrau, ac nid oeddwn yn barod i weld mwy o blant yn mynd yn ôl i'r ysgol nes y bu'r system honno ar waith ac wedi cael ei phrofi. Felly, dyna pam nad ydym ni wedi mynd yn ôl yn gynharach. Mae hefyd yn ddiddorol iawn darllen cyngor SAGE—grŵp annibynnol SAGE, mewn gwirionedd—a oedd yn dweud bod y gwahaniaeth rhwng plant yn dychwelyd ar 1 Mehefin a phlant yn dychwelyd ar 15 Mehefin yn haneru'r tebygolrwydd y bydd plentyn yn cael y feirws. Rydym yn mynd yn ôl hyd yn oed yn hwyrach, sy'n unol â'r ymagwedd ofalus iawn y mae Llywodraeth Cymru yn ei chymryd tuag at bob un o'r mesurau llacio, ac mae hynny'n seiliedig ar gyngor SAGE, fel y dywedais, sy'n hysbys i'r cyhoedd erbyn hyn, rwy'n credu. O ran yr wythnos ychwanegol, rwy'n bwriadu ymestyn y tymor gan roi wythnos ychwanegol i fachu ar y cyfle hwnnw i ddysgu yn ystod yr haf, oherwydd, fel y dywedais yn gynharach, gwyddom fod hynny'n rhoi'r cyfle gorau inni gael cyfarfodydd wyneb yn wyneb. Rydym ni'n dod i ddiwedd y flwyddyn academaidd; mae'r wythnos ychwanegol honno'n golygu y gallwn ni fanteisio i'r eithaf ar y cyfle hwn a sicrhau cymaint â phosib o gyfleoedd i gael cyswllt wyneb yn wyneb rhwng plant a'u hathrawon yr ochr hon i'r haf. O ran wythnos ychwanegol ym mis Hydref, rwyf wedi gwneud y penderfyniad hwnnw i ailddyrannu'r wythnos honno. Rwyf wedi gwneud hynny, eto, oherwydd fel y trafodwyd yn hirfaith ddoe, mi gredaf gan y Gweinidog Iechyd, rydym yn pryderu fwyfwy am batrwm y clefyd yn yr hydref. Rwy'n gobeithio o ddifri, nid oes neb—ac rwy'n siŵr ein bod i gyd yr un fath—nid oes neb eisiau gweld y feirws yn cynyddu eto yn yr hydref. Mae'n rhy gynnar i ddweud a fydd hynny'n digwydd, ond mae—. Y cyngor yr ydym yn ei gael yw ei bod yn ddigon posib y gwelwn y feirws yn dychwelyd. Felly, mae cael egwyl naturiol a blaenoriaethu cyswllt wyneb yn wyneb nawr, a ninnau'n gwybod y gallwn ni ei wneud, yn hytrach na cholli amser cyswllt wyneb yn wyneb ychwanegol yn yr hydref, yn rhan bwysig o'm strategaeth. Hefyd, mae'n dymor hir iawn beth bynnag, ac mae'n rhoi'r cyfle i ni greu egwyl naturiol ar adeg pan allai'r clefyd—ac rydym i gyd yn gobeithio na fydd—ddechrau amlygu ei hun eto. O ran maint—mae'n ddrwg gennyf. Does dim dadl. Rwy'n aml yn hollti blew ac unwaith y bydd popeth mewn print ac yn cael ei roi i bobl, weithiau byddaf yn newid fy ngeiriau gan fy mod yn hoffi gair gwahanol, Mr Reckless. Dyna fy hawl fel Gweinidog. Weithiau rwyf eisiau newid fy ngeiriau, ond yn sicr nid yw oherwydd unrhyw beth dadleuol. Yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud yw cydnabod bod addysg Gymraeg yn hynod amrywiol. Wyddoch chi, mae gennym ni rai ysgolion sydd â 40 o ddisgyblion ynddyn nhw, ac mae gennym ni rai ysgolion sydd â llawer o ddisgyblion ynddyn nhw, ac mae'n rhaid i ni ymddiried yn ein penaethiaid a'n hawdurdodau addysg lleol i wneud yn siŵr bod digon o hyblygrwydd i adlewyrchu natur wahanol iawn ein hysgolion. Rhaid inni dderbyn hefyd na fydd y gweithlu o bosib ar gael yn llawn. Gwyddom, a'n hargymhelliad a'n cyngor ni yw na ddylai athro sy'n cael llythyr gwarchod ddychwelyd i'r gweithle ffisegol. Mae pethau y gallant eu gwneud gartref ac ar-lein i gefnogi dysgu, ond ni ddylen nhw fod yn y gweithle. Felly, mae'n rhaid inni gael rhywfaint o hyblygrwydd yn y system. Y traean yw'r nifer fwyaf o blant y byddem eisiau eu gweld. Ond, unwaith eto, mae'n rhaid i ni gael rhywfaint o hyblygrwydd a rhaid i ni ddibynnu ar ddoethineb penaethiaid a chyrff llywodraethu unigol o ran sut y bydd yn gweithio yn eu lleoliad nhw, cyn belled â bod hynny'n gweithio o fewn y cyd-destun cenedlaethol a'r fframwaith y byddwn wedi'i osod iddyn nhw. Ond mae'n rhaid i ni gydnabod bod addysg Gymraeg yn amrywiol, ac y gall adeiladau a lleoliadau ysgolion unigol fod yn haws i'w rheoli nag eraill, a rhaid inni gydnabod hynny fel ymateb ymarferol iawn i'r sefyllfa. Nid yw un ateb yn addas i bob sefyllfa. Diolch. Galwaf nawr ar Lynne Neagle, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Lynne Neagle. Lynne Neagle AC: Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Fel llawer o bobl, mae arnaf eisiau cymryd rhywfaint o amser i ddarllen y ddogfen ynghyd a'r dogfennau cysylltiedig cyn rhoi ymateb ystyriol a phwyllog iddo, ond roeddwn eisiau dweud mai un o'r pryderon mawr i mi yn y pandemig hwn yw bod y rhan fwyaf o'n plant yn anweledig a chudd i raddau helaeth. Felly, mae'r cyfle i gael archwiliadau lles i'n plant, a'r cyfle i gysylltu â'r athrawon yn uniongyrchol, yn rhywbeth y byddwn i, yn bersonol, yn ei groesawu, rwy'n credu. Mae gennyf rai cwestiynau penodol. Tybed a wnewch chi ddweud ychydig mwy ynghylch sut y mae cadw pellter cymdeithasol yn mynd i weithio'n ymarferol. Fe wnaethoch chi gyfeirio at ganllawiau a gyhoeddir yr wythnos nesaf. A allwch chi ddweud a fydd hynny'n digwydd—faint o gyfarwyddyd fydd yn y canllawiau hynny? Rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol gwybod hynny. Fe ddywedsoch chi mewn ymateb i Suzy Davies mai'r hyn a'ch arweiniodd at gael yr holl blant yn ôl yn hytrach na grwpiau blwyddyn penodol, sef yr hyn a drafodwyd o'r blaen, oedd y ffaith eich bod eisiau cael dull o weithredu sy'n seiliedig ar gydraddoldeb a bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael ei weld. A wnewch chi gadarnhau mai dyna oedd yr unig beth a oedd yn troi'r fantol o blaid cael pob plentyn yn ôl? Byddwn â diddordeb hefyd mewn cael gwybod i ba raddau y mae hawliau plant wedi bod yn ffactor yn y penderfyniad hwn. Hoffwn wybod a wnaed asesiad o'r effaith ar hawliau plant ynghylch hyn, fel yr wyf wedi bod yn gofyn drwy gydol y broses hon, mewn gwirionedd. Hoffwn ofyn beth yw'r pethau allweddol neu'r sbardunau a allai arwain at ailfeddwl ynghylch hyn neu at atal hyn rhag digwydd yn yr amserlen yr ydych wedi'i gosod. Ai newid yng ngwerth yr 'R' fyddai hynny? Beth fyddai'r ffactorau y byddech chi yn eu hystyried? Yn olaf gennyf fi, rwy'n credu bod y cyfyngiadau symud wedi bod yn drawmatig i bob un ohonom ni, ond i neb mwy felly nag i'n plant, mewn gwirionedd. Sut y byddwch yn sicrhau bod ysgolion wedi'u paratoi'n dda ar gyfer rheoli a chefnogi'r hyn a allai fod yn llawer o blant sydd wedi dioddef trawma mawr, pan fyddant yn dod yn ôl yn y pen draw? Wrth gwrs, mae yna hefyd fater o les staff ein hysgolion hefyd. Diolch yn fawr. Kirsty Williams AC: Diolch, Lynne. Byddwn, byddwn yn cyhoeddi canllawiau gweithredol yr wythnos nesaf. Mae hynny'n cael ei gwblhau—rydym yn dal i ymgynghori â'n hawdurdodau addysg lleol, undebau athrawon a'r grwpiau yr ydym wedi'u sefydlu i sicrhau bod y canllawiau hynny cystal ag y mae angen iddyn nhw fod, ac mae'r gwaith hwnnw'n parhau. Bydd yn ymdrin â'r holl faterion gweithredol sy'n gysylltiedig â'r sesiynau dod i'r ysgol sy'n cael eu darparu i blant. Rwy'n cytuno â hi: un o'r pethau sy'n fy nghadw'n effro yn y nos yw plant agored i niwed. Er gwaethaf ymdrechion gorau awdurdodau lleol ac athrawon unigol, ac ers gwyliau'r Pasg, rydym ni wedi gweld cynnydd yn nifer y plant agored i niwed sy'n mynd i'r ysgol, ac nid wyf yn teimlo'n gyfforddus â'r niferoedd. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod plant sy'n agored i niwed yn fwy tebygol o fynd i'r ysgol os mai hi yw eu hysgol nhw a'i bod hi yn eu cymuned nhw. Felly, un ystyriaeth bwysig yn y penderfyniad yr wyf wedi'i wneud yw cael mwy o blant sy'n agored i niwed yn ôl. Gall hyn fod yn fater penodol sy'n ymwneud â rhai o'n plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Er bod plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol wedi gallu mynd i'n hybiau y mae ganddyn nhw hawl iddyn nhw, yn aml nid yw hynny wedi bod—mewn gwirionedd, nid yw wedi bod ar gael, oherwydd i rai plant mae'n amgylchedd estron, amgylchedd nad ydyn nhw'n teimlo'n ddiogel ac yn gyfforddus ynddo. Yn aml, mae'r hybiau hynny, yn ddigon dealladwy, yn cael eu staffio ar sail rota. Mae'r staff yn newid, wyddoch chi drwy'r amser, ac, unwaith eto, gall hynny fod yn gythryblus iawn i rai plant. Bydd y gallu i ddisgyblion fynd yn ôl i'w hysgolion eu hunain, mewn adeilad ac amgylchedd sy'n gyfarwydd iddyn nhw, gydag unigolion sy'n gyfarwydd iddyn nhw, gobeithio yn lliniaru rhywfaint ar y pwysau sydd, yn ddi-os, wedi bod ar rai teuluoedd, y mae'r sefyllfa o ran hybiau—er ei fod yn hawl, nid ydyn nhw wedi teimlo eu bod yn gallu defnyddio'r hawl honno oherwydd nad yw wedi diwallu anghenion eu plant. Rwy'n credu, unwaith eto, dyna pam y mae hwn yn gam pwysig ymlaen o ran gwneud yn siŵr bod plant mwy agored i niwed yn gallu cael y cymorth hwn. Mae hawliau plant yn hollbwysig ac roedd yn benderfyniad anodd dweud bod addysg rhai plant yn bwysicach nag addysg eraill, ac y dylai hawliau rhai plant fod yn wahanol i hawliau eraill. Mae hyn yn ein galluogi i sicrhau bod pawb yn cael cyfle cyfartal. Lynne, rydych chi'n iawn i ddweud bod yr holl benderfyniadau yr wyf wedi'u hamlinellu heddiw yn dibynnu ar a yw'r feirws yn ein galluogi ni i wneud y newidiadau hyn. Felly, unwaith eto, mae hynny'n rhan bwysig o'r tair wythnos a hanner nesaf o ran gwneud yn siŵr nad yw'r cyfyngiadau sydd eisoes wedi cael eu llacio yn arwain nid yn unig at gynnydd yn y rhif 'R' ond at nifer y derbyniadau i'r ysbyty a lefelau'r haint, a hefyd at gadernid y drefn o brofi, olrhain a diogelu. Felly, fel y dywedais yn fy natganiad, byddwn yn defnyddio'r tair wythnos a hanner hyn i wneud yn siŵr y gall y penderfyniad yr ydym ni wedi'i amlinellu heddiw fynd rhagddo mewn gwirionedd. Ac os nad wyf yn fodlon, yna dywedaf hynny. Diolch. Darren Millar. Na, mae'n ddrwg gennyf. Mae angen inni droi eich meicroffon ymlaen. Dyna chi, rhowch gynnig arall arni. Darren Millar AC: A gaf i ddiolch i chi am eich datganiad heddiw, Gweinidog? Rwy'n credu y bydd llawer o bobl yn falch iawn bod ysgolion yn ailagor. A gaf i ofyn am ychydig mwy o eglurhad o ran y plant dan bump oed, ac yn enwedig y rheini sy'n blant oedran meithrin mewn meithrinfeydd a leolir mewn ysgolion? Pa ddarpariaeth fydd ar gael iddyn nhw o dan y trefniadau hyn? Ac yn ail, un maes na wnaethoch chi roi diweddariad amdano heddiw oedd prifysgolion Cymru. Mae llawer o fyfyrwyr yn teimlo eu bod yn cael bargen wael iawn gan brifysgolion am eu ffioedd dysgu ar hyn o bryd. Yn amlwg, am gyfnod sylweddol nawr, maen nhw wedi bod yn gwneud eu cyrsiau drwy ddysgu o bell. Manteisiais ar y cyfle i gael golwg ar wefan y Brifysgol Agored heddiw ac am rywbeth sy'n cyfateb i werth blwyddyn lawn o addysg yn y Brifysgol Agored, byddai'n costio ychydig dros £2,000 am hynny, ond mae prifysgolion Cymru yn dal i godi £9,000. A yw hynny'n rhywbeth yr ydych chi'n gobeithio mynd i'r afael ag ef yn y dyfodol? Rwy'n gwybod eich bod wedi rhoi cymorth ariannol i brifysgolion, ond nid ydych chi wedi gwneud hynny ar gyfer myfyrwyr hyd yn hyn. Kirsty Williams AC: O ran ein plant ieuengaf, gwn fod hwn yn faes sy'n peri pryder penodol i lawer o bobl oherwydd gallu ein dysgwyr ieuengaf i ddeall y cysyniad o gadw pellter cymdeithasol. Gallwch gael sgwrs gyda phlant hŷn a gallant ddeall yr hyn y cânt ac na chânt ei wneud; greddf naturiol ein dysgwyr ieuengaf oll yw bod gyda'i gilydd, a gall hynny fod yn heriol iawn. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig iawn i'w ddweud yw ein bod, dros y 10 wythnos diwethaf, wedi magu llawer o brofiad ynglŷn â sut i leihau'r risg yn y sefyllfaoedd hynny. Mae'n bwysig cofio bod chwarter o'n hysgolion wedi bod ar agor am y 10 wythnos diwethaf i blant o bob oed, felly hefyd ein darparwyr gofal plant ar gyfer plant hyd yn oed yn iau. Felly, rydym ni wedi gallu dysgu o'r profiad hwnnw ynglŷn â sut y gallwch chi reoli risg yn effeithiol. Ond rwy'n cydnabod ei bod yn anhygoel o anodd esbonio i blentyn pedair oed sut i gadw pellter cymdeithasol. Felly, mae ffyrdd ymarferol i leihau eu rhyngweithio. Felly, yn gyntaf oll, byddwn yn cadw plant mewn grwpiau bach iawn, felly nid yn eu dosbarthiadau traddodiadol ond mewn grwpiau bach iawn gydag aelod penodol o staff. Byddwn yn rhoi cyngor ac arweiniad, er enghraifft, ar adnoddau a rhannu adnoddau. Ond heb rithyn o amheuaeth, Darren, mae'n heriol iawn i'r plant hynny. Ond rydym wedi edrych ar enghreifftiau rhyngwladol o'r ffordd y mae hynny wedi llwyddo, ac mae'n rhaid i mi ddweud ein bod yn gwybod mai'r plant hynny sydd leiaf tebygol o fod mewn perygl. Felly, yr eironi yw ar gyfer y rhai sydd leiaf tebygol o gadw pellter cymdeithasol, byddai'r dystiolaeth yn awgrymu mai nhw sydd leiaf tebygol o fod mewn perygl. Ond mae gennym ni brofiad o sut y gallwn ni reoli'r broses honno a lleihau'r risg gymaint â phosibl. Ac fel y dywedais, o ran gwarchod plant a gofal plant, cyhoeddir mwy o ganllawiau yr wythnos nesaf. O ran prifysgolion, yn union fel eich cydweithiwr yn Llywodraeth San Steffan, nid oes gennyf gynlluniau i ostwng ffioedd yma ym mhrifysgolion Cymru. Diolch. Helen Mary Jones. Helen Mary Jones AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Os caf fynd â chi, Gweinidog, at addysg ôl-16— Na, mae'n ddrwg gennyf, Helen. Rydym ni'n dal i gael problemau gyda'ch meicroffon. Gadewch i ni roi cynnig arall arni. Helen Mary Jones AC: Beth am hwn? Dyna welliant, diolch. Helen Mary Jones AC: Diolch. Diolch, Dirprwy Lywydd. O ran—af â chi i addysg ôl-16, os caf i, Gweinidog. O ran y trefniadau ar gyfer colegau addysg bellach, a wnewch chi gadarnhau y bydd rhai o'r myfyrwyr hynny a fydd yn gallu dychwelyd, yn fyfyrwyr sy'n dilyn cyrsiau galwedigaethol y bydd angen iddyn nhw sefyll arholiadau ymarferol er mwyn gallu cwblhau eu cymwysterau? Os gallaf fynd â chi wedyn i'r sector prifysgolion, pa drafodaethau pellach ydych chi wedi'u cael ynghylch penderfyniad Llywodraeth y DU yn gweithredu fel Llywodraeth Lloegr i roi uchafswm ar nifer y myfyrwyr sy'n dod o brifysgolion Lloegr i brifysgolion Cymru? Yn amlwg, bydd gan hyn oblygiadau posibl o ran adnoddau i brifysgolion a fydd eisoes dan bwysau, ac a ydych chi wedi ystyried eto sut tybed y byddai Llywodraeth Cymru yn ymateb? Kirsty Williams AC: Iawn. Yn gyntaf, o ran colegau addysg bellach, ailadroddaf yr hyn a ddywedais yn fy natganiad: bydd colegau addysg bellach yn agor ar gyfer mwy o ddysgu wyneb yn wyneb ar 15 Mehefin. Mae hynny ychydig yn gynharach, oherwydd, mewn trafodaethau gyda phenaethiaid y colegau, ColegauCymru a'r undebau, maen nhw'n credu y gallant symud yn gyflymach i wneud hynny. Ac mae hi'n hollol iawn, wrth gytuno ar rai blaenoriaethau, mae'r grŵp hwnnw o fyfyrwyr y cyfeiriodd Helen Mary Jones ato yn flaenoriaeth. Felly, dyma'r un garfan o ddysgwyr—dyma'r un garfan fawr o ddysgwyr nad ydym ni wedi gallu dod i hyd i ffordd arall o ganiatáu iddyn nhw gwblhau eu cyrsiau gyda gradd. Felly, rydym ni wedi gallu gwneud hyn i bawb arall fwy neu lai, ond mae angen i'r grŵp hwn o ddysgwyr ddangos eu cymhwysedd technegol i ennill eu cymhwyster—ac mae hynny'n briodol. Os ystyriwch chi osodwyr nwy neu adeiladwyr, mae angen y dystysgrif dechnegol honno arnyn nhw ac rydym ni eisiau gwneud yn siŵr eu bod nhw'n cael cyfle i gwblhau eu cwrs, felly nhw yw'r flaenoriaeth o ran y gwaith y mae'n rhaid i golegau ei wneud er mwyn iddyn nhw allu cwblhau eu cymhwyster a symud ymlaen i'r camau nesaf. O ran addysg uwch a rheoli nifer y myfyrwyr, rydym yn cytuno bod y sefyllfa y mae addysg uwch ynddi yn golygu bod yn rhaid inni gyflwyno dull o reoli nifer y myfyrwyr. Yn wir, mae'r sector wedi cytuno bod hyn yn un ffordd bwysig o gyflwyno elfen o sefydlogrwydd ar adeg heriol iawn i'r sector. Yr hyn a oedd yn syndod, ar ôl cytuno y byddem i gyd yn cyflwyno rhywfaint o reoli o ran nifer y myfyrwyr, a byddaf yn gwneud hynny yng Nghymru gyda'n sefydliadau, oedd canfod wedyn, mai'r ymagwedd a oedd gan Loegr oedd nid yn unig i gyflwyno rheolaethau ar nifer myfyrwyr eu sefydliadau eu hunain, ond i weithredu hynny ar draws awdurdodau eraill, sydd yn fy marn i yn anffodus iawn ac yn ddiangen, oherwydd rydym yn bwriadu gweithredu i gyflwyno sefydlogrwydd yma yng Nghymru. Nid ydym eisiau gweld ein prifysgolion yn ymddwyn mewn ffordd sy'n ansefydlogi ei gilydd yng Nghymru nac yn ansefydlogi sefydliadau eraill; mae angen inni weithio gyda'n gilydd ar hyn. Ac mae'n hollol anffodus bod hyn wedi digwydd. Byddwch yn ymwybodol fy mod wedi ysgrifennu at y Gweinidog yr wythnos diwethaf, fel y gwnaeth swyddogion cyfatebol yng Ngogledd Iwerddon ac yn yr Alban. Siaradais â'r Gweinidog fore Llun, ac nid oedd y Llywodraeth yn barod i newid ei meddwl, sy'n destun gofid i mi. Mae CCAUC wedi bod yn cynnal ymgynghoriad i ni ar sut y byddai'r rheolaethau ar nifer y myfyrwyr yn gweithio yng nghyd-destun Cymru. Daeth yr ymgynghoriad hwnnw i ben ar 1 Mehefin. Rwy'n credu mai 3 Mehefin yw'r dyddiad nawr, felly rwy'n aros am adroddiad gan CCAUC o ganlyniad i'w sgwrs, ac yna byddwn yn gwneud cyhoeddiadau ar gyfer Gymru. Ond mae'n destun gofid, oherwydd roedd cytundeb rhwng y ddwy Lywodraeth y byddem yn gweithredu i gyflwyno rheolaethau ar nifer myfyrwyr. Gallem fod wedi darparu'r sefydlogrwydd o fewn ein gwledydd ein hunain. Nid oedd angen inni dresmasu ac ymestyn rheolaethau ar nifer y myfyrwyr i sefydliadau y tu allan i'n gwledydd ein hunain, ac mae'n destun gofid i mi ein bod yn y sefyllfa hon. Ond byddaf yn myfyrio ar ymgynghoriad CCAUC ac yn gwneud cyhoeddiad cyn gynted ag y gallaf. Vikki Howells AC: Gweinidog, hoffwn groesawu natur ymarferol eich penderfyniad heddiw. Mae hwn yn feirws a allai fod gyda ni am flwyddyn neu ddwy neu hyd yn oed fwy, ac ni allwn ni amddifadu ein pobl ifanc o addysg wyneb yn wyneb am gyfnod mor hir â hynny. Ond mae hwn yn ddull o ddychwelyd fesul grŵp, ac mae angen ei wneud yn ddiogel, felly hoffwn ofyn i chi am ychydig mwy o fanylion ynghylch sut yr ydych yn gweithio gydag athrawon i sicrhau eu bod yn teimlo'n ddiogel yn yr ystafell ddosbarth, a hefyd gyda'r staff glanhau mewn ysgolion yn ogystal, er mwyn sicrhau bod ganddyn nhw ddigon o amser a digon o adnoddau i lanhau amgylchedd yr ysgol yn drylwyr. Yn ail, hoffwn ofyn am ychydig mwy o fanylion ynghylch cludiant i'r ysgol, sut y bwriadwch sicrhau bod disgyblion yn cydymffurfio â mesurau cadw pellter cymdeithasol pan fyddant yn cael eu cludo i'r ysgol, a hefyd, os bydd unrhyw gostau ychwanegol i awdurdodau lleol o ran darparu bysiau ychwanegol, sut y bwriedir talu'r costau hynny. Mae a wnelo fy nghwestiwn olaf â phrydau ysgol am ddim, a gyda'r dull hwn o ddychwelyd fesul grŵp, mae'n amlwg y bydd rhai disgyblion yn bresennol yn amgylchedd yr ysgol, tra bo eraill gartref ar wahanol adegau. Sut byddwch chi'n sicrhau bod pob teulu'n cael y ddarpariaeth o brydau ysgol am ddim, boed hynny o fewn yr ysgol neu gartref? Kirsty Williams AC: Diolch, Vikki. Un o'r rhesymau rydym yn cymryd tair wythnos a hanner—rydym ni wedi archwilio rhai o'r rhesymau iechyd cyhoeddus ynghylch pam y mae angen i ni roi mwy o amser i ni ein hunain, ond un o'r rhesymau pwysig iawn eraill yw bod angen i ni roi amser i staff ein hysgolion roi'r system hon ar waith a darparu hyfforddiant i benaethiaid, athrawon a'r rhai sydd â chyfrifoldeb am gynnal ein hysgolion ar sut i wneud hyn yn ddiogel. Ni allwn ddisgwyl gwneud cyhoeddiad heddiw a chael popeth yn ei le yn ddiogel ddydd Llun, felly mae angen i ni ddefnyddio'r amser hwn i wneud yn siŵr bod yr hyfforddiant priodol ar waith. Rwyf eisiau sicrhau Vikki, pan rydym yn sôn am ymgynghoriadau gydag undebau, fod hynny'n cynnwys y GMB ac Unsain, sy'n cynrychioli'r staff, a'u bod wedi cael eu cynnwys yn llawn yn y trafodaethau. Felly, dyna un o'r rhesymau ymarferol pam mae'n rhaid i ni gael bwlch rhwng cyhoeddiad a gweithredu'r cyhoeddiad hwnnw, fel y gallwn ni wneud yn union yr hyn y mae Vikki yn ei ddweud: sicrhau bod yr hyfforddiant a'r adnoddau yn cael eu rhoi yn eu lle. Ac rydym yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol ynghylch pa gymorth ymarferol ac ariannol y gall Llywodraeth Cymru eu cynnig o ran yr arferion hylendid hynny a'r cyflenwadau y bydd eu hangen ar ysgolion. Fel y dywedais, byddwn yn cyhoeddi canllawiau yr wythnos nesaf ar sut y dylai hynny weithio, ac mae hynny'n cynnwys canllawiau ynghylch trafnidiaeth i ysgolion. Yn amlwg, os yn bosib, dylai rhieni gerdded, gyrru sgwter, beicio, ond, mae gan fy mhlant fy hun daith 25 milltir un ffordd i'r ysgol. Dydy hi ddim yn bosib mynd ar sgwter na cherdded y pellter yna. Felly, bydd llawer o deuluoedd yn dibynnu ar gludiant i'r ysgol ac, unwaith eto, rydym yn gweithio gyda'n hawdurdodau lleol. Mae'n un o'r problemau anodd y mae'n rhaid i ni eu goresgyn. Ond allwn ni ddim ildio. Vikki, rydych chi'n hollol gywir; gallai hyn fod gyda ni am gyfnod sylweddol o amser. Nid yw gwneud dim a gobeithio y gallai fod yn well yn ddewis mewn gwirionedd; mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â'r materion hyn ac mae'n rhaid i ni ddod o hyd i atebion diogel a chynaliadwy i drafnidiaeth, a byddwn yn parhau i gael y trafodaethau hynny. O ran prydau ysgol am ddim, mae awdurdodau lleol yn parhau i wneud gwaith anhygoel yn cefnogi teuluoedd prydau ysgol am ddim mewn amrywiaeth o ffyrdd—popeth o ddosbarthu bwyd yn uniongyrchol i dalebau neu i arian parod. Bydd angen i ni wneud yn siŵr bod hynny'n cael ei reoli'n briodol dros y pedair wythnos heb rywbeth sy'n rhy fiwrocrataidd, oherwydd dydym ni ddim eisiau sefyllfa lle mae rhywun mewn am ddiwrnod, ond mae eu taliad yn peidio a dydyn nhw ddim mewn am weddill yr wythnos. Felly, rhaid i ni fod yn ymarferol o ran sut y gwnawn hyn. Yn wir, un o'r ystyriaethau y gallai ysgol unigol ei ystyried yw a yw pobl yn mynychu fesul hanner diwrnod, ac felly, yn caniatáu'r bwlch hwnnw yng nghanol y dydd. Ond rydym yn ymwybodol iawn nad ydym ni eisiau proses fiwrocrataidd sy'n golygu y gallai teuluoedd unigol neu blant golli allan ar eu hawl. Mae awdurdodau lleol yn dal i ddweud wrthym eu bod yn cefnogi mwy o deuluoedd nag erioed. Os gallwch ddychmygu, fel arfer, mae'n rhaid i chi fod yn yr ysgol i gael eich cinio ysgol am ddim, ac weithiau nid yw plant yn mynychu, neu efallai, am ba bynnag reswm, nad ydynt eisiau defnyddio hynny o fewn yr ysgol—am ba reswm bynnag. Mewn gwirionedd, rydym ni'n cefnogi mwy o blant a mwy o deuluoedd nag a fyddem ni pan fydd ysgolion yn gweithredu fel arfer, a bydd y gefnogaeth, rwy'n ailadrodd, ar gael dros wyliau'r haf.Rydym ni hefyd yn ymestyn rhywfaint o gefnogaeth i fyfyrwyr sydd mewn colegau addysg bellach ac yn ceisio darparu rhywfaint o gymorth ariannol o ran hawl rhai dysgwyr addysg bellach i gael prydau ysgol am ddim hefyd. Diolch. Rwyf yn mynd i alw ychydig yn rhagor. Rydym ni wedi dod at yr amser sydd wedi'i neilltuo, ond rwyf yn dymuno cael cwestiwn gan aelodau'n awr, ac, os gofynnwyd eich cwestiwn eisoes, yna peidiwch â'i ofyn eto. Rhianon Passmore. Na, mae'n ddrwg gennyf—mae angen i chi droi eich meicroffon ymlaen. Dyna chi. Rhianon Passmore AC: Iawn, mae'n ddrwg gennyf. Diolch. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn ag effaith COVID-19 ar gwblhau asesiadau statudol ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol? Mae llawer o staff awdurdodau addysg leol yn parhau i gael eu trosglwyddo ar draws y gwahanol adrannau er mwyn darparu'r gallu proffesiynol i weithio gyda'r plant sydd fwyaf agored i niwed, felly a wnaiff y Gweinidog ddatgan pa mor barod yw hi felly i ddarparu arweiniad a chymorth pellach yn yr ardal asesu statudol os a phan fydd angen, ac a wnaiff y Gweinidog ystyried ymhellach y defnydd o offer asesu rhithwir fel na fydd darpariaeth a cherrig milltir allweddol yn cael eu colli, fel bod ein plant ADY sydd mwyaf agored i niwed yn cael eu meithrin ar gyfer y dyfodol? Kirsty Williams AC: Dirprwy Lywydd, yr ateb i'r ddau beth hynny yw 'gwnaf', ac adroddaf yn ôl i Rhianon Passmore wrth i ni ystyried y sylwadau y mae wedi'u gwneud. Angela Burns AC: Gweinidog, maddeuwch i mi os yw fy nghwestiwn yn torri ar draws yr hyn sydd wedi'i ofyn eisoes, ond rwyf wedi bod yn cael trafferthion gyda fy fideo heddiw. Roeddwn yn meddwl tybed a ydych chi—. Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i chi am eich datganiad, a tybed a allech chi roi amlinelliad i mi o'r hyn a addysgir ym mlynyddoedd 10 a 12. Rwy'n deall bod CBAC a Chymwysterau Cymru wedi dweud y gallai rhannau o'r cwricwlwm gael eu gollwng. A yw hyn yn gywir? Os felly, a allwch chi gadarnhau y gellir cynnal cyfanrwydd y cwricwlwm, ac na fydd athrawon yn y blynyddoedd hynny yn gwastraffu amser yn addysgu unedau a fydd yn cael eu gollwng wrth ddychwelyd yn raddol? Ac yn olaf, a allech chi gadarnhau pryd y gwnaethoch chi ofyn i'r consortia rhanbarthol a chynghorau lleol ymgymryd â'r gwaith monitro hwn? Kirsty Williams AC: Yn sicr, Angela, gallaf gadarnhau bod Cymwysterau Cymru a CBAC eisoes yn dechrau ceisio canfod beth yw cyfnod parhaus o darfu ar addysg—yr effaith a gaiff hynny ar y gyfres nesaf o arholiadau. Rydych chi yn llygad eich lle; maen nhw wrthi'n ystyried beth fyddai'n briodol o ran elfennau a fyddai'n draddodiadol yn cael eu cyflawni, a sut y byddai hynny'n effeithio ar arholiadau'r flwyddyn nesaf—felly, er enghraifft, a oes angen cael yr holl waith cwrs arferol sy'n gysylltiedig â'r cymhwyster, ac yn hytrach na chanolbwyntio ar waith cwrs, canolbwyntio ar yr amser addysgu yn barod ar gyfer yr arholiad allanol ar y diwedd. Felly, mae'r ystyriaethau hynny'n cael sylw ar hyn o bryd a bydd angen eu cyfleu'n glir i'r staff a'r myfyrwyr hynny cyn pryd, ac mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo ar hyn o bryd. Mae'n ddrwg gen i, rydw i wedi colli rhediad fy meddwl. Beth oedd yr ail gwestiwn, Angela, mae'n ddrwg gen i? Angela Burns AC: Roeddwn eisiau gwybod os— Kirsty Williams AC: O, y consortia rhanbarthol—ie. Angela Burns AC: —bydd athrawon—. A'r consortia rhanbarthol a phryd oedd yn rhaid iddyn nhw edrych arno, ie. Kirsty Williams AC: Ie. Felly, ni allaf gofio'r union ddyddiad y rhoesom ni'r cyfarwyddiadau hynny i'r consortia rhanbarthol, ond disgwylir i'w hadroddiad cyntaf gael ei gyhoeddi ar 19 Mehefin. Dai Lloyd AC: Mewn perthynas â'r cwestiwn gwnaeth Siân Gwenllian ei ofyn yn gynharach ynglŷn â'r Bil cwricwlwm, ble mae'r dystiolaeth sy'n cefnogi bod gwneud y Saesneg yn statudol ar wyneb y Bil yn y cyfnod sylfaen yn cryfhau addysg Cymraeg? Ble mae'r dystiolaeth yna? Ac o ystyried y pryderon mae'ch cyn-gydweithiwr Aled Roberts, fel Comisiynydd yr Iaith Gymraeg, wedi'u lleisio eisoes, a wnewch chi dynnu'r cymal arfaethedig allan o'r Bil cyn ei gyflwyno ddydd Gwener? Kirsty Williams AC: Wel, Dai, nid yw'r Bil wedi'i strwythuro mewn ffordd sy'n—. Mae'r Saesneg ar wyneb y Bil ar gyfer pob cyfnod addysg, ac mae'r Bil yn trin y Gymraeg a'r Saesneg yn yr un ffordd yn union. Mae'r Bil hefyd yn caniatáu i'r Saesneg gael ei datgymhwyso yn y lleoliadau hynny lle deallir yn dda bod trochi yn ffordd briodol i'n myfyrwyr ieuengaf gaffael sgiliau Cymraeg. Yr hyn y mae arnaf ei eisiau o'n cwricwlwm yw i fwy o'n myfyrwyr adael eu cyfnod addysg statudol yn ddinasyddion dwyieithog yng Nghymru, ac nid oes unrhyw beth yn y Mesur sy'n atal hynny rhag digwydd. Fel y dywedais, i'r gwrthwyneb, mae mewn gwirionedd yn caniatáu sail statudol i'r broses drochi drwy ganiatáu i'r Saesneg gael ei datgymhwyso yn y lleoliadau hynny. Rwy'n credu bod mater yma ynglŷn â chynnwys cwricwlwm, statws ieithyddol ysgol a chyfrwng yr addysgu o fewn yr ysgol. Byddwn yn awgrymu i'r aelod fod y rheini'n dri pheth gwahanol, a'r hyn y mae'r Bil cwricwlwm yn canolbwyntio arno yw'r cwricwlwm. Nid yw'n canolbwyntio ar y cyfrwng addysgu nac yn canolbwyntio ar gategori iaith ysgol unigol. Jenny Rathbone AC: Diolch yn fawr iawn, Gweinidog, am eich datganiad rhagorol. Rwy'n falch iawn, iawn y byddwn yn cynnig rhywfaint o gyfle i bob myfyriwr fod yn yr ysgol peth o'r amser am o leiaf bedair wythnos cyn toriad mis Awst. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi fod myfyrwyr difreintiedig ac sy'n agored i niwed yn annhebygol o fynychu unrhyw beth heblaw am eu hysgol leol eu hunain, ac felly mae hyn yn newyddion da iawn iddyn nhw. O gofio nad yw'r pandemig drosodd eto, mae'n ymddangos i mi y dylai hwn fod yn oes aur o addysg awyr agored, oherwydd dyma'r ffordd orau o beidio â lledaenu'r coronafeirws ymhlith myfyrwyr a staff. Felly roeddwn yn meddwl tybed pa ran fyddai i'r consortia rhanbarthol o ran hybu rhagoriaeth mewn addysg awyr agored a chynorthwyo'r ysgolion hynny nad oes ganddyn nhw ddarpariaeth awyr agored arbennig o ysgogol i wneud gwelliannau i wella ar hynny. Kirsty Williams AC: Wel, mae'r Aelod yn hollol gywir, un o'r rhesymau pam y mae angen inni fanteisio ar fisoedd yr haf yw oherwydd y gallwn ni wneud mwy o'n haddysgu y tu allan, a dyna un o'r rhesymau pam yr ydym wedi gwneud y penderfyniad a wnaethom ni. O ran ei sylwadau ar hybu rhagoriaeth mewn addysg awyr agored, rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid i sicrhau bod adnoddau ac arferion da ar gael i ymarferwyr. Yn sicr, ychydig cyn y pandemig, cefais gyfarfod â Chyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â'r hyn y gallent ei wneud fel asiantaeth statudol yma yng Nghymru i gefnogi'r agenda hon, a byddwn yn gweithio gyda nifer o asiantaethau i sicrhau bod ysgolion yn defnyddio'r arferion gorau. Mae eich sylw yn un da, a byddaf yn sicrhau bod hynny'n digwydd. Diolch, ac yn olaf, Nick Ramsay. Nick Ramsay AC: Mae'n ddrwg gennyf, roeddwn i'n defnyddio'r llygoden sydd ddim yn gweithio. [Chwerthin.] Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, tybed a allech chi roi ychydig mwy o wybodaeth i ni am addysg y rhai dan bump oed y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw yn gynharach wrth ateb Darren Millar. Rwy'n credu eich bod wedi dweud ei fod yn amhosib glynu mewn gwirionedd at ymbellhau cymdeithasol gyda'r math hwnnw o grŵp oedran, ac rwy'n credu eich bod wedi sôn ei bod hi'n debygol ei bod hi'n haws eu rhannu'n grwpiau bach. Mae'n ymddangos i mi fod rhai meithrinfeydd mewn ardaloedd trefol yn llawer llai, bod llawer llai o ofod ac felly efallai eu bod yn ei chael hi'n llawer anos gwneud hynny na meithrinfeydd mewn ardaloedd gwledig. Tybed a edrychwyd ar neu a ystyriwyd unrhyw ran o hynny. Kirsty Williams AC: Diolch, Nick. Wrth gyhoeddi'r canllawiau yr wythnos nesaf, yn amlwg dyna'r cyd-destun cenedlaethol yr ydym yn disgwyl i ddarparwyr, sefydliadau a lleoliadau weithredu ynddo, ond fel y dywedais wrth ateb Mr Reckless yn gynharach, rhaid i mi dderbyn nad yw un ateb yn addas i bob sefyllfa a rhaid i ni ddibynnu ar grebwyll proffesiynol a phroffesiynoldeb arweinwyr lleoliadau a phenaethiaid unigol. Os ydym yn meddwl am ofal preifat i blant, efallai y bydd angen hynny—ac mae'n rhaid i bob un ohonom ni dderbyn y gallai arwain at rywfaint o amrywiad yn y niferoedd sy'n dychwelyd ac yng ngallu lleoliadau unigol i ymateb. Ac rwy'n credu, er ein bod ni fel gwleidyddion yn aml yn hoffi i bethau fod yn dwt, yn unffurf ac yn daclus—mae'n apelio at ein natur—yn y sefyllfa hon, mae'n rhaid i ni gael rhywfaint o hyblygrwydd i gydnabod, fel rydych chi newydd ei ddweud, y gall adeiladau a lleoliadau unigol wneud pethau mewn ffyrdd gwahanol, ac mae'n rhaid i ni gydnabod hynny. Diolch yn fawr iawn, Gweinidog. Diolch. 6. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Digartrefedd Eitem 6 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar ddigartrefedd, a galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James. Julie James AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae atal a rhoi terfyn ar ddigartrefedd o bob math yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Er mwyn sicrhau na fyddai neb wedi ei adael heb lety a chefnogaeth yn ystod yr argyfwng hwn roedd y flaenoriaeth honno yn fater o hyd yn oed mwy o frys. Ym mis Mawrth, ar ddechrau'r cyfyngiadau symud, cymerais gamau cynnar i ddarparu £10 miliwn o arian ychwanegol a chanllawiau clir ynghylch sut y dylid gwarchod a chefnogi pobl. Rwy'n falch o'n hymateb yng Nghymru; mae'r camau pendant a thosturiol y mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol wedi eu cymryd, mewn partneriaeth ag iechyd, y trydydd sector, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a sefydliadau gwirfoddol, i ddod â phobl i mewn o'r strydoedd yn ddiau wedi achub bywydau. Mae ein hymdrechion ar y cyd wedi sicrhau bod pawb wedi eu cynnwys yn y mesurau a gynlluniwyd i amddiffyn pobl a chymunedau. Mae dros 800 o bobl wedi cael llety a chymorth brys ers dechrau'r cyfyngiadau symud. Yn flaenorol, roedd llawer yn cysgu ar ein strydoedd, roedd eraill yn ddiymgeledd gan nad oedd hawl ganddyn nhw i gael arian cyhoeddus, ac roedd llawer yn ddigartref cudd, yn byw yn ansefydlog fel syrffwyr soffa neu mewn llety dros dro anaddas. Mae awdurdodau lleol wedi cefnogi pobl sy'n wynebu digartrefedd i fyw mewn llety diogel a sefydlog, efallai am y tro cyntaf yn eu bywydau, ac wedi helpu pobl i ddechrau ymddiried mewn gwasanaethau nad ydyn nhw erioed, neu ddim ond prin iawn, wedi ymgysylltu â nhw o'r blaen, a hynny i gyd mewn dim ond ychydig o wythnosau byr. Mae'r ymateb i'r argyfwng hwn wedi ein tynnu yn nes at ein gilydd mewn sawl ffordd, gan gydnabod ein pwrpas cyffredin cytûn, ond hefyd yn agosach at gyflawni ein gweledigaeth o wneud digartrefedd yng Nghymru yn brin, dim ond am gyfnod byr a heb gael ei ailadrodd. Rydym yn ymwybodol iawn nad yw darparu llety dros dro yn rhoi terfyn ar ddigartrefedd. Mae yn rhoi cyfle unigryw i ni harneisio'r creadigrwydd, yr arloesedd, y cydweithredu a'r parodrwydd i weithio mewn modd gwahanol er mwyn gwneud newid hirdymor, cynaliadwy a sylfaenol i wasanaethau digartrefedd yng Nghymru. Mae hefyd yn rhoi cyfle unigryw i ni weddnewid bywydau pobl. Ni allwn lithro yn ôl o'r cynnydd enfawr yr ydym ni wedi ei wneud. Mae'n rhaid i ni weithio i sicrhau bod pobl sy'n wynebu digartrefedd yn parhau i gael eu hamddiffyn rhag y feirws, eu bod nhw wedi eu cynnwys mewn unrhyw fesurau diogelu iechyd y cyhoedd a fydd yn parhau neu rai newydd a fydd yn cael eu cyflwyno, ac nad oes unrhyw un yn cael ei orfodi i ddychwelyd i'r strydoedd nac unrhyw fath arall o ddigartrefedd. Cyhoeddais yr wythnos diwethaf gyllid ychwanegol o hyd at £20 miliwn, refeniw a chyfalaf, i gefnogi cam nesaf ein hymateb i ddigartrefedd yng nghyd-destun COVID-19. Rydym yn gofyn i bob awdurdod lleol yng Nghymru baratoi cynllun cam 2 sy'n nodi sut y bydd yn sicrhau nad oes angen i neb ddychwelyd i'r stryd, gan ganolbwyntio ar arloesi, adeiladu ac ailfodelu er mwyn gweddnewid y cynnig llety ledled Cymru. Heddiw, rwyf i wedi cyhoeddi dogfen fframwaith i bennu disgwyliadau clir a chynorthwyo awdurdodau lleol a'u partneriaid i ddatblygu eu cynlluniau cam 2. Mae'r ddogfen fframwaith wedi ei seilio yn gadarn ar yr argymhellion a gefais gan y grŵp gweithredu ar ddigartrefedd ychydig cyn y cyfyngiadau symud. Rwyf i unwaith eto yn ddiolchgar iawn am eu cyfraniad arbenigol a'u hymgysylltiad parhaus â'r gwaith hwn. Nid dim ond yn gofyn i eraill ddiwygio'r ffordd y maen nhw'n gweithio yr ydym ni; rydym ni'n diwygio ein ffyrdd ninnau o weithio hefyd. Rydym ni wedi elwa'n fawr iawn ar y cydweithio agos a fu rhwng fy swyddogion ac awdurdodau lleol yn ystod y cam cyntaf hwn. Rwy'n gwybod bod awdurdodau wedi croesawu'n gadarnhaol yr ymgysylltiad agosach a'r cymorth; mae wedi helpu i nodi a datrys problemau yn gyflym, ac mae'n llywio datblygiad polisi gwell. Rydym yn bwriadu dysgu ac adeiladu ar y gwaith agosach hwn yn y cam nesaf, gan helpu i ddatblygu'r cynlluniau, a sicrhau y gallwn ni ddechrau eu rhoi ar waith yn gyflym o fis Gorffennaf ymlaen. Bydd y cymorth hwn yn cynnwys cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu hefyd i gefnogi awdurdodau lleol a'u partneriaid. Cymerais ran yn y digwyddiad lansio yr wythnos diwethaf a chefais fy nghalonogi gan yr ymateb cadarnhaol, a chlywed am y gwaith a'r cynllunio arloesol, amlasiantaeth sydd eisoes ar y gweill mewn rhai ardaloedd ledled Cymru. Ein nod ar y cyd yw sicrhau bod pawb yr ydym ni wedi rhoi llety dros dro iddyn nhw yn cael cymorth i lety hirdymor. Mae hyn yn gofyn am ymdrech ar y cyd. Fel yr wyf wedi ei ddweud droeon, nid mater tai yn unig yw digartrefedd; mae'n fater gwasanaeth cyhoeddus ac mae'n galw am ymateb ar draws y gwasanaethau cyhoeddus. Ein nod yw gweddnewid ein hymagwedd gyfan at ddarpariaeth digartrefedd fel bod y rhai sy'n cyflwyno eu hunain fel pobl ddigartref bob dydd yn cael profiad o system sy'n canolbwyntio ar atal gwirioneddol. Yn y cam nesaf hwn, rwyf i'n disgwyl gweld creadigrwydd, partneriaeth a pharodrwydd i fuddsoddi yn y rhaglenni hyn, a fydd yn cyflwyno arbedion a manteision hirdymor i'n gwasanaethau cyhoeddus, yn ogystal â'r potensial i weddnewid bywydau'r bobl dan sylw. Mae'n rhaid i arloesi, ailfodelu ac adeiladu fod yn sylfaen i'r ffordd yr ydym yn ymdrin â digartrefedd, yn ei atal ac yn rhoi terfyn arno yng Nghymru. Nodais y llynedd yn ein strategaeth digartrefedd ddiwygiedig, ein nod o symud i ffwrdd o atebion llety dros dro ac addasu dull ailgartrefu cyflym—mabwysiadu, ddylwn i ddweud, dull ailgartrefu cyflym. Mae gennym ni gyfle i symud yn gyflymach i weithredu'r strategaeth hon. Yn y cam nesaf hwn, rydym yn gofyn i awdurdodau lleol ymrwymo i, a chynllunio sut i symud yn gyflym oddi wrth y defnydd o lochesi nos a lle ar lawr a dulliau lle mae angen adnoddau sylweddol, yn enwedig gan y sector gwirfoddol, i gefnogi pobl sy'n cysgu ar y stryd. Rydym yn gofyn iddyn nhw flaenoriaethu cynlluniau ailgartrefu cyflym a hirdymor, wedi eu hategu gan ddarpariaeth frys o ansawdd gwell. Rydym yn canolbwyntio ar roi cymorth cyflym i bobl fynd yn ôl i dai parhaol, gan ddarparu dewisiadau dros dro urddasol o ansawdd uchel a bod yn glir bod gwasanaethau stryd yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer allgymorth grymusol proffesiynol sy'n canolbwyntio ar ddatrys digartrefedd. Mae'r cam nesaf hwn yn ymwneud â mwy na dim ond sicrhau nad oes angen i neb ddychwelyd i gysgu ar y stryd, mae hefyd yn ymwneud â gweddnewid. Mae'r cynllun hwn yn uchelgeisiol iawn, a hynny'n briodol. Mae'n ein herio ni i gyd i feddwl, cynllunio a gweithio'n wahanol. Mae'r buddsoddiad newydd yr wyf i wedi ei gyhoeddi i gefnogi'r cynllun hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad ni fel Llywodraeth Cymru i arwain a buddsoddi yn yr hyn yr ydym ni'n credu ynddo. Bydd hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a'u partneriaid fuddsoddi, gan ddefnyddio cyllid a grantiau presennol, a benthyca trosoledd. Buddsoddiad ar gyfer y tymor hir yw hyn. Mae'r ychydig wythnosau diwethaf wedi dangos i ni gymaint yn fwy na'n rhannau unigol y gallwn ni fod pan fyddwn ni'n gweithio gyda'n gilydd. Rwyf i'n llawn cyffro ynghylch y cyfle sydd gennym ger ein bron. Bydd yn her, ond ar sail yr hyn yr ydym ni wedi ei gyflawni gyda'n gilydd hyd yma, rwyf i'n ffyddiog y gallwn ni newid yn sylweddol erbyn hyn i gyflawni ein nod o roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru. Diolch. David Melding AC: A gaf i ddechrau trwy gofnodi gwerthfawrogiad Plaid y Ceidwadwyr Cymreig o'r cynnydd a wnaed wrth roi terfyn, i bob pwrpas, ar gysgu ar y stryd? Rydym ni'n falch y bu hyn yn llwyddiannus iawn yng Nghymru, gydag 800 o bobl wedi eu symud i lety dros dro erbyn hyn. Byddai llawer ohonyn nhw wedi bod ar y stryd. Ac rwy'n sylwi hefyd bod cynnydd tebyg wedi ei wneud yn Lloegr. Rwyf yn gwneud y sylw hwn er mwyn atgoffa pawb, hyd yn oed mewn argyfwng taer, fod ffyrdd newydd o feddwl, a blaenoriaethau newydd, a mathau newydd o dosturi yn dod i'r amlwg. Ac mae hwn yn sicr yn un, ac rwy'n falch ein bod ni yng Nghymru yn gallu dweud bod gennym ni lwyddiannau gwirioneddol i ddatblygu arnyn nhw. Fy nghwestiwn cyntaf yw fy mod i'n dymuno ystyried y mater o ôl-ddyledion a throi allan, oherwydd, yn anffodus, pan fydd y caniatâd cyfreithiol i droi pobl allan yn dychwelyd, a all ddigwydd y mis hwn neu a all ddigwydd yn yr hydref yn dibynnu ar benderfyniad Meistr y Rholiau, wrth gwrs, gallai hyn arwain at gynnydd sylweddol mewn digartrefedd ac at bobl yn dychwelyd i'r strydoedd hyd yn oed. Canfu arolwg Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, Gweinidog, fod dwy ran o dair o rentwyr preifat yn gwybod ble i fynd i gael cymorth pe byddai ganddyn nhw broblemau ôl-ddyledion, ond mai dim ond chwarter y tenantiaid cymdeithasol oedd yn gwybod ble i fynd am y math hwnnw o gymorth a gwybodaeth. Felly, gofynnaf i chi edrych ar hyn, gan ei bod yn rhyfedd braidd bod y diffyg mor sylweddol o safbwynt tenantiaid cymdeithasol, a byddech chi wedi disgwyl iddyn nhw fod yn fwy ymwybodol o'r ffynonellau cymorth. A, hefyd, a gaf i gyfeirio at alwadau diweddar gan Sefydliad Tai Siartredig Cymru o ran troi allan—rwy'n credu eich bod chi efallai wedi gweld hyn—bod angen cynllun cenedlaethol arnom ni yng Nghymru i fynd i'r afael â throi allan? Ni allwn ni reoli'r holl ysgogiadau oherwydd y newidiadau yn y gyfraith, ond bydd yn rhaid i ni ymdrin â hyn. Ac maen nhw'n galw am gynllun ad-dalu ar gyfer ôl-ddyledion, wedi ei ymestyn dros ddwy flynedd, felly mae gennym ni gynllun a all helpu pobl yn y sefyllfa honno. Ac yna, os bydd landlordiaid yn cytuno i'r math hwnnw o gynllun i wasgaru taliadau dros ddwy flynedd, ni fyddai unrhyw droi allan. Mae'n ymddangos i mi yn ffordd eithaf adeiladol ymlaen, ond rwy'n credu yr hoffem ni gael gwybod beth yw eich gwerthusiad presennol chi o beth fydd y sefyllfa o ran troi allan, ac a ydym ni'n debygol o weld rhywfaint o estyniad i'r moratoriwm presennol er enghraifft. Julie James AC: Diolch, David, ac rwy'n gwerthfawrogi'n fawr y ffordd drawsbleidiol yr ydym ni wedi gallu gweithio yn hyn o beth. Rwyf i yn credu bod y cynllun i Gymru yn un yr ydym ni'n ei rannu'n fras ar draws pob plaid yng Nghymru, a dyna un o'r rhesymau yr ydym ni wedi gallu gwneud yr hyn yr ydym ni wedi gallu ei wneud oherwydd ein bod ni wedi cydweithio ar draws pob sector. Ac mae wir yn profi yr hyn yr ydym ni'n gallu ei wneud trwy weithio gyda'n gilydd. Ond mae rhai pryderon. Yn amlwg, mae ôl-ddyledion rhent yn un ohonyn nhw. Un o'r pethau yr oeddwn i'n cytuno â'n partneriaid tai cymdeithasol yng Nghymru pan wnaethom ni gytuno ar y polisi rhenti ar gyfer tai cymdeithasol yng Nghymru—mae'n teimlo fel degawd yn ôl ond dim ond rhyw 13 wythnos yn ôl oedd hi—oedd na fydden nhw'n troi pobl allan i fod yn ddigartref oherwydd ôl-ddyledion rhent nac unrhyw beth arall. Roeddem ni newydd ddechrau rhoi'r cynllun hwnnw ar waith pan ddaeth y cyfyngiadau symud. Rydym ni'n dal i weithio gyda'n landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a'n cynghorau i sicrhau bod y cynllun hwnnw'n parhau i fod ar waith. Ac yn rhan o'r cynllun hwnnw, yr hyn y byddwn ni'n ei wneud yw sicrhau bod unrhyw denant sy'n wynebu ôl-ddyledion rhent ac a fyddai'n wynebu llwybr troi allan o ganlyniad i hynny—ac mae amryw o gymhlethdodau yn y gyfraith yr wyf i'n gwybod eich bod yn gyfarwydd â nhw, ond mae yna sail orfodol ar gyfer troi allan, ac yn y blaen; rhai cymhlethdodau, ni fyddaf yn mynd i fanylder yn y fan yma—ein bod ni'n gweithio gyda'r tenantiaid hynny, mewn protocol cyn gweithredu, er mwyn sicrhau, cyn y gellir ystyried unrhyw brosesau troi allan, y sicrheir dealltwriaeth lawn o amgylchiadau ariannol y person hwnnw a beth yw ei allu i ad-dalu unrhyw ôl-ddyledion a beth yw ei allu i gynnal y denantiaeth, ac unrhyw gymorth y gellir ei roi yn hynny o beth, gan gynnwys, o dan rai amgylchiadau, i landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru ddileu'r ôl-ddyledion rhent yn arbennig mewn amgylchiadau penodol unigol. Hoffwn i bwysleisio nad yw hynny'n bolisi cyffredinol, am resymau amlwg yn ymwneud â pholisi cyhoeddus, ond rydym ni'n dymuno deall sut y mae pob unigolyn wedi cyrraedd y sefyllfa y maen nhw ynddi, a deall pa gymorth y byddai ei angen arno i ddychwelyd i gredyd. A byddai hynny, wrth gwrs, yn cynnwys ad-dalu dros ddwy flynedd, ac yn y blaen—rwy'n cytuno bod hynny'n sicr ymhlith y cymysgedd o bethau y byddai angen eu hystyried. Rydych chi yn llygad eich lle, wrth gwrs, wrth ddweud ein bod ni'n aros am benderfyniad Meistr y Rholiau ynghylch a fydd y protocol cyn gweithredu hwnnw yn cael ei roi ar waith ar gyfer achosion troi allan yn y sector preifat. Rydym ni wedi mynegi ein barn yn glir iawn i Lywodraeth y DU, ac rwy'n dal yn obeithiol iawn y bydd hynny'n gam gweithredu a fydd yn digwydd. A, beth bynnag, byddwn yn gweithio'n galed iawn gyda'n landlordiaid cofrestredig yma yng Nghymru—fel y gwyddoch chi, mae gennym ni berthynas dda iawn â nhw, ac rydym ni mewn cysylltiad â nhw mewn ffordd sy'n unigryw; oherwydd Rhentu Doeth Cymru, rydym ni'n gwybod pwy yw pawb—i roi protocol cyn gweithredu gwirfoddol ar waith, hyd yn oed os nad yw'r llys yn rhoi un gorfodol ar waith, fel y bydd y mwyafrif helaeth o denantiaid yn cael y gwasanaeth hwnnw beth bynnag. Yr oedd yn ddiddorol iawn clywed yr hyn a ddywedasoch chi am beidio â deall ffynonellau cymorth. Rwy'n synnu braidd at hynny—hoffwn i weld o ble y daeth hynny. Ac yn sicr, hoffem ni godi hynny gyda'n cynghorau a'n landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, oherwydd mae'n sicr yn rhan bwysig o'r ffordd yr ydym yn goruchwylio eu gweithrediadau—eu bod nhw'n darparu'r math hwnnw o gymorth tenantiaid wedi ei dargedu, a ddylai olygu bod eu tenantiaid yn gwybod o ble y mae'r cymorth hwnnw yn dod. Felly, byddwn i'n ddiolchgar iawn o gael golwg manylach ar yr wybodaeth sydd gennych chi yn y fan yna, i gael gwybod beth y gallwn ni ei wneud i unioni'r sefyllfa. David Melding AC: Diolch i chi am yr ateb yna, Gweinidog. Gan Wasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid Cymru y mae'r arolwg, a gafodd 500 o ymatebion rwy'n credu—roedd yn nifer eithaf uchel. Ond yn sicr gallaf i roi'r cyfeiriad hwnnw i chi. Tybed a gaf i egluro'r sefyllfa o ran gwariant, ac rwy'n gwneud hyn yn syml er mwyn i ni allu ei deall yn llawn. Nid wyf i'n amau o gwbl na fydd yr adnoddau yn cyfateb i'r uchelgais, oherwydd fy mod i wirioneddol yn credu bod penderfyniad i weld terfyn ar gysgu ar y stryd a digartrefedd. Ond fe wnaethoch chi gyhoeddiad ddechrau mis Mawrth ynghylch cynnydd o £10 miliwn, ac yna yr wythnos diwethaf cynnydd arall o £10 miliwn, felly mae cyfanswm y gwariant ychwanegol sydd wedi ei gyhoeddi yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud yn cyfateb i gyfanswm o £20 miliwn erbyn hyn. Rwy'n credu eich bod chi'n sôn weithiau am £10 miliwn yn fan yma ac yna £20 miliwn ychwanegol, ac rwy'n credu bod y Prif Weinidog bron wedi syrthio i hyn pan oedd yn siarad yn nhermau £30 miliwn yn fwy yn cael ei wario. Ond rwy'n credu mai ffigur gwirioneddol y cyllid yw £20 miliwn. Os nad dyna ydyw, a wnewch chi egluro hynny? Mae Llywodraeth y DU, wrth wneud cynnydd tebyg mewn gwariant—ac nid wyf i'n mynd i ddechrau cymharu; mae'n anodd iawn gwneud hynny—wedi pwysleisio eu bod nhw'n gweithio tuag at gynnydd o 37 y cant mewn gwariant refeniw ar wasanaethau cymorth i denantiaid agored i niwed, a bydd honno'n ffordd allweddol o gadw'r rhai sydd mewn llety brys ar hyn o bryd, wrth iddyn nhw symud i dai mwy sefydlog, a'u cadw nhw yn y sefyllfa honno fel nad ydyn nhw'n syrthio'n ôl ac yna'n mynd yn ôl ar y stryd. Roeddwn i'n meddwl tybed a oes gennych chi farn debyg. Ac rwy'n croesawu'r cynlluniau cam 2 y bydd yn rhaid i awdurdodau lleol eu llunio bellach, a'r pwyslais ar ddull ailgartrefu cyflym. Rwy'n credu bod hynny'n iawn. Ond a gaf i hefyd nodi galwad gan Gymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl, pan eu bod yn cymeradwyo cynllun Casnewydd, sy'n cynnig rhent gwarantedig o chwe mis ac unrhyw atgyweiriadau sydd i'w gwneud os bydd landlordiaid yn cofrestru i gynlluniau lle byddai pobl ddigartref yn cael llety yn eu heiddo. Ac maen nhw'n dweud efallai y gallem ni wneud hynny yn gynllun cenedlaethol. Ac mae yn ymddangos bod cynllun Casnewydd wedi gweithio yn dda iawn, ac y gall fod yn ffordd adeiladol iawn ymlaen sy'n defnyddio adnoddau'r sector preifat, sydd mor helaeth wrth ddarparu llety i'w rentu, fel y gwyddom. Julie James AC: Ie, diolch i chi. Felly, o ran y gwariant, mae'n ddrwg gen i os oes rhywfaint o ddryswch, ond mae dau swm o £10 miliwn o refeniw—felly, y £10 miliwn o wariant refeniw gwreiddiol, ac wedyn £10 miliwn o wariant refeniw ychwanegol yn yr ail gam hwn. Ond mae £10 miliwn o gyfalaf hefyd. Felly, mae'n £30 miliwn, os ydych chi'n cynnwys y cyfalaf—£20 miliwn o refeniw a £10 miliwn o gyfalaf. Felly, rwy'n credu mai dyna ble mae'r dryswch yn codi. Felly, mae'n amlen gwerth £30 miliwn, ond mae £20 miliwn o hynny yn refeniw, i fod yn gwbl glir. Rydym ni'n disgwyl—. Y rheswm am y cymysgedd yw bod y cynlluniau cymorth cyfalaf, cynlluniau eraill a'r refeniw, yn amlwg, yn darparu cymorth ar gyfer benthyca a nifer o gynlluniau eraill. Felly, fe aethom ni ati yn fwriadol i ddefnyddio'r gymysgedd. Felly, rwy'n gobeithio bod hynna'n egluro hynny. Yn amlwg, pan fyddwn yn gweld y cynlluniau yn cael eu cyflwyno, byddwn yn gallu gweithio'n agosach gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill ar sut yn union y bydd yr arian hwnnw yn gweithio, ond roeddem ni'n awyddus i sicrhau eu bod nhw'n gallu cynllunio, gan wybod bod cymorth ar gael ar gyfer hynny ac na fyddai hynny yn rhwystr rhag gwneud y cynlluniau yn y lle cyntaf. O ran llwybrau eraill, ydw, rwy'n ymwybodol o gynllun Casnewydd—rwy'n ei gymeradwyo yn llwyr. Byddwn yn ceisio cyflwyno nifer o'r cynlluniau hynny ledled Cymru gyfan. Rydym ni hefyd wedi bod yn rhedeg cynllun mewn un neu ddau o awdurdodau lleol lle'r ydym ni'n meddiannu tŷ rhent preifat am bum mlynedd, gan addo i'r landlord y lwfans tai lleol am y cyfnod cyfan hwnnw ac yna dychwelyd y tŷ iddo yn y cyflwr y cawsom ef neu'n well. Sori, cefais i fy ngwneud yn fud am ryw reswm. Na, rydych chi'n iawn. Ewch ymlaen. Julie James AC: Roeddwn i ar fin dweud, byddai hynny yn sicr yn rhan o'r gymysgedd ac rydym ni'n disgwyl y bydd y math hwnnw o beth yn ymddangos yn y cynlluniau wrth i ni symud ymlaen. Iawn, diolch. Delyth Jewell. Delyth Jewell AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rydym ninnau hefyd yn croesawu'r cyhoeddiad— Sori, dydyn ni ddim yn eich clywed chi. Mae'n ddrwg gen i. A all rhywun helpu Delyth gyda'i meic, os gwelwch yn dda? Trïwch eto. Delyth Jewell AC: Ydych chi'n gallu fy nghlywed i nawr? Ydym, yn iawn. Delyth Jewell AC: Rydym ni'n croesawu'r cyhoeddiad ynghylch dileu digartrefedd. Rwy'n credu mai un o'r pethau cadarnhaol a allai ddeillio o'r argyfwng hwn yw sylweddoli bod tai yn hawl am oes, nid dim ond rhywbeth brys dros dro yn ystod pandemig. Rwyf i hefyd yn croesawu'n fawr y ffordd adeiladol yr ydych chi wedi gweithio, Gweinidog, ar draws y pleidiau wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hwn. Mae'r argyfwng wedi dangos hefyd bod digartrefedd wedi bod yn ddewis gwleidyddol, nid yn rhywbeth anochel. Ni all neb gael ei feirniadu mwyach am ddweud bod cynlluniau 10 mlynedd i roi terfyn ar ddigartrefedd yn uchelgais sarhaus. Nawr bydd rhai efallai yn petruso ynghylch y symiau o arian yr ydym ni'n sôn amdanyn nhw, ond byddwn i'n dweud wrthyn nhw, ac rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno â mi yn hyn o beth, Gweinidog, y bydd y buddsoddiad hwn yn arwain at arbedion sylweddol i'n gwasanaethau cyhoeddus—fe wnaethoch chi gyfeirio at hynny yn eich datganiad—heb sôn am y bywyd gwell i bobl ddirifedi yn y dyfodol. Hoffwn i ofyn, Gweinidog, a ydych chi'n gresynu na wnaethoch chi dyrannu'r symiau i roi terfyn ar ddigartrefedd ynghynt o lawer. Ond, wrth edrych i'r dyfodol, mae'n ymddangos y bydd y sector rhentu preifat yn debygol o weld cynnydd yn y galw, wrth i Rightmove ddweud bod y galw am osodiadau wedi cynyddu gan 22 y cant. Nawr, rwy'n cymryd mai yn Lloegr y mae hynny yn bennaf, lle nad yw'r cyfyngiadau mor ddifrifol, ond gall hyn, wrth gwrs, arwain at demtasiwn i landlordiaid droi allan meddianwyr presennol neu eu perswadio i adael er mwyn iddyn nhw allu cynyddu'r rhent i denantiaid eraill. Felly, a wnewch chi gadarnhau, Gweinidog, a fyddwch chi'n ymestyn y cyfnod dim troi allan o beidio â chymryd camau pellach, er mwyn atal hyn ymhellach ar ôl i ni barhau i ganolbwyntio ar atal digartrefedd? Rwy'n gwerthfawrogi yr hyn yr ydych chi newydd ei ddweud wrth David Melding, ond tybed a wnewch chi gadarnhau am ba hyd yr ydych yn gobeithio y bydd y cymorth hwnnw ar gael ac, yn wir, y bydd hynny'n rhywbeth na fydd â chyfyngiad amser iddo. Julie James AC: Ie, yn amlwg, yr hyn y mae'r argyfwng wedi ei wneud yw ei gwneud yn bosibl i ni wneud pethau y byddem ni wedi dymuno eu gwneud erioed, ond y mae wedi ei gwneud yn bosibl i wneud hynny mewn ffyrdd na fyddem ni wedi gallu eu gwneud. Felly, er enghraifft, mewn rhai ardaloedd yng Nghymru, rydym ni wedi meddiannu llety gwely a brecwast neu westai neu lety i fyfyrwyr yn y sector preifat nad oedd eu hangen oherwydd yr argyfwng, na fyddai wedi bod ar gael i ni o dan 'amgylchiadau arferol'. Felly, rydym ni wedi gwneud y gorau o sefyllfa ofnadwy ac rydym ni wedi manteisio ar rai o'r cyfleoedd hynny, ac mae hynny wedi ein galluogi i wneud pethau llawer ynghynt nag a fyddai wedi bod yn bosibl o dan amgylchiadau arferol. Ond rydych chi'n iawn—y mae wedi profi y gellir ei wneud, a'r hyn y mae wedi ei wneud yw profi i bawb y gellir ei wneud. Ac felly mae pobl yn benderfynol iawn, ac rwy'n teimlo'n sicr y byddan nhw'n gallu cyflwyno'r cynlluniau ar gyfer y cam nesaf oherwydd ein bod ni'n gwybod erbyn hyn y gellir ei wneud. Nid damcaniaeth yn unig ydyw, ac mae hynny'n gwneud gwahaniaeth enfawr. Felly, rwy'n obeithiol iawn y byddwn ni'n gallu gweithio yn y ffordd gydweithredol honno drwyddi draw. O ran atal achosion o droi allan—o ran atal yn gyfreithiol achosion o droi allan—ar hyn o bryd rwy'n ystyried gyda fy swyddogion ymestyn y cyfnod tri mis sydd gennym ni ar hyn o bryd. Mae posibilrwydd ei ymestyn o dan y Ddeddf coronafeirws a'r rheoliadau. Mae'n amlwg bod hynny yng nghyd-destun y pandemig. Felly, rydym ni'n gobeithio ei ymestyn tra bydd y pandemig yn parhau, gan mai dyna sail y pwerau hynny, ac, yn y cyfamser, wrth gwrs, rydym ni'n edrych ar y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) yr ydym ni'n dymuno ei gyflwyno, os yn bosibl, yn y tymor Senedd hwn, a fyddai'n rhoi hynny ar waith yn y tymor hwy. Ond mae yn gofyn am y ddau, ac nid yw'n bosibl, yn ôl yr hyn yr wyf i'n ei ddeall, ymestyn y rheoliadau coronafeirws pan fydd y pandemig ar ben. Felly, nid yw'n bosibl gwneud hynny. Felly, rydym ni'n gobeithio y gallwn ni gyflwyno'r diwygiad i'r Bil mewn pryd er mwyn peidio â chael bwlch yn hynny o beth, ond mae'n rhaid i ni wneud y ddau beth hynny ar yr un pryd. Ac rwy'n siŵr y cawn ni lawer o gydweithrediad gan y Senedd wrth wneud hynny hefyd. Rwy'n gwybod bod agenda ar y cyd yn y fan honno hefyd. Ac yna, o ran y sector preifat, fel y dywedais, mae gennym ni amryw o gamau gweithredu ar y gweill gyda landlordiaid sector preifat. Ond byddwch chi'n gwybod o'n sgyrsiau ein bod ni'n dibynnu'n fawr iawn ar Lywodraeth y DU yn gwneud yn siŵr nad yw'r lwfans tai lleol yn mynd yn ôl i ble yr oedd o'r blaen, oherwydd, yn yr achos hwnnw, ni fydd pobl yn gallu fforddio llety cyfartalog yn y rhan fwyaf o leoedd yng Nghymru, ac mae hynny wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i rymoedd y farchnad y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw yn rhan o hynny. Delyth Jewell AC: Diolch am hynna, Gweinidog. Mater arall yr oeddwn i'n dymuno ei godi oedd y cymorth sy'n cael ei gynnig i bobl nad oes ganddyn nhw hawl i gael arian cyhoeddus. Nawr, mae'r statws hwnnw yn etifeddiaeth ymgais Tony Blair i dawelu'r Daily Mail flynyddoedd yn ôl, ac mae wedi gadael etifeddiaeth hir a gwaedlyd. Rydym ni'n gwybod bod Shelter Cymru ac eraill wedi bod yn ysgrifennu am y problemau y mae wedi eu hachosi i fenywod mudol ers o leiaf 2010. Nawr, yn anffodus mae'r statws hwnnw ar waith o hyd, ac nid yw pobl nad oes ganddyn nhw hawl i gael arian cyhoeddus wedi gallu cael credyd cynhwysol, y cynllun ffyrlo na gwasanaethau cymorth eraill. Felly, a wnewch chi roi sicrwydd i ni, Gweinidog, na fydd eich mesurau chi i roi terfyn ar ddigartrefedd yn anwybyddu sefyllfa'r grŵp hwnnw o bobl. Ac, yn olaf, hoffwn i ofyn am y gwersi hirdymor mwy cyffredinol y gallwn eu dysgu o'r pandemig hwn. Rydym ni'n gwybod bod yr argyfwng wedi effeithio'n fwy garw ar gymunedau tlotach. Ac un o'r rhesymau y gellir eu tybio dros hyn, mae'n debyg, yw bod tai mewn ardaloedd tlotach yn nes at ei gilydd, y risg o orlenwi ac, wrth gwrs, cyflwr gwaeth y tai yn arwain at gyflyrau iechyd sylfaenol i fod yn fwy cyffredin. Gweinidog, a fyddwch chi'n ystyried newidiadau i'r system gynllunio yn y dyfodol agos er mwyn mynd i'r afael â'r ffactorau hyn fel y gall ystadau tai yn y dyfodol gael eu gwneud yn ddiogel rhag pandemig? Julie James AC: Felly, o ran yr hawl i gael arian cyhoeddus, Delyth, byddwch chi'n gwybod ein bod ni eisoes wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU ynglŷn â'r newidiadau sydd eu hangen i sicrhau nad oes neb yn dychwelyd i'r strydoedd, gan gynnwys pobl nad oes ganddyn nhw hawl i gael arian cyhoeddus. Rydym ni, wrth gwrs, wedi rhoi llety a chymorth i bobl nad oes ganddyn nhw hawl i gael arian cyhoeddus, o ganlyniad i'r ddeddfwriaeth iechyd cyhoeddus y mae'r pandemig wedi caniatáu i ni weithredu oddi tano. Felly, er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, mae'n rhaid i ni allu amddiffyn unigolion ac, felly, mae gennym ni'r pŵer i wneud hynny. Unwaith eto, pan fydd y pandemig ar ben, ni fyddwn yn gallu defnyddio'r ddeddfwriaeth honno, ac felly mae'n hanfodol bod Llywodraeth y DU yn edrych ar hynny. Rydym ni wedi pwysleisio dau beth: dyngarwch cyffredin hynny a'r angen i drin pawb fel bod dynol; ac yn ail, mewn gwirionedd, pe byddech chi'n dymuno yn wirioneddol ei wneud ar sail ariannol, nid oes llawer iawn o bobl—nid ydych chi'n sôn am lawer iawn o arian ac mae hynny'n ei wneud yn waeth fyth os na fydd pobl yn ystyried ei wneud. Felly, byddwn i'n croesawu yn fawr iawn unrhyw beth y mae unrhyw Aelod unigol o'r Senedd neu blaid yn y Senedd yn dymuno ei wneud i'n cefnogi ni drwy ysgrifennu at Lywodraeth y DU. Rwy'n gwybod ein bod ni wedi trafod hynny o'r blaen, a hoffwni allu gwneud hynny yn fawr iawn. Ac yna, o ran y gweddill, mae yna dair elfen ar yr ochr gyflenwi. Felly, o ran cyflwr y farchnad dai bresennol, rydych chi'n gwybod ein bod ni wedi gweithio'n galed iawn ar safon ansawdd tai Cymru, a chredwyd bod hynny'n amhosibl pan wnaethom ni ei roi ar waith, ac yn wir rydym ni wedi ei gyrraedd, a hyd yn oed yn ystod y pandemig, rydym ni wedi llwyddo i gyrraedd y targed a oedd gennym ni. Rydym ni'n newid Rhan L, fel y'i gelwir, rheoliadau adeiladu, a byddan nhw'n cael eu cyflwyno gerbron y Senedd yn fuan, fel bod adeiladau newydd yn cael eu hadeiladu yn y modd hwnnw. Ac yna mae problem enfawr ynghylch ôl-osod yn y sector preifat. Felly, byddwn yn mynd i'r afael â hynny. Yn anffodus, yn sgil y pandemig byddwn yn colli rhywfaint o'r ddeddfwriaeth a'r offerynnau statudol yr oeddem ni'n gobeithio eu cyflwyno yn ystod y tymor Cynulliad hwn. Rwyf i'n fodlon iawn gweithio gyda phob plaid i sicrhau ein bod ni'n gallu rhoi unrhyw beth y gallwn ni i gyd gytuno arno ym mhob maniffesto fel y gall swyddogion barhau i weithio arno gan wybod yn iawn y bydd y sawl sy'n ffurfio Llywodraeth nesaf Senedd Cymru yn dymuno bwrw ymlaen â hynny, a bydd hynny yn rhoi rhywfaint o sicrwydd i'r darn hwnnw o waith. Caroline Jones AC: Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog, ac rwy'n croesawu'r cynlluniau i roi terfyn ar ddigartrefedd. Ond, Gweinidog, a wnewch chi gadarnhau y bydd y cynlluniau yn berthnasol i bawb sy'n ddigartref yn ystod y pandemig hwn, ac nid y rhai sydd mewn llety brys yn unig? Rwyf i wedi bod yn siarad â grwpiau cyn-filwyr yn ystod yr wythnosau diwethaf sy'n pryderu bod llawer o gyn-filwyr digartref yn syrthio drwy'r rhwyd gan mai syrffio soffa y maen nhw. Yn amlwg, nid yw hyn yn ddelfrydol o safbwynt iechyd y cyhoedd yn ystod y pandemig presennol hwn. Gweinidog, a wnewch chi gysylltu â grwpiau, fel Cymdeithas y Milwyr, Morwyr, Awyrenwyr a'u Teuluoedd, i sicrhau y darperir llety hirdymor i'r holl gyn-filwyr digartref? Os oes unrhyw bethau cadarnhaol i ddeillio o'r pandemig hwn, mae'n rhaid bod rhoi terfyn ar gysgu ar y stryd ar frig y rhestr. Wrth gwrs, os ydym ni am fynd i'r afael â digartrefedd mewn ffordd barhaol ac ystyrlon, mae'n rhaid i ni symud i farchnad dai weithredol cyn gynted â phosibl. Felly, Gweinidog, pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda swyddogion iechyd y cyhoedd ynglŷn â'r ffordd fwyaf diogel o adfer marchnad dai weithredol yng Nghymru? Hefyd, a gaf i ofyn pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o'r effaith y mae COVID-19 yn ei chael ar y cyflenwad tai yn y dyfodol, a pha gamau, os o gwbl, ydych chi'n eu cymryd i'w lliniaru? Ni allwn ni ddychwelyd i'r farchnad dai a oedd gennym ni cyn y pandemig nes bydd brechlyn ar gael, ond fe allwn ni wneud addasiadau i sicrhau bod prosesau adeiladu, prynu a gwerthu tai mor ddiogel â phosibl. Bydd cadw pellter cymdeithasol yn cael effaith ar ba mor gyflym y gellir adeiladu cartrefi newydd, felly, a ydych chi wedi trafod gydag adeiladwyr tai yng Nghymru ffyrdd o wrthbwyso'r oedi, fel gweithredu nifer o safleoedd ar yr un pryd i ddarparu ar gyfer y gweithlu? Mae'r feirws yn effeithio ar y farchnad rentu hefyd, wrth i lawer o landlordiaid fethu â dod o hyd i denantiaid ar gyfer eu heiddo, neu ddim yn cael incwm rhent oherwydd bod tenantiaid yn ddi-waith. Felly, pa ystyriaeth ydych chi wedi ei rhoi i hepgor y dreth gyngor ar eiddo gwag drwy gydol cyfnod y pandemig hwn? Ac yn olaf, Gweinidog, mae gweithwyr llywodraeth leol yn chwarae rhan allweddol wrth olrhain cysylltiad yn rhan o gynllun tracio, olrhain a diogelu Llywodraeth Cymru. A ydych chi'n ffyddiog na fydd y swyddogaeth newydd hon yn arwain at brinder mewn meysydd eraill, yn enwedig iechyd yr amgylchedd? Diolch. Julie James AC: Diolch i chi am y gyfres yna o gwestiynau. Byddaf i'n gwneud fy ngorau i ymdrin â nhw i gyd. Yn sicr, nid ydym ni'n dymuno hepgor unrhyw grŵp o bobl, ac rydym ni wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth beidio â gwneud hynny yn ystod cam cyntaf y camau digartrefedd yr ydym ni wedi eu cymryd. Fel y dywedais yn benodol iawn yn fy natganiad, mae nifer y bobl yr ydym ni wedi rhoi llety iddyn nhw yn cynnwys pobl nad oedden nhw'n cysgu ar y stryd, ond a oedd mewn llety ansefydlog iawn—llety dros dro, 'syrffwyr soffa' fel y'u gelwir. Nid oes gennym ni wybodaeth am nifer y cyn-filwyr sydd wedi eu cynnwys gan nad ydym ni'n ei chasglu yn y ffordd honno, ond nid ydym ni'n ymwybodol o unrhyw bobl sydd wedi eu hepgor o hynny, ac rydym ni wedi bod yn cynnal ymgyrch i sicrhau bod pobl sy'n syrffio soffa yn cydnabod eu bod yn ddigartref ac yn cyflwyno eu hunain. Ac rydym ni wedi bod yn gwneud hynny yn fwriadol iawn er mwyn gwneud yn siŵr nad ydym ni'n wynebu nifer llethol ar ddiwedd y pandemig. Ac rydym ni wedi cael llif cyson o bobl yn cyflwyno'u hunain i gael cymorth drwy gydol cyfnod yr argyfwng hwn. Nid oedd hi'n nifer sefydlog ar y dechrau a oedd wedyn yn cael llety—mae pobl wedi bod yn cyflwyno'u hunain yn ddyddiol drwy gydol y pandemig ac rydym ni wedi gallu rhoi llety iddyn nhw o ganlyniad i weithio mor agos ac ar y cyd â nifer o bartneriaid, gan gynnwys ein hawdurdodau lleol—wel, ein hawdurdodau lleol yn bennaf. Hynny yw, mae'r bobl hynny yn cynnwys cyn-filwyr, wrth gwrs, ond maen nhw'n cynnwys pobl eraill sy'n cyflwyno eu hunain: dioddefwyr cam-drin domestig, pobl sy'n cael eu dadleoli o ganlyniad i deulu neu berthynas yn chwalu a nifer o bethau eraill—y pethau sy'n arwain at ddigartrefedd yn y lle cyntaf. Mae'r pethau hynny wedi parhau drwy gydol y pandemig ac mae ein partneriaid wedi camu i'r adwy o ran darparu llety ar gyfer yr holl grwpiau hynny, gallaf eich sicrhau, gan gynnwys cyn-filwyr. Ac, wrth gwrs, rydym ni yn gweithio yn agos iawn gyda nifer o grwpiau cyn-filwyr. Fy nghyd-Aelod, Hannah Blythyn, yw Gweinidog y lluoedd arfog, ac mae hi'n cael amrywiaeth o gyfarfodydd rheolaidd iawn gyda llawer o grwpiau cyn-filwyr, ac rwyf i fy hun wedi cwrdd â nifer ohonyn nhw hefyd; rydym ni'n ofalus iawn i ddeall yr amgylchiadau penodol. O ran y cyflenwad tai, mae'n bosibl ar hyn o bryd i symud yng Nghymru os oes angen i chi wneud hynny oherwydd unrhyw amgylchiadau brys neu os, er enghraifft, na byddai eich trefniant gwerthu yn digwydd pe na byddech yn gwneud hynny. Rwyf i wedi ateb llawer iawn o ymholiadau gan bobl nad ydyn nhw wedi deall hynny, felly hoffwn i nodi hynny yn glir iawn. Yng ngham nesaf yr adolygiad—felly, fel y gwyddoch chi, rydym ni'n adolygu'r rheoliadau bob tair wythnos ac rydym ni'n dechrau gweithio arnyn nhw yr eiliad y mae'r adolygiad diwethaf ar ben—rydym ni'n edrych i weld beth arall y gallwn ni ei wneud yn y farchnad dai o ran pethau fel gallu mynd i weld eiddo gwag, caniatáu i bobl sy'n dymuno chwilio am denant ar gyfer eiddo gwag wneud hynny ac yn y blaen. Byddwn ni, mae'n debyg, rwy'n credu—wel, mae'r adolygiad ar y gweill, felly mae'n amhosibl dweud yn bendant—ond byddwn ni fwy na thebyg, rwy'n credu, yn aros cyn caniatáu i bobl weld eiddo sydd â thenantiaid neu sydd wedi eu meddiannu, a hynny am resymau amlwg, gan y bu nifer o broblemau dros y ffin yn hynny o beth. Ond rwy'n derbyn eich pwynt, Caroline. Yn amlwg, rydym ni'n awyddus i'r farchnad weithio. Rwyf i hefyd yn poeni'n fawr am bobl sy'n rhentu sy'n canfod eu hunain mewn amgylchiadau lle nad ydyn nhw'n gallu fforddio eu rhent mwyach ac sy'n dymuno chwilio am rywle arall y gallan nhw ei fforddio, ein bod yn gallu hwyluso hynny cyn gynted ag y gallwn. Ac rwy'n manteisio ar y cyfle hwn i ddweud, drwy gydol yr argyfwng hwn, ein bod ni wedi gweithio yn galed iawn gyda phob un o'n landlordiaid cymdeithasol i wneud yn siŵr eu bod nhw'n troi yr hyn a elwir yn 'unedau gwag', felly eiddo gwag, cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau eu bod nhw ar gael fel tai parhaol i bobl y mae angen y tai hynny arnyn nhw, pa un a ydyn nhw'n dod trwy'r ffrwd ddigartrefedd neu oherwydd eu bod nhw'n denantiaid sy'n ystyried symud i lety gwahanol, mwy addas. Felly, rydym ni yn sicr wedi bod yn gwneud hynny. O ran y cyflenwad tai, unwaith eto, mae gwaith adeiladu wedi ei ganiatáu cyn belled â'ch bod chi'n gallu cadw pellter cymdeithasol drwy gydol y cyfnod hwn ac mae llawer o waith adeiladu wedi parhau. Rydym ni yn sicr wedi gweld llawer o landlordiaid tai preswyl cymdeithasol, felly mae landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a chynghorau yn parhau i adeiladu eu tai ac rydym ni'n gwybod bod nifer o fusnesau bach a chanolig yn parhau i adeiladu ar gyfer y farchnad honno oherwydd bod hynny'n rhoi llif arian parod iddyn nhw na fydden nhw wedi ei gael fel arall, ac rydym ni wedi bod yn annog hynny. Rwy'n hapus iawn i wneud hynny. Ac, wrth gwrs, rydym ni'n siarad yn rheolaidd iawn â'r cymdeithasau adeiladwyr tai ynghylch eu hanghenion yn ystod yr argyfwng hwn a sut y gallwn ni gadw'r rhan honno o'r farchnad yn gweithredu. Ac yna, o ran ein llwybr allan o'r argyfwng hwn, wrth gwrs, bydd pob un ohonoch chi wedi fy nghlywed i'n siarad am yr angen i sicrhau adferiad gwyrdd wedi ei arwain gan dai ac rydym ni'n awyddus iawn i wneud hynny i sicrhau ein bod ni'n adeiladu'r tai cymdeithasol sydd eu hangen arnom ni ar gyfer y dyfodol yng Nghymru fel ein bod yn sicrhau bod digartrefedd yn wirioneddol anghyffredin, dim ond am gyfnod byr ac nad yw'n cael ei ailadrodd. John Griffiths AC: Gweinidog, fel y gwyddoch chi, mae'r pwyllgor yr wyf i'n ei gadeirio, y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi cymryd diddordeb arbennig mewn cysgu ar y stryd a pholisi Llywodraeth Cymru. Yn wir, rydym ni wedi llunio dau adroddiad yn y Cynulliad hwn, un ddiwedd y llynedd ar wasanaethau arbenigol o ran iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau, ac un mwy cyffredinol y flwyddyn gynt. Felly, ar ôl rhoi'r flaenoriaeth honno a'r pwyslais hwnnw i gysgu ar y stryd fel pwyllgor, mae'n braf iawn gweld y cynnydd hwn ar adeg o argyfwng, fel yr ydych chi wedi ei nodi, ac mae'n dangos, hyd yn oed wrth ymateb i argyfwng o'r fath, ei bod hi'n bosibl cael rhai pethau cadarnhaol o'r trallod cyffredinol, fel petai, ac mae'n wirioneddol bwysig gwneud hynny i ddangos bod rhyw lygedyn o obaith. Felly, rwy'n credu eich bod chi a Llywodraeth Cymru yn haeddu llongyfarchiadau mawr am y cyllid hwn a'r polisi hwn, gan weithio gyda phartneriaid allweddol fel yr awdurdodau lleol, y sector iechyd, y trydydd sector, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a mudiadau gwirfoddol. Rwy'n credu y bu'n ymdrech tîm wirioneddol ac rwy'n credu bod hynny, unwaith eto, yn adlewyrchu un o'r heriau a'r ymatebion mwy cadarnhaol drwy'r pandemig, sydd wedi arwain at sefydliadau, cymunedau a sectorau yn cyd-dynnu er lles y bobl, gan gydnabod maint y cynnydd y mae angen i ni ei wneud a'r her yr ydym ni'n ei hwynebu. Felly, mae'n wirioneddol dda gweld hynny i gyd. Fel cymuned, roeddem ni'n gobeithio— A wnewch chi ddod at gwestiwn, os gwelwch yn dda? John Griffiths AC: A gaf i ddweud—gwnaf, Dirprwy Lywydd—fel pwyllgor, rydym ni'n gobeithio am y math hwnnw o ddull ataliol—tai yn gyntaf. Fe wnaethom ni gyfarfod â'r grŵp gweithredu, ac roeddem ni'n chwilio am y math o hawliau corfforaethol sy'n—[Anghlywadwy.]—cyflawni. Felly, yr hyn yr hoffwn i ei wybod yn fawr o ran cynllunio dilynol ac osgoi llithro'n ôl, oherwydd mae pobl yng Nghasnewydd yn dweud wrthyf i eu bod nhw mor falch o weld y cynnydd sydd wedi ei wneud, ond eu bod nhw'n poeni'n fawr, yn amlwg, nad ydym ni'n gweld unrhyw lithro yn ôl, rydym ni'n gwybod ein bod ni'n mynd i gael argyfwng economaidd a'n bod ni'n mynd i gael anawsterau mawr o ran gwariant cyhoeddus, Gweinidog. Felly, wrth ystyried sut yr ydym ni'n osgoi unrhyw lithriant ac, yn ôl y dywediad, adeiladu, gweithredu'n well ar gyfer y dyfodol, a ydych chi'n ystyried o ddifrif faint y problemau economaidd a gwariant cyhoeddus a fydd yn ein hwynebu, ac a ydych chi'n hyderus, gyda'ch cyhoeddiadau, gyda dull newydd, gyda'r cyllid, y byddwn ni'n gallu cynnal y cynnydd a wnaed? Julie James AC: Ydw, John, rwy'n hapus iawn i ddweud, oherwydd y gwaith aruthrol yr ydym ni wedi llwyddo i'w wneud yn y ffordd gydweithredol yr oedd y pwyllgor wedi ei hargymell yn y lle cyntaf, ac rydym ni bellach wedi ei gweld ar waith o ganlyniad i dderbyn argymhellion y grŵp gweithredu ar dai—gwn eich bod chi wedi cael sgyrsiau da â nhw yn ogystal â'r pwyllgor—fy mod i'n hyderus iawn y byddwn ni'n gallu ei wneud, oherwydd mae pobl wedi gweld yr hyn sy'n bosibl ac maen nhw wedi cael eu grymuso o'r newydd o wybod y gellir ei wneud os byddwn ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd. Ac, wrth i ni ddod allan o'r pandemig hwn, byddwn ni eisiau ystyried ysgogiad economaidd ac yn y blaen ac fe wnaethoch chi fy nghlywed i'n sôn am adferiad gwyrdd wedi ei arwain gan dai, a gallwn ni wneud hynny. Nid wyf i wedi gallu ateb yr holl gwestiynau y mae pob Aelod wedi eu gofyn i mi heddiw gan fod llawer iawn o gwestiynau gan yr Aelodau; mae'n braf gweld y brwdfrydedd. Un o'r pethau yr ydym ni'n awyddus iawn i'w wneud, er enghraifft, yw gwneud yn siŵr y gallwn ni, trwy ddefnyddio dulliau adeiladu modern, fel y'u gelwir, gyda phren o Gymru a chadwyni cyflenwi yng Nghymru, godi tai yr ydym ni'n gwybod eu bod nhw'n gweithio oherwydd eu bod nhw wedi dod trwy ein rhaglenni tai arloesol, felly profwyd eu bod nhw'n llwyddiannus; tai carbon niwtral hardd y gellir eu hadeiladu'n gyflym iawn, sy'n cael eu hadeiladu mewn gweithfeydd bach sy'n cyflogi pobl leol ledled Cymru, felly mae'n darparu cyflogaeth—cyflogaeth sgiliau uchel, cyflogaeth dda. Mae hefyd yn darparu tai, mae hefyd yn darparu defnydd i'n coedwigoedd, mae'n darparu ffordd o gyflawni coedwigaeth gynaliadwy, sy'n beth da. Mae'n gwthio pob botwm y gallwch chi feddwl amdano ac, wrth gwrs, mae'n darparu'r tai sydd eu hangen arnom ni i sicrhau bod gan bobl lety diogel wrth symud ymlaen i'r dyfodol, a bod y llety hwnnw nid yn unig yn ddiogel, ond hefyd yn hardd ac yn garbon niwtral. Beth sydd i'w wrthwynebu? Felly, rwy'n hollol siŵr y gallwn ni wneud hyn ac rwy'n siŵr o hynny gan fod ein holl bartneriaid yn credu hynny hefyd ac maen nhw wedi ymrwymo i'r broses honno, a cheir consensws ar draws y Senedd hon. Felly, mewn gwirionedd, gyda'n gilydd, rydym ni wir yn fwy na'n rhannau unigol, ac rwyf i wir yn credu y byddwn ni'n gallu gwneud hyn yn y dyfodol. Janet Finch-Saunders AC: Diolch am y datganiad. Hoffwn i gofnodi fy niolch i'n hawdurdod lleol ni, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy am eu gwaith partneriaeth a'r gefnogaeth aruthrol a roddwyd i'n pobl ddigartref yma yn Aberconwy. Rydym ni wedi gweld unedau preswyl yn cael eu lleoli yn Llandudno a Bae Colwyn i ddarparu llety i'n pobl ddigartref ac sy'n cysgu ar y stryd sy'n hynod agored i niwed, ac maen nhw wedi ei wneud mewn modd mor gyflym yn ystod argyfwng y pandemig hwn. Fodd bynnag, mae'n rhaid i mi gytuno â Byddin yr Iachawdwriaeth bod yn rhaid canolbwyntio hefyd ar fynd i'r afael â'r rhesymau pam mae pobl yn mynd yn ddigartref yn y lle cyntaf. Felly, fy nghwestiynau i yw: a fydd ein hawdurdodau lleol yn gallu gwneud cais am rywfaint o'r £20 miliwn o gyllid i gefnogi cynigion ar gyfer targedu achosion digartrefedd, yn rhan o'ch cynlluniau cam 2 a gyhoeddwyd, a hefyd, fel y mae Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl wedi tynnu sylw ato, ceir llawer o sefyllfaoedd lle mae tenantiaid yn wynebu ymrwymiadau ac anawsterau enfawr erbyn hyn i fforddio eu tai. A wnewch chi egluro na fydd y cyfyngiadau presennol hyn yn eu hatal rhag cael gafael ar lety fforddiadwy, ac, yn wir, symud i mewn iddo ar yr adeg hon? Julie James AC: Gwnaf. Mae'r holl gynghorau wedi gweithio'n galed iawn ac mae Conwy yn enghraifft dda ond mae'r holl awdurdodau lleol wedi gweithio mewn cydweithrediad â ni. Ceir dulliau arloesol ledled Cymru gyfan i gael pobl i mewn i lety addas. Dros dro yw rhywfaint o'r llety hwnnw, ond mae'n llety dros dro da. Ond, yn amlwg, yr hyn y mae angen i ni ei wneud nawr yw gweithio i gael pobl i mewn i lety diogel, hirdymor y gallan nhw ei fforddio ac y gallan nhw ei gynnal. Ac mae hynny'n golygu gweithio gyda'n holl bartneriaid, gan gynnwys partneriaid cymorth. Felly, mae hynny'n golygu gweithio gyda gwasanaethau iechyd meddwl a gwasanaethau camddefnyddio sylweddau a gwasanaethau cymorth tenantiaid, gwasanaethau lles a chymorth, ac yn y blaen, gan sicrhau bod gan bobl gymaint o incwm â phosibl, a gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw'r sgiliau angenrheidiol i gynnal tenantiaeth. Nid yw pedair wal a nenfwd yn ddigon; mae gennym ni i gyd ddodrefn yn ein tai a llenni a charpedi a phethau felly. Mae angen i bobl gael yr holl bethau sydd eu hangen arnyn nhw i gynnal eu hunain mewn llety. Ac felly yr hyn a ddangoswyd yw y gellir gwneud hynny. Gallwn ni wneud hynny, gallwn ni drefnu'r gwasanaethau o'u cwmpas, gallwn ni wneud yn siŵr bod pobl yn dod at ei gilydd i'w cefnogi. Ac mae'r cynlluniau cam 2 yr ydym ni'n gofyn i awdurdodau lleol eu hystyried yn ystyried yr holl bethau hynny, gan gynnwys y cymorth sydd ei angen i wneud yn siŵr bod pobl yn gallu cynnal y tenantiaethau hynny, ac mae hynny'n cynnwys asesiad o'u gallu i dalu am fathau penodol o lety, a'r hyn y mae angen ei wneud i sicrhau bod y gallu hwnnw cystal ag y gall fod. Fe wnaethoch chi fy nghlywed i'n dweud yn gynharach fy mod i'n gobeithio'n fawr y bydd Llywodraeth y DU yn cadw lefel y lwfans tai lleol lle y mae. Fe wnaeth y Gweinidog gwasanaethau cymdeithasol, Thérèse Coffey, ddweud yn un o'r cyfarfodydd yr es i iddo y byddai hynny'n cael ei wneud, ond hoffwn i weld hynny'n cael ei gadarnhau yn ehangach, oherwydd byddai hynny yn rhoi llawer o obaith i bobl y bydden nhw'n parhau i allu ei fforddio. Ac yna, fel y gwnaethoch chi fy nghlywed i'n dweud, Janet, o ran gallu symud i rywbeth os ydych chi wir yn canfod na allwch chi fforddio lle'r ydych chi, rydym ni wedi bod yn gweithio yn galed iawn gyda phobl i drwsio unedau gwag, i wneud yn siŵr bod yr eiddo hynny ar gael, ac i wneud yn siŵr bod hynny'n gallu digwydd. Yng ngham nesaf yr adolygiad o'r cyfyngiadau symud, ein nod yw gwneud yn siŵr bod pobl yn gallu symud i eiddo gwag. Mae problem fawr, yn amlwg, o ran mynd i weld eiddo sydd â thenantiaid neu sydd wedi eu meddiannu, ond os ydyn nhw'n wag, yna rydym ni'n ceisio gwneud yn siŵr ein bod ni'n rhyddhau hynny cyn gynted â phosibl. Hoffwn ddefnyddio'r pwynt hwn i bwysleisio'r pwynt y gwnes i'n gynharach, sef y bu'n bosibl o'r cychwyn, wrth gwrs, symud os yw amgylchiadau yn golygu ei bod yn hanfodol symud ac na ellir ei oedi. Vikki Howells AC: Gweinidog, diolch am eich datganiad heddiw. Mae gen i rai cwestiynau ynghylch manylion yr hyn yr ydych chi'n gallu ei dynnu o'r data sydd gennych chi. Er enghraifft, a ydych chi'n gweld unrhyw dueddiadau neu gysylltiadau annisgwyl o ran nodweddion sydd wedi'u gwarchod o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, o ran y rhai sy'n ddigartref yng Nghymru ar hyn o bryd? A oes unrhyw amrywiadau rhanbarthol sy'n amlwg i chi o ran daearyddiaeth Cymru hefyd? Ac, yn olaf, o ran hyd y digartrefedd yr ydym ni'n ei weld, pa fath o ddata sy'n dod i'r amlwg o ran a yw digartrefedd yn fyrdymor neu'n hirdymor yn bennaf, oherwydd, yn amlwg, ceir gwersi y gallwn ni eu dysgu o archwilio'r data mor fanwl? Julie James AC: Diolch, Vikki. Nid yw'r holl ddata gennym ni yn yr union ffordd yr ydych chi'n ei hawgrymu, ond gallaf i ddweud wrthych chi yr hyn yr ydym ni'n ei wybod. Felly, yn gyntaf oll, mae'r amrywiaeth o bobl sy'n ddigartref yn enfawr. Felly, mae gennym ni bobl sy'n ddigartref dim ond yn ddiweddar oherwydd chwalfa deuluol ddiweddar neu ddigwyddiadau trais yn y cartref neu rywbeth tebyg arall, ac mae eraill sydd wedi bod yn ddigartref ers amser maith ac sydd â phroblemau sydd wedi ymwreiddio ac sydd wedi dod i wasanaethau am y tro cyntaf erioed. Fel y dywedais yn fy natganiad, mae angen i ni fanteisio ar y ffaith eu bod nhw wedi bod mewn cysylltiad â'r gwasanaethau hynny bellach a'n bod ni wedi gallu ymgysylltu â nhw, ac y gallwn ni barhau i ymgysylltu a nhw, ac mae hwnnw wedi bod yn gam enfawr ymlaen. Yn y gorffennol, wrth weithio gyda phobl ddigartref, gallai gymryd cymaint â naw mis i'n gweithiwr allgymorth penodedig greu cysylltiad o ymddiriedaeth â'r unigolyn hwnnw er mwyn iddo ddod i mewn a derbyn gwasanaethau, ac rydym ni wedi gallu cyflymu'r broses honno i bron pawb. Mae gennym ni un neu ddau o bobl nad ydym ni wedi gallu eu cyrraedd, ond mae gan bob un ohonyn nhw weithwyr allgymorth penodedig yn gweithio gyda nhw gyda'r bwriad o gyflawni hynny. Fodd bynnag, un o'r nodweddion y gallaf i ddweud wrthych chi amdano yn hawdd yw bod digartrefedd yn gysylltiedig â thlodi, oherwydd os oes gennych chi deulu neu berthynas sy'n chwalu ac nad ydych chi'n dlawd, yna gallwch chi ddod o hyd i dŷ arall i'ch hun. Felly, mae'n gysylltiedig yn fwyaf amlwg ag amddifadedd economaidd. A dyna'r hyn y mae angen i ni ei wneud: mae angen i ni wneud yn siŵr bod incwm pobl mor fawr â phosibl, eu bod nhw'n cael y math cywir o gymorth i sicrhau'r incwm mwyaf posibl hwnnw a dychwelyd i'r gwaith pan fo hynny'n broblem, neu gynnal eu gwaith pan fo hynny'n broblem, oherwydd gall mynd yn ddigartref olygu eich bod chi'n colli eich swydd, sydd, wrth gwrs, yn gwneud y sefyllfa yn waeth o lawer. Felly, rydym ni wedi gweithio yn galed iawn gydag amrywiaeth o elusennau a sefydliadau trydydd sector a'n landlordiaid cymdeithasol a'n landlordiaid i sicrhau bod cymaint a phosibl o'r math hwnnw o gymorth, i wneud yn siŵr bod pobl yn gallu cynnal eu tenantiaeth ac felly sicrhau bod eu gallu economaidd gymaint â phosibl. Fel y dywedais, mae gennym ni wasanaethau cofleidiol. Rwyf i wedi dweud erioed nad yw digartrefedd yn ymwneud â thai yn unig, mae'n ymwneud â'r holl wasanaethau eraill, ac rwyf i wrth fy modd gyda'r ffordd y mae'r gwasanaethau hynny wedi dod at ei gilydd yn ystod yr argyfwng hwn i weithio. Yn ein huwchgynhadledd yr wythnos diwethaf, cawsom ni gyfraniadau gan bobl o'r holl wasanaethau hynny ac roedden nhw i gyd yn dweud cymaint yr oedden nhw wedi ei ddysgu o'r cydweithio a fu'n bosibl a faint y maen nhw'n edrych ymlaen at fwrw ymlaen â hynny. Felly, mae gen i deimlad gwirioneddol bod hyn yn bosibl bellach a bod pobl yn cydnabod hynny. Felly, rwyf i wir yn credu y byddwn ni'n gallu gwneud gwahaniaeth yng Nghymru y tro hwn a gwneud yn siŵr bod digartrefedd yn anghyffredin, am gyfnod byr a heb ei ailadrodd. Darren Millar AC: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Mae'n rhaid i mi ddweud, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog a'r cadetiaid, fy mod i'n siomedig braidd i chi awgrymu yn eich ateb cynharach i gwestiwn am gyn-filwyr nad oedd Llywodraeth Cymru yn casglu data ar y rhai sydd wedi cael eu hailgartrefu yn ystod y pandemig a pha gyfran o'r rhain sy'n bobl o'r gymuned o gyn-filwyr. Byddwch chi'n ymwybodol bod llawer iawn o waith da yn cael ei wneud gan sefydliadau fel Alabaré a'u cartrefi i gyn-filwyr yma yng Nghymru. Mae ganddyn nhw gartref i lawr y ffordd nepell oddi wrtha i yma ym Mae Colwyn, ac maen nhw'n barod i wneud mwy eto, cyn belled â'u bod nhw'n gwybod ble mae'r angen mewn gwirionedd. Felly, a gaf i ofyn pa waith y byddwch chi'n ei wneud gydag awdurdodau lleol nawr i geisio olrhain pa gyfran o'r rhai sydd mewn llety dros dro ar hyn o bryd sy'n bobl o'r gymuned o gyn-filwyr, fel y gallwch chi ymgysylltu ymhellach â'r sefydliadau da fel Alabaré sydd ar gael ac sy'n dymuno gwneud mwy ac sy'n chwilio am y mannau lle gallan nhw ddatblygu'r mathau hyn o gyfleusterau y maen nhw eisoes wedi eu sefydlu mor llwyddiannus mewn mannau eraill? Julie James AC: Ydw, Darren, rwy'n hapus iawn i weithio gyda nhw. A dweud y gwir, mae awdurdodau lleol eisoes yn gweithio gydag amrywiaeth eang o sefydliadau cyn-filwyr, ac, fel y dywedais, mae Hannah wedi cyfarfod â llawer iawn ohonyn nhw. Rwyf i fy hun wedi cyfarfod â nifer rhyw fymryn yn llai ohonyn nhw. Felly, rydym ni'n hapus iawn i ymgysylltu a chyfeirio pobl at y cymorth y gall asiantaethau cymorth i gyn-filwyr ei ddarparu. Ac mae honno'n amrywiaeth enfawr, fel y gwyddoch chi ac fel y gwn i. Ceir amrywiaeth eang iawn o gymorth, o gwnsela a chymorth gydweithredol i ddim mwy na chyfeillgarwch, llety, ystod lawn o gymorth iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau ac yn y blaen. Felly, rwy'n ddiolchgar iawn i'r rhan benodol honno o'r trydydd sector sy'n darparu'r cymorth hwnnw. Mae awdurdodau lleol yn cyfeirio pobl sy'n gymwys i dderbyn y cymorth hwnnw ato, ond nid ydym ni'n casglu'r data yn ganolog. Felly, nid wyf i eisiau i chi feddwl nad oes ots gennym ni, oherwydd mae ots gennym ni, ond nid ydym ni wedi gweld unrhyw angen i gasglu'n ganolog faint o bobl yw hynny. Rwy'n disgwyl pe baech chi'n gofyn i'r awdurdodau lleol y bydden nhw'n gwybod yn unigol. Rwy'n hapus i ymchwilio a yw'n beth hawdd i ni ei wneud. Byddwn yn gyndyn o ddargyfeirio adnoddau iddo, ond os yw'n rhywbeth y gallem ni ei wneud yn gymharol hawdd, rwy'n sicr yn fodlon ymchwilio i hynny. Ond nid yw'n rhywbeth yr ydym ni wedi ei wneud yn ganolog ar hyn o bryd. Mandy Jones AC: Rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu heddiw, ac rwy'n croesawu'n fawr iawn yr hyn y mae'r Gweinidog wedi ei ddweud yn ei dau ddatganiad. Mae argyfwng COVID wedi bod yn anodd, ond ceir llawer o fuddugoliaethau hefyd, ac mae rhoi terfyn dros dro ar ddigartrefedd yn un ohonyn nhw. Mae awdurdodau lleol a'r trydydd sector wedi ymateb yn wych o dan amgylchiadau anodd dros ben. Rwy'n nodi'r buddsoddiad cychwynnol o £10 miliwn a buddsoddiad arall o £20 miliwn nawr drwy refeniw, gan arwain at gyfanswm o £30 miliwn. Mae hyn i'w groesawu'n fawr. Rwyf i wedi siarad o'r blaen yn y Siambr hon am fy mhrofiad fy hun o syrffio soffas a'i effeithiau hirdymor ar fy mywyd, felly rwyf i mor falch o weld mai eich bwriad yw gwneud popeth yn eich gallu i gadw'r 800 a mwy o bobl mewn llety o ryw fath. Mae'n eglur o ystadegau a rhestrau aros nad oes digon o gartrefi i bawb. Fodd bynnag, efallai bod COVID wedi cyflwyno cyfle i feddiannu sefydliadau gwely a brecwast gwag a llety myfyrwyr. A gaf i ofyn i chi beth yw eich cynlluniau ar gyfer sicrhau cyflenwad digonol ar ôl i'r economi agor unwaith eto? Mae eich datganiad diweddaraf yn nodi eich bod chi eisiau gweld creadigrwydd, partneriaeth a pharodrwydd i fuddsoddi yn y rhaglenni hyn. Onid yw creadigrwydd a phartneriaeth eisoes wedi eu hymwreiddio yn y math hwn o wasanaeth? Mae cost ddynol digartrefedd yn enfawr, ond bydd goblygiadau gwariant ataliol cael hyn yn iawn yn dwyn ffrwyth ar draws llywodraeth leol, iechyd a'r heddlu. Roeddwn i'n hoffi yn arbennig eich sylw ar adeiladu tai cynaliadwy— A gaf i ofyn i chi ddod i gwestiwn, os gwelwch yn dda? Mandy Jones AC: Rwyf i newydd ofyn dau gwestiwn— Wel, rwy'n credu bod hynny'n iawn, felly. Diolch. Gofynnwn i'r Gweinidog ymateb. Mae eich amser ar ben. Diolch. Gweinidog, a wnewch chi ymateb, os gwelwch yn dda? Daeth y Llywydd i'r Gadair. Julie James AC: Iawn, o ran y cyllid, i fod yn glir: mae'n £20 miliwn o refeniw—£10 miliwn yn y lle cyntaf, £10 miliwn yn y gyfran hon—a £10 miliwn o gyfalaf, ac mae hynny'n ychwanegol at yr arian yr ydym ni bob amser yn ei gyfrannu i wasanaethau tai a digartrefedd. Felly, nid wyf i am i chi feddwl mai dyna'r cyfan sydd ar gael; arian ychwanegol yw hynny sy'n ategu'r arian yr ydym ni'n ei fuddsoddi eisoes. Felly, mae hynny'n swm sylweddol o arian yn gyffredinol. O ran cyflenwad, rydych chi'n hollol gywir, Mandy, mae cost ddynol y peth yn enfawr, ac yno ond er gras Duw yr ydym ni i gyd yn mynd, a bod yn gwbl onest. Felly, rydym ni'n awyddus iawn i sicrhau bod pobl yn aros mewn llety. Rydym ni'n gweithio yn galed iawn gydag awdurdodau lleol—dyna y bydd cynlluniau cam 2 yn ymwneud ag ef. Mae gan rai ohonyn nhw bobl mewn llety 'dros dro' sy'n llawer llai dros dro a byddan nhw'n gallu cynnal hynny am gryn amser. Ond rydych chi'n llygad eich lle bod rhai ohonyn nhw yn ei gael mewn sectorau sy'n wag ar hyn o bryd, ond byddan nhw yn amlwg yn awyddus i fynd yn ôl at eu grŵp craidd o gwsmeriaid ar ôl i'r cyfyngiadau symud ddod i ben. Ac rydym ni'n gweithio yn galed iawn gyda'r awdurdodau lleol hynny i wneud yn siŵr bod gennym ni lety priodol i symud ymlaen iddo. Rwyf i hefyd yn awyddus iawn, o ganlyniad i argymhellion y grŵp gweithredu ar dai, i sicrhau nad yw symud ymlaen yn rhywbeth sy'n gorfod digwydd mwy nag unwaith, fel nad oes rhaid i bobl symud sawl gwaith oherwydd bod hynny'n peri ansefydlogrwydd mawr. Felly, rydym ni'n gweithio yn galed iawn i wneud yn siŵr eu bod nhw naill ai yn gallu symud yn syth i lety diogel neu, yn y sefyllfa waethaf oll, unwaith eto. Y peth arall yw, fel yr wyf i'n siŵr y gwnaethoch chi fy nghlywed i'n dweud yn gynharach, rydym ni'n gweithio'n galed iawn yn awr i wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu sefydlu'r dulliau modern hyn o adeiladu—tai hardd—a ddeilliodd o'n rhaglen dai arloesol. Mae'n rhyfeddol pa mor gyflym y gall tai gael eu hadeiladu. Yn ddiweddar, fe wnaeth fy nghyd-Aelod Jeremy Miles a minnau ymweld ag ysbyty maes y mae Abertawe wedi ei godi, ac mae maint hwnnw a'r modd y gwnaed hynny mewn 17 wythnos wedi bod yn ysbrydoliaeth wirioneddol o ran dweud wrthym ni beth y gallwn ni ei wneud yn y dyfodol i adeiladu llety gwirioneddol briodol y byddem ni i gyd yn falch o fod ynddo, cyn gynted ag y gallwn ni, i wneud yn siŵr bod y bobl hynny yn cael y cartrefi y byddech chi a mi yn falch o fyw ynddyn nhw. Diolch i'r Gweinidog. 7. Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020 Felly, yr eitem nesaf yw'r Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020, a dwi'n galw ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gyflwyno'r cynnig—Julie Morgan. Cynnig NDM7327 Rebecca Evans Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Mai 2020. Cynigiwyd y cynnig. Julie Morgan AC: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae'r Rheoliadau hyn wedi eu datblygu i liniaru effeithiau y coronafeirws ar ofal cymdeithasol i oedolion mewn tair prif ffordd. Yn gyntaf, maen nhw'n mynd i'r afael â'r angen posibl i ehangu'r sector drwy ganiatáu i ddarpariaeth frys gael ei sefydlu'n gyflym dan nawdd comisiynwyr statudol gofal cymdeithasol mewn amrywiaeth o leoliadau. Yn ail, maen nhw'n mynd i'r afael â'r angen posibl i hwyluso trefniadau recriwtio staff trwy lacio rhai o'r gofynion sy'n ymwneud â thystiolaeth sydd ar ddarparwyr ar hyn o bryd. Ac yn drydydd, maen nhw'n caniatáu i gartrefi gofal, gyda chymeradwyaeth y rheoleiddiwr, roi defnydd i ystafelloedd nad ydyn nhw wedi eu meddiannu ar hyn o bryd, fel ystafelloedd gwely a rennir. Mae'r newidiadau yn berthnasol i leoliadau preswyl i oedolion a gwasanaethau cymorth cartref i oedolion yn unig. Er mwyn cyflawni'r diben cyntaf, mae rhai gwasanaethau, a grëwyd yn benodol i ymateb i COVID-19, wedi eu heithrio rhag cael eu cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru. Mae'n bosibl iddyn nhw gael eu sefydlu'n gyflymach ac mewn ystod ehangach o safleoedd nag a fyddai'n bosibl ar gyfer gwasanaeth rheoleiddiedig. Gan na fydd ganddyn nhw oruchwyliaeth rheoleiddiwr, dim ond gwasanaethau a ddarperir gan neu ar ran comisiynwyr gofal a chymorth, awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol, gyda darparwyr sydd eisoes wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru neu'r Comisiwn Ansawdd Gofal, sy'n gymwys. Comisiynwyr fydd yn gyfrifol am ansawdd y gofal a'r cymorth a ddarperir, a gellir eu harolygu yn hyn o beth gan y rheoleiddiwr, Arolygiaeth Gofal Cymru neu Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Mae hyn yn gam diogelu pwysig i unrhyw un sy'n derbyn gofal dros dro gan y gwasanaethau hyn. Mae'r ail ddiben yn ymwneud â chadw tystiolaeth ynghylch aelodau newydd o staff. Ar hyn o bryd, mae rheoliadau yn cynnwys gofynion manwl ynghylch tystiolaeth yn ymwneud â materion megis cymwysterau. Oherwydd y gallai amgylchiadau'r pandemig ei gwneud yn anodd cael gafael ar yr ystod lawn o dystiolaeth, mae'r diwygiad yn caniatáu i'r gofynion hyn gael eu cyflawni trwy ddarparu cymaint o dystiolaeth ag sy'n rhesymol ymarferol. Nid yw'r gofyniad i gynnal gwiriadau wedi newid, ac mae'n rhaid i'r dystiolaeth barhau i fod ar gael i'r rheoleiddiwr fel arfer. Nid yw'r newidiadau yn effeithio ar y gofynion sy'n ymwneud â chadw tystiolaeth o wiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Yn olaf, mae'r trydydd diben yn ymwneud â rhannu ystafelloedd. Ni ddylai preswylwyr presennol deimlo dan bwysau i rannu ystafell, felly mae'r gwelliant dim ond yn caniatáu i gartref gofal roi defnydd i ystafelloedd nad ydyn nhw wedi eu meddiannu ar hyn o bryd, fel ystafelloedd ychwanegol a rennir. Arolygiaeth Gofal Cymru fydd yn eu cymeradwyo a byddan nhw'n yn cael eu hystyried bob amser er budd pennaf y preswylwyr. Mae'r newidiadau hyn yn rhai tymor byr, sy'n ymatebol i'r argyfwng presennol, a byddan nhw'n cael eu gwrthdroi mewn ffordd bwyllog sy'n rhoi amser i'r sector addasu cyn gynted ag y bo'n gyfrifol gwneud hynny. Felly, gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r cynnig. Janet Finch-Saunders AC: Mae'n bosibl y bydd rhai o'r safleoedd y gellid eu defnyddio ar gyfer gwasanaethau preswyl brys yn annhebygol o fodloni'r safon sy'n ofynnol i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru o dan Ddeddf 2016. Felly, pa sicrwydd allwch chi ei roi i mi y bydd y darparwyr sy'n bodloni'r eithriad yn destun rheoleiddio ac arolygu priodol? Hefyd, yn ôl Arolygiaeth Gofal Cymru, nid yw'n ymgymryd ag arolygiadau rheolaidd, a phan ddaw'r pandemig i ben, ni fydd yn ystyried camau gweithredu ôl-weithredol. Felly, sut y bydd hyn yn effeithio ar ddiogelwch preswylwyr a chamau i nodi esgeulustod bwriadol neu, yn wir, niwed bwriadol? Nawr, fel y gwyddoch chi, Gweinidog, mae rhai gwasanaethau yn cael anawsterau o ran recriwtio, cadw, offer a chyllid. Felly, a ydych chi wedi ystyried yr effaith negyddol y gallai safleoedd newydd ei chael ar y problemau presennol? Yn ystod cyfarfod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, nodwyd nad yw'n ymddangos bod y rheoliadau yn berthnasol i'r sector preifat nad yw'n darparu gwasanaethau i'r sector cyhoeddus. Cwestiwn arall: pam felly? Ac yn olaf, anogodd ymatebwr i'r ymgynghoriad fod gwiriadau cyn cyflogi yn hanfodol i ddiogelu unigolion. Pa asesiad sydd wedi ei wneud o'r risg o lacio'r rheolau hyn ac a allwch chi gadarnhau na fydd rheoliad 7 yn tanseilio'r gofyniad cyfreithiol bod oedolion yn cytuno i rannu ystafell ac y gallai cam o'r fath fod yn gyson â'u lles? Diolch. Y Dirprwy Weinidog i ymateb i'r ddadl—neu i'r cyfraniad. Julie Morgan AC: Hoffwn i ddiolch i Janet Finch-Saunders am y sylwadau yna, a hoffwn i ailadrodd mai mesurau dros dro yw'r rhain i'w rhoi ar waith mewn argyfwng. Ni fyddan nhw'n fesurau parhaol, ac mae pob un o'r pwyntiau a wnaeth wedi eu hystyried yn ofalus iawn. O ran un o'r pwyntiau diwethaf a wnaeth, ynghylch a yw'n berthnasol i ddarpariaeth breifat, hoffwn i roi gwybod iddi fod y ddarpariaeth o ran rhannu ystafelloedd yn berthnasol i gartrefi gofal i oedolion preifat, awdurdodau lleol a'r trydydd sector fel ei gilydd. Felly, maen nhw yn berthnasol i ddarpariaeth breifat. Hefyd, mae'r hawddfreintiau sy'n ymwneud â thystiolaeth yn berthnasol i'r broses o benodi staff gofal cartref a phreswyl preifat, awdurdodau lleol a'r trydydd sector, a'r unig wahaniaeth yw'r hyn a wneir o ran darpariaeth frys COVID-19. Yma, roeddem ni o'r farn ei bod yn gwbl hanfodol bod y ddarpariaeth yn cael ei goruchwylio'n statudol. Gall darparwyr preifat ddarparu'r ddarpariaeth a gomisiynir. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny wedi egluro hynny ynghylch y ddarpariaeth breifat. Hoffwn i hefyd bwysleisio, o ran y bobl sy'n cael eu recriwtio, eu bod yn dal yn destun gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae'r cyfrifoldeb ar berchennog y cartref gofal i sicrhau bod pobl addas yn cael eu recriwtio. Ond rwy'n credu y bydd yr Aelod yn derbyn, o dan yr amgylchiadau eithriadol hyn, fod yn rhaid cael rhywfaint o hyblygrwydd i sicrhau ein bod ni'n gallu ehangu'r ddarpariaeth os bydd yn rhaid i ni er mwyn ymdopi â'r cyfnod eithriadol o anodd hwn. Diolch i'r Dirprwy Weinidog. Y cynnig, felly, yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, gallaf weld gwrthwynebiad, ac felly byddaf yn gohirio'r bleidlais ar hyn tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ymchwiliad annibynnol i COVID-19 Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 2 yn enw Rebecca Evans, a gwelliannau 3 a 4 yn enw Siân Gwenllian. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Y ddadl nesaf yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ymchwiliad annibynnol i COVID-19. Dwi'n galw ar Paul Davies i gyflwyno'r cynnig. Paul Davies. Cynnig NDM7328 Darren Millar Cynnig bod y Senedd: Yn galw am ymchwiliad annibynnol wedi'i arwain gan farnwr a benodir gan y Senedd, i'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â'r pandemig Covid-19, i'w gychwyn ar ddyddiad priodol, pan fydd y pandemig o dan reolaeth, ac i'w gwblhau cyn etholiad nesaf Senedd Cymru. Cynigiwyd y cynnig. Paul Davies AC: Diolch, Llywydd, ac rwy'n cynnig y cynnig sydd wedi'i gyflwyno yn enw fy nghydweithiwr, Darren Millar. Mae ein cynnig yn glir: rydym ni'n galw am ymchwiliad annibynnol, dan arweiniad barnwr ac wedi'i benodi gan Senedd Cymru, i'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â phandemig COVID-19. Bydd cwestiynau niferus gan bobl Cymru yn parhau ynghylch yr hyn a ddigwyddodd yn ystod y pandemig hwn, pa mor barod y bu Cymru amdano, a phenderfyniadau a chamau gweithredu Llywodraeth Cymru mewn ymateb i'r pandemig. Gan fod Llywodraeth Cymru bellach wedi dechrau llacio cyfyngiadau symud yng Nghymru, mae'n bryd i ddechrau ystyried sut y dylid holi ac ateb y cwestiynau hynny. Yn bwysicach byth, mae'n gwbl hanfodol bod gwersi'n cael eu dysgu o bandemig COVID-19 pe bai'r Llywodraeth hon neu Lywodraethau'r dyfodol yn wynebu pandemig fel hwn yn y dyfodol. Felly, gan fod cyfyngiadau'n dechrau cael eu llacio erbyn hyn, mae'n briodol inni ystyried yn awr sut i fwrw ymlaen a gweithredu'r ymchwiliad cyhoeddus hwnnw. Nawr, rwy'n gwerthfawrogi bod pwyllgorau'r Senedd eisoes yn ystyried eu hymchwiliadau eu hunain i COVID-19 a'r effaith a gafodd ar feysydd pwnc eu pwyllgorau, ac mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi'u galw i ateb cwestiynau ar feysydd eu portffolio. Fodd bynnag, o ystyried yr effaith aruthrol y mae COVID-19 wedi'i chael ar deuluoedd a chymunedau ledled Cymru, credaf ei bod yn briodol lansio ymchwiliad cyhoeddus llawn, o dan arweiniad barnwr annibynnol wedi'i benodi gan y Senedd, nid Llywodraeth Cymru. Rhaid inni ei gwneud yn hollol glir i bobl Cymru y bydd yr ymchwiliad hwn yn agored ac yn dryloyw a bod modd rhoi cyfrif am y camau gweithredu. Bydd penodi barnwr annibynnol yn datgan bod y sefydliad hwn wedi'i ymrwymo i atebolrwydd, a bod yr ymchwiliad hwn, yn syml iawn, yn haeddu'r awdurdod y byddai gan uwch farnwr.Yn wir, pan fydd y broses yn cyrraedd y cam lle mae gwrandawiadau ar y gweill, byddai gan Gwnsler y Frenhines a'i dîm y sgiliau mwyaf priodol i holi'r cwestiynu mewn modd teg a chwilfrydig. Am y rheswm hwnnw, byddwn ni'n gwrthwynebu gwelliant 1, sy'n dileu'r pwynt y dylai ymchwiliad cyhoeddus gael ei arwain gan farnwr, oherwydd fe ddylai gael ei arwain gan farnwr, a'i benodi gan y Senedd yn hytrach na Llywodraeth Cymru. Rwyf i o'r farn bod pobl Cymru yn haeddu gweld yr ymchwiliad hwn yn cael ei gynnal gan ddefnyddio'r lefel uchaf bosibl o dryloywder ac awdurdod. Ni allwn fforddio gadael i Lywodraeth Cymru bennu cyfeiriad nac agenda, ac felly ni allaf weld unrhyw beth afresymol nac anffafriol wrth alw i'r ymchwiliad gael ei arwain gan farnwr sydd wedi'i benodi'n annibynnol ar y Llywodraeth y byddai'n ei harchwilio. Nawr, rwy'n sylweddoli y bydd disgwyl i ymchwiliad cyhoeddus gael ei gynnal yn gyflym, a dyna pan mae angen inni ddechrau gweld rhywfaint o'r gwaith paratoi yn dechrau. Efallai fod yr Aelodau'n ymwybodol o'r llythyr diweddar yn y Financial Times wedi'i ysgrifennu gan grŵp o Arglwyddi, a alwodd am ddeialog a chonsensws trawsbleidiol ar gylch gorchwyl ymchwiliad y DU i COVID-19. Wel, rwy'n galw ar y trafodaethau hynny i ddechrau yma yng Nghymru, ac rwy'n gobeithio, mewn ysbryd agored ac atebol, y bydd pob plaid wleidyddol yn dymuno bod yn rhan o'r ddeialog hon. Mae'r Prif Weinidog wedi dweud, mewn egwyddor, ei fod yn hapus i gadarnhau cefnogaeth Llywodraeth Cymru i ymchwiliad cyhoeddus ar yr adeg gywir, ac mae hwnnw'n gam ymlaen i'w groesawu. Gallwn ni yn awr ddatblygu'r consensws hwnnw a dechrau meddwl sut y gall yr ymchwiliad hwnnw ddigwydd. Felly, rwy'n gobeithio, wrth ymateb i'r ddadl hon, y bydd Llywodraeth Cymru yn dweud ychydig mwy wrthym am eu syniadau o ran pryd y gall yr ymchwiliad hwn ddechrau. Ni chredaf ei bod yn afresymol inni ystyried rhai o'r amserlenni y gall pobl Cymru ddisgwyl cael clywed atebion i'w cwestiynau am y modd yr ymdriniwyd â materion sy'n ymwneud â COVID-19 yng Nghymru. Llywydd, rydym ni'n gofyn bod y canfyddiadau ar gael cyn etholiadau seneddol Cymru y flwyddyn nesaf. Yn y pen draw, dylai pobl Cymru gael y cyfle i wrando ar y dystiolaeth a dod i'w casgliadau eu hunain o ran yr ymchwiliad—a gallan nhw ddweud eu dweud—ac, yn bwysicach, allu dwyn Gweinidogion presennol y Llywodraeth i gyfrif yn yr etholiad y flwyddyn nesaf. Am yr union reswm hwnnw, ni allwn gefnogi gwelliant 2, sy'n ceisio dileu'r angen bod y canfyddiadau ar gael cyn etholiadau Seneddol nesaf Cymru. Rhaid dangos i'r byd na fyddwn ni, yma yng Nghymru, yn petruso rhag gofyn cwestiynau anodd a chael atebion anodd. Mae gan bobl Cymru yr hawl i fod mor wybodus â phosibl yn yr etholiad nesaf, a rhaid inni o leiaf geisio darparu ar eu cyfer yr atebion y maen nhw'n eu ceisio, fel y gallan nhw fynd i'r blwch pleidleisio mor wybodus â phosibl. Nawr, mae gwelliant 4 yn galw bod yr ymchwiliad yn cael ei gychwyn ochr yn ochr â'r modd y mae Llywodraeth y DU wedi ymdrin â phandemig COVID-19. Rwy'n hapus i weld hynny'n digwydd, ac felly byddwn ni'n cefnogi'r gwelliant hwn. Ond ni ddylem golli golwg ar hynny, ac yma yng Nghymru mae cyfle hefyd i arwain ar hyn, a dylem gymryd y cyfle hwnnw. Yn briodol, bydd gan bob Aelod ei farn ynghylch y materion systemig y bydd modd eu hystyried yng nghylch gorchwyl yr ymchwiliad. Rwy'n credu y dylai cwmpas yr ymchwiliad hwn fod yn eang a dylai edrych ar holl benderfyniadau polisi COVID-19 Llywodraeth Cymru drwy gydol y cyfnod hwn. Er enghraifft, mae'n gwbl hanfodol bod yr ymchwiliad cyhoeddus yn ystyried strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer ymdrin â'r sector cartrefi gofal yng Nghymru. Fe wyddom, er gwaethaf apeliadau gan Fforwm Gofal Cymru a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn araf yn cynnal profion ar breswylwyr a staff cartrefi gofal yma yng Nghymru. Nawr, y gred yw bod chwarter y marwolaethau oherwydd coronafeirws yng Nghymru wedi bod yn gysylltiedig â phreswylwyr cartrefi gofal. Ac eto i gyd bu'n rhaid aros tan 22 Ebrill cyn bod y Gweinidog Iechyd yn penderfynu profi preswylwyr cartrefi gofal oedd â symptomau a'r rhai a oedd yn dychwelyd o'r ysbyty i gartrefi gofal, yn ogystal â gweithwyr cartref gofal oedd â symptomau. Yn dilyn hynny, ar 2 Mai, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai holl staff a phreswylwyr cartrefi gofal oedd ag achosion coronafeirws yn cael eu profi gan ddilyn y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf, a oedd yn dangos y dylai'r profion mewn cartrefi gofal gael eu hymestyn i reoli unrhyw achosion. Newidiodd hynny eto wedyn, ac erbyn 6 Mai, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru y byddai'n dechrau cynnal profion yn gyffredinol mewn cartrefi gofal, ond y tro hwn dim ond i'r cartrefi gofal hynny lle'r oedd dros 50 o welyau. Gyda chyfartaledd o 33 gwely yng nghartrefi gofal Cymru, roedd y cyhoeddiad hwn yn golygu bod y cartrefi gofal llai o faint wedi cael eu gadael heb brofion tan bythefnos yn ddiweddarach, pan gyflwynodd Llywodraeth Cymru yn y pen draw brofion i holl breswylwyr a staff cartrefi gofal. Felly, dim ond un enghraifft yw honno, ac rwy'n siŵr, yn ystod y ddadl heddiw, y bydd yr Aelodau'n cyfrannu eu syniadau eu hunain, yn seiliedig ar yr ohebiaeth a'r adborth y maen nhw wedi'u cael gan eu hetholwyr eu hunain. Y pwynt pwysig yr wyf i'n dymuno ei wneud yw y dylai'r ymchwiliad fod yn ymarfer eang ei gwmpas sy'n edrych ar bob mater a thystiolaeth. Bydd yr Aelodau wedi cael gohebiaeth gan etholwyr ar amrywiaeth o bolisïau COVID-19, gyda chwestiynau difrifol o ran y ffordd y mae rhaglenni a phenderfyniadau Llywodraeth Cymru wedi effeithio ar eu bywydau, ac mae'n rhaid i'r ymchwiliad graffu ar bob maes polisi er mwyn darparu'r atebion hynny. Mae pryderon ynghylch materion fel profi a chyflenwi a dosbarthu cyfarpar diogelu personol yn feysydd ymchwil dilys iawn y mae'n rhaid mynd i'r afael â nhw. Dywedwyd wrthym gan Goleg Brenhinol Nyrsys Cymru fod diffyg cysondeb ac arweiniad o ran defnyddio a darparu cyfarpar diogelu personol ar lefel byrddau iechyd lleol.Yn wir, dangosodd arolwg diweddar gan Goleg Brenhinol y Nyrsys, fod 74 y cant o'r staff nyrsio, yn ystod y pandemig hwn, wedi codi pryderon ynghylch cyfarpar diogelu personol a bod dros hanner y staff nyrsio wedi teimlo dan bwysau i ofalu am glaf heb y diogelwch digonol a amlinellwyd yn y canllawiau cyfarpar diogelu personol presennol. Y materion systemig hyn yw'r rhai y mae'n rhaid eu hamlygu a'u harchwilio'n llawn gan ymchwiliad cyhoeddus. Felly, i gloi, Llywydd, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cefnogi ein cynnig heddiw ac y gallwn ni ddechrau symud ymlaen a gosod y sylfeini ar gyfer yr ymchwiliad hwnnw. Mae angen atebion ar bobl Cymru ac maen nhw'n eu haeddu, ac mae'n rhaid i ni ymrwymo i broses sy'n rhoi'r union beth hwnnw iddyn nhw. Diolch. Dwi wedi dewis y pedwar gwelliant i'r cynnig. Os bydd gwelliant 2 yn cael ei dderbyn, yna bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol. Dwi'n galw ar y Cwnsler Cyffredinol i gyflwyno gwelliannau 1 a 2, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans—Jeremy Miles. Gwelliant 1—Rebecca Evans Dileu 'wedi'i arwain gan farnwr a benodir gan y Senedd'. Gwelliant 2—Rebecca Evans Dileu 'ac i'w gwblhau cyn etholiad nesaf Senedd Cymru'. Cynigiwyd gwelliannau 1 a 2. Jeremy Miles AC: Yn ffurfiol. Yn ffurfiol. Ac felly dwi'n galw nawr ar Adam Price i gyflwyno gwelliannau 3 a 4, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian—Adam Price. Gwelliant 3—Siân Gwenllian Dileu 'ac i'w gwblhau' a rhoi yn ei le 'ac i adroddiad cychwynnol ar ei ganfyddiadau gael ei gyflwyno'. Gwelliant 4—Siân Gwenllian Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw am gychwyn ymchwiliad annibynnol yn cydredeg, wedi'i arwain gan farnwr, i'r modd y mae Llywodraeth y DU wedi ymdrin â'r pandemig Covid-19. Cynigiwyd gwelliannau 3 a 4. Adam Price AC: Diolch, Llywydd. Nid oes amheuaeth ynghylch yr angen am ymchwiliad COVID yn y ddadl heddiw. Yr hyn y mae'r cynnig a'r gwelliannau sydd wedi'u cyflwyno yn ceisio ei wneud yw dod o hyd i'r atebion i gwestiynau eraill ynghylch natur yr ymchwiliad: pwy fydd yn ei benodi, pwy fydd yn ei gadeirio, pryd y bydd yn dechrau, pryd y bydd yn cyflwyno ei ganfyddiadau? Yn ogystal â'r 'pwy a'r 'pryd', mae cwestiwn ynghylch sut, ac yn benodol, a ddylai hyn fod yn ymchwiliad cyhoeddus statudol a llawn. Nawr, gan ddechrau gyda'r 'pwy', mae'r Llywodraeth wedi cyflwyno gwelliant sy'n dileu 'dan arweiniad barnwr wedi'i benodi gan Senedd Cymru'. Nawr, nid wyf i'n siŵr a yw'n wrthwynebiad i 'wedi'i benodi gan Senedd Cymru', neu i 'dan arweiniad barnwr', neu i'r ddau. Nawr, rwy'n deall, yn ffurfiol, ers pasio Deddf Ymchwiliadau 2005, mai Llywodraethau sy'n sefydlu ymchwiliadau statudol. Ond rwy'n credu mai ysbryd y cynnig yw bod angen math o ddeialog drawsbleidiol y cyfeiriodd Paul Davies ati ac y cyfeiriodd llythyr yr FT ati ynghylch cylch gorchwyl yr ymchwiliad. Os mynnwch, mae angen consensws cyhoeddus er mwyn rhoi hyder i'r cyhoedd y bydd yr ymchwiliad yn drylwyr ac yn annibynnol. Felly, rwy'n gwahodd y Llywodraeth heddiw i ymrwymo i ymwneud â'r math hwnnw o ddeialog gyda'r gwrthbleidiau, ond hefyd yn ehangach gyda'r cyhoedd a gyda rhanddeiliaid perthnasol ynglŷn â chylch gorchwyl yr ymchwiliad. Ein barn ni, o gofio difrifoldeb yr ymchwiliad a'r dioddefaint cysylltiedig, yw bod angen i hwn fod yn ymchwiliad cyhoeddus statudol â phwerau i gymell cynhyrchu dogfennau, cymryd tystiolaeth ar lw a gofyn am ddatganiadau gan dystion, mewn ffordd debyg i ymchwiliad Tŵr Grenfell. Mae proses ymchwilgar o'r fath yn gofyn am sgiliau a phrofiad uwch farnwr i'w chadeirio. Ac mae angen dechrau chwilio am y Cadeirydd hwnnw ar unwaith, os nad yw eisoes wedi dechrau, sy'n ein harwain wedyn at gwestiwn amseru. Mae'n cymryd pedwar i chwe mis, ar gyfartaledd, i sefydlu ymchwiliad cyhoeddus, a dyna pam mae angen dechrau'r gwaith i'w sefydlu nawr os yw'r sesiynau tystiolaeth i ddechrau eleni. Mae hynny oherwydd bod angen llawer o waith rhagarweiniol i goladu dogfennau a datganiadau, ac ati, fel bod modd i dîm Cwnsel y Frenhines ofyn cwestiynau gwybodus a fyddai'n gweithredu ar ran yr ymchwiliad. Bydd adroddiad llawn gan ymchwiliad statudol gwirioneddol gynhwysfawr, wrth gwrs, yn cymryd amser i'w gwblhau. Mae hynny i raddau helaeth oherwydd cymhlethdod pwnc yr ymchwiliad yn yr achos hwn, ond hefyd o ran yr amrywiaeth eang o bobl y bydd angen i'r ymchwiliad wrando arnyn nhw. Mae angen i'r ymchwiliad greu'r amser a'r lle i glywed lleisiau pawb yr effeithiwyd arnyn nhw. Yn hynny o beth, bydd hwn yn ymchwiliad sy'n wahanol i unrhyw un arall yn hanes ein cenedl ac, wrth gwrs, bydd angen iddo gael ei lywio gan ymchwiliad cyfochrog sydd i'w gynnal ar lefel y DU. Ond mae rhai cwestiynau yn rhai brys, ac rwy'n credu y byddai'n briodol mabwysiadu'r math o ddull gweithredu graddol a gafodd ei ddilyn yn achos ymchwiliad Tŵr Grenfell. Bydd angen adroddiad interim wedi'i gynhyrchu cyn diwedd tymor y Senedd hon yn nodi ffeithiau'r hyn a ddigwyddodd, pa mor barod yr oeddem ni, pwy oedd yn gwybod a phwy a wnaeth beth o ran yr ymateb cynnar i'r pandemig, a beth yw'r casgliadau interim ar yr hyn y mae angen ei wneud yn wahanol yn y dyfodol. Rydym ni wedi gwneud ein cyfraniad ein hunain fel plaid i'r broses ddysgu hanfodol honno heddiw wrth gyhoeddi adroddiad ar ymateb Llywodraeth Cymru hyd yn hyn, wedi'i ysgrifennu gan y meddyg teulu ac ymgynghorydd iechyd y cyhoedd, Dr Camilla Ducker. Yn sicr fe fyddwn yn wynebu pandemig arall ar ryw adeg, ac efallai y byddwn yn ymdopi â'r un hwn am flynyddoedd lawer i ddod. Bydd ymchwiliad cynnar yn ein helpu ni i wneud y ddau yn fwy effeithiol, ac rwy'n annog y Llywodraeth i'w sefydlu heddiw heb unrhyw oedi pellach. Angela Burns AC: Mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn dyst i benderfyniad a dycnwch pobl Cymru ac, yn arbennig, i'r nifer fawr sydd wedi bod yn barod i roi eu hunain mewn perygl er gwell, a hoffwn i ddiolch o galon i bob un ohonyn nhw. Dyma'r pandemig cyntaf gwirioneddol fyd-eang mewn mwy na chanrif, ers i ffliw Sbaen daro'r byd wrth i'r rhyfel byd cyntaf dynnu at ei derfyn, ac er bod ein byd ni sydd wedi'i gysylltu'n fyd-eang, yn wahanol iawn, mae'r awydd dwfn i fod gyda theulu a ffrindiau, i weithredu rhwydwaith cymdeithasol, yn parhau i ysgogi'r ddynoliaeth. Mae dyfodiad technoleg wedi bod yn gymorth sylweddol, ond rydym hefyd yn bobl sydd wedi ein cyfyngu'n llai, ac nid ydym yn gyfarwydd â chyfyngiadau o'r fath gan y Llywodraeth ar ein hawliau. Mae penderfyniadau anodd wedi'u gwneud, ond rhaid inni asesu'r penderfyniadau hynny a dysgu oddi wrthynt. Rhaid rhannu arferion gorau a chynnal dadansoddiad llawn a gonest o ble'r aeth pethau o chwith, beth a gafodd ei wneud yn dda a sut y gallai pethau newid y tro nesaf y bydd hyn yn digwydd. A dyna pam mae'n rhaid inni gael ymchwiliad gwirioneddol annibynnol wedi'i arwain gan farnwr. Ein hetifeddiaeth fydd rhoi'r mesurau diogelu ar waith i'n plant ac i blant ein plant. Y cwestiwn cyntaf y dylid ei ofyn mewn ymchwiliad yw a gafodd y cyfyngiadau symud eu gorfodi ar yr adeg iawn. Roedd yn rhaid i lawer o'r penderfyniadau gael eu pennu gan Lywodraeth San Steffan gan fod ein ffin mor dreiddadwy a bod y feirws hwn wedi llifo drwy'r Deyrnas Unedig. Fodd bynnag, roedd rhai penderfyniadau o fewn pwerau Llywodraeth Cymru. Dylai'r adolygiad ystyried a ddylid bod wedi caniatáu i gyngerdd y Stereophonics yn Stadiwm y Mileniwm gael ei gynnal. Daeth degau o filoedd o bobl i ganol y ddinas yn sgil y digwyddiad hwn. Er bod gêm y chwe gwlad, Cymru yn erbyn yr Alban, wedi'i gohirio, dim ond ar y funud olaf oedd hynny, unwaith eto, ar ôl i lawer o gefnogwyr deithio o rannau eraill o Gymru ac o'r Alban. Ond yn fwy cyffredinol, pa wersi y gallwn ni eu dysgu o'r cyfyngiadau symud? A ddylem ni edrych ar gyfyngiadau symud lleol gwahanol? Ai'r rheol cadw pellter cymdeithasol o 2m yw'r un fwyaf priodol? Beth yw profiad y rhai sydd wedi bod yn gwarchod eu hunain? A wnaeth ein cadwyn fwyd ni ymdopi? Os na, pam? A sut, o sut, y cafodd cartrefi gofal eu hanwybyddu yn y brys i ddiogelu ein GIG? Bydd angen i'r ymchwiliad ystyried a oedd digon o ddarpariaeth a defnydd o gyfarpar diogelu personol drwy gydol yr argyfwng. Byddem ni eisiau i'r ymchwiliad ystyried a oedd digon o gyflenwad yn gyffredinol, ar gyfer pob bwrdd iechyd, awdurdod lleol, cartref gofal preifat, cyhoeddus a gofal preswyl cymysg. Dylai'r ymchwiliad asesu a oedd y defnydd gorau wedi ei wneud o'r cyfarpar diogelu personol ac a oedd hyfforddiant digonol wedi'i ddarparu i sefydliadau prynu a staff rheng flaen, ac yn wir mae angen i'r ymchwiliad adolygu diffiniad 'staff rheng flaen'. Pwy all wadu bod fferyllfeydd wedi bod ar y rheng flaen? Ac eto, roedd eu darpariaeth cyfarpar diogelu personol yn llanast: dim cydlyniant, dim llawer o feddwl y tu ôl iddi, ac yn anodd ei chyrchu. Wrth i amser fynd yn ei flaen, mae'n ymddangos ein bod mewn gwell sefyllfa o ran cyfarpar diogelu personol, ond roedd diffygion amlwg. Dim ond 24 awr o stoc oedd gan rai sefydliadau ar ôl. Mae angen inni adolygu stociau, opsiynau gweithgynhyrchu a mynediad at gyfarpar diogelu personol, ac a oes gennym ddigon i gynnal unrhyw bandemig pellach neu gyfnodau pellach o gynnydd. Un o'n prif feysydd eraill sy'n peri pryder yw'r sefyllfa o ran profi yma yng Nghymru, ac mae hwn yn faes allweddol ar gyfer unrhyw ymchwiliad. Dywedodd Sefydliad Iechyd y Byd ar y cychwyn cyntaf mai'r neges allweddol yw 'profi, profi a phrofi '. Ac mae hon yn neges yr wyf i a fy nghyd-Aelodau yn y Ceidwadwyr Cymreig wedi'i chefnogi erioed. Mae profi yn un o'r elfennau pwysicaf o ran mynd i'r afael ag ymlediad coronafeirws a helpu gwledydd i lacio'r cyfyngiadau symud. Beth yw'r feirws? Ble mae e? O ble y tarddodd? Sut y neidiodd ef ffiniau? Pa effaith y mae'n ei gael ar wahanol bobl? Ydy e'n newid ac yn datblygu? Beth all ei ladd? Beth all ein diogelu rhagddo? Pam? Pam? Pam? Dyna gwestiynau nad ydym ni wedi ystyried eu gofyn eto heb sôn am eu hateb. Bydd system brofi gynhwysfawr yn darparu data i'n galluogi ni i ateb rhai o'r cwestiynau hyn, ond mae profi yng Nghymru wedi bod yn warthus. Cafodd targedau eu gosod, eu gwadu a'u gollwng. Roedd gan y Gweinidog iechyd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru uchelgeisiau a nodau gwahanol. Ers dechrau'r argyfwng rwyf wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gael tîm profi pwrpasol ac atebol, dan arweiniad unigolyn sydd â phrofiad sylweddol o logisteg. Mae angen i'r ymchwiliad edrych ar faint yr her a gallu Iechyd Cyhoeddus Cymru i gyflawni. Dylai'r ymchwiliad edrych ar beth yn union ddigwyddodd gyda'r 5,000 o brofion coll bob dydd. A oedd gan Roche gytundeb ag Iechyd Cyhoeddus Cymru neu a oedden nhw ond mewn cyfnod o drafod rhagarweiniol? Mae angen eglurder ynghylch a oedd gan Lywodraeth Cymru fargen ffurfiol erioed ynteu a oedd honiadau'r Prif Weinidog yn gwbl gywir. Rhaid i'r ymchwiliad ganolbwyntio ar y rheswm pam, gerbron un o bwyllgorau'r Cynulliad, y gwadodd Pennaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gyson unrhyw wybodaeth am y targed prawf 9,000 cyn ysgrifennu at y pwyllgor yn ddiweddarach i egluro ei sylwadau. Dylai'r ymchwiliad adolygu pam y gorfodwyd y cyfyngiad o 15 prawf y diwrnod ar awdurdodau ac yna ei godi dim ond ar ôl i adolygiad cyflym Llywodraeth Cymru ar 18 Ebrill nodi y gallai fod wedi lleihau'r galw. Ai hwn oedd y cam cywir? Beth oedd y syniad y tu ôl i'r terfyn? A ddylai profion fod wedi'u dechrau yn rheolaidd cyn 18 Mawrth? A oedd ffactorau rhyngwladol yn ffactor cyfrannol, fel yr oedd Lywodraeth Cymru wedi'i honni? A gafodd arbenigwyr logistaidd o'r fyddin eu defnyddio yn ddigon cynnar? A ddylai canolfannau profi fod wedi cau ar wyliau banc? Rwy'n croesawu tro pedol Llywodraeth Cymru ar 2 Mai, ond roedd yn fater o beidio gwneud digon mewn pryd. Pam y cafodd cartrefi gofal eu hanwybyddu er gwaethaf y rhybuddion? Pam na chafodd staff a phreswylwyr eu profi'n rheolaidd? A oedd gennym ddigon o gapasiti labordai? Pam na wnaeth Llywodraeth Cymru ddefnyddio'r labordai a oedd ar gael yn gynt? Pam y cymerodd ddiwrnodau i brosesu profion o'r Gogledd a'r Gorllewin? Sut y dylai'r broses hysbysu gael ei symleiddio? Mae'r rhestr yn ddiddiwedd, ond mae angen i ni ystyried profi o ddifrif. Ac mae angen i'r ymchwiliad edrych hefyd ar gasglu data oherwydd, dan bwysau— Angela Burns, rydych chi dros amser erbyn hyn. Os gallwch chi ddod â'ch cyfraniad i ben. Angela Burns AC: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rwyf i eisiau dweud bod cymaint i'r ymchwiliad hwn ei ystyried. Mae'n hanfodol ein bod ni'n dysgu'r gwersi wrth symud ymlaen. Nid hwn fydd y pandemig olaf y bydd yn rhaid inni ei wynebu yng Nghymru. Mae angen yr etifeddiaeth honno arnom ni i amddiffyn Cymru, ein plant ni a'u plant nhw. Joyce Watson AC: Rwy'n cefnogi ymchwiliad yn llwyr, ond yn gyntaf rwyf eisiau cofnodi a thalu teyrnged i'r holl weithwyr rheng flaen hynny sydd wedi bod yn ein cadw ni'n ddiogel, ac y byddwn ni'n dibynnu arnyn nhw yn y dyfodol agos a'r dyfodol rhagweladwy, i barhau i wneud y gwaith hwnnw. Ac rwy'n credu ei bod hefyd yn iawn cofnodi bod pobl wedi cydymffurfio â'r cyfyngiadau a roddwyd arnynt mewn ffordd na fydden nhw wedi'i disgwyl erioed, ac na fyddem ni erioed wedi disgwyl gofyn iddyn nhw wneud hynny. Rwy'n cytuno bod angen adolygiad neu ymchwiliad cyhoeddus arnom, ar ba bynnag ffurf, i'r ymdriniaeth o'r pandemig hwn o COVID-19; rwy'n cytuno y bydd yn ein helpu ac yn ein harwain drwy'r posibilrwydd o ymdrin â phandemig arall yn y dyfodol, a hefyd barhau i ymdrin â hyn. Ond rwy'n mynd i ofyn rhywbeth gwahanol o ran yr hyn sydd ger ein bron y prynhawn yma: ble rydym ni'n dechrau'r ymchwiliad hwnnw a ble rydym yn ei ddwyn i ben? Oherwydd, yn ddigon amlwg, mae hynny'n hynod o bwysig. Rwy'n credu bod yn rhaid inni ei ddechrau drwy edrych ar y cynllun pandemig cenedlaethol a oedd ar waith ac yna a gafodd ei ollwng gan y Llywodraeth Dorïaidd. O ganlyniad i hynny, rydym wedi gweld llawer iawn o ddatganiadau, gan lawer iawn o arbenigwyr, yn gyffredinol, yn dweud nad oedd y DU mewn gwirionedd mewn sefyllfa dda i ymdrin ag unrhyw bandemig. Ac mewn gwirionedd, gwelsom gyhuddiadau gan Weinidogion Torïaidd, yn dweud bod gorymateb a bod gormod o arian yn cael ei wario ar swyddogion San Steffan a oedd yn paratoi ar gyfer cynllun o'r fath, a'u bod wedi gollwng y cynllunio cychwynnol hwnnw. Nawr mae gan hynny ganlyniad; mae ganddo ganlyniad i'r DU gyfan, a dyna pam rwyf yn tynnu sylw ato yma heddiw. Rwy'n credu bod angen inni hefyd edrych ar arbenigwyr iechyd cyhoeddus o Brifysgol Johns Hopkins, lle'r oeddent wedi gosod pob gwlad ledled y byd yn ôl eu parodrwydd ar gyfer pandemig. Ac fe wnaethon nhw ddatgan, ar ôl degawd o gyni gan y Torïaid, mai'r DU oedd yr olaf ond un o 195 gwlad, a'r wlad olaf oedd yr Unol Daleithiau. Mae'r holl bethau hyn yn berthnasol gan eu bod i gyd yn gysylltiedig â pha mor barod yr oeddem ni. Felly mae'n weddol amlwg, er fy mod yn cytuno bod angen ymchwiliad arnom, bod angen ymchwiliad hollgynhwysol. Os ydym yn canolbwyntio ar Gymru yn unig, ni fyddwn yn datgelu'r angen dwys a gwirioneddol i ddeall yr achosion, ac ni chawn ni'r atebion priodol drwy anwybyddu pob un o'r agweddau hynny—ac mae rhai ohonyn nhw wedi cael eu crybwyll yma heddiw. Mae angen edrych ar y datganiad cynnar iawn ar imiwnedd torfol a wnaed gan Boris Johnson. Yn ddiamau, cafodd imiwnedd torfol, a'r methiant hwnnw i gyfyngu symudiadau yn gynnar iawn, ei roi i'w gynghorwyr allweddol. Pe baem ni wedi cyfyngu symudiadau yn gynharach o lawer, byddai hynny'n wir wedi bod o gymorth. Petai Cymru wedi mynd yn ei blaen a phenderfynu cyfyngu symudiadau ymhell o flaen Lywodraeth y DU, ni allaf ddychmygu am un funud y byddai Llywodraeth y DU wedi rhoi'r arian angenrheidiol i ni gefnogi'r busnesau petaem ni wedi mynd ar ein pen ein hun. Felly, er fy mod yn deall hynny—. Mae Angela Burns wedi rhoi rhestr o rai o'r pethau y gallem ni fod wedi'u gwneud ar ein pen ein hun yn llwyr; un o'r pethau y byddem ni yn amlwg wedi methu ei wneud ar ein pen ein hun, heb gefnogaeth Trysorlys y DU, oedd gofyn i bobl rhoi eu staff ar ffyrlo. Eto, o ran cyfarpar diogelu personol, rwy'n cael fy atgoffa i ystyried y llwyth a ddaeth o Dwrci, a'r 400,000 darn o gyfarpar diogelu personol a gafodd ei ddychwelyd. Rwy'n sicr y byddai rhywfaint ohono wedi bod ar ei ffordd i Gymru. A chafwyd datganiad mawreddog—gall pob un ohonom gofio ei weld ar y teledu a bod yn falch iawn bod rhywfaint o gyfarpar diogelu personol ar ei ffordd atom, dim ond iddo gael ei roi'n ôl ar yr awyren oherwydd bod methiant llwyr i brofi a fyddai, yn y lle cyntaf, o unrhyw ddefnydd. Roedd yn gwbl ddiwerth. Felly rwy'n credu mai'r hyn y mae angen i ni ei wneud yn y fan hon yw ein hatgoffa ein hunain yn glir iawn o'r holl fethiannau, edrych ar sut a pham y maen nhw wedi digwydd, ac yna—a dim ond bryd hynny—pan fydd gennym ni ymchwiliad hollgynhwysol sy'n ystyried yr holl agweddau, y byddwn ni'n symud ymlaen. Dyna fy marn i, a dyna pam na fyddaf yn cefnogi hyn heddiw yn y ffordd y mae wedi'i ysgrifennu. Gallwn ni hefyd — Mae angen i chi—. Nid oes gennych chi amser, nawr, Joyce Watson. Joyce Watson AC: Diolch. David Rowlands. David Rowlands. A ydych chi'n gallu—? Na, nid ydym yn gallu eich clywed chi ar hyn o bryd. Dof yn ôl atoch chi, David, a galwaf ar Russell George. Russell George AC: Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n mynd i ganolbwyntio fy sylwadau heddiw, os gallaf i, ar effaith y pandemig ar fusnesau Cymru ac economi Cymru. Rwy'n credu, ar y cyfan, bod pedair Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cydweithio'n dda, gan ymdopi â heriau'r pandemig. Ond er i ni ddechrau'n dda gyda'n gilydd, mae problem wedi codi ac mae mor siomedig i mi ein bod yn llacio'r cyfyngiadau symud ar gyflymder gwahanol. I mi, mae hyn yn creu mwy o broblemau, rwy'n credu, nag atebion. Mae'n rhoi busnesau Cymru dan anfantais benodol i'n cymdogion yn Lloegr, wrth gwrs. Ac i mi, byddai wedi bod yn well pe bai'r DU gyfan wedi bod yn gweithredu mewn ffordd unedig, oherwydd, yn fy marn i, mae'r gwahaniaeth rhwng y dulliau gweithredu yn mynd i ddwysáu dryswch a rhwystredigaeth busnesau, yn enwedig y rhai sydd wedi'u lleoli ar hyd y ffin, a bydd nifer ohonom ni yma heddiw yn cynrychioli etholaeth o'r fath. Rwy'n credu y bydd yn rhaid i unrhyw ymchwiliad cyhoeddus ystyried sut mae gwahanol ddulliau ac amserlenni o ran cymorth busnes wedi effeithio ar fusnesau bob ochr y ffin. Gallaf feddwl am rai enghreifftiau—Hafren Furnishers yn fy etholaeth i a sut mae eu cystadleuwyr, ar draws y ffin i bob pwrpas, yn gallu gweithredu ac ni allant hwy. Ac mae yna enghraifft arall, Llywydd, yn y gwahaniaeth mewn cyfyngiadau ar weithrediadau hedfan gyffredinol yng Nghymru, lle mae cyfyngiadau wedi'u codi yn Lloegr ond nid yng Nghymru. Ac mae hyn yn golygu bod peilotiaid hedfanaeth gyffredinol sydd wedi lleoli eu hawyrennau ym maes awyr Canolbarth Cymru yn y Trallwng—. Bydd yn rhaid i rai o'r bobl sy'n defnyddio'r maes awyr hwnnw ddefnyddio awyrennau ar feysydd awyr yn Lloegr, a gallai hynny ddigwydd yn barhaol, ac, wrth gwrs, dyna'r pryder i'r maes awyr ac i mi. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid inni ymddiried mewn busnesau i wneud penderfyniadau drostyn nhw eu hunain ac o ran eu gallu i gydymffurfio â mesurau cadw pellter cymdeithasol. Gan droi at rai materion eraill hefyd, rwy'n siŵr y bydd y gronfa cadernid economaidd yn achubiaeth i lawer o fusnesau, ond nid wyf yn credu bod arian yn cyrraedd y busnesau hynny'n ddigon cyflym nawr,. Rwy'n gobeithio y gall y Gweinidog a fydd yn ymateb heddiw ddweud wrthym ni faint o fusnesau sydd wedi llwyddo i gael eu cyllid hyd yma o'r gronfa honno. Ac rwy'n ymwybodol hefyd bod yna broblem gydag awdurdodau lleol ledled Cymru—mae rhai wedi bod yn rhoi eu grantiau ardrethi busnes yn llawer cyflymach nag eraill. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid i unrhyw ymchwiliad cyhoeddus hefyd ystyried y gwahaniaeth yn y dull o weithredu rhwng gwahanol awdurdodau lleol ledled Cymru. Oherwydd mae cael yr arian hwnnw'n gyflym i fusnesau, fel y mae rhai awdurdodau lleol wedi'i wneud—gan gynnwys fy un i, a oedd wedi’i wneud yn dda iawn—yn mynd i fod o fantais fawr i'r busnesau hynny, ond nid felly mewn rhannau eraill o Gymru. Felly, rwy'n credu, hefyd, gyda nifer o fesurau nawr— rydym ni'n sôn am ymchwiliad cyhoeddus yn y dyfodol—yn sicr, rwy'n credu bod bylchau sydd angen eu llenwi ac rwy'n credu ei bod hefyd yn hanfodol bod cam nesaf y gronfa cadernid economaidd yn cael ei symud ymlaen o'r dyddiad o 29 Mehefin yn enwedig. Ac rwy'n credu bod yna feysydd penodol o gymorth busnes y mae dal angen mynd i'r afael â nhw, a byddaf i'n mynd drwyddyntyn fyr: y bobl hunan-gyflogedig diweddar; masnachwyr unigol llai; perchenogion busnes nad ydyn nhw'n cyflogi unrhyw un arall, ond sy'n talu eu hunain mewn difidendau, nad ydyn nhw'n gwmnïau cyfyngedig; ac yn sicr, pecyn hirdymor ar gyfer y sector twristiaeth. Rydym wedi gweld hynny mewn rhannau eraill o'r DU, ond nid yma yng Nghymru. Felly, rwy'n credu y bydd yn rhaid i hynny fod yn rhan o ymchwiliad cyhoeddus hefyd. Ac, wrth gwrs, cymorth ardrethi busnes i'r busnesau hynny sy'n rhan o safle ehangach. Felly, gan edrych i'r dyfodol, rwy'n credu hefyd y bydd yn ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i ddarparu pecyn parhaus o gymorth nad yw'n gyfyngedig i'r cyfyngiadau symud presennol. Ac er fy mod i'n gwerthfawrogi ein bod ni mewn cyfnod anghyffredin, rwy'n credu bod angen i Lywodraeth Cymru wneud llawer mwy i roi hwb i adferiad Cymru nawr. Fel arall, rwy'n credu y bydd busnesau Cymru ac economi Cymru dan anfantais sylweddol. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid i unrhyw ymchwiliad cyhoeddus ystyried sut rydym ni'n ymdrin â chymorth busnes nawr o'i gymharu, yn sicr, â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Carwyn Jones AC: A gaf i ddweud, yn gyntaf oll, nad oes gennyf i wrthwynebiad i'r syniad o ymchwiliad? Rwy'n credu na ellir osgoi hynny. Fe fydd yna gwestiynau y mae'n rhaid eu gofyn, a rhai cwestiynau y bydd angen ateb arnyn nhw. Rwyf i o'r farn fod hynny'n wir am bob un o lywodraethau'r DU. Felly, nid oes gennyf i unrhyw wrthwynebiad i gyfeiriad y cynnig, ond rwy'n amau'n gryf iawn nad hon yw'r ffordd iawn o wneud hynny. Yn gyntaf, hyd y gwn i, nid oes gan y Senedd hon mo'r gallu i gychwyn ymchwiliad o dan Ddeddf Ymchwiliadau 2005, sef yr hyn yr wyf i'n credu i'r Aelodau awgrymu eu bod yn ei ddymuno. Ac nid wyf i'n credu ychwaith fod y ffaith ei fod yn nwylo'r Senedd hon yn ei gwneud yn llai, nac yn fwy annibynnol, nag y byddai pe bai yn nwylo'r Llywodraeth. Diogelir annibyniaeth yr ymchwiliad gan y barnwr neu'r sawl sy'n arwain yr ymchwiliad, nid y sawl sy'n ei sefydlu yn y lle cyntaf. Fe fyddai angen pleidlais ar y telerau a'r amodau, fe fyddai angen pleidlais ar y ffordd y byddai'r ymchwiliad yn cael ei sefydlu, ac fe fyddai yna bleidlais ar bwy fyddai cadeirydd yr ymchwiliad. Felly, nid wyf i'n credu ei bod hi'n realistig nac yn synhwyrol i hyn fod yn ffurfiol yn nwylo'r Senedd hon, er fy mod i'n derbyn y pwynt ei bod hi'n bosibl iawn y bydd angen trafodaeth yn y dyfodol rhwng y pleidiau o ran sut y gallai hyn weithio. A gaf i ddweud, yn gyntaf oll, rhaid wynebu hyn, nad dadl mo hon am gael ymchwiliad? Dadl yw hon heddiw ar gyfer gwneud a sgorio pwyntiau gwleidyddol. Fe allwn innau hefyd eistedd yn y fan hon a dweud, 'Wel, ydym, rydym yn awyddus i wybod pam oedd Llywodraeth y DU mor gyndyn i atal pobl rhag dod i mewn i'r wlad? Pam cyflwyno'r rheol cwarantin o 14 diwrnod sy'n ymddatod ar hyn o bryd? Pam mae'n iawn teithio 260 milltir os ydych chi'n gynghorydd arbennig a 60 milltir arall i roi prawf ar eich llygaid os ydych chi'n gyrru? Pam, er enghraifft, ledled y DU, neu yn Lloegr yn hytrach, y cafwyd targed dyddiol o 100,000 o brofion a gafodd ei ollwng, oherwydd na chafodd y targed hwnnw ei gyrraedd? A hyd yn oed wedyn roedd hwnnw'n cynnwys profion, wrth gwrs, a oedd wedi cael eu hanfon allan ond na chafodd eu cwblhau mewn gwirionedd.' Mae pob math o gwestiynau sy'n gofyn am atebion. Ar gyfer y dyfodol y mae hynny. Ond gadewch imi ganolbwyntio, ar ôl gwneud y pwyntiau hynny, ar yr agweddau cyfreithiol yn y cyswllt hwn a rhai ymarferol efallai. Nid dyma'r amser i ddechrau paratoi ar gyfer ymchwiliad. Rydym ynghanol argyfwng. Nid yw'n syniad da i swyddogion fod yn ystyried sefydlu ymchwiliad ar yr un pryd ag ymdrin â'r argyfwng gwaethaf a wynebodd unrhyw un ohonom erioed. Nid dyma'r amser i ddechrau ystyried sefydlu ymchwiliad i rywbeth nad yw wedi dod i ben hyd yn oed. Mae'n rhaid ichi gadw mewn cof ei bod yn bosibl—rydym ni'n gobeithio nad felly, ond mae'n bosibl—y gwelwn ni ail benllanw ym mis Hydref. Mae'n ddigon posibl y byddwn ni'n dal i ymdrin â hyn adeg y Nadolig. Ni ellir sefydlu ymchwiliad i adrodd erbyn mis Mawrth ar y mater hwn, hyd yn oed pe byddai hwnnw'n dechrau heddiw oherwydd—. Fe soniodd Adam Price am ymchwiliad Grenfell. Wel, fe ddechreuodd hwnnw ar ei waith ar 4 Mehefin 2018. Fe gymerodd 16 mis i lunio dim ond canfyddiadau rhagarweiniol i gam un. Fe gymerodd sawl mis i'w sefydlu. Nid yw'r pethau hyn yn digwydd dros nos; maen nhw'n cymryd amser maith iawn i'w sefydlu ac amser maith iawn i roi'r broses yn ei lle ac amser maith i glywed yr holl dystiolaeth. Nid oes gobaith o gwbl y bydd ymchwiliad cyhoeddus yn adrodd yn ôl cyn mis Mawrth. Gellid cael rhywbeth ffwrdd â hi, ond nid ymchwiliad cyhoeddus. Ni allai unrhyw ymchwiliad a fyddai'n cyflawni'r hyn y gofynnodd yr Aelodau amdano gyflwyno adroddiad erbyn hynny. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n werth gwneud y pwynt hwnnw. O ran cynnig y Ceidwadwyr, wel, oni bai eich bod yn barod i ohirio'r etholiadau tan ddyddiad amhenodol, yna nid oes modd gwarantu y byddai'r canfyddiadau gyda ni erbyn mis Mawrth. Ni fyddai'r un barnwr rhesymol yn ystyried llywio ymchwiliad fel hwn pan fyddai rhywun y dweud wrtho, 'Bydd yn rhaid ichi gyflwyno eich tystiolaeth a llunio adroddiad mewn dau fis, i bob pwrpas.' Ni wnaiff hynny ddigwydd. Gadewch inni fod yn realistig: nid hon yw'r ffordd iawn. Er y cynhelir ymchwiliad rywbryd—nid wyf i'n amau hynny—nid oes unrhyw ffordd o allu gwneud hynny cyn mis Mawrth. Fe fyddwn i'n annog y Ceidwadwyr yn y Cynulliad i beidio â chwarae gwleidyddiaeth yn hyn o beth. Rydym wedi gweld eu ASau nhw'n gwneud hynny—llythyr arall ddoe. Fe aeth hynny i lawr yn wael, credwch chi fi. Dro ar ôl tro, rwyf wedi clywed pobl yn dweud, 'Beth sydd a wnelo hyn â nhw?' a 'Pam maen nhw'n canolbwyntio ar hynny ac nid ar ymdrin â'r feirws?' Os ydyn nhw'n dymuno ysgrifennu eto, wel eu busnes nhw yw hynny. Ond, credwch chi fi, ni wna hynny unrhyw les o gwbl iddyn nhw. Yr ail fater yw—rwy'n edrych ar y cloc, Llywydd—os bydd ymchwiliad o dan y Ddeddf Ymchwiliadau yng Nghymru yn unig, yna bydd yn rhaid iddo fod yn cydredeg ag ymchwiliad sy'n digwydd yn y DU. Cofiwch, nid wyf yn credu bod y pŵer yn bodoli, hyd yn oed ar ran Llywodraeth Cymru, i orfodi tystion o'r tu allan i'r meysydd datganoledig: yr heddlu, yr Asiantaeth Ffiniau, yr holl bobl hynny y byddai unrhyw ymchwiliad yng Nghymru yn awyddus i glywed ganddyn nhw, ond a fyddai'n gallu penderfynu, ar gyfarwyddyd o Lundain, i beidio â rhoi tystiolaeth, ac ni fyddai dim y gallem ni ei wneud yn ei gylch. Mae'n anochel, yn fy marn i, er mwyn cael y darlun llawnaf posibl, fod yn rhaid cael ymchwiliadau yn cydredeg yn Lloegr neu'r DU ac yng Nghymru ar yr un pryd er mwyn cael y math o atebion y byddai pobl yn awyddus i'w clywed. Felly, i mi, mae'n rhaid dweud, nid oes gobaith cael unrhyw fath o ganfyddiadau erbyn mis Mawrth, hyd yn oed pe gallai ymchwiliad o'r fath ddechrau yfory nesaf, trwy ryw ryfedd wyrth. Yr hyn sy'n bwysig, wrth gwrs, yw tryloywder. Yr hyn sy'n bwysig yw bod ymchwiliad yn cael ei gynnal ar ryw adeg—nid wyf i'n amau hynny—ond mae'n rhaid iddo fod yn ymchwiliad llawn a phriodol ac nid yn rhyw fath o lys cangarŵ ar ras, oherwydd nid yw pobl Cymru yn haeddu dim llai na hyn. David J Rowlands AC: Rwy'n diolch i'r Blaid Geidwadol am ddod â'r ddadl bwysig iawn hon i'r cyfarfod llawn, ac a gaf i adleisio'r sylwadau a wnaeth Joyce Watson ac Angela Burns ynglŷn â staff rheng flaen a'r gwaith y maen nhw wedi ei wneud drwy gydol yr epidemig coronafeirws hwn? Nid ydym yn sôn am ymchwiliad i'w hymddygiad nhw; rydym yn sôn am ymchwiliad i ymddygiad llywodraethau'r DU. Mae'n bwysig inni ddangos i'r cyhoedd ein bod ni'n barod—a defnyddio'r ystrydeb honno y mae'r gwleidyddion yn hoff ohoni—i ddysgu gwersi. Rydym ni'n cefnogi'r cynnig hwn ac yn gobeithio y bydd y Senedd yn dangos aeddfedrwydd i gydnabod yr angen am ymchwiliad, nid ar gyfer pwyntio bys, ond i geisio dod o hyd i'r hyn a wnaed yn effeithiol—ac roedd yna lawer o bethau—ond i dderbyn bod llawer o bethau eraill y gellid bod wedi eu gwneud yn well nid yn unig gan Lywodraeth Cymru , ond gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd. Mae'n hanfodol bwysig nad ydym ni'n gwneud yr un camgymeriadau y tro nesaf, ac mae gwyddoniaeth yn dweud wrthym y bydd argyfyngau o'r fath eto. Drwy gydol yr argyfwng hwn, dywedwyd lawer gwaith mae amseroedd digynsail yw'r rhain. Wel, nid yw hyn yn wir mewn gwirionedd—fe gafwyd rhybuddion mor ddiweddar â 2016. Rhybuddiodd Sefydliad Iechyd y Byd mai coronafeirws sy'n gysylltiedig â SARS a fyddai achos tebygol epidemig yn y dyfodol. Roedden nhw'n annog llywodraethau i gynllunio i gael profion diagnostig a datblygu brechlynnau. Ac eto ni wnaed dim am hynny. Fe wnaethom ni yn y DU fethu â rhoi cynlluniau ar waith i sicrhau bod holl asiantaethau'r GIG wedi cael eu harfogi â'r diogelwch angenrheidiol y byddai ei angen arnynt. Mae'n anffodus bod gwleidyddiaeth ar ei gwaethaf wedi ymddangos mewn rhai agweddau ar y ffordd yr ymdriniwyd â'r argyfwng hwn. Roedd yr awydd ymddangosiadol yn y Llywodraethau datganoledig i fynnu eu hawdurdod eu hunain, ar brydiau, yn ymddangos fel ystryw i elwa ar ddiffygion Llywodraeth y DU, yn hytrach na gweithredu gydag unffurfiaeth ledled y gwledydd. Weithiau, roedd yn ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn ceisio ailgodi Clawdd Offa o ochr Cymru yn hytrach na gweithredu fel Llywodraeth ymrwymedig i'r Deyrnas Unedig. Mae'r rhybuddion yno: fe fydd pandemigau fel hyn yn digwydd eto, ac o bosibl yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach, sy'n golygu ei bod yn sylfaenol bwysig y bydd yna archwiliad o'r bôn i'r brig ynghylch pam roeddem ni mor gyndyn i baratoi er gwaethaf y rhybuddion. Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am hynny i raddau helaeth, ond mae yna lawer o feysydd lle'r ydym ni yng Nghymru hefyd wedi bod yn wan. Mae'n rhaid ei bod hi'n amlwg i bawb na all y wlad, unrhyw wlad mewn gwirionedd, roi cyfyngiadau symud llwyr yn y modd sydd gennym ni nawr, fel yr ydym ni'n tystio iddo, ar sail reolaidd. Mae'r costau economaidd yn rhy uchel o lawer. Bydd ieuenctid y wlad hon yn talu am y pandemig hwn mewn trethi uwch am flynyddoedd i ddod, am ddegawdau efallai. Bydd yn rhaid gwrthweithio'r pandemigau hyn mewn rhyw ffordd arall. Mae'n ffaith mai dim ond trwy wyddoniaeth y byddwn ni'n gallu osgoi canlyniadau trychinebus pandemigau ar raddfa mor fyd-eang. O gofio bod gennym ni yma yng Nghymru rai o'r cyfleusterau gorau yn y byd ar gyfer ymchwil yn y meysydd hyn, mae angen i Lywodraeth Cymru ymrwymo i ariannu'r sefydliadau hynny a rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU i ddarparu cyllid ledled y DU fel y gallwn ni yng Nghymru aros ar flaen y gad ym maes ymchwil o'r fath. Llywydd, gwyddoniaeth, ac nid cyfyngiadau symud, yw'r unig ateb i bandemigau feirysol. Mark Isherwood AC: [Anhyglyw.] Mark Isherwood, a wnewch chi aros am eiliad? Iawn, fe gewch chi ddechrau nawr, Mark. Mark Isherwood AC: Diolch. Wythnos diwethaf, fe ddywedodd Vaughan Gething fod safbwynt Llywodraeth Cymru ar reoli coronafeirws yn cael ei gefnogi gan fwyafrif llethol y cyhoedd,. Felly, gadewch i mi ddryllio eu camargraffiadau nhw drwy ddyfynnu o rai o'r cannoedd o negeseuon e-bost a anfonwyd ata i sy'n dweud yn wahanol. Ar ddechrau'r cyfyngiadau symud, gosodwyd yr olygfa gan bobl wedi'u hynysu yn dweud nad oedd nemor ddim gwybodaeth yn dod oddi wrth Lywodraeth Cymru; roedd y cyfan yn dod o San Steffan, a bod angen i Mr Drakeford, rwy'n dyfynnu, dynnu'r ewinedd o'r blew. Ysgrifennodd Cymorth i Fenywod Cymru at y Dirprwy Weinidog i fynegi bod angen neilltuo arian ar frys i wasanaethau sy'n darparu cymorth ledled Cymru mewn achosion o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Er gwaethaf gohebiaeth flaenorol, roedden nhw'n dweud na chafodd hwnnw ei ddarparu hyd yma. Ddoe, dywedasant wrth y pwyllgor mai arian sy'n bodoli eisoes yw'r arian a gyhoeddwyd hyd yn hyn. Ysgrifennodd Hourglass Cymru, sef yr hen Gweithredu ar Gam-drin Pobl Hŷn, i fynegi eu bod nhw'n wynebu argyfwng oherwydd maint y gefnogaeth y gofynnir iddyn nhw ei darparu. Wrth ymateb i alwad Llywodraeth Cymru am lonydd beicio dros dro a lledu palmentydd, ysgrifennodd Cŵn Tywys Cymru ac RNIB Cymru y gallai unrhyw elfen newydd annisgwyl ar y strydoedd eu rhoi nhw mewn perygl. Pan godais i bryder RNIB Cymru fod pobl ddall neu rannol ddall yn cael trafferth wrth gael eu negeseuon bwyd, atebodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, mai dim ond y rhai a nodir fel unigolion a warchodir sy'n cael blaenoriaeth. Ysgrifennodd busnesau gwely a brecwast, 'Rebecca Evans, os na chawn ni'r grant atodol, fe fydd ein busnes ni'n dod i ben. Mae'r sylwadau a wnaeth Ken Skates yn rhai sarhaus ac yn ein diystyru ni, yn y bôn, fel busnesau di-nod, dibwys sy'n chwarae ennill bywoliaeth'. Ac, yn anffodus, 'Mae diffyg gweithredu gan Ken Skates yn cefnogi'r ddadl yn erbyn datganoli'. Ysgrifennodd busnesau llety gwyliau i ddweud bod canllawiau Llywodraeth Cymru nid yn unig yn annheg, ond yn gwahaniaethu'n glir yn erbyn busnesau llety wyliau. Ni chafwyd unrhyw ymgynghori â'r diwydiant, ac, yn anffodus, mae ganddynt ddiffyg hyder amlwg yn ymateb Llywodraeth Cymru. Ysgrifennodd busnes parc gwyliau, 'Mae'r rhain yn ddyddiau blin ac rwy'n ymbil dros ddyfodol fy musnes i. Fe wnes i gyflwyno cwestiwn ysgrifenedig brys i'r Prif Weinidog ar 30 Ebrill yn gofyn iddo ymateb i alwadau gan y British Holiday & Home Parks Association Ltd am gynllun arbennig i gefnogi busnesau twristiaeth yng Nghymru. Ar wahân i'r ymateb dros dro, ni chafwyd ateb hyd yn hyn'. Ysgrifennodd practisau deintyddol i fynegi bod Lloegr, Iwerddon a'r Alban wedi dechrau cynllunio ar gyfer ailagor practisau deintyddol gyda phrotocolau newydd llym, ac nad oes unrhyw reswm pam na ddylid ailagor practisau deintyddol Cymru cyn gynted ag y byddan nhw wedi paratoi yn llawn. Cartref nyrsio, a ysgrifennodd, 'Rwy'n pryderu'n ddirfawr ynglŷn â sut yr ymdriniwyd ag argaeledd cyfarpar diogelu personol a chynhyrchion hylendid iechyd yn y sector gofal ac mae'n dal i gael ei reoli'n chwerthinllyd,' ac ysgrifennodd eto i ddweud bod pump o'r trigolion wedi marw oherwydd COVID-19 ac nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cyfrannu'r un ddimai goch hyd yma tuag at yr argyfwng COVID-19. Ysgrifennodd etholwr, 'Mae gen i gyfaill a oedd i fod cael tynnu ei aren ddechrau mis Ebrill—oherwydd canser—ac fe gafodd hynny ei ohirio. Mae'n dal i ddisgwyl ac mae'n wael iawn erbyn hyn. Er gwneud dau gais, ni all fy ngwraig gael sgan na phelydr-x ar gyfer rhywbeth a allai fod yn ddifrifol'. Ysgrifennodd practisau milfeddygol fod y proffesiwn milfeddygol wedi cael ei esgeuluso hyd yma. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £6.3 ar gyfer hosbisau, ond mae'n derbyn £12 miliwn o arian canlyniadol o ymrwymiad Llywodraeth y DU i ariannu hosbisau yn Lloegr, ac fe ysgrifennodd hosbisau, 'Nid ydym o hyd yn gwybod sut y gwnaiff Llywodraeth Cymru ddyrannu'r £5.7 miliwn ychwanegol, ond mae'n ymddangos yn annhebygol iawn y caiff hwnnw ei drosglwyddo. Pe byddai'r argyfwng yn para llawer mwy, yna fe fydd yr hosbisau mewn trafferthion'. Mae e-byst diweddar yn cynnwys y canlynol. 'Fe'n siomwyd ni, fel y rhan fwyaf yn y diwydiant lletygarwch a thwristiaeth yng Nghymru, gan gyhoeddiad Mark Drakeford, nad ydyw'n cynnig fawr ddim gobaith i'n sector ni sydd eisoes wedi gweld difrod mawr'. 'Mae fy nghydweithwyr i sy'n gwerthu tai yn Lloegr yn hynod brysur erbyn hyn, ac yn helpu llawer iawn ar yr economi, tra ein bod ni yn y Gogledd yn parhau i fod â chyfyngiadau symud. Fe allem ni agor yn hawdd gyda mesurau ymbellhau cymdeithasol'. 'Gwan fu ymateb y Prif Weinidog, a dryslyd, ac yn sicr yn canolbwyntio ar Gaerdydd a'r De', a, 'Mae'n ddigon brawychus i fod yn byw drwy'r pandemig hwn, ond mae'r llanast a wnaeth Mark Drakeford a Vaughan Gething a'r lleill wrth reoli a gwleidyddoli'r argyfwng yn droseddol'. Pob un o'r rhain yn ddyfyniadau gwirioneddol. Drwy geisio dirymu ein cynnig ni heddiw, mae Llywodraeth Cymru yn dangos nad ydyn nhw byth yn wir wedi dirnad y sefyllfa. Rhun ap Iorwerth AC: Gaf i ddweud i ddechrau ei bod hi'n bwysig iawn, dwi'n meddwl, cael y balans yn iawn yn ein sgrwtini rhwng edrych ar beth sydd wedi digwydd yn ystod y pandemig yma ac edrych ymlaen ar y camau sy'n dal angen eu datblygu er mwyn gwarchod y cyhoedd. Dwi wedi clywed rhai'n awgrymu eto heddiw beth bynnag sydd wedi digwydd, pa bynnag gamgymeriadau gafodd eu gwneud gan Lywodraethau, wel, dyna ni, mi gawn ni ofyn hynny rywbryd eto; canolbwyntiwch yn unig ar beth all gael ei wneud rŵan. Rhun ap Iorwerth AC: Yn gyntaf, mae'r rhai sydd yn gwneud sylw fel yna, dwi'n meddwl, yn amlwg yn cymryd yn ganiataol y bydd yna ymchwiliad, ac mi fydd yna, fel y dywedodd Adam Price yn gynharach, does yna ddim cwestiwn ynglŷn â'r angen am ymchwiliad. A dweud y gwir, mi fydd angen ymchwiliadau ar sawl lefel. Ond, dwi ddim yn meddwl bod modd gwahanu cweit mor hawdd â hynny yr hyn sydd wedi digwydd efo beth sydd ar ôl i'w ddysgu a beth sydd ar ôl i'w wneud. Y cynharaf dŷn ni'n gallu dysgu rhai gwersi, y gorau, achos mae'r pandemig yn parhau ac mi fydd efo ni am sbel; mae'r risg yn dal yn sylweddol ac mi fydd am sbel. Mae yna sôn, wrth gwrs, am o leiaf ail begwn o'r pandemig yn y misoedd i ddod, a dyna pam y gwnaeth Plaid Cymru gynnig wythnosau yn ôl erbyn hyn y dylai'r gwaith ar sefydlu ymchwiliad wedi'i arwain gan farnwr ddechrau ar unwaith, a bod gwerth gwirioneddol i hynny, yn ychwanegol wrth gwrs at y gwaith sgrwtini dŷn ni'n ei wneud fel Senedd. Yr awgrym gan y Llywodraeth, yr awgrym gafodd ei wneud gan y Prif Weinidog heddiw, oedd y buasai barnwr a'i dîm yn mynd o dan draed rywsut, yn cael yn y ffordd, yn amharu ar y gwaith ymarferol o frwydro pandemig. Dwi'n ddigon hyderus y byddai tîm ymchwil yn gallu gweithredu mewn ffordd sydd nid yn unig ddim yn ymyrryd efo'r gwaith, ond fyddai'n gallu helpu yn yr hir dymor drwy gael gwybodaeth real-time o beth sy'n digwydd. Does neb yn awgrymu bod sgrwtini ganddon ni yn cael yn ffordd y gwaith o ddelio efo'r pandemig; mae sgrwtini yn bwysig. Mi fyddai ymchwiliad o'r math yr ŷm ni'n sôn amdano yn gallu cynnig canllawiau ar gyfer unrhyw bandemig arall; hefyd, dim cweit mewn real time yn y ffordd dŷn ni'n ei wneud o fel Senedd, ond i amserlen llawer, llawer tynnach nag y mae'r Llywodraeth i weld yn dymuno'i weld yn digwydd, ac y byddai yna adborth yn dod yn ôl ar gyfer tonnau neu peaks hwyrach o'r pandemig yma. Mi fyddai angen, wrth gwrs, ymchwiliadau i fethiannau hysbys iawn Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhedeg ochr yn ochr efo heddiw. Dwi'n gobeithio cawn ni gefnogaeth i welliant 4 yn enw Siân Gwenllian heddiw, sy'n gwneud y pwynt hwnnw, ond sôn ydyn ni fan hyn am edrych ar ymateb Llywodraeth Cymru, yn benodol, yn ogystal â'r cydlynu sydd wedi bod rhwng Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, a Whitehall. Dŷn ni ym Mhlaid Cymru, fel dŷn ni wedi clywed, wedi comisiynu a chyhoeddi gwaith ymchwil yn barod sy'n adnabod nifer fawr o gwestiynau eithaf sylfaenol, ac mae rhai o'r rheini yn berthnasol er mwyn dysgu gwersi o fewn y pandemig ar gyfer peaks eraill. Os oedd Llywodraeth Cymru wedi methu â dysgu gwersi o operation Cygnus yn 2016 cyn dechrau'r pandemig yma, ydyn nhw o leiaf yn gallu dangos eu bod nhw wedi dysgu ohonyn nhw erbyn rŵan? Mi fydd angen gwybod pa effaith a gafodd teithio rhyngwladol i mewn i Gymru ar ddechrau’r pandemig yma er mwyn gwybod pa effaith all hynny gael ar ail don bosib, pan fydd teithio rhyngwladol wedi dechrau mwy yn sicr nag y mae o ar hyn o bryd. Mae angen dysgu o'r arafwch oedd yna i godi'r lefel risg er mwyn gallu ymateb yn gynt y tro nesaf. Mae yna dystiolaeth glir bod lockdown wedi ei alw yn rhy hwyr; mi all fod angen galw lockdown eto yn y dyfodol, a'r tro yma, byddai angen gwneud yn gynt. Mi allai'r mathau yna o benderfyniadau fod angen eu gwneud o fewn misoedd, felly mae pobl angen hyder bod gwersi wedi cael eu dysgu'n barod. Mi benderfynodd Llywodraeth Cymru i beidio dilyn rhai o ganllawiau mwyaf sylfaenol y WHO. Dŷn ni angen gwybod pam, a phryd maen nhw'n meddwl mai canllawiau'r WHO ydy'r rhai i'w dilyn, a phryd dŷn nhw ddim. Nid er mwyn gallu pwyntio'r bys rywbryd yn y dyfodol pell, ond er mwyn gallu dysgu gwersi rŵan. Mae yna gwestiynau am strategaeth gyfathrebu'r Llywodraeth am sut i roi hyder i bobl mewn prosesau rhannu PPE, er enghraifft; hynny ydy, hyd yn oed os ydy'r Llywodraeth yn hyderus, 'Ydyn, dŷn ni wedi dysgu gwersi o'r dyddiau cynnar,' mae yna fudd go iawn mewn rhoi'r hyder yna i'r cyhoedd, ac wrth gwrs i weithwyr allweddol. Mi allwn i fynd ymlaen; y pethau byr dymor rydyn ni eisiau atebion iddyn nhw ydy'r rheina. Pan ddaw hi i'r tymor canolig a'r hir dymor, wrth gwrs, mae'r rhestr o gwestiynau yn llawer, llawer hirach: beth aeth o'i le efo profi? Beth aeth o'i le efo PPE a'r paratoi am bandemig o'r math yma ac ati? Dŷn ni angen ymchwiliad wedi'i arwain gan farnwr. Dŷn ni angen iddo fo ddechrau cyn gynted â phosibl. Dŷn ni angen iddo fo adrodd yn ôl mewn ffyrdd interim yn fuan er mwyn dysgu gwersi yn fuan, er y bydd ymchwiliad llawn, wrth gwrs, yn cymryd hirach, a dyna pam cyflwyno gwelliant 3 heddiw. Mae angen ymrwymiad digwestiwn y Llywodraeth, dwi'n meddwl, i hynny, er mwyn rhoi, fel dwi'n dweud, hyder i'r cyhoedd. Lynne Neagle AC: Mae'n rhaid cael ymchwiliad cyhoeddus sy'n annibynnol. Mae'n ddyletswydd arnom oherwydd y rhai a fu farw ac i'r staff rheng flaen sydd wedi rhoi eu bywydau yn y fantol yn yr argyfwng hwn. Ond, rwy'n credu bod yn rhaid i hynny fod ar sail y pedair gwlad, gan gynnwys archwiliad trwyadl o'r ymdriniaeth yng Nghymru, ac oherwydd i'r holl benderfyniadau cychwynnol allweddol gael eu gwneud ar sail y pedair gwlad. Fel y mae'r Prif Weinidog wedi dweud droeon, fe ddechreuwyd ar y cyfyngiadau symud ar yr un pryd ac mae eisiau inni ddod â'r cyfyngiadau hynny i ben gyda'n gilydd os oes modd, ac yna fe ddylem ddysgu'r gwersi gyda'n gilydd hefyd. Y cwestiwn cyntaf y dylai unrhyw ymchwiliad cyhoeddus edrych arno yw pam na ddigwyddodd y cyfyngiadau symud yn gynharach. Fe fydd y lluniau hynny o ŵyl Cheltenham wedi eu serio ar feddyliau'r cyhoedd am flynyddoedd i ddod. Fel y dywedodd Angela Burns, yng Nghymru, roedd gennym gyngerdd mawr gan y Stereophonics, ac yng Ngwent, gêm rygbi fawr rhwng y Dreigiau a Benetton ychydig ddyddiau cyn y cyfyngiadau symud. Roeddem yn gallu gweld yr hyn a oedd yn digwydd yng ngweddill Ewrop, ac mae'n amlwg bod newid cyfeiriad wedi digwydd, ond yn rhy hwyr yn fy marn i. Mae'r cwestiynau hyn a rhai eraill yn haeddu atebion, ac atebion gwirioneddol o ran hynny, nid y math yr ydym ni'n gyfarwydd â gweld Matt Hancock yn eu rhoi yn y sesiynau briffio dyddiol i'r wasg. Rydym ni ymhell i ffwrdd o fod yn barod i gynnal ymchwiliad priodol. Mae angen canolbwyntio heddiw, yfory ac yn y dyfodol rhagweladwy ar achub bywydau, gan leihau effaith COVID-19 ar ein cymunedau a chyflwyno normalrwydd newydd yn ddiogel yn ein bywydau ni i gyd. Yn ôl unrhyw fesur, rydym ymhell i ffwrdd o sicrhau hynny. Nid wyf i, felly, am gefnogi cynnig y Torïaid heddiw, na allasai fod yn fwy digywilydd yn ei wleidyddiaeth pe byddai wedi ei ysgrifennu mewn geiriau glas a'i selio â rhosglwm glas. Drwy nodi'r etholiad nesaf fel dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad, rydych chi'n dweud, yn syml, eich bod chi'n dymuno gwneud hon yn frwydr wleidyddol, ac nid yn ymarfer dysgu gwirioneddol a fydd yn achub bywydau. Fe fyddai tynnu sylw oddi wrth y bobl hynny sy'n brwydro yn erbyn y pandemig ar hyn o bryd drwy eu cael nhw i mewn i sefyllfa o ymchwiliad cyhoeddus nawr, wrth i'r pandemig barhau i fod yn angheuol, yn resynus o anghyfrifol. Fe fyddai'n debyg i gadw awyrennau Spitfire a Hurricane ar y ddaear ynghanol y Battle of Britain ar gyfer trafod cynlluniau hyfforddiant peilotiaid i'r dyfodol. Oes, mae yna bethau y gallwn ni eu dysgu wrth fynd ymlaen, ac mae gan bwyllgorau'r Cynulliad swyddogaeth hanfodol wrth graffu ar yr ymateb i'r COVID ar sail barhaus. Rwy'n falch fod y ddau bwyllgor yr wyf i arnyn nhw wedi ymrwymo i wneud hynny mewn ffordd egnïol. Nid oes dim synnwyr yn fy meddwl i fod unrhyw un yn ffoi rhag craffu. Yn wir, rwy'n annog Llywodraeth Cymru i wrando'n ofalus ar farn y pwyllgorau, ac anwesu ein hargymhellion ni'n wirioneddol fel cyfle i ychwanegu gwerth a gwella'r ymateb gan Lywodraeth Cymru. Un o'r unig bethau synhwyrol a ddywedodd Dominic Cummings erioed oedd ei fod ef wedi gwneud camgymeriadau'n ddyddiol yn ystod yr argyfwng hwn. Ac felly, do, fe fu camgymeriadau yng Nghymru hefyd, ac mae'n rhaid inni ddysgu oddi wrthyn nhw. Ond nid oes un foment wedi bod yn y pandemig hwn y bu i mi amau am eiliad hyd yn oed nad prif flaenoriaeth Llywodraeth Cymru oedd diogelwch fy etholwyr i a phawb arall yng Nghymru. Nid yw hynny'n rhywbeth y gallai neb ei ddweud mewn difrif am Lywodraeth y DU, ac rwy'n credu y dylem weld y cynnig hwn heddiw am yr hyn ydyw—ymgais ryfygus i dynnu sylw oddi wrth hynny. Diolch. Y Cwnsel Cyffredinol, Jeremy Miles. Dyna ni, Jeremy Miles. Jeremy Miles AC: Diolch, Llywydd. Gaf i ddechrau gan fod yn gwbl ddiamwys ar y cwestiwn canolog wrth wraidd y cynnig? Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi sefydlu ymchwiliad cyhoeddus ac annibynnol a fydd yn gallu edrych ar sut yr ydyn ni ac eraill wedi ymateb i'r pandemig hwn. Mae'r amgylchiadau mae pob un ohonom ni wedi bod yn byw trwyddyn nhw yn ystod y misoedd diwethaf mor arwyddocaol fel y bydd hynny yn gwbl briodol ac yn angenrheidiol. Mae coronafeirws wedi effeithio ar bob rhan o'r Deyrnas Gyfunol a'r byd i gyd mewn gwahanol ffyrdd. Does dim amheuaeth bod gwersi i'w dysgu, pethau y gallwn ni eu gwella, a chamau y gallwn ni eu cymryd i ddiogelu pobl yma yng Nghymru yn y dyfodol. Y flaenoriaeth bresennol, wrth gwrs, yw inni ganolbwyntio ar ymateb i'r argyfwng, ac rwy'n achub ar y cyfle i danlinellu ein neges i bobl Cymru. Fe wnaeth y Prif Weinidog gyhoeddi canlyniad ein hadolygiad un diwrnod ar hugain ddiweddaraf ddydd Gwener. Rŷn ni'n gwybod pa mor bwysig yw hi i bobl Cymru allu cwrdd â'u ffrindiau a'u teulu, ac rŷn ni'n gwybod mai ychydig iawn o sgôp sydd i lacio'r cyfyngiadau. Rydyn ni wedi dewis llacio'r cyfyngiadau yn ofalus i ganiatáu mwy o ymweliadau lleol, gan ddefnyddio ardal o 5 milltir fel canllaw i bobl allu dechrau gweld ffrindiau a theulu unwaith eto. Jeremy Miles AC: Llywydd, rydym yn parhau i fod, mewn llawer ffordd, yn nyddiau cynnar yr achos hwn o coronafeirws. Hyd nes y cawn ni feddyginiaethau effeithiol ac, ymhen amser, gobeithio, frechlyn effeithiol, fe fydd yn rhaid inni ganolbwyntio ar ymdrin â choronafeirws fel argyfwng iechyd cyhoeddus. Mae'r cynnig yn nodi nad yn awr yw'r amser i gynnal unrhyw ymchwiliad, a bod y bobl a fyddai'n rhoi tystiolaeth i ymchwiliad yn canolbwyntio'n llwyr ar ymgodymu â'r argyfwng presennol, ac rwy'n disgwyl y bydd hynny'n wir am gryn amser eto. Fe wyddom ni, o brofiad pandemigau eraill, ei bod yn ddigon posibl y byddwn wedi cyrraedd y flwyddyn nesaf cyn inni allu dweud gyda hyder ein bod wedi cefnu ar y gwaethaf; ond amser a ddengys wrth inni drafod heddiw. Mae'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb, ac wedi gwneud hynny, yn destun balchder i mi ac rwy'n ddiolchgar i bobl Cymru am eu hymateb nhw. Mewn nifer o ffyrdd, mae'r argyfwng hwn wedi ennyn y gorau ym mhobl pob un o'n cymunedau ni wrth iddyn nhw wynebu'r adfyd hwn gyda'i gilydd. Ond, wrth gwrs, mae yna wersi i'w dysgu a meysydd i'w gwella, ac rydym yn cymryd camau o fewn Llywodraeth Cymru i wneud hynny o ddydd i ddydd ac o wythnos i wythnos wrth ganolbwyntio ar ymateb i'r argyfwng. Llywydd, mae angen sefydlu ymchwiliad annibynnol. Fe ddylai hwnnw ddigwydd ar yr amser priodol, a dyma'r egwyddorion allweddol a ddylai fod yn ein tywys ni wrth ei sefydlu: bydd ymchwiliad yn fwyaf effeithiol o ran deall y digwyddiadau a'r camau a gymerwyd, pe bai'n cynnwys holl weinyddiaethau'r DU. Mae'r pandemig hwn wedi effeithio ar bob rhan o'r DU, a gwnaed llawer o benderfyniadau ledled y pedair gwlad. Mae llawer o'r ymateb i'r pandemig wedi ei reoli, a hynny'n briodol, ar lefel y DU, ac mae wedi cynnwys nifer o bobl eraill ynghyd â Llywodraethau. Felly mae'n bwysig inni gael dull cydgysylltiedig o ymdrin â'r ymchwiliad, gan Lywodraeth y DU, gan y Llywodraethau datganoledig ac eraill. Fe fyddem ni'n gobeithio y gellid cyflawni hynny, ond os na, fe fyddem ni'n amlwg yn bodloni ar ymchwiliad sy'n gyfyngedig i ddigwyddiadau a chamau gweithredu yng Nghymru. Ac, wrth gwrs, bydd y Senedd yn parhau i graffu ar Lywodraeth Cymru a'i chamau gweithredu parhaus i fynd i'r afael â'r argyfwng, fel y gwnaeth heddiw, ac rwy'n gwybod y bydd yr Aelodau'n deall pam nad wyf yn bwriadu rhoi sylw i bob un o'r pwyntiau penodol a wnaed am y camau a gymerwyd yn ystod y ddadl. Fe ddylid cytuno ar arweinyddiaeth yr ymchwiliad rhwng holl weinyddiaethau'r DU. Ni ddylai gael ei orfodi ar, na chan, neb ohonom ni. Rydym yn cytuno y dylai'r ymchwiliad fod yn un annibynnol. Rwy'n awyddus i fod yn glir nad ydym ni'n gwrthwynebu, o ran egwyddor, unrhyw ymchwiliad wedi ei lywio gan farnwr, ond mae hynny'n gofyn am drafodaethau gydag eraill ac mae'n dod gydag ambell i gyfyngiad yn ei sgil. Mae rhai pleidiau wedi galw am gael epidemiolegydd i lywio unrhyw ymchwiliad yn y dyfodol, ac mae hwn yn fater i'w ystyried yn ystod y misoedd nesaf. Bydd yr unigolyn a ddewisir i arwain yr ymchwiliad yn awyddus iawn i fod â rhan yn y gwaith o bennu'r telerau. Fe ddylai'r rhain ystyried Llywodraeth ond agweddau eraill hefyd, fel bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i'r ymateb yn ei gyfanrwydd. Bydd angen i'r ymchwiliad barchu cymhwysedd datganoledig y Senedd hon a phob rhan o'r DU. Fe ddylai ddechrau, adrodd a dod i gasgliad yn yr amserau y gall ymgymryd â'i waith o ymchwilio a chraffu yn y ffordd fwyaf effeithiol. Ni ddylem geisio rhagbennu heddiw pryd y gallai hynny fod. Yn hanfodol i fater amseru fydd yr angen i ystyried y broses barhaus o reoli argyfwng. Wrth i'r haf droi'n aeaf, mae'n bosibl iawn y byddwn ni'n ymdrin â phenllanw arall a phwysau eraill oherwydd y gaeaf, ac rwy'n gwybod y bydd yr Aelodau yn cytuno y bydd angen i'r rhai sy'n gweithio ar y rheng flaen, wrth gwrs, allu gwneud eu gwaith heb gael eu llesteirio gan bwysau eraill. Yn yr un modd, fe fydd yr ymchwiliad yn haeddu'r sylw llawnaf gan y rhai sy'n rhoi tystiolaeth iddo, ac rwy'n rhagweld y bydd y sawl sy'n arwain yr ymchwiliad yn dymuno ystyried dull gweithredu sy'n caniatáu hynny. Gan droi'n fyr at y cynnig gwreiddiol, rwyf wedi nodi'r egwyddorion, yn ein barn ni, a ddylai dywys y broses o sefydlu ymchwiliad. Mae ein gwelliannau ninnau'n gyson â'r rhain, ac rwy'n gwahodd yr Aelodau i'w cefnogi nhw. Er ein bod ni'n cytuno â diben y gwelliannau yn enw Siân Gwenllian, mae'n amhosibl i'r Llywodraeth eu cefnogi heddiw, gan eu bod nhw'n pennu amserau ar gyfer adroddiad yr ymchwiliad a phenodi'r arweinyddiaeth, ac mae'n rhy gynnar i fod mor gyfarwyddol. Mae'n rhaid inni geisio cytuno yn gyntaf ar ddull sy'n cynnwys y DU gyfan a rhoi arweiniad wedyn i'r ymchwiliad annibynnol maes o law. Janet Finch-Saunders i ymateb i'r ddadl. Janet Finch-Saunders AC: Diolch, Llywydd. Mae cost enfawr i'r pandemig yng Nghymru. Mae dwy fil, un cant a dau ddeg dau o unigolion wedi colli eu bywydau hyd yn hyn, yn anffodus, ac mae'r sefyllfa ymhell o fod dan reolaeth, neu wedi ei ffrwyno hyd yn oed. Nid oes angen i neb edrych ymhellach nag yma yn y Gogledd, sydd ag 635.7 o achosion i bob 100,000 o'r boblogaeth, gyda llawer mwy o brofion yn angenrheidiol. Mae etholwyr gyda phob rheswm yn amau a yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud popeth sy'n bosibl i'w cefnogi nhw. Ydym, rydym yn wynebu amgylchiadau na welwyd eu tebyg o'r blaen, ond mewn democratiaeth wirioneddol ac iach, mae'n rhaid i'r mesurau a gymerir gan y Llywodraeth hon fod yn agored i dryloywder a chraffu. Mae hynny'n amlwg o wrando ar rai o'r cyfraniadau i'r ddadl bwysig hon. Angela Burns—diffyg cyfarpar diogelu personol, methiant i ddiogelu'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cartrefi gofal ni, trefn brofi afreolus, diffyg casglu data. Russ George ar y problemau sy'n wynebu ein busnesau ni gyda negeseuon cymysglyd, dryswch ynghylch cymorth ariannol a'r difrod enfawr i'n heconomi leol. Mae'r profi wedi bod yn annibendod ac mae'n parhau i fod felly. Er gwaethaf targedau'r Llywodraeth ei hunan o 5,000 a 9,000 o brofion y dydd, dim ond 2,492 yr ydym ni'n llwyddo i'w cwblhau; oedi difrifol wrth brofi ein preswylwyr mewn cartrefi gofal sy'n symptomatig a'r rhai sy'n dychwelyd o'r ysbyty i gartrefi gofal, gyda gweithwyr cartref gofal sy'n symptomatig yn achosi risg enfawr; ac yna sgandal y cyhoeddiad ynglŷn â phrofi cyffredinol ar gyfer cartrefi gofal a wnaed ddim ond ar 16 Mai, a hynny er gwaethaf llawer o alwadau amlwg, gennym ni hyd yn oed, fod angen i hyn ddigwydd yn gynt er mwyn diogelu'r rhai sydd fwyaf agored i niwed. Yn anffodus, maen nhw wedi cael eu siomi. Torrodd un o'm hetholwyr i, a oedd yn 94 oed, ei chlun wrth syrthio a mynd i mewn i Ysbyty Glan Clwyd, lle daliodd hi'r COVID-19 ac fe gollodd hi'r dydd wedi hynny. Roedd eraill dan bwysau i lofnodi ffurflenni 'peidiwch ag adfywio'. Roedd elusennau canser yn pryderu nad yw Cymru yn agor canolfannau canser sy'n rhydd o COVID-19, fel sy'n digwydd yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Anfonwyd tair mil ar ddeg o lythyrau i'r unigolion a warchodir sydd fwyaf agored i niwed i'r cyfeiriadau anghywir. Cyhoeddiadau camarweiniol gan Lywodraeth Cymru: £40 miliwn ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion ar 17 Ebrill—y gwirionedd: nid yw hyn ond yn ymwneud â gofal cymdeithasol i oedolion a gomisiynir gan yr awdurdod lleol yn unig. A £500 o fonws i staff gofal a gyhoeddwyd ar 1 Mai—y gwirionedd: ni fydd pawb sy'n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol yn cael y bonws hwn, ac fe fydd y rhai sy'n ei gael yn ei weld yn lleihau drwy drethiant a'i effaith ar fudd-daliadau, am nad oedd Llywodraeth Cymru wedi gwneud ei gwaith cartref yn hyn o beth cyn ei gyhoeddi. Cyhoeddiad ar 6 Mai o £26 miliwn i gefnogi ein helusennau bach—mae ansicrwydd mawr o hyd ynghylch sut y bydd hyn yn cael ei ddyrannu ac i bwy. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gyfrifol am anfon negeseuon cymysg ynglŷn ag addysg, hunanynysu a chymorth i fusnesau. Rwyf am bwysleisio y byddwn ni'n gwrthod y gwelliant gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd. Mae ei gwelliant a'i hawgrymiadau i hepgor 'A benodir gan Lywodraeth Cymru ac a arweinir gan farnwr' yn dweud y cwbl ac yn arwydd o ymgais i gilio'n llwyr oddi wrth graffu a her annibynnol. Mae'r awydd i ddileu'r targed gwirioneddol a bennwyd yn dangos anallu llwyr i dderbyn cael eu barnu. Yn rhy aml yn y Senedd hon, yn fy amser i'n Aelod yma, dros y naw mlynedd diwethaf, mae ymchwiliadau difrifol wedi cael eu comisiynu cyn hyn, ond ni chawsant erioed eu cwblhau. Yn awr, gydag argyfwng byd-eang fel hwn, sy'n gofyn am arweiniad cryf a thryloyw gan y Llywodraeth hon yng Nghymru, yr unig ffordd o geisio'r gwirionedd a chael atebion gonest yw dim llai nag ymchwiliad annibynnol, a benodir gan y Senedd, ac a arweinir gan farnwr, ac mae'n rhaid i hwn, iddo fod yn deg, gael ei gyflwyno cyn yr etholiadau i'r Senedd fis Mai nesaf. Fel y dywedwyd yn gynharach yn y ddadl hon, mae'r rhai sydd, yn anffodus, wedi colli eu bywydau, a'u teuluoedd nhw, y rhai sydd wedi gweithio'n galed ym meysydd gofal cymdeithasol a'r GIG a gwasanaethau eraill ledled Cymru—maen nhw'n haeddu hynny. Yn y pen draw, bydd ymchwiliad annibynnol yn cynnig y tryloywder yr ydym ni i gyd yn ei geisio, ac rwy'n gofyn ac yn ymbil ar Lywodraeth Lafur Cymru i beidio ag osgoi'r cyfrifoldeb mwyaf sydd ganddyn nhw, sef rhoi cyfle i graffu a herio hyd yr eithaf. Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes yna wrthwynebiad? A oes yna wrthwynebiad i gytuno ar y cynnig heb ei ddiwygio? [Gwrthwynebiad.] Oes, rwy'n credu y gallaf i weld gwrthwynebiad—neu ei glywed, beth bynnag. Nid oeddwn i'n gallu gweld yn hollol pwy oedd yn gwrthwynebu. Ond rwy'n clywed gwrthwynebiad, ac felly fe fyddwn ni'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio, sy'n dod nawr. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. 9. Cyfnod Pleidleisio Felly, fe wnawn ni gynnal y pleidleisiau nawr. Fel y nodir ar yr agenda, cynhelir y pleidleisiau heddiw yn unol â Rheol Sefydlog 34.11. Caiff pob grŵp gwleidyddol enwebu un Aelod o'r grŵp i fod â'r un nifer o bleidleisiau ag sydd o Aelodau'r grŵp. Yn achos grŵp gwleidyddol sydd â rôl weithredol, bydd gan yr enwebydd yr un nifer o bleidleisiau ag sydd o Aelodau'r grŵp hwnnw, ynghyd ag unrhyw Aelodau eraill o'r Llywodraeth. Bydd Aelodau nad ydynt yn perthyn i grŵp neu grwpiad yn pleidleisio drostynt eu hunain. Byddaf yn cynnal y bleidlais drwy alw'r gofrestr. Felly, mae'r bleidlais gyntaf ar y Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020. Felly, y bleidlais gyntaf ar y rheoliadau hynny. Ar ran y grŵp Llafur a'r Llywodraeth, Jayne Bryant, sut ydych chi'n bwrw'ch 30 pleidlais? Jayne Bryant AC: O blaid. Ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, sut ydych chi'n bwrw'ch 11 pleidlais? Darren Millar AC: Ymatal. Ar ran Plaid Cymru, Siân Gwenllian, sut ydych chi'n bwrw'ch naw pleidlais? Siân Gwenllian AC: O blaid. O blaid. Ar ran Plaid Brexit, Mark Reckless, sut ydych chi'n bwrw'ch pedair pleidlais? Mark Reckless AC: O blaid. Gareth Bennett. Gareth Bennett AC: O blaid. Neil McEvoy. Neil McEvoy AC: O blaid. Canlyniad, felly, y bleidlais yw bod 45 o blaid, 11 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn. Cynhaliwyd y bleidlais ar NDM7327 yn unol â Rheol Sefydlog 34.11. Jayne Bryant ar ran Grŵp Llafur a’r Llywodraeth: O blaid (30) Darren Millar ar ran Grŵp y Ceidwadwyr: Yn Ymatal (11) Siân Gwenllian ar ran Grŵp Plaid Cymru: O blaid (9) Mark Reckless ar ran Grŵp Plaid Brexit: O blaid (4) Gareth Bennett – Annibynnol: O blaid Neil McEvoy - Annibynnol: O blaid Derbyniwyd y cynnig. Y bleidlais nesaf yw'r bleidlais ar ddadl y Ceidwadwyr ar ymchwiliad annibynnol i COVID-19. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Ar ran y grŵp Llafur a'r Llywodraeth, Jayne Bryant, sut ydych chi'n bwrw'ch 30 pleidlais? Jayne Bryant AC: Yn erbyn. Ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, sut ydych chi'n bwrw'ch 11 pleidlais? Darren Millar AC: O blaid. Ar ran Plaid Cymru, Siân Gwenllian, sut ydych chi'n bwrw'ch naw pleidlais? Siân Gwenllian AC: Yn erbyn. Mark Reckless, sut ydych chi'n bwrw'ch pedair pleidlais dros Blaid Brexit? Mark Reckless AC: O blaid. Gareth Bennett. Gareth Bennett AC: O blaid. Neil McEvoy. Neil McEvoy AC: O blaid. Canlyniad y bleidlais yna, ar y cynnig heb ei ddiwygio, yw bod 17 o blaid, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod. Cynhaliwyd y bleidlais ar NDM7328 yn unol â Rheol Sefydlog 34.11. Jayne Bryant ar ran Grŵp Llafur a’r Llywodraeth: Yn erbyn (30) Darren Millar ar ran Grŵp y Ceidwadwyr: O blaid (11) Siân Gwenllian ar ran Grŵp Plaid Cymru: Yn erbyn (9) Mark Reckless ar ran Grŵp Plaid Brexit: O blaid (4) Gareth Bennett – Annibynnol: O blaid Neil McEvoy - Annibynnol: O blaid Gwrthodwyd y cynnig. Symud felly i bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Grŵp Llafur a'r Llywodraeth, Jayne Bryant, sut ydych chi'n bwrw'ch 30 pleidlais? Jayne Bryant AC: O blaid. Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, sut ydych chi'n bwrw'ch 11 pleidlais? Darren Millar AC: Yn erbyn. Plaid Cymru, Siân Gwenllian, sut ydych chi'n bwrw'ch naw pleidlais? Siân Gwenllian AC: Yn erbyn. Mark Reckless, Plaid Brexit, sut ydych chi'n bwrw'r pedair pleidlais? Mark Reckless AC: Yn erbyn. Gareth Bennett. Gareth Bennett AC: Yn erbyn. Neil McEvoy. Neil McEvoy AC: Yn erbyn. Y canlyniad, felly, i'r bleidlais ar welliant 1 yw bod 30 o blaid, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi ei dderbyn. Cynhaliwyd y bleidlais ar welliant 1 i NDM7238 yn unol â Rheol Sefydlog 34.11. Jayne Bryant ar ran Grŵp Llafur a’r Llywodraeth: O blaid (30) Darren Millar ar ran Grŵp y Ceidwadwyr: Yn erbyn (11) Siân Gwenllian ar ran Grŵp Plaid Cymru: Yn erbyn (9) Mark Reckless ar ran Grŵp Plaid Brexit: Yn erbyn (4) Gareth Bennett – Annibynnol: Yn erbyn Neil McEvoy - Annibynnol: Yn erbyn Derbyniwyd y gwelliant. Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 2, ac os caiff gwelliant 2 ei dderbyn, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol. Dwi'n galw am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Ar ran grŵp Llafur a'r Llywodraeth, Jayne Bryant, sut ydych chi'n bwrw'ch 30 pleidlais? Jayne Bryant AC: O blaid. Y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, eich 11 pleidlais. Darren Millar AC: Yn erbyn. Plaid Cymru, Siân Gwenllian, sut ydych chi'n bwrw'ch naw pleidlais? Siân Gwenllian AC: Yn erbyn. Mark Reckless, Plaid Brexit, sut ydych chi'n bwrw'ch pedair pleidlais? Mark Reckless AC: Ymatal. Gareth Bennett. Gareth Bennett AC: Yn erbyn. Neil McEvoy. Neil McEvoy AC: Yn erbyn. Canlyniad y bleidlais yna yw: o blaid 30, pedwar yn ymatal, yn erbyn 22. Ac felly, mae gwelliant 2 wedi ei dderbyn. Mae gwelliant 3 felly yn cael ei ddad-ddethol. Cynhaliwyd y bleidlais ar welliant 2 i NDM7238 yn unol â Rheol Sefydlog 34.11. Jayne Bryant ar ran Grŵp Llafur a’r Llywodraeth: O blaid (30) Darren Millar ar ran Grŵp y Ceidwadwyr: Yn erbyn (11) Siân Gwenllian ar ran Grŵp Plaid Cymru: Yn erbyn (9) Mark Reckless ar ran Grŵp Plaid Brexit: Ymatal (4) Gareth Bennett – Annibynnol: Yn erbyn Neil McEvoy - Annibynnol: Yn erbyn Derbyniwyd y gwelliant. Cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 4, sydd wedi ei gyflwyno yn enw Siân Gwenllian. Ar welliant 4,felly, grŵp Llafur a'r Llywodraeth, Jayne Bryant, sut ydych chi'n bwrw'ch 30 pleidlais? Jayne Bryant AC: Yn erbyn. Y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, sut ydych chi'n bwrw'ch 11 pleidlais? Darren Millar AC: O blaid. Siân Gwenllian, ar ran Plaid Cymru, sut ydych chi'n bwrw'ch naw pleidlais? Siân Gwenllian AC: O blaid. Mark Reckless, Plaid Brexit, sut ydych chi'n bwrw'ch pedair pleidlais? Mark Reckless AC: Yn erbyn. Gareth Bennett. Gareth Bennett AC: Yn erbyn. Neil McEvoy. Neil McEvoy AC: O blaid. Mae'r bleidlais yna wedi'i chwblhau a'r canlyniad yw bod 21 o blaid, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Ac felly, nid yw gwelliant 4 wedi ei dderbyn. Cynhaliwyd y bleidlais ar welliant 4 i NDM7238 yn unol â Rheol Sefydlog 34.11. Jayne Bryant ar ran Grŵp Llafur a’r Llywodraeth: Yn erbyn (30) Darren Millar ar ran Grŵp y Ceidwadwyr: O blaid (11) Siân Gwenllian ar ran Grŵp Plaid Cymru: O blaid (9) Mark Reckless ar ran Grŵp Plaid Brexit: Yn erbyn (4) Gareth Bennett – Annibynnol: Yn erbyn Neil McEvoy - Annibynnol: O blaid Gwrthodwyd y gwelliant. Dwi'n galw nawr, felly, am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd. Cynnig NDM7238 fel y'i diwygiwyd: Cynnig bod y Senedd: Yn galw am ymchwiliad annibynnol i'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â'r pandemig Covid-19, i'w gychwyn ar ddyddiad priodol, pan fydd y pandemig o dan reolaeth. Ac felly, ar ran y grŵp Llafur a'r Llywodraeth, Jayne Bryant, sut ydych chi'n bwrw'ch 30 pleidlais? Jayne Bryant AC: O blaid. Y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, sut ydych chi'n bwrw'ch 11 pleidlais? Darren Millar AC: Yn erbyn. A Phlaid Cymru, Siân Gwenllian, sut ydych chi'n bwrw'r naw pleidlais? Siân Gwenllian AC: O blaid. Plaid Brexit, Mark Reckless, sut ydych chi'n bwrw'r pedair pleidlais? Mark Reckless AC: Ymatal. Gareth Bennett. Gareth Bennett AC: O blaid. Neil McEvoy. Neil McEvoy AC: Ymatal. Canlyniad y bleidlais ar y cynnig wedi'i ddiwygio, felly, yw bod 40 0 blaid, fod neb yn ymatal, fod 11 yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi ei dderbyn. A dyna ni'n dod at ddiwedd ein canlyniad—[Torri ar draws.] Ie, Mark Isherwood. Nid 'Isherwood', rwy'n ymddiheuro. Mark Reckless. Mark Reckless AC: Fe wnaethom ni ymatal yn y bleidlais honno. Rwyf ychydig yn ansicr o ran sut y cafodd hynny ei grynhoi. Ie, iawn. Os wnes i ei ddarllen yn anghywir yn fy mrys i ddirwyn materion i ben, rwy'n ymddiheuro. Gadewch imi ailddarllen y bleidlais, ac mae'n darllen bod 40 o blaid, pump wedi atal eu pleidlais, ac 11 yn erbyn. A chan hynny, derbyniwyd y cynnig. Rwy'n ymddiheuro os wnes i ei ddarllen yn anghywir gynnau. Cynhaliwyd y bleidlais ar NDM7238 fel y'i diwygiwyd yn unol â Rheol Sefydlog 34.11. Jayne Bryant ar ran Grŵp Llafur a’r Llywodraeth: O blaid (30) Darren Millar ar ran Grŵp y Ceidwadwyr: Yn erbyn (11) Siân Gwenllian ar ran Grŵp Plaid Cymru: O blaid (9) Mark Reckless ar ran Grŵp Plaid Brexit: Ymatal (4) Gareth Bennett – Annibynnol: O blaid Neil McEvoy - Annibynnol: Ymatal Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd. Felly, diolch i bawb am eich cyfraniad i'r cyfarfod yma o'r Senedd heddiw, a phob dymuniad da i chi. Rŷm ni'n dod â'r cyfarfod i ben. Daeth y cyfarfod i ben am 18:00.
uk-hansard-senedd-cy
senedd2020-06-03
2024-06-01T00:00:00
{ "year": "2020", "language": "cy", "license": "Open Parliament Licence - https://www.parliament.uk/site-information/copyright-parliament/open-parliament-licence/" }
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn hwn. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Janet Finch-Saunders. Diogelwch Adeiladau Janet Finch-Saunders AC: 1. A wnaiff y Prif Weinidog gyflymu'r broses o gyflwyno deddfwriaeth ar ddiogelwch adeiladau yng Nghymru? OQ58574 Mark Drakeford AC: Llywydd, mae'r gwaith o ddiwygio deddfwriaeth diogelwch adeiladau eisoes wedi cychwyn ar ei daith drwy gymalau Cymru yn Neddf Diogelwch Adeiladau 2022. Ar hyn o bryd, mae ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar newidiadau deddfwriaethol ychwanegol, ac mae deddfwriaeth sylfaenol yn y maes hwn wedi'i chynllunio ar gyfer tymor y Senedd hon. Janet Finch-Saunders AC: Diolch. Cwrddais â'r Welsh Cladiators yn ddiweddar, ac maen nhw'n teimlo'n anobeithiol iawn ynghylch yr hyn y maen nhw'n ei ystyried yn ddiffyg cynnydd yma yng Nghymru. Wrth gwrs, Prif Weinidog, fe fyddwch chi'n gwybod bod tua 163 o adeiladau ledled Cymru lle mae trigolion yn dal i fyw mewn ofn. Nawr, rwy'n gwerthfawrogi bod £375 miliwn wedi'i ddarparu i fynd i'r afael â rhai agweddau ar ddiogelwch adeiladau, ond mae rhai cwmnïau rheoli lesddaliadau yn atebol i dalu am y gwaith hwn ar hyn o bryd. Nawr, mae'n debyg, bod hyn yn gwbl groes i bolisi Llywodraeth Cymru. Ym mis Ebrill, cafodd Deddf Diogelwch Adeiladau Llywodraeth y DU Gydsyniad Brenhinol, ac, er enghraifft, mae adran 122 ac Atodlen 8 yn cynnwys amddiffyniadau i denantiaid mewn cysylltiad â chostau sy'n gysylltiedig â diffygion perthnasol ac yn gosod rhwymedigaethau ar landlordiaid. Nid yw amddiffyniadau lesddeiliaid o'r fath ar gael yng Nghymru am nad ydym wedi pasio Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru). Felly, a wnewch chi ganiatáu'r un amddiffyniadau i lesddeiliaid—yn amlwg, pan fydd unrhyw ddeddfwriaeth yn cael ei chyflwyno—ag sydd ganddynt yn Lloegr, drwy efelychu adrannau 116 i 125 o'r Ddeddf Diogelwch Adeiladau? Diolch. Mark Drakeford AC: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Bydd hi'n gwybod bod Deddf Diogelwch Adeiladau 2020 eisoes yn cynnwys sawl darpariaeth i ychwanegu at amddiffyniadau lesddeiliaid yma yng Nghymru. Felly, roeddem yn gallu sicrhau'r amddiffyniadau ychwanegol hynny drwy Ddeddf 2022. Cyflwynodd Llywodraeth y DU gyfres gyfan o welliannau hwyr iawn i'r Ddeddf—i'r Bil, fel yr oedd bryd hynny—nad oeddem yn gallu manteisio arnyn nhw, er gwaethaf ymdrechion sylweddol iawn gan y Gweinidog dan sylw i gael pwerau Cymreig yn y meysydd ychwanegol hynny. Golyga hyn y byddwn, pan gyflwynir ein deddfwriaeth ni ein hunain, yn ceisio sicrhau bod gennym ni'r system honno sydd ei hangen arnom ar waith ar gyfer diogelwch adeiladau yma yng Nghymru. Mae'n bwysig, Llywydd, i wahanu dau fater. Mae yna bethau yr ydym yn eu gwneud yma a nawr i bobl a effeithiwyd eisoes yn yr adeiladau uchel hynny. Roedd Janet Finch-Saunders yn hollol gywir, Llywydd, i gyfeirio at y £275 miliwn a neilltuwyd i helpu pobl o dan yr amgylchiadau hynny. Bydd yr Aelodau yma yn gwybod ein bod ni wedi gofyn am ddatganiadau o ddiddordeb gan bobl a oedd eisiau i'r arolygon gael eu cynnal fel y gallem ni nodi'r ffordd orau y gellid darparu'r cymorth hwnnw. Roedd 261 o ddatganiadau o ddiddordeb, ac mae 163 o'r rheiny yn gofyn am arolygon mwy dwys er mwyn nodi lle mae'r namau. Rwy'n falch o allu dweud ein bod yn disgwyl i bob arolwg brys nawr gael ei gwblhau o fewn y pythefnos nesaf, ar yr amod bod gennym ni fynediad i'r adeiladau hynny. Ac un o'r rhesymau pam y bu oedi cyn cael rhai o'r arolygon ychwanegol, mwy ymwthiol hynny wedi'u cwblhau, yw oherwydd ein bod wedi profi anawsterau o ran caniatáu i syrfewyr gael mynediad i'r adeiladau er mwyn i'r gwaith hwnnw gael ei wneud. Rydym yn disgwyl, ym mhob achos brys y gellir datrys hynny o fewn y pythefnos nesaf, ac yna byddwn yn symud ymlaen i gwblhau'r arolygon yn yr adeiladau hynny lle mae'r materion yn cael eu hystyried yn llai difrifol ar hyn o bryd. Ac yna, yn y ddeddfwriaeth y byddwn ni'n ei chyflwyno o flaen y Senedd, byddwn ni'n creu trefn ar gyfer y dyfodol gyda llinellau clir o atebolrwydd, rheoleiddio cryfach a mwy cydlynol, a threfn gorfodi a sancsiynau sy'n gwneud yn siŵr, yn y dyfodol, bod y rhai sy'n gyfrifol am y broblem hefyd yn ysgwyddo costau unioni pethau. Rhys ab Owen AS: Brif Weinidog, mae'r gallu gan y Senedd hon i basio deddfwriaeth frys a deddfwriaeth trwy weithdrefnau carlam. Enghraifft o'r ddeddfwriaeth frys oedd Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014, a gweithdrefnau carlam i'r Bil plastig untro. Y ddadl a ddefnyddiwyd dros ddefnyddio proses y legislative consent motion ar gyfer diogelwch adeiladau oedd ei bod hi'n gynt na deddfu yma yn y Senedd. Ond, serch hynny, dros bum mlynedd a hanner ers Grenfell, mae nifer o bobl, sy'n byw nid nepell o'r lle hwn, yn dal i fyw mewn ofn yn eu cartrefi. Pam, felly, dyw'r Llywodraeth yma ddim yn defnyddio'r prosesau sydd gan y Senedd hon er mwyn dod â'r hunllef yma i ben i filoedd ar filoedd o bobl? Mark Drakeford AC: Llywydd, mae'n bwysig, fel esboniais i, i gadw'r ddau beth ar wahân. Pan fyddwn ni'n siarad am ddeddfu, dydyn ni ddim yn siarad am beth rŷn ni'n ei wneud i bobl sydd yn y sefyllfa bresennol; rydym yn ymateb i hwnna drwy'r arian rŷn ni wedi ei roi ar y bwrdd a'r system sydd yn mynd ymlaen nawr. Dydy hwnna ddim yn dibynnu ar newid y gyfraith. Rŷn ni'n newid y gyfraith ar gyfer y dyfodol, i greu system newydd i helpu pobl i osgoi'r problemau mae rhai pobl yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Rŷn ni wedi cymryd pwerau, fe dywedais i. Dwi'n gwybod bod Plaid Cymru yn gwrthwynebu bob tro rŷn ni'n gwneud hynny. So rŷn ni wedi tynnu pwerau i Gymru, pan oedd cyfle i wneud e. Rŷn ni'n mynd i ddeddfu yn y tymor hwn, ac, yn y cyfamser, i bobl sy'n dioddef heddiw, achos problemau sydd wedi codi yn barod, rŷn ni'n delio gyda hwnna gyda'r arian a gyda'r gwaith sydd ar y gweill ar hyn o bryd. Y Marchnadoedd Ariannol Ken Skates AC: 2. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r effaith y mae'r helbul diweddar yn y marchnadoedd ariannol yn ei chael ar Gymru? OQ58590 Mark Drakeford AC: Llywydd, diolch i Ken Skates am y cwestiwn yna. Mae'r aflonyddwch diweddar ym marchnadoedd ariannol y DU, a datganiad cyllidol Llywodraeth y DU yn gatalydd, wedi cynyddu cost benthyca i'r Llywodraeth, busnesau a dinasyddion cyffredin. Bydd yn niweidio twf, yn gwaethygu'r cyllid cyhoeddus ac yn gwneud bywyd yn anoddach i fenthycwyr, gan gynnwys prynwyr tai. Ken Skates AC: Diolch. Wrth gwrs, mae'r pedwerydd Canghellor, yn yr un faint o fisoedd, bellach wedi claddu Trussonomics ac wedi gwneud tro pedol o ran y gyllideb fach gyfan fwy neu lai, ond, fel yr amlinelloch chi, bydd effeithiau llywio'r economi fel car bympar yn arwain at ganlyniadau dinistriol: trethi uwch, chwyddiant uwch, cyfraddau morgais uchel. Ydy hi'n deg bod pobl Cymru a phobl y DU yn cael eu trin fel testun arbrawf gan y Ceidwadwyr? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, wrth gwrs, nid yw'n deg ein bod ni i gyd wedi gorfod dioddef yr arbrawf aflwyddiannus—arbrawf aflwyddiannus a gymerodd lai na mis i ddymchwel o flaen ein llygaid. A'r rheswm y mae'n arbennig o annheg yw bod yr arbrawf wedi ei thynghedu i fethu o'r cychwyn cyntaf. Doedd dim angen dod i gysylltiad â realiti'r marchnadoedd i bobl ddeall hynny. Roedd dull gweithredu economaidd yn seiliedig ar ddamcaniaethau aflwyddiannus economeg o'r brig i lawr, yn dibynnu ar fenthyca heb ei gostio, bob tro yn mynd i fethu. Nawr, yn yr arbrawf aflwyddiannus hwnnw, fel y dywedais i, Llywydd, bydd pobl ar draws y Deyrnas Unedig nawr yn talu'r pris. Rhoddaf un enghraifft yn unig: oherwydd y cynnydd yn y gyfradd forgais yr ydym bellach yn ei gweld o ganlyniad i'r hyn sydd wedi digwydd, erbyn 2024, bydd pobl ar draws y Deyrnas Unedig wedi talu £26 biliwn mewn taliadau llog ychwanegol—£26 biliwn wedi'i dynnu allan o bocedi teuluoedd ledled y Deyrnas Unedig. Nawr, dim ond rhyw ychydig wythnosau yn ôl roedd Prif Weinidog y DU yn ceisio portreadu'r bobl hynny nad oedden nhw'n cytuno â'i syniadau aflwyddiannus fel pobl yn erbyn twf. Doedd hynny erioed, erioed yn wir, wrth gwrs, ond yr hyn sydd bellach yn sicr yw y bydd y dirwasgiad y dywed Banc Lloegr ein bod eisoes ynddo yn ddyfnach ac yn hirach nag y byddai wedi bod fel arall, oherwydd byddai'r £26 biliwn hwnnw, Llywydd, wedi bod ar gael i bobl ei wario mewn siopau, i'w ddefnyddio mewn lletygarwch, i wneud y pethau sy'n cadw'r economi i fynd. Ni fydd y £26 biliwn hwnnw ar ei ben ei hun yno bellach i gefnogi'r economi a'i thyfu ac yma yng Nghymru, yr adeg hon, y flwyddyn nesaf, bydd y person cyffredin â morgais yn talu £2,300 yn fwy y flwyddyn nag y byddai'n ei dalu pe bai cyfraddau llog wedi aros lle yr oedden nhw yn y chwarter presennol. Dyna faint yr arbrawf aflwyddiannus, a dim ond un enghraifft yw honno. Joel James MS: Fel y mae'r Prif Weinidog yn ymwybodol ohono, mae buddsoddiadau ar sail rhwymedigaeth yn defnyddio'r ecwiti mewn cronfeydd pensiwn i fenthyg arian. Yna, defnyddir yr arian hwn a fenthycwyd i brynu giltiau, sydd yn eu tro yn darparu llog cyfradd sefydlog dros gyfnod penodol. Y risg fawr, fodd bynnag, yw hyn, os bydd cyfraddau llog yn codi'n gyflym ar giltiau, fel sydd wedi digwydd nawr, yna mae'n rhaid i gronfeydd pensiwn gaffael symiau mwy o sicrwydd cyfochrog i dalu am yr arian y maen nhw wedi'i fenthyg, sy'n eu harwain i werthu eu hasedau, gan gynnwys giltiau. Mae hyn yn broblematig pan nad oes prynwr, fel yn yr achos diweddar pan gyhoeddodd yr Unol Daleithiau bod $0.25 triliwn ar werth ychydig dros wythnos yn ôl, ac a ddenodd buddsoddwyr a fyddai fel arfer wedi prynu o farchnad y DU. Fel y cofia'r Prif Weinidog, yn ei gyllideb gyntaf yn 1997, ac er gwaethaf rhybuddion gan y diwydiant pensiwn, tynnodd Gordon Brown gredydau treth difidend pensiwn o gronfeydd pensiwn, ac mae'r canlyniadau'n cael eu teimlo hyd heddiw—[Torri ar draws.] Bydd rhaid i ni wrando mewn rhywfaint o dawelwch, fel y gall y Prif Weinidog glywed y cwestiwn. Joel James MS: Diolch, Llywydd. Effeithiodd hyn yn sylweddol ar gyllid llawer o gronfeydd pensiwn ac yn y pen draw mae wedi arwain at y defnydd gor-ddibynnol o fuddsoddi ar sail rhwymedigaeth gan gynlluniau pensiwn mewn anobaith yn ceisio gwneud iawn am y diffygion y maen nhw wedi'u dioddef yn barhaus ers hynny. Mewn ymgais wyllt i godi refeniw, mae gwaddol ariannol Llywodraeth Lafur ddiwethaf y DU wedi gweld cronfeydd pensiwn yn ceisio benthyca gyda mwy a mwy o risg—[Torri ar draws.] Gadewch i'r Aelod ddod at ei gwestiwn, ac rwy'n siŵr y bydd e' yn gyflym iawn, iawn. Joel James MS: Byddaf, y frawddeg olaf, Llywydd—strategaethau benthyca mwy peryglus, rhai ohonyn nhw gyda throsoledd cyllidol hyd at bedair gwaith y sicrwydd cyfochrog sydd ganddyn nhw. Prif Weinidog, yn sgil y polisi Llafur trychinebus hwn sy'n dal i achosi sgil effeithiau hyd heddiw, pa asesiad ariannol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ddiogelwch cronfeydd pensiwn yng Nghymru sy'n defnyddio buddsoddiadau ar sail rhwymedigaeth? Diolch. Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, roedd yr Aelod yn haeddu gwell oddi wrth Aelodau blaenaf ei grŵp a ddylai fod wedi ei gynghori, cyn iddo sefyll, i beidio â chynnig cyfraniad o'r math yna ar lawr y Senedd. 'Bai Gordon Brown ac Unol Daleithiau America yw'r cyfan.' Wel, hyd yn oed mewn wythnos pan gynigwyd yr esboniadau mwyaf anghyffredin, dydw i ddim yn credu bod unrhyw un wedi ceisio dwyn perswâdarnom ni i gredu hynny. Diolch i'r Aelod am esbonio'r ffordd y mae'r farchnad gilt yn gweithio a'r effaith ar rwymedigaethau pensiwn. Rwy'n credu fy mod i wedi deall eisoes os oes gennych chi farchnad lle nad oes neb yn barod i brynu ynddi, yna mae gwerth y nwyddau yr ydych chi'n ceisio eu gwerthu yn anochel yn gostwng, a phan fydd hynny'n digwydd, mae'r person sy'n cael ei orfodi i werthu yn wynebu sefyllfa lom iawn. Dyna pam y gorfodwyd Banc Lloegr, wrth gwrs, i ymyrryd, gwario biliynau a biliynau yn fwy y bydd yn rhaid i ni nawr dalu amdano yn y dyfodol. Nid oedd gan y catalydd ar gyfer hynny ddim byd i'w wneud â'r hyn a ddywedodd Gordon Brown ym 1997, nac ychwaith â'r camau gweithredu a gymerwyd yn yr Unol Daleithiau. Dyma ganlyniad uniongyrchol a rhagweladwy gweithred ddi-hid Canghellor y Trysorlys ar y pryd a'r sawl a'i ddiswyddodd am gytuno â hi bryd hynny. Delyth Jewell AC: Roedd y fasged 'i mewn' ar y ddesg y mae Prif Weinidog y DU bellach yn cuddio oddi tani yn llawn i'r ymylon, ond yn hytrach na wynebu'r heriau economaidd gyda difrifoldeb, gwnaeth Truss ffafrio'r ffantasi o economeg o'r brig i lawr gyda thoriadau treth ar gyfer y cyfoethog. Mae hi wedi cael ei gorfodi i wyrdroi bron pob mesur, ond mae'r niwed i'r economi yma i aros. O ganlyniad uniongyrchol, fel rydym ni wedi clywed, mae fy etholwyr i'n wynebu biliau morgais yn codi'n sydyn, biliau ynni dirfawr o fis Ebrill a chyni pellach. Prif Weinidog, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud na all amddiffyn pobl a gwasanaethau rhag holl rym gweithredoedd Llywodraeth y DU. Rwy'n deall hynny, ond hoffai nifer o fy etholwyr wybod pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i geisio eu diogelu dros y misoedd nesaf. Gan dybio y bydd naill ai Prif Weinidog y DU mewn enw'n unig neu'r Prif Weinidog go iawn, Jeremy Hunt, yn penderfynu cysylltu â chi yn y pen draw, pa neges fyddwch chi'n ei rhoi iddyn nhw, Prif Weinidog, ar ran pobl Cymru? Mark Drakeford AC: Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig, ac rwyf eisiau ei ailadrodd eto y prynhawn 'ma, fel y gwnes i wythnos diwethaf, oherwydd mae hwn yn gyfnod hollol ddifrifol ym mywydau dinasyddion yng Nghymru. Mae cyllideb Llywodraeth Cymru eisoes yn werth, o ran pŵer prynu, £600 miliwn yn llai nag yr oedd ym mis Tachwedd y llynedd adeg yr adolygiad gwariant cynhwysfawr, ac mae'r Canghellor wedi dweud nad oes ganddo unrhyw fwriad o gwbl o wneud iawn am yr erydiad hwnnw yn y cyllidebau sydd ar gael i warchod dinasyddion a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. A nawr rydym ni'n gwybod bod toriadau ar ben hynny ar y ffordd. Er y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio pob capasiti sydd gennym ni, pob punt yr ydym yn gallu ei defnyddio, pob partneriaeth yr ydym yn gallu dibynnu arni, i wneud yr hyn y gallwn ni i amddiffyn pobl yng Nghymru rhag effaith y toriadau hynny; bydd terfyn, yn syml, na allwn ni fynd y tu hwnt iddo. A bydd pobl yn gweld yn uniongyrchol ac yn anochel, nid yn unig oherwydd bod eu morgeisi bellach yn costio llawer iawn mwy, nid yn unig oherwydd y bydd yr amddiffyniad ynni a addawyd yr wythnos diwethaf a oedd i bara am ddwy flynedd bellach i bara am chwe mis yn unig, nid yn unig oherwydd y gallai'r budd-daliadau y maen nhw'n dibynnu arnyn nhw gael eu torri tra bod bonysau bancwyr heb unrhyw gyfyngiadau, ond fe fyddan nhw'n ei weld hefyd yn y gwasanaethau yr oedden nhw'n gallu dibynnu arnyn nhw hyd yma na fydd ar gael yn yr un ffordd, os bydd rhaid i ni dorri ein cyllideb ar y raddfa y mae rhai sylwebyddion yn darogan. Llywydd, daeth y toriad mwyaf erioed yr oedd yn rhaid i ni ei wneudmewn un flwyddyn pan oedd George Osborne yn Ganghellor y Trysorlys. Bu'n rhaid i ni dorri 3 y cant o'n cyllideb, ac fe wnaethom ni hynny ar ôl 10 mlynedd pryd yr oedd ein cyllideb wedi tyfu bob un flwyddyn, flwyddyn ar ôl blwyddyn, twf mewn termau real, ac yna roedd yn rhaid i ni dorri 3 y cant. Roedd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, yr wythnos diwethaf, yn dweud y byddai toriad o 15 y cant—15 y cant—mewn gwariant cyhoeddus, a hyn bellach nid ar ôl degawd o dwf, ond ar ôl degawd o gyni hefyd. Ni all neb gymryd arnynt y gall pobl yng Nghymru gael lloches rhag ymosodiad chwyrn hynny, a dyna'r neges y byddaf yn ei chyfleu pryd bynnag y caf y cyfle—fel y gwnaeth fy nghyd-Aelod Rebecca Evans yn ei sgwrs â Phrif Ysgrifennydd diweddaraf y Trysorlys, y chweched un y mae wedi gorfod ymdrin ag ef yn ystod ei chyfnod yn Weinidog cyllid yma yn Llywodraeth Cymru. Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies. Andrew RT Davies AC: Diolch Llywydd. Dros y penwythnos, Prif Weinidog, cafwyd cyfres o achosion pan nad oedd ambiwlansys yn gallu cyrraedd digwyddiadau critigol. Roedd Ben Symons, sy'n 22 oed, yn gorwedd ar gae pêl-droed yng Nghefn Cribwr ag anaf difrifol i'w gefn. Dywedodd ei fam ar y pryd fod yr arhosiad yn warthus, pum awr, a bod y system wedi torri. Ydych chi'n cytuno â'i fam? Mark Drakeford AC: Llywydd, rwy'n cytuno bod gwasanaeth ambiwlans Cymru o dan bwysau enfawr. Fe fydd hi dan fwy o bwysau o lawer pan fydd ei blaid ef wedi gorffen torri cyllideb y gwasanaeth iechyd, fel mae Jeremy Hunt wedi dweud ei fod yn bwriadu gwneud. Ie, gallwch ochneidio a griddfan, ond mae'r cyfrifoldeb yn gorwedd lle mae'n gorwedd, ac mae pobl yn deall hynny hefyd. Ydy, mae'r system o dan bwysau enfawr; rydym ni'n gwybod ei fod o dan bwysau enfawr. Siaradais â rhywun a oedd yn y gêm lle digwyddodd y ddamwain honno, ac fe ddywedon nhw wrthyf, pan gyrhaeddodd gyrrwr yr ambiwlans, ei fod wedi sôn am y galwadau eraill a gafodd eisoes y diwrnod hwnnw, a oedd yn cynnwys nifer o alwadau 999 nad oedd angen ambiwlans o gwbl. Felly, mae'r system dan bwysau aruthrol o ganlyniad i alw dilys a galw a ddylai fod wedi mynd i ran wahanol o'r system. Ond pan fydd yn gofyn ei gwestiwn nesaf i mi, gadewch iddo fyfyrio am eiliad ar beth fydd yn digwydd i wasanaethau ambiwlans yng Nghymru pan fyddwn ni'n wynebu'r toriadau. Toriadau i'r gwasanaeth iechyd: anghredadwy. [Torri ar draws.] Ond toriadau i iechyd—[Torri ar draws.] Edrychwch. Rwy’n gwybod, rwy'n gwybod. Rydych chi'n credu, drwy wneud sŵn mawr eich bod yn tynnu sylw pobl oddi ar eich cyfrifoldeb chi. Credwch chi fi, dydych chi ddim o gwbl. Andrew RT Davies AC: Nid wyf i, yn wahanol i chi, Prif Weinidog, erioed wedi pleidleisio i dorri cyllideb iechyd. Fe wnaethoch chi, Prif Weinidog. Mae eich plaid wedi bod yn rhedeg y gwasanaeth iechyd yma, ac mae'r gwasanaeth ambiwlans yn rhan bwysig ohono, ers 23 o flynyddoedd. [Torri ar draws.] Roedd digwyddiad arall ym Merthyr Tudful, pan gafodd claf ei adael ar y llawr ar ôl aros 15 awr—arhosiad o 15 awr—a dywedodd merch yr unigolyn—a dyfynnaf ei geiriau hi; nid fy ngeiriau i ydyn nhw, ei geiriau hi: 'Yng Nghymru rydym ni fel gwlad y trydydd byd o ran ein gofal iechyd... rwy'n siŵr y byddai Aneurin Bevan yn troi yn ei fedd.' Nid fy ngeiriau i ydyn nhw, ond geiriau rhywun yr oedd ei thad yn rholian ar lawr am 15 awr. Rydych chi wedi bod yn gyfrifol am y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru ers 23 mlynedd. Fe wnaethoch chi bleidleisio i dorri'r gyllideb iechyd yma yng Nghymru. Gallwch daflu eich pen ysgrifennu i lawr, Prif Weinidog, ond chi sy'n gyfrifol. Beth ydych chi'n mynd i'w wneud yn ei gylch? Mark Drakeford AC: Llywydd, rwy'n deall y pwysau sydd ar y Blaid Geidwadol. Rwy'n deall pa mor anodd yw hi i arweinydd yr wrthblaid ddod yma a gofyn cwestiynau heddiw. Ond peidiwch â gadael iddo gredu, drwy weiddi arnaf i, y bydd yn perswadio unrhyw un y tu allan i'r Siambr hon fod ei gyfrifoldeb—dydw i ddim wedi clywed yr un gair ganddo erioed yn dweud ei fod yn cymryd cyfrifoldeb am weithredoedd ei Lywodraeth ef. Beth am glywed hynny ganddo y tro nesaf— Llyr Gruffydd AC: Gwnaeth e gefnogi Liz Truss. Mark Drakeford AC: Do, fe gefnogodd Liz Truss. Rydym ni'n gwybod hynny. Mae e'n rhannol gyfrifol am y llanast yr ydym ni ynddo. Gweiddi arnaf i am y trafferthion sydd yn y gwasanaeth ambiwlans, ac rwy'n cydnabod hynny, ac rydym ni'n gweithio'n galed iawn gyda phobl sy'n gweithio yn y gwasanaeth ambiwlans i gael y gwasanaeth i'r sefyllfa lle mae angen iddo fod. Does dim ateb i hynny drwy weiddi arnaf i fel petai'r holl bethau sy'n iawn yn y ddadl hon yn perthyn iddo ef, rhywbeth yr ydym ni'n sicr yn gwybod nad yw'n wir, ac mae pawb arall ar fai. Rwy'n gwrthbrofi'n llwyr, ar ran y bobl hynny sy'n gweithio mor galed bob dydd yn ein gwasanaeth iechyd yng Nghymru, ei fod yn cael ei ddisgrifio'n gywir yn y ffordd y gwnaeth ef ei ddisgrifio, pwy bynnag y mae'n ei ddyfynnu. Mae ein gwasanaeth iechyd yn gwneud gwyrthiau bob dydd ym mywydau pobl yma yng Nghymru, ac mae'n gwneud hynny oherwydd bod gennym bobl ymroddgar, meddygon, nyrsys ac eraill, a fydd wedi ei glywed yn disgrifio'r gwasanaeth y maen nhw'n ei ddarparu yn y ffordd y gwnaeth ef. Os yw'n credu bod hynny'n helpu o gwbl i wella'r gwasanaeth, i wneud i bobl ddod i mewn a gyrru'r ambiwlansys hynny a staffio'r adrannau damweiniau ac achosion brys hynny, rwy'n dweud wrtho nawr, nid yw'n helpu o gwbl. Andrew RT Davies AC: Prif Weinidog, defnyddiais ddyfyniad uniongyrchol gan ferch Mr Keith Morris. Pwysau yw pan welwch chi rywun yr ydych chi'n ei garu yn rholio ar y llawr mewn poen ac mae'r gwasanaeth yr ydych chi'n chwilio amdano am gymorth yn cymryd 15 awr i gyrraedd. Dyna yw pwysau, Prif Weinidog. Chi yw'r Prif Weinidog, dydych chi ddim wedi dweud unwaith mewn ymateb i fy nau gwestiwn beth yw'r ateb y mae'r Llywodraeth yn ei gynnig i dynnu'r pwysau hwn oddi ar y gwasanaeth ambiwlans a chaniatáu iddyn nhw fwrw ymlaen â'u gwaith, sy'n waith gwych pan fo'n gweithio'n gywir. Nawr, mae hyn yn digwydd dro ar ôl tro. Gallwn fod wedi dyfynnu—[Torri ar draws.] Rwy'n clywed lleisiau ar eu heistedd. Rwy'n derbyn bod pwysau ar draws y Deyrnas Unedig, ond mae'r broblem yma yng Nghymru yn arbennig o acíwt. Yr hyn yr wyf eisiau i'r Siambr ddeall yma yw beth yw'r map ffordd gan Lywodraeth Cymru, wrth i ni fynd ymhellach i mewn i fisoedd y gaeaf, ar gyfer lleddfu'r problemau hyn, fel na fydd Aneurin Bevan yn troi yn ei fedd, a bod gan ein Llywodraeth, sy'n gyfrifol am y gwasanaeth iechyd, ateb i'r problemau y mae Mr Morris a theuluoedd eraill yn eu hwynebu yn ddyddiol. Mark Drakeford AC: Llywydd, presgripsiwn Llywodraeth Cymru yw buddsoddi mwy o arian yn y gwasanaeth ambiwlans, i fod â mwy o staff yn gweithio yn y gwasanaeth ambiwlans, i fod ag ystod ehangach o bobl sy'n gallu darparu'r gwasanaethau hynny ac i ambiwlansys wybod, pan fyddant yn cyrraedd ysbytai, y bydd yr ysbyty mewn sefyllfa i dderbyn y claf hwnnw fel y gall yr ambiwlans fynd yn ôl ar y ffordd eto yn amserol a gofalu am bobl eraill sy'n aros. Dyna bresgripsiwn Llywodraeth Cymru. Beth mae pobl sy'n gweithio yn y gwasanaeth—? Ac fel rwy'n dweud, byddan nhw wedi clywed y ffordd mae'r Aelod wedi disgrifio'r gwasanaeth y maen nhw'n ei ddarparu y prynhawn yma. Beth maen nhw'n ei wynebu? Maen nhw—[Torri ar draws.] Mae e' wedi dewis defnyddio'r iaith honno y prynhawn yma, ni wnaeth—[Torri ar draws.] Ac rydych chi wedi dewis defnyddio'r iaith honno yma y prynhawn 'ma. Beth mae'r bobl hynny'n ei wynebu? Maen nhw'n wynebu toriadau i'w cyflog oherwydd polisi eich Llywodraeth chi, a nawr maen nhw'n wynebu toriadau i'r cyllidebau fydd gan y gwasanaeth iechyd ei hun ar gael iddo. Mae'n frawychus. Mae'n hollol frawychus i mi eich bod chi'n credu y gallwch chi ddod yma y prynhawn yma, gyda'r llanast y mae eich plaid wedi'i wneud ynghylch cyllidebau'r wlad hon, i enw da'r wlad hon ledled y byd, a'ch bod chi'n addo i'r bobl hynny y bydd mwy i ddod—[Torri ar draws.] Ac rydych chi'n meddwl y gallwch chi ddod yma y prynhawn yma a hawlio rhyw fath o fantais foesol. Pa fath o fyd ydych chi'n perthyn iddo? A gawn ni—? [Torri ar draws.] A gawn ni—? A gawn ni oedi am eiliad? Rwy'n deall bod y dadleuon a'r teimladau'n gryf iawn ynghylch y materion hyn a hynny o amrywiaeth o safbwyntiau, rwy'n deall pam y mae rhywfaint o weiddi yn digwydd, ond nid wyf am ganiatáu i neb wneud ystumiau a phwyntio at bobl eraill mewn dicter. A gawn ni gymryd eiliad i dawelu? Rwy'n gobeithio y bydd Adam Price yn cyfrannu at hynny pan fyddaf yn ei alw i ofyn ei gwestiynau. Adam Price AC: Gallwch chi fod yn sicr o hynny. Adam Price AC: Prif Weinidog, roedd troeon pedol Liz Truss yr wythnos hon mor niferus ac mor syfrdanol o gyflym nes dod yn birwét gwleidyddol. Ond nid hi oedd yr unig un, oedd hi? Dair wythnos yn ôl, dywedodd Keir Starmer na fyddai Llafur yn gwrthdroi'r toriad i'r gyfradd sylfaenol o dreth incwm, byddai'n beth anghywir i'w wneud. Nawr, y bore yma, dywedodd Canghellor yr wrthblaid fod Llafur yn cefnogi'r polisi i ddileu'r toriad. Felly, wrth gefnogi'r tro pedol Torïaidd, mae Llafur wedi gwneud un ei hun. Ond aeth ymlaen i ddweud hefyd na fyddai Llafur yn codi trethi mewn ymateb i'r argyfwng presennol, sy'n codi'r cwestiwn, onid yw, ynglŷn â lle y bydd Llywodraeth Lafur yn cael yr holl adnoddau angenrheidiol i amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus, i wneud rhywbeth ynghylch yr argyfwng yn y GIG yma yng Nghymru, drwy gyllid canlyniadol fformiwla Barnett, ac i dalu cyflog teilwng i weithwyr y sector cyhoeddus. Dywedodd Llafur ym 1997 eu bod nhw'n mynd i gadw at gynlluniau gwario'r Torïaid am y ddwy flynedd gyntaf, ac fe gawson nhw eu beirniadu'n briodol am wneud hynny. Sut mae cadw at gynlluniau treth y Torïaid yn well? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, bydd y Llywodraeth Lafur nesaf yn etifeddu'r anawsterau sydd wedi eu creu yn ystod y tair wythnos diwethaf. Mae'r tair wythnos diwethaf wedi newid y cyd-destun y mae'n rhaid gwneud penderfyniadau ynddo. Clywais Ganghellor yr wrthblaid yn esbonio hynny'n gryf iawn ar y radio y bore yma. Ni ellir cynnal rhywbeth a oedd yn iawn dair wythnos yn ôl mwyach, o ystyried y cythrwfl a'r biliynau a'r biliynau o bunnau sydd wedi'u gwario nad ydyn nhw bellach ar gael i'r Llywodraeth nesaf a ddaw i mewn. Clywais hefyd Ganghellor yr wrthblaid yn esbonio sut y bydd Llywodraeth Lafur yn codi arian drwy dreth ffawdelw ar elw anghymedrol cwmnïau ynni, yn hytrach na gwneud fel y mae'r Llywodraeth bresennol yn ei wneud, gyda'i chynnig a gwtogwyd bellach o help i bobl â biliau ynni—byddan nhw'n cymryd arian gan bawb arall a'i basio i gwmnïau ynni i gynnal yr elw rhyfeddol hynny—ac y bydd yn gweithredu i ymdrin â threthdalwyr sydd â'u cartrefi parhaol y tu allan i'r DU hefyd i wneud yn siŵr eu bod nhw hefyd yn talu eu cyfran deg i'r Trysorlys, fel bod modd buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus mewn ffordd y bydd dim ond Llywodraeth Lafur yn ei addo ac yn ei gyflawni. Adam Price AC: Ond ceidwadaeth gyllidol oedd y naws, onid e? Nid dyna'r math o wleidyddiaeth flaengar yr ydym ni eisiau ei gweld yn sgil newid Llywodraeth yn San Steffan. Nawr, mewn ymateb i ddatganiad y Canghellor, galwodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yma ar Lywodraeth y DU i ddefnyddio ei hysgogiadau treth yn decach. Ond a yw hynny'n ddull yr ydych chi fel Llywodraeth hefyd yn barod i'w ystyried yn galed? Dyna'r ymadrodd a ddefnyddiwyd gennych, Prif Weinidog, wrth ystyried a ddylid cynnal y gyfradd sylfaenol o 20c. Nawr, rwy'n derbyn bod y cyd-destun ar gyfer hynny wedi newid, ond fe allech chi, dan yr amodau newydd hyn o gyni yr ydym ar fin ei wynebu, geisio defnyddio eich ysgogiadau treth incwm eraill a chodi'r cyfraddau uwch ac ychwanegol, sy'n gyson â'r egwyddor y dylid gofyn i ysgwyddau mwy llydan gario'r baich mwyaf. Mae Sbaen, Llywodraeth sosialaidd, wedi cyflwyno treth gydsefyll; mae gan yr Almaen un eisoes. Yn y cyfnod anodd hwn, onid yw'n egwyddor y mae'n rhaid i ni yn awr ystyried ei gofleidio yma yng Nghymru? Mark Drakeford AC: Rwy'n cytuno â'r egwyddor, Llywydd, wrth gwrs mai'r rhai sydd â'r mwyaf ddylai gyfrannu fwyaf. Byddwn ni'n gwneud, fel yr eglurais i yr wythnos diwethaf—. Yr wythnos diwethaf, roedd yr Aelod yn fy annog i godi cyfraddau treth incwm yma yng Nghymru, a byddem yn edrych yn ffôl iawn heddiw pe byddem wedi dilyn ei gyngor bryd hynny, oherwydd, fel yr eglurais iddo, byddwn yn gwneud ein penderfyniadau pan fydd gennym y ffeithiau llawn sydd ar gael i ni, a newidiodd y ffeithiau ar dreth incwm yn sylweddol iawn yn ystod yr wythnos. Byddwn ni'n cyflwyno ein cyllideb i'r Senedd gan ddefnyddio'r prosesau sefydledig sydd gan y Senedd hon. Pan ddaw yn amser i ni osod y gyllideb, byddwn wedi mynd heibio 31 Hydref, gyda pha bynnag erchyllterau a fydd yn aros amdanom ni bryd hynny hefyd. Ac yn y broses honno, byddwn yn parhau i ystyried yr holl ysgogiadau sydd gennym ar gael i ni yma yng Nghymru, ond byddwn yn dod i benderfyniad ar y ffordd orau o ddefnyddio'r ysgogiadau hynny pan fydd y cyd-destun llawn ar gael i ni, yn hytrach na gwneud penderfyniadau wrth i ni fynd ymlaen, dim ond i ganfod bod y ddaear oddi tanom wedi newid yn y cyfamser. Adam Price AC: Dyna yn union wnaeth y Blaid Lafur yn San Steffan, onid e? Beth allai treth gydsefyll ei wneud? Gallai ein helpu ni i fodloni gofynion rhesymol gweithwyr y sector cyhoeddus i wella cynnig cyflog Llywodraeth Cymru, y mae hyd yn oed undeb sy'n gysylltiedig â Llafur wedi ei alw'n ddilornus—y gweithwyr gwyrthiol, Prif Weinidog, yr ydych newydd gyfeirio atyn nhw yn y GIG. Fe allai ein helpu ni i leddfu rhywfaint o'r pwysau ar wasanaethau lleol yr ydym wedi dibynnu cymaint arnyn nhw yn ystod y pandemig. Gallai ein helpu ni i ehangu'r gwasanaeth prydau ysgol am ddim yn ysgolion uwchradd. Gallai ein helpu ni i roi'r cymhorthdal i drafnidiaeth gyhoeddus y mae hyd yn oed y mwyafrif Llafur ar y pwyllgor newid hinsawdd wedi'i gynnig. Gallai wneud y pethau hyn mewn gwahanol gyfrannauac i wahanol raddau, yn dibynnu ar uchelgais eich Llywodraeth. Ond dywedaf hyn wrthych chi eto, Prif Weinidog—Prif Weinidog sosialaidd: onid yw'r egwyddor hon o gydsefyll yn rhywbeth y dylai eich Llywodraeth ei chofleidio? Mark Drakeford AC: Llywydd, rwyf eisoes wedi cytuno ag arweinydd Plaid Cymru mai trethiant blaengar yw'r ffordd y dylem ariannu gwasanaethau cyhoeddus. Yr hyn na allaf gytuno ag ef arno o bosib yw bod codi trethi yn y ffordd yr awgrymodd yn ei gwestiwn cyntaf—. Oherwydd iddo ofyn i mi yn ei gwestiwn cyntaf, byddwch yn cofio, a ddylem ni godi'r ddwy gyfradd drethu ychwanegol yr ydym ni'n gallu eu haddasu yma yng Nghymru—nid y gyfradd sylfaenol, ond y ddwy gyfradd uwch arall. Bydden nhw'n dod â llai na degau o filiynau o bunnoedd i mewn pe baem ni'n eu codi. Does dim siawns o gwbl y bydden nhw'n dechrau talu am y rhestr hir honno o ddibenion y dywedodd y gellid defnyddio'r arian hynny wedyn ar eu cyfer. Dim ond— Lee Waters AC: Breuddwyd gwrach yw hyn. Mark Drakeford AC: 'Breuddwyd gwrach' fyddai'r ffordd fwyaf caredig o'i ddisgrifio. Gallwch ddefnyddio'r ysgogiadau hynny, ac maen nhw'n dod â symiau cymedrol iawn, iawn o arian i mewn. Ac mae hynny'n cymryd yn ganiataol—sy'n eithaf arwrol, mewn gwirionedd—nad yw'r bobl y gofynnir iddyn nhw bellach dalu mwy o dreth yng Nghymru nag y bydden nhw'n gorfod ei thalu dros y ffin, yn trefnu eu materion mewn ffordd sy'n eu himiwneiddio rhag y perygl hwnnw. Gadewch i ni gymryd yn ganiataol am eiliad—ac ni fyddai llawer o economegwyr yn gwneud hynny—bod pobl yn aros lle maen nhw ac yn talu'r arian ychwanegol. Mae'n dod â, yn y cyd-destun yr ydym ni'n sôn amdano, llond dwrn o filiynau o bunnau i mewn, a does dim ffordd o gwbl y byddai'n ymestyn hyd yn oed at y diben cyntaf ar y rhestr hir iawn honno o ddibenion y mae arweinydd Plaid Cymru wedi awgrymu y prynhawn yma y bydden nhw'n talu amdanyn nhw. Costau Ynni Mabon ap Gwynfor AS: 3. Pa gymorth y mae'r Llywodraeth yn ei roi i helpu busnesau ym Meirionnydd yn wyneb y costau ynni? OQ58594 Mark Drakeford AC: Mae cyfres o raglenni gan Lywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau ym Meirionnydd. Mae’r cynnydd eithriadol mewn costau egni yn golygu bod angen set hirdymor o atebion, a dim ond Llywodraeth y Deyrnas Unedig all eu darparu. Mabon ap Gwynfor AS: Diolch yn fawr iawn i’r Prif Weinidog am yr ateb hwnnw. Dwi yn derbyn bod yna fai sylweddol yma ar San Steffan, a bod yn rhaid iddyn nhw gamu i fyny a digolledu’r cwmnïau yma a sicrhau eu bod nhw yn parhau. Ond dyma roi rhai enghreifftiau i chi. Yn Nolgellau, rydyn ni wedi gweld Caffi’r Sgwar yn cau, y steakhouse yn cau, y deli yn cau. Mae’r Brondanw Arms yn Llanfrothen wedi cau. Mae Caffi Derfel ym Mhenrhyndeudraeth wedi cau. Dim ond rhai enghreifftiau o fusnesau yn fy etholaeth i ydy’r rhain, sydd wedi cau yn ystod yr wythnosau diwethaf. Mae yna ragor yn ystyried cau rhwng rŵan a’r flwyddyn newydd. Mae’r busnesau yma yn cau oherwydd y cyni mewn ynni. Mae un busnes yn dweud eu bod nhw wedi cael bil rŵan o £7,000 y mis i £70,000 y mis ar gyfer ynni. Mae’n gwbl, gwbl anghynaladwy. Ond, os ystyriwch chi Brondanw, er enghraifft, yn Llanfrothen, nepell o bwerdy hydro Maentwrog a Ffestiniog, mae’r rhain yn cynhyrchu sawl gigawat y flwyddyn, a’r ynni yna’n mynd allan o’r gymuned, nid er budd cymunedol, ond er budd pobl eraill. Felly, gan ystyried bod yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear drwy Magnox yn berchen ar bwerdy hydro Maentwrog, a ydych chi’n cytuno efo fi y dylid trosglwyddo’r adnodd yma i rym a gofalaeth cymunedol er mwyn i’r gymuned gael budd o’r pwerdai hydro yma? Mark Drakeford AC: Dwi’n cytuno gyda beth ddywedodd yr Aelod am bwysigrwydd egni cynaliadwy. Trwy greu system ar gyfer y dyfodol sy’n dibynnu ar egni cynaliadwy, gallwn ni weld dyfodol lle mae costau egni yn gallu bod yn fforddiadwy i fusnesau ac i bobl leol hefyd. Mae uchelgais gyda ni fel Llywodraeth i gynyddu’r canran o egni cynaliadwy sydd yn nwylo pobl leol. Rŷn ni wedi cynyddu nifer y rhaglenni ac mae yna enghreifftiau ledled Cymru lle mae hynny’n digwydd yn barod. Y mwyaf rŷn ni’n gallu ei wneud e fel yna, y mwyaf, dwi’n meddwl, y bydd pobl yn gallu gweld pwysigrwydd y polisi yna, ond hefyd y pethau mae’r polisi yn gallu eu gwneud yn eu bywydau nhw. Gofal Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau Hefin David AC: 4. Pa gymorth mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu ar gyfer gofal meddygon teulu y tu allan i oriau? OQ58586 Mark Drakeford AC: Diolch i Hefin David am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn gosod y fframwaith polisi ac yn darparu cyllid ar gyfer y gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau. Mae byrddau iechyd yn gyfrifol am roi'r gwasanaeth ar waith yn eu hardaloedd. Hefin David AC: O ran y pwysau ar y gwasanaeth ambiwlans, a gafodd ei grybwyll gan arweinydd yr wrthblaid, nid yw mor syml â darparu mwy o staff yn y gwasanaeth ambiwlans yn unig—mwy o yrwyr ambiwlans, er enghraifft, neu barafeddygon. Nid yw'n mynd i ddatrys y broblem, yn rhannol oherwydd y ffaith, ymhellach i lawr y ffordd, bod gofal cymdeithasol yn wynebu argyfwng, y mae'r Prif Weinidog yn ei gydnabod, ac nad yw Llywodraeth y DU yn dangos unrhyw arwyddion o fynd i'r afael ag ef. Yn wir, maen nhw wedi cymryd camau yn ôl o hynny. Un o'r prif faterion yr ydym ni wedi'i weld yn fy etholaeth i, a'r profiad y mae rhywun sy'n gweithio i mi wedi'i gael, sy'n filwr wrth gefn ac sy'n gweithio i'r ymddiriedolaeth ambiwlans, yw bod y pwysau yn aml iawn yn dod ar y gwasanaeth ambiwlans drwy ddiffyg cefnogaeth gofal meddygon teulu y tu allan i oriau. Yn ddiweddar cysylltodd teulu etholwr yn Senghennydd â ni a arhosodd dros 24 awr am ambiwlans ar ôl galw ei feddyg teulu yn gyntaf a ddywedodd wrtho i alw 999 oherwydd bod y feddygfa yn cau. Rydym yn teimlo bod hwn yn gyfle i ailedrych ar ofal meddygon teulu y tu allan i oriau. Fe gafodd driniaeth briodol yn y pen draw, ond fe allai hyn fod wedi cael ei osgoi drwy ymweliad meddyg teulu y tu allan i oriau, a fyddai wedyn yn golygu nad oedd angen galw am ambiwlans, a allai wedyn fod wedi cael ei ailgyfeirio at wasanaethau eraill. Eto, rwy'n gwybod nad yw Llywodraethu mor syml â dweud, 'Byddwn yn darparu mwy o ofal meddygon teulu allan o oriau', ond a wnaiff y Prif Weinidog edrych yn fanylach ar hyn, ac ystyried y pethau hynny sydd yn y gadwyn honno o ddigwyddiadau sy'n arwain at bwysau ar y gwasanaeth ambiwlans? Mark Drakeford AC: Llywydd, rwy'n credu bod Hefin David yn gwneud pwynt pwysig—sef na fydd ceisio mynd i'r afael â'r pwysau yn y system drwy ganolbwyntio ar un agwedd arni yn unig yn rhoi'r gwelliannau y mae angen i ni eu gweld. Mae llawer o'r pwysau ar y gwasanaeth ambiwlans yn wir yn dod oherwydd bod rhannau eraill o'r system ei hun dan straen. Rwyf wedi ceisio egluro yn fy atebion cynharach mai un o'r rhesymau pam nad yw ambiwlansys yn cyrraedd pobl mor gyflym ag yr hoffem iddyn nhw wneud yw oherwydd eu bod yn aros i ryddhau cleifion i ysbytai na allant eu hunain ryddhau cleifion i ofal cymdeithasol. Rwy'n cytuno â Hefin David fod gan y gwasanaeth y tu allan i oriau ran bwysig iawn i'w chwarae yn hynny. Dyna pam yr ydym ni'n darparu mwy o fuddsoddiad—£20 miliwn yn fwy o fuddsoddiad yn y flwyddyn ariannol bresennol—i gynyddu capasiti mewn canolfannau gofal sylfaenol brys a gofal brys yr un diwrnod. Rydym ni'n arallgyfeirio'r gweithlu. Nid mater o feddygon y tu allan i oriau yn unig yw hyn—mae yna staff eraill sy'n gweithio yn y gwasanaeth hwnnw. Rydym ni'n ehangu'r gwasanaeth, gyda naw canolfan gofal sylfaenol brys bellach ar agor, dwy ohonyn nhw yn ardal bwrdd iechyd Aneurin Bevan. Maen nhw'n gweld 5,000 o gleifion y mis ar hyn o bryd, ac mae hynny'n 15 y cant o'r capasiti yn y system ar gyfer gwasanaethau y tu allan i oriau yn gyffredinol. Ac rydym ni'n recriwtio mwy o staff. Mae Aneurin Bevan, yr ardal y bydd Hefin David yn ei hadnabod orau, Llywydd, wedi hysbysebu'n ddiweddar am fwy o feddygon teulu cyflogedig. Maen nhw wedi penodi pedwar, efallai y bydd pedwar arall ar y ffordd ar ôl yr ymarfer recriwtio hwnnw, ac mae'r meddygon teulu cyflogedig newydd hynny i gyd â sesiynau y tu allan i oriau wedi'u cynnwys o fewn eu cynlluniau swyddi. Mae 33 mil o bobl yn defnyddio'r gwasanaeth tu allan i oriau bob mis yng Nghymru; mae 94 y cant o'r rheiny yn cael eu trin yn eu cartrefi eu hunain naill ai drwy ymweliad cartref, gan y cyngor a gânt, neu drwy fynd i ganolfan y tu allan i oriau ac yna cael eu hanfon adref. Felly, dim ond 6 y cant o'r holl alwadau sy'n cael eu trin gan y gwasanaeth y tu allan i oriau sy'n creu pwysau nes ymlaen ar y system ysbytai. Mae'r gwasanaeth y tu allan i oriau yn gwneud gwaith pwysig iawn. Mae angen i ni wneud mwy fel rhan o'r ymdrech gyffredinol i wella'r ffordd y gall rhannau cysylltiedig o'r gwasanaeth iechyd weithredu'n effeithiol gyda'i gilydd. Natasha Asghar AS: Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod Hefin David am godi'r cwestiwn hwn. Rwyf wedi ystyried popeth a ddywedoch chi, Prif Weinidog, yn eich ymateb iddo nawr. Adroddodd y bwrdd taliadau meddygon a deintyddion, corff annibynnol a sefydlwyd i gynghori Llywodraethau ar dâl meddygon a deintyddion, ym mis Gorffennaf eleni a chynghori y dylai meddygon teulu cyflogedig gael cynnydd o 4.5 y cant yn eu cyflog, wedi'i ôl-ddyddio i fis Ebrill 2022. Mae nifer fawr o'r meddygon teulu sy'n darparu gofal y tu allan i oriau i gleifion yng Nghymru yn feddygon teulu cyflogedig, yn hytrach na phartneriaid meddygon teulu. Rwy'n clywed adroddiadau gan Gymdeithas Feddygol Prydain (Cymru) fod rhai meddygon teulu cyflogedig yn Aneurin Bevan—ac, mewn gwirionedd, ym mhob rhan o fyrddau iechyd Cymru—eto i gael eu codiad cyflog wedi'i ôl-ddyddio'n llawn. Felly, Prif Weinidog, gan ei bod hi bellach dri mis ers adroddiad y bwrdd taliadau meddygon a deintyddion, a wnewch chi gadarnhau bod pob meddyg teulu cyflogedig sy'n gweithio yn Aneurin Bevan—ac, mewn gwirionedd, ar draws pob bwrdd iechyd yng Nghymru—bellach wedi derbyn y codiad cyflog llawn a'i fod wedi cael ei ôl-ddyddio i fis Ebrill? Diolch. Mark Drakeford AC: Gallaf gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn derbyn argymhellion y bwrdd taliadau meddygon a deintyddion, ac y bydd pawb sy'n gweithio yn GIG Cymru sydd dan sylw yn yr argymhellion hynny yn gwybod y byddant yn cael y codiadau a gynigiodd y bwrdd. Dydw i ddim mewn sefyllfa i wybod beth yw'r union drefniadau cyflog ar gyfer pob bwrdd iechyd ac i bob person sy'n gweithio iddyn nhw, ond rwy'n siŵr pe bai'r Aelod yn trafod ei phryderon gyda'r bwrdd iechyd, y byddan nhw'n gallu rhoi ateb iddi. Rhaglenni Sgrinio Cenedlaethol y GIG Mike Hedges AC: 5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglenni sgrinio cenedlaethol y GIG ar sail poblogaeth ledled Cymru? OQ58554 Mark Drakeford AC: Mae sgrinio poblogaeth yn gyfrifoldeb craidd iechyd y cyhoedd. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu gwasanaethau sgrinio canser. Mae'n goruchwylio gwelliannau i raglenni, gan gynnwys yr estyniad diweddar yn y garfan oedran sy'n gymwys i gael gwasanaeth sgrinio'r coluddyn yng Nghymru. Mike Hedges AC: A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna? Mae gennym raglen sgrinio ardderchog yng Nghymru. Rwy'n croesawu'r gostyngiad yn yr oedran ar gyfer sgrinio am ganser y coluddyn. Rwy'n credu'n gryf bod sgrinio yn bwysig, ond mae'n anffodus na all pobl gael amser i ffwrdd o'r gwaith i fynd i gael eu sgrinio. A fydd y Prif Weinidog yn cefnogi'r galw i bob un o'r staff a gyflogir yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol gan Lywodraeth Cymru gael amser i fynd i apwyntiadau sgrinio? Mark Drakeford AC: Rwy'n hapus iawn i gadarnhau i'r Aelod bod hawl gan bob person sy'n cael ei gyflogi'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru i gael amser i ffwrdd i fynd i apwyntiadau sgrinio. Byddwn i wedi meddwl y byddai'n fantais wirioneddol i unrhyw gyflogwr i wneud yn siŵr ei fod yn cefnogi ei staff i wneud hynny. Yr ased pwysicaf sydd gan unrhyw gyflogwr yw'r bobl sy'n gweithio i'r gwasanaeth hwnnw neu'r busnes hwnnw, a bydd y gwasanaethau sgrinio effeithiol iawn sydd gennym yma yng Nghymru yn helpu i gadw'r aelodau staff hynny yn heini ac yn iach ac yn eu galluogi nhw i fod mewn gwaith. Felly, rwy'n credu ei fod nid yn unig er budd yr unigolyn ond er budd y busnes hefyd. Os caf i, efallai, gyfeirio at yr hyn a ddywedodd Mike Hedges am ymestyn oedran sgrinio'r coluddyn, dim ond i roi un darlun o effeithiolrwydd y rhaglenni hynny. Os yw rhywun â chanser y coluddyn ac mae'r canser hwnnw’n cael ei ganfod yn sgil ymyrraeth frys yn eu bywydau oherwydd pethau eraill sydd wedi mynd o'i le, bydd pump o bob 10 o'r bobl hynny yn goroesi. Os yw rhywun yn cael diagnosis o ganser y coluddyn gan ei feddyg teulu, fe fydd saith o bob 10 o'r bobl hynny yn goroesi. Os cewch ddiagnosis o ganser y coluddyn o ganlyniad i sgrinio, bydd naw o bob 10 o bobl yn goroesi, ac mae hyn yn dangos, onid yw, gwir arwyddocâd y gwasanaethau sgrinio hynny. Ac rydym eisiau gwella'r nifer sy'n manteisio ar sgrinio'r coluddyn a gwasanaethau sgrinio eraill. Felly, mae er budd unigolion yn llwyr, ond mae er budd y bobl sy'n eu cyflogi nhw hefyd i wneud yn siŵr, pan welwch chi ffigurau goroesi o'r math yna, y dylai pobl gael eu rhyddhau pan fo angen eu rhyddhau oherwydd iddyn nhw gael eu gwahodd i gael y gwasanaeth sgrinio hwnnw. Altaf Hussain AS: Diolch Prif Weinidog, am y ffigurau yna. Prif Weinidog, yn gywilyddus, rydym yn llusgo y tu ôl i genhedloedd eraill sy'n cynnig gwasanaeth sgrinio canser y coluddyn i bobl 50 oed a hŷn. Mae hwn yn warth cenedlaethol. Mae pobl sy'n byw yn Yr Alban ac yn Lloegr yn cael cynnig gwasanaeth sgrinio canser y coluddyn, ac wedi cael hynny ers blynyddoedd. Mae'n gwbl anghredadwy nad ydych chi wedi ymestyn y rhaglen sgrinio i'r grŵp oedran hwnnw. Beth yw'r her yng Nghymru sy'n ymddangos yn benodol i Gymru, ac a fyddwch chi'n ymrwymo i gyflwyno estyniad i'r gwasanaethau i bobl dros 50 oed? Diolch. Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, mae arna i ofn nad ydw i'n adnabod y disgrifiad a gynigwyd gan yr Aelod. Fel y clywsoch chi Mike Hedges yn dweud, mae ystod oedran y bobl sy'n gymwys i gael sgrinio'r coluddyn yng Nghymru yn cael ei ymestyn, ac mae yna gynllun pwrpasol iawn i barhau i leihau'r oedran hwnnw ac, ar yr un pryd, i wneud y prawf ei hun yn fwy effeithiol o ran diagnosis. Mae sgrinio canser y coluddyn yng Nghymru, yn enwedig ers i'r prawf newydd, y prawf imiwnogemegol ar ysgarthion, gael ei gyflwyno yn Ionawr 2019, yn stori lwyddiannus. Rydym ni'n perswadio mwy o bobl i'w gymryd nag erioed o'r blaen. Mae'r canlyniadau y maen nhw'n eu cael yn fwy cywir nag y buon nhw erioed, ac o ganlyniad i ostwng yr ystod oedran, bydd 172,000 o bobl ychwanegol yn cael eu gwahodd i gael eu sgrinio rhwng mis Hydref, y mis hwn, a mis Medi'r flwyddyn nesaf. Rwy'n credu bod honno'n stori o lwyddiant, ac mae'n deyrnged i'r bobl ymroddedig iawn hynny sydd wedi gweithio mor galed i'w gwneud yn llwyddiant. Ystad y GIG Darren Millar AC: 6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau bod gan Gonwy a Sir Ddinbych ystad GIG sy'n addas i'w diben? OQ58568 Mark Drakeford AC: Llywydd, rydym ni'n mynd ati i fuddsoddi yn ystad y GIG ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys Conwy a sir Ddinbych, er gwaethaf y gostyngiadau parhaus mewn cyllidebau cyfalaf a ddarperir gan Lywodraeth y DU. Darren Millar AC: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Pan oeddech chi'n Weinidog Iechyd nôl yn 2013, fe wnaethoch chi addo i bobl gogledd sir Ddinbych ac, yn wir, gogledd-ddwyrain Conwy yn fy etholaeth i, y byddai ysbyty cymunedol newydd, a fyddai'n cael ei adeiladu yn Y Rhyl, i gymryd lle y gwelyau wedi'u cau yn y Royal Alexandra yn Y Rhyl ac, yn wir, ysbyty cymunedol Prestatyn. Mae hi dros naw mlynedd ers eich cyhoeddiad, ac rydym ni dal heb ysbyty cymunedol yng ngogledd sir Ddinbych. Pryd all pobl yng ngogledd sir Ddinbych ac yng ngogledd-ddwyrain Conwy ddisgwyl gweld eich addewid chi, fel y Gweinidog Iechyd, nawr eich bod chi'n Brif Weinidog, yn cael ei wireddu? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, roeddwn yn falch o gymeradwyo'r achos amlinellol strategol a gyflwynodd y bwrdd iechyd pan oeddwn i'n Weinidog Iechyd. Dywedodd y gallai'r cyfleuster newydd gael ei ddarparu ar gost o £22 miliwn. Erbyn i fy nghyd-Aelod, Vaughan Gething gymeradwyo'r achos busnes amlinellol yn 2018, roedd y gost wedi codi i £40 miliwn. Dywed papurau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy'n adrodd yr achos busnes llawn ei fod wedi codi i £64 miliwn o bunnau bellach, a hynny ar ddiwedd 2020, felly gallwn fod yn hollol ffyddiog ei fod ymhell dros £64 miliwn. Felly, mae cost y cynllun wedi cynyddu i dros dair gwaith yr amcangyfrif gwreiddiol o'r gost. A wyddoch chi, mae'n anochel bod yn rhaid i gynllun sy'n cynyddu mewn costau yn y ffordd honno fynd drwy broses graffu drylwyr iawn gan Lywodraeth Cymru, ac rydym yn parhau i edrych ar y fersiwn ddiweddaraf o'r achos y mae'r bwrdd wedi'i ddarparu. Wrth i gostau fynd i fyny yn y ffordd yr wyf newydd eu hadrodd, mae'r cyfalaf sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn gostwng. Yn y flwyddyn bresennol, mae ein cyllideb gyfalaf 17.5 y cant yn is na'r hyn yr oedd yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf; bydd yn gostwng 2.9 y cant arall yn y flwyddyn ariannol nesaf. Bydd yn gostwng 1.2 y cant o'r sylfaen is honno yn y flwyddyn ariannol nesaf, a bydd yn mynd i lawr eto yn y flwyddyn ar ôl hynny. Felly, mae'r costau'n mynd i fyny ar y naill law, ac mae'r arian sydd ar gael i dalu'r costau hynny yn mynd i lawr ar y llaw arall. Nid yw hynny'n sefyllfa hawdd ar gyfer bwrw ymlaen â llawer o gynlluniau angenrheidiol i fuddsoddi yn y GIG yng Nghymru. Diwydiannau Dwys o ran Ynni Luke Fletcher AS: 7. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i roi cymorth ychwanegol i ddiwydiannau dwys o ran ynni? OQ58595 Mark Drakeford AC: Llywydd, mae Llywodraethau Ceidwadol olynol y DU wedi methu â chreu sefyllfa o chwarae teg i ddiwydiannau ynni-ddwys. Mae angen i'r Canghellor diweddaraf wneud hynny nawr. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu ein cefnogaeth drwy fuddsoddi mewn sgiliau, effeithlonrwydd ynni, ymchwil, arloesi, datgarboneiddio a dyfodol ynni adnewyddadwy i Gymru. Luke Fletcher AS: Diolch am yr ateb, Prif Weinidog. Luke Fletcher AS: Mae lletygarwch a'r bragdai a'r bwytai bach, annibynnol hynny sy'n gweithredu o fewn y diwydiant hwnnw yn wynebu rhai o'r amgylchiadau mwyaf heriol. Mae llawer yn disgwyl na fyddant yn goroesi y tu hwnt i'r gaeaf. Er enghraifft, dywedodd perchennog Ristorante Vecchio ym Mhen-y-bont ar Ogwr wrth The Glamorgan Gazettesut mae ei filiau ynni wedi cynyddu i £8,000 y mis. Yn syml, mae prisiau ynni yn amhosibl eu fforddio, ac, i ddilyn cwestiwn Mabon, mae cost ynni yn un rhan o hyn, wrth gwrs, ond mae hyn hefyd yn ymwneud â sicrhau ein bod yn symud tuag at atebion ynni gwyrdd cyn gynted ag y gallwn ni, a fyddai'n helpu gyda'r costau cynyddol a'r ymgyrch tuag at sero net. Mae bragdai fel Bragdy Boss yn Abertawe wedi gwario'u harian wrth gefn yn ceisio goroesi'r flwyddyn neu ddwy ddiwethaf. Ychydig iawn, os o gwbl, o arian sydd ar gael ar gyfer buddsoddi cyfalaf mewn technoleg werdd. Felly, byddwn yn gofyn i'r Llywodraeth pa ystyriaeth y mae wedi'i rhoi i gyllid grant posibl i gwmpasu mentrau ynni gwyrdd ar gyfer busnesau annibynnol, fel offer solar ac optimeiddio foltedd, y gellid ei osod ar safleoedd y busnesau hyn, i helpu i'w diogelu nhw rhag cynnydd mewn prisiau. Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, rwy'n cytuno â'r hyn y mae Luke Fletcher wedi'i ddweud am bwysigrwydd hirdymor bod â system wahanol o gyflenwi ynni. Bydd gan hynny gyfres arbennig o fanteision i'r diwydiannau ynni-ddwys hynny. Diolch iddo am dynnu sylw at y ffaith, yn ein trafodaethau am ddiwydiannau ynni-ddwys rydym ni'n tueddu i gael y ddadl wedi'i dominyddu gan y cwmnïau mawr iawn—y Tatas a Celsas y byd hwn. Ac roeddwn yn falch, Llywydd, o weld fod Prif Weinidog newydd y DU wedi cael cyfarfod ddiwedd Medi gyda phrif weithredwr Tata yn India. Fe wnes i ysgrifennu at y Prif Weinidog blaenorol, yn dilyn cyfarfodydd yr oedd Gweinidog yr economi a minnau wedi'u cael gydag uwch ffigyrau yn Tata, yn gofyn iddo gyflwyno cynllun y DU ar gyfer buddsoddi yn y diwydiant hwnnw. Atebodd gan ddweud y byddai hynny'n gyfrifoldeb ei olynydd. Wel, rwyf wedi ysgrifennu eto. Dydw i ddim wedi cael ateb, ond rwyf wedi ysgrifennu eto, ac roeddwn yn falch o weld bod y cyfarfod hwnnw wedi digwydd, oherwydd bod diwydiannau ynni-ddwys dan anfantais arbennig yn y Deyrnas Unedig, yn enwedig o'i gymharu â chystadleuwyr mewn mannau eraill. Mae rhan Llywodraeth Cymru yn hyn yn anorfod ar ran wahanol o'r sbectrwm, ond rydym yn gweithio drwy Fanc Datblygu Cymru, drwy Busnes Cymru hefyd, i ddarparu cyngor ac weithiau cefnogaeth ariannol uniongyrchol i ddiwydiannau sydd â diddordeb mewn newid tanwydd, mewn mesurau effeithlonrwydd, ac mewn bod yn rhan o'r symudiad ehangach hwnnw o danwydd ffosil i ynni adnewyddadwy, y mae dyfodol Cymru, rwy'n credu, yn dibynnu arno. Ac yn olaf, cwestiwn 8—Vikki Howells. Pwerau Benthyg Vikki Howells AC: 8. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith argyfwng ariannol y DU ar ei chynlluniau presennol ar gyfer defnyddio ei phwerau benthyg? OQ58592 Mark Drakeford AC: Llywydd, nid yw pwerau benthyca Llywodraeth Cymru wedi newid ers 2016. Dylid diweddaru ein terfynau benthyca blynyddol a chyfanredol nawr yn unol â chwyddiant dilynol, fel yr argymhellir gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid. Yn y cyfamser, mae cost refeniw benthyca wedi codi'n sydyn, wedi'i achosi gan y difrod a achoswyd gan Brif Weinidog y DU. Vikki Howells AC: Diolch. O ran pwerau benthyca, roeddwn eisiau gofyn am eich myfyrdodau ar gyhoeddiad diweddaraf y Sefydliad Materion Cymreig, 'Fiscal Firepower: Effective Policy-Making in Wales', sy'n galw am ddiwygio pwerau benthyca Llywodraeth Cymru. Hefyd, o ystyried y ffaith hysbys iawn fod Prif Weinidog y DU yn gwrthod ymgysylltu â chi yn rhinwedd eich swydd yn Brif Weinidog Cymru, a bod y polisi drws troi yn ymddangos fel pe bai ar waith yn y Trysorlys, sut mae eich gweinyddiaeth yn ceisio ymgysylltu â Llywodraeth y DU i sicrhau bod gennym y pwerau ariannol sydd eu hangen arnom i ariannu'r gwasanaethau cyhoeddus yr ydym i gyd yn dibynnu arnyn nhw? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, roeddwn i'n falch bod yna alwad ffôn gan y Prif Ysgrifennydd i'r Trysorlys i'n Gweinidog Cyllid yn gynharach yr wythnos hon, yn egluro'r gyfres o newidiadau a gafodd eu gwneud gan y Canghellor i'r pethau yr oeddem ni'n cael gwybod y byddai'n digwydd dim ond yr wythnos diwethaf. Ac yr wyf i wedi cael gwybod bod y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid—cyfarfod y Gweinidogion cyllid—sydd wedi'i gynllunio ar gyfer 20 Hydref, yn mynd i fynd yn ei flaen. Felly, rwy'n credu bod hynny'n arwydd da o ddull mwy cadarnhaol o ymgysylltu gan y tîm newydd yn y Trysorlys. Lle yr ydym ni'n gallu, byddwn ni, wrth gwrs, yn mynd ati i wneud yr achos yr ydym ni wedi'i wneud ers peth amser. Roeddwn i'n gyfrifol am drafod y fframwaith cyllidol gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys ar y pryd, David Gauke. Ers hynny, mae'r arian yng nghyllideb Llywodraeth Cymru wedi cynyddu 40 y cant, ond mae'r holl ffigyrau a gafodd eu trafod yn 2016 wedi parhau i fod lle'r oedden nhw bryd hynny. Felly, cawson nhw eu cynllunio i alluogi Llywodraeth Cymru i ymdrin yn well â'r cyfrifoldebau cyllidol sydd ganddyn nhw—dyma'r terfyn benthyca blynyddol, dyma'r terfyn benthyca cyfanredol, dyma'r swm o arian y gallwn ni ei roi i mewn a'i dynnu o gronfa wrth gefn Cymru. Mae'r rhain yn bethau hollol ymarferol sydd wedi'u cynllunio i wneud y defnydd gorau o arian cyhoeddus, ac eto, rydym ni'n sownd wrth ffigyrau oedd yn iawn dros bum mlynedd yn ôl, ond yn sicr, nid ydyn nhw'n iawn ar gyfer y gyllideb sydd gennym ni heddiw. Mae cyhoeddiad Sefydliad Materion Cymreig yn tynnu sylw at hynny i gyd ac yn awgrymu sail wahanol ar gyfer benthyca Llywodraeth Cymru. Mae ein gallu i fenthyg wedi'i gapio'n flynyddol ac ar sail gyfanredol gan Lywodraeth y DU. Mae papur y Sefydliad Materion Cymreig yn awgrymu dull benthyca darbodus ar gyfer Llywodraeth Cymru, a fyddai'n golygu y byddem ni yn yr un lle â Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent—nid oes ganddo derfyn artiffisial ar faint o gyfalaf y gall ei fenthyg; mae'n rhaid iddo ddangos bod ei fenthyca yn fforddiadwy ac yn ddoeth, ac yna mae'n cael benthyg yr hyn y gall ei fforddio. Nid yw'n ymddangos yn synhwyrol bod y gallu hwnnw sydd yno i awdurdodau lleol ond yn cael ei wrthod i Lywodraeth Cymru, ac rydym ni'n mynd ati i gyflwyno'r achos dros ddiwygio, a byddwn ni'n ei wneud gyda'r set ddiweddaraf o Weinidogion yn y Trysorlys. Diolch i'r Prif Weinidog. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad—Lesley Griffiths. Lesley Griffiths AC: Diolch, Llywydd. Mae tri newid i'r busnes yr wythnos hon. Yn syth ar ôl y datganiad busnes hwn, bydd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn gwneud datganiad ar ymateb Llywodraeth Cymru i ddatganiad y Canghellor am y cynllun cyllidol tymor canolig. Yn ail, mae Rheoliadau Cynllun Morol, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cymorth Ariannol) (Cymru) 2022 wedi cael eu tynnu'n ôl a'r ddadl wedi'i gohirio. Yn olaf, yn amodol ar gynnig i atal Rheolau Sefydlog, yfory byddwn ni'n trafod cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil prisiau ynni. Mae busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad busnes a'r cyhoeddiad, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i Aelodau yn electronig. Darren Millar AC: Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar adolygiad ffyrdd Llywodraeth Cymru? Fel y gwyddoch chi, mae moratoriwm ar lawer o brosiectau cyfalaf ledled Cymru ar hyn o bryd, gan gynnwys dau ar yr A494 yn fy etholaeth fy hun. Mae un ohonyn nhw'n ddarn o waith i ymdrin â'r pryderon ynghylch diogelwch priffyrdd ar droadau Maes Gamedd yng Ngwyddelwern, a'r llall ar gyffordd y Lôn Fawr yn Rhuthun. Mae'r rhain yn achosi llawer o ddamweiniau, a byddai modd osgoi llawer ohonyn nhw. Nid yw'n ymddangos bod unrhyw reswm o gwbl ynghylch pam y dylen nhw gael eu oedi mewn ffordd sy'n bryder ynghylch newid hinsawdd—mae'r rhain yn ymwneud â diogelwch, ac mae angen eu gwneud ac mae angen eu gweithredu. Pryd gawn ni ddatganiad er mwyn i ni allu gwybod bod rhai o'r cynlluniau hyn, sydd wedi cael eu gohirio am lawer rhy hir—yn achos Maes Gamedd, ymhell dros ddegawd—fel eu bod nhw'n gallu cael eu rhyddhau, a chamau'n cael eu cymryd i ymdrin â nhw, fel bod pobl yn gallu teithio'n ddiogel ar ein ffyrdd? Lesley Griffiths AC: Diolch. Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar hyn o bryd yn edrych yn fanwl iawn ar yr adolygiad ffyrdd, sydd dan ystyriaeth gan Lywodraeth Cymru. Bydd yn cyflwyno datganiad, mae'n debyg, nawr, yn hanner nesaf y tymor presennol hwn. Luke Fletcher AS: Rwy'n siŵr y bydd y Trefnydd yn ymwybodol ar yr adeg hon, o weithredoedd ffiaidd penaethiaid y Post Brenhinol, sydd wedi suddo mor isel wrth fygwth colli swyddi mewn ymgais i dorri streicwyr. Gallaf i ddweud wrthych chi fod postmyn yn swyddfa ddosbarthu Pen-y-bont ar Ogwr yn dal eu tir, ac mae'r camau hyn gan y Post Brenhinol yn dangos pa mor daer ydyn nhw i beidio â dod i ddatrysiad teg gyda'u gweithwyr, a oedd allan ar y strydoedd ar anterth y cyfyngiadau symud, nid yn unig yn dosbarthu ein post, ond yn sicrhau elw enfawr i'r Post Brenhinol. Hoffwn i ofyn a fydd Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi datganiad i gefnogi streicwyr y Post Brenhinol a chondemnio gweithredoedd penaethiaid y Post Brenhinol yn y termau cryfaf. Lesley Griffiths AC: Diolch. Rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi mynychu llinellau piced gyda, fel y dywedwch chi, ein postmyn a'n postfenywod sy'n gweithio'n galed iawn, a gyflawnodd wasanaeth mor bwysig yn ystod pandemig COVID-19, yn enwedig. Ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog mewn cysylltiad agos â'i chymheiriaid yn Llywodraeth y DU. Alun Davies AC: Gweinidog, rydym ni'n ymwybodol bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi camarwain pobl fel mater o drefn am ddyfodol ffrydiau ariannu'r Undeb Ewropeaidd, ac rydym ni'n ymwybodol o'r anwireddau sydd wedi'u dweud dros nifer o flynyddoedd i Weinidogion yma, i Aelodau yma, ac i bobl Cymru. Ond rydym ni hefyd yn gweld anallu Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystod y misoedd diwethaf yn peryglu rhaglen Horizon. A byddai'n ddefnyddiol os gallai'r Llywodraeth roi datganiad i ni ar ddyfodol rhaglen Horizon a rhaglenni eraill sy'n darparu arian pwysig i brifysgolion ac i eraill o ran cyflawni ymchwil a rhaglenni cymorth eraill. Mae'n hanfodol cael hynny fel rhan o unrhyw raglen i gefnogi buddsoddiad yng Nghymru. A gaf i hefyd ofyn am ddatganiad ar blismona yng Nghymru? Gwnes i gwrdd â phrif gwnstabl Heddlu Gwent ddoe, a gwnaethom ni drafod y pwysau sy'n wynebu'r lluoedd heddlu ar hyn o bryd. Nawr, rydym ni ar ochr hon y Siambr yn cydnabod bod llawer o'r pwysau hyn yn cael eu hachosi gan doriadau gwariant o hyd ac o hyd a gafodd eu gorfodi ar yr heddlu gan y Torïaid yn Llundain. Ond, i'r cwnstabl cyffredin ar lawr gwlad, mae'r rhain yn faterion gwirioneddol sy'n wynebu ein holl gymunedau. Mae'n briodol ein bod ni'n darparu'r holl gyfleusterau a'r holl adnoddau sydd eu hangen ar yr heddlu, a byddai'n ddefnyddiol os gallem ni gael dadl ar blismona yng Nghymru, i ddod â'r materion hyn i sylw Llywodraeth y DU. Lesley Griffiths AC: Diolch. O ran cyllid Horizon Europe, mae Llywodraeth Cymru, fel y gwyddoch chi, wedi gwthio'n gyson am gymryd rhan mewn rhaglenni fel Horizon Europe, ac yn sicr nid ydym ni wedi gweld yr addewidion a gafodd eu gwneud gan Lywodraeth y DU o ran cyllid yr UE a'r ffaith na fyddem ni'n colli ceiniog os byddem ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd. Gwn fod Gweinidog yr Economi yn gweithio'n agos iawn gyda'n rhanddeiliaid yma i sicrhau'r cyllid gorau posibl o amgylch Horizon Europe. Ac o ran plismona, yn amlwg, mae'n fater sydd wedi ei gadw'n ôl, ac rydym ni'n sicr wedi gweld y toriadau sylweddol i blismona dros y blynyddoedd. Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn cyfarfod yn rheolaidd â'r pedwar comisiynydd heddlu a throseddu a'r pedwar prif gwnstabl, ac rydym ni wedi ceisio llenwi bylchau, os mynnwch chi, y mae'r Swyddfa Gartref wedi'u creu, gyda swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu. Natasha Asghar AS: Gweinidog, cwrddais â rhai o staff gwych Cyngor Ffoaduriaid Cymru yng Nghasnewydd yn ddiweddar, ochr yn ochr â sawl ceisiwr lloches. Roedd yn gyfarfod hynod addysgiadol, ac fe wnaethom ni drafod amrywiaeth o faterion y mae'r sefydliad, ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn eu hwynebu. Un a wnaeth aros gyda fi yn arbennig oedd y cynllun tocynnau croeso, sy'n rhoi teithio diderfyn i bob ffoadur ar drenau a bysiau tan ddiwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf. Mae'n fenter wych, ac mae ganddo fy nghefnogaeth lawn. Ond ar ôl siarad â'r cyngor ffoaduriaid, mae'n amlwg y gallai'r cynllun gael ei wella'n sylweddol. Mae'n rhaid i ffoaduriaid naill ai ddangos trwydded preswylio biometrig, llythyr gan y Swyddfa Gartref, neu basbort, i gael mynd ar fws neu drên yng Nghymru. Mae'r rhain yn ddogfennau hynod o bwysig, rwy'n siŵr y gallwch chi gytuno, y mae'r ffoaduriaid yn gorfod eu cario o amgylch gyda nhw a'u dangos bob un tro y maen nhw eisiau mynd ar drafnidiaeth gyhoeddus. Yn anecdotaidd, rydw i wedi clywed bod rhai rhieni mewn gwirionedd yn poeni gormod am eu plant yn colli'r dogfennau hyn—fel y byddai rhywun.Ac i wneud pethau'n waeth, nid yw rhai gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru a bysus hyd yn oed yn cydnabod y tocyn croeso. Yn benodol, mae camddealltwriaeth o'r gwahanol fathau o statws ar drwyddedau preswyl biometreg. Mae'n achosi embaras mawr, ac mae'n rhwystro llawer o bobl rhag defnyddio'r cynllun. Siawns na all Llywodraeth Cymru weithio gyda'i phartneriaid i gyflwyno cerdyn arbennig a fyddai'n cael ei gydnabod yn gyffredinol gan yrwyr trenau a bysiau, yn hytrach na'u gorfodi i gario papurau pwysig. Yn anffodus, nid yw ceiswyr lloches yn gymwys i gael y tocyn croeso. Mae ceiswyr lloches yn byw ar £40 yr wythnos yn unig ac yn aml yn aros blynyddoedd i'w cais gael ei brosesu, ac rwy'n deall nad yw'n fater datganoledig, eto, drwy ymestyn y cynllun i gynnwys ceiswyr lloches, byddai'n eu galluogi i fynychu gwersi Saesneg, integreiddio yn y gymuned a'u galluogi i ddechrau gwirfoddoli. Rwy'n gwerthfawrogi efallai bod angen rhywfaint o waith traws-Lywodraethol ar hyn, ond byddwn i'n ddiolchgar iawn am ddatganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymdrin â'r pryderon yr ydw i newydd eu codi yn ymwneud â'r tocyn croeso yma yng Nghymru. Diolch. Lesley Griffiths AC: Wel, fel gydag unrhyw gynllun newydd, rwy'n credu bod gennych chi broblemau cychwynnol ac mae modd gwella pethau bob amser. Yn sicr, fe rannais i daith drên ddymunol iawn adref i Wrecsam ychydig fisoedd yn ôl gyda ffoadur a oedd yn hynod ddiolchgar am y cynllun ac a oedd ond yn teithio i Gaergybi ac yn ôl, dim ond i adael Caerdydd a chael blas ar y golygfeydd ar draws ein gwlad brydferth. Yn amlwg, mae ceiswyr lloches a lloches yn fater sydd wedi ei gadw'n ôl, ac rwy'n meddwl ei bod hi'n deg dweud fod Llywodraeth Cymru, wrth ddarparu'r cynllun yma, wedi gwneud rhywbeth sy'n cael ei werthfawrogi'n fawr yn fy marn i. Nid ydw i'n credu ei fod yn deilwng o ddatganiad ar hyn o bryd, ond rwy'n derbyn y materion yr ydych chi wedi'u codi a allai wella'r cynllun, ac yn sicr fe wnaf i sicrhau bod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn clywed yr hyn y dywedoch chi. Heledd Fychan AS: Yr wythnos diwethaf, Trefnydd, cafodd ei gyhoeddi fod y Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo apêl gynllunio sy'n golygu y bydd bywyd chwarel Craig yr Hesg yn fy rhanbarth i, yn ogystal â'r ardal sy'n cael ei chloddio, yn cael ei hymestyn. Mae hyn er gwaethaf gwrthwynebiadau sylweddol yn lleol, a'r ffaith bod pwyllgor cynllunio cyngor Rhondda Cynon Taf wedi gwrthod y ddau gais. Carwn i, felly, ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar y penderfyniad hwn, a hefyd eglurder ynghylch a fydd adolygiad o safbwynt Llywodraeth Cymru ar chwarelu cerrig mân, o ganlyniad i'r ymrwymiad i ymdrin â'r argyfwng hinsawdd, yn ogystal â'r Ddeddf aer glân hirddisgwyliedig y mae ei hangen yn fawr. Lesley Griffiths AC: Ni fyddai penderfyniad o'r fath yn briodol ar gyfer datganiad yn y Siambr. Jayne Bryant AC: Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad am ymateb Llywodraeth Cymru i'r sylwadau a gafodd eu gwneud gan ysgrifennydd iechyd Llywodraeth y DU, Thérèse Coffey, ei bod wedi rhoi gwrthfiotigau presgripsiwn i ffrind? Mewn wythnos lle mae anallu'r Llywodraeth Dorïaidd gyda'r economi, yn gwbl briodol, yn cipio'r penawdau, roedd hefyd yn hynod bryderus clywed sylwadau di-hid Gweinidog Iechyd y DU ynghylch llacio dosbarthu gwrthfiotigau. Mewn ymateb i sylwadau Thérèse Coffey, dywedodd y BMA: 'Mae rhannu meddyginiaethau rhagnodedig, yn enwedig gwrthfiotigau, nid yn unig yn beryglus o bosibl, ond hefyd yn erbyn y gyfraith, a byddem ni'n gofyn i'n Hysgrifennydd Iechyd ein cefnogi ni, yn hytrach, i annog arferion rhagnodi da a diogel. 'Mae gwrthfiotigau'n adnodd gwerthfawr a dylen nhw gael eu rhagnodi dim ond pan fo hynny'n gwbl angenrheidiol. Mae gorddefnyddio gwrthfiotigau yn peryglu eu gwneud yn llai effeithiol, ac yn gwneud rhai heintiau yn fwy anodd eu trin, sydd wedyn wir yn gallu cynyddu'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd wrth i gleifion barhau i fod yn sâl.' Felly, byddwn i'n croesawu datganiad yn ymbellhau Llywodraeth Cymru o sylwadau Ysgrifennydd iechyd y DU, a diweddariad ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau nad yw gwrthfiotigau'n cael eu gor-ragnodi a'u defnyddio'n ddiangen. Lesley Griffiths AC: Diolch. Wel, roedden nhw'n sicr yn sylwadau rhyfeddol, rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud, ac rwy'n meddwl eich bod chi'n gwneud pwynt da iawn, os nad oeddem ni'n gweld meysydd eraill o anallu yn Llywodraeth y DU yn cipio'r penawdau, mae'n siŵr y byddai hynny wedi cael llawer mwy o sylw. Mae'n fater pwysig iawn, ac rwy'n gwybod y byddai'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol eisiau ymbellhau'n llwyr oddi wrth y sylwadau hynny, ac, yn sicr, o fewn fy mhortffolio fy hun, mae ymwrthedd gwrthficrobaidd yn hanfodol bwysig o ran iechyd a lles anifeiliaid hefyd. Nododd y G7 bod ymwrthedd gwrthficrobaidd yn fygythiad mawr i iechyd byd-eang, ynghyd â phandemigau fel COVID-19 ac, wrth gwrs, yr argyfwng newid hinsawdd hefyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i'r camau gweithredu, yr uchelgeisiau a'r amcanion a gafodd eu nodi yng nghynllun gweithredu pum mlynedd y DU ar gyfer Ymwrthedd Gwrthficrobaidd 2019 i 2024, ac mae'r uchelgeisiau hyn yn cynnwys gostyngiad yn nefnydd gwrthficrobaidd mewn pobl o 15 y cant erbyn 2024. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn disgwyl yn llwyr i fyrddau iechyd ac Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre gadw at egwyddorion defnyddio gwrthfiotigau'n ddiogel. Gareth Davies AS: Digon yw digon. Mae preswylwyr Trefnant a Thremeirchion wedi cael llond bol, Trefnydd. Cafodd y bont ei dinistrio yn ystod storm Christoph yn 2021, a dydd Sadwrn mi wnaeth preswylwyr Trefnant a Thremeirchion brotestio am fod y bont yn cymryd mor hir i gael ei thrwsio. Rwyf wedi codi'r mater yma gyda chi a Chyngor Sir Ddinbych sawl gwaith ac mae'r bai i weld yn cael ei basio o'r naill i'r llall. A fyddai'r Gweinidog neu'r Dirprwy Weinidog yn gallu esbonio pryd fydd y bont yn cael ei thrwsio er lles preswylwyr a'r busnesau lleol, a hefyd i uno'r ddau bentref gyda'i gilydd unwaith eto? Lesley Griffiths AC: Dim ond i ddweud wrthych chi yn union sut mae pethau ar hyn o bryd, sef gyda'r awdurdod lleol. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi derbyn cais ffurfiol am arian i ailosod pont Llannerch. Rwyf wedi gweld sylw yn y cyfryngau fy hun sydd wedi cynnwys datganiadau gan y cyngor i ddweud eu bod yn datblygu achos busnes cadarn i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru iddo gael ei asesu. Pan fydd yr achos busnes cadarn hwnnw wedi'i dderbyn gan Lywodraeth Cymru, yna'n amlwg y cam nesaf fydd trafodaethau gyda'r awdurdod lleol i weld lle y bydd hwnnw'n mynd. Ond, yn sicr, mae gyda'r awdurdod lleol ar hyn o bryd. Rhun ap Iorwerth AC: Hoffwn i ddatganiad brys gan Weinidog yr economi ar ôl y newyddion bod AMG Alpoco yng Nghaergybi wedi rhoi gwybod i'w staff bod 28 o swyddi yn mynd i gael eu colli yno erbyn diwedd Tachwedd. Mae'r llythyr a gafodd ei roi i staff ddoe yn dweud mai costau uwch, gan gynnwys costau ynni, sydd y tu ôl i benderfyniad y cwmni i ailstrwythuro. Mae hyn yn gyfystyr â mwy na hanner y gweithlu yn ffatri Caergybi. Afraid dweud, mae hyn yn ergyd fawr i bawb y gallai hyn effeithio arnyn nhw. A gaf i ofyn i Weinidog yr economi roi datganiad ysgrifenedig i ni gyda rhywfaint o frys, neu o leiaf ymateb i ni fel cynrychiolwyr lleol, yn egluro'r mesurau brys y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i gysylltu â'r cwmni i weld pa fesurau y byddai modd eu rhoi ar waith i'w helpu a gobeithio cyrraedd man lle gall y cwmni ailystyried ei gynlluniau? Mae gen i gwestiwn ar hyn—ar y costau sy'n wynebu busnesau—yn y sesiwn cwestiynau yfory, ond roeddwn i'n ystyried bod hyn o'r brys mwyaf a hoffwn i gael datganiad cyn gynted â phosibl. Diolch. Lesley Griffiths AC: Wel, ni fyddwn ni'n gallu cael datganiad cyn eich cwestiynau yfory, felly rwy'n falch eich bod chi'n codi hynny'n uniongyrchol yfory gyda'r Gweinidog Economi. Rwy'n gwybod ei fod wedi bod yn cael cyfarfodydd rheolaidd gyda grwpiau busnes fel Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, er enghraifft, i drafod yr argyfwng sy'n amlwg yn bodoli ym maes ynni. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud yn fy nghyhoeddiad busnes y byddwn ni'n cyflwyno Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol fory ar y Bil Prisiau Ynni y mae Llywodraeth y DU yn ei gyflwyno fel deddfwriaeth frys. Gwn i, unwaith eto, fod y Gweinidog wedi bod yn cael trafodaethau yn uniongyrchol â nhw o ran hyn. Altaf Hussain AS: Yr wythnos diwethaf, daeth cyngor Pen-y-bont ar Ogwr â'i ymgynghoriad cyhoeddus ar y bwriad i ehangu Coleg Penybont yng nghanol y dref i ben. Mae'r cynllun cyffrous hwn yn cynnwys prif adeilad gydag awditoriwm 200 sedd, gan ddarparu lleoliad ar gyfer adrannau sy'n cynnwys y celfyddydau perfformio, arlwyo, celfyddydau gweledol, busnes, cosmetoleg, gwallt a harddwch, anghenion dysgu ychwanegol a sgiliau byw'n annibynnol. Mae adeilad arall yn cynnwys ystafelloedd dosbarth a mannau addysgu ar gyfer cyrsiau y mae eu hangen yn fawr mewn gofal cymdeithasol ac iechyd a lles, er enghraifft. Mae hwn yn brosiect seilwaith mawr ac yn dangos y gwerth a ddaw gan golegau addysg fel sefydliadau angor allweddol wrth ddatblygu ein heconomïau a'n cymunedau. Mae angen cysylltu hyn i gyd mewn ffordd strategol i gynnwys cysylltiadau trafnidiaeth a datblygiadau sydd gan fusnesau presennol. A wnaiff y Gweinidog drefnu dadl ar bwysigrwydd y sefydliadau angori wrth gynnal a datblygu ein heconomi? Lesley Griffiths AC: Wel, yn sicr mae'n swnio'n gynllun cyffrous iawn gan Gyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr. Yn amlwg, mae'n rhaid ystyried y ddarpariaeth ar gyfer trafnidiaeth i gyd pan fydd ceisiadau cynllunio'n cael eu gwneud, ond nid ydw i'n credu ei fod yn addas ar gyfer datganiad. Ken Skates AC: Trefnydd, nid oes gennyf i unrhyw amheuaeth y byddech chi'n cytuno bod cynnal Eurovision 2023 yn Lerpwl yn newyddion gwych i Gymru gyfan, ond yn arbennig i'r gogledd. Felly, byddwn i'n ddiolchgar iawn am ddatganiad gan y Llywodraeth ynghylch sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu hyrwyddo'r gogledd a Chymru gyfan yn y digwyddiad y flwyddyn nesaf. Mae'n gyfle gwych, o gofio pa mor agos yr ydym ni'n gweithio gyda rhanddeiliaid a phartneriaid ar sail trawsffiniol, ac efallai y byddwn ni'n awgrymu bod Gweinidog Gogledd Cymru yn mynychu i hyrwyddo'r gogledd yn Eurovision 2023, ynghyd â swyddogion ardderchog o dimau'r economi, digwyddiadau mawr a thwristiaeth? Lesley Griffiths AC: Mae'r Gweinidog addysg eisiau dod gyda fi hefyd. Rwy'n credu eich bod chi'n gwneud pwynt pwysig iawn. Mae'r cysylltiadau rhwng y gogledd, ac yn enwedig y gogledd-ddwyrain, a gogledd-orllewin Lloegr yn bwysig iawn, a gwyddom ni fod pobl yn teithio i Lerpwl ac, yn wir, Manceinion, ac ymhellach mae'n debyg, i weld digwyddiadau celfyddydol a diwylliant. Yn amlwg, mae cystadleuaeth yr Eurovision sy'n dod i Lerpwl yn bwysig iawn. Yn sicr, fe wnaf i ofyn i Ddirprwy Weinidog yr Economi, sydd â chyfrifoldeb dros ddiwylliant a'r celfyddydau, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau. Nid ydw i'n credu ei bod hi wedi cael y cyfle i gael trafodaethau eto, ond rwy'n siŵr y bydd hi'n gwneud. Mark Isherwood AC: Mae heddiw yn Ddiwrnod Atal Caethwasiaeth y DU, sy'n dod o fewn Wythnos Atal Caethwasiaeth, ac rwy'n galw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar y mater pwysig hwn. Mae Diwrnod Atal Caethwasiaeth yn rhoi cyfle i godi ymwybyddiaeth o fasnachu pobl a chaethwasiaeth fodern, ac annog llywodraethau, awdurdodau lleol, cwmnïau, elusennau ac unigolion i wneud yr hyn y gallan nhw i ymdrin â'r broblem. Diolch i'r 17 o Aelodau yn y fan yma sydd hyd yma wedi llofnodi'r datganiad barn yr wyf i wedi ei gyflwyno ynglŷn â hyn, ac rwy'n annog yr Aelodau eraill i ychwanegu eu henwau hefyd. Mae hyn yn cydnabod bod dros 40 miliwn o bobl yn y byd heddiw, ac amcangyfrifir bod 136,000 o bobl ledled y DU, yn wynebu caethwasiaeth fodern. Mae hyn hefyd yn tynnu sylw at y safon Brydeinig newydd ar gaethwasiaeth fodern, a gafodd ei gyhoeddi gan Sefydliad Safonau Prydain—y cyntaf o'i fath yn y byd—ac yn annog Llywodraeth Cymru i helpu i godi ymwybyddiaeth o'r safon a hysbysebu ei fod yn rhad ac am ddim i holl fusnesau a sefydliadau Cymru. Mae'r safon yn rhoi canllawiau i sefydliadau ar gyfer ymdrin â'r risg o gaethwasiaeth fodern, gan gynnwys atal, adnabod, ymateb, adfer, lliniaru ac adrodd. Wrth siarad yn lansiad prosiect Cyngor ar Bopeth Conwy Mynd i'r Afael â Chaethwasiaeth Fodern mewn Amseroedd sy'n Newid yn Gyson ym mis Mawrth y llynedd, dywedais i, yn anffodus, mae caethwasiaeth fodern yn sefyllfa wirioneddol yn ein gwlad ac, er mwyn ymdrin â'r drosedd hon, mae angen partneriaethau arnom ni rhwng yr asiantaethau statudol a'r trydydd sector, i amddiffyn y rhai sy'n agored i niwed, addysgu pob aelod o'r gymuned, cefnogi goroeswyr, a gweithio tuag at wneud Cymru'n fan mwy diogel lle nad yw troseddwyr yn gallu manteisio ar eraill. Rwy'n galw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn unol â hynny. Lesley Griffiths AC: Diolch. Mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn am y pethau erchyll yr ydym ni wedi'u gweld gyda chaethwasiaeth fodern yma yng Nghymru, ac rwy'n gwybod y byddai'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn hapus iawn i gyflwyno datganiad ysgrifenedig, ac mae hi hefyd yn awyddus iawn i roi cyhoeddusrwydd i'r safon ymhlith sefydliadau yma yng Nghymru. Diolch i'r Trefnydd. 3. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Ymateb Llywodraeth Cymru i ddatganiad y Canghellor ar y cynllun ariannol tymor canolig Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad gan y Gweinidog cyllid ar ymateb Llywodraeth Cymru i ddatganiad y Canghellor ar y cynllun ariannol tymor canolig. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad—Rebecca Evans. Rebecca Evans AC: Diolch, Llywydd. Ddoe, fe wnaeth y Canghellor diweddaraf wyrdroi llawer o'r penderfyniadau diffygiol a di-hid a gafodd eu gwneud gan ei ragflaenydd a'r Prif Weinidog yn y gyllideb fach lai na mis yn ôl ac a oedd yn faes canolog o raglen dwf honedig y Prif Weinidog newydd. Cafodd datganiad y Canghellor newydd ddoe ei wneud cyn ei gynllun cyllidol tymor canolig ar 31 Hydref, lle y gwnaeth nodi y byddai'n cyhoeddi mesurau eraill i leihau gwariant cyhoeddus mewn cynllun wedi'i gostio gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllideb. Mae'r DU nawr mewn sefyllfa llawer gwaeth yn ariannol ac yn economaidd nag yr oedd cyn y gyllideb fach anffodus. Mae hyn yn anfaddeuol. O ganlyniad i'w gweithredoedd a'i phenderfyniadau ei hun, mae Llywodraeth y DU wedi creu anhrefn yn y marchnadoedd ariannol, sydd wedi arwain at gynyddu costau morgeisi a benthyca'r Llywodraeth, ac mae Banc Lloegr wedi cael ei orfodi i gymryd camau eithriadol i atal cwymp mewn cronfeydd pensiwn. Rebecca Evans AC: A hyn i gyd tra bod cyllidebau aelwydydd yn cael eu gwasgu fwy fyth hyd yn oed a thwll enfawr wedi'i greu mewn cyllid cyhoeddus. Efallai fod y Canghellor newydd wedi dadwneud y rhan fwyaf o'r mesurau i dorri trethi a gyflwynwyd ar 23 Medi, a gafodd eu cynllunio, fel y gwyddom ni, i fod o fantais i'r cyfoethocaf, ond ni all ddadwneud y niwed y mae'r gyllideb fach wedi'i achosi. Gadewch i mi fod yn eglur y bydd pobl yng Nghymru yn talu am fethiannau Llywodraeth y DU gyda threthi uwch yn y dyfodol, biliau ynni uwch a thoriadau i'n gwasanaethau cyhoeddus. Mae yna ryw ychydig rai wedi elwa llawer iawn o ganlyniad i aflonyddwch y farchnad ariannol yn dilyn y gyllideb fach drychinebus, ac fe fydd nifer fach o bobl yn parhau i elwa. Roedd tynnu'r cap ar fonysau bancwyr yn un o'r ychydig iawn o fesurau a achubwyd o goelcerth y Canghellor newydd. Yn anffodus, nid fy etholwyr i yw'r rhai sy'n elwa ar yr anhrefn a grëwyd gan y gyllideb fach, a dim ond cynyddu y mae eu problemau nhw ac maen nhw wedi'u gadael â thrafferthion i dalu eu morgeisi, gwresogi eu cartrefi a bwydo eu teuluoedd. Mae hon yn Llywodraeth y DU sydd wedi dweud mai'r prif faes y mae hi'n canolbwyntio arno yw twf, ond eto ni fydd datganiad ddoe yn gwneud unrhyw beth i wella rhagolygon economaidd ein gwlad. Rwy'n methu â gweld sut y bydd unrhyw un o'r mesurau a gyhoeddwyd gan y Canghellor yn gwneud unrhyw beth heblaw am grebachu'r economi a dyfnhau'r dirwasgiad. Mae hyn yn llwyr i'r gwrthwyneb i'r cynllun twf honedig. Er i'r Canghellor nodi mai blaenoriaeth Llywodraeth y DU wrth wneud y penderfyniadau anodd sydd o'u blaenau nhw fydd y rhai mwyaf agored i niwed bob amser, nid yw ef wedi cynnig unrhyw beth i'w cefnogi nhw eto. Yn hytrach, mae ef wedi torri cymorth ynni yn gynamserol i ddegau o filiynau o aelwydydd, gan ychwanegu at y pryder ynglŷn â sut y bydd pobl yn talu eu biliau. Mae Llywodraeth y DU wedi methu dro ar ôl tro i gymryd cyfleoedd i wella ein diogelwch ynni i'r dyfodol a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Os yw'r Llywodraeth hon o ddifrif ynglŷn ag ysgogi twf economaidd, mae'n rhaid iddi fod yn fwy uchelgeisiol o ran buddsoddi. Mae'n rhaid i'r Canghellor roi'r ysgogiad cyfalaf i fuddsoddi mewn ynni gwyrdd a datgarboneiddio. Ni ddylai geisio torri gwariant cyfalaf pan fyddwn ni'n wynebu toriadau o flwyddyn i flwyddyn i'n cyllideb gyfalaf ni drwy gydol y cyfnod hwn o adolygu gwariant. Mae'r anhrefn sy'n amgylchynu camweinyddu Llywodraeth y DU o ran yr economi wedi tynnu sylw yn anffodus oddi wrth y materion gwirioneddol y mae pobl yn eu hwynebu nhw. Mae angen i Lywodraeth y DU ddiweddaru ei hymdrechion i helpu'r rhai sydd â'r angen mwyaf. Mae'n rhaid i'r Canghellor fanteisio ar y cyfle ar 31 o fis Hydref i ddarparu cefnogaeth bellach a anelir i helpu aelwydydd a busnesau sy'n ei chael hi fwyaf anodd yn yr argyfwng presennol, gan gynnwys pobl sy'n derbyn budd-daliadau. Llywodraeth y DU sydd â'r ysgogiadau cyllidol allweddol i wneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran yr argyfwng costau byw. Mae'n rhaid iddi ddefnyddio ei hysgogiadau o ran treth mewn ffordd fwy cyfiawn, gan gynnwys treth ffawdelwar enillion yn y sector ynni. Rwy'n ofni bod datganiad y Canghellor ddoe yn argoeli cyfnod newydd o gyni. Hyd yn oed cyn unrhyw doriadau gwariant gydag ymarfer effeithlonrwydd arfaethedig y Canghellor, mae chwyddiant wedi erydu ein setliad cyllideb ddatganoledig ni'n sylweddol eisoes. Dros y cyfnod gwariant presennol o dair blynedd, fe fydd ein cyllideb ni werth hyd at £4 biliwn yn llai mewn termau real nag yr oedd pan gafodd ei sefydlu y llynedd. Fe fydd yn werth £1.5 biliwn yn llai hyd yn oed flwyddyn nesaf. Fe fydd penderfyniadau sy'n cael eu gwneud yn Whitehall o ran lle bydd y toriadau yn digwydd gyda gwariant cyhoeddus yn cael effaith wirioneddol ar ein cyllideb ni yng Nghymru. Wrth i ni, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill edrych eto ar ein cynlluniau gwariant ar gyfer y flwyddyn nesaf, rydym ni'n cael ein gorfodi i wneud cyfres hynod anodd o ddewisiadau. Er na allwn ni amddiffyn rhag holl effaith gweithredoedd Llywodraeth y DU, fe fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i helpu aelwydydd, gwasanaethau a busnesau trwy'r argyfwng cynyddol barhaus hwn o wneuthuriad Llywodraeth y DU. Yn y flwyddyn ariannol hon rydym ni'n buddsoddi £1.6 biliwn mewn cynlluniau sy'n rhoi cefnogaeth yn uniongyrchol i bobl, fel y taliad cymorth tanwydd gaeaf gwerth £200, ac ystod eang o raglenni a chynlluniau sy'n rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl—cynlluniau fel y cynllun gostyngiadau treth cyngor, prydau ysgol am ddim a grant datblygu disgyblion, sy'n helpu teuluoedd gyda chostau anfon eu plant i'r ysgol. Wrth edrych i'r dyfodol, fe fyddwn ni'n cyhoeddi cyllideb Llywodraeth Cymru ar 13 o fis Rhagfyr ac, wrth wneud hynny, rydym ni am gynnig ymateb ystyriol a gofalus i'r argyfwng, gan ystyried y rhagolwg cyllidol llawn a ddarperir gan Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidol i roi cymaint o sicrwydd â phosibl i'n gwasanaethau cyhoeddus ni a'n partneriaid ni. Er bod ein hadnoddau yn gyfyngedig ac ni wnaiff cyhoeddiad ddoe unrhyw beth i leddfu'r sefyllfa sydd eisoes yn heriol sy'n wynebu Llywodraeth Cymru, ein blaenoriaeth ni fydd gwarchod y rhai mwyaf agored i niwed a chreu Cymru gryfach, tecach a gwyrddach sy'n diogelu lles ein cenedlaethau yn y dyfodol. Fe fyddwn yn gwybod mwy ar Galan Gaeaf pan fydd cynllun cyllidol tymor canolig y Canghellor a rhagolygon annibynnol y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidol yn cael eu cyhoeddi, ond rwy'n ofni bod yn rhaid i ni baratoi ein hunain nawr am bennod arall o'r sioe arswyd hon o ganlyniad i stiwardiaeth ddiofal Llywodraeth y DU o'r economi a chyllid cyhoeddus. Peter Fox AS: Diolch i chi, Gweinidog. Yn gyntaf, fe hoffwn i gydnabod nad yw'r wythnosau diwethaf wedi bod yn rhai da iawn, a dweud y lleiaf. Ac rwy'n credu ein bod ni i gyd yn siomedig ein bod ni'n ein cael ein hunain—[Torri ar draws.] Mae gennyf i ddiddordeb ac awydd mawr i glywed beth sydd gan yr Aelod i'w ddweud, felly a gawn ni ychydig mwy o dawelwch i glywed cynnwys yr hyn sy'n cael ei ddweud? Peter Fox AS: Diolch i chi, Llywydd. Fel y dywedais i, rwy'n credu ein bod ni i gyd yn siomedig ein bod ni'n ein cael ein hunain yn y sefyllfa hon. Rwy'n croesawu'r Canghellor newydd i'w swydd. Mae'n un sydd ag ystod eang o wybodaeth am beirianwaith y Llywodraeth ac mae'r profiad angenrheidiol ganddo i roi'r wlad yn ôl ar y trywydd iawn. Nid amseroedd arferol mo'r rhain ac, er nad yw digwyddiadau diweddar wedi bod o gymorth, mae honniy gallem ni ein hynysu ein hunain yn llwyr oddi wrth nifer o ergydion byd-eang sydd wedi ein herio ni mewn cymaint o ffyrdd yn gamgymeriad. Ond, Llywydd, fel y dywedais i yn gynharach, rwy'n ymwybodol iawn bod yr wythnosau diwethaf wedi bod, a dweud y lleiaf, yn siomedig. Er fy mod wedi amddiffyn rhai o'r cynigion a gyhoeddwyd yn flaenorol o bosibl, fe wnes i hynny yn y gred bod Llywodraeth y DU wedi modelu effeithiau ei chynlluniau ni, ac fe ddylai'r Llywodraeth fod wedi cyhoeddi'r holl wybodaeth a oedd ganddi wrth wneud ei chyhoeddiad gwreiddiol, ochr yn ochr â chynigion manwl am ei chynlluniau ariannol tymor hwy. Roedd y ffaith nad oedd hynny ar gael yn gamgymeriad. Ni ddylai hynny fod wedi digwydd, ac rwy'n croesawu'r ffaith bod y Canghellor wedi ymrwymo i ddilyn egwyddorion cyfrifoldeb cyllidol, fel llawer o gangellorion o'i flaen. Llywydd, er fy mod yn dal i gredu mai twf economaidd yw'r ffordd orau allan o'r argyfwng hwn, yn y pen draw, yr hyn sydd ei angen arnom ni nawr yw sefydlogrwydd, ac mae'n rhaid i'r Canghellor newydd gyflawni hyn, ac mae'r ymateb i'w ddatganiad ddoe wedi helpu i dawelu ychydig ar y marchnadoedd. Rwy'n credu hefyd y bydd cyhoeddi'r cyngor cynghori economaidd newydd yn rhoi sefydlogrwydd a chyfeiriad pellach i bolisi cyllidol y DU. Roeddwn i'n falch o glywed bod y Gweinidog wedi siarad â'r prif ysgrifennydd, ac rwy'n gobeithio, mewn sgyrsiau yn y dyfodol, y bydd y Gweinidog yn codi'r posibilrwydd o weld Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r cyngor i ailsefydlu'r gwaith traws-lywodraethol pwysig hwnnw, yn ogystal â cheisio cael gogwydd Cymreig ar y cyngor i adlewyrchu ein diddordebau cyffredin ni a'r ymagwedd economaidd sy'n benodol i Gymru. Rwy'n gobeithio y gellir rhoi sicrwydd ynglŷn â'r hyn fydd yn y rhagolygon cyllidebol yn dilyn y datganiad ariannol yn ddiweddarach yn y mis. Rwyf i'n cytuno â'r Gweinidog hefyd am yr angen parhaus i gefnogi pobl, yn enwedig y rhai sy'n ei chael hi'n fwyaf anodd yn ystod y cyfnod cythryblus hwn, ac mae'n rhaid i Lywodraeth y DU wneud popeth y gall hi, fel y gwnaeth hi o'r blaen yn ystod COVID, a thu hwnt, i estyn y cymorth sydd ei angen ar bobl. Nawr, rwy'n dawel fy meddwl oherwydd sylwadau'r Canghellor y bydd ef bob amser yn canolbwyntio ar y rhai sydd â'r angen mwyaf, ond fe wn i bod yn rhaid i ninnau wneud ein rhan hefyd wrth sicrhau bod y Llywodraeth yn parhau i ganolbwyntio ar helpu'r rhai mwyaf agored i niwed, a dyna pam, heddiw, mae grŵp y Ceidwadwyr Cymreig wedi ysgrifennu at y Canghellor yn galw am uwchraddio budd-daliadau yn unol â chwyddiant. Ond mae'n rhaid i mi ddweud, wrth i'r Gweinidog ddweud sut y bydd cyhoeddiadau'r Canghellor yn crebachu'r economi, mae'n rhaid i mi holi ai dim ond gwrthwynebu unrhyw beth y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud yw polisi Llywodraeth Cymru. Ychydig wythnosau yn ôl, roedden nhw'n dadlau yn erbyn y cynllun twf ac yn galw am ei ddiddymu. Nawr mae hi'n ymddangos eu bod nhw'n awgrymu bod gwrthdroi'r un cynllun yn atal twf, felly beth maen nhw'n ei gredu? Llywydd, yr hyn yr ydym ni'n aros i'w glywed o hyd—a datganiad ar ôl datganiad, rwy'n gofyn am hyn— yw beth yw cynlluniau'r Llywodraeth i gyflawni'r twf a'r ffyniant sydd eu hangen ar ein heconomi ni yng Nghymru? Os yw'r cynllun twf yn rhoi'r fath anghywir o dwf economaidd a bod diddymu'r cynllun yn atal twf, yna beth yn union y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wireddu posibiliadau llawn ein heconomi ni? Yn ddiweddar, fe ddywedodd y Prif Weinidog mewn cyfweliad fod angen buddsoddiad mewn seilwaith a buddsoddiad mewn cyfalaf dynol, ac rwy'n cytuno â hynny, ond sut mae hynny'n cysoni â rhai o'r cyfraddau busnes uchaf yn y DU, a'r gwaharddiad ar seilwaith ffyrdd newydd, a threth dwristiaeth nad yw'r diwydiant yn ei hoffi ar y cyfan, a diffyg adeiladu tai ledled y wlad, a Chymry yn ennill llai bob blwyddyn nag yng ngweddill y DU? Sut all y pethau hynny fod yn ffyrdd o sicrhau twf? Llywydd, mae'r wythnosau diwethaf wedi bod yn anodd ac yn heriol, ond yr hyn y maen nhw wedi ei ddangos, i fynd i'r afael â'r anawsterau yr ydym yn eu hwynebu, yw bod angen i ni greu'r amodau ar gyfer twf. Diolch. Rebecca Evans AC: Diolch i lefarydd y Ceidwadwyr am y sylwadau hynny y prynhawn yma, ac rwy'n cytuno ag ef, nid yw'r rhain wedi bod yn wythnosau da iawn, a dweud y lleiaf, ac mae hi'n sicr yn siomedig. Rwy'n credu ei fod wedi gwneud y gorau y gallai yn y fan honno i anfon neges bendant at ei gydweithwyr yn San Steffan o ran asesiad y Ceidwadwyr Cymreig o'r traed moch a welsom ni yn San Steffan yn ddiweddar. Ond rwyf i yn croesawu'r llythyr y bydd y Ceidwadwyr yn ei anfon i'r Canghellor diweddaraf ynglŷn â budd-daliadau—[Torri ar draws.] Mae wedi mynd, mae hynny'n ardderchog. Felly, gyda gobaith, fe fydd y Canghellor hwn yn cadw ei swydd yn ddigon hir i chi gael ateb, oherwydd ni chefais i un gan y diwethaf. Ond rwy'n credu bod hynny i'w groesawu o ran eich cefnogaeth chi i godi budd-daliadau yn unol â chwyddiant, ac mae hynny'n sicr i'w groesawu. Roedd llawer o sylwadau yn y fan yna am dwf a sut mae Llywodraeth Cymru yn ystyried twf. Wel, fe grëwyd y comisiwn twf a sefydlwyd gan Ysgol Economeg Llundain i nodi ffyrdd o wella perfformiad twf dilewyrch y DU, ac fe dynnodd y comisiwn hwnnw sylw ei hun at bwysigrwydd hanfodol parhau i fuddsoddi yn y system addysg ac mewn sgiliau addasadwy a dysgu gydol oes. Roedd yn pwysleisio swyddogaeth allweddol seilwaith hefyd yn elfen hanfodol i dwf cynaliadwy, ac roedd yn dadlau o blaid cyfraddau uwch, ac nid is o fuddsoddiad mewn seilwaith ledled y DU. Mae hynny'n gwbl gyson â'r hyn y mae'r Prif Weinidog a fy nghydweithwyr eraill i'n sôn amdano bob amser ynglŷn â'n dealltwriaeth ni o dwf. Buddsoddi mewn pobl, buddsoddi mewn sgiliau a buddsoddi mewn seilwaith yw hwnnw. Rydym ni'n dymuno gweld, yn arbennig, fuddsoddi mewn seilwaith gwyrdd i'n harwain ni tuag at sero net ac i helpu i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur. Hefyd, mae hi'n werth cofio bod dadansoddiad ar gyfer Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dangos swyddogaeth hanfodol cynnal buddsoddiad mewn seilwaith i ymateb i'r heriau o wella perfformiad economaidd ardaloedd sydd ar ei hôl hi a chyflawni sero net hefyd a sicrhau cydnerthedd o ran yr hinsawdd a gwell amgylchedd. Felly, eto, mae hyd yn oed y comisiwn seilwaith hwnnw'n gweld pethau fel y gwnawn ni yn Llywodraeth Cymru. Roedd gweledigaeth Llywodraeth y DU ar gyfer twf yn ymddangos fel pe bai'n ymwneud â dim ond torri treth ar gyfer y rhai cyfoethocaf un, fel pe bai hynny'n mynd i fod y cymhelliant yr oedd ei angen arnynt, ac wedyn nid oes dim ar ôl o weledigaeth Llywodraeth y DU ar gyfer twf yn y cynllun presennol, ar wahân i'r ymrwymiad parhaus, fel rwyf i'n ei ddeall, i'r parthau buddsoddi. Eto i gyd, ychydig iawn o fanylion sydd gennym ni ynglŷn â sut olwg allai fod ar y parthau buddsoddi hynny. Rydym ni'n edrych ymlaen at drafodaethau pellach gyda Llywodraeth y DU ynghylch hynny. Roedd yr Aelod yn cyfeirio hefyd at y drafodaeth a gefais i gyda'r Prif Ysgrifennydd i'r Trysorlys. Ddoe yr oedd hynny, ac fe wnes i hynny ochr yn ochr â fy nghymheiriaid yn yr Alban. Roedd honno'n sgwrs ddefnyddiol iawn, yn fy marn i, ond yr hyn sydd ei angen arnom ni mewn gwirionedd yw prif ysgrifennydd sydd yn ei gweld hi'n rhan wirioneddol o'i gyfrifoldebau craidd i fod â pherthynas fel hon gyda Llywodraeth Cymru a gyda'r Llywodraethau datganoledig eraill o ddydd i ddydd, a chael rhywun sydd â diddordeb gwirioneddol yng Nghymru, ar gyfer mynd i'r afael â'r pethau yr ydym ni'n ceisio gwneud cynnydd yn eu cylch gyda Llywodraeth y DU. Hwn, fel dywedodd y Prif Weinidog, fydd y chweched Prif Ysgrifennydd i'r Trysorlys a welais yn fy amser i ac mae honno'n broblem, yn yr ystyr bod yn rhaid i chi ddechrau o'r dechrau bob tro yr ydych chi'n gweithio gyda Phrif Ysgrifennydd newydd i'r Trysorlys, oherwydd mae llawer o'r materion yr ydym ni'n ceisio symud ymlaen â nhw yn rhai manwl a chymhleth iawn. Mae'r materion sy'n ymwneud â chyllid yn lle'r cyllid oddi wrth yr UE a'r fformiwla a ddefnyddiodd Llywodraeth y DU i benderfynu ar y cyllid hwnnw, sy'n ein gadael £1 biliwn yn brin, mae angen i ni gael trafodaethau manwl am hynny. Mae angen i ni barhau â'r trafodaethau hynny yr ydym ni'n dechrau eu cael ynghylch hyblygrwydd cyllidol i Gymru. Felly, mae hi'n siomedig pan fydd yn rhaid i chi fynd yn ôl i'r dechrau un, dro ar ôl tro, gyda'r trafodaethau hyn. Felly, rwy'n gobeithio y bydd meithrin perthynas dda, newydd, gref gyda'r Prif Ysgrifennydd i'r Trysorlys diweddaraf yn dechrau mynd â ni i lawr y llwybr hwnnw hefyd. Rwy'n edrych ymlaen at barhau â'r berthynas honno. Llyr Gruffydd AC: Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Mae'n rhaid imi ddweud bod y llanast hwn yn dangos unwaith eto y graddau yr ydym ni yma yng Nghymru ar drugaredd mympwyol Gweinidogion yn San Steffan. Mae hynny'n tanlinellu unwaith eto sut mae'r setliad datganoli presennol yn ein gadael ni'n ddirym yn ariannol o ran gallu gwarchod ein buddiannau, a diogelu'r bobl sy'n agored i niwed yn ein plith, rhag penderfyniadau niweidiol Llywodraeth y DU. Yn ddiweddar, fe wnaethoch chi ddisgrifio bod yn rhan o'r undeb a bod â Llywodraeth y DU yno fel rhyw fath o bolisi yswiriant i Gymru, ond siawns bod yn rhaid i chi dderbyn erbyn hyn ei bod hi wedi bod ychydig yn fwy tebyg i faen melin am ein gyddfau ni yn ystod yr wythnosau diwethaf. Ac os nad yw digwyddiadau diweddar yn dadlau'r achos o blaid annibyniaeth, wel, siawns nad yw'n dadlau'r achos o blaid mwy o annibyniaeth gyllidol i Gymru: mwy o bwerau i ddiogelu ein pobl ni rhag yr enbydrwydd yr ydym ni'n ei deimlo eisoes ac mae'n siŵr y bydd hwnnw'n dwysáu yn ystod y misoedd nesaf. Nawr, rydych chi'n dweud yn y datganiad mai Llywodraeth y DU sydd â'r ysgogiadau ariannol allweddol i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn yr argyfwng costau byw, ac mae angen iddi ddefnyddio'r ysgogiadau hynny o ran trethiant mewn ffordd decach. Wel, pam fyddech chi'n caniatáu i'r Torïaid wneud eu gwaethaf, yn lle mynnu pwerau i chi wneud eich gorau i bobl Cymru? Fe wyddom ni, yn yr Alban, eu bod nhw'n gallu diwygio'r bandiau treth incwm hynny. Mae honno'n ffordd o gael gwell adlewyrchiad o allu pobl i dalu. Dyna'r lleiaf y gallwn ni ei ddisgwyl, rwy'n credu, yma yng Nghymru. Ond, os ewch chi â hynny i'r pegwn arall, os nad yw Llywodraeth y DU yn cyflwyno treth ffawdelw ar gwmnïau ynni, yna pam na allem ninnau fod â'r pwerau yma i wneud rhywbeth ynglŷn â hynny, yn lle gwneud dim ond cwyno mewn datganiad ysgrifenedig neu ddatganiad llafar? Wedi dweud hynny, pwerau newydd, ie, iawn, mae hwnnw'n un peth, ond mae angen i ni ddefnyddio'r pwerau sydd gennym eisoes hefyd i'r effaith fwyaf posibl i amddiffyn y bobl fwyaf bregus rhag yr hyn sydd o'n blaenau ni. Gwnaeth y Prif Weinidog osgoi hyn unwaith eto yn gynharach, felly rwyf i am ofyn a fyddech chi'n cadarnhau bod amrywio cyfraddau Cymru o dreth incwm yn cael ei ystyried o ddifrif gan y Llywodraeth hon. Ac a wnewch chi ymuno â Phlaid Cymru i dderbyn ei bod hi'n ymddangos fel pe bai hi am fod yn angenrheidiol i weithredu fel hyn i, unwaith eto, liniaru rhai o'r toriadau dinistriol gan San Steffan sydd ar y gorwel? Rydych chi'n iawn i feirniadu'r ffaith bod y pecyn cymorth ynni am gael ei gwtogi i chwe mis, oherwydd mae hynny'n rhoi ymyl clogwyn a phobl yn y tywyllwch o ran yr hyn a fydd yn digwydd ar ddiwedd y cyfnod hwnnw. Rwy'n deall eich bod chi wedi siarad, fel roeddech chi'n dweud, gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, ond pa gynlluniau sydd gennych chi i siarad â'r Canghellor ei hun mewn gwirionedd, i nodi nid yn unig yr achos o blaid rhagor o bwerau cyllidol i Gymru, ond i wneud yn siŵr ei fod e'n deall y goblygiadau i Gymru oherwydd ei gyhoeddiadau diweddar, a gwneud yn siŵr hefyd, cyn y datganiad ar ddiwedd y mis, ei fod yn deall pa oblygiadau a allai fod i ni yma yng Nghymru? O ran ynni yn benodol, a fyddwch chi'n dadlau'r achos o blaid yr eiddo hynny sydd oddi ar y grid, yn arbennig, oherwydd mae hwnnw'n rhywbeth sy'n peri pryder enfawr? Fe wn i fod Ben Lake, fy nghyd-aelod o Blaid Cymru sydd yn San Steffan, wedi codi'r angen am gefnogaeth o ran olew a phobl sydd oddi ar y grid. Ni wnaeth y Canghellor ddiystyru hynny. Felly, yn eich trafodaethau chi gyda'r Canghellor, a fyddwch chi'n ailadrodd yr angen i estyn cefnogaeth i'r rhai nad ydyn nhw'n gallu cael gafael arno yn yr un ffordd â'r rhan fwyaf o bobl ar hyn o bryd? Nawr, ddoe, roedd eich datganiad ysgrifenedig chi'n nodi nad oedd y Canghellor ddim i fod o unrhyw gysur i'r rhai mwyaf agored i niwed. Wel, fe allem ninnau roi'r un dyfarniad ar eich datganiad chithau heddiw. Nid oes unrhyw beth sy'n newydd yma; ambell i gyfeiriad annelwig at gynlluniau cymorth a gyhoeddwyd yn flaenorol. Roeddwn i'n gobeithio y byddech chi'n dod yma heddiw mewn gwirionedd gyda rhywbeth ychydig yn fwy pendant i'w ddweud wrthym ni. Ac rydych chi'n dweud bod angen i Lywodraeth y DU ganolbwyntio ei hymdrechion o'r newydd i helpu'r rhai sydd yn yr angen mwyaf. Wel, siawns nad yw hynny yr un mor wir i Lywodraeth Cymru hefyd, ac onid yw hi'n bryd i chi fod yn paratoi cyllideb frys yma yng Nghymru i ganolbwyntio o'r newydd ac ailddyrannu adnoddau i helpu'r mwyaf anghenus, fel y dywedwch chi, a gwneud hynny ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, wrth gwrs, a pheidio aros tan y flwyddyn nesaf? Ac yn olaf, o ran cyllideb y flwyddyn nesaf, rydych chi wedi dweud hyn ddwywaith nawr, yn y datganiad ysgrifenedig diwethaf ddoe a'ch datganiad llafar chi heddiw, y bydd cyllideb Llywodraeth Cymru yn cael ei chyflwyno ar 13 o fis Rhagfyr. Fy nealltwriaeth i oedd mai'r cytundeb gwreiddiol oedd na fyddai hi'n ddim hwyrach na 13 o fis Rhagfyr, a bod y dyddiad hwnnw wedi cael ei ddewis, neu gael ei nodi, oherwydd ei fod o ran cyhoeddiad cyllidol disgwyliedig Llywodraeth y DU ym mis Tachwedd. O ystyried bod hwnnw am ddod yn gynt erbyn hyn, siawns eich bod chi mewn sefyllfa i gyhoeddi eich cyllideb ddrafft chi'n gynharach. Byddai hynny'n caniatáu mwy o graffu gan y Senedd hon, ac yn rhoi mwy o amser arweiniol hefyd i ddarparwyr y gwasanaethau cyhoeddus hynny yng Nghymru y bydd yn rhaid iddyn nhw wneud i bob ceiniog goch weithio mor galed â phosibl. Rebecca Evans AC: Rwy'n ddiolchgar iawn am yr holl sylwadau hynny. Rwyf i am ddechrau lle y dechreuom ni'r tro diwethaf pan oeddem ni'n trafod cyllideb fach Llywodraeth y DU, a'r ffaith mai fy marn i yw nad y DU yw'r broblem, Llywodraeth y DU yw'r broblem, ac mae gennym ni gyfle i newid hynny. Rwy'n credu bod sefyllfa'r Prif Weinidog presennol yn gwbl anghynaladwy, yn fy marn i, yn enwedig oherwydd bod y gyflafan a ddilynodd hynny o'i gwneuthuriad hi ei hun, lawn cymaint â'r Canghellor, y gwnaeth hi ei ddiswyddo o'i waith. Rebecca Evans AC: Ond rwy'n credu bod y pwyntiau ehangach yn bwysig iawn o ran cael y sgwrs fwy eang honno am y pwerau sydd ar gael i ni yma yng Nghymru, a sut olwg fyddai ar gyfres well o bwerau. Rwy'n credu bod honno'n drafodaeth sy'n parhau. Mae hi'n gyfredol iawn. Mae'r Sefydliad Materion Cymreig yn gwneud gwaith hynod ddiddorol ar hyn o bryd mewn maes fel hwn, i geisio tynnu pobl eraill a lleisiau eraill i mewn i'r sgwrs honno, rhywbeth sydd wir i'w groesawu yn fy marn i. O ran cyfraddau treth incwm Cymru, nid wyf i o'r farn bod y Prif Weinidog yn osgoi heddiw. Rwy'n credu ei fod ef wedi gwneud dim ond nodi yn onest, yn yr ystyr y bu ni'n eglur iawn ein bod ni â phroses sefydledig o ran cyfraddau treth incwm i Gymru, sy'n parhau pob un flwyddyn. A honno yw ystyried cyfraddau Cymru o'r dreth incwm, ac ystyried y gwaith y mae'n rhaid i gyfraddau treth incwm Cymru ei wneud wrth ariannu gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru, ac yna fe gyhoeddwn ni'r penderfyniadau hynny ochr yn ochr â'r gyllideb ddrafft. Dim ond i barhau â'r drafodaeth a oedd yn digwydd rhwng y Prif Weinidog ac arweinydd Plaid Cymru yn gynharach heddiw, ynglŷn â chyfraddau treth incwm i Gymru, fe wn i fod rhywfaint o ddiddordeb yn y swm y gellid ei godi drwy gyfraddau uwch a chyfraddau ychwanegol, yn arbennig felly. Wel, fe fyddwn ni'n dechrau gyda'r gyfradd sylfaenol, a dyma'r ffigwr sy'n cael ei ddyfynnu'n aml iawn yn y Siambr: fe fyddai hynny'n codi tua £220 miliwn. Ond wedyn fe fyddai'r gyfradd uwch—a pe byddech chi'n codi un geiniog yw hyn—yn codi oddeutu £30 miliwn, ac yna dim ond £4 miliwn pe byddech chi'n codi'r gyfradd ychwanegol. Felly, rwy'n credu bod hynny'n ein helpu ni ychydig wrth roi rhyw gyd-destun defnyddiol, mewn gwirionedd, ar gyfer y mathau o benderfyniadau y bydd yn rhaid i ni eu gwneud, a'r mathau o ddewisiadau sydd ar gael i ni. Ond dim ond i fod yn gwbl onest: nid oes unrhyw benderfyniadau wedi eu gwneud. Rwy'n credu bod tro pedol Llywodraeth y DU ynglŷn â'r dreth incwm wedi newid y cyd-destun ar gyfer y penderfyniadau hynny erbyn hyn, ond fe fyddwn ni'n cynnal y trafodaethau hynny wrth i ni symud tuag at gyhoeddiad y gyllideb ddrafft ar 13 o fis Rhagfyr. Fy mwriad yw aros gyda dyddiad y 13 o fis Rhagfyr, oherwydd mae hwnnw'n parchu'r protocol sydd gennym ni gyda'r Pwyllgor Cyllid. Ond hefyd, rwy'n credu bod yn rhaid i mi ddweud wrth bobl mai hon fydd y gyllideb anoddaf y gwnaethom ni ei phennu ers datganoli, yn yr ystyr ein bod ni'n edrych yn barod ar gyllideb sydd werth £1.5 biliwn yn llai'r flwyddyn nesaf. Mae hynny cyn unrhyw doriadau sy'n cael eu cyhoeddi naill ai ar 31 o fis Hydref neu mewn datganiad gwanwyn sydd ar ddod. Felly, fe fydd hon yn gyllideb lle rydym ni'n edrych eto ar ein rhaglen lywodraethu ni, rydym ni'n ailystyried ein blaenoriaethau ni ac yn y blaen. Mae hi'n bosibl y gallai hon fod yn gyllideb lle byddwn ni'n cael ein gorfodi i dorri prif grwpiau neu raglenni gwariant ac yn y blaen ynddi hi. Felly, rwyf i o'r farn fod hynny'n rheswm da pam mae angen amser i wneud y gwaith yna yn y Llywodraeth. Mae hi'n wir yn aml ein bod ni'n cael ein gofyn i ganiatáu mwy o amser ar gyfer craffu nag ar gyfer paratoi'r gyllideb hyd yn oed. Fe hoffwn i ddisgrifio'r gwaith mawr sy'n digwydd wrth ddatblygu cyllideb, o ran y comisiynau hynny sy'n mynd allan i bob un o fy nghydweithwyr. Mae cyfres o gyfarfodydd dwyochrog gyda phob un o fy nghydweithwyr gweinidogol. Bydd eu hadrannau nhw i gyd yn edrych ar eu rhaglenni nhw ac yn ceisio ystyried beth a ellid ei wneud yn wahanol, lle mae'r pwysau, ac yn y blaen. Felly, mae'r pethau hyn yn cymryd wythnosau lawer i'w gwneud, a phan rydym ni'n ystyried cyllideb sy'n ymwneud â thoriadau yn hytrach na dyraniadau, mae hynny'n gwneud y dasg yn anoddach fyth. Felly, roeddwn i'n awyddus i ddweud wrth gydweithwyr mai hwnnw yw'r rheswm pam mae angen amser arnom ni i ymgymryd â'r gwaith hwn. [Torri ar draws.] Ac ydw, rwy'n cytuno bod y gwaith craffu yn bwysig iawn hefyd, ond mae'r amserlen yr ydym ni'n ei nodi yn parchu'r gwaith craffu hwnnw. Felly, o ran y pwyntiau eraill a godwyd: ie, rwy'n sicr am fwrw ymlaen â'r pwyntiau penodol yr oeddech chi'n awyddus i'w codi gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â chefnogaeth oddi ar y grid, er enghraifft, ac rwy'n rhannu'r pryderon am gyhoeddi dileu'r cap ynni o fis Ebrill. Rwy'n credu y bydd hynny ond yn achosi llawer o ofid i aelwydydd yng Nghymru nawr sydd angen mwy o sicrwydd i gynllunio ar gyfer y cyfnod sydd i ddod. Mae Llywodraeth y DU wedi dweud eu bod nhw am sefydlu adolygiad o'r cymorth gydag ynni, ac fe fuom ni'n eglur iawn bod yn rhaid i'r adolygiad hwnnw ddechrau a gorffen yn gyflym iawn. Roedd Llywodraeth y DU, yn y cyfarfod ddoe, yn eithaf agored y gallwn ni fod yn rhan lawn o'r adolygiad hwnnw a bod â mewnbwn i'r adolygiad hwnnw. Y Trysorlys fydd yn ei arwain, ond rwy'n credu eu bod nhw—. O bosibl oherwydd mai dyma oedd ein cyfarfod cyntaf ni, fe wnaethon nhw ddechrau mewn ffordd golegaidd iawn, gan ddymuno bod yn agored a thryloyw. Felly, roeddwn i o'r farn ei bod hi'n ymddangos yn gyfle da i ni allu gweithio gyda'n gilydd i ddechrau o bosibl, ac fe fyddai hwnnw'n gyfle i ni nodi yn hollol yr hyn y mae ein hetholwyr ni'n ei deimlo o ganlyniad i'r sefyllfa bresennol, a'r diffyg sydd o ran gallu i fusnesau a gwasanaethau cyhoeddus gynllunio ymlaen llaw yn y sefyllfa hon hefyd. Alun Davies AC: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad chi'r prynhawn yma. Rwyf i am ddechrau drwy groesawu sylwadau llefarydd y Ceidwadwyr, mewn gwirionedd. Rwy'n gwybod pa mor anodd y gall y cyfraniadau hyn fod, ond roedd hi'n ymddangos eich bod chi'n llafurio tuag at edifeirwch. Rwy'n gobeithio y bydd yn gallu cwblhau'r daith dros yr wythnosau nesaf. Fe wyddom ni y bydd methiant Llywodraeth y DU i reoli'r economi gyffredinol yn cael canlyniadau gwirioneddol, ac mae'r Gweinidog wedi amlinellu'r canlyniadau dinistriol i'n gwasanaethau cyhoeddus ni yn rhan o hynny. Eto i gyd, fe hoffwn i fynd i'r afael â materion eraill y prynhawn yma. Rydym ni'n gwybod hefyd fod gan gyllideb y DU, os mynnwch chi, dwll o £40 biliwn yn ei chanol oherwydd Brexit, a beth bynnag arall yr ydym ni'n ei wneud o ran gwneud penderfyniadau economaidd, oni bai ein bod ni'n gallu masnachu yn ddidramgwydd gyda'n cymdogion agosaf fe fydd ein heconomi ni'n siŵr o danberfformio drwy'r amser. Fe fyddwn i'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn dechrau edrych o ddifrif nawr ar y ffordd y byddwn ni'n cychwyn ar daith tuag at ailymuno â'r undeb tollau a'r farchnad sengl er mwyn sicrhau ein bod ni'n gallu ailddechrau gweithgarwch economaidd yn y wlad, ond hefyd, Gweinidog, eich bod chi'n arwain trafodaeth ar drethiant. Rydych chi wedi ateb, roeddwn i'n meddwl, y cwestiynau a godwyd gan Blaid Cymru'r prynhawn yma'n fanwl iawn, ond mae angen dadl yng Nghymru, yn y lle hwn, ynghylch cyfraddau trethiant. Ni allwn ni ddarparu'r gwasanaethau y dymunwn eu darparu na llunio'r wlad yr ydym ni'n dymuno byw ynddi hi heb yr incwm angenrheidiol o drethiant ar gyfer gwneud hynny. Mae ein cyfraddau ni o drethiant, pa geiniog bynnag yma neu acw, yn sylweddol is na'r cyfraddau mewn economïau eraill o'r fath, ac mae hynny'n golygu y bydd ein gwasanaethau cyhoeddus ni bob amser wedi'u tanfuddsoddi mewn termau cymharol. Rwy'n gobeithio y gallwn ni ddechrau'r ddadl honno. Yn rhan o'r ddadl honno—ac nid wyf i am drethu dim mwy ar amynedd y Llywydd—bydd angen dadl ynglŷn â'r pwerau ariannol sydd ar gael i'r lle hwn. Roedd y Prif Weinidog yn eglur iawn wrth ateb cwestiwn gan yr Aelod dros Gwm Cynon yn gynharach sef bod y pwerau benthyca sydd ar gael i Lywodraeth Cymru ymhell o fod yn ddigonol—mewn gwirionedd, maen nhw'n gwbl anfoddhaol ac annigonol. Ond mae angen i ni edrych ar bwerau benthyg ymysg cyfres o bwerau eraill sydd ar gael i'r lle hwn ac i Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr holl offer sydd ar gael i ni sydd ei angen arnom ni i gyflawni nid yn unig ein huchelgeisiau i'r rhaglen lywodraethu, ond ar gyfer amddiffyn Cymru rhag anallu Llywodraeth Dorïaidd yn Llundain nad yw hi'n malio o gwbl amdanom ni na'n cenedl ni mewn gwirionedd. Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair. Rebecca Evans AC: Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiynau hynny. Mae Alun Davies yn gwbl gywir fod yna ganlyniadau gwirioneddol ym mywydau a gweithgarwch pobl o ganlyniad i benderfyniadau Llywodraeth y DU a'r anrhefn yn eu sgil nhw'n ddiweddar, yn bennaf, er enghraifft, gyda'r codiadau yng nghyfraddau morgais y cyfeiriodd y Prif Weinidog atyn nhw yn ei ddatganiad yn gynharach heddiw. Rwy'n llwyr gydnabod yr hyn a ddywedwyd am y twll yn y gyllideb oherwydd Brexit. Rwyf i o'r farn, fy hunan, fod COVID a'r argyfwng costau byw nawr yn cuddio'r effaith y mae Brexit yn ei gael ar yr economi. Yn anochel, fe fyddwn ni'n gweld niwed hirdymor i'r economi oherwydd Brexit yn unig, heb sôn am y materion eraill i gyd o ran y pandemig a chostau byw. Ni wnaf i ddim ond dweud wrth Alun Davies ein bod ni'n gytûn, fwy na thebyg, o ran y mater penodol hwn i raddau helaeth iawn ac felly rwy'n siŵr y byddwn ni'n cael trafodaethau pellach am hynny maes o law. Rwy'n cytuno hefyd ynglŷn â'r angen i ni gynnal dadl ehangach ar drethiant. Hyd yn oed ers i mi fod yn y swydd hon, rwyf i wedi gweld newid mawr yn y duedd, mewn gwirionedd, o ran maint y diddordeb sydd yna ynglŷn â phwerau Llywodraeth Cymru i godi trethi, ond y rhan sydd gan drethiant yn fwy cyffredinol, ynglŷn ag annog ymddygiadau penodol, ond i godi arian i'r cyhoedd hefyd. Rwy'n credu bod y gwaith y mae'r Sefydliad Materion Cymreig, y gwnes i gyfeirio ato, wedi bod yn ei wneud yn ddefnyddiol iawn yn y maes hwn hefyd. Mae adroddiad y Sefydliad Materion Cymreig yn rhoi ystyriaeth wirioneddol i bwerau benthyca, ac rwy'n credu ei fod yn dadlau'r achos o blaid benthyca darbodus, sy'n rhywbeth arall y byddem ni'n ei gefnogi yn frwd iawn. Ond wrth feddwl am yr effaith, ers y gyflafan wedi'r gyllideb fach, os edrychwn ni ar yr effaith a fu ar fenthyca'r Llywodraeth, fe fyddai £100 miliwn o fenthyca'r llynedd wedi costio £4.6 miliwn y flwyddyn i'w gynnal, tra byddai £100 miliwn o fenthyca yn costio £6.8 miliwn y flwyddyn i'w gynnal nawr. Dyna gynnydd o bron i 50 y cant. A thros y tymor benthyca, fe fyddem ni'n talu £69 miliwn mewn llog nawr o'i gymharu â dim ond £16 miliwn mewn llog y llynedd. Felly, dyna enghraifft arall o'r byd go iawn o hynny o'r effaith a achosodd yr anhrefn ar gyllidebau. Ac yn olaf, Carolyn Thomas. Carolyn Thomas AS: Diolch. Pan oeddwn i'n gynghorydd yn gorfod ymdrin â 10 mlynedd o gyni a thoriadau, roeddem ni'n aml yn gofyn pa ddiben oedd yna i'r Llywodraeth bennu polisïau a'r Senedd bennu polisïau pan nad oedd y gyllideb na'r adnoddau gennym ni i'w cyflawni nhw mewn gwirionedd. Mae'r sefyllfa wedi gwaethygu llawer erbyn hyn oherwydd yr anrhefn a phwysau chwyddiant a ddaeth trwy gamau Llywodraeth y DU. Mae gan Gaerdydd fwlch o £53 miliwn sy'n rhaid ei wynebu. Mae Conwy, Wrecsam a sir y Fflint yn edrych ar fwlch ariannol o £26 miliwn, felly fe fydd yn rhaid iddyn nhw wneud penderfyniadau anodd iawn. Roedden nhw'n dweud pe bydden nhw'n rhoi'r gorau i gasglu unrhyw wastraff, ac yn torri pob trafnidiaeth gyhoeddus, pe bydden nhw'n rhoi'r gorau i dorri'r glaswellt mewn caeau chwarae ac yn cau'r pyllau nofio, er hynny i gyd, ni fyddai ganddyn nhw ddigon o arian i lenwi'r bwlch. Mae hi'n enbyd. Mae'r pwysau ynni iechyd yn £90 miliwn i £100 miliwn, fe ddysgais i wythnos diwethaf. Heb dorri gwasanaethau iechyd i ariannu'r bwlch hwnnw, pan fo angen codiad cyflog ar nyrsys, y rhestrau aros enfawr gennym ni, ac yn gynharach fe glywsom ni am amseroedd aros ambiwlansys—. Sut ydym ni am lenwi'r bwlch hwnnw? Nid oes unrhyw amcan gennyf i. Rwy'n gwybod eich bod chi'n deall, ond nid wyf i'n credu bod Llywodraeth y DU na Jeremy Hunt yn deall hyn. A'r broblem yw y bydd toriadau o'r fath yn rhoi pobl benben â'i gilydd hefyd, mewn gwasanaethau amrywiol, sy'n gwbl anghywir, pan fo angen mwy o fuddsoddiad mewn gwasanaethau cyhoeddus, yn y bôn. Mae angen i chi ofyn y cwestiwn nawr, os gwelwch chi'n dda. Carolyn Thomas AS: Diolch i chi. Felly, Gweinidog, pa sylwadau ydych chi am eu rhoi mewn ymateb i Lywodraeth y DU o ran yr angen sydd arnom ni i gael buddsoddiad yn y gwasanaethau cyhoeddus? Mae 30 y cant o bobl yng Nghymru yn cael eu cyflogi mewn gwasanaethau cyhoeddus, ac mae eu hangen nhw arnoch chi i helpu'r sector preifat i dyfu. Diolch. Rebecca Evans AC: Diolch yn fawr iawn i chi am godi hyn a rhoi darlun gwirioneddol gignoeth hefyd o'r heriau sy'n wynebu awdurdodau lleol, yn enwedig y rhai yr oeddech chi'n cyfeirio atyn nhw yn y gogledd. Fe gefais i gyfle yn ddiweddar i gyfarfod ag is-grŵp cyllid Cyngor Partneriaeth Cymru, a gyda phwyllgor gweithredol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru hefyd, i siarad am y pwysau sydd ar y gyllideb. Erbyn hyn mae gennym ni gyfres o gyfarfodydd bob pythefnos gydag arweinwyr yr awdurdodau lleol, ac yn y cyfarfodydd hynny rydym ni'n gallu trafod materion fel pwysau cyllidebol hefyd. Rwyf i wir yn gweld y cyfarfodydd hynny'n eithriadol o ddefnyddiol o ran gallu clywed beth yn union sy'n digwydd mewn awdurdodau lleol, a maint y bylchau ariannu maen nhw'n eu nodi. Rwy'n credu ei bod hi'n heriol dros ben eleni, ond wrth edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf a'r flwyddyn wedyn, rwy'n credu mai'r blynyddoedd hynny sy'n fwyaf tebygol o fod yn cadw arweinwyr ar ddeffro drwy'r nos ar hyn o bryd. Dyma'r union her ag yr ydym ni'n ei hwynebu hi o ran effaith chwyddiant, a dyna pam mae'n rhaid i Lywodraeth y DU newid eu cwrs yn llwyr o ran y bygythiadau hyn i doriadau mewn gwasanaethau cyhoeddus, oherwydd, fel rydych chi'n ei awgrymu, swyddi yw'r rhain, a gwasanaethau yw'r rhain yr ydym i ni gyd yn dibynnu arnyn nhw yn ein cymunedau. Nid yw awdurdodau lleol yn gwario symiau enfawr o arian ar bethau dibwys; maen nhw'n darparu addysg, maen nhw'n darparu gwasanaethau cymdeithasol, maen nhw'n ymdrin â gwastraff, ac yn y blaen. Rwy'n credu bod y negeseuon hyn yn bwysig iawn, ac mae angen iddyn nhw anfon ateb i Lywodraeth y DU bod angen buddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus ni, yn hytrach na bod yn ystyried torri gwasanaethau cyhoeddus ar yr amser arbennig hwn, gyda'r holl oblygiadau a fydd gan hynny i swyddi, a'r cylch ofnadwy hwnnw wedyn pan allai pobl fod yn colli eu swyddi a mynd yn gynyddol ddibynnol ar wasanaethau, ac mae'r gwasanaethau hynny'n cael eu cwtogi eu hunain, ac yn y blaen. Fe allai honno fod yn droell annymunol iawn i ni. Diolch i'r Gweinidog. 4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Taith—Darparu rhaglen gyfnewid ryngwladol Cymru ar gyfer dysgu Eitem 4 y prynhawn yma yw'r datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Taith—darparu rhaglen gyfnewid ryngwladol Cymru ar gyfer dysgu. Galwaf ar y Gweinidog, Jeremy Miles. Jeremy Miles AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o allu rhoi diweddariad i'r Senedd heddiw ar y cynnydd wrth sefydlu ein rhaglen gyfnewid ryngwladol addysgol arloesol ni, sef Taith. Jeremy Miles AC: Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai'n creu rhaglen newydd gwerth £65 milliwn i gymryd lle Erasmus+, a daeth yr ymrwymiad hwnnw'n rhan o'n rhaglen lywodraethu. Rwy'n falch o roi gwybod i'r Siambr heddiw fod yr addewid hwnnw'n prysur ddwyn ffrwyth, a'r dysgwyr cyntaf eisoes yn dechrau teimlo'r manteision. Yn haeddiannol, roedd gyda ni yma yng Nghymru feddwl mawr o Erasmus+. Fel cenedl allblyg, mae gwerthoedd Erasmus o ran cydweithio a chyfnewid rhyngwladol yn cyd-fynd â'n hagwedd ni yma yng Nghymru. Roedd colli'r rhaglen yn ergyd fawr. Dyna pam roedd ymateb Llywodraeth Cymru yn bendant ac yn uchelgeisiol. Fe wnaeth hi anfon neges glir at ddysgwyr ac addysgwyr ein gwlad, ac at bartneriaid ledled y byd: mae Cymru ar agor, mae Cymru yn genedl allblyg ac mae Cymru yn croesawu manteision cyfnewid diwylliannol ac addysgol. Mae Taith, y rhaglen rydyn ni nawr wedi'i datblygu, yn adlewyrchu'r uchelgais hwnnw a'r gwerthoedd hynny. Maen nhw'n cyd-fynd â'i gilydd. Mae'r rhaglen yn cefnogi dysgwyr a'u staff ar draws pob math o ddarparwyr addysg—rhai ffurfiol a rhai anffurfiol. Mae ymateb darparwyr Cymru wedi bod yn wych hyd yma, ac mi fyddaf yn rhoi manylion y llwybr cyntaf ichi nawr. Jeremy Miles AC: Cyn gwneud hynny, rwyf eisiau cydnabod gwaith tîm Taith, o gyflawni'r rhaglen yn gyflym iawn; mae bod â dysgwyr sy'n cael budd o Taith eisoes yn glod i'w hymrwymiad diflino. Bydd llawer o ddysgwyr a staff yn elwa o Taith eleni, a dros £13 miliwn ar gael i'r holl sectorau ar gyfer prosiectau eleni. Cafodd Llwybr 1, sy'n canolbwyntio ar symudedd unigolion, ei lansio ym mis Chwefror eleni ac fe gaeodd ym mis Mai. Bu 46 o sefydliadau yn llwyddiannus yn eu ceisiadau, a dros 100 o ddarparwyr addysg yn rhan o'r broses. Mae'r prosiectau hynny'n mynd i ddod â chyfleoedd i dros 5,000 o staff a dysgwyr yng Nghymru. Maen nhw'n mynd i gael profiadau dysgu sy'n newid bywydau ledled y byd. Mae prosiectau wedi partneru gyda 75 o wledydd, gan gynnwys 28 yn Ewrop, wrth i ni geisio sicrhau bod ein partneriaethau yno'n parhau er gwaethaf colli Erasmus. Hoffwn dynnu sylw'r Aelodau yn arbennig at yr ymateb gwych yr ydym wedi'i gael gan ddarparwyr addysg ieuenctid ac oedolion. Mae sefydliadau yn y sectorau hynny wir wedi codi i'r her o sicrhau bod y cyfleoedd i deithio a dysgu yn cael eu hymestyn i'w dysgwyr hefyd. Gall dysgu o ddiwylliannau eraill fod o fudd i ni i gyd, ond i ddysgwyr o gefndiroedd difreintiedig neu o grwpiau a dangynrychiolir, gall y profiadau hyn gael effeithiau dwys. Rwy'n falch o ddweud, hyd yn hyn, trwy greu rhaglen mewn partneriaeth â'r sectorau yng Nghymru, bod y galw am Taith gan addysg ieuenctid ac oedolion wedi bod yn fwy na hyd yn oed y galw am Erasmus, ac mae hynny'n llwyddiant yr ydym yn bwriadu ei ddatblygu yn y dyfodol. Jeremy Miles AC: Yn sôn am y dyfodol, gwnes i ddatgan ar 5 Hydref fod llwybr 2 Taith ar agor nawr i ymgeiswyr. Jeremy Miles AC: Bwriad y llwybr hwn yw darparu hyd yn oed mwy o gefnogaeth i brosiectau sydd â phwyslais mwy strategol. Er enghraifft, y themâu ar gyfer yr alwad eleni yw: datblygiadau ym myd addysg; amrywiaeth a chynhwysiant; a newid hinsawdd. Mae ceisiadau'n cau ar 1 Rhagfyr, felly mae amser o hyd i ddatblygu a chyflwyno ceisiadau. Mae 2 filiwn o bunnau ar gael ar gyfer y prosiectau hyn yn y sectorau ieuenctid, ysgolion, addysg oedolion, addysg bellach ac addysg alwedigaethol. Rydym i gyd yn ymwybodol o'r heriau sy'n ein hwynebu yn y blynyddoedd nesaf, yn ddomestig ac yn rhyngwladol. Jeremy Miles AC: Rwy'n credu yn sicr bod gan addysg rôl allweddol yn ein hymateb i'r heriau hynny. Jeremy Miles AC: Gan fod ganddi agwedd uchelgeisiol at brosiectau rhyngwladol a phwyslais strategol, bydd Taith yn hwyluso dysgwyr ac addysgwyr i gymryd rôl weithredol wrth weithio gyda phartneriaid rhyngwladol a dysgu oddi wrthynt ar faterion sy'n effeithio arnom ni i gyd, fel newid hinsawdd. I ddatrys problemau byd-eang, mae angen dull byd-eang arnom, a bydd Taith yn ein helpu i gyflawni hynny. Mae Taith wedi cael effaith dramor yn barod hefyd, ac wedi bod yn cyfleu'r neges bod Cymru yn wlad ryngwladol sy'n edrych am allan ledled y byd. Rydw i a'r Prif Weinidog wedi adlewyrchu pa mor aml y caiff Taith ei chodi yn ein trafodaethau gyda chymheiriaid rhyngwladol, a derbyniad mor frwdrydig y mae wedi'i chael. Jeremy Miles AC: Newydd ddechrau ydym ni, ac mae e eisoes yn agor drysau dramor. Jeremy Miles AC: Rwy'n edrych ymlaen at drafod sut all Taith helpu i agor hyd yn oed mwy o ddrysau yn Ewrop pan fyddaf yn ymweld â Brwsel i siarad ag ASEau ac eraill yr wythnos nesaf. Ac er bod gan Taith neges wych i'n partneriaid rhyngwladol, dim ond un rhan o'n cynnig addysg ryngwladol uchelgeisiol ydyw. Mae ein rhaglen addysg ryngwladol, sy'n cael ei chyflwyno gan British Council Cymru, yn parhau i ddarparu gwahanol brosiectau sy'n rhoi gwybodaeth a sgiliau i'n pobl ifanc gyfrannu at gymdeithas fyd-eang. Er enghraifft, gwnaethom ymrwymiad hirdymor yn ddiweddar i barhau â chyfleoedd ysgolion a cholegau Cymru i ymgysylltu â menter Labordai Addysgu Byd-eang unigryw Sefydliad Technoleg Massachusetts. Mae'r rhaglen hon yn galluogi ysgolion cynradd ac uwchradd a cholegau addysg bellach ledled Cymru i ddefnyddio arbenigedd STEM gan hyfforddwyr o brifysgol gwyddoniaeth orau'r byd drwy leoliadau addysgu byr, effaith uchel a phrofiadau trochi diwylliannol. Ac ar gyfer addysg uwch ac addysg bellach, mae trydydd cam prosiect Global Wales bellach yn mynd rhagddo. Bydd y prosiect hwn yn helpu i dyfu ac amrywio'r boblogaeth ryngwladol o fyfyrwyr yng Nghymru, a bydd yn hyrwyddo manteision cydweithio ac yn tyfu ein cysylltiadau â marchnadoedd allweddol yn Ewrop, India, Gogledd America a Fietnam. Jeremy Miles AC: Rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau yr un mor frwdfrydig â fi ynghylch cynnydd Taith a'i llwyddiant cynnar yn y flwyddyngyntaf. Bydd hyn yn annog darparwyr addysg yn ein hardaloedd lleol i gymryd rhan yn y rhaglen os nad ydyn nhw wedi gwneud hynny eto. Rydyn ni'n datblygu rhaglen gyfnewid ryngwladol i bob dysgwr yng Nghymru. Mae gwaith gwych wedi ei wneud yn barod, ac mae mwy i ddod. Rwy'n edrych ymlaen at roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am y cynnydd y flwyddyn nesaf. Laura Anne Jones AC: Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Mae rhaglenni cyfnewid dysgu yn gyfleoedd gwych i bobl ifanc. Ond gan roi'r ffaith eich bod chi wedi gwario miliynau a miliynau o'r neilltu—£65 miliwn, mewn gwirionedd—yn ailddyfeisio'r olwyn a chreu cynllun sydd ond ychydig yn wahanol i'r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei gynnig, mae gen i gwestiynau ymarferol yr hoffwn i eu gofyn. Fel rydych chi wedi'i ddweud, mae gan bob cam bwyslais gwahanol. Mae gan Lwybr 2 dair thema—datblygiadau ym maes addysg, amrywiaeth a chynhwysiant, a newid hinsawdd. Gan fod y cyllid ar sail o flwyddyn i flwyddyn, rwy'n rhagweld y gallai hyn beri anhawster i fyfyrwyr sy'n bwriadu astudio dramor, ond nad ydynt yn gwybod a fydd eu pwnc wedyn yn ffitio i themâu'r flwyddyn ganlynol. Felly, Gweinidog, sut fydd hyn yn gweithio i fyfyrwyr prifysgol sy'n dewis graddau lle maent yn astudio blwyddyn dramor, ac a fydd hyn yn achosi i fwy o fyfyrwyr optio allan a defnyddio'r cynllun Turing yn lle hynny, gyda'i amcanion sefydlog, ac a fyddai hyn yn arwain at unrhyw wastraff ariannol? Hefyd, fel y gwyddoch chi, gellir gwneud cais am gynllun Taith ochr yn ochr â chynllun Turing, ond, byddai hyn yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau lenwi dwy broses ymgeisio wahanol. Gall hyn, yn amlwg, gymryd llawer o amser a bod yn gostus. Gweinidog, pa ddulliau yr ydych chi'n eu rhoi ar waith i sicrhau, i ymgeiswyr sy'n gwneud cais am Taith a Turing, fod y prosesau mor ddi-dor ac effeithlon â phosibl? Diolch. Jeremy Miles AC: Mae'r rhaglen yn hyblyg, ni fydd yn wastraffus, ac mae'n sylweddol well na Turing. Sioned Williams MS: Diolch am y datganiad, Weinidog. Un o nodau Taith, fel y sonioch chi, yw gwella mynediad i'r cyfleon rhyngwladol a'r symudedd y mae'n eu cynnig i bob dysgwr a myfyriwr, gan gynnwys pobl ag anableddau, anghenion dysgu ychwanegol, grwpiau sydd wedi eu tan-gynrychioli ac o gefndiroedd o amddifadedd ac o dan anfantais. Felly, hoffwn wybod sut mae hyn yn cael ei fesur cyn belled. A yw'r niferoedd hyn yn cael eu monitro a'u mesur o fewn hefyd y gwahanol leoliadau addysg, o ran addysg uwch, addysg bellach, ysgolion a gwasanaethau ieuenctid? Ac, os felly, beth yw'r gyfradd o fewn y rhai sydd wedi elwa o gyfleon Taith—ydy'r targedau yn cael eu cyrraedd yn hynny o beth? Wrth greu rhaglen gyfnewid ryngwladol ar gyfer dysgu i Gymru, mae'n wir y cafodd neges gref ei hanfon i bartneriaid rhyngwladol am ein cenedl bod ein sefydliadau addysg a Chymru'n parhau i edrych yn allanol ac yn rhyngwladol, er i Brexit ein tynnu o nifer o'r rhaglenni gwerthfawr a oedd yn ein cynorthwyo i wneud hynny, a'n bod fel cenedl yn deall ac yn arddel gwerth meithrin a chynnal partneriaethau rhyngwladol yn y gymuned addysgiadol ehangach. Mae yna ofid, fodd bynnag, bod costau uwch, yn sgil y sefyllfa economaidd sydd ohoni, a'r diffyg cydbwysedd presennol sydd yn y rhaglen, o ran y gymhareb 10:3 o symudedd mewnol ac allanol, yn mynd i effeithio ar allu sefydliadau i greu partneriaethau hyfyw a chynhyrchiol. Pa ystyriaeth sydd wedi cael ei roi i effaith hyn? Ydy hyn yn rhywbeth hefyd sy'n cael ei fonitro? Oes yna angen i gynyddu'r cyfraddau mewnol ac allanol er mwyn sicrhau symudedd? Ac, yn benodol, o ran myfyrwyr addysg uwch sy'n hanu o Gymru, ydy'r nifer hwnnw'n cael ei fesur, ac felly, beth yw'r gyfradd? Yn olaf, ar wefan Taith mae'r datganiad canlynol: 'Mae astudio, gwirfoddoli neu fynd ar leoliad gwaith dramor yn ehangu gorwelion pobl, yn ehangu eu sgiliau, ac yn dod â buddion i gymunedau a sefydliadau yma yng Nghymru.' A fedrwch chi roi gwybod i ni, Weinidog, sut y mae'r rhaglen yn cynnig cyfleon i ddysgwyr hynod alwedigaethol, sydd ddim yn dilyn cwrs gradd neu mewn ysgol neu goleg? A ydych chi'n fodlon nad oes bwlch o ran darparu cyfleon i bob math o brentisiaid? Diolch. Jeremy Miles AC: Wel, diolch i'r Aelod am gwestiynau pwysig iawn. Felly, ar y pwynt cyntaf y gwnaeth hi wneud o ran y buddsoddiad, rwy'n credu, pan ŷch chi'n gweld y pwysau sydd ar deuluoedd nawr, mae'r cyfleoedd sy'n gallu newid a darparu gorwelion newydd i bobl ifanc yn dod yn sgil y buddsoddiad yma, hyd yn oed yn fwy pwysig nawr nag yr oedden nhw hyd yn oed yn y cyfnod cyn hynny. O ran y pwyslais ar sicrhau ei fod e'n gynhwysol, yn y ffordd ehangach mae'r Aelod yn sôn, mae hynny'n elfen bwysig. Mae un o elfennau'r ail lwybr, yn benodol, rwy'n credu, wedi'i ffocysu ar sicrhau bod y ddarpariaeth yn cynnig amrywiaeth ac yn gwbl gynhwysol. Ond mae'r thema honno yn ymestyn drwy gynllun sylfaenol Taith beth bynnag, ac yn sicrhau ei fod e ar agor i bob math o ddysgwyr, nid jest rhai sy'n mynd i brifysgol, ond i addysg bellach a hefyd gwasanaethau ieuenctid. Felly, byddwn ni'n mesur cyrhaeddiad y cynllun i sicrhau ei fod e'n cyrraedd y nod hwnnw. O ran y pwynt gwnaeth yr Aelod am y 30 y cant sy'n dibynnu ar symudedd i mewn i Gymru, mae hynny'n cydnabod bod yr elfen honno, yn aml iawn, yn dwyn arian wrth ffynhonnell y wlad lle mae'r dysgwyr neu'r staff yn symud oddi wrthyn nhw, ac felly, dyw e ddim yn ofynnol i bob partneriaeth sicrhau bod hynny'n elfen. Felly, mae'r gyfradd honno—30 y cant—yn cydnabod bod ffynhonnell arall yn aml iawn yn dod i'r elfen honno o'r cynllun. Ac, yn olaf, ar yr eitem hon, Alun Davies. Alun Davies AC: Rwy'n ddiolchgar i chi, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog hefyd am ei ddatganiad y prynhawn yma. Rwy'n croesawu hyn yn fawr gan Lywodraeth Cymru, ac rwy'n siŵr y cewch chi groeso cynnes iawn ym Mrwsel hefyd. Mae hyn yn rhywbeth sydd wedi ei godi gyda mi nifer o weithiau, pan wyf wedi bod yn ymweld â Brwsel dros y misoedd diwethaf, ac mae croeso enfawr gan sefydliadau'r UE bod Cymru yn parhau i fod yn ymgysylltu'n llawn, ac yn sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael yr un cyfle i deithio ac i ymweld ac i astudio dramor ac ar draws ein cyfandir, yn y ffordd y gwnaeth eu rhieni, ac ni fedrwn ni dynnu hynny oddi ar bobl. Ond a allwch chi hefyd fy sicrhau bod y cyfle hwn yn ymestyn i bawb ar draws yr holl leoliadau gwahanol ac ar draws gwahanol ddaearyddau a demograffeg? Mae gen i ddiddordeb arbennig yn yr hyn yr oedd gan y Gweinidog i'w ddweud am addysg bellach ac am wasanaethau ieuenctid, oherwydd rwyf eisiau sicrhau bod pawb, pob person ifanc rwy'n ei gynrychioli ym Mlaenau Gwent, yn cael yr un cyfle i gymryd rhan yn y cynlluniau hyn, a'r un cyfle i fwynhau'r teithio a'r astudio rhyngwladol, ac i ddysgu yn yr un modd ag y gwnaethom ni rai blynyddoedd yn ôl. Jeremy Miles AC: Diolch i Alun Davies am y gyfres bwysig honno o gwestiynau. Rwy'n rhannu'r uchelgais gydag ef i wneud yn siŵr bod pob rhan o'n system addysg a'r holl gymunedau yn gallu elwa o'r cynllun uchelgeisiol iawn yma. Un o'r elfennau mwyaf cyffrous ynddo, rwy'n credu, fu'r berthynas sydd wedi ei datblygu a'i sefydlu rhwng ysgolion ac ysgolion mewn gwledydd eraill. Dirprwy Lywydd, a gaf i ofyn a fyddai'r Aelodau gyferbyn yn ymestyn yr un cwrteisi ag â gânt gan Aelodau eraill yn ystod y ddadl hon? A wnaiff yr Aelodau, os gwelwch yn dda, ganiatáu i'r Gweinidog orffen ei gyfraniad? Jeremy Miles AC: Diolch, Dirprwy Lywydd—[Torri ar draws.] Heb unrhyw sylwadau ychwanegol eraill. Jeremy Miles AC: Felly, mae ysgolion yng Nghymru wedi bod yn sefydlu symudedd i Wlad Belg, i Bangladesh, i Ganada ac i Golombia a chreu'r rhwydwaith hwnnw ar lefel ysgol, lle byddai'r pwyslais, yn flaenorol, wedi bod ar lefel addysg uwch yn bennaf. Gofynnodd i mi gadarnhau bod hyn ar gael i bob rhan o'r sector addysg. Rwy'n credu bod llai o geisiadau gan y sector addysg bellach nag efallai y byddwn i wedi hoffi eu gweld yn yr alwad gyntaf, ac felly, rydym newydd agor ail Lwybr 1, sy'n benodol i'r sectorau addysg bellach ac addysg a hyfforddiant galwedigaethol, er mwyn rhoi ail gyfle iddyn nhw allu gwneud cais. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld ymgysylltiad cadarnhaol gan golegau yn yr ail alwad; rwy'n ffyddiog y gwelwn ni hynny. Rydym wedi cael trafodaethau cadarnhaol gyda Colegau Cymru a thîm Taith i sicrhau eu bod yn ymgysylltu â cholegau ledled Cymru i'w cefnogi yn eu ceisiadau. Rwy'n siŵr y bydd pob Aelod yn teimlo ei bod yn bwysig iawn sicrhau bod pob dysgwr ym mhob sector yn cael y cyfleoedd gorau posibl. Diolch, Weinidog. 5. Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) a (Coronafeirws) (Dirymu) 2022 Eitem 5 heddiw yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) a (Coronafeirws) (Dirymu) 2022. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog GwasanaethauCymdeithasol i wneud y cynnig—Julie Morgan. Cynnig NDM8099 Lesley Griffiths Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) a (Coronafeirws) (Dirymu) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Medi 2022 Cynigiwyd y cynnig. Julie Morgan AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi'n cynnig y cynnig. Julie Morgan AC: Mae pwrpas y rheoliadau hyn yn ddeublyg. Yn gyntaf, i ddirymu'r diwygiadau cyfyngedig sy'n gysylltiedig â coronafeirws a wnaed i ofynion ar ddarparwyr rhai gwasanaethau rheoleiddiedig, a ddaeth i rym ym mis Mehefin 2020. Nod y rhain oedd symleiddio'r gwaith o sefydlu a chefnogi darpariaeth gofal cymdeithasol brys i oedolion, pe bai angen hyn, oherwydd lledaeniad y coronafeirws. Roedden nhw hefyd yn symleiddio gwiriadau cyn cyflogi ar gyfer gweithwyr gofal preswyl a gofal cartref newydd i oedolion, gan gydnabod efallai na fyddai'n rhesymol ymarferol i gael yr holl wybodaeth yn y ffurf benodedig dan amodau pandemig. Ynghyd â'r eithriadau a'r hawddfreintiau hyn roedd canllawiau i gynorthwyo eu dehongliad, egluro sut y gallent weithio'n ymarferol, ac atgyfnerthu bod yr holl ofynion eraill ar ddarparwyr yn parhau i fod mewn grym. I gymhwyso trylwyredd a goruchwyliaeth briodol, roedd gan y gwelliannau fesurau diogelu yn rhan ohonynt neu'n cyd-fynd â'r rhwymedigaethau presennol i sicrhau darpariaeth ddiogel o ofal a chefnogaeth. Cefnogir dirymu'r gwelliannau hyn ar 31 Hydref gan fwyafrif clir a sylweddol o'r ymatebwyr i'n hymgynghoriad diweddar. Rwy'n ddiolchgar i'r rhai hynny wnaeth gydnabod eu defnydd cyfyngedig yn ymarferol, gan ddangos yr ymdrechion anhygoel a wnaed i gynnal gwasanaethau a safonau mewn ymateb i'r pandemig. Gwnaed pwyntiau hefyd, yn ddealladwy, am yr angen i fod yn barod i ymateb cyn gynted â phosibl i'r angen posibl i adfer y newidiadau hyn. Rydym ni'n parhau i fonitro sefyllfa iechyd y cyhoedd a'i heffeithiau'n fanwl ar y sector, a phe baem ni'n gweld dychwelyd i fesurau rhybudd ac amddiffyniadau cyfreithiol dwysach, bydd Gweinidogion Cymru yn ystyried yn brydlon a oes angen unrhyw ymateb deddfwriaethol i gefnogi darparwyr gwasanaethau rheoleiddiedig, gan ddefnyddio'r wybodaeth o ddefnyddio'r hawddfreintiau hyn. Ail bwrpas y rheoliadau sydd o'n blaenau heddiw yw egluro'r disgrifiad o safleoedd categori C o fewn rheoliad 49 o'r Rheoliadau Gwasanaethau Rheoledig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) 2017. Bwriad y gwelliant hwn yw sicrhau, pan fo darparwr gwasanaeth yn gwneud cais i Arolygiaeth Gofal Cymru i ddefnyddio adeiladau gwag ar hyn o bryd ar gyfer darparu gwasanaethau llety mewn achosion lle'r oedd y safle hwnnw wedi'i gofrestru'n flaenorol o dan unrhyw ddeddfiad perthnasol fel man lle darparwyd gofal preswyl, yna rhaid i'r safle hwnnw fodloni gofynion ychwanegol a gymhwyswyd i safle newydd. Byddai'r newid hwn yn dod i rym o 1 Tachwedd. Bwriad yr eglurhad hwn fod categori C yn cynnwys safle a gofrestrwyd yn flaenorol o dan unrhyw ddeddfiad perthnasol, nid yn unig Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, yw cefnogi ein polisi hirsefydlog i ysgogi gwelliannau yn yr ystad adeiledig a ddefnyddir ar gyfer darparu cartrefi gofal, llety diogel a gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd. Julie Morgan AC: Dwi'n gofyn i'r Aelodau gefnogi'r cynnig. Nid oes unrhyw siaradwyr eraill ar yr eitem hon. Dirprwy Weinidog, ydych chi eisiau ychwanegu unrhyw beth arall? Na. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhywAelod yn gwrthwynebu? Ni chlywaf wrthwynebiadau. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 6. Rheoliadau Digartrefedd (Angen Blaenoriaethol a Bwriadoldeb) (Cymru) 2022 Eitem 6, Rheoliadau Digartrefedd (Angen Blaenoriaethol a Bwriadoldeb) (Cymru) 2022. Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i wneud y cynnig—Julie James. Cynnig NDM8096 Lesley Griffiths Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Digartrefedd (Angen Blaenoriaethol a Bwriadoldeb) (Cymru) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Medi 2022 Cynigiwyd y cynnig. Julie James AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Bydd aelodau'n ymwybodol o'r gwaith aruthrol a wnaed ers dechrau'r pandemig, sy'n parhau heddiw, i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael allan yn ein hagwedd at ddigartrefedd. Drwy ganllawiau statudol, fe wnaethom ni, ynghyd ag awdurdodau lleol, sicrhau bod y rhai a oedd yn profi digartrefedd yn cael cymorth a llety, gan sicrhau ymateb cyfannol i'r argyfwng iechyd cyhoeddus. Roedd hyn yn taflu goleuni ar raddfa digartrefedd a oedd gynt yn guddiedig ledled Cymru. Erbyn hyn mae gennym well dealltwriaeth o'r niferoedd o bobl sy'n profi digartrefedd. Mae'n bosib bod y pandemig wedi tawelu am y tro, ond nid yw'r angen am gymorth a thai i unigolion sy'n profi digartrefedd wedi tawelu o gwbwl. Cyn ein diwygio eang arfaethedig mewn deddfwriaeth digartrefedd, rwy'n gobeithio y bydd pob Aelod yn croesawu ac yn cefnogi'r gwelliant deddfwriaethol dros dro hwn, ac yn ei gydnabod fel cam hanfodol i ddileu digartrefedd yng Nghymru. Bydd Rheoliadau Digartrefedd (Angen Blaenoriaethol a Bwriadoldeb) (Cymru) 2022 yn diwygio Deddf Tai (Cymru) 2014, sy'n golygu y cydnabyddir person sy'n ddigartref ar y stryd a pherson y disgwylir iddo'n rhesymol i breswylio ag ef fel person sydd ag angen blaenoriaethol am gymorth a llety. I'w roi mewn iaith blaen, mae person sy'n cysgu ar y stryd yn berson sydd angen llety â blaenoriaeth. Bydd y rheoliad hwn hefyd yn gweithredu i ddiwygio Rheoliadau Digartrefedd (Bwriadoldeb) (Categorïau Penodedig) (Cymru) 2015, sy'n darparu ar gyfer categorïau penodedig o bersonau y gall awdurdod lleol ddewis rhoi sylw iddynt drwy wneud penderfyniad ynghylch a ydynt yn fwriadol ddigartref. Bydd hyn yn adlewyrchu'r categorïau angen blaenoriaethol presennol ac yn cynnwys y bobl hynny sy'n ddigartref ar y stryd. Wrth gamu allan o'r pandemig, mae'n rhaid i ni gydnabod effeithiau'r argyfwng costau byw presennol a'r risg y bydd mwy o bobl yn ddigartref ac yn colli eu llety. Mae angen y ddeddfwriaeth hon ar hyn o bryd, yn fwy nag erioed, i sicrhau ein bod yn cynnal y dull gweithredu a gymerwyd drwy gydol y pandemig. Rwy'n gobeithio y bydd pob Aelod yn croesawu'r gwelliant angenrheidiol hwn i'r ddeddfwriaeth ac yn cefnogi'r cynnig a gyflwynir yma heddiw. Diolch. Mabon ap Gwynfor AS: Diolch i’r Gweinidog am y cyhoeddiad yma, un rydym ni yn y blaid yma yn ei groesawu. Mae’n sicr yn gam i’r cyfeiriad cywir er mwyn cael gwared ar angen blaenoriaethol yn llwyr. Dwi am ofyn, i gychwyn, am eglurhad, os gwelwch yn dda, ynghylch pobl sydd eisoes mewn llety dros dro. Rydych chi'n dweud yn eich datganiad, a dwi am ddyfynnu: Mabon ap Gwynfor AS: 'Fodd bynnag, wrth lacio cyfyngiadau ar iechyd y cyhoedd ac agweddau cysylltiedig y cyhoedd mae'n bosibl y bydd y rhai a oedd yn gudd cyn y pandemig, fel pobl yn syrffio soffas, yn dychwelyd o gael eu cefnogi gan awdurdodau lleol a phartneriaid, i ddibynnu yn hytrach ar rwydweithiau cymdeithasol i ddarparu rhywle y gallant fyw. O ystyried yr ansicrwydd hwn mae'n anodd penderfynu a fydd newidiadau pellach sylweddol. O ganlyniad, rydym o'r farn y bydd y boblogaeth graidd ddigartref yn parhau i fod yn lefel gymharol sefydlog am y tro.' Mabon ap Gwynfor AS: Rŵan, fedrwch chi egluro beth mae hyn yn ei olygu, os gwelwch yn dda? Ai dweud ydych chi y bydd pobl sydd mewn llety dros dro yn gadael y lletyau hyn ac yn mynd i soffa syrffio yn lle? Ynteu ydych chi’n dweud bod awdurdodau lleol am geisio troi pobl allan sydd ddim mewn risg o gysgu ar y stryd? Ynteu a fedrwch chi gadarnhau yn ddiamod na fydd pobl mewn llety dros dro yn cael eu troi allan i sefyllfa o ansicrwydd oherwydd y categori angen blaenoriaethol newydd yr ydych yn ei gyflwyno? Oherwydd, tra ein bod ni'n cefnogi cyflwyno'r rheoliadau yma fel cam i’r cyfeiriad cywir, y gwir ydy fod iddyn nhw ganlyniadau anfwriadol—unintended consequences. Rydych chi, i bob pwrpas, yn ailgyflwyno polisi angen blaenoriaethol unwaith eto. Y perig ydy y gall hyn arwain at rai awdurdodau lleol yn adolygu achosion o bobl sydd eisoes mewn llety dros dro ac o bosib yn dirwyn eu cyfrifoldebau i ben i rai sydd ddim yn cael eu hystyried i fod mewn risg o gysgu allan—rough-sleeping. Felly, rwy’n siŵr eich bod yn gwerthfawrogi pam rydym ni yn gofyn am eglurhad am hyn, os gwelwch yn dda. Mabon ap Gwynfor AS: Ar ben hynny, bydd hyn yn rhoi disgwyliad parhaol ar lywodraeth leol. Yn ystod anterth pandemig COVID, derbyniodd awdurdodau lleol arian ategol, fel y grant adfer COVID, i'w helpu i gyflawni'r disgwyliadau newydd a osodwyd arnynt, fel y niferoedd enfawr o bobl a oedd angen llety dros dro. Ers hynny mae'r arian yma wedi dod i ben, ond eto mae'r dyletswyddau'n parhau. Mae awdurdodau lleol yn gweiddi am gymorth; maen nhw'n dweud wrthym yn syml nad oes ganddyn nhw'r adnoddau i gyflawni'r dyletswyddau hyn, ond does dim byd yn y datganiad heddiw am gyllid i'w galluogi i gyflawni'r dyletswyddau hyn. Felly, a all y Gweinidog ddweud wrthym pa gyllid fydd ar gael i awdurdodau lleol er mwyn iddynt gyflawni'r uchelgeisiau hyn a nodir yn y rheoliadau? Yn olaf, fel y soniais yn gynharach, mae gan y rheoliadau hyn ganlyniadau anfwriadol, a allai arwain at fwy o bobl yn canfod eu hunain yn syrffio soffas neu'n ddigartref—nid cysgu ar y stryd, efallai, ond yn sicr yn byw mewn llety cyfyng gyda theulu a ffrindiau estynedig. Mae hyn yn risg go iawn ac yn un yr ydych chi'n amlwg yn fodlon ag ef, ac rwy'n deall hynny—dyna beth yw pwrpas gwleidyddiaeth ac mae'n rhaid i chi wneud penderfyniad yn seiliedig ar deilyngdod. Dyna pam rydym yn croesawu'r camau hyn heddiw. Ond a all y Gweinidog ddatrys y broblem amhosibl hon o pam mae'r Llywodraeth yn hapus i weithredu'r polisi hwn, gyda'r risg real iawn o ganlyniadau anfwriadol, ond eto'n amharod i rewi rhenti a gwahardd troi allan, sydd â risgiau tebyg a chanlyniadau anfwriadol? Diolch. Galwaf ar y Gweinidog i ymateb. Julie James AC: Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr iawn am y cyfraniad hwnnw, Mabon. Nid datganiad yw hwn, dim ond i ddweud—rydyn ni'n cyflwyno'r rheoliadau heddiw—felly, yn amlwg, nid yw'n cynnwys nifer fawr o'r eitemau eraill o'i gwmpas yr ydych chi wedi gofyn cwestiynau arnyn nhw. Serch hynny, byddaf ond yn eu cwmpasu. Felly, os na fyddwn ni'n gwneud hyn heddiw, yna, cyn trawsnewid cyfraith digartrefedd yn ei chyfanrwydd, rydym yn bwriadu ei wneud yn nhymor y Senedd hon, ond sydd, yn amlwg, yn drawsnewidiad mawr yn y ffordd yr ydym yn gwneud pethau, yna bydd awdurdodau lleol yn dychwelyd i'r sefyllfa cyn y pandemig lle byddant yn mynd yn ôl i'r rhestr bresennol o angen a bwriadoldeb blaenoriaethol. Pwrpas y rheoliad hwn heddiw yw parhau â'r dull 'pawb i mewn'. Rydym yn gweithio'n galed iawn gydag awdurdodau lleol i wneud yn siŵr bod y bobl sydd wedi cwympo allan o ddull gweithredu 'pawb i mewn' hefyd yn cael gwasanaeth. Ond peidiwch â chamgymryd: mae'r mater yma'n ymwneud ag atal a gwasanaeth parhaus. Felly, nid yw'n fwriad o gwbl i bobl sydd mewn llety dros dro ar hyn o bryd ddisgyn allan o'r llety dros dro hwnnw, dod yn ddigartref a gorfod mynd yn ôl i mewn eto. Rydym yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol i sicrhau nad dyna sy'n cael ei ddeall, a hefyd i wneud yn siŵr, pan fo hynny'n bosib, bod awdurdodau lleol yn cael eu cynnwys mewn gwaith ataliol ac nid yn dweud wrth bobl am fynd i ffwrdd a dod yn ôl 56 diwrnod cyn y byddan nhw'n ddigartref ac yn y blaen. Rwy'n deall yn iawn y pwysau arnyn nhw. Rydym wedi rhoi £10 miliwn ychwanegol iddynt ledled y 22 awdurdod lleol yn barod, a £6 miliwn ychwanegol ar gyfer taliadau dewisol. Felly, rydyn ni'n gweithio gyda nhw. Un o'r rhesymau ein bod ni'n ceisio gwneud teilyngdod allan o orfod gwneud hyn mewn camau yw un o'r pethau y mae'r dogfennau cysylltiedig â'r rheoliadau hyn yn eu nodi—y memorandwm esboniadol ac asesiadau effaith, Mabon—yw, yn amlwg, byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol o ganlyniad i'r cam dros dro hwn i ddeall y gost ac i wneud yn siŵr, pan fyddwn yn cyflwyno'r ddeddfwriaeth ddigartrefedd, y byddwn yn gallu cael yr holl wybodaeth am ariannu hynny y tu mewn i'r darn hwnnw o ddeddfwriaeth, a fydd, yn amlwg, yn ddarn mawr iawn o ddeddfwriaeth, gan ddiwygio'r broses yn llwyr. Felly, dydw i ddim yn gwadu'r ffaith mai ateb dros dro yw hwn i system nad yw'n gweithio, ond mae'n ateb dros dro angenrheidiol i wneud yn siŵr nad yw'r rhai mwyaf agored i niwed yn cwympo allan o'r system yn gyfan gwbl ac mae'n galluogi'r awdurdodau lleol i barhau i gyd-fynd â'n 'pawb i mewn'. Felly, rwy'n ddiolchgar iawn i'r awdurdodau lleol—maen nhw wedi gweithio'n galed iawn gyda ni; rwyf wedi cael nifer o gyfarfodydd gyda nhw dros y dyddiau diwethaf i siarad am y materion hyn. Mae hwn yn fater hollol ar wahân i'r mater rhent. Rwy'n deall y pwynt mae'r Aelod yn ei wneud yn llwyr, ond mae gennym system gymhleth iawn gyda rhentu, ac nid yw wedi'i gynllunio mewn unrhyw ffordd i gyffwrdd â hynny, naill ai mewn rhentu cymdeithasol neu mewn rhentu sector preifat—mae hyn yn ymwneud yn llwyr ag ymateb digartrefedd awdurdodau lleol. Felly, er fy mod i'n deall pam eich bod chi'n casglu'r ddau at ei gilydd, yn amlwg, dydw i ddim yn mynd i ateb y cwestiynau penodol hynny heddiw; rwy'n fwy na pharod i barhau â'r drafodaeth honno mewn mannau eraill. Felly, dim ond i orffen trwy ddweud fy mod i wir yn diolch i chi, Mabon, am eich cyfraniad heddiw. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig gwneud yn siŵr bod awdurdodau lleol yn deall goblygiadau hyn. Ond mae yna angen amlwg am y rheoliadau yma am y cyfnod dros dro, a byddan nhw'n cefnogi pobl sy'n ddigartref ar y stryd yng Nghymru, felly rwy'n gobeithio y bydd pob Aelod yn eu cefnogi. Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf wedi clywed gwrthwynebiad. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 7. Gorchymyn y Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Rhif 3) 2022 Eitem 7 yw Gorchymyn y Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Rhif 3) 2022. Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i wneud y cynnig. Julie James. Cynnig NDM8100 Lesley Griffiths Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Rhif 3) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Medi 2022 Cynigiwyd y cynnig. Julie James AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig. Rwy'n falch o allu cyflwyno'r Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Rhif 3) 2022, sy'n gwneud mân ddiwygiadau i Orchymyn y Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020. Effaith y gwelliannau hyn yw cynnwys hediadau o Brydain Fawr i'r Swistir yng nghwmpas cynllun masnachu allyriadau'r DU o fis Ionawr 2023. Mae hyn yn helpu i lenwi bwlch yng nghwmpas UK ETS ers ymadawiad y DU â'r UE. Mae hefyd yn cyflawni ein hymrwymiad yn ymateb Llywodraeth 2020 i ddyfodol ymgynghoriad prisio carbon y DU i wneud hyn. Mae'r Gorchymyn yn dod â hediadau o Brydain Fawr i'r Swistir o fewn y diffiniad o weithgaredd hedfan, yn cynnwys Cymru, Lloegr a'r Alban mewn graddau tiriogaethol, yn caniatáu ceisiadau am ddyrannu lwfansau am ddim ar sail gweithgaredd hedfan hanesyddol, ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i reoleiddwyr ail-lunio hawliau ar gyfer dyrannu lwfansau am ddim yng ngoleuni'r categori newydd o weithgaredd hedfan hanesyddol. Gofynnwyd am gyngor gan y pwyllgor newid hinsawdd ar y cynnig a oedd yn rhan o'r Gorchymyn. Drwy roi gwell sylw i weithgareddau gan gynllun masnachu allyriadau y DU, byddwn ni'n gallu sicrhau'r canlyniadau amgylcheddol a ragwelwyd yn well gan y cynllun. Rwyf eisiau cynnig fy niolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am graffu ar y Gorchymyn, ac rwy'n cymeradwyo'r cynnig i'r Siambr. Diolch. Nid oes unrhyw siaradwyr eraill. Weinidog, a ydych am ychwanegu unrhyw beth arall? Julie James AC: Na. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Unwaith eto, nid wyf wedi clywed gwrthwynebiad. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 8. Rheoliadau Cynllun Morol, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cymorth Ariannol) (Cymru) 2022 Mae eitem 8 wedi ei thynnu yn ôl. 9. Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2021-22 Felly, symudwn ymlaen at eitem 9. Ac—. O. Esgusodwch fi, Gweinidog, ydych chi'n siarad dros y Llywodraeth? A, iawn. Roedden ni o dan yr argraff y byddai'r Gweinidog addysg yn siarad. Eitem 9, dadl ar adroddiad blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2021-22. Galwaf ar y Gweinidog, Jane Hutt, i wneud y cynnig. Cynnig NDM8094 Lesley Griffiths Cynnig bod y Senedd: Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2021-22. Cynigiwyd y cynnig. Jane Hutt AC: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o gael y cyfle hwn i arwain y ddadl bwysig hon gyda'r Aelodau ar adroddiad blynyddol y comisiynydd plant ar gyfer 2021-22. Mae adroddiad blynyddol y comisiynydd yn rhoi sylw annibynnol blynyddol ar anghenion plant a'u hawliau, ac yn sicrhau ein bod ni’n cynnal pwyslais cyfunol arnyn nhw. Mae'r adroddiad hwn yn gyfle i ni fyfyrio ar y cynnydd ac i ystyried sut y gallwn ni barhau i wneud gwelliannau i fywydau plant a phobl ifanc Cymru. Hoffwn ddechrau drwy groesawu ein Comisiynydd Plant newydd i Gymru, sef Rocío Cifuentes, a ddechreuodd ei chyfnod yn y swydd ym mis Ebrill eleni. Rwyf i wedi cwrdd â'r comisiynydd newydd ar sawl achlysur ers ei phenodi, ac rwy'n croesawu ei hymrwymiad a'i hymroddiad i gynnal hawliau plant ers dechrau ar y rôl bwysig hon. Mae hi wedi defnyddio'r cyfnod cychwynnol hwn i gwrdd â phlant a phobl ifanc ledled Cymru, ac rwy'n edrych ymlaen at weld canlyniad ei hymarfer ymgysylltu ar raddfa fawr, Gobeithion i Gymru, a fydd yn galluogi plant a phobl ifanc i leisio eu barn ac i ddylanwadu ar ei chynllun gwaith tair blynedd. Hoffwn hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r cyn-gomisiynydd, yr Athro Sally Holland, am yr holl waith y mae hi wedi ei wneud dros blant a phobl ifanc. Mae'r adroddiad hwn yn adlewyrchu ei blwyddyn olaf yn y swydd, fel y cyn-gomisiynydd. Mae'r comisiynydd yn tynnu sylw yn gywir yn ei chyflwyniad at effaith pandemig COVID-19, a nawr yr argyfwng costau byw, ar blant a phobl ifanc a'u teuluoedd, a hoffwn roi sicrwydd i Aelodau y byddwn ni fel Llywodraeth yn parhau i wneud popeth o fewn ein pwerau i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau a gwella canlyniadau ar gyfer pob plentyn yng Nghymru. Rhaid i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol tlodi plant fod yn flaenoriaeth glir a pharhaus i'r Llywodraeth hon o hyd, ac mi fydd, gan fod hyn yn sail i gymaint o gyfleoedd bywyd, canlyniadau a rhagolygon ein pobl ifanc yn y dyfodol. Fodd bynnag, rydym ni hefyd yn glir mai Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am y prif ddulliau ar gyfer mynd i'r afael â thlodi plant—pwerau dros y system dreth a lles— ac rwy'n croesawu'r ffaith bod y comisiynydd yn codi'r pryderon hyn gyda Llywodraeth y DU. Mae angen i bob lefel o Lywodraeth weithio gyda'i gilydd os ydyn ni'n mynd i gefnogi plant a phobl ifanc a'u teuluoedd yn ystod yr argyfwng digynsail hwn. Mae'r adroddiad blynyddol yn gyfle i'r comisiynydd dynnu sylw at waith y sefydliad, a hoffwn dynnu sylw'r Aelodau at waith parhaus y comisiynydd wrth gefnogi cyrff cyhoeddus i ddilyn dull gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau plant. Mae rhoi plant a phobl ifanc wrth wraidd ein gwasanaethau cyhoeddus mor bwysig, ac rwy'n croesawu ymrwymiad swyddfa'r comisiynydd i ddarparu'r gefnogaeth hon. Mae'r swyddfa wedi datblygu 'Y Ffordd Gywir: Dull Gweithredu Seiliedig ar Hawliau Plant yng Nghymru', sef canllaw ymarferol i helpu sefydliadau i roi hawliau plant wrth wraidd yr holl benderfyniadau cynllunio a darpariaeth gwasanaethau. Mae'r pum ffordd o weithio, gwreiddio hawliau plant, cydraddoldeb a pheidio â chamwahaniaethu, grymuso plant, hwyluso cyfranogiad ystyrlon a strwythurau atebolrwydd clir yn darparu fframwaith clir a chefnogol. Rydym ni, fel sefydliad, dan arweiniad fy nghydweithiwr Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi defnyddio'r egwyddorion hyn wrth ddatblygu ein cynllun hawliau plant ein hunain, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr y llynedd, ond hoffwn hefyd ddiolch i'r comisiynydd a'i staff am yr holl waith a wnaethant i eirioli dros blant a phobl ifanc wrth i ni ddod allan o'r pandemig. Enghraifft o hyn oedd datblygiad rhaglen Haf o Hwyl Llywodraeth Cymru, a gynhaliwyd am y tro cyntaf haf diwethaf. Gan gydweithio gyda'r Urdd a Chwaraeon Cymru, llwyddodd y comisiynydd i ddod â nifer o bartneriaid allweddol ynghyd ar gyfer cyfres o drafodaethau bwrdd crwn gyda Llywodraeth Cymru i edrych ar y ffordd orau i gefnogi adferiad ein plant a'n pobl ifanc a rhoi cyfle i'r partneriaid hynny glywed gan blant a phobl ifanc eu hunain am yr hyn oedd yn bwysig iddyn nhw. Fe wnaeth hyn, wedyn, gyfrannu at ddatblygiad ein rhaglen Haf o Hwyl, a oedd yn darparu gweithgareddau rhad ac am ddim ar gyfer datblygiad a lles plant a phobl ifanc ledled Cymru. Fe wnaethom ddarparu dros 67,000 o gyfleoedd i blant a phobl ifanc a gallwn adeiladu ar y llwyddiant hwnnw trwy'r Gaeaf Llesiant dilynol. Ac yn ystod yr Haf o Hwyl eleni hefyd fe wnaethom ni ddarparu bwyd yn ogystal â gweithgareddau rhad ac am ddim. Gan droi at yr argymhellion yn yr adroddiad blynyddol, mae'r comisiynydd wedi cyflwyno 16 o argymhellion i Lywodraeth Cymru, ac mae'r rhain yn dod o dan bedair thema: safon byw digonol; amgylchedd teuluol a gofal amgen; amddiffyniad rhag ecsbloetio a thrais; ac addysg, dinasyddiaeth a gweithgareddau diwylliannol. Mae'r argymhellion hyn yn ymdrin â materion pwysig ym mhob rhan o'r Llywodraeth, gan gynnwys mynd i'r afael â thlodi plant, eiriolaeth iechyd, plant a phobl ifanc mewn gofal ac yn gadael gofal, amddiffyn plant a chyfiawnder, addysg, iechyd meddwl, trafnidiaeth a theithio i ddysgwyr. Rwy'n croesawu'r argymhellion yn yr adroddiad. Rwy'n derbyn hefyd nad yw cynnydd mewn rhai meysydd wedi bod fel y byddem wedi'i hoffi oherwydd pwysau'r pandemig ar adnoddau. Ond, ni fyddaf yn trafod manylion ymateb Llywodraeth Cymru heddiw. Bydd Prif Weinidog Cymru yn cyhoeddi ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad blynyddol y comisiynydd erbyn 30 Tachwedd. Mae heddiw yn gyfle i'r Aelodau fynegi eu barn ar adroddiad y comisiynydd a rhoi sylwadau ar y meysydd mae'r comisiynydd wedi eu codi. Rydym ni’n edrych ymlaen at glywed barn Aelodau a byddwn yn ystyried y safbwyntiau hyn wrth i ni baratoi ein hymateb swyddogol. Felly, i gloi, Dirprwy Lywydd, rwy’n edrych ymlaen at y ddadl bwysig hon ar adroddiad y comisiynydd plant a'n cynnydd o ran cefnogi hawliau plant yng Nghymru. Mae rôl annibynnol y comisiynydd yn hollbwysig er mwyn dwyn y Llywodraeth i gyfrif, a byddwn yn parhau i weithio gyda'i swyddfa er budd holl blant a phobl ifanc Cymru. Diolch. Joel James MS: Diolch, Gweinidog, ond rhaid i mi gyfaddef fy mod i wedi fy synnu braidd gan y diffyg sylwedd yn yr adroddiad hwn. Mae'n drwm iawn ar ystadegau swyddfa'r comisiynydd ac yn cynnwys rhai manylion amherthnasol, fel trafodaethau ynghylch podlediadau sy'n dod â hud a chwerthin i'r swyddfa. Byddwn i, a llawer yma rydw i’n credu, wedi gobeithio y byddai'r adroddiad blynyddol hwn, yn enwedig gan mai hwn oedd yr olaf o gyfnod y comisiynydd blaenorol, wedi rhoi trosolwg cynhwysfawr o'r gwaith sydd i'w wneud o hyd a rhai argymhellion wirioneddol heriol i Lywodraeth Cymru. Er bod yr argymhellion a gynigir yn sicr yn deilwng, rwy'n credu bod y comisiynydd wedi colli cyfle yma i fod wedi gwthio llawer caletach ac i adrodd pa dystiolaeth maen nhw wedi’i darparu a pha heriau maen nhw wedi’u gosod i Lywodraeth Cymru. Er enghraifft, yn y rhan 'sut rydyn ni'n dylanwadu' yn yr adran mynd i’r afael â thlodi plant, mae'r comisiynydd yn dweud eu bod wedi ysgrifennu llythyrau at wahanol Ysgrifenyddion Gwladol yn gofyn am gyfarfodydd, ond heb gael unrhyw lythyrau cydnabyddiaeth bod eu llythyrau wedi cael eu derbyn. Mae hyn yn ein harwain i ofyn pam nad yw swyddfa'r comisiynydd erioed wedi mynd ar ôl y cyfarfodydd hyn ymhellach, erioed wedi olrhain cydnabyddiaeth y llythyrau hyn, ac erioed wedi taro ar ddrysau'r Llywodraeth i gael eu clywed. Mae'r comisiynydd hefyd yn disgrifio eu bod yn arsylwyr y grŵp pwyslais ar incwm, nad oes ganddo, yn ddiddorol, bwyslais na ffrwd waith penodol sy'n gysylltiedig â mynd i'r afael â thlodi plant, ac nid oes strategaeth na chynllun gweithredu cyfredol ar fynd i'r afael â thlodi plant, er gwaethaf galwadau dros ar ôl tro am bwyslais penodol ar y maes pwysig hwn. Rwy'n credu bod hyn yn ddiffyg cynnydd eithaf pryderus, o ystyried mai Cymru sydd â'r lefelau uchaf o dlodi plant o bob cenedl yn y DU, ac un o bob tri o blant bellach yn byw mewn tlodi, ac mae’n dangos yn benodol fod swyddfa'r comisiynydd plant naill ai'n gwbl ddi-rym i roi effaith sylweddol yn y maes hwn, neu nad yw'n herio Llywodraeth Cymru a'r DU o ddifrif yn hyn o beth. Yn syml, mae swyddfa'r comisiynydd wedi cwblhau'r ymarfer ticio blychau o ymddangos fel pe bai'n helpu i ddelio â thlodi plant drwy anfon llythyrau a gofyn am gyfarfodydd, ond yn y pen draw wedyn dydyn nhw heb fynd ar drywydd nac olrhain hyn ymhellach. Felly, rwy’n gofyn i'r Gweinidog: wrth symud ymlaen, pa ddisgwyliadau sydd gennych chi y bydd y comisiynydd plant newydd wir yn mynd i'r afael â'r broblem hon? Nid yw ysgrifennu llythyrau heb hyd yn oed gael ymateb yn mynd i fod yn ddigon da. Gweithwyr o Gymru sydd â'r cyflogau isaf yn y DU ym mhob un diwydiant, sy'n golygu nad oes gan gartrefi o reidrwydd yr un cydnerthedd ariannol â'u cymheiriaid yn y DU. Mae'r taliadau budd-dal mae gan rai pobl yr hawl iddyn nhw werth mwy na'r cyflog y gallan nhw ei dderbyn o weithio'n llawn amser, hyd yn oed os ydyn nhw'n cael eu talu'n uwch na'r cyflog byw cenedlaethol. Ac yn y pen draw, dyma un o achosion sylfaenol tlodi plant ar raddfa eang. Gyda hyn mewn golwg, mae'n rhaid i gomisiynydd plant Cymru wthio llawer yn galetach a chael gwell dealltwriaeth o'r achosion pennaf o dlodi plant yng Nghymru. Gan droi at lysgenhadon cymunedol, sy'n cael eu crybwyll yn yr adroddiad, mae'r cynllun yn amlwg yn un sydd â photensial mawr o ran ymgysylltu ehangach, yn enwedig gyda grwpiau sy'n anodd eu cyrraedd fel arfer. Ond heblaw am un digwyddiad ar-lein a gynhaliwyd gyda gofalwyr ifanc yn y gogledd, y pellaf i'r gogledd mae’r comisiynydd wedi llwyddo i ymweld yw Merthyr Tudful, a meddwl ydw i tybed pam. Siawns nad oes grwpiau cymunedol ymhellach i'r gogledd a fyddai wedi croesawu rhywfaint o ymgysylltu â'r comisiynydd plant a'i swyddfa. Nid oes sôn naill ai yn ‘Gyda’n Gilydd!' na'r rhaglen llysgenhadon ysgolion am ddosbarthiad daearyddol y cyfranogwyr, ac felly hoffwn bwysleisio i'r Gweinidog fod angen peth ymrwymiad gan y comisiynydd bod ei swyddfa yn mynd ati i ymgysylltu â phob rhan o Gymru yn weithredol ac nid mynd i ardaloedd sy'n hawdd eu cyrraedd o'r brif swyddfa yn unig. Mae'r pwynt hwn hefyd yn seinio’n glir gyda lefel yr ymchwiliadau a'r gefnogaeth sydd wedi'i gynnig hefyd. O'r 604 o achosion eleni, cofnodwyd fod traean ohonynt yn dod o Gaerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr ac Abertawe, a byddai wedi bod yn ddefnyddiol gwybod beth oedd y dosbarthiad llawn ledled Cymru, oherwydd byddai'n helpu i nodi ardaloedd lle mae angen mwy o amlygrwydd i’r comisiynydd. O ran sylwadau'r comisiynydd mewn perthynas â'r rhai oedd wedi gadael gofal, mae'r comisiynydd wedi nodi bod angen i bob person sy'n gadael gofal fod â chynghorydd personol penodedig, a dywedodd er bod cyllid ar gael, nad yw'r newid statudol i wreiddio'r ddarpariaeth hon wedi dod i rym, ac na fydd y newid deddfwriaethol i wneud i hyn ddigwydd, wedi’i amserlennu’n wreiddiol ar gyfer 2022-23, yn digwydd tan 2024 ar y cynharaf bellach. O ystyried bod Llywodraeth Cymru'n gwario £20 miliwn ar dreialu incwm sylfaenol cyffredinol ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal, pam nad yw'r Llywodraeth hon yn gallu sicrhau bod gan bob person sy'n gadael gofal fynediad at gynghorydd personol? Hoffwn herio Llywodraeth Cymru ymhellach a gofyn p’un a yw'r rhai sy'n optio mewn i’r treial incwm sylfaenol cyffredinol yn mynd i gael cynghorydd personol penodol ai peidio, oherwydd mae'n mynd i fod yn ddull cefnogi a fydd yn hanfodol i rai, yn enwedig gan eu bod nhw’n cael £20,000 y flwyddyn i'w wario. Yn olaf, rwyf i am godi pwynt ar y lefelau uchel o waharddiadau tymor penodol ar gyfer plant tair i saith mlwydd oed yn y cyfnod sylfaen. Rwy'n gwerthfawrogi bod y data rhwng 2017-18, ond mae'n ymddangos i mi fod bron i 80,000 diwrnod o ddysgu yn cael eu colli i waharddiadau yng Nghymru, ac mae hyn yn ymddangos yn rhy uchel, yn enwedig o ystyried ei bod yn debygol bod rhai o'r un plant yn cael eu gwahardd dro ar ôl tro. Gyda hyn mewn golwg, hoffwn herio'r Llywodraeth a'r comisiynydd ar y pwynt hwn. Mae'r ffaith i hyn fod yn syndod i'r comisiynydd, a'u bod yn adrodd amdano bum mlynedd yn ddiweddarach, yn dangos yn glir nad yw swyddfa'r comisiynydd yn cadw llygad digon agos ar y mathau hyn o ystadegau. Joel, mae angen i chi orffen nawr, os gwelwch chi'n dda. Joel James MS: Diolch. Wrth gloi, rwy'n ymwybodol gyda phopeth rydw i newydd ei ddweud, hoffwn er gwaethaf popeth ddiolch i'r comisiynydd plant blaenorol a'i swyddfa am y gwaith maen nhw wedi'i wneud. Rwy'n gwybod fy mod i wedi tynnu sylw at sawl methiant heb sôn am lawer o bethau cadarnhaol, ond nid wyf erioed wedi amau awydd y comisiynydd i gael y gorau i blant Cymru. Diolch. Heledd Fychan AS: A gaf i adleisio'r geiriau sydd eisoes wedi’u mynegi o ran diolch i Sally Holland am ei chyfnod o dros saith mlynedd? Rwy'n credu bod ei darlith ymadael, hefyd, yn rhywbeth i nifer ohonom ni gnoi cil drosto, gan fyfyrio ar yr heriau yr oedd hi'n credu oedd yn dal i wynebu cymaint o blant a phobl ifanc. Hoffwn hefyd groesawu'r comisiynydd plant newydd, sydd wedi dangos yn barod yn ei rôl y bydd hi'n dilyn yn ôl troed Sally ac yn blaenoriaethu lleisiau plant a phobl ifanc Cymru. Rwy'n credu ei fod yn dangos yn yr adroddiad hwn beth yw gwerth cael rôl allweddol y comisiynydd i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y gynrychiolaeth honno, ond eu bod nhw’n cael cynnig y cyfleoedd hynny fel bod eu lleisiau uniongyrchol eu hunain yn cael eu clywed. Rwy’n meddwl mai un o'r pethau rydw i wedi myfyrio arno, wrth ddarllen yr adroddiad, oedd y ffaith bod cymaint o blant a phobl ifanc wedi cymryd rhan—miloedd ar filoedd o'r lleisiau yna wedi’u clywed ac wedi cael gwrandawiad—a hefyd yr hyfforddiant o ran hawliau plant, o godi ymwybyddiaeth ac ymwybyddiaeth barhaus, achos mae'n her barhaus, i sicrhau ein bod ni'n parchu ac yn gwrando ar leisiau plant a phobl ifanc. Rydym ni wedi gweld gwerth hynny yn ein gwaith ein hunain drwy bwyllgorau'r Senedd, ac rwy'n credu ei bod hi'n glir o'r adroddiad y rôl werthfawr mae swyddfa'r comisiynydd plant yn ei chwarae wrth ddarparu tystiolaeth a'n herio ni fel gwleidyddion ar rai o'n penderfyniadau hefyd. Hir y parhaed hynny, oherwydd mae'n bwysig bod hynny'n dylanwadu ar bolisi. Rwy'n credu mai'r un peth i fyfyrio arno o ran rhai o'r heriau a sut rydyn ni'n ymateb—fe wnes i eich clywed chi, Gweinidog, yn amlwg, yn cyfeirio at ddulliau dylanwadu’r DU a rhai o bethau nad ydyn nhw o fewn ein rheolaeth, na allwn ni newid, ond os ydyn ni'n canolbwyntio'n benodol ar yr argymhellion yn yr adroddiad ynghylch tlodi plant, yn amlwg, rhywbeth a gafodd ei hyrwyddo hefyd dros dymor saith mlynedd Sally Holland fel comisiynydd—. Bydd llawer ohonom ni’n cofio'r targed hwnnw o ddileu tlodi plant erbyn 2020, a chael gwared ar hwnnw wedyn yn 2016. Byddwn yn adleisio galwadau'r comisiynydd plant i sicrhau bod y cynllun hwnnw ar waith. Rydw i’n meddwl bod peidio â chael y cynllun penodol yna gyda thargedau, fel ein bod ni'n gallu mesur cynnydd, yn rhywbeth sy'n ddiffygiol ar hyn o bryd, ac mae'n eithaf syfrdanol nad oes cynllun gweithredu penodol ar fynd i'r afael â thlodi plant. Mae gennym ni nifer o fesurau—pethau yr ydym ni’n hynod falch ohonynt ym Mhlaid Cymru yr ydym ni wedi gallu eu sicrhau, wrth gwrs, drwy'r cytundeb cydweithredu rhwng y ddwy blaid; pethau, fel y pwysleisiwyd yn yr adroddiad, megis ymestyn prydau ysgol am ddim ac ehangu gofal plant. Ond mae angen i ni fynd y tu hwnt i hynny, ac rwy’n credu, gyda phopeth sydd yn dod o ran y toriadau pellach rydyn ni am eu gweld gydag awdurdodau lleol a phopeth, mae yna risg gwirioneddol fod y sefyllfa am waethygu os nad oes gennym ni gynllun i fynd i'r afael â hyn a hefyd os nad ydyn ni'n monitro effaith ein holl bolisïau, a monitro lle gallwn ni wneud gwahaniaeth, o ystyried ein bod ni’n gwybod y bydd y pwysau'n cynyddu. Y maes arall yr hoffwn i ganolbwyntio arno yw'r adran ar addysg yn y cartref a'r argymhellion penodol yno, sy’n dweud bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru hefyd gyhoeddi cynllun gwerthuso ar gyfer gweithredu canllawiau statudol newydd ochr yn ochr â'r canllawiau hynny. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn ymwybodol o bryderon sydd wedi eu codi gyda nifer ohonom o ran addysg yn y cartref. Er bod Plaid Cymru wedi cytuno gyda bwriad y cynigion, sef sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru yn cael addysg addas, rydym ni’n dal i gredu nad yw'r canllawiau hynny, neu’r canllawiau drafft ar hyn o bryd, yn gwahaniaethu rhwng y rhai sydd wedi dewis addysgu eu plant yn y cartref ac yn teimlo eu bod nhw’n mynd i gael eu monitro neu eu drwgdybio, mewn cyferbyniad â'r plant hynny nad ydyn nhw’n derbyn unrhyw fath o addysg ar hyn o bryd. Rwy'n credu bod rhai pethau sy’n cael eu codi yma fel pryderon yr hoffwn i i Lywodraeth Cymru fod yn mynd i'r afael â nhw. Ond rwy'n credu mai'r un peth sy'n glir iawn yma yw bod effeithiau COVID, fel sy’n cael ei egluro yn yr adroddiad, wedi bod yn helaeth ar ein plant a'n pobl ifanc a byddant yn parhau i fod felly. Bydd yr argyfwng costau byw hefyd yn effeithio'n anghymesur ar ein plant a'n pobl ifanc. Felly, y pwynt yr hoffwn i ei bwysleisio, wrth gloi, Gweinidog, yw: a allwn ni sicrhau bod cynllun gweithredu tlodi plant, fel sy'n cael ei hyrwyddo gan y comisiynydd plant a'r adroddiad hwn, ar waith, fel ein bod ni’n gallu gwneud y newidiadau hynny mae ein plant a'n pobl ifanc eu hangen mor daer? Diolch. Jayne Bryant AC: Mae adroddiadau blynyddol bob amser yn ôl-weithredol, ond mae'r adroddiad blynyddol hwn hyd yn oed yn fwy ôl-weithredol nag arfer, oherwydd, wrth gwrs, eleni, mae'r comisiynydd presennol yn adrodd ar waith ei rhagflaenydd. Gyda hynny mewn golwg, hoffwn ddiolch i Sally Holland, unwaith eto, am bopeth a wnaeth i blant a phobl ifanc yng Nghymru drwy gydol ei chyfnod, a llongyfarchiadau, unwaith eto, i Rocio Cifuentes ar ei phenodiad. Gobeithio eich bod chi wedi ymgartrefu yn dda, comisiynydd. Nôl ym mis Rhagfyr 2021, cynhaliodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wrandawiad cyn penodi gyda Ms Cifuentes. Fe wnaethom ei hannog hi a'i swyddfa i fyfyrio ar ambell beth wrth iddyn nhw gynllunio a chyflawni eu gwaith, gan gynnwys sut maen nhw'n sicrhau eu bod nhw’n ymgysylltu â phlant a phobl ifanc ledled Cymru gyfan, a sut maen nhw'n gwerthuso effaith eu gwaith fel ei bod hi'n glir sut mae'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant a phobl ifanc o ddydd i ddydd. Fe ddown ni’n ôl at y themâu hynny pan fyddwn ni’n craffu ar y comisiynydd ar ei hadroddiad blynyddol ar 17 Tachwedd. Y tu allan i graffu ar yr adroddiad blynyddol, rydym ni’n manteisio ar arbenigedd y comisiynydd i lywio ein gwaith craffu. Felly, mae gen i ddiddordeb arbennig yng ngherdyn adroddiad y comisiynydd yn ei hadroddiad blynyddol. Mae'r cerdyn adroddiad yn nodi barn y comisiynydd am gynnydd Llywodraeth Cymru yn erbyn materion polisi allweddol. Mae'r materion polisi canlynol yn atseinio'n arbennig o gryf gyda'n gwaith ni. Y cyntaf yw mynd i'r afael â thlodi plant. Rwy'n cytuno, rydym ni ar fin profi argyfwng costau byw ac, fel pwyllgor, rydym ni wedi cytuno i ganolbwyntio ar effaith negyddol anfantais ar ganlyniadau i blant a phobl ifanc. Ychydig dros flwyddyn sydd wedi bod ers i'n pwyllgor gael ei ffurfio, ond mae eisoes yn boenus o glir faint o'r heriau mae ein plant yn eu hwynebu sy’n deillio o dlodi. Fel mae’r comisiynydd yn ei gynghori, byddwn yn rhoi sylw manwl i strategaeth tlodi plant Llywodraeth Cymru, sydd i fod i gael ei chyhoeddi erbyn diwedd y flwyddyn. Yr ail yw pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Fel y comisiynydd, cawsom ein hannog gan yr ymrwymiad yn rhaglen lywodraethu i: 'Ystyried cyfleoedd radical i ddiwygio’r gwasanaethau presennol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal ac yn gadael gofal.' Yn anffodus, rydym ni hefyd yn cytuno â'r comisiynydd bod cynnydd ar y gwaith pwysig hwn wedi bod yn rhy araf. Mae angen tryloywder ynglŷn â beth mae'r ymrwymiad hwn yn ei olygu yn ymarferol. Yn ddiweddar rydym ni wedi lansio ymgynghoriad yn gofyn i blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, rhieni biolegol, rhanddeiliaid ac academyddion sut maen nhw'n credu y dylai diwygiadau radical edrych. Beth fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf i fywydau pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal? Ein gobaith yw y bydd yr ymchwiliad hwn yn cefnogi ymrwymiad y Llywodraeth, sydd i’w groesawu, i archwilio a gweithredu'r diwygiad radical mae plant a phobl ifanc ei angen. Ac yn olaf, iechyd meddwl ysgol gyfan: rydym ni wedi clywed pryderon am iechyd meddwl ein dysgwyr dro ar ôl tro drwy gydol ein gwaith, fel effaith o aflonyddu rhywiol ymysg dysgwyr, fel achos o absenoldeb disgyblion, a thu hwnt i addysg statudol i addysg uwch. Rydym ni’n cytuno â'r comisiynydd bod ysgolion yn lleoliad delfrydol i gefnogi plant gyda'u hiechyd meddwl, ac yn croesawu cynnydd Llywodraeth Cymru y mae'r comisiynydd wedi ei gydnabod yn ei hadroddiad. Byddwn yn parhau i wneud yr hyn y gallwn ni i sicrhau bod y Llywodraeth yn adeiladu ar y cynnydd hwnnw i ddarparu'r cymorth iechyd meddwl mae ein plant yn ei haeddu. Mae llawer mwy o feysydd polisi hanfodol bwysig yn yr adroddiad hwn, a dim digon o amser i'w trafod i gyd. Ond rwy'n annog holl Aelodau'r Senedd, y rhai sydd yn y Llywodraeth a'r tu allan iddi, i ddarllen yr adroddiad hwn a defnyddio canfyddiadau'r comisiynydd i lywio eu gwaith. P'un a yw plant yn rhan benodol o bortffolio cylch gwaith neu weinidogaethol eich pwyllgor ai peidio, mae dyletswydd gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru i ystyried eu hawliau ym mhob penderfyniad mae'n ei wneud. Mae'r adroddiad hwn yn berthnasol i bob un ohonom ni. Ac i’r comisiynydd ei hun, rwy’n edrych ymlaen at drafod ei hadroddiad yn fanylach ar 17 Tachwedd, ac adeiladu ar y berthynas gadarnhaol rhwng ei chomisiynwyr rhagflaenol a'n pwyllgorau rhagflaenol wrth fynd ar drywydd ein pwrpas cyffredin: gwella bywydau plant a phobl ifanc Cymru. Diolch. Jane Dodds AS: Hoffwn innau hefyd ymuno â nifer o bobl eraill i ddiolch i'r cyn-gomisiynydd plant, Dr Sally Holland, am ei harweinyddiaeth fel y comisiynydd wrth hybu a diogelu hawliau plant a phobl ifanc Cymru. Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar blant a theuluoedd a phlant dan ein gofal, rydw i eisiau defnyddio fy amser byr i ganolbwyntio ar blant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal. Ers 2003, mae nifer y plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal wedi bron â dyblu, ac yn y degawd diwethaf, mae wedi codi mwy na chwarter. Rwy'n poeni'n benodol am ddarpariaeth gwasanaethau eiriolaeth annibynnol i blant a phobl ifanc mewn gofal preswyl. Rydym ni’n gwybod, o ganlyniad i'r dull cenedlaethol o ymdrin ag eiriolaeth statudol, sydd ar waith ers Gorffennaf 2017, fod plant a phobl ifanc sy’n cael eu gosod yng ngofal preswyl yr awdurdodau lleol yn gallu cael eiriolaeth annibynnol. Ond mae'r ddarpariaeth honno yn cyfrif am lai a llai o gyfanswm cyfran y llety. Ym mis Mawrth 2019, dim ond 23 allan o gyfanswm o 178 o gartrefi plant oedd yn cael eu darparu gan awdurdodau lleol. Yn ôl tystiolaeth Tros Gynnal Plant, dim ond 22 o'r tua 155 o gartrefi annibynnol oedd yn darparu eiriolaeth annibynnol mewn gwirionedd. Mae hyn yn bryder gwirioneddol i mi ac, rwy'n siŵr, i lawer o rai eraill, Gweinidog. Dylai fod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i bob cartref preswyl, beth bynnag fo'i statws o ran cofrestru, ddarparu gwasanaeth eiriolaeth ymweld annibynnol, fel amddiffyniad ychwanegol, gan sicrhau bod gan bob plentyn neu berson ifanc eiriolwr personol y gallant gyfathrebu'n agored ag ef, a hynny heb boeni. Mae llawer ohonom ni, naill ai'n broffesiynol neu mewn capasiti arall, wedi cwrdd â phobl ifanc sydd mewn gofal neu sydd â phrofiad o ofal. Mae'r trawma a'r profiadau maen nhw'n mynd drwyddyn nhw, o ran dod i ofal, yna o ran eu lleoliadau, yn golygu eu bod nhw wir yn teimlo'n ddi-lais. Mae gwasanaethau eiriolaeth annibynnol yn hanfodol i sicrhau bod ganddyn nhw’r llais hwnnw. Felly, byddai'n ddiddorol clywed mwy ar y mater hwn mewn ymateb i'r ddadl, wrth ymestyn y gofyniad hwn i'r sector annibynnol, a chryfhau'r model cenedlaethol presennol ar gyfer lleoliadau awdurdodau lleol. Y mater arall yr hoffwn i dynnu sylw ato yw'r defnydd o leoliadau nad ydyn nhw’n cael eu rheoleiddio. Mae adroddiad y comisiynydd yn tynnu sylw at bryderon gyda'r defnydd eang o leoliadau nad ydyn nhw’n cael eu rheoleiddio. Rwy'n gwerthfawrogi'n llwyr fod y rhain yn aml yn codi o argyfyngau a lleoliadau yn chwalu, ac ar ôl bod yn weithiwr cymdeithasol am flynyddoedd lawer, rwy'n ymwybodol o’r sefyllfa. Ond mae pryder gwirioneddol gydag ansawdd a safonau'r llety. Gall hyn amrywio o leoliadau 'Pan fydda i’n Barod', hyd at hosteli a llety gwely a brecwast, ac mae'r olaf o’r rhain yn gwbl amhriodol. Er bod rhai lleoliadau cefnogol ardderchog, mae rhai pobl ifanc yn fregus iawn os ydyn nhw’n byw mewn llety gwael gyda chefnogaeth gyfyngedig. Rwy'n deall bod hyn yn cael ei ystyried fel rhan o'r gwaith o ran tynnu elw o'r sector, ac ar wella ystod ac argaeledd lleoliadau, yn enwedig i'r rhai sydd ag anghenion mwy cymhleth. Rwy'n cefnogi hyn, ac rwy'n falch iawn bod hyn yn rhan o'r rhaglen lywodraethu. Mae'r comisiynydd, yn ei hadroddiad, yn gwneud argymhellion clir iawn am gwmpas y gwaith sydd angen ei wneud, ac rwy'n gobeithio y gallwch chi ymateb, Gweinidog, i'r argymhelliad hwnnw yn y ddadl hon. Yn olaf, fel mae eraill wedi’i wneud, a gaf ddymuno'r gorau i'r comisiynydd newydd, Rocio Cifuentes, am ei chyfnod yn y swydd? Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda hi. Mae llawer iawn o waith i'w wneud i'n plant er mwyn creu dyfodol mwy disglair. Mae pandemig COVID—ei effaith uniongyrchol ar fywydau plant a phobl ifanc, a'r penderfyniadau ynghylch sut y gwnaeth Cymru ymateb i'r pandemig—yn amlygu pa mor bwysig yw hyrwyddwr annibynnol i blant a phobl ifanc. Diolch yn fawr iawn. Vikki Howells AC: Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad heddiw trwy ddiolch i'r comisiynydd plant newydd a'i thîm am eu gwaith yn cynhyrchu'r adroddiad cynhwysfawr hwn. Hoffwn hefyd ymuno â chydweithwyr o bob rhan o'r Siambr i gynnig fy niolch i'r Athro Sally Holland am bopeth a gyflawnodd yn ystod ei chyfnod yn y swydd. Roedd Sally yn hyrwyddwr cadarn dros hawliau plant a phobl ifanc yng Nghymru. Cefais gyfle i ymuno â hi ar ymweliad â Cynon Valley Organic Adventures yn fy etholaeth i y llynedd. Roedd hyn ar gyfer eu cinio mawr yn ystod Wythnos y Gwirfoddolwyr, ac roedd yn gyfle gwych i Sally siarad â rhai o'r bobl ifanc y bu Janis a'i thîm yn gweithio gyda nhw. Diolch i Sally am gymryd yr amser i ymweld. Rwy'n gwybod bod hwn yn faes y bydd hi'n parhau i wneud cyfraniad sylweddol ynddo. Gan droi at yr adroddiad blynyddol, rwyf eisiau canolbwyntio ar ambell faes allweddol—yn gyntaf, yr adrannau sy'n ymwneud â mynd i'r afael â thlodi plant. Gwyddom i gyd, wrth gwrs, mai dyma un o'r materion mwyaf sylfaenol sy'n wynebu ein cymdeithas. Mae'r data a ddyfynnir yn yr adroddiad ar faint yr her yn ddigon sobreiddiol. Fodd bynnag, mae ffigyrau diweddaraf Canolfan Ymchwil Polisi Cymdeithasol Prifysgol Loughborough yn awgrymu bod nifer y plant mewn tlodi yng Nghymru wedi cynyddu hyd yn oed y tu hwnt i hyn. Rydym hefyd yn gwybod bod hyn yn debygol o fod wedi gwaethygu ymhellach gan y pwysau costau byw digynsail. Yng nghyd-destun y ffeithiau hyn, rwyf wir wedi fy syfrdanu a fy mrawychu gan y diffyg ymgysylltu â'r comisiynydd plant o Lywodraeth y DU. Mae'r adroddiad yn nodi sawl achlysur lle gwrthododd aelodau Cabinet y DU gyfarfod â'r comisiynydd plant, neu hyd yn oed ateb gohebiaeth. Gan fod un o'r rhai hynny a fethodd ag ymateb, yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau ar y pryd, yn Ddirprwy Brif Weinidog ar hyn o bryd, nid yw'n argoeli'n dda i weinyddiaeth Truss yn yr her allweddol o fynd i'r afael â thlodi plant. Rwy'n nodi, mewn cyferbyniad, weithredoedd Llywodraeth Cymru, y mae'r comisiynydd plant wedi eu croesawu. Mae polisïau fel cyflwyno prydau ysgol am ddim cyffredinol, darparu brecwast ysgol am ddim, cynnig gofal plant estynedig, Dechrau'n Deg a grant datblygu disgyblion gwell i helpu gyda chost y diwrnod ysgol i gyd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. O fy ymgysylltiad â'r prosiect yn fy etholaeth i, rwyf hefyd eisiau sôn am y clybiau bwyd a hwyl sy'n darparu buddion o'r fath i'r teuluoedd hynny sy'n gymwys i gymryd rhan. Mae'r gweithredoedd hyn a mwy yn dangos ymrwymiad Gweinidogion Cymru i ddileu tlodi plant. Wedi dweud hynny, rwy'n cydymdeimlo â sylwadau'r comisiynydd ynghylch y cynllun gweithredu tlodi plant. Os caiff ei dderbyn, gallai hynny arwain at ddarn o waith gwirioneddol gryf sy'n sicrhau pwyslais manwl di-baid gan bob un ohonom ni ar roi'r dechrau gorau posibl i bob plentyn yng Nghymru. Rydw i hefyd yn cydymdeimlo ag argymhelliad y comisiynydd ynghylch trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bobl ifanc o dan 18 oed yng Nghymru. Yn ddiweddar, cynhaliais ddigwyddiad ar gyfer Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru a'r Grŵp Gweithredu Tlodi Plant yma yn y Senedd. Roedd hwn i nodi lansiad y canllaw byr 'Taclo Tlodi Plant gyda'n Gilydd' i ysgolion. Roedd cryn dipyn o blant a phobl ifanc o ysgolion Cymru yn bresennol, a'r peth mawr yr oedden nhw'n gofyn amdano oedd y dylen nhw allu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus am ddim. Rwy'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn awyddus iawn i newid arferion ac annog mwy o ddefnydd o fysiau a threnau. Rwy'n gwerthfawrogi bod arian yn dynn, ond gallai bodloni'r argymhelliad hwn, hyd yn oed o ran y cynllun treialu y gofynnwyd amdano, fynd ymhell i annog arferion gydol oes rhagorol o ddefnydd trafnidiaeth gyhoeddus. Yn olaf, yr adran ynghylch iechyd meddwl ysgol gyfan a chymorth lles. Fel cyn-athrawes, fel mam i ferch yn ei harddegau, ac o sach bost fy etholaeth, rwy'n gwybod bod y gwaith hwn yn gwbl angenrheidiol. Mae'r comisiynydd yn canmol yn briodol yr ymyriadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud—mae hynny o ran y dull gweithredu ei hun a darparu cyllid fel y gall gael ei weithredu'n iawn. Pan fydd ein plant a'n pobl ifanc o dan y fath bwysau, dylem ni gynnig dim llai iddyn nhw. Edrychaf ymlaen at gyflwyno hyn yn gyflym ac yn effeithiol ledled Cymru ar frys. Diolch, Dirprwy Lywydd. Peter Fox AS: A gaf i ddiolch hefyd i'r Gweinidog am y datganiad? Ac a gaf i ddiolch hefyd i'r comisiynydd presennol am ei gwaith hyd yma, yn ogystal â'i rhagflaenydd, yr Athro Sally Holland? Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd i ni i gyd, ac yn arbennig, plant a phobl ifanc, sydd wedi gorfod profi amharu sylweddol ar eu bywydau a'u datblygiad. Felly, mae'n bwysig i ni yn y Senedd ofyn i ni'n hunain yn barhaus sut rydym ni'n gweithio i greu dyfodol gwell i bobl ifanc, a rhoi'r arfau maen nhw eu hangen iddyn nhw. Rwy'n mawr obeithio bod pob corff cyhoeddus a haen o lywodraeth o bob cwr o'r DU yn ymgysylltu'n llawn, ac yn parhau i ymgysylltu, â'r gwaith hwn. Mae rôl a gwaith adrodd y comisiynydd plant yn sylfaenol i daflu goleuni ar feysydd sydd angen eu gwella, ac rwy'n canmol y comisiynydd ar ei hadroddiad. Yn bersonol, roeddwn i'n credu ei fod yn glir, yn gryno ac yn hawdd ei ddefnyddio. Dirprwy Lywydd, mae'r materion sy'n wynebu ein plant a'n pobl ifanc wedi parhau am lawer rhy hir, ac mewn llawer o achosion mae'r materion sy’n cael eu crybwyll yn yr adroddiad yn waeth mewn ardaloedd gwledig, fel yn fy etholaeth i yn Nhrefynwy. Meddyliwch am gludiant: bydd pobl ifanc yn aml yn profi rhwystrau rhag manteisio ar gyfleoedd addysg, hamdden neu gyflogaeth oherwydd argaeledd a chost trafnidiaeth gyhoeddus. Nid oes darpariaeth fel y byddech chi'n ei chael yng Nghasnewydd neu Gaerdydd, er enghraifft. Nawr, Gweinidog, a ydych chi'n gweithio gyda'ch cydweithwyr yn y Cabinet i sicrhau bod anghenion pobl ifanc yn cael eu diwallu'n llawn yn eich strategaeth drafnidiaeth, 'Llwybr Newydd', yn ogystal â'ch Bil bws sydd ar ddod? Mae'r adroddiad hefyd yn sôn am sawl peth yn ymwneud â hygyrchedd gwasanaethau ac eiriolaeth ar gyfer amrywiaeth o bobl ifanc. Eto, mae'r rhain yn bethau nad ydynt o reidrwydd yn hawdd eu cael mewn ardaloedd gwledig mawr, sy'n gallu effeithio ar sut mae pobl ifanc yn ymgysylltu â nhw ac yn derbyn cefnogaeth. Sut mae'r Llywodraeth yn gweithio gydag awdurdodau lleol a darparwyr gwasanaethau i sicrhau bod gwasanaethau'n gwbl hygyrch? Ac ydy gwasanaethau'n cael eu hyrwyddo'n ddigonol fel bod pobl ifanc yn gwybod beth sydd ar gael iddyn nhw a sut i i’w gael? Yn olaf, a gaf i hefyd roi fy nghefnogaeth lawn y tu ôl i argymhelliad y comisiynydd ar gyfer strategaeth benodol ar sut i fynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru, yn enwedig o ystyried y cyd-destun presennol yr ydym ni’n canfod ein hunain ynddo? Ac ar y pwynt hwn, mae'n rhaid i mi fynegi fy siom unwaith eto bod swyddfa'r comisiynydd yn ei chael hi'n anodd cael y lefel o ymgysylltu â Llywodraeth y DU a oedd yn haeddiannol, ac ar sawl lefel. Nid yw hyn yn ddigon da ac mae'n rhaid iddo newid. Nawr, efallai nad oes gan Lywodraeth Cymru yr holl ddulliau dylanwadu y mae'n dadlau sydd eu hangen arni, ond yn sicr mae ganddi lawer yn barod, ac mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd o ddefnyddio’r pwerau a’r mentrau sydd gennym ni yn well. A gaf i ofyn, Gweinidog, a fydd y Llywodraeth yn ystyried pa mor dda mae ei pholisïau presennol yn gweithio i leddfu achosion a chanlyniadau tlodi plant, a ph’un a ellir hyrwyddo dysgu o'r fath i helpu i lywio'r strategaeth newydd sydd i fod i ddigwydd yn ddiweddarach eleni? Diolch. Sarah Murphy AS: Hoffwn ddefnyddio'r cyfle hwn i ddiolch i Gomisiynydd Plant Cymru am yr adroddiad hwn, a chroesawu'r comisiynydd newydd, Rocio Cifuentes, i'w rôl. Rwy'n edrych ymlaen at weld y gwaith mae Rocio'n ei gyflawni drwy ymgysylltu â phobl ifanc, gan wneud Cymru'r lle gorau i dyfu i fyny fel person ifanc. Mae'n wych gweld sut mae Comisiynydd Plant Cymru wedi ymgysylltu â grwpiau dan arweiniad ieuenctid yn fy nghymuned fy hun ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae'r adroddiad yn sôn am ymgysylltu â chlwb ieuenctid cynhwysol Pen-y-bont ar Ogwr ac YMCA Pen-y-bont ar Ogwr, ac rydw i wedi gweithio gyda phobl ifanc yn y clybiau i ddatblygu adnoddau a deunyddiau sy'n berthnasol i'w hanghenion, ac anghenion plant a phobl ifanc sydd ag anableddau dysgu. Mae'r adroddiad hefyd yn sôn am Brosiect Pleidlais a welodd pobl ifanc 16 mlwydd oed yn pleidleisio am y tro cyntaf yn ein hetholiadau llywodraeth leol diweddar. Roedd modd i fyfyrwyr Ysgol Gyfun Cynffig yn fy etholaeth i gymryd rhan mewn cynllun treialu a oedd yn caniatáu iddyn nhw bleidleisio yn yr ysgol dros dridiau. Roedd hi’n wych eu gweld nhw’n cynrychioli lleisiau pleidleiswyr ifanc yn The Guardian, lle roedden nhw'n siarad am ba mor bwysig oedd hi iddyn nhw allu pleidleisio ac am ffyrdd o wneud pleidleisio'n fwy hygyrch. Mae'r adroddiad hefyd yn sôn am y gwaith mae'r comisiynydd yn ei wneud o ran yr adolygiad teithio gan ddysgwyr. Rwyf wedi cwrdd â'r comisiynydd blaenorol ynglŷn â'r mater hwn, a disgyblion yng Nghorneli sy'n ymgyrchu dros wella mynediad i drafnidiaeth ysgol. Mae'r newid mewn meini prawf tair milltir i ddwy filltir ar gyfer mynediad at bàs bws wedi effeithio'n fawr ar y bobl ifanc yn cyrraedd ac yn gadael yr ysgol, gan gynnwys eu hiechyd meddwl a'r nifer sy’n chwarae offerynnau cerdd. Y gaeaf hwn, bydd plant mor ifanc ag 11 mlwydd oed yn cerdded i'r ysgol yn y glaw ac yna'n eistedd mewn dillad gwlyb socian drwy'r dydd. Fel y dywed yr adroddiad, mae hwn yn fater sy'n cael effaith ar ddisgyblion ledled Cymru, ac rwy'n cytuno gyda'r adroddiad bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru nodi amserlenni yn glir a gyda brys i sicrhau newid cadarnhaol erbyn diwedd tymor y Senedd, a rhaid i farn pobl ifanc gyfrannu at gam nesaf y gwaith hwnnw. Mae'r adroddiad yn archwilio'r dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl, ac rwyf i wedi siarad â'r comisiynydd am fy mhrofiadau fy hun o anorecsia ar ôl rhannu yma yn y Siambr. Felly mae'n wych clywed am TERMS, prosiect monitro o bell wedi'i alluogi gan dechnoleg mewn ysgolion gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion sydd wedi'i gyd-gynllunio gyda disgyblion Ysgol Gyfun Brynteg ym Mhen-y-bont ar Ogwr, lle mae'r prosiect nawr yn cael ei dreialu. Daeth y prosiect hwn yn dilyn gofyn yn uniongyrchol i ddisgyblion pa faes o iechyd meddwl yr oedden nhw am ei archwilio. Cafodd anhwylderau bwyta ei godi fel y maes allweddol yr oedden nhw am gael mwy o ymchwil mewn cysylltiad ag ef. Ac yna, yn olaf, hoffwn dynnu sylw at gydnabod Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn—yr offer sy'n sail i bob polisi a deddfwriaeth sy'n effeithio ar bobl ifanc. Ers cael fy ethol, rydw i wedi bod yn gweithio gyda chynghorau ysgol a chyngor ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr, yn ogystal â Pippa King o Biometrics in schools a Jen Persson o Defend Digital Me, ar y defnydd cynyddol o ddata biometreg sy'n cael ei gasglu a'i ddefnyddio mewn ysgolion. Yn 2021, cefais wybod am ysgolion lleol ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cyflwyno technoleg i gasglu a defnyddio olion bysedd plant ar gyfer prydau bwyd amser cinio. Mae technolegau oedd yn cael eu defnyddio unwaith gan asiantaethau cudd-wybodaeth y wladwriaeth bellach yn cael eu defnyddio ar ein plant ar gyfer trafodiadau ariannol. Fe wnaeth llythyrau caniatâd a anfonwyd at rieni fframio'r defnydd o gasglu data olion bysedd fel rhywbeth mwy diogel i blant, ac rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi diweddaru canllawiau, gan egluro mai mater i'r plentyn bob amser yw gwneud y penderfyniad ar roi eu data ai peidio. Ond wrth siarad â phobl ifanc yn fy nghymuned i, dydyn nhw ddim yn ymwybodol o hyn, ac maen nhw'n meddwl mai mater i'w rhieni yw hynny. Yn y bôn, pan fydd gan rywun gyfrinair, mae'n rhywbeth y gallwch chi ei newid neu ei ailosod; mae ôl bys yn rhywbeth yr ydych chi—mae'n rhan ohonoch chi. Pan fydd y data hwnnw'n cael ei beryglu, mae'n cael ei beryglu am oes. Ac nid yw'r technolegau hyn ychwaith yn ddiogel rhag gollyngiadau ac ecsbloetio data, yn union fel y gwelsom mewn ysgolion ledled Cymru gydag apiau ieuenctid—yr ap o’r Unol Daleithiau, Seesaw—pan gafodd ei system ei hacio ac anfonwyd delweddau o natur rywiol i blant. Mae Erthygl 16 o'r CCUHP yn dweud bod gan bob person ifanc yr hawl i breifatrwydd, ac eto, yr hyn rydyn ni'n ei weld yw bod technolegau ymwthiol yn cael eu cyflwyno mewn ysgolion a heb y wybodaeth i bobl ifanc ddeall pwy sy'n casglu eu data personol a sut mae'n cael ei ddefnyddio nawr ac yn y dyfodol. Felly, byddwn yn croesawu'r cyfle felly i drafod y pryderon hyn a godwyd gyda mi gan bobl ifanc, gyda'r comisiynydd, ac effaith bosibl technolegau digidol sy'n cael eu defnyddio mewn lleoliadau addysgol ledled Cymru. Diolch. Joyce Watson AC: Rwyf i am ddiolch hefyd i'r comisiynydd plant sy'n gadael a chroesawu'r un newydd. Ddoe, wrth gwrs, roedd hi’n Ddiwrnod Rhyngwladol ar gyfer Dileu Tlodi. Wrth gwrs, fe wnaeth Llywodraeth y DU ddathlu hynny drwy ddychwelyd i lymder a'r polisi trychinebus hwnnw a wnaeth drosglwyddo ein gwlad i ddegawd goll o dwf isel, gwasanaethau cyhoeddus nad ydynt yn cael eu hariannu’n ddigonol ac anghydraddoldeb cynyddol. Fodd bynnag, o dan lywodraeth Lafur ddiwethaf y DU, roedd tlodi plant yn gostwng. Ac rwy'n canolbwyntio'n arbennig ar dlodi plant, oherwydd plant yn dod allan o dlodi fydd yn eu gweld nhw'n cael bywydau gwell, gwell cyfleoedd, gwell siawns, a gwell mynediad at y pethau hynny fydd yn gwella eu hamgylchiadau, fel gwres, fel bwyd ac fel dillad da. Felly, rwyf i yn credu, pan fyddwn ni'n siarad am benderfyniadau anodd a pholisïau ariannol, fod angen i ni feddwl sut mae'r penderfyniadau anodd hynny yn edrych ar gyfer rhai aelwydydd—fel ailddefnyddio cewynnau budr, dyfrio llaeth fformiwla, a babi'n cysgu mewn drôr a phlentyn saith oed mewn cot teithio oherwydd nad ydych chi'n gallu fforddio gwely. Dyna'r hyn rydych chi'n ei alw'n benderfyniadau anodd mae teuluoedd yn eu gwneud nawr ym Mhrydain heddiw. Maen nhw'n deillio o adroddiad gan yr elusen Little Village, sy'n rhedeg dros 200 o fanciau babanod ledled y DU. Banciau bwyd, banciau cynnes a banciau babanod—mae'r Torïaid yn gwneud llawer iawn o fancio mewn argyfwng. Ac mae hynny'n cael ei roi yng nghyd-destun yr hyn rydyn ni'n ei drafod heddiw. Mae llawer iawn yma sydd wedi symud ymlaen a llawer y gallwn ni ei ddathlu, llongyfarch a chanmol, ond yr her i'r comisiynydd newydd wrth symud ymlaen, fel mae’r adroddiad yn ei nodi, yw helpu i fynd i’r afael â thlodi, ac ymateb i’r tlodi hwnnw rwyf i newydd ei amlinellu, ac rwy’n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno polisïau, fel yr Haf o Hwyl estynedig, sydd yn yr adroddiad hwnnw, prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd—sy’n wirioneddol hanfodol nawr yn ystod yr amser hwn—a'r cynnig gofal plant estynedig, fel y gall rhieni fynd allan i weithio ac ennill rhywfaint o arian a hefyd cael rhywfaint o urddas. Ac mae'r cynllun treialu incwm sylfaenol ar gyfer pobl ifanc sy'n gadael gofal a gafodd ei grybwyll yn gynharach yn gam cadarnhaol. Maen nhw'n cael eu priodoli i’r gred bod pawb yn elwa pan fyddwn ni'n buddsoddi mewn plant a'u teuluoedd, nid pan fyddwn ni'n dwyn dechrau teg a chyfleoedd oddi ar bobl ifanc. Rydw i eisiau canolbwyntio ar blant mewn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal. Rwyf am ganolbwyntio'n benodol ar y siarter rhianta corfforaethol, ac mae wedi cael ei argymell gan y comisiynydd bod angen i ni symud i ddeddfwriaeth. Rwy'n credu ei bod yn hynod bwysig bod pob Aelod etholedig yn deall—nid yma, ond ar bob lefel, awdurdod lleol hefyd—mai nhw yw rhiant corfforaethol y plentyn sy'n derbyn gofal, ac nad yw'n wir y gallant ddadlwytho eu hymrwymiadau oherwydd bod y plentyn hwnnw allan o'r sir neu, mewn rhai achosion, achosion hynod o brin, allan o'r wlad. Yr hyn rwy'n credu mae angen i ni ganolbwyntio arno yw pwy sy'n bwydo—. Beth yw'r strwythur a'r mecanwaith ar gyfer bwydo anghenion penodol y person ifanc hwnnw sydd mewn gofal preswyl yn ôl? Beth sy'n digwydd i'r adroddiadau hynny, os oes unrhyw rai—ac ni welais i unrhyw rai pan oeddwn i'n gynghorydd, ond efallai fod pethau wedi symud ymlaen—a phwy sy'n eirioli ar ran y plentyn hwnnw, oherwydd mae eiriolaeth ar ran y plentyn hwnnw yn hynod bwysig? Ac, wrth gwrs, yr hyn rydyn ni wedi'i weld yw proffidioldeb cynyddol sy’n gysylltiedig yn fwy diweddar â chwmnïau sy'n gwneud arian allan o gyni'r plant hynny, sydd yn warthus i mi, mae'n rhaid i mi ddweud. Ac, yn enwedig yn sir Benfro, mae gennym ni dipyn o leoliadau derbyn gofal. Nid wyf yn awgrymu bod y bobl benodol hynny yn elwa'n anghymesur, ond rydym ni’n gwybod bod adroddiadau wedi bod lle mae pobl yn elwa'n anghymesur wrth redeg nifer o fannau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal. Felly, mae hwnnw’n faes, rwy’n credu, sydd angen pwyslais penodol. Rydyn ni'n sôn am les y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Diolch. Galwaf ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl. Jane Hutt AC: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch, bawb. Diolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu i'r ddadl hon ar adroddiad blynyddol y comisiynydd plant. Rwy'n ddiolchgar iawn am eich cefnogaeth barhaus i gadw hawliau plant mor uchel ar agenda Llywodraeth Cymru. Felly, diolch i aelodau o bob rhan o'r Siambr am eich cydnabyddiaeth o waith yr Athro Sally Holland a'r rôl a'r dylanwad pwysig a gafodd ar hawliau plant yn ystod ei chyfnod yn y swydd. A, diolch hefyd am eich croeso i'r comisiynydd plant newydd, Rocio Cifuentes, ac am gydnabod ei thîm hi hefyd, a'r gwaith maen nhw wedi'i wneud gyda'r cyn-gomisiynydd plant. Mae'r geiriau o'r un newydd yn yr adroddiad wir yn dangos annibyniaeth a chryfder y swydd hon. Swydd, mewn gwirionedd, y mae'n rhaid i mi ddweud, amser maith yn ôl, mai fi oedd y Gweinidog a benododd y comisiynydd plant cyntaf mewn gwirionedd, ac fe ddaeth hynny allan o gydnabyddiaeth bod angen Comisiynydd Plant annibynnol i Gymru, a dyna sydd gennym ni. Felly, diolch i chi am eich holl sylwadau, sy'n ddefnyddiol iawn o ran myfyrio ar yr argymhellion—argymhellion eang ar draws Llywodraeth Cymru gyfan. Ni allaf ateb y pwyntiau i gyd o ran yr holl argymhellion, ond byddaf yn canolbwyntio ar rai a godwyd amlaf. A gaf i ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc, ac Addysg, Jayne Bryant, am fyfyrio ar eich disgwyliadau, eich myfyrdodau o'r hyn rydych chi wedi'i obeithio y gallai'r comisiynydd plant newydd ei gyflawni yn ei chyfnod yn y swydd wrth i ni symud i gyfnod heriol iawn, ond hefyd y ffaith y byddwch chi hefyd yn ymgysylltu â'r comisiynydd plant, fel y gwnaethoch chi gyda'r un blaenorol, o ran ei hadroddiad blynyddol? Wrth gwrs, mae’r comisiynydd plant yn rhywun sy'n cael dylanwad ar bob un ohonom ni, o ran Gweinidogion ond hefyd ar bwyllgorau hefyd. Jane Dodds, mae mor dda, gyda'ch profiad penodol, ond hefyd am eich bod yn gadeirydd grŵp trawsbleidiol plant a theuluoedd ac yn dod â'r ddealltwriaeth a'r profiad agos hynny i'r rôl honno. Fel y dywedais i, rydych chi wedi nodi nifer o faterion pwysig yn y ddadl, yn enwedig hefyd canolbwyntio ar y materion sy’n codi mae'n rhaid i ni eu hwynebu, ac, yn wir, mae'r comisiynydd plant yn myfyrio arnynt, gyda'r argyfwng costau byw. Rydyn ni eisiau ailddatgan fel Llywodraeth ein bod ni'n deall yr effeithiau dwys y mae'n eu cael ac y bydd yn parhau i'w cael ar blant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae'n hollbwysig ein bod ni’n eu cefnogi nhw a'u hawliau, ac yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi plant a phobl ifanc Cymru. Mae hynny'n golygu ein bod ni’n cymryd cyfrifoldeb yn ogystal â'i gwneud yn glir ein bod ni hefyd yn galw ar y rhai sydd â'r pwerau a'r dulliau dylanwadu i gymryd cyfrifoldeb hefyd. Felly, rwy'n credu ei bod hi’n bwysig iawn cydnabod bod y comisiynydd plant newydd mewn gwirionedd yn ymgymryd â'r ymgysylltiad ar raddfa fawr hon, y gobeithion ar gyfer Cymru, fel y dywedais i, ac, mewn gwirionedd, dros y tri mis diwethaf, mae wedi ymgysylltu â dros 11,000 o blant a phobl ifanc, ac wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth o ffyrdd gwahanol o ran estyn allan at bobl ifanc a'r rhai sydd yn aml wedi cael eu tan-wasanaethu—pobl ifanc, pobl ifanc anabl, ond hefyd sicrhau bod fersiynau gwahaniaethol, dolenni gwe, a ffyrdd y gall pobl ifanc a phlant ymgysylltu, fel y gall hynny lywio eu gwaith. Nawr, wrth edrych ar rai o'r pwyntiau sydd wedi eu codi gan Aelodau, o ran yr amser sydd gen i, cymorth i bobl ifanc sy'n gadael gofal—yn hanfodol bwysig—yw cyfrifoldeb y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, sydd yma gyda ni heddiw. Ac i ddweud, wrth gwrs, rydym ni’n parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi'r rhai sy'n gadael gofal i dyfu’n oedolion ac i gael annibyniaeth, ac rydym ni’n adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi'i wneud i wella canlyniadau i bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Ac mae hyn yn hanfodol bwysig o ran yr ymateb a ddaw gan Lywodraeth Cymru o ran yr argymhellion, ond gan edrych yn arbennig ar y materion hanfodol hynny, er enghraifft yr ymrwymiad i roi'r hawl statudol i'r rheiny sy'n gadael gofal i gael cynghorydd personol hyd at pan fyddan nhw’n 25 mlwydd oed. Mae'r rhain yn ymrwymiadau ac, yn amlwg, argymhellion a fydd yn cael ymateb clir iawn gan Lywodraeth Cymru a gan y Gweinidog sy'n gyfrifol. Ond, yn yr un modd, mae hynny'n berthnasol i bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn yr argymhellion yno, ac mae cryfhau rôl cyrff cyhoeddus fel rhieni corfforaethol, fel sydd wedi ei godi, yn ymrwymiad allweddol ar gyfer yr ail dymor hwn, a bod gwaith hefyd yn cael ei ddatblygu. Ond rwy'n credu ei bod hi hefyd yn bwysig edrych ar y gwaith arloesol yr ydym ni’n ei wneud. Cafodd y cynllun treialu incwm sylfaenol ei grybwyll ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal. Hwnnw yw’r polisi gofod cywir, sy'n mynd i gynnig cymorth ariannol rheolaidd, diamod i bobl ifanc, ond gyda chefnogaeth annibynnol, o ran eu cyfranogiad. Ac a gaf i ddweud ein bod ni’n gweithio'n agos iawn gyda thimau gadael gofal o bob cwr o Gymru i ddeall eu rôl yn well yn y broses o adael gofal? Ond mae'n dda iawn adrodd i'r Aelodau bod y nifer sy'n cymryd rhan yn y cynllun treialu hyd yma wedi bod yn dda, a byddwn ni’n gweithio gyda derbynwyr yr incwm sylfaenol a rhanddeiliaid eraill i fonitro cynnydd y cynllun treialu. Iechyd meddwl a chymorth lles ysgol gyfan—yn hanfodol bwysig—gyda'r argymhelliad, a'r pwynt am yr argymhelliad yw ei fod mewn gwirionedd yn ychwanegu pwysau at y gwaith sydd eisoes yn cael ei ddatblygu, a hefyd yn edrych ar addysg yn y cartref o ran symud ymlaen â gwaith yn y maes hwn ac wrth gwrs, disgwyl rhoi cynigion ar waith. A bydd ymateb i hyn i gyd, wrth gwrs, yn adroddiad y Llywodraeth. Yn olaf, rwyf am ddod at fy maes cyfrifoldeb i, sy'n ymestyn ar draws Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, sef mynd i'r afael â thlodi plant. Mae'n argymhelliad mor bwysig gyda ni heddiw, gyda'r holl drafod a dadlau a chyfraniadau sydd wedi'u gwneud. Ac er mwyn tawelu meddyliau'r Aelodau bod yr ymgynghoriad ar ddatblygu strategaeth tlodi plant newydd Llywodraeth Cymru ar y gweill, sy’n ystyried yr argyfwng costau byw dyfnach a'i effaith ar y rhai sydd â'r angen mwyaf. Ac mae'n bwysig ein bod ni'n cydnabod—ac rwy'n diolch i Peter am gydnabod—nad yw'r diffyg ymateb gan Lywodraeth y DU yn dda, nac ydy, o ran y sylwadau sydd wedi eu gwneud i'r Ysgrifennydd Gwladol Gwaith a Phensiynau? Ond rwy'n credu yr hoffwn i ddweud fy mod i eisoes hefyd wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol—yr Ysgrifennydd Gwladol Gwaith a Phensiynau newydd—yr wythnos diwethaf a gofyn am union yr un pethau â'r comisiynydd plant. Fe wnes i ofyn am gynyddu budd-daliadau yn unol â chwyddiant, ond hefyd gofyn am roi diwedd ar y cyfyngiad dau blentyn, a chynyddu’r credyd cynhwysol o £25. Dyma lle gallwn ni uno i gefnogi a chroesawu'r ffaith bod y neges gref honno yn dod drwodd gan y comisiynydd plant annibynnol ac yn dod drwodd o'r Senedd hon heddiw a Llywodraeth Cymru. Felly, yn olaf, Dirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eich cyfraniadau i'r ddadl heddiw, a bydd ein hymateb yn cael ei gyhoeddi gan y Prif Weinidog ar 30 Tachwedd. Bydd holl sylwadau'r Aelodau yn cyfrannu at yr ymateb hwnnw. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf wedi clywed gwrthwynebiad. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Rydym bellach wedi cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ond, gan nad oes rhagor o bleidleisiau y prynhawn yma, byddwn yn awr yn dod â busnes heddiw i ben. Daeth y cyfarfod i ben am 16:49. QNR Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru Peter Fox: Sut mae Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau mynediad cyfartal i gymorth i rieni yn dilyn chwalu teuluoedd? Mark Drakeford: Our £1.5m investment in expanded parental advocacy services is just one example of our partnership working to support families where relationships have broken down. Russell George: Sut mae Llywodraeth Cymru'n mynd i'r afael â'r ôl-groniad yn amseroedd aros y GIG am driniaeth? Mark Drakeford: In April 2022, supported by £180m recurrent funding, the Health Minister published the NHS Planned Care Recovery Plan. This clearly sets out the expected actions the health boards need to take to reduce the backlog of patients waiting for treatment whilst also transforming services for the future. James Evans: Beth mae'r Prif Weinidog yn ei wneud i helpu busnesau drwy'r argyfwng costau byw? Mark Drakeford: The levers to tackle cost increases onbusinesses, interest rates for borrowing, taxation of windfall profits and regulation of the energy market, lie squarely with UK Government. Our priority is to support businesses in those actions which create successful futures. Rhun ap Iorwerth: Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o lwyddiant y GIG o ran cwrdd â'i thargedau rhestrau aros? Mark Drakeford: Eleni, ry’n ni wedi gosod dau amcan clir a heriol i leihau nifer y cleifion sy’n aros am driniaeth gan y Gwasanaeth Iechyd. Ry’n ni’n gweithio gyda’r Gwasanaeth Iechyd i adolygu a herio cynlluniau cyflawni byrddau iechyd i sicrhau bod pob opsiwn yn cael ei ystyried ar gyfer cyflawni targedau.
uk-hansard-senedd-cy
senedd2022-10-18
2024-06-01T00:00:00
{ "year": "2022", "language": "cy", "license": "Open Parliament Licence - https://www.parliament.uk/site-information/copyright-parliament/open-parliament-licence/" }
Cyfarfu'r Senedd drwy gynhadledd fideo am 12:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. Datganiad gan y Llywydd Prynhawn da a chroeso i'r Cyfarfod Llawn yma. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig bwyntiau. Mae Cyfarfod Llawn heddiw yn cael ei gynnal drwy gynhadledd fideo yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw ac mae'r rhain wedi eu nodi ar eich agenda. Dwi eisiau hefyd atgoffa'r Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn gymwys i'r cyfarfod yma. Teyrngedau i Mohammad Asghar AS Heddiw, yr ydym ni yn cwrdd fel Senedd yn dilyn y newyddion trist iawn ddoe am farwolaeth ein cyfaill Mohammad Asghar. Mae'r golled yn un greulon o sydyn. Mi oedd Oscar yn gynrychiolydd balch o'i blaid, ei ranbarth a'i wlad. Mi oedd yn un o gymeriadau ein Senedd, ac wrth i ni i gyd, fel ei gydweithwyr a'i gyfeillion, geisio dygymod gyda'r newyddion, mae ein meddyliau wrth gwrs yn troi i gofio'n annwyl am Oscar ac i gydymdeimlo gyda'i deulu. I wneud hynny, felly, a gaf i ofyn i'n Senedd ymdawelu am funud mewn teyrnged i Mohammad Asghar, Aelod o'r Senedd dros Ddwyrain De Cymru? Cynhaliwyd munud o dawelwch. Diolch. I arwain ein teyrngedau i Mohammad Asghar, galwaf ar arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies. Paul Davies AC: Diolch, Llywydd. Gyda chalon drom eithriadol y gwnaf y cyfraniad hwn heddiw. Roedd Mohammad Asghar, neu Oscar, fel yr oeddem i gyd yn ei adnabod, yn ddyn o gynhesrwydd a charedigrwydd aruthrol, dyn a oedd mor barchus eithriadol ohonom ni i gyd, dyn a ymroddodd ei fywyd i gyfoethogi a chefnogi'r rhai o'i gwmpas, a dyn, ag yntau mor llawn o fywyd ei hun, a wnaeth gymaint i helpu pobl ledled Cymru. Llywydd, bydd ymadawiad trist ac annhymig Oscar ddoe yn gadael gwacter ym mhob un a oedd yn ei adnabod. Roedd yn ddyn o gariad mor anfesuradwy tuag at eraill ac, oherwydd hynny, caiff tristwch mawr ei farwolaeth ei deimlo nid yn unig yn y Siambr hon, ond ar draws y byd. Mae gennym ni i gyd ddigwyddiadau yn ein bywydau sy'n ein llunio, sy'n llunio ein gwleidyddiaeth, sy'n llunio pwy ydym ni. Ys gwn i beth welodd a beth brofodd yr Oscar ifanc. Fe'i ganwyd ym 1945 yn yr India, ond ddwy flynedd yn ddiweddarach fe rannwyd y wlad a daeth ei wlad i'w hadnabod fel Pacistan. Gwyddom fod miliynau wedi marw bryd hynny. Darllenwn am ymraniad; profodd Oscar hynny pan oedd yn blentyn. Nid yn unig yr oedd wedi byw yn hirach na llawer ohonom ni, roedd hefyd wedi gweld mwy. Roedd, wrth gwrs, ym Mhacistan yn 2007 pan geisiwyd lladd Benazir Bhutto. Roedd 30 llath oddi wrthi pan ffrwydrodd bomiau a lladdwyd 130 o bobl. Nid oes neb ohonom ni—neb ohonom ni—wedi gweld y fath erchyllterau. Roedd ei brofiadau'n unigryw, ac roedd ei agwedd at wleidyddiaeth yn unigryw i'r Senedd hon. Oscar, wrth gwrs, oedd y cynrychiolydd etholedig cyntaf o'r sefydliad hwn o gefndir ethnig a lleiafrifol, a gwnaeth yn siŵr o ddefnyddio'r llwyfan hwnnw i ehangu pob cysylltiad posib rhwng y grwpiau lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru a'r sefydliad hwn. Ef oedd yr Aelod Cynulliad cyntaf i wahodd Llysgennad Israel i'r Senedd i drafod heddwch, cytgord a dealltwriaeth rhwng y cymunedau Mwslimaidd ac Iddewig. Gweithiodd yn ddiflino i siarad a gwrando ar bobl, ac ymgysylltu â nhw, ac wrth wneud hynny, gwnaeth y Senedd gymaint yn fwy hygyrch i bobl. Mae grwpiau, sefydliadau, unigolion o ystod eang iawn o gefndiroedd a chrefyddau wedi teimlo bod y Senedd yn groesawgar iddyn nhw, a hynny am fod Oscar wedi gweithio mor galed i agor y drws a'u gwahodd i mewn. Llywydd, rwy'n mawr obeithio, yn sgil marwolaeth Oscar, y bydd pob un ohonom ni yn parhau i adeiladu ar yr estyn allan hwnnw ac yn parhau i agor drysau'r Senedd i bawb. Gadewch inni gofio mai ef oedd yr Aelod cyntaf o'r Senedd mewn hanes i gael kirtan traddodiadol Sikhaidd wedi ei gynnal yn y Senedd. Fel dyn o ffydd ddofn ei hun, roedd yn llawn parch a goddefgarwch tuag at y rhai a oedd yn addoli, ac felly roedd yn addas a naturiol iddo fod yn llefarydd ein grŵp ar ffydd. Roedd yn swyddogaeth a oedd yn bwysig iawn iddo, a gweithiodd yn galed i ymgysylltu â chymunedau ffydd ledled Cymru ac adeiladu rhwydweithiau rhyng-ffydd ledled y wlad. Roedd y swyddogaeth yn caniatáu iddo weithio unwaith eto gyda'r Arglwydd Bourne o Aberystwyth, a oedd yn Weinidog dros Ffydd yn Llywodraeth y DU ar y pryd, ac roedd yn ddyn yr oedd Oscar yn ei edmygu'n wleidyddol ac yn teimlo anwyldeb personol tuag ato. Roedd Oscar, wrth gwrs, yn aelod gwerthfawr o dîm y Ceidwadwyr Cymreig, a ffurfiodd berthynas â llawer o'm cyd-Aelodau yma heddiw. Roedd yn gyflogwr caredig a oedd yn hoff iawn o'i staff, ac felly estynnaf fy nghydymdeimlad diffuant at Paul, Stephen a Gemma. Gwelodd Oscar ei gydweithwyr fel estyniad o'i deulu ei hun, a chan ei fod mor gynnes a mawr ei galon, bydd gennym ni i gyd atgofion amdano fydd yn codi gwên. Roedd yn agored gynnes a hael. Gwn fod Aelodau mewn pleidiau eraill wedi gweld hynny hefyd. Roedd yn hael mewn cynifer o ffyrdd a chyda chynifer o bobl, ac roedd hefyd yn beth prin mewn gwleidyddiaeth: rhywun na siaradai yn wael am eraill, na allai gasáu, a welai mewn gwleidyddion eraill o bob plaid ymrwymiad ar y cyd i gyflawni dros eu cymunedau a'u hetholaethau. Gwn y caiff y galar a wynebwn yn y grŵp Ceidwadol yn y Senedd hon ei deimlo gan bobl eraill ac mewn lleoedd eraill. Roedd yn gofalu mor angerddol am y bobl yr oedd yn eu cynrychioli, a gallech weld ei angerdd bob dydd yn ei gyfraniadau yn Siambr y Senedd. Roedd ei ymrwymiad i'w etholwyr yn ddi-ail. O'm rhan i, bydd gennyf atgofion bob amser o ymgyrchu gydag ef ar draws Casnewydd. Roedd hi'n bleser ymgyrchu gydag ef—bob amser yn gadarnhaol gyda gwên fawr ar ei wyneb, ac yn barod i gwrdd â phobl. Ymddangosai ei fod yn adnabod pawb yn ddiwahan, ac felly roedd ymgyrchu o amgylch Casnewydd gydag Oscar bob amser yn bleser—gan aros i siarad ag unrhyw un a ddaeth heibio i ni. Roedd yn hoff iawn o fod allan yn y gymuned, yn siarad â phobl ac yn gwrando ar eu pryderon, ac er gwaethaf y beirniaid a'r polau piniwn, roedd yn benderfynol o droi Dwyrain Casnewydd yn las. Efallai na fydd gyda ni yn bersonol yn yr etholiad nesaf, ond gallwch fod yn sicr y bydd ei ysbryd yno gyda ni ar bob rhawd o amgylch y ddinas ac wrth bob drws yr ydym yn curo wrtho. Llywydd, roedd unrhyw un a oedd yn adnabod Oscar yn gwybod ei fod yn frwd dros griced. Ymgyrchodd er mwyn i Gymru gael ei thîm criced ei hun, a cheisiodd yn galed i'r Senedd gael ei thîm ei hun hefyd. Ond, uwchlaw popeth, roedd Oscar yn ddyn teulu ymroddedig, a oedd wedi dotio'n llwyr ar ei wraig, Firdaus, a'i ferch, Natasha. Ni siaradodd yr un aelod arall yn y fan yma erioed am ei deulu mor gynnes neu mor rheolaidd—carai'r ddwy ohonynt yn fawr. Mae ein meddyliau gyda nhw nawr wrth iddyn nhw droedio llwybrau bywyd heb eu gŵr a'u tad annwyl. Maen nhw yn dioddef colled enfawr, a dywedwn wrth y ddwy heddiw ein bod i gyd yma i chi, i'ch cefnogi mewn unrhyw ffordd y gallwn ni. Mae rhywbeth yn arbennig o dorcalonnus ynglŷn â heddiw. Nid ein bod wedi dod ynghyd i alaru, ac rydym ni wedi gwneud hynny yn rhy aml yn ystod y blynyddoedd diwethaf; ond bod yn rhaid i ni alaru mewn ffordd mor annynol. Efallai bod cynhesrwydd i'n geiriau, ond ni all ein hymwneud â'n gilydd fod felly. Roedd Oscar yn gyfaill mor serchog—braich ar yr ysgwydd, ysgwyd llaw cynnes a chafodd rhai pobl hyd yn oed gwtsh. Nid yw eistedd yma heddiw mewn corneli pell lle na allwn ni roi cwtsh i'r rhai sy'n brifo ac yn galaru yn brofiad hawdd. Dyma ni mewn blychau ar sgrin; nid yw'n naturiol, nid yw'n ddynol, ac roedd Oscar yn un o'r rhai mwyaf naturiol a dynol ohonom ni i gyd. Ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, gwnaf yr addewid hwn i Firdaus a Natasha: byddwn yn anrhydeddu eich gŵr a'ch tad am byth, ac, wrth inni alaru a thrwy ein gweithredoedd wrth eich cefnogi, byddwn yn dangos cymaint yr ydym yn ei anrhydeddu. Ni fyddai wedi bod eisiau dim llai na hynny, a dyna y bydd ef a chithau yn ei gael. Diolch. Prif Weinidog. Mark Drakeford AC: Llywydd, diolch. Bu'r pumed tymor hwn o ddatganoli yn arbennig o greulon o ran colli cynifer o Aelodau, yn y gorffennol a'r presennol. Ym mywyd ifanc o hyd y Senedd hon, mae marwolaeth aelod yn brofiad sy'n ein taro'n galed bob tro yr ydym yn ei wynebu. Nawr, am y trydydd tro, rydym ni wedi colli cyd-Aelod o'r Senedd a etholwyd gyda ni yn 2016. Daeth dau atgofi mi yn syth am Mohammad Asghar pan gefais wybod am ei farwolaeth sydyn ddoe, ac rwyf eisiau dal sylw arnyn nhw gyda chi heddiw wrth inni gofio ei gyfraniad i'r Senedd hon ac i fywyd gwleidyddol yng Nghymru. Y cyntaf oedd ei bresenoldeb diflino mewn digwyddiadau i nodi a dathlu cyfraniad cymunedau lleiafrifol yng Nghymru. Bydd y rheini ohonom ni sy'n cynrychioli etholaethau sydd â phoblogaethau bywiog o bob cwr o'r byd yn gwybod nad yw hi byth yn hir cyn cael gwahoddiad i gymryd rhan mewn digwyddiad o'r fath. Ac roeddwn i'n credu fy mod yn bur dda am fynychu'r dathliadau diwylliannol hynny, ond roedd Oscar yn rhagori. Ble bynnag a phryd bynnag y gofynnwyd iddo gymryd rhan, boed hynny yn gwneud araith neu'n dyfarnu medal, roedd yno. Ac roedd ei bresenoldeb o arwyddocâd gwahanol, oherwydd roedd yno i ddangos fod rhywun oedd wedi cyrraedd Cymru o gyfandir gwahanol wedi gallu gwneud bywyd llwyddiannus yma, hyd at gynrychioli ei ranbarth yn y Senedd hon. Bydd colled fawr ar ei ôl yn y fan yma, ond bydd colled ar ei ôl mewn ffordd wahanol, oherwydd yn y lleoedd hynny, roedd ei yrfa yn symbol o rywbeth llawer ehangach. Yr ail atgof a ddaeth imi'n syth oedd sefyll yn y lifft ar y ffordd i'r Senedd, gan fynd a dod o'r Siambr. A oeddem ni'n sôn am yr agenda y diwrnod hwnnw? A oeddem ni'n poeni am gwestiynau yr oeddem ni wedi'u gofyn neu wedi'u hateb? Nac oeddem. Fel y dywedodd Paul Davies, buom yn siarad bob amser am griced, diddordeb digyffelyb. Oscar oedd yr unig aelod arall o'r Senedd y gallwn ddibynnu arno i wybod am y sgoriau mewn gemau o amgylch y byd, techneg—neu ddiffyg techneg—y chwaraewyr allweddol, a rhagolygon y gwahanol dimau, yn lleol ac yn genedlaethol, ac, wrth gwrs, wastad yn ddieithriad, i glywed am yr angen dybryd am dîm criced i gynrychioli Cymru. Llywydd, llawenydd democratiaeth yw ei bod yn 'sgubo pob un ohonom ni i'r Senedd o'n cefndiroedd a'n profiadau gwahanol iawn, i gynrychioli amrywiaeth enfawr Cymru. Gwnaeth Mohammad Asghar ei gyfraniad i'r amrywiaeth honno drwy gyfuno'r personol a'r gwleidyddol, mewn modd a oedd yn unigryw iddo ac y bydd colled unigryw ar ei ôl. Mae ein meddyliau heddiw, wrth gwrs, gyda'i deulu a'i ffrindiau. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price. Adam Price AC: Diolch, Llywydd. Ar ran Plaid Cymru, a gaf i gydymdeimlo'n ddwys iawn â theulu Oscar—â Firdaus, Natasha—ac â ffrindiau a chyd-Aelodau yn y Senedd, yn enwedig ar feinciau'r Ceidwadwyr? Roedd Oscar yn hael a hawddgar o'i gorun i'w sawdl—yn wleidydd annibynnol mewn sawl ffordd; yn gymeriad neilltuol na ellid byth ei gynnwys o fewn cyfyngiadau unrhyw blaid. Roedd yn perthyn i bob un ohonom ni mewn gwahanol ffyrdd ar wahanol adegau. Nid oedd gwleidyddiaeth erioed yn ymwneud ag ideoleg i Oscar. Roedd yn batrwm o berson pobl, yn fwy na gwleidydd confensiynol mewn unrhyw ystyr. Canolbwynt ei fyd oedd ei deulu. Yn wir, oherwydd ei ferch Natasha yr ymunodd â Phlaid Cymru am y tro cyntaf. Roedd Natasha wedi ysgrifennu at y gwahanol bleidiau yn gofyn am gyfleoedd profiad gwaith. Ymatebodd Jocelyn Davies, a mwynhaodd Natasha y profiad gymaint nes iddi gael wythnos ychwanegol. Creodd hyn gymaint o argraff ar ei thad serchog nes iddo wahodd Jocelyn ac Ieuan Wyn Jones i'w gartref yng Nghasnewydd, gyda'r croeso yn ymgorfforiad o'i gynhesrwydd a'i letygarwch nodweddiadol. Fel y mae Ieuan Wyn yn adrodd, ni fyddech chi byth yn gadael cartref Oscar heb stumog lawn. Fe'm hatgoffwyd o'r haelioni hwn drwy brofiad personol flwyddyn neu ddwy yn ôl, pan oedd Ieuan a minnau'n sgwrsio yng nghaffi'r Senedd. Wrth i Ieuan gerdded tuag at y cownter, rhuthrodd Oscar tuag at y weinyddes gan weiddi, 'Fi sy'n talu', gan fynnu prynu paned o de bob un i ni. Roedd y ffydd Islamaidd, fel yr ydym ni wedi clywed, yn hanfodol i Oscar—Mwslim ymroddedig a'r cyntaf i eistedd yn ein Senedd. Roedd ganddo gysylltiadau cryf â'r gymuned Fwslimaiddehangach, ac nid oedd erioed yn hapusach na phan oedd yn creu cysylltiadau, yn adeiladu pontydd, yn agor drysau. Diolch i Oscar, Ieuan oedd arweinydd cyntaf Plaid Cymru i annerch y mosg yng Nghasnewydd. Ond, roedd Oscar yn parchu pob ffydd. Yn fuan gwahoddodd Ieuan yn ôl i annerch cyfarfod o'r blaid yng Nghasnewydd mewn adeilad sy'n cael ei redeg gan y gymuned Gatholig, a phan wnaeth Ieuan sylw am hyn, ymatebodd Oscar, 'Iesu yw un o'n proffwydi ni hefyd.' Pan oedd hi'n adeg etholiad, nid oedd Oscar mewn gwirionedd yn canfasio, ei ddull oedd galw ar bobl, siarad â phawb, gan wybod pwy oedd pawb, fel y clywsom ni, a chymryd yn ganiataol eu bod i gyd wedi pleidleisio drosto. Byddai gofyn y cwestiwn hyd yn oed wedi bod yn ddiraddiol ac yn ddiangen. Roedd yn adnabod Casnewydd fel cefn ei law ac yn ei charu'n serchog. Roedd mor falch pan aethom â chynhadledd ein plaid yno. Roedd ei gariad at ei famwlad yn ddwfn hefyd. Ymunodd Ieuan ag Oscar ar ymweliad â Phacistan yn 2005, gan ymweld ag Islamabad a Kashmir. Byddai wedi bod yn brawf llym ar Oscar petai tîm criced Cymru, yr oedd yn ymgyrchu'n angerddol drosto, wedi wynebu ei annwyl Bacistan. Roedd Oscar yn arbennig o agos at Ieuan bryd hynny. Rwyf wedi gweld cyfeiriadau ato yn hebrwng Ieuan mewn awyren yn ystod ymgyrch 2007, gan wneud defnydd da o'i drwydded beilot. Fel cyfarwyddwr yr ymgyrch, rwy'n credu na fyddwn i wedi gwybod am hyn pe bai wedi digwydd, ond byddai'n dda gennyf i petawn i wedi cael y syniad ar y pryd. Cofiaf yr adeg yr ymddangosodd wyneb Oscar ar y teledu wrth i'r wawr godi ar fore 4 Mai 2007 wrth iddo gael ei ethol ar restr Dwyrain De Cymru. Roedd yn adeg emosiynol mewn cymaint o ffyrdd. Testun balchder mawr oedd bod ein plaid wedi sicrhau yr Aelod du a lleiafrif ethnig cyntaf o'r Senedd, a gwyddwn fod ei ethol hefyd yn golygu y byddem yn llywodraethu am y tro cyntaf mae'n debyg, er yn ystod y dyddiau a'r wythnosau dilynol, cafwyd trafodaeth ddofn o fewn y blaid ynglŷn â sut ac, yn fwy arbennig, gyda phwy. Roedd gan Oscar ddawn o dorri drwy'r niwl a chrisialu syniad mewn ymadrodd lliwgar. Pan fethodd y glymblaid enfys ac y daeth cynnig o gydweithrediad gan y Blaid Lafur, roedd rhai yn amau a oedd hyn yn ddilys. Ar amrantiad, ymatebodd Oscar, 'os nad ydyn nhw'n mynd i ymweld, pam gofyn am y cyfeiriad?' A phan ddaeth Cymru'n Un i'r amlwg fel posibilrwydd gwirioneddol, cefnogodd Oscar y syniad yn frwd, gan ddweud wrth Ieuan, 'Os na allwch chi fod yn frenin, yna rhaid i chi fod yn dywysog coronog.' Mae digwyddiadau 2009 yn amser maith yn ôl. Roeddem yn drist o golli Oscar fel aelod, yn amlwg, ond er bod teyrngarwch yn esblygu, mae cyfeillgarwch yn parhau. Roedd Oscar yn perthyn i bob un ohonom ni, yn gyntaf Llafur, yna Plaid, ac yn fwy diweddar y Ceidwadwyr. Cawsom i gyd y pleser o rannu ei garedigrwydd a'i hiwmor iach. Mae'r tymor Senedd hwn, fel y dywedodd y Prif Weinidog, wedi gweld rhai o'r dyddiau tywyllaf y gall y rhan fwyaf ohonom eu cofio, a byddwn yn colli goleuni ei wên a gras ei enaid. Roedd ei fywyd yn symbol o'r gwirionedd parhaol hwnnw: sef, ar lefel ddynol, fod yr ysbryd sy'n cysylltu ac yn clymu pob un ohonom ni yn fwy na phob rhaniad. Arweinydd Plaid Brexit—Mark Reckless. Mark Reckless AC: Fel Aelod dros Ddwyrain De Cymru, rwy'n myfyrio heddiw, ar ôl Steffan a nawr Oscar, fod dau o'r tri aelod y cefais fy ethol gyda nhw bedair blynedd yn ôl bellach wedi marw. Safodd Oscar dros wlad, cymuned ac etholwyr, o leiaf yn fy mhrofiad i. Cafodd ei eni yn yr ymerodraeth Brydeinig, daeth i Gymru, i'r Deyrnas Unedig, ac roedd yn wladgarwr, ond gyda dealltwriaeth gynnil o'n presennol a'n gorffennol. Un peth rwy'n ei golli am beidio â chyfarfod yn y Siambr ac yn gorfforol yw methu, drwy air bach wrth fynd heibio neu sgwrs hamddenol, gweld beth oedd barn Oscar am ddigwyddiadau'r wythnosau diwethaf ac i ddeall ei safbwynt penodol ef. Pan ymunais â grŵp y Ceidwadwyr, cerddodd Oscar gyda mi tuag at fy nghyfarfod grŵp cyntaf. Gofynnodd i mi a oeddwn yn hoffi'r Frenhines, ymatebais, oeddwn, fy mod i, a dywedodd fod hynny'n dda oherwydd un o'r rhesymau yr oedd wedi ymuno â'r Ceidwadwyr oedd eu cefnogaeth i'r frenhiniaeth. Roedd hi'n dipyn bach o siom i mi wedyn yn y cyfarfod na wnaeth Andrew R.T. ddechrau drwy sefyll a'n harwain yn yr anthem genedlaethol. Rwy'n credu bod ymrwymiad Oscar i'n sefydliadau yn rhywbeth nad yw mor ffasiynol nawr ag y bu yn y gorffennol, efallai, ond roedd ffydd Oscar yn ein gwlad a'n sefydliadau yn eithaf rhyfeddol. Un digwyddiad cymunedol yr wyf yn ei gofio; cawsom ddigwyddiad gyda Chyllid a Thollau ei Mawrhydi, a'u swyddfeydd newydd y byddent yn eu hagor yng nghanol Caerdydd, ac roedd nifer o Aelodau'r Cynulliad, fel yr oedd bryd hynny, a Senedd San Steffan hefyd yn bresennol. Soniodd un arolygydd treth am ei ymagwedd a'i sensitifrwydd a'i bwyslais arbennig, weithiau, yn ymdrin â chymunedau penodol efallai am fod cyflogaeth wedi'i chrynhoi mewn ardal benodol, a chofiaf Oscar yn ateb ei fod yn cymryd na fyddai sylw arbennig i Fwslimiaid yng Nghasnewydd am nad oedd unrhyw gymuned a oedd yn fwy didwyll, yn fwy elusennol, nac yn fwy brwdfrydig i dalu eu trethi. Yna dywedodd, rwy'n credu, er mwyn cael cydbwysedd, ei fod yn gobeithio, hefyd, nad oeddent yn sôn am gymunedau dwyrain Ewrop, llawer ohonynt wedi eu magu o dan unbenaethau neu wedi gweld llygredd yn eu gwlad flaenorol, ac fel yntau, yn credu yn sefydliadau'r wladwriaeth Brydeinig ac yn talu eu trethi ac yn gwneud y peth iawn. Rwy'n credu bod Oscar wedi gallu siarad yn gyffredinol am gymunedau ac am grwpiau mewn ffordd y byddai llawer ohonom yn osgoi. Ond rwy'n credu ei fod yn gallu gwneud hynny gan mai dim ond da a welai mewn eraill a byddai'n siarad, bob amser, am bethau cadarnhaol cymunedau penodol. Credaf nad oedd ganddo feddwl drwgdybus arolygydd treth, efallai, ac, fel cyfrifydd, efallai ei fod wedi cynrychioli ei gleientiaid, ac ni allai weld drwg mewn pobl eraill, ac roedd hynny, rwy'n credu, yn rhan greiddiol o'i fodolaeth a phwy ydoedd. Yn olaf, cofiaf y pwyslais penodol a roddodd Oscar ar ei etholwyr. Yn aml yn ystod y cwestiynau yn y Siambr, byddai'n siarad, weithiau'n faith ac weithiau'n fanwl, am achosion etholwyr penodol a oedd wedi dod ato. Ac ni chafodd wrandawiad astud bob amser, ac mae llawer ohonom ni, rydym yn gyfarwydd ag achosion yn ein hetholaeth, ond nid ydym o anghenraid yn manylu nac yn siarad amdanynt yn ystod y cwestiynau yn y ffordd a wnâief. Ac ni chai ganlyniad bob tro, ond yn enwedig tra oeddwn yn aelod o'r grŵp Ceidwadol, ac yn enwedig fel Aelod rhanbarthol, pan fyddai pobl yn dod atom ni pan nad oedd Aelod etholaeth wedi gallu cynorthwyo, ac roedd llawer o'r achosion hynny'n anodd, ac yn aml ni allem ni gael canlyniadau. Ond weithiau, cafodd Oscar ganlyniadau am iddo godi'r achosion hynny yn y Siambr, oherwydd gwnaeth argraff ar y Gweinidog, ac yn hytrach na chael swyddog i ymdrin â'r mater, cafodd Weinidog i roi sylw arbennig iddo a thrwy hynny, cafwyd canlyniad i'w etholwyr. Roeddent yn ffodus i'w gael. Rydym yn cydymdeimlo â'i deulu, â Firdaus ac â Natasha. Oscar, bydd pob un ohonom yn eich colli. Gorffwyswch mewn hedd. Nick Ramsay AC: Mae hwn yn wir yn ddiwrnod trist arall yn hanes y Senedd hon. O, beth allaf ei ddweud am fy nghyfaill Mohammad Asghar? Mae'n anodd credu ei fod wedi mynd. Deuthum i adnabod Oscar yn iawn gyntaf ar y Pwyllgor Cyllid—ar daith, mewn gwirionedd, ar ymweliad â Sweden yn ôl oddeutu 2009, rwy'n credu oedd hi. Daethom yn gyfeillion dros baned o de mewn lobi gwesty. Roedd Oscar yn hoff o'i de. A dweud y gwir, roedd yn yfed llawer iawn ohono y rhan fwyaf o'r amser, fel y cofia llawer ohonoch o amseroedd egwyl a dreuliwyd gydag ef yn ystafell de'r Aelodau, pan gâi debot mawr o de ei archebu, ei lenwi'n gyson, a byddai'r straeon yn llifo, ynghyd â chynnwys y tebot. Roedd Oscar wedi byw bywyd llawn a diddorol. Cafodd ei eni yn Peshawar yn yr hyn a oedd bryd hynny yn India Brydeinig yn 1945, ei atgofion cyntaf oedd o'r ymraniad, ac arhosodd ei atgofion am y cynnwrf a'r aflonyddwch a ddilynodd gydag ef gydol ei oes ac roeddent yn allweddol yn ffurfio ei farn yn ddiweddarach mewn bywyd. Meddyliai fod yr ymraniad yn gamgymeriad; credai y dylai pobl wastad wneud eu gorau i ganfod tir cyffredin. 'Dylem bob amser ganolbwyntio ar yr hyn sy'n ein huno yn hytrach na'r hyn sy'n ein rhannu'—dywedodd Oscar hynny wrthyf yn gyson. Dros y blynyddoedd, daeth yn gyfaill personol, daeth yn gyfaill i'r teulu, ac nid oedd terfynau i'w lawenydd pan fu i Jen a minnau ddyweddïo a phriodi, ac yn ddiweddarach, pan anwyd ein mab James. Teimlais yn aml fy mod yn siarad â rhiant neu dad, yn hytrach na chyfaill pan siaradwn ag Oscar. Pan oeddem ni'n priodi, cynigiodd hyd yn oed i yrru'r car priodas, ac rwy'n credu y byddai wedi fy nghludo mewn awyren i'r eglwys, pe bawn i wedi dymuno iddo wneud hynny. Daw hyn â mi at ffeithiau llai hysbys am fywyd Oscar. Maent yn ei gynnwys yntau'n cludo'r ffagl Olympaidd ar draws India cyn Gemau Olympaidd 1964 yn Tokyo. Doeddwn i ddim yn credu'n hollol nes iddo ddangos llun du a gwyn hen iawn o Oscar iau yn dal y ffagl gyda balchder. Cafodd drwydded beilot, fel y mae eraill wedi sôn. Dywedodd wrthyf unwaith fod ei frodyr yn awyrlu Pacistan. Ni allai unrhyw un a fu'n ymweld â chartref Oscar a Firdaus yng Nghasnewydd ond sylwi a gorfod ffeindio'u ffordd o amgylch model o Concorde enfawr a oedd yn ganolbwynt ei ystafell fyw. Roedd wrth ei fodd yn hedfan. Ni ddilynodd ei deulu i'r maes hwnnw'n broffesiynol, byddai ei fywyd yn mynd ar drywydd gwahanol, byddai'n dod ag ef i Gymru, byddai'n dod ag ef i mewn i wleidyddiaeth. Roedd Oscar yn falch o fod yn aelod o'r Senedd hon, ac fel cyfrifydd, roedd yn hollol o ddifrif ynghylch ei swyddogaeth ar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Yn wir, ef oedd un o'i Aelodau mwyaf hirhoedlog, a bydd hiraeth mawr gennyf i, aelodau'r pwyllgor a gweddill y tîm clercio ar ei ôl fel Cadeirydd. Roedd Oscar yn ddyn o ffydd, yn Fwslim Prydeinig balch a oedd yn caru ac yn parchu pob ffydd, ac roedden nhw'n ei barchu yntau. Roedd yn arbennig o agos at Fwslemiaid Ahmadiyya a phan ofynnais iddo pam oedd hynny, dywedodd wrthyf unwaith, pan gafodd ei eni, roedd ei fam wedi bod yn sâl ac wedi methu â gofalu amdano, a daeth mam o'r ffydd Ahmadiyyaidd i'r adwy a gofalu amdano yn y dyddiau cyntaf hynny pan na allai hi. Gweithred o gariad ydoedd nad anghofiodd erioed, a thrwy gydol ei oes, roedd bob amser yn cefnogi'r Ahmadiyyaid. Rhywbeth am Oscar oedd hynny—roedd wastad yn cofio tro da, ac roedd wastad yn ad-dalu'r gymwynas yn hael. Mark Reckless a soniodd, rwy'n credu, ei fod yn frenhinwr balch, ac yr oedd. Cofiaf yn agoriad swyddogol y Cynulliad yn 2007, ei fod yn awyddus iawn i gyfarfod â'r Frenhines, a phan wnaeth hynny, roedd yn eithaf clir ei fod wedi cwrdd â hi o'r blaen, ac wrth iddynt ymgomio, daeth yn amlwg ei bod yn sicr yn ei gofio ac yn ei adnabod. Roedd yn rhychwantu pob haen o gymdeithas. Gallai siarad â phobl o bob cefndir; roedd yn cyd-dynnu â nhw, a hwythau'n cyd-dynnu ag yntau. Mae heddiw yn ddiwrnod anodd i bob un ohonom ni a oedd yn adnabod Oscar ac yn ei ystyried yn gyfaill, ac yn gyfaill agos. Wrth gwrs, mae'n arbennig o anodd i Firdaus, Natasha a'i deulu, ac rydym yn cydymdeimlo â nhw yn arbennig heddiw. Mae gan yr Ahmadiyyaid Mwslemaidd ddywediad, 'Cariad at bawb, casineb at neb.' Wrth inni gofio am ein cyd-Aelod a'n cyfaill Mohammad Asghar, gadewch inni gofio'r dywediad hwnnw hefyd. Gadewch inni bob amser adeiladu ar yr hyn sy'n ein huno, yn hytrach na'r hyn sy'n ein gwahanu, a boed i hynny fod yn waddol Oscar. John Griffiths AC: Cyfarfûm ag Oscar gyntaf pan ymunodd â gwleidyddiaeth rheng flaen yng Nghasnewydd yn gynghorydd dinas Casnewydd ar gyfer ward Victoria, gryn flynyddoedd yn ôl bellach. Bryd hynny, roedd mewn gwirionedd yn braenaru'r tir fel cynghorydd Mwslimaidd, a, diolch byth, ers hynny, mae aelodau eraill o'r gymuned wedi dilyn ei esiampl. Nid oes gennyf amheuaeth nad oedd ei bresenoldeb, ei amlygrwydd ar yr awdurdod yn allweddol yn nealltwriaeth yr aelodau eraill hynny o'r cymunedau lleiafrifoedd ethnig lleol y gallen nhw hefyd gynrychioli Casnewydd ar gyngor y ddinas. Roedd yn anogaeth iddyn nhw gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth rheng flaen mewn gwahanol bleidiau, a hyfrydwch yw gweld y gynrychiolaeth amrywiol sydd gennym ni ar Gyngor Dinas Casnewydd heddiw. Gwn y byddai llawer ohonyn nhw yn cydnabod pa mor ddyledus y maen nhw i Oscar yn hynny o beth. Wrth gwrs, fel Aelod Cynulliad ac aelod o'r Senedd, unwaith eto, dangosodd Oscar i aelodau o'n cymunedau lleiafrifol ethnig yng Nghymru y gallent ymgyrraedd at gynrychiolaeth a gwleidyddiaeth gynrychioliadol yn ein Cynulliad ar y lefel honno, yn ein Senedd ni, fel y mae yn awr. Pryd bynnag y gwelais Oscar mewn digwyddiadau lleol yng Nghasnewydd, byddai'n codi materion o bwys i'n cymunedau amrywiol. Roedd yn gyson iawn yn hynny. Yn amlwg, roedd ganddo ddiddordeb mewn llawer o faterion eraill hefyd, ond roedd bob amser yn ymwybodol o'i swyddogaeth o ran deall y cymunedau hynny, ei berthynas barhaus a'i gysylltiadau â nhw, a'r cyfrifoldeb yn benodol a roddai hynny iddo i ddeall y materion hynny ac i'w codi pryd bynnag y bo hynny'n bosib ac yn briodol. Ni wnaeth erioed osgoi'r cyfrifoldeb hwnnw. Ond roedd hefyd yn frwd iawn dros gysylltiadau rhyngwladol, nid yn unig gyda Phacistan, ond ledled y byd. Byddai'n aml yn trafod gyda mi sut yr ydym wedi meithrin y cysylltiadau hynny'n lleol yn ogystal ag ar lefel Cymru. Pan oeddwn yn ymwneud â changen y Cynulliad o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad, roedd Oscar bob amser yn awyddus i ddeall y materion yr oeddem yn ymwneud â nhw ar unrhyw adeg benodol, ac i gyflwyno syniadau ynghylch sut y gallem ni ehangu ein swyddogaeth a'r cysylltiadau yr oeddem yn eu creu, a'r agweddau rhyngwladol ar Gymru a'r Cynulliad yn gyffredinol. Ond o ran sgyrsiau lobïo gydag Oscar, fel y mae eraill wedi sôn, cofiaf yn dda am ei angerdd dros griced, oherwydd pan oeddwn yn Weinidog chwaraeon cefais fy lobïo'n ddi-baid gan Oscar ynglŷn â Chymru'n cael ei thîm criced ei hun, a'r holl fanteision a fyddai'n deillio o hynny, a phan nodais rai o'r anawsterau posib, ni roddodd fawr o goel ar y rheini o gwbl—roedd mor angerddol ynghylch criced a Chymru'n creu hunaniaeth fwy nodedig. Yn wir, chwaraeodd Oscar ar ran ein tîm criced yn y Cynulliad, oherwydd cawsom ychydig o gemau dros y blynyddoedd, a buom yn chwarae un, mewn gwirionedd, yng Ngerddi Soffia, a chymerodd Oscar ran. Rwy'n credu ei fod yn droellfowliwr llaw dde, fel y cofiaf, ac roedd yn sicr yn fowliwr brwd, ac roedd yn awyddus i fy ngoleuo am gampau criced ei ieuenctid, pan oedd ei alluoedd hyd yn oed yn fwy nag yr oeddent ar yr achlysur hwnnw yng Ngerddi Soffia. Felly, rwy'n credu, unwaith eto, fel y mae eraill wedi'i ddweud, rydym yn cofio Oscar fel cymeriad go iawn. Roedd yn aelod o'r Blaid Lafur ar un adeg. Aeth i bleidiau gwleidyddol eraill. Mewn rhai ffyrdd efallai ei fod yn fwy nag aelodaeth o unrhyw deulu gwleidyddol. Roedd yn gymeriad go iawn, ond gwn, ym mha blaid bynnag yr oedd Oscar ar adeg benodol, ei fod yn falch iawn, iawn fel cynrychiolydd gwleidyddol rheng flaen, ar Gyngor Dinas Casnewydd ac yn y Cynulliad ac yna yn y Senedd. Rydym yn cofio am ei deulu yn anad dim ar y diwrnod trist iawn hwn. Angela Burns AC: Roedd yr haul yn tywynnu'n eiriasboeth ar grŵp ohonom ni a oedd wedi mynd i ymweld ag Israel a Phalesteina, ac roeddem ni'n sefyll ar do yr Hosbis Awstriaidd yn Jerwsalem, ac roeddwn yn sgwrsio ag Oscar a chwifiodd ei freichiau o gwmpas, fel y gwnâiyn aml, a dywedodd, 'Edrycha, Angie—dacw Fynydd y Deml a Mosg Al-Aqsa, a draw yn y fan yna y Beddrod Sanctaidd, a dacw'r Wal Orllewinol a Mynydd yr Olewydd. Rydym ni i gyd yma. Gallwn fyw gyda'n gilydd. 'Fe wnaethom ni siarad mwy, ond rwy'n dweud y stori hon i ddangos yr hyn yr oeddwn yn teimlo oedd hanfod Oscar. Roedd ganddo gariad enfawr at ddynoliaeth, a chariad arbennig at ei wraig Firdaus a'i ferch Natasha. Erbyn i ni orffen ein taith, Oscar oedd yr un a wyddai enwau'r gyrwyr a'r clochweision, lle yr oedden nhw'n byw a'u straeon teuluol. Pa un a oedd yn siarad â llysgennad neu werthwr stryd, roedd ganddo ddiddordeb ynddyn nhw, ac roedden nhw'n gwybod hynny, roedden nhw yn ei synhwyro. Oherwydd bod Oscar wastad yn ceisio dod â phobl at ei gilydd. Roedd yn angerddol ynghylch pontio'r bylchau rhwng Pacistan ac India, dod â Mwslimiaid a Christnogion ac Iddewon at ei gilydd, uno pobl â ffydd a phobl heb ffydd. Roedd yn ddoniol ac yn gynnes, yn hynod wleidyddol anghywir ar brydiau, ac roedd yn caru ei wlad a'i wledydd. Roedd yn anhygoel o falch o fod yn Gymro ac yn Brydeiniwr, i fod yn Fwslim, yn ŵr ac yn dad. Roedd ganddo gredo a charisma. Gallai fod yn gynhyrfus ac yn barablus, ond hefyd yn ystyriol ac, yn anad dim, yn eithriadol o garedig. Roedd yn ddyn llawen, balch a duwiol a hoffai chwerthin; un a oedd, fel y dywedodd Nick eisoes, yn prynu paneidiau di-ben-draw i bawb; yn pefrio o syniadau, o'r mawr i'r gwirioneddol ofnadwy; ac roedd yn arch-negodwr. Ym Mrwsel, dechreuodd siarad â gwraig rewllyd iawn a oedd yn gwerthu'r ffrogiau mwyaf godidog i ferched bach, i gyd wedi'u creu â llaw a'u brodio'n brydferth. Wrth i ni bori'r strydoedd, dywedodd wrthyf heb wamalu y dylai fy merched gael y rhain. 'Dim peryg', dywedais. Roeddent yn frawychus o ddrud ac roedd Madame yn ein trin gyda llawer o rolio llygaid ac edrychiadau diamynedd. Afraid dweud bod Oscar wedi ei hudo'n llwyr, a gadewais gyda dwy ffrog odidog, nad oeddent bellach yn arswydus o ddrud ac sydd, ar ôl cael eu gwisgo am nifer o hafau, wedi ymuno â thrysorau eraill mewn hen flwch pren camffor gartref. Yn y byd hwn yr ydym yn byw ynddo, rhaid i chi ofyn i chi'ch hun: ydych chi'n mynd i felltithio'r tywyllwch neu oleuo cannwyll? Ac roedd Oscar yn goleuo canhwyllau ymhobman yr aeth. Mae ei oleuni yn parhau i ddisgleirio, ac i Firdaus a Natasha, ni allaf ond dweud yn syml, os yw cariad yn cael ei fesur mewn modfeddi, rydych chi'n sefyll ar y talaf o fynyddoedd, ac mae'n ddrwg gennyf am eich colled. Tangnefedd a fo gyda chi. Darren Millar AC: Mae plac glas amlwg ar wal cartref dirodres yng Nghasnewydd yn darllen fel a ganlyn: 'Mohammad Asghar, ganwyd 30 Medi 1945, aelod o Gynulliad Cymru, cyfrifydd a pheilot, yma'n byw ers 1994.' A byddai'r rhai sydd wedi ymweld â chartref y teulu Asghar yn gweld yn fuan bod Oscar yr holl bethau hynny a ddisgrifiwyd ar y plac hwnnw ond ei fod hefyd yn llawer mwy. Roedd yn ŵr ffyddlon i Firdaus, ac yn dad cariadus i'w ferch, Natasha, ac fe garai'r ddwy yn fawr ac fe siaradai amdanynt yn aml iawn. Roedd yn ddyn o ffydd, haelioni a gonestrwydd mawr. Ac roedd e, os yw'n bosib bod yn hyn, yn ymgorfforiad perffaith o'r Gymanwlad. Ef oedd y deiliad mwyaf ffyddlon y gallai ei Mawrhydi y Frenhines erioed fod wedi gobeithio amdano. 'Mr Asghar' i rai, 'Oscar' neu 'Ewyrth Oscar' i eraill, ac i mi—cyfaill triw a chyd-Aelod gwerthfawr. O'r eiliad y buom yn mwynhau ein cyri cyntaf gyda'n gilydd yn ystod trafodaethau am ei ymuno â'r Ceidwadwyr Cymreig, daethom yn gyfeillion a thros y 13 mlynedd yr adwaenwn i Oscar, ni chawsom erioed air croes, sydd, fel y bydd y rhai ohonoch sy'n fy nabod yn tystio, yn dipyn o gamp. Fe wnaethom ni fwynhau llawer i sgwrs fynwesol ar faterion ffydd, teulu a gwleidyddiaeth. Roeddem ni'n teithio gyda'n gilydd, roeddem ni'n rhannu prydau gyda'n gilydd ac yn chwerthin llawer gyda'n gilydd. Fel sy'n wir am aelodau eraill o'r Senedd hon, roedd rhai o'm hatgofion anwylafam Oscar yn ystod ymweliad y Ceidwadwyr Cymreig â'r Wlad Sanctaidd. Nid oedd mwy o gefnogwr i Israel ac eiriolwr heddwch yn y dwyrain canol nag Oscar. Er ein bod ni ein dau yn dod o wahanol draddodiadau ffydd, gweddïodd Oscar a minnau'n gyda'n gilydd am heddwch Jerwsalem ger y Wal Orllewinol a gweddïo hefyd dros deuluoedd ein gilydd wrth i ni eistedd, fraich ym mraich a gyda dagrau yn ein llygaid, yn Eglwys Sant Pedr, sy'n sefyll ymhlith adfeilion tref Feiblaidd Capernaum, ar lannau Môr Galilea. Yn ystod y daith honno, buom hefyd yn ymweld â thref Balesteinaidd fodern Rawabi, syniad yr entrepreneur enwog a'r Palesteiniad Bashar Masri. Roedd y grŵp wedi trefnu i gwrdd â Bashar mewn caffi chwaethus, a chadeiriwyd y cyfarfod gan Oscar. Gwnaeth waith rhagorol, aeth y cyfan yn rhyfeddol o dda, ac ar ôl y cyfarfod, aethom i gyd yn ôl i'r bws mini, a oedd yn aros i'n hebrwng i'n hapwyntiad nesaf. Ond fel yr oeddem ar fin gadael, fe sylweddolom ni fod rhywun ar goll. Ac ar ôl galw cofrestr, sylweddolom, fel sy'n digwydd yn aml, mai Mark Isherwood ydoedd. Edrychodd Oscar arnaf gydag awgrym o bryder ar ei wyneb, 'ble mae e?', gofynnodd. Ymatebais, 'Mae'n debyg ei fod yn egluro cymhlethdodau fformiwla Barnett a'r fframwaith cyllidol i Gymru i'r gweinydd Arabaidd, Oscar.' Ac wrth glywed hynny, dechreuodd Oscar chwerthin yn afreolus i'r graddau ei fod yn edrych fel plismon llon ar y promenâd mewn tref glan môr yng Nghymru. Roedd ei chwerthin, wrth gwrs, yn heintus ac erbyn i Mark Isherwood gyrraedd y bws mini o'r diwedd, roeddem i gyd yn sychu'r dagrau o'n llygaid. A dyna'r Mohammad Asghar, dyna'r Oscar, dyna'r cyfaill a chyd-Aelod y byddaf bob amser yn ei gofio. Felly, gyd-Aelodau, nid yw'r plac glas ar y tŷ bychan hwnnw yng Nghasnewydd yn gwneud unrhyw gyfiawnder o gwbl â'r Oscar yr oeddem ni i gyd yn ei adnabod. Gadewch i ni obeithio y bydd, yn y dyfodol, ryw fath o gofeb fwy addas, parhaol mewn man cyhoeddus amlwg i'r dyn mawr hwn a'r cyfraniad enfawr y mae wedi'i wneud i fywyd cyhoeddus Cymru. Delyth Jewell AC: Roedd Oscar bob amser yn gynnes iawn. Ar fy niwrnod cyntaf yn y Senedd, roeddwn yn cerdded gyda'r Llywydd ac fe wnaethom ni daro ar y grŵp Ceidwadol. Roedd pawb yn ysgwyd fy llaw, ond daeth Oscar yn syth ataf a rhoi cwtsh i mi. Bu'n gweithio'n agos, wrth gwrs, gyda dau o'm rhagflaenwyr, gyda Steffan Lewis, a weithiai yn ei swyddfa, a chyda Jocelyn Davies, a oedd yn gyd-Aelod rhanbarthol gydag Oscar. Neithiwr, dywedodd Jocelyn wrthyf am rai o'r storïau yr hoffwn eu rhannu â chi. Yng nghyfrif 2007, roedd Jocelyn ac Oscar wedi mynd i'r llwyfan gyda'i gilydd ar gyfer y cyhoeddiad eu bod wedi eu hethol yn briodol. Roedd y Blaid Genedlaethol Brydeinig, mor druenus ydyn nhw, wedi aros yn yr ystafell am oriau er mwyn cerdded allan ar yr union adeg y cyhoeddwyd enw Oscar. Gwenodd Oscar drwyddi, a dywedodd Jocelyn fod ei gofleidio wrth i'r BNP gropian ymaith yn teimlo fel buddugoliaeth fach dros ragfarn a chasineb. Fel y dywedwyd eisoes, roedd Oscar wedi ymrwymo i'w ffydd, a dywedodd Jocelyn wrthyf am dro arall yr aeth Dai Lloyd a Cynog Dafis i annerch mosg Casnewydd ar wahoddiad Oscar a Jocelyn. Daeth pob un ohonynt ar brynhawn dydd Gwener, ac ar y foment honno, gollyngodd Oscar yr ergyd mai dim ond y dynion fyddai'n cael mynd i mewn i'r mosg, a gofynnodd Jocelyn, 'Wel, ble fydda i?', ac atebodd Oscar, 'Yn fy nghalon i'. Fel y dywedodd Jocelyn neithiwr, llwyddodd hyd yn oed i dynnu'r pigiad o hynny, a deallaf ei fod mewn gwirionedd wedi perswadio'r mosg i ganiatáu iddi fynd i mewn hefyd. Nid oedd Oscar gyda'r Blaid yn hir, ond bu'n gwasanaethu pobl Dwyrain De Cymru gydag ymroddiad, gyda'i syniadau ei hun a chyda brwdfrydedd bob amser. Mewn gwleidyddiaeth, fel mewn bywyd, nid yw'n gwneud y tro i fod yn chwerw. Yn 2016, yn y cyfrif pan gyhoeddwyd bod Oscar wedi cael ei ethol, y tro hwn, wrth gwrs, fel Aelod Ceidwadol, aeth at Jocelyn yr un fath a dweud, 'Diolch, bos.' Rwyf am gloi gyda dywediad traddodiadol y Mwslimiaid ar glywed y newyddion am farwolaeth rhywun, 'Yn wir rydym yn perthyn i Dduw, ac yn wir ato Yntau yr ydym yn dychwelyd.' Andrew RT Davies AC: Roedd clywed y newyddion ddoe fod Oscar wedi ymadael â ni yn hollol annisgwyl. Fel un a ddaeth i'r Cynulliad ar yr un pryd ag Oscar yn 2007, credaf y bu ein teithiau gwleidyddol yn sicr yn cydblethu ers hynny. A minnau wedi bod yn arweinydd am saith mlynedd o'r cyfnod yr oeddem gyda'n gilydd yn y Cynulliad, roedd y sylwadau a wnaeth Adam Price yn sôn amdano fel ysbryd rhydd gwleidyddol yn rhywbeth a arferai fy ngwneudyn chwithig braidd yn y Siambr, oherwydd yn aml iawn byddwn yn eistedd o'i flaen, a byddech bob amser yn gwybod pan oedd Oscar yn dechrau traethu pan ddywedai, 'Yr hyn ydyw— ', ac yna'n sydyn iawn, am dair neu bedair munud, byddem yn clywed athroniaeth wleidyddol Oscar, a oedd yn ddieithriad yn rhan o'i angerdd a'i ymrwymiad i wella bywydau pobl. Gallai Oscar, fel fi, lurgunio'r Saesneg—gadewch i ni fod yn realistig am hynny—ac rwyf innau mor euog ag unrhyw un sy'n gwneud hynny i'r iaith Saesneg. Ond yr hyn a oedd gan Oscar mewn tomenni oedd angerdd ac ymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus. Roedd yn credu mewn gwella bywydau pobl, credai mewn defnyddio ei brofiadau ei hun trwy fywyd, fel y clywsom ni yn y dystiolaeth heddiw gan Aelodau eraill, o ymrannu’rIndia bob cam i redeg busnesau, i gefnogi pobl yn eu ffydd ac yn awr eu hangen, a cheisio pontio'r rhaniad rhwng grwpiau gwleidyddol a grwpiau crefyddol. Roedd Oscar yn ymgorfforiad o was cyhoeddus da a graslon. Rwy'n mentro dyfalu—gobeithio, pan fyddwn yn dychwelyd—y gallai cadw pellter cymdeithasol fod wedi bod yn her i Oscar, oherwydd ei fod yn un o'r bobl hynny a oedd wir eisiau rhoi ei freichiau amdanoch mewn ffordd gadarnhaol, pa un a oedd y felan arnoch a bod angen codi eich calon arnoch chi, neu dim ond rhyw fath o emosiwn gwirioneddol ynglŷn â rhywbeth yr oeddech chi wedi ei wneud. Rwy'n teimlo dros Natasha a Firdaus heddiw, a thros y dyddiau nesaf. Mae colli rhywun mor arbennig ac mor annatod o'ch teulu yn ergyd chwerw, chwerw. Ond yr hyn yr wyf yn ei obeithio'n angerddol yw, yn y dyddiau, yr wythnosau a'r misoedd nesaf, y bydd heulwen y llu o atgofion hapus a dymunol a fydd gennych chi ohono yn eich cysuro yn yr oriau tywyll hynny, oherwydd, fel ninnau yn Aelodau, byddwn ninnau hefyd yn cael cysur mawr o allu dweud ein bod yn gyfeillion, yn gyd-Aelodau ac yn gyd-gyfranogwyr yng Nghynulliad Mohammad Asghar. Ac rwy'n ei ystyried yn bleser ac yn fraint fawr o fod wedi treulio fy amser yn y Cynulliad ac wedi gallu galw Mohammad Asghar nid yn unig yn gyd-Aelod gwleidyddol, ond yn gyfaill. Jayne Bryant AC: Gyda thristwch yr wyf yn siarad heddiw yn dilyn y newyddion am farwolaeth Mohammad Asghar. Anfonaf fy nghydymdeimlad diffuant a'm cariad at ei wraig a'i ferch annwyl yr oedd yn meddwl y byd ohonynt, a'i deulu estynedig a'i ffrindiau. Roedd Oscar yn falch iawn o gynrychioli de-ddwyrain Cymru yn y Senedd, ac roedd yn awyddus i weithio ar draws rhaniadau gwleidyddol gydag eraill er budd y cymunedau yr oedd yn eu cynrychioli. Roedd yn eiriolwr brwd dros gydlyniant cymunedol, yn annog pobl ifanc, a heb anghofio, fel y dywedwyd, dros dîm criced i Gymru. Cofiaf, ychydig flynyddoedd yn ôl, roedd Oscar, John Griffiths a minnau mewn digwyddiad gyda Chyngor Ieuenctid Casnewydd. Siaradodd Oscar am yr heriau yr oedd wedi'u hwynebu a'i brofiadau amrywiol, o fod yn gricedwr lled-broffesiynol, peilot, cyfrifydd, a gwleidydd ymysg pethau eraill. Dywedodd wrth yr holl bobl ifanc hynny fod yr holl fyd o fewn eu gafael ac nad oedd dim na allen nhw ei wneud. Roedd bob amser yn gyfeillgar, yn barchus ac yn falch, bob amser yn gyflym yn dod o hyd i ochr ddoniol pethau a gwneud i bobl deimlo'n gartrefol. Bydd llawer o ffrindiau yma, yng Nghasnewydd, ac ar draws y de-ddwyrain yn ei golli. Suzy Davies AC: Mae pawb yn cael dyddiau gwael, ond nid oedd Oscar yn un i adael i chi deimlo'n isel yn hir. Yn wir, byddai'n dda gennyf pe bai yma heddiw, mewn gwirionedd, oherwydd gallem wneud gyda'i gymorth i fynd drwy un o'n dyddiau gwaethaf, mi gredaf. Bob bore, pan oedd cyfarfod llawn, byddem yn cwrdd wrth y lifft a byddwn bob amser yn cael rhyw fath o gyfarchiad neu gwtsh, neu lysenw annwyl, a'r wên honno y byddech chi'n ei chael—na allech chi ei hanwybyddu, na allech chi, mewn gwirionedd? Rydym ni i gyd yn gwybod sut deimlad oedd hynny. Ac roedd yn amlygu'r haelioni hwnnw y mae cynifer o bobl eisoes wedi sôn amdano heddiw. Ond, y tu hwnt i'r haelioni hwnnw, roedd ganddo ymdeimlad cryf iawn o ddiolchgarwch hefyd. Ac rwy'n cofio, ar y daith honno i Israel y mae eraill wedi sôn amdani, inni aros mewn bwyty a oedd yn cael ei redeg gan deulu Drusaidd, a'r tro hwn, Oscar, mewn gwirionedd, oedd yn hwyr yn cyrraedd y bws mini, nid Mark, a'r rheswm am hynny oedd ei fod wedi aros ger stondin y tu allan i'r bwyty dan ofal gwraig oedrannus, ac roedd yn llawn o blanhigion anniben iawn ac ychydig o fêl gwenyn yr hen wraig. Ac roedd yn benderfynol o gael y mêl hwnnw, nid yn unig i ddiolch i'w westeiwyr, oherwydd roedd y wraig hon yn aelod o'r teulu hwnnw, ond i anrhydeddu crefft yr hen wraig. Roedd yn gweld crefyddau pobl eraill, fel y clywsom ni gan eraill heddiw, yn gwbl gyfareddol, ac roedd ei benderfyniad i ddod â phobl o wahanol gredoau ac arferion gwahanol at ei gilydd yn enghraifft o angerdd didwyll a phriodol. A chan fy mod i wedi bod yn ceisio deall mwy fy hun am gredoau Mwslimaidd a gwahaniaethau rhwng cymunedau gwahanol, roedd Oscar bob amser yn hapus iawn i siarad â mi a rhannu ei wybodaeth. Ac roedd mor glir pa mor bwysig oedd ei ffydd ei hun iddo, ac, wrth i mi ddysgu mwy am yr hyn sy'n cyfrif mewn bywyd Mwslimaidd, dysgais fwy am Oscar, rwy'n credu—cymaint yr effeithiodd ar bopeth yr oedd yn meddwl amdano. Ac, wrth gwrs, rydym ni wedi clywed cymaint am ei gariad at ei wraig a'i ferch, a daw hynny nid yn unig o'i bersonoliaeth naturiol, ond o'r gwerthoedd, y gwerthoedd rhadlon yr oedd yn eu coleddu ac a ddangoswyd ganddo lle bynnag yr oedd, mewn gwirionedd. Ac os wyf eisiau meddwl amdano pan oedd fwyaf llawen ac wedi ei gyffroi fwyaf ac wedi ei gyffwrdd fwyaf, rwyf eisiau mynd yn ôl i'r diwrnod hwnnw a dreuliodd pob un ohonom ni yn Jerwsalem y bu i Angela ei grybwyll, oherwydd, yn gynharach y diwrnod hwnnw, roeddem ni wedi bod yn Yad Vashem, ac roedd Oscar wedi bod gyda ni mewn seremoni ger y fflam dragwyddol yno. Ond diflannodd wedyn am rai oriau, ac roeddem yn pendroni ynghylch i ble yr oedd wedi mynd. Beth bynnag, daeth yn ôl atom, a chlywsom y bu yn al-Aqsa yn Haram al-Sharif, Mynydd y Deml, sydd wrth gwrs yn un o leoedd mwyaf sanctaidd Islam. A'r llawenydd yn ei wyneb pan ddaeth yn ôl, wel, roedd yn rhannu'r llawenydd â ni—bydd y rhai ohonoch chi a oedd yno yn cofio hynny. Mae sut y llwyddodd i fynd i mewn yn un o straeon hudolus Oscar, wrth gwrs. Ond mae'r diwrnod hwnnw yn fy atgoffa ein bod heddiw nid yn unig yn ffarwelio â'n Oscar, â'n hewythr Oscar, ond â Mohammad, a oedd yn gyfaill i'r ddynoliaeth. Neil McEvoy. Neil McEvoy—y meicroffon. Diolch. Neil McEvoy AC: Diolch, Llywydd. Newyddion brawychus iawn ddoe—nid wyf yn credu y gallwn beidio â chael ein cyffwrdd gan y cyfraniadau. Hoffwn gyfleu cydymdeimlad pawb yn y Welsh National Party i deulu Oscar a'i staff a'i gyd-Aelodau Ceidwadol. Oscar—gwenaf nawr, oherwydd roedd bob amser yn gwneud imi wenu—fe wnes i gyfarfod ag ef gyntaf cyn 2007; 2004 rwy'n credu oedd hi. Gwnaethom lawer o waith gyda'n gilydd i sefydlu adran ar gydraddoldeb, ac roedd yn gymwynasgar dros ben; aethom i'w swyddfa yng Nghasnewydd, buom yn gweithio gyda'n gilydd, gan fynd drwy restrau. Roedd yn amlwg ei fod yn uchel iawn ei barch yn ei gymuned, ac roedd yn bleser gwirioneddol gweithio gydag ef. Gadawodd Blaid Cymru ac ymuno â'r Ceidwadwyr, ac ni wnaeth hynny newid dim o gwbl—dim byd o gwbl. Bob tro imi ei weld, siaradai, byddem bob amser yn rhannu jôc, a fyddai'n hyfryd. Un o fanteision symud ar draws y Siambr oedd cael eistedd yn ymyl Oscar, oherwydd, bob dydd, byddai'n mynd heibio a byddai rhyw jôc i'w rhannu, ac roedd bob amser yn siarad, ac nid pawb sy'n gwneud hynny. Ac roedd yn ddyn diffuant, mor ddiffuant. Byddem weithiau'n mynd i fannau mwy preifat ac yn trafod materion mewn gwirionedd, yn rhannu profiadau, ei brofiad yn y Senedd. A chredaf y dylai mwy o sylw fod wedi'i wneud, ac y dylid gwneud mwy o sylw, o'r ffaith mai ef oedd yr unigolyn croenliw cyntaf i'w ethol i Senedd Cymru. Soniodd pawb am ei angerdd dros griced a chwaraeon, ond yr hyn y byddaf i'n ei gofio—fel y bydd pob un ohonom ni, mewn gwirionedd—yw Oscar, Oscar y dyn. A bydded iddo orffwys mewn hedd. Janet Finch-Saunders AC: Rwy'n hynod o drist ac, yn wir, wedi fy syfrdanu gan farwolaeth ein cyfaill annwyl a'n cyd-Aelod Oscar. Mae'r boen a'r galar a wyneba Firdaus a Natasha nawr wrth golli dyn mor anhygoel yn annirnadwy. Fodd bynnag, bydded ichi wybod eich bod yn ein meddyliau a'n gweddïau. Nawr, eisteddais wrth ymyl Oscar yn y Siambr, ac nid oedd byth eiliad diflas. Byddaf bob amser yn ei gofio yn cyfrannu at y llu o areithiau, megis dim ond yr wythnos diwethaf pan gyfrannodd mor frwd. Roedd cyfraniadau niferus eraill a wnaeth o'r galon, yn enwedig yng nghynadleddau Plaid Geidwadol Cymru, lle y safodd bob amser a siarad yn uchel ac yn falch dros Gymru, y Deyrnas Unedig, ei phobl a'n brenhines. Nawr, drwy gydol y cyfnod hwn o gyfyngiadau symud, cadwodd wên ar fy wyneb drwy'r cyfryngau cymdeithasol. Mae wedi curo dwylo dros ofalwyr. Dysgodd i ni sut i wneud coffi Dalgona a'i frecwast arbennig. Dangosodd i ni ei drefn ymarfer corff boreol, ac fe ddysgodd Iaith Arwyddion Prydain. Yn gynharach y mis hwn, fodd bynnag, rhannodd neges bwysig, y dylai hiliaeth ddod i ben. Diolch Oscar. Ni fyddwch byth yn angof. Daliwch i wenu; rydych yn gadael gwaddol ar eich ôl y dylem ni i gyd fod yn falch o'i ddilyn. Diolch. Alun Davies AC: Cefais fy ethol yr un pryd ag Oscar, fel dau aelod rhanbarthol, yn ôl yn 2007. Ac, wrth gwrs, rydym yn cwrdd â'n gilydd wrth i ni ymwneud â'n busnes yn y Siambr ac yn y Senedd, ond rydych yn dod i adnabod eich gilydd drwy waith y pwyllgorau a phan fyddwch yn ymweld â lleoedd ac yn deall beth yw eich gwaith. Fel Nick Ramsay, deuthum i adnabod Oscar am y tro cyntaf ar y Pwyllgor Cyllid ac ar ymweliad â Sweden, lle y cefais fy syfrdanu gan ei haelioni. Ond hefyd fe'm gadawodd yn ddi-glem llwyr yn sgil ei gyfres gyfan o gwestiynau—a ddaeth, wrth gwrs, o'i wybodaeth a'i gefndir—pryd nad oeddwn yn deall na'r cwestiynau na'r atebion. Ac roedd yn ymroi i waith caled, i sicrhau bod pobl yn gwybod bod ganddo'r ymroddiad hwnnw i sefyll dros bobl, i gynrychioli pobl ac i ddeall yr hyn yr oeddem yn ceisio'i wneud. Roedd Angela Burns yn ddigon caredig y bore yma i rannu llun a dynnwyd ychydig flynyddoedd yn ôl o'r rhai hynny ohonom ni a etholwyd yn 2007, ac mae llun hyfryd o Oscar yno, yn sefyll gyda'r wên hyfryd honno yng nghanol y llun. Rwy'n ddiolchgar i Angela am rannu hwnnw eto. A phan feddyliwn am Oscar, meddyliwn am y caredigrwydd hwnnw, meddyliwn am ei ffydd a meddyliwn am ei gariad tuag at ei deulu. Ond mae caredigrwydd yn aml yn ddilafar ac anweledig. Ef oedd y person cyntaf i gysylltu â mi pan gollais fy mam yn gynharach eleni; pan ddychwelais o'r ysbyty ar ôl salwch rai misoedd yn ôl, roedd cerdyn, cerdyn 'Brysiwch Wella', yn aros amdanaf—gweithredoedd hael a charedig anweledig. Roedd Oscar yn deall dynoliaeth gwleidyddiaeth a dynoliaeth yr hyn yr ydym yn ei wneud. Nid oes yr un ohonom ni nad yw wedi sefyll wrth ddrws, yn dadlau gydag Oscar ynglŷn â phwy fyddai'n mynd drwodd gyntaf. Nid oes yr un ohonom ni nad yw wedi sefyll yn yr ystafell de, gydag Oscar yn prynu nid yn unig paned o de ond hefyd gacen a beth bynnag arall y byddem yn dymuno ei gael yno. Ac nid oes yr un ohonom ni nad yw wedi cael ei gyffwrdd gan ei ofal a'i bryder nid yn unig am y bobl yr ydym yn eu cynrychioli, ond y bobl nad ydym yn eu hadnabod. Ac mae hynny'n rhywbeth y byddaf wirioneddol yn ei gofio. Ac roedd ffydd Oscar yn bwysig iddo. Mae Darren Millar wedi sôn am y ffordd yr oedd Oscar bob amser yn dymuno bod yn bont—pont rhwng pobloedd, pont rhwng gwahanol grefyddau a phont rhwng gwahanol gymunedau. Rwy'n cofio, ac rwy'n cydnabod y gwaith y mae wedi'i wneud yn ceisio creu pontydd rhwng cymunedau yng Nghymru—ceisio creu pontydd ar draws y dwyrain canol ac mewn mannau eraill. Roedd y cynhesrwydd a'r ysbryd hael yn rhywbeth a oedd yn rhan ohono. A thrwy'r cyfan, roedd y teulu—Firdaus a Natasha. Rwy'n cofio ei falchder pan wnaeth Natasha ymladd am sedd Blaenau Gwent a chofiaf y llygaid disglair a'r wên pryd bynnag y siaradai am ei deulu. Felly, pan fyddwn ni'n cofio Oscar, byddwn ni'n cofio ei garedigrwydd; byddwn yn cofio'r cynhesrwydd hwnnw, yr haelioni hwnnw. Byddwn yn cofio'r ffydd ddofn honno a byddwn yn ei gofio fel pont. Clywaf lawer o bobl yn siarad am garedigrwydd, ond roedd Oscar yn byw caredigrwydd ac roedd Oscar yn ei ymgorffori. Russell George AC: Rwy'n cofio, yr wythnos gyntaf i mi gael fy ethol i'r Senedd, Oscar yn mynd â nifer o aelodau newydd allan am ginio a mynnu ei fod yn talu. A dyna pryd y deuthum i adnabod Oscar yn iawn am y tro cyntaf, a bydd y rheini ohonom ni yn yr ystafell de yn cofio'r ymadrodd hwnnw, 'Fi sy'n talu', yn yr ystafell de. Roedd Oscar yn wir yn ddyn mor hael gyda'i eiriau a gyda'i weithredoedd. Yr hyn rwy'n ei gofio am Oscar mor aml yw'r ergyd fawr a fyddai'n ei tharo ar fy nghefn. Arferai roi ergyd fawr iawn imi ar fy nghefn rywsut pan fyddwn yn cerdded heibio yn y coridor neu wrth imi gerdded i mewn i'r Siambr, ond yn aml pan oeddwn yn cerdded o'r gegin ar y trydydd llawr yn ôl i'm swyddfa gyda phaned o de yn fy llaw, ac nid oes angen i mi ddweud beth oedd diwedd y stori honno. Ond bydd hiraeth enfawr ar ôl Oscar, ac wrth gwrs bydd hiraeth ar ei ôl yn ein pwyllgor, y pwyllgor y mae'n fraint imi ei gadeirio, yma yn y Senedd. Bydd colled fawr iawn ar ôl Oscar. Roedd yn berson mor hael, ac yn bennaf oll cydymdeimlaf wrth gwrs â Firdaus a Natasha. Ond bydd colled enfawr ar eich ôl, Oscar. Diolch, Llywydd. Caroline Jones AC: Yn sgil clywed y newyddion am farwolaeth Oscar ddoe, rwy'n estyn fy nghariad at ei wraig, Firdaus; Natasha, ei ferch; ei deulu estynedig a'i gyfeillion; ei gyfeillion yn y grŵp Ceidwadol a phob cyfaill arall. Fe wnes i gyfarfod Oscar a Natasha yn 2011, a gwelsom ein gilydd droeon cyn imi gael fy ethol yn 2016. Cefais fy llongyfarch yn syth gan Oscar, a chefais fy nghroesawu’n gynnes i'r Senedd, wrth iddo estyn llaw cyfeillgarwch, fel y gwnaeth i bawb a gyfarfu. Ar ddydd Mawrth a dydd Mercher, byddem yn aml yn cyfarfod yn yr ystafell de, a daeth yn arfer i ni brynu cinio i'n gilydd ac eistedd gyda'n gilydd yn yfed te. Buom yn siarad am ein teuluoedd ac roedd yn hynod falch o'i ferch, Natasha. Dyn teulu balch. Dyna ganfod yn fuan fod y ddau ohonom ni'n hoffi ymweld â stondinau marchnad, gan chwilio am emwaith ail-law, tlysau a hen bethau. A phan oedd y naill neu'r llall ohonom wedi cael bargen dda, daethom ag eitemau i mewn i'w cymharu, ac roedd yn hoff iawn o fargen, fel yr oeddwn i. Pe baem yn ffansïo eitem oedd yn eiddo i'r llall, fe'i gwerthwyd i'r naill a'r llall. Gymaint oedd gonestrwydd ac uniondeb Oscar, pan gynigiodd stondinwr dlws arian trwm iddo am £30, fe astudiodd Oscar y dilysnod yn syth ac, er syndod i'r stondinwr, dywedodd, 'Fy nghyfaill, byddwn wrth fy modd yn rhoi £30 i chi am hwn, ond rwy'n credu y dylai'r pris cywir fod yn £200, gan ei fod yn blatinwm nid arian'. Daeth â'r tlws hwnnw i ddangos i mi yn llawn balchder gan egluro'r stori. Bu Oscar yn gwasanaethu ei etholwyr gyda'r cariad, y tosturi a'r haelioni a ddangosodd at bawb y cyfarfu â nhw. Roedd yn ymroddedig i'w swyddogaeth, a chafodd lawer o gysur a chefnogaeth gan ei gyd-Aelodau Ceidwadol, fel y dywedodd wrthyf droeon. Rwyf wedi colli cyfaill yn yr ystafell de a, rywsut, ni fydd yr un teimlad yno. Roeddem ni wedi bwriadu ymweld â marchnad y Fenni gyda'n gilydd, ac rwy'n drist y byddaf ar fy mhen fy hun ar yr ymweliad hwnnw nawr. Ond rwy'n siŵr, os byddaf yn aros ger stondin, gyda'r bwriad o brynu unrhyw beth yno, bydd llais y tu ôl i mi yn dweud, 'Na, Caroline, peidiwch â dewis hwnna, dewiswch yr un nesaf ato, oherwydd cewch fargen well o lawer.' Gorffwyswch mewn hedd, fy nghyfaill, oherwydd mae gymaint o fywydau wedi elwa yn sgil eich adnabod. Nid oedd ymrannu yn eich geirfa ac fe wnaethoch chi drin pawb yr un fath. Diolch. Mark Isherwood AC: Ac yntau'n Fwslim selog, roedd Oscar yn ddyn goddefgar, tosturiol, cynhwysol. Roedd yn esiampl i bobl o bob ffydd a phob cred, ac rydym ni i gyd yn gwybod hynny oherwydd inni i gyd brofi hynny'n uniongyrchol. Roedd yn dawel falch, fel y clywsom ni, o fod wedi cario'r ffagl Olympaidd, o fod yn amlieithydd. A, chan hyn oed ychwanegu ieithoedd newydd, fel y clywsom ni, yn wythnosau olaf ei fywyd, at ei eirfa. Roedd yn falch iawn o fod wedi cymhwyso fel cyfrifydd, fel peilot, i redeg busnes llwyddiannus, i helpu pobl yn y gymuned, i fod yn wleidydd lleol ac yna'n wleidydd cenedlaethol. Rydym ni wedi clywed ei fod hefyd yn frenhinwr ac yn unoliaethwr balch, ond roedd hefyd yn rhyng-genedlaetholwr. Ac rwy'n gwybod, wrth eistedd wrth ei ymyl yn y Siambr, ar ei sgrin, os nad oedd yn gwylio neu'n dilyn newyddion byw'r BBC am Gymru neu'r DU, roedd yn dilyn newyddion am Bacistan neu'r Indianeu, yn bwysicach, wrth gwrs, y sgorau criced rhyngwladol. Byddaf yn colli eistedd wrth ei ymyl, ei law ar fy mraich bob tro yr oedd ganddo rywbeth i'w ddweud neu pan oedd eisiau codi pwynt yn dawel gyda mi. Byddaf yn colli'r losin mint yr arferai eu cynnig i mi a Janet ar yr ochr arall. A byddaf yn colli'r ddefod, ar ddiwedd pob cyfarfod llawn, pan fyddai'n gofyn imi pa alwadau oedd gennyf y noson honno a, phe byddem wedi gorffen yn gynnar, byddai'n aml yn ceisio dod draw i'r rheini. Pe byddem yn gorffen yn hwyr, byddai bob amser yn ymddiheuro ac yn esbonio bod yn rhaid iddo yrru'n ôl i Gasnewydd ac at ei deulu. Felly, rwyf innau'n meddwl am Firdaus a Natasha, ond felly hefyd fy ngwraig, Hilary, y maen nhw'n ei hadnabod, a'm teulu i, gan gynnwys Charlotte, ein merch, y maen nhw'n ei hadnabod. Yn ystod y cyfnod hwn o golled enfawr, mae'n anodd credu nad yw unigolyn gydag anadl einioes o'r fath gyda ni mwyach, ond rwy'n gwybod nad yw'r anadl einioes wedi pallu, mae wedi symud ymlaen. Bydded Allah gyda chi i gyd. Dai Lloyd AC: Diolch am y cyfle gwerthfawr yma i draddodi teyrnged i Mohammad Asghar. Mae yn ddiwrnod trist iawn, yn wir, gyda'r newyddion brawychus o sydyn ddoe am farwolaeth Oscar. Dwi'n cofio y diwrnod arall hwnnw yn 2007 yn glir iawn, ac Oscar yn cael ei ethol i'r un meinciau â mi yn y drydydd Cynulliad. Bu'n aelod cydwybodol o'n grŵp ni yn y Cynulliad hwnnw, ac fel cadeirydd y grŵp, roeddwn wastad yn werthfawrogol o'i gyfraniad i'n trafodaethau. Rydym ni'n cofio'r hanesion, ac mae nifer ohonyn nhw eisoes wedi'u holrhain yma heddiw. Ond mae heddiw yn ddiwrnod trist. Danfonwn ein cydymdeimlad mwyaf dwys i deulu a ffrindiau Mohammad Asghar heddiw. Gorffwys mewn hedd, Oscar. Vikki Howells AC: Rwy'n siarad heddiw yn rhinwedd fy swydd yn Gadeirydd y grŵp Llafur, ac wrth wneud hynny rwy'n siarad ar ran yr holl Aelodau Llafur, llawer ohonyn nhw wedi gwasanaethu gydag Oscar am y 13 blynedd diwethaf. Gweithiodd llawer yn agos gydag ef mewn amrywiaeth o leoliadau dros y cyfnod hwnnw. Fel y mae pawb wedi cyfeirio ato, roedd Oscar bob amser yn hwyliog, ac er ei fod yn ddadleuwr cadarn yn Siambr y Senedd, ni fu erioed yn ffigwr pleidiol y tu allan iddo. Mae hyn yn rhywbeth sydd wedi dod i'r amlwg mewn gwirionedd yn y ffrwd o deyrngedau i Oscar heddiw. Byddai'n aros i siarad â phawb, boed yn staff y Senedd, Aelodau o bob plaid, staff cymorth—pawb. Roedd yn rhywun a oedd â diddordeb gwirioneddol mewn pobl ac yn gwrtais yn ddi-feth. Byddwn i gyd yn teimlo ei golled a'i ffordd gyfeillgar yn fawr. Roedd Oscar bob amser yn hynod falch o'i deulu, ac rwyf eisiau mynegi fy nghydymdeimlad i a'r grŵp Llafur cyfan i'w wraig, Firdaus, a'i ferch, Natasha. Roeddech yn golygu cymaint i Oscar, ac roedd yn amhosib cael sgwrs ag ef heb iddo sôn am y ddwy ohonoch. Roedd yn ddyn teulu go iawn, a chi oedd cannwyll ei lygad. Fel y dywedwyd mewn llawer o deyrngedau, roedd llawer yn caru Oscar, ond neb y fwy na'r ddwy ohonoch chi. I mi, yn bersonol, roedd yn bleser imi fod wedi gweithio gydag Oscar ar bwyllgor yr economi a'r pwyllgor cyfrifon cyhoeddus ill dau. Roedd y ddau yn feysydd yr oedd ganddo ddiddordeb gwirioneddol ynddynt, a daeth ag arbenigedd aruthrol i'r trafodaethau am y pynciau yr oeddem yn ymdrin â nhw. Roedd yn brofiad gwych bod ar ymweliad pwyllgor yn enwedig gydag Oscar, oherwydd, ni waeth i ble yr oeddech yn mynd na'r pwnc dan sylw, roedd Oscar wrth ei fodd yn mynd allan a chwrdd â phobl, a siarad â nhw am y gwaith yr oeddent yn ei wneud. Ac rwy'n credu ei bod hi'n ddiogel dweud bod ganddo le arbennig yn ei galon i Faes Awyr Caerdydd a'i fod wrth ei fodd yn ymweld ag ef. Ond lle bynnag yr aethom ni, byddai'n sgwrsio â phawb y cyfarfu â nhw, a'i ddiddordeb a'i frwdfrydedd yn llifo wrth iddo eu holi am eu swyddogaethau a'u barn er mwyn cyfrannu at ein gwaith. Roedd Oscar yn gymeriad go iawn, ac rwy'n gobeithio fy mod i wedi llwyddo i grynhoi rhywfaint o hynny yn fy nghyfraniad i heddiw. Roedd yn arloeswr, a safodd fel symbol o Gymru fwy amrywiol, mwy modern—rhywbeth y mae siaradwyr blaenorol wedi cyfeirio ato, ond rhywbeth y mae angen i bob un ohonom ni gydweithio i'w gyflawni. Gall Oscar fod yn falch o bopeth a gyflawnodd, a bydd pob un ohonom ni yn gweld ei golli. Yn olaf, David Melding. David Melding AC: Llywydd, rydym ni wedi clywed bod ein cyfaill annwyl, Oscar, yn ymwneud â bywyd cyhoeddus yn ei ffordd ddihafal ei hun, a bod ganddo allu anhygoel i fyw gyda pharadocs gwleidyddol. Ac yn anad dim, roedd yn ddyn hael. Rydym ni wedi clywed cymaint o deyrngedau i'w haelioni. Yn wir, mae arnaf ofn bod stoc ein harlwywyr ar y farchnad stoc yn debygol o lithro oni bai eu bod yn cael pencampwr o gwsmer arall yn gyflym iawn. Y peth arall a glywsom ni dro ar ôl tro y prynhawn yma yw'r gair 'goddefgarwch'. I Oscar, nid oedd goddefgarwch yn golygu difaterwch; golygai anwyldeb a dealltwriaeth, ac fe gyfrannodd yn y modd hwnnw at drafodaethau rhyng-ffydd mewn ffordd ryfeddol iawn. Rwy'n ei gofio yn mynd â mi i'r deml Sikhaidd yn y Sblot ac yn sôn am werth a rhyfeddod y traddodiad Sikh, a'u parch a'u hymagwedd benodol at y dwyfol, ac roedd hynny'n crynhoi ysbryd a dynoliaeth Oscar i'r dim i mi. Roedd ganddo hefyd gariad mawr at y traddodiadau Prydeinig gorau, yn fwy na dim y Goron a chriced. Credai fod y rhain yn perthyn i'r Gymanwlad gyfan ac nad trysorau Prydeinig yn unig oeddent. Roedd y ffordd yr oedd yn sôn amdanyn nhw yn rhyfeddod llwyr. Rydym yn nodi marwolaeth drist cyfaill annwyl sydd wedi ein gadael gyda chymaint o atgofion hapus ac ymagwedd ysbrydoledig tuag at fywyd yn ei holl amrywiaeth a rhyfeddod, ac yn y cyfnod hwn o dristwch dwfn rydym yn cofio am ei deulu, yn enwedig am ei weddw, Firdaus, a'i ferch, Natasha. Boed iddyn nhw gael eu cysuro gan y cyfraniad a wnaeth i Gymru ac, yn wir, at hyrwyddo ysbryd o haelioni a goddefgarwch yn fyd-eang. Diolch i chi i gyd. Mae'r teyrngedau cynnes ac ystyriol a dalwyd gan aelodau o bob plaid heddiw yn dyst i'r ffordd y mae ein cyfaill a'n cyd-Aelod, Mohammad Asghar, wedi ennill parch o bob cornel o'r Senedd. Diolch i chi i gyd am rannu eich atgofion am ein cyfaill, Oscar. Rwyf fi, fel pob un ohonoch chi, yn drist iawn o golli cymeriad mor wych, a oedd bob amser yn dod â bywyd i drafodion y Senedd gyda'i gyfraniadau diffuant. Clywais am Oscar am y tro cyntaf cyn imi gwrdd ag ef. Mae'n rhaid mai oddeutu 2005 oedd hi: cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus i ffermwyr yn Llanbedr Pont Steffan ac roedd aelod Mwslimaidd o Blaid Cymru o'r de wedi dod i siarad â ffermwyr Ceredigion ynghylch cyfreithloni'r fasnach mewn 'smokies'. Roedd y ffermwyr yn siarad am y cyfarfod yn y marchnadoedd lleol am wythnosau. Roedd wedi gwneud argraff. Roedd wedi bod yn sioc ddiwylliannol ac yn ddealltwriaeth gyffredin. Cwrddais ag Oscar yn fuan ar ôl hynny a dysgais lawer mwy am 'smokies'. Rhyng-genedlaetholwr oedd Oscar, a gwnaeth y gorau o gyfleoedd i godi pontydd â gwledydd, crefyddau a diwylliannau eraill ac i hyrwyddo Cymru ar lwyfan y byd. Roedd y Gymanwlad yn rhan annatod o wreiddiau a hunaniaeth Oscar, ac roedd yn gefnogwr brwd o le Cymru o fewn ei theulu ehangach. Roedd bob amser yn falch o gynrychioli'r grŵp yr oedd yn aelod ohono, a'r Senedd, ar Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad. Yn wir, yn ystod y degawd diwethaf, bu Oscar yn gwasanaethu ar bwyllgor gwaith Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad yn hwy nag unrhyw aelod arall, ac yn ystod y cyfnod hwnnw bu'n cynrychioli Senedd Cymru mewn nifer o gynadleddau rhyngwladol pwysig yn falch ac yn ddiwyd. Mae'n briodol bod cyfraniad olaf Oscar yn y Senedd yn canolbwyntio ar fater yr oedd wedi'i hyrwyddo am gynifer o flynyddoedd: meithrin mentergarwch economaidd a sgiliau yn y gweithle. Ac yntau'n rhugl mewn pedair iaith, credaf efallai mai Oscar oedd y mwyaf amlieithog yn y Senedd. Nid oes rhyfedd, felly, y gallai siarad â phob un ohonom ni yn ei ffordd ei hun, cyfaill i aelodau o bob plaid a chefnogwr gwerthfawr iawn i lawer o achosion ac ymgyrchoedd, o gyfreithloni 'smokies' i dîm criced cenedlaethol, o entrepreneuriaeth i ryng-genedlaetholdeb. Wrth i mi eistedd yma ar fy soffa yn Aberaeron, wrth edrych ar gyd-Aelodau Oscar yn y Senedd ar sgrin Zoom, rwy'n dal i gael fy nenu i edrych tua'r dde, fel y byddwn yn y Siambr, i'r meinciau cefn Ceidwadol a chadair wag, cadair, sedd seneddol yr oedd Mohammad Asghar yn ei llenwi â chymaint o falchder ac angerdd. Pan ddychwelwn i'n Siambr, ni fydd Mohammad Asghar gyda ni, ond bydd ei ysbryd hael a'i farn oddefgar o'r byd yn helpu i'n harwain i gyd drwy'r cyfnod cythryblus hwn. Yn ysbryd geiriau gwych Paul Davies heddiw: heddiw, Oscar, mae eich Senedd yn rhoi cwtsh mawr rhithwir i chi a'ch teulu, fel y buoch chi yn rhoi cwtsh i gymaint ohonom ni dros y blynyddoedd. Diolch, Oscar, ac mae fy nghydymdeimlad, ar ran pawb ohonom ni, gyda Firdaus a Natasha a'ch holl deulu, y gwn eu bod mor annwyl i chi. Daw hynny â'n sesiwn o deyrngedau i ben. Diolch ichi i gyd am eich cyfraniadau. I aelodau o'r cyhoedd sy'n gwylio'r darllediad hwn, bydd modd ichi rannu eich meddyliau a'ch atgofion am Mohammad Asghar yn ein llyfr cydymdeimlad ar-lein. Bydd yr Aelodau hefyd yn gwybod ein bod wedi newid trefniadau ein busnes heddiw fel arwydd o barch at deulu Oscar, ond, fel y byddai Oscar a'r holl seneddwyr yn deall, mae gennym ni fusnes Seneddol a busnes yn ymwneud â'r coronafeirws i'w trafod a symudwn i wneud hynny nawr. Rwy'n deall, wrth gwrs, ei bod yn bosib y bydd rhai Aelodau eisiau gadael nawr ac efallai eich bod eisiau diffodd eich camerâu nawr. 1. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Symudwn, felly, at eitem gyntaf y busnes hwnnw, sef y datganiad busnes. Galwaf ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw. Rebecca Evans. Rebecca Evans AC: Fel y dywedwch chi, Llywydd, fel arwydd o barch at ein cyfaill a'n cyd-Aelod, Oscar, mae nifer o newidiadau i'r agenda heddiw. Caiff y tri datganiad llafar arfaethedig eu cyhoeddi fel datganiadau ysgrifenedig, ac mae dadl y Blaid Brexit wedi'i gohirio. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfodydd sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig. Diolch, Trefnydd. Trosglwyddwyd datganiadau felly i ddatganiadau ysgrifenedig, sy'n mynd â ni at eitemau 6 a 7, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2020 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2020. Y cynnig yw bod y rhain yn cael eu grwpio i'w trafod ond gyda phleidleisiau ar wahân. Os nad oes gwrthwynebiad i hynny—. Ni welaf unrhyw wrthwynebiad. 6. & 7. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2020 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2020 Felly, galwaf ar y Prif Weinidog i gyflwyno'r rheoliadau. Cynnig NDM7332 Rebecca Evans Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mai 2020. Cynnig NDM7333 Rebecca Evans Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Mehefin 2020. Cynigiwyd y cynigion. Mark Drakeford AC: Diolch, Llywydd. Cynigiaf y rheoliadau'n ffurfiol ac yn fyr a gofynnaf i'r Aelodau eu cefnogi. Mae'r rheoliadau yn ddiwygiadau pellach i amodau'r cyfyngiadau coronafeirws. Maen nhw'n rhoi rhyddid yn ôl i bobl lle mae'r sefyllfa o ran y feirws wedi caniatáu inni wneud hynny. Maen nhw'n cynyddu cosbau ar y rhai sy'n methu'n gyson â glynu wrth y rheolau y mae cynifer wedi gweithio mor galed i'w dilyn. Llywydd, mae'r system sydd gennym ni yn gwbl briodol yn ei gwneud hi'n glir pryd bynnag y bydd cyfyngiad yn ddiangen i ddiogelu iechyd y cyhoedd bod yn rhaid ei ddileu. Mae'r rheoliadau rhif 5 diwygiedig yn cadarnhau'r ymrwymiad hwnnw. Gan ein bod wedi gwneud cynnydd o ran lleihau nifer yr achosion o'r coronafeirws yn y gymuned, mae'r rheoliadau rhif 5 hynny yn caniatáu llawer mwy o ryddid i bobl yn eu hardal leol. Maen nhw hefyd yn hollbwysig yn caniatáu i bobl ymgynnull y tu allan gydag aelodau o un aelwyd arall, er bod cadw pellter cymdeithasol yn parhau wrth gwrs. Dyma lacio cyfyngiadau'r coronafeirws ac maen nhw'n bosib oherwydd y lleihad yng nghylchrediad y feirws yn y gymuned. Llywydd, drwy gydol y cyfyngiadau symud rydym ni wedi gweld cryn gydymffurfio â'n rheoliadau, ac mae angen diolch o galon i bobl ledled Cymru am hynny. Drwy lynu wrth y rheolau, rydym ni wedi helpu i reoli lledaeniad y feirws. Fodd bynnag, dengys tystiolaeth gan bedwar heddlu fod lleiafrif bach o bobl yn torri'r cyfyngiadau dro ar ôl tro, ac mae'r newidiadau a wnaed gan reoliadau rhif 4 sydd gerbron yr Aelodau y prynhawn yma wedi caniatáu i'n heddluoedd ymateb yn fwy llym i'r her honno. Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r ddwy gyfres o welliannau. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dim ond ychydig o sylwadau sydd gen i ar y rheoliadau. Mi hoffwn innau ddechrau trwy anfon fy nghydymdeimlad dwysaf i at deulu Mohammad Asghar yn eu colled nhw. Prin y bu'r newid i'r rheoliadau. O ran y rheoliad ynglŷn â dirwy, prin iawn ydy'r angen wedi bod am fygwth pobl efo dirwy ariannol drwy hyn, oherwydd mae'r rhan fwyaf o bobl wedi bod yn barod iawn i gadw at y rheolau, oherwydd mai dyna sy'n llesol i'w hiechyd eu hunain a'u cymunedau, wrth gwrs, ond mae eraill wedi penderfynu ymddwyn yn blatant yn groes, a dwi'n cefnogi cynyddu dirwy, yn teimlo, fel mae'r Prif Weinidog yn gwybod, y dylai'r ddirwy fod wedi cael ei chodi yn gynharach. Mi fyddwn ni yn cefnogi'r cynigion heddiw, beth bynnag. O ran y llacio rhywfaint ar y cyfyngiadau, mi ddywedaf i hyn fel apêl wrth i'r Llywodraeth ystyried y camau nesaf efo'i hadolygiad tair wythnosol yfory a'r cyhoeddiad i ddod dydd Gwener: profwch eich bod chi'n trio symud mor gyflym â phosib i newid y cyfyngiadau o fewn beth sy'n ddiogel. Nid gofyn am gyfaddawdu o gwbl ar diogelwch ydy hynny; iechyd sydd yn gyntaf ac mae'n rhaid dilyn y wyddoniaeth. Mae'n rhaid gwneud yn siŵr bod y prosesau profi ac olrhain yn rhai cadarn, ond profwch a heriwch eich tystiolaeth eich hunan mor gyhoeddus ag sy'n bosibl. Gwthiwch ffiniau beth sy'n bosibl ei wneud yn ddiogel o ran lles pobl, gallu pobl i fod efo anwyliaid, ac o ran yr angen i ailagor bwrlwm economaidd ac ati, a dangoswch lwybr clir ymlaen. Dangoswch fap cliriach fel bod unigolion, teuluoedd a busnesau yn gallu cynllunio yn well ar gyfer y cyfnod sydd i ddod. Nid oes gennyf fwy o siaradwyr. Prif Weinidog—os yw'n dymuno ymateb i'r cyfraniad. Mark Drakeford AC: Dim ond diolch i Rhun ap Iorwerth am arwydd o gefnogaeth Plaid Cymru i'r rheoliadau heddiw. Rwy'n gobeithio ac yn disgwyl y byddwn yn gallu cyhoeddi rhagor o lacio ar y cyfyngiadau yn dilyn yr arolwg pellach yr ydym yn ei gwblhau yfory, a byddwn, wrth gwrs, yn cyflwyno adroddiad ar ganlyniad yr adolygiad hwnnw i'r Senedd. Diolch, Prif Weinidog. Y cynnig yw cytuno ar Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2020. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Oes, rwy'n gweld gwrthwynebiad, a gohiriaf y bleidlais ar y rheoliadau hynny tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. Y cynnig sy'n dilyn yw cytuno ar Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2020. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Oes, rwy'n gweld gwrthwynebiad ac felly pleidleisir ar y rheoliadau hyn yn ystod y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. 9. Cyfnod Pleidleisio Daw hynny â ni at y cyfnod pleidleisio, ac, felly, galwaf am bleidlais. Galwaf am bleidlais ar Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2020, a bydd y bleidlais hon drwy'r gofrestr fesul grŵp gwleidyddol neu Aelod unigol. Felly, ar ran y grŵp Llafur a'r Llywodraeth, Mike Hedges, sut ydych chi'n bwrw eich 30 pleidlais? Mike Hedges AC: O blaid. Ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, sut ydych chi'n bwrw eich 10 pleidlais? Darren Millar AC: O blaid. Ar ran Plaid Cymru, Siân Gwenllian, sut ydych chi'n bwrw eich naw pleidlais? Siân Gwenllian AC: O blaid. Ar ran y grŵp Brexit, Mark Reckless, sut ydych chi'n bwrw eich pedair pleidlais? Mark Reckless AC: Yn erbyn. Gareth Bennett. Gareth Bennett AC: Yn erbyn. Neil Hamilton—nid yw'n bresennol. Neil McEvoy. Neil McEvoy AC: O blaid. Y canlyniad, felly, yw bod 50 o Aelodau o blaid y rheoliadau, ni ymataliodd neb, roedd pump yn erbyn. Felly, mae 55 o Aelodau wedi bwrw eu pleidlais ac felly caiff y rheoliadau eu pasio. Cynhaliwyd y bleidlais ar NDM7332 yn unol â Rheol Sefydlog 34.11. Mike Hedges ar ran Grŵp Llafur a’r Llywodraeth: O blaid (30) Darren Millar ar ran Grŵp y Ceidwadwyr: O blaid (10) Siân Gwenllian ar ran Grŵp Plaid Cymru: O blaid (9) Mark Reckless ar ran Grŵp Plaid Brexit: Yn erbyn (4) Gareth Bennett – Annibynnol: Yn erbyn Neil McEvoy – Annibynnol: O blaid Derbyniwyd y cynnig. Bydd yr ail bleidlais a'r un olaf ar y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2020, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. A gofynnaf, felly, ar ran y grŵp Llafur a'r Llywodraeth, Mike Hedges, sut ydych chi'n bwrw eich 30 pleidlais? Mike Hedges AC: O blaid. Ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, sut ydych chi'n bwrw eich 10 pleidlais? Darren Millar AC: Ymatal. Darren Millar, a gaf i fod yn glir mai ymatal oedd hynny? Darren Millar AC: Ymatal, ie. Ie, diolch—'ymatal' oedd hynny ar y 10 pleidlais. Ar ran Plaid Cymru, felly, Siân Gwenllian, sut ydych chi'n cyflwyno eich naw pleidlais? Siân Gwenllian AC: O blaid. Ar ran y grŵp Brexit, Mark Reckless, sut ydych chi'n bwrw eich pedair pleidlais? Mark Reckless AC: Yn erbyn. Gareth Bennett. Gareth Bennett AC: Yn erbyn. Neil McEvoy. Neil McEvoy AC: O blaid. Diolch. Y canlyniad yw bod 40 o Aelodau o blaid y cynnig, roedd 10 yn ymatal, roedd pump yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig. Cynhaliwyd y bleidlais ar NDM7333 yn unol â Rheol Sefydlog 34.11. Mike Hedges ar ran Grŵp Llafur a’r Llywodraeth: O blaid (30) Darren Millar ar ran Grŵp y Ceidwadwyr: Ymatal (10) Siân Gwenllian ar ran Grŵp Plaid Cymru: O blaid (9) Mark Reckless ar ran Grŵp Plaid Brexit: Yn erbyn (4) Gareth Bennett – Annibynnol: Yn erbyn Neil McEvoy – Annibynnol: O blaid Derbyniwyd y cynnig. Diolch i chi i gyd am eich cyfraniadau y prynhawn yma, a dymuniadau gorau i chi i gyd. Prynhawn da. Daeth y cyfarfod i ben am 13:55.
uk-hansard-senedd-cy
senedd2020-06-17
2024-06-01T00:00:00
{ "year": "2020", "language": "cy", "license": "Open Parliament Licence - https://www.parliament.uk/site-information/copyright-parliament/open-parliament-licence/" }
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. Galw'r Aelodau i drefn. Datganiad Personol Hoffwn groesawu Aelod newydd i'n plith y prynhawn yma, Delyth Jewell, sef yr Aelod newydd dros ranbarth de-ddwyrain. Rŷn ni'n edrych ymlaen yn fawr iawn i glywed dy gyfraniadau di yma yn y Senedd ar ran y bobl yn ne-ddwyrain Cymru, a Chymru i gyd. Dwi'n galw ar Delyth Jewell i wneud datganiad i ni. [Cymeradwyaeth.] Delyth Jewell AC: Diolch, Llywydd. Popeth sydd gen i, byddwn i wedi ei roi yn hapus i beidio â bod yn sefyll yma heddiw. Nid fy ngeiriau i, ond rhai'r Arlywydd Johnson i'r Gyngres ar ôl iddo gymryd drosodd oddi wrth y gwladweinydd arall hwnnw, Kennedy. Popeth sydd gen i—nid wyf i'n dyfynnu'r geiriau hyn o ganlyniad i ddiffyg diolchgarwch wrth ddod i'r sedd hon, nac yn wir o ddiffyg penderfyniad i wneud y gorau y gallaf, ond rwy'n eu dyfynnu yn hytrach gyda thristwch dwys o golli fy ffrind. Mae'r golled honno yn rhywbeth sy'n ein huno. Delyth Jewell AC: Mae Cymru'n galaru. Mae Gwent yn galaru am y gwrol un a gâr wlad, fel y soniodd Gerallt am y dyn arall hwnnw ar y gorwel—Saunders. Anodd rhoi mewn i eiriau maint y golled hon. Roedd Steffan mor falch ei fod yn dod o dde-ddwyrain Cymru, ardal Dic Penderyn, S.O. Davies, Phil Williams. Nawr, mae Steffan ymhlith y cewri hyn, ac rŷn ni yn cerdded ar eu holau nhw, yn ymbil arnynt i estyn llaw ac i'n rhoi ni i eistedd ar eu hysgwyddau. Pan oeddwn i'n meddwl am beth i'w ddweud yma heddiw, gwnes i feddwl am yr oriau dreuliais i gyda Steffan yn cerdded hyd a lled y de-ddwyrain yn 2016, ac am y daith gerdded ffantastig yna yr oedd ei chwaer, Nia, a Rhuanedd, wedi ei threfnu y llynedd. Dod â phobl ynghyd yr oedd Steffan yn ei wneud wastad. Nid dim ond cawr, ond cyfaill. Delyth Jewell AC: Rwyf i wedi siarad am gewri a chredaf fod hynny'n briodol gan fod y lle hwn wedi ymddangos fel lle hudolus i mi erioed. Mae pethau yn dod i fodolaeth yma nad oedden nhw'n bodoli cynt—ie, deddfau, ond hefyd syniadau, cynghreiriau. Mae wedi bod yn freuddwyd i mi fod yma ers amser maith, nid erioed o dan yr amgylchiadau hyn, ond yn freuddwyd serch hynny. Dysgodd Yeats i mi bod cyfrifoldebau yn dechrau mewn breuddwydion. Mae gen i gyfrifoldeb i bobl Dwyrain De Cymru i wneud y gorau y gallaf, i fy mhlaid ac i'm grŵp, ac mae gen i gyfrifoldeb i Steffan. Nid wyf i'n ei gymryd yn ysgafn. Gwn fod yn rhaid i mi roi'r cwbl sydd gennyf drosto ef. Gwn hynny, ni waeth ble yn y Siambr hon yr wyf i'n eistedd, bydd llawer ohonoch chi'n meddwl fy mod i yn lle Steffan, ac nid oes ots gen i am hynny. A dweud y gwir, byddaf yn ei ystyried yn anrhydedd. Oherwydd er mai fi yw aelod mwyaf newydd y Siambr, yn lle Steffan, rwyf i wedi cael y sedd orau yn y tŷ. Rwyf i yn lle Steffan, ond ni wnaf i byth ei ddisodli. Rwy'n gobeithio y gwnewch chi fodloni i mi ei rannu ag ef. Diolch. [Cymeradwyaeth.] 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog Cwestiynau nawr i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan David Melding. Cymorth Iechyd Meddwl David Melding AC: 1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu'r ddarpariaeth cymorth o ran iechyd meddwl i bobl ifanc? OAQ53395 Mark Drakeford AC: Diolch, Llywydd. Mae camau i ymateb i anghenion iechyd meddwl newidiol pobl ifanc yn cael eu cymryd ar draws Llywodraeth Cymru, mewn ysgolion a cholegau drwy'r gwasanaeth ieuenctid, yn y gweithle ac yn y GIG, a thrwy bartneriaethau â sefydliadau trydydd sector ac eraill. David Melding AC: Prif Weinidog, cyhoeddodd Llywodraeth y DU un o'r treialon iechyd meddwl mwyaf yn y byd yr wythnos diwethaf i ddarganfod yr hyn y gellir ei wneud yn wahanol i wella iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc. Bydd 370 o ysgolion Lloegr yn cymryd rhan yn y treialon hyn, gan brofi gwahanol ddulliau, a bydd naw o ardaloedd yn treialu ffyrdd newydd o sicrhau bod plant sy'n dechrau derbyn gofal yn cael y cymorth iechyd meddwl sydd ei angen arnynt ar yr adeg honno pan fyddant yn arbennig o agored i niwed. Bydd ysgolion yn Lloegr hefyd yn darparu addysg iechyd meddwl o 2020 ymlaen, rhywbeth y mae Samariaid Cymru wedi dweud y dylai Cymru ei wneud hefyd. Rwy'n sylweddoli eich bod chi'n datblygu arfer gorau ac yn gwella gwasanaethau, ac rwy'n croesawu hynny, ond a fyddwch chi hefyd yn edrych ar y mentrau hyn yn Lloegr, i weld ble bydd y dystiolaeth honno'n dod i'r amlwg a lle mae eu harferion gorau yn dod i'r amlwg hefyd, a hefyd rhannu'r hyn yr ydym ni'n ei ddatblygu yma yng Nghymru gyda'n cydweithwyr yn Lloegr? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, yn sicr byddwn yn awyddus i ddysgu unrhyw wersi a geir o fentrau newydd mewn mannau eraill. Mae'n rhan o bleser datganoli ein bod ni'n gallu rhoi cynnig ar bethau mewn ffordd wahanol mewn gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig ac yna rhannu'r dysgu rhyngom. Fel y dywed yr Aelod, mae gennym ni eisoes ddull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl yma yng Nghymru. Fe wnaeth 11,558 o blant elwa ar y gwasanaeth cwnsela ysgolion yn ystod y flwyddyn ddiwethaf y mae gennym ni ffigurau ar ei chyfer. Ac unrhyw beth y gallwn ni ei rannu gydag eraill, o'n profiad ni, rydym ni'n awyddus iawn i wneud hynny. Ond, yn yr un modd, mae wedi ymddangos i mi erioed mai'r dull synhwyrol o ddatganoli yw ei ystyried, fel yr ydym ni wedi ei ddweud lawer gwaith yn y fan yma, fel math o labordy byw lle mae arbrofion sy'n cael eu cynnal mewn mannau eraill ar gael i ni i gyd, i ddysgu oddi wrthynt. Helen Mary Jones AC: Prif Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi ei bod hi'n bwysig iawn, pan fyddwn ni'n cynllunio gwasanaethau i unrhyw un, ond yn enwedig i bobl ifanc, ein bod ni'n clywed eu lleisiau nhw yn y broses honno. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n ymwybodol bod ein Senedd Ieuenctid eisoes wedi nodi iechyd meddwl a gwasanaethau iechyd meddwl fel un o'u blaenoriaethau. A hoffwn eich gwahodd chi i ymrwymo heddiw fel Llywodraeth i weithio gyda'r Senedd Ieuenctid, gan roi ystyriaeth ddifrifol iawn i'r awgrymiadau a ddaw ganddyn nhw, a sicrhau, wrth i ni wella gwasanaethau ar gyfer iechyd meddwl ein pobl ifanc yng Nghymru, bod lleisiau'r bobl ifanc hynny yn gwbl ganolog. Fel y bydden nhw'n ei ddweud, 'Dim byd amdanom ni hebom ni'. Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, rwyf i wedi ymrwymo'n llwyr i ddatblygu ein gwasanaethau cyhoeddus gyda llais y defnyddiwr yn ganolog i'r ffordd yr ydym ni'n meddwl am y gwasanaethau hynny ac yn ceisio eu datblygu yn y dyfodol. Ceir rhai grwpiau yn y boblogaeth y mae'n rhaid i ni weithio'n galetach i wneud yn siŵr bod eu lleisiau yn cael eu clywed, ac mae lleisiau pobl ifanc sydd â chyflwr iechyd meddwl yn sicr yn y categori hwnnw. Cefais y cyfle i gyfarfod â grŵp o bobl ifanc sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl, y daeth Helen Mary Jones â nhw i'r Senedd, pan oeddwn i'n Weinidog iechyd, ac roeddwn i'n gwerthfawrogi'n fawr y cyfle hwnnw a'r wybodaeth yr oedd y bobl ifanc hynny yn gallu ei rhoi i ni. Ac ym maes iechyd meddwl, mae hynny'n arbennig o bwysig, Llywydd, gan ein bod ni'n gwybod o'r ffigurau diweddaraf yn Lloegr, er enghraifft, y bu cynnydd o chwe gwaith yn fwy yn nifer y plant a phobl ifanc sy'n dweud bod ganddyn nhw gyflwr iechyd meddwl dros y ddau ddegawd diwethaf. Ac eto, dim ond rhyw fymryn yn fwy y mae cyflyrau iechyd meddwl â diagnosis clinigol wedi cynyddu ymhlith y grŵp hwnnw o bobl. Felly, mae rhywbeth i'w ddysgu yma o'r neges y mae pobl ifanc yn ei gyfleu i ni pan fyddant yn dweud bod ganddyn nhw anhwylder iechyd meddwl. Ac mae cyfarfod y bobl ifanc hynny wyneb yn wyneb ymhlith y ffyrdd gorau i ni allu gwneud yn siŵr ein bod ni'n dysgu'r gwersi hynny. Huw Irranca-Davies AC: Rydym ni bob amser yn cael ein temtio i edrych ymhellach i ffwrdd am yr enghreifftiau gorau posibl o sut i wella ein gwasanaethau o ran iechyd meddwl plant a'r glasoed. Ond, wrth gwrs, yn ôl yn yr hydref, roedd yr Ysgrifennydd iechyd, Vaughan Gething, a minnau yn falch iawn o fod yn etholaeth Jayne Bryant, yn y lansiad o £13.4 miliwn o gyllid drwy'r gronfa weddnewid yng Nghanolfan Serennu, ar gyfer dull mwy cydgysylltiedig o ymdrin â gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed. Mae wedi ei seilio i raddau helaeth ar le, â phwyslais cymunedol, gan fanteisio ar holl adnoddau, holl alluoedd yr ardal honno, i gynorthwyo a meithrin ein pobl ifanc. Dyddiau cynnar yw hi eto, ond pe byddai hwnnw'n profi i fod yn llwyddiant—ac nid wyf i'n amau y bydd, yn rhannol oherwydd y gwaith a wnaed gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn gwthio'r agenda hon—os bydd yn profi ei fod yn gweithio, ai'r bwriad wedyn fydd cyflwyno hynny nid yn unig ar draws y rhanbarth hwnnw, nid yn unig ar draws y de-ddwyrain, ond i ddefnyddio hwnnw fel y model y byddwn ni'n ei gyflwyno ledled Cymru fel bod pob un o'n plant a'n pobl ifanc yn cael y cymorth iechyd meddwl gorau oll? Mark Drakeford AC: Wel, mae'r model, Llywydd, y mae Huw Irranca-Davies yn cyfeirio ato yn sicr yn un yr ydym ni eisiau ei ddatblygu ymhellach, gan ei fod yn darparu ar gyfer dull gwahaniaethol o ymdrin ag iechyd meddwl. Rydym ni wedi arfer yn llwyr â dulliau gwahaniaethol ym maes iechyd corfforol. Os oes gennych chi annwyd—fel sydd gen i—mae angen paracetamol arnoch chi; os oes gennych chi ffliw, mae angen gwahanol fath o ateb arnoch chi; ac os oes gennych chi niwmonia, yna gallech chi ganfod eich hun mewn uned gofal dwys. Rydym ni'n deall bod gwahanol lefelau o angen yn gofyn am wahanol fath o ymateb. Roedd yn sicr yn un o'r gwersi yn adroddiad 'Cadernid Meddwl' y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Mae cael gwasanaeth o'r math y mae Huw Irranca-Davies wedi ei ddisgrifio, pan fo sbectrwm o wahanol wasanaethau ar gael, sy'n gallu darparu'r cymorth wedi'i deilwra hwnnw a'r ymateb wedi'i deilwra i angen ein pobl ifanc yn y maes iechyd meddwl, yn fodel yr ydym ni'n awyddus iawn i'w weld yn cael ei ddefnyddio yn fwy cyffredinol yng Nghymru. Gadael yr UE heb Gytundeb Llyr Gruffydd AC: 2. Pa asesiad y mae’r Prif Weinidog wedi ei wneud o’r effaith y byddai gadael yr UE heb gytundeb yn ei chael ar raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru? OAQ53402 Mark Drakeford AC: Wel, diolch i Llyr Gruffydd am y cwestiwn. Dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddweud yn glir nad yw Brexit heb gytundeb yn opsiwn, a gofyn am estyniad i erthygl 50. Drwy wneud hynny, byddai modd lleddfu’r effaith ariannol a deddfwriaethol ar Gymru. Yn y cyfamser, rydyn ni’n symud ymlaen i gywiro diffygion mewn cyfraith sy’n deillio o’r Undeb Ewropeaidd. Llyr Gruffydd AC: Diolch i chi am eich ateb. Mae yna ganfyddiad, yn sicr, fod Llywodraeth Cymru wedi mynd nawr i ddibynnu'n ormodol ar ganiatáu i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddeddfu ar ein rhan ni. Felly, allwch chi gadarnhau mai polisi'r Llywodraeth yw mai fan hyn fydd yn deddfu ar ran Cymru, oni bai bod yna resymau penodol i beidio gwneud hynny, ac nid, fel mae rhai y awgrymu, fod yna orddibyniaeth nawr ar San Steffan i ddeddfu ar ein rhan ni, oherwydd mae hynny'n bwysig oherwydd mae'n torri mas rôl graffu bwysig sydd gennym ni fel Aelodau Cynulliad yng nghyd-destun y deddfau hynny? Ac o gofio bod y Dáil yn edrych ar eistedd chwe diwrnod yr wythnos i ddelio gyda'r sefyllfa allai godi, a bod San Steffan, wrth gwrs, yn sôn am eistedd yn ystod hanner tymor, ydych chi'n rhagweld y bydd angen i'r Senedd hon eistedd yn amlach hefyd er mwyn dygymod â'r rhaglen ddeddfwriaethol fydd ei hangen yn wyneb diffyg cytundeb? Mark Drakeford AC: Wel, diolch i Llyr Gruffydd am y cwestiwn arall yna. Jest i ddweud, ein polisi ni yw'r polisi mae e wedi ei roi mas y prynhawn yma—mae'r cyfrifoldebau i ddeddfu yn nwylo'r Cynulliad. Rŷn ni eisiau gweld y Cynulliad yn delio gyda'r cyfrifoldebau hynny oni bai bod rheswm penodol nad ydym yn gallu ei wneud e fel yna, ac, wrth gwrs, mae Brexit yn creu cyd-destun ble mae rheswm penodol yn codi. Beth rydym ni'n ei wneud yw yr un peth ag y maen nhw'n ei wneud yn yr Alban. Ble mae Tŷ'r Cyffredin yn gallu gwneud pethau sy'n hollol dechnegol sydd ddim yn newid ein polisi ni o gwbl, achos does dim digon o amser i ni ail-wneud pethau maen nhw'n ei wneud, rydym ni'n dweud ein bod ni'n fodlon iddyn nhw, gyda'r cytundeb sydd gyda ni, i ddeddfu ac yn y blaen. Os yw polisïau yn newid, rydym ni'n dod at lawr y Cynulliad, a dyna beth rydym ni wedi ei wneud, ac mae mwy o bethau i'w gwneud, mwy o offerynnau statudol o ran gadael yr Undeb Ewropeaidd i ddod at lawr y Cynulliad. So, pan fydd polisïau yn newid, rŷn ni'n dod yma ac yn rhoi cyfleon pwysig i'r Cynulliad graffu ar beth rydym ni'n ei awgrymu. Yng nghyd-destun gadael yr Undeb Ewropeaidd, ble mae cymaint o bethau i'w gwneud, pan fydd y newidiadau ddim ond yn bethau technegol, rydym ni'n rhoi cyfle i Dŷ'r Cyffredin wneud hynny ar ein rhan ni, fel maen nhw'n gwneud yn yr Alban. Jest i ddod at y cwestiwn olaf, dwi'n gallu gweld sefyllfa ble fydd rhaid i ni roi mwy o amser ar lawr y Cynulliad i ddelio gyda'r effaith os ydym ni yn mynd i ddod mas o'r Undeb Ewropeaidd. Andrew RT Davies AC: Prif Weinidog, rydym ni'n gwybod gan yr Ysgrifennydd materion gwledig y bydd yr oedi yn ymateb ei Llywodraeth i 'Brexit a'n tir' yn gwthio'r ymateb hwnnw i'r haf. Un peth y mae'r Gweinidog wedi ymrwymo iddo yn amlwg yw cyflwyno Bil amaethyddol ar gyfer Cymru. Mae gennym ni oddeutu dwy flynedd ar ôl o eistedd yn y sefydliad hwn. A allwch chi gadarnhau nad oes unrhyw oedi i fwriad y Llywodraeth i gyflwyno Bil amaethyddol Cymru o'r fath, er bod yr ymgynghoriad ar 'Brexit a'n tir' wedi cael ei wthio i'r haf erbyn hyn, oherwydd, i roi cyfle teg i'r Bil hwnnw ac iddo fod yn destun ymgynghoriad a chael ei weithredu, mae'n hanfodol bod yr amser yn cael ei neilltuo yn amser busnes y Llywodraeth er mwyn i ni ystyried rhinweddau neu beidio yr achos y bydd y Llywodraeth yn ei wneud yn y Bil hwnnw? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, rwy'n deall yn llwyr y pwyntiau y mae'r Aelod yn eu gwneud, a'u pwysigrwydd o ran sicrhau y gall Bil amaethyddiaeth ein hun i Gymru gael ei gyflwyno mewn ffordd sy'n cynnig yr amser y bydd angen arno i'r Cynulliad ystyried Bil mor bwysig. Bydd Andrew R.T. Davies yn hapus, rwy'n credu, i gydnabod y ffaith ein bod ni wedi gallu gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU o ran y Bil Amaethyddiaeth, sy'n mynd trwy Dŷ'r Cyffredin ar hyn o bryd, ein bod ni, o ganlyniad i'r cytundebau yr ydym ni wedi eu sicrhau gyda Llywodraeth y DU erbyn hyn, yn ffyddiog y bydd y Bil yn darparu'r holl arfau deddfwriaethol i Weinidogion Cymru sydd eu hangen arnom i ymdrin ag effeithiau uniongyrchol gadael yr Undeb Ewropeaidd ac na fydd unrhyw fwlch yn y llyfr statud i Gymru o ganlyniad i'r cytundebau hynny. Ond, fel y dywed, mae'r Gweinidog wedi ei gwneud yn eglur, drwy ymgynghoriad 'Brexit a'n tir' a'r deialog parhaus y mae'n ei gael gyda'r undebau amaethwyr ac eraill, mai ei bwriad yw cyflwyno Bil amaethyddiaeth i Gymru. Ac, o ystyried holl ansicrwydd y byd yr ydym ni'n byw ynddo, ein bwriad yw gwneud hynny yn ystod y tymor Cynulliad hwn. Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price. Adam Price AC: Diolch, Llywydd. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoli 80 y cant o goedwigoedd Cymru yn uniongyrchol ac yn rheoleiddio'r 20 y cant arall. Fel corff ei hun, mae'n cynhyrchu 800,000 o dunelli o bren bob blwyddyn. Ac eto, yn rhyfeddol, fel y clywsom ddoe gan brif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru, nid oes gan neb ar y bwrdd presennol wybodaeth am bren na choedwigaeth na phrofiad ohonynt. Yn eu hadroddiad ar y problemau yn is-adran coedwigaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, cyfeiriodd yr archwilwyr Grant Thornton at endid cyfunol heb unrhyw ddiwylliant sefydliadol a swyddogaeth goedwigaeth ar wahân wedi ei phlagio gan ddiffygion difrifol gan gynnwys llywodraethu gwael, rheolaeth wael o bobl, cyllidebu gwael a diwylliant archwilio nad oedd gymaint yn oediog ond nad oedd yn bodoli o gwbl. Mae'n rhaid i fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru dderbyn eu cyfran o'r cyfrifoldeb am y sefyllfa erchyll hon, ac yn wir fe ymddiswyddodd y cyn-gadeirydd. Ond, gan mai eich Llywodraeth chi wnaeth eu penodi, a ydych chi hefyd yn derbyn eich cyfran o'r bai am greu bwrdd yr oedd yn gwbl amlwg nad oedd yn gallu gwneud y gwaith? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod yr angen i fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru gael ei gryfhau. Dyna pam mae gennym ni gadeirydd dros dro newydd a nodedig ar y bwrdd. Dyna pam mae'r bwrdd wedi cael ei atgyfnerthu gan bum aelod newydd, rwy'n credu, a benodwyd gan y Gweinidog, gan gynnwys aelodau â phrofiad o reoli tir. I'r bwrdd hwnnw y mae'n rhaid i ni edrych nawr i gymryd y camau sy'n angenrheidiol i fynd i'r afael â'r canfyddiadau yn adroddiad Grant Thornton ac i weithio gyda'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ac eraill i wneud yn siŵr bod y diffygion a nodwyd yn cael eu hunioni, a bod y sefydliad pwysig iawn hwn sy'n gwneud gwaith angenrheidiol a phwysig ledled Cymru bob un dydd yn gallu bwrw ymlaen â'r dyletswyddau pwysig hynny, gyda ffydd yn y diwylliant sydd ganddo ac yn y strwythurau sydd yno i'w gefnogi. Adam Price AC: Mae'n codi'r cwestiwn pam mae wedi cymryd chwe blynedd a phedwar adroddiad ar wahân i'r methiannau dwys hyn gael eu datgelu yn y modd hwn. Nawr, yr ymateb safonol yr ydym ni wedi ei glywed gan y Llywodraeth mewn sefyllfaoedd fel hyn yw bod hwn yn gorff ymreolus nad oes gennych ond cyfrifoldeb hyd braich amdano, ond mae gennych chi gyfrifoldeb uniongyrchol dros strategaeth eich Llywodraeth eich hun ar gyfer coedwigaeth a choetiroedd. Bron i ddegawd yn ôl, mabwysiadwyd gennych y targed uchelgeisiol ac a ganmolwyd yn eang o blannu 5,000 hectar o goetir newydd bob blwyddyn hyd at 2030. Fe wnaethoch chi lwyddo i blannu cyfartaledd o ddim ond oddeutu 500 hectar y flwyddyn, felly gostyngwyd y targed gennych i 2,000 hectar. Erbyn hyn, rydych chi wedi codi'r targed yn ôl i fyny i 4,000 hectar. Ond a all y Prif Weinidog ddweud wrthym ni pa mor bell o gyrraedd y targed blaenorol ydych chi wedi disgyn yn ystod y pedair blynedd diwethaf? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, rwy'n ymwybodol nad ydym ni wedi cyrraedd y targedau a fwriedir gennym ar gyfer coetir a phlannu coed yma yng Nghymru, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf i'n bersonol yn ymroddedig iawn i fynd i'r afael ag ef. Yn yr ymgyrch a gynhaliwyd yn ystod yr hydref ar gyfer arweinyddiaeth fy mhlaid, cyflwynais gynnig ar gyfer coedwig genedlaethol newydd i Gymru. Mae hwnnw'n syniad yr wyf i'n ymrwymedig iawn iddo a gwneud yn siŵr ein bod ni'n bwrw ymlaen ag ef yn ystod gweddill tymor y Cynulliad hwn a thu hwnt er mwyn gallu gwneud yn siŵr bod coetir Cymru yn gallu gwneud ei gyfraniad i'r newid yn yr hinsawdd a datgarboneiddio ac at y pethau eraill y gall syniadau o'r math hynny ddod â nhw i'r rhannau hynny o Gymru y mae eu dyfodol yn fwyaf tebygolo gael eu heffeithio gan Brexit. Adam Price AC: Rwy'n credu bod y syniad o goedwig genedlaethol yn un da ac i'w groesawu, ond mae'n rhaid i chi ofyn i'r Prif Weinidog: rydych chi wedi bod yn bresenoldeb cyson yn y sefydliad hwn mewn gwahanol ffyrdd—a ble ydych chi wedi bod o ran y targedau hyn? Nid oeddech chi'n gallu ateb, ac mae rheswm da iawn, efallai, oherwydd roeddech chi'n arfer cyhoeddi adroddiad blynyddol ar ddangosyddion 'Coetiroedd i Gymru'; rhoesoch y gorau i wneud hynny, ac rwy'n credu fy mod i'n gwybod pam, oherwydd, yn y pedair blynedd diwethaf, rydym chi wedi sicrhau cyfartaledd o ddim ond 200 hectar y flwyddyn o blannu coetiroedd newydd—dim ond 10 y cant o'r targed. A allwch chi feddwl am faes polisi cyhoeddus arall, Prif Weinidog, lle'r ydych chi wedi tanberfformio mor wael â hyn? Dyma'r ffigur pedair blynedd gwaethaf ers dechrau cadw cofnodion modern ym 1971. Nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cynhyrchu unrhyw goetiroedd newydd o gwbl ers ei greu chwe blynedd yn ôl. Mae'r Alban wedi cynhyrchu 10 gwaith gymaint o goetir newydd yn y cyfnod hwnnw. Mae cyfraddau ailstocio yng Nghymru ar eu hisaf ers 1990. Nawr, gallai hon ymddangos i rai fel problem benodol mewn sector cymharol fach. Serch hynny, mae'n un pwysig i'r economi wledig, yn sylweddol ar y raddfa genedlaethol o ran ein strategaeth lleihau'r newid yn yr hinsawdd, ond, Prif Weinidog, onid yw'r methiant dwys hwn wrth wraidd corff cyhoeddus mwyaf Cymru yn adrodd gwirionedd mwy o lawer sy'n crynhoi 20 mlynedd o Lywodraeth Lafur—strategaethau sgleiniog, nodau uchelgeisiol, ond dim cyflawni a dim atebolrwydd? Mark Drakeford AC: Llywydd, symudodd yr aelod o bwynt penodol pwysig i bwynt cyffredinol na ellir—ni all lunio ei bwynt cyffredinol ar sail y manylion a nodwyd ganddo. O ran y manylion, rwy'n cytuno ag ef bod coetir yng Nghymru yn rhan wirioneddol bwysig o'r hyn yr ydym ni'n ei wneud, bod yn rhaid i ni wneud yn well yn hynny o beth, bod rhesymau da iawn pam mae'n arbennig o bwysig nawr i ganolbwyntio ar y rhan honno o'r hyn yr ydym ni'n ei wneud; rwyf i wedi ymrwymo'n bersonol i wneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud hynny. Mae'r pwyntiau cyffredinol y mae'n eu gwneud am Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael eu symud ymlaen drwy'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a byddan nhw'n cael eu codi mewn dadl yma yn y Cynulliad, a bydd datganiad gan y Gweinidog ar goedwigaeth ar 12 Mawrth, fel yr ydym ni'n ei gynllunio ar hyn o bryd. Mae honno'n enghraifft o Lywodraeth sy'n barod i fynd i'r afael â'r materion hyn i wneud y gwahaniaeth y mae angen ei wneud, a dyna hanes Llywodraeth Lafur yma yng Nghymru. Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies. Paul Davies AC: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno gyda Chymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau Cymru bod yr argyfwng ariannu difrifol yn ysgolion Cymru yn cael effaith niweidiol ar ein pobl ifanc? Mark Drakeford AC: Lle'r wyf i'n cytuno â nhw yw pan fyddan nhw'n cyfeirio at y ffaith bod y cyni cyllidol a orfodwyd ar Gymru gan ei Lywodraeth ef yn cael yr effaith y maen nhw'n ei resynu, ac rwyf innau'n gresynu'r ffaith, ac yn gresynu bob dydd, nad ydym ni'n gallu buddsoddi i'r graddau y byddem ni'n hoffi ei wneud yn ein hysgolion, yn ein hysbytai, mewn tai ac yn yr holl bethau eraill yr hoffem ni ei wneud yng Nghymru. Ond mae'r gymdeithas y mae'n cyfeirio ati—ac rwyf i wedi gweld eu llythyr—yn rhoi eu bys ar ble mae'r bai, ac mae'n gorwedd gydag ef a gyda ei Lywodraeth ef. Paul Davies AC: Prif Weinidog, mae angen i chi roi'r gorau i roi esgusodion a dechrau cymryd cyfrifoldeb. Chi sy'n gyfrifol am addysg yma yng Nghymru, a, Prif Weinidog, mae'r llythyr agored hwn at eich Gweinidog Addysg yn adlewyrchiad damniol o'r ffordd y mae eich Llywodraeth wedi rheoli addysg yma yng Nghymru. Er bod gennym ni £1.20 i'w wario ar addysg yma yng Nghymru am bob £1 yn Lloegr, rydym ni'n dal i weld diffyg sylweddol mewn cyllidebau ysgolion, sydd wir yn tanseilio gobeithion ar gyfer diwygiadau yn y dyfodol. Nawr, yn ôl Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau, rydym ni'n gwybod bod disgyblion yng Nghymru yn cael £645 yn llai y pen na disgyblion yn Lloegr, ac mae ysgolion yng Nghymru yn wynebu diffyg cyfunol o £291 miliwn yn eu cyllidebau, ac nid yw gwerth £450 miliwn o gyllid addysg byth yn cyrraedd yr ystafell ddosbarth. Felly, pam ydych chi wedi dewis darparu i ysgolion yr hyn a ddisgrifiwyd fel lefel hollol cwbl annigonol o gyllid, sydd wedi gwthio ysgolion i sefyllfa o argyfwng? Mark Drakeford AC: Llywydd, y tro diwethaf yr oedd plaid Paul Davies yn barod i ddweud wrth y cyhoedd yng Nghymru o ble y byddent yn cymryd arian er mwyn ariannu'r llawer o bethau y maen nhw'n dweud wrthym ni, wythnos ar ôl wythnos, sydd angen eu gwneud, y gyllideb addysg a ddewiswyd ganddyn nhw fel y prif aberth ar gyfer gweddill eu cynlluniau. Felly, nid wyf i'n credu y byddwn ni'n rhoi ystyriaeth rhy ddifrifol i ffug-ddagrau'r aelod ar y mater hwn y prynhawn yma. A dweud y gwir, mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllidol wedi ei gwneud yn eglur bod y bwlch rhwng cyllid yng Nghymru a Lloegr wedi cau i bwynt lle nad yw prin yn bodoli. Ac yma yng Nghymru, mae gennym ni— [Torri ar draws.] Yma yng Nghymru, mae gennym ni bolisi bwriadol o drosglwyddo ymlaen i addysg yng Nghymru yr holl arian a ddaeth i ni gan ei Lywodraeth ar gyfer cyflogau athrawon. Edrychwn ymlaen at wneud yn siŵr bod gennym ni arian gan ei Lywodraeth i dalu am y cynnydd i bensiynau athrawon a gyflwynwyd ganddynt, a byddwn yn parhau i wneud hynny, yn union fel y byddwn ni'n sicrhau bod yr arian sy'n mynd i awdurdodau lleol ac i gonsortia gwella yn cael ei drosglwyddo wedyn, yn ei dro, i ysgolion. Paul Davies AC: Prif Weinidog, mae'r ffeithiau yn gwbl eglur. Fel y gwyddoch, am bob £1 sy'n cael ei gwario yn Lloegr, gall eich Llywodraeth chi wario £1.20, ac ni allwch wadu'r ffeithiau hynny, o gofio mai chi—chi—wnaeth gytuno'r fframwaith cyllidol hwn gyda Llywodraeth y DU yn y lle cyntaf. Felly, a oes unrhyw ryfedd bod argyfwng yn ein hysgolion pan fyddant wedi dioddef toriadau cyson i'w cyllidebau gan eich Llywodraeth chi? Nawr, gadewch i ni edrych ar y ffigurau, ie, Prif Weinidog? Rydym ni'n gwybod bod gwariant gros a gyllidebwyd ar ysgolion wedi dioddef, rhwng 2010-11 a 2018-19, toriad mewn termau real o 7.9 y cant. Nawr, mae'r anallu hwn i gefnogi ein sector addysg wedi golygu bod nifer sylweddol o athrawon wedi gadael y proffesiwn. Ar ôl gweld gostyngiad o ddim ond 29 o ddisgyblion ers 2010, mae'r ffigurau gan Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau yn datgelu, unwaith eto, bod dros 1,400 yn llai o athrawon yn gweithio yng Nghymru yn ystod y cyfnod hwnnw. Beth wnaiff hi ei gymryd—[Torri ar draws.] Beth wnaiff hi ei gymryd, Gweinidog, i'ch Llywodraeth chi sylweddoli bod ein hysgolion yn wynebu argyfwng ac y bydd y methiant hwn i wneud addysg yn flaenoriaeth yn arwain at ganlyniadau difrifol i genedlaethau'r dyfodol? Ac a wnewch chi ddechrau gwrando nawr ar ein hathrawon a'n gweithwyr addysgol proffesiynol i ddechrau rhoi'r cymorth y maen nhw'n ei haeddu i'n hysgolion a'n plant? Mark Drakeford AC: Llywydd, mae'r Aelod yn gofyn am ffeithiau, a gadewch i mi roi 888 miliwn ohonynt iddo, oherwydd dyna nifer y punnoedd yn llai sydd gennym ni i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru heddiw o ganlyniad i'w Lywodraeth ef ers y flwyddyn 2010—£880 miliwn yn llai. Mae pob un o'r punnoedd hynny yn ffaith y gallem ni fod yn ei defnyddio i wario ar wasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru. Os yw e'n credu nad yw athrawon yng Nghymru yn deall bod y problemau y maen nhw'n eu hwynebu yn yr ystafell ddosbarth yn deillio o'r penderfyniadau y mae ei Lywodraeth ef wedi eu gwneud ac yr ydym ni'n gorfod ymdrin â nhw bob dydd, yna, mae gwir angen iddo fynd allan ychydig yn amlach a siarad â'r bobl sy'n deall hyn ar y rheng flaen. Arweinydd grŵp UKIP, Gareth Bennett. Gareth Bennett AC: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, bythefnos yn ôl, fe wnaethoch chi ailddatgan bwriad Llywodraeth Cymru i ddeddfu ar ddileu'r amddiffyniad o gosb resymol. Wnaf i ddim gofyn i chi a ydych chi'n dal i fwriadu cyflwyno gwaharddiad ar smacio plant, gan fod yr hyn a ddywedasoch y tro diwethaf yn gwbl eglur. Dywedasoch eich bod yn benderfynol y byddai'r gwaharddiad yn mynd drwy'r Cynulliad yn ystod y tymor Cynulliad hwn ac yn cael ei roi ar y llyfr statud. O gofio bod y ddeddfwriaeth hon yn debygol o fod yn amhoblogaidd iawn, pam ydych chi mor benderfynol o greu cyfraith newydd yn y maes hwn? Mark Drakeford AC: Wel, byddwn yn cyflwyno cyfraith newydd yn y maes hwn, Llywydd. Roedd yn rhan o faniffesto'r Blaid Lafur. Mae'n rhan o'r maniffesto yr etholwyd fy mhlaid ar ei sail. Rydym ni'n credu mewn cadw'r addewidion hynny i'r cyhoedd yng Nghymru a byddwn yn cyflwyno Bil, a bydd yno i'r Cynulliad graffu arno a'i drafod wedyn. Bydd fy mhlaid i yn ymrwymedig i weld y Bil hwnnw ar y llyfr statud, ac edrychwn ymlaen at weithio gydag eraill yn y Siambr hon sy'n rhannu'r uchelgais hwnnw. Gareth Bennett AC: Wel, diolch am eich eglurder ar y mater. Nawr, dangosodd canlyniadau'r ymgynghoriad swyddogol ar y gwaharddiad ar smacio plant bod y farn ar hyn yn weddol ranedig. Roedd hanner yr ymatebwyr yn teimlo y byddai ddeddfwriaeth yn diogelu hawliau plant, ond roedd hanner yn teimlo na fyddai. Mae'n ymddangos, ar y gorau, bod y gwaharddiad ar smacio plant yn gyfraith a fydd yn hollti etholwyr Cymru i lawr y canol. Nawr, ymgynghoriad y Cynulliad ei hun yw hwn. Mae'r holl bolau piniwn a gynhaliwyd cyn hyn wedi dangos barn gref yn erbyn y gwaharddiad ar smacio plant. Tybed a yw eich Llywodraeth Lafur Cymru wedi meddwl digon am sut y mae'r gwaharddiad ar smacio plant yn mynd i gael ei blismona. Sut y bydd yn cael ei orfodi? A fydd gennym ni blant yn hysbysu yn erbyn eu rhieni eu hunain? Ac, os bydd, pwy fydd yn gallu gwirio a yw'r honiadau yn wir ai peidio? Gallem ni fod ar ei ffordd i ryw fath o efelychiad o Rwsia Stalin yn y 1930au, pan oedd rhieni a oedd yn parchu'r gyfraith yn llwyr yn cael eu hanfon i wersylloedd carchar gan fod eu plant yn cael eu hannog i sibrwd honiadau yn eu herbyn i'w hathrawon. Ai dyma'r math o sefyllfa yr ydych chi eisiau ei gweld yma yng Nghymru? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, nid wyf i'n adnabod unrhyw beth yn yr hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud am y cynnig y byddwn yn ei gyflwyno. Byddwn yn cyflwyno cynnig i gael gwared ar yr amddiffyniad o gosb resymol. Ni ellir taro unrhyw oedolyn yn y wlad hon, a chyflwyno amddiffyniad o'r fath; pam y dylid caniatáu i blentyn gael ei daro ac yna cyflwyno'r amddiffyniad hwnnw? Dyma'r sefyllfa sy'n bodoli eisoes mewn gwledydd di-rif ledled y byd, gwledydd lle nad yw'r un o'r posibiliadau codi bwganod y mae'r Aelod yn eu nodi wedi digwydd, ac nid ydym yn disgwyl i'r un ohonynt ddigwydd yma yng Nghymru. Gareth Bennett AC: Wel, rwy'n siŵr, Prif Weinidog, eich bod chi'n gwerthfawrogi ein bod ni'n byw mewn oes pan ydym wedi cael cyfres o honiadau o gam-drin rhywiol hanesyddol yn cael eu gwneud yn erbyn pobl, rhai ohonyn nhw yn bobl gwbl ddieuog. Canfuwyd bod llawer o'r honiadau rhyw hanesyddol hyn yn rhithdybiau llwyr, ond rwy'n siŵr bod digonedd o bobl ddieuog wedi cael eu dal ynddynt. Os yw'r wladwriaeth yn annog plant i ddechrau gwneud honiadau, yna gallem ni gael cyfres newydd o erlyniadau anghyfiawn. A ydych chi'n wirioneddol siŵr bod eich deddfwriaeth yn mynd i fod yn ddigon cadarn i atal y posibilrwydd hwn? Mark Drakeford AC: Llywydd, lle mae cam-drin yn digwydd, rydym ni eisiau i bobl ddweud am hynny. Os bydd yn digwydd yn y cartref a bod gan blant stori i'w hadrodd, yna rydym ni eisiau annog sefyllfa lle maen nhw'n teimlo'n hyderus i ddod ymlaen a gwneud eu straeon yn hysbys, yn union fel yr ydym ni'n ei wneud mewn sefyllfaoedd lle mae pobl sydd wedi dioddef yn y gorffennol ac yn dawel yn teimlo bellach y gallan nhw ddod ymlaen ac adrodd eu hanesion. Ar yr ochr hon i'r Siambr, ac mewn sawl rhan o'r Siambr hon rwy'n credu, ystyrir hynny fel arwydd o gynnydd, ac arwydd bod pethau yn well heddiw nag yr oedden nhw yn y gorffennol pan oedd pobl yn ofnus, ac yn teimlo yn analluog i gael rhywun i wrando ar eu straeon. Mae'n ddrwg gen i nad yw'r safbwynt hwnnw'n cael ei rannu ym mhob rhan o'r Siambr hon. Datrys Anghydfodau rhwng Llywodraethau'r DU Carwyn Jones AC: 3. Pa gynnydd a wnaed o ran sefydlu dull priodol ar gyfer datrys anghydfodau rhwng llywodraethau'r DU? OAQ53385 Mark Drakeford AC: A gaf i ddiolch i'r Aelod am y cwestiwn, a dweud cymaint yr wyf i'n edrych ymlaen at ateb yr hyn sy'n gorfod bod ei gwestiwn cyntaf i Brif Weinidog, ers blwyddyn gyntaf un datganoli? A'r ateb i'w gwestiwn yw yr adroddwyd ychydig o gynnydd, ar y gorau, o ran y mater hwn yng nghyfarfod llawn diwethaf Cyd-bwyllgor y Gweinidogion ym mis Rhagfyr. Nid yw'r adolygiad cysylltiadau rhynglywodraethol a gomisiynwyd ym mis Mawrth 2018, pryd y cynrychiolwyd Cymru gan yr Aelod yng Nghyd-bwyllgor y Gweinidogion, wedi cyflwyno adroddiad hyd yn hyn. Carwyn Jones AC: Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb. A yw'r Prif Weinidog yn rhannu fy mhryder i bod y trefniadau presennol ar gyfer datrys anghydfod yn annigonol, gan ein bod ni'n gwybod mai Llywodraeth y DU yw'r canolwr mewn anghydfodau, er gwaethaf y ffaith ei bod yn aml yn rhan o'r achosion hynny o anghydfod? Ac os yw e'n cytuno â mi ynghylch hynny, pa fath o system yr hoffai ef ei gweld yn hytrach? Mark Drakeford AC: Diolch, Llywydd. Rwy'n cytuno'n llwyr â Carwyn Jones bod y trefniadau presennol ar gyfer datrys anghydfod yn annigonol, fel llawer o'r prosesau rhynglywodraethol yn y Deyrnas Unedig. Bydd yn dod o dan fwy o bwysau yn y dyfodol o ganlyniad i Brexit, ac fel y mae adroddiad ar ôl adroddiad pwyllgorau dethol Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi a phwyllgorau yn y fan yma wedi ei adrodd, ni all y prosesau presennol ddal pwysau'r problemau y mae Brexit yn eu hachosi i'r Deyrnas Unedig. Yr hyn sydd ei angen arnom, felly, yw cyfres o drefniadau sy'n seiliedig ar egwyddorion, cydraddoldeb o ran parch, cydraddoldeb o ran cyfranogiad, yr egwyddor ei bod bob amser yn well osgoi anghydfod pan fo'n bosibl gwneud hynny. Dylai'r egwyddorion hynny arwain at gyfres o reolau, a dylai'r rheolau hynny gynnwys elfen o arbenigedd a chymrodeddu annibynnol. Llywydd, credaf y bydd yr Aelodau yn falch o wybod bod Cymru, yn y gwaith sy'n cael ei wneud o dan gyfarfod llawn Cyd-bwyllgor y Gweinidogion, y gwnaeth y cyn-Brif Weinidog helpu i'w gychwyn, yn arwain y gwaith o lunio'r egwyddorion ar gyfer cysylltiadau rhynglywodraethol yn y dyfodol. Ac fel y gwelsom yn y cytundeb rhynglywodraethol, os byddwch chi'n cael yr egwyddorion hynny'n iawn, yna mae ymarferoldeb system datrys anghydfod bob amser yn debygol o gael ei sefydlu yn fwy cadarn. Mark Reckless AC: Mae anghydfodau, yn gyffredinol, wedi eu canolbwyntio ar arian a grym. Prif Weinidog, ystyrir yn gyffredinol eich bod chi wedi cael hanes cymharol lwyddiannus o ran cytuno ar y fframwaith cyllidol gyda Llywodraeth y DU i ddatrys y cyllid sy'n dod i Gymru. Fe wnaeth eich rhagflaenydd, yn fy marn i, waith da wrth negodi â Llywodraeth y DU ynglŷn â phwerau'r Cynulliad hwn a'r setliad datganoli yng nghyd-destun Brexit. Onid yw hynny'n dangos mai negodi fydd y dull hanfodol ar gyfer datrys anghydfod yn gyffredinol? Mark Drakeford AC: Wel, diolchaf i'r Aelod am yr hyn a ddywedodd ac nid wyf i'n anghytuno ag ef mai negodi fydd y brif ffordd o ddatrys anghydfodau bob amser. Yr hyn yr ydym ni'n sôn amdano yn y cwestiwn hwn, yn y ffordd y'i cyflwynwyd gan y cyn-Brif Weinidog, yw'r hyn sy'n digwydd pan fydd dim mwy o le i drafod. Ac mae'n rhaid i chi gael cyfres o drefniadau ar waith er mwyn ymdrin â'r adeg pan na fydd ymdrechion i ddatrys anghydfod—drwy ei osgoi, drwy ei ddatrys, drwy ei negodi—yn mynd â chi i'r diweddglo. Ac fel y dywedodd Carwyn Jones, ni allwn ni gael system lle mae'r corff sy'n gyfrifol am ddatrys yr anghydfod yn rhan o'r anghydfod hwnnw. Dyna'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd. Nid yw'n dderbyniol nawr, yn sicr nid yw'n dderbyniol yn y tymor hir. Pan ddaw trafodaethau i ben, yna mae'n rhaid i chi gael dull sy'n wirioneddol annibynnol ac y mae gan bawb sy'n rhan ohono ffydd ynddo. Dai Lloyd AC: Yn eich tyb chi, Prif Weinidog, ydy pwysau amser a phwysau gwaith delio efo'r ddeddfwriaeth ychwanegol sy'n deillio o Brexit—ydy hynna i gyd yn esgus digonol i ddwyn pwerau oddi wrth ein Senedd yma yng Nghymru ac yn ôl i San Steffan? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, jest i ddweud unwaith eto: fel dwi wedi dweud sawl gwaith o'r blaen, does dim un pŵer wedi mynd o'r Cynulliad hwn i San Steffan. Mae popeth sy'n dod i Gymru ar ôl Brexit yn mynd i ddod yma, a dim ond gyda chytundeb yma bydd pwerau yn gallu symud i unrhyw le arall. Dŷn ni ddim wedi cytuno i ddim byd i symud, a does dim byd wedi symud. Mark Drakeford AC: Ac yn yr adroddiad a gyhoeddwyd dim ond yr wythnos diwethaf, Llywydd, ar y mater a oedd yn destun dadl ar lawr y Cynulliad hwn, cadarnhaodd Llywodraeth y DU, yn ei ail adroddiad tri misol, yr hyn yr wyf i newydd ei ddweud, nad oes yr un grym wedi gadael y Cynulliad hwn. Ni wnaed unrhyw ddefnydd o'r dull sydd yn Neddf Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 i ymdrin â phwerau yn dychwelyd ac nid oes unrhyw fwriad ar ran Llywodraeth y DU i ddefnyddio'r dull hwnnw, gan ein bod ni'n gallu—rydym ni wedi dangos gallu i ddatrys problemau sy'n gorwedd rhwng y gwahanol gydrannau o'r Deyrnas Unedig ar sail cytundeb, fel y dywedodd Llywodraeth Cymru y byddem ni'n gallu ei wneud o'r cychwyn cyntaf. Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy Mohammad Asghar (Oscar) AC: 4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynllun grantiau trydydd sector Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy ? OAQ53387 Mark Drakeford AC: Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn, Llywydd. Mae cynllun grant trydydd sector gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy Llywodraeth Cymru yn darparu £7 miliwn bob blwyddyn i sefydliadau trydydd sector, gan ddarparu 32 o brosiectau sy'n cynorthwyo plant, oedolion a phobl hŷn agored i niwed yng Nghymru. Mae'r grant hwn ar waith o fis Ebrill 2016 tan fis Mawrth 2020. Mohammad Asghar (Oscar) AC: Diolch yn fawr iawn am yr ateb, Gweinidog. Mae Cronfa'r Teulu yn elusen sy'n rhoi grantiau i deuluoedd sydd ar incwm isel ac sy'n magu plant anabl neu ddifrifol wael yng Nghymru. Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddodd Cronfa'r Teulu nad oedd ganddyn nhw ddigon o arian i helpu teuluoedd ac nad oedden nhw erbyn hyn yn gallu derbyn ceisiadau tan fis Ebrill 2019. Un rheswm am y cyfyng-gyngor yw bod eu cyllid oddi wrth cynllun grantiau trydydd sector gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy Llywodraeth Cymru wedi ei dorri yn 2016 o £2.5 miliwn y flwyddyn i lai na £2 filiwn dros y tair blynedd nesaf. A yw'r Prif Weinidog yn derbyn bod y toriad ariannol hwn yn cael effaith niweidiol ar brosiectau a mentrau sy'n cefnogi strategaeth y Llywodraeth ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, yn enwedig ar gyfer plant anabl a difrifol wael? Mark Drakeford AC: Llywydd, hoffwn gydnabod y gwaith pwysig y mae Cronfa'r Teulu yn ei wneud yng Nghymru ac y bydd yn parhau i'w wneud yng Nghymru o ganlyniad i'r £0.5 miliwn bob blwyddyn y mae'n ei dderbyn drwy'r grant gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy. Bydd rhai Aelodau yn y fan yma yn cofio ein bod ni wedi datblygu cyfres o reolau yn ôl yn 2016 a oedd yn dweud na allai un sefydliad gael mwy na 10 y cant o'r cyfanswm sydd ar gael yn y grant hwnnw, a dyna'n union y mae Cronfa'r Teulu yn ei gael. Mae'n cael yr uchafswm posibl sydd ar gael o dan reolau'r cynllun grant gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy ac, yn wir, ym mlwyddyn gyntaf y cynllun, darparwyd £400,000 yn ychwanegol gennym i'r gronfayn y flwyddyn honno i hwyluso'r cyfnod pontio o'r swm o arian yr oedd yn ei gael o'r blaen i'r swm yr ydym ni'n gallu ei ddarparu o dan y trefniadau grant newydd. A rhan o'r rheswm pam y gwnaethom ni benderfynu na allai unrhyw un sefydliad gael mwy na 10 y cant o'r cyfanswm sydd ar gael oedd oherwydd ein bod ni eisiau caniatáu i sefydliadau eraill â phrosiectau sydd yr un mor bwysig gael eu hariannu hefyd. Felly, ymhlith y 31 o sefydliadau y mae'r grant gwasanaethau cymdeithasol yn eu hariannu erbyn hyn y mae Anabledd Dysgu Cymru, Gofalwyr Cymru, Fforwm Cymru Gyfan i Rieni a Gofalwyr Pobl ag Anableddau Dysgu, a'r rhaglen Family Action, sy'n darparu cymorth ymarferol, emosiynol ac ariannol i deuluoedd. Felly, mae'r gwaith y mae Cronfa'r Teulu yn ei wneud yn bwysig iawn, ond rydym ni'n gallu ategu hynny erbyn hyn gydag amrywiaeth eang o wasanaethau eraill sy'n gweithio yn y maes y mae Cronfa'r Teulu hefyd yn gweithredu ynddo. Cydgynhyrchu Gwasanaethau Mark Isherwood AC: 5. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cydgynhyrchu gwasanaethau gyda'r trydydd sector a chymunedau? OAQ53383 Mark Drakeford AC: Diolchaf i Mark Isherwood am hynna. Llywydd, hoffwn i egwyddorion cyd-gynhyrchu sbarduno dull Llywodraeth Cymru yn ei gwaith gyda'r trydydd sector ac eraill. Er mwyn cyflawni hynny, rydym ni'n gweithio'n agos gyda Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru, Academi Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru, sy'n annog cydgynhyrchu drwy hyfforddiant, digwyddiadau ac adnoddau ar-lein. Mark Isherwood AC: Diolch. Rwyf innau hefyd wedi gweithio ers blynyddoedd lawer gyda Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru. A dweud y gwir, fi oedd yr unig wleidydd, rwy'n credu, a wahoddwyd i'w lansiad swyddogol—[Aelodau'r Cynulliad: 'Clywch, clywch.']—a oedd yn sicr yn deilwng o gefnogaeth. Ddydd Gwener diwethaf, ymwelais unwaith eto ag elusen fach, elusen awtistiaeth sy'n cynorthwyo teuluoedd â phlant ar y sbectrwm, sy'n gorfod neilltuo llawer iawn o amser gwirfoddoli i wneud ceisiadau am grantiau bach, heb lwyddiant yn aml. Rwy'n ymweld ag elusennau bach cyfatebol fel mater o drefn, sy'n gwneud gwaith gwych, gan gydgynhyrchu atebion gyda theuluoedd ac aelodau'r gymuned sy'n gweithio, ac eto mae miliynau yn mynd at ddarpariaeth statudol Llywodraeth Cymru neu'r gwasanaeth awtistiaeth integredig a rhaglenni eraill o'r brig i lawr nad ydyn nhw'n cyrraedd y sefydliadau llawr gwlad sy'n gwneud y gwahaniaeth gwirioneddol hwnnw. O gofio bod y gwerthusiad dros dro o'r IAS fis Mawrth diwethaf wedi nodi methiant cydgynhyrchu oherwydd bod dull o'r brig i lawr yn broblem sylweddol, sut gallwch chi, ac y gwnewch chi, ymyrryd yn bersonol i ysgogi eich dealltwriaeth o gydgynhyrchu, y gwn sy'n drylwyr ac yn ystyrlon, fel y gallwn ni ddechrau gwneud hyn yn iawn a sicrhau bod y cyllid sydd ar gael—ac mae llawer ar gael—yn mynd i'r lle y gall wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn hytrach nag i neuaddau sir lle nad yw bob amser yn cyrraedd y lleoedd a allai wneud y gwahaniaeth hwnnw, sydd ei angen mor daer? Mark Drakeford AC: Llywydd, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i sicrhau ein bod ni'n gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau trydydd sector, gan gydnabod y cyfraniad pwysig iawn y maen nhw'n ei wneud i wasanaethau cyhoeddus a'r gallu sydd ganddyn nhw i ffurfio rhyngwyneb gyda'r dinesydd sy'n ystyried defnyddwyr ein gwasanaethau fel asedau a phobl sydd â chryfderau y gallan nhw eu defnyddio i ddylanwadu ar y gwasanaethau a ddarperir. Roeddwn i eisiau diolch i'r Aelod am nodi yr wythnos diwethaf yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog adroddiad y cyfeiriodd ato, y cefais gyfle i edrych arno dros y penwythnos, ac sy'n cynnig rhai syniadau ymarferol yn y maes contractio o ran sut y gall sefydliadau bach gael gwell cyfle o ddadlau'r achos am gyllid gan gyrff cyhoeddus. Yr hyn yr wyf i'n anghytuno â Mark Isherwood yn ei gylch, o ran cydgynhyrchu, yw fy mod i'n credu weithiau ei fod yn ei ddisgrifio fel ffordd o ddisodli'r wladwriaeth fel pe byddai'n dull ar gyfer symud pethau oddi wrth y gwasanaethau cyhoeddus a'u disodli gyda gwaith pobl eraill. Nid wyf i erioed wedi ei weld yn y modd hwnnw fy hun; rwy'n ei weld fel ffordd o atodi, ategu, dylanwadu, rhoi siâp ac ychwanegu at waith pobl eraill, ond nid ei ddisodli. Cymorth i Deuluoedd Plant Byddar Nick Ramsay AC: 6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth i deuluoedd plant byddar? OAQ53397 Mark Drakeford AC: Diolch i Nick Ramsay am hynna. Lansiwyd fframwaith gweithredu cenedlaethol yn 2017 i hybu gofal a chymorth i bobl sy'n fyddar neu'n byw gyda diffyg clyw. Mae'n ymrwymo Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd ac awdurdodau lleol i weithio gyda'i gilydd i wella gwasanaethau, gan gynnwys cymorth i deuluoedd plant byddar. Nick Ramsay AC: Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n siŵr eich bod chi'n ymwybodol o'r stori newyddion ddiweddar bod Ros a Josh Hannam o sir Fynwy yn gorfod talu £6,000 am ddosbarthiadau iaith arwyddion i'w helpu i gyfathrebu gyda'u merch fyddar, Lola. Mae'r pâr wedi cael cyllid trwy wasanaeth synhwyrau a chyfathrebu'r awdurdod lleol, ond yn gorfod codi arian i dalu'r diffyg eu hunain—amser gwerthfawr a fyddai fel arall yn cael ei dreulio gyda'u merch. Mae Debbie Thomas o'r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar yn dweud bod rhieni plant byddar yn wynebu loteri cod post ar hyn o bryd pan ddaw i gyllid ar gyfer y dosbarthiadau iaith arwyddion hyn sydd mor hanfodol i helpu eu datblygiad cymdeithasol ac addysgol. A gaf i ofyn bod adolygiad Llywodraeth Cymru—oherwydd gwn eich bod chi wedi ymrwymo i un—o gyllid Iaith Arwyddion Prydain yn cael ei gynnal cyn gynted â phosib fel bod pob plentyn byddar, ni waeth ble mae'n byw, yn cael y cychwyn gorau posibl mewn bywyd? Mark Drakeford AC: Rwy'n hapus iawn i gadarnhau'r amserlen ar gyfer yr adolygiad hwnnw i'r Aelod. Rydym ni'n disgwyl i dendrau ar gyfer y gwaith ddod i law erbyn 25 Chwefror, y bydd y contract yn cael ei ddyfarnu ddechrau mis Mawrth, y bydd y gwaith maes yn cael ei wneud rhwng mis Mawrth a mis Mai ac y bydd cyngor i Weinidogion yn cael ei dderbyn erbyn diwedd mis Mehefin eleni. Felly, rwy'n credu bod hynny'n weddol gyflym ar gyfer darn o waith pwysig iawn. I gytuno, Llywydd, gyda'r hyn a ddywedodd Ramsay, mae hwn yn ddarn o—awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am y gwasanaethau hyn. Rwyf i wedi gweld ffigurau sy'n dangos amrywiaeth eang iawn o ffioedd a orfodir gan wahanol awdurdodau lleol yng Nghymru, a diben yr adolygiad yw ceisio gwneud yn siŵr bod gennym ni wasanaeth sy'n deg, yn gyfartal ac yn gydgysylltiedig, a lle nad yw pobl yn teimlo eu bod nhw ar drugaredd y ddaearyddiaeth o ba le bynnag y maen nhw'n digwydd byw ynddo. Mike Hedges AC: A gaf i ymuno â Nick Ramsay i sôn am bwysigrwydd iaith arwyddion, nid yn unig i rieni ond hefyd i frodyr a chwiorydd—cyfle i allu siarad ag aelodau eraill y teulu? Dywedais yr wythnos diwethaf, mai dyma iaith gyntaf llawer o bobl fyddar. Yn dilyn yr hyn a ddywedodd Nick Ramsay, nid yw'n ymwneud â chost yn unig, mae'n ymwneud â'r hyn sydd ar gael, a cheir problem ddifrifol o gael pobl sy'n gallu addysgu iaith arwyddion. Pe byddem ni'n ei wneud yn rhad ac am ddim i bawb a oedd ei eisiau, mewn llawer o achosion, ni fyddai'n gwneud gwahaniaeth enfawr oherwydd nad oes digon o bobl i'w haddysgu. Felly, beth ellir ei wneud i gynyddu nifer y bobl sy'n gallu addysgu iaith arwyddion fel y gall mwy o bobl ddysgu sut i siarad â'u brodyr a'u chwiorydd, fel y gall rhieni siarad â'u plant, fel bod gennym ni sefyllfa lle mae cydraddoldeb yn bodoli? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, a gaf i ddiolch i Mike Hedges am y cwestiwn dilynol pwysig iawn yna? Cydnabuwyd Iaith Arwyddion Prydain yn ffurfiol gan y Cynulliad Cenedlaethol hwn fel iaith yn ei rhinwedd ei hun mor bell yn ôl â 2004. Ac mae'n iawn ei bod hi gymaint o iaith ag unrhyw iaith arall i lawer o'r teuluoedd sy'n ei defnyddio, a cheir prinder cyfieithwyr ar y pryd a thiwtoriaid yma yng Nghymru. Bydd yr adolygiad yn ystyried y mater hwnnw hefyd. Bydd yn ystyried y ddarpariaeth bresennol, bydd yn ystyried costau a mynediad, ond bydd hefyd yn ystyried ffyrdd y gallwn ni wella'r llif o bobl sydd â'r paratoad priodol ac sy'n gallu darparu'r mathau o gyrsiau y cyfeiriodd Nick Ramsay atyn nhw ac y mae ei etholwyr yn gobeithio gallu eu defnyddio. Cymorth i Ysgolion Cynradd Bethan Sayed AC: 7. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i ysgolion cynradd? OAQ53414 Mark Drakeford AC: Mae Llywodraeth Cymru yn nodi ac yn darparu cymorth i ysgolion drwy bartneriaeth o awdurdodau lleol a’r pedwar consortiwm rhanbarthol. Yn dilyn y canlyniadau categoreiddio diweddar, mae’n galonogol i weld cynnydd yn nifer yr ysgolion cynradd sydd angen llai o ddyddiau o gymorth yn ystod y flwyddyn nesaf. Bethan Sayed AC: Diolch am yr ymateb hynny. Cwpwl o wythnosau nôl, gwnes i gwrdd â nifer o brifathrawon yn ardal Abertawe, ac yn eu geiriau nhw, roedden nhw'n dweud bod y sefyllfa'n wynebu creisis o ran yr hyn sydd yn digwydd mewn ysgolion cynradd yn yr ardal benodol hynny. Mae morâl yn isel iawn—nid fy ngeiriau i yw hynny, ond eu geiriau nhw ataf i. Beth ydych chi'n ei wneud i weithio gydag ysgolion, yng nghyd-destun y sefyllfa gyllidebol anodd iawn, i sicrhau eu bod nhw'n gallu gweithredu mewn modd effeithlon? Maen nhw wedi dweud wrthyf i fod y system grantiau'n rhy gymhleth, fod y fformiwla'n rhywbeth sydd yn anodd iddyn nhw ei ddeall, ac maen nhw'n poeni nad ydyn nhw'n gallu edrych ar ôl y disgyblion mwyaf bregus yn sgil y problemau ariannol hynny. Beth ydych chi'n gallu dweud wrthyf i heddiw i gymryd neges bositif yn ôl i'r prifathrawon hynny? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, dwi'n meddwl bod neges bositif i fwydo nôl i'r athrawon a phrifathrawon yn Abertawe. Mark Drakeford AC: Yn yr adroddiad a gyhoeddwyd ryw wythnos neu ddwy yn ôl, a oedd yn dangos sut yr oedd ysgolion yn ymdopio ran y cymorth ychwanegol sydd ei angen arnyn nhw, yn ardal Abertawe, rhan o gonsortiwm ERW, symudodd llawer mwy o ysgolion cynradd tuag at sefyllfa pryd yr oedd angen llai yn hytrach na mwy o oriau o gymorth. Symudodd naw ar hugain o ysgolion yn yr ardal honno mewn cyfeiriad cadarnhaol, a dim ond pedair ysgol gafodd eu nodi'n rhai a oedd angen mwy o gefnogaeth—cymhareb o fwy na 7:1 o ysgolion yn symud i'r cyfeiriad cywir. Mae hynny'n deyrnged aruthrol, onid yw, i'r bobl hynny sy'n arwain addysg yn y rhan honno o Gymru a'r gwaith y mae'r athrawon mewn ysgolion yn ei wneud? Felly, er fy mod yn cydnabod, allan yn y rheng flaen, mae pwysau o naw mlynedd o gyni yn hollol real ac yn cael ei deimlo gan bobl wrth eu gwaith bob dydd, y neges gadarnhaol yr hoffwn ei rhoi i'r penaethiaid hynny yw eu bod nhw, gyda'i gilydd, drwy'r camau y maen nhw'n eu cymryd, yn llwyddo i ddarparu addysg well i'r plant sydd yn eu hysgolion heddiw. Gobeithio y byddant hefyd yn magu hyder yn sgil eu llwyddiant eu hunain ac y bydd hynny'n rhoi'r cryfder a'r cydnerthedd sydd eu hangen arnyn nhw i ymdrin â'r anawsterau diamheuol y mae'r holl wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn eu hwynebu. Yn olaf, cwestiwn 8—Lynne Neagle. Rhoi Terfyn ar y Rhyddid i Symud Lynne Neagle AC: 8. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r gost i economi Cymru o roi terfyn ar ryddid i symud? OAQ53422 Mark Drakeford AC: Diolch i Lynne Neagle am hynny. Daeth dadansoddiad economaidd Llywodraeth y DU, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd, i'r casgliad y byddai gostwng ymfudo o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd i sero yn gostwng cynnyrch domestig gros y DU bron 2 y cant. Byddai effaith rhoi terfyn ar ryddid i symud yn cael ei deimlo'n uniongyrchol mewn busnesau yng Nghymru, prifysgolion a gwasanaethau cyhoeddus. Lynne Neagle AC: Diolch i chi, Prif Weinidog. A fyddech chi'n cytuno â mi y byddai'n gamgymeriad difrifol iawn i adael yr UE heb unrhyw syniad clir ynghylch y gyrchfan? Ac a wnewch chi egluro wrth unrhyw Weinidogion o Lywodraeth y DU, neu, yn wir, unrhyw un sydd â dylanwad sylweddol dros Brexit, megis arweinydd yr wrthblaid yn San Steffan, y byddai cefnogi Brexit â mwgwd yn bolisi â risg uchel annerbyniol? Mark Drakeford AC: Wel, nid ydym o blaid Brexit â mwgwd yn sicr, a heb fod ers y dyddiau cynharaf yn dilyn y refferendwm. Mae'r Aelod yn gyfarwydd iawn, mi wn, â'r prosbectws a gyflwynodd Llywodraeth Cymru yn sgil hwnnw: Brexit a gaiff ei lywio gan anghenion yr economi a swyddi yma yng Nghymru; Brexit sydd â syniad clir o ran aelodaeth o undeb tollau; rheoleiddio deinamig sy'n gydnaws â'r farchnad sengl; a chyfundrefn symud pobl sy'n deg. Dyna'r math o Brexit, os ydym ni i gael Brexit, sy'n gwneud y gorau yn ei allu i liniaru'r effaith ar economi Cymru wrth inni adael ein marchnad agosaf a mwyaf pwysig. Ac rwy'n manteisio ar bob cyfle, fel y gwnaiff fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet, i ddadlau o blaid y math hwnnw o Brexit, ar bob cyfle a ddaw. Diolch i'r Prif Weinidog. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud ei datganiad—Rebecca Evans. Rebecca Evans AC: Diolch. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Nodir y busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd ymysg y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau ar ffurf electronig. Andrew RT Davies AC: Trefnydd, a gawn ni ddatganiad neu ymateb i ymrwymiad y Gweinidog i wneud asesiad o'r effaith amgylcheddol ar losgydd y Barri? Rhoddwyd yr ymrwymiad hwn gan y Llywodraeth nôl ym mis Chwefror y llynedd. Rydym yn awr ym mis Chwefror 2019—mae hynny'n 12 mis, credwch neu beidio—ac rydym ni'n dal i ddisgwyl ymateb gan y Gweinidog ynghylch a yw'n mynd i gynnal yr asesiad hwn neu fynnu bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal yr asesiad hwn. Mae llawer o drigolion, nid yn afresymol, yn bryderus iawn ynghylch hyn, ac maen nhw'n gweld fod y Llywodraeth wedi troi ei chefn arnyn nhw. Yn benodol, nododd y Prif Weinidog blaenorol y byddai penderfyniad o'r fath wedi'i wneud erbyn mis Tachwedd y llynedd. 'Does bosib ei fod yn dal yn gorwedd ar ddesg rhywun yn aros am benderfyniad. Mae'n rhaid bod y penderfyniad wedi ei wneud. A gaiff y penderfyniad ei gyhoeddi yn awr er mwyn inni gael gwybod a fydd asesiad o'r effaith amgylcheddol yn cael ei gynnal? Rebecca Evans AC: Diolch i chi am godi'r mater hwn. Gwn fod y mater hwn yn amlwg yn fater cymhleth iawn ac mae angen ei ystyried yn fanwl. Byddaf yn sicrhau eich bod yn cael gwybodaeth mwy cynhwysfawr a chyflawn ynghylch pryd y gwneir penderfyniad. Dai Lloyd AC: Trefnydd, byddwch yn amlwg yn ymwybodol o'r cyhoeddiad yr wythnos diwethaf o gynlluniau gan Lywodraeth y DU i ddatblygu gorsaf reilffordd barcffordd yn y gorllewin ar dir yn Felindre, Abertawe, o fewn eich etholaeth chi, sef Gŵyr. Nawr, bydd y cynnig, fel y gwyddoch, a fyddai'n gwneud defnydd o reilffordd ranbarthol Abertawe, yn sicrhau gwelliannau i deithwyr yn y gorllewin drwy gyflwyno amserau teithio llai i Gaerdydd a Llundain—o gofio bod cynlluniau trydaneiddio wedi diflannu—gan dynnu hyd at chwarter awr oddi ar y daith, gan gynnig posibiliadau ar gyfer arbed mwy o amser petai cyflymderau yn codi. Gallai hefyd helpu o ran materion tagfeydd ar yr M4 o amgylch Abertawe a Phort Talbot, a phrif rydwelïau cymudwyr i mewn i Abertawe. Yn amlwg, fodd bynnag, ni ellir edrych ar y gwelliannau hyn i'r rheilffordd rhwng y dwyrain a'r gorllewin ar wahân. Byddwch yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi comisiynu astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer metro Bae Abertawe a chymoedd y gorllewin. Mae'r de-orllewin yn galw am drafnidiaeth gyhoeddus well, ac mae angen i reilffyrdd chwarae rhan allweddol yn hynny o beth. Yn ogystal â gweld gwasanaethau i orsafoedd Abertawe a Chastell-nedd yn cael eu hamddiffyn, mae angen inni hefyd weld llwybrau eraill yn cael eu defnyddio unwaith eto —llwybr rheilffordd Aman a Chwm Tawe er enghraifft—a sicrhau ansawdd cysylltiadau trafnidiaeth i gymoedd Nedd, Dulais ac Afan. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn dawel ynghylch cynnig Llywodraeth y DU ar gyfer parcffordd gorllewin Cymru. Felly byddwn yn ddiolchgar pe byddai Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn cyflwyno datganiad ar ba drafodaethau y mae'n eu cael gyda Llywodraeth y DU, a sut y mae'n gweld parcffordd gorllewin Cymru yn cydblethu â'r her ehangach o ddatblygu seilwaith tram a rheilffyrdd yn ehangach yn y rhanbarth fel rhan o fetro Bae Abertawe. Rebecca Evans AC: Diolch yn fawr iawn ichi am godi'r mater hwn. Gwn fod Gweinidog yr economi wedi ymateb i'r cynigion hynny gan Lywodraeth y DU, ond byddai'n fwy na pharod i ailgylchredeg ei ymateb i hynny, gan hefyd roi'r newyddion diweddaraf am yr astudiaeth ddichonoldeb o ran cynigion metro gorllewin Cymru. Vikki Howells AC: Trefnydd, hoffwn ofyn am dri datganiad heddiw. Yn gyntaf, byddwn i'n croesawu datganiad gan y Gweinidog Addysg ar y camau nesaf y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â bwlio mewn ysgolion. Mae'r ymgynghoriad 'Parchu eraill' ar fin dod i ben yn ddiweddarach yr wythnos hon, ond ar ôl blynyddoedd lawer yn yr ystafell ddosbarth, rwy'n dal i gredu ei bod yn bwysig ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i ymdrin â'r mater hwn. Yn benodol, rwy'n bryderus ynghylch ein dull ni o fynd i'r afael â bwlio LGBT+, fel y gwyddom, er enghraifft, mae mwy o bobl ifanc LGBT+ yng Nghymru yn cael eu bwlio nag yn unman arall yn y DU, yn ôl ystadegau diweddar. Gan fod mis Chwefror yn fis Hanes LGBT, rwy'n gobeithio bod hwn yn faes y gallwn wneud gwelliannau mawr iddo. Yn ail, mae cabinet Rhondda Cynon Taf wedi cymeradwyo polisi o gyflwyno hysbysiadau cosb benodedig o hyd at £400 i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon. I'm hetholwyr i, fel i bobl ledled Cymru, mae tipio anghyfreithlon yn bryder mawr, felly byddai'n dda gweld y cyngor yn defnyddio'r pwerau hyn y maen nhw newydd eu cael gan Lywodraeth Cymru. A gawn ni ddatganiad yn nodi sut mae Gweinidogion yn blaenoriaethu camau yn erbyn tipio anghyfreithlon, yn benodol i asesu effeithiolrwydd y newidiadau o ran hysbysiadau cosb benodedig? Yn olaf, roedd yn gadarnhaol iawn darllen y datganiad fod dros 150 o gyflogwyr bellach wedi ymrwymo i'r cod ymarfer arloesol ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi. Mae hwn yn gam i'w groesawu, ond a gawn ni'r newyddion diweddaraf yn y Siambr gan Weinidog yr economi ar ymyriadau eraill y gallai Llywodraeth Cymru eu gwneud i hybu arferion cyflogaeth da? Rwy'n meddwl yn benodol yma am y ffyrdd y gellir defnyddio'r contract economaidd i annog mwy o fusnesau yng Nghymru i ymrwymo. Rebecca Evans AC: Diolch yn fawr iawn ichi am godi'r tri mater hyn. O ran y cyntaf, ynglŷn â bwlio, fel y dywedwch, mae'r ymgynghoriad diweddar ar fin dod i ben, a gwn y bydd gan y Gweinidog fwy i'w ddweud am hynny maes o law. Ond mae'n werth ystyried ar hyn o bryd y bydd ein cwricwlwm newydd yn arwain y ffordd ynghylch materion LGBT+, a bydd yn rhoi cyfle iathrawonaddysgu hanes LGBT+ Cymru. Cyhoeddir drafft cyntaf y cwricwlwm newydd ym mis Ebrill, a bydd ymgynghoriad llawn o fewn y gymuned addysg a'r cyhoedd ehangach ar hynny. Rydych yn gwbl briodol yn codi'r mater o dryloywder mewn cadwyni cyflenwi. Roedd y Gweinidog yn gwrando ar eich sylwadau ac mae wedi nodi y byddai'n hapus i gyflwyno datganiad yn ystyried y gwaith sy'n cael ei wneud, yn enwedig drwy'r contract economaidd. Gallaf ddweud wrthych hefyd eich bod yn gwybod ein bod wedi lansio'r cod ymarfer cyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi, gyda'r nod o wneud y cadwyni cyflenwi hynny yn fwy tryloyw a rhwystro gweithwyr rhag cael eu hecsbloetio drwy sicrhau eu bod yn cael eu trin yn deg ar bob cam yn y gadwyn gyflenwi. Dyma'r tro cyntaf yng Nghymru a'r tro cyntaf yn y DU i hyn ddigwydd. Rwy'n falch iawn fod gennym ni bellach 159 o sefydliadau wedi ymrwymo i'r Cod, ac yn amlwg byddem yn disgwyl i bob sefydliad, busnes a sefydliad trydydd sector sy'n derbyn arian cyhoeddus ymrwymo i'r cod hwnnw. Ac, yn olaf, fe wnaethoch godi'r mater ynghylch sut y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau y telir y cosbau cywir am dipio anghyfreithlon. Wel, mae'n drosedd â chosb o ddirwy hyd at £50,000 neu 12 mis o garchar yn dilyn euogfarn mewn llys ynadon. Gall y ddirwy fod yn ddiderfyn a gall y cyfnod yn y carchar fod hyd at bum mlynedd yn dilyn euogfarn yn Llys y Goron. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno cosbau penodedig newydd i helpu awdurdodau lleol i ymdrin â throseddau dyletswydd gofal gwastraff cartref. Nod y dull gorfodi ychwanegol hwn yw lleihau maint y gwastraff domestig sy'n cael ei drosglwyddo i gludwyr gwastraff heb eu hawdurdodi. Mohammad Asghar (Oscar) AC: Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar y meini prawf cymhwyster am dai cymdeithasol yng Nghymru? Mae fy etholwyr, Mr a Mrs Harradine, a'u pedwar plentyn yn rhentu tŷ gyda Newport City Homes. Am y tair blynedd a hanner diwethaf, bu lleithder yn y tŷ gyda llwydni yn tyfu ym mhob cwr o'r eiddo. Mae hyn yn effeithio ar eu hiechyd ac ar iechyd y plant, sydd wedi datblygu asthma a broncitis. Mae ymwelwyr iechyd a meddyg yn Ysbyty Brenhinol Gwent wedi ysgrifennu at yr awdurdod tai, gan bwysleisio bod cyflwr y tŷ hwn yn achosi problemau iechyd i'r plant, ond yn ofer. Nid oes camau wedi eu cymryd gan y cyngor lleol neu gyngor y ddinas y gallwch ei alw ef. Mae angen iddyn nhw symud allan yn daer, ond oherwydd bod y ddau riant mewn gwaith, nid ydyn nhw'n cael eu hystyried fel blaenoriaeth gan gyngor y ddinas. A gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog ynghylch pa ganllawiau y gellir eu rhoi ar y meini prawf cymhwyster am dai cymdeithasol, gan yr ymddengys nad yw bygythiadau i iechyd pobl yn ddigon difrifol i gyfiawnhau eu hailgartrefu nhw fel blaenoriaeth? Rebecca Evans AC: Diolch am godi'r achos hwn gyda ni yn y Siambr. Rwyf yn siŵr eich bod wedi codi'r achos penodol gyda'r landlord cymdeithasol preswyl priodol a/neu'r awdurdod lleol. A byddwn yn sicr yn argymell eich bod chi'n ysgrifennu at y Gweinidog tai gyda rhagor o fanylion am yr achos hwnnw. Gall ef roi mwy o gefndir am fanylion y meini prawf cymhwyster am dai cymdeithasol. Bethan Sayed AC: Trefnydd, rwyf eisiau gofyn am ddadl ar ddiffiniad Llywodraeth Cymru o ‘lleol’ mewn cysylltiad â datblygiad tai. Gwn na allwch roi sylwadau ar achosion lleol, ond rwyf yn siŵr eich bod yn ymwybodol o'r mater ynghylch datblygu tai ym Mhennard, ac mae Cyngor Abertawe wedi diffinio ‘lleol’ fel y Mwmbwls. Nawr, gwn am enghraifft lle mae menyw ifanc wedi symud cartref gan ei bod hi wedi colli plentyn oherwydd afiechyd y galon. Mae hi bellach yn dymuno ailymgeisio am y tŷ cyngor a gollodd oherwydd y ffaith ei bod hi wedi symud cartref, ond mae'n bosib na chaiff symud i’r ardal gyfagos oherwydd y diffiniad hwn o ‘lleol’. Mae’r caniatâd cynllunio hwn yn un o lawer lle bo pobl yn trafod, heb ddeall y diffiniad o ‘lleol a fforddiadwy’, fel y gall pobl ei ddefnyddio hyd eithaf eu gallu fel y gallan nhw aros yn yr ardal y maen nhw eisiau aros ynddi. Felly, hoffwn i gael dadl yn amser y Llywodraeth fel y gallwn ni gael y diffiniadau hyn wedi eu gwyntyllu yma, fel y gall pobl leol ymgysylltu mewn ffordd fwy cadarnhaol gyda'r broses gynllunio hefyd. Fy ail gais am ddatganiad yw cais am yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru, boed mewn ysgrifen neu ar lafar. Clywsom gan Weinidog y Gymraeg yr wythnos diwethaf ei bod hi’n gollwng y Bil mewn cysylltiad â sefydlu comisiwn. Clywais drwy’r cyfryngau cymdeithasol bod y cyn-Weinidog wedi dweud bod amserlen ar gyfer y ddeddfwriaeth honno, ond nid yw hynny'n rhywbeth y mae’r Pwyllgor yr wyf i'n ei gadeirio yn ymwybodol ohono. Felly, os oes un peth y mae Gweinidog y Llywodraeth yn ei wybod a rhywbeth arall nad yw'r Cynulliad yn ei wybod, yna credaf y dylai pob un ohonom gael gwybod am yr amserlen glir sydd gan eich Llywodraeth, fel y gallwn ni i gyd gymryd rhan mor gadarnhaol â phosib wrth graffu ar y rhaglen honno a gwybod ymhle yn yr amserlen y bydd hynny’n digwydd. Rebecca Evans AC: Diolch yn fawr iawn am godi'r ddau fater hyn. Byddwn i'n awgrymu, ar y mater penodol y cyfeiriwch ato ym Mhennard, yn y lle cyntaf mae'n debyg mai codi'r mater ynghylch diffiniad 'lleol' a diffiniad 'fforddiadwy' gyda'r Gweinidog tai fyddai'r peth mwyaf priodol i'w wneud, fel y cewch yr holl wybodaeth o'ch blaen, er mwyn gallu rhannu hynny gyda'r etholwyr. Rwy'n siŵr bod y Prif Weinidog wedi ateb rhai cwestiynau heddiw ynghylch yr amserlen ddeddfwriaethol, a'r effaith y gallai Brexit ei chael ar ein hystyriaethau yn y fan yna, ac, wrth gwrs, mae'r Prif Weinidog yn gwneud datganiad blynyddol ar y rhaglen ddeddfwriaethol. Ond os oes gennych gwestiynau penodol ynghylch Biliau, rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog priodol y gallu ymateb i'r pryderon hynny. Janet Finch-Saunders AC: Mae gennyf ddau gwestiwn. Mae un, yn gyntaf, mewn cysylltiad â Cyflymu Cymru a'r cynllun cyflwyno blaenorol. Rwyf wedi cael gwybod am fater sy’n destun pryder mawr ynghylch hyn. Mae darpariaeth band eang cyflym iawn, fel rhan o gynllun Cyflymu Cymru, wrth gwrs, wedi ei chyflawni drwy drosglwyddo’r contract i Openreach. Fodd bynnag, dywedir wrthyf fod Openreach wedyn wedi isgontractio i Telent, a isgontractiodd wedyn i Wavetec Limited, a gyflogodd gontractwyr unigol yn y pen draw, gan gynnwys un o'm hetholwyr i, a oedd yn gweithio'n llawrydd, ac mae e'n dal i wneud hynny, i helpu i adeiladu’r rhwydwaith ffibr. Ar ôl i’m hetholwr ddangos copi imi o hen ddadansoddiad y credydwyr, deallaf bellach fod arnynt filoedd o bunnoedd iddo ac nad yw ef wedi cael ei dalu am y gwasanaethau a roddwyd i Wavetec ers diwedd mis Tachwedd. Trefnydd, a allwch chi gysylltu â'r Gweinidog sy'n gyfrifol ac egluro i mi pam mae Cyflymu Cymru wedi arwain at gontract gwarchodedig o'r fath, sydd wedi gweld llawer o is-gontractwyr yn y gadwyn, sydd bellach yn arwain at fy etholwr i yn wynebu caledi ariannol? Hwnnw yw Rhif 1. Ac yna, Rhif 2: a wnaiff y Trefnydd egluro pam nad yw Llywodraeth Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol i’r Arolygiaeth Gynllunio ymgynghori â phob parti sydd â diddordeb pan fo deunydd newydd neu’r wybodaeth ddiweddaraf ar gynllunio polisi yn cael eu cyflwyno yn ystod proses yr Arolygiaeth Gynllunio? Nawr, y rheswm pam rwyf yn gofyn yw, yr wythnos diwethaf, cymeradwyodd yr Arolygiaeth Gynllunio ddatblygiad preswyl, sy'n cynnwys 110 o anheddau, yng Nghyffordd Llandudno. Gwnaed hyn, yn fy marn i, ac ym marn pobl eraill, er gwaethaf y ffaith bod nifer o bolisïau cynllunio wedi eu torri, a bod dros 1,300 o wrthwynebiadau wedi eu cyflwyno. Oherwydd bod y broses wedi ei gohirio yn dilyn yr ymchwiliad ym mis Medi, pan dorrodd y penderfyniad ei dargedau gweinidogol ei hun, roedd yn rhaid ystyried cyflwyno ‘Polisi Cynllunio Cymru’, rhifyn 10. Er eu bod wedi ymgynghori â’r awdurdod lleol a'r apelydd, nid oedd partïon eraill â diddordeb, gan fy nghynnwys i, Aelod o’r Cynulliad wedi ei hethol yn ddemocrataidd, yn cael cyflwyno rhagor o wybodaeth, yn seiliedig ar ddehongliad ‘Polisi Cynllunio Cymru’. Nawr, mae is-adran 47(7) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ceisiadau Atgyfeiriedig a Gweithdrefn Apelau) (Cymru) 2017 yn datgan bod angen i unigolyn penodedig hysbysu'r rhai sy'n cymryd rhan yn yr ymchwiliad am ddeunydd newydd i'w galluogi nhw i gyflwyno sylwadau am dystiolaeth newydd, neu ofyn am i’r ymchwiliad gael ei ailagor cyn gwneud eu penderfyniad. Fodd bynnag, mae'r deunydd newydd yn eithrio polisi Gweinidogion Cymru. Mae hyn yn anghywir ac yn annemocrataidd. Felly, a fyddech chi’n cytuno â mi y dylai polisi Gweinidogion Cymru fod yn destun y cais am sylwadau hysbysebu i ailagor darpariaethau yn yr un modd ag unrhyw fath arall o ddeunydd newydd? Ac, os felly, a fyddech chi’n barod i ystyried fy nghynnig i newid y ddeddfwriaeth ddiffygiol hon, a’r rheoliadau, fel y bydd yr holl bartïon â diddordeb yn cael cymryd rhan ym mhroses a threfn yr Arolygiaeth Gynllunio? Rebecca Evans AC: Diolch yn fawr iawn am godi'r cwestiynau hynny gyda mi heddiw. Ar y mater band eang, pe byddech yn rhannu manylion penodol amgylchiad eich etholwr gyda mi, byddwn yn hapus i archwilio hynny gyda'r Gweinidog a gadael i chi gael canlyniad hynny. O ran eich cwestiynau ynghylch 'Polisi Cynllunio Cymru' a sut y mae'n torri ar draws y ceisiadau cynllunio presennol, ac ati, mae'n debyg y dylid cyfeirio at y Gweinidog sy'n gyfrifol am gynllunio. David Rees AC: Trefnydd, tybed a oes modd imi gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar ddatganiadau gan Lywodraeth Cymru mewn dau faes. Un, yn amlwg, yw dur. Yr wythnos diwethaf, cawsom ddadl wych yma yn y Siambr ynghylch dur yng Nghymru, a'r goblygiadau ar gyfer y dyfodol o ran cynhyrchu dur a’r her y mae hynny’n ei wynebu o hyd. Ddoe, clywsom fod Prifysgol Abertawe yn mynd i fod yn brifysgol arweiniol mewn prosiect £35 miliwn a fydd yn edrych i mewn i'r broses o gynhyrchu dur i sicrhau y gall dur fod yn gynaliadwy yng Nghymru ac yn y DU. A gawn ni ddatganiad a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru ynghylch pa gamau y mae Llywodraeth Cymru eu cymryd i weithio gyda sector y brifysgol ar yr agenda ymchwil a datblygu dur er mwyn sicrhau bod yr arian sydd eisoes wedi ei fuddsoddi mewn pethau megis y Sefydliad Dur ym Mhrifysgol Abertawe yn parhau i ddatblygu cynhyrchu dur a’r prosesau yng Nghymru, yn fy etholaeth i ym Mhort Talbot yn enwedig, ac y bydd yn rhywbeth sy'n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol? [Torri ar draws.] Arhosaf nes bydd yr ateb wedi dod yn ei ôl. Ar yr ail un, gwyddom am fater Banksy ym Mhort Talbot. Ymwelais â'r fan ar y diwrnod cyntaf y’i nodwyd ef, cyn y daeth yn hysbys fel Banksy. Ond ers hynny, rydym hefyd wedi cael tri darn gwahanol o gelf stryd gan Ame72: dau ar ddrysau y tu ôl i glwb rygbi Tai-bach, ac un ar ddrws garej mewn lôn ychydig o dai i lawr o’r clwb rygbi. Mae’n amlwg bod hyn yn dod yn broblem — celf stryd a diwylliant celf stryd. Amlygodd yr unigolyn y siaradais ag ef, a pherchennog blaenorol y Banksy, yr angen i sicrhau bod gennym le i gadw’r gelf stryd yma. Ond mae pryder hefyd y bydd yr ardal yn datblygu i fod yn fan i wneud graffiti ynddi, yn hytrach na chelf stryd, ac felly mewn gwirionedd rydym ni’n creu diwylliant o gelf stryd. A gawn ni ddatganiad? Diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ymateb yn gynharach, yr wythnos diwethaf, ar geisiadau blaenorol, ond mae angen inni edrych ar safbwynt Llywodraeth Cymru ar gelf stryd. Beth mae’n ystyried i fod yn gelf stryd a dyfodol celf stryd? Sut y bydd yn gweithio gyda chynghorau er mwyn sicrhau bod celf stryd yn gallu digwydd heb fod yn orymwthiol ym mywydau pobl? Efallai y bydd rhai pobl yn credu bod celf stryd yn hyfryd, ac y bydd pobl eraill yn ei hystyried fel graffiti, a graffiti yw rhai ohonyn nhw—nid oes unrhyw amheuaeth am hynny. Ond mae angen inni sicrhau diwylliant o gelf stryd yn ein hardaloedd i sicrhau ei bod yn goroesi. Felly, a gawn ni ddatganiad ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei weld fel dyfodol ar gyfer celf stryd a, hefyd, sut y gallwn sicrhau pan fydd yno ei bod yn cael ei chadw a'i diogelu ac na chaniateir iddi gael ei difrodi? Rebecca Evans AC: Diolch yn fawr iawn am godi'r materion hynny. Yn sicr, mae Llywodraeth Cymru yn croesawu cyhoeddiad ddoe ynghylch £10 miliwn o gyllid yn ychwanegol gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol ar gyfer rhwydwaith ymchwil £35 miliwn â’r nod o leihau allyriadau carbon yn y diwydiannau dur a haearn yn y DU. Mae hynny'n newyddion rhagorol, a hoffwn i longyfarch Prifysgol Abertawe ar y gwaith y maen nhw wedi ei wneud i ddod â’r cyllid hwnnw i Gymru. Yn sicr mae’n adeiladu ar y buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud wrth gychwyn y Sefydliad Dur a Metelau yn Abertawe, a agorwyd ym mis Chwefror y llynedd. Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi nodi y byddai'n hapus i gyflwyno datganiad ar y cyd â'r Gweinidog Addysg i ymateb i'r pwyntiau a godwyd gennych yn eich cyfraniad. Ynghylch y mater o waith celf Banksy a chelf stryd yn ehangach, mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn cyfeirio ei buddsoddiad yn y celfyddydau drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, sydd yno i gefnogi amrywiaeth eang o ffurfiau celf, gan gynnwys pob math o gelfyddyd weledol, felly byddai hynny’n cynnwys celf stryd. Mae'r Cyngor hefyd yn gallu darparu cyllid ar gyfer unigolion, ac mae’n gwneud hynny yn helaeth, yn bennaf, drwy’r cyllid a gaiff gan y Loteri Genedlaethol. Ar y mater penodol o waith celf Banksy, fel y gwyddoch, rydym yn talu am y costau diogelwch cyn iddo gael ei symud a'i adleoli i’r safle arall hwnnw ym Mhort Talbot. Mae trafodaethau yn parhau rhwng Llywodraeth Cymru, y perchennog newydd, a'r awdurdod lleol i sicrhau eu bod nhw’n dod o hyd i leoliad newydd addas cyn gynted â phosib. Yn wir, deallaf y cynhaliwyd rhai trafodaethau yr wythnos hon, ac mae'r perchennog newydd wedi ymrwymo i sicrhau y bydd celf newydd yn cael ei harddangos ym Mhort Talbot am ddwy flynedd o leiaf. Credaf fod croeso mawr i hynny, a gwn fod y Gweinidog yn ystyried y dyfodol yn ehangach er mwyn dathlu celfyddyd gyfoes yma yng Nghymru. Leanne Wood AC: O’r diwedd, yr wythnos hon, mae Llywodraeth y DU wedi cyfaddef bod y cynnydd enfawr yn nifer y bobl sy'n dibynnu ar fanciau bwyd yn rhannol, o leiaf, oherwydd cyflwyniad trychinebus y credyd cynhwysol. Gwyddom hefyd fod diwygio lles yn rhannol gyfrifol am y cynnydd serth mewn digartrefedd ar y stryd. Felly, yn sicr, ar ôl cyfaddef hyn, ni all Llywodraeth y DU barhau â'r credyd cynhwysol. Felly, a wnewch chi gytuno i ysgrifennu at Lywodraeth y DU i ddadlau’r achos bod ei diwygiad o’r budd-daliadau yn achosi niwed mawr, ac y byddwch yn dweud wrthi mor gadarn â phosib i ddileu’r credyd cynhwysol yn awr? Mae'r ffigurau a ryddhawyd yn ddiweddar yn dangos bod llai nag un o bob pum cwyn o aflonyddu rhywiol yn y sector cyhoeddus yng Nghymru wedi arwain at ddiswyddiad. Defnyddir cytundebau peidio â datgelu hefyd i dawelu achwynwyr mewn achosion o aflonyddu rhywiol a chamdriniaeth ddomestig. Mae'r ffigurau hyn yn dangos yn union pam mae angen y rhwydwaith Time’s Up newydd y bûm i'n gysylltiedig â'i sefydlu. Mae'r rhwydwaith newydd yn ceisio rhoi llais i'r rhai sy'n profi aflonyddu rhywiol a chamdriniaeth yng Nghymru gyda’r nod o newid y sefyllfa. Felly, sut y gellir dod â’r diswyddiadau annheg hyn i ben? A wnaiff Llywodraeth Cymru roi datganiad ar yr hyn y mae'n ei wneud i atal y diwylliantdifäol sy'n parhau yn ein cymdeithas, ac, yn benodol, a wnewch chi ddweud wrthym beth y gellir ei wneud i atal achwynwyr rhag colli eu swyddi? Mae dau unigolyn ar wahân wedi cysylltu â mi, yn cwyno am yr anawsterau y mae pobl drawsrywiol yn eu cael wrth ddefnyddio gofal iechyd yng Nghymru: mae profiad personol un ohonyn nhw yn dyddio'n ôl i’r cyfnod 2008-12, ond mae gan y llall brofiad mwy diweddar sy’n cadarnhau nad yw’r materion wedi newid yn y saith mlynedd ers hynny. Nid yw'n dderbyniol, nac ydy, i rywun orfod mynd i'r Alban i gyfeirio ei hun i glinig hunaniaeth o ran rhywedd oherwydd cymaint o oedi wrth gael atgyfeiriad gan Gymru—oedi a welodd yr unigolyn hwn yn ceisio cyflawni hunanladdiad oherwydd y niwed a wnaed i’w iechyd meddwl. Nid yw'n glir pam na all pobl gyfeirio eu hunain yng Nghymru na pham y mae'n rhaid iddyn nhw fynd drwy'r timau iechyd meddwl cymunedol pan nad yw’r ddarpariaeth honno’n bodoli yn unman arall. Ar ôl dychwelyd i Gymru, gwrthodwyd presgripsiwn amlroddadwy o HRT i’r dyn a gysylltodd â mi a dywedwyd y byddai'n rhaid iddyn nhw ddechrau ar y broses o'r cychwyn, er ei fod wedi bod ar HRT ers dwy flynedd a’i fod wedi cael mastectomi tra'r oedd yn yr Alban. Yn amlwg, roedd hyn yn annerbyniol bryd hynny ac mae'n annerbyniol yn awr. Deallaf bellach fod cynigion i ddod â Chymru yn unol â dull mwy blaengar yr Alban ar gyfer pobl drawsrywiol. Felly, a all Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd hon ar y cynnydd gyda'r gwasanaeth hunaniaeth rhywedd ar gyfer Cymru a sut y gall yr anghydraddoldebau penodol yr wyf wedi sôn amdanyn nhw ddod i ben? Ac yn olaf, disgrifiodd cyn-arweinydd UKIP yn y Cynulliad ei hen blaid fel plaid wrth-Fwslimaidd dros y penwythnos. Nawr, ers cyfnod hir, rydym wedi cydnabod y gwirionedd hwn ym Mhlaid Cymru, gan gynnwys yr amser pan oedd y cyn-Aelod Cynulliad hwnnw yn arweinydd i’r blaid yng Nghymru. Felly, a wnewch chi ymuno â mi i gondemnio unrhyw blaid sydd wedi ei seilio ar gasineb sy'n dethol neu’n trin pobl yn wahanol oherwydd eu crefydd, eu hiaith, neu am eu bod nhw’n perthyn i leiafrif? Ac a wnewch chi gytuno â mi nad oes gan y wleidyddiaeth hon unrhyw le yng Nghymru ac y dylai unrhyw un sy’n gwthio agenda beryglus neu wahaniaethol fod â chywilydd o’u hunain? Rebecca Evans AC: Diolch yn fawr iawn am godi'r materion hynny. Cyfeiriaf atynt yn y drefn y cawsant eu codi. Y cyntaf oedd credyd cynhwysol, ac mae Llywodraeth Cymru wedi codi'r mater o gredyd cynhwysol a'n pryderon di-ri yn ei gylch yn gyson ac yn rheolaidd gyda Gweinidogion y DU. Gwn fod y Gweinidog tai wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU eto yn ddiweddar ynghylch y mater hwn a byddai hi'n hapus i ddarparu— Julie James AC: Fe ddaeth yr ymateb yn ystod yr haf. Rebecca Evans AC: Byddai hi'n hapus i ddarparu copi o hynny i chi a rhoi copi yn y Llyfrgell ochr yn ochr â'r ymateb a gafodd y Gweinidog. Ar y mater o aflonyddwch rhywiol yn y gweithle, mae hyn yn amlwg yn peri pryder mawr iawn. Felly, byddwn ar fai pe na bawn yn cyfeirio at y ffaith fod yr wythnos hon yn Wythnos Undebau Llafur, ac y gall bod yn aelod o undeb llafur roi cymorth emosiynol anferthol i unigolion ond hefyd y cymorth cyfreithiol y byddai o bosib ei angen arnyn nhw er mwyn symud cwynion o'r math hwn ymlaen. Ond, yn amlwg, nid oes gan ymddygiad o'r fath le yn y gweithle nac yn unman arall yn ehangach ychwaith, byddwn i'n awgrymu. Eich cwestiwn ynghylch pobl drawsrywiol yn gallu defnyddio gwasanaethau—mae'r Gweinidog wedi nodi y bydd yn cyflwyno datganiad pan ddaw'r tîm newydd ynghyd tua mis Ebrill eleni. Rwy'n cytuno'n llwyr â chifod unrhyw blaid sydd wedi ei seilio ar gasineb yn eithriadol o beryglus. Mae'n amlwg nad oes gan wleidyddiaeth sy'n canolbwyntio ar wahaniaethu a chasineb tuag at bobl oherwydd eu crefydd, eu hiaith neu eu statws lleiafrifol unrhyw le yng Nghymru. Jayne Bryant AC: Trefnydd, y bore yma'n unig, cefais dros 40 o gwynion drwy e-bost a'r cyfryngau cymdeithasol ynghylch tagfeydd traffig ar yr A467 yn arwain at gyffordd 28 yr M4. Dywedodd Llywodraeth Cymru y cwblhawyd y gwaith i wella'r ffordd ar gyffordd 28 ers sawl mis bellach, ond mae'r sefyllfa yn waeth nag erioed o'r blaen. Mae cymudwyr yn wynebu oedi sylweddol i bob cyfeiriad ac rwyf wedi crybwyll hyn ar sawl achlysur gyda'r Gweinidog, y swyddogion a Costain, ac yn anffodus nid yw hyn yn ddigwyddiad unigryw. Yn wir, mae'n digwydd bob dydd ac ni ellir ei briodoli i broblemau cychwynnol. Mae hyn yn effeithio'n ddifrifol ar fy etholwyr a phobl sy'n teithio i lawr o'r Cymoedd ac i'r dwyrain o Gasnewydd, gan beri iddyn nhw gyrraedd yn hwyr i'r gwaith, ysgol, arholiadau, apwyntiadau ac yn ymestyn teithiau adref gyda'r nos. Mae cynffon y ciw yn ystod oriau brig yn cyrraedd y ffordd ymuno a lôn fewnol yr M4. Mae cymudwyr a thrigolion lleol wedi bod yn anhygoel o amyneddgar pan fu'r gwaith yn cael ei wneud, ond nid yw'n ymddangos yn welliant o unrhyw fath yn y byd ac mae'n ychwanegu at lygredd aer uchel a thagfeydd yn yr ardal. Dywedodd un o fy etholwyr, sy'n byw yn y Tŷ du, wrthyf ei fod yn gweithio yng ngwaith dur Orb a bod yr hyn a ddylai fod yn daith 15 munud i'r gwaith yn cymryd ymhell dros awr iddo. Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr busnes arall ei fod yn achosi straen i'w weithlu ac mae cwsmeriaid wedi dweud wrthyn nhw eu bod wedi rhoi'r ffidil yn y to o ran cyrraedd yno. Mae un arall newydd ddweud wrthyf i fod yn rhaid iddyn nhw adael awr a 10 munud yn gynharach na'u shifft mewn cwmni ym Mharc Tredegar, a bod hynny ar gyfer taith 20 munud. Felly, os gwelwch yn dda a gawn ni ddatganiad brys gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ynglŷn â beth sy'n cael ei wneud i ddatrys y mater hwn yn ogystal â manylion ynglŷn â pha feini prawf sy'n cael eu defnyddio i fesur sut mae'r prosiect yn cyflawni ei amcanion arfaethedig? Rebecca Evans AC: Diolch yn fawr iawn ichi am godi'r mater hwn. Rwy'n gwybod eich bod eisoes wedi cyfarfod â Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i drafod y mater o dagfeydd ac i hysbysu'r Gweinidog am rai o'r profiadau personol manwl iawn hynny sy'n effeithio ar eich etholwyr ar y rhan hon o'r ffordd. Rwy'n ymwybodol y cawsoch chi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud, yn amlinellu'r hyn y mae'r tîm prosiect yn ei wneud er mwyn ceisio datrys y materion a ddisgrifiwyd gennych chi. Mae'r Gweinidog wedi dweud y byddai'n fodlon rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i bob Aelod. Diolch i'r Trefnydd. 3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Darparu Gofal Heb ei Drefnu yn ystod y Gaeaf Y datganiad nesaf yw'r un gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar ddarparu gofal heb ei drefnu yn ystod y gaeaf. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething. Vaughan Gething AC: Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o roi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau ynglŷn â'r ddarpariaeth o wasanaethau gofal heb ei drefnu'r gaeaf hwn. Hoffwn ddechrau drwy dalu teyrnged i waith caled ac ymroddiad miloedd o'n staff iechyd a gofal cymdeithasol y gaeaf hwn. Rwyf wedi cael y cyfle i weld staff rheng flaen ledled Cymru yn darparu gwasanaethau i bobl, a hynny o dan bwysau. Rwyf wedi sôn o'r blaen am y broses gynllunio ar gyfer y gaeaf hwn, a oedd yn cynnwys arweinyddion o fyrddau iechyd lleol yn rhoi sicrwydd i Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut roedden nhw wedi paratoi. Cytunwyd ar y cynlluniau lleol mewn partneriaeth rhwng y maes iechyd a llywodraeth leol. Rwyf wedi cefnogi sefydliadau lleol drwy roi £39 miliwn yn ychwanegol, a hynny yn gynharach nag o'r blaen, ar sail canfyddiadau o'n hadolygiad yn 2017-18 a sylwadau gan glinigwyr. Rwy'n falch o adrodd fod pethau wedi gwella yn dilyn y buddsoddiad ychwanegol hwn a gwersi a ddysgwyd o'r gaeafau blaenorol. Rwy'n ffyddiog, heb y rhain, y byddai'r gaeaf yr ydym ni wedi ei weld hyd yma wedi bod yn llawer caletach ar staff ac wedi cael effaith negyddol ar brofiad cleifion a staff.Mae tystiolaeth sy'n dod i'r amlwg yn dweud wrthym ni fod nifer yr oriau coll ar gyfer cleifion sy'n aros dros awr i gael eu trosglwyddo o gerbydau ambiwlans wedi gostwng 30 y cant, o gymharu Rhagfyr 2018 â Rhagfyr 2017. Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair. Vaughan Gething AC: Mae ysbytai ledled Cymru wedi dweud eu bod wedi treulio cryn dipyn yn llai o amser yn y categorïau uwchgyfeirio uchaf ym mis Rhagfyr 2018 ac Ionawr 2019 o gymharu â mis Rhagfyr 2017 ac Ionawr 2018. Pan oedd ysbytai yn gweld y pwysau cynyddol hynny, y gaeaf hwn fe wnaethon nhw ddod drostynt ac isgyfeirio ynghynt, ac mae hynny'n arwydd gwirioneddol o wella cydnerthedd y gwasanaethau rheng flaen. Mae ysbytai wedi derbyn llai o bobl dros 85 oed mewn achosion brys y gaeaf hwn, o'i gymharu â'r ddau aeaf blaenorol. Roedd hyd cyfartalog arosiadau ar gyfer cleifion yn cael eu derbyn i'r ysbyty fel achosion brys ym mis Rhagfyr 2018 ar ei isaf ers mwy na chwe blynedd. Bu gostyngiad parhaus yn nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal, a bu gwelliannau mewn amseroedd aros; roedd nifer y bobl sy'n aros dros 36 wythnos ar gyfer gofal dewisol ar ddiwedd mis Tachwedd 2018 yn 41 y cant yn is nag ym mis Tachwedd 2017, a bellach mae pob bwrdd iechyd mewn sefyllfa well nag yr oedd y llynedd. Rwyf hefyd yn falch o roi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau am nifer o gynlluniau cyflawni ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd lleol, gwasanaeth ambiwlans Cymru a'r trydydd sector sydd eisoes yn cael effaith gadarnhaol ar bobl y gaeaf hwn. Mae gwasanaeth ambiwlans Cymru wedi cydweithredu ag Ambiwlans Sant Ioan ar fenter cymorth cwympiadau, gan ymateb i 773 o bobl sydd wedi cwympo y gaeaf hwn. Roedd dros 85 y cant o'r galwadau hynny yn cynnwys cleifion dros 65 oed. Mae sylwadau gan gleifion yn dangos bod 94 o bobl yn fodlon ar yr ymateb a ddarparwyd. Ers canol mis Rhagfyr, mae byrddau iechyd lleol wedi bod yn gweithio gyda'r Groes Goch Brydeinig i gefnogi dros 14,000 o gleifion mewn wyth adran achosion brys ledled y wlad. Diben y cynllun arbrofol yw gwella lles a phrofiad cleifion. Mae'n cefnogi cleifion a'u teuluoedd mewn adrannau achosion brys ac yn cludo cleifion adref. Mae'r cludiant cartref yn cynnwys helpu i adsefydlu cleifion drwy eu cysylltu eto i wasanaethau cymunedol. Mae hynny wedi bod yn arbennig o ddefnyddiol i bobl unig. Mae'r arbrawf Adre o'r Ysbyty, sy'n cael ei gynnig ar y cyd â Gofal a Thrwsio Cymru, yn canolbwyntio ar wella ansawdd tai i gefnogi llai o oedi wrth drosglwyddo gofal, lleihau derbyniadau i'r ysbyty a lleihau cyfraddau aildderbyn. Mae cydweithio ac integreiddio gyda'r trydydd sector yn elfen allweddol o 'Cymru Iachach', ac mae'n galonogol gweld rhagor o gynnydd yn hyn o beth. Rydym ni hefyd yn treialu modelau integredig newydd o ofal y gaeaf hwn drwy ddefnyddio fferyllwyr mewn adrannau achosion brys. Unwaith eto, mae arwyddion cynnar yn gadarnhaol. Mae fferyllwyr penodedig bellach yn gweithio'n rhan o dîm amlddisgyblaethol, gyda rhai ysbytai eisoes yn dweud eu bod yn gweld hyd at 100 o gleifion yr wythnos, i helpu cefnogi'r gwaith o ddarparu gofal diogel ac effeithlon i gleifion yn yr adrannau achosion brys. Fodd bynnag, mae'r gaeaf hwn hefyd wedi bod yn anodd i wasanaethau a staff ym mhob rhan o'r maes iechyd a gofal cymdeithasol. Bu achlysuron lle bu cleifion yn aros yn hwy am gyngor, gofal neu driniaeth nag y buasem ni neu staff iechyd a gofal cymdeithasol yn ei ddymuno. Mae afiechydon stumog gaeaf fel norofeirws yn rhoi straen ychwanegol ar ein GIG, ac ers mis Hydref 2018 cafwyd 103 achos o haint gastroberfeddol mewn ysbytai a chartrefi gofal ledled Cymru. Bydd Aelodau yn ymwybodol bod y tymor ffliw diwethaf wedi gweld y nifer uchaf o ymgynghoriadau â meddygon teulu ac achosion o'r ffliw mewn ysbytai ers pandemig 2009. Rydym ni wedi cynyddu profion yn dilyn cyflwyno'r profion ffliw cyflym a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cleifion mewn adrannau achosion brys ledled Cymru. Y gaeaf hwn, rydym ni wedi gweld mwy o achosion o'r ffliw wedi eu cadarnhau mewn ysbytai o gymharu â'r un pryd y llynedd. Er gwaethaf y nifer uchaf erioed o bobl mewn adrannau achosion brys mawr, gwellodd perfformiad yn erbyn y targed pedair awr mewn saith o 13 o ysbytai. Fodd bynnag, mae'n glir nad yw perfformiad, yn benodol mewn tri safle yn ddigon da, ac mae hynny wedi effeithio ar y darlun cenedlaethol cyffredinol o ran perfformiad. Gan edrych ymlaen at y tymor canolig, rydym ni'n goruchwylio nifer o raglenni i gefnogi darparu gwasanaethau gofal heb ei drefnu mewn modd cynaliadwy. Bydd y model gofal sylfaenol newydd yn darparu ymateb 24/7, gyda'r gwasanaeth 111 yn elfen allweddol. Wrth gyflwyno'r gwasanaeth 111 dros y ddwy i dair blynedd nesaf, bydd yn gwella mynediad trwy well arwyddion, cyngor clinigol a thriniaeth gan ddefnyddio rhif ffôn am ddim a chyfleoedd digidol eraill. Bydd mwy o weithio rhanbarthol a chenedlaethol i ddiwallu'r galw am gyngor a thriniaeth gritigol yn ystod oriau brig, a bydd y gwasanaeth 111 ar gael yn genedlaethol erbyn 2022. Mae rhaglen weithredu'r adolygiad oren, yr wyf wedi tynnu sylw Aelodau ati mewn datganiad blaenorol, ar y gweill ers tro ac mae disgwyl iddi redeg tan fis Tachwedd 2019. Byddaf yn rhoi'r newyddion diweddaraf i Aelodau ynglŷn â'r cynnydd yn y rhaglen honno dros yr haf. Mae fframwaith ansawdd a darparu ar gyfer adrannau achosion brys yn cael ei ddatblygu ac mae'n cynnwys treialu mesurau newydd a ddatblygwyd ochr yn ochr â chlinigwyr dros y flwyddyn ddiwethaf. Dyma fydd cam cyntaf y gwaith ehangach i ddatblygu canlyniadau clinigol a mesurau profiad ledled y system gofal heb ei drefnu. Gan adeiladu ar adolygiad manwl ynglŷn â sut yr ydym ni'n rhyddhau pobl ag anghenion cymhleth o ysbytai, byddwn yn rhoi llawer mwy o bwyslais ar atal mynediadau diangen i ysbytai a lleihau oedi wrth drosglwyddo gofal ysbyty ar gyfer pobl hŷn yn 2019-20. Byddaf hefyd yn rhoi'r newyddion diweddaraf am y dull 'gartref yn gyntaf' hwn yn yr haf. Mae hyn yn atgyfnerthu ein hangen i weithio ledled ein system iechyd a gofal cymdeithasol. Ac yn olaf, byddwn ni'n lansio fframwaith polisi ar gyfer gofal heb ei drefnu i ddisgrifio ein disgwyliadau polisi ar gyfer byrddau iechyd lleol ac Ymddiriedolaethau'r GIG yn ystod yr haf 2019. Byddaf, wrth gwrs, yn rhoi rhagor o fanylion pan gaiff ei gyflwyno. Darren Millar AC: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad ac am y copi ymlaen llaw a gafodd fy swyddfa. Yn amlwg, bu cynnydd mewn rhai meysydd, ac rwy'n falch iawn o weld hynny, oherwydd, bobol bach, roedd angen peth cynnydd arnom ni o ran y mater pwysig iawn hwn. Oherwydd, fel y dywedoch chi yn briodol iawn, er bod perfformiad o gymharu â'r targed o bedair awr wedi gwella mewn rhai ysbytai, mewn rhai eraill mae'n druenus o annigonol, gan gynnwys, yn fwyaf difrifol, yn y gogledd mewn dau o'r ysbytai, sydd ar waelod y tabl cynghrair mewn bwrdd iechyd sydd, wrth gwrs, ar hyn o bryd o dan fesurau arbennig ac o dan eich rheolaeth uniongyrchol chi. A gaf i roi enghraifft o'r math o ofal a ddarperir yn Ysbyty Glan Clwyd i chi? Daw hyn o e-bost a anfonwyd ataf gan fy etholwr, John Cook, am ei fab Gareth Cook a oedd, yn anffodus, angen rhywfaint o sylw yn yr adran achosion brys yno yn ôl ym mis Tachwedd. Aeth yno dair gwaith mewn un wythnos, i raddau helaeth oherwydd, y tro cyntaf cafodd ei droi ymaith yn amhriodol, a'r ail dro hefyd cafodd ei droi ymaith yn amhriodol, oherwydd pwysau ar welyau yn yr ysbyty. Mae'n dweud, ac rwy'n dyfynnu: Rwyf wedi crybwyll y diffyg hylendid sylfaenol, preifatrwydd a pharch i gleifion sy'n deillio o'r amodau ofnadwy. I egluro'r pwynt hwn, cyfeiriaf at gleifion yn chwydu a hwythau'n agos iawn at ei gilydd. Mae Gareth yn sôn am brofiad o rannu bae pedair cadair gyda thri arall. Ymhlith y grŵp hwn roedd person dall oedrannus a dyn iau a oedd yn alcoholig ac yn amlwg yn anniddig. Yng nghanol y nos, dyma'r alcoholig yn estyn siswrn ac yn pwnio'r dyn dall a'i ddeffro. Yn ogystal â hynny, caiff golygfeydd eraill eu disgrifio o ddau ŵr bonheddig oedrannus, un yn 94 a'r llall yn ei 80au, yn treulio dyddiau—nid oriau, dyddiau—ar gadeiriau, gan rannu un bae gwely sengl gyda thri arall, a phob un ohonyn nhw, eto, yn agos iawn at ei gilydd. Nawr, yn amlwg, mae'r rhain yn ddisgrifiadau annerbyniol o'r math o ofal yr hoffech chi a minnau ac unrhyw un arall yn y Siambr ei weld yn cael ei ddarparu, ond rwyf yn bryderus iawn mai dyna'r math o ofal, yn anffodus, y mae nifer o bobl yn dyst iddo yn ein hysbytai, yn enwedig yn y gogledd. Ond rwy'n gwybod nad yw'r mathau hynny o olygfeydd yn gyfyngedig i'r fan honno, ac fe hoffwn i wybod beth rydych chi'n ei wneud i fynd i'r afael â'r mathau hynny o bryderon, gan ei fod yn ymddangos i mi mai rhan fawr o'r broblem yw nifer y gwelyau sydd ar gael yn ein hysbytai, sy'n cadw gormod o bobl yn ein hadrannau achosion brys am gyfnod rhy hir. Rydym ni'n gwybod fod y ffigurau am y cyfnodau 12 awr a mwy y mae pobl yn eu treulio yn ein hysbytai mewn gwirionedd yn gwaethygu. Maen nhw wedi gwaethygu ym mis Rhagfyr, ac roedden nhw'n waeth ym mis Tachwedd nag yr oedden nhw 12 mis cyn hynny. Felly, er fy mod i'n deall bod cynnydd o ran trosglwyddo gofal, ac y bu rhywfaint o gynnydd o ran rhai o'r targedau eraill, yn amlwg, ni ddylai pobl fod yn treulio mwy na 12 awr mewn adrannau achosion brys oni bai y ceir sefyllfa eithriadol pan fo angen iddyn nhw fod yno. Fe wnaethoch chi gyfeirio at yr arian ychwanegol a fuddsoddwyd y gaeaf hwn. Rwy'n falch o weld yr arian hwnnw'n cael ei gyflwyno. Byddwn yn ddiolchgar iawn i wybod, Gweinidog, sut y rhannwyd yr arian hwnnw fesul ardal bwrdd iechyd, gan ei fod yn ymddangos i mi nad yw bob amser wedi'i dargedu i'r mannau lle mae'r angen mwyaf, lle mae'r problemau mwyaf yn ymddangos. Felly, fe fyddai'n ddiddorol gwybod os wnewch chi roi dadansoddiad inni yn eich ymateb heddiw. Rwy'n awyddus iawn hefyd i glywed ychydig yn fwy am y cydweithio yma y mae'r GIG yn ei ddatblygu gyda'r Groes Goch, Ambiwlans Sant Ioan, a Gofal a Thrwsio Cymru. Mae'n wych bod y cydweithredu hwnnw wedi dechrau. Rwy'n gwybod fod cleifion, yn sicr yn fy rhan i o'r wlad, yn gwerthfawrogi'n fawr iawn y gefnogaeth y mae'r groes goch wedi bod yn ei rhoi, ac rwy'n credu ei fod yn gweithio'n hynod o dda. Ond, yn amlwg, rwy'n credu mai'r hyn sydd angen inni ei wybod yw: a fydd y rhain yn nodweddion parhaol yn ein gwasanaeth iechyd yn y dyfodol ac, os felly, a oes trefniadau priodol ar waith i sicrhau bod gwaith craffu priodol ar y systemau a'r trefniadau newydd hynny, ac a thelir amdanyn nhw'n briodol? A wnewch chi ddweud wrthym ni hefyd beth yw'r sefyllfa o ran gweithwyr gofal iechyd rheng flaen yn manteisio ar y brechiad rhag y ffliw? Fe wnaethoch chi gyfeirio at y tymor ffliw yn eich datganiad, ac rydym ni'n gwybod y dechreuodd ychydig yn hwyrach eleni na mewn blynyddoedd blaenorol ac, wrth gwrs, mae hi wastad yn bosib i hynny gynyddu eto. Nawr, dim ond tua hanner ein gweithwyr gofal iechyd rheng flaen yn y gorffennol mewn gwirionedd sydd wedi bod yn cael eu pigiadau. Nid yw hynny'n amlwg yn ddigon da. Mae angen inni gael cyfradd uwch o weithwyr iechyd proffesiynol rheng flaen yn manteisio ar hynny, a byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi ddweud wrthym ni a ydych chi'n mynd i gyflwyno targedau newydd, mesurau newydd sy'n gallu ysgogi ac annog pobl i fanteisio ar y cyfle i ddiogelu eu hunain er mwyn diogelu pobl eraill. Ac yn olaf, a gaf i eich holi ynglŷn â holl fater y gwasanaeth ambiwlans a'i dargedau—? Rydym ni'n gwybod y bu rhai newidiadau i'w croesawu o ran y targedau synhwyrol sydd wedi'u pennu bellach ar gyfer y gwasanaeth ambiwlans, ond un peth sy'n dod i fy nghlyw yn rheolaidd yw'r pryder nad yw rhai pobl sy'n dangos symptomau o drawiad cardiaidd, trawiad ar y galon, yn cael eu hystyried fel y categori uchaf o alwadau, ac nad oes angen i ambiwlans ymateb iddyn nhw o fewn wyth munud i amser yr alwad. Rwy'n credu bod hynny'n destun pryder i lawer o bobl. Yn anffodus, mae rhai pobl, wedi colli partneriaid, wedi colli aelodau o'r teulu o ganlyniad i'r targed hwnnw. Byddwn yn ddiolchgar o gael gwybod a allwch chi ddweud wrthym ni beth ydych chi'n ei wneud i adolygu'r trefniant penodol hwnnw o ran gofal cardiaidd yn y dyfodol. Diolch. Vaughan Gething AC: Diolch am y gyfres o gwestiynau. Fe wnaf i ddechrau â'ch pwynt olaf, oherwydd yr ymdriniwyd ag ef yn yr adolygiad galwadau oren. Cynhaliwyd adolygiad o'r amodau mewn dosbarthiadau gwahanol, gyda galwadau coch, oren 1 ac oren 2, ac nid yw'r clinigwyr a gynhaliodd yr adolygiad yn cefnogi eich barn bersonol chi. Rydym ni'n defnyddio tystiolaeth briodol yn sylfaen i gategoreiddio amodau gofal iechyd, ond hefyd i edrych ar welliannau yn y categori oren beth bynnag. Ac fel y dywedais yn fy natganiad, byddaf yn adrodd yn ôl i'r Aelodau'r haf hwn ynglŷn â'r cynnydd a wneir o ran darparu hynny ac, wrth gwrs, rwy'n disgwyl cyflwyno adroddiad eto ar ddiwedd y cyfnod gweithredu ar gyfer yr argymhellion a wnaed yn yr adolygiad hwnnw. Fel y nodais yn fy natganiad, mae'r gwaith i fod i fynd rhagddo tan fis Tachwedd y flwyddyn galendr hon. O ran eich pwynt ehangach am y pigiad ffliw, unwaith eto, rwy'n disgwyl, yn rhan o'r adolygiad ehangach o'r gaeaf hwn, y byddwn ni'n edrych eto ar y llwyddiant cyffredinol wrth berswadio'r cyhoedd a'n staff i fanteisio ar y cyfle a gynigir i gael eu diogelu gan y pigiad ffliw. Fe wnawn ni edrych eto ar y rhannau mwyaf llwyddiannus o'n system, ar gyfer gweithwyr yn ogystal â'r gallu i ddarbwyllo pobl i gael eu pigiadau ffliw, boed mewn meddygfeydd teulu neu mewn fferyllfeydd. Yn wir, y bore yma roedd yn rhaid imi alw yn fy meddygfa deuluol fy hun, ac roedd y wal yn blastr o bosteri ynglŷn â chael brechiad rhag y ffliw ar gyfer y bobl hynny sydd mewn mwy o berygl. Felly, yn sicr, roedd yr wybodaeth a oedd yn cael ei darparu yn y fan honno yn y ddwy iaith yn weladwy iawn, iawn, ac rwy'n gwybod ei fod yn rhywbeth sydd wedi cael ei drafod ac a gaiff ei drafod eto gyda chyflogwyr, ynglŷn â llwyddiant, neu fel arall, darbwyllo staff i fanteisio ar y brechiad rhag y ffliw ym mhob rhan o'n system. A byddwch yn gwybod y gaeaf hwn, wrth gwrs, ein bod ni wedi rhoi cyfle i staff gofal preswyl gael brechiad rhag y ffliw gan y gwasanaeth iechyd hefyd, felly byddaf yn agored ac yn dryloyw ynghylch llwyddiant a'r hyn yr ydym ni'n bwriadu ei wneud ar ddiwedd y gaeaf hwn hefyd. O ran y Groes Goch, rwy'n falch bod croeso cyffredinol iddo, ac mae wedi cael croeso gwresog iawn, iawn gan staff a'r bobl sy'n cymryd rhan yn y gwasanaeth eu hunain hefyd. Mae'n gynllun treialu, ac mae'n gynllun treialu sydd i fod yn weithredol ar ddiwedd mis Mawrth, ac yna byddwn yn gwerthuso i ddeall yr effaith a gafodd. Wedyn bydd angen inni—wedyn bydd angen imi wneud penderfyniad ynghylch p'un ai i ailgomisiynu hynny, a fydd hynny yn ailgomisiynu rheolaidd, a fydd yn ailgomisiynu tymhorol os bydd y dystiolaeth yn cefnogi hynny yn y gaeaf, neu a yw'n rhan reolaidd ac yn nodwedd o'n system. Bydd angen i ni ddeall gan y Groes Goch beth yw eu gallu i ddarparu'r gwasanaeth hwnnw, os yw'r gwerthusiad yn dangos ei fod yn werth ei gynnal. O ran eich sylw ehangach am arian, fe wnes i gadarnhau mewn datganiad blaenorol mai o'r gyfran o'r arian a roddwyd, y gogledd gafodd y gyfran uchaf o'r arian a gyhoeddwyd. Rwy'n fodlon iawn ailgylchredeg i Aelodau y gyfran o'r arian hwnnw rhwng gwahanol fyrddau iechyd a'u partneriaid. O ran eich sylw ehangach am y profiad o ofal wrth ichi ddechrau eich cyfraniadau a'ch sylwadau, Ni wnaf i geisio dweud bod y darlun a roesoch chi yn eich etholaeth yn un y byddem yn dymuno i unrhyw un ei gael mewn unrhyw adran achosion brys mewn unrhyw ran o'r wlad. A'r her i ni yw nid dim ond deall fod hynny wedi digwydd, ond ein gallu i wneud rhywbeth yn wahanol am y peth. Nawr, i mi, nid yw hynny dim ond ynglŷn â'r drws ffrynt, ac rydym ni'n ymarfer hyn yn rheolaidd—nid yw'n ymwneud ag ambiwlansys a'r drws ffrynt yn unig. Ac mewn gwirionedd, nid yw bob amser ynglŷn â nifer y gwelyau. Ac un o'r pethau diddorol am y sgwrs gyda'r coleg meddygaeth frys fu eu pwyslais ar, ie, yr angen am fwy o staff, ond mewn gwirionedd, eu pwyslais mawr arall fu mwy o adnoddau i'r maes gofal cymdeithasol, oherwydd eu bod nhw'n cydnabod bod y bobl sy'n feddygol heini mewn unrhyw un o'r ysbytai bron bob amser yn cyfateb i'r pwysau sydd ganddyn nhw wrth y drws ffrynt, ac mewn gwirionedd mae gallu cael rhai o'r bobl hynny sy'n feddygol heini allan o'r ysbyty angen cymorth gofal cymdeithasol a'r trydydd sector i hynny ddigwydd. Nawr, i mi, y rhwystredigaeth yw pa mor gyflym y gallwn ni wneud hyn, gan gadw mewn cof y galw yr ydym ni'n parhau i weld yn dod drwy'r drws ffrynt. Rydym ni'n gwybod ein bod ni wedi llwyddo i gefnogi mwy o bobl y tu allan i adrannau brys y gaeaf hwn. Pe na byddem ni wedi gwneud hynny, byddai gennym ni fwy o bobl yn ein hadrannau achosion brys. Mae angen inni wneud mwy yn gynyddol bob gaeaf dim ond i ateb y galw y gwyddom ni'n sy'n bodoli yn ein system gyfan. Ond nid adrannau achosion brys yn unig sy'n gweld y pwysau hynny, ond ein cydweithwyr ym maes gofal sylfaenol hefyd. Felly, os hoffech chi roi'r manylion gan eich etholwr imi, rwy'n hapus i sicrhau eu bod nhw'n cael sylw, ond bydd y pwyslais ar y system gyfan ac, yn benodol, ar sut yr ydym ni'n cefnogi pobl i adael yr ysbyty a chael cefnogaeth, fel nad ydyn nhw'n cael eu haildderbyn ac nad ydyn nhw'n dychwelyd i'r ysbyty heb gael y cymorth a'r gofal priodol y tu allan i'n system ysbytai. Helen Mary Jones AC: Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad ac, wrth wneud hynny, ategu ei werthfawrogiad am y gwaith rhagorol y mae ein staff yn ei wneud, weithiau o dan amgylchiadau anodd iawn. Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn gwerthfawrogi'r ymdrechion y maen nhw'n eu gwneud, yn aml o dan amgylchiadau anodd iawn, fel rwy'n dweud. Mae hi, fel y dywedodd Darren Millar, yn gadarnhaol i weld rhai tueddiadau. Hoffwn ofyn i'r Gweinidog am ychydig mwy o fanylion am rai o'r penawdau y mae'n sôn amdanyn nhw. Felly, mae'r datganiad yn sôn bod ysbytai ledled Cymru yn dweud iddyn nhw dreulio llawer llai o amser yn y categori uchaf o uwchgyfeirio ym mis Rhagfyr y llynedd a mis Ionawr eleni. Mae'n dda clywed hynny yn amlwg, ond fe fyddwn i'n gwerthfawrogi ychydig mwy o fanylion gan y Gweinidog. Efallai y gallai ysgrifennu at yr Aelodau, oherwydd mae 'llawer llai o amser' yn derm eithaf amwys a byddai'n ddiddorol gwybod a oedd y gwelliant yna mewn perfformiad yn gyson ar draws yr holl ysbytai yng Nghymru, a oedd amrywiadau, ac os oedd amrywiadau, beth oedd i gyfrif amdanyn nhw a sut gellid mynd i'r afael â nhw. Felly, cwestiwn pellach ynglŷn â manylion ynghylch oedi wrth drosglwyddo gofal. Unwaith eto, mae'n braf iawn clywed y bu lleihad, ond byddai'n ddefnyddiol, o safbwynt craffu, i wybod gostyngiad o beth i beth, ac eto, pa un a yw'r perfformiad yn gyson drwy'r holl wasanaeth neu, fel yr ydym ni'n amau, a oes yna wahaniaethau sylweddol. Ac eto, os oes gwahaniaethau, beth sydd i gyfrif am hynny. Ac fe ddylwn i bwysleisio, Dirprwy Lywydd, nad wyf yn disgwyl i'r Gweinidog fod â hyn i gyd ar flaenau ei fysedd, er fy mod yn siŵry bydd ganddo rywfaint ohono. Ond byddai'n ddefnyddiol cael y manylder hwnnw. Rwyf hefyd yn croesawu ymgysylltiad y trydydd sector, lle bo'n briodol, i helpu yn y maes hwn o waith. Fe wnaf i ddweud, fodd bynnag, wrth y Gweinidog ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn sicrhau bod y gwasanaethau trydydd sector hyn unwaith—. Oherwydd rwy'n sylweddoli i'r Gweinidog ddweud wrth Darren Millar, bod rhai o'r rhain yn gynlluniau treialu, ac mae angen inni weld a ydyn nhw'n gweithio ac yna a yw'r Llywodraeth eisiau eu comisiynu'n barhaol. Ond mae hi'n bwysig iawn pan fyddwn ni'n trafod gyda'r trydydd sector fod hynny'n cael ei wneud yn gynaliadwy a bod y patrwm cyllido yn ddigon i'r sefydliadau allu cynnal eu hunain yn ogystal â darparu gwasanaeth penodol. Er enghraifft, bûm mewn rhai trafodaethau gyda gwasanaeth hosbis yn y cartref yn fy rhanbarth fy hun lle mae cyllid sy'n cael ei gynnig iddyn nhw gan y bwrdd iechyd ar sail ddigyfnewid, er gwaethaf y ffaith fod cyflogau nyrsio teg, yn gwbl briodol, yn cynyddu. Felly, credaf y byddai'n ddefnyddiol i'r Gweinidog edrych ar sut y mae'r gwasanaeth yn ei gyfanrwydd yn ymgysylltu gyda'r trydydd sector ac a yw'n gwneud hynny mewn ffordd sy'n gwneud y gwasanaethau hynny, sy'n cael eu gwerthfawrogi gymaint, fel y dywedodd Darren Millar, yn wirioneddol gynaliadwy. Roedd datganiad y Gweinidog yn cyfeirio at y sefyllfa o ran damweiniau ac achosion brys, ond mae hynny'n bur gyffredinol, er fy mod i'n sylweddoli ein bod ni wedi trafod hyn eisoes. Ond y gwir amdani yw, ynte, fod bron i 4,000 o bobl—3,887—wedi gorfod aros yn hwy mewn canolfannau damweiniau ac achosion brys mawr fis Rhagfyr diwethaf, ac roedd hynny'n fwy nag mewn blynyddoedd blaenorol. Mae'r Gweinidog yn tynnu sylw'n briodol at y ffaith bod y ffigurau yn cael eu hystumio gan berfformiadau arbennig o wael mewn lleoedd penodol—cyfeiriodd Darren Millar at y gogledd—a byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog ddweud ychydig yn fwy heddiw ynglŷn â'r hyn y mae yntau a'i swyddogion yn ei wneud i fynd i'r afael â'r perfformiad hwnnw yn y tair canolfan hynny lle'r ydym ni'n gwybod fod yna faterion difrifol iawn. Yn olaf, Dirprwy Lywydd, mae'n weddol amlwg i ddweud bod y gaeaf yn dod bob blwyddyn, ac eto mae'n ymddangos ein bod ni'n clywed bod rhai pethau fel ffliw a norofeirws i fod i beri syndod inni, tybed a all y Gweinidog ein sicrhau ni—ac edrychaf ymlaen at weld y fframwaith polisi ar gyfer gofal heb ei drefnu, oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n ddefnyddiol iawn cael fframwaith polisi cenedlaethol—. Ond a wnaiff y Gweinidog sicrhau, yn y fframwaith hwnnw, ein bod yn ystyried y ffaith bod y pwysau hwn yn dod bob blwyddyn? Mae rhai blynyddoedd yn waeth nag eraill; mewn rhai blynyddoedd mae'r ffliw yn waeth, mewn rhai blynyddoedd mae'r norofeirws yn waeth. Ond mae angen inni ddeall y bydd y pwysau ychwanegol hynny yno bob amser. Felly, a wnaiff y Gweinidog ein sicrhau ni y bydd y fframwaith polisi hwnnw yn ystyried yr amrywiad hwnnw mewn pwysau fel nad ydym ni'n chwilio am argyfyngau pan, mewn gwirionedd, yr hyn sydd gennym ni yw dim byd ond y tywydd, a'r ffaith ein bod ni'n byw yng Nghymru? Diolch. Vaughan Gething AC: Os caf i ymdrin â'ch sylw olaf yn gyntaf, rydym ni'n cydnabod ein bod ni'n byw yng Nghymru a bod y tywydd yn amrywio ac felly hefyd y pwysau sy'n dod yn sgil hynny. Mae tywydd oer yn tueddu i beidio ag arwain at gynnydd mawr yn nifer y derbyniadau ar y pryd; mewn gwirionedd mae hi oddeutu wythnos neu fwy yn ddiweddarach pan fo'r tywydd oer yn cynhyrchu'r effaith o ran y nifer ychwanegol o bobl yn mynd i ysbytai. Gwyddom fod wythnos gyntaf mis Ionawr bron bob amser yn gyfnod o bwysau mawr iawn ym mhob rhan o'r maes gofal sylfaenol ac ysbytai. Ceir rhannau mewn gwirionedd lle y gallwn ni eu rhagweld a rhai lle na allwn ni'n fanwl gywir. Gwyddom, wrth i fwy ohonom ni fyw'n hwy, y gallwn ni ddisgwyl y bydd mwy o bwysau ar draws y system gyfan ac, yn benodol, drwy'r gaeaf. Dyna pam mai un o'r pethau calonogol ynghylch y gwahaniaeth eleni yw nifer y bobl dros 85 oed yn gostwng o ran derbyniadau brys, ac mae hynny'n gadarnhaol iawn, ond mae'n dangos bod angen inni wneud mwy fyth i gefnogi pobl yn eu cartrefi eu hunain, a dyna pam y mae hi mor ddealladwy, y ceir nid yn unig cyfeiriad polisi ond amrywiaeth o bobl ym mhob rhan o'r maes gofal sylfaenol a gofal cymdeithasol yn dweud bod angen iddyn nhw nid yn unig siarad am y ffordd yr ydym ni eisiau i fwy gael ei wneud yno ond sut yr ydym ni mewn gwirionedd yn darparu adnoddau i'r timau hynny i ddarparu'r gofal yr ydym ni eisiau ei weld yn cael ei ddarparu'n lleol a'i gynnal yn lleol hefyd. O ran eich sylw ehangach am y tair canolfan lle mae her benodol, ceir cyfuniad o herio a chefnogi. Mae'n rhaid i'r cymorth a ddarperir, nid yn unig mewn termau ariannol ond mewn gwirionedd o ran cyngor gan swyddogion, gael ei ategu gan her ar lefel y bwrdd, ac mae hynny mewn difrif calon yn digwydd. Mae'n rhan o'r sgwrs a gefais yn ddiweddar gyda chadeiryddion y byrddau iechyd a chadeiryddion yr ymddiriedolaeth a'r prif weithredwyr yr wythnos diwethaf. Fe wnaethom ni edrych ar berfformiad eu hadrannau achosion brys, gan ganolbwyntio yn benodol ar y meysydd hynny lle maen nhw'n cydnabod bod ganddyn nhw heriau gwirioneddol a sylweddol, a cheir arweinyddiaeth gan gymheiriaidac arweinyddiaeth glinigol hefyd. Mae terfyn i beth y gall gwleidyddion yn mynnu atebion mewn gwirionedd ei wneud i helpu ymarfer ar lawr gwlad ac yn wir yn y system gyfan ehangach ynglŷn â pha mor effeithiol yw'r berthynas rhwng iechyd a gofal cymdeithasol a'r trydydd sector, oherwydd mewn gwirionedd mae cael y perthnasoedd hynny'n gywir yr un mor bwysig ag arweinyddiaeth glinigol mewn unrhyw adran achosion brys. Felly, nid oes byth un ateb unigol i ddatrys yr holl faterion hyn, ond rydych chi'n codi pwynt am y trydydd sector, ac mewn gwirionedd mae cynaliadwyedd y gwasanaethau hynny, wrth gwrs, yn bwysig i ni yn ogystal ag i'r trydydd sector. Pan ydym ni'n comisiynu gwasanaeth gan y trydydd sector, rydym ni eisiau gwybod bod y sefydliad yn gadarn ac yn gallu darparu ei wasanaeth. Mae gennym ni ddangosyddion allweddol ar gyfer y gwasanaeth fel eu bod yn deall ein bod ni'n gwario arian cyhoeddus yn ddoeth, ac nid yw'r trydydd sector yn anghytuno â hynny. Maen nhw eisiau rhywfaint o sicrwydd ynghylch y dyfodol, ac mae terfyn i faint o sicrwydd y gallwn ni ei ddarparu. Pan ydych chi'n byw o flwyddyn i flwyddyn ar gyllidebau mewn Llywodraeth genedlaethol, mae'n anodd rhoi i bobl y cylchoedd cyllid tymor hwy y byddent yn eu dymuno eu hunain, ond mewn gwirionedd, fe gawsom ni sgwrs adeiladol iawn gyda'r trydydd sector yng Nghymru ar y pwnc hwn yn union ynglŷn ag iechyd a gofal cymdeithasol ychydig wythnosau yn ôl pan wnaeth y Dirprwy Weinidog a minnau gyfarfod â grŵp a gafodd ei drefnu gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i edrych ar yr holl bobl hynny sy'n ymwneud â darparu ac yn gweithio mewn rhannau amrywiol o'r sector iechyd a gofal cymdeithasol. A'r agwedd galonogol i'r trydydd sector ei harddel yw, pan edrychwch chi ar y ffordd y mae 'Cymru Iachach' nid yn unig wedi ei ysgrifennu a beth sydd yn yr iaith ond mewn gwirionedd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chydffederasiwn y GIG yma yng Nghymru—y tri phartner allweddol a gyd-gynhyrchodd y strategaeth honno—. Felly, maen nhw'n wirioneddol yn rhan o ddechrau'r sgwrs, nid yn bethau sy'n cael eu hatodi ar y diwedd. Ac maen nhw hefyd yn rhan o'n byrddau partneriaeth rhanbarthol ledled y wlad. Mae cynrychiolaeth o'r trydydd sector yno bob amser. Felly, nid yw hi byth yn adeg berffaith mewn amser; bydd hi wastad yn angenrheidiol i herio a thrafod yr hyn yr ydym ni'n ei wneud, ond maen nhw'n wirioneddol yn rhan o'r sgwrs ac yn rhan o'r dyfodol hefyd. O ran eich dau bwynt mwy manwl—ynglŷn ag oedi wrth drosglwyddo gofal, oes, mae amrywiadau rhwng partneriaethau bwrdd iechyd. Rydym ni'n cyhoeddi'r ffigurau hynny yn rheolaidd. Gallaf ddweud fod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi gweld y lefelau isaf o oedi wrth drosglwyddo gofal yn y 13 blynedd diwethaf ers inni ddechrau casglu'r ffigurau hyn, ac yn 2018 roedd traean yn llai o oedi wrth drosglwyddo gofal nag yn 2006. Felly, mewn gwirionedd, rydym ni yn gwneud cynnydd gwirioneddol a chyson, ac mae Cymru'n cymharu'n gadarnhaol â Lloegr, lle mae oedi wrth drosglwyddo yn cynyddu. Ac ynglŷn â'ch sylw am y categorïau uwchgyfeirio uchaf, wel, ar gyfer y rhai nad ydyn nhw'n arbenigwyr ar iechyd, mae gennym ni bedair lefel o uwchgyfeirio: lefel 1, sef yr isaf, a lefel 4, sef yr uchaf—efallai y gwyddoch chi hyn, efallai nad yw eraill yn gwybod hyn. Ac o ran yr amser a dreuliwyd gennym ni ar lefel 4 ar gyfer mis Ionawr eleni o'i gymharu â mis Ionawr diwethaf, mae gwahaniaeth o bron iawn i 12 pwynt canran. Ac, yn yr un modd, pan fydd adrannau wedi bod ar lefel 4, maen nhw wedi isgyfeirio i lefel 3 neu'n is yn llawer cyflymach hefyd. Felly, y rheswm dros hyn yw nid y Gweinidog yn dweud, 'Mae'n rhaid ichi wneud hyn', ond oherwydd bod mwy o afael a gwell perfformiad, ac mae hynny oherwydd bod ein staff mewn sefyllfa well, ac mae hefyd oherwydd bod y system gyfan yn y meysydd hynny mewn sefyllfa well i gyflawni. Huw Irranca-Davies AC: A gaf i adleisio geiriau'r Gweinidog ac eraill sydd wedi cyfrannu hyd yma mewn ymateb i'r datganiad hwn am y gwaith aruthrol y mae pobl yn ei wneud mewn gwahanol ddisgyblaethau, yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol a phartneriaid y trydydd sector hefyd? Ac fe hoffwn i gyfeirio rhai cwestiynau a rhai sylwadau at un o'r sefydliadau penodol hynny a grybwyllwyd yn y datganiad. Ac mae'r sefydliad hwnnw'n un a ddechreuodd, mewn gwirionedd, yn fy ardal fy hun ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn ôl yn 2013–14, rwy'n credu, sef y cymorth a roddodd gofal a thrwsio Pen-y-bont ar Ogwr i'r fenter adre o'r ysbyty. Ac fe brofodd ei werth yn gyflym iawn, iawn bryd hynny—y gallu i ryddhau pobl yn llawer cynt o'r ysbyty i le saff a diogel gyda gofal cofleidiol, ond hefyd i geisio sicrhau nad yw pobl yn dod yn ôl i ysbytai yn rhy gynnar drwy ddarparu'r cymorth addas hwnnw o ran gofal cofleidiol yn y cartref. Nawr, wrth gwrs, fel y dywedodd y Gweinidog, ceir rhai cynlluniau treialu diddorol yn hynny o beth erbyn hyn—mae wedi'i ymestyn ymhell y tu hwnt i'r ardal honno i chwe ardal wahanol yn y de a'r gorllewin, ac rydym ni'n aros i weld y canlyniadau. Ond fe dynnaf sylw'r Gweinidog at yr adroddiad perfformiad o fis Ebrill 2017 i fis Mawrth 2018, sy'n edrych ar rai o'r canlyniadau eithaf cadarnhaol bryd hynny: oddeutu 1,500 o atgyfeiriadau a fu drwy'r fenter benodol hon. O fewn hynny, un o lwyddiannau nodedig y gwasanaeth, hyd yn oed yn y cyfnod cynnar hwnnw, oedd cyflymder y gwasanaeth hwnnw yn ymateb yn gyflym i atgyfeiriadau gan weithwyr iechyd proffesiynol a oedd yn manteisio ar y gwasanaeth, yn enwedig o ran rhyddhau cleifion. Cyfartaledd cyflymder y gwasanaeth oedd un diwrnod o atgyfeirio i gwblhau'r gwaith er mwyn i bobl allu mynd adref yn gyflym.Ond yn ogystal â hynny, wrth gwrs, dyna'r gwasanaethau eraill sy'n rhan o hynny, gan gynnwys nid yn unig yr ymweliadau asesiad llawn o'r cartref a'r asesiadau risg cwympiadau, gan ddefnyddio'r pecyn asesu, y gwiriad cartrefi iach, ond gwiriad budd-daliadau lles llawn hefyd. Cafodd dros 230 o gleifion gynnydd yn eu hincwm wythnosol yn ystod y cyfnod hwnnw: cyfanswm cynnydd ar gyfer y garfan gyfan o £657,000 yn adroddiad blynyddol y flwyddyn honno. Felly, mae'r effeithiau yn enfawr, a phan glywch chi sylwadau gweithwyr iechyd proffesiynol ynghylch beth mae hyn yn ei wneud—yn therapyddion galwedigaethol, yn ffisiotherapyddionac eraill—yr effaith ar fywydau pobl, yn ogystal ag atal pobl rhag gorfod dychwelyd yn gynnar i'r ysbyty, ynghyd â chael eu rhyddhau yn gynnar, yn sylweddol. Felly, a gaf i ofyn i'r Gweinidog—yn y chwyldro tawel hwn yr ydym ni'n ceisio ei gynnal yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol, a'r holl bartneriaid ynddo, sydd angen, byddwn yn dweud, chwyldro parhaus, sydd wastad yn ceisio gwella—sut ydym ni'n symud oddi wrth gyllid treialu? Hon yn wreiddiol oedd y gronfa gofal integredig, bellach mae peth arian trawsnewid arian ac ati yno—os yw'n profi ei hun, a yw'n cytuno â mi mai'r hyn sydd ei angen inni ei wneud yw gwneud hwn yn arferol, gwneud hwn yn rhan o'r busnes craidd? Os yw'r math hwn o ymagwedd a welwn ni o'n blaenau yn gweithio, ac yn arbed arian drwy fod yn fwy ataliol, yna, does bosib, dylai hynny fod yn rhan o fusnes craidd ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a lles. Ac, yn ail, efallai y gallwn ofyn iddo, ac rwy'n siŵr y byddai'n fodlon gwneud hyn, ar adeg briodol, a fyddai'n derbyn gwahoddiad i ddod i weld y gwaith sy'n cael ei wneud gan gofal a thrwsio Pen-y-bont ar Ogwr yn eu gwasanaeth adre o'r ysbyty? Oherwydd rwy'n credu y byddai yntau, fel fi, yn cael ei syfrdanu, nid yn unig o weld y canlyniadau ond o weld proffesiynoldeb ac ymrwymiad y bobl hyn. Maen nhw wedi bod wrthi ers amser maith—maen nhw'n gwybod eu stwff. Felly, os gwelwch yn dda, dewch i weld; byddent wrth eu boddau yn eich gweld ac i weld yn uniongyrchol y canlyniadau y maen nhw'n eu cyflawni ar lawr gwlad a'r gwelliannau y maen nhw'n eu gwneud i ansawdd bywyd eu cleientiaid hefyd. Vaughan Gething AC: Diolch am dynnu sylw at lwyddiant y maes penodol hwnnw o waith, ac, unwaith eto, mae'r syniadau'n dod ac yn cael eu cefnogi, ond, mewn gwirionedd, mae pobl angen eu cyflawni a gwneud y gwahaniaeth. Ac mae hi yn galonogol clywed y manylion ac am nifer y bobl sy'n elwa, ac yn elwa'n gyflym, ar y gwasanaeth newydd—y sylw hwnnw ynghylch rhyddhau pobl yn gyflym a chefnogi pobl i adael, ond yna'r cymorth sydd ei angen arnyn nhw i aros yn eu cartrefi eu hunain mor ddiogel ac mor annibynnol â phosib. A dim ond eisiau dweud yr wyf i fod hyn ynglŷn â phartneriaeth rhwng y trydydd sector, tai a gwahanol grwpiau o staff y sonnir amdanyn nhw'n achlysurol, yn enwedig y therapyddion—cymorth i therapyddion galwedigaethol a ffisiotherapi hefyd. Fy uchelgais yn llwyr yw deall pa fodelau o ofal a chymorth sydd â'r posibilrwydd mwyaf i wneud y gwahaniaeth mwyaf, a'r gallu i'w cyflwyno yn llawer ehangach. Rwyf wedi bod yn glir iawn nad wyf i eisiau parhau i ariannu prosiectau micro nad oes modd eu trosglwyddo i rannau eraill o'r wlad. Mae gennyf ddiddordeb nid dim ond mewn dadl ehangach, ond mewn newid ehangach yn ymarferol ac i fanteisio ar yr arferion gorau fel bod hynny'n dod yn arfer safonol—nid rhywbeth yr ydych chi'n cyfeirio ato sy'n sefyll ar wahân i bopeth arall, ond, mewn gwirionedd, dyna'r ffordd i gyflwyno busnes ar sylfaen safonol i wneud y math o drawsnewid yr ydym i gyd ei eisiau. Mewn egwyddor, byddwn yn hapus iawn i dderbyn ei gynnig, ac os gwnaiff ysgrifennu ataf, rwy'n siŵr y gallwn ni drefnu amser a dyddiad cyfleus yn y dyddiadur. Neil Hamilton AC: Fel pawb arall, fe hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad hwn ac i fynegi fy ngwerthfawrogiad fy hun i staff y GIG am y gwaith aruthrol a wnânt, yn aml mewn amgylchiadau anodd ac ingol iawn. Ac a gaf i ddechrau drwy adleisio'r hyn a ddywedodd Helen Mary Jones yn ei chwestiynau yn gynharach, gan ofyn i'r Gweinidog am fwy o dryloywder mewn datganiadau o'r math hwn? Rwy'n gwybod fy mod i'n newydd i'r briff hwn ac nad wyf i felly yn meddu ar yr un wybodaeth gefndirol sydd gan eraill efallai, ond fe'i cefais yn eithaf anodd deall beth sy'n mynd ymlaen mewn gwirionedd.Mae'r datganiad yn iawn, o ran yr hyn y mae'n ei gynnwys—yn yr adran ynglŷn â thystiolaeth sy'n dod i'r amlwg, rydym ni'n clywed bod ysbytai yn treulio llawer llai o amser ar y lefelau uwchgyferio uchaf; bod llai o bobl dros 85 oed yn cael eu trin fel achosion brys; bod hyd cyfartalog yr arhosiad ar gyfer achosion brys ar ei isaf ers dros chwe blynedd; y bu gostyngiad yn nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal. Ond heb ystadegau, nid ydym yn gallu arfarnu beth yn union mae'r datganiadau hyn yn ei olygu mewn gwirionedd. Ac er fy mod i wedi treulio peth amser gyda fy ymchwilydd heddiw yn ceisio canfod beth oedd y sefyllfa'r llynedd yn fanwl, cefais fod rhai ystadegau i'w canfod ar wefan StatsCymru, eraill ar wefan GIG Cymru a bod eraill ym meddiant cynghorau iechyd cymuned Cymru. Ac weithiau, nid yw'r tablau bob amser yn hawdd eu defnyddio, gan orfodi'r defnyddiwr i greu tabl ar gyfer pob mis o bob blwyddyn, gan wneud dehongli tueddiadau aml-flwyddyn, felly, yn anodd iawn. Tybed a yw hi'n bosib, yn y fersiwn ddigidol o'r datganiadau hyn, i ddarparu dolenni i'r wybodaeth a fydd mewn gwirionedd yn rhoi cig ar esgyrn sychion datganiadau cyffredinol. Rwy'n sylweddoli nad yw hyn bob amser yn bosib, ond lle gwyddys ymlaen llaw ers peth amser y bydd datganiad neu angen am ddatganiad ar rai meysydd, ni ddylai hi fod y tu hwnt i ddyfeisgarwch dyn i sefydlu system sy'n ein galluogi i wneud ein gwaith yn well yn y Cynulliad o ran craffu, mewn ffordd adeiladol, sef yr hyn y dylai'r sgyrsiau hyn fod yn ei gylch. Tybed a all y Gweinidog o bosib roi ychydig mwy o wybodaeth am rai o'r datganiadau a wnaethpwyd. O ran oriau coll ar gyfer cleifion sy'n aros dros awr i gael eu trosglwyddo o'r ambiwlans, mae'n newyddion da iawn y bu gostyngiad o 30 y cant bob blwyddyn, ond o ran cleifion yn aros dros awr, yn ôl arolwg profiad cleifion mewn unedau damweiniau ac achosion brys a gynhaliwyd ychydig yn ôl, ym mis Ionawr y llynedd, bryd hynny roedd oddeutu 30 y cant o bobl yn aros am ambiwlans am fwy nag awr. Felly, mae gostyngiad o 30 y cant yn dal i olygu bod nifer sylweddol o bobl yn gorfod aros am fwy nag awr, ac roedd 10 y cant y llynedd yn gorfod aros am dair awr neu fwy am ambiwlans. Felly, tybed a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthyf i a yw'r gwelliant y cyfeirir ato yma wedi bod yn weddol gyson drwy gydol y cyfnodau amser y mae pobl yn gorfod aros, neu a oes problem benodol mewn rhai meysydd?Unwaith eto, caiff llai o bobl dros 85 oed eu trin fel achosion brys; wel, o blith yr 80,000 fwy neu lai o dderbyniadau'r llynedd, roedd 5,000 o'r rheini dros 85 oed—nid yw'n syndod, mae'n nifer sylweddol. Ond beth fu'r pwysau eleni? A yw'n gysylltiedig â'r tywydd ac efallai llai o bobl yn cael clefydau a fyddai fel arall wedi achosi iddyn nhw gael eu derbyn ar frys, rhywbeth nad oes gan y Llywodraeth unrhyw reolaeth drosto, ac felly ni ddylai gymryd y clod, neu a yw'n dangos gwelliant gwirioneddol yn y system? Unwaith eto, hyd cyfartalog arhosiad i gleifion a gafodd eu derbyn fel achosion brys y llynedd, os oeddent yn 75 i 84 oed, oedd saith awr a chwarter, ac, ar gyfer 85 a throsodd, wyth awr a hanner. Felly, tybed a allwn ni ddangos gwelliannau ystyrlon, oherwydd dim ond dweud yr ydym ni bod hyd cyfartalog yr arhosiad ar ei isaf ers dros chwe blynedd, ond beth yw'r gwahaniaeth yr ydym ni'n sôn amdano yn y fan yma? A yw'n rhywbeth sy'n ostyngiad sylweddol iawn ai peidio? Mae'r rhain yn faterion hollbwysig, y mae'n anodd eu gwerthuso yn ôl y ffordd y gwneir y datganiad hwn. Rwy'n derbyn y bu gwelliannau o ganlyniad i ymdrechion a wnaed gan Lywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf; byddai'n anodd peidio, o ystyried yr adnoddau ychwanegol a ddarparwyd, ac o ystyried y sylfaen isel yr ydym ni'n dechrau arni mewn llawer o achosion. Ac fe ddywedodd y Gweinidog, yn bwysig iawn, mewn gwirionedd bod nifer fach o ysbytai yn ystumio'r darlun ar gyfer Cymru gyfan. Tybed, felly, i ba raddau y mae Betsi Cadwaladr yn benodol yn dal yn tanberfformio ac yn llusgo'r system gyfan i lawr gyda hi. Sylwaf yn arbennig, o'r llwybrau gofal cleifion, o ran aros mwy na 36 wythnos—yn y bwletin ystadegol a gyhoeddwyd fis Gorffennaf diwethaf, roedd tua hanner yr achosion hynny yn ardal Betsi Cadwaladr. Bydd angen i Betsi Cadwaladr wneud yn llawer gwell na'r cyfartaledd os ydym ni am wneud unrhyw wahaniaeth gwirioneddol i'r ffigurau brawychus hyn. Felly, tybed a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni a yw'n credu bod Betsi Cadwaladr yn gwneud digon o gynnydd i wella'r system er mwyn i'r gwasanaeth iechyd gwladol cyfan yng Nghymru ymddangos yn well. Vaughan Gething AC: Gan droi at eich pwynt olaf yn gyntaf, rydym ni wedi bod yn glir iawn ynglŷn â'r angen i Betsi Cadwaladr wneud yn llawer gwell yn y maes gofal heb ei drefnu a gofal wedi ei gynllunio hefyd. Y bwrdd hwn sy'n gyfrifol am oddeutu hanner nifer y bobl sy'n aros mwy nag y dylen nhw am 36 wythnos. Nid yw eu canran 26 wythnos gystal ag y dylai fod ychwaith. Mae'r cynlluniau diwygiedig y maen nhw wedi eu rhoi imi, gyda'r cadeirydd a'r Bwrdd, sydd wedi ei drawsnewid yn ddiweddar, yn craffu o'r newydd, yn rhoi rhywfaint mwy o ffydd imi, ond rwyf wedi ei gwneud hi'n glir y bydd angen iddyn nhw gyflawni'r gwelliant mewn perfformiad y maen nhw wedi ei nodi cyn y byddaf yn dod yma ac yn rhoi'r math o sicrwydd y byddwch chi ac aelodau eraill yn edrych amdano. A bydd gwneud y gwahaniaeth hwnnw yn y gogledd yn gwneud gwahaniaeth i bobl y gogledd ac i'r darlun ledled Cymru hefyd. Ac yn yr un modd, gofal heb ei drefnu hefyd. Ac mae a wnelo hynny â'r cydbwysedd priodol rhwng cymorth a her, oherwydd fy mod i'n credu, fel y dywedais o'r blaen, mai'r peth hawsaf i mi ei wneud yw dweud mai bai rhywun arall ydyw, a disgwyl iddyn nhw wneud yn well, pan, mewn gwirionedd, bod angen i'r staff hynny gael eu cefnogi hefyd. A dyna pam mae arweinyddiaeth gan gymheiriaid ac arweinyddiaeth glinigol yn wirioneddol bwysig, a pham fod y cymorth ar gyfer y system gyfan ac ymgysylltu yn bwysig hefyd. Rwyf eisiau gweld pobl yn aros yn y system, ac, mewn gwirionedd, mae gennyf fwy o reswm i fod yn obeithiol ynghylch yr ychydig fisoedd nesa a ble byddwn ni arni ar ôl hynny, ond rwy'n gobeithio y cyflawnir hynny. Ac rwy'n llwyr ddisgwyl cael cwestiynau i'w hateb am hynny, nid yn unig drwy'r gaeaf, ond drwy weddill y flwyddyn, tra bo ffigurau perfformiad yn aros fel y maent. O ran eich pwyntiau ehangach am lefel y manylion, wel, rydym ni bob amser yn gwneud dewisiadau ynghylch yr hyn sydd yn y datganiadau. Pe byddwn i wedi darparu'r ffigurau ystadegol penodol drwy'r datganiad sy'n gysylltiedig â hynny, yna fyddwn i wedi bod yn chwydu amrywiaeth o ffigurau ac nid yn rhoi dadansoddiad. Ceir cydbwysedd, ac, mewn ateb i gwestiwn gan Helen Mary, rhoddais ragor o ffigurau, ac mae'n rhaid imi ddweud wrthych chi, o ran hyd arhosiad ar gyfer derbyniadau brys, y bu gostyngiad o 3 y cant y gaeaf hwn o'i gymharu â'r gaeaf diwethaf, ac o ran derbyniadau brys ar gyfer pobl dros 85 oed, bu gostyngiad o 7 y cant—felly, gostyngiad gwirioneddol a sylweddol mewn canran. Yr her yw cynnal hynny, nid yn unig drwy'r gaeaf ond drwy weddill ein blwyddyn, ac i wneud yr hyn a ddywedais mewn ymateb i Helen Mary ynglŷn â gwneud yn siŵr ein bod ni mewn gwirionedd yn cyflawni o ran cael adnoddau digonol yn y maes gofal sylfaenol a gofal cymdeithasol i ddarparu mwy o ofal yn agosach at gartref a chadw pobl allan o'r ysbyty pan nad oes angen iddyn nhw fod yno.Mae mwy i'w wneud o ran y ffordd yr ydym ni'n ymgysylltu â phroffesiynau wrth wneud hynny, ac, mewn gwirionedd, mae'r cynllun treialu fferylliaeth yn rhan bwysig iawn o'r flwyddyn hon, nid yn unig yn y ddarpariaeth gymunedol, a gofyn i bobl fynd i'r fferyllfa yn gyntaf, ond o ran cael fferyllwyr yn yr adran achosion brys, oherwydd, fel rydym ni'n dweud droeon—ac mae David Melding yn gwneud hynny'n rheolaidd pan fo'n sôn am fferylliaeth gymunedol, ac eraill—mae nifer sylweddol o dderbyniadau i'r ysbyty yn ymwneud â chamgymeriadau wrth roi meddyginiaeth. Felly, po fwyaf y gallwn ni wneud o ran cael cefnogaeth fferylliaeth briodol, gorau oll y bydd ar gyfer y system gyfan. Ac, ynglŷn â'ch sylw am amseroedd aros ambiwlans, wel, rwy'n dechrau gan gydnabod bod gormod o bobl yn dal i aros yn rhy hir—nid dim ond am awr, ond mae rhai pobl yn dal i aros yn rhy hir beth bynnag, ar lefel unigol. Ond mae'r 30 y cant yn welliant gwirioneddol, ac mae'n cynnwys Betsi Cadwaladr hefyd—maen nhw wedi gwneud gwelliannau gwirioneddol yn lleihau, os mynnwch chi, y nifer o oriau ambiwlans coll. Mae hynny'n rhan o'r her ynghylch ein system, ein bod ni'n gwneud yn well ym maes ambiwlansys mewn ffordd gynaliadwy—ond fodd bynnag nid yw'n cael ei drosglwyddo drwy'r system gyfan. Mae mwy i'w wneud o hyd, ond, unwaith eto, ni ddylem ni golli golwg ar y ffaith mai dyma'r deugeinfed mis yn olynol i wasanaeth ambiwlans Cymru gyrraedd ei darged ar gyfer galwadau coch, er gwaetha'r ffaith y bu mwy nag erioed o alwadau coch lle'r oedd bywyd yn y fantol hefyd. Ac mae hynny'n deyrnged sylweddol i'r ymddiriedolaeth gwasanaeth ambiwlans. Ac, ar eich pwynt olaf ynglŷn â lefel y galw sy'n dod i mewn a beth allai hynny fod, wel, mewn gwirionedd, nid yw hyn yn ymwneud â niferoedd yn unig. Mae cyfran y niferoedd yn newid. Rydym ni'n categoreiddio cleifion sy'n dod i mewn i adrannau achosion brys yn rhai mân, o ran mân anafiadau ac anhwylderau mân, neu'n sylweddol, pan fyddan nhw'n wirioneddol sâl iawn. Ac, mewn gwirionedd, mae'n wir, yn y gaeaf, ein bod yn tueddu i weld mwy o bobl yn y categori sylweddol; ac maen nhw'n tueddu i fod yn hŷn. Mewn gwirionedd, y gaeaf hwn, mae canran ein cleifion yn y categori sylweddol, felly'r pobl sydd fwyaf sâl, wedi newid unwaith eto. Felly, rydym ni'n gweld hyd yn oed mwy o bobl sydd mewn gwirionedd yn sâl iawn, iawn, ac mae angen iddyn nhw fod mewn ysbyty ar gyfer triniaeth. Ac, mae mwy a mwy o'r bobl hyn yn cyrraedd yno eu hunain—maen nhw'n cyrraedd ar eu pen eu hunan neu'n bobl y mae cyfeillion a pherthnasau yn eu cludo yno—yn ogystal â'r niferoedd uwch nag erioed sy'n cael eu trosglwyddo gan y gwasanaeth ambiwlans. Mae mwy i'w wneud ynghylch sut y gallwn ni ymdopi â'r darlun cyfnewidiol hwnnw o alw. Dyna'r cyd-destun i ni ei gyflawni, ond rwy'n cydnabod y bydd Aelodau yn disgwyl imi fod yn atebol ar gyfer y system gyfan, ac i'r system gyfan allu adnabod ac ymdrin â'r pwysau sy'n bodoli yn ein poblogaeth. Diolch i chi, Gweinidog. 4. Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig, Ffioedd a Ffioedd am Geisiadau Tybiedig) (Cymru) (Diwygio) 2019 Eitem 4 ar yr agenda yw Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig, Ffioedd a Ffioedd am Geisiadau Tybiedig) (Cymru)(Diwygio)2019. Ac rwy'n galw ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig y cynnig. Julie James. Cynnig NDM6963 Rebecca Evans Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig, Ffioedd a Ffioedd am Geisiadau Tybiedig) (Cymru) (Diwygio) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Ionawr 2019. Cynigiwyd y cynnig. Julie James AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gyflwyno'r rheoliadau hyn i'r Cynulliad i'w cymeradwyo. Ar 1 Ebrill, bydd pwerau cydsynio ynni pellach o dan Ddeddf Cymru 2017 yn dechrau. Y rheoliadau hyn yw'r cyntaf mewn cyfres o offerynnau statudol sy'n pennu sut y byddwn yn gweithredu'r pwerau newydd hyn. Mae Deddf Cymru yn codi'r terfyn uchaf datganoledig ar gyfer rhoi caniatâd i orsafoedd cynhyrchu, o 50 MW ar y tir yn unig i 350 MW ar y tir ac alltraeth. Mae hefyd yn datganoli'r caniatâd i Weinidogion Cymru ar gyfer gwifrau trydan uwchben cysylltiedig hyd at a chan gynnwys 132 kV. Mae'r rheoliadau hyn yn ehangu cwmpas y broses datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol i gynnwys y pwerau datganoledig newydd hyn. Mae'r broses datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol eisoes yn cynnwys gorsafoedd cynhyrchu ar y tir o rhwng 10 MW a 50 MW. Pe na fyddai'r rheoliadau hyn ar waith, yr awdurdodau cynllunio lleol fyddai'n penderfynu ar y ceisiadau cynllunio ar gyfer y prosiectau newydd datganoledig hyn, sydd o arwyddocâd cenedlaethol, yn hytrach na Gweinidogion Cymru. Byddai hyn yn arwain at sefyllfa lle byddai ceisiadau cynllunio llai o faint ar gyfer gorsafoedd cynhyrchu o rhwng 10 MW a 50 MW yn cael caniatâd gan Weinidogion Cymru, a gorsafoedd cynhyrchu mwy o faint a mwy sylweddol yn cael caniatâd ar lefel leol. Mae'r rheoliadau hyn yn atal y sefyllfa honno rhag codi. At hynny, heb ymyrraeth, efallai y byddai angen caniatâd gan ddau neu ragor o awdurdodau cynllunio lleol ar gyfer gwifrau trydan uwchben. Mae pob cyswllt â'r grid, beth bynnag ei faint, yn seilwaith cenedlaethol pwysig, ac felly fy mwriad i yw bod Gweinidogion Cymru yn gwneud y penderfyniadau hyn, er mwyn i benderfyniadau gan ddatblygwyr a chymunedau gael eu symleiddio. Mewn diwygiad cysylltiedig, mae'r rheoliadau hyn hefyd yn hepgor y rhan fwyaf o'r technolegau storio ynni o'r broses datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol, ar gyfer penderfyniadau ar lefel leol. Nod allweddol yw datgarboneiddio'r diwydiant ynni yng Nghymru a datblygu technolegau carbon isel, sy'n aml yn fach o ran maint ag effaith fechan iawn ar yr amgylchedd. Nid oes prosiectau storio wedi cael caniatâd eto drwy'r broses datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol; mae'r dystiolaeth yn awgrymu yr ystyrir y gost a'r amserlen ar gyfer penderfyniadau yn rhwystr mawr i wneud cais. Mae'r newid hwn yn cael gwared ar y rhwystrau hynny, gan hyrwyddo agenda datgarboneiddio ein Llywodraeth ni. Ac, yn olaf, mae'r rheoliadau yn gwneud nifer o ddiwygiadau canlyniadol hefyd sy'n ymwneud â'r ffioedd ar gyfer y ceisiadau newydd hyn a cheisiadau tybiedig. Yn amodol ar gymeradwyaeth y rheoliadau hyn, rwyf hefyd yn bwriadu gosod rhagor o offerynnau statudol sy'n gwneud newidiadau canlyniadol i'r broses datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol i gynnwys y pwerau newydd hyn. Cafodd y newidiadau yn y rheoliadau hyn gefnogaeth eang yn yr ymgynghoriad a gyhoeddwyd gan y Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig y llynedd. Diolch. Nid oes unrhyw siaradwyr i'r ddadl. Gan hynny, felly, oni bai bod gennych chi unrhyw beth arall yr hoffech ei ychwanegu, byddwn yn symud at y bleidlais. Felly, y cynnig yw cytuno ar y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, byddwn yn gohirio'r bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. 5. Dadl: Setliad yr Heddlu 2019-20 Yr eitem nesaf yw dadl setliad yr heddlu 2019-20. A galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig. Julie James. Cynnig NDM6960 Rebecca Evans Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2019-20 (Setliad Terfynol—Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu), a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ionawr 2019. Cynigiwyd y cynnig. Julie James AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cyflwyno heddiw i'r Cynulliad ar gyfer eu cymeradwyo fanylion am gyfraniad Llywodraeth Cymru at y cyllid refeniw craidd ar gyfer y pedwar comisiynydd heddlu a throseddu yng Nghymru am 2019-20. Ond cyn gwneud hynny, Dirprwy Lywydd, hoffwn roi teyrnged i bawb sy'n gwasanaethu yn ein lluoedd heddlu am y gwaith a wneir ganddynt ledled Cymru yn cadw ein cymunedau yn ddiogel, yn cynnal y safonau uchaf o ddyletswydd, ymroddiad ac, ar adegau, o ddewrder, wrth gynnal y materion diogelwch cymunedol sydd o fewn y setliad ar gyfer y lle hwn. Bydd yr Aelodau yn ymwybodol y caiff y cyllid craidd ar gyfer yr heddlu yng Nghymru ei roi drwy drefniant tair ffordd sy'n cynnwys y Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru a'r dreth gyngor. Gan nad yw polisi plismona a materion gweithredol wedi eu datganoli, mae'r darlun ariannu cyffredinol yn cael ei osod a'i symbylu gan y Swyddfa Gartref. Mae'r dull sefydledig o bennu a dosbarthu elfen Llywodraeth Cymru yn hyn o beth yn seiliedig felly ar yr egwyddor o sicrhau cysondeb a thegwch ledled Cymru a Lloegr. Fel yr amlinellwyd yng nghyhoeddiad setliad terfynol yr heddlu ar 24 Ionawr, cyfanswm y refeniw cymorth heb ei neilltuo ar gyfer y gwasanaeth heddlu yng Nghymru ar gyfer 2019-20 yw £357 miliwn. Cyfraniad Llywodraeth Cymru at y swm hwn, drwy grant cymorth refeniw ac ardrethi annomestig a ail-ddosbarthwyd, yw £143.4 miliwn, a hwnnw yw'r cyllid y gofynnir i chi ei gymeradwyo heddiw. Fel mewn blynyddoedd blaenorol, mae'r Swyddfa Gartref wedi penderfynu troshaenu ei fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion gyda mecanwaith gwaelodol. Mae hyn yn golygu y bydd pob comisiynydd heddlu a throseddu ledled Cymru a Lloegr yn cael cynnydd o 2.1 y cant yn eu cyllid yn ystod 2019-20 o'i gymharu â 2018-19. Bydd y Swyddfa Gartref yn darparu grant ychwanegol gwerth £4.1 miliwn i sicrhau bod Dyfed-Powys a Heddlu Gogledd Cymru yn cyrraedd y lefel gwaelodol. Fel y byddwch yn ymwybodol, yn ystod 2019-20, bydd gan homisiynwyr heddlu a throseddu y pwysau ychwanegol o ariannu costau cynyddol pensiynau. Dro ar ôl tro rydym wedi galw ar Lywodraeth y DU i ariannu'r costau cynyddol sy'n gysylltiedig â newidiadau i bensiynau yn llawn. Amcangyfrifir y bydd y gost tua £330 miliwn i gomisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru a Lloegr. Mae'r Swyddfa Gartref wedi dyrannu grant ychwanegol o £143 miliwn yn benodol i helpu gyda'r costau pensiwn uwch hyn, ac mae £7.3 miliwn o hwn wedi ei ddyrannu i gomisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru. Roedd hyn yn uwch na'r hyn a ddisgwylid adeg cyllideb y DU yn 2016. Mae gan gomisiynwyr heddlu a throseddu hefyd y gallu i godi arian ychwanegol drwy braesept eu treth gyngor. Mae Llywodraeth y DU wedi dyblu hyblygrwydd y praesept i ganiatáu i gomisiynwyr heddlu a throseddu yn Lloegr godi praesept eu treth gyngor hyd at £24 yn 2019-20, gan amcangyfrif y bydd hyn yn codi hyd at £500 miliwn ychwanegol. Mae gan gomisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru y rhyddid i wneud eu penderfyniadau eu hunain ynghylch cynnydd yn y dreth gyngor, heb fod yn ddarostyngedig i'r terfynau sy'n gymwys yn Lloegr. Wrth setlo eu helfen nhw o'r dreth gyngor, rwy'n disgwyl i bob comisiynydd heddlu a throseddu weithredu mewn modd sy'n rhesymol ac ystyried y cyfyngiadau sydd ar aelwydydd dan bwysau. Rydym yn gwerthfawrogi bod penderfyniadau anodd yn angenrheidiol wrth ddatblygu cynlluniau ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda'r comisiynwyr heddlu a throseddu a phrif gwnstabliaid i sicrhau y rheolir yr heriau ariannu mewn ffyrdd sy'n lleihau'r effaith gymaint â phosibl ar ddiogelwch cymunedau Cymru. Fel rhan o hyn, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud darpariaeth yn ei chyllideb 2019-20 ar gyfer blwyddyn arall o gyllid ar gyfer y 500 o swyddogion cymorth cymunedol ychwanegol a gafodd eu recriwtio dan yr ymrwymiad rhaglen lywodraethu flaenorol. Mae Llywodraeth Cymru wedi cadw at yr un lefel o gyllid i gyflawni'r ymrwymiad hwn fel yr oedd yn 2018-19, gyda £16.8 miliwn wedi'i glustnodi yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Defnyddiwyd y cyflenwad llawn o swyddogion ers mis Hydref 2013, ac maen nhw'n gwneud cyfraniad cadarnhaol at ddiogelwch y cyhoedd ledled Cymru. Un o'r prif ffactorau y tu ôl i'r prosiect hwn oedd ychwanegu presenoldeb gweladwy yr heddlu ar ein strydoedd ar adeg pan fo Llywodraeth y DU yn cwtogi ar ariannu'r heddlu. Mae ymchwil yn awgrymu nad yw Cymru wedi gweld yr un gostyngiad yn nifer y swyddogion ag a welwyd yn Lloegr, ac mae ein swyddogion ychwanegol yn ymdrin â mân droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn llwyddiannus. Llywydd, y cynnig yw cytuno ar yr adroddiad cyllid llywodraeth leol ar gyfer comisiynwyr heddlu a throseddu a osodwyd gerbron y Cynulliad. Os caiff ei gymeradwyo, bydd hyn yn caniatáu i'r comisiynwyr gadarnhau eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, ac felly gofynnaf i Aelodau'r Cynulliad gefnogi'r cynnig hwn heddiw. Mark Isherwood AC: Bydd pob heddlu yng Nghymru yn derbyn cynnydd mewn termau gwirioneddol yn 2019-20, cynnydd o 4.9 y cant yng Ngwent, 5 y cant yn y de, 5.3 y cant yn y gogledd a 6.1 y cant yn Nyfed-Powys. Fel y clywsom, mae Swyddfa Gartref y DU yn parhau i droshaenu ei fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion gyda mecanwaith gwaelodol. Gall yr holl heddluoedd yng Nghymru a Lloegr ddisgwyl cael yr un cynnydd o 2.1 y cant mewn cymorth refeniw unwaith eto, fel y clywsom, gyda chyfanswm o £357.3 miliwn o gymorth refeniw gan y Llywodraeth i heddluoedd Cymru yn 2019-20, gan gyfuno cyllid o £213.9 miliwn gan y Swyddfa Gartref a'r £143.4 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru fel y soniodd y Gweinidog. Wrth gwrs, mae'r drydedd elfen—praesept treth gyngor yr heddlu—yn cynyddu 6.99 y cant yng Ngwent, neu 32 ceiniog yr wythnos i'r aelwyd gyfartalog, a fydd yn helpu i ariannu 40 o swyddogion newydd; 7 y cant yng Ngogledd Cymru, neu 38c yr wythnos i'r aelwyd gyfartalog, a fydd yn golygu y bydd modd recriwtio 34 o swyddogion ychwanegol a chwe aelod o staff; 10.3 y cant yn Ne Cymru, gydag addewid o fuddsoddi mewn plismona rheng flaen; a 10.7 y cant yn Nyfed-Powys. Mae'r cynnydd yn Ne Cymru a Dyfed-Powys yn golygu codiad o 46c yr wythnos i'r aelwyd gyfartalog. Gyda Ffederasiwn Heddlu De Cymru yn nodi, yn 2016, fod y bwlch o ran praesept y dreth gyngor gyda heddluoedd eraill Cymru wedi cau erbyn hyn, mae'n rhaid inni ofyn pam mae eu cynnydd nhw y flwyddyn hon gryn dipyn yn uwch na chynnydd Gwent a Gogledd Cymru. Pan bennodd Dyfed-Powys y cynnydd uchaf yng Nghymru o'r blaen, roedd yn beio'r rhewi cyllid blaenorol, er i'r comisiynydd heddlu a throseddu o blith y Ceidwadwyr Cymreig nodi wrth ymadael ei fod wedi darparu mwy o heddweision ar ein strydoedd gwledig am fwy o amser am lai o arian. Mae Llywodraeth y DU, ers 2015 wedi codi ei chyfraniad at gyllido cyffredinol yr heddlu yn unol â chwyddiant, gan gynnwys meysydd penodol megis seibrdrosedd, gwrthderfysgaeth a mynd i'r afael â chamfanteisio'n rhywiol ar blant. Cyn hynny, roedd yn rhaid iddi ymrafael â gwerth £545 miliwn o doriadau yn yr heddlu, a etifeddwyd o gyllideb derfynol y Blaid Lafur yn 2010, i'w gwneud erbyn 2014. Mae arolwg troseddu Cymru a Lloegr yn rhoi'r trosolwg gorau o newidiadau hirdymor, gyda'r amcangyfrifon diweddaraf yn dangos nad oes unrhyw newid arwyddocaol wedi bod mewn troseddau dwyn, a chafwyd gostyngiad o 33 y cant mewn troseddau camddefnyddio cyfrifiaduron. Ar gyfer y mathau o droseddau y credir iddyn nhw gael eu hadrodd yn gywir a'u cofnodi'n gywir, gall data cofnodi'r heddlu helpu i nodi newidiadau byrdymor, ac mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos darlun cymysg—er enghraifft, cynnydd mewn troseddau lladrad ochr yn ochr â gostyngiad yn nifer y tramgwyddau sy'n ymwneud â drylliau tanio. Mae'r ffigurau a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf yn dangos, er bod achosion o ddynladdiad yng Nghymru a Lloegr wedi cynyddu 3 y cant yn y flwyddyn a ddiweddodd ym mis Mawrth 2018, yr effeithir ar y tueddiadau o ran dynladdiad gan y modd y cofnodir digwyddiadau eithriadol gydag amrywiol ddioddefwyr, fel yr ymosodiadau terfysgol yn Llundain a Manceinion, ac mae'r ffigur yn dal i fod yn is na'r penllanw ym mis Mawrth 2008. Canfu asesiad arolwg troseddu Cymru a Lloegr fod lefel y troseddau treisgar gyda niwed llai, er enghraifft, trais heb anaf a thrais gyda mân anafiadau, yn sefydlog. Mae cyhoeddiad diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol ar droseddu yng Nghymru a Lloegr, ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2018, yn nodi, dros y degawdau diwethaf, ein bod yn parhau i weld gostyngiad yn lefelau troseddu yn gyffredinol, ond yn y flwyddyn ddiwethaf ni welwyd unrhyw newid. Fel y dywed, yr arolwg troseddu yw'r dangosydd mwyaf dibynadwy o dueddiadau hirdymor, ac nid yw ystadegau troseddau a gofnodir gan yr heddlu bob amser yn cynnig mesur dibynadwy o lefelau a thueddiadau. Ni fu unrhyw newid yn y mathau o droseddau treisgar sy'n digwydd yn fwyaf cyffredin. Er bod cynnydd yn nifer y cyfaddefiadau o ymosodiadau, roedden nhw'n parhau i fod 33 y cant yn is nag yn 2008. Yn sesiwn briffio Heddlu Gogledd Cymru y mis diwethaf, clywsom fod y gogledd yn un o'r mannau mwyaf diogel i fyw, bod yr heddlu yno yn canolbwyntio ar ataliad, ond fod troseddau yn esblygu tuag at seibrdroseddu, camfanteisio ar blant yn gorfod cadw gormod o bobl yn y ddalfa o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 oherwydd nad oedd yr asiantaethau datganoledig eraill ar gael i'r bobl dan sylw, a bod y gwasanaeth ambiwlans ac amseroedd ymateb yn arwain atynt yn cael eu brysbennu, er nad ydyn nhw'n barafeddygon effeithlon. Ceir pryder parhaus hefyd ynghylch y modd y mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â'r ardoll prentisiaeth, gyda heddluoedd Cymru yn cael eu rhwystro rhag defnyddio'r £2 filiwn y maen nhw'n ei gyfrannu'n flynyddol ar gyfer hyfforddiant. Er iddi gael mwy o gyllid net gan y Trysorlys nag o'r blaen ar gyfer hyn—£600,000 o gyllid ychwanegol gan y Swyddfa Gartref ar gyfer hyfforddiant yr heddlu yn 2018-19, ac addewid o £400,000 ar gyfer hyfforddiant heddlu—mae gan Lywodraeth Cymru arian parod sy'n parhau i fod ar goll o gyfraniadau'r blynyddoedd blaenorol a ddylai fod yn mynd i'r afael â'r bwlch hwn. Leanne Wood AC: Mae'r cynnig sydd gerbron y Senedd y prynhawn yma yn ceisio cymeradwyaeth i setliad ariannol yr heddlu hyd at 2019-20 yn ein hatgoffa unwaith eto, mewn ystyr ymarferol iawn, o annigonolrwydd y fframwaith cyfansoddiadol presennol o ran plismona a chyfiawnder. Mae cyfrifoldebau polisi a chyllid yn gyffredinol yn aros gyda San Steffan. Ond mae elfennau hanfodol o gyllid yr heddlu, o ran materion megis diogelwch cymunedol, a fyddai'n gyfrifoldeb i'r adran cymunedau yn Lloegr, yn rhan o gyfrifoldebau Llywodraeth Cymru y mae honno'n atebol i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn amdanynt. Ac eto, nid yw cyfiawnder, yn ei ystyr ehangaf, yn gyfrifoldeb i'r sefydliad hwn, ac nid yw'r trefniadau craffu wedi cael eu datblygu'n ddigonol. Gan droi at y setliad ei hun, mae hwn yn dilyn cyfeiriad cyffredinol y setliad ariannu y cytunwyd arno yn San Steffan fis diwethaf. Fel y gwnaeth datganiad ysgrifenedig eich rhagflaenydd ein hatgoffa ni ym mis Rhagfyr pan gyhoeddwyd y cynigion cychwynnol, seilir y fformiwla gyfan ar yr egwyddor o sicrhau cysondeb a thegwch ledled Cymru a Lloegr. Er hynny, gwyddom pe byddai plismona yng Nghymru yn cael ei ariannu ar sail poblogaeth, fel y gwneir gyda gwasanaethau datganoledig eraill, y byddai gan yr heddluoedd yng Nghymru dros £20 miliwn y flwyddyn o arian ychwanegol. Ni allaf weld sut y gall Llywodraeth Cymru sefyll o'r neilltu pan fo'r system yn gwarantu annhegwch o'r fath i Gymru a'r heddluoedd plismona yng Nghymru. Felly, byddem yn ddiolchgar pe gallech chi ddweud wrthym ni sut mae hyn yn gyson â safbwynt Llywodraeth Cymru o blaid datganoli plismona a chyfiawnder. Yn ddiamau, mae'r trefniadau presennol yn groes i degwch a chysondeb. O ystyried y cymhlethdod ynghylch pwy sy'n gyfrifol am bolisi ac ariannu, ac yn aml, y gwahaniaethu camarweiniol yn rhaniad y pwerau a'r cyfrifoldebau rhwng Cymru a San Steffan, byddwn yn ddiolchgar hefyd pe gallech roi eglurder ar rai materion manwl yn eich ateb. Yn arbennig, caiff cyllid ar gyfer swyddogion cymorth cymunedol hanner ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. A oes modd ichi roi sicrwydd, Gweinidog, y bydd hyn yn parhau, ac, os felly, am ba hyd, gan mai'r swyddogion hyn yw sylfaen ein system o blismona cymunedau? Caiff swyddogion SchoolBeat eu hariannu gan Lywodraeth Cymru hefyd. Maen nhw'n darparu cyswllt ag ysgolion ac maen nhw'n bwysig iawn o ran cyfiawnder adferol. A wnaiff hi roi sicrwydd ynghylch cyllid i'r dyfodol ar gyfer y rhain? Dyrannwyd £2 biliwn i'r GIG yn Lloegr ar gyfer iechyd meddwl, gyda phwyslais arbennig ar leihau'r galw am blismona. Pa sicrwydd a all hi ei roi i ni y bydd y setliad hwn yn lleihau pwysau tebyg ar heddluoedd Cymru? Mae rhaid dweud na all fod yn dderbyniol nac yn gynaliadwy i gyllid ar gyfer plismona a diogelwch cymunedol yn ei ystyr ehangaf gael ei rannu rhwng dwy Senedd a dwy Lywodraeth yn y modd hwn. Nid yw'n gwneud synnwyr o gwbl. Siomedig yw gorfod dweud wrthych chi, Gweinidog, bod eich cymheiriaid Llafur yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf ychydig wythnosau'n ôl wedi gwrthod gwelliant gan Blaid Cymru yn galw am ddatganoli'r heddlu er mwyn gallu goresgyn rhai o'r anghysondebau hyn. Tybed a oes gan y Gweinidog farn ynglŷn â'i chymheiriaid yn pleidleisio yn erbyn polisi'r Blaid Lafur yn y modd hwn. Yn ddiamau, mae'r amser wedi dod yn awr i ni gyd gytuno y dylai polisi plismona Cymru, fel y mae yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, fod yma yn ein Senedd genedlaethol ni, nid ym mhrifddinas gwlad arall, ymhell o'r mannau y mae'r heddluoedd yn gweithio mewn gwirionedd. A fyddai'r Gweinidog yn cytuno? Diolch. A gaf i alw nawr ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ymateb i'r ddadl? Julie James AC: Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Wel, codwyd nifer o faterion yno, dau neu dri ohonyn nhw'n deilwng, yn fy marn i, o'u trafod rywfaint ymhellach. Mae'r cyntaf yn ymwneud â datganoli plismona. Rwy'n cytuno'n llwyr â Leanne Wood: nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr o gwbl i ymatebwyr golau glas beidio â chael eu datganoli i Gymru, ac rydym wedi galw dro ar ôl tro am ddatganoli plismona ynddo'i hun yn ogystal ag yn rhan o drosglwyddiadau cyfiawnder troseddol. Ond rwyf i o'r farn y dylai plismona ynddo'i hun gael ei ddatganoli. Ceir nifer o faterion sy'n ymwneud â rhaniad y cyfrifoldebau; fe dynnodd sylw at sawl un ohonyn nhw. Mae honno'n drafodaeth barhaus ac mae'n un y mae'r comisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru yn cyd-fynd â hi hefyd, ac nid wyf i'n cael dim i anghytuno ag ef yn yr hyn a ddywedodd hi am hynny. Rydym wedi parhau i warchod y cyllid ar gyfer diogelwch cymunedol oherwydd ffurfiad y setliad datganoli ar hyn o bryd. Dywedais ein bod am barhau i ariannu swyddogion cymorth cymunedol yn y gyllideb nesaf. Rydym yn chwilio am adolygiad cynhwysfawr o wariant ar ddiwedd y flwyddyn hon, ond ein bwriad yw parhau i gefnogi'r swyddogion cymorth cymunedol, er nad wyf mewn sefyllfa i ddweud yn bendant y byddwn ni'n gwneud felly hyd nes y gwelwn beth ddaw—os daw hwnnw byth—yn sgil yr adolygiad eang o gyllid. Credaf, o ran cyfraniad Mark Isherwood, mai'r unig beth yr oeddwn yn awyddus i'w godi mewn gwirionedd oedd ailadrodd fy sylwadau yn fy natganiad agoriadol ynghylch—. Os yw ef yn bryderus iawn ynghylch yr heriau gydag ariannu y mae'r comisiynwyr heddlu a throseddu yn ymrafael â nhw ar hyn o bryd, yna dylai fod yn lobïo'n galed i weld y ddarpariaeth pensiwn gyfan yn cael ei chynnwys oddi mewn i'r setliad. Yn sicr nid yw hynny'n wir ar hyn o bryd, a honno yw'r brif broblem i'r heddluoedd, ac yn wir mewn nifer fawr o feysydd eraill. Nid yw Llywodraeth y DU yn ymddangos ei bod yn gallu deall os ydych chi'n datganoli telerau ac amodau i bobl yna mae eu pensiynau nhw'n dod gyda nhw, a dylai'r cyllid hwnnw lifo. Felly, fel yn yr holl sgyrsiau eraill o ran datganoli, rydym yn croesawu datganoli, ond byddem hefyd yn croesawu'r cyllid i ategu'r datganoli, ac yn sicr nid ydym wedi cael hwnnw. Soniodd ef yn benodol am yr ardoll prentisiaeth, acmae honno, wrth gwrs, yn enghraifft nodweddiadol o Lywodraeth y DU yn ymatal rhag datganoli'r arian i fynd â'i pholisïau—[Torri ar draws.] Ni wnaeth hynny. Cymerodd yr arian o'i chyllideb adrannol a'i roi mewn man ar wahân. Felly, roedd y swm cyflawn a gawsom y nesaf peth i ddim. [Torri ar draws.] Dirprwy Lywydd, rwyf wedi nodi, yn rhinwedd fy ngweinidogaethau blaenorol, y mater ynghylch cyllid yr ardoll prentisiaeth: mae'n eglur iawn na wnaeth Llywodraeth y DU ddarparu arian ychwanegol i Gymru ar gyfer cyllid yr ardoll prentisiaeth i'r heddlu, nac ar gyfer unrhyw un ardal ddatganoledig arall, mewn gwirionedd. Mae'r ffigurau yn amlwg iawn i bawb eu gweld. Dirprwy Lywydd, mae diogelwch cymunedol yn brif flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Er bod y setliad yn well nag y byddai rhai wedi disgwyl, ceir heriau yn ei sgil o hyd, fel y dywedais, ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda chomisiynwyr heddlu a throseddu a phrif gwnstabliaid i sicrhau bod yr heriau hyn yn cael eu rheoli mewn ffyrdd sy'n cyfyngu ar yr effaith ar ddiogelwch cymunedol a phlismona ar y rheng flaen yng Nghymru. Mae parhau i weithio mewn partneriaeth i nodi a datblygu cyfleoedd yn bwysig, fel y dangosodd y defnydd llwyddiannus o'n 500 o swyddogion cymorth cymunedol ni. O gofio nad oes unrhyw ddadl yn gyflawn y dyddiau hyn heb gyfeirio at Brexit, hoffwn achub ar y cyfle hwn hefyd i dynnu sylw'r Aelodau at gyllid gwerth bron £0.5 miliwn ar gyfer gwaith yr heddlu gyda phartneriaid drwy fforymau Cymru Gydnerth lleol ar gyfer posibilrwydd Brexit heb gytundeb. Daw hyn o'n cronfa bontio'r UE gwerth £50 miliwn, yr ydym wedi ei defnyddio i gynorthwyo cyrff y sector cyhoeddus, cyrff y sector gwirfoddol a busnesau. Nid ydym yn gwario arian Llywodraeth Cymru i ariannu pethau sydd mewn gwirionedd yn gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU, ond fel yr ydym wedi ei gydnabod bob amser, mae gan luoedd yr heddlu swyddogaeth bwysig wrth baratoi gyda phartneriaid ar gyfer goblygiadau Brexit, ac yn arbennig felly'r posibilrwydd o Brexit heb gytundeb. Rydym ni'n falch o'u cefnogi drwy'r fforymau Cymru Gydnerth lleol. Dirprwy Lywydd, rwy'n cymeradwyo'r setliad hwn i'r Cynulliad. Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw cytuno ar y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gan hynny, rydym yn gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. 6. Dadl: Yr Adroddiad Blynyddol ar Gamddefnyddio Sylweddau Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar, a gwelliannau 2, 3 a 4 yn enw Rhun ap Iorwerth. Rydym yn symud nawr at eitem 6, sef dadl ar yr adroddiad blynyddol ar gamddefnyddio sylweddau, ac rwy'n galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig y cynnig—Vaughan Gething. Cynnig NDM6961 Rebecca Evans Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi’r cynnydd sy'n cael ei wneud i fynd i’r afael â’r niwed sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau, fel yr amlygir yn Adroddiad Blynyddol ar Gamddefnyddio Sylweddau a Rhagolwg Llywodraeth Cymru (Tachwedd 2018). Cynigiwyd y cynnig. Vaughan Gething AC: Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o agor dadl heddiw ar yr adroddiad blynyddol ar gamddefnyddio sylweddau 2018. Mae mynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac yn faes sylweddol i ganolbwyntio arno os ydym yn dymuno cyflawni ein huchelgeisiau o weld Cymru fwy iach. Mae hwn yn fater o bwys o ran iechyd sy'n effeithio ar unigolion, teuluoedd a chymunedau. Ein nod cyffredinol o hyd yw parhau i sicrhau bod pobl yng Nghymru yn ymwybodol o beryglon ac effaith camddefnyddio sylweddau ac yn gwybod lle y gallan nhw fynd am wybodaeth, cymorth a chefnogaeth pe byddai ei angen arnyn nhw. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i fynd i'r afael â'r niwed sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau. Rwy'n falch ein bod wedi gallu cefnogi'r ymrwymiad hwn ag adnoddau ychwanegol yn ddiweddar. Fis diwethaf, cyhoeddais fod £2.4 miliwn ychwanegol o gyllid ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf i'n saith bwrdd cynllunio ardal, sy'n gyfrifol am gomisiynu'r gwasanaethau rheng flaen yn lleol. Mae hynny dros 10 y cant o gyllid ychwanegol. Mae'r cyllid ychwanegol hwn, mewn cyfnod o gyni parhaus, yn golygu ein bod ni bellach yn gallu cefnogi'r byrddau cynllunio ardal gyda'r arian ychwanegol i ymdrin â heriau'r dyfodol. Mae'r buddsoddiad ychwanegol hwn yn codi ein cyllid blynyddol i gamddefnyddio sylweddau i dros £50 miliwn. Yng Nghymru, bydd ein dull ni o ymdrin â chamddefnyddio sylweddau yn parhau i fod yn seiliedig ar leihau niwed gan ganolbwyntio ar iechyd pobl. Mae'r gwerthusiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar o'n strategaeth 10 mlynedd ni, ynghyd ag adolygiad annibynnol yr arolygiaeth iechyd o wasanaethau, fel ei gilydd yn cydnabod y gwnaed cynnydd yn gyffredinol, a bod hynny wedi ei gyflawni yn erbyn cefndir heriol natur newidiol camddefnyddio sylweddau. Wedi dweud hynny, rydym yn cydnabod y bydd rhagor i'w wneud bob amser. Rydym yn cefnogi rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas a byddwn yn parhau i wynebu her. Wrth inni gyrraedd diwedd cyfnod y strategaeth gyfredol a'r cynllun cyflawni, rydym yn troi ein sylw at y meysydd y mae angen inni ganolbwyntio arnyn nhw i leihau'r niwed sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Rydym yn ymgysylltu ar hyn o bryd â'r byrddau cynllunio ardal a phartneriaid rheng flaen a defnyddwyr y gwasanaethau eu hunain i gyd-gynhyrchu'r blaenoriaethau ar gyfer y cynllun nesaf. Rwyf eisoes wedi sôn wrth fyrddau cynllunio ardal am y meysydd blaenoriaeth sydd i'w hystyried ar gyfer buddsoddiad yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Mae'r rhain yn cynnwys gwaith cymorth ar gyflyrau iechyd meddwl a phroblemau camddefnyddio sylweddau sy'n cyd-ddigwydd, a gwaith ar gefnogi plant a theuluoedd. Yn benodol, rwy'n dymuno iddyn nhw weithio gyda'r rhai sydd ar ymylon gofal. Bydd angen parhau hefyd i ganolbwyntio ar y gwaith o leihau marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau, gan edrych ar gymorth ar gyfer y rhai a allai fod yn ddigartref neu â phroblemau o ran tai. Rydym wedi gweld cynnydd gwirioneddol o ran amseroedd aros yn erbyn ein targedau. Yn 2017-18, gwelwyd 90.9 y cant o'r bobl yn dechrau ar driniaeth o fewn 20 diwrnod, o'i gymharu ag 86.7 y cant yn y flwyddyn flaenorol. A hoffwn i achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r rhai sy'n darparu'r gwasanaethau rheng flaen hanfodol hyn am eu gwaith campus. Vaughan Gething AC: Rwy'n falch hefyd o adrodd ein bod ni'n parhau i weld canlyniadau cadarnhaol i'r rhai sy'n cael triniaeth: dywedodd 86.5 y cant o bobl eu bod wedi lleihau eu triniaeth camddefnyddio sylweddau yn 2017-18, ychydig yn uwch na'r flwyddyn cyn hynny. Er bod y gwelliannau hyn i'w croesawu, mae'n amlwg bod mwy o waith i'w wneud gydol yr agenda. Er enghraifft, mae'r data yn dangos cynnydd mewn marwolaethau sy'n gysylltiedig yn benodol ag alcohol, o 388 yn 2016 i 419 yn 2017. Mae hynny'n pwysleisio pa mor bwysig yw hi fod mynd i'r afael â chamddefnyddio alcohol yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, gan fod alcohol a chyffuriau fel ei gilydd yn parhau i fod yn achosion cyffredin o farwolaeth ac afiechyd. Mae Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris Alcohol) (Cymru) 2018 yn rhan hanfodol o ymateb i'r hyn sy'n broblem bwysig o ran iechyd y cyhoedd. Bydd y ddeddfwriaeth hon yn canolbwyntio ar leihau'r defnydd o alcohol ymhlith y rhai sy'n yfed yn beryglus a niweidiol. Bydd hefyd yn helpu i leihau effaith negyddol camddefnyddio alcohol ar ein gwasanaethau cyhoeddus sydd dan bwysau. Bydd isafswm pris fesul uned yn rhan o hynny ac yn ategu ein gwaith ehangach ar gamddefnyddio sylweddau. Rydym eisoes yn gweithio i fynd i'r afael â goryfed alcohol drwy addysg well, ataliad a gwasanaethau triniaeth i gefnogi'r rhai sy'n yfed yn fwyaf niweidiol. Byddwn yn parhau i gefnogi teuluoedd y rhai sy'n camddefnyddio alcohol hefyd. Gan droi at farwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau, mae'r gostyngiad bach cyffredinol yn 2017 i'w groesawu, ond mae 185 o farwolaethau yn sgil camddefnyddio cyffuriau yn parhau i fod yn ormod o lawer o bobl yn marw'n ddiangen yn ein cymunedau. Rwy'n arbennig o bryderus am yr amrywiadau rhanbarthol sy'n bodoli ac rwy'n glir ei bod yn rhaid inni weithio gyda'n partneriaid i ganolbwyntio'r ymdrechion yn sylweddol ar hyn. Mae fy swyddogion yn parhau i weithio gyda phartneriaid mewn nifer o feysydd i geisio lleihau eto nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau. Mae ein prosiect WEDINOS arloesol ni—prosiect cyffuriau newydd ac adnabod sylweddau newydd Cymru—yn parhau i chwarae rhan allweddol yn lleihau'r marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau, drwy ddadansoddi ystod o gyffuriau. Mae cynnal profion ar sylweddau yn ein galluogi ni i ddadansoddi cyfansoddyn cemegol y sylwedd, ond yna, yn hollbwysig, i hysbysu'r unigolion sy'n eu cymryd am y ffactorau risg ehangach sy'n gysylltiedig â nhw. Mae rhannu naloxone, cyffur sydd dros dro yn gwrthdroi effeithiau gorddos opiadau, wedi bod yn elfen allweddol o'n dull ni i leihau niwed ers nifer o flynyddoedd, a bydd hynny'n parhau. Dosbarthwyd cyfanswm o dros 19,000 o becynnau naloxone ledled Cymru ers 2009, a nodwyd bod 2,186 wedi eu defnyddio. Mae hyn ar gael gan bob gwasanaeth triniaeth cyffuriau cymunedol, ynghyd â'r holl garchardai yng Nghymru. O ystyried ei lwyddiant, byddwn yn gweithio'n agos gydag ardaloedd o Gymru i ehangu'r ddarpariaeth o naloxone ymhellach, yn enwedig ymhlith y rhai nad ydyn nhw'n cael triniaeth. Er enghraifft, mae ein swyddogion wedi gweithio'n agos gyda dalfeydd yr heddlu, adrannau damweiniau ac achosion brys a fferyllfeydd cymunedol i sicrhau bod naloxone ar gael i unigolion sy'n anodd mynd atyn nhw am nad ydyn nhw'n cysylltu â'r gwasanaethau fel arfer. Gellir gweld cymhlethdod yr agenda hon pan ystyriwn y cynnydd mewn sylweddau eraill fel cyffuriau i wella perfformiad a delwedd. Mae hyn yn adlewyrchu'r pwysau mawr sy'n bodoli yn ein cymdeithas ni heddiw o ran delwedd y corff, a lle camddefnyddir sylweddau er niwed i iechyd a lles yr unigolyn. Mae cynnig gwybodaeth ac addysg yn elfennau allweddol o'n strategaeth, a byddwn yn parhau i gefnogi DAN 24/7, sef llinell gymorth camddefnyddio sylweddau rhad ac am ddim a dwyieithog sy'n cynnig un pwynt cyswllt ar gyfer unrhyw un yng Nghymru sy'n ceisio rhagor o wybodaeth neu gymorth o ran problem â chyffuriau neu alcohol. Yn ystod 2017-18, cafodd DAN 24/7 dros 5,000 o alwadau, sy'n golygu cynnydd o 26 y cant dros y flwyddyn flaenorol. Mae defnydd o'r wefan hefyd wedi cynyddu 92 y cant yn ystod yr un cyfnod, gyda gwefan ryngweithiol DAN 24/7 yn cael dros 145,000 o ymweliadau. Cymerodd DAN 24/7 ran mewn llawer o ymgyrchoedd gwybodaeth dros y tair blynedd diwethaf, yn unol â'n dull ni o leihau niwed yn barhaol. O ran adferiad o gamddefnyddio sylweddau, ac ailintegreiddio i'r gymdeithas, mae gallu sicrhau cyflogaeth yn aruthrol o arwyddocaol, ond rydym yn gwybod y bydd pobl yn aml yn wynebu llawer o rwystrau i gael gwaith, gan gynnwys diffyg addysg a sgiliau, problemau iechyd meddwl a diffyg hunanhyder. Mae ein gwasanaeth mentora cymheiriaid di-waith, a ariennir gan gronfa gymdeithasol Ewropeaidd, yn ddull unigryw yng Nghymru o fynd i'r afael â'r rhwystrau allweddol hyn i gyflogaeth drwy gyfrwng un gwasanaeth. Mae hwn yn rhoi cymorth yn rhad ac am ddim yn yr hirdymor gan fentoriaid hyfforddedig sydd â phrofiad personol o broblemau iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau. Ac ers ei lansio ym mis Awst 2016, mae dros 4,200 o bobl sy'n adfer o gamddefnyddio sylweddau yn unig neu'n adfer o gyfuniad o gamddefnyddio sylweddau a salwch iechyd meddwl wedi cofrestru yn y gwasanaeth. Rydym ni'n buddsoddi cyfanswm o £17.3 miliwn, gan gynnwys £11.6 miliwn o gymorth o'r gronfa gymdeithasol Ewropeaidd, i gefnogi darpariaeth y gwasanaeth mentora cymheiriaid di-waith. Bydd hyn yn caniatáu inni gefnogi dros 14,000 o bobl ar eu siwrnai tuag at adfer erbyn haf 2020. Rwy'n awyddus i adeiladu ar y gwaith hwn, ac ar hyn o bryd mae fy swyddogion yn cysylltu â Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru i ymestyn y gwasanaeth tan 2022 a rhoi mwy o gefnogaeth i fwy o bobl. Mae camddefnyddio sylweddau yn achos mawr o salwch, colli swydd, neu i bobl deimlo na allan nhw gael gwaith, ac mae'r gwasanaeth hwn yn cyfrannu at ein hymrwymiad i gefnogi pobl, i chwalu'r rhwystrau y mae afiechyd yn eu rhoi ar gyflogaeth. Gan droi at y gwelliannau yn gryno iawn, ni fyddwn yn cefnogi gwelliant 1 gan Darren Millar, gan fod yr ystadegau diweddaraf yn dangos bod nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau yn gostwng, ac nid yn cynyddu. Hefyd, ar fater adsefydlu preswyl, yn ei hanfod mater i'r byrddau cynllunio ardal, yn unol â chanllawiau clinigol a mewnbwn gan ddefnyddwyr gwasanaeth, yw penderfynu ar yr ymyriad mwyaf priodol wrth gomisiynu gwasanaethau, boed yn ddarpariaeth haen 4 neu, er enghraifft, yn adsefydlu cymunedol. Ni fyddwn yn cefnogi gwelliannau 2 na 3 gan Rhun ap Iorwerth. Dylid cydnabod bod adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn edrych ar brofiadau pobl ar adeg yr adolygiad. Eto i gyd, mae swyddogion yn monitro amseroedd aros yn drylwyr drwy gyfrwng ein hystadegau cyhoeddedig, a chaiff dros 90 y cant o bobl, fel y soniais, eu gweld o fewn ein targed o 20 diwrnod gwaith. Er hynny, byddwn yn parhau i ganolbwyntio a gweithio gyda phartneriaid ar y materion a godwyd. Ac, fel y gwelwyd yn y gwerthusiad diweddar, rydym ni'n gwneud cynnydd ar faterion sy'n gymhleth ac yn heriol. Byddwn yn cefnogi gwelliant 4 gan Rhun ap Iorwerth. Ystyrir camddefnyddio sylweddau yn fater o iechyd, ac mae'r dull o leihau niwed yn rhywbeth sydd wedi bod yn ganolbwynt i'n gwaith ar gamddefnyddio sylweddau dros y 10 mlynedd diwethaf. Yn hytrach na gwneud unigolion yn droseddwyr, dylid canolbwyntio i raddau helaeth iawn ar adsefydlu a chanolbwyntio ar leihau niwed. Rwy'n edrych ymlaen at glywed cyfraniadau gan yr Aelodau yn ystod y ddadl. Diolch. Rwyf i wedi dethol pedwar gwelliant i'r cynnig. Rwy'n galw ar Mark Isherwood i gynnig gwelliant 1, a gyflwynir yn enw Darren Millar. Gwelliant 1—Darren Millar Ychwanegu fel pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at y cynnydd yn nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio cyffuriau a marwolaethau sy'n benodol gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi sylw i'r angen am adsefydludefnyddwyr cyffuriau ac alcohol ar sail preswyl haen 4 yng Nghymru. Cynigiwyd gwelliant 1. Mark Isherwood AC: Diolch. Wel, yn ôl ei adroddiad blynyddol 2018 ar gamddefnyddio sylweddau, mae strategaeth camddefnyddio sylweddau 10 mlynedd Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd yn 2008, yn nodi agenda genedlaethol a chlir ar gyfer mynd i'r afael a lleihau'r niwed sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau yng Nghymru. Mae'n ychwanegu ei bod wedi dechrau ar waith i ddatblygu blaenoriaethau o ran camddefnyddio sylweddau o 2019 i'r dyfodol. Ond mae 'Adolygiad o Wasanaethau Camddefnyddio Sylweddau yng Nghymru: Adroddiad Thematig ar y Cyd', a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2018 gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, y cyfeirir ato yng ngwelliannau 2 a 3, yn nodi: 'Fodd bynnag, roedd pobl yn ei chael hi'n anodd cael y driniaeth a oedd ei hangen arnynt gan wasanaethau rhagnodi amnewidion, dadwenwyno, adsefydlu a chwnsela—oherwydd bod amseroedd aros hir a phrinder capasiti gan wasanaethau', gan ychwanegu 'Gall fod aros hir hefyd (misoedd mewn rhai achosion) i gael mynediad at raglenni cwnsela ac atal atglafychu mewn rhai ardaloedd.' ac 'Mae angen i'r gwahaniaeth rhwng yr ystadegau cenedlaethol hyn a'r profiadau mae pobl wedi'u hadrodd i ni gael ei archwilio ymhellach'. Byddwn yn cefnogi gwelliannau 2 a 3 felly. Mae ffigurau swyddogol diweddaraf—swyddogol diweddaraf—y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dweud bod nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio cyffuriau yng Nghymru 2015-17 wedi codi 15 y cant yn uwch na'r ddwy flynedd flaenorol, a 32 y cant ers dechrau strategaeth Llywodraeth Cymru yn 2008—ac nid gostwng. Mae marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol yn benodol yng Nghymru wedi codi 8 y cant dros ben y flwyddyn flaenorol. Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru fod cynnydd o dros 7 y cant hefyd wedi bod yn y marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol yn 2017. Felly, rwy'n cynnig gwelliant 1, gan resynu at y cynnydd yn nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio cyffuriau a marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol yn benodol yng Nghymru. Mae gwelliant 1 yn galw hefyd ar Lywodraeth Cymru i roi sylw i'r angen am adsefydlu preswyl Haen 4 oherwydd cyffuriau ac alcohol yng Nghymru. Fel y dywed adolygiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, 'Roedd argaeledd gwasanaethau dadwenwyno ac adsefydlu Haen 4 yn anghyson ledled Cymru...nid oes gan nifer o ardaloedd eu cyfleusterau dadwenwyno a/neu adsefydlu eu hunain ar gyfer cleifion mewnol. Yn dibynnu ar ble mae pobl yn byw, gallai fod angen iddynt deithio cryn bellter i gael triniaeth mewn ardal arall o Gymru neu Loegr.' Yn ystod yr ail Gynulliad, cafodd adroddiadau annibynnol ar wasanaethau preswyl haen 4 oherwydd dadwenwyno ac adsefydlu yng Nghymru 4 eu datgelu i mi ar ôl cael eu claddu gan Lywodraeth Cymru. Roedd y rhain yn canfod bod y gwasanaeth cyfan wedi ei danariannu ac yn nodi nifer o adroddiadau am bobl yn aildroseddu fel y gallen nhw gael eu dadwenwyno yn y carchar, ac o dderbyniadau i'r ysbyty oherwydd nad oedd gwasanaeth dadwenwyno cleifion mewnol nac adsefydlu preswyl. Maen nhw'n galw am gynnydd sylweddol o ran capasiti, ac am ddatblygu tair o unedau dadwenwyno ac adsefydlu oherwydd cyffuriau ac alcohol ledled Cymru, gan weithio gyda darparwyr trydydd sector. Roedd adroddiad pellach a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2010 yn atgyfnerthu hyn, a dywedodd Llywodraeth Cymru ar y pryd ei bod yn bwrw ymlaen â'r gwaith o ddatblygu tair uned ym Mrynawel, Tŷ'n Rodyn a Rhoserchan. Wel, bu'n rhaid i Roserchan a Tŷ'n Rodyn gau ers hynny, ac mae Brynawel yn dweud bod parhad ei darpariaeth o'r gwasanaethau hyn dan fygythiad. Fel y dywed Brynawel, ymddengys ei bod yn loteri cod post i rywun sy'n byw yngNghymru gael mynediad i leoliad ailsefydlu preswyl. Ar ôl i mi ysgrifennu at y Gweinidog iechyd am hyn, atebodd ef fod fframwaith Cymru gyfan ar gyfer adsefydlu preswyl camddefnyddio sylweddau, ar waith o fis Ebrill 2015, wedi cael ei ddatblygu i'w ddefnyddio ar y cyd â chyllid haen 4 a glustnodir gan Lywodraeth Cymru o £1 miliwn a ddyfernir i fyrddau cynllunio ardal yn flynyddol er mwyn prynu lleoliadau adsefydlu preswyl. Gofynnodd Brynawel, felly, a yw'r £1 miliwn hwn wedi ei glustnodi o hyd, a pha sicrwydd y gall y Gweinidog ei roi bod gweithdrefnau ar waith i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cydymffurfio â'u cyfrifoldebau o ran asesiadau cyffuriau ac alcohol ar gyfer ailsefydlu preswyl, ac a allai'r Gweinidog gadarnhau nifer yr asesiadau gofal cymunedol ar gyfer adsefydlu preswyl a gynhaliwyd yn 2017-18 gan awdurdodau lleol, oherwydd mae profiad y darparwyr yn wahanol iawn i'r darlun a roddwyd gan y Gweinidog. Wedi iddyn nhw gau Tŷ'n Rodyn ym Mangor, mae CAIS wedi gwneud darpariaeth arall yn swydd Gaerhirfryn ac yn Parkland Place ym Mae Colwyn, sydd ar hyn o bryd yn darparu ar gyfer unigolion sy'n ceisio ailsefydlu preswyl o ansawdd ac sydd â'r modd i dalu amdano'n bersonol. Dywedant, er y byddent yn ystyried atgyfeiriadau statudol cyn bo hir, nid yw'n amlwg ar hyn o bryd faint o ddefnydd fydd ar hynny. Mae polisi Llywodraeth Cymru felly wedi gorfodi darparwyr elusennol yng Nghymru i mewn i'r sector preifat ac i Loegr. Mae'r darparwyr hyn yn dweud wrthyf i y ceir cydnabyddiaeth ym mhobman nad yw'r fframwaith ailsefydlu preswyl haen 4 yn cynnig y manteision a ragwelwyd i'r comisiynwyr na'r darparwyr, ac nad oedd llawer o awdurdodau yn ymgysylltu'n llwyr â'r llwybr, gan arwain at atgyfeiriadau i unedau nad ydyn nhw o fewn y fframwaith, lawer y tu allan i Gymru, ac nad ydynt yn siŵr a yw'r fframwaith hyd yn oed yn bodoli ar hyn o bryd. Er gwaethaf yr holl waed, chwys a dagrau dros lawer gormod o flynyddoedd, mae Llywodraeth Cymru wedi dod â ni'n ôl unwaith eto i'r un fan. Diolch. A gaf i alw ar Leanne Wood i gynnig gwelliannau 2, 3 a 4, a gyflwynir yn enw Rhun ap Iorwerth? Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig Yn nodi adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ‘Adolygiad o wasanaethau camddefnyddio sylweddau yng Nghymru’ ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r anghysonderau rhwng ystadegau swyddogol ar amseroedd aros, a phrofiadau amrywiol y bobl y tynnir sylw atynt yn yr adroddiad hwn. Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi’r aros hir am wasanaethau cwnsela a gwasanaethau atal ail bwl o salwch, y cyfeirir atynt yn adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu bod creu trosedd o gamddefnyddio rhai sylweddau yn ychwanegu at y niwed a gaiff ei achosi gan ddefnydd o’r fath, yn gwaethygu’r stigma, ac yn atal pobl sy'n gaeth rhag gwella’n llwyr, ac yn credu, yn hytrach, y dylid ystyried mai mater iechyd yw camddefnyddio sylweddau, ac mai lleihau niwed yw'r brif amcan. Cynigiwyd gwelliannau 2, 3 a 4. Leanne Wood AC: Diolch. Cynigiaf welliannau Plaid Cymru, ond rwy'n awyddus i ddefnyddio fy nghyfraniad heddiw i ganolbwyntio ar welliant 4 yn benodol. Nawr, mae'r ddadl hon yn amserol oherwydd dim ond yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bwriad i gynnal adolygiad o bolisi cyffuriau, gan gynnwys dewisiadau triniaeth. Yn anffodus, eu penderfyniad rhag llaw oedd peidio ag ystyried materion dad-droseddoli a chyfreithloni yn rhan o'r adolygiad hwnnw. Nawr, rwyf i o'r farn bod cyfyngu eu hadolygiad yn y fath fodd yn dangos diffyg gwelediad, ac yn debyg iawn o hepgor rhai datrysiadau effeithiol o bosib. Gadewch inni edrych ar y darlun ym Mhortiwgal, lle maen nhw wedi gwneud yr hyn na ellir ei ddychmygu. Ystyrir bod Portiwgal ar flaen y gad o ran newid o'r frwydr yn erbyn cyffuriau at fodel o leihau niwed, a ddechreuodd yn 2001, ac, o ganlyniad, mae gennym ni ddigon o ddata bellach i wneud gwerthusiad. Nid dad-droseddoli yn llwyr mo hyn. Nid yw bod â chyffuriau yn eich meddiant at ddefnydd personol yn dorcyfraith erbyn hyn. Mae'n parhau i fod yn drosedd weinyddol, y gellir ei chosbi gan gosbau fel dirwyon neu wasanaeth cymunedol. Penderfynir ar y gosb benodol gan y comisiynau ar gyfer darbwyllo yn erbyn dibyniaeth ar gyffuriau, sef paneli rhanbarthol yn cynnwys staff proffesiynol cyfreithiol, iechyd a gwaith cymdeithasol. Yn achos mwyafrif llethol y rhai a gyfeirir at y comisiynau gan yr heddlu, caiff yr achosion yn eu herbyn eu hatal, sy'n golygu i bob pwrpas nad ydyn nhw'n cael unrhyw gosb. Nod y comisiwn yw cael pobl i ddechrau triniaeth yn wirfoddol; ni chânt eu gorfodi i wneud hynny—byddai hynny'n wrthgynhyrchiol. Prif amcan y polisi oedd mynd i'r afael ag iechyd gynyddol ddifrifol wael y gyfran o'r boblogaeth a oedd yn defnyddio cyffuriau ym Mhortiwgal, yn enwedig y bobl sy'n chwistrellu cyffuriau. Yn y blynyddoedd yn arwain at y diwygio, roedd nifer y marwolaethau a oedd yn gysylltiedig â chyffuriau wedi codi i'r entrychion, ac roedd cyfraddau HIV, AIDS, TB a hepatitis B ac C ymhlith pobl sy'n chwistrellu cyffuriau yn cynyddu'n gyflym iawn. Roedd consensws cynyddol ymysg swyddogion iechyd fod troseddoli ac ymyleiddio pobl sy'n defnyddio cyffuriau yn ychwanegu at y broblem ac y gellid rheoli fframwaith cyfreithiol newydd a mwy gwâr yn well. Yn ogystal â dad-droseddoli, mae Portiwgal wedi dyrannu mwy o adnoddau ar draws y maes cyffuriau, gan ehangu a gwella ataliad, triniaeth, lleihau niwed a rhaglenni ailintegreiddiad cymdeithasol. Roedd cyflwyno'r mesurau hyn yn cyd-daro ag ehangu'r wladwriaeth les ym Mhortiwgal, a oedd yn cynnwys isafswm incwm gwarantedig. Felly, mae'n debygol nad y dad-droseddoli oedd yr unig reswm am y llwyddiant—mae'n fwy tebygol ei fod o ganlyniad i gyfuniad o bolisïau ar draws pob adran, gan ganolbwyntio ar leihau niwed ac iechyd y cyhoedd. Mae arbrawf Portiwgal wedi bod yn llwyddiant ysgubol—bellach mae cyfraddau defnyddio cyffuriau yn is na'r cyfartaledd Ewropeaidd; mae defnyddio cyffuriau wedi gostwng ymysg rhai rhwng 15 a 24 oed. Mae defnydd cyffuriau gydol oes ymysg y boblogaeth yn gyffredinol wedi cynyddu rhyw ychydig, yn unol â thueddiadau mewn gwledydd cyffelyb. Fodd bynnag, ystyrir mai defnydd gydol oes yw'r mesur lleiaf cywir o sefyllfa defnydd cyffuriau presennol gwlad. Felly, pam na fyddem ninnau'n gwneud fel hyn? A pham na fyddem ni o leiaf yn cychwyn arni yn hyn o beth o ran yr hyn y gellir ei wneud heddiw? Mae rheswm da iawn o ran iechyd cyhoeddus dros ddarparu amgylchedd mwy diogel i bobl ddefnyddio cyffuriau, megis parthau chwistrellu mwy diogel. Mae'r safleoedd hyn yn caniatáu i ddefnyddwyr cyffuriau chwistrellu cyffuriau anghyfreithlon dan oruchwyliaeth gweithwyr meddygol proffesiynol sy'n gallu ymyrryd mewn achosion o orddosio. Byddai darparwyr ar y safle yn gyfrifol hefyd am gyfeirio defnyddwyr at driniaeth, yn ogystal â darpariaeth o nodwyddau glân a hylendid i atal heintiau. Mae hyn yn rhywbeth y gallwn ni ei wneud ar hyn o bryd, ac mae'n rhywbeth wnaiff achub bywydau. Nawr, rwy'n gwybod yn iawn na fydd pawb sydd yma'n cefnogi'r datrysiadau yr wyf i wedi eu cynnig yma heddiw. Ond pan welwn ni gynnydd yn y problemau a wynebir gan bobl sy'n defnyddio cyffuriau anghyfreithlon yn anniogel, yn sicr fe ddylem ni ystyried hyn. Rwyf am gloi fy nghyfraniad y prynhawn yma drwy rannu atgof, ac nid atgof dymunol mohono. Bûm yn gweithio i'r gwasanaeth prawf yn ystod canol yr 1990au, ac, mewn un flwyddyn, collasom dros ddeuddeg o bobl ifanc yn sgil heroin mewn swyddfa brofiannaeth fechan leol. Ac rwy'n cofio un achos arbennig o ddirdynnol, lle'r oedd menyw ifanc a oedd wedi dod allan o'r carchar â'i phlentyn bach yn glynu wrth ei chorff am benwythnos cyfan a hithau'n farw. Roedd hynny'n gwbl erchyll. Roedd hynny cyn bodolaeth y Senedd hon. Mae gennym y sefydliad hwn erbyn hyn, ac onid yw'n ddyletswydd ar bob un ohonom ni i wneud yn siŵr nad yw rhywbeth fel hynny byth yn digwydd eto? Gallem, ac fe ddylem. Jenny Rathbone AC: Credaf fod hon yn foment ddefnyddiol i edrych ar yr hyn yr ydym ni'n ei gyflawni a'r hyn nad ydym yn ei gyflawni. Mae'r cynnydd, sydd bron a bod yn driphlyg, yn nifer yderbyniadau i'r ysbyty oherwydd y defnydd o gyffuriau anghyfreithlon, yn amlwg yn destun pryder, a gwyddom fod pobl sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru chwe gwaith yn fwy tebygol o gael eu derbyn i'r ysbyty o ganlyniad i gamddefnyddio cyffuriau na'r rhai o ardaloedd llai difreintiedig. Synnais wrth weld gwelliant 1, gan ei fod yn cysylltu camddefnyddio cyffuriau a marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru â'i gilydd, ac mewn gwirionedd bu gostyngiad yn nifer y marwolaethau oherwydd camddefnyddio cyffuriau. 4 y cant yn unig yw hyn ac, yn amlwg, mae pob marwolaeth yn drychineb ynddi ei hun, ond, serch hynny, mae'n bwysig ein bod yn deall y tueddiadau. Un o'r materion sy'n peri pryder yw'r cynnydd yn y camddefnydd o opioid ymhlith y boblogaeth hŷn. Mae hynny, os dymunwch, yn adlewyrchu'r defnydd gormodol o alcohol gan bobl hŷn hefyd. Felly mae yna rai negeseuon clir yno ynglŷn â'r pethau y mae angen inni feddwl amdanynt o ran sut yr ydym— Mark Isherwood AC: A wnewch chi ildio? Jenny Rathbone AC: Gwnaf. Mark Isherwood AC: Ydych chi wedi edrych ar y ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sy'n dangos bod y ffigurau, y rhai diweddaraf a gyhoeddwyd, yn cynyddu? Hynny yw, ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol. Jenny Rathbone AC: Naddo, mae arnaf ofn—dim ond ar yr adroddiad hwn yr wyf i wedi edrych. Felly, sylweddolaf fod gennych chi ffigurau gwell, ond mae'r ffigurau yn yr adroddiad hwn yn dangos bod yna ostyngiad. Os ydych chi'n credu bod cynnydd enfawr yn nifer y marwolaethau oherwydd cyffuriau wedi bod ers hynny, yna yn amlwg mae hwnnw'n fater y mae angen inni ei gymryd o ddifrif. Yn fy marn i—. Yn ddi-os, mae'r dirwedd wedi newid yn ystod y 10 mlynedd diwethaf ers inni lansio'r strategaeth gyffuriau. Mae fy etholaeth i yn enwedig wedi dioddef yn sylweddol o ganlyniad i'r cynnydd yn nifer y Llinellau Cyffuriau—pobl sydd yn targedu rhai sy'n agored i niwed, sy'n defnyddio'r bobl hynny er mwyn gwneud symiau mawr iawn o arian. Felly, mae cyni wedi creu gwagle sy'n cael ei lenwi gan gangiau troseddol. Maen nhw'n dod yma o ddinasoedd mawr fel Llundain, Birmingham a Lerpwl ac yn manteisio ar blant ac oedolion ifanc, hynny'n aml gan ddefnyddio gorfodaeth dreisgar, er mwyn eu perswadio i ddelio mewn cyffuriau. Ac mae hyn yn beth sy'n codi ofn dwys ar bobl, nid yn unig y bobl sy'n ymwneud â hynny ond hefyd ar gymunedau cyfan, a all fod yn gwbl ddiniwed un funud a'r funud nesaf yn ddioddefwyr. Felly, mae trais sy'n gysylltiedig â chyffuriau yng Nghaerdydd wedi llamu i fyny. Ddwy flynedd yn ôl, trywanwyd dyn ifanc, Lynford Brewster, i farwolaeth ganol dydd gan dri dyn ifanc arall ar ystad yn Llanedeyrn, a hynny o flaen nifer o dystion a geisiodd achub ei fywyd. Flwyddyn yn ôl i'r wythnos hon, saethwyd dyn yn ei wyneb mewn fflat yn y Rhath pan ddaeth tri arall i'w weld. Yn ffodus, goroesodd y dyn ond yn amlwg roedd y profiad yn un arswydus i'r holl bobl eraill oedd yn byw yn y bloc hwn o fflatiau. Rai misoedd yn ddiweddarach, dau floc i ffwrdd yn unig, cafodd deliwr cyffuriau y tro hwn, ei drywanu drwy ei galon wedi i fargen cyffuriau gael ei chwblhau. Mewn man arall yn y Rhath, daeth preswylydd arall i gysylltiad â gang oedd yn delio mewn cocên gan ei fod wedi mynd i ddyled oherwydd ei ddefnydd o mariwana, ac roedd yn rhoi caniatâd i'r gang ddefnyddio ei dŷ er mwyn gwneud gwerth £70,000 o fargeinion dros gyfnod byr o amser. Fis Mehefin diwethaf, bu'n rhaid inni ddefnyddio adnoddau'r heddlu i arestio pobl mewn cyrchoedd dros bum diwrnod. Defnyddiwyd cannoedd o heddlu mewn cyrch a gafodd ei alw'n Operations Red Line, pan ddefnyddiwyd llifiau cadwyn i dorri drysau'r delwyr a chipio cannoedd o eitemau, yn cynnwys cyllyll, cleddyfau a machete—yr holl adnoddau yna'n cael ei wario gan ein heddluoedd er mwyn ceisio ymdrin â phroblem sydd, a dweud y gwir, wedi dechrau mynd allan o reolaeth. Felly, rwyf am ddefnyddio'r hyn sy'n weddill o fy amser i annog pobl i feddwl am ymatal ac, yn benodol, i sicrhau bod ysgolion yn ymdrin yn ddigonol â'r mater hwn a hefyd bod gwasanaethau ieuenctid ar gael, yn enwedig yn y cymunedau mwyaf agored i niwed, fel bod oedolion cymeradwy y gall pobl ifanc droi atynt os ydynt yn dechrau cael eu tynnu i mewn i gael eu perswadio i werthu cyffuriau. Oherwydd, fel arall, mae'r canlyniadau i bobl ifanc yn ddifrifol iawn ac yn gyffredinol, yn difetha eu bywydau. Felly, credaf fod yn rhaid inni bwysleisio'r agwedd ymatal o hyn er mwyn ceisio sicrhau nad oes rhagor o bobl ifanc yn difetha eu bywydau, naill ai drwy gymryd cyffuriau ond hefyd drwy fod yn werthwyr cyffuriau. Joyce Watson AC: Croesawaf y cyfle i gyfrannu at y ddadl hon heddiw, ac rwy'n bwriadu canolbwyntio'n benodol ar alcohol. Dengys yr adroddiad fod rhai newidiadau cadarnhaol wedi digwydd dros y 12 mis diwethaf a bod yna feysydd lle gallwn yn sicr wneud mwy i helpu i atal niwed wrth gamddefnyddio sylweddau, yn enwedig gan fod yr adroddiad yn dweud bod nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol wedi codi 7.1 y cant yn 2017, o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, a chredaf fod hynny'n achos o bryder. Mae'r adroddiad hwn yn nodi mai alcohol yw'r sylwedd sy'n cael ei ddefnyddio fwyaf a gellir dadlau hefyd, yr un sydd fwyaf niweidiol i'r unigolyn, i deulu, cymuned ac ar lefel gymdeithasol. Mae'n achosi niwed drwy salwch corfforol a meddyliol, mae'n achosi damweiniau, ac mae'n fan cychwyn ar gyfer llawer o droseddu treisgar. Ond roeddwn wedi dychryn o glywed yn ddiweddar fod Drinkaware, elusen addysgu alcohol sy'n gweithio â chyrff iechyd y cyhoedd i godi ymwybyddiaeth ynghylch defnyddio alcohol ac yfed cyfrifol, yn cael ei gefnogi drwy gyfraniadau gan y diwydiant diodydd. Y llynedd, ymddiswyddodd cynghorydd Llywodraeth y DU, Syr Ian Gilmore, o ganlyniad i benderfyniad Iechyd y Cyhoedd Lloegr i weithio gyda Drinkaware ar gyfer eu hymgyrch Diwrnod Heb Yfed. Roedd yr ymgyrch honno yn annog yfwyr rhwng 45 a 65 oed i gael dyddiau rheolaidd heb yfed alcohol. Dywedodd, a chytunaf ag ef, ei bod yn anghydnaws i gorff sy'n rhoi cyngor iechyd cyhoeddusgael ei ariannu gan y diwydiant alcohol. A rhaid imi ddweud y byddwn i'n mynd mor bell â dweud y credaf ei fod yn anfoesegol. Wrth gwrs mae gan bobl yr hawl i ddewis faint maen nhw'n dewis ei yfed, ond credaf y dylai'r wybodaeth addysg alcohol y maent yn ei dderbyn ddod o ffynhonnell annibynnol o leiaf, yn arbennig mewn cyfnod pan gaiff pobl cymaint o gyngor anghyson drwy'r cyfryngau cymdeithasol a ffynonellau eraill yn barod. Felly, fe wnes i waith ymchwil byr iawn y bore yma—ni chymerodd amser hir—ac, ar wefan Drinkaware, fe ddywed, yn bur amlwg, ac rwy'n dyfynnu, eu bod yn cael: eu hariannu i raddau helaeth gan roddion gwirfoddol a dilyffethair cynhyrchwyr alcohol y DU, manwerthwyr ac archfarchnadoedd. Felly rhaid imi ofyn a yw Llywodraeth Cymru yn credu bod gweithio gyda'r rheini a chymryd unrhyw ymchwil o'u heiddo o ddifrif yn gam y dylem fod yn ei gymryd, yn enwedig yng ngoleuni'r hyn yr wyf newydd ei ddweud. Rwy'n ymwybodol eu bod wedi gwneud gwaith ymchwil i batrymau cymdeithasol mewn cysylltiad ag arferion yfed ymhlith myfyrwyr yn 2009-10 ar draws prifysgolion yng Nghymru, a bod yr ymchwil honno i fod i gael ei chyhoeddi yn 2012. Yn awr, gallwch fy ngalw i'n sgeptig, ac mae hynny'n wir yn yr achos hwn, ond sut ydym ni i fod i ddibynnu ar y dystiolaeth honno pan fo cost y dystiolaeth honno'n amlwg yn cael ei thalu a'i phrynu gan y bobl hynny sydd mewn gwirionedd yn gwerthu alcohol? Gobeithio, Gweinidog, nad ydym yn dibynnu ar dystiolaeth a gefnogir ac a ariennir gan bobl sy'n hyrwyddo eu diwydiant ar gost enfawr i gymdeithas. Caroline Jones AC: Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r ddadl hon, ac rwyf yn cydnabod y cynnydd a wnaed. Fodd bynnag, mae gennym gymaint mwy i'w wneud. Mae camddefnyddio sylweddau yn effeithio ar bob rhan o'n cymdeithas; yfodd 34 y cant o ddynion a 28 y cant o fenywod fwy na'r terfynau a argymhellir ar o leiaf un diwrnod yn ystod yr wythnos diwethaf. Mae oedolion sy'n byw mewn cartrefi yn y grŵp incwm uchaf ddwywaith yn fwy tebygol o yfed yn drwm nag oedolion yn y braced incwm isaf. Mae pobl hŷn yn tueddu i yfed yn amlach na phobl iau. Mae pobl ifanc yn fwy tebygol o gymryd cyffuriau na phobl hŷn. Mae un o bob pump o rai rhwng 16 i 24 mlwydd oed wedi cymryd cyffuriau anghyfreithlon yn ystod y flwyddyn ddiwethaf o'i gymharu ag ychydig dros 50 yn y grŵp 55 i 59 mlwydd oed. Mae dynion canol oed yn fwy tebygol o fod yn gaeth i boen laddwyr presgripsiwn yn unig, ac mae menywod yn fwy tebygol o fod yn gaeth i feddyginiaeth dros y cownter. Mae nifer y bobl sy'n cael eu hatgyfeirio ar gyfer triniaeth am gamddefnyddio sylweddau yn parhau i godi, ac mae nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â diod a chyffuriau ar ei uchaf erioed. Mae timau iechyd meddwl yn dweud bod cynnydd yn nifer y cleifion sy'n cymryd sylweddau seicoweithredol newydd, a'r defnydd o NPS yn endemig ymysg carcharorion, ac mae gan hyd at 90 y cant o garcharorion ryw fath o broblem iechyd meddwl. Felly, mae'n hanfodol bod gennym y polisïau cywir ar waith er mwyn lleihau'r niwed sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau. Mae angen inni roi sylw i'r cynnydd enfawr yn y camddefnydd o cannabinoid. Mae angen inni fynd i'r afael â'r rhesymau dros y gostyngiad yn nifer y bobl sy'n cael eu hasesu gan ddarparwyr arbenigol camddefnyddio sylweddau. Ac mae angen inni fynd i'r afael â'r rhesymau dros amseroedd aros mor hir ar gyfer gwasanaethau cynghori ledled Cymru. Mae perthynas rhwng camddefynddio sylweddau ac iechyd meddwl, ond eto i gyd mae'r amseroedd aros am driniaeth iechyd meddwl wedi cynyddu. Mae'r amser aros ar gyfer therapïau siarad wedi sicrhau bod cyfraddau presgripsiynau gwrth-iselder yr uchaf yng ngorllewin Ewrop. Mae meddygon teulu yng Nghymru yn rhagnodi digon o feddyginiaeth gwrth-iselyddion fel y gall pob aelod o'r boblogaeth gael cyflenwad 19 diwrnod. Rhaid rhoi sylw i hyn fel rhan o strategaeth camddefnyddio sylweddau'r Llywodraeth ar frys. Byddaf yn cefnogi'r rhan fwyaf o'r gwelliannau ger ein bron heddiw. Mae yna angen hanfodol am ganolfan adsefydlu cyffuriau ac alcohol breswyl haen 4 yng Nghymru—angen nad yw'n cael ei adlewyrchu yn yr ystadegau swyddogol. Byddaf yn ymatal ar welliant 4, oherwydd gallaf ddweud, gan fy mod wedi gweithio yn y gwasanaeth carchardai, na welsom erioed bobl yn cael eu carcharu am ddefnyddio cyffuriau; byddent yn cael eu carcharu am ddelio neu am droseddu difrifol i fwydo eu harfer. Cytunaf ag ysbryd y gwelliant, ond mae dad-droseddoli cyffuriau yn anfon y neges anghywir. Yn y carchar, mae pobl sy'n gaeth i gyffuriau yn cael triniaeth o'r radd flaenaf—triniaeth a ddylai fod ar gael y tu allan i'r carchar. Caiff carcharorion eu hanfon i uned adsefydlu, cânt gefnogaeth a phrofion parhaus yn ogystal â chefnogaeth iechyd meddwl un i un yn ôl yr angen. Pe byddai'r opsiwn o'r math hwnnw o driniaeth ar gael i'r boblogaeth ehangach efallai na fyddem yn gweld cymaint o droseddau sy'n gysylltiedig â chyffuriau yn cael eu cyflawni. Felly, credaf mai sicrhau gwell triniaeth ac nid dad-droseddoli yw'r ateb. Diolch yn fawr. Diolch. A allaf i nawr alw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl—Vaughan Gething? Vaughan Gething AC: Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am yr hyn a fu i raddau helaeth yn ddadl adeiladol ac ystyriol ar adroddiad blynyddol camddefnyddio sylweddau 2018. Ceir cytundeb ar draws y Siambr bod hwn yn faes heriol, gyda phroblemau cymhleth i fynd i'r afael â nhw. Mae ein hymrwymiad i wasanaethau cyllid ychwanegol yn hanfodol, ac fel y dywedaf, wedi cael ei ddangos gan y cyllid ychwanegol—cynnydd o 10 y cant yn y gyllideb—hyd yn oed yn y cyfnod ariannol mwyaf anodd hwn; rydym yn wynebu cyni parhaol. Mae'n rhaid imi ymdrin â'r sylwadau gan y llefarydd Ceidwadol yn y ddadl hon. Unwaith eto, cewch wleidyddion Ceidwadol yn cwyno am ddewisiadau cyllid a wneir o ganlyniad uniongyrchol i gyni. Mae pob Gweinidog yn y Llywodraeth hon wedi gorfod wynebu dewisiadau ofnadwy; pethau y byddem yn dymuno parhau i'w cyllido, gyda gwerth gwirioneddol i'r cyhoedd—roedd yn rhaid inni wneud dewisiadau rhyngddyn nhw o ganlyniad uniongyrchol i gyni'r Ceidwadwyr—polisi y mae Mark Isherwood a'i gydweithwyr wedi ymgyrchu drosto mewn tri etholiad cyffredinol yn olynol. Mae fy neges yn glir, oherwydd nid ydym ni'n mynd i symud ymlaen yn hyn o beth: cymerwch gyfrifoldeb am gyni Torïaidd, cymerwch gyfrifoldeb am yr hyn yr ydych chi wedi'i wneud a pheidiwch â phregethu am gyllidebau, ynglŷn â dewisiadau a wneir oherwydd eich dewisiadau chi. Nawr, fe wnaeth Mark Isherwood rai—. Rwy'n credu, mewn gwirionedd, cyfraniad Leanne Wood—nid oeddwn yn cytuno â phopeth a ddywedodd hi, ond mae angen dadl ystyriol ac aeddfed ar y materion yr oedd hi'n eu hannog; dadl gyda'r heddlu, y Swyddfa Gartref, gyda gwleidyddion, ond yn anad dim, gyda'r cyhoedd hefyd, am yr hyn sydd i'w ddisgwyl. Nawr, nid oes gennym ni'r holl bwerau i wneud yr hyn y mae Leanne yn ei annog, ond rydym wedi edrych ar y dystiolaeth yn Ewrop ac o fewn y DU. Rydym wedi cael golwg ar gyfleusterau chwistrellu dan oruchwyliaeth feddygol, ac edrychodd y cyn-banel cynghori annibynnol ar gamddefnyddio sylweddau ar hyn ac fe gyhoeddodd adroddiad. Cyhoeddwyd hwn gennym ar wefan Llywodraeth Cymru yn 2017. Er gwaethaf y dystiolaeth a ystyriwyd yn yr adroddiad, maen nhw'n cydnabod bod pryderon yn parhau ynghylch pa mor gydnaws yw cyfleusterau chwistrellu dan oruchwyliaeth feddygol â'r gyfraith droseddol gyfredol sy'n ymwneud â chamddefnyddio cyffuriau. Mae hwn yn faes sydd yn fater i Lywodraeth y DU ac mae'r gorfodi yn nwylo'r heddlu. Daeth yr adroddiad i'r casgliad ar sail y dystiolaeth sydd ar gael, na allant ar hyn o bryd argymell bod chwistrellu dan oruchwyliaeth feddygol yn cael ei weithredu yng Nghymru. Ond maen nhw'n cydnabod bod mwy o waith i'w wneud yn y maes hwn i weld a yw'n debygol o fod yn ddichonadwy yng Nghymru. Felly, nid yw'n ddrws sydd wedi ei gau am byth, ond credaf ei fod yn gydnabyddiaeth o'nsefyllfa ni a'r modd y mae gwahanol gyfrifoldebau yn cael eu rhannu. Er hynny, fe barhawn ni i edrych— Leanne Wood AC: A wnewch chi dderbyn ymyriad? Vaughan Gething AC: Gwnaf. Leanne Wood AC: A ydych yn derbyn bod yn rhaid ichi symud yn gyflymach ynglŷn â hyn i atal mwy o farwolaethau? Vaughan Gething AC: Y realiti yw nad oes gennym ni'r pwerau i gyflwyno'r cyfleusterau y gwn i yr hoffech chi eu gweld yn cael eu creu o ddifrif yma yng Nghymru. Ni allaf greu'r cyfleusterau nad oes gennyf y pwerau i ymdrin â nhw. Dyna pam y dywedaf fod yn rhaid cael sgwrs wirioneddol aeddfed am yr hyn y gallwn ni ei wneud, yr hyn a wnawn gyda'n pwerau, yn ogystal â'r sgwrs honno gyda'r Swyddfa Gartref a'r heddlu. Nawr, rwy'n cydnabod y sylwadau a wnaed gan Joyce Watson a Jenny Rathbone—yn enwedig sylwadau Joyce Watson am gyllidwyr ymchwil a sut yr ydym ni'n ymgysylltu â nhw. Gwyddom yn sgil y Bil isafbris uned —fel yr oedd bryd hynny—nad oedd gwerth a chadernid peth o'r dystiolaeth honno a gyllidwyd gan actorion penodol yn y maes hwn yn gallu gwrthsefyll y craffu mwyaf cadarn. Ond mae'n rhaid inni barhau i ymgysylltu â manwerthwyr ynghylch eu hymddygiad, y ffordd y maen nhw'n hyrwyddo alcohol, yn benodol, a'r ffordd y mae gennym ni negeseuon amgen ynghylch rhoi dewisiadau ar sail gwybodaeth i bobl. Nawr, wrth gloi, rwy'n cymryd y bydd yr Aelodau, unwaith eto, yn ymuno â mi i ddiolch i bawb sy'n gweithio ar yr agenda hon a'r cynnydd yr ydym ni'n ei wneud o hyd. Mae mynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau yn gofyn am ymrwymiad ar draws y Llywodraeth a phartneriaid sy'n darparu gwasanaethau rheng flaen, i sicrhau ein bod ni'n cyrraedd ac yn cefnogi pawb mewn angen i gael y cymorth priodol. [Torri ar draws.] Fe wnaf yn gryno. Huw Irranca-Davies AC: Diolch yn fawr, ac rwy'n ymddiheuro, doeddwn i ddim yma ar gyfer yr araith agoriadol. A allaf i ofyn iddo—? Rwyf wedi ysgrifennu ato gyda chyfres o gwestiynau ynghylch y cymorth y mae Tŷ Brynawel yn ei ddarparu mewn gwirionedd. Tybed, o ystyried y ffaith bod rhai canolfannau adsefydlu yn cau yng Nghymru, ac mai Tŷ Brynawel yw'r unig ganolfan adsefydlu ar fframwaith Cymru gyfan Llywodraeth Cymru, a'r unig ganolfan adsefydlu ar fframwaith iechyd meddwl ac anableddau dysgu Cymru, pa drafodaethau, pa gefnogaeth y gall Llywodraeth Cymru a phartneriaid—awdurdodau comisiynu—ei rhoi i Dŷ Brynawel i sicrhau ei gynaliadwyedd. Vaughan Gething AC: Rydym wedi cael sgyrsiau rheolaidd gyda Thŷ Brynawel a chomisiynwyr gwasanaethau, i dynnu sylw at yr amrywiaeth o wasanaethau sydd eisoes ar gael, nid yn unig adsefydlu ym maes alcohol a chyffuriau, ond hefyd ym maes niwed i'r ymennydd sy'n gysylltiedig ag alcohol, maes sy'n datblygu. Felly, mae yna sgwrs barhaus i ni ei chael. Nid wyf yn dymuno i Frynawel beidio â bodoli. Rwy'n credu ei fod yn gyfleuster defnyddiol. Mae angen inni wneud yn siŵr bod ei wasanaethau yn cyd-fynd nid yn unig â'n strategaeth ni, ond bod y comisiynwyr mewn gwirionedd yn comisiynu'r gofal y mae'n ei ddarparu. A bydd y gofal hwnnw i gyd, y gwasanaethau yr ydym yn dal i'w hariannu, yn parhau i sicrhau bod lleihau niwed yn elfen graidd. Bydd y cyllid ychwanegol a nodwyd gennyf yn helpu i gefnogi'r gwaith hwnnw. Yn y maes cymhleth hwn, mae angen inni weithio'n agos gyda'n gilydd. Edrychaf ymlaen at weithio gyda'r Aelodau ar draws y sbectrwm, er gwaethaf ein gwahaniaethau barn ar amrywiaeth o bynciau, ond yn gyffredinol i wneud yn siŵr ein bod yn parhau i symud i gyfeiriad cadarnhaol yma yng Nghymru i helpu pobl mewn angen gyda chymorth priodol lle bynnag y gallwn ni. Diolch. Y cynnig yw cytuno ar welliant 1. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, rydym yn gohirio'r bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. Rwyf yn awr yn cynnig mynd i'r cyfnod pleidleisio, oni bai bod tri aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu. Na. 7. Cyfnod Pleidleisio Felly, rydym ni'n mynd i'r cyfnod pleidleisio, a'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma yw pleidlais ar y Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig, Ffioedd a Ffioedd am Geisiadau Tybiedig) (Cymru) (Diwygio) 2019. Galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agorwch y bleidlais. Caewch—[Torri ar draws.] Ie, iawn. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 35, dau yn ymatal, naw yn erbyn. Felly, derbynniry cynnig. Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig, Ffioedd a Ffioedd am Geisiadau Tybiedig) (Cymru) (Diwygio) 2019: O blaid: 35, Yn erbyn: 9, Ymatal: 2 Derbyniwyd y cynnigCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Symudwn yn awr i bleidleisio ar y ddadl ar setliad yr heddlu, a galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 38, un yn ymatal, wyth yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig. Dadl: Setliad yr Heddlu 2019-20: O blaid: 38, Yn erbyn: 8, Ymatal: 1Derbyniwyd y cynnigCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Symudwn yn awr i bleidleisio ar y ddadl ar adroddiad blynyddol camddefnyddio sylweddau. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 20, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly nid yw gwelliant 1 wedi ei dderbyn. NDM6961 - Gwelliant 1: O blaid: 20, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0 Gwrthodwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 20, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly nid yw gwelliant 2 wedi ei dderbyn. NDM6961 - Gwelliant 2: O blaid: 20, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0 Gwrthodwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 20, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly nid yw gwelliant 3 wedi ei dderbyn. NDM6961 - Gwelliant 3: O blaid: 20, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0 Gwrthodwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Galwaf am bleidlais ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 35, 12 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 4. NDM6961 - Gwelliant 4: O blaid: 35, Yn erbyn: 0, Ymatal: 12 Derbyniwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Rydym nawr yn galw am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Cynnig NDM6961 fel y'i diwygiwyd: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi’r cynnydd sy'n cael ei wneud i fynd i’r afael â’r niwed sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau, fel yr amlygir yn Adroddiad Blynyddol ar Gamddefnyddio Sylweddau a Rhagolwg Llywodraeth Cymru (Tachwedd 2018). Yn credu bod creu trosedd o gamddefnyddio rhai sylweddau yn ychwanegu at y niwed a gaiff ei achosi gan ddefnydd o’r fath, yn gwaethygu’r stigma, ac yn atal pobl sy'n gaeth rhag gwella’n llwyr, ac yn credu, yn hytrach, y dylid ystyried mai mater iechyd yw camddefnyddio sylweddau, ac mai lleihau niwed yw'r brif amcan. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig wedi'i ddiwygio 36, dau yn ymatal, naw yn erbyn. Felly mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi ei dderbyn. NDM6961 - Dadl: Yr Adroddiad Blynyddol ar Gamddefnyddio Sylweddau, cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 36, Yn erbyn: 9, Ymatal: 2Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwydCliciwch i weld canlyniad y bleidlais A daw hynny â busnes heddiw i ben. Diolch. Daeth y cyfarfod i ben am 16:41. QNR Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru Janet Finch-Saunders: Pa gamau y mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i wella perfformiad ysgolion ar draws Cymru? Mark Drakeford: The regional education consortia support, and work closely in partnership with local authorities to promote high standards of education. I am encouraged that Estyn’s most recent annual report, published last December, noted that there has been further improvement in standards in primary schools. Sian Gwenllian: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am newidiadau i gynlluniau rhyddhad adrethi busnes? Mark Drakeford: Bydd ein cynllun parhaol rhyddhad ardrethi busnesau bach yn cynnig 100 y cant o ryddhad i ddarparwyr gofal plant o 1 Ebrill ymlaen. Bydd £23.6 miliwn yn ychwanegol o ryddhad yn cael ei gynnig i fanwerthwyr a’r stryd fawr yn 2019-20 ac rydyn ni wedi ymestyn rhyddhad ar gyfer prosiectau ynni dŵr cymunedol i 2019-20. Darren Millar: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella cymorth i gyn-filwyr? Mark Drakeford: Real progress has been made in improving services and support for veterans, including housing and employment pathways, an employers toolkit and mental health services for veterans. We will continue to build on this. Neil McEvoy: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd llwybrau bysiau i drigolion yng Nghanol De Cymru? Mark Drakeford: The Welsh Government White Paper, launched in December 2018, sets out proposals for improving the legislative framework in Wales for planning and delivering local bus services, which remain the bedrock of the public transport system for residents of South Wales Central and beyond. Jenny Rathbone: Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu adeiladu ar waith y Comisiwn Bevan i brif ffrydio arloesi mewn gofal iechyd ? Mark Drakeford: The Welsh Government has supported a range of Bevan Commission activity, such as the innovation exemplar programme. Officials are working closely with the commission to evaluate the impact of projects at the local level and their wider potential for scale and spread across the system.
uk-hansard-senedd-cy
senedd2019-02-12
2024-06-01T00:00:00
{ "year": "2019", "language": "cy", "license": "Open Parliament Licence - https://www.parliament.uk/site-information/copyright-parliament/open-parliament-licence/" }
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. Galw'r Aelodau i drefn. 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Addysg, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Lynne Neagle. Darpariaeth y Gwasanaeth SenCom Lynne Neagle AC: 1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau Llywodraeth Cymru ag awdurdodau lleol yng Ngwent ynghylch darpariaeth y gwasanaeth SenCom? OAQ53347 Kirsty Williams AC: Diolch, Lynne, am eich gwaith parhaus ar y pwnc pwysig hwn. Gall gweithio ar sail ranbarthol helpu i sicrhau bod adnoddau ac arbenigedd yn cael eu targedu'n effeithiol i gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Rwyf wedi gofyn i fy swyddogion ymgysylltu â SenCom i ddeall yr effaith bosibl ar ddysgwyr pe bai Casnewydd yn tynnu'n ôl o'r gwasanaeth hwnnw. Lynne Neagle AC: Weinidog, rwy’n parhau i gael fy siomi gan barodrwydd ymddangosiadol Cyngor Dinas Casnewydd—cyngor Llafur—i beryglu gwasanaethau ar gyfer grŵp bregus iawn o blant a phobl ifanc, drwy dynnu'n ôl o'r gwasanaeth SenCom rhanbarthol effeithiol ac arbenigol iawn. Mae Casnewydd, o’r diwedd, yn gwneud rhywfaint o ymgynghori â theuluoedd, ond mae rhieni wedi cwyno bod llythyrau yn cael eu hanfon yn uniaith Saesneg, mewn print mân, ac yn rhy hwyr i rieni fynychu digwyddiadau ymgynghori pwysig. A fyddai'r Gweinidog yn cytuno â mi, er mwyn i’r ymgynghoriad fod yn un ystyrlon, fod angen iddo fod yn amserol, mewn iaith y gall rhieni ei deall, gan gynnwys rhieni o leiafrifoedd ethnig, ac mewn fformat sy'n hygyrch i rieni sydd â nam ar eu synhwyrau eu hunain? A ydych yn rhannu fy mhryder parhaus ynglŷn â’r ffordd y mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ymdrin â'r newid arfaethedig hwn i wasanaethau ar gyfer plant â nam ar y synhwyrau? Kirsty Williams AC: Lynne, mae'n hollbwysig ymgysylltu’n briodol â’r teuluoedd sy'n cael y gwasanaeth hwn, ac na chaiff diddordebau unigol dysgwyr unigol eu hanghofio ar unrhyw adeg. A buaswn yn cytuno'n llwyr â chi fod angen i unrhyw ymgynghoriad â theuluoedd fod yn ystyrlon, ac ni all fod yn ystyrlon os na all rhieni gymryd rhan. Fel y dywedais yn fy ateb gwreiddiol i chi, bydd fy swyddogion yn parhau i geisio sicrwydd gan Gasnewydd, ac yn wir, gan awdurdodau lleol eraill a allai gael eu heffeithio gan y cynnig hwn, i sicrhau nad yw anghenion dysgu'r plant a'r bobl ifanc hynny'n cael eu peryglu. Mohammad Asghar (Oscar) AC: Diolch, Lywydd. Weinidog, clywais eich ateb blaenorol i fy nghyd-Aelod. Efallai eich bod yn ymwybodol fy mod wedi gofyn am ddatganiad ar y mater hwn ar 11 Rhagfyr, a bod arweinydd y tŷ wedi dweud wrthyf eich bod yn trafod gyda Chyngor Dinas Casnewydd ynglŷn â'r rhesymeg dros gael gwared ar y gwasanaeth ac y byddech yn adrodd yn ôl. Ers hynny, mae sawl elusen, fel Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall Cymru, Cyngor Cymru i'r Deillion, Cŵn Tywys Cymru a Sight Cymru wedi mynegi pryderon y gallai penderfyniad Casnewydd arwain at loteri cod post ar gyfer y ddarpariaeth hon. Cafwyd cefnogaeth unfrydol gan gynghorwyr o bob plaid yn Sir Fynwy i gynnig i wrthwynebu penderfyniad Cyngor Dinas Casnewydd, gan fynegi cryn siom ynglŷn â lefel yr ansicrwydd y mae wedi’i greu mewn perthynas â’r rhwydwaith hanfodol hwn o gymorth. Weinidog, pa gamau y byddwch yn eu cymryd i sicrhau bod y gwasanaethau ar gyfer y plant agored i niwed hyn yn ne-ddwyrain Cymru yn cael eu diogelu, os gwelwch yn dda? Kirsty Williams AC: Wel, gallaf roi sicrwydd i’r Aelod fy mod wedi ysgrifennu at y cynghorydd Debbie Wilcox, arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, yn ôl ym mis Tachwedd, i ofyn am sicrwydd. Cefais ymateb gan y cyngor hwnnw ym mis Rhagfyr, a dywedodd y cyngor eu bod yn hyderus y byddant yn gadael gwasanaeth sylweddol a ariennir yn briodol ac a ddylai fod â mwy na digon o allu i gynnal y lefelau darparu presennol i'r pedwar awdurdod lleol sydd ar ôl. Fodd bynnag, fel y clywsoch gan Lynne Neagle, mae'r sefyllfa'n ansefydlog, ac yn parhau i newid. Mae cyngor Casnewydd, o’r diwedd, yn ymgysylltu â rhieni plant sy'n defnyddio'r gwasanaeth hwn, ond unwaith eto, fel y clywsom gan Lynne Neagle, mae ansawdd yr ymarfer ymgynghori hwnnw yn amheus ar y gorau, ac mae fy swyddogion yn parhau i siarad gyda Chyngor Dinas Casnewydd ynglŷn â’u camau gweithredu mewn perthynas â'r gwasanaeth penodol hwn. Alun Davies AC: Weinidog, rwy’n ymwybodol o’ch ymrwymiad personol cryf i hyn ac i sicrhau bod pob dysgwr ledled y wlad yn cael y profiad addysg cyfoethog iawn y mae ganddynt hawl i'w ddisgwyl. Rhannaf siom llwyr Lynne Neagle ynglŷn â gweithredoedd Cyngor Dinas Casnewydd. Teimlaf fod Cyngor Dinas Casnewydd yn troi ei gefn ar rai o'r dysgwyr mwyaf agored i niwed yn y wlad ac yn ymddwyn mewn ffordd gwbl ddi-hid, heb unrhyw ofal go iawn neu ystyriaeth o’r effaith y mae hyn yn ei chael ar ddysgwyr ar draws rhanbarth Gwent. Ar adeg pan ydych yn ymgynghori ar y cod ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, mae'n drasiedi fod hyn yn digwydd ac yn peri cymaint o ofid i bobl yn y rhanbarth. Weinidog, dyma fy nghwestiwn i chi: sut y gallwch chi fel Llywodraeth Cymru sicrhau bod y strwythurau gennym yn y dyfodol i sicrhau na all cynghorau beri’r gofid hwn, na allant ymddwyn yn y modd hwn, ac na allant droi eu cefnau ar anghenion rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas? Kirsty Williams AC: Fy mhryder i yw bod gwasanaethau SenCom, sydd, fel y mae pawb wedi’i gydnabod, yn wasanaeth sy'n darparu ar sail ranbarthol i grŵp penodol iawn o blant a phobl ifanc gydag anghenion dysgu ychwanegol penodol iawn, wedi bod yn enghraifft o arfer da iawn, buaswn yn dadlau—o awdurdodau lleol yn cyfuno eu hadnoddau, yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau gwasanaeth cryf a chynaliadwy. Nawr, mae'r ffaith bod Casnewydd wedi gwneud y penderfyniadau hyn—ac mae ganddynt hawl i'w gwneud—yn dangos sut y bydd yn rhaid inni ailedrych ar sut rydym yn annog ac yn cynorthwyo awdurdodau lleol i weithio ar sail ranbarthol lle ceir manteision profedig o wneud hynny. Ac rwy'n parhau i gael trafodaethau o'r fath gyda fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. Nid yw John Griffiths yn y Siambr i ofyn cwestiwn 2. Ni ofynnwyd cwestiwn 2 [OAQ53370]. Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau Ac felly fe wnawn ni symud i gwestiynau gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mohammad Asghar. Mohammad Asghar (Oscar) AC: Diolch, Lywydd. Mynegwyd pryderon fod buddsoddiad mewn sgiliau ac addysg oedolion ar hyn o bryd yn canolbwyntio gormod ar oedolion ifanc, ar draul pobl 25 oed a hŷn. Erbyn 2022, bydd traean o weithlu Cymru dros 50 oed, felly mae dysgu oedolion yn llawer pwysicach nag erioed yng Nghymru. Weinidog, beth rydych yn ei wneud i ymestyn modelau addysg rhan-amser a hyblyg, sy'n darparu llwybr hanfodol i lawer o oedolion na fyddent fel arall yn gallu cael mynediad at addysg yng Nghymru? Kirsty Williams AC: Wel, yn gyntaf, rwy'n siŵr fod yr Aelod wedi awgrymu heb feddwl gwneud hynny nad yw blaenoriaethu anghenion dysgwyr iau mewn addysg bellach dros anghenion pobl eraill yn rhywbeth y mae'n ei gefnogi. Rwy'n siŵr y byddai'r Aelod am i ni barhau i sicrhau bod dysgwyr o oedran ôl-orfodol—17 a hŷn—yn parhau i elwa o'r ddarpariaeth. Ond mae'n gwneud pwynt gwerthfawr—fod angen inni sicrhau bod dysgwyr, drwy gydol eu hoes, yn cael cyfle i uwchsgilio, dysgu sgiliau newydd neu gael addysg i wella eu rhagolygon cyflogaeth. Dyna pam y byddwch yn ymwybodol, rwy'n siŵr, o fy ymrwymiad gyda'r Prif Weinidog newydd i archwilio'r cysyniad o sicrhau bod Cymru'n dod yn genedl ail gyfle a bod gan bob dysgwr gyfle i gael addysg ar wahanol adegau yn eu bywydau. Wrth gwrs, rwy'n falch, o ganlyniad i'n newidiadau i gymorth addysg uwch, er enghraifft, ein bod wedi gweld cynnydd dramatig yn nifer y dysgwyr rhan-amser sy'n cofrestru gyda'r Brifysgol Agored yng Nghymru eleni, mewn gwrthgyferbyniad llwyr â'r niferoedd sy'n parhau i ostwng dros y ffin yn Lloegr. Mohammad Asghar (Oscar) AC: Diolch, Weinidog. Ond mynegwyd pryderon ynghylch diffyg ymwybyddiaeth o'r gefnogaeth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr rhan-amser a mwy o amharodrwydd i fynd i ddyled ymhlith myfyrwyr hŷn fel ffactorau cyfrannol mewn unrhyw ostyngiad yn y galw am ddarpariaeth ran-amser. Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru yn rhoi llawer o ffocws ar bobl ifanc, gan arwain at ddiffyg gwybodaeth bwysig, cyngor a chanllawiau ar gyfer myfyrwyr hŷn presennol a darpar fyfyrwyr hŷn. Beth rydych yn ei wneud, Weinidog, i sicrhau y caiff dysgwyr rhan-amser eu trin yn deg ac yn gyfartal fel fod opsiynau cyllid rhan-amser yn cael cyhoeddusrwydd mor amlwg â rhai amser llawn yng Nghymru? Kirsty Williams AC: Wel, Oscar, buaswn yn dadlau bod y canlyniadau'n siarad drostynt eu hunain. Rydym wedi gweld cynnydd o 35 y cant eleni mewn cofrestriadau ar gyfer cyrsiau gradd rhan-amser gyda'r Brifysgol Agored yn unig yma yng Nghymru. Y llynedd, ymgysylltodd Llywodraeth Cymru â chyfundrefn hysbysebu a gwybodaeth gyhoeddus hynod lwyddiannus. O ran cyrhaeddiad ac allbynnau, hon yw'r rhaglen hysbysebu fwyaf llwyddiannus a gyflawnwyd gan Lywodraeth Cymru erioed mewn gwirionedd—hyd yn oed yn fwy llwyddiannus na'r ymgyrch gyhoeddusrwydd rhoi organau. Yr hyn sy'n bwysig i mi yw ein bod yn ceisio cefnogi dysgwyr rhan-amser mewn meysydd eraill, nid y rheini sy'n astudio ar lefel gradd yn unig. Rydym wedi cael effaith fawr ar lefel gradd. Bellach, mae angen inni sicrhau bod yr oedolion sydd am astudio ar lefel is na lefel gradd yn cael cyfle i wneud hynny hefyd. Ar hyn o bryd, rwy'n ystyried yr adroddiad a gomisiynwyd gan y Gweinidog blaenorol ar Addysg Oedolion Cymru a byddwn yn ceisio archwilio gyda'n cymheiriaid ym maes addysg bellach beth arall y gallwn ei wneud i sicrhau bod dysgu rhan-amser ar bob lefel yn dod yn realiti i lawer mwy o ddinasyddion Cymru sy'n awyddus i ymgymryd â hynny. Mohammad Asghar (Oscar) AC: Diolch, Weinidog. Nid oes amheuaeth gennyf eich bod yn gwneud gwaith gwych yn eich rôl eich hun, ond mae data newydd a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch yn dangos bod nifer myfyrwyr o'r UE a myfyrwyr nad ydynt o'r UE sy'n mynychu prifysgolion Prydain wedi codi. Yn 2017 a 2018, mynychodd dros 458,000 o fyfyrwyr brifysgolion ym Mhrydain—cynnydd o 16,000 ar y blynyddoedd blaenorol, ac 20,000 ers blwyddyn refferendwm yr UE. Ar nodyn cadarnhaol, Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i groesawu'r newyddion hwn, sydd wedi'i gyflawni, fel y byddai'r BBC yn ei ddweud, 'er gwaethaf Brexit'? Kirsty Williams AC: Yn gyntaf, a gaf fi gymryd y cyfle hwn, Lywydd, i roi gwybod i bobl fod prifysgolion a cholegau addysg bellach Cymru yn agored i fusnes? Rydym yn gwerthfawrogi'n fawr y cyfraniadau a wneir gan aelodau staff Ewropeaidd, a myfyrwyr Ewropeaidd, ac yn wir, myfyrwyr nad ydynt o Ewrop sy'n dod i astudio yma yng Nghymru. Rwy'n gobeithio y bydd llawer ohonynt yn parhau i wneud hynny. Ond mae angen i'r Aelod wrando ar Prifysgolion Cymru a ColegauCymru mewn perthynas â'r bygythiadau gwirioneddol a achosir gan Brexit i'n sector AB ac AU. Mae'r Aelod, wrth eu hanwybyddu, yn bod yn ddi-hid gyda dyfodol y sector tra phwysig hwn. Heb amheuaeth—heb amheuaeth— bydd Brexit, ar ba ffurf bynnag y bydd yn digwydd, yn effeithio ar y sector, ac nid mewn ffordd gadarnhaol. Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian. Siân Gwenllian AC: Diolch, Llywydd. Dwi am ddechrau lle gorffennais i y tro diwethaf i mi gael sgwrs efo chi ar draws y Siambr, sef efo'r frawddeg anffodus a oedd yn eich Papur Gwyn yr wythnos diwethaf am ddysgu Saesneg mewn ysgolion a lleoliadau meithrin. Dwi ddim yn mynd i fynd dros yr un un tir eto, a dwi'n falch iawn eich bod chi wedi gwneud tro pedol ar y mater yma ac na fydd newid polisi fel yr awgrymodd Gweinidog y Gymraeg wrth ateb fy nghwestiynau i yma ddydd Mercher diwethaf ac fel cafodd ei gadarnhau mewn datganiad byr a ymddangosodd ar wefan y Llywodraeth ddydd Llun. Ond mae yna gwestiynau pellach yn codi yn fy meddwl i yn sgil y ffiasgo yma. Mae'n amlwg mai camgymeriad oedd cynnwys y frawddeg, ond sut yn y byd y caniatawyd i frawddeg a fyddai wedi golygu newid polisi syfrdanol i ymddangos mewn Papur Gwyn yn y lle cyntaf? Onid ydy cyhoeddiadau pwysig fel Papurau Gwyn yn cael eu darllen a'u hailddarllen drosodd a throsodd er mwyn osgoi camgymeriadau sylfaenol? Onid oes proses i sicrhau cysondeb gyda pholisïau craidd y Llywodraeth? A'r cwestiwn arall sy'n codi ydy: pam y byddai unrhyw un yn yr adran addysg yn ychwanegu'r fath frawddeg a sut ydych chi am wneud yn siŵr fod yr holl swyddogion addysg yn gyfarwydd â pholisïau sydd wedi cael eu cydnabod ers degawdau fel y rhai cywir ar gyfer dysgu Cymraeg i blant o dan saith oed? Dyna'i gyd y gallaf fi ei ddweud ydy bod y llanast yma'n tanseilio eich hygrededd chi fel Gweinidog, gweision sifil yr adran addysg a'r Llywodraeth yma. Kirsty Williams AC: Ni fu unrhyw newid yn y polisi. Dywedais hynny yn ystod y sesiwn gwestiynau yr wythnos diwethaf. Ailadroddwyd hynny gan Weinidog y Gymraeg y diwrnod wedyn, ac rwy'n falch iawn ein bod wedi cyhoeddi eglurhad manwl lle dywedais yn glir y bydd trochi'n parhau mewn gwahanol ysgolion a lleoliadau gwahanol. Felly, os caf, Lywydd, ar gyfer y cofnod yma y prynhawn yma: bydd ein cynigion yn y cwricwlwm newydd yn dal i alluogi ysgolion a lleoliadau fel ysgolion meithrin i drochi plant yn llawn yn y Gymraeg ac rwy'n ddiolchgar iawn i swyddogion ysgolion meithrin ac UCAC am eu cefnogaeth yn hyn o beth. Siân Gwenllian AC: Diolch yn fawr am yr eglurder yna, ond dydych chi ddim yn ateb y cwestiwn ynglŷn â sut yn y byd gwnaeth y fath frawddeg ymddangos yn y lle cyntaf. Dwi'n mynd i droi at agweddau eraill ar eich Papur Gwyn chi, os caf i. Mae o'n nodi y bydd angen deddfwriaeth sylfaenol ar gyfer rhai materion penodol, gan gynnwys y chwe maes dysgu a phrofiad. Un o'r chwech hynny ydy'r dyniaethau, ac rydych chi'n rhestru'r dyniaethau fel hanes, daearyddiaeth, addysg grefyddol, busnesau ac astudiaethau cymdeithasol. Rŵan, dwi wedi eich clywed chi sawl tro yn trafod pwysigrwydd dysgu hanes Cymru i'n plant ni, a dwi'n credu ein bod ni'n rhannu'r un weledigaeth o gwmpas hynny. A fyddwch chi, felly, yn ystyried ychwanegu hanes Cymru i'r rhestr o bynciau o dan y pennawd 'dyniaethau'? Byddai hanes Cymru wedyn yn ymddangos ar wyneb y Bil, ac fe fyddai'n golygu ei bod hi'n statudol i bob ysgol yng Nghymru gyflwyno hanes Cymru fel rhan o'r cwricwlwm newydd. Kirsty Williams AC: Gadewch imi ddweud yn gwbl glir unwaith eto: mae'n ddisgwyliad ac yn fwriad gennyf y dylai pob plentyn ddysgu eu hanes lleol eu hunain, hanes eu cenedl, a lle eu cenedl yn hanes y byd a chyfraniad ein gwlad i hanes y byd a digwyddiadau'r byd. Y cysyniad sydd wrth wraidd y cwricwlwm, yn enwedig yn y dyniaethau, yw ffocws ar y lleol o'r oed ieuengaf, a thyfu allan o'r lleol, a fydd yn rhoi dealltwriaeth i'n plant nid yn unig o'u lle yn eu cymuned, ond o le eu cymuned yn ein cenedl, ac yn wir, yn y byd. Dyna'r ffocws. Ond mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn pryderu ynghylch y syniad hwn mai drwy'r cwricwlwm hanes yn unig y gellir darparu'r dimensiwn Cymreig—mae'n peri cryn bryder i mi, oherwydd mewn gwirionedd, hoffwn i blant ddysgu mwy na hanes Cymru yn unig o'r cwricwlwm hwn. Rwyf am i blant ddysgu am lenyddiaeth Cymru, rwyf am i blant ddysgu am gerddorion Cymru, rwyf am i bobl ddysgu am wyddonwyr Cymru. A bydd yr Aelod yn gwybod, o ddarllen y Papur Gwyn, y bydd dimensiwn Cymreig yn thema drawsbynciol mewn gwirionedd, nid yn unig ym maes dysgu'r dyniaethau—mae'n thema drawsbynciol ar gyfer ein cwricwlwm yn ei gyfanrwydd. Siân Gwenllian AC: Diolch yn fawr iawn. Rydw i'n cytuno'n llwyr efo chi, ond dydy hynny ddim yn ddadl dros beidio â chynnwys hanes Cymru fel pwnc penodol o dan y rhestr hir sydd gennych chi o dan y teitl 'dyniaethau'. I droi hefyd at agwedd arall ar y cwricwlwm newydd—a dwi'n dyfynnu—mi fydd y cwricwlwm yn rhoi 'rhyddid i ymarferwyr ddefnyddio eu proffesiynoldeb a'u crebwyll i ddiwallu anghenion dysgwyr'. Dyna ydy hanfod gweledigaeth Donaldson, mewn gwirionedd, yntê? Mae'r Papur Gwyn yn mynd ymlaen wedyn i ddweud y bydd yna lai o fanylder mewn deddfwriaeth o ran cynnwys y cwricwlwm na sydd yna ar hyn o bryd, ac y bydd cynnwys y meysydd dysgu a phrofiad yn cael ei amlinellu mewn canllawiau statudol. Rŵan, rydym ni'n gwybod y bydd y cwricwlwm a'r trefniadau asesu newydd yn cael eu cyhoeddi ym mis Ebrill er mwyn cael adborth. Beth mae llawer o athrawon yn holi ydy: pryd bydd y canllawiau atodol ar gael a pha mor fanwl fydd y rheini? Mae llawer o athrawon yn dadlau bod angen arweiniad a chanllawiau clir a manwl ac maen nhw'n gofidio na fydd hynny ar gael. Kirsty Williams AC: Mae'r Aelod yn llygad ei lle; bydd camau cynnydd unigol y Meysydd Dysgu a Phrofiad a'r datganiadau ynghylch 'beth sy'n bwysig' yn cael eu cyhoeddi dros y Pasg. Rydym yn gwneud hynny mewn fformat a fydd yn caniatáu i addysgwyr, ac yn wir, unrhyw un â diddordeb i roi adborth. Buaswn yn derbyn bod cydbwysedd i'w gael rhwng dod mor ragnodol yn y canllawiau hynny fel y byddai cystal inni aros lle rydym, gan na fydd natur y cwricwlwm wedi newid o gwbl pe baem yn darparu rhestrau hirfaith o bethau rydym yn disgwyl i athrawon eu gwneud. Fe fyddwch yn gwybod o adroddiad gwreiddiol Graham Donaldson, fod y ffordd y mae ein cwricwlwm wedi'i strwythuro ar hyn o bryd yn rhwystro creadigrwydd athrawon rhag gallu diwallu anghenion eu myfyrwyr unigol. Nawr, yn amlwg, bydd yn rhaid inni ddarparu—mewn ffordd anghelfydd, efallai—sgaffaldiau ar gyfer y proffesiwn addysgu, ond ni allwn, ac ni fyddaf, yn syrthio i'r fagl o roi rhestrau hir i'n hathrawon o bethau rhagnodedig rwy'n disgwyl iddynt eu haddysgu, gan y byddai gwneud hynny'n gwneud cam â'r weledigaeth o'r hyn y ceisiwn ei wneud gyda'n cwricwlwm ar gyfer ein pobl ifanc. Llefarydd UKIP, Michelle Brown. Michelle Brown AC: Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Weinidog, yn ddiweddar, fe gyhoeddoch chi gyfundrefn addysg rhyw a chydberthynas newydd, a fydd yn orfodol i ysgolion heb fodd i rieni optio eu plentyn allan ohoni. A wnewch chi sicrhau bod y cwricwlwm Addysg Rhyw a Chydberthynas newydd yn cynnwys nodi beth a olygir wrth gam-drin, pam ei fod yn anghywir, sut i'w atal, a beth i'w wneud os bydd yn digwydd? Kirsty Williams AC: Yn gyntaf, mae'r Aelod yn anghywir yn dweud fy mod yn gwrthod yr hawl i rieni eithrio'u plant. Os yw'r Aelod wedi darllen y Papur Gwyn, fe fydd yn gwybod bod y Papur Gwyn yn cynnwys cwestiynau penodol ynglŷn â sut yr ymdriniwn â'r hawl i eithrio plant o wersi o'r fath. Ond gallaf roi sicrwydd llwyr i'r Aelod, wrth sicrhau bod ein plant yn dysgu am rywioldeb a chydberthynas, y byddant yn dysgu am faterion fel cydsyniad, trais domestig, beth yw perthynas iach, a lle i gael cymorth os ydynt mewn sefyllfa lle maent yn pryderu am eu diogelwch. Michelle Brown AC: Diolch am eich ateb, Weinidog. Yn ddiweddar, rydym wedi gweld yr euogfarn gyntaf mewn perthynas â rhiant yn anffurfio neu'n caniatáu i organau cenhedlu eu plentyn gael eu hanffurfio. Er bod y math hwn o gam-drin wedi bod yn digwydd ers blynyddoedd, ac er iddo gael ei wneud yn anghyfreithlon amser maith yn ôl, mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru a sefydliadau o dan eu rheolaeth wedi bod yn aneffeithiol o ran ei atal a mynd i'r afael ag ef pan fydd yn digwydd. A ydych yn cytuno â mi mai'r unig ffordd efallai y gallem helpu i atal anffurfio organau cenhedlu benywod yng Nghymru yw drwy ei amlygu fel problem benodol mewn perthynas ag addysg rhyw a chydberthynas? Ni fydd neges amwys am sicrhau bod pobl yn parchu eich corff yn effeithiol yn y senario hon. Mae angen ei hamlygu fel problem benodol, onid oes? Kirsty Williams AC: Yn amlwg, y gwir amdani yw bod anffurfio organau cenhedlu benywod yn ffurf ar gam-drin, ac mae'n anghyfreithlon yn ein gwlad. Fel y dywedais, bydd yn rhaid i'r Aelod aros tan y caiff y Meysydd Dysgu a Phrofiad unigol eu cyhoeddi, ond ni fyddwn mewn sefyllfa lle byddwn yn creu rhestrau hir o bynciau penodol unigol. Ond yn hollbwysig, mae gan ysgolion rôl i'w chwarae yn cefnogi, diogelu ac atal anffurfio organau cenhedlu benywod, a dyna pam, cyn toriad yr haf bob blwyddyn, rwy'n ysgrifennu at bob ysgol i'w hatgoffa am eu cyfrifoldebau a beth y gallant ei wneud wrth i wyliau'r haf agosáu—sy'n aml yn amser perygl i lawer o'n myfyrwyr benywaidd, pan allent fod mewn perygl o wynebu'r broses a'r driniaeth hon—i'w hatgoffa am eu cyfrifoldebau, beth i edrych amdano, yr arwyddion o berygl, ac yn hollbwysig, beth y dylent ei wneud ynglŷn â'r peth os ydynt yn poeni am unrhyw blentyn unigol yn eu hysgol. Michelle Brown AC: Deallaf yr hyn a ddywedoch ynglŷn â pheidio â dymuno rhoi rhestr hir o eitemau i athrawon eu haddysgu—deallaf eich safbwynt yn hynny o beth, Weinidog—ond mae anffurfio organau cenhedlu benywod yn enghraifft mor erchyll o gam-drin merch. Mae bellach yn digwydd i fabanod, oherwydd, a dyfynnaf, Nid yw'r merched yn gallu rhoi gwybod i unrhyw un, mae'r clwyfau'n cau'n gynt ac mae erlyn yn llawer anos pan ddaw tystiolaeth i'r amlwg pan fo'r ferch yn hŷn. Dyna ddiwedd y dyfyniad. Felly, nid yw dweud wrth ferched yn yr ysgol y dylent roi gwybod am unrhyw un sy'n ceisio ei wneud yn mynd i weithio. Mae anffurfio organau cenhedlu benywod yn rhywbeth sy'n digwydd yn amlach yma yng Nghymru, yn y DU, felly nid yw cadw cofnod o'r merched sy'n debygol o fynd ar wyliau a'i gael wedi'i wneud dramor—efallai ei fod wedi digwydd iddynt pan oeddent yn fabanod. Buaswn yn awgrymu mai'r holl bwynt yw addysgu'r genhedlaeth nesaf o ddinasyddion yn y wlad hon, pob un ohonynt, yn y gwersi Addysg Rhyw a Chydberthynas, fod anffurfio organau cenhedlu benywod yn erchyll ac na ddylid ei oddef. Gwneud hynny'n iawn o'r cychwyn cyntaf. Sicrhau nad yw'n cael ei dderbyn mewn rhan fach o'n cymuned. Dywed elusen Barnardo's fod ymgysylltiad cymunedol yn allweddol er mwyn rhoi diwedd ar drosedd anffurfio organau cenhedlu benywod. Felly, a wnewch chi helpu i ddatrys y broblem hon drwy addysgu cenedlaethau'r dyfodol fod anffurfio organau cenhedlu benywod yn bodoli ac na ddylid ei oddef? Kirsty Williams AC: Ni fydd yn cael ei oddef, ac mae gan addysg ran bwysig i'w chwarae yn hynny, ond mae gan lawer o asiantaethau eraill ran bwysig i'w chwarae hefyd. Mae'r Aelod yn codi mater anffurfio organau cenhedlu benywod mewn perthynas â babanod benywaidd. Yn amlwg, mae hwnnw'n fater i fydwragedd a'r gwasanaeth iechyd gwladol fynd i'r afael ag ef. Ond gadewch i mi ddweud yn gwbl glir unwaith eto: ar draws y Llywodraeth, ar draws pob adran, rydym yn cydnabod bod anffurfio organau cenhedlu benywod yn ffurf erchyll ar gam-drin a byddwn yn gweithio ar y cyd gyda'n gilydd i roi diwedd arno. Cwestiwn 3, Hefin David. Hefin David AC: Diolch, Lywydd. Deallaf eich bod wedi grwpio cwestiynau 3 a 5. A yw hynny'n gywir? Ydi. Datblygu 'Cwricwlwm Cymru, Cwricwlwm am Oes' Hefin David AC: 3. Pa gamau y mae'r Gweinidog wedi'u cymryd i sicrhau y clywir lleisiau pobl ifanc wrth ddatblygu Cwricwlwm Cymru, Cwricwlwm am Oes? OAQ53348 Hefin David AC: 5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu Cwricwlwm Cymru, Cwricwlwm am Oes? OAQ53349 Kirsty Williams AC: Diolch, Hefin. Wrth ateb cwestiynau 3 a 5, gallaf roi sicrwydd i chi fod barn plant a phobl ifanc yn hanfodol i'r broses o ddiwygio ein cwricwlwm. Rydym eisoes wedi ymgysylltu â hwy ar ddatblygiadau allweddol megis e-bortffolios, asesiadau ar-lein a'r rhaglen addysg cydberthynas a rhywioldeb y byddwn yn ei rhoi ar wyneb y Bil. Mae ysgolion arloesi wedi ymgysylltu â dysgwyr yn ystod y broses o ddatblygu'r cwricwlwm a byddwn yn parhau i'w cynnwys yn llawn yn y broses adborth. Mae gennym fersiwn o'r Papur Gwyn ar gyfer plant a phobl ifanc a bydd eu barn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod ein cwricwlwm newydd yn addas. Hefin David AC: Er gwaethaf y camau mawr hynny, mae'r comisiynydd plant wedi bod yn feirniadol nad yw lleisiau plant wedi cael eu clywed yn ddigonol wrth ddatblygu'r cwricwlwm newydd. Cynhaliais ddigwyddiad yr wythnos diwethaf yn adeilad y Pierhead ddydd Mawrth gyda Fforwm Ieuenctid Caerffili, lle cyflwynwyd deiseb ganddynt a ddywedai eu bod yn awyddus i sicrhau bod gwersi 'cwricwlwm am oes' yn orfodol yn y cwricwlwm newydd. Maent yn teimlo nad yw'r cwricwlwm presennol yn darparu'r sgiliau bywyd sydd eu hangen arnynt. Mae Cymdeithas y Plant hefyd wedi argymell bod lles y plentyn yn rhan ganolog o'r cwricwlwm newydd, a'r teimlad cyffredinol ymhlith y bobl y siaradais â hwy yw y gellid gwneud mwy eto i gynnwys lleisiau plant yn y broses o ddatblygu'r cwricwlwm. Felly, pa gynnydd y mae hi'n ei wneud? Kirsty Williams AC: Yn sicr. Buaswn yn cytuno'n llwyr gyda'r Aelod fod hon yn broses y bydd angen iddi barhau. Mae'r grŵp rhanddeiliaid strategol sy'n cynrychioli plant a phobl ifanc wedi'i sefydlu'n benodol i ystyried barn plant a phobl ifanc yn ystod y daith ddiwygio, ac mae hynny'n cynnwys plant ag anghenion dysgu ychwanegol, gofalwyr ifanc, addysg ddewisol yn y cartref—felly mae llawer iawn o leisiau yn gallu bwydo i mewn i'r broses honno. Nod cyffredinol y grŵp hwnnw yw cryfhau'r modd y cyfathrebwn ac yr ymgysylltwn â phlant a phobl ifanc i'n helpu i nodi'r ffordd orau y gallwn wneud hynny a sicrhau bod hynny'n ystyrlon ar gyfer pawb sy'n rhan o'r broses. Yn ychwanegol at hynny, rydym wedi bod yn gweithio gyda chymheiriaid o'r Senedd ieuenctid newydd, oherwydd unwaith eto, credaf fod hwnnw'n fforwm defnyddiol arall y gallwn ei ddefnyddio i lywio ein hadborth yn ystod y broses o lunio'r cwricwlwm. Edrychaf ymlaen at weithio gyda'r 60 aelod etholedig newydd i'w cynnwys yn y broses honno. Hefin David AC: Yn ychwanegol at y broses o ddatblygu'r cwricwlwm newydd, bydd y Gweinidog yn ymwybodol o'r feirniadaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru, lle roeddent yn dweud bod datblygiad y cwricwlwm yn generig, wedi'i ddiffinio'n wael ac yn wan o ran gwybodaeth a datblygu sgiliau. Daeth at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 10 Ionawr a dywedodd nad oedd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru wedi mynychu cyfarfod ymgynghori ar y broses o ddatblygu'r cwricwlwm newydd i fynegi'r pryderon hyn yn uniongyrchol ers 2017. Gyda hynny mewn golwg, pa gynnydd a wnaed ganddi ar ailadeiladu cysylltiadau gyda Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru, ac a yw hi wedi cael unrhyw gyfarfodydd pellach i fynd i'r afael â'r pryderon hynny? Kirsty Williams AC: Fel y dywedais, yr hyn oedd yn siomedig am hynny yw nid yn unig fod Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru heb fanteisio ar y cyfle i fynegi eu pryderon yn ystod cyfarfodydd ffurfiol y rhanddeiliaid, ond rwy'n cyfarfod yn rheolaidd ag arweinwyr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac yn wir, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru, ac ni fynegwyd unrhyw un o'r pryderon hynny wrthyf. Rwy'n ymwybodol na fynegwyd y pryderon hynny wrth Ysgrifennydd y Cabinet blaenorol dros lywodraeth leol ychwaith. Felly, roedd yn siomedig gweld y dystiolaeth a roddwyd i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Rwy'n falch o ddweud bod CLlLC a CCAC wedi eu cynrychioli yn y cyfarfod diweddaraf o fwrdd y rhanddeiliaid. David Melding AC: Weinidog, roedd yn galonogol clywed am rai o'r mecanweithiau ymgynghori uniongyrchol rydych yn eu defnyddio i wrando ar farn pobl ifanc ar y cwricwlwm a'r broses o'i ddatblygu, a chymeradwyaf yr hyn rydych wedi'i wneud yn hynny o beth. Hoffwn wybod a wnaethpwyd unrhyw beth gyda'r cynghorau ysgol, gan eu bod mewn sefyllfa dda iawn i wneud gwaith ystyried manwl lle maent yn rheoli'r broses ac yn ymgynghori â'u haelodau—y disgyblion yn yr ysgolion hynny—wedyn yn bwydo'u barn drwodd i Lywodraeth Cymru, yn hytrach na bod yn rhan o broses reoledig, gul, benodol o nifer o gwestiynau, er enghraifft. Kirsty Williams AC: A dyna'n union y bydd y grŵp rhanddeiliaid strategol ar gyfer plant a phobl ifanc yn ei wneud i edrych ar y ffyrdd mwyaf effeithiol ac ystyrlon y gallwn ymgysylltu â'r grŵp hwnnw. Mae gennyf ddiddordeb hefyd mewn sicrhau bod plant sydd mewn darpariaeth addysg y tu allan i'r ysgol hefyd yn cael cyfle i gyfrannu. Felly, er enghraifft, gyda'n cydweithwyr yn y gwasanaeth ieuenctid, byddwn hefyd yn archwilio sut y gellir sicrhau cyfraniad gan bobl sy'n ymgysylltu â'r gwasanaethau ieuenctid ac yn eu defnyddio er nad ydynt mewn addysg ffurfiol mewn ysgolion o bosibl. Rydym am glywed gan bob plentyn—cynifer o blant a phobl ifanc ag y gallwn—mewn amrywiaeth o leoliadau fel y gellir clywed eu lleisiau. Nick Ramsay AC: Weinidog, mae'n eironig ein bod yn treulio llawer o amser yn y Siambr hon yn sôn am wrando mwy ar bobl ifanc, ac yn wir, fel rydych newydd ei grybwyll yn eich ateb blaenorol, sefydlu Senedd Ieuenctid, rhywbeth y mae pob un ohonom yn ei groesawu ac yn awyddus i'w weld yn cael ei ddatblygu i'r eithaf. Fe sonioch eich bod yn credu y byddai'r Senedd Ieuenctid yn ffordd o sicrhau bod syniadau disgyblion a phobl ifanc ynglŷn â'r cwricwlwm a materion ehangach yn chwarae mwy o ran. Tybed a allwch ymhelaethu ychydig mwy ynglŷn â sut y byddech yn rhagweld y gallai hynny ddigwydd yn ymarferol mewn perthynas â datblygu'r cwricwlwm. Kirsty Williams AC: Wel, credaf fod y Senedd Ieuenctid yn gyfrwng newydd cyffrous y gallwn ei fwydo i mewn i'n gwaith. Deallaf y bydd cyfarfod rhagarweiniol y Senedd Ieuenctid lawn yn cael ei gynnal yn ystod hanner tymor mis Chwefror, lle bydd cyfnod penodol o amser, rwy'n credu, wedi'i neilltuo i bob un o'r 60 Aelod drafod materion sy'n bwysig iddynt. Rwy'n gobeithio y bydd rhai ohonynt yn dewis siarad am y cwricwlwm. Nid fy lle i yw dweud wrth yr Aelodau beth y dylent dreulio'u hamser yn ei wneud; eu cyfrifoldeb hwy yw penderfynu beth y maent yn treulio'u hamser yn ei wneud. Ond mae'r cynnig yn agored a buaswn yn awyddus iawn i ymgysylltu â hwy ar fater y cwricwlwm. Efallai na fydd y Senedd Ieuenctid gyfan yn gwneud hynny, ond efallai y bydd grŵp penodol o bobl ifanc sydd â diddordeb yn y Senedd Ieuenctid yn awyddus i ymgysylltu ar y mater hwn ac mae fy nrws ar agor i ymgysylltu â hwy os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Addysg Oedolion ym Merthyr Tudful a Rhymni Dawn Bowden AC: 4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i addysg oedolion ym Merthyr Tudful a Rhymni? OAQ53338 Kirsty Williams AC: Diolch, Dawn. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod mynediad gan oedolion ledled Cymru at y sgiliau hanfodol sydd eu hangen arnynt i ffynnu yn ein cymdeithas a'n heconomi. Ym Merthyr Tudful a Rhymni, rydym yn ariannu'r awdurdod lleol, y coleg ac Addysg Oedolion Cymru yn uniongyrcholi ddarparu ystod o ddarpariaeth ar gyfer oedolion yn y rhanbarth. Dawn Bowden AC: Diolch am eich ateb, Weinidog. Rwyf bob amser yn edmygu'r cyfraniad y mae addysg oedolion yn ei wneud i ansawdd bywyd yn fy etholaeth a gwn eich bod wedi ymweld â dosbarth yng Nghanolfan Soar ddydd Llun, felly byddwch wedi gweld hynny â'ch llygaid eich hun. Nid oes unrhyw amheuaeth fod addysg oedolion yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i ddysgu, ond mae hefyd yn wych am gyflawni blaenoriaethau eraill y Llywodraeth—cyfeillgarwch i oresgyn problemau unigrwydd ac arwahanrwydd, manteision iechyd meddwl, yn ogystal â chadw pobl yn egnïol ac yn iach. A gaf i ofyn i chi, felly, pa gamau gweithredu eraill y gallai Llywodraeth Cymru eu rhoi ar waith ar draws y portffolios i gryfhau gwasanaethau addysg oedolion yn ein cymunedau, nid fel mecanwaith i ddarparu addysg yn unig, ond hefyd i gyflawni ein hamcanion lles? Kirsty Williams AC: Wel, Dawn, rydych yn llygad eich lle. Fore Llun, cefais gyfle i ymweld â Chanolfan Soar i gyfarfod â'r grŵp hanes a oedd yn astudio effaith mewnfudo ar hanes Merthyr Tudful. Dywedodd cyfranogwyr y grŵp wrthyf ei fod nid yn unig yn gymorth iddynt fynd i'r afael â materion unigrwydd, roedd hefyd yn rhoi reswm iddynt adael y tŷ, roedd yn gymorth iddynt barhau i ymgysylltu'n ddeallusol ag amrywiaeth eang o bynciau, ac roeddent yn teimlo bod hynny'n gwella'u hiechyd corfforol yn ogystal â'u hiechyd meddwl, ac mewn gwirionedd, roedd wedi eu galluogi i wneud cysylltiadau ag unigolion eraill i fynd ar drywydd gweithgareddau eraill, nid dysgu yn unig—felly, cylchoedd newydd o gyfeillion sydd wedi arwain at fwrw iddi ar weithgareddau eraill, a oedd yn hynod o werthfawr. Wrth gwrs, roedd hyn oll yn digwydd mewn ffordd a oedd yn hygyrch ac yn fforddiadwy, felly nid oedd unrhyw un yn cael eu hatal rhag cymryd rhan oherwydd costau cysylltiedig, a chredaf fod hynny'n wirioneddol bwysig. Fe fyddwch yn gwybod bod y Gweinidog blaenorol wedi comisiynu adolygiad o ddyfodol Addysg Oedolion Cymru. Rwy'n ystyried fy opsiynau o ganlyniad i'r adolygiad hwnnw, ond a gaf fi roi sicrwydd i chi, fel y dywedais mewn ateb i Oscar yn gynharach, fy mod yn credu bod gan bawb hawl i addysg gydol oes ac rwy'n edrych ar ffyrdd arloesol a newydd o wireddu'r hawl honno? Mark Reckless AC: Un mater a ddaeth i fy sylw yw bod y cyrsiau a gynigir gan goleg Merthyr Tudful ac sydd ar gael i oedolion sy'n ddysgwyr yn galw at ei gilydd am bresenoldeb amser llawn a phresenoldeb yn ystod y dydd yn ogystal â gyda'r nos. O ystyried yr ymrwymiadau y bydd gan lawer o oedolion o ran gofalu a chyflogaeth, tybed a fyddai'r Gweinidog yn cytuno â mi y byddai'n wych pe bai gan goleg Merthyr Tudful, a cholegau eraill yn wir, fwy o allu i gynnig cyrsiau rhan-amser y gallai oedolion eu mynychu gyda'r nos i gael y cymwysterau hyn? Kirsty Williams AC: Mae'r Aelod yn gwneud pwynt teg iawn. Mae angen inni gael amrywiaeth o ffyrdd ac amrywiaeth o leoliadau i unigolion allu cymryd rhan, a byddaf yn cynnal trafodaethau gyda chymheiriaid ym maes addysg bellach ynglŷn â beth arall y gallant ei wneud i gefnogi darpariaeth ran-amser, gan sicrhau ei bod yn hygyrch i bawb sy'n dymuno cymryd rhan, ac edrychaf ymlaen, fel y dywedais, at ddod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o gynyddu'r cyfleoedd ar gyfer dysgu rhan-amser, er mwyn sicrhau bod cymaint o bobl ag sy'n awyddus i wneud hynny yn cael cyfle i wneud hynny. Credaf fod hynny'n dda i'r unigolyn, yn dda i gymdeithas, ac yn y pen draw, bydd hynny'n dda i'n heconomi. Gwella Canlyniadau Addysgol mewn Cymunedau o dan Anfantais Dawn Bowden AC: 6. Sut y bydd y broses o ddiwygio'r cwricwlwm ysgol yn gwella canlyniadau addysgol mewn cymunedau o dan anfantais? OAQ53342 Kirsty Williams AC: Diolch, Dawn. Mae'r cwricwlwm yn cael ei gynllunio ar gyfer pob dysgwr. Yn sail i'r gwaith datblygu, ceircred na ddylai cefndir rhywun neu ble maent yn byw effeithio ar eu gallu i elwa o addysg. Mae'r flaenoriaeth hon wedi bod yn ystyriaeth bwysig wrth ddatblygu'r cwricwlwm newydd. Dawn Bowden AC: Diolch, Weinidog, a byddwch yn gwybod, i lawer o blant yng Nghymru, fod y cymorth a gynigir gan eu hysgolion yn allweddol er mwyn trawsnewid eu cyfleoedd bywyd a rhoi siâp i'w bywydau yn gyffredinol a datblygu eu hunanhyder. A fyddech yn cytuno, felly, wrth inni ddatblygu'r cwricwlwm newydd a'i roi ar waith, ac wrth inni feddwl am gyllido ein gwasanaethau ysgol yn y dyfodol, fod angen sicrhau bod mynd i'r afael ag anfantais yn parhau i fod yn flaenoriaeth greiddiol i bolisïau addysg y Llywodraeth hon? Ac a allwch roi rhai enghreifftiau ymarferol i mi o sut y gellir gwneud hynny? Kirsty Williams AC: Wel, Dawn, rydych yn llygad eich lle y bydd angen i'r cwricwlwm gael ei gefnogi gan gynigion cymorth ehangach yr ysgol; ni all y cwricwlwm fynd i'r afael â'r materion hyn ar ei ben ei hun. Mae materion megis anghydraddoldeb ac anfantais yn mynd y tu hwnt i gwmpas y cwricwlwm, ac mae'n rhaid i ysgolion unigol, awdurdodau lleol unigol, ac yn wir, Llywodraeth Cymru, eu hystyried yn ehangach. Mae torri'r cylch hwnnw o dlodi ac anfantais yn ymrwymiad hirdymor, ac rwyf wedi datgan yn glir fy ymrwymiad personol i'r grant datblygu disgyblion ar gyfer gweddill tymor y Cynulliad hwn, a cheisio cynyddu cyfleoedd eraill, megis Grant Datblygu Disgyblion - Mynediad, sy'n ceisio mynd i'r afael â materion yn ymwneud â chost y diwrnod ysgol a sut y gall effeithio ar rieni. O ran y grant datblygu disgyblion, rydym yn buddsoddi swm digynsail—dros £190 miliwn yn 2018-19 a 2019-20—i gefnogi addysg plant yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig. Darren Millar AC: Weinidog, rwy'n ddiolchgar iawn am yr ymateb rydych newydd ei roi, ond a wnewch chi gydnabod rôl ardderchog cymunedau ffydd ledled Cymru, sy'n aml yn gweithio'n agos iawn gydag ysgolion i drechu tlodi ymhlith y teuluoedd y maent yn eu gwasanaethu? Cafwyd digwyddiad arbennig ddoe a noddwyd gan Huw Irranca-Davies gyda Gwasanaeth Addysg yr Eglwys Gatholig, ac roedd yn syndod ac yn rhyfeddod gweld y cyfoeth o weithgareddau y mae'r Eglwys Gatholig ei hun yn eu gwneud gyda'r ysgolion y mae'n eu gwasanaethu. Felly, a wnewch chi eu cymeradwyo, a pha waith arall y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ymgysylltu'n ehangach â sefydliadau ffydd i helpu i drechu'r tlodi y mae rhai o'n plant yn byw ynddo? Kirsty Williams AC: Yn gyntaf, a gaf i ddweud fy mod yn flin iawn nad oedd modd i mi fynychu'r digwyddiad ddoe? Ond rwy'n falch iawn fod Steve Davies, cyfarwyddwr addysg Llywodraeth Cymru, wedi gallu mynychu ar fy rhan, gan ein bod yn werthfawrogol iawn o waith ein holl sefydliadau gwirfoddol, boed yn seiliedig ar ffydd neu fel arall, sydd wedi ymrwymo i helpu ein plant. Pan soniaf am genhadaeth genedlaethol ar gyfer addysg, rwy'n golygu hynny o ddifrif, gan nad oes grŵp unigol neu wirfoddol na allant ychwanegu at y genhadaeth genedlaethol a'n helpu i sicrhau ein bod yn codi safonau yn ein hysgolion ac yn cau'r bwlch cyrhaeddiad hwnnw. Felly, rwy'n ddiolchgar iawn i bob un ohonynt, gan gynnwys yr eglwysi Catholig, am y gwaith a wnânt. Mae gennyf berthynas gadarnhaol iawn â chyrff ein hysgolion ffydd, a fydd yn parhau i'n helpu i ddatblygu ein cwricwlwm, ac wrth gwrs, yn chwarae rhan bwysig yn y system addysg yng Nghymru drwy ddarparu addysg, yn ogystal â gwasanaethau cymorth. Caroline Jones AC: Weinidog, yn ddiweddar, cefais wahoddiad i ymweld a'r ysgol newydd yng nghysgod gwaith dur Port Talbot, un o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Er y bydd yr adeilad newydd yn helpu i fynd i'r afael ag anfanteision cyfleusterau'n dadfeilio, y cwricwlwm a sut y caiff ei ddarparu sy'n mynd i gynorthwyo pobl ifanc i ddianc rhag anfantais. Mae'r gwaith dur yn un o gyflogwyr mwyaf y rhanbarth, ac maent wedi gofyn am ran yn y cwricwlwm er mwyn sicrhau bod gan bobl ifanc y sgiliau sydd eu hangen ar ddiwydiant. Weinidog, a ydych yn cynnwys diwydiant wrth ddatblygu'r cwricwlwm newydd? Kirsty Williams AC: Caroline, dyna'n union pam y mae'n rhaid inni symud oddi wrth y cysyniad o restr hir o'r hyn y mae'n rhaid i bobl ei wneud, oherwydd, yn amlwg, yn y gymuned honno, bydd sicrhau bod gan bobl ifanc sgiliau i fanteisio ar gyfleoedd gan gyflogwyr lleol yn wahanol iawn i'r math o gwricwlwm ar gyfer pobl, efallai, yng nghanol Sir Faesyfed, fy etholaeth i, na fyddant o reidrwydd yn awyddus i weithio yn y gwaith dur penodol hwnnw. Felly, mae angen inni allu caniatáu i'n hysgolion a'n hathrawon sicrhau bod y cwricwlwm yn cael ei ddarparu mewn ffordd sy'n bodloni uchelgais gyrfa a'r dewisiadau cyflogadwyedd mewn ardaloedd unigol. Rydym yn ymgysylltu â nifer o sefydliadau mewn perthynas â diwydiant i'w galluogi i helpu i lywio datblygiad ein cwricwlwm. Ac rwy'n ddiolchgar iawn i rai o'n cwmnïau angori mawr sy'n gweithio mor agos gydag ysgolion yn eu hardaloedd unigol, ond byddaf yn sicrhau ac yn gofyn i swyddogion unwaith eto beth arall y gallwn ei wneud gyda phartneriaid i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed, ac i ddeall ganddynt beth y gallant ei wneud i'n helpu i gefnogi addysg yn eu hardaloedd. Blaenoriaethau Cyllido yn y Portffolio Addysg Nick Ramsay AC: 7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau cyllido yn y portffolio addysg? OAQ53350 Kirsty Williams AC: Diolch, Nick. Rwy'n rhoi nifer o flaenoriaethau a nodir yn 'Ffyniant i Bawb' ar waith, yn bennaf o dan thema allweddol 'Cymru sy'n Uchelgeisiol ac sy'n Dysgu'. Mae ein cyllideb ar gyfer 2019-20 yn parhau i fod yn ymrwymedig i lwyddiant a lles pob dysgwr, ni waeth beth yw eu cefndir neu eu hamgylchiadau personol. Nick Ramsay AC: Diolch, Weinidog. A allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ar gam nesaf rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain? Mae ysgol newydd Ysgol Gyfun Trefynwy yn fy etholaeth wedi'i chwblhau fwy neu lai, ac mae'n cael ei defnyddio ac yn edrych yn wych. Rydych wedi ymweld â'r lle eich hun mae'n siŵr. Fel rhan o'r gwaith o adeiladu'r ysgol honno, fe wnaeth yr adeiladwyr gynnwys pobl ifanc a oedd â diddordeb mewn peirianneg ac adeiladu yn rhan o'r broses, ac mae hynny'n rhywbeth sydd wedi deillio o brosiect ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn fy ardal na chafodd ei ragweld yn wreiddiol. A allwch roi gwybod inni pryd fydd gwaith yn dechrau ar ddatblygu cynlluniau ar gyfer ysgolion eraill yn fy ardal, megis Ysgol Brenin Harri'r VIII, sydd mewn cyflwr strwythurol eithaf gwael? Ac a ydych yn rhagweld sgil-fanteision tebyg o ran galluogi pobl ifanc i ddysgu yn y gwaith, fel petai, a mynd ar drywydd gyrfa ym maes adeiladu neu beirianneg sifil, rhywbeth na fyddent wedi'i wneud fel arall o bosibl? Kirsty Williams AC: Diolch, Nick. Rwy'n falch o glywed am gynnydd yr ysgol y cyfeiriwch ati. Nid yw'n sgil-fantais annisgwyl—mae'n gynllun dyfeisgar. Yn wir, wrth ddyrannu contractau i gwmnïau i adeiladu rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ceir disgwyliad, yn wir, gofyniad, eu bod yn ymgysylltu â phlant yr ysgol honno wrth adeiladu'r ysgol, ac y byddant hefyd yn ceisio ehangu cyfleoedd prentisiaeth i bobl ifanc hŷn wrth ymgymryd â'r gwaith hwnnw. Felly, nid cyd-ddigwyddiad hapus mohono—mae wedi'i gynllunio. Rydym bellach yn dod tuag at ddiwedd cam cyntaf band A rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ac rydym eisoes yn dechrau asesu cynigion gan awdurdodau addysg lleol mewn perthynas â'u gofynion ar gyfer band B rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Ac fe fyddwch yn gwybod ein bod wedi gwneud hyn hyd yn oed yn fwy fforddiadwy i awdurdodau lleol drwy godi'r gyfradd ymyrraeth. Hynny yw, bydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo mwy o gyfalaf i raglen band B, gan alluogi awdurdodau lleol i arbed ar gostau refeniw sy'n gysylltiedig â benthyca ac i sicrhau y gall awdurdodau lleol fod mor uchelgeisiol â phosibl gyda'u cynlluniau. Hwy sy'n cynnig yr ysgolion, ac rwy'n siŵr y byddwch yn trafod â'ch cydweithwyr yn Sir Fynwy i weld a fydd Ysgol Brenin Harri'r VIII yn un o'r ysgolion a gaiff eu cynnig, ac edrychaf ymlaen at gael argymhellion gan y bwrdd buddsoddi cyfalaf annibynnol o ran beth y gallwn ei wneud yn Sir Fynwy. Wrth gwrs, nid dyna'r unig raglen y mae Cyngor Sir Fynwy yn elwa ohoni. Mae'r rhaglen cyfrwng Cymraeg hefyd yn rhywbeth y mae Cyngor Sir Fynwy wedi gwneud cais llwyddiannus amdani, ac wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru yn talu 100 y cant o gost yr adeiladau newydd hynny. David Rees AC: Weinidog, rwyf wedi cael llawer o sylwadau gan fy awdurdod lleol, undebau llafur, cymunedau lleol ynghylch arian y grant cyflawniad lleiafrifoedd ethnig gan Lywodraeth Cymru. Deallaf eich bod wedi cadw'r ffigur yr un fath eleni â'r llynedd a'ch bod wedi'i roi i bedair o'r dinasoedd mawr yng Nghymru er mwyn edrych ar sut y'i dosberthir. Ond mae'r ddemograffeg yn newid yn y trefi a'r ardaloedd a'r awdurdodau lleol, ac felly mae anghenion yn newid. A'r hyn a welwn yng Nghastell-nedd Port Talbot, yn arbennig, yw dirywiad yn y gwasanaeth o ganlyniad i golli cyllid. A wnewch chi ailedrych ar y blaenoriaethau ar gyfer y grant hwn er mwyn sicrhau bod y cymunedau sy'n ei haeddu ac sy'n elwa'n fawr ohono yn gallu ei gael? Kirsty Williams AC: Diolch, David. Rydym yn gallu cynnal lefelau buddsoddiad y Grant Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig yn y flwyddyn ariannol newydd, fel yn y flwyddyn ariannol flaenorol. Byddwn yn ceisio gwneud gwaith ar sut i sicrhau bod yr arian hwn yn cyrraedd y cymunedau sydd ei angen fwyaf ac i edrych ar y cyfleoedd i greu sail fwy cynaliadwy ar gyfer darparu'r cyllid hwnnw yn y dyfodol. Y Dimensiwn Cymreig o fewn y Cwricwlwm Newydd Llyr Gruffydd AC: 8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y dimensiwn Cymreig o fewn y cwricwlwm newydd? OAQ53364 Kirsty Williams AC: Diolch, Llyr. Mae datblygu dealltwriaeth o ddiwylliant a hanes Cymru a'i lle yn y byd yn elfen hanfodol o daith ddysgu person ifanc ym mhob maes dysgu a phrofiad drwy gydol eu haddysg. A gallaf roi sicrwydd ichi, nid ychwanegiad symbolaidd at y cwricwlwm yw hwn; mae'n elfen hanfodol. Llyr Gruffydd AC: Diolch ichi am eich ateb. Rŷch chi, mewn ymatebion i Aelodau eraill y prynhawn yma, wedi’i gwneud hi’n glir eich bod chi’n sicr ddim eisiau darparu rhestr faith o bynciau a meysydd y dylid bod yn eu dysgu nhw. Dwi'n deall y sentiment ac yn cytuno i raddau helaeth â’r sentiment yna, ond yr hyn dwi’n stryglo rhywfaint gydag e wedyn yw sut, felly, ŷch chi’n mynd i daro’r cydbwysedd yna drwy sicrhau bod gan athrawon yr hyblygrwydd i ddysgu’r hyn y maen nhw’n teimlo sy’n addas yng nghyd-destun y meysydd profiad a dysgu tra ar yr un pryd, wrth gwrs, yn sicrhau bod disgyblion yng Nghymru yn dysgu'r agweddau hynny y mae angen iddyn nhw wybod amdanyn nhw, boed yng nghyd-destun hanes Cymru neu lenyddiaeth Gymreig, neu unrhyw agwedd ar y dimensiwn Cymreig. Mi sonioch chi am ryw sgaffald benodol yn gynharach. Ydy hynny’n awgrymu efallai y bydd yna restr fer ac nid rhestr faith? A allwch chi ymhelaethu? Kirsty Williams AC: Diolch yn fawr iawn, Llyr. A gaf i ddarparu rhywfaint o sicrwydd ichi fod gweithgor Maes Dysgu a Phrofiad y dyniaethau yn arbennig wedi rhoi ystyriaeth lawn i adroddiad y Cwricwlwm Cymreig, yn ogystal â nifer o arbenigwyr, gan gynnwys Elin Jones, sydd wedi rhoi llawer o gymorth i sicrhau ein bod yn gwneud hyn yn iawn er mwyn sicrhau bod Cymru a hanes a'r dimensiwn Cymreig yn cael eu hadlewyrchu'n briodol ym mhob rhan o'r cwricwlwm. Yr hyn sy'n bwysig pan fyddwn yn cyhoeddi'r meysydd dysgu a phrofiad a'r canllawiau statudol yw y bydd hynny'n darparu'r sgaffaldiau ar gyfer athrawon ysgol unigol, a bydd yn bwysig iawn darparu'r canllawiau ar y cam hwnnw ynghylch yr angen i sicrhau dimensiwn Cymreig ym mhob Maes Dysgu a Phrofiad, gyda rhai enghreifftiau ymarferol, o bosibl, o sut y gall hynny ddigwydd. Wrth gwrs, yr hyn sy'n wirioneddol bwysig gyda'r cwricwlwm hefyd yw bod hyn yn ymwneud â dysgu a phrofiadau, ac felly, byddem yn disgwyl i lawer o gyrff Cymru, megis Cadw a'r amgueddfa genedlaethol, barhau i helpu i ddarparu adnoddau i athrawon a chyfleoedd i blant a phobl ifanc Cymru, nid i eistedd yn eu hystafell ddosbarth a phrofi'r dimensiwn Cymreig, ond i fod allan yn ei brofi mewn ffordd real iawn. Ond unwaith eto, ni all hynny ymwneud â hanes yn unig; mae'n rhaid i hynny ymwneud ag iaith, cyfathrebu, diwylliant, cerddoriaeth, gwyddoniaeth. Ni ellir ei neilltuo ar gyfer Maes Dysgu a Phrofiad y dyniaethau, neu fel arall, byddwn wedi colli'r cyfle gwirioneddol bwysig hwn. Ac yn olaf, Suzy Davies. Suzy Davies AC: Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, yn y sesiwn gwestiynau yn dilyn eich datganiad ar y Papur Gwyn ar addysg yr wythnos diwethaf, fe ddywedoch, ac rwy'n dyfynnu: y 'tueddir i ganolbwyntio ar gymwysterau'. A bydd eich cyhoeddiad ar un cwricwlwm iaith Gymraeg, gobeithio, yn arwain gydag amser at well cyrhaeddiad iaith Gymraeg yn seiliedig ar arholiadau hefyd, ond at gynnydd yn y defnydd o'r Gymraeg ym mhob lleoliad fel modd o gyfathrebu fel bod y moddau hyn na ellir eu harholi yr un mor bwysig os nad yw'r Gymraeg yn sownd y tu ôl i ddesg ysgol. Felly, sut rydych yn bwriadu cyfleu hyn i arweinwyr ysgolion sydd eisoes yn ceisio ymdopi ag adnoddau cyfyngedig iawn, ac a fydd, hoffi hynny neu beidio, yn canolbwyntio ar sicrhau canlyniadau arholiadau da gan eu plant? Kirsty Williams AC: Wel, wrth gwrs, yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yw y bydd gennym gontinwwm iaith, a byddwn yn disgwyl i blant symud ar hyd-ddo. Yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yw y bydd y ffocws hwnnw ar ddefnyddio'r iaith fel modd o gyfathrebu, nid rhywbeth y byddwch yn ei ddysgu er mwyn gallu ysgrifennu'n unig. A'r hyn rydym am ei wneud yw gwella gallu ieithyddol plant yn y ddwy iaith i sicrhau, pan fyddant yn gadael yr ysgol, fod cymaint â phosibl o'n pobl ifanc yn gwbl ddwyieithog ac yn gallu defnyddio a mwynhau'r iaith yn y byd gwaith ac yn y gymdeithas. Mae'n ymwneud hefyd â deall pwysigrwydd y sgiliau ieithyddol hynny mewn rhai cymunedau, a chydnabod bod y rhain yn sgiliau gwerthfawr i'w cael yn y byd gwaith. Ac felly, mae gallu sicrhau gofal plant yn ddwyieithog, gallu bod yn weithiwr gofal iechyd proffesiynol dwyieithog, gallu cynnig gwasanaethau yn ddwyieithog, mewn gwirionedd, yn wirioneddol—nid yn unig y ceir mantais ddiwylliannol yn sgil bod yn unigolyn dwyieithog—ond mewn gwirionedd, ceir manteision economaidd gwirioneddol i fod yn unigolyn dwyieithog. Credaf fod hynny'n un o'r ffyrdd y mae angen inni ddadlau'r achos a'i gefnogi gydag addysg Gymraeg o ansawdd da. Ac mae hynny'n nodwedd o'n rhaglen ddiwygio i sicrhau bod profiad pobl ifanc, sy'n cael eu haddysg drwy'r Saesneg yn eu hysgolion—fod eu profiad o ddysgu'r iaith yn un cadarnhaol, ac wedi'i ddarparu gan staff brwdfrydig, medrus a hyderus. Diolch i'r Gweinidog. 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Mae'r cwestiynau nesaf i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Helen Mary Jones. Trafodaethau â Theuluoedd Cleifion Ward Tawel Fan Helen Mary Jones AC: 1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda theuluoedd cleifion ward Tawel Fan ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OAQ53343 Vaughan Gething AC: Rwyf wedi cyfarfod â grŵp teuluoedd Tawel Fan yng ngogledd Cymru ddwy waith, unwaith yn fy rôl flaenorol fel dirprwy Weinidog iechyd ac yn fwy diweddar ym mis Hydref. Helen Mary Jones AC: Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ateb. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol fod adran reoli bwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cydnabod yn ddiweddar wrth deuluoedd Tawel Fan mai uned asesu dementia oedd yr uned mewn gwirionedd, ac felly, ni ddylai neb fod wedi bod yn byw yno ar sail hirdymor, er bod rhai cleifion wedi bod yno am fwy na chwe mis. A all y Gweinidog esbonio: a ydym yn deall pam y caniatawyd i hyn ddigwydd? Ac a yw'n hyderus nad oes unrhyw gleifion eraill yn Betsi Cadwaladr mewn unrhyw leoliad arall yn byw ar sail hirdymor mewn unedau a gynlluniwyd ar gyfer arosiadau asesu tymor byr? Vaughan Gething AC: Mae hwn yn fater a godwyd yn ystod y cyfarfod â'r teuluoedd ym mis Hydref. Cafwyd ystod o ohebiaeth mewn perthynas â diben a phwynt yr uned. Rwy'n edrych ymlaen yn awr at yr hyn y disgwyliaf y bydd yn achos amlinellol dros ddiwygio'r ystâd ar y safle penodol hwnnw, a bydd yn cynnwys newidiadau i safle presennol Tawel Fan hefyd, ynghyd â strategaeth y mae'r bwrdd iechyd wedi cytuno arni bellach gyda rhanddeiliaid ar gyfer gwasanaethau cleifion mewnol a gwasanaethau cymunedol ar draws gogledd Cymru hefyd. Rwy'n fwy na pharod i edrych ar y pwynt penodol yr holwch amdano ac ysgrifennu atoch—a chopïo Aelodau eraill i mewn—ynghylch y pwynt ehangach ynglŷn a'r unedau presennol a chleifion arhosiad byr a sut y cânt eu defnyddioar hyn o bryd. Darren Millar AC: Cawsom sicrwydd y byddai gwasanaethau iechyd meddwl yn newid ac yn gwella yn gyflym iawn yng ngogledd Cymru o ganlyniad i sgandal Tawel Fan, ond wrth gwrs, rydym yn agosáu at bedair blynedd ers rhoi'r bwrdd iechyd mewn mesurau arbennig. Ac yn sicr, mae mwy na phedair blynedd wedi bod ers i'r bwrdd gael adroddiad cychwynnol Ockenden. Rwy'n falch iawn fod rhywfaint o gynnydd yn cael ei wneud, yn ôl pob golwg, o ran y strategaeth bellach, ac wrth weld peth o'r buddsoddiad cyfalaf a wneir i geisio datrys rhai o'r problemau yn y bwrdd. Ond beth y mae hyn yn ei ddweud am y ffordd y mae mesurau arbennig Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn gwirionedd? Os cofiwch, dywedwyd wrthym y byddai cynllun 100 diwrnod yn trawsnewid y sefyllfa hon pan benodwyd Simon Dean yn brif weithredwr dros dro y bwrdd. Felly, aeth y 100 diwrnod heibio heb unrhyw gynnydd. Gwyddom fod Donna Ockenden, awdur gwreiddiol yr adroddiad a dynnodd sylw at y pydredd mewn gwasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru, wedi mynegi pryderon mor ddiweddar â'r haf diwethaf—a hyd yn oed yn gynharach eleni, yn gyhoeddus, ynghylch y diffyg cynnydd. Ac yn wir, cyfeiriodd at aelodau staff a ddywedodd fod y sefyllfa wedi gwaethygu hyd yn oed. Pryd y gallwn ddisgwyl gwahaniaeth go iawn i gleifion ar lawr gwlad? Oherwydd mae arnaf ofn fod y diffyg cynnydd wedi bod yn halen yn y briw i'r teuluoedd a grybwyllwyd gennym heddiw. Vaughan Gething AC: Wel, mae honno'n farn benodol, ac nid wyf yn cytuno â phob honiad ffeithiol a wnaeth yr Aelod. Bwriad y cynllun 100 diwrnod ar ddechrau'r mesurau arbennig oedd ailosod y llwybr gyda'r bwrdd iechyd. Nid oedd unrhyw awgrym y byddai'r holl faterion yn cael eu datrys o fewn 100 diwrnod; ni honnwyd hynny erioed gan unrhyw un o fewn y bwrdd iechyd neu'r tu allan iddo. Nid yw awgrymu hynny yn awr yn gywir o gwbl. Yn fwy felly, o ran yr adroddiadau a ddarparwyd, rydym wedi mynd drwy nid yn unig yr adroddiad gwreiddiol, ond mewn gwirionedd, adroddiad dros amser maith iawn a ddarparwyd gan y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac mae hwnnw wedi arwain at amrywiaeth o feysydd gweithredu. Ac atgoffaf yr Aelod a phawb arall yma nad oedd hynny'n golygu bod y bwrdd iechyd yn holliach—ddim o bell ffordd. Roedd yn nodi nifer o heriau, rhai hanesyddol a rhai sy'n dal i fodoli, i'r bwrdd iechyd eu datrys, ac rwy'n canolbwyntio ar sicrhau bod y bwrdd iechyd yn mynd i'r afael â'r heriau hynny. Mewn gwirionedd, mae aelodau o deuluoedd Tawel Fan yn rhan o'r grŵp rhanddeiliaid i ddarparu sicrwydd ynghylch y cynnydd a wneir a'r cynnydd y mae angen ei wneud o hyd, a chredaf y dylai'r holl Aelodau gael cysur o'r negeseuon diweddar gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, ein harolygiaeth ni. Maent yn dweud bod gwelliannau gwirioneddol wedi bod o ran ansawdd; nid ydynt yn pryderu ynghylch ansawdd fel yr oeddent ddwy neu dair blynedd yn ôl. Mae llawer o'r diolch am hynny i'r cyfarwyddwr iechyd meddwl, ac yn wir, i'r cyfarwyddwr nyrsio am ei harweiniad mewn perthynas â hyn, ond hefyd i'r staff sy'n ailymgysylltu'n briodol â phobl y maent yn gofalu amdanynt a chymunedau ar draws gogledd Cymru. Nid wyf yn disgwyl unrhyw gam sylweddol ymlaen mewn perthynas â'r mesurau arbennig oni bai a hyd nes y bydd y bwrdd iechyd yn cyflawni'r cerrig milltir a osodais yn fframwaith gwella'r mesurau arbennig. Byddaf yn cael cyngor gan Swyddfa Archwilio Cymru a'r arolygiaeth i weld a ydynt wedi gwneud hynny ai peidio. Ni wneir unrhyw benderfyniad sy'n gyfleus i unrhyw wleidydd yn y Siambr hon, oni bai ei fod yn benderfyniad sy'n iawn ar gyfer pobl yng ngogledd Cymru ac wedi'i gefnogi gan dystiolaeth. Parcio am Ddim ar Safleoedd Ysbytai Hefin David AC: 2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am barcio am ddim ar safleoedd ysbytai yng Nghymru? OAQ53366 Vaughan Gething AC: Mae parcio yn rhad ac am ddim yn holl ysbytai'r GIG yng Nghymru. Byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau'r GIG sy'n gyfrifol am weithrediadau rheoli lleol a'r trefniadau ar gyfer meysydd parcio ar eu safleoedd. Hefin David AC: Yn ddiweddar, cefais ohebiaeth gan etholwr a ysgrifennodd ataf mewn perthynas â phrofiad a gafodd yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd. Roedd wedi parcio mewn parth a nodwyd yn amlwg ar wefan bwrdd iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro fel un ar gyfer cleifion ac ymwelwyr. Roedd yn synnu, felly, pan gafodd ddirwy o £40 gan gwmni gorfodi parcio o'r enw ParkingEye, a ddywedai mai parth ar gyfer parcio staff yn unig oedd y parth hwnnw. Talodd y ddirwy am ei fod yn ofni'r costau cynyddol posibl yn sgil camau cyfreithiol. Ymddengys bod dryswch rhwng yr hyn y mae'r bwrdd iechyd a ParkingEye yn ei ystyried yn barthau parcio penodol a'r rhai a ddynodir ar gyfer mathau penodol o ddefnydd. Yn y cyfamser, mae'r bwrdd iechyd wedi dweud na fyddant yn ymyrryd mewn unrhyw apeliadau i ddirwyon parcio a orfodwyd gan gwmnïau gorfodi parcio. Credaf fod parcio am ddim mewn ysbytai yn un o lwyddiannau allweddol Llywodraeth Cymru, ac yn ei ateb, dywedodd y Gweinidog ei fod yn rhywbeth sy'n digwydd ym mhob man. A all roi sicrwydd, felly, fod byrddau iechyd yn gweithredu'r polisi hwn yn effeithiol, gan gynnwys bwrdd Caerdydd a'r Fro, ac y ceir deialog clir, lle bo angen, rhwng y byrddau iechyd a chwmnïau parcio preifat i wneud hyn yn iawn? Vaughan Gething AC: Dyna'n union rydym yn ei ddisgwyl. Wrth gwrs, mae her i'w chael o ran sicrhau nad yw parcio am ddim ar safleoedd ysbytai yn arwain at bobl yn parcio am ddim ar safleoedd ysbytai heb eu bod yn defnyddio gwasanaethau gofal iechyd yn yr ysbyty hwnnw. Felly, yr her yw sut y gallwn sicrhau bod y bobl sydd yno'n gallu parcio am ddim fel y dylent allu ei ddisgwyl. Mae gennyf ddiddordeb yn yr hyn a ddywedodd yr Aelod ynglŷn â dryswch rhwng parth yr ymddengys ei fod wedi'i nodi fel parth parcio ar gyfer cleifion, a'u bod wedi parcio yno a chael dirwy. Os caf y manylion gan yr Aelod, rwy'n fwy na pharod i edrych ar y mater i sicrhau bod y polisi'n cael ei roi ar waith yn union fel y bwriadwyd. Ond credaf mai'r gwir amdani, pan gyflwynwyd parcio am ddim ar draws yr ystâd yng Nghaerdydd a'r Fro—un o'r olaf i newid oherwydd problemau hirdymor roeddent wedi'u cael o'r blaen—cafwyd rhai heriau, a bydd Aelodau o Gaerdydd a'r fro wedi gweld hynny yn eu bagiau post. Cawsant eu lleihau'n sylweddol, ond mae gennyf ddiddordeb mewn unrhyw achosion pellach er mwyn sicrhau y rhoddir y polisi ar waith yn gywir. Felly, os gwelwch yn dda, ysgrifennwch ataf, a byddaf yn sicrhau y caiff y mater ei archwilio. Mohammad Asghar (Oscar) AC: Weinidog, croesawaf y cyhoeddiad fod parcio ym mhob un o ysbytai'r GIG yng Nghymru wedi bod yn rhad ac am ddim ers diwedd mis Awst y llynedd. Ers i'r Gweinidog iechyd ar y pryd, Edwina Hart, gyhoeddi parcio am ddim mewn ysbytai am y tro cyntaf ym mis Mawrth 2008, yn gyntaf oll, pam ei bod wedi cymryd 10 mlynedd i roi hyn ar waith? Yr ail beth yw, mae'n dipyn o anhrefn mewn rhai ardaloedd, mae angen ei reoli'n briodol—y parcio—gan ei fod yn cael ei ddefnyddio gan staff, ac i rai ohonynt, mae'n bwysig iawn dod i mewn ar yr adeg iawn ac nid oes lle, maent yn mynd o gwmpas mewn cylchoedd, yna cleifion ar frys, ac yna ymwelwyr. Mewn rhai ardaloedd, trafodwyd defnyddio technoleg ANPR gyda'r bwrdd, sef systemau adnabod rhifau cerbydau yn awtomatig. Felly, a ydych yn trafod gyda chwmnïau o'r fath i sicrhau bod parcio yn ein hysbytai yn rhad ac am ddim ac yn deg i gleifion, staff ac ymwelwyr yng Nghymru, os gwelwch yn dda? Vaughan Gething AC: Rwyf am ymateb i'ch pwynt cyntaf ynglŷn â'r amser y mae wedi'i gymryd. Rwy'n falch iawn fod ymrwymiad Llafur Cymru wedi'i gyflawni. Nid oedd modd inni ei gyflawni mor gyflym ag y gobeithiem oherwydd y contractau hirdymor a oedd ar waith—pe baech yn gwrando ar fy ateb cyntaf byddech wedi fy nghlywed yn dweud hynny—ac roedd pwynt ymarferol ynghylch cost prynu'r contractau hynny i bwrs y wlad. Bellach, mae gennym ystâd lawn ar gyfer parcio am ddim i gleifion, ac edrychwn ymlaen at weld Lloegr yn dal i fyny â ni. Er gwaethaf addewidion hirdymor gan y Llywodraeth bresennol, nid yw eu cyflawniad ar yr un lefel â'r hyn y gallwn ei ddathlu yma yng Nghymru, ac rwy'n siŵr y byddech yn ymuno â mi i gydnabod hynny. O ran y pwynt mwy cyffredinol ynglŷn â rheoli traffig, mae hon yn her wirioneddol, nid yn unig o ran sicrhau y gall cleifion barcio, ond y gall staff barcio hefyd. Mae hynny'n ymwneud yn rhannol â defnydd effeithlon o'n safleoedd mawr a sylweddol—mae llawer o symudiadau traffig i mewn ac allan yn ystod y dydd—yn ogystal ag annog pobl i ddewis ffyrdd gwahanol o gyrraedd safleoedd ysbytai, boed hynny yng Nghaerdydd, lle y ceir cyfleuster parcio a theithio, neu yn wir, yr un a ddefnyddiais gyda'r Dirprwy Lywydd yng Nglan Clwyd. Felly, mae'n ymwneud ag amrywiaeth o fesurau i sicrhau bod y bobl sydd angen cyrraedd y safle yn gallu gwneud hynny a gwneud defnydd priodol o hynny. A dyna rydym yn disgwyl i fyrddau iechyd ei gyflawni wrth reoli ystâd pob ysbyty yn briodol. Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Helen Mary Jones. Helen Mary Jones AC: Diolch, Lywydd. Hoffwn droi at berfformiad ein system gofal brys, a thynnwyd sylw at y ffaith bod perfformiad dwy o'r tair uned damweiniau ac achosion brys mewn ysbytai yn ardal Betsi Cadwaladr wedi bod mor wael fel eu bod wedi llusgo ffigurau cyfartalog Cymru i lawr yn sylweddol. Cydnabu'r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf fod y lefel hon o berfformiad yn annerbyniol. Nawr, gan fod y Gweinidog, drwy'r mesurau arbennig, yn uniongyrchol gyfrifol am y perfformiad hwn, a all esbonio'r ffactorau sydd wedi arwain at hyn? Vaughan Gething AC: Nid wyf am ailadrodd yr her ynglŷn ag a wyf yn rhedeg y gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru yn uniongyrchol drwy fesurau arbennig ai peidio; rydym yn parhau i ddychwelyd at hyn. Ond y gwir amdani yw nad yw'r perfformiad mewn gofal brys yng ngogledd Cymru yn dderbyniol, a dyna'r neges uniongyrchol a roddwyd i'r bwrdd iechyd. O ran y rhesymau am hynny, a'r ffactorau sydd ynghlwm wrth hynny, mae rhai o'r ffactorau'n ymwneud â'r ffaith, er ein bod wedi cael gwell tywydd y gaeaf hwn na'r gaeaf diwethaf, mewn gwirionedd, mae'r tymor ffliw ychydig yn waeth y gaeaf hwn, ac yn anarferol, ym mis Ionawr, cafwyd mwy o ddigwyddiadau mawr na mân ddigwyddiadau o gymharu â'r llynedd. Ond yn y bôn, mae'r her, mewn gwirionedd, yn ymwneud â sut nad yw'r system yng ngogledd Cymru, yn enwedig mewn dau o'n safleoedd mawr, yn gallu ymdopi yn yr un modd â gweddill y wlad, ac mae hynny'n gymhleth. Mae'n ymwneud â'r berthynas rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, mae'n ymwneud ag arweinyddiaeth glinigol, ac mewn gwirionedd, mae'n ymwneud ag arweinyddiaeth yn gyffredinol. A cheir her o ran deall, mewn rhannau eraill o Gymru—mae pwysau sylweddol ar ein system yr adeg hon o'r flwyddyn, ac rydym yn deall hynny—fod safonau perfformiad yn well. Felly, mae'n ymwneud â mwy na dweud, 'Mae hyn yn annerbyniol, datryswch y broblem'; mae'n ymwneud â gweithio gyda'n staff, gan mai'r peth gwaethaf y credaf y gallwn ei wneud yw dweud, 'Mae'n annerbyniol ac rwyf am i bobl fynd.' Mewn gwirionedd, mae arnom angen y staff hynny yn ein system, eu tosturi a'u hymrwymiad i ddarparu. Mae angen inni gadw staff gyda ni wrth inni ddeall, ac wrth iddynt hwy ddeall, ynghyd â'u cydweithwyr a'u cymheiriaid clinigol, sut y gallant wella'r gwasanaeth y maent am ei ddarparu gyda'u cydweithwyr ac ar gyfer y bobl y maent yn eu gwasanaethu. Dyna pam hefyd fod rôl y swyddog arweiniol gofal heb ei drefnu, sy'n ymgynghorydd adran achosion brys ei hun, yn bwysig iawn mewn gwirionedd, er mwyn sicrhau'r hygrededd clinigol hwnnw i gyflawni'r gwelliannau y mae pob un ohonom am eu gweld. Helen Mary Jones AC: Wel, rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ateb, er fy mod yn dal i fod braidd yn ddryslyd yn ei gylch. Roeddwn yn credu mai holl bwynt y mesurau arbennig oedd sicrhau bod y Llywodraeth yn ysgwyddo rhywfaint o gyfrifoldeb am yr hyn sy'n digwydd. Ond ar wahân i hynny, a boed hynny fel y bo, rwyf hefyd yn synnu braidd wrth glywed y Gweinidog yn dweud bod y ffactorau'n gymhleth, ac yn sgil hynny, nad ydynt yn gwybod beth yn union sy'n digwydd, oherwydd mewn ymateb i fy nghyd-Aelod, Adam Price, yr wythnos diwethaf, honnodd y Prif Weinidog nad oedd angen ymchwiliad manwl i gyflwr unedau damweiniau ac achosion brys yng Nghymru. Mae hynny, wrth gwrs, yn rhywbeth y mae eich cymheiriaid Llafur yn Llundain yn galw amdano, er bod y system yn Lloegr, yn anffodus, yn perfformio'n well na system Cymru ar gyfartaledd. Un o'r rhesymau a roddodd y Prif Weinidog nad oedd angen ymchwiliad, wrth gwrs, oedd: 'Rydym ni'n ymwybodol o'r pethau y mae angen eu gwneud.' Dyna'n union a ddywedodd, a: 'Y dasg yw bwrw ati a gwneud yn siŵr bod y gwelliannau cyffredinol yn cael eu rhannu mewn mannau eraill ac ym mhob man'. Nawr, rwy'n siŵr y byddai pawb yn y Siambr hon a minnau yn awyddus i eilio'r hyn y mae'r Gweinidog newydd ei ddweud ynglŷn â'r gwaith rhagorol a wna'r staff rheng flaen, mewn amgylchiadau anodd iawn weithiau. Ond naill ai mae'r Prif Weinidog yn iawn a'n bod yn gwybod beth sydd angen ei wneud, ac os felly, buaswn yn awgrymu y dylai'r Gweinidog a'i swyddogion fwrw ati i'w wneud, neu nid ydym yn gwybod, ac os felly, mae angen inni ddod i wybod. Vaughan Gething AC: Wel, nid yw hynny'n adlewyrchiad hollol gywir o'r hyn a ddywedais na'r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog chwaith. Yn sicr, nid wyf erioed wedi dweud, 'Ni wyddom beth sy'n digwydd o fewn y system gofal brys.' Gwyddom fod her i'w chael ynghylch arweinyddiaeth glinigol ac ymgysylltiad ac ymrwymiad. Ac mewn gwirionedd, os edrychwch ar draws gogledd Cymru, ni allwch wahaniaethu rhwng y niferoedd sy'n mynd i Ysbyty Gwynedd o gymharu â Glan Clwyd neu Wrecsam Maelor er mwyn esbonio'r gwahaniaethau mewn perfformiad. Felly, mae her yn hyn o beth ynghylch sut y cawn bersbectifpositif gyda'n staff nad yw'n dweud, 'Nid ydych yn gwneud eich swydd yn iawn'. Dyna'r neges waethaf bosibl. Felly, mae'n ymwneud â'r ymgysylltiad rydym yn ei ddisgwyl. Dyna pam fod yr arweinyddiaeth glinigol, gan swyddog arweiniol cenedlaethol, yn bwysig—rhywun â hygrededd gyda'r gweithlu hwnnw, i ddeall manylion pob safle, yn ogystal â'r pwyntiau ehangach ynglŷn ag arweinyddiaeth glinigol ac ymddygiad o fewn ein system. Ac mae'r holl bethau rydym yn eu gwneud dros y gaeaf hwn, o ran sicrhau nad oes gennym bobl yn mynd i ysbytai'n ddiangen, sicrhau mwy o allu o fewn ein gwasanaeth gofal sylfaenol, maent yn bwysig ym mhob rhan o'n system. Ond rydym yn cydnabod yr heriau a'r problemau penodol yng ngogledd Cymru yn arbennig, ac mae hynny'n ffocws, wrth gwrs, ar gyfer ein system gyfan. Helen Mary Jones AC: Welwch chi, Lywydd, rwy'n cael hyn braidd yn anodd, oherwydd, ar y naill law, dywed y Gweinidog wrthym nad oes unrhyw wahaniaeth sylweddol rhwng effaith yr hyn sy'n digwydd yn Ysbyty Gwynedd a'r hyn sy'n digwydd yn y ddwy uned damweiniau ac achosion brys arall, ac ar y llaw arall, mae'n dweud wrthyf fod y ffactorau'n wahanol, a bod angen inni eu hystyried. Nawr, yn sicr, nid wyf yn awgrymu bod unrhyw un ar reng flaen y gwasanaethau hynny'n methu gwneud eu gwaith yn iawn. Efallai y dylem ofyn i ni'n hunain a oes unigolion yn y Siambr hon sydd, yn hyn o beth, yn gwneud eu gwaith yn iawn neu fel arall, ond nid wyf o reidrwydd am fynd i'r lefel honno. Mewn perthynas â damweiniau ac achosion brys, a'r ddau ysbyty penodol hyn, mae'n amlwg nad yw beth bynnag y mae'r Gweinidog yn ei wneud o dan fesurau arbennig, fel y saif pethau, yn gweithio, oherwydd fel arall byddent yn dysgu o'r arferion da y mae'r Gweinidog yn iawn i dynnu sylw atynt mewn mannau eraill yng Nghymru. O ystyried y pwerau sydd ganddo o dan y mesurau arbennig, a yw'r Gweinidog yn derbyn ei bod bellach yn bryd gwneud rhywbeth mwy radical, fod angen inni edrych ar y system gyfan drwyddi draw mewn perthynas â'r ddau ysbyty, ac edrych ar bopeth sy'n digwydd gyda derbyniadau a derbyniadau diangen, hyd at yr hyn sy'n digwydd i bobl sy'n cael eu cadw yn yr ysbyty'n ddiangen? Ni all fod yn wir fod Ysbyty Gwynedd yn gallu ymdopi, ac na all y ddau ysbyty arall ymdopi. Credaf ei bod yn bryd i'r Gweinidog gamu i mewn ac edrych ar hyn mewn ffordd radical a chyson. Vaughan Gething AC: Unwaith eto, ni chredaf fod hynny'n adlewyrchiad teg o'r ffeithiau rwyf wedi eu nodi. Mae angen i chi ddeall beth sy'n benodol i bob safle penodol fynd i'r afael ag ef, ond mewn gwirionedd, nid oes unrhyw beth sy'n esbonio'r gwahaniaeth sylweddol mewn perfformiad rhwng y tri safle yng ngogledd Cymru, a phan ewch y tu hwnt i hynny, y gwahaniaethau mewn gwahanol rannau o Gymru hefyd. Dyna pam fod gennym ffocws gwirioneddol ar arweinyddiaeth glinigol. Am y trydydd tro rwyf am ddweud hyn: mae arweinyddiaeth glinigol yn bwysig, a pherfformiad, a gall hynny, a bydd hynny, yn gwneud gwahaniaeth. Ein gwaith ni yw gallu annog a chefnogi'r bobl hynny i ddatgan eu disgwyliadau o ran y bwrdd yn glir, a'u sefyllfa hwy o ran atebolrwydd a chyflawniad—a byddant yn cael eu dwyn i gyfrif, ac mewn gwirionedd, mae'r cadeirydd wedi perchnogi ac ysgwyddo cyfrifoldeb personol dros y nod o sicrhau gwelliant yn y maes hwn—i ddeall y cynllun gwella a thrawsnewid 90 diwrnod, i adael inni weld beth sydd wedi newid, a beth sydd angen ei newid ymhellach. Oherwydd nid yw dweud, 'Gwnewch rywbeth radical a gwahanol, Weinidog'—wel, nid yw hwnnw'n ateb. Dyna'r peth hawsaf i'w ddweud, ond nid yw'n ateb i fynd i'r afael â pherfformiad a'r math o wasanaeth y mae ein staff yn awyddus i'w ddarparu, ac y mae ein cyhoedd yn ei ddisgwyl. Rwy'n benderfynol o wneud y peth iawn—mae hynny'n ymwneud â gwrando ar ein staff, edrych ar y dystiolaeth, a sicrhau y gwneir y peth iawn. Ac rwy'n llwyr ddisgwyl cael fy nwyn i gyfrif, pa un a ydym yn gwneud yn dda ai peidio. Llefarydd y Ceidwadwyr, Janet Finch-Saunders. Janet Finch-Saunders AC: Diolch. Credaf fod fy nghwestiynau—diolch. Diolch, Lywydd. A gaf fi eich croesawu i'ch sesiwn gwestiynau gyntaf, rwy'n credu, Weinidog? Edrychaf ymlaen at weithio gyda chi yn y dyfodol yn y portffolio hwn. O fy amser gyda chi ar bwyllgorau, gwn eich bod yn ddiffuant iawn yn eich gwaith. Iawn, mae yna o leiaf 370,000 o ofalwyr yng Nghymru, sy'n fwy na phoblogaeth Caerdydd. A bydd oddeutu tri o bob pump ohonom yn dod yn ofalwr ar ryw adeg yn ein bywydau. I lawer o bobl ifanc, fodd bynnag, daw'r adeg hon yn rhy gynnar o lawer. Yn wir, fel y gwyddoch, mae gennym fyddin anhunanol o ofalwyr dan 18 mlwydd oed ledled Cymru. Nawr, yr wythnos diwethaf, cynhaliwyd Diwrnod Ymwybyddiaeth Gofalwyr Ifanc, a cheisiodd sawl un ohonom fel Ceidwadwyr Cymreig godi ymwybyddiaeth o hyn, a'r rôl hanfodol y mae'r sêr ifanc hyn yn ei chwarae wrth gefnogi aelodau o'u teuluoedd sy'n sâl ac yn anabl. Un pwynt pwysig sy'n peri pryder yw'r ffaith na all rhai gofalwyr ifanc barhau mewn addysg neu brentisiaethau, gan eu bod yn ofni colli eu lwfans gofalwr. A wnewch chi, felly, gymeradwyo, cefnogi a sicrhau ein bod yn rhoi polisi rydym yn awyddus i'w gyflwyno ar waith, sef grant o £60 yr wythnos i oedolion ifanc sy'n ofalwyr tuag at eu dyfodol? Julie Morgan AC: Diolch i Janet Finch-Saunders am ei geiriau caredig a chalonogol iawn. Mewn ymateb i'w sylwadau am ofalwyr ifanc, rydym yn gwbl ymrwymedig i gefnogi gofalwyr o bob oedran, gan gynnwys gofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy'n ofalwyr. Credwn fod addysg yn yr ysgol yn un o'r meysydd allweddol er mwyn nodi a helpu gofalwyr ifanc ac rwy'n ymwybodol fod sefyllfa ariannol gofalwyr ifanc yn aml yn achos pryder, ac mae ei hargymhelliad yn rhywbeth y gallwn ei ystyried. Janet Finch-Saunders AC: Diolch, mae hynny'n galonogol iawn. Diolch, Ddirprwy Weinidog. Credaf y byddai ein grant yn gwneud llawer i helpu i sicrhau y gall gofalwyr ifanc barhau mewn addysg. Mae hyn yn allweddol, ond mae mwy y gallwn ei wneud eto. Yn wir, mae'n ffaith frawychus fod YoungMinds yn awgrymu bod 68 y cant o ofalwyr ifanc wedi cael eu bwlio ar ryw adeg oherwydd eu cyfrifoldebau yn y cartref. Felly, maent wedi rhoi arwyddion clir nad yw gweithwyr proffesiynol, ar hyn o bryd, yn enwedig mewn ysgolion, yn gallu nodi a sylwi ar anghenion hyfforddi, nid yn unig ar gyfer y gofalwyr eu hunain, ond ar gyfer eu cyfoedion. Sut y gallwch fod yn sicr y bydd y cerdyn adnabod yn cyrraedd yr holl ofalwyr ac y rhoddir digon o hyfforddiant i oedolion sy'n gweithio gyda phobl ifanc, fel y gallwn nodi pwy yw ein gofalwyr yn llawer cynt yn y system a rhoi'r cymorth sydd ei angen? Julie Morgan AC: Cytunaf yn llwyr gyda'r Aelod fod yna ddiffyg ymwybyddiaeth o faterion yn ymwneud â gofalwyr ifanc ac mae'n wirioneddol bwysig, yn enwedig mewn ysgolion, fod yna ymwybyddiaeth ehangach o lawer, ac mae hynny'n sicr yn rhywbeth y mae'r Llywodraeth yn awyddus i weithio arno. Mewn gwirionedd, mae swyddogion yma yn y Llywodraeth wrthi'n gweithio ar y cynnig ar gyfer cerdyn adnabod i ofalwyr ifanc, ac maent yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru i ystyried y cynigion ar gyfer cynllun o'r fath ac yn gweithio hefyd gyda'r adran addysg. Mae nifer o gynlluniau adnabod gofalwyr eisoes ar waith mewn awdurdodau lleol yng Nghymru, a chredaf mai'r hyn sydd angen inni ei wneud yw archwilio sut y maent yn gweithio, ond yr hyn yr hoffem ei wneud yw cyflwyno cerdyn adnabod cenedlaethol ar gyfer gofalwyr ifanc. Ond yn amlwg, gallwch gyflwyno'r cerdyn, ond mae'n rhaid ichi sicrhau bod pobl yn deall beth y mae'r cerdyn yn ei olygu. Felly, hoffwn roi sicrwydd i'r Aelod fod pobl yn y Llywodraeth yn gweithio ar y mater hwn ar hyn o bryd, a chredaf fod hyn yn rhywbeth y byddai'r gofalwyr ifanc eu hunain yn ei groesawu. Janet Finch-Saunders AC: Diolch, unwaith eto. Un o nodau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2016 yw gwella lles gofalwyr sydd angen cymorth. Yn dilyn hyn, mae gan ofalwr o unrhyw oedran yr un hawliau i gael eu hasesu ar gyfer cymorth â'r unigolyn y maent yn gofalu amdanynt. Cynhelir yr asesiadau hyn gan y gwasanaethau cymdeithasol. Fodd bynnag, nid yw cyfanswm nifer y staff gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer plant a phobl ifanc wedi gwella mewn unrhyw ffordd ystyrlon ers 2014-15, yn enwedig o ystyried y lefelau uchel o salwch a straen sy'n bodoli yn yr adrannau hynny. Felly, pa gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau bod gofalwyr ifanc yn gallu cael eu hasesiad o anghenion yn llawn—a'i fod yn asesiad dilys—ac yna'n cael y cymorth dilynol sydd ei angen arnynt, a'u bod yn ei gael yn ddiymdroi? Julie Morgan AC: Mae'n hollol hanfodol, fel y dywed yr Aelod, fod asesiadau cywir yn cael eu cynnal ar gyfer gofalwyr ifanc, ac mae hynny'n ofynnol o dan y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, ond gwn nad yw llawer o ofalwyr ifanc wedi cael asesiadau a gwn fod y modd y caiff yr asesiadau eu rhoi ar waith yn amrywio. Felly, mae'r Llywodraeth yn edrych ar hyn—yn edrych ar sut i wella hyn ac yn edrych ar hyn drwy grŵp cynghori'r Gweinidog ar ofalwyr ac mewn ffyrdd eraill. Ond credaf ei bod yn gwbl hanfodol fod gofalwyr ifanc yn cael eu hasesu, oherwydd un o'r pethau sy'n rhaid ichi eu hystyried mewn asesiad yw sut y mae bod yn ofalwr yn effeithio ar fywyd arferol o ddydd i ddydd fel y bydd unigolyn ifanc ei angen, ac mae gwir angen i'r asesiadau ystyried hynny. Felly, mae'r asesiadau yn hollbwysig, ond mae angen inni sicrhau eu bod yn fwy cyson ac ar gael yn ehangach. Llefarydd UKIP, Neil Hamilton. Neil Hamilton AC: Diolch, Lywydd. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol, o adroddiad yr archwilydd cyffredinol ar wariant GIG Cymru ar staff asiantaeth, fod y swm o arian sy'n cael ei wario wedi cynyddu 171 y cant dros saith mlynedd, ac yn £135 miliwn yn 2017-18. Mae hon yn ffordd ddrud iawn o recriwtio staff. Yn Betsi Cadwaladr yn 2017, roeddent yn gwario 7 y cant o gyfanswm eu cyllideb staff ar staff asiantaeth, ac yn Hywel Dda roedd yn 10 y cant. Dengys y ffigurau diweddaraf fod Betsi Cadwaladr yn gwario £30 miliwn ar staff asiantaeth, a Hywel Dda yn gwario £23 miliwn. Yr ymateb a welais hyd yma gan Lywodraeth Cymru yw y bydd yr adroddiad hwn yn llywio gweithgarwch yn y dyfodol i gryfhau arweinyddiaeth er mwyn llywio'r gwaith o sicrhau arbedion effeithlonrwydd yn y dyfodol a datblygu un ffynhonnell ar gyfer casglu data. Yn hytrach na iaith rheoli, a fyddai'r Gweinidog yn cytuno y dylid rhoi camau gweithredu ymarferol ar waith i leihau'r ffigurau hyn fel y gellid gwario'r arian mewn ffyrdd eraill sy'n fwy buddiol i gleifion yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru? Vaughan Gething AC: Mewn gwirionedd, os edrychwch ar yr hyn rydym wedi'i wneud dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi gwneud cynnydd gwirioneddol mewn perthynas â gwariant ar staff asiantaeth a staff locwm. Gwneuthum ddewis nid yn unig i gyflwyno cap ar gyfraddau, ond amrywiaeth o fesurau eraill a gynigiwyd gan y gwasanaeth o ran dewisiadau polisi. Golygodd hynny ein bod wedi gwario o leiaf £30 miliwn yn llai ar staff asiantaeth nag yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, ond gwyddom fod angen inni wneud mwy. Ac mewn gwirionedd, mae her i bob un ohonom yn hyn: os ydym am weld gostyngiad yn y gwariant ar staff asiantaeth a staff locwm, mae angen inni newid y ffordd rydym yn darparu gofal. Golyga hynny y bydd angen i'r ffordd rydym yn darparu gofal ar hyn o bryd newid i'w wneud yn fwy deniadol ar gyfer recriwtio staff parhaol i'r gwasanaeth. Ac wrth gwrs, mae Aelodau ar draws y Siambr o dan bwysau rheolaidd i gefnogi cadw'r ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu, hyd yn oed pan fo'r gwasanaethau hynny'n dibynnu ar lefelau uchel o wariant ar staff asiantaeth a staff locwm. Felly, mewn gwirionedd, mae newid gwasanaethau yn ymwneud â mwy na lleihau gwariant; mae'n ymwneud â darparu gwell gofal, gydag aelodau staff parhaol sydd ar y tîm gofal ar sail barhaol. Neil Hamilton AC: Wrth gwrs, mae rhai byrddau iechyd yng Nghymru yn gwneud yn well o lawer na'r byrddau rwyf newydd eu crybwyll. Yng Nghaerdydd a'r Fro, er enghraifft, oddeutu 1.5 y cant yn unig o'u cyllideb staffio a werir ar staff asiantaeth. Felly, os gallant hwy wneud hynny, pam na all y byrddau iechyd eraill ei wneud? Mae'r arian yn cael ei wario i raddau helaeth ar staff meddygol a deintyddol, a nyrsio a bydwreigiaeth. Unwaith eto, yn Betsi Cadwaladr, mae 65 y cant o'r arian y maent wedi'i wario ar staff asiantaeth wedi mynd ar staff meddygol a deintyddol—dyna £19 miliwn. Ond nid yw Caerdydd a'r Fro, ar y llaw arall, ond wedi gwario £360,000 ar hyn dros y flwyddyn ddiwethaf. Beth sy'n gyfrifol am y gwahaniaethau hyn? Mae'n amlwg nad cyflog yw'r achos, gan fod cyfraddau cyflog yn cael eu pennu ar sail genedlaethol i raddau helaeth. Dyma achos arall lle mae arweinyddiaeth wleidyddol yn gwbl angenrheidiol er mwyn datrys problem sylweddol sy'n ychwanegu at y beichiau eraill ar y gwasanaeth iechyd. Vaughan Gething AC: Mewn rhan fawr o Gymru ac ar draws y DeyrnasUnedig mewn gwirionedd, gwyddom ei bod yn haws denu a recriwtio i rai canolfannau nag eraill mewn gwahanol rannau o'r wlad. Nid oes angen i chi fy nghredu i; siaradwch â phobl sy'n gweithio yn y rhannau eraill hynny o'r gwasanaeth iechyd ynglŷn â pha mor hawdd neu ba mor anodd yw gwneud hynny. Mae Caerdydd a'r Fro, a rhannau eraill o gornel y de-ddwyrain, wedi cael ffordd fwy sefydlog o ddarparu a thrawsnewid eu gofal. Mae gwaith gwahanol i'w wneud, er enghraifft, yng ngorllewin a gogledd Cymru o ran trawsnewid y ffordd y darperir gofal. Os na allwn wneud hynny, byddwn yn parhau i gynnal rhannau o'n gwasanaeth â staff asiantaeth a staff locwm a gwariant uwch. Dyna realiti anochel ein sefyllfa. Felly, os yw'r Aelodau yn dymuno gweld gostyngiad go iawn yn y gwariant ar staff asiantaeth a staff locwm, mae angen i bob un ohonom gael trafodaeth aeddfed ynglŷn â ble y darperir y gofal hwnnw, i'w wneud yn lle mwy deniadol i staff weithio. Os na allwn wneud hynny, byddwn yn parhau naill ai i gynnal rhannau o'n gwasanaeth â gwariant ar staff asiantaeth a staff locwm, neu eu gweld yn diwygio ac yn newid ar adeg o argyfwng, yn hytrach na chynllunio'n fwriadol i wneud hynny. Dyna oedd un o negeseuon canolog 'Cymru Iachach', ac yn wir, yr adolygiad seneddol yr ymrwymodd pob plaid yn y Siambr hon iddo. Neil Hamilton AC: Wrth gwrs, mae perfformiad rhai byrddau iechyd dros y blynyddoedd diwethaf yn ei gwneud yn anos recriwtio staff o bosibl, yn enwedig mewn ardaloedd fel gogledd Cymru. Serch hynny, ni ellir dweud mai dyna'r unig reswm dros yr anhawster, gan fod yr un broblem i'w gweld gyda staff locwm meddygon teulu ag sydd i'w gweld ymhlith staff y GIG mewn meysydd eraill o weithgarwch proffesiynol. Er enghraifft, o ran Blaenau Ffestiniog, dywedodd adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru 2017 eu bod yn dal i wynebu problemau sylweddol yno mewn perthynas â recriwtio meddygon teulu gan fod yno gryn ddibyniaeth ar feddygon locwm, ac roedd angen gwella. Wel, ar wefan Primary Care Professionals heddiw, ceir hysbyseb ar gyfer 32 o swyddi meddygon teulu ym Mlaenau Ffestiniog, gyda 22 ohonynt ar gyfer staff locwm. Felly, yn yr 16 mis rhwng adroddiad yr arolygiaeth gofal iechyd yn 2017 a heddiw, ychydig iawn o newid a fu. Ar dudalen 39 o'r adroddiad hwnnw, roedd yn dweud y dylai'r cyfarwyddwr ardal cynorthwyol ar gyfer gofal sylfaenol a'r rheolwr datblygu gofal sylfaenol, erbyn 31 Ionawr 2018—flwyddyn yn ôl—gynyddu argaeledd meddygon teulu cyflogedig drwy recriwtio er mwyn lleihau newidiadau mynych yn niferoedd y staff a'r staff locwm sydd ar gael i gwblhau eu tasgau eu hunain. Felly, pryd y byddwn yn gweld cynnydd sylweddol, nid yn unig o ran staff asiantaeth mewn ysbytai, ond hefyd o ran recriwtio meddygon teulu i wasanaethu ardaloedd sydd wedi dibynnu'n rhy hir o lawer ar staff locwm yn mynd a dod drwy'r amser? Mae'r rhan fwyaf o gleifion eisiau gweld eu meddyg teulu arferol; nid ydynt am fod mewn sefyllfa lle maent yn gweld rhywun newydd bob tro y maent yn mynd i'r feddygfa. Vaughan Gething AC: Mae hynny'n wir i rai cleifion, ac mae gan eraill farn wahanol. Os edrychwch ar yr hyn rydym yn ei wneud, ac mewn gwirionedd, os edrychwch ar gynllun y GIG yn Lloegr, er enghraifft, pan fyddant yn sôn am y ffordd y maent yn awyddus i feddygon teulu weithio gyda'i gilydd, mae hynny'n swnio ac yn edrych yn debyg iawn i'r clystyrau sydd gennym yma yng Nghymru. Efallai nad ydynt yn rhoi clod inni am hynny, ond mewn gwirionedd, maent yn copïo nifer o'r pethau rydym yn eu gwneud gan y bydd gweithlu'r dyfodol yn wahanol, ac wrth feddwl am staff asiantaeth a staff locwm, rwy'n sicr yn meddwl am ofal sylfaenol—y gallu i recriwtio digon o feddygon teulu, yr hyfforddiant sydd gennym, cyflawniad dros y ddwy flynedd ddiwethaf a gwneud yn dda iawn o ran llenwi ein lleoedd hyfforddi meddygon teulu, ond yn fwy na hynny, am yr amgylchedd y byddant yn gweithio ynddo gyda mathau gwahanol o staff. Ac mae nifer gwahanol o feddygon teulu yn gweithio mewn ffordd wahanol gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill. Dyna pam fod y buddsoddiad mwyaf erioed a wnawn mewn hyfforddiant ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill, y £114 miliwn rydym yn ei fuddsoddi—. Hyd yn oed mewn cyfnod o gyni, cynnydd o £7 miliwn yn y math hwnnw o hyfforddiant, ar gyfer mwy o staff, ar gyfer y ffisiotherapyddion, y nyrsys, y parafeddygon. Dyna'r her y mae'n rhaid inni ei hwynebu. Ac mewn gwirionedd, mae ein gweithlu meddygon teulu yn cefnogi'r cyfeiriad rydym yn mynd iddo at ei gilydd. Yr her, fel arfer, yw hon: a ydym yn gallu symud yn ddigon cyflym i gadw gwasanaethau ar agor ac yn weithredol, a darbwyllo digon o bobl i ddod i weithio mewn ffordd wahanol? Ac yn hynny o beth, rwy'n derbyn nad fy llais i yw'r mwyaf darbwyllol. Mae meddyg teulu yn fwy tebygol o wrando ar feddyg teulu arall ynglŷn â'r ffordd y maent wedi newid eu hymarfer, a gweithio gyda gweithwyr proffesiynol gwahanol, nag unrhyw wleidydd yn y lle hwn. Ac mae gennym amrywiaeth o arweinwyr ym maes ymarfer cyffredinol sy'n gwneud y gwaith hwnnw ac yn dangos gwir arweinyddiaeth ymhlith eu cymheiriaid. Felly, er yr heriau sy'n ein hwynebu, mae lle i fod yn optimistaidd ynglŷn â'r llwybr rydym arno, ac yn wir, ynglŷn â'r clod o weld GIG Lloegr yn efelychurhannau sylweddol o'r hyn rydym eisoes yn ei wneud yng Nghymru. Ariannu Gofal Iechyd yng Ngogledd Cymru Mark Isherwood AC: 3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ariannu gofal iechyd yng Ngogledd Cymru? OAQ53334 Vaughan Gething AC: Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi yn y gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru, fel y gwelwyd gyda'r dyraniad o £1.4 biliwn yn 2018-19. Rydym wedi darparu cymorth ychwanegol penodol eleni, i sicrhau cyfanswm o bron £20 miliwn i gefnogi perfformiad, pwysau'r gaeaf, capasiti a gallu o fewn y sefydliad. Mark Isherwood AC: Wel, mae un bob o bump o gleifion Ysbyty Iarlles Caer yn dod o Gymru, a'r wythnos diwethaf, holais eich cyd-Aelod, y Gweinidog cyllid, ar ôl i Ysbyty Iarlles Caer adrodd ym mis Rhagfyr fod oedi wrth drosglwyddo gofal—sy'n fwy cyfarwydd i rai fel blocio gwelyau—yn achos cleifion o Gymru wedi codi 26 y cant o gymharu â'r flwyddyn flaenorol, er ei fod wedi gostwng 24 y cant yn achos cleifion yng ngorllewin Cymru. A dywedodd eu prif swyddog cyllid fod system gorllewin swydd Gaer yn darparu capasiti ychwanegol a bod yn rhaid i Gymru ddarparu rhywfaint o gapasiti ychwanegol hefyd. Dywedodd y Gweinidog cyllid y byddai'n cyfeirio hynny atoch. Y bore yma, cefais i a phump o ACau eraill e-bost gan chwythwr chwiban a oedd yn disgrifio eu hunain fel 'un o gefnogwyr pryderus y GIG yn Betsi Cadwaladr', a ddywedai nad yw'n syndod fod y bwrdd iechyd wedi methu adennill eu costau yn unrhyw un o'r blynyddoedd ers i chi eu rhoi mewn mesurau arbennig, a bod yr adran reoli'n gwastraffu adnoddau gwerthfawr ac arian cyhoeddus ar systemau TG, megis system TG HealthRoster ar gyfer rheoli gweithgarwch clinigol, sydd wedi costio dros £200,000. Ni wnaed unrhyw ddadansoddiad o'r treial cychwynnol, ni chyflawnwyd achos busnes priodol, mae methiant y prosiect wedi'i guddio rhag y cyhoedd, treialwyd hyn yn aflwyddiannus yn 2015 gydag adborth negyddol, a'r consensws ymysg arbenigwyr meddygol oedd nad yw'r system yn addas i'r diben, ond fe'i rhoddwyd ar waith serch hynny. Fel y dywedais yr wythnos diwethaf wrth holi'r Gweinidog cyllid, beth sy'n digwydd, Weinidog, gan mai chi sy'n gyfrifol am hyn yn y pen draw? Vaughan Gething AC: Wel, yn amlwg, ni allaf wneud sylwadau ar e-bost a gawsoch heddiw gan chwythwr chwiban ynglŷn â'i safbwynt, ond rydym am roi ystyriaeth ddifrifol i unrhyw un a phawb sy'n mynegi pryderon ynglŷn â'r defnydd o arian. Ond mewn gwirionedd, nid yw'r prosiect a grybwylloch yn mynd i mewn i ran gyntaf eich cwestiwn a'r anghytuno rhwng ymddiriedolaeth Iarlles Caer a'r system iechyd a gofal yng ngogledd Cymru. Mewn gwirionedd, y gwir amdani yw ein bod wedi gweld gostyngiad sylweddol yn yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal yng ngogledd Cymru. Y rheswm am hynny yw bod iechyd a gofal cymdeithasol wedi gweithio gyda'i gilydd i gyflawni hynny. Bu'n rhaid imi gael cyfarfodydd personol ag iechyd a llywodraeth leol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ac rwy'n falch iawn o weld cyflawniad gwirioneddol a pharhaus. Dylem gydnabod hynny, a pheidio â bod mor barod i lyncu dadl ymddiriedolaeth Iarlles Caer. Os edrychwch ar eu heriau ariannol hwy, ychydig iawn sydd a wnelo hynny â'r system iechyd a gofal yma yng Nghymru. Er enghraifft, pe bai diffyg ymddiriedolaeth Iarlles Caer yn cael ei drosglwyddo i fwrdd Betsi Cadwaladr, byddai'n dyblu'r diffyg, bron â bod, ym mwrdd Betsi Cadwaladr. Nid problem Cymru yw eu heriau ariannol hwy. Rwy'n dechrau colli amynedd gyda'r ffordd y maent yn ceisio beio gogledd Cymru am yr heriau y maent yn eu hwynebu. Rwyf am weld system iechyd a gofal sy'n gweithio i'r unigolyn—partneriaeth wirioneddol gydweithredol dros y ffin, ond mae hynny'n galw am lefel well o ymddygiad gan gymheiriaid yng Nghaer. Llyr Gruffydd. Mark Isherwood AC: Gwarthus. Llyr Gruffydd AC: Diolch, Lywydd. Vaughan Gething AC: Mae'n warthus, rydych yn llygad eich lle. Llyr Gruffydd AC: Wel, os ydyn nhw wedi gorffen toethan ar draws y Siambr, fe wnaf i ofyn fy nghwestiwn. Mae myfyrwyr nyrsio ym Mangor yn pryderu ynglŷn â bygythiad posibl i'w cyrsiau nhw oherwydd toriadau yn y brifysgol. Ar adeg pan fo angen llawer mwy o nyrsys arnom ni yn y gogledd i lenwi cannoedd o swyddi gwag, mae yna gwestiynau yn codi ynglŷn ag a ydy adrannau o fewn y Llywodraeth fan hyn yn siarad â'i gilydd. Oherwydd heb arian digonol i brifysgolion ar gyfer darlithwyr, mi fydd yna lai o nyrsys yn cael eu cynhyrchu, ac yna mi fydd dibyniaeth y gwasanaeth iechyd yn y gogledd ar staff asiantaeth a locyms costus a drudfawr yn dwysáu. Felly, onid yw hyn yn enghraifft o ddiffyg cydweithio ar draws y Llywodraeth, sydd, o ganlyniad, yn gwneud sefyllfa anodd yn waeth? Vaughan Gething AC: Rydym yn talu am gyrsiau nyrsysa ddarperir ym Mangor. Maent yn rhan o'r niferoedd a'r niferoedd hyfforddi rwyf wedi buddsoddi ynddynt, a chyfeiriais atynt yn fy ateb i Neil Hamilton. Rwy'n disgwyl y cynhyrchir y niferoedd ac y sicrheir ansawdd yr hyfforddiant a'r gofal. Os oes pryderon difrifol a dilys, fel y dywedoch chi, buaswn yn falch iawn o glywed gennych yn uniongyrchol ynglŷn â manylion hynny, gan fy mod yn awyddus i sicrhau, fel y dywedaf, fod y niferoedd a'r ansawdd yn cael eu diogelu. Wedi'r cyfan, rydym yn buddsoddi yng ngweithlu'r dyfodol. Gwasanaethau Meddygon Teulu yng Nghanol De Cymru Andrew RT Davies AC: 4. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau meddygon teulu yng Nghanol De Cymru? OAQ53339 Vaughan Gething AC: Mae 'Cymru Iachach' yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau gofal iechyd ac mae'r model gofal sylfaenol ar gyfer Cymru yn allweddol i gyflawni ein nodau ar gyfer ymarfer cyffredinol. Rydym yn gweithio gyda GIG Cymru a chyrff cynrychiadol i barhau i wella'r ddarpariaeth o wasanaethau i bobl Canol De Cymru. Andrew RT Davies AC: Diolch am eich ateb, Weinidog. Un o'r rhwystredigaethau mwyaf i lawer o gleifion wrth geisio cael mynediad at wasanaethau meddygon teulu yw gwneud yr alwad ffôn gyntaf honno i gael apwyntiad gyda'r meddyg teulu. Defnyddiodd un o fy etholwyr—Mr Owen Smith o Bontypridd, a chredaf eich bod yn ei adnabod—ei gyfrif Twitter yn ddiweddar i dynnu sylw at y ffaith ei fod wedi ffonio ei feddygfa 300 o weithiau dros y pum wythnos ddiwethaf. Yn ei eiriau ef, nid oedd unrhyw apwyntiadau ar ôl erbyn 08:35 ar bob achlysur. Nid Owen Smith yn unig sydd wedi wynebu hyn; mae'n digwydd ar draws ardal Canol De Cymru, lle mae llawer o gleifion yn ei chael yn anodd cael apwyntiad. Pa hyder y gallwch ei roi inni fod eich adran yn ymdrechu i wneud y system apwyntiadau mewn meddygfeydd yn fwy hygyrch fel y gall cleifion sydd angen yr apwyntiadau hynny eu cael, ac nad ydym yn gweld y math o refru a welsom gan Owen Smith ar Twitter, sy'n tynnu sylw at lawer o'r rhwystredigaethau y mae etholwyr eraill nad ydynt yn defnyddio Twitter neu'r cyfryngau cymdeithasol yn eu teimlo bob dydd? Vaughan Gething AC: Wel, nid wyf yn siŵr a yw'r unigolyn y cyfeiriwch ato wedi rhoi caniatâd i chi dynnu sylw at ei brofiad personol yn y ffordd y gwnewch, ond ceir—[Torri ar draws.] Andrew RT Davies AC: Mae'n wybodaeth gyhoeddus. Mae i'w gweld ar Twitter. Vaughan Gething AC: Ni chredaf fod y darlun a ddisgrifiwch yn gwbl deg, ond rwy'n cydnabod yr amrywiaeth profiadau rhwng practisau, ac mae'n rhywbeth sy'n codi'n rheolaidd mewn bagiau post. Os edrychwch ar yr arolwg cenedlaethol ar gyfer Cymru, mae'n nodi dirywiad mewn boddhad o ran cael mynediad at ofal iechyd lleol. Felly, ceir her wirioneddol yn hyn o beth. Mae'n her a gydnabuwyd gan bwyllgor ymarferwyr cyffredinol Cymdeithas Feddygol Prydain a'r Llywodraeth a'r gwasanaeth iechyd ehangach hefyd. Mae'n rhan o'r sgwrs. Mae'n ymwneud â diwygio contractau. Mae hefyd yn rhan o'r hyn rydym yn ceisio'i ddarparu yn y model gofal sylfaenol newydd. Pan soniwn am y model newydd, mae'n gydnabyddiaeth fod mynediad yn rhan bwysig iawn o hynny. Ac nid yw'n digwydd am fy mod i wedi eistedd yn fy swyddfa a phenderfynu fy mod yn credu mai dull 'ffôn yn gyntaf' sydd orau; mae'n ganlyniad uniongyrchol rhaglen o weithgareddau a gynhelir gan feddygon teulu eu hunain ac sy'n cael ei llywio gan y meddygon teulu hynny sydd wedi datrys yr heriau y mae amryw o bobl yn cwyno amdanynt a'r gallu i gael apwyntiad gyda'r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol priodol. Mae'n ymwneud yn rhannol â phobl yn gwybod i ble y gallant fynd yn lle meddyg teulu, ond mae'n ymwneud hefyd â gallu siarad â rhywun ynglŷn â'r her o fewn amser rhesymol. Rwy'n cydnabod y bydd hyn yn parhau i fod yn destun trafod ymysg ymarferwyr cyffredinol—nid yn unig gyda'r Llywodraeth a'r gwasanaeth iechyd ehangach, ond ymhlith yr ymarferwyr cyffredinol eu hunain, gan fod rhai meddygon teulu yn gryf o blaid system newydd 'ffôn yn gyntaf' ac eraill yn amheus iawn ac yn diystyru hynny. Felly, mae gwaith mawr i'w wneud yma o ran darbwyllo meddygon teulu fod hyn yn ymwneud mewn gwirionedd â sicrhau bod eu swyddi'n well, ond yn y pen draw yn wasanaeth gwell i'r cyhoedd. Gwella Amseroedd Ymateb Ambiwlansys yng Ngorllewin De Cymru David Rees AC: 5. Pa gynnydd sy'n cael ei wneud i wella amseroedd ymateb ambiwlansys yng Ngorllewin De Cymru? OAQ53355 Vaughan Gething AC: Mae cryn dipyn o waith ar y gweill i sicrhau bod cleifion sydd ag angen clinigol am ymateb ambiwlans yng Ngorllewin De Cymru yn gwneud hynny cyn gynted â phosibl. Roedd yn galonogol gallu nodi bod y ffigurau diweddaraf yn dangos bod yr ardal, unwaith eto, ymhlith yr ardaloedd sy'n perfformio orau yng Nghymru ar gyfer cleifion yn y categori coch. David Rees AC: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Weinidog, ac rwy'n gwerthfawrogi'r ymdrechion a wneir i wella amseroedd ymateb. Hoffwn godi mater mewn perthynas â hynny a sut y gallwn ei helpu efallai, oherwydd yn fy amgylchiadau personol, bu angen i aelod o'r teulu ffonio am ambiwlans dros y penwythnos, ac aeth yr unigolyn i mewn i ffibriliad atrïaidd gartref. Fe ffoniom am ambiwlans a dywedwyd wrthym fod yr ambiwlans ar ei ffordd. Er eglurder, gofynnais—'A allwch roi syniad i mi pryd?'—oherwydd gwyddwn y gallwn gyrraedd Treforys mewn llai na hanner awr o bosibl. Ni chawsom wybodaeth. Buom yn aros am 20 munud a phenderfynais yrru i Dreforys, a chyrhaeddais yno cyn y byddai'r ambiwlans wedi cyrraedd. Canslais yr ambiwlans ar y ffordd mewn gwirionedd. Ond mae etholwyr hefyd wedi dweud wrthyf faint o weithiau y maent wedi bod yn aros am ambiwlans. Pe bai staff ambiwlans a chriwiau ambiwlans, neu'r bobl ar y gwasanaeth 999, yn gallu rhoi syniad i ni—maent yn gwrthod, oherwydd dywedasant, 'Ni allwn ragweld pryd y bydd yn cyrraedd'. Ond pe baem yn gallu cael syniad o ble maent yn dod, gallwn weithredu i fynd â rhywun i'r ysbyty yn gynt, a chael triniaeth yn gynt. Yn achos unigolyn â ffibriliad atrïaidd, mae angen i chi gyrraedd yno'n gyflym. Nawr, nid oeddwn yn gwybod pa gategori roedd ynddo. Ni ddywedwyd wrthyf a oedd yn y categori coch neu oren. Yr unig beth a ddywedwyd wrthyf oedd, 'Ni allwn roi unrhyw wybodaeth i chi, ond mae eich galwad wedi'i chofnodi ac mae wedi'i phasio ymlaen'. Nid yw hynny'n ddigon da. Mae angen i mi wybod pryd y bydd yn dod, ac os bydd oedi, gallaf weithredu i gael y claf yno. A allwch chi edrych ar hyn er mwyn sicrhau bod gan bobl yr wybodaeth orau i wneud y penderfyniadau y maent angen eu gwneud i gael cleifion i'r lle gorau? Vaughan Gething AC: Roedd hyn yn rhan o'r adolygiad oren a'r sgwrs ynglŷn ag a ddylech roi syniad o pryd y bydd ambiwlans yn cyrraedd, a'r cyngor oedd na ddylid gwneud hynny. Mae prif gomisiynydd y gwasanaethau ambiwlans hefyd yn gweithio i ddatblygu'r adolygiad oren i geisio gwella profiad pobl tra bônt yn aros. Er hynny, buaswn yn hapus i siarad â'r Aelod yn uniongyrchol am y profiad a gafodd, i geisio deall a oes mwy o bethau y gallai'r gwasanaeth ambiwlans ei wneud, hyd yn oed os yw'n sgwrs ynglŷn â'r hyn y gallai'r unigolyn ei wneud os ydynt yn gallu cludo rhywun yn ddiogel i ganolfan y maent yn debygol o orfod mynd iddi beth bynnag os yw'r ambiwlans yn cyrraedd. Suzy Davies AC: Diolch am eich cwestiwn, David, oherwydd rwy'n meddwl unwaith eto am rôl cyd-ymatebwyr, mater rwyf wedi'i godi yn y Siambr sawl gwaith. Maent yn amlwg yn gymwys i ymateb yn gyflym i'r union fath o sefyllfa a grybwyllodd David Rees. Mae ganddynt rôl enfawr i'w chwarae o ran effeithlonrwydd ymateb brys, ac rwy'n credu bod y ddadl ynglŷn â sut y telir am y gwasanaeth hwnnw yn tynnu sylw oddi wrth hynny. O ystyried y newidiadau i'r categorïau coch ac oren yn ogystal, hoffwn godi mater ymatebwyr cyntaf, sy'n amlwg yn wahanol. Rwy'n siŵr eich bod yn falch fod grŵp ymatebwyr cyntaf Llandeilo Ferwallt a Phennard wedi denu llu enfawr o wirfoddolwyr newydd yn ddiweddar, ond unwaith eto—ac nid dyma'r tro cyntaf i hyn ddigwydd iddynt—maent yn dal i aros am hyfforddiant gan y gwasanaeth ambiwlans. Mae pobl yn colli diddordeb yn yr amser hwnnw. A allwch chi ddweud wrthym beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu'r gwasanaeth ambiwlans i fanteisio ar y cyfalaf cymdeithasol hwn i'w helpu i lunio ymateb gwell yn hytrach na'i wastraffu? Diolch. Vaughan Gething AC: Ar y ddau bwynt—. Mae yna ddau bwynt gwahanol, ac o ran cyd-ymatebwyr, nid yw'n ymwneud ag arian yn unig. Mae'n ymwneud â chytundeb ar rôl diffoddwyr tân hefyd, er enghraifft, a chytundeb sy'n ymwneud â thelerau ac amodau ac mewn gwirionedd, sut y darparwn ac y gwnawn well defnydd o bersonél hyfforddedig o fewn system ehangach ein gwasanaethau brys. Mae'r pwynt am ymatebwyr cyntaf yn un rydym wedi'i godi gyda'r gwasanaeth ambiwlans yn y gorffennol mewn perthynas â'u cynllun ar gyfer ymatebwyr cyntaf a defnyddio pobl sydd eisiau bod yn ymatebwyr cyntaf i gynnal eu sgiliau a sicrhau bod hynny'n cael ei gynnwys a'i gynllunio'n rhan o'n system. Rwy'n hapus i ystyried hynny ac ysgrifennu at yr Aelod ynglŷn â ble mae'r gwasanaeth ambiwlans arni mewn perthynas â hynny, oherwydd nid wyf eisiau colli golwg ar y bobl sydd eisiau cyfrannu ac a fyddai'n gallu gwneud gwahaniaeth go iawn mewn amryw o gymunedau ledled y wlad.FootnoteLink Gwybodaeth ychwanegol at y Cyfarfod Llawn (Saesneg yn unig) Ymgysylltu a’r Cyhoedd ynglyn â Newidiadau i Wasanaethau Siân Gwenllian AC: 6. Pa ganllawiau a roddir gan Lywodraeth Cymru i’r byrddau iechyd o ran ymgysylltu a’r cyhoedd ynglyn â newidiadau i wasanaethau? OAQ53344 Vaughan Gething AC: Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau cenedlaethol i GIG Cymru ar ymgysylltu ac ymgynghori pan fyddant yn ystyried gwneud newidiadau i wasanaethau iechyd. Rwy'n disgwyl y byddant yn ystyried y canllawiau'n llawn ac yn cynnwys rhanddeiliaid—gan gynnwys y cyhoedd, wrth gwrs—yn llawn pan fyddant yn argymell unrhyw newidiadau. Siân Gwenllian AC: Diolch yn fawr. Mae bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr ar fin trafod newidiadau pellgyrhaeddol i'r ffordd mae rhai gwasanaethau'n cael eu darparu ar draws y gogledd. Mae'r newidiadau yn cynnwys darparu gwasanaethau wroleg ar ddau safle yn lle tri, symud gofal strôc o ddau safle a symud gwasanaethau orthopedig o ddau le. Dwi'n siŵr eich bod chi'n cytuno fod angen i'r bwrdd iechyd fod yn gwbl dryloyw efo'r cyhoedd pan mae newidiadau mawr fel hyn yn cael eu trafod. Yn anffodus, maen nhw'n ceisio cyflwyno'r newid drwy'r drws cefn. A wnewch chi sicrhau fod ymgynghori trwyadl yn digwydd ac asesiadau effaith manwl yn cael eu gwneud cyn i unrhyw benderfyniadau gael eu cymryd? Vaughan Gething AC: Nid wyf yn credu fy mod yn derbyn y disgrifiad fod y rhain yn newidiadau y ceisir eu cyflwyno drwy'r drws cefn. Yn y tri maes rydych wedi siarad amdanynt—niwroleg ac orthopedeg, mae pwysau mawr ar y niferoedd sy'n mynd drwy ein system ac ar ein gallu i gyrraedd y rheini. Mae hynny'n ymwneud yn rhannol â'r cynnydd yn y galw—er enghraifft, ym maes niwroleg, o ran cael y cyfarpar cywir a'r bobl gywir wedi'u recriwtio i'r gwasanaethau hynny i'w gwneud yn gadarn, ac ym maes orthopedeg, lle nad yw'n ymwneud yn unig â chael ffordd fwy effeithlon o wneud rhagor o lawdriniaethau, ond hefyd â pha ganolfannau y dylech wneud llawdriniaethau ynddynt, pa rai sy'n cael eu gwneud, ac yna hefyd, beth sydd angen i chi ei wneud o ran y bobl nad ydynt angen llawdriniaeth yn y lle cyntaf. Ym mhob un o'r meysydd hynny, mae angen siarad â staff a'r cyhoedd ynglŷn â beth allai fod yno. Gwn mai cynigion drafft yn unig sydd wedi'u cyflwyno i'r bwrdd. Ni wnaethpwyd unrhyw benderfyniadau terfynol ac rwy'n disgwyl y ceir ymgynghoriad llawn a phriodol. Ar wasanaethau strôc, er hynny, mae sgwrs hirfaith wedi bod ac mae'r Gymdeithas Strôc, y prif lais dros ac ar ran cleifion, yn glir iawn eu bod eisiau i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru ac ar draws gweddill y wlad, wneud cynnydd go iawn gydag unedau hyperacíwt—nifer llai o ganolfannau derbyn gyda gwell canlyniadau i staff. Mewn gwirionedd, mae arweinydd clinigol y gwasanaethau strôc yng Nghymru, ym Mronglais, yn glir iawn fod angen newid nifer ein gwasanaethau lle caiff pobl eu derbyn yn dilyn strôc hefyd er mwyn darparu gwell gofal. Nawr, mae honno'n sgwrs y mae angen i glinigwyr ei chael a chytuno arni, ond mae hefyd yn sgwrs y mae angen iddynt ei chael gyda'r cyhoedd ynglŷn â'r hyn y maent yn ei gynnig a pham fel rhan o'r ymgysylltiad priodol hwnnw gyda'r cyhoedd. Dyna rwy'n ei ddisgwyl, nid yn unig yng ngogledd Cymru ond drwy'r gwasanaeth cyfan. Huw Irranca-Davies AC: A gaf fi ofyn i'r Gweinidog, o ran canllawiau, a ydym yn cael ein rhwystro mewn unrhyw ffordd gan y cyfyngiadau sydd ar fyrddau iechyd o ran ymgynghoriadau? Cyn y Nadolig, ymgynghorodd Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ar fater yn ymwneud ag ysbyty Maesteg. Ni chafodd ei fframio fel 'dyfodol ysbyty Maesteg; sut y gallwn edrych ar ei ddyfodol hirdymor, beth allwn ni ei wneud o ran ad-drefnu gwasanaethau'. Roedd yn fawr ar yr uwchdaflunydd ar neuadd y dref ym Maesteg gyda rhai cannoedd o bobl yn ei wylio: 'Cau ysbyty dydd', ac roedd llawer o bobl, gyda llaw, o dan yr argraff fod hynny'n golygu cau'r ysbyty ei hun yn hytrach na'r uned ddydd a'r gofal seibiant a ddarperir. Maent wedi oedi ar hynny oherwydd y gwrthwynebiad llethol i'r cynigion ar gyfer y dyfodol, ac maent yn bwriadu ail-ymgynghori. Ond un o'r pethau y maent yn ei ddweud wrthyf yw eu bod wedi'u cyfyngu o ran sut i fframio hynny. Mae'n rhaid iddynt ei fframio mewn ffordd sy'n dynodi cau uned yn hytrach na gofyn i bobl, 'Beth hoffech chi ei weld yma i ddiwallu anghenion modern Maesteg a chwm Afan uchaf?' ac ati. Felly, a oes problem gyda'n canllawiau sy'n cyfyngu ar y modd y gall byrddau iechyd ymgynghori â phobl ar yr hyn y maent eisiau ei weld yn y dyfodol mewn perthynas â'u cyfleusterau lleol hollbwysig? Vaughan Gething AC: Rwy'n barod i ystyried yn ddifrifol y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud ac edrych eto ar y canllawiau i weld a oes iddynt ganlyniad anfwriadol.Ond mewn gwirionedd, y man cychwyn yw ei bod yn bwysig cael trafodaeth lawn gyda'r cyhoedd am yr hyn sy'n cael ei gynnig: beth yw'r cynnig ar gyfer y dyfodol, beth y mae hynny'n ei olygu am wasanaethau yn awr? Ac i wneud yn siŵr nad ydym yn cael sgwrs artiffisial sy'n gwneud i bobl boeni mwy am ddyfodol gwasanaethau a fydd yn cael eu diddymu, yn hytrach na'r cymysgedd yn y dyfodol lle bydd pobl yn cael y gofal cywir, yn y lle cywir, ar yr adeg gywir. Felly, rwy'n fodlon siarad ag ef am yr enghraifft benodol a grybwyllwyd ganddo ac edrych i weld a oes angen newid y canllawiau neu beidio, a'r cydbwysedd sydd angen i fyrddau iechyd ei sicrhau er mwyn gallu symud mor gyflym â phosibl, ond sicrhau hefyd fod yna frys a chyflymder sy'n ymgysylltu'n briodol â'r cyhoedd drwy gael sgwrs go iawn ynglŷn â'r hyn sy'n bwysig iddynt. Mynd i'r Afael ag Apwyntiadau a Gollwyd yn y GIG Caroline Jones AC: 7. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael ag apwyntiadau a gollwyd yn y GIG? OAQ53351 Vaughan Gething AC: Mae byrddau iechyd yn defnyddio amrywiaeth o offer gwahanol i atgoffa cleifion i fynychu apwyntiadau, gan gynnwys negeseuon testun a negeseuon atgoffa dros y ffôn, a chefais un o'r rheini fy hun ddoe. Mae'n costio arian i'r GIG pan fo cleifion yn colli apwyntiadau, ac mae gan gleifion ran i'w chwarae i sicrhau eu bod yn mynychu apwyntiadau a drefnwyd. Caroline Jones AC: Weinidog, yn ddiweddar, cafodd fy apwyntiad ysbyty ei aildrefnu ar fyr rybudd. Yn ffodus, cefais y llythyr hysbysu y noson cyn yr apwyntiad. Fodd bynnag, gwn nad yw eraill wedi bod mor ffodus. O gofio ein bod yn cael ein hatgoffa'n gyson o'r gost i'r GIG pan fo apwyntiadau'n cael eu colli, beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod cleifion yn cael eu hysbysu am unrhyw newidiadau i'w hapwyntiadau, ac a wnewch chi ystyried defnyddio technoleg fel galwadau awtomataidd? Vaughan Gething AC: Mae hyn yn rhan o waith arferol y gwasanaeth iechyd i wneud yn siŵr fod pobl yn cael cyfle i fynychu, ac os oes newidiadau, fod pobl yn cael gwybod mewn da bryd, oherwydd nid llythyr post ail ddosbarth yw'r ffordd fwyaf effeithiol o gysylltu â'r rhan fwyaf o bobl o fewn y wlad. Felly, mae'n rhan reolaidd o ddysgu ar draws y gwasanaeth am y gwahanol ddulliau sy'n cael eu mabwysiadu, ond hefyd i feddwl am y dyfodol a sut y gallwn ddefnyddio ein hadnoddau mewn ffordd fwy effeithlon. I mi, mae hynny'n golygu diwygio'n sylfaenol y system cleifion allanol a'r hyn rydym yn ceisio ei gyflawni, nid yn unig sut yr atgoffwn bobl i fynychu eu hapwyntiadau yn y lle cyntaf. Yn olaf, David Melding. David Melding AC: Diolch i chi, Lywydd. Weinidog, ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol nad ydynt yn achosion brys, mae'r gyfradd o bobl sy'n colli apwyntiadau dros 10 y cant bellach. Sylwais yn Lloegr mai un peth y maent yn ei wneud wrth anfon negeseuon testun—ac efallai ein bod ni yn ei wneud, ond os gallech fy ngoleuo—yw rhoi syniad bras o'r gost i'r GIG pan fo claf yn colli apwyntiad, a gwneud hynny wedyn ar sail unigol a chyfunol. Oherwydd pe bai pobl yn sylweddoli faint mae'n ei gostio—mae'r gost cyfle'n sylweddol iawn—rwy'n credu y byddent yn ailfeddwl. Ond nid yw'r ffaith bod dros 10 y cant o gleifion yn colli apwyntiad yn dderbyniol. Vaughan Gething AC: Ie, ac mae honno'n her go iawn. Mae'n ymwneud yn rhannol ag effeithlonrwydd, ond mae hefyd, a dweud y gwir, yn ymwneud â gwneud y defnydd gorau o amser pobl, ac nid arian yn unig. Mae rhai byrddau iechyd yn darparu amcangyfrif o faint y mae apwyntiad yn ei gostio, ac mae gan y rhan fwyaf o'r ysbytai rwyf wedi bod ynddynt—ac rwy'n tueddu i fynychu tipyn ohonynt dros yr amser rwy'n ei dreulio yn y swydd—arwyddion rheolaidd sy'n dangos y gost i'r gwasanaeth iechyd pan fo claf yn colli apwyntiad. Mae digon o wybodaeth ar gael ar gyfer pobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth iechyd am realiti'r gost. Credaf mai'r her yw sut y gallwn sicrhau dull mwy cyson o ddefnyddio pethau fel negeseuon testun i atgoffa pobl, a lle i hysbysu pobl am y gost o ddefnyddio'r gwasanaeth iechyd ac yn wir, o beidio â'i ddefnyddio ar unrhyw adeg yn ogystal. Diolch i'r Gweinidog. 3. Cwestiynau Amserol Ni ddewiswyd unrhyw gwestiynau amserol. 4. Datganiadau 90 Eiliad Ni dderbyniwyd unrhyw geisiadau am ddatganiadau 90 eiliad. 5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau: P-04-628 Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i bawb Sy'n dod â ni at eitem 5, sef y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar fynediad at Iaith Arwyddion Prydain i bawb. Rwy'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—David Rowlands. Cynnig NDM6952 David J. Rowlands Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Ddeiseb P-04-628 Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i bawb, aosodwydyn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Hydref 2018. Cynigiwyd y cynnig. David J Rowlands AC: Diolch, Lywydd, am y cyfle i agor y ddadl hon ar ran y Pwyllgor Deisebau. Mae'r ddeiseb rydym yn ei thrafod heddiw yn ymwneud â Iaith Arwyddion Prydain (BSL), a gallu plant byddar a'u teuluoedd i ddysgu a defnyddio BSL yn eu bywydau bob dydd. Fel y gŵyr pawb ohonom, mae cyfathrebu yn agwedd hanfodol ar fywyd. Fodd bynnag, gall achosi heriau sylweddol i rai yn ddyddiol. Cyflwynwyd y ddeiseb hon, a gasglodd 1,162 o lofnodion, gan Deffo!, fforwm ar gyfer pobl ifanc fyddar yn Abertawe. Croeso i Deffo! a sylwedyddion eraill i'r oriel gyhoeddus, a hoffwn hefyd roi gwybod i'r Aelodau fod dehonglwr yn arwyddo'r trafodion drwy BSL yn yr oriel. Mae fersiwn BSL o adroddiad y pwyllgor ar gael ar-lein hefyd, a bydd fideo BSL o'r ddadl hon ar gael yn ddiweddarach heddiw ar Senedd.tv. Hoffwn ddiolch hefyd i'r deisebwyr ar ran y pwyllgor—ac ar ran pob Aelod o'r Cynulliad hwn rwy'n siŵr—am eu dycnwch a'u hymrwymiad i frwydro dros welliannau i'r addysg a'r cymorth sydd ar gael ar gyfer pobl ifanc fyddar a thrwm eu clyw yng Nghymru. Yn fwyaf arbennig, mae'r pwyllgor yn diolch i Cathie a Helen Robins-Talbot o Deffo! am yr wybodaeth y maent wedi'i darparu drwy gydol y broses, yn ogystal ag i Luke a Zoe a roddodd dystiolaeth lafar rymus iawn i'r Pwyllgor Deisebau wrth i ni ystyried y ddeiseb. Mae'r ddeiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella mynediad at addysg a gwasanaethau Iaith Arwyddion Prydain er mwyn gwella ansawdd bywyd i blant byddar a'u teuluoedd, ac i bobl fyddar o bob oedran. Mae oddeutu 2,600 o blant byddar yng Nghymru a nam ar y clyw yw prif angen addysgol arbennig dros 3,000 o ddisgyblion. Mae BSL yn iaith ar wahân nad yw'n ddibynnol ar, nac yn perthyn yn agos iawn i Saesneg llafar. Mae Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain yn datgan bod oddeutu 7,200 o ddefnyddwyr BSL yng Nghymru, a 4,000 ohonynt yn fyddar. Yn 2004, cafodd BSL ei chydnabod fel iaith yn ei hawl ei hun gan Llywodraeth Cymru. Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair. David J Rowlands AC: Mae gan y ddeiseb nifer o amcanion: sicrhau mwy o gyfleoedd i deuluoedd ddysgu BSL, cyflwyno BSL yn y cwricwlwm cenedlaethol, sicrhau gwell mynediad at addysg drwy gyfrwng BSL, a sicrhau bod mwy o wasanaethau ac adnoddau ar gael drwy gyfrwng BSL ar gyfer pobl ifanc fyddar. Bydd gweddill y cyfraniad hwn yn canolbwyntio ar bob un o amcanion y ddeiseb yn eu tro, er mwyn amlinellu'r dystiolaeth a gyflwynwyd i'r pwyllgor, y casgliadau y daethom iddynt a'r ymatebion a roddwyd gan Lywodraeth Cymru. Yn gyntaf, mae'r ddeiseb yn galw am fwy o gyfleoedd i deuluoedd ddysgu BSL. Mae Deffo! wedi pwysleisio pa mor hollbwysig yw hyn fel y gall rhieni a brodyr a chwiorydd gyfathrebu â phlant byddar a'u cefnogi o fewn eu teuluoedd. Dywedasant wrth y pwyllgor y gall cost fod yn broblem sylweddol, gyda dosbarthiadau BSL sylfaenol ar gyfer oedolion yn costio £300 y person a chyrsiau uwch yn costio hyd at £1,600. Ychydig iawn o gyfleoedd a geir hefyd i deuluoedd ddysgu BSL gyda'i gilydd, gan fod y rhan fwyaf o'r dosbarthiadau sydd ar gael yn cael eu darparu drwy ganolfannau addysg oedolion. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth y pwyllgor sawl gwaith mai cyfrifoldeb awdurdodau lleol yw darparu'r dosbarthiadau hyn. Fodd bynnag, ymddengys mai diffyg darpariaeth yw canlyniad hyn, oherwydd ei fod yn dod yn ddewis o fewn cyllidebau addysg oedolion lleol. Mae'r dystiolaeth a gyflwynwyd i'r pwyllgor yn dangos, yn y rhan fwyaf o achosion, nad oes unrhyw gyrsiau iaith arwyddion ar gael i rieni a phlant am ddim neu am gost isel. Nodaf fod y comisiynydd plant hefyd wedi argymell y dylai'r holl deuluoedd sydd â phlant byddar allu cael mynediad at BSL, ac mae'r pwyllgor wedi clywed bod y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar yn siomedig nad yw hyn wedi digwydd. Mae'r deisebwyr wedi dadlau bod statws presennol BSL, a'r ffaith ei bod yn cael ei hystyried yn ddewis yn hytrach nag angen meddygol, yn golygu mai dyma'r math o ddarpariaeth sy'n tueddu i gael ei golli mewn cyfnodau o bwysau ariannol. Maent wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru gydnabod BSL fel iaith leiafrifol, ac y dylai awdurdodau lleol ei hystyried yn iaith gyntaf i lawer o blant a phobl ifanc byddar a thrwm eu clyw. Maent o'r farn y byddai hon yn ffordd o wella a diogelu'r ddarpariaeth ar gyfer dysgu BSL. Mae'r Pwyllgor Deisebau yn cytuno. Rydym yn credu ei bod yn hanfodol fod teuluoedd plant byddar yn cael cyfle i ddysgu sut i gyfathrebu drwy gyfrwng BSL. O ganlyniad, rydym o'r farn y gallai Llywodraeth Cymru wneud mwy drwy arwain awdurdodau lleol i drin BSL fel iaith gyntaf llawer o blant a phobl ifanc byddar, fel ffordd o ail-fframio'r sgwrs ar beth a olygir wrth ddarpariaeth ddigonol. At hynny, rydym wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried datblygu siarter genedlaethol ar gyfer darparu gwasanaethau ac adnoddau, gan gynnwys addysg, i blant byddar a'u teuluoedd. Credwn y byddai hyn yn helpu i wella cysondeb y ddarpariaeth ledled Cymru. Rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y ddau argymhelliad gennym yn hyn o beth, a''i bod hefyd wedi cydnabod bod aelodau o'r gymuned fyddar yn wynebu nifer o broblemau mewn perthynas â BSL, gan gynnwys prinder dehonglwyr. Yn ei hymateb, mae'r Gweinidog yn ymrwymo i adolygu'r ddarpariaeth BSL yng Nghymru ac ystyried datblygu siarter genedlaethol o'r math a argymhellir gan y pwyllgor. Byddem yn croesawu mwy o wybodaeth am y gwaith hwn y prynhawn yma, ac yn ei hannog i sicrhau bod y gwaith yn datblygu'n gyflym er mwyn dechrau gwella'r cymorth sydd ar gael ar gyfer plant byddar a'u teuluoedd. Gan symud ymlaen, mae'r ail alwad yn y ddeiseb yn galw am gynnwys BSL yn y cwricwlwm cenedlaethol. Mae'r deisebwyr wedi rhoi gwybod i'r pwyllgor nad oes gan y rhan fwyaf o blant byddar mewn ysgolion prif ffrwd fynediad at BSL yn yr ysgol, ond eu bod yn dysgu Saesneg â chymorth arwyddion yn lle hynny. Nid yw hyn yn trosglwyddo y tu allan i'r ysgol, ac felly mae plant byddar yn dal i orfod dysgu BSL er mwyn cyfathrebu ag aelodau eraill o'r gymuned fyddar. Pe bai BSL yn cael ei chynnwys o fewn y cwricwlwm cenedlaethol, mae Deffo! yn dadlau y byddai'n helpu dysgwyr eraill i gyfathrebu â phobl fyddar neu drwm eu clyw mewn cyd-destun cymdeithasol a chyd-destunau eraill, yn ogystal â gwella eu cyfathrebu'n raddol mewn bywyd bob dydd. Drwy gydol ein hystyriaeth o'r ddeiseb, mae Deffo! wedi mynegi rhwystredigaeth ynglŷn â'u profiad o geisio ymgysylltu â'r Llywodraeth ar y mater hwn, ac ynglŷn â'r hyn a ystyriant yn ddiffyg ymgysylltiad â phrosesau megis adolygiad Donaldson. Wedi dweud hynny, yn ystod yr amser hwn, cawsant gyfle i gyfarfod â'r Gweinidog blaenorol ac mae'r pwyllgor wedi croesawu'r ffaith bod BSL wedi'i chynnwys ym maes ieithoedd a chyfathrebu y cwricwlwm newydd. David J Rowlands AC: Fodd bynnag, rydym yn dal i fod yn bryderus ynglŷn â diffyg cyfeiriad cenedlaethol mewn perthynas â sicrhau bod darpariaeth BSL ar gael yn eang mewn ysgolion yng Nghymru, ac mae ymateb y Gweinidog i'n hadroddiad yn awgrymu y bydd hyn yn parhau i fod yn ôl disgresiwn ysgolion unigol ac awdurdodau lleol i raddau helaeth. A siarad yn blwmp ac yn blaen, ar hyn o bryd mae'n anodd gweld bod hyn yn addo unrhyw gam sylweddol ymlaen o ran gwella gallu disgyblion i gael mynediad at BSL drwy'r cwricwlwm. Rwy'n annog y Gweinidog i roi ystyriaeth bellach i sut y gellir annog ysgolion yn benodol i fynd ar drywydd yr opsiwn hwn yng ngoleuni'r ffaith bod BSL wedi cael ei chydnabod yn ffurfiol fel iaith yn ei hawl ei hun. Mae'r pwyllgor hefyd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried creu TGAU mewn BSL. Ar ôl i Mike Hedges godi'r mater hwn, ysgrifennodd y Prif Weinidog blaenorol at Cymwysterau Cymru ynglŷn â'r mater hwn. Roedd yr ymateb yn awgrymu nad yw Cymwysterau Cymru yn ystyried ei bod hi'n bosibl datblygu TGAU o'r fath i'w ddefnyddio yng Nghymru yn unig. Fodd bynnag, ers hynny, mae Llywodraeth y DU wedi nodi ei bod yn ystyried datblygu TGAU mewn BSL. Rydym yn deall bod Cymwysterau Cymru yn agored i fabwysiadu unrhyw TGAU a ddatblygir a byddem yn eu hannog hwy a'r Gweinidog i sicrhau bod hyn yn digwydd yn gyflym er mwyn osgoi sefyllfa lle mae disgyblion byddar yng Nghymru ar ei hôl hi o'u cymharu â'u cymheiriaid yn Lloegr. Roedd mynediad at staff â chymwysterau priodol hefyd yn peri pryder sylweddol i Deffo! Roeddent yn tynnu sylw at nifer o ystadegau, gan gynnwys y ffaith nad yw disgyblion ond yn cael tair awr o gyswllt gydag athro i rai byddar bob wythnos ar gyfartaledd, llai o lawer na'r targed o 270 awr y flwyddyn, a bod nifer sylweddol o athrawon sydd wedi cymhwyso'n briodol yn mynd i ymddeol yn ystod y 15 mlynedd nesaf. Mae Deffo! yn credu bod cynorthwywyr addysgu yn cael eu defnyddio yn lle llawer o'r rhain. Wrth ymateb, cyfeiriodd Gweinidogion at ddyletswyddau awdurdodau lleol i nodi, asesu a darparu ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig. Unwaith eto, fodd bynnag, roedd y pwyllgor yn pryderu nad yw Llywodraeth Cymru yn gwneud digon i wireddu hyn mewn gwirionedd. Nid yw'n glir sut y mae'r Llywodraeth yn sicrhau bod y dyletswyddau hyn yn cael eu gweithredu'n ddigonol yn ymarferol. Yn ein pedwerydd argymhelliad, mae'r pwyllgor yn annog y Llywodraeth i edrych ar broblemau cynllunio'r gweithlu ac ystyried cynaliadwyedd hirdymor y cymorth ar gyfer disgyblion byddar. Mae ymateb y Gweinidog yn cyfeirio at ddarparu arian ychwanegol ac mae hynny i'w groesawu. Fodd bynnag, mae'r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar wedi cyfeirio at hyn fel ateb tymor byr i broblem gynyddol, ac rydym yn annog y Llywodraeth i barhau i ganolbwyntio ar sicrhau bod gan Gymru weithlu addysg sydd wedi'i hyfforddi'n briodol mewn perthynas ag anghenion disgyblion byddar. Elfen olaf y ddeiseb yw galwad am wneud mwy o wasanaethau ac adnoddau yn hygyrch drwy gyfrwng BSL. Dywedodd Deffo! wrth y pwyllgor fod llawer o bobl ifanc fyddar yn methu cael mynediad at wasanaethau sydd â'r addasiadau rhesymol y mae ganddynt hawl iddynt o dan y ddeddfwriaeth gydraddoldeb. Er enghraifft, nododd tystion mai un gweithiwr ieuenctid ar gyfer pobl fyddar a geir drwy Gymru gyfan. Mae Deffo! eisiau i ddefnyddwyr BSL allu cael gafael ar wybodaeth am wasanaethau fel addysg, gofal iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a thrafnidiaeth gyhoeddus yn eu dewis iaith. Dywedasant wrth y pwyllgor fod methu cael mynediad at wasanaethau o'r fath yn eu digalonni. Mae Gweinidogion wedi nodi nad oes gan Lywodraeth Cymru bŵer i ddeddfu mewn perthynas â darparu ieithoedd heblaw'r Gymraeg. Fodd bynnag, mae'r pwyllgor yn credu y bydd ein hargymhelliad blaenorol mewn perthynas â datblygu siarter genedlaethol ar gyfer darparu gwasanaethau ac adnoddau i blant a phobl ifanc fyddar yn helpu i fynd i'r afael â rhai o'r materion hyn os caiff ei datblygu. Gallai fframwaith o'r fath helpu i wella cysondeb y ddarpariaeth ar draws y gwasanaethau cyhoeddus a darparu mwy o atebolrwydd lle nad yw darpariaeth o'r fath yn bodloni safonau addas. Unwaith eto, rwy'n annog y Gweinidog i sicrhau bod hyn yn cael ei ddatblygu mewn ffordd gadarn ac ystyrlon. I gloi, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i Deffo! unwaith eto am gyflwyno'r ddeiseb ac i bawb arall sydd wedi darparu tystiolaeth i'r pwyllgor. Mae'r materion a godwyd yn sgily ddeiseb hon yn niferus ac yn amrywiol, ac maent yn herio pob un ohonom yma i geisio sicrhau bod plant a phobl ifanc byddar Cymru yn gallu cael mynediad at yr addysg a'r gwasanaethau eraill y dylai fod ganddynt hawl iddynt. Rwy'n croesawu ymateb cadarnhaol y Gweinidog i'n hargymhellion, ac rwy'n gobeithio, os cânt eu datblygu, y bydd y camau hyn yn arwain at welliannau ar gyfer plant byddar a'u teuluoedd. Diolch yn fawr. Diolch. Janet Finch-Saunders. Janet Finch-Saunders AC: Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd, ac rwyf am arwyddo. [Arwyddo mewn BSL.] Dyna'r drafferth â chael enw hir. [Arwyddo mewn BSL.] Roedd hynny'n dweud: Janet Finch-Saunders ydw i ac rwy'n dysgu BSL. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae fy nhîm a minnau wedi mwynhau'r pleser o ddysgu BSL. Rydym eisoes wedi pasio'r lefel gyntaf ac erbyn hyn rydym yn astudio ar gyfer y nesaf. Y rheswm am hyn yw oherwydd fy mod yn cydnabod y ffaith bod nifer o'r 7,200 o ddefnyddwyr BSL yng Nghymru yn dibynnu ar BSL fel iaith gyntaf ac rydym yn credu y dylai'r cymorth rydym yn ei gynnig fod yn fwy hygyrch i'r gymuned fyddar. Drwy fy rôl ar y Pwyllgor Deisebau, rwyf wedi bod yn hapus iawn i gefnogi'r achos a gyflwynwyd gan Deffo! i wella mynediad at wybodaeth a gwasanaethau mewn BSL. Yn dilyn y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod BSL fel iaith swyddogol yn 2004, mae'n deg dweud bod y cynnydd wedi bod yn wael. Er bod gennym rai ysgolion arloesi, fel rhan o faes dysgu a phrofiad ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu, mae cryn dipyn o amwysedd ynglŷn â lle mae'r ysgolion hyn a sut y gall plant eraill mewn ysgolion gael mynediad at hyn. Wrth gwrs, mae'n galonogol gweld bod ysgolion anghenion addysgol arbennig yn cael eu cynnwys yn y grŵp treialu. Fodd bynnag, mae'n peri pryder mawr fod BSL yn cael ei chategoreiddio fel iaith ryngwladol, gyda ieithoedd clasurol a modern eraill. Nid yn unig y mae'n anghywir i ni gategoreiddio BSL fel iaith ryngwladol yn yr achos hwn, mae'n tanseilio pa mor angenrheidiol yw'r addysg hon i'r 2,642 o blant byddar yng Nghymru. Fel y cyfryw, hoffwn weld ysgolion yn gwneud defnydd ehangach o BSL fel iaith sy'n gydradd â'r Gymraeg a'r Saesneg. Mae Cymwysterau Cymru wedi diystyru cyflwyno TGAU mewn BSL ar hyn o bryd, gan ddadlau na fydd BSL yn denu digon o ddisgyblion. Er eu bod yn cyfaddef y gallai'r mater fod yn destun ailasesiad yn dilyn casgliadau'r cydweithredu rhwng yr Adran Addysg a phartneriaid BSL, rwy'n credu y dylai Cymru hefyd wneud paratoadau pellach i arloesi'r gwaith o gyflwyno TGAU mewn BSL. Gan roi TGAU i'r naill ochr, o ran adroddiad Comisiynydd Plant Cymru, mae'n hanfodol bod digon o arian ar gael i sicrhau bod rhieni a pherthnasau agos unigolion byddar yn cael hyfforddiant BSL. A wyddoch chi beth? Mae'n hynod eironig fod fy nghyd-Aelod Suzy Davies wedi dweud wrthyf am y datganiad newyddion a nodai fod rhieni plant byddar yn wynebu 'loteri cod post', a bod rhieni plentyn pedwar mis oed sy'n fyddar yn gorfod talu £6,000 am wersi iaith arwyddion os ydynt am gyfathrebu â hi. Mae hynny'n warthus yn yr oes sydd ohoni. Mae anghysondebau o'r fath hefyd yn treiddio i—. O, mae'n ddrwg gennyf. Rwyf wedi neidio ymlaen, mae'n ddrwg gennyf. Yn allweddol, rwy'n credu bod angen gweithredu ar frys i fynd i'r afael â'r anghysondebau yn y gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd. Rwyf wedi gweld yr amrywio rhwng gwahanol awdurdodau lleol â fy llygaid fy hun, ac er enghraifft, cydweithredodd fy nghyd-Aelod, Mark Isherwood, a minnau gyda'r gymuned fyddar yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn dilyn diddymu cymorth ariannol a'r effeithiau negyddol ar y rheini sydd ond yn dymuno cyfathrebu, o ran gwasanaethau cyngor, yn yr unig ffordd y gallant ei wneud. Mae anghysondebau o'r fath yn treiddio i mewn i addysg hefyd, gan fod data a ryddhawyd ym mis Gorffennaf 2018 yn dangos bod saith o bob 18 ymatebwr yn credu nad oedd gwasanaethau arbenigol anghenion addysgol arbennig yn diwallu'r galw presennol am wasanaethau i rai â nam ar y clyw. Mae hyn yn peri pryder, o ystyried bod gan 3,116 o ddisgyblion yr angen cyfathrebu hwn yng Nghymru. Er fy mod yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod bod yna broblemau ac wedi dyrannu £289,000 i gefnogi hyfforddiant proffesiynol i weithlu cymorth synhwyraidd lleol, rwy'n bryderus nad yw hyn yn ddigonol i sicrhau cysondeb eang ar draws y gwasanaeth, yn enwedig pan nad oes ond un gweithiwr ieuenctid ar gyfer pobl ifanc byddar drwy Gymru gyfan. Fel y cyfryw, rwy'n erfyn arnoch i wrando ar argymhellion yr adroddiad hwn ac i ddatblygu siarter genedlaethol ar gyfer darparu gwasanaethau ac adnoddau i blant a phobl ifanc byddar a'u teuluoedd, a hynny ar frys, fel bod gennym feincnod cenedlaethol clir a safon y gall pob sefydliad ac awdurdod weithio tuag ati. Rydym yn ffodus. Gallwn gyfathrebu yma yn y ffordd sydd hawsaf i ni ei wneud. Mae'n hen bryd i'r bobl fyddar yn ein cymuned allu gwneud yr un peth. Diolch yn fawr iawn. Mike Hedges AC: Yn gyntaf oll, a gaf fi ddatgan buddiant gan fod fy chwaer yn fyddar iawn ac yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hefyd, fel llywydd Grŵp Pobl Drwm eu Clyw Abertawe? A chyn i unrhyw un ddweud, 'Pam ddim Iaith Arwyddion Cymru?', mae iaith arwyddion yn ddisgrifiadol. Rydych yn cyfieithu'r arwydd i unrhyw iaith arall rydych yn gyfarwydd â hi. Nid yw'n defnyddio gwyddor, ond mae ganddi arwyddion i ddisgrifio'r hyn y mae rhywun eisiau ei ddweud. Gan droi at argymhelliad 1: 'Dylai Llywodraeth Cymru gefnogi Iaith Arwyddion Prydain fel iaith leiafrifol, ac annog awdurdodau lleol i'w chydnabod fel iaith gyntaf llawer o blant a phobl ifanc byddar wrth ddarparu gwasanaethau addysg a chymorth.' I lawer o blant byddar, iaith arwyddion yw eu hiaith gyntaf, honno yw eu hiaith yn y system addysg a'r ffordd y maent yn siarad ac yn dysgu. Dylid trin iaith arwyddion fel iaith gyfartal yn y system addysg, a heb fod yn wahanol i'r Gymraeg a'r Saesneg. Mae sicrhau bod Iaith Arwyddion Prydain yn cael ei thrin yn gyfartal â'r Gymraeg a'r Saesneg yn fater o gydraddoldeb addysgol. Mae'r Pwyllgor Deisebau wedi dweud felly ein bod yn argymell y dylid sicrhau bod cyfle i ddysgu Iaith Arwyddion Prydain ar gael i blant ar bob lefel o addysg. Yn rhan o hyn, rydym yn annog Llywodraeth Cymru i barhau i archwilio'r posibilrwydd o greu TGAU mewn iaith arwyddion iaith gyntaf gyda Cymwysterau Cymru. Unwaith eto, gobeithiaf y bydd yr argymhelliad hwnnw'n cael ei ddatblygu. Mae'n crynhoi'r hyn sydd ei angen, sef TGAU mewn Iaith Arwyddion Prydain, fel y gellir cydnabod hyfedredd ynddi. Dylid ei thrin yn gyfartal â'r Gymraeg a'r Saesneg fel cymhwyster TGAU. Byddai hyn yn golygu, pan fo swyddi'n galw am radd C neu well mewn Cymraeg neu Saesneg, dylai ddweud 'neu Iaith Arwyddion Prydain' hefyd. Mae hyn yn sicrhau cyfle cyfartal i rai sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain fel eu prif gyfrwng cyfathrebu. Nid y gymuned fyddar yn unig sydd angen Iaith Arwyddion Prydain, ond gweddill y boblogaeth, sydd angen gallu cyfathrebu gydag unigolion byddar. Mae'r ddeiseb yn galw am well mynediad at ddosbarthiadau Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer rhieni a brodyr a chwiorydd i'w helpu i gyfathrebu ag aelod byddar o'r teulu. Yn sicr, mae hwn yn gais rhesymol. Rhieni sy'n gallu clywed sydd gan y mwyafrif helaeth o blant sy'n cael eu geni'n fyddar, neu sy'n mynd yn fyddar yn ifanc iawn o ganlyniad i glefydau fel llid yr ymennydd, clwy'r pennau a'r frech goch. Mae plentyn byddar yn sioc i rieni a brodyr a chwiorydd ac maent eisiau dysgu sut i gyfathrebu â'r aelod byddar o'r teulu fel nad ydynt yn cael eu gadael allan. Trof yn awr at argymhelliad olaf y pwyllgor: 'Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn parhau i ymgysylltu â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar Gynllunio'r Gweithlu ar gyfer gwasanaethau arbenigol AAA, gan ganolbwyntio'n benodol ar athrawon sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc byddar a thrwm eu clyw. Dylai hyn gynnwys ystyriaeth o gynaliadwyedd tymor hwy y gwasanaethau hyn. Fel rhan o hyn, rydym yn cefnogi'r syniad o gyflwyno cymhwyster Iaith Arwyddion Prydain safonol gofynnol ar gyfer cynorthwywyr dysgu sy'n cefnogi plant a phobl ifanc byddar.' Mae hyn yn hynod bwysig, oherwydd os yw pobl yn gweithio gyda phlant byddar, mae'n rhaid iddynt gael o leiaf yr un lefel o iaith â'r plant y maent yn gweithio gyda hwy. Mae pa bynnag gymwysterau a chymorth rydym yn dweud y dylid eu darparu yn ddiystyr os nad oes gennym bobl gymwys i addysgu a chefnogi dysgwyr. Gallwn basio a chytuno ar bob math o bethau yma mewn perthynas â phwysigrwydd y cymorth hwn, ond os nad oes bod gennym bobl sydd wedi cael eu hyfforddi ac sy'n gallu darparu'r cymorth, nid yw'n mynd i ddigwydd. Yn olaf, mae'r ddeiseb yn galw am sicrhau bod gwasanaethau'n hygyrch i bobl ifanc fyddar mewn Iaith Arwyddion Prydain. Dywedodd Deffo! wrth y pwyllgor nad yw llawer o bobl ifanc fyddar yn gallu cael mynediad at wasanaethau a chyfeiriasant at arolwg a oedd yn awgrymu bod y rhan fwyaf o bobl fyddar yn ei chael yn anodd cael mynediad at ofal iechyd megis meddygfeydd meddygon teulu. Mae meddygfeydd sydd ond yn trefnu apwyntiadau dros y ffôn, neu sydd eisiau i gleifion ffonio ac yna'n eu ffonio'n ôl, yn achosi problemau enfawr i bobl fyddar nad ydynt yn gallu gwneud hynny. Rwyf wedi siarad â phobl fyddar sydd wedi mynd i'r feddygfa ac wedi cael gwybod bod yn rhaid iddynt ffonio. Maent yn dweud, 'Wel, ni allaf glywed', a'r ateb yw, 'Wel, dyna'r ffordd rydym yn gweithio.' Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig i feddygfeydd ddangos cefnogaeth, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig i feddygfeydd sylweddoli bod pobl fyddar yn bodoli ac nad yw dweud wrth bawb, 'Ffoniwch, ac fe wnawn eich ffonio'n ôl', yn gweithio i bobl nad ydynt yn gallu clywed. Mae angen gwneud llawer i helpu'r gymuned fyddar. Byddai derbyn yr argymhellion hyn gan y Pwyllgor Deisebau a'u rhoi ar waith yn fan cychwyn da. Yn sicr, ni fyddai'n ddiwedd ar y mater, oherwydd mae'r gymuned fyddar yn teimlo nad ydynt wedi cael eu trin yn deg dros nifer o flynyddoedd. Ac rwy'n siŵr eich bod yn cydnabod hynny, Ddirprwy Lywydd. Ac mae'n bwysig sicrhau ein bod yn dechrau camu i'r cyfeiriad hwnnw yn awr. Siân Gwenllian AC: Mae Iaith Arwyddo Prydain yn iaith bwysig, sydd ddim yn cael ei chydnabod yn ddigonol. Ar hyn o bryd, does dim darpariaeth na hawliau digonol i gefnogi pobl fyddar ar unrhyw gam o’u taith drwy fywyd, gan ddechrau yn y blynyddoedd cyntaf. Mae 90 y cant o blant byddar yn cael eu geni i deuluoedd sy’n clywed. Felly, mae rhieni newydd yn aml heb brofiad o fyddardod, ac yn gorfod dysgu sut i gyfathrebu a chefnogi anghenion penodol eu plentyn o’r newydd. Mae'n syfrdanol nad oes darpariaeth o wersi am ddim ar gael, ac felly'n aml mae'n her i deuluoedd sicrhau cyfleoedd i helpu eu plant. Ac mae'n wir dweud bod hyn yn ffurf ar amddifadedd iaith. Ni ddylai unrhyw blentyn beidio â chael hawl i’w iaith. Mae’n anochel y bydd datblygiad cynharaf plentyn yn cael ei effeithio gan wacter cyfathrebu, efo diffyg gallu cyfathrebu yn arwain at deimladau o fod yn ynysig, sy’n effeithio’n negyddol ar iechyd emosiynol a meddyliol unigolyn, ac o bosib cyfleoedd bywyd ehangach. Dydy pethau ddim yn gwella pan â plentyn byddar i’r ysgol. Mae Deffo! yn dweud, ar gyfartaledd, fod plant byddar sy'n cael eu haddysg yn y brif ffrwd yng Nghymru yn gadael yr ysgol yn 16 oed ag oed darllen o naw mlwydd oed. Yn aml, mae llefaredd a sgiliau darllen gwefus yn wael. Hefyd, mae bwlch cyrhaeddiad cyson wedi bodoli yng nghyrhaeddiad plant byddar o'u cymharu â phlant sy’n siarad, sydd ar ei fwyaf eang yn ystod y cyfnod sylfaen a chyfnod allweddol 2. Ac mae'r bwlch yma'n bodoli oherwydd y rhwystrau y mae'r dysgwyr byddar yn eu hwynebu yn amlach na pheidio. Mae hyn yn destun pryder i'r comisiynydd plant, sydd wedi mynegi bod diffyg ymrwymiad i gau’r bwlch cyrhaeddiad rhwng dysgwyr byddar a’u cyfoedion sy’n clywed yn fater sydd angen sylw gan y Llywodraeth a chan awdurdodau lleol er mwyn sicrhau cefnogaeth briodol ar gyfer anghenion cyfathrebu plant a phobl ifanc sydd yn fyddar, gan gynnwys cyfleoedd dysgu BSL hygyrch a fforddiadwy, ar ystod o lefelau. Ac mae'r diffyg ffocws yma i gael ei weld hefyd o edrych ar awdurdodau lleol, efo dim ond un awdurdod lleol yng Nghymru wedi ymrwymo i siartr BSL Prydeinig gan y British Deaf Association. Felly, mae’n bryd hoelio’r ffocws ar ddatblygu siartr cenedlaethol ein hunain ar gyfer darparu gwasanaethau ac adnoddau cyson i blant byddar a’u teuluoedd. Mae angen i Lywodraeth Cymru ddilyn datblygiad plant byddar a’u teuluoedd drwy’r holl siwrnai addysg, a gwneud yn siŵr bod y ddarpariaeth briodol ar gael achos mae’r ystadegau yn siarad drostyn nhw eu hunain. Ar hyn o bryd, mae gormod o blant byddar sydd yn defnyddio BSL fel iaith gyntaf yn cael eu cefnogi yn yr ysgol gan staff sydd â lefel rhy syml o arwyddo. Ac mae angen meddwl o ddifrif ynglŷn ag ysgogi athrawon i ennill cymwysterau BSL ar y lefelau priodol. Ac i droi, felly, at y cwricwlwm newydd, mae yna gyfle fan hyn i annog llawer mwy o ddefnydd o BSL yn yr ysgolion. Ac fel dŷn ni'n ei wybod, dydy BSL ddim ar gyfer plant byddar yn unig, ac fe allai dysgu BSL yn yr ysgol roi cyfle ychwanegol i blant, ar draws, i ddysgu iaith arall. Wedi ystyried yr holl dystiolaeth, a'r ystadegau, mae’n glir bod gwaith angen ei wneud gennym ni fel gwleidyddion i godi statws pwysigrwydd adnoddau a gwasanaethau BSL, fel bod y gefnogaeth briodol ar gael ar bob lefel, o fabandod hyd at fywyd fel oedolion. Ac mae cyfrifoldeb gan Lywodraeth Cymru hefyd i ateb gofynion y ddeiseb. Diolch. Michelle Brown AC: Diolch i'r Pwyllgor Deisebau am gyflwyno'r ddadl. Hoffwn ddiolch i'r deisebwyr am eu hymdrechion i dynnu sylw at y ffaith nad ydym yn gwneud digon a sut y gallwn wella bywydau pobl fyddar, yn enwedig plant a phobl ifanc. Mae yna lawer o ddeddfau ac egwyddorion cydnabyddedig sy'n ymddangos yn ddi-gwestiwn bellach, ond ni fyddent yn bodoli heb bobl fel Catherine Robins-Talbot a Deffo!, sy'n ymgyrchu'n galed i sicrhau bod pobl nad ydynt wedi cael eu clywed ers blynyddoedd yn cael llais na fydd yn cael ei anwybyddu. Daw'r gymdeithas i wybod am ran o'u cymuned nad oeddent yn gwybod amdani o'r blaen a gwneuthurwyr polisi yn newid o fod yn ddifater i fod wedi’uhargyhoeddi. Buaswn yn annog y Llywodraeth i dderbyn yr holl argymhellion yn yr adroddiad. Gwn fod adnoddau'n gyfyngedig, ond mae'n ymwneud â blaenoriaethau a lle mae pobl fyddar ar restr blaenoriaethau Llywodraeth Cymru fel yr unig bobl yma a all gweithredu ar hyn. Aeth bron i ddwy flynedd heibio ers y tro cyntaf i AS yn San Steffan ofyn cwestiwn i'r Prif Weinidog gan ddefnyddio BSL, mewn ymdrech i gynnwys BSL ar y cwricwlwm cenedlaethol yn Lloegr. Aeth 16 mlynedd heibio bellach ers i BSL gael ei chydnabod fel iaith. Ceir dros 150,000 o ddefnyddwyr BSL yn y DU—ac mae mwy na 87,000 ohonynt yn fyddar. Felly, y cwestiwn i mi yw pam nad yw BSL eisoes ar y cwricwlwm yng Nghymru mewn rhyw ffordd. Pe bai'r deisebwyr yn teimlo bod y ddarpariaeth ar gyfer pobl fyddar yng Nghymru yn foddhaol, ni fyddent wedi mynd i'r drafferth o gyflwyno deiseb i'r Cynulliad ac argymell atebion. Ym mharagraff 20 yr adroddiad gan y Pwyllgor Deisebau, rwy'n nodi bod y Llywodraeth yn dweud mai mater i awdurdodau lleol yw cefnogi teuluoedd pan fo plentyn yn fyddar neu'n drwm ei glyw. Ond mae'n rhaid i mi gwestiynu cysondeb Llywodraeth sy'n datgan ei hawydd yn gyson i gefnogi'r rheini sy'n cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg, ac sy'n gweithredu ar hynny, ond nid y rheini nad oes ganddynt ddewis ond cyfathrebu drwy gyfrwng BSL. Mae ein traddodiad o fod yn gymuned a chymdeithas glos sy'n brwydro yn erbyn helbulon ac annhegwch yn ein gwneud yn falch o fod yn Gymry ac yn Brydeinwyr, a dylai sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael pob cyfle i roi o'u gorau i Gymru, a sicrhau bod Cymru yn rhoi o'i gorau iddynt hwy fod yn rhan yr un mor bwysig o'r profiad o fod yn Gymry ag unrhyw agwedd arall ar ein diwylliant Cymreig balch. Pa reswm yn y byd na ddylai fod rhan o'r cwricwlwm cenedlaethol, hyd yn oed ar lefel sylfaenol, fel bod ein holl bobl ifanc yn gwybod bod BSL yn bodoli ac yn cael cyfle i'w hastudio fel opsiwn TGAU iaith, a fydd yn ôl pob tebyg yn cynnig mwy o bethau cadarnhaol i'n cymdeithas a'n cymunedau na rhai opsiynau iaith eraill? Ni ddylid ystyried byddardod a dibyniaeth ar BSL fel angen dysgu ychwanegol. Nid oes gan ddefnyddwyr BSL anhawster dysgu. Yr unig anhawster y maent yn ei wynebu yw'r ffaith nad oes digon o'r boblogaeth sy'n gallu clywed yn deall yr iaith y maent yn ei siarad a'n bai ni yw hynny nid eu bai hwy. Nid hwy ddylai orfod wynebu canlyniadau negyddol cymdeithas sy'n dewis peidio ag ymwneud â hwy i bob pwrpas, a bydd methiant i gefnogi'r argymhellion yn llawn yn gyfystyr â dweud, 'Rydych ar eich pen eich hun. Gobeithiwn fod gennych rieni cyfoethog sy'n gallu fforddio'r cymorth ychwanegol rydych ei angen, oherwydd ni chewch fawr ddim os o gwbl gennym ni.' Rydym wedi gweld deddfwriaeth yn cael ei phasio ar gyfer ardaloedd chwarae cynhwysol, lle gall plant ag anableddau corfforol chwarae ochr yn ochr â phlant heb anableddau corfforol, a rhan o'r cyfiawnhad dros ariannu'r rheini oedd y bydd yn codi ymwybyddiaeth o anabledd ac na ddylai fod yn broblem yn y Gymru fodern. Yn sicr, gellir cyflawni'r un peth ar gyfer plant byddar, pe bai BSL yn cael ei chyflwyno i bob plentyn yn yr ysgol. Faint o blant byddar sy'n osgoi defnyddio mannau chwarae oherwydd yr anawsterau y maent yn eu hwynebu pan fydd plentyn chwareus arall yn ceisio siarad â hwy? Faint yn fwy o blant byddar a fyddai'n cael cyfarfod a chwarae â phlant sy'n gallu clywed, ac ehangu eu cylch o ffrindiau, pe bai BSL sylfaenol iawn hyd yn oed ar y cwricwlwm cenedlaethol? Pwy all ddychmygu'r canlyniadau cadarnhaol y byddai hynny'n eu rhoi i blant byddar yn ddiweddarach mewn bywyd? Mae llawer o bolisïau a deddfau wedi'u creu i sefydlu hawliau cyfartal i nifer o grwpiau eraill, ond ymddengys nad oes gennym yr un hawliau cyfartal ar gyfer pobl fyddar. Mae'r bobl ifanc hyn ein hangen ni, ac rydym ni angen eu doniau hwy, doniau na wnaed defnydd teg ohonynt ers gormod o amser. Byddai Cymru'n elwa, a byddai pobl fyddar yn elwa pe baem yn agor ein llygaid i weld yr hyn sydd ganddynt i'w ddweud. Dyna pam fy mod yn cefnogi argymhellion yr adroddiad hwn a gobeithiaf y bydd y Llywodraeth yn newid ei hymateb ac yn derbyn argymhelliad 3 yn ddiamwys ac yn gweithredu argymhellion yr adroddiad yn ddi-oed. Diolch. Neil McEvoy AC: Diolch i Deffo! ac i'r rhai a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor ac i Stuart Parkinson yn ogystal am e-bostio. Diolch hefyd i Dwylo Creadigol Byddar Caerdydd. Ymwelais â hwy unwaith ac roedd yn brofiad hynod addysgiadol a phleserus. Nid wyf yn credu bod y gymuned fyddar yn cael chwarae teg. Credaf eu bod yn cael eu heithrio i raddau helaeth. Pan lansiais grŵp Propel yn yr hydref—neu yn yr haf, mewn gwirionedd—fe wnaethom yn siŵr fod gennym rywun yn arwyddo, yn ogystal â chyfieithu. Wrth wrando ar yr hyn a ddywedwyd yn gynharach, a'r ffaith nad oes ond un gweithiwr ieuenctid yng Nghymru gyfan—un—mae'n anghredadwy nad oes ond un gweithiwr ieuenctid sy'n rhugl yn Iaith Arwyddion Prydain. Mae'n warthus, mewn gwirionedd. A 'Cwricwlwm i Gymru, cwricwlwm am oes'—holl bwrpas datganoli, holl bwrpas datblygu sefydliadau Cymreig yw bod yn wahanol, bod yn deg, bod yn arloesol, ac mae gennym 'Cwricwlwm i Gymru' yn dweud nad ydynt eisiau, neu nad ydynt yn mynd o wneud iaith arwyddion yn gymhwyster, sy'n gwbl anghywir, a dylid gwneud penderfyniad gwleidyddol i gywiro hynny. Mae problem yn codi gyda hyfforddiant i athrawon yn ogystal. Rwy'n deall nad ydynt ond yn cyrraedd lefel 3; nid ydynt yn cael hyfforddiant pellach. Nid yw athrawon plant byddar yn cael mynediad at yr holl ddulliau addysgu. Maent newydd gael gwared ar y cwrs ar gyfer athrawon y byddar ym Mhrifysgol De Cymru. Mae yna broblem fawr hefyd o ran diffyg Iaith Arwyddion Prydain a'r blinder sy'n effeithio ar ddisgyblion ysgol sy'n gorfod darllen gwefusau gydag anhawster. Rwy'n cefnogi'r argymhellion. Rwy'n credu y dylai Iaith Arwyddion Prydain fod yn iaith leiafrifol. Dylai fod ar y cwricwlwm cenedlaethol a dylid creu siarter. A hoffwn wahodd y Gweinidog i ymweld â Dwylo Creadigol Byddar Caerdydd yn y ddinas hon i weld y waith da sy'n cael ei wneud, ac efallai y gallech ddod gyda mi, neu gyda'r Aelodau rhanbarthol eraill, ac rwy'n siŵr y byddai AC yr etholaeth yn dod hefyd. Yr hyn yr hoffwn i chi ei wneud y prynhawn yma yw ymrwymo i weithredu argymhellion yr adroddiad hwn. Diolch. [Arwyddo mewn BSL.] Mark Isherwood AC: Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Deffo! Fforwm Ieuenctid Byddar Cymru i wella mynediad at addysg a gwasanaethau mewn Iaith Arwyddion Prydain: sicrhau mwy o gyfleoedd i deuluoedd ddysgu BSL; ychwanegu BSL at y cwricwlwm cenedlaethol; gwella mynediad at addysg drwy gyfrwng BSL ar gyfer plant a phobl ifanc; a darparu gwell mynediad at wasanaethau mewn BSL, megis iechyd, addysg, gofal cymdeithasol a thrafnidiaeth gyhoeddus. Iaith Arwyddion Prydain yw pedwaredd iaith frodorol y DU, a chafodd ei chydnabod fel iaith yn ei hawl ei hun yn 2003, ac mae ymgyrchwyr yn galw am sicrhau bod defnyddwyr BSL i'r byddar yn cael eu hystyried yn grŵp iaith leiafrifol. Ar hyn o bryd, ceir plant byddar mewn addysg brif ffrwd yng Nghymru heb fynediad llawn at gymorth cyfathrebu a chyfoedion byddar eraill. O ganlyniad, maent yn gadael yr ysgol yn 16 oed gydag oedran darllen cyfartalog o naw oed. Yn aml hefyd, mae eu sgiliau llafar a'u sgiliau darllen gwefusau yn wael, rhywbeth nad yw wedi newid ers y 1970au, ac mae methiannau addysg gynyddol brif ffrwd yn gwaethygu hyn. Cyfyngedig yw mynediad teuluoedd at grwpiau cymorth a theuluoedd tebyg eraill, ac nid ydynt yn gallu dysgu BSL oni bai eu bod yn gallu fforddio'r costau uchel. Nid oes unrhyw gyfle i blant a phobl ifanc byddar na'u teuluoedd ddysgu eu hiaith eu hunain, BSL, nac ennill cymwysterau BSL hyd nes eu bod yn 16 mlwydd oed, pan fyddant yn gadael yr ysgol. Maent wedi eu hamddifadu o sgiliau bywyd pwysig, sgyrsiau newid bywyd o fewn y cartref a newyddion lleol a byd-eang. Fis diwethaf, cyhoeddodd y Gweinidog addysg fod ieithoedd tramor modern yn cael eu cynnwys o fewn ieithoedd rhyngwladol yn y cwricwlwm, ac y byddai hyn hefyd yn cynnwys BSL. Fodd bynnag, nid yw BSL yn iaith dramor, mae'n iaith frodorol. Er bod y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar wedi datgan eu bod yn derbyn y bydd strwythur y cwricwlwm newydd yn hwyluso gallu ysgolion i ddysgu BSL drwy'r cwricwlwm newydd, maent wedi datgan eu bod yn credu y gallai Llywodraeth Cymru fynd ati'n weithredol i annog ysgolion i fynd ar drywydd yr opsiwn hwn. Aethant ymlaen i ddweud bod annog mwy o ysgolion i ddysgu BSL yn hollbwysig, o ystyried ei statws fel iaith swyddogol yng Nghymru. Dywedasant fod gormod o blant byddar sy'n ddefnyddwyr BSL iaith gyntaf yn cael cymorth mewn ysgolion ar hyn o bryd gan staff heb fwy na lefel sylfaenol iawn o iaith arwyddion. Maent yn siomedig iawn na dderbyniwyd argymhelliad gan y comisiynydd plant y dylid sicrhau bod mynediad at BSL ar gael i bob teulu sydd â phlant byddar, ac roeddent yn dweud bod angen neges gryfach hefyd i sicrhau bod awdurdodau lleol yn dechrau ystyried darpariaeth ar gyfer dysgu BSL fel rhan o'u dyletswydd i ddiwallu anghenion dysgu ychwanegol plant byddar, gan nad oedd hyn yn digwydd ar hyn o bryd, meddent. Mewn ymateb, dywedodd Deffo! Cymru mai dim ond y rheini sydd yn yr ysgol uwchradd sy'n elwa o'r TGAU, ond bydd dysgu o'r dosbarth meithrinyn paratoi pob un o'r rhai fydd yn gwneud TGAU mewn BSL yn y dyfodol, neu yn wir, y system gyfredol o Gymwysterau BSL. Er eu bod yn croesawu gweledigaeth y Gweinidog addysg ar gyfer addysgu ieithoedd mewn ysgolion, maent yn bryderus mai dewis yr ysgol ydyw, nid dewis y plentyn, er mwyn eu galluogi i wella mynediad at ddysgu, addysg bellach, sgiliau cymdeithasol, gweithgareddau hamdden, cyflogaeth a chyflawniadau bywyd. Ddeuddeng niwrnod yn ôl, ymwelais â grŵp trefnu cymunedol Cymru yn Ysgol St Christopher yn Wrecsam, ar eu cais, i drafod eu gwaith ar archwilio'r posibilrwydd y gallai Cymru ddilyn esiampl yr Alban a chynnwys BSL yn y cwricwlwm. Mae etholwyr byddar yng ngogledd Cymru wedi e-bostio'n dweud: mae pobl fyddar rwy'n eiriolwr drostynt yn dioddef ledled Cymru ac mae llawer mewn argyfwng iechyd meddwl, gan ychwanegu bod Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain ar flaen y gad yn brwydro am gydnabyddiaeth gyfreithiol i BSL yng Nghymru, ac mae'n gofyn i awdurdodau lleol a gwasanaethau cyhoeddus lofnodi eu siarter ar gyfer BSL, a gwneud pump addewid i wella mynediad a hawliau ar gyfer defnyddwyr BSL. Mae gennym siarter eisoes—gadewch i ni ei defnyddio—ond ar hyn o bryd, dau yn unig o awdurdodau lleol Cymru sydd wedi llofnodi. Fis Hydref diwethaf, gelwais ar Lywodraeth Cymru i ymateb i alwadau am ddeddfwriaeth BSL yng Nghymru a wnaed yng nghynhadledd Clust i Wrando 2018 gogledd Cymru, gan edrych ar Ddeddf BSL yr Alban 2015 a'u cynllun BSL cenedlaethol ar gyfer 2017 a sefydlodd grŵp cynghori cenedlaethol yn cynnwys hyd at 10 o bobl fyddar sy'n defnyddio BSL fel eu dewis iaith neu eu hiaith gyntaf. Er bod Deddf Cymru 2017 yn gwneud cyfle cyfartal yn fater a gedwir yn ôl i Lywodraeth y DU, byddai Bil BSL (Cymru) yn cydymffurfio pe bai'n ymwneud â'r eithriadau a restrir yn y Ddeddf. Heb ddeddfwriaeth sy'n seiliedig ar hawliau penodol, nid yw deddfwriaeth generig Llywodraeth Cymru yn mynd i unman. Diolch. A gaf fi yn awr alw ar y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams? Kirsty Williams AC: Lywydd, rwy'n falch iawn ein bod yn cael y ddadl hon heddiw. [Arwyddo mewn BSL.] A hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am eu gwaith yn y maes hwn ac am ei adroddiad a'i argymhellion. Ysgrifennais at y Cadeirydd fis Tachwedd diwethaf gydag ymateb Llywodraeth Cymru, felly nid wyf yn bwriadu ailadrodd yr ymateb hwnnw'n fanwl y prynhawn yma. Ond i fod yn gwbl glir, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhellion yr adroddiad, naill ai'n llawn, neu yn achos un argymhelliad, mewn egwyddor, oherwydd bod yr argymhelliad hwnnw'n ymwneud â mater cymwysterau ar lefel TGAU. Mae gan Lywodraeth Cymru gorff cymwysterau annibynnol ac fel y mae'r Aelodau wedi'i grybwyll, mae rhywfaint o waith eisoes wedi cael ei wneud gyda Cymwysterau Cymru mewn perthynas â TGAU. Penderfynwyd na fyddai TGAU annibynnol i Gymru yn ymarferol, ond y gallai TGAU Cymru a Lloegr ddwyn ffrwyth yn sicr. Yn y cyfamser, mae'n bwysig cydnabod bod cymwysterau cyfatebol ar lefel 1 a lefel 2 ar gael, a bod y cymwysterau hynny'n cyfrif tuag at fesur atebolrwydd ysgolion. Ond byddaf yn ysgrifennu at Cymwysterau Cymru i gael y newyddion diweddaraf am y gwaith y maent yn ei wneud ar y cyd â byrddau arholi yn Lloegr, a byddaf yn hapus i roi copi o'r llythyr hwnnw yn y llyfrgell. Cydnabu Llywodraeth Cymru Iaith Arwyddion Prydain yn ffurfiol fel iaith yn ei hawl ei hun yn 2004, a fi fyddai'r cyntaf i gydnabod y gellid gwneud mwy i ddatblygu dull cydgysylltiedig o hyrwyddo a chefnogi BSL, ac mae gwaith yn mynd rhagddo i gydnabod hyn. Rydym yn parhau i roi sylw i'r problemau a'r anawsterau y mae aelodau o'r gymuned fyddar yng Nghymru yn eu hwynebu. Mae hyn yn cynnwys cefnogi hyfforddiant i gynyddu nifer y dehonglwyr cymwysedig yng Nghymru, ac rydym wrthi'n tendro am adolygiad o'r ddarpariaeth BSL ar gyfer oedolion yng Nghymru, a daw adroddiad yr adolygiad i law ym mis Mehefin. Rydym yn ymwybodol fod y ddarpariaeth bresennol yn gyfyngedig. Mae'n gyfyngedig o ran y cynnig, mae'n gyfyngedig o ran mynediad a'r gallu i'w ddarparu hefyd. Er hynny, yr hyn sy'n bwysig yn y pen draw yw fy mod eisiau datblygu system deg a chyfiawn. Felly, bydd yr adolygiad hwnnw'n edrych ar y ddarpariaeth bresennol. Byddwn hefyd yn edrych ar y galw cudd am ddarpariaeth BSL ar gyfer oedolion yng Nghymru, pa ffactorau sy'n hwyluso ein Deddf fel rhwystr i'r galw hwnnw, ac a fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried BSL fel sgil cyfathrebu hanfodol, ac fel y cyfryw, faint fydd cost ei ddarparu i lefel 2 ac a oes gennym weithlu i'w ddarparu i lefel 2. Felly, bydd y gwaith hwn yn parhau, ac fel y dywedais, cyflwynir adroddiad yn ei gylch ym mis Mehefin. Kirsty Williams AC: Mae siarter genedlaethol ar gyfer darparu gwasanaethau ac adnoddau i blant a phobl ifanc byddar a'u teuluoedd yn un o'r opsiynau rydym yn eu hystyried. Rydym yn rhagweld y byddai'r siarter honno, rhwng Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill, yn ein helpu i ddeall y ddarpariaeth bresennol. Byddai hefyd yn adlewyrchu'r canllawiau arferion da a'r safonau sy'n cael eu datblygu ar fyddardod a cholli clyw i gefnogi'r gwaith o weithredu ein Deddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant. Yn hollbwysig, byddai hefyd yn ein helpu ni i fynd i'r afael â'r prinder dehonglwyr a thiwtoriaid ar hyn o bryd. Er mwyn cynorthwyo awdurdodau lleol ymhellach i gynllunio eu gweithlu a nodi anghenion hyfforddi, rydym wedi cyhoeddi data, a gomisiynwyd gennym oddi wrth Uned Ddata Cymru, i ddarparu gwybodaeth am weithlu arbenigol awdurdodau lleol. Yn sicr, mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am sicrhau bod BSL ar gael i blant y nodwyd eu bod ei hangen. Fodd bynnag, bydd y cwricwlwm newydd, y byddwn yn ei gyflwyno o fis Ebrill ymlaen, yn caniatáu i ysgolion ddatblygu cwricwla sy'n ateb anghenion ac yn adlewyrchu diddordebau eu disgyblion. Bydd maes dysgu a phrofiad ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu, sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd, yn cwmpasu ystod eang o ieithoedd, gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain, iaith nad wyf erioed wedi'i disgrifio fel 'iaith dramor'. Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru), a gyflwynwyd y llynedd, yn rhoi mantais i ni hefyd. Bydd yn sicrhau gwelliannau i blant ag anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys y rhai â nam ar y clyw. Mae tegwch a chydraddoldeb yn greiddiol i'r Ddeddf, ac mae'n anelu i sicrhau bod pob dysgwr yn cael ei gynorthwyo i gyrraedd ei botensial llawn, beth bynnag yw'r potensial hwnnw. Disgwylir y bydd y Ddeddf yn dod i rym ym mis Medi 2020, a bydd y cyfnod cyflwyno fesul cam yn para tan 2023. Tan hynny, mae'n rhaid i awdurdodau lleol sicrhau eu bod yn parhau i gydymffurfio â'r dyletswyddau a osodwyd arnynt gan Ddeddf Addysg 1996, a'r cod ymarfer anghenion addysgol arbennig ar gyfer Cymru. Ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth, rwyf hefyd yn gweithio i godi lefelau cyrhaeddiad dysgwyr ag anghenion ychwanegol. Dylid nodi anghenion yn gynnar a dylid mynd i'r afael â hwy yn gyflym fel bod pawb yn cael cyfle, fel y dywedais, i gyrraedd eu potensial. Rwyf eisiau i bob disgybl allu mwynhau eu haddysg, i fod yn uchelgeisiol ac i lwyddo beth bynnag y maent yn dewis ei wneud, a dyna pam rydym wedi datblygu rhaglen drawsnewid ynghyd â'r Ddeddf ADY, oherwydd ni fydd unrhyw beth yn llai na thrawsnewidiol yn dderbyniol.Rwyf wedi ymrwymo £20 miliwn i hyn dros gyfnod y Cynulliad hwn i ddarparu cymorth, cyngor a her i awdurdodau lleol, ysgolion, lleoliadau blynyddoedd cynnar a sefydliadau addysg bellach wrth iddynt baratoi i weithredu'r diwygiadau ADY. Bydd cyfran sylweddol o'r £20 miliwn o gyllid yn mynd tuag at ddatblygu'r gweithlu. Yn unol â'n cenhadaeth genedlaethol ar gyfer addysg, rwyf wedi dyrannu £289,000 dros dair blynedd i gefnogi hyfforddiant proffesiynol i weithlu cymorth synhwyraidd yr awdurdodau lleol. Mae'r cyllid hwn yn cynnwys hyfforddiant BSL ar amrywiol lefelau, a hyfforddiant ôl-raddedig i athrawon y byddar. Rydym hefyd yn datblygu dull cenedlaethol o weithredu dysgu proffesiynol gydol gyrfa—dull sy'n adeiladu capasiti addysgwyr o bob math, gan gynnwys staff cymorth addysgu, athrawon dosbarth ac arweinwyr ysgolion. Yr hydref diwethaf, buom yn ymgynghori ar safonau proffesiynol drafft ar gyfer cynorthwyo addysgu, ac rydym yn disgwyl y byddant yn barod ym mis Medi eleni. Mae dysgu proffesiynol gydol gyrfa yn un o bum dimensiwn y safonau hyn, ac mae'n berthnasol er mwyn ateb anghenion pob dysgwr. Cyfeirir at bwysigrwydd hyn yn y gwerthoedd a'r ymagweddau trosfwaol a ddaw gyda'r safonau. Rydym wedi sicrhau bod cyfrifoldebau penaethiaid i hwyluso hyn wedi'u cynnwys yn eu safonau arweinyddiaeth ffurfiol. Mae ein blaenoriaethau i godi safonau, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad ar gyfer pob myfyriwr a meithrin hyder y cyhoedd yn ein system addysg yn ganolog i'n gweledigaeth a'n gweithredoedd ar gyfer addysg yng Nghymru. Caiff pob un o'r diwygiadau rydym yn gweithio arnynt gyda'n gilydd eu gyrru gan y tair blaenoriaeth, a bydd eu cyflawni'n sicrhau bod ein holl ddysgwyr a'n holl athrawon yn cael eu cefnogi i fod y gorau y gallant fod. Rwy'n hapus iawn, Lywydd, i ddarparu'r wybodaeth ddiweddarafi'r Cynulliad pan ddaw'r adroddiad a gomisiynwyd i law. A gaf fi orffen drwy ddweud fy mod yn hapus iawn i gefnogi Iaith Arwyddion Prydain? [Arwyddo mewn BSL.] Diolch yn fawr iawn. A gaf fi alw ar David Rowlands i ymateb i'r ddadl? David J Rowlands AC: Hoffwn ddiolch i'r Aelodau a gyfrannodd at y ddadl hon. Rwy'n ymddiheuro am fethu ymateb i'r Aelodau'n unigol, ond mae'r amser sydd ar gael yn gyfyngedig iawn. Felly, rwyf am ganolbwyntio ar ymatebion y Gweinidog. Mae'n braf iawn gwybod y gallwch gael lefelau 1 a 2 mewn BSL, ac mae hefyd yn braf canfod bod yna gronfa o £20 miliwn bellach yn cael ei rhoi—ond eto, yn anffodus, i gynghorau lleol heb fod rhan ohono wedi'i neilltuo. Felly, mae'n gwbl amlwg nad yw llywodraeth leol yn bod mor gyfrifol ag y dylai fod a'u bod yn amlwg yn methu darparu cyfleoedd BSL. Janet Finch-Saunders AC: A gaf fi ofyn cwestiwn? David J Rowlands AC: Cewch, wrth gwrs. Janet Finch-Saunders AC: Diolch ichi am dderbyn fy nghwestiwn. Fy nghwestiwn yw—. Mae fy nhîm a minnau wedi gallu cael hyfforddiant BSL drwy'r fan hon, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a'n tîm datblygu staff, a hoffwn gofnodi fy niolch iddynt. A fyddech yn cytuno, mewn gwirionedd, ei bod hi'n ddyletswydd ar bob un ohonom fel Aelodau i ystyried dysgu BSL efallai? Mae'r tîm datblygu staff yma yn fwy na pharod i ddarparu hyn. Credaf y dylai pawb ohonom fod yn hyfedr ein hunain wrth inni symud ymlaen. Diolch. David J Rowlands AC: Wel, rwy'n cytuno'n llwyr â chi, Janet, ar y sail honno, ond rydym yn sôn yma am addysg ar sail ehangach o lawer, a'r hyn rydym yn sôn amdano, mewn gwirionedd, yw darparu BSL i blant yn arbennig o fewn y system addysg, a'r gwir amdani yw nad oes unrhyw lwybr penodol i'r plant hyn ei ddilyn. A diolch i'r Gweinidog am ei bod yn dweud ein bod yn mynd ar drywydd y posibilrwydd o TGAU mewn BSL, ond rydych yn dilyn o'r hyn y mae Lloegr yn ei wneud. Nawr, rydym i fod i fod yn arloesol yng Nghymru ac yn sicr, dylem fod ar flaen y gad ar y sail honno. Felly, i gloi, Lywydd, rwy'n gobeithio bod y ddadl hon a'r broses ddeisebau yn gyffredinol wedi bod yn brofiad cadarnhaol i Deffo! a'u cefnogwyr, a diolch iddynt unwaith eto am eu hymwneud â'r pwyllgor a'r Cynulliad cyfan. Gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi ystyriaeth bellach i'r pwyntiau ychwanegol a godwyd gan y pwyllgor a chan Aelodau eraill sydd wedi siarad y prynhawn yma, ac yr eir ar drywydd yr holl argymhellion a wnaed gan y pwyllgor. Diolch yn fawr. Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Diwydiant Dur Eitem 6 ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) ar y diwydiant dur, a galwaf ar David Rees i wneud y cynnig. David. Cynnig NDM6950 David Rees, John Griffiths, Bethan Sayed, Russell George, Suzy Davies, Jayne Bryant, Huw Irranca-Davies, Caroline Jones Cefnogwyd gan Alun Davies,Dawn Bowden, Jack Sargeant, Mike Hedges, Vikki Howells Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu'r buddsoddiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru i gefnogi dyfodol cynaliadwy i'r diwydiant dur yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf. 2. Yn cydnabod yr heriau sy'n wynebu diwydiant dur Cymru yn dilyn ymadawiad y DU â'r UE. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i gefnogi sector dur Cymru sy'n ddiwydiant allweddol i economi Cymru. 4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i fynd i'r afael â chostau uchel ynni sy'n wynebu'r sector dur yn y DU o'i gymharu â chostau trydan yn yr UE. Cynigiwyd y cynnig. David Rees AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig yn fy enw i. Fel y gŵyr yr Aelodau, y gwaith dur ym Mhort Talbot yw curiad calon fy etholaeth i, fy nhref enedigol, ac mae'r ffwrneisi chwyth yn anadlu'r tân a ddaw o'r ddraig Gymreig hon. I fod yn onest, ni allaf ddychmygu nenlinell Port Talbot heb y ffwrneisi chwyth hynny'n rhan ohoni. Dyna yw hi wedi bod erioed i mi. Felly, mae dur yn rhan o fy DNA ac yn agos iawn at fy nghalon. Ddirprwy Lywydd, mae'n teimlo fel ddoe pan oeddem yn trafod dyfodol y diwydiant dur yng Nghymru yma yn y Siambr—ac rwy'n cofio, yn y Siambr yn Nhŷ Hywel, pan gawsom ein galw yn ôl—ond mae bron i dair blynedd er pan oedd y diwydiant yn y sefyllfa enbyd honno. Roedd Tata ar werth, yn ystyried cau gweithfeydd Port Talbot, ac roedd y marchnadoedd byd-eang yn taro cynhyrchwyr dur—pob un ohonynt—yn galed. A heddiw, rwy'n falch o ddweud bod y diwydiant mewn sefyllfa well. Rhaid canmol camau gweithredu Llywodraeth Cymru i gyrraedd y pwynt hwn. Hefyd, gwelsom Tata yn buddsoddi yn eu gweithfeydd, gan gynnwys Port Talbot. Heddiw ddiwethaf cawsom gyhoeddiad gan y cyngor lleol yng Nghastell-nedd Port Talbot ynglŷn â chymeradwyo cynlluniau i leihau allyriadau llwch yn y ffatri. Mwy o fuddsoddi yn y gwaith ym Mhort Talbot. Ond mae hefyd yn edrych ar wella sgiliau ac adeiladu'r gweithlu yn ogystal, gan gynnwys rhaglen brentisiaethau fywiog yn y gwaith hwnnw—arwydd clir fod gan Tata hyder yn nyfodol ein gwaith dur. Mae'r diwydiant dur yng Nghymru, nid yn unig ym Mhort Talbot, yn rhan hanfodol o economi Cymru, a rhaid inni ei warchod. David Rees AC: Fodd bynnag, er ein bod wedi gobeithio bod dyfodol dur yn ddiogel yn dilyn gweithredoedd y sector a Llywodraeth Cymru, rydym bellach yn wynebu adegau mwy heriol. Mae'r costau ynni uchel yn parhau i greu heriau economaidd anodd o fewn y diwydiant, ac yn awr mae ansicrwydd Brexit yn gwneud yr heriau hynny'n fwy ac yn ddyfnach. Mae'n hollbwysig i bob plaid weithio gyda'i gilydd ar yr adeg hon i sicrhau dyfodol y diwydiant dur wrth iddo wynebu cyfnod ansicr unwaith eto, a sicrhau ein bod yn diogelu economïau lleol Port Talbot, Llanelli, Caerdydd, Casnewydd a Shotton, heb sôn am ddiogelu ein nenlinellau diwydiannol. Yn ystod y cyfnod anodd diweddar sydd wedi wynebu ein cymunedau dur, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi canolbwyntio ar sicrhau dyfodol llwyddiannus a chynaliadwy i'r diwydiant dur yng Nghymru, un sy'n targedu cadw cynhyrchiant dur a swyddi dur. Maent wedi buddsoddi ym mhob un o'r tri phrif gynhyrchwr dur, wedi darparu cymorth ar gyfer ymchwil a datblygu, wedi rhoi ymrwymiad i ddatgarboneiddio, ac wedi parhau i roi cymorth i weithwyr. Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi dangos na fydd yn cefnu ar y diwydiant dur yma yng Nghymru. Fodd bynnag, ni all Llywodraeth Cymru ddatrys yr heriau i'r sector gan Brexit a chostau ynni uchel. Mae'n bryd bellach i Lywodraeth y DU roi ymrwymiad i gynhyrchwyr dur a'u gweithwyr. Maent eisiau sicrwydd na chaiff y diwydiant dur ei anghofio yn ystod Brexit ac y bydd Llywodraeth y DU o'r diwedd yn gwireddu ei haddewidion ynglŷn â mynd i'r afael â'r gwahaniaeth rhwng costau ynni yn y DU ac yn yr UE. Dyma'r meysydd y byddaf yn canolbwyntio arnynt heddiw, ond rwy'n siŵr y bydd mwy. Fel arall, fe fyddaf yma drwy'r prynhawn. Nid wyf yn bwriadu gwneud hynny, Ddirprwy Lywydd. Gwta bythefnos yn ôl, mynychodd cynhyrchwyr dur a chynrychiolwyr undebau llafur gyfarfod y grŵp dur trawsbleidiol yma yn y Cynulliad a gadeirir gennyf. Yn y cyfarfod hwnnw, clywsom dystiolaeth ddamniol gan y sector am yr anfanteision y maent yn eu hwynebu bob dydd mewn perthynas â chostau ynni. Gwaethygwyd hyn ymhellach yr wythnos hon gan adroddiad blynyddol UK Steel ar gostau ynni yma yn y DU o gymharu â Ffrainc a'r Almaen. Yn 2017, ymrwymodd maniffesto'r Torïaid Lywodraeth San Steffan i geisio darparu'r costau ynni isaf yn Ewrop ar gyfer defnyddwyr domestig a diwydiannol. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae'r diwydiant yn dal i aros. Yn 2018, rhyddhaodd yr un Lywodraeth Dorïaidd ei strategaeth ddiwydiannol, a oedd unwaith eto'n addo gwneud y DU yn lle gorau ar gyfer dechrau a thyfu busnes, ac eto is-destun yn y ddogfen honno oedd dur. Cafwyd peth gweithredu ers hynny o ran effeithlonrwydd ynni. Fodd bynnag, ni fydd unrhyw wella a wneir ar effeithlonrwydd ynni yn gwneud iawn am orfod talu 50 i 100 y cant yn fwy am eich trydan na'ch cystadleuwyr. Yn ein grŵp trawsbleidiol, dywedwyd wrthym fod costau ynni yn y DU 110 y cant yn uwch na Ffrainc a 55 y cant yn uwch na'r Almaen. Ceir pryderon fod hyn yn mynd i waethygu yn hytrach na gwella. Roedd angen cymorth o £65 y MWh i gau'r bwlch sydd yno heddiw, heb sôn am beth allai ddigwydd yn y dyfodol. Rydym wedi dadlau ers blynyddoedd lawer mai'r cyfan y mae ein gweithwyr dur yn gofyn amdano yw chwarae teg, er mwyn eu gwneud yn gystadleuol mewn marchnad fyd-eang. Yn fy marn i, ein gweithwyr dur yw'r gorau yn y byd, ac mae eu hymrwymiad i'r diwydiant dros y blynyddoedd diwethaf yn dangos y gallant chwarae eu rhan. Ond maent angen i Lywodraeth y DU wneud eu rhan yn awr. Maent am i Lywodraeth y DU ymateb i adroddiad UK Steel ar gostau ynni. Mae hwnnw'n amlinellu naw mesur i Lywodraeth y DU eu gweithredu ar unwaith er mwyn rhoi cyfle teg i'r diwydiant mewn economi fyd-eang sy'n newid. Er mwyn rhoi cymhelliant i Lywodraeth y DU weithredu, gwnaeth pum cwmni dur mwyaf y DU ymrwymiad pendant ac uniongyrchol y byddai'r holl arbedion ar gostau trydan yn cael eu buddsoddi'n ôl yn y diwydiant yn y DU, gan wneud y gost yr un fath â'r Almaen, a sicrhau £55 miliwn o fuddsoddiad y flwyddyn y tu hwnt i fusnes fel arfer. Dyna gynnydd o 30 y cant. Gyda'r ymrwymiad hwn gan y sector dur, i mi, mae'n gwbl amlwg y dylai Llywodraeth y DU ddangos yr un ymrwymiad. Byddai cyllid o'r fath yn darparu cyllid ymchwil a datblygu hanfodol ar gyfer y diwydiant yn y blynyddoedd i ddod, yn enwedig gan y byddwn yn gweld colli tua £40 miliwn y flwyddyn o'r grant ymchwil glo a dur a weinyddir gan yr UE, a fydd, fel y soniais yr wythnos diwethaf, yn cael ei ad-dalu i Drysorlys Llywodraeth y DU. Talwyd yr arian hwn i'r UE gan y diwydiant dur a glo ac mae'n arian y mae ganddynt hawl iddo a dylent gael mynediad llawn ato, ac eto mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod clustnodi hwn ar gyfer y diwydiannau hynny. Mae ymchwil a datblygu'n hanfodol wrth inni symud ymlaen i sicrhau ein bod yn aros ar y blaen i gystadleuwyr byd-eang. Yn y DU, rydym wedi gweld cynlluniau ymchwil a datblygu gwych yn mynd rhagddynt, yn enwedig yma yng Nghymru, ac rwy'n siŵr y bydd cyd-Aelodau am sôn am beth o hynny, yn enwedig gan ei fod yn fy etholaeth. Nawr, rwy'n ystyried hyn yn gwbl warthus. Rwyf am barhau i ymladd ochr yn ochr â'r diwydiant i sicrhau bod yr arian hwn—arian a ddaw o'r diwydiant ei hun—yn mynd yn ôl i mewn i'r diwydiant. Dyna lle mae'n perthyn, dyna lle y dylai aros ar ôl Brexit. Mae'n ddrwg gennyf, Ddirprwy Lywydd—mae'n fy arwain at y gair B. Roeddwn wedi gobeithio ei osgoi yr wythnos hon, ond dyna ni. Ddydd Llun, cyhoeddodd UK Steel ei adroddiad, 'Implications of a No-Deal Brexit for UK Steel Companies'—ofnau gwirioneddol ynglŷn â Brexit 'dim bargen'. Ac rwy'n derbyn nad ydym yno eto, ond mae'n edrych yn fwy tebygol. Yn yr adroddiad hwnnw, nodwyd saith maes allweddol a gâi eu heffeithio i raddau amrywiol o ganlyniad i Brexit: symud nwyddau, tariffau UE, cytundebau masnach rydd a thariffau y tu allan i'r UE, rheolau tarddiad—ac rydym yn anghofio am y rheini weithiau—rhwymedïau masnach, mesurau diogelwch ac ymchwil a datblygu. Nid wyf yn mynd i drafod pob un o'r rheini yn y cyfraniad hwn, ond fe ganolbwyntiaf ar dri, sef y rhai mwyaf amlwg: symud nwyddau, rheolau tarddiad a mesurau diogelwch. A byddant yn effeithio'n uniongyrchol ar y diwydiant dur yn fy etholaeth i ym Mhort Talbot, oherwydd aiff 30 y cant o ddur Port Talbot i'r diwydiant modurol, ac mae 80 y cant o hwnnw wedi'i leoli yn y DU, sy'n swnio'n gadarnhaol—mae yma yn y DU, felly nid oes raid inni boeni amdano—ond pan ystyriwch fod y ceir hynny'n cael eu hallforio i'r UE, ac y bydd tariffau ar y ceir hynny, gallwch weld yr effaith. Gwelsom benderfyniad Nissan y penwythnos hwn i leihau neu gael gwared ar gynhyrchiant X-Trail yma, a gallai Nissan fod yn gleient posibl i Tata. Gwn eu bod yn gwneud y Juke, ond yma mae gennym sefyllfa lle rydym eto'n gweld y diwydiant modurol yn symud o'r DU. Nawr, mae goblygiadau hynny i ddur Cymru sy'n cael ei werthu ar y farchnad fyd-eang yn fawr, oherwydd rydym am weld mwy o ddur Cymru ar y farchnad fyd-eang o ganlyniad i hynny, ac mae hynny'n mynd i fod yn heriol. Nawr, bydd tariffau'r UE ar y dur a allforir os na chawn gytundeb, ac amcangyfrifir y bydd y tariff rhwng 4 a 5 y cant. Ar hyn o bryd rydym yn allforio 2.6 miliwn tunnell i'r UE, a bydd Twrci am fachu peth o'r farchnad honno. Rydym yn allforio 300,000 tunnell o ddur iddynt, a gallent osod 15 y cant yn fwy o dariffau ar ben hynny. Felly, os oes cytundeb, ni fydd unrhyw risg. Os nad oes cytundeb, rydym yn wynebu trafferthion difrifol, a byddwn hefyd yn wynebu tariffau'r Unol Daleithiau a gwledydd eraill, a hyd yn oed yn wynebu tariffau'r UE, oherwydd ni fydd gennym unrhyw amddiffyniad mwyach. Mae'r rhain yn bosibiliadau gwirioneddol drychinebus. Byddai Brexit 'dim bargen' yn arwain at gydrannau UK Steel neu gydrannau wedi'u cynhyrchu yn y DU—oherwydd peidiwch ag anghofio, mae dur yn mynd i mewn i gydrannau ac agweddau eraill, a daw rheolau tarddiad i mewn—. Felly, bydd gweithgynhyrchwyr yr UE yn edrych ar faint yn union o ddur sydd yn eu cydrannau, oherwydd lle bydd y rheolau tarddiad yn weithredol, a fydd yn rhaid iddynt gynyddu dur o'r UE ar draul dur o'r DU? Gallech ddweud bod gan Tata leoedd yn y ddau, ond rydym yn edrych ar y diwydiant yma yng Nghymru, a bydd yn effeithio ar y diwydiant yma yng Nghymru. Nawr, gwn fod Llywodraeth y DU yn bwriadu atgynhyrchu cytundebau masnach rydd yr UE sy'n bodoli eisoes, ac o ganlyniad, mae 50 y cant o gar a gynhyrchir yn y DU wedi'i wneud o ddur y DU. Bydd tariff arno, a rhaid inni edrych ar hynny'n ofalus iawn. Ddirprwy Lywydd, mae angen inni amddiffyn mesurau diogelwch, ynghyd â thariffau amrywiol. Rwy'n pryderu ychydig am y Bil Masnach a'r rhwymedïau masnach yn hwnnw, oherwydd mae 97 y cant o'n hallforion presennol yn mynd allan o dan gytundebau masnach rydd yr UE ac os nad oes gennym amddiffyniad o ran hynny, byddwn yn wynebu heriau gwirioneddol. I gloi fy nghyfraniad, Ddirprwy Lywydd, mae dur y DU ar ymyl y dibyn unwaith yn rhagor, mae arnaf ofn. Rwy'n falch fod hon yn Llywodraeth Lafur Cymru sydd wedi bod yn rhagweithiol, ond rwy'n poeni bod Llywodraeth y DU yn gwneud cam â'n diwydiant. I mi, mae'n bryd iddynt sefyll a gweithredu i achub ein diwydiant dur. Ni wnaethant hynny y tro diwethaf, ac mae'n bryd iddynt wneud hynny yn awr. Dyna mae ein gweithwyr dur gwych ei eisiau, dyna mae ein cynhyrchwyr ei eisiau, a dyna mae ein cymunedau lleol yn ei haeddu. Suzy Davies AC: A gaf fi ddechrau drwy ddweud fy mod yn cytuno'n llwyr â chi fod gennym y gweithwyr dur gorau yn y byd yma, ac maent yn haeddu'r sylw rydym yn ei roi iddynt yn awr? Oherwydd rydym yn sôn am ddiwydiant sylfaenol i economi'r DU, yn enwedig yng Nghymru, yn enwedig yn fy rhanbarth i, ac er ein bod bellach yn cydnabod efallai y peryglon sy'n deillio o gymunedau cyfan yn dibynnu ar un diwydiant, megis mewn lleoedd fel Port Talbot, nid yw ystyried colli cynhyrchiant fel difrod ystlysol mewn byd sy'n newid yn opsiwn o gwbl. I mi, credaf mai'r risgiau o ddympio dur a methu rheoli costau y gellir eu rheoli yw'r peryglon mwyaf eglur a phosibl, ynghyd â'r syrthni neu'r rhwystrau a allai effeithio ar y cyfle i Gymru naddu lle iddi ei hun yn y byd arloesi sy'n symud yn gyflym. Dyna agwedd ar Brexit y credaf y byddai'n gamgymeriad ei anwybyddu ar adeg pan fo'r brif stori'n ymwneud â thariffau. Fel y soniodd David, mae effaith dosbarthiad gwlad tarddiad ar gyfer dur a chynnyrch yn ben tost ôl-Brexit enfawr ac mae angen inni gael iachâd ar ei gyfer cyn iddo heintio gweddill yr economi. Ac er y gallai gweithwyr fod wedi gweld diffyndollaeth yr Unol Daleithiau yn fwy o fygythiad i gynhyrchiant yn ffatri Ford yn fy ardal na Brexit ar y cychwyn, gyda diwydiant dur y DU mor ddibynnol bellach ar ddiwydiant modurol ffyniannus, a all ymladd brwydr ar ddau ffrynt mewn gwirionedd? Credaf fod papur briffio UK Steel, a oedd yn dangos peth dewrder heddiw, yn eithaf clir pam fod Brexit 'dim bargen' yn newyddion drwg i ddur. Oherwydd nid yw Llywodraeth y DU—wyddoch chi, nid hi sy'n gyfrifol am y ffaith bod Tsieina'n gallu cynhyrchu dur am bris sy'n is nag unman ar y blaned, buaswn yn dychmygu. Felly, rwy'n falch nad yw'r ddadl hon wedi'i fframio mewn ffordd sy'n dweud yn syml, 'Gadewch inni feio Llywodraeth y DU'. Ond rwy'n credu bod angen i Lywodraeth y DU ddeall hefyd fod y Ceidwadwyr Cymreig, ar wahân i ddisgwyl cytundeb ymadael, cytundeb ar hynny, yn disgwyl i gytundebau masnach atal cystadleuaeth annheg hefyd ac unrhyw ddympio dur yma. Oherwydd Cymru, fel y clywsom, sy'n cynhyrchu dros hanner y dur yn y DU, a chymunedau Cymru, felly, sy'n fwyaf agored i niwed. Y gost arall y gellir ei rheoli, wrth gwrs, yw ynni, a chrybwyllodd David Rees honno hefyd. Ond mae yna gwestiwn difrifol yma ynglŷn â sut i flaenoriaethu. Rwy'n gobeithio ein bod i gyd wedi croesawu cyfyngiad diweddar Llywodraeth y DU ar daliadau ynni domestig—rhaid dweud wrth y defnyddwyr yn awr lle y gallant ddod o hyd i'r bargeinion rhataf—a digwyddodd hynny fwy neu lai ar yr un pryd ag yr oedd pob un ohonom yn y Siambr hon yn codi i ddweud, 'Gadewch inni gael morlyn llanw Bae Abertawe', ac rwy'n dal i gredu bod hwnnw'n syniad gwych, ond er gwaethaf ei fanteision niferus, nid oedd yn cynhyrchu trydan rhad. Mae'r un pwyntiau yn hofran dros Wylfa, a Hinkley Point ar y pryd wrth gwrs. Rydym yn gofyn yn awr am drydan rhatach ar gyfer diwydiant trwm; mae gwir angen hynny arno, ond heb unrhyw reolaeth dros brisiau olew, sy'n effeithio ar brisiau tanwydd, sut y gallwn helpu Llywodraeth y DU—[Torri ar draws.]—gadewch i mi orffen hyn—i flaenoriaethu'r galwadau hyn sy'n cystadlu â'i gilydd ar ei bolisi ynni? David Rees AC: Diolch i'r Aelod am dderbyn yr ymyriad. Rwy'n cytuno ac yn deall y pwynt hwnnw, ond pe bai Llywodraeth y DU yn barod i fuddsoddi yn Tata, er enghraifft, mae'n bosibl edrych ar sut y gallwn ailgylchu'r nwyon gwastraff. Gallai ddod yn hunangynhaliol, felly nid yw'n dibynnu ar brisiau olew na nwy o'r tu allan oherwydd gall wneud hynny ei hun. Suzy Davies AC: Rydych wedi rhagweld yr hyn rwyf am ei ddweud nesaf, David. Oherwydd, yn y cyfamser, bydd y sector yn dymuno gwybod beth y gall yr holl weithredwyr yn y gofod hwn ei wneud i oresgyn y ffaith eu bod yn talu ddwywaith cymaint am eu trydan ag y mae gwneuthurwyr dur Ffrengig. Felly, mae'n galonogol iawn mewn gwirionedd fod Tata yn arwain ar hyn—maent eisoes wedi mynd gryn bellter i ailgylchu ynni o fewn y safle ei hun, ac wrth gwrs, os yw Llywodraeth Cymru, a Llywodraeth y DU yn wir, yn aros gyda'r rhaglen, bydd arian yn mynd tuag at sicrhau bod yr orsaf bŵer yn cael ei chwblhau ac yn cyfrannu at gynhyrchiant ynni sy'n llawer rhatach, ac yn fwy cynaliadwy wrth gwrs. Yn bersonol, hoffwn weld ychydig mwy o gynnydd ar gytundebau sector dur y DU—wyddoch chi, cafodd ei gyflwyno fel rhywbeth pwysig o'r diwedd. Ond rwyf am ddod yn ôl at y cyfle hanfodol a mwy optimistaidd efallai i Gymru gael ei gweld fel canolfan ymchwil a datblygu, rhagoriaeth ac arloesedd yn y diwydiant dur. Gallwn edrych ar wlad fach fel Israel, nad yw fawr mwy o ran poblogaeth na ni, ac mae hi ar y blaen ym mhob maes arloesi ar draws nifer o sectorau er ei bod yn wynebu her ddyfnach o ran hunaniaeth a diogelwch nag y mae Brexit yn ei chreu i ni. Er fy mod yn rhannu pryderon David Rees am gronfa ymchwil yr UE ar gyfer glo a dur, rwy'n cytuno â chi mewn gwirionedd—am ei fod wedi'i godi o'r sector hwnnw, dylid ei ddychwelyd i'r sector hwnnw. Ond rhaid i Gymru fod yn barod ar gyfer hynny. Dyma lle rydym yn disgwyl i Lywodraeth Cymru weithredu, a'r sector yng Nghymru ei hun. Mae gennym gronfa ynni diwydiannol y DU, cronfa her weddnewidiol newydd y diwydiannau sylfaenol gwerth £66 miliwn sydd ar fin cael ei chyhoeddi, a hoffem pe bai Llywodraeth Cymru yn manteisio ar yr holl gyfleoedd hynny i wthio ei hagenda datgarboneiddio ei hun yn ogystal â helpu'r diwydiant dur yn uniongyrchol. Ac er bod y Llywodraeth yn llusgo'i thraed o bosibl mewn perthynas ag argymhellion adolygiad Reid a fyddai'n helpu i godi ein statws fel cenedl ymchwil o ansawdd, rydym eisoes yn gwybod bod y fargen ddinesig wedi ymrwymo i ganolfan arloesi dur genedlaethol, gan adeiladu ar lwyddiant sefydliad dur a metelau Prifysgol Abertawe. Ac er fy mod yn derbyn, Weinidog, na allwch ildio'n ddi-gwestiwnar bethau fel hyn, ni allwch adael i ffrygydau bach dros dir ddal cynnydd mawr yn ôl. Rydym yn edrych ar ddarlun mawr sy'n wynebu heriau mawr. Credaf y gallech sgorio rhai pwyntiau drwy fynd i'r afael â rhai o'r rhwystrau llai a allai fod yn bygwth cynaliadwyedd dur yma yng Nghymru. Diolch i chi. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch, David Rees, am gyflwyno'r cynnig. Siaradaf ar ran Bethan Sayed, sy'n un o gyflwynwyr y cynnig, ac fel llefarydd Plaid Cymru ar yr economi. Rhun ap Iorwerth AC: A bu ein hymrwymiad i'r diwydiant dur yn ddigon clir, rwy'n credu, nid yn lleiaf drwy'r ffaith bod elfennau o'r cymorth a ddarparwyd i Tata Steel gan Lywodraeth Cymru wedi digwydd drwy gydweithrediad rhwng ein dwy blaid. Rydym wedi bod yn glir, rwy'n credu, cyn, yn ystod ac ers yr argyfwng yn Tata Steel yn 2016 fod sicrhau dyfodol y diwydiant yn hanfodol, yn allweddol, os ydym am i Gymru barhau i fod yn ganolfan weithgynhyrchu a diwydiant. Ac aeth Bethan Sayed mor bell â dweud nad oedd hi eisiau byw mewn Cymru nad oedd yn meddu ar gynhyrchiant dur gan mor ganolog yw'r diwydiant i'n gorffennol a'n dyfodol economaidd. Mae pob cenedl lwyddiannus yn economaidd angen sector diwydiannol er mwyn iddi allu ffynnu. Felly, rydym wedi bod yn awyddus i roi pwysau ar, ac i weithio gyda Llywodraeth Cymru ar ddur, oherwydd er y byddwn yn anghytuno o bryd i'w gilydd o bosibl, fe wyddom, os gallwn gydweithredu, fod yna feysydd y dylem wneud hynny ynddynt er budd pobl y wlad hon. Mae cydweithredu â'r Llywodraeth ar hyn a dull trawsbleidiol o weithredu wedi golygu bod cyllid allweddol ar gael, megis y £30 miliwn i gefnogi gorsaf bŵer wedi'i huwchraddio ar gyfer Tata Steel ym Mhort Talbot, er mwyn gwella cynhyrchiant, gostwng allyriadau, helpu i reoli costau ynni, sy'n faich ariannol mawr ar y gwaith dur, fel y clywsom eisoes. A gyda llaw, rwy'n ailddatgan cefnogaeth hirsefydlog Plaid Cymru i sefydlu cwmni ynni cenedlaethol, y credwn y gallai helpu pethau ymhellach, ond rhywbeth y mae'r Llywodraeth Lafur wedi parhau i'w wrthwynebu hyd yma. Ond er cymaint yr ydym yn croesawu byrdwn y cynnig hwn, efallai nad yw'n adlewyrchu'n union pa mor agored i niwed yw ein sector dur a'n sector diwydiannol ehangach. Ond yn sicr, wrth gyflwyno'r cynnig heddiw, mae Dai Rees wedi mynegi pryderon rydym ninnau hefyd yn eu rhannu yma. Credaf ein bod y tu hwnt i ymddiheuro am ddefnyddio'r gair B erbyn hyn—daw i mewn i bopeth a wnawn. Rydym yn nesáu tuag at adael yr UE. Rydym yn syrthio tuag at adael heb fod cytundeb yn ei le, nac unrhyw fath o amddiffyniad na chytundeb tollau neu fynediad at y farchnad. Mae gweinyddiaeth Trump, os ydym eisiau edrych ar beth sy'n digwydd yn yr Unol Daleithiau, yn parhau ei defnydd niweidiol a chibddall o dariffau i wneud pwyntiau gwleidyddol, yn enwedig ar nwyddau fel dur. A chyn bo hir, bydd y DU mewn amgylchedd economaidd byd-eang sy'n fwyfwy bregus heb ein partneriaid Ewropeaidd i sefyll ochr yn ochr â ni. Felly, credaf fod sylfeini cadarn a chael sylfeini cadarn ar gyfer ein diwydiant dur yn bwysicach nag erioed erbyn hyn. Rydym mewn sefyllfa wahanol iawn i'r un yr oeddem ynddi yn 2016. Unodd Tata Steel â chwmni dur Ewropeaidd mawr, ThyssenKrupp. Edrychaf ymlaen at glywed gan y Gweinidog, gobeithio, am y math o sicrwydd hirdymor y mae ef a Llywodraeth Cymru wedi'u cael, y math o sicrwydd sydd eu hangen arnom bellach, am ymrwymiad y cwmni newydd i'w gweithfeydd yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae'n deg dweud y gallwn deimlo'n falch fod rhai o'r buddsoddiadau a wneir gan y sector dur i'w gweld fel pe baent ar gyfer y tymor hwy; maent yn awgrymu bod disgwyl i ddur barhau i gael ei gynhyrchu yng Nghymru am y degawd nesaf o leiaf. Ond mae'n hanfodol, wrth gwrs, fod Llywodraeth Cymru yn parhau i ganolbwyntio. Ni all fforddio tynnu ei llygaid oddi ar y bêl mewn unrhyw ffordd mewn perthynas â dur. Mae ein hamgylchiadau presennol yn aneglur. Mae llawer o ddryswch ynghylch y cyfeiriad yr ydym yn anelu tuag ato, diffyg sicrwydd, ac mae pethau'n edrych yn ansicr ar gyfer gweithgynhyrchu a'r sector diwydiannol cyfan ledled y DU. Ond fel y dywedodd Dai Rees, rwy'n bryderus iawn am yr hyn y gallai newyddion sy'n dod o'r diwydiant modurol ei olygu i'r gwneuthurwyr dur sy'n ei gyflenwi. Mae'r rhain yn gwestiynau pwysig ac o arwyddocâd mawr i ddyfodol economi Cymru. Felly, pan fydd y Gweinidog yn ymateb, gobeithio y gall gynnig rhywfaint o sicrwydd inni y bydd hyn yn parhau'n flaenoriaeth i'r Llywodraeth dros y tymor hir, fel bod dur yn parhau i gael ei gydnabod fel diwydiant angori, gan mai dyna ydyw mewn gwirionedd, a dyna sy'n rhaid iddo barhau i fod i economi Cymru yn fwy cyffredinol. Caroline Jones AC: Yn gyntaf oll hoffwn ddiolch i David Rees am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, ac mae'n bleser gennyf gymryd rhan. Mae dur yn y gwaed yn fy rhanbarth. Roedd wrth wraidd y chwyldro diwydiannol, a thrawsnewidiodd dde Cymru yn bwerdy'r byd. Heb y gwaith dur, ni fyddai rhannau mawr o Orllewin De Cymru yn bodoli. Tyfodd Port Talbot allan o'r chwyldro i ddod yn un o gynhyrchwyr dur pwysicaf Prydain. Roedd lleoliad y gwaith dur yn rhoi mantais iddo wrth i gynhyrchiant newid o ddefnyddio mwyn haearn Prydain heb fod o ansawdd cystal i ddeunydd o ansawdd gwell o ffynonellau tramor. Mae hanes y gweithfeydd haearn yn ardal Port Talbot yn ymestyn yn ôl i'r drydedd ganrif ar ddeg, pan roddodd Arglwydd Gogledd Corneli hawliau i fynachod o Abaty Margam echdynnu mwynau haearn a phlwm o'i diroedd. Hefyd, rhoddodd tirfeddiannwr cyfagos, Philip de Cornelly, hawliau i'r mynachod gynhyrchu haearn o'r mwynau a echdynnwyd o'i diroedd. Parhaodd cynhyrchiant haearn ar hyd y canrifoedd tan ddechrau'r chwyldro diwydiannol, pan grëwyd doc newydd i hwyluso mewnforio mwynau ac allforio cynnyrch gorffenedig. Enwyd y doc ar ôl ei adeiladwr, Christopher Rice Mansel Talbot, a daeth i gael ei alw'n Port Talbot. Tua 180 o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae Port Talbot yn dal yn ddibynnol ar gynhyrchiant dur. Wrth fyw dan gysgod y gwaith dur, mae'r gwaith nid yn unig yn dominyddu'r gorwel ond holl ysbryd ein tref. Ar un adeg byddech naill ai'n gweithio yn y gwaith neu'n adnabod rhywun a weithiai yno. Y dyddiau hyn, efallai fod llai o bobl yn gweithio yn y gwaith dur, ond mae'n dal yn gyfrifol am gyflogi llawer o bobl yn y rhanbarth oherwydd y gadwyn gyflenwi ehangach sydd wedi ymddangos o amgylch Port Talbot. Mae'r gostyngiad mewn cynhyrchiant dur wedi bod yn destun pryder mawr yn y blynyddoedd diwethaf wrth i'r farchnad fyd-eang orlifo gan ddur israddol o Tsieina ac wrth i'r UDA ddechrau rhyfel masnach ar gais ei Harlywydd diffyndollol. Felly roedd yn rhyddhad mawr pan ddaeth y rhôl gyntaf o ddur torchog oddi ar y llinell gynhyrchu yn dilyn ailosod ffwrnais chwyth 5 ym Mhort Talbot. Mae buddsoddiad Tata Steel o £50 miliwn yn tanlinellu ymrwymiad y cwmni i'r gwaith, y bobl sy'n gweithio yno a'r gymuned ehangach. Mae'n bryd i Lywodraeth Cymru a Llywdoraeth y DU weithio gyda'i gilydd yn awr i sicrhau dyfodol hirdymor y gwaith. Mae Tata wedi dangos eu hymrwymiad, a rhaid i'r Llywodraeth wneud yr un peth. Mae dur yr un mor hanfodol i seilwaith y DU ag ydyw i Bort Talbot, ac mae'n rhaid i'r Llywodraethau yma yng Nghaerdydd ac ar ben arall yr M4 wneud popeth yn eu gallu i sicrhau bod y DU yn parhau i gynhyrchu dur. Ar ôl Brexit rhaid inni gael chwarae teg mewn perthynas â thariffau. Rhaid i'r UE wrthsefyll yr awydd i gosbi'r DU am fod â'r hyfdra i adael. A siarad yn rhesymegol, mae tariffau'n niweidio'r ddwy ochr. Rwy'n annog Llywodraeth y DU i geisio cytundebau masnach teg, di-dariff â gweddill y byd, gan agor marchnadoedd newydd ar gyfer ein dur Cymru o ansawdd uchel. Efallai na allwn gystadlu â dur o Tsieina ar sail pris, ond yn sicr gallwn ragori arnynt o ran ansawdd. Mae Tata wedi adnewyddu eu ffydd ym Mhort Talbot, a mater i Lywodraeth y DU bellach yw sicrhau chwarae teg a chreu dyfodol cadarn i'r gwaith dur yng Ngorllewin De Cymru. Mae angen inni gael ynni rhatach, mynediad rhydd at farchnadoedd rhyngwladol ac ymrwymiad i ddefnyddio dur o Gymru mewn prosiectau seilwaith newydd. Rhaid i Lywodraeth y DU wneud ei rhan a gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ein gweithfeydd dur yn cael eu diogelu. Mae fy nghymdogion a'u teuluoedd yn ddibynnol ar gyflogaeth gwaith dur Port Talbot. Mae Tata yn gwneud eu rhan, a'r gweithwyr hefyd, ac mae'r gweithwyr yn gweithio oriau hir iawn i sicrhau dyfodol. Tro'r ddwy Lywodraeth yw hi yn awr i weithio gyda'i gilydd, ac ar ôl Brexit, rhaid inni oll gydweithio a sicrhau nad yw Cymru geiniog ar ei cholled. Jack Sargeant AC: A gaf fi ddechrau hefyd drwy ddweud fy mod yn falch iawn o gefnogi'r cynnig heddiw? A diolch i David Rees, fy nghyd-Aelod, am gyflwyno'r ddadl hon, ond nid yn unig am gyflwyno'r ddadl heddiw, ond am eich ymrwymiad parhaus i'r diwydiant dur yng Nghymru drwy eich gwaith yn y Siambr a'r grŵp trawsbleidiol. Rwy'n falch iawn o siarad yn y ddadl hon heddiw dros y diwydiant dur yn gyffredinol, ond yn enwedig y gwaith dur yn Shotton yn fy etholaeth, sy'n cynhyrchu llawer o gynnyrch dur o ansawdd, fel duroedd galfanedig, metelig a chyn-orffenedig. Ddirprwy Llywydd, rhaid imi ddweud pan welais fod y ddadl hon wedi'i chyflwyno, aeth â mi yn ôl i'r dyddiad y'i cyflwynwyd a fy ymgyrch isetholiadol y llynedd, pan wneuthum ymrwymiad i sefyll dros ddur, dros y diwydiant dur. Felly, credaf ei bod yn braf dweud, flwyddyn yn ddiweddarach, y gallaf ddod yma a sefyll dros ein diwydiant dur yng Nghymru. Aeth â mi yn ôl i'r ymgyrch Achub ein Dur a'r gwaith a wnaeth fy nhad ar y pryd i sefyll dros y diwydiant a'r gweithwyr, yn enwedig ar y safle hwnnw yn Shotton. Roedd datblygiadau yn y diwydiant dur yn un o'r materion gwleidyddol uchaf eu proffil yn 2016, ac yn briodol felly, a chofiaf ef yn glir yn gweithio ddydd a nos, yn cysylltu â swyddogion undebau llafur ac yn lobïo Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn galed i gefnogi'r diwydiant pwysig. Mae pawb a gefnogodd yr ymgyrch honno yn gwybod pa mor bwysig yw'r diwydiant i Shotton, ond i Gymru a'r DU yn ei chyfanrwydd, fel y mae David Rees wedi'i nodi'n briodol ar sawl achlysur. Fel y gŵyr pawb ohonom, wynebodd Glannau Dyfrdwy eu diwrnod tywyllaf ym mis Mawrth 1980, pan gafodd Dur Prydain wared ar 6,500 o swyddi yng ngwaith dur Shotton ar ôl degawd o wrthsefyll pwysau undebau a gwleidyddion. Dyma oedd y nifer fwyaf o ddiswyddiadau diwydiannol ar un diwrnod yng ngorllewin Ewrop, a chafodd teuluoedd cyfan eu gwneud yn ddi-waith; cafodd cymunedau eu dinistrio. Mae'r effaith ar y diwydiant i'n hardal ni a Chymru gyfan yn enfawr. Canfu uned ymchwil economi Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd fod cyfanswm effaith economaidd Tata yng Nghymru yn £3.2 biliwn y flwyddyn, a oedd yn cynnal gwerth ychwanegol gros o £1.6 biliwn. Mae Tata yn cyfrannu £200 miliwn mewn cyflogau i economi Cymru bob blwyddyn, ac mae pob swydd yn Tata yn cynnal 1.22 o swyddi ychwanegol ar draws economi Cymru. Ddirprwy Lywydd, gadewch inni beidio ag anghofio bod dur ym mhob un cynnyrch neu ym mhob un broses yn ein byd fel y mae, felly mae'r diwydiant dur yn haeddu pob cymorth y gall ei gael. Ac rwy'n falch o Lywodraeth Cymru, ac yn credu bod gan Lywodraeth Cymru hanes gwych o gefnogi'r diwydiant dur, ac o dan arweiniad Mark a Ken, gwn y bydd yn parhau i wneud hynny. Ond mae'n amlwg i mi nad pan fydd argyfwng yn digwydd yn unig y dylid rhoi cymorth, ac fel y dywedodd sawl Aelod o bob rhan o'r Siambr, gall Llywodraeth y DU ddysgu, ac fe ddylai ddysgu, o wersi'r gorffennol. I gloi, Ddirprwy Lywydd, hoffwn roi amser i sôn am y gweithwyr yn y diwydiant dur, yn enwedig y rhai sy'n gweithio yn Shotton. Cefais y pleser o ymweld â'r safle ar sawl achlysur, a gwn ein bod wedi mynd â sawl Aelod o fy mhlaid i fyny i'r safle y llynedd hefyd. Ac mae'n amlwg i mi fod y gweithwyr yn hynod o falch o'r hyn y maent yn ei wneud a beth y maent yn ei gyflawni yno bob dydd, ac rwy'n falch o'r cyfraniad y mae'r diwydiant yn ei wneud i fy nghymuned ac i Gymru gyfan. Felly, i gloi, mae fy neges derfynol i weithwyr y diwydiant dur: fe fyddwn ni yn y Siambr hon yn ymladd drosoch yn y cyfnod anodd hwn, a diolch ichi am bopeth a wnewch i wella economi Cymru. Diolch. Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates? Ken Skates AC: Diolch Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl bwysig hon heddiw. Mae'r cynnig hwn i'w groesawu'n fawr ac mae'n cyd-fynd yn agos â safbwynt Llywodraeth Cymru ar y diwydiant dur, ac felly mae'n bleser gennyf ei gefnogi. Mwynheais yr ystyriaethau niferus a roddwyd i hanes ein gweithgarwch dur yma yng Nghymru, gyda David Rees, Jack Sargeant a Caroline Jones yn rhoi asesiadau gwych o werth cymdeithasol yn ogystal ag economaidd ein gweithfeydd dur. Credaf fod David Rees wedi croesawu gwaith Llywodraeth Cymru yn achub ein dur, ond hefyd gwnaeth y pwynt pwysig iawn ein bod, unwaith eto, yn sefyll ar ymyl y dibyn. Rydym wedi trafod droeon yn y Siambr hon y prif heriau sy'n effeithio ar y sector dur, ac mae'r rhain yn cynnwys, wrth gwrs, prisiau trydan diwydiannol anghystadleuol, gorgapasiti byd-eang ac arferion masnachu dur rhyngwladol sy'n annheg. Mae'r materion hyn yn parhau i fod yn destun pryder enfawr i'r sector, ond fel y mae llawer o Aelodau wedi nodi y prynhawn yma, ceir cryn ansicrwydd bellach ynghylch Brexit. Mae tariffau adran 232 yr Unol Daleithiau ar ddur wedi tynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau bod y sector dur yn cael ei ddiogelu rhag arferion masnachu rhyngwladol annheg. Rydym wedi sicrhau bod pryderon cynhyrchwyr dur yng Nghymru wedi'u lleisio ar y lefel uchaf yn San Steffan. Ken Skates AC: Ar ôl y DU ac Iwerddon, y brif farchnad ar gyfer dur a gynhyrchir yn y DU yw Ewrop wrth gwrs. Pan fyddwn yn gadael yr UE, mae'n hanfodol felly nad yw'r diwydiant dur yng Nghymru o dan anfantais yn sgil rhwystrau masnach diangen megis tollau ychwanegol, tariffau, cwotâu, neu rwystrau technegol i fasnach. Mae'r sector dur yn ddibynnol iawn ar fasnach rydd, ond yr un mor bwysig, mae'n ddibynnol ar y rheolau megis rhwymedïau masnach sy'n sail i'r fasnach rydd hon. Mae hefyd yn bwysig pwysleisio, Ddirprwy Lywydd, yr effeithir ar y diwydiant dur gan unrhyw aflonyddu ar ei gadwyn gyflenwi o ganlyniad i Brexit, gan gynnwys, yn bwysig, yn y sector modurol, fel y nododd Suzy Davies a Rhun ap Iorwerth. Yn wir, roedd y ddwy rhôl gyntaf o ddur a ddaeth o ffwrnais chwyth 5 yr wythnos diwethaf yn mynd i weithgynhyrchwyr modurol yng ngorllewin canolbarth Lloegr a gogledd Lloegr. A chlywais bryderon y sector drosof fy hun yr wythnos diwethaf yn y Grŵp Trawsbleidiol ar Ddur. Mae'r sector wedi bod yn cysylltu'n uniongyrchol ag Adran Masnach Ryngwladol Llywodraeth y DU er mwyn lleisio ei bryderon ac i bwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod rhwymedïau masnach yn gadarn yn y DU yn y dyfodol. Mae Llywodraeth Cymru yn trafod yn rheolaidd â Llywodraeth y DU ar Brexit, ac rydym yn dadlau'r achos dros ddarparu cymaint o sicrwydd ag y bo modd i ddiwydiannau Cymru, gan gynnwys y diwydiant dur wrth gwrs. Mae effaith y gwahaniaeth rhwng pris trydan diwydiannol yn y DU o gymharu â gwledydd eraill, yn enwedig Ffrainc a'r Almaen, yn fater arall yr ydym yn parhau i'w ddwyn i sylw Llywodraeth y DU ac mae'r Aelodau wedi nodi hynny y prynhawn yma. Mae hyn o'r pwys mwyaf os yw'r sector i gystadlu'n deg yn rhyngwladol ac er mwyn denu buddsoddiad mewn gweithfeydd ac ymchwil a datblygu. Caiff hyn ei atgyfnerthu gan yr ystadegau diweddaraf a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU, sy'n dangos mai gan y DU y mae'r prisiau trydan diwydiannol uchaf yn yr UE. I ddefnyddwyr diwydiannol mawr, mae'r prisiau'n 90 y cant—90 y cant yn uwch na chanolrif yr UE. Nawr, roedd yn bleser ymweld â Tata Steel Port Talbot yr wythnos diwethaf wrth ochr y Prif Weinidog i ddathlu aildanio ffwrnais chwyth 5. Mae cwblhau'r prosiect hwn yn nodi buddsoddiad sylweddol yn nyfodol y gwaith ac yn ei weithlu, ac yn dangos ymrwymiad Tata Steel i gynnal cynhyrchiant dur yng Nghymru. Ym mis Mehefin 2018, cyhoeddodd Tata Steel ei fod wedi llofnodi cytundeb diffiniol i ymrwymo i fenter ar y cyd â Thyssenkrupp. Ar hyn o bryd mae hyn yn amodol ar archwiliad rheoleiddio gan y Comisiwn Ewropeaidd. Fodd bynnag, yn y cyfamser, rydym yn parhau ein hymgysylltiad â Tata Steel UK ynghylch y potensial pellach o gefnogi cysylltiadau er mwyn galluogi i'w gwaith ddod yn fwy cynaliadwy yn hirdymor. Hyd yma, rydym wedi cynnig £17 miliwn o gyllid ar draws gweithfeydd Tata Steel yng Nghymru sy'n cefnogi datblygu sgiliau yn y gweithlu ac wrth gwrs, buddsoddiad o £8 miliwn yn yr orsaf bŵer ym Mhort Talbot. Mae llawer o Aelodau yn y Siambr hon, ochr yn ochr â Tata Steel, yn cydnabod pwysigrwydd cynyddu lefelau ymchwil a datblygu ar gyfer cynaliadwyedd hirdymor y busnes, ac mae ein cefnogaeth yn cynnwys dros £600,000 o arian ar gyfer ymchwil a datblygu ym maes datblygu cynnyrch newydd yn unig. Ac mae ein cynllun gweithredu economaidd wedi'i gynllunio, yn rhannol, i helpu Cymru i ddatblygu llwyfannau a phartneriaethau newydd rhwng Llywodraeth, prifysgolion, colegau, busnesau ac ati a allai ein galluogi i dargedu cyllid a ddyfernir yn fwy cystadleuol yng nghyllid her strategaeth ddiwydiannol y DU. Ceir synergeddau amlwg rhwng ein cynllun gweithredu economaidd a strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU. Mae trydedd don cronfa her y strategaeth ddiwydiannol yn cynnwys dwy her sy'n arbennig o berthnasol i'r sector dur: yn gyntaf, her gwerth £170 miliwn sy'n canolbwyntio ar ddatgarboneiddio clystyrau diwydiannol, ac fel y dywedodd Suzy Davies, her gwerth £66 miliwn i drawsnewid diwydiannau sylfaenol. Rydym yn gweithio gyda'r sector i fanteisio ar y rhain a chyfleoedd eraill sydd ar gael gan Lywodraeth y DU. Mae sector dur y DU wedi nodi caffael sector cyhoeddus fel cam gweithredu allweddol craidd y gallai'r Llywodraeth ei roi ar waith i gryfhau'r sector ac i wella ei allu i gystadlu, ac ym mis Ionawr y llynedd, cyhoeddwyd nodyn cyngor caffael i gefnogi cyrchu a chaffael dur cynaliadwy mewn prosiectau adeiladu a seilwaith yma yng Nghymru. Mae hyn yn rhan o'n hymrwymiad parhaus i gefnogi hyfywedd hirdymor cynhyrchu dur yng Nghymru, ac fe'i cynlluniwyd i annog y defnydd ehangaf posibl o ddur o Gymru a'r DU mewn contractau sector cyhoeddus. Ddirprwy Lywydd, i gloi, rwy'n cydnabod yn llwyr yr heriau parhaus y mae cwmnïau dur yng Nghymru yn eu hwynebu, yn enwedig o ystyried yr ansicrwydd a achosir gan Brexit, ond yn yr un modd, gallaf sicrhau'r sector dur y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio wrth ei ochr i sicrhau dyfodol hirdymor i bob gwaith dur yng Nghymru, ac rwy'n falch o gefnogi'r cynnig hwn y prynhawn yma. Diolch. A gaf fi alw ar John Griffiths i ymateb i'r ddadl? John Griffiths AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan ac wedi cyfrannu at y ddadl hon? Rwy'n teimlo na all fod llawer o amheuaeth ynglŷn ag ymrwymiad yr Aelodau i'r diwydiant dur yng Nghymru, fel y gwelwyd yn rheolaidd yn y Siambr hon mewn dadleuon ac yn ystod cwestiynau'n gyffredinol. Yn amlwg, mae cyfraniad Dai Rees bob amser yn flaenaf ymysg y cyfraniadau hynny, felly roedd yn gwbl briodol mai David Rees a agorodd y ddadl hon heddiw. Hoffwn ymuno â Jack Sargeant i dalu teyrnged i David Rees am ei waith yn y grŵp trawsbleidiol a'i ymrwymiad cyffredinol. Drwy gyfraniadau David, credaf fod pawb ohonom yn sylweddoli'n dda iawn pa mor bwysig yw gwaith dur Port Talbot i'w etholaeth a'i benderfyniad i ymladd er mwyn sicrhau y bydd Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, a'r diwydiant yn gwneud popeth y gellid ei wneud, gan weithio gyda'r undebau llafur a'r gweithlu i sicrhau bod y swyddi hynny'n cael eu diogelu a'u datblygu ar gyfer y dyfodol. Mae'n sicr yn ymrwymiad a chryfder teimlad y gallaf yn hawdd ei ddeall, a minnau'n cynrychioli Dwyrain Casnewydd gyda gwaith dur Llanwern, a hefyd gweithredwyr dur pwysig yn fy etholaeth, fel Cogent a Liberty Steel. Mae angen inni ddiogelu'r swyddi hynny er mwyn datblygu'r diwydiant a dod â buddsoddiad newydd a swyddi newydd ar gyfer y dyfodol, ac mae hwnnw'n fater o weithio gyda'r diwydiant, y Llywodraeth ar wahanol lefelau, yr undebau llafur a'r gweithlu. Dyna'r negeseuon a glywsom heddiw a'r negeseuon rydym yn ei clywed yn rheolaidd iawn, rwy'n credu, ac yn briodol felly. Ceir rhai themâu cyffredin iawn o fewn y ddadl gyffredinol, Ddirprwy Lywydd. Un newydd, mae'n debyg, yw pwysigrwydd Brexit ac osgoi risgiau enfawr Brexit 'dim bargen'. Ceir problemau mawr iawn ynghlwm wrth Brexit ynddo'i hun, ond ceir llawer mwy o risg ynghlwm wrth Brexit 'dim bargen', a gwnaethpwyd hynny'n gwbl eglur gan UK Steel yn ddiweddar, ond ymhellach yn ôl, hefyd, gan yr undebau llafur, gan Aelodau yma a gan Ken Skates fel y Gweinidog perthnasol. Ni all fod fawr o amheuaeth nad yw'r ansicrwydd andwyol, fel y'i disgrifir, Ddirprwy Lywydd, yn ansefydlogi'r diwydiant yn aruthrol ac o ran cynllunio ar gyfer y dyfodol. Ceir pryderon penodol mewn perthynas â'r diwydiant modurol, fel y clywsom, y sefyllfa gyda thariffau, gydag arian cronfeydd ymchwil a llawer o bethau eraill hefyd. Yn amlwg, gorau po gyntaf i bawb y cawn ryw raddau o sicrwydd ynglŷn â'r materion hynny. Mae cost uchel ynni hefyd bob amser yn codi ei ben, a hynny'n gwbl briodol, yn y dadleuon hyn, a gwnaeth hynny eto heddiw. Ddirprwy Lywydd, credaf fod pawb ohonom yma yn ymwybodol iawn o'r gwahaniaeth hwnnw, yr annhegwch yn y gystadleuaeth rhwng diwydiant dur y DU a'r diwydiant dur mewn gwledydd eraill a'r angen i Lywodraeth y DU fynd i'r afael â'r materion hynny'n derfynol. Rydym wedi gweld buddsoddiad mewn effeithlonrwydd ynni; rydym yn gweld symudiadau pwysig tuag at gynhyrchu ynni gan y diwydiant ei hun, fel y clywsom, ac mae hwnnw'n fater pwysig i Liberty Steel yng Nghasnewydd, er enghraifft, lle mae ganddynt gynlluniau pwysig ar gyfer gorsaf bŵer bresennol Aber-wysg. Felly, mae'r diwydiant yn cymryd y camau y mae'n gallu eu cymryd ei hun, ond mae angen cymorth gan Lywodraeth y DU. Rwy'n croesawu cydnabyddiaeth y Gweinidog i'r holl faterion hynny a sicrwydd eto o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio gyda'r diwydiant, i weithio gyda'r undebau llafur, i weithio gydag Aelodau yma i ymateb i'r heriau hyn. Unwaith eto, fel y dywedodd y Gweinidog, mae caffael yn fater arall hollol ganolog i allu sicrhau'r cynnydd angenrheidiol, ac rwy'n croesawu datblygiad newydd y polisi a'r strategaeth gan Lywodraeth Cymru, a chredaf fod hynny'n addawol iawn a bydd pawb ohonom am weld y rheini'n cael eu cyflawni. Ddirprwy Lywydd, mae'r buddsoddiad gan Tata, wyddoch chi, yn ddatganiad gwych o hyder yn nyfodol y diwydiant dur yng Nghymru, ac mae pawb ohonom yn croesawu hynny, ac mae'r gweithlu'n croesawu hynny'n fawr. Felly, yr hyn sydd angen inni ei wneud, o ran gweithredu gan y Llywodraeth, yw chwarae ein rhan. Fel y dywedwyd yn y ddadl hon, mae Llywodraeth Cymru wedi dangos ei bod hi'n barod i wneud ei rhan. Mae gan Lywodraeth y DU rôl bwysig iawn i'w chwarae hefyd, ac mae angen inni weld Llywodraeth y DU yn gwneud ei rhan yn ogystal. Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Anghydraddoldeb Economaidd Rhanbarthol Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans, a gwelliannau 2, 3, 4 a 5 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Eitem 7 ar yr agenda yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar anghydraddoldeb economaidd rhanbarthol, a galwaf ar Russell George i wneud y cynnig. Cynnig NDM6959 Darren Millar 1. Nodi bod anghydraddoldeb economaidd rhanbarthol yn parhau'n amlwg ar draws Cymru, fel sy'n amlwg yn y ffigurau GVA diweddaraf. 2. Yn gresynu bod polisïau Llywodraeth Cymru wedi methu mynd i'r afael ag anghydraddoldebau economaidd rhwng rhanbarthau yng Nghymru. 3. Yn croesawu'r cyfraniad y bydd y fargen dinas-ranbarth Caerdydd, bargen dinas-ranbarth Bae Abertawe, bargen twf y Gogledd a bargen twf y Canolbarth yn eu gwneud i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhanbarthol yng Nghymru. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) gweithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y DU i ddarparu bargeinion twf yng Nghymru; b) adolygu'r cynllun gweithredu economaidd i gynnwys strategaeth i gynyddu cyflogau a ffyniant economaidd ym mhob rhan o Gymru ac ymdrin ag anghydraddoldebau economaidd rhwng y rhanbarthau; ac c) hyrwyddo polisi datblygu rhanbarthol ar ôl Brexit sy'n cefnogi cymunedau difreintiedig ledled Cymru, gan gynnwys y rhai hynny y tu allan i orllewin Cymru a'r Cymoedd. Cynigiwyd y cynnig. Russell George AC: Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar. Mae eithaf tipyn y gallwn gytuno yn ei gylch yng nghynnig y Llywodraeth heddiw, ond ni allwn ei gefnogi oherwydd ei fod yn dileu ein cynnig yn ei gyfanrwydd. Ni fyddwn yn cefnogi gwelliannau 2 na 5, ond byddwn yn cefnogi gwelliant 3, a hoffem glywed mwy o fanylion am gynnig Plaid Cymru ar Fil buddsoddi rhanbarthol, sydd wedi'i gynnwys yn eu gwelliant 4. Ddirprwy Lywydd, mae allbwn economaidd y pen yn amrywio'n fawr ledled Cymru. Ceir cyferbyniad amlwg rhwng gwerth ychwanegol gros y pen yng nghorneli gogleddol a de-ddwyreiniol Cymru, ein cymunedau yn y Cymoedd, a'n cymunedau gwledig yng nghanolbarth a gogledd Cymru. Os gallaf roi rhai enghreifftiau o hyn, mae gwerth ychwanegol gros y pen ar Ynys Môn ychydig o dan hanner gwerth ychwanegol gros y pen Caerdydd, ac mae nifer o ranbarthau o Gymru yn llusgo ar ôl rhannau mwy cyfoethog o'r wlad. Ceir rhaniad daearyddol clir o ran cyfoeth yng Nghymru hefyd, ac yn anffodus, rhaniad trefol a gwledig. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod rhanbarthau ac ardaloedd awdurdodau lleol llai cefnog Cymru yn dioddef cyfraddau twf gwael iawn, a chyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw hyn wrth gwrs. Mae angen inni roi strategaeth economaidd ar waith sy'n gallu cau'r bwlch a gwella ffyniant economaidd Cymru gyfan. Ar y llaw arall, gwelodd rhai rhanbarthau tlawd sy'n wynebu heriau economaidd mawr iawn yn Lloegr dwf yn eu gwerth ychwanegol gros y pen, felly nid yw'n gywir dweud, fel yng gwelliant 2—yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ceisio ei gyflawni—mai polisïau economaidd Llywodraeth y DU sy'n cyfrannu at yr anghydraddoldeb rhanbarthol mewnol hwn yng Nghymru. Ac mae'n amlwg fod nifer o ranbarthau tlawd yn Lloegr yn profi twf cadarn er gwaethaf heriau strwythurol tebyg, ond bod rhanbarthau tebyg o Gymru nid yn unig yn methu tyfu'n sylweddol, ond mae rhai'n crebachu hyd yn oed, sy'n destun pryder. Felly, nid wyf yn derbyn dadl Plaid Cymru fod polisïau economaidd Llywodraeth y DU rywsut yn ffactor sy'n cyfrannu at hyn. Gadewch i ni edrych yn agosach adref hefyd ar bolisi economaidd Llywodraeth Cymru dros yr 20 mlynedd diwethaf. Bu nifer o ysgogiadau yma. Rydym eisoes wedi cael tair strategaeth economaidd fawr, wrth gwrs, wedi'u lansio gan Lywodraeth Cymru ers creu Senedd Cymru. Ac rwy'n cynnig heddiw fod pob un wedi methu hybu'r twf rhanbarthol, wedi methu ysgogi economi Cymru, wedi methu creu digon o swyddi sy'n talu'n dda, ac wedi methu creu cynhyrchiant. Ar hyn o bryd Cymru yw'r economi wannaf, sy'n tyfu arafaf, yn y DU, ac mae'n dal i lusgo gryn dipyn ar ôl yr Alban. Nid wyf yn meddwl bod unrhyw un ohonom yn y Siambr hon am weld hynny, felly nid wyf yn dweud hynny gydag unrhyw foddhad. Rydym am i hynny newid. Dylai cwmnïau sydd wedi buddsoddi yn y wlad hon fod wedi'u hintegreiddio i gadwyni cyflenwi domestig er mwyn helpu i sefydlu'r mewnfuddsoddiad mewn cymunedau lleol, a chredaf fod Llywodraeth Cymru wedi methu sicrhau'r mewnfuddsoddiad hwnnw'n iawn, sydd wedi golygu bod eu strategaeth wedi methu cau'r bwlch economaidd rhwng rhanbarthau Cymru a hefyd wedi methu cynyddu ffyniant yng Nghymru yn gyffredinol. Er enghraifft, er gwaethaf chwistrelliadau enfawr o arian cyhoeddus i'n hardaloedd menter ledled Cymru wrth gwrs, maent wedi methu cyflawni eu hamcanion allweddol. Diben yr ardaloedd oedd meithrin capasiti mewn sectorau penodol o economi Cymru, gan gynnwys gweithgynhyrchu, ynni a gwasanaethau proffesiynol. Hefyd, roeddent i fod i ddenu cwmnïau i rannau penodol o'r economi. Cafwyd rhai enghreifftiau o feysydd llwyddiannus o fewn yr ardaloedd menter, ond mae'n ddarlun eithaf cymysg. Dyna y buaswn i'n ei ddadlau. Ond mae'r data economaidd yn nodi'n glir nad yw'r ardaloedd menter a'r cyllid sy'n gysylltiedig â hwy wedi effeithio ar dwf economaidd yn y modd y byddem wedi'i ddisgwyl. Felly, ar y meinciau hyn, rydym hefyd yn croesawu'r cyfraniad y bydd bargeinion twf Caerdydd, bae Abertawe, gogledd Cymru a chanolbarth Cymru yn eu gwneud i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhanbarthol yng Nghymru, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno â hynny. Mae'r bargeinion dinesig a'r bargeinion twf hyn yn newid y dull datblygu rhanbarthol yn llwyr yn fy marn i oherwydd bod ganddynt botensial i helpu i ddatblygu busnesau bach a chanolig, cwmnïau mwy o faint a seilwaith trafnidiaeth ar draws awdurdodau lleol Cymru. Ac rwyf am roi un enghraifft: yr wythnos diwethaf, ymwelodd partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru â'r Senedd i arddangos eu cynnyrch a'u gwasanaethau gan fusnesau ledled Powys a Cheredigion. Roedd hwnnw'n gyfle gwych yn fy marn i i danlinellu'r angen am fuddsoddiad cyhoeddus a thwf ar gyfer bargen twf i ganolbarth Cymru. Diolch i'r Gweinidog am gyfarfod â'r ddirprwyaeth, am gyfarfod â busnesau, a siarad yn y digwyddiad hwnnw hefyd. Mae'r bargeinion twf hyn, wrth gwrs, yn cynnig ffocws rhanbarthol cryf ac maent yn canolbwyntio ar adeiladu partneriaethau cydweithredol rhwng awdurdodau lleol cyfagos er mwyn cynyddu'r twf rhanbarthol a'r ffyniant hwnnw. Ac rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog hefyd am y ffordd y mae wedi ymgysylltu â mi a rhanddeiliaid eraill ar y mater hwn. Ac yn y cynnig hwn, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i adeiladu perthynas gadarnhaol, agored a chydweithredol gyda Llywodraeth y DU ac adrannau gwasanaeth sifil mawr y DU i helpu i sicrhau llwyddiant hirdymor y mentrau bargeinion twf ledled Cymru. Ddirprwy Lywydd, ni fyddai'r Gweinidog yn disgwyl i mi ei ganmol yn ormodol, ac wrth gloi, mae yna nifer o feysydd lle rydym yn teimlo bod yn rhaid gwella ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at bolisi economaidd yn sylweddol. Mae cynllun gweithredu economaidd Llywodraeth Cymru yn dechrau troi sylw Llywodraeth Cymru tuag at hybu cymorth busnes ar gyfer busnesau bach a chanolig Cymru, atgyfnerthu'r mecanwaith cyllid hwnnw, gwella caffael cyhoeddus a chryfhau'r gadwyn gyflenwi. Fodd bynnag, rwy'n dadlau bod yn rhaid ei ddatblygu ymhellach hefyd er mwyn sicrhau ei fod yn amlinellu'n glir sut y bydd ei themâu a'i gynnwys canolog yn helpu i godi cyflogau yng Nghymru yn y dyfodol. Mae angen adnoddau priodol ar y swyddfeydd rhanbarthol newydd hefyd ac mae angen i'w gynlluniau gwaith gydweddu â mesurau polisi presennol i hybu twf rhanbarthol. Ac rwy'n credu bod angen mwy o arian ar gyfer cymorth i fusnesau yng Nghymru hefyd, wrth inni symud ymlaen. Felly, er bod y cynllun gweithredu economaidd yn arwydd o newid cyfeiriad sydd i'w groesawu mewn perthynas â dull Llywodraeth Cymru o ddatblygu economi Cymru, ceir llawer o feysydd sy'n rhaid eu hychwanegu at y strategaeth honno os yw Cymru i ffynnu ac os yw economi Cymru i ffynnu yn y dyfodol. Edrychaf ymlaen at gyfraniadau'r Aelodau yn y ddadl hon y prynhawn yma, ac rwy'n parhau i fod â meddwl agored ynghylch gwelliant 4 Plaid Cymru, o ran y ffordd y byddwn yn pleidleisio y prynhawn yma. Diolch. Rwyf wedi dethol y pum gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Galwaf ar Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol. Gwelliant 1—Rebecca Evans Dileu popeth a rhoi’r canlynol yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn: 1. Cydnabod pa mor bwysig yw economïau rhanbarthol cryf a chydnerth ar draws pob rhan o Gymru er mwyn sbarduno twf cynhwysol. 2. Nodi’r mesurau traws-lywodraethol a nodir yn y Cynllun Gweithredu ar yr Economi, gan gynnwys penodi prif Swyddogion Rhanbarthol a thimau yn Llywodraeth Cymru i gefnogi Datblygiad Economaidd Rhanbarthol ar draws Cymru. 3. Nodi’r rôl bwysig sydd gan y Bargeinion Dinesig a’r Bargeinion Twf i’w chwarae o ran sbarduno twf economaidd rhanbarthol pan fyddant yn cael eu cydgysylltu ag ymyriadau ehangach megis seilwaith, trafnidiaeth a sgiliau. 4. Nodi’r cyhoeddiad diweddar bod y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) yn helpu i ddatblygu polisi datblygu economaidd rhanbarthol yng Nghymru ar sail yr arferion gorau yn rhyngwladol. 5. Galw ar Lywodraeth y DU i fynd i’r afael â’r anghydraddoldeb o ran cyllido seilwaith rhwng cenhedloedd a rhanbarthau’r DU ac i wneud mwy i rannu cyfleoedd buddsoddi yn deg ar draws y wlad. 6. Galw ar Lywodraeth y DU i barchu’r setliad datganoli ac i sicrhau mai Llywodraeth Cymru fydd yn gwneud y penderfyniadau strategol ar reoli a gweinyddu trefniadau cyllido yn lle’r cyllid strwythurol, er mwyn mynd i’r afael â’r anghydraddoldeb economaidd rhwng rhanbarthau. 7. Nodi’r ffaith bod cyllidebau rhanbarthol dangosol yn cael eu datblygu ar gyfer buddsoddiad yn yr Economi a Thrafnidiaeth ar draws Cymru. Cynigiwyd gwelliant 1. Ken Skates AC: Cynigiwyd. Diolch. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig gwelliant 2, 3, 4 a 5, a gyflwynwyd yn ei enw ei hun. Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn nodi bod polisi llymder Llywodraeth y DU, ar y cyd gyda chamreolaeth Llywodraeth Cymru, wedi arwain at gynnydd mawr mewn anghydraddoldeb economaidd rhwng rhanbarthau Cymru. Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth Yn is-bwynt (a) ym mhwynt 4, ar ôl 'Llywodraeth y DU' ychwanegu 'ac awdurdodau lleol'. Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw am fil buddsoddiad rhanbarthol, gyda’r nod o sicrhau buddsoddiad ariannol teg dros Gymru i gyd. Gwelliant 5—Rhun ap Iorwerth Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu’r ffaith bod bwrdd prosiect Arfor wedi cael ei gyfarfod cyntaf ac wedi cytuno ar raglen amlinellol o weithgarwch am y ddwy flynedd nesaf. Yn nodi’r ffaith bod £2 filiwn wedi ei chlustnodi yn y gyllideb ar gyfer cymorth ysgrifenyddiaeth a buddsoddi i Arfor yn ystod 2018-19 a 2019-20 fel blaenoriaeth Plaid Cymru yn y cytundeb ar y gyllideb gyda Llywodraeth Cymru. Yn cadarnhau pwysigrwydd manteisio ar y cyswllt anhepgor rhwng ffyniant economaidd a ffyniant ieithyddol ar hyd y gorllewin Cymraeg. Cynigiwyd gwelliannau 2, 3, 4 a 5. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae'n braf cael cymryd rhan yn y ddadl hon. A gaf i ddiolch i'r Ceidwadwyr am ddod â'r testun hwn o'n blaenau ni heddiw? O ystyried bod gen i'r gwaith o drio perswadio’r Ceidwadwyr i gefnogi ein gwelliant 4 ni, mi ddylwn i, mae'n siŵr, beidio â dweud unrhyw beth rhy negyddol am y Ceidwadwyr, ond mae gen i ofn bod rhaid imi ddechrau efo pwyntio allan yr eironi fod y Ceidwadwyr yn y fan hyn yn dod â chynnig o'n blaenau ni'n beirniadu Llywodraeth Cymru am fethiant i greu tegwch a chydbwysedd rhanbarthol yng Nghymru, pan mae record y Ceidwadwyr eu hunain, fel Llafur, rhaid dweud, ar lefel Prydain, yn un o fod wedi creu lefel ryfeddol a anghyfartaledd. Mewn ffordd, beth mae'r Ceidwadwyr yn ei ddweud heddiw ydy fod Cymru yn neilltuol o fewn y Deyrnas Unedig o ran y math o anghyfartaledd sydd yma. Ond edrychwch ar sut mae Prydain yn anghyfartal o'i chymharu â llawer iawn o'n partneriaid Ewropeaidd ni: mae Prydain, neu'r Deyrnas Unedig, yn llawer mwy anghyfartal yn economaidd na'r Eidal, er bod yr Eidal yn cael ei hadnabod fel gwladwriaeth lle mae yna anghyfartaledd enfawr a gwahaniaeth traddodiadol rhwng y gogledd cyfoethog a'r de tlotach. Mae Prydain yn fwy anghyfartal na'r Almaen, lle mae yna'n dal, chwarter canrif a mwy ar ôl uno'r wlad honno, anghyfartaledd sylweddol o hyd rhwng yr hen ddwyrain a'r gorllewin, lle mae GDP yn y dwyrain yn dal ddim ond rhyw ddwy ran o dair o'r gorllewin. Ond dal, mae'r Deyrnas Unedig yn fwy anghyfartal na hynny. Os ydyn ni'n edrych ar y realiti yma yn y Deyrnas Unedig ar lefel isranbarthol, mae allbwn y pen wyth gwaith yn fwy yng ngorllewin Llundain nag yng ngorllewin Cymru a'r Cymoedd. Does yna ddim gwahaniaeth tebyg i hynny nunlle arall yn yr Undeb Ewropeaidd. Felly, all y Ceidwadwyr, mae'n ddrwg gen i, ddim dadlau eu bod nhw mewn rhyw ffordd yn blaid sydd yn hybu cyfartaledd, achos mae'r Ceidwadwyr fel plaid Brydeinig a Llafur fel plaid Brydeinig wedi methu â sicrhau y math yna o gyfartaledd yr ydw i yn dymuno ei weld yn cael ei greu yng Nghymru yn y dyfodol. Mae gen i hyder yng ngallu Cymru i fod yn genedl-wladwriaeth sydd yn gallu anelu at greu y math o gyfartaledd sydd ond yn freuddwyd ar lefel y Deyrnas Unedig, a'r peth olaf rydw i eisiau ei weld ydy Cymru mewn rhyw ffordd yn datblygu yn wlad lle mae anghyfartaledd yn ein gwlad ni yn troi allan yn debyg i'r hyn sydd yna yn y Deyrnas Unedig yn gyflawn. Dydw i ddim—[Torri ar draws.] Ie, wrth gwrs. Russell George AC: Rwy'n deall ac yn derbyn yr hyn yr ydych yn ei ddweud, ond rydych hefyd yn awgrymu ein bod ni ar y meinciau hyn a meinciau Llafur yn bleidiau'r DU a'ch bod chi'n blaid Gymreig, ac eto mae ein cynnig yn ymwneud â'r anghydraddoldebau yng Nghymru. Rydym yn sôn am yr anghydraddoldebau ar draws y wlad. Rhun ap Iorwerth AC: Mae'n ddyletswydd arnaf i dynnu sylw at yr eironi yn eich safbwynt fel plaid sydd wedi methu'n gyfan gwbl â chyflwyno'r math o gydraddoldeb ar lefel y DU y dywedwch ein bod am ei weld yng Nghymru. Nid oes cuddio rhag y ffaith bod y ddwy brif blaid yn y DU, drwy lywodraethu am ddegawdau, am genedlaethau, wedi methu sicrhau cydraddoldeb yn y DU. Ac rydych yn hollol gywir, mae angen inni siarad ynglŷn â sut y gallwn ddod â'r math hwnnw o gydraddoldeb i Gymru. Rhun ap Iorwerth AC: Dydw i ddim yn un, gyda llaw, sydd yn licio siarad am bopeth yn mynd i'r de. Hynny ydy, mae o'n beth populist iawn i'w wneud yn y gogledd. Nid sblit de/gogledd sydd gennym ni yng Nghymru, ond mae yna wahaniaeth rhwng y dwyrain a'r gorllewin, lle mae yna gyfoeth yn y gogledd-ddwyrain ac yn y de-ddwyrain sydd angen cael ei ledaenu i rannau eraill o Gymru. Ond mae'n rhaid inni chwilio am ffyrdd o wneud hynny. Mi soniaf i yn fyr am y regional renewal Bill yma, y Bil adnewyddu rhanbarthol, yng ngwelliant 4, yr ydym ni yn eiddgar iawn i'w weld yn digwydd. Mae ffigurau yn dangos i ni fod buddsoddiad mewn isadeiledd, mewn trafnidiaeth ac ati yn anghyson iawn yng Nghrymu ar hyn o bryd. Rydych chi wedi cyfeirio, Russell George, at ffigurau ynglŷn â'r diffyg tegwch yna rhwng buddsoddiad mewn gwahanol rannau o Gymru. Beth fyddwn i'n dymuno ei weld ydy Bil yn cael ei ddatblygu lle y byddai yna reidrwydd ar Lywodraeth i ddangos ei bod hi'n ystyried tegwch a chyfartaledd rhanbarthol yn ei phenderfyniadau gwariant hi, yn yr un ffordd, mewn ffordd, ac mae Deddf cenedlaethau'r dyfodol yn gorfodi'r Llywodraeth i feddwl a ydy ei phenderfyniadau hi yn llesol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mi ddylem ni fod yn meddwl yn rhanbarthol yn y ffordd yma, ac mi fyddwn i'n croesawu cael eich cefnogaeth chi i'r egwyddor o gael y math yna o Fil. Mae'r cloc yn fy erbyn i, er fy mod i wedi cymryd ymyriad gan Russell George. Mae Siân Gwenllian yn mynd i fod yn siarad yn benodol am y cynlluniau sydd gennym ni ar gyfer creu bwrlwm economaidd yng ngorllewin Cymru, ond mae'n rhaid inni fod yn glir pa fath o Gymru dŷn ni'n dymuno ei gweld. Mae'n gorfod bod yn Gymru sydd yn llewyrchus, wrth gwrs, ond sydd yn dod â'r llewyrch yna i bob rhan o'r wlad. Dyna pam dwi'n apelio arnoch chi gefnogi ein gwelliannau ni heddiw. Mohammad Asghar (Oscar) AC: Roedd cefnogwyr datganoli ar ddiwedd y 1990au yn honni na ellid mynd i'r afael â methiant cymharol economi Cymru heb greu atebion wedi'u teilwra yma yng Nghymru. Yn anffodus, o dan weinyddiaethau Llafur Cymru olynol, nid yw hynny wedi digwydd. Mae economi Cymru wedi tangyflawni dros yr 20 mlynedd diwethaf ac mae wedi methu dal i fyny ag economi'r DU yn ei chyfanrwydd. O ganlyniad, Cymru yw'r wlad dlotaf yn y Deyrnas Unedig o hyd. Nid yn unig fod Llywodraeth Cymru wedi methu cau'r bwlch gwerth ychwanegol gros rhwng Cymru a Lloegr yn sylweddol, mae wedi methu mynd i'r afael â'r anghydraddoldeb economaidd rhanbarthol sy'n dal i fodoli yng Nghymru. Mae'r cyferbyniad yn amlwg iawn. Rhennir Cymru'n economaidd rhwng gogledd, de, dwyrain a gorllewin, trefol, gwledig a pha ffordd bynnag yr hoffech feddwl amdano. Yn fy rhanbarth i, Dwyrain De Cymru, mae'r rhaniad yn glir. Yn 2017, roedd gwerth ychwanegol gros y pen yn llai na £15,000 yng Nghymoedd Gwent. Yng Nghasnewydd, roedd y ffigur dros £23,000 y pen. Os cymharwch werth ychwanegol gros y pen yr holl awdurdodau lleol yn y Deyrnas Unedig, mae Blaenau Gwent ymhlith y pump isaf. Mae enillion yng Nghymru wedi aros yn is na gweddill y Deyrnas Unedig. Gan gymryd Blaenau Gwent fel enghraifft eto, telir llai na'r cyflog byw gwirfoddol i fwy na 30 y cant o weithwyr y fwrdeistref. Rwy'n cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno nifer o fentrau i geisio ymdrin â phroblem anghydraddoldeb rhanbarthol. Cafwyd teitlau mawreddog i bob un: 'Cymru'n Ennill', ' Cymru: Economi yn Ffynnu ', ' Adnewyddu'r Economi: cyfeiriad newydd ', ond nid oes yr un wedi cyrraedd y nod ac wedi cyflawni'r gweddnewidiad sydd ei angen ar economi Cymru. Un enghraifft o'r methiant hwn yw'r adenillion gwael a gafwyd o bolisi Llywodraeth Cymru ar ardaloedd menter. Ers creu'r ardaloedd hyn yn 2012, dyrannwyd £221 miliwn o arian cyhoeddus i gefnogi'r polisi. Yng Nglyn Ebwy yn unig, gwariwyd bron i £95 miliwn ar greu, diogelu neu gynorthwyo 390 o swyddi'n unig. Er gwaethaf y chwistrelliad o arian cyhoeddus mawr, mae ardaloedd menter wedi methu cyflawni eu hamcanion allweddol. Ddirprwy Lywydd, eu nod oedd meithrin gallu sectorau penodol o economi Cymru a denu arian i'r ardaloedd dynodedig hynny, ond maent wedi methu gwneud unrhyw effaith sylweddol ar dwf economaidd. Mae strategaethau blaenorol Llywodraeth Cymru wedi addo archwilio a manteisio ar botensial creu swyddi buddsoddiadau seilwaith mawr. Fodd bynnag, mae un prosiect o'r fath gyda photensial i sicrhau manteision enfawr i'r economi yn dal i fod wedi'i fwrw o'r neilltu. Mae ffordd liniaru'r M4 ar hyn o bryd wedi'i llethu gan ddull o weithredu ar ran Llywodraeth Cymru sy'n gyfuniad o din-droi ac amhendantrwydd. Mae'r Llywodraeth hon wedi colli ei diben a'i synnwyr o gyfeiriad. Nid yw'n syndod bod Alun Davies AC, nad yw yma ar hyn o bryd, wedi dweud ei bod, yn ei eiriau ef—ac rwy'n dyfynnu— 'yn symud i ffwrdd oddi wrth yr ymrwymiad hwnnw i ddiwygio ac… yn edrych ar y cyfenwadur lleiaf.' Ddirprwy Lywydd, mae Cymru angen strategaeth economaidd ar gyfer twf, un sy'n gwneud cynigion clir ac yn gosod targedau fel y gellir mesur y cynnydd tuag at y nodau hynny. Oni bai bod Llywodraeth Cymru yn gwneud hyn, bydd economi Cymru yn parhau i dangyflawni a byddwn yn parhau i nychu ar waelod y gynghrair economaidd. Mae cydraddoldeb economaidd yn ymwneud â mwy nag arian a datblygu, ond hefyd ag addysg, cyflogaeth, gallu i ennill, incwm, tlodi a chyfoeth yng Nghymru. Mae nifer y bobl sy'n byw o dan lefel tlodi yn llawer uwch yng Nghymru nag unrhyw genedl ddatganoledig arall yn y Deyrnas Unedig. Yn yr un modd, o ran tlodi ymhlith plant dyma'r ardal waethaf yn y Deyrnas Unedig. Dosbarthiad cyfoeth—mae enillion y bobl gyfoethocaf yng Nghymru, y 10 y cant uchaf, yn is na £100,000. Felly, Ddirprwy Lywydd, credaf fod llawer o bethau y mae angen i'r Llywodraeth hon ei wneud cyn y gallwn ddweud bod gennym gydraddoldeb yng Nghymru—cydraddoldeb o ran dosbarthiad cyfoeth ymhlith pobl Cymru. Diolch i chi. Mike Hedges AC: Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Unwaith eto, rwy'n croesawu'r ddadl hon; nid wyf yn credu ein bod yn siarad digon am economi Cymru. Ym Mhrydain, mae Llundain a de-ddwyrain Lloegr ymhlith y rhanbarthau cyfoethocaf yn Ewrop, a gorllewin Cymru a'r Cymoedd ymhlith y tlotaf. Yr unig ranbarthau a gwledydd i wneud cyfraniad net i'r Trysorlys yw Llundain a de-ddwyrain Lloegr. Rydym hefyd yn gwybod bod Caerdydd yn darparu cyflogaeth sylweddol i'r ardaloedd cyfagos. Gwrandewch ar y radio yn y bore wrth deithio i Gaerdydd a siaradwch â phobl sy'n teithio ar reilffyrdd y Cymoedd i Gaerdydd—mae gennych dagfeydd traffig parhaus, mae gennych bobl wedi'u gwasgu ar y trenau. Pe bai Leanne Wood yma, rwy'n siŵr y byddai'n ymyrryd ac yn dweud bod ganddi hi brofiad personol o hynny. Ond a ddylai rhannau helaeth o dde Cymru fod yn cymudo i Gaerdydd yn unig? Pe baem yn cael y drafodaeth hon 50 mlynedd yn ôl, byddem mewn gwlad lle roedd glo a dur yn cyflogi cannoedd o filoedd o bobl, lle byddent yn siarad am Hoover ym Merthyr ac am BP yng Nghastell-nedd Port Talbot fel cyflogwyr mawr. Mae dirywiad dur a glo a chyflogwyr mawr eraill wedi gadael bwlch enfawr yn economi Cymru, ac nid yw wedi cael ei lenwi'n ddigonol. Gwyddom dri pheth am economi Cymru. Yn gyntaf, rydym yn wael am ddatblygu cwmnïau canolig eu maint i fod yn gwmnïau mawr, ond mae Admiral wedi dangos y gellir ei wneud. Yn ail, rydym yn tangyflawni o ran cyflogaeth mewn sectorau economaidd allweddol sy'n gysylltiedig â chyflogau uwch na'r cyfartaledd—TGCh a gwasanaethau proffesiynol yw dau ohonynt. Yn drydydd, nid yw'r cyfoeth economaidd hwnnw wedi'i ddosbarthu'n gyfartal ledled Cymru. Rwy'n siarad fel rhywun sydd wedi cefnogi bargen ddinesig Abertawe yn frwd ac rwy'n falch o'r ffordd y mae'n datblygu yn gyffredinol. Nod bargen ddinesig Abertawe yw mynd i'r afael â themâu a heriau integredig cyffredinol ynni, iechyd a lles a chyflymiad economaidd drwy harneisio pŵer trawsffurfiol rhwydweithiau digidol a sylfaen asedau bae Abertawe. Amcangyfrifir y gallai'r fargen ddinesig ddenu cyfanswm buddsoddiad o tua £3.3 biliwn o allbwn ac £1.3 biliwn o werth ychwanegol gros i Gymru, a chynnal tua 39,000 o swyddi yn y rhanbarth. Hyd yn oed os yw'r fargen ddinesig yn cyflawni pob uchelgais a bod yr holl fuddsoddiadau a'r swyddi'n cael eu gwireddu, ni fydd yn datrys problemau economaidd dinas-ranbarth bae Abertawe. A gaf fi siarad, fel y gwnaf yn aml, am un diwydiant allweddol nad yw wedi'i gyfyngu'n ddaearyddol ac sy'n meddu ar y gallu i greu cyfoeth enfawr, sef TGCh? Mae tueddiad i gwmnïau TGCh glystyru gyda'i gilydd, nid yn Nyffryn Silicon yn unig—ac os ydych chi erioed wedi edrych ar fap, nid oes dim yn arbennig am Ddyffryn Silicon ar wahân i'r ffaith bod rhai cwmnïau wedi dechrau yno a bod mwy a mwy wedi mynd yno. Nid oes unrhyw fanteision mawr yn perthyn i'r lle. Cawsom ddur yn ne Cymru am fod gennym y glo a'r mwyn haearn yma—nid oes ganddynt hwy fanteision mawr. Ond gwyddom eu bod yn clystyru gyda'i gilydd. Maent yn bodoli hefyd o amgylch prifysgol Caergrawnt—fe fyddwch yn dweud, 'Wel, ni ellir ein cymharu o ddifrif â Chaergrawnt'—ond hefyd, gemau cyfrifiadurol o amgylch Dundee. Nawr, rwy'n siŵr nad oes fawr iawn o leoedd yng Nghymru na ellir eu cymharu â Dundee. Yng Nghymru, mae mentrau canolig yn y sector wedi perfformio'n gryf gyda 92.8 y cant o gynnydd yn y trosiant rhwng 2005 a 2015. Mae angen troi rhai o'r cwmnïau TGCh canolig hyn yn gwmnïau TGCh mawr. Rydym yn gwybod bod TGCh yn sector sy'n talu cyflogau da a bod cyflwyno band eang cyflym iawn ledled rhanbarth bae Abertawe yn ei gwneud yn bosibl i gwmnïau TGCh ddatblygu. Gydag ansawdd y graddedigion TGCh sy'n cael eu cynhyrchu ym mhrifysgolion Cymru, mae'n rhaid ei bod yn siomedig iawn fod gan Gymru gyfran is o'i phoblogaeth na gweddill y DU yn gweithio mewn cwmnïau TGCh. Os ydym i wneud dinas-ranbarth bae Abertawe a Chymru yn gartref amlwg ar gyfer TGCh, mae angen inni gadw'r graddedigion hyn. Rydym yn cynhyrchu'r graddedigion ardderchog hyn ac mae Llundain, Birmingham, Manceinion a Chaergrawnt yn cael y budd ohonynt. Mae angen i Gymru gael y budd ohonynt. Pe bai gan Gymru yr un gyfran o'i phoblogaeth yn gweithio mewn TGCh ag a geir yn y DU yn ei chyfanrwydd, byddai ganddi tua 40,000 yn fwy o weithwyr TGCh nag sydd ganddi. Byddai hynny'n cael effaith enfawr ar werth ychwanegol gros ledled Cymru. Mae datblygu economi yn ymwneud â datblygu a hyrwyddo sectorau economaidd gwerth uchel. Ni fyddwn yn datblygu economi lwyddiannus a gwerth ychwanegol gros uchel ar gyflogau isel a gwaith tymhorol. Felly mae angen strategaeth ar gyfer buddsoddiad wedi'i dargedu er mwyn cael y swyddi cyflog uchel hyn. A yw'n bosibl? Pam fod gan Mannheim yn yr Almaen werth ychwanegol gros sydd oddeutu dair gwaith yr hyn sydd gan orllewin Cymru a'r Cymoedd? Pam y mae gan Aarhus yn Nenmarc werth ychwanegol gros sy'n agos at ddwywaith gwerth ychwanegol gros gorllewin Cymru a'r Cymoedd? Pam y mae'r lleoedd hyn yn llwyddiannus? Am fod ganddynt brosiectau a chynlluniau, ac maent yn dda am wneud pethau penodol. Yr hyn sydd angen inni ei wneud yw canfod beth rydym yn ei wneud yn dda, a datblygu yn unol â hynny. Yn llawer rhy aml, rydym yn sôn am geisio cael—. Pe bawn yn gofyn beth yw prif sectorau economaidd Cymru, credaf ei fod wedi dod i gyfanswm o tua 80 y cant o economi Cymru y tro diwethaf imi edrych. Rydym angen sectorau allweddol, a hyrwyddo sectorau allweddol. Yn olaf, os daliwch ati i wneud yr un peth, fe fyddwch yn cael yr un canlyniadau. Mark Reckless AC: Ym mhwynt 1 ein cynnig, siaradwn am anghydraddoldeb cynyddol fel y'i dangosir gan werth ychwanegol gros, yna ym mhwynt 4(b) siaradwn am ein hamcan i dyfu cyflogau a thyfu ffyniant ledled Cymru. Hoffwn bwysleisio bod gwahaniaeth rhwng gwerth ychwanegol gros a chyflogau a ffyniant, oherwydd mae gwerth ychwanegol gros yn edrych ar gynhyrchiant mewn ardal benodol. Fel y soniodd Mike, mae llawer o bobl yn cymudo i Gaerdydd o'r tu allan, a chaiff gwerth yr hyn a gynhyrchant ei gynnwys o fewn gwerth ychwanegol gros Caerdydd, yn hytrach na gwerth ychwanegol gros gorllewin Cymru a'r Cymoedd, dyweder, yn achos rhai o'r cymudwyr hynny o'r Cymoedd. A chredaf fod hyn yn rhywbeth y mae angen inni weithio gydag ef, yn hytrach na rhywbeth y gallwn ei wrthsefyll yn synhwyrol. Roedd Mike yn iawn hefyd pan ddywedodd fod diwydiannau gwahanol—a nododd TGCh fel un sy'n talu'n dda—yn tueddu i glystyru gyda'i gilydd, ac mae'r duedd honno wedi cynyddu dros yr 20 mlynedd a mwy diwethaf, ac rydym wedi gweld mwy o fanteision cydgrynhoi. Mae angen inni weithio gyda'r graen yn hynny o beth, yn hytrach na'i wrthsefyll, os ydym yn mynd i hybu cyflogau a ffyniant y bobl a gynrychiolwn. Rhun ap Iorwerth AC: A wnewch chi dderbyn ymyriad? Mark Reckless AC: Wrth gwrs. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch ichi am dderbyn ymyriad. A yw hynny'n rheswm digon da i chi gefnogi ein gwelliant heddiw sy'n galw am greu'r canolfannau cydgrynhoi hynny mewn sectorau amrywiol, mewn ardaloedd penodol o'r Gymru wledig yn benodol? Mark Reckless AC: Nid wyf yn diystyru ei gefnogi; byddwn yn ystyried y ddadl ac yn gwneud penderfyniad. Ond mae'n anos creu manteision cydgrynhoi mewn ardaloedd gwledig oherwydd bod y cydgrynhoad hwnnw'n galw am lawer o bobl yn gweithio gyda'i gilydd mewn lle cyfyng. Mae gennym hynny yng Nghaerdydd i ryw raddau, ac mae llawer o fy etholwyr yn ne-ddwyrain Cymru yn cymudo i Gaerdydd i swyddi sy'n talu'n eithaf da, ac mae hynny'n rhywbeth rwy'n ei groesawu. Ond credaf ei fod yn rhywbeth y mae angen i Lywodraeth Cymru ei gefnogi, ac mae parhau i lusgo traed fel hyn a methu gwneud penderfyniad ynglŷn â ffordd liniaru'r M4 yn un anghymhelliad mawr ac yn atal twf yn ninas-ranbarth Caerdydd a thu hwnt. Yn yr un modd, rwy'n cefnogi metro de Cymru; credaf fod hwnnw'n syniad rhagorol. Edrychaf ymlaen at weld Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â hynny cyn gynted â phosibl. Eto, rydym hefyd yn gweld pobl yn cymudo i Fryste yn ne-ddwyrain Cymru, ac o ran hynny, mae dileu'r tollau ar bontydd Hafren yn hollol wych. Ac rydym yn gweld twf gwirioneddol sylweddol yng Nghasnewydd; mae mwy nag un o bob chwe chartref newydd yng Nghymru bellach yn cael eu hadeiladu yng Nghasnewydd. Nawr, mae llawer o'r rheini'n gartrefi i bobl sy'n cymudo—unwaith eto, i swyddi sy'n talu'n gymharol dda, yn aml—yn ardal Bryste. Soniodd Mike am Lundain a de-ddwyrain Lloegr fel rhai sy'n uwch na'r cyfartaledd, ond er nad yw Bryste'n rhanbarth, mae ei gwerth ychwanegol gros gryn dipyn yn uwch na'r cyfartaledd ar gyfer y DU, ac unwaith eto mae'n dda ar gyfer y swyddi TG. Ac mae'n wirioneddol bwysig ar draws de Cymru—o Abertawe i Gaerdydd i Gasnewydd i Fryste—ein bod yn cysylltu'r ardal honno gyda'i gilydd fel rhanbarth yn well o lawer nag y gwnawn ar hyn o bryd, ac mae honno'n un ffordd bwysig iawn o hybu ffyniant, ar gyfer yr ardal honno o Gymru o leiaf. A gaf fi droi'n fyr at y bargeinion dinesig? Roeddwn yn meddwl bod digwyddiad twf canolbarth Cymru yr wythnos diwethaf yn wych ac roeddwn yn falch iawn fod Russell wedi fy annog i fynd i hwnnw, a llongyfarchiadau iddo ef ac i eraill a oedd yn rhan o'r gwaith o arddangos yr holl fusnesau trawiadol hynny o bob rhan o ganolbarth a gorllewin Cymru. Ond dywedir wrthym nad oes ond tri busnes yn y rhanbarth hwnnw â mwy na 200 o weithwyr. Mae gan Geredigion a Phowys gyda'i gilydd boblogaeth lai o lawer nag unrhyw ranbarth arall rydym yn edrych arnynt ar gyfer bargeinion dinesig, ac rwy'n dweud wrth Lywodraeth Cymru fod angen iddynt gofio hynny wrth ystyried sut i weithio gyda hwy. Ni allwn gael un templed unigol ar gyfer y modd y mae'r bargeinion hyn yn gweithio, a chredaf fod y ddau gyngor hynny angen llawer mwy o gymorth gan Lywodraeth Cymru i weu'r fargen honno gyda'i gilydd a gwneud iddi weithio ar gyfer eu hardal leol. Mike Hedges AC: A wnewch chi dderbyn ymyriad? Mark Reckless AC: Yn gyflym, gwnaf. Mike Hedges AC: Mae ganddynt ddwy brifysgol hefyd, ac efallai y gallem ddechrau defnyddio budd y prifysgolion hynny i helpu i ysgogi cyfoeth. Mark Reckless AC: Cytunaf â phwynt yr Aelod. Dechreuodd y bargeinion dinesig yn ôl ym mis Gorffennaf 2012 pan gytunwyd ar yr wyth bargen gyntaf yn y DU. Nawr, roedd yr wyth yn Lloegr, ac yn cynnwys lleoedd fel Bryste a Nottingham, o faint tebyg i Gaerdydd a heb fod yn llawer mwy nag Abertawe. Pam y cymerodd gymaint o amser i'r cysyniad hwn gael ei ddatblygu yng Nghymru? Yn Lloegr, rhwng mis Gorffennaf 2012 a'r rhai cyntaf hynny, gwelsom 20 bargen arall yn dod i fodolaeth erbyn mis Gorffennaf 2014. Eto roedd hi'n fis Mawrth 2017 arnom yn gweld bargeinion Caerdydd ac Abertawe yn weithredol, ac rydym yn dal i weithio i gael bargen gogledd Cymru, a bargen canolbarth Cymru yn enwedig, i'r pwynt hwnnw. Felly, hoffwn ddweud fy mod yn falch o weld rhywfaint o ymrwymiad a chefnogaeth yn awr, ac rwy'n gobeithio y gwelwn ragor o hynny, ond pam y cymerodd gymaint o amser? A gadewch inni fwrw ymlaen a cheisio gwneud hyn ar fyrder. Neil Hamilton AC: Rydym newydd gael dwy araith ddiddorol iawn gan Mark Reckless a Mike Hedges, ac rwy'n cytuno â'r cyfan. Pe bai Mike Hedges yn arweinydd plaid wleidyddol, rwy'n aml yn meddwl y gallwn gael fy nhemtio i ymuno, oherwydd rwy'n aml yn cytuno â llawer o'r hyn a ddywed yn y Siambr. Gobeithiaf nad yw'n hynny gwneud niwed angheuol i'ch gyrfa. Ond fe wnaeth rai pwyntiau cadarnhaol ac ymarferol iawn. Mae'n rhy hawdd siarad ynglŷn â sut y mae Cymru ar waelod y gynghrair mewn cymaint o'r tablau economaidd a sut y mae wedi mynd tuag yn ôl yn yr 20 mlynedd diwethaf, a sut y ceir gwahaniaeth enfawr o ran incwm rhwng gorllewin Cymru a Chaerdydd, er enghraifft, a bod angen inni lenwi'r bwlch. Ond y gwir amdani yw bod angen i Gymru godi lefel creu cyfoeth yn yr economi a chodi lefelau incwm yn fwy cyffredinol. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, ni wneuthum—. Mae'n ddrwg gennyf. Felly, mae hyn yn rhywbeth sydd wedi methu digwydd i raddau syfrdanol dros yr 20 mlynedd diwethaf. Nawr, nid wyf am lwytho'r bai i gyd ar Lywodraeth Lafur Cymru oherwydd, yn amlwg, nid yw'n meddu ar yr holl ysgogiadau a phwerau economaidd. Yn wahanol i Weriniaeth Iwerddon, er enghraifft, ni all leihau'r dreth gorfforaeth na newid strwythur y dreth i ffafrio rhai o ddiwydiannau twf y dyfodol. Ac mewn gwirionedd, dros y blynyddoedd, rwyf wedi dod i deimlo'n fwy cadarnhaol tuag at ddatganoli nag yr oeddwn 20 mlynedd yn ôl, nid yn unig oherwydd fy mod wedi fy ethol i'r lle hwn, ond o ddefnyddio datganoli mewn ffordd sy'n llawn dychymyg, a'i ymestyn mewn rhai ffyrdd hyd yn oed, gallaf weld y gallem newid y cefndir economaidd cyffredinol o ran trethiant a rheoleiddio i roi mantais gymharol i ni ein hunain—[Torri ar draws.]—o'i gymharu â'n cymdogion. Iawn, wrth gwrs. Andrew RT Davies AC: Rydych chi'n hollol iawn i nodi'r dreth gorfforaeth fel un o'r prif bethau nad oes gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb drostynt, ond mae ganddynt gyfrifoldeb dros ardrethi busnes a gallai wneud gwahaniaeth enfawr i lawer o fusnesau bach ar hyd a lled Cymru, ac eto maent wedi dewis peidio â gwneud hynny. Neil Hamilton AC: Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Gellid dweud hynny am y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd wrth gwrs, fod ardrethi busnes yn dreth eiddo sy'n gyfan gwbl hen ffasiwn a phrin fod unrhyw gysylltiad rhyngddi ag incwm pobl, ac felly eu gallu i dalu. Nid yw cyrraedd o lle'r ydym i lle'r hoffem fod o reidrwydd yn beth hawdd i'w wneud wrth gwrs, ond er hynny, i wlad fel Cymru sydd ar waelod y tabl o wledydd a rhanbarthau Lloegr, credaf fod angen inni gael rhyw fath o ymateb dychmygus gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig—yn ogystal â Llywodraeth Cymru—sydd ag ysgogiadau pŵer economaidd yn ei dwylo, a byddai modd iddynt lunio rhyw fath o becyn ar gyfer Cymru, ac nid Cymru'n unig, ond ar gyfer yr Alban, ac ar gyfer rhanbarthau eraill yn Lloegr yn ogystal, i roi mantais gymharol iddynt, neu i leihau'r anfantais gymharol rydym wedi'i hetifeddu o hanes. Fel y nododd Mike Hedges, collodd Cymru lawer o swyddi diwydiant trwm a oedd yn talu'n dda ac roeddent yn gyflogwyr llafur mawr, ac ni ddaeth dim yn eu lle a allai gymharu â hwy. Yn anffodus, nid yn unig oherwydd rheoliadau'r UE ond oherwydd—ac mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn derbyn hyn yn frwd—mae gennym bolisi ynni wallgof yn y wlad hon, lle'r ydym yn mynnu ychwanegu at gostau diwydiant drwy drethi a thaliadau gwyrdd, a chaiff swyddi eu hallforio, yn enwedig mewn diwydiannau ynni-ddwys, i rannau eraill o'r byd nad ydynt yn pryderu cymaint ynghylch niwed amgylcheddol, hyd yn oed os ydych yn derbyn egwyddorion cynhesu byd-eang a achoswyd gan bobl. Nid oes gennyf syniad pam y mae'n rhaid i'n diwydiant dur ymdopi â hyn. Fel y nodais sawl gwaith yn y gorffennol, nid yw'r hyn sy'n digwydd yng Nghymru yn mynd i wneud unrhyw wahaniaeth o gwbl i lefelau carbon deuocsid o amgylch y blaned, ac eto, fel rhan dlotaf y Deyrnas Unedig ac un o rannau tlotaf gorllewin Ewrop, rydym yn rhan o'r byd na all fforddio'r math hwn o hunanfoddhad. Felly, rwy'n— [Torri ar draws.] Wel, mae'r ffeithiau'n siarad drostynt eu hunain; nid oes gennyf amser i fanylu arnynt yn awr, ond byddaf yn gwneud araith i'r perwyl hwnnw eto cyn hir, rwy'n siŵr. Ond mae'r hyn a wnaeth y Llywodraeth, a'r hyn y mae'n bwriadu ei wneud ar seilwaith trafnidiaeth, yn enwedig y seilwaith rheilffyrdd, yn beth da iawn yn fy marn i, ac rwy'n sicr yn derbyn yr hyn a ddywedodd Mark Reckless ynglŷn â datrys y problemau traffig o amgylch Casnewydd. Os yw Cymru'n mynd i wneud ei hun yn lleoliad mwy deniadol ar gyfer buddsoddi, bydd hwylustod dod i mewn a mynd allan o Gymru yn gwbl allweddol. Ond mae'n rhaid i awyrgylch cyffredinol Cymru ddod yn fwy cadarnhaol a siriol a chyfeillgar tuag at fentrau yn fy marn i. Ceir llawer o ystadegau y gallwn eu dyfynnu ynghylch anallu cymharol Cymru yn y blynyddoedd diwethaf i ddenu entrepreneuriaid yma a busnesau a mentrau yn niwydiannau'r dyfodol, fel y nododd Mike Hedges yn gynharach. Ceir mwy o raglenwyr a chodwyr yn y DU nag yn Nyffryn Silicon a San Francisco ac yn y blaen. Felly, rwy'n derbyn yn llwyr mai'r rhain yw diwydiannau'r dyfodol. Felly, mae arnaf ofn nad yr ateb yw mwy a mwy o wariant gan y Llywodraeth ond yn hytrach, llai o bwysau gan Lywodraethau ar bobl a busnesau. Dyna'r ffordd ymlaen i Gymru. Siân Gwenllian AC: Dwi’n gobeithio y gall pawb ohonom ni gefnogi gwelliant 5, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Yn 2017, fe wnaeth Adam Price a minnau gyhoeddi’r papur trafod yma, ‘Dyfodol y Gorllewin: Cydweithio er Lles yr Economi a’r Gymraeg’. Roedd yn amlinellu’r awydd i weld cynghorau sir y gorllewin—Môn, Gwynedd, Ceredigion a sir Gâr—yn gweithio efo’i gilydd ar faterion strategol datblygu economaidd. Mae sefyllfa economaidd ac ieithyddol y gorllewin wedi cyrraedd pwynt argyfyngus—allfudo pobl ifanc, lefelau incwm y pen yn isel, ymhlith yr isaf yn Ewrop, diffyg buddsoddi, y Gymraeg fel iaith gymunedol yn edwino, a Brexit yn bygwth dyfodol amaeth a’r cymunedau cefn gwlad a phrifysgolion yr ardal hefyd. Mae’r heriau yn fawr ac mae angen atebion brys. Fe lwyddodd Plaid Cymru i berswadio Llywodraeth Cymru i neilltuo £2 filiwn tuag at y gwaith cychwynnol, ac mae egin rhanbarth economaidd y gorllewin—Arfor—bellach wedi ei sefydlu. Mae’r cysyniad yn cydio ac yn gwreiddio. Bydd yn gallu mynd o nerth i nerth o hyn ymlaen, a gweledigaeth Plaid Cymru ydy creu rhanbarth economaidd gref yn y gorllewin, a fydd yn gweithredu ymyraethau economaidd effeithiol er mwyn taclo rhai o’r heriau mawr sy’n wynebu’r ardal wledig, Gymreig yma. Mi fydd y rhanbarth yn cynnwys ardaloedd twf megis ardal y Fenai, sydd yn cwmpasu rhan o fy etholaeth i yn Arfon. Mae’r Torïaid, ac, fe ymddengys, y Llywodraeth Lafur hon hefyd, yn rhoi llawer iawn o’u sylw ar y dinasoedd rhanbarth. Dydy hynny ddim yn mynd i gryfhau’r mwyafrif o ardaloedd sydd yn fregus yn economaidd yng Nghymru. Mae’n strategaeth datblygu economaidd wallus yn fy marn i, am ei bod yn un sy’n dilyn ideoleg y farchnad rydd. Pen draw creu’r dinasoedd rhanbarthol ydy sugno twf i ardaloedd sydd yn tyfu’n barod, gan amddifadu’r ardaloedd gwledig a’r ardaloedd difreintiedigo'r gefnogaeth economaidd sydd ei hangen. Ac i mi, dylai’r strategaeth economaidd fod yn cefnogi’r ardaloedd a’r boblogaeth sydd angen cefnogaeth. Ond, ar hyn o bryd, polisi 'i’r pant y rhed y dŵr' sydd ar waith: crynhoi adnoddau mewn ardaloedd sydd eisoes yn ffynnu. Felly, diolch byth am yr egin Arfor. Mae bwrdd Arfor wedi cael ei sefydlu rhwng y bedair sir, ac fe gytunwyd ar ddatganiad o bwrpas, sef gweithio mewn partneriaeth i sefydlu fframwaith lle bydd datblygiad economaidd a chynllunio ieithyddol yn cael eu cydgysylltu. Fe fydd cynllun strategol yn cael ei baratoi fydd yn gosod gweledigaeth hirdymor a ffordd o weithio i gyflawni ffyniant economaidd ac ieithyddol yng ngorllewin Cymru. Yn ogystal, fe fydd ystod o brosiectau yn cael eu gweithredu a’u gwerthuso er mwyn canfod y ffyrdd mwyaf effeithiol o greu ffyniant economaidd ar lawr gwlad, a dwi’n edrych ymlaen yn fawr at weld y gwaith yn datblygu. Megis dechrau mae hyn. Mae Arfor yn wrthbwynt pwysig i’r dinasoedd rhanbarth a’r ardaloedd twf, ac mae’n haeddu cael ei chydnabod yn llawn fel y gall datblygu’n bwerdy grymus gorllewinol i’r dyfodol. Nick Ramsay AC: Wel, mae Neil Hamilton yn galw ar bawb ohonom i fod yn fwy siriol ac rydym wedi cyrraedd y pwynt gyda'r nos pan fo Mike Hedges yn cael ei annog i greu plaid wleidyddol newydd. Felly, credaf ei bod hi'n amlwg yn bryd i bawb ohonom bacio'n bagiau a dirwyn y ddadl hon i ben, a byddaf yn caniatáu—[Torri ar draws.]—i fy nghyd-Aelod wneud hynny wedi i'r Gweinidog siarad. Edrychwch, fel y dywedodd Mohammed Asghar, rwy'n credu, tuag at ddechrau'r ddadl hon, mae 2019 yn nodi 20 mlynedd ers datganoli, ac rydym yn cofio rhai o'r addewidion mawr a roddwyd i ni yn ôl ar ddechrau'r broses honno. Un o'r prif addewidion, wrth gwrs, oedd y byddai gan Lywodraeth Cymru reolaeth ar ei hysgogiadau economaidd ac y byddai'n gallu hybu'r economi. Wel, a bod yn deg â'r Cynulliad cynnar hwnnw, roedd y pwerau'n gyfyngedig. Rydym yn sefyll ar groesffordd yn awr gyda datganoli pwerau treth a mwy o adnoddau at ein defnydd, ac rydym wedi bod trwy lawer o refferenda i ymestyn pwerau. Fel y dywedodd Russ George wrth agor y ddadl hon, mae angen inni hybu ffyniant economaidd ardaloedd tlotaf Cymru—dyna yw hanfod y ddadl hon. Ac nid oes un ateb cyflym. Nid oes lle i ystrydebau ac esgus bod gan unrhyw blaid unigol yma yr atebion i gyd, ac y byddech, drwy wneud dim mwy na newid polisïau dros nos yn cyrraedd y wlad hudol honno nad yw'n bodoli. Yr unig ffordd o ddatrys y sefyllfa hon yw drwy gefnogi mentrau bach a chanolig a hefyd drwy ddatblygu ein rhwydwaith trafnidiaeth, ac nid ein rhwydweithiau trafnidiaeth yn unig, ond band eang hefyd, ac nid wyf yn meddwl bod hwnnw wedi cael sylw heddiw, a sicrhau bod ein seilwaith digidol—mae'n ddrwg gennyf, Mike, fe sonioch chi amdano; un o bolisïau eich maniffesto, yn amlwg, ar gyfer y blaid newydd—datblygu ein rhwydwaith trafnidiaeth a'n seilwaith band eang mewn ardaloedd trefol a gwledig. Oherwydd, oes, mae yna ddiffyg cydraddoldeb rhwng ardaloedd trefol a gwledig Cymru, a'r gogledd a'r de a'r dwyrain a'r gorllewin, ond nid oes modd datrys hynny ag un ateb cyflym. Rhaid i'r pwerau trethu newydd fod yn rhan o'r ateb, gan gynyddu atebolrwydd y lle hwn ar y naill law, a defnyddio pwerau benthyca newydd i fuddsoddi mewn seilwaith—ac wrth gwrs, mae datblygu sylfaen dreth gystadleuol a chynaliadwy sy'n annog creu cyfoeth yn allweddol, oherwydd, heb ddatblygu'r dulliau hynny o greu cyfoeth, ni fydd gennych gyfoeth i'w rannu; ni fydd gennych gyfoeth i'w drethu ac i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus hollbwysig. Ac rwy'n croesawu ymrwymiad newydd y Gweinidog Cyllid i gadw treth incwm ar yr un lefel â lefelau Lloegr tan etholiad nesaf y Cynulliad fan lleiaf. Fel y dywedodd y Prif Weinidog tuag at ddiwedd ei gyfnod fel Gweinidog Cyllid: os ydych yn codi cyfradd sylfaenol treth incwm, rydych yn mynd ag arian oddi wrth y bobl sydd leiaf tebygol o allu ei fforddio a hynny mewn cyfnod heriol. A gwyddom nad oes digon o drethdalwyr ar y gyfradd uwch yng Nghymru ar hyn o bryd—cyfran lawer is yma nag yn Lloegr—i allu trethu'r rheini mewn unrhyw ffordd sy'n debyg i'r hyn a fyddai'n angenrheidiol er mwyn codi'r math o arian y byddai ei angen heb gynyddu twf economaidd mewn gwirionedd. Felly, mae angen inni dyfu'r sylfaen drethu. Crybwyllwyd dinas-ranbarth Caerdydd, a rhanbarth Abertawe mewn gwirionedd, ac rwy'n derbyn pwynt Mike Hedges: mae'r dinas-ranbarthau'n iawn, ond rhaid inni edrych ar y cwmnïau o fewn y dinas-ranbarthau hynny, ac nid oes unrhyw werth mewn cael llawer o fentrau bach a chanolig o'r math y mae pawb ohonom am eu hannog os oes toriad wedyn rhwng bod y cwmnïau hynny'n mynd ymlaen i fod yn gwmnïau gwirioneddol fawr ar y llwyfan Ewropeaidd, ac yn wir ar y llwyfan rhyngwladol.Felly, mae angen edrych ar bob math o bethau, ac fel rwy'n dweud, nid wyf yn credu bod un polisi unigol yn bodoli a fydd yn gwella hyn. Ken Skates, Gweinidog yr economi, sy'n mynd i fod yn ymateb i'r ddadl hon, ond mewn gwirionedd, rwy'n credu ei fod wedi cwmpasu pob portffolio a phob adran weinidogol mewn rhyw ffordd neu'i gilydd—mae'n un o'r dadleuon hynny. Ond mae un peth yn glir: mae angen i'r 20 mlynedd nesaf o ddatganoli gyflawni twf economaidd a ffyniant cynyddol mewn ffordd na wnaeth yr 20 mlynedd diwethaf. Credaf ein bod yn sefyll ar groesffordd o ran datganoli pan fydd yr adegau pan allwn droi a dweud, 'Nid oes gan y lle hwn bwerau i allu cyflawni hynny', y tu ôl i ni a mater i'r bobl yn y Siambr hon fydd gwneud yn siŵr y byddwn yn cyflawni'r math o welliant yn economi Cymru y mae pawb ohonom am ei weld. Nid oes raid i chi roi ffurflen aelodaeth plaid newydd i mi eto, Mike Hedges, ond rwy'n hapus iawn i weithio gyda chi ac unrhyw Aelod o'r Siambr hon sydd am symud Cymru ymlaen yn awr ac yn y dyfodol. Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates? Ken Skates AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n fraint ac yn anrhydedd gallu ymateb i'r Aelodau yn y ddadl hon heddiw. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau a chredaf fod Nick Ramsay yn llygad ei lle: mae ffyniant yn dibynnu ar fwy na'r dulliau sydd gan un adran o fewn y Llywodraeth at ei defnydd. Fodd bynnag, rwy'n falch iawn o allu ymateb i'r ddadl hon. Ar y cychwyn, hoffwn ddweud y bydd ein dull newydd o weithredu a nodir yn y cynllun gweithredu economaidd, yn galluogi pob rhan o Gymru i ddatblygu eu cryfderau ac i fanteisio ar eu cyfleoedd fel eu bod yn gwneud mwy o gyfraniad i gyfoeth a lles yn genedlaethol, ond er mwyn iddynt hwythau hefyd elwa mwy drwy wneud hynny. Bydd dull mwy effeithiol a chydweithredol o weithredu ar ddatblygu economaidd rhanbarthol yn sicr o helpu i fynd i'r afael â hyn, a dyna pam ein bod wedi cyflwyno prif swyddogion rhanbarthol, a pham ein bod yn sefydlu tair uned ranbarthol o dan eu harweinyddiaeth. Mae Russell George yn llygad ei le i fynnu bod ganddynt ddigon o adnoddau dynol ac ariannol, ac fe ddywedaf ragor am hynny yn y man. Bydd yr unedau'n cefnogi gwaith i atgyfnerthu strwythurau llywodraethu rhanbarthol, aliniad effeithiol y dulliau ar draws adrannau'r Llywodraeth a datblygu cynlluniau rhanbarthol wedi'u cydgynhyrchu. Credaf mai'r prif swyddogion rhanbarthol a'u timau yw'r glud sy'n helpu i rwymo'r rhanbarthaugyda'i gilydd o amgylch achos cyffredin ac undod o ran ein diben, gan sicrhau arweinyddiaeth a chydlyniant i'r gwaith da sydd eisoes yn digwydd ar lefel ranbarthol. Mae hyn yn cynnwys, wrth gwrs, rôl y bargeinion dinesig a'r bargeinion twf yn sbarduno twf rhanbarthol. Nid yw bargeinion dinesig a thwf yn ateb i bopeth, ond mae ganddynt rôl allweddol i'w chwarae, cyhyd â'u bod wedi'u cydlynu'n effeithiol ochr yn ochr ag ymyriadau ehangach, a chredaf ei bod yn hanfodol fod pob rhan o Gymru'n teimlo eu bod wedi'u cynnwys yn y fenter hon, a dyna pam ein bod yn cefnogi uchelgais gogledd Cymru a chanolbarth Cymru ar gyfer eu bargeinion twf. Ni ddylid eu gweld fel cyfryngau cyllido prosiectau yn unig, er hynny. Maent yn arfau allweddol ar gyfer darparu fframwaith sy'n caniatáu i ranbarthau ysgogi ffordd newydd o weithio'n gydweithredol, gan bennu blaenoriaethau fel un llais a chyflawni swyddogaethau hanfodol ar lefel strategol. Mae angen i bob rhanbarth nodi eu blaenoriaethau ac ysgwyddo cyfrifoldeb am ysgogi twf economaidd cynaliadwy ar draws y rhanbarth. Dywedwyd llawer am yr ymdrechion yng nghanolbarth Cymru a gogledd Cymru, a hoffwn annog pob partner sy'n hyrwyddo'r bargeinion i sicrhau bod unrhyw fargen yn dangos y budd i'w rhanbarth cyfan, a'u bod yn weddnewidiol, yn uchelgeisiol ac yn wirioneddol uchelgeisiol. Ym mis Rhagfyr, cyhoeddwyd—[Torri ar draws.] Iawn, wrth gwrs. Rhun ap Iorwerth AC: Yn fyr, mae yna brosiectau, wrth gwrs, nad ydynt yn ymwneud â'r bargeinion. Argymhellais un, a awgrymwyd ddoe, ar Ynys Môn—ailagor y rheilffordd rhwng Gaerwen ac Amlwch—math pwysig o brosiect gweddnewidiol. Roeddwn yn siomedig fod y Llywodraeth a'ch meinciau chi wedi pleidleisio yn erbyn fy ngwelliant ddoe, ond fe roddaf un cyfle arall i chi ddweud bod y Llywodraeth yn awyddus i weithio gyda ni ar roi ffocws newydd i ddatblygu'r prosiect penodol hwnnw, a fyddai'n weddnewidiol, fel rwy'n dweud, i'r rhanbarth hwnnw. Ken Skates AC: Wel, a gaf fi ddiolch i Rhun ap Iorwerth am ei gwestiwn? Buaswn wrth fy modd yn gweld llawer o'n rheilffyrdd yn ailagor, gan gynnwys rheilffordd Amlwch. Yr hyn sy'n bwysig yw ein bod yn mynd ar drywydd arian Llywodraeth y DU sydd ei angen er mwyn agor llinellau rheilffyrdd mewn ffordd sy'n arwain at awdurdodau lleol yn cydweithio â Llywodraeth Cymru, ac wrth wneud hynny, ein bod yn datblygu dulliau strategol o weithredu er mwyn cael y cyfle gorau i sicrhau cyllid sy'n gystadleuol iawn. Ddirprwy Lywydd, anaml y byddwch yn fy nghlywed yn cytuno mor sylfaenol â Russell George o ran yr egwyddorion a ddylai fod yn sail i'n strategaeth economaidd, ond fe soniodd, yn y bôn, am yr hyn sy'n ganolog i'r cynllun gweithredu economaidd, sef bod yn rhaid inni sicrhau ein bod yn tyfu ein cyfoeth a'n lles gyda'i gilydd, gan leihau'r anghydraddoldebau yn y ddau hefyd. Ond fel y dywedais ddoe, er mwyn dileu anghydraddoldeb ar draws economi'r DU, rydym angen modelau ariannu sy'n seiliedig ar fwy na chanlyniadau economaidd yn unig, oherwydd bydd y modelau hynny bob amser yn sicrhau bod gwariant ar seilwaith a gwariant ar ymchwil ac arloesi yn canolbwyntio ar ardaloedd sydd eisoes yn gyfoethog, yn ne-ddwyrain Lloegr, ac wrth gwrs, yn y triongl euraid. Yn lle hynny, mae angen inni gael model ariannu newydd sy'n cefnogi twf cynhwysol a theg. Mae hynny'n golygu ariannu tecach nid yn unig i Gymru, ond i lawer o ranbarthau Lloegr hefyd. Ond wrth gwrs, dylem wneud mwy na phregethu am hyn, dylem ddangos arweinyddiaeth ein hunain. Rwy'n falch o allu rhoi gwybod i'r Aelodau fod cyllidebau rhanbarthol dangosol yn cael eu sefydlu ym mhortffolio'r economi a thrafnidiaeth. Cânt eu cyhoeddi y gwanwyn hwn, ac rwy'n ystyried hon yn rhan bwysig o'n dull o sicrhau dimensiwn mwy rhanbarthol i'n gwaith, a chyfran deg o fuddsoddiad Llywodraeth Cymru ar draws y rhanbarthau wrth gwrs. Nid yw'r datblygiad hwn yn galw am ddeddfwriaeth, fel sy'n cael ei gynnig gan Blaid Cymru, ond mae'n galw am benderfyniad gweinidogol i sicrhau bargen deg ar gyfer rhanbarthau Cymru ar adeg pan ydym yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru'n cael bargen deg. Rhun ap Iorwerth AC: A wnewch chi dderbyn ymyriad pellach? Ken Skates AC: Gwnaf, wrth gwrs. Rhun ap Iorwerth AC: Gwneuthum y pwynt yn gynharach mai'r syniad y tu ôl i'n Bil adnewyddu rhanbarthol yw rhoi'r math o ffocws i Lywodraeth y mae'r Bil llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn ei roi ichi. Gallech wneud hynny i gyd heb y ddeddfwriaeth, ond mae'r ddeddfwriaeth yn helpu. Ken Skates AC: Gall deddfwriaeth helpu, ond nid yw'n angenrheidiol, fel y dangoswyd gan fy mhenderfyniad i sefydlu'r cyllidebau rhanbarthol dangosol. Ddirprwy Lywydd, fe roddaf gyfle i Rhun ap Iorwerth a Siân Gwenllian ymateb i mi, oherwydd credaf fod yna gynnig i ailddosbarthu cyfoeth o fewn Cymru, o fewn Cymru'n unig. Roedd yna sôn sut nad oes gwahaniaethau rhwng y gogledd a'r de, ond bod gwahaniaethau sylweddol rhwng y dwyrain a'r gorllewin, ac felly mae angen inni ledaenu cyfoeth o'r dwyrain i'r gorllewin. Buaswn yn dadlau mewn gwirionedd fod—. Rwy'n mynd i swnio'n fwy o genedlaetholwr na'n cyfeillion a'n cyd-Aelodau yn awr. Buaswn yn dadlau mewn gwirionedd, os oes unrhyw ailddosbarthu, unrhyw ledaenu cyfoeth, fod yn rhaid iddo fod o dde-ddwyrain Lloegr i Gymru, oherwydd os ydym am dyfu cyfoeth yn ei grynswth, rhaid inni ledaenu cyfoeth i ffwrdd oddi wrth y rhan gyfoethocaf o'r DU o bell ffordd ar hyn o bryd. Yn y pen draw, hoffwn roi—[Torri ar draws.] Wrth gwrs. Siân Gwenllian AC: Drwy wneud hynny, fodd bynnag, y perygl yw ein bod yn mynd i efelychu'n union yr hyn sy'n digwydd yng ngweddill y DU—hynny yw, fod popeth yn mynd i dde-ddwyrain Lloegr—yng Nghymru, gyda phopeth yn cael ei grynhoi mewn un cornel o Gymru. Dyna'r broblem fawr sy'n ein hwynebu. Ken Skates AC: Ddirprwy Lywydd, dyna'n union pam y dywedais ein bod yn sefydlu'r unedau rhanbarthol a'r cyllidebau rhanbarthol dangosol, er mwyn sicrhau bod gennym fodel ariannu gwahanol i'r un sy'n gweithredu o fewn Llywodraeth y DU, sydd yn ei dro yn sicrhau ein bod yn gallu buddsoddi'n decach mewn seilwaith ledled Cymru. Gadewch inni wynebu'r gwir: seilwaith a'r ddarpariaeth o sgiliau sy'n hybu twf economaidd. Dyna'r ddau ffactor mawr. Felly, os oes gennych fwy o ariannu teg ar draws gwlad, bydd gennych fwy o dwf economaidd sy'n gynhwysol ar draws y wlad honno. Credaf ein bod yn dangos i'r byd pa ffordd i fynd, a dyna pam yr ydym wedi gwahodd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd i asesu llwyddiant y cynllun gweithredu economaidd yn erbyn ein huchelgeisiau i sbarduno twf cynhwysol. Mae'n werth dweud mewn amgylchedd ôl Brexit, wrth gwrs, ein bod yn disgwyl i Gymru beidio â cholli'r un geiniog goch o ran y buddsoddiad y byddem yn ei ddisgwyl, ac rydym am weld penderfyniadau ar ddatblygu economaidd a buddsoddi'n cael eu gwneud yma yng Nghymru. Yn 2017, wrth gwrs, fe gyhoeddasom bapur ar fuddsoddi rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit, ac mae'r papur hwnnw yn galw am barhau i wneud penderfyniadau buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru, gan Lywodraeth Cymru, gan awdurdodau lleol, a thrwy strwythurau rhanbarthol sy'n datblygu. Ddirprwy Lywydd, rwy'n ymwybodol o'r amser. A gaf fi ddweud fy mod yn credu, yn gyffredinol, ar draws y Siambr, fod yr Aelodau wedi nodi pob un o'r ffactorau allweddol sy'n sbarduno twf economaidd? Caiff pob un o'r ffactorau allweddol hynny eu hymgorffori o fewn y cynllun gweithredu economaidd, a hoffwn wahodd yr Aelodau nad ydynt wedi darllen y strategaeth honno i wneud hynny ar fyrder. A gaf fi alw ar Mark Isherwood i ymateb i'r ddadl? Mark Isherwood AC: Diolch. Dechreuodd Russell George drwy nodi bod polisïau Llywodraeth Cymru dros 20 mlynedd wedi methu mynd i'r afael ag anghydraddoldebau economaidd rhwng y rhanbarthau yng Nghymru, a chroesawodd fargen prifddinas-ranbarth Caerdydd, bargen dinas-ranbarth bae Abertawe, bargen twf gogledd Cymru, a'r posibiliadau ar gyfer bargen twf canolbarth Cymru. Galwodd ar Lywodraeth Cymru i hyrwyddo polisi datblygu rhanbarthol ar ôl Brexit sydd nid yn unig yn ymgorffori cynnig canolbarth Cymru, ond sydd hefyd yn cefnogi cymunedau difreintiedig ledled Cymru lle bynnag y maent. Nododd y bwlch gros y pen rhwng gogledd-orllewin Cymru a de-ddwyrain Cymru yn enwedig. Nododd fod gwerth ychwanegol gros y pen ar Ynys Môn bron yn hanner gwerth ychwanegol gros y pen yng Nghaerdydd, ac yn anffodus, Ynys Môn yw'r ardal dlotaf y pen yng Nghymru o hyd o ran gwerth y nwyddau a'r gwasanaethau a gynhyrchir. Soniodd am gyfraddau twf gwael iawn yn y rhannau lleiaf cefnog o Gymru o'i gymharu â thwf yn rhai o'r rhannau lleiaf cefnog o Loegr, a soniodd am amlygu'r angen am strategaeth economaidd effeithiol i fynd i'r afael â hyn. Dechreuodd Rhun ap Iorwerth gydag amddiffyniad rhyfedd o berfformiad Llywodraeth Cymru, er gwaethaf y sylwadau a wnaethpwyd yn gynharach ynglŷn â bod cyfoeth y pen ar Ynys Môn ond yn hanner yr hyn a geir yng Nghaerdydd. Soniodd am anghydraddoldeb. Soniodd am yr angen i ddod â ffyniant i bob rhan o'r genedl Gymreig. Nododd Mohammad Asghar fod economi Cymru wedi tangyflawni dros yr 20 mlynedd diwethaf, mai hi yw'r economi dlotaf yn y DU o hyd a'i bod wedi methu mynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhanbarthol yng Nghymru, a bod teitlau gwefreiddiol cynlluniau economaidd Llywodraeth Cymru yn gwrth-ddweud y methiant i gyflawni. Soniodd am lefelau incwm is a lefelau tlodi uwch yng Nghymru nag yng ngweddill y DU. Dywedodd Mike Hedges nad oedd y bwlch yn economi Cymru wedi ei lenwi, fod tangyflawniad i'w weld mewn sectorau sy'n talu cyflogau uwch, ac os ydym yn mynd i ddal ati i wneud yr un peth, fe fyddwn yn parhau i gael yr un canlyniadau. Wel, yn hytrach na ffurfio eich plaid eich hun, rwy'n credu y gallech ymuno â ni, oherwydd dyna'n union yw ein barn ninnau hefyd. [Chwerthin.] Mike. Mike Hedges AC: Rwy'n gobeithio y bydd fy mhlaid i'n cefnogi twf mewndarddol, oherwydd credaf mai dyna'r unig ffordd y gallwn symud ein heconomi yn ei blaen. A ydych yn cytuno? Mark Isherwood AC: Wel, mae'n mynd â mi yn ôl i ddarlithoedd economaidd ar gromliniau twf mewndarddol, ond nid af i mewn i hynny yn awr. Soniodd Mark Reckless am y gwahaniaeth o ran diffiniad rhwng gwerth ychwanegol gros—gwerth nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchir fesul y pen o'r boblogaeth—a chyflogau a ffyniant, oherwydd mae gwerth ychwanegol gros yn nodi lle y cynhyrchir gwerth mewn nwyddau a gwasanaethau ac nid o reidrwydd o ble y bydd pobl yn cymudo. Felly, rhaid inni edrych ar y darlun cyfan. Siaradodd Neil Hamilton am yr angen i godi lefelau incwm yn gyffredinol. Dywedodd nad yw Cymru yn meddu ar yr holl ysgogiadau economaidd sydd ar gael i Iwerddon, er enghraifft, ond wrth gwrs, mae Cymru'n dal i lusgo ar ôl y gwledydd a'r rhanbarthau lle mae'r un polisïau ar gyfer y DU yn weithredol. Ac yna allyrrodd ei syniadau ynghylch allyriadau, ac rwy'n deall bod yn rhaid inni edrych ymlaen at ragor o hynny yn y dyfodol. Daeth i ben drwy ddweud bod angen inni atal Llywodraethau rhag rhoi pwysau ar fusnesau a'r bobl. Soniodd Siân Gwenllian am gydweithredu economaidd rhwng cynghorau'r gorllewin, ond wrth gwrs, mae cynghorau yng ngogledd-orllewin Cymru eisoes wedi bod mor ddoeth â chefnogi bargen twf gogledd Cymru ac yn amlwg, mae cydweithrediad a chydweithio ar draws pob rhanbarth yn dda oni bai ei fod dan fygythiad, a thynnodd sylw'n briodol at yr angen am ffyniant economaidd ac ieithyddol yng ngorllewin Cymru. Soniodd Nick Ramsay am yr addewidion a wnaed ar ddechrau datganoli gyda Llywodraeth Cymru'n gyfrifol am ysgogiadau economaidd, ond mae angen inni dreulio'r 20 mlynedd nesaf yn cyflawni'r hyn rydym wedi methu ei wneud yn ystod yr 20 mlynedd cyntaf. Mae angen inni hybu ffyniant economaidd yr ardaloedd tlotaf yng Nghymru, ond nid oes un ateb cyflym, yn enwedig ar ôl y ddau ddegawd diwethaf. Yr angen i gefnogi busnesau bach a chanolig, trafnidiaeth a rhwydweithiau digidol mewn ardaloedd trefol a gwledig, a soniodd am yr angen i ddefnyddio pwerau trethu a benthyca newydd i greu'r cyfoeth y gellir ei drethu a'i wario wedyn ar wasanaethau cyhoeddus. Cyfeiriodd Ken Skates at y modd y bydd ei gynllun gweithredu economaidd yn cyrraedd rhannau eraill y mae Llywodraeth Cymru dan arweiniad Llafur wedi methu eu cyrraedd yn ystod ei dau ddegawd cyntaf mewn grym. Soniodd am waith da ar y lefel ranbarthol, gan gynnwys bargeinion dinesig a bargeinion twf, am ei gyllidebau rhanbarthol dangosol sy'n cael eu datblygu. Cytunai â Russell George fod angen inni gynyddu cyfoeth a lleihau anghydraddoldebau a dywedodd fod angen inni symud cyfoeth o dde-ddwyrain Lloegr i Gymru. Ond roeddwn i'n deall mai'r trethi a delir yn ne-ddwyrain Lloegr sydd ar hyn o bryd yn llenwi'r bwlch rhwng y swm y mae Cymru yn ei dalu i mewn a'r swm yr oedd yn ei dderbyn ar hyn o bryd. Yn drasig, Cymru yw'r lleiaf cynhyrchiol o 12 rhanbarth a gwlad y DU o hyd. Hyd yn oed yn fwy brawychus, o ran gwerth y nwyddau a'r gwasanaethau a gynhyrchir y pen yng Nghymru, bu'r twf yn arafach na'r Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr unwaith eto. Yr unig beth cadarnhaol y gallaf ei weld oedd mai yn Sir y Fflint a Wrecsam y cafwyd y twf mwyaf yng Nghymru, ond roedd yn dal i fod yn is na'r lefelau cyn datganoli. A dweud y gwir, mae anghydraddoldeb rhanbarthol yng Nghymru fel y mae yn frad, gyda Llywodraethau Llafur olynol yn methu cau'r bwlch rhwng y rhannau cyfoethocaf a'r rhannau tlotaf o'r wlad. Hoffwn gloi drwy ddyfynnu erthygl ar WalesOnline ddoe yn cyfweld pobl yng Nglynebwy. Cofnodwyd yr un ymatebion gan breswylwyr, perchnogion busnesau, cynghorwyr, cadeirydd fforwm busnes ac eraill fel ei gilydd: eu bod wedi cael cerflun hyfryd, canopi gwydr hyfryd yn lle'r hen un, lifft mecanyddol sy'n cysylltu un rhan o'r dref i'r llall, canolfan hamdden newydd, coleg newydd, ond er gwaethaf y miliynau a wariwyd ar brosiectau adfywio rhanbarthol, nid oedd wedi gwneud yr hyn oedd ei angen arnynt—dod â swyddi a busnesau i mewn. Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Fe ohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon, felly, tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, rwy'n mynd i symud ymlaen yn syth at y cyfnod pleidleisio. O'r gorau, iawn. 8. Cyfnod Pleidleisio Felly, rydym yn pleidleisio heddiw ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar anghydraddoldeb economaidd rhanbarthol. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Rwy'n aros i rywun bleidleisio. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 12, roedd un yn ymatal, a 32 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig. NDM6959 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 12, Yn erbyn: 32, Ymatal: 1 Gwrthodwyd y cynnigCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar y gwelliannau. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 27, roedd un yn ymatal, ac 17 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1. Caiff gwelliant 2 a gwelliant 3 eu dad-ddethol. NDM6959 - Gwelliant 1: O blaid: 27, Yn erbyn: 17, Ymatal: 1 Derbyniwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig pump, roedd 10 yn ymatal, a 30 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 4. NDM6959 - Gwelliant 4: O blaid: 5, Yn erbyn: 30, Ymatal: 10 Gwrthodwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Galwaf am bleidlais ar welliant 5 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 32, neb yn ymatal, 13 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 5. NDM6959 - Gwelliant 5: O blaid: 32, Yn erbyn: 13, Ymatal: 0 Derbyniwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd. Cynnig NDM6959 fel y'i diwygiwyd: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn: 1. Cydnabod pa mor bwysig yw economïau rhanbarthol cryf a chydnerth ar draws pob rhan o Gymru er mwyn sbarduno twf cynhwysol. 2. Nodi’r mesurau traws-lywodraethol a nodir yn y Cynllun Gweithredu ar yr Economi, gan gynnwys penodi prif Swyddogion Rhanbarthol a thimau yn Llywodraeth Cymru i gefnogi Datblygiad Economaidd Rhanbarthol ar draws Cymru. 3. Nodi’r rôl bwysig sydd gan y Bargeinion Dinesig a’r Bargeinion Twf i’w chwarae o ran sbarduno twf economaidd rhanbarthol pan fyddant yn cael eu cydgysylltu ag ymyriadau ehangach megis seilwaith, trafnidiaeth a sgiliau. 4. Nodi’r cyhoeddiad diweddar bod y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) yn helpu i ddatblygu polisi datblygu economaidd rhanbarthol yng Nghymru ar sail yr arferion gorau yn rhyngwladol. 5. Galw ar Lywodraeth y DU i fynd i’r afael â’r anghydraddoldeb o ran cyllido seilwaith rhwng cenhedloedd a rhanbarthau’r DU ac i wneud mwy i rannu cyfleoedd buddsoddi yn deg ar draws y wlad. 6. Galw ar Lywodraeth y DU i barchu’r setliad datganoli ac i sicrhau mai Llywodraeth Cymru fydd yn gwneud y penderfyniadau strategol ar reoli a gweinyddu trefniadau cyllido yn lle’r cyllid strwythurol, er mwyn mynd i’r afael â’r anghydraddoldeb economaidd rhwng rhanbarthau. 7. Nodi’r ffaith bod cyllidebau rhanbarthol dangosol yn cael eu datblygu ar gyfer buddsoddiad yn yr Economi a Thrafnidiaeth ar draws Cymru. 8. Yn croesawu’r ffaith bod bwrdd prosiect Arfor wedi cael ei gyfarfod cyntaf ac wedi cytuno ar raglen amlinellol o weithgarwch am y ddwy flynedd nesaf. 9. Yn nodi’r ffaith bod £2 filiwn wedi ei chlustnodi yn y gyllideb ar gyfer cymorth ysgrifenyddiaeth a buddsoddi i Arfor yn ystod 2018-19 a 2019-20 fel blaenoriaeth Plaid Cymru yn y cytundeb ar y gyllideb gyda Llywodraeth Cymru. 10. Yn cadarnhau pwysigrwydd manteisio ar y cyswllt anhepgor rhwng ffyniant economaidd a ffyniant ieithyddol ar hyd y gorllewin Cymraeg. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 32, neb yn ymatal, 13 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd. NDM6959 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 32, Yn erbyn: 13, Ymatal: 0 Derbyniwyd y cynnigCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Symudwn yn awr at y ddadl fer. Os oes Aelodau'n gadael y Siambr, a allant wneud hynny'n gyflym, yn dawel, a pheidio â chael sgyrsiau gydag eraill ar y ffordd allan, os gwelwch yn dda? 9. Dadl Fer: Caerffili ddi-blastig, Cymru ddi-blastig Symudwn yn awr at eitem 9, sef y ddadl fer, a galwaf ar Hefin David i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddo. Hefin. Hefin David AC: Ddirprwy Lywydd, mae'n bleser gennyf roi munud o'r ddadl fer hon, yn y drefn hon, i Joyce Watson, David Melding, Rhianon Passmore a Jenny Rathbone, sy'n dangos pwysigrwydd y ddadl heddiw, rwy'n credu. Pe baech yn gosod yr holl gwpanau polystyren a gynhyrchir mewn un diwrnod yn unig mewn rhes, byddent yn mynd yr holl ffordd o amgylch y ddaear. Pe baech yn gosod yr holl wellt plastig a ddefnyddir yn y DU bob tri diwrnod, byddent yn mynd yr holl ffordd o amgylch y ddaear ddwywaith. Yn nes at adref, os edrychwn ar Gymru, mae gwaith ymchwil diweddar gan yr Athro Steve Ormerod o Brifysgol Caerdydd wedi canfod plastigau mewn 50 y cant o bryfed dŵr croyw mewn afonydd yn ne Cymru. Mae hyn yn dangos pa mor ddifrifol yw'r broblem. Yn 1950, cynhyrchodd poblogaeth y byd o 2.5 biliwn 1.5 miliwn tunnell o blastig. Yn 2016, cynhyrchodd poblogaeth fyd-eang o dros 7 biliwn dros 320 miliwn tunnell o blastig, ac mae'n mynd i ddyblu erbyn 2034. Wrth i Huw Irranca-Davies adael y Siambr, fe ddywedodd wrthyf, 'Mae gennych y ddadl hon heddiw ac a ydych yn sylweddoli bod gennych ddwy feiro blastig ar eich desg?' Ac nid oes arnaf ofn codi cywilydd ar Huw Irranca-Davies heddiw drwy ddweud nad yw yma ar gyfer y ddadl, ond fe achosodd embaras i mi drwy fy atgoffa o hynny, ac mae gennyf lwyth o feiros plastig yn fy mhoced yn ogystal. Rydym yn gaeth i blastig. Bob dydd, mae tua 8 miliwn o ddarnau o lygredd plastig yn canfod eu ffordd i mewn i'n cefnforoedd a gallai fod tua 5.3 triliwn o ddarnau macro a microblastig yn arnofio yn y cefnfor agored gan bwyso hyd at 269,000 tunnell. Mae'r rhain yn ystadegau brawychus, a lleddir 100,000 o famaliaid morol a chrwbanod ac 1 filiwn o adar y môr gan lygredd plastig morol bob blwyddyn. Mae'n broblem amgylcheddol a achosir gennym ni heddiw a'n dibyniaeth ar blastig. Ac rydym yn ei daflu i ffwrdd. Mae'r rhan fwyaf o deuluoedd yn taflu oddeutu 40 kg o blastig y flwyddyn, plastig y gellid ei ailgylchu fel arall. Mae ailgylchu un botel blastig yn arbed digon o ynni i bweru bwlb golau 60 W am chwe awr. Caiff 75 y cant o wastraff plastig wedi ei ddefnyddio ei gludo i safleoedd tirlenwi. Yn gymharol ddiweddar y cynyddodd ein hymwybyddiaeth o'r broblem hon, rwy'n teimlo. Roeddwn yn ymwybodol ohono, ond ni ddeuthum yn ymwybodol o ddifrifoldeb y mater a pheryglon hyn nes i mi ymchwilio i'r mater ar gyfer y ddadl hon. Ond canmolwyd rhaglen ddogfen Blue Planet II Syr David Attenborough ar ddiwedd 2017 am roi mwy o ddealltwriaeth i ni ynglŷn â hyn, ac annog Llywodraethau i weithredu, gobeithio, yn ychwanegol at y dyletswyddau amgylcheddol eraill sydd ganddynt, ond i weithredu hefyd mewn perthynas â gwastraff plastig yn arbennig. O ganlyniad, fis Chwefror diwethaf nododd Llywodraeth yr Alban gynlluniau i wahardd gwellt plastig erbyn diwedd y flwyddyn. Fis Ebrill diwethaf cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bod yn ystyried gwaharddiad ar gynhyrchion plastig untro fel ffyn troi, gwellt a ffyn cotwm. Meddyliwch am y plastig rydych yn ei ddefnyddio. Meddyliwch am y plastig rydych yn ei ddefnyddio bob dydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau—ac rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog yn crybwyll hyn—i weithio gyda rhannau eraill o'r DU ar gynllun dychwelyd blaendal ac arian i helpu awdurdodau lleol gydag ailgylchu plastig a phethau eraill y byddaf yn eu crybwyll yn y man ac yn gofyn i Lywodraeth Cymru eu hystyried. Rwyf wedi cyfarfod ag ymgyrchwyr amgylcheddol ac maent wedi bod yn dadlau ers amser maith ynglŷn â gwastraff plastig ac wedi galw am weithredu, ond mae'n dal yn broblem enfawr ac mae gennym lawer o ffordd i fynd. Fis Gorffennaf diwethaf, pasiodd Llywodraeth Cymru ddeddf newydd yn gwahardd siopau yng Nghymru rhag gwerthu cynhyrchion ymolchi sy'n cynnwys microbelenni plastig, er enghraifft, ond mae angen llunio'r gweithredoedd tameidiog hyn yn strategaeth ehangach. Rwyf am siarad am Gaerffili a'r hyn sy'n digwydd i greu Caerffili ddi-blastig. Bythefnos yn ôl mynychodd 30 o bobl—a dyma un o'r rhesymau pam y dewisais y pwnc hwn ar gyfer y ddadl—gyfarfod o grŵp o'r enw Caerffili Ddi-blastig, sy'n dangos brwdfrydedd cynyddol i fynd i'r afael â gwastraff plastig a gwneud ein cymunedau lleol yn ddi-blastig. Mae trigolion lleol, ysgolion a pherchnogion busnesau'n gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cyfeillion y Ddaear Caerffili a grŵp o'r enw Syrffwyr yn erbyn Carthffosiaeth i gael statws di-blastig i Gaerffili, ac fel rhan o fy ymweliad, fy ymweliad ar ddydd Sadwrn y busnesau bach—un o fy ymweliadau cyntaf pan gefais fy ethol oedd â busnes o'r enw Plant2Plate, ac maent yn gwerthu bwyd iach, wedi'i becynnu'n gynaliadwy, ac maent wedi rhoi camau mawr ar waith i fod yn fusnes di-blastig yn nhref Caerffili. Hefyd, mae The Vegan Box a The Old Library wedi gwneud yr un ymdrechion yng Nghaerffili, yn ogystal â Transcend Packaging yr ymwelais â hwy ym Mharc Busnes Dyffryn. Fis Mehefin diwethaf, daeth Transcend Packaging yn un o ddau gwmni yn unig yn y DU gyfan i ennill contract i ddarparu gwellt papur i holl fwytai McDonald's yn y DU ac Iwerddon. A gwelais y ffatri lle maent yn ei wneud—mae o fewn pellter cerdded i fy nhŷ. Ledled y DU, byddwn yn gweld y gwellt papur hyn yn mynd i McDonald's. Hefin David AC: Wrth baratoi ar gyfer y ddadl hon—roedd ar yr agenda—cefais e-bost dig iawn gan arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Dywedai hyn, 'Hefin, rwy'n gobeithio eich bod yn mynd i sôn am yr hyn y mae cyngor Caerffili yn ei wneud. Dylech bob amser gysylltu â mi i weld beth rydym yn ei wneud oherwydd rydym yn gwneud pethau gwych yng Nghaerffili.' Ac yn sicr ddigon, fe wnes i hynny, fe welais beth sy'n digwydd. A'r hyn y mae cyngor Caerffili wedi'i wneud yw sefydlu grŵp prosiect her plastigion, sy'n cynnwys nifer o'i swyddogion ei hun, ynghyd â chynrychiolaeth o Lywodraeth Cymru, WRAP Cymru ac Eunomia Research. Maent yn ystyried problem plastigion problematig, yn enwedig yng nghyd-destun rheoli gwastraff ac atal gwastraff. Edrychaf ymlaen at glywed mwy am adroddiad y grŵp hwnnw gan gyngor Caerffili y tro nesaf y byddaf yn cyfarfod â'r arweinydd, y Cynghorydd Dave Poole. Hefyd, mae cyngor Caerffili wedi cyflwyno cynlluniau glanhau cyrsiau dŵr yn amgylcheddol, gwasanaeth glanhau statudol sy'n clirio dros 1,000 tunnell o blastig y flwyddyn, a gwasanaeth ailgylchu wythnosol sy'n casglu 20,000 tunnell ar gyfer ei ailbrosesu—ymhlith pethau eraill. Mae cyngor Caerffili yn gweithredu. A dylwn grybwyll Anna McMorrin AS hefyd, a gyflwynodd Fil yn y Senedd i'w gwneud yn ofynnol i gynhyrchwyr deunydd pacio cynhyrchion i gymryd cyfrifoldeb dros gasglu, cludo, ailgylchu, gwaredu ac adfer cynhyrchion plastig. Ac roedd gan Jenny Rathbone gynnig deddfwriaethol ar hyd y llinellau hynny ychydig wythnosau yn ôl, cynnig y cyfrannais innau ato, a dyna a fu'n ysbrydoliaeth i lawer o'r hyn rwy'n ei ddweud heddiw. Anghofiais sôn am fagiau plastig. Roedd Llywodraeth Cymru yn arloeswyr gyda bagiau plastig, ond a wyddech mai gan Kenya y mae rhai o'r deddfau gwrth-blastig mwyaf llym yn y byd? Yn Kenya, gallech wynebu pedair blynedd o garchar am gynhyrchu, gwerthu neu ddefnyddio bag plastig. Nid wyf yn awgrymu ein bod yn mynd mor bell â hynny—nid wyf yn awgrymu ein bod yn mynd mor bell â hynny, ond mae gwledydd o ddifrif ynglŷn â hyn. Fe wnaethom arwain yma yng Nghymru a dylem fod yn falch o hynny. Gwlad arall y gallai Cymru ddysgu ganddi ac y gallem ddilyn ei hesiampl yw Costa Rica. Yn 2015 aeth fideo o fiolegydd morol yn tynnu plastig o drwyn crwban môr yn firol—yng Nghosta Rica. Ysgogodd hyn bobl i weithredu. Ers hynny, gwnaeth Costa Rica enw iddi ei hun am fod yn ecogyfeillgar a llwyddodd i bweru ei hun drwy ynni adnewyddadwy 100 y cant am ddwy ran o dair o'r flwyddyn yn 2016. Nod nesaf Costa Rica yn awr yw dod yn wlad gyntaf i wahardd pob defnydd o blastig untro erbyn 2021, gan gynnwys cyllyll a ffyrc, poteli a bagiau. I gyrraedd y targed uchelgeisiol hwn, mae'r Llywodraeth yn cynnig cymhellion i fusnesau yn ogystal ag ymchwilio opsiynau amgen yn lle plastig untro. Nawr, nid yw Costa Rica yn wlad fawr ond mae'n fwy na Chymru, a dylem fod yn edrych arnynt i ysbrydoli'r uchelgais sydd gennym i fynd i'r afael â phlastigion. Serch hynny, rhaid inni ganolbwyntio ar yr hyn y gallwn ei wneud yn nes at adref. Fel y nodais, mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn gwneud llawer o waith da. Yr wythnos diwethaf, cynhaliodd y Gymdeithas Cadwraeth Forol ddigwyddiad yn Nhŷ Hywel a fynychwyd gan lawer o'r Aelodau. Unwaith eto, rhaid i mi ddweud fy mod wedi gweld eich fideo, Jenny Rathbone—ailgylchu poteli plastig a chaniau a chael derbynneb amdanynt. Y system dychwelyd blaendal—poteli diodydd a chaniau a'u topiau yw tua 10 y cant o sbwriel a gall cynllun dychwelyd blaendal ein galluogi, neu ein hannog i ailgylchu, a chawn dderbynneb a gostyngiadau ar nwyddau siop o bosibl. Mae hynny'n creu arfer—yr arfer o ailgylchu plastig. Byddai cyflwyno system cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr go iawn i sicrhau bod cynhyrchwyr yn llwyr gyfrifol am adfer, ailgylchu a gwaredu eu cynhyrchion, gan gynnwys unrhyw gostau yr eir iddynt am atal a chlirio sbwriel, i'w groesawu. Ar hyn o bryd, mae system y DU yn golygu mai tua 10 y cant yn unig o'r costau hyn a delir gan y cynhyrchwyr, tra bo'r gweddill yn gost i'r trethdalwr. Yn olaf, yr un rydym wedi sôn fwyaf amdano: ardoll ar gwpanau diodydd untro. Byddai ardoll o'r fath yn annog gostyngiad yn eu defnydd, yn unol ag egwyddorion hierarchaeth gwastraff, gan arwain yn ei dro at lai o sbwriel, ac mae hynny'n rhywbeth y buaswn yn ei gefnogi. Rydym wedi arwain mewn cynifer o feysydd—hylendid bwyd, rheoli gwastraff bwyd ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol i ddod yn genedl ail-lenwi gyntaf y byd. Pa ffordd well o gadarnhau'r cynnydd hwn a'n henw da na mynd i'r afael â gwastraff plastig? Rwy'n annog y Gweinidog yn ei hymateb i ystyried rhai o'r pethau rwyf wedi sôn amdanynt heddiw, ac edrychaf ymlaen at glywed yr hyn sydd gan Aelodau eraill i'w ddweud am y cynnydd y gallwn ei wneud. Joyce Watson AC: Diolch, Hefin, am gyflwyno'r ddadl eithriadol o bwysig hon. Credaf fod yr holl blastig rydym wedi siarad amdano'n cyrraedd un man yn y pen draw, sef y môr. Felly, mae gennym Fil pysgodfeydd morol Cymru yn mynd drwodd ar hyn o bryd, ac rwy'n credu bod angen inni achub ar y cyfle i fynnu na ddylai unrhyw offer pysgota morol gael ei wneud o blastig o hyn ymlaen. Dyma ein cyfle. Mae ewyllys y cyhoedd y tu ôl i hyn, ac mae gwir raid inni wneud rhywbeth i ddechrau mynd i'r afael â'r hyn sy'n drychineb llwyr ar hyn o bryd, ac mae'n mynd i waethygu. David Melding AC: A gaf fi ddiolch i Hefin am gyflwyno'r pwnc hwn i'r Cynulliad heddiw ac rwy'n dymuno'n dda iawn i'r ymgyrch yng Nghaerffili? Yr wythnos diwethaf, bûm yn hyrwyddo peiriant y cynllun dychwelyd blaendal, a oedd yn cael ei arddangos. Rwy'n credu bod llawer o'r Aelodau wedi rhoi cynnig arno. Ac mae'n hawdd iawn i'w ddefnyddio—gallaf weld pawb ohonom yn dod i arfer ei ddefnyddio, a bydd llawer o blant bach eisiau rhoi'r poteli yn y peiriant a chael y tocyn allan wedyn gyda chredyd. Nid yw'n drafferthus. Fel y dywedodd Joyce, mae plastig yn gwneud llanastr yn ein hamgylchedd morol, ac mae gwir angen inni wneud rhywbeth i atal hyn. Gobeithio y gallwn ddilyn yr arferion da yn yr Alban, lle maent yn symud yr agenda hon yn ei blaen. Rwy'n croesawu'r ymgynghoriad ar y cyd ar gynllun blaendal sydd ar y gweill yn awr gan y DU a Llywodraeth Cymru. Ni all ddigwydd yn ddigon cyflym yn fy marn i. Ac yn gyflym a gaf fi orffen fy nghyfraniad drwy ganmol y Gymdeithas Cadwraeth Forol, a ddaeth â'r peiriant blaendal i'r Cynulliad yr wythnos diwethaf, am y gwaith rhagorol y maent wedi'i wneud yn y maes hwn? Rhianon Passmore AC: Yn gyntaf, diolch i fy nghyd-Aelod, Hefin David, am gyflwyno'r ddadl bwysig hon ar lawr y Senedd heddiw. Fel y gwyddom, plastig untro a'r llygredd y mae'n ei achosi yw un o'r heriau amgylcheddol mwyaf difrifol sy'n wynebu'r byd heddiw, a gall fod yn anodd gweld yr effaith y gall unrhyw unigolyn ei chael go iawn, ond rhaid dechrau gweithredu, fel y dywedwyd eisoes , ar lefel leol. Rwy'n falch hefyd o groesawu'r gwaith a wneir ar draws bwrdeistref Caerffili, fel cyn-gynghorydd yng Nghaerffili, ar leihau gwastraff plastig, gyda'r cyngor yn arwain drwy esiampl. Ond ni ddaw newid dros nos, a bydd y grŵp prosiect arloesi a grybwyllwyd ac a sefydlwyd o fewn y cyngor yn helpu i leihau'r plastig a ddefnyddir ar draws yr awdurdod. Wrth ddilyn dull o weithredu'n seiliedig ar dystiolaeth, bydd y cyngor yn gallu gosod esiampl i breswylwyr ledled Caerffili, ac amlinellu'r camau y gall pawb ohonom eu cymryd i leihau ein gwastraff plastig. Ond dangosir lle plastig a phwysigrwydd canfyddedig plastig i ni i gyd drwy'r ffaith bod gan bron bawb ohonom feiros plastig gyda ni heddiw—mae'n siŵr fod gennyf dair—ac fe'i dangosir gan y ffaith bod 60 y cant o'r ailgylchu ymyl y ffordd a godir gan gyngor Caerffili yn blastig. Er ei fod yn newyddion da fod y plastig hwn yn cael ei ailgylchu wrth gwrs, y ffordd orau o leihau ein gwastraff yw peidio â'i brynu neu ei ddefnyddio yn y lle cyntaf. Felly, hoffwn ymuno â Hefin i longyfarch gwaith siop ddiwastraff gyntaf y fwrdeistref, Plant 2 Plate, ac rwy'n sylweddoli, o eiriau'r perchennog ei hun, ei bod hi hefyd yn bwysig inni gael ymagwedd Cymru gyfan tuag at gasglu deunydd pacio llysiau, er enghraifft, ac er nad yw'n blastig, mae'n edrych fel pe bai'n blastig ac nid yw'n cael ei ailgylchu ar hyn o bryd. Rydych yn mynd ag amser eich cyd-Aelod. Rydych wedi cael dwy funud a hanner bron, felly— Rhianon Passmore AC: Fe ddof i ben. Felly, wrth inni symud ymlaen— Wel, rhaid imi alw ar y Gweinidog pan fydd y cloc yn cyrraedd 15 munud, felly nid ydych yn rhoi cyfle i Jenny Rathbone. Rhianon Passmore AC: Felly, rwy'n croesawu'r ymagwedd sydd gennym yn fawr iawn. Diolch. Jenny Rathbone AC: Rwy'n falch eich bod wedi cyfeirio at Steve Ormerod, oherwydd os ydym yn bwyta pysgod, rydym yn bwyta plastig. Mae angen inni drethu unrhyw weithgynhyrchwyr sy'n cynhyrchu plastigion nad ydynt yn ailgylchadwy yn drwm ac rwy'n cytuno bod brwdfrydedd cynyddol tuag at wneud rhywbeth yn ei gylch. Mae Ripple ar Heol Albany yn llwyddiant gwych. Mae newydd agor—gallwch fynd â'ch holl boteli yno a'u llenwi â'ch nwyddau cartref. Diolch yn fawr iawn, a diolch ichi am hynny. Galwaf yn awr ar y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol i ymateb i'r ddadl—Hannah Blythyn. Hannah Blythyn AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i fy nghyd-Aelod, Hefin David, am gyflwyno'r ddadl fer hon ar bwnc sy'n ennyn llawer o sylw yn awr, fel y dywedasom, yn ymwybyddiaeth y cyhoedd a'r ymwybyddiaeth wleidyddol, ond hefyd o ran problem llygredd plastig. Fel y mae pawb ohonom wedi'i ddweud yn y Siambr, mae plastig ym mhob man a byddwn yn ei ddefnyddio bob dydd, ac mewn rhai ffyrdd mae iddo ei ddiben a'i le, ond credaf mai'r hyn rydym yn dod yn fwyfwy ymwybodol ohono yw'r broblem a achosir gan blastig untro gwastrafflyd, sy'n aml yn ddiangen. Nododd Hefin nifer o ystadegau a ffeithiau brawychus, ac nid wyf am geisio eu hailadrodd i gyd yn awr, ond un peth a lynodd yn fy meddwl yw hyn: os na weithredwn yn awr i fynd i'r afael â llygredd plastig, erbyn 2050 bydd mwy o blastig nag o bysgod yn ein moroedd. Felly, rydym yn gweld cymunedau ledled y wlad yn cymryd camau i fynd i'r afael â phlastig untro a hoffwn fanteisio ar y cyfle heddiw i roi'r sylw y maent yn ei haeddu i'r cynnydd yn nifer yr ymgyrchoedd cymunedol, ac mae'n wych gweld Caerffili yn ymuno â'r rhwydwaith hwn tuag at newid yn ein gwlad. Ac mae'n iawn—mae rôl i bob un ohonom ei chwarae, fel dinasyddion, defnyddwyr, cynhyrchwyr, manwerthwyr, busnesau, gwneuthurwyr polisi, ac wrth gwrs, fel gwleidyddion. Ac mae gan ein partneriaid yn yr awdurdodau lleol ran allweddol i'w chwarae, yn gweithio gyda'i gilydd i leihau'r defnydd o blastig mewn sefydliadau a gefnogir gan y cyhoedd, yn enwedig ysgolion, ac o ran casglu a phrosesu gwastraff a deunydd ailgylchu. Gwyddom mai Cymru yw'r unig wlad yn y DU lle y ceir targedau ailgylchu statudol. Mae pob un o'n hawdurdodau lleol yn casglu plastig ar gyfer ei ailgylchu, a dengys arolwg RECOUP ar gyfer y DU yn 2017 fod Cymru'n casglu 74 y cant o'r poteli plastig ar gyfer eu hailgylchu, a 51 y cant o'r potiau, y tybiau a'r deunydd pacio plastig yr amcangyfrifir eu bod yn cael eu gwerthu yma yng Nghymru. Gwyddom fod awdurdodau lleol yn allweddol i'n dyheadau i leihau ac yn wir, i sicrhau bod gwastraff plastig yn cael ei ailgylchu. A diddorol oedd clywed am y prosiect y sonioch chi amdano yng Nghaerffili, am y rhanddeiliaid gwahanol yn dod at ei gilydd, a hefyd byddai'n dda gennyf glywed am gynnydd hynny a beth y gellid ei rannu â mannau eraill ar draws y wlad. Hefyd, mae awdurdodau lleol yn cael cyfle i fanteisio i'r eithaf ar y dylanwad sylweddol y gallant ei gael drwy gaffael, ac rydym yn gweithio gyda rhai awdurdodau lleol ar nifer o brosiectau peilot yng Nghymru i ddangos sut y gall caffael gyflawni atebion mwy cynaliadwy. Mae nifer o'r rhain yn canolbwyntio ar ddefnydd mwy priodol o blastig, gydag un yn anelu at leihau plastig yn y gadwyn cyflenwi bwyd, a dau arall yn treialu newid o blastig i boteli llaeth gwydr mewn ysgolion. Ac rwy'n falch fod Rhaglen Weithredu'r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau, WRAP, yn gweithio gyda ni ar y cynlluniau peilot hyn, yn asesu goblygiadau gwahanol ddeunyddiau o ran cost, defnyddwyr a chyflenwyr. Rhennir canlyniadau'r cynlluniau peilot hyn gydag awdurdodau lleol eraill i annog newid ymddygiad tebyg. A gwn ei fod yn rhywbeth sydd ar feddyliau llawer o bobl ifanc yn yr ysgolion hynny, gan fy mod wedi cael nifer o lythyrau, ac yn fy mhortffolio blaenorol hefyd, gan blant yn awyddus i weld newid o boteli llaeth plastig yn eu hysgolion er mwyn lleihau eu defnydd o blastig untro. A gwyddom ein bod ni fel deiliaid tai yng Nghymru wedi bod yn gwahanu ein gwastraff a'n hailgylchu ar gyfer ei gasglu ers blynyddoedd, a bydd y Llywodraeth hon yn ymgynghori ymhellach fel ei bod yn ofynnol i fusnesau a sefydliadau wneud yr un peth o dan ddarpariaethau Rhan 4 o Ddeddf yr amgylchedd. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda diwydiant a phartneriaid awdurdod lleol ar gynyddu capasiti trin ar gyfer y plastig a gesglir yma yng Nghymru. Ond fel y clywsom yma heddiw, mae'r farn gyffredin yn symud tuag at ei gwneud hi'n ofynnol i gynhyrchwyr ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb am reolaeth diwedd bywyd y plastig y maent yn ei roi ar y farchnad yn y lle cyntaf, a bydd newidiadau i reoliadau'n helpu i fynd i'r afael â hynny. Fe sonioch am gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr ac ar hyn o bryd, mae cynhyrchwyr [Anghlywadwy.] 10 y cant o hynny. Yn unol ag egwyddor 'y llygrwr sy'n talu', bydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori cyn bo hir, ochr yn ochr â Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban, ar gynigion i ddiwygio'r gyfundrefn cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr ar gyfer deunydd pacio ar sail y DU gyfan. Fel roeddwn yn disgwyl, sgoriodd cynlluniau dychwelyd blaendal yn uchel ar yr agenda, ac euthum i weld yr arddangosiad yma yn y Senedd a rhoi cynnig arno fy hun. Mae'n rhywbeth a fydd yn apelio at blant, a phan gaf sgyrsiau â chymheiriaid mewn gwledydd eraill sydd wedi cael y rhain eisoes, yn aml rydym yn clywed straeon am bobl ifanc llawn menter, ar ôl digwyddiad neu ŵyl, yn mynd rownd i gasglu'r cynwysyddion sy'n gymwys ar gyfer y cynllun dychwelyd blaendal a mynd â hwy i'r pwynt casglu lleol. Felly, wrth inni ymgynghori ar y cyd â Llywodraeth y DU ar ddatblygu cynllun cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr, byddwn hefyd yn ymgynghori ar y cyd ar gynllun dychwelyd blaendal, a bwriadaf i hynny ddigwydd yn fuan iawn. Fel rhan o'r ymgynghoriad hwn ac unrhyw gynllun, credaf ei bod hi'n bwysig inni ystyried mewn modd cyfannol beth fydd yr effaith ar ddiwydiant, ar ddefnyddwyr ac ar wasanaethau casglu ein hawdurdodau lleol a thargedau ailgylchu statudol yma yng Nghymru. Hannah Blythyn AC: Rydym yn gwybod—a gwn fy mod yn ailadrodd hyn o hyd—ein bod yn arwain y ffordd yn y DU ar ailgylchu, felly rydym yn dod at hyn o fan cychwyn gwahanol i'n cymheiriaid yn yr Alban a Lloegr, ond nid ydym yn hunanfodlon. Rydym am fod yn gyntaf yn y byd ar ailgylchu drwy ategu'r gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud yma ac adeiladu ar hynny gyda system sy'n gweithio i bawb ohonom yng Nghymru. Ar hyn o bryd, rydym hefyd yn anelu at fod yn genedl ail-lenwi. Roeddwn yn falch, yn fy mhortffolio blaenorol, o gyhoeddi ein huchelgais i wneud hyn ac i weld llawer o gymunedau ledled y wlad yn gwneud hyn yn awr. Nodaf hefyd fod awdurdod lleol yr Aelod, Caerffili, yn y broses o sefydlu cynllun ail-lenwi ar draws y sir ac yn mynd ati'n rhagweithiol i annog busnesau yn yr ardal i fod yn fannau ail-lenwi. Mae'n ffordd hynod o syml ond effeithiol iawn nid yn unig o helpu pobl o ran iechyd a lles ac ailhydradu ond hefyd i leihau'r defnydd o boteli plastig untro yn y broses. Rydym wedi sôn am drethiant yma heddiw. Rydym yn gwybod bod Llywodraeth y DU yng nghyllideb 2018 wedi cyhoeddi mesurau mewn perthynas â threth ar blastig. Mae Trysorlys Cymru bellach yn gweithio gyda Thrysorlys EM ar y posibilrwydd o [Anghlywadwy.] dreth ar waredu plastig untro drwy drethiant, ac rydym yn monitro datblygiad cynigion yn y maes hwn yn fanwl i wneud yn siŵr fod rhanddeiliaid yn cael cyfle i helpu i lywio syniadau a bod unrhyw fesurau'n addas at y diben ac yn cyd-fynd â'n huchelgeisiau gyda'n ffordd Gymreig o fynd i'r afael â gwastraff. Ar dreth ar gynwysyddion diod untro, a elwir yn aml yn y wasg ac ar lafar yn 'latte levy', rydym wedi dweud o'r blaen fod cyflwyno ardoll dreth Gymreig annibynnol neu dâl ar gynwysyddion diodydd untro yn parhau i fod yn opsiwn ar gyfer Cymru, ac mae'n rhywbeth rwy'n awyddus i'w archwilio ymhellach. Ochr yn ochr â hyn, rydym hefyd yn croesawu nodau cyfarwyddeb yr UE ar blastig untro ac yn cytuno â'r mesurau a gyflwynwyd at ei gilydd. Mae fy swyddogion ar hyn o bryd yn ystyried y testun drafft terfynol ac yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig i bennu'r ffordd orau o weithredu'r darpariaethau amrywiol sydd wedi'u cynnwys. Ddirprwy Lywydd, rwy'n ymwybodol o'r cyfyngiadau ar amser heddiw. Rydym wedi siarad am yr hierarchaeth wastraff a'r angen i leihau ac ailddefnyddio yn ogystal ag ailgylchu, ac mae nifer fawr o brosiectau ailddefnyddio'n digwydd ar draws y wlad yn awr, a bu'n bleser ymweld â nifer ohonynt. Ond un mater pwysig rwyf am ei grybwyll yw datblygu map ar gyfer gwella cylcholdeb plastig yng Nghymru. Prif ffocws hwn yw cynyddu cynnwys wedi'i ailgylchu mewn cynhyrchion plastig a chydrannau deunydd pacio a gynhyrchir yma yng Nghymru ond gan leihau ein dibyniaeth ar farchnadoedd tramor hefyd i ailgylchu'r plastig a gesglir yma. Rwy'n meddwl ei bod hi'n hanfodol fod Cymru'n datblygu economi gylchol o ran y plastig rydym yn ei ddefnyddio, yn ei waredu ac yn ei ailbrosesu, ac rydym yn cefnogi hyn drwy ein cronfa fuddsoddi yn yr economi gylchol gwerth £6.5 miliwn. Rydym eisiau cefnogi ac annog arloesedd a thechnolegau newydd er mwyn inni allu gweld amrywiaeth ehangach o blastigion yn cael eu casglu a'u hailgylchu a chynyddu'r defnydd o blastigion wedi'u hailgylchu yn y sector gweithgynhyrchu. Bydd hyn nid yn unig yn effeithlon o ran lleihau gwastraff plastig ond gall hefyd greu mwy o swyddi a helpu i dyfu ein heconomi. Felly, pan gawn bethau'n iawn ar yr amgylchedd, gallwn weld ei fod yn gallu sicrhau manteision economaidd ehangach. Ac rydym yn gweld mwy a mwy o sefydliadau megis siopau diwastraff a phoblogrwydd hynny'n tyfu ar draws y wlad, ac mae hynny i'w groesawu. Credaf ein bod wedi dweud yma o'r blaen ein bod bron â chau'r cylch. Rydym wedi ymhyfrydu yng nghyfleustra'r diwylliant gwastraffus yn y gorffennol, ac yn awr ceir sylweddoliad cynyddol ynglŷn â'r effaith a gaiff hynny heddiw ac yn y dyfodol, felly mae mwy o bobl yn ailfeddwl am ein hymddygiad ein hunain a sut i leihau ein defnydd ein hunain o blastig untro hefyd. Soniodd yr Aelod am rai yn ei etholaeth ei hun, gan gynnwys Transcend Packaging, sy'n gwmni Cymreig a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, ac sy'n cyflenwi gwellt papur i McDonald's ledled y wlad. Deallaf eu bod yn ei gyflwyno'n raddol ar hyn o bryd, o ran McDonald's eu hun, ac rwy'n edrych ymlaen at ymweld â McDonald's yng ngogledd Cymru, lle cefais fy swydd gyntaf erioed, i weld y gwellt papur yn cael eu defnyddio yno. Rydych chi'n iawn ein bod wedi arwain y ffordd gyda'r ardoll ar fagiau plastig, ac nid wyf yn hollol siŵr ond credaf eich bod yn iawn nad ydym am fynd mor bell â Kenya, ond mewn gwirionedd mae'n dangos sut y mae gwledydd eraill yn—. Mae hyn ar yr agenda i bob un ohonom, a'r pwynt gwirioneddol ddilys a wnewch yw peidio â gweithredu'n dameidiog, ond y gallwn feddwl am hyn mewn ffordd gyfannol a dod â'r holl bethau rydym wedi sôn amdanynt heddiw at ei gilydd, ac edrych ar effaith yr hyn a wnawn a gwneud yn siŵr ei fod yn gweithio i ni yng Nghymru. Mae cyfrifoldeb ar bob un ohonom i weithredu, a chredaf y gallwn weld heddiw ein bod yn gwneud hynny. Mae'r ymwybyddiaeth yn tyfu, ac mae ein cymunedau'n arwain y ffordd. Mae ein gwlad wedi arwain y ffordd cyn hyn, ac yn bersonol, rwy'n teimlo'n angerddol ynglŷn â hyn, ac mae'r Llywodraeth yn rhoi blaenoriaeth wleidyddol i barhau i arwain y ffordd er budd ein hamgylchedd, yr economi a chenedlaethau'r dyfodol. Diolch yn fawr iawn. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch. Daeth y cyfarfod i ben am 18:15. QNR Cwestiynau i Y Gweinidog Addysg Jack Sargeant: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth iechyd meddwl mewn ysgolion? Kirsty Williams: The Minister for Health and I have convened a task and finish group to advise us on the work required to deliver a step change in mental health support for schools, as outlined in the Assembly’s 'Mind over Matter' report. The group will meet for the second time in March. Russell George: Sut y mae Llywodraeth Cymru yn annog buddsoddiad mewn ymchwil a datblygu? Kirsty Williams: We work closely in collaboration with our stakeholders and provide direct investment opportunities through schemes such as Sêr Cymru and our SMART Cymru programmes. In addition we actively encourage applications to UK funding sources to exploit avenues like the industrial challenge fund. David J. Rowlands: Pa gamau y mae'r Gweinidog wedi'u cymryd i sicrhau y bydd y canlyniadau PISA a gyhoeddir cyn bo hir ar gyfer Cymru yn gwella ar berfformiad y gorffennol? Kirsty Williams: Our national mission for education—to raise standards, reduce the attainment gap and deliver an education system that is a source of national pride and public confidence—will lead to improved educational performance. We have worked with schools and consortia to emphasise the importance of PISA. Mike Hedges: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effeithiolrwydd y consortia addysg yng Nghymru? Kirsty Williams: The regional education consortia support and work closely in partnership with local authorities, to promote high standards of education and the fulfilment of learning potential. The year-on-year increase in the number of schools needing the least amount of support demonstrates the effectiveness of regional ways of working. Andrew R.T. Davies: A wnaiff y Gweinidog amlinellu targedau Llywodraeth Cymru ar gyfer profion addysg PISA 2021? Kirsty Williams: We are making strides in our national mission for education—to raise standards, reduce the attainment gap and deliver an education system that is a source of national pride. Russell George: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ariannu clybiau brecwast yng nghanolbarth Cymru? Kirsty Williams: My officials have written to the director of education at Powys County Council seeking clarification on how the authority will continue to meet its statutory duty to provide funding to schools to provide free school breakfasts. Darren Millar: Pa broses ymgysylltu sydd sydd gan Lywodraeth Cymru â phrifysgolion Cymru ynghylch y cyrsiau y maent yn eu cynnig i fyfyrwyr? Kirsty Williams: As you are aware, the autonomy of Welsh higher education institutions precludes intervention by the Welsh Government on matters of course provision. However, I expect universities to help Government deliver the successful and effective implementation of the economic action plan and my remit letter to the Higher Education Funding Council for Wales recognises this. Cwestiynau i Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Michelle Brown: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am recriwtio i'r GIG yng Nghymru? Vaughan Gething: Recruitment and retention remains a priority for the Welsh Government and for health boards and trusts. On a national level, recruitment continues to be supported by our successful ‘Train. Work. Live.’ campaign, alongside record levels of investment to support healthcare education and training, including additional medical school places. Paul Davies: Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau iechyd yn Sir Benfro dros y 12 mis nesaf? Vaughan Gething: We have a wide range of improvement activity that we expect the people of Pembrokeshire to benefit from. In addition to service specific improvements, the population will continue to benefit from investment in primary care facilities, the transformation fund and the integrated care fund in 2019/20. Nick Ramsay: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am adeiladu ysbytai newydd yn ne-ddwyrain Cymru? Vaughan Gething: The Grange hospital is the one new hospital currently under construction in south-east Wales. It is on schedule to open in the spring of 2021. The business case for the construction of a new cancer centre to replace Velindre hospital is currently being prepared. Nick Ramsay: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bwysau'r gaeaf yn y GIG yn ne-ddwyrain Cymru? Vaughan Gething: I will make a statement on delivery over winter next week. We have been open about pressures experienced by health and social care services over recent weeks, but it is testament to the commitment of front-line staff that the vast majority of patients are still receiving high-quality and timely care. Mark Reckless: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau obstetreg a gwasanaethau pediatrig cleifion mewnol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan? Vaughan Gething: Clinicians from the health board have been working with the Faculty of Medical Management and Leadership to review the current arrangements for obstetric, neonatal and paediatric services in the region. If any changes are proposed to the current service, then there would be engagement with stakeholders and the public. Lynne Neagle: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y defnydd o driniaeth bracitherapi dos uchel ar gyfer canser y prostad? Vaughan Gething: The Welsh Health Specialised Services Committee commissions low dose rate brachytherapy for prostate cancer for the population of Wales. High dose rate brachytherapy for the treatment of prostate cancer is not currently commissioned in Wales but may be accessed through an individual patient funding request. Russell George: Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau trin poen cronig ar gyfer cleifion yng nghanolbarth Cymru? Vaughan Gething: We continue to work with health boards and partners to improve services relating to chronic or persistent pain. We are working with Powys Teaching Local Health Board to ensure that any patients affected by the decision to close the pain service at Oswestry are minimised. John Griffiths: Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i atal salwch? Vaughan Gething: Improving health for everyone is a central ambition of 'Prosperity for All' and 'A Healthier Wales'. Welsh Government, in partnership with Public Health Wales, health boards and local authorities, is working to deliver our priorities to improve population health. Central to this is support for targeted interventions to encourage healthy lifestyles.
uk-hansard-senedd-cy
senedd2019-02-06
2024-06-01T00:00:00
{ "year": "2019", "language": "cy", "license": "Open Parliament Licence - https://www.parliament.uk/site-information/copyright-parliament/open-parliament-licence/" }
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr am 15:00 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. Datganiad gan y Llywydd Croeso, bawb, y prynhawn yma, i'r cyfarfod arbennig yma o'r Senedd i dalu teyrnged i Frenhines Elizabeth II, yn dilyn ei marwolaeth nos Iau yn yr Alban. Gaf i ofyn i Aelodau godi am funud o dawelwch yn gyntaf, i gydgofio y Frenhines Elizabeth II? Cynhaliwyd munud o dawelwch. 1. Cynnig o gydymdeimlad a theyrngedau i Ei Mawrhydi Y Frenhines Yn cynnig: Bod y Senedd hon yn mynegi ei thristwch dwys yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi Y Frenhines ac yn estyn ei chydymdeimlad diffuant i Ei Fawrhydi Y Brenin ac Aelodau eraill o’r Teulu Brenhinol. Rydym yn cydnabod ymrwymiad parhaus Ei Mawrhydi i wasanaeth a dyletswydd cyhoeddus, gan gynnwys y gefnogaeth a roddodd i nifer o elusennau a sefydliadau yng Nghymru, a’i chysylltiad ar hyd ei hoes â Chymru a’i phobl. Cynigiwyd y cynnig. Rydym yn ymgynnull yma heddiw i dalu teyrnged i Elizabeth II, pennaeth y wladwriaeth am dros 70 mlynedd. Bydd y cynnig o gydymdeimlad yr ydym yn cytuno arno heddiw yn cael ei gyflwyno i'w Fawrhydi y Brenin pan fydd yn ymweld â'r Senedd ddydd Gwener. Cychwynnodd Elizabeth II ar ei swydd 47 mlynedd cyn i'r Senedd hon gael ei chreu. Heddiw, daeth i'n rhan ni i fod yn Aelodau o Senedd Cymru gyntaf erioed i dalu teyrnged yn dilyn marwolaeth pennaeth y wladwriaeth. Fel ym mhob Senedd, mae ein barn ni yn cynrychioli amrywiaeth barn y bobl yr ydym ni'n eu gwasanaethu. Mae ein barn yn wahanol ar sawl agwedd ar fywyd Cymru, ac er y gall ein barn ar sefydliad y frenhiniaeth ei hun fod yn wahanol, ni fyddant yn wahanol iawn ynghylch y ffordd y gweithredodd Elizabeth II ei swyddogaeth fel brenhines drwy ei hoes o wasanaeth cyhoeddus, sut y cafodd ei doethineb a'i hymroddiad i'r swydd eu gwerthfawrogi, a sut yr ydym ni'n galaru yn y golled drist ac yn meddwl am ei theulu. Edrychodd Elizabeth II am yr hyn a oedd yn uno, yn hytrach na'r hyn a oedd yn creu rhaniadau. Gallwn ninnau hefyd geisio'r undod hwnnw heddiw yn ein cydymdeimlad. Ar chwe achlysur yn ystod seremonïau agoriadol ein Senedd dros y 23 mlynedd diwethaf, eisteddodd y Frenhines yma yn ein plith wrth iddi gyflawni ei dyletswydd gyfansoddiadol fel pennaeth y wladwriaeth. Dim ond 11 mis yn ôl yr oedd hi yma ar ei hymweliad olaf â Chymru, yn cadarnhau ein dilysrwydd democrataidd fel un o'i Seneddau. Diolchwn iddi am ei gwasanaeth i Gymru. Galwaf yn awr ar y Prif Weinidog i arwain teyrngedau ein Senedd i Elizabeth II. Mark Drakeford AC: Llywydd, diolch yn fawr. Am 70 o flynyddoedd, rydym wastad wedi gwybod y byddai'r amser hwn yn dod. Ond, yn y diwedd, daeth yn gyflym ac yn annisgwyl. Mae'n anodd credu nawr ein bod wedi ymgynnull yma yn y Senedd ddim ond cwpwl o fisoedd byr yn ôl i ddathlu cyflawniad unigryw y Jiwbilî Blatinwm. Roedd y Frenhines yn fregus, yn dilyn ei blynyddoedd o wasanaeth a hunanaberth. Henaint ni ddaw ei hunain. Ond, er hyn i gyd, roedd hi'n dal yn weithgar ac yn llawn egni. Bydd y llyfrau hanes yn nodi mai'r chweched Senedd hon oedd yr olaf o bedair Senedd y Deyrnas Unedig i gael ei hagor gan y Frenhines Elizabeth II, lai na blwyddyn yn ôl. Erbyn hyn, rydym yn gwybod mai penderfyniad personol y Frenhines ei hun oedd e, nôl yn 1999, i ddod i Gaerdydd i agor tymor cyntaf y Cynulliad. Gwnaeth hynny gan anwybyddu y cyngor a ddarparwyd iddi. Dychwelodd yma am y tro olaf dros 20 mlynedd yn ddiweddarach, yn unol â'r ymrwymiad personol hwnnw i Gymru a'i sefydliadau democrataidd. Mark Drakeford AC: Llywydd, mewn bywyd rhyfeddol, roedd y 24 awr olaf o deyrnasiad y Frenhines ymhlith y mwyaf rhyfeddol. Ni fydd neb a wyliodd yr oriau'n mynd rhagddynt yn anghofio gweld rhywun mor benderfynol o gyflawni ei rhwymedigaeth gyfansoddiadol, gan gadarnhau Prif Weinidog newydd, rhywbeth y gallai neb ond hi ei wneud, er gwaethaf yr effaith anochel ar yr ychydig gryfder a oedd ganddi wrth gefn. Ni allai unrhyw beth mwy fod wedi mynegi'n gliriach yr ymdeimlad pennaf o ddyletswydd, a oedd ymhlith ei nodweddion gorau. A hwn, wrth gwrs, dim ond y gwasanaeth olaf, y ddelwedd olaf mewn cyfres ddi-dor dros fwy na 70 mlynedd. Ni fydd treigl amser yn peri i ni anghofio'r ddelwedd ohoni'n eistedd ar ei phen ei hun, wrth gadw at reoliadau iechyd yn urddasol a phenderfynol, yn angladd ei gŵr, Dug Caeredin. Mae'n un ymhlith nifer o ddelweddau sy'n diffinio ei theyrnasiad. Llywydd, ym mis Gorffennaf eleni, ar ran y Senedd, cefais y fraint o ddanfon rhodd oddi wrth bobl Cymru i'r Frenhines i goffáu'r Jiwbilî Blatinwm honno. Bydd llawer ohonom yma yn gwybod eisoes am dderwen Pontfadog, coeden a safai ar fferm Cilcochwyn yn nyffryn Ceiriog, am o bosibl cymaint â 1,200 o flynyddoedd. Fe'i dadwreiddiwyd yn ystod storm fawr 2013, ond yn wyrthiol, diolch i sgiliau syfrdanol staff arbenigol yng ngerddi gwych Kew, mae pum coeden dderw newydd, pob un yn union yr un fath o ran geneteg â'r gwreiddiol, wedi cael eu tywys yn ôl yn fyw. Yma, yn ein gerddi botaneg ein hunain sy'n prysur aeddfedu yng ngogledd sir Gâr, yn sefyll yn ogoneddus yn heulwen Gorffennaf, paratowyd y coed derw newydd hyn ar gyfer eu tynged newydd: rhai i aros yn Llanarthne, un i'w phlannu yn ein coetir coffa COVID ein hunain yn y gogledd, ac un i'w sefydlu fel rhodd Jiwbilî yng nghastell Y Waun, y castell agosaf yng Nghymru at safle derw Pontfadog ei hun. Gan oroesi drwy'r oesoedd, yn rhan barhaol o'n bywydau, yn cynnig lloches a chynhaliaeth o dan ei changhennau enfawr, mae gwir ymdeimlad o undod rhwng y rhodd hwn gan bobl Cymru a'r bywyd y bu'n ei anrhydeddu a'i ddathlu. Ac ymdeimlad o'r dyfodol, Llywydd, hefyd, am fod derwen newydd Pontfadog wedi ei derbyn ar ran y Frenhines gan Dywysog Cymru bryd hynny, sef y Brenin Charles III heddiw. Nawr wrth iddi wreiddio, bydd yn ymestyn ymlaen i fywyd newydd o wasanaeth ac un sydd â chysylltiadau arbennig â Chymru. Mark Drakeford AC: Rydym ni’n cynnig ein cydymdeimladau dwysaf i'r Brenin newydd a'i deulu. Mae ein meddyliau gyda Thywysog a Thywysoges newydd Cymru. Dymunwn bob llwyddiant iddynt yn y bennod newydd hon yn eu bywydau o wasanaeth. Yn Gymraeg, mae yna ddihareb: colli tad, colli cyngor; colli mam, colli angor. Rydym ni'n dymuno iddynt y nerth i alaru yn eu colled, a dymuniadau da iddynt a'u teulu ar gyfer y dyfodol. Mark Drakeford AC: Ym mis Mehefin, buom yn siarad yn y Siambr hon am straen byw bywyd mor ddigyfaddawd yng ngolwg y cyhoedd—pob eiliad yn cael ei gofnodi, pob sylw yn cael ei ddadansoddi'n fanwl, pob gwên neu wg yn dweud stori. Nawr daw'r stori honno i ben; mae'r bywyd a'i creodd yn llonydd yn yr hedd y bydd y cwsg olaf hwnnw yn ei roi i ni i gyd. Rydym wedi ymgynnull yma yn dilyn seremoni'r proclamasiwn y bore 'ma, y cyntaf ers dros 70 mlynedd yma yng Nghymru. Mae'n ein hatgoffa ni, hyd yn oed wrth i ni edrych yn ôl, fod yn rhaid edrych ymlaen a defnyddio'r cryfder sydd gennym yma yn fforwm democrataidd Cymru i lunio'r dyfodol hwnnw, drwy gael ysbrydoliaeth gan y rhai sydd wedi helpu i'n gwneud ni yr hyn yr ydym ni. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies. Andrew RT Davies AC: Diolch, Llywydd, ac mae grŵp fy mhlaid a minnau'n cefnogi'r cynnig gerbron y Senedd y prynhawn yma. Wrth glywed y newyddion ddydd Iau, ar ôl gweld lluniau o'r Frenhines yn amlwg yn derbyn y Prif Weinidog newydd a'i rhoi hi yn ei swydd, daeth newyddion nad oedd yr un ohonom yn credu y byddai'n digwydd o fewn 48 awr i'r lluniau hynny gael eu cyhoeddi. Yn wir, safodd oes o wasanaeth o'n blaenau yn y lluniau hynny, yn 96 oed ac yn drist iawn, yn ei llesgedd, a gallem i gyd weld ei bod yn credu mai ei dyletswydd oedd derbyn y Prif Weinidog, a phenodi'r Prif Weinidog, fel y gallai'r wlad gael y sefydlogrwydd a'r parhad hwnnw y mae ei theyrnasiad wedi ei roi ers 70 mlynedd, ac mae ein cydymdeimlad yn mynd i'r teulu a phawb sy'n coleddu'r atgofam Ei Mawrhydi y Frenhines. Mae'n ffaith, pan anwyd hi, nad oedd hi wedi ei thynghedu i eistedd ar yr orsedd, oherwydd roedd ei thad a'i mam, Dug a Duges Efrog, yn amlwg, yn ail yn y llinach am y goron, a thaflodd yr ymddiorseddiad y teulu i sylw pawb ac, yn y pen draw, i olyniaeth yr orsedd yn y 1950au. Ond doedd dim gwrthwynebiad, dim petruso, dim cwyno; roedd Ei Mawrhydi bob amser yn ymroi ei hun yn gyntaf i wasanaeth cyhoeddus a dyletswydd dros y wlad, y Gymanwlad, ac fel yr oedd bryd hynny, yr ymerodraeth. Fel y pwysleisiodd ei haraith yn 1947, gwasanaeth cyhoeddus yn bennaf oll oedd yn ei meddyliau. Ac yn arbennig, yma yng Nghymru, rydym ni wedi gweld hynny dro ar ôl tro, gyda'r holl sefydliadau y bu hi'n noddwr iddyn nhw, ac yn y pen draw, wedi eu cefnogi, boed yn sefydliadau mawr neu fach, fel y Sioe Frenhinol, yr Eisteddfod Genedlaethol, Undeb Rygbi Cymru, a phentrefi a threfi niferus, yn eu cefnogi i aeddfedu a thyfu yn eu deinameg. Fel y dywedodd y Prif Weinidog yn ei sylwadau, safwn yn dalach heddiw o fod â theyrnasiad Ei Mawrhydi y Frenhines a'r 70 mlynedd a roddodd i'r orsedd ac i'r wlad wych hon. Ac mae'n ffaith, yn y pen draw, pan edrychwch yn ôl, ni fydd yr un ohonom mae'n debyg yn gweld teyrnasiad o'r fath eto yn ein hoes ni, a'r fath ymroddiad i wasanaeth. Cafwyd enghraifft o'r gwasanaeth hwnnw pan ymwelodd â dioddefwyr y bomio ofnadwy ym Manceinion yn ddiweddar. Byddai llawer ohonom yn cael ein syfrdanu gan y lluniau o'r bomio hwnnw ym Manceinion, ond roedd Ei Mawrhydi, wrth wneud pawb yn gartrefol pan oedd hi'n siarad â nhw yn ysbyty'r plant ym Manceinion, yn canolbwyntio ar y dioddefwr a pham bod y dioddefwr hwnnw eisiau mynd i'r cyngerdd a beth yr oedd yn ei ddisgwyl pan gyrhaeddai y cyngerdd, yn hytrach na'i aflonyddu drwy ofyn iddo ail-fyw'r peth ofnadwy yr oedd wedi mynd trwyddo yn y bomio yng nghyngerdd Manceinion. Ac fe wnaeth hynny bwysleisio i mi mai dyma ddynes a oedd mewn cysylltiad â'i phobl. Rwyf wedi bod yn ffodus i gwrdd â'i Mawrhydi ar sawl achlysur, a phob tro roedd ganddi'r ddawn unigryw honno o allu canolbwyntio arnoch chi fel unigolyn, eich rhoi chi yng nghanol y sgwrs honno a gwneud i chi deimlo mai chi yw'r person, yr unig berson, yn siarad â hi yn yr ystafell honno. Ac mae'n fy atgoffa o stori adeg agor y Senedd yn 2011, pan oedd eich rhagflaenydd, Rosemary Butler, yn dangos Ei Mawrhydi o gwmpas, ac fe gyflwynodd hi fi i'w Mawrhydi, a dywedodd, 'Dacw'r ffermwr drwg yr wyf yn ei geryddu'n gyson.' Dywedodd Ei Mawrhydi, mewn amrantiad a'i llygaid yn pefrio, 'Wel, mae pob ffermwr yn ddrwg, onid yw?' Unwaith eto, roedd y gostyngeiddrwydd hwnnw a'r gallu hwnnw i'ch gwneud chi'n gartrefol pan oeddech yn siarad â hi wir yn amlygu person oedd yn poeni am y bobl, oedd â ffydd a hyder ynddi hi a'i gweithredoedd i wneud yn siŵr bod y wlad hon yn datblygu yr holl ffordd o oes y stêm i oes drydan o ran trenau, o'r telegram i'r rhyngrwyd. Gallwn bwyso botwm heddiw a gweld y lluniau o'n blaenau, cyn hynny clywsom am y coroni gan bobl a oedd yn fyw adeg y coroni—byddai'n rhaid iddyn nhw fynd at eu cymydog drws nesaf, eistedd gyda choesau wedi'u croesi a gwylio'r teledu bach du a gwyn hwnnw. Heddiw, mae unrhyw un ohonom ni, er mwyn cael y newyddion yna, i gael y lluniau yna, yn gallu tynnu ffôn allan o'r boced a gweld y lluniau hynny o'n blaenau ni yn syth. Ond eto, roedd hi'n frenhines a barhaodd yn berthnasol drwy'r blynyddoedd, drwy'r 70 mlynedd o wasanaeth. A gadewch i ni beidio ag anghofio, trwy waeledd ei diweddar dad, y Brenin, iddi gymryd baich nerthol iawn ar ei hysgwyddau, i gario'r frenhiniaeth drwy gyfnod gwaeledd ei thad, a doedd hi byth yn cwyno. Rwy'n credu y gallem ni i gyd gymryd geiriau Paddington Bear yn y Jiwbilî, pan ddywedodd, ar ddiwedd y clip gwych hwnnw, 'Diolch am bopeth yr ydych chi'n ei wneud'. Wel, fe newidiaf hwnnw i 'Diolch am bopeth y gwnaethoch chi'. Duw gadwo'r Brenin. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price. Adam Price AC: Llywydd, ar ran grŵp Plaid Cymru yn y Senedd, codaf i fynegi ein tristwch ninnau ac estyn ein cydymdeimladau dwysaf i'r teulu brenhinol, yn dilyn marwolaeth y Frenhines Elizabeth. Adam Price AC: Mae'r teyrngedau a dalwyd i'r diweddar Frenhines Elizabeth dros y nifer o ddyddiau diwethaf wedi bod yn ddi-ri, ond roedd un sylw gan gyn ŵr llys brenhinol, a ddyfynnwyd mewn darn gan Alastair Campbell, yn sefyll allan i mi: sef bod y Frenhines yn deall 'comiwnyddiaeth dynoliaeth'. Nawr, mae hwnnw'n honiad syfrdanol; ei sylwedd, ei bwnc a'i ffynhonnell. Roedd Ei Mawrhydi'r Frenhines Elizabeth II, trwy ddiffiniad, trwy broclamasiwn brenhinol, i bob un ohonom, yn hollol wahanol. Pan oedd hi dim ond yn dywysoges, soniodd cylchgrawn Life am y 500 miliwn o bobl a'r 14 miliwn milltir sgwâr y byddai o bosibl un diwrnod yn teyrnasu drostynt. Hyd yn oed wrth i'r ymerodraeth bylu, roedd hi'n byw mewn palasau, yn teithio mewn cerbydau aur, yn teithio'r byd mewn llongau ac awyrennau brenhinol—bodolaeth tylwyth teg o'i gymharu â bywyd bob dydd bron pawb arall. Ac eto, i filiynau di-ri, roedd ymdeimlad o gydgysylltiad—perthynas bersonol bron. Yng ngeiriau'r gŵr llys di-enw: 'Maen nhw'n gwybod ei bod hi'n wahanol, ond maen nhw hefyd yn gwybod ei bod hi yr un fath, yn bwyta'r un pethau, yn anadlu'r un aer, yn eu deall ac eisiau iddyn nhw ei deall hi.' Y Frenhines ei hun a grynhodd yr ymdeimlad hwn o gysylltiad orau, yn y geiriau a ddefnyddiodd am y Dywysoges Diana, yn y dyddiau ar ôl ei marwolaeth drasig annhymig: 'Ni fydd neb a oedd yn adnabod Diana byth yn ei hanghofio hi. Bydd miliynau o bobl eraill na wnaeth erioed ei chyfarfod, ond yn teimlo eu bod yn ei hadnabod, yn ei chofio.' Maen nhw'n eiriau sy'n wir nawr am y Frenhines Elizabeth, fel yr oedden nhw bryd hynny am Diana. Yn yr araith honno, siaradodd y Frenhines â ni, yn ei geiriau hi, 'o'r galon', nid yn unig fel brenhines ond fel matriarch. Pwy yn ein plith ni sydd hyd yn oed yn gallu dechrau dychmygu beth yw bod yn frenhinol? Ond bydd nifer ohonom yn gwybod beth yw bod yn nain neu'n daid, i golli rhiant, i gysuro plentyn mewn poen. Rydym ni i gyd yn dygymod â cholled 'yn ein ffyrdd gwahanol', meddai'r Frenhines bryd hynny. Nawr, rydym ni'n galaru ar ei hôl hi—eto yn ein ffyrdd gwahanol; llawer, fel arwydd o barch, at Frenhines a oedd yn gwasanaethu a fu'n byw ac a fu farw yn bersonoliad o ddyletswydd, cwrteisi a gofal. Bydd rhai yn uniaethu'n syml â'r teulu a'i alar, gan deimlo efallai, yn y foment hon o dristwch cyhoeddus rhyw adlais personol o golled breifat. Ac, nid ychydig, o bell ffordd, yn enwedig ymhlith cenedlaethau hŷn, fydd wedi teimlo ymdeimlad dwfn o afleoliad, o ffarwelio â rhan ohonyn nhw eu hunain, gan fod y Frenhines Elizabeth wedi bod yn bwynt cyfeirio parhaol. Mae sefydlogrwydd y Frenhines a'r cysur a allai hynny ei roi mewn cyfnodau cythryblus yn aml wedi bod yn thema reolaidd, ac eto gallai'r Frenhines Elizabeth yn aml ddrysu'r rhai oedd yn ei gweld fel rhywun un dimensiwn yn unig, wedi'i charcharu gan ddisgwyliadau'r gorffennol neu ddisgwyliadau pobl eraill. Penodwyd George MacLeod, y penboethyn sosialaidd a'r heddychwr brwd, sylfaenydd cymuned Iona, gan y Frenhines yn ffurfiol fel caplan brenhinol ac yn anffurfiol fel partner paffio geiriol y Tywysog Philip. Roedd hi'n anghytuno â Mrs Thatcher pan wrthododd hi osod sancsiynau ar Dde Affrica a'i hapartheid, yn ogystal â'i pholisïau o gyni gartref. A dywedodd ychydig eiriau heb eu sgriptio wrthych wrth fynd heibio, Llywydd, ar adeg ei hymweliad diwethaf â'r Senedd, fe gystwyodd gwleidyddion a hynny'n briodol am siarad yn hytrach na gweithredu yn aml o ran yr argyfwng hinsawdd byd-eang. Yn 2011, ar ymweliad cyntaf hanesyddol gan frenin neu frenhines Prydain â Gweriniaeth Iwerddon, fe syfrdanodd fwy neu lai pawb trwy osod torch ac ymgrymu yn yr ardd goffa yn Nulyn, gan anrhydeddu pawb a roddodd eu bywydau yn enw rhyddid i Iwerddon. Mewn araith yng nghastell Dulyn, dywedodd, 'Gyda mantais ôl-ddoethineb hanesyddol gallwn i gyd weld pethau y byddem wedi dymuno eu gwneud yn wahanol neu ddim o gwbl.' Roedd hynny'n dangos mwy o onestrwydd ac edifeirwch ynghylch pechodau gorffennol Prydain, o leiaf yn yr ynysoedd hyn, nag a ddangoswyd erioed gan y rhan fwyaf o arweinwyr gwleidyddol Prydain, a llawer o'n cyfryngau. Yfory, bydd y Frenhines yn gorwedd yn gyhoeddus yn Eglwys Gadeiriol St Giles yng Nghaeredin, lle bu George MacLeod yn gynorthwyydd ar un adeg. Aeth oddi yno i weithio gyda'r tlodion yn Glasgow ac ymlaen i Iona, gan helpu i ailadeiladu'r Abaty hanesyddol, yr ymwelodd y Frenhines ag ef a'i gefnogi'n ariannol—yn ddadleuol felly, o ystyried heddychiaeth ei sylfaenydd. Mae 48 o frenhinoedd wedi eu claddu yno, ochr yn ochr ag un cyn-arweinydd plaid, mewn casgliad o gerrig syml ar ynys wyntog fechan, sy'n symbol o'r ffaith, ni waeth sut cawn ein geni, sut yr ydym yn byw, rydym yn marw fel rhan o un teulu cyffredin: comiwnyddiaeth eithaf dynoliaeth, uniaeth sylfaenol pob un ohonom a phob peth. Adam Price AC: Undod tragwyddol daear a nef. Adam Price AC: Soniodd MacLeod am leoedd tenau lle yr oedd dim ond meinwe tenau yn rhannu'r materol a'r ysbrydol, lle roedd yn ymddangos bod y nefoedd a'r ddaear yn cyffwrdd. Ond, mae yna eiliadau tenau hefyd, eiliadau trothwyol, trothwyon rhwng y bywyd ag anwylyn yr ydym wedi'i golli, a'r bywyd yr ydym ar fin ei ddechrau hebddyn nhw. Yn yr eiliadau hyn o absenoldeb dwys, wrth i ni sefyll ar groesffordd o newid, rydym rhywsut yn teimlo presenoldeb y person sydd wedi ein gadael ar ei gryfaf. Un tro cymharodd y bardd Seamus Heaney farwolaeth ei fam ei hun â chwympo coeden fawr, fel derwen Pontfadog y cyfeiriodd y Prif Weinidog ati. 'Cafodd y fan lle safem ei harloesi / Ynom ni i’w chadw, gan dreiddio drwy / Lanerchau a safai’n ddisymwth agored. / Dolefau garw a dorrwyd a newid dilychwin a ddaeth.' I rai, bydd hon yn foment o bryder mawr, ond efallai, Llywydd, wrth i'r Frenhines Elizabeth ddechrau ar ei thaith olaf ac wrth i ni ystyried beth a ddaw yn y dyfodol, gallwn ddilyn gorchymyn y Frenhines ei hun yn yr araith fawr honno yn Nulyn i 'ymgrymu i'r gorffennol ond heb gael ein rhwymo ganddo.' Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Jane Dodds. Jane Dodds AS: Diolch yn fawr iawn. Ar ran fy mhlaid i, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf ar ôl colli Elizabeth II. Bu Elizabeth II yn un o'r ychydig bethau cyson yn ein bywydau ni i gyd yn ystod ei theyrnasiad 70 mlynedd. Wrth i'r byd o'n cwmpas newid, roedd Elizabeth II yn fythol bresennol drwyddi draw; roedd hi'n rhoi sefydlogrwydd a sicrwydd i lawer. Mae marwolaeth Elizabeth II heb amheuaeth yn nodi diwedd pennod hir iawn ac yn wir arloesol yn hanes ein cenhedloedd. Roedd Elizabeth II yn atgof byw o'n gorffennol cyfunol, yn arwydd cyson o ddyletswydd, dewrder, cynhesrwydd a thosturi, nid yn unig yma yn y DU, ond yn fyd-eang. Drwy gydol ei hoes, gwasanaethodd Elizabeth II y wlad gyda'r ymroddiad, anrhydedd ac urddas mwyaf. Roedd ei ffydd yn ddeinamig ac yn gryf. Roedd hi'n fenyw yn gosod esiampl i bob un ohonom ni ferched, nid dim ond yma yng Nghymru, ond ar draws y byd. Cefais y fraint fawr o'i chyfarfod unwaith yn unig, adeg agor y chweched Senedd yma fis Hydref diwethaf, ac mae fy hanesyn byr yn wir yn un am ffermio, fel arweinydd yr wrthblaid. Cefais fy nghyflwyno fel yr Aelod sy'n cynrychioli canolbarth a gorllewin Cymru, ardal fawr yng Nghymru, a dwi'n credu fy mod wedi dweud rhywbeth tebyg i, 'Mae gennym ni fwy o ddefaid na phobl yn yr ardal rwy'n ei chynrychioli'. Ei hymateb craff a chyflym i mi oedd, 'Wel, sut ydych chi'n gwybod beth yw eu barn nhw?' Mae ei hanerchiad i'r Gymanwlad a hithau dim ond yn 21 oed, pan ddywedodd: 'Rwy'n datgan o'ch blaen chi i gyd y bydd fy holl fywyd, boed yn hir neu'n fyr, yn cael ei neilltuo i'ch gwasanaethu chi', yn ethos ac egwyddor rwy'n gwybod ein bod ni i gyd yma yn eu hanwylo. Ac mae esiampl Elizabeth II o wasanaeth cyhoeddus yn uchelgais i ni i gyd. Mae ei hanerchiad i'r wlad yn ystod rhan gynnar y pandemig coronafeirws—y byddem i gyd yn cyfarfod eto—yn dangos i ba raddau yr oedd y Frenhines yn adlewyrchu hwyliau cenedlaethol i lawer. Yn yr un cywair, bydd llawer yn cofio ymweliad Elizabeth II ag Aberfan ym 1966, ac yn dwyn i gof hithau'n rhannu'r galar a deimlwyd gan bobl Aberfan. Fel y dywedodd rhywun ar ôl y trychineb, 'Roedd hi'n teimlo fel ei bod hi gyda ni o'r dechrau.' Roedd hi'n wladweinyddes nad oedd ei thebyg. Jane Dodds AS: Roedd Ei Mawrhydi yn ffrind i Gymru, a bydd llawer yma yn y Deyrnas Unedig, y Gymanwlad ac ymhellach yn ei cholli'n fawr. Mae fy meddyliau a'm gweddïau, wrth gwrs, yn mynd at y teulu brenhinol, ond hefyd at bobl ym mhob cornel o'r Deyrnas Unedig sydd wedi'u cyffwrdd gan waith elusennol ac arweinyddiaeth Elizabeth II. Mae'r don o gydymdeimlad sydd i’w gweld gan bobl a gwleidyddion ar draws y byd yn dangos faint o fywydau y gwnaeth y Frenhines Elizabeth II eu cyffwrdd, ynghyd â’r gobaith, urddas ac anrhydedd yr oedd hi'n eu hymgorffori ar gyfer cynifer. Yn union fel y safodd y Frenhines Elizabeth II yn gadarn wrth i'n gwlad a'n cymdeithas newid, edrychwn yn awr tuag at Ei Fawrhydi y Brenin wrth iddo geisio arwain ein gwlad â'r un urddas, anrhydedd, ac ymroddiad ag Elizabeth II. Pob bendith i'r Brenin. Diolch yn fawr iawn. Natasha Asghar AS: Mae'r newyddion am farwolaeth Ei Mawrhydi'r Frenhines wedi gadael y genedl yn teimlo tristwch a cholled ddwys. Roedd y Frenhines yn bresenoldeb cyson yn y rhan fwyaf o'n bywydau. Ganwyd ei Phrif Weinidog cyntaf, Winston Churchill, ym 1874; cafodd ei Phrif Weinidog olaf, a benodwyd dim ond ychydig ddyddiau yn ôl, ei geni ym 1975, 101 mlynedd yn ddiweddarach. Mae hynny ar ei ben ei hun yn amlygu'r amser hir y bu'n ymroi i wasanaethu ei phobl, yma a thramor. Cafodd y Frenhines ei chynnal gan ffydd a'i hysgogi gan ddyletswydd. Rhai o fy atgofion melysaf am Ei Mawrhydi yw ei gwylio bob Nadolig yn annerch y genedl. Roedd Diwrnod Nadolig fy nheulu i gyd yn troi o amgylch araith y Frenhines. Roedd ei neges wastad yn un o obaith; roedd yn galondid, yn optimistaidd ac yn ysbrydoledig. Mewn cyfnodau cythryblus a phryderus yn aml, safodd y Frenhines yn gryf, gan roi hyder a sicrwydd y byddai popeth yn iawn yn y byd. Ni waeth beth fo'i hamgylchiadau personol ei hun, problemau iechyd ac, yn fwy diweddar, marwolaeth y Tywysog Philip, safai'r Frenhines yn gadarn, yn fagwrol ac yn ddyrchafol yn ystod cyfnodau o galedi a thrafferthion. Roedd ei hareithiau'n ddyrchafol, yn chwaethus ac, yn anad dim arall, yn berthnasol i bob un ohonom mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Pan oeddwn yn blentyn ifanc gofynnodd teulu a ffrindiau i mi'n aml, 'Felly, beth wyt ti eisiau bod pan fyddi di wedi tyfu i fyny?', ac ateb y Natasha Asghar bum mlwydd oed, yn edrych yn hyderus i fyw eu llygaid oedd, 'Dwi eisiau bod yn Frenhines.' Yn naturiol, sylweddolais yn weddol fuan nad oedd y swydd yn un a oedd yn agored i geisiadau. Roeddwn yn addoli'r Frenhines am ei gwaith caled, ei phwyll o dan bob math o amgylchiadau, a'r cariad a oedd ganddi at ei gwlad. Yn wleidyddion yma yn Senedd Cymru, ni allwn ni ond dyheu am wneud yr hyn a wnaeth hi, cyhyd ag y gwnaeth hi, gyda'r un lefel o raslonrwydd, urddas, amynedd a charedigrwydd. Roedd ei hymdeimlad o ddyletswydd ddinesig, cymuned ac elusen yn anhygoel, a bydd ei chyfraniad i'r Deyrnas Unedig a'r Gymanwlad yn gadael gwaddol parhaol. Dywedodd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Liz Truss, yn ei theyrnged fod y Frenhines yn ysbrydoliaeth aruthrol iddi, ac ni allwn gytuno mwy. Roedd y Frenhines yn esiampl wych i fenywod di-ri ar draws y byd, o gefndiroedd ac ethnigrwydd amrywiol a chafodd ei hedmygu a'i charu am ei doethineb, ei hurddas, ei graslonrwydd a'i hamynedd. Roedd hi'n anrhydedd cwrdd â'i Mawrhydi pan ddaeth i Gaerdydd ar gyfer agoriad chweched Senedd Cymru. Roedd hi'n foment y byddaf yn ei thrysori gweddill fy oes, ac rwy'n gwybod y bydd llawer o fy nghydweithwyr sy'n eistedd yma yn ein plith ni heddiw, yma yn Senedd Cymru, hefyd yn ei thrysori. Ar fy rhan i a holl drigolion de-ddwyrain Cymru, y Deyrnas Unedig a'r Gymanwlad, hoffwn ddiolch i'w Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II am ei hoes o wasanaeth ymroddedig a ffyddlon. Gwn dim ond yn rhy dda y boen y mae rhywun yn ei brofi o golli rhiant, ac mae fy meddyliau a fy ngweddïau gyda'r Brenin, ei frodyr, ei chwaer a gweddill y teulu brenhinol ar yr adeg drist iawn yma. Roedd y Frenhines bob amser yn dweud wrthym am fod yn gryf drwy gyfnodau o galedi, a heddiw mae angen i ni i gyd gynnal y cryfder a'r dewrder a feddai hi i ysgwyddo'r golled. Nid galar yw'r deyrnged fwyaf i'r meirw ond diolchgarwch. I ddyfynnu Ralph Waldo Emerson, 'Diben bywyd yw…i fod o fudd, i fod yn anrhydeddus, i fod yn drugarog, i sicrhau dy fod yn gwneud gwahaniaeth drwy fyw y bywyd hwnnw a’i fyw yn dda.' Gellir dweud hynny'n sicr am Ei Mawrhydi. Boed iddi orffwys mewn hedd. Roedd ei charedigrwydd yn chwedlonol, roedd ei gwên yn heintus a bydd y cof amdani yn byw ymlaen yn ein calonnau am byth. Alun Davies AC: Mae'n fraint, Llywydd, i siarad yma heddiw ar ran pobl Blaenau Gwent. Ddydd Iau fe glywodd Blaenau Gwent, fel pob rhan arall o'n gwlad, y newyddion gydag ymdeimlad o dristwch dwfn a dwys. Collwyd nid yn unig ein Brenhines, ond hefyd ein seren y gogledd. Roedd Ei Mawrhydi yno'n gyson drwy gydol ein bywydau. Wrth i awyr y nos droi o gwmpas seren y gogledd, felly hefyd yr ydym ni i gyd wedi gweld drwy'r degawdau, fyd sy'n newid, gwlad sy'n newid a chymdeithas sy'n newid, a thrwy'r cyfan, mae ein Brenhines wedi parhau i fod y pwynt sefydlog hwnnw y gwyddom y gallwn droi ato, p'un a oes angen cynhaliaeth neu arweiniad arnom. Pa bynnag her yr ydym wedi ei hwynebu dros y degawdau hyn, byddai'r Frenhines yno, weithiau'n dweud y geiriau a oedd yn crynhoi teimladau'r cyhoedd, gan siarad y geiriau y byddai'r gweddill ohonom yn ei chael yn anodd dod o hyd iddyn nhw. Ond, yn amlach, byddai nid yn unig yn adlewyrchu'r hyn oedd angen i'r cyhoedd ei glywed, ond roedd hefyd yn gallu arwain. Llywydd, roedd yn oes o wasanaeth sydd wedi ffurfio ein bywydau ni i gyd ond sydd hefyd wedi diffinio cyfnod. Siaradodd â ni am ein hanes, a thros y dyddiau diwethaf, rydym i gyd wedi gweld y fideos du a gwyn graenog hynny ohoni'n dychwelyd o Kenya ar ôl marwolaeth ei thad. Ac mae hynny'n edrych fel petai oesoedd yn ôl, gyda Churchill, Atlee ac Eden yn aros yn y maes awyr i gyfarch y Frenhines ifanc. Ond mae hi wedi bod yno drwy gydol yr amser. Ac mewn sawl ffordd mae ei hirhoedledd ei hun wedi pwysleisio'r ymdeimlad hwn o barhad a sefydlogrwydd. Daeth â ni i gyd at ein gilydd. Nid oedd yn siarad â ni yn unig, roedd hi'n siarad amdanom ni ac ar ein rhan. Mae'r cyfnod hir hwn o wasanaeth yn cydweddu'n berffaith â'i dyfnder o ymrwymiad a gwerthoedd ei gwasanaeth. Siaradodd y Prif Weinidog ddydd Iau am werthoedd y Frenhines, y gwerthoedd a'i hysgogodd hi i wisgo iwnifform yn y 1940au, a'r un ymrwymiad parhaus i wasanaeth cyhoeddus ac i bobl y wlad hon a'r un gwerthoedd a olygodd ei bod yn cyflawni ei dyletswyddau cyhoeddus ddyddiau cyn iddi ein gadael. Bydd gan bob un ohonom atgofion am Ei Mawrhydi. Ymwelodd â Blaenau Gwent ym mis Ebrill 2012, fel rhan o'r dathliadau ar gyfer ei Jiwbilî Ddiemwnt. Daeth ei hymweliad â llawenydd mawr i bobl ledled y fwrdeistref. Roedd ei gwên yn gwneud i ni wenu. Ysbrydolwyd ni ym Mlaenau Gwent gan ei gwasanaeth a'i hymroddiad i ddyletswydd, ac roeddem yn cofio'r diwrnod hwnnw yn gynharach eleni pan ddathlwyd ei Jiwbilî Blatinwm. Mae llawer ohonom wedi siarad yn barod y prynhawn yma am ei hymweliad â'r lle hwn fis Hydref diwethaf, a gwelsom eto effaith y Frenhines arnom, oherwydd eisteddom i gyd yma yn y Siambr hon a dangosodd y sgriniau teledu o'n cwmpas hi'n cyrraedd yr adeilad y tu allan. Ac roeddem i gyd yn teimlo'r un wefr drydanol pan welsom y ffigwr cyfarwydd hwnnw wrth y drws, ac yna'n mynd i'w sedd yn Siambr y Senedd hon. Buom i gyd yn gwrando'n dawel ar ei geiriau y prynhawn hwnnw, ac yna fe siaradom ni â hi wedyn. Ac wrth siarad â hi wedyn, wrth gwrs, gwelsom yr ochr arall—yr wyneb dynol yr ydym i gyd wedi dod i'w adnabod a'i garu. Nid oes angen disgrifio'r wên a welwn ni yn y lluniau o amgylch y Siambr heddiw, oherwydd gallwn ni i gyd ei gweld; rydym ni i gyd yn adnabod y wên honno. Siaradodd rhywun y penwythnos hwn am ei llygaid yn pefrio'n ddrygionus weithiau, ac rydym yn gweld hynny ac yn adnabod hynny, oherwydd fe wnaeth yr un gwladweinyddes a eisteddodd i lawr gydag Arlywyddion a Phrif Weinidogion ac arweinwyr, yr un gwladweinyddes a rychwantodd yr ugeinfed ganrif hefyd eistedd i lawr ac yfed te gyda Paddington Bear. Roedd hi'n adnabod ac yn deall pobl y wlad hon. Roedd ganddi'r ymdeimlad yna o allu estyn allan. Mae pobl yma o hyd sy'n credu bod y frenhines wedi neidio allan o hofrennydd gyda James Bond ddegawd yn ôl. [Chwerthin.] Gallwch ddychmygu swyddogion yn dweud wrthi, 'Peidiwch â'i wneud, Eich Mawrhydi, ni ddylech fod yn gwneud hyn', ond gallwch hefyd ddychmygu'r Frenhines yn dweud 'na'. 'Mae'n dda eich gweld chi, Mr Bond. Dwi'n cadw brechdan marmalêd yn fy mag llaw.' Y gallu i estyn allan, y gallu i siarad, y gallu i ddeall, y gallu i fod yn rhan o bwy ydym ni fel cymdeithas, y gallu i wneud i ni deimlo'n gartrefol, y gallu i wneud i bobl wenu, mae'n ddawn brin—mae'n ddawn brin iawn. Gallaf weld 59 o wleidyddion sy'n dymuno meddu ar y fath ddawn. Gadewch i mi ddweud hyn—. Trigain os ydych fy nghyfri i, wrth gwrs. [Chwerthin.] Gadewch i mi ddweud hyn: rydym ni'n cydnabod yr hyn yr ydym ni wedi'i golli ac rydym ni'n cydnabod yr hyn yr ydym ni wedi bod yn ffodus i'w weld. Rydym yn cydnabod, wrth golli Ei Mawrhydi yr wythnos diwethaf, ein bod wedi colli mwy na brenhines yn unig. Rydym ni wedi colli rhywun sydd wedi bod yn seren dywysu drwy gydol ein bywydau ni i gyd. A phan rwy'n meddwl am Ei Mawrhydi, dwi'n meddwl am yr ochr ddynol yna, dwi'n meddwl am y wên honno, yn ogystal â meddwl am ei geiriau hi. A gadewch i ni, Llywydd—. Gadewch i mi orffen y prynhawn yma gyda'i geiriau hi. Roedd hi'n siarad â ni bob Nadolig, wrth gwrs, ac roeddem ni'n gwrando ar y geiriau hynny. Ym 1991, wrth gwrs, adeg arall o newid—roeddem ni wedi gweld newid enfawr yn Rwsia bryd hynny, er enghraifft—dywedodd hyn: 'Ond gadewch i ni beidio â chymryd ein hunain ormod o ddifrif. Nid oes gan yr un ohonom fonopoli ar ddoethineb a rhaid i ni fod yn barod bob amser i wrando a pharchu safbwyntiau eraill.' Roedd Ei Mawrhydi yn gwybod sut i arwain, roedd hi'n gwybod sut i wrando ac roedd hi'n gwybod sut i adlewyrchu'r hyn oedd orau yng Nghymru, yn y Deyrnas Unedig a'r Gymanwlad. Boed i Dduw ei bendithio hi a'i henaid, a gadewch i ni hefyd ddweud 'Duw Gadwo'r Brenin'. Paul Davies AC: Dwi'n sefyll heddiw i rannu galar y genedl ynghylch marwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth. Mae'n meddyliau ar hyn o bryd gyda'r rhai sydd wedi teimlo'r golled honno mor ddwfn—y teulu brenhinol, y rhai oedd yn ei charu, a'r rhai a wasanaethodd ac a weithiodd yn ei henw. Roedd y Frenhines yn cael ei charu a'i pharchu gan lawer yn y Deyrnas Unedig ac ar draws y Gymanwlad, a doedd Preseli Sir Benfro ddim yn eithriad. Yn ystod ei theyrnasiad, ymwelodd â sir Benfro yn aml, yn cyfarfod â hyrwyddwyr cymunedol, arweinwyr lleol a phlant ysgol, a phob tro roedd yn cael ei chyfarch â chynhesrwydd a chariad gan y bobl. Nawr, mae llawer wedi mynd at y cyfryngau cymdeithasol ers iddi farw i rannu delweddau o'r ymweliadau hynny, ac i adrodd eu profiadau o gwrdd â hi. Mae'r cipluniau hynny yn wirioneddol galonogol ac yn atgof tyner o'r cyffyrddiad dynol aruthrol a gafodd hi. Wrth gwrs, fel ym mhob man arall, mae baneri ar draws sir Benfro yn chwifio ar hanner mast wrth i gymunedau ddod i delerau â marwolaeth ein hannwyl Frenhines. Paul Davies AC: Llywydd, cafodd ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth effaith ddofn ar deuluoedd ledled y byd. Roedd fy nheulu fy hun yn wir yn un ohonyn nhw—mor ddwfn mewn gwirionedd, fel y gŵyr rhai ohonoch, mai fy enw canol yw Windsor. Cefais fy enwi ar ôl y teulu brenhinol gan i mi gael fy ngeni ym mlwyddyn arwisgiad Tywysog Cymru ar y pryd yn ôl ym 1969, felly cyffyrddodd y Frenhines a'r teulu brenhinol fy nheulu yn ddwfn iawn yn wir. Rwy'n cyfrif fy hun yn hynod o ffodus o fod wedi cael yr anrhydedd o gyfarfod Ei Mawrhydi ar rai achlysuron. Bob tro y gwnes i hynny, roedd hi'n gynnes, yn dosturiol ac yn ostyngedig, a wastad â diddordeb mawr yn yr hyn yr oeddwn i'n ei wneud. Roedd bod yn ei phresenoldeb yn unig yn anrhydedd, a byddaf yn cario'r atgofion hynny gyda mi am weddill fy oes. Fel cenedl, rydym i gyd yn ffodus o fod wedi cael ei phresenoldeb tawel a chyson drwy gydol ein bywydau, wrth iddi ein harwain yn ddiwyd drwy gyfnodau o newid hanesyddol mawr. P'un a oedd y newid hwnnw'n wleidyddol, yn economaidd neu'n gymdeithasol, rhoddodd barhad a chysur i gynifer. Yn y cyfnodau hynny o dywyllwch, hi oedd ein goleuni ni. Ar adegau o ddathlu mawr, fel Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop neu Gemau Olympaidd Llundain 2012, roedd hi wastad gyda ni. Soniodd arweinydd yr wrthblaid am y deyrnged dorcalonnus gan Paddington Bear yn dilyn ei marwolaeth, atgof bod y byd wir yn gafael yn ei llaw. Fel y dywedodd y Prif Weinidog, bydd y ddelwedd o'i Mawrhydi yn angladd ei gŵr, Dug Caeredin, yn aros yn y cof am byth. Ffigwr yn dawel a stoicaidd yn wyneb tristwch a galar anfesuradwy, yn wynebu colled ar ei phen ei hun yn union fel y gwnaeth llawer yn ystod y pandemig COVID. Roedd hi'n ymgorffori'r genedl gyfan. Ond, ar ôl y cyfnod tywyll hwnnw, y Frenhines ddaeth â'r genedl at ei gilydd eto gyda'i dathliadau Jiwbilî Blatinwm, dathliadau pryd cofleidiodd cymdogion ei gilydd mewn parti stryd a chafodd ffaglau eu cynnau; arddangosfa ryfeddol o gydlyniad cymunedol ar adeg pan oedd gwir ei angen ar y genedl. Yn un o'i darllediadau Nadolig blynyddol enwog arall, dywedodd hyn: 'Pan fo bywyd yn ymddangos yn galed, nid yw'r dewr yn gorwedd i lawr ac yn derbyn eu trechu; yn hytrach, maen nhw i gyd yn fwy penderfynol o frwydro dros ddyfodol gwell.' Felly, wrth i ni ddod i delerau â marwolaeth y Frenhines Elizabeth, efallai'r deyrnged fwyaf y gallwn ni i gyd ei rhoi yw efelychu ei hymroddiad a'i gwasanaeth enfawr i'r bobl yr ydym yn eu cynrychioli, a gweithio mor galed ag y gallwn i wella ein gwlad a chefnogi ein hetholwyr. Fel y dywedodd cyn Brif Weinidog Prydain yn ystod y dyddiau diwethaf, hi oedd gwas cyhoeddus mwyaf y byd. Rydym bellach yn dechrau ar gyfnod newydd o hanes Prydain, ac yn wir yn fyd-eang. I'w Fawrhydi Brenin Charles III, rwy'n tyngu yr un llw o wasanaeth ac ymroddiad ag y gwnes i i'r Frenhines Elizabeth II. Gadewch i ni uno yn ein galar ac wynebu'r bennod newydd hon yn stori ein cenedl gyda'n gilydd. Boed i'n Brenhines annwyl orffwys mewn hedd a chodi mewn gogoniant, a Duw gadwo'r Brenin. Buffy Williams MS: Diolch i staff y Senedd am ganiatáu i gynnig adalw heddiw ddigwydd. Mae hi'n anodd dod o hyd i eiriau sy'n deilwng o nodi'r achlysur trist hwn. Er ein bod ni'n gwybod y byddai'r diwrnod hwn yn dod, nid yw unrhyw baratoad yn ddigonol. Mae crisialu 70 mlynedd o ymroddiad, parch a defosiwn diwyro i deyrnas a'i phobl yn dasg amhosibl. Heb ei geni i'r orsedd, y hi oedd y Frenhines amhosibl; nawr, i lawer, mae'n amhosibl ei disodli hi. Ers clywed y newyddion ddydd Iau, rwyf i wedi myfyrio llawer iawn o ran pam mae cymaint ohonom ni, na wnaethom ni gwrdd â'i Mawrhydi, yn teimlo cysylltiad personol mor ddwfn â hi. Pam ydym ni'n teimlo ei bod hi'n rhan o'r teulu ac nid dim ond yn rhan o'r dodrefn? Beth sy'n llunio ac yn cynnal ein hymddiriedaeth ymhlyg ynddi hi? Mewn bywyd o ymroddiad i uniondeb, fe all unrhyw un fod yn frenhinol, ond mae hi'n gofyn cymeriad arbennig i fod yn Frenhines. Ar fordaith a hwyliodd yn 1952, gyda niwl rhyfel yn parhau i ryw raddau i orwedd dros fynyddoedd ein hynys ni, fe osodwyd ar ysgwyddau'r Frenhines Elizabeth, yn 25 oed, bwysau'r byd, a'i choroni hi oedd y cyntaf a gafodd ei darlledu yn fyw ar y teledu. Roedd dyfroedd cynhyrfus, yn anochel, o'n blaenau ni, ond roedd capten ein llong ni wedi ymroi ei bywyd oll, waeth pa mor hir neu fyr, i'n gwasanaethu ni, o'r daith hwylus gyntaf ledled y Gymanwlad hyd at herio traddodiadau ar ddyfroedd brenhinol newydd i Tsieina, a mynd ar y daith gerdded gyntaf erioed a wnaeth brenhines wrth ymweld ag Awstralia; trwy stormydd Aberfan, a rhyfel, yr Helyntion a'r terfysg, hyd at regatas Gemau Olympaidd Llundain, y Jiwbilîs a miloedd ar filoedd o ymweliadau brenhinol, gan gynnwys i fyny'r afon i'r Rhondda yn 2002. Yn ystod serenedd cariad teuluol, y tân ysol yn Windsor, y feirniadaeth ddifeddwl a dyfnderoedd marwolaeth ac anobaith, gyda phob newid o is-gapten, 15 o Brif Weinidogion i gyd, a llif cyflym grym i'n Seneddau ni, a phan nad oedd goleudy i'n tywys ni drwy ddyfroedd creigiog y pandemig, roedd Ei Mawrhydi, yn gyson wrth y llyw drwyddi draw, drwy don ar ôl ton o hapusrwydd a thristwch, yn symbol o nerth ac undod a gobaith, yn symbol o ddewrder, o heddwch a gwyleidd-dra, gyda dogn o ffraethineb a hiwmor pan fo angen, yr un cysondeb am genhedlaeth ar ôl cenhedlaeth ohonom ni. Dyma pam, yn fy marn i, yr ydym ni'n teimlo'r cysylltiad personol hwnnw. Rwy'n ddigon ffodus i fod â chysylltiad personol fy hun â'i Mawrhydi. Un o'r pethau yr wyf i'n fwyaf balch ohonyn nhw yn fy hanes i yw cael medal yr ymerodraeth Brydeinig, yn cydnabod fy nghyfraniad i gymunedau yn y Rhondda. Mae hi'n anrhydedd mawr i fod wedi derbyn yr anrhydedd hon o dan deyrnasiad y Frenhines Elizabeth II. Fe fyddai hi'n anodd iawn i ni gael enghraifft well o arweinyddiaeth, enghraifft well o ysbrydoliaeth i wneud y peth iawn, nac enghraifft well o fod yn wylaidd a diffuantrwydd yn wyneb gofid. I deulu sydd wedi colli mam, mam-gu a hen fam-gu, mae fy nghalon i, a chalonnau'r trigolion yn y Rhondda, gyda chi yn ystod y cyfnod hwn o alar. I'w Fawrhydi y Brenin, rydym ni'n edrych ymlaen at eich croesawu chi i'r Rhondda yn ystod eich teyrnasiad chi. I'w Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II, siwrnai hwylus i chi ar eich taith olaf. Fe fyddwch yn ein calonnau ni bob amser yn y Rhondda, ac fe fyddwn ni'n ddiolchgar am byth am eich blynyddoedd digyffelyb chi o wasanaeth. Diolch. Diolch o galon. Duw gadwo'r Brenin. Darren Millar AC: Fel mae pawb sydd wedi ymweld â fy swyddfa i, neu sydd wedi gorfod gwylio fy nghyfraniadau rhithwir yn ystod y pandemig, yn gallu tystio, mae gen i ddau lun o'i Mawrhydi y Frenhines yn fy swyddfa. Maen nhw'n cael eu harddangos yn fy swyddfa ochr yn ochr â lluniau eraill o'm teulu yr wyf i'n eu trysori. Y rheswm am hynny yw bod y Frenhines yn teimlo fel aelod o'm teulu, a dweud y gwir. Cafodd fy mam ei henwi ar ôl y Frenhines. Elizabeth, neu Liz, fel mae ei ffrindiau yn hoffi ei galw hi, yw ei henw hi. Cafodd hi ei geni yn 1952, sef, wrth gwrs, y flwyddyn y daeth Frenhines i'w horsedd. Ond roedd y ffaith bod y Frenhines ar y teledu trwy'r amser ac roeddem ni'n darllen am ei bywyd hi'n fynych—ac wrth i ni brofi hapusrwydd a thristwch yn ein bywyd teuluol—yn gwneud iddi deimlo fel petai hithau'n rhan o'n cartref ni, a bod gennym ni gysylltiad agos â hi—y cysylltiad personol hwnnw y mae Aelodau eraill o'r Senedd wedi sôn amdano. Do, wrth gwrs, fe wnaeth hi siarad â'r genedl mewn cyfnod o argyfwng ac ansicrwydd cenedlaethol, gan gynnwys yn ystod y pandemig, ac roedd hi bob amser yn cyfrannu'r geiriau hynny o gysur ac anogaeth. Fel teuluoedd eraill yn y Siambr hon, a miliynau o bobl ledled y byd, bob Nadolig fe fyddai'r teulu cyfan yn eistedd i wylio Ei Mawrhydi y Frenhines yn annerch y genedl yn ei darllediadau Nadolig. Felly, roedd y newyddion bod y Frenhines wedi marw yn teimlo fel ergyd bersonol enfawr i mi ac i lawer o bobl, mae'n siŵr, yn y Siambr hon. Ac wrth gwrs, roedd hi'n ergyd enfawr yn bersonol i lawer o bobl yn fy etholaeth i fy hun, sydd wedi bod mewn cysylltiad i fynegi—ac yn gofyn i mi fynegi ar eu rhan nhw—eu cydymdeimlad dwysaf i'r Brenin Charles III a'i deulu ar eu rhan nhw. Rwy'n gallu cofio'r tro cyntaf erioed i mi weld y Frenhines yn y cnawd. Mae'n hynny'n gyffrous iawn, onid ydyw, pan nad yw wedi digwydd o'r blaen. Roedd hynny'n ystod taith y Jiwbilî Aur, ac roedd y Frenhines i fod i gyrraedd Parc Eirias yn y stadiwm, ac fe ges i docyn—rwy'n meddwl mai fi oedd y dirprwy faer neu rywbeth yn Nhowyn a Bae Cinmel—neu nad oedd y maer yn gallu bod yn bresennol ac roedd e' wedi pasio'r tocyn ymlaen. Fe wnes i gyrraedd y lle, ac roedd miloedd o bobl yn y stadiwm. Roeddem ni i gyd yn aros i'r cwpl brenhinol gyrraedd—Ei Mawrhydi y Frenhines a Dug Caeredin—ac roedd cyflwynydd, os mynnwch chi, ar gyfer y digwyddiad, a oedd yn ein cael ni i gyd i wneud tonnau Mecsicanaidd. Fe gyrhaeddodd pwynt lle, fel sy'n digwydd weithiau, yr oedd tipyn o oedi wedi bod. Felly, roedd yn ceisio llenwi'r amser, gan ein cael ni i wneud mwy a mwy o donnau Mecsicanaidd. Ond, yn y pen draw, fe aeth hi'n dawel, oherwydd fe ddaeth newyddion atom i gyd fod Ei Mawrhydi'r Frenhines a'i char wedi troi i mewn i'r parc. Roedd tawelwch, dim ond am eiliad fer, cyn i'r dorf ffrwydro gyda bonllefau am fod y Frenhines wedi cyrraedd. Ac roedd y cyffro hwnnw'n union yr un fath bob tro y gwelais i'r Frenhines erioed. Darren Millar AC: Defnyddiwyd llawer o wahanol eiriau yn y Siambr hon ac mewn Seneddau eraill ac mewn teyrngedau eraill i'w Mawrhydi y Frenhines yn ystod y dyddiau diwethaf: dyletswydd, gwasanaeth, hirhoedledd, ymroddiad, anrhydedd—mi wnes i restr o ychydig ohonyn nhw yn y Siambr heddiw—urddas, gras, amynedd, ymrwymiad. Ond yr un peth yr wyf i'n credu sy'n fwyaf perthnasol i mi am y Frenhines yn fy marn i, yr un gair y byddwn i'n ei ddefnyddio i'w disgrifio hi, yw ei hymroddiad hi. Bob tro yr wyf i'n edrych ar y lluniau hyn yn fy swyddfa, rwy'n meddwl am ymroddiad y Frenhines, ei hymroddiad i'w chenedl, i'w phobol, nid yn unig yma yn y DU, ond ledled y byd ac yn y Gymanwlad, ei hymroddiad i'n lluoedd arfog—ac, wrth gwrs, hi oedd cadlywydd lluoedd arfog Prydain a phrif gyrnol y Cymry Brenhinol a'r Gwarchodlu Cymreig—a'i hymroddiad hi i'w theulu. Yn ôl yn 2011 y bu'r unig sgwrs a gefais i erioed gyda'r Frenhines, ac roedd hynny ar achlysur agor y Senedd. Roeddem ni wedi cael ein casglu ar gyfer pryd o fwyd amser cinio draw yng nghanolfan y mileniwm, ac fe gafodd Aelodau'r Senedd eu tywys gyda'u gwesteion i mewn i ystafell i fyny'r grisiau ar y llawr cyntaf er mwyn cyfarfod â'i Mawrhydi. Roedd yna gryn dipyn o'r wasg yn yr ystafell arbennig honno, ac roeddwn i'n ei chael hi'n eithaf anodd, am fy mod i ychydig yn fyrrach nag eraill, i wthio fy ffordd drwy'r wasg er mwyn cyrraedd y fan lle'r oedd y Frenhines. Felly, fe wnes i beth mae pob un sy'n dangos gallu i ddal ymlaen yn ei wneud; fe ddaliais i ymlaen ac aros i bobl gael eu sgyrsiau nhw â'r Frenhines a symud ymlaen. Ac yn y pen draw, wrth gwrs, fe ddechreuodd y dorf leihau ac yn sydyn roedd Ei Mawrhydi y Frenhines yno. Wrth gwrs, chewch chi ddim mynd at y Frenhines i siarad, chewch chi? Mae'n rhaid i chi aros i'w Mawrhydi siarad â chi. Ac fe ddaeth hi ataf i a fy ngwraig, Rebecca, ac fe ddechreuodd hi siarad â ni. Ac roedd hi'n gallu cynnal sgwrs fach fel roedd y Frenhines mor aruthrol o fedrus yn ei wneud, ond roedd yna gyfle, pan ofynnodd hi am yr hyn yr oeddwn i'n ei wneud cyn i mi gael fy ethol i'r Senedd a'r holl bethau hynny, cafodd fy ngwraig gyfle i siarad â'r Frenhines, ac fe siaradodd fy ngwraig am ein plant ni ar y pryd, a oedd yn arfer dwlu ar wylio'r Tywysog William yn mynd i fyny yn yr hofrennydd chwilio ac achub, uwchben ein tŷ ni ar adegau, yn y gogledd, oherwydd, wrth gwrs, roedd wedi ei leoli yn RAF Fali am gyfnod, gan weithio fel peilot chwilio ac achub. Ac roedd llygaid y Frenhines yn pefrio, oherwydd roedd hi'n ymroddedig nid yn unig i'w chenedl, gwlad, pobl, y lluoedd arfog; roedd hi'n ymroddedig i'w theulu. Roedd hi'n caru ei theulu. Er eu holl ddiffygion, fel pob teulu yn yr ystafell hon, roedd hi'n caru ei theulu. A phan oedd hi'n siarad am ei hŵyr, y Tywysog William, roedd ei llygaid hi'n pefrio. Ac wrth gwrs, nid dim ond ymroi i'w theulu a'i gwlad a'r holl bethau eraill hynny yr oedd; roedd hi'n ffyddlon i Dduw. Fe addawodd hynny ar ddechrau ei theyrnasiad. Fe addawodd yn y coroni, ac addo drwy gydol ei hoes, i wasanaethu Duw yn y ffordd orau y gallai hi, a bod y frenhines orau y gallai hi fod. Fe gyflawnodd hi'r swyddogaeth honno o fod yn amddiffynnwr y ffydd, a oedd yn un o'i theitlau swyddogol hi. Roedd hi'n hyrwyddo'r ffydd Gristnogol a oedd mor ganolog i'w bywyd. Roedd hi'n siarad am hynny'n aml, wrth gwrs, yn ystod y darllediadau Nadolig. Ond, hyd yn oed mor ddiweddar â'r mis diwethaf, fe soniodd hi am ei ffydd Gristnogol mewn llythyr at Gynhadledd Lambeth. Ac ynddo, dywedodd hyn: 'Gydol fy mywyd, neges a dysgeidiaeth Crist fu'n fy nhywys ac ynddyn nhw yr wyf i'n cael gobaith. Fy ngweddi o'r galon yw y byddwch chi'n parhau i gael eich cynnal gan eich ffydd mewn cyfnod o drallod a'ch annog gan obaith mewn cyfnodau o anobaith.' Wel, rwy'n dymuno dweud hyn: diolch i chi, eich Mawrhydi, am fy ysbrydoli i a fy ffydd i dros y blynyddoedd, a miliynau o amgylch y byd. Rydym ni'n gwerthfawrogi eich gwasanaeth chi, ac rwy'n ddiolchgar fy mod i wedi eich cael chi'n rhan o fy nheulu dros flynyddoedd fy mebyd. Ac rwy'n dweud hyn wrth y Brenin newydd, Charles III: diolch am eich gwasanaeth i ni, yn Dywysog Cymru, dros fwy na phum degawd. Rwyf i, am un, wedi gwerthfawrogi'r gwasanaeth hwnnw ac yn gwybod llysgennad mor ardderchog fu'r Brenin newydd i ni yn ystod ei gyfnod yn Dywysog. A dywedaf Duw gadwo'r Brenin, a bendithied Duw ein Tywysog William a'r Dywysoges Catherine wrth iddyn nhw ymgymryd â'u swyddi newydd. Siân Gwenllian AC: Diolch am y cyfle i gyflwyno ychydig o eiriau yn ein Senedd genedlaethol ar gychwyn wythnos sy'n arwain at angladd y ddiweddar Frenhines Elizabeth II, ac dwi'n gwneud hynny fel trefnydd busnes a dirprwy arweinydd grŵp Plaid Cymru, a hefyd fel Aelod etholaeth Arfon. Mae fy etholaeth yn cynnwys yr hyn a elwir yn 'dref frenhinol Caernarfon'. Dyma i chi dref arbennig—tref lle mae’r Gymraeg yn fyw ac iach, tref llawn hanes, a thref sydd â chysylltiadau hir iawn gyda’r frenhiniaeth, mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, a hynny ers dros 700 o flynyddoedd. Dwi'n ymuno efo Aelodau yn y Siambr drwy estyn fy nghydymdeimlad innau â theulu'r ddiweddar Frenhines Elizabeth II yn eu galar. Mae sylw’r byd arnyn nhw ar hyn o bryd, wrth iddyn nhw ymdopi â'r tristwch mawr sy’n dod yn sgil colli un sydd yn annwyl i chi. Mae llawer wedi newid yn ystod y 96 mlynedd diwethaf. Ond, ers 70 mlynedd, mae un peth wedi aros yr un fath, gydag ond un person yn cyflawni’r rôl o frenhines ar hyd yr holl amser yma. Mae gwneud un swydd yn ddigyfnewid am gyhyd yn gamp go fawr. Camp hefyd oedd ymuno â byd gwrywaidd iawn mewn oedran cynnar a llwyddo i ddal ei thir, y rhan fwyaf o’r amser, fe ymddengys. Roedd hi'n yn weladwy iawn yn ei rôl, ac, yn y cyfnod cynnar, roedd hi'n anarferol gweld menyw ar lwyfannau cyhoeddus mor gyson. Rhoddwyd hygrededd i rôl menywod mewn bywyd cyhoeddus. Mae bywydau merched wedi newid llawer dros y 96 mlynedd diwethaf, ond mae llawer o’r heriau yn parhau yn anffodus, a’r symud at gydraddoldeb rhywedd yn ystyfnig o araf o hyd. Fe welodd Elizabeth newidiadau mawr yn ystod ei hoes hir, ac mae’n briodol ein bod ni'n adlewyrchu ar y newidiadau rheini gan ddefnyddio ei bywyd ac achlysur ei marwolaeth i edrych yn ôl dros gyfnod ei hoes. Mi fyddwn ni, yn y Siambr yma, yn dehongli’r saith degawd aeth heibio yn ôl ein gwahanol safbwyntiau, wrth gwrs, ac yn dod i wahanol gasgliadau yn dibynnu ar y persbectifs rheini. Ond mae hi'n briodol defnyddio’r cyfnod hwn i adlewyrchu. Mae hi hefyd yn bwysig defnyddio’r amser i edrych ymlaen, i edrych ymlaen gan ganolbwyntio ar flaenoriaethu’r hyn sydd yn bwysig mewn byd llawn helbulon. Roedd Elizabeth II yn gwybod beth oedd angen iddi ei wneud. Fe wnaeth hi wneud yr hyn ofynnwyd iddi hi am gyfnod hirfaith, a, bellach, daeth heddwch i’w rhan. Mark Isherwood AC: Roedd Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II yn nodwedd barhaol o'n bywydau ni am gymaint o amser, gan gyfuno parhad gyda newid, esiampl gydag empathi, ac urddas gydag ymroddiad. Fe gyflawnodd hi gymaint, ac fe fyddaf innau'n gweld eisiau ei phresenoldeb hi yn ein plith ni, yn bersonol, yn arw iawn. Pan gyflwynwyd fy ngwraig a minnau i'r Frenhines yn seremonïau agoriadol swyddogol olynol y Senedd, roedd hi bob amser yn gwneud ymdrech i wneud i bawb deimlo yn arbennig. Roeddwn i'n aros am fy nghymhorthion clyw digidol cyntaf pan gefais fy nghyflwyno i'w Mawrhydi am y tro cyntaf. Fe ofynnodd hi gwestiwn i mi; ac fe ofynnais 'Pardwn?' Ailadroddwyd y cwestiwn; ac fe ddywedais innau 'Pardwn?' eto. Mewn anobaith a chan dorri protocol, fe ofynnais i gwestiwn iddi hi am ei hymweliad â'r Wyddgrug y diwrnod cynt. Fe atebodd hithau gydag urddas a dealltwriaeth. Ar ôl clywed fy ngwraig yn ei chanmol hi, fe afaelodd yn llaw fy ngwraig wrth gael ei chyflwyno iddi hi wedyn. Fel y gwyddoch chi, pan fyddech chi'n ysgwyd llaw â hi, am eiliad yr oedd hynny'n para fel arfer. Roedd yn rhaid i fy ngwraig aros nes iddi gytuno i ollwng llaw fy ngwraig. Dro arall, pan gafodd pawb a oedd mewn rhes eu cyflwyno i'r Frenhines oni bai am fy ngwraig, fe wnaeth Ei Mawrhydi yn siŵr fod fy ngwraig yn cael ei chynnwys hefyd. Roedd Ei Mawrhydi yn wirioneddol yn Frenhines y Prydeinwyr—y Cymry—a chenhedloedd Prydain, ac yn ddisgynnyddi'r tywysogion Cymreig, Rhys o'r Deheubarth a Llywelyn Fawr, y cyntaf drwy ei disgyniad o William Carey a Mary Boleyn, a'r ail drwy ei disgyniad o Harri VII. Roedd Harri VII yn hannu o hen deulu o Fôn, a oedd yn honni disgyniad o Gadwaladr, sef brenin hynafol olaf Prydain, yn ôl y chwedl. Roedd Elizabeth II yn ddisgynnydd uniongyrchol i Harri VII drwy ei ferch Margaret, chwaer hŷn Harri VIII. Yn ei haraith Jiwbilî i Senedd y DU yn 1977, fe ddywedodd y Frenhines: 'Rwy'n cyfrif Brenhinoedd a Breninesau Lloegr a'r Alban, a Thywysogion Cymru ymhlith fy hynafiaid.... Ond ni allaf anghofio i mi gael fy nghoroni yn Frenhines ar Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon.' Am mai ei theyrnasiad hi oedd yr hiraf yn hanes y DU, gan deyrnasu am 70 mlynedd, mae effaith y Frenhines ar Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, ac ar deyrnasoedd a thiriogaethau, yn arwyddocaol iawn. Mae'n rhaid i ni uno yn ein galar a chymryd nerth oherwydd bod ein gwlad ni a'r Gymanwlad yn well lleoedd heddiw yn sgil ei theyrnasiad maith a'i bywyd o wasanaeth cyhoeddus. Daeth wyth gwlad at ei gilydd ym 1949 i ffurfio'r Gymanwlad fodern. Daeth Ei Mawrhydi yn bennaeth ar y Gymanwlad ar ôl cael ei dewis ar gyfer y swyddogaeth hon gan wledydd sy'n aelodau o'r Gymanwlad pan ddaeth hi'n Frenhines dair blynedd yn ddiweddarach. Ers hynny, mae'r Gymanwlad wedi tyfu i fod yn gymdeithas rydd nid o wyth gwlad, ond o 56 o wledydd sy'n aelodau annibynnol a chyfartal ohoni. Rwy'n diolch i'w Mawrhydi am ei gwasanaeth. Rwy'n gwybod sut beth yw colli rhiant. Rwy'n gwybod sut beth yw colli mam yng nghyfraith. Bu farw fy mam yng nghyfraith eleni yn 96 oed hefyd, ac roedd hi'n teimlo cysylltiad bob amser, oherwydd blwyddyn eu genedigaeth, â'i Mawrhydi. Mae fy nghydymdeimlad yn mynd at deulu Ei Mawrhydi a'i hanwyliaid. Bendithied Duw Ei Mawrhydi. Hir oes i'r Brenin. Jenny Rathbone AC: Mae Jane Dodds a Siân Gwenllian wedi sôn yn barod am y swyddogaeth bwysig a oedd gan y Frenhines fel arweinydd benywaidd. Mae hi'n anodd i ni ddeall bod bywyd cyhoeddus, yn 1952, yn cael ei ddominyddu yn gyfan gwbl gan ddynion. Ni allai menywod gael eu penodi i Dŷ'r Arglwyddi tan 1958. Ac yn 1966 pan oedd Harold Wilson yn dymuno penodi Shirley Williams yn Weinidog yn yr Adran Lafur, bu'r Ysgrifennydd Parhaol yn lobïo yn erbyn hynny. Hyd yn oed pan wnaeth Harold Wilson anwybyddu'r peth yn llwyr, parhaodd y gwas honedig hwn i'r Goron i wrthod cyfathrebu â hi'n uniongyrchol. Anhygoel. Felly, pan gymerodd hi'r awenau, yn 25 oed, yn y byd hwn a oedd yn cael ei ddominyddu gan ddynion, roedd yn amlwg y byddai'n rhaid iddi hi fod yn wirioneddol benderfynol er mwyn gwneud yn siŵr na fyddai hi'n cael ei hanwybyddu fel un nad oedd angen ei hystyried. Oherwydd ei bod hi'n ddeallus ac yn gweithio yn galed iawn—roedd hi'n arfer darllen ei briffiau i gyd, yn wahanol i ambell un [Chwerthin.]—fe ymsefydlodd hi'n gyflym yn un a oedd yn gwybod beth yr oedd hi'n siarad amdano a bod angen rhoi ystyriaeth iddi hi. Mae rhyw dameidiau mân o wybodaeth ar gael ynglŷn â'r hyn a oedd yn digwydd yn y cyfarfodydd wythnosol hynny gyda Phrif Weinidog y dydd, ond does dim cofnodion o'r sgyrsiau hynny. Ond yn ddiamau, yn amlwg, wedi 70 mlynedd o fod yn ymdrin â Phrif Weinidogion, roedd hynny'n rhoi golwg unigryw iddi hi o ran dulliau'r gwahanol arweinwyr gwleidyddol o ymdrin â'r cymeriadau lliwgar yn eu Cabinetau nhw. Yn ei chartref, bu'n rhaid iddi fod yn anchwiliadwy—dyna oedd y fargen gyfansoddiadol—o ran ei barn hi am faterion y dydd, ond fe wnaeth hi ddefnyddio ei gwaith rhyngwladol o gynrychioli Prydain i roi cipolwg digyfaddawd i ni ar waith Llywodraethau a dod yn ddiplomydd medrus iawn. Jenny Rathbone AC: Fel y cawsom ni ein hatgoffa gan Arlywydd Ffrainc wythnos diwethaf, rydym ni'n siarad am 'ein Brenhines ni' neu 'eich Brenhines chi', fel yr oedd ef yn ei ddweud, ond yn Ffrainc dim ond 'vive la reine' yw hi, oherwydd hi yw Brenhines yr holl fyd. Hi yw'r unigolyn mwyaf adnabyddus drwy'r byd, er gwaethaf y cyfryngau cymdeithasol. Felly, roedd hi braidd yn anghyfforddus i mi wrth ymweld ag ysgol gynradd ym mis Mehefin i gael plentyn yn fy holi ai fi oedd y Frenhines. Ond fe ddywedodd fy swyddfa wrthyf i, 'Wrth gwrs, ni fydd y broblem honno gennych chi mwyach.' Mae ei hymadawiad hi, mae'n rhaid i ni gofio, yn nodi'r torri cysylltiad olaf â rhywun a oedd â phrofiad uniongyrchol o Lywodraeth yn ystod yr ail ryfel byd, a'r dioddefaint a'r aberth a fu er mwyn goresgyn y Natsïaid. Yn wir, roedd hi'n hynod bryderus ynglŷn â'r ymweliad cyntaf y gofynnwyd iddi hi ei wneud â'r Almaen yn 1965, 20 mlynedd wedi diwedd y rhyfel. Yn syml, nid oedd hi'n gwybod beth fyddai'r ymateb naill ai gartref neu yn yr Almaen i hynny. Ond roedd hi'n ddigon dewr i fynd beth bynnag ac fe gafodd hi ei gwobrwyo â thorfeydd enfawr a ddaeth allan i'w chyfarch hi yn Berlin ac mewn mannau eraill. Un o'r pethau mwyaf llwyddiannus a wnaeth hi oedd galluogi Prydain i bontio o fod yn ymerodraeth i fod yn wlad ymysg llawer o wledydd yn Ewrop. Hi oedd yn bennaf gyfrifol am esmwytho'r broses o drosglwyddo'r gwledydd annibynnol erbyn hyn i'r Gymanwlad o Genhedloedd y mae Mark Isherwood wedi cyfeirio ati eisoes. Rhoddodd y Gymanwlad hon lwyfan i'r Frenhines ar gyfer mynegi syniadau na ellid bod wedi eu mynegi mewn cyd-destun domestig yn ôl y cyfansoddiad. Yn ei darllediad yn Nadolig 1983, fe ddywedodd hi: 'er gwaethaf yr holl gynnydd a wnaethpwyd y broblem fwyaf yn y byd heddiw yw'r bwlch rhwng y gwledydd cyfoethog a'r tlawd ac ni fyddwn ni'n dechrau cau'r bwlch hwn nes ein bod ni'n clywed llai am genedlaetholdeb a mwy am gyd-ddibyniaeth. Un o brif amcanion y Gymanwlad yw gwneud cyfraniad effeithiol tuag at unioni'r cydbwysedd economaidd rhwng cenhedloedd.' Wel, fe aeth hi'n sgrech. Fe wrthwynebodd Enoch Powell hynny'n aruthrol, a'r wasg adain dde hefyd. Ond mynegodd y datganiad dilynol i'r wasg: 'Neges bersonol i'w Chymanwlad yw darllediad y Nadolig. Mae'r Frenhines yn ystyried ei holl bobl hi'n gwbl ganolog, heb ystyriaeth i hil, cred na lliw.' Mae'r rhain yn ddatganiadau gwirioneddol bwysig. A thu ôl i'r llenni, ei swyddogaeth hi yn y Gymanwlad oedd pontio'r bwlch rhwng safbwynt Llywodraeth y DU a gweddill gwledydd y Gymanwlad, yn enwedig o ran pethau fel y datganiad annibyniaeth unochrog gan Rhodesia, pan deimlwyd bod Llywodraeth Wilson yn gyndyn o wrthwynebu'r ymraniad hwn pan oedden nhw'n credu y byddai'r lluoedd arfog yn cael eu hanfon i ymdrin â gwrthryfel gan bobl dduon. Yn yr un modd, roedd y Gymanwlad yn y broses o chwalu ym 1986, pan oedd Llywodraeth Thatcher yn gwrthod gosod sancsiynau ar Dde Affrica, yr oedd holl wledydd eraill y Gymanwlad yn mynnu hynny. Llwyddodd y Frenhines i'w chadw ynghyd drwy roi cyfaddawd ar waith yn ystod y cinio gwaith enwog cyn cyfarfod penaethiaid y gwladwriaethau, ac fe alluogodd hynny iddyn nhw fod â rhan o ran cael y gyfundrefn apartheid i sylweddoli bod yn rhaid rhyddhau Mandela. Fe ail-enwodd Ddiwrnod yr Ymerodraeth yn Ddiwrnod y Gymanwlad. Roedd hynny'n un peth pwysig iawn. Ond hefyd, wrth sôn am grefydd, yn 2012, roedd esgobion Eglwys Loegr yn dechrau murmur yn ei herbyn. Y Frenhines a sefydlodd Ddiwrnod y Gymanwlad aml-ffydd i'w gadw, a oedd yn adlewyrchu'r ffaith bod llawer mwy o Fwslimiaid a Hindŵiaid na Christnogion yn y Gymanwlad. Roedd hi'n ei gwneud yn glir nad oedd gwrthdaro rhwng ei swyddogaeth fel pennaeth Eglwys Loegr a bod yn amddiffynnydd rhyddid crefyddol: 'Fe gaiff cysyniad ein Heglwys sefydledig ni ei gamddeall o bryd i'w gilydd ac yn gyffredin, rwy'n credu, nid yw'n cael ei werthfawrogi yn ddigonol. Nid ei swyddogaeth yw amddiffyn Anglicaniaeth gan eithrio crefyddau eraill. Yn hytrach, mae dyletswydd ar yr Eglwys i ddiogelu ymarfer pob ffydd yn rhydd yn y wlad hon...mae Eglwys Loegr wedi creu amgylchedd i gymunedau ffydd eraill ac yn wir ar gyfer pobl heb unrhyw ffydd i fyw â rhyddid.' Fe addawodd hi heddwch a chymod yn Iwerddon, fel y cyfeiriodd Adam ato eisoes, ac, yn bwysig iawn, fy ysgwydodd hi law â Martin McGuinness yn arwyddocaol iawn fel arwydd o gymodi. Mae cymanwlad o genhedloedd yn rhoi llawer mwy o foddhad ac yn fwy perthnasol o ran cyflawni trosglwyddiad cyfiawn a heddychlon allan o'n hargyfwng hinsawdd nag unrhyw gynghrair filwrol, ac fe allwn ni ddim ond dymuno pob lwc i Charles III wrth lenwi'r esgidiau mawr iawn y mae'n rhaid iddo yn awr eu gwisgo. Janet Finch-Saunders AC: Ar ran pobl Aberconwy ac, yn wir, fy nheulu fy hun, rydym ni'n cyfleu ein cydymdeimlad dwysaf ag Ei Fawrhydi y Brenin a holl aelodau'r teulu brenhinol ar eu colled drist a sydyn. Trwy gydol fy mywyd i a bywydau llawer o fy etholwyr, dim ond un frenhines yr ydym ni wedi ei hadnabod. Mae hi wedi bod yn gyson anhygoel; yr angor i roi sefydlogrwydd i bobl ledled y byd. Fel y dywedodd Ei Mawrhydi yn ystod ei darllediad Nadolig ym 1957, 'Ni allaf eich arwain chi mewn brwydr, nid wyf i'n deddfu nac yn gweinyddu cyfiawnder i chi, ond fe allaf i wneud rhywbeth arall, fe allaf roi fy nghalon i chi a fy nefosiwn i'r hen ynysoedd hyn a holl bobloedd ein brawdoliaeth ni o genhedloedd.' Roedd ei ffydd fel Cristion yn ysbrydoledig a gwir. Mae Cymru hefyd wedi teimlo yr un cariad a defosiwn. Pa arwydd mwy o hynny na'r torcalon a'r tristwch y mae cymaint yn ei brofi yn ein colled ni nawr? Mae'n arwydd o'r cariad yr ydym ni'n ei ddangos iddi hi a'r edmygedd y mae hi'n ei haeddu yn fawr iawn. Roedd ein Brenhines ni'n oleuni disglair ac yn esiampl o obaith. Yn Aberconwy, fe werthfawrogir yn fawr ei bod hi wedi cefnogi amaethyddiaeth Cymru a'n ffermwyr ni. Pa dystiolaeth fwy eglur a fu o'i chariad at gefn gwlad Cymru a ffermio na'i gwasanaeth fel llywydd anrhydeddus Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru? Fel y bydd fy nghyd-Aelodau yn gwybod, mae'n draddodiad hir sefydlog iawn fod cysylltiad agos rhwng y brenin a'r lluoedd arfog, ac felly mae hi'n destun balchder i mi fod fy etholaeth i'n parhau i fod â rhan bwysig mewn hyfforddiant i'r fyddin a chadetiaid yng Nghapel Curig a Llanrwst. Mae Aberconwy hefyd yn gartref i frenhines cyrchfannau Cymru, ac fe fyddaf i'n sicr yn trysori fy atgofion am Ei Mawrhydi ein Brenhines yn ymweld â Llandudno a rhannau eraill o Aberconwy ar sawl achlysur. Rwy'n cofio'r cyffro pan ymwelodd hi â ni yn rhan o daith y Jiwbilî Arian yn 1977. Roedd yna floeddio, plant yn chwifio baneri, ac arddangosfa hwylio yn y bae, a oedd yn destun rhyfeddod iddi hi. Canodd y plant mewn Cymraeg hyfryd i ddiddanu'r pâr brenhinol. Nid yw'r edmygedd hwnnw o'n Brenhines wedi pylu erioed. Er efallai ein bod ar ddiwedd cyfnod oes Elizabeth, fe fydd ei hesiampl hi'n parhau i ysbrydoli fy mywyd i a bywydau fy etholwyr a dinasyddion yn fyd-eang. Rwy'n hynod ddiolchgar fod y Brenin Charles III bellach wedi ymroi ei fywyd i barhau â gwaith ei annwyl Fam yn darparu sefydlogrwydd a chariad i bobl ledled y byd. Bydded bendith Duw arnoch chi a rhodded ei hedd tragwyddol i chi, Ma'am. Ni fyddwn ni, eich deiliaid Prydeinig gwir a ffyddlon chi, fyth yn eich anghofio chi. Fe fyddwn ni'n cefnogi eich disgynyddion a'ch olynwyr yn eich enw da chi. Duw gadwo'r Brenin. Carolyn Thomas AS: Wrth i ni ddod heddiw i'r hyn rwy'n ei adnabod fel y Siambr drafod, mae'n dda iawn ein bod ni'n dod at ein gilydd heddiw, gan roi gwleidyddiaeth o'r neilltu am unwaith, a hoffwn gofio geiriau'r diweddar Jo Cox, pan ddywedodd hi 'Mae mwy sy'n ein huno nac sy'n ein gwahanu.' Rydym ni yma yn feibion, merched, rhai ohonom ni'n rhieni a neiniau a theidiau, yn union fel yr oedd y Frenhines yn nain hefyd, ac rydym ni'n siarad am beth sydd gennym yn gyffredin â'r Frenhines, ac rydyn ni'n gweld bod gennym ni yn wir bethau yn gyffredin. Hoffwn gydymdeimlo â'i theulu, â'r teulu brenhinol, heddiw. Mae hi wedi bod yn gyson yn ein bywydau. Rwy'n cofio mynd i bartïon stryd y Jiwbilî pan oeddwn yn blentyn ac yna'n parhau i drefnu digwyddiadau cymunedol hefyd, ac mae'n ymwneud â'r ysbryd mawr yna o agosatrwydd cymunedol, rwy'n credu, mae hynny'n bwysig iawn, iawn. Rwy'n cofio mynd i stryd fawr Yr Wyddgrug, mynd â fy mhlentyn ieuengaf efo fi, a bu llawer o chwerthin a chyffro yno gan ein bod ni i gyd yn ceisio gwasgu ar y palmant dim ond i wylio'r Frenhines yn mynd heibio mewn car a'i gweld yn chwifio. Rwy'n cofio mynd gyda gwirfoddolwyr eraill i Landudno, ac roedd yn ddigwyddiad yr oedd y Frenhines yn mynd iddo, a meddwl pa mor hyfryd oedd hi fod yr holl wirfoddolwyr yma efo'i gilydd, a'r ymdeimlad o gymuned. Dyna, mewn gwirionedd, sy'n dod â'r cynhesrwydd hefyd. Y llynedd, braint fawr oedd cael cyfarfod y Frenhines gan fy mod yn Aelod newydd o'r Senedd. Roeddem ni mewn grŵp mawr, onid oeddem ni, fel yr oedd hi'n dod draw, ac roeddwn i'n meddwl, 'O bobl bach, beth wnaf i os yw hi am siarad â mi neu ofyn cwestiwn? Beth sydd gen i'n gyffredin â'r Frenhines? Beth allaf i ei ddweud?', heb wybod y protocol, mewn gwirionedd, â minnau'n newydd. Ond, rwy'n ei chofio hi'n dod gyda'r Llywydd ac yn sôn am gael cyfarfodydd dros Zoom a sut roedd hi wedi ymgyfarwyddo â hynny, ac roeddwn i'n meddwl, 'Beth sydd gen i'n gyffredin? Dwi'n gwybod, cŵn.' Ac, wrth iddi ddod yn nes, dywedais, 'Pan mae gen i fy nghyfarfodydd Zoom gartref, rwy'n eistedd gyda chi bob ochr i mi, ac yn aml maen nhw'n ceisio ymuno gyda sgyrsiau ar Zoom', fel rydych chi wedi clywed hefyd. Ac wedyn roeddwn i'n meddwl, 'Sawl gwaith mae hi wedi gorfod gwneud hynny dros y blynyddoedd, mewn cymaint o sefyllfaoedd gwahanol, yn ceisio meddwl yn y fan a'r lle, 'Beth fedraf i ei ddweud wrth y person yma? Beth sydd gennym ni'n gyffredin?' Mae'r hiwmor mae hi wedi ei ddangos, yn enwedig yn ei dyddiau diweddarach, fel y dywedodd Alun ynghynt, gyda James Bond, ac roeddwn i'n meddwl, 'Beth arall sydd gen i'n gyffredin â'r Frenhines?' Wel, rwyf hefyd yn cario brechdanau yn fy mag llaw, fel y gwnaeth hi ei ddatgelu i Paddington Bear, yn enwedig ar fy nheithiau trên hir i fyny ac i lawr. Felly, dim ond meddwl ydw i fod yna'r hiwmor mawr yna, cysylltu efo pobl, mae hynny yn elfen mor bwysig hefyd yr oedd ganddi. A hefyd, hoffwn ddweud cymaint o esiampl wych oedd hi o arweinyddiaeth i fenywod ym mhob man, ac rwy'n edrych ar hynny yn ogystal fel ysbrydoliaeth. Felly, heddwch i'w llwch. Cydymdeimladau i'w theulu. Edrychaf ymlaen at groesawu'r Brenin Charles yma i'r Senedd yn ddiweddarach yn yr wythnos ac i ogledd Cymru. Russell George AC: Hoffwn fynegi fy niolchgarwch a fy edmygedd fy hun o'r ddiweddar Frenhines. Rwy'n tybio y byddwn ni i gyd yn cofio yma y tro cyntaf i ni gyfarfod neu weld y Frenhines am y tro cyntaf erioed. Yr unfed ar ddeg o Orffennaf 1986 oedd hi, a minnau'n 12 oed, pan welais i'r Frenhines yn bersonol, pan aeth ar daith o gwmpas Sir Drefaldwyn, gan ymweld â Machynlleth, Llanidloes, Y Drenewydd, Trefaldwyn, Aberriw a'r Trallwng. Fy nghof o'r diwrnod hwnnw yw'r wên ar wynebau pobl, gan edrych yn llawen wrth i'r Frenhines wneud ei ffordd i fyny'r stryd yn Y Drenewydd. Ond fy atgof pennaf oedd nid o'r wên ar wynebau pobl, ond o'r wên ar wyneb y Frenhines. Dyna sydd wedi ei serio ar fy nghof i, a phan ddaeth y Frenhines yn ôl i'r Senedd fis Hydref diwethaf, fe'm hatgoffwyd o'r diwrnod hwnnw: y Frenhines gyda'r wên fawr, radlon honno eto—y wên heintus honno oedd ganddi. Ac roedd gan y Frenhines ffordd wych o wneud i bobl deimlo'n gartrefol—yn aml mae pobl yn teimlo'n nerfus wrth gwrdd â'r Frenhines am y tro cyntaf, fel y mae Carolyn newydd sôn amdano. Roedd gan y Frenhines ffordd wych o ddangos diddordeb ym mywydau pobl, gan ofyn y cwestiynau cywir i wneud pobl yn gartrefol, ond, yn anad dim, rwy'n credu mai ei gwên heintus hi oedd wir yn gwneud pobl yn gartrefol ac yn creu'r awyrgylch cynnes hwnnw. Ac roedd gan y Frenhines hiwmor digymar, ac, wrth gwrs, dros y dyddiau diwethaf, ac yn y Siambr heddiw, rydym ni wedi clywed straeon, onid ydym ni, am y Frenhines a'i natur ddrygionus a hwyliog, ac mae hynny wedi bod yn gysur, rwy'n credu, i lawer sydd â chysylltiad mor gryf â'r Frenhines. Rydym ni wedi clywed am y Frenhines yn gweithio ochr yn ochr â James Bond, y Frenhines yn yfed te gyda Paddington Bear, a'r frechdan yn ei bag llaw, fel sydd gan Carolyn yn ei bag llaw hefyd. Ond fe glywson ni am y straeon yma, ac rwy'n credu mai dyna oedd y wir Frenhines. Roedd y Frenhines yn rhywun oedd o ddifri pan oedd rhaid iddi fod, ond hefyd yn rhywun oedd yn hwyl hefyd pan oedd yn briodol. Felly, ar ran pobl sir Drefaldwyn, anfonaf fy nghydymdeimlad dwysaf at Ei Fawrhydi y Brenin ac aelodau o'r teulu brenhinol. Rhoddodd Ei Mawrhydi ei bywyd i ddyletswydd ac i wasanaethu. Mewn cyfnodau anodd a dyddiau duon, arhosodd y Frenhines yn gyson, felly, diolch i chi, Eich Mawrhydi, a Duw gadwo'r Brenin. Laura Anne Jones AC: Mae'n anrhydedd gallu sefyll yma a siarad ar ran pobl fy rhanbarth. Mae ein meddyliau a'n gweddïau yn fawr iawn gyda'i Fawrhydi y Brenin a'r teulu brenhinol wrth i ni alaru huno'r frenhines orau a hiraf ei gwasanaeth a welodd y byd, y Frenhines Elizabeth II. I'r rhan fwyaf ohonom, y Frenhines Elizabeth II yw'r unig frenhines y mae unrhyw un ohonom wedi ei hadnabod. Mae hi wedi bod yno erioed, yn oleuni ac yn ganllaw cyson a diwyro drwy amseroedd drwg a da. Mae llawer o bobl wedi drysu dros y dyddiau diwethaf ynglŷn â pha mor gryf mae eu galar wedi bod a dim ond nawr yn sylweddoli'r effaith a'r rhan enfawr y mae ein Brenhines wedi'i chael yn ein bywydau ni i gyd. Dim ond pan fyddwn ni'n wynebu realiti colled rydym ni wir yn deall beth sydd wedi mynd. Roedd y Frenhines Elizabeth II yn unigolyn gwirioneddol ryfeddol a gysegrodd ei bywyd yn llwyr i'n gwasanaethu ni, pobl Prydain, rhai'r Gymanwlad a'r tiriogaethau tramor. Crisialwyd ei defosiwn yn yr araith enwog yn Cape Town yn Ne Affrica, lle dywedodd, 'Rwy'n datgan ger eich bron y caiff fy holl fywyd, boed yn hir neu'n fyr, ei neilltuo i'ch gwasanaeth, a gwasanaeth ein teulu imperialaidd mawr, yr ydym i gyd yn perthyn iddo.' Ac fe gyflawnodd hynny, ac rydw i, yn hynny o beth—ac, rwy'n gwybod, pawb yma—yn hynod falch mai Elizabeth II oedd ein Brenhines. Hyd yn oed y dydd Mawrth hwn, o'r wythnos hon, gwelsom y Frenhines yn gwneud fel y mae hi bob amser wedi'i wneud, yn 96 mlwydd oed, ac yn cyflawni ei dyletswyddau gyda'r cryfder, y gras a'r anrhydedd yr oedd hi wedi dod yn fyd-enwog amdanynt, drwy gyfarfod yn bersonol â'i Phrif Weinidog newydd, Liz Truss, gan ddarlunio dyfnder ei hymroddiad i ddyletswydd. Roedd ymroddiad Elizabeth II i ddyletswydd bob amser yn amlwg trwy gydol ei theyrnasiad. Pan oedd yn 19 oed, ymrestrodd yn ystod yr ail ryfel byd i wasanaethu yng Ngwasanaeth Tiriogaethol Ategol y menywod, a dim ond dechrau bywyd o ymrwymiad i'n gwlad a'n pobl oedd hyn. Yna dechreuodd ei dyletswydd fwyaf, wrth gwrs, pan oedd yn ddim ond 25 oed. Yn 23 oed, pan ges i fy ethol yma, roeddwn i'n teimlo pwysau cyfrifoldeb y swydd, ond mae'r anferthedd a maint y cyfrifoldeb ar ei hysgwyddau ifanc hi yn anodd ei ddychmygu. Nid yn unig y gwnaeth hi ymdopi â hynny, safodd yn gryf a chadarn, gan gynnal a hyrwyddo popeth sy'n wych am ein gwlad am 70 mlynedd. Rydw i ac, mae'n siŵr, cymaint o bobl eraill, yn falch i'r Frenhines weld ei Jiwbilî Platinwm eleni, ac roedd y dathliadau yn fy rhanbarth a thu hwnt yn deilwng i Frenhines sydd wedi gwneud cyfraniad anhygoeli'n gwlad dros y blynyddoedd hyn. Roeddwn i wrth fy modd yn rhannu'r dathliadau hynny gyda fy mhlant fy hun a gallu egluro iddyn nhw ddyfnder y diolchgarwch sy'n ddyledus gennym ni i'r Frenhines a pham. Fel y frenhines sydd wedi gwasanaethu hiraf yn hanes Prydain, gwahoddodd y Frenhines 15 o Brif Weinidogion i ffurfio Llywodraeth. Adeg ei choroni, roedd gan y Gymanwlad wyth aelod-wladwriaeth; heddiw, mae 56 bellach. Mae'n anghredadwy. Yn ystod ei theyrnasiad, moderneiddiodd y Frenhines Elizabeth II y frenhiniaeth, gan addasu i'r oes a'i throi i fod y sefydliad hynod boblogaidd y mae hi heddiw, gyda chyrhaeddiad enfawr byd-eang. Rydym ni i gyd wedi gweld hyn o'r areithiau ac o ymateb y gwledydd ledled y byd ers ei marwolaeth, a bu hynny yn haeddiannol o Elizabeth fawr. Nid dim ond ei synnwyr o ddyletswydd, ei dylanwad sefydlog a'i chyngor doeth a'i diffiniodd; daeth ei ffraethineb, ei hiwmor a'i natur ofalgar hefyd i bersonoli ei theyrnasiad. Ac roedd y Frenhines yn synnu'n gyson, fel y gwelsom ni i gyd gyda'r te hwnnw gyda Paddington ac anturiaethau James Bond, gan ddod â chynhesrwydd i'r swyddogaeth a fu'n fodd i gryfhau'r frenhiniaeth a'i lle yn ein byd modern ymhellach. Ac am enghraifft eithriadol oedd hi i fenywod a merched—i mi ac i ferched ledled y byd—ac esiampl gref i bob un ohonom ni. Mae wedi bod yn anrhydedd cael cwrdd â'r Frenhines ar sawl achlysur. Rwy'n teimlo'n aruthrol o ffodus ac mi fyddaf yn trysori yr adegau hynny am byth, gan gofio ei geiriau doeth i mi a'r disgleirdeb hwnnw yn ei llygad. Boed i Dduw fendithio'r Frenhines. Boed iddi bellach ymuno â'i gŵr, gorffwys mewn hedd a chodi mewn gogoniant. Mae fy meddyliau a meddyliau trigolion de-ddwyrain Cymru a'n cenedl bellach gyda'i Fawrhydi y Brenin a'r teulu brenhinol wrth iddynt alaru am golli eu mam a'u nain annwyl. Duw gadwo'r Brenin. Rhianon Passmore AC: Ar ran pobl Islwyn a chymoedd, trefi a chymunedau niferus Gwent yr wyf yn eu cynrychioli, hoffwn hefyd ddweud 'diolch' i'n llawforwyn ffyddlon, y Frenhines Elizabeth II am ei theyrnasiad hir, urddasol dros ei holl bobloedd. Mae sawl teyrnged wedi gwneud argraff arnaf, ond, fel y dywedodd Jenny Rathbone, Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, a ddywedodd, 'I chi, hi oedd eich Brenhines. I ni, hi oedd Y Frenhines.' Symbol o undod, ac yn hynny o beth, symbol—symbol bendigaid—o obaith. Heddiw fel cynrychiolydd y lle hwn yng Nghymdeithas Seneddol y Gymanwlad, rwyf wedi bod yn dyst uniongyrchol ar sawl achlysur i'r gwerthfawrogiad gwirioneddol a'r parch dyfnaf sydd iddi. Mae cenhedloedd a thiriogaethau'r Gymanwlad sy'n rhychwantu'r byd wedi bod yn llafar—[Anghlywadwy.] Mae mynegiant y galar hwnnw wedi bod yn fyd-eang. Heddiw, rydym ni'n byw mewn byd peryglus a byd anwadal, sydd ar hyn o bryd wedi colli seren arweiniol, fythol gyson. Ers dros 70 mlynedd, mae'r Frenhines Elizabeth II wedi arwain trwy esiampl. Mae hi wedi dangos drwy ei gweithredoedd wasanaeth cyhoeddus o'r defosiwn uchaf un. Mae ymadawiad ein diweddar Frenhines wedi esgor ar ymdeimlad dwfn a dwys o golled, tristwch torfol a llonyddwch wedi'i wreiddio yn ei chysondeb i ni i gyd. Arddelai ei ffydd Gristnogol gyda defosiwn dwfn a chyflawni'r dyletswyddau cyhoeddus uchaf yn y tir hwn tan yr oriau olaf. Ac rydym ni'n teimlo'r fath dristwch oherwydd, yn syml iawn, roedd pobl yn ei charu. Llywydd, yn y lle gwleidyddol yma, yn y Siambr hon, yn aml mae llawer o dân ac anghytuno. Dyna drefn naturiol dadl wleidyddol ac ni all newid, ac ni ddylai chwaith. Fodd bynnag, roedd y Frenhines Elizabeth II yn dod â llonyddwch a thangnefedd y mae llawer wedi siarad amdanynt, gwasanaeth cyhoeddus pur o raddfa, natur a math gwahanol ac, y tu ôl i'r wên a'r disgleirdeb hwnnw y mae llawer wedi cyfeirio atynt, doethineb dwfn. Sbardunwyd ein Brenhines gan ymdeimlad ffyrnig o ymroddiad, fel y mae llawer wedi crybwyll, at ei haddunedau i wasanaethu ei deiliaid gyda dyletswydd. Fe wnaeth hynny ddegawd ar ôl degawd nes ei hymadawiad. Menyw—menyw gref—yn aml yn ei blynyddoedd iau, fel y mae eraill wedi sôn amdano, wedi'i hamgylchynu gan ddynion oedd yn teimlo eu bod yn gwybod yn well. Roedd hi'n ddynes mewn byd gwrywaidd, yn gosod esiampl i bawb. Ac o'r byd gwrywaidd hwn, ym 1952, cerddodd y fenyw hon, ac yna mam, mam-gu, hen fam-gu, gydag arweinwyr byd a siarad ag arweinwyr byd a dylanwadu arnynt am dros saith degawd. Mae'r Frenhines, fel un o arweinwyr mwyaf y byd, yn aros gyda ni i gyd. Ond eto, drwy'r cenhedloedd, roedd hi'n aml i'w theimlo'n rhan o wead Prydain, fel rhan o'r Nadolig, o'r ystafell fyw, ac, i gymaint o deuluoedd ar hyd a lled ein Teyrnas Unedig, cyffyrddodd â chalonnau a meddyliau pawb yr oedd hi'n rhyngweithio â nhw. Fe wnaeth hi arwain trwy esiampl ac mae'n rhaid i ni i gyd geisio dilyn yr esiampl honno. Roedd hi'n gryf ac felly mae'n rhaid inni fod yn gryf, a chrio—rwy'n teimlo'r emosiwn yn yr ystafell heddiw. Ar brydiau, mae llawer yma wedi crio, hyd yn oed y rhai oedd yn teimlo na fydden nhw neu na allen nhw. Ond wrth i dristwch ein goddiweddyd, gwelwn olyniaeth esmwyth o'r Goron a arweiniodd, ac awn ymlaen gyda'n gilydd fel y Deyrnas Unedig, ac rydym yn symud ymlaen nawr gyda balchder. Y Frenhines Elizabeth, rydym ni wedi a byddwn ni yn seinio ein diolchgarwch i chi. Diolch yn fawr, a byddwn yn gwobrwyo eich gwasanaeth ffyddlon gyda'r geiriau yr hoffech chi eu clywed yn atseinio drwy'r tir hwn, sef 'Duw gadwo'r Brenin'. Altaf Hussain AS: Hoffwn hefyd gydymdeimlo'n ddiffuant â'i Fawrhydi y Brenin a'r holl deulu brenhinol ar farwolaeth y Frenhines Elizabeth annwyl. Roeddwn y tu allan i'r wlad pan glywais y newyddion trasig. Roeddem ni'n ymweld â theulu yn Kashmir pan glywsom ni'n hwyr nos Iau fod ein brenhines wedi marw. Roedd yn adeg o dristwch dwfn ac alaeth ofnadwy, nid yn unig i mi a fy nheulu agos, ond trwy Srinagar, Kashmir ac ar draws holl is-gyfandir India, am nad ein Brenhines ni yn unig oedd hi ond pennaeth y Gymanwlad hefyd. Mae'r galar yr ydym ni'n ei deimlo o'i hymadawiad i'w theimlo i'r un graddau ar draws y byd, o India'r Gorllewin i India'r Dwyrain a thu hwnt; mae cenhedloedd sydd wedi ymryddhau o reolaeth Brydeinig yn dal i ystyried pennaeth ein cenedl fawr gydag anwyldeb, parch a chariad, oherwydd Ei Mawrhydi oedd y mwyaf o weision cyhoeddus, gan gysegru ei bywyd a'i holl fod at wasanaeth ein cenedl a'n teulu o genhedloedd. Am dros saith degawd, roedd hi wedi ein tywys, ein harwain a'n meithrin. Roedd hi wedi bod yn arloeswraig ac yn llaw gadarn ar adegau o lawenydd a thristwch. Pan esgynnodd i'r orsedd dros 70 mlynedd yn ôl, roedd y Gymanwlad, fel mae pawb wedi dweud, yn cynrychioli llond llaw yn unig o genhedloedd, ac roedd y Deyrnas Unedig yn dal i ddioddef ôl-effeithiau'r rhyfel byd. Ond, mae ei dycnwch, ei hymroddiad a'i anhunanoldeb wedi helpu i drawsnewid ein cenedl a'n Cymanwlad, sydd bellach yn cynrychioli tua chwarter poblogaeth y byd. Ac er mai hi oedd pennaeth Eglwys Loegr, mae pobl o bob ffydd a dim ffydd yn galaru ymadawiad Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II, amddiffynnydd ffydd. Duw a'ch bendithio chi, Eich Mawrhydi. Boed i chi orffwys mewn heddwch tragwyddol. Amen. Peter Fox AS: Bu i'r newyddion torcalonnus bod ein Brenhines annwyl, Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II wedi marw ysgwyd pobl ein cenedl i'r byw, fel y gwnaeth ar draws y Gymanwlad ac, yn wir, y byd. Ar ran miloedd o bobl ar draws etholaeth Mynwy, rwy'n estyn hefyd gydymdeimlad diffuant i'r Brenin a'r teulu brenhinol ar yr adeg dristaf hon. Roeddem i gyd yn ofni y byddai'r amser trist hwn yn dod rhywbryd, ond roeddem ni'n gobeithio na fyddai byth yn cyrraedd. Nawr mae yma, mae gwacter enfawr yn treiddio i'n bywydau ni gan ei bod mor anodd amgyffred bywyd heb ein Brenhines, cymaint oedd y cariad enfawr a oedd gennym ni am y ddynes ryfeddol hon, ac ni fydd y cariad yna yn ein gadael. Am dros 70 mlynedd, roedd Ei Mawrhydi'n gysondeb—gair yr ydym ni wedi'i ddefnyddio llawer heddiw, ond does dim gair gwell i'w ddisgrifio—yn ein bywydau, yn ddylanwad cadarn, yn golofn o gryfder diwyro yn pontio sawl cenhedlaeth ac yn ysbrydoli pobl ar draws y byd. Yn ystod ei theyrnasiad, yr hiraf erioed ar orsedd Prydain, mae'r Deyrnas Unedig, ac yn wir y byd, wedi newid y tu hwnt i ddychymyg. Esgynnodd y Frenhines Elizabeth II i'r orsedd, fel y gwyddom ni, yn dilyn diwedd yr ail ryfel byd, cyfnod lle'r oedd y byd yn aildrefnu yn dilyn y cyfnod dinistriol, erchyll hwnnw. Ac er gwaethaf nifer o ddigwyddiadau o arwyddocâd hanesyddol yn ystod ei theyrnasiad, rhoddodd y Frenhines Elizabeth sefydlogrwydd, arweinyddiaeth ac empathi i'r wlad a'r byd. Yn ystod yr amseroedd da a'r drwg, roedd Ei Mawrhydi yn symbol o ysbryd y wlad, gan roi ysbrydoliaeth a gobaith i filiynau o bobl. Er gwaethaf y baich enfawr o bwysau a disgwyliad na allai llawer ohonom ddechrau ei dychmygu a oedd arni, ni chollodd Ei Mawrhydi erioed olwg ar yr hyn a oedd yn bwysig: y bobl a'r cymunedau ar draws ein Teyrnas Unedig a'r byd ehangach. Ochr yn ochr â'i gŵr annwyl, Dug Caeredin, fe wnaeth y Frenhines gyfarfod â miloedd o bobl o bob cornel o'r byd. Roedd yr hoffter ohoni a'r parch a oedd iddi yn ddigymar, ac roedd yn rym o ddaioni a chariad a oedd yn uno'r byd. Roedd Ei Mawrhydi yn goruchwylio datblygiad y Gymanwlad—y teulu hynod bwysig hwnnw o genhedloedd—mewn byd sy'n newid yn barhaus, ac roedd hi wrth lyw sawl sefydliad ac elusennau, a bydd ei cholled yn cael ei deimlo gan gynifer. Bydd ei hymdeimlad o ddyletswydd, gostyngeiddrwydd, anhunanoldeb a defosiwn i'r Deyrnas Unedig a'r Gymanwlad i gyd yn parhau'n esiampl i ni i gyd am byth. Mae ei marwolaeth yn golled aruthrol i'r genedl ac, yn wir, i'r holl fyd. Diolch, Eich Mawrhydi, am eich ymrwymiad a'ch cariad di-ben-draw; boed i chi orffwys mewn hedd. Duw gadwo'r Brenin. Hefin David AC: Y broblem am gael fy ngalw ar yr adeg yma yn y ddadl yw dod o hyd i rywbeth gwreiddiol i'w ddweud, ond fe wnaf yr hyn y mae eraill wedi'i wneud a myfyrio ar fy myfyrdodau a fy atgofion personol fy hun o'i Mawrhydi. Yn enwedig, yn y Siambr hon yn 2016, roeddwn i'n eistedd mae'n debyg lle mae Jack Sargeant yn eistedd nawr, yn union gyferbyn â'r Prif Weithredwr, sef lle'r oedd y Frenhines yn eistedd, ac roedd hi'n edrych yn syth ataf i. Mae'n rhaid i mi ddweud, Llywydd, rwy'n teimlo'n anghyfforddus pan fyddwch chi'n edrych yn syth ataf i. [Chwerthin.] Bryd hynny, doeddwn i ddim yn siŵr a oedd ganddi wg ar ei hwyneb—doeddwn i ddim yn siŵr a oeddwn i wedi ei ypsetio hi, ac roeddwn i'n meddwl, 'O mam bach, dwi wedi ei ypsetio hi—mae'n debyg oherwydd fy mod i'n gwisgo tei coch'. Ond, ar adeg benodol yn ystod y sesiwn, fe roddodd y wên honno, ac fe roddodd hi mewn gwirionedd—a dydw i ddim yn gwamalu—wên galonogol i mi. Felly, gallwn ymlacio am weddill y sesiwn honno, a meddwl, 'Un peth nad ydw i wedi'i wneud yw ypsetio'r Frenhines'. Ac nid wyf yn gwybod amdanoch chi, Llywydd, ond efallai fy mod wedi eich ypsetio chi yn y gorffennol. [Chwerthin.] Mae rhai ohonom ni yn y Siambr hon sydd â safbwyntiau gwleidyddol penodol—y rhai sydd o blaid y drefn, sy'n dymuno gweld y drefn yn parhau, a'r rhai ohonom ni sy'n dymuno gweld her i drefniadau democrataidd presennol y genedl hon. Ond, yr hyn yr ydym ni wedi'i weld yn y Siambr heddiw oedd y rhai sydd â'r safbwyntiau gwahanol hynny yn cael eu hadlewyrchu ym mhennaeth y wladwriaeth hefyd. Credaf i arweinydd Plaid Cymru wneud araith eithaf penodol, a oedd yn adlewyrchu rhai safbwyntiau na fyddai, o bosib, yn cael eu hadlewyrchu gan rai arweinydd yr wrthblaid, a welodd yn y Frenhines ei safbwyntiau gwleidyddol ei hun. Rwy'n credu bod hynny'n rhodd sydd gan bennaeth gwladol: gallu gwneud hynny a gallu bod yn bennaeth gwladwriaeth wirioneddol anwleidyddol y gallwn weld adlewyrchiad o'n hunain ac, yn y Siambr hon, uno ein hunain mewn edmygedd. Roedd hynny'n golygu aberth enfawr yn ei bywyd—ei bywyd personol—drwy gyfnod y 96 mlynedd hynny. Yn nyddiau olaf ei gwasanaeth, roedd hi'n gwasanaethu'r wlad; gwelsom y lluniau hynny yn Balmoral ddeuddydd cyn iddi farw. Fel mae eraill wedi sôn am eu teulu eu hunain, cefais fy nhywys yn ôl i farwolaeth fy mam-gu yn Ysbyty'r Glowyr Caerffili, a bu hi'n weithgar tan y diwrnod cyn iddi farw. Rwy'n cofio'r teulu'n casglu o gwmpas—roeddwn yno gyda fy rhieni—a bu farw yn Ysbyty'r Glowyr Caerffili. Y gwahaniaeth oedd i ni, fel teulu bryd hynny, gael amser i alaru yn breifat ac mewn heddwch, a does gan y Brenin ddim y moethusrwydd hwnnw. Mae'r dyddiau nesaf i'r Brenin yn rhai o waith a dyletswydd, ac ni fydd diwedd i'r rheini tan ei ddyddiau olaf. Rwy'n credu y gall y Brenin gymryd cysur o'i ymweliadau rheolaidd â'i fam yn ystod ei dyddiau olaf, ond ar yr un pryd, gall gymryd cysur yn y cydymdeimladau sydd wedi eu cynnig yn y Siambr hon heddiw. Mae ganddo swyddogaeth gyhoeddus iawn; mae'n hynod o anodd parhau â gwaddol ei fam, ond gallwn gefnogi hynny drwy'r hyn rydym ni wedi'i ddweud yma yn y Siambr hon. Fe hoffwn i feddwl am y Brenin a rhai o'i ymweliadau â fy etholaeth. Mae wedi ymweld ag Ysbyty'r Glowyr Caerffili, ac fe wnes i lwyddo i ddweud wrtho y cefais fy ngeni yno. Fe gawson ni sgwrs am y peth, ac mae'n rhaid i mi ddweud ei fod yn ddiffuant iawn ac yn berson cynnes iawn, ac rwy'n credu ei fod yn addas iawn i'r swyddogaeth y mae bellach ynddi. Mae ganddo'r heriau hynny, er iddo ein dychryn ar un adeg pan ddechreuodd gerdded i lawr Heol Sant Martin ar ei ben ei hun, heb unrhyw amddiffyniad gan yr heddlu; yn wir, roedd cwpl wedi cerdded heibio iddo heb sylweddoli pwy oedd e. Credaf y bydd hynny'n newid nawr ei fod yn Frenin. Ei ddyletswydd nawr, ei swydd, yw dangos yr un peth a wnaeth ei fam: pan welwn ni ef, y gwelwn farn ein hunain yn cael ei hadlewyrchu, ond nid mewn ffordd y mae eraill yn gweld ein barn yn cael ei hadlewyrchu—eu bod yn perthyn i bawb, ei fod yn bennaeth diduedd ar wladwriaeth wleidyddol. Dyna fydd yr her i ddyfodol ein gwlad ddemocrataidd. I'r rhai ohonom ni sydd am weld newid, a'r rhai ohonom sy'n dymuno gweld y drefn yn parhau, bydd yr hyn sy'n digwydd nesaf yn dibynnu ar hynny. Ond credaf y gallwn ni fod yn unedig heddiw wrth ddweud, 'Duw gadwo'r Brenin'. Sam Rowlands MS: A gaf i mi ymuno ag Aelodau eraill hefyd, wrth ddweud yn gyntaf pa mor braf yw gweld Aelodau o bob rhan o'r sbectrwm gwleidyddol yn dod at ei gilydd heddiw i nodi ein parch a thalu teyrnged i'r Frenhines Elizabeth II? Mae'r undod yma o ysbryd yn fy atgoffa o'r adeg pan oeddwn yn fy arddegau, ac fe wna i rannu rhai atgofion personol hefyd. Pan oeddwn i yn fy arddegau, ymwelodd y Frenhines â fy ysgol ym Mae Colwyn, a digwydd bod fe gyfeiriodd Darren Millar at hyn funud yn ôl, gan iddi ymweld â fy ysgol ym Mae Colwyn ym Mharc Eirias. Yr hyn a wnaeth fy nharo i o'r ymweliad hwn oedd nid dirprwy faer Towyn a Bae Cinmel yn gwneud y don Mecsicanaidd. Yr hyn a wnaeth fy nharo o'r ymweliad hwn, ar wahân i ba mor lân y daeth y lle'n sydyn, oedd y lliaws o bobl wahanol a ddaeth i'w gweld—pobl o wahanol oedrannau, gwahanol gefndiroedd, gwahanol hiliau, gwahanol gredoau. Hyd yn oed pan oeddwn yn iau, yn fy arddegau, deallais ei bod hi'n ffigwr a oedd yn uno pobl—yn rhywun a oedd yn dod â phobl at ei gilydd. Cafodd hyn ei amlygu eto yn ystod cyfnodau clo COVID. Os cofiwn, rhoddodd Ei Mawrhydi araith anhygoel o deimladwy, a rhoddodd hynny, i mi'n bersonol, gryfder mawr i mi drwy gyfnod anodd iawn i fy nheulu. A dyfynnaf y llinellau a darodd dant gyda mi mewn gwirionedd. Dywedodd Ei Mawrhydi: 'Gyda'n gilydd rydym yn mynd i'r afael â'r clefyd hwn, ac fe hoffwn i eich sicrhau, os ydym yn parhau i fod yn unedig ac yn benderfynol, yna byddwn yn ei oresgyn...Dylem gymryd cysur, er y gallem fod â mwy o hyd i'w ddioddef, bydd dyddiau gwell yn dychwelyd: byddwn gyda'n ffrindiau eto; byddwn gyda'n teuluoedd eto; byddwn yn cyfarfod eto.' Roedd y geiriau hynny mor bwysig i gymaint bryd hynny, ac yn ein huno gyda'n gilydd eto. Roedd ei phŵer a'i gallu i uno yn arddangosiad clir o safon ei hymarweddiad, gan newid gyda'r oes fel yr oedd angen iddi, gan ennill parch ac edmygedd cynifer. Yr agwedd arall yr hoffwn dalu teyrnged iddi heddiw yw'r enghraifft o wasanaeth a dyletswydd y mae cymaint yma wedi'i grybwyll yn barod. Gosododd esiampl wych i ni i gyd. Cyflawnodd ei swyddogaeth gydag urddas a pharch, gan wasanaethu ei gwlad a'i phobl yn briodol tan y diwedd un, fel y gwelsom yr wythnos ddiwethaf. Mae hyn, wrth gwrs, yn deillio o'i hamser—ac mae pobl eisoes wedi dyfynnu hyn—â hithau'n 21 oed, pan ddatganodd: 'Rwy'n datgan ger eich bron chi i gyd y caiff fy holl fywyd boed yn hir neu'n fyr ei neilltuo i'ch gwasanaeth.' Efallai mai'r gwahaniaeth fwyaf rhwng y Frenhines a'r mwyafrif llethol ohonom ni yw iddi gadw ei haddewid. Cadwodd ei haddewid cyn iddi fod yn Frenhines a thrwy ei 70 mlynedd o deyrnasu. Gweithiodd Ei Mawrhydi gyda 15 o Brif Weinidogion, ac rwy'n siŵr bod rhai yn anoddach i weithio gyda nhw nag eraill. Cynhaliodd ddegau ar filoedd o ymgysylltiadau brenhinol, roedd yn noddwr ac yn llywydd dros 600 o elusennau, ac wrth gwrs hi oedd ein brenhines a deyrnasodd hiraf erioed. Gosododd Ei Mawrhydi yr esiampl orau bosibl i bob un ohonom ni. Dyna pam, pan gymerais fy llw o deyrngarwch a thyngu llw yn Aelod o Senedd Cymru, pleser o'r mwyaf oedd datgan fy nheyrngarwch i'w Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II. Cysegrodd Ei Mawrhydi ei bywyd i'r wlad hon—craig i gymaint cyhyd. Diolch i chi, Fawrhydi, am eich gwasanaeth diwyro, a Duw gadwo'r Brenin. Joel James MS: Rwy'n siŵr y caiff dydd Iau, 8 Medi ei serio yn atgofion pob un ohonom ni, wrth i ni gofio'r adeg a'r lle y clywsom y newyddion am farwolaeth ein sofran annwyl ac ymroddedig. Mae'n rhyfeddol na fydd y rhan fwyaf ohonom ni yma yn y Siambr hon wedi byw o dan unrhyw bennaeth arall, gan fod ein Brenhines wedi ymroi bron ei holl bywyd cyhoeddus i wasanaeth ein gwlad. Gellir crynhoi ein teimlad yma heddiw yn un o dristwch mawr, ond hefyd o sioc: tristwch yn ei hymadawiad, ond sioc nad yw rhywun sydd wedi bod yn gymaint rhan o'n bywyd cenedlaethol gyda ni bellach. Trosglwyddaf fy nghydymdeimladau dyfnaf a chywiraf i deulu Ei Mawrhydi wrth iddyn nhw ddod i delerau â cholli nid yn unig eu Brenhines, ond eu mam, eu nain a'u hen nain. A minnau'n gredwr cryf yn y swyddogaeth sydd gan y frenhiniaeth o uno pobl, rwyf bob amser wedi cael fy nharo gan ei hymroddiad i wasanaeth cyhoeddus, ei hegni di-ball i bob cenedl y Gymanwlad, ei gwaith diflino yn cefnogi elusennau, a'i theyrngarwch diwyro a'i hymroddiad i'w ffydd fel Cristion, i'w theulu ac i bobl y Deyrnas Unedig. Mae'n iawn fod ein gwlad yn ei chofio gyda'r holl gariad a charedigrwydd mae Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II yn ei haeddu. [Torri ar draws.] Gyda thristwch mawr yr wyf yn sefyll yma yn estyn fy nghydymdeimlad, ond mae hefyd yn bleser dweud pa mor hynod ffodus yr oeddem ni i gyd i'w chael hi yn Frenhines arnom ni. Roedd hi, rwy'n credu, a bydd yn aros am genedlaethau lawer, yn ymgorfforiad gwirioneddol o Brydain Fawr ac yn ysbrydoliaeth i ni i gyd. Diolch, eich Mawrhydi, am eich gwasanaeth. Boed i chi orffwys mewn hedd a Duw gadwo'r Brenin. Ken Skates AC: Mae galar a thristwch yn emosiynau hynod bwerus—yn anhygoel o bwerus. Maen nhw'n gallu uno pobl, er hynny, ar adegau o anghytuno a dod â phobl at ei gilydd. Mae'n digwydd ar hyn o bryd wrth i bobl fynegi eu tristwch a'u galar am Ei Mawrhydi'r Frenhines, ac, fel y nododd Sam Rowlands, yn ei bywyd, roedd gan y Frenhines allu heb ei ail i uno pobl, bob amser nid yn unig ar adegau o ddioddefaint ofnadwy. Uno pobl efallai yw'r ddyletswydd bwysicaf y gall unrhyw un sydd mewn awdurdod ei chyflawni, ac nid oes neb wedi gwneud hynny yn well na'r Frenhines. Mae pobl ein gwlad, y Gymanwlad a thu hwnt wedi colli Brenhines a oedd yn graig o sefydlogrwydd yn ein bodolaeth sydd yn aml yn drafferthus, ond mae byw mewn calonnau yr ydym yn eu gadael ar ôl yn golygu peidio â marw, ac felly, bydd Ei Mawrhydi y Frenhines, ei daioni a'i charedigrwydd yn parhau i fyw mewn calonnau ledled y byd. Gareth Davies AS: Hoffwn ddiolch i chi am roi'r cyfle i mi siarad heddiw ar adeg mor bwysig ac arwyddocaol yn hanes ein gwlad, ac yn wir am adalw'r Senedd heddiw i roi cyfle i Aelodau dalu eu teyrngedau i'w Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II. Ac ar ran pobl Dyffryn Clwyd, hoffwn dalu teyrnged i'w Mawrhydi a diolch o waelod calon iddi am ei 70 mlynedd o wasanaeth stoicaidd i bobl Cymru, y Deyrnas Unedig, ac yn wir y byd. Nid Brenhines y Deyrnas Unedig, 14 o wledydd y Gymanwlad a ffigwr byd-eang yn unig oedd hi, roedd hi hefyd yn ffigwr teuluol, yn fam, yn fam-gu ac yn hen fam-gu, a bydd yn cael ei cholli'n fawr gan y rhai oedd yn ei hadnabod yn agos, a chan bobl yn agos ac yn bell. Cefais fy ngeni ym 1988, sy'n golygu bod fy atgofion i o'r Frenhines yn bennaf o'i blynyddoedd hŷn, ond bydd llawer o bobl yn cofio tywysoges ifanc hardd a ddatganodd yn Cape Town ym 1947 nad oedd ots pa mor hir neu fyr y byddai ei bywyd, y byddai'n cysegru ei bywyd i wasanaethu'r Gymanwlad, ac, ar fy myw, mae hi wedi cyflawni hynny. Roedd yr oes yn wahanol yn y 1950au, yn wahanol iawn, ac yn wir mae wedi newid llawer dros y degawdau. Roedden ni'n dal i adfer ar ôl yr ail ryfel byd yn ôl bryd hynny. Ond mae'r hyn mae'r Frenhines wedi'i ddangos yn ymdeimlad anhygoel o amlochredd a symud gyda'r oes. Anfonodd ei e-bost cyntaf ym 1976, ffilmiodd ei neges Nadolig flynyddol yn 3D yn 2012, ac anfonodd ei thrydariad cyntaf yn 2014, ac yn fwyaf diweddar mynychodd gyfarfodydd Zoom yn ystod pandemig COVID-19. Ddim yn rhy ddrwg i rywun yn eu 90au, mae'n rhaid i mi ddweud. Mae pymtheg o Brif Weinidogion wedi gwasanaethu'r Frenhines dros ei chyfnod o 70 mlynedd. Mae Arlywyddion, Prif Weinidogion, Prif Weinidogion y gwledydd datganoledig a gwleidyddion yn mynd a dod, ond yr hyn y mae hi wedi ei ddangos yw ei bod yn ffigwr cyson ym mywydau pobl, waeth beth yw gwleidyddiaeth y dydd, a'i bod yn bâr diogel a chalonogol o ddwylo y gallai pobl ddibynnu arni beth bynnag oedd yn digwydd yn eu bywydau. Fel y rhan fwyaf o bobl, doeddwn i erioed wedi meddwl y byddwn yn cael cyfle i gwrdd â'r Frenhines, ond gwnaeth y cyfle gyflwyno ei hun yn yr union le yma ym mis Hydref 2021, yn ystod agoriad y chweched Senedd, a oedd yn y pen draw ei hymweliad olaf un â Chymru. Gofynnodd imi beth oeddwn i'n ei wneud cyn i mi ddod yn Aelod o'r Senedd. Ac wrth ymateb i'w Mawrhydi, cefais fy nharo gan gymaint yr oedd ganddi ddiddordeb yn yr hyn a oedd gen i i'w ddweud, a oedd yn dangos i mi, ar ôl 70 mlynedd o ddyletswydd gyhoeddus, ei bod hi yn dal mor frwdfrydig ag yr oedd hi wedi bod yr holl flynyddoedd hynny yn ôl yn Cape Town. Ac roedd hynny'n rhinwedd na wnaeth erioed erydu dros y blynyddoedd, a dyna pam y bydd hi bob amser yn parhau i fod yn ffigwr eiconig tu hwnt. A hoffwn gloi fy nghyfraniad heddiw gyda cherdd fer, ond adnabyddus, wedi ei hysgrifennu gan fardd o'i hannwyl Alban. 'An honest woman here lies at rest, the friend of man, the friend of truth, the friend of age, the guide of youth; few hearts like hers, with virtue warm’d, few heads with knowledge so inform’d; if there’s another world, she lives in bliss; if there is none, she made the best of this. Tom Giffard AS: Yr wythnos hon, fe gollon ni, yn drist, rhywun, yr wyf i'n credu, yw ein Prydeiniwr gorau erioed. Roedd hi'n arweinydd ein cenedl, ond hefyd yn fam, yn fam-gu ac yn hen fam-gu—bathodyn yr oedd hi'n ei wisgo'n falch iawn tan ei diwrnod olaf un gyda ni. Roedd hi'n rhywun a oedd yn rhychwantu cenedlaethau, yn gweithredu fel pont gyda'r gorffennol, yn ogystal ag yn esblygu ar yr un pryd fel y gwnaeth yr oes. Rwy'n gwybod bod pobl ledled Cymru yn teimlo ac yn brifo ar hyn o bryd yn sgil colli ffigwr na fyddan nhw erioed wedi'i chyfarfod efallai, ond bydd wedi golygu cymaint i gynifer. P'un a oedd hynny yn rhannu ychydig o eiriau byr gyda'i Mawrhydi, gan fod yn bresennol pan ymwelodd â rhai o'n cymunedau, neu hyd yn oed lythyr neu gerdyn yn unig yn y post yn ein llongyfarch ar garreg filltir neu gyflawniad personol, nid oedd pobl byth yn anghofio'r rhyngweithiadau a gawsant gyda hi. Oherwydd, roedd ei chyfarfod hi yn atgof a fyddai'n para am oes, ac yn stori a fyddai'n cael ei hail-adrodd i ffrindiau a theulu filoedd o weithiau. Yr unig dro erioed i mi gael y fraint o gyfarfod Ei Mawrhydi oedd yn yr adeilad hwn, ychydig llai na blwyddyn yn ôl, pan ddaeth i agor ein Senedd. Doeddwn i ddim yn gwybod y byddwn i'n cael cyfle i gwrdd â hi y diwrnod hwnnw, ond, wrth i mi adael y Siambr drwy'r drws hwnnw y tu ôl i mi, cefais fy hun yn cael fy nhywys i linell o ASau, ac allan o'r drws arall daeth Ei Mawrhydi, yng nghwmni'r Llywydd, a wnaeth ei chyflwyno i'r Aelodau. Y gwleidydd cyntaf y byddai hi'n ei gyfarfod, wrth gwrs, fyddai Janet Finch-Saunders, efallai yr agosaf y daeth y Frenhines erioed i gyfarfod ei chydradd yn ei theyrnasiad 70 mlynedd. [Chwerthin.] Ond byddai'r ymadwaith a gefais gyda'i Mawrhydi, ychydig eiliadau'n ddiweddarach, er yn fyr, yn un a fyddai'n aros gyda mi am oes. Oherwydd byddai meddwl amdani dim ond fel brenhines yn methu'r pwynt yn llwyr. Beth oedd hi oedd adeiladwr, adeiladwr pontydd, oherwydd p'un a wnaethoch chi bleidleisio i'r blaid Lafur neu'r blaid Geidwadol roedd gennych chi un Frenhines; p'un a gawsoch chi eich geni yn y DU neu ddod yma i adeiladu bywyd gwell, roedd gennych chi un Frenhines; yn arddel ffydd neu beidio, yn hen neu'n ifanc, yn cefnogi Dinas Abertawe neu Ddinas Caerdydd; p'un a ydych chi'n unoliaethwr neu'n ymwahanwr; p'un a ydych chi'n frenhinwr neu'n weriniaethwr, roedd gennych chi un Frenhines. Weithiau, pan fyddwn ni'n colli rhywun yn ein bywydau, rydyn ni'n sylweddoli ein bod ni'n cymryd yn ganiataol y pethau yr oedden nhw'n eu gwneud i ni a dim ond yn sylwi arnyn nhw pan nad ydyn nhw o gwmpas bellach. Yr hyn sy'n fwyaf rhyfeddol i mi yw, os ydych chi wir yn meddwl am yr hyn y gwnaethom ni ofyn iddi ei wneud fel gwlad pan ddaeth hi i'r orsedd, fe ofynnon ni iddi gamu uwchlaw'r cyfan, i gynrychioli pawb, i beidio byth â rhoi troed allan o'i le, i groesi rhaniadau mewn cymdeithas, a allai weithiau deimlo ei bod yn fwy rhanedig nag erioed, ac i arwain drwy esiampl, pregethu cariad a maddeuant i genedl nad oedd bob amser yn barod i wneud hynny, a gwnaethom ofyn am hyn i gyd ganddi yn ddim ond 25 oed. Nid Brenhines y wlad hon yn unig oedd hi nac, yn wir, Brenhines y Gymanwlad, hi oedd Brenhines y byd: y Frenhines. Roedd hi'n fyd eang cyn oedd y byd felly, a defnyddiodd hi'r statws hwnnw i'n dathlu ni, i'n cynrychioli ni a'n gwneud ni'n falch. Felly, Brenhines Elizabeth, rwy'n dweud, 'Diolch i chi a Duw gadwo'r Brenin.' James Evans MS: Roeddwn i, fel llawer o bobl eraill yn y Siambr hon heddiw, wedi meddwl bod hon yn araith na fyddai'n rhaid i'r un ohonom ei gwneud. Pan ddaeth y cyhoeddiad trist am farwolaeth y Frenhines, gadawodd wagle yn ein calonnau a galar cyffredin ymhlith pobl ar draws ein gwlad a'r byd, wrth i ni gymryd amser gyda'n gilydd i gofio'r gwas gorau a welodd y byd erioed. Mae fy meddyliau a'm gweddïau, ynghyd â'm holl etholwyr, gydag Ei Fawrhydi y Brenin a'r teulu brenhinol cyfan, a hefyd gyda phobl ein gwlad a'r Gymanwlad, wrth i ni ddod i delerau â cholli sofran annwyl a nain ein cenedl. Er y tristwch a'r galar, rwy'n falch ein bod ni'n gallu dod at ein gilydd a chofio bywyd rhyfeddol Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II diweddar. Fel y dywedodd llawer, mae hi wedi byw bywyd a oedd wedi’i fyw'n dda, a chyflawnodd ei haddewid i wasanaethu gydag urddas ac ymroddiad i'n cenedl a'r Gymanwlad hyd ddiwedd ei hoes hir iawn. Roedd hi'n Frenhines i bob rhan o'r Deyrnas Unedig a phob rhan o'r Gymanwlad, ac roedd hi'n ysbrydoliaeth i lawer o bobl ledled y byd. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i gofio'r cysylltiadau oedd gan Ei Mawrhydi gyda fy nghartref, a phobl Brycheiniog a Sir Faesyfed. Yn 1947, cyn dod yn Frenhines, bu'n llywydd anrhydeddus Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, ac yn 1952 daeth yn noddwr i'r Sioe Frenhinol, a gwnaeth nifer o ymweliadau â Llanelwedd ar hyd y blynyddoedd, gan gynnwys nodi canmlwyddiant Sioe Frenhinol Cymru yn 2004. Ym 1955, aeth Dug Caeredin, fel y gwnaeth bob amser, gyda'i Mawrhydi ar daith frenhinol o amgylch Cymru—ei cyntaf fel brenhines. Eu stop cyntaf? Wrth gwrs roedd yn rhaid iddo fod yn un o'r llefydd gorau yng Nghymru: Aberhonddu. Ymwelodd ag Aberhonddu sawl tro, gan gynnwys gwasanaeth i ddathlu jiwbilî diemwnt esgobaeth Aberhonddu ac Abertawe yn y gadeirlan yn 1983. Ar ei Jiwbilî Aur, aeth draw i Ddolau yn sir Faesyfed ar y trên brenhinol, lle cafodd groeso llond gwên a hapusrwydd yn treiddio ymhlith pawb a fynychodd, ac rwy'n falch iawn o ddweud i'r trên brenhinol gyrraedd ar amser. I nodi ei Jiwbilî Diemwnt ei hun yn 2012, ymwelodd Ei Mawrhydi ag ystâd Glanusk a chafodd ei chroesawu gan blant o dros 50 o ysgolion yr ardal. Bu Ei Mawrhydi yn wrol yn y glaw, yn cyfarfod a chyfarch cymaint o bobl â phosib gyda'r wên heintus honno. Bu’r Dug Caeredin yn gwylio o bell am y rhan fwyaf o'r ymweliad, yn ddigon doeth, o ffenestr Land Rover, bob amser yno'n cefnogi Ei Mawrhydi'r Frenhines. Dwi ddim yn gallu sôn am bob un o'i hymweliadau, ond mae'r detholiad hwnnw'n dangos ehangder a dyfnder anhygoel perthynas Ei Mawrhydi diweddar â phobl canolbarth Cymru a phobl Brycheiniog a Sir Faesyfed. Rhwng popeth, cafodd fywyd gwirioneddol ryfeddol, o’r fath yr ydym yn annhebygol o'i weld eto. Roedd hi'n anrhydedd cael cwrdd â hi yma'n bersonol yn y Senedd yn ystod ein hagoriad swyddogol cyntaf. Bu ei Mawrhydi a minnau'n sôn am ei hangerdd mawr, sef ffermio, ac roedd hi'n gwybod llawer iawn am brisiau cig carw, ac fe safodd am bum munud yn gofyn i mi sut roedd yn mynd—rhywbeth nad anghofiaf i fyth. Roedd Ei Mawrhydi'r Frenhines Elizabeth II yn berson a gredai mewn parhad a dyletswydd, ac wrth i faich trwm cyfrifoldeb basio i'w Fawrhydi Brenin Charles III, i barhau â hanes brenhiniaeth sy'n dyddio'n ôl dros 1,000 o flynyddoedd yn yr ynysoedd hyn, gallwn oll dynnu cysur o'r ffaith bod parhad y frenhiniaeth yn rhoi sefydlogrwydd, gobaith a balchder, wrth i ni i gyd uno gyda'n gilydd, fel un Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon a holl wledydd y Gymanwlad, i ddweud, 'Diolch, Eich Mawrhydi, gorffwyswch mewn heddwch ar eich taith olaf i gwrdd â'ch cryfder a’ch angor eto. Duw a achub y Brenin.' Ein siaradwr olaf, Samuel Kurtz. Samuel Kurtz MS: Diolch, Llywydd. Dwi'n ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu heddiw. Samuel Kurtz MS: Ar ran etholwyr Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, rwy'n adleisio geiriau, sylwadau a theimladau'r rhai sydd wedi cyfrannu heddiw yn fawr. Mae teyrngedau i'w diweddar Mawrhydi'r Frenhines wedi dod o bedwar ban byd, ac mae llawer wedi siarad yn fwy huawdl ac wedi ysgrifennu'n fwy huawdl am Ei Mawrhydi a'i theyrnasiad nag y gallwn i erioed, felly ei geiriau hi a ddefnyddiaf i'w disgrifio. Ei chryfder a'i hangor oedd ei diweddar ŵr Dug Caeredin, ac felly hefyd hi oedd cryfder ac angor y wlad hon am 70 mlynedd. Mae'r cynnig yn cyfeirio at ymrwymiad parhaus Ei Mawrhydi, yn enwedig at elusennau a sefydliadau. Ers 1957, mae Ei Mawrhydi'r Frenhines wedi bod yn noddwr ymroddedig i glybiau ffermwyr ifanc a'r cyfleoedd mae'r mudiad yn eu darparu i bobl ifanc mewn rhannau gwledig o'r wlad. Fe wnaeth y Frenhines gwrdd ag aelodau o'r CFfI dros ei blynyddoedd lawer o wasanaeth, a chyflwyno gwobrau yn y sioe frenhinol. Fel cadeirydd CFfI Sir Benfro, rwy'n diolch i'w Mawrhydi am ei nawdd i'r sefydliad elusennol hwn, ar ran aelodau o'r gorffennol, y presennol a'r dyfodol ledled y wlad. Gadewch i ni hefyd beidio ag anghofio ychwaith y cysylltiad arbennig sydd gan y frenhiniaeth â Sir Benfro, â gwreiddiau hynafiaethol yn ymestyn yn ôl i enedigaeth y Brenin Tuduraidd Harri VII yng nghastell Penfro, ac, wrth gwrs, wrth ochr Ei diweddar Fawrhydi gydol ei hoes oedd ei chymdeithion mwyaf ffyddlon ac anwesol, ei chorgwnPenfro. Byddaf yn cofio Ei Mawrhydi gyda pharch ac edmygedd dwys, ond wrth i ni nodi bywyd a gwasanaeth Ei Mawrhydi'r Frenhines, rydym yn croesawu Ei Fawrhydi'r Brenin Charles III i'w orsedd. Yn gynharach yn yr haf, cefais y pleser o groesawu Ei Fawrhydi, Tywysog Cymru ar y pryd, i dref Arberth yn fy etholaeth. Roedd plant ysgol lleol yn ei gyfarch gyda chân, pobl ar y strydoedd, ac fe gafodd rhai busnesau eu dewis iddo ymweld â nhw. Cymerodd y Tywysog ar y pryd ei amser, heb frysio, i siarad ac ysgwyd llaw â llawer o'r cannoedd o bobl a oedd wedi dod i'w gyfarch. Bu'n siarad gyda chôr yr ysgol a'u harweinydd, a diolchodd iddyn nhw am eu perfformiad. Ac nid yn unig y gwnaeth ymweld â'r busnesau hynny a oedd wedi'u dewis, ond fe wnaeth, yn gwbl gysurus, ymweld ag eraill nad oedd wedi'u dewis. I'r Brenin, roedd hwn yn un o gannoedd, o bosib hyd yn oed miloedd, o ymweliadau yr oedd Ei Fawrhydi wedi'u cynnal, ond, i'r bobl a ddaeth y diwrnod hwnnw i'w weld, roedd yn un diwrnod na fydden nhw byth yn ei anghofio. Mae gwaddol ymroddiad anhunanol Ei Mawrhydi i wasanaeth cyhoeddus, i'r bobl, yn parhau yn gadarn drwy ei mab. Duw gadwo'r Brenin. Diolch i chi i gyd, am eich geiriau cynnes a'ch myfyrdodau ar fywyd wedi'i fyw yn hir ac yn iach. Mae nifer ohonoch wedi cyfeirio at agoriadau swyddogol y Frenhines o'r Senedd hon. Rwy'n cofio'r chweched agoriad yn arbennig, ac fel y bu hi, hwn oedd ei hymweliad olaf â Chymru. Rwy'n cofio'r diwrnod hwnnw gyda hoffder arbennig. Roedd hi mewn hwyliau da y diwrnod hwnnw, yn ymgymryd â'i dyletswydd swyddogol gyda'r brwdfrydedd arferol, gan wenu, siarad ag Aelodau, fel rydym ni wedi clywed, ac roedd ganddi ddiddordeb arbennig mewn trafod â'r llu o arwyr COVID o bob rhan o Gymru. Roedd hi'n gwisgo siwt binc y diwrnod hwnnw. Roedd gen innau ffrog ag ychydig o binc ynddi hefyd. Roedden ni'n matsio'n berffaith, mae'n debyg. A does gennych chi ddim syniad faint o bobl sydd wedi gofyn i mi yn eithaf difrifol a oeddem ni wedi trefnu ein dewisiadau wardrob o flaen llaw y diwrnod hwnnw, fel petawn i mewn grŵp WhatsApp cyfrinachol gyda'r Frenhines. Fodd bynnag, fydda i byth yn gwybod yn iawn a sylwodd y Frenhines y diwrnod hwnnw fy mod yn gwisgo dwy esgid o ddau wahanol bâr o esgidiau. Roedd hynny trwy gamgymeriad, gyda llaw, nid fel rhyw weithred o herfeiddiwch gweriniaethol. Nid wyf ychwaith yn siŵr y diwrnod hwnnw a sylwodd mewn un rhes y bu bron iddi fethu un Aelod yn llwyr gan fod y cyrtsi mor isel, neu fod Aelod arall wedi ymddangos mewn mwy nag un rhes. Os wnaeth y Frenhines sylwi ar y pethau hyn, roedd yn dal i wenu. Pan oedd y Frenhines ar fin gadael, roeddwn i mewn trafodaeth gyda hi a'r Frenhines Gydweddog erbyn hyn. Fe'i disgrifiwyd, yn ôl pob tebyg, gan sylwebydd teledu byw fel Merched y Wawr Dyffryn Teifi a'u pennau ynghyd, pan mewn gwirionedd, roeddem ni'n trafod diffyg presenoldeb arweinwyr byd-eang yn COP26. Gallaf rannu hynny gyda chi oherwydd cafodd y sgwrs honno ei chlywed ac roedd hi, fel y dywedodd Adam Price, yn stori dudalen flaen ar draws y byd y diwrnod canlynol: y Frenhines yn rhannu ei barn ar bwnc y dydd, mynd i'r afael â newid hinsawdd. Fodd bynnag, ni wnaf rannu gyda chi heddiw fy sgwrs olaf un â'r Frenhines wrth i ni esgyn yn y lifft. Ond rwy'n cael fy atgoffa ohoni wrth i mi edrych o gwmpas y Siambr hon ar y 60 Aelod yma sy'n bresennol ac rwy'n meddwl am yr hyn sydd i ddod i'r Senedd hon. Digon yw dweud bod ganddi ddiddordeb yn ein dyfodol. Ac felly, mi wnaf ddiweddu drwy ddefnyddio ei geiriau olaf i ni yn y Siambr hon, ond 11 mis yn ôl: 'diolch o galon'. Diolch o galon, felly, i'r Frenhines Elizabeth II am oes o wasanaeth, a gyflawnwyd gydag urddas a gras. Boed iddi heddwch nawr yn ei gorffwys. Barnwyd y cytunwyd ar y cynnig. Dyna ddiwedd, felly, ar ein dydd ni heddiw o deyrnged, a byddwn yn cyfarfod eto ddydd Gwener i dderbyn y Brenin Charles III i'r Senedd. Diolch yn fawr iawn. Daeth y cyfarfod i ben am 17:03.
uk-hansard-senedd-cy
senedd2022-09-11
2024-06-01T00:00:00
{ "year": "2022", "language": "cy", "license": "Open Parliament Licence - https://www.parliament.uk/site-information/copyright-parliament/open-parliament-licence/" }
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. Datganiad gan y Llywydd Prynhawn da. Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn y Siambr ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, lle bynnag y bônt, yn cael eu trin yn deg. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn, ac mae'r rheini wedi eu nodi ar eich agenda chi. A dwi eisiau atgoffa'r Aelodau hefyd fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod yma, ac yr un mor berthnasol i'r Aelodau yn y Siambr â'r rheini sy'n ymuno drwy gyswllt fideo. 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog Cwestiynau i'r Prif Weinidog, felly, yw'r eitem agenda gyntaf, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Natasha Asghar. Cefnogi Busnesau Natasha Asghar AS: 1. Pa fesurau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno i gefnogi busnesau yn nhymor presennol y Senedd? OQ56948 Mark Drakeford AC: Llywydd, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mewn wythnos pan fo'r cymorth i fusnesau yng Nghymru a ariannwyd gan y cynllun ffyrlo wedi ei dynnu yn ôl gan Lywodraeth y DU, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu pecyn cynhwysfawr o gymorth i fusnesau Cymru. Natasha Asghar AS: Prif Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi fod sector manwerthu sy'n ffynnu yn hanfodol i ddatblygiad economaidd pob cymuned ledled Cymru. Mae'n destun pryder i mi, fodd bynnag, fod bron i un o bob pum siop yng Nghymru yn wag bellach yn ôl Consortiwm Manwerthu Cymru. Un o'r prif ffactorau sy'n achosi dirywiad ein strydoedd mawr yw'r lefel uchel o ardrethi busnes yma yng Nghymru. Clywais eich ateb i fy nghyd-Aelod James Evans ynghylch hyn yr wythnos diwethaf, pan wnaethoch chi ddweud, ac rwy'n dyfynnu, 'Pan fydd Llywodraeth Lafur yn gallu gweithredu'r polisi hwnnw ar gyfer Lloegr, yna bydd yr arian yn llifo i Gymru i ganiatáu i ni barhau i ddatblygu'r cynllun sydd gennym ni.' Felly, Prif Weinidog, pam ydych chi wedi gwrthod polisi eich plaid yn Lloegr i ddiddymu ardrethi busnes pan mai Cymru yw'r unig ran o'r DU lle mae Llafur mewn grym ac yn gallu gweithredu hyn mewn gwirionedd? Diolch. Mark Drakeford AC: Wel, mae'n rhaid bod y sawl a ofynnodd y cwestiwn yn gwybod yr ateb iddo cyn iddi ddechrau'r cwestiwn. Mae'r arian sy'n dod i Gymru yn dibynnu ar benderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan Lywodraeth y DU, ac yna mae'r arian hwnnw yn cael ei drosglwyddo i Gymru drwy fformiwla Barnett. Y funud y bydd eich plaid chi yn Lloegr yn diddymu ardrethi busnes, bydd arian yng Nghymru i ni wneud yr un peth. Nid ydych chi wedi gwneud unrhyw addewid o'r fath. Bydd y Llywodraeth Lafur nesaf yn gwneud hynny; yna bydd arian yng Nghymru i ni allu rhoi sylw i ardrethi busnes yma. Vikki Howells AC: Prif Weinidog, galwodd llythyr diweddar gan Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru at Aelodau'r Senedd am ymyriadau allweddol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi busnesau fel Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru i gael eu diogelu a'u datblygu. Gydag ansicrwydd parhaus ynghylch cyllid ar ôl yr UE, ac ymdrechion amlwg Llywodraeth y DU i adennill arian a phwerau, a ydych chi'n cytuno bod hyn yn fygythiad i allu Llywodraeth Cymru i ddatblygu atebion wedi eu llunio yng Nghymru i gynorthwyo busnesau yng Nghymru? Mark Drakeford AC: Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd, ac mae'n un pwysig iawn o ran cymorth busnes. Rwy'n cofio'r llythyr a ysgrifennodd y Ffederasiwn Busnesau Bach at yr Aelodau yn ôl ym mis Mehefin eleni. Yr oedd yng nghyd-destun y gronfa ffyniant gyffredin, a dywedodd y Ffederasiwn Busnesau Bach, beth bynnag fo ffurf y gronfa ffyniant gyffredin, ei bod hi'n hanfodol bod arian yn parhau i ddod i Gymru fel y gellir diogelu a datblygu seilwaith cymorth busnes craidd, gan gynnwys Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru, yn y dyfodol. Nawr, y gwir amdani, ar sail yr wybodaeth bresennol sydd gennym ni gan Lywodraeth y DU, yw y bydd cyllid Banc Datblygu Cymru yn cael ei leihau. Byddwn yn colli hyd at draean o'r arian yr ydym ni'n ei wario ar brentisiaethau yng Nghymru—mae hynny yn £30 miliwn bob blwyddyn. Byddwn ni'n colli £12 miliwn yr ydym ni'n ei fuddsoddi yn Busnes Cymru. Felly, mae'r pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud yn gwbl hanfodol. Er mwyn i ni allu gwneud yr hyn y gofynnodd y cwestiwn gwreiddiol i ni ei wneud, mae angen i ni weld yr arian sydd wedi dod i Gymru yn y gorffennol, sydd wedi ein caniatáu i ni wneud y buddsoddiadau hynny, yn parhau i lifo yma. Os na fydd, ni ddylai neb gredu bod rhyw storfa gyfrinachol o arian ar gael i Lywodraeth Cymru y byddem ni'n gallu ei defnyddio i wneud yn iawn am y diffygion a fyddai'n bodoli wedyn o ran cyllid gan y Deyrnas Unedig. Byddwch chi'n cofio'r addewid,—rwy'n gwybod y bydd yr Aelod yn cofio'r addewid—na fyddai Cymru geiniog yn waeth ei byd o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Wel, rydym ni eisoes yn gwybod nad yw'r addewid hwnnw wedi ei gyflawni—£137 miliwn yn waeth ei byd o ran cyllid gwledig yn unig. Os na chawn ni'r arian newydd mewn cymorth busnes, yna mae'n anochel y bydd y pethau allweddol hynny y cyfeiriodd y Ffederasiwn Busnesau Bach atyn nhw yn ei lythyr at yr Aelodau o dan fygythiad. Jane Dodds AS: Prif Weinidog, y cwbl roeddwn i eisiau ei ofyn mewn gwirionedd oedd cwestiwn cryno iawn am gymorth i ganol ein trefi. Fel y byddech chi'n cytuno, rwy'n siŵr, yn ystod cyfnod COVID, mae llawer o siopau bach wedi bod yn gwbl hanfodol i'n cymunedau. Ac felly, byddai gen i ddiddordeb mawr mewn gwybod sut y byddwch chi'n cynorthwyo canol ein trefi yn y dyfodol. Diolch. Diolch yn fawr iawn. Mark Drakeford AC: Diolch yn fawr i Jane Dodds am y cwestiwn. Mark Drakeford AC: Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynorthwyo canol trefi. Mae gan y gronfa Trawsnewid Trefi ddegau lawer o filiynau o bunnoedd ynddi yr ydym ni'n eu buddsoddi ledled Cymru i greu canol trefi'r dyfodol. Dyna'r pwynt yr wyf i bob amser yn ceisio ei wneud—os ydym ni'n credu y byddwn ni'n cynnal canol trefi ac, yn wir, y sector manwerthu dim ond trwy geisio mynd yn ôl i'r ffordd yr oedd pethau yn arfer bod, rwy'n credu bod yr ymdrech honno yn sicr o fethu. Mae dyfodol i ganol trefi, ond bydd yn dibynnu ar amrywiaeth ehangach o weithgareddau na manwerthu yn unig. Bydd yn cynnwys gweithgareddau hamdden, bydd yn cynnwys dibenion preswyl, bydd yn cynnwys pethau sy'n dod â phobl i ganol ein trefi mewn ffordd a fydd yn eu gwneud yn lleoedd bywiog y bydd pobl yn dymuno ymweld â nhw. Nawr, mae amrywiaeth eang o bethau yr ydym ni'n eu gwneud: o un pen i'r sbectrwm, £200,000 i wneud yn siŵr y gellir gwella cysylltedd digidol mewn rhai o'n canol trefi mwyaf difreintiedig, i £15 miliwn o fuddsoddiad i ganiatáu i bob awdurdod lleol fynd i'r afael â'r adeiladau segur hynny sy'n rhy aml yn difetha canol trefi ac yn ei gwneud hi'n fwy anodd eu gwneud nhw'n lleoedd deniadol yr ydym ni'n dymuno iddyn nhw fod. Pan fyddwch chi'n rhoi hynny i gyd at ei gilydd, Llywydd, fel y dywedais i, mae'n dod i werth dros £100 miliwn o fuddsoddiad at y dibenion y mae Jane Dodds wedi tynnu sylw atyn nhw. Cymorth Iechyd Meddwl Jack Sargeant AC: 2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth iechyd meddwl i bobl ifanc yn Alun a Glannau Dyfrdwy? OQ56952 Mark Drakeford AC: Diolchaf i Jack Sargeant. Llywydd, mae cymorth iechyd meddwl i bobl ifanc yn Alun a Glannau Dyfrdwy yn cael eiddarparu drwy amrywiaeth o wasanaethau, o ymyrraeth ataliol a chynnar i wasanaethau arbenigol ar gyfer pobl â salwch difrifol. Mae cynorthwyo ysgolion i wella llesiant emosiynol a meddyliol wedi bod yn bwyslais penodol i ddatblygiad polisïau a gwasanaethau yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Jack Sargeant AC: Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Fel y gwyddoch chi, mae hyn yn flaenoriaeth allweddol i mi, ac i chithau hefyd fel rwy'n ei ddeall. Ac rwyf i wrth fy modd fy mod i wedi cael cyfle, ddydd Gwener, i ymweld ag Ysgol Saltney Ferry i weld yn bersonol eu gwaith y maen nhw'n ei wneud ar lesiant disgyblion yn eu hysgol. A, Prif Weinidog, dyma'r ysgol gyntaf yn sir y Fflint i ennill y wobr llesiant ar gyfer ysgolion, ac mae'n llwyddiant gwych, ac yn un sy'n cydnabod yn ffurfiol y cymorth iechyd meddwl y mae'r ysgol yn ei gynnig i'w disgyblion, i'w staff, y rhieni a'r gofalwyr, gan wneud llesiant emosiynol yn ganolog i fywyd yr ysgol. Ac rwy'n credu bod hynny yn rhywbeth y gallem ni i gyd ei ddysgu mewn bywyd bob dydd. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi fod yr ysgol yn haeddu canmoliaeth wirioneddol am eu gwaith, ac a wnewch chi ymrwymo i ofyn i'ch swyddogion edrych ar yr hyn y maen nhw wedi ei wneud er mwyn sicrhau a rhannu arfer gorau ledled Cymru? Mark Drakeford AC: Diolchaf i Jack Sargeant, Llywydd, am dynnu sylw at y gwaith gwych sy'n cael ei wneud yn ysgol Saltney Ferry, a hoffwn longyfarch pawb sy'n gysylltiedig â'r ysgol am y gwaith y maen nhw'n ei wneud. Fel mae'n digwydd, fe wnes i lwyddo i ddarllen adroddiad ar y wobr y maen nhw wedi ei hennill. A phan fyddwch chi'n gweld yr hyn y mae'r ysgol yn ei ddweud am sut y mae wedi mynd ati i ddiogelu iechyd a llesiant meddwl ei disgyblion, rydych chi'n gweld yn wirioneddol yr amrywiaeth drawiadol iawn o gamau y maen nhw wedi eu cymryd: polisi drws agored, lle mae unrhyw aelod o staff, unrhyw fyfyriwr, unrhyw riant neu ofalwr yn gwybod y bydd croeso iddo ddod i gael ystyriaeth o'i bryderon ac ymateb iddyn nhw, a'r llawer o ffyrdd llawn dychymyg y mae'r ysgol wedi dod o hyd iddyn nhw i ganiatáu i blant ifanc, yn enwedig, ddod o hyd i ffordd i'w llais gael ei glywed. Dywedodd pennaeth yr ysgol mai diben yr holl bethau y maen nhw'n eu gwneud yn y maes hwn yw gwneud yn siŵr bod eu pobl ifanc yn teimlo eu bod nhw'n cael eu cefnogi, eu cynnwys a'u hysgogi. Ac nid yw'n syndod o gwbl, ar ôl darllen yr hyn yr oedd ganddi i'w ddweud, fod yr ysgol wedi llwyddo i ennill y wobr llesiant honno. Mark Isherwood AC: Mae gwasanaeth iechyd meddwl plant a'r glasoed, CAMHS, sir y Fflint wedi ei leoli yn Alun a Glannau Dyfrdwy. Rwy'n parhau i gael gwaith achos lle mae CAMHS sir y Fflint yn gwrthod diagnosis awtistiaeth i blant gan eu bod nhw wedi mabwysiadu strategaethau cuddio ac ymdopi effeithiol yn yr ysgol, er eu bod nhw wedyn yn strancio gartref. Yn yr achosion hyn, mae'r cyngor yn rhoi'r bai wedyn ar rianta gwael, ac mae plant yn cael eu cymryd i ofal hyd yn oed. Er bod y teuluoedd yn yr achosion hyn yn cael eu gorfodi wedyn i gael diagnosis annibynnol arbenigol, yn cadarnhau bod eu plant ar y sbectrwm awtistiaeth, mae'r cyngor yn methu â nodi a chytuno â nhw ar y cymorth sydd ei angen ar eu plant a nhw eu hunain. Sut byddwch chi, felly, yn sicrhau bod staff mewn cyrff cyhoeddus yn deall ac yn gweithredu eu dyletswyddau newydd yn briodol o dan god awtistiaeth eich Llywodraeth? Sut bydd eich Llywodraeth chi yn monitro hyn? A sut bydd eich Llywodraeth yn ymateb i'r argymhellion yn adroddiad ymchwil cymdeithasol terfynol Llywodraeth Cymru ym mis Mai, 'Gwerthusiad o Raglen Beilot Mewngymorth y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS): Adroddiad Terfynol', gan gynnwys, 'Dylai Llywodraeth Cymru ystyried dichonoldeb nodi a mapio'r sgiliau a'r cymwyseddau sy'n ofynnol gan staff sy'n cyflawni rolau gwahanol mewn ysgolion'? Mark Drakeford AC: Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Fel y bydd eraill wedi sylweddoli wrth wrando arno, mae'n faes cymhleth lle gall yr anawsterau y mae rhai pobl ifanc yn eu hwynebu ac yn cael profiad ohonyn nhw gael eu cuddio gan dechnegau ymdopi y maen nhw'n eu hunain wedi eu datblygu, a lle nad yw bob amser yn hawdd i aelodau staff nodi'r anawsterau y mae person ifanc yn eu hwynebu. Rwy'n falch iawn o gadarnhau, eto, Llywydd, fod y Llywodraeth, o ganlyniad i'r adroddiad ar y rhaglen beilot mewngymorth mewn ysgolion—y rhaglen beilot mewngymorth CAMHS—wedi dod o hyd i'r cyllid i ymestyn y rhaglen beilot honno i bob awdurdod lleol yng Nghymru. Rhan o'r hyn y mae'r rhaglen beilot yn ei wneud yw ceisio gwneud yn siŵr bod staff rheng flaen nad ydyn nhw'n arbenigwyr eu hunain ym mhob agwedd ar iechyd meddwl neu ddatblygiad plentyn, ac na ellir disgwyl iddyn nhw fod, yn cael gwell hyfforddiant fel eu bod nhw'n ymwybodol o'r mathau o faterion y mae Mr Isherwood wedi eu crybwyll, a phan fyddan nhw o'r farn bod angen mathau eraill a mwy arbenigol o gymorth ar yr anghenion hynny, eu bod nhw'n gallu gwneud yn siŵr bod y mathau hynny o gymorth yn cael eu rhoi ar waith yn gyflym ar gyfer y person ifanc hwnnw. Felly, rwy'n credu bod gan y cynllun mewngymorth, a gymeradwywyd yn rymus yn yr adroddiad interim hwnnw, rai o'r atebion i'r penblethau a godwyd yn y cwestiwn, wrth gydnabod y cymhlethdodau—y cymhlethdodau gwirioneddol—sy'n bodoli o ran gallu ymateb i amrywiaeth mor eang o anghenion. Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau ac, ar ran y Ceidwadwyr heddiw, Paul Davies. Paul Davies AC: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yn 2019, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddatgan argyfwng hinsawdd. Ers y datganiad hwnnw, a allwch chi enwi un mesur arwyddocaol yr ydych chi wedi ei gyflwyno fel Llywodraeth i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd? Mark Drakeford AC: Wel, gallaf i enwi unrhyw nifer ohonyn nhw i'r Aelod, ond, os hoffai gael un yn unig, yna fe wnaf i sôn am y rhaglen ôl-osod tai yng Nghymru. Un o'r prif gyfranwyr at y newid yn yr hinsawdd yw'r ffaith bod gennym ni hen stoc dai, sy'n aneffeithlon yn y ffordd y mae'n defnyddio gwres, ac mae'r rhaglen ôl-osod fawr y mae Llywodraeth Cymru wedi ei chyhoeddi yn ein helpu ni i fynd i'r afael ag un o'r prif bethau y gallwn ni eu gwneud i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Paul Davies AC: Wel, Prif Weinidog, roeddech chi'n gwneud rhywfaint o hynna cyn hynny, beth bynnag, a'r gwirionedd yw nad oes digon wedi ei wneud ers y datganiad hwnnw i fynd i'r afael o ddifrif â'r newid yn yr hinsawdd yng Nghymru. Nid yw'r cynnydd hyd yma wedi bod yn ddigon cyflym i sicrhau y bydd gan Gymru allyriadau carbon sero-net erbyn 2050. A gadewch i mi eich atgoffa bod adroddiad gan y pwyllgor ar newid hinsawdd wedi dweud wrthym ni nad oedd Cymru ar y trywydd iawn ar gyfer ei tharged blaenorol o 80 y cant, heb sôn am sero-net. Ceir trefi a dinasoedd yng Nghymru sydd wedi adrodd am lefelau anghyfreithlon a pheryglus o lygredd aer yn y blynyddoedd diwethaf, a chredir bod llygredd aer yn cyfrannu at dros 2,000 o farwolaethau cynamserol. Ond nid ydym ni eto wedi gweld Deddf aer glân, er ei bod yn un o'ch ymrwymiadau maniffesto arweinyddiaeth eich hun yn ôl yn 2018. Ac, ar ben hynny, mae un o'ch Gweinidogion eich hun wedi cyfaddef ein bod ni ymhell y tu ôl i le mae angen i ni fod o ran targedau plannu coed, ar ôl plannu dim ond 80 hectar o goetir newydd yn 2019-20—y cyfanswm isaf ers degawd. Ac mae llifogydd yn parhau i gael effaith enfawr ar ein cymunedau. Cafodd Pentre yn Rhondda Fawr ei daro gan lifogydd ar bum achlysur ar wahân yn 2020, er enghraifft, ac adroddwyd heddiw bod gwasanaethau tân yn y de, y canolbarth a'r gorllewin wedi eu llethu gan alwadau am lifogydd. Felly, Prif Weinidog, a allwch chi enwi un gymuned sydd mewn perygl o lifogydd yng Nghymru sy'n fwy diogel erbyn hyn oherwydd ymyrraeth Llywodraeth Cymru ers eich datganiad, ac a wnewch chi ddweud wrthym ni sut y mae Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu'r newid yn yr hinsawdd, o gofio bod cymunedau yn dal i wynebu effaith ddinistriol llifogydd ac o gofio bod eich Llywodraeth wedi methu â chyrraedd unrhyw dargedau arwyddocaol i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd ers i chi ddatgan argyfwng hinsawdd? Mark Drakeford AC: Wel, mae'r Aelod yn awyddus iawn i gael ateb un enghraifft, felly Pontarddulais yw fy ateb i'w ail gwestiwn. Roeddwn i'n falch iawn o fod yno yn agoriad cynllun amddiffyn rhag llifogydd Pontarddulais, cynllun a fydd yn wir yn gwneud popeth a ofynnodd. Yn fwy cyffredinol, edrychwch, os ydym ni'n synhwyrol am y pethau hyn, yna mae'n iawn, mae llawer mwy y mae'n rhaid i ni ei wneud er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, ac mae hynny'n golygu bod rhai penderfyniadau anodd y bydd yn rhaid i bob un ohonom ni eu hwynebu. Go brin y byddai adeiladu ffordd liniaru'r M4, er enghraifft, wedi cyfrannu at yr hyn y mae'n rhaid i'r wlad hon ei wneud i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd. Yr wythnos diwethaf, roedd aelodau o'r blaid honno yn gofyn i mi pam roeddem ni'n ymchwilio i gamau pellach yr oedd eu hangen i fynd i'r afael â chrynodiadau nitrogen ocsid ar hyd traffyrdd. Mae'r pethau hyn i gyd yn anodd. Yr hyn na allwch chi ei wneud yw dweud wrth y Llywodraeth, 'Mae'n rhaid i chi wneud mwy o hyn,' ond bob tro y mae'r Llywodraeth yn ceisio gwneud rhywbeth yn ei gylch—parthau perygl nitradau yn y diwydiant amaeth, er enghraifft—bob tro—[Torri ar draws.] 'Cywilyddus,' rwy'n clywed yr Aelod yn galw. Mae cwestiwn newydd gael ei ofyn i mi am y newid yn yr hinsawdd a llygredd, ac eto mae eich plaid chi yn gwrthod cymryd camau i ymdrin â nhw. Rwy'n gwneud y pwynt syml i'r Aelod o ran y pwyntiau y mae'n eu gwneud ynghylch yr angen i wneud mwy a'i wneud yn gyflymach—fy mod i'n cytuno ag ef. Yr hyn y mae hynny yn ei olygu yw bod cyfrifoldeb ar bob aelod o'r Siambr hon, pan fydd camau ymarferol yn cael eu cymryd, ni allwch chi geisio dweud, 'A, ond ni allwch chi wneud hynna.' Paul Davies AC: O, dewch yn eich blaen, Prif Weinidog, os mai modurwyr sydd wedi eu dal yn nhagfeydd parhaus yr M4 yw'r polisi mwyaf ecogyfeillgar sydd gan Lywodraeth Cymru, yna rydym ni mewn trafferthion difrifol, onid ydym ni? Nawr, Prif Weinidog, nid yn unig y mae'r newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar ein cymunedau a'n pobl, ond mae hefyd yn effeithio ar ein byd naturiol a'n bywyd gwyllt hefyd. Bydd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Fiolegol COP15 yn cael ei chynnal yr wythnos nesaf i gytuno ar fframwaith bioamrywiaeth byd-eang newydd, a thrwy lofnodi datganiad Caeredin, mae Llywodraeth Cymru o leiaf wedi cydnabod y bygythiad difrifol y mae colli bioamrywiaeth yn ei achosi i'n bywoliaeth a'n cymunedau. Fodd bynnag, mae angen mynd i'r afael â'r argyfwng hwn ar frys hefyd. Mae Cymru yn syrthio y tu ôl i weddill y DU o ran dynodi ardaloedd morol gwarchodedig, nid yw Cymru eto yn bodloni pedwar nod hirdymor rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, a dangosodd adroddiad 'Sefyllfa Byd Natur' yr RSPB yn 2019 fod mwy na 30 y cant o rywogaethau wedi lleihau o ran dosbarthiad ers y 1970au— rhywogaethau fel gwiwerod coch a llygod y dŵr, a oedd yn gyffredin yng Nghymru ar un adeg ac sydd bellach wedi eu cyfyngu i ychydig o safleoedd ac sydd o dan fygythiad gwirioneddol o ddiflannu. Felly, Prif Weinidog, gadewch i mi roi cynnig arall arni: a allwch chi enwi un rhywogaeth sy'n fwy diogel erbyn hyn, felly, oherwydd ymyrraeth Llywodraeth Cymru, ac o gofio mai un o nodau strategol COP26 ym mis Tachwedd yw addasu i ddiogelu cymunedau a chynefinoedd naturiol drwy ddiogelu ac adfer ecosystemau, a wnewch chi gadarnhau y bydd eich Llywodraeth bellach yn cyflwyno strategaeth frys cyn hynny i fynd i'r afael ag argyfwng natur Cymru? Mark Drakeford AC: Llywydd, rwy'n cytuno bod colli bioamrywiaeth yng Nghymru yn fater difrifol iawn a bod angen gwneud mwy er mwyn defnyddio'r cyfle sydd gennym ni tra'i fod dal gennym ni. Rwy'n credu mai un o'r pethau mwyaf trawiadol a ddarllenais yn yr adroddiad RSPB hwnnw oedd, os byddwn ni'n colli'r foment sydd gennym ni, y gallai rhywfaint o'r golled honno o fioamrywiaeth fod yn anadferadwy. Dyna pam y gwnaeth y Llywodraeth yn y gyllideb yn syth cyn argyfwng y coronafeirws ysgogi buddsoddiad gwerth £130 miliwn mewn colled o fioamrywiaeth ac adfer cynefinoedd. Mae'r cynllun lleoedd lleol ar gyfer natur sydd gennym ni yn golygu y gall bioamrywiaeth fod yn fater nid yn unig ar gyfer cynlluniau ar raddfa fawr, ond ar gyfer camau bach iawn y gellir eu cymryd, hyd yn oed mewn ardaloedd trefol poblog, lle gall y camau lleol hynny helpu i atgyweirio'r golled yr ydym ni wedi ei gweld ac i roi hyder i bobl y gall gweithredu ar y cyd, lle gallan nhw chwarae eu rhan, ein helpu o hyd i atgyweirio'r difrod sydd wedi ei wneud. Nid wyf i'n derbyn bod Cymru y tu ôl i'r hyn sy'n digwydd mewn mannau eraill yn hyn o beth. Mae gennym ni rai cynlluniau grymus ar waith gyda rhywfaint o gyllid yr ydym ni wedi gallu dod o hyd iddo i'w cefnogi. Ac mae'n rhaid yn awr i ni gymryd o ddifrif y ffaith, oni bai ein bod ni'n barod i weithredu tra bod gennym ni'r cyfle, efallai na fydd y cyfle hwnnw yn bodoli mwyach. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price. Adam Price AC: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae aelodau pob un o bedwar undeb mwyaf y GIG bellach wedi pleidleisio i wrthod cynnig cyflog eich Llywodraeth o 3 y cant; a gwnaeth y Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru hynny o ganran enfawr o 94 y cant. A wnewch chi gytuno nawr i'w cais am drafodaethau cyflog ffurfiol? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn parhau mewn trafodaethau gyda'r prif undebau llafur yng Nghymru ar y cynnig cyflog. Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi dewis peidio â chymryd rhan yn y trafodaethau parhaus hynny. Byddwn i'n eu hannog i ddychwelyd at y bwrdd, oherwydd dim ond trwy drafodaeth y byddwn ni'n gallu dod o hyd i ateb. Adam Price AC: Wel, mae'n rhaid i mi ddweud wrth y Prif Weinidog fy mod i wedi siarad gyda'r Coleg Nyrsio Brenhinol y bore yma, ac nid wyf i'n credu bod y sefyllfa yr ydych chi wedi ei hamlinellu yn rhoi'r darlun gwirioneddol—o'u safbwynt nhw, yn sicr—oherwydd yr hyn y maen nhw wedi ei ddweud yw eu bod nhw eisiau siarad gyda'r Llywodraeth am gynnydd i gyflogau ar draws y bwrdd ac rydych chi wedi gwrthod ymgysylltu â nhw ar hynny. Nid ydych chi'n cynnull pwyllgor negodi cyflogau fforwm partneriaeth y GIG, ac eto chi sydd i fod y Llywodraeth o bartneriaeth gymdeithasol. Pam nad ydych chi'n ei arfer? Nawr, y rheswm y mae hyn yn bwysig ac yn fater brys yw bod chwyddiant fel y'i mesurir gan y mynegai prisiau defnyddwyr, fel y gwyddom ni, yn 3.2 y cant ar hyn o bryd—4.8 y cant os defnyddiwch chi'r mynegai prisiau manwerthu. Mae ar fin cynyddu hyd yn oed yn fwy. A ydych chi'n derbyn barn yr undebau—pob un o'r undebau—ac, yn wir, hyd yn oed arweinydd Plaid Lafur Prydain, fod cynnig codiad cyflog o 3 y cant bellach yn cynrychioli toriad cyflog mewn termau real? Oni fyddai hyn, yn sgil yr aberth arwrol dros y 18 mis diwethaf, yn gwneud tro gwael iawn â miloedd o weithwyr gofal iechyd? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, gadewch i mi wneud yn siŵr bod yr Aelodau yn ymwybodol o hanes hyn i gyd. Fe wnaeth Llywodraeth Cymru, yn aml yn dilyn anogaeth y mudiad undebau llafur, ymrwymo ein hunain i'r broses adolygu cyflogau annibynnol. Fe wnaethom ni sylwadau iddo. Fe gyhoeddodd adroddiad, ac argymhellodd gynnydd o 3 y cant i gyflogau, a phenderfynodd Llywodraeth Cymru anrhydeddu hyn. Er mwyn ariannu'r cynnydd hwnnw o 3 y cant i gyflogau, mae gennym ni gynnydd o 1 y cant gan Lywodraeth y DU. Felly, rydym ni'n gorfod dod o hyd i'r 2 y cant arall o'r adnoddau sydd ar gael i ni at ddibenion ac eithrio cyflogau. Cost pob 1 y cant y mae'r bil cyflogau yn y GIG yn ei godi yw £50 miliwn. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn dod o hyd i £100 miliwn, o adnoddau nad oedden nhw wedi eu hanfon atom ni at ddibenion cyflogau, er mwyn gwneud yn siŵr ein bod ni'n bodloni argymhellion y corff adolygu cyflogau. Ydw i'n credu bod hynny yn ddigon? Nac ydw, dydw i ddim. Ydw i'n credu y gall Llywodraeth Cymru barhau i ddod o hyd i dalpiau o £50 miliwn er mwyn cynyddu'r dyfarniad cyflog uwchlaw a'r tu hwnt i'r hyn yr ydym ni'n cael ein hariannu i'w wneud? 'Nac ydw' yw'r ateb i hynny hefyd. A Llywydd, gadewch i mi fod yn eglur, fel nad oes gan yr Aelodau unrhyw amheuaeth yn ei gylch: rydym ni'n parhau i fod mewn trafodaethau gyda'r undebau llafur. Cefais gyfarfod â nhw fy hun; mae'r Gweinidog iechyd yn cyfarfod â nhw yr wythnos hon. Rydym ni'n sôn am becyn o fesurau efallai y gallem ni ei roi at ei gilydd. Nid yw'r trafodaethau hynny yn hawdd, credwch chi fi, oherwydd bod yr undebau llafur, yn gwbl briodol, yn dadlau yn gryf iawn ar ran eu haelodau. Ond ni allwch chi ddod o hyd i ateb os nad ydych chi'n barod i ddod at y bwrdd a chael y trafodaethau hynny. Nid yw'r Coleg Nyrsio Brenhinol wrth y bwrdd hwnnw. Byddai'n dda gen i pe baen nhw. Adam Price AC: Ond nid ydyn nhw wrth y bwrdd oherwydd eich bod chi wedi diystyru trafod cynnydd i gyflogau ar draws y bwrdd gyda nhw. Nawr, o ran y rhan fwyaf o weithwyr y GIG—i'r rhan fwyaf ohonyn nhw, mae'r cynnydd o 3 y cant eisoes wedi ei ganslo gan gynnydd i gyfraniadau pensiwn. Bydd yr ardoll iechyd a gofal cymdeithasol newydd y flwyddyn nesaf yn dileu bron i hanner y cynnydd y flwyddyn nesaf, ac mae hynny cyn i chi hyd yn oed ystyried yr argyfwng costau byw ac erydiad cyflogau dros yr 11 mlynedd diwethaf. Nawr, mae gwaith ymchwil—[Torri ar draws.] Anhygoel fy mod i'n cael fy heclo gan Aelodau Llafur wrth i fi ddadlau'r achos dros weithwyr y GIG. Awgrymodd gwaith ymchwil y llynedd fod traean o nyrsys yn ystyried gadael y GIG, gyda'r mwyafrif yn cyfeirio at gyflogau. A gaf i—? Adam Price AC: Mae 1,600 o swyddi gwag yn y GIG yng Nghymru eisoes. Ar ôl y flwyddyn y maen nhw wedi ei chael, sut bydd cynnydd o 3 y cant i gyflogau yn argyhoeddi'r rhai sydd yn weddill i aros pan fydd hyd yn oed Llywodraeth Lafur yn gorfodi dyfarniad cyflog is na chwyddiant ar nyrsys? A allwch chi eu beio nhw mewn gwirionedd pan fo staff y GIG yn teimlo eu bod wedi cael cam, nad ydyn nhw'n cael eu gwerthfawrogi'n ddigonol a'u bod nhw'n cael eu hanwybyddu? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, nid wyf i'n anghytuno â llawer o'r pwyntiau a wnaeth yr Aelod ar ddechrau yr hyn yr oedd ganddo i'w ddweud. Yr hyn y mae'n rhaid iddo ei wynebu yw: o ble fydd yr arian hwnnw yn dod? Rwy'n gweld rhestr o gwestiynau ar y papur trefn heddiw, llawer gan Aelodau ei grŵp ei hun, a fydd yn fy annog rwy'n siŵr i wario mwy o arian ar wahanol agweddau ar y gwasanaeth iechyd—mwy o arian. Ac eto, pe bawn i'n dilyn ei gyngor ef, byddai gennym ni lai o arian i wneud y pethau y bydden nhw'n gofyn i ni eu gwneud, oherwydd bod swm penodol o arian ar gael, ac, os bydd mwy ohono yn cael ei wario ar gyflogau, bydd llai ohono i ddarparu gwasanaeth. Mae hynny yn gydbwysedd anodd iawn i'w daro; rydym ni wedi ei daro drwy ddod o hyd i £100 miliwn i anrhydeddu argymhellion y corff adolygu cyflogau. Rydym ni'n parhau i drafod gyda'r rhan fwyaf o'r undebau llafur sy'n barod i ddod o amgylch y bwrdd a pharhau â'r trafodaethau hynny. Pe bawn i'n dilyn y cyngor gor-syml yr wyf i wedi ei gael, creu arian hud o'r awyr i dalu pobl—yr wyf i eisiau eu talu, ac rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd yr Aelod, eu bod nhw'n haeddu mwy, ond mae'n rhaid dod o hyd i'r arian hwnnw o rywle a dim ond trwy leihau hyd yn oed yn fwy ddarpariaeth gwasanaethau y bydd ei Aelodau ef, rwy'n gwybod yn fy annog i y prynhawn yma y dylem ni fod yn gwneud mwy i'w cynorthwyo, a hynny yn gwbl briodol, y gellid dod o hyd iddo. Gwasanaethau Iechyd Sylfaenol Llyr Gruffydd AC: 3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynediad at wasanaethau iechyd sylfaenol yng Ngogledd Cymru? OQ56982 Mark Drakeford AC: Wel, siŵr o fod dyma'r un cyntaf. Mewn sefyllfa o bwysau parhaus, mae staff gofal sylfaenol ar draws y gogledd yn gweithio'n eithriadol o galed i gynllunio a gwella mynediad at eu gwasanaethau. Llyr Gruffydd AC: Yn iawn, maen nhw'n gweithio'n eithriadol o galed ac wedi gweithio'n eithriadol o galed nid dim ond dros y 18 mis diwethaf, ond yn wyneb rhybuddion ynglŷn â diffyg capasiti yn y blynyddoedd cyn hynny. Nawr, chwe blynedd yn ôl, mi wnaeth Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu arolwg o feddygon teulu yn Wrecsam pan ddywedodd traean ohonyn nhw eu bod nhw'n bwriadu gadael y proffesiwn o fewn pum mlynedd. Chwe blynedd yn ddiweddarach, wrth gwrs, mae hynny wedi'i wireddu, felly ydych chi'n difaru ichi fethu â gweithredu'n ddigonol yr adeg honno, yn wyneb y rhybuddion ynglŷn â cholli doctoriaid yn ardal Wrecsam, a beth ŷch chi'n ei wneud nawr i wneud yn iawn am hynny? Mark Drakeford AC: Wel, ar y foment bresennol, Llywydd, mae 770 o feddygon teulu yn gweithio yng ngogledd Cymru ac mae wyth swydd yn wag. So, dwi jest ddim yn derbyn beth mae'r Aelod yn ei ddweud. Dros y flwyddyn i gyd, mae 29 o swyddi wedi cael eu hysbysebu yn y gogledd. Mae nifer y bobl sy'n hyfforddi yn y maes yn y gogledd wedi cynyddu dros y blynyddoedd, a'r flwyddyn nesaf bydd 42 o bobl yn dod i'r gogledd, mwy nag mewn unrhyw flwyddyn yn y gorffennol, i gael eu hyfforddi fel meddygon teulu yn y gogledd. Wrth gwrs, mae mwy i'w wneud; dŷn ni eisiau ehangu'r timau gofal sylfaenol, ffisiotherapyddion, fferyllwyr, parafeddygwyr ac yn y blaen, i wneud mwy o ran helpu pobl yng ngogledd Cymru i gael y gwasanaethau maen nhw eisiau eu gweld. Ond mae'r bobl sy'n gweithio'n galed nawr yn gweithio'n galed gyda ni i baratoi am bethau sy'n mynd i fod yn helpu pobl i wneud hynny yn y dyfodol ac yng ngogledd Cymru hefyd. Janet Finch-Saunders AC: Prif Weinidog, yn ôl y cyngor iechyd cymuned, mae pobl mewn rhannau o Gymru yn wynebu argyfwng o ran mynediad at feddygon teulu. Mae bwrdd iechyd Betsi yn amcangyfrif bod y galw am apwyntiadau wedi cynyddu hyd at 20 y cant yn y meddygfeydd lleol y mae'n eu rheoli, felly wrth gwrs mae hyn yn rhoi pwysau gwirioneddol erbyn hyn ar ein meddygon teulu rheng flaen, wrth iddyn nhw ymgynghori yn fwy nag erioed gan ddefnyddio'r ffôn hefyd i drin a gwasanaethu ein pobl fwyaf agored i niwed. Yng Nghymru, fodd bynnag, mae gwreiddiau'r broblem hon mewn mannau eraill. O dan y lwfans y pen yn Lloegr, ni all meddygfeydd fod â mwy na 2,000 o gleifion i bob meddyg. Gyda phoblogaeth sy'n heneiddio o 65 neu hŷn, mae'r nifer hwn yn lleihau ymhellach wedyn i 1,750 o gleifion. Fodd bynnag, yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru yn caniatáu nifer diddiwedd o gleifion i bob meddyg. Nid yw eich rheoliadau yn rhoi unrhyw sylw ychwaith i nifer y cleifion dros 65 oed. Yn ôl dadansoddiad meddygfeydd mis Gorffennaf 2021 a luniwyd gan y bartneriaeth cydwasanaethau, yn un o fy meddygfeydd yn lleol, sydd â dau feddyg cofrestredig, ceir 6,072 o gleifion cofrestredig. Er mwyn mynd i'r afael ag amseroedd aros, ac yna cydnabod realiti bywyd modern yn Lloegr ar ôl etholiad Llywodraeth Geidwadol y DU yn 2015, fe wnaethon nhw ddiwygio oriau gwaith ymarfer cyffredinol i gynnwys dwy noson tan 8 p.m. yn ogystal â bore Sadwrn. Felly, nid ydych chi wedi ystyried y newidiadau hynny. A wnewch chi ddod at eich cwestiwn nawr, os gwelwch yn dda, Janet? Rydych chi 50 y cant dros amser. Janet Finch-Saunders AC: A wnewch chi gadarnhau pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd gyda'ch Gweinidog iechyd i adolygu nifer y cleifion y gall unrhyw un feddygfa eu cynnwys ar ei chofrestr, a hefyd— Na, dim 'a hefyd'. A wnewch chi ddod at eich cwestiwn? Janet Finch-Saunders AC: —adolygu oriau gwaith ein meddygfeydd? Diolch. Mark Drakeford AC: Llywydd, rydym ni'n gweithio gyda Phwyllgor Meddygon Teulu Cymru, rydym ni'n cynnal trafodaethau gyda nhw ar hyn o bryd, fel y byddwn ni'n ei wneud bob blwyddyn, ynglŷn â'r ffordd orau o drefnu a darparu gwasanaethau ymarfer cyffredinol yng Nghymru. Rydym ni'n siarad â meddygon teulu yng Nghymru i gael atebion addas i Gymru i'r problemau sy'n ein hwynebu. Nid ydym ni'n treulio ein holl amser, fel y mae'r Aelodau gyferbyn yn ei wneud, yn edrych dros y ffin fel pe bai'n rhyw wlad o laeth a mêl. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw siarad â'r bobl sy'n gweithio yn y system yma yng Nghymru a gyda nhw rydym ni'n llunio'r atebion sy'n diwallu ein hanghenion ac yn cyd-fynd â'n hamgylchiadau orau. Ken Skates AC: Prif Weinidog, yn ystod a chyn y pandemig roeddech chi'n ymwelydd rheolaidd â meddygfeydd teulu yn ne Clwyd, gan gynnwys yn y Waun a Llangollen. A wnewch chi ymuno â mi i longyfarch yr holl staff mewn meddygfeydd teulu am y gwaith anhygoel y maen nhw wedi ei wneud yn ystod y pandemig, gan gynnwys, wrth gwrs, staff derbynfa? A wnewch chi hefyd ymuno â mi i gondemnio'r holl ymddygiad ymosodol tuag at staff iechyd gofal sylfaenol? Mark Drakeford AC: Rwy'n sicr yn gwneud hynny, Llywydd. Diolchaf i Ken Skates; ar ei wahoddiad ef yr es i i'r Waun, gryn amser yn ôl erbyn hyn, ond yn llawer mwy diweddar i'r feddygfa wych yn Llangollen, meddygfa yr unfed ganrif ar hugain â'r holl gyfleusterau sydd eu hangen arnoch chi i redeg gwasanaeth gofal sylfaenol modern. Gwnaeth argraff enfawr arnaf i, Llywydd, i gael clywed yn uniongyrchol gan y staff yno am y ffordd yr oedden nhw wedi trefnu eu gwasanaethau yn ystod pandemig y coronafeirws, y nifer enfawr o frechiadau yr oedden nhw'n gallu eu gwneud mewn un diwrnod oherwydd y ffordd yr oedden nhw wedi trefnu'r gwasanaethau ar gyfer y boblogaeth leol honno, a chael clywed nid yn unig gan feddygon teulu ond, fel y dywedodd Ken Skates, gan reolwr y feddygfa ac eraill sy'n darparu'r gwasanaeth hwnnw. Mae'n enghraifft wych ac yn cael ei gwerthfawrogi yn enfawr gan y boblogaeth leol honno. Rwy'n cytuno yn llwyr, fel yr wyf i'n siŵr y mae'r Aelodau ar draws y Siambr, â'r hyn a ddywedodd Ken Skates: ni ddylai'r un o'r bobl hynny gael eu cam-drin am wneud y gwaith gwych y maen nhw wedi ei wneud ar ran eu poblogaethau lleol. Yr Argyfwng Hinsawdd a Natur Heledd Fychan AS: 4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi iechyd meddwl pobl sydd yn dioddef trawma yn sgil yr argyfwng hinsawdd a natur? OQ56977 Mark Drakeford AC: Llywydd, i'r rhai sy’n cael eu heffeithio gan yr argyfwng hinsawdd, nod Llywodraeth Cymru yw rhoi cyfleon i gymryd camau ar y cyd sy'n gwneud gwahaniaeth. Er enghraifft, mae ein rhaglen o ddigwyddiadau o amgylch COP26 wedi ei chynllunio i roi gobaith i'r rhai sy'n teimlo eu bod wedi'u llethu gan faint yr argyfwng. Heledd Fychan AS: Diolch, Prif Weinidog. Fe fyddwch yn ymwybodol, dwi'n siŵr, fod llifogydd wedi bod unwaith eto dros nos gan effeithio busnesau a thai yn fy rhanbarth. Yn wir, bûm allan y bore yma yn gweld y difrod gyda fy llygaid fy hun ym Mhontypridd, Cilfynydd a Rhydyfelin. Mae'r trawma, heb sôn am y dinistr, yn amlwg, a hyd yn oed yn yr ardaloedd hynny na chafodd eu heffeithio neithiwr ond a ddioddefodd y llynedd, fel Clydach Terrace yn Ynysybwl, Oxford Street yn Nantgarw, dwi'n gwybod o'r degau o negeseuon wnes i eu derbyn dros nos eu bod nhw heb gysgu o gwbl neithiwr. Fe fyddwch chi'n ymwybodol fy mod i'n parhau i ymgyrchu am ymchwiliad annibynnol i lifogydd 2020. Mae neithiwr, unwaith eto, yn profi i mi'r angen am hyn, ond hyd yn oed heb hynny, beth ydych chi am ei wneud i sicrhau mwy o gefnogaeth i ddioddefwyr llifogydd o ran eu hiechyd meddwl a'r trawma amlwg maen nhw'n parhau i'w ddioddef? Mark Drakeford AC: Llywydd, dwi wedi gweld adborth yn ôl oddi wrth pobl sy'n gweithio yn y rheng flaen ym Mhontypridd ac yn RCT i gyd ar ôl y glaw trwm neithiwr, ac rŷm ni'n dal i aros am y manylion diweddaraf. Yn gyffredinol, i droi at y cwestiwn, rydym ni wedi gweithredu i gryfhau gwasanaethau trawma yng Nghymru, gan gynnwys yn yr amgylchiadau mae'r Aelod wedi'u disgrifio. Mae Straen Trawmatig Cymru wedi derbyn dros £1 miliwn o gyllid y flwyddyn ariannol yma. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod gan weithwyr yn y gwasanaethau hynny sydd yn dod i gyswllt â phobl mewn sefyllfa trawmatig y sgiliau a'r hyfforddiant sydd eu hangen arnynt i ymateb yn y ffordd orau. Yn benodol, yn clywed beth ddywedodd yr Aelod am Ynysybwl, dwi'n gwybod bod Aelod etholaeth yr ardal wedi ysgrifennu at y Gweinidog Julie James am y materion hyn ym mis Gorffennaf. Fe wnaeth yr Aelod dderbyn ateb yn esbonio camau brys sydd wedi cael eu rhoi ar waith i gefnogi'r bobl hynny sydd wedi cael eu heffeithio gan y llifogydd, yn ogystal â'r camau mwy hirdymor sy'n cael eu rhoi ar waith gan Cyfoeth Naturiol Cymru. James Evans MS: Prif Weinidog, mae llawer o bobl, gan fy nghynnwys i, yn pryderu yn gwbl briodol am iechyd ein planed ac iechyd meddwl ein pobl ifanc. Rwy'n cofio pryd cafodd rhaglen ddogfen ei dangos i bobl o fy oedran i yn yr ysgol, ar Al Gore yn rhagweld senario dydd y farn oni bai fod newidiadau radical yn cael eu gwneud, ac y byddai'r byd fel yr oeddem ni'n ei adnabod drosodd yn 2006. Rwy'n falch o ddweud ein bod ni yma o hyd. Fodd bynnag, nid yw hyn yn ddim byd o'i gymharu â'r hyn sy'n cael ei ddangos i blant ar y teledu a'r cyfryngau cymdeithasol erbyn hyn. Maen nhw'n cael eu gwleidyddoli yn llawer mwy ar y pwnc na chafodd fy nghenhedlaeth i erioed. Er bod angen i'n plant fod yn ymwybodol o'r newid yn yr hinsawdd a'r argyfwng hinsawdd, mae gennym ni ddyletswydd i sicrhau bod hyn yn cael ei wneud mewn ffordd sensitif i ddiogelu eu hiechyd meddwl. Rwyf i eisiau i'r genhedlaeth nesaf gael neges gadarnhaol ar ba gamau y gallwn ni eu cymryd, a chael effaith gadarnhaol ar ddiogelu'r amgylchedd. Yr hyn nad ydym ni eisiau ei wneud yw dychryn pobl ifanc a gwneud iddyn nhw deimlo'n ddiymadferth neu ddal dig at y genhedlaeth ddiwethaf. Felly, Prif Weinidog, a ydych chi'n credu bod ffordd well y gallwn ni addysgu plant ifanc Cymru am y newid yn yr hinsawdd mewn ffordd fwy sensitif nad yw'n cael effaith negyddol ar iechyd meddwl pobl ifanc, ond sy'n gweithio tuag at fynd i'r afael â'r heriau yr ydym ni i gyd yn eu hwynebu o ran yr hinsawdd? Diolch, Llywydd. Mark Drakeford AC: Llywydd, rwy'n cytuno â'r pwynt hwn y gwnaeth yr Aelod ei godi, bod yn rhaid i bob un ohonom ni ddod o hyd i ffyrdd o helpu'r bobl hynny sydd yn teimlo eu bod wedi eu llethu gan her y newid yn yr hinsawdd i ddod o hyd i bethau y gallan nhw eu gwneud sy'n gwneud gwahaniaeth, oherwydd dyna sy'n rhoi gobaith i bobl pan fyddan nhw'n teimlo yn anobeithiol, gan deimlo bod rhywbeth y gallan nhw ei wneud, a all, drwy ei ychwanegu at bopeth arall y mae pobl eraill yn ei wneud, gael effaith wirioneddol. Mae gennym ni reswm da dros wneud hynny yma yng Nghymru. Byddwn yn gwybod, pan ddaeth y Senedd i fodolaeth, fod gan Gymru rai o'r cyfraddau ailgylchu isaf ledled y byd. Heddiw, mae gennym ni'r cyfraddau gorau ond dau ledled y byd. Pan fyddaf i'n siarad â phobl ifanc, rwy'n dweud wrthyn nhw, 'Dyna enghraifft o'r ffordd y mae modd gwneud gwahaniaeth. Ni ddylech chi deimlo yn anobeithiol am y dyfodol. Mae'n iawn i deimlo'n bryderus, ond os byddwn ni'n gwneud pethau iawn ac os byddwn ni'n gweithredu gyda'n gilydd, yna gallwn ni wneud gwahaniaeth.' Nawr, pan fyddwn yn cynnal ein hwythnos hinsawdd ein hunain, Wythnos Hinsawdd Cymru, ym mis Tachwedd, bydd gennym ni gyfres o weithgareddau y bydd pobl ifanc yn arbennig yn gallu cymryd rhan ynddyn nhw. Mae'r cyfan yn canolbwyntio ar y pethau hynny y mae angen i ni eu gwneud heddiw, yn y ffordd y gwnaeth arweinydd yr wrthblaid, llefarydd yr wrthblaid—mae'n ddrwg gen i—ddechrau ei gwestiynau heddiw: y pethau hynny y mae angen i ni eu gwneud o ran trafnidiaeth, o ran adeiladau preswyl, o ran yr economi gylchol, o ran y ffordd yr ydym ni'n ymdrin â risgiau amgylcheddol. Ac os byddwn ni'n ei wneud fel hynny, trwy ddweud wrth ein pobl ifanc, cyn belled â'n bod ni'n gwneud y pethau iawn a chyn belled â'n bod ni'n eu gwneud nhw gyda'n gilydd, mae gobaith gwirioneddol ar gyfer y dyfodol, yna rwy'n credu y gallwn ni helpu i oresgyn rhai o'r teimladau y cyfeiriodd yr Aelod atyn nhw. Yr Amgylchedd Dysgu mewn Ysgolion Buffy Williams MS: 5. Sut bydd Llywodraeth Cymru yn gwella'r amgylchedd dysgu mewn ysgolion ledled Cymru? OQ56981 Mark Drakeford AC: Llywydd, diolchaf i Buffy Williams am y cwestiwn yna. Mae ein rhaglen ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain eisoes hanner ffordd drwy ei hail don. Bydd y buddsoddiad gwerth £2.3 biliwn yn creu ysgolion a cholegau newydd, yn gwella ein seilwaith colegau ac ysgolion presennol, ac yn cefnogi anghenion cymunedau lleol. Buffy Williams MS: Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n falch iawn y bydd y rhaglen hirdymor uchelgeisiol o ddiwygio addysg yng Nghymru yn parhau yn ystod y chweched Senedd gyda chwricwlwm newydd i Gymru, Bil addysg Gymraeg, y system anghenion dysgu ychwanegol newydd, a buddsoddiad ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Ddoe, derbyniodd aelodau cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf gynigion i weddnewid Ysgol Gynradd Penrhys ac Ysgol Gyfun Cwm Rhondda yn ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Mae'r rhain yn ddatblygiadau cyffrous iawn i'r ddwy ysgol, sydd ag angen dybryd am gyfleusterau newydd sbon. A ydych chi'n cytuno â mi y byddai cyfleusterau ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn gwneud byd o wahaniaeth i lesiant ac addysg disgyblion a staff? Ac a wnewch chi ymrwymo i fuddsoddiad ysgolion yr unfed ganrif ar hugain pellach i helpu i gau'r bwlch ar anghydraddoldebau addysg yng Nghymru? Mark Drakeford AC: Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn pwysig iawn yna. Ni allaf ddychmygu bod unrhyw Aelod, yn y Siambr neu ar-lein, Llywydd, nad yw wedi gweld yr effaith y mae'r rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain wedi ei chael yn yr ardal y maen nhw'n ei chynrychioli. Mae'n rhaglen ragorol ac mae'n gwneud yn union y math o wahaniaeth y cyfeiriodd Buffy Williams ato ym mhob rhan o Gymru. Mae RhCT wedi bod, fel y byddem ni'n ei ddisgwyl, yn gyngor blaengar iawn yn y maes hwn, yn uchelgeisiol iawn ar gyfer yr hyn y gall y rhaglen ei wneud: cafodd £173 miliwn ei wario yn RhCT yn unig yn ystod band A y rhaglen; bydd £252 miliwn i'w wario yn ystod band B, ac mae hynny yn cynnwys, fel y bydd yr Aelodau wedi clywed, Ysgol Gyfun Cwm Rhondda. Newyddion da iawn i wybod bod y cyngor wedi cadarnhau hynny a'r ysgol arall ddoe. Llywydd, yn union fel yr awgrymodd Buffy Williams, nid yw'n ymwneud â nifer yr ysgolion sy'n cael eu gwella neu eu hadeiladu o dan y cynllun yn unig—170 ym mand A, 200 ym mand B—mae'n ymwneud ag ansawdd yr adeiladau a'r agendâu eraill hynny y gall yr ysgolion a'r colegau unfed ganrif ar hugain hynny eu datblygu erbyn hyn: yr agenda teithio llesol, yr agenda hinsawdd a cholli bioamrywiaeth, gan eu gwneud nhw'n ysgolion gwirioneddol gymunedol, fel eu bod nhw'n cael yr effaith honno ar anghydraddoldeb mewn gwahanol rannau o Gymru. Mae'n rhaglen ardderchog ac rydym ni, wrth gwrs, wedi ymrwymo'n llwyr iddi yn ystod y tymor Senedd hwn. Laura Anne Jones AC: Prif Weinidog, yn fy marn i mae amgylchedd dysgu yn yr ysgol yn ymestyn ei hun i ansawdd y cyfleusterau sydd ar waith, ac mae rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, fel y gwnaethoch chi ei ddweud, yn rhagorol. Mae'n wych. Rwyf i wedi ymweld â llawer o ysgolion fy hun. Mae fy mab yn mynychu un. Maen nhw'n dda iawn, iawn. Ond pan oeddwn i'n gyrru yn ôl i lawr o gynhadledd y Blaid Geidwadol ym Manceinion ddoe, daeth yn amlwg iawn bod y cyfleusterau chwaraeon sydd gan ysgolion, boed hynny mewn ardal ddifreintiedig neu ardal a oedd yn fwy llewyrchus, yn llawer gwell na'r hyn sydd gennym ni yng Nghymru a'r hyn yr wyf i'n ei weld yn fy rhanbarth i a ledled Cymru pan fyddaf i'n ymweld ag ysgolion. Yn bersonol, rwy'n credu os yw'r Llywodraeth o ddifrif ynghylch iechyd plant, gordewdra plant a chyfle cyfartal yn gyffredinol, ledled y DU, yna mae angen i ni gael buddsoddiad enfawr yn y cyfleusterau chwaraeon ar draws pob ysgol, nid dim ond y rhai newydd sy'n cael eu hadeiladu. Mae maint y gwaith diweddaru sydd ei angen, yn fy marn i, mor fawr fel na allwn ni ddibynnu ar y cyllid gan yr awdurdodau lleol yn unig; mae'n rhaid iddo ddod gan y Llywodraeth hon yng Nghymru. Mae angen i'r newid aruthrol hwn y mae wir ei angen ddigwydd nawr os ydym ni o ddifrif ynghylch buddsoddi yn ein plant a dyfodol ein gwlad, i sicrhau bod gan ein plant y cyfleusterau sydd eu hangen arnyn nhw ac maen nhw'n eu haeddu. A ydych chi'n cytuno â mi fod angen i'r Llywodraeth hon fuddsoddi yn ein plant nawr? Mark Drakeford AC: Rwy'n sicr yn cytuno â'r hyn a ddywedodd yr Aelod am bwysigrwydd cyfleusterau chwaraeon, ac mae rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn sicr yn darparu hynny, ochr yn ochr â'r adeiladau ysgol y mae'n eu cynhyrchu. Yn fy etholaeth i, lle bydd Ysgol Uwchradd Fitzalan yn elwa ar raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, mae'n dod gyda phwll nofio newydd, mae'n dod gyda chaeau 4G, mae'n dod gydag academi griced newydd, gan wneud yr holl fathau o bethau y mae'r Aelod yn eu disgrifio. Rydym ni wedi darparu cyllid yn y flwyddyn ariannol hon i gyngor chwaraeon Cymru allu gwella cyfleusterau at ddefnydd cymunedol mewn ysgolion nad yw rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain wedi eu cyrraedd eto. Felly, rwy'n cytuno â phopeth a ddywedodd yr Aelod, ac eithrio'r ffordd eithaf anobeithiol y mae Aelodau'r Blaid Geidwadol yng Nghymru yn dyheu yn barhaus eu bod nhw'n byw mewn gwlad wahanol. Y Lluoedd Arfog Darren Millar AC: 6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i gymuned y lluoedd arfog? OQ56980 Mark Drakeford AC: Diolchaf i'r Aelod. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod wedi ymrwymo i barhau ac ychwanegu at yr amrywiaeth eang o gymorth sy'n cael ei ddarparu i'n cymuned lluoedd arfog yng Nghymru. Mae ein trydydd adroddiad blynyddol ar y cyfamod lluoedd arfog, a gyhoeddwyd ar 22 Mehefin, yn tynnu sylw at y cynnydd sydd wedi ei wneud a'n cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Darren Millar AC: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Un o'r pethau y mae'r gymuned lluoedd arfog yng Nghymru yn ei werthfawrogi yn wirioneddol yw'r cyfle i goffáu digwyddiadau arwyddocaol mewn hanes milwrol ac i fyfyrio a chofio'r rhai hynny a fu farw yn y cyfnodau hynny o wrthdaro. Un o'r llwyddiannau yr ydym ni wedi eu gweld yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf o ran gallu coffáu digwyddiadau fu rhaglen Cymru'n Cofio, a oedd, yn fy marn i, yn hollol wych ac a ddylai fod wedi parhau i'r dyfodol. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei rhoi i ailgyflwyno rhaglen Cymru'n Cofio fel y gall gynnwys pen-blwyddi arwyddocaol yn y dyfodol, gan gynnwys, er enghraifft, deugain mlynedd ers rhyfel y Falklands y flwyddyn nesaf, lle cafodd 48 o bobl o Gymru eu lladd a 97 eu hanafu? Dyma'r mathau o ddigwyddiadau arwyddocaol yr wyf i'n credu y mae angen i ni allu cynllunio ymhell ymlaen llaw ar eu cyfer. Tybed beth allwch chi ei ddweud wrthym ni heddiw am goffáu'r digwyddiad penodol hwnnw ac a allwch chi sefydlu math arall o raglen Cymru'n Cofio ar gyfer y dyfodol. Mark Drakeford AC: Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Rwy'n cytuno ag ef, wrth gwrs, ynghylch pwysigrwydd coffáu'r digwyddiadau mawr hyn. Yr wythnos nesaf, Llywydd, fel y byddwch chi'n gwybod rwy'n credu, byddaf i'n cynrychioli Cymru yn nathliad canmlwyddiant y lleng Prydeinig yn y gwasanaeth coffáu yn abaty San Steffan. Ac, yn wir, yn yr wythnos ganlynol, byddaf i'n cymryd rhan ym marics Aberhonddu mewn digwyddiad coffáu'r gweithredoedd yr oedd milwyr Cymru yn rhan ohonyn nhw yn ystod yr ail ryfel byd wrth ryddhau rhannau o'r Iseldiroedd. Mae'r Aelod yn gofyn am y gwrthdaro a ddigwyddodd yn y Falklands; bydd yn 40 mlynedd y flwyddyn nesaf. Rwy'n gwybod y bu'r Aelod ei hun yn rhan o goffáu'r pumed pen-blwydd ar ddeg ar hugain yma yn y Senedd. Rwy'n hapus i ddweud wrtho fod trafodaethau eisoes wedi eu cynnal gyda Llywodraeth yr Alban i wneud yn siŵr ein bod ni'n ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd yno, a bwriedir cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth y DU drwy'r Weinyddiaeth Amddiffyn. Byddwn ni eisiau gwneud yn siŵr bod Cymru yn cyd-fynd â pha bynnag ddigwyddiadau coffáu sydd wedi eu cynllunio ledled y DU, ond rwy'n gwybod bod digwyddiadau lleol eisoes yn cael eu hystyried. Yn Wrecsam, bydd digwyddiad yn cael ei gynnal ar y cyd rhwng sefydliadau lleol a'r Gwarchodlu Cymreig, ac mae Cymdeithas Medal De'r Iwerydd, rwyf i ar ddeall, yn ystyried digwyddiad coffáu yma yng Nghaerdydd. Felly, diolchaf i'r Aelod am dynnu sylw at yr angen i gynllunio ymlaen llaw ar gyfer hyn a rhoddaf y sicrwydd iddo, ym mha ddigwyddiadau cenedlaethol bynnag sy'n cael eu cynllunio ac o ran cefnogi'r digwyddiadau lleol hynny hefyd, y bydd Llywodraeth Cymru yn awyddus i chwarae ein rhan. Alun Davies AC: Rwy'n ddiolchgar i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog; cewch gefnogaeth ar gyfer hynny i gyd ar draws y Siambr gyfan. Ond, mae hefyd yn bwysig cefnogi'r lluoedd arfog sy'n gwasanaethu heddiw, a sicrhau bod gennym ni ganolfannau a lleoliadau yng Nghymru sy'n gallu cefnogi a chynnal lluoedd arfog heddiw. Yn y gorffennol, rydym ni wedi cael dadleuon yn y fan yma ynghylch strategaeth canolfan sefydlog i'n galluogi i gefnogi a chynnal lleoliad ychwanegol i luoedd arfog y DU yn y sir hon, i gefnogi a chynnal y diwydiannau sy'n cefnogi ein lluoedd arfog, a hefyd i sicrhau y gallwn ni barhau i gynnig cyfleusterau hyfforddi ar gyfer y lluoedd arfog. A fyddai Llywodraeth Cymru, felly, yn barod i wneud datganiad ar sut y bydd yn bwrw ymlaen â strategaeth canolfan sefydlog fel y gallwn ni barhau i gefnogi lluoedd arfog heddiw hefyd? Mark Drakeford AC: Diolchaf i Alun Davies am y cwestiwn yna. Mae'n tynnu sylw at bwynt pwysig iawn. Cymru yw 5 y cant o boblogaeth y DU, ac eto rydym ni'n darparu 9 y cant o bersonél sy'n gwasanaethu, ac mae gennym ni 2.5 y cant ohonyn nhw wedi eu lleoli yma yng Nghymru. Felly, rydym ni'n cyfrannu bron i ddwywaith ein cyfran o'r boblogaeth, ac eto mae gennym ni hanner ein cyfran o'r boblogaeth o ran strategaeth trefnu canolfannau'r lluoedd arfog. Rwyf i wedi codi hyn yn uniongyrchol—rwy'n siŵr bod pobl eraill wedi gwneud hefyd—gyda Gweinidogion y DU sy'n gyfrifol am adolygiad integredig Llywodraeth y DU, y maen nhw'n ei gynnal ar hyn o bryd. Rwy'n credu eu bod nhw'n iawn i fod yn bryderus am yr adolygiad hwnnw. Nid yw dyfodol barics Aberhonddu yn sefydlog. Mae presenoldeb pwysig iawn gan y fyddin yng ngorllewin Cymru, yr ydym ni'n gwybod sydd—wel, gadewch i ni ddweud 'dan ystyriaeth' yn unig yn rhan o'r adolygiad hwnnw. Mae Llywodraeth bresennol y DU yn sôn llawer am ei hymrwymiad i'r Deyrnas Unedig. Un o'r darnau o'r glud sy'n dal y Deyrnas Unedig gyda'i gilydd, yn fy marn i, yw bod gennym ni luoedd arfog cyffredin ar draws y DU gyfan. Mae'n ddyletswydd felly, yn fy marn i, ar Lywodraeth y DU i ddangos i bob rhan o'r Deyrnas Unedig eu bod nhw'n cael cyfran deg o effaith ymarferol y lluoedd arfog hynny yn y pedair gwlad. Nid oes gan Gymru hynny ar hyn o bryd, yn fy marn i. Rwy'n gobeithio y bydd yr adolygiad integredig yn helpu i unioni hynny. Gofynnodd Alun Davies am ddatganiad gan y Llywodraeth, ac rwy'n falch o ddweud y byddem ni'n barod i wneud datganiad o'r fath pan fydd canlyniadau'r adolygiad integredig yn cael eu cyhoeddi, a disgwylir hynny yr hydref hwn. Brechlyn COVID-19 Joyce Watson AC: 7. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog pobl i gael brechlyn y coronafeirws? OQ56978 Mark Drakeford AC: Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn pwysig iawn yna. Mae ymdrechion i roi hwb i'r nifer sy'n cael brechiad ymhlith y rhai sy'n dal i fod heb eu brechu yn erbyn COVID-19 yn parhau, gydag amrywiaeth o gamau gweithredu ar waith i alluogi mynediad rhwydd ac i feithrin ymddiriedaeth. Mae clinigau dros dro, canolfannau galw i mewn, clinigau gyrru i mewn a gwaith gweithwyr allgymorth byrddau iechyd ymysg y dulliau sy'n cael eu defnyddio i wneud hynny. Joyce Watson AC: Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig nodi bod y nifer sy'n manteisio ar y brechlyn ar draws pob grŵp demograffig yn parhau i fod yn eithriadol o uchel, er gwaethaf y ffaith bod pobl sy'n eu gwrthwynebu yn gwneud llawer o sŵn, ond yn dal i fod yn lleiafrif bach iawn. Ond mae angen i ni symud ymlaen. Rydym ni wedi gweld llawer o waith da, fel yr ydych chi wedi ei ddweud, o ran estyn allan at fwy o gymunedau sy'n petruso ynghylch brechu. Felly, sut mae'r dysgu hwnnw yn llywio'r broses o gyflwyno'r rhaglen i bobl ifanc 12 i 15 oed erbyn hyn? Oherwydd nid yw'r neges yr un fath yn union, nac ydy? Mae angen i fenywod beichiog, er enghraifft, wybod bod COVID, yn enwedig yn y trydydd tri mis, yn cynyddu'r risg o salwch difrifol a mynd i'r ysbyty, ond i bobl ifanc, ydy, mae'n ymwneud ag amddiffyniad rhag COVID a COVID hir, ond mae hefyd yn ymwneud â cholli'r ysgol a'r tarfu a'r gofid y mae hynny'n eu hachosi. Mark Drakeford AC: Diolchaf i Joyce Watson. Mae'r pwyntiau hynny i gyd yn rhai pwysig iawn. Mae hi'n iawn bod y nifer sydd wedi manteisio ar y brechlyn yng Nghymru wedi bod yn uchel iawn ac mae wedi bod yn uchel iawn ar draws yr ystodau oedran. Mae bwlch rhwng cymunedau sy'n petruso ynghylch brechu a phawb arall, ond mae'r bwlch hwnnw wedi cau ychydig. Nid yw'n ddigon cyflym, ond rydym ni'n cyhoeddi'r ffigurau bob tair wythnos, a phob tair wythnos rydym ni'n gweld y bwlch hwnnw yn cael ei erydu yn araf. Ac mae hynny oherwydd yr holl gamau y gwnes i sôn amdanyn nhw yn fy ateb gwreiddiol, ynghyd â phopeth arall yr ydym ni'n ei wneud—canolfannau brechu mewn canolfannau ffydd, canolfannau diwylliannol, canolfannau cymunedol, rhannu'r neges lle mae pobl eu hunain i'w cael. Rydym ni'n iawn i boeni am weithgareddau'r bobl sy'n gwrthwynebu'r brechlyn. Roeddwn i'n bryderus iawn o gael rhai adroddiadau dros y penwythnos o rannau o ranbarth yr Aelod ei hun lle'r oedd taflenni yn cael eu danfon a phlant yn cael eu targedu gan bobl sy'n gwrthwynebu'r brechlyn. Mae hynny yn creu amgylchedd sy'n ei gwneud yn fwy anodd argyhoeddi rhai pobl, gan eu bod nhw'n clywed yr wybodaeth hynod gamarweiniol hon, ac maen nhw'n cael yr wybodaeth honno cyn y gallwch chi eu cyrraedd gyda gwybodaeth fwy cywir a darbwyllol. I fenywod beichiog, rwy'n cytuno yn llwyr â'r hyn a ddywedodd Joyce Watson: mae'r brechlyn yn ddiogel i fenywod beichiog drwy gydol beichiogrwydd, ac mae'r risg o COVID yn llawer uwch nag y byddai o'r brechlyn. I bobl ifanc 12 i 15 oed, rydym ni wedi caniatáu yn fwriadol gyfnod o amser i'r sgyrsiau hynny gael eu cynnal rhwng rhieni, eu plant a'r bobl sy'n gyfrifol am y rhaglen frechu mewn gwahanol rannau o Gymru, i wneud yn siŵr bod y bobl ifanc hynny yn cael y cyfle gorau posibl i gael yr wybodaeth orau bosibl, ac yna, hyn yr ydym yn ei obeithio, penderfynu manteisio ar y cynnig o gael eu brechu. Cwestiwn 8 yn olaf—Vikki Howells. Gwasanaethau Gofal Plant a Chwarae Vikki Howells AC: 8. A wnaiff Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei gwaith i gefnogi gwasanaethau gofal plant a chwarae? OQ56961 Mark Drakeford AC: Rydym ni wedi hir gydnabod pwysigrwydd gofal plant a gwasanaethau chwarae ledled Cymru. Hoffwn i ddiolch iddyn nhw'n arbennig am y rhan y maen nhw wedi ei chwarae wrth gefnogi plant a theuluoedd drwy gydol y pandemig, ac, yn fwyaf diweddar, yn ystod y rhaglen Haf o Hwyl. Vikki Howells AC: Diolch, Prif Weinidog. Roeddwn i'n falch iawn o weld y datganiad ysgrifenedig gan y Dirprwy Weinidog yn nodi sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cyllid ychwanegol ar gael i wasanaethau gofal plant a chwarae i wrthsefyll effeithiau COVID-19. Rwy'n croesawu'r sylwadau ynghylch asesiadau digonolrwydd chwarae a chefnogi Chwarae Cymru yn eu gwaith i gynnal yr adolygiad gweinidogol o chwarae. Sut y bydd gwella cyfleoedd ar gyfer chwarae cynhwysol, fel y gall pob plentyn a pherson ifanc fanteisio ar gyfleoedd chwarae o safon gyda'u cyfoedion, yn cyd-fynd â'r gwaith hwn? Mark Drakeford AC: Diolch i'r Aelod am hynny. Rwy'n gwybod bod ganddi ddiddordeb ers tro yn hyn i gyd, ar ôl arwain dadl ar y materion hyn ar lawr y Senedd tua diwedd tymor diwethaf y Senedd. Mae'r £5.1 miliwn a gafodd ei gyhoeddi gan fy nghyd-Aelod Julie Morgan yn ddiweddar wedi ei gynllunio i wneud yr union bethau y mae Vikki Howells wedi sôn amdanyn nhw: atgyfnerthu'r ddarpariaeth chwarae mewn gwahanol rannau o Gymru, er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth chwarae honno yn gynhwysol ac ar gael i bob plentyn. Yn bwysig iawn, yn rhan o'r cyllid hwnnw, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol ddangos sut y maen nhw wedi ymgynghori â phlant a phobl ifanc eu hunain wrth gynnal yr asesiadau hynny ac yna gwneud penderfyniadau ynghylch sut y mae modd defnyddio'r arian hwnnw orau. Diolch i'r Prif Weinidog. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Yr eitem nesaf fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw—Lesley Griffiths. Lesley Griffiths AC: Diolch, Llywydd. Mae un newid i'r agenda heddiw: mae gan y datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol deitl newydd 'Gweithredu cenedlaethol llesiant cenedlaethau'r dyfodol'. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos eistedd nesaf wedi ei nodi ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w gweld ymysg y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig. Darren Millar AC: Trefnydd, a gaf i alw am ddau ddatganiad heddiw, os gwelwch yn dda? Mae'r cyntaf yn ymwneud â'r gwasanaeth ambiwlans. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ei gwneud yn glir y bydd yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf yn fisol am y cyflawni o ran y cynllun cyflenwi ambiwlansys, ac roeddwn i'n meddwl tybed a fyddai modd eu cyhoeddi fel y gallai Aelodau'r Senedd gael copi o'r wybodaeth ddiweddaraf honno hefyd, fel y gallwn ni ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ynghylch y ddarpariaeth honno. Yn ail, a gaf i alw am ddatganiad—datganiad brys—gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar gadwraeth gwiwerod coch? Cefais hysbysiad yr wythnos diwethaf gan Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod yn bwriadu clirio 6,500 tunnell o bren o goedwig Pentraeth, sydd, wrth gwrs, yn gadarnle i'r wiwer goch, ac yn un o'r ychydig gadarnleoedd gwiwerod coch yng Nghymru. Y broblem gyda hyn yw eu bod yn bwriadu clirio rhwng mis Hydref a mis Mawrth 2021. Cyfnod prysuraf y tymor bridio yw mis Chwefror a mis Mawrth ar gyfer gwiwerod coch. Bryd hynny, bydd y rhai ifanc yn eu nythod, ac oherwydd dwysedd y boblogaeth yn yr ardal honno, mae'n debygol y bydd llawer yn cael eu lladd. Yn amlwg, nid yw hynny'n beth da; mae angen edrych arno, a byddwn i'n gwerthfawrogi'n fawr pe gallai'r Gweinidog Newid Hinsawdd godi hyn yn uniongyrchol gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i drafod yr hyn y mae modd ei wneud er mwyn lliniaru'r mater penodol hwnnw. Diolch. Lesley Griffiths AC: Diolch. O ran eich ail gwestiwn ynghylch effaith torri coed ar boblogaeth y wiwer goch yng Ngwynedd ac Ynys Môn, rwy'n gwybod bod CNC wedi ymgynghori â rhanddeiliaid, mae'n debyg ei fod tua 10 mlynedd yn ôl erbyn hyn, pan wnaethon nhw lunio'r cynllun datblygu coedwigoedd presennol. Felly, maen nhw wrthi, yn amlwg, yn disodli'r cynllun hwnnw gyda chynllun adnoddau coedwigoedd newydd, sef yr hyn yr ydych chi'n cyfeirio ato. Felly, unwaith eto, bydd ymgynghoriad manwl yn cael ei gynnal gyda rhanddeiliaid cyn unrhyw benderfyniadau terfynol, a bydd hynny, wrth gwrs, yn cynnwys grwpiau gwiwerod coch. O ran eich cwestiwn cyntaf ynghylch cyhoeddi'r data perfformiad misol, byddaf i'n gofyn i'r Gweinidog gwasanaethau cymdeithasol ystyried eich cais.FootnoteLink Gwybodaeth ychwanegol at y Cyfarfod Llawn (Saesneg yn unig) Delyth Jewell AC: Wrth i ni nesáu at COP26, hoffwn i gael datganiad ynghylch yr hyn y bydd y Llywodraeth yn ei wneud i ymdrin â'r pryder hinsawdd y mae nifer cynyddol o bobl ifanc yn ei deimlo. Arweiniais i ddadl ar y mater hwn ym mis Mehefin, Trefnydd, ac rwyf i'n awyddus iawn i ni weld cynnydd. Gwnaeth astudiaeth gan Brifysgol Caerfaddon ddarganfod bod 56 y cant o bobl ifanc yn credu ei bod hi ar ben ar ddynoliaeth oherwydd newid yn yr hinsawdd. Mae'r teimlad hwn o bryder yn endemig ac mae'n gwaethygu. Ac rwyf i wedi siarad â'r llysgenhadon hinsawdd ieuenctid am y mater hwn hefyd. Yr hyn sydd ei eisiau ar bobl ifanc a'r hyn sydd ei angen arnyn nhw yw teimlo eu bod wedi eu grymuso, bod pobl yn gwrando arnyn nhw, i wybod nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain wrth deimlo'n ofnus neu'n bryderus, ac i wybod beth sy'n cael ei wneud i helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng, yr hyn y gallwn ni i gyd ei wneud i chwarae ein rhan. Trefnydd, mae cyflawni'r cydbwysedd cywir yn allweddol o ran peidio â bychanu difrifoldeb y newid hinsawdd, ond ei ail-lunio yn y cwricwlwm, yn y canllawiau sy'n cael eu rhoi i athrawon, fel bod y pwyslais ar y prosiectau cymunedol gwych a chadarn sy'n mynd rhagddynt, camau ataliol, a'r asiantaeth sydd gennym ni i gyd. Rwy'n gwybod bod hyn wedi ei godi'n gynharach yng nghwestiynau'r Prif Weinidog, Trefnydd, ond nid yw pobl ifanc yn dymuno clywed bod eu hofnau'n ddi-sail, oherwydd dydyn nhw ddim. Mae ganddyn nhw bob hawl i fod yn ddig hefyd oherwydd y cyflwr y mae'r byd ynddo wrth i ni ei roi iddyn nhw, ond mae angen i ni weithio gyda phobl ifanc nid ar eu rhan yn unig. Felly, a wnaiff y Llywodraeth ddatganiad cyn gynted â phosibl yn nodi sut y byddwch chi'n gweithio gyda phob un ohonom ni sy'n dymuno rhoi sylw i bryder yn yr hinsawdd a'i achosion, a rhoi llais cryfach i bobl ifanc wrth ein helpu i benderfynu sut yr ydym yn mynd i'r afael â her fwyaf y ddynoliaeth ar y cyd? Lesley Griffiths AC: Diolch. Wel, byddwch chi wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud, wrth ateb y cwestiwn a gafodd ei ofyn iddo, am y gwaith y byddwn ni'n ei wneud unwaith eto gyda phlant a phobl ifanc yn rhan o'n hwythnos newid hinsawdd, a fydd yn amlwg yn cael ei chynnal ym mis Tachwedd. Yn sicr, yn y ddwy flynedd flaenorol pan wnaethom ni gynnal ein cynhadledd gyntaf, a oedd yn un diwrnod yn unig pan wnaethom ni ei chynnal yn 2019, rwy'n credu, ac yna fe wnaethom ni gynnal wythnos y llynedd yn 2020, roedd plant a phobl ifanc yn rhan gwbl hanfodol o'r wythnos honno, ac rydym ni'n sicr yn eu hannog i gymryd rhan hefyd. Felly, nid wyf i'n credu ein bod ni byth yn dweud bod eu pryderon yn ddi-sail, ac yr ydych chi'n hollol gywir; mae'n fater i bob un ohonom ni, nid yn unig yn y Siambr hon, ond y tu allan, ledled Cymru gyfan, i sicrhau bod y penderfyniadau yr ydym ni'n eu gwneud o ran y ffordd yr ydym ni'n byw ein bywydau yn helpu i liniaru'r newid yn yr hinsawdd. Mike Hedges AC: Yn gyntaf, rwy'n siŵr bod Llywodraeth Cymru o'r farn bod y defnydd o ddiswyddo ac ailgyflogi gan gwmnïau mor wrthun â mi. Er na all Llywodraeth Cymru ei gwahardd gan nad yw cyfraith cyflogaeth wedi ei datganoli, rwy'n gofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar sut y mae modd eithrio cwmnïau sy'n cyflawni'r arfer hwn o gontractau Llywodraeth Cymru, neu o gontractau gyda chyrff a ariennir gan Lywodraeth Cymru, a hefyd, sut y mae modd eu heithrio o gyllid grant yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol gan Lywodraeth Cymru. Mae'r ail ddatganiad yr wyf i'n gofyn amdano yn ymwneud â pharhau i weithio gartref ac mewn canolfannau. Rwy'n credu mai dyma'r ffordd ymlaen—roedd dod â phobl i swyddfa rhwng naw a phump yn bwysig yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a hyd yn oed ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, ond gan fod data ar gael yn rhwydd ar-lein, mae'r rheswm dros lawer iawn o waith swyddfa wedi diflannu. Byddai hefyd yn lleihau faint o draffig sydd ar y ffordd, gan ddileu unrhyw angen am ffyrdd osgoi, a byddai'n helpu'r amgylchedd. Lesley Griffiths AC: Diolch. O ran diswyddo ac ailgyflogi, rydym ni'n pryderu'n fawr ynghylch yr arfer o osod telerau ac amodau newydd ar weithwyr drwy'r dacteg o ddiswyddo ac ailgyflogi, ac rydym ni'n glir iawn nad yw'r math hwnnw o arfer yn cyd-fynd o gwbl â'n gwerthoedd gwaith teg a phartneriaeth gymdeithasol ni. Rydym ni'n annog pob cyflogwr i ddatrys materion anodd a heriol drwy bartneriaeth gymdeithasol, ond, wrth gwrs, fel yr ydych chi'n ei ddweud, mater i Lywodraeth y DU ydyw—mae ganddyn nhw bwerau a gadwyd yn ôl i roi terfyn ar ddefnyddio arferion diswyddo ac ailgyflogi yn anghyfrifol, ac rydym ni'n sicr wedi galw ar Lywodraeth y DU i weithredu yn hyn o beth. Yn sicr, byddem ni'n disgwyl i gwmnïau sy'n elwa ar fuddsoddiad cyhoeddus weithredu yn ysbryd partneriaeth gymdeithasol, ac y dylai hynny ganolbwyntio yn llwyr ar les eu gweithwyr a budd ehangach y cyhoedd. Bydd Mike Hedges yn ymwybodol o'r camau yr ydym ni'n eu cymryd i gryfhau ein dull gweithredu, drwy'r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), a fydd, pan gaiff ei gyflwyno, ac os caiff ei basio, yn cyflwyno dyletswyddau newydd o ran partneriaeth gymdeithasol. O ran parhau i weithio gartref a gweithio mewn canolfannau, cyngor Llywodraeth Cymru yw y dylech chi weithio gartref lle bynnag y bo modd. Fel y gwyddom ni, mae hynny yn gwneud gwahaniaeth mawr i atal COVID-19 rhag lledaenu. Ac rwy'n credu mai'r hyn yr ydym ni wedi ei weld yw na fydd hen ffyrdd o weithio, mae'n debyg—wel, rwy'n credu eu bod yn annhebygol iawn o ddychwelyd yn yr un ffordd yn union, ac rydym ni'n sicr wedi gweld llawer o fusnesau a gweithwyr yn datgan awydd am batrwm gwaith newydd, sy'n galluogi pobl i weithio yn y gweithle, gartref, yn agos i gartref, neu hyd yn oed mewn canolfannau gwaith lleol. Felly, rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth—. Rwy'n credu bod y math hwnnw o weithio hyblyg gan fusnesau a gan gyflogwyr, yn fy marn i, yn cryfhau cymunedau lleol hefyd a'r economi leol, ac rwy'n credu ei fod yn sicr yn rhywbeth y byddwn ni'n ei weld yn parhau. Samuel Kurtz MS: Rwy'n cyfeirio'r Aelodau at fy nghofnod yn y gofrestr buddiannau. Yn gyntaf, hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog Newid Hinsawdd am roi o'i hamser i ateb fy nghwestiynau ysgrifenedig ynglŷn â gwrthbwyso carbon a chyfrif allyriadau net Cymru—yr NWEA. Ac rwy'n siŵr y bydd y Trefnydd yn rhannu fy nychryn ynglŷn â'r ffaith bod busnesau rhyngwladol yn gwrthbwyso eu hallyriadau carbon eu hunain ar draul tir fferm traddodiadol Cymru—mae hi a minnau eisoes wedi trafod hyn yn fyr. Yn wir, rwy'n siŵr bod y Trefnydd a'i chyd-Weinidog, y Gweinidog Newid Hinsawdd, yn ymwybodol iawn nad yw gollwng credydau carbon Cymru i fusnesau y tu allan i Gymru yn gwneud dim i leihau ôl troed carbon Cymru ei hun; hefyd, mae gwerthu carbon fel hyn yn peryglu tanseilio gallu ffermydd Cymru, amaethyddiaeth Cymru, neu Gymru yn ei chyfanrwydd i fod yn garbon niwtral. Felly, a wnaiff y Gweinidog ddatganiad brys ar ba gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i ddiogelu tir fferm traddodiadol Cymru rhag cael ei brynu gan fusnesau tramor? A pha fesurau diogelu sy'n bodoli i sicrhau nad yw credydau carbon Cymru, sy'n cael eu prynu er mwyn gwrthbwyso allyriadau o'r tu allan i Gymru, yn cael eu cyfrif ddwywaith a'u defnyddio i wrthbwyso allyriadau Cymru ei hun? Diolch. Lesley Griffiths AC: Diolch. Mae'n ymwneud â chydbwysedd, onid yw? Ac rwyf i wedi dweud ar lawr y Siambr o'r blaen, ni allwn ni ddweud wrth ffermwyr i bwy i werthu eu tir, ac mae'n rhywbeth sy'n amlwg yn peri pryder i ni. Rwy'n credu bod y mater yr ydych chi'n ei godi—rwyf i newydd gael trafodaeth, mewn gwirionedd, gyda Llyr Huws Gruffydd ynglŷn â'r ffordd i mewn i'r Siambr ynghylch hyn, a sicrhau ein bod ni'n osgoi cyfrif ddwywaith. Mae'n sicr yn rhywbeth y gallwn ni edrych arno yn rhan o'r cynllun ffermio cynaliadwy. Huw Irranca-Davies AC: A gaf i ofyn am ddadl, yn hytrach na datganiad, ar gyfle elusennau a grwpiau cymunedol i fancio am ddim i? Yn anffodus, HSBC yw'r diweddaraf o'r banciau i gymryd yr arian a'i heglu hi, a byddan nhw'n cyflwyno taliadau i Sefydliad y Merched, grwpiau sgowtiaid a geidiaid lleol, clybiau chwaraeon lleol, ac eraill, o ddiwedd y mis hwn ymlaen. Mae'n beth pwysig iawn i rai grwpiau, sydd wedi cael amser mor anodd wrth ddod drwy'r pandemig, i ddarganfod yn awr eu bod nhw'n mynd i wynebu taliadau. Felly, mae angen i ni ddangos iddyn nhw sut y gallwn ni barhau i ddarparu gwasanaethau bancio am ddim ar eu cyfer. A gawn ni hefyd ddatganiad mewn ymateb i lawer o etholwyr sydd wedi ysgrifennu ataf i ynglŷn â chyflwr ein hafonydd? Ac rwy'n datgan buddiant fel hyrwyddwr eogiaid y Senedd am y pum mlynedd nesaf. Ond maen nhw wedi ysgrifennu ataf i'n arbennig ynglŷn â mater afon Gwy, a'r hyn y maen nhw'n eu hystyried yw'r peryglon gwirioneddol yma yw ein bod ni'n tynnu bywyd allan o'r afon honno ar gyfer infertebratau, ar gyfer pysgod, ac ar gyfer bywyd gwyllt arall, ac ar gyfer y cynefin rhyfeddol hwnnw y mae'n ei ddarparu. Ac maen nhw'n cyfeirio'n benodol, mae'n rhaid i mi ddweud, at y ffosffad sy'n cael ei gynhyrchu erbyn hyn o Bowys, y cynhyrchydd wyau buarth mwyaf yn Ewrop gyfan a bod yn onest. Mae'n ychwanegu'r hyn sy'n cyfateb i 2,000 tunnell bellach o ffosffadau ledled y dalgylch dŵr cyfan yn afon Gwy, ac wrth gwrs mae'n effeithio ar bob etholaeth ar y ffordd i lawr. Nid dyma'r unig lygrydd, gyda llaw, yn yr ardal honno, ond mae yn cael effaith fawr wrth gwrs. Ac i orffen, a gawn ni ddatganiad ar wefru cerbydau trydan lle nad oes parcio wrth ymyl y ffordd, lle nad oes gwefru mewn hybiau cymunedol, a lle nad oes parcio oddi ar y ffordd yn eich dreif eich hun? Mae gen i bobl sy'n byw mewn tai teras sydd yn gofyn bellach a yw'n gyfreithlon rhedeg cebl ar draws y palmant. Mewn gwirionedd, mae gan rai awdurdodau lleol bolisi 'na' cyffredinol i hyn; nid oes gan eraill unrhyw bolisi o gwbl. Byddai'n wych cael datganiad i roi eglurder. Diolch, Llywydd. Lesley Griffiths AC: Diolch, Huw Irranca-Davies. Felly, o ran bancio am ddim i elusennau a grwpiau cymunedol, rwy'n credu ei bod yn ddiogel dweud ein bod ni'n sicr wedi gweld nifer o sefydliadau gwirfoddol, ledled Cymru, yn cael anawsterau o ran gwasanaethau bancio. Mae hynny o ran nodi cyfrif sydd am ddim, yn ogystal â bod yn agored yn y lle cyntaf, oherwydd, wrth gwrs, rydym ni wedi gweld nifer sylweddol o fanciau yn cau, ynghyd â'r peiriannau codi arian am ddim hefyd. Byddwch chi’n ymwybodol o'r gwaith y mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi ei wneud gyda Chymorth Trydydd Sector Cymru, ac rwy'n gwybod ei bod hi ar fin penodi Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i sefydlu cronfa benthyciadau cymunedol—mae'n ddrwg gen i, cronfa benthyciadau asedau cymunedol—a fydd, rwy'n siŵr, yn helpu yn y ffordd honno. Eich ail gwestiwn ynghylch Afon Gwy—a byddwch chi'n ymwybodol o'n hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i ddechrau dynodi dyfroedd mewndirol ar gyfer hamdden, er enghraifft. A'r hyn yr ydym ni eisiau ei wneud mewn gwirionedd yw gwella trefniadau rheoli llygredd afonydd yn y ffordd yr ydym ni wedi ei wneud gyda'n traethau a gyda'n dŵr môr. Felly, mae hwn yn ddarn sylweddol o waith, ac, fel yr ydych chi'n ei ddweud, mae amrywiaeth eang o ffynonellau sy'n llygru ein hafonydd, ac mae CNC yn gweithio gyda Dŵr Cymru ar hyn o bryd i edrych ar fodelau i ddosrannu ffynonellau i lefelau llygryddion ar lefel is-ddalgylch. Rwy'n amlwg yn ymwybodol iawn o'r pryderon ynghylch ffermydd dofednod, ac mae'n drafodaeth yr wyf i wedi ei chael ynghylch materion cynllunio gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd, sy'n gyfrifol am gynllunio, i weld a oes angen i ni ystyried y trothwy ar gyfer y ffermydd dofednod hyn, ac mae hynny yn ddarn parhaus o waith. O ran eich cwestiwn ynghylch cerbydau trydan, mae'n amlwg bod gan awdurdodau priffyrdd ac awdurdodau lleol y gallu i fabwysiadu eu safbwyntiau eu hunain, ac, fel y dywedwch chi, efallai fod amrywiaeth o safbwyntiau ledled Cymru, o ran sut yr ydym ni'n gwneud hynny. Rwy'n gwybod bod rhai treialon ar y gweill yn Lloegr, ar hyn o bryd, ac rwy'n credu y byddwn ni'n eu gwylio nhw yn agos iawn, ond rwyf i'n meddwl mai mater i awdurdodau lleol ac awdurdodau priffyrdd yw mabwysiadu eu safbwyntiau eu hunain yn y ffordd y gwnaethoch chi gyfeirio ati—gan edrych ar ddiogelwch priffyrdd—oherwydd, yn amlwg, iddyn nhw mae penderfynu yr hyn sydd orau i'r ardal leol a'r boblogaeth. Natasha Asghar AS: Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd ynglŷn â sicrhau bod gwasanaethau electroretinograffeg ar gael i gleifion llygaid yma yng Nghymru? Cymru yw'r unig wlad yn y DU lle nad yw'r gwasanaeth hwn ar gael i gleifion llygaid, ac rwy'n clywed bod yr unig ganolfan yng Nghymru, a oedd wedi'i lleoli yng Nghaerdydd, wedi cau 18 mis yn ôl. Fe ofynnais i'r Gweinidog ynglŷn â hyn mewn cwestiwn ysgrifenedig, ac roedd yr ateb yn dweud bod grŵp gorchwyl a gorffen wedi'i ffurfio i adolygu dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â hyn ac y byddai argymhellion y grŵp yn arwain at gamau priodol. O ystyried bod angen gweithredu ar fyrder i atal pobl rhag colli eu golwg, a gawn ni ddatganiad ynglŷn â'r amserlenni sydd dan sylw, a phryd y gallem ni ddisgwyl i'r grŵp gorchwyl a gorffen hwnnw adrodd yn ôl? Diolch i chi. Lesley Griffiths AC: Wel, nid wyf i'n gwybod pryd fydd y grŵp gorchwyl a gorffen yn adrodd, ond rwy'n siŵr, pan fydd yn gwneud hynny i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, fe wnaiff hi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni. Altaf Hussain AS: Yn y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ddydd Llun 20 Medi, fe ofynnwyd i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynglŷn â'r gwaith sy'n cael ei wneud i baratoi ar gyfer cynllun treialu incwm sylfaenol. Fwy nag unwaith, roedd hi'n hamddenol o ran bod yn fwy penodol ynghylch rhai o'r materion dan sylw, gan nodi mai'r rheswm am hynny oedd y byddai hi'n rhoi datganiad eto yn y Cyfarfod Llawn. Ar ôl gwrando ar y datganiad busnes, nid oes dim wedi cael ei drefnu, sy'n golygu mai'r cyfle cyntaf i hyn ddigwydd fyddai dydd Mawrth y 9fed o Dachwedd, tua saith wythnos ers i'r pwyllgor gyfarfod. Ni ddylid defnyddio'r addewid o ddatganiad fel esgus i Weinidog osgoi ateb cwestiynau, pan fo Rheol Sefydlog 16 yn nodi mai rhan o waith pwyllgor yw archwilio materion polisi'r Llywodraeth. Fel arall, fe allai addewid o ddatganiad, waeth pa mor bell i'r dyfodol, fynd yn amddiffyniad rheolaidd ar gyfer gwrthod rhoi manylion yn y pwyllgor lle mae'r craffu yn digwydd. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau y bydd datganiad yn cael ei wneud yma, os gwelwch chi'n dda? Diolch i chi. Lesley Griffiths AC: Os yw'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi addo cyhoeddi datganiad, naill ai un llafar neu un ysgrifenedig, fe allaf sicrhau'r Aelod yn llwyr y caiff hwnnw ei gynnwys yn ein busnes Llywodraeth. Diolch i'r Trefnydd am yr eitem yna. 3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg Y datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol sydd nesaf ar ddiweddariad ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Y Gweinidog, Eluned Morgan, i wneud ei datganiad. Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr, Llywydd. Yn gynharach heddiw, mi wnes i gyhoeddi'r ddau adroddiad diweddaraf gan y panel trosolwg annibynnol ar wasanaethau mamolaeth. Dwi'n ddiolchgar iawn iddyn nhw am y rôl maen nhw wedi parhau i chwarae dros y flwyddyn ddiwethaf a'u hymrwymiad parhaus i'r gwaith yma. Eluned Morgan AC: Mae hwn wedi bod yn gyfnod eithriadol o heriol i fwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg, ac mae'r adroddiad ar gynnydd o ran gwasanaethau mamolaeth yn tanlinellu'r effaith a gafodd y pandemig ar ei allu i gynnal cyflymder y broses o sicrhau gwelliant. Wedi dweud hynny, rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn cael ein calonogi wrth i'r panel gadarnhau bod y bwrdd iechyd, er gwaethaf hyn, wedi dal ati i wneud cynnydd eto o ran gwella ei wasanaethau mamolaeth, gyda phump o argymhellion eraill gan y colegau brenhinol yn cael eu cyflawni—felly, dyna 55 o 70. Yn bwysig iawn, maen nhw'n fodlon bod y gwelliannau a wnaethpwyd dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf bellach wedi ymwreiddio yn ddwfn mewn arfer, gan sicrhau newid y bydd modd ei gynnal. Rwyf i wedi fy nghalonogi yn fawr iawn o weld bod newid sylfaenol wedi digwydd yn y ffordd y mae'r bwrdd iechyd yn ymgysylltu â menywod a theuluoedd. Ond ni ellir anghofio'r hyn sydd wedi digwydd yn y gorffennol, ac ochr yn ochr â'r diweddariad hwn ar y cynnydd, mae'r 'Adroddiad Thematig Categori Marw-enedigaethau', sy'n manylu ar y canfyddiadau a'r gwersi o 63 achos o ofal a arweiniodd yn drasig at farw-enedigaeth, yn arbennig o ddirdynnol i'w ddarllen. Ac er bod y canfyddiadau yn cyd-fynd ag adolygiad blaenorol y colegau brenhinol ac, yn wir, adolygiadau tebyg ledled y DU, ni fydd hwn yn ei gwneud hi'n haws i'r menywod na'r teuluoedd yr effeithiwydarnyn nhw. Mae hi'n drueni ofnadwy y gellid bod wedi osgoi canlyniad gwael mewn un o bob tri achos o ofal, pe bai'r gofal wedi bod yn wahanol. Nodwyd mân ffactorau y gellid bod wedi eu newid nhw hefyd mewn bron i ddwy ran o dair o'r achosion o ofal a adolygwyd. Er nad oedd y rhain yn debygol o fod wedi cyfrannu at y canlyniad gwael, mae'r canfyddiadau hyn yn tynnu sylw at lawer o ddiffygion yn ansawdd y gofal a gafodd menywod a'r safonau yr oedd ganddyn nhw hawl i'w disgwyl. Roeddwn i'n arbennig o drist o ddarllen yr adborth gan y menywod a'r teuluoedd hynny a rannodd eu straeon nhw, a oedd yn ategu hyn ymhellach, ac mae hi'n wir ddrwg gennyf i am hynny. Er nad oes dim a ellir ei wneud i newid yr hyn a ddigwyddodd iddyn nhw, rwy'n gobeithio y bydd y gwelliannau sydd wedi digwydd o ganlyniad i hyn yn rhywfaint o gysur iddyn nhw. Ac a gaf i ddweud na allaf i ddechrau dychmygu'r boen y mae'r menywod hynny a'r teuluoedd hynny sy'n galaru am eu babanod yn ei ddioddef o hyd. Ni allwn ni danystyried pa mor anodd fydd y canfyddiadau hyn i'r staff. Rwyf i o'r farn gref fod y mwyafrif llethol o'n staff ni'n mynd i'r gwaith bob dydd yn ein GIG i wneud gwaith da. Y system y maen nhw'n gweithio ynddi hi sy'n gallu eu hatal weithiau rhag darparu'r gofal gorau posibl. Mae ymrwymiad staff i sicrhau canolbwyntio parhaus ar wella, er gwaethaf y pwysau gweithredol a wynebwyd ganddyn nhw, yn dangos mai dyna yw'r gwirionedd. Er i lawer gael ei gyflawni, mae'r adroddiad yn ein hatgoffa ni bod mwy i'w wneud eto, gyda'r canolbwyntio erbyn hyn ar symud tuag at ddull parhaus o wella mwy cyfannol, i'r tymor hwy. Yr hyn sy'n allweddol yn hyn o beth yw meithrin mwy o integreiddio rhwng gwasanaethau newyddenedigol a mamolaeth. Mae'r Aelodau eisoes yn ymwybodol bod y panel yn canolbwyntio nawr ar y gwasanaeth newyddenedigol. Mae'r adolygiadau clinigol unigol yn y categori newyddenedigol yn mynd rhagddynt, ac mae'r panel wedi dweud wrthyf eu bod nhw'n bwriadu dechrau rhannu canfyddiadau â menywod a theuluoedd yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Eluned Morgan AC: Dwi'n sylweddoli pa mor anodd yw hi i'r rhai sydd wedi'u heffeithio i orfod aros am ganlyniadau'r ymchwiliad, ond, yn anffodus, mae cyflymder y broses wedi'i effeithio oherwydd ymrwymiadau gweithredol cynyddol yr adolygwyr clinigol, yn ogystal â thîm y bwrdd iechyd, yn sgil effaith COVID-19 ar ddarparu gwasanaethau. Dwi'n deall bod yr adolygiadau yn y maes newyddenedigol yn fwy cymhleth, ac mae'n hanfodol eu bod nhw'n cael eu cynnal yn drylwyr. Er hynny, hoffwn sicrhau'r teuluoedd nad yw'r adolygiad manwl sydd ar y gweill i wasanaethau newyddenedigol yn Ysbyty'r Tywysog Siarl wedi tynnu'r panel oddi wrth y flaenoriaeth o gwblhau'r adolygiadau unigol hyn. Mae'r panel wedi rhoi gwybod imi fod yr adolygiad manwl o ofal newyddenedigol bron â'i gwblhau ac y bydd yn adeiladau ar y camau gwella uniongyrchol a thymor byr y mae eisoes wedi nodi bod eu hangen. Roedd yn bwysig peidio ag aros am yr adroddiad terfynol cyn cymryd y cyfle i wneud rhai gwelliannau ar unwaith. Bydd y panel yn parhau i gefnogi'r bwrdd iechyd er mwyn sicrhau ei fod yn gweithredu'n llawn ar y newidiadau angenrheidiol hyn ac y byddant yn cael eu rhoi ar waith yn ymarferol. Bydd fy swyddogion hefyd yn monitro hyn yn ofalus. Eluned Morgan AC: Yn ogystal â chanolbwyntio ar wasanaethau newyddenedigol a mamolaeth, mae'r bwrdd iechyd wedi parhau i wella ei drefniadau llywodraethu ansawdd hefyd ac mae'n ymdrechu i ddatblygu diwylliant agored a thryloyw o ddysgu. Mae hyn yn ategu argymhellion yr adolygiad llywodraethu ansawdd a gynhaliwyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Archwilio Cymru a'u hasesiad diweddaraf nhw o gynnydd. Mae amrywiaeth o gamau gweithredu ar waith i alluogi hyn, ac mae fy swyddogion i yn gweithio'n agos gyda'r sefydliad i gefnogi a thracio cynnydd. Nid wyf i'n bychanu maint yr heriau y mae'r sefydliad wedi eu hwynebu, heriau a oedd yn anoddach byth oherwydd effaith y pandemig. Mae'r hyn yr wyf i wedi ei ddisgrifio heddiw, a'r adroddiadau yr ydych chi wedi eu gweld, yn dangos faint o waith sydd wedi parhau er gwaethaf hyn, ac rwy'n awyddus i ddiolch i bawb a oedd wedi chwarae rhan yn y cyflawniadau hyn. Mae hon, i raddau helaeth, yn daith tuag at newid cynaliadwy ac nid cyfres o gamau gweithredu brysiog. Pan es i i gyfarfod â'r panel yr wythnos diwethaf, roedden nhw'n dweud wrthyf i fod hwn yn wasanaeth mamolaeth gwahanol iawn erbyn hyn i'r un y gwnaethon nhw ei weld ar y dechrau. Mae hi'n bwysig iawn bod unigolion sy'n defnyddio'r gwasanaeth heddiw yn gallu bod yn siŵr o hyn hefyd. Wrth gloi, Llywydd, hoffwn i achub ar y cyfle i ddiolch i'r cadeirydd sy'n gadael, Marcus Longley, am ei arweinyddiaeth gref yn ystod cyfnod mor anodd. Rwy'n ddiolchgar hefyd i Emrys Elias am gytuno i ymgymryd â'r swydd hon dros y 18 mis nesaf. Gyda'i gefndir a'i brofiad ef, fe fydd yn sicr o ddarparu'r cyfeiriad a'r gefnogaeth sydd eu hangen ar y sefydliad i gymryd y camau nesaf ar ei daith tuag at welliant. Diolch yn fawr. Russell George AC: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw ac am y gwahoddiad i sesiynau briffio technegol hefyd? Rwy'n gwybod, Gweinidog, eich bod chi, cymaint â minnau, wedi eich arswydo gan y ffaith y gallai un o bob tri baban a oedd yn farw-anedig yng Nghwm Taf fod wedi goroesi oni bai am gamgymeriadau difrifol a wnaed yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac Ysbyty'r Tywysog Charles rhwng 2016 a 2018. Mae hwn yn ddiwrnod torcalonnus i deuluoedd yn y de sydd wedi cael cadarnhad y bu eu baban annwyl farw yn gwbl ddiangen. Mae'r adroddiad ar warth y gwasanaeth mamolaeth yng Nghwm Taf, fel y gwnaethoch chi eich hun ddweud, Gweinidog, yn ddirdynnol i'w ddarllen, ac mae'r mamau a'r teuluoedd a aeth drwy amgylchiadau mor drist yn fy meddyliau i. Mae gan fenywod sy'n wynebu geni plentyn hawl i ddisgwyl gofal o ansawdd uchel a'r cyfle gorau i roi genedigaeth i blentyn iach, ond cawson nhw gam a'u siomi yn y pen draw. Mae maint y gwarth hwn yn frawychus, ac mae'n parhau i godi llawer o gwestiynau heriol i Cwm Taf, ei system reoleiddio yn ogystal â'r Llywodraeth Lafur yn y fan hon, wrth gwrs. Mewn dros chwarter yr achosion hynny, nodwyd bod triniaeth annigonol neu amhriodol yn ffactor pwysig yn y canlyniad, ac mae hyn yn golygu methiant amlwg i ddarparu gofal sylfaenol da i fenywod a'u babanod ar yr adeg yn eu bywydau y maen nhw'n fwyaf agored i niwed. Felly, mae'n debyg mai fy nghwestiwn i yn y pen draw, Gweinidog, yn hyn o beth yw: beth aeth o'i le? Ac er nad yw'r panel wedi amlinellu unrhyw argymhellion penodol ac wedi dweud bod y bwrdd yn ôl ar y trywydd iawn, mae'r straeon gan y menywod dan sylw wedi bod yn anodd iawn eu darllen. Dywedodd un, ac rwy'n dyfynnu, 'Fy mhryder i yw y byddwn ni'n rhannu ein straeon ac na fydd dim yn digwydd o ganlyniad i hynny a gydag amser byddwn ni'n mynd yn angof. Mae hyn wedi agor hen glwyfau ac rydym ni'n gobeithio y bydd yn arwain at newid.' Mae'n ymddangos bod y pryder hwn yn ddilys, gan fod pryderon mawr yn parhau o ran agweddau ar y gwasanaethau a ddarperir gan Ysbyty'r Tywysog Charles, nad ydyn nhw'n bodloni o hyd, ac rwy'n dyfynnu'r panel, 'y safonau diogelwch ac effeithiolrwydd yr oedd yn disgwyl eu gweld mewn uned newyddenedigol sy'n gweithredu ar y lefel honno o fewn system gofal iechyd y DU.' Felly, pa systemau, Gweinidog, ydych chi'n eu rhoi ar waith i sicrhau bod pob un uned famolaeth yng Nghymru yn gweithio ar y lefel honno o fewn system gofal iechyd y DU? Ac, yn y pen draw, sut byddwch chi a'r byrddau iechyd yn eu monitro nhw yn y dyfodol? Mae fy nghyd-Aelodau a minnau o'r farn bod yna broblemau ehangach o fewn y gwasanaeth gofal iechyd ar waith yma. Tynnodd y cyn-Weinidog Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig chwe wythnos yn unig ar ôl iddo ddweud bod angen sicrwydd pellach gan y bwrdd iechyd ynglŷn â chynnydd mewn gwasanaethau iechyd meddwl. Ond mae pryderon yn parhau o ran gwasanaethau iechyd meddwl y bwrdd iechyd, ac mae adroddiadau diweddar yn dangos y bu dau achos o farwolaeth claf o fewn chwe mis mewn unedau gwasanaeth iechyd meddwl yn y bwrdd. Felly, rwyf i o'r farn bod ymchwilio mewn modd priodol i gwynion staff yn parhau i fod yn destun pryder i'r bwrdd. Ac, yn Nhawel Fan, nodwyd bod triniaeth gan staff yn un o brif bryderon teuluoedd y cleifion yno, a wnaeth ddisgrifio staff nad oedd hi'n ymddangos bod ganddyn nhw yr un ots neu nad oedden nhw'n poeni dim am yr hyn a oedd yn digwydd, nac yn ceisio cuddio eu gweithredoedd nhw ychwaith. Ac rydym ni wedi darllen dyfyniadau dirdynnol iawn heddiw. Dywedodd un o'r menywod niferus a gollodd eu plant yn drist iawn: 'Fe daflodd lun o'r sgan ataf i'n ddi-deimlad gan ddweud "Dyma'r llun olaf o'ch baban."' Hefyd, '"Mae'r baban wedi marw, a ydych chi'n dymuno ei weld e'?', ac, 'Fe fyddai hi'n well i chi ei weld e' nawr tra'i fod e' ar ei orau"'. Wrth gwrs nid yw'n ymwneud dim ond â'r geiriau a gafodd eu dweud; mae hyn yn ymwneud â'r ffordd y cawson nhw eu dweud a'r ffordd y cawson nhw eu mynegi. Ond, o gofio'r modd y tynnwyd Betsi o fesurau arbennig ar fyr rybudd, Gweinidog, pa sicrwydd allwch chi ei roi i'r Siambr heddiw y bydd gwasanaethau mamolaeth bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg yn aros o fewn y lefel hon yn y tymor canolig? A sut ydych chi am sicrhau y bydd y staff sy'n gyfrifol am y digwyddiadau ofnadwy hyn yn destun ymchwiliad priodol? Diolch, Llywydd. Eluned Morgan AC: Diolch, Russell. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn deall yn iawn nad hwn oedd penllanw gyrfa gwasanaethau mamolaeth ym mwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg. Ac roeddwn i, fel chithau, wedi fy syfrdanu'n fawr gan rai o'r dyfyniadau hynny gan y menywod a oedd wedi dioddef fel hyn, ac maen nhw'n gwneud argraff ddofn arnoch chi yn wirioneddol. Ac rydych chi'n llygad eich lle, ac rwy'n credu bod y dyfyniad y gwnaethoch chi ei roi yn un yr oeddwn innau hefyd yn teimlo bod angen i ni ei ystyried yn llawn, sef, 'byddwn ni'n rhannu ein straeon ac na fydd dim yn digwydd'. Rydych chi'n meddwl am y trawma o orfod rhannu'r stori honno dro ar ôl tro gyda'r bobl hyn sy'n dod ac yn gofyn i chi ac yn ymchwilio i'r hyn a aeth o'i le. Mae'n rhaid iddyn nhw wybod y bydd rhywbeth yn newid. Ac fe allaf i roi'r sicrwydd hwnnw iddyn nhw yn yr ystyr ein bod ni yn rhoi systemau ar waith. Cawsom ni, yn gyntaf, yr adolygiad annibynnol hwnnw gan y colegau brenhinol, a nododd nid yn unig yr hyn a aeth o'i le ond sut i unioni pethau. Ac mae gennym ni'r rhestrau hynny o bethau, ac rwy'n falch ein bod ni ymhell ar ein ffordd ar y daith honno i sicrhau gwelliant. Ac rwy'n credu bod yn rhaid i honno fod y deyrnged barhaol yr ydym ni'n ei rhoi i'r menywod hyn, nad oedden nhw wedi cael y parch a oedd yn ddyledus iddyn nhw. Un sicrwydd a roddwyd i mi, wrth siarad â chynrychiolwyr y panel trosolwg ar wasanaethau mamolaeth, y gwnes i gyfarfod â nhw yn gynharach yr wythnos hon, oedd eu bod nhw, mewn gwirionedd, o ran cyfathrebu, yn ffyddiog bod y bwrdd mewn sefyllfa wahanol erbyn hyn. Ac rwyf i yn credu, yn aml iawn, fod cyfathrebu yn beth cwbl allweddol. Yn y pen draw, serch hynny, bod â pharch sy'n bwysig. Mae'n rhaid i ni barchu pobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau iechyd, ac yn sicr byddwn ni'n parhau yn Llywodraeth Cymru i wneud yn siŵr ein bod ni'n edrych ar feysydd y mae angen yr ymyriadau hynny arnyn nhw, y mesurau arbennig hynny i sicrhau y gallwn ni osgoi unrhyw broblemau fel hyn yn y dyfodol. Heledd Fychan AS: Dwi'n meddwl ei bod yn dweud y cyfan pa mor fud yw'r Siambr y prynhawn yma yn gwrando ar hyn. Mae'r straeon a'r adroddiad yn anodd iawn i'w clywed, i'w darllen, a dwi'n gwybod bod nifer ohonoch chi hefyd wedi cyfarfod nifer o'r rhieni yma a'u teuluoedd a chlywed ganddyn nhw, a pha mor emosiynol ydy o. Efallai y dylwn i hefyd ddatgan ar y dechrau fod fy mab fy hun wedi ei eni yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg a fy mod i wedi derbyn ymddiheuriad yn sgil y profiad echrydus dderbyniodd y ddau ohonon ni. Mi oedd hyn yn 2013, ac mae gweld bod y gwersi, efallai, heb eu dysgu o'r gŵyn honno yn rhywbeth sy'n aros efo finnau hefyd. Wrth lwc, mae o bellach yn wyth oed, ond mae pawb yn darllen yr adroddiad hwn a meddwl sut y gallai pethau fod wedi bod yn wahanol, a dwi ddim yn meddwl byddai unrhyw un yn gallu peidio â chael eu heffeithio gan straeon y rhieni hynny. Unwaith eto, rydyn ni wedi clywed am fethiannau difrifol o ran y gofal a dderbyniwyd yn Cwm Taf Morgannwg. Mae'n ddiwrnod anodd i'r rhieni gafodd eu heffeithio gan y methiannau hyn ac mae'n iawn bod y Gweinidog wedi ymddiheuro am hyn, ond mae'n rhaid pwysleisio, fel dywedoch chi, does yna ddim geiriau all ddod â'r rhai a gollwyd yn ôl na lleihau'r golled. O ddechrau'r sgandal hon, mae Plaid Cymru wedi galw am adolygiadau eang i'r hyn sydd wedi digwydd, ac rydym yn croesawu cyhoeddi'r adroddiad arall yma heddiw. Rydyn ni bob amser wedi pwysleisio ei bod yn bwysig bod yr adolygiad yn ymchwilio pam fod cymaint o fabanod wedi marw mewn cyfnod mor fyr. Mae'r adroddiad newydd sydd wedi'i gyhoeddi heddiw, fel sydd wedi cael ei ddweud, yn dangos bod un o bob tri o fabanod gafodd eu geni'n farw, buasen nhw wedi gallu goroesi heblaw am gamgymeriadau difrifol yn eu gofal, ac mae hyn yn frawychus dros ben. Ac i mi hefyd, nid dim ond yr ystadegyn hwnnw o ran y traean o blant a allai fod yn dal efo ni rŵan, ond y ffaith, mewn 37 achos pellach, fod yr adolygiad yn awgrymu y gallai un neu ragor o gamgymeriadau bach fod wedi digwydd, er y mae'n annhebygol y gallai'r rhain fod wedi arwain at ganlyniad gwahanol—ond annhebygol, nid yn bendant—a dim ond mewn pedwar achos y daeth yr arbenigwyr i'r casgliad na ddylid wedi gwneud unrhyw beth yn wahanol. Er bod y bwrdd iechyd a'r Llywodraeth yn croesawu'r casgliadau, mae'n amlwg bod mwy sydd angen ei wneud. Ydy, mae hwn yn bwnc emosiynol i nifer o bobl. Mae'r newyddion wedi ailagor nifer o greithiau emosiynol i rieni; nid yw'n bosibl gorbwysleisio'r boen, y brifo, y niwed a'r gofid sydd wedi'i achosi i bob un o'r teuluoedd y mae'r sgandal hon wedi effeithio arnynt ac mae hynny'n parhau. Nid rhywbeth sydd wedi digwydd yn y gorffennol ydy hyn; mae pobl yn mynd i fod yn byw efo fo am weddill eu bywydau. Y canlyniad gorau posib fyddai i'r Llywodraeth a'r bwrdd iechyd weithredu'r argymhellion o'r adroddiadau hyn er mwyn sicrhau na fydd y methiannau byth yn digwydd eto. Ac mae yna nifer o gwestiynau, dwi'n tybio, o ran atebolrwydd sydd yn dal i fod angen eu hateb, hyd yn oed gyda chyhoeddi'r adroddiad hwn. Mi roddodd yr adroddiad a'r datganiad lawer o bwyslais ar y gwelliannau a'r dysgu sydd wedi digwydd, ond mae'n rhaid hefyd cael atebolrwydd. Ac a all y Gweinidog ddweud â'i llaw ar ei chalon fod atebolrwydd wedi bod o ran y sgandal hon, o ystyried bod nifer o'r arweinyddion blaenorol o ran y bwrdd iechyd wedi cael taliadau mawr wrth adael a'u bod nhw'n parhau i weithio yn y maes iechyd rŵan, efallai mewn bwrdd iechyd gwahanol, tra bod y rhai sydd wedi dioddef profedigaeth wedi cael eu gadael heb ddim? Ble mae'r atebolrwydd, Weinidog? Eluned Morgan AC: Wel, diolch yn fawr iawn i'r Aelod ac mae'n ddrwg iawn gen i glywed am eich profiad personol chi yng Nghwm Taf ac, yn sicr, rŷch chi'n un o nifer sydd wedi dioddef yn ystod y cyfnod caled yna pan oedd pethau mewn cyflwr go ddrwg. Dwi'n meddwl bod y cyhoeddiad yma yn ateb rhai o'r cwestiynau—a'r adroddiad yn ateb y cwestiwn hwnnw roeddech chi'n ei ofyn, 'Pam oedd cymaint wedi marw?', ac mae atebion yma ynglŷn â pham roedd rhai wedi marw; mae hwnna'n adeiladu ar y gwaith a wnaethpwyd eisoes gan y coleg brenhinol. Dwi yn meddwl ei bod hi'n rili bwysig ein bod ni'n glir nad yw'r stori yma drosodd, chwaith, bod mwy i fynd; mae mwy sydd ei angen ei wneud. Ac wrth gwrs, mae yna adroddiad arall i ddod, yr adroddiad neonatal, sydd hefyd, mae arnaf i ofn, yn mynd i fod yn ddarllen sydd yn mynd i fod yn anodd. Gallaf gadarnhau i chi ein bod ni yn mynd i gadw golwg o ran sicrhau ein bod ni'n gweithredu'r argymhellion, ein bod ni yn sicrhau bod y bwrdd yn cadw i fynd, a bod y tîm sydd yna ar hyn o bryd yn sicrhau eu bod yn cadw ati. Dwi'n meddwl bod y pwynt ynglŷn ag atebolrwydd yn bwysig, ac un o'r pethau dwi'n awyddus i weld yw gweld newid diwylliant yn y bwrdd iechyd. Mae angen iddyn nhw fod yn lot mwy agored ynglŷn â beth sy'n mynd ymlaen. Un o'r problemau oedd bod cymaint wedi cael ei guddio am gymaint o amser. Felly, mae yn bwysig dyw pobl ddim yn teimlo ofn i ddweud beth sy'n mynd ymlaen, a'u bod nhw'n gallu dod ymlaen, fel ein bod ni'n gallu gwella'r sefyllfa ynghynt, a'u bod ni ddim yn gweld cymaint o'r trasiedïau yma yn digwydd. Vikki Howells AC: Diolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Unwaith eto, hoffwn i fynegi ar goedd fy mod i'n meddwl am yr holl deuluoedd hynny y mae'r gwarth hwn wedi effeithio arnyn nhw, yn enwedig yn sgil data o'r Adroddiad Thematig y Categori Marw-enedigaethau yn awgrymu y gellid bod wedi osgoi un o bob tri achos o farw-enedigaeth pe bai'r gofal wedi bod yn wahanol. Mae'r niferoedd hyn yn ddigon brawychus, ond maen nhw'n cynrychioli teuluoedd gwirioneddol sydd wedi eu chwalu gan alar, teuluoedd yr wyf i ac Aelodau eraill y Senedd wedi eu cefnogi dros y blynyddoedd diwethaf. Fy nghwestiynau i heddiw: rydym ni'n gwybod bod y pandemig parhaus wedi cael effaith aruthrol ar staff rheng flaen y GIG, y mae'r mwyafrif helaeth ohonyn nhw'n gweithio yn galed iawn i roi gofal priodol, ac mewn llawer o achosion yn mynd y tu hwnt i'r disgwyl dros eu cleifion. Sut mae'r pwysau hwn yn cael ei reoli yng nghyd-destun cyflawni'r newid diwylliannol hirdymor sydd wedi ei nodi? Yn ail, mae'r pandemig wedi achosi pwysau ychwanegol ar famau sy'n disgwyl a'u teuluoedd, yn arbennig felly, er enghraifft, cyfyngiadau o ran partneriaid yn cael bod yn bresennol mewn apwyntiadau. Sut mae'r rhain yn cael eu rheoli i roi sicrwydd i deuluoedd fel hyn? Ac yn drydydd, pwynt yn yr adroddiad thematig y gwnaeth eich datganiad ysgrifenedig sôn amdano hefyd, yw sylwadau'r panel ynghylch gweithredu'n fwy effeithiol i leihau effaith andwyol ysmygu a phwysedd gwaed uwch yn ystod beichiogrwydd, ill dau yn gallu lleihau'r risg o farw-enedigaeth. Felly, sut ydych chi'n gweithio i sefydlu hyn, nid yn unig ar draws Cwm Taf Morgannwg, ond ledled y GIG cyfan yng Nghymru? Eluned Morgan AC: Diolch, Vikki. Rwy'n gwybod faint o waith yr ydych chi wedi ei wneud ar ran llawer iawn o'r bobl hynny sydd wedi dod ymlaen i esbonio sut mae hyn wedi effeithio arnyn nhw. Yn sicr, rwy'n ymwybodol iawn o'r pwysau sydd ar staff Cwm Taf eisoes. Mae staff ledled y GIG cyfan dan bwysau aruthrol, a dywedir wrthyf i fod ymchwydd yng nghyfradd genedigaethau yn sgil COVID hefyd, felly mae'r pwysau hyd yn oed yn fwy nag y mae fel arfer. O ran y newid diwylliannol hirdymor, mae yn rhoi rhywfaint o gysur i mi feddwl, er gwaethaf pwysau COVID, eu bod nhw wedi llwyddo, mewn gwirionedd, i gyflawni a newid 55 o'r 70 o argymhellion hynny, ac, ar ben hynny, i'w sefydlu nhw. Nawr, mae llawer i'w wneud eto. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn gwbl glir yn hynny o beth. Rydym ni ymhell o fod yn y sefyllfa y dylem ni fod ynddi o ran gwasanaethau mamolaeth yng Nghwm Taf, ond rwy'n cytuno â chi, yn sicr, o ran effeithiau andwyol ysmygu a phwysedd gwaed, fod yna fwy y gallwn ni ei wneud yn yr ystyr ehangach o ran iechyd mamolaeth, lle mae angen i ni annog pobl i ystyried y pethau hynny, ac un o'r materion allweddol, yn sicr, yr wyf i'n ymwneud â nhw ar hyn o bryd yw nifer y menywod beichiog nad ydyn nhw wedi eu brechu. Mae nifer y menywod beichiog sydd yn yr ysbyty oherwydd nad ydyn nhw wedi eu brechu yn peri pryder enfawr, a byddwn i'n annog yr holl fenywod hynny sy'n feichiog yng Nghymru ar hyn o bryd i sicrhau eu bod nhw'n cael y brechlyn. Ni wnaiff unrhyw niwed i chi nac i'ch babi. Yn sicr, o ran partneriaid yn cael ymweld, rydym ni wedi ei gwneud hi'n glir, ar gyfer yr enedigaeth ei hun, y caiff y partner fod yn bresennol, ond mae'r sefyllfa o ran ymweld fel arall yn dibynnu ar y sefyllfa leol o ran cyfraddau COVID. Altaf Hussain AS: Hoffwn i roi teyrnged i'r holl staff sy'n gweithio i gynnal gwasanaethau yn ardal bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg, nid y staff meddygol yn unig, sydd wedi arddangos cymaint o gadernid yn ystod y 18 mis diwethaf, ond y rhai hynny sy'n arwain y sefydliad mewn cyfnod heriol fel hwn. Rydym ni i gyd yn gwybod bod y bwrdd yn wynebu heriau sylweddol cyn dechrau'r pandemig, a bod COVID-19 wedi dwyn llawer o'r gwendidau yn ein gwasanaethau iechyd ni i'r amlwg. Mae elwa ar wasanaethau newyddenedigol a mamolaeth o ansawdd uwch yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r gymuned leol, ac rwy'n gobeithio bod y bwrdd yn canolbwyntio ar hyn. Fy nghwestiynau i yw, Gweinidog: yn eich datganiad ysgrifenedig chi'n gynharach heddiw, fe wnaethoch chi ddweud bod momentwm wedi ei golli oherwydd COVID, ond bod y rhaglen ar y trywydd iawn i gyflawni gwelliannau hirdymor a chynaliadwy. Oni bai bod rhywbeth mawr wedi ei wneud i adennill y momentwm a gollwyd, sut mae'r rhaglen ar y trywydd iawn? Rhif 2: mae adroddiad thematig categori marw-enedigaethau y panel trosolwg annibynnol ar wasanaethau mamolaeth yn cyfleu darlun tywyll. Dylem ni fod yn gweld gwerth yn yr hyn sydd gan fenywod i'w ddweud am y gwasanaethau hyn, ac nid yw hynny wedi digwydd. Beth mae angen i'r bwrdd iechyd hwn ac eraill ei wneud er mwyn gwrando ar farn menywod sydd wedi eu hesgeuluso a'u hanwybyddu? Fy nghwestiwn olaf i, Gweinidog: mae goruchwylio'r bwrdd yn hollbwysig. Mewn meysydd eraill, byddai pobl wedi eu diswyddo, a byddai cymhwysedd y bwrdd yn cael ei adolygu. Beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau bod y bwrdd hwn yn addas i'r diben? Diolch yn fawr iawn i chi. Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr iawn, Altaf. Yn sicr, rwy'n credu ei bod hi'n deg i ni ddweud bod dealltwriaeth, wrth gwrs, fod gwasanaethau mamolaeth yn flaenoriaeth nid yn unig i'r gymuned leol, ond i'r bwrdd iechyd hefyd. Dyma un o'r meysydd allweddol y mae'r GIG yn gyfrifol amdanyn nhw—sef sicrhau y caiff babanod eu geni mewn modd diogel. Wrth gwrs, fel gwasanaethau eraill, mae momentwm wedi ei golli o ganlyniad i COVID. Ni fyddech chi'n disgwyl iddi fod fel arall. Felly, mae wedi gwyro oddi ar y trywydd iawn i ryw raddau, ond rydym ni'n awyddus iawn i sicrhau ein bod ni'n gwneud popeth sydd yn ein gallu i weld pethau ar y trywydd iawn unwaith eto, ac nad ydym ni'n newid yr angen i fynd i'r afael â diwylliant yn y sefydliad ei hun. Ac rwy'n cytuno â chi mai darlun tywyll sy'n cael ei gyfleu yn yr adroddiad, a'i bod hi'n hanfodol i ni wrando ar farn y menywod yr effeithiwyd arnyn nhw gan y gwasanaethau a gawsant. Ond rwy'n credu eich bod chi'n gwneud pwynt teg iawn ynglŷn â'r angen i fwrdd Cwm Taf Morgannwg fod â diddordeb gwirioneddol yn hyn, a bod eu swyddogaeth nhw o ran goruchwylio yn gwbl hanfodol. A dyna pam rwy'n falch iawn bod Emrys Elias wedi cymryd hyn o ddifrif. Rwy'n gwybod ei fod yn deall yr angen i ganolbwyntio ar y mater hwn yn wirioneddol, ac nid ar y mater hwn yn unig, ond hefyd y materion llywodraethu ehangach y mae angen gwirioneddol i fynd i'r afael â nhw, yn enwedig yn y bwrdd iechyd hwn. Diolch i'r Gweinidog, ac fe fyddwn ni nawr yn cymryd toriad byr. Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:13. Ailymgynullodd y Senedd am 15:21, gyda'r Llywydd yn y Gadair. 4. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Rhoi Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ar Waith yn Genedlaethol Croeso i'r eitem nesaf, felly, a'r datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yw hwnnw, ar roi llesiant cenedlaethau'r dyfodol ar waith yn genedlaethol. Dwi'n galw ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i wneud ei datganiad. Jane Hutt. Jane Hutt AC: Diolch yn fawr, Llywydd. Mae datblygu cynaliadwy wedi bod wrth wraidd datganoli yng Nghymru o'r cychwyn cyntaf. Yn 2015, gwnaeth y Senedd hon benderfyniad hanesyddol i newid cwrs Cymru a'i rhoi ar lwybr mwy cynaliadwy drwy basio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Roedd hyn yn adlewyrchu'r ymdrech ddiflino gan bobl o bob cwr o Gymru i gryfhau'r ffordd y caiff dyfodol Cymru ei lunio. Mae'n parhau i fod yn ymrwymiad cymdeithas Cymru i ansawdd bywyd gwell ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Ar gyfer pobl, ar gyfer y blaned, nawr ac ar gyfer y dyfodol. Fis diwethaf, gwelsom y Cenhedloedd Unedig, am y tro cyntaf erioed, yn ymrwymo i sefydlu ystod o ddulliau sefydliadol i wella undod â chenedlaethau'r dyfodol. Roedd hefyd yn cydnabod pwysigrwydd cynrychioli cenedlaethau'r dyfodol yn rhan o ddull gweithredu unrhyw wlad i wella bywydau dinasyddion a bod â chyfrifoldeb dros y blaned. Mae hyn yn cynnwys cynigion ar gyfer datganiad ar genedlaethau'r dyfodol, cennad arbennig y Cenhedloedd Unedig ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol a dulliau rheolaidd i ystyried tueddiadau yn y dyfodol. Mae ein profiad yng Nghymru wedi annog gwledydd eraill i wneud yr un peth, ac mae'r newidiadau hyn yn gymeradwyaeth gref i benderfyniadau beiddgar y Senedd i ddeddfu ar gyfer y dyfodol. Mae datganiad Agenda 2030, a ffurfiodd nodau datblygu cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig, yn cydnabod yn benodol swyddogaeth hanfodol seneddau cenedlaethol drwy ddeddfu deddfwriaeth a mabwysiadu cyllidebau a'u swyddogaeth o ran sicrhau atebolrwydd am weithredu effeithiol. Felly, mae'r Senedd yn elfen bwysig a chydnabyddedig o bensaernïaeth atebolrwydd Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. I gydnabod hyn, roeddwn i eisiau gwneud datganiad cynnar yn nhymor y Senedd hon wrth i ni ddechrau'r cylch nesaf o wneud cynaliadwyedd yn rhan annatod o'r ffordd y mae Cymru'n gweithio. Mae Cymru'n parhau i ddangos ei harweinyddiaeth ryngwladol ar yr agenda datblygu cynaliadwy. Mae'r adroddiad annibynnol a lansiwyd yr wythnos diwethaf gan y Prif Weinidog a'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn dangos bod sylfaen ymchwil Cymru yn gwneud cyfraniad sylweddol i nodau datblygu cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig. Rwy'n falch o weld y cyfraniad y mae ein cymuned wyddonol yn ei wneud at faterion byd-eang. Mae ein camau gweithredu a'n harweinyddiaeth ar agenda llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn cyflymu yn nhymor y Llywodraeth hon. Mae ein rhaglen lywodraethu, gyda'r amcanion llesiant wrth ei gwraidd, yn dangos swyddogaeth ganolog dull llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn y ffordd yr ydym yn meddwl ac yn llunio polisïau. Rydym wedi dod â chyrff cyhoeddus at ei gilydd i drafod sut yr ydym yn bwrw ymlaen â'n huchelgeisiau datblygu cynaliadwy ar gyfer Cymru drwy fforwm rhanddeiliaid cenedlaethol llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Rwy'n bwriadu cwrdd ag aelodau'r fforwm yn fuan i drafod sut y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i roi arweiniad wrth roi'r Ddeddf ar waith yn genedlaethol, a sut y gallwn fwrw ymlaen â chamau gweithredu penodol mewn cydweithrediad â'r fforwm a dwyn ynghyd y camau hyn mewn cynllun ar gyfer tymor y llywodraeth hon. Y mis diwethaf, lansiais ymgynghoriad ar gerrig milltir cenedlaethol i Gymru, a fydd yn llywio camau gweithredu yn y dyfodol tuag at gyflawni'r nodau llesiant a rennir. Ddiwedd eleni, bydd gennym y gyfres gyntaf o gerrig milltir cenedlaethol o fewn y Ddeddf, byddwn wedi diweddaru ein dangosyddion llesiant cenedlaethol i adlewyrchu effaith y pandemig hyd yn hyn, ac wedi diweddaru ein hadroddiad ar dueddiadau yn y dyfodol sy'n debygol o effeithio ar Gymru. Mae'r gwaith hwn yn rhoi cyfle i godi ymwybyddiaeth o'r ddeddfwriaeth, yr wyf yn gwybod bod y fforwm cenedlaethol yn awyddus i weithio gyda ni arni hi. Byddwn ni hefyd yn adolygu'r rhestr o gyrff cyhoeddus sy'n ddarostyngedig i'r Ddeddf, gan ein bod yn cydnabod bod gwerth mewn ymestyn y dyletswyddau hyn i gyrff cyhoeddus eraill, a bod llawer o gyrff eisoes yn mabwysiadu'r egwyddor datblygu cynaliadwy yn wirfoddol. Byddwn hefyd yn parhau i ymgysylltu â'n cymheiriaid rhyngwladol drwy ein haelodaeth barhaus o 'Regions4 sustainable development' a Rhwydwaith Llywodraethau'r Economi Llesiant, ochr yn ochr â'r Alban, Gwlad yr Iâ, y Ffindir a Seland Newydd. Ar ddiwedd tymor diwethaf y Senedd, gwelsom dri adroddiad arwyddocaol yn canolbwyntio ar gyhoeddi'r Ddeddf. Roedd 'Adroddiad Cenedlaethau'r Dyfodol' yn darparu asesiadau Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru o welliannau y dylai cyrff cyhoeddus eu gwneud i weithredu yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy; adroddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ar ganlyniadau ei archwiliadau o'r holl gyrff cyhoeddus; ac edrychodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y pumed Senedd ar y rhwystrau rhag gweithredu. Rwyf wedi croesawu'r adroddiadau hyn gan eu bod yn rhoi cyfle i bwyso a mesur ym mhob tymor Senedd sut y mae'r Ddeddf yn galluogi'r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus i weithio mewn ffordd fwy cynaliadwy. Mae ein hymateb i adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus bellach wedi'i gyhoeddi, a byddwn hefyd yn cyhoeddi ein hymatebion i adroddiadau'r archwilydd cyffredinol a chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol cyn bo hir. Bydd angen amser ar aelodau a'r pwyllgorau perthnasol i ystyried canfyddiadau'r adroddiadau hyn yn ogystal â'r ymatebion gan y Llywodraeth, y comisiynydd, yr archwilydd cyffredinol a'r cyrff cyhoeddus sy'n gyfrifol am gyflawni datblygu cynaliadwy. Rwy'n deall y bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn ystyried yr ymatebion i adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yfory, ac rwy'n gobeithio y bydd ein hymateb i'r argymhellion yn ddefnyddiol yn eu trafodaethau. Ond rwy'n sylweddoli hefyd y bydd angen amser ar aelodau'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ac, wrth gwrs, y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, y mae ei gylch gwaith yn cynnwys y Ddeddf, i ystyried ein hymateb, a byddwn yn hapus i ymateb i unrhyw bwyntiau eraill sy'n deillio o'r trafodaethau hyn. I gydnabod hyn, mae'r datganiad heddiw yn canolbwyntio ar ein camau gweithredu parhaus ar agenda llesiant cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru a sut y gall y ddeddfwriaeth ysgogi gwell penderfyniadau ar gyfer y cenedlaethau presennol a rhai'r dyfodol. Mae Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn parhau i lywio'r hyn a wnawn, sut yr ydym yn gweithio, a sut yr ydym yn gweithio gydag eraill. Byddwn yn arwain y neges ar sicrhau dyfodol cynaliadwy i Gymru, a'r newidiadau i'r ffordd yr ydym yn gweithio, fel bod datblygu cynaliadwy yn cael ei atgyfnerthu fel egwyddor drefniadol ganolog y Llywodraeth a chyrff cyhoeddus yng Nghymru. Joel James MS: Rwy'n dychmygu y cafodd y Gweinidog brofiad amhleserus wrth ddarllen adroddiad 'Cyflawni ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol' o gofio'r nifer llethol o feirniadaethau a osodwyd wrth ei drws a pha mor wael y cafodd y ddeddfwriaeth hon ei gweithredu. Mae'r comisiynydd ei hun wedi mynegi pryder mawr fod ei swyddfa'n cael ei thanariannu'n aruthrol i weithredu polisi cenedlaethau'r dyfodol blaenllaw Llywodraeth Cymru yn llawn, ac er y dangoswyd bod comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn cyflawni mewn rhai achosion dethol, mae llawer o achosion a gofnodwyd lle mae cyrff cyhoeddus yng Nghymru wedi teimlo'n gwbl ddi-gefnogaeth. Yn wir, 'Yn ôl rhai, "cyfyngedig" oedd y cyfathrebu a'r ohebiaeth, a "gweddol ysbeidiol" yw presenoldeb' y comisiynydd mewn cyfarfodydd byrddau gwasanaethau cyhoeddus. Mae Conffederasiwn GIG Cymru yn mynd gam ymhellach, gan dynnu sylw at y ffaith eu bod yn ansicr ynghylch pa lefel o gymorth y gallan nhw ei ddisgwyl mewn gwirionedd ac nad yw gweithredu'r Ddeddf bob amser yn glir, ac y bydden nhw mewn gwirionedd yn croesawu cymorth mwy ymarferol gan swyddfa'r comisiynydd. O gael ei holi am hyn, teimlai comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol nad oedd ganddi'r adnoddau i gyflawni'r rhaglen waith hon gan mai ganddi hi y mae'r gyllideb isaf o'i chymharu â chyllideb unrhyw gomisiynydd yng Nghymru. Hefyd, tynnodd y comisiynydd sylw at y ffaith bod 43 y cant o'i hamser swyddfa yn cael ei ddefnyddio mewn gwirionedd i 'gefnogi, cynghori a lobïo Llywodraeth Cymru' i weithredu'r Ddeddf o fewn ei sefydliad ei hun. Mae'n anghredadwy, ond eto nid yw'n syndod, o ystyried anallu cyffredinol y Llywodraeth hon i hyd yn oed roi ei deddfwriaeth ei hun ar waith yn ei sefydliad ei hun, ac mae ei chomisiynydd wedi syrffedu fel ei bod yn barod i ddweud nad ei gwaith hi yw lobïo Llywodraeth Cymru. Gweinidog, pam mae comisiwn cenedlaethau'r dyfodol yn treulio amser anghymesur yn ceisio cael y sefydliad hwn i weithio o fewn cyfyngiadau Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, pan ddylai fod yn ceisio cynyddu ei broffil a chefnogi sefydliadau allanol? O gofio nad yw 87 y cant o'r cyhoedd yng Nghymru, ac, yn fwy syfrdanol, 8 y cant o gyrff cyhoeddus Cymru, erioed wedi clywed am Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, a wnaiff y Gweinidog gytuno â mi fod Llywodraeth Cymru, ar ôl pum mlynedd, wedi methu â chyflawni ei pholisi blaenllaw? Ac a wnaiff y Gweinidog gytuno â'r myfyrwyr a fu'n ymwneud â'r ymchwiliad mai bai'r blaid lywodraethol ydyw os nad yw pethau'n iawn yn y pen draw? Mae dadansoddiad pellach o'r adroddiad yn dangos nad yw'n ymddangos bod gan Lywodraeth Cymru unrhyw syniad o gwbl ynghylch sut i weithredu'r ddeddfwriaeth hon, ffaith a amlygwyd gan WWF Cymru, y daeth ei hymchwiliad i'r casgliad nad oes dull systematig a chydlynol gan Lywodraeth Cymru i weithredu'r Ddeddf ac ychydig o dystiolaeth a geir hyd yma bod fframwaith y Ddeddf yn ysgogi unrhyw ddatblygiad polisi. Yn wir, clywodd yr ymchwiliad hefyd gan gyrff cyhoeddus a rhanddeiliaid eraill fod gan Lywodraeth Cymru feddylfryd ynysig wrth weithio, bod diffyg cysondeb yn y ffordd y defnyddir y Ddeddf, a bod diwylliant o newid araf o fewn y sefydliad. Cafwyd beirniadaeth fwy negyddol gan yr archwilydd cyffredinol, a ddywedodd: 'nad yw’r penderfyniadau a wneir gan Lywodraeth Cymru yn hollol gyson ag ysbryd y Ddeddf yn aml.' Mae prif weithredwr a llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi dadlau, 'Mae’n anodd gweld sut mae polisi’r Llywodraeth mewn perthynas â diwylliant a Chymraeg yn ffynnu yn cyd-fynd â gofynion y Ddeddf ar hyn o bryd.' Cafwyd beirniadaeth ddamniol bellach gan y comisiynydd, a gytunodd eu bod, wedi dechrau’n eithaf araf ar ddechrau’r broses o gyflwyno’r Ddeddf. Nid oedd wir yn gweld yr arweinyddiaeth wleidyddol glir iawn honno o amgylch y Ddeddf, ac felly dywedodd nad oedd yn "llifo i lawr" i’r gwasanaeth sifil ac ati. Aeth y comisiynydd ymlaen ymhellach i ddweud, yn ddi-flewyn-ar-dafod, yn yr adroddiad: 'pan fyddwch yn dechrau cael tameidiau o ganllawiau a pholisi gan Lywodraeth Cymru, nad ydyn nhw'n cysylltu â'r peth y maen nhw wedi'i greu mewn statud yma, mae hynny'n mynd â ni i gyfeiriad gwahanol, dyna lle mae'r holl beth yn dechrau cael ei danseilio.' Yn anffodus, mae llawer o gyrff cyhoeddus yng Nghymru yn rhannu'r farn hon, sef nad yw'n ymddangos bod gan y Ddeddf, er ei bod i'w gweld yn gyson ym mhrif negeseuon a bwriad polisi'r Llywodraeth, unrhyw neges gydlynol o ran y ffordd y mae hyn yn troi'n weithredu; bod y Ddeddf hon yn rhy gymhleth, yn rhy anghyson ac, i aralleirio comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, mae'n cymhlethu tirwedd sydd eisoes yn gymhleth. Yn olaf, wrth gloi, o ddarllen yr adroddiad, mae'n amlwg bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn credu mai ychydig iawn o arweiniad gwleidyddol a ddangosodd Llywodraeth Cymru wrth weithredu'r ddeddfwriaeth hon, bod angen lobïo'n gyson i weithredu ei deddfwriaeth ei hun, ac ychydig iawn o dystiolaeth sydd bod y Ddeddf yn hybu unrhyw ddatblygiad polisi neu ei bod yn ddull cydlynol. Rwy'n deall y bydd y Gweinidog yn gwneud popeth i arbed ei hunan-barch yn sgil yr adroddiad damniol hwn, ond, yn y termau symlaf posibl, a wnaiff y Gweinidog egluro a fyddan nhw'n cymryd y feirniadaeth hon o ddifrif ac yn ymateb yn unol â hynny, neu a fyddan nhw'n ei gwadu ac yn parhau beth bynnag? Mae gwefan cenedlaethau'r dyfodol yn datgan mai Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yw'r unig ddeddfwriaeth o'i math yn y byd o hyd ac mae'n cael ei hystyried gan y Cenhedloedd Unedig fel esiampl i wledydd eraill ei dilyn. Os yw hyn yn wir, yna dylai'r Llywodraeth hon fod â chywilydd gwirioneddol. Diolch. Jane Hutt AC: Cyfres siomedig iawn o gwestiynau a sylwadau ar adroddiadau—adroddiadau sydd, yn fy marn i yn adlewyrchu barn wahanol iawn am roi Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol ar waith. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i ni edrych ar yr adroddiadau—yr adroddiad, yn gyntaf oll, yn bwysicaf oll, gan ein Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ein hunain, a gyflwynodd adroddiad, wrth gwrs, cyn diwedd y sesiwn ddiwethaf, yr ydym yn ymateb iddo heddiw. Rwy'n deall bod y pwyllgor yn cyfarfod yfory, ac rwy'n credu y bydd yn ddefnyddiol iawn gweld beth yw eu hymateb nhw i ymateb ein Llywodraeth ni i'w hargymhellion nhw. Roeddwn i'n credu bod adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn adeiladol dros ben, yn hynod o ddefnyddiol, ac, wrth gwrs, mae gennym Aelodau yma sydd wedi eistedd ar y pwyllgor hwnnw ac a gymerodd ran yn yr ymchwiliad hwnnw. Ond, hefyd, rwy'n edrych ymlaen at glywed ganddyn nhw yn llawn. Ond gadewch i ni gydnabod bod Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol dros y 18 mis diwethaf wedi bod yn destun cryn graffu ar ei heffeithiolrwydd fel fframwaith deddfwriaethol i wella cynaliadwyedd Cymru, a dyna pam y mae'r adroddiadau hyn mor bwysig. Mae angen i ni edrych ar y tri ohonyn nhw o ran ymateb. Rwy'n credu bod yr adroddiadau gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol a'r archwilydd cyffredinol yn darparu ystod eang o ganfyddiadau a syniadau ynghylch sut y gall y Llywodraeth a chyrff cyhoeddus ymgorffori datblygu cynaliadwy yn y ffordd y maen nhw'n gweithio, a hybu gweithredu fframwaith llesiant cenedlaethau'r dyfodol ar waith yng Nghymru. Felly, rwy'n croesawu'r adroddiadau hyn yn fawr, gan eu bod yn parhau i fod yn rhan annatod o gylch y Ddeddf. Byddai wedi bod yn dda clywed rhai cwestiynau a sylwadau ar ein hymatebion i'r argymhellion a ddaeth drwy'r adroddiadau hyn. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i roi arweiniad ar agenda llesiant cenedlaethau'r dyfodol, rydym yn cydnabod ein swyddogaeth yn geidwaid y ddeddfwriaeth, ac rydym eisiau defnyddio'r ddeddfwriaeth, fel y gwnaeth eisoes, i ysgogi gwelliannau cadarnhaol yn y ffordd yr ydym yn gwneud penderfyniadau yng Nghymru. Rwyf wedi sôn am y fforwm rhanddeiliaid cenedlaethol newydd sydd wedi'i sefydlu, a'r digwyddiadau cyfnewid i rannu arfer gorau. A hefyd, byddwn yn gobeithio bod gennych rywfaint o ddiddordeb yn yr ymgynghoriad ar gerrig milltir cenedlaethol a'r dangosyddion cenedlaethol. Gobeithio y byddwch yn ymateb i'r rhain o ran yr ymgynghoriad a nodwyd gennym. Mae hyn yn ymwneud â cherrig milltir cenedlaethol, y saith nod llesiant ar gyfer Cymru, i roi disgrifiad o'r ffyrdd yr ydym ni eisiau sicrhau Cymru economaidd, gymdeithasol ac amgylcheddol gyfiawn. Rwyf eisiau gorffen, o ran ymateb i'ch pwyntiau heddiw, drwy roi rhai enghreifftiau o'r gwahaniaeth y mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol wedi'i wneud. Mae'n ddiddorol; yn fy mhortffolio fy hun, mae'r rhaglen cyfleusterau cymunedol yn darparu grantiau ar gyfer prosiectau a arweinir gan y gymuned. Fe'u defnyddir i wella cynaliadwyedd amgylcheddol ac ariannol cyfleusterau cymunedol; maen nhw'n cael eu hysgogi'n fawr gan y pum nod—y Gymru fwy cyfartal, fwy cydnerth a mwy cynaliadwy—ond hefyd y ffordd yr ydym yn gweithio ar y rheini. Mae'r fforwm cydraddoldeb i bobl anabl, yr wyf i'n ei gadeirio, hefyd yn ystyried y ffyrdd y gallwn ymgysylltu'n amlach â llais pobl anabl, er mwyn sicrhau bod lleisiau pobl anabl yn cael eu clywed, a hefyd yn ein llywio ni o ran y ffordd yr ydym yn gweithredu'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol. Y tu allan i fy mhortffolio i, mae 'Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021' yn weledigaeth hirdymor, sy'n un o nodau allweddol llesiant cenedlaethau'r dyfodol—yr hyn sy'n fuddiol i bobl, i'r amgylchedd, ac i Gymru, sef cael system drafnidiaeth hygyrch a chynaliadwy. A hefyd, y strategaeth 'Tu Hwnt i Ailgylchu', sy'n bwriadu cefnogi'r adferiad gwyrdd, drwy gymryd camau sy'n cefnogi sero wastraff, carbon sero-net yng Nghymru. Maen nhw i gyd wedi defnyddio ffyrdd llesiant cenedlaethau'r dyfodol o weithio a saith nod allweddol i'w gyrru ymlaen. Peredur Owen Griffiths AS: Dwi'n ddiolchgar i gael ymateb i'r datganiad heddiw. Peredur Owen Griffiths AS: Mae Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol wedi'i chanmol yn rhyngwladol, ac yn gwbl briodol felly. Mae'n ddarn arloesol o ddeddfwriaeth sydd â'r potensial i drawsnewid ein gwlad er gwell. Pwy allai ddadlau â deddfwriaeth sy'n ymgorffori saith nod llesiant trawsbynciol o ffyniant, cydnerthedd, iechyd, cydraddoldeb, cymunedau cydlynol, diwylliant bywiog gydag iaith Gymraeg ffyniannus, ac yn olaf Cymru fyd-eang, gyfrifol? O ran rhestr ddymuniadau i Gymru, mae'n anodd gweld bai arni. Rwy'n credu hefyd ei bod yn bwysig i ddatganoli fod gennym enghraifft o wahaniaeth sy'n dangos y gallwn ni wneud pethau'n wahanol ac yn well yma yng Nghymru. Mae'r Ddeddf hon, ar bapur o leiaf, yn sicr yn gwneud hynny. Fodd bynnag, fel sy'n digwydd yn aml gyda deddfwriaeth, mae'r bwriadau gorau'n aml yn cael eu siomi gan y gweithredu. Yn anffodus, dyna'r hyn a welsom ni gyda Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Canfu Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Senedd, a adroddodd ym mis Mawrth eleni, nad yw uchelgeisiau radical y Ddeddf wedi'u cyflawni gan y newid diwylliant angenrheidiol ar draws cyrff cyhoeddus. Hefyd, nid yw'r cyrff cyhoeddus hyn wedi gwneud digon i feithrin ymwybyddiaeth o'r newid i ddatblygu cynaliadwy ar draws gwasanaethau cyhoeddus. Mae darn mor uchelgeisiol o ddeddfwriaeth hefyd yn gofyn am gyllid uchelgeisiol, ond nid yw hynny wedi digwydd. Mae cylchoedd ariannu byr a chyhoeddiadau ariannu hwyr wedi ei gwneud yn anodd i gyrff cyhoeddus gynllunio, cydweithio, a manteisio i'r eithaf ar yr adnoddau sydd ganddyn nhw. Nid yw cyllideb comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol ychwaith wedi bod yn ddigonol i ganiatáu i'w swyddfa ddarparu digon o'r cymorth ymarferol sydd ei angen ar gyrff cyhoeddus i weithredu'r Ddeddf. Rwy'n cydnabod bod Brexit wedi gwneud pethau'n waeth o ran gweithredu'r Ddeddf gan ei bod wedi ei gwneud yn anoddach i gyrff cyhoeddus gynllunio ar gyfer dyfodol ansicr. Rwy'n falch o weld bod nifer o fesurau wedi'u cymryd i gael pethau'n ôl ar y trywydd iawn yn y datganiad heddiw. Rwy'n croesawu dod â chyrff cyhoeddus at ei gilydd i drafod datblygu cynaliadwy ac allyriadau drwy fforwm cenedlaethol. Mae'r bwriad i lunio'r gyfres gyntaf o gerrig milltir cenedlaethol o fewn y Ddeddf erbyn diwedd y flwyddyn hefyd i'w ganmol. Mae ceisio ehangu cwmpas y Ddeddf i gynnwys mwy o gyrff cyhoeddus hefyd yn gam cadarnhaol. Rwy'n gobeithio, gyda'ch gilydd, y bydd eich mesurau'n mynd i'r afael â rhai o'r diffygion a nodwyd fel rhai sy'n atal y ddeddfwriaeth rhag cyflawni ei photensial llawn. Os ydym ni am gyflawni'r saith nod, bydd angen inni weld mwy o weithredu ar amrywiaeth o feysydd polisi. Hyd nes y gwelwn gynnydd pellach o ran mynd i'r afael â materion fel yr argyfwng tai, dinistrio ein hamgylchedd a'r gyfradd ofnadwy o dlodi plant, ni fydd Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn dod yn fyw. Diolch. Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair. Jane Hutt AC: Diolch yn fawr, Peredur. Diolch, hefyd, am gydnabod pwysigrwydd y ddeddfwriaeth arloesol hon—Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol—sy'n cael ei chanmol nid yn unig o ran y rhai sy'n ymgysylltu â hi yn rhagweithiol, ond ar draws y byd hefyd. Ond yn amlwg, dyma'r pum mlynedd cyntaf, ac mae'n rhaid inni ddysgu a mynd i'r afael â'r materion sydd, yn bwysicaf oll, wedi ymddangos yn adeiladol iawn, rwy'n credu, yn yr adroddiadau a gawsom gan ein cyn-Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, a chan yr archwilydd cyffredinol hefyd, ac, yn wir, gan y comisiynydd llesiant a chenedlaethau'r dyfodol ei hun, o ran ei hadroddiad. Fel y dywedais yn fy natganiad, rwy'n ysgrifennu'n fuan at gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol i sicrhau ein bod yn cwblhau ein hymateb i adroddiad cenedlaethau'r dyfodol 2020, a oedd yn ddogfen drawiadol a dwfn ac eang iawn o ran ei huchelgeisiau polisi, ei blaenoriaethau a hefyd yn myfyrio ar yr hyn a gyflawnwyd, ond, hefyd, gan gydnabod, fel y gwnaeth hi—. Roedd adroddiad cenedlaethau'r dyfodol yn cydnabod llawer o'r camau yr ydym wedi'u cymryd i arwain Cymru i lawr llwybr mwy cynaliadwy, sef yr hyn, yn amlwg a phriodol, yr oeddech chi'n ei ofyn i mi. Beth fu'r effeithiau a'r canlyniadau? Datgan ein hargyfwng hinsawdd, newidiadau i'n polisi cynllunio cenedlaethol, gwaith i gefnogi camau gweithredu ar lefel gymunedol drwy'r rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur a chanolfannau cymunedol, a hefyd gwella proses ein cyllideb—i gyd yn cael eu cydnabod yn ei hadroddiad. Rwyf yn credu ei bod yn bwysig adrodd fel y gwneuthum yn fy ymateb i adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, fod cyllid y comisiynydd wedi cynyddu eleni i ddarparu cydraddoldeb o'i gymharu â'r comisiynydd plant. Yr hyn sy'n bwysig, yn ei hymateb cadarnhaol i hyn, yw y caiff hyn ei ddefnyddio i fodloni'r gofynion statudol arni—gofynion gwaith statudol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol hon ac i'r nesaf. Wrth gwrs, mae hefyd yn bwysig cydnabod y lefel enfawr o alw y mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod swyddfa comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn ei gael o ran ceisio arweiniad. Felly, rydym yn sicr yn gweithio gyda'r comisiynydd i helpu i leddfu'r pwysau hyn. Ond rwy'n credu ei bod yn ddefnyddiol iawn, unwaith eto, Peredur, eich bod wedi amlinellu pwysigrwydd y ffordd ymlaen o ran y cerrig milltir cenedlaethol a'r dangosyddion llesiant yr ydym yn ymgynghori arnyn nhw, oherwydd dyma'r hyn y mae pobl eisiau clywed amdano, a sut yr ydym am ysgogi ein blaenoriaethau. Mae'n cynnwys ôl troed ecolegol Cymru, canran y bobl mewn cyflogaeth, cydraddoldeb cyflog ar gyfer rhyw, ethnigrwydd ac anabledd, allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru, nifer y bobl sy'n gallu siarad Cymraeg. Ymgynghorir ar yr holl faterion hyn nawr yn y dangosyddion llesiant cenedlaethol, sy'n hanfodol mewn gwirionedd i ddeddfwriaeth llesiant cenedlaethau'r dyfodol a'r hyn y bydd yn ei gyflawni. Felly, rwy'n ddiolchgar am eich ymateb. Mae llawer i'w ddysgu o ganlyniad i'r adroddiadau hyn. Rwyf wedi derbyn mewn egwyddor neu, os nad wyf, rwyf wedi derbyn argymhellion y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn llawn, i sicrhau y gallwn symud ymlaen o ran cydnabod y cyrff cyhoeddus hynny y mae angen inni eu dwyn i mewn i gwmpas deddfwriaeth llesiant cenedlaethau'r dyfodol, er mwyn sicrhau y gall pawb elwa. Ac rwy'n credu mai un o'r datblygiadau pwysig—rwyf wedi sôn am y fforwm rhanddeiliaid cenedlaethol—yw'r rhan y gall y trydydd sector ei chwarae, yn enwedig y trydydd sector yn y sector amgylcheddol, a all hefyd helpu i gyflawni gweithredu i'r Ddeddf hon yn genedlaethol. Mark Isherwood AC: Wel, os nad yw'r Aelodau'n ymwybodol, rwy'n ymateb fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn hytrach nag fel aelod plaid. Wel, a minnau'n Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, sydd bellach wedi'i dalfyrru'n PAPAC, mae'n rhaid i mi atgoffa'r Aelodau mai swyddogaeth y pwyllgor hwn yw craffu ar ddefnydd a gweinyddiaeth effeithlon ac effeithiol o adnoddau cyhoeddus, sy'n croesi holl feysydd busnes Llywodraeth Cymru. Mae'n arfer i Gadeiryddion pwyllgorau gael ymatebion Llywodraeth Cymru i adroddiadau pwyllgorau yn ysgrifenedig, gan alluogi'r pwyllgor i ystyried yn fanwl. Ond dim ond dydd Mercher diwethaf y cawsom ymateb ysgrifenedig, ac nid yw'r pwyllgor yn cyfarfod tan yfory. Hefyd, nid yw adroddiadau PAPAC, ac ymatebion gweinidogol iddyn nhw, fel arfer yn cael eu trafod drwy ddatganiad gan y Gweinidog. Felly, ystyrir bod y dull a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw yn anghwrtais, fel y mae datganiad generig a gyflwynwyd ddoe yn unig i gymryd lle datganiad a gyflwynwyd â theitl, a oedd yn cynnwys ein hadroddiad—y datganiad sy'n cael ei drafod nawr. Gweinidog, a ydych chi'n cydnabod nad dyma'r ffordd arferol i ymateb i adroddiad pwyllgor, ac nad yw hyn yn caniatáu dadl na thrafodaeth ddigonol ar y mater trawsbleidiol pwysig iawn hwn? Rwy'n cynghori'r Gweinidog y bydd y pwyllgor yn ystyried cyflwyno dadl arall yn y Cyfarfod Llawn ar hyn pan fu dadl flaenorol yn y Cyfarfod Llawn ym mis Mawrth yn rhagflaenu ymateb Llywodraeth Cymru. Mae'r Gweinidog wedi cyfeirio at y tri adroddiad a gyhoeddwyd yn ymwneud â'r Ddeddf, sef adroddiad blaenorol y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ac adroddiad comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol. Fodd bynnag, nid yw'r ymatebion i'r ddau olaf wedi'u rhannu eto gan Lywodraeth Cymru. Rhoddodd pumed fforwm Cadeiryddion y Senedd y dasg i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar y pryd i gynnal ymchwiliad i weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, gan gynnwys pwyllgorau eraill yn ei waith. Roedd yr adroddiad dilynol yn cydnabod, yn argymhellion 13 a 14, y dylai Pwyllgor Busnes y chweched Senedd ystyried sut y dylid bwrw ymlaen â'r gwaith o graffu ar y Ddeddf. Mae gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol gylch gwaith ar gyfer y Ddeddf erbyn hyn, ond, wrth ymateb i'r argymhellion hyn, dywedodd y Pwyllgor Busnes y bydd gwneud un pwyllgor yn gyfrifol am graffu ar weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ar waith, gobeithio, yn sicrhau ei fod yn destun gwaith craffu ôl-ddeddfwriaethol penodol, ond nid oes angen gwneud hyn ar wahân i waith pwyllgorau eraill. A ydych chi felly'n cydnabod y pwynt pwysig yma, bod yn rhaid gwneud unrhyw waith craffu ar y Ddeddf hon ar y cyd, ac y bydd PAPAC yn cynnal swyddogaeth allweddol yn y gwaith hwn? Gweinidog, fel y gwyddoch chi, dim ond ddydd Mercher diwethaf y cefais ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, gan dderbyn mewn egwyddor yn unig y rhan fwyaf o argymhellion yr adroddiad a gyfeiriwyd at Lywodraeth Cymru. Esboniodd Llywodraeth Cymru fod y dull hwn wedi'i fabwysiadu pan oedd yn cytuno â'r argymhellion eu hunain ond nid eu hamserlen ar gyfer cyflawni na'r modd o gyflawni'r argymhelliad. Pam, pan roddodd yr Ysgrifennydd Parhaol ymrwymiad i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn flaenorol, ym mis Ionawr 2018, i ddod â'r arfer i ben, yn sgil pryderon yr Aelodau nad oedd derbyn mewn egwyddor yn ymateb digonol i bob un ond un o'ch ymatebion, derbyn mewn egwyddor yn unig? Hefyd, a ydych chi'n cydnabod nad yw'n glir sut y mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno â'r argymhellion, hyd yn oed mewn egwyddor? Er bod llawer o ymatebion Llywodraeth Cymru yn awgrymu bod gweithgaredd arall yn digwydd, a ydych yn derbyn bod gweithredu deddfwriaeth yn gofyn am fonitro, gwerthuso ac amserlen glir, nid yn unig ar gyfer yr argymhellion yr ydych wedi cytuno iddyn nhw mewn egwyddor, ond hefyd ar gyfer gweithredu'r Ddeddf? Mae'n destun gofid—[Torri ar draws.] Rwyf wedi rhoi amser ychwanegol i'r Aelod, gan ei fod yn Gadeirydd, ond mae wedi mynd dros yr amser hwnnw yn awr. Mark Isherwood AC: Mae'n destun gofid nad oes gennyf ddigon o amser i'ch holi am argymhellion ein hadroddiad eu hunain. Jane Hutt AC: Diolch yn fawr, Mark Isherwood. Llongyfarchiadau ar eich rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus—PAPAC, fel y'i gelwir nawr. Yn amlwg, rydych chi'n ymateb i—yn bwrw ymlaen â'r adroddiad a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus blaenorol, ac rwyf eisoes wedi ysgrifennu atoch, fel yr ydych wedi amlinellu, gyda'n hymateb i'ch adroddiad, ac roeddwn i eisiau sicrhau eich bod wedi cael yr ymateb hwnnw mewn pryd ar gyfer y datganiad hwn heddiw, gan wybod hefyd y byddwch yn trafod hyn yfory. Wel, mae'n bwysig fy mod yn ymateb i'r pwynt ynghylch sut yr ydym ni'n rheoli ac yn ymateb i hyn, a beth yw swyddogaeth craffu ar y Senedd o ran Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Fel y dywedais yn fy natganiad, roeddwn i eisiau edrych ar y darlun cyfan o'r holl adroddiadau sy'n dod ger ein bron ar Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, o gofio mai dyma'r pum mlynedd cyntaf. Dyma'r tro cyntaf inni gael yr holl adroddiadau, ac mae angen i ni roi amser i'r Aelodau ystyried canfyddiadau'r adroddiadau, nid, yn amlwg, dim ond ein hymateb i'ch adroddiad chi, ond hefyd, wrth i ni ymateb, fel y dywedais yn fy natganiad, i adroddiad yr archwilydd cyffredinol ac adroddiad comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol hefyd. Ac rwy'n hapus iawn i ddod yn ôl i ymateb i drafodaethau pellach a chanlyniad eich ystyriaeth yfory. O ran pam yr wyf yn ymateb heddiw, mae'r argymhellion yn yr adroddiad wedi'u cyfeirio at Lywodraeth Cymru. Gweinidogion Cymru sy'n penderfynu ar y rheini sy'n cael eu cyfeirio at Lywodraeth Cymru, ac maen nhw'n ymdrin â phenderfyniadau allweddol, fel adolygu'r rhestr o gyrff sy'n ddarostyngedig i hynny—Gweinidogion Cymru sydd i ystyried hynny; cylchoedd ariannu hefyd—mae'r rheini i Weinidogion arwain arnyn nhw. A natur Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, a hynny'n briodol, yw ei bod yn croesi ar draws holl gyfrifoldebau Gweinidogion Cymru, yn ogystal â gwasanaeth sifil Llywodraeth Cymru. Felly, rwy'n edrych ymlaen at—. Fe wnaf i ymateb i bwyntiau sy'n deillio o'ch trafodaeth yfory. O ran gwaith craffu ar y Ddeddf gan y Senedd, mae'n amlwg, fel yr ydym ni wedi dweud, mae'r Senedd yn rhan bwysig o bensaernïaeth atebolrwydd Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, ac rwy'n credu bod y dull a gymerwyd yn dangos na all un pwyllgor yn unig ystyried y ddeddfwriaeth, ac nid cyfrifoldeb un o Weinidogion Cymru ydyw ychwaith. Mae'n gyfrifoldeb a dyletswydd ar y cyd i hybu a chyflawni datblygu cynaliadwy yn yr hyn a wnawn, ac rwy'n deall bod y Llywydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Busnes wedi ymateb i'r ddau argymhelliad o adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynghylch craffu ar y Ddeddf. Gobeithio y gwelwch mai'r hyn sy'n bwysig iawn, o ran fy ymateb i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, yw'r ffaith fy mod wedi derbyn eich argymhellion—fy mod wedi derbyn, o fewn y cylch gwaith a'r rhagolygon sydd gennym o ran amseru, yr holl argymhellion. Gan edrych ar sicrwydd ariannol i gyrff cyhoeddus sy'n ddarostyngedig i'r Ddeddf hon—y sicrwydd ariannol tymor hirach—mae hynny'n argymhelliad hollbwysig a ddeilliodd o'ch pwyllgor. Wrth gwrs, gwyddoch mai ein dyhead o hyd, fel Llywodraeth Cymru, yw darparu cyllidebau tymor hirach, ac rwyf eisiau gwneud sylwadau ar hyn heddiw, oherwydd nid dim ond ni, ond ein partneriaid a'n rhanddeiliaid sydd i roi'r sicrwydd hwnnw. Ond mae problem yma o ran—ac fe'i cydnabuwyd gan y pwyllgor—diffyg ffigurau ariannu ymlaen llaw gan Lywodraeth y DU. Mae wedi bod yn broblem i ni. Mae wedi golygu nad ydym ni wedi gallu rhoi setliadau ariannu aml-flwyddyn fel Llywodraeth Cymru, ac rydym ni'n parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i gyhoeddi setliadau aml-flwyddyn. Byddwn, felly, gobeithio, yn gweld, gyda'r adolygiad gwariant arfaethedig a chyllideb y DU ar 24 Hydref, y cam hwn i—y gallem ni, gobeithio, ddisgwyl setliad tair blynedd. Felly, gallai hyn ein helpu ni i symud ymlaen, oherwydd rydym ni eisiau rhoi syniad o gyllid ar gyfer y blynyddoedd i ddod, pan fo hynny'n bosibl, i'n cyrff cyhoeddus, ac os cawn y setliad aml-flwyddyn hwn gan Lywodraeth y DU, dylai ein galluogi ni i ddarparu cyllidebau dangosol tymor hirach o lawer i gyrff. Felly, dyna'r rheswm pam y mae'n rhaid inni dderbyn mewn egwyddor, ond mae'n amlwg yn cynnwys cydnabyddiaeth bod gan Lywodraeth y DU ran i'w chwarae yn hyn hefyd. Ac yn olaf, rydym ni'n edrych yn ofalus iawn ar y materion eraill yr wyf wedi'u crybwyll, y cerrig milltir, a'r ffordd yr ydym yn symud ymlaen ar hynny, ond hefyd yr adolygiad o gyrff cyhoeddus sy'n ddarostyngedig i'r Ddeddf. Ac mae hynny'n hollbwysig, ein bod yn cynnal adolygiad o'r cyrff sy'n ddarostyngedig i'r Ddeddf, a bydd y pedwar prawf hynny a ddefnyddir wrth benderfynu pa gyrff cyhoeddus sy'n ddarostyngedig i'r Ddeddf sy'n cael eu datblygu, yn sail i'r gwaith hwnnw. Felly, mae hwn yn ymateb cadarnhaol i argymhellion y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, ac rwyf wedi sôn am o leiaf dri eisoes. Diolch, Dirprwy Lywydd. Jenny Rathbone AC: Rwy'n cytuno â Mark Isherwood, yn enwedig bod angen dadl lawn arnom yn amser y Llywodraeth ar y materion pwysig hyn, oherwydd ni allwn fforddio peidio â defnyddio'r Ddeddf i sicrhau bod pob corff cyhoeddus yn cydweithio i gyflawni nodau a chanlyniadau gofynnol Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, yn bennaf oherwydd y toriadau mewn cyllid gan Lywodraeth y DU, felly mae gennym lai o arian i'w wario, ond hefyd oherwydd yr heriau gwirioneddol bwysicaf sy'n ein hwynebu o ganlyniad i COVID, Brexit a phob math o bethau eraill. Er fy mod yn Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, nid ydym wedi trafod hyn o gwbl, felly rwy'n siarad fel rhywun a oedd yn rhan o adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y mae'r Gweinidog yn ymateb iddo. Mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn rhannu tristwch Mark Isherwood mai dim ond mewn egwyddor y derbyniwyd cynifer o'r argymhellion, oherwydd nid wyf i'n credu mai dyna'r ffordd y dylai'r Llywodraeth fod yn gweithio. Naill ai yr ydych chi'n eu gwrthod, neu— A wnaiff yr Aelod ofyn cwestiwn nawr, os gwelwch yn dda? Jenny Rathbone AC: —yr ydych chi'n eu derbyn. Felly, y cwestiwn mewn gwirionedd yw—nid wyf yn deall pam nad ydych chi wedi derbyn argymhelliad 2 yn llawn, eich bod yn edrych ar y ffordd y caiff y byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu hariannu, dim ond oherwydd—. Nid yw hyn yn ymwneud â rhoi llwyth o arian iddyn nhw fel eu bod yn mynd i'r cylchdro o geisiadau am grantiau; mae'n ymwneud â sicrhau y gallan nhw gael gafael ar gronfeydd ariannol wedi'u cyfuno fel nad ydyn nhw'n meddwl am bwy sy'n mynd i fod yn talu am logi'r lleiafswm o ystafelloedd ar gyfer cyfarfod â'i gilydd— Diolch. Amser. Jenny Rathbone AC: Mae'n amlwg bod yn rhaid iddyn nhw ddefnyddio eu harian ar y cyd i wneud beth bynnag yn eu barn nhw yw'r blaenoriaethau ar gyfer eu meysydd, ond rwy'n credu bod rhywbeth y gall y Llywodraeth ei wneud i'w gwneud yn haws iddyn nhw. Felly, mae hynny'n sicr yn un, ac mae gennyf ddigon i'w ddweud, ond gallaf weld nad yw'r Dirprwy Lywydd yn mynd i adael imi barhau. Jane Hutt AC: Diolch yn fawr iawn, Jenny Rathbone. Rwy'n cydnabod eich swyddogaethau yma heddiw fel Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a hefyd wedi bod yn aelod o'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus blaenorol, ac rydych yn llygad eich lle, ni allwn fforddio peidio â defnyddio'r Ddeddf hon o ran effaith COVID-19 yn enwedig, sydd wedi cael effaith ar sut yr ydym wedi gallu ymateb i'r ddeddfwriaeth dros y flwyddyn ddiwethaf ar ddiwedd y pum mlynedd cyntaf o'r Ddeddf a hefyd y degawd o gyni ac, yn wir, roedd y pwyllgor hyd yn oed yn edrych ar effaith Brexit yn ogystal yn ei ystyriaethau. Ond fe wnaf i ymateb i'r argymhelliad allweddol hwnnw. Mae derbyn mewn egwyddor neu'n llawn yn ymwneud â chael rheolaeth lawn dros ddweud 'ie' i rai pethau, felly o ran cyllid byrddau gwasanaethau cyhoeddus, ein polisi ni yw mai mater i'r byrddau eu hunain yw penderfynu sut y maen nhw'n rhoi adnoddau i'w gwaith ar y cyd, gan gynnwys cyfuno cyllid, ac mae rhai enghreifftiau da o sut y mae byrddau wedi bwrw ymlaen â hyn. Ond, bu graddau amrywiol o lwyddiant, ac mae'n cael ei adlewyrchu yn yr adroddiad, ynghylch cyfuno cyllid neu ddefnyddio arian y tu allan i gyllideb y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus penodol hynny. Felly, yr hyn y mae angen inni ei wneud yw gweithio gyda'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus, i ddysgu gwersi o'r gwaith yn y gorffennol ac o'r gwaith presennol i gyfuno adnoddau i gael rhywfaint o arfer cyffredin ar gyfuno cyllid yn effeithiol rhwng aelodau, ond hefyd edrych ar sut y gallwn ni godi ymwybyddiaeth o'r ystod o ffynonellau ariannu eraill sydd ar gael a sut y gallan nhw gael gafael arnyn nhw, ac yna hefyd—ac mae hyn yn hollbwysig o ran ymateb Llywodraeth Cymru—ystyried yn flynyddol y pecyn ariannu a chymorth y mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ei ddarparu'n uniongyrchol i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus. Felly, roedd llawer o elfennau yn yr argymhelliad da iawn hwnnw yr wyf i'n ymateb iddo lle gallwn ni ymateb iddo mewn egwyddor ac yna'n llawn. Felly, ein nod yw cwblhau'r gwaith ariannu yn barod iddyn nhw gyflawni eu cynlluniau llesiant nesaf o fis Mai 2023, oherwydd mae'n hollbwysig—mae'n rhaid inni eu cynorthwyo i gyflawni eu hasesiadau lleol o lesiant. Altaf Hussain AS: Mae gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol y cyfle i herio pob un ohonom ni a'r ffordd yr ydym ni'n gweithio i sicrhau dyfodol gwell. Hoffwn longyfarch y comisiynydd presennol a'r comisiynydd cyntaf ar sefydlu'r swyddogaeth, datblygu ei phroffil a'i pherthynas â chyrff cyhoeddus, gan weithio gyda nhw i ymgorffori egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn eu gwaith. Rwyf hefyd eisiau cydnabod y sefydliadau nad ydyn nhw o fewn cwmpas y Ddeddf sydd hefyd wedi gweithio i ddeall potensial y ddeddfwriaeth yn y ffordd y maen nhw'n darparu gwasanaethau. Gweinidog, fy nghwestiynau i yw: yn gynyddol, bydd cyrff cyhoeddus yn troi at swyddfa'r comisiynydd am gymorth i ddefnyddio'r nodau llesiant. Ar y naill law, croesewir eu hymgysylltiad, ond mae'n codi mater o adnoddau. Pa ystyriaeth ydych chi yn ei rhoi i adnoddau swyddfa'r comisiynydd i sicrhau eu bod yn gallu cefnogi'r gwaith sy'n cael ei wneud gan gyrff cyhoeddus? Hefyd, yn eich datganiad fe wnaethoch chi ddweud bod y rhaglen lywodraethu yn dangos swyddogaeth ganolog dull llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn eich ffordd o feddwl ac wrth lunio polisïau. A wnewch chi fod yn fwy penodol yn y ffordd y mae adrannau'r Llywodraeth wedi newid i adlewyrchu hyn, ac ar ba dystiolaeth y gallwch chi ddibynnu arni? Yr olaf yw— Mae'r Aelod wedi gofyn cwestiynau ac rydym wedi mynd dros amser. Gweinidog. Jane Hutt AC: Diolch yn fawr, a diolch yn fawr iawn i'r Aelod. Mae'n hollbwysig ein bod yn gallu defnyddio deddfwriaeth llesiant cenedlaethau'r dyfodol, ac mae'n bwysig bod gennym y cyfle i herio sut y caiff hon ei defnyddio. Rwyf eisoes wedi ateb y cwestiwn ynghylch sut yr ydym wedi cynyddu cyllid y comisiynydd, ond rydym hefyd wedi rhoi rhai enghreifftiau o sut yr ydym wedi defnyddio Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol i gyflawni'r newidiadau. Rwyf eisoes wedi sôn am rai, ond rwy'n credu yr hoffwn hefyd, er enghraifft, sôn nid yn unig—. Rwyf eisoes wedi sôn mai Senedd Cymru oedd y cyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd, ein bod yn cynnal ein polisi o wrthwynebu echdynnu tanwydd ffosil yng Nghymru, ond rydym hefyd wedi nodi ein bwriad i oedi pob cynllun ffordd newydd yn erbyn cefndir ein targed wedi'i rwymo mewn cyfraith o gyrraedd sero-net erbyn 2050. Hefyd rhai enghreifftiau eraill o ran y ffyrdd o weithio, o ran cynnwys ac ymgysylltu, yw'r ffaith bod yr amgueddfa genedlaethol wedi bod yn cynnwys pobl ifanc ym mhob agwedd ar waith amgueddfa Cymru a hefyd, yn wir, cyngor y celfyddydau a chydffederasiwn GIG Cymru. Mae'r rhain yn gyrff sydd wedi sicrhau y gallan nhw ddefnyddio'r nodau llesiant a'r ffyrdd o weithio i gyflawni. Ond yn olaf, rwyf eisiau dweud y ceir argymhelliad pwysig iawn o ran llythyrau cylch gwaith. Mae'r llythyrau cylch gwaith bellach yn cynnwys gofyniad i fodloni'n llawn y dyletswyddau llesiant a nodir yn Neddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Ac mae hynny'n argymhelliad pwysig iawn gan y pwyllgor cyfrifon cyhoeddus yr wyf yn falch iawn o'i dderbyn. Ac yn olaf, John Griffiths. John Griffiths AC: Gweinidog, mae'n dda iawn bod gennym y ddeddfwriaeth hon a gydnabyddir yn rhyngwladol yma yng Nghymru i'n helpu i'n harwain, a byddwn i'n dweud, comisiynydd cryf iawn i helpu i sbarduno cynnydd. Ac rwy'n falch eich bod wedi gallu dod o hyd i rywfaint o arian ychwanegol ar gyfer y swyddogaeth. Fe wnaethoch chi sôn am y pandemig, Gweinidog, a'r prosesau newydd sy'n cael eu rhoi ar waith. Yn sicr, rwyf wedi clywed, ac rwy'n siŵr y bydd Aelodau eraill wedi clywed am gydweithio da iawn, cydweithio integredig, yn ystod y pandemig rhwng llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol a sefydliadau gwirfoddol, y gwasanaeth iechyd a phartneriaid allweddol, er enghraifft. Felly, a wnewch chi ddweud ychydig mwy ynghylch sut y bydd y broses honno'n cydnabod y gwaith newydd hwn sy'n debyg iawn i'r hyn y mae'r Ddeddf yn gofyn amdano a helpu i'w ddatblygu a'i ymgorffori ar gyfer y dyfodol? A hefyd y cyd-bwyllgorau corfforaethol a'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus—mae'r ddau ohonyn nhw'n bwysig iawn. Maen nhw ar yr un trywydd, mewn gwirionedd. Sut y bydd y Ddeddf yn sicrhau eu bod yn rhan allweddol o gyflawni'r cynnydd angenrheidiol, drwy gydweithio? Jane Hutt AC: Wel, diolch yn fawr iawn, John Griffiths, am y rhan allweddol yr ydych chi wedi'i chwarae yn y Senedd hon ac mewn Llywodraeth o ran dod â ni i'r pwynt hwn lle mae gennym ddeddfwriaeth arloesol o'r fath gyda Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Yn 'Llunio Dyfodol Cymru', sef y cyhoeddiad ar gyfer ein hymgynghoriad ar ein cerrig milltir cenedlaethol, mae mor bwysig—mae'n dweud bod gennym gyfraith yng Nghymru sy'n ein helpu ni i gyd i gydweithio i wella ein hamgylchedd, ein heconomi, ein cymdeithas a'n diwylliant, a dyna'r holl nodau llesiant sydd eisoes wedi'u nodi heddiw. Mae'r ffaith bod y ffyrdd o weithio, sy'n cynnwys cydweithio, integreiddio, cymryd rhan, atal hirdymor, wedi llywio'r gwaith yr ydym wedi'i wneud yn ystod y pandemig, rwy'n credu, o ran y ffyrdd o weithio nid yn unig gyda llywodraeth leol, Llywodraeth Cymru, ond hefyd gyda'n holl bartneriaid eraill yn y trydydd sector, yn amlwg y gwasanaeth iechyd, ond mae plismona hefyd yn dyst i'r ffaith bod y cyrff cyhoeddus hynny wedi ymrwymo i egwyddorion deddfwriaeth llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Ac rwy'n credu bod gan y byrddau gwasanaethau cyhoeddus ran allweddol i'w chwarae, ac mae'n debyg eich bod yn ymwybodol, rwy'n siŵr, gan mai chi yw'r Aelod dros Ddwyrain Casnewydd, o'r gwaith sydd wedi'i wneud yng Ngwent, lle mae'r holl fyrddau gwasanaethau cyhoeddus wedi dod at ei gilydd i sicrhau y gallan nhw wneud y gorau o'r gwaith partneriaeth integredig hwnnw ar y lefel is-ranbarthol honno. Rwy'n credu y bydd yn bwysig iawn edrych ar eu hasesiadau—asesiadau'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus—o lesiant. Maen nhw'n cael eu cynnal erbyn y gwanwyn nesaf, ond byddwn i hefyd yn annog Aelodau i edrych ar ein hadroddiad 'Llesiant yng Nghymru', a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, yn ogystal ag edrych ar adroddiad tueddiadau'r dyfodol, a fydd yn cael ei gyflwyno yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Diolch, Weinidog. 5. Rheoliadau Tribiwnlys Addysg Cymru (Diwygio) 2021 Yr eitem nesaf yw eitem 5, Rheoliadau Tribiwnlys Addysg Cymru (Diwygio) 2021. Galwaf ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg i wneud y cynnig—Jeremy Miles. Cynnig NDM7788 Lesley Griffiths Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Tribiwnlys Addysg Cymru (Diwygio) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Medi 2021. Cynigiwyd y cynnig. Jeremy Miles AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Wrth i ni barhau gyda'r gwaith o baratoi'r tir ar gyfer cyflwyno'r system anghenion dysgu ychwanegol yn llawn, mae wedi dod i'n sylw bod yna groesgyfeiriad anghywir yn rheoliad 17(2) o Reoliadau Tribiwnlys Addysg Cymru 2021. Mae rheoliad 17(2) yn amlinellu'r amserlen y mae'n rhaid i unigolyn sydd am ddod â hawliad sy'n ymwneud â gwahaniaethu ar sail anabledd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 gyflwyno datganiad achos o'i mewn. Mae'r diwygiad yr ydym am ei wneud heddiw yn cywiro'r camgymeriad hwn ac yn disodli'r croesgyfeiriad anghywir i 13(2)(c) gyda'r cyfeiriad a fwriedir i reoliad 13(1)(b). Os cymeradwyir y diwygiad, bydd rheoliad 17(2) yn gwneud darpariaeth bod cyfnod y datganiad achos ar gyfer yr hawlydd yn dechrau o'r dyddiad y bydd yr hawlydd yn cael hysbysiad gan y tribiwnlys, sef y bwriad polisi gwreiddiol. Os na wnawn y diwygiad hwn, bydd Rheoliadau Tribiwnlys Addysg Cymru 2021 yn ddiffygiol. Rwyf am ddiolch i'r Aelodau am eu hamser a hyderaf y gallwn wneud y cywiriad angenrheidiol hwn heddiw. Nid oes siaradwr ar gyfer yr eitem hon. Weinidog, ydych chi am ddweud unrhyw beth arall? Na. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly derbynniry cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 6. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cymwysterau Proffesiynol Eitem 6, cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Cymwysterau Proffesiynol. Galwaf ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg i wneud y cynnig—Jeremy Miles. Cynnig NDM7787 Lesley Griffiths Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Cymwysterau Proffesiynol, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru. Cynigiwyd y cynnig. Jeremy Miles AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle yma i egluro cefndir y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol, ac i egluro pam rwy'n awgrymu nad yw'r Senedd yn caniatáu’r Bil Cymwysterau Proffesiynol. Rwy'n ddiolchgar i Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig am ystyried y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ac am gynhyrchu'r adroddiad. Rwyf wedi ymateb i'r cwestiynau a godwyd. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu hystyriaethau a'u hadroddiad. Mae'r pwyllgor wedi codi nifer o awgrymiadau, a byddaf yn ymateb iddynt yn y dyfodol agos, ond gallaf gadarnhau heddiw y byddaf yn derbyn holl argymhellion y pwyllgor, a lle mae adroddiad y pwyllgor yn gofyn am wybodaeth bellach, ceisiaf ei darparu ar lafar cyn ysgrifennu at y pwyllgor. Yn enwedig, rwy'n nodi'r casgliad yn yr adroddiad, sydd yn cyd-fynd â fy ngofid am bwerau cyd-amserol sydd yn y Bil. Rwy'n gwasgu ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig am welliannau i'r Bil, ond, tan i ni gael y sicrwydd sydd yn ein bodloni, nid wyf yn medru newid fy awgrymiad ar y Bil. Gallaf hefyd gadarnhau ein bod ni'n dal i aros am ganllawiau ar ddiffiniadau, sef un o'r cwestiynau a gofynnwyd gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Jeremy Miles AC: Fel y gwyddoch chi, fy nghyngor i'r Senedd yw na ddylem ni roi cymeradwyaeth i'r Bil yn ei ffurf bresennol. Cafodd y Bil ei ddatblygu'n gyflym gan Lywodraeth y DU, a digwyddodd y rhan fwyaf o'r gweithgarwch hwn yn ystod ein cyfnod cyn yr etholiad, a oedd yn atal Gweinidogion rhag cymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu'r Bil. Yn gyflym, trodd hyn y gwaith o ddatblygu fframwaith cyffredin anneddfwriaethol, sef ein yr opsiwn yr ydym ni'n ei ffafrio ar gyfer rheoli trefn cydnabod cymwysterau proffesiynol ar y cyd, yn Fil Cymwysterau Proffesiynol wedi ei ruthro i'w gyflwyno i Dŷ'r Arglwyddi heb fawr o gyfle i Weinidogion Cymru wneud sylwadau. Rwyf i yn gweld, mae modd dadlau, fod angen cymal 5 fel ffordd ddefnyddiol o addasu deddfwriaeth o ganlyniad i ymadael â'r UE, ond ni adawodd y broses lawer o amser i gyrff rheoleiddio, gan gynnwys Cyngor y Gweithlu Addysg a Gofal Cymdeithasol Cymru, ystyried yn briodol oblygiadau'r Bil ar eu swyddogaethau rheoleiddio. Mae hynt y Bil hyd yma yn Nhŷ'r Arglwyddi wedi nodi bod gan lawer o gyrff rheoleiddio eraill ledled y DU bryderon ynghylch y Bil hefyd a'r effaith y bydd yn ei chael ar eu hymreolaeth a'u trefniadau presennol i hwyluso cydnabyddiaeth o gymwysterau. Fodd bynnag, fy mhrif bryder ynglŷn â'r Bil hwn yw cynnwys pwerau cydredol. Mae'r pwerau hyn wedi eu cynnwys yn y ddeddfwriaeth heb unrhyw esboniad ystyrlon gan Lywodraeth y DU ynghylch pam eu bod yn angenrheidiol ym maes proffesiynau wedi eu rheoleiddio, gan arwain i'r casgliad, mae arnaf i ofn dweud, fod hwn yn gam arall gan Lywodraeth y DU i weithredu mewn meysydd sydd yn amlwg wedi eu datganoli. O ystyried y math o bwerau cydredol sydd wedi eu cynnwys yn y Bil, yn ogystal â pha mor gyflym y cafodd y Bil ei ddatblygu gan Lywodraeth y DU, cafodd dadl gynnar ei chyflwyno i'r Senedd i nodi'n glir ein safbwynt ni yn erbyn unrhyw ymgais gan Lywodraeth y DU i fygwth y setliad datganoli. Ein man cychwyn yw na ddylai swyddogaethau cydredol gael eu creu. Fodd bynnag, os yw Llywodraeth y DU yn benderfynol o'u creu, fel y gall fod yn wir yn yr achos hwn, yna byddem ni o leiaf yn disgwyl darpariaeth gydsyniad. Casgliad Llywodraeth Cymru yw bod darpariaethau 1 i 10 a 12 i 19 yn y Bil yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Ni ddylid caniatáu i'r Bil symud yn ei flaen fel y mae ar hyn o bryd. Mae'n rhaid i ni weld y gwelliannau yr ydym ni wedi eu ceisio. Felly, cynigiaf y cynnig, ac anogaf bob Aelod o'r Senedd i wrthod y cynnig a gwrthod ein caniatâd i'r Bil. David Rees AC: Galwaf ar Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, Paul Davies. Paul Davies AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel y dywedoch chi, dwi'n codi i gyfrannu at y ddadl hon fel Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig. Bu Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn trafod y memorandwm hwn ar 16 Medi eleni, a'r terfyn amser ar gyfer cyflwyno adroddiad oedd dydd Iau diwethaf. Dwi'n nodi bod adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar y memorandwm hwn yn cynnwys naw argymhelliad i Lywodraeth Cymru ar faterion sy’n ymwneud â phwerau a chwmpas—wrth gwrs, roedd gwaith craffu a sgrwtineiddio ein pwyllgor ni wedi'i gyfyngu i faterion polisi yn unig. Nawr, yn ein hadroddiad, fe wnaethon ni ofyn i Weinidog y Gymraeg ac Addysg roi rhagor o wybodaeth i'r holl Aelodau cyn y ddadl heddiw. Gan fod amser yn brin, fe wnaethon ni, fel dywedodd y Gweinidog yn gynharach, ysgrifennu ato fe ddydd Mawrth diwethaf i dynnu ei sylw at y cais hwn. Yn benodol, gofynnon ni am asesiad o effaith y Bil ar broffesiynau rheoleiddiedig yng Nghymru; fe ofynnon ni am amlinelliad o'r effaith ar gymwysterau proffesiynol rheoleiddiedig yng Nghymru er mwyn gweld beth yw lefel y galw am rai proffesiynau penodol; fe ofynnon ni am y wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau â Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynglŷn â'r cais am eglurhad ynghylch cwmpas y Bil a sut y bydd yn cael ei gymhwyso mewn sectorau penodol, fel addysg bellach; fe ofynnon ni am fanylion am unrhyw drafodaethau â Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynghylch unrhyw newidiadau i'r Bil y mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn amdanynt; fe ofynnon ni am y wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau Llywodraeth Cymru â'r rheoleiddwyr yng Nghymru y bydd y Bil yn effeithio arnyn nhw, gan gynnwys cyrff sector cyhoeddus; a fe ofynnon ni am ddisgrifiad o'r cysylltiad rhwng y Bil â threfniadau perthnasol eraill yn y Deyrnas Unedig, fel Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, y system newydd ar gyfer mewnfudwyr a chytundebau rhyngwladol yn y dyfodol, ac effaith gyfunol y rhain. Nawr, mae adroddiad y pwyllgor yn nodi ein bod ni ddim mewn sefyllfa, cyn cael yr wybodaeth honno, i wneud argymhelliad i'r Senedd ynghylch a ddylid cymeradwyo'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol sydd ger ein bron ni heddiw ai peidio. Gallaf gadarnhau bod y Gweinidog wedi danfon ymateb i'r pwyntiau mae'r pwyllgor wedi eu gwneud, a dwi'n ddiolchgar am ei lythyr ataf a ddaeth i law prynhawn ddoe. Dosbarthwyd yr wybodaeth yma i aelodau'r pwyllgor, ond fel y bydd Aelodau yn cydnabod, dwi'n siŵr, dydyn ni ddim wedi cael amser i ystyried gwybodaeth y Gweinidog a datblygu ymateb fel pwyllgor. Felly, er fy mod yn ddiolchgar i'r Gweinidog am ddarparu'r wybodaeth ychwanegol yma i'r pwyllgor, o gofio ein bod ni ddim wedi cael cyfle i ystyried yr wybodaeth fel pwyllgor, dydyn ni ddim felly mewn sefyllfa i gymeradwyo na gwrthod yr LCM ger ein bron ni heddiw. Diolch, Dirprwy Lywydd. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies. Huw Irranca-Davies AC: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Yr wythnos diwethaf, siaradais am adroddiad ein pwyllgor yn ystod y ddadl ynghylch a ddylai’r Senedd hon roi cydsyniad i Fil yr Amgylchedd. Yr wythnos hon, rydym yn trafod cydsyniad ar gyfer y Bil Cymwysterau Proffesiynol, a gyda’ch gwahoddiad chi, Dirprwy Lywydd a'r Llywydd hefyd, mae’n debyg y byddwch yn fy ngweld yn eithaf rheolaidd o ystyried nifer y memoranda cydsyniad deddfwriaethol yr ydym ni, a’r Senedd yn ei chyfanrwydd, yn eu hystyried ar y funud. Huw Irranca-Davies AC: Yn ein hadroddiad ar femorandwm cydsyniad Llywodraeth Cymru ar gyfer y Bil Cymwysterau Proffesiynol, rydym ni wedi nodi tueddiadau sydd, yn anffodus, eisoes yn dod i'r amlwg yn eithaf cynnar yn y Senedd hon, ac rydym ni wedi gwneud naw argymhelliad i'r Gweinidog, ac mae ein hadroddiad hefyd yn nodi nifer o gasgliadau i adlewyrchu ein hystyriaeth gyffredinol o'r memorandwm cydsyniad ar gyfer y Bil. Yn anffodus, nid oedd y Gweinidog yn gallu ymateb yn ffurfiol i'n hadroddiad ymlaen llaw y prynhawn yma. Mae'n debyg ei bod yn sefyllfa brin, os nad unigryw, sy'n achosi rhai materion amlwg o ran craffu, er ein bod ni'n gwerthfawrogi ymddiheuriad y Gweinidog yn seiliedig ar yr amserlen, a phwysau'r amserlen ar y pen arall yw hyn i raddau hefyd. Mae'r Gweinidog wedi egluro, fodd bynnag, y bydd Llywodraeth Cymru, rydym ni ar ddeall, yn derbyn yr holl argymhellion yn yr adroddiad, ac rydym ni'n gobeithio yn llawn, wrth gwrs, ac fe wnaeth amlygu yn ei sylwadau heddiw, yn benodol, bryderon ynghylch pwerau cydredol yn y Bil, yr ydym ni'n tynnu sylw atyn nhw hefyd. Felly, gadewch i mi fynd trwy rai o'r meysydd yr ydym ni'n pryderu yn eu cylch. Yn yr un modd â Bil yr Amgylchedd, mae'r Bil Cymwysterau Proffesiynol hefyd yn cynnwys y pwerau cydredol hynny, y gall yr Ysgrifennydd Gwladol yng Nghymru eu harfer ar faterion datganoledig. Er ein bod ni'n cydnabod bod y Gweinidog yn ceisio newidiadau i'r Bil i ymdrin â phryderon Llywodraeth Cymru ynghylch y pwerau hyn, nid ydym ni'n siŵr bod ateb y Gweinidog yn cynnig rhan i'r Senedd ar hyn o bryd. Felly, rydym ni'n cwestiynu pam mae'r Senedd, yn ogystal â chael ei hamddifadu rhag chwarae rhan sy'n effeithio'n uniongyrchol ar fanylion deddfwriaeth sylfaenol ar fater sydd wedi ei ddatganoli a fydd yn dod i rym yng Nghymru, nid oes rhan iddi ychwaith wedyn yn y craffu ar yr is-ddeddfwriaeth a fydd hefyd yn dod yn gyfraith yng Nghymru. Felly, rydym ni'n credu bod hyn yn amhriodol yn gyfansoddiadol. Ac mae mater ehangach, sy'n ehangach na'r penderfyniad cydsyniad hwn sydd ger ein bron heddiw. Dyma'r ail o 14 o Filiau'r DU sy'n destun memoranda cydsyniad deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd, ac rwy'n atgoffa Llywodraeth Cymru ar y cyd ac Aelodau'r Senedd yn garedig i ystyried yr effaith gronnol. Mae craffu ar yr holl femoranda hyn sydd wedi eu gosod gerbron y Senedd, er yn dasg drwm, yn rhoi fy mhwyllgor mewn sefyllfa wych i fonitro'n agos effaith gyffredinol Senedd y DU yn deddfu ar ran y Senedd, p'un a yw cydsyniad wedi ei roi ai peidio. Ac yn barchus, rwyf i'n gosod y marc hwnnw heddiw ar gyfer Llywodraeth Cymru ac i Lywodraeth y DU. Mae ein hadroddiad hefyd yn tynnu sylw at faterion eraill sydd o arwyddocâd cyfansoddiadol pwysig. Mae'r cyfuniad o swyddogaethau cydredol a phwerau Harri VIII yn y Bil yn golygu y gallai'r Ysgrifennydd Gwladol neu'r Arglwydd Ganghellor arfer eu pwerau i wneud rheoliadau i ddiwygio Deddfau'r Senedd a rheoliadau sydd wedi eu gwneud gan Weinidogion Cymru. Nid ydym ni o'r farn bod hyn yn dderbyniol. At hynny, nid oes dim yn y Bil a fydd yn atal Llywodraeth y DU, pa liw bynnag yw Llywodraeth y DU honno, rhag gwneud rheoliadau sy'n diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006, ein prif statud datganoli. Fel mater o egwyddor gyfansoddiadol sylfaenol, ni ddylai cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd gael ei addasu drwy reoliadau wedi eu gwneud gan Weinidogion y DU, Dirprwy Lywydd. Mae'r Bil hefyd yn cynnwys pŵer sydd i bob pwrpas yn ychwanegu cyfyngiadau wedi eu nodi yn Neddf 2006 sy'n berthnasol i wneud deddfwriaeth sylfaenol gan y Senedd hon at broses gwneud rheoliadau Gweinidogion Cymru. Nawr, byddem ni'n dweud bod hwn yn bŵer anarferol ac annymunol. Mae'r ffaith bod anghytuno rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch pa ddarpariaethau yn y Bil sy'n ymwneud â materion wedi eu datganoli, ac nad yw cwmpas y Bil yn fwy cyffredinol wedi ei egluro eto, hefyd yn peri pryder. Fel fy sylw olaf, rwy'n tynnu sylw at y ffaith bod ein hystyriaeth o'r memorandwm wedi rhoi enghraifft o gymhlethdodau'r oes ar ôl ymadael â'r UE. Mae gweithredu'r Bil, os caiff ei ddeddfu ac ar ôl i hynny ddigwydd, yn caniatáu cyflwyno nifer o drefniadau domestig a rhyngwladol o ganlyniad uniongyrchol i'r DU yn ymadael â'r UE. Er mwyn rhoi rhai enghreifftiau, mae darpariaethau'r Bil yn cyd-fynd â fframweithiau cyffredin a chytuniadau rhyngwladol, ac maen nhw'n gweithredu ochr yn ochr â Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 a system fewnfudo newydd y DU. Ac nid datganiad gwleidyddol yw hwn; mae'n ddatganiad ffeithiol. Felly, byddem ni'n dadlau: Huw Irranca-Davies AC: Mae'n hanfodol bod y Senedd yn rhoi sylw manwl i'w heffaith gyfunol ac yn gallu parhau i chwarae rhan lawn o ran diogelu buddiannau gorau Cymru yn sgil y trefniadau newydd hyn. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Laura Anne Jones AC: Hoffem ni groesawu cyflwyniad Bil Cymwysterau Proffesiynol Llywodraeth y DU, a fydd yn hwyluso'r broses o drosglwyddo i ddinasyddion yr UE sydd â chymwysterau proffesiynol gael cydnabyddiaeth o'u cymwysterau a chaniatâd i weithio yn y DU. Bydd y cynigion hyn yn ei gwneud yn haws i weithwyr proffesiynol a busnesau lywio tirwedd reoleiddio y DU drwy symleiddio'r broses. Bydd y Bil yn rhoi'r pŵer i weinyddiaethau datganoledig roi'r gallu i'w rheoleiddwyr ymrwymo i drefniadau â phartneriaid rhyngwladol. Bydd yn caniatáu i'r cyfreithiau newydd helpu i fodloni gofynion proffesiynau unigol ledled y wlad. Bydd y cynigion hyn yn creu dull cydgysylltiedig o ymdrin â'r rheolau sy'n ymwneud â chydnabod cymwysterau proffesiynol ac yn sicrhau bod gan y DU y gallu parhaus i ddefnyddio'r bobl ddawnus orau a disgleiriaf ledled y byd, a fydd yn helpu i ymdrin â'r bwlch sgiliau yr ydym ni'n ei wynebu yng Nghymru. Rydym ni'n nodi bod Llywodraeth Cymru wedi bod mewn trafodaethau â Llywodraeth y DU ac rydym ni'n nodi eu pryderon hefyd, ond ar hyn o bryd byddwn i'n annog Llywodraeth Cymru a'r Aelodau eraill i gefnogi'r cynnig hwn heddiw. Siân Gwenllian AC: Diolch yn fawr iawn i'r ddau bwyllgor am eich gwaith trwyadl yn edrych ar hyn i gyd. Mae'r gwaith mae eich pwyllgor chi yn ei wneud, nid yn unig efo'r Bil yma ond efo'r holl ddeddfwriaeth sydd yn dod lawr atom ni yn sydyn iawn, yn hollbwysig. Fedrwn ni ddim gadael i'r materion yma fynd o dan y radar. Mae'n hollbwysig eu craffu nhw yn ofalus, a dwi'n gweld eich bod chi yn gwneud hynny. Mae'n egwyddor gyfansoddiadol sylfaenol na ddylai cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd hon gael ei ddiwygio drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion y Deyrnas Unedig. Mae'r Mesur Cymwysterau Proffesiynol yn rhoi pwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol neu’r Arglwydd Ganghellor i wneud rheoliad sydd yn diwygio Deddfau'r Senedd. Mae pwerau yn y Bil a allai addasu Deddf Llywodraeth Cymru 2006 hefyd. Ac felly, am y rhesymau yna, mi fyddwn ni'n pleidleisio yn erbyn yr LCM ac yn gobeithio y bydd pawb yn pleidleisio yn ei erbyn o ac yn cydnabod y peryglon cyfansoddiadol sydd yn dod yn ei sgil. Dwi'n falch iawn o glywed fod Llywodraeth Cymru hefyd wedi cael ei argyhoeddi bod angen y mwyafrif o'r mesurau yn y Bil, ac mae'r Llywodraeth o'r farn bod y pwerau cydredol a geir yn y Bil yn tanseilio pwerau hir sefydlog y Senedd a Gweinidogion Cymru i reoleiddio mewn perthynas â materion sydd o fewn cymhwysedd datganoledig. Mae gan Weinidogion Cymru a rheoleiddwyr sydd wedi'u datganoli eisoes y pwerau sydd eu hangen er mwyn gweithredu'r polisi a'r rheoliadau cyfredol ac arfaethedig sydd o fewn y meysydd cymwysedig datganoledig, gan gynnwys pwerau i gydnabod pob cymhwyster tramor fesul achos. Mi rydym ni, fel y Llywodraeth, yn bryderus ynglŷn â chwmpas y Bil, ac yn ansicr hefyd ydy addysg bellach yn cael ei chynnwys o fewn y Bil. Felly, ar sail yr hyn rydym ni wedi ei glywed ac oherwydd y pryderon mawr a'r perygl i'r egwyddor gyfansoddiadol sylfaenol sydd dan sylw yn y fan hyn, dwi'n erfyn arnoch chi i bleidleisio yn erbyn, a dwi'n edrych ymlaen at weld y bleidlais honno'n un cadarnhaol yma y prynhawn yma. Jane Dodds AS: Jest gair byr ar hyn os yw hynny'n iawn. Dwi'n cytuno'n hollol efo'r Gweinidog ac yn ddiolchgar iawn i chi am beth rydych chi wedi'i ddweud. Jane Dodds AS: Rwyf i wedi fy siomi, ond nid wyf i'n synnu clywed am fethiant Llywodraeth y DU eto—unwaith eto—i ymgysylltu â Gweinidogion Cymru ar fater sydd yn amlwg wedi ei ddatganoli i ni yma yng Nghymru. Mae rhuthro'r Bil hwn trwy Dŷ'r Cyffredin yn nodweddiadol o ddirmyg Llywodraeth y DU at y gwledydd datganoledig. Mae Cymru'n cychwyn ar y gyfres fwyaf o ddiwygiadau addysgol ers yr ail ryfel byd ac mae mor bwysig bod trefniadau cymwysterau ledled y DU yn y dyfodol yn adlewyrchu ein dull gwahanol ac unigryw o ymdrin ag addysg yma yng Nghymru. Mae gan y Bil hwn y potensial i danseilio rheoleiddwyr Cymru a sectorau allweddol ein heconomi ni ac ni ddylem ni gefnogi hyn. Diolch. Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg i ymateb. Jeremy Miles AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Gaf i ddiolch i bob cyfrannwr yn y ddadl heddiw a chydnabod yr hyn a wnaeth Paul Davies ei ddweud ynglŷn â gwaith y pwyllgor, a diolch iddo a'r pwyllgor am eu gwaith yn hyn o beth? Jeremy Miles AC: A gaf i ddiolch hefyd i Huw Irranca-Davies a'r pwyllgor am eu gwaith, fel y gwnes i sôn ar y dechrau, ac am ei amynedd o ran y cwestiwn ynghylch ymateb i'r argymhellion yn yr adroddiad? Gallaf i ei sicrhau y byddwn ni yn derbyn yr argymhellion yn llawn. Yn rhannol, mae'n fater o amseru, sy'n amlygu'r darlun ehangach, ac rwy'n gwybod bod ei bwyllgor wedi bod yn pryderu am hyn yn eu hadroddiad. Y dyfarniad yr ydym ni wedi ei wneud fel Llywodraeth yma yw cyflwyno dadl gynnar fel bod modd clywed llais y Senedd yn uchel a'i fod yn rhoi'r cyfle gorau iddo gael ei ystyried. Rwyf i yn gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn ystyried cryfder y teimlad sydd wedi ei ddisgrifio heddiw gan bob siaradwr, rwy'n credu, ar wahân i un. A byddwn i'n dweud wrth Laura Anne Jones nad dadl yw hon ynghylch a ydym ni'n credu y dylai cymwysterau gael eu cydnabod neu y dylai cynnal pethau ar sail drefnus, gydweithredol ledled y DU; mae'n ymwneud â lle mae'r pwerau hynny yn gorwedd ac a yw Llywodraeth y DU yn parchu'r ffin ddatganoli a'r setliad datganoli. Dyna sydd wrth wraidd y drafodaeth heddiw, nid y gred na ddylem ni fod yn cydnabod cymwysterau rhyngwladol. Mae'r pwerau hynny eisoes yn bodoli; maen nhw'n bodoli yma. Hoffwn i adleisio un pwynt a wnaeth Huw Irranca-Davies am yr effaith gronnus yma. Rwyf i yn credu ei bod yn bwysig iawn gweld y darlun mawr, oherwydd gallwn ni ganfod tueddiadau gofidus iawn yn y ffordd y mae ef wedi ei disgrifio. Mae'r memoranda cydsyniad deddfwriaethol yn adleisio, rwy'n credu, nifer o'r pwyntiau y mae'r Aelodau wedi eu gwneud heddiw. Rydym ni yn gweld yma, yn ogystal â'r cwestiwn ynghylch pwerau cydredol y gwnes i eu crybwyll ar y dechrau, bwerau Harri VIII, ac mae effaith gyfunol y pwerau hynny ynghyd â phwerau cydredol yn ergyd niweidiol iawn, rwy'n credu, i'r setliad datganoli, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn myfyrio ar hynny yn y ddadl heddiw ac yn pleidleisio i atal cydsyniad. Daeth y Llywydd i’r Gadair. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Ocê, rwy'n credu roedd hwnna'n wrthwynebiad, felly, ac fe wnawn ni ohirio'r bleidlais ar hynny tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. Dwi'n mynd i awgrymu ein bod ni'n cymryd toriad byr nawr tra ein bod ni'n disgwyl i ambell i Aelod ddod i'r Siambr ar gyfer yr eitem nesaf. Felly, rŷn ni'n cymryd toriad byr. Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:29. Ailymgynullodd y Senedd am 16:32, gyda'r Llywydd yn y Gadair. 7. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2021 Yr eitem nesaf yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2021. Dwi'n galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i wneud y cynnig—Eluned Morgan. Cynnig NDM7789 Lesley Griffiths Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Medi 2021. Cynigiwyd y cynnig. Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr, Llywydd. Cynigiaf y cynnig sydd ger ein bron. Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 yn rhoi'r fframwaith deddfwriaethol ar waith ar gyfer y lefelau rhybuddio a ddisgrifir yng nghynllun rheoli'r coronafeirws. Mae swyddogion yn gweithio'n galed i ddiweddaru'r cynllun rheoli presennol ar gyfer cyfnod yr hydref a'r gaeaf. Ledled Cymru rydym ni wedi gweld cynnydd i gyfradd trosglwyddo COVID-19 yn ddiweddar, yn ogystal â chanran y bobl sy'n profi'n gadarnhaol. Er bod tystiolaeth yn parhau i ddangos bod y cysylltiad rhwng achosion a derbyniadau i'r ysbyty wedi gwanhau o ganlyniad i'r rhaglen frechu, nid yw wedi ei dorri. Mae pwysau ar ysbytai wedi bod yn cynyddu'n gyson ac mae pwysau ehangach yn parhau i effeithio ar ein system iechyd a gofal cymdeithasol. Roedd y Prif Weinidog yn glir yn ei gyhoeddiad ar 17 Medi, er ein bod ni'n gallu aros ar lefel rhybudd 0, fod angen cymryd camau cynnar i osgoi niwed tymor hwy. Ar 27 Medi, cafodd rheoliadau diwygiedig drafft eu cyflwyno a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i bobl ddangos pàs COVID y GIG a fydd yn profi eu bod wedi cael eu brechu ddwywaith neu'n dangos y gallan nhw gyflwyno prawf llif ochrol negyddol yn ystod y 48 awr ddiwethaf. Bydd angen iddyn nhw gyflwyno hyn os ydyn nhw'n dymuno cael mynediad i'r lleoliadau a'r digwyddiadau canlynol o 11 Hydref ymlaen: clybiau nos a lleoliadau tebyg; digwyddiadau dan do, heb seddi ar gyfer mwy na 500 o bobl, lle mae pobl yn cymysgu'n agos am gyfnodau hir; digwyddiadau awyr agored heb seddi ar gyfer mwy na 4,000 o bobl, lle bydd pobl yn cymysgu'n agos am gyfnodau hir; ac unrhyw ddigwyddiad o unrhyw natur sydd â mwy na 10,000 o bobl yn bresennol. Mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau eu bod yn barod i weithredu'r systemau yr wythnos nesaf, ac rydym ni wedi paratoi canllawiau i helpu'r cyhoedd i ddeall pam a sut y bydd y system yn gweithio. Llywydd, gadewch i mi fod yn glir: mae'r pàs COVID eisoes wedi ei ddefnyddio yng Nghymru ar gyfer rhai digwyddiadau dros yr haf, ac mae rhai safleoedd eisoes yn mynnu bod y pàs yn cael ei ddangos fel amod mynediad. Nid pasbort brechlyn yw hwn, a bydd gan bobl gyfle i ddangos eu bod wedi eu brechu'n llawn neu gallan nhw ddarparu tystiolaeth o brawf llif ochrol negyddol 48 awr cyn digwyddiad. Rwy'n ymwybodol bod y pàs COVID yn datgan 'yn ddilys yn Lloegr' ar hyn o bryd. Mae hyn yn anffodus ac yn adlewyrchu'r ffaith ein bod ni'n rhannu'r seilwaith â Llywodraeth y DU. Bydd y geiriad hwn yn newid cyn i'r system fod yn orfodol yng Nghymru. Rydym yn datblygu ap GIG Cymru a fydd yn cynnwys ein pàs COVID GIG ein hunain yn rhan o'r gwasanaethau digidol i gleifion a'r cyhoedd sy'n cael eu darparu gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Bydd hwn ar gael yn gynnar yn 2022, a bydd hwn ar gael yn Gymraeg hefyd. Bydd derbyniadau priodas, partneriaeth sifil ac amgen, ynghyd â the angladdau, wedi eu heithrio o ofynion pàs COVID, ynghyd â phrotestiadau a digwyddiadau cyfranogiad torfol. Rwy'n ymwybodol y bu rhai problemau cychwynnol gyda'r system yn yr Alban. Yma yng Nghymru, mae'r pàs COVID eisoes yn cael ei ddefnyddio'n helaeth, ac yn Lloegr yn yr un modd. Mae pàs COVID y GIG wedi ei ddefnyddio yng Nghymru ers pedwar mis yn barod, ac mae wedi ei lawrlwytho a'i ddefnyddio gan filoedd o bobl eisoes i gael mynediad i ddigwyddiadau ac i deithio dramor. Mae gennym ni gyfarwyddiadau clir eisoes ar llyw.cymru ar sut i gael gafael ar y pàs, a byddwn yn parhau i godi ymwybyddiaeth o'r defnydd o'r pàs mewn cyfathrebiadau yn y dyfodol. A gaf i fod yn glir? Nid ydym ni wedi penderfynu cyflwyno mesurau o'r fath yn ysgafn. Er ein bod ni'n gwybod bod y cyfraddau ymhlith y rhai dan 25 oed tua 1,000 fesul 100,000 o bobl, ac mai'r grŵp oedran hwn yw'r mwyaf tebygol o fynychu rhai o'r lleoliadau hyn, yn enwedig clybiau nos, rydym yn cymryd y camau hyn i gefnogi lleoliadau i aros ar agor a galluogi digwyddiadau i barhau trwy hydref a gaeaf a all fod yn anodd a heriol iawn. Nid yw cadw'r lleoliadau hyn ar agor yn benderfyniad hawdd yng ngoleuni cyfraddau COVID mor uchel. Wrth i ni nesáu at y gaeaf, mae'n hanfodol ein bod ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i gadw Cymru'n ddiogel. Rwy'n falch ein bod ni wedi cael y cyfle i drafod y cynnig hwn heddiw, ac edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau'r Aelodau. Anogaf yr Aelodau i gefnogi'r cynnig i gadw Cymru'n ddiogel yn ystod yr hydref a'r gaeaf hwn. Diolch. Russell George AC: Yn gynharach eleni, dywedodd y Prif Weinidog, ac eto yn y Siambr y prynhawn yma hefyd, nad oedd gan Lywodraeth Cymru unrhyw fwriad na chynlluniau i gyflwyno pasbortau brechlyn ar gyfer lleoliadau yma yng Nghymru. Rydym ni bellach mewn sefyllfa gadarnhaol lle mae 70 y cant o boblogaeth gyfan Cymru bellach wedi eu brechu'n llawn. Rwyf i'n teimlo'n eithaf cryf am hyn, ond nid wyf i'n credu y dylem ni fod yn gymdeithas reolfa drwy gyflwyno pasbort brechlyn. [Torri ar draws.] Cariwch ymlaen. Russell George AC: Mae ystod eang o oblygiadau moesegol, cydraddoldeb, preifatrwydd, cyfreithiol a gweithredol yn gysylltiedig â phasbortau COVID. [Torri ar draws.] Rwy'n clywed rhai o'r Aelodau Llafur yn grwgnach yn y cefndir, ond y Prif Weinidog ei hun—a'r Gweinidog ei hun—sydd wedi dweud bod y rhain yn benderfyniadau cytbwys iawn. [Torri ar draws.] Felly, ystyriwch hynny. Nid oes ots gen i gymryd ymyriad. Alun Davies AC: Amlinellodd yr Ysgrifennydd Cartref, wrth siarad yng nghynhadledd y Ceidwadwyr heddiw, gynlluniau i atal pobl rhag symud yn rhydd o amgylch y Deyrnas Unedig os mai eu bwriad yw cymryd rhan mewn protest. Os nad ydych chi'n credu mewn cymdeithas reolfa, rwy'n siŵr y byddwch chi'n ymuno â ni i wrthwynebu cyfraith mor ddidostur. Russell George AC: Rwy'n falch bod yr Aelod Llafur yn cefnogi'r ffaith mai cymdeithas reolfa yw'r dull anghywir, felly edrychaf ymlaen ato'n pleidleisio yn erbyn y rheoliadau y prynhawn yma. Mae perygl gwirioneddol yma y gallai gweithredu pasys COVID fod yn drychineb llwyr. Yn yr Alban, rydym ni wedi gweld y bu'r cyflwyno yn drychineb yno—nid wyf i'n defnyddio'r gair hwnnw'n ysgafn; bu'n drychineb yno—ac roedd cynhadledd y Blaid Lafur yn Brighton yn frith o broblemau; rydym ni'n gwybod hynny hefyd. Llywodraeth Cymru—byddwn i'n ei hannog yn daer i ailystyried cyn cyflwyno'r rheoliadau hyn. Mae cyflwyno'r rhaglen frechu wedi bod yn llwyddiant ledled y DU ac yma yng Nghymru, ac mae hynny er clod i'n gweithwyr allweddol ledled y DU. Mae mwyafrif poblogaeth y DU wedi eu brechu erbyn hyn. Felly, mae'r holl ymdrech ryfeddol hon, yn fy marn i, yn negyddu'r angen am basys COVID, sy'n effeithio cymaint ar ryddid pobl. Mae'n rhaid i mi ddweud, hefyd, fod grwpiau wedi cysylltu â mi yr wythnos hon, y rhai hynny sy'n cynrychioli grwpiau anabledd, y rhai hynny ag anableddau a'r rhai hynny nad ydyn nhw'n gallu cael y brechiad, am y canlyniadau i'r bobl hynny hefyd. Mae'n rhaid i ni beidio â dod yn gymdeithas ddwy haen, a dyma—[Torri ar draws.] Ydw, yn wir, Joyce Watson. Ydw, rwyf i yn credu y byddwn yn dod yn gymdeithas ddwy haen, a dyma beth yw'r mater hwn, Joyce. Mae angen i chi wrando ar y ddadl hon y prynhawn yma. Mae cyflwyno'r polisi hwn yn rhoi Cymru mewn perygl gwirioneddol o ddod yn union hynny, ac mae'n tanseilio'r rhyddid i ddewis. Nid wyf i'n credu bod hwn yn fater plaid wleidyddol hefyd; rwy'n credu bod safbwyntiau ar draws hyn yn croesi llinellau pleidiol. Fe wnes i wrando ar yr hyn a ddywedodd y Gweinidog yn ei sylwadau agoriadol am y grŵp oedran penodol hwnnw hefyd, y rhai dan 25 oed, ond rwy'n sylwi bod cell cyngor technegol Llywodraeth Cymru ei hun yn cynghori yn erbyn defnyddio pasbortau brechlyn, gan ddweud bod yr astudiaethau wedi dangos y gallai eu defnyddio gael effaith groes i'w bwriad. Gwnaeth yr astudiaeth lawer o bwyntiau ynghylch pam mae pasbortau brechlyn yn syniad gwael. Dyma gell cyngor technegol Llywodraeth Cymru ei hun. Daethon nhw i'r casgliad eu bod wedi cael effaith andwyol ar gymhelliant a pharodrwydd pobl i gael y brechiad. Ac mae'n bwysig nodi bod yr astudiaeth hefyd wedi dweud y bydd pasbortau brechlyn yn cael effaith ar berthynas pobl â llywodraeth leol ac awdurdodau iechyd hefyd. Nid ydym ni eisiau i bobl golli'r ymddiriedaeth honno yn swyddogion y Llywodraeth na'n byrddau iechyd a'n gweithwyr iechyd a gofal. Nid ydym ni eisiau i hynny ddigwydd, ac nid ydym ni eisiau cymdeithas reolfa. Rwy'n credu yn wirioneddol y bydd y rheoliadau hyn yn rhwystr i gynifer o grwpiau o bobl, ac rwy'n credu bod perygl gwirioneddol yma os cytunir arnyn nhw y prynhawn yma, a dyna pam yr wyf i'n annog yr Aelodau yn gryf i bleidleisio yn erbyn y rheoliadau hyn heddiw. Diolch yn fawr. Fy nghamgymeriad i oedd peidio â galw Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i gyfrannu cyn cynrychiolwyr y pleidiau. Felly, dwi'n galw'r Cadeirydd nawr, ac fe ddof i at Blaid Cymru nesaf. Huw Irranca-Davies. Huw Irranca-Davies AC: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Fe wnaethom drafod y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod ddoe, a gosod ein hadroddiad yn union wedi hynny er mwyn llywio'r drafodaeth y prynhawn yma. Diolch i gynghorwyr cyfreithiol y pwyllgor am wneud eu dadansoddiad mor gyflym—yn gyflym iawn. Huw Irranca-Davies AC: Rwyf i hefyd yn diolch i fy nghyd-Aelodau yn y pwyllgor am eu gwaith craffu diwyd. Rydym ni wedi nodi yr hyn a fydd yn bwyntiau cyfarwydd erbyn hyn mewn cysylltiad ag ymyrraeth bosibl yr offeryn ar hawliau dynol a'r diffyg ymgynghori ffurfiol. Fe wnaethom ni sylwi hefyd nad oedd asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb ar gyfer y rheoliadau, a chydnabod y sail resymegol dros hyn, fel y nodir yn y memorandwm esboniadol. Rwy'n cydnabod yr wybodaeth bellach am y materion hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi ei darparu erbyn hyn yn ei hymateb i'n hadroddiad. Yn ogystal â'n pwyntiau adrodd mwy cyffredin, fe wnaethom ni nodi bod y memorandwm esboniadol yn cyfeirio at ystyried cyngor gwyddonol ac, yn benodol, cyngor gan SAGE ar bwysigrwydd gweithredu'n gynnar. Yn ein hadroddiad, fe wnaethom ni dynnu sylw at y ffaith nad yw'r memorandwm esboniadol, fodd bynnag, yn cynnwys unrhyw gyfeiriad penodol at y dystiolaeth y mae Llywodraeth Cymru yn dibynnu arni wrth wneud darpariaeth o dan yr offeryn hwn. Felly, fe wnaethom ni ofyn i Lywodraeth Cymru nodi dau beth ychwanegol. Yn gyntaf, fe wnaethom ni ofyn i Lywodraeth Cymru nodi'r dystiolaeth sy'n dangos y bydd ei gwneud yn ofynnol i rai lleoliadau wirio tystiolaeth o frechu, haint coronafeirws blaenorol neu ganlyniad prawf negyddol diweddar yn 'arafu epidemig sy'n tyfu'. Yn ail, fe wnaethom ni ofyn sut y bydd Llywodraeth Cymru yn monitro effeithiolrwydd ei gwneud yn ofynnol i rai lleoliadau gynnal y gwiriadau hyn. Huw Irranca-Davies AC: Rwyf yn nodi ac yn croesawu'r ymateb yr ydym bellach wedi'i gael gan Lywodraeth Cymru i'r pwyntiau hyn. Er ein bod yn gwerthfawrogi’r cyd-destun cyffredinol y mae’r newidiadau hyn yn y gyfraith wedi’u drafftio ynddynt, rwy’n atgoffa Llywodraeth Cymru, yn barchus, y dylai’r wybodaeth a ddarparwyd i fy mhwyllgor, yn ôl y cais, fod wedi cael ei chynnwys yn y memorandwm esboniadol gwreiddiol, er budd holl Aelodau’r Senedd a’r cyhoedd. Felly, gofynnaf i Lywodraeth Cymru fyfyrio ar hyn i wella lefel yr wybodaeth ym mhob memorandwm esboniadol yn y dyfodol. Diolch yn fawr, Llywydd. Rhun ap Iorwerth AC: Ychydig o eiriau ar faterion o egwyddor, yn gyntaf, mewn egwyddor, ac rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth yr ydym ni ym Mhlaid Cymru wedi ei ddangos dro ar ôl tro yn ystod y pandemig, rydym ni wedi bod yn barod i gefnogi cyflwyniad ystod o fesurau i reoli a chyfyngu ar drosglwyddo'r feirws. Yn wir, rydym ni wedi bod yn annog gweithredu mesurau o'r fath, ac mae wedi bod yn wir mewn sefyllfaoedd lle mae cyfyngiadau eithaf llym wedi eu gosod ar ein rhyddid weithiau. Mae'r math hwnnw o gwtogi ar ryddid yn rhywbeth i beidio â'i benderfynu yn ysgafn, a'n gwaith ni fel deddfwyr fydd sicrhau bod y rhyddid hwnnw yn cael ei adfer cyn gynted â phosibl. Pan fyddwn ni wedi cefnogi cyfyngiadau, bu hynny pan (a) rydym ni wedi ein hargyhoeddi bod y dystiolaeth yn glir am yr effaith gadarnhaol y byddai'r mesurau hynny yn ei chael a (b) y gellir eu gweithredu yn ymarferol. Yr egwyddor, felly, yw: yn ôl yr hyn sy'n gweithio. Felly, yr egwyddor yn yr achos hwn yw: a oes dadl dros gyflwyno mesur o dan rai amgylchiadau sy'n dangos bod unigolyn yn debygol o fod yn llai heintus? Fy ymateb i i'r cwestiwn yna yw, 'Oes, mae.' Yn wir, mae Llywodraeth yr Alban wrthi'n cyflwyno system lle mae'n rhaid i unigolion ddangos prawf o frechu; mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn ystyried cynllun o'r fath mewn cynllun B ar gyfer cyfnod y gaeaf; mae Ffrainc ac Israel ymysg llawer o wledydd sydd naill ai wedi cyflwyno eisoes neu sy'n gweithio ar ryw fath o gynllun pasbort COVID. Mae hefyd yn rhywbeth sydd wedi dod i'r amlwg mewn rhai sectorau penodol, ar gyfer teithio rhyngwladol, er enghraifft. Mae llawer o drefnwyr digwyddiadau ledled y DU wedi cyflwyno cynlluniau gwirfoddol. Felly, er nad yw pawb yn ei chefnogi, mae'r egwyddor honno, byddwn i'n dadlau, yn rhywbeth sydd wedi ei hen sefydlu. Ond heddiw, nid ydym yn cael cais i bleidleisio ar egwyddor, rydym yn pleidleisio ar gyfres benodol o reoliadau, ac mae arnaf i ofn bod y rheoliadau hynny, ar hyn o bryd, fel y maen nhw, yn codi mwy o gwestiynau nag y maen nhw'n rhoi atebion. Rwy'n edrych ar nifer o elfennau. Mae rhai gwledydd, fel y soniais, eisoes wedi dilyn trywydd y pasbortau COVID/pasbortau brechlyn; yr hyn sydd gennym ni yma yw cynllun hybrid lle nad yw prawf o frechu ond yn rhan o'r hyn y gellir ei gynnig fel tystiolaeth bod unigolyn yn llai heintus. Gallan nhw hefyd ddangos eu bod wedi cael COVID yn ystod y misoedd diwethaf neu wedi cofrestru canlyniad prawf llif ochrol. Nawr, mae profion llif ochrol yn ddefnyddiol iawn, iawn fel profion cyflym, hunan-weinyddu a all roi syniad da o b'un a all rhywun fod yn heintus, ond oherwydd materion adnabyddus iawn ynghylch eu cywirdeb fel profion, ynghyd â'r ffaith nad oes unrhyw reolaeth o gwbl ar gywirdeb cofrestru'r canlyniadau, rwy'n credu bod cwestiynau gwirioneddol yn y fan yma ynghylch eu dilysrwydd at y diben penodol hwn. Mae hynny wedyn yn codi cwestiynau ynghylch creu ymdeimlad ffug o ddiogelwch i bobl sy'n mynychu digwyddiadau, ac, oes, mae cyfraith newydd yn cael ei chynnig yma sy'n gwneud ffugio canlyniadau yn drosedd, ond nid wyf i wedi fy argyhoeddi ynghylch plismona hynny, a beth am rywfaint o'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg sy'n awgrymu y gallai caniatáu'r opsiwn prawf llif ochrol fod yn anghymhelliad i bobl, pobl ifanc efallai, i gael eu brechu? Nawr, fel y dywedais i'n gynharach ac fel y pwysleisiodd Cadeirydd y pwyllgor craffu ar ddeddfwriaeth, mae'n debyg mai'r mater allweddol i'w ystyried wrth edrych ar gynigion o'r math hwn yw tystiolaeth o'u heffeithiolrwydd tebygol. Nawr, o ganlyniad i dimau o wyddonwyr sy'n cynghori'r Llywodraeth neu dimau eraill o ymchwilwyr yn uniongyrchol, llu ohonyn nhw ledled y byd, rydym ni wedi dod i arfer, yn ystod y pandemig hwn, â gallu edrych ar dystiolaeth gadarn a'i hasesu'n fanwl, gan fodelu effeithiau tebygol. Rwy'n ddiolchgar iawn i swyddogion y Llywodraeth am fod yn barod i ateb rhai cwestiynau wrth i ni geisio eglurder ar y sail dystiolaeth honno, ond y tro hwn ni fu'r math o dystiolaeth yr ydym ni wedi dod i arfer â'i hastudio ar gael. Yn wir, dywedodd un gwyddonydd wrthym nad oedd yn gallu cwblhau papur ar effaith debygol y cynigion o'n blaenau heddiw yn union am nad oedd ganddynt y dystiolaeth o'u blaenau ac na fyddent yn ei chael tan yn ddiweddarach y mis hwn. Rwy'n cydnabod yn llwyr y ddadl a gyflwynwyd i ni nad yw absenoldeb tystiolaeth yn gyfystyr â thystiolaeth o absenoldeb, ond serch hynny, rwy'n credu yn yr achos hwn nad yw'r Llywodraeth wedi cyflwyno'r ddadl yn y ffordd, a bod yn deg, y mae wedi bod yn ei wneud o'n blaenau ni a'r cyhoedd yng Nghymru yn ystod y pandemig hwn. Nawr, fe allem ni, pe baem yn dewis gwneud hynny, benderfynu rhoi cynnig arni. Efallai y bydd yn helpu, felly dim niwed wrth geisio—dadl a fyddai, yn wir, yn gryf iawn pe bai effaith yr hyn yr ydym yn ei drafod yn gyfyngedig, ond rydym yn sôn am oblygiadau eithaf sylweddol o ran gweithredu ar gyfer cyrff cyhoeddus, plismona a gorfodi'r rheoliadau, ac ar yr unigolion y maen nhw'n effeithio arnyn nhw. Felly, mae angen sicrwydd gwirioneddol arnom ynglŷn â hynny. Rydym ni wedi gofyn am lywodraeth leol a'u cyfrifoldebau gorfodi ar adeg pan fyddan nhw wedi eu hymestyn fel y mae gyda dyletswyddau COVID eraill, ar oblygiadau i'r heddlu. Pwy fydd yn cael y gair olaf ynghylch pryd i orfodi'n gaeth a phryd i fabwysiadu dull ysgafnach? Mae canllawiau yn cael eu llunio, rydym ni wedi clywed, ond nid ydyn nhw ger ein bron heddiw, cyn y bleidlais. Ac nid oes gennym ni ddim syniad gwirioneddol am oblygiadau o ran adnoddau. Beth am yr heriau penodol sy'n ymwneud â gorfodi hyn ar gyfer torfeydd chwaraeon o ddegau o filoedd o bobl, er enghraifft? Unwaith eto, mae cynlluniau yn cael eu llunio ond nid ydym ni wedi eu gweld cyn y bleidlais hon. Rwy'n clywed bod hyd yn oed sôn am orsafoedd profi llif ochrol y tu allan i stadia fel cynllun wrth gefn, rhag ofn y bydd problemau gyda phasys COVID. Sut y byddai hynny'n gweithio yn ymarferol? Rydym ni wedi gofyn llawer o gwestiynau ac nid ydym wedi cael y sicrwydd yr ydym ni wedi gofyn amdano. A dyna pam rydym ni o'r farn na allwn ni gefnogi'r rheoliadau hyn heddiw. Ac wrth bleidleisio yn erbyn, hoffwn i bwysleisio, unwaith eto, nad yw hyn oherwydd materion o egwyddor. Fe wnaethom ni ofyn i Lywodraeth Cymru dynnu'r cynnig hwn yn ôl a'i gwneud yn eglur y byddem ni'n cyfrannu at drafodaethau ynglŷn â sut y gellid cyflwyno rhywbeth mwy cadarn, mewn gwirionedd, gyda gwell tystiolaeth ac eglurder o ran goblygiadau. Ac mae'r cynnig hwnnw yn dal i fod yn wirioneddol agored. Rhun ap Iorwerth AC: Llywydd, rydyn ni wedi rhoi i'r rheoliadau yma yr ystyriaeth ddwys a gofalus maen nhw'n ei haeddu ac, wrth ddod i'r casgliad bod rhaid eu gwrthod nhw fel ag y maen nhw, dwi'n pwysleisio ein bod ni yn dal yn barod i edrych ar y dystiolaeth, i ddarllen y cynlluniau a chanllawiau gweithredu manwl. Ond, a ninnau heb y rheini o'n blaenau ni rŵan, rydyn ni'n pleidleisio yn y ffordd rydyn ni'n credu sy'n iawn, ac yn y gobaith y gall cynllun mwy cadarn wedi ei seilio ar dystiolaeth gael ei roi yn ei le. Jenny Rathbone AC: Rwy'n credu bod gennym ni ddigon o dystiolaeth o'r angen i gymryd y mesur hwn. Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yr holl dystiolaeth y gallai fod ei hangen arnoch gan bobl a aeth i wyliau cerddoriaeth dros yr haf a'r niferoedd a ddychwelodd gyda COVID. Rydym ni'n gwybod, pan fydd pobl ifanc yn ymgynnull gyda'i gilydd, mai dyna pryd y mae'r haint yn lledaenu. Ac un o'r pethau sy'n peri pryder gwirioneddol yw, er bod gennym ni 564 fesul 100,000 wedi eu heintio yng Nghaerdydd yn y boblogaeth gyffredinol, fod gan bobl ifanc gyfraddau heintio sydd ddwywaith hynny. A dyfalwch bwy sy'n mynd i glybiau nos; pobl ifanc, ar y cyfan. Felly, os wyf i eisiau dal COVID, nid oes prinder cyfleoedd. Mae gen i filoedd o fyfyrwyr yn mynd o gwmpas, yn mynd i'r tri champws prifysgol hyn ac yn partio bob nos, ac mae'n siŵr eu bod nhw'n lledaenu COVID wrth i ni siarad. Felly, yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw bod yn realistig ynghylch yr hyn y gallwn ni ei wneud i annog pobl ifanc i gymryd hyn o ddifrif. Roedd rhywun 15 oed yr wythnos diwethaf, yn Portsmouth, a fu farw o COVID bedwar diwrnod ar ôl iddi ei gael, ac roedd hi'n fenyw ifanc iach a oedd yn gwneud llawer o chwaraeon. Felly, rwy'n gwybod ei fod yn ddigwyddiad mwy prin nag yn y boblogaeth hŷn, ond mae COVID yn glefyd cas iawn ac ni allwch chi ddweud na fyddwch chi'n cael canlyniad gwael. Felly, gadewch i ni geisio atal pobl rhag ei ddal yn y lle cyntaf. Nid wyf i'n deall pam na fyddai clwb nos yn dymuno sgrinio eu cwsmeriaid, er mwyn sicrhau nad yw eu lleoliad yn cael ei ddefnyddio fel digwyddiad lledaenu enfawr, a fyddai'n peri iddyn nhw orfod cau wrth iddyn nhw wneud gwaith glanhau dwfn. Russell George AC: A wnewch chi gymryd ymyriad, Jenny? Jenny Rathbone AC: Iawn. Russell George AC: Diolch, Jenny. Rwy'n credu mai'r hyn y byddai'r diwydiant clybiau nos yn ei ddweud yw ei bod yn ymwneud â'r amser y mae'n ei gymryd i brosesu pobl. A bu enghreifftiau lle, erbyn i bobl gael eu prosesu i fynd drwodd, yna mae'n ddiwedd y noson. Nid wyf i'n rhywun sy'n mynychu clybiau nos yn aml iawn y dyddiau hyn, ond dyna y mae'r diwydiant yn ei ddweud yn hynny o beth, Jenny, a dyna'r hyn yr ydym ni wedi ei weld o ran y materion yn yr Alban. Jenny Rathbone AC: Diolch, Russell. Nid wyf i'n cytuno â'r ddadl yna, oherwydd bydd yn rhaid iddyn nhw sgrinio'r bobl ifanc hyn i sicrhau eu bod nhw'n hŷn na'r oedran ar gyfer yfed alcohol beth bynnag; fel arall, ni fyddan nhw'n cydymffurfio â'r gyfraith mewn ffyrdd eraill. Felly, bydd yn rhaid iddyn nhw wneud eu gwiriadau beth bynnag, a gallan nhw wneud y cyfan yr un pryd gyda'r pàs COVID, sy'n dangos i chi beth yw'r dyddiad geni, ac felly, nid yw'n cynyddu'r weithdrefn sydd ei hangen mewn gwirionedd, mae'n ei symleiddio. Felly, rwy'n credu hefyd fod yn rhaid i ni ddeall yn iawn faint yn union o bwysau sydd ar ein gwasanaethau brys, gan fod y galw am wasanaethau brys yn ôl i'r man lle yr oedd cyn COVID erbyn hyn, ac ar ben hynny, mae gennym ni'r holl feddygon a nyrsys sydd wedi blino'n lân ar ôl 18 mis o orfod ymdrin â phandemig digynsail, ac maen nhw'n gorfod sgrinio pawb sy'n troi i fyny mewn argyfwng, i wneud yn siŵr nad ydyn nhw'n dod â COVID i mewn i'r ysbyty, felly maen nhw o dan bwysau aruthrol. Pam na fyddem ni eisiau bod yn gyfrifol am geisio sicrhau nad ydym ni'n rhoi tasg hyd yn oed yn fwy iddyn nhw nag sydd ganddyn nhw eisoes? Rwy'n credu yn llwyr ei bod yn rhywbeth y mae angen i ni ei wneud, ac nid wyf i mewn gwirionedd yn cytuno â dadl Plaid nad ydym ni'n gwybod digon. Rwy'n credu yn wirioneddol y gallai fod rhai tyllau yn y ffordd y bydd y profion llif ochrol yn cael eu cynnal, ac efallai y byddai profion PCR yn fwy diogel, ond nid yw hynny'n rheswm dros beidio â dweud bod angen i ni gael pasys COVID cyn i ni fynd i'r digwyddiadau hyn. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch i chi am gymryd ymyriad. Hoffwn i ddweud yn yr ymyriad hwn: rwy'n cytuno â phopeth yr ydych chi wedi ei ddweud fwy neu lai. A dyna lle mae hyn yn methu; nid ydym yn sôn am egwyddorion yr hyn yr ydych chi wedi bod yn eu cyfleu. Mae gen i blant fy hun yn y brifysgol; rwyf i'n awyddus i wneud yn siŵr eu bod nhw'n ddiogel. Ein dadl ni heddiw yw nad y rheoliadau penodol hyn a'r cynnig gan Lywodraeth Cymru yn y ffordd benodol hon o'i wneud, yn ein barn ni, yw'r ffordd o'i wneud o ran y dystiolaeth sydd o'n blaenau. Jenny Rathbone AC: Wel, rwy'n synnu'n fawr nad yw Plaid yn dilyn y dull gweithredu rhagofalus, oherwydd nid oes dim yn ein hatal rhag pasio'r gweithdrefnau heddiw ac yna eu diwygio os byddwn yn credu y bydd y rheoliadau'n cael eu cam-ddefnyddio yn eang. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni fynd amdani yn awr, oherwydd mae'r prifysgolion i gyd yn dechrau, a dyma un o'r mannau lle y bydd yn creu problem waeth. Rydym ni'n gwybod bod COVID yn hoffi'r gaeaf, ac mae'r gaeaf bron arnom. Nid wyf i'n credu bod hyn yn ymwneud â chreu cymdeithas ddwy haen; Nid wyf i'n credu bod unrhyw dystiolaeth o hynny. Mae pawb dros 40 oed ac yn y grwpiau agored i niwed fwy neu lai i gyd wedi eu brechu. Rydym yn sôn am gyfraddau yn yr 80au uchel, os nad y 90au; pobl ifanc sy'n meddwl eu bod, rywsut, yn mynd i allu anwybyddu cael eu brechu oherwydd nad nhw yw'r rhai sy'n mynd i farw ohono. Wel, nid yw hynny'n wir o reidrwydd. Ac yn olaf, hoffwn i ddweud yn Ffrainc, ein cymydog agos yn Ffrainc, ni allwch chi hyd yn oed fynd am baned o goffi ar y palmant oni bai eich bod yn dangos eich pàs COVID, ac a dweud y gwir, nid wyf i'n credu bod cymdeithas wedi sefyll yn ei unfan o ganlyniad i hynny. James Evans MS: Ni allai neb fod wedi rhagweld y pandemig COVID-19 a darodd y byd 18 mis yn ôl. Mae ei effaith wedi newid bywydau pob un ohonom ni, wedi troi'r economi ar ei phen, ac wedi newid y berthynas rhwng y rhai sydd mewn swyddi â phŵer a phobl y wlad arbennig hon am byth. Nid yw'r sgyrsiau ynghylch cyfyngiadau COVID-19 yn syml. Maen nhw'n gymhleth, maen nhw'n ddryslyd, ac mae gan y cyhoedd farn eang ar y cyfyngiadau symud, y cyfyngiadau a'r pasbortau brechlyn, neu'r pàs brechlyn fel y'i gelwir. Heddiw, rydym ni'n trafod y cynnig am y pàs brechlyn yng Nghymru a gyflwynwyd gan y Llywodraeth yma yng Nghymru. Rwyf i'n gwrthwynebu'n llwyr gyflwyno unrhyw fath o basbort neu bàs mewnol i unrhyw un orfod ei ddefnyddio i allu byw ei fywyd yn y wlad hon. Mae rhyddid a democratiaeth wedi eu hennill yn galed, ac ni allaf gefnogi unrhyw beth sy'n erydu rhyddid personol. Mae amryw o resymau dros fy ngwrthwynebiad i basys neu basbortau brechlyn domestig; mae rhai yn economaidd, mae rhai yn feddygol, mae rhai yn gyfreithiol, ond mae llawer ohonyn nhw'n foesol ac wedi eu seilio ar sylfeini cymdeithas ryddfrydol rydd. Mae'r ffordd y mae'r Llywodraeth hon yn dymuno tywys pobl Cymru ar ei hyd yn llethr llithrig dros ben; bydd creu system lle mai dim ond y rhai sydd wedi eu brechu sy'n gallu cael mynediad i leoliadau a digwyddiadau penodol, yn fy marn i, yn creu cymdeithas ddwy haen lle mae'r rhai nad ydyn nhw'n dymuno cael y brechlyn am resymau meddygol neu eraill yn cael eu gwahardd rhag cymryd rhan yn ein cymdeithas. Nid yw hanes y byd yn cyflwyno darlun da pan fyddwch yn dechrau gwahaniaethu yn erbyn pobl oherwydd un mater. Rwyf i'n ystyried bod hyn yn bosibilrwydd ofnadwy, ac nid yw'n un y byddai unrhyw un sy'n dymuno byw mewn democratiaeth ryddfrydol yn yr unfed ganrif ar hugain yn ei gefnogi. Fodd bynnag, mae'r llethr llithrig yn un sy'n peri pryder mawr i mi. Wrth gwrs, bydd y Llywodraeth yn dweud mai dim ond cyhyd ag y bydd COVID gyda ni y bydd y system hon yn cael ei gweithredu, ond mae llywodraethau o bob lliw a phob argyhoeddiad gwleidyddol yn newid eu meddyliau, ac, ar ôl eu cyflwyno, anaml iawn y caiff y rheoliadau eu diddymu. Ond o ble mae'r tro pedol hwn gan Lywodraeth Cymru wedi dod? Ychydig fisoedd yn ôl, yr oedd y Prif Weinidog ei hun yn gwrthwynebu pasbortau brechlyn domestig, ac erbyn hyn mae'n dymuno eu cyflwyno yma yng Nghymru. Pam gosod system lle mai dim ond y rhai sydd wedi cael y brechlyn sy'n gallu mynychu digwyddiadau? Mae data gwyddonol yn dangos y gall y rhai sydd wedi cael y brechlyn barhau i ledaenu COVID-19 gymaint â'r rhai sydd â COVID-19. Nid yw ond yn lleihau'r risg o gael eu derbyn i'r ysbyty yn ddifrifol. Mae gennym ni yn y gorllewin un peth nad oes gan lawer o wledydd ledled y byd—hynny yw, rhyddid. Mae'n rhaid amddiffyn y rhyddid hwn ar bob cyfrif. I gloi, hoffwn i ddyfynnu'r Arlywydd o America Ronald Reagan. 'Mae rhyddid yn beth bregus ac nid yw byth yn fwy nag un genhedlaeth i ffwrdd o ddiflannu. Nid ein hetifeddiaeth ni yw hyn; mae'n rhaid i bob cenhedlaeth frwydro drosto a'i amddiffyn yn gyson'. Anogaf fy nghyd-Aelodau i gyd o bob plaid i bleidleisio yn erbyn y cynnig hwn a diogelu ein rhyddid a'n hawliau sifil yma yng Nghymru. Diolch, Llywydd. Delyth Jewell, Cadeirydd y pwyllgor diwylliant. Delyth Jewell AC: Diolch, Llywydd. Cyfres o gwestiynau ffeithiol sydd gen i yn unig fan hyn, Llywydd, nid araith. Dydy'r pwyllgor heb drafod y mater hwn ymhlith ein gilydd, a buaswn i eisiau pwysleisio hynny. Mae hyn yn faes, yn amlwg, fydd o ddiddordeb mawr i nifer o sefydliadau diwylliannol a chwaraeon. Hoffwn ofyn i'r Gweinidog pan fydd yn ymateb i'r ddadl yma i amlinellu'r cymhelliant dros gyflwyno'r pasys, os gwelwch yn dda—hynny ydy, ydy'r Llywodraeth eisiau gwneud hyn er mwyn cynyddu cyfraddau brechu neu reoli lledaeniad y feirws? Buaswn i'n hoffi clywed pa gymorth ychwanegol byddai'n cael ei ddarparu i fusnesau a fydd yn cael eu heffeithio gan yr ymgais yma i gyflawni amcan iechyd cyhoeddus. Buaswn i o blaid hefyd clywed pa drefniadau fydd yn cael eu gwneud i sicrhau na fydd problemau gyda chyflwyno'r pasys fel sydd wedi bod yn yr Alban. Ac yn olaf, hoffwn i glywed, pan fydd yn ymateb i'r ddadl, plîs, beth sydd wedi cael ei ddysgu o'r digwyddiadau prawf yn gynharach yn y flwyddyn, gan nad oes sôn am hynny yn y cyngor TAC na'r memorandwm esboniadol? Ond jest cyfres o gwestiynau, nid safbwynt, yn amlwg, ydy hyn o ran y pwyllgor. Alun Davies AC: Dylwn i ddweud nad yw ein pwyllgor ni wedi trafod y materion hyn, felly nid wyf i'n deall sut y gall y Cadeirydd siarad fel Cadeirydd y pwyllgor. Ond mae'r ddadl yr ydym ni'n ei chael heddiw yn mynd at wraidd yr hyn yw democratiaeth a swyddogaeth Senedd wrth drafod y materion hyn. Byddai yn dda gen i pe byddem ni, fel Senedd, wedi cael mwy o amser y prynhawn yma i drafod y mater hwn. Rwy'n credu bod hwn yn fater sy'n gofyn am fwy o amser a sylw nag sydd ar gael i ni. A gaf i gadarnhau fy mod i'n berffaith hapus i ymestyn yr amser sydd ar gael i'r Aelodau os bydd mwy o Aelodau yn dymuno siarad? Alun Davies AC: Rwy'n ddiolchgar i chi, Llywydd, am hynny. Pan fyddaf i'n edrych ar y materion hyn rwy'n gofyn i fy hun, 'A yw hyn yn ymateb cymesur i'r heriau iechyd y cyhoedd yr ydym ni'n eu hwynebu?' Rydym ni i gyd wedi ymgodymu â'r heriau hyn yn ystod y 18 mis diwethaf. Rydym ni i gyd wedi gofyn i'n hunain, 'A yw hyn yn iawn neu a yw'n briodol bod y Llywodraeth yn ceisio'r pwerau hyn i ymyrryd yn y ffordd yr ydym ni'n byw ein bywydau?' I mi fy hun, rwy'n cytuno yn fawr iawn â llawer o'r hyn a ddywedodd Russell George wrth agor ei gyfraniad, oherwydd rwy'n credu bod rhyddid yn rhywbeth y dylem ni ei werthfawrogi, ac rwy'n credu na ddylai rhyddid fod yn rhywbeth sy'n cael ei dynnu oddi wrthym ni heblaw am y rhesymau gorau y gall y Llywodraeth eu hel at ei gilydd. Gwraidd y ddadl hon i mi yw: a yw'r Llywodraeth wedi cyflwyno ei hachos yn yr achos hwn? Ac rwy'n credu ei bod yn amlwg bod y Llywodraeth wedi cyflwyno ei hachos yma, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig. Byddai fy nadl i'n debyg iawn i un Rhun ap Iorwerth, mewn gwirionedd—rwy'n credu y dylai'r Llywodraeth fynd ymhellach a chynnig pasbort brechlynnau a fyddai'n dangos statws brechu yn hytrach na phrawf yn unig; rwy'n credu y dylai'r Llywodraeth fynd ymhellach arni. Ond, o ran ble'r ydym ni nawr, sut mae hynny'n effeithio ar ein rhyddid a'n hawliau? John Stuart Mill ddywedodd, wrth gwrs—. Ac fe wnaeth y rhai hynny ohonom ni o oes benodol wedi treulio cryn amser yn darllen On Liberty; rwy'n credu iddo gael ei gyhoeddi yn y 1850au. Ac yn yr hyn a ddywedodd ef yno, yr oedd yn glir iawn, iawn mai dim ond os yw er budd hawliau'r mwyafrif ac i ddiogelu'r mwyafrif rhag niwed y mae modd dileu rhyddid—rhyddid unigolyn. Ac ef oedd tad rhyddfrydiaeth, ac mae'n rhywbeth yr wyf i'n cytuno'n fawr iawn ag ef arni, oherwydd bod cyfrifoldeb arnom ni i atal niwed i eraill. Ac ni allwn ni ddweud bod ein rhyddid ni—fy rhyddid i i fynd i glwb nos—yn bwysicach na'ch rhyddid chi i fyw heb fod ofn niwed neu salwch, ac i ddiogelu eich lles. Ac nid yw hyn yn unigryw. Gadewch i mi ddweud, nid yn aml ydw i'n dyfynnu Margaret Thatcher, ond pan siaradodd hi, dywedodd hi, 'Nid oes y fath beth â chymdeithas', wrth gwrs, ond aeth ymlaen—byddai wedi bod yn dda gan lawer o aelodau'r Blaid Lafur pe na bai wedi gwneud hynny—ond aeth ymlaen i ddweud, 'Ond mae cyfrifoldeb', ac mae gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb, meddai—meddai Margaret Thatcher—i'n teuluoedd ac am les ein cymdogion. Ac mae gennym ni'r cyfrifoldeb hwnnw, a Tony Blair, mewn gwirionedd, a ddysgodd y Blaid Lafur, a siaradodd ddigon am hawliau—ac mae'r Blaid Lafur yn sôn yn gyson am hawliau—ond Tony Blair a wnaeth ein hatgoffa ni fod cyfrifoldebau yn dod yn sgil hawliau, ac rwy'n credu bod gennym ni gyfrifoldebau i'n gilydd, ac rwy'n credu bod gennym ni gyfrifoldebau am les y rhai eraill mewn cymdeithas: pobl sy'n wan, pobl sy'n agored i niwed, pobl sydd ag anghenion iechyd penodol. Ac nid yw rhyddid neb—rhyddid neb—yn bwysicach nag iechyd rhywun arall. Pa fath o gymdeithas ydym ni erbyn hyn lle byddai Margaret Thatcher yn cael ei hystyried yn rhyddfrydwr peryglus? Pa fath o gymdeithas ydym ni erbyn hyn lle'r ydym ni'n dweud, 'Mae fy hawl i i wneud yr hyn yr wyf i'n dewis ei wneud yn bwysicach na'ch hawl chi i fywyd'? Pa fath o gymdeithas ydym ni? Os ydym ni am fod yn unrhyw beth, mae'n rhaid i ni fod yn well na hynny. Mae'r Llywodraeth yn cael rhai pethau'n iawn ac mae Llywodraethau'n cael rhai pethau'n anghywir. Wrth gwrs eu bod nhw. Mae pob Llywodraeth yn gwneud hynny. Ac rwy'n deall awydd Rhun am sail dystiolaeth gryfach, ond rwy'n credu ei bod ar gael. Rwy'n credu, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, neu'r flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, ein bod ni wedi gweld digon o dystiolaeth o'r niwed y mae'n bosibl ei wneud i bobl os byddwn ni'n byw ein bywydau heb ystyried eraill. Ac felly mae angen i ni gyflwyno'r materion hyn. Ac rwy'n cytuno â James Evans mewn gwirionedd; rwy'n gobeithio y byddan nhw'n cael eu dileu pan nad oes angen y rheoliadau hyn, oherwydd nid ydym ni eisiau byw yn y gymdeithas honno. A'r pwynt y gwnes i i Russell George oedd bod ei Ysgrifennydd Cartref ei hun wedi dweud wrth gynhadledd y Ceidwadwyr y bore yma na ddylai pobl fod â'r rhyddid i fynd o un rhan o wlad i'r llall i gymryd rhan mewn protest gyfreithlon. Pa fath o gymdeithas yw hynny, sy'n dweud wrthym ni nad ydym ni'n cael gyrru i lawr y ffordd er mwyn protestio yn erbyn rhywbeth nad ydym ni'n ei hoffi? Dyna sydd wrth wraidd rhyddid. Mae wrth wraidd rhyddid. Mae wrth wraidd pwy ydym ni fel cymdeithas rydd. Ac mae'r hawliau hynny yn cael eu tynnu oddi wrthym ni. Mae baich yn cael ei rhoi arnom ni er mwyn diogelu rhyddid mwyaf a lles gorau pobl yn y gymdeithas hon. Ac rwy'n credu bod achos y Llywodraeth wedi ei wneud—bod yn rhaid i ni ddiogelu iechyd a lles y bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, a dyna'r peth gorau y gallwn ni ei wneud y prynhawn yma. Diolch. Janet Finch-Saunders AC: Waw, dilynwch hynny, Janet. Gweinidog, ni allaf i gefnogi defnydd gorfodol pasys na phasbortau brechlyn domestig, ac mae hyn yn bennaf oherwydd y goblygiadau moesegol, cydraddoldeb, economaidd, preifatrwydd, cyfreithiol a gweithredol eang a ddaw yn sgil rheoleiddio o'r fath. Amlygodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ei ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar y syniad o ardystiad statws COVID y materion moesegol a chydraddoldeb pwysig y byddai angen eu hystyried cyn y byddai modd gweithredu unrhyw ddeddfwriaeth o'r fath. Yn benodol, fel sydd wedi ei nodi ym mharagraffau 13 i 15 o ateb y comisiwn, mae'r pryderon hyn yn dod o fewn y meysydd canlynol: 13, bod 'pryderon ynghylch y posibilrwydd o wahaniaethu neu o dorri hawliau sifil wrth ddefnyddio statws ardystio i deithio, mynd i'r gwaith, mwynhau gweithgareddau cymdeithasol a manteisio ar wasanaethau hanfodol, a chreu cymdeithas ddwy haen'— a dywedodd Russell George hynny— 'lle mai dim ond rhai grwpiau sy'n gallu mwynhau eu hawliau yn llawn. Mae'n rhaid ystyried yr ystyriaethau cydraddoldeb a hawliau dynol hyn'— ac mae'n rhaid iddo gael ei brofi'n fanwl gan y Llywodraeth hon yn y fan yma— 'gan gymryd camau clir i fynd i'r afael ag unrhyw effeithiau negyddol sy'n cael eu rhagweld.' Felly, gyda hyn mewn golwg, a wnewch chi egluro a yw Llywodraeth Cymru o'r farn bod pàs COVID yn wahaniaethol ac yn amharu ar ryddid sifil? O ystyried statws gwarchodedig gwybodaeth feddygol unigolyn, gan gynnwys statws brechu, a wnewch chi hefyd amlinellu pa ystyriaeth yr ydych chi wedi ei rhoi i oblygiadau diogelu data deiliaid sy'n gofyn am statws brechu unigolion wrth fynd i mewn i adeiladau? Nawr, mae sgyrsiau diweddar yr ydym ni wedi eu cael â Chymdeithas Diwydiannau'r Nos Cymru wedi ei gwneud yn glir bod modd cynnal nosweithiau a sioeau clwb mewn unrhyw fariau a lleoliadau aml-leoliad, yn ogystal â chlybiau nos gwirioneddol. Yn yr un modd, mae gan lawer o dafarndai a bariau ddarpariaeth debyg iawn yn hwyr yn y nos i glybiau nos. Felly, Gweinidog, sut mae Llywodraeth Cymru yn diffinio clwb nos o dan ei rheoliadau pasbort COVID? Yn benodol, ar ba bwynt mae tafarn a bar yn dod yn glwb nos sy'n gofyn am fynediad pasbort? Byddai pasbortau brechlyn yn ei gwneud yn ofynnol i glybiau nos newid rhan allweddol o'u model gweithredu, ar ôl buddsoddi mewn ailagor heb y gofyniad hwn. Mae clybiau nos eisoes ymysg rhai o'r busnesau sydd wedi dioddef fwyaf yn ystod y pandemig, gyda nifer o fusnesau erbyn hyn yn dioddef o ddyled ddifrifol ac ôl-ddyledion rhent. Ac, a bod yn onest, nid oes unrhyw gymorth wedi ei grybwyll ar gyfer y buddsoddiad cyfalaf ychwanegol y bydd ei angen arnyn nhw. O ystyried hyn, Gweinidog, pa asesiad effaith ydych chi wedi ei gynnal cyn gweithredu'r rheoliadau hyn, a pha gymorth ariannol fydd ar gael i helpu i weithredu a gorfodi'r pasbortau hyn? Felly, gallwch chi ddeall y— A ydych chi'n cymryd yr ymyriad? A ydych chi'n cymryd yr ymyriad, neu—? Janet Finch-Saunders AC: O, mae'n ddrwg gen i, Jenny—ydw. Jenny Rathbone AC: Dim ond eisiau i chi egluro ydw i: beth yw'r buddsoddiad cyfalaf hwn y byddai angen i bobl ei wneud? Y cyfan y gallai fod ei angen arnyn nhw yw person ychwanegol wrth y drws. Nid wyf i'n ystyried hynny yn fuddsoddiad cyfalaf. Janet Finch-Saunders AC: Ond ble mae gennych chi unrhyw dystiolaeth bod angen un person ychwanegol wrth y drws? Mae hyn i gyd yn amwys iawn. Yn y pen draw, rydym ni i gyd yn gwybod nad yw'n ddiogel cadw pobl yn ciwio yn agos iawn at ei gilydd, felly bydd angen buddsoddiad cyfalaf. Mae pryderon dilys gan ein busnesau y gallai'r rheoliadau hyn arwain yn uniongyrchol at wrthdaro posibl rhwng staff diogelwch a staff eraill lleoliadau. Mae ein clybiau nos eisoes yn dioddef o brinder staff diogelwch ac yn ofni efallai na fyddan nhw'n gallu dod o hyd i'r staff ychwanegol sydd eu hangen i weinyddu'r system pasbortau brechlyn yn ddiogel, gan godi pryderon pellach ynghylch gweithredu'r broses o eithrio a diogelu staff. Gweinidog, gydag un dyn busnes blaenllaw yng ngogledd Cymru yn galw am gyfraith newydd i amddiffyn gweithwyr manwerthu a lletygarwch rhag cwsmeriaid sy'n eu cam-drin, pa gamau ydych chi'n eu cymryd? Ydych chi'n deall yn iawn yr hyn yr ydych chi'n disgwyl i'n busnesau baratoi ar ei gyfer nawr? Byddwn i'n gofyn i bob Aelod, ac yn sicr yr Aelod, beidio â chefnogi hyn i symud ymlaen. Rwyf i wir yn credu bod hwn yn gam yn rhy bell. Diolch. Jane Dodds AS: Rydym ni wedi cefnogi'r dull gofalus y mae'r Prif Weinidog wedi ei gymryd hyd yma, ac rwy'n falch fy mod i'n byw yng Nghymru, oherwydd bod ymagwedd y Llywodraeth hon at y coronafeirws yn teimlo gymaint yn fwy diogel nag ymagwedd y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan. Rwyf i hefyd eisiau bod yn glir bod y cyfrifoldeb y mae'r cyhoedd yng Nghymru yn ei dderbyn o ran gwisgo masgiau, cadw eu pellter, bod yn glir bod yn rhaid iddyn nhw sicrhau eu bod yn cadw at Brofi, Olrhain, Diogelu, yno yn wirioneddol. Ac felly rwy'n credu mewn gwirionedd bod y cyhoedd yng Nghymru yn gyfrifol yn y sefyllfa hon. Hoffwn i hefyd gondemnio yn uchel y bobl sy'n gwrthwynebu'r brechiadau sydd, rwy'n credu, y tu allan i'r Senedd ar hyn o bryd. Maen nhw'n beryglus ac maen nhw'n risg i bawb, ac rwy'n siŵr y byddem ni i gyd yn eu condemnio. Nid yw hyn—[Torri ar draws.] Byddaf, diolch; byddaf i'n derbyn yr ymyriad. Russell George AC: Diolch yn fawr iawn, Jane. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi o ran y bobl sy'n gwrthwynebu'r brechiadau sydd y tu allan i'r Senedd heddiw, ond sylwais i fod rhai pobl fwy synhwyrol y tu allan i'r Senedd heddiw sy'n cefnogi'r safbwynt yn erbyn y rheoliadau hyn, ac i ryw raddau rwy'n credu efallai bod eu niferoedd nhw yn fwy erbyn hyn, efallai, gan y digwyddiadau eraill. Ond dim ond i gofnodi hynny yw hynny. Diolch, Jane. Jane Dodds AS: Diolch. Wel, fe wnaethoch chi fentro allan yno, a da iawn chi. Rwyf i hefyd yn ddiolchgar i'ch swyddogion chi, Gweinidog, am anfon gwybodaeth ataf i a hefyd am gyfarfod â mi y bore yma. Yn olaf, rwyf i wedi fy syfrdanu gan safbwynt y Ceidwadwyr ar hyn yng Nghymru, oherwydd rwyf i yn deall bod Boris Johnson yn awyddus i ystyried cyflwyno hyn ledled Lloegr. Felly, mae'r sefyllfa yno'n fy nhrysu i rywfaint. Ond rwyf i eisiau bod yn glir yma na allaf i gefnogi hyn, ac mae chwe rheswm, ac yn gyflym iawn, Llywydd, hoffwn i eu hamlinellu, mewn gwirionedd. Ni fydd pasbortau COVID yn lleihau'r niwed. Yr hyn sy'n cael ei gynnig yma yw naill ai—gadewch i ni fod yn gwbl glir—eich bod chi'n cyflwyno rhywbeth i ddangos eich bod chi wedi eich brechu ddwywaith, neu brawf llif unffordd o fewn y 48 awr ddiwethaf. O ran y prawf llif unffordd, gallech chi gwrdd yn rhwydd â rhywun yn y 48 awr hynny cyn i chi fynd i mewn i'r lleoliad hwnnw, ac felly gallech chi ddal COVID. Gallai'r ciwio am basys, hefyd, fel y gwnaethom ni ei glywed, olygu bod hynny'n cael ei drosglwyddo o un person i'r llall. Ac yn olaf, rwy'n deall o'r briff a gafodd ei ddarparu gan eich swyddogion y bore yma fod disgresiwn mewn lleoliadau i beidio â gwirio pawb mewn gwirionedd. Mae'r lleoliadau mwy, rwyf i ar ddeall, yn cael gwirio ar hap. Felly, mae hyn ar unwaith, i mi, yn chwalu'r ddadl hon. Mae hyn yn ymwneud â'i wneud yn gywir neu beidio â'i wneud o gwbl. Fy ail reswm yw hyn: os yw wedi ei gynllunio i annog pobl i gael eu brechu, nid yw'r dystiolaeth yn ei gefnogi. Unwaith eto, clywais i gan eich swyddogion y bore yma—ac rwy'n ddiolchgar am hyn, diolch yn fawr iawn—fel y dyfynnodd Russell George, mae tystiolaeth yma, ar y dudalen gyntaf mewn gwirionedd yn nodi'n glir iawn nad yw'r dystiolaeth yn ei gefnogi, bod ardystio yn un o'r ffactorau a allai annog pobl i beidio â chael eu brechu—hynny yw, nad yw mynd i leoliad a bod gofyn am frechlyn yn annog pobl i geisio'r brechlyn hwnnw. Yn drydydd, mae hyn yn ymwneud â bod yn gymesur, a fy mhryder i yw y bydd yn gwahaniaethu yn erbyn pobl. Mae pryderon wedi eu codi gyda mi gan y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol fod eu haelodau'n bryderus iawn ac, yn wir, wedi drysu ynghylch hyn. Fy mhedwerydd pwynt yw bod hyn yn ymwneud â deddfu gwael. Mae'r diwygiadau hyn yn cynrychioli'r ail gyfres ar bymtheg o welliannau i'r pumed gyfres o reoliadau COVID ac nid oes dyddiad dod i ben ar gyfer eu defnyddio. Mae'n ddeddfu gwael, yn fy marn i, a allai osod cynsail beryglus. Yn bumed, bydd yn ddrwg i fusnes ac yn ddrwg i weithwyr. Rwyf wedi drysu'n fawr pam mae'n rhaid i bobl sy'n mynd i leoliadau gael y pàs COVID hwn, ond mewn gwirionedd nid fydd yn rhaid i'r bobl sy'n gweithio yn y lleoliadau neu sy'n gwirfoddoli yn y lleoliadau gael pàs COVID. Felly, ar unwaith, mae gennych chi bobl yn wynebu risg oherwydd nad oes rhaid iddyn nhw gael y pàs COVID hwnnw. Os yw'r Llywodraeth yn sicr o effeithiolrwydd a'r angen am basbortau COVID, yna pam y byddech chi'n gadael gweithwyr mewn perygl trosglwyddo? Yn chweched ac yn olaf, yn y bôn, mae pasbortau COVID yn amharu ar ein rhyddid, ac mae'n wych clywed cynifer o bobl yma yn sôn am ryddid. Gallwch chi ymuno â'n plaid ni, y Democratiaid Rhyddfrydol, os ydych chi'n teimlo mor gryf am ryddfrydiaeth ac am ryddid. Ond un o egwyddorion sylfaenol hawliau dynol yw'r prawf angenrheidrwydd: a yw'r camau sydd wedi eu cymryd yn drech na'r rhyddid a'r hawliau hynny yr ydym ni wedi brwydro drostyn nhw ar hyd yr holl ganrifoedd? Yn olaf—rwyf i yn gorffen gyda hyn—rwy'n annog yr Aelodau i bleidleisio yn erbyn y cynigion hyn heddiw. Gadewch i ni ganolbwyntio ar yr hyn yr ydym ni'n ei wybod sy'n gweithio a'r hyn yr ydym ni'n gwybod bod y mwyafrif llethol o bobl yng Nghymru eisoes yn ei wneud: masgiau, brechlynnau, brechlynnau atgyfnerthu, profi, olrhain a diogelu, cadw ein pellter. Dyna'r hyn yr ydym ni'n gwybod sy'n gweithio. Mae hyn yn tynnu sylw oddi ar hynny mewn gwirionedd. Rwy'n gwybod bod hwn yn fater anodd; mae wedi bod yn un anodd i mi ei ystyried ac rwy'n gwybod bod llinellau plaid i'w cynnal, ond os gwelwch yn dda, ystyriwch yr hyn yr ydych chi'n pleidleisio drosto y prynhawn yma ac am y llwybr y mae hyn yn ein gosod ni arno. Diolch. Diolch yn fawr iawn. Joyce Watson AC: Byddaf i'n pleidleisio i gefnogi cyflwyno'r pàs COVID, ac rwyf i eisiau ailadrodd hynny: pàs COVID ydyw. Nid yw'n dystysgrif frechlynnau, nid yw'n unrhyw un o'r enwau cymhleth hyn sydd wedi ei roi iddo heddiw, ac mae bron fel, rhywsut, ein bod ni wedi bod yn sôn am rywbeth nad yw'n bodoli a dyna'r gwir. Fodd bynnag, nid wyf i'n diystyru'r anesmwythyd y mae rhai pobl yn ei deimlo ynghylch y ddadl ar ryddid sifil, ond rwy'n fodlon bod cynnwys canlyniad y prawf llif unffordd yn ymdrin â hynny. Ac os ydym ni'n sôn am hawliau—ac rydym ni wedi clywed llawer am hawliau heddiw—nid oes gennym ni hawl awtomatig i fynd i glwb nos mewn gwirionedd. Nid wyf i byth yn cofio hynny wedi ei ysgrifennu yn y ddeddfwriaeth hawliau dynol, bod gennych chi hawl ddynol i fynd i glwb nos. Ond mae gennym ni, ac mae wedi ei ddyfynnu yn y fan yma—ac mae'n well gen i fersiwn Tony Blair i Thatcher, mae'n rhaid i mi ddweud wrthych chi—mae gennym ni rywfaint o gyfrifoldeb fel unigolion i bobl eraill. Rwyf i wedi clywed y ddadl ynghylch angen aelod ychwanegol o staff a gafodd ei chyflwyno gan Janet Finch-Saunders. Os nad ydym ni'n gwirio'r bobl sy'n dod i mewn i leoliadau—ac rydym ni yn gwybod bod digon o dystiolaeth sy'n dweud wrthym ni y gall y rhain fod yn archledaenwyr—gallaf eich sicrhau am un peth, Janet, bydd gennych chi lai o staff yr wythnos nesaf oherwydd byddan nhw wedi dal COVID, felly byddan nhw'n brin o staff, ac rydym ni wedi gweld hynny'n digwydd lle mae pobl wedi agor yn barod. Mae digon o dystiolaeth yno eisoes sy'n dweud wrthych chi fod pobl yn cael eu heintio yn eu gweithle. Felly, yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud yw diogelu'r gweithwyr hynny mewn gwirionedd ac rydym ni hefyd yn ceisio amddiffyn pobl. Os ydych chi eisiau tystiolaeth o ymddygiad pobl ar ôl iddyn nhw hyrddio allan o glwb nos neu tuag ato, dewch gyda mi ar nos Iau, nos Wener, nos Sadwrn neu nos Sul i Hwlffordd pan fyddaf i'n mynd â rhywun i'r gwaith am 11 o'r gloch. Mae'n ymddangos bod pobl yn meddwl eu bod yn dod nhw'n uwchddynol, maen nhw'n hongian oddi ar ei gilydd, ac rwy'n siŵr eu bod nhw'n siarad yn agos iawn, a gallaf i warantu nad ydyn nhw'n cofio'r diwrnod nesaf â phwy y maen nhw wedi bod yn siarad. Ni fydd rhai ohonyn nhw hyd yn oed yn cofio i ble roedden nhw'n mynd neu o ble roedden nhw'n dod. Mae fy mhrofiad i yn y fasnach drwyddedig yn dweud wrthyf y bydd hynny'n wir. Felly, gadewch i ni fod yn glir nad tystysgrif frechlynnau yw hon, ac rwy'n credu fy mod i'n mynd i barhau i ailadrodd hynny gynifer o weithiau ag yr oedd wedi ei ailadrodd eisoes. Nid wyf i'n derbyn y ddadl ychwaith yr wyf i wedi ei chlywed mai blaen y gyllell yw'r mesur hwn, na'i fod yn Llywodraeth reolfa. Gadewch i ni fod yn glir, mae'r rhain yn eiriau gwirion iawn i'w defnyddio yn y ddadl hon. Rydym ni i gyd wedi gwneud aberth a chyfaddawdau eithriadol. Rydym ni wedi cadw at y rheolau ac wedi dilyn cyngor er mwyn cadw'n ddiogel a gofalu am ein gilydd, ac rydym ni i gyd yn gwybod bod pobl wedi gwneud aberth enfawr, a dyna mewn gwirionedd sut yr ydym ni wedi llwyddo i ddod drwy hyn gyda'n gilydd fel cymuned. Ond nid yw ei gwneud yn ofynnol i bobl brofi eu bod yn rhydd rhag COVID neu eu bod wedi eu brechu neu'r ddau i fynychu digwyddiadau cymdeithasol y peth mwyaf yr ydym ni wedi ei ofyn gan bobl hyd yn hyn, ac rwy'n credu bod hynny'n bwynt pwysig i'w wneud yma nawr. Nid dyma'r peth mwyaf sydd wedi ei ofyn. Nid yw'r bobl sy'n mynd i glybiau nos yn fwyafrif. Felly, gadewch i ni gadw persbectif yn hyn i gyd. Hyd y gwn i, nid yw'r rhan fwyaf o fy etholwyr i yn mynd i glybiau nos, ac eto gallaf i ddilyn y dystiolaeth yr wyf i eisoes wedi ei rhoi. Ond, gadewch i ni hefyd fod yn glir bod llawer eisoes wedi gofyn am basys COVID, ac yn y Dyn Gwyrdd a ddigwyddodd yn fy rhanbarth i, gwnaethon nhw ofyn am bàs, ac mae miloedd mwy wedi defnyddio pasys COVID i deithio dramor yr haf hwn. Yn wir, ni allen nhw aros i'w cael nhw i gael mynd allan o'r wlad a dod yn ôl fel y gallen nhw gael gwyliau. Nid oedd yn atal y bobl hynny. Jane Dodds AS: A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad? Joyce Watson AC: Felly, nid yw'n gam yn rhy bell. Gwnaf. Jane Dodds AS: Diolch. Rwy'n ddiolchgar iawn. A yw'n wir ei bod yn ofynnol i'r holl weithwyr a'r holl wirfoddolwyr ddangos prawf o frechu yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd hefyd? Joyce Watson AC: Nid oes gen i unrhyw syniad. Ond yr hyn rwyf i yn ei wybod yw, er mwyn i'r digwyddiad fynd yn ei flaen, roedd yn rhaid i'r bobl a oedd yn dymuno cymryd rhan ynddi gael pàs COVID. Dyna yr wyf i'n ei wybod, a dyna'r pwynt sy'n cael ei wneud yma. Mae'r pwynt hwnnw yn amherthnasol mewn gwirionedd, hyd y gwelaf i. Felly, gadewch i ni fod yn glir yma: mae hyn yn gymesur, mae'n synhwyrol ac mae'n rhagofal teg, ac rwyf i'n annog pawb i archwilio eu cydwybod yma heddiw, i wneud y peth iawn a chefnogi hyn. Dwi'n galw nawr ar y Gweinidog Iechyd a GwasanaethauCymdeithasol i ymateb. Eluned Morgan. Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr, Llywydd. Rwyf i eisiau bod yn glir nid ar chwarae bach y mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi awgrymu cyflwyno'r mesur hwn; mae wedi bod yn heriol i ni, oherwydd ein bod ni eisiau ystyried yn ofalus iawn beth oedd y goblygiadau ymarferol, cyfreithiol, a moesegol ynghlwm wrth gyflwyno pàs o'r math hwn. Ond rydym ni'n deall ein cyfrifoldebau iechyd cyhoeddus, ac rydym ni'n deall ein bod ni'n wynebu rhai o'r cyfraddau COVID uchaf yr ydym ni wedi eu gweld ers dechrau'r pandemig, yn enwedig ymhlith pobl ifanc—dros 1,000 o achosion fesul 100,000. Ac rydym ni'n gwybod bod yn rhaid i ni wneud rhywbeth i atal lledaeniad ffyrnig y feirws yn y mannau hyn lle mae llawer o bobl yn ymgynnull. Ac rydych chi eisiau tystiolaeth i ddangos bod hynny'n digwydd: wel, rydym ni'n gwybod faint o bobl ifanc o Gymru a ddaeth yn ôl o Gernyw, o Ŵyl Boardmasters, gan ledaenu'r feirws yma; rydym ni'n gwybod faint a ddaeth yn ôl o Reading gan ledaenu'r feirws yma. Rydym ni'n gwybod bod yn rhaid i ni wneud rhywbeth i fynd i'r afael â'r sefyllfa hon. A gadewch i mi atgoffa'r Torïaid—[Torri ar draws.] Gadewch i mi atgoffa'r Torïaid—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gen i, ond rwyf i yn ymateb i'r ddadl. Gadewch i mi atgoffa'r Torïaid bod y pàs COVID yn parhau i fod yn adnodd sydd ar gael i Lywodraeth y DU yn eu cynllun gaeaf eu hunain, ac mae'n ddigon posibl y byddwn ni'n gweld y mesur hwn yn cael ei gyflwyno yn y Deyrnas Unedig. Ac mae Plaid wedi gofyn i ni gefnogi'r hyn sy'n gweithio. Wel, mae'r system hon wedi bod yn gweithio ers pedwar mis. Rydym ni'n gwybod bod llawer o leoliadau wedi bod yn ei ddefnyddio eisoes ledled Cymru. Rwy'n gwybod, oherwydd es i i gyngerdd Nile Rodgers, ac fe weithiodd yn eithriadol o dda o dan yr amgylchiadau hynny. Nid oes neb yn cael ei orfodi i gael ei frechu. Gadewch i ni fod yn gwbl glir ynglŷn â hynny. Mae gan bobl ddewis i gael prawf llif unffordd i ddangos nad oes ganddyn nhw'r feirws. Ac rydych chi'n dweud wrthym ni am wrando ar yr hyn y mae'r gwyddonwyr yn ei ddweud wrthym ni. Wel, byddaf i'n dweud wrthych chi yr hyn y mae'r Grŵp Cynghori Gwyddonol ar gyfer Argyfyngau yn ei ddweud wrthym ni. Maen nhw'n dweud wrthym ni, 'Gweithredwch yn gynnar; gweithredwch nawr.' A phob dydd, bob dydd yr ydym ni'n petruso, mae'r cyfraddau hynny yn codi. A phob dydd yr ydym ni'n petruso, bydd y cyfraddau hynny yn rhoi mwy o bwysau ar ein gwasanaethau GIG. A gadewch i ni fod yn glir: mae peidio â derbyn hyn yn awgrymu eich bod chi'n hapus i wneud dim yn ystod yr wythnosau nesaf. Nid oes neb yn awgrymu y dylai unrhyw gyfleuster gadw data. Rydym ni'n deall yn iawn bod busnesau yn dymuno aros ar agor a bydd y mesur hwn yn ein helpu ni i wneud hynny drwy gydol y gaeaf. A gadewch i mi fod yn glir: bydd peidio â chefnogi'r mesur hwn heddiw yn weithred anghyfrifol ddifrifol o ran iechyd y cyhoedd yng Nghymru. A bydd y mesur hwn yn caniatáu i'r cyfleusterau aros ar agor yn wyneb un o'r gaeafau mwyaf heriol yr ydym ni eto i'w wynebu. Mae'r cyhoedd ar ein hochr ni ynglŷn â hyn, ac maen nhw'n eich gwylio chi yn y Siambr hon heddiw, ac rwyf i'n eich annog chi i gefnogi'r mesur hwn. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Dwi'n gohirio'r bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. 8. Dadl: Datganoli Pwerau Trethu Newydd Mae yna ddadl nawr ar ddatganoli pwerau trethu newydd, a dwi'n galw ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig. Rebecca Evans. Cynnig NDM7786 Lesley Griffiths Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod posibilrwydd cyflwyno treth ar dir gwag yng Nghymru er mwyn cyfrannu at gynyddu’r cyflenwad o dai a sicrhau defnydd cynhyrchiol o dir nad yw’n cael ei ddefnyddio. 2. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth y DU i fwrw ymlaen â’r cynnig hwn, a hynny’n unol â darpariaethau Deddf Cymru 2014. 3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gydweithio â Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod proses effeithiol ar gyfer datganoli cymhwysedd deddfwriaethol dros drethi newydd i’r Senedd. Cynigiwyd y cynnig. Rebecca Evans AC: Diolch, Llywydd. Gwnaethom drafod yr achos dros drethi newydd am y tro cyntaf yn 2017, gan ddechrau trafodaeth genedlaethol ar sut y gallai pwerau trethu newydd ddarparu cyfleoedd i'n helpu i wireddu ein huchelgeisiau ar gyfer Cymru. Dros bedair blynedd yn ddiweddarach, nid yw'r cyfleoedd hynny ar gael i ni o hyd. Mae Deddf Cymru 2014 yn caniatáu datganoli trethi newydd a phresennol y DU, ond nid yw'n rhoi llawer o fanylion am sut y byddai'r broses honno'n gweithio. Gweithiodd Llywodraethau Cymru a'r DU gyda'i gilydd i gynllunio yn ofalus proses a fyddai'n galluogi cyflwyno trethi datganoledig newydd, gan barchu buddiannau'r ddwy Lywodraeth. Mae dau gam penodol i'r broses. Y cam cyntaf yw datganoli'r pwerau. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i gynnig gael ei ddatblygu, ac ymgynghori arno, cyn ei gyflwyno i Senedd y DU a'r Senedd hon er mwyn cytuno i ddatganoli a derbyn y pwerau. Yr ail gam yw i Lywodraeth Cymru gyflwyno'r cynigion polisi a deddfwriaethol manwl i'r Senedd hon i gyflwyno'r dreth newydd. Nodwyd treth ar dir gwag gennym fel y dreth newydd gyntaf y byddem ni'n ceisio cymhwysedd i ddefnyddio'r broses rynglywodraethol y cytunwyd arni. Fe wnaethom ddewis treth ar dir gwag oherwydd gall chwarae rhan allweddol yn y gwaith o helpu i gyflawni ein hymrwymiadau i ddarparu mwy o dai, a chefnogi adfywio ein trefi a'n cymunedau. Fe wnaethom ddewis treth ar dir gwag hefyd oherwydd ein bod yn credu bod yr achos dros ddatganoli yn glir ac yn syml, ac y byddai hyn yn caniatáu i ni brofi a mireinio'r broses ar gyfer datganoli trethi eraill. Rebecca Evans AC: Mae tai diogel a fforddiadwy o ansawdd uchel yn gonglfaen i well iechyd, gwell canlyniadau addysgol a gwell lles. Gwyddom o amcangyfrifon angen tai y bydd arnom angen 7,400 o gartrefi ychwanegol y flwyddyn am y pum mlynedd nesaf, ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddarparu anghenion tai Cymru. Ond, gyda phwerau treth newydd i gymell datblygwyr i fwrw ymlaen â datblygiadau sydd wedi'u gohirio, gallem ni wneud mwy. Nid yw treth ar dir gwag yn unig yn ateb i'r argyfwng tai, wrth gwrs, ond mae'n ymyriad y gallwn ni ei wneud i gyflwyno datblygiad amserol. Fel y mae, mae perchnogion tir yn elwa ar gynnydd yng ngwerth eu tir pan gaiff ei nodi yn y broses gynllunio ar gyfer datblygu. Pan fo'r tir wedyn yn cael ei ddatblygu, gan ddarparu cartrefi y mae mawr eu hangen, mae'r system hon yn gweithio. Ond, pan fo'r perchnogion tir yn dal y tir hwnnw ac nad yw/n cael ei ddatblygu, mae enillion preifat, ond ar gost gyhoeddus. Drwy gynyddu'r gost o ddal gafael ar dir sydd wedi'i nodi i'w ddatblygu, gallai treth ar dir gwag helpu i annog datblygiad ac ail-gydbwyso pwy sy'n ysgwyddo'r gost pan na fydd datblygiad yn digwydd. Gallai treth ar dir gwag hefyd helpu i gyfrannu at adfywio, mynd i'r afael â golwg wael safleoedd segur a'u heffaith ar les y rhai sy'n byw gerllaw. Er mwyn dechrau archwilio'n briodol cyfleoedd y dreth ar dir gwag i Gymru, mae angen y pwerau arnom yn gyntaf. Rydym bob amser wedi bod yn glir, wrth geisio pwerau newydd am y tro cyntaf, y byddwn yn profi dull Deddf Cymru 2014, ac nid ydym erioed wedi tanamcangyfrif yr her o lywio'r broses hon. Aeth dwy flynedd o waith i sicrhau bod gan Lywodraeth y DU yr wybodaeth yr oedd ei hangen arni i ystyried yr achos dros ddatganoli, cyn i ni wneud cais ffurfiol am drosglwyddo pwerau. Cefais drafodaeth adeiladol gydag Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys mewn cyfarfod Cydbwyllgor y Trysorlys. Cytunwyd mai Mater i Lywodraeth Cymru oedd gwneud penderfyniadau polisi ynghylch sut y byddai unrhyw dreth ddatganoledig newydd yn gweithredu, ac i'r Senedd hon benderfynu a ddylid trosglwyddo unrhyw dreth newydd i gyfraith. Swyddogaeth Llywodraeth a Senedd y DU yw penderfynu datganoli pwerau treth newydd. Fodd bynnag, pan wnes i'r cais ffurfiol ym mis Mawrth 2020, eu hymateb oedd gofyn am ragor o wybodaeth eto am weithrediad y dreth. Rydym wedi gweithio gyda Llywodraeth y DU yn ddidwyll i benderfynu a darparu'r wybodaeth y bydd ei hangen arnynt, ond nid yw'n briodol i Lywodraeth y DU gymryd rhan mewn materion sydd, yn briodol, i Lywodraeth Cymru a'r Senedd hon. Mae gwelliant y Ceidwadwyr yn galw arnom i gydnabod bod nifer o resymau pam y gallai fod oedi mewn datblygiadau. Wel, mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni bob amser wedi'i gydnabod. Gwnaethom gomisiynu ymchwil i'r rhesymau a'u mynychder ledled Cymru. Rydym bob amser wedi bod yn glir iawn nad ydym yn ceisio cosbi'r rhai sy'n mynd ati i ddatblygu o fewn amserlenni proses arferol, na'r rhai sy'n cael eu hatal rhag cael eu datblygu gan resymau sydd y tu hwnt i'w rheolaeth. Er mwyn cyflawni ein hamcanion polisi, gwyddom y bydd angen i ni ystyried yn ofalus sut y byddai treth o'r fath yn cael ei phennu a'i strwythuro, a byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid i gynllunio dull sy'n datgymell yr ymddygiadau nad ydym eu heisiau, heb greu canlyniadau anfwriadol. Ond, mae'n rhaid i'r pwerau ddod cyn y gellir ymgymryd â'r dyluniad polisi manwl. Mae'r diffyg cynnydd parhaus o ran datganoli pwerau newydd nid yn unig yn gwadu ysgogiad sylweddol i ni o ran diwallu'r angen am dai a chefnogi adfywio, mae'n awgrymu nad yw'r broses yn ymarferol. Ac eto, yn y cyfamser, mae Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen â'i chynlluniau i gyflwyno treth datblygu eiddo preswyl ledled y DU, a fydd yn cynnwys, o fewn ei chwmpas, trethu'r elw sy'n deillio o ddal gafael ar dir a nodwyd i'w ddatblygu. Mae treth ar dir gwag yn dreth gul wedi'i thargedu. Mae'n cyd-fynd yn agos â chyfrifoldebau datganoledig, ac ni fyddai ganddi fawr o ryngweithio â meysydd nad ydyn nhw wedi'u datganoli. Byddai'n berthnasol i dir yng Nghymru yn unig, ac ni fyddai disgwyl yn rhesymol iddi gael effaith sylweddol y tu allan i Gymru. Os na allwn sicrhau pwerau ar gyfer treth o'r fath, mae'n anodd credu y gallem ni sicrhau pwerau ar gyfer unrhyw dreth newydd o dan y broses bresennol. Pe bai Llywodraeth y DU yn cytuno i fwrw ymlaen â'n cais yn ysbryd yr hyn yr ydym ni wedi cytuno arno, gallem ni heddiw fod yn trafod a ddylid derbyn trosglwyddo pwerau, yn hytrach na pharhau i edifarhau am y diffyg cynnydd. Yn hytrach, mewn proses lle y gall Llywodraeth y DU ofyn am ragor o wybodaeth, mae'n rhaid i ni gwestiynu a yw'r broses honno'n addas i'r diben. Diolch. Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar Peter Fox i gynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Peter Fox. Gwelliant 1—Darren Millar Dileu popeth a rhoi yn ei le: 1. Yn cydnabod bod Llywodraeth y DU wedi bod yn ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ynghylch cynigion i gyflwyno treth ar dir gwag yng Nghymru. 2. Yn cydnabod bod nifer o resymau pam y gallai datblygiadau newydd arafu, ac yn nodi pryderon y gallai treth ar dir gwag arwain at ganlyniadau anfwriadol o ran argaeledd a fforddiadwyedd tir i'w ddatblygu. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ei chynigion ar gyfer treth ar dir gwag, gan gynnwys asesiad llawn o'r effaith ar y sector tai. 4. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i gydweithio ag adeiladwyr tai, ac i ddefnyddio'r holl ysgogiadau sydd ar gael ar hyn o bryd i adeiladu'r cartrefi fforddiadwy o ansawdd sydd eu hangen ar Gymru i fynd i'r afael â'r argyfwng tai. Cynigiwyd gwelliant 1. Peter Fox AS: Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Hoffwn ddiolch i chi, Gweinidog, am y datganiad, ond rwy'n cwestiynu pam mae'r Llywodraeth wedi defnyddio ei hamser seneddol i gyflwyno dadl ar ddatganoli trethi ymhellach ac i achosi rhaniad arall, mae'n debyg, rhwng Cymru a Llywodraeth y DU. Unwaith eto, mae'n ymddangos ein bod yn sôn am ddatganoli, yn hytrach na sôn am y materion mawr sy'n wynebu pobl Cymru, gan edrych o'r tu allan ar ein hunain, bod ag obsesiwn ynghylch proses, yn hytrach na'r canlyniadau polisi a fydd yn sicrhau newid gwirioneddol i deuluoedd ledled y wlad. Rydym ar adeg anodd yn adferiad Cymru o'r pandemig, ac rwy'n credu yn gryf y dylai adnoddau Llywodraeth Cymru ganolbwyntio'n llwyr ar gyflawni blaenoriaethau'r bobl: swyddi a chodi gwastad yr economi, y GIG a chynorthwyo pobl ifanc i ddal i fyny â'u haddysg. Fe wnaethoch chi gydnabod heddiw, Gweinidog, fod Llywodraeth y DU—eich bod wedi bod mewn sgyrsiau â nhw. Rwy'n falch eich bod wedi cydnabod hynny. Fel y gwyddom, mae eich adroddiad polisi treth eich hun yn 2021-22, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, yn cydnabod cytundeb, fel y gwnaethoch chi gyfeirio ato yn awr, yng Nghydbwyllgor y Trysorlys yn 2021 y gellid symud cynigion ar gyfer y dreth ar dir gwag ymlaen i'r cam nesaf. Ac rwy'n gwybod bod Llywodraeth y DU wedi gofyn am fwy o wybodaeth ers hynny ac mae hynny wedi gohirio'r broses hon, ac rwy'n cydnabod eich rhwystredigaeth yn yr oedi hwn heddiw, Gweinidog. Yr hyn yr wyf i'n ei ddweud mewn ymateb yw ei bod yn gwbl gywir bod pob ochr yn craffu'n llawn ar y cynlluniau hyn er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni eu hamcanion ac nad ydyn nhw'n cael effaith negyddol ar farchnad fewnol y DU yn ogystal â'r sector adeiladu tai ac adeiladu ehangach. I ddefnyddio cyfatebiaeth adeiladu tŷ, Llywydd, ni fyddech yn symud i gartref newydd heb wirio ei fod wedi'i adeiladu'n briodol yn gyntaf a bod y strwythur yn ddiogel; rydych yn gofyn i syrfëwr chwilio am broblemau, yn gofyn i syrfëwrsicrhau bod y gosodiadau a'r ffitiadau fel y dylen nhw fod. Dyma y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud, a dylid croesawu'r haenau ychwanegol o graffu ac ni ddylid eu hystyried yn rhwystr. Dyma'r peth, Gweinidog: rydych yn gofyn i Senedd Cymru gefnogi datganoli treth ar dir gwag yn y pen draw heb ddweud beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd. Aelodau, mae'r Gweinidog yn ceisio gwerthu tŷ i ni heb ganiatáu i ni edrych ar y cynlluniau yn gyntaf. Felly, Gweinidog, sut olwg fyddai ar dreth ar dir gwag yng Nghymru, ac a ydych chi'n gwybod pa effaith y byddai hyn yn ei chael ar adeiladwyr tai a'r diwydiant adeiladu ehangach? Llywydd, rwy'n deall yn fras yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn anelu at ei gyflawni drwy gyflwyno treth dir wag, fodd bynnag, mae'n bwysig cydnabod bod nifer o resymau, fel y mae'r Gweinidog wedi cyfeirio, ynghylch pam y gallai datblygiadau newydd arafu. Canfu ymchwil, o'r holl ddatblygiadau sydd wedi'u gohirio yng Nghymru, fod 13 y cant yn oedi oherwydd materion sy'n benodol i'r safle, fel amodau tir, materion ecolegol a llifogydd ac addasrwydd y tir ei hun, mae 6 y cant wedi'u hoedi oherwydd trafodaethau cynllunio, mae 6 y cant arall wedi'u hoedi oherwydd diffyg cyllid. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi bod 47 y cant o safleoedd dibreswyl wedi'u hoedi wedi dod i ben oherwydd trafodaethau cynllunio, ac mae'r rhain yn faterion na fyddai'n cael eu datrys gan dreth ar dir gwag. Bu rhai datblygiadau cadarnhaol i fynd i'r afael â'r materion hyn yng Nghymru, er enghraifft, cyflwynodd Llywodraeth flaenorol Cymru y gronfa safleoedd segur, a byddai'n ddefnyddiol pe gallai'r Gweinidog amlinellu pa mor llwyddiannus fu'r gronfa hon ac a fydd mentrau o'r fath yn cael eu hymestyn. Hefyd, mae prifddinas-ranbarth Caerdydd, yn y cyfamser, wedi cyhoeddi cronfa o £45 miliwn i roi hwb i adeiladu tai yn yr ardal ar ôl iddi ganfod bod 55 y cant o safleoedd wedi'u gohirio yn cael eu hoedi gan bethau fel cost adfer a chael gwared ar lygryddion o'r tir. Mae ystod eang o faterion y mae angen mynd i'r afael â nhw yma, Gweinidog, ac felly byddwn yn croesawu mwy o fanylion am sut yr ydych yn cydweithio ag adeiladwyr tai i'w helpu i oresgyn heriau a brofwyd yn ystod y broses ddatblygu, yn hytrach na'u llesteirio ymhellach drwy osod treth newydd ar ddatblygu. Hefyd, sut mae Llywodraeth Cymru yn diwygio'r broses gynllunio fel ei bod yn fwy hyblyg ac ymatebol i anghenion lleol? Ac yn olaf, gan droi at thema gyffredinol y ddadl heddiw, datganoli trethi, hoffwn ailddatgan safbwynt polisi maniffesto'r Ceidwadwyr Cymreig sef dim trethi newydd. Rwy'n credu bod gan Lywodraeth Cymru eisoes y pwerau i godi'r gwastad ledled y wlad ac i fynd i'r afael â materion hirsefydlog yng Nghymru o'r diwedd. Ac eto, o ran cyflawni, yn aml nid yw Llywodraethau Llafur olynol yng Nghymru wedi cael fawr ddim i'w ddangos am eu hymdrechion. Mae cynigion ar gyfer treth ar dir gwag yn anwybyddu'r ffaith bod gan Lywodraeth Cymru lawer o'r dulliau sydd eu hangen eisoes i ddarparu'r tai sydd eu hangen ar deuluoedd Cymru. Gweinidog, pam ddylai pobl Cymru gredu mai Llywodraeth yw hon a fydd yn un sy'n gweithredu ac nid yn un o ddiffyg gweithredu? Nid wyf yn argyhoeddedig o hyd ynghylch yr angen am dreth ar dir gwag yng Nghymru, yn enwedig o ystyried yr ystod eang o faterion sy'n llesteirio adeiladu tai na fyddai treth ar dir gwag yn ei datrys. Gyda hyn mewn golwg, Llywydd, rwy'n gofyn i'r Aelodau wrthod cynnig y Llywodraeth a chefnogi ein gwelliant ni. Diolch yn fawr. Llyr Gruffydd AC: Mae yna ddau ran i'r cynnig yma sydd ger ein bron ni: yn gyntaf, potensial y dreth ar dir gwag, ac yn ail, wedyn, diffygion y protocol. Ar yr elfen gyntaf, dwi'n meddwl bod yna ddadleuon cryf o blaid ystyried cyflwyno treth ar dir gwag. Mi fyddai fe, wrth gwrs, yn helpu i daclo sefyllfaoedd lle mae datblygwyr mawr yn camddefnyddio'r system er mwyn chwyddo elw ar draul cymunedau. Mi ddywedodd Peter Fox bod angen canolbwyntio ar wella bywydau pobl ac nid obsesiynu gyda phroses. Wel, os felly, rhowch y grymoedd i Lywodraeth Cymru i gael bwrw ymlaen â'r gwaith yna, oherwydd mae'r arfer yma o fancio tir yn anfoesol ac yn anghywir, ac mae'n berffaith iawn bod y Senedd yma yn gofyn am hawliau i fedru mynd i'r afael â hynny'n effeithiol. Mae yna dreth debyg eisoes yn bodoli yng Ngweriniaeth Iwerddon, sef ardoll ar safleoedd gwag. Ac mae angen pŵer tebyg fan hyn er mwyn helpu yn yr ymdrech i fynd i'r afael â'r crisis tai yng Nghymru. Wedi dweud hynny, mae yna gwestiynau wrth gwrs o hyd sydd angen eu hateb cyn y byddai treth o'r fath yn cael ei chyflwyno. Mae angen sicrhau bod y dreth yn targedu datblygiadau sydd wedi eu gohirio'n fwriadol, ac nid, wrth gwrs, yn effeithio ar rai sydd wedi methu â symud ymlaen am resymau cwbl ddilys. Mae yna pros ac mae yna cons, ond mater i'r Senedd yma yw trafod a mireinio'r dadleuon hynny, oherwydd materion gweithredol yw'r rheini—ystyriaethau sy'n dod ar ôl y drafodaeth lefel uwch, rhynglywodraethol ar yr egwyddor o ddatganoli neu beidio â datganoli. A dyma ni'n dod at ail ran y cynnig. Llyr Gruffydd AC: Mae methiant y protocol presennol yn amlwg i bawb ei weld. Mae wedi'i gymharu nifer o weithiau, on'd yw e, â'r hen Orchmynion cymhwysedd deddfwriaethol, a oedd yn bla ar y Senedd yn ôl ar ddiwedd y 2000au. Fe'u disodlwyd yn gyflym iawn oherwydd pryderon ynghylch cymhlethdod y trafodaethau sy'n gysylltiedig â'r rheini, a dylid ymdrin â'r trefniant hwn hefyd mewn ffordd debyg. Mae'r protocolau wedi methu ar y rhwystr cyntaf, yn fy marn i. Dyma'r tro cyntaf i'r rhain gael eu profi, a dangoswyd eu bod yn ddiffygiol a'u bod yn methu. Ac, a dweud y gwir, mae'r Trysorlys yn ceisio mynd yn rhy ddwfn i faterion gweithredol yn hytrach na'r egwyddorion lefel uwch o ble y dylai'r pwerau hyn fod. Wrth gwrs, maen nhw'n fwriadol yn gwneud y broses yn ddiangen o gymhleth ac yn rhy hir, oherwydd rydym ni i gyd yn gwybod beth yw barn y Llywodraeth bresennol hon yn San Steffan am ddatganoli unrhyw bwerau neu gyfrifoldebau pellach i Gymru. Yn ystod fy nghyfnod yn Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn y Senedd ddiwethaf, gwelais sut yr aeth Llywodraeth Cymru i drafferthion sylweddol i nodi'r rhesymeg dros y dreth ar dir gwag, ond mae ond yn achos arall o Gymru yn cyflawni ei rhan hi o'r fargen a San Steffan yn methu â chyflawni eu un nhw. Ac mae'r Gweinidog yn gywir; nid yw'r broses hon yn addas i'r diben, a chraidd y broblem, wrth gwrs, yw mai Llywodraeth y DU yw canolwr terfynol ei phenderfyniadau ei hun. Rhoddodd yr Athro Gerry Holtham dystiolaeth i'r Pwyllgor Cyllid yn y Senedd ddiwethaf, a dywedodd 'mae'r barnwr a'r rheithgor a'r tystion i gyd yn un person, ac felly mae ychydig yn aneglur sut i fwrw ymlaen. Os yw Llywodraeth Prydain yn dweud "na", beth ydych chi'n ei wneud bryd hynny, hyd yn oed os yw eich cais yn gwbl resymol? Felly, rwy'n credu ei fod yn rhywbeth, fel llawer o bethau yng nghyfansoddiad Prydain, a fyddai'n elwa ar ychydig mwy o eglurder ac efallai ychydig mwy o godeiddio'. Mae'r Gweinidog wedi dweud bod achos dros ryw fath o asesiad trydydd parti o'r wybodaeth, rhyw fath o farn annibynnol a goruchwyliaeth ohono. Wel, os ydym ni eisiau cadw at y protocol hwn, yna mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni fynnu arno, oherwydd mae'r cydbwysedd o blaid Llywodraeth y DU fel y mae pethau. Nawr, mae ychydig fel fy groser lleol yn dweud wrthyf na wnaiff e werthu wyau i mi oni bai fy mod yn dweud wrtho a ydw i'n mynd i'w berwi, eu sgramblo neu'n eu potsio. Mae'n eithaf rhyfedd, on'd yw e, mewn gwirionedd? Yn y bôn, mae hwn yn fater o gymhwysedd, nid yn fater polisi. Gwelsom yn y Senedd ddiwethaf na wnaeth Prif Ysgrifennydd y Trysorlys ymgysylltu â'r Pwyllgor Cyllid, gan wrthod ymddangos o'i flaen ac rwy'n gwybod bod y teimladau hynny'n dal yno. Y gwir yw, nid oes gan Lywodraeth San Steffan unrhyw fwriad o gwbl o ddatganoli unrhyw bwerau eraill yn y maes hwn nac unrhyw faes arall i Gymru. Yn wir, mae bwriad Llywodraeth y DU yn eithaf clir, on'd yw e? Maen nhw'n cymryd popeth yn ôl drwy ddeddfwriaeth, Deddf y farchnad fewnol, rydym wedi cael cyfeiriadau at y llu o memoranda cydsyniad deddfwriaethol sydd bellach yn dod ger ein bron ar gyfradd ddigynsail. Mae eironi yma, wrth gwrs: Llafur sy'n cyflwyno'r cynnig hwn, pan wrth gwrs y Gweinidog Llafur, Mark Drakeford, y Gweinidog cyllid ar y pryd, a gytunodd ar y protocol hwn gyda Llywodraeth y DU. Felly, gobeithio nawr eich bod yn sylweddoli nad yw San Steffan eisiau i'r protocol hwn weithio. Mae'n llanast; mae'n ddull, nid i hwyluso cynnydd, ond i rwystro cynnydd, ac wrth gwrs mae'n gweithio. Felly, gorau po gyntaf y cawn ein rhyddhau o gefynnau San Steffan sy'n dal Cymru yn ôl. Mike Hedges AC: Mae trethiant yn bodoli i dalu am wasanaethau cyhoeddus. Mae gormod o bobl yn credu y gallwn ni gael yr un ansawdd o wasanaethau cyhoeddus â Sgandinafia pan fo ein system drethu yn debycach i'r un yn UDA. Mae'r Ceidwadwyr yn gwrthwynebu cynyddu unrhyw drethi neu gyflwyno trethi newydd. Mae angen dadl ar ba wasanaethau cyhoeddus sydd gennym a sut i dalu amdanyn nhw. Pan edrychwch chi ar gost addysg breifat a gofal iechyd preifat, mae'n rhoi mewn persbectif y gwerth am arian a gawn o'n system drethu. Nid ar hap neu serendipedd y mae gan y gwledydd hynny sydd â'r lefelau treth uchaf y gwasanaethau cyhoeddus gorau a'r rhai sydd â'r lefelau treth isaf y gwaethaf. Y rheswm am hynny yw bod angen trethiant i godi'r arian i dalu am y gwasanaethau cyhoeddus y mae eu hangen arnom ni i gyd, gwasanaethau fel y ffyrdd yr ydym ni'n teithio arnyn nhw, diogelwch pobl yn y gwaith, diogelwch bwyd, addysg a'r gwasanaeth iechyd—y mae pob un ohonom yn dibynnu arnyn nhw—plismona ein strydoedd; trethiant sy'n talu am bob un o'r rhain. Os yw pobl eisiau gwasanaethau cyhoeddus o safon, yna mae angen trethi i dalu amdanyn nhw. Er nad oes unrhyw un yn hoffi talu trethi, mae rhai unigolion cyfoethog a chwmnïau rhyngwladol yn arbenigwyr ar leihau eu taliadau treth. I gwmni rhyngwladol, mae treth gorfforaethol yn daliad dewisol y gellir lleihau ei werth gan bethau fel taliadau o fewn y cwmni, talu am hawliau eiddo deallusol, trosglwyddo taliadau am nwyddau a gwasanaethau, neu symud y pwynt gwerthu y tu allan i Brydain. Mae pob un yn sicrhau bod elw busnes yn digwydd mewn gwlad dreth isel neu ddim treth. Mae darparu gwasanaethau cyhoeddus o safon yn golygu, os nad yw rhai pobl yn talu treth neu eu cyfran deg o dreth, yna naill ai mae gwasanaethau cyhoeddus yn dioddef, neu bydd yn rhaid i eraill fel ni dalu mwy. Bob tro y gwneir toriadau treth, dangosir nhw fel rhai sy'n fuddiol—mae'n ymddangos eu bod yn fuddiol i'r rhai hynny sy'n talu llai o dreth ac sydd â mwy o arian yn eu poced. Mae'r effaith y mae cyflwyno toriadau treth incwm y Llywodraeth yn ei gael ar wariant cyhoeddus, ar wasanaethau fel iechyd, llywodraeth leol ac addysg yn cael ei hanwybyddu'n llwyr nes bod y toriadau'n dechrau effeithio ar bobl. Y mwyaf anodd yw'r dreth i'w hosgoi, y mwyaf amhoblogaidd ydyw gyda'r cyfoethog a'r pwerus. Y trethi anoddaf i'w hosgoi o bell ffordd yw'r trethi eiddo, ardrethi annomestig a'r dreth gyngor. Mae treth ar werth tir yn dreth fel y rheini. Nid oes unrhyw driciau fel trafodiadau cwmnimewnol neu fod â statws byw tu allan i'r wlad er mwyn osgoi talu'r dreth; nid oes modd symud y tir, ac mae'r dreth yn dod yn rhwymedig a rhaid ei thalu. Mae sawl ffordd o godi trethi, ac er bod treth gwariant fel TAW, mae'r hyn yr wyf i'n ei dalu ar eitem yr un fath ag unrhyw un arall sy'n byw ym Mhrydain Fawr, nid yw hyn yn wir am dreth ar incwm, er enghraifft. Cymerwch rywun sy'n ennill £30,000 y flwyddyn, yna os ydyn nhw o dan oedran ymddeol, maen nhw'n talu treth incwm ac yswiriant gwladol. Pan fydd y person hwnnw'n cyrraedd oedran ymddeol, ni fydd yn talu yswiriant gwladol. Mae myfyriwr newydd raddio ar yr un incwm yn talu benthyciad myfyriwr yn ôl yn ogystal â threth incwm ac yswiriant gwladol. Bydd rhywun sy'n derbyn ei incwm drwy ddifidend yn talu cyfradd dreth o 7.5 y cant ar incwm dros £2,000. Mae hyn i mi yn ymddangos yn annheg iawn. Yr hyn sydd angen i dreth fod yw teg ac anodd ei hosgoi. Mae treth ar dir gwag yn bodloni'r gofyniad hwn. Rwy'n credu hefyd fod y Llywodraeth yn cydnabod y potensial i dreth ar dir gwag yng Nghymru gyfrannu at gynyddu'r cyflenwad tai a dod â thir segur yn ôl i ddefnydd cynhyrchiol. Mae gormod o dir y gellid ei ddefnyddio yn cael ei fancio ar gyfer y dyfodol. Bydd treth ar dir gwag yn berthnasol i dir sydd wedi cael yr holl ganiatâd cynllunio angenrheidiol, a chaniatâd arall i'w ddatblygu, ond lle na fu unrhyw ddatblygiad. Bydd y dreth yn berthnasol i bob perchennog tir o ddatblygiad eiddo masnachol a phreswyl, datblygwyr preifat, ond hefyd awdurdodau lleol, cymdeithasau tai ac ie, Llywodraeth Cymru ei hun. Os oes rhesymau dilys dros y diffyg datblygiad sydd y tu allan i reolaeth y perchennog tir, ni fyddai'r dreth yn berthnasol. Mae treth ar werth tir wedi'i disgrifio fel y dreth berffaith, ac mae effeithlonrwydd economaidd treth ar werth tir wedi bod yn hysbys ers y ddeunawfed ganrif. Mae'n ddigon posibl y bydd un o'r prif Geidwadwyr, Jacob Rees-Mogg, sy'n credu ein bod yn dal i fod yn y ddeunawfed ganrif, yn derbyn hynny fel rhywbeth sy'n ddefnyddiol. Mae treth ar werth tir yn dreth flaengar gan fod y baich treth yn disgyn ar ddeiliad y teitl yn gymesur â gwerth y lleoliad, ac mae cysylltiad mawr rhwng perchnogaeth y rhain a chyfoeth ac incwm cyffredinol. Ni fyddai hyn yn unigryw i Gymru. Rwy'n credu weithiau fod Llywodraeth Cymru yn dweud yn aml, 'Dyma Gymru yn arwain y ffordd', ac mae'r Ceidwadwyr yn dweud, 'Mae'n arbrofol'. Byddai'r ddau yn anghywir. Byddai tir—[Torri ar draws.]. Mae'n ddrwg gen i, fe wnaf i ildio, Peter. Peter Fox AS: Diolch. Rydych chi yn llygad eich lle. Nid rhywbeth y mae Cymru yn unig wedi'i ystyried yw hyn. Edrychodd Trysorlys Seland Newydd ar hyn a daeth i'r casgliad bod y dreth yn afresymol o gymhleth i'w chynllunio, ac fe wnaethon nhw ddweud bod y comisiwn wedi awgrymu'n flaenorol y gallai treth ar dir gwag leihau'r cyflenwad tai yn y tymor hirach, a bod y dreth yn cymell perchnogion tir i adeiladu anheddau yn gynharach nag y bydden nhw fel arall. Mae wedi dangos nad yw'r dreth tir yn gweithio mewn rhai gwledydd ac nid ydym ni eisiau ailadrodd hynny yma, Mike. Mike Hedges AC: Diolch, Peter Fox. Rydych wedi crybwyll un wlad—a gaf i daflu rhai eraill yn ôl atoch chi? Denmarc, Estonia, Lithwania, Rwsia, Singapore a Taiwan, rhai rhanbarthau o Awstralia, Mecsico, taleithiau unigol Unol Daleithiau America. Mae treth ar werth tir yn dileu'r cymhelliad ariannol i ddal gafael ar dir na chaiff ei ddefnyddio er mwyn iddo godi mewn gwerth yn unig. Nid yw pris gwerthu nwyddau pan fyddan nhw'n sefydlog o ran cyflenwad, fel tir, yn newid os caiff ei drethu. Nid yw'n costio unrhyw beth i storio tir, nid yw'n mynd i unrhyw le, a bydd bron yn sicr yn cynyddu mewn gwerth gydag amser. Rwyf yn llwyr gefnogi cyflwyno treth ar werth tir yng Nghymru. Mae'n ffordd dda o godi arian er budd pobl Cymru. James Evans MS: Wythnos arall yn y Senedd ac unwaith eto'r un hen Llafur Cymru—mwy o ddadleuon am bwerau ac eisiau mwy o ddatganoli i godi trethi, a fydd yn y pen draw yn brifo pobl Cymru sy'n gweithio'n galed. Un peth yr wyf i wedi'i ddysgu ers dod yn Aelod o'r Senedd yw nad yw Llywodraeth Cymru wir eisiau mynd i'r afael â'r materion sy'n wynebu ein gwlad, ac maen nhw eisiau defnyddio'r amser gwerthfawr hwn i drafod materion cyfansoddiadol. Nid yw pobl Cymru yn ffyliaid. Maen nhw'n gweld eich bod chi'n cael trafferth datrys y problemau enfawr y mae Cymru'n eu hwynebu, ond maen nhw eisiau i chi fod yn onest a chymryd cyfrifoldeb a mynd i'r afael â nhw. Economi Cymru—mae Cymru wedi bod â'r cynnyrch domestig gros isaf o holl wledydd Prydain Fawr yn gyson. GIG Cymru—un o bob pump o bobl ar restr aros. Ac a wyddoch chi, rydych chi'n methu â chyrraedd targedau tai ar hyn o bryd, ac ni fydd treth ar dir gwag yn gweithio, fel y mae fy nghyd-Aelod Peter Fox wedi sôn. Mae'n gymhleth iawn ac yn anodd iawn ei gyflwyno. Dim ond ychydig o enghreifftiau yw'r rhain o'r ffordd y mae'r weinyddiaeth Lafur hon yn methu, ond yr hyn yr ydym ni eisiau eich gweld chi yn ei wneud yw bwrw ymlaen â phethau. Nid yw'r holl sgwrsio cyfansoddiadol hwn yn helpu'r wlad hon. Yr hyn sy'n amlwg yw bod y Llywodraeth wedi rhedeg allan o syniadau. Rydych chi'n rhedeg i ffwrdd o'r materion mawr, ac os na allwch chi ddangos yr arweinyddiaeth sydd ei hangen ar y wlad, rwy'n awgrymu eich bod yn camu o'r neilltu ac yn gadael i eraill roi cynnig arni. Mae angen mwy o dai arnom ni yng Nghymru, ond yn hytrach na galw am fwy o bwerau codi trethi o San Steffan, adeiladwch mwy o gartrefi gyda'r pwerau sydd ar gael i chi ar hyn o bryd. Rydych chi'n ei chael hi'n anodd mynd i'r afael â'r problemau sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd. Rydym wedi cael dros 15 o ddadleuon a datganiadau gan y Llywodraeth ar faterion cyfansoddiadol. Rydych yn osgoi'r materion gwirioneddol sy'n wynebu Cymru. Mae meddwl am y Llywodraeth hon â mwy o bŵer dros drethi yn gyrru ias i lawr fy nghefn ac allan o'm hesgidiau. Ni allwch redeg Cymru gyda'r pwerau sydd gennych ar hyn o bryd, ac nid ydych yn adeiladu'r tai sydd eu hangen arnom ni ar hyn o bryd i ateb y galw. Ar yr un pryd, nid yw pethau'n gwella, maen nhw'n gwaethygu, ac os na allwch chi gymryd y camau gwirioneddol sydd eu hangen i gael ein gwlad yn ôl yn llwyddiannus, awgrymaf fod Llafur yn camu o'r neilltu ac yn gadael i'r Ceidwadwyr Cymreig roi cynnig ar redeg ein gwlad. Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid sydd nesaf, Peredur Owen Griffiths. Peredur Owen Griffiths AS: Diolch, Llywydd. Dwi'n falch iawn o gael siarad yn y ddadl hon heddiw ar ran y Pwyllgor Cyllid. Peredur Owen Griffiths AS: Mae pwerau codi treth, gan gynnwys y gallu i greu trethi newydd, yn arfau hanfodol i lywodraethau eu defnyddio fel ffordd o godi refeniw i gefnogi gwariant ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus ac i ddylanwadu ar newid ymddygiad. Mae Deddf Cymru 2014 wedi datganoli pwerau cyllidol i'r Senedd am y tro cyntaf, gan gynnwys rhoi pwerau trethu i gymryd lle treth dir y dreth stamp, treth tirlenwi, yn ogystal â'r gallu i amrywio cyfraddau treth incwm Cymru. Mae'r pwerau cyllidol ychwanegol hyn yn golygu bod tua 20 y cant o gyllideb Llywodraeth Cymru bellach yn cael ei hariannu o refeniw treth. Mae hyn yn ei dro wedi cynyddu atebolrwydd Llywodraeth Cymru i bobl Cymru—yn amlwg, datblygiad i'w groesawu. Yr wythnos diwethaf, dywedodd Gweinidog Cymru wrth y pwyllgor ei bod yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau datganoli treth ar dir gwag, ond bod y broses wedi bod yn cymryd llawer o amser ac maen nhw'n rhwystredig, gyda thrafodaethau eisoes wedi cymryd dros ddwy flynedd. Mae'r Gweinidog wedi tynnu sylw at yr heriau gan Drysorlys EM yn gofyn am ragor o wybodaeth yn barhaus ac mae wedi dweud o'r blaen mai Llywodraeth y DU yw'r canolwr terfynol o ran a oes digon o wybodaeth wedi'i darparu i gefnogi cynnig. Mae'r Gweinidog wedi sôn am fynd ar drywydd datrys anghydfodau annibynnol ynghylch a yw Llywodraeth Cymru wedi darparu'r wybodaeth angenrheidiol ynglŷn â'r dreth ar dir gwag ai peidio, fel y nodir yn Neddf Cymru 2014. Dyma'r ymgais gyntaf i geisio cymhwysedd ar gyfer treth newydd ac, o ganlyniad, mae'n rhesymol disgwyl problemau cychwynnol wrth i'r broses gael ei datrys. Fodd bynnag, mae'n annhebygol mai'r bwriad yn Neddf Cymru oedd y byddai'r broses hon yn cymryd cyhyd, ac yn bwrw amheuaeth ynghylch a yw'r dull ar gyfer datganoli trethi yn addas i'r diben. Fel y bydd aelodau o'r drydedd Senedd yn cofio, rwy'n siŵr, mae ganddo adleisiau anffodus o'r system gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol arteithiol o ddatganoli cymhwysedd deddfwriaethol yn dameidiog, a oedd yn ychwanegu lefel ychwanegol o gymhlethdod a biwrocratiaeth at broses sydd eisoes yn hirfaith. Dydw i ddim yn dychmygu y byddai unrhyw un yn hoffi dychwelyd i'r dyddiau hynny. Yn y Senedd flaenorol, roedd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys ar y pryd yn amharod i roi tystiolaeth i'r Pwyllgor Cyllid ar ei ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014. Fodd bynnag, roedd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn bresennol a phan ofynnwyd iddo am y dull ar gyfer datganoli trethi newydd dywedodd 'pe byddai pryder dilys yn cael ei godi ynghylch cyflymder cynnydd neu'r dull o ymgysylltu', byddai'n hapus iawn i drafod y mater gyda'r Trysorlys. Rydym yn croesawu'r dull gweithredu yn fawr, ac yn gobeithio y bydd y Prif Ysgrifennydd newydd yn fwy parod na'i ragflaenydd i fwrw ymlaen â datganoli'r dreth hon gyda'r Gweinidog. Rydym hefyd yn gobeithio y bydd yn fwy parod i ymgysylltu â ni fel pwyllgor, a chymryd rhan yn y gwaith o graffu ar bwerau sy'n dod o fewn cylch gwaith Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar ddatganoli pwerau treth a materion cyllidol eraill. Mae'r pwyllgor yn cefnogi'r Gweinidog i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod proses effeithiol ar gyfer datganoli meysydd treth newydd i'r Senedd hon. Yr hyn y mae ar bawb ei eisiau yw proses llyfn a thryloyw, a dim ond os yw'r strwythurau i'w gefnogi yn glir, yn gadarn ac yn gydnerth y gellir cyflawni hynny. Diolch. Carolyn Thomas AS: Dros y 10 mlynedd diwethaf, rwyf wedi gweld bancio tir a chefnu ar safleoedd tir llwyd sydd â defnyddiau diwydiannol blaenorol ar gyfer tir gwyrdd haws ei ddatblygu. Mae'r safleoedd tir llwyd yn achosi problemau wedyn i'r gymuned leol. Mae gan rai adeiladau peryglus, coed anniben a ffensys wrth ymyl y priffyrdd ac eiddo preifat. Mae dŵr ffo a halogiad i ddraeniau priffyrdd yn gwneud i gymuned ymddangos nad yw'n cael ei gofalu amdani. Maen nhw'n safleoedd delfrydol ar gyfer datblygu tai, a fyddai'n gwella hyfywedd, cynaliadwyedd a lles cymunedau. Os yw safle tir llwyd neu safle maes glas wedi'i gynnwys mewn cynllun datblygu, mae'n cynyddu ei werth. Pan fydd ganddo ganiatâd cynllunio, gall wedyn gynyddu bedair neu bum gwaith cost wreiddiol y tir hwnnw. Byddai cyflwyno treth ar dir gwag i'r rhai sydd â safleoedd sydd wedi'u dyrannu a/neu ganiatâd cynllunio, ac sydd wedi oedi, yn helpu i ysgogi eu datblygu, ac yn eu gwneud yn fwy o flaenoriaeth. Yna gellid defnyddio'r dreth i dalu am weinyddu a hyfforddi mewn awdurdodau cynllunio sydd â gormod o lwyth gwaith. Gallai fod yn rhan o becyn o fesurau eraill, fel lleihau neu hepgor cyfraniadau 106, os yw'n safle tir llwyd. Ac mae'n bryd, rwy'n meddwl, ein bod ni'n symud ymlaen gyda hyn ac yn dechrau defnyddio'r holl safleoedd tir llwyd a ddyrannwyd. Diolch. Galwaf nawr ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i ymateb i'r ddadl, Rebecca Evans. Rebecca Evans AC: Hoffwn ddiolch i'r holl gyd-Aelodau am yr hyn sydd, yn fy marn i, wedi bod yn ddadl ddiddorol iawn, ac fe wnaf ddechrau drwy ddweud fy mod yn cydnabod yn llawn bwysigrwydd swyddogaeth Trysorlys EM wrth asesu a chraffu ar ein cais, er mwyn sicrhau nad yw unrhyw gynnig ar gyfer trethi datganoledig newydd yn cael effeithiau anfwriadol neu annymunol ar gydlyniant system dreth y DU yn gyffredinol. Rebecca Evans AC: A dyna pam y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymwneud yn llawn ac yn agored â swyddogion Trysorlys EM dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gan roi nifer o ddogfennau i Lywodraeth y DU sy'n mynd i'r afael â'r meini prawf a nodir yn y papur gorchymyn, gan gynnwys y senarios lle mae treth yn debygol o fod yn gymwys a pheidio â bod yn gymwys, pwy fyddai'r targed a fwriedir ar gyfer unrhyw dreth, rhyngweithiadau posibl â threthi datganoledig a threthi a gadwyd yn ôl, seiliau treth a refeniw treth, ac effeithiau ar system dreth y DU ar gyfer datganoli'r pŵer hwn. Arweiniodd y gwaith hwn at bapur ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a swyddogion Trysorlys EM, gan argymell bod y deunydd a ddarparwyd hyd yma yn sail i Lywodraeth Cymru ysgrifennu'r cais ffurfiol hwnnw i Lywodraeth y DU. Felly, pan gyfarfûm ag Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys ar y pryd, yn ôl ym mis Chwefror, yr oedd ar y ddealltwriaeth bod digon o wybodaeth wedi'i darparu gan Lywodraeth Cymru a bod Trysorlys EM yn fodlon i'n cynnig fynd ymlaen i gam nesaf y broses, a fyddai wedi'i gytuno rhwng ein dwy Lywodraeth i ddatganoli'r pwerau newydd. Ac ni wnaeth Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys ar y pryd nodi ei fod o'r farn nad oedd y cynigion wedi'u datblygu'n ddigonol i symud ymlaen, ac nid wyf yn glir o hyd pa bryderon penodol sydd wedi codi rhwng mis Chwefror a nawr a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ddychwelyd i ddechrau'r broses. Paratowyd Gorchymyn drafft y Cyfrin Gyngor, yn ogystal â memorandwm esboniadol, a oedd yn dangos sut y byddai'r wybodaeth a ddarparwyd yn cefnogi hynt y Gorchymyn drafft drwy Senedd y DU a'r Senedd hon. A fy ngobaith i yw y bydd Ysgrifennydd Ariannol newydd y Trysorlys yn cael ei gysuro gan lefel y manylion yr ydym ni eisoes wedi'u darparu, ac yn cydnabod ein bod, drwy gydol y broses hon, wedi bod yn fwy na pharod i ddarparu cymaint o fanylion ag y gallem ni. Ac, ar hyn o bryd, nid oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud gan Lywodraeth Cymru ar sut y byddai unrhyw dreth ar dir y nodwyd ei bod yn addas i'w datblygu yn y dyfodol yn gymwys yng Nghymru. Ac, fel yr ydym wedi'i amlinellu droeon, bydd y gwaith polisi manwl hwn yn digwydd ar ôl i'r dreth gael ei ddatganoli i Gymru a bydd yn dilyn proses briodol drwyadl yma yng Nghymru. Ac mae llawer o'r cyfraniadau o feinciau'r Ceidwadwyr heddiw wedi bod yn ymwneud â phriodoldeb y dreth, a dymunoldeb y dreth, ac mae'n gwbl briodol bod y trafodaethau hynny'n cael eu cynnal yma a bod y gwaith craffu'n cael ei wneud yma yn y lle hwn, ac mae hynny, rwy'n credu, yn greiddiol i bwynt y ddadl hon heddiw. Os gallwn ni symud ymlaen i gam nesaf y broses ac mae ymgynghoriad yn y DU yn tynnu sylw at unrhyw senarios neu faterion allweddol nad ymdrinnir â nhw yn yr wybodaeth yr ydym ni eisoes wedi'i darparu, yna wrth gwrs mae fy swyddogion a minnau wedi ymrwymo i weithio gyda Thrysorlys EM i sicrhau bod gan Lywodraeth y DU ddigon o fanylion i lywio asesiad ystyriol. Ond, mewn gwirionedd, heb unrhyw symudiad brys, mae gwir angen adolygiad o'r broses. Felly, gan siarad yn fwy cyffredinol, rwy'n credu bod y Llywodraeth Llafur Cymru hon wedi profi y gellir ymddiried ynddi ar dreth. Mae ein penderfyniadau'n seiliedig ar set gref o egwyddorion treth, sef y dylai ein trethi ni yma yng Nghymru godi refeniw i ariannu gwasanaethau cyhoeddus mor deg â phosibl, cyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru, ac yn enwedig cefnogi swyddi a thwf, bod yn glir, yn sefydlog ac yn syml, cael eu datblygu drwy gydweithio ac ymglymiad, ac wrth gwrs cyfrannu'n uniongyrchol at nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol o greu Cymru fwy cyfartal. Ac mae'r egwyddorion hynny wedi'u hamgylchynu gan ein fframwaith polisi treth, a ddatblygir ar y cyd â rhanddeiliaid, ac mae llawer o waith yn mynd rhagddo i ddatblygu hynny drwy gydol y flwyddyn drwy wahanol fathau o ymgysylltu â phobl sydd â buddiant. A hefyd, mae gennym 20 mlynedd o brofiad yma o ran gwneud trethiant lleol. Rydym wedi gweithio i wneud y dreth gyngor yn decach ac rydym wedi gwneud cynnydd da iawn o ran hynny—dileu'r bobl ifanc sy'n gadael gofal o faich y dreth gyngor er enghraifft, a sicrhau ein bod yn dileu'r gosb o garchar i bobl nad ydynt yn talu, nad ydynt yn gallu talu, eu treth gyngor, oherwydd, wrth gwrs, ni ddylid ystyried ei fod yn drosedd. O ran cyfraddau treth incwm Cymru, gwnaethom gadw ein haddewid drwy gydol y Senedd ddiwethaf. Ni wnaethom godi cyfraddau treth incwm Cymru. Ac rydym wedi addo yn y Senedd hon i beidio â chynyddu baich cyfraddau treth incwm Cymru ar deuluoedd a phobl yma yng Nghymru cyhyd ag y teimlir effeithiau economaidd y pandemig, a byddwn yn cadw'r addewid hwnnw. Cymharwch a gwrthgyferbynnwch hynny â'r dull gweithredu dros y ffin, wrth gwrs, gyda'r cynnydd diweddar mewn cyfraniadau yswiriant gwladol, a wnaed heb unrhyw ddealltwriaeth wirioneddol o'r effaith amrywiol y byddai'n ei chael, felly ni allaf gymryd unrhyw wersi gan y Ceidwadwyr ar y mater hwnnw y prynhawn yma. O ran treth trafodiadau tir, rydym wedi gwneud penderfyniadau gwahanol yma yng Nghymru ac rydym wedi gwneud y penderfyniadau sy'n iawn i Gymru. Felly, yng Nghymru, cawsom y rhyddhad i brynwyr tro cyntaf ac yn hytrach darparwyd rhyddhad ar gyfer pob prif eiddo preswyl hyd at £180,000, ac mae hynny'n agos at bris cyfartalog tai yma yng Nghymru, sy'n golygu bod gennym system lawer mwy priodol yma ar gyfer ein marchnad dai a hefyd un sy'n fwy blaengar. Ac ym mis Rhagfyr, byddwch yn cofio i ni gyhoeddi gostyngiad o 1 pwynt canran yn y cyfraddau treth trafodiadau tir dibreswyl i helpu busnesau drwy'r pandemig a hefyd, ychwanegwyd 1 pwynt canran ychwanegol at gyfraddau uwch treth trafodiadau tir. Ac, wrth gwrs, nid oeddem yn cynnwys landlordiaid prynu i osod na phrynu ail gartref yn ein gwyliau treth yn ystod y pandemig a ni oedd yr unig ran o'r DU i wneud y penderfyniad hwnnw. Ac yna, o ran treth gwarediadau tirlenwi, rydym wedi gweld cyfleoedd penodol i ni yng Nghymru a ni oedd y cyntaf i gyflwyno'r band gwastraff anawdurdodedig ac, wrth gwrs, mae rhannau eraill o'r DU bellach yn dilyn hynny. Ac yna, hoffwn bwysleisio fy mod yn wirioneddol falch o Awdurdod Cyllid Cymru a'r gwaith y maen nhw'n ei wneud o ran casglu ein trethi Cymreig. Unwaith eto, mae hyn yn destun balchder arbennig i ni o ran ansawdd y gwasanaeth y maen nhw'n ei ddarparu a'r berthynas wahanol yr ydym yn ei sefydlu yma yng Nghymru gyda threthdalwyr. Felly, i gloi, Llywydd, mae gennym yr egwyddorion, mae gennym y fframwaith, mae gennym yr ymgysylltiad â rhanddeiliaid, mae gennym y profiad ac mae gennym hanes profedig ym maes trethi, sy'n dangos y gellir ymddiried yn y Llywodraeth Llafur Cymru hon ar dreth. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Do, fe wnes i roi dipyn o amser i chi yn y fan yna [Chwerthin.] Felly, dwi'n gohirio'r bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. Byddwn ni nawr yn cymryd toriad wrth baratoi ar gyfer y cyfnod pleidleisio. Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 18:07. Ailymgynullodd y Senedd am 18:19, gyda'r Llywydd yn y Gadair. 9. Cyfnod Pleidleisio Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio am heno. Mae'r bleidlais gyntaf ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Cymwysterau Proffesiynol. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Ond fe wnawn ni yn awr agor y bleidlais ar eitem 6, a dyma'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Cymwysterau Proffesiynol. Y cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Agor y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid 14, ymatal 0, yn erbyn 40. Felly, nid oes cydsyniad i'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Eitem 6 - Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cymwysterau Proffesiynol: O blaid: 14, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0 Gwrthodwyd y cynnigCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Ac ar gyfer y bleidlais nesaf, Rhys ab Owen, os nad ydych chi'n gallu pleidleisio o hyd, yna rwy'n gofyn am bleidlais lafar. Darren Millar AC: A, Llywydd, mae gennym ni Aelod o hyd sy'n ceisio mynd i mewn i Zoom ac nid yw'n gallu mynd i mewni Zoom. Na, na, na, na. Darren Millar, rydym ni'n cynnal y bleidlais, os gwelwch yn dda, ac rydym wedi rhoi pob cyfle posibl i'r Aelod a enwir hwnnw ddod i mewn, gan gynnwys rhannu fy rhif ffôn personol, fel y gallai e' ffonio—[Anghlywadwy.] Nawr, eitem 7 o'r diwedd—Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2021. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, neb yn ymatal, 27 yn erbyn, ac felly mae'r rheoliadau wedi eu cymeradwyo. Eitem 7 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2021: O blaid: 28, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0 Derbyniwyd y cynnigCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Mae'r bleidlais nesaf ar ddatganoli trethi newydd, a dwi'n galw am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 41 yn erbyn, ac felly mae'r gwelliant wedi'i wrthod. Eitem 8 - Dadl y Llywodraeth - Gwelliant 1 (cyflwynwyd yn enw Darren Millar): O blaid: 14, Yn erbyn: 41, Ymatal: 0 Gwrthodwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Dwi'n galw nawr am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. [Anghlywadwy.]—i'w bwrw. Mae'n bosibl bod yna broblem, felly gwnaf i alw amdanyn nhw'n llafar. Delyth Jewell, sut ydych chi'n pleidleisio? Delyth Jewell AC: [Anghlywadwy.] Felly, cau'r bleidlais. Canlyniad y bleidlais yw 40 o blaid, neb yn ymatal, 15 yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn. Eitem 8 - Dadl y Llywodraeth: Datganoli Pwerau Trethu Newydd - Cynnig : O blaid: 40, Yn erbyn: 15, Ymatal: 0 Derbyniwyd y cynnigCliciwch i weld canlyniad y bleidlais A dyna ddiwedd ar ein gwaith ni am y dydd heddiw. Daeth y cyfarfod i ben am 18:26. QNR Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru Sioned Williams: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynghylch tlodi tanwydd yng Ngorllewin De Cymru? Mark Drakeford: Cafodd amcangyfrifon tlodi tanwydd ar gyfer ardaloedd lleol eu cyhoeddi ym mis Ebrill 2020. Bryd hynny, yr amcangyfrif oedd bod 23,000 o aelwydydd yn etholaeth Gorllewin De Cymru yn gwario mwy na 10 y cant o’u hincwm ar filiau tanwydd yr aelwyd. Luke Fletcher: Sut mae Llywodraeth Cymru'n gweithio i ddileu tlodi bwyd? Mark Drakeford: On 6 September, we announced over £1.9 million of funding to help tackle food poverty and food insecurity. Funding will support local authorities and third sector organisations to put in place sustainable mechanisms such as community growing, community cafes, and food share schemes to help address food poverty and food insecurity. Sam Rowlands: Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o fynediad i gyfleusterau chwaraeon yng Ngogledd Cymru? Mark Drakeford: Restrictions on accessing sporting facilities were lifted earlier this year in line with our coronavirus control plan. Our programme for government will lead to further investment in sporting facilities, improving accessibility, including accessibility in north Wales. Peredur Owen Griffiths: Sut mae'r Llywodraeth yn gweithio i wella trafnidiaeth gyhoeddus? Mark Drakeford: Our strategy for improving public transport is set out in Llwybr Newydd, the Wales Transport Strategy 2021. It sets out our plans for an accessible, sustainable and efficient transport system including immediate actions and long-term intentions.
uk-hansard-senedd-cy
senedd2021-10-05
2024-06-01T00:00:00
{ "year": "2021", "language": "cy", "license": "Open Parliament Licence - https://www.parliament.uk/site-information/copyright-parliament/open-parliament-licence/" }
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni fydd cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf heddiw gan Samuel Kurtz. Prosiectau Ynni Adnewyddadwy Samuel Kurtz MS: 1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi prosiectau ynni adnewyddadwy yn y môr Celtaidd? OQ58979 Mark Drakeford AC: Llywydd, mae buddsoddi mewn seilwaith ffisegol, a gweithlu sy'n fedrus ar gyfer y dyfodol, ymhlith y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi technolegau ynni yn y môr Celtaidd. Samuel Kurtz MS: Diolch, Prif Weinidog. Ac a gaf i ddechrau drwy groesawu grŵp arweinyddiaeth wledig cymdeithas amaethyddol frenhinol Cymru sydd yn yr oriel gyhoeddus y prynhawn yma? Prif Weinidog, heno, mae gen i'r anrhydedd enfawr o gynnal derbyniad trawsbleidiol yn y Neuadd ar glwstwr ynni'r dyfodol Dyfrffordd y Ddau Gleddau. Mae'n dod â phrif gwmnïau ynni traddodiadol Dyfrffordd y Ddau Gleddau ynghyd â datblygwyr adnewyddadwy newydd a chyffrous, a'r gadwyn gyflenwi, i arwain at ddatgarboneiddio. Byddwch yn ymwybodol, Prif Weinidog, fy mod i'n eiriolwr mawr dros y cyfleoedd a gyflwynir i Gymru gan Ddyfrffordd y Ddau Gleddau a'r môr Celtaidd, o wynt arnofiol ar y môr i fentrau llanw, tonnau a hydrogen, a hyd yn oed y cais porthladd rhydd Celtaidd blaengar. Felly, mae'n teimlo ein bod ni ar drothwy chwyldro ynni gwyrdd yn y gorllewin. Felly, o ystyried pwysigrwydd strategol Dyfrffordd y Ddau Gleddau a'r môr Celtaidd, pa sicrwydd allwch chi ei roi i ddatblygwyr a grwpiau, fel clwstwr ynni'r dyfodol, y bydd Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithredu'n brydlon i sicrhau nad yw'r cyfleoedd hyn yn cael eu colli? Diolch. Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, diolch i Sam Kurtz am y cwestiwn yna, ac rwy'n ei longyfarch ar gynnal y digwyddiad clwstwr ynni'r dyfodol heddiw; rwy'n meddwl ei fod yn ddigwyddiad gwych i'w gael yma yn y Senedd. Ac rwy'n cytuno â phopeth a ddywedodd yr Aelod am y posibiliadau aruthrol sydd gan ynni adnewyddadwy, gan gynnwys gwynt arnofiol ar y môr a phrosiectau eraill yn y môr Celtaidd, i'w ran ef o Gymru, ond i Gymru gyfan. Ac yn hynny o beth, mae Llywodraeth Cymru yn gwbl ymwybodol o'r angen i fod â threfn gydsynio sy'n gadarn, wrth gwrs, fel y mae'n rhaid iddi fod, ond sydd hefyd yn syml, yn effeithiol ac yn galluogi. Rwyf i wedi bod mewn trafodaethau gyda Cyfoeth Naturiol Cymru fy hun. Gwn fod gan y Gweinidog gyfarfod gyda Cyfoeth Naturiol Cymru heddiw i drafod yr adolygiad trwyddedu morol o ddechrau'r broses i'w diwedd, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, ac a gynhaliwyd yn annibynnol. Dywedodd yr ymgynghorwyr nad oedd dim, yn y bôn, yr oedd angen ei drwsio yn y drefn bresennol, ond bod ffyrdd y gellid ei gwneud i weithio'n fwy effeithiol. Mae gan ddatblygwyr eu rhan i'w chwarae hefyd yn hynny i gyd. Mae ganddyn nhw gyfrifoldebau i gyflwyno ceisiadau yn seiliedig ar ymgysylltu cynnar, y dystiolaeth orau sydd ar gael, a lle nad yw ansawdd y cais ei hun yn oedi'r broses. Yna, mater i Cyfoeth Naturiol Cymru yw sicrhau bod yr adnoddau angenrheidiol ganddyn nhw ar waith i allu ymdrin â'r ceisiadau hynny mewn ffordd sy'n parchu'r cyfrifoldebau pwysig iawn sydd ganddyn nhw fel rheoleiddiwr amgylcheddol, ond hefyd yn cydnabod y cyfleoedd enfawr y mae ynni adnewyddadwy yn eu cynnig i Gymru, a'n cyfraniad ni y gallwn ni ei wneud at fynd i'r afael ag argyfwng mawr hwnnw ein hoes o ran cynhesu byd-eang. Rhun ap Iorwerth AC: Rwy'n credu bod mantais wirioneddol o feddwl mewn ffordd gydgysylltiedig am wynt ar y môr oddi ar arfordir gorllewinol Cymru—y môr Celtaidd a môr Iwerddon. Rwy'n credu bod y broses cynnig am borthladd rhydd yn cynnig cyfle i wneud hynny. Nawr, fel y gallwch chi ddychmygu, rwy'n hyderus yn ansawdd cais porthladd rhydd Caergybi/Ynys Môn am yr hyn y gall ei gynnig o ran tyfu'r sector hwnnw, yn ogystal â lliniaru colledion ar ôl Brexit a effeithiodd ar borthladd Caergybi. Ond a fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno â mi mai'r ffordd orau, efallai, i sicrhau twf y sector hwnnw, mewn ffordd sydd o fudd i Gymru gyfan, fyddai nid yn unig cefnogi ein cais, ond hefyd sicrhau ail borthladd rhydd, a allai alluogi datblygiadau môr Celtaidd a môr Iwerddon i weithio'n gyfochrog yn fwy na chyfanswm eu rhannau? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, mae'n rhaid i mi fod yn ofalus yn yr hyn yr wyf i'n ei ddweud, oherwydd mae proses ac mae ceisiadau yn cael eu hasesu'n wrthrychol, fel y mae'n rhaid iddyn nhw, gan weision sifil yma yng Nghymru ac yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol. Hoffwn atgoffa'r Aelodau nad yw'r cytundeb a darwyd gennym ni gyda Llywodraeth y DU yn diystyru cael dau borthladd rhydd yma yng Nghymru. Un yw'r disgwyliad, ond nid yw dau yn amhosibl, a bydd ansawdd y ceisiadau, a'r asesiad a wneir ohonyn nhw, wrth gwrs, yn ganolog i benderfynu pa un a allwn ni berswadio Llywodraeth y DU i ddilyn yr ail drywydd hwnnw ai peidio. Huw Irranca-Davies AC: Diolch i Sam am gyflwyno'r cwestiwn hwn, oherwydd mae'r potensial yma yn y môr Celtaidd, wrth gwrs, i'r gorllewin, ac i holl arfordir y de hefyd, o ran gweithgynhyrchu, cadwyn gyflenwi, ac ati. Ac mae'n rhaid i ni gael y drefn gydsynio drwyadl honno hefyd, i wneud yn siŵr bod hyn yn gweithio. Ond, a gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog—? Mae dysgu o'r gorffennol yn bwysig yn hyn o beth. Mae angen y seilwaith porthladdoedd cywir arnom ni, ac yn wir, byddai'n wych gweld dau gais yn mynd ymlaen o Gymru hefyd. Rydyn ni angen i'r cysylltiadau grid lleol hynny ddod â hyn ar y tir mewn gwirionedd, ond yr hyn rydyn ni wedi ei ddysgu o fersiynau blaenorol yw bod angen cryfhau'r Grid Cenedlaethol hefyd. Felly, a gaf i ofyn i chi pa drafodaethau rydych chi'n mynd i'w cael gyda Llywodraeth y DU a'r rheoleiddiwr ynglŷn â chryfhau arwyddion y farchnad sy'n dweud bod yn rhaid i ni gael y buddsoddiad hwn—mae Cymru yn haeddu ei chyfran deg o fuddsoddiad yn y grid hefyd. Gallwn wneud cymaint ar ein pennau ein hunain, ond rydyn ni angen i'r DU gamu i'r adwy hefyd. Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, rwy'n credu eu bod nhw'n ddau bwynt pwysig iawn a wnaed yn y fan yna gan Huw Irranca-Davies. Mae angen i ni ddysgu gwersi ynni adnewyddadwy blaenorol. Nid oes strategaeth ddiwydiannol ynni gwynt ar y môr gan Lywodraeth y DU o hyd, er gwaethaf y ffaith ein bod ni wedi bod yn galw am un, a bod eraill yn y diwydiant wedi bod yn galw am un. Mae gennym ni bryderon, yn y ddibyniaeth ar brosesau cystadleuol i ostwng cost prosiectau, y bydd hynny'n arwain at yr atebion cadwyn gyflenwi rhataf, yn hytrach na buddsoddi yn y gwerth hirdymor, sydd i'w gael yno i Gymru drwy wneud yn siŵr nid yn unig bod ynni'n cael ei gynhyrchu yn y môr Celtaidd, ond bod gan bopeth sy'n mynd i mewn i hynny gadwyn gyflenwi leol, gan greu swyddi yn y broses. O ran y grid, rwy'n meddwl weithiau, Llywydd, oherwydd mai'r Grid Cenedlaethol yw ei enw, nad yw pobl yn sylweddoli mai cwmni preifat yw hwn, wedi'i restru ar y farchnad stoc, gan ddosbarthu £1 biliwn bob blwyddyn mewn difidendau i gyfranddalwyr. Yn wir, dosbarthodd £4.5 biliwn yn 2017 yn unig, yn uniongyrchol i ddwylo cyfranddalwyr, pan wyddwn ni nad oes digon o fuddsoddiad yn mynd i'r cysylltiadau hanfodol y mae'r grid yn eu darparu. Pan oeddwn i yn Iwerddon yn yr hydref, Llywydd, cymerais ran mewn trafodaeth bord gron gyda Gweinidog tramor Llywodraeth Iwerddon a datblygwyr sydd â diddordeb yn y môr Celtaidd o safbwynt y Gwyddelod hefyd. Cefais fy nharo gan yr hyn a ddywedodd datblygwr mawr yno—mai eu hofn mwyaf oedd y bydden nhw'n dod â'r ynni yr holl ffordd i'r traeth ac yna ni fyddai unrhyw beth y gallech chi ei wneud ag ef, oherwydd ni fyddai unrhyw gysylltiad i'r grid. Gwelais erthygl dim ond yr wythnos hon gan Molly Scott Cato, yr economegydd Gwyrdd, yn dweud bod bron i 700 o brosiectau ynni adnewyddadwy wedi'u hoedi ar draws y Deyrnas Unedig, yn aros i'r Grid Cenedlaethol ddod o hyd i gapasiti iddyn nhw. Wel, fy newis i fy hun fyddai dod â'r Grid Cenedlaethol o dan reolaeth gyhoeddus fel ei fod yn cael ei redeg er budd y cyhoedd a lle nad oedd unrhyw ollyngiad i elw preifat o adnoddau'r cwmni hwnnw. Yn y cyfamser, rydyn ni'n gweithio gyda'r cwmni a chydag eraill yma yng Nghymru. Roedden ni'n falch o weld, y llynedd, symudiad tuag at ragweld galw yn y system grid, yn falch o weld bod y Gweinidog ynni diweddaraf yn Llywodraeth y DU yn dweud mai gwella'r grid yw ei brif flaenoriaeth, o'i holl gyfrifoldebau. Nid oes amheuaeth bod angen newid sylweddol i wneud yn siŵr bod y grid yn addas nid yn unig ar gyfer heddiw, ond ar gyfer y dyfodol, fel pan fyddwn ni'n gwneud i'r môr Celtaidd weithio, yn y ffordd a ddywedodd Sam Kurtz yn ei gwestiwn gwreiddiol, y bydd y seilwaith yno i fanteisio ar yr ynni a fydd yn cael ei gynhyrchu. Rheoli Cymhorthdaliadau Joel James MS: 2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr effaith bydd trosglwyddo i drefn newydd y DU ar gyfer rheoli cymhorthdaliadau yn ei chael ar Gymru? OQ58972 Mark Drakeford AC: Llywydd, nid trefn cymorthdaliadau'r DU yw'r drefn y byddai Llywodraeth Cymru wedi'i dylunio, ac nid yw chwaith yn un a gefnogwyd gan y Senedd hon. Fodd bynnag, byddwn yn gweithio gydag awdurdodau cyhoeddus i baratoi staff i ddeall a defnyddio'r drefn newydd, gan liniaru ei agweddau amherffaith niferus. Joel James MS: Diolch. Cefais gyfarfod â busnes yn fy rhanbarth yn ddiweddar sy'n datblygu technolegau a fydd yn cael effaith ddofn ar helpu i wrthdroi effeithiau'r newid yn yr hinsawdd ac sydd wrthi'n gwneud cais am gyllid Llywodraeth Cymru, ond mae'n ymddangos fel bod yr holl broses yn cymryd cryn amser a llawer hirach na cheisiadau blaenorol, sy'n cael effaith niweidiol ar eu blaengynllunio. Rwy'n ymwybodol na allwch chi drafod ceisiadau unigol, ond tybed a yw'r oedi yn y broses ymgeisio yn deillio o doriad i gyllid, ac os felly, pa lefelau o gyllid sydd ar gael erbyn hyn a beth fydd y gymhareb grant i fenthyciad yn y setliadau hynny? Neu, os yw'r oedi oherwydd y trosglwyddiad i drefn newydd rheoli cymorthdaliadau'r DU a setliadau un flwyddyn, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i liniaru'r newid i'r system newydd? Diolch. Mark Drakeford AC: Llywydd, mae'r drefn cymorthdaliadau newydd eisoes yn weithredol; daeth i rym ar 5 Ionawr. Yn amlwg, nid wyf i'n ymwybodol o fanylion yr achos unigol y mae Joel James yn ei grybwyll, ond ni fyddwn yn synnu o ddarganfod bod cymhlethdodau newydd y drefn cymorthdaliadau yn chwarae eu rhan mewn unrhyw oedi oherwydd, am y tro cyntaf erioed, cyflwynodd y system, trwy gyflwyno cymorthdaliadau o fewn y DU o fewn canolbwynt y gyfraith, risgiau cyfreithiol newydd i'r broses cymorthdaliadau. Gall dau gwmni sy'n cystadlu ar yr un stryd fawr, am y tro cyntaf, ofyn am adolygiad barnwrol o bob un cymhorthdal y gallai eu cymdogion fod wedi ei sicrhau. Yn anochel, mae hynny'n gwneud y sefydliadau hynny sy'n gyfrifol am ddarparu cymorthdaliadau yn fwy gofalus wrth wneud y penderfyniadau hynny, gan fod y risgiau cyfreithiol sy'n gysylltiedig â gwneud unrhyw ddyfarniad wedi cynyddu gan y drefn rheoli cymorthdaliadau newydd. Felly, os yw hynny yn agos at wraidd yr oedi y soniodd Joel James amdano, nid yw'n fy synnu, ac mae'n anochel y bydd yr aelodau hynny o staff mewn awdurdodau cyhoeddus sy'n gyfrifol am wneud y penderfyniadau hynny yn gorfod dod yn gyfarwydd â'r drefn newydd ac, yn y dyddiau cynnar, yn debygol o gymryd mwy o amser yn gwneud y penderfyniadau hynny. Ond, yn y tymor hwy, ceir risgiau newydd yn y trefniadau rheoli cymorthdaliadau, a byddan nhw'n risgiau a fydd yn ein taro ni'n arbennig o galed yma yng Nghymru. Alun Davies AC: Nid yw hynny'n ddim syndod, onid yw, Prif Weinidog, y bydd rhywbeth a grëwyd gan Lywodraeth y DU hon yn cael effaith niweidiol ar Gymru? Mae'r Albanwyr wedi dysgu'r wythnos hon am ddiystyriaeth Llywodraeth y DU o ddemocratiaeth. Yr hyn yr ydym ni wedi ei ddeall yw bod gennym ni drefn rheoli cymorthdaliadau anhrefnus a gyflwynwyd ar ôl Brexit, pan nid realiti cymryd rheolaeth yn ôl oedd rhoi rheolaeth i bobl Cymru, i gymunedau Cymru, i alluogi busnesau Cymru i ffynnu, ond i gymryd rheolaeth yn ôl i ychydig o Weinidogion yn Llundain, eu ffrindiau yn Nhŷ'r Arglwyddi a'r holl roddwyr i'w plaid. Dyna realiti 'cymryd rheolaeth yn ôl', ac mae pobl Cymru ac etholwyr Joel yn dioddef o'i herwydd. Mark Drakeford AC: Mae Alun Davies yn gwneud nifer o bwyntiau grymus iawn yn y fan yna. Dylwn atgoffa Aelodau'r Senedd bod y Senedd hon, wrth gwrs, wedi gwadu caniatâd deddfwriaethol i Fil y DU ar 1 Mawrth y llynedd, ac yna diystyrwyd confensiwn Sewel ac anwybyddwyd diffyg cydsyniad y Senedd hon gan Lywodraeth y DU a aeth ymlaen a gorfodi'r ateb hwn arnom ni beth bynnag. Dyma ddwy ffordd yn unig, Llywydd, y mae'r system newydd yn gweithredu yn groes i fuddiannau Cymru. Yn gyntaf oll, mae'n cael gwared ar unrhyw synnwyr o ardaloedd â chymorth o'r drefn gymorthdaliadau. Yn wir, cyfeiriodd drafft cyntaf y Bil at egwyddorion ffyniant bro Llywodraeth y DU. Cefnwyd ar hynny erbyn i'r Bil gyrraedd y llyfr statud. Felly, fel y dywedodd fy nghyd-Weinidog, Rebecca Evans yn ei llythyr at Lywodraeth y DU cyn i'n cynnig cydsyniad gael ei drafod, mae'r Bil yn rhoi Mayfair a Merthyr ar yr un sail yn union pan ddaw i ddarparu cymorthdaliadau. Mae hynny'n golygu'n syml y bydd y rhai sydd â'r pocedi dyfnaf yn defnyddio'r fantais honno i wneud eu hunain hyd yn oed yn fwy breintiedig, tra bydd y rhai sydd â'r lleiaf yn wynebu'r anawsterau mwyaf. A dyma ail enghraifft yn unig, Llywydd. Mynnodd Llywodraeth y DU y dylai amaethyddiaeth a physgodfeydd gael eu cynnwys o fewn cwmpas y Bil hwn. Doedden nhw erioed, tra oedden ni'n aelodau o'r Undeb Ewropeaidd; ymdriniwyd â nhw ar wahân. Fe wnaethon ni ofyn i Lywodraeth y DU beth oedd y dystiolaeth ar gyfer cynnwys amaethyddiaeth a physgodfeydd o fewn y cwmpas. Fe'n hysbyswyd ganddyn nhw ei fod i'w weld yn yr ymatebion i'r ymgynghoriad. Fe wnaethon ni ofyn iddyn nhw ble gellid dod o hyd i'r ymatebion i'r ymgynghoriad. Fe'n hysbyswyd nad oedden nhw wedi cael eu cyhoeddi. Fe wnaethon ni ofyn a allem ni weld yr ymatebion a oedd yn cyfiawnhau'r cam hwn, ac fe'n hysbyswyd, na, allen ni ddim. Felly, dyma ni. Mae gennym ni newid mawr, sydd, yn fy marn i, â goblygiadau gwirioneddol i amaethyddiaeth yng Nghymru, gan fod y system yn seiliedig ar saith egwyddor, a'r trydydd o'r rheini yw bod yn rhaid dylunio unrhyw gymhorthdal i sicrhau newid i ymddygiad economaidd y buddiolwr. Lle mae taliadau sengl yn ffitio i mewn i hynny, wn i ddim yn wir. Ond allwn ni ddim gwybod, oherwydd ni esboniwyd yr holl sail y penderfynodd Llywodraeth y DU wneud y newid mawr hwn arni ganddyn nhw, ac ni chafodd y dystiolaeth y gwnaethon nhw gyfeirio ati erioed gael ei gwneud ar gael i ni. Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies. Andrew RT Davies AC: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, yn anffodus, dewisodd Wizz Air adael Maes Awyr Caerdydd. Hyd yma, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi neu sicrhau bod £225 miliwn ar gael i'r maes awyr—bron i £0.25 biliwn. Chi yw perchnogion y maes awyr, er eich bod chi wedi sefydlu cwmni hyd braich i weithredu'r maes awyr. A ydych chi'n credu bod £225 miliwn yn arian a wariwyd yn dda? Mark Drakeford AC: Llywydd, rwyf i wedi credu erioed bod maes awyr rhanbarthol yn rhan hanfodol o seilwaith economaidd unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig sy'n ceisio cefnogi'r amodau modern y mae'n rhaid i'r economi weithredu oddi ynddyn nhw. Nid oedd y sector preifat yn gallu gwneud hynny. Roedd hi'n iawn i bwrs y wlad gamu i'r adwy. Mae'n fuddsoddiad yn nyfodol economi Cymru, ac yn un yr oedd y Llywodraeth hon yn falch o'i wneud. Andrew RT Davies AC: Prif Weinidog, ar ôl £0.25 biliwn, yn anffodus mae gan y maes awyr lai o deithwyr nawr nag y bu ganddo ers amser maith. Do, ymyrrodd COVID i effeithio ar bob maes awyr, yn amlwg, ond os cymerwch chi Faes Awyr Bryste, cafwyd gostyngiad o 22 y cant yn nifer ei deithwyr ond mae'n dal i ymdrin ag yn agos at 7 miliwn o deithwyr. Os cymerwch chi Faes Awyr Birmingham, cystadleuydd arall, cafwyd gostyngiad o 33 y cant yno, ac mae'n dal i ymdrin ag 8.5 miliwn o deithwyr. Mae'n ffaith nad oes unrhyw faes awyr y gallaf ddod o hyd iddo wedi cael y fath haelioni sef bod arian Llywodraeth ar gael iddo—£0.25 biliwn—ac wedi cael canlyniadau mor wael. Beth yw'r cynlluniau newydd sydd ar gael i wneud yn siŵr bod £225 miliwn yn cael ei ddiogelu, ac y gallwch chi atgyfodi'r maes awyr yn y pen draw, oherwydd rwy'n meddwl bod y trethdalwr, er tegwch, yn haeddu gwybod a yw hwn yn fuddsoddiad gwael sy'n mynd i barhau i fynd o'i le, neu a oes gennych chi gynllun hirdymor a all atgyfodi Maes Awyr Caerdydd, a gaffaelwyd gennych, yn amlwg, yn ôl yn 2013? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, nid yw'r Blaid Geidwadol Gymreig erioed wedi cefnogi'r maes awyr. Mae wedi gwneud ei gorau erioed i fychanu ei siawns o lwyddo. Nid ydyn nhw byth yn hoffi wynebu eu cyfrifoldebau eu hunain, Llywydd. Dro ar ôl tro ar ôl tro ar lawr y Senedd, rwyf i wedi clywed llefarwyr y Ceidwadwyr yma yn cwyno am y maes awyr, yn awgrymu na ddylid fod wedi ei gymryd i berchnogaeth gyhoeddus, ac yn tanseilio rhagolygon y maes awyr o lwyddiant yn gyffredinol. Bydd yr Aelod yn gwybod bod ffigurau gan yr Awdurdod Hedfan Sifil yn dangos bod twf teithwyr ym Maes Awyr Caerdydd wedi cynyddu dros 50 y cant ym mis Mawrth 2020, sef y mis pan darodd COVID bob un ohonom ni, a bod y twf hwnnw wedi digwydd ers i Lywodraeth Cymru brynu Maes Awyr Caerdydd—twf cryf, a thrywydd yr oedd y maes awyr arno, yn amlwg, tuag at wneud elw yn y dyfodol. Yn wir, roedd wedi gwneud elw yn y flwyddyn honno. Nawr, ers y pandemig, wrth gwrs mae'r maes awyr yn wynebu dyfodol llawer mwy anodd. Mae'r galw am deithiau awyr wedi gostwng ar draws y byd. Nid yw wedi gwella, ac mae'r dirywiad yn economi'r DU yn golygu bod arbenigwyr y diwydiant bellach yn rhagweld y bydd y flwyddyn nesaf hon yn flwyddyn pan fydd teithio awyr yn gwella'n arafach yn y Deyrnas Unedig nag y bydd mewn mannau eraill. Ond, mae'r pecyn achub ac adfer yr ydym ni wedi ei roi ar waith gyda'r maes awyr, gyda'r rhai sy'n gyfrifol am ei ddyfodol, wedi'i gynllunio'n bendant i wneud Maes Awyr Caerdydd yn hunan-gynaliadwy ac yn broffidiol ar gyfer y dyfodol. A phan glywaf Aelodau'n gweiddi, 'Byth' i hynny, dyna'r union fath o sylw yr oeddwn i'n ei olygu pan ddywedais i, pryd bynnag y byddwn ni'n sôn am ddyfodol llwyddiannus i'r maes awyr yma, bod Aelodau Ceidwadol yn ymyrryd i fwrw amheuaeth ar ei allu i fod yn rhan lwyddiannus o economi Cymru. Andrew RT Davies AC: Prif Weinidog, ein cyfrifoldeb ni, pan fo £0.25 biliwn wedi ei wario ar brosiect gan Lywodraeth Cymru, yw gofyn y cwestiynau sy'n haeddu'r atebion. Rydyn ni wedi cyflwyno dau lasbrint ar gyfer maes awyr llwyddiannus: unwaith pan gafodd ei brynu yn ôl yn 2013 ac yn 2019. Byddai'r rhan fwyaf o bobl yn dweud bod £225 miliwn yn haeddu rhyw fath o ddifidend yn ôl a rhyw fath o fenter broffidiol. Hyd yn hyn, nid yw'r maes awyr, o dan eich perchnogaeth chi, wedi gwneud elw. Gallaf glywed y Dirprwy Weinidog yn grwgnach yn y fan yna, ond yn hytrach na grwgnach yn y Siambr hon, efallai y byddai'n well iddo gyfeirio ei ymdrechion at geisio troi Maes Awyr Caerdydd o gwmpas fel bod gennym ni faes awyr llwyddiannus. Rhoddais y ffigurau i chi am Fryste a Birmingham, sef y ddau faes awyr agosaf sy'n feysydd awyr cystadleuol. Mae nifer y teithwyr yng Nghaerdydd wedi gostwng dros 50 y cant oherwydd COVID. Yr hyn y mae pobl eisiau ei wybod yn gyffredinol yw: a oes gennych chi gynllun i'w wneud yn broffidiol ac yn llwyddiannus, sef yr hyn yr ydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr eisiau ei weld, neu a fydd angen mwy o arian arno, a fydd yn cael ei ddargyfeirio oddi wrth iechyd, addysg a'r blaenoriaethau eraill y mae etholwyr Cymru yn disgwyl yn rhesymol i'r Llywodraeth wario'r arian arnyn nhw? Felly, a oes gennych chi gynllun ac a allwch chi ei amlinellu heddiw i'r Siambr hon—sut yr ydych chi'n mynd i droi Maes Awyr Caerdydd o gwmpas i gael teithwyr drwy'r derfynfa ac awyrennau'n hedfan? Oherwydd os edrychaf i ar y cyfrifon ar Dŷ'r Cwmnïau, ni allaf hyd yn oed ddod o hyd i'r cyfrifon cyfredol gan nad ydyn nhw wedi cael eu ffeilio eto. Chi yw'r perchnogion; pryd ydym ni'n mynd i allu gweld y cyfrifon, Prif Weinidog? Mark Drakeford AC: Wel, byddwch chi'n gweld y cyfrifon ym mis Mawrth, pan fyddan nhw bob amser yn cael eu cyhoeddi. Byddan nhw'n cael eu cyhoeddi ym mis Mawrth 2023. Maen nhw'n cael eu cyhoeddi bob—. Nid fy mhroblem i yw'r ffaith nad yw'r Aelod yn gallu dod o hyd iddyn nhw. [Chwerthin.] Mae angen iddo gyflogi pobl i wneud ei waith ymchwil iddo felly. Dywedaf hyn wrth y Siambr, Llywydd: mae'r maes awyr yn cyhoeddi cyfrifon bob blwyddyn. Byddan nhw'n cael eu cyhoeddi ym mis Mawrth eleni, a bydd yr Aelod, os yw'n gallu, yn gallu dod o hyd iddyn nhw o ganlyniad. Dywedais yn fy ail ateb, Llywydd, bod cynllun achub ac adfer ar waith. Mae wedi'i gyhoeddi, mae ar gael i Aelodau ei weld. Fe wnaf orffen gyda'r pwynt hwn i'r Aelod, pan geisiodd y Senedd hon ddatganoli'r doll teithwyr awyr, rhywbeth sydd ar gael—[Torri ar draws.] Fe wnaethoch chi ei gefnogi, ond ni wnaeth eich Llywodraeth ei gefnogi, naddo? Gwrthododd eich Llywodraeth y cais hwnnw oherwydd ei dymuniad i amddiffyn Maes Awyr Bryste. Pe bai chwarae teg yn Llywodraeth y DU, yna byddem ni'n gweld canlyniadau gwahanol. Arweinydd Plaid Cymru nesaf i ofyn cwestiynau. Adam Price. Adam Price AC: Diolch, Llywydd. Gyda'r newyddion am streic yr athrawon ar 1 Chwefror a methiant y trafodaethau gyda'r undebau iechyd yr wythnos diwethaf, mae streiciau'r sector cyhoeddus yng Nghymru yn lledu ac yn dyfnhau. Beth yw strategaeth y Llywodraeth, Prif Weinidog, i atal y gaeaf hwn o anfodlonrwydd rhag parhau i'r gwanwyn ac i'r haf? Ai eich polisi yw eich bod chi'n mynd i gynnig y taliad untro y gwnaethoch chi gyfeirio ato yn achos gweithlu'r GIG i'r gweithlu addysgu, er enghraifft? Ond, hyd yn oed os ydych chi, yna oni fyddech chi'n derbyn nad yw hynny'n mynd i'r afael â'r pwynt canolog am yr anghydfod cyflog cyhoeddus hwn, sef cyn belled ag y bo undebau'r gwasanaethau cyhoeddus yn y cwestiwn, ei fod yn dod ar ôl degawd o erydu tâl mewn termau real? Ac ydych chi'n barod i gydnabod, yn achos yr undebau iechyd ac athrawon, bod argymhellion y corff adolygu cyflogau yn ymwneud â thystiolaeth a dderbyniwyd ddiwedd 2021, dechrau 2022, cyn rhyfel Rwsia-Wcráin pan oedd chwyddiant tua 4 y cant? Erbyn i chi dderbyn yr argymhellion, roedd costau byw eisoes yn agosáu at 10 y cant, felly onid oes dadl, Prif Weinidog, dros ofyn i'r cyrff cyflogau ailystyried eu gwaith, ac i chi fel Llywodraeth gytuno i gyd-fynd ag unrhyw ddyfarniad uwch pe baen nhw'n gwneud hynny ar y sail honno? Mark Drakeford AC: Llywydd, yn gyntaf oll, ar hyn, rydym ni'n llwyr gydnabod yr effaith y mae degawd o gyni cyllidol wedi ei chael ar becynnau cyflog gweithwyr yn y sector cyhoeddus. Maen nhw'n cael llai o dâl mewn termau real heddiw nag yr oedden nhw 10 mlynedd yn ôl, ac mae effaith chwyddiant wedi cynyddu'r effaith honno ym mywydau teuluoedd mewn sawl rhan o Gymru. Felly, wrth gwrs rydyn ni'n deall pam mae pobl sydd erioed wedi bod ar streic o'r blaen yn teimlo rheidrwydd i gymryd y cam hwnnw. Yn y trafodaethau a gawsom gyda'n cydweithwyr yn yr undebau llafur ym maes iechyd—a gyda llaw, nid wyf i'n derbyn portread arweinydd Plaid Cymru o'r trafodaethau hynny fel rhai sydd wedi methu—ond yn y trafodaethau hynny, fe wnaethon ni roi tair gwahanol agwedd ar y bwrdd i'w trafod. Un o'r rheini oedd sut y gallem weithredu gyda'n gilydd i ailgyflwyno hyder yn y broses adolygu cyflogau. Nawr, ymhlith y syniadau y bydden ni'n barod i'w rhoi ar y bwrdd fyddai gweld sut, yn y dyfodol, y gellid ymgorffori sbardunau yn y broses adolygu cyflogau, fel pe bai digwyddiadau'n digwydd y tu hwnt i'r penderfyniad sy'n golygu bod angen ailagor y penderfyniad, y byddai llwybr cytûn y byddai pawb yn ei ddeall i wneud i hynny ddigwydd. Pa un a yw'n bosibl gwneud hynny'n ôl-weithredol i weithrediad y corff adolygu cyflogau ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiwethaf, nid wyf i mor siŵr, ond rwy'n credu bod rhoi bywyd newydd a hyder newydd i'r broses yn bwynt pwysig iawn, ac rwy'n credu bod arweinydd Plaid Cymru yn iawn i'w wneud ef. Adam Price AC: Byddwn yn ei annog i edrych ar y posibilrwydd hwnnw ar gyfer y flwyddyn ariannol hon hefyd. Un o'r materion eraill y gwnaethoch chi eu rhoi ar y bwrdd, a oedd i'w groesawu, oedd swyddogaeth staff asiantaeth. Nawr, gwelsom y ffigurau gan Goleg Brenhinol y Meddygon sy'n dangos mai £260 miliwn oedd cyfanswm y bil yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf. A ydych chi'n derbyn rhesymeg yr undebau y byddai cynnig codiad cyflog sylweddol uwch yn lleihau'r bil asiantaeth hwnnw? Mae'n fuddsoddiad a fyddai'n talu ar ei ganfed, ond ar hyn o bryd, mae'n arbediad di-sail niweidiol. Oni ddylem, o leiaf, fod yn creu asiantaeth staff sy'n eiddo cyhoeddus ar gyfer y GIG fel y gallwn ni gael gwared ar elw a chostau afresymol asiantaethau sector preifat? Gwnaeth y Llywodraeth Lafur ddiwethaf yn San Steffan hyn drwy greu NHS Professionals, cronfa staff genedlaethol sy'n eiddo i'r cyhoedd o dan yr Adran Iechyd, sy'n ailfuddsoddi arian dros ben yn ôl yn y GIG. Oni allem ni gyfuno hwnnw gyda'r defnydd doeth o gerrig milltir ar gyfer capio a lleihau'r defnydd o asiantaethau preifat dros amser yn rhan o gynllun gweithlu cenedlaethol, sy'n mynd i'r afael â'r argyfwng tymor hwy o gadw a recriwtio y cyfeiriais ato? Mark Drakeford AC: Llywydd, y peth cyntaf yr wyf i eisiau ei wneud yw talu teyrnged i waith staff asiantaeth. Rwy'n poeni am gywair rhywfaint o'r drafodaeth hon sy'n awgrymu, rywsut, mai staff asiantaeth yw'r broblem yn y GIG. Mae'r GIG yn dibynnu'n llwyr ar staff asiantaeth. Felly, nid wyf i'n dweud bod arweinydd Plaid Cymru wedi ei wneud, ond rwy'n clywed yn y drafodaeth ehangach rhyw fath o synnwyr fod staff asiantaeth rywsut ar fai, ac mewn gwirionedd, rydyn ni'n dibynnu ar staff asiantaeth drwy'r amser. Rydyn ni'n dymuno dibynnu ar lai o staff asiantaeth yn y dyfodol—mae hwnnw'n dir cyffredin. Fe wnaethom roi hynny ar y bwrdd yn y trafodaethau gyda'n cydweithwyr yn yr undebau iechyd yr wythnos diwethaf. Nid yw mor syml â dweud bod £260 miliwn i'w arbed; byddai llawer iawn o hynny yn cael ei dalu am bobl a fyddai mewn gwaith heb fod drwy asiantaeth. Ceir rhywfaint o gynyddran y gallwch chi ei wasgu allan o'r swm hwnnw, ac mae hynny'n beth pwysig i ni geisio ei wneud. Mae'r system gronfa yn ffordd a ddarperir yn gyhoeddus lle gall pobl weithio ar shifftiau pryd na fydden nhw'n cael eu cyflogi fel rheol, ac efallai, yn y trafodaethau y byddwn ni'n eu cael gyda'n cydweithwyr yn yr undebau llafur, y bydd mwy y gallwn ni ei wneud yn y maes hwnnw. Bydd swyddogaeth bob amser i weithwyr asiantaeth weithio yn ystod absenoldebau byrdymor, pan fyddwn ni'n gwybod, weithiau, y bydd pobl i ffwrdd ar gyfer hyfforddiant a phethau eraill, a phe na bai gennym ni nhw—pe na bai gennym ni nhw—byddai'r system o dan fwy fyth o bwysau nag y mae heddiw. Adam Price AC: Ond y pwynt yw, Prif Weinidog, nad oes rhaid i'r asiantaeth honno fod yn y sector preifat, nac oes, gallai fod yn y sector cyhoeddus. Nawr, a gaf i droi at fater arall y cyfeiriwyd ato eisoes, sef feto Llywodraeth y DU ar Fil diwygio cydnabod rhywedd yn yr Alban? A ydych chi'n cytuno â mi bod hyn yn creu cynsail peryglus iawn, nid yn unig o ran dyheadau eich Llywodraeth chi, yr ydym ni'n eu rhannu, i gyflwyno deddfwriaeth debyg yma, ond hefyd o ran datganoli yn fwy cyffredinol a'r defnydd o adran 114, yn ein hachos ni, rwy'n credu, yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006? Os ydych chi'n rhannu'r farn honno, a fyddwch chi'n annog ASau Llafur Cymru i bleidleisio yn erbyn Gorchymyn Ysgrifennydd Gwladol yr Alban pan fydd yn cael ei drafod ar lawr Tŷ'r Cyffredin? Os bydd y weithdrefn seneddol honno'n aflwyddiannus, a ydych chi'n barod i ystyried, o leiaf, Llywodraeth Cymru yn ymyrryd yn y camau cyfreithiol y mae Llywodraeth yr Alban wedi nodi y mae'n bwriadu eu cymryd yn y Goruchaf Lys, oherwydd yr egwyddor ehangach hon, nid yn unig o ran hawliau'r gymuned draws, ond hefyd o ran ein democratiaeth yma? Ac, fel mater o egwyddor, o gofio bod Syr Keir Starmer wedi dweud ei fod yn anghytuno â gwneud y rheolau newydd yn berthnasol i bobl ifanc 16 ac 17 oed—yn groes, mae'n rhaid dweud, i farn y Blaid Lafur yn yr Alban—a allwch chi nodi beth yw safbwynt y Blaid Lafur yma yng Nghymru o ran y mater hwnnw? Mark Drakeford AC: Mae cyfres o gwestiynau yn y fan yna, Llywydd, ac fe wnaf i geisio rhoi sylw i gynifer ag y gallaf. Ar y cwestiwn mwyaf oll, rwy'n cytuno ag arweinydd Plaid Cymru; rwy'n credu bod penderfyniad Llywodraeth y DU i ddefnyddio pwerau sydd erioed wedi cael eu defnyddio yn holl hanes datganoli yn foment beryglus iawn, ac rwy'n cytuno â Phrif Weinidog yr Alban y gallai hwn fod yn llethr llithrig dros ben. Y rheswm pam rwy'n dweud hynny yw oherwydd, mae gen i ofn, bod gennym gynsail sef yr hyn sydd wedi digwydd i gonfensiwn Sewel o'n blaenau. Ni aethpwyd yn groes i gonfensiwn Sewel erioed, nid unwaith, gan Lywodraethau Ceidwadol, yn ogystal â Llywodraethau Llafur, am bron i 20 mlynedd. Ers yr achos cyntaf o fynd yn groes iddo, rydyn ni bellach yn gweld, fel y dywedodd comisiwn Williams a McAllister, yn eu hadroddiad interim, bod mynd yn groes i Sewel bron wedi'i normaleiddio. Rwy'n credu, erbyn diwedd eleni, y bydd 10 o achosion pan aethpwyd yn groes iddo. Nawr, mae hynny'n dweud wrthoch chi, ar ôl i chi wneud hyn unwaith, daw ei ddefnyddio eto'n haws, ac mae'r eildro yn arwain at y trydydd tro yn gyflym iawn. Dyna pam yr wyf i wir yn gresynu at benderfyniad Llywodraeth y DU i ymddwyn fel hyn, ond mae'n rhan o batrwm ehangach, Llywydd, Llywodraeth hon y DU. Os ydych chi'n cael eich hun mewn sefyllfa wahanol i rywun arall, yn hytrach nag eistedd i lawr, yn hytrach na cheisio trafod, yn hytrach na cheisio dod o hyd i ffordd ymlaen y cytunir arni, y cwbl rydych chi'n ei wneud yw defnyddio'r grym sydd gennych chi i'w goresgyn. Os nad ydych chi'n hoffi streicwyr, yna rydych chi'n pasio deddf i atal pobl rhag streicio. Os nad ydych chi'n hoffi protestwyr, rydych chi'n pasio deddf sy'n gwneud protestwyr yn droseddwyr cyn iddyn nhw hyd yn oed wneud unrhyw beth o gwbl. Ac os nad ydych chi'n hoffi Deddf a basiwyd mewn Senedd arall, rydych chi'n defnyddio'r grym sydd gennych chi yn eich Senedd chi i oresgyn yr hyn y mae'r Senedd arall wedi ei wneud. Mae'n batrwm ailadroddus yr ydych chi'n ei weld gyda'r Llywodraeth hon, ac yn yr achos hwn mae'n eithaf sicr yn creu goblygiadau cyfansoddiadol enfawr. A wnawn ni gysylltu ein hunain ag unrhyw achos yn y Goruchaf Lys? Wel, rydyn ni wedi dangos parodrwydd i wneud hynny yn y gorffennol. Mae'n rhy gynnar i mi ddweud sut y gallem ni allu gwneud hynny, o gofio nad oes achos yno eto, ond, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, rydym ni wedi gwneud yn siŵr o'r blaen bod buddiannau Cymru yn cael eu cynrychioli yn y Goruchaf Lys pan oedd materion o arwyddocâd cyfansoddiadol i Gymru yn y fantol, a bydden ni'n sicr yn barod i wneud hynny eto. Ysbyty Cymunedol Gogledd Sir Ddinbych Darren Millar AC: 3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu ysbyty cymunedol gogledd sir Ddinbych? OQ58958 Mark Drakeford AC: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae Llywodraethau Cymru olynol wedi cefnogi uchelgais y bwrdd iechyd lleol i fwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer ysbyty cymunedol yng ngogledd sir Ddinbych. Mae costau cynyddol a chyllidebau cyfalaf sy'n lleihau yn golygu bod yn rhaid ystyried y cynllun yng nghyd-destun buddsoddiadau iechyd a gofal cymdeithasol ar draws y gogledd yn gyfan gwbl. Darren Millar AC: Diolch am yr ymateb yna, Prif Weinidog. Hoffwn fod y cyntaf i gydnabod y ffaith bod Llywodraeth Cymru, yn wir, wedi cefnogi'r prosiect hwn yn hanesyddol, a hoffwn weld y prosiect hwn yn cael ei gyflawni. Cefais gyfarfod yr wythnos diwethaf gydag arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac, fel y byddwch yn gwybod, un o'u blaenoriaethau allweddol yw cyflawni'r prosiect hwn, nid yn unig oherwydd yr effaith y bydd yn ei chael ar ysbyty Glan Clwyd cyfagos, a'r cymunedau y bydd yn eu gwasanaethu rhwng Abergele a Phrestatyn, ond hefyd oherwydd yr effaith adfywio enfawr y gall y prosiect hwn ei chael yn nhref y Rhyl, sydd, eto, wedi bod yn bwyslais i Lywodraeth Cymru yn y gorffennol. Rwy'n sylweddoli bod arian yn dynn. Rwy'n cydnabod yn llawn bod costau'r prosiect wedi cynyddu. Ond, o ystyried pwysigrwydd y prosiect hwn, o ystyried y pwysau sy'n bodoli ar hyn o bryd y mae'r GIG yn ei wynebu, yn enwedig yn y gogledd ac yng Nglan Clwyd, a gaf i erfyn ar Lywodraeth Cymru ac arnoch chi'n bersonol i ymyrryd, i gymryd golwg arall ar y prosiect hwn, oherwydd rwy'n credu ei fod yn bwysig, i bobl gogledd sir Ddinbych a thu hwnt, ei fod yn cael ei gyflawni? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, diolch i Darren Millar am y ffordd y gofynnodd y cwestiwn yna ac am ei gydnabyddiaeth o'r cyd-destun y mae'n rhaid gwneud penderfyniadau ynglŷn â'r cynllun ynddo. Rwy'n awyddus i'w sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn parhau i ymwneud yn uniongyrchol â hyn i gyd. Cyfarfu'r Gweinidog iechyd ei hun gyda'r bwrdd iechyd a'r awdurdod lleol yn y cyfnod cyn y Nadolig. Cytunodd y cyfarfod hwnnw bod angen cyflawni dau ddarn o waith. Mae angen i'r bwrdd iechyd gynnal ymarfer blaenoriaethu. Ceir cynlluniau ar draws y gogledd i gyd, ac yn union fel y mae'r Aelod y prynhawn yma, yn cyd-fynd yn llwyr â'i gyfrifoldebau, wedi siarad dros ei gymuned a'i etholaeth, felly hefyd yr ydyn ni'n cael llythyrau a sylwadau tebyg ar ran llawer o gynlluniau eraill ar draws y gogledd i gyd. Felly, mae'n rhaid i'r bwrdd benderfynu beth yw ei flaenoriaethau ei hun. Ac yn ail, yn y cyfarfod hwnnw, cytunwyd hefyd y dylid rhoi'r cynllun cyfan gerbron y bwrdd partneriaeth rhanbarthol, iddyn nhw ei drafod hefyd. Nawr, ysgrifennodd uwch swyddogion y Gweinidog ddoe at y bwrdd iechyd eto, ac at yr awdurdod lleol, yn gofyn iddyn nhw am yr wybodaeth ddiweddaraf am y ddau ddarn o waith hynny. Oherwydd, er mwyn i'r Gweinidog allu ystyried yr achos busnes eto, gall hynny ddigwydd dim ond pan fydd gennym ni'r ddau ddarn pwysig iawn hynny o wybodaeth gyd-destunol. Ond hoffwn roi sicrwydd i Darren Millar, Llywydd, bod y Gweinidog wedi chwarae rhan uniongyrchol, yn parhau i chwarae rhan uniongyrchol, a chyn gynted ag y byddwn ni'n cael yr atebion hynny, bydd yn gallu ystyried y sefyllfa gyfan unwaith eto. Carolyn Thomas AS: Rwyf innau hefyd wedi bod yn cyfarfod ag arweinydd sir Ddinbych a swyddogion a chefais fy synnu nawr gan y gost—oherwydd pwysau chwyddiant, gallai fod yn adeiladu ag arian cyfalaf gwerth £82 miliwn. Rwy'n deall bod cyllid cyfalaf wedi cael ei dorri 11 y cant dros y blynyddoedd nesaf, a bod terfyn benthyca Cymru wedi cael ei gyfyngu gan Lywodraeth y DU hefyd. Mae angen i ni wneud rhywbeth, fel y mae Darren Millar wedi ei ddweud, a gwn fod arweinydd sir Ddinbych yn bryderus iawn hefyd. Rwy'n deall ei fod yn fater cymhleth. Felly, Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi ei fod hefyd yn fater gofal cymdeithasol, yn ogystal â mater GIG, ac y dylen ni edrych ar ddiddymu cap benthyg Llywodraeth y DU, fel y gallwn ni wneud mwy o waith fel hyn, gan fod ei wir angen yng Nghymru ar gyfer prosiectau cyfalaf fel hwn? Diolch. Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, mae'r Aelod yn gwneud rhai pwyntiau pwysig, ac oherwydd y pwyntiau hynny'n union, bydd hwn yn ysbyty cymunedol lle bydd gofal cymdeithasol yn rhan bwysig iawn o'r cyd-destun y mae'n gweithio ynddo, a gofynnwyd i'r bwrdd partneriaeth rhanbarthol ystyried y prosiect. Felly, rwy'n cytuno gyda'r pwynt a wnaeth hi yn y fan yna. O ran y pwyntiau terfyn benthyg, byddwn wedi gobeithio y byddai hyn yn rhywbeth a allai fod yn achos cyffredin i ni ar draws y Siambr yma. Yn 2016, daethom i gytundeb gyda Llywodraeth y DU o ran sut y bydden ni'n ymgymryd â'n cyfrifoldebau cyllidol. Roedd yn nodi terfyn benthyg Llywodraeth Cymru, gweithrediad cronfa wrth gefn Cymru. Nid yw'r ffigurau hynny erioed wedi cael eu diweddaru. Mae ein cyllideb 40 y cant yn fwy o ran arian parod nag yr oedd yn 2016, ond rydym ni'n ei rheoli gyda'r un terfynau a oedd yn iawn ar gyfer 2016. Pe baen nhw'n cael eu huwchraddio'n syml yn unol â chwyddiant, pe na bai eu gwerth go iawn yn newid, ond eu gwir werth yn cael ei gynnal, yna byddai hynny'n rhoi rhywfaint o hyblygrwydd ychwanegol i ni ynghylch terfynau benthyg a sut rydyn ni'n rheoli arian Llywodraeth Cymru mewn ffordd synhwyrol. Rwy'n credu mai dyna'r cwbl rydyn ni'n ei awgrymu. Dyma'r hyn a awgrymodd y Sefydliad Astudiaethau Cyllidol yn ei adroddiad ar weithrediad y fframwaith cyllidol. Rwy'n eithaf sicr, ar y rhestr faith iawn o bethau y mae'n rhaid i Lywodraeth y DU feddwl amdanyn nhw, ei bod hi'n debyg nad yw hyn yn agos at ei frig, ond mae'n beth synhwyrol y gallen nhw ei wneud a fyddai'n gwneud gwahaniaeth o ran defnydd synhwyrol o arian cyhoeddus. Dechrau'n Deg Mike Hedges AC: 4. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Dechrau'n Deg? OQ58938 Mark Drakeford AC: Dechrau'n Deg yw rhaglen blynyddoedd cynnar flaenllaw Llywodraeth Cymru. Mae'n parhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant yn rhai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig, ac rydym ni wedi ailddatgan ein hymrwymiad i gefnogi'r rhaglen drwy gydol tymor y Llywodraeth hon. Mike Hedges AC: Diolch. Rwyf i wedi fy argyhoeddi o fanteision Dechrau'n Deg. Mae'n atal plant rhag dechrau addysg ffurfiol ag oedran datblygiadol sy'n sylweddol is na'u hoedran go iawn. Rydym ni wedi gweld yn Lloegr y Prif Weinidog yn diddymu newidiadau i'r system gofal plant a luniwyd gan ei ragflaenydd. Mewn ardaloedd nad ydynt yn unffurf, mae ardaloedd uwch-allbwn is yn arwain at bocedi o dlodi sy'n cael eu methu. A yw'r Llywodraeth yn bwriadu cynnal ailarfarniad, yn seiliedig ar ganlyniadau cyfrifiad 2021, gyda'r bwriad o nodi'r tlodi plant sy'n cael ei fethu? Mark Drakeford AC: Rwy'n cytuno'n llwyr â Mike Hedges, Llywydd, am y gwaith ardderchog sydd wedi cael ei wneud gan raglen Dechrau'n Deg, ac mae'n un o fanteision datganoli ein bod ni wedi gallu cynnal y rhaglen honno bellach am gyfnod a fydd yn 20 mlynedd cyn bo hir. Ac wrth gwrs mae ei ehangu'n rhan o'r cytundeb cydweithredu â Phlaid Cymru, ac rydyn ni eisoes wedi gweld ffrwyth hynny—2,000 yn fwy o blant eisoes yn elwa ar Dechrau'n Deg—ac rydyn ni wedi cytuno ar y cam nesaf hefyd, a fydd yn dod i fodolaeth o 1 Ebrill. Dros amser, bydd hynny'n arwain at wneud elfen gofal plant Dechrau'n Deg ar gael yn gyffredinol i bob plentyn o ddwy oed ymlaen, felly mae cynlluniau ar y gweill i wneud llawer o'r hyn y mae Mike Hedges wedi ei ofyn. Yn y cyfamser mae gennym ni allgymorth Dechrau'n Deg, sy'n allu i awdurdodau lleol gynnig cymorth Dechrau'n Deg i'r teuluoedd hynny nad ydyn nhw o fewn ei ffiniau daearyddol, ac mae bob amser yn benbleth i raglenni sy'n seiliedig ar ddaearyddiaeth y bydd pobl y tu allan i'r daearyddiaethau hynny a fyddai wedi elwa'r un faint ar y gwasanaeth y mae Dechrau'n Deg yn ei darparu. Bydd y cytundeb sydd gennym ni gyda Phlaid Cymru, y £46 miliwn yn ychwanegol y byddwn ni'n ei fuddsoddi o ganlyniad, yn mynd ymhell i ateb y pwyntiau y mae'r Aelod wedi eu gwneud. Gareth Davies AS: Prif Weinidog, cyflwynwyd cynllun Dechrau'n Deg yn ôl yn 2007 fel un o brif flaenoriaethau'r Llywodraeth ar gyfer mynd i'r afael â thlodi yng Nghymru, ond ar hyn o bryd Cymru sydd â'r gyfradd uchaf o blant sy'n byw mewn tlodi o'i chymharu â gweddill gwledydd y DU. Prif Weinidog, mae hyn yn gwbl annerbyniol ac yn record ddamniol o 25 mlynedd o Lywodraeth Lafur yma yng Nghymru. Felly, pa gamau ydych chi'n mynd i'w cymryd i wneud yn siŵr bod Dechrau'n Deg yn cael ei gefnogi'n iawn yn y dyfodol, a phryd fyddwn ni'n gweld canlyniadau go iawn o'r diwedd a diwedd ar y loteri cod post, yn enwedig i fy etholwyr i yn sir Ddinbych? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, rwy'n dal i gael fy rhyfeddu bod Aelod Ceidwadol yn fodlon sefyll i fyny yma a beirniadu'r twf mewn tlodi plant pan fo'i Lywodraeth ei hun—ei Lywodraeth ei hun—yn cyhoeddi dogfennau ochr yn ochr â'u cyllideb yn dweud y bydd y camau y maen nhw wedi eu cymryd yn arwain yn uniongyrchol—yn uniongyrchol—at filoedd ar filoedd yn fwy o blant ledled y Deyrnas Unedig yn byw mewn tlodi. Onid yw'n teimlo unrhyw synnwyr o gywilydd ei fod yn cynrychioli plaid sy'n gwneud penderfyniadau'n fwriadol, yn bwrpasol, sy'n arwain at roi plant mewn tlodi? Yma yng Nghymru, rydyn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i liniaru'r effaith honno, ac mae'n iawn—mae'r mynydd i leihau tlodi plant yn mynd yn fwy serth gyda phob blwyddyn o gyni cyllidol a thoriadau i wasanaethau cyhoeddus y mae ei Lywodraeth ef yn eu cyflwyno. Ond mae Dechrau'n Deg yn rhaglen flaenllaw sydd wedi gwneud gwaith ardderchog ac sy'n parhau i wneud gwaith ardderchog mewn llawer iawn o deuluoedd ledled Cymru. Mae dau ddeg saith y cant o blant yng Nghymru yn elwa arno, ac yn sgil cytundeb rhwng fy mhlaid i a Phlaid Cymru, bydd hyd yn oed mwy o deuluoedd yn elwa arno yn y dyfodol. Tlodi Gwledig Cefin Campbell MS: 5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion i fynd i’r afael â thlodi gwledig yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ58975 Mark Drakeford AC: Llywydd, eleni rydyn ni’n darparu cymorth gwerth £1.6 biliwn drwy raglenni sy’n diogelu cartrefi difreintiedig. Yn benodol, rydyn ni’n rhoi cymorth i gartrefi yng nghefn gwlad nad ydyn nhw ar y grid, buddsoddi mewn mentrau bwyd cymunedol a darparu canolfannau clyd. Mae hyn yn helpu pobl sy’n ei chael hi’n anodd talu costau bwyd a chadw’n gynnes. Cefin Campbell MS: Diolch yn fawr iawn. Yn ôl Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, mae tlodi gwledig yn aml yn cael ei guddio o dan yr wyneb gan gyfoeth cymharol ein hardaloedd gwledig ni, a gan ddiwylliant o hunan-ddibyniaeth. Fel y dywedais i yn nadl Plaid Cymru ar dlodi plant cyn gwyliau'r Nadolig, mae aelwydydd ar draws y canolbarth a'r gorllewin yn fwy agored i dlodi oherwydd nifer o ffactorau fel incwm is na'r cyfartaledd, hefyd diffyg mynediad at wasanaethau a thrafnidiaeth gyhoeddus, lefelau anghymesur o dlodi tanwydd a thlodi bwyd, rhenti uwch a diffyg tai fforddiadwy. Nawr, rydym ni'n gwybod bod y rhai sy'n byw mewn ardaloedd gwledig fel arfer yn gwario rhyw 10 i 20 y cant yn fwy ar nwyddau a gwasanaethau bob dydd, o gymharu â rhai sydd yn byw mewn ardaloedd trefol. O ganlyniad, mae amddifadedd ar gynnydd yn ein cymunedau ni, gyda phump allan o'r chwe awdurdod lleol sydd â'r lefelau uchaf o dlodi plant yn yr ardaloedd gwledig yng Nghymru. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi felly fod cymunedau gwledig yn wynebu heriau unigryw, ac a yw e'n barod i ymrwymo i gynnal ymchwil pellach i'r mater er mwyn datblygu strategaeth i fynd i'r afael â lefelau cynyddol o dlodi gwledig? Mark Drakeford AC: Wrth gwrs, Llywydd, dwi'n cydnabod bod yna ffactorau sy'n unigryw i bobl sy'n byw yng nghefn gwlad, a gallaf gytuno â beth ddywedodd yr Aelod: ambell waith, mae'n anodd gweld tlodi mewn rhai cymunedau gwledig. Wrth gwrs, mae pob rhan o Gymru yn wynebu sialens ar hyn o bryd—pa un ai eich bod chi'n byw yn y Cymoedd, eich bod chi'n byw yng nghanol Caerdydd, mae sialensau unigryw i'w cael ym mhob man. Gallaf ddweud wrth yr Aelod y bydd cynllun yn dod lan. Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn gweithio ar hyn o bryd ar bethau ymarferol y gallwn ni eu gwneud i helpu, yn enwedig ym maes tlodi plant. Yn y cyfamser, wrth gwrs, mae nifer o bethau pwysig rydym ni'n eu gwneud yn barod. Prydau bwyd am ddim yn ein hysgolion—mae hwnna'n mynd i fod yn help mawr i blant ble bynnag maen nhw'n byw yng Nghymru. Ac yn rhanbarth yr Aelod, ar ôl lansiad y polisi nôl ym mis Medi diwethaf, mae 10,000 o ddisgyblion newydd wedi dod i mewn i'r cynllun yna, a chyn diwedd mis Ebrill bydd y nifer yn cynyddu i 13,000 o blant yn y rhanbarth hefyd. Gofal Sylfaenol Jane Dodds AS: 6. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gofal sylfaenol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ58976 Mark Drakeford AC: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Yn rhan gyntaf tymor y Senedd hon, rydyn ni wrthi'n cytuno ar gytundebau newydd, diwygiedig gyda phob un o'r pedair cangen o ofal sylfaenol ledled Cymru. Ein blaenoriaeth yw sicrhau'r gwerth mwyaf posibl o'r contractau hynny i gleifion, o ran mynediad, cynaliadwyedd gwasanaethau ac ansawdd gofal. Jane Dodds AS: Diolch yn fawr iawn am yr ateb. Jane Dodds AS: Un agwedd ar ofal sylfaenol yr wyf i'n credu bod y rhan fwyaf o bobl yn gwybod fy mod i'n poeni'n fawr amdani yw dannedd, ac yn enwedig dannedd ein plant ledled Cymru. Rwy'n deall nad oes gennym ni ddata am faint o blant sy'n aros am ddeintydd y GIG mewn gwirionedd. Yr unig fyrddau iechyd yr ydyn ni wedi gallu cael data ganddyn nhw, ar ôl gofyn iddyn nhw'n benodol, oedd Powys a Chaerdydd. Ac, ym Mhowys, cofnodir bod nifer syfrdanol o 800 o blant angen, ac yn aros am ofal deintyddol y GIG. Fe wnes i gyfarfod â mam ychydig ddiwrnodau yn ôl a oedd wedi cael galwad ffôn gan ei deintydd i ddweud wrthi na allai ei phlant ddefnyddio'r deintydd penodol hwnnw mwyach, gan eu bod nhw'n newid i ofal preifat.63 Prif Weinidog, rydyn ni'n deall llawer o'r pwysau sydd ar ein deintyddion, ond heb os nac oni bai mae'n rhaid i ni, yn y Siambr hon, boeni am ddannedd ein plant. Felly, a gaf i ofyn i chi: pryd fyddwn ni'n cael data ar nifer y plant ledled Cymru sy'n aros am ddeintydd y GIG? Diolch yn fawr iawn. Mark Drakeford AC: Llywydd, ni allaf gynnig ateb i'r cwestiwn hwnnw i'r Aelod, gan fy mod i'n meddwl ei fod yn gwestiwn eithaf anodd ei ateb mewn gwirionedd, gan eich bod chi'n ceisio dod o hyd i blant nad ydyn nhw yn gwneud rhywbeth yn hytrach na phlant sydd yn gwneud rhywbeth. O ran plant sy'n gwneud rhywbeth, yna ym Mhowys, ers i'r contract newydd ddechrau cael ei ddefnyddio gan ddeintyddion, bu 1,100 o apwyntiadau newydd ar gael i blant yn yr wyth mis diwethaf. Yn holl ranbarth yr Aelod, mae 5,500 o apwyntiadau plant newydd wedi bod ar gael yn y cyfnod hwnnw, ac mae mwy i ddod. Felly, er ein bod ni'n sicr eisiau gwneud mwy, rydyn ni eisiau arallgyfeirio'r proffesiwn fel bod gwahanol ffyrdd y gellir darparu gofal i'n plant yn y maes deintyddol. Pan wnaeth y Gweinidog ei datganiad ar y contract newydd yn ôl ym mis Mehefin y llynedd, roedden ni'n rhagweld tua 120,000 o apwyntiadau newydd ym maes deintyddiaeth y GIG yng Nghymru; byddwn yn rhagori ar hynny gyda chwarter y flwyddyn yn dal i fynd. Felly, er bod y sefyllfa'n parhau i fod yn heriol mewn sawl rhan o Gymru, yn rhanbarth yr Aelod ei hun, o gymryd Hywel Dda a Phowys gyda'i gilydd, bydd dros 13,000 o apwyntiadau newydd nad oeddent ar gael y llynedd a fydd eisoes wedi cael eu defnyddio eleni, gyda mwy i ddod. Mynediad at Feddygfeydd Delyth Jewell AC: 7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynediad at feddygfeydd yn Nwyrain De Cymru? OQ58977 Mark Drakeford AC: Llywydd, er gwaethaf y pwysau enfawr y mae'r sector yn ei wynebu, mae mynediad at feddygfeydd meddyg teulu wedi gwella ym mhob blwyddyn ers i safonau gael eu cytuno gyntaf yn 2019. Mae wyth deg naw y cant o feddygfeydd ledled Cymru yn bodloni'r holl safonau erbyn hyn, a bydd y safonau hynny'n dod yn orfodol ym mis Ebrill eleni. Delyth Jewell AC: Diolch, Prif Weinidog. Mae etholwyr wedi cysylltu â mi gyda phryder am newyddion bod dwy wahanol feddygfa yn fy rhanbarth i ar fin cau. Roedd Canolfan Feddygol Aber yn bwriadu cau ei meddygfa ym Medwas, a fyddai'n golygu bod cleifion ym Medwas, Tretomas a Machen yn gorfod mynd i Abertridwr neu Lanbradach, ac ni fyddai'r rheini'n deithiau rhwydd, os nad oes gennych chi gar, yn enwedig os ydych chi'n sâl a ddim yn teimlo y gallwch chi ymdopi â thaith hir. Rwyf i hefyd wedi clywed bod Practis Grŵp Crucywel wedi gwneud cais i gau eu meddygfa gangen yng Ngilwern. Rwy'n pryderu am batrwm pryderus yma—yng Nghaerffili, yn sicr. Mae meddygfeydd Penyrheol, Parc Lansbury a Gilfach wedi cau yn y blynyddoedd diwethaf; mae'n ymddangos bod y stori yr un fath ar draws y rhanbarth. A allwch chi werthfawrogi, Prif Weinidog, pam mae cymaint o bobl yn poeni y bydd cau'r meddygfeydd hyn yn arwain yn anochel at dryblith i gleifion, amseroedd aros hwy, a mwy o bwysau ar feddygon teulu? A beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud, os gwelwch yn dda, i gynghori byrddau iechyd ynghylch yr angen i wella a pheidio â gwaethygu profiad y claf? Oherwydd, siawns nad yw o fudd i neb fod cymaint o feddygfeydd o bosib yn cau. Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, mae newid yn anochel yn y gwasanaeth iechyd. Mae rhai meddygfeydd yn cau, mae meddygfeydd newydd yn agor. Mae hi wedi bod felly ers 1948. Mae mwy o wasanaethau a reolir yn uniongyrchol yng Nghymru nawr nag yr oedd o'r blaen, ac mae hynny'n adlewyrchiad o natur newidiol y proffesiwn, wrth i'r hen fodel, yr egwyddor o fodel eiddo i bractis, ddod yn llai deniadol i feddygon newydd sy'n dechrau ymarfer cyffredinol. Byddwn yn disgwyl i fwrdd iechyd Aneurin Bevan ymdrin ag unrhyw newidiadau mewn modd sensitif, i wneud yn siŵr eu bod mewn cysylltiad â'u poblogaethau cleifion lleol, ac i wneud yr hyn y mae angen ei wneud os oes problemau mynediad sy'n dod i'r amlwg o ganlyniad. Mae patrymau mynediad yn newid hefyd, Llywydd. Yn y dyfodol, bydd cyfran uwch o lawer o ymgynghoriadau yn digwydd o bell, dros y ffôn, neu drwy alwad fideo. Allwn ni ddim disgwyl i'r GIG gael ei gadw mewn asbig—ni wnaed hynny erioed. Mae'n rhaid ymdrin â newid mewn modd sensitif, ond mae newid yn anochel, ac mewn gwirionedd gall newid wneud pethau'n well, yn ogystal â gwneud pethau'n fwy anodd weithiau. Cwestiwn 8 yn olaf—Sarah Murphy. Tlodi Digidol Sarah Murphy AS: 8. Sut mae Llywodraeth Cymru'n mynd i'r afael â thlodi digidol? OQ58951 Mark Drakeford AC: Llywydd, mae mynd i'r afael ag allgáu digidol yn flaenoriaeth cyfiawnder cymdeithasol ac anghydraddoldeb i'r Llywodraeth. Mae ein rhaglen cynhwysiant ac iechyd digidol, Cymunedau Digidol Cymru, yn cefnogi sefydliadau ar draws pob cymuned a sector i helpu pobl i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd y gall digidol eu cynnig. Mae dros 125,200 o bobl wedi derbyn cymorth ar gyfer sgiliau digidol sylfaenol, ysgogiad a hyder. Sarah Murphy AS: Diolch, Prif Weinidog. Mae tlodi digidol yn fater sy'n bwysig iawn i mi. Rwy'n credu y daethpwyd â'r gwir oblygiadau i'r brif ffrwd yn sicr yn ystod y pandemig, pan oedden ni'n dibynnu ar bob peth digidol i gysylltu â'n gilydd yn ystod y cyfyngiadau symud, neu'n defnyddio offer digidol i weithio gartref neu'r ysgol. Wedi dweud hynny, rydyn ni'n parhau i weld ei effaith nawr yn ystod yr argyfwng costau byw, gan fod cymaint o'r cymorth a'r adnoddau y mae angen i bobl gael gafael arnyn nhw ar-lein, ac mae pobl yn cael eu heithrio oherwydd y costau gan ein bod ni'n gwybod wrth i gyllidebau fynd yn dynn, ei bod yn debygol mai band eang fydd y peth sy'n cael ei ddiffodd mewn cartrefi. Ar un adeg, roedd y dybiaeth hon fod band eang a thechnoleg ddigidol yn foethusrwydd, ond y gwir yw ei fod yn anghenraid, ac i rai pobl maen nhw ar eu colled oherwydd diffyg modd. Gwn fod mynd i'r afael ag allgáu digidol yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon, ac rwy'n falch o weld yn y strategaeth ddigidol i Gymru bod Llywodraeth Cymru yn gweithio ar y cyd â'r Gynghrair Tlodi Digidol i roi terfyn ar dlodi digidol erbyn 2030, ac mewn partneriaeth â'r Good Things Foundation ar y fenter cronfa ddata genedlaethol sy'n darparu data symudol, negeseuon testun a galwadau am ddim i bobl mewn angen. Rwyf i hefyd wedi bod mewn cysylltiad â Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr, a chwmni band eang yng Nghymru, Ogi, sy'n darparu band eang cyflym ar draws Porthcawl—[Torri ar draws.] —a Chaerffili i weld a oes unrhyw le i ddarparu WiFi mewn canolfannau cynnes ar draws Pen-y-bont ar Ogwr. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar gyflwyno'r canolfannau cynnes ar draws Pen-y-bont ar Ogwr? Pa asesiad a wnaed i weld a allwn ni ymgorffori mynediad at fand eang cyflym yn y canolfannau hynny i greu'r etifeddiaeth honno o fynediad i'n cymunedau? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, clywodd pwyllgor y Cabinet ar gostau byw dystiolaeth uniongyrchol gan sefydliadau yn y maes am y ffordd y mae teuluoedd sy'n wynebu cymaint o bwysau ar eu cyllidebau yn aml yn teimlo mai'r gwariant digidol y maen nhw'n ei wneud sy'n gorfod mynd yn gyntaf, ac eto, mewn byd cynyddol ddigidol, mae hynny'n achosi pob math o anawsterau eraill iddyn nhw, felly mae'r pwyntiau y mae'r Aelod yn eu gwneud yn cael eu gwneud yn dda iawn ac yn bwysig. O ran canolfannau cynnes, ceir dros 300 o ganolfannau cynnes ledled Cymru erbyn hyn, a dim ond y rhai yr ydym ni'n gwybod amdanyn nhw yw'r rheini. Rwy'n credu ei bod hi'n ymdrech fwyaf anhygoel, digymell yr ydym ni wedi ei gweld gan gymaint o grwpiau cymunedol, clybiau chwaraeon, grwpiau ffydd, yn ogystal â chyrff cyhoeddus, i ymateb i'r anghenion y mae pobl yn eu gweld yn ystod y gaeaf hwn. Gwn fod gan bob man cynnes a noddir gan yr awdurdod lleol ym Mhen-y-bont ar Ogwr fynediad digidol, ac ynghyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, rydyn ni wrthi'n arolygu cysylltedd digidol mewn canolfannau cynnes ledled Cymru, fel ein bod ni mewn sefyllfa well yn y dyfodol i wneud yn siŵr y gellir rhoi sylw i'r pwyntiau pwysig y mae'r Aelod wedi eu gwneud y prynhawn yma. Diolch yn fawr i'r Prif Weinidog. Pwynt o drefn nawr yn deillio allan o'r cwestiynau gan Darren Millar. Darren Millar AC: Diolch, Llywydd. Hoffwn godi pwynt o drefn, os caf, o ran sylwadau a wnaed gan y Prif Weinidog yn ystod ei drafodaeth ag arweinydd yr wrthblaid yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog. Nododd y Prif Weinidog bod y cyfrifon blynyddol ar gyfer Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd Cyfyngedig yn gyhoeddus, ac yn cael eu cyhoeddi bob mis Mawrth. Nododd hefyd bod y cyfrifon ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiwethaf eisoes wedi'u cyhoeddi. Fodd bynnag, fel y gall unrhyw Aelod ei weld dim ond trwy glicio ar wefan Tŷ'r Cwmnïau ac edrych ar dudalen y maes awyr, nid yw hyn yn wir. Nid yw'r cyfrifon ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2022 wedi eu cyhoeddi eto ac, a dweud y gwir, maen nhw'n hwyr. Rwy'n siŵr nad oedd y Prif Weinidog yn dymuno camarwain y Senedd yn ystod ei drafodaeth, a phe bai wedi bod yn ymwybodol o'r ffeithiau hyn, rwy'n siŵr y byddai ei sylwadau wedi bod yn dra gwahanol. Mark Drakeford AC: Llywydd, wrth gwrs, rwy'n sicr yn hapus i ymchwilio i'r pwyntiau y mae'r Aelod wedi'u gwneud. Dydw i ddim yn creu atebion o flaen y Senedd; rwy'n dibynnu ar y wybodaeth sy'n cael ei darparu i mi. Roedd y wybodaeth a oedd gen i o fy mlaen yn eithaf pendant yn dweud y byddai'r cyfrifon yn cael eu cyflwyno i Dŷ'r Cwmnïau ym mis Mawrth eleni. Rwy'n sicr yn hapus i edrych ar y pwynt mae'r Aelod yn ei wneud, ac os oes angen cywiro'r cofnod, yna wrth gwrs fe gaiff hynny ei wneud. Diolch am y sylwadau hynny. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd nesaf. Felly, y Trefnydd i wneud hwnnw—Lesley Griffiths. Lesley Griffiths AC: Diolch, Llywydd. Mae pedwar newid i'r busnes yr wythnos hon. Bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd yn gwneud datganiad ar lifogydd wedi'r datganiad busnes a'r cyhoeddiad, a bydd datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar ôl hynny i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar ei chyfarfod ag undebau llafur y GIG. Er mwyn rhoi amser ar gyfer hyn, mae'r datganiad llafar ar Wcráin wedi'i ohirio tan yr wythnos nesaf. Yn olaf, mae'r drafodaeth ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) wedi'i gohirio tan 14 Chwefror. Mae busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad busnes a'r cyhoeddiad, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig. Natasha Asghar AS: Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan y Gweinidog iechyd am yr effaith niweidiol mae methiant Llywodraeth Cymru i recriwtio digon o feddygon teulu yn ei gael ar fy etholwyr yn sir Fynwy? Rwy'n gwybod bod fy nghyd-Aelod Delyth Jewell wedi codi hyn yn gynharach yn un o'i chwestiynau ynghylch y meddygon teulu sy'n ymddeol ac sy'n gadael eu practisau, ac rwy'n derbyn ymateb y Prif Weinidog yn llwyr pan soniodd fod gofal iechyd yn newid yng Nghymru. Ond, hoffwn i ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd am ba gamau y mae hi'n eu cymryd i ymdrin â'r prinder difrifol o feddygon teulu yng Nghymru, sy'n achosi pryder, a bydd o bosibl yn achosi cryn anghyfleustra a gofid i lawer o bobl oedrannus a phobl agored i niwed ar draws fy rhanbarth i, yn enwedig yn ardal Gilwern, na fydd efallai'n gallu cael y gofal iechyd y maen nhw ei angen ac yn ei haeddu. Ac os caf i fentro â gofyn am ail ddatganiad hefyd, os gwelwch yn dda. A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd am gynlluniau i leihau'r cymorth ariannol i rai o'r bobl dlotaf a mwyaf bregus yng Nghymru—tuag at gost eu sbectol yn y GIG, i fod yn benodol? Rwy'n deall mai'r cynnig mewn gwirionedd yw gostwng y cyfraniad presennol o £39.10 i blant ac oedolion ar rai budd-daliadau i fod yn £22 nawr o hyn ymlaen. Mae Llywodraeth Cymru yn honni bod y swm wedi'i gytuno gyda grŵp sy'n cynrychioli optometryddion yng Nghymru. Ond mae Optometreg Cymru yn dweud nad oedden nhw, fel tîm trafod, o blaid cefnogi'r newidiadau i'r system dalebau sydd wedi'i chynnig gan Lywodraeth Cymru. Yn wir, mewn datganiad, maen nhw'n dweud bod y cynlluniau wedi achosi pryderon sylweddol, gydag ymarferwyr yn poeni am lefel y gefnogaeth y bydd cleifion ar fudd-daliadau sy'n seiliedig ar brawf modd yn gallu ei chael ac yn gallu manteisio arni, o dan y contract newydd. Maen nhw'n mynd ymlaen i ddweud bod dewis cleifion yn debygol o gael ei leihau o ganlyniad i'r newidiadau hyn, ac y gallai practisau ei chael hi'n anodd cynnig yr hyn maen nhw'n ei wneud nawr o fewn ystod y talebau. Felly, a gawn ni datganiad gan y Gweinidog iechyd am y gostyngiad hwn mewn budd pwysig i gleifion, ac effaith y penderfyniad polisi hwn ar gleifion, o ystyried yr amgylchiadau economaidd presennol, ac i'r rhai sydd hefyd mewn gofal cartref? Diolch. Lesley Griffiths AC: O ran eich pwynt cyntaf ynghylch nifer y meddygon teulu, mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn parhau i wneud llawer iawn o waith i gyflwyno mwy o feddygon teulu dan hyfforddiant bob blwyddyn. Rwy'n credu y gwelwch chi, blwyddyn ar ôl blwyddyn dros y blynyddoedd diwethaf, bod hyn yn sicr wedi bod yn wir. Mae'n amlwg bod y Gweinidog hefyd yn gweithio'n galed iawn ac yn agos iawn gyda'n byrddau iechyd, gan mai mater i'r byrddau iechyd yw sicrhau bod digon o feddygon teulu i'r boblogaeth leol. Mewn ymateb i'ch ail gais ynghylch y system dalebau o ran sbectolau'r GIG ac ati, unwaith eto, mae'r Gweinidog yn ystyried optometreg yn ei chyfanrwydd; rydyn ni'n ystyried contractau newydd ar gyfer optometryddion. Fe wnaethoch chi ddyfynnu un person nad oedd o blaid; byddwn i'n dychmygu y bydd y Gweinidog wedi ystyried yr holl ymatebion a gafodd a phenderfynu ar y ffordd fwyaf priodol o fwrw ymlaen. Heledd Fychan AS: A gaf i ofyn, os gwelwch yn dda, Trefnydd, am ddatganiad llafar gan y Gweinidog dros y celfyddydau a chwaraeon o ran dyfodol gwasanaethau sydd ddim yn statudol yn y meysydd diwylliant a chwaraeon? Yn benodol felly, rydyn ni'n gweld ar y funud nifer o awdurdodau lleol yn ymgynghori o ran newidiadau arfaethedig yn sgil y setliad ariannol, a dwi yn pryderu'n fawr o weld nifer o amgueddfeydd, ac hefyd o ran chwaraeon ac ati, ymysg y toriadau hynny, gan eu bod nhw ddim yn statudol. Felly, mi fyddai hi'n fuddiol, yng nghyd-destun y cytundeb cydweithio sydd rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru hefyd, a'r strategaeth ddiwylliannol yn honna, i gael diweddariad o ran yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud er mwyn cefnogi'r awdurdodau lleol sydd yn wynebu'r penderfyniadau anodd eithriadol yma sydd yn codi pryder o ran dyfodol diwylliant a chwaraeon ledled y wlad. Lesley Griffiths AC: Diolch. Er y byddai awdurdodau lleol, rwy'n credu yn gyffredinol, yn dweud bod ganddyn nhw setliad gwell nag yr oedden nhw wedi'i ragweld, yn amlwg mae rhai dewisiadau anodd iawn i'w gwneud gan ein hawdurdodau lleol, ac wrth gwrs, y gwasanaethau nad oes ganddyn nhw gyfrifoldeb statudol amdanyn nhw, yw'r cyntaf bob amser i gael eu hystyried pan ddaw hi at doriadau. Mae'r Dirprwy Weinidog diwylliant yn gweithio'n agos iawn gyda'r awdurdodau lleol i weld beth y mae modd ei wneud, ond rydyn ni'n gwerthfawrogi bod dewisiadau anodd iawn i'w harchwilio. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod dynodedig, Siân Gwenllian siŵr o fod, rwy'n credu, yn cael sgwrs arall gyda'r Gweinidog. Mike Hedges AC: Rwy'n gofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar daliadau fferm sylfaenol. Rwy'n gofyn am ddatganiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu taliadau fferm sylfaenol ac yn egluro pam mae Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu cynnig Undeb Amaethwyr Cymru i gapio taliadau fferm sylfaenol. Rwy'n gofyn hefyd am ddatganiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar gynigion ynglŷn â chyweirio cladin ar adeiladau. Mae gennyf i etholwr sy'n credu bod y datrysiad yn syml, a bod ond angen i Lywodraeth Cymru weithredu adrannau 116 i 125 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022. Ar ben hyn, mae'n credu bod y broblem yn cael ei datrys yn Lloegr. Rwy'n gofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf yn y datganiad am sut mae datblygwyr fel Bellway yn gweithio gyda thrigolion ar ddatblygiadau fel Altamar a'r cynnydd sy'n cael ei wneud. Lesley Griffiths AC: Diolch. Bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod ni'n edrych ar hyn o bryd ar gyflwyno'r cynllun ffermio cynaliadwy, ac y bydd pontio o gynllun y taliad sylfaenol i'r cynllun ffermio cynaliadwy. Un peth yr ydym ni'n ei ystyried o fewn y cynllun ffermio cynaliadwy yw a ddylai capio taliadau gael ei gyflwyno yn rhan o'r cynllun ffermio cynaliadwy, er mwyn sicrhau bod cyllid yn cael ei ddosbarthu mewn ffordd deg. Ni fyddwn i'n dweud fy mod i'n gwrthwynebu'r peth o gwbl, ond yn amlwg rydyn ni nawr yn mynd o'r cynllun taliadau sylfaenol i'r cynllun ffermio cynaliadwy. Bydd dewisiadau talu posibl y cynllun ffermio cynaliadwy yn cael eu hystyried a'u cyflwyno yng nghynigion terfynol y cynllun, na fydd tan lawer yn hwyrach eleni. O ran y cais cladin adeiladau, byddwch chi'n ymwybodol bod y Gweinidog Newid Hinsawdd, sydd â'r cyfrifoldeb am hyn, yn parhau i weithio'n agos iawn gyda datblygwyr a gyda lesddalwyr. Fy nealltwriaeth i yw bod dogfennau ffurfiol gyda'r Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi nawr wedi cael eu rhannu ac mae disgwyl sylwadau pellach gan ddatblygwyr. Altaf Hussain AS: Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd am gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gyflymu gwelliannau effeithlonrwydd ynni i stoc tai cymdeithasol Cymru. Yn ddiweddar, dadorchuddiodd Cyfeillion y Ddaear Cymru eu rhestr o gymdogaethau oeraf Cymru. Gwnaethon nhw gyfrifo'r mannau argyfwng ynni mwyaf problemus gan ddefnyddio ystadegau ar ddefnydd a phris tanwydd. Cafodd y canlyniadau hyn eu cyfuno â data lefel cymdogaeth o fynegai Cymru o amddifadedd lluosog i nodi'r ardaloedd hynny â chostau ynni uwch na'r cyfartaledd ac incwm is na'r cyfartaledd. Datgelodd hyn y cymdogaethau oeraf lle'r oedd y cartrefi anoddaf eu gwresogi. Yn fy rhanbarth i yng Ngorllewin De Cymru, roedd tair cymdogaeth wedi'i cynnwys ymhlith y 10 oeraf.Trefnydd, mae awdurdodau lleol yn gwario miliynau ar welliannau i dai cymdeithasol, ac eto mae cartrefi yn y cymunedau hyn yn parhau i fod ymhlith y rhai anoddaf i'w gwresogi yn Ewrop. Wrth i ryfel anghyfreithlon Rwsia yn Wcráin barhau i waethygu'r argyfwng ynni, ac wrth i Gymru fynd i gyfnod rhewllyd o'r Arctig, mae'n gyfnod amserol felly i Lywodraeth Cymru amlinellu pa gamau mae'n eu cymryd i wella effeithlonrwydd ynni stoc dai cymdeithasol yn y cymdogaethau oeraf yng Nghymru. Felly, rwy'n gofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd cyn gynted â phosibl. Diolch. Lesley Griffiths AC: Diolch. Rwy'n credu bod gan Lywodraeth Cymru stori dda iawn i'w hadrodd am y gwelliannau yr ydym ni wedi'u gwneud i nifer fawr o dai o fewn ein stoc dai. Byddwch chi'n ymwybodol bod gennym ni stoc dai hen iawn yma yng Nghymru, ac mae wedi bod angen llawer iawn o waith adnewyddu, yn sicr. Yr hyn sydd gan y Gweinidog yw rhaglen dreigl o gynlluniau y mae hi'n gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol arni o ran effeithlonrwydd ynni. Delyth Jewell AC: Hoffwn i ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, ar ddiogelwch menywod mewn ardaloedd trefol ar ôl iddi dywyllu. Rwyf i wedi codi'r pwynt o'r blaen bod angen digon o oleuadau ger gorsafoedd rheilffordd a safleoedd bysiau. Rwy'n bryderus bod ail awdurdod lleol yn fy rhanbarth i wedi penderfynu diffodd goleuadau stryd dros nos. Mae disgwyl i Gasnewydd ddilyn Caerffili wrth wneud hyn. Rwyf i wedi codi sawl gwaith cyn hyn y pryder y mae menywod, pobl hŷn, a'r rhai llai sicr ar eu traed hefyd yn teimlo, ynghylch sut y byddai cerdded o gwmpas yn y tywyllwch a methu gwneud hyn yn amharu ar eu rhyddid gyda'r nos. Gallai'r penderfyniad hwn, i bob pwrpas, gaethiwo llawer o grwpiau o bobl i'w cartrefi ar ôl amser penodol, ac mae pryderon am gyfraddau troseddu hefyd. A all datganiad ailbwysleisio pwysigrwydd diogelu menywod yn ein trefi a'n dinasoedd, ac a allai amlinellu pa gyngor sy'n cael ei roi i awdurdodau lleol ar y mater hwn, os gwelwch yn dda? Diolch. Lesley Griffiths AC: Diolch. Rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt pwysig iawn. Pan ddechreuoch chi ofyn y cwestiwn yna i mi, rydych chi'n meddwl yn awtomatig, fel yr ydych chi'n ei ddweud, am fenywod a diogelwch, ond rwy'n credu bod y pwynt yr ydych chi'n ei godi am bobl nad ydyn nhw o bosibl mor sicr ar eu traed, fel y mae llawer ohonom ni, hefyd yn gallu peri rhai pryderon gwirioneddol. Yn sicr, fe wnaf i ofyn i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol gyflwyno datganiad ysgrifenedig, yn enwedig ynghylch y canllawiau sy'n cael eu rhoi i awdurdodau lleol. Alun Davies AC: Gweinidog, byddwch chi'n ymwybodol i grwner de Cymru wneud dyfarniad ddydd Gwener bod dwy nyrs a fu farw o ganlyniad i ddal COVID yn y gwaith wedi marw o glefyd diwydiannol. Yn amlwg bydd hyn yn cael rhywfaint o effeithiau sylweddol ar ddull gweithredu Llywodraeth Cymru wrth ymdrin â'r materion hyn. Rwyf i wedi codi materion yn ymwneud â gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus yn fy etholaeth i fy hun sydd wedi cael COVID hir ac wedi dioddef o ganlyniad i hynny, a hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd ar sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i ddyfarniad y crwner hwn. Hefyd, wythnos diwethaf, Gweinidog, ymwelais â Llys yr Efail yn y Blaenau. Cynllun tai gwarchod ydyw, a chwrddais â nifer o breswylwyr yno sydd wedi cael cais i gyfrannu tuag at gostau gwresogi ardaloedd cymunedol. Rydym ni'n gwybod bod pobl eisoes yn dioddef o ganlyniad i argyfwng costau byw'r Torïaid, ac rydym ni hefyd yn ymwybodol mai rhai o'r bobl sy'n byw mewn tai gwarchod yw'r rhannau mwy agored i niwed o'n cymuned. A fyddai modd i Lywodraeth Cymru ystyried sut y byddai modd darparu unrhyw gymorth yma er mwyn sicrhau nad yw rhai o'n pobl fwyaf agored i niwed yn wynebu'r broblem hon o ganlyniad i fethiant y Blaid Geidwadol? Lesley Griffiths AC: Diolch. Fy ateb cychwynnol i'ch cais cyntaf yw fy mod i'n gwybod bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystyried gyda'r bwrdd iechyd fanylion y dyfarniad a gafodd ei gyflwyno er mwyn deall pa wersi ehangach y gallai fod angen eu dysgu. Roedd yn destun pryder mawr clywed yr adroddiad hwnnw yr wythnos ddiwethaf am y ddwy nyrs. O ran eich ail bwynt ynghylch costau y mae pobl sy'n byw mewn llety gwarchod yn eu hwynebu a bod gofyn iddyn nhw roi arian tuag at y gost o wresogi ardaloedd cymunedol, rwy'n gwybod bod y Gweinidog Newid Hinsawdd yn ymwybodol iawn o'r pryderon hyn. Yn amlwg, mae cymdeithasau tai eu hunain dan bwysau ynghylch costau cynyddol, ac mae llety gofal ychwanegol a thai pobl hŷn hefyd dan yr un pwysau â phawb arall. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog yn gweithio'n agos gyda nhw ac wedi gwneud rhai cyhoeddiadau yn ddiweddar. Yn amlwg, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i wneud popeth o fewn ein gallu ni i gefnogi pobl yng Nghymru yn ystod y cyfnod heriol iawn hwn. Sam Rowlands MS: Prynhawn da, Gweinidog. Efallai eich bod chi'n cofio fy mod i, ar 15 Tachwedd, yn ystod y datganiad busnes, wedi galw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn amlinellu costau economaidd llawn cyflwyno'r terfyn cyflymder diofyn o 20 mya yng Nghymru. Gofynnais i am hyn yn sgil llythyr a gafodd pob cynghorydd yng Nghymru gan y Llywodraeth yn amlinellu y byddai'r newid terfyn cyflymder o 20 mya yn arbed tua £100 miliwn i bwrs y wlad yn y flwyddyn gyntaf. Fodd bynnag, methodd ag amlinellu'r gost economaidd i Gymru o tua £4.5 biliwn, sydd o femorandwm esboniadol Llywodraeth Cymru ei hun. Ar 15 Tachwedd, gwnaethoch chi ddatgan, a dyfynnaf: 'Byddaf i'n gofyn i'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd gyflwyno datganiad ysgrifenedig ar y mater hwnnw.' Ers hynny, rydym ni wedi gweld nifer o erthyglau newyddion, gan gynnwys gan y BBC a WalesOnline, yn amlinellu'r ergyd o £4.5 biliwn i'r economi. Felly, tybed, Gweinidog, pryd y dylen ni ddisgwyl gweld y datganiad hwn y gwnaethoch chi ymrwymo iddo ar 15 Tachwedd. Lesley Griffiths AC: Fe wnaf yn sicr fynd yn ôl at yr hyn a ddywedais i wrthych chi ar 15 Tachwedd a siarad â'r Dirprwy Weinidog i weld pryd y gall ef gyflwyno'r datganiad hwnnw. Rhun ap Iorwerth AC: A gaf i ofyn am ddatganiad brys gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am yr ymgynghoriad sy'n digwydd ar hyn o bryd gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, er bod hi'n anodd iawn dod o hyd i wybodaeth am yr ymgynghoriad, ynglŷn â newidiadau sy'n cael eu cynnig i wasanaethau ffrwythlondeb yng Nghymru? Dwi'n ofni, er bod yr ymgynghoriad yn dal i barhau, ac wedi cael ei ymestyn rywfaint, fod yna benderfyniad gwael iawn ar fin cael ei wneud yn fan hyn, allai fod yn niweidiol iawn ac yn gam yn ôl o'r system sydd gennym ni ar hyn o bryd. Ar hyn o bryd, mae merched o dan 40 yn cael dau gylched llawn, a'r cynnig ydy mynd i un, er bod NICE yn argymell tri. Fyddai yna ddim cefnogaeth o gwbl i ferched rhwng 40 a 42 yng Nghymru. Mae yna un gylched ar gael ar hyn o bryd. A dwi hefyd yn ymwybodol bod yna beryglon o ran rhwystrau ychwanegol ar gyfer pobl sengl a chyplau un rhyw hefyd. Rŵan, mi ydyn ni yma mewn peryg fan hyn o gau y drws ar nifer fawr o ferched ar yr adeg pan fyddan nhw fwyaf ei angen o. Mae yna siom, mae yna syndod. Mae rhwydwaith ffrwythlondeb Cymru yn dweud ein bod ni mewn lle da ar hyn o bryd a bod hyn yn hynod o siomedig. Mi ddylem ni fod yn chwilio am ffyrdd o helpu pobl ar eu siwrnai i feichiogrwydd, ond mae'r cynlluniau yma yn sicr yn gam yn ôl. Lesley Griffiths AC: Rwy'n cytuno'n llwyr â chi y dylem ni fod yn darparu'r gefnogaeth honno i unrhyw un sydd eisiau cael teulu, ac yn arbennig pobl sydd wedi cael problemau ffrwythlondeb. Gwnaethoch chi grybwyll bod ymgynghoriad, ac rwy'n ymwybodol bod Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru wrthi'n adolygu'r polisi ac yn ystyried sut i gryfhau'r cymorth sy'n cael ei ddarparu ar gyfer amrywiaeth o gyflyrau iechyd menywod yn ehangach, ond mae hynny'n amlwg yn cynnwys rhan gweithwyr proffesiynol ehangach sy'n ystyried materion ffrwythlondeb. Felly, dydw i ddim yn credu y dylid cael datganiad ar hyn o bryd—. Rwy'n credu y dylem ni aros am yr ymatebion, ond byddwn i'n annog pawb i gyflwyno'u barn. Mark Isherwood AC: Rwy'n galw am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar gymorth Llywodraeth Cymru i bractisau meddygon teulu er mwyn gweithredu'r cytundeb meddygon teulu newydd yng Nghymru, gan ddechrau eleni. Er enghraifft, mae'r unig ystafell ymgynghori, gofod gwaith cyfyng a gorlawn ac ystafell aros gyfyngedig ym meddygfa Hanmer, ger y ffin â sir Amwythig yng ngogledd-ddwyrain Cymru, yn golygu nad yw eu meddyg teulu'n gallu cydymffurfio â'r rheoliadau newydd. Mae ef wedi bod yn ceisio datblygu safle pwrpasol, sy'n addas ar gyfer gofynion yr unfed ganrif ar hugain a'r cynnydd yn y rhwymedigaethau cytundebol gan feddygon teulu sydd eu hangen ar Lywodraeth Cymru ers 2012. Cafodd safle cyfagos ei nodi dros ddegawd yn ôl. Rydym ni'n gwybod bod ymchwiliad i lywodraethiant ac arweinyddiaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cael ei gynnal ar hyn o bryd, ac mae grŵp gweithredu cleifion Hanmer yn dweud bod y newidiadau cyson mewn personél o fewn tîm ardal ddwyreiniol y bwrdd iechyd ac uwch reolwyr gofal sylfaenol wedi arwain at gymylu, camwybodaeth a diffyg dilyniant a llif gwybodaeth ar sefyllfa a ddylai fod wedi cael sylw brys, A'r gwir broblem, yn ôl pob golwg, yw'r diffyg cyfathrebu llwyr gan y Bwrdd Iechyd ac nad ydynt wedi deall y sefyllfa. Mae addewidion wedi'u gwneud ond byth wedi eu cyflawni, yn ôl y sôn—dim gwybodaeth o gyfarfod ar 11 Tachwedd, dim diweddariadau misol, fel y cafodd ei haddo ym mis Tachwedd. Nid oes unrhyw ymgysylltu a dim atebolrwydd o gwbl. Mae hyn yn enghraifft, ac rwy'n galw am ddatganiad brys yn unol â hynny, nid yn unig o ran yr achos hwn ond ar y goblygiadau ehangach i wasanaethau gofal sylfaenol yn y maes hwnnw. Lesley Griffiths AC: Diolch. Wel, fel y cyfeirioch chi ato yn eich cwestiwn, mae yna gytundeb meddygon teulu newydd yn cael ei gyflwyno eleni, ac mae hynny ond yn rhan o'r rhaglen dreigl honno, mewn gwirionedd, o ddiwygio sydd gennym ni yma yng Nghymru o'n gwasanaethau gofal sylfaenol. Efallai eich bod chi'n ymwybodol bod gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gyfarwyddwr gofal sylfaenol newydd, a byddwn i'n eich annog chi i ysgrifennu ati—Rachel Page—i weld, ar yr achos penodol hwnnw, os gall hi ddwyn hynny i gasgliad ffafriol. Gareth Davies AS: Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth y prynhawn yma ar y newyddion bod uwch gynghorwyr sir Ddinbych wedi bod yn cwrdd yn breifat i drafod gostyngiadau mewn ffioedd cartrefi gofal fydd yn mynd â'r hyn y mae'r sir yn ei gynnig yn is na rhai o awdurdodau eraill y gogledd ac yn effeithio ar rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn fy etholaeth. Dywedodd cadeirydd Fforwm Gofal Cymru, Mario Kreft, ac rwy'n dyfynnu: 'Yn lle cuddio y tu ôl i ddrysau caeedig, dylai'r drafodaeth ddigwydd mewn ffordd agored a thryloyw. Does dim rheswm masnachol credadwy pam y dylai'r adroddiad ar y mater hwn gael ei ystyried yn breifat, ond mae'n amlwg bod uwch ffigyrau ar y cyngor, gan gynnwys yr arweinydd...eisiau osgoi craffu priodol gan gyhoedd sir Ddinbych a'r wasg. Mae'n gywilyddus. Beth sydd ganddyn nhw i'w guddio? 'Bydd hyn i gyd yn gwbl ddiystyr oni bai bod cabinet sir Ddinbych yn gwrthdroi'r brad dirmygus hwn o bobl agored i niwed ac yn penderfynu talu ffioedd teg o'r diwedd sy'n galluogi cartrefi gofal i ddarparu gofal cynaliadwy a gwobrwyo staff rheng flaen ymrwymedig â chyflogau gwell.' Ychwanegodd, 'Os yw sir Ddinbych yn methu â gwneud y peth iawn y tro hwn, dylai'r cabinet ymddiswyddo yn gyfan gwbl a chywilyddio, oherwydd dyma wahaniaethu yn erbyn pobl â dementia sydd heb lais.' Aeth ymlaen i ddweud, 'Rwy'n deall bod gan rai unigolion uchelgeisiau gwleidyddol personol, ond mae cuddio y tu ôl i len o gyfrinachedd yn gwbl annerbyniol pan fo'r canlyniad tebygol yn mynd i roi pwysau ariannol arall gyda threth lechwraidd ar deuluoedd cariadus.' Ydy Llywodraeth Cymru'n cytuno â sylw Mr Kreft? Lesley Griffiths AC: Fe wnaethoch chi alw am ddatganiad brys, a dydw i ddim o'r farn y byddai hynny'n briodol. Mater i Gyngor Sir Ddinbych yw hwn. Yr hyn y byddwn i'n cytuno ag ef yw mai bod â chymaint o dryloywder â phosibl, rwy'n credu, yw'r ffordd ymlaen i bob awdurdod lleol yng Nghymru o ran gwneud eu penderfyniadau. Diolch i'r Trefnydd. 3. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Llifogydd Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar lifogydd, a dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad—Julie James. Julie James AC: Diolch, Llywydd. Dros yr wythnos ddiwethaf, mae glaw trwm parhaus wedi effeithio ar Gymru. Mewn rhai mannau, fe welsom ni dros chwe wythnos o law yn ystod pythefnos cyntaf y flwyddyn. Disgynnodd hwnnw ar dir a oedd eisoes yn ddirlawn, gan gynyddu dŵr ar yr wyneb, gan arwain at lefelau uchel iawn yn yr afonydd ledled Cymru. Ers dydd Mercher, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi 50 o rybuddion llifogydd a 95 rhybudd llifogydd. Dyna fwy o dystiolaeth eto bod ein tywydd ni'n mynd yn fwyfwy cyfnewidiol ac oherwydd newid hinsawdd y mae hynny. Mae digwyddiadau glaw yn mynd yn fwy difrifol a dwys, ac maen nhw'n digwydd yn fwy rheolaidd. Yn anffodus, rydym ni wedi cael adroddiadau bod llifogydd wedi effeithio ar 84 o dai, yn ogystal ag effeithiau ar y rheilffyrdd a'r ffyrdd. Mae llifogydd yn brofiad dirdynnol i drigolion, perchnogion busnesau a chymunedau yn gyffredinol, ond yn enwedig felly i berchnogion tai sydd wedi gweld eu cartrefi yn gorlifo â dŵr. Mae fy meddyliau, a meddyliau fy nghydweithwyr, gyda phawb yr effeithiwyd arnyn nhw. O dan y fath amgylchiadau, rwy'n erfyn ar berchnogion tai i wirio eu hyswiriant eto ac ymchwilio i'r risg o lifogydd i'w tŷ. Fe wyddom ni fod lefelau dealltwriaeth a pharodrwydd yn amrywio yn fawr ymysg ein cymunedau. Mae hi'n bwysig bod pob preswylydd yn gwybod ble i gael gafael ar wybodaeth am lifogydd, fel tudalennau gwe 'gweld eich risg llifogydd' Cyfoeth Naturiol Cymru, ac rydym ni'n parhau i weithio gyda'n hawdurdodau rheoli risg i gynyddu ymwybyddiaeth am lifogydd. Ond er bod effeithiau wedi bod, fe ddylem ni gadw mewn cof y gallai'r llifogydd fod waeth o lawer heb ymdrechion y gwasanaethau brys, awdurdodau lleol, staff CNC, asiantaethau trafnidiaeth, a gwirfoddolwyr. Mae hi'n hawdd anghofio weithiau, ond mae ein seilwaith ni i gyd yn ddibynnol ar bobl i'w gynnal a'i gadw'n weithredol, yn enwedig yn ystod y tywydd garw. Heb eu hymdrechion nhw, fe allai'r effeithiau i'n cymunedau ni fod yn llawer gwaeth. Ar ran y Llywodraeth, rwyf i am ddiolch o galon i bawb a helpodd yn yr ymateb i'r digwyddiadau diweddar. Ond mae hi'n bwysig cofio hefyd nad ymateb i lifogydd yn unig mae'r awdurdodau rheoli risg. Maen nhw'n gweithio trwy'r amser i wella ein seilwaith rheoli perygl llifogydd, gan fuddsoddi mewn cynlluniau newydd a gefnogir gan gyllid Llywodraeth Cymru, gan weithio yn barhaus i rymuso ein hasedau hanesyddol ni. Mae'n rhaid iddyn nhw ymdrin hefyd ag etifeddiaeth ein treftadaeth lofaol, megis tomenni glo segur, yn wyneb perygl cynyddol newid hinsawdd. Yn ystod y tymor Seneddol blaenorol, fe fuddsoddodd Llywodraeth Cymru £390 miliwn mewn rheoli risg llifogydd ac erydu arfordirol. Mae hyn wedi helpu i leihau'r risg o lifogydd i dros 47,000 o dai, drwy greu a rheoli seilwaith a fyddai wedi cael ei brofi yn ystod yr wythnosau diwethaf. Fe fyddwn ni'n ymdrechu bob amser i wneud rhagor. Mae gan ein rhaglen lywodraethu nod eglur ac uchelgeisiol: fe fyddwn ni'n darparu amddiffyniad ychwanegol rhag llifogydd i dros 45,000 o gartrefi yng Nghymru. Nid tasg rwydd fydd honno, ac mae angen buddsoddiad sylweddol ynddi. Wrth i ni geisio cyrraedd y nod hwn, rwy'n falch o gadarnhau bod ein rhaglen rheoli risg arfordirol yn parhau i gyflawni ar gyflymder. Mae gennym ni bum cynllun arfordirol sy'n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd, ym Mhorthcawl, Bae Colwyn, Bae Penrhyn, Aberdyfi a'r Mwmbwls. Dyfarnwyd cyllid adeiladu i ddau gynllun arall yn y Rhyl a Phrestatyn, sef cyfanswm o £92 miliwn, ac fe fyddwn ni'n gweld chwe chynllun arall yn nesáu at y gwaith adeiladu dros y flwyddyn nesaf, gan gynnwys Caerdydd, Aberaeron a Bae Hirael. Nid dim ond buddsoddi mewn cynlluniau mawr yr ydym ni. Eleni, fe dderbyniodd ein grant gwaith ar raddfa fach 90 o wahanol geisiadau, sef cyfanswm o £3.8 miliwn. Mae'r cynllun yn rhoi arian i awdurdodau lleol fynd i'r afael â phroblemau llifogydd sydd o faint llai, a mwy ar wahân. Rydym ni'n amcangyfrif y bydd 3,100 o dai yn elwa ar y cyllid grant hwn. Rydym ni'n cynyddu ein buddsoddiad mewn rheoli risg llifogydd naturiol hefyd. Un o'n rhaglenni ar gyfer ymrwymiadau'r llywodraeth oedd darparu atebion ar sail y byd naturiol ym mhob un o brif ddalgylchoedd yr afonydd. Rydym ni'n buddsoddi mwy na £3 miliwn trwy ein rhaglen rheoli llifogydd yn naturiol, wrth i ni geisio defnyddio prosesau naturiol i storio, arafu ac ymdreiddio dyfroedd llifogydd i leihau perygl llifogydd. Rydym ni'n amcangyfrif y bydd hynny o fudd i tua 800 o dai, gan ddarparu buddion llawer ehangach hefyd megis gwell ansawdd dŵr, cynefinoedd bywyd gwyllt a rheoli tir mewn ffyrdd amgen. O ran diogelwch tomenni glo, rydym yn parhau i ddarparu rhaglen waith ar y cyd â'n partneriaid. Rydym wedi ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth newydd yn ystod y Senedd hon i sefydlu dull cyson o reoli, monitro a goruchwylio tomenni segur ledled Cymru. Fe fydd hyn yn helpu i ddiogelu cymunedau a sicrhau bod pobl yn gallu teimlo yn ddiogel yn eu cartrefi eu hunain. Rydym ni'n parhau i gomisiynu'r Awdurdod Glo i archwilio tomenni glo segur ystyriaeth uwch. Mae'r bumed rownd o arolygiadau ar y gweill ar hyn o bryd. Mae gennym ni raglen ariannu ar waith i gefnogi awdurdodau lleol i wneud unrhyw waith cynnal a chadw a chyfalaf a nodwyd o'r rhaglen arolygu. Er enghraifft, mae ein cyllid ni'n cefnogi gwaith adfer tipiau Rhondda Cynon Taf ar domen Pendyrus. Ac wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ei fod wedi dechrau ar y gwaith o wella rheolaeth draeniad dŵr wyneb yn nhomen Aberllechau. Ac nid ydym ni'n llaesu dwylo. Er ein bod ni'n buddsoddi mewn cynlluniau llifogydd newydd yn gyson, rydym ni'n gwybod ei bod hi'n rhaid i ni ddysgu oddi wrth bob achos o lifogydd. Mae hyn oherwydd ein bod ni'n ceisio gwella ein ffyrdd ni o weithio trwy'r amser. Mae pwyllgor llifogydd ac erydu arfordirol annibynnol Cymru, dan gadeiryddiaeth Mr Martin Buckle, wedi bwrw ymlaen â dau wahanol adolygiad rhagnodol ar gyfer ein strategaeth genedlaethol i reoli perygl llifogydd ac arfordirol. Roedd yr adolygiad cyntaf o'r farn fod heriau o ran adnoddau yn wynebu ein hawdurdodau rheoli risg ni. Roedd yr adolygiad yn canfod bod y sector rheoli risg llifogydd, er gwaethaf buddsoddiad parhaus, yn gweld bwlch o ran sgiliau. Roedd y bwlch sgiliau hwn yn amlwg yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae'r adroddiad yn cynnwys argymhellion ynglŷn â sut y gellir mynd i'r afael â'r mater hwn, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r pwyllgor i ddatblygu dewisiadau i fynd i'r afael â'r her hon. Roedd ail adolygiad y pwyllgor ynghylch ddeddfwriaeth bresennol sy'n rhoi sail i'n polisi rheoli perygl llifogydd ni. Mae natur eithafol stormydd 2020-21 wedi cynyddu'r ddadl ynghylch cyflawni, yn enwedig o ran swyddogaethau a chyfrifoldebau. Rwy'n cydnabod bod y ddeddfwriaeth ynglŷn â rheoli risg llifogydd yn gadarn, ond nid yw hi'n berffaith. Rwyf i am barhau i weithio gyda'r pwyllgor ar unrhyw welliannau posibl y gellir eu gwneud nhw wrth i ni geisio mynd i'r afael â'r heriau a achosir gan newid hinsawdd. Llywydd, mae hon wedi bod yn wythnos heriol i'r holl bobl a mudiadau sy'n gweithio i'n cadw ni'n ddiogel rhag llifogydd, ond yn arbennig i'r deiliaid tai a'r busnesau hynny yr effeithiwyd arnynt. Rwy'n meddwl amdanyn nhw ar hyn o bryd. Diolch. Janet Finch-Saunders. Janet Finch-Saunders AC: Diolch, Llywydd, a blwyddyn newydd dda. Nid yw Cymru, wrth gwrs, ar ei phen ei hun yn cael ei tharo yn galed iawn wrth i newid hinsawdd barhau i waethygu, ac mae hynny, i bob pwrpas, yn achosi llawer o'r problemau y gwnaethoch chi eu crybwyll o ran llifogydd. Dim ond wythnos diwethaf, ar un noson yn unig, fe gyhoeddwyd cyfanswm o 27 o rybuddion llifogydd a 43 o rybuddion llifogydd wrth i gaeau orlifo gan gau llawer o'n ffyrdd. Fel dywedodd Dr Paul Jennings ddydd Sul, 'Mae ein ffyrdd, rheilffyrdd a'n haneddiadau ni'n echrydus o annigonol i wynebu'r heriau sydd o'n blaenau ni'. Ni ellir amau'r buddsoddiad sylweddol sydd wedi bod. Rhwng 2016 a 2021, fe fuddsoddodd Llywodraeth Cymru £390 miliwn i helpu i reoli'r perygl o lifogydd, a'r flwyddyn ariannol hon mae hi'n wir fod cyllid refeniw ar gyfer rheoli risg llifogydd a refeniw dŵr BEL wedi cynyddu tua £12 miliwn, tra bod cyllid cyfalaf wedi cynyddu £21 miliwn. Er hynny, mae Andrew Morgan, arweinydd cyngor Rhondda Cynon Taf, wedi dweud yn blaen iawn fod angen buddsoddiad mwy cynaliadwy erbyn hyn, gan fod yr ymateb i ddigwyddiadau llifogydd bellach yn cael effaith ddinistriol yn uniongyrchol ar adnoddau'r cynghorau. Mae hyn wedi gwneud y gost o beidio â gwneud y buddsoddiad hwnnw'n amlwg iawn. Cafodd dros 20 o dai eu gorlifo, yn anffodus, oherwydd ceuffos yn methu ag ymdopi â swm y dŵr, oherwydd malurion a gafodd eu golchi i lawr o'r mynyddoedd. Felly, mae'n hynny'n amlygu eu bod nhw'n dal i fod ag angen am y buddsoddiad hwnnw. Mae Rhondda yn enghraifft wych o'r sefyllfa sydd gennym ni yng Nghymru y mae angen ei gwyrdroi. Tra bod dros £14 miliwn wedi cael ei wario ar uwchraddio seilwaith yn Rhondda Cynon Taf ers storm Dennis yn 2020, mae £20 miliwn wedi cael ei wario ar atgyweirio ar ôl stormydd dros yr un cyfnod. Nawr, yn y pwyllgor newid hinsawdd, rydyn ni wedi gwneud hyn yn eglur iawn mewn sawl adroddiad. Fe ddylai Llywodraeth Cymru newid ei dull o ddyrannu refeniw ar gyfer awdurdodau lleol ac ystyried y perygl presennol o lifogydd a'r hyn a ragamcanir yn y dyfodol. Felly, Gweinidog, a wnewch chi egluro y bydd dyraniad refeniw ar gyfer awdurdodau lleol yn 2023-24 ar sail risg llifogydd ar hyn o bryd a risg a ragwelir? Mae wyth mis wedi bod erbyn hyn ers cyhoeddiad adolygiad annibynnol o achosion llifogydd ledled Cymru yn ystod gaeaf 2021. Yr Athro Elwen Evans KC sydd â'r gorchwyl o sefydlu canfyddiadau allweddol, rhannu pryderon, y gwersi a ddysgwyd, llwyddiannau ac arfer da, yn ogystal â nodi meysydd ar gyfer gwelliant. Felly, a yw'r Athro Evans wedi dweud pa bryd y daw'r adolygiad i ben, ac a yw hi wedi rhoi unrhyw argymhellion rhagarweiniol i Senedd Cymru eu hystyried nawr? Yn ddiamau, fe geir gwersi y gallwn ni i gyd ddysgu ohonyn nhw a mesurau y mae'n rhaid i bob un ohonom ni gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb amdanyn nhw. Eto i gyd, mae angen i ni gael gweld yr adolygiad hwnnw. Mae gennym ni gannoedd o gyrsiau dŵr cyffredin ledled Cymru lle nad oes gan berchnogion glannau afon syniad o gwbl beth yw eu cyfrifoldebau nhw'n unigol. Yn wir, yn fy etholaeth fy hun, mae darnau o dir ar lan yr afon heb unrhyw berchnogion dynodedig o gwbl. Felly, fe gaiff cyfrifoldebau am lannau afonydd eu hanwybyddu. Mae perygl o anwybyddu llednentydd a nentydd. Ond, fel gwyddom ni yn Aberconwy, fe allai'r rhain fod yn achosi rhai llifogydd gwir ddinistriol. Felly, pa gamau a fyddwch chi'n eu cymryd i sicrhau y bydd pob perchennog glannau afon yn cael ei nodi a'u bod nhw'n gwybod beth yw eu dyletswyddau a bod eu dyletswyddau'n cael eu cynnal? Yn olaf, fel gwyddoch chi, mae Llywodraeth Cymru wedi gwario £4.25 miliwn ar Fferm Gilestone. Gyda dewrder, fe wnaeth fy nghyd-Aelod yn y Senedd James Evans ffilmio tystiolaeth uniongyrchol o'r safle mewn storm, sydd yn dangos ei fod bron yn llwyr dan ddŵr erbyn hyn. Felly, Gweinidog, a wnewch chi esbonio sut ar wyneb y ddaear y gall hi fod yn ddiogel i Lywodraeth Cymru gynnal digwyddiadau yno ac, yn eich gwaith chi o'i gaffael—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gen i, gyda'r Gweinidog yr wyf i'n siarad, nid gyda'r Dirprwy. Ac a ystyriwyd y perygl o lifogydd ar unrhyw adeg cyn i chi wneud buddsoddiad o'r fath. Diolch, Llywydd. Julie James AC: Diolch i chi, Janet. Felly, o ran materion y gyllideb, fe allaf ddweud wrthych chi fod effaith y buddsoddiadau a wnaethom ni wedi bod yn sylweddol iawn. Er enghraifft, yn ystod y glaw trwm diweddaraf, roedd yr amddiffynfeydd llifogydd yn Rhondda Cynon Taf, yr oeddech chi'n cyfeirio atyn nhw, yn atal llifogydd i dros 800 o gartrefi. Yn ddiweddar, ar eu pennau eu hunain, gwnaeth cynlluniau amddiffyn Park Lane, Aberdâr, a Nant y Pentre leihau'r risg i dros 320 o dai, a rhoddodd yr amddiffynfeydd yn Rhydyfelin, Abercynon ac Aberpennar amddiffyniad i 133, 123 a 144 o dai yn y drefn honno. Cynorthwyodd y llifddorau hefyd wrth leihau'r risg i eiddo yn Stryd Edward yn Ystrad Mynach a nifer o rai eraill. Fe fyddwn ni'n buddsoddi dros £71 miliwn mewn rheoli peryglon o lifogydd ac arfordirol eleni, sef y swm blynyddol mwyaf erioed, ac mae cyfanswm y gyllideb gyfalaf tair blynedd o £102 miliwn yn ein galluogi ni i gynllunio ein buddsoddiad ni'n well. Ond, diwedd y gân, Janet, yw pe na fyddai raid i ni dalu am raglen ddiogelwch y tomenni glo, sy'n gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU, fe fyddai gennym ni gannoedd lawer o filiynau o bunnoedd yn rhagor. Felly, y peth gorau y gallech chi ei wneud i'ch etholwyr a phobl Cymru yw cael y Llywodraeth ar lefel y DU, sy'n cael ei rhedeg gan eich plaid chi, i wneud ei dyletswyddau gwirioneddol ddifrifol—gwirioneddol ddifrifol—o ran ei rhwymedigaethau i amddiffyn holl bobl y DU rhag anawsterau oherwydd peryglon tomenni glo. Mae'r tomenni glo hyn yn waddol ein gorffennol diwydiannol cyffredin ni, nid i Lywodraeth ddatganoledig Cymru. Gwarth o beth yw nad yw Llywodraeth y DU yn gwneud felly, ac rwy'n rhyfeddu atoch yn ddweud wrthyf i y dylem ni symud cyllideb o rywle arall pan fo'n rhaid i ni dalu am raglen y dylai Llywodraeth y DU fod yn talu amdani yn gwbl amlwg. Felly, nid wyf i am gymryd unrhyw wersi oddi wrthych chi ynglŷn â sut i lunio cyllidebau, ar gyfer hyn nac unrhyw beth arall. O ran yr ymholiadau, mae hynny'n rhan o'n cytundeb cydweithredu gyda Phlaid Cymru. Mae honno'n sgwrs sy'n parhau. Mae'n rhaid i Elwen Evans allu cwblhau ei hymchwiliad wrth iddo fynd rhagddo. Yn ddiamau, fe fydd llefarydd Plaid Cymru yn awyddus i ymhelaethu eto ar hynny, Llywydd, felly ni fyddaf i'n manylu ar hynny o gwbl. Wel, amseru da. Heledd Fychan. Heledd Fychan AS: Diolch Llywydd. Rwy'n croesawu datganiad heddiw gan y Gweinidog, ac yn arbennig, rwy'n meddwl am bob un sydd wedi dioddef difrod yn sgil lifogydd. I unrhyw rai ohonom ni sydd wedi gweld hynny'n uniongyrchol, mae'n beth cwbl ddinistriol. Ac, mae yna bobl y mae hyn wedi digwydd iddyn nhw dro ar ôl tro. Wythnos diwethaf, effeithiwyd ar ddau dŷ yn fy rhanbarth i ddwy waith—ddydd Iau a dydd Sadwrn—ac mae hynny'n gwbl anrheithiol. Felly, rwy'n credu bod pob un o'r datganiadau a wnaf i heddiw yn cael eu gwneud gyda'r bobl hynny mewn cof nad ydyn nhw'n gallu cysgu nawr bob tro mae hi'n glawio yn drwm—am y pryder hwnnw. A'r busnesau hynny hefyd nad ydyn nhw'n gallu cael yswiriant, a thrigolion nad ydynt yn gallu fforddio yswiriant, i bob pwrpas, er gwaethaf Flood Re a chynlluniau o'r fath. Heledd Fychan AS: Fe hoffwn i ofyn nifer o gwestiynau, os gwelwch chi'n dda, Gweinidog, oherwydd fel rydym ni wedi dweud, mater yw hwn a fydd yn parhau i effeithio ar gymunedau ledled Cymru oherwydd yr argyfwng hinsawdd. Nid rhywbeth yw hyn sy'n peri pryder i'r dyfodol, ond tystiolaeth o newid hinsawdd a'i effaith nawr. Ac mae'n rhaid i ni wneud mwy, rwy'n credu, i gefnogi'r rhai sy'n byw mewn cymunedau sydd mewn perygl. Roeddech chi'n cyfeirio at yr adolygiad annibynnol yn hytrach na'r ymchwiliad. Mae yna wahaniaeth; fe wnes i frwydro yn galed iawn am ymchwiliad, ond roeddwn i'n falch ein bod ni wedi gallu sicrhau adolygiad o leiaf. Ond fe hoffwn i gael eglurder, Gweinidog, o ran sut y bydd cynrychiolwyr etholedig yn gallu cyflwyno tystiolaeth o ran yr adolygiad hwnnw. Rwyf i o'r farn ei bod hi'n hanfodol bod y gwaith yn symud yn ei flaen, ac rwy'n gwybod am gymunedau yr effeithiwyd arnyn nhw unwaith eto. Wrth gwrs, fe fydd rhai o'r rhain a gafodd eu effeithio'n ofnadwy yn 2020 a 2021 yn awyddus i gyflwyno tystiolaeth fwy diweddar, yn enwedig pan fo gwaith wedi bod, ond hwnnw efallai heb fod yn llwyddiant. Yn ail, fe hoffwn i ofyn—. Yn dilyn llifogydd dinistriol 2020, fe bwysleisiodd eich rhagflaenydd yr angen am sgwrs genedlaethol a bod mwy o gefnogaeth ar gael i gymunedau allu bod yn fwy cadarn. Fe hoffwn i ofyn: ble mae'r gefnogaeth uniongyrchol honno? Oherwydd profiad cymunedau yr wyf i wedi bod yn siarad â nhw ledled Cymru yw ei bod, am y tro, i raddau helaeth, yn gyfrifoldeb arnyn nhw, lle mae gennych chi bobl sy'n rhagweithiol iawn neu sydd ag arbenigedd yn y maes hwn, sy'n gallu arwain hynny wrth wirfoddoli. Fe geir rhai cynlluniau effeithiol iawn ar waith gyda grwpiau sy'n gweithredu o ran llifogydd, ond mewn rhai cymunedau sy'n fwy agored i niwed efallai nad yw'r arbenigedd hwnnw yno, maen nhw'n teimlo eu bod nhw'n cael eu gadael yn amddifad o'r cymorth hwnnw. A rhywbeth a gafodd ei amau ar y pryd oedd, ydym, rydym ni'n cytuno bod angen sgwrs genedlaethol, ond na fyddwn ni'n gallu diogelu pob cartref a busnes, yn anffodus, ond sut mae cael y sgwrs genedlaethol honno, a phwy sy'n mynd i arwain y sgwrs honno? Oherwydd ddwy flynedd yn ddiweddarach, nid yw honno wedi digwydd, ac rwyf i o'r farn fod angen honno arnom ni ar fyrder. Mae ein plaid ni wedi cyfeirio o'r blaen at yr angen am fforwm llifogydd Cymru pan welwn ni fforwm llifogydd cenedlaethol yn Lloegr, a fforwm llifogydd yn yr Alban, a'r hyn y maen nhw'n ei wneud yw mynd i gymunedau i helpu i sefydlu pethau fel grwpiau gweithredu llifogydd a darparu ymateb brys fel hyn ar lawr gwlad. Mae hynny'n cynnwys cwnsela, cefnogaeth a chyngor ynghylch tai a phob math o bethau eraill, oherwydd yr hyn yr ydym ni'n ei weld hefyd nawr efallai mewn llawer o'r cymunedau yr effeithiwyd arnynt yn 2020 a 2021 yw'r effaith, oherwydd na chafodd cartrefi pobl eu sychu yn briodol; nid oedd pobl yn gallu fforddio hynny oherwydd nad oedd ganddyn nhw yswiriant, ac mae hynny'n creu problemau iechyd enfawr o ran clefydau anadlol. Felly, mae'r angen hwnnw, rwy'n credu, ar lawr gwlad i fod ag ymateb sy'n uniongyrchol. Felly, fe hoffwn i wybod am y sefyllfa o ran y sgwrs genedlaethol honno, pwy fydd yn arwain honno, a sut fydd honno'n hwyluso'r cadernid hwnnw wedyn. Oherwydd rwyf i o'r farn nad yw ailadrodd 'mae angen i gymunedau fod yn fwy cadarn' mewn gwirionedd yn eu helpu nhw o ran bod yn fwy cadarn, ac nid wyf i'n credu y byddai'n cymryd llawer o gyllid o ran y gefnogaeth honno. Pwynt arall yr hoffwn ei godi yw'r hyn yr oeddech chi'n cyfeirio ato o ran bwlch sgiliau, ac fe gafodd hynny ei bwysleisio hefyd gan Archwilio Cymru yn eu hadroddiad a gyhoeddwyd cyn y Nadolig. Yn bryderus iawn, roedd yr adroddiad hwnnw'n dweud nad yw rhai awdurdodau lleol hyd yn oed yn gallu cyflwyno ceisiadau am y cyllid sydd ar gael, oherwydd nad oes ganddyn nhw'r staff na'r arbenigedd i ddatblygu'r ceisiadau hynny. Roedd Archwilio Cymru yn pwysleisio, felly—peth anghyffredin iawn i'w ddweud yn y Senedd—nad mater o ran diffyg cyllid ar gael yw hwn; mae'r arian ar gael, ond nid yw awdurdodau lleol yn gallu gwneud cais am yr arian oherwydd y bwlch sgiliau. Ac yn bryderus hefyd, nid yw pob awdurdod lleol ledled Cymru yn gallu gweithredu'r cynlluniau ychwaith, sy'n golygu nad ydyn nhw'n gallu manteisio ar y cyllid trwy'r cytundeb cydweithredu. Felly, sut rydym ni am fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau yr ydych chi'n cyfeirio ato yma? Ond, pan fyddwn ni'n cael ein diweddaru yn y Senedd, ac a ydym ni'n sicr bod gan Cyfoeth Naturiol Cymru'r niferoedd o staff i ymdrin â llifogydd? Roedden nhw'n crybwyll, ar ôl llifogydd 2020, bod angen o leiaf 70 aelod arall o staff eto. A oes sicrwydd gennym ni fod y staff ganddyn nhw yn eu lle, a sut fyddwn ni'n sicrhau ein bod nhw'n gwneud popeth posibl i sicrhau nad oes neb yn profi llifogydd yn ddiangen? Diolch. Julie James AC: Diolch, Heledd. Dim ond o ran yr adolygiad, a oedd yn rhan o'r drafodaeth a fu rhyngom ni, fe geir nifer o wahanol fathau o adolygiad yn digwydd ar hyn o bryd. Fe gyfeiriais i at y ddau gan y pwyllgor llifogydd ac erydu arfordirol, er enghraifft. Felly, mae adolygiad yr Athro Elwen Evans KC yn dilyn patrwm darnau eraill o waith sy'n digwydd, felly dim ond ar gyfer tawelu meddyliau nad y bwriad yw i hwnnw gwmpasu popeth, ac fe wn i eich bod chi'n gwybod hynny. Fe fydd hi'n ysgrifennu at gynrychiolwyr etholedig perthnasol yn gofyn iddyn nhw am fewnbwn ar gam priodol yn ei hadolygiad hi. Mae'n rhaid i ni ganiatáu iddi hi fwrw ymlaen, mae'r adolygiad yn annibynnol, yn amlwg, er iddo gael ei gomisiynu ar y cyd rhyngom ni yn unol â'r cytundeb cydweithredu. Rwy'n rhagweld na fydd hi'n cymryd llawer mwy i hwnnw ddod nawr, a mater iddi hi yw sut y bydd hi'n gwneud hynny, er bod y cylch gwaith yn eglur iawn ei bod hi'n ofynnol iddi wneud hynny. Fe fyddwn i'n synnu'n fawr yn wir pe na fyddai ardal y Rhondda yn rhan o'r adolygiad hwnnw, oherwydd yn amlwg dyna ble roedd llawer o'r llifogydd diweddar iawn, ac mae hwn yn adolygiad yr ydym ni'n awyddus i ddysgu gwersi ohono, nid dim ond o'r gorffennol yn unig, ond trwy'r amser. Rwy'n siŵr y bydd yna ardaloedd eraill yng Nghymru yr effeithiwyd arnyn nhw sawl gwaith y bydd angen eu trafod gyda chynrychiolwyr etholedig yn y mannau hynny. Felly, rwy'n rhagweld y bydd hynny'n digwydd yn fuan. Nid oes gennyf i ddyddiad gwirioneddol yma—wel, ni wn i am y dyddiad gwirioneddol, mater iddi hi yw hwnnw, ond, yn sicr fe drafodwyd hynny gyda'r Aelod dynodedig a minnau at y diben hwn, felly rwy'n siŵr bod yr adolygiad ar ei ffordd. Yr hyn yr ydym ni'n dymuno ei wneud yw dysgu gwersi o'r setiau hynny o adolygiadau ynglŷn â sut mae pethau yn gweithio ar lawr gwlad a pha welliannau fydd eu hangen. Rydym ni'n gwybod y bydd angen gwelliannau, ni fyddem wedi gofyn am adolygiadau pe byddem ni'n credu bod popeth yn rhagorol. Felly, fe fyddwn ni'n dymuno edrych ar y rhain, pori drostyn nhw a chyflwyno cyfres o welliannau wedyn. Un o'r pethau yr ydym ni'n eu hystyried yw'r holl fater hwn o ymwybyddiaeth am lifogydd, felly, unwaith eto, fe hoffwn i roi teyrnged i'r bobl sydd wedi bod allan ym mhob tywydd ledled Cymru o bob un o'r gwasanaethau ymatebwyr, yn cynnwys CNC. Rwy'n credu ein bod ni'n anghofio rhywfaint o'r adnodd gwirioneddol a welwn ni yn yr afon, sef yr ymyrraeth, yn gofyn i'r bobl hyn fod allan yn sicrhau ei fod yn gweithio. Felly, fe hoffwn ni wneud yn siŵr ein bod ni'n cydnabod anhawster eu hamodau gwaith. Ond hefyd, peth torcalonnus yw cael llifogydd yn eich cartref, heb sôn am i'r peth ddigwydd ddwywaith mewn tridiau. Rydym ni'n llwyr gydnabod hynny, a dyna pam mae'r rhaglen fuddsoddi fawr hon gennym ni, ac, unwaith eto, mae gennym ni gytundeb yn y cytundeb cydweithredu i sefydlu'r rhaglen risg arfordirol—mae'n ddrwg gen i, rwyf wedi mynd yn grug yn sydyn, esgusodwch fi—ac mae hynny i'w groesawu yn fawr. Yr hyn sy'n dda iawn i'w weld, yn yr ymateb sy'n dod gan yr awdurdodau lleol y tro hwn, yw bod y tai a amddiffynnwydwedi cael eu diogelu. Felly, nid yw hi fel pe bai hynny heb weithio, dim ond bod llifogydd yn gwaethygu, felly mae mwy o dai eto yn cael eu nodi mewn ardaloedd lle ceir llifogydd. Ond roedd y rhai a oedd mewn perygl y tro diwethaf ac a gafodd yr amddiffynfeydd rhag llifogydd wedi cael eu diogelu, felly mae hynny'n rhywbeth i fod yn ddiolchgar amdano, er, fel rydym ni'n ei weld, mae newid hinsawdd yn cyflymu, felly mae angen i ni ehangu'r rhaglen hon. Nid oes gennyf i unrhyw broblem o gwbl gyda'r awgrym ynglŷn ag edrych ar grwpiau gweithredu llifogydd, dim ond dweud ein bod ni'n aros am ganlyniadau'r adolygiad ar gyfer mynd trwyddyn nhw, ac rwy'n siŵr y bydd hwnnw'n un o'r pethau y byddwn ni'n rhoi ystyriaeth iddyn nhw. Mae'r bwlch sgiliau yn rhywbeth yr ydym ni wedi bod yn ei ystyried hefyd, fel yswiriant. Fe wnaeth Vaughan Gething a minnau gyfarfod i drafod materion yswiriant, yn enwedig yswiriant masnachol, yn ddiweddar iawn. Rwy'n credu efallai mai ddoe oedd hi, ond mae fy synnwyr i o amser yn ofnadwy, efallai mai echdoe oedd hi—wel, nid echdoe a fyddai hi chwaith, felly mae'n debyg mai dydd Llun neu ddydd Gwener oedd hi, beth bynnag am hynny. Rydym ni am fynd at Lywodraeth y DU i drafod sefydlu cynllun tebyg ar gyfer busnesau, er y byddai hynny'n fwy cymhleth ar gyfer eiddo masnachol. Rwy'n pesychu yn sydyn, heb wybod pam. [Torri ar draws.] Felly, rwy'n rhannu eich pryderon chi ac yn awyddus i'ch sicrhau chi ein bod ni'n gwneud yr hyn y gwnaethoch chi ofyn yn ei gylch. Mae'n ddrwg gen i. Jayne Bryant AC: Diolch i chi am y datganiad hwn, Gweinidog. Ym mis Rhagfyr, lansiodd y Groes Goch ei adroddiad newydd, 'Every time it rains', a oedd yn tynnu sylw at yr angen i wneud mwy i gefnogi cymunedau i baratoi yn well ar gyfer llifogydd ac adfer ohonyn nhw. Mae'r adroddiad yn codi sawl pwynt, ond y mwyaf pryderus yn fy marn i oedd y canfyddiadau bod ymwybyddiaeth o berygl llifogydd ymhlith y rhai sy'n byw mewn ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd yn isel, fel rydych chi wedi sôn, Gweinidog. Mae diffyg ymwybyddiaeth yn effeithio ar lawer o aelwydydd o ran bod ag yswiriant llifogydd sy'n annigonol ac yn arwain pobl i ddiffyg ymwybyddiaeth o'r camau y gallan nhw eu cymryd i baratoi ar gyfer y sefyllfa waethaf bosibl. Mae gan rai cymunedau, fel Pentref Afon yn fy etholaeth i, grwpiau o wirfoddolwyr llifogydd, sy'n helpu i dynnu sylw trigolion at berygl llifogydd, a chysylltu ag awdurdodau ar rwystrau mewn afonydd a rhoi gwybodaeth ynglŷn â'r hyn i'w wneud gyda phethau gwerthfawr, ymhlith llawer o bethau eraill. Rydym ni wedi gweld, dros y blynyddoedd diwethaf, bod llifogydd a thywydd eithafol yn dod yn gynyddol arferol, ac fe all y gost emosiynol ac ariannol ar ôl digwyddiad dinistriol fod yn enbydus, felly fe ellid rhoi'r adnoddau mewn sefyllfa well o ran meithrin cadernid yn y man cychwynnol. Felly, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod y rhai sy'n byw mewn ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd yng Nghymru yn gwybod beth i'w wneud i baratoi ar gyfer llifogydd? Rydych chi wedi sôn am yr adolygiad, ond beth arall y gellir ei wneud i annog grwpiau llifogydd gwirfoddol i ehangu er mwyn cynnwys mwy o gymunedau sydd mewn perygl erbyn hyn? Julie James AC: Diolch i chi, Jayne. Fe fyddaf i'n cwrdd â'r Groes Goch Brydeinig yn fuan iawn i drafod eu hadroddiad gyda nhw; mae gennym ni ddiddordeb mawr yn y canfyddiadau. Ac yn wir, mae gennym ni ddiddordeb mewn gweithio gyda phob grŵp yn iawn ledled Cymru sydd â rhywbeth i'w ychwanegu at y cynllun gweithredu hwn, mewn gwirionedd, oherwydd nid oes unrhyw ddadl gan unrhyw un ohonom ni ynglŷn â'r angen i ni wneud hyn mor gyflym â phosibl, ac mae angen i ni ddefnyddio pob un ysgogiad sydd gennym i sicrhau bod pobl mor ymwybodol o lifogydd ag y gallan nhw fod, a'u bod nhw, os ydyn nhw'n cael llifogydd, yn deall yn union beth i'w wneud i adfer mor gyflym â phosib a phwy i ofyn iddyn nhw am gefnogaeth. Ond mae angen i hynny fod yn digwydd hefyd—. Cyn gynted ag y byddwch chi'n gwybod eich bod chi mewn tŷ sydd mewn perygl o lifogydd, mae angen i chi allu deall beth fydd angen iddo ddigwydd er mwyn bod â'r amddiffyniadau y mae eu hangen arnoch chi. Felly, rwy'n cytuno â chi'n gyfan gwbl. Fe fyddaf i'n cyfarfod â nhw'n fuan i drafod y mater. Fe fyddaf i'n fwy na pharod i drafod y cyfarfod hwnnw gyda chi pan fydd hwnnw wedi bod. Delyth Jewell AC: Gweinidog, mae'r llifogydd sydd, unwaith eto, wedi dinistrio bywydau pobl nid yn unig yn difrodi carpedi a phapur wal. Pan fydd dŵr budr yn cael ei lanhau i ffwrdd, nid staeniau ffisegol yn unig sydd ar ôl. Mae pobl yn cael eu gadael gydag archoll, maen nhw'n ofnus ac yn ansicr o'r hyn a ddaw yn sgil y glaw trwm nesaf. Rydym ni wedi clywed eisoes gan Jayne Bryant bod adroddiad y Groes Goch, 'Every time it rains', yn sôn am yr angen i gynyddu ymwybyddiaeth o beryglon llifogydd. Rwy'n cymeradwyo'r adroddiad i chi. Fe hoffwn i bwyso arnoch chi, os gwelwch chi'n dda, ynglŷn â'r pha gymorth seicolegol a gaiff ei gynnig i bobl sydd wedi dioddef llifogydd unwaith eto. Fe wn am o leiaf un stryd yn fy rhanbarth i lle cafodd llifogydd eu hachosi gan yr un rheswm ag yn gynnar yn 2020: ceuffos wedi blocio. Os bydd yr un peth yn parhau i ddigwydd, sut all y trigolion hyn ymddiried y bydd eu tai nhw'n ddiogel yn y dyfodol? Ac yn olaf, pa wasanaethau cwnsela a fydd ar gael mewn ysgolion mewn ardaloedd a effeithiwyd, os gwelwch chi'n dda, oherwydd mae plant bach iawn yn arbennig yn canfod y digwyddiadau hyn yn wirioneddol andwyol iawn? Diolch i chi. Julie James AC: Diolch i chi, Delyth. Mae hynny'n gwbl gywir. Rwyf i wedi cyfarfod yn bersonol gyda nifer o'r teuluoedd sydd wedi cael eu heffeithio, ac mae hi'n gwbl gywir eu bod nhw wedi cael eu dylanwadu mewn ffordd ddifrifol iawn. Dywedodd un teulu wrthyf i fod eu plentyn tair oed yn bryderus iawn bob tro yr oedd hi'n bwrw glaw hyd yn oed yn arferol am eu bod nhw wedi cael llifogydd ac roedd hi'n poeni am hynny. Felly, mae hi'n broblem wirioneddol. Y peth cyntaf i'w wneud yw sicrhau ein bod ni'n llwyddo i gael rhaglen ar waith sy'n ehangu amddiffyniad rhag llifogydd i dai, er mwyn lleihau'r perygl o hynny gymaint ag y gallwnni. Fe fyddaf yn sicr o siarad â'm cydweithiwr Jeremy Miles ynglŷn â gwneud rhywbeth yn yr ysgolion mewn ardaloedd a gafodd eu heffeithio yn arbennig—rwy'n credu bod hwnnw'n syniad da iawn, sef trafod yn union sut mae'r plant yn teimlo ynghylch hyn a'r hyn a ellir ei wneud. Felly, rwy'n sicr yn hapus iawn i wneud hynny. Mae Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru gennym ni—fe ddylwn i fod wedi sôn amdano'n gynharach—sydd hefyd yn edrych ar hyn o safbwynt cadernid ar gyfer seilwaith. Ond mae seilwaith yn cynnwys seilwaith cymdeithasol hefyd, felly fe fydd hi'n dda iawn gennyf i gael gwybod beth fydden nhw'n ei gynnig. Rydym ni'n ymwybodol iawn o effeithiau hyn yn gymdeithasol a chymunedol. Nid, fel y dywedwch chi, am garpedi ac ati yw hyn, er y gall hynny fod yn ddinistriol iawn. Mae hyn yn sicr yn ymwneud ag effaith seicolegol cael eich amddifadu o ymdeimlad o gartref, felly rydym ni'n sicr yn amgyffred hynny. Rwyf i wedi ymweld â nifer o gartrefi sydd wedi gweld llifogydd ac mae pobl wedi rhoi marc bach ar y wal i ddangos i le y cyrhaeddodd, am fod hynny wedi cael cymaint o effaith arnyn nhw. Felly, rwy'n derbyn hynny'n llwyr, Delyth, ac rwy'n credu ein bod ni wir yn awyddus i weithio gyda'n cymunedau i wneud yn siŵr (a) eu bod nhw mor gadarn â phosibl, a (b) bod y broses adfer mor gyflym â phosibl. Ac rwyf i wedi sôn eisoes y byddwn ni'n gweithio gyda Llywodraeth y DU i wneud rhywbeth am y sefyllfa o ran yswiriant. Mae yswiriant Flood Re ar gael ar gyfer tai domestig, ond, mewn gwirionedd, mae terfyn amser yn hynny o beth, felly mae angen i ni wneud yn siŵr bod rhaglen arall yn ei lle. Ac fel y dywedais i, nid yw eiddo masnachol yn cael ei gynnwys yn hynny ar hyn o bryd, ac fe geir amrywiaeth o faterion sy'n peri anhawster ynglŷn â hynny. Ond ni ddylai hynny fod yn amhosib ei oresgyn, ac felly rydym ni wedi gofyn am gyfarfodydd gyda'r sector yswiriant ynglŷn â dulliau o wneud hynny, ar y cyd â Llywodraeth y DU, oherwydd, a dweud y gwir, nid yw'r farchnad yn ddigon eang yng Nghymru i ni allu bod ag unrhyw ddylanwad, felly fe wnawn ni weithio gyda nhw i sicrhau ein bod ni'n gallu rhoi cynllun addas ar waith. Yn y cyfamser, rydym ni wedi gofyn i'n hawdurdodau lleol asesu'r difrod i fusnesau lleol a gweithio gyda nhw i wneud yn siŵr y gallan nhw gael eu hadfer. John Griffiths AC: Gweinidog, dros y penwythnos mewn ardaloedd yn Nwyrain Casnewydd, fel Llanwern, Langstone a St Julians, gwelwyd llifogydd ac nid digwyddiad anghyffredin mohonyn nhw'n anffodus, sydd wedi mynd yn fwy tebygol dros y blynyddoedd diwethaf, gyda llawer o drigolion a busnesau yn cysylltu â mi a'm swyddfa i. Un o'r materion yr ydych chi'n siŵr o fod yn gyfarwydd â nhw, Gweinidog, yw canfod pwy sy'n gyfrifol a phwy sy'n atebol am lifogydd o ran defnydd tir a rheoli tir, ac yn aml iawn mae hi'n anodd i berchnogion tai a busnesau wneud hynny. Ar y naill law Cyfoeth Naturiol Cymru sydd â chyfrifoldeb, neu Ddŵr Cymru o bosibl, neu Network Rail, yr awdurdodau lleol, datblygwyr preifat, a tybed, Gweinidog, a oes unrhyw beth yr ydych chi'n ei ystyried o ran dod â sefydliadau sydd â chyfrifoldebau o bosibl at ei gilydd mewn amgylchiadau fel hyn i ddarganfod pwy sy'n gyfrifol, oherwydd mae honno'n sefyllfa sy'n parhau, nid digwyddiad untro, ac mae angen datrys hyn i'r dyfodol. Un mater arall, Gweinidog—fe wnaethoch chi sôn am y defnydd o'r amgylchedd naturiol, sy'n rhagorol yn fy marn i ac mae angen gwneud hynny'n fwy eang. Rydym ni wedi gweld rhai ymdrechion i reoli arwynebau caled mewn ardaloedd trefol—rhai deiliaid tai ac eraill—a ydych chi'n ystyried unrhyw rai eraill, fel bydd cyfran lai o'r arwynebau caled hyn sy'n caniatáu i'r dŵr redeg i ffwrdd yn syth, yn hytrach na'i amsugno, ei gadw a'i ollwng dros amser hir? Julie James AC: Diolch, John. Rwy'n cytuno bod hwn yn ddarlun cymhleth, os hoffech chi, o ran pwy sy'n gyfrifol am beth. Ond, mewn gwirionedd, os ydych chi'n ddeiliaid tŷ sydd â phrofiad o lifogydd, fe ddylech chi gysylltu â'ch awdurdod lleol, ac fe ddylen nhw fod yn berffaith alluog i'ch rhoi chi mewn cysylltiad ag unrhyw un arall, ond y nhw a fydd yn gyfrifol am 98 y cant o'r boblogaeth. Dim ond rhai mewn amgylchiadau arbennig iawn na fydd yn derbyn cymorth gan yr awdurdod lleol yn y lle cyntaf. Felly, yr awdurdod lleol yw'r man cychwyn yn bendant. Mae angen i'r awdurdod lleol gysylltu gyda ni hefyd—rwy'n sylwi nad yw Casnewydd ar fy rhestr i, mae arnaf i ofn. Felly, mae'n rhaid iddyn nhw sicrhau eu bod nhw'n cysylltu â ni sef yr awdurdod sy'n rheoli llifogydd i sicrhau eu bod nhw'n cymryd mantais o gymorth gan Lywodraeth Cymru hefyd, ac yn sicr fe fyddaf i'n gwneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud hynny o'r pen arall yn yr achos hwn. Y peth arall i'w ddweud yw ein bod ni'n awyddus iawn i sicrhau bod pobl mor wydn â phosib yn y cyfnod o flaen y llifogydd, sef eu bod nhw'n deall lle i chwilio am rybuddion llifogydd a sut i sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth sydd ar ddod. Felly, yn amlwg, mae'r rhan fwyaf o bobl yn gallu defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol ar gyfer newyddion a newyddion teledu ac ati. Roedd adroddiadau tywydd yn ddigymhlethdod; heb i chi fod heb edrych ar unrhyw beth o gwbl, fe fyddech chi wedi gweld y rhain. Ond ni fyddech chi wedi gwybod ble i edrych o reidrwydd ar gyfer gweld a fyddai eich stryd chi eich hun yn cael ei heffeithio arni, ac felly rwy'n cytuno â chi bod angen i ni wneud llawer mwy i wneud yn siŵr bod pobl yn deall sut i gael y rhybuddion hynny. Fe fyddwn ni'n gweithio gyda'r awdurdodau lleol i wneud yn siŵr y gallwn gael system rybuddio ar waith ar gyfer tai sy'n cael eu heffeithio arnyn nhw. Mae hwnnw'n anhawster, oherwydd ni ellir dianc rhag y ffaith fod yr effaith hon yn mynd ar led. Felly, rwy'n falch iawn fod y gwaith a wnaethom ni eisoes mewn cymunedau a oedd yn cael llifogydd wedi gweithio, maen nhw'n cael eu hamddiffyn, ond fe allwch chi weld bod newid hinsawdd yn cyflymu. Mae'r rhain wedi bod yn ddigwyddiadau tywydd eithafol, ac rydym ni i gyd yn cofio ein bod ni wedi cael yr haf sychaf a welsom ni erioed, felly mae'r dŵr hwn yn effeithio ar dir a aeth yn orlawn o ddŵr yn sydyn. Mae honno'n broblem wirioneddol o ran sut mae'r tir yn ymateb i effaith dŵr fel hyn. Dim ond dechrau deall ein hunain ydym ni mewn gwirionedd o ran rai o'r effeithiau hynny i beth o'n tir. Felly, fe fydd angen i ni weithio gyda'n poblogaethau i wneud yn siŵr ein bod ni'n rheoli hynny, ac rwyf i wedi cyfeirio eisoes at nifer o'r adolygiadau sy'n digwydd—oherwydd ein bod ni wedi gweld hyn yn dod, mae adolygiadau hyn yn digwydd gennym ni, felly mae angen i ni gael y rhain nawr, a chasgliadau'r rhain, fel gallwn ni weithio drwyddyn nhw. Os oes gennych achosion neilltuol iawn, John, o etholwyr, ysgrifennwch ataf i a gadewch i mi wybod. Efallai y bydd amgylchiadau neilltuol y gallwn ni fynd i'r afael â nhw mewn ffordd fwy penodol. Ac yn olaf, Carolyn Thomas. Carolyn Thomas AS: Diolch. Rwy'n croesawu'r datganiad hwn, a'r buddsoddiad mewn amddiffyn arfordirol yn y gogledd hefyd, sy'n sylweddol. Mae llifogydd, fel glaw, yn effeithio ar seilwaith ein priffyrdd ni, ein ffyrdd ni, ein pontydd a'n palmentydd ni, ac rydym ni wedi gweld beth sydd wedi digwydd yn y gogledd, gyda thirlithriadau yn sir y Fflint, Trecelyn a Phont Llanerch sydd wedi costio miliynau i'w hadfer. Mae glaw trwm yn golchi gwasanaethau priffyrdd i ffwrdd, yn achosi tyllau yn y ffyrdd a blocio'r cwteri, sy'n hunllefus i awdurdodau lleol, fel gwnaethoch chi sôn, a thrigolion fel ei gilydd. Fe gefais i fy siomi o weld bod y gronfa ffyrdd cydnerth, a oedd yn £20 miliwn, wedi cael ei thorri i ddim erbyn hyn yn y gyllideb ddrafft. Fe welais fod £20 miliwn wedi mynd i lywodraeth leol erbyn hyn ar gyfer datgarboneiddio, ac rwy'n meddwl tybed ai'r un cyllid yw hwnnw, wedi cael ei symud. A hefyd a fyddech chi'n ystyried tamaid o'r gronfa drafnidiaeth leol i'w defnyddio o bosib ar gyfer awdurdodau lleol ar gyfer gwytnwch? Diolch i chi. Julie James AC: Dydw i ddim yn rhy siŵr pa gyllideb rydych chi'n cyfeirio ati yn y fan yna, Carolyn, mae gen i ofn. Felly mae yna gyllideb benodol iawn i reoli llifogydd, ac mae hi wedi'i chlustnodi ar gyfer rheoli llifogydd ar gyfer CNC. Mae awdurdodau lleol yn ei chael fel rhan o'r grant cynnal refeniw, ond mae disgwyl iddyn nhw roi rhaglen ar waith. Felly, rwy'n hapus i drafod y manylion gyda chi yn y fan yna. Ond nid yw'n gymysgedd o gyllidebau—mae'n gyllideb benodol iawn. Roeddwn i eisiau dweud—mewn gwirionedd, mewn ymateb i John Griffiths yn ogystal ag i chi—mae eisoes ar waith yng Nghymru yr angen i gael caniatâd cynllunio i osod palmant dros eich gardd flaen, mewn gwirionedd. Mae hyn yn cael ei anwybyddu'n eang, mae'n rhaid i mi ddweud, ac rwy'n bwriadu atgoffa awdurdodau lleol bod hynny'n wir. Ac rwy'n credu bod angen i ni gael rhaglen o ymwybyddiaeth a rhybuddio fel bod pobl yn deall beth fydd yn digwydd os byddan nhw'n gwneud eu gerddi blaen yn anathraidd. Mae Joyce Watson wedi bod yn sôn am hyn ers blynyddoedd bellach, ond rwy'n credu ei fod yn dod yn fwy ac yn fwy amlwg bod angen i bobl ddeall eu cyfraniad eu hunain i rai o'r pethau sy'n digwydd yn lleol iddyn nhw. Os ydych chi'n atal eich gardd rhag gallu amsugno dŵr, mae'r dŵr hwnnw'n arllwys yn syth i mewn i'r gwteri, ac yn mynd ag unrhyw beth y mae'n ei godi ar hyd y ffordd gydag ef, ac mae'n achosi'r math o flociau yr ydych chi'n sôn amdanyn nhw. Felly, rwy'n credu bod angen i bobl fod yn ymwybodol o hynny. Os ydych chi eisiau parcio car ar eich gardd flaen a dyna beth yw ei bwrpas, mae yna lawer o arwynebau athraidd sy'n gwbl briodol ar gyfer hynny, ac sy'n caniatáu i ryw fath o fioamrywiaeth ffynnu hefyd. Does dim angen rhoi palmant caled arni. Ond rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'n hawdurdodau lleol, Carolyn, i ddeall beth fydd effaith ehangach y llifogydd a'r tywydd eithafol rydyn ni wedi'u cael. Nid yw hyn, yn anffodus, yn mynd i fod yn ddigwyddiad ynysig. Gwyddom mai llynedd oedd y flwyddyn gynhesaf ar gofnod. Mae hefyd yn prysur ddod y gaeaf gwlypaf ar gofnod. Felly, mae gen i ofn bod hwn yn fesur go iawn o'r cyfnod yr ydym ni'n byw ynddo, a bydd yn rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd o ddod yn llawer mwy cydnerth, yn ein perthynas ac yn ein hymateb. Diolch i'r Gweinidog. 4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar gyfarfod ag undebau llafur y GIG Yr eitem nesaf felly yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y diweddariad ar gyfarfod ag undebau llafur y gwasanaeth iechyd, a'r Gweinidog, felly, i wneud ei datganiad—Eluned Morgan. Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr, Llywydd. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau yn dilyn fy nghyfarfod ar 12 Ionawr gydag undebau llafur y GIG. Ysgrifennais at yr undebau ar 6 Ionawr cyn y cyfarfod, gan eu gwahodd i drafod pecyn o fesurau sydd â'r nod o ddod o hyd i ffordd o gynnig rhywfaint o dâl ychwanegol i'r gweithlu fel eu bod yn teimlo eu bod yn gallu dileu eu gweithredu diwydiannol. Awgrymais y gallai'r drafodaeth gynnwys pecyn posib gan gynnwys: ar gyflog, dyfarniad anghyfunol wedi'i ariannu drwy gyllideb Llywodraeth Cymru eleni; ffyrdd y gallwn ni symud ymlaen ar y materion a amlygwyd yn y prosiect lles staff a lleihau'r gwariant ar asiantaethau; a ffyrdd y gallwn ni weithio gyda'n gilydd i adfer hyder ym mhroses y corff adolygu cyflogau. Roedd angen dewisiadau anodd er mwyn dod o hyd i'r arian ar gyfer y taliad arian parod untro arfaethedig. Bydd yn rhaid i ni ddefnyddio ein cronfeydd wrth gefn ac aildrefnu gwariant o bob rhan o'r Llywodraeth os yw undebau llafur am fanteisio ar y cyfle hwn. Os byddwn yn defnyddio'r arian hwn nawr i gynyddu cyflogau, mae'n golygu na allwn ni ei ddefnyddio at ddibenion eraill, ond rydym yn hyderus mai dyma'r peth iawn i'w wneud a byddai'n rhoi mwy o arian ym mhocedi gweithwyr y GIG y gaeaf hwn, llawer ohonyn nhw'n ei chael hi'n anodd gyda'r argyfwng costau byw. Roedd datganiad yr hydref yn gyfle a gollwyd i Lywodraeth y DU roi codiad cyflog yn 2022-23 i weithwyr y sector cyhoeddus sy'n gweithio'n galed, ac atal gweithredu diwydiannol aflonyddgar eang ledled y Deyrnas Unedig. Rhoddodd dyfarniad cyflog 'Agenda ar gyfer Newid' 2022-23, sydd wedi'i weithredu, godiad cyflog o 7.5 y cant ar gyfartaledd i'r staff sy'n derbyn y cyflogau isaf—y rhai hynny ar fandiau 1 i 4—sy'n ffurfio bron i hanner y gweithlu 'Agenda ar gyfer Newid'. I staff ar frig bandiau 6 a 7, roedd y dyfarniad yn cyfateb i godiad cyflog o 4 y cant. Yn anffodus, nid yw ein setliad ariannol yn ddigon ar gyfer yr hyn sydd ei angen i roi'r dyfarniadau cyflog cyfunol y mae'r undebau wedi bod yn ymgyrchu drostynt ar ran eu haelodau. Felly, nid ydym mewn sefyllfa i gynyddu'r dyfarniad cyflog cyfunol a roddwyd eisoes. Daeth cynrychiolwyr o'r Coleg Nyrsio Brenhinol, GMB, Unite, Unison, Cymdeithas Therapyddion Galwedigaethol Prydain, Cymdeithas Siartredig y Ffisiotherapyddion, Cymdeithas y Radiograffwyr, Coleg Brenhinol y Bydwragedd a'r Gymdeithas Feddygol Brydeinig i'r cyfarfod yr wythnos diwethaf. Hoffwn ddiolch i'r rhai a ddaeth i'r cyfarfod. Roedd llawer o gydnabyddiaeth yn y cyfarfod hwnnw o'r sefyllfa yr ydym yn ein cael ein hunain ynddi yng Nghymru, a chydnabyddiaeth ein bod yn gwneud ymdrechion i ddod â'r anghydfod hwn i ben, yn wahanol i'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr. Roeddwn i'n realistig o ran fy nisgwyliadau ar gyfer y cyfarfod hwnnw, ac er bod yr undebau llafur yn credu nad oedd taliad untro anghyfunol yn ddigon i atal gweithredu diwydiannol, cytunodd yr undebau llafur i fynd i ffwrdd ac ystyried y camau nesaf ar y cyd. Er fy mod wedi clywed yn ôl gan gadeirydd yr undebau llafur iechyd y bore yma, fe gytunon ni, ar y cyd, i beidio â rhoi sylwebaeth gyson ar y trafodaethau, a byddaf yn parchu'r cytundeb hwnnw. Byddaf yn parhau i ymgysylltu ag undebau llafur. Yn wahanol i Lywodraeth y DU, nid ydym yn ymateb i'r streiciau drwy gyflwyno deddfau newydd, llym a fyddai'n sathru ar y setliad datganoli ac yn cyfyngu ar hawliau gweithwyr ymhellach. Ar hyn o bryd mae streiciau wedi'u cynllunio yn y GIG yng Nghymru. Mae'r RCN a GMB—gwasanaeth ambiwlans Cymru—eisoes wedi gweithredu'n ddiwydiannol, ac mae gan Goleg Brenhinol y Bydwragedd a Chymdeithas Siartredig Ffisiotherapi fandad ar gyfer streic, ond dydyn nhw ddim wedi cyhoeddi dyddiadau eto. Bydd Unite—gwasanaeth ambiwlans Cymru—yn streicio yr wythnos hon a'r nesaf, ar 19 a 23 Ionawr. Mae'r RCN bellach hefyd wedi cyhoeddi dau ddiwrnod ychwanegol o streicio ar 6 a 7 Chwefror. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'n hundebau llafur, gyda'r bwriad o roi diwedd ar y gweithredu diwydiannol hwn o fewn y dulliau sydd ar gael i ni. Rydym yn cydnabod ac yn parchu cryfder y teimladau a ddangoswyd gan aelodau staff y GIG yn y pleidleisiau hyn, a thrwy'r camau diwydiannol a gymerwyd, ond rydym wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol ag undebau i ystyried ffordd o ddatrys yr anghydfod presennol dros gyflog. Atgoffais yr undebau yn y cyfarfod bod y cloc yn tician ar y mater hwn. Er mwyn cael yr arian i becynnau cyflog y GIG y flwyddyn ariannol hon, mae'n rhaid i ni ddod i gytundeb erbyn tua chanol i ddiwedd Chwefror. Diolch. Russell George AC: A gaf i ddiolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad y prynhawn yma? Rydych chi mewn sefyllfa anodd iawn; mae hynny'n rhywbeth y byddwn i'n ei dderbyn. Ac rwy'n sylweddoli pa mor anodd yw'r trafodaethau hyn i chi, Gweinidog; dydi hyn ddim yn hawdd o gwbl. Ac mae'n destun gofid, fel y byddwch chi'n cytuno hefyd—ac fel y bydd yr RCN yn cytuno—mae'n destungofid ein bod ni wedi cael cyhoeddiad arall am streicio ym mis Chwefror. Rydych chi'n sôn yn eich datganiad, Gweinidog, am ffyrdd y gallwn ni weithio gyda'n gilydd i adfer hyder ym mhroses y corff adolygu cyflogau. Felly, a gaf i ofyn i chi am eich asesiad chi o hynny? Beth yw eich asesiad o broses y corff adolygu cyflogau, os gwelwch yn dda? Fe wnaethoch chi hefyd sôn am daliadau—y taliadau untro—ac rwy'n gwerthfawrogi eich bod wedi dweud eich bod wedi gweithio ar draws y Llywodraeth i edrych ble y gallech chi ddod o hyd i'r cyllid ychwanegol hwnnw. Ond ni fydd hynny'n gwneud dim, byddwn i'n ei awgrymu, i sefydlogi'r gweithlu, na denu pobl i'r proffesiwn, sy'n rhan fawr o'r materion yr ydyn ni'n sôn amdanyn nhw. Neu ydych chi'n credu fy mod i'n anghywir wrth wneud yr asesiad hwnnw? Fe ddywedoch chi yn eich datganiad, Gweinidog, y prynhawn yma, 'Yn wahanol i Lywodraeth y DU, nid ydym yn ymateb i'r streiciau drwy gyflwyno deddfau newydd, llym a fyddai'n sathru ar y setliad datganoli ac yn cyfyngu ar hawliau gweithwyr ymhellach.' Nawr, yn eich datganiad llafar yr wythnos diwethaf, fe ddywedoch chi fod yr effaith ar gapasiti o ganlyniad i weithredu diwydiannol diweddar wedi rhoi pwysau ychwanegol ar ein system. Felly, mae'n rhaid eich bod chi felly yn cytuno â'r Sefydliad Llafur Rhyngwladol, y mae'r TUC yn tanysgrifio iddo, bod lefelau isafswm gwasanaeth yn ffordd gymesur o gydbwyso'r hawl i streicio â'r angen i gynnal gwasanaethau hanfodol, fel gwasanaethau iechyd. Gweinidog, y mater arall, wrth gwrs, yw tynnu'r pwysau oddi ar GIG Cymru, ac rydyn ni wedi gweld pa mor llwyddiannus y mae hybiau llawfeddygol yn Lloegr. Lle maen nhw wedi cael eu cyflwyno, rydyn ni wedi gweld y rhestr aros dwy flynedd o hyd mwy neu lai yn cael ei dileu yn Lloegr, ond eto, yng Nghymru, mae gennym ddegau o filoedd o bobl yn dal i aros am dros ddwy flynedd am driniaeth. Nawr, rwy'n credu, yr wythnos diwethaf, y bu bron i chi golli eich tymer gyda mi, Gweinidog, gan ddweud, 'Edrychwch, rydych chi'n cadw sôn am hybiau llawfeddygol; wel, mae gynnon ni nhw, maen nhw'n bodoli.' Ond y rheswm rwy'n gofyn yw oherwydd dyna eich ymateb eich hun—rydych chi wedi bod yn dweud hynny ers rhai misoedd i mi—'Maen nhw'n bodoli, maen nhw'n bodoli.' Ond mewn ceisiadau rhyddid gwybodaeth, mewn ymateb ysgrifenedig i Andrew R.T. Davies ddiwedd mis Tachwedd, llai nag wyth wythnos yn ôl, fe wnaethoch chi ymateb iddo gan ddweud, 'Ar hyn o bryd, nid oes hybiau llawfeddygol pwrpasol ledled Cymru.' Felly, dyma pam rwy'n cadw codi hyn gyda chi, Gweinidog, oherwydd rydyn ni'n cael atebion gwahanol ar y pwynt hwnnw. A fy nghwestiwn olaf i chi, Gweinidog, yn syml iawn, yw: ydych chi'n credu y byddwch chi'n datrys yr anghydfod cyflog cyn bo hir? Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair. Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr, Russell, a diolch am eich dealltwriaeth bod hon yn drafodaeth anodd iawn ac yn gyfnod anodd iawn i bawb sy'n gweithio yn y GIG. Fe wnaethoch chi ofyn am yr hyder ym mhroses y corff adolygu cyflogau. Rwy'n credu bod yna bethau all newid. Rwy'n amlwg yn awyddus iawn i glywed beth mae undebau'r GIG yn ei feddwl o ran yr hyn y gellid ei wella, ond un peth sy'n amlwg iawn i mi yw, pan wnaeth y corff adolygu cyflogau gymryd mesuriad o chwyddiant, eu bod wedi gwneud hynny ar ddechrau'r flwyddyn. Ac roedd hynny ar adeg pan oedd chwyddiant tua 6 y cant, ac roedd ychydig ar ôl i'r rhyfel ddechrau yn Wcráin, felly doedden ni ddim wedi gweld yr effaith mor gynnar â hynny yn y flwyddyn. Felly, rwy'n credu bod achos da iawn i'w wneud dros sicrhau eich bod yn gallu rhywsut efallai cael rhyw fath o ddull lle os yw'n mynd uwchben peth penodol, gallwch ailedrych ar hynny. Felly, rwy'n credu bod lle i ni feddwl am rai materion ymarferol iawn fel yna. O ran sefydlogi'r gweithlu, byddwch yn ymwybodol bod mwy o bobl yn gweithio yn y GIG heddiw nag sydd erioed wedi gweithio ynddo o'r blaen. Rydym yn dal i recriwtio ac, yfory, byddaf yn cyhoeddi datganiad o ran sut y bydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn hyfforddi gweithlu'r dyfodol, o ran yr hyn sydd ganddyn nhw wedi'i gynllunio yn y blynyddoedd nesaf. O ran y lefelau gwasanaeth lleiaf, rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn hollol glir beth rydyn ni'n sôn amdano fan hyn. Nid yw'r bobl sy'n mynd i mewn i'r GIG yn bobl anghyfrifol; maen nhw'n bobl sydd wedi ymrwymo i wasanaeth cyhoeddus, a nhw yw'r rhai sy'n helpu i benderfynu beth yw'r rhanddirymiadau. Felly, ni fyddwch yn gweld pobl, waeth beth sy'n digwydd yn y streiciau, yn cerdded allan o'r gwasanaeth uned therapi dwys, neu'r meysydd hynny sy'n gwbl hanfodol ar gyfer gofal. Felly, i bob pwrpas, y rhanddirymiadau hynny yw'r lefelau lleiaf o wasanaeth. Ond rwy'n credu ei bod hi'n gwbl iawn i sicrhau bod pobl yn deall bod yr hawl i streicio yn rhywbeth y brwydrwyd yn galed amdano, ac yn rhywbeth yr ydyn ni fel Plaid Lafur yn sicr yn ei gefnogi. O ran hybiau llawfeddygol, rwy'n credu bod ychydig o ddryswch ynghylch hyn, oherwydd mae'r diffiniadau ychydig yn wahanol. Felly, gallech chi ddadlau, er enghraifft, fod Abergele, sy'n lle wedi'i glustnodi, lle na fydd yr hyn sy'n digwydd mewn perthynas ag adrannau damweiniau ac achosion brys yn effeithio arno, yn hyb llawfeddygol. Dydyn ni ddim wedi ei labelu felly, ond, i bob pwrpas, dyna beth yw e. Mae gennym ni nawr y ganolfan Vanguard yng Nghaerdydd, sy'n ganolfan newydd, ac yn bendant wedi'i chlustnodi ac ni effeithir arni gan adrannau damweiniau ac achosion brys. Felly, dyna fy niffiniad i o beth yw hyb llawfeddygol. Dydw i ddim yn hollol siŵr beth yw eich un chi, ond dyna yw fy un i—a effeithir arno gan bethau dim ond yn llifo drwy'r drysau, ac a fydd yn effeithio ar ofal a gynlluniwyd? Ac yn amlwg, mae cyfleuster newydd yn Llanelli, sy'n gwbl weithredol, a dim ond newydd agor. Felly, rydyn ni yn gwneud pethau, ac mae gennym, eto, gyfleuster wedi'i glustnodi na fydd gofal brys sy'n dod drwy'r drws yn effeithio arno. Rwy'n credu bod yn rhaid i chi fod yn ofalus iawn yn y fan yma hefyd, er hynny, Russell, i ddeall ei bod hi'n gymaint haws os ydych chi'n byw mewn dinas fawr i fod â dau ysbyty, lle mae gan un adran damweiniau ac achosion brys ac yn yr un arall gallwch chi ei gael fel un ar wahân, yna nid yw'r hyn sy'n dod trwy'r drws ffrynt yn effeithio arno. Rydyn ni eisoes yn gwneud hynny. Yng Nghaerdydd, gallwn ni wneud hynny. Mae gennych chi Ysbyty Athrofaol Cymru, ond wedyn mae gennych chi Llandochau, lle maen nhw'n gallu bwrw ymlaen â phethau. Yn Abertawe, mae ganddyn nhw dri ysbyty i bob pwrpas a nawr maen nhw'n dechrau dweud, 'Edrychwch, fe ddyweda i wrthych chi beth, fe wnawn ni roi'r rhan fwyaf o'r gwaith orthopedig yng Nghastell-nedd, felly byddwn ni'n ei gadw draw.' Bydd achosion cymhleth bob amser lle bydd angen i chi—. Er enghraifft, os oes gennych chi rywun sydd angen llawdriniaeth ar ei glun, ond sydd hefyd â phroblem gyda'r galon, allwch chi ddim gwneud hynny mewn hyb wedi'i glustnodi oherwydd mae angen rhywun sy'n arbenigwr mewn calonnau yn eithaf agos. Felly, mae'r achosion cymhleth wastad yn mynd i orfod bod yn yr ysbytai mawr. Y broblem sydd gennym yng Nghymru yw bod gennym lawer—dydy hyn ddim yn broblem, mae'n beth da—mae gennym lawer iawn o ysbytai, ond oherwydd daearyddiaeth yr ardal allwch chi ddim bod â mwy nag un. Felly, os ydych chi eisiau mwy o ganolfannau gofal wedi'u cynllunio, byddai'n rhaid i ni ddileu rhai o'r adrannau damweiniau ac achosion brys. Mae hynny'n anodd iawn pan ydych chi'n byw mewn ardal wasgaredig iawn. Yn Lloegr, oherwydd bod poblogaethau yn tueddu i fyw mewn dinasoedd mawr a chanolfannau trefol mawr, mae'n llawer haws iddyn nhw fynd yn gyflym drwy bethau gyda'r gwahaniadau hynny. Mae hynny'n llawer anoddach yng Nghymru. Rhun ap Iorwerth AC: Fe ddechreuaf i mewn ffordd adeiladol gyda'r meysydd hynny lle rwy'n cytuno â'r Gweinidog. O ran materion heblaw am dâl, rwy'n falch bod pwyslais difrifol ar les staff a bod lleihau costau asiantaeth yn rhan o'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ei weld fel y ffordd ymlaen, er na allwn ddeall agwedd y Prif Weinidog yn llwyr heddiw, pan oedd yn ymddangos ei fod yn amddiffyn y strwythurau y mae gwaith asiantaeth yn digwydd drwyddyn nhw ar hyn o bryd. Yr hyn rydyn ni'n ei ddweud yw tynnu'r elw preifat allan ohono, er mwyn gallu bwydo'r arian yna yn ôl i'r gwasanaeth iechyd. Rydw i hefyd yn cytuno'n gryf â'r Gweinidog wrth gondemnio gweithredoedd Llywodraeth y DU ynglŷn â'r ddeddfwriaeth sydd wedi ei chyflwyno i gyfyngu ar yr hawl i streicio. Ond, er cymaint yr ydw i'n cytuno hefyd â barn Llywodraeth Cymru am lefel gwariant cyhoeddus gan Lywodraeth y DU—mae angen i ni weld y cynnydd yn y lefel honno—ni all Llywodraeth Cymru guddio rhag ei chyfrifoldebau ei hun i ddatrys y broblem sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd, sef bod gennym filoedd ar filoedd ar filoedd o weithwyr cyhoeddus yn y sector iechyd, ac mewn mannau eraill hefyd nawr, sy'n gweithredu'n ddiwydiannol oherwydd eu bod yn teimlo nad oes ganddyn nhw opsiwn arall. Fe roddon nhw gyfleoedd i ddatrys hyn yn gynt. O ran y cynnig o daliad anghyfunol untro, mae'n amlwg nad yw'n mynd i gael ei dderbyn gan yr undebau. Mae'r GMB yn ei gwneud hi'n glir na fyddai eu haelodau nhw'n derbyn taliad untro, mae'r RCN hefyd yn dweud nad yw'n ddigon da. Mewn termau real, mae toriadau wedi eu cyfuno, mae toriadau termau real mewn cyflogau wedi eu cyfuno a'u hatgyfnerthu ers degawd a mwy, ac mae'n rhaid i ni dorri'r cylch hwnnw. Wyddoch chi beth? Dydy hyn ddim yn digwydd ar amser da iawn. Mae cyllid y Llywodraeth yn brin. Ond y gwir amdani yw bod cyllid ein gweithwyr iechyd yn brin hefyd, ac maen nhw wedi bod yn mynd yn brinnach ac yn brinnach. Roedd cyfle yn y blynyddoedd diwethaf i dorri'r cylch hwnnw pan oedd ychydig mwy o hyblygrwydd yn y system. Ychydig wythnosau yn ôl, cyn y Nadolig, cawsom wybod nad oedd yna hyblygrwydd o gwbl, dim arian wrth gefn, dim arian heb ei ddyrannu. Rydyn ni'n gwybod nad yw hynny'n wir, ac erbyn hyn mae gennym gyfaddefiad bod yna gynnig y gellir ei wneud. Ond mae'n rhaid cynyddu'r cynnig hwnnw. Dyna'r gwir amdani. Rydyn ni, fel plaid, wedi manylu ar sut rydyn ni'n credu y gellir ei gynyddu, a'i gynyddu i bwynt lle rydyn ni'n credu y gellir taro bargen, gobeithio. Mae yna deimlad yr wyf i'n ei gael yn glir iawn gan yr undebau nad yw'r Llywodraeth yn trafod yn ddigon difrifol. Dywedodd y Gweinidog heddiw: 'ein bod yn gwneud ymdrechion i ddod â'r anghydfod hwn i ben, yn wahanol i'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr.' Mi fuon ni yma am wythnosau ac wythnosau, yn gofyn i Lywodraeth Cymru drafod ac roedden nhw'n gwrthod trafod gyda'r undebau. Tra yn yr Alban, eto, mae gweithredu drwy streicio wedi ei oedi—cafodd ei oedi i ddechrau, ei roi yn ôl ar yr agenda, a nawr mae wedi ei oedi eto. Ac yma, roedd Llywodraeth Cymru yn gwrthod hyd yn oed trafod, tra oedd gweithwyr iechyd i'w gweld allan ar y llinellau piced. Rydyn ni wedi manylu ar sut rydyn ni'n credu y gellir ei wneud, ond y gwir amdani yw bod yn rhaid gwneud hyn, ac mae yna ffordd. Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr. Yn gyntaf oll, ar fater gweithwyr asiantaeth, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n rhoi hyn mewn cyd-destun. Felly, mae 65 y cant o'r hyn rydyn ni'n ei wario yn y GIG yn cael ei wario'n uniongyrchol ar staffio, ac, o hynny, mae tua 6 y cant yn cael ei wario ar weithwyr asiantaeth. Mae hynny'n ormod, ac mae angen i ni ei ostwng. Ond beth oedd yn glir i mi—. Fe dreuliais i dipyn o amser yn ysbyty Llwynhelyg ar y penwythnos. Nos Wener, roeddwn i yn Llwynhelyg gyda nyrsys, yn edrych ar beth maen nhw'n ei wneud, ac roedd yn ddiddorol iawn, oherwydd roedd 50 y cant o'r nyrsys ar ddyletswydd yno—50 y cant—yn nyrsys asiantaeth. Felly, gallwn ni ddileu hynny, ond byddai'n rhaid i chi gau'r ysbyty; gadewch i ni fod yn hollol glir. Y peth diddorol i mi oedd bod y rhan fwyaf o'r gweithwyr asiantaeth hynny mewn gwirionedd wedi dod o'r tu allan i Gymru. Felly dydyn ni ddim yn sôn yn gyffredinol am bobl sy'n weithwyr y GIG yng Nghymru sy'n mynd i asiantaeth ddrud; roedd y rhain yn bobl a oedd yn dod i mewn. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod pobl yn deall nad yw hyn yn rhywbeth sy'n hawdd, achos dydw i ddim yn y busnes o gau ysbytai, ac os byddwn ni'n trio mynd ati yn rhy gyflym ar hyn, dyna fydd y canlyniad. Fedra i ddim gwneud hynny. Mae hwn yn gyfnod lle mae gennym ni 7 y cant o weithwyr y GIG i ffwrdd yn sâl, felly mae'n rhaid i ni ôl-lenwi hynny. Nid pethau y gallwch chi eu cynllunio ymlaen llaw yw'r rhain. Doedden ni ddim yn gwybod ein bod ni'n mynd i gael ffliw a COVID a phopeth arall. Gallwn ni gynllunio i raddau, ond mewn gwirionedd does dim digon o bobl ar ôl yn y gronfa i lenwi'r swyddi gwag hynny. [Torri ar draws.] Mae gennym ni asiantaeth; yr enw arni yw'r gronfa. Dyna mae'n cael ei alw. Mae angen i chi fynd i ystyried sut mae'r system go iawn yn gweithio. Mae gennym ni gronfeydd. Felly rydyn ni'n defnyddio pobl o gronfeydd, ond does dim digon ohonyn nhw. A pheidiwch â siarad â fi am guddio o'n cyfrifoldebau. Rydyn ni'n gwybod bod gennym ni ddewisiadau, ac rydyn ni wedi gwneud dewisiadau. Rydw i'n mynd i ofyn i chi ysgrifennu'r ffigurau hyn i lawr, oherwydd mae'n bwysig iawn eich bod chi'n deall pa mor anodd yw hi i gyrraedd y swm o arian y byddech chi eisiau ei roi ar y bwrdd i gael taliad cyfunol. Cofiwch, nid taliad untro yw hwn. Nid arian y gallwch chi ddod o hyd iddo eleni yw hwn—. Ond os ydych chi eisiau cynyddu cyflog gweithwyr y GIG 1 y cant, mae'n rhaid i chi ddod o hyd i £55 miliwn, iawn? Felly yng Nghymru, nifer y bobl sy'n talu'r gyfradd ychwanegol yw 9,000. Mae'n 9,000 o bobl. Os byddech chi'n cynyddu honno 1c, byddech chi'n gwneud £3 miliwn. Dyna faint fyddech chi'n ei gael. Felly, rydych chi filltiroedd i ffwrdd o'r £55 miliwn y byddai ei angen i gael cynnydd o 1 y cant. Felly, rydych chi'n edrych wedyn ar y bobl sy'n ennill rhwng £50,000—[Torri ar draws.] Peidiwch â chwyno; gwrandewch arnaf i. Os ydych chi'n edrych ar y bobl sy'n ennill rhwng £50,000 a £150,000, ac rydych chi'n rhoi eu treth incwm i fyny 1c, byddech yn cael £33 miliwn. Eto, filltiroedd i ffwrdd o'r £55 miliwn am 1 y cant. Felly yr unig le mae'n rhaid i chi fynd i gael unrhyw le yn agos—unrhyw le yn agos—i'r 1 y cant, heb sôn am yr 17 y cant y mae'r RCN yn gofyn amdano, yw'r trethdalwyr cyfradd sylfaenol. Os byddech chi'n ei godi 1c, byddech chi'n cael £237 miliwn, felly byddai hynny'n gynnydd o tua 4.5 y cant. Gofyn i'r aelodau tlotaf yng Nghymru, sydd mewn trafferthion ar hyn o bryd—. Dyna'ch dull chi o weithredu; dyna beth rydych chi eisiau ei wneud. Ac ydyn, rydyn ni yn gwneud rhai penderfyniadau gwleidyddol, oherwydd rydyn ni'n credu bod pobl yn cael trafferthion gyda'r argyfwng costau byw ar hyn o bryd. Felly rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod pobl yn deall yn iawn pa mor anodd yw hyn, achos rydyn ni wedi gwneud penderfyniad gwleidyddol, a dydyn ni ddim yn mynd i godi treth incwm i bobl dlotaf Cymru ar hyn o bryd. Mae'n bwysig iawn hefyd bod pobl yn deall—. Dydw i ddim yn mynd i roi sylwebaeth gyson ar y trafodaethau, ond fe fyddwch chi'n deall bod yr hyn rydyn ni'n ei gael yng Nghymru o ran cynnydd mewn iechyd yn union gymesur â'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr. Yr hyn oedd yn ddiddorol iawn, yn 2008, ein bod wedi cyrraedd pwynt lle roedden ni wedi bodloni cyfartaledd yr UE o'r 14—. Felly, fe wnaethon ni gymharu ein hunain â'r 14 rhan gyfoethocaf o'r UE, ac roedden ni wedi bodloni cyfartaledd yr UE. Ond, rhwng 2010 a 2019, ym Mhrydain, gwelsom gynnydd o 15 y cant. Yn yr UE, cododd 21 y cant. Yn yr Almaen, roedd yn 39 y cant. Gwariodd y DU £40 biliwn yn llai ar ofal iechyd na'r cyfartaledd Ewropeaidd. Roedd hynny'n golygu na ddaeth arian atom ni, sy'n golygu nad oedden ni'n gallu cynyddu'r taliadau. A'r ateb yw bod cyni, mewn gwirionedd, yn bolisi bwriadol gan y Llywodraeth Dorïaidd dros 10 mlynedd, a dyna pam mae nyrsys mor rhwystredig. Ac rydyn ni'n deall hynny. Rydyn ni'n deall hynny. Oherwydd nid heddiw ydyw; mae'n groniad o 10 mlynedd o gyni, a'ch cyfrifoldeb chi yw hynny. Carolyn Thomas AS: Siaradais i â nyrsys ar y llinell biced, oherwydd roeddwn i eisiau clywed eu barn nhw hefyd, ac fe wnaethon nhw ddweud wrthyf nad arian yn unig sy'n bwysig, ond mae hefyd yn ymwneud â phwysau bywyd-gwaith hefyd. Mae llawer yn gwneud shifftiau 12 awr. Ac mae diffyg hyblygrwydd hefyd, gyda gofal plant ac ati. Fe wnaethon nhw hefyd sôn am gostau asiantaeth, ac mae'n eu poeni nhw os ydyn nhw'n gwybod eu bod nhw'n gweithio gyda rhywun sy'n cael mwy o dâl. Does ganddyn nhw ddim y profiad ar y ward honno ychwaith, oherwydd does gennych chi ddim yr un bobl ar y ward ag sydd ganddyn nhw, felly mae'n rhaid iddyn nhw lenwi drostyn nhw hefyd. Roedd gen i ddiddordeb mawr mewn clywed am fod â chronfa sy'n eiddo cenedlaethol i ni, nid yn unig i nyrsys—rwy'n gwybod eich bod wedi sôn am hyn hefyd, mewn gwirionedd, Eluned, o'r blaen—ond i weithwyr gofal cymdeithasol ac i athrawon. Wyddoch chi, gyda chyni, yr holl streiciau hyn sy'n digwydd nawr, byddai'n ddiddorol iawn. Byddwn i wrth fy modd yn clywed mwy amdanoch chi'n mynd ar y shifft nos yn ysbyty Llwynhelyg, oherwydd rwy'n credu ei bod yn ddiddorol iawn clywed barn y nyrsys a chlywed am yr hyn a ddysgoch chi tra oeddech chi yno. A'r taliad untro hwn—rwy'n gwybod nad dyna sydd ei angen, ond, oherwydd bod gennym ni yr argyfwng costau byw presennol hwn a llawer o nyrsys sydd newydd gymhwyso, byddai croeso gwirioneddol i'r taliad untro hwnnw. Wrth siarad â nyrsys, bydden nhw wir yn croesawu hynny, tan y gallwn ni gael rhywbeth wedi'i drefnu gyda Llywodraeth y DU, i sicrhau bod pawb, yr holl bobl yma sy'n gweithio mewn gwasanaethau cyhoeddus, yn cael eu talu'n iawn a bod yna ddiwedd ar gyni. Felly, hoffwn glywed eich barn ar hynny, os gwelwch yn dda. Diolch. Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr, Carolyn. Yn sicr, rydyn ni'n ymwybodol iawn nad yw'n ymwneud â chyflog yn unig; mae llawer o faterion eraill yn ymwneud â hyn, a dyna pam roeddwn i'n falch iawn o fod wedi cael fy nghyflwyno â'r prosiect lles staff ddydd Llun, gan gynrychiolwyr y mudiad undebau llafur, dim ond yn nodi'r mathau o bethau yr hoffen nhw ein gweld ni'n ymdrin â nhw. Ac felly, yn amlwg, mi fydda i'n edrych ar hynny'n fanwl, dim ond i weld faint ymhellach allwn ni fynd gyda hynny. O ran costau asiantaeth, rydyn ni'n benderfynol o roi pwysau ar yr asiantaethau drutaf yn sicr. Ac, fel y dywedwch chi, mae gan bob un o'r byrddau iechyd eu cronfeydd eu hunain. I ba raddau y gallen ni gael cronfa Cymru—. Hynny yw, dydw i ddim yn credu bod hynny'n anodd iawn; mae'n rhywbeth y gallem ni geisio symud tuag ato mae'n debyg. O ran y shifft nos yn Llwynhelyg, alla i ddim dweud wrthych pa mor ddiddorol oedd hynny. Mae'n bwysig iawn nid yn unig i gael synnwyr o'r peth trwy ddarllen am beth yw'r sefyllfa a gwrando ar bobl. Pan fyddwch chi mewn gwirionedd yn gweld y pwysau ar lawr gwlad, pan fyddwch chi mewn gwirionedd yn gweld nifer y bobl hŷn yn benodol na ddylen nhw fod yn yr ysbyty mewn gwirionedd, oherwydd eu bod wedi cael eu triniaeth ac mae problemau gwirioneddol gyda throsglwyddiadau gofal gohiriedig, mae wir yn gwneud gwahaniaeth ac yn taro deuddeg. Roedd rhywfaint o'r wybodaeth honno o ran gweithwyr asiantaeth yn ddefnyddiol iawn i mi. Doedd gen i ddim syniad bod gennym ni gymaint o bobl yn dod i mewn yn eu niferoedd o Loegr, ond wrth gwrs mae'n fater go iawn o sut rydyn ni'n staffio, yn enwedig ysbytai sydd efallai yn bellach i ffwrdd o'r canolfannau mawr. Felly, mae'n her go iawn ac nid yw'n mynd i fod yn hawdd ei datrys. Y peth arall yw, ar y taliad untro, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn i bobl ddeall, yn gyntaf oll, mai arian yw hwn lle rydyn ni wedi gofyn o amgylch y Cabinet i gyd i bobl arafu eu gwariant eleni. Os gofynnwn iddyn nhw, os cawn ni gytundeb ar hyn, byddwn ni'n gofyn iddyn nhw arafu gwariant ac efallai ei wthio i'r flwyddyn nesaf. Felly, nid arian sy'n hawdd ei gael yw hwn, nid tanwariant yw hwn; mae hwn yn arian sydd eisoes wedi'i ddyrannu ac rydyn ni'n gofyn ffafr fawr gan weddill y Cabinet. Ac mae'n ymwneud â chronfeydd wrth gefn hefyd. Mae yna risg fawr gyda defnyddio cronfeydd wrth gefn. Dydyn ni ddim yn gwybod a ydyn ni am gael amrywiad COVID newydd sy'n mynd i osgoi ein brechlynnau y flwyddyn nesaf. Byddem yn cymryd risg gyda hyn. Felly, mae hyn yn wleidyddiaeth risg uchel iawn, ond mae'n rhywbeth rydyn ni'n barod i'w wneud oherwydd ein bod ni mewn gwirionedd eisiau cefnogi ein gweithwyr GIG. Felly, taliad untro fyddai hwn, ac nid yw'n mynd i fod ar y bwrdd yn hir iawn, oherwydd mae diwedd y flwyddyn ariannol yn dod yn gyflym iawn, iawn, ac os ydyn nhw eisiau hynny yn eu pecynnau cyflog, mae'n rhaid i ni ei gael i mewn ar ddechrau mis Mawrth, sy'n golygu bod yn rhaid gwneud cytundeb cyn hynny. Felly, mae'r cloc yn tician yn y fan yma. Ac, wrth gwrs, dydyn ni ddim wedi tynnu'r arian oddi ar neb eto. Yn amlwg, byddai pobl yn fwy na pharod i ddal eu gafael arno. Rydyn ni'n gofyn ffafr fawr iawn, iawn gan bobl, ac yn cymryd risg ar gronfeydd wrth gefn. Felly, byddai'n rhaid i ni gael rheswm da iawn dros wneud hynny, ac yn amlwg mae hon yn drafodaeth. Diolch i'r Gweinidog. 5. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Blaenoriaethau Economaidd a Chysylltiadau Llywodraeth y DU Eitem 5 y prynhawn yma yw'r datganiad gan Weinidog yr Economi ar flaenoriaethau economaidd a chysylltiadau Llywodraeth y DU. Galwaf ar y Gweinidog i wneud y datganiad—Vaughan Gething. Vaughan Gething AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n dod i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma ar ôl bod, yn gynharach heddiw, yng nghyfarfod cyntaf eleni o'r grŵp rhyngweinidogol ar gyfer busnes a diwydiant. Hwn oedd y cyfarfod cyntaf o'i fath ers gwanwyn y llynedd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i drefniadau gweithio mewn partneriaeth briodol gyda Llywodraeth y DU a chenhedloedd datganoledig eraill, ac rydym yn gwneud hynny er budd Cymru ac economi ehangach y DU. Rwy'n ofalus obeithiol, ar ôl cael trafodaethau am reoleidd-dra a phwysigrwydd yr IMG heddiw, bod Llywodraeth newydd y DU yn dangos arwyddion o ymgysylltu mwy ystyrlon ynghylch ein blaenoriaethau economaidd ar y cyd. Dyna awgrymodd Prif Weinidog newydd y DU ei fod eisiau pan wnaeth gyfarfod â phenaethiaid y Llywodraethau datganoledig ym mis Tachwedd y llynedd. Bydd y prawf, wrth gwrs, yn y camau a fydd yn cael eu cymryd. Mae'n hanfodol ein bod yn gweithio ar y cyd, mewn trefniadau partneriaeth adeiladol iawn, i lywio drwy'r heriau economaidd difrifol yr ydym ni'n eu hwynebu. Mae'r DU yn dechrau 2023 ar drothwy dirwasgiad. Mae pobl a busnesau ledled y DU dan bwysau mawr yn sgil yr argyfwng costau byw, gyda disgwyl i chwyddiant aros mewn ffigurau dwbl dros hanner cyntaf eleni. Mae'r cyfuniad gwenwynig o Brexit, diffyg buddsoddiad cyhoeddus a phreifat, a chyllideb fach drychinebus Llywodraeth y DU ar ddechrau'r hydref wedi niweidio economi'r DU yn ddifrifol. Roedd hyn wedi arwain yn uniongyrchol at ddisgwyliad eang y byddai safonau byw yn gostwng, ac yn gostwng i lefel hanesyddol o isel, ar draws pob rhan o'r DU. Mae cynhyrchiant wedi bod yn ddisymud ers dros ddegawd ac mae ymrwymiad Llywodraeth y DU i 'roi diwedd ar yr anghydraddoldeb daearyddol sy'n nodwedd mor drawiadol o'r DU' yn dal heb ei gyflawni. Bydd y gefnogaeth barhaus, ond llai, ar gyfer costau ynni uchel gafodd eu cyhoeddi'r wythnos diwethaf, yn rhoi rhywfaint o sicrwydd i fusnesau ar ôl mis Mawrth. Fodd bynnag, nid yw'r cynllun newydd yn amddiffyn rhag anwadalwch prisiau ynni nac yn cyd-fynd â'r lefel uwch o gefnogaeth gymharol a gynigir mewn gwledydd Ewropeaidd eraill. Yng Nghymru, cydweithredu a phartneriaeth yw conglfeini ein dull o weithredu yn y Llywodraeth. Mae gan Gymru Lywodraeth sefydlog, aeddfed a rhwydwaith o bartneriaid cymdeithasol sy'n ein helpu ni i wneud y penderfyniadau cywir. Nid yw hynny'n golygu bod pob penderfyniad, wrth gwrs, yn hawdd. Gyda'n gilydd, rydym wedi datblygu fframwaith hirsefydlog ar gyfer twf economaidd cynhwysol sy'n canolbwyntio ar y dyfodol, a danategir gan ein Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 sy'n arloesol; strategaeth economaidd sydd wedi cael ei hailystyried, ei hadnewyddu ac sydd â phwyslais newydd, wrth i ni adfer ac ail-greu ein heconomi yn sgil y pandemig; a chenhadaeth sydd ag ymrwymiad clir i werth cymdeithasol, wedi'i gwreiddio'n gadarn mewn economi wyrddach, gyda llesiant, urddas, a thegwch yn ganolog iddi. Vaughan Gething AC: Mae ein cynllun hirdymor yn parhau i fod ynghylch cyflawni dyfodol economaidd ffyniannus, gwyrdd i Gymru a buddsoddi yn sgiliau'r dyfodol. Mae ein gweledigaeth ar gyfer economi Cymru yn amlwg yn cyd-fynd ag arweinwyr meddwl annibynnol, fel y Resolution Foundation, a'u cynigion ar gyfer ailgychwyn Prydain drwy ddychwelyd at dwf cynhwysol. Ond, bu angen ar y DU gyfan i Lywodraeth y DU ddatblygu cyfeiriad economaidd cyfrifol, cydlynol ar gyfer adfer a thwf ers peth amser—cynllun clir a grëwyd mewn partneriaeth ac a sefydlwyd yng nghryfderau economaidd pob cenedl. Hebddo, a gyda'r rhagolygon economaidd yn dirywio, mae'n rhaid i Lywodraeth y DU weithio gyda ni i sicrhau bod buddsoddiad cyhoeddus pwrpasol i fynd i'r afael â'r argyfyngau presennol a darparu economi fwy cynhyrchiol. Mae ein Llywodraeth yng Nghymru yn glir, gyda'n gilydd, bod y DU yn undeb balch a chydblethedig o genhedloedd sy'n gallu bod yn fwy na chyfanswm ein rhannau. Heb ymgysylltu strwythuredig priodol rhwng holl wledydd y DU dros y flwyddyn ddiwethaf, bu gwagle clir sydd wedi arwain at ddulliau economaidd digyswllt ac anghyson mewn gwahanol sectorau, wedi'u harwain gan wahanol adrannau'r DU. Mae rhai dulliau wedi bod yn fwy adeiladol. Gyda'n gilydd, rydym wedi gwneud cynnydd da ar borthladdoedd rhydd, fe wnaethom gyd-gynllunio'r prosbectws, gan gynnwys ymrwymiadau i waith teg, ac rydym yn cyd-asesu'r ceisiadau. Bydd gweinidogion o Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gyda'i gilydd yn dewis y cais llwyddiannus. Mae'r dull o ymdrin â pharthau buddsoddi bellach wedi symud i lwybr mwy adeiladol. Mae Llywodraeth bresennol y DU wedi dewis peidio â bwrw ymlaen â'r polisi blaenorol a gyhoeddwyd yn yr hydref, gan fod y dystiolaeth o'r manteision posibl o'r dull blaenorol hwnnw o fisoedd yn ôl ymhell o fod yn glir, ac rydym yn cytuno bod angen ailfeddwl a chael dull â mwy o ganolbwynt, gan weithio gyda ni, nid o'n hamgylch. Mae'n ymddangos bod Llywodraeth bresennol y DU bellach yn cymryd yr angen i ymgysylltu ynghylch polisi ffiniau o ddifrif. Mae'n rhaid i hynny barhau os ydym i gael yr ateb iawn ar gyfer Cymru a Phrydain. Er hynny, mae angen sylw brys ar rai dulliau. Ni all Llywodraeth y DU ohirio gweithredu mwyach wrth geisio sicrhau dyfodol hirdymor dur. Rhaid iddynt gyflawni buddsoddiad sy'n cyd-fynd â'n hymrwymiad yng Nghymru i ddyfodol economaidd gwyrdd. Ganddyn nhw mae llawer o'r pwerau sy'n ymwneud â datgarboneiddio dur y DU, a'r adnoddau sydd eu hangen i helpu i drawsnewid ein diwydiannau ynni-ddwys. Rhaid i Lywodraeth y DU roi eglurder ynglŷn â mesurau y bydd yn eu defnyddio i ariannu effeithlonrwydd ynni, a'r technolegau sy'n sicrhau dyfodol carbon isel. Rydym wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod prisiau ynni diwydiannol yn cyfateb â chystadleuwyr yn Ewrop a sicrhau chwarae teg i gynhyrchwyr dur y DU. Mae'r clwstwr lled-ddargludyddion yng Nghymru yn gyfrannwr hanfodol a phwysig arall i'n heconomi heddiw ac yn y dyfodol. Mae'r amser a gymerwyd gan Lywodraeth y DU i ddod i'w phenderfyniad i ddiddymu cais Nexperia i gaffael Newport Wafer Fab, ar sail diogelwch cenedlaethol, wedi achosi ansicrwydd mawr i'r busnes a'i weithlu. Mae'n rhaid i Lywodraeth y DU nodi sefyllfa glir i'r sector a chyhoeddi ei strategaeth led-ddargludyddion hirddisgwyliedig iawn. Mae dewis Llywodraeth y DU wrth ddylunio'r gronfa ffyniant gyffredin wedi diystyru datganoli ac 20 mlynedd o brofiad yn sicrhau cyllid yr UE. Mae Cymru'n parhau i golli dros £1 biliwn wrth i addewidion maniffesto gael eu torri ynghylch cyllido a fydd yn disodli cronfeydd yr EU. Yn y cyfamser, mae awdurdodau lleol yn dal i aros am benderfyniadau ar geisiadau ar gyfer ail rownd y gronfa ffyniant bro, er iddyn nhw gyflwyno ceisiadau ar ddechrau mis Awst y llynedd. Mae dull gweithredu Llywodraeth y DU wedi gosod llywodraeth leol mewn sefyllfa echrydus. Mae sectorau eraill, fel addysg uwch, addysg bellach a'r trydydd sector, wedi'u neilltuo, wrth i arian gael ei ail gyfeirio oddi wrth ardaloedd tlotaf ein gwlad ar yr amser gwaethaf posibl. Byddai hyn i gyd wedi ei osgoi pe na bai Llywodraeth y DU wedi torri ei addewid maniffesto a pharchu 20 mlynedd o ddatganoli. Yna gallem fod wedi rheoli cyllid a fyddai'n disodli cronfeydd yr UE yn llawn drwy ein fframwaith ar gyfer buddsoddiad rhanbarthol. Ar draws y datblygiadau hyn, ac eraill, megis gwynt arnofiol ar y môr neu ddal, defnyddio a storio carbon, mae ymrwymiad parhaus ac adeiladol i ddeialog gan Lywodraeth y DU yn hollbwysig. Mae rhai o'n prosiectau seilwaith strategol allweddol sydd wedi eu cynllunio ym mhob cwr o Gymru yn ddibynnol ar gymorth Llywodraeth y DU. Mae'r ganolfan ymchwil technoleg uwch, y Labordy Niwclear Cenedlaethol; prosiect ARTHUR; a'r Ganolfan Fyd-eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd i gyd yn dangos cryfderau gweithgynhyrchu gwerth uchel yng Nghymru. Ar ôl y dirywiad mewn cysylltiadau rhyng-lywodraethol yn gynharach yn y flwyddyn, rydym wedi gweld rhai gwelliannau yn ddiweddar. Ond mae tystiolaeth gadarn eto i ddod i'r amlwg o rythm rheolaidd, dibynadwy o ymgysylltu a pharch at ddatganoli ar draws pob maes polisi. Bydd gwahaniaethau clir bob amser rhwng blaenoriaethau ac amcanion ein priod Lywodraethau, oherwydd eu bod wedi'u gwreiddio mewn gwahanol werthoedd, ac nid oes unrhyw enghraifft yn fwy amlwg na'r ddeddfwriaeth wrth-streicio a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU yr wythnos diwethaf, ar ôl gwneud ymrwymiad clir yn y gorffennol i amddiffyn a gwella hawliau cyflogaeth a gadwyd wrth i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd. Nid ydym yn credu mai'r ymateb cywir yw i Lywodraeth y DU gyflwyno deddfau newydd fydd yn cael effaith uniongyrchol ar y gweithlu mewn gwasanaethau cyhoeddus datganoledig. Credwn mai'r ymateb cywir yw gweithio gyda chyflogwyr ac undebau llafur mewn partneriaeth gymdeithasol i ddatrys anghydfodau ar y cyd. Ond os gallwn ymgysylltu'n adeiladol ynghylch porthladdoedd rhydd, parthau buddsoddi o bosibl, a ffiniau, nid oes rheswm pam na ddylem allu cyflawni prosiectau o arwyddocâd strategol ar y cyd. Er gwaethaf ein gwahaniaethau, dylem fod â chyd-ddiddordeb mewn gwneud dewisiadau i wella'r rhagolygon economaidd i Gymru yn yr hyn a fydd yn flwyddyn heriol iawn i ddod. Paul Davies AC: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Nawr, rwy'n cytuno â'r Gweinidog fod y DU yn dechrau 2023 ar sail anodd iawn, ac mae angen pwyslais gwirioneddol ganddo ar bolisïau economaidd Llywodraeth Cymru. Roeddwn i wedi gobeithio y byddem ni'n clywed mwy gan y Llywodraeth ynglŷn â rhai o'r mentrau penodol sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â rhai o'r heriau y mae busnesau yng Nghymru yn eu hwynebu, ond mae diffyg manylion yn hyn o beth yn y datganiad heddiw. Serch hynny, rwy'n falch o weld bod y datganiad heddiw yn cyfeirio at sicrhau dyfodol economaidd ffyniannus, gwyrdd i Gymru, gan fuddsoddi yn sgiliau'r dyfodol. Mae'r Gweinidog yn gwybod fy mod i wedi bod yn galw am gynllun gweithredu sgiliau sero net newydd ers amser maith bellach, er mwyn sicrhau bod gennym y bobl a'r sgiliau cywir ar gael i elwa ar swyddi gwyrdd yn y dyfodol. Felly, efallai y gallai'r Gweinidog ddweud mwy wrthym am sut mae'r Llywodraeth yn meithrin gwell dealltwriaeth a sylfaen dystiolaeth o anghenion sgiliau yn y dyfodol i gefnogi'r newid i sero net, a hefyd dweud wrthym sut mae'n annog ymwybyddiaeth ymhlith cyflogwyr i gefnogi ailsgilio ac uwchsgilio eu gweithlu. Mae'r datganiad heddiw yn cyfeirio at y gefnogaeth barhaus i gostau ynni uchel a gyhoeddodd Llywodraeth y DU yr wythnos diwethaf, ac rwy'n credu bod lle yma i Lywodraeth Cymru weithredu i gefnogi busnesau hefyd. Er enghraifft, rydym yn gwybod bod Banc Datblygu Cymru yn datblygu cynllun a fydd yn caniatáu i fusnesau fenthyca er mwyn ariannu buddsoddiad cyfalaf sy'n cyflawni o ran datgarboneiddio. Felly, efallai fod hyblygrwydd yma i'r cynllun hwn gynnwys busnesau sydd angen cymorth acíwt gyda chostau ynni, fel y gall arian gyrraedd busnesau cyn gynted â phosib. Felly, efallai y gallai roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am ei drafodaethau gyda'r banc datblygu ar y gefnogaeth y gallan nhw ei chynnig i fusnesau Cymreig, a dweud wrthym ni pryd fydd cynllun newydd y benthyciad busnes gwyrdd yn debygol o ddod yn weithredol. Dirprwy Lywydd, mae datganiad y Gweinidog yn canolbwyntio'n helaeth ar gysylltiadau rhynglywodraethol, ac rwyf am ailadrodd, pan fo Llywodraethau'n gweithio gyda'i gilydd, mae Cymru'n elwa. Yn wir, rwyf eisiau atgoffa'r Gweinidog fod pobl Cymru'n cael eu gwasanaethu gan y ddwy Lywodraeth, ac mae er budd y ddwy ein bod yn cydweithio. Wrth gwrs, mae'n iawn i ddweud bod y DU yn undeb balch o genhedloedd sy'n gallu bod yn fwy na chyfanswm eu rhannau, ac mae'r bartneriaeth gyda Llywodraeth y DU ar feysydd fel porthladdoedd rhydd, fel bargeinion dinesig, a dyfodol polisi ffiniau, wedi dangos, pan fydd Llywodraethau'n gweithio gyda'i gilydd, bod Cymru'n elwa. Mae yna bryderon gwirioneddol, wrth gwrs, ynghylch cyllido sy'n disodli cronfeydd yr EU, ac rwy'n rhannu rhai o'r pryderon hynny, fel y mae'r Gweinidog yn gwybod yn iawn. Ond nid wyf yn gweld sut mae datganiad y Gweinidog heddiw yn dweud wrthym ni mewn unrhyw ffordd sut mae'n mynd i greu perthynas fwy adeiladol gyda San Steffan, sy'n hanfodol i economi Cymru. Nawr, mae hefyd yn hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu buddsoddi mewn meysydd fel ymchwil ac arloesedd, sydd â photensial enfawr i drawsnewid economi Cymru a'n rhoi ni ar flaen y gad yn natblygiadau technolegol. Ond rydym ni'n dal i aros am strategaeth arloesedd gan Lywodraeth Cymru, er gwaethaf galwadau cyson o'r sector. Felly, efallai y gallai'r Gweinidog gymryd y cyfle i ddweud wrthym pryd y byddwn yn gweld strategaeth arloesi gan y Llywodraeth hon. Nawr, mae'r Gweinidog yn gwneud pwynt teg ynghylch dyfodol hirdymor dur. Mae'n ddiwydiant sylfaenol sy'n asgwrn cefn i'n sector gweithgynhyrchu ac mae angen eglurder arnom ynghylch sut y bydd dyfodol cynaliadwy yn cael ei sicrhau. Felly, efallai y gallai'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynghylch y trafodaethau diweddaraf y mae wedi'u cael gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU ynghylch dyfodol y diwydiant fel y gallwn ddeall yn well lefel yr ymgysylltu ar y mater hwn. Mae datganiad y Gweinidog yn amlygu gwynt arnofiol ar y môr fel maes lle mae angen cryfhau deialog, ac mae gennyf i ddiddordeb mewn gwybod mwy am ei farn o gofio, yn y trafodaethau yr ydw i'n parhau i'w cael gyda datblygwyr, maen nhw'n ei gwneud hi'n glir mai Llywodraeth Cymru a sicrhau adnoddau i Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n arafu datblygiadau yma yng Nghymru, yn enwedig o ran caniatâd cynllunio. Felly, efallai y gallai fanteisio ar y cyfle i esbonio beth yn union y mae'n ei olygu yn ei ddatganiad mewn cysylltiad â gwynt arnofiol ar y môr, gan y bydd rhanddeiliaid yn y Senedd yn ddiweddarach heddiw a'r wythnos nesaf a byddant yn awyddus i ddeall ei farn yn well. Wrth gloi, Dirprwy Lywydd, roeddwn i wedi gobeithio y byddem yn clywed mwy gan y Gweinidog heddiw am flaenoriaethau economaidd y Llywodraeth hon, yn enwedig yng ngoleuni'r adroddiad gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, a oedd yn dadlau nad oes digon o gydlyniant a chysondeb, ers datganoli, ac nad yw'r uchelgeisiau wedi cael eu gwireddu oherwydd gweithredu aneffeithiol. Roedd yr adroddiad hwnnw, mewn gwirionedd, wedi'i gyd-ysgrifennu gan gyn Weinidog Llywodraeth Cymru, ac felly, gallai'r datganiad heddiw, ac yn fy marn i, dylai'r datganiad heddiw fod wedi manteisio ar y cyfle i ddweud mwy wrth yr Aelodau am sut y bydd yn cefnogi entrepreneuriaeth ac arloesi, datblygu ffrwd sgiliau cadarn a dod â diwydiant a'r byd academaidd ynghyd er lles economi Cymru. Mae aelodau eisoes yn gwybod bod cysylltiadau rhynglywodraethol cryfach o fudd i economi Cymru, ac er bod y Gweinidog yn iawn i ddweud bod angen eglurder gan Lywodraeth y DU mewn rhai meysydd, mae angen i ni weld mwy o eglurder gan Lywodraeth Cymru mewn sawl maes hefyd. Vaughan Gething AC: Diolch am y cwestiynau. Fel gŵyr yr Aelod, rydym yn datblygu ein cynllun sgiliau sero net. Mae rhai datganiadau i'w gwneud gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac eraill yn ddiweddarach yn y gwanwyn, ond mae gennyf i ddiddordeb yn y ffordd y gallwn ni gau'r cylch. Mewn gwirionedd, rwyf wedi cael sgyrsiau ychwanegol yn ystod yr wythnos diwethaf am ymateb amrywiaeth o randdeiliaid, darparwyr caffael sgiliau, addysg bellach ac eraill, ond hefyd busnesau—ac ymwybyddiaeth busnes—eu hunain, ac mae'n amrywio mewn gwahanol sectorau. Mae her yma o ran codi ymwybyddiaeth o'r daith i sero net, a'r ffaith y bydd angen i fusnesau ym mhob sector newid rhai o'r ffyrdd y maen nhw'n bwriadu gweithio. Dyna pam y bydd angen nid yn unig dull gweithredu ynghylch beth yw'r polisi, ond codi ymwybyddiaeth, a sut yr ydym yn arfogi pobl a fydd yn dod i fyd gwaith am y tro cyntaf, neu sydd yn agos at ddechrau eu gyrfa, yn ogystal â'r rhai ohonom sydd wedi bod yn y gwaith am gyfnod hirach, a sut rydych chi'n arfogi ac yn ailarfogi'r genhedlaeth bresennol o bobl sydd eisoes mewn gwaith. Ac fe welwch hynny wrth i ni fwrw ymlaen â'r cynllun sgiliau sero net, ond hefyd y gwaith y byddwn wedyn yn ei wneud yn fanylach mewn gwahanol sectorau. Felly, bydd gennyf i fwy i'w ddweud yn y misoedd nesaf, pan fyddwn ni'n lansio'r cynllun mewn gwirionedd, a byddwch chi'n gweld rhywfaint o'r ymgysylltu hwnnw. Ac rwy'n siŵr, gan wisgo eich het arall, nid yn llefarydd y Ceidwadwyr ond yn Gadeirydd y pwyllgor, bydd gennych ddiddordeb mewn rhai o'r ymgysylltiadau. Ac rwy'n edrych ymlaen at y dystiolaeth a'r archwiliad rwy'n siŵr y bydd y pwyllgor yn ei roi. O ran benthyciadau busnes gwyrdd Banc Datblygu Cymru, ni fydd yn rhaid i chi aros llawer hirach; rwy'n credu bod Luke Fletcher wedi gofyn hyn hefyd. Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd y lansiad hwnnw'n digwydd i nodi sut y bydd y banc datblygu yn gallu cefnogi busnesau i leihau costau i arbed y llinell waelod, ac i wneud hynny yn barhaus, i ddatgarboneiddio eu cynhyrchiant, a bydd y swyddogaeth gyngor yn rhan o'r cynllun hwnnw hefyd. Felly, dim llawer hirach i aros. Ond, mae hynny'n dangos ein bod ni'n defnyddio'r pwerau a'r gallu sydd gennym i wneud gwahaniaeth ymarferol. Ac o ran cysylltiadau rhynglywodraethol, mae gofyn i Lywodraeth y DU fod yn bartner parod mewn sgwrs. Y cyfarfod a gefais heddiw gyda Gweinidog yn yr Adran Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU, Gweinidog Llywodraeth yr Alban a gwas sifil o Ogledd Iwerddon oedd yr un cyntaf mewn naw neu 10 mis. Nid oherwydd i ni benderfynu peidio â chael y cyfarfodydd; dewis Llywodraeth y DU am amryw o resymau oedd atal y rhain rhag digwydd. Rydym bob amser wedi bod yn barod i ymgysylltu'n adeiladol. Felly hefyd yn y cyfarfod a gefais yn gynharach yr wythnos hon gyda Michael Gove ar amryw o faterion eraill. Rydym ni'n gwybod na fyddwn ni wastad yn cytuno, ond byddai'n llawer gwell gennym ni gael sgwrs ac i wneud hynny mewn cyfnod digon cynnar i wneud gwahaniaeth. Yr hyn yr ydym ni wedi'i ganfod ar wahanol adegau yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf yw eu bod wedi ymgysylltu â ni ar adeg pan gawn wybod beth yw'r penderfyniad, neu pan fyddant yn mynnu ein bod yn cytuno â pholisi a safbwynt yr ydym yn gwybod na fyddwn yn dod o hyd i gytundeb arnyn nhw. Dyna pam y tynnais sylw yn fy natganiad at feysydd lle bu cytundeb yn bosibl, fel y ffaith ein bod wedi cyfaddawdu ac wedi cytuno ar safbwynt ynghylch porthladdoedd rhydd, i gyferbynnu hynny â'r dull a gymerwyd ar ffyniant cyffredin a'r gronfa ffyniant gyffredin, er enghraifft. O ran strategaeth arloesi, rwy'n credu fy mod i wedi bod mor glir ag y gallaf i fod: mae'n ymrwymiad yn y cytundeb cydweithredu. Rydym yn disgwyl lansio honno cyn diwedd mis Chwefror, felly, eto, dim llawer hirach i aros. O ran dur, rwy'n croesawu'r hyn yr oedd gan yr Aelodau i'w ddweud sef bod angen eglurder ynghylch dyfodol y sector. Gall hynny ond digwydd pan fo gan Lywodraeth y DU fap ffordd priodol ynglŷn â ffurf buddsoddi ar y cyd a'r math o flaenoriaethau y mae eisiau eu gosod. Ac mae hynny'n bwysig iawn ar draws y sector cyfan, nid yn unig i'r sector dur ei hun, ond yna yr hyn sy'n mynd i ddigwydd ym maes caffael mewn ystod o feysydd eraill lle gallem ac y dylem ni fod yn cael effaith gadarnhaol o weld mwy o ddur sy'n cael ei gynhyrchu ym Mhrydain yn cael ei ddefnyddio mewn ystod o gynhyrchion. Byddai hynny hefyd, yn fy marn i, angen dull gwahanol o fuddsoddi mewn seilwaith hefyd. Ac o ran gwynt arnofiol ar y môr, eto, maes lle gellid ac y dylid defnyddio dur, rydym wedi bod yn glir iawn yn ein sgyrsiau gydag Ystad y Goron. Rwyf i a Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, wedi cwrdd ag Ystad y Goron sawl gwaith, ac rydym ni wedi bod yn glir am yr hyn yr ydym eisiau ei weld gyda ffrwd o rowndiau prydlesu yn y dyfodol, felly nid rhywbeth pryd y ceir cyfle am gyfnod o fisoedd a chyfnod byrrach o flynyddoedd, ond rownd o brydlesu mwy hirdymor, er mwyn i chi allu cael buddsoddiad mwy hirdymor. A byddai hynny, yn fy marn i, yn sail i fuddsoddiad sylweddol yn seilwaith porthladdoedd y gogledd a'r de, er mwyn manteisio'n llawn ar gyfleoedd. A hefyd rydym wedi bod yn glir iawn gydag Ystad y Goron ein bod eisiau gweld mantais gadarnhaol a gofyniad yn y rownd brydlesu nesaf am gadwyn gyflenwi leol, ac y byddai'n rhaid i geisiadau wedyn gyflawni yn ymarferol. Byddai angen dull contractio i wneud yn siŵr nad yw cais yn ymddangos yn un gwych ar bapur ac yna bod rhywbeth hollol wahanol yn digwydd mewn gwirionedd dros y blynyddoedd nesaf. Ac fe fyddwn i'n credu y byddai'r Aelod ac eraill yn gefnogol i hynny, oherwydd dylai sicrhau ein bod yn cynhyrchu mwy o werth economaidd yn y cadwyni cyflenwi hynny fod yn nod gyffredin ar draws y Siambr. Ac yn olaf, ar eich pwynt, fe wnaethoch chi sôn am sgiliau ar y diwedd; mae'n un o'r meysydd yr ydym ni wedi buddsoddi ynddo yn gyson. Mae gennym hanes da o ran buddsoddi mewn sgiliau a phrentisiaethau drwy oes datganoli. Mae'n un o'r ysgogiadau sydd gennym i wneud gwahaniaeth. Mae hefyd yn un o'r ysgogiadau lle mae'n anoddach gwneud mwy oherwydd diffyg setliad priodol ynghylch cronfeydd ar ôl ymadael â'r UE. Mae'r £1 biliwn yna rydym ni'n mynd i'w golli yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran sut rydym ni'n cefnogi'r economi, sut rydym ni'n arfogi pobl â sgiliau ar gyfer heddiw, ac ar gyfer yfory, a byddwn i wir yn croesawu gweld y Ceidwadwyr Cymreig yn ymuno â lleisiau o bob rhan o'r Siambr a'r gymdeithas yn ehangach a sectorau eraill i alw ar Lywodraeth y DU i ailedrych ar yr hyn mae wedi ei wneud, ailedrych ar ei addewidion o'r maniffesto a dorrwyd, a rhoi i Gymru yr hyn a addawodd, cyllido llawn sy'n disodli cronfeydd strwythurol yr UE, a byddai hynny'n gwneud gwahaniaeth i'n dyfodol economaidd. Luke Fletcher AS: Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw. Luke Fletcher AS: Rwyf am ddechrau drwy gytuno â'r Llywodraeth: mae'n warthus y byddai'n well gan Lywodraeth y DU ymosod ar hawliau gweithwyr nag ymdrin yn effeithiol â'r caledi economaidd y mae'r gweithwyr hynny yn ei wynebu. Os caf i ddechrau gydag un elfen o'r caledi, sef ynni, dywedodd y Gweinidog nad yw cynllun presennol y DU, er ei fod yn darparu cymorth, rhywfaint o gymorth, yn gwneud dim i ddiogelu rhag anwadalwch prisiau ynni. Nid wyf yn credu y byddwn yn gallu diogelu rhag anwadalwch prisiau yn llawn, ac mewn ffordd nad yw'n sybsideiddio cyfranddalwyr yn y sector preifat, oni bai ein bod yn gwladoli'r sector ynni. Gobeithio y byddai'n cytuno â'r egwyddor honno. Nawr, mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu lleihau'r gefnogaeth i fusnesau bach drwy'r cynllun rhyddhad ar filiau ynni yn sylweddol, sy'n gadael busnesau bach yng Nghymru yn wynebu costau ynni uchel ofnadwy. Rydym wedi clywed eisoes bod un o bob pedwar busnes yn ystyried cau neu werthu os nad oes cynllun rhyddhad ar filiau ynni newydd yn cymryd ei le. Mae'r cyhoeddiad gan y Llywodraeth ar y cynllun benthyciadau busnes gwyrdd i'w groesawu'n fawr ac mae'n rhywbeth yr wyf i fy hun, Plaid Cymru, a grwpiau rhanddeiliaid arwyddocaol fel Ffederasiwn y Busnesau Bach ac UKHospitality wedi bod yn galw amdano, ond, hefyd, mae'r Ffederasiwn wedi bod yn galw am weithredu cynllun talebau 'cymorth i wyrddu' gan Lywodraeth y DU, wedi'i fodelu ar y cynllun 'Cymorth i Dyfu: Cynllun Digidol', er mwyn helpu busnesau i ddatgarboneiddio. O ystyried cyfarfodydd rhyngweinidogol diweddar y Gweinidog, a fyddai'n codi'r mater hwn gyda Llywodraeth y DU a'u hannog i weithredu cynllun o'r fath i redeg ochr yn ochr â chynllun benthyg yma yng Nghymru? Ac wrth gwrs rwy'n gwybod bod y Gweinidog eisoes yn codi'r materion sy'n ymwneud â dur. Mae Plaid Cymru yn ei gefnogi wrth alw ar Lywodraeth y DU i gamu i'r adwy a darparu'r gefnogaeth sydd ei hangen ar gyfer datgarboneiddio'r sector. Rydym ni'n gwybod bod dur yn hanfodol i ddatgarboneiddio'r economi; mae angen dur arnom i adeiladu mathau adnewyddadwy o gynhyrchu ynni, fel gwynt ar y môr y soniodd y Gweinidog amdano. Dyna pam mae'n hanfodol y ceir cyllid i gefnogi datgarboneiddio dur. Mae ceisio datgarboneiddio, wrth gwrs, yn cael ei wneud yn anoddach gan y ffaith bod gwneuthurwyr dur y DU yn talu 30 y cant yn fwy am eu trydan na'u cymheiriaid yn yr Almaen, a hyd at 70 y cant yn fwy na'u cymheiriaid yn Ffrainc. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu rhoi datganiad manylach i'r Siambr mewn cysylltiad â'i drafodaethau gyda Llywodraeth y DU o ran y sector dur. Nawr, rydym ni wedi clywed sôn am borthladdoedd rhydd yn natganiad y Gweinidog heddiw, yn ogystal ag yng nghwestiynau'r Prif Weinidog. Rwyf wedi bod yn glir ynghylch fy sefyllfa o ran porthladdoedd rhydd; nid wyf yn credu mai nhw yw'r ateb i'n problemau ni. Roedd Cyngres yr Undebau Llafur nôl yn 2020 yn dweud nad oes tystiolaeth bod porthladdoedd rhydd yn creu swyddi nac yn ysgogi twf. Gallwn fynd ymlaen, ond mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi rhagweld y bydd manteision treth mewn porthladdoedd rhydd yn Lloegr yn costio £50 miliwn y flwyddyn. A yw'r Llywodraeth wedi gwneud asesiad o'r goblygiadau yma yng Nghymru? Tybed a allai'r Gweinidog hefyd roi eglurder ynghylch y rhan y mae'n ei chwarae yn y penderfyniad ar ba borthladd rhydd fydd yn cael ei ddatblygu yng Nghymru, yn ogystal â pha ran fydd gan y Senedd wrth graffu ar y penderfyniad. Rwy'n gwybod ei fod yn benderfyniad ar y cyd rhyngddo ef ac un o gyd-Weinidogion Llywodraeth y DU, ond, os bydd anghytuno, a fydd ganddo'r gair olaf? Ond hefyd a fydd Aelodau yn y Siambr hon yn cael pleidlais ar y penderfyniad, neu bleidlais ynghylch a ydym eisiau porthladdoedd rhydd o gwbl hyd yn oed? Vaughan Gething AC: O ran y pwynt sylweddol cyntaf y gofynnodd amdano, fe fyddwn yn ddiolchgar pe bai'n ysgrifennu ataf ynghylch manylion y cynllun y mae'n ei awgrymu, yn hytrach na cheisio rhoi ateb tri gair yn y Siambr heddiw. O ran yr heriau o lai o gefnogaeth ynghylch prisiau ynni, mae'n werth atgoffa pobl, pan fydd Llywodraeth y DU yn siarad am gwsmeriaid annomestig, nad ydyn nhw'n siarad am wasanaethau cyhoeddus. Felly, nid yw gwasanaethau cyhoeddus yn gwsmeriaid domestig, ond maen nhw wedi'u heithrio o'r cymorth, a bydd hynny'n her wirioneddol mewn termau cyllidebol ar gyfer y gwasanaethau hynny a her gyllidebol y mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â hi hefyd. O ran ymatebion grwpiau busnes, mae'n ddiddorol eu bod wedi bod yn gymysg. Yn ddealladwy, busnesau bach sy'n poeni fwyaf am dynnu'r gefnogaeth yn ôl. Mae amrywiaeth o fusnesau ynni-ddwys o feintiau bach, canolig a mwy, ac rwy'n credu y gwelwn ni heriau go iawn gyda'r lefel llai o gefnogaeth sydd ar gael. Mae'n dal i fod yn wir, yn fy sgyrsiau gyda busnesau a phartneriaid undebau llafur, bod costau ynni a chwyddiant yn dal i fod ar frig pryderon pobl wrth redeg busnesau, yna llafur a sgiliau, ac mae hynny'n cyffwrdd â rhai o'r pwyntiau am fuddsoddi yn y dyfodol, am gael pobl i fynd i swyddi mewn gwirionedd lle mae cyfleoedd i dyfu'r busnesau hynny, ac yna mae gennym her ein telerau masnachu o hyd gyda'n partneriaid Ewropeaidd. Ar hynny, roedd rhywfaint o gynnydd gweddol gadarnhaol mewn sgyrsiau ynghylch protocol Gogledd Iwerddon ar rannu data. Rwy'n gobeithio y bydd synnwyr cyffredin parhaus yn ein trefniadau, ac na fyddwn yn dychwelyd at y dulliau blaenorol o gyfathrebu a oedd yn ymddangos fel pe baen nhw wedi'u cynllunio i waethygu amodau yn hytrach na'r tebygolrwydd o fasnach lwyddiannus gyda phartneriaid. Rwy'n parchu'r Aelod am barhau i siarad am borthladdoedd rhydd a gwneud ei safbwynt yn glir. Serch hynny, fe fyddwn yn ei atgoffa nad yw'r sefyllfa yr ydym wedi ei chyrraedd yn un sy'n gwbl ddieithr i Blaid Cymru. Yn yr ornest am yr arweinyddiaeth flaenorol, roedd y person sydd ar hyn o bryd yn swydd arweinydd Plaid Cymru, bryd hynny, yn sôn am fod â mwy nag un porthladd rhydd ac am fod â phorthladd rhydd fel safbwynt polisi o ran hynny. Nawr, mae beth yw porthladd rhydd a'r hyn nad yw porthladd rhydd yn gallu bod yn wahanol, oherwydd roedd gennym borthladdoedd rhydd yn y DU cyn hyn pan oeddem yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd, yna cafodd y Ceidwadwyr wared arnyn nhw ar ôl cyfnod gwahanol. Nid yw'r hyn sy'n cael ei gynnig nawr yr un fath â'r hyn a gynigiwyd yn wreiddiol pan gyd-awdurwyd neu noddwyd papur polisi gan Rishi Sunak. Mae'r prosbectws sydd gennym ni yn glir ynghylch cynnwys gwaith teg, ac mae'n rhaid gwneud hynny'n glir fel rhan o'r—[Anghlywadwy.]—a chynaliadwyedd, pethau efallai na fyddech chi wedi disgwyl eu gweld pe bai wedi cael ei wneud gan y Ceidwadwyr ar eu pennau eu hunain yn Llywodraeth y DU, gan geisio ysgrifennu cais y prosbectws hwnnw. Felly, mae wedi bod yn broses o rannu a chyfaddawdu rhwng y ddwy Lywodraeth. Felly, rydyn ni wedi dod i sefyllfa lle mae rhywbeth nid yn unig y gallwn ni fyw gydag ef, ond i weld y cyfleoedd, oherwydd, fel y dywedais i wrth ymateb i gwestiynau gan Paul Davies, mae yna gyfleoedd i fuddsoddi mewn porthladdoedd mewn gwahanol rannau o Gymru. Edrychaf ymlaen at gael y cyngor proffesiynol nid yn unig gan fy swyddogion, ond mewnbwn gan swyddogion Llywodraeth y DU yn ogystal ynghylch natur pob un o'r ceisiadau sydd wedi eu cyflwyno, a byddaf wedyn yn gwneud penderfyniad ar y cyd â Gweinidog y DU. Felly, nid yw'n ymwneud â rhywun â feto dros y llall, mae'n golygu y bydd angen i ni ddod o hyd i le i gytuno, fel arall ni allwn wneud penderfyniad. Y craffu ar gyfer hynny, rwy'n disgwyl y byddwn ni—. Fel rydych chi wedi gweld yr wythnos diwethaf, fe fydd datganiad, fe fydd yna gyhoeddiad, ac rwy'n disgwyl y bydd Aelodau eisiau fy holi yn y Siambr hon, ac o bosib yn y pwyllgor yr ydych chi'n aelod ohono, ynghylch beth sy'n rhan o bob un o'r dewisiadau hynny a sut yr ydym ni wedi cyrraedd sefyllfa benodol. Felly, rwy'n llwyr ddisgwyl y bydd craffu agored a chyhoeddus ar unrhyw ddewis sy'n cael ei wneud. Rwy'n gobeithio bod hynny'n ddefnyddiol, sef nodi'r dewisiadau yr ydym yn eu gwneud a'r ffaith ein bod yn gwneud rhywbeth i geisio cynnal cyfleoedd i dyfu economi Cymru ac i beidio â dadleoli gweithgaredd, rhywbeth y gwn i oedd un o bryderon yr Aelod. Rydym bron â defnyddio'r amser a neilltuwyd i gyd ac mae gennyf ibum Aelod yn dymuno siarad o hyd. Felly, a wnaiff pob Aelod fod yn fyr ac a wnaiff y Gweinidog fod yn gryno yn ei ymatebion? Vaughan Gething AC: Fe geisiaf i. Huw Irranca-Davies. Huw Irranca-Davies AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, wrth groesawu'r datganiad heddiw a'i bwyslais clir iawn ar werth cymdeithasol a phartneriaeth gymdeithasol yn yr economi, a gaf i ofyn a fydd Gweinidogion y Llywodraeth yn parhau i weithio gyda'r rhai ohonom—ac rwy'n tynnu sylw'r Siambr at fy aelodaeth o'r Blaid Gydweithredol a fy ngwaith yn cadeirio grŵp Cydweithredol y Senedd—yr Aelodau hynny sydd eisiau gweld Llywodraeth Cymru yn adeiladu ar ei gwaith sydd eisoes yn drawiadol ar dyfu sector perchnogaeth gan y gweithwyr yr economi? Diolchwn i'r Dirprwy Weinidog am ymgysylltu â ni ynghylch y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), ac rydym yn gofyn sut y gallai'r ddeddfwriaeth nodedig hon gyfeirio'n gliriach at berchnogaeth gan y gweithwyr, ond gofynnwn hefyd i'r Gweinidog a fydd yn parhau i weithio gyda ni ar ffyrdd ychwanegol y gallwn dyfu perchnogaeth gan y gweithwyr yng Nghymru gyda mesurau nad ydynt yn ddeddfwriaethol, wrth gwrs, ond hefyd y posibilrwydd o ddeddfwriaeth sy'n torri tir newydd yma yng Nghymru pe bai aelod o'r meinciau cefn, efallai un o nifer o aelodau meinciau cefn y Blaid Gydweithredol yma yn y Siambr hon, yn gallu cyflwyno cynnig cryf a difrifol yn ystod tymor y Senedd hon. A fyddai'n cytuno i weithio gyda ni ar hynny? Vaughan Gething AC: Efallai y dylwn i nodi mewn ymateb fy mod hefyd yn aelod o'r Blaid Gydweithredol. Fodd bynnag, wrth ateb y pwyntiau gan yr Aelod, rwy'n credu ei bod yn deg dweud hyn: mae perchnogaeth gan y gweithwyr yn mwynhau statws pwysig yn Llywodraeth Cymru, gyda rhaglen glir ar gyfer ymrwymiad y llywodraeth wrth gysylltu ein cynnydd â'i thwf. Credwn y bydd twf busnesau sy'n eiddo i'r gweithwyr yn cyfrannu at economi Cymru gryfach, decach, oherwydd bod ganddyn nhw ddatblygiad cynaliadwy wedi'i gynnwys yn eu DNA. Er gwaethaf y twf cyflym yn nifer y busnesau sy'n eiddo i'r gweithwyr yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rwy'n cydnabod yr angen parhaus i ddathlu'r rhan y maen nhw'n ei chwarae. Bydd y Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus yn cyfrannu at lesiant trwy wella gwasanaethau cyhoeddus drwy weithio mewn partneriaeth gymdeithasol, caffael cyhoeddus sy'n gyfrifol yn gymdeithasol a hyrwyddo gwaith teg. Byddwn nawr yn archwilio ffyrdd y gallai'r canllawiau ynghylch y Bil gyfeirio'n ddefnyddiol at fusnesau sy'n eiddo i'r gweithwyr. Er nad y Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus yw'r cerbyd cywir i ddeddfu ar berchnogaeth gan y gweithwyr, byddaf, wrth gwrs, yn gweithio'n gadarnhaol gyda chynnig deddfwriaethol AS cryf yn y dyfodol ynghylch perchnogaeth gan y gweithwyr. Er na allaf warantu y byddai deddfwriaeth yn dilyn, mae ein hymrwymiad i'r agenda polisi yn golygu y byddem yn sicr yn gweithio gyda chynnig o'r fath. Fel yn achos ein dull economi sylfaenol, a llawer o agendâu uchelgeisiol eraill yn ein rhaglen lywodraethu, credwn y bydd cynnydd yn cael ei wneud heb ddeddfwriaeth, a dyna pam nad wyf yn gweld bod cynnig yn angenrheidiol ar gyfer gweithredu. Rwy'n ddiolchgar am y trafodaethau yr ydw i a'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol wedi eu cael gyda Huw Irranca-Davies hyd yn hyn. Byddwn nawr yn manteisio ar y cyfle i ymgysylltu ynghylch sut y gallai'r canllawiau statudol ac anstatudol ar gaffael a gwaith teg helpu i hyrwyddo egwyddorion perchnogaeth gan y gweithwyr o fewn y fframwaith a ddarperir gan y Bil ac yn ein polisi ehangach. Jack Sargeant AC: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad, yn arbennig y cyfeiriadau at y ganolfan ymchwil technoleg uwch ac at y diwydiant dur? Ond un elfen allweddol o economïau'r dyfodol, yng Nghymru ac ar draws y byd, fydd seilwaith digidol a chysylltedd digidol. Llywydd, rwyf yn datgan buddiant fel aelod di-dâl o gonsortiwm y prosiect, consortiwm prosiect 5G, dan arweiniad Prifysgol Bangor. Mae'r Gweinidog yn gwybod nad ydw i'n dymuno gweld y gogledd yn unig yn cael ei gysylltu, ond rwyf eisiau gweld y gogledd yn creu ac yn cynhyrchu'r genhedlaeth nesaf o'r technolegau hyn. Gyda hynny mewn golwg, a gaf i ofyn i'r Gweinidog pa sgyrsiau y mae wedi'u cael gyda chyd-Weinidogion Llywodraeth y DU ynghylch buddsoddi mewn seilwaith digidol ac ymchwil a datblygu'r mathau hyn o dechnolegau? Vaughan Gething AC: Cewch. Yn gyntaf, rwyf wedi cael nifer o sgyrsiau gyda chyd-Weinidogion yn Yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn Llywodraeth y DU. Rwy'n disgwyl cael cyfarfod gweinidogion o fewn yr wythnosau nesaf ar yr union bwnc sef ar y potensial i fuddsoddi ymhellach i wneud hynny. Felly rwy'n falch o safbwynt y gogledd ond rwy'n credu ym mhob un o'n fframweithiau economaidd rhanbarthol, cydnabyddir cysylltedd digidol nid yn unig fel rhan allweddol o'r economi heddiw, ond rhan fwy fyth o'r ffordd y bydd yr economi'n gweithio yn y dyfodol. Yn bendant, mae hwn yn rhan o'r agenda sydd gennyf i, ac erbyn hyn, wrth gwrs, mae gennyf arweinyddiaeth gweinidogion ar gyfer y strategaeth ddigidol i Lywodraeth Cymru. John Griffiths AC: Gweinidog, rwy'n credu bod y rhyfel yn Wcráin wedi dangos yn glir pa mor ansefydlog ac anrhagweladwy yw'r byd yr ydym yn byw ynddo ac mae llawer o wledydd bellach yn gweithio'n galed iawn i gynnal a chefnogi eu diwydiannau allweddol, eu diwydiannau strategol. Roeddwn yn falch iawn eich bod wedi cyfeirio at y diwydiant dur ac yn wir y diwydiant lled-ddargludyddion yn eich datganiad, oherwydd rwy'n credu eu bod yn ddiwydiannau strategol sydd wir angen cefnogaeth. Yn lleol i mi, Gweinidog, fel y gwyddoch chi, mae enghreifftiau o ganlyniadau diffyg strategaeth Llywodraeth y DU sef popeth sydd ei angen i gefnogi a meithrin datblygiad. Felly, gyda Liberty Steel, rydym yn gweld y cyhoeddiad diweddar fel darlun o'r anawsterau yn y diwydiant dur, a gyda Nexperia, gwelwn ganlyniad Llywodraeth y DU yn gwneud penderfyniad ac yna cerdded i ffwrdd o'r penderfyniad hwnnw, yn hytrach na nodi dewis arall hyfyw a fyddai'n darparu'r un math o ddatblygiad a chefnogaeth i swyddi y byddai'r caffaeliad gan Nexperia wedi'i gyflawni. Felly, o ran y ddwy enghraifft hynny, Gweinidog, tybed a wnewch chi ddweud rhywbeth am yr hyn mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran y sefyllfaoedd presennol hynny. Vaughan Gething AC: Diolch. Fe geisiaf ymdrin â'r materion mor ddi-oed ag y gallaf, gan gofio'r hyn a ddywedodd y Dirprwy Lywydd. O ran Liberty Steel, rwyf wedi cael sgwrs gyda Community am y sefyllfa bresennol. Byddwn ni wrth gwrs yn cefnogi gweithwyr sy'n wynebu amser ansicr, ond hefyd yn ceisio deall beth mae'r saib a gyhoeddwyd gan y cwmni mewn gwirionedd yn ei olygu. Nid yw'n hollol glir eto beth yw hynny. Yr hyn sy'n amlwg, serch hynny, yw bod dyfodol i'r sector dur. Mae dyfodol i ddatgarboneiddio'r ffordd mae dur yn cael ei gynhyrchu. Mae hynny'n gofyn am fuddsoddiad gan y diwydiant ei hun, ond hefyd mae angen i'r Llywodraeth benderfynu sut mae'n mynd i wneud hynny. Mae angen i ni benderfynu a ydym ni'n gyfforddus yn cynhyrchu hydrogen ar gyfer dur fel rhywbeth sy'n mynd i gael ei ddatblygu yn yr Iseldiroedd yn Ewrop, nid yma yn y DU, ac rwy'n credu bod angen i Lywodraeth y DU fod yn glir iawn: a yw'n gweld y sector dur fel gallu sofran ar gyfer economi fodern, fel rwy'n credu ein bod ni yma yng Nghymru? Ac os yw'n gwneud hynny, mae angen iddi weithredu yn y ffordd honno i sicrhau bod dewisiadau buddsoddi yn cael eu gwneud mewn gwirionedd, gan gynnwys pethau ynghylch cynhyrchu sgrap a chadw mwy o'r metel sgrap hwnnw yma yn y DU. O ran Nexperia, rwyf wedi cael nifer o sgyrsiau uniongyrchol ynghylch hyn, gyda'r gweithlu ac yn wir gyda Llywodraeth y DU, ac mewn gwirionedd yr hyn yr ydym yn chwilio amdano yw dealltwriaeth o'r strategaeth tymor hwy sydd ei hangen ar gyfer Nexperia a'r sector ehangach ei hun. Felly, rhywbryd, fel y soniais yn fy natganiad, byddai croeso mawr gan bawb i gyhoeddiad ynghylch y strategaeth honno, a'r dewisiadau buddsoddi y dylid eu gwneud, ond mae hwn yn bendant yn faes twf i Gymru. Jenny Rathbone AC: Un o'r prosiectau seilwaith strategol allweddol sy'n dibynnu ar gymorth Llywodraeth y DU yw gwneud cynnydd ar argymhellion y comisiwn Burns i gryfhau'r rheilffyrdd rhwng y dwyrain a'r gorllewin, rhwng Casnewydd a Chaerdydd a thu hwnt, sef asgwrn cefn metro'r de-ddwyrain. Rwy'n gwerthfawrogi nad yw trafnidiaeth yn eich portffolio, ond rwyf eto i weld unrhyw gynnydd o gwbl ar fater mor strategol bwysig, sy'n hanfodol ar gyfer denu busnesau newydd i'r de-ddwyrain. Ydych chi'n gallu rhoi gwybod am unrhyw newid trywydd gan Lywodraeth ddiweddaraf y DU, unrhyw lygedyn o obaith o fuddsoddiad y Llywodraeth yn yr hyn y mae hi'n gyfrifol amdano, am seilwaith y llinell reilffordd o'r dwyrain i'r gorllewin, y mae Llywodraeth y DU yn llwyr gyfrifol amdano? Oherwydd hebddo, ni allaf weld sut y byddwn yn gallu cynyddu datblygu economaidd yn ogystal â thrafnidiaeth integredig. Vaughan Gething AC: Mae'r Aelod yn iawn i dynnu sylw at y ffaith bod hwn yn gyfrifoldeb a gedwir yn ôl ac rydym yn chwilio am gynnydd go iawn, nid geiriau caredig yn unig yn y maes hwn. Mae'r Aelod hefyd yn iawn fod y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn arwain yn y maes hwn. Rwy'n siŵr y byddai'n hapus i siarad â'r Aelod yn uniongyrchol, ond ni ddylai buddsoddi yn y maes hwn fod yn dda i'r economi ac i drafnidiaeth yn unig; mewn gwirionedd, pe byddem yn gwneud pethau'n iawn, byddai hefyd yn rhan o greu dyfodol i'r sector dur, a sut y gellid ac y dylid rhedeg y caffaeliad hwnnw. Mae'n rhan o'r her ynghylch gwelliannau seilwaith y rheilffyrdd ym mhob man yn y DU, ac rwyf eisiau gweld y seilwaith hwnnw'n gwella, a'i wella gyda dur o Brydain gan gefnogi mwy o swyddi ym Mhrydain. Ac yn olaf, Alun Davies. Alun Davies AC: Rwy'n ddiolchgar, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma, er rhaid i mi ddweud fy mod yn gweld ei ymddiriedaeth yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig braidd yn druenus, ac o bosib yn anaddas. Rydym wedi cael dadl yn gynharach heddiw adeg y cwestiynau ynghylch y ffordd y mae'r drefn gymhorthdal yn cael ei rheoli, ac mae wedi dyfynnu ei hun y brad a fu ynghylch cyllid yr UE. Felly, ni allaf weld unrhyw reswm dros yr optimistiaeth yna, ond rydym ni i gyd yn edmygu optimist, ac fel cefnogwr Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, rwy'n eithaf cyfarwydd â hyn fy hun. Ond gadewch i mi ddweud hyn wrth y Gweinidog: rwy'n meddwl weithiau ein bod ni mewn perygl o foddi ein hunain mewn proses, a cholli golwg ar ein hamcanion, a cholli golwg ar ein diben. Mae dau brawf yr wyf am eu gosod i'r Gweinidog ynghylch y datganiad hwn a'r gwaith sy'n deillio ohono. Y cyntaf yw cynhyrchiant. Sonnir am gynhyrchiant bron fel sylw wrth fynd heibio yn y datganiad hwn, ond dyma'r argyfwng mwyaf sy'n wynebu economi Cymru, a byddaf eisiau gweld buddsoddi i wella cynhyrchiant. Yr ail brawf yw sut mae'n effeithio ar y bobl yr wyf i'n eu cynrychioli ym Mlaenau Gwent. Yn rhy aml, mae ardal Blaenau Gwent yn cael ei thrin fel y cyrion gan Lywodraeth Cymru, ac nid ydym yn gweld y buddsoddiad sydd ei angen arnom i sbarduno twf economaidd ym Mlaenau'r Cymoedd. Ond wrth gwrs, nid yw Llywodraeth y DU hyd yn oed yn gwybod ble mae Blaenau Gwent, a'r hyn rydym ni'n ei weld o bosib yw Blaenau Gwent yn dod yn gyrion ar y cyrion. Felly, rwyf eisiau sicrwydd y bydd y Llywodraeth a'r Gweinidog yn gosod amcanion clir fel y gall pobl Blaenau Gwent weld canlyniadau'r gwaith hwn, oherwydd prawf o'r effaith ar y bobl yr ydym yn eu cynrychioli yw'r prawf mwyaf oll. Vaughan Gething AC: Rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt cwbl deg, fel cynrychiolydd Blaenau Gwent, ynglŷn â beth fydd yr effaith i'w etholaeth, i'r gymuned y mae wedi ei fagu ynddi a bellach yn ei chynrychioli. I fod yn deg, y tu allan i'r Siambr, Dirprwy Lywydd, mae'r Aelod yn gwneud pwyntiau weddol debyg, weithiau ychydig yn fwy lliwgar, ond mae'n rhan o'i swyddogaeth. Felly, mae'n rhan o'r prawf, sef, 'A fydd yn gwneud gwahaniaeth?', nid yn unig ar gyfer prosiectau unigol—gallwn bwyntio at y gwaith yr ydym ni'n ei wneud gyda Thales, er enghraifft, ond nid dim ond ym Mlaenau y mae hwnnw wedi ei sefydlu—ond pa wahaniaeth y bydd yn ei wneud yn fwy eang. Felly, y gwaith y mae fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog addysg wedi'i weld yno ynghylch ystafelloedd dosbarth 5G, a'r gallu sydd ganddo i gael effaith llawer ehangach a dyfnach. O ran eich pwynt am gynhyrchiant, rydych chi'n iawn, wrth gwrs. Rhai o'r heriau sy'n ymwneud â buddsoddi mewn sgiliau, un o'r prif bwyntiau, yw mabwysiadu gwahanol welliannau i brosesau, a'r gwahaniaeth y gall hynny ei wneud mewn ystod gyfan o sectorau; y gwelliant mewn sgiliau arwain a rheoli—her allweddol yn economi Cymru; ond hefyd mabwysiadu nid yn unig atebion technoleg newydd a blaengar, pan fo, mewn gwirionedd, llawer o'r mabwysiadu yn ymwneud â phethau sydd eisoes yn aeddfed. Fe wnaeth y pandemig, er enghraifft, orfodi llawer o fusnesau i fynd i'r byd ar-lein lle nad oedden nhw wedi bod. Wel, mewn gwirionedd, mae cyfle yno wrth weithredu mewn ffordd wahanol. Hefyd, mae angen sicrhau eich bod chi'n ddiogel ar-lein hefyd. Mae hefyd yn ymwneud â deall ffyrdd syml sy'n cael eu mabwysiadu ac yn aeddfedu mewn sectorau eraill i sicrhau eich bod yn gwthio mwy o fusnes a mwy o draffig tuag atoch. Er hynny, rwy'n credu, yn ogystal â'r holl heriau hynny pryd yr ydym yn eu deall—ni fyddwn yn darlunio fy agwedd adeiladol tuag at y berthynas â Llywodraeth y DU yn y ffordd y byddai'r Aelod yn ei wneud—ond mae meysydd lle gwelwn wahanol rannau o Lywodraeth y DU yn ymddwyn yn wahanol. Mae rhai lle mae'n fwy anodd ymdrin â nhw nag eraill, ac fel y soniais yn y datganiad, y ganolfan dechnoleg uwch, er enghraifft, y dylid lleoli honno yn etholaeth Jack Sargeant. Mewn gwirionedd, mae hynny'n enghraifft dda o ble y gallwn weithio gyda'n gilydd, ac rydym eisiau mwy o hynny a llai o'r brad llwyr sydd wedi digwydd ynghylch y gronfa ffyniant gyffredin, sy'n rhywbeth y byddwn yn parhau i'w drafod nes i'r sefyllfa gael ei datrys. Efallai y bydd hynny angen newid yn Llywodraeth y DU. Diolch i'r Gweinidog. 6. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin Mae eitem 6 wedi ei gohirio tan 24 Ionawr. 7. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Felly, symudwn ymlaen i eitem 7: datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar gymunedau cynaliadwy ar gyfer dysgu. Galwaf ar y Gweinidog, Jeremy Miles. Jeremy Miles AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Y llynedd, cyflwynwyd enw newydd ar gyfer ein rhaglen buddsoddi mewn seilwaith addysg flaenllaw, sef rhaglen cymunedau dysgu cynaliadwy, a thrwy hyn rydym ni'n gwneud datganiad clir am ein hymrwymiadau ar gyfer yr amgylchedd a chenedlaethau'r dyfodol. Hyd yn hyn, mae'r rhaglen wedi darparu dros £1.5 biliwn o fuddsoddiad cyfalaf i gefnogi cyflwyno 255 o brosiectau ysgol a choleg. Gan adeiladu ar hyn, mae ein rhaglen lywodraethu yn ymrwymo £1.5 biliwno fuddsoddiad ychwanegol ar gyfer y cam nesaf, i ddarparu ysgolion a cholegau newydd ledled Cymru. Mae llwyddiant y rhaglen yn adlewyrchu’r bartneriaeth gydweithredol gref sydd gennym gydag awdurdodau lleol, Cymdeithas Lywodraeth Leol Cymru, ColegauCymru ac awdurdodau esgobaethol. Mae wedi caniatáu inni wneud penderfyniadau strategol lleol ar flaenoriaethau buddsoddi mewn addysg ledled Cymru, gan roi llwyfan ar gyfer cyflwyno blaenoriaethau cenedlaethol ar yr un pryd, gan gynnwys y Cwricwlwm i Gymru newydd. Mewn ymateb i anghenion ein partneriaid cyflenwi ar gyfer rhaglen fwy hyblyg, rwyf wedi penderfynu cyflwyno rhaglen dreigl ar gyfer cyflawni. Amlygodd y gwersi a ddysgwyd o fand A, a'r newid i fand B, pa mor gymhleth a hirfaith oedd darparu prosiectau drwy amserlen sefydlog y rhaglen flaenorol. I'r perwyl hwn, mae'r rhaglen dreigl yn cael ei rhoi ar waith i wella effeithlonrwydd ar gyfer partneriaid a Llywodraeth Cymru, gan gryfhau un o brif briodoleddau’r rhaglen, sef prosiectau sy'n symud ymlaen ar gyflymder ac ar sail blaenoriaethau ein partneriaid cyflenwi. Mae trawsnewidiad yr ysgol yn parhau i fod yn ganlyniad hanfodol i'n buddsoddiad yn y rhaglen. Fel Llywodraeth, rydym yn glir nad brics a morter yn unig yw hyn. Mae adeiladau sydd wedi eu dylunio'n dda ac amgylchoedd dymunol yn chwarae rhan allweddol o ran cefnogi staff a dysgwyr, gan sicrhau safonau a dyheadau uchel i bawb. Disgwylir i bartneriaid cyflenwi gyflwyno eu rhaglen amlinellol strategol newydd ar adeg sy'n cyd-fynd â'u cynnydd trwy eu rhaglen bresennol—fel arfer, uwch na 60 y cant o werth y rhaglen—a thrwy hynny, cychwyn eu rhaglen dreigl. Mae'r rhaglenni amlinellol strategol pum mlynedd presennol, felly, yn cael eu disodli gan raglenni amlinellol strategol naw mlynedd a fydd yn gwella'r cynllunio ar gyfer buddsoddiadau yn y dyfodol. Bydd rhaglenni treigl yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru eu hadolygu a'u hystyried ar gyfer darparu ymrwymiad cam wrth gam a chefnogaeth, gydag adolygiadau fesul tair blynedd o'r rhaglenni i addasu ac ychwanegu prosiectau pellach. Jeremy Miles AC: Dirprwy Lywydd, mae'r rhaglen yn wirioneddol drawsbynciol ac wedi rhoi llwyfan i ymgorffori'r Gymraeg yn ogystal â pholisïau eraill, er enghraifft teithio llesol, bioamrywiaeth, TGCh, cymuned a chwricwlwm, cyflawni a manteisio i'r eithaf ar werth o fuddsoddiadau ar draws ein hystad addysg ac, wrth wneud hynny, mae wedi darparu model cynaliadwyedd i eraill ei ddilyn. Fel un o'r cenhedloedd cyntaf i ddatgan argyfwng hinsawdd a'r bwriad i fod yn genedl carbon isel, rwyf wedi mandadu y byddai'n ofynnol i bob prosiect newydd a gefnogir drwy'r rhaglen gyflawni carbon sero net wrth weithredu, ynghyd â gostyngiad o 20 y cant mewn carbon wedi'i ymgorffori. Ddeuddeg mis ers y mandad hwn, rwy'n falch o gadarnhau bod 16 prosiect wedi'u cymeradwyo ac yn symud ymlaen fel prosiectau carbon sero net. Hoffwn ganmol ein partneriaid cyflenwi ar ymgymryd â'r her a datblygu prosiectau sero net mewn ffordd mor gadarnhaol, a phob rhanbarth ledled Cymru yn mabwysiadu'r meddylfryd, o Ysgol y Graig ar Ynys Môn yn y gogledd, Ysgol Cedewain ym Mhowys, i Ysgol y Deri ym Mro Morgannwg yn y De. Yn ogystal â chefnogi pob rhanbarth yng Nghymru, mae'r rhaglen yn cael effaith gadarnhaol ar draws pob sector o'r byd addysg. A'r ffaith mai Ysgol Gynradd South Point yw'r ysgol garbon sero net gyntaf yng Nghymru, rydym bellach yn gweld prosiectau ar gyfer ysgolion uwchradd, ysgolion pob oed, ac ysgolion arbennig yn ogystal â cholegau. Mae ysgolion arbennig yn cyflwyno her ychwanegol o ran cyflawni carbon sero net oherwydd offer arbenigol, a thrwy hynny, gynyddu'r galw am drydan. Fodd bynnag, gallaf gadarnhau bod tri phrosiect ysgol arbennig wedi'u cymeradwyo ar hyn o bryd i symud ymlaen tuag at gyflawni ein huchelgais carbon sero net, a bydd gwersi a ddysgwyd o'r prosiectau hyn yn bwydo i mewn i brosiectau llwybrau eraill ar ein taith i sero net. Maes heriol arall, Dirprwy Lywydd, yw cyrraedd carbon sero net ar brosiectau adnewyddu, a gallaf gadarnhau mai ein prosiect adnewyddu sero net cyntaf fydd Ysgol Uwchradd Pen y Dre ym Merthyr Tudful. Bydd Pen y Dre yn ymgymryd â gwaith adnewyddu dwfn yn yr ysgol bresennol, gan dynnu'r ffabrig yn ôl i'r ffrâm strwythurol. Gall y carbon ymgorfforedig a arbedir drwy gadw'r sylfeini, y slabiau llawr a'r fframwaith strwythurol arbed cymaint â 48 y cant o garbon yn unig. Rydym yn disgwyl llawer i'w ddysgu o'r prosiect hwn a fydd yn cyfrannu at darged ailddefnyddio adeiladau'r rhaglen o 60 y cant. Mae angen i ni sicrhau bod ymrwymiadau cynaliadwyedd a datgarboneiddio yn dod yn rhan annatod o'n bywyd bob dydd. Mae hyn yn arbennig o wir am aelodau iau ein cenedl. Mae angen i ni ddarparu ffyrdd effeithiol er mwyn iddynt ddeall yr amgylchedd sydd o'u cwmpas, gan gynnwys yr adeiladau y maen nhw'n dysgu ynddynt. Rwyf wedi siarad yn y Siambr, Dirprwy Lywydd, yn y gorffennol, am fy nisgwyliad i awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach a'u timau dylunio i weithio'n agos gyda'n plant, pobl ifanc a staff fel eu bod yn cael y cyfle i helpu i ddylunio eu hamgylchedd dysgu eu hunain. Mewn ymateb, fis Medi diwethaf, cyhoeddais yn ffurfiol lansiad her ysgolion cynaliadwy. Gan adeiladu ar fandad carbon sero net y rhaglen, gwahoddwyd ceisiadau gan awdurdodau lleol sy'n gallu dangos gwaith dylunio, datblygu, darparu a rheoli dwy ysgol newydd a allai wneud cyfraniad cadarnhaol i'r amgylchedd, y gymuned a'r dirwedd gyfagos. Mae'n bleser gennyf ddweud heddiw fod yr her hon wedi cael croeso brwd gan awdurdodau lleol, gydag 17 o geisiadau prosiect wedi'u derbyn. Mae swyddogion bellach yn cael eu cefnogi gan gynrychiolwyr y sector allanol wrth asesu'r cyflwyniadau, ac edrychaf ymlaen at gyhoeddi'r prosiectau llwyddiannus yn ystod yr wythnosau nesaf. James Evans MS: Hoffwn ddiolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Mae rhaglen buddsoddi cyfalaf strategol, fawr hirdymor gyda'r nod o greu cenhedlaeth o ysgolion cynaliadwy yn rhywbeth sy'n bwysig i blant ysgol ledled Cymru, ac yn bwysig iawn i fy mhlaid i. Mae cael amgylcheddau dysgu cynaliadwy yn un o'r pethau pwysicaf a all helpu plant i ddysgu a chyflawni eu nodau, ac rydym yn croesawu'r arian sydd wedi ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru hyd yma a'r arian wrth symud ymlaen. Rydym yn croesawu'r gefnogaeth a ddarperir i lywodraeth leol i adeiladu rhagor o ysgolion, gan gynnwys ysgolion Cymraeg, er mwyn helpu i wrthdroi'r gostyngiad yn niferoedd y siaradwyr Cymraeg ledled y wlad. Ond, Gweinidog, hoffwn wybod sut fyddwch chi'n mesur llwyddiant y cyllid hwn a'r cynllun hwn er mwyn sicrhau ein bod yn adeiladu'r ysgolion Cymraeg hynny, gan wneud yn siŵr ein bod yn cael mwy o ddysgwyr Cymraeg, yn enwedig ar ôl canlyniadau'r cyfrifiad diweddar, a oedd yn peri pryder, yn enwedig o ran plant rhwng tair a 15 oed—y bobl hynny sy'n mynd tuag yn ôl gyda'r niferoedd sy'n siarad Cymraeg. Roedd sôn yn eich datganiad ynghylch teithio llesol. Mae cludiant i'r ysgol yn chwarae rhan enfawr wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd ac allyriadau carbon ledled Cymru. Mae llawer o rieni ledled y wlad, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, yn wynebu problemau cludiant, a dydy hi ddim mor hawdd â dweud wrth bobl am gerdded neu i feicio i'r ysgol. Felly, sut ydych chi’ngweld cymunedau cynaliadwy sy'n gweithio i ddarparu cludiant effeithiol ac effeithlon i'r ysgol yn fwy diogel ar gyfer plant ysgol yng Nghymru fel rhan o gymuned gynaliadwy ar gyfer dysgu? Mae yna bryderon hefyd, Gweinidog, fel y gwyddoch chi'n iawn, am y costau cynyddol y mae ysgolion yn eu hwynebu oherwydd pwysau chwyddiant a phopeth arall. Un enghraifft yw Ysgol y Deri ym Mro Morgannwg, sydd wedi mynd miliynau o bunnau dros y gyllideb. Mae cynghorau'n wynebu costau cynyddol. Felly, hoffwn wybod sut rydych am gefnogi'r ysgolion hyn wrth sicrhau eu bod yn cael eu hadeiladu yn y ffordd fwyaf effeithlon, a hefyd sut rydych yn cymell cynghorau lleol i wneud hyn er mwyn sicrhau bod prosiectau'n cael eu rheoli mewn ffordd briodol. Gweinidog, hoffwn ddiolch i chi am eich datganiad heddiw ac, os gallech ateb y cwestiynau hynny rwyf wedi'u gofyn i chi, byddwn i'n hynod ddiolchgar. Diolch. Jeremy Miles AC: Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. Mae'n iawn i nodi bod canlyniadau'r cyfrifiad yn siomedig, ond bydd hefyd yn cofio bod amrywiaeth o ddata yn y maes hwn sy'n dangos darlun ychydig yn fwy cymhleth na'r un ffynhonnell ddata honno efallai, er ei bod yn bwysig iawn. Felly, y dasg inni yw edrych ar y data yn eu cyfanrwydd, ond mae mwy o blant mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg nag sydd wedi'u datgan. mae'n ymddangos, yn y cyfrifiad sy'n siarad Cymraeg mewn grŵp blwyddyn benodol—i'r pwynt yr oedd yn ei wneud ynghylch ehangu ysgolion Cymraeg. Rwy'n credu bod hynny'n arwydd bod angen i ni ymchwilio ychydig ymhellach am y cyd-destun ar gyfer y data hynny hefyd. Bydd hefyd yn gwybod bod sicrhau bod rhagor o ysgolion Cymraeg ar gael yn rhan sylfaenol o allu cyrraedd ein targedau strategaeth 'Cymraeg 2050'. Mae gan y cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg 10 mlynedd, y mae pob un o'r 22 o awdurdodau wedi eu cyflwyno, ac yr wyf i wedi eu cymeradwyo, gynlluniau uchelgeisiol, nid yn unig i symud ysgolion ar hyd y continwwm ieithyddol tuag at fwy o ddefnydd a darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg, ond hefyd adeiladu 23 o ysgolion cynradd newydd dros gyfnod y cynllun, sy'n fuddsoddiad sylweddol. Mae'n debyg y bydd hefyd yn ymwybodol, yn ogystal â'r gyfradd ymyrraeth sy'n berthnasol yn fras o dan y rhaglen band B, sydd, yn fras, rhwng 65 ac 85 y cant o'r gost, yn dibynnu ar natur yr ysgol, ar gyfer nifer cyfyngedig o brosiectau, rydym wedi gallu darparu cyfradd ymyrraeth uwch ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg, er mwyn gallu sicrhau bod hynny'n digwydd yn gyflym. Ond, rydw i wedi egluro i bartneriaid awdurdodau lleol, ac maen nhw wedi croesawu hyn, y bydd buddsoddiad yn y dyfodol o dan y rhaglen buddsoddi cymunedau cynaliadwy ar gyfer dysgu yn golygu rhoi sylw i gynnydd wrth ddarparu'r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg hefyd, ac rwy'n siŵr y bydd yn awyddus i'w glywed. Mae e'n iawn i nodi pwysigrwydd teithio llesol fel rhan o unrhyw gynllun safle ar gyfer prosiectau yr ydym yn eu hariannu. Anogir storio beiciau a sgwteri fel rhan o'r teithio llesol wrth gynllunio ysgolion lle bo modd, ac mae tîm y rhaglen yn disgwyl i randdeiliaid a chontractwyr weithio gydag ysgolion i ddatblygu cynllun teithio a fydd yn cefnogi mesurau i gynyddu teithio llesol a theithio amgylcheddol gynaliadwy yn ehangach i'r ysgol. Cododd bwynt pwysig iawn am yr effaith ar brosiectau penodol. Rwy'n siŵr o ddweud ar hyn o bryd bod nifer fawr o brosiectau sydd â phroffil cost gwahanol iawn i'r rhai hynny efallai yr oeddynt yn cychwyn arnynt pan gyflwynon nhw eu hachosion busnes i ni. Mae hynny'n broblem gyffredin ar draws y sector adeiladu, ac rwy'n gwybod ei fod yn gwerthfawrogi hynny, a gwnaethon ni gyffwrdd â hyn yn nhrafodaeth y pwyllgor yn ddiweddar pan graffwyd ar fy nghyllideb. Rydym yn gweithio gydag awdurdodau yn bwrpasol mewn perthynas â phob rhaglen unigol i ddeall effaith chwyddiant ar y gost ar gyfer y prosiect hwnnw, a beth y gellir ei wneud i edrych ar y fanyleb, o bosibl, mewn rhai amgylchiadau. Mewn amgylchiadau eraill—ac mae llawer o enghreifftiau o hyn—lle cafwyd cost gynyddol, rydym wedi gallu cytuno ar delerau lle gallwn ni rannu rhai o'r costau hynny ag ysgolion. Byddwn am barhau i wneud defnydd da o'r cyllid sylweddol rydym wedi'i ddarparu, ac rwy'n credu, fel y gall weld o'r datganiad, bod angen i ni fod yn hyblyg yn y modd yr ydym yn cefnogi ein hawdurdodau lleol i gyflawni hynny gyda ni. Heledd Fychan AS: Diolch, Weinidog am y datganiad heddiw. Yn amlwg, mae yna nifer o bethau i'w croesawu fan hyn. Rydyn ni'n bendant yn cytuno o ran yr angen i uwchraddio nifer o ysgolion. Rydyn ni'n gwybod, o fynd ledled Cymru ac ymweld ag ysgolion, bod yna ysgolion sydd ddirfawr angen buddsoddiad. Mae hwn yn rhan bwysig o ran sicrhau yr amgylchedd ddysgu, sydd hefyd mor bwysig, fel rydych chi wedi amlinellu, o ran gallu dylanwadu ar bresenoldeb yn yr ysgol, ac ati, os oes yna adnoddau yna. Rydyn ni hefyd wedi trafod yn flaenorol y manteision o ran cymunedau pan fo yna adnoddau sy'n gallu cael defnydd cymunedol y tu hwnt i oriau ysgol. Yn debyg iawn i James Evans, mi fyddwn i'n hoffi canolbwyntio jest yn benodol o ran addysg Gymraeg, os caf i ddychwelyd at hynny. Roeddwn i'n falch o glywed beth roeddech chi'n ei ddweud yn eich ymateb i James o ran cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg, oherwydd, yn sicr, rydych chi wedi clywed, gan amryw ohonom ni yr ochr yma i'r Siambr, esiamplau yn ein rhanbarthau ni lle rydym ni wedi teimlo, ar adegau, bod y buddsoddiad wedi bod yn ormodol felly mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, a phan mae yna ysgolion cyfrwng Cymraeg, yn aml bod y rheini'n cael eu hadeiladu mewn cymunedau gwahanol i'r rhai lle'r oedd yna ysgol Gymraeg, a bod yna ysgolion cyfrwng Saesneg newydd yn mynd yno, a bod yna beryg mawr. Rydyn ni wedi clywed gan rieni eu bod nhw'n gwneud y dewis hwnnw o ran gyrru disgyblion i ysgolion cyfrwng Saesneg, gan felly adael addysg Gymraeg. Felly, byddwn i yn hoffi gwybod mwy, os gwelwch yn dda, o ran sut bydd y buddsoddiad pellach hwn—. Sut byddwch chi'n sicrhau bod y Gymraeg yn flaenoriaeth i awdurdodau a'n bod ni'n edrych, lle mae yna draddodiad wedi bod, yn arbennig o ran addysg Gymraeg—sut ydym ni'n sicrhau bod hynny ddim yn cael ei golli os oes yna ysgol cyfrwng Saesneg newydd yn dod mewn ardal? Yn debyg iawn hefyd, rydym ni wedi trafod amryw o weithiau o ran trafnidiaeth, o ran yr adnoddau, fel bod pawb yn gallu manteisio ar hynny. Dwi'n gwybod bod hynny'n rhywbeth i'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, ond yn amlwg mae hyn yn mynd i fod yn elfen bwysig. A gyda chostau trafnidiaeth yn cynyddu hefyd, dwi'n meddwl bod yna rywbeth ehangach i sicrhau hynny. Un o'r pethau rydym ni'n ei wybod o ran prosiectau fel hyn yn aml ydy eu bod nhw'n gallu cymryd amser hir. Dwi'n falch o glywed sut rydych chi'n gobeithio y bydd hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd o ran amserlen ac ati—mae hynny'n sicr i'w groesawu. Ond, ar gyfer yr ysgolion hynny sydd ddim, efallai, yn llwyddiannus y tro yma, a bydd hi’n cymryd, efallai, blynyddoedd iddyn nhw allu cael y buddsoddiad sydd ei angen, ydych chi hefyd yn edrych fel Llywodraeth o ran sut rydyn ni'n defnyddio adnoddau cymunedol sydd yn bodoli eisoes, megis llyfrgelloedd neu amgueddfeydd lleol, sydd efallai wedi derbyn buddsoddiad? Mae yna brosiectau wedi bod yn y gorffennol, megis yn Abertawe, lle mi oedd yna brosiect llwyddiannus iawn o ran cael ysgol mewn amgueddfa, yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, am dymor cyfan, a manteision felly o ran defnyddio asedau cymunedol. Yn amlwg, mae nifer o'r rhain o dan fygythiad rŵan, ond pan ydych chi'n sôn am nifer o ysgolion yn dal efo portakabins sydd efallai wedi gweld dyddiau gwell ac sydd yn mynd i fod yno am flynyddoedd, oes yna ffordd inni edrych hefyd o ran sut rydyn ni'n gallu defnyddio asedau cymunedol mae ysgolion yn gallu cerdded iddyn nhw, fel ein bod ni hefyd yn gallu rhoi dyfodol cynaliadwy i bethau fel amgueddfeydd a llyfrgelloedd lleol, a hefyd wrth gwrs, yn cyfoethogi o ran y cwricwlwm, y manteision sydd yna felly? Dim ond i ofyn a ydy hynny yn rhywbeth rydyn ni'n edrych arno fo, yn enwedig o weld y bydd hi'n ofnadwy o dynn ar awdurdodau lleol. Rydyn ni'n gwybod bod costau prosiectau fel hyn yn mynd i fod yn cynyddu oherwydd chwyddiant, felly oes yna bethau amgen rydyn ni'n gallu eu gwneud? Mi wnaf i ei gadael hi'n fanna am rŵan. Diolch, Weinidog. Jeremy Miles AC: Diolch am y cwestiynau hynny. O ran y buddsoddiad yn y sector cyfrwng Cymraeg, fe wnaeth yr Aelod glywed yr hyn gwnes i ddweud wrth James Evans. Ond un pwynt i ychwanegu yn sgil beth mae hi wedi'i ddweud yw rwy'n credu mai un o'r heriau, efallai, neu un o'r gwendidau sydd gennym ni yn y cynlluniau strategol yw bod y pwyslais ar niferoedd, sydd wrth gwrs yn gwbl greiddiol i lwyddiant o ran yr hyn rŷn ni eisiau gweld ar y cyd o ran nifer o siaradwyr, ond mae'r elfen ddaearol yn bwysig hefyd, fel rydw i wedi sôn mewn amryw o gyfraniadau yn y Siambr yma. Mae'r elfen ddaearyddol yn bwysig o ran dosbarthiad y Gymraeg a hyfywedd y Gymraeg mewn cymunedau penodol, felly mae honno yn un o'r elfennau, wrth gwrs, sydd yn bwysig yn y strategaeth yn ehangach. O ran y blaenoriaethu a'r aros ar gyfer buddsoddiad, rŷn ni yn nwylo'r awdurdodau lleol yn hynny o beth, oherwydd nhw sydd yn cynnig yr hyn maen nhw'n dymuno inni gydariannu gyda nhw o ran trefn amseru a blaenoriaethu, o ran ansawdd yr adeiladau sydd yno yn bresennol. Mae hynny'n cael ei wneud ar sail sydd yn wrthrychol, wrth gwrs, fel bod pawb yn deall beth yw'r criteria, ond ar ddiwedd y dydd nhw sy'n cynnig y cynlluniau i ni ac rŷn ni'n cydweithio gyda nhw ar ariannu'r rheini. Ond y flaenoriaeth wastad yn y cynllun yma yw blaenoriaethu'r ysgolion hynny sydd angen y mwyaf o adnewyddu, neu sydd yn y cyflwr, efallai, lleiaf atyniadol. Felly, dyna'r feddylfryd sydd y tu cefn i hyn i gyd. Mae'r hyn sydd wedi'i wneud o ran creu system fwy hyblyg yn caniatáu i awdurdodau wneud penderfyniadau cyflymach yn hynny o beth. Yn hytrach na datgan cynllun am bum mlynedd a bod hynny'n sefyll mwy neu lai yn yr unfan, mae cyfle nawr i edrych ar hyn yn fwy aml, felly mae cyfle i newid y flaenoriaeth pan fo hynny'n addas, pan fo amgylchiadau newydd. Felly, bydd cyfnod o dair blynedd lle rŷn ni'n cytuno ar y proffil ariannu sydd angen go iawn, cyfnod o chwe blynedd lle byddwn ni'n cytuno ar fuddsoddiad neu gefnogaeth mewn egwyddor, ac wedyn cyfnod o naw mlynedd lle mae gyda ni ddarlun tymor hir o'r hyn mae'r awdurdod yn debygol o ofyn amdano. Felly, mae'n caniatáu llawer mwy o hyblygrwydd o ran y blaenoriaethu mae'r Aelod yn sôn amdano. Jest i ddweud ar y pwynt diwethaf, rwy'n credu bod cysylltiad—. Un o'r pethau sydd wrth wraidd y cynllun her ysgolion cynaliadwy gwnes i sôn amdano fe yw cyfuno yr adeilad a'r amgylchedd addysgu gyda chyfleoedd cwricwlwm. Yr hyn rwy eisiau gweld yw bod plant a staff ynghlwm yn sut mae'r adeilad newydd yn cael ei ddylunio a'i adeiladu. Gwnes i weld hyn ar ymweliad ysgol ym Mhen-y-bont ryw flwyddyn yn ôl, a dyna wnaeth yn rhannol fy ysgogi i ar gyfer y cynllun ehangach. Felly, mae'r awgrym mae'r Aelod yn ei wneud o ddefnyddio asedau cymunedol ar gyfer cyfleoedd cwricwlwm yn un byddwn i'n ei gefnogi hefyd. Jenny Rathbone AC: Diolch yn fawr iawn am eich arweiniad ar hyn wrth sicrhau bod pob prosiect newydd yn mynd i orfod bod yn ddi-garbon. Hoffwn wybod yn benodol sut mae Ysgol Gynradd South Point ym Mro Morgannwg yn rhannu'r gwersi a ddysgwyd o'r prosiect hwn, neu yn hytrach Cyngor Bro Morgannwg neu eich swyddogion, er mwyn sicrhau ein bod yn deall cryfderau a gwendidau'r prosiect braenaru hwn, yn ogystal â dadansoddiad o faint o lafur lleol oedd yn rhan o'r prosiect, neu a oedd yn rhaid mewnforio'r arbenigedd o Loegr neu rywle arall, oherwydd mae'n ffordd hanfodol iawn o ddeall sut mae ein cynllun sgiliau sero net am gael ei ysbrydoli. Rwyf hefyd yn ei bod hi'n ddiddorol iawn bod ysgol ym Merthyr, Ysgol Uwchradd Pen y Dre, a fydd yn cael ei hadnewyddu'n llwyr gan ddefnyddio'r sylfeini gwreiddiol. Felly, mae'r ddau yma'n ddiddorol iawn, iawn. Yn ail, hoffwn gyfeirio at yr hyn yr oedd James Evans yn ei ddweud am deithio llesol a pha ystyriaeth rydych chi wedi'i rhoi i ryw fath o gynllun benthyciadau beic, yn debyg i gyflogwyr sy'n cynnig cynlluniau benthyg ar gyfer teithio llesol i weithwyr, fel bod teuluoedd tlawd hefyd yn gallu fforddio cael beic, yn hytrach na rhoi eu holl arian i dalu £400 y tymor ar fws. Heb yr arian sefydlu hwnnw, dydw i ddim yn credu y bydd hynny'n digwydd. Jeremy Miles AC: Diolch i Jenny Rathbone am y cwestiynau hynny. Tynnais sylw at Ysgol Gynradd South Point oherwydd dyma'r ysgol sero net gyntaf yng Nghymru, yn etholaeth fy nghyd-Aelod yn y Llywodraeth, Jane Hutt. Credaf ei bod yn deg dweud, yn ôl pob tebyg—ac rwy'n gobeithio na fyddai ots ganddi i mi ei eirio felly—mae'n rhaid ei bod ymhlith yr ysgolion yr ymwelir â hi amlaf, er mwyn edrych ar yr hyn a wnaed yno, a diolch iddyn nhw am eu haelioni a'r croeso a gewch. Rwy'n ofni bod llawer ohonom wedi profi'r croeso hwnnw'n aml iawn. Felly, mae nhw wedi bod yn rhagweithiol iawn, iawn am fod yn barod i rannu hynny, ac rwy'n gwybod bod y cyngor yn cefnogi hynny ac yn ymestyn hynny yn fawr hefyd. Yn ehangach, credaf fod y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud yn bwysig iawn, serch hynny, am sut rydym yn prysur gyffredinoli arferion gorau a dysgu yn yr hyn sy'n ardal sy'n datblygu mewn rhai ffyrdd, onid yw? Felly, mae grŵp gorchwyl a gorffen datgarboneiddio adeiladau sectoraidd, y mae Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig yng Nghymru wedi'i ddatblygu ac mae hynny'n cyd-fynd â'n hymrwymiadau datgarboneiddio. Mae wedi creu pecyn cymorth sy'n gallu cefnogi datblygiad y prosiectau hyn, o ran bod yn garbon niwtral mewn termau gweithredol ond hefyd o ran y carbon ymgorfforedig. Felly, mae corff o arbenigedd bellach yn cael ei greu y gallwn ni sicrhau ei fod yn cael ei ddeall a'i rannu. Mae'r pwynt y mae'n ei wneud ar nodi'r sgiliau a'r llafur lleol yn bwysig iawn. Un o'r egwyddorion yng nghronfa her ysgolion cynaliadwy oedd blaenoriaethu defnyddio sgiliau lleol a'r economi sylfaenol yn lleol i leoliad yr ysgol, am resymau y gwn ei bod yn rhannu fy ymrwymiad a'm hangerdd amdanynt. Ond, rydym yn gweithio ar hyn o bryd i nodi'r hyn sy'n amlwg yn rhyw lefel o fwlch sgiliau yn y maes hwn, a chlywsom Vaughan Gething yn siarad rhywfaint am hyn yn gynharach. Felly, mae swyddogion yn gweithio'n agos iawn gyda'r sector i nodi beth sydd angen digwydd yn y maes hwnnw. O ran teithio llesol, tua blwyddyn neu ddwy yn ôl, gofynnon ni i gadeirydd y bwrdd teithio llesol edrych ar yr amodau yr ydym yn eu nodi ar gyfer y cyllid cymunedau dysgu cynaliadwy er mwyn sicrhau eu bod yn ymestyn. Ac felly, mae rhai datblygiadau wedi bod ers hynny. Ond, rydym hefyd yn edrych ar waith y pwyllgor roedd Huw Irranca-Davies yn rhan ohono, yn edrych ar deithio llesol yn ehangach, a dywedwyd rhai pethau heriol wrthym ynghylch i ba raddau y gallwn ni ac y dylem ni fynd ymhellach o ran buddsoddi mewn ysgolion newydd ynghylch theithio llesol. A'r pwynt mae'n ei wneud, rwy'n siŵr, yw un o'r pwyntiau y byddwn ni'n eu hystyried, felly diolch am godi hynny heddiw. Luke Fletcher AS: Hoffwn sôn am addysg cyfrwng Cymraeg—ac rwy'n siŵr na fydd hynny'n synnu'r Gweinidog—mae buddsoddi ynddi i gyrraedd targedau Llywodraeth Cymru yn mynd i fod yn hanfodol. Mae Pen-y-bont ar Ogwr yn enghraifft wych. Do, clywsom yr wythnos ddiwethaf bod darpariaeth y Gymraeg yn cynyddu, yn ôl pob golwg, wrth adeiladu ysgol newydd ym Mhorthcawl ac ehangu Ysgol Gymraeg Bro Ogwr ond, os edrychwch chi eto, byddwch yn gweld bod buddsoddiad sylweddol o hyd mewn ehangu addysg cyfrwng Saesneg. Bro Ogwr, sef fy hen ysgol gynradd i, ydy mae'n ehangu, mae'n symud i safle newydd, mae'n cynyddu'r niferoedd, ond ar ei safle presennol, mae ansicrwydd o hyd a fydd hi'n parhau'n ysgol cyfrwng Cymraeg ai peidio. Luke Fletcher AS: Felly, ydy'r Gweinidog yn hyderus bod Pen-y-bont yn symud yn ddigon cyflym i gyrraedd ei darged yn y WESP? Dwi'n gwybod bod y Gweinidog yn ymwybodol o'r sefyllfa ym Mhen-y-bont, a dwi'n gwybod ei fod e'n cael trafodaethau di-rif gyda'r cyngor, ond fel nifer yn y Siambr hon, dwi eisiau gweld y cyngor yn symud lot yn gyflymach. Jeremy Miles AC: Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Mae angen darparu ysgolion addysg cyfrwng Cymraeg ac ysgolion addysg cyfrwng Saesneg. Mae galw yn y ddau faes. Felly, yr her i ni a'r dymuniad sydd gennym ni fel Llywodraeth yw sicrhau bod un ddim yn digwydd ar draul y llall. A dyna'r pwynt roeddwn i'n ei wneud yn gynharach, wrth gysylltu buddsoddiadau yn y seilwaith ehangach gyda chynnydd addas a chyflym wrth ddelifro'r cynllun strategol. Mae hynny'n elfen bwysig o'r ffordd hyn o weithio. Rwyf wedi cael trafodaeth gyda'r awdurdod, gyda'r arweinydd, aelod cabinet dros addysg a'r cyfarwyddwr addysg i drafod y cynllun strategol fel rhan o'r trafodaethau dwi wedi bod yn eu cael gyda phob cyngor ar eu cynlluniau nhw. Rwy'n credu bod cynlluniau'r cyngor yn rhai uchelgeisiol, ac rôn i wedi trafod gyda nhw pa mor bwysig yw e i wneud cynnydd cyflym ar hynny, ac mae'r cyngor yn sicr yn derbyn hynny. Rwy'n credu bod y cyngor hefyd yn derbyn, yn y gorffennol efallai bod dim digon o gynnydd wedi bod a bod hynny'n gosod disgwyliadau pobl mewn lle gwahanol, ac rwy'n credu bod cael y sgwrs agored honno wedi bod yn beth cadarnhaol. Rwy wedi dweud wrth bob awdurdod yng Nghymru, rwy'n falch iawn o weld cynlluniau uchelgeisiol, ond yr hyn sydd angen gweld ar lawr gwlad yw delifro nhw a gweld datblygiadau'n digwydd, yn go iawn. Vikki Howells AC: Gweinidog, roedd yn bleser ymuno â chi yn weddol ddiweddar yn yr ysgol gynradd newydd sbon yn fy etholaeth i, sef ysgol gynradd Hirwaun, a adeiladwyd o dan raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, gyda £10.2 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Rhondda Cynon Taf. Rwy'n meddwl, yn ôl pob tebyg, mai hi oedd un o'r ysgolion olaf i gael ei adeiladu o dan y fersiwn hon o'r cynllun yr ydym yn ei drafod nawr. Ymysg manteision cynllun gweithredu gwerth cymdeithasol y prosiect hwnnw, rhoddwyd 90 y cant o wariant i fusnesau yng Nghymru, 21 o swyddi adeiladu i newydd-ddyfodiaid, a 10 prentisiaeth i newydd-ddyfodiaid. Felly, hoffwn ofyn sut mae buddion gwerth tebyg yn parhau i fod yn flaenoriaeth, wrth symud ymlaen. Diddorol hefyd oedd clywed eich sylwadau ynghylch manteision symud tuag at raglen gyflawni dreigl. Mae'r rhain yn ffactorau gwthio pwerus er mwyn gwneud y newid, ac rwy'n eu deall yn llwyr. Fodd bynnag, byddwn i'n nodi, pan gytunir ar brosiect, fel yng Nglyn-coch yn fy etholaeth i, fod cryn frwdfrydedd yn naturiol gan y disgyblion, y rhieni a'r athrawon i'w weld yn symud ymlaen yn gyflym. Felly, tybed a ydych chi wedi nodi unrhyw broblemau y gallai'r rhaglen gyflawni dreigl newydd eu hachosi, neu a oes unrhyw rybuddion y gallai arwain at lithriad, ac os nodir y rhain, pa systemau fyddai'n cael eu rhoi ar waith i sicrhau fel arall? Jeremy Miles AC: Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny—cwestiynau pwysig iawn. Rwy'n credu ei bod yn rhy fuan i wybod a fydd y dull newydd yn dangos bod yna heriau. Credaf, mewn egwyddor, y dylai fod yn llawer mwy craff a dylai fod yn llai beichus, i'r awdurdodau ac i'r Llywodraeth, sy'n amlwg wedyn yn cynnig cyfleoedd i ymdrin â phethau mewn ffordd ychydig yn fwy hyblyg ac i roi'r cymysgedd cywir, yn fy marn i, o ganolbwyntio ar gyflawni'n uniongyrchol fel yr oedd yr Aelod yn ei ddweud, bod angen cynnal cyflymder y rhaglen, sy'n amlwg yn bwysig iawn, ond hefyd i roi'r gorwel tymor hirach hollbwysig hwnnw fel y gallwn gynllunio ar y cyd ar draws y system ar gyfer prosiectau yn y dyfodol hefyd, ac yn amlwg mae bod â rhaglen dreigl yn galluogi hynny i gael ei addasu mewn ffordd mwy craff a mwy ymatebol. Felly, dyna'r meddylfryd y tu ôl i'r rhaglen. Yr hyn rwy'n awyddus i'w ystyried yw sut mae rhai o'r disgwyliadau uwch, os gallaf ei eirio felly, yr ydym wedi'u gosod drwy'r rhaglen her ysgolion cynaliadwy—. Bydd hynny'n arwain at adeiladu dwy ysgol newydd fel rhan o hynny, ond mewn gwirionedd, fel y clywodd yr Aelod, roedd 17 cais, ac rwy'n gwybod, ymysg y ceisiadau hynny, fod llawer o arloesi, a llawer o feddwl creadigol, felly mae'r ymarfer hwnnw ynddo'i hun, yn fy marn i, wedi cyflwyno nifer o wersi gwahanol y gallwn ni eu dysgu ar gyfer prosiectau, o ran cadwyni cyflenwi lleol, ond hefyd y defnydd ehangach o'r economi sylfaenol, yn ogystal ag, yn fy marn i, un o'r cyfleoedd go iawn yma, a gwn fod gan yr Aelod ac eraill ddiddordeb ynddo, sut y gallwn ni wneud yn siŵr bod bioamrywiaeth, cynhyrchu bwyd cynaliadwy a'r mathau hynny o ddatblygiadau hanfodol yn rhan annatod o fywyd yr ysgol, ond hefyd y safle a sut maent yn cael eu hadeiladu. Felly, yn fy marn i, mae amrywiaeth o feysydd newydd i ganolbwyntio arnyn nhw, o bosibl, yn y rhaglen lai honno, ac rwy'n gobeithio y gallwn ddysgu o lwyddiant hynny ar draws y rhaglen fuddsoddi ehangach. Ac yn olaf, Sioned Williams. Sioned Williams MS: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rŷch chi'n sôn yn eich datganiad am sut mae'r rhaglen yn rhoi modd o weithredu ar flaenoriaethau cenedlaethol fel hybu'r Gymraeg. Weinidog, fe wyddoch bod achos busnes amlinellol gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot i agor ysgol enfawr newydd cyfrwng Saesneg ym Mhontardawe dan gynllun ysgolion unfed ganrif ar hugain, fel ag yr oedd bryd hynny, wedi'i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru, a bod yr ymgynghoriad a ddilynodd wedi arwain at adolygiad barnwrol llwyddiannus, a ddyfarnodd ei fod yn anghyfreithiol, am fod y cyngor ddim wedi asesu effaith hyn ar y Gymraeg. Ac mae'r adroddiad a gomisiynodd y Llywodraeth ei hun ar effaith y cynllun hwn ar y Gymraeg yn glir nad oes modd lluniaru'r effaith niweidiol ar yr iaith. Ond mae'r un cynllun mas unwaith eto ar gyfer ymgynghoriad, ond heb gymeradwyaeth cychwynnol y Llywodraeth, byddai hyn ddim yn gallu digwydd. Dwi'n gwybod na fedrwch chi roi sylw ar yr achos yma, ond hoffwn wybod a oes modd cael sicrwydd bod pob cynllun busnes sy'n cael ei gymeradwyo dan raglenni cyfalaf ym mhob achos y Llywodraeth yn ystyried yr effaith lawn ar y Gymraeg. Os felly, a fydd y Llywodraeth yn gwrthod bwrw ymlaen â chydgyllido unrhyw gynlluniau sydd eisoes wedi eu cymeradwyo yn amlinellol, ond sydd yn niweidiol i'r Gymraeg, lle nad yw'r gwaith adeiladu eisoes ar droed, wrth gwrs? Jeremy Miles AC: Allaf i ddim gwneud sylwadau o ran penderfyniadau o ran y cynllun penodol mae'r Aelod yn sôn amdano. Rwy'n gwybod y gwnaeth hi ymgyrchu a gwnaeth ymgeiswyr Plaid Cymru yn yr etholiad lleol ymgyrchu ar y sail na ddylai'r ysgol fynd yn ei blaen. Wrth gwrs, mae'r Blaid nawr yn cydreoli'r cyngor ond nid dyna'r penderfyniad mae'r cyngor eisoes wedi ei wneud, fel yr wyf i'n deall hynny. Fel rhan o'r achos yn yr Uchel Lys, wrth gwrs, fel mae'r Aelod yn dweud, roedd trafodaeth bwysig iawn ynglŷn ag effaith y datblygiad ar y Gymraeg, a fel mae'r Aelod yn gwybod, roedd asesiad penodol wedi cael ei wneud gan y Llywodraeth o'r hyn fyddai angen ei wneud er mwyn gallu lliniaru hynny. Felly, mae cyfle i'r cyngor o dan arweinyddiaeth ar y cyd gan Blaid Cymru gymryd y camau hynny os ydyw'n agored iddyn nhw wneud hynny. Mae angen sicrhau ar bob cam pan fo unrhyw gyngor yn edrych am fuddsoddiad wrth Lywodraeth Cymru fod anhengion eu cynllun strategol wedi cael eu cyrraedd a hefyd bod yr impact ar y Gymraeg wedi cael ei ystyried yn llawn. Felly, mae hynny eisoes yn rhan o'r trefniadau sydd gennym ni ar waith. Diolch i'r Gweinidog. Eitem 8 yw Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2023, a galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig. Rebecca Evans. Rebecca Evans AC: A fyddai ots gennych chi, Dirprwy Lywydd, pe baem ni'n gwneud y Bil banc mewnstrwythurol yn gyntaf, oherwydd roedd gennyf ar fy rhestr ar gyfer cyfarfod heddiw Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022? Felly, fe wnawn ni geisio datrys hynny. Ymddiheuriadau. O'r gorau. Fe ataliwn ni yr un yna ar hyn o bryd, byddaf yn gwirio beth yw'r rheoliadau a'r Rheolau Sefydlog, ond fe symudwn ni ymlaen i eitem 9 felly. Rebecca Evans AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. 9. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Banc Seilwaith y DU Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Banc Seilwaith y DU. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig. Rebecca Evans. Cynnig NDM8176 Rebecca Evans Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Banc Seilwaith y DU i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Cynigiwyd y cynnig. Rebecca Evans AC: Rwy'n cynnig y cynnig. Mae Banc Seilwaith y DU yn fanc newydd sy'n eiddo i Lywodraeth y DU a lansiwyd ym Mehefin 2021 a fydd yn darparu £22 biliwn o gyllid seilwaith drwy drefniadau partneru gyda'r sectorau preifat a chyhoeddus. Amcanion penodol y banc yw defnyddio'r cronfeydd hyn i helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd ac i sbarduno twf economaidd ar draws y DU. Mae'r banc wedi ei sefydlu yn lle'r Banc Buddsoddi Ewrop. Er bod Llywodraeth Cymru wedi lobïo'n galed am barhau i gael mynediad i Fanc Buddsoddi Ewrop, nid yw'n gweithredu yn y DU mwyach, yn dilyn ein hymadawiad o'r Undeb Ewropeaidd. Mae'n werth nodi hefyd bod cyfanswm adnoddau'r banc o £22 biliwn, er eu bod yn cael eu croesawu, yn swm cymharol fach i fynd i'r afael â newid hinsawdd a thwf economaidd rhanbarthol ar draws y DU gyfan. Unig amcanion y banc yw helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd a chefnogi twf economaidd rhanbarthol a lleol. Bydd yn ceisio cyflawni'r amcanion hyn, gan weithio mewn pum sector allweddol, sef ynni glân, trafnidiaeth, digidol, gwastraff a dŵr. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r egwyddor o sefydlu'r banc newydd. Gan fod y banc wedi mynd i'r afael â newid hinsawdd fel un o'i amcanion canolog, bydd yn darparu ffynhonnell ychwanegol o gyllid i helpu benthycwyr cyhoeddus a phreifat i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur. Fel erioed, byddai Llywodraeth Cymru yn ceisio defnyddio'r math rhataf o gyllid i ariannu buddsoddiad mewn seilwaith cyhoeddus, ond, fel benthycwr cyhoeddus newydd, ni ddylai'r banc gael ei anwybyddu lle mae ganddo'r potensial i gynnig gwerth am arian. Yn bennaf mae'r Bil yn ceisio rhoi'r banc ar sail statudol. Er y bydd y banc yn gweithredu hyd braich o Lywodraeth y DU, mae'r Bil yn rhagnodi nifer fach o swyddogaethau i Lywodraeth y DU, megis y pŵer i benodi cyfarwyddwyr i'r bwrdd a, lle bo angen, newid nodau ac amcanion y banc. Pan gyflwynwyd y Bil yn wreiddiol yn Senedd y DU fis Mai diwethaf, nid oedd y Bil, sy'n gofyn am gydsyniad y Senedd, yn rhoi unrhyw ran i Lywodraeth Cymru na'r Senedd. Achosodd hyn gryn bryder i mi a'r Cwnsler Cyffredinol. Roedd tri chymal penodol yn destun pryder i ni lle'r oedd pwerau wedi eu cadw'n ôl i Lywodraeth y DU ac a fethodd felly â pharchu'r setliad datganoli. Ar yr adeg yma, hoffwn ddiolch am waith diwyd y Pwyllgor Cyllid, y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Roedd y tri adroddiad pwyllgor a gynhyrchwyd yn amlygu llawer o'r un pryderon oedd gen i gyda'r Bil, ond hefyd mewn meysydd ychwanegol, a helpodd i lywio ein trafodaethau gyda Llywodraeth y DU. Rydw i a fy swyddogion wedi cael trafodaethau adeiladol gyda Llywodraeth y DU drwy gydol taith y Bil drwy'r Senedd, ac rwy'n falch o ddweud ein bod wedi sicrhau consesiynau ym mhob un o'r tri maes yr oeddem yn ymwneud â nhw. Mewn dau o'r cymalau, sef yr amcanion a'r gweithgareddau yng nghymal 2, a hefyd blaenoriaethau a chynlluniau strategol yng nghymal 3, rydym ni wedi sicrhau rhwymedigaeth statudol ar Lywodraeth y DU i ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn iddynt arfer pwerau, megis addasu amcanion y banc neu osod blaenoriaethau strategol newydd ar gyfer y banc. Hoffwn sicrhau Aelodau'r Senedd, pryd bynnag y bydd Llywodraeth Cymru'n cael ymgynghoriad gan Drysorlys EM, byddaf yn sicrhau ein bod yn cysylltu â'r Senedd i sicrhau fy mod yn derbyn barn Aelodau cyn ymateb i unrhyw ymgynghoriad o'r fath. Fel consesiwn pellach, yng nghymal 7, yn ymwneud â phenodi cyfarwyddwyr, rydym ni wedi sicrhau y penodir o leiaf un cyfarwyddwr gyda chyfrifoldeb am gyswllt ac i sicrhau y caiff buddiannau Llywodraeth Cymru eu cynrychioli ar lefel bwrdd yn y banc. Mae'n werth nodi bod hyn yn llawer mwy o ddylanwad nag a gawsom erioed gyda Banc Buddsoddi Ewrop. Ar y cyfan, credaf fod drafft presennol y Bil, y cytunwyd arno diolch i ymdrechion adeiladol pob plaid, gan gynnwys Aelodau'r Senedd, ac yn arbennig ein pwyllgorau, yn cynrychioli cyfaddawd ymarferol. Diolch yn fawr. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, Llyr Gruffydd. Llyr Gruffydd AC: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae'r pwyllgor, fel rŷch chi'n gwybod, wedi ystyried y tri memoranda ar gyfer y Bil ac wedi cyhoeddi dau adroddiad. Mi osodwyd yr un diweddaraf ddoe, a dwi'n hyderu bod Aelodau wedi cael cyfle, ar fyr rybudd, wrth gwrs, i fwrw golwg ar hwnnw. Cyn troi at y darpariaethau sy'n arbennig o berthnasol i gylch gorchwyl y pwyllgor, ac at y mater o gydsyniad, hoffwn i ddweud ychydig o eiriau am y broses graffu. Fydd hyn efallai ddim yn ddiarth i nifer ohonoch chi, oherwydd fydd y pwyntiau dwi eisiau eu codi ddim yn newydd i Aelodau, ond dyw hynny, wrth gwrs, ddim yn golygu eu bod nhw'n llai pwysig mewn unrhyw ffordd. Mae memorandwm Rhif 1 a Rhif 2, a osodwyd yr haf diwethaf, yn nodi pryderon Llywodraeth Cymru am y Bil—pryderon sy'n cael eu rhannu gan y pwyllgor, wrth gwrs. Ar y pryd, fe roddodd y Gweinidog sicrwydd ei bod yn trafod gwelliannau i fynd i'r afael â nhw, felly fe wnaethom ni ohirio penderfyniad ar y mater o gydsyniad. Mae memorandwm Rhif 3, a gyfeiriwyd atom ni ychydig cyn toriad y Nadolig, yn rhoi manylion y gwelliannau a drafodwyd rhwng y Llywodraethau ac y cytunwyd arnyn nhw wedi hynny. Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae'r gwelliannau hyn, fel clywon ni nawr, yn gyfaddawd rhesymol, felly mae bellach yn gofyn i'r Senedd roi cydsyniad i'r Bil. Mae'r ffaith bod y gwelliannau wedi cael eu gwneud mor hwyr yn ystod hynt y Bil yn golygu dau beth, wrth gwrs: yn gyntaf, bod yr amser a oedd ar gael i ni gyflwyno adroddiad ar y memorandwm yn gyfyngedig, ac, yn ail, bod yr amser a oedd ar gael i'r Aelodau wedyn i ystyried ein canfyddiadau ni yn gyfyngedig cyn gofyn i Aelodau ffurfio barn ar gydsyniad. Yn ogystal â hyn, mae'n deg dweud nad oes gobaith y bydd gwelliannau pellach yn cael eu gwneud i'r Bil i fynd i'r afael â'n pryderon ni fel pwyllgor, sydd, ar y cyfan, yn dal i fodoli. Mi wnaf i ddod at y rheini mewn eiliad, ond, unwaith eto, mae hyn yn dangos, onid yw e, annigonolrwydd y broses cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Felly, fe wnaf i symud ymlaen at y darpariaethau sydd o ddiddordeb arbennig i ni fel pwyllgor. Un o ddau amcan statudol y banc yw helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd. Nawr, rŷn ni’n gwybod, os yw Cymru am ddod yn genedl sero net erbyn 2050, fod angen buddsoddiad seilwaith sylweddol gan y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Mae'n bosib y gallai'r banc chwarae rhan bwysig wrth gynyddu a chyflymu y buddsoddiad hwnnw. O ystyried hyn, rŷn ni’n cefnogi creu'r banc mewn egwyddor. Mae amcanion y banc yn ganmoladwy, ond mae yna ddiffyg amlwg, sef mynd i'r afael â'r argyfwng natur. O ystyried y dirywiad enbyd ym myd natur, a’r ffaith bod yr inc ond newydd sychu ar gytundeb y Cenhedloedd Unedig a ddaeth yn sgil COP15, mae’n siomedig iawn bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi diystyru cynnwys amcan natur yn benodol. Mae'r Gweinidog wedi rhoi sicrwydd y bydd y Bil, fel y'i drafftiwyd, yn galluogi buddsoddi mewn atebion sy'n seiliedig ar natur a bioamrywiaeth. Er bod hyn efallai yn galonogol—wrth gwrs, mae e—ond dyw e ddim yn cyfateb i amcan natur statudol. O ran ein pryderon eithriadol eraill ni am y Bil, mewn memoranda cynharach, fe ddywedodd y Gweinidog ei bod yn galw am ddiwygio’r Bil 'er mwyn galluogi’r Senedd a Gweinidogion Cymru i gymryd eu rôl briodol o fewn strwythurau llywodraethiant [y banc] er mwyn sicrhau atebolrwydd democrataidd priodol.' Fe ddywedodd y byddai’r gwelliannau 'yn darparu rolau i Lywodraeth Cymru ac i’r Senedd sy’n cyfateb i rolau eu cymheiriaid yn y Deyrnas Unedig.' Nawr, rŷn ni wedi cael blas gan y Gweinidog ar rai o’r gwelliannau roedden ni’n galw amdanyn nhw wrth agor y ddadl, ond, cyn hynny, wrth gwrs, doedd y Gweinidog ddim yn barod i rannu manylion y gwelliannau roedd hi'n galw amdanyn nhw gyda phwyllgorau’r Senedd. Roedd hyn ar y sail bod trafodaethau rhynglywodraethol yn parhau o hyd. Nawr, dyna ni; mae hwn eto, onid yw e, yn gofyn cwestiwn ynglŷn â’n rôl ni fel Senedd yng nghyd-destun y broses yma. Nawr, wrth gwrs, mae’n rhaid ymgynghori, os dwi’n deall yn iawn, â Gweinidogion Cymru cyn y gall Gweinidogion y Deyrnas Unedig arfer pwerau mewn perthynas ag amcanion a gweithgareddau'r banc, a blaenoriaethau a chynlluniau strategol. Wel, dyw hyn, yn sicr, ddim hyn yn rôl gyfatebol, fel yr hyn roedden ni’n chwilio amdano fe. A beth am rôl y Senedd? Yn syml, dyw’r Bil ddim yn darparu rôl i’r Senedd. Gadewch i ni fod yn glir ynghylch beth mae hynny wedyn yn ei olygu—mae’n golygu bydd Senedd y Deyrnas Unedig, yn hytrach na Senedd Cymru, yn craffu ar sut y mae pwerau mewn meysydd cymhwysedd datganoledig yn cael eu defnyddio, a nhw fydd yn goruchwylio effeithiolrwydd y banc i’r graddau mae'n ymwneud â Chymru. Felly, ar ôl ystyried y Bil, fel y'i diwygiwyd, mae gennym bryderon o hyd am rôl gyfyngedig Gweinidogion Cymru o ran strwythurau llywodraethiant y banc, a’r ffaith, wrth gwrs, nad oes rôl wedi’i darparu ar gyfer y Senedd. Felly, Dirprwy Lywydd, o ystyried hyn, dyw’r pwyllgor ddim mewn sefyllfa i argymell bod y Senedd yn cydsynio i’r Bil. Gaf i newid fy het nawr? Oherwydd dwi’n deall bod un cyfle gyda fi i gyfrannu, gaf i siarad fel llefarydd Plaid Cymru mewn brawddeg? Ie. Dim ond i ddweud, wrth gwrs, yn unol â’r arfer, mi fydd Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn y cydsyniad, ond mae nifer o’r gofidiau sydd ymhlyg yn yr hyn dwi wedi dweud yn y rôl arall sydd gyda fi yn y ddadl yma yn ddilys yn hyn o beth hefyd. Diolch. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies. Huw Irranca-Davies AC: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rydym wedi llunio dau adroddiad sy'n cwmpasu'r tri memorandwm cydsyniad sydd wedi'u gosod gan y Gweinidog ar y Bil hwn—cwblhawyd y cyntaf fis Hydref diwethaf, a gosodwyd yr ail brynhawn ddoe. Nid yw'r un o'n hadroddiadau’n cynnwys nifer helaeth o gasgliadau neu argymhellion, felly bydd fy sylwadau yn y ddadl hon yn fyr iawn. Huw Irranca-Davies AC: Llywydd, i'r rhai sy'n cadw cyfrif, ein hadroddiad ar femorandwm Rhif 3 oedd ein deugeinfed adroddiad ar femoranda cydsyniad deddfwriaethol yn y chweched Senedd hon. Huw Irranca-Davies AC: Rydyn ni'n brysur iawn. Huw Irranca-Davies AC: Felly, gyda'ch gwahoddiad chi, Dirprwy Lywydd, byddaf yn siarad yn y ddwy ddadl arall ar gynigion cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer dau Fil arall y prynhawn yma, rhag diflasu pawb yma yn y Siambr, ond cymaint yw'r graddau y mae Llywodraeth y DU yn cynnig ac yn wir mae Senedd y DU yn pasio deddfwriaeth bellach yn ymwneud â materion datganoledig. Nawr, rwy'n gwneud y pwynt hwn oherwydd bod casgliadau 2 a 3 yn ein hadroddiad cyntaf yn amlygu ein pryderon, er gwaethaf gweithio rhynglywodraethol cyn cyflwyno'r Bil, a barodd sawl mis, fe gyflwynwyd y Bil yn wir i Senedd y DU mewn modd a olygai na allai Llywodraeth Cymru, pan gyflwynodd ei memorandwm cydsyniad deddfwriaethol gerbron y Senedd, argymell y dylai'r Senedd gydsynio i'r Bil. A nodwyd ein siom bryd hynny bod hyn yn dangos methiannau clir mewn gweithio rhynglywodraethol, ac nid ydym yn beio'r Gweinidog yma am hynny, ond mae'n chwalfa glir yno. Yn ein hail adroddiad, ynghylch memorandwm Rhif 3, rydym yn cydnabod ei bod yn ymddangos y bu cynnydd o ran cysylltiadau rhynglywodraethol, i'r graddau bod y Gweinidog wedi sicrhau rhai consesiynau ac mae bellach yn argymell bod y Senedd yn rhoi ei chydsyniad i'r Bil, felly mae hynny i'w groesawu. Gofynnodd argymhelliad 1 yn ein hadroddiad cyntaf am eglurder pam nad oedd achosion o fethiannau mewn gweithio rhynglywodraethol, fel y dangoswyd yn wreiddiol mewn cysylltiad â'r Bil hwn, wedi eu huwchgyfeirio i lefelau uwch yn y strwythurau rhynglywodraethol, gan gynnwys drwy ddefnyddio'r gweithdrefnau datrys anghydfod ffurfiol diwygiedig. Nawr, rydym ni wedi nodi ymateb y Gweinidog, yn ei barn hi, 'cafwyd deialog adeiladol â Thrysorlys Ei Fawrhydi' ac, i ddyfynnu, 'ni fu'n rhaid uwchgyfeirio'r materion'. Fodd bynnag, mae'n parhau'n aneglur i ni beth fyddai angen digwydd, neu yn wir i beidio â digwydd, cyn y byddai Llywodraeth Cymru yn ceisio defnyddio proses ffurfiol o ddatrys anghydfod—nid yn unig o fewn y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol hwn a'r Bil hwn, ond mewn rhai eraill—yr oedd yn eu hargymell er mwyn datrys anghytundebau difrifol â Llywodraeth y DU. Nawr, efallai y byddwn ond yn dysgu hyn wrth edrych yn ôl pan fydd y broses o ddatrys anghydfod wedi'i defnyddio mewn dicter, a phan nad yw trafodaethau blaenorol wedi datrys anghytundebau yn gynharach. Ond byddem yn dal i groesawu, pe gallem gael hynny, eglurhad pellach ynghylch pryd yn wir y gellir sbarduno proses datrys anghydfod ffurfiol. Gofynnodd argymhelliad 2 yn ein hadroddiad cyntaf i'r Gweinidog egluro beth oedd hi'n ei olygu pan ddywedodd hi wrthym ni fod Llywodraeth Cymru'n parhau, ac rwy'n dyfynnu, 'i ddadlau y dylai Senedd a Llywodraeth Cymru, ill dwy, arfer pwerau sy’n gyfwerth â phwerau’r sefydliadau cyfatebol ar lefel y DU.' Felly, roedden ni ychydig yn siomedig gyda'r ymateb gan y Gweinidog pan ddywedodd hi wrthym ni nad oedd hi'n gallu rhoi manylion penodol am union natur y gwelliannau y gellid eu cyflwyno, ac y bu ei 'swyddogion wedi mynegi’n glir fod rhaid mynd i’r afael â materion sy’n destun pryder cyfansoddiadol mewn modd sy’n dderbyniol i mi'— y Gweinidog— 'ac, yn y pen draw, i'r Senedd.' Fodd bynnag, nid yw hyn yn mynd i'r afael yn ddigonol ac yn fanwl â'r cais a wnaed yn ein hargymhelliad. Felly, tybed, Gweinidog, a allwch chi fyfyrio ar y pwynt hwn yn eich sylwadau wrth gloi, gan ehangu ar yr hyn yr oeddech yn ei olygu gan y datganiad hwnnw, 'i ddadlau y dylai Senedd a Llywodraeth Cymru, ill dwy, arfer pwerau sy’n gyfwerth â phwerau’r sefydliadau cyfatebol ar lefel y DU', oherwydd fe wnaethoch chi ennyn ein chwilfrydedd ac yna'n gadael ni'n aros ac yn disgwyl mwy. Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar y Gweinidog i ymateb. Rebecca Evans AC: Diolch. Rwy'n ddiolchgar iawn i gyd-Aelodau am eu sylwadau yn y ddadl y prynhawn yma, a dylwn ymateb i rai o argymhellion y pwyllgor ar lawr y Senedd, oherwydd rwy'n gwybod mai dyma oedd argymhelliad cyntaf y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith sef i mi ymateb i'w hargymhellion 2 a 3 yn ystod y ddadl y prynhawn yma. Felly, rwy'n falch o wneud hynny, ac rwy'n gwybod bod y pwyllgor yn awyddus fy mod yn egluro a allai'r banc weithredu fel benthyciwri awdurdodau cyhoeddus datganoledig heblaw awdurdodau lleol, yn seiliedig ar y diffiniad newydd o awdurdodau cyhoeddus, a hefyd pa un a allai a sut y gallai gallu awdurdodau cyhoeddus datganoledig i fenthyg gan Fanc Seilwaith y DU effeithio ar drefniadau ariannu ar gyfer y cyrff hynny. Felly, dim ond i gadarnhau ein bod yn croesawu'r ffaith bod y diffiniad o awdurdodau cyhoeddus wedi'i ehangu i'w gwneud hi'n glir y gall y banc roi benthyg i ystod ehangach o awdurdodau cyhoeddus datganoledig, yn hytrach nag awdurdodau lleol yn unig. Byddai'n rhaid ystyried pa mor briodol fyddai benthyca i awdurdodau cyhoeddus penodol ac unrhyw effaith ar eu trefniadau cyllido fesul achos, ond rwy'n fwy na pharod i roi mwy o fanylion i bwyllgor wrth i ni ddechrau defnyddio'r banc, a chysylltu gydag awdurdodau cyhoeddus i gloriannu eu profiad o ymwneud â'r banc. Ac fe ddywedaf fod ein swyddogion yn Llywodraeth Cymru mewn cyswllt cyson iawn â banc—fel, mewn gwirionedd, y mae Banc Datblygu Cymru—i sefydlu'r perthnasoedd da hynny. Ac yna, o ran y consesiynau hynny yr oeddem yn ceisio eu negodi, roedden nhw'n ymwneud â'r tri chymal penodol hynny yr wyf wedi'u disgrifio y prynhawn yma. O ran rôl i Weinidogion Cymru pe byddid yn ystyried diwygio cymalau 2 a 3, mae'r rheini'n ymwneud, wrth gwrs, â'r blaenoriaethau a'r cynlluniau strategol, ac amcanion a gweithgareddau'r banc. Ond wedyn, hefyd y pwynt yna am gyfarwyddwyr: felly, yn wreiddiol, rwy'n credu y byddem ni eisiau'r gallu i benodi cyfarwyddwr i'r bwrdd hwnnw ein hunain. Ni wnaethom lwyddo i gyrraedd y pwynt yna gyda Llywodraeth y DU, ond rwy'n credu bod yr hyn y gwnaethon ni ei drafod, sef y byddai aelod penodol o'r bwrdd yn gyfrifol am gyswllt gyda'r swyddogaeth o gynrychioli barn Llywodraeth Cymru ar y bwrdd hwnnw, rwy'n credu, yn gonsesiwn pwysig yr oeddem yn gallu ei gyflawni o ran y pryder penodol hwnnw a oedd gennym ni. O ran yr amser a gymerodd i'n cael ni i'r pwynt hwn, rwy'n credu bod yn rhaid i ni gydnabod bod oedi cyn cyrraedd sefyllfa o gyfaddawd, ond roedden nhw'n fwy o gynnyrch y newidiadau niferus o ran Gweinidogion y Trysorlys yn San Steffan, yn benodol dros yr haf, yn hytrach nag unrhyw anghytundeb penodol a gawsom ni ar rai o'r materion hyn yr oeddem yn ceisio eu datrys. Felly, rwy'n credu y bydd yr hyn yr ydym ni wedi gallu ei drafod yn sicr yn welliant ar y sefyllfa gychwynnol, ac rwy'n credu ein bod ar bwynt nawr lle rydym yn gallu argymell cydsyniad, oherwydd mae ein pryderon allweddol wedi cael sylw mewn ffordd yr ydym yn credu sy'n bragmataidd ac yn caniatáu i ni heddiw argymell cydsyniad. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. Gweinidog, ydych chi mewn sefyllfa i barhau ag eitem 8? Rebecca Evans AC: Ydw, gyda ymddiheuriadau am y dryswch cynharach. 8. Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2023 Byddwn nawr yn dychwelyd at eitem 8, a galwaf ar y Gweinidog i wneud y cynnig. Cynnig NDM8179 Lesley Griffiths Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Rhagfyr 2022. Cynigiwyd y cynnig. Rebecca Evans AC: Rwy'n croesawu'r cyfle i gyflwyno'r rheoliadau diwygio hyn heddiw. Mae Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2023 yn diwygio rheoliadau Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor 2013. Mae'r cynllun yn darparu cymorth uniongyrchol i aelwydydd ledled Cymru drwy leihau eu biliau treth gyngor, ac mae'r gwelliannau hyn yn sicrhau y gall bobl barhau i hawlio'r hyn sy'n ddyledus iddyn nhw. Llwyddodd Llywodraeth y DU i ddiddymu budd-dal treth gyngor ar 31 Mawrth 2013 a phasiodd y cyfrifoldeb o ddatblygu trefniadau newydd i Lywodraeth Cymru. Ynghyd â phenderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig roedd toriad o 10 y cant i'r cyllid ar gyfer y cynllun. Ymatebodd Llywodraeth Cymru drwy gau'r bwlch cyllido, er mwyn cynnal yr hawl i gael cymorth hyd 2013. Rydym ni wedi parhau i gefnogi'r hawl hwnnw bob blwyddyn ers hynny. Mae'r cynllun ar hyn o bryd yn rhoi cymorth i tua 268,000 o'r cartrefi tlotaf yng Nghymru. Wrth i'r argyfwng costau byw barhau i osod pwysau a chaledi cynyddol ar bobl Cymru, mae'n bwysicach fyth ein bod yn sicrhau bod y systemau sydd ar waith i'w cynnal mor deg ag y gallant fod a'u bod yn parhau'n gyfredol. Mae angen deddfwriaeth ddiwygio bob blwyddyn i sicrhau bod y ffigurau a ddefnyddir i gyfrifo hawl pob cartref i ostyngiad yn cynyddu er mwyn adlewyrchu cynnydd yng nghostau byw. Mae rheoliadau 2023 yn ffurfio'r addasiadau uwchraddio hyn ac yn cynnal yr hawliau sy'n bodoli eisoes i gael cymorth. Mae cynnydd yn y ffigurau ariannol ar gyfer 2023-24 sy'n ymwneud â phobl o oedran gweithio, pobl anabl a gofalwyr yn unol â mynegai prisiau defnyddwyr mis Medi—10.1 y cant. Mae cynnydd yn y ffigurau'n ymwneud ag aelwydydd pensiynwyr yn unol ag isafswm gwarant safonol Llywodraeth y DU ac yn adlewyrchu'r broses o gynyddu'r budd-dal tai. Rwyf hefyd wedi manteisio ar y cyfle i gynnwys mân newidiadau technegol ac i wneud gwelliannau ychwanegol i adlewyrchu newidiadau eraill i fudd-daliadau cysylltiedig. Er enghraifft, rwy'n diwygio'r rheoliadau i sicrhau na fydd pobl sy'n cyrraedd o Wcráin, sy'n ffoi rhag rhyfel ac sydd angen cefnogaeth, yn cael eu trin fel rhai nad ydyn nhw'n byw fel arfer yn y DU. Mae hyn yn golygu, pan fo hynny'n gymwys, y byddan nhw'n gallu cael mynediad i'r cynllun hwn. Mae gwelliant pellach yn sicrhau nad effeithir ar filiau treth gyngor aelwydydd yng Nghymru sy'n croesawu pobl o dan gynllun Cartrefi i Wcráin gan eu cynnig i roi cymorth i bobl o Wcráin. Ac yn olaf, rydyn ni wedi dileu'r eithriad i ddinasyddion ardal economaidd Ewrop, sydd bellach yn destun rheolaeth mewnfudo, i adlewyrchu'r rheoliadau yn Lloegr. Mae'r rheoliadau hyn yn cynnal yr hawl i gael gostyngiad ar filiau'r dreth gyngor i gartrefi yng Nghymru. O ganlyniad i'r cynllun hwn, bydd yr aelwydydd mwyaf tlawd sy'n derbyn y cynllun gostyngiad yn parhau i dalu dim treth cyngor yn 2023-24. Mae'r cynllun hwn yn parhau i fod yn gonglfaen i'n cymorth wedi'i dargedu ar gyfer aelwydydd, yn enwedig y rhai sy'n dioddef fwyaf o effeithiau'r argyfwng costau byw. Yn olaf, rwy'n ddiolchgar am adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Fel yr amlinellir yn ymateb y Llywodraeth i'r adroddiad hwnnw, bydd y ddau fân gamgymeriad technegol yn y rheoliadau yn cael eu cywiro cyn gwneud y rheoliadau, ac rwy'n gofyn i Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau hyn heddiw. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies. Huw Irranca-Davies AC: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, eto, a diolch, Gweinidog, hefyd. Gwnaethom ystyried y rheoliadau hyn ar 9 Ionawr, ac mae ein hadroddiad wedi'i osod i lywio'r Aelodau y prynhawn yma. Huw Irranca-Davies AC: Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio, fel yr oedd y Gweinidog yn ei ddweud, rheoliadau 2013 i gynyddu rhai ffigurau a ddefnyddir i gyfrifo hawl ymgeisydd i ostyngiad o dan gynllun lleihau treth gyngor. Roedd ein hadroddiad ar y rheoliadau hyn yn cynnwys, fel y soniodd y Gweinidog, dau bwynt technegol, a diolch i'r Gweinidog am ddarparu ymateb amserol. Roedd y pwynt adrodd technegol cyntaf yn tynnu sylw at yr hyn a ystyriwyd yn fater bach wrth ddrafftio fersiwn Gymraeg y rheoliadau. Nododd ein hail bwynt adrodd technegol anghysondeb rhwng y testunau Saesneg a Chymraeg yn rheoliad 13 y rheoliadau. Cytunodd y Gweinidog gyda'r pwyntiau adrodd hyn. Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae'r gwallau hyn yn dechnegol eu natur, ac yn wir, dywedwyd wrthym ni y byddai'r rhain yn cael eu cywiro cyn llunio'r offeryn. Felly, Gweinidog, diolch am gadarnhau i'r Siambr y gwneir y cywiriadau hynfel yr awgrymwyd, ac am ymateb mor gadarnhaol i'n hadroddiad. Galwaf ar y Gweinidog i ymateb. Rebecca Evans AC: Rwy'n ddiolchgar i Gadeirydd y pwyllgor am y sylwadau yna, ac, fel y dywedais, byddwn yn gwneud y newidiadau angenrheidiol hynny. Dim ond i ailadrodd, mewn gwirionedd, y ffaith bwysig y bydd y rheoliadau'n sicrhau y bydd y ffigurau a ddefnyddir i gyfrifo hawl aelwyd i ostyngiad yn ei bil treth gyngor yn ystyried y cynnydd yng nghostau byw. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn yn y cyd-destun rydyn ni ynddo ar hyn o bryd. Ac wrth gwrs, bydd y gwelliannau technegol a rhai canlyniadol hefyd yn galluogi i gynlluniau i leihau'r dreth gyngor yng Nghymru gael eu gweinyddu'n effeithiol ac effeithlon. Hoffwn hefyd atgoffa cyd-Aelodau bod angen diwygio rheoliadau bob blwyddyn i sicrhau bod pob aelwyd gymwys yng Nghymru yn cadw'r hawl i gael cymorth. Ac, fel yr amlinellir yn fy natganiad ar yr ymateb i'n hymgynghoriad ar dreth gyngor decach ym mis Rhagfyr, cyhoeddais grynodeb o ymatebion i hynny, a chawsom dros 1,000 o ymatebion, gan adlewyrchu ystod eang iawn o safbwyntiau a diddordebau, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithredu'r agenda honno ochr yn ochr â chyd-Aelodau. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 10. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) Eitem 10 sydd nesaf, ac mae eitem 10 wedi'i ohirio tan 14 Chwefror. 11. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Esgyll Siarcod Felly, eitem 11: cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Esgyll Siarcod. Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i wneud y cynnig. Julie James. Cynnig NDM8175 Julie James Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Esgyll Siarcod i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Cynigiwyd y cynnig. Julie James AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig. Mae'r arfer o dynnu esgyll siarcod yn farbaraidd ac yn niweidiol iawn i boblogaethau siarcod ar draws y byd. Mae'n arfer pysgota cwbl anghynaladwy, lle mae rhannau helaeth o garcasau siarcod yn cael eu taflu'n ôl i'r môr ar ôl tynnu'r esgyll gwerthfawr, a ddefnyddir yn bennaf mewn cymunedau Asiaidd. Mae poblogaethau siarcod yn fyd-eang yn dirywio, a derbynnir yn eang fod yr arfer hwn yn cyfrannu'n sylweddol at hyn. Hoffwn i Gymru fod yn wlad sy'n gwarchod natur, ac i arwain trwy esiampl. Mae'r rheoliad siarcod eisoes yn gwahardd tynnu esgyll siarcod ar fwrdd llongau'r DU sy'n gweithredu mewn dyfroedd morol. Bydd y Bil Esgyll Siarcod yn mynd ymhellach, ac yn gwahardd mewnforio ac allforio esgyll siarcod a dorrwydymaith a chynhyrchion sy'n cynnwys esgyll siarcod a dorrwydymaith. Mae'r gwaharddiad yn anfon neges glir i weddill y byd nad yw Cymru, ac yn wir, y DU, yn derbyn yr arfer hwn ac ni fydd yn cyfrannu at farchnad fyd-eang sydd ynghlwm â hyn. Rwy'n cydnabod bod dibenion gwyddonol ac addysgol ar gyfer esgyll siarcod yng Nghymru, ac mae'r Bil yn caniatáu i Weinidogion Cymru roi tystysgrifau eithrio at y diben cyfyngedig hwn. Mae'r ail gymal hefyd yn arwyddocaol, gan ei fod yn gwella'r darpariaethau y soniais amdanyn nhw yn y rheoliad ynghylch tynnu esgyll siarcod. Bydd y Bil yn gwahardd torri esgyll siarcod ar fwrdd llongau'r DU sy'n gweithredu y tu allan i ddyfroedd y DU, a llongau nad ydyn nhw yn rhai'r DU sy'n gweithredu yn nyfroedd y DU. Mae'r ddarpariaeth yn golygu bod yn rhaid i bob llong sy'n gweithredu yn y DU lanio pob siarc gydag esgyll ynghlwm yn naturiol wrth gorff y siarc. Bydd llongau'r DU sy'n gweithredu y tu allan i'r DU hefyd yn gweithredu yn unol â rheoliadau tebyg yn Ewrop. Bydd y cymal olaf, sy'n nodi hyd a lled y Bil yn parhau i fod wedi'i gadw'n ôl i'r Ysgrifennydd Gwladol. O ran y cymal hwn, rwyf wedi mynegi fy siom i'r Ysgrifennydd Gwladol yn dilyn diffyg ymgysylltu â Llywodraeth Cymru pan oedd y Bil yn cael ei ddrafftio gyntaf. Fel rwy'n deall, ychydig iawn o amser a roddwyd gan swyddogion i ystyried y Bil a chwmpas y pwerau datganoledig cyn ei gyflwyno i Dŷ'r Cyffredin. Fodd bynnag, gyda'r Ysgrifennydd Gwladol yn cadw'r pwerau hyn, mae'n golygu na fydd posibilrwydd y bydd bwlch rheoleiddio rhwng y rheoliadau sy'n dechrau yn y DU ac mewn Llywodraethau datganoledig. Felly, gyda hynny o'r neilltu, rwy'n falch o gael y cyfle i drafod gyda chi i gyd heddiw y Bil hwn, sy'n gam pwysig tuag at gadwraeth siarcod mewn cyfnod pan fo ein gwlad yn wynebu argyfwng natur. Rwy'n ymroddedig i amgylchedd morol sy'n lân, yn ddiogel, yn iach, yn gynhyrchiol ac yn fiolegol amrywiol. Rydyn ni wedi cyflawni cymaint yng Nghymru drwy gyfrwng cadwraeth forol, o'n rhwydwaith ardaloedd morol a ddiogelir, lle amddiffynnir 69 y cant o'n glannau a 50 y cant o holl ddyfroedd Cymru, ac mae hyn yn parhau i gynyddu, gyda'r cyhoeddiad a wnes i yn lansio'r broses o ddynodi'r parth cadwraeth forol. Mae Cymru hefyd yn arwain y ffordd yn gyfrifol o ran moroedd glân. Cyflwynais Fil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) ar 20 Medi 2022, a oedd yn fil uchelgeisiol. Mae'r Bil yn mynd y tu hwnt i wahardd cyfres gychwynnol o gynhyrchion plastig untro a welir mewn rhannau eraill o'r DU, a Chymru yw'r genedl gyntaf yn y DU i gyflwyno cynllun ailgylchu ar gyfer offer pysgota diwedd oes. Mae'r cynllun hwn wedi casglu ac ailgylchu 2.4 tunnell o offer pysgota a allai fod wedi anfon i safleoedd tirlenwi fel arall. A, Dirprwy Lywydd, byddwn yn gwneud mwy. Yn dilyn yr archwiliad bioamrywiaeth trylwyr a gomisiynwyd gennyf y llynedd, cyhoeddais gyfres o argymhellion y dylid eu hystyried er mwyn cyrraedd y targed 30x30. Ar hyn o bryd mae fy swyddogion yn dadansoddi'r fframwaith byd-eang newydd a gytunwyd yn COP15 ddiwedd mis Rhagfyr, i nodi pa gamau pellach sydd angen i ni eu cymryd i gyrraedd y targedau eraill yn ychwanegol at 30x30. Ac yn ogystal â'r broses parth cadwraeth forol y soniais amdani'n gynharach, bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu cynllun adfer cynefinoedd, gan ganolbwyntio ar gynefinoedd morfa heli a morwellt ar hyd arfordir Cymru. Rwyf hefyd wedi ymrwymo i strategaeth cadwraeth gwely'r môr, sydd bellach yn fwy nag erioed yn gwbl hanfodol yn wyneb y bygythiad cynyddol o ffliw adar. Fodd bynnag, os oes arnom ni eisiau dangos i weddill y byd bod Cymru wedi ymrwymo i gadwraeth forol, mae angen i ni fynd y tu hwnt i'n blaenoriaethau domestig drwy gytuno i'r cynnig a gwahardd mewnforio ac allforio esgyll siarcod rhydd i Gymru a'r DU, sy'n anfon neges glir yn fy marn i nad ydyn ni'n cefnogi'r math hwn o arfer anghynaladwy sydd mor niweidiol i boblogaeth siarcod y byd. Felly, Dirprwy Lywydd, wrth gloi, rwy'n argymell Aelodau i gefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol mewn cysylltiad â'r Bil Esgyll Siarcod. Diolch. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies. Chi eto. [Chwerthin.] Huw Irranca-Davies AC: Diolch eto, Dirprwy Lywydd. Fe wnaethon ni gyflwyno ein hadroddiad ar femorandwm Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â'r Bil Esgyll Siarcod y bore 'ma ac fe ddaethon ni i ddau gasgliad yn ein hadroddiad. Fe wnaethon ni ddau argymhelliad i Lywodraeth Cymru. Cytunwyd ag asesiad y Gweinidog bod angen cydsyniad y Senedd ar gymalau 1, 2 a 3(5) y Bil. Ond nodwn fod Llywodraeth Cymru o'r farn nad oes angen i weddill yr is-gymalau yng nghymal 3—yn ymwneud â graddau tiriogaethol y Bil, cwmpas y rheoliadau sydd i'w gwneud o dano, a'i deitl—gael cydsyniad y Senedd gan eu bod yn gymalau nad ydyn nhw'n weithredol. Gweinidog, rydyn ni'n cymryd y farn, os yw cymalau o'r fath yn ymwneud â chymalau eraill yn y Bil sydd angen cydsyniad, yna dylid gofyn am gydsyniad y Senedd ar gyfer y cymalau hyn hefyd. Dyma'r argymhelliad cyntaf i ni ei wneud yn ein hadroddiad. Mae ein hail argymhelliad yn galw ar Lywodraeth Cymru i rannu'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth y bydd yn rhan ohono gyda Llywodraeth y DU ar y pwerau cychwyn yng nghymal 3 y Bil. Nawr, nodwn fod y Gweinidog yn fodlon i'r Ysgrifennydd Gwladol gadw'r pwerau hyn yn ôl, felly byddai'n ddefnyddiol i weld manylion sut a phryd y cânt eu defnyddio. Felly, gobeithiwn y gellir darparu ar gyfer hynny. Rydyn ni hefyd yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn fodlon i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau ar gyfer darpariaethau arbed a throsiannol mewn maes datganoledig, yn rhinwedd y pwerau yng nghymal 3 y Bil, ac mae'r Gweinidog wedi esbonio hyn. Felly, yn olaf, fe ddaethon ni i'r casgliad, pe bai Llywodraeth Cymru eisiau deddfu ym maes lles anifeiliaid yn y dyfodol, y dylai wneud hynny drwy gyflwyno deddfwriaeth yn y Senedd. Mae hon yn ddadl safonol sydd gennym. Rydyn ni'n cydnabod bod gan y Bil sy'n ddarostyngedig i'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn heddiw ddiben penodol iawn. Ond ers i Lywodraeth Cymru nodi lles anifeiliaid fel un o'i blaenoriaethau, dylai gymryd cyfrifoldeb am gyflwyno deddfwriaeth yn y dyfodol y mae'n ystyried yn angenrheidiol i'r diben hwnnw yng Nghymru, yn y Senedd. Ac, a gaf i ddweud, wrth gloi, fel cyn-Weinidog y DU a waharddodd y chwe llong olaf yn y DU a fu'n tynnu esgyll siarcod, fy mod i'n canmol y cydsyniad hwn? Janet Finch-Saunders AC: A gaf i ddim ond dweud ein bod ni yn wir yn gytûn yn hyn o beth, Gweinidog? Hoffwn ddweud o'r cychwyn cyntaf bod gan y Bil Esgyll Siarcod gefnogaeth lawn ein grŵp. Tynnu esgyll siarcod yw un o'r bygythiadau mwyaf i gadwraeth siarcod. Amcangyfrifir y lladdir tua 97 miliwn o siarcod bob blwyddyn yn fyd-eang gan yr arfer yma. A gyda syndod, hyd yn oed i mi, y dysgais am faint o esgyll siarcod y daethpwyd â nhw i borthladdoedd o amgylch y DU. Mae'r asesiad brysbennu rheoleiddiol wedi nodi 125 o borthladdoedd ar draws y DU sydd wedi trin siarcod a morgwn, gydag Aberdaugleddau ac Abertawe yn y 10 porthladd uchaf, gyda 219 o laniadau gwerth £59,641 a £20,708 yn y drefn honno. Ers 2018, mae cofnodion yn dangos bod y DU wedi allforio uchafswm o 12 tunnell o esgyll siarcod, gwerth £216,000, yn bennaf i Sbaen a gwledydd eraill yn Ewrop. Mae cymal 1 yn gwahardd mewnforio ac allforio esgyll siarcod, rhannau o esgyll siarcod, neu bethau sy'n eu cynnwys i mewn neu o'r Deyrnas Unedig, ar ôl iddyn nhw gael mynediad i Brydain Fawr neu adael Prydain Fawr. Fel yr ydych chi wedi datgan yn gywir yn y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol, mae'r Bil fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd yn anfon neges allweddol bod tynnu esgyll siarcod yn annerbyniol a'n bod ni, yma yng Nghymru, i gyd eisiau ymbellhau oddi wrtho. Oni ddylem gefnogi'r ddeddfwriaeth hon, gan gofio nad oes Mesur Senedd tebyg wedi'i gynllunio yn y tymor byr na'r tymor canolig, byddai Cymru yn y sefyllfa ryfedd pryd gellid targedu ein porthladdoedd ar gyfer mewnforion, a dosbarthu ymlaen i weddill y DU, ac mae hynny'n eithaf anodd ei atal. Mae cymal 2 yn mynd i'r afael ag anghyfiawnder ac yn darparu datrysiad synnwyr cyffredin. Ac rwy'n gobeithio y bydd hyd yn oed Plaid Cymru'n cytuno ei bod hi'n annerbyniol nad yw'r gwaharddiad ar dynnu esgyll siarcod o dan y rheoliad tynnu esgyll siarcod yn berthnasol i longau pysgota nad ydynt o'r DU nac o'r UE yn nyfroedd morol y DU. Mae'r ddeddfwriaeth yn enghraifft wych o gydweithio cadarnhaol gan AS o Gymru, Christina Rees, a DEFRA. Nid yw'r Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig yn gweld unrhyw reswm dros wrthwynebu i'r Senedd gytuno i'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol, ac rwy'n credu ei bod hi'n briodol i ni i gyd fel Aelodau yma gefnogi hyn heddiw i helpu i anfon neges glir nad yw'r Senedd hon sydd gan Gymru yn cefnogi tynnu esgyll siarcod, ac na wnaiff hi hynny. Diolch. Mabon ap Gwynfor AS: Rydyn ni'n cytuno, wrth gwrs, efo datganiad olaf Janet Finch-Saunders yn fanna. Dydyn ni ddim yn gwrthwynebu mewn egwyddor cynnwys y Bil. Yn wir, wrth ystyried record dda y Senedd yma wrth hyrwyddo'r argyfwng natur, roedd yna gyfle i ni arwain yn y maes yma. Mae'n bechod, felly, ein bod ni wedi methu gweld Bil Cymreig ac yn gorfod gadael i San Steffan ddeddfu ar fater datganoledig. Ond, mi ydyn ni'n gwrthwynebu hwn ar sail y ffaith mai cydsyniad deddfwriaethol arall ydyw yn tramgwyddo ar hawliau datganoledig Cymru. Ac, fel y clywson ni, mae yna ddiffyg ymgynghori wedi bod ar hyn, yn golygu bod llais Cymru wedi cael ei hanwybyddu a bod Cymru yn fudan unwaith eto. Felly, ar sail hynny, mi fyddwn ni'n gwrthwynebu'r cynnig yma. Galwaf ar y Gweinidog i ymateb. Julie James AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau heddiw. Dim ond i fynd i'r afael â rhai o'r pwyntiau penodol iawn—a diolch i'r pwyllgor, Huw, am ei waith cyflym ar hyn, fel bob amser—mae gen i ofn nad ydw i'n derbyn yr argymhelliad na'r casgliad y byddai cymal 3 y Bil yn gyfystyr â darpariaeth berthnasol at ddibenion Rheol Sefydlog 29. Ar wahân i gymal 3(5), mae cymal 3 yn cynnwys darpariaethau technegol sy'n ymwneud â sut mae'r Bil yn gweithio, yn hytrach na darpariaethau sylweddol. Ac, fel mater o ymarfer, nid yw Llywodraeth Cymru ar y cyfan yn cynnwys cymalau nad ydyn nhw'n weithredol yn y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol, y gwnaethoch chi gydnabod yn eich ymateb chi, rwy'n credu. O ran y memorandwm cyd-ddealltwriaeth, rydw i'n derbyn yr argymhelliad hwnnw yn llwyr a chyn gynted ag y bo'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth wedi'i gytuno, caiff ei rannu gyda'r Senedd. Ac rwy'n cytuno'n llwyr â'ch rhesymeg dros hynny. O ran pam y mae'r Bil, pam ddim Bil Cymreig, Bil Aelod preifat yw hwn. Pe baem ni wedi penderfynu dilyn y llwybr yr oedd Plaid Cymru yn ei amlinellu, yna byddai gennym ni fwlch rheoleiddio a'r sefyllfa y soniodd Janet Finch-Saunders amdani: byddem wedi gweld glaniadau yma yng Nghymru na fyddem wedi gallu eu stopio tra bod gennym ni fwlch rheoleiddiol. Felly, gan mai Bil Aelod preifat oedd hwn, mae'n gwneud llawer iawn o synnwyr i gyd-fynd â'r broses reoleiddio i wneud yn siŵr nad oes bwlch. Rwy'n cytuno'n llwyr mai dyna'r peth iawn i'w wneud ac rwy'n galw'n daer ar i Aelodau gefnogi hyn heddiw. Fodd bynnag, byddaf yn dweud y byddai'n llawer gwell pe bai Llywodraeth y DU yn ymgynghori'n iawn â ni yn y broses o wneud hyn. Byddem yn gallu dod i gasgliadau llawer gwell gyda'n gilydd nag yr ydym yn ei wneud pan fyddwn yn darganfod pethau'r diwrnod cynt. Felly, er fy mod yn cytuno'n llwyr â mewnforio'r Bil hwn, nid yw'r ffordd y gwnaethon ni ddod i wybod amdano gan Lywodraeth y DU yn ddelfrydol. Felly, os hoffech chi anfon y neges honno'n ôl, Janet, byddai hynny o gymorth mawr yn wir. Ond i grynhoi, dirprwy Lywydd, anfonodd y Bil neges glir i weddill y byd nad ydym yn cefnogi'r arfer hon o bysgota, sydd mor niweidiol i boblogaethau siarcod y byd. Rwy'n cynnig y cynnig felly ac yn gofyn i bob Aelod ei gefnogi. Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrnyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. 12. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl) Eitem 12, cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl). Galwaf ar y Gweinidog materion gwledig a gogledd Cymru i wneud y cynnig—Lesley Griffiths. Cynnig NDM8177 Lesley Griffiths Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Cynigiwyd y cynnig. Lesley Griffiths AC: Diolch. Rwy'n cynnig y cynnig. Rwy'n hynod siomedig o orfod ymdrin â'r Bil bridio manwl heddiw. Mae'r Bil hwn yn codi rhai mathau o dechnolegau golygu genynnau o'r diffiniad cyfredol o organebau a addaswyd yn enetig a'r gofynion cyfreithiol cysylltiedig. Er ei fod yn Fil ar gyfer Lloegr yn unig, bydd yn creu canlyniadau anochel i Gymru ac fe fydd yn tanseilio'r setliad datganoli. Wrth archwilio'r polisi hwn, gallai Llywodraeth y DU fod wedi ymgysylltu â'r broses fframwaith, a sefydlwyd i hwyluso cydweithio a chydweithredu rhwng y pedair gwlad ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Fe ddewison nhw beidio. Yn hytrach, fe wnaethon nhw fwrw ymlaen â'r Bil heb gydnabod y goblygiadau i Gymru a gwledydd datganoledig eraill. Bydd aelodau yn gweld yn y memorandwm a gyflwynwyd gennym ni ein bod yn argymell atal cydsyniad. Bydd aelodau hefyd yn gweld mai barn Llywodraeth Cymru yw bod angen cydsyniad y Senedd ar y Bil i gyd oherwydd effaith Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020. Ar y pwynt hwn, hoffwn ddweud fy mod yn ddiolchgar am y gwaith pwysig a wnaed gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i graffu ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol a'r Bil, er gwaethaf yr amser cyfyngedig i'w ystyried. Nodaf, yn ei adroddiad, fod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn cwestiynu a yw'r Bil hwn yn addas i'w ystyried o dan Reol Sefydlog 29. Am y rhesymau y byddaf yn eu hamlinellu heddiw, barn Llywodraeth Cymru yw bod y Bil hwn yn gwneud darpariaeth berthnasol mewn cysylltiad â Chymru. Mae'n Fil perthnasol at ddibenion y broses gydsynio. Fodd bynnag, yn ehangach, rwy'n cefnogi eu cais i adolygu'r Rheolau Sefydlog er mwyn sicrhau eu bod yn glir ac yn addas i'r diben. Mae'r Bil a gweithrediad Deddf Marchnad Fewnol y DU yn golygu, mewn rhai achosion, y bydd darpariaethau'r Bil hwn yn disodli cyfraith Cymru. Rwyf nawr eisiau archwilio amcanion polisi arfaethedig y Bil. Yn ôl Llywodraeth y DU, bydd y Bil yn moderneiddio'r fframwaith rheoleiddio addasu genetig. Maen nhw'n dadlau y bydd yn lleihau baich rheoleiddio ac ariannol ac y bydd yn ei gwneud hi'n haws defnyddio technolegau genetig newydd i ddatblygu planhigion ac anifeiliaid newydd mewn ymateb i argyfyngau deuol newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth. Dyma nodau canmoladwy ac mae Llywodraeth Cymru wastad wedi cefnogi ymchwil wyddonol. Mae'n iawn adolygu ein cyfreithiau mewn ymateb i ddatblygiadau gwyddonol a thystiolaeth newydd. Fodd bynnag, nid rhuthr penrhydd i ddadreoleiddio, heb ymgynghori â chenhedloedd eraill y DU, yw'r dull cywir. Dylid llunio polisi sydd â chanlyniadau hirdymor sylweddol mewn ffordd bwyllog ac ystyriol, a dylem ddilyn yr egwyddorion a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'r Bil yn nodi fframwaith rheoleiddio newydd ar gyfer organebau yr addesir eu gennynnau—organebau a fridiwyd yn fanwl, fel y'i gelwir. Os caiff y Bil ei basio, bydd yn haws rhyddhau planhigion ac anifeiliaid a fridiwyd yn fanwl i'r amgylchedd. Bydd hi'n haws eu marchnata nhw a'u defnyddio mewn bwyd. Beth mae hyn yn ei olygu i Gymru? Bydd Deddf Marchnad Fewnol y DU yn berthnasol i werthiant organebau a fridiwyd yn fanwl ar draws Prydain Fawr. Rydyn ni wedi bod yn gweithio i ddeall y ffordd gymhleth y bydd y Bil bridio manwl yn rhyngweithio ag UKIMA. Mae llawer o gwestiynau pwysig, heb eu hateb o hyd. Fodd bynnag, mae'n amlwg y caniateir cynhyrchion bridio manwl, sydd wedi'u cynhyrchu yn Lloegr, ar y farchnad Gymreig heb orfod cydymffurfio â'r gofynion addasu genynol a nodir yng nghyfraith Cymru. Mae hyn yn tanseilio datganoli yn llwyr. Bydd y Bil yn sefydlu fframwaith rheoleiddio newydd ar gyfer awdurdodi organebau a fridiwyd yn fanwl ac asesiad diogelwch i fwydydd a fridiwyd yn y modd hwn. Yn ymarferol, bydd hyn yn creu dull gorfodi deuol yng Nghymru, y bydd angen i fusnesau a chyrff gorfodi ymdopi ag ef. Hoffwn nodi'r dadleuon penodol dros beidio argymell cydsyniad. Yn gyntaf, cyfraith Cymru sy'n cyfyngu ar farchnata planhigion ac anifeiliaid wedi eu haddasu yn enetig. Fodd bynnag, fel yr wyf eisoes wedi'i nodi, mae UKIMA yn golygu na fydd cyfraith Cymru yn berthnasol i blanhigion ac anifeiliaid a fridiwyd yn fanwl pan gânt eu cludo i Gymru o Loegr. Felly, gellid gwerthu tomatos a fridiwyd yn fanwl yn eich siop leol neu eich archfarchnad, ac anifeiliaid a fridiwyd yn fanwl yn eich siop anifeiliaid anwes lleol. Mae'n amlwg iawn i mi y bydd cyfraith Cymru yn cael ei thanseilio a'i dadleoli, a nodaf i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gytuno â'n dadansoddiad o effeithiau UKIMA yn ei adroddiad. Yn ei adroddiad, mae'r pwyllgor hefyd yn cwestiynu os yw ein dadansoddiad o effeithiau UKIMA ar y Bil hwn yn wahanol i'r Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru). Er bod y Biliau hyn yn wahanol, mae ein hymagwedd yn gyson. Pan fo'r Senedd yn deddfu, maen nhw'n gwneud hynny'n rhydd o UKIMA, felly gellir gwneud deddfwriaeth Senedd sylfaenol mewn maes datganoledig yn rhydd o ofynion UKIMA. Mae hyn yn golygu y gallai'r Senedd gywiro safbwynt y Bil hwn drwy wneud deddfwriaeth sylfaenol newydd yma yng Nghymru. Fodd bynnag, ni ddylai fod angen i ni wneud hynny, a dylid parchu ein cyfraith bresennol. Yn ail, mae'r DU yn dewis peidio â gorfodi labelu organebau a fridiwyd yn fanwl. Mae ymchwil gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn dangos yn glir bod y rhan fwyaf o ddefnyddwyr eisiau gwybod a ydyn nhw'n prynu bwyd sy'n cynnwys cynhwysion a fridiwyd yn fanwl. Fodd bynnag, dim ond gyda labelu gorfodol y mae hyn yn bosibl. Dylai defnyddwyr o Gymru allu dewis a ddylid prynu'r cynhyrchion hyn, ond nid yw Llywodraeth y DU yn rhannu'r farn hon. Ymhellach, heb labelu nac olrhain, byddai'n anodd iawn i gyrff gorfodi orfodi'r drefn reoleiddio briodol yma yng Nghymru. Yn drydydd, rwy'n pryderu am effaith y Bil ar gynhyrchwyr organig a masnach ryngwladol. Roedd allforion bwyd a diod o Gymru werth £640 miliwn yn 2021. Yn y flwyddyn honno, Cymru oedd â'r cynnydd canrannol mwyaf flwyddyn ar ôl blwyddyn yng ngwerth allforion bwyd a diod o gymharu â Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae hyn yn rhywbeth i'w ddathlu, ac rwy'n siŵr y bydd pob cyd-Aelod yn cytuno bod bwyd a diod o Gymru wedi mynd o nerth i nerth dros y ddegawd ddiwethaf. Fodd bynnag, gall y Bil hwn arwain at heriau a chostau ymarferol i fusnesau sy'n allforio cynhyrchion a fridiwyd yn fanwl. Unwaith y bydd organebau a fridiwyd yn fanwl mewn cylchrediad llawn, sut bydd busnesau'n gwybod a sut y byddant yn gallu dangos nad yw eu cynhyrchion wedi eu haddasu yn enetig? Yn olaf, mae rhannau allweddol o'r Bil—gan gynnwys rheoleiddio anifeiliaid a fridiwyd yn fanwl—i'w nodi mewn is-ddeddfwriaeth yn y dyfodol. Mae hyn yn ei gwneud hi'n anodd iawn gwybod sut y caiff y pwerau hyn eu harfer a beth fydd yr effaith bellach ar Gymru. Yn bryderus, mae hyn yn cynnwys safonau lles ar gyfer anifeiliaid a fridiwyd yn fanwl. Mae lles anifeiliaid wedi'i ddatganoli, a gallai'r anifeiliaid hyn gael eu gwerthu yng Nghymru. Fodd bynnag, ychydig iawn o ddylanwad a gawn ar y safonau lles hynny. Rwyf hefyd yn bryderus ynghylch y diffyg craffu y gallai'r is-ddeddfwriaeth hon fod yn destun iddo, ac i ba raddau y byddwn yn gallu gwrthwynebu deddfwriaeth y DU sy'n dod o fewn cymhwysedd y Senedd. Felly, rwy'n gofyn i Aelodau atal cydsyniad ar gyfer y Bil hwn. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies. Huw Irranca-Davies AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe wnaethon ni gyflwyno ein hadroddiad ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol hwn yn syth ar ôl ein cyfarfod brynhawn ddoe. Bydd y Gweinidog yn gwybod mai ychydig iawn o amser oedd gennym i ystyried y memorandwm, o ystyried y cafodd ei gyflwyno ar 8 Rhagfyr 2022, a gofynnwyd i ni adrodd erbyn 16 Ionawr 2023. Dim ond 11 diwrnod oedd yn y cyfnod hwnnw pan oedd y Senedd yn cyfarfod, ond rydyn ni wedi llwyddo i wneud hynny. Rydyn ni'n cydnabod yr hyn sydd wedi'i esbonio i ni, bod diffyg ymgysylltu Llywodraeth y DU â Llywodraeth Cymru ar y Bil hwn wedi cyfrannu at hyn, ac rydym yn siomedig ynghylch hynny, yn amlwg. Fodd bynnag, rydym yn dal heb ein hargyhoeddi y gall y diffyg ymgysylltu rhynglywodraethol ar hyn esgusodi'n llawn neu egluro'n llawn yr oedi agos at saith mis a fu cyn i Lywodraeth Cymru gyflwyno'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol gerbron y Senedd. Mae wedi arwain at gyfyngu difrifol ar yr amser sydd ar gael i graffu'n ystyrlon. Felly, nid yw'n syndod ein bod ni wedi dod i'r casgliad bod yr oedi wrth gyflwyno'r memorandwm yn annerbyniol, ac yn anffodus mae wedi atal Aelodau o'r Senedd rhag ymgymryd â'r swyddogaethau craffu dilys yn llawn mewn cyfnod rhesymol, gan gynnwys o bosibl gymryd tystiolaeth gan y Gweinidog a gan randdeiliaid. Huw Irranca-Davies AC: Mae ein hadroddiad yn nodi barn Llywodraeth Cymru bod y Bil yn gwneud darpariaeth berthnasol mewn perthynas â Chymru o ganlyniad i Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, neu UKIMA, fel y byddaf yn cyfeirio ati yn awr, ac yn benodol bod ei gofynion yn golygu y bydd y darpariaethau yn y Bil yn caniatáu gwerthu a marchnata PBOs—organebau wedi’u bridio’n fanwl—yng Nghymru, sydd ar hyn o bryd wedi ei wahardd gan ddeddfwriaeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn dod i'r casgliad bod darpariaethau'r Bil yn cael eu gwneud at ddiben sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, yn rhinwedd UKIMA. Nawr, rydym ni’n cytuno â dadansoddiad Llywodraeth Cymru mai effaith UKIMA fydd y gallai PBOs gael eu gwerthu a'u marchnata yng Nghymru, er gwaethaf cyfraith Cymru ar hyn o bryd, os yw’r PBOs hynny'n werthadwy yn gyfreithlon yn Lloegr. Fodd bynnag, ac mae hyn yn mynd at graidd y peth, mae Rheol Sefydlog 29 yn gymwys pan fo Bil yn darparu 'mewn perthynas â Chymru'. Oni bai ei fod yn addasu cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, nad yw'n wir mewn perthynas â'r Bil hwn, rhaid iddo hefyd wneud darpariaeth at unrhyw bwrpas 'o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd'. Mae cymalau sylweddol y Bil hwn yn gyfyngedig o ran eu cymhwysiad i Loegr yn unig. Nid yw ei ddarpariaethau, yn ein barn ni, yn gymwys 'mewn perthynas â Chymru' er mwyn cynnwys Rheol Sefydlog 29. Yn ogystal, nid oes gan y Senedd y cymhwysedd deddfwriaethol i ddeddfu o ran gwerthu a marchnata PBOs yn Lloegr er mwyn gwneud i’r Bil ddarparu 'o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd'. Yn ein barn ni, dim ond yn rhinwedd y Bil yn dod yn Ddeddf ac yn dod i rym y bydd effaith UKIMA yn weithredol, ac nid yw'n fater cymhwysedd deddfwriaethol at ddiben Rheol Sefydlog 29, a byddaf yn dod at ffordd bosibl ymlaen yn nes ymlaen. Rydym ni’n cydnabod ac yn derbyn bod gan UKIMA oblygiadau ehangach ar gyfer polisi Cymru. Fodd bynnag, mae effaith yr egwyddor cydnabyddiaeth gilyddol a ddarperir ar ei gyfer yn UKIMA yn fater ar wahân i gymhwysedd ac, o ganlyniad, ar wahân i Reol Sefydlog 29. Rydym ni hefyd yn nodi, ac mae hwn yn bwynt pwysig, y gallai Llywodraeth Cymru fod wedi defnyddio Rheolau Sefydlog eraill fel ffordd o drafod pwnc y memorandwm, y mae'r Gweinidog wedi egluro sy'n hanfodol ei drafod yma yn y Senedd. Felly, rydym ni’n anghytuno â'r datganiad sydd ym mharagraff 9 o'r memorandwm bod Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl) 'yn fil perthnasol, gan ei fod yn gwneud darpariaeth berthnasol sy'n ymwneud â Chymru oherwydd Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020', ac rydw i wedi esbonio pam yn barod. Yn unol â hynny, fe ddaethom i'r casgliad nad oes angen caniatâd y Senedd ar gyfer y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl). Cyn cloi, hoffwn dynnu sylw at y ffaith ein bod ni wedi synnu—a chodwyd hyn gyda'r Cwnsler Cyffredinol ddoe mewn sesiwn dystiolaeth—bod dadansoddiad Llywodraeth Cymru o effaith UKIMA ar gyfraith bresennol Cymru, yng nghyd-destun y cyflwyniad yn Senedd y DU ar gyfer y Bil hwn i Loegr yn unig, yn ymddangos yn wahanol i'w ddadansoddiad o effaith UKIMA ar ei Bil Diogelu Amgylcheddol ei hun (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru), pan ddywedwyd wrthym ni nad yw UKIMA yn hynny o beth 'yn brathu' ar y Bil ac felly'r Ddeddf ddilynol. Felly, fe wnaethom ni argymell y dylai'r Cwnsler Cyffredinol ysgrifennu at y pwyllgor ac egluro pam fod Llywodraeth Cymru o'r farn y bydd UKIMA yn effeithio ar gyfraith bresennol Cymru o ganlyniad i gyflwyno'r Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl), ond na fydd yn effeithio ar Fil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) pan ddaw'n gyfraith. Rwy'n amau, Cwnsler Cyffredinol, y bydd hyn yn rhywbeth y byddwn ni’n dod yn ôl atoch chi arno. Mae ein hail argymhelliad—ymddiheuriadau, Dirprwy Lywydd, byddaf yn dirwyn hyn i ben yn gyflym iawn—yn ymwneud â mater pwysig, yn gysylltiedig ag UKIMA, y mae’r Gweinidog wedi ei grybwyll. Mae'n hanfodol sicrhau bod deddfau sydd i'w gwneud yng Nghymru, neu gyfraith Cymru sydd eisoes ar y llyfr statud, yn effeithiol. Mae hefyd yn bwysig ystyried a yw cyfraith sy’n cael ei gwneud y tu allan i Gymru yn effeithio ar bwrpas ac effaith cyfraith Cymru. Felly, rydym ni o ganlyniad yn argymell—ac rwy'n croesawu ymateb cadarnhaol y Gweinidog ar hyn—y dylai'r Pwyllgor Busnes sicrhau bod Rheolau Sefydlog y Senedd yn cael eu hadolygu a'u diwygio ar y cyfle cyntaf i sicrhau eu bod yn gwneud darpariaeth briodol i sicrhau effaith ymarferol UKIMA, sydd bellach wedi dod i’n rhan ac y byddwn ni’n gweld mwy ohoni, yn cael ei hystyried wrth ystyried, er enghraifft, Biliau o dan Reolau Sefydlog 26, 26A, 26B a 26C a phan fydd pasio deddfwriaeth trwy'r holl ddeddfwrfeydd yn y DU yn cael effaith ar is-ddeddfwriaeth. Ein dadl ni yw bod ffordd wahanol o gael y ddadl hon a'i nodi, ac nad Rheol Sefydlog 29 yw'r ffordd briodol. Samuel Kurtz MS: Rhaid i mi gyfaddef, mae gen i ofn bod yn rhaid i mi anghytuno â'r Gweinidog a Llywodraeth Cymru ynghylch pam eu bod nhw wedi gosod y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn heddiw ac rwy’n credu bod hyn yn wastraff amser y Senedd, ac nid fi yw'r unig un sy'n credu hynny. Mae manylion technegol y Bil, fel sydd wedi’u nodi yn atodiad A y nodiadau esboniadol, yn nodi'n glir nad yw Llywodraeth y DU o'r farn bod angen caniatâd gan y Senedd hon ynghylch unrhyw ran o'r Bil hwn, barn sydd wedi’i chydnabod gan Lywodraeth Cymru ym mharagraff 19 o'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol. Yn ogystal â hyn, nid yw gwasanaethau cyfreithiol y Senedd eu hunain ychwaith yn cytuno ag asesiadau Llywodraeth Cymru bod y cymalau hyn angen caniatâd y Senedd. Ond, os oedd Llywodraeth Cymru wir yn credu bod angen y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, yna fe ddylai fod wedi'i gyflwyno o fewn pythefnos i gyflwyno’r Bil yn Nhŷ'r Cyffredin, nid y saith mis mae wedi cymryd Llywodraeth Cymru i wneud hynny. O ran y Bil ei hun, mae'r Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl) yn ddarn nodedig o ddeddfwriaeth sydd â'r gallu i drawsnewid y diwydiant amaethyddol, gan ein cynorthwyo yn ein cadernid cyfunol yn erbyn rhai o'r heriau mwyaf arwyddocaol sydd o'n blaenau. Boed hynny yn ddiogelwch bwyd, newid hinsawdd, clefyd neu gost, gall bridio manwl fod yn arf yn ein blwch arfau, gan sicrhau dyfodol ein diwydiant amaethyddol am genedlaethau i ddod. Nawr, mae'n rhaid i ni fod yn glir nad yw bridio manwl yn golygu cnydau wedi'u haddasu'n enetig. Nid ychwanegu geneteg wedi'i addasu'n artiffisial yw hyn. Yn hytrach, mae hyn yn defnyddio dulliau traddodiadol sy'n bodoli eisoes i atgyfnerthu buddsoddiad mewn arloesedd cnydau yn y DU. Mae bridio manwl yn cymryd yr hyn sy'n digwydd yn naturiol dros gannoedd o flynyddoedd ac yn ei hwyluso mewn ffordd reoledig, moesegol a diogel. Mae'r wyddoniaeth hon eisoes yn digwydd. Mae Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth, a elwir yn IBERS, wedi arwain gwaith arloesol, yn debyg i waith organebau wedi’u bridio’n fanwl - PBOs - i ddatblygu mathau o laswellt a meillion perfformiad uchel sy'n cael eu defnyddio eisoes gan ffermwyr da byw. Yn anffodus, gallai cibddallineb Llywodraeth Cymru ar PBOs a'r Bil hwn o bosibl weld prifysgolion Cymru, academia Cymru, yn colli allan ar gyfleoedd i fod ar flaen y gad yn yr ymdrechion i fynd i'r afael â diogelwch bwyd byd-eang. Meddyliwch am y cyfle a gollwyd, cael gwared ar y gobaith, o hadau gwenith Cymreig sy’n gwrthsefyll sychder ac afiechydon ddim yn mynd i Affrica Is-Sahara i helpu i ddod â thlodi i ben—canlyniad anfwriadol i beidio â mabwysiadu’r ddeddfwriaeth hon yn cael effaith andwyol aruthrol ar ein rhaglen ddyngarol Cymru ac Affrica. Felly, o ystyried ei fuddion diamheuol, sy'n berthnasol yn gyffredinol o iechyd y cyhoedd i newid hinsawdd, rwy'n siomedig ac yn rhwystredig bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod ymuno â'r Bil y llynedd. Os gall ffermwyr Lloegr gynyddu eu cynnyrch drwy PBOs, yna mae hyn yn gadael ffermwyr Cymru dan anfantais gystadleuol amlwg. Nodais gyda diddordeb bryderon y Gweinidog, yn enwedig y rhai sy'n ymwneud â labelu, masnach a gwyddoniaeth, er, ar y tri, mae gen i ofn, bod rhaid i mi anghytuno'n gryf. O ran y wyddoniaeth, mae DEFRA wedi rhannu'r dadansoddiad technegol gyda chi. Rydych chi'n meddu ar bopeth sydd gan Lywodraeth y DU. Ond eto, er hyn, rydych chi wedi penderfynu dod i gasgliad gwahanol. O ran masnach, byddwn yn annog y Gweinidog i edrych ar y darlun ehangach. Ni fydd cynhyrchion PBO yn cyrraedd ein silffoedd am o leiaf bum mlynedd ar ôl caniatâd Brenhinol. Yr hyn rydym ni’n ei geisio yw datblygu fframwaith statudol i sicrhau, unwaith y bydd ein partneriaid masnachu yn gwneud yr un datblygiadau, fod gennym ni’r gallu angenrheidiol i ddechrau masnachu gyda'n cymdogion ar unwaith, oherwydd rydym ni’n gwybod bod yr Undeb Ewropeaidd wedi nodi eu bod hwythau'n dymuno dilyn llwybr tebyg i Lywodraeth y DU. Ac yn olaf, labelu. Bydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd ond yn awdurdodi cynhyrchion i’w gwerthu os ydyn nhw o’r farn nad ydynt yn cyflwyno unrhyw risg i iechyd, nad ydynt yn camarwain defnyddwyr, ac nad oes ganddynt werth maethol is na'r rhai sydd wedi’u bridio’n draddodiadol. Yn seiliedig ar dystiolaeth wyddonol, nid yw PBOs yn peri mwy o risg na'r hyn y byddwch chi'n ei ddarganfod ar hyn o bryd ar silffoedd ein harchfarchnadoedd. Dim risg, ond llawer mwy o wobr—dyna'r cyfle a gollir gan y Llywodraeth Cymru hon. Felly, Dirprwy Lywydd, er nad ydym ni’n credu bod angen y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, mae o'n blaenau ni heddiw, felly yn weithdrefnol byddwn yn pleidleisio o blaid y cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Ond rydym ni wedi ein siomi'n arw gan farn Llywodraeth Cymru ar y Bil hwn ac yn ei hannog i ailystyried ei safbwynt o ddifrif. Diolch. Mabon ap Gwynfor AS: Dwi'n gresynu ein bod ni unwaith eto yn cael trafodaeth ar gynnig cydsyniad deddfwriaethol arall, deddfwriaeth sydd wedi'i llunio yn San Steffan ar gyfer Lloegr, heb y cyfle go iawn i ni yma ymgynghori yn ei chylch neu hyd yn oed ei chraffu yn drylwyr. Ond, ar yr egwyddor sylfaenol, dydyn ni ar y meinciau yma ddim yn gwrthwynebu'r Bil na'r hyn y mae'n trio ei gyflawni. Daeth y Llywydd i’r Gadair. Mabon ap Gwynfor AS: Bydd llawer sydd yn clywed am y Bil arfaethedig am y tro cyntaf yn pryderu mai'r bwriad ydy i alluogi GM, fel rydyn ni wedi clywed y Gweinidog yn dweud, sef addasu genetaidd. Ond, nid dyna ydy ystyr 'golygu genetaidd' o gwbl. Ar hyn o bryd, mae’r gallu golygu genetaidd yn eistedd yn rhan o ddeddfwriaeth addasu genetaidd, ond ni ddylai fod yno, gan eu bod yn ddau beth gwbl wahanol. Bwriad y Bil ydy eu gwahanu nhw, a rhoi gallu i wyddonwyr a chynhyrchwyr bwyd i wneud yr hyn sydd yn digwydd yn naturiol ym myd natur. Nid cyflwyno genynnau newydd ydy’r bwriad; nid gwireddu rhywbeth fel ffilm arswyd Splice ydy hyn. Mae golygu genetaidd yn cyflawni’r un peth â’r hyn sydd eisoes yn digwydd yn naturiol ym myd natur, ond yn torri allan yr amser hir mae’n ei gymryd, yn gannoedd neu’n filoedd o flynyddoedd, weithiau, er mwyn i enynnau trawsffrwythloni. Yn wir, mi ddaw'r holl fwyd rydyn ni’n eu bwyta heddiw allan o blanhigion sydd wedi eu bridio. Mae yna 3,000 o blanhigion sydd mewn defnydd heddiw wedi dod o fridio planhigion yn eithafol—er enghraifft, grawnffrwyth lliw oren yn un ohonyn nhw. Edrychwch ar gatalogau hadau ac fe welwch chi fathau gwahanol o lysiau neu ffrwythau lle mae’r bridwyr wedi dethol y mwtaniad a thrawsffrwythloni er mwyn cael brid arbennig, ac yna eu gwerthu. Ni fydd genynnau newydd yn cael eu cyflwyno ond, yn hytrach, bydd hyn yn galluogi gwneud mân newidiadau, mutations, i drefn DNA mewn modd wedi’i dargedu. Mae hyn yn digwydd yn naturiol, a gellir cyflawni hyn drwy sgrinio miliynau o blanhigion, er enghraifft, er mwyn canfod y mutation, ond dydy hynny—er enghraifft, sgrinio pob gwelltyn o wair arbennig—ddim yn ymarferol. Gall hyn hefyd arwain at addasu cynnwys ym maeth bwyd, gan wneud rhai bwydydd yn fwy maethlon, a sicrhau gwytnwch yn y gallu i gynhyrchu bwyd. Mae’r Bil newydd yn argymell newid y gyfraith er mwyn creu categori newydd o PBO, y precision-bred organism. Felly, os ydy rhywun yn defnyddio golygu genetaidd er mwyn gwneud planhigyn neu anifail newydd, ond un a fyddai wedi gallu digwydd yn naturiol beth bynnag, yna fydd hyn yn caei ei eithrio o ddeddfwriaeth y GMO. Dyna ydy’r bwriad. Bydd hyn hefyd yn golygu y gall cwmnïau llai, megis cynhyrchwyr yng Nghymru, gael gwell cyfle i ddatblygu bridiau o fwyd, oherwydd, fel y saif pethau, mae’r rheoliadau presennol a’r gost o wneud cais am hawl i wneud hyn o dan y ddeddfwriaeth GMO yn anferthol, sy’n golygu mai dim ond cwmnïau mawr rhyngwladol sydd medru gwneud hyn, gan gloi allan cwmnïau Cymreig. Mae yna hefyd ddadl amgylcheddol. Mae angen mwy o amrywiaeth planhigion er mwyn medru wynebu heriau newid hinsawdd. Er enghraifft, gall hyn olygu ein bod ni’n medru datblygu hadau sydd yn medru ymdopi mewn hinsawdd mwy sych efo llai o ddŵr. Enghraifft ddiweddar o hyn ar waith ydy gwaith y Scottish agricultural institute, sydd wedi bod yn edrych ar PRRS, sef y porcine reproductive and respiratory syndrome virus. Mae’r sefydliad yn yr Alban wedi llwydo i ddatblygu moch sydd ddim yn dioddef o’r haint yma. Ac mae’n bosibl, wrth gwrs, gweld y dechnoleg yma ar waith wrth i wyddonwyr ddatblygu ffyrdd o fynd i’r afael â gwahanol glefydau, megis liwcemia. Felly, mae’r egwyddor yn un i’w chefnogi, a gresyn nad ydy Llywodraeth Cymru wedi dod â deddfwriaeth ei hunan ymlaen. Ond, yn olaf, dwi am nodi ein bod ni’n siomedig gweld gemau gwleidyddol ar waith o du'r Llywodraeth. Mae yna bryderon a chwynion dilys wedi cael eu rhestru gan y Gweinidog am fethiannau democrataidd y Bil a’r broses yma, a hyn yn cael ei ddefnyddio, yn ei dro, i gyfiawnhau gwrthwynebu’r LCM. Ond mae’r un problemau yma sydd wedi cael eu hamlygu heddiw hefyd wedi cael eu hamlygu mewn LCMs eraill yn y gorffennol, ond rhai y mae’r Llywodraeth wedi'u cefnogi ac wedi annog pobl i’w cefnogi a phleidleisio o’u plaid nhw. Mi fyddai’n dda gweld cysondeb o du'r Llywodraeth pan fo hi'n dod i LCMs. Diolch yn fawr iawn. Y Gweinidog materion gwledig i ymateb. Lesley Griffiths AC: Diolch, Llywydd, a hoffwn ddiolch i'r tri Aelod am eu cyfraniadau i'r ddadl hon. Rwy'n ddiolchgar i Huw Irranca-Davies ac i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu gwaith craffu, ac rwy'n gresynu'n fawr nad yw'r Senedd wedi cael mwy o amser i ystyried y Bil hwn. Ysgrifennais at y Llywydd ar 27 Mehefin y llynedd, yn amlinellu bod Llywodraeth y DU wedi dewis peidio â gweithio gyda'r Llywodraethau datganoledig wrth ddatblygu'r Bil hwn, ac mae hynny wir yn ein rhoi ar y droed ôl o'r dechrau mewn ffordd nad ydw i'n credu y byddai unrhyw un ohonon ni ei eisiau. Mae'n Fil cymhleth iawn, ac mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio'n galed iawn i ddeall beth yn union y bydd yn ei olygu i Gymru, ac rwy'n credu bod hynny'n wir hefyd am y gweinyddiaethau datganoledig eraill. Gofynnodd Sam Kurtz pam ein bod ni wedi cyflwyno’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Wel, o'm safbwynt i, rwyf wedi gwneud hynny i ddiogelu'r setliad datganoli. Sam Kurtz, fel Ceidwadwr, efallai nad ydych chi’n poeni am hynny, ond rwy'n poeni'n angerddol am hynny. Rydyn ni'n gorfod gwneud y gwaith nawr, mewn gwirionedd, y dylen ni fod wedi ei wneud y llynedd, reit ar y dechrau, a phe byddem wedi cael yr ymgysylltiad priodol hwnnw gan Lywodraeth y DU ar fanylion y Bil, rwy'n credu y byddem ni wedi cael ymgymryd â'r gwaith hwn yn llawer cynharach. Cyfeiriodd Huw Irranca-Davies at amrywiaeth o Reolau Sefydlog a gofynnodd pam ein bod ni wedi’i gyflwyno o dan y Reol Sefydlog benodol yr ydym ni wedi’i gyflwyno oddi tano. Mae 'Bil perthnasol' yn un sydd dan ystyriaeth yn Senedd y DU sy'n gwneud darpariaeth berthnasol mewn perthynas â Chymru, yn unol â hynny yn Rheolau Sefydlog 29. Rydym ni’n credu bod organebau sy’n cael eu haddasu yn enetig yn gadarn o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd hon, ac nid yw'r Bil bridio manwl yn gwneud unrhyw ddarpariaethau'n uniongyrchol mewn perthynas â Chymru. Roeddem ni am gymryd ymagwedd ofalus tuag at beirianneg enetig, ac rwy'n deall yn iawn y gwahaniaeth rhwng GM a GE, ond fe ddewison ni gymryd yr ymagwedd honno. Rwy'n credu mai'r hyn y mae'r ddadl hon yn ei ddangos mewn gwirionedd heddiw yw, lle mae Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 yn effeithio'n negyddol ar ddatganoli mae'n rhaid i ni weithredu i leihau ei effeithiau, a byddwn yn parhau i herio effeithiau negyddol y Ddeddf a hyrwyddo hawliau'r Senedd hon i ddeddfu heb ymyrraeth mewn meysydd sydd wedi'u datganoli i Gymru. Cyfeiriodd Huw Irranca-Davies at y sesiwn graffu a gawsoch gyda'r Cwnsler Cyffredinol ddoe, ac effeithiau UKIMA ar y Bil hwn a'r Bil Plastig untro. Rwy'n gwybod y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn ysgrifennu at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar y mater hwn, felly ni wnaf ddrysu pethau yma nawr. Rwy'n hapus iawn i gefnogi, os yw Huw Irranca-Davies a'i bwyllgor eisiau ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes—ac rwy'n siŵr y byddai'r Llywydd yn cytuno—os ydych chi'n credu mewn adolygiad o Reolau Sefydlog, rwy'n siŵr y byddai'r Llywydd a'r Pwyllgor Busnes yn edrych ar hynny. Rwy'n credu bod Sam Kurtz, yn ei gyfraniad, wir yn meddwl ein bod ni wedi diystyru hyn, a dydw i ddim wedi ei ddiystyru; dydw i ddim yn anghytuno bod gan y dechnoleg addewid mawr, ac y gallai gael addewid mawr, ond yr hyn nad ydw i'n ei ddeall yw na allwch chi weld mai ein dyletswydd ni fel deddfwyr yw ystyried yn ofalus y dystiolaeth am newid yn gyntaf a'r goblygiadau posib, a dyna rydyn ni'n bwriadu ei wneud. Rwy'n credu bod gennym ni'r amser i ystyried yn ofalus yr hyn rydyn ni'n ei wneud yma. Felly, gadewch i ni ei gymryd. Pam ddim ei gymryd? Dim ond un cyfarfod rydw i wedi ei gael gyda Gweinidog Llywodraeth y DU, ac fe ddof fi at hynny yn y man, ond yn sicr, fy nealltwriaeth i ganddo oedd y bydd hyn yn cymryd cwpl o flynyddoedd, i'r organebau PB cyntaf ddod ar y farchnad. Mae gennym ni'r amser, felly gadewch i ni gymryd yr amser hwnnw, gadewch i ni ei ystyried, a gadewch i ni ofyn am farn. Fe wnaethoch chi hefyd ofyn am labelu, a dyna oedd fy mhrif gwestiwn, neu un o fy mhrif gwestiynau, i'r Arglwydd Benyon, y Gweinidog yn Llywodraeth y DU, a'r ateb oedd, pe bai ni'n labelu hyn yn y ffordd mae Llywodraeth Cymru wedi awgrymu, gallai defnyddwyr gredu bod yna risg diogelwch, oherwydd ei fod wedi'i labelu. Nawr, yn y blynyddoedd rydw i wedi bod yn delio â bwyd a diod o Gymru—a byddwn i wedi meddwl y byddai Sam Kurtz yn cytuno—mae defnyddwyr eisiau gwybod o ble mae eu bwyd yn dod. Maen nhw eisiau gwybod beth sydd ynddo, oherwydd eu bod nhw eisiau gwneud y penderfyniadau gwybodus hynny. Felly, pam ddim ei gael os nad yw'n unrhyw beth i boeni amdano? Os nad oes gennych chi unrhyw beth i'w guddio, beth am gael y labelu hwnnw? Felly, rwy'n credu ei bod yn siomedig iawn nad oedd y Gweinidog yn cydnabod hynny. Felly, i gloi, ni allwn ni gefnogi caniatâd ar gyfer y Bil hwn. Rwy'n credu ei fod yn dinistrio’r setliad datganoli, ac, fel y dywedais ar y cychwyn, rwy'n gofyn i Aelodau atal caniatâd ar gyfer y Bil hwn. Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, ac felly byddwn ni'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. 13. Dadl Ystyriaeth Gychwynnol ar Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) Eitem 13 sydd nesaf. Yr eitem hynny yw'r ddadl ar ystyriaeth gychwynnol ar Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), a dwi'n galw ar y Cwnsler Cyffrredinol i wneud y cynnig hynny, Mick Antoniw. Cynnig NDM8178 Lesley Griffiths Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26C.18: 1. Yn cytuno y dylai Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) fynd rhagddo fel Bil Cydgrynhoi. Cynigiwyd y cynnig. Mick Antoniw AC: Diolch, Llywydd. Aeth ychydig dros chwe mis heibio ers i mi gyflwyno Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru). Bryd hynny, mynegodd aelodau'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad eu cyffro ynghyd â'u brwdfrydedd i graffu ar y darn hanesyddol hwn o ddeddfwriaeth—y cyntaf llemae'r Senedd yn chwarae rhan ffurfiol yn y gwaith o gydgrynhoi cyfraith Cymru. Yn sicr, cydiodd y pwyllgor yn y cyfle hwnnw wrth ystyried y Bil, gan arwain at gyhoeddi ei adroddiad ar 23 Rhagfyr. Rwy'n falch o gofnodi heddiw fy niolch diffuant i'r Cadeirydd, i'r pwyllgor ac i'r staff am eu gwaith ac am eu hamser. Yn ogystal ag ystyried y Bil a'r dogfennau ategol, sy'n dod i fwy na 500 tudalen, maent hefyd wedi archwilio tystiolaeth gennyf i, drafftwyr y Ddeddf a rhanddeiliaid. Mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn yr adroddiad sy'n cynnig argymhellion ynghylch y Bil, yn ogystal ag ystyried rhai materion ehangach sy'n ymwneud â chydgrynhoi'r ddeddfwriaeth. Mae gennym lawer i'w ystyried ac i ddysgu ohono yn sgil ystyriaeth gychwynnol y pwyllgor o'r Bil cydgrynhoi cyntaf hwn. Mick Antoniw AC: Llywydd, rwyf am ganolbwyntio heddiw ar p’un a ddylai Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) fwrw ymlaen fel Bil cydgrynhoi. Mae adroddiad y pwyllgor yn cynnwys 14 o argymhellion a phum casgliad, nifer ohonyn nhw'n ymwneud yn uniongyrchol â’r cwestiwn hwn, a'r ail argymhelliad sy'n hawlio ein sylw ar unwaith, am ei fod yn argymell y dylai'r Bil fynd ymlaen fel Bil cydgrynhoi. Ac mae'r argymhelliad hwn yn cael ei gefnogi gan dri o gasgliadau'r pwyllgor, 1, 3 a 4, sy'n datgan boddhad gyda'r Bil o ran ei gwmpas, cydgrynhoi deddfwriaeth bresennol yn gywir yn unol â Rheolau Sefydlog, ac eglurder a chysondeb y cydgrynhoi. Rwy'n falch iawn bod y pwyllgor wedi dod i'r casgliadau hyn ac o'r farn y dylai'r Bil fynd yn ei flaen. Nawr, gan fod fy amser yn gyfyngedig, hoffwn ganolbwyntio'n gyflym ar ambell i argymhelliad arall sydd o berthnasedd mwy uniongyrchol i'r cynnig a chynnydd y Bil hwn yn y dyfodol, ac, wrth gwrs, byddaf maes o law yn ysgrifennu'n fanwl mewn ymateb i bob un o'r argymhellion gyda'r pwyntiau hynny. Rwy'n hapus i gadarnhau ein bod ni bellach wedi sicrhau holl gydsyniadau Gweinidog y Goron, sef testun argymhelliad 1. Ysgrifennais at y pwyllgor yr wythnos ddiwethaf i roi'r eglurhad ynghylch adran 2(3) o'r Bil, y gofynnwyd amdano yn argymhelliad 10 o'r adroddiad. Rwy’n credu bod y pŵer rheoleiddio yn yr adran honno yn darparu ar gyfer cydgrynhoi boddhaol. Mae argymhelliad 12 yn gofyn am wybodaeth fanwl cyn gynted â phosibl ar yr is-ddeddfwriaeth y bydd ei hangen i weithredu'r gwaith cydgrynhoi, ac mae fy swyddogion yn datblygu cynllun gweithredu gydag amserlenni, ac mae hyn yn cael ei drafod gyda phartneriaid sydd â diddordeb yn y ddeddfwriaeth. Felly, yn sgil pumed casgliad yr adroddiad, hoffwn nodi, drwy gydol datblygiad y Bil, bod Cadw wedi ymgysylltu â phartneriaid, rhanddeiliaid ac aelodau'r cyhoedd trwy ddosbarthu diweddariadau rheolaidd, cynnal gweithdai a mynychu sesiynau briffio. Nawr, bydd y gwaith hwn yn parhau ac yn dwysáu wrth weithredu'r ddeddfwriaeth. Bydd angen ail-wneud rhywfaint o ddeddfwriaeth uwchradd, a bydd yn rhaid diweddaru canllawiau a gwefannau, a bydd hyn i gyd yn cymryd amser. Rydym ni’n derbyn felly bod amserlen weithredu glir, sy'n ymgorffori'r ddeddfwriaeth eilaidd ofynnol, yn ddymuniad cyn gynted â phosibl. Gobeithio bod hynny'n ateb agwedd benodol yr argymhelliad hwnnw. Ni fyddaf yn mynd trwy'r argymhellion sy'n weddill nawr, gan eu bod naill ai'n trin materion manwl, yn ymwneud â'r broses gydgrynhoi yn fwy cyffredinol ac felly'n gofyn am fy ystyriaeth bellach—ac, fel y dywedais i, byddaf yn ysgrifennu'n fanwl ar rai o'r pwyntiau hyn—neu maen nhw, mewn gwirionedd, yn cael sylw ym Mhwyllgor Busnes y Senedd; rydw i’n meddwl bod dau ohonyn nhw'n benodol. Felly, byddaf yn ysgrifennu at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ynghylch holl argymhellion Llywodraeth Cymru yn fuan, ond byddaf efallai'n oedi yma i ganiatáu i eraill gyfrannu. Ac eto, gyda fy niolch unwaith yn rhagor i'r pwyllgor a holl Aelodau'r Senedd sydd wedi cymryd amser i ystyried y Bil hwn ac adroddiad y pwyllgor ar beth yw, mewn gwirionedd, y cyntaf o'n darnau o ddeddfwriaeth cydgrynhoi mawr. Rwy'n credu bod hwn yn gam pwysig iawn ymlaen i'r Senedd. Diolch, Llywydd. Galwaf nawr ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfewriaeth, Cyfiawnder a Cyfansoddiad—Huw Irranca-Davies. Huw Irranca-Davies AC: Diolch, Llywydd. Helo, eto. [Chwerthin.] Neil Diamond, rwy'n credu—'Hello Again'. Huw Irranca-Davies AC: Rwy'n croesawu'r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon wrth i ni, y Senedd, gynnal ein hystyriaeth gyntaf o Fil cydgrynhoi Cymreig, a gynigir gan Lywodraeth Cymru, ar gyfraith amgylchedd hanesyddol Cymru. Huw Irranca-Davies AC: Fel y pwyllgor cyfrifol am ystyried y Biliau cydgrynhoi, cawsom y dasg o benderfynu a ddylai'r Bil fynd ymlaen drwy'r Senedd fel Bil cydgrynhoi. Ein nod oedd bodloni ein hunain: bod cwmpas y cydgrynhoi'n briodol; bod y deddfiadau perthnasol wedi'u cynnwys o fewn yr ymarfer cydgrynhoi; bod yr ymarfer cydgrynhoi yn gywir a bod y Bil ond yn newid deddfiadau perthnasol i'r graddau a ganiateir gan ein Rheolau Sefydlog; ac, yn olaf, bod y Bil yn cydgrynhoi'r gyfraith yn glir ac yn gyson. Cyn i mi ddweud rhagor, byddaf yn cadarnhau ein bod ni wedi dod i'r casgliad yn wir, fel y dywedodd y Gweinidog, y dylai'r Bil fynd yn ei flaen fel Bil cydgrynhoi. Rydym ni’n diolch i bawb, gan gynnwys aelodau'r pwyllgor, a helpodd i lywio ein hystyriaeth o'r Bil, gan gynnwys cynrychiolwyr Comisiwn y Gyfraith. Codwyd pryderon rhanddeiliaid gyda'r Cwnsler Cyffredinol, ac eraill, fel yr amlinellir yn ein hadroddiad. Rydym ni’n arbennig o ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol a chwnsler deddfwriaethol Llywodraeth Cymru am eu hymgysylltiad adeiladol ac o safon, ac edrychaf ymlaen at dderbyn ymateb ysgrifenedig llawn y Cwnsler Cyffredinol i'n hadroddiad maes o law. Mae ein hadroddiad yn canolbwyntio ar faterion rydym ni’n credu sy’n allweddol i'n rôl wrth argymell i'r Senedd a ddylai'r Bil fwrw ymlaen fel Bil atgyfnerthu. Nawr, fel y bydd Aelodau'n gwybod, pan gyflwynwyd y Bil i'r Senedd fis Gorffennaf diwethaf, nid oedd Llywodraeth y DU eto wedi rhoi'r caniatâd angenrheidiol ar gyfer rhai darpariaethau yn y Bil. Felly, fe ofynnon ni i'r Cwnsler Cyffredinol roi diweddariad i'r Aelodau y prynhawn yma, ac rydym ni’n croesawu'r cadarnhad bod yr holl gydsyniadau gweinidogol bellach wedi'u derbyn. Wrth geisio ateb y cwestiwn a yw cwmpas y Bil yn briodol, fe wnaethon ni ystyried: y newidiadau a wnaed ar argymhelliad Comisiwn y Gyfraith; y ddealltwriaeth o'r gyfraith bresennol a rhesymau Llywodraeth Cymru dros wneud newidiadau; y newidiadau sy'n cael eu gwneud i ddarpariaethau yn y gyfraith a gyflwynwyd gan Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016; a'r ddeddfwriaeth sydd wedi'i heithrio o'r ymarfer cydgrynhoi. O ran y newidiadau a wnaed i'r gyfraith bresennol ar argymhelliad Comisiwn y Gyfraith, byddaf yn cadarnhau ar gyfer y cofnod ein bod ni’n fodlon â'r newidiadau hyn. Rydyn ni'n croesawu'r ffaith i Lywodraeth Cymru a Cadw gynnal math o ymgynghoriad cyn cyflwyno. Mae'n anffodus braidd i'r gwaith cyn-gyflwyno hwn gael ei wneud bryd hynny, ar delerau oedd yn golygu na allai'r Cwnsler Cyffredinol wedyn ei ystyried yn briodol i wneud y manylion llawn yn gyhoeddus, ond rydym ni yn deall hynny. Ond mae hon yn agwedd rydyn ni'n awyddus i ddysgu ohoni. Felly, ein trydydd argymhelliad yw y dylai Llywodraeth Cymru, ac unrhyw gorff arall perthnasol hyd braich, wneud gwaith cyn-gyflwyno gyda'r amcan a'r disgwyliad hysbys yn y dyfodol y bydd manylion llawn yn cael eu cyhoeddi ar yr un pryd ag y mae’r Bil perthnasol yn cael ei gyflwyno gerbron y Senedd. Gan symud ymlaen i'r newidiadau mae'r Bil hwn yn ei gwneud i ddarpariaethau a gyflwynwyd gan Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016, Deddf 2016 yw'r unig Ddeddf sy'n cael ei chydgrynhoi drwy'r Bil nad yw'n dyddio i amser cyn datganoli yng Nghymru; dim ond chwe blynedd yn ôl y bu i'r Senedd ei hun graffu ar y Ddeddf hon, a’i phasio. Nawr, nid ydym yn gwrthwynebu'r hyn mae'r Bil yn ei gynnig yn hyn o beth. Fodd bynnag, rydym ni’n credu y dylid amlygu newidiadau o'r fath i'r Senedd mewn ffordd fwy tryloyw, fel rydym ni’n ei nodi yn argymhelliad Rhif 4. Yn ogystal â thalu sylw manwl i'r hyn sydd yn y Bil, fe wnaethom ni hefyd gymryd diddordeb brwd yn yr hyn nad yw yn y Bil, yn enwedig gwahardd cyfraith amgylchedd hanesyddol morol. Rydym ni’n fodlon gyda'r esboniadau a ddarparwyd gan y Cwnsler Cyffredinol a'i swyddogion ynghylch pam mae'r penderfyniad hwn wedi'i wneud. Fodd bynnag, rydym ni wedi argymell yn argymhelliad 5, lle mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud penderfyniad i eithrio cyfraith berthnasol o Fil cydgrynhoi yn fwriadol, y dylid darparu rhesymu llawn yn y deunydd esboniadol sy'n cyd-fynd â'r Bil, gan gynnwys unrhyw gyfiawnhad yn seiliedig ar gymhwysedd deddfwriaethol, a phan fyddai'r weithred o gydgrynhoi yn cynnwys mwy na'r hyn a ganiateir gan Reol Sefydlog 26C. Mae llawer o'r rhain nawr yn brosesau dysgu o'r ymarfer rydyn ni wedi bod trwyddo. Cyn cau, hoffwn grybwyll yn fras dau fater sydd bob amser o ddiddordeb brwd i fy mhwyllgor—pwerau gwneud rheoliadau y Llywodraeth a phwysigrwydd rôl y Senedd wrth wneud cyfraith i Gymru. Drwy'r Bil, mae Llywodraeth Cymru yn rhoi rhai pwerau i wneud rheoliadau sydd ganddi ar hyn o bryd i ffwrdd. Ar adeg pan godwyd pryderon ar draws seneddau ynghylch cydbwysedd tipio pŵer yn anffafriol tuag at lywodraethau ac i ffwrdd o ddeddfwrfeydd, rydym ni’n croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi nodi'r hyn mae'n ei ystyried yn bwerau Gweithredol diangen. I'r gwrthwyneb, mae'r Bil hefyd yn creu pwerau newydd i wneud rheoliadau. Mae adrannau 81 a 163 o'r Bil ill dau yn cynnwys pwerau Harri VIII newydd. Yn adran 2(3) mae pŵer newydd i wneud rheoliadau a fydd yn galluogi cymhwyso cyfraith amgylchedd hanesyddol i adeiladau nad ydynt wedi bod yn ddarostyngedig i gyfraith o'r fath o'r blaen. Daethom i'r casgliad bod angen eglurder pellach ar y pŵer newydd hwn ac, yn argymhelliad 10, fe wnaethom ofyn i'r Cwnsler Cyffredinol egluro a fyddai adran 2(3) o'r Bil yn dal i gydymffurfio â hawliau dynol heb y pŵer newydd i wneud rheoliadau. Felly, diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ymateb i'r argymhelliad hwn yn y llythyr a anfonwyd atom ddydd Iau diwethaf, ac am ddarparu esboniad ac eglurhad derbyniol iawn. Mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi dweud wrthym, er mai barn y Llywodraeth yw y byddai adran 2(3) o'r Bil yn dal i gydymffurfio â hawliau dynol heb y pwerau newydd i wneud rheoliadau, mae'r Llywodraeth hefyd yn credu bod y pŵer yn cryfhau cydymffurfiaeth adran 2(3). Felly, rwyf hefyd yn croesawu esboniad pellach y Cwnsler Cyffredinol ynghylch pam mae'r drafftio newydd yn gyfystyr â mân newid i'r gyfraith. O ran pwysigrwydd rôl y Senedd wrth wneud cyfraith Cymru, mae'r Cwnsler Cyffredinol o'r farn y dylai'r Senedd ailedrych ar ei Rheolau Sefydlog ei hun, fel y gellir gwneud ymdrech briodol i sicrhau nad yw'r ymdrechion i gydgrynhoi cyfraith Cymru yn cael eu dadwneud yn ddiweddarach ac yn anfwriadol. Mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi cydnabod nad Llywodraeth Cymru yn unig all gyflwyno cynigion deddfwriaethol yng Nghymru, felly, oherwydd hynny, yn ein hargymhelliad 13, rydym yn galw ar y Pwyllgor Busnes i ymgynghori ag Aelodau'r Senedd, gyda phwyllgorau'r Senedd a Chomisiwn y Senedd wrth gynnal unrhyw adolygiad o Reolau Sefydlog y Senedd sy'n ymwneud â gofynion neu gyfyngiadau newydd ar sut mae'r Senedd yn ystyried cynigion deddfwriaethol o fewn maes wedi’i gydgrynhoi o’r gyfraith. Huw Irranca-Davies AC: Llywydd, rydym yn cydnabod pwysigrwydd y Bil fel y cyntaf o'i fath ar gyfer y Senedd ac ar gyfer cyfraith Cymru, yn bennaf oherwydd yr effaith ymarferol y bydd yn ei chael o ran sicrhau bod cyfraith Cymru ar gael yn y ddwy iaith swyddogol, gwella hygyrchedd i'r gyfraith sy'n gymwys yng Nghymru, a chyfrannu i fynediad gwell at gyfiawnder yng Nghymru. Huw Irranca-Davies AC: Mae'r Bil yn nodi dechrau cynlluniau uchelgeisiol y Llywodraeth Cymru hon i gydgrynhoi cyfraith Cymru, ac mae'n wir yn ymdrech y dylid ei chroesawu gan y Senedd hon. Diolch yn fawr iawn. James Evans MS: Hoffwn ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor deddfwriaeth, cyfiawnder a'r cyfansoddiad am gael gwared yn eithaf huawdl ar 99.9 y cant o fy araith, felly diolch am hynny. Bydd fy nghyfraniad i, Llywydd, yn un hynod o fyr, achos dydw i ddim yn credu bod angen i ni fynd trwy popeth eto. Nawr, fe wnes i gymryd rhan yn y gwaith o graffu ar y Bil hwn, a hoffwn dalu teyrnged i'r Cwnsler Cyffredinol am ei bresenoldeb yn y pwyllgor, a natur agored Llywodraeth Cymru wrth ymgysylltu â'r pwyllgor deddfwriaeth, cyfiawnder a'r cyfansoddiad. Mae'n cael ei werthfawrogi'n fawr iawn, ac mae eich presenoldeb yn y pwyllgor bob amser yn cael ei werthfawrogi. Ac rwy'n gwybod fy mod i a chyd-Aelodau wedi mwynhau mynd i fanylion hyn. Felly, dyma'r Bil cydgrynhoi cyntaf o'i fath yn mynd trwy'r Senedd, ac rwy'n credu ei fod wedi mynd yn eithaf didrafferth hyd yn hyn. Fel y dywedoch chi, Cwnsler Cyffredinol, mae'n ymwneud â chydgrynhoi cyfraith i'w gwneud hi'n fwy hygyrch. Yn yr achos hwn, mae'r Bil yn gwneud hynny, ac rydw i'n meddwl ein bod ni wedi dod i sefyllfa dda yma, rwy'n credu. Fe wnaethon ni gymryd tystiolaeth fanwl iawn gan Gomisiwn y Gyfraith, a phan ddarparodd Comisiwn y Gyfraith y dystiolaeth wych honno, rwy'n credu i mi gael fy argyhoeddi, felly nid wyf yn credu bod rhagor i'w ychwanegu yno. Ond rwyf hefyd yn credu ei bod yn bwysig iawn i ni gofio ei bod hi'n ddyletswydd arnom er mwyn pobl Cymru i lunio deddfwriaeth sy'n ddealladwy, sydd o ansawdd uchel a sy'n berthnasol i'r bobl yma, ac rwy'n credu bod y Bil cydgrynhoi hwn yn gwneud hynny. Hoffwn hefyd bwysleisio pwysigrwydd y Cwnsler Cyffredinol yn gofyn am ganiatâd gan Weinidogion Llywodraeth y DU draw yn San Steffan, ac, fel rydych chi wedi cadarnhau, rydych chi wedi gwneud hynny, felly mae hynny'n cymryd rhan arall allan o fy araith. Felly, fel y dywedais i, hoffwn ddiolch i chi, Cwnsler Cyffredinol. Felly, ar hyn o bryd, Llywydd, bydd y Blaid Geidwadol yn cefnogi hyn i fynd trwy'r Senedd fel Bil cydgrynhoi. Diolch. Peredur Owen Griffiths AS: Diolch yn fawr i'r pwyllgor a'r Cadeirydd am y gwaith, a diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ddod â'r Bil yma gerbron. Peredur Owen Griffiths AS: Rydym ni'n croesawu cyflwyno'r Bil hwn i greu fframwaith deddfwriaethol wedi'i gydgrynhoi, sy'n hygyrch ac wedi'i foderneiddio ar gyfer gwarchod amgylchedd hanesyddol Cymru a fydd yn adlewyrchu'n well ddeinameg y maes ddatganoli. Rydyn ni'n gobeithio y bydd hyn yn gwneud i bobl Cymru deimlo'n fwy cysylltiedig â'n hanes cenedlaethol cyfoethog ac amrywiol, ac yn fwy abl i gyfrannu at sgyrsiau ar sut rydym ni'n ceisio rhoi ein gorffennol ar gof a chadw. Mae cynyddu y ddeddfwriaeth ddwyieithog sydd ar gael yn hanfodol er mwyn gwireddu'r uchelgais hon, ac, yn hyn o beth, rydym ni'n falch y bydd y Bil yn mynd i'r afael â'r diffygion a nodwyd yn y llyfr statud presennol. Mae yna ambell beth y byddwn ni'n gwerthfawrogi eglurhad pellach arnynt. A allai'r Gweinidog roi sicrwydd na fydd dileu'r ddarpariaeth ar gyfer sefydlu panel cynghori ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru, fel sy'n cael sylw yn Neddf 2016, yn peryglu y cyngor arbenigol a diduedd sydd ar gael i Weinidogion Cymru ar y mesurau trosi hanesyddol yn y dyfodol? A wnaiff y Gweinidog roi mwy o fanylion ynghylch pam mae'r polisi cynllunio yn rhoi mwy o ddiogelwch i dreftadaeth archeolegol Cymru o'i gymharu â'r darpariaethau a geir yn Neddf 1979 ar gyfer creu ardaloedd archeolegol? Ac yn olaf, a all y Gweinidog roi sicrwydd y bydd cynyddu'r ddeddfwriaeth ddwyieithog sydd ar gael yn nod canolog o ddyfodol rhaglen cyfraith Cymru mewn mesurau cydgrynhoi yn y dyfodol? Diolch yn fawr. Y Cwnsler Cyffredinol i ymateb nawr—Mick Antoniw. Mick Antoniw AC: Diolch. A gaf i ddiolch yn gyntaf i bawb sydd wedi cymryd rhan am eu cyfraniad, ac a gaf i ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad am y sesiwn hir iawn, iawn a gawsom i fynd drwy'r Bil a chraffu’n fanwl iawn yr holl adrannau hynny? Roedd yn broses bwysig, ac, a gaf i ddweud, wrth fynd trwyddo fy hun, a gorfod ateb y manylion ar bob un o'r pwyntiau oedd yn destun craffu, mewn gwirionedd fe wnaeth ddangos pa mor bwysig yw bod â Bil cydgrynhoi, oherwydd cymaint yn haws yw bod ag un darn o ddeddfwriaeth lle mae popeth ynddi a lle gallwch fynd drwyddi mewn strwythur rhesymegol? Felly, rwy’n gwybod y bydd o dipyn o fudd ac arwyddocâd yn y dyfodol. Felly, roedd hi'n sesiwn bwysig iawn. Fel y dywedais i, byddaf yn ysgrifennu'n fanwl, yn amlwg, ar y gwahanol bwyntiau a'r gwahanol argymhellion a wnaed. Os gwnaf i efallai ymdrin â chwpl o'r pwyntiau olaf a wnaed, wrth gwrs, o ran dileu'r panel cynghori, dydw i ddim yn credu y bydd hynny'n cael unrhyw effaith, ac, wrth gwrs, rydym ni wedi rhoi ystyriaeth i newidiadau y mae angen i ni eu gwneud yn y dyfodol o ran caniatáu yn lle dim ond tystiolaeth lafar, tystiolaeth ysgrifenedig hefyd. Eto, o ran mater dwyieithrwydd ac yn y blaen, rwy'n credu eich bod yn gwybod bod sefyllfa Llywodraeth Cymru yn gwbl gefnogol o hynny. Ac o fewn y broses addysgol o ran cyfraith Cymru, roedd un pwynt—alla i ddim darllen llawysgrifen fy hun, felly gobeithio os ydw i wedi colli rhywbeth y byddaf yn ei gwmpasu yn y llythyr y byddaf yn ei anfon atoch chi. O ran yr argymhellion, yr hyn maen nhw mewn gwirionedd yn ei amlygu, wrth gwrs, yn gyntaf, yw bod cydgrynhoi yn broses ddysgu fawr ar gyfer y Senedd hon, o ran y broses gydgrynhoi. Felly, mae'r pwyntiau sydd wedi eu codi o ran gwaharddiad morol, y rhesymau, eto, y rhai oedd yn destun craffu mewn pwyllgor, i gyd yn bethau y byddwn ni'n meddwl amdanyn nhw. Rwy'n gobeithio'r rhesymau pam na allen ni fynd i lawr y ffordd benodol honno—. Rydym ni’n cydnabod bod angen cydgrynhoi'r gyfraith yn y maes morwrol; rwy’n credu nad oedd yn ffitio i mewn yn yr hyn y mae’n rhaid i ni ei wneud nawr, ac roedd cymhlethdodau rwy’n credu y byddai wedi cymhlethu'r broses gydgrynhoi. Eto, y pwynt rydych chi’n ei godi o ran gwaith cyn-gyflwyno a bod hwnnw’n gyhoeddus, wrth gwrs, mae hynny'n cael ei gydnabod hefyd. Felly, rwy'n credu mai un o'r pethau fydd yn digwydd, wrth gwrs, wrth i ni fynd ymlaen, yw y byddwn yn myfyrio ar sut mae'r broses gydgrynhoi—. Mae wedi bod yn wers hynod o bwysig—[Torri ar draws.] Os gwelwch yn dda, ie. Darren Millar AC: Rwy'n credu y bu ymarfer dysgu, yn amlwg, trwy hyn, ac yn amlwg mae wedi bod yn ddarn o ddeddfwriaeth eithaf manwl a llafurus hefyd, yn bennaf oherwydd mai dyma'r cyntaf o'i fath. Ond hefyd mae'n defnyddio capasiti y gallai Llywodraeth Cymru fod yn gwneud deddfwriaeth arall ag ef, ac mae llawer o ymrwymiadau sydd wedi cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf, pethau fel y Ddeddf Aer Glân, er enghraifft, rydyn ni'n dal i aros iddi gael ei chyflwyno. Sut ydych chi'n mynd i sicrhau eich bod chi'n cael y balans yn iawn rhwng y Biliau cydgrynhoi hyn a rhyddhau'r adnoddau hynny i wneud y darnau pwysig eraill o ddeddfwriaeth mae pobl Cymru'n disgwyl i ni eu cyflawni? Mick Antoniw AC: Diolch am hynny. Mae'n bwynt pwysig iawn, oherwydd mae'n ymarfer cydbwyso, yn tydi? Mae gennym ni broses ddeddfwriaethol hynod weithredol, hynod heriol, ein rhaglen ddeddfwriaethol ein hunain, ac, wrth gwrs, mae gennym ni hefyd effaith ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU trwy eu cynigion cydsyniad deddfwriaethol eu hunain, fel yr ydym ni wedi ei weld i raddau eithaf sylweddol heddiw. Rwy'n credu ei fod yn gydbwysedd. Rwy'n credu y bydd yr adroddiadau blynyddol rwy'n eu cynhyrchu o ran hygyrchedd yn amlygu y dylai fod llif o gydgrynhoi, ac rwy'n credu mai'r hyn sy'n rhaid i ni ei gadw mewn cof, wrth gwrs, yw bod cydgrynhoi yn rhywbeth nad yw'n digwydd yn gyflym, ond rydym ni yma am y tymor hir o ran (1) y ffordd yr ydym ni'n deddfu yn y dyfodol, ond hefyd sicrhau ein bod ni'n parhau ac yn blaenoriaethu a nodi'r ddeddfwriaeth honno. Felly, bydd hyn yn cario ymlaen i'r Senedd nesaf, y Senedd ar ôl hynny ac yn y blaen. Rwy'n credu mai'r hyn y byddwn ni'n ei gymryd o'r broses benodol hon yw dysgu ohoni oherwydd bydd gennym ni ddarn cydgrynhoi mawr a fydd, gobeithio, ar y gweill, sef y gwaith cydgrynhoi cynllunio. Ac fel rwy'n ei ddeall, mae'r rhan Saesneg ohoni'n unig yn 400 tudalen, felly mae gennym ni 400 tudalen yn Saesneg, 400 yn Gymraeg mae'n debyg. Roedd yn broses hir. Ond bydd yn werthfawr iawn. Bydd yr holl broses gynllunio yn cael ei chydgrynhoi i un lle, rwy'n meddwl, o arwyddocâd mawr. Felly, diolch eto am y mewnbwn hwnnw. Rwy'n gobeithio y bydd yr esboniadau rydw i wedi'u rhoi, ac, wrth gwrs, byddan nhw'n barhaus, o ran y manylion ac efallai hyd yn oed craffu pellach—. Dylai'r Bil fynd yn ei flaen fel Bil cydgrynhoi, ac rwy'n siŵr y bydd y Senedd am ganiatáu i hynny ddigwydd. Rydym ni gam yn nes at roi deddfwriaeth hygyrch, ddwyieithog i Gymru ar gyfer gwarchod a rheoli ein hamgylchedd hanesyddol gwerthfawr. Diolch yn fawr. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, does yna ddim gwrthwynebiad. Ac felly mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn o dan Reol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 14. Cyfnod Pleidleisio Sy'n dod â ni at y cyfnod pleidleisio am heddiw, ac felly byddwn ni'n symud at bleidleisio oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch. Felly, symudwn ni nawr at y bleidlais gyntaf y prynhawn yma, y bleidlais honno ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil Banc Seilwaith y DU, a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 41, neb yn ymatal, 10 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i dderbyn. Eitem 9. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Banc Seilwaith y DU: O blaid: 41, Yn erbyn: 10, Ymatal: 0 Derbyniwyd y cynnigCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Y bleidlais nesaf yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Esgyll Siarcod, a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 41, neb yn ymatal, 10 yn erbyn. Ac felly mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn. Eitem 11. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Esgyll Siarcod: O blaid: 41, Yn erbyn: 10, Ymatal: 0 Derbyniwyd y cynnigCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Yn olaf wedyn, y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl), a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Ac felly mae'r cynnig yna wedi ei wrthod. Eitem 12. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl): O blaid: 15, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0 Gwrthodwyd y cynnigCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Dyna ddiwedd ar ein pleidleisiauam y dydd heddiw a diwedd ar ein gwaith. Diolch yn fawr i bawb. Daeth y cyfarfod i ben am 18:44. QNR Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru Tom Giffard: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am restrau aros y GIG yng Ngorllewin De Cymru? Mark Drakeford: In the six months following publication of the planned care recovery programme, long waits in the Welsh NHS have fallen by 23 per cent. That is the result of significant additional investment, expanded facilities, service reform and, most of all, the enormous effort of NHS staff themselves. Jayne Bryant: Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella gwasanaethau bws yn ne-ddwyrain Cymru? Mark Drakeford: Public transport connects people to one another, binds communities together and enables businesses to grow and expand. Llwybr Newydd – the Wales Transport Strategy, sets our plans for an accessible, sustainable and efficient transport system; not just in South-East Wales, but across the nation. Buffy Williams: Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith costau byw ar ffyniant teuluoedd? Mark Drakeford: People are experiencing the biggest fall in living standards since records began and the economy is in recession as a result of the UK Government’s mishandling of our economy. Our ongoing analysis of the crisis is helping to prioritise spending and target action to support the most vulnerable households. Vikki Howells: Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer dileu tlodi plant yng Nghwm Cynon? Mark Drakeford: Tackling child poverty is a key priority for the Welsh Government. We fund a range of programmes which support better outcomes, such as financial help with the cost of the school day, our childcare offer and initiatives helping young people across Wales reach their potential including our Young Person’s Guarantee.
uk-hansard-senedd-cy
senedd2023-01-17
2024-06-01T00:00:00
{ "year": "2023", "language": "cy", "license": "Open Parliament Licence - https://www.parliament.uk/site-information/copyright-parliament/open-parliament-licence/" }
Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd. Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. Galw'r Aelodau i drefn. 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Dawn Bowden. Trafnidiaeth ym Merthyr Tudful a Rhymni Dawn Bowden AC: 1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn trafnidiaeth ar gyfer Merthyr Tudful a Rhymni? OAQ53403 Ken Skates AC: Gwnaf. Rwyf wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn gwell gwasanaethau trafnidiaeth a seilwaith ym Merthyr Tudful a Rhymni, a deallaf fod cynnydd da yn cael ei wneud ar yr orsaf fysiau newydd ym Merthyr Tudful. Dawn Bowden AC: Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae buddsoddiad mewn trafnidiaeth a seilwaith, yn amlwg, yn parhau i fod yn flaenoriaeth bwysig yn fy etholaeth. Heb ystyried proses Brexit, rwy'n sicr fod gwelliannau sydd i'w cyflawni drwy'r system fetro, cynnydd ar gam nesaf y gwelliannau i ffordd yr A465 Blaenau'r Cymoedd, ynghyd â'r orsaf fysiau y sonioch amdani, bob un yn achos gobaith yn y blynyddoedd i ddod. Felly, a allwch gadarnhau y bydd y prosiectau seilwaith allweddol hyn yn cael eu cyflawni ar fyrder ac yn gyflym, fel y gall fy etholaeth barhau i weld rhagor o newidiadau cadarnhaol yn unol â'r hyn a amlinellwyd yn rhaglen 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol'? Ken Skates AC: Gallaf. A gaf fi ddiolch i Dawn Bowden am ei chwestiwn sy'n cwmpasu tri pheth—y system fetro, yr A465 a'r orsaf fysiau newydd? Mae cynnydd yn mynd rhagddo’n gyflym ar dair elfen allweddol ein hymyrraeth yn rhanbarth y Cymoedd. Yn gyntaf oll, a gaf fi ddweud, o ran yr A465, ein bod yn gwneud cynnydd da o ran y gorchmynion. Byddwn mewn sefyllfa i allu bwrw ymlaen gyda rhannau nesaf y cynllun. Bwriedir dechrau’r gwaith adeiladu yn gynnar yn 2020 a bydd yn cymryd oddeutu tair blynedd a hanner i'w gyflawni. Mae hon yn dasg anferthol, prosiect seilwaith gwerth bron i £1 biliwn ar gyfer Blaenau'r Cymoedd. Ac o ran gorsaf fysiau Merthyr Tudful, mae £10 miliwn yn cael ei ymrwymo o dan y gronfa fuddsoddi yn seilwaith Cymru i helpu i ddatblygu'r darn penodol hwnnw o seilwaith, ac mae'r awdurdod lleol, rwy'n falch o ddweud, wedi cyflwyno cais pellach i'r gronfa trafnidiaeth leol ar gyfer 2018-19 er mwyn adeiladu'r orsaf fysiau. Felly, mae swyddogion wrthi'n asesu'r cais. O ran y system fetro, fel y gŵyr yr Aelod, bydd metro de Cymru yn darparu pedwar trên yr awr o Ferthyr Tudful i orsaf Heol y Frenhines, Caerdydd, o 2022, ac o 2023 ar gyfer gwasanaethau Rhymni. Bydd Trafnidiaeth Cymru yn cyflwyno cerbydau metro newydd—trenau tram, os mynnwch—ar linell Merthyr Tudful yn 2022, a bydd hynny'n golygu y bydd 600 o seddi ychwanegol ar gael yn ystod adegau prysur y bore, a 1,000 o seddi ychwanegol yn ystod adegau prysur yr hwyr, a bydd hyd y daith rhwng Merthyr Tudful a gorsaf Caerdydd Canolog yn lleihau o awr, fel y mae ar hyn o bryd, i oddeutu 48 munud o fis Rhagfyr 2023. Mae'r holl ymyriadau hyn wedi'u cynllunio i gael gwared ar rwystr allweddol diffyg trafnidiaeth gyhoeddus weddus, fodern, fforddiadwy sydd ei hangen ar bobl i gael mynediad at swyddi. Mohammad Asghar (Oscar) AC: Weinidog, mae gwelliannau i ffordd yr A465 Blaenau'r Cymoedd yn hanfodol i adfywiad cymdeithasol ac economaidd cymunedau megis Merthyr Tudful. Fe fyddwch yn gwybod, Weinidog, fod pryderon wedi'u mynegi ynghylch oedi a chost gynyddol deuoli'r A465 rhwng Gilwern a Bryn-mawr. O gofio bod cam nesaf y gwelliannau, rhwng Dowlais Top a Hirwaun, i fod i gychwyn eleni, a all y Gweinidog gadarnhau y bydd y prosiect hwn yn dechrau ar amser, a pha wersi y mae wedi'u dysgu i sicrhau na cheir oedi a chostau ychwanegol, fel y cafwyd o'r blaen, yn yr achos hwn? Diolch. Ken Skates AC: A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Fel y dywedais wrth Dawn Bowden, rydym yn disgwyl i'r gwaith adeiladu ddechrau yn 2020. Mae'r cam o'r cynllun y cyfeiria'r Aelod ato, o ran pwysau costau, wedi bod yn her aruthrol i'r contractwyr. Rydym yn rheoli costau ychwanegol wrth gwrs. Ein bwriad, serch hynny, yw sicrhau bod yr holl brosiect yn cael ei gyflawni cyn gynted ag y bo modd am gyn lleied o fuddsoddiad â phosibl, ac fel y gellir adfywio cymunedau ar gyfer pobl ar draws rhanbarth Blaenau'r Cymoedd. Busnesau Cynhenid David Rees AC: 2. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod busnesau cynhenid sydd am ehangu a thyfu yn gallu gwneud hynny o fewn eu hardal leol? OAQ53412 Lee Waters AC: Diolch. Yn unol â'n cynllun gweithredu economaidd, rydym yn cefnogi busnesau cynhenid ​​ledled Cymru i ehangu ac i dyfu drwy ddarparu cyngor, cefnogaeth a chyllid drwy Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru. David Rees AC: Diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ateb. Rydym yn dda iawn, mewn rhai mannau, am gynorthwyo pobl i ddechrau busnesau. Yn fy etholaeth i, ac yn enwedig ym Mhort Talbot, mae gennym ddigon o unedau cychwynnol ar gael i fusnesau eu defnyddio ac i dreulio eu blwyddyn neu ddwy gyntaf ynddynt wrth iddynt ddechrau datblygu a thyfu. Ond yr hyn a welwn, wrth iddynt fod eisiau tyfu ac ehangu, yw ein bod yn brin o unedau o'r maint nesaf—yr unedau 5,000 troedfedd sgwâr—ac felly mae'r busnesau'n tueddu i ehangu a gadael yr ardal o ganlyniad i hynny. Nawr, efallai mai cyfrifoldeb awdurdodau lleol yw hyn—rwy'n derbyn y cysyniad—ond beth rydych yn ei wneud i weithio gydag awdurdodau lleol er mwyn sicrhau ein bod yn gallu gwneud yn siŵr y gall busnesau ddechrau, tyfu, ac aros, ac ehangu'r gweithlu, a chadw'r gyflogaeth yn yr ardaloedd hynny? Lee Waters AC: Diolch. Mae twf cwmnïau cynhenid gwreiddiedig ​​yn rhan ganolog o'n hymagwedd at dyfu'r economi sylfaenol. Mae'n broblem hysbys yn economi Cymru fod gennym nifer fawr o fusnesau micro a busnesau bach ond bod llawer ohonynt yn ei chael hi'n anodd tyfu i faint canolig, a thu hwnt i hynny. Felly, byddwn yn ystyried ystod o ymyriadau i fynd i'r afael â hynny. Un ohonynt yw argaeledd eiddo. Fel y gŵyr yr Aelod eisoes, ym Mhort Talbot, gan ddefnyddio'r gronfa seilwaith eiddo a ariennir gan gronfa datblygu rhanbarthol Ewrop, mae dau brosiect yn cael eu datblygu i greu oddeutu 6,000 metr sgwâr o adeiladau busnes newydd, gan ddarparu lle i hyd at 34 o fusnesau bach a chanolig. Ac rydym hefyd yn trafod gyda Banc Datblygu Cymru i archwilio’r potensial ar gyfer cronfa ddatblygu eiddo masnachol newydd a fydd hefyd yn helpu i ddarparu safleoedd ychwanegol. Suzy Davies AC: Mae twristiaeth yn un o'r rhannau hynny o'n heconomi lle mae digon o le i ehangu o hyd, yn enwedig i fusnesau bach. Mewn gwirionedd, rwy'n meddwl am Gwm Afan, gan mai David Rees a ofynnodd y cwestiwn yn wreiddiol. Mae cryn botensial yma i'n busnesau cynhenid dyfu. Yn anffodus, wrth gwrs, nid yw rhai o'n busnesau bach yn ystyried eu hunain yn rhan o'n heconomi ymwelwyr, ac rwy'n gobeithio y gall Llywodraeth Cymru roi rhywfaint o arweiniad inni ar hyn. Yn benodol, tybed a allwch roi rhywfaint o wybodaeth inni ynglŷn â sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â phroses cytundeb sector twristiaeth y DU. Credaf fod yr ymgynghoriad ar hynny ar fin dod i ben. Rydym yn fwy na pharod i gwyno nad yw VisitBritain, er enghraifft, yn rhoi cymorth inni ar y mater datganoledig hwn, ond os gallwn sicrhau rhywfaint o fantais yn sgil hyn, mae'n rhaid bod hynny’n newyddion da i'n busnesau bach. Lee Waters AC: Diolch. Ydy, mae twristiaeth yn parhau i fod yn ffocws yng nghynllun gweithredu economaidd y sectorau sylfaen, ac rydym wedi bod yn cydweithio'n agos â Llywodraeth y DU i weld pa fanteision y gallwn eu cael o'u gwaith, a dwyn ein gwaith ynghyd. Mae gennym y gronfa seilwaith twristiaeth hefyd, sy'n llwyddiannus iawn, a gallaf roi sicrwydd i'r Aelod ynghylch ein hymrwymiad parhaus yn y maes hwn. Rhun ap Iorwerth AC: Mi ges i'r pleser yn yr wythnos diwethaf o ymweld â chwmni peirianneg BICO ym Miwmares yn Ynys Môn, sy'n gwneud gwaith rhagorol ym maes peirianneg mewn diwydiannau technegol ac arbenigol dros ben. Mae o'n gwmni, dwi'n siŵr, y gallem ni ei weld yn tyfu mewn blynyddoedd i ddod. Mi fyddwch chi'n ymwybodol fy mod i a'm plaid o blaid rhanbartholi datblygu economaidd er mwyn sicrhau bod llewyrch economaidd yn rhywbeth sy'n digwydd ar draws Cymru. A fyddai'r Llywodraeth yn cytuno efo fi y byddai sgôp i ddatblygu cynlluniau tyfu'n lleol—grow locally, os liciwch chi—fel rhan ganolog o'r math o gynlluniau rhanbarthol yna? Lee Waters AC: Yn sicr. Credaf fod ffocws economaidd rhanbarthol yn hanfodol, ac mae'r cynllun gweithredu economaidd yn sicrhau bod hyn yn rhan hanfodol o'n dull o weithredu o hyn ymlaen. Rydym yn alinio'r timau yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd, i sicrhau bod yr arbenigedd a'r capasiti yno i fwrw ymlaen â hyn. Ac mae hefyd yn bwysig ymgysylltu ag awdurdodau lleol mewn ysbryd o gyd-barch, gan gydweithio er mwyn ystyried eu barn ynglŷn â sut y dylai eu rhanbarthau dyfu, ac rydym yn gweithio ochr yn ochr â hwy, yn hytrach phennu ar eu cyfer yr hyn y credwn sydd er budd eu rhanbarth. Mae dull yr economi sylfaenol hefyd yn bwysig iawn yn hyn o beth—twf busnesau bach a chanolig a chwmnïau gwreiddiedig—a sut y gallwn ddefnyddio'r sector lled-gyhoeddus, y llu o gwmnïau bach gwasgaredig sy'n dibynnu ar y sector cyhoeddus am lawer o'u gwaith, a sut y gallwn ddefnyddio caffael er mwyn sicrhau mwy o werth yn lleol, ac nad yw'n diferu allan. A byddwn yn gwneud datganiadau dros yr wythnosau nesaf ynglŷn â dechrau'r gwaith yn y maes hwn, a buaswn yn awyddus iawn i weithio gyda'r Aelod i ddatblygu'r syniadau hynny, gan adeiladu ar y cyhoeddiad a wnaethom ar y cyd yng nghyllideb ein cronfa £1.5 miliwn i ddatblygu'r economi sylfaenol gyda Phlaid Cymru. Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George. Russell George AC: Diolch, Lywydd. Faint o adeiladau fydd yn cael mynediad at fand eang cyflym iawn a dibynadwy o dan ail gam cynllun Cyflymu Cymru, ac ar ba gost i bwrs y wlad? Lee Waters AC: Fel y gŵyr yr Aelod, rydym yn bwriadu darparu band eang cyflym iawn i 26,000 o adeiladau erbyn mis Mawrth 2021, ar gost o bron i £22.5 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru a'r UE drwy'r broses hyblyg o gyflwyno ffeibr. Dylid nodi hefyd nad yw hwn yn faes datganoledig. Mae hwn yn faes y mae Llywodraeth y DU yn gyfrifol amdano. O'i adael i'r farchnad ei hun, oddeutu 45 y cant yn unig o adeiladau Cymru fyddai'n cael cysylltedd band eang cyflym iawn. O ganlyniad i gamau gweithredu'r Llywodraeth hon, mae'r ffigur hwnnw bellach wedi codi i 95 y cant. Rydym wedi gwario £200 miliwn i sicrhau bod y bwlch a adawyd gan y farchnad a Llywodraeth y DU wedi'i lenwi. Ond yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth na allwn barhau i'w ddatblygu heb weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i geisio llenwi'r bwlch hwnnw. Russell George AC: Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Rydych wedi cyhoeddi'r £22 miliwn a ddyrannwyd. Cyhoeddodd eich rhagflaenydd y llynedd y byddai £85 miliwn yn cael ei ddyrannu i gam 2. Felly, a gaf fi ofyn i chi—yn ôl fy nghyfrif i, mae £62 miliwn yn weddill—sut rydych yn bwriadu gwario'r £62 miliwn hwnnw mewn perthynas â cham 2? Lee Waters AC: Mae hwnnw'n gwestiwn cwbl deg, a chredaf ei bod yn deg dweud ein bod yn dal i ystyried goblygiadau'r ffordd y gwnawn hynny. Un o'r problemau sydd gennym yw diffyg awydd y sector preifat i ymwneud yn y maes hwn. Mae mwy o elw ar gael i gwmnïau preifat drwy ddarparu cyflymderau uwch i bobl sydd â band eang eisoes na thrwy gyrraedd y rheini nad oes band eang ganddynt, ac mae hynny'n ddiffyg yn y farchnad. Felly, mae angen inni feddwl sut y gallwn lenwi'r bwlch hwnnw yn greadigol, drwy weithio gyda chymaint o bartneriaid ag y gallwn i sicrhau bod yr hyn sydd bellach yn gyfleustod allweddol ar gael i gynifer o dai â phosibl. Credaf mai'r hyn sydd ei wir angen yw i Lywodraeth y DU gydnabod bod band eang a ffeibr a digidol bellach yn wasanaeth cyffredinol, ac y dylid cael rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol, fel y ceir gyda chyfleustodau allweddol eraill, fel nad ydym yn dibynnu ar faint o elw y gellir ei gynhyrchu neu faint o arian ychwanegol y gallwn ddod o hyd iddo er mwyn llenwi'r bwlch hwnnw. Ond mae hynny'n rhywbeth sydd ei angen gan ddarparwyr i sicrhau nad oes unrhyw un yn cael eu gadael ar ôl. Russell George AC: Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Wrth gwrs, mae Cyflymu Cymru yn un o gynlluniau Llywodraeth Cymru, a chroesawaf rai elfennau o gynlluniau eraill a gyhoeddwyd gennych y llynedd a'r blynyddoedd cyn hynny, ond nid ydynt yn mynd i gynnwys pob safle ledled Cymru nac yn mynd i fod yn berthnasol i bob safle ledled Cymru. Nawr, os edrychwn ar gam 1, roedd yna ardaloedd ledled Cymru ar ôl diwedd cam 1 lle roedd y ddarpariaeth band eang waethaf, ac roeddent yn cynnwys etholaeth y Llywydd yng Ngheredigion, fy etholaeth i ym Mhowys, yn Sir Benfro ac yn Sir Gaerfyrddin. Dyna'r ardaloedd gwaethaf yng Nghymru gyfan o ran darpariaeth band eang. Felly, byddech wedi meddwl y byddai cam 2 yn canolbwyntio'n gyfan gwbl, neu o leiaf yn blaenoriaethu'r ardaloedd hynny—blaenoriaeth ar gyfer yr ardaloedd hynny. Mewn gwirionedd, gwelwyd y gwrthwyneb a rhoddwyd sylw i'r ardaloedd sydd eisoes yn cael gwasanaeth da. Dyma'r rwystredigaeth i lawer o bobl mewn rhannau gwledig o Gymru. Nawr, os caf ystyried Sir Benfro er enghraifft, o'r holl safleoedd na chafodd eu cysylltu â Cyflymu Cymru yng ngham 1, 4 y cant yn unig o'r nifer honno fydd yn cael eu cysylltu yng ngham 2. Dyna sydd mor siomedig, a dyna'r rhwystredigaeth i lawer o bobl yn y Gymru wledig. Felly, a allwch dderbyn bod y dull hwn o ddarparu band eang ffeibr yn ddiffygiol, a beth rydych yn bwriadu ei wneud ynglŷn â'r 67,000 o adeiladau a fydd yn dal i fod mewn twll ymhen dwy flynedd? Lee Waters AC: Wel, rhannaf y rwystredigaeth yn llwyr. Rydym wedi darparu cryn dipyn o gyllid i fynd i'r afael â'r mater hwn, sydd, fel rwy'n dweud, yn faes sydd heb ei ddatganoli. Nid ydym yn cael cyllid canlyniadol Barnett am hyn. Rydym yn gwneud hyn o'n cyllidebau ein hunain am nad yw Llywodraeth y DU ac Ofcom yn diwallu anghenion Cymru, felly rydym wedi camu i'r adwy. Ond ceir cyfyngiadau i'r effaith y gallwn ei chael. Mewn unrhyw chwyldro telathrebu, mae rhannau o Gymru wedi bod yn anodd eu cyrraedd. Nid cefn gwlad Cymru oedd y lle cyntaf i gael signalau teledu neu linellau ffôn sefydlog, felly nid yw'n syndod, oherwydd y topograffi, ein bod yn wynebu heriau wrth gyflwyno ffeibr llawn i'r holl ardaloedd gwledig. Nid ydym yn canolbwyntio'n fwriadol ar yr ardaloedd hawdd. Yr hyn rydym wedi'i wneud yw—. Rydym wedi clywed yr Aelod a'i feinciau yn ein hannog yn gyson i weithio mewn partneriaeth gyda'r sector preifat, a dyna rydym yn ei wneud. Mae'r sector preifat wedi penderfynu ei bod yn haws iddynt wneud cynnig am rywfaint o'r arian sydd ar gael yn unig er mwyn sicrhau'r enillion y maent yn disgwyl eu cael am eu buddsoddiad. Felly, rydym wedi gorfod dibynnu ar eu penderfyniad hwy ynglŷn â pha waith y maent am dendro amdano a pha waith rydym wedi gallu ei ddyfarnu. Mae hynny wedi gadael bwlch yr ydym yn awyddus i'w lenwi, ac rydym yn edrych ar ffyrdd creadigol y gallwn ei lenwi. Ond fel rwy'n dal i ddweud, pe bai'r blaid gyferbyn yn siarad â'u cymheiriaid yn San Steffan ac yn dadlau'r achos dros rwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol—[Torri ar draws.] Mae Russell George yn dweud mai cynllun Llywodraeth Cymru ydyw. Mae'n gynllun Llywodraeth Cymru, ond nid lle Llywodraeth Cymru yw llenwi'r bwlch hwn. Mae hwn yn faes sydd heb ei ddatganoli. Llywodraeth y DU sydd â chyfrifoldeb dros seilwaith digidol ledled y DU. Hwy a ddylai fod yn sicrhau bod pob rhan o Gymru yn cael eu cyrraedd. Maent wedi methu gwneud hynny—maent wedi methu gwneud hynny. Rydym wedi camu i'r adwy gydag arian Llywodraeth Cymru er mwyn llenwi'r bwlch hwn, gan weithio gyda'r sector preifat. Nid oes diddordeb gan y sector preifat, a dweud y gwir, mewn cyrraedd pob eiddo sydd ar gael, ac felly, rydym yn chwilio am ffyrdd o lenwi'r bwlch hwnnw, ac rydym wedi ymrwymo i wneud hynny. A buaswn yn gwerthfawrogi ei gymorth yn hytrach na'i sylwadau difeddwl yn unig. Llefarydd Plaid Cymru, Bethan Sayed. Bethan Sayed AC: Diolch. Roeddwn am ofyn y cwestiwn cyntaf ynglŷn ag a ydych wedi gwneud dadansoddiad economaidd o'r toriadau posibl i addysg uwch. Rwy'n sylweddoli bod hyn yn ymwneud yn bennaf â'r portffolio addysg, ond os edrychwn ar hyn mewn ffordd gyfannol, mae colli unrhyw swyddi—boed y swyddi hynny ym Mangor, yng Nghaerfyrddin, neu yng Nghaerdydd, gyda chyhoeddiad diweddar ynghylch diffyg o £21 miliwn yn eu cyllideb—yn mynd i effeithio ar economi Cymru. Mae'n eithaf eironig, yn yr wythnos a elwir yn 'HeartUnions', fod yn rhaid i undebau llafur yng Nghymru baratoi ar gyfer y posibilrwyddo ddiswyddiadau gorfodol yma yng Nghymru. Pa ddadansoddiad economaidd rydych yn ei wneud o'r posibilrwydd o golli'r swyddi hyn i'n cymunedau? Ken Skates AC: Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae'r rhain yn gyrff cwbl ymreolaethol,ac felly'rprifysgolion sy'n gwneud penderfyniadau ynglŷn â chyllidebau. Bethan Sayed AC: Credaf fod honno'n agwedd ddi-hid, mae'n ddrwg gennyf, Weinidog, gan y bydd hyn yn effeithio ar bobl ar lawr gwlad—eu bywoliaeth, lle maent yn gwario eu harian, sut y maent yn gwario eu harian, y swyddi y bydd modd iddynt fynd iddynt a'r sgiliau a fydd gennym yn ein cymunedau. Felly, gofynnaf ichi unwaith eto: pa ddadansoddiad economaidd a wnewch ar sail Cymru gyfan ynghylch effaith y toriadau ar ein sector addysg uwch? Heb sôn am y ffaith na fydd swyddi eraill ar gael iddynt fynd iddynt oherwydd—[Torri ar draws.]—clywaf o'r cyrion y Gweinidog addysg yn gofyn, 'Pa doriadau?' Rydym wedi clywed yn y cyfryngau yn ystod y dyddiau diwethaf fod Prifysgol Caerdydd yn mynd i ystyried gwneud diswyddiadau gorfodol oherwydd y diffyg ariannol yn y sector addysg uwch. Pa effaith a gaiff hynny ar economi Cymru? Ken Skates AC: Na, mae'n ddrwg gennyf, mae'n rhaid inni fod yn glir: beth yw'r toriadau? Nid oes a wnelo hyn â thoriadau gan Lywodraeth Cymru—gan yr adran addysg a sgiliau. Mae hyn yn ymwneud â phenderfyniadau a wneir gan brifysgolion, yn seiliedig ar y ffordd y maent yn rheoli eu materion eu hunain. Nid yw hyn yn seiliedig ar doriadau gan Lywodraeth Cymru. Bethan Sayed AC: Nid wyf yn dweud bod hyn yn seiliedig ar doriadau Llywodraeth Cymru; rwy'n dweud ei fod yn seiliedig ar ba ddadansoddiad rydych yn ei wneud o'r posibilrwydd y bydd y toriadau hynny'n digwydd, yma yng Nghymru, lle bydd swyddi'n cael eu colli. Rydym yn clywed hynny o'r cyfarfodydd y mae pob un o fy nghyd-Aelodau wedi bod yn eu trefnu ledled Cymru. Felly, yn hytrach na chladdu'ch pen yn y tywod, beth y bwriadwch ei wneud ynglŷn â hynny fel y gallwn sicrhau y gall y sector addysg uwch fod yn llwyddiannus? Roeddwn yn awyddus i ofyn cwestiwn hefyd ynghylch partneriaethau sgiliau rhanbarthol yma heddiw. Amlinellodd y cyn Ddirprwy Weinidog sgiliau gynlluniau ar gyfer addysg bellach fel rhan o gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella'r sector sgiliau a hyfforddiant. Ceir llawer o'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol hynny nad ydynt yn cael eu cyllido'n ddigonol, a dywedwyd wrthym y byddai Lywodraeth Cymru yn comisiynu cynghorydd annibynnol ar gyfer y partneriaethau sgiliau rhanbarthol hynny. A allwch roi'r newyddion diweddaraf inni ynglŷn â hynny ac a ydych yn dal i fwrw ymlaen gyda'r cynllun hwnnw a oedd gan Eluned Morgan mewn perthynas â phartneriaethau sgiliau rhanbarthol? Ken Skates AC: Yn gyntaf oll, diolch i'r Aelod am gydnabod nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw doriadau i addysg uwch. Credaf ei bod yn ddefnyddiol iawn egluro hynny, a chredaf, wrth fyfyrio ar y ffaith honno, y dylwn ddweud hefyd ein bod wedi ymladd yn ddi-baid ar ran y sector addysg uwch, yn union fel rydym wedi cefnogi'r sector addysg bellach yn ddi-baid hefyd. Ond rydym yn dal i frwydro yn erbyn naw mlynedd o gyni llym. Nawr, o ran y partneriaethau sgiliau rhanbarthol, rwy'n falch o allu dweud wrth yr Aelod fy mod wedi gofyn am adolygiad allanol annibynnol o'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol. Yn y cyfamser, rydym yn cefnogi ein partneriaethau sgiliau rhanbarthol gyda £5 miliwn o gyllid prentisiaethau penodol i gysoni'r ddarpariaeth brentisiaethau â'r hyn sydd ei angen ar fusnesau yn y rhanbarthau priodol. Llefarydd UKIP, David Rowlands. David J Rowlands AC: Diolch, Lywydd—[Anghlywadwy.]—anawsterau a wynebir gan gymudwyr Caerdydd wrth gael mynediad i'r ddinas, a allai'r Gweinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i liniaru'r problemau hyn? Ken Skates AC: Mae'n ddrwg gennyf, ni chlywais ran gyntaf y cwestiwn. David J Rowlands AC: O'r gorau. O ystyried yr anawsterau mawr a wynebir gan gymudwyr Caerdydd i gael mynediad i'r ddinas, a allai'r Gweinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i liniaru'r problemau hyn? Ken Skates AC: Yn sicr. Mae'r cynlluniau'n rhan o'r weledigaeth ar gyfer metro de Cymru, a bydd swm enfawr o fuddsoddiad cyfalaf yn talu amdanynt, dros £700 miliwn. Bydd elfennau allweddol o'r seilwaith yng Nghaerdydd yn cynnwys parcffyrdd newydd a datblygu gorsaf fysiau newydd i Gaerdydd, a gyda chymorth Llywodraeth y DU, os byddwn yn ei gael, rydym yn gobeithio ailddatblygu gorsaf Caerdydd Canolog. David J Rowlands AC: Diolch i'r Gweinidog am ei ateb. Yn ddiweddar, bûm yn ddigon anffodus i orfod defnyddio'r ffordd fynediad ddeheuol a elwir yn Rover Way. Er fy mod yn deall nad yw'r ffordd hon, am ryw reswm dirgel, yn gefnffordd, ac nad yw felly'n rhan o'ch cylch gwaith uniongyrchol, mae'r ffordd mewn cyflwr mor warthus fel bod gwir angen rhyw fath o ymyrraeth gan y Llywodraeth. Does bosib, Weinidog, nad oes rhyw fath o gymorth ariannol y gallai Llywodraeth Cymru ei ddarparu fel y gall cyngor dinas Caerdydd ailwampio'r briffordd hollbwysig hon i mewn i'n prifddinas. Ken Skates AC: A gaf fi ddweud ein bod yn cefnogi awdurdodau lleol gydag adnoddau ychwanegol i fynd i'r afael â thyllau yn y ffyrdd, ac rydym hefyd yn cynnig cyllid drwy'r gronfa trafnidiaeth leol i sicrhau bod ffyrdd lleol yn parhau i fod o ansawdd digon da? Credaf mai'r hyn sydd bwysicaf i Gaerdydd wrth i'r ddinas barhau i dyfu yw ei bod yn cael system drafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, ac yn hynny o beth, bydd datblygiad y metro, ac wrth gwrs, diwygio'r gwasanaethau bws lleol yn radical, yn bwysig dros ben. David J Rowlands AC: Unwaith eto, diolch i'r Gweinidog am ei ateb. Fodd bynnag, gallai hyn yn wir fod yn brosiect posibl ar gyfer y model buddsoddi cydfuddiannol, neu unwaith eto, a oes ymyrraeth bosibl y gellid ei chael gan brifddinas-ranbarth Caerdydd? Does bosib, Weinidog, nad yw dod o hyd i fecanwaith ariannu addas i fynd i'r afael â'r sefyllfa enbyd hon y tu hwnt i'ch arbenigedd sylweddol. Mae'r ffordd hon mewn cyflwr gwarthus. Nid yw'r arian a roddir ar gyfer tyllau yn y ffyrdd yn mynd i ddatrys y broblem, ac mae'n ffordd fynediad brysur iawn a phwysig iawn i mewn i Gaerdydd. Ken Skates AC: Wel, byddai'n rhaid imi ymgynghori â'r Gweinidog cyllid i weld a ellid defnyddio'r model buddsoddi cydfuddiannol at ddiben o'r fath, ond wrth gwrs, hyd yn oed pe gellid gwneud hynny, byddai'n benderfyniad ar gyfer yr awdurdod lleol a/neu brifddinas-ranbarth Caerdydd, fel yr awgryma'r Aelod. Fel Llywodraeth Cymru, rydym yn gwneud popeth a allwn gyda'n hadnoddau gwerthfawr i wella seilwaith trafnidiaeth nid yn unig yng Nghaerdydd, ond ledled Cymru, ac mae'n rhaid seilio penderfyniadau ar yr angen i fuddsoddi'n deg ledled Cymru gyfan. Byddem yn annog ein partneriaid lleol mewn llywodraeth leol i sicrhau bod yr holl ffyrdd yn cael eu cynnal hyd at safon ofynnol, ac i ddefnyddio'r adnoddau ychwanegol rydym wedi eu darparu drwy'r gronfa ar gyfer tyllau yn y ffyrdd lle bynnag y bo modd. Y Contract Economaidd Newydd i Fusnesau Jack Sargeant AC: 3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gontract economaidd newydd Llywodraeth Cymru i fusnesau? OAQ53407 Ken Skates AC: Gwnaf, mae'r contract economaidd wedi cael croeso cynnes iawn ers ei lansio ym mis Mai. Rydym wedi cytuno ar dros 120 o gontractau â busnesau ledled Cymru, ac yn ddiweddarach eleni, rydym yn bwriadu rhoi egwyddorion y contract economaidd ar waith mewn ystod ehangach o leoliadau, gan gynnwys, rwy'n falch o ddweud, y cyrff a noddir gennym, yn ogystal â chontractau seilwaith. Jack Sargeant AC: Diolch, Weinidog. Yn gynharach y mis hwn, roeddwn yn falch iawn o gael arwain dadl fer gyda chefnogaeth drawsbleidiol ar gontract ar gyfer gwell cymorth cyntaf iechyd meddwl yn y gweithle. Gwn fod y Gweinidog yn teimlo'n angerddol iawn ynglŷn â'r mater hwn, fel finnau a llawer o bobl eraill yn y Siambr hon. Rwy'n siŵr ei fod yn credu ei bod yn gwneud synnwyr, o safbwynt dynol ac ariannol, i sicrhau ein bod yn diogelu iechyd meddwl yn y gweithle yn yr un modd ag y byddwn yn diogelu iechyd corfforol. Lywydd, mae'r rhan fwyaf ohonom yn treulio mwy o amser yn y gweithle nag yn ein cartrefi ein hunain, a'r wythnos hon, yn bersonol, rwyf wedi cael trafferth gyda fy iechyd meddwl fy hun. Rwy'n ei chael hi'n anodd codi a wynebu'r byd, ac rwy'n siŵr nad fi yw'r unig un. Mae'n rhaid inni wneud mwy i gefnogi lles yn y gweithle. Weinidog, a ydych yn cytuno bod ymgyrchoedd fel Where's Your Head At? yn hanfodol i sicrhau bod cyflogwyr yn edrych ar ôl lles eu gweithlu drwy anelu at ei gwneud yn orfodol i sicrhau y ceir swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl yn y gwaith? Yn olaf, Weinidog, a fyddech yn cytuno i gyfarfod â mi i weld sut y gallem gefnogi mentrau o'r fath fel rhan o gontract economaidd Llywodraeth Cymru? Ken Skates AC: A gaf fi ddiolch i Jack Sargeant am ei gwestiwn? Buaswn wrth fy modd yn cyfarfod ag ef i drafod sut y gallwn ddefnyddio'r contract economaidd ymhellach i'r diben hwn. Mae hwn yn fater y mae ef a minnau yn rhannu diddordeb brwd iawn ynddo. Mae'n fater sy'n achosi bron i £100 biliwn o niwed i economi'r DU ar ffurf cynnyrch a gollir bob flwyddyn—amcangyfrifir ei fod rhwng £74 biliwn a £100 biliwn. Yn wir, Lywydd, i fusnesau eu hunain, mae'r gost yn anhygoel. Awgrymodd astudiaeth annibynnol ddiweddar gost flynyddol o rhwng £33 biliwn a £42 biliwn i gyflogwr y DU, oherwydd iechyd meddwl gwael yn y gweithle. Gellir priodoli mwy na hanner y ffigur hwnnw i bobl yn dod i'r gwaith ond yn methu wynebu diwrnod o waith heb broblemau iechyd meddwl. Dyna un o'r rhesymau pam y credwn ei bod mor bwysig cynnwys iechyd meddwl yn un o'r pedwar maen prawf yn y contract economaidd, ac mae'n rhaid imi ddweud ein bod eisoes yn gweld newid ymddygiad mewn llawer o fusnesau. Rydym yn gweld enghreifftiau o arferion gwych, megis yn GoCompare a Bluestone a Wockhardt. Nid wyf yn dymuno bod yn rhagnodol drwy'r contract economaidd ynglŷn â sut y mae busnesau'n gwella lles ac iechyd meddwl yn y gweithle gan fod nifer fawr iawn o fusnesau eisoes yn dangos cryn dipyn o greadigrwydd ac arloesedd yn y maes hwn. Hoffwn weld eu harferion gorau'n cael eu rhannu a'u lledaenu ar draws yr economi. Caroline Jones AC: Weinidog, roeddwn yn falch o weld y contract economaidd newydd, o ystyried agwedd elyniaethus arweinyddiaeth eich plaid yn y DU tuag at fentrau preifat, yn enwedig canghellor yr wrthblaid. Weinidog, a wnewch chi gadarnhau mai gwir bartneriaeth rhwng y cyhoedd a'r sector preifat, a'r Llywodraeth yn darparu'r amgylchedd gorau i fentrau preifat ffynnu, yw'r allwedd i lwyddiant economaidd yng Nghymru? Ken Skates AC: Buaswn yn cytuno'n llwyr gyda'r Aelod fod partneriaeth gymdeithasol yn hanfodol i hybu twf cynhwysol a sicrhau bod pob un ohonom yn cynnal yr un baich. Mae hynny'n golygu cynnwys y Llywodraeth. Mae'n cynnwys y sector cyhoeddus, mae'n cynnwys busnesau, ac wrth gwrs, mae hefyd yn cynnwys ein cydweithwyr yn yr undebau llafur. Rwy'n falch iawn fod Plaid Lafur y DU wedi cydnabod gwerth y contract economaidd ar gyfer hybu twf cynhwysol, ac rwy'n gobeithio y caiff ei fabwysiadu pan fydd Llywodraeth Lafur yn cael ei ffurfio yn San Steffan. Russell George AC: Weinidog, credaf fod y contract economaidd yn gam cadarnhaol mewn perthynas ag ehangu'r effaith a fwriedir gan gymorth Llywodraeth Cymru i fusnesau llai o faint Cymru. A allwch egluro, Weinidog, pa fath o gefnogaeth ariannol a roddir i gwmnïau Cymru, ar ffurf cymorth ariannol? A fydd y cymorth hwn yn cael ei ddarparu drwy drefniant benthyciadau, ac os felly, beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru mewn perthynas â benthyciadau wrth symud ymlaen? Ken Skates AC: Wel, o ran y cymorth sydd ar gael, credaf fod yr Aelod yn cyfeirio at y cymorth a allai fod yn angenrheidiol er mwyn i fusnesau gyrraedd pwynt lle maent wedi llwyddo i lofnodi'r contract. Byddai hwnnw'n cael ei ddarparu drwy Busnes Cymru, ar ffurf cymorth ariannol posibl, ond yn bwysicach yn fy marn i, mae'n debyg, y gwasanaeth cynghori y gellir ei gynnig. O ran benthyciadau neu grantiau, mae hyn yn rhywbeth sydd wedi bod ar feddyliau a'n destun dadlau yn y lle hwn ers dechrau datganoli. Rwy'n dal i fod yn awyddus i sicrhau ein bod yn symud oddi wrth ddibyniaeth helaeth ar grantiau tuag at fwy o ddefnydd o fenthyciadau drwy Fanc Datblygu Cymru, a phan fyddwn yn defnyddio grantiau, ein bod yn eu halinio'n agosach â'n blaenoriaethau, gan sicrhau bod grantiau'n cael eu defnyddio mewn ardaloedd daearyddol lle ceir lefelau uwch o ddiweithdra neu lle mae mwy o angen uwchsgilio'r gweithlu. O ran grantiau yn gyffredinol, dylem fod yn defnyddio'r contract economaidd yn fwy eang. Mae hynny'n cynnwys ar draws adrannau'r Llywodraeth ac o fewn awdurdodau lleol, yn ogystal â thrwy'r broses gaffael. Banc Datblygu Cymru Mark Reckless AC: 4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am enillion ariannol a ddaw gan Fanc Datblygu Cymru? OAQ53405 Ken Skates AC: Gwnaf. Mae Banc Datblygu Cymru yn rheoli nifer o gronfeydd ar gyfer Llywodraeth Cymru, ac mae'n eu buddsoddi mewn busnesau yng Nghymru i'w galluogi i dyfu ac i ffynnu. Mae'r enillion sy'n deillio o'r buddsoddiadau hyn naill ai'n cael eu hailgylchu o fewn y gronfa ar gyfer buddsoddiadau yn y dyfodol neu'n cael eu had-dalu i Lywodraeth Cymru. Mark Reckless AC: Ym Mhwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yr wythnos diwethaf, roeddem yn hynod o falch o wneud ein gwaith craffu blynyddol ar Fanc Datblygu Cymru. Y llynedd, cynhaliais ginio yn y Cynulliad ar gyfer Giles Thorley a nifer o'i uwch dîm. Rwy'n edmygu eu gallu, ac rwy'n optimistaidd ynghylch yr hyn y bydd y banc yn ei gyflawni, gan adeiladu ar Cyllid Cymru. Nododd y Gweinidog y ddau beth posibl a allai ddigwydd pe bai'r banc, fel y gobeithiwn, yn gwneud mwy o arian o fuddsoddiadau ecwiti a llog nag y byddai'n ei golli ar y benthyciadau lle ceir rhywfaint o risg, ac ni fydd pob un yn llwyddo. Fodd bynnag, beth yw polisi'r Llywodraeth ynglŷn â pha gyfran o'r arian hwnnw fydd yn aros gyda'r banc a faint fydd yn dod yn ôl i'r Llywodraeth i ariannu blaenoriaethau eraill, ac a fydd hynny'n dibynnu ar ba mor llwyddiannus yw'r banc? Ken Skates AC: A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn, a dweud hefyd pa mor ddiolchgar wyf fi am ei gefnogaeth i'r banc datblygu? Fel Aelod o'r wrthblaid, byddai'n hawdd iawn—ac rwy'n siŵr ei bod yn demtasiwn fawr ar brydiau—yn syml am ei fod yn Aelod o'r wrthblaid, iddo fod yn feirniadol o unrhyw beth a wna Llywodraeth Cymru. Rwy'n cydnabod ei gefnogaeth i waith da'r banc datblygu, ac edrychaf ymlaen at weld Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn cynnal ymchwiliad trylwyr i waith y banc datblygu a'r manteision a gafwyd hyd yma. Mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn ynghylch y modd y defnyddiwn arian, pa gyfran sy'n cael ei hailgylchu a pha gyfran a ddaw yn ôl i Lywodraeth Cymru. A phan fydd cronfa unigol yn cyrraedd diwedd ei hoes, yn gyffredinol, ymdrinnir ag unrhyw gyfalaf a wireddwyd neu a gronnwyd mewn un o ddwy ffordd. Yn gyntaf oll, mae gennym gyfalaf trafodion ariannol. Mae'n rhaid ad-dalu hwnnw i'r cyllid canolog, ac yn y pen draw, yn ôl i Drysorlys ei Mawrhydi, a chytunir ar amserlenni ad-dalu gyda Banc Datblygu Cymru i'r perwyl hwn. Fodd bynnag, ar y llaw arall, mae gennym gyfalaf craidd y gellir ei ailgylchu o fewn y gronfa ar sail fythwyrdd, a'n dymuniad yw gweld cymaint â phosibl o hwnnw'n cael ei ailgylchu. Ond dylid nodi—ac efallai y bydd hyn yn swnio'n amlwg, ond dylid ei ailddatgan—fod yna reolau ar gyferdefnyddio enillion o gyllid yr UE, sy'n nodi bod yn rhaid eu defnyddio at ddibenion tebyg i'r hyn a fwriadwyd yn wreiddiol. Felly, unwaith eto, gellir parhau i'w ddefnyddio ar gyfer buddsoddiad parhaus mewn busnesau bach a chanolig. Mike Hedges AC: A all y Gweinidog nodi faint o'r buddsoddiad ym manc datblygu Cymru a ddaw o gyfalaf trafodion, Ewrop, benthyca ar y farchnad agored a ffynonellau eraill, gan gynnwys ailgylchu arian? Ken Skates AC: Wel, ers y lansiad ym mis Hydref 2017, bydd yr Aelod yn gwybod am y gwahanol gronfeydd newydd sydd wedi'u cyhoeddi. Cafwyd cronfa buddsoddi hyblyg Cymru, sy'n hwb enfawr—hwb gwerth £130 miliwn. Wedyn, ym mis Mai, lansiais Angylion Buddsoddi Cymru, sef rhwydwaith angylion busnes newydd Banc Datblygu Cymru. A law yn llaw â hyn, lansiais gronfa cyd-fuddsoddi angylion Cymru, cronfa newydd gwerth £8 miliwn. Credaf y gellir ateb y pwynt a godwyd gan yr Aelod ynglŷn â'r gyfran o arian a godir drwy gyfalaf trafodion ariannol. Byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod ac yn darparu copi o'r datganiad i bob Aelod yn y Siambr.FootnoteLink Gwybodaeth ychwanegol at y Cyfarfod Llawn (Saesneg yn unig) Gwasanaethau Rheilffordd rhwng Rhymni a Chaerdydd Hefin David AC: 5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth gerbydau ar gyfer gwasanaethau rheilffordd rhwng Rhymni a Chaerdydd? OAQ53416 Ken Skates AC: Gwnaf. Mae Trafnidiaeth Cymru yn rhagweld y caiff cerbydau newydd eu darparu erbyn mis Mai 2019, os nad yn gynharach. Hefin David AC: Pan roddodd James Price dystiolaeth i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, nododd y byddai cerbydau ychwanegol ar gael erbyn mis Mai eleni; os nad erbyn mis Mai, yna o bosibl erbyn mis Mawrth. Mae adegau prysur, yn enwedig wrth ddod adref ar adegau prysur, ar reilffordd Caerdydd i Rymni yn ofnadwy. Mae'n anodd iawn cael lle i eistedd. Byddai'r gwelliant hwn ym mis Mawrth/Mai yn galonogol iawn. A allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â pha gynnydd a wneir, pa seddi ychwanegol a fyddai'n debygol o gael eu darparu, faint o seddi ychwanegol sy'n debygol o gael eu darparu, a pha gynnydd pellach a fyddai'n cael ei wneud erbyn diwedd eleni? Ken Skates AC: Gallaf. A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn, a dweud faint rwy'n gwerthfawrogi'r pwysau y mae'r Aelod wedi'i roi arnaf fi a Trafnidiaeth Cymru i sicrhau bod ei etholwyr yn cael y gwasanaethau gorau posibl drwy Trafnidiaeth Cymru? Maent yn gofyn am bum trên dosbarth 769 ar gyfer rheilffordd Rhymni. Dywedais ein bod yn bwriadu eu cael ar y traciau erbyn mis Mai eleni, ond gobeithiaf y gallem eu gweld yn cael eu darparu fis nesaf. Credaf ei bod yn bwysig ystyried y ffaith bod capasiti ar y rhwydwaith hwnnw eisoes o dan bwysau difrifol, ac felly rwy'n falch o ddweud y bydd y capasiti'n cynyddu o 212 sedd i 292 sedd ar y trenau a ddaw i gael eu defnyddio. Mark Reckless AC: Credaf fod y Gweinidog a Trafnidiaeth Cymru wedi awgrymu y gallem, maes o law, weld trenau tri-moddol ar y rheilffordd hon, gyda gweithrediad trydan uwchben, diesel a batri. Pa mor gadarn yw'r polisi hwnnw, gan fy mod yn ymwybodol fod rhai pryderon wedi'u mynegi ynghylch pwysau ychwanegol y batri, ac er gwaethaf y fantais yn hynny o beth wrth ddod drwy dwnnel Caerffili, a fyddai'r pwysau ychwanegol hwnnw ar waith mewn mannau eraill yn golygu bod y trenau'n llai effeithlon ar y cyfan? Nid yw pawb yn cytuno mai dyma'r ateb technegol cywir o reidrwydd, o ystyried nad ydym wedi gweld hyn yn unrhyw le arall yn y byd. Ken Skates AC: Maent wedi'u profi, y trenau tri-moddol, a byddant yn cael eu defnyddio ar reilffordd Rhymni o 2023. Maent yn defnyddio cymysgedd o bŵer diesel, trydan uwchben a phŵer batri. O ran pŵer batri, mae camau enfawr yn cael eu gwneud ar ddatblygu batris newydd ysgafnach, llai o faint, ac er bod rhywfaint o anghytuno ymhlith arbenigwyr ar hyn o bryd, credaf fod yna gydnabyddiaeth, wrth i dechnoleg ddatblygu, y bydd pwysau batri mewn trenau a cheir yn parhau i ostwng, ac felly bydd yr unedau a'r cerbydau hynny'n dod yn fwy effeithlon a byddant yn gallu ymdopi â mwy o deithwyr hefyd. Holl bwynt yr ymarfer caffael oedd nad oedd yn ffafrio unrhyw fodd penodol. Cawsom ein llywio gan yr amcanion, a'r amcan oedd sicrhau y gallem ddarparu cymaint o wasanaethau mor aml â phosibl, gan gludo cymaint o bobl â phosibl, ac asesodd y farchnad beth fyddai orau ar gyfer pob rheilffordd, a phenderfynu mai trenau tri-moddol oedd yr ateb mwyaf priodol ar gyfer rheilffordd Rhymni. Trafnidiaeth Gyhoeddus yn y Rhondda Leanne Wood AC: 6. Sut y bydd gwariant Llywodraeth Cymru ar drafnidiaeth gyhoeddus o fudd i'r Rhondda? OAQ53417 Ken Skates AC: Wel, rydym yn bwrw ymlaen â'n gweledigaeth uchelgeisiol i ail-lunio gwasanaethau a seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru, ac wrth gwrs, mae hynny'n cynnwys gwasanaethau bws lleol, gwasanaethau rheilffyrdd, teithio llesol a metro de Cymru. Leanne Wood AC: Pan gyhoeddwyd manylion y fasnachfraint drenau newydd, datgelwyd y byddai'r pencadlys newydd wedi'i leoli yn ardal Trefforest. Nawr, mae hwn yn gyfle a gollwyd yn fy marn i i ddod o hyd i gyflogwr mawr mewn ardal lle mae swyddi, yn enwedig swyddi sy'n talu'n dda, hyd yn oed yn fwy prin nag y maent yn Nhrefforest. Mae ardal Blaenau'r Cymoedd yn fy etholaeth, lleoedd fel Maerdy, Glynrhedynog, Treherbert, yn enghreifftiau o leoedd lle byddai'r pencadlys trafnidiaeth newydd wedi gwneud gwahaniaeth mawr i'r economi leol, ac wedi mynd ymhell tuag at ddadwneud degawdau o esgeulustod. Gan eich bod wedi croesawu pwysau gan Aelodau yn gynharach, hoffwn wybod pa gyfleoedd eraill a all fod ar gael i sicrhau bod y cymunedau a gynrychiolaf yn y Rhondda yn elwa o'r fasnachfraint reilffyrdd newydd. A allwch ddweud wrth y bobl a gynrychiolaf sut, yn y dyfodol, y gall y Rhondda elwa'n uniongyrchol o'r cyfleoedd cyflogaeth o dan y fasnachfraint reilffyrdd newydd? Ken Skates AC: Wel, fel sefydliad dielw, bydd cyfleoedd enfawr i'w cael i fusnesau lleol elwa o'r fasnachfraint newydd. Bydd Trafnidiaeth Cymru yn ystyried defnyddio gorsafoedd i sicrhau y gellir eu defnyddio gan fusnesau a busnesau newydd, ond mae'n rhaid imi ddweud wrth yr Aelod mai Rhondda Cynon Taf sy'n elwa fwyaf o gam nesaf y metro. Fel y gŵyr yr Aelod eisoes, mae gan Trafnidiaeth Cymru nifer o welliannau ar y ffordd ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd yn y Rhondda. Dylwn eu hailadrodd, serch hynny: erbyn diwedd eleni, byddwn yn cyflwyno nifer o drenau dosbarth mwy newydd i weithredu ar y llwybr, fel y dywedais wrth Hefin David, gan gynyddu capasiti o 212 ar y trenau hŷn i 292; bydd nifer y gwasanaethau ar ddydd Sul rhwng Caerdydd Canolog a Threherbert yn cynyddu i un trên bob awr; bydd rhaglen lanhau dwys ar waith ym mhob gorsaf yn y Rhondda fel rhan o waith adfywhau cychwynnol; a bydd peiriannau tocynnau awtomatig i'w cael ym mhob gorsaf yn etholaeth yr Aelod nad oes ganddynt y cyfleusterau hyn ar hyn o bryd. Ac yn y tymor hwy, bydd y Rhondda yn elwa'n uniongyrchol o gynlluniau trawsnewidiol a hynod uchelgeisiol Trafnidiaeth Cymru ar gyfer metro de Cymru. Mae hynny'n cynnwys cyfleoedd i fusnesau fanteisio arnynt o ran cyfleoedd y gadwyn gyflenwi wrth i seilwaith metro de Cymru gael ei ddarparu. David Melding AC: Mewn perthynas â hynny, credaf fod y gwaith sylweddol o adfywio canol y dref yn y Porth, sy'n cael ei ystyried gan gyngor Rhondda Cynon Taf ar hyn o bryd, yn cynnwys canolfan drafnidiaeth ac ardal yr orsaf newydd, a fyddai'n cysylltu â metro de Cymru. Gwyddom fod gennym sawl achos yng Nghymru lle mae gorsafoedd bysiau a threnau mewn lleoliadau ar wahân, nid yw'r amserlenni wedi'u cydamseru ac mae cyfyngiadau ar fynd â beiciau ar drafnidiaeth gyhoeddus er enghraifft. Felly, pa gymorth rydych yn ei roi i gyngor Rhondda Cynon Taf mewn cynlluniau megis y ganolfan drafnidiaeth honno ar gyfer y Porth, lle mae popeth o dan un to? A pha mor fuan y byddwn yn clywed rhai o'r cyhoeddiadau hyn? Ken Skates AC: Wel, rwy'n falch o allu dweud wrth yr Aelod fod swyddogion wrthi'n ystyried adroddiad cychwynnol gan Trafnidiaeth Cymru ar opsiynau ar gyfer ymestyn gwasanaethau metro i'r Rhondda Fach o'r Porth. Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ar yr ystyriaethau hynny i'r Aelodau cyn gynted â phosibl. Ond o ran y canolfannau, rydym yn gobeithio gallu cefnogi cymaint o ganolfannau â phosibl yn rhanbarth y metro, yn enwedig lle mae teithwyr yn wynebu rhwystrau ar hyn o bryd wrth newid o un math o drafnidiaeth i'r llall. Tasglu'r Cymoedd Hefin David AC: 7. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith tasglu'r cymoedd yng Nghaerffili? OAQ53415 Lee Waters AC: Diolch. Mae tasglu'r Cymoedd yn gweithio'n agos gyda phartneriaid yng Nghaerffili, gan gyflawni nifer o'r ymrwymiadau yng nghynllun cyflawni 'Ein Cymoedd, ein Dyfodol', gan gynnwys datblygu canolfan drafnidiaeth integredig ac uwchgynllun strategol, a datblygu safle porth darganfod fel rhan o barc rhanbarthol y Cymoedd. Hefin David AC: Ar 27 Tachwedd y llynedd, gwnaed datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol ar yr union gynllun cyflawni hwnnw yn y Siambr hon. Ers hynny, mae wedi cael dyrchafiad i'r meinciau cefn—[Chwerthin.]—a'r Dirprwy Weinidog sydd bellach yn gyfrifol. Gyda hynny mewn golwg, un o'r pethau a addawodd Ysgrifennydd y Cabinet eu darparu oedd cronfa gyfalaf £25 miliwn i gefnogi saith canolfan strategol dros y ddwy flynedd nesaf. Mae un o'r canolfannau hynny yng Nghaerffili. A yw'n llwyr gefnogi'r datganiad a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet fis Tachwedd diwethaf, a'r ymrwymiad hwnnw'n benodol? Lee Waters AC: Wrth gwrs, rydym wedi ymrwymo i wario £25 miliwn ar y tasglu i ddatblygu cynlluniau o amgylch y canolfannau. Yr hyn rwy'n ceisio'i wneud yw ystyried y cynllun cyflawni a barn y partneriaid ynghylch y camau gorau i'w cymryd nesaf. Rwyf wedi cyfarfod â'r tasglu ac wedi cael trafodaeth agored iawn ynglŷn â ble y dylem fynd nesaf. Hefyd, rwyf wedi cyfarfod ag ACau sy'n cynrychioli etholaethau yn y Cymoedd. Byddaf yn cyfarfod â mwy dros yr wythnosau nesaf, a byddaf hefyd yn cyfarfod â holl arweinwyr y cynghorau. A ninnau hanner ffordd drwy dymor y Cynulliad hwn a chan fod hwn yn ymrwymiad a wnaed gennym yn y maniffesto diwethaf, credaf ei bod hi'n bwysig ein bod bellach yn ceisio canolbwyntio ar yr hyn y gallwn ei gyflawni dros y ddwy flynedd nesaf a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau ar draws y Cymoedd. O ran union ffurf y canolfannau a sut y gwerir yr arian hwnnw, mae hynny'n rhywbeth rwy'n ei ystyried ar hyn o bryd, a buaswn yn ddiolchgar am syniadau'r Aelod ynglŷn â ble y dylem fynd nesaf. Mohammad Asghar (Oscar) AC: Weinidog, ym mis Gorffennaf y llynedd, mynegodd Sefydliad Bevan bryderon ynghylch gallu tasglu'r Cymoedd i gyflawni ar gyfer cymunedau megis Caerffili. Dywedasant fod cynigion y tasglu yn rhy fach i wneud gwahaniaeth, gan gyfeirio at ddiffyg ffocws, methiant i fynd i'r afael â'r problemau mawr a gweledigaeth a oedd yn rhy fach. Adleisiwyd y farn hon gan yr Athro Kevin Morgan, a ddywedodd, Ni fydd y model datblygu yn llwyddiannus hyd yn oed os bydd y targedau'n fwy uchelgeisiol gan nad oes unrhyw ffordd y gall y Llywodraeth ei gyflawni. Dyna ei eiriau ef. Yng ngoleuni'r feirniadaeth hon, a yw'r Gweinidog wedi gosod targedau clir i sicrhau bod tasglu'r Cymoedd yn darparu manteision gweladwy i gymunedau megis Caerffili, os gwelwch yn dda? Lee Waters AC: Wel, ni chredaf fod unrhyw un o dan unrhyw gamargraff ynghylch maint y dasg o'n blaenau. Mae llawer o'r cymunedau hyn wedi profi dros ganrif o ddirywiad economaidd, a bydd angen mabwysiadu ymagwedd aml-genhedlaeth er mwyn mynd i'r afael â'r problemau dwys sy'n sail i hynny. Mae tasglu'r Cymoedd wedi chwarae rôl bwysig iawn dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Rwy'n talu teyrnged i fy nghyd-Aelod, yr Aelod Cynulliad dros Flaenau Gwent, am y gwaith a wnaeth. Ac mae llawer o'r gwaith hwnnw wedi bod o dan y bonet yn Llywodraeth Cymru, ac nid yw'n ofnadwy o ddeniadol ond mae'n hanfodol i gyflawni cam nesaf y broses ddiwygio. Mae gwahanol rannau o'r Llywodraeth wedi eu dwyn ynghyd i ganolbwyntio ar y Cymoedd, a'u gwneud i feddwl sut y gellir defnyddio rhaglenni yn y Cymoedd i fynd i'r afael â'r prosiectau hyn, ac mae hynny wedi arwain at rai canlyniadau, ac mae'r uwchgynllunio a grybwyllais a'r gwaith o ddatblygu canolfannau trafnidiaeth integredig strategol yn enghreifftiau o rywbeth a fydd yn cymryd blynyddoedd lawer i ddwyn ffrwyth, ond mae'n waith sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd, gwaith a gychwynnwyd gan Alun Davies, ac sy'n mynd i fod yn hanfodol ar gyfer lefel y newid sydd angen inni ei weld dros y degawdau i ddod. O ran yr hyn y gallwn ei gyflawni dros y ddwy flynedd nesaf, fel y dywedais yn fy ateb i Hefin David, credaf fod rhai pethau gweladwy y mae angen inni ganolbwyntio arnynt. Mae'r cynllun cyflawni yn cynnwys set gynhwysfawr o argymhellion, ac rydym yn archwilio sut y gallwn eu blaenoriaethu. Credaf hefyd mai un o ddarnau cyffrous y cynllun cyflawni yw'r gwaith ar entrepreneuriaeth. Rwyf wedi bod yn siarad â nifer o arbenigwyr dros yr ychydig wythnosau diwethaf ynglŷn â sut y gallwn adeiladu ar hynny, a byddaf yn cynnal gweithdai dros y misoedd nesaf i weld sut yn benodol y gallwn dyfu busnesau yn y Cymoedd drwy'r gwaith hwnnw. Gorsafoedd Rheilffordd Newydd Helen Mary Jones AC: 8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y broses arfarnu ar gyfer gorsafoedd rheilffordd newydd? OAQ53413 Ken Skates AC: Gwnaf. Mae proses asesu cam 2 wedi cymryd mwy o amser nag a gynlluniwyd er mwyn sicrhau y dewisir y gorsafoedd iawn ar gyfer y cam nesaf, ond bydd yr ymarfer yn cael ei gwblhau y mis hwn, a bydd hynny'n caniatáu imi wneud cyhoeddiad ar y gorsafoedd a fydd yn cael eu hystyried yng ngham 3. Helen Mary Jones AC: Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am ei ateb. Rwy'n siŵr y bydd yn deall, er enghraifft, fod trigolion Carno yn y rhanbarth a gynrychiolaf yn teimlo braidd yn rhwystredig oherwydd yr oedi parhaus. Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am roi sicrwydd inni y bydd yr oedi'n dod i ben. A allwch roi esboniad inni ynglŷn â'r rheswm dros yr oedi a pham fod hyn wedi cymryd cymaint o amser? Ken Skates AC: Gallaf—oherwydd bod angen gwneud cymaint o waith yn ystod y rhaglen asesu. Credaf ei bod yn bwysig dweud nad oes unrhyw bwynt symud cynlluniau i lefel achos busnes manwl oni bai ein bod yn gwbl hyderus fod modd iddynt arwain at achos busnes cadarn, a dyna pam fod y gwaith wedi bod mor helaeth. Ond mae'n werth nodi hefyd na chafwyd unrhyw arwyddion gan Lywodraeth y DU, hyd yn hyn, ynghylch unrhyw ffrydiau ariannu newydd i gyflwyno gorsafoedd newydd ar ein rhwydwaith rheilffyrdd. Rwy'n dal i frwydro i sicrhau y darperir adnoddau ychwanegol, ond cyfrifoldeb Llywodraeth y DU fydd sicrhau bod yr arian ar gael i Gymru. Alun Davies AC: Bydd y Gweinidog yn ymwybodol o fy nyhead i weld gorsaf drenau newydd yn gwasanaethu Abertyleri a chwm Ebwy Fach yn fy etholaeth. Rhannaf rai o'r pryderon a ddisgrifiwyd gan Helen Mary Jones o ran y broses a ddefnyddir i wneud y penderfyniadau hyn. Ymddengys i mi fod y model presennol yn rhoi canlyniad a fydd bob amser yn ffafrio ardaloedd â phoblogaethau uwch o lawer yn ninasoedd coridor yr M4 yn hytrach na chaniatáu inni wneud penderfyniadau a fydd yn ein galluogi i adeiladu a datblygu gorsafoedd newydd a seilwaith newydd yn y trefi bach yn y Cymoedd, ac mae Abertyleri yn enghraifft o hynny. A wnaiff y Gweinidog ystyried ailedrych ar y model presennol a'r ffurf o asesu er mwyn sicrhau bod cyfle i'n holl gymunedau ddangos pwysigrwydd cael gorsafoedd a fydd, yn achos Abertyleri, yn gwasanaethu pob rhan o gwm Ebwy Fach yn fy etholaeth, ac i sicrhau bod pob un o'r rhain yn cysylltu â'r metro newydd ac y gallant ddod yn ganolfannau trafnidiaeth a chyfleoedd gwaith? Ken Skates AC: Wel, carwn yn fawr newid y fformiwla ariannu a'r meini prawf, ond fel y gŵyr yr Aelod, mae graddau'r gymhareb cost a budd yn ffactor pwysig wrth benderfynu a fyddai Llywodraeth y DU yn ariannu gorsaf newydd, gan fod ariannu gorsafoedd newydd yn fater i Lywodraeth y DU, ac felly, rhaid inni ddefnyddio'r fformiwla ariannu a'r meini prawf asesu a fydd yn sicrhau bod unrhyw orsafoedd a gynigir, neu unrhyw gynigion a gyflwynir ar gyfer gorsafoedd newydd yn cael y cyfle gorau posibl o lwyddo pan fyddant yn cyrraedd Whitehall. Rwy'n derbyn—yn enwedig fel Aelod sy'n cynrychioli ardal wledig, rwy'n derbyn bod hwn yn fater pwysig o ran cyflawni gwelliannau mewn ardaloedd llai poblog. Hyd nes ac oni bai bod cyfrifoldeb am y seilwaith rheilffyrdd yn cael ei ddatganoli, a setliad ariannu teg yn dod gyda hynny, bydd yn rhaid inni sicrhau ein bod yn gweithio'n unol â fformiwla Llywodraeth y DU. Pe bai'r gyfres benodol hon o bwerau yn cael ei datganoli, wrth gwrs, gellid blaenoriaethu cynlluniau rheilffyrdd yn erbyn ystod ehangach o fesurau ac amcanion, a byddant yn ein dwylo ni. Ffordd Osgoi Caernarfon i Bontnewydd Siân Gwenllian AC: 9. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau pryd y bydd ffordd osgoi Caernarfon i Bontnewydd yn agor? OAQ53411 Ken Skates AC: Roeddwn yn falch iawn o gael nodi dechrau'r cyfnod adeiladu ar 17 Ionawr ar gyfer y prosiect seilwaith mawr hwn yng ngogledd Cymru, ac oni cheir unrhyw broblemau annisgwyl, bydd y gwaith adeiladu wedi'i gwblhau erbyn mis Tachwedd 2021. Siân Gwenllian AC: Diolch yn fawr iawn, ac felly dwi'n gobeithio na fydd yn rhaid i mi ofyn y cwestiwn yna eto yn y Siambr yma. Agwedd arall ar y gwaith, wrth gwrs, ydy'r effaith ar yr economi'n lleol. Pa waith ydych chi fel Llywodraeth yn ei wneud i wneud yn siŵr y bydd gweithwyr lleol a busnesau lleol yn cael y budd mwyaf posib allan o'r cynllun pwysig yma? Ken Skates AC: Wel, mae'n £135 miliwn sy'n cael ei wario ar y darn penodol hwn o seilwaith. Drwy'r ymarfer caffael, drwy gytundebau gyda chontractwyr, ein bwriad yw sicrhau bod busnesau lleol yn cael y cyfle gorau posibl i elwa o'r cynllun. Rydym hefyd yn ymgysylltu gyda'r awdurdod lleol a Sustrans—boed hynny ar yr ochr fusnes neu o ran teithio llesol—i sicrhau y ceir cyfleoedd i gynifer o bobl a sefydliadau â phosibl elwa o ffordd osgoi Caernarfon-Bontnewydd. Yn olaf, Mark Isherwood. Mark Isherwood AC: Diolch, Lywydd. Fel y dywedoch, a phan dorroch y dywarchen gyntaf ar 17 Ionawr, roeddech yn rhagweld y byddai'r gwaith wedi'i gwblhau erbyn Hydref 2021. Pa fesurau diogelu cytundebol a sicrhawyd gennych mewn perthynas â hynny, ac o ystyried y pryderon a fynegwyd gan rai busnesau mawr lleol pan gyhoeddwyd y ddau lwybr cyntaf a ffafrir na chynhaliwyd asesiad o'r effaith ar fusnesau lleol, pa drafodaethau a gawsoch gyda hwy ynglŷn â mesurau lliniaru posibl i leihau unrhyw effaith negyddol arnynt? Ken Skates AC: Ddirprwy Lywydd, rwy'n credu ei bod yn werth dweud bod proses ymgynghori helaeth wedi'i chynnal fel rhan o'r rhaglen i asesu pa lwybr a ffafrir. Byddai'r ffordd osgoi fel y'i cynllunnir ar hyn o bryd—y 9.7 km o ffordd newydd—yn cael gwared ar draffig trwodd o nifer o gymunedau. Mae'r cymunedau hynny wedi galw am y buddsoddiad hwn. Rwy'n derbyn bod rhai—rhai—busnesau wedi mynegi pryderon ynglŷn â'r effaith andwyol y gellid ei phrofi o ganlyniad i gael gwared ar draffig oddi ar ffyrdd yn y cymunedau hynny. Fodd bynnag, o'r hyn a ddywedwyd wrthym gan y busnesau hynny yn ystod y broses ymgynghori, nid oes digon o dystiolaeth i awgrymu y byddai'r busnesau hynny'n cael eu tanseilio'n ddifrifol o ganlyniad i adeiladu'r ffordd osgoi. Credaf ei bod yn bwysig ystyried bod cryn dipyn o gefnogaethi'r cynllun penodol hwn yn yr ardal. Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair. Diolch yn fawr iawn, Weinidog. 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) Eitem 2 yw cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit,a daw cwestiwn 1 gan Paul Davies. Goblygiadau Brexit i Sir Benfro Paul Davies AC: 1. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am oblygiadau Brexit ar Sir Benfro? OAQ53386 Jeremy Miles AC: Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ystyried goblygiadau Brexit drwy Gymru gyfan, ac yn cymryd camau i gynllunio a pharatoi ar gyfer pob posibilrwydd. Paul Davies AC: Cwnsler Cyffredinol, byddwch chi'n ymwybodol bod y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol wedi cyhoeddi adroddiad yn Awst 2017 i mewn i effaith Brexit a'r porthladdoedd yma yng Nghymru. Un o argymhellion yr adroddiad hwnnw oedd sicrhau bod yna drafodaethau adeiladol yn cymryd lle rhwng Llywodraeth Cymru a'u chymheiriaid yn Iwerddon, ac, yn wir, gyda gwledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd. A allwch chi ddweud wrthym ni, felly, pa waith sydd nawr wedi cymryd lle ers yr adroddiad yma, yn enwedig ar effaith Brexit a'r porthladdoedd yn fy etholaeth i? Jeremy Miles AC: Mae cryn waith wedi digwydd ynglŷn â'r risg i borthladdoedd yng Nghymru yn gyffredinol, yn etholaeth yr Aelod, ynghyd ag yn y gogledd yng Nghaergybi ac ati hefyd. Rŷn ni wedi gweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig a llywodraeth leol a'r bobl sy'n gweithredu'r porthladdoedd i sicrhau ein bod ni'n modelu'r risgiau i'r porthladdoedd yn gyffredinol. Ar y cyfan, rŷn ni'n credu bod y porthladdoedd yn Ninbych y Pysgod ac yn Pembroke Dock yn debygol o fod gyda mwy o resilience na'r risg sydd yng Nghaergybi. Ond, wedi dweud hynny, rŷn ni'n cadw hyn o dan olwg rhag ofn y bydd yr assumptions o dan y modelu yna'n newid, wrth gwrs. Helen Mary Jones AC: Mae etholwyr wedi mynegi pryderon wrthyf ynglŷn â'r ddarpariaetho gyflenwadau meddygol yn ne-orllewin Cymru, yn enwedig pethau ymarferol iawn fel padiau anymataliaeth, ond hefyd mynediad at inswlin, rhai radioisotopau prin sy'n angenrheidiol ar gyfer rhai triniaethau canser. A all y Gweinidog Brexit roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â'r trafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda bwrdd iechyd Hywel Dda i sicrhau bod gan ein hysbytai gwledig a rhai o'r ysbytai llai yn arbennig fynediad at y mathau hyn o gynhyrchion pe baem yn wynebu Brexit caled, rhywbeth y mae pob un ohonom, wrth gwrs, yn taer obeithio na fydd yn digwydd? Jeremy Miles AC: Gallaf, yn sicr. Wrth gwrs, cafwyd trafodaethau gyda'r byrddau iechyd. Mae'r Gweinidog iechyd yn cael trafodaethau parhaus, mewn gwirionedd, gyda chyrff y GIG i sicrhau bod ganddynt gynlluniau parodrwydd ar waith ac i brofi rhai o'r rhagdybiaethau hynny. Mae'r cwestiwn y gofynna'r Aelod yn ymwneud â darparu dyfeisiau meddygol yn benodol. Fel y gŵyr, o bosibl, gwnaed gwaith penodol i bennu cadwyni cyflenwi ar gyfer y dyfeisiau hynny sy'n benodol i Gymru ac i lywio safbwynt Llywodraeth Cymru ynghylch y graddau y bydd yn cydweithio ac yn cydweithredu gyda'r systemau hynny y mae Llywodraeth y DU yn eu rhoi ar waith ac i ba raddau y mae angen inni roi ein trefniadau ein hunain ar waith mewn perthynas â materion sy'n ymwneud â'r gadwyn gyflenwi yma yng Nghymru. Un o'r materion allweddol, wrth gwrs, yw sicrhau y dosberthir rhai o'r mathau o ddyfeisiau meddygol a defnyddiau traul y cyfeiria'r Aelod atynt yn ei chwestiwn ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys efallai y cymunedau mwy anghysbell. Porthladd Caergybi Mandy Jones AC: 2. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer Porthladd Caergybi pe bai Brexit heb fargen yn digwydd? OAQ53392 Jeremy Miles AC: Yn ei ddatganiad llafar ar 22 Ionawr, nododd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth fanylion ein cynlluniau wrth gefn ar gyfer cerbydau nwyddau trwm a fyddai'n wynebu oedi yng Nghaergybi. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi nodi mwy nag un opsiwn, ac yn trafod gyda Roadking, y cyfleuster aros ar gyfer lorïau, ac rydym yn hyderus y bydd hynny'n arwain at ganlyniad cadarnhaol. Mandy Jones AC: Diolch am eich ateb, a brysiwch wella. Mae CThEM wedi cyhoeddi cynlluniau trosiannol, a fydd ar waith am flwyddyn, lle bydd nwyddau o'r UE yn cael eu trin fel y cânt eu trin ar hyn o bryd, er mwyn lleihau trafferthion mewn sefyllfa 'dim bargen'. Pa gymorth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i'r porthladd, a sut y bydd hwnnw'n cael ei gyfleu i fusnesau? Jeremy Miles AC: Wel, cafwyd trafodaethau trylwyr iawn gyda gweithredwyr y porthladdoedd a CThEM, Llywodraeth y DU a llywodraeth leol, yn arbennig. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y peryglon ynghylch oedi yn y porthladd yng Nghaergybi. Ni waeth pa penderfyniadau a wnaiff Llywodraeth y DU, bydd Llywodraeth Iwerddon, fel rhan o'r UE, yn arfer cyfraith yr UE yn llawn ar draffig drwy borthladdoedd Iwerddon. Cafwyd trafodaethau helaeth, fel y soniais, i bennu—pe bai angen lleoli cerbydau nwyddau trwm y tu allan i'r porthladd, i nodi lleoliadau addas mewn perthynas â hynny, ac mae'r trafodaethau hynny'n mynd rhagddynt. Mark Isherwood AC: Yn ei lythyr at y Prif Weinidog ar 13 Ionawr, rhoddodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru wahoddiad i'r Prif Weinidog fynychu cyfarfodydd y pwyllgor newydd ar barodrwydd i ymadael â'r UE, a gadeirir gan Brif Weinidog y DU, pan fydd materion sy'n berthnasol i Gymru ar yr agenda. Roeddent hefyd yn dweud: 'Rwyf wedi gofyn i swyddogion rannu'r profiadau mewn perthynas â'r ymarferion diweddar yng Nghaint gyda chi, ac yn yr un modd, byddai o gymorth pe gallech rhannu eich casgliadau ynghylch gwaith yng Nghaergybi a phorthladdoedd Sir Benfro.' Pa ymateb, os o gwbl, felly, a roddwyd gan y Prif Weinidog, neu gennych chi ar ei ran, i'r cais hwnnw? Jeremy Miles AC: Mae ymateb wedi'i roi i Ysgrifennydd Gwladol Cymru i ddweud bod y rhan fwyaf o'r materion lle rhoddwyd gwahoddiad i Lywodraeth Cymru yn ymwneud â materion sydd wedi eu datganoli i Gymru. Yn amlwg, nid oes unrhyw beth yn cyfateb o ran y gwaith a wnawn yma, gan nad ydym yn ymdrin â materion a gedwir yn ôl yma, ond gwn fod y Prif Weinidog wedi nodi hefyd ei fod wedi gofyn i swyddogion rannu gwybodaeth ar brosiectau penodol gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch yn fawr iawn. Dwi wedi bod ar wefan HMRC heddiw, yn sôn am beth fyddai'n digwydd o ran tollau os ydy'r Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb. Mae o'n rhyfeddol o gymhleth. Mae o'n dechrau drwy egluro mai simplified customs procedures ydy'r rhain. Does yna ddim byd yn syml am hyn o gwbl, ac, wrth gwrs, mae yna ffordd o'i gadw fe'n syml, sef i aros o fewn yr undeb tollau a'r farchnad sengl. Ond pa gamau gweithredu bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd mewn achos o adael heb gytundeb i gydweithio efo HMRC i sicrhau bod porthladd Caergybi ddim yn dod i stop? Jeremy Miles AC: Wel, mae'r Aelod yn pwysleisio elfen bwysig iawn, hynny yw, pa bynnag faint bosib gall ei wneud mewn sefyllfa heb gytundeb, dyw'r problemau fydd yn digwydd yn y cyd-destun hwnnw ddim yn gallu cael—. Dyw'r camau ddim ar gael i sicrhau bod hynny ddim yn digwydd. Mae trafodaethau yn digwydd, fel rwy'n ei ddweud, gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig a gyda'r HMRC ynglŷn â hyn, sy'n seiliedig ar fodelu gwahanol senarios a sicrhau bod camau'n cael eu cymryd, ar y cyfan, i ddelio gorau y gallwn ni â'r sefyllfa honno. Dylwn i ddweud bod y cydweithrediad gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn y maes hwn wedi gwella dros y cyfnod diweddaraf. Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau Symudwn at gwestiynau'r llefarwyr, a daw'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma gan lefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar. Darren Millar AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, a allwch ddweud wrthym pa un a yw Llywodraeth Lafur Cymru yn dymuno cael ail refferendwm ar aelodaeth y DU o'r UE ai peidio? Jeremy Miles AC: Mae safbwynt Llywodraeth Cymru yn glir iawn mewn perthynas â hyn. Darren Millar AC: Ydy e? Jeremy Miles AC: Ydy. Efallai na allaf ei gyfleu'n uchel iawn heddiw, ond—. [Chwerthin.] Ai dyna oedd eich ail gwestiwn, rwy'n cymryd? Rydych newydd ddweud, 'Ydy e?' Ai dyna oedd eich ail gwestiwn? Pryfocio cwrtais ydoedd, o ystyried y pryfocio cwrtais a gefais i. Wel, efallai y dylech gadw'ch pryfocio cwrtais i chi'ch hun felly, ac ni fyddaf mewn penbleth a oedd yn gwestiwn ai peidio. Darren Millar AC: Nodaf eich sylwadau. Gwnsler Cyffredinol. Jeremy Miles AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ein safbwynt fel Llywodraeth— Darren Millar AC: Mae'n ddrwg gennyf; nid wyf yn clywed. Jeremy Miles AC: Nodir ein safbwynt fel Llywodraeth yn 'Diogelu Dyfodol Cymru'. Nodir y math o gytundeb yr hoffem ei weld ar gyfer perthynas ôl-Brexit yn y ddogfen honno. Os nad yw'r math hwnnw o gytundeb yn bosibl, ac na ellir cytuno arno, yna— Darren Millar AC: Mae'n ddrwg gennyf, ni allaf eich clywed. Fe geisiais eu defnyddio'n gynharach. Mae'n gweithio. Fe wnaiff y chwyddleisio llawr weithio. Darren Millar AC: Fe geisiais ei ddefnyddio'n gynharach; ni allwn glywed. A ydych am ofyn eich ail gwestiwn? Darren Millar AC: Ni allwn glywed yr ateb i'r cwestiwn cyntaf. Jeremy Miles AC: Os yw'r math hwnnw o gytundeb ar gael, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod refferendwm arall yn fodd o dorri'r anghytundeb hwnnw. Byddai'n help pe bai'r Aelodau yn y Siambr yn cadw'r sŵn i lawr. Mae'r Cwnsler Cyffredinol yn ei chael hi'n anodd, ac felly, os gallwn fod yn dawel, gallwn fynd drwy'r set nesaf o gwestiynau. Darren. Darren Millar AC: Gwrandewais ar yr hyn a ddywedoch. Nid wyf yn siŵr o hyd a ydych eisiau refferendwm ai peidio. Fe wnaethom bleidleisio yn y Siambr hon ychydig wythnosau'n ôl, ac roedd hi'n ymddangos fel pe bai Llywodraeth Cymru'n cefnogi paratoadau ar gyfer ail refferendwm, ond ni ddynododd yn bendant pa un a oedd cefnogaeth i refferendwm ai peidio. Ac rwy'n credu bod y sefyllfa'n golygu y dylech newid cyfeiriad gwefan y Blaid Lafur i Dryslyd.com oherwydd credaf fod llawer o bobl yn ei chael hi'n rhyfedd ein bod mewn sefyllfa lle mae Llywodraeth Cymru yn pleidleisio i baratoi ar gyfer ail refferendwm heb ddangos a yw'n cefnogi cael un ai peidio. Mae honno i'w gweld yn sefyllfa ryfedd iawn yn wir. Nawr, gwyddom fod arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf ac fe nododd yn y llythyr hwnnw ei fod wedi cefnu ar ei chwe phrawf nad oes modd eu cyflawni ac wedi gosod pump o alwadau newydd ar gyfer Brexit yn eu lle. Yn ei lythyr, ni soniodd am y posibilrwydd o gynnal ail refferendwm, a'r rheswm na soniodd am y posibilrwydd o gynnal ail refferendwm yw oherwydd bod arweinydd yr wrthblaid yn amharod i ofyn am un. A ydych yn derbyn ei bod yn gwbl ofer i Lywodraeth Cymru geisio paratoi am ail refferendwm o ystyried nad yw eich arweinydd eich hunain yn San Steffan yn barod i ofyn am un ac nad oes unrhyw arwydd y daw yna ail refferendwm? Jeremy Miles AC: Wel, disgrifiodd y llythyr gan arweinydd yr wrthblaid y math o gytundeb y byddai'r Blaid Lafur yn San Steffan yn barod i'w gefnogi. Ac rydym yn argymell bod y Prif Weinidog yn ymgysylltu'n llawn ag arweinydd yr wrthblaid i weld a all trafodaethau yn y Senedd arwain at gytundeb o'r fath. Mae hi wedi methu gwneud hynny hyd yma. Darren Millar AC: Y gwir amdani, wrth gwrs, yw bod arweinyddiaeth y Blaid Lafur yn San Steffan eisiau gadael yr UE. Datgelwyd lluniau yn yr ychydig ddyddiau diwethaf o Jeremy Corbyn yn ôl yn 2010, yn galw ar yr UE, ac rwy'n dyfynnu, 'i gael ei drechu', gan gyhuddo'r Undeb Ewropeaidd a'r Gronfa Ariannol Ryngwladol o fod, a dyfynnaf, yn hollol unedig ar ddatchwyddiant, darostwng yr economi a chreu diweithdra. Ac wrth gwrs, mewn llyfr sy'n cael ei gyfresoli mewn papur dydd Sul ar hyn o bryd, datgelwyd bod canghellor yr wrthblaid, John McDonnell, a Seumas Milne, cynghorydd agosaf Jeremy Corbyn, ill dau wedi pleidleisio i adael yr UE. O gofio hyn, yn hytrach na chwarae gwleidyddiaeth ynghylch ail refferendwm a pharatoi am un pan nad oes unrhyw arwydd y daw un, a dim gobaith y bydd mainc flaen Llafur yn San Steffan yn galw am un, a ydych yn derbyn mai'r hyn y dylech ei wneud yw bwrw ymlaen i gefnogi'r Prif Weinidog a chefnogi'r cytundeb a negododd a'r newidiadau sy'n mynd i fod yn angenrheidiol ar gyfer sicrhau cytundeb, gyda newidiadau priodol i'r ddarpariaeth wrth gefn? Jeremy Miles AC: Er fy mod yn eiddigeddus o allu'r Aelod i gael ei glywed ar draws y Siambr, nid wyf am gymryd unrhyw wersi oddi wrtho am chwarae gwleidyddiaeth ar y mater hwn. Mae ein safbwynt yn hollol glir, a'r ffordd orau o ddatrys hyn ac osgoi sefyllfa 'dim bargen' yw i'r Prif Weinidog gael gwared ar ei llinellau coch a cheisio sicrhau consensws ar draws y Senedd ar y mathau o egwyddorion y gellid cael cynghrair eang yn eu cylch, nid y gynghrair gul y mae hi'n ceisio ei sefydlu ar hyn o bryd. Trown at lefarydd Plaid Cymru, Adam Price. Adam Price AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn dychwelyd at y cwestiwn a oedd wedi cael ei godi gan fy nghyfaill Helen Mary Jones, ydy'r gwaith roeddech chi wedi cyfeirio ato yn ceisio adnabod y meddyginiaethau a'r nwyddau meddygol sydd mewn peryg o fynd yn brin pe bai yna Brexit heb gytundeb wedi'i gwblhau? Faint o nwyddau a meddyginiaethau ydych chi wedi eu hadnabod ar y rhestr honno? A yw'n llai na'r 31 o nwyddau sydd wedi'u hadnabod yn yr asesiad diweddaraf gan yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd? Ydych chi'n bwriadu cyhoeddi y rhestr yma, fel bod meddygon teulu a'r cyhoedd yn ymwybodol o'r risgiau posib a allai eu hwynebu nhw, fel y gallant, i'r graddau sy'n bosib, wneud cynlluniau wrth gefn? Jeremy Miles AC: Dyw'r gwaith hynny ddim wedi ei gwblhau. Mae'r gwaith yn digwydd ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraethau eraill y Deyrnas Unedig, yn cynnwys y Llywodraeth yn San Steffan. Mae'r gwaith yn mynd ar ei hyd ar hyn o bryd. Yr hyn sy'n bwysig yw ein bod ni'n sicrhau ein bod ni'n glir gyda phobl nad oes unrhyw ofyniad arnyn nhw i ymddwyn mewn ffordd wahanol ar hyn o bryd. Dydyn ni ddim yn gofyn i'r gwasanaeth iechyd ymateb mewn ffordd wahanol i feddygon teulu, i gynnig presgripsiynau hirach i bobl, nac i fferyllwyr wneud hynny chwaith. Byddwn ni'n cadw'r sefyllfa hyn o dan sylw. Adam Price AC: Gaf fi ofyn i'r Gweinidog, gydag ond ychydig wythnosau i fynd, onid yw hi'n mynd i beri consýrn i bobl bod y gwaith yna heb ei gwblhau? Hynny yw, roeddem ni'n gwybod ers tro byd fod yna bosibilrwydd o adael heb gytundeb, a nawr, gydag ychydig o wythnosau i fynd, dŷn ni'n dal ddim yn gwybod pa nwyddau a meddyginiaethau dŷn ni'n sôn amdanyn nhw. Gaf fi ofyn iddo fe hefyd ydy e'n ymwybodol o gynlluniau wrth gefn y pedwar llu heddlu yng Nghymru, i roi heddweision ar standby er mwyn ymateb i unrhyw anghydfod sifil neu drafferthion mewn porthladdoedd pe bai yna Brexit heb gytundeb? Os ydych chi wedi cael y trafodaethau hynny, allwch chi fanylu ar niferoedd y heddweision rŷn ni'n sôn amdanynt? Ydy'r trefniadau wrth gefn yma yn cynnwys gallu ymateb i geisiadau am gymorth mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Gyfunol, gan gynnwys Gogledd Iwerddon? Allwch chi ddweud hefyd a yw awdurdodau lleol, gwasanaethau brys eraill ac unrhyw gorff arall yn y sector cyhoeddus hefyd ynghlwm yn y gwaith cynllunio yma? Jeremy Miles AC: Ydyn, mae'r cyrff hynny ynghlwm yn y gwaith hynny, drwy'r local resilience forums, ac mae'r pedwar heddlu ynghlwm yn y trafodaethau yna hefyd. Fel y bydd yr Aelod yn deall, mae trefniadau sy'n bodoli ar gyfer mutual assistance yn gyffredinol, ac mae'r holl bethau yma yn digwydd o fewn fframwaithcivil contingencies, sydd wedi ei sefydlu ar gyfer pob mathau o sefyllfaoedd. Does gyda ni ddim unrhywintelligence penodol amcivil unrest ar raddfa eang, fel petai, ond mae'r trafodaethau hynny'n digwydd gyda llywodraeth leol, gyda'r heddlu, gyda chyrff y gwasanaeth iechyd a gyda'r Llywodraethau eraill yn y Deyrnas Unedig. Adam Price AC: Allaf fi jest gofyn i'r Gweinidog a ydy e'n ymwybodol, jest i gadarnhau, fod heddlu yng Nghymru yn mynd i gael eu rhoi ar standby pe baem ni'n gadael heb gytundeb, fel sydd wedi cael ei adrodd, er enghraifft, yn yr Alban ac yn Lloegr? Ym mis Chwefror y llynedd, mi gawsom ni gadarnhad bod y Llywodraeth yn edrych ar y syniad o greu parthau rhydd, neu borthladdoedd rhydd, pe baem ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd. All y Gweinidog ein diweddaru ni ynglŷn â'r gwaith hynny? Allwch chi ddweud pa borthladdoedd, neu feysydd awyr, neu ardaloedd eraill, sydd o dan ystyriaeth gennych ar hyn o bryd? Ac a ydych chi fel Llywodraeth yn bwriadu cefnogi unrhyw gais ar gyfer statws parth rhydd? Ac yn olaf, yn dilyn adroddiadau y prynhawn yma bod Ford wedi dweud wrth Brif Weinidog Prydain eu bod nhw'n bwriadu symud y gwaith cynhyrchu o'r Deyrnas Gyfunol pe bai yna Brexit heb gytundeb, a ydych chi'n gallu dweud a fydd yna unrhyw drafodaeth debyg gyda Gweinidogion Cymru, gan Ford? Ac a allwch chi ddweud hefyd a ydy Llywodraeth Cymru wedi siarad â phob un o'r 52 o brif gwmnïau—yranchor companies—yn ystod y tri mis diwethaf i ofyn iddyn nhw hefyd ynglŷn ag effaith bosib Brexit ar eu busnesau? Jeremy Miles AC: O ran y porthladdoedd rhydd, wrth gwrs, o'n safbwynt ni fel Llywodraeth, rydym ni eisiau bod mewn sefyllfa lle mae gyda ni berthynas agos â'r farchnad sengl, a bod o fewn undeb tollau. Ac mae'n anodd gweld sut y gallai porthladdoedd rhydd, parthau rhydd, fodoli o fewn y fframwaith hwnnw. Felly, mae sialens strategol gyda ni yn y cyd-destun hwnnw. O ran y sgyrsiau rhwng y Llywodraeth a'r cwmnïau, neu'r cyflogwyr, mawr, mae'r sgyrsiau yna'n digwydd yn barhaol. Roeddwn ni yn y cyfarfod gyda Ken Skates yn gynharach yr wythnos yma gyda chynrychiolwyr o'r busnesau—gyda'r sector economaidd yn gyffredinol—ac mae'r math o drafodaethau mae'n sôn amdanyn nhw yn bethau sy'n digwydd yn gyson ar hyn o bryd. Diolch. Trown at lefarydd UKIP, Neil Hamilton. Neil Hamilton AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Bydd y Cwnsler Cyffredinol wedi gweld bod Olly Robbins, prif negodwr y Llywodraeth gyda'r UE, wedi gadael y gath o'r cwd ddoe ym Mrwsel ac wedi datgelu gwir fwriadau Theresa May. Mae hi bob amser wedi dweud nad yw am ymestyn erthygl 50 na chael unrhyw oedi a fyddai'n golygu na fyddai Prydain yn gadael yr UE ar 29 Mawrth. Ond dywedodd Olly Robbins mai ei dasg, neu dasg y Llywodraeth yn Nhŷ’r Cyffredin dros yr ychydig wythnosau nesaf, yw cael ASau i gredu y bydd estyniadyn bosibl ar gyfer yr wythnos yn dechrau ar ddiwedd mis Mawrth, ond os na fyddant yn pleidleisio o blaid y cytundeb, y bydd yr estyniad yn un hir. Felly, ar y naill law, mae'r Prif Weinidog yn dweud na fydd estyniad, ond mae'r dyn sy'n gwneud y negodi o ddydd i ddydd yn dweud mai eu tacteg yw ymestyn aelodaeth Prydain o'r UE y tu hwnt i 29 Mawrth os nad yw'r ASau yn cytuno i'r cytundeb. Jeremy Miles AC: Ie, gwelais innau hynny hefyd. Ein safbwynt ni, fel Llywodraeth, yw y dylai'r Prif Weinidog wneud cais am estyniad i erthygl 50 ar y pwynt hwn. Po ddiweddaraf y gadewir hynny, y mwyaf peryglus fydd hi a'r mwyaf o heriau a allai fod i sicrhau hynny. Mae'n ymddangos i ni fod bron unrhyw senario o hyn ymlaen yn galw am ymestyn erthygl 50—ymestyn y dyddiad ymadael. Hyd yn oed pe bai cytundeb yn bosibl ar y pwynt hwn, mae'r ymarfer logistaidd, ymarferol o gael deddfwriaeth drwy'r Senedd er mwyn gwneud iddo ddigwydd eisoes yn mynd â ni y tu hwnt i'r dyddiad ymadael presennol mewn unrhyw senario realistig fwy neu lai. Neil Hamilton AC: Wel, rwy'n siŵr y byddai'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â mi fod hyn yn dod yn gwestiwn o ymddiriedaeth yn y Llywodraeth yn y pen draw, sy'n fater hollbwysig. Yma mae gennym brif negodwr y Llywodraeth ar y naill law yn cael ei glywed mewn amgylchiadau preifat pan nad oedd yn gwybod ei fod yn cael ei glywed, yn dweud un peth, a'r Prif Weinidog yn gwadu'n gyhoeddus yr hyn a ddywedodd. Pa ymagwedd yw'r fwyaf credadwy yn ei farn ef? Jeremy Miles AC: Nid wyf yn siŵr mai fy lle i yw dyfalu ynglŷn â thrafodaethau posibl o fewn Llywodraeth y DU rhwng negodwyr a'r Prif Weinidog. Y cyfan a ddywedaf yw ein bod wedi bod yn glir iawn ynghylch y math o gytundeb y credwn y dylid ei roi gerbron Tŷ'r Cyffredin, a chredaf y dylai'r Prif Weinidog weithredu'r holl gamau y gall er mwyn gwireddu hynny. Neil Hamilton AC: Wel, gan fod y cytundeb y mae Theresa May wedi'i roi ar y bwrdd yn rhoi pob dim y mae'r UE ei eisiau—y £39 biliwn, rhannu Gogledd Iwerddon oddi wrth weddill y DU, parhad o'r aliniad rheoleiddio heb lais na phleidlais yn yr UE, a heb unrhyw hawl unochrog i adael, hawl sydd gennym ar hyn o bryd o dan erthygl 50—i bob pwrpas yr hyn y mae'r Prif Weinidog yn ei gynnig yw'r hyn y mae Llywodraeth Lafur Cymru ei hun am ei weld i raddau helaeth. Felly, a yw'n cael ei galonogi gan y cadarnhad hwn o ddauwynebogrwydd y Prif Weinidog yn negodi cytundeb y mae hi'n honni ei fod yn fodd o adael yr UE gan wybod ei fod wedi'i lunio mewn gwirionedd er mwyn cadw'r DU o'i fewn am gyfnod amhenodol? Jeremy Miles AC: Wel, rwy'n sicr yn ymwybodol o'r cyfyngiadau o fod yn yr UE heb lais, ond hoffwn ddweud bod y cytundeb y mae'r Prif Weinidog wedi'i gyflwyno i Dŷ'r Cyffredin yn brin iawn o'r math o gytundeb y mae Llywodraeth Lafur Cymru, ynghyd â Phlaid Cymru, wedi'i ddisgrifio fel y math o berthynas ar ôl Brexit a ddylai fod gennym gyda'r Undeb Ewropeaidd. Nid yw, er enghraifft, yn cynnwys undeb tollau parhaol; nid yw, er enghraifft, yn cynnwys marchnad sengl mewn gwasanaethau; ac yn sicr nid yw'n cynnwys y math o bolisi ymfudo symudiad teg y teimlwn y byddai orau er lles Cymru ar ôl Brexit. Neil Hamilton AC: Wel, rwy'n anghytuno â'r Cwnsler Cyffredinol ynghylch llawer o'r hyn y mae newydd ei ddweud, oherwydd, i bob pwrpas, sail y cytundeb y llwyddodd yr UE i'w wasgu o'r Llywodraeth yw aelodaeth Prydain o'r undeb tollau ac yn wir, y farchnad sengl i bob pwrpas am fod aliniad rheoleiddio yn rhan annatod ohono, ac nid oes dyddiad terfyn. Felly, yn yr amgylchiadau hynny, nid oes unrhyw gymhelliad i'r UE wella ei gynnig oherwydd mae popeth y mae eu heisiau ar y bwrdd eisoes. Felly, pam y dylai gytuno i ganiatáu i Brydain adael yr UE maes o law pan fydd wedi ein cael ni yn union lle mae eisiau i ni fod mewn gwirionedd—o fewn yr Undeb Ewropeaidd ond heb lais a phleidlais? Ac felly, mae hynny'n golygu parhad aelodaeth Prydain o'r UE yn barhaol mewn gwirionedd—sef yn union yr hyn y mae'r Blaid Lafur am ei weld. Jeremy Miles AC: Credaf hefyd fod ceisio ail-drafody cytundeb gyda'r UE ar sail llinellau coch presennol y Prif Weinidog yn strategaeth optimistaidd tu hwnt ar ei rhan. Wrth gwrs, rydym yn gwybod bod yr UE wedi dweud pe bai'n symud oddi wrth y llinellau coch, fod yna ddewisiadau eraill ar y bwrdd, ac unwaith eto, buaswn yn annog y Prif Weinidog i fynd ar drywydd y rheini. Gweithgynhyrchwyr Ceir Huw Irranca-Davies AC: 3. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cymorth ar gyfer gweithgynhyrchwyr ceir yng Nghymru pe bai Brexit heb fargen yn digwydd? OAQ53399 Jeremy Miles AC: Rydym yn cydnabod pwysigrwydd y sector modurol yng Nghymru ac yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i ddiystyru canlyniad 'dim bargen' gan ddarparu cyngor ar gamau lliniaru. Rydym hefyd mewn cysylltiad agos iawn â Fforwm Modurol Cymru a chyrff sector ar draws y DU ar Brexit. Huw Irranca-Davies AC: Rwy'n gobeithio bod y dyfalu ar sgwrs y digwyddwyd ei chlywed mewn bwyty neu far ym Mrwsel gydag Olly Robbins yn gywir a bod y Llywodraeth wedi diystyru 'dim bargen', ond nad yw'n dweud wrthym ei bod wedi diystyru 'dim bargen', oherwydd dywedodd Prif Weithredwr y Gymdeithas Gweithgynhyrchwyr a MasnachwyrModuron, yn ei eiriau ef, y byddai 'dim bargen' yn drychinebus—bydd ffatrïoeddyn cau; bydd swyddi'n cael eu colli. Heddiw—y bore yma—mae Ford wedi defnyddio'r un gair, 'trychinebus' i ddisgrifio effaith 'dim bargen' ar y DU ac mae'n dweud y bydd yn gwneud beth bynnag sy'n angenrheidiol i ddiogelu ei fuddiannau yn Ewrop. Mae wedi gwrthod gwneud unrhyw sylwadau ar adroddiad ei fod yn bwriadu symud ei holl swyddi—13,000 o swyddi yn y DU, gan gynnwys yn Ford Pen-y-bont ar Ogwr—allan o'r DU mewn sefyllfa 'dim bargen'. A gaf fi ofyn i'r Gweinidog pa ddealltwriaeth a gafodd gan y Prif Weinidog a Gweinidogion y DU ynghylch maint y gefnogaeth y mae Llywodraeth y DU yn mynd i'w roi i'n cynhyrchwyr ceir mewn sefyllfa 'dim bargen' i'w perswadio i osgoi sefyllfa lle bydd ffatrïoeddyn cau, swyddi'n cael eu colli, a theuluoedd yn gweld yr effaith ar draws y DU, gan gynnwys yn fy etholaeth i yn Ogwr? Jeremy Miles AC: Diolch i'r Aelod am godi'r cwestiwn hwn yn y Siambr. Credaf ei fod yn mynd i wraidd yr her sy'n ein hwynebu o ran y math o gytundeb a'r math o negodiadau y mae Prif Weinidog y DU wedi bod yn mynd ar eu trywydd, ac yn y Senedd. Mae'n methu'n gyfan gwbl ag ystyried y math o risgiau i'n heconomi a amlinellwyd gan yr Aelod yn ei gwestiwn. Fel Llywodraeth, rydym wedi cymryd camau i gefnogi'r sector yma yng Nghymru, ond yng nghyd-destun Brexit 'dim bargen', gallai'r rhwystrau tariff a'r rhwystrau di-dariff a ddeuai yn nghyd-destun hynny fod yn drychinebus i rannau sylweddol o'r sector, ac os caf ddweud hefyd, y gadwyn gyflenwi, sy'n ymestyn ar draws Cymru—nid wyf yn credu ein bod wedi sylweddoli'n iawn cymaint o effaith a fyddai ar y cadwyni cyflenwi hefyd. Suzy Davies AC: Yn amlwg, rydym yn dal i aros yn eiddgar i glywed a fydd Ineos yn dod â'u cerbyd newydd i Ben-y-bont ar Ogwr yn hytrach na Phortiwgal. Ond testun pryder oedd clywed y diwrnod o'r blaen, hyd yn oed os yw'r gwaith hwn yn dod i'r DU, na fydd yn ddigon o bosibl i achub y ffatri Ford; am ei bod yn ffatri Ford, wrth gwrs, mae penderfyniad Arlywydd yr Unol Daleithiau hefyd yn effeithio arni a'r hyn y mae ef yn ei wneud yn America i gefnogi'r diwydiant yn y fan honno, sy'n effeithio ar botensial dur a gweithgynhyrchu ceir yma. A allwch ddweud wrthym pa waith a wnaethoch gyda Gweinidog yr economi a'r Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol ar nodi pa gyfleoedd eraill a fydd ar gael ar gyfer gweithgynhyrchwyr ceir yng Nghymru, ond yn benodol iawn, beth y mae Cymru yn ei wneud i wthio yr hyn a ddylai fod yn bwynt gwerthu unigryw i ni o ran arloesedd dur o fewn dinas-ranbarth bae Abertawe, er enghraifft; ein hardaloedd menter, gydag un ohonynt yn ymroddedig i'r sector modurol; ac yn wir, hyrwyddo'r hyn rydym yn dda am ei wneud gyda gwaith ymchwil modurol? Oherwydd dyna sy'n mynd i'n gwneud yn ddeniadol i bartneriaid byd-eang eraill maes o law, er gwaethaf y bygythiadau sy'n ein hwynebu yn awr. Jeremy Miles AC: Cytunaf â disgrifiad yr Aelod o'r bygythiad. Gwn fod hon yn flaenoriaeth allweddol i Ysgrifennydd yr economi a'r Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol. Mae'r buddsoddiad a wnaed gan y Llywodraeth, er enghraifft, yn uwchsgilio'r gweithlu ymhellach yn rhai o'r cwmnïau hyn yn ddimensiwn sylweddol i ddenu busnesau i Gymru yn y sectorau hyn, a hefyd i alluogi'r cwmnïau hyn ymhellach i gystadlu o fewn eu rhwydweithiau rhyngwladol eu hunain am adnoddau, sy'n ddimensiwn allweddol i rai o'r problemau a wynebwn yn hyn o beth. O ran y strategaeth sy'n edrych tuag allan yng Nghymru yn y dyfodol a nodi cyfleoedd ar gyfer buddsoddi pellach yn y sectorau hyn, gwn fod hynny'n brif flaenoriaeth i'r Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol, ond rhaid imi ddweud, os ydym yn wynebu'r math o berthynas y mae'n ymddangos bod y Prif Weinidog yn barod i'w hystyried gyda'r farchnad sengl yn y pen draw, ni fydd hynny'n cryfhau llaw Llywodraeth Cymru nac unrhyw un o'r cwmnïau hyn wrth ymladd am adnoddau ac ymladd am gyfleoedd ar gyfer eu gweithluoedd. Cydweithrediad â Gwledydd eraill ar ôl Brexit Leanne Wood AC: 4. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol yng nghyswllt cydweithredu â gwledydd eraill ar ôl Brexit? OAQ53418 Jeremy Miles AC: Rwyf mewn cysylltiad rheolaidd gyda Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol er mwyn sicrhau bod fy ngwaith ar bwyso am y Brexit lleiaf niweidiol yn economaidd yn cyd-fynd yn agos â'i gwaith ar ddatblygu ein hymgysylltiad rhyngwladol er mwyn cefnogi ffyniant Cymru yn y dyfodol. Leanne Wood AC: Roedd fy nghyfaill a fy nghyd-Aelod y gwelir ei golli'n fawr, Steffan Lewis, yn frwd ei gefnogaeth i gysylltiadau agosach rhwng y gwledydd Celtaidd. Nawr, roedd gan Steffan weledigaeth y byddai mwy o gydweithio gydag Iwerddon a'r Alban yn fuddiol i Gymru mewn nifer o wahanol ffyrdd, nid yn lleiaf yn economaidd. Yn y tirlun gwleidyddol ôl-Brexit sy'n newid bron bob dydd, a ydych yn gweld rhinwedd mewn datblygu cynghrair Geltaidd o'r fath? Ac a yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried, er enghraifft, y posibilrwydd o gynnal trafodaethau ar weithredu elfen 3 o gytundeb Dydd Gwener y Groglith, a fyddai'n caniatáu i aelodau o'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig ddatblygu trefniadau dwyochrog neu amlochrog rhyngddynt? Byddai hyn yn caniatáu inni sefydlu mecanweithiau ar gyfer galluogi ymgynghori, cydweithredu a gwneud penderfyniadau ar y cyd ar faterion o ddiddordeb cyffredin. Jeremy Miles AC: Mae'r Aelod yn cyfeirio at y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, sy'n fforwm cwbl hanfodol yn hyn o beth, a mynychodd y Prif Weinidog blaenorol a minnau gyfarfod ohono ar Ynys Manaw y llynedd a gwelsom yn uniongyrchol pa mor bwysig yw'r fforwm, a gall barhau i fod felly wrth atgyfnerthu cysylltiadau ar draws y DU, ie, yng nghyd-destun Brexit, ond hefyd o ran cysylltiadau yn y dyfodol yn fwy cyffredinol. Fel y dywedais yn y Siambr o'r blaen—ac rwyf am fanteisio ar y cyfle i'w ddweud eto—rydym yn ystyried y cysylltiadau hyn yn bwysig iawn, ac yn arbennig yng nghyd-destun y berthynas Wyddelig a'r berthynas arfordirol, os caf ei roi felly, rhwng gorllewin Cymru ac arfordir de-ddwyrain Iwerddon. Wrth gwrs, mae'r berthynas honno wedi elwa'n sylweddol o gyllid yr Undeb Ewropeaidd drwy gynlluniau cydweithredu Ewropeaidd ac ati. Rydym wedi ystyried y pethau hynny'n hynod o werthfawr, fel y gwn fod Llywodraeth Iwerddon wedi ei wneud. Mae angen inni edrych ar atgyfnerthu'r amrywiaeth o gysylltiadau yn ein dyfodol, rwy'n credu, ymhlith y gwledydd Celtaidd, ond hefyd â gwledydd is-wladwriaethol eraill ledled gweddill Ewrop. Mae gennym femoranda cyd-ddealltwriaeth neu gynlluniau gweithredu eisoes ar waith â Llydaw a Gwlad y Basg, rydym ar fin cychwyn ar set debyg o drafodaethau gyda'r Galisiaid, ac rydym wedi datblygu memorandwm cyd-ddealltwriaeth er enghraifft o gwmpas y sector awyrofod, yn enwedig gyda Quebec— Leanne Wood AC: Catalaniaid? Jeremy Miles AC: Mae'n ddrwg gennyf? Leanne Wood AC: Catalaniaid? Jeremy Miles AC: Felly, gallai nodi'r rhain fel materion yr ydym yn eu hystyried fel materion blaenoriaethol a'r cysylltiadaurhyngom fod ar lefel is-wladwriaethol hefyd, yn hytrach nag ar lefel Llywodraethau a Llywodraethau gwladol yn unig, ar draws Ewrop a thu hwnt. Suzy Davies AC: Wrth gwrs, nid cwestiwn am gysylltiadau rhyngwladol yn unig yw hwn, mae'n ymwneud â'r Gymraeg hefyd, ac nid ydym yn unigryw na'r unig wlad i fod â mwy nag un iaith frodorol. A allwch ddweud wrthyf a wnaethpwyd unrhyw asesiadau o effeithiau Brexit ar sut yr ymgysylltwn â rhaglenni yn yr UE ar hyn o bryd ar gefnogi ieithoedd lleiafrifol o fewn amryw o wledydd yno, a beth fydd yr effaith ar gymunedau arbennig yma yng Nghymru? Jeremy Miles AC: Gwn fod gwaith yn mynd rhagddo mewn perthynas â hynny. Fe ysgrifennaf at yr Aelod, os caf, mewn perthynas â hynny.FootnoteLink Gwybodaeth ychwanegol at y Cyfarfod Llawn (Saesneg yn unig) 'Brexit, masnach a thollau: goblygiadau i Gymru' David Melding AC: 5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r dystiolaeth a gafwyd hyd yma gan Bwyllgor Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin yn ystod ei ymchwiliad i 'Brexit, masnach a thollau: goblygiadau i Gymru'? OAQ53394 Jeremy Miles AC: Rydym yn croesawu'r dystiolaeth a ddarparwyd hyd yma, sy'n tynnu sylw at y risgiau i economi Cymru o unrhyw wrthdaro mwy mewn masnach gyda'r UE. Darparodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, dystiolaeth ysgrifenedig ym mis Hydref 2018, ac fe wnawn asesiad llawnach pan fydd yr ymchwiliad yn cyflwyno ei adroddiad. David Melding AC: Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Tybed a ddarllenoch chi'r dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Brifysgol Caeredin, yr Institute for Government a Phrifysgol Sussex, lle mynegodd y tystion hynny amheuon sylweddol ynglŷn ag unrhyw bŵer i'r sefydliadau datganoledig gael feto dros gytundebau masnach, a rhybuddiodd un o'r tystion yn bendant fod honno'n broses a allai fod yn beryglus, ac a oedd yn debygol o arwain at ostyngiad mawr yn nifer y cytundebau masnachol posibl a fyddai'n ddichonadwy. Nawr, yn amlwg mae angen ymgynghori effeithiol arnom—ymgynghori dwfn—gyda mecanwaith trylwyr, os yw sefydliad datganoledig yn pryderu ynghylch goblygiadau cytundeb masnach, fod hynny'n cael ei godi yn y Senedd hefyd, a cheir llawer o brosesau a fyddai'n caniatáu hynny. Byddai hynny'n mynd â ni ar drywydd tebyg i'r mecanweithiau a ddefnyddir, er enghraifft, yn Canada ac Awstralia. Ond a allwch ddweud wrthyf pa un a ydych yn diystyru'n bendant yr arf niwclear hwn o gael pŵer feto wedi'i sefydlu mewn sefydliadau datganoledig dros gytundebau masnachu? Jeremy Miles AC: Mae cwestiwn yr Aelod yn mynd i wraidd y modd y mae'r setliad datganoli a'r model cadw pwerau yn rhyngweithio â'i gilydd. Yn amlwg, cedwir cysylltiadau rhyngwladol yn ôl, ond er mwyn cyflawni rhai o'r ymrwymiadau a wnaed yn y trafodaethau a'r cytundebau hynny, bydd hynny weithiau yn croestorri â chymwyseddau datganoledig mewn ystod eang o feysydd posibl. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn cyrraedd setliad a dealltwriaeth mewn perthynas â'r materion hyn sy'n cydnabod pŵer Llywodraeth y DU i negodi'r cytundebau hyn ond hefyd i barchu'r setliad datganoli a rhoi lle i'r Cynulliad hwn a Llywodraeth Cymru yn y trafodaethau hynny. Fel y gŵyr, mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 eisoes yn darparu y gall Llywodraeth y DU gyfeirio newidiadau yn y gyfraith i bob pwrpas i gydymffurfio â negodiadau, i gydymffurfio â chytundebau a luniwyd yn rhyngwladol. Ein barn ni fel Llywodraeth yw ei bod yn hanfodol—o ystyried mai felly y mae—fod safbwyntiau Cymru, safbwyntiau'r Cynulliad hwn a safbwyntiau Llywodraeth Cymru yn cael sylw priodol a'u hystyried yn llawn mewn perthynas â materion datganoledig, nid yn unig ar yr unfed awr ar ddeg, os caf ei roi felly, ond drwy gydol y broses negodi. Dyna'r math o ymgysylltu dwfn a geisiwn, yn hytrach na'r feto y mae'n cyfeirio ato yn ei gwestiwn. Bydd yn gwybod, wrth gwrs, ein bod wedi galw am gyd-bwyllgor y Gweinidogion ar fasnach ryngwladol, i'w gwneud hi'n bosibl rhoi system ffurfiol ar waith i gytuno ar safbwyntiau negodi ac i ddatrys y math o densiynau a fydd yn codi'n anochel yn y maes hwn. Rwy'n falch fod Gweinidogion Llywodraeth y DU wedi dynodi eu bwriad yn Nhŷ'r Arglwyddi yn ddiweddar i greu'n union y math hwnnw o fforwm. Yn ogystal â hynny, mae concordat yn cael ei ddatblygu a fydd yn manylu'n benodol ar sut y bydd yr Adran Masnach Rhyngwladol a'r gweinyddiaethau datganoledig yn cydweithio ar gyfer cytundebau masnach y DU yn y dyfodol â thrydydd gwledydd ar ôl gadael yr UE, os digwydd hynny. David Rees AC: A gaf fi ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw? Mae'n bwysig iawn inni ymdrin â mater masnach. Fel y nododd David Melding, mae'r dystiolaeth gan rai yn dynodi na ddylai fod feto, ond wrth wrando ar y newyddion sy'n dod o'r UDA heddiw—fod cynhyrchwyr dur yr UDA yn annog Donald Trump i roi gwaharddiad ar ddur o'r DU mewn unrhyw gytundeb masnach a wnawn gyda hwy, cam a fyddai'n cael effaith ddinistriol ar y diwydiant dur yma yng Nghymru—gallai cytundeb masnach a negodwyd gan Lundain heb fod gennym ran ynddo arwain at oblygiadau niweidiol i economi Cymru, a bydd yn rhaid inni godi'r darnau o ganlyniad i hynny. A ydych felly'n cytuno ei bod hi'n bwysig y dylai fod gan y cyd-grŵp gweinidogol hwn y siaradwch amdano ar fasnach ryngwladol ddigon o ddannedd i chi gael eich gwrando ac nid cael eich rhoi mewn cornel a'u bod yn meddwl y gallant gau'r drws arnoch? Mae'n bwysig i lais Cymru gael ei glywed a'u bod yn ymateb iddo er mwyn sicrhau nad yw economi Cymru, diwydiannau Cymru, dinasyddion Cymru yn dioddef o ganlyniad i gytundeb y DU. Jeremy Miles AC: Mae'r Aelod yn iawn i'w ddisgrifio yn y ffordd honno. Mae hyn yn ymwneud â mwy na rhannu gwybodaeth ac ati. Yr hyn rydym ei eisiau yw corff sy'n ei gwneud hi'n bosibl ystyried y materion hyn yn llawn a'r dimensiynau penodol sy'n berthnasol yng Nghymru i gael eu cynnwys yn rhan lawn o'r gyfres honno o drafodaethau. Mae'r mathau o faterion a nododd yn ei gwestiynau yn mynd at wraidd y mathau o bethau y mae angen inni allu mynd i'r afael â hwy drwy'r mecanwaith hwnnw. Symud Nwyddau i Gymru ar ôl Brexit Huw Irranca-Davies AC: 6. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal o ran hwyluso symud nwyddau i Gymru'n effeithlon ar ôl Brexit? OAQ53400 Jeremy Miles AC: Soniais am effeithiau posibl oedi i symud nwyddau mewn trafodaethau gyda Gweinidogion y DU. Mae hwn yn amlwg yn faes pwysig ac mae trafodaethau yn ei gylch yn digwydd yn fewnol hefyd a chyda rhanddeiliaid yma yng Nghymru. Huw Irranca-Davies AC: Diolch i'r Gweinidog am yr ymateb hwnnw. Rydym yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi canolbwyntio'n briodol ar liniaru effeithiau posibl ym mhorthladdoedd Cymru, ond onid yw'n wir fod Cymru, fel gweddill y DU, yn dibynnu'n llwyr mewn gwirionedd ar lwybr Calais-Dover ar gyfer meddyginiaethau, bwyd a chyflenwadau eraill? Nawr, rwy'n petruso cyn gofyn y cwestiwn hwn. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'i aelod cyfatebol yn y DU, Chris Grayling? Gallwch ddeall pam rwy'n petruso i wneud hyn, ar ôl canslo contract Seaborne am £14 miliwn y diwrnod o'r blaen er gwaethaf sicrwydd fis cyn hynny fod popeth yn berffaith iawn. Ond mae'n hanfodol ein bod yn cael y rheini, oherwydd mae meddyginiaethau, cyflenwadau bwyd, yr holl hanfodion hynny, yn hanfodol i Gymru, fel i weddill y DU. Mae'n ymwneud â mwy na phorthladdoedd Cymru. A yw paratoadau Llywodraeth y DU yn rhoi sicrwydd iddo? Jeremy Miles AC: Yn amlwg, fel y mae wedi'i ddynodi yn ei gwestiwn, er bod ein prif ffocws ar borthladdoedd yma yng Nghymru, bydd bwyd a meddyginiaethau a deunyddiau a nwyddau eraill sy'n dod i Gymru—wyddoch chi, mae'r porthladd hwnnw, o bosibl, hyd yn oed yn bwysicach o ran maint y traffig a faint o nwyddau sy'n dod drwyddo. Yn sicr, yn enwedig mewn senario 'dim bargen', bydd tarfu difrifol yn Dover ac ar lwybr Dover-Calais. Mae hynny'n gwbl glir, rwy'n credu. Yn amlwg, mae'n crybwyll canslo contract Seaborne, ac mae hynny'n peri pryder mawr yng nghyd-destun tawelu meddyliau. Gwyddom fod camau'n cael eu cymryd. Maent yn amlwg yn cael eu harwain gan Lywodraeth y DU. Rydym yn y broses o geisio sicrwydd mewn perthynas â'r camau sy'n cael eu cymryd, oherwydd, yn amlwg, er nad yw'n fater datganoledig, ac er nad yw yng Nghymru, mae gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb clir iawn mewn sicrhau'r tawelwch meddwl hwnnw ar ran pobl Cymru. Russell George AC: A gaf fi ofyn i'r Gweinidog pa drafodaethau a gafodd gyda Chomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â symud nwyddau a Brexit? Jeremy Miles AC: Nid wyf wedi cael y sgyrsiau hynny fy hun, ond byddaf yn sicrhau fy mod yn ysgrifennu at yr Aelod gyda gwybodaeth ddilynol mewn perthynas â'r cwestiwn hwnnw'n benodol.FootnoteLink Gwybodaeth ychwanegol at y Cyfarfod Llawn (Saesneg yn unig) Erthygl 50 Jenny Rathbone AC: 7. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael am y brys o ymestyn y dyddiad cau ar gyfer Erthygl 50 y tu hwnt i ddiwedd mis Mawrth 2019? OAQ53410 Jeremy Miles AC: Rwyf wedi cyfleu barn Llywodraeth Cymru yn glir i Lywodraeth y DU, a gwneuthum hynny'n fwyaf diweddar yng nghyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar drafodaethau'r UE yr wythnos diwethaf. Mae'n rhaid i Lywodraeth y DU geisio estyniad i erthygl 50 ar unwaith er mwyn rhoi diwedd ar y bygythiad y bydd y DU yn gadael yr UE heb gytundeb ymhen saith wythnos. Jenny Rathbone AC: Ni fyddai unrhyw Lywodraeth gyfrifol yn gadael yr UE heb gytundeb gyda'n prif bartneriaid masnachu. Dyna farn un o ohebyddion y BBC, a swydd gohebydd yw bod yn ddiduedd, felly credaf fod honno'n farn sefydledig. Y cwestiwn sy'n codi, fodd bynnag, yw: a oes digon o amser i gyflwyno'r ddeddfwriaeth sydd ei hangen i ymestyn erthygl 50 ar y cam hwn pe bai Mrs May, drwy ryw ryfedd wyrth, yn gallu darparu cytundeb a fyddai'n sicrhau cymeradwyaeth y mwyafrif yn Nhŷ’r Cyffredin? Os nad oes digon o amser, beth fydd y goblygiadau i Gymru os yw'n mynd i mewn i ryw fath o limbo dystopaidd mewn perthynas â materion tra phwysig fel rheoleiddio cynhyrchion bwyd, nwyddau trydanol, a'r amgylchedd yn wir? Jeremy Miles AC: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol hwnnw. Cyfeiriais at adroddiad gan yr Institute for Government ychydig wythnosau'n ôl sy'n disgrifio'r her o weithredu'r Bil sydd gerbron Tŷ'r Cyffredin ar hyn o bryd os na wneir cais i ymestyn proses erthygl 50. Beth bynnag yw eich barn ar Brexit, mae'r heriau ymarferol sy'n deillio o wneud hynny yn gwbl glir, ac rwy'n ailadrodd yr alwad y dylai'r Prif Weinidog geisio estyniad cyn gynted â phosibl. O ran y pwynt ymarferol y mae'r Aelod yn ei godi mewn perthynas â'r modd y byddai methu cael y maen i'r wal gyda'r ddeddfwriaeth sylfaenol honno yn y Senedd yn effeithio ar Gymru, hoffwn ddweud yn gyntaf mai pwrpas y rhaglen o ddiffygion deddfwriaethol y buom yn ymgymryd â hi ers misoedd lawer ar y pwynt hwn yw sicrhau bod y llyfr statud yn parhau i fod yn gyson ar y diwrnod cyntaf ar ôl Brexit. Felly, rydym wedi bod yn cynllunio ar sail 'dim bargen' o'r cychwyn cyntaf mewn perthynas â hynny. Felly, mae'r Aelod wedi codi cwestiynau ynglŷn â safonau bwyd gyda mi yn y gorffennol, fel y mae newydd ei wneud yn awr—cyw iâr wedi'i glorineiddio a phethau tebyg. Pwrpas y rhaglen offerynnau statudol sydd gennym ar waith yw sicrhau bod cyfraith yr UE yn berthnasol yng Nghymru, o'r diwrnod cyntaf y byddwn yn ymadael â'r DU, yn union fel y diwrnod cynt, i bob pwrpas, ond ei bod wedi'i hymgorffori yng nghyfraith y Deyrnas Unedig. Felly, o'r safbwynt hwnnw, dyna fu'r amcan o'r cychwyn, ond os na fydd yr holl ddeddfwriaeth honno wedi'i phasio erbyn i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd, bydd angen rhaglen offerynnau statudol chwim i gywiro rhai o'r problemau hynny mewn perthynas â materion eraill. Ond y math o bethau y mae'n holi yn eu cylch yn ei chwestiwn yw'r math o bethau y mae'r rhaglen o ddiffygion deddfwriaethol wedi bod yn ceisio mynd i'r afael â hwy dros yr ychydig fisoedd diwethaf. Mark Reckless AC: Onid yw hefyd yn wir fod y Gweinidog eisiau ymestyn erthygl 50 oherwydd ei fod yn ei ystyried yn gam tuag at flocio Brexit? Jeremy Miles AC: Rwy'n petruso cyn dweud hyn, ond—[Torri ar draws.] A gawn ni wrando ar ateb y Gweinidog oherwydd mae'n ei chael hi'n anodd ar y gorau? Felly, os gallwn fod yn dawel, os gwelwch yn dda. Jeremy Miles AC: Rwy'n petruso cyn dweud hyn: ni chlywais yr hyn a ofynnodd yr Aelod. Felly, a allwch chi ailadrodd y cwestiwn? Mark Reckless AC: Rwyf am ofyn eto a cheisio clywed ei ateb ef hefyd. Gofynnais i'r Gweinidog: onid yw hefyd yn wir ei fod eisiau ymestyn erthygl 50 mewn ymgais i flocio Brexit? Jeremy Miles AC: Na, nid yw hynny'n wir. Ni allaf fod yn gliriach nag y bûm heddiw. Rydym wedi bod yn gwbl bendant ynghylch y math o berthynas gyda'r Undeb Ewropeaidd y mae Llywodraeth Cymru yn credu y byddai o fudd i Gymru ar ôl Brexit. Cefais wahoddiad gan Darren Millar i fabwysiadu'r safbwynt bod refferendwm yn well na hynny, ac rwy'n gobeithio fy mod yn glir bryd hynny. Pe gallai'r Senedd sicrhau cytundeb sy'n adlewyrchu'r egwyddorion rydym wedi'u nodi yn 'Diogelu Dyfodol Cymru', a'r egwyddorion a amlinellwyd yn llythyr arweinydd yr wrthblaid yn gynharach yr wythnos hon, dyna'r math o berthynas y gallem ei chefnogi yn dilyn Brexit. Os nad yw hynny'n bosibl, rydym yn llwyr gydnabod mai'r ffordd o dorri'r anghytundeb hwnnw yw cynnal refferendwm arall. Mae'n safbwynt hollol bragmatig. Y Cytundeb Rhynglywodraethol Llyr Gruffydd AC: 8. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effeithiolrwydd y cytundeb rhyng-lywodraethol ar Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018? OAQ53401 Jeremy Miles AC: Mae’r cytundeb rhynglywodraethol wedi gwneud Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 yn fwy effeithiol o ran parchu datganoli. Yn bwysig, ni chafwyd hyd yma unrhyw reoliadau cymal 12 i gyfyngu ar gymhwysedd datganoledig. O ran cywiro deddfwriaeth, mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gweithio o fewn ysbryd y cytundeb. Llyr Gruffydd AC: Wel, dwi ddim yn siŵr iawn beth yw'ch diffiniad chi o weithio mewn ysbryd cytundeb, oherwydd dwi wedi eistedd mewn pwyllgor ar ôl pwyllgor yn gwrando ar Weinidog yr amgylchedd, er enghraifft, yn cwyno bod yna ddim cydweithredu wedi bod ar ddatblygu pethau fel Deddf pysgodfeydd y Deyrnas Unedig a Deddf amaeth y Deyrnas Unedig. Mewn tystiolaeth ysgrifenedig—paragraff ar ôl paragraff yn dweud pethau fel: Llyr Gruffydd AC: cafodd y darpariaethau sy'n ymwneud ag Atodlen 1 eu drafftio gan y cwnsler seneddol yn dilyn cyfarwyddiadau gan Lywodraeth y DU. Ni ymgynghorwyd â Gweinidogion Cymru ynglŷn â'r cyfarwyddiadau, Llyr Gruffydd AC: ac wedyn yn mynd ymlaen i gwyno ynglŷn â'r hyn yr oedd y ddeddfwriaeth yn disgwyl ohonon ni yma yng Nghymru. Felly, onid yw hi'n amlwg bod profiadau'r Llywodraeth yma, a Gweinidogion y Llywodraeth yma, yn enwedig yng nghyd-destun y ddau Fil dwi wedi cyfeirio atyn nhw, yn dangos nad oes gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig awydd gwirioneddol i gydweithio â'r Llywodraethau datganoledig i ddatblygu deddfwriaeth yn y cyd-destun yma, a bod y cytundeb, i bob pwrpas, yn gwbl aneffeithiol? Jeremy Miles AC: Wel, pan gytunwyd ar y cytundeb yn y lle cyntaf, roedd llawer o feirniadaeth yn y Siambr hon fod y Llywodraeth wedi cytuno, mewn egwyddor, i sicrhau'r math yma o gytundeb. Ond mae'r cytundeb wedi llwyddo. Dwi ddim yn amau am eiliad fod enghreifftiau wedi bod lle byddwn i wedi mo'yn mwy o gydweithrediad. Mae hynny, yn amlwg, yn wir. Mae hynny wedi gwella dros y cyfnod diweddaraf, ond roedd awgrym y byddai pwerau'n cael eu cadw nôl. Dyw hynny ddim wedi digwydd. Roedd awgrym y byddai pwerau'n cael eu rhewi. Dyw hynny ddim wedi digwydd. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cadarnhau eto, am yr eilwaith, nad yw hynny wedi digwydd. Felly, bwriad y Llywodraeth oedd sicrhau bod gyda ni fath o gytundeb a oedd yn ymarferol ac a oedd yn caniatáu inni wneud gwaith ar gyfer cytuno deddfwriaeth, cytuno fframweithiau ac ati, lle'r oeddent yn delio â materion wedi'u datganoli. Mae'r cytundeb wedi llwyddo i wneud hynny. Dwi ddim yn amau am eiliad fod enghreifftiau wedi bod lle dŷn ni ddim wedi cael, mewn deddfwriaeth ac ati, bethau y byddwn i'n eu disgrifio'n ddelfrydol. Wrth gwrs dyw hynny ddim wedi digwydd. Ond mae'r cytundeb rhynglywodraethol hwnnw, a oedd yng nghwestiwn yr Aelod, wedi llwyddo i sicrhau bod pwerau yn cael eu cadw yma, a'n bod ni'n gofyn i'r Llywodraeth yn San Steffan wneud newidiadau dim ond pan mae angen gwneud hynny, pan nad oes gwahaniaeth polisi rhyngom ni yma a'r Llywodraeth yn San Steffan. A gaf i ddweud hefyd: mae mwy nag un enghraifft lle'r ŷm ni wedi llwyddo, fel Llywodraeth, i sicrhau ein bod yn cael mwy o drafodaethau? A mwy o enghreifftiau lle mae ein cytundeb ni'n cael ei holi, lle nad yw'r materion wedi cael eu datganoli, ond lle maen nhw'n effeithio ar Gymru mewn ffyrdd eraill—felly, enghreifftiau lle mae'r Llywodraethau wedi mynd ymhellach na'r cytundeb rhynglywodraethol. Diolch yn fawr iawn, Gwnsler Cyffredinol. 3. Cwestiynau Amserol Eitem 3 yw'r cwestiynau amserol, ac mae gennym un sydd i'w ateb gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. Jenny Rathbone. Llety ar gyfer Pobl sy'n Gadael Carchar Caerdydd Jenny Rathbone AC: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth llety ar gyfer pobl sy'n gadael carchar Caerdydd yng ngoleuni'r adroddiad diweddaraf gan y Bwrdd Monitro Annibynnol? 278 Julie James AC: Ie, rwy'n cydnabod bod problemau mewn perthynas â darparu gwasanaethau adsefydlu effeithiol ar gyfer pobl sy'n gadael Carchar EM Caerdydd. Mae adnoddau o fewn y Cwmni Adsefydlu Cymunedol wedi bod yn fater allweddol. Rwyf eisiau gweld gwelliant i safonau a chapasiti'r gwasanaethau adsefydlu presennol, yn arbennig y Cwmni Adsefydlu Cymunedol. Fodd bynnag, y Weinyddiaeth Gyfiawnder sy'n gyfrifol am hyn. Rwy'n cydnabod bod gan awdurdodau lleol rôl i'w chwarae hefyd, ac rydym yn blaenoriaethu'r maes hwn gydag adnoddau ychwanegol o'r grant atal digartrefedd. Jenny Rathbone AC: Rwy'n sylweddoli nad yw hwn yn fater sydd wedi'i ddatganoli ar hyn o bryd, ond serch hynny, dylem oll fod yn bryderus nad oedd ond 13 yn unig o'r 23 dyn a ryddhawyd ar ddiwrnod oer penodol â lle pendant i gysgu'r noson honno, ac roedd tystiolaeth glir ganddynt fod rhai ohonynt yn bwriadu aildroseddu er mwyn mynd yn ôl i'r carchar, a'r cynhesrwydd a'r bwyd a ddarperir yno. Nawr, wrth gwrs, mae pawb ohonom yn ymwybodol fod Deddf Tai (Cymru) 2014 wedi tynnu carcharorion oddi ar y rhestr o bobl agored i niwed sydd angen eu hailgartrefu'n awtomatig. Serch hynny, dadl y pwyllgor ar y pryd oedd bod yn rhaid ystyried unrhyw un nad oes ganddynt gartref i fynd iddo fel person agored i niwed. Gwn fod yr Ymddiriedolaeth Cyngor a Gofal Carchardai, sef sefydliad gwirfoddol sy'n rheoli'r caffi ar gyfer teuluoedd yn y carchar, yn mynd ati i recriwtio gwirfoddolwyr i gyfarfod â phobl sy'n gadael y carchar a mynd â hwy i Ffordd Dumballs, lle bydd y tîm dewisiadau tai yn cyfarfod â hwy, yn ogystal â mynd i'r Adran Gwaith a Phensiynau i gofrestru ac i weld eu swyddog prawf. Ond nid yw'n glir i mi—ac nid wyf yn gwybod a all y Gweinidog roi sicrwydd i ni—a yw pethau wedi gwella ers i'r adroddiad hwn gael ei orffen, oherwydd nid yw ond yn ymwneud â'r cyfnod hyd at ddiwedd mis Awst, neu a oes dynion yn dal i gael eu rhyddhau heb fod y gwasanaeth carchardai wedi gallu nodi'n union lle mae angen iddynt fynd er mwyn cael y swm lleiaf o arian, yn ogystal â tho uwch eu pennau am y noson honno. Julie James AC: Ie, mae'r Aelod wedi nodi'r holl faterion yr ydym yn dal i fod yn bryderus iawn yn eu cylch. Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cydnabod ers amser nad oes gan y Cwmnïau Adsefydlu Cymunedol ddigon o adnoddau, ac maent bellach wedi cynyddu'r adnoddau sydd ar gael iddynt, ac mae hynny'n dilyn y cyfnod amser ar gyfer yr adroddiad. Nid wyf yn siŵr fy mod mewn sefyllfa i ddweud y bydd hynny wedi datrys y mater, ond rydym yn gwybod bod mwy o adnoddau ar gael iddynt ers y cyfnod o amser a gafodd sylw yn yr adroddiad. Hefyd rydym wedi cynyddu capasiti gwasanaeth Prison Link Cymru, sy'n cynyddu'r capasiti mewn awdurdodau lleol ar gyfer swyddogion adsefydlu carcharorion, ac yn fuan iawn byddwn yn cyd-ariannu swyddogion tai ym mhob uned gyflawni leol yn y gwasanaeth prawf ei hun. Mae un o'r rhain newydd ddigwydd yn llythrennol ac mae'r llall ar fin digwydd, felly nod y ddau beth yw mynd i'r afael â llawer o'r materion a grybwyllwyd gan Jenny Rathbone yn ei chyfraniad. Rydym yn gwybod bod gan bobl sy'n dod allan o'r carchar nifer enfawr o bethau cymhleth i'w cyflawni mewn cyfnod byr iawn o amser, ac os ydynt yn mynd i mewn i, neu'n dychwelyd at ffordd o fyw anhrefnus, mae hynny'n broblematig iawn yn amlwg. Ac felly, nod y mesurau hyn yw creu cyswllt cyn rhyddhau rhywun o'r carchar, er mwyn hwyluso'r llwybr a sicrhau bod yr awdurdod lleol yn eu disgwyl, i bob pwrpas. Mae gennym waith i'w wneud gyda'r awdurdod lleol—nid yng Nghaerdydd yn unig, ac mae'r adroddiad hwn yn ymwneud â Chaerdydd, ond mae hwn yn fater sy'n ymwneud â rhyddhau carcharorion ym mhobman—er mwyn i'r awdurdod lleol sicrhau bod ganddynt y prosesau cywir ar waith i wneud yn siŵr nad yw pobl yn dychwelyd yn syth at ffordd o fyw anhrefnus, oherwydd gwyddom fod hynny'n arwain at wneud i bobl gredu y byddant yn well eu byd yn y carchar, ac ni ddylai unrhyw un fod mewn sefyllfa lle maent yn credu hynny. Bydd yr Aelod hefyd yn gwybod ein bod eisoes wedi ymrwymo i edrych ar gwestiwn angen blaenoriaethol eto, ac fel y dywedais mewn Cyfarfod Llawn yn ddiweddar, rydym ar fin ei gomisiynu, ac rydym yn disgwyl hwnnw ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf. David Melding AC: Rwy'n credu bod angen i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru weithio gyda'i gilydd ar hyn, ac mae dedfrydau byr, rwy'n credu, yn arbennig o anodd, ac rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy'n cael dedfrydau byr, yn aml iawn am droseddau nad ydynt yn cynnwys trais yn erbyn unigolion, er enghraifft. Yn amlwg, os ydym yn defnyddio cosbau cymunedol, rydym yn llawer mwy tebygol o sicrhau nad yw sefyllfa dai troseddwyr yn cael ei heffeithio. A cheir peth tystiolaeth sy'n dangos bod rhywfaint o gylch lle mae rhai pobl yn dewis cyflawni trosedd arall a mynd yn ôl i'r carchar oherwydd bod hynny, o leiaf, yn rhoi to diogel uwch eu pennau. Ac mae hwn yn gamweithrediad gwarthus. Nid yw o fudd i neb o gwbl ac mae angen inni gael dull llawer gwell a mwy cydgysylltiedig o fynd i'r afael â hyn. Ond rwy'n credu bod cyfyngu cymaint â phosibl ar nifer y dedfrydau o dan flwyddynyn ddechrau da o leiaf. Julie James AC: Ie, cytunaf yn llwyr â David Melding; mae yna broblem fawr gyda dedfrydau carchar byr, ac rydym wedi trafod y mater droeon yn y Siambr. Nid ydynt yn ddigon hir i sicrhau unrhyw fath o raglen adsefydlu neu ailhyfforddi neu unrhyw beth arall. Mae'n ymddangos weithiau eu bod wedi cael eu cynllunio'n benodol i amharu ar fywyd teuluol, sefyllfa dai a rhagolygon gwaith yr unigolyn. Mae'n anodd iawn gweld beth yw eu diben o gwbl i neb a bod yn onest. Felly, mae angen i ni weithio'n ofalus gyda Chymdeithas yr Ynadon yn enwedig, mewn perthynas â dedfrydau byr iawn, a chredaf fod yna farn gyffredinol fod angen gwneud rhywbeth ynglŷn â hynny ar frys. Yn amlwg, mae angen i'r opsiynau ar gyfer gwasanaeth cymunedol neu gynlluniau gwneud iawn â'r gymuned neu beth bynnag gael eu harchwilio'n drylwyr a'u darparu. Ond hefyd, wrth gwrs, mae angen inni atal pobl rhag mynd i'r system cyfiawnder troseddol yn y lle cyntaf, ac felly byddai cael rhai o'r mesurau cynharachrwyf newydd sôn amdanynt er mwyn dargyfeirio pobl i ffwrdd oddi wrth y system cyfiawnder troseddol yn y lle cyntaf yn amlwg yn fuddiol. Leanne Wood AC: Roedd nifer o'r manylion yn adroddiad y bwrdd monitro annibynnol yng Ngharchar EM Caerdydd a ryddhawyd yr wythnos diwethaf yn peri pryder. Er enghraifft, cefais fy nigalonni, fel y mae eraill wedi sôn, wrth glywed bod dychwelyd i'r carchar yn fwy deniadol i rai carcharorion nag aros yng nghanolfan Huggard. Nawr, mae'n rhaid eich bod wedi eich siomi wrth ddarllen bod y diffyg llety sydd ar gael i garcharorion ar ôl eu rhyddhau yn cael ei ddisgrifio fel rhywbeth sydd nid yn unig yn greulon, ond yn ffactor pwysig o ran aildroseddu. Mae'r adroddiad yn galw ar eich Llywodraeth yn uniongyrchol i adolygu polisi tai ar frys, yn ogystal ag adolygu'r ddarpariaeth o wasanaethau iechyd ar gyfer gofal iechyd meddwl sylfaenol mewn carchardai. Felly, a wnewch chi hynny? Yn amlwg, mae'r Llywodraeth hon wedi gwneud cam â charcharorion yn fwy eang, ac mae'n gwneud cam â'r gymdeithas mewn gwirionedd, oherwydd nid yw aildroseddu o fudd i unrhyw un o gwbl. Nawr, yn amlwg, nid yw rhywfaint o'r cyfrifoldeb am hyn wedi'i ddatganoli, ond mae gan eich Llywodraeth chi gyfrifoldebau mawr. Felly, beth y bwriadwch ei wneud ynglŷn â hyn i gyd? Julie James AC: Ie, wel, unwaith eto, rwy'n cytuno i raddau helaeth gyda'r Aelod—yn sicr, mae angen inni wella rhai o'r gwasanaethau. Mae pryder penodol ynghylch y canfyddiad o ganolfan Huggard yn arbennig ac rydym newydd ddarparu cyllid iddynt wella cyfleusterau diogelwch a storio yng nghanolfan Huggard mewn gwirionedd, oherwydd bydd yr Aelod yn gwybod y manylion—mae pobl yn ofni y bydd eu heiddo'n cael ei ddwyn tra byddant yn cysgu, ac nid ydynt yn teimlo bod y trefniadau diogelwch yn ddigonol ac ati. Felly, mae yna broblem o ran canfyddiad hefyd, oherwydd credaf—[Torri ar draws.] Ie. Yn amlwg, ni fuaswn yn bersonol eisiau mynd i gysgu gyda fy holl eiddo ar y gwely o fy mlaen heb wybod—wyddoch chi, gallai rhywun sy'n digwydd cerdded heibio helpu eu hunain. Yn amlwg, mae cypyrddau cloac ati yn hanfodol i unrhyw un er mwyn sicrhau preifatrwydd dynol sylfaenol a pharch. Felly, rydym wedi darparu arian ychwanegol i ganolfan Huggard ar gyfer hynny, a gwyddom y gall llochesi nos fod yn frawychus ac nad dyna'r opsiwn cywir i nifer fawr o bobl. Maent yn opsiwn cywir i rai pobl—maent wedi bod yn ddefnyddiol iawn i rai pobl fel llwybr allan o ddigartrefedd. Ond bydd yr Aelod yn gwybod ein bod wedi bod yn edrych yn ofalus iawn ar gyllid, cynyddu llwybrau sy'n canolbwyntio ar drawma, ac opsiynau fel tai yn gyntaf ar gyfer pobl fel y gallwn sicrhau llety diogel a gweddus i bobl fel cam cyntaf, yn hytrach na gorfod dringo ysgol wobrwyo, lle byddwch yn llwyddo i ddod oddi ar y stryd ac yn cael eich gwobrwyo â rhywbeth arall ac yn y blaen, sydd wedi bod yn ddull a ddefnyddiwydyn y gorffennol. Rwy'n credu bod cryn dipyn o'r syniadau—. Rwyf wedi bod yn y swydd hon am amser byr iawn, ond ymddengys bod llawer o'r meddwl, yn gwbl briodol, wedi troi at ddysgu o brofiadau pobl sydd wedi profi digartrefedd o ran yr hyn sydd wedi gweithio iddynt hwy a pham ei bod wedi cymryd cyhyd iddynt fynd yn ôl i gael cartref gweddus a diogel. Ac rydym yn awyddus iawn i fynd ar drywydd hynny. Fodd bynnag, gan ddychwelyd yn benodol at garcharorion, nid yw'r cyfan wedi'i ddatganoli, ond mae rhywfaint ohono wedi'i ddatganoli, a'r hyn rydym yn ceisio ei wneud yw sicrhau bod ein hawdurdodau lleol sydd â phoblogaeth garchar yn debygol o gael ei rhyddhau iddynt yn gallu gweithio'n agos gyda'r carchar er mwyn sicrhau bod system wybodaeth well ar waith, fel y bydd yr unigolyn sy'n cael ei ryddhau o'r carchar yn deall beth sydd ar gael a bydd yr awdurdod lleol yn eu disgwyl, oherwydd mae honno'n broblem fawr yn ogystal, oherwydd os cânt i gyd eu rhyddhau am 5.30 p.m. ar brynhawn Gwener, mae'n amlwg y bydd honno'n broblem ac mae hynny'n amlwg wedi bod yn broblem yng ngharchar Caerdydd, a gwn o'r gwaith rwy'n ei wneud yn fy etholaeth fy hun ei bod yn broblem yng ngharchar Abertawe hefyd. Felly, rydym yn gweithio'n galed iawn i sicrhau bod y systemau hynny'n gweithio'n well. Diolch yn fawr iawn, Weinidog. 4. Datganiadau 90 Eiliad Eitem 4 ar yr agenda yw'r datganiadau 90 eiliad. A daw'r cyntaf y prynhawn yma gan Jack Sargeant. Jack Sargeant AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae gan chwaraeon ran enfawr i'w chwarae yn y broses o ysbrydoli cenedlaethau a chymunedau, ac mae hefyd yn cael effaith gadarnhaol enfawr ar wella iechyd meddwl. Nid yw'r rhain ond yn rhai o'r rhesymau pam rwyf eisiau dymuno'n dda i dîm pêl-droed Nomads Cei Connah o fy etholaeth ar gyfer eu gêm gynderfynol yn erbyn Dinas Caeredin yng Nghwpan Irn Bru. Mae cymunedau Alun a Glannau Dyfrdwy yn falch iawn o'r hyn y mae'r clwb wedi'i gyflawni hyd yma, ond gadewch i ni obeithio y gallwn gyrraedd y rownd derfynol yn Glasgow a dod â'r gwpan adref. Ddirprwy Lywydd, hoffwn gymryd y cyfle hwn hefyd i ddymuno'n dda i glwb pêl-droed Casnewydd ar gyfer eu gêm bumed rownd yng Nghwpan yr FA yn erbyn pencampwyr yr Uwch Gynghrair, Dinas Manceinion. Cynhelir y ddwy gêm ddydd Sadwrn, felly er cymaint y buaswn yn hoffi ymuno â fy nghyd-Aelodau Jayne Bryant a John Griffiths yn Rodney Parade, byddaf yn stadiwm Glannau Dyfrdwy yn gobeithio am fuddugoliaeth i Gei Connah. Rwy'n annog yr Aelodau a'n cymunedau i gymryd rhan ac i wylio cymaint o'r ddwy gêm â phosibl ym mha bynnag fodd y gallant. Ddirprwy Lywydd, gan bob un ohonom yma yn Siambr y Senedd: 'Pob lwc i Gasnewydd', 'Pob lwc i'r Nomads'. Diolch. Suzy Davies. Suzy Davies AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Wel, mae'n fis Chwefror, ac mae'n ddiwrnod San Ffolant yfory, a byddwn yn nofio mewn calonnau, fel y bydd pawb yn gwybod, ond y calonnau rwyf fi eisiau siarad amdanynt yw'r calonnau sy'n rhoi bywyd i ni, a hoffwn atgoffa pawb ei bod yn Defibruary yn ogystal â mis Chwefror. Gellir defnyddio diffibrilwyr awtomatig brys yn hawdd pan fydd rhywun wedi dioddef ataliad ar y galon. Gall pobl heb unrhyw hyfforddiant meddygol eu defnyddio i roi pwls trydanol yn ddiogel i unigolyn pan fydd y diffibriliwr yn canfod bod gan yr unigolyn dan sylw guriad calon afreolaidd sy'n eu rhoi mewn perygl uniongyrchol.Pan fydd rhywun yn dioddef ataliad ar y galon, mae'r gobaith o oroesi yn gostwng 14 y cant gyda phob munud sy'n mynd heibio heb driniaeth, a phan fo'r claf y tu allan i leoliad ysbyty, mae'n hanfodol ei fod yn cael triniaeth cyn gynted â phosibl. Diolch i elusennau fel St John Cymru, sy'n aml yn bresennol ar feysydd pêl-droed mewn gwirionedd, Calonnau Cymru, Cariad, Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru, y Groes Goch, llawer o fusnesau, clybiau chwaraeon, cynghorwyr ac unigolion eraill hyd yn oed—maent oll wedi cyfrannu at wneud yn siŵr fod mwy o ddiffibrilwyr a mwy o hyfforddiant ar gael o fewn y gymuned, ac mae'n bosibl y byddwch eisiau dweud wrth etholwyr am Proactive First Aid Solutions. Edrychwch ar eu gwefan, oherwydd maent yn cynnig diffibriliwr a hyfforddiant yn rhad ac am ddim, cynnig sy'n werth dros £1,300, i sefydliadau, grwpiau cymunedol neu ysgolion. Fodd bynnag, nid yw diffibriliwr dan glo, neu ddiffibriliwr nad oes neb yn gwybod lle mae wedi'i leoli yn dda i ddim, felly, yn ystod Defibruary, gofynnaf i chi dynnu llun ohonoch eich hun wrth ymyl eich diffibriliwr cyhoeddus agosaf, ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol gyda'r hashnod 'Defibruary' ac annog eich etholwyr i wneud yr un peth—a byddwn gam yn nes at fod yn genedl o achubwyr bywyd. Diolch. Yr eitem nesaf yw cynnig i ethol Aelodau i bwyllgorau. Yn unol â Rheolau Sefydlog 12.24 a 12.40, rwy'n cynnig bod y cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau yn cael eu grwpio ar gyfer dadl a phleidlais. Rwy'n cymryd nad oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu. Cynigion i Ethol Aelodau i Bwyllgorau Da iawn. Felly, a gaf fi alw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i gynnig y cynigion yn ffurfiol? Cynnig NDM6971 Elin Jones Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 17.3 ac 17.13(ii), yn etholDelyth Jewell(Plaid Cymru) yn aelod o’rPwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol. Cynnig NDM6972 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn etholDelyth Jewell(Plaid Cymru)yn aelod o’rPwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebuyn lle Dai Lloyd (Plaid Cymru). Cynigiwyd y cynigion. Rhun ap Iorwerth AC: Yn ffurfiol. Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynigion. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 5. Datganiad gan y Llywydd: Cyflwyno Bil arfaethedig y Comisiwn—Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) Eitem 5 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan y Llywydd: cyflwyno Bil arfaethedig y Comisiwn—Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru), a galwaf ar y Llywydd, Elin Jones. Mae cyflwyniad Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) heddiw yn benllanw cyfnod hir o ymgynghori ac ymgysylltu gyda’r cyhoedd, grwpiau gwleidyddol a phartneriaid ehangach ar ddiwygio etholiadol, ac yn manteisio ar y cyfleon a gyflwynir yn Neddf Cymru 2017 i rymuso ein Cynulliad Cenedlaethol er gwell. Hanfodion y Mesur felly yw creu Senedd sy’n fwy effeithiol a hygyrch, a sicrhau bod crud ein democratiaeth yn addas i bwrpas wrth iddi ddathlu 20 mlynedd ers ei sefydlu.Fel yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil, rwyf wedi gwrando ar ystod eang o safbwyntiau ar brif elfennau’r ddeddfwriaeth ddrafft—newid enw’r Cynulliad Cenedlaethol, ehangu’r etholfraint ar gyfer etholiadau’r Cynulliad, a newid y gyfraith ynghlwm â threfniadau anghymhwysedd unigolion i sefyll etholiad. Mae’r prif ddarpariaethau hyn wedi eu llunio gyda’r amcan o sicrhau’r consensws ehangaf posib ymysg Aelodau, ac adeiladu ar y mandad a roddwyd gan fwyafrif o’r Senedd i’r ddeddfwriaeth hon fis Hydref 2018. Beth, felly, mae’r Bil yn ei gynnwys? Yn gyntaf, gostwng yr isafswm oedran pleidleisio i 16 ar gyfer etholiad Cynulliad 2021—amcan y Comisiwn yw i rymuso ac ysbrydoli pobl ifanc i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd. Gan adeiladu ar y gwaith o ethol Senedd Ieuenctid gyntaf erioed Cymru y llynedd, mae’r Comisiwn yn gweithio gyda phartneriaid eraill i ymestyn yr etholfraint i gynnwys pobl ifanc 16 ac 17 oed mewn pryd ar gyfer etholiad Cynulliad 2021. Law yn llaw â’r ddarpariaeth hon mae’r angen am addysg wleidyddol briodol fydd yn galluogi pobl ifanc i ddeall eu hawliau democrataidd ac i gynyddu cyfranogiad mewn etholiadau. Mae’r Comisiwn yn gweithio gyda phartneriaid perthnasol i sicrhau bod y wybodaeth briodol yn cyrraedd cynifer o bobl ifanc â phosib cyn i’r newid cadarnhaol hwn ddod i rym. Yn ail, bydd y Bil yn ailenwi’r Cynulliad yn 'Senedd'. Bydd ailenwi’r Cynulliad yn 'Senedd' yn sicrhau bod enw’r sefydliad yn adlewyrchu ei statws cyfansoddiadol ac yn helpu i wella dealltwriaeth gyhoeddus o rôl a chyfrifoldebau’r ddeddfwrfa yma. Bydd y cymal yn y Ddeddf sy’n nodi y gellir hefyd cyfeirio at y Senedd fel 'Welsh Parliament' yn adlewyrchu’r farn a fynegwyd gan nifer fod angen cynnwys yr opsiwn o ddefnyddio’r term esboniadol Saesneg yn y Bil i atgyfnerthu’r newid yn statws y sefydliad. Dyma ddatganiad clir, felly, fod 'Senedd' bellach yn gyfystyr â 'parliament' nid 'assembly'. Y bwriad yw y bydd y newid enw yn dod i rym yn gyfreithiol fis Mai 2020 i sicrhau bod y cyhoedd yn gyfarwydd gyda’r enw newydd mewn da bryd cyn etholiad Cymru yn 2021. Ynghlwm â’r newid hwn bydd newidiadau cysylltiol—er enghraifft, y disgrifydd sy’n ymddangos ar ôl enw Aelodau ac enwau cyrff megis y Comisiwn. Bydd Aelodau’r Cynulliad yn dod yn Aelodau o’r Senedd—'Members of the Senedd' yn Saesneg. Yn drydydd, bydd y Bil yn diwygio’r fframwaith ynghlwm ag anghymwyster i fod yn Aelod Cynulliad. Mae’r Comisiwn yn cyflwyno argymhellion a wnaed gan Bwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Chyfreithiol y pedwerydd Cynulliad a fyddai’n newid y gyfraith ar gymhwyster unigolion i sefyll. Diben y newid hwn fydd i sicrhau eglurder i ymgeiswyr posib am eu cymhwysedd i sefyll etholiad. Bydd y newid yn caniatáu'r mwyafrif o bobl i sefyll heb orfod ymddiswyddo o’i gwaith yn gyntaf, gydag ymddiswyddiadau o’r fath yn angenrheidiol pe baent yn cael eu hethol yn unig. Yn ogystal, bydd y cymal hwn yn gwahardd aelodau o Dŷ’r Arglwyddi rhag bod yn Aelodau Cynulliad, oni bai eu bod yn cymryd seibiant ffurfiol o’u gwaith yn San Steffan. Yn olaf, mae’r Bil yn cynnig newidiadau i drefniadau etholiadol a mewnol y Cynulliad. Bydd y newidiadau ymarferol hyn yn creu mwy o hyblygrwydd yn dilyn etholiad drwy ymestyn y terfyn amser ar gyfer Cyfarfod Llawn cyntaf y Cynulliad o saith diwrnod i 14 diwrnod. Bydd hyn yn caniatáu mwy o amser i’r pleidiau gynnal trafodaethau pwysig wrth symud tuag at ethol Prif Weinidog a ffurfio llywodraeth. Un o amcanion eraill yr adran yma yw creu eglurder am hawl Comisiwn y Cynulliad i godi tâl am ddarparu gwasanaethau neilltuol i gyrff allanol. Yn ogystal, barn Comisiwn y Cynulliad yw y dylai’r Cynulliad ystyried newid trefniadau cyllido a throsolwg y Comisiwn Etholiadol, gan ei fod eisoes yn gyfrifol am etholiadau datganoledig. Barn y Comisiwn Etholiadol yw y dylai gael ei gyllido gan a bod yn atebol i’r Cynulliad, yn hytrach na Senedd y Deyrnas Gyfunol am ei waith ynghlwm ag etholiadau Cymru, yn genedlaethol a lleol.Mae’r Mesur hwn felly yn rhoi dyletswydd ar y Senedd i ystyried y newid hwn. Os oes cefnogaeth ar ddiwedd Cyfnod 1 i symud ymlaen yn gynt gyda’r newid yma, yna gellid cyflwyno gwelliannau i’r perwyl yma yn ystod Cyfnod 2. Bydd y Bil yn destun craffu helaeth drwy gyfuniad o sesiynau pwyllgor a’r Cyfarfod Llawn. Mae memorandwm esboniadol ar gael sydd yn sicrhau eglurder a thryloywder ynghylch goblygiadau cyllidol y Bil. Mae hefyd asesiadau manwl wedi'u cwblhau ar effaith y cynlluniau ar ieithoedd swyddogol y Cynulliad, cydraddoldeb a chynhwysedd, hawliau plant, y system gyfiawnder a meysydd eraill. Wrth gwrs, man cychwyn yw’r Bil hwn. Wrth ei gyflwyno, fy ngobaith yw y bydd y Bil yn sbarduno dadleuon diddorol ac ystyrlon, ac yn annog cyfranogiad Aelodau, partneriaid a’r cyhoedd ehangach yn y drafodaeth am ddyfodol ein Senedd genedlaethol. Hoffwn hefyd gymryd y cyfle i ddiolch i’r Llywodraeth am eu cydweithrediad hyd yma wrth ddatblygu'r ddeddfwriaeth hyd yn hyn. Fel y mae’r Senedd Ieuenctid wedi'i brofi i ni mewn modd mor galonogol, mae yna awydd pendant gan ein pobl ifanc i chwarae eu rhan. Pa gyfle gwell nag achlysur penblwydd ein Senedd yn 20 mlwydd oed i'w hysbrydoli ac i'w cynnwys nhw, a phob dinesydd arall, yn uniongyrchol yng nghyfleon 20 mlynedd nesaf ein democratiaeth a'n Senedd ni? Diolch yn fawr. Diolch. A gaf fi alw ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit, Jeremy Miles? Jeremy Miles AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r Bil hwn, sy'n garreg filltir bwysig arall ar daith datganoli. Mae Llywodraeth Cymru'n gefnogol iawn i dri phrif nod y Bil, fel rŷn ni'n eu gweld nhw. Yn gyntaf, rhoi enw i'n Senedd sy'n adlewyrchi ei statws fel deddfwrfa, yn ail, rhoi cyfle i bobl ifanc bleidleisio, ac yn drydydd, rhoi mwy o eglurder i ymgeiswyr posib ynghylch a oes modd iddyn nhw sefyll. Yn benodol, mae Llywodraeth Cymru yn gwbl gefnogol i ymestyn yr etholfraint i bobl ifanc 16 a 17 oed yn Rhan 3 o'r Bil. Roedd hyn yn ymrwymiad yn strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru, 'Ffyniant i Bawb.' Rwy'n falch iawn bod modd i ni gynnig cymorth gan ein swyddogion i gynhyrchu'r darpariaethau yn y Rhan hon. Rŷn ni'n credu dylai'r etholfraint ar gyfer etholiadau'r Cynulliad ac etholiadau llywodraeth leol fod yn gyson â'i gilydd. Yn benodol, rŷn ni am weld y Bil yn ymestyn yr etholfraint i gynnwys gwladolion tramor sy'n byw yn gyfreithlon yng Nghymru, i adlewyrchu'r darpariaethau y byddwn ni'n eu cyflwyno mewn perthynas â'r etholfraint llywodraeth leol. Ar ben hynny, mynegodd y Cynulliad yn ddiweddar ei fod yn cefnogi'r hawl i garcharorion bleidleisio yn etholiadau Cymru. Rŷn ni'n cefnogi'r safbwynt hwnnw mewn egwyddor, ac yn aros gyda diddordeb i glywed casgliadau ymchwiliad y pwyllgor cydraddoldeb. Jeremy Miles AC: Rydym yn credu ei bod yn bwysig fod perthynas ariannu ac atebolrwydd y Cynulliad gyda'r Comisiwn Etholiadol yn cael ei osod ar sail ffurfiol, ac rydym yn barod i weithio gyda'r Llywydd, y Comisiwn Etholiadol a'r Trysorlys yng ngoleuni gwaith craffu Cyfnod 1, i archwilio a allem fynd â hyn gam ymhellach nag y mae'r Bil yn darparu ar ei gyfer ar hyn o bryd. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cefnogi'r camau y mae'r Bil yn eu cymryd i wahaniaethu rhwng y rheini sydd wedi'u gwahardd rhag bod yn ymgeiswyr yn etholiadau'r Cynulliad a'r rheini sydd wedi'u gwahardd rhag bod yn Aelod Cynulliad. Byddwn yn rhoi mwy o ystyriaeth i'r angen am unrhyw newidiadau pellach i fanylion y darpariaethau hyn wrth i'r Bil fynd rhagddo. Rydym hefyd yn cydnabod yr amcanion sy'n sail i'r ddarpariaeth yn Rhan 5, sef pŵer i Weinidogion Cymru weithredu argymhellion Comisiwn y Gyfraith mewn perthynas ag etholiadau. Ond nid ydym yn credu ei bod yn angenrheidiol nac yn briodol i'r pŵer hwn fod yn nwylo Gweinidogion Cymru, a hoffem archwilio hyn ymhellach yn ystod y gwaith craffu. Rydym yn croesawu'r cyfle a gyflwynir yn Rhan 2 i ystyried ailenwi'r sefydliad hwn er mwyn adlewyrchu ei swyddogaeth ganolog fel deddfwrfa ym mywyd Cymru. Mater i'r Cynulliad cyfan yw penderfynu beth ddylai'r enw hwnnw fod, ond byddem yn annog yr holl Aelodau i gadw mewn cof y bydd darpariaethau'r Bil hwn yn diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006—ein prif statud gyfansoddiadol. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod yn sicrhau bod y darpariaethau ar gyfer newid enw, yn ogystal ag ar gyfer materion eraill, mor glir ac mor hygyrch â phosibl. Fel y mae'r Bil wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd, rwy'n pryderu nad yw hynny'n wir. Byddaf yn ysgrifennu at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol cyn hir i roi mwy o wybodaeth am safbwynt cychwynnol Llywodraeth Cymru ar y Bil. Ond rwy'n gobeithio bod y Llywydd, fel yr Aelod cyfrifol, yn gallu cadarnhau ei bod yn rhannu fy marn i, a barn y Llywodraeth, y dylai'r Bil hwn, fel darn allweddol o ddeddfwriaeth gyfansoddiadol, fod yn batrwm ar gyfer diwygio cyfansoddiadol cyn belled ag y bo modd, ac y bydd yn parhau i weithio'n agos gyda mi, yn ogystal â phwyllgorau'r Cynulliad, Aelodau eraill sydd â diddordeb a'n rhanddeiliaid, i sicrhau hynny. Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei sylwadau a'i gwestiwn, ac a gaf i gydsynio gyda'r hyn mae e wedi'i ddweud wrth orffen? Mae hwn yn Fil cyfansoddiadol o bwys, ac felly, mae'n bwysig ei fod e'n ecsemplar o ddeddfwriaeth dda mae'r Cynulliad a'r Senedd yma yn gyfrifol amdani. A dwi'n gobeithio, wrth ei gyflwyno, ac wrth ei sgrwtineiddio, y byddwn ni yn dangos hynny yn glir iawn. Mae yna nifer o agweddau rŷch chi wedi amlinellu, Cwnsler Cyffredinol, le mae yna gydsyniad rhwng yr hyn sydd wedi cael ei gyflwyno yn y Mesur, a'r hyn rŷch chi'n dyheu amdano fel Llywodraeth. Ac rwy'n ddiolchgar iawn am hynny. Ar yr etholfraint, wrth gwrs, mae'r Llywodraeth yn edrych i gyflwyno ymestyn yr etholfraint ar gyfer etholiadau llywodraeth leol yn 2022 i bobl ifanc 16 ac 17 hefyd. Ac mae hi wedi bod yn bwysig fy mod i, wrth fy mod i'n datblygu'r Bil yma, yn gweithio yn agos iawn â swyddogion y Llywodraeth a chi fel Cwnsler Cyffredinol, ac ein bod ni yn gwneud hynny mewn ffordd sydd yn gyffredin, ac yn defnyddio mecanwaith y Bil yma, sydd yn mynd i edrych i gynyddu'r etholfraint yn yr etholiad sy'n dod o'n blaenau ni yn gyntaf—sef etholiad Cymru yn 2021. Mae yna ddwy agwedd, wrth gwrs, ac rŷch chi wedi cyfeirio atyn nhw, sydd ddim yn y Bil fel y mae e wedi ei ddrafftio a'i gyflwyno ar hyn o bryd o ehangu'r etholfraint, ac mae hynny i wladolion tramor ac i garcharorion. Ac wrth gwrs mae yna faterion gweddol o gymhleth yn y ddwy agwedd yna, ac efallai ddim y mandate llawn, oddi wrth y Cynulliad yn llawn, i edrych ar roi'r bleidlais i wladolion tramor, wrth gyflwyno'r Mesur. Ond dwi'n gobeithio, wrth drafod o fewn y pwyllgor a'r Cynulliad yma'n llawn, os oes yna fodd inni edrych i weld ein bod ni'n sicrhau yn weddol o gynnar wrth gyflwyno etholfraint newydd yng Nghymru fod yr etholfraint ar gyfer y Cynulliad yma a'r etholfraint ar gyfer llywodraeth leol yr un etholfraint. Dwi ddim yn credu ei bod hi o fantais mewn unrhyw ffordd inni gael dwy etholfraint wahanol ar gyfer ein hetholiadau domestig ni, yn yr etholiadau lleol hynny a'r etholiad cenedlaethol. Ac felly, fe fyddaf i'n gwrando'n ofalus ar yr hyn y bydd gan y pwyllgor ac eraill i'w ddweud wrth i'r Mesur yma fynd yn ei flaen. Eich sylwadau chi ar Gomisiwn y Gyfraith—y Law Commission—mae'n ddiddorol iawn i fi glywed y Llywodraeth yn dweud efallai y bydden nhw ddim yn awyddus i weld y pwerau sydd yn cael eu rhoi yn y ddeddfwriaeth yma i'r Llywodraeth, ond o bosib yn aros yn y ddeddfwrfa. Ac mae'n siŵr y bydd hwnna'n fater, eto, i'r pwyllgor i edrych arno. Ac yn olaf, eich pwynt chi ynglŷn â'r angen i'r ddeddfwriaeth yma, fel deddfwriaeth gyfansoddiadol, fod mor glir â phosib i bobl Cymru. Ac yna, wrth feddwl am y cymalau sydd yn ailenwi'r Cynulliad yn 'Senedd', ac mae yna gyfeiriad rŷch chi wedi ei wneud at farn sydd gennych chi am ffyrdd y gellid gwneud y cymalau yma yn gliriach. Mae yna gyfeiriad yn y memorandwm esboniadol hefyd at yr ystyriaeth roddais i i newidiadau yn sut roedd y cymalau yma wedi cael eu gosod; oherwydd rhai materion sydd yn ymwneud â chymhwysedd, a thrafodaeth ynglŷn â chymhwysedd, fe ddrafftiwyd y cymalau am yr enw yn y ffordd y mae nhw yn cael eu cyflwyno ar hyn o bryd. Ond mae'n siŵr y bydd y pwyllgor, unwaith eto, yn rhoi golwg o'r newydd ar y pwyntiau rŷch chi wedi eu gwneud, ac sydd hefyd yn cael eu hamlinellu yn y memorandwm esboniadol. Ac felly, diolch ichi am eich cefnogaeth mewn egwyddor i nifer o wahanol agweddau sydd yn cael eu cyflwyno yn y Mesur heddiw. Ac eto, rwy'n edrych ymlaen at gydweithio â chi, a hefyd wrth gwrs ar yr hyn ddywedoch chi am eich cefnogaeth i wneud y Comisiwn Etholiadol yn atebol, o ran eu cyllid a'u hatebolrwydd cyffredinol, i'r Cynulliad yma, yn hytrach nag i Senedd San Steffan am etholiadau Cymru—lleol a chenedlaethol. David Melding AC: Rydym yn croesawu cyflwyno'r Bil hwn. Mae'n gydnabyddiaeth bwysig o statws y Senedd fel deddfwrfa, fel y mae'r Cwnsler Cyffredinol hefyd wedi'i nodi. Felly, mae'n garreg filltir bwysig. Ac rwy'n credu bod y rhai ohonom sydd wedi gwasanaethu—fel rydych chi wedi'i wneud, yn y Gadair ar hyn o bryd, Ddirprwy Lywydd—ers 1999, mae bron fel pe baem wedi bod mewn confensiwn cyfansoddiadol enfawr, a ninnau wedi dechrau, rwy'n credu, gyda'r hyn a gafodd ei alw gan rywun yn gofiadwy fel 'Cyngor Sir Morgannwg ar stilts', cyn symud ymlaen i wahanu pwerau, cael proses y Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol o ddeddfu deddfwriaeth sylfaenol drwy oddefiad gan San Steffan, i fod yn y diwedd yn ddeddfwrfa go iawn. Mewn ffordd, mae wedi bod fel rhyw fath o daith o Gaerdydd i Gasnewydd drwy Wrecsam, ond fe gyraeddasom serch hynny. Rwyf hefyd yn cefnogi'r bwriad i greu deddfwrfa fwy effeithiol a hygyrch. Rwy'n credu mai dyna'r nod cywir, ac rydym angen y math hwnnw o eglurder a phwrpas yn ein meddylfryd cyfansoddiadol a'r ffordd rydym yn creu cyfraith. David Melding AC: Ar estyn yr etholfraint, credaf fod hwn yn fater sy'n galw am ei archwilio'n ofalus, er bod enghreifftiau amlwg o gwmpas y byd o'r manteision a ddaw yn sgil gostwng yr oedran pleidleisio i 16, neu'r oedran cymwys i 16. Mae hynny'n cwmpasu'r rhan o'r boblogaeth a fydd, yn amlwg, yn byw gyda'r penderfyniadau pwysicach a wneir ar eu rhan, ond hefyd o ran addysg, hyfforddiant—mae'r materion sylfaenol hyn yn hanfodol, mewn gwirionedd, i ffyniant y gymdeithas, ac maent yn effeithio'n fawr ar y grŵp oedran hwnnw, ac rwy'n credu y byddai'n bosibl i chi godi'r materion hynny wrth inni fynd ati i ystyried. Rwy'n credu eich bod yn ddoeth i edrych yn gyffredinol ar sut y caiff gwleidyddiaeth ei dysgu mewn ysgolion. Nid yw pawb yn deall y broses wleidyddol yn dda bob amser, ac nid wyf eisiau troi pob dinesydd yn wyddorwyr gwleidyddiaeth ond yn yr ystyr fod gennym ddealltwriaeth sylfaenol o sut y mae'r system gyfraith droseddol yn gweithio a sut y mae rheithgorau'n bwysig, credaf fod dinasyddion angen cael eu haddysgu yn yr ysgol am y cyfrifoldebau sydd o'u blaenau mewn perthynas â dinasyddiaeth. Mae'n ganolog i ddemocratiaeth. Heb ddinasyddion, ni allwch gael system ddemocrataidd, neu'n sicr ni allwch gael system ddemocrataidd iach. Felly, credaf fod hynny'n bwysig iawn. Ceir tystiolaeth bendant sy'n dangos, os ydych yn colli dau etholiad tra'n ifanc, ei bod yn debygol na fyddwch yn pleidleisio o gwbl yn ystod eich bywyd. Mae'n syfrdanol, rwy'n credu, i bawb yn y lle hwn fod yna ddinasyddion—a chryn dipyn ohonynt—nad ydynt erioed wedi bwrw pleidlais mewn democratiaeth. Felly, rwy'n croesawu'n arbennig y ddealltwriaeth honno y bydd angen i ni wneud rhywbeth mewn ysgolion i baratoi ein dinasyddion iau, yn enwedig os ydym yn gostwng yr oedran pleidleisio i 16. Mae'r enw yn amlwg yn rhywbeth sydd ar y gweill, os caf ei roi felly. O fewn y swigen wleidyddol o leiaf, ceir derbyniad fod y gair 'senedd' wedi cael ei dderbyn. Dyna'r enw rwy'n ei ffafrio, mae'n rhaid i mi ddweud, ac yn sicr mae'r bobl rwy'n ymgysylltu â hwy—y rhan fwyaf o'n rhanddeiliaid—yn ei ddeall. Yn amlwg, po bellaf i ffwrdd yr awn ni, a pho fwyaf y siaradwn â'n hetholwyr, nid yw'r defnydd cyffredin hwnnw wedi gwreiddio i'r un graddau. Rwyf hefyd yn credu bod egwyddor dwyieithrwydd yn bwysig, ac mae 'senedd' yn un o'r geiriau prin hynny sy'n gwneud y ddau beth bron, ond credaf fod yna ran fawr o'r boblogaeth sy'n edrych ar y gair 'parliament' fel gair Prydeinig gwych, dealladwy. Wel, gair Ffrangeg ydyw, wrth gwrs, ond fe wyddoch beth rwy'n ei feddwl—[Chwerthin.]—a dyna fyddai'r rhan fwyaf o bobl yn galw deddfwrfa ym model San Steffan, lle bynnag y caiff ei gymhwyso. Pe gallem gynnwys 'parliament' mewn ffordd fwy uniongyrchol, a gwn fod anawsterau wedi bod ynghylch cymhwysedd, a bydd angen eu harchwilio, ond rwy'n gobeithio y bydd gennym olwg eang ar hyn hefyd o ran sut y gallwn ddehongli ein cymhwysedd o dan Ddeddf 2006. Rwy'n gobeithio y bydd pobl o ewyllys da yn gallu datrys hyn yn y pwyllgor a thu hwnt. Mae cymhwystra ar gyfer etholiad—credaf y dylwn ddatgan buddiant yma, Ddirprwy Lywydd, oherwydd pan oeddwn yn Gadeirydd ar y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn y pedwerydd Cynulliad, buom yn edrych ar hyn. A chyn belled ag y gallaf weld, rwy'n ddiolchgar fod y darpariaethau, fwy neu lai, yn cyd-fynd â'r hyn a argymhellwyd gennym, fel na fernir eich bod yn anghymwys, bernir eich bod wedi ymddiswyddo o rywbeth pan gewch eich ethol, os oedd hynny'n eich gwneud yn anghymwys neu na allech ddal y ddwy swydd ar yr un pryd. Cawsom brofiad dychrynllyd yn 2011, gyda'r posibilrwydd y gallai dau Aelod fod wedi'u hanghymhwyso. Yn y pen draw, cafodd un ei anghymhwyso, ond ni chafodd y llall, ac nid oedd yn glir iawn i mi sut y gwahaniaethwyd rhyngddynt. Nid ydym eisiau bod yn y sefyllfa honno. Yr hyn sydd wrth wraidd hyn, a'r hyn a oedd wrth wraidd adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, yw bod angen i ni ymestyn yr amrywiaeth o bobl a all sefyll etholiad i'r eithaf ac mae angen i ni gyfyngu ar y gwaharddiadau i gyn lleied ag y bo modd, a dyna y mae democratiaeth yn ei fynnu a chredaf y bydd hynny'n mynd yn bell iawn. O ran gwahardd aelodau o Dŷ'r Arglwyddi rhag cael sedd yn y Senedd—tra bônt yn aelodau o Dŷ'r Arglwyddi, bydd darpariaeth, wrth gwrs, iddynt barhau i fod yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi. Credaf mai'r rhesymeg y tu ôl i hynny yw na ddylech fod yn aelod o ddwy ddeddfwrfa ar yr un pryd. Ac mae hynny, i mi, yn ei roi mewn categori gwahanol iawn i aelodaeth o awdurdod lleol, er bod llawer o bobl efallai'n credu nad yw hynny'n arfer gorau chwaith—parhau i fod yn aelod o awdurdod lleol ac yn aelod yn y lle hwn. Ond rwy'n credu y bydd hyn yn helpu i ddyrchafu pwysigrwydd ein Senedd ac yn dileu unrhyw awgrym o wrthdaro buddiannau. Yn olaf, a gaf fi grybwyll un maes lle gellir gwneud gwelliannau o hyd, sef ymgysylltiad â'r cyhoedd? Credaf ein bod angen modelau newydd ledled y DU. Rydym wedi gwneud llawer, a bod yn deg, gyda'n huned allgymorth, ond rwy'n credu o ddifrif, wrth i ni symud o ddemocratiaeth gynrychiadol i ddemocratiaeth gyfranogol, mai dyna'r her sydd o'n blaenau, a chredaf fod digwyddiadau diweddar yn ein cymell i wneud hyn. Bydd angen ymgysylltiad ehangach a dyfnach â'n dinasyddion a'r ffordd y gwnawn hynny, drwy reithgorau dinasyddion neu siambr y dinasyddion—ceir llawer iawn o fodelau—. Ond rwy'n credu, ar ryw bwynt—os nad dyma'r cyfrwng cywir, efallai y cawn olwg arno, nid wyf yn gwybod—dyna her sydd o'n blaenau ac un y bydd yn rhaid i ni ei hwynebu yn fuan iawn. Diolch i David Melding am ei sylwadau ar y Bil fel y mae'n sefyll ar hyn o bryd.Ar fater pleidleisio yn 16 ac 17, mae'r pwyntiau rydych yn eu gwneud ar addysg ac ymwybyddiaeth o ddinasyddiaeth mewn addysg ac addysg pobl ifanc—dyna'r union bwyntiau a wnaed yn adroddiad annibynnol Laura McAllister wrth argymell y dylid cyflwyno pleidlais i rai 16 ac 17 oed yng Nghymru, ond na ddylid ond gwneud hynny ochr yn ochr ag archwiliad manwl iawn o sut rydym yn hyrwyddo gwybodaeth ac ymgysylltiad â phobl ifanc, boed hynny drwy rôl ffurfiol y cwricwlwm a'r ysgolion—. Ac mae'n fater rwyf eisoes wedi'i drafod gyda'r Gweinidog addysg ac rydym yn awyddus i weithio gyda'n gilydd ar sut y gwnawn hyn er mwyn paratoi, os caiff y ddeddf ei phasio, ar gyfer rhoi'r bleidlais i unigolion 16 a 17 oed yn 2021. Ac wrth gwrs, gellir ei wneud mewn cyd-destun mwy anffurfiol, drwy'r cyfryngau cymdeithasol a'n gwaith ar hynny, yn enwedig gyda Senedd Ieuenctid Cymru, sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn dros yr ychydig fisoedd diwethaf. Yn wir, mae'r pwynt a wnewch ynglŷn ag ymgysylltiad unigolion 16 a 17 mlwydd oed o gymharu ag oedrannau arall o bosibl yn un diddorol. Mae'r dystiolaeth yn yr Alban—ac wrth gwrs, mae rhai 16 a 17 oed yn yr Alban wedi cael pleidleisio ar ddau achlysur o leiaf, yn y refferendwm annibyniaeth ac ar gyfer Senedd yr Alban—wedi dangos bod unigolion 16 a 17 oed yn llawer mwy gwybodus ynghylch mecaneg pleidleisio, a sut i bleidleisio a ble i bleidleisio, na'r ystod oedran sy'n eu dilyn, rhai 18 i 24 oed, lle mae'n bosibl eu bod wedi gadael eu cartrefi a symud i ardal arall ac mae eu profiad cyntaf o bleidleisio mewn ardal nad ydynt mor gyfarwydd â hi. Yn sicr, dyna oedd y profiad diddorol yn yr Alban wrth roi pleidlais i rai 16 ac 17 oed. O ran y prif newid, mae'r cymalau o fewn y Bil fel y'i drafftiwyd, yn ogystal â'r enw ei hun—y defnydd o 'Senedd' neu 'Senedd'/'Welsh Parliament'—mae'r gwaith hwnnw ar y gweill, fel y dywedoch chi, David, ac edrychaf ymlaen at ddod gerbron y pwyllgor o bobl ewyllys da i weld a allwn ddatblygu syniadau pellach ar hyn. Buaswn yn annog gofal bob amser a dylai'r Aelodau gofio bod hon yn ddeddfwriaeth gyfansoddiadol, ac y bydd angen 40 Aelod o'r Cynulliad, nid mwyafrif syml, i basio'r Bil yn derfynol, ac rwy'n gobeithio y bydd yr holl Aelodau, wrth feddwl am welliannau diddorol y gallent fod yn dymuno eu cyflwyno i'r Bil yng Nghyfnod 2 a Chyfnod 3, yn cadw mewn cof bob amser y bydd angen 40 Aelod i'w gefnogi yng Nghyfnod 4 ac nid mwyafrif syml yn unig. Roeddwn wedi anghofio mai chi oedd Cadeirydd y pwyllgor cyfansoddiadol yn ystod y pedwerydd Cynulliad, David—maddeuwch i mi am hynny. Ond mae'r darpariaethau mewn perthynas â threfniadau anghymhwyso fel y cawsant eu hamlinellu i ni gan y pwyllgor hwnnw, ac yn sicr felly yng ngoleuni profiad anodd 2011. Felly, rydym bellach yn dilyn Deddf Cymru 2017, sy'n rhoi pwerau inni roi argymhellion y pwyllgor hwnnw mewn deddfwriaeth. Wrth gwrs, gellir gwella ymgysylltiad cyhoeddus heb fod angen deddfwriaeth, ac mae angen i ni wella'r gwaith hwnnw bob amser. Ond fel y dywedwch, mae yna drafodaeth ddiddorol y mae angen i ni ei chael yma ynglŷn â ffordd fwy gyfranogol o edrych ar wleidyddiaeth yng Nghymru, na fydd yn galw am ddeddfwriaeth o bosibl, ac mae angen inni edrych ar fodelau diddorol y gallwn eu treialu heb ddeddfwriaeth i weld beth sy'n bosibl inni ei wneud er mwyn gwella ein perthynas a dealltwriaeth pobl Cymru o'r hyn a wnawn yma a'u mewnbwn i'r hyn a wnawn ar eu rhan. Dai Lloyd AC: A allaf longyfarch y Llywydd ar gyflwyno'r datganiad yma heddiw, a hefyd groesawu, yn sylfaenol, y datganiad ar beth sydd yma o’m blaenau ni? Yn benodol, felly, buaswn i’n cefnogi’n gryf y bwriad i ostwng yr isafswm oedran pleidleisio lawr i 16 ar gyfer etholiadau’r Cynulliad 2020-1. Dwi’n sylweddoli ein bod ni'n gynnar iawn yn nhaith y Bil yma rŵan ac y bydd yn dod o flaen y pwyllgor cyfansoddiadol i gael rhagor o graffu a gogyfer Cyfnod 1. Felly, fel dŷch chi wedi cyfeirio eisoes, ar ddechrau’r daith rydyn ni rŵan, ond man a man inni gytuno’n sylfaenol efo beth dŷch chi wedi’i ddweud. Dwi’n cofio, yn y trydydd Cynulliad, pan oedd e’n Gynulliad, bryd hynny, aeth y pwyllgor llywodraeth leol dros y dŵr i Ewrop i edrych ar systemau pleidleisio ac oedrannau pleidleisio ac ati, ac aethon ni i lefydd fel Denmarc a Sweden, a beth oedd yn dod yn amlwg yn fanna oedd bod plant yn eu harddegau yn derbyn addysg am y gwahanol bleidiau gwleidyddol—yng ngwledydd fel Denmarc. Hynny yw, roedden nhw’n olrhain yn union beth oedd y blaid 'Lafur' leol yn sefyll amdano fe, beth oedd y 'Plaid Cymru' lleol yn sefyll amdano fe, mewn ffordd a oedd jest yn addysgiadol. Roedd pobl yn derbyn hynny; roedd hynny’n ffordd o ddweud wrth bobl beth oedd y gwahanol safbwyntiau yn eu golygu. Mae hynny wedi gweithio yn Nenmarc dros y blynyddoedd. Dwi’n credu dyna hefyd oedd sylwedd beth oedd yn digwydd yn Sweden hefyd, ac roeddech chi’n gallu gweld fel oedd y plant a phobl ifanc â diddordeb heintus, felly, yn y system bleidleisio, ac yn tueddu i fod yn fwy parod i bleidleisio. Felly, dyna oedd swm a sylwedd y dystiolaeth gwnaethon ni ei derbyn pan aethon ni i ffeindio allan y ffeithiau go iawn, felly, dros y dŵr. Felly, bydd angen i’r pwyllgor cyfansoddiadol fynd dros y dŵr unwaith eto i weld a ydy’r safbwynt yna wedi newid. Ond, yn bendant, mae yna rai gwledydd eraill ar flaen y gad yn y math hwn o beth. Achos fel y dywedodd David Melding eisoes, y dystiolaeth hefyd y cawson ni o’r daith yna oedd: os nad ydy pobl yn pleidleisio am y ddau dro cyntaf lle gallan nhw bleidleisio, dŷn nhw byth yn mynd i bleidleisio. Dyna beth yw hanfod pwysigrwydd, dwi’n credu, gostwng yr oedran pleidleisio i 16, tra bod y brwdfrydedd heintus yna i gael, ac i wneud yn siŵr bod yr hyder gan bobl ifanc, cyn iddyn nhw adael eu cartref, i bleidleisio, ac maen nhw’n llawer mwy tebyg o bleidleisio wedyn. Rydyn ni wedi gweld yr un un brwdfrydedd yna efo’n Senedd Ieuenctid ni. Y rhai ohonon ni sydd wedi bod ynghlwm ac yn cyfarfod efo Aelodau’r Senedd Ieuenctid—rhai ohonyn nhw’n ifanc iawn—rŷch chi’n gweld pa mor frwdfrydig ydyn nhw am yr holl broses. Achos mae yna sawl math o anghyfiawnder allan yn fanna ac maen nhw eisiau gwneud rhywbeth amdano fe, ac maen nhw’n gwybod mai'r broses wleidyddol ydy’r ffordd i wneud rhywbeth am y gwahanol anghyfiawnderau—boed am iaith, amgylchedd, beth bynnag—ac maen nhw’n wirioneddol frwdfrydig dros y peth. Mewn ffordd, mae rhai pobl wedi'u dadrithio efo’r systemau gwleidyddol. Dwi ddim yn gweld hynny efo’n pobl ifanc, felly. Rydw i'n credu ei bod hi’n bwysig pwysleisio’r pwynt yna. Dwi'n gweld bod yr amser yn llamu ymlaen, a dwi'n gweld y ffordd y mae'r Dirprwy Lywydd yn edrych arnaf i, felly fe wnaf i jest crybwyll y pwynt ynglŷn ag enw'r sefydliad yma. Dwi'n credu ei fod yn teilyngu cael ei enwi yn 'Senedd', achos, fel dŷch chi wedi cyfeirio eisoes, dŷn ni wedi gwneud y cam yna rŵan o fod yn Gynulliad oedd â dim pwerau, a dim pwerau dros drethu. Dŷn ni rŵan gyda phwerau deddfu cynradd, a gyda'r pwerau i godi trethi—hynny yw, dŷn ni yn Senedd, felly beth am gael enw fel 'Senedd', yn gydradd, felly, yn nhermau enwau, efo'r Senedd sydd yn yr Alban, a hyd yn oed efo'r Senedd sydd yn San Steffan. Dwi'n deall ambell i sensitifrwydd, ac wrth gwrs mi fyddwn ni'n craffu, llinell wrth linell, ar hyn, ond dwi hefyd yn credu ein bod ni wedi gwneud y cam yna i fod yn Senedd—man a man jest dweud, 'Ie, dŷn ni yn Senedd.' Diolch yn fawr. Diolch i Dai Lloyd am ei gyfraniad, a diolch am y gefnogaeth i'r gwahanol elfennau mae e wedi cyfeirio atyn nhw yn y Mesur. Fe wnaf i ddim ailadrodd beth dwi wedi ei ddweud eisoes ynglŷn â rhai o'r materion hynny, dim ond i, efallai, bwyntio allan, fel mae Dai Lloyd wedi gwneud—mae yna drafodaeth weddol o hir wedi bod yn arwain lan at y pwynt lle rŷm ni nawr yn edrych i ddeddfu ar newid yr etholfraint i gynnwys pobl ifanc 16 ac 17. Nid rhywbeth newydd sydd yn digwydd am y tro cyntaf erioed unrhyw le yn y byd yma yw hyn yng Nghymru; mae'n digwydd mewn mannau eraill yn y byd, ac mae e'n digwydd o fewn y Deyrnas Gyfunol erbyn hyn hefyd, yn yr Alban. Ac felly, mae yna drafodaeth wedi bod yn y gorffennol am gyflwyno hyn, ond tan nawr, wrth gwrs, tan Ddeddf Cymru 2017, doedd gennym ni ddim y pŵer yn y Senedd yma i wneud y newid yna. Roedden ni'n gallu ei drafod e, yn y trydydd Cynulliad, fel roedd Dai Lloyd yn cyfeirio ato, ond nawr, yn y pumed Cynulliad yma, rŷm ni wedi cael y grymoedd yna i ddeddfu ar ein hetholiadau ni ein hunain, a dyna pam ŷm ni'n medru gwneud hynny nawr, ac rŷm ni'n medru edrych i alw ein hunain yn 'Senedd' oherwydd dyna beth ŷm ni'n ei wneud: deddfu. Alun Davies AC: A gaf fi ddweud fy mod yn croesawu'r Bil hwn yn fawr iawn ac yn croesawu'r modd y mae wedi'i ddrafftio? Rwy'n sicr yn edrych ymlaen, ar ôl treulio'r rhan fwyaf o fy mywyd yn dadlau ac yn trafod datganoli, at weld y patrwm hwn o ddiwygio cyfansoddiadol ar waith. Mae'r Cwnsler Cyffredinol yn uchelgeisiol iawn yn ei weledigaeth wrth ymateb ar ran y Llywodraeth. Sylwais, wrth edrych drwy rai bocsys gartref, fy mod, pan oeddwn yn fy 20au cynnar, wedi ymgyrchu dros 'senate' yng Nghaerdydd. Roedd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru, y cefais, rywsut, fy ethol i'w arwain ar y pryd, wedi rhoi caniatâd i mi gynnal yr ymgyrch hon. Fe wnaethom ddewis y term 'senate' oherwydd ei fod yn swnio fel 'senedd' ac oherwydd ei fod yn ddealladwy i bawb—roedd hyn yn ôl yn yr 1980au—a chredaf fod yr hyn rydym yn galw ein hunain yn bwysig, fel mae'n digwydd. Nid wyf yn credu ei fod yn ymarfer technegol neu academaidd, ac nid wyf yn credu ei fod yn ymarfer sy'n porthi balchder neu hunan-dyb. Credaf ei fod yn hanfodol i'r lle hwn, a'r hyn y mae'n ceisio bod. Arthur Henderson, ysgrifennydd cyffredinol y Blaid Lafur ym 1918, a ddywedodd wrth gwrs y gallai Cymru ddod yn baradwys gyda hunanlywodraeth. Nawr, rwy'n siŵr fod eraill wedi'i ddyfynnu yma heddiw. Ond ar y pryd, wrth gwrs, roedd penderfyniad—penderfyniad go iawn—mewn gwahanol rannau o Senedd y DU ar y pryd, i sicrhau ymreolaeth i bawb, a chredaf mai dyna'r fframwaith cyfansoddiadol cywir a phriodol ar gyfer bwrw ymlaen â'r materion hyn, lle mae gan Gymru a'r Alban Seneddau sy'n gallu penderfynu ar y trefniadau domestig ar gyfer y gwledydd hynny o fewn fframwaith y Deyrnas Unedig. Ac rwy'n gobeithio, ar ryw bwynt yn ystod yr ymarfer enghreifftiol hwn o ddiwygio cyfansoddiadol, y byddwn yn edrych ar y materion sy'n effeithio ar ein cymheiriaid, ein ffrindiau a'n cymdogion yn Lloegr yn ogystal. Ond mae hynny y tu hwnt i gwmpas y datganiad hwn y prynhawn yma. Nid oes llawer o ots gennyf a ydym yn galw ein hunain yn 'Senedd' neu'n 'Parliament'. Yn bersonol, rwy'n defnyddio'r ddau ac mae fy etholwyr yn defnyddio'r ddau. Rwy'n hapus i fod yn 'Aelod Seneddol', ac rwyf yr un mor hapus i fod yn 'Member of the Welsh Parliament'. Yr hyn sy'n bwysig i mi yw'r pwerau sydd gennym a sut rydym yn arfer y pwerau hynny. Dywedais yn gynharach yn fy sylwadau imi fod yn edrych yn ôl ar fy 20au cynnar—wel, roeddwn yn dathlu fy mhen blwydd yn bum deg bump ddoe. [Torri ar draws.] Diolch yn fawr iawn. Gwn fod llawer o fy etholwyr yn edrych ymlaen at fy ymddeoliad. [Chwerthin.] Rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu gwneud hynny gyda setliad digonol a phwerau digonol. Y prynhawn yma, rydym eisoes wedi trafod y ffaith bod angen i ni fynd ar ofyn Llywodraeth Dorïaidd er mwyn gallu adeiladu gorsaf drenau yn Abertyleri. Nid yw hynny'n iawn, does bosib. Rydym angen setliad i'n galluogi i wneud hynny ac i fynd i'r afael â materion iechyd meddwl yng ngharchar Caerdydd yn briodol. Fel rydym wedi'i glywed y prynhawn yma, ni allwn wneud hynny chwaith. Felly, yn bersonol, pwerau'r lle hwn sydd bob amser wedi fy nghymell i, a'n gallu i sicrhau newid ar ran y bobl a gynrychiolwn. Mae gennyf ddiddordeb yn y Dáil yn Iwerddon, a chredaf ei fod yn enghraifft go iawn o sut y mae dwyieithrwydd—fel y mae David Melding wedi'i nodi'n gywir—yn gallu golygu mwy na dim ond defnyddio dau enw ym mhob achos. Fel siaradwr Cymraeg, dywedir wrthyf yn aml mai dwyieithrwydd yw fi'n siarad Saesneg, a chredaf fod angen i ni sicrhau bob hyn a hyn fod gennym dermau yn ein hiaith bob dydd ac yn ein bywyd cenedlaethol sy'n adlewyrchu pwysigrwydd ein hiaith genedlaethol hefyd. Ond mae'n rhywbeth rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu ei ystyried. Ond y pwynt yr hoffwn ei wneud y prynhawn yma yw fy mod yn gobeithio y bydd hyn yn ddechrau ar ddiwygio mwy sylweddol yn ogystal. I fod yn effeithiol—yng ngeiriau'r Llywydd—rydym angen mwy o Aelodau yma. I fod yn effeithiol, mae'n rhaid i ni hefyd gynrychioli pobl ym mhob rhan o'r wlad yn gyfartal ac i mi, mae hynny'n golygu system gyfrannol, a byddai'n well gennyf system y bleidlais sengl drosglwyddadwy o'n hethol, gan y credaf y byddai'n darparu un dull o ethol ar gyfer yr holl bobl yma, yn hytrach na'r system ddwy haen sydd gennym ar hyn o bryd, sy'n gwneud cam â phawb yn fy marn i. Felly, credaf y dylai hyn fod yn ddechrau proses ac nid ei diwedd, ac edrych wedyn ar sut y gallwn wireddu dinasyddiaeth weithgar. A Lywydd, mwynheais eich rhagymadrodd i'r datganiad hwn yn fawr iawn. I mi, mae dinasyddiaeth weithgar yn ymwneud â sut y diffiniwn ein democratiaeth yn y dyfodol. Am ein bod yn wleidyddion ac wedi ein hethol, mae pawb ohonom yma yn mwynhau math 'pensel fach ar linyn' o ddemocratiaeth. Ni fydd fy mhlant yn adnabod y math hwnnw o ddemocratiaeth, ac mae'n rhaid i'n democratiaeth fod yn wahanol yn y dyfodol i'r un rydym wedi'i phrofi yn y gorffennol, ac mae hynny'n golygu dinasyddiaeth weithgar, cymryd rhan yn weithredol, nid yn unig yn y trafodaethau yn y lle hwn, ond Parliament a Senedd sy'n gallu estyn allan dros Gymru gyfan. Felly, rwy'n croesawu'r newidiadau i'r etholfraint. Nid wyf yn rhannu'r pryderon sydd wedi'u hamlinellu mewn mannau eraill, ac rwy'n gobeithio hefyd y byddwn yn gallu ymestyn yr etholfraint ymhellach i gynnwys y rheini sy'n bwrw dedfrydau carchar cymharol fyr a'r rheini sy'n ddinasyddion o wledydd eraill ond sydd wedi gwneud eu cartref yn y wlad hon, oherwydd mae angen i ni fod yn Senedd gynhwysol yn ogystal ag un ddemocrataidd. Felly, wrth groesawu dechrau'r ddadl hon, a chroesawu'r datganiad y prynhawn yma, rwy'n gobeithio y byddwn yn edrych y tu hwnt i'r hyn y mae'r Bil yn ei ddweud, ac y byddwn yn edrych ar y math o Senedd y mae hon eisiau bod a'r math o wlad lle rydym eisiau i'n Senedd estyn allan a chreu rhywbeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Diolch, Alun. Fe dreulioch gryn dipyn o'ch cyfraniad yn hel atgofion am eich amser yn eich 20au. Roedd yn fy atgoffa o'r amser yn eich 20au pan oeddem ein dau'n aelodau o Gyngor Tref Aberystwyth, y ddau ohonom yn ein 20au bryd hynny, y ddau ohonom ar yr un meinciau bryd hynny hefyd. Ond wrth gwrs, Cyngor Tref Aberystwyth—. Pan gefais fy ethol yma yn 1999, mewn rhai meysydd roedd gan Gyngor Tref Aberystwyth fwy o bwerau na'r corff y cefais fy ethol iddo, y Cynulliad Cenedlaethol. A dyma ni 20 mlynedd yn ddiweddarach â chorff gwahanol iawn, sefydliad, Senedd bellach sy'n deddfu a chodi trethi. Ac rydym yn Senedd—dyna a wnawn yma ac felly dyna beth y dylem alw ein hunain. Fel y dywedasoch, mae yna Senedd yn yr Alban ac yng Nghymru. Felly, gadewch i ni alw ein hunain yn hynny yn awr. Ar rai o'r pwyntiau y gorffennoch chi â hwy, wrth gwrs, ceir meysydd eraill ar gyfer diwygio y gallai'r Bil hwn fod wedi edrych arnynt ac a fyddai wedi edrych ar agweddau eraill ar waith adroddiad Laura McAllister ar ymestyn, cynyddu, nifer yr Aelodau sydd eu hangen arnom yn y Senedd hon, yn ogystal â newid y system etholiadau ar gyfer hynny o bosibl. Gwn eich bod chi ac eraill yn y lle hwn yn cefnogi hynny. Mae'r materion hynny yn aros gyda ni, ond pethau ar gyfer rhyw dro eto a Bil arall ydynt. Ac yn olaf, Gareth Bennett. Gareth Bennett AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch, Lywydd, am y datganiad heddiw. Rydym yn sylweddoli bod yna gonsensws tebygol, gyda dyfodiad pwerau trethu, y bydd enw'r ddeddfwrfa hon yn newid. Felly, nid ydym yn gwrthwynebu newid fel y cyfryw. Mae llawer o bobl wedi siarad am yr enw. Y cynnig gan y Llywydd heddiw, yn dilyn ymgynghori, yw galw'r ddeddfwrfa yn Senedd. Nawr, pan drafodasom hyn ddiwethaf, gwnaeth Llyr hefyd y pwynt a wnaeth Alun Davies yn awr am Iwerddon fel enghraifft, lle mae ganddynt yr enwau Gwyddeleg Dáil a Taoiseach mewn gwlad lle nad oes cyfradd arbennig o uchel o siaradwyr Gwyddeleg. Felly, o ystyried yr enghraifft hon, mae yna achos dros efelychu hynny yma yng Nghymru drwy ddefnyddio termau fel 'Senedd' ac 'Aelod o'r Senedd'. Edrychais ar hanes yr enwau Gwyddeleg felly y gallwn gael mwy o oleuni ar hyn. Nawr, defnyddiwyd yr enw 'Dáil' yn gyntaf pan oedd y ddeddfwrfa Wyddelig yn cael ei sefydlu yn y 1920au cynnar. Felly, un fantais a oedd ganddynt yno oedd nad oedd yn fater o ailenwi sefydliad; câi sefydliad newydd ei greu, yn y bôn. Daeth 'Taoiseach' ychydig yn ddiweddarach. Ni chyflwynwyd hwnnw tan 1937, ond tan hynny nid oedd ganddynt Brif Weinidog fel y cyfryw; roedd ganddynt gadeirydd cyngor gweithredol. Felly, unwaith eto, roedd 'Taoiseach' yn enw ar swydd newydd. Credaf y gallai fod anawsterau yma yng Nghymru yn yr ystyr fod gennym y sefydliad hwn eisoes, ac wrth gwrs mae gennym enw ar ei gyfer eisoes, ac mae llawer o bobl yn gyfarwydd â'r termau 'Assembly' ac 'Assembly Members'. Felly, credaf fod dryswch yn mynd i fod ar y cychwyn. Wrth gwrs, gellir goresgyn y dryswch hwn, rwy'n siŵr. Nawr, os ydym am ddewis 'Senedd', credaf fod hynny wedyn yn arwain at 'Aelod o'r Senedd', sef AS, yn hytrach nag AM. Credaf fod Lee Waters wedi codi mater y tro diwethaf—mater bach eto—y gallai hynny ddrysu gwylwyr rhaglenni Cymraeg, gan mai AS yw'r term a ddefnyddir ar hyn o bryd ar gyfer 'MPs'. Rhun ap Iorwerth AC: Mae teitl y Prif Weinidog yr un fath yn Gymraeg—[Anghlywadwy.] Gareth Bennett AC: A! Ie, ac mae hynny'n wir hefyd, ond mae'n siŵr y gellir goresgyn y dryswch. Ac wrth gwrs—[Torri ar draws.] O, nid oes dryswch, o'r gorau; fe ymchwiliaf ymhellach. Ond y pwynt yr oeddwn yn mynd i'w wneud yw hwn: pe baem yn defnyddio 'Parliament' fel arall, byddai hynny'n creu mwy o ddryswch yn ôl pob tebyg, felly credaf fod 'Senedd' yn bosibilrwydd pendant. Er y credaf na fydd newid yr enw yn y modd hwnnw hyd yn oed yn gwarantu y cawn yr orsaf reilffordd y mae Alun Davies ei heisiau yn Abertyleri. Nawr, gostwng yr oedran pleidleisio—fel y crybwyllais o'r blaen, yn gyffredinol nid yw UKIP yn cefnogi hyn, ond wrth gwrs, rwy'n derbyn y gallai'n hawdd fod uwchfwyafrif yn y lle hwn sy'n ei gefnogi. Felly, os ydym yn gwneud y newid hwn, credaf fod angen innisicrhau bod gennym raglen glir o addysg wleidyddol. Crybwyllwyd hynny gan nifer o bobl. Gwn fod gan y Llywydd ddiddordeb arbennig yn hyn, a gobeithio y gallwn ddefnyddio profiad y Senedd Ieuenctid i ddatblygu hynny, ac unrhyw oleuni pellach y gallwn ei gael gan wledydd fel Denmarc a Sweden, sydd wedi arloesi gyda hyn yn y gorffennol. Buaswn yn nodi un mater yn unig. Mae hyn yn cael ei gyflwyno ar gyfer etholiadau nesaf y Cynulliad, felly mae amser yn allweddol os ydym yn mynd i ddatblygu rhywbeth. Felly, gobeithio y byddwn yn cadw hynny mewn cof wrth inni fynd ymlaen. Diolch yn fawr iawn. Diolch am eich ymateb, Gareth Bennett, ac am edrych yn ddyfnach i hanes Iwerddon ar enwi eu Senedd nag y gwnes i, er fy mod wedi gallu mynychu dathliad 100 mlynedd ers sefydlu Dáil Iwerddon ychydig wythnosau yn ôl. Rydych yn gwneud rhai pwyntiau dilys iawn ynglŷn ag agweddau sydd angen eu goresgyn gyda chyflwyno newid enw o'r Cynulliad, boed yn Senedd neu Parliament neu'r ddau. Mae'r rhain yn faterion y mae angen inni fod yn ymwybodol iawn ohonynt wrth wneud y newid hwn, oherwydd mae angen gwneud y newid gyda phobl Cymru'n deall natur y newid hwnnw. Eisoes rydym wedi ymgynghori â phobl Cymru ac ymatebodd nifer fawr o bobl a oedd yn cydnabod ac yn cefnogi'r angen i newid yr enw o Gynulliad i Senedd, Parliament. Ond cytunaf â chi fod angen inni sicrhau y ceir rhaglen gyfan o ymgysylltiad â phobl er mwyn sicrhau eu bod yn glir iawn, erbyn y daw hyn i rym, mai enw eu sefydliad cenedlaethol gwleidyddol democrataidd yw 'Senedd' yma , nid 'Assembly'. Yna, yn bendant iawn ar bleidlais i rai 16 a 17 mlwydd oed, deallaf fod eich plaid yn gwrthwynebu hynny mewn egwyddor, ond rwy'n gobeithio, o ystyried y modd y caiff hyn ei gyflwyno yng Nghymru—y caiff ei gyflwyno ar gyfer etholiadau cenedlaethol ac etholiadau lleol, un etholfraint, i bob unigolyn 16 a 17 mlwydd oed sy'n cymryd rhan yn y broses wleidyddol yng Nghymru, a chyda rhaglen ymgysylltu wleidyddol ddatblygedig—efallai y bydd hyd yn oed y rheini ohonoch sy'n amheus ar y pwynt hwn ynglŷn â chyflwyno pleidlais i rai 16 a 17 oed yn gweld bod y pecyn yn ei gyfanrwydd yn gallu ennyn diddordeb pobl ifanc yng Nghymru. Rydym wedi gweld ymateb hynod o frwdfrydig i sefydlu Senedd Ieuenctid Cymru. Credaf y dylid manteisio ar y brwdfrydedd hwnnw. Mae'r bobl ifanc yn dweud wrthym, yn dangos inni, fod ganddynt ddiddordeb, a dylem eu galluogi felly i gael perchnogaeth ar eu democratiaeth eu hunain er mwyn i bobl ifanc, am yr 20 mlynedd a mwy nesaf, wybod y bydd ganddynt bleidlais yn y modd y gwneir penderfyniadau, a pha un a fydd Alun Davies yn cael gorsaf reilffordd yn ei etholaeth neu beidio. Mae unigolion 16 a 17 oed yn yr etholaeth honno yn haeddu llais yn hynny lawn cymaint â neb arall. Ac yn olaf, Rhun ap Iorwerth. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch. Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Ni wnaf eich cadw; roeddwn am ychwanegu at y ddadl fer iawn a gawsom ar y gyfatebiaeth â Gweriniaeth Iwerddon. Oireachtas—a maddeuwch fy ynganiad—yw enw'r Senedd; mae gennych y Dáil Éireann a'r Seaned Éireann fel Siambrau o fewn y Senedd honno. Os ewch ar Google a rhoi 'Oireachtas' i mewn, mae'n dweud 'homepage of the Irish Parliament'. Nawr, nid yw Irish Parliament yn enw swyddogol o gwbl ar y Senedd, ond mae'n ddisgrifydd, a chredaf fod angen inni symud tuag at gael enw, un enw, 'Senedd', am ein Senedd genedlaethol newydd, ond mae angen y ddeddfwriaeth hon arnom hefyd, wrth gwrs, i ddisgrifio ein newid ar y daith honno o fod yn Gynulliad, a oedd yn derm a oedd yn ein rhoi ar lefel is na Senedd yr Alban. Mae angen y ddeddfwriaeth hon i fynd â ni ar y daith i fod yn Senedd. Felly, credaf fod angen 'Senedd' fel enw, mae arnom angen ffordd drwy'r ddeddfwriaeth hon i gael 'Parliament' yno fel disgrifydd, ac edrychaf ymlaen at ein gweld yn defnyddio hyn fel cam i sefydlu ein hunain hyd yn oed ymhellach yng nghalonnau a meddyliau pobl Cymru dros ein 20 mlynedd nesaf a thu hwnt. Diolch, Rhun—diolch ichi am ganiatáu cyfle i mi gau yn awr, mae'n debyg, drwy ddweud bod y Bil yn ailenwi'r Cynulliad Cenedlaethol yn 'Senedd' yn swyddogol, ond mae'n caniatáu ar wyneb y Bil i 'Senedd' gael ei ddisgrifio fel 'Welsh Parliament'. Dyna beth fydd, beth ydyw, beth ydym—'Welsh Parliament'—ond ein henw swyddogol fydd y Senedd. Ond dechrau'r ddeddfwriaeth yw hyn. Mae'n cael ei chyflwyno ar y pwynt hwn a bydd y pwyllgorau a'r Cynulliad—Senedd—yn ei gyfanrwydd yn craffu ar hynny a bydd ganddynt safbwyntiau gwahanol ar ble y byddwn yn y pen draw ar ddiwedd y Bil hwn. Ond diolch i chi am y cyfle i gyflwyno'r Bil hwn, ac edrychaf ymlaen at fynd gerbron y pwyllgor o bobl o ewyllys da i graffu ar y ddeddfwriaeth hon ymhellach. Diolch yn fawr iawn. Credaf ei bod yn bwysig ein bod wedi ymestyn yr amser ar hynny, fel y gwnaethom ar y rhan fwyaf o'r teithiau cyfansoddiadol y mae rhai ohonom wedi bod arnynt ers 1999. Felly, dyna ni. 6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2017-18 Eitem 6, felly, yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar adroddiad blynyddol a chyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2017-18, a galwaf ar gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig, Nick Ramsay. Cynnig NDM6965 Nick Ramsay Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus—Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2017-18—a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Tachwedd 2018. Cynigiwyd y cynnig. Nick Ramsay AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n drueni ein bod, ychydig dros 18 mis er pan oeddwn yn sefyll yma yn y Siambr yn datgan pryderon ynglŷn â materion ynghylch afreoleidd-dra yn nhrefniadau llywodraethu a gweinyddu Cyfoeth Naturiol Cymru, yn dilyn cymhwyso cyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru 2015-16—wel, dyma ni eto, yn dilyn cymhwyso cyfrifon 2017-18 oherwydd yr un materion ynghylch afreoleidd-dra mewn perthynas â chontractau trosiannol newydd. Mae'r pwyllgor yn teimlo fel pe bai mewn rhyw fath o gylch diddiwedd wrth inni archwilio ac ail-archwilio nifer o faterion sy'n peri pryder mewn perthynas â dyfarnu contractau pren gan Cyfoeth Naturiol Cymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Nick Ramsay AC: Yn ôl ym mis Mawrth 2017, gosododd Archwilydd Cyffredinol Cymru ar y pryd adroddiad ar gyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru gerbron y Cynulliad a nodai ei resymau dros gymhwyso barn reoleiddiol 2015-16 ar ddatganiadau ariannol Cyfoeth Naturiol Cymru. Cyfeiriodd yr adroddiad at benderfyniad Cyfoeth Naturiol Cymru i ddyfarnu wyth contract gwerthu pren gwerth uchel i weithredwr melin lifio ym mis Mai 2014. Fel pwyllgor, cynaliasom ymchwiliad i'r materion hyn a chyhoeddi adroddiad ym mis Mehefin 2017 a ddaeth i'r casgliad: 'y gallai ac y dylai CNC fod wedi sicrhau bod llywodraethu da ar waith yn ei broses gontractio, ac o fethu â sefydlu trefniadau llywodraethu effeithiol, ni allaiddangos ei fod wedi gweithredu'n gyfreithlon a bod y contractau a ddyfarnwyd yn cynrychioli gwerth am arian.' Roeddem hefyd yn argymell ar y pryd y dylai Cyfoeth Naturiol Cymru '[g]ynnal gwerthusiad llawn o'i drefniadau llywodraethu mewn perthynas â phrosesau contractio, gan amlinellu’n glir y gwersi a ddysgwyd'. Nawr, gwibiwch ymlaen i 2018, ac mae'r pwyllgor yn ôl yn yr un sefyllfa, wedi i'r Archwilydd Cyffredinol Cymru ar y pryd gymhwyso datganiadau ariannol 2017-18 Cyfoeth Naturiol Cymru am y drydedd flwyddyn yn olynol, ac am yr un rhesymau'n union. Roeddem yn hynod o siomedig, er gwaethaf canfyddiadau adroddiadau blaenorol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynghylch ymagwedd Cyfoeth Naturiol Cymru tuag at drafodion gwerthu pren, fod cyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru wedi'u cymhwyso am y drydedd flwyddyn yn olynol. Arweiniodd hyn at gyhoeddi adroddiad pellach gennym ym mis Tachwedd y llynedd, lle roeddem unwaith eto'n nodi nifer o faterion a oedd yn peri pryder mewn perthynas â dyfarnu'r contractau pren hyn, gyda nifer ohonynt yn dal heb eu hesbonio. Nid yn lleiaf, testun dryswch i ni oedd bod y penderfyniad—wrth ddyfarnu'r contractau hyn—i ddilyn proses y tu allan i'r rheolau caffael wedi'i wneud yn erbyn cefndir yr adroddiad deifiol gan yr archwilydd cyffredinol a oedd yn lleisio pryderon am y math penodol hwnnw o broses. Yn wir, cofiaf Aelodau'r pwyllgor, ac un Aelod yn benodol, yn cyfeirio at hyn fel trosedd a gyflawnwyd ddwywaith, cymaint oedd pryder y pwyllgor ar y pryd. Awgrymwyd i'r pwyllgor fod methiant diwylliannol wedi bod o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â gweithdrefnau llywodraethu, a bod angen ailwampio difrifol. Ni allem ond dod i'r casgliad fod pryderon blaenorol wedi'u diystyru, ac roedd yn ymddangos bod y penderfyniadau a ddilynodd yn Cyfoeth Naturiol Cymru yn afresymegol. Roedd y rhain yn benderfyniadau a wnaethpwyd gan staff profiadol, ac mae'n anodd gweld y camau hyn fel canlyniad i anallu. Ni allwn ond dod i'r casgliadna fyddwn byth yn llwyr ddeall, neu'n cael esboniad iawn am yr hyn a ddigwyddodd yn Cyfoeth Naturiol Cymru. Dylwn ychwanegu ar y pwynt hwn fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cael prif weithredwr newydd o fis Chwefror 2018, a bod cadeirydd dros dro wedi bod yn ei swydd ers 1 Tachwedd 2018 am gyfnod o 12 mis. Gyda'i gilydd, maent wedi datgan eu hymrwymiad i newid Cyfoeth Naturiol Cymru i fod yr hyn y mae'n anelu i fod. Adroddiad blynyddol a chyfrifon 2018-19 fydd y cyfrifon cyflawn cyntaf a fydd yn llwyr o dan eu goruchwyliaeth hwy, felly digwyddodd unrhyw gymhwyso blaenorol cyn iddynt gael eu penodi. Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig gwneud y pwynt hwnnw. Gan symud ymlaen, roeddem yn croesawu ac yn parchu penderfyniad y prif weithredwr newydd i gomisiynu adolygiad annibynnol llawn o'r materion a godwyd yn adroddiad yr archwilydd cyffredinol ar ddatganiadau ariannol Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2017-18. Cyflawnwyd yr adolygiad gan yr archwilwyr annibynnol Grant Thornton ac ar gais prif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru, roedd yr ymchwiliad i fod yn gwbl drylwyr er mwyn datgelu'r methiannau o fewn y sefydliad yn llawn a sicrhau bod diwygio'n digwydd drwyddo draw. Cyhoeddwyd canfyddiadau'r adolygiad ar 4 Chwefror eleni a chawsant eu hystyried gennym ar 11 Chwefror. Mae adolygiad Grant Thornton yn peri pryder pellach gan ei fod yn mynd ati'n fwy manwl i archwilio'r materion a godwyd mewn adroddiadau blaenorol ar drafodion gwerthu pren Cyfoeth Naturiol Cymru. Fodd bynnag, ni ddatgelodd yr adroddiad unrhyw beth annisgwyl, nac unrhyw beth newydd yn wir, ond roedd yn codi cwestiynau pellach ynghylch pryd y gwelwn newid yn Cyfoeth Naturiol Cymru, ac yn bwysicach: a yw'r materion sy'n ymwneud â gwerthiannau pren wedi'u cyfyngu i is-adran coedwigaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, neu a yw'r rhain yn adlewyrchu diffyg sylfaenol yn y diwylliant sefydliadol? Mae adroddiad Grant Thornton yn amlygu'r angen am un diwylliant sefydliadol yn Cyfoeth Naturiol Cymru, ac mae llawer o wersi i'r sefydliad cyfan eu dysgu o hyn. Mae'n anffodus fod uno'r tri sefydliad yn un wedi gadael gwaddol o wahaniaethau diwylliannol dwfn na chawsant eu datrys erioed. Fodd bynnag, rydym yn croesawu'r ymrwymiad a roddwyd i ni gan brif weithredwr a chadeirydd newydd y bwrdd fod gwaith yn mynd rhagddo ar ad-drefnu'r sefydliad drwyddo draw, a newid tuag at sefydliad sy'n fwy seiliedig ar le y gobeithir y bydd yn ei uno'n fwy trylwyr. Nick Ramsay AC: Nawr, rydym wedi gwrando ar y prif weithredwr a chadeirydd y bwrdd yn rhoi sicrwydd fod adolygiad Grant Thornton wedi mynd i graidd problemau Cyfoeth Naturiol Cymru, a bydd yn fan cychwyn ar gyfer ailadeiladu sylfaenol. Fodd bynnag, rydym yn parhau'n bryderus na oes gan aelodaeth y bwrdd ddigon o wybodaeth am y sector pren—pwynt a wnaed gan Adam Price yn ystod y cwestiynau ddoe—y credwn fod ei angen yn ddirfawr er mwyn darparu'r mewnwelediad hanfodol a'r arbenigedd sy'n angenrheidiol i ymdrin â phroblemau Cyfoeth Naturiol Cymru, ac i chwalu'r rhaniadau diwylliannol drwy ddarparu cyswllt hanfodol rhwng y bwrdd a'r is-adran goedwigaeth. Rydym yn parhau'n bryderus ynglŷn ag i ba raddau y mae gan y bwrdd y gymysgedd gywir o sgiliau a gallu sydd eu hangen arno i drawsnewid y sefydliad. Dros y tair blynedd diwethaf, mae'r archwilydd cyffredinol, y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ac yn olaf ac yn fwy diweddar, Grant Thornton, wedi craffu ar ddigwyddiadau o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru mewn modd fforensig, gan amlygu nifer o ddiffygion sylfaenol ac amheuon o'r radd fwyaf, a diolch i'r prif weithredwr presennol, mewn gwirionedd, fod yr adolygiad hwnnw wedi'i gomisiynu yn y ffordd y gwnaethpwyd. Ond mae un cwestiwn yn aros: lle mae Llywodraeth Cymru wedi bod drwy gydol y broses hon? Pe bai hwn yn fwrdd iechyd, efallai y byddem wedi gweld y sefydliad yn cael ei wneud yn destun mesurau arbennig fel mater o frys, ac eto am y tair blynedd diwethaf, fwy neu lai, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi parhau i weithredu allan o reolaeth er i'w gyfrifon gael eu cymhwyso dair blynedd yn olynol ac er i'w drefniadau llywodraethu gael eu tanseilio'n llwyr a'u cwestiynu, heb sôn am y miliynau o bunnoedd o arian cyhoeddus a gamreolwyd. Pan sefais yn y Siambr hon fis Gorffennaf diwethaf i fynegi pryderon difrifol am Cyfoeth Naturiol Cymru, roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, fel oedd y teitl bryd hynny yn falch fod Cyfoeth Naturiol Cymru, mewn ymateb i gymhwyso cyfrifon 2015-16, wedi cyfaddef, wrth edrych yn ôl, y byddent wedi ymdrin â phethau mewn ffordd wahanol. Ychwanegodd y Gweinidog fod yr argymhellion yn ein hadroddiad 2017 yn fater ar gyfer y swyddog cyfrifyddu a bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru yn bennaf. Fe'i sicrhawyd bod Cyfoeth Naturiol Cymru eisoes wedi sefydlu cynllun gweithredu i fynd i'r afael â'r materion a godwyd gan yr archwilydd cyffredinol, ac mai rôl Llywodraeth Cymru fyddai cefnogi Cyfoeth Naturiol Cymru yn y gwaith yr oedd angen iddynt ei wneud er mwyn sicrhau bod gweithdrefnau cadarn yn eu lle ar gyfer y dyfodol. Dywedwyd wrthym hefyd fod swyddogion Llywodraeth Cymru yn bwriadu adolygu'r trefniadau llywodraethu ar gyfer cyrff hyd braich yng Nghymru, a bod Cyfoeth Naturiol Cymru, fel corff hyd braich, yn cael ei lywodraethu gan gytundeb fframwaith cadarn sy'n adlewyrchu'r egwyddorion a nodwyd yn 'Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru'. Yn ystod ein gwaith craffu cychwynnol, gofynnodd Cyfoeth Naturiol Cymru am ddiffiniad manylach o'r termau 'newydd', 'dadleuol', ac 'yn arwain at sgil effeithiau' yn eu fframwaith llywodraethu presennol. Gwnaethpwyd y cais hwn yn benodol i fynd i'r afael ag argymhelliad yr archwilydd cyffredinol fod y contractau pren yn newydd, yn ddadleuol ac yn arwain at sgil effeithiau, ac felly y dylent fod wedi cyflwyno eu cynigion i'r adran yn Llywodraeth Cymru sy'n noddi'r corff yn unol â'r fframwaith llywodraethu presennol. Dywedwyd wrth y Siambr hon, fel rhan o'r adolygiad presennol o gyrff hyd braich, y rhoddir ystyriaeth i ddarparu mwy o eglurder ynghylch y materion hyn. Fodd bynnag, er gwaethaf hyn i gyd, ychydig sydd wedi newid, mae'n ymddangos, gan arwain at gymhwyso cyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2017-18, gyda'r archwilydd cyffredinol yn seilio'i farn gymhwyso ar gynnig Cyfoeth Naturiol Cymru i ymrwymo i gontractau trosiannol yr ystyriai eu bod yn newydd, yn ddadleuol a/neu'n arwain at sgil effeithiau. Er bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi hysbysu Llywodraeth Cymru ynglŷn â'i fwriad i gyflwyno trefniadau trosiannol, mae'n destun pryder na chawsant eu cyfeirio'n ffurfiol ganddo at Lywodraeth Cymru yn ôl y gofyn. Ymddengys na weithiodd ymagwedd ymddangosadol hyd brach Llywodraeth Cymru yn yr achos hwn, ac er cael sicrwydd ar ôl sicrwydd, nid oes dim wedi newid gyda Cyfoeth Naturiol Cymru. I wneud pethau'n waeth, amlygodd adolygiad Grant Thornton y ffaith bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyflwyno ffurflen gontract newydd a gwahanol, gwerthiannau sefydlog plws, yn ystod 2016, sy'n codi pryderon difrifol iawn ynghylch cyflwyno, monitro a rhoi cyfrif am y contractau newydd hyn. Mae'r contractau hyn yn anarferol, a chredwn eu bod yn creu goblygiadau posibl mewn perthynas â barn yr archwilydd cyffredinol ar reoleidd-dra cyfrifon blynyddol Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2018-19. Mae'r contractau'n berthnasol i oddeutu un rhan o chwech o werthiannau pren blynyddol Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae'n naturiol ein bod yn poeni bod hyn yn golygu bod yna risg bosibl y bydd cyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael eu cymhwyso am bedwaredd flwyddyn yn olynol. Nawr, does bosib nad yw'n bryd i Lywodraeth Cymru roi camau mwy cadarnhaol ar waith i gefnogi ac i fynd i'r afael â phroblemau Cyfoeth Naturiol Cymru. Hefyd, drwy ei waith, mae'r pwyllgor wedi ystyried adolygiad mewnol Llywodraeth Cymru o'r trefniadau'n ymwneud â chyrff hyd braich, a arweiniodd at gynllun gweithredu a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2018. Cawsom ohebiaeth hefyd gan yr Ysgrifennydd Parhaol i'r pwyllgor yn ôl ym mis Medi y llynedd a ddarparai ragor o wybodaeth ar yr adolygiad, ymysg trefniadau newydd eraill sydd ar y gweill. Mae'r llythyr yn nodi, ac rwy'n dyfynnu: Cael gwared ar y 'Gweithdrefnau Galw i Mewn' h.y. gofyniad i'n Cyrff Hyd Braich atgyfeirio atom am gymeradwyaeth ar gyfer categorïau penodol o benderfyniadau, megis tendrau unigol uwchlaw trothwy penodedig neu faterion sy'n newydd ac yn ddadleuol. Rydym wedi cwestiynu Llywodraeth Cymru ymhellach ynghylch cael gwared ar y weithdrefn galw i mewn a sut y byddai materion megis y rhai a ddigwyddodd o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael eu nodi yn y dyfodol. Dywedodd yr Ysgrifennydd Parhaol wrthym, ac unwaith eto, rwy'n dyfynnu: mai dyna oedd un o ganlyniadau cadarnhaol yr adolygiad o gyrff hyd braich, i wneud yn siŵr ein bod yn rhoi arweiniad clir iawn a mwy o gefnogaeth iddynt. Rydym yn cyfathrebu'n fwy rheolaidd â hwy, rydym yn nodi canllawiau clir iawn ynghylch disgwyliadau sydd gennym, ac fel y dywedais, yn dod â hwy ynghyd dair gwaith y flwyddyn ar gyfer y fforwm hwn er mwyn trafod blaenoriaethau a rhannu arferion gorau, yn y bôn, o ran sut y gallwn reoli arian cyhoeddus yn y ffordd fwyaf effeithiol. Mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn symud tuag at system o roi mwy o annibyniaeth i gyrff hyd braich ar adeg pan fo un o'i chyrff mwyaf mewn cyfyngder, ac wedi methu rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am broblemau difrifol, neu ar y gorau, wedi methu glynu at reolau a gweithdrefnau llywodraethu. Teimlwn y bydd y dull newydd hwn o weithredu yn lleihau'r cyfleoedd i ddarparu sicrwydd angenrheidiol ynghylch gweithredoedd cyrff hyd braich. I gloi, Ddirprwy Lywydd, rhaid aros i weld beth sy'n digwydd nesaf i Cyfoeth Naturiol Cymru o dan ei arweinyddiaeth newydd, ond mae'n amlwg fod pryderon difrifol o hyd ynghylch trefniadau llywodraethu mewnol Cyfoeth Naturiol Cymru a'r modd y mae'n gweithredu fel sefydliad. Nid yw'n glir eto i unrhyw un sut y caiff newid ei gyflwyno, ac mae'r dasg o'u blaenau'n aruthrol, ond mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru yr holl offer sydd ei angen arno bellach i wneud y gwaith o drawsnewid y sefydliad, a darparu'r gwasanaethau y mae pobl Cymru yn eu haeddu. Byddwn yn rhoi'r amser a'r lle sydd ei angen arnynt yn awr i'r sefydliad a'i arweinwyr allu cyflawni newid, ond byddwn yn gofyn am ddiweddariad ar ddiwedd y flwyddyn. Mohammad Asghar (Oscar) AC: Dengys yr adroddiad hwn gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar gyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru ei fod yn sefydliad nad yw'n addas at y diben. Cyfoeth Naturiol Cymru yw cwango mwyaf Cymru. Mae'n gyfrifol am unrhyw beth o ddiogelu cynefinoedd a bywyd gwyllt, coetiroedd, monitro ansawdd dŵr a pherygl llifogydd i reoleiddio gorsafoedd pŵer a safleoedd prosesu gwastraff. Fel y dywedodd Nick Ramsay yn gynharach, mae'n ddigynsail ac yn annerbyniol fod sefydliad mor bwysig wedi cael ei gyfrifon wedi'u cymhwyso am dair blynedd yn olynol. Ac mae'n dangos pa mor ddall y gall un Lywodraeth fod. Roedd y pwyllgor yn ei chael h'n anodd dod o hyd i unrhyw esboniad rhesymegol pam y caniataodd Cyfoeth Naturiol Cymru i'r sefyllfa hon godi. Ni allech ond dod i'r casgliad nad oedd eu mesurau rheoli mewnol yn addas at y diben, neu eu bod yn israddol yn bendant. Yr hyn sy'n peri pryder arbennig yw bod yr un materion ynghylch afreoleidd-dra wedi cael sylw dair blynedd yn ôl. Ar y pryd, mynegodd yr archwilydd cyffredinol bryder nad oedd Cyfoeth Naturiol Cymru i'w gweld yn derbyn yn llwyr ei feirniadaeth o'u gweithredu mewn perthynas â dyfarnu contractau hirdymor a'u bod yn ceisio bychanu arwyddocâd y feirniadaeth honno. Dangosir hyn gan y dadlau ynglŷn â sut y câi pren ei werthu, dro ar ôl tro, heb fynd i farchnad agored. Anwybyddwyd y rheolau masnachu teg yn gyfan gwbl yn yr achos hwn. Arweiniodd y sgandal at golli o leiaf £1 filiwn i drethdalwyr Cymru ac at ymddiswyddiad cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru—sefyllfa a ddisgrifiwyd gan un Aelod Llafur o'r Cynulliad ar y pryd, a dyma'i ddyfyniad: mae angen atebolrwydd gan uwch-arweinwyr y sefydliad hwn sydd i'w weld fel pe bai allan o reolaeth. Gwelwyd colli ffydd ar raddfa eang o ganlyniad i hynny yn Cyfoeth Naturiol Cymru. Yn ddiweddar, anfonodd deg o gwmnïau pren lythyr ar y cyd at Lywodraeth Cymru yn dweud nad oedd ganddynt hyder yng ngallu Cyfoeth Naturiol Cymru i reoli coedwigaeth yng Nghymru. Roeddent yn honni bod 12,000 o swyddi yn yr economi wledig a £100 miliwn o fuddsoddiad newydd dros y pum mlynedd nesaf mewn perygl. Roedd y cwmnïau hyn wedi dod i'r casgliad nad oedd ganddynt hyder yng ngallu Cyfoeth Naturiol Cymru i ddarparu gwasanaeth masnachol hyfyw, cynaliadwy ac wedi'i lywio gan egwyddorion economaidd. Mae'n ymddangos bod y diffyg hyder hwn yn Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael ei adlewyrchu yn agwedd ei staff. Cafodd canlyniad ymarfer ymgynghori i staff mewnol ar ailstrwythuro'r sefydliad ei ryddhau'n answyddogol i'r BBC ym mis Rhagfyr y llynedd. Roedd bron ddwy ran o dair o staff Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymateb i'r ymgynghoriad hwn. Ddirprwy Lywydd, o'r rhain, roedd 62 y cant yn cytuno bod angen newid ond yn gryf yn erbyn y cynllun ac yn hynod feirniadol o'r broses. Mynegwyd pryderon hefyd na fyddai'r strwythur newydd yn darparu gwasanaeth addas ar gyfer pobl ac amgylchedd Cymru. Byddai'r arbenigedd wedi'i daenu'n rhy denau a soniai'r staff am y lefelau straen uchel gyda phobl yn teimlo nad oeddent yn cael eu gwerthfawrogi'n llawn, a'u bod yn ddiwerth. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud cam â phobl Cymru mewn ffordd systematig. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud yn glir y byddem yn cael gwared ar Cyfoeth Naturiol Cymru ac yn creu dau gorff ar wahân yn ei le: un i ymdrin â dyletswyddau rheoleiddio a gyflawnir gan y sefydliad a'r llall i ymdrin â'i agweddau masnachol. Gallwn i gyd gytuno na ellir caniatáu i'r sefyllfa bresennol barhau. Mae'r pwyllgor wedi gwneud tri argymhelliad. Derbyniwyd tri gan Lywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru. Dyma'r cyfle olaf i Cyfoeth Naturiol Cymru. Dyma eu cyfle olaf i wneud y newidiadau sydd eu hangen i gyflawni gwerth am arian i'r trethdalwr ac i sicrhau amddiffyniad effeithlon ac effeithiol i'r amgylchedd yng Nghymru a rhoi ffydd arian cyhoeddus mewn sefydliad. Diolch. Llyr Gruffydd AC: Dwi’n diolch i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus am ei adroddiad. I fi, mae e’n codi dau gwestiwn llawer mwy sylfaenol, efallai, na rhai o’r manylion rŷn ni wedi bod yn eu trafod. Mae’r ddau yn gwestiynau—un yn ymwneud, wrth gwrs, â sgôp cyfrifoldeb Cyfoeth Naturiol Cymru, a’r llall yn ymwneud â gallu neu gapasiti Cyfoeth Naturiol Cymru i ddelifro’r cyfrifoldebau hynny. Nawr, mae sgôp y cyfrifoldebau wrth gwrs yn rhywbeth rŷn ni wedi ei wyntyllu o’r dyddiau cynnar cyn creu Cyfoeth Naturiol Cymru. Hynny yw, gallu’r corff neu beidio i chwarae rôl fasnachol a rôl reoleiddiol ar yr un pryd. Dwi’n cofio’r term Chinese walls yn cael ei ddefnyddio’n amlach fan hyn nag yn unlle arall ar un adeg pan oedd y drafodaeth honno yn digwydd. Ac mae yna nifer o leisiau o’r dyddiau hynny hyd nawr wedi bod yn cwestiynu a ydy hynny yn addas, ac un eto yn y Western Mail y bore yma—John Owen Jones, cyn-Weinidog yn Swyddfa Cymru, neu'r Swyddfa Gymreig fel yr oedd hi, a chadeirydd olaf y Comisiwn Coedwigaeth yma yng Nghymru—yn disgrifio creu Cyfoeth Naturiol Cymru fel enghraifft glasurol o wneud polisi sâl, a dim digon o drafod â’r sector coedwigaeth, meddai fe, wrth i’r ymrwymiadau maniffesto gael eu gwneud. Wel, ŷch chi’n gwybod, rwy’n gwybod bod yna wahaniaeth barn, ond mae’n dweud rhywbeth pan ŷn ni’n dod i bwynt, fel y gwnaethon ni’r mis diwethaf, pan oedd Confor, ar ran y sector, yn datgan diffyg hyder yng ngallu Cyfoeth Naturiol Cymru i ddelifro ei waith fel y bydden ni am weld iddyn nhw ei wneud. Ac, wrth gwrs, mae’r datganiad o ddiffyg hyder hwnnw’n arwyddocaol iawn, fel rŷn ni wedi clywed. Maen nhw’n cyflogi’n uniongyrchol 4,000 o bobl, yn anuniongyrchol yn cefnogi 12,000 o swyddi yn yr economi wledig, ac yn cyfrannu £40 miliwn o refeniw gwerthiant coed i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn. Mae’r sector yn galw am gymryd yr elfen goedwigaeth fasnachol yna oddi ar Gyfoeth Naturiol Cymru a chreu endid ar wahân o fewn Llywodraeth Cymru. I fi, mae hynny’n ddigon inni ofyn y cwestiwn, inni gymryd cam yn ôl, ac inni edrych—ydy hi felly yn werth inni gael rhyw fath o ymchwiliad annibynnol? A does dim eisiau inni fod ofn gwneud hynny. Mae’n berffaith ddilys inni ofyn y cwestiwn. Bum mlynedd i mewn i fodolaeth y corff yma, oes yna wersi y dylen ni fod yn eu dysgu ac a ddylen ni fod yn ailedrych ar eu cyfrifoldebau nhw? Ac os ydy’r ymchwiliad yn canfod bod angen newid, wel mae yna le i ymchwiliad hefyd awgrymu modelau amgen. Neu os oes yna ganfyddiad ei fod e yn dderbyniol, wel, wrth gwrs, wedyn mae angen adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi cychwyn—a dwi’n cydnabod hynny o ran Cyfoeth Naturiol Cymru—i ailadeiladu perthynas â’r sector. Felly, dyna ni gyffwrdd â sgôp y cyfrifoldebau. Wedyn, wrth gwrs, mae’r isiw parhaol yma o gapasiti Cyfoeth Naturiol Cymru i ddelifro cyfrifoldebau yn y maes yma. Mae wedi cael, fel corff, toriad o 35 y cant i ariannu, mewn termau real, ers cael ei sefydlu: traean o’i gyllideb—y non-flood grant in aid, os dwi’n cofio’n iawn, yw’r term—wedi cael ei golli mewn cwta pum mlynedd. Ac, wrth gwrs, ar yr un pryd, rŷn ni wedi gweld cyfrifoldebau yn cynyddu trwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, trwy Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, ac yn fwyaf diweddar, wrth gwrs, trwy ehangu'r rheoliadau yn ymwneud â’r reservoirs yng Nghymru, sydd yn dod â chostau sylweddol, heb sôn am Brexit a’r rhyferthwy fydd yn wynebu Cyfoeth Naturiol Cymru yn y cyd-destun hynny. Ac maen nhw ar trajectory cwbl anghynaladwy, rhwng cyllideb a chyfrifoldebau—cyfrifoldebau yn ehangu, cyllidebau yn crebachu. Dyw e ddim yn gweithio, dyw e ddim yn gynaliadwy. Llyr Gruffydd AC: Nawr, mae dyraniad y cymorth grant nad yw ar gyfer llifogydd gan Lywodraeth Cymru wedi gostwng 5 y cant yn y flwyddyn ariannol hon, a dilynodd hynny—[Torri ar draws.] O, ewch ymlaen. Jenny Rathbone AC: Mewn gwirionedd, mae'n 3.7 y cant. Gwelsom hynny yn y pwyllgor amgylchedd heddiw. Llyr Gruffydd AC: Wel, rwy'n dyfynnu ffigur y pwyllgor amgylchedd y bore yma. Mae i lawr 5 y cant yn y flwyddyn ariannol gyfredol hon, nid yn y flwyddyn ariannol nesaf. Dyna lle rydym yn gwahaniaethu ar y ffigur hwnnw. Ond mae hynny'n erbyn setliad gwastad y llynedd hefyd—dyna ni, rydych wedi fy nrysu i nawr hefyd—y flwyddyn ddiwethaf. Felly, gwyddom yn union beth yw'r sefyllfa. Ac mae'r anawsterau hynny bellach yn cael eu rheoli, wrth gwrs, drwy ostyngiadau parhaus yn y costau gweithredu, mae wedi gweld cynllun ailwerthuso swyddi sydd wedi arwain at 50 yn llai o staff ac wrth gwrs, gwelsom yr adolygiad cyfan o’r sefydliad yn digwydd mor fuan wedi i'r holl ad-drefnu ddigwydd, gallwn ddweud, a fydd yn golygu y caiff gwasanaethau eu hailgyflunio yn y ffordd y cânt eu darparu. Bydd rhai gwasanaethau yn gweld darpariaeth arafach ac ni chaiff rhai eu darparu o gwbl. Ac mae un cwestiwn arall sylfaenol i Lywodraeth Cymru i orffen: mae'n rhaid ichi benderfynu, a ydych chi wir eisiau sefydliad sy'n gweithredu'n briodol, sy'n cael ei ariannu'n briodol sy'n hyrwyddo ac yn cynorthwyo i sicrhau cynaliadwyedd yng Nghymru, neu a fydd yn brin o'r adnoddau sydd eu hangen arno i wneud ei waith? Ac yn hyn oll, cofiwch am y staff, ased mwyaf y sefydliad—maent yn gwneud gwyrthiau mewn amgylchiadau anodd tu hwnt. Jenny Rathbone AC: Rwy'n gwybod bod llawer o bobl yn dweud bod uno'r tri sefydliad yn rhwym o fethu, ond nid wyf yn un o'r bobl hynny; nid wyf yn cytuno â John Owen Jones. Yn wir, rwy'n credu bod y ffordd y cafodd ei wneud yn amlwg yn rhywbeth y mae angen i ni ddysgu oddi wrtho, ond mewn gwirionedd, mae cryfder mawr mewn dod â gwahanol swyddogaethau'r corff amgylcheddol hwn at ei gilydd mewn un sefydliad, ac rwy'n gobeithio ei fod yn mynd i weithio yn awr. Y rheswm pam y credaf fod angen iddynt fod mewn un sefydliad yw bod Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn ei gwneud yn ofynnol inni edrych ar ein holl gyfrifoldebau amrywiol yn gyfannol fel ein bod yn deall am liniaru newid hinsawdd, ein bod yn deall sut y gallwn ddefnyddio ein coedwigoedd i weithredu fel sinc carbon, yn ogystal ag ar gyfer bioamrywiaeth, yn ogystal â chreu digon o bren i adeiladu tai priodol yn amgylcheddol y bydd eu hangen arnom yn y dyfodol, er enghraifft, yn ogystal â manteisio ar y nwyddau cyhoeddus gwych y cawsom ein bendithio â hwy yng Nghymru, sef drwy ynni adnewyddadwy, sy'n ein galluogi i leihau unrhyw ddibyniaeth ar garbon ar gyfer cynhyrchu ynni. Gallem hefyd ddefnyddio hwnnw fel rhywbeth i’w allforio. Felly, credaf fod yna bosibiliadau mawr i Cyfoeth Naturiol Cymru yn ogystal â heriau, yn amlwg, i unioni'r camgymeriadau a wnaethpwyd yn y gorffennol. Yn amlwg, roedd trefniadau llywodraethu Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwbl annigonol, a dyna un o'r pethau lle rwy'n meddwl y bydd angen inni fyfyrio o ddifrif ar sut yr oedd gennym fwrdd nad oeddent yn deall yn union beth oedd eu gwaith. Rwy'n falch o ddweud bod yr archwiliad mewnol a'r pwyllgor sicrhau risg wedi gwneud adolygiad a oedd yn hynod o boenus, rwy'n siŵr, o’r modd y gwnaethant weithredu, neu na wnaethant weithredu, a chredaf fod rhywfaint o dystiolaeth nad oeddent wedi cael y wybodaeth oedd ei hangen arnynt, ond nid oedd ganddynt unrhyw synnwyr o ymchwiliad i dreiddio ychydig yn ddyfnach chwaith, yn hytrach na chymryd pethau fel yr oeddent ar yr wyneb. Mae ganddynt gadeirydd newydd ar y pwyllgor archwilio a sicrhau risg bellach, a theimlaf yn sicr fod y grŵp o bobl sydd wedi wedi'u dwyn ynghyd ar lefel uchel iawn i oruchwylio lefel y newid sy'n ofynnol i sicrhau nad yw'r contractau pren hyn byth yn cael eu cynnwys mewn ffordd amhriodol yn y dyfodol yn mynd i fynd at wraidd hynny. Ond cytunaf fod angen inni edrych ymlaen i wneud yn siŵr nad oes problemau'n codi mewn cyfeiriad gwahanol am ein bod wedi datrys y ffordd rydym yn rheoli ein hasedau pren. Gwn fod nifer o bobl yn dweud—. Dywedodd Nick Ramsay, 'Wel, efallai eu bod angen arbenigwr ar bren ar y bwrdd.' Wel, nid wyf yn siŵr eu bod, oherwydd pe bai gennych arbenigwr ar bren ar y bwrdd, byddai marc cwestiwn ar unwaith ynglŷn â'r posibilrwydd o fuddiant personol i achosi gwrthdaro. Pe baent yn rhywun a fyddai wedi dod o gyfandir arall gyda phrofiad o gontractau pren, efallai, cyn belled â'u bod bellach wedi gadael y busnes. Ond credaf y byddai rhywun sydd â phrofiad o osod contractau mawr yr un mor bwysig. Nid oes ots mewn gwirionedd beth yw'r cynnyrch, mae'n ymwneud â gwybod bod gennych arbenigedd cyfreithiol ac ariannol i ddeall gwerth beth bynnag y ceisiwch ei fasnachu a sicrhau y gwneir hynny mewn ffordd sy'n bodloni ein rhwymedigaethau o dan reoliadau Ewropeaidd, yn ogystal â beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol inni ei wneud. Felly, ar y lefel sylfaenol, buaswn yn cytuno bod yna lawer o bobl wych yn rheng flaen Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gwneud gwaith gwych, ac nid oes ond rhaid i chi gofio'r mannau yr ymwelsomâ hwy lle y cyfarfuom â'r bobl ar lawr gwlad sy'n hynod o frwdfrydig ynglŷn â'r hyn y maent yn ei wneud. Ar ôl treulio llawer o amser gydag uwch-arweinwyr Cyfoeth Naturiol Cymru yr wythnos hon, yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ac yn y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig y bore yma, rwy'n credu bod ganddynt y sgiliau sydd eu hangen i drawsnewid y sefyllfa hon a'i gwneud yn llwyddiant. Felly, nid wyf yn meddwl bod angen ymchwiliad annibynnol ar hyn o bryd. Pe baent yn methu, yn amlwg, gallai hynny fod yn fater gwahanol, ond mae gennyf hyder yn y prif weithredwr presennol a'r cadeirydd, ar ôl eu gweld yn gweithredu, yn ogystal â'r cyfarwyddwr adnoddau a oedd gyda ni yn y bore yma. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr y gallwn edrych ymlaen at yr hyn sydd, mewn gwirionedd, yn sefydliad pwysig tu hwnt ar gyfer sicrhau y gall Cymru fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sy'n deillio o'n hadnoddau naturiol gwych ac nid eu gweld yn cael eu gwastraffu. Adam Price AC: Wel, yn sicr mae'r adroddiad hwn gan y pwyllgor ac yn wir, yr adroddiad Grant Thornton dilynol ac adroddiadau blaenorol gan Swyddfa Archwilio Cymru wedi datgelu—sut mae dweud—methiant systemig, mewn gwirionedd, o safbwynt rheolau cyffredin llywodraethu ac archwilio, ac arweinyddiaeth yn fwy cyffredinol, rwy'n credu, ac mae yna broblemau o ran capasiti yn ogystal, fel y dywedodd Llyr Gruffydd. Ond credaf eu bod hefyd wedi dangos sector sydd mewn argyfwng dybryd. Credaf fod rhai o wreiddiau'r argyfwng hwnnw'n gorwedd—neu wedi bod, ar sail y dystiolaeth—yn y trefniadau uno hyd yn hyn. A buaswn yn anghytuno bodarbenigedd pwnc ar y bwrdd yn amherthnasol, oherwydd byddai'n anodd dychmygu, er enghraifft, yn nyddiau'r Comisiwn Coedwigaeth, neu yn wir yn y Comisiwn Coedwigaeth yn Lloegr a'r Alban yn awr, nad oes yno gomisiynwyr coedwigaeth sy'n gwybod rhywbeth am goedwigaeth. Oes, mae gennych sgiliau eraill yno, ond yn sicr byddai gennych bob amser bobl a oedd yn meddu ar wybodaeth ddofn yn y maes. Ac yna mae'r problemau gyda gwrthdaro buddiannau'n cael sylw yn hynny o beth, fel y maent ym mhob sector neu achos arall. [Torri ar draws.] Iawn. Jenny Rathbone AC: Ond does bosib na allwch gael yr arbenigedd hwnnw drwy gyfarwyddwr coedwigaeth neu gyfarwyddwr rheoli tir, sy'n swyddog gweithredol yn hytrach na pherson anweithredol y mae angen iddo gyflwyno sgiliau ehangach. Adam Price AC: Rwy'n anghytuno. Ym mhob achos, mae angen i aelodau anweithredol hefyd allu gofyn cwestiynau da er mwyn cyflawni eu swyddogaeth her feirniadol, ac o sylfaen wybodaeth yn unig y gallant wneud hynny, ac mae hynny wedi bod yn brin yn yr achos hwn. Mae'n sector pwysig yn economaidd. Mae'n fwy mewn gwirionedd o ran gwerth ychwanegol nag amaethyddiaeth ac yn wir, o ran yr economi wledig, mae ei bwysigrwydd hyd yn oed yn fwy arwyddocaol. O ran lleihau newid yn yr hinsawdd, mae'n gwbl ganolog, a dyna pam y mae Llywodraeth Cymru wedi gorfod ymestyn ei tharged, wrth gwrs, mewn ymateb i argymhelliad y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd, i 4,000 hectar. Fel y nodais mewn cwestiynau i'r Prif Weinidog, mae hwn yn un o'r meysydd perfformiad gwaethaf yn erbyn unrhyw darged Llywodraeth. Felly, roedd y targed yn golygu plannu 2,000 hectar y flwyddyn o goetir newydd. Yn y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi bod yn cyflawni 200 hectar, rwy'n credu. Mewn gwirionedd, y pedair blynedd ddiwethaf yw'r pedair blynedd waethaf o blannu coetir newydd ers 1971. Mae cyfraddau ailstocio—maent ar eu gwaethaf ers 1990. Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru ei banc tir ei hun—y creithiau a welwch ar dirwedd Cymru yn awr o ardaloedd sydd wedi'u cwympo ond heb eu hailstocio. Mae ganddynt 6,000 hectar heb eu hailstocio ar hyn o bryd. Dyna werth pedair blynedd o gynhyrchiant. Y rheswm pam eu bod wedi cyflwyno'r contract gwarthus 'gwerthiannau sefydlog plws' yn 2016 oedd oherwydd nad oedd gan Cyfoeth Naturiol Cymru gyllid i allu adeiladu'r seilwaith nac ailstocio eu hunain, ac felly roedd y contractau hyn i fod i gael eu defnyddio fel mecanwaith iddynt allu cynaeafu coed ac ailstocio am y gost leiaf. Wel, mae'n amlwg nad yw wedi gweithio; mae'r ffigurau'n siarad drostynt eu hunain. Ac wrth gwrs, os edrychwch tua'r dyfodol, mae'n waeth hyd yn oed, am mai'r rhagfynegiad cyfredol yw bod 47 y cant yn llai o bren meddal yn mynd i fod ar gael yng Nghymru dros y 25 mlynedd nesaf. Daw'r tangyflawniad hwn yn y sector ar adeg pan fo prisiau pren yn uwch nag y buont ers 30 mlynedd. Pam? Yn rhannol oherwydd y galw gan fiomas wrth gwrs, ac felly mae pawb yn y sector yng Nghymru—dyna pam y mae'r Gweinidog wedi cael y llythyr hwn gan y 10 cwmni dan sylw—yn dweud, 'Edrychwch, gallem ddatblygu'r diwydiant hwn; mae'n adnodd anferth i Gymru,' ac eto rydym yn tangyflawni'n enbyd. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru ei hun ar hyn o bryd yn cynhyrchu 800,000 o dunelli y flwyddyn. Mae'r ffigur hwnnw ar fin disgyn 34 y cant dros yr 20 mlynedd nesaf i 531,000 tunnell, ac mae'n gwbl ddiangen. Beth bynnag yw'r ateb strwythurol i'r cwestiwn hwn—ac efallai y bydd gennym farn wahanol ar hynny yn y Siambr hon—a gawn ni gyfaddef o leiaf fod methiant hollol allweddol wedi bod yn y maes polisi cyhoeddus hwn? Mae'n bwysig yn economaidd, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru, ond mae hefyd yn effeithio ar ein gallu i gyrraedd targed arall y Llywodraeth ei hun ar newid hinsawdd, ac yn y bôn, y Gweinidog a ddylai gymryd cyfrifoldeb yn hyn o beth. Caroline Jones AC: Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn bodoli i wneud y defnydd gorau o'n hadnoddau, i warchod ein hamgylchedd, i ddiogelu ein treftadaeth naturiol ac i orfodi amddiffyniadau amgylcheddol. Yn anffodus, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gamweithredol, fel yr amlygwyd gan Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i gyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2017-18. Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus am gynhyrchu eu hadroddiad, ac am y ffaith y byddant yn cadw llygad barcud ar y sefydliad dros y flwyddyn sydd i ddod. Yn wyneb trychineb ecolegol byd-eang, mae diogelu'r amgylchedd a chadwraeth natur yn rhai o dasgau pwysicaf llywodraeth. Nid oedd y penderfyniad i uno swyddogaethau Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd a'r Comisiwn Coedwigaeth yn anghywir, ond roedd eu troi'n fawr mwy nag adran o'r Llywodraeth sydd wedi'i thanariannu a heb ddigon o adnoddau yn anfaddeuol. Mae newid hinsawdd yn bygwth ein bodolaeth, ac fel yr amlygwyd gan adroddiad gan y Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus ddoe, mae llunwyr polisi a gwleidyddion wedi methu deall difrifoldeb yr argyfwng amgylcheddol sy'n ein hwynebu. Felly mae'n hanfodol fod gennym sefydliadau—hyd braich oddi wrth y Llywodraeth os yn bosibl—a all ddiogelu ein hamgylchedd a gwarchod ein bioamrywiaeth. Mae mesur sy'n asesu pa mor iach yw bioamrywiaeth gwlad yn awgrymu bod y DU wedi colli cryn dipyn yn fwy o natur yn hirdymor na'r cyfartaledd byd-eang. Mae'r mynegai'n awgrymu ein bod ymhlith y gwledydd lle mae natur wedi teneuo fwyaf yn y byd. Yn ôl adroddiad cyflwr natur yr RSPB, rhwng 1970 a 2013, mae 56 y cant o rywogaethau wedi gweld gostyngiad, gyda 40 y cant ohonynt yn dangos gostyngiad mawr neu gymedrol. O'r bron i 8,000 o rywogaethau a aseswyd drwy ddefnyddio meini prawf modern y rhestr goch, mae 15 y cant wedi diflannu neu dan fygythiad o ddiflannu o Brydain. Rydym yn colli oddeutu 2 filiwn tunnell o uwchbridd yn sgil erydu bob blwyddyn yn y DU. Rwy'n sylweddoli mai dadl am gyfrifon ariannol Cyfoeth Naturiol Cymru yw hon, ond mae'n bwysig amlinellu maint yr heriau sy'n wynebu'r sefydliad a'r rôl hanfodol y maent yn ei chwarae yn amddiffyn ein gwlad. Mae'r ffaith bod cyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru wedi'u cymhwyso am y drydedd flwyddyn yn olynol yn bwrw amheuaeth ynglŷn â'u rheolaeth ariannol ac yn codi cwestiynau ynglŷn â'u gallu i warchod ein bioamrywiaeth a diogelu yn erbyn newid hinsawdd. Mae gwaith y pwyllgor ac Archwilydd Cyffredinol Cymru yn tynnu sylw at broblemau llywodraethu lluosog Cyfoeth Naturiol Cymru. Rwy'n cefnogi argymhellion y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn llawn. Mae'r ffaith ei bod wedi cymryd cyhyd i Lywodraeth Cymru weithredu yn wyneb diffygion difrifol Cyfoeth Naturiol Cymru yn golygu bod yr adolygiad annibynnol o drefniadau llywodraethu Cyfoeth Naturiol Cymru ymhell ar ei hôl hi a rhaid ei wneud yn gyhoeddus. Croesewir y ffaith y bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn cadw golwg ar ddiwygiadau Cyfoeth Naturiol Cymru, ond o gofio pwysigrwydd rôl Cyfoeth Naturiol Cymru, mae'n hanfodol ein bod yn cael adolygiad, nid yn unig o drefniadau llywodraethu'r sefydliad, ond ei gylch gorchwyl cyfan hefyd, i sicrhau ei fod yn addas at y diben. Mae hyn yn mynd ymhell y tu hwnt i gamdrafod contractau pren. Mae swyddogaethau Cyfoeth Naturiol Cymru yn allweddol i'n gwlad. Rhaid inni sicrhau bod y sefydliad yn cael y cyllid cywir, yr adnoddau priodol a'r staff gorau er mwyn cyflawni'r swyddogaethau hynny. Diolch yn fawr. Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths? Lesley Griffiths AC: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a diolch ichi am y cyfle i ymateb yn ystod y ddadl hon heddiw. Gwnaeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus dri argymhelliad yn dilyn eu gwaith craffu ar adroddiadblynyddol a chyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymateb i'r ddau argymhelliad cyntaf. Ysgrifennais at y pwyllgor ar 11 Ionawr yn nodi ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunais i ystyried canfyddiadau'r adolygiad annibynnol a gomisiynwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd a'r dystiolaeth a roesant i'r pwyllgor yn gynharach yr wythnos hon. Croesawaf adroddiad y pwyllgor a'i waith yn herio Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ein hadnoddau naturiol yn cael eu cynnal a'u gwella yn awr ac yn y dyfodol. Rwyf am roi fy sicrwydd fod Llywodraeth Cymru yn gwbl barod i fynd i'r afael â'r materion a ddisgrifir yn adroddiad y pwyllgor. Rydym yn benderfynol o weld y newidiadau angenrheidiol yn Cyfoeth Naturiol Cymru ac o ddysgu gwersi. Rydym yn cydnabod ac yn croesawu rôl y Cynulliad Cenedlaethol yn craffu ar y broses hon ac yn gwneud ei gyfraniad i sbarduno'r newid hwnnw. Ers i'r archwilydd cyffredinol gymhwyso cyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru yr haf diwethaf, rwyf wedi penodi cadeirydd dros dro a chwe aelod newydd o'r bwrdd. Mae'r newidiadau hyn i'r bwrdd yn golygu y bydd y cyflenwad llawn o gryfderau'r aelodau a fu yno hiraf wedi'i gyfuno â'r aelodau newydd yn sicrhau bod gennym y cymysgedd o brofiad a gwybodaeth sydd ei angen i sicrhau arweinyddiaeth gref ar gyfer sefydliad mawr a chymhleth. Yn wir, yn ystod sesiwn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ddydd Llun, amlinellodd y cadeirydd dros dro yr effaith gadarnhaol yr oedd arweinyddiaeth y bwrdd newydd eisoes yn ei gynnig i Cyfoeth Naturiol Cymru, ac yn ei sylwadau, credaf fod y Cadeirydd, Nick Ramsay, wedi cyfeirio at y newid y mae'r arweinyddiaeth newydd yn ei wneud i'r sefydliad bellach. Rwyf wedi siarad yn fanwl â'r prif weithredwr am yr adolygiad annibynnol o weithrediadau coedwigaeth masnachol Cyfoeth Naturiol Cymru, a gyflawnwyd gan Grant Thornton. Rwy'n fodlon ei bod hi a'r cadeirydd dros dro yn dangos arweiniad cryf ar unioni pethau yn y sefydliad. Mae'r sefydliad yn derbyn canfyddiadau ac argymhellion adroddiad Grant Thornton ac yn gwneud cynnydd cyflym ar eu gweithredu. Byddant yn rhoi gwybod i mi am eu cynnydd ar y rhain yn ein cyfarfodydd rheolaidd. Mae'r adroddiad, sydd ar gael i'r cyhoedd, yn sbardun pwerus ar gyfer newid. Mae'r newidiadau angenrheidiol i reoli contractau a nodir yn yr adroddiad yn galw am frys arbennig. Gwn fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael cyngor gan yr asiantaethau priodol i'w helpu gyda hyn. Lle mae Grant Thornton wedi awgrymu bod angen ymchwilio ymhellach i broblemau, maent wedi fy sicrhau bod eu tîm archwilio mewnol yn gwneud hynny. Yn sesiwn dystiolaeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yr wythnos hon, dywedodd y prif weithredwr fod eu tîm archwilio mewnol yn adolygu'r contractau sy'n weddill ac sydd heb eu cynnwys yn adolygiad Grant Thornton. Bydd canlyniadau'r rhain ar gael i'w pwyllgor archwilio a sicrhau risg, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o Swyddfa Archwilio Cymru a Llywodraeth Cymru. Ddoe, cyfarfûm â chynrychiolwyr y Cydffederasiwn Diwydiannau Coedwigoedd. Maent wedi dweud wrthyf eu bod yn barod i weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru ac yn hyderus fod yna atebion clir i'r pryderon a fynegwyd ganddynt yn y gorffennol. Caf sicrwydd o fy nhrafodaethau gyda'r Cydffederasiwn a Cyfoeth Naturiol Cymru ein bod bellach mewn sefyllfa gryfach i weld y sector coedwigaeth yn cyflawni hyd yn oed mwy o werth i economi Cymru a gall y diwydiant wneud cyfraniad mwy byth i warchod a gwella ein hamgylchedd naturiol. Hoffwn atgoffa'r Aelodau—a Mohammad Asghar yn enwedig—fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael ei gynnal gan lawer o staff gweithgar ac ymroddedig ar draws y wlad gyfan, ac maent yn haeddu ein parch. Roeddwn yn siomedig iawn eich clywed yn dweud eu bod wedi gwneud cam â phobl Cymru. Ar adegau, mae'r trafodaethau cyhoeddus ynghylch heriau mewn un rhan o waith Cyfoeth Naturiol Cymru wedi anwybyddu'r ffaith bod y sefydliad yn cyflawni rhai o'n cyfrifoldebau mwyaf sylfaenol i bobl Cymru. Heddiw, a phob dydd o'r flwyddyn, mae staff Cyfoeth Naturiol Cymru yn diogelu cartrefi pobl rhag effeithiau dinistriol llifogydd, maent yn mynd i'r afael â melltith gwastraff anghyfreithlon, maent yn gwarchod ein rhywogaethau brodorol mwyaf agored i niwed rhag difodiant. Maent yn gwneud gwaith rhagorol—fel y nododd Llyr Huws Gruffydd a Jenny Rathbone—yn aml mewn amgylchiadau heriol iawn, ac rwy'n annog yr Aelodau i fanteisio ar y cyfle i ddangos eu gwerthfawrogiad, a hoffwn gofnodi fy niolch diffuant iddynt. Helen Mary Jones AC: Yn dilyn y sylwadau a wnaeth fy nghyd-Aelod, Llyr Gruffydd, credaf y byddai pawb ohonom yn cydnabod y darlun yr ydych yn ei baentio o'r gwaith rhagorol y mae staff yn ei wneud mewn cyfnod heriol tu hwnt. Ond pa mor hyderus ydych chi fod ganddynt ddigon o adnoddau i wneud hynny? Oherwydd beth am y cwestiwn a ofynnodd Llyr ynglŷn â'r galw ar staff, yn y bôn, i wneud mwy am lai. Gwn mai dyna'r sefyllfa ar draws yr holl sector cyhoeddus yng Nghymru, ond mae hyn mor bwysig. Lesley Griffiths AC: Rwy'n cytuno. Yn amlwg, dyna'r darlun ar draws y sector cyhoeddus cyfan, ac mae'n gwestiwn rwyf wedi'i ofyn ynglŷn â chapasiti; cyfeiriodd rhai o'r Aelodau at gapasiti a gallu. Yn amlwg, maent wedi cael toriadau yn eu cyllideb. Nid gennym ni yn unig y maent yn cael cyllid, er hynny—credaf y dylid cydnabod hynny—ac rydym wedi gweithio gyda hwy i sicrhau eu bod yn gallu edrych ar gyfleoedd eraill ar gyfer cael arian. Rwyf hefyd wedi gallu rhoi symiau ychwanegol o arian nad ydynt yn enfawr, ond sy'n sylweddol er hynny, ar ben eu cyllideb. Dyna drafodaeth a gefais gyda'r prif weithredwr ddoe. Cyfarfûm â hi eto, ac mae'n fy sicrhau bod hynny'n wir. Ond credaf ei fod yn rhywbeth y mae'n rhaid inni gadw llygad barcud arno. Gwn fod aelodau'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus—gwyliais y sesiwn, ac roeddwn yn meddwl ei bod hi'n dda iawn eu bod wedi nodi eu hawydd i fynd i ymweld â Cyfoeth Naturiol Cymru ar lawr gwlad. Gwn fod llawer o'r Aelodau eisoes wedi gwneud hynny. Ond credaf ei fod yn gyfle i weld y gwaith gwych y maent yn ei wneud. Mae angen inni wneud mwy i sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru mewn sefyllfa i gyflawni ei rôl allweddol yn ôl y safonau uchel y mae Llywodraeth Cymru a phobl Cymru yn eu disgwyl. Ni chredaf y byddai ymchwiliad annibynnol o fudd ar hyn o bryd. Yn amlwg, maent newydd fynd drwy adolygiad annibynnol. Mae angen inni edrych ar yr hyn a ddeilliodd o hynny yn gyntaf. Mae gennyf hyder yn y cadeirydd dros dro a'r prif weithredwr. Nid oes gennyf amheuaeth y byddant yn glynu wrth yr ymrwymiadau a wnaethant i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn gynharach yr wythnos hon ac y byddant yn cyflawni pob newid sydd ei angen. Fel y dywedais yn fy ymateb i adroddiad y pwyllgor, rwyf am roi amser yn awr i adolygu'r dystiolaeth a roesant i'r pwyllgor ddydd Llun, ynghyd ag adroddiad Grant Thornton, a byddaf yn ysgrifennu at y pwyllgor gyda fy ystyriaethau erbyn diwedd mis Mawrth. Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Nick Ramsay i ymateb i'r ddadl? Nick Ramsay AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw? Fel y gwnaethpwyd yn glir, rwy'n credu bod dau fater sylfaenol yn ganolog i'r ddadl hon heddiw: beth sydd wedi mynd o'i le ar drefniadau llywodraethu Cyfoeth Naturiol Cymru a faint o amser a gymer i unioni'r sefyllfa. Mae'r ffaith bod cyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru wedi'u cymhwyso am y drydedd flwyddyn yn olynol, ac y cânt eu cymhwyso eto yn y dyfodol, yn dangos y bu diffygion yn y sefydliad, a chredaf y bydd pawb yn derbyn bod angen mynd i'r afael â hwy. Nid yw'n gyfystyr â dweud nad yw staff gweithgar Cyfoeth Naturiol Cymru i'w canmol. Wrth gwrs eu bod. Un peth a gododd dro ar ôl tro i ni fel aelodau o'r pwyllgor oedd pa mor galed y maent yn gweithio a pha mor angenrheidiol yw eu gwaith hollbwysig ledled Cymru. Ond mae'n bwysig, fel y soniodd Helen Mary Jones, eu bod yn cael yr adnoddau angenrheidiol, eu bod yn cael y gefnogaeth honno, felly dyna yw bwriad y ddadl hon a'n hadolygiad. Rydym yn croesawu'r prif weithredwr a'r cadeirydd newydd. Rhannaf sylwadau'r Gweinidog o ran hynny. Gwnaeth eu hymddangosiad gerbron y pwyllgor argraff fawr arnom. Mae'n amlwg mai etifeddu hyn a wnaethant, a'u gwaith hwy yw ceisio newid y sefydliad. Mae'n mynd i fod yn hanfodol bwysig nad materion gweithredol yn unig sy'n cael eu trawsnewid, ond bod yna newid diwylliannol—newid diwylliannol dwfn yn Cyfoeth Naturiol Cymru. Nid yw wedi digwydd yn y gorffennol. Bydd angen hynny er mwyn mynd i'r afael â hyn yn y dyfodol. Os ydym yn mynd i gael sefydliad wedi'i greu o uno, rhaid uno diwylliannau'n briodol, a chlywais yr hyn a ddywedodd Jenny Rathbone am y dadleuon cryf o blaid uno sefydliadau yn gorff tebyg i Cyfoeth Naturiol Cymru. Os yw hynny'n mynd i ddigwydd mae angen inni wneud yn siŵr fod cydgysylltu priodol yn digwydd rhwng pob rhan o'r sefydliad newydd hwnnw, oherwydd credaf fod y prif weithredwr a'r cadeirydd wedi dweud wrthym nad oeddent yn teimlo bod hynny wedi digwydd yn y gorffennol. Ymddengys eu bod yn meddu ar y penderfyniad angenrheidiol i ddatrys y problemau. Comisiynwyd adolygiad Grant Thornton ganddynt, ac mae hwnnw'n palu'n ddwfn ac yn amlygu nifer o faterion, ac nid oeddem yn ymwybodol o rai ohonynt o'r blaen, pethau megis contractau gwerthiannau sefydlog. Yn ddiddorol, roedd yr anghytundeb rhwng Adam Price a Jenny Rathbone—neu'r drafodaeth, dylwn ddweud—ynglŷn ag a ddylid cael arbenigedd coedwigaeth ar y bwrdd ai peidio, wel, boed ar y bwrdd, neu ar ba ffurf bynnag y bo, rydym yn sicr yn cytuno bod angen mwy o ymwybyddiaeth o faterion coedwigaeth cyfredol o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae hynny wedi bod yn brin hyd yn hyn, a gobeithio y bydd y cadeirydd newydd, y tîm newydd, yn unioni hynny. Mae'r rhain yn broblemau sydd wedi bod ganddynt ers amser maith. Ni chânt eu datrys dros nos, ond bydd yn rhaid mynd i'r afael â hwy dros y tymor canolig, fel y cydnabu'r Gweinidog, rwy'n credu, oherwydd mae hwn yn sefydliad rhy fawr ac yn sefydliad rhy bwysig i ganiatáu iddo barhau i gael y problemau hyn yn fwy hirdymor. Diben y ddadl hon yw tynnu sylw at y materion hyn, rhoi'r gefnogaeth y maent ei hangen i'r prif weithredwr a'r cadeirydd er mwyn gwneud yn siŵr yn y dyfodol y gellir datrys y problemau hyn ac y gall Cyfoeth Naturiol Cymru fod yn addas i'r diben. Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 7. Dadl Plaid Cymru: Grant Byw’n Annibynnol Cymru Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans, a gwelliant 2 yn enw Darren Millar. Eitem 7 ar yr agenda yw dadl Plaid Cymru ar grant byw'n annibynnol Cymru, a galwaf ar Leanne Wood i wneud y cynnig. CynnigNDM6967 Rhun ap Iorwerth Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddal gafael llawn ar Grant Byw'n Annibynnol Cymru. Cynigiwyd y cynnig. Leanne Wood AC: Diolch, Lywydd. Pan ddaw haneswyr i ysgrifennu hanes y degawd diwethaf o safbwynt pobl anabl a sut y cawsant eu trin gan lywodraethau olynol, credaf y bydd yn ein beirniadu'n hallt. Canlyniadau cyfres o newidiadau i nawdd cymdeithasol a gychwynnwyd yn gyntaf gan yr Arglwydd Freud o dan Lywodraeth Tony Blair—ie, gadewch inni beidio ag anghofio mai Llywodraeth Lafur a greodd Atos—cafodd y newidiadau hynny eu cyflymu wedyn o dan y Llywodraeth glymblaid ac maent wedi bod mor ddinistriol fel y gellir eu hystyried yn un o'r ymyriadau mwyaf â hawliau dynol yn hanes Prydain. Nawr, yn y Senedd hon ac mewn mannau eraill, mae digon ohonom wedi beirniadu Llywodraeth y DU am eu hymddygiad, er mai dylanwad cyfyngedig a fu gennym o ganlyniad i hynny. Felly, mae'n fwy siomedig byth gweld patrymau ymddygiad San Steffan yn treiddio i mewn i Lywodraeth Cymru fel y bydd stori'r gronfa byw'n annibynnol yn dweud wrthym. Wrth gwrs mae'r newidiadau a gyhoeddwyd ddoe i'r ffordd y cynhelir asesiadau i'w croesawu, ac nid oes amheuaeth y bydd y Gweinidog yn ymateb i'r ddadl hon drwy amlinellu'r newidiadau hynny. Hoffwn gofnodi ein diolch a'n llongyfarchiadau i'r ymgyrchydd Nathan Davies, a fu'n ymgyrchu'n gwbl ddiflino ar hyn. Ond mae ymddygiad y Llywodraeth hon at ei gilydd hyd yma wedi bod yn un sy'n dangos tebygrwydd i'r ymagwedd a welsom gan y Torïaid yn Llundain. Pan ddatganolwyd y cyfrifoldeb am reoli'r gronfa byw'n annibynnol i Gymru, roedd Llywodraeth Cymru ar y pryd yn wynebu dau opsiwn. Ar y naill law gallent efelychu Lloegr a datganoli'r gronfa byw'n annibynnol i awdurdodau lleol, a gofyn iddynt ysgwyddo cyfrifoldeb am y gofal a'r cymorth a ddarperir. Neu ar y llaw arall, gallent gadw'r gronfa a'i gweinyddu, fel a ddigwyddodd yn yr Alban a gogledd Iwerddon. Nawr, bydd fy nghyd-Aelodau'n ymhelaethu ymhellach ar y broses benderfynu ddiffygiol sydd wedi digwydd yma, ond mae un cwestiwn rhethregol yn crynhoi'r holl ddadl hon: os ydych yn mabwysiadu dull o weithredu tebyg i'r Torïaid, pam y byddech yn disgwyl canlyniad hollol wahanol? A'r canlyniadau rhagweladwy hynny a arweiniodd at y newidiadau a gyhoeddwyd ddoe. O ddatganiad y Gweinidog ei hun: 'Mae amrywiad sylweddol i'w weld yn lleol, gyda chanran y rhai arferai dderbyn taliadau o'r Gronfa sydd â'u horiau gofal wedi gostwng yn amrywio rhwng 0% a 42% mewn gwahanol awdurdodau lleol.' Yr hyn na ellir ei fesur, wrth gwrs, yw lefel y pryder a'r straen o orfod mynd drwy ailasesiadau cyson, lle mae ansawdd eich bywyd yn y fantol. Mae pobl anabl yn siarad gyda'i gilydd. Maent yn gwybod beth ddigwyddodd gyda chyflwyno'r asesiad gallu i weithio, ac maent yn gwybod beth ddigwyddodd pan gafwyd y taliad annibyniaeth personol yn lle'r lwfans byw i'r anabl. Maent yn gwybod beth ddigwyddodd yn Lloegr i'r bobl a oedd yn cael y gronfa byw'n annibynnol. Felly, gwyddent eu bod yn wynebu asesiadau gan staff a weithiai mewn sector cyhoeddus sy'n rhagfarnu o blaid pobl heb anableddau, asesiadau gan sefydliadau o dan bwysau ariannol enfawr, ac asesiadau heb fawr o amddiffyniad yn erbyn dyfarniadau gwael. Eto, gorfododd eich Llywodraeth dros 1,000 o bobl i fynd drwy hyn a threuliodd flynyddoedd yn gwrthsefyll yr ymgyrchwyr hynny ac ymgyrchwyr eich plaid eich hun, nes y penderfynodd y Gweinidog newydd fynd yn erbyn penderfyniadau blaenorol i bob pwrpas. Nawr, os gweithredir y newidiadau a gyhoeddwyd ddoe yn briodol, ni ddylem weld unrhyw bobl anabl o gwbl ar eu colled, diolch byth. Ond byddwn yn dal i fod wedi cael system lle mae mwy o gostau gweinyddol a biwrocratiaeth a straen a phryder diangen wedi'i orfodi ar rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn y wlad hon, a chredaf y dylech ymddiheuro am hynny. Daeth y Llywydd i’r Gadair. Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig, ac rwy'n galw ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Gwelliant 1—Rebecca Evans Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru bob amser wedi neilltuo’r swm llawn o gyllid a drosglwyddwyd ar gyfer y Gronfa Byw’n Annibynnol at y diben hwnnw. 2. Yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i weithio gyda’r rhai sy’n derbyn y cyllid a’r awdurdodau lleol i sicrhau bod bwriadau Grant Byw’n Annibynnol Cymru yn parhau i gael eu cyflawni yng Nghymru. Cynigiwyd gwelliant 1. Julie Morgan AC: Yn ffurfiol. Galwaf ar Mark Isherwood i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Mark Isherwood. Gwelliant 2—Darren Millar Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pobl anabl yn bartneriaid llawn wrth ddylunio a gweithredu Cronfa Byw'n Annibynnol Cymru, sy'n diogelu hawliau pobl anabl i fyw bywydau annibynnol. Cynigiwyd gwelliant 2. Mark Isherwood AC: Diolch, Lywydd. Mae byw'n annibynnol yn galluogi pobl anabl i gyflawni eu nodau eu hunain a byw eu bywydau eu hunain yn y ffordd y maent yn dewis drostynt eu hunain. Roedd y gronfa byw'n annibynnol yn galluogi pobl anabl iawn i ddewis byw bywyd annibynnol yn y gymuned, yn hytrach nag mewn gofal preswyl. Rwy'n cynnig gwelliant 2, sy'n galw ar Lywodraeth Cymru 'i sicrhau bod pobl anabl yn bartneriaid llawn wrth ddylunio a gweithredu Cronfa Byw'n Annibynnol Cymru, sy'n diogelu hawliau pobl anabl i fyw bywydau annibynnol.' Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyfnod pontio o ddwy flynedd o fis Ebrill 2017 ymlaen, pan fyddai'n ofynnol i bawb a oedd yn derbyn grant byw'n annibynnol Cymru, neu'r GBAC, gael yr elfen hon o'u hanghenion gofal wedi'i hasesu gan eu hawdurdod lleol. Mae cael gwared ar y grant ar 31 Mawrth yn bradychu hawliau pobl anabl i fyw'n annibynnol ac i wneud eu penderfyniadau eu hunain. Yn 2015, cafodd y gronfa byw'n annibynnol ei datganoli gan Lywodraeth y DU i awdurdodau lleol yn Lloegr a'r Llywodraethau yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Gweithiodd Llywodraeth Cymru gydag awdurdodau lleol i sefydlu'r GBAC, ond fel arall ni wnaeth ddim ar wahân i gynnal ymarfer ymgynghori a sefydlu grŵp cynghori rhanddeiliaid, y dywed ei fod wedi cynhyrchu amrywiaeth o safbwyntiau. Ar y llaw arall, mae Llywodraeth yr Alban yn nodi bod ei chynllun newydd wedi'i gydgynhyrchu gan weithgor y gronfa byw'n annibynnol, gyda chynrychiolaeth o Lywodraeth yr Alban, cronfa byw'n annibynnol yr Alban, pobl anabl, gofalwyr, grwpiau anabledd ac awdurdodau lleol. Lansiodd yr Alban gronfa byw'n annibynnol yr Alban yn sgil hynny er mwyn sicrhau bod gan y rhai sy'n ei derbyn ddewis a rheolaeth. Dewisodd Gogledd Iwerddon ymuno â chynllun yr Alban, ac mae pobl anabl a grwpiau anabl yng Nghymru wedi dweud wrth y grŵp trawsbleidiol ar anabledd eu bod eisiau ymuno â'r cynllun hwnnw hefyd. Yn wahanol i Lywodraeth Cymru, na wnaeth ddim ond trosglwyddo'r cyllid blynyddol a ddaeth i law gan Lywodraeth y DU ar gyfer hyn i awdurdodau lleol, ymrwymodd Llywodraeth yr Alban £5 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol hefyd. Ym mis Tachwedd 2016, dadleuodd y Gweinidog yma ar y pryd fod trosglwyddo'n llawn i gyfrifoldeb awdurdod lleol yn cydraddoli mynediad at gymorth ymhlith pobl anabl ac yn rhwystro'r GBAC rhag dod yn anghynaladwy. Dywedodd y Prif Weinidog ar y pryd, Carwyn Jones, 'Byddem yn disgwyl i awdurdodau lleol... gyflawni eu rhwymedigaethau i bobl anabl a rhoi digon o arian o'r neilltu i’w hanghenion ariannol gael eu cydnabod a'u bodloni', a bod awdurdodau lleol, meddai, 'yn atebol i'w hetholwyr os byddant yn dilyn polisïau y mae'r etholaeth yn credu eu bod yn annerbyniol.' Yn anffodus, nid oes gan bobl ag anabledd difrifol lawer o bleidleisiau. Fodd bynnag, awgryma amcangyfrifon Llywodraeth Cymru a gafwyd gan ymgyrchwyr anabl y bydd toriad i gyllid dros 200 o bobl a oedd yn arfer cael y GBAC, a chyfaddefodd rhai awdurdodau lleol wrthynt fod cyfran sylweddol o'r rhai sy'n derbyn cymorth ar hyn o bryd drwy'r GBAC eisoes wedi cael toriad i'w pecynnau cymorth. Naw wfft i'r datganiad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru ym mis Mai y llynedd fod awdurdodau lleol yn adrodd bod y rhan fwyaf o bobl yn derbyn cymorth tebyg i'r hyn yr oeddent wedi'i gael gyda'u taliadau cronfa byw'n annibynnol, heb i unrhyw broblemau sylweddol godi. Ar bwy ar y ddaear y maent yn gwrando? Cadeiriais gyfarfod ym mis Ionawr o grŵp trawsbleidiol y Cynulliad ar anabledd yn Wrecsam, lle roedd nifer fawr iawn o bobl yn bresennol. Yn y cyfarfod hwn, pwysleisiodd arweinydd ymgyrch Achub Grant Byw'n Annibynnol Cymru, Nathan Davies o Wrecsam, y deuthum i'w adnabod dros flynyddoedd lawer, fod hyn yn ymwneud â'r gwahaniaeth rhwng aros yn y gwely neu godi o'r gwely, ynglŷn â chael cinio neu beidio â chael cinio, am gael rheolaeth neu gael eich rheoli. Roedd y rhai a oedd yn bresennol yn cytuno gyda Nathan nad ydynt yn deall pwysigrwydd un gair i bobl anabl—sef annibyniaeth—a'r effaith ar iechyd meddwl a lles a'r gallu i ryngweithio â'r gymdeithas. Dyma brofiad bywyd yn siarad, yn syth o lygad y ffynnon, a gofynnwyd i mi gael atebion gan fod amser yn brin. Wedyn codais y mater, fel yr addewais, gyda Llywodraeth Cymru yn ystod y datganiad busnes yma. Fel y dywedodd Nathan Davies yn ei lythyr agored at y Prif Weinidog newydd, mae'r adolygiad dwfn a gyflawnwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru i ddadansoddi perfformiad awdurdodau lleol mewn perthynas â throsglwyddo'r GBAC yn llawn o gamgymeriadau ac a dweud y gwir, nid yw'n werth y papur y mae wedi'i ysgrifennu arno. Sut y gall ymchwiliad i amgylchiadau rhoi diwedd ar y GBAC fod yn derfynol heb fod wedi ymgynghori â'r bobl anabl yr effeithir arnynt? Yn 2017, cyhoeddodd Llywodraeth y DU na fydd angen ailasesu pobl ag anabledd gydol oes, salwch neu gyflwr iechyd difrifol mwyach ar gyfer lwfans cyflogaeth a chymorth a'r credyd cynhwysol. Yn 2018, cyhoeddodd eithriad cyfatebol ar gyfer y taliad annibyniaeth personol. Fodd bynnag, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddoe y bydd y rhai a arferai dderbyn taliadau'r gronfa byw'n annibynnol sy'n 'anhapus' â'u pecynnau gofal a chymorth yn cael cynnig asesiad arall. Am ragrith syfrdanol. Helen Mary Jones AC: Wel, sôn am ragrith syfrdanol. Rhaid imi ddweud bod gennyf bryderon dwys, fel sydd gan bawb ohonom, ynghylch y ffordd y mae'r Llywodraeth Lafur wedi ymdrin â hyn yma, ond nid wyf am gymryd unrhyw wersi—ac ni fuaswn yn disgwyl i Lywodraeth Lafur Cymru wneud chwaith—gan yr un Ceidwadwr ar weinyddu budd-daliadau i bobl anabl. Mae fy nghyd-Aelod, Leanne Wood newydd ei ddisgrifio'n gywir fel rhywbeth cwbl warthus, ac a dweud y gwir—er bod gennyf barch mawr at Mark Isherwood fel unigolyn—rwy'n ei chael hi'n anodd tu hwnt ystyried y negeseuon hynny oddi wrtho. Gwn ei fod yn eu credu'n llwyr ei hun, ond mae'r blaid y mae'n ei chynrychioli yn y lle hwn yn ymddwyn mewn ffordd wahanol iawn ar ben arall yr M4, ac rwy'n falch o dderbyn ymyriad gan Mark Isherwood. Mark Isherwood AC: Nid oes gennym amser i drafod lles yn ei gyfanrwydd yma, ond gwneuthum y pwynt fod Llywodraeth y DU, nad ydych yn hoff iawn ohoni, wedi atal pobl ag anableddau difrifol serch hynny rhag gorfod cael eu hailasesu ar gyfer amrywiaeth o fudd-daliadau—y taliad annibyniaeth personol, lwfans cyflogaeth a chymorth, credyd cynhwysol—ac eto rydym ni wedi dweud wrth bobl ag anableddau difrifol y bydd yn rhaid iddynt gael eu hailasesu unwaith eto i gael yr hyn y dylent fod wedi'i gadw yn y lle cyntaf. Helen Mary Jones AC: Gadewch inni fod yn glir fod hwnnw'n newid meddwl hwyr iawn yn y dydd, ar ôl i lawer o bobl anabl ar draws y DU ddioddef yn enbyd yn sgil y system honno. Ac rydych yn hollol iawn i ddweud nad oes gennym amser i'w drafod yma, ond rwy'n hapus i'w drafod gyda chi unrhyw bryd, yn unrhyw le, oherwydd nid yw'n iawn. Nawr, mae'n destun gofid yn fy marn i fod y Gweinidog yn mynd i orfod rhoi pobl drwy ailasesiad, ond fy nealltwriaeth i yw mai swyddogaeth bosibl yr ailasesiad hwnnw yw adfer y cymorth sydd wedi'i ddileu. Felly, rwy'n deall gan bobl anabl eu bod yn croesawu hyn mewn gwirionedd. Felly, i ddychwelyd at yr hyn yr oeddwn wedi bwriadu ei ddweud, Lywydd, roeddwn wedi disgwyl y buaswn yn rhoi araith wahanol iawn hyd nes i'r Gweinidog wneud ei chyhoeddiad ddoe. Gwyliais y llanastr hwn o'r tu allan i'r lle hwn ac o'r tu mewn, ac nid wyf wedi gallu deall, o ystyried y nifer o weithiau y mae Gweinidogion Cymru olynol wedi ymrwymo i'r model cymdeithasol o anabledd, ac nid wyf wedi gallu deall o gwbl beth sydd wedi digwydd. Ac er bod newid meddwl y Gweinidog ddoe i'w groesawu mewn gwirionedd, fel y mae Leanne Wood wedi dweud eisoes, mae'n gadael cwestiynau heb eu hateb. Rhaid inni fynegi'r gofid eithafol y mae'r holl broses ddiflas hon wedi rhoi pobl anabl drwyddo, yn ogystal â'r rhai sy'n eu caru ac yn gofalu amdanynt. I fod yn onest, rwy'n synhwyro o ddatganiad y Dirprwy Weinidog ei bod yn deall y lefel honno o ofid ac yn awyddus i unioni'r sefyllfa, ac ni allwn wneud y Dirprwy Weinidog, fel unigolyn, yn gyfrifol. Ond rhaid inni ofyn iddi edrych ar yr hyn a aeth o'i le. Sut y caniatawyd i hynny ddigwydd dan oruchwyliaeth Llywodraeth sy'n honni ei bod wedi ymrwymo i'r model cymdeithasol? Rhaid inni ddeall hynny os ydym am atal hynny rhag digwydd eto. A oedd yn fater, fel yr amheuwn sy'n wir gydag argymhellion y Llywodraeth ar gyfer cymorth amaethyddol ar ôl Brexit, o fod swyddogion yn amharod i bolisi ac ymarfer Llywodraeth Cymru wyro oddi wrth y model Seisnig? Rwy'n gobeithio fy mod yn anghywir. Os yw hynny'n wir, mae'n destun pryder dwys. A oedd yn fater o Weinidogion Cymru yn tynnu eu llygaid oddi ar y bêl? Unwaith eto, nid oeddwn yma ar y pryd, ac ni allaf ddweud yn bendant, ond mae'n sicr yn edrych felly i mi. Rhun ap Iorwerth AC: A wnewch chi dderbyn ymyriad? Helen Mary Jones AC: Gwnaf, â phleser. Rhun ap Iorwerth AC: A yw hefyd yn destun pryder a gofid i chi mai ar ôl iddynt gael eu gwasgu i gornel gan y cynnig hwn gan Blaid Cymru heddiw y cymerwyd y cam hwn ganddynt mewn gwirionedd? Helen Mary Jones AC: Wel, rwy'n poeni am hynny ac rwy'n falch fod y cam wedi'i gymryd, ond byddai wedi atal llawer iawn o dristwch a gofid pe bai wedi mynd ymhellach. Nawr, wrth gwrs, swyddogaeth gwrthblaid yw rhoi'r Llywodraeth dan y chwyddwydr, gobeithio ein bod wedi gwneud hynny yn yr achos hwn. Ond hoffwn ategu bod angen inni ddeall pam y digwyddodd y set wael iawn hon o benderfyniadau, oherwydd, fel arall, gallai ddigwydd eto. Hoffwn droi, yn fyr, Lywydd, at ddatganiad y Dirprwy Weinidog ddoe lle mae'n cyfeirio at asesiadau gwaith cymdeithasol annibynnol. Nawr, er fy mod yn rhannu rhai o'r pryderon ynglŷn â phobl yn cael eu hailasesu'n ddiddiwedd, os mai diben yr ailasesiadau hyn yw galluogi pobl i gael cymorth wedi'i adfer lle cafodd ei gymryd oddi wrthynt, rhaid croesawu hynny. Ond credaf mai'r gair allweddol yno yw 'annibynnol', a hoffwn ofyn i'r Dirprwy Weinidog heddiw sut y mae'n gweld yr asesiadau hynny'n cael eu cyflawni. Os cyflogir y staff sy'n cynnal yr asesiadau hyn yn uniongyrchol gan yr awdurdodau lleol sydd eisoes wedi tynnu cymorth yn ôl oddi wrth y bobl anabl hyn a'u teuluoedd, bydd y bobl hynny'n cael eu gadael i bryderu a yw'r asesiadau hynny'n wirioneddol annibynnol ai peidio. Rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog yn deall y bydd y bobl sydd wedi gweld toriad yn eu cymorth yn amheus. Felly, rwy'n gobeithio y gall ddweud wrthym heddiw sut y bydd yn sicrhau bod yr asesiadau hynny'n annibynnol, ond hefyd fod y bobl sy'n eu derbyn yn gweld eu bod yn annibynnol. Rwy'n siŵr na fydd yn synnu—ac mae'n amlwg yn ei datganiad ei bod wedi ymdrin yn uniongyrchol â'r ymgyrchwyr—os ydynt wedi colli ffydd yn y system ac angen llawer o argyhoeddi er mwyn adfer y ffydd honno. Yn olaf, Lywydd, os caf erfyn am eich goddefgarwch ar ôl cymryd rhai ymyriadau, hoffwn ofyn i'r Dirprwy Weinidog heddiw, yn ei chyfraniad i'r ddadl hon, ailymrwymo Llywodraeth Cymru yn glir ac yn ddigamsyniol i'r model cymdeithasol o anabledd. Mae'r model hwnnw yn golygu, wrth gwrs, fod yr anabledd yn deillio, nid o nam yr unigolyn, ond o'r rhwystrau y mae cymdeithas yn eu rhoi yn ffordd yr unigolyn sydd â nam rhag gallu cyfranogi'n llawn. Roeddwn dan yr argraff ein bod yn unfrydol yn y lle hwn yn hynny o beth—yn hollol unfrydol, ar draws yr holl feinciau rwy'n credu. Mae'r camau gweithredu ar hyn wedi dangos efallai ein bod yn well gyda'n geiriau nag yr ydym gyda'n gweithredoedd. Holl ddiben y cymorth penodol hwn yw galluogi ein cyd-ddinasyddion anabl i fyw'n annibynnol a chyfranogi'n llawn. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Dirprwy Weinidog yn ymrwymo heddiw i sicrhau bod y cymorth hwn yn parhau, i gefnogi'r annibyniaeth honno, a'i fod yn ei wneud yn gyfartal ledled Cymru, ac yng nghyd-destun ymrwymiad ystyrlon i'r model cymdeithasol o anabledd. Nid yw ein cyd-ddinasyddion anabl yn haeddu dim llai, ac maent yn haeddu ymddiheuriad. Mike Hedges AC: Clywais Helen Mary Jones yn dweud ei bod yn rhoi araith wahanol i'r un yr oedd hi wedi disgwyl ei rhoi, yn dilyn y datganiad gan y Gweinidog. Rwy'n mynd i wneud rhywbeth gwahanol—byddaf yn pleidleisio mewn ffordd wahanol i'r hyn yr oeddwn yn disgwyl ei wneud, yn dilyn y datganiad gan y Gweinidog, oherwydd roeddwn yn mynd i bleidleisio o blaid polisi'r Blaid Lafur pe na bai'r Gweinidog wedi gwneud y datganiad a wnaeth. Fe ddechreuaf drwy ailddatgan polisi'r Blaid Lafur a gytunwyd gan gynhadledd Plaid Lafur Cymru yn 2018—polisi yr oeddwn yn ei gefnogi bryd hynny ac un rwy'n ei gefnogi yn awr: amddiffyn ac achub grant byw'n annibynnol Cymru. Cyflwynwyd grant byw'n annibynnol Cymru i helpu pobl a oedd yn arfer hawlio o gronfa byw'n annibynnol Llywodraeth y DU, a ddaeth i ben yn 2015. Caiff dros 1,500 o bobl eu helpu gan gynllun grant byw'n annibynnol Cymru ledled Cymru ac mae gan bawb sy'n ei dderbyn lefel uchel iawn o anghenion gofal a chymorth. Roedd grant byw'n annibynnol Cymru i fod i barhau tan ddiwedd mis Mawrth 2017, ond cytunwyd y byddai'r arian hwnnw'n parhau am flwyddyn arall. Byddai'r gronfa flynyddol o £27 miliwn yn trosglwyddo'n uniongyrchol wedyn i awdurdodau lleol yn ystod 2018-19 er mwyn iddynt allu diwallu anghenion cymorth pawb a arferai dderbyn taliadau'r gronfa byw'n annibynnol erbyn 31 Mawrth 2019. Galwodd y gynhadledd hon ar Lywodraeth Lafur Cymru i gynnal grant byw'n annibynnol Cymru, o leiaf tan etholiad nesaf y Cynulliad, a gwneud hynny gan gadw'r egwyddorion a ganlyn: cadw strwythur trionglog y grant rhwng yr awdurdod lleol, yr unigolyn a rhanddeiliad trydydd parti; y dylid clustnodi'r cyllid sydd ar gael yn y dyfodol er mwyn sicrhau y defnyddir arian a ddyrennir at y diben y'i bwriadwyd; na ddylid peryglu lles pobl anabl; y dylid diogelu, nid peryglu, y bobl fwyaf agored i niwed yn y gymdeithas; a bod ansawdd bywyd yn hawl ddynol i'n hunigolion agored i niwed, yn hytrach na chynnal bodolaeth yn unig. Fel aelod o'r Pwyllgor Deisebau, roeddwn yno pan gawsom dystiolaeth. Roedd y prif bryderon a godwyd gan y deisebydd ac eraill yn ymwneud ag ofn ynghylch effaith trosglwyddo cyfrifoldeb am gefnogi'r rhai a arferai dderbyn aran y gronfa byw'n annibynnol i awdurdodau lleol, yn enwedig gallu ariannol ac adnoddau awdurdodau lleol mewn cyfnod o gyni i ailadrodd yn ddigonol y ffocws ar fyw'n annibynnol a hyrwyddai'r gronfa byw'n annibynnol a GBAC. Ac nid wyf yn beirniadu awdurdodau lleol. Byddai unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am awdurdodau lleol yn sylweddoli faint o bwysau sydd arnynt. Mae'n debyg i wasgu balwn—bob tro y byddwch yn ei gwasgu i un cyfeiriad, mae'n ymwthio i gyfeiriad arall. Fodd bynnag, mae'r pryderon hefyd yn ymwneud â phrofiadau blaenorol y deisebydd ac eraill sy'n cefnogi ei ymgyrch o weithio gydag awdurdodau lleol, neu gael gwasanaethau ganddynt. Roedd hyn yn cynnwys pryder ynghylch dealltwriaeth o'r term 'byw'n annibynnol' ei hun: Nid yw'n gyfrinach fod ymagwedd Model Meddygol tuag at bobl anabl yn parhau i fod yn endemig ac yn sefydliadol ar draws y sector cyhoeddus ac mae'n amlwg o'r asesiadau rhanbarthol o angen ac yn enwedig crynodeb Gofal Cymdeithasol Cymru, nad oes unrhyw ddealltwriaeth o'r gwahaniaeth rhwng "bod yn annibynnol" [sy'n golygu ymdopi heb gymorth] a "Byw'n Annibynnol" y mae Llywodraeth Cymru wedi'i dderbyn yn ffurfiol fel term sy'n golygu bod pobl anabl yn byw'r bywydau y maent yn dewis eu byw, yn y ffordd y maent yn dewis a chael cefnogaeth yn y modd, ar yr adeg, yn y lle, a chan bwy y maent yn dewis. Roedd pryder pellach arall a fynegwyd gan y deisebydd yn ymwneud â diffyg strwythur teiran o fewn gweithrediad y gronfa byw'n annibynnol. Roedd hwn yn cynnwys y sawl sy'n derbyn cyllid, gweinyddiaeth ganolog y gronfa a'r awdurdod lleol yn gwneud asesiadau ac yn gwneud penderfyniadau ynghylch gofal a chymorth. Esboniodd y deisebydd: yr elfen arall o'r Gronfa Byw'n Annibynnol oedd bod Gweithwyr Cymdeithasol annibynnol yn cynnal yr asesiadau a'r adolygiadau fel bod pobl anabl yn teimlo eu bod yn cael eu hamddiffyn gan drosolwg annibynnol gweithiwr cymdeithasol cymwys a phrofiadol na allai gael ei ddychryn neu ei gyfarwyddo gan yr awdurdod lleol am nad oedd yn gweithio iddo. Rwy'n croesawu'r datganiad gan Lywodraeth Cymru y bydd yn darparu arian ychwanegol i awdurdodau lleol am gost gweithwyr cymdeithasol annibynnol ac oriau ychwanegol o ofal a allai ddeillio o'r asesiadau annibynnol hyn. Mae hyn yn golygu na all fod unrhyw gwestiwn o— Mark Isherwood AC: A wnaiff yr Aelod ildio? Mike Hedges AC: A gaf fi orffen y frawddeg hon? Ni fyddai unrhyw gwestiwn fod y newidiadau i'r pecyn gofal a chymorth yn fesur ar gyfer torri costau. Yn sicr. Mark Isherwood AC: O ystyried bod y rhai a arferai dderbyn y gronfa byw'n annibynnol yn gorfod bod yn gymwys i'w gael drwy brofi eu bod yn ddifrifol anabl, pam y dylent orfod ei brofi eto a ninnau, yn briodol, wedi beirniadu Llywodraeth y DU pan ddywedasant wrth bobl y byddai'n rhaid iddynt ei brofi eto? Mike Hedges AC: Rwy'n meddwl mai'r rheswm am hyn yw bod rhai pobl—cafodd eu hanghenion eu hailasesu a'u hisraddio gan awdurdodau lleol, ac mae hwn yn gyfle iddynt gael eu hailasesu a'u huwchraddio. Mae'n rhywbeth y mae pobl anabl eu hunain am ei weld. Nid yw'n berffaith, ac rwy'n siŵr ein bod yn dymuno nad dyma fel y mae. Byddai'n dda gennyf pe bai penderfyniad cynhadledd y Blaid Lafur fis Ebrill diwethaf wedi'i weithredu yn y lle hwn, ond ni ddigwyddodd hynny, ac nid oes gan hynny ddim i'w wneud â Gweinidog y Cabinet—na'r arweinydd presennol. Rwy'n croesawu'r ffaith bod y Gweinidog yn derbyn mai egwyddor sylfaenol cynnal asesiad annibynnol yw y dylai'r canlyniad fod yn gyson â'r canlyniadau llesiant y bydd pobl wedi cytuno arnynt. Gan nad oes rhwystr ariannol, nid oes raid i neb gael gofal a chymorth llai ffafriol nag y maent yn ei gael ar hyn o bryd, ac mae 'ar hyn o bryd' yn golygu beth bynnag a oedd ganddynt cyn i'r newidiadau gael eu cyflwyno gan awdurdodau lleol. Rwy'n croesawu'r penderfyniad i gadw strwythur trionglog y grant rhwng yr awdurdod lleol, yr unigolyn a rhanddeiliad trydydd parti. Credaf fod Llywodraeth Cymru wedi bodloni ysbryd y ddeiseb a phenderfyniad cynhadledd y Blaid Lafur. Mae'n ddrwg gennyf ei fod wedi cymryd cymaint o amser. Yn olaf, diolch i Nathan Davies am ei ymgyrchu cyson a pharhaus—credaf y buaswn yn ei alw'n 'ddiflino'—ac i Julie Morgan am gyflawni hyn yn awr a darparu'r cymorth parhaus fel rwyf fi, a mwyafrif llethol y bobl yn fy mhlaid yn credu y dylid bod wedi'i wneud amser maith yn ôl. Llyr Gruffydd AC: Gaf i ddiolch i Mike Hedges am ei sylwadau? Mae e wedi fy atgoffa i o’r eironi fan hyn bod Plaid Cymru yn gorfod gosod cynnig er mwyn trio perswadio Llywodraeth Lafur i ymrwymo eu hunain i’w polisi nhw eu hunain. Felly, mae hwnna’n dweud rhywbeth am ble mae’r Llywodraeth yma yn ffeindio ei hun ar hyn o bryd. A dyma’r blaid, wrth gwrs, sy’n honni eu bod nhw ‘for the many’—nage. ‘For the many, not the few’, ie, ie, dyna fe. Dwi wedi drysu heddiw. Ond pwy ydyn ni’n sôn amdanyn nhw? Pwy maen nhw’n ei gynrychioli? Wel, os ydyn ni’n sôn am grŵp sydd angen cynrychiolaeth ac angen llais i siarad drostyn nhw, yna'r 1,300 o bobl sydd wedi bod yn ddibynnol ar y grant byw yn annibynnol yma yw’r rheini. Y 1,300 o bobl sydd wedi dioddef, fel rŷn ni wedi clywed, gofid a phryder dros y ddwy flynedd diwethaf ynglŷn â goblygiadau colli’r grant yna. Ac mae’r tro pedol rŷn ni wedi gweld gan y Llywodraeth yn dod 24 awr cyn y ddadl yma gan Blaid Cymru'r prynhawn yma—newyddion i’w groesawu, wrth gwrs ei fod e i’w groesawu, a dwi’n deall mai’r bwriad nawr yw gwneud ychydig mwy o ymchwil i weld beth yw’r opsiynau o safbwynt datblygu cynllun amgen neu amrywio’r cynllun. Wel, fy mhle i, felly, yw ichi wrando ar dystiolaeth y rhai hynny sy’n derbyn yr arian, eu teuluoedd a’u gofalwyr, pan ŷch chi’n dod i edrych ar yr opsiynau wrth symud ymlaen. Nawr, mae llawer o’r drafodaeth yn amlwg yn ffocysu, ac wedi gwneud dros y blynyddoedd diwethaf, ar yr elfen ariannu, ond dwi yn meddwl ei bod hi’n bwysig inni atgoffa’n hunain, wrth gwrs, o bwysigrwydd yr elfen byw yn annibynnol. Mae profiadau’r rhai hynny sy’n derbyn y grant yn eu harwain i ofni y byddai bywyd o dan reolaeth cyngor sir yn llawer mwy rhagnodol, mwy prescriptive, a hynny yn risgio tynnu annibyniaeth i ffwrdd oddi wrthyn nhw. Mae’r toriadau llym mae awdurdodau lleol, wrth gwrs, wedi eu dioddef yn golygu ei bod hi bron yn anochel, efallai, y byddai’r systemau a’r cyfundrefnau yn fwy rhagnodol oherwydd yr angen i brofi gwerth am arian. Ond beth yw gwerth gwerth am arian os yw gwerth bywyd ac ansawdd bywyd yn dirywio o ganlyniad i hynny? Sut allwch chi fesur safon bywyd person ar daenlen cyllideb ar ddiwedd blwyddyn ariannol? Mae derbynwyr y grant yma eisoes yn gaeth oherwydd amgylchiadau tu hwnt i’w rheolaeth nhw. Maen nhw’n gaeth i’w cartrefi, yn gaeth i gadair olwyn, yn gaeth i feddyginiaeth, efallai. Mae hyn oll yn cyfyngu ar eu dewisiadau nhw mewn bywyd, a’r peth olaf maen nhw ei eisiau yw bod yn gaeth ymhellach i reolau ariannol a biwrocrataidd cynghorau sy’n gorfod, wrth gwrs, cyfrif pob ceiniog er mwyn profi gwerth am arian. Llyr Gruffydd AC: Nid oedd y cynnig hwn i gael gwared ar grant byw'n annibynnol Cymru yn ddim mwy, fel y clywsom wrth gwrs, na Llywodraeth Cymru yn dilyn arweiniad Llywodraeth y DU. Ac mae'r saib a gyhoeddwyd ddoe yn sicr yn gam i'r cyfeiriad cywir. A gallwn wneud pethau'n wahanol yma yng Nghymru. Gallwn ddangos ein bod yn gwerthfawrogi'r bobl fwyaf agored i niwed yn y gymdeithas a'n bod yn edrych ar ôl ein gilydd fel cymdeithas. Gadewch i ni obeithio bod y saib hwn yn arwain at ailwampio cadarnhaol lle caiff pawb sydd ag anabledd eu codi i gyfundrefn ariannu a chymorth well yn hytrach na thynnu pawb i lawr at y lefel gyffredin isaf. Mae gennym enghreifftiau o arferion da yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, lle maent yn ffurfio eu llwybr eu hunain, ar ôl cadw'r gronfa byw'n annibynnol yn ogystal â'i gwella. Ac rydym yn gwybod, fel y clywsom, beth ddigwyddodd yn Lloegr gyda dileu'r grant yno: pobl yn cael eu gwthio i loteri cod post, Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau yn gorfod dweud ei fod wedi arwain at drychineb dynol. Ac wrth gwrs, y pryder yw y byddwn yn mynd i lawr yr un llwybr yma yng Nghymru gyda'r bobl fwyaf agored i niwed yn dioddef. Mae erthygl 19 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau yn canolbwyntio'n benodol ar hawl pobl anabl i fyw'n annibynnol ac i gael eu cynnwys yn y gymuned. Ni ddylid trin pobl ag anableddau fel plant, gyda'u bywydau'n cael eu rheoli gan fiwrocratiaeth. Mae pawb ohonom yn gwerthfawrogi ein hannibyniaeth, ein gallu i wneud ein dewisiadau ein hunain, ein gallu, ie, weithiau, i wneud ein camgymeriadau ein hunain, ond ni ddylid gwadu'r hawl honno i bobl anabl oherwydd eu hanabledd. Nawr, os ydych o ddifrif yn poeni am anghydraddoldebau sy'n wynebu pobl anabl, dylai'r Llywodraeth fod yn ddigon dewr i gyfaddef hynny a wynebu'r broblem hon yn uniongyrchol. Gadewch i ni weld graddau'r problemau a'r heriau go iawn sy'n wynebu pobl anabl yn ein cymunedau a gadewch inni weithredu ar hynny i wella ansawdd bywyd ar gyfer y bobl hynny yn hytrach na chael gwared ar y cronfeydd a'r annibyniaeth y maent wedi ymladd yn galed i'w cael. Mae'r cyhoeddiad ddoe yn gyfle inni wneud hynny, felly gofynnaf i'r Llywodraeth fachu ar y cyfle hwn i edrych ar ddarlun cyfan y bobl anabl sy'n byw yng Nghymru. A wnewch chi sefydlu comisiwn i edrych ar arian ar gyfer pobl anabl yma yng Nghymru? Beth yw anghenion pobl anabl yng Nghymru heddiw? Beth yw'r heriau y maent yn eu hwynebu? A sut y gall eich Llywodraeth a'r Cynulliad hwn wneud pethau'n well a gwella ansawdd bywyd pobl anabl yma yng Nghymru? Ar hyn y dylem fod yn edrych, nid ar leihau'r arian prin a ddarperir i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Michelle Brown AC: Ddoe, gwelsom gyfaddefiad gan y Llywodraeth nad oedd eu holl addewidion blaenorol ynglŷn â sut y byddai symud i ffwrdd oddi wrth system y gronfa byw'n annibynnolyn ddi-boen i'r sawl sy'n ei derbyn yn golygu dim. Daeth y datganiad panig, wedi'i ysgogi'n ddiau gan cynnig Plaid Cymru heddiw, nid yn gymaint o ganlyniad i bryder ynglŷn â'r bobl anabl dan sylw, ond oherwydd nad ydynt am deimlo cywilydd gwleidyddol. Ond sgwarnog oedd y datganiad hwnnw. Nid yw eu cyhoeddiad ond yn oedi diddymu'r grant byw'n annibynnol, nid yw'n ei atal, felly, mewn llawer o ffyrdd, mae'r fwyell yn dal i hongian uwchben pobl anabl. Dros flwyddyn yn ôl, câi Llywodraeth Cymru ei rhybuddio am y problemau a oedd yn mynd i godi, ond anwybyddodd y rhybuddion a bwrw yn ei blaen beth bynnag. Felly, rhaid i chi fy esgusodi os nad wyf yn derbyn bod eu syndod neu eu hymddiheuriad am y problemau, y caledi a'r pryderon presennol yn ddilys. Nid wyf yn credu ei fod. Gadewch imi ddweud rhywbeth am yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd, yr eiliad hon, wrth inni drafod hyn. Ceir dynion a menywod—tebyg i chi a minnau—a allai fod yn eistedd yma gyda ni yn y Siambr hon oni bai bod y dis wedi glanio ar rif gwahanol, ond yn wahanol i ni, mae ganddynt anabledd sydd wedi eu hamddifadu o lawer o'r cyfleoedd, y rhyddid, y cyfleoedd a'r dewisiadau mewn bywyd y mae'r rhan fwyaf o bobl yn gallu eu cymryd yn ganiataol. Nid ydym i fod i edrych ar y bobl hyn fel ffigurau ar daenlen neu fel rhan o hafaliad cyfrifyddiaeth. Efallai fod y Llywodraeth hon yn diffinio'r rhai sy'n derbyn y grant byw'n annibynnol yn ôl eu hanabledd, ond maent yn llawer mwy na hynny; dyma bobl sydd â phob un o'r gobeithion, y breuddwydion, y dyheadau a'r dymuniadau ag sydd gennych chi a minnau bob dydd. Ac ni ellid cyhuddo'r ychydig o bobl sy'n cael y grant byw'n annibynnol o fod yn ddiog mewn unrhyw ffordd, o beidio â thrafferthu edrych am waith yn iawn neu o geisio chwarae'r system. Dyma'r bobl fwyaf difreintiedig a mwyaf agored i niwed yng Nghymru ac mae'r Llywodraeth Lafur hon yn mynd â'u harian i sybsideiddio coffrau cynghorau lleol. Mae dileu peth o'u gobaith a gwneud iddynt boeni ynglŷn â'r modd y mae eu bywydau yn mynd i fod hyd yn oed yn fwy anodd, mewn ymdrech i wneud i'r llyfrau ariannol edrych ychydig bach yn well, yn greulon ac yn gwbl gywilyddus. Mae Llywodraeth Cymru yn ymryddhau o'u cyfrifoldeb mewn ymarfer sinigaidd er mwyn torri costau. Mae'r unigolion a'r elusennau dan sylw oll yn erbyn y cam hwn, a phan fo Llafur yn dweud y bydd yr un swm o arian yn cael ei wario ar bobl anabl, yr hyn a olygant yw y byddant yn mynd ag arian oddi wrth unigolion sy'n ei dderbyn ac yn ei roi i awdurdodau lleol ei ddefnyddio fel y mynnant. Yna byddant yn beio'r awdurdod lleol os yw pethau'n mynd o'i le i bobl anabl. Cyfran yn unig o'r arian a arferai fynd yn uniongyrchol i'r bobl anabl a oedd yn ei dderbyn fydd yn cael ei wario ar gymorth ystyrlon mewn gwirionedd. Maent yn rhoi'r arian hwn i gynghorau er mwyn cadw'r dreth gyngor yn isel yn y gobaith y bydd pobl yn pleidleisio i Lafur mewn etholiadau lleol. Mae'r Llywodraeth yn gwybod na werir yr arian i gyd ar yr unigolyn y cafodd ei wario arno hyd yma—dyna'r rheswm dros ei wneud—fel arall, byddent yn gadael llonydd iddo. Ac mae'r post brys a gefais gan berson anabl ddoe, fel Aelodau eraill yn y lle hwn o bosibl, yn ategu hyn. Yn ystod y broses o golli ei grant byw'n annibynnol, mae hi wedi profi adolygiad annigonol a'i harian wedi cael ei dorri yn ei hanner. Cyn gynted ag y daeth yn amlwg y gallai'r cynghorau roi'r hyn nad oeddent yn ei wario ar y rhai a gâi'r grant mewn pot gofal cymdeithasol generig, mae'n dweud ei bod hi'n gwybod y byddai'r bobl fwyaf agored i niwed, fel hithau, ar eu colled. Mae'n dweud, ac rwy'n dyfynnu: Roeddwn yn gwybod na allai fod dim ond anghyfiawnder i bob un o'r rheini sy'n mynd i gael eu hailasesu. Pobl fel fi y mae eu bywydau'n mynd i newid i fod yn ddim ond bodoli ar lefel sylfaenol yn unig o fod yn fywydau cyflawn a gwerth chweil. Byddai trethdalwyr Cymru yn hapusach o lawer yn meddwl bod eu trethi a enillwyd drwy waith caled yn talu i berson anabl gael y cymorth sydd ei angen arnynt yn hytrach na thalu cyflog i weithiwr cyngor am ddweud wrth berson anabl eu bod yn mynd i gael llai o gymorth nag o'r blaen. Felly, yn olaf, galwaf ar Lywodraeth Cymru i fod yn gynhwysol ac i beidio â gweithredu mewn ffordd a fydd yn gwneud i bobl feddwl eich bod yn anwybyddu anghenion pobl anabl, a hynny'n unig am nad oes digon ohonynt i bleidleisio yn eich erbyn ac effeithio ar ganlyniad eich ymgyrch etholiadol nesaf. Galwaf arnoch i newid eich penderfyniad i ddiddymu'r grant byw'n annibynnol. Diolch. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan. Julie Morgan AC: Diolch yn fawr iawn, Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon. Mae pawb yng Nghymru yn haeddu cymorth i fyw'n annibynnol pan fydd angen y cymorth hwnnw arnynt. Sefydlwyd y gronfa byw'n annibynnol dros 30 mlynedd yn ôl ar draws y DU i gynorthwyo pobl anabl ag anghenion cymhleth i fyw'n annibynnol. Caeodd Llywodraeth y DU y cynllun hwn i newydd-ddyfodiaid yn 2010, ac yn 2015 fe wnaethant drosglwyddo cyfrifoldeb amdano i'r gweinyddiaethau datganoledig. Ar y pryd, er mwyn sicrhau dilyniant o ran y cymorth, sefydlodd Llywodraeth Cymru drefniadau dros dro drwy greu grant byw'n annibynnol ar gyfer Cymru. Ar sail ymarfer ymgynghori a gyda mewnbwn gan grŵp rhanddeiliaid, datblygwyd dull newydd o weithredu, lle byddai awdurdodau lleol yn cynllunio eu holl anghenion gofal a chymorth gyda'r rhai a oedd yn derbyn y grant byw'n annibynnol yng Nghymru, ac yn trefnu iddo gael ei ddarparu. Felly, gan ddechrau yn 2017, sefydlwyd cyfnod pontio o ddwy flynedd i sefydlu'r trefniadau hyn. Erbyn diwedd Rhagfyr 2018, roedd tua 1,000 o'r 1,300 a arferai dderbyn y GBAC yn cael eu pecyn gofal cyfan wedi'i drefnu drwy awdurdodau lleol, a disgwylir i'r gweddill gwblhau'r cyfnod pontio hwnnw erbyn diwedd y mis nesaf. I'r rhan fwyaf o'r bobl hynny, mae eu pecyn gofal newydd yr un fath neu'n fwy na'u trefniadau blaenorol, ac i'r bobl hyn, mae'r cyfnod pontio sy'n mynd rhagddo yn cefnogi eu gallu i fyw'n annibynnol, fel y rhagwelwyd. Mewn rhai achosion, mae'n gwella hyn ymhellach nag o'r blaen. Fodd bynnag, i oddeutu 150 o bobl, mae eu cynllun gofal yn llai nag o'r blaen, a gallai hyn fod am resymau penodol. Er enghraifft, clywais am y defnydd effeithiol o dechnoleg fodern a ffocws ar alluogi nid dibyniaeth. Gwyddom o'n hymchwiliadau ein hunain ac o'r arolwg annibynnol o rai sy'n derbyn y grant a gynhaliwyd gan Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan ar gyfer Pobl ag Anableddau Dysgu fod y rhan fwyaf o bobl yn fodlon ar y canlyniadau hyn, ac mae hyn yn wir hyd yn oed mewn rhai achosion lle mae oriau gofal wedi lleihau, a hynny drwy gytundeb. Fodd bynnag, mynegwyd pryderon, yn enwedig dros y misoedd diwethaf, am y cyfnod pontio, oherwydd ceir amrywio sylweddol ar draws Cymru—a gwn fod pobl eisoes wedi codi hynny yn y ddadl hon—gyda chanran y rhai sy'n derbyn y grant o fewn yr awdurdod lleol ac sydd wedi gweld gostyngiad yn eu horiau gofal yn dilyn adolygiad gofal trosiannol yn amrywio rhwng 0 y cant a 44 y cant. Ac ar y cam hwn, hoffwn innau hefyd ddiolch i Nathan Davies a'i gydweithwyr o ymgyrch #SaveWILG, am y sylwadau a wnaethant i Lywodraeth Cymru ar y mater hwn. Maent wedi tynnu ein sylw'n ddiflino at anfanteision y cynllun hwn. Rwyf wedi cyfarfod â Nathan ddwywaith yn y tair wythnos ddiwethaf i glywed ei bryderon a cheisio datblygu dull gweithredu newydd, ac roeddwn yn datblygu'r dull newydd hwn cyn y gwyddwn am y ddadl hon heddiw, ond rwy'n falch iawn ein bod yn cael y ddadl, oherwydd, yn amlwg, mae'n rhoi cyfle inni drafod beth y mae hyn yn ei olygu yn fwy manwl. Rwyf wedi ystyried yr holl dystiolaeth sydd ar gael, gan gynnwys y dystiolaeth a gasglwyd drwy adolygiad dwfn a gynhaliwyd gan fy rhagflaenydd, Huw Irranca-Davies, a hoffwn ddiolch iddo am bob ymdrech a wnaeth i edrych ar y mater hwn, ond rwyf wedi dod i'r casgliad fod yr amrywio rhwng awdurdodau lleol yn galw am newid cyfeiriad. Felly ysgrifennais at arweinwyr llywodraeth leol ddoe i ofyn am saib yn y cyfnod pontio ar unwaith, er mwyn cyflwyno trefniadau diwygiedig. Nawr, mae angen gweithio drwy fanylion y trefniadau newydd gyda'r partneriaid llywodraeth leol, ond yr elfennau allweddol rwy'n ceisio eu sicrhau yw'r rhain: yn gyntaf, cynigir asesiad gwaith cymdeithasol annibynnol i'r holl rai a arferai dderbyn y grant sy'n anhapus gyda'u canlyniadau a'u pecyn gofal a chymorth ac a hoffai ail farn. Bydd yr asesiad gwaith cymdeithasol annibynnol, i ateb cwestiwn Helen Mary Jones, yn cael ei wneud gan weithiwr cymdeithasol annibynnol nad yw'n cael ei gyflogi gan yr awdurdod lleol ac a fydd yn gwbl annibynnol. Bydd y farn annibynnol hon yn adlewyrchu'r trefniadau a oedd yn bodoli o dan y gronfa byw'n annibynnol ac felly bydd yn adfer system deiran ar gyfer gwneud penderfyniadau. Mark Isherwood AC: A gaf fi ofyn cwestiwn? Os yw'n anghywir, fel y mae, i Lywodraeth y DU ddatgan wrth berson ag anabledd difrifol fod yn rhaid iddynt gael eu hailasesu am fod y budd-daliadau wedi newid, i weld a ydynt yn gymwys ar gyfer y budd-dal olynol, pam y mae'n iawn yng Nghymru i ddweud wrth rywun a oedd yn gymwys i gael budd-dal ar sail eu hanabledd difrifol fod yn rhaid iddynt gael eu hailasesu? Rwy'n deall bod y rhai sydd wedi colli eu pecynnau gofal a chymorth bellach angen eu cael wedi'u hadfer a bod yna broses i'w dilyn, ond pam na allwn ddweud, oherwydd eu bod eisoes yn gymwys ar gyfer y gronfa byw'n annibynnol, yn union fel y lwfans byw i'r anabl yn Lloegr, nad oes yn rhaid iddynt fynd drwy'r broses o ailymgeisio, fel sy'n rhaid iddynt ei wneud gyda'r taliad annibyniaeth personol yn Lloegr? Julie Morgan AC: Nid oes angen i neb gael ei ailasesu os nad ydynt eisiau hynny. Bydd pawb yn cael y cyfle, ond nid oes angen gwneud hynny o gwbl, a gan fod yr arolwg gofalwyr yn dangos bod nifer yn fodlon â'r hyn y maent yn ei gael, nid ydym yn rhagweld y bydd pawb eisiau cael eu hailasesu. Mae'n gyfle i'r bobl sydd am gael eu hailasesu, sy'n anhapus gyda'r trefniant, a chânt gyfle i gael gweithiwr cymdeithasol annibynnol. Yn ail, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ychwanegol i awdurdodau lleol am gost gweithwyr cymdeithasol annibynnol ac oriau gofal ychwanegol a allai ddeillio o'r asesiadau annibynnol hyn. Mae hyn yn golygu na all fod unrhyw gwestiwn fod y newidiadau i'r pecyn gofal a chymorth yn ymarfer torri costau. Yr egwyddor sylfaenol sy'n sail i gynnal yr asesiad annibynnol yw y dylai'r canlyniad fod yn gyson â'r canlyniadau llesiant y cytunwyd arnynt gyda'r bobl, a gan nad oes rhwystr ariannol, nid oes angen i neb gael gofal a chymorth llai ffafriol nag y byddent yn ei gael o dan grant byw'n annibynnol Cymru. Mae'r trefniadau hyn yn cydnabod hawl hanesyddol y rhai a arferai dderbyn y grant. Mae'n newid sylweddol i'r dull o weithredu sy'n sicrhau y bydd anghenion y sawl a gâi'r grant yn flaenorol yn cael eu diwallu'n llawn ac nad yw adnoddau'n rhwystr i becyn llawn o ofal a chymorth. Yn wir, credaf fod y trefniadau newydd hyn yn llawer cryfach na grant byw'n annibynnol Cymru, a dyna pam yr ydym yn ceisio newid y cynnig sydd ger ein bron heddiw. Bydd gwelliant y Llywodraeth yn galluogi'r Cynulliad cyfan i gefnogi fy nghynllun i sefydlu rhywbeth gwell. Byddwn yn derbyn gwelliant y Ceidwadwyr heddiw. Mae mynediad at asesiad annibynnol ac adnoddau newydd i gefnogi canlyniadau posibl yr asesiadau hyn yn ganolog i'r dull newydd hwn, ac mae Nathan Davies a'i gyd-aelodau o ymgyrch #SaveWILG yn cefnogi, mewn egwyddor, y dull y bwriadaf ei roi ar waith oherwydd y nodweddion allweddol hyn. Yn wir, maent wedi cyhoeddi eu bod yn croesawu'r hyn rwy'n ei ddweud yma heddiw. Ond wrth gwrs, rydym yn rhannu diddordeb cyffredin mewn sicrhau y caiff ei weithredu'n briodol, a dyna un o'r materion allweddol. I fynd yn ôl at rai o'r cwestiynau eraill a godwyd yn ystod y ddadl: rydym wedi ymrwymo i fodel cymdeithasol a dyna y byddwn yn gweithio arno. Rwy'n credu bod Llyr wedi gofyn am y posibilrwydd o gael comisiwn ar bobl anabl. Gallaf ei sicrhau ein bod yn gwbl ymrwymedig i edrych ar anghenion pobl anabl ac yn y swydd hon, byddaf yn rhoi hynny ar y blaen yn yr hyn a wnawn. A gwn y bu rhai yn galw am imi ymddiheuro. Wel, nid wyf yn bwriadu ymddiheuro heddiw oherwydd lluniwyd y polisi hwn gyda phob ewyllys da. Nid yw'r rhai sy'n derbyn y grant—pobl sy'n anabl ac sydd wedi bod yn arwain yr ymgyrch—eisiau inni ymddiheuro. Maent yn llawenhau ynglŷn â'r hyn a gyflawnwyd gennym. Felly, credaf fod angen inni fwrw ymlaen heddiw i wneud yn siŵr fod y trefniadau newydd hyn yn gweithio a sicrhau bod pobl anabl, y grŵp anabl iawn hwn o bobl, yn cael y gofal gorau posibl y gallant ei gael yn ystod y trefniadau a gyflwynwyd gennym. Galwaf ar Leanne Wood i ymateb i'r ddadl. Leanne Wood AC: Diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau, ac fe fyddaf yn gryno yn fy sylwadau i gloi. Pan gyflwynodd Plaid Cymru y ddadl hon, roeddem wedi cael blynyddoedd o anhyblygrwydd gan y Llywodraeth hon ar y cwestiwn hwn. Felly, rwy'n falch fod yr anhyblygrwydd hwnnw wedi dod i ben o'r diwedd. Nawr, fe glywsom y prynhawn yma faint o bobl sydd eisoes wedi gweld eu cymorth yn cael ei dorri, ac mae'n dda y bydd y bobl hyn yn cael cyfle i gael eu hachosion wedi'u hadolygu ar sail wirfoddol, ond rwy'n mawr obeithio y bydd y bobl sydd wedi gweld eu cymorth yn cael ei dorri yn ei gael wedi'i adfer yn llawn. Fel arall, rydych mewn perygl o roi pobl drwy broses anodd iawn eto i ddim diben o gwbl. Cyfeiriodd Helen Mary Jones at ddiffyg hyder dealladwy y rhai sy'n derbyn y grant yn y broses hon. Gwnaeth bwynt ardderchog am ragrith y Torïaid hefyd ar fater budd-daliadau lles. O wrando arnynt hwy, mae fel pe na baent erioed wedi siarad â rhywun sydd wedi colli'r taliad annibyniaeth personol: maent mor bell ohoni. Mae cymaint o bobl wedi'u rhoi drwy uffern. Ddoe ddiwethaf, clywsom Lywodraeth y DU yn cyfaddef bod y cynnydd yn y defnydd o fanciau bwyd yn deillio o'r credyd cynhwysol. Does bosib nad yw hynny'n dweud y cyfan sydd angen inni ei wybod. Diolch i Mike Hedges am ein hatgoffa am bolisi'r Blaid Lafur—diolch i chi am hynny. Hefyd tynnodd sylw at bryderon yr ymgyrchwyr ynghylch toriadau i'r ddarpariaeth hon gan awdurdodau lleol sy'n brin o arian ac o dan bwysau cyni. Er y gall fod gwarantau yno bellach yn y flwyddyn ariannol gyfredol, yr ofn yw beth fyddai wedi digwydd dros y tymor hwy, ac mae'n eithaf amlwg beth fyddai wedi digwydd, mewn gwirionedd. Fel y nododd fy nghyd-Aelod Llyr, mae'r Senedd yma yn rhoi cyfle inni wneud pethau'n wahanol, i godi pobl, i wella cymorth pobl. 'Mae pawb ohonom yn gwerthfawrogi ein hannibyniaeth', meddai. Wel, rwy'n dweud, 'Amen i hynny.' Mae comisiwn i edrych ar y darlun cyfan sy'n wynebu pobl anabl yn syniad ardderchog, ac rwy'n siŵr y bydd y rhan fwyaf ohonom yn gallu cefnogi hynny. Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad, ac rwy'n croesawu'n fawr y cyhoeddiad a wnaeth ddoe. Dywedodd y Gweinidog y gallai rhai pobl fod wedi cael toriad i'w cymorth am nifer o resymau gwahanol. Edrychais ar ddadansoddiad yr adolygiad dwfn a gwelais mai un o'r rhesymau a roddwyd yn yr adolygiad hwnnw oedd y gallai rhai o'r bobl sy'n derbyn grant fod wedi cael toriad i'w lwfans am eu bod bellach yn cael cymorth mewn lleoliad gofal dydd. Wel, y broblem gyda hyn yw cyni, ac mae pob cyngor sy'n brin o arian yn torri eu darpariaeth gofal dydd oherwydd na allant ei fforddio. Felly, efallai na fydd yr hyn sy'n bodoli i bobl yn awr yn bodoli yn y dyfodol. Felly, roedd rhaid edrych ar hyn eto, a rhaid ystyried effaith penderfyniadau eraill a wnaethpwyd mewn mannau eraill yma yn ogystal. Ni ellir ystyried y cwestiwn hwn ar ei ben ei hun. I bawb sydd wedi talu teyrnged i Nathan Davies, y cyfarfûm ag ef am y tro cyntaf yn ôl yn 2015, efallai fod y gair wedi'i orddefnyddio, ond rhaid i mi ddweud bod Nathan Davies yn ysbrydoliaeth wirioneddol yn y mater hwn. Rwy'n eithaf siŵr y byddwn yn ei weld yn parhau i ymgyrchu ar hawliau anabledd. Rwy'n mawr obeithio y byddwn yn gweld hynny beth bynnag, oherwydd mae'n effeithiol tu hwnt. Mae wedi dangos beth sy'n bosibl drwy ymgyrchu gwleidyddol. Fel y mae rhai o'r cyfranwyr wedi dweud eisoes, nid yw mater y gronfa byw'n annibynnol ar ben. Mae rhagor i'w wneud ar ôl y saib hwn, ac rwy'n siŵr y bydd Nathan yn ymgyrchu dros hynny. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig heb ei ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 8. Dadl Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Carchardai a Charcharorion Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Darren Millar. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Yr eitem nesaf felly yw dadl UKIP ar garchardai a charcharorion. Dwi'n galw ar Neil Hamilton i wneud y cynnig—Neil Hamilton. Cynnig NDM6966 Gareth Bennett Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu y dylai carchardai fod yn fannau diwygio ac adsefydlu, ac mai'r carchar yw'r gosb ar gyfer y rhai a gaiff eu dyfarnu'n euog o drosedd. 2. Yn penderfynu na ddylai carcharorion gael yr hawl i bleidleisio yn etholiadau Cymru. Cynigiwyd y cynnig. Neil Hamilton AC: Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw Gareth Bennett ar yr agenda heddiw. Hoffwn ddweud ar ddechrau'r ddadl hon fy mod yn credu'n gryf iawn mewn adsefydlu carcharorion a diwygio'r carchardai. Fel aelod o'r bar ers 40 mlynedd, cynrychiolais garcharorion ar sawl achlysur fel cyfreithiwr ar sail pro bono, ac roedd rhai ohonynt wedi'u cyhuddo o droseddau difrifol iawn, yn cynnwys llofruddiaeth ddwbl mewn un achos. Ac yna, wedi iddynt gael eu rhyddhau o'r carchar, rwyf wedi parhau i'w cynrychioli er mwyn cael cyfiawnder lle credaf eu bod wedi cael eu trin yn annheg ac wedi dioddef anghyfiawnder. Pe bawn yn credu bod unrhyw werth adsefydlol o sylwedd mewn cynnig pleidleisiau i rai sy'n bwrw dedfryd o garchar, buaswn yn bendant iawn o'i blaid, ond yn anffodus nid wyf yn credu hynny. Mae'r newid yn y gyfraith sydd yn yr arfaeth yn Lloegr, a Chymru a'r Alban hefyd, yn deillio o achos a gyflwynwyd yn Llys Ewrop gan ddyn sydd mor anhaeddiannol ag y gallech ddychmygu—John Hirst, dyn a dreuliodd oes gyfan yn cyflawni troseddau treisgar ac a laddodd ddynes y bu'n aros gyda hi â bwyell tra'i fod ar barôl wedi dedfryd o ddwy flynedd am fwrgleriaeth, gan ei tharo saith gwaith, ac er mai am 11 diwrnod yn unig y bu'n lletya gyda hi, oherwydd ei bod hi'n swnian arno'n gyson pan âi allan, fe ddywedodd nad oedd yn teimlo unrhyw edifeirwch ac fe'i tarodd hi â'r fwyell. Plediodd yn ddieuog o lofruddiaeth ond yn euog o ddynladdiad. Yn rhyfeddol, cafodd hynny ei dderbyn gan bennaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron ar y pryd ar sail cyfrifoldeb lleiedig. Ond dywedodd y barnwr, wrth ei ddedfrydu i 15 mlynedd o garchar: Nid oes gennyf amheuaeth nad ydych yn unigolyn trahaus a pheryglus gyda gwendid difrifol yn eich personoliaeth... Yn anffodus, nid yw hyn yn eich gwneud yn addas i gael triniaeth mewn ysbyty meddwl. Yn y carchar, ymosododd Hirst ar swyddog carchar, gan arwain at ei drosglwyddo i uned ddiogelwch wedi'i neilltuo ar gyfer y carcharorion mwyaf peryglus a bu yn y carchar am 25 mlynedd oherwydd ymddygiad treisgar a throseddau eraill tra'i fod yn y carchar, cyn ei ryddhau yn 2004. Felly, nid wyf yn meddwl bod hwnnw'n ddechrau da iawn. Aeth yr achos gerbron Llys Hawlau Dynol Ewrop ac yn y pen draw llwyddodd yn ei hawliad fod y gyfraith fel y mae ar hyn o bryd yn y Deyrnas Unedig yn anigonol i ddiogelu hawliau dynol carcharorion. O dan brotocol 1, erthygl 3 o'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, sydd ond yn dweud bod: 'Partïon Contractu Uchel' —ac mae'r Deyrnas Unedig yn un ohonynt— 'yn ymgymryd i gynnal etholiadau rhydd ar gyfnodau rhesymol trwy bleidlais gyfrinachol, o dan amodau a fydd yn sicrhau mynegiant rhydd o farn y bobl wrth ddewis y ddeddfwrfa.' Felly, dyna egwyddor gyffredinol fras iawn, fel sy'n arferol, mewn gwirionedd, yn iaith gyfreithiol y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, sy'n rhoi rhyddid aruthrol i farnwyr ddehongli yn y modd y gwelant yn addas. Yn fy marn i, mae'n drahaus o hawliau democrataidd sefydliadau fel Llywodraeth y Cynulliad neu Senedd y Deyrnas Unedig, ac rwy'n credu ei bod yn beryglus fod actifiaeth farnwrol o'r fath yn digwydd oherwydd, pan fydd y barnwyr wedi gwneud penderfyniad, nid oes unrhyw apêl yn y pen draw, ac nid yw'r bobl yn gallu newid dyfarniadau barnwyr yn y llys Ewropeaidd oherwydd ni allwch wneud hynny oni bai eich bod yn gallu newid y confensiwn, ac mae hynny'n beth anodd eithriadol i'w wneud, a beth bynnag, mae'r iaith yn ei gwneud hi'n amhosibl ei wneud mewn achosion penodol, a dyna pam y credaf y dylem ddod â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn ôl i'r wlad hon a deddfu ar gyfer ein Bil Hawliau ein hunain y gall unigolion a etholwyd yn ddemocrataidd ei newid mewn achosion priodol. Mae siarter hawliau sylfaenol yr Undeb Ewropeaidd yn erthygl 39(2) yn darparu math tebyg o ddarpariaeth sydd hefyd wedi bod yn destun ymgyfreitha yn Llys Cyfiawnder Ewrop. Y cyfan y mae hwnnw'n ei ddweud yw bod Aelodau Senedd Ewrop i'w hethol drwy hawl gyffredinol uniongyrchol mewn pleidlais rydd a chudd. Yn achos Delvigne 2015, deilliodd canlyniad tebyg i achos Hirst ohono. Nawr, dywedodd yr Arglwydd Hoffman, nad yw'n ddadleuwr tanbaid dros yr asgell dde, fod Llys Hawliau Dynol Ewrop wedi methu gwrthsefyll y demtasiwn i ddyrchafu ei awdurdodaeth a gosod rheolau unffurf ar yr aelod-wladwriaethau, a dywedodd Geoffrey Robertson QC, sy'n baragon o ryddfrydiaeth, mewn pamffled a ysgrifennodd o'r enw 'Why we need a Brtish Bill of Rights' fod y Confensiwn Ewropeaidd yn methu cynnwys yr hawliau a enillodd y Senedd drwy'r "Chwyldro Gogoneddus" yn 1689, ac mae tystiolaeth gynyddol yn bodoli fod geiriau slec y confensiwn Ewropeaidd yn niweidio hawliau sylfaenol eraill, ac mae'r confensiwn mewn rhai ffyrdd yn hen ffasiwn. Felly, beth bynnag y mae rhywun yn ei feddwl o'r mater yn ei hanfod—[Torri ar draws.] Iawn, fe wnaf. Huw Irranca-Davies AC: Neil, diolch yn fawr iawn am ildio. Rwyf am wneud y sylw, hyd yn oed o dan ddyfarniad Llys Hawliau Dynol Ewrop, ac yn eu dyfarniadau blaenorol, mae yna wledydd yn Ewrop sy'n gweithredu heb unrhyw gyfyngiadau ar hawliau pleidleisio—etholfraint gyffredinol ar gyfer carcharorion i bob pwrpas. Ceir eraill sy'n gweithredu gyda chyfyngiadau. Maent wedi dehongli yn union yr un penderfyniad mewn ffyrdd gwahanol iawn. Maent wedi cymhwyso eu sofraniaeth hyd yn oed o dan y dyfarniad hwnnw. Neil Hamilton AC: Nid oes ganddynt sofraniaeth i wneud y penderfyniad na ddylai unrhyw un sy'n bwrw dedfryd o garchar gael yr hawl i bleidleisio, ac yn fy marn i mae'n gwbl briodol mewn gwlad ddemocrataidd y dylai cynrychiolwyr etholedig y bobl allu gwneud y dewis hwnnw os ydynt o'r farn ei fod er budd gorau eu pobl eu hunain. Oherwydd mae'r Confensiwn Ewropeaidd wrth gwrs yn rhoi'r hawl i ryddid na fyddai neb yn dadlau yn ei erbyn, ac mae pawb yn credu ei fod yn beth da. Ond wrth amddifadu rhywun o'i ryddid, rydym yn eu hamddifadu o hawliau sylfaenol eraill o dan y confensiwn neu'r siarter hawliau sylfaenol. Mae carcharorion yn cadw'r hawl i fywyd teuluol yn y carchar; ni chânt gasglu eu plant o'r ysgol na rhoi cusan nos da iddynt. Mae ganddynt hawl i ryddid mynegiant a rhyddid crefyddol, ond drwy ddiffiniad, maent yn colli'r hawl i ryddid i ymgynnull. Gan gymryd eu bod wedi'u heuogfarnu'n briodol, wrth gwrs, roedd gan unrhyw un sydd yn y carchar ddewis i'w wneud, cyn iddo ef neu hi gyflawni trosedd, y gallent beidio â chyflawni'r drosedd a gweithredu o fewn y gyfraith mewn gwirionedd, gan wybod, pe baent yn cael eu heuogfarnu a'u hanfon i garchar mai un o'r pethau y byddent yn eu colli yn ogystal â'u rhyddid i symud o amgylch y tu allan i waliau'r carchar yw'r rhyddid i bleidleisio. Mae'n ymddangos i mi fod hwnnw'n safbwynt cwbl dderbyniol gan unrhyw un sy'n ennyn ymddiriedaeth y bobl a etholwyd ganddynt, fel rydym ni yn y sefydliad hwn yn ei wneud. Yn wir, dywedodd Chris Bryant, yr Aelod Seneddol dros y Rhondda, mewn araith yn Nhŷ’rCyffredin yn 2011: nid rôl Llys Hawliau Dynol Ewrop yw deddfu ynghylch pwy sy'n cael pleidleisio yn y DU. Fel y dadleuodd Llywydd y Llys ac eraill yn eu barn anghydsyniol ar Hirst, oherwydd mai mwyafrif o 12 i bump a arweiniodd at ddyfarniad Hirst, mae'n hanfodol cadw mewn cof nad yw'r llys yn ddeddfwrfa a dylai fod yn ofalus i beidio ag ymgymryd â swyddogaethau deddfwriaethol. Dyna pam yr ydym wedi dadlau— dyma a ddywedodd Chris Bryant— yn y Siambr Fawr— a sôn am Lywodraeth Lafur a wnâi— Dyna pam yr ydym wedi dadlau yn y Siambr Fawr fod y Llys yn gweithredu ultra vires a pham y credwn mai mater i'r Senedd—a'r Senedd yn unig—yw deddfu ar hyn ar gyfer y DU. Rwy'n ildio. Jenny Rathbone AC: Nid wyf yn meddwl y dylem boeni'n ormodol am Lys Cyfiawnder Ewrop. Rydym ar fin ei adael. Mae gennych chi a llawer o bobl eraill, fel Theresa May, obsesiwn mawr ynglŷn â hyn. Gadewch i ni edrych ar yr amcan, sef cefnogi ailintegreiddiad carcharorion i fywyd normal a mynd i'r afael â'n record warthus ar droseddu parhaus. Yn amlwg, rydym yn gwario llawer o arian ar rywbeth nad yw'n gweithio. Neil Hamilton AC: Rwy'n cytuno'n gryf â'r pwynt olaf y mae Jenny Rathbone yn ei wneud. Pe bawn yn meddwl, fel y dechreuais drwy ddweud, fod unrhyw werth adsefydlol mawr i roi hawl i bleidleisio i garcharorion, buaswn yn cefnogi gwneud hynny. Nid wyf yn meddwl bod, mewn gwirionedd, ac rwy'n credu y dylai fod yn agored i gymdeithas fynegi ei hatgasedd tuag at droseddau drwy gael gwared ar hawl i bleidleisio y rheini sydd wedi colli hawliau eraill yn rhinwedd y ffaith eu bod yn y carchar. Yn sicr, dylai fod yn fater i sefydliadau fel y Cynulliad Cenedlaethol wneud y penderfyniad hwnnw, nid barnwyr anetholedig mewn llysoedd yn Strasbourg. Sôn am Lys Hawliau Dynol Ewrop a wnawn yma, nid Llys Cyfiawnder Ewrop. Felly, nid fyddwn yn gadael Cyngor Ewrop a'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, a bydd yn rhaid i ni barhau i gydymffurfio â phenderfyniadau'r barnwyr hynny. Mae'r Llywodraeth ar lefel y DU wedi cynnig rhai mân newidiadau sydd wedi eu derbyn bellach gan Gyngor y Gweinidogion fel rhai sy'n cyflawni'r dyfarniad yn achos Hirst. Maent yn gymharol gyfyngedig o ran eu heffaith, ac fe'u darllenaf ar gyfer y cofnod. Mae yna bump ohonynt. Gall carcharorion ar remánd bleidleisio. Gall carcharorion a anfonwyd i'r carchar am ddirmyg llys bleidleisio. Gall carcharorion a anfonwyd i'r carchar am fethu talu dirwyon bleidleisio. Gall carcharorion cymwys a gafodd eu rhyddhau ar drwydded dros dro bleidleisio. A gall carcharorion a ryddhawyd ar gyrffyw cartref bleidleisio. I gydymffurfio â dyfarniad y llys Ewropeaidd, pan fo Llywodraeth Cymru yn cyflwyno ei chynigion ar ôl ystyried adroddiad y pwyllgor cydraddoldebau, rwy'n gobeithio nad ânt gam ymhellach na hynny, gan na chredaf fod unrhyw gefnogaeth gyhoeddus o gwbl i roi'r bleidlais i garcharorion. Pe baem yn cael pleidlais i'r bobl ar y mater hwn, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y byddai mwyafrif trwm iawn yn erbyn gwneud hynny. Felly, rwy'n credu bod gan y Llywodraeth gyfrifoldeb trwm ar ei hysgwyddau os yw'n dymuno cynrychioli'r bobl go iawn, yn enwedig mewn etholaethau Llafur, i gadw'r ddeddfwriaeth i'r lleiafswm posibl. Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Dwi'n galw ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Gwelliant 1—Rebecca Evans Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu y dylai carchardai fod yn lleoedd i ddiwygio ac adsefydlu. 2. Yn cefnogi’r egwyddor o hawliau pleidleisio i garcharorion yn etholiadau Cymru, ond yn disgwyl am adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. Cynigiwyd gwelliant 1. Julie James AC: Yn ffurfiol. Galwaf ar Mark Isherwood i gynnig gwelliannau 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar—Mark Isherwood. Gwelliant 2—Darren Millar Ychwanegu pwyntiau newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny: Yn croesawu'r ffocws gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar wasanaethau adsefydlu, dedfrydau cymunedol a lleihau aildroseddu. Yn nodi bod y Pwyllgor Cydraddoldeb,Llywodraeth Leol a Chymunedau yn cynnal ymchwiliad cyfredol i hawliau pleidleisio i garcharorion. Gwelliant 3—Darren Millar Ym mhwynt 2, dileu 'na ddylai carcharorion gael yr hawl i bleidleisio yn etholiadau Cymru' a rhoi yn ei le 'na ddylai hawliau pleidleisio cyfredol carcharorion gael eu hymestyn i etholiadau Cymru yn y dyfodol'. Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3. Mark Isherwood AC: Diolch, Lywydd. Dylai carchardai fod yn lleoedd o ddiwygio ac adsefydlu, ac mae carchar yn gosb i'r rhai a geir yn euog o drosedd. Mae Gweinyddiaeth Gyfiawnder y DU yn canolbwyntio ar wasanaethau adsefydlu, dedfrydau cymunedol a lleihau aildroseddu. Fis Awst diwethaf, mynychais y digwyddiad yn Wrecsam a gynhaliwyd gan Wasanaeth Carchardai a Phrawf ei Mawrhydi yng Nghymru i drafod y papur 'Strengthening probation, building confidence', a fydd yn ymdrin â'r holl wasanaethau rheoli troseddwyr yng Nghymru o fewn y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol o'r flwyddyn nesaf ymlaen. Bydd y Gwasanaeth Carchardai a Phrawf ei Mawrhydi yng Nghymru yn archwilio opsiynau i gomisiynu gwasanaethau adsefydlu, megis ymyriadau a gwneud iawn â'r gymuned. Byddant yn adeiladu ar y trefniadau unigryw sydd ganddynt eisoes yng Nghymru drwy eu cyfarwyddiaeth garchardai a phrawf sefydledig a thrwy bartneriaethau lleol llwyddiannus sy'n bodoli eisoes, gan adlewyrchu cyfrifoldebau datganoledig Llywodraeth Cymru yn well. Mae diwygio carchardai Llywodraeth y DU yn ymwneud â chael adeiladau sy'n addas ar gyfer gofynion heddiw yn lle carchardai aneffeithiol sy'n heneiddio. Mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod carchardai cymunedol ar gyfer menywod yng Nghymru a Lloegr, ac yn hytrach, bydd yn treialu pump o ganolfannau preswyl i helpu troseddwyr benywaidd gyda materion megis adsefydlu cyffuriau a dod o hyd i waith. Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder hefyd yn ystyried gwahardd dedfrydau byr o garchar yng Nghymru a Lloegr, gyda Gweinidogion yn datgan bod carcharu am gyfnod byr yn llai effeithiol o ran lleihau aildroseddu na chosbau cymunedol. Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar hyn o bryd yn cynnal ymchwiliad i hawliau pleidleisio ar gyfer carcharorion, ac eto dyma'r ail ddadl mewn pythefnos i geisio achub y blaen ar hyn. Rwy'n cynnig gwelliant 2 yn unol â hynny. Mewn arolwg YouGov yn 2017, dim ond 9 y cant o bobl yng Nghymru a ddywedodd y dylid caniatáu i bob carcharor bleidleisio. Nid cael terfynau sy'n cyfrannu at droseddu, ond diffyg terfynau. Mae hawliau'n mynd gyda chyfrifoldebau, ac mae peidio â phleidleisio ond yn un o ffeithiau bywyd sy'n deillio o fod yn y carchar, gan adlewyrchu penderfyniad y gymuned nad yw'r unigolyn dan sylw yn addas i gymryd rhan ym mhroses y gymuned o wneud penderfyniadau. Gall carcharorion yn y gymuned ar drwydded dros dro bleidleisio bellach, ac mae Llywodraeth y DU hefyd wedi dweud y dylid ei gwneud yn fwy eglur i bobl sy'n cael dedfrydau o garchar na fydd ganddynt hawl i bleidleisio tra byddant yn y carchar. Mae gan garcharorion ar remánd heb eu heuogfarnu a charcharorion sifil a garcharwyd am droseddau fel dirmyg llys hawl i bleidleisio eisoes drwy bleidlais bost, er mai ychydig iawn sy'n gwneud. Yng ngharchar y Parc, clywsom y byddai ychydig o garcharorion naill ai'n defnyddio'r hawl i bleidleisio, neu'n ei gweld fel cymhelliad i adsefydlu. Ni ddylid ymestyn hawliau pleidleisio i garcharorion presennol yng Nghymru y tu hwnt i hyn, ac rwy'n cynnig gwelliant 3 yn unol â hynny. Yn hytrach, dylai ein ffocws fod ar roi cyfleoedd i droseddwyr gyfrannu, gwneud iawn ac adeiladu bywydau cadarnhaol. Ym mis Rhagfyr, cynhaliais ddigwyddiad yn y Cynulliad gydag Ymddiriedolaeth Adeiladu Ieuenctid Cymru a Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu, i ddathlu llwyddiant prosiect Clean Slate Cymru, a lansio pecyn cymorth Clean Slate Cymru. Nod prosiect Clean Slate Cymru yw cynorthwyo pobl sydd ag euogfarnau i gael gwaith yn y diwydiant adeiladu, ac mae pecyn cymorth Clean Slate Cymru yn cynnig arweiniad ymarferol ar sut y gall y diwydiant adeiladu ymgysylltu â chyn-droseddwyr mewn carchardai a chymunedau ledled Cymru, a sicrhau gwerth cymdeithasol. Fel rhan o'r prosiect, cafodd cynlluniau peilot eu cyflwyno ledled Cymru, gan gynnwys diwrnod diwydiant yng Ngharchar EM y Parc a ffeiriau gyrfaoedd a lleoliadau gwaith yng Ngharchar EM Berwyn. Wedi agor yr adain gyntaf yn y DU i gyn-bersonél y lluoedd arfog yn 2015, mae carchar y Parc yn darparu ffocws ar gyfer gwasanaethau cymorth arbenigol i gyn-filwyr sy'n gweithio y tu allan i'r carchar, megis gwasanaethau mentora cymheiriaid, cyflogadwyedd a phontio i fywyd ar y tu allan. Mae gan Supporting Transition of Military Personnel, neu SToMP, ddull gweithredu system gyfan ar gyfer cyn-bersonél y lluoedd arfog, sy'n eu cefnogi o alw'r heddlu i ailsefydlu yn y gymuned. Mae SToMP wedi gweithredu llwybr carcharororion Cymru gyfan i sicrhau bod cyn-bersonél y lluoedd arfog yn cael eu hadnabod yn gyson, a'u cefnogi ar draws yr holl garchardai yng Nghymru. Fis Tachwedd diwethaf, y Parc oedd yr ail garchar yn y DU a'r cyntaf yng Nghymru i ennill achrediad awtistiaeth gan Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth. Yn anffodus, er hynny, eto yr wythnos hon tynnwyd sylw at gyflwr y gwasanaethau datganoledig ar ôl dau ddegawd o dan arweiniad Llywodraeth Lafur Cymru gan adroddiad annibynnol damniol a ddarganfu fod hanner y dynion a ryddhawyd o garchar EM Caerdydd heb unman i aros pan gânt eu rhyddhau, a bydd llawer yn aildroseddu'n fwriadol er mwyn cael eu hanfon yn ôl i'r carchar. Dyna'r math o fethiant y mae'n rhaid inni ganolbwyntio arno, gan ddefnyddio'r math o brosiectau y cyfeiriais atynt, yn hytrach na mesurau eraill a allai fodloni hunanfalchder unigolion, ond na fydd yn gwneud fawr iawn o wahaniaeth. John Griffiths AC: Mae'n dda gallu siarad yn y ddadl hon heddiw fel Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, Lywydd, oherwydd, fel y crybwyllwyd eisoes, dyma'r ail ddadl mewn amser byr sy'n ymwneud â gwaith y mae'r pwyllgor a gadeirir gennyf yn ei wneud ar hyn o bryd ynglŷn ag a ddylai carcharorion yng Nghymru gael hawl i bleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad ac etholiadau lleol. Fel rhan o'r gwaith hwnnw, rydym yn ymdrin â'r materion sy'n codi yn eu cyfanrwydd, i weld a ddylid codi'r cyfyngiadau'n gyfan gwbl ar hawl carcharorion i bleidleisio, neu a ddylid gwahaniaethu rhwng carcharorion a fyddai'n cael yr hawl honno a'r rhai na fyddent yn ei chael. Felly, buom yn edrych ar faterion megis y posibilrwydd o ddefnyddio categorïau o garcharor ar sail y ddedfryd a gânt, neu eu dyddiadau rhyddhau, neu'r math o drosedd, i benderfynu a ddylent bleidleisio neu beidio. Rydym eto i ddod i farn gyfunol. Mae gennym safbwynt y DU, fel y'i hamlinellwyd, a thybiaf fod hwnnw'n ddefnyddiol fel man cychwyn posibl. Rydym wedi cynnal ymweliadau, un â charchar y Parc, ac un yfory i Eastwood Park i edrych ar garcharorion benywaidd a gedwir yn y carchar hwnnw yn swydd Gaerloyw. Yn sicr, roedd yr ymweliad â'r Parc yn addysgiadol iawn o ran gallu clywed gan y carcharorion a staff carchardai, ac roedd cyfarwyddwr y carchar yn dweud yn eithaf diamwys ei bod hi'n credu y dylai pob carcharor gael yr hawl i bleidleisio ar sail hawliau dynol, ac nad oedd rhai o'r ystyriaethau ymarferol mor anodd yn logistaidd nes eu bod yn atal hynny rhag digwydd, ac y byddai'n rhaid gwneud trefniadau angenrheidiol, yn ei barn hi, ac y gellid eu gwneud. Felly, roedd hwnnw'n ymweliad diddorol iawn, ac rwy'n siŵr y bydd yfory'n ddiddorol iawn hefyd. Credaf hefyd, Lywydd, y bu'n eithaf addysgiadol o ran ein proses ymgynghori, o ran gwrando ar y cyhoedd a sefydliadau sydd â barn ar hyn, oherwydd mewn gwirionedd, mae wedi bod yn eithaf cytbwys, o ran y rhai sydd dros ac yn erbyn rhoi hawl i bleidleisio i garcharorion, ac a ddylid gwahaniaethu ac ar ba sail y dylid gwahaniaethu. Ac yn sicr nid yw'n ategu'r farn fod pobl yn unfrydol bron na ddylai carcharorion gael hawl i bleidleisio o gwbl. Mae wedi bod yn llawer mwy amrywiol na hynny. Felly, rydym ynghanol y broses o gymryd tystiolaeth lafar ac ynghanol ymchwiliad y pwyllgor. Byddwn yn cymryd rhagor o dystiolaeth lafar gan amryw o sefydliadau, a gan y Gweinidog maes o law wrth gwrs. Ein nod yw cyhoeddi ein hadroddiad ar ôl toriad y Pasg. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr, yn y dadleuon a'r trafodaethau rydym yn eu cael—y ddadl flaenorol a'r ddadl hon, Lywydd—fod gwaith y pwyllgor yn cael ei gydnabod yn briodol a'i barchu yn wir, oherwydd rydym yn mynd drwy broses bwysig iawn yn fy marn i. Ac rwy'n credu y bydd yn rhoi corff o dystiolaeth ar y bwrdd y gobeithiaf y bydd pob Aelod yn edrych arno'n ofalus iawn maes o law cyn ffurfio eu barn eu hunain ar y materion hyn yn llawn. Gareth Bennett AC: Nawr, mae rhoi pleidlais i garcharorion yn fater pwysig yn fy marn i. Mae gennyf ychydig o bryderon ynglŷn â chyflwyno'r ddadl hon heddiw, oherwydd, fel y mae John Griffiths newydd esbonio, mae ymchwiliad yn mynd rhagddo ar y mater hwn gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedaurwy'n aelod ohono. Yn gyffredinol, nid wyf yn credu bod achub y blaen ar ganlyniad ymchwiliad yn arfer da, ond a bod yn deg, cawsom ddadl ar nifer o faterion amrywiol yn ymwneud â chyfiawnder troseddol yn y Siambr ychydig wythnosau yn ôl, ac nid ni a gyflwynodd honno, ond yn sicr roedd y Blaid Lafur a Phlaid Cymru yn cyfleu negeseuon cryf ar y mater hwn. Felly, credaf fod y ddadl eisoes wedi achub y blaen ar yr ymchwiliad i ryw raddau. I ailadrodd yr hyn a ddywedwyd bythefnos yn ôl, dywedodd Jane Hutt ar ran y Blaid Lafur fod Llywodraeth Cymru yn aros am ganlyniad ein hymchwiliad ond ar yr un pryd roedd yn paratoi Bil Llywodraeth ar y mater hwn. Wel, mae Bil yn ymrwymiad mawr ac nid ydych yn paratoi Bil os nad ydych o ddifrif yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth. Felly, credaf fod hyn yn dweud wrthym fod Llywodraeth Cymru eisoes wedi penderfynu y bydd yn ymestyn yr hawl i garcharorion bleidleisio, er nad ydynt yn dweud hynny'n benodol, er gwaethaf y ffaith nad ydym wedi gorffen ymchwiliad y pwyllgor eto. O'u rhan hwy, roedd Plaid Cymru, a gyflwynodd y ddadl, yn awyddus i gynnwys hawl carcharorion i bleidleisio yng ngeiriad eu cynnig. Rhoddodd hyn arwydd cryf i ni, rwy'n credu, eu bod yn dymuno ymestyn yr etholfraint i garcharorion bleidleisio yng Nghymru. Felly, unwaith eto, credaf fod hyn yn achub y blaen ar yr ymchwiliad, mewn ysbryd yn sicr os nad o ran yr union eiriad. Felly, credaf y gallwn gyfiawnhau cyflwyno'r ddadl hon heddiw. Wrth gwrs, byddaf yn ymdrechu i barhau i wrando ar dystiolaeth ymchwiliad y pwyllgor. Nawr, mae fy nghyd-Aelod, Neil Hamilton, wedi nodi rhai o'r prif wrthwynebiadau moesol i ganiatáu i garcharorion bleidleisio o gwbl, sef safbwynt UKIP yn y bôn—ein bod ymhell o fod eisiau ymestyn y bleidlais i gynnwys carcharorion, ac yn hytrach, y byddai'n well gennym anwybyddu dyfarniad hurt Llys Hawliau Dynol Ewrop ar hyn a pheidio â chaniatáu i unrhyw garcharor bleidleisio o gwbl. Os mai'r gwrthwynebiad mawr i hyn yw bod angen inni gydymffurfio â Llys Hawliau Dynol Ewrop, dyma yw ein safbwynt: rydym yn gadael yr UE a Llys Cyfiawnder Ewrop er mwyn cael rheolaeth dros ein deddfau ein hunain, wedi'r cyfan dyna y pleidleisiodd y mwyafrif o bobl y DU drosto. Felly, pam na allwn adael Llys Hawliau Dynol Ewrop hefyd a chael ein bil hawliau Prydeinig ein hunain? Felly, dyma gyd-destun gwleidyddol ein gwrthwynebiad i'r egwyddor o roi hawl i garcharorion gael pleidleisio. Nawr, yr hyn y mae ein hymchwiliad eisoes wedi'i ddangos hyd yn hyn yw'r nifer o anawsterau technegol a logistaidd sy'n debygol o godi os ewch ar hyd y llwybr o geisio ymestyn yr etholfraint i gynnwys carcharorion. Ceir anawsterau mawr, er enghraifft, mewn perthynas â chyfeiriad cofrestredig carcharorion. Ceir carcharorion gyda chyfeiriadau yng Nghymru sydd mewn carchardai yn Lloegr. Felly, gallai rhai carcharorion a gedwir mewn carchardai yn Lloegr gael caniatâd i bleidleisio mewn etholiad Cynulliad Cymru. Bydd hynny'n anodd i'w drefnu. Hyd yn oed os oes ganddynt y bleidlais honno'n ddamcaniaethol, a fyddant yn gallu bwrw eu pleidlais yn ymarferol? Ac fel arall, ceir carcharorion o Loegr yng ngharchardai Cymru na fydd ganddynt hawl i bleidleisio mewn etholiad Cynulliad. Alun Davies AC: A wnewch chi dderbyn ymyriad ar hynny? Gareth Bennett AC: Gwnaf. Alun Davies AC: A yw'n ymwybodol fod carcharorion eisoes yn arfer eu hawl i bleidleisio? Maent yn tueddu i bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy. Gareth Bennett AC: Yn ôl yr hyn a gofiaf o'n hymchwiliad yng Nghymru, estynnwyd yr hawl i bleidleisio gan y dyfarniad hwnnw gan Lys Hawliau Dynol Ewrop a'i chymhwyso ar gyfer— Alun Davies AC: Carcharorion ar remánd. Gareth Bennett AC: A, carcharorion ar remánd. Iawn, mae hwnnw'n fater penodol. David J Rowlands AC: Nid ydynt wedi'u heuogfarnu pan fyddant ar remánd. Alun Davies AC: Maent yn dal i fod yn y carchar, onid ydynt? Gareth Bennett AC: Rwy'n meddwl bod anhawster sylfaenol—[Torri ar draws.] Mae anhawster sylfaenol gyda charcharorion ar remánd, ond mae'n bwynt diddorol y mae angen inni edrych arno. Nawr, os caf ddychwelyd at yr hyn yr oeddwn yn ei ddweud, ar y llaw arall, ceir carcharorion o Loegr yng ngharchardai Cymru na fydd yn cael pleidleisio mewn etholiad Cynulliad. Felly, mewn llawer o garchardai, bydd gennych garcharorion yn yr un adain, a rhai ohonynt yn cael pleidleisio ac eraill na fyddent yn cael gwneud hynny. Yr hyn na fydd gennych fydd cyfle cyfartal, a gallai'r anghydraddoldeb arwain o bosibl at ostwng morâl yn yr adain yn hytrach na'i godi, felly rwy'n credu bod angen inni droedio'n ofalus yma. Ymwelsom â charchar y Parc, fel y soniodd John Griffiths. Cyfarfuom â charcharorion, cyfarfuom â swyddogion carchar a chyfarfuom â chyfarwyddwr y carchar. Nawr, mae ganddynt system freintiau yn y carchar hwnnw. Tybed a fyddai'r system freintiau o unrhyw ddefnydd i benderfynu a ellid caniatáu i garcharor bleidleisio ai peidio—efallai ei fod yn syniad naïf. Credai cyfarwyddwr y carchar fod hyn yn anymarferol iawn ac ar ôl ystyried, credaf y byddai'n annhebygol gan eich bod yn rhoi hawl i gyfarwyddwr y carchar a swyddogion y carchar i ddweud pwy sy'n cael a phwy nad yw'n cael pleidleisio, sy'n sylfaenol annemocrataidd mae'n debyg. Felly, o gofio'r holl anawsterau hyn, cawn ein harwain wedyn i mewn i ddyfroedd tywyll iawn caniatáu i bob carcharor bleidleisio. Credaf fy mod yn cytuno â'r pwyntiau a nododd Mark Isherwood yn ystod y ddadl flaenorol yn y Siambr nad yw'r posibilrwydd y caiff troseddwyr treisgar fel llofruddion a threiswyr rhywiol bleidlais yn debygol o ennill llawer o gefnogaeth o blith yr etholwyr yn ehangach. A dyfynnodd eto heddiw y ffigur o 9 y cant o arolwg YouGov a gynhaliwyd yn 2017. Felly, rwy'n credu mai ychydig iawn o gefnogaeth gyhoeddus sydd yna i hyn. Nid oedd ym maniffesto Llafur na Phlaid Cymru; credaf mai haerllugrwydd braidd yw ceisio cyflwyno hyn o dan y radar. Diolch yn fawr iawn. Alun Davies AC: Rwy'n dod at hyn nid oherwydd gwrthwynebiad llwyr i'r gair 'Ewrop' a bod unrhyw sefydliad sy'n cynnwys y disgrifydd hwnnw'n anghywir felly fel mater o egwyddor ac yn ymarferol. Mae fy ymagwedd ychydig yn wahanol, er bod cyflwyniad Neil Hamilton i'r ddadl hon o leiaf wedi ceisio dadlau ar sail egwyddor yn ogystal â chwifio penawdau papur newydd arnom. Ond gadewch i mi ddweud hyn: credaf fod hyn yn bwysig—pan wneuthum ddatganiad i'r lle hwn fel Gweinidog ar 30 Ionawr y llynedd, gwneuthum ddatganiad y gobeithiwn ei fod wedi'i wreiddio mewn egwyddor a'r ymrwymiad athronyddol i gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb a ddylai fod yn nodweddu'r lle hwn. Os ydym i fod yn Senedd yn y dyfodol, mae'r penderfyniadau a wnawn a'r ymagwedd a gymerwn tuag at y penderfyniadau hynny o bwys sylfaenol i ddinasyddion y wlad hon. I mi, pan fyddwn yn carcharu rhywun, pan fyddwn yn mynd â'u rhyddid oddi wrthynt, rydym yn mynd â'u rhyddid er mwyn gwneud rhai o'r pethau a ddisgrifiodd Neil Hamilton. Yr hyn nad ydym yn ei wneud, a'r hyn na ddylem byth geisio ei wneud, yw mynd â'u hunaniaeth oddi wrthynt, mynd â'u dinasyddiaeth oddi wrthynt, mynd â'u hawliau oddi wrthynt fel unigolion ac fel bodau dynol. Mae hwnnw'n gynnig gwahanol. Y gosb y maent yn ei chael yw colli eu rhyddid, a dyna'r pwynt y dylem ddechrau gydag ef. Ond dylem hefyd ddechrau ar bwynt gwahanol o egwyddor, pwynt o egwyddor sydd wedi'i wreiddio mewn adsefydlu, ac un o rannau gwannaf y system sydd gennym ar gyfer ymdrin â chyfiawnder troseddol yn y wlad hon yw'r gwasanaethau 'drwy'r gât' wrth i garcharorion ddod at ddiwedd eu dedfryd a'u dwyn yn ôl i'r gymuned, a buom yn trafod hynny gyda chwestiwn brys ac amserol yn gynharach y prynhawn yma. I mi, pan edrychaf ar y mater hwn, mae'n hanfodol ein bod yn parhau i drin pobl drwy gydol eu cyfnod yn y carchar fel dinasyddion y wlad hon ac fel dinasyddion rydym yn gobeithio y byddant yn chwarae rhan bwysig yn eu cymunedau yn y dyfodol, fel dinasyddion cyfrifol. Teimlwn fod y cynnig a wneuthum i'r lle hwn yn lle rhesymol i fod, lle bydd rhywun sydd wedi'i ddedfrydu i garchar am gyfnod o amser a lle rhagwelir y bydd eu dyddiad rhyddhau o fewn tymor yr awdurdod sy'n cael ei ethol—llywodraeth leol yn yr achos hwn, wrth gwrs—byddai'n gallu pleidleisio mewn etholiad i'r awdurdod hwnnw. Byddant yn ddinasyddion sy'n byw yn y lle hwnnw yn ystod tymor yr awdurdod hwnnw sy'n cael ei ethol, ac roeddwn yn meddwl bod honno'n egwyddor go bwysig, oherwydd nid ydym yn amddifadu neb o'u hawl i bleidleisio a gedwir yn y carchar dros gyfnod estynedig o amser—dedfryd am oes neu ddedfryd hir—ond mewn gwirionedd rydym yn galluogi rhywun i ddewis yr awdurdod lleol, yn yr achos hwn, ac i gymryd rhan mewn etholiad lle maent hwy eu hunain yn byw yn y gymuned honno yn ystod tymor yr awdurdod hwnnw, ac mae hwnnw'n bwynt pwysig i'w wneud. Rydym eisoes yn gwneud hyn gyda charcharorion ar remánd, wrth gwrs; maent eisoes yn cymryd rhan ac yn gallu gwneud hynny. Maent yn gwneud hynny gyda chyfeiriad cysylltiedig—ni cheir yr un o'r problemau y ceisiodd arweinydd UKIP eu mynegi yn ei gyfraniad. Nid oes yr un o'r materion hyn yn berthnasol ac nid ydynt wedi bod yn berthnasol ar unrhyw adeg, lle mae anawsterau wedi codi. A gadewch imi ddweud hyn: mae'n bwysig ein bod yn gwneud hyn mewn ffordd resymegol sydd wedi'i gwreiddio mewn egwyddor, sydd wedi'i gwreiddiomewn ymrwymiad athronyddol i gyfiawnder cymdeithasol, ond hefyd lle ceir cymhwysiad ymarferol. Mae'n amlwg i mi fod y trefniadau a'r strwythurau eisoes yn eu lle, ac yn sicr, fel Gweinidog, roeddwn yn glir iawn nad oedd unrhyw rwystrau ymarferol mawr i allu cyflawni hyn. Mae'r strwythurau sydd gennym ar waith, hawl carcharor i gael gohebiaeth gan swyddog canlyniadau etholiadol, eisoes yn bodoli, mae hawl carcharor i gael yr ohebiaeth yn breifat ac i wneud penderfyniad ar sail yr ohebiaeth honno eisoes yn bodoli. Mae'r Comisiwn Etholiadol eisoes wedi gwneud asesiad o sut y gallai hyn weithredu yn ymarferol, a diwygiwyd y ddeddfwriaeth berthnasol eisoes yn 2000 i alluogi hyn i ddigwydd. Felly, nid oes unrhyw gymwysiadau ymarferol na phroblemau ymarferol ynghlwm wrth y mater hwn. Pwy ydym fel gwlad, fel pobl, fel cymuned sy'n bwysig i mi. Rwyf am weld carcharorion sy'n cael eu cadw ar hyn o bryd mewn carchardai naill ai yma neu yn rhywle arall yn cael eu rhyddhau ar bwynt lle byddant yn dod yn ddinasyddion cyfrifol yn y wlad hon. Ac mae angen inni ddechrau eu trin fel dinasyddion cyfrifol nid ar y pwynt y cânt eu rhyddhau, ond ar y pwynt lle maent yn dal i fod wedi'u carcharu, lle gallwn ddechrau ar y broses o adsefydlu. Un o'r argyfyngau go iawn—ac rwy'n siŵr fod Mr Hamilton yn ymwybodol o hyn—yw bod adsefydlu bob amser yn dechrau pan fydd hi'n rhy hwyr, a phan fydd eisoes yn mynd i fethu. Yr hyn sydd angen inni ei wneud yw sicrhau ein bod yn gallu gwneud hynny fel dull cydlynol a chyfannol o'r dechrau. Felly, rwy'n gobeithio y byddwn yn pleidleisio y prynhawn yma i gefnogi'r egwyddorion hynny a bod y pwyllgor yn ystod ei waith hefyd yn dod i'r casgliad hwnnw ac y byddwn yn gallu deddfu ar y materion hyn cyn diwedd y Senedd hon. Huw Irranca-Davies AC: Rwyf am gyfrannu at y ddadl hon mewn ysbryd myfyriol—nid i achub y blaen ar ganlyniad y pwyllgor rwy'n aelod ohono dan arweiniad John Griffiths, ond wrth agor, rwyf am ddiolch i garcharorion a staff y carchar a swyddogion carchar y Parc, lle buom ar ymweliad y diwrnod o'r blaen. Fe'm trawyd gan ba mor huawdl, gwybodus a deallus oedd y trafodaethau gyda'r carcharorion a staff y carchar. Dywedodd rhai o'r carcharorion wrthym, yn y grŵp yr oeddem ni ynddo, 'Byddech yn synnu pa mor wybodus ydym ni a ninnau'n gaeth am 14 awr y dydd, faint o deledu gwledyddol y byddwn yn ei wylio a faint o bapurau newydd y byddwn yn eu darllen. Rydym yn wybodus iawn am bethau.' Felly, hoffwn ddiolch iddynt ac rwy'n edrych ymlaen at yr ymweliad yfory. A gaf fi fynd yn ôl ychydig i pam yr ydym lle'r ydym? Mae'r rheswm pam ein bod yn amddifadu carcharorion o'r etholfraint yn dyddio'n ôl i'r canol oesoedd a mater marwolaeth ddinesig—y syniad eich bod yn fforffedu eich eiddo os oeddech yn mynd i garchar. Oherwydd eich bod wedi fforffedu eich eiddo, roeddech yn fforffedu'r hawl i bleidleisio, oherwydd roedd yr oedd yr hawl i bleidleisio yn seiliedig ar berchnogaeth eiddo, ac ati. Felly, mae iddo gynsail canoloesol—[Torri ar draws.] Wel, mae'n mynd yn ôl cyn hynny mewn gwirionedd, mae'n ganoloesol—yn 1870 y cafwyd y Ddeddf Fforffediad, a oedd yn sôn am y contract cymdeithasol bryd hynny yn ogystal. Felly, mae hanes hir a rhyfedd yn perthyn i hyn, ond os caf ddod ychydig bach yn fwy diweddar, ers 2005, lle roedd gwaharddiadau o fewn gwledydd ar hawl carcharorion i bleidleisio, canfuwyd bod hyn yn torri deddfwriaeth hawliau dynol rhyngwladol. Nododd Llys Hawliau Dynol Ewrop, nad yw'n gorff yr UE—ceir dryswch ynglŷn â hynny weithiau—fod y gwaharddiad cyffredinol ar hawl carcharor i bleidleisio yn ddiwahân ac yn anghymesur. Ac wrth gwrs, fel y mae sawl un o'r cyfranwyr eisoes wedi nodi yn y ddadl hon, ym mis Tachwedd 2017, rhoddodd Llywodraeth y DU hawl i bleidleisio yn y DU i garcharorion a ryddhawyd ar drwydded dros dro—neu dan gyfyngiad yn y cartref, ar remánd, fel y byddwn yn aml yn ei alw, dan gyfyngiad, dan gyrffyw. Yn wir, dosbarthwyd canllawiau y flwyddyn honno, a rhoddwyd taflenni i'r holl garcharorion, yn ôl yr hyn a ddywedir wrthym. Nawr, ym mis Mai 2018, argymhellodd Pwyllgor Cydraddoldebau a Hawliau Dynol Senedd yr Alban y dylid codi'r gwaharddiad yn ei gyfanrwydd yn yr Alban—a cheir amrywiaeth o safbwyntiau ar hyn—ond gwrthodwyd hyn gan Lywodraeth yr Alban. Wrth gwrs, fel y clywsom, mae'r pwyllgor dan arweiniad John Griffiths, ar anogaeth neu wahoddiad y Llywydd, bellach yn edrych ar y mater yng Nghymru, gyda'n pwerau ar gyfer y Cynulliad ac etholiadau lleol. Ac wrth gwrs, yn ddiweddar iawn yn y ddadl a gawsom ar 30 Ionawr, pleidleisiodd y Cynulliad 36 i 14 gydag un yn ymatal o blaid yr egwyddor o bleidlais i garcharorion. Rwy'n nodi bod hynny ychydig yn fyr o'r uwchfwyafrif sydd ei angen i newid y farn ar hyn mewn gwirionedd. Felly, mae sawl maes yn y cysyniad hwnnw, o ddifreinio llwyr i ryddfreinio llwyr, lle mae'r pwyllgor yn edrych gyda diddordeb ar hyn. Egwyddor hyn—. Fel y gwyddom o ymgynghoriad Llywodraeth Cymru yn ôl yn 2007, yn yr ymgynghoriad hwnnw, roedd 50 y cant o'r ymatebwyr yn cytuno gyda chaniatáu i garcharorion gofrestru ar gyfer bwrw pleidlais ac roedd 48 y cant yn anghytuno; gwahaniaeth o 2 y cant—lle clywsom hynny o'r blaen?—ond yn agos iawn. Edrychodd ar hyd dedfrydau, a ddylai hyd dedfryd fod yn ffactor ai peidio wrth benderfynu pa garcharorion a ddylai fod yn gymwys i gael yr etholfraint, neu ddifrifoldeb troseddau, a'r materion technegol y clywsom gyfeirio atynt ynglŷn â dull a'r cyfeiriad. Os caf nodi wrth gwrs—a hoffwn ddiolch i gydweithwyr yn y llyfrgell yma yn y Senedd am hyn—mae 4,700 o bobl Cymru yn y carchar, a chaiff 37 y cant ohonynt eu cadw yn Lloegr, felly ceir materion technegol yma, a cheir 261 o garcharorion sy'n fenywod o Gymru, a phob un ohonynt yn cael eu cadw mewn 12 carchar yn Lloegr. Felly, mae yna faterion technegol sy'n codi, ond nid ydynt yn anorchfygol. Nawr, os caf droi at faterion eraill sy'n berthnasol i hyn: troseddwyr ifanc. Aethom i garchar y Parc yn ddiweddar—. Pe baem ni, o fewn y sefydliad democrataidd hwn, yn gostwng yr oedran pleidleisio i 16 a 17, beth fyddai hynny'n ei olygu o ran troseddwyr ifanc yn ogystal? Ac i roi sylw i enghreifftiau o wledydd eraill, soniais yn gynharach fod gan wledydd gwahanol ddulliau o weithredu, ac mae'r mwyafrif o wledydd democrataidd bellach yn ymestyn yr etholfraint mewn ffyrdd gwahanol i boblogaeth y carchardai, ond mae hynny'n digwydd mewn gwahanol ffyrdd, ac i raddau gwahanol. A gaf fi droi yn fyr iawn, yn fy sylwadau i gloi, at y cysyniad o pam, os o gwbl, y dylai carcharorion gael hyn? Dywedodd y cyn-Ysgrifennydd Cartref Ceidwadol, yr Arglwydd Hurd, Pe bai carcharorion yn cael y bleidlais byddai ASau yn dangos tipyn mwy o ddiddordeb yn yr amodau mewn carchardai. A gaf fi droi fy sylw at hunanladdiad Vikki Thompson, carcharor trawsryweddol, oherwydd y driniaeth a'r cam-drin a ddioddefodd mewn y carchar i ddynion yn unig; y methiant parhaus i fynd i'r afael â thrais rhywiol ac ymosodiadau rhywiol parhaus y tu ôl i'r bariau ymhlith poblogaeth y carchardai; y ffaith mai carcharorion du yw 15 y cant o boblogaeth y carchardai, o gymharu â 2 y cant o boblogaeth y wlad i gyd—maent dros saith gwaith yn fwy tebygol o gael eu gwahardd rhag pleidleisio tra'u bod yn y carchar? A gallwn fynd ymlaen. Fel y dywedodd y Goruchaf Lys yng Nghanada, mae difreinio yn fwy tebygol o ddod yn broffwydoliaeth hunangyflawnol nag ysgogiad i ailintegreiddio. Mae amddifadu unigolion sydd mewn perygl o'u hymdeimlad o hunaniaeth gyfunol a'u haelodaeth o'r gymuned yn annhebygol o ennyn ymdeimlad o gyfrifoldeb a hunaniaeth gymunedol, tra bod yr hawl i gymryd rhan drwy bleidleisio yn helpu i addysgu gwerthoedd democrataidd a chyfrifoldeb cymdeithasol. Rwy'n edrych ymlaen at gymryd rhan yn yr ymchwiliad yfory pan fyddwn yn mynd i'r carchar yng Nghaerloyw, carchar i fenywod yn unig. Credaf fod hwn yn ymchwiliad diddorol, ond rwy'n gobeithio y bydd yn rhoi rhywfaint o deimlad inni yma—golau yn fwy na gwres—ynglŷn â'r ffordd y gallai'r sefydliad democrataidd hwn fod eisiau bwrw ymlaen. Galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol—Julie James. Julie James AC: Diolch, Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio i sicrhau bod carchar yn amgylchedd sy'n ddiogel ac yn saff, gan alluogi staff ac adnoddau i ganolbwyntio ar adsefydlu troseddwyr. Mae'r datganiad cyntaf yng nghynnig UKIP yn gwrthddweud ei hun yn ei hanfod. Mae'r penderfyniad i anfon rhywun i garchar a'u hamddifadu o'u rhyddid yn weithred o gosb ynddi'i hun yn amlwg. Pan gyflawnir y gosb honno, dylem ganolbwyntio ar adsefydlu. Credaf yn gryf y dylid canolbwyntio mewn carchardai ar adsefydlu ac ailgysylltu carcharorion â gwerthoedd y gymdeithas yn gyffredinol. Wrth gwrs, cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw'r gwasanaeth carchardai. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf ei Mawrhydi i ddarparu gwasanaethau datganoledig sy'n hanfodol er mwyn cynnal lles carcharorion a lleihau aildroseddu. Rydym yn gwrthod gwelliannau'r Ceidwadwyr, sydd i'w gweld fel pe baent wedi'u llunio ar gyfer anwybyddu'r cyfraniad mawr iawn a wneir gan wasanaethau datganoledig. Julie James AC: Af drwy rai o'r gwasanaethau a ddarperir gennym mewn partneriaeth â'r gwasanaeth carchardai yng Nghymru yn gyflym, gwasanaethau sy'n dangos yn glir ein hymrwymiad i ddiben carchar ar gyfer adsefydlu. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda byrddau iechyd lleol yng Nghymru i wella iechyd a lles carcharorion yng ngharchardai Cymru. Mae ein blaenoriaethau yn cynnwys iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau a rheoli meddyginiaethau. Mae'r gwasanaethau hyn yn allweddol i sicrhau bod carcharorion wedi eu paratoi ar gyfer dychwelyd i fywyd y tu allan i furiau'r carchar. Mae mynediad at addysg o ansawdd da a chysylltiadau ar gyfer cael gwaith yn rhan hanfodol o ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at leihau aildroseddu. Gan weithio gyda'r gwasanaeth carchardai, rydym wedi datblygu ein cynllun cyflogadwyedd, sy'n helpu carcharorion i ddysgu ymhellach a chael gwaith o safon ar ôl eu rhyddhau. Ein nod yw sicrhau bod gan droseddwyr fynediad at gontinwwm o gymorth wrth iddynt ddychwelyd i'w cymunedau cartref. Rydym hefyd yn gweithio gydag asiantaethau troseddu a chyfiawnder ac awdurdodau lleol i wella'r opsiynau tai sydd ar gael, er mwyn goresgyn llawer o'r problemau llety a wynebir gan lawer o garcharorion wrth eu rhyddhau. Yn arbennig, fel y trafodwyd mewn cwestiwn amserol yn gynharach heddiw, rydym am sicrhau yr asesir anghenion tai pobl sy'n gadael carchar tra'u bod yn dal i fod yn y carchar, ac mae'r broses ailsefydlu yn ddi-dor o'r adain i'r gymuned. Ac fel y dywedwyd yn gynharach hefyd, mae llawer gormod yn cysgu ar y stryd ar hyn o bryd, ac mae methiannau i gynllunio digon cyn eu rhyddhau yn ffactor pwysig yn hynny, fel y trafodwyd gennym yn ein cwestiwn amserol. Ond wrth ystyried adsefydlu, ni allwn anwybyddu effaith anfon cynifer o fenywod i'r carchar, yn aml am droseddau diannod lefel isel, sydd, yn fy marn bersonol i, yn gwbl amhriodol ar gyfer rhoi dedfrydau o garchar ar eu cyfer yn y lle cyntaf. Felly croesawaf y glasbrint troseddwyr benywaidd a ddatblygwyd gan fy rhagflaenydd yn y swydd, Alun Davies, glasbrint y buom yn gweithio arno gyda'n gilydd am amser go faith, ac a ddatblygwyd ar y cyd gyda'r gwasanaeth carchardai a phrawf, i helpu i nodi'r cymorth ychwanegol sydd ei angen ar gyfer darparu gwasanaethau cyfiawnder priodol ar gyfer menywod yng Nghymru. Rwy'n falch fod Llywodraeth y DU yn edrych ar y defnydd o ddedfrydau tymor byr o'r diwedd. Nid yw'r dull 'sioc sydyn, siarp' fel y'i gelwir o ddedfrydu yn gweithio. Yn aml, nid yw'r rhai sy'n cael dedfryd fer o garchar yno'n ddigon hir i allu cwblhau'r rhaglenni addysgol sydd ar gael a'r triniaethau camddefnyddio sylweddau a luniwyd i sicrhau eu bod yn cael eu hadsefydlu, ac yn ddigon hir fel rheol—fel y dywedodd David Melding, rwy'n credu, yn gynharach yn y cwestiwn amserol—i amharu ar swyddi, cartrefi a theuluoedd, heb gyflawni unrhyw beth o werth i unrhyw un. Mae ein hymagwedd tuag at gyfiawnder ieuenctid yn canolbwyntio'n gyfan gwbl ar weithgaredd ymyrryd ac atal yn gynnar i annog pobl ifanc rhag troseddu a hyrwyddo eu lles. Rydym yn darparu cyllid drwy'r grant hybu ymgysylltiad cadarnhaol ymhlith pobl ifanc sydd mewn perygl o droseddu, sy'n cynnig cymorth dargyfeiriol ac ataliol i bobl ifanc sydd mewn perygl o droseddu. Credaf fod hwnnw'n ddigon i ddangos bod Llywodraeth Cymru'n gwneud llawer iawn ar ddatblygu ymagwedd gyfannol at adsefydlu gyda'r fantais o wneud ein cymunedau'n fwy diogel. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gwrthod yr ail elfen yng nghynnig UKIP a'r ail o welliannau'r Ceidwadwyr. Rwy'n glir iawn fy mod yn cefnogi'r egwyddor o alluogi rhai carcharorion i bleidleisio yn etholiadau Cymru, am y rhesymau a nodwyd gan nifer o gyd-Aelodau. Byddai cael hawl i bleidleisio yn anfon negeseuon cryf iawn i'r carcharorion hyn fod ganddynt gyfran mewn cymdeithas ac yn eu tro, fod ganddynt gyfrifoldebau tuag at y gymdeithas honno yn ei chyfanrwydd. Mae'r gwasanaethau cymorth a amlinellais yn rhan gyntaf fy araith yn dangos pa mor fawr yw'r gyfran honno, a phrin fy mod wedi crybwyll y cymorth y mae teuluoedd carcharorion yn debygol o alw amano gan y gwasanaethau datganoledig pan fo aelodau teuluol yn y carchar. Mae Llywodraeth Cymru yn edrych yn ofalus ar yr holl faterion sy'n ymwneud â'r posibilrwydd o ganiatáu i garcharorion bleidleisio yn etholiadau Cymru. Rydym wedi gwahodd safbwyntiau ar yr egwyddor o ganiatáu i rai carcharorion bleidleisio yn etholiadau lleol Cymru yn ein hymgynghoriad ar ddiwygio etholiadol ym maes llywodraeth leol yn 2017, fel y nododd Alun Davies a Huw Irranca—a John Griffiths wrth sôn am ei waith pwyllgor. Fel y dywedodd Huw Irranca, roedd y safbwyntiau a fynegwyd yn gytbwys iawn: roedd 50 y cant o'r ymatebion o blaid caniatáu i garcharorion bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol, ac roedd 48 y cant yn anghytuno, ac ni fynegodd 2 y cant farn y naill ffordd neu'r llall. Ceir adlais rhyfedd yno o gwestiynau eraill a ofynnir i'r cyhoedd. Mae yna rai materion cymhleth ynglŷn â gweithredu i'w hystyried a rhoi sylw iddynt, ond fel y dywedodd Alun Davies, rydym eisoes wedi edrych ar y rheini'n eithaf helaeth, ac nid ydynt yn peri unrhyw anhawster gweinyddol arbennig. Yn benodol, y ffaith bod llawer o garcharorion o Gymru, gan gynnwys pob carcharor benywaidd, yn cael eu carcharu yn Lloegr, a bod tua 30 y cant o'r carcharorion yn y pump carchar yng Nghymru yn dod o Loegr—nid yw honno'n broblem, oherwydd bydd y carcharorion hyn yn pleidleisio drwy'r post wrth gwrs, fel y bydd llawer o bobl sydd â chyfeiriadau yng Nghymru ond sydd y tu allan i Gymru neu heb fod yn eu man pleidleisio arferol ar adeg y pleidleisio. Rydym yn paratoi deddfwriaeth ar gyfer ei chyflwyno yn ddiweddarach eleni a fydd yn caniatáu i rai 16 ac 17 oed bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru, a heddiw ddiwethaf y cyflwynodd y Llywydd fesurau tebyg ar gyfer y Senedd. Wrth ystyried hawl carcharorion i bleidleisio, byddwn yn edrych hefyd ar y goblygiadau ar gyfer troseddwyr ifanc yn yr amgylchiadau hynny. Ond fel y dywedodd llawer o bobl, rwy'n ymwybodol iawn fod yn y materion sy'n codi ynghylch hawl carcharorion i bleidleisio, gan gynnwys y goblygiadau ar gyfer troseddwyr ifanc, yn cael eu harchwilio ar hyn o bryd gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. Nid wyf am ragdybio casgliadau'r pwyllgor; nid ydym wedi cyrraedd unrhyw benderfyniadau terfynol ac rydym yn aros am adroddiad y pwyllgor. Nid wyf yn rhannu sinigiaeth Gareth Bennett ac UKIP mewn perthynas â democratiaeth, ac rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at ystyried adroddiad y pwyllgor yn hyn o beth. Diolch. Galwaf ar Neil Hamilton i ymateb i'r ddadl. Neil Hamilton AC: Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Rydym wedi cael dadl ddiddorol, a chredaf y bu’n ddadl bwyllog a chymedrol, fel y dylai fod. Mae'n fater pwysig i ddemocratiaeth, ond y tu hwnt i hynny, fel y nododd Alun Davies yn ei araith, a oedd yn araith dda iawn yn fy marn i, mae hefyd yn ymwneud â’r ffordd rydym yn trin pobl er eu bod wedi eu carcharu a'r tu allan i gyrraedd cymdeithas yn gyffredinol. Credaf yn gryf y dylid trin carcharorion mewn ffordd ddynol. Rwyf wedi bod yn ymwneud ers blynyddoedd lawer ag elusen a sefydlwyd gan yr Arglwydd Longford, a oedd yn ffrind da i mi, o'r enw New Bridge, ar gyfer ailintegreiddio cyn-garcharorion yn y gymdeithas, ac rwy'n gwerthfawrogi'r gwaith rhagorol y maent wedi'i wneud. Cyfeiriodd Mark Isherwood yn ei gyfraniad at elusennau eraill, megis Clean Slate a SToMP, sy’n gwneud gwaith tebyg. Mae hyn yn gwbl hanfodol os ydym am ailintegreiddio pobl yn y gymdeithas fel unigolion sy'n parchu'r gyfraith. Diben carchar wrth gwrs yw atal a chosbi, ond nid oes unrhyw bwynt i hynny os nad yw pobl wedi dysgu unrhyw beth ar ei ddiwedd a'u bod yn aildroseddu, ac fel y dywedodd Jenny Rathbone yn ei hymyriad yn ystod fy araith yn gynharach, mae troseddu parhaus yn elfen bwysig o hyn, ac rwy'n amau'n fawr y bydd rhoi’r hawl i garcharorion bleidleisio yn cael unrhyw effaith. Credaf mai mater i ni fel deddfwyr yw penderfynu—nid barnwyr, ac yn bendant nid barnwyr tramor—a yw carcharorion, fel rhan o’r gosb am gyflawni trosedd, yn colli'r hawl i bleidleisio tra byddant yn y carchar. Rhoddodd Huw Irranca-Davies ychydig o'r hanes i ni yn ei gyfraniad: wrth gwrs, cyn y 1830au, roedd yr hawl i bleidleisio'n hawl eiddo i raddau helaeth ac nid yn hawl ddemocrataidd yn yr ystyr y byddem yn ei ddeall ei heddiw, a Deddf Fforffedu 1870 oedd dechrau'r broses o ddiddymu hawl carcharorion i bleidleisio yn ei chyd-destun modern. Rwy'n cefnogi'r hyn a ddywedodd Alun Davies ynglŷn â’r hyn sy'n digwydd i garcharorion pan gânt eu rhyddhau, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn dechrau’r broses o ailintegreiddio cyn iddynt gael eu rhyddhau. Gallaf weld y dadleuon o blaid yr hyn a gyflwynwyd ganddo. Credaf ei fod yn atyniadol gan y gallwch weld ei ddiben ymarferol: mae carcharorion yn dod i ddiwedd eu dedfrydau, maent yn dod i ddiwedd effaith ataliol ac effaith gosbol eu dedfryd, a gallwch weld, felly, fod yr elfen adsefydlu yn llawer pwysicach, efallai, nag y mae ar y dechrau. Felly, yn sicr, mae hynny'n rhywbeth y buaswn yn barod i ystyried ei gefnogi fel rhan o'r broses. Rwyf am ddweud wrth John Griffiths, fel Cadeirydd y pwyllgor cydraddoldeb, nad bwriad y ddadl hon mewn unrhyw ffordd yw achub y blaen ar adroddiad y pwyllgor. Un o'r pethau rwy’n eu hedmygu fwyaf ynghylch y Cynulliad hwn ers i mi fod yma yw'r ffordd y mae'r pwyllgorau trawsbleidiol hyn yn bwyllgorau gwirioneddol drawsbleidiol, ac yn eu hadroddiadau, maent o ddifrif yn ceisio sicrhau consensws a all lywio'r ddadl, a gobeithio bod y ddadl hon, fel dadl Plaid Cymru ychydig wythnosau yn ôl, yn rhan o'r broses—cyfraniad, os mynnwch, at eich gwaith, ac nid ymgais i’w ddisodli neu gymryd ei le. Rwy’n sylweddoli bod cyfyngiad ar yr hyn y gallai'r Gweinidog ei ddweud yn ei haraith gan y bydd yn rhaid iddi ystyried y mater hwn pan fydd y pwyllgor cydraddoldeb wedi cynhyrchu ei adroddiad. Rwy'n cytuno'n gryf â rhywbeth a ddywedodd hefyd mewn perthynas â nifer y bobl sy'n bwrw dedfrydau byr iawn yn y carchar nad ydynt mewn gwirionedd yn darparu llawer o effaith ataliol, ac yn sicr, maent yn cynhyrchu problemau yn y carchar. Gall carchardai fod yn lleoedd annymunol iawn. Rwyf wedi bod mewn llawer o garchardai yn ystod fy oes—fel cyfreithiwr, prysuraf i ychwanegu [Chwerthin.]—ac roedd lleoedd fel carchar Wormwood Scrubs a charchar Strangeways a charchar Wandsworth, fel yr arferai fod, yn lleoedd annynol iawn, ac yn rhwystr i’r broses adsefydlu mewn gwirionedd. Felly, mae adeiladu carchardai newydd yn elfen hanfodol bwysig yn fy marn i o’r broses o adsefydlu pobl yn y gymdeithas sifil mewn ffordd well na phan aethant i mewn, ac mae hynny, wrth gwrs, o fudd i bob un ohonom. Ond rwy’n dal i gael fy argyhoeddi bod rhoi hawl i garcharorion bleidleisio yn rhan hanfodol o'r broses hon. Fe arhoswn am ganlyniadau trafodaethau'r pwyllgor cydraddoldeb, a chynigion y Llywodraeth wedyn yn wir. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu. [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem, felly, tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. Pwynt o Drefn Cyn i fi alw'r cyfnod pleidleisio—pwynt o drefn. Jane Hutt. Jane Hutt AC: Diolch, Lywydd. Hoffwn godi pwynt o drefn o dan Reol Sefydlog 12.37 fod gwrthwynebiad wedi'i wneud ar lafar i ddadl Plaid Cymru NDM6967. Felly, a allwch adolygu a gwneud datganiad ar statws y cynnig hwnnw? Gwneuthum wrthwynebiad ac fe'i clywyd gan gyd-Aelodau. Diolch am godi'r pwynt o drefn ac am roi gwybod i mi ynglŷn â'ch bwriad i godi'r pwynt hwn. Ni chlywais y gwrthwynebiad ac ni chlywodd y clerc chwaith—[Torri ar draws.] Nid oes angen unrhyw synau cefnogol arnaf, os gwelwch yn dda—ac ni chlywodd y clercod ar y fainc flaen chwaith. Ymddiheuraf am hynny. Mae'n wers i mi wrando'n fwy astud. Mae'n wers i chi weiddi'n uwch. Gwneuthum ddatganiad yn y Siambr fod y cynnig wedi'i dderbyn. Bydd yr Aelodau wedi fy nghlywed yn dweud hynny, ac ni ellir dadwneud y cynnig hwnnw ar y pwynt hwn. Ond mae eich gwrthwynebiad a'r ffaith eich bod wedi codi'r gwrthwynebiad hwnnw wedi'i gofnodi, ac mae safbwynt y Llywodraeth ar hynny wedi'i gofnodi, ond derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio yn gynharach y prynhawn yma. 9. Cyfnod Pleidleisio Daw hyn â ni at y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, dwi'n symud at y bleidlais, felly, ar ddadl UKIP ar garchardai a charcharorion. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Gareth Bennett. Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, un yn ymatal, 34 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig. NDM6966 - Dadl Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig, cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 13, Yn erbyn: 34, Ymatal: 1 Gwrthodwyd y cynnigCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Sy'n dod â ni at welliant 1. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Dwi'n galw am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 33, neb yn ymatal, 15 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1. Dad-ddetholwyd gwelliant 2 a 3. NDM6966 - Gwelliant 1: O blaid: 33, Yn erbyn: 15, Ymatal: 0 Derbyniwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Cafodd gwelliannau 2 a 3 eu ddad-ddethol. Sy'n dod â ni at y bleidlais ar y cynnig wedi'i ddiwygio. Cynnig NDM6966 fel y'i diwygiwyd: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu y dylai carchardai fod yn lleoedd i ddiwygio ac adsefydlu. 2. Yn cefnogi’r egwyddor o hawliau pleidleisio i garcharorion yn etholiadau Cymru, ond yn disgwyl am adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 34, pedwar yn ymatal, 10 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn. NDM6966 - Dadl Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig, cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 34, Yn erbyn: 10, Ymatal: 4 Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwydCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair. Os oes pobl yn gadael y Siambr, a allant wneud hynny'n gyflym ac yn dawel? Mae gennym y ddadl fer. 10. Dadl Fer: Deddfwriaeth ansawdd aer sy'n addas ar gyfer heriau modern Symudaf yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Dai Lloyd i siarad ar y pwnc a ddewiswyd ganddo. Dai Lloyd. Dai Lloyd AC: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Y teitl ydy: deddfwriaeth ansawdd awyr sy'n addas ar gyfer heriau modern. Nawr, dwi ddim yn siŵr a ydw i wedi crybwyll erioed o'r blaen yn fan hyn fy mod i wedi bod yn feddyg yn Abertawe ers rhyw 35 mlynedd bellach, gyda heriau iechyd yr ysgyfaint a'r galon gyda'r mwyaf cyffredin o'r cyflyrau dwi'n gorfod delio efo nhw'n wastadol. Mae cyfraddau'r anadlwst neu'r fogfa—dyna i chi ddau air Cymraeg am asthma—mae cyfraddau'r anadlwst ar gynnydd yn ein plant ers degawdau, ac nid oes esboniad dilys arall yn y bôn, dim ond graddfeydd y llygredd yn yr awyr y mae rhai plant yn gorfod ei anadlu yn gyson. Ac mae'r gronynnau bychan, y PM10 a'r PM2.5, sy'n dod o danwydd diesel a phetrol, yn ogystal â theiars y ceir yn gwasgaru gronynnau bychan o rwber a phlastig i'r awyr, a'r nitrogen deuocsid—y nwy gwenwynig yna sy'n deillio o losgi diesel—oll yn cael eu hanadlu i mewn i'r ysgyfaint. Ac mae rhai o'r gronynnau yma mor fach—nano-gronynnau, fel dŷn ni'n eu galw nhw—fel eu bod nhw nid yn unig yn cyrraedd y pibellau mwyaf main yn ein hysgyfaint, ond yn gallu mynd drwodd yn uniongyrchol i gylchredeg yn y gwaed hefyd, a chyrraedd ein calonnau yn uniongyrchol ac achosi adwaith yn y cyhyr sydd yn wal ein calonnau ni. Felly, dyna pam mae hwn yn argyfwng—argyfwng sydd wedi dod yn fwy pwysig yn ddiweddar. Dai Lloyd AC: Mae llygredd aer, felly, yn argyfwng iechyd y cyhoedd. Mewn trefi a dinasoedd ledled Cymru, mae pobl yn anadlu lefelau llygredd sy’n niweidiol i’w hiechyd. Cofnododd tair dinas yng Nghymru—Caerdydd, Casnewydd ac Abertawe—lefelau anniogel o lygredd aer y llynedd. Mae Port Talbot hefyd, yn rhanbarth Bethan a minnau, yn dioddef ansawdd aer gwael ac wedi dioddef felly ers blynyddoedd. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dynodi llygredd aer yn argyfwng iechyd y cyhoedd, yn ail yn unig i ysmygu. Dengys ffigurau diweddar fod mwy na 2,000 o bobl yn marw cyn pryd yng Nghymru bob blwyddyn o ganlyniad i ansawdd aer gwael. Mae'n sgandal genedlaethol. Nawr, fel Cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar Ddeddf aer glân i Gymru, diben y ddadl fer heddiw yw dadlau’r achos dros Ddeddf aer glân newydd a'r angen i greu fframwaith cyfreithiol cadarn sy'n nodi dulliau uchelgeisiol i wella ansawdd aer yng Nghymru. Nawr, 60 mlynedd yn ôl yn unig, byddai trefi a dinasoedd ledled y DU yn aml yn cael eu mygu gan fwg o'r tanau glo a oedd yn llosgi mewn cartrefi a ffatrïoedd. Daeth Llundain i stop yn ystod Mwrllwch Mawr 1952 a bu farw miloedd o bobl dros yr wythnosau a'r blynyddoedd dilynol. Bob blwyddyn, mae llygredd aer yn effeithio ar fywydau pob dydd miloedd o bobl nad oes dewis ganddynt ond anadlu aer budr. Ceir lefelau anghyfreithlon a niweidiol o lygredd aer nid yn unig yn Llundain a dinasoedd Cymru, ond hefyd mewn trefi fel Llandeilo a Chas-gwent. Nid yw’r ffaith nad oes gennym fwrllwch a mwg du fel y fagddu bellach yn golygu bod yr aer yn lân. Mae llygredd aer yn effeithio ar bawb, o’r groth hyd at henaint. Mae'n achosi strociau, trawiadau ar y galon a phyliau o asthma, gan gynyddu'r risg o fynd i'r ysbyty a marw, ac mae'n achosi canser. Mae'n gysylltiedig â genedigaethau cynamserol ac yn llesteirio twf yr ysgyfaint mewn plant. Yn y 1950au, pan roedd llawer o fwrllwch, y broblem oedd fod y gronynnau’n fawr ac yn mynd yn sownd yn y llwybrau anadlu uchaf. Nawr, mae’r nanoronynnau hyn yn mynd yn syth i berfedd yr ysgyfaint, a hyd yn oed i lif y gwaed, fel y dywedais yn gynharach—yn uniongyrchol i mewn i lif ein gwaed. Mae pobl sy’n dioddef o fethiant y galon yn grŵp sy'n agored i niwed, a phan fydd ansawdd yr aer yn lleihau, caiff mwy ohonynt eu derbyn i'r ysbyty. Mae gennym gyswllt clir rhwng lefelau llygredd aer a thrawiadau ar y galon, ac mae astudiaethau wedi dangos bod deunydd gronynnol yn yr aer yn un o’r prif resymau am hyn. Gwyddom fod y perygl i iechyd yn sgil anadlu llygryddion yn parhau ymhell ar ôl dod i gysylltiad â hwy. Ceir hefyd tystiolaeth gynyddol fod hyn yn effeithio ar ysgyfaint plant sydd heb eu geni—mae hyd yn oed plant heb eu geni yn cael eu heffeithio gan lygredd sy’n cael ei anadlu gan eu mamau beichiog. Gallai hynny effeithio ar eich iechyd drwy gydol eich bywyd. Felly, pam y Ddeddf aer glân? Yr wythnos diwethaf, dangosodd adroddiad UNICEF UK, 'Healthy Air for Every Child’, fod gan 70 y cant o drefi a dinasoedd y DU lefelau llygredd gronynnol sy'n uwch na therfynau diogel Sefydliad Iechyd y Byd. Ac ar draws 86 y cant o'r Deyrnas Unedig, mae lefelau crynodiad nitrogen deuocsid yn anghyfreithlon o uchel heddiw. Mae terfynau'r UE, sy’n berthnasol i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, yr un fath â’r terfynau uchaf a argymhellir yng nghanllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer nitrogen deuocsid, ond maent yn llai llym na throthwy Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer y llygryddion eraill sy’n niweidiol i iechyd, megis y deunydd gronynnol mân, y PM2.5. Nawr, mae UNICEF wedi dweud yn ddigamsyniol ei bod yn hanfodol fod Gweinidogion yn cynnwys targedau sy'n rhwymo mewn cyfraith er mwyn bodloni safonau ansawdd aer Sefydliad Iechyd y Byd—dyna yw sail y ddadl hon. Gwyddom fod y fframwaith cyfreithiol presennol yn glytwaith o wahanol ddeddfau a chymwyseddau datganoledig. Mae llawer o'r ysgogiadau posibl i wella ansawdd aer eisoes yn bodoli, ond ni chânt eu defnyddio’n effeithiol gan fod cyfrifoldebau’n cael eu rhannu rhwng ffynonellau llygredd ac iechyd yr amgylchedd, ar lefel llywodraeth leol ac ar lefel genedlaethol. Byddai Deddf aer glân newydd i Gymru yn cydgrynhoi’r ddeddfwriaeth bresennol ac yn gwneud rolau a chyfrifoldebau Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yn gliriach. Mae hefyd yn rhoi cyfle inni gyflwyno deddfau mwy uchelgeisiol sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain ac sy'n adlewyrchu'r heriau penodol sy'n wynebu Cymru. Dai Lloyd AC: Gwyddom fod cryn gefnogaeth gyhoeddus i’w chael i Ddeddf aer glân newydd. Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi gwrthod galwadau am Ddeddf aer glân yn y gorffennol, ond yn ystod y ras am arweinyddiaeth y Blaid Lafur yng Nghymru, ymrwymodd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn ei faniffesto, a dyfynnaf: I ddatblygu Deddf Aer Glân newydd i sicrhau y gall ein plant fynd i'r ysgol, bod yn egnïol a chwarae y tu allan yn ddiogel heb ofn problemau anadlu, megis asthma, oherwydd y lefelau llygredd yn rhai o'n trefi a'n dinasoedd. Diwedd y dyfyniad. Mae arweinwyr a meiri dinasoedd ledled y DU wedi dangos eu cefnogaeth i ddeddfwriaeth yn y maes hwn, gan gynnwys arweinydd cyngor Caerdydd. Mae Awyr Iach Cymru hefyd wedi gwneud gwaith ardderchog yn sicrhau bod y mater yn cyrraedd brig yr agenda wleidyddol. A pheidiwn ag anghofio, mae Llywodraeth Dorïaidd y DU a Llywodraeth Lafur Cymru wedi wynebu achosion llys am beidio â gwneud digon i fynd i'r afael â llygredd aer, ac wedi eu cael yn euog, ac ni allwn adael i hyn barhau. Felly, sut beth fyddai Deddf aer glân? Yn ogystal ag ymgorffori canllawiau ansawdd aer Sefydliad Iechyd y Byd yng nghyfraith Cymru, gallai Deddf aer glân orchymyn i Lywodraeth Cymru gynhyrchu strategaeth ansawdd aer statudol bob pum mlynedd. Gallai osod dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i fonitro ac asesu llygredd aer yn briodol a gweithredu yn ei erbyn. Gallai gyflwyno 'hawl i anadlu', lle byddai gan awdurdodau lleol rwymedigaeth i hysbysu grwpiau sy'n agored i niwed pan aiff llygredd aer yn uwch na lefelau penodol. Dylid cyflawni hyn drwy strategaeth ansawdd aer drawslywodraethol gynhwysfawr sy'n cynnwys darpariaeth ar gyfer rhwydwaith monitro ac asesu annibynnol; bwrdd cynghori cenedlaethol ar ansawdd aer, dan gadeiryddiaeth Gweinidog yr Amgylchedd; cyflwyno parthau aer glân yn ein dinasoedd; gofyniad i awdurdodau lleol baratoi cynllun aer glân ar y cyd â byrddau iechyd lleol a byrddau gwasanaethau cyhoeddus, yn seiliedig ar ddata o'r rhwydwaith monitro ac asesu annibynnol, gan nodi a gweithredu mesurau rheoli digonol; gofyniad i bob awdurdod lleol ddatblygu strategaeth gerdded a beicio gyda thargedau i ostwng canran y teithiau mewn ceir preifat. Nawr, mae llygredd aer yn effeithio'n arbennig ar Orllewin De Cymru, yn ogystal â dinas Abertawe, gan fod daearyddiaeth yr ardal mewn dysgl, gyda lefelau osôn, felly mae gan Abertawe lefelau llygredd penodol. Mae'n dioddef problemau ansawdd aer yn rheolaidd. Mae gennym ardal ddiwydiannol Port Talbot hefyd wrth gwrs gyda'i heriau unigryw. Nawr, flynyddoedd maith yn ôl, roeddem yn barod fel cymdeithas i oddef dŵr nad oedd yn lân. Rydym yn dal i oddef dŵr nad yw'n lân mewn sawl rhan o'r byd. Nawr, ni fyddech yn awgrymu unrhyw sefyllfa lle dylem oddef dŵr sy’n llawn amhureddau heddiw, ond yn Abertawe a Phort Talbot, rydym yn goddef aer sy’n llawn amhureddau. Mae angen newid agwedd mawr ac arweinyddiaeth genedlaethol gan y Llywodraeth. Gwyddom fod cysylltiad go iawn rhwng hyn a thlodi, gan fod y 10 y cant o’r wardiau mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn cynnwys pum gwaith yn fwy o allyriadau carsinogenaidd na'r 10 y cant o ardaloedd lleiaf difreintiedig yng Nghymru, gan y gall y bobl gyfoethocaf fforddio byw mewn ardaloedd sy’n cynnwys coed a pharciau, tra bo’r bobl lai cyfoethog yn byw mewn tai sy'n wynebu'r stryd yn uniongyrchol a lle nad oes unrhyw rwystr rhyngoch chi a'r llygredd a allyrrir gan geir. Felly, beth am atebion i gefnogi Deddf aer glân? Rwy'n ceisio helpu’r Llywodraeth gyda hyn. Hoffai Plaid Cymru weld gwerthiant ceir diesel a phetrol yn dirwyn i ben yn raddol erbyn 2030. Dilyn Copenhagen a dinasoedd a gwledydd yng ngorllewin Ewrop sy’n rhoi gwaharddiadau ar waith—gwaharddiadau ar werthiant a gwahardd ceir tanwydd ffosil yn unig rhag dod i mewn i ddinasoedd. Trafnidiaeth gyhoeddus: mae angen inni sicrhau bod gennym system drafnidiaeth gwbl integredig yng Nghymru. Mewn ardaloedd fel Port Talbot ac Abertawe, mae llawer o waith i'w wneud yn y cyswllt hwn. Rydym yn clywed am gymorthdaliadau bysiau'n cael eu torri'n lleol, prisiau'n codi, colli gwasanaethau—a oes unrhyw syndod fod pobl yn defnyddio eu ceir ac yn ychwanegu at yr ansawdd aer gwael? Mae angen inni osod targedau ar gyfer cerbydau allyriadau is—tacsis, fel y gwnânt yn Llundain, bysiau, lorïau gwastraff cynghorau a cherbydau gwasanaeth cyhoeddus eraill—a gallai Deddf aer glân helpu i gyflawni hynny. Gosod targedau ar gyfer cerbydau allyriadau is. Gallem osod terfyn cyflymder diofyn o 20 mya fel polisi cenedlaethol, ledled Cymru, a fyddai’n fan cychwyn wedyn i awdurdodau lleol. Gallent eithrio rhai ffyrdd o'r polisi cyffredinol hwnnw am resymau dilys a phenodol, ond 20 mya fyddai'r man cychwyn. Byddai hynny'n helpu i greu amgylcheddau dinesig sy'n haws i bobl gerdded a beicio ynddynt a fyddai'n gwneud i bobl deimlo'n ddiogel i feicio o'u cartrefi a chysylltu'r gyda'r rhwydwaith beicio newydd o dan Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. Mae amrywiaeth eang o gamau y gellir eu cymryd, wedi'u tanategu gan y gyfraith. Felly, i gloi, hoffwn ddiolch i Awyr Iach Cymru, yn gyntaf oll. Grŵp cydweithredol o sefydliadau yw hwnnw. Rydym wedi cyfarfod â hwy yn unigol ac fel grŵp trawsbleidiol bellach ar y Ddeddf aer glân, ac aelodau'r sefydliad hwnnw, Awyr Iach Cymru, yw Sefydliad Prydeinig y Galon, Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint Cymru, Cyfeillion y Ddaear Cymru, Living Streets Cymru, Coleg Brenhinol y Meddygon a Sustrans Cymru. Diolch i bob un ohonynt am eu gwaith gwych ac am lywio’r ddadl hon, ond yn bennaf am y gwaith gwych a wnânt yn y maes hwn. Nawr, mae pob un ohonynt yn chwarae eu rhan—yr hyn sydd ei angen arnom nawr yw camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru. Mae'r ffigurau morbidrwydd a marwolaethau yn galw am weithredu ar frys: 2,000 o farwolaethau dianghenraid yng Nghymru bob blwyddyn. Mae hwnnw'n ffigur dramatig, ac mae angen ei wrthdroi. Mae hwn yn argyfwng iechyd y cyhoedd mawr, ac mae agwedd ddi-hid tuag at lygredd aer wedi bodoli'n rhy hir o lawer yn y wlad hon, ac mae'n rhaid ei bwrw i ebargofiant. Diolch yn fawr. Diolch. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol i ymateb i'r ddadl—Hannah Blythyn. Hannah Blythyn AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'r Llywodraeth hon yn ymwybodol iawn o'r angen dybryd i fynd i'r afael â llygredd aer, ar gyfer cenedlaethau'r presennol ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Rydym wedi ymrwymo i gyflawni gwelliannau hanfodol mewn ansawdd aer i gefnogi cymunedau iachach a gwell amgylcheddau. Felly, rwy'n croesawu'r ddadl hon ar ddeddfwriaeth ansawdd aer heddiw, ac rwy'n croesawu ac yn ymwybodol o ddiddordeb ac angerdd parhaus yr Aelod ynglŷn â'r maes hwn a chredaf fod llawer o gonsensws yn y Siambr hon yn ei gylch bellach. Gwyddom y bydd angen ymdrech gyfunol i gyrraedd lle mae angen inni fod. Yn ogystal â'r camau y gall y Llywodraeth eu cymryd, golyga hefyd fod yn rhaid i bob un ohonom roi ein camau ein hunain ar waith a newid ein hymddygiad ein hunain. Croesawaf y cyfle i allu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â gwaith y Llywodraeth hon a'r hyn a wnawn fel blaenoriaeth drawslywodraethol yn rhinwedd yr hyn wyf fi heddiw—dirprwy, yn anffodus, ar ran Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig. Mae rheoli ansawdd aer yn gyffredinol wedi'i fframio o fewn fframwaith deddfwriaethol a rheoleiddiol cynhwysfawr. Mae gwelliannau cenedlaethol hyd yma wedi eu llywio i raddau helaethgan gyfarwyddebau Ewropeaidd. Er enghraifft, fel y dywed yr Aelod, ym mis Tachwedd y llynedd, cyhoeddasom ein hatodiad Cymreig i gynllun y DU ar gyfer mynd i'r afael â chrynodiadau nitrogen deuocsid ar ymylon ffyrdd yng Nghymru i fodloni gofynion y gyfarwyddeb Ewropeaidd ar ansawdd aer amgylchynol ac aer glanach i Ewrop. Mae'r cynllun yn nodi camau gweithredu awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i leihau crynodiadau nitrogen deuocsid ar ymylon ffyrdd lle mae'r lefelau uwchlaw'r terfynau cyfreithiol yng Nghymru, sef ein her bwysicaf a mwyaf uniongyrchol o ran ansawdd aer. Gwnaed cryn dipyn o waith ar ddatblygu'r cynllun hwn, a bydd y gwaith hwnnw'n parhau drwy gydol y broses o'i roi ar waith. Yn ogystal, rydym wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill ar ostyngiadau allyriadau yn y dyfodol sy'n ofynnol o dan y gyfarwyddeb terfynau uchaf allyriadau cenedlaethol ar gyfer pum llygrydd aer pwysig. Y rhain yw nitrogen ocsid, cyfansoddion organig anweddol di-fethan, sylffwr deuocsid, amonia a deunydd gronynnol mân. Gwyddom fod y llygryddion hyn yn cyfrannu at ansawdd aer gwael, gan arwain at effeithiau negyddol sylweddol ar iechyd dynol a'n hamgylchedd. Ar hyn o bryd, mae'r DU yn bodloni holl ymrwymiadau lleihau allyriadau'r UE ac yn rhyngwladol. Bydd Llywodraeth Cymru yn nodi ei chynlluniau i helpu i gyflawni ymrwymiadau lleihau allyriadau'r DU yn y dyfodol o fewn rhaglen rheoli llygredd aer cenedlaethol y DU, a byddwn yn ymgynghori ar y cynlluniau hynny cyn bo hir ac yn eu cyhoeddi cyn mis Ebrill eleni. Mae angen camau gweithredu trawslywodraethol, ac maent yn cael eu cymryd ar draws holl adrannau a sectorau Llywodraeth Cymru er mwyn cyflawni gwelliannau i ansawdd aer. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, sefydlwyd y rhaglen aer glân gennym y llynedd, a nod y rhaglen hon yw diogelu iechyd y cyhoedd a'n hamgylchedd naturiol. Mae'r rhaglen hefyd yn canolbwyntio ar gydymffurfio â rhwymedigaethau deddfwriaethol Ewropeaidd a domestig. Fel rhan o'r rhaglen, rydym wedi sefydlu prosiectau sy'n dwyn adrannau a rhanddeiliaid allweddol ynghyd i gyflawni gwelliannau i ansawdd aer ledled Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys trafnidiaeth, gwell tystiolaeth, hylosgi domestig, diwydiant, cynllunio a chyfathrebu. Mae'r cyfarwyddebau Ewropeaidd yn mynd i'r afael â llygredd aer mewn sawl ffordd, gan gynnwys terfynau ar gyfer ansawdd aer awyr agored, cyfyngu ar allyriadau yn y ffynhonnell, a lleihau allyriadau trawsffiniol drwy gamau gweithredu rhyngwladol. Bydd ein targedau gostwng allyriadau, i'w cyflawni o 2030 ymlaen, yn cefnogi'r broses o leihau effaith llygredd aer ar iechyd i hanner yr hyn ydoedd yn 2005. Yn y dyfodol, mae'n rhaid inni gynnal ein hymrwymiad i gymryd camau i gydymffurfio â'n rhwymedigaethau statudol, ond rydym yn ymwybodol nad yw hyn yn ymwneud â gweithredu er mwyn ticio blychau yn unig—mae'n weithredu am ein bod yn gwybod bod angen inni ei wneud er budd ein dinasyddion ac er mwyn eu hiechyd. Gellir cyflawni hyn mewn sawl ffordd, gan gynnwys drwy integreiddio polisïau a chydweithredu'n well. Trothwyon ar gyfer cyfyngu ar risg unigol, nid lefelau diogel, yw llawer o dargedau, gan gynnwys rhai o ganllawiau ansawdd aer Sefydliad Iechyd y Byd. Felly, rydym yn ystyried yr holl opsiynau posibl i leihau cyswllt y boblogaeth â llygredd aer yn y ffordd fwyaf effeithiol, gan gynnwys effaith bosibl safonau Sefydliad Iechyd y Byd. Hannah Blythyn AC: Mae angen i unrhyw bolisïau neu dargedau yn y dyfodol gael eu hategu gan dystiolaeth i sicrhau eu bod yn darparu’r newid mwyaf effeithiol. Mae hyn yn cynnwys asesu'r pethau ymarfeol sy'n gysylltiedig, megis yr effeithiau cymdeithasol, economaidd a thechnegol. Mae angen inni gasglu tystiolaeth i sicrhau ein bod yn targedu'r meysydd cywir yn y ffordd gywir. Bu bron i’r Aelod achub y blaen ar rai o fy llinellau drwy gyfeirio at faniffesto'r Prif Weinidog. Yn wir, roedd y maniffesto’n cynnwys ymrwymiad i wella ansawdd aer drwy ddatblygu Deddf aer glân i Gymru. Mae hyn yn rhywbeth rwy'n ei groesawu, ac mae'n bosibl y gall y gwaith a wnawn eisoes ar y rhaglen aer glân nodi bylchau a chyfleoedd lle bydd angen deddfwriaeth newydd i leihau llygredd aer. Mae hynny’n rhywbeth sydd ar y bwrdd a byddwn yn mynd i'r afael ag ef yn y dyfodol. Ond mae'n bwysig hefyd ein bod yn cydnabod, fel y dywedasom, fod angen inni weithredu yn awr, ac mae llu o bwerau deddfwriaethol ac offer ar gael inni eisoes i'n galluogi i wneud hynny. Mae'r rhain yn cynnwys mesurau cynllunio, seilwaith a chyfathrebu, ymhlith pethau eraill. Mae asesu ansawdd aer a risgiau amgylcheddol cysylltiedig yn digwydd ar nifer o lefelau. Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am reoli llygredd aer yn eu hardaloedd fel rhan o'r drefn reoli ansawdd aer lleol, a sefydlwyd o dan Ran IV o Ddeddf yr Amgylchedd 1995. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau statudol helaeth yn nodi'r hyn y disgwylir i awdurdodau lleol ei wneud o ran cyflawni eu dyletswyddau rheoli ansawdd aer lleol. Mae ein canllawiau yn nodi bod yn rhaid i awdurdodau lleol fabwysiadu dull sy’n seiliedig ar risg o asesu ansawdd aer lleol. Mae hwn yn sicrhau bod y gwaith monitro yn canolbwyntio ar y lleoliadau lle mae aelodau o'r cyhoedd yn fwy tebygol o ddod i gysylltiad â lefelau gormodol o lygredd aer, megis ysgolion, ysbytai a meithrinfeydd, ymhlith mannau eraill, mannau a elwir yn lleoliadau sensitif ar gyfer gosod derbynyddion. Sefydlwyd prosesau monitro a modelu cenedlaethol a lleol at wahanol ddibenion. Er mwyn datblygu gwell dealltwriaeth o ansawdd aer ledled Cymru, rydym yn gweithio gyda phartneriaid lleol ac yn y DU i ddeall sut y gellir integreiddio data lleol yn well gyda data cenedlaethol. Rydym hefyd yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ddatblygu mwy o dystiolaeth leol, lle mae ei hangen, i ategu'r dystiolaeth bresennol ar lygredd aer. Y llynedd, cwblhawyd prosiect peilot i brofi dull newydd a arweinir gan iechyd y cyhoedd o asesu risg llygredd aer yn ardal bwrdd iechyd Cwm Taf. Mae papur wedi'i ddrafftio i grynhoi a hyrwyddo'r gwaith ymhlith rhanddeiliaid, a bydd hyn yn ein cynorthwyo i ddatblygu dull a arweinir gan iechyd y cyhoedd o wella’r gwaith o asesu risg rheoli ansawdd aer lleol yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn mynd ag ystod eang o gamau gweithredu i fynd i'r afael ag allyriadau trafnidiaeth ledled Cymru gyfan. Bydd llawer ohonnt yn cefnogi gwelliannau ansawdd aer a datgarboneiddio trafnidiaeth. Mae hyn yn cynnwys annog newid moddol. Mae’n rhaid i bob un ohonom fod yn llai dibynnol ar geir preifat a newid i fodelau trafnidiaeth mwy cynaliadwy, megis cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus. Tybed faint o bobl yn y Siambr hon ac yn yr adeilad hwn a ddaeth yma heddiw mewn car. Ond fel y dywedodd yr Aelod, dyma pam fod angen inni weithio ar draws y Llywodraeth gyda'r holl ddulliau sydd gennym at ein defnydd, oherwydd, er bod hwn yn fater iechyd ac amgylcheddol, mae llawer o'r pethau a fydd yn cyflawni'r newid hwnnw'n dibynnu ar drafnidiaeth, a dyna pam fod pwyslais ar weithio ar draws y Llywodraeth mor bwysig i sicrhau bod y dewisiadau amgen hynny ar gael i bobl. Mae'r Llywodraeth hon wedi buddsoddi dros £60 miliwn dros dair blynedd o 2018 i greu llwybrau teithio llesol ledled Cymru i gefnogi opsiynau mwy diogel, iachach a mwy deniadol i ddinasyddion. Mae gennym nod uchelgeisiol hefyd i leihau ôl troed carbon bysiau a thacsis yng Nghymru i sero erbyn 2028. Mae'r camau hyn yn cefnogi gwelliannau i ansawdd aer yn ein trefi a'n dinasoedd, ac yn dangos arweiniad yn yr ymdrech i sicrhau trafnidiaeth garbon isel ac allyriadau isel. Y gwanwyn hwn, byddwn yn cyhoeddi'r fframwaith parthau aer glân i Gymru. Gall unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru gyflwyno parth aer glân er mwyn mynd i'r afael â materion ansawdd aer lleol, ac mae gan barthau aer glân botensial i ddarparu gwelliannau go iawn i ansawdd aer drwy annog newid ymddygiad a chodi ymwybyddiaeth o lygredd aer. Ym mis Rhagfyr y llynedd, cyhoeddwyd 'Polisi Cynllunio Cymru' gennym, ac mae wedi ei ailysgrifennu'n gyfan gwbl yng ngoleuni Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae ansawdd aer wedi'i ymgorffori drwy gydol 'Polisi Cynllunio Cymru’ argraffiad 10, yn ogystal ag adran benodol ar ansawdd aer a seinwedd. Gwnaed hyn er mwyn sicrhau y caiff ansawdd aer ei ystyried yn gynnar yn y broses gynllunio, yn hytrach na’i bod yn ystyriaeth dechnegol yn unig, bron fel ychwanegiad, ac i fod yn elfen ganolog yn hytrach nag atodiad ar ddiwedd y broses. Bydd cymorth pellach ar ffurf canllawiau technegol ar sŵn ac ansawdd aer yn cael ei gyhoeddi o fewn y ddwy flynedd nesaf. Mae gwaith ar bolisi hylosgi domestig yn rhan annatod o'r rhaglen aer glân. Y mis hwn, cynhaliodd Llywodraeth Cymru gyfarfod cyntaf grŵp gorchwyl a gorffen sy'n cynnwys cynrychiolwyr o’r byd diwydiant, iechyd, DEFRA ac awdurdodau lleol i gefnogi a goruchwylio’r broses o roi polisi hylosgi domestig ar waith yn y dyfodol yng Nghymru. Fel y clywsoch heddiw, mae angen dull amlhaenog a chyfannol o weithredu, sy'n edrych ar danwyddau, cyfarpar, cynnal a chadw, deddfwriaeth a newidiadau mewn ymddygiad, ymhlith pethau eraill, i fynd i'r afael yn llawn â'r materion ansawdd aer, o ystyried maint y broblem. Bydd pob math o ymyrraeth yn cael ei ystyried yn rhan o'r gwaith hwn, gan gynnwys gwaharddiad ar werthu, neu gyfyngu ar faint a werthir o rai mathau o danwydd solet, a gwahardd pobl rhag eu defnyddio lle tybir bod angen gwneud hynny. Ym mis Mawrth, bydd cyfarfod cyntaf y grŵp trawslywodraethol ar gyfathrebu newid ymddygiadyn cael ei gynnal. Mae'r gwaith hwn yn hanfodol i wella ansawdd aer ledled Cymru. Er ein bod yn datblygu polisïau i fynd i'r afael ag ansawdd aer ar lefel y Llywodraeth, mae angen i ni godi ymwybyddiaeth o lygredd aer ar lefel unigolion a chymunedau hefyd. Mae'n bwysig ein bod yn annog pawb i ofyn, 'Beth y gallaf ei wneud i leihau ein hallyriadau?' Bydd y grŵp cyfathrebu yn gweithio gyda rhanddeiliaid allanol i ddatblygu addysg ar ansawdd aer a negeseuon cyfathrebu i roi gwybod i’r cyhoedd yng Nghymru ynglŷn â’r camau y gallwn eu cymryd i fynd i'r afael â llygredd aer gyda'n gilydd. Cyfeiriodd yr Aelod hefyd at y materion cymhleth rydym yn eu hwynebu yn ardal Port Talbot, gyda'r cyfuniad o ffactorau yno. Fe fyddwch yn ymwybodol fod Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a minnau, yn fy rôl flaenorol, wedi cyfarfod â Tata Steel, cyngor Castell-nedd Port Talbot a Cyfoeth Naturiol Cymru ddiwedd y llynedd i ailddatgan ymrwymiad y Llywodraeth hon i wneud gwelliannau parhaus i ansawdd aer ym Mhort Talbot. Dros y 12 mis nesaf, bydd Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â gwaith i wella a deall y problemau yn yr ardal yn well, ac mae hyn yn cynnwys adolygiad a diweddariad o gynllun gweithredu ar ansawdd aer Port Talbot i sicrhau bod gennym drefniadau llywodraethu sy’n addas i’r diben yn yr ardal a bod y camau unioni angenrheidiol wedi eu targedu'n effeithiol. Bydd y gwaith hwn yn cael ei lywio gan ganlyniad adolygiad cymheiriaid gan Brifysgol Gorllewin Lloegr, sydd ar fin cael ei gwblhau. Yn ychwanegol at hyn, bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i fynd i'r afael ag achosion lle’r aed uwchlaw’r terfynau cyfreithiol ar gyfer nitrogen deuocsid, cyn gynted ag y bo modd, ar yr M4 rhwng cyffyrdd 41 a 42 ym Mhort Talbot. Amlygir y mesurau sy'n cael eu rhoi ar waith i fynd i'r afael â chrynodiadau nitrogen deuocsid ar ymylon ffyrdd yng Nghymru yn ein cynllun. I ddod â hyn oll ynghyd, byddwn yn cyhoeddi'r cynllun aer glân yn ddiweddarach eleni. Bydd y cynllun hwn yn nodi llygryddion allweddol a'u heffeithiau ar iechyd y cyhoedd a'r amgylchedd naturiol yng Nghymru. Bydd yn cynnwys mesurau i sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion deddfwriaethol, yn nodi camau gweithredu trawslywodraethol a chamau gweithredu sydd eu hangen gan y sectorau i gyflawni gwelliannau ansawdd aer, ac yn sefydlu mesurau cyfathrebu, ymgysylltu ac addysgu i annog newid ymddygiad er mwyn cefnogi gostyngiad mewn llygredd aer. Un o swyddogaethau allweddol y gwaith hwn fydd ymgysylltu â phlant a phobl ifanc i ddatblygu'r cynllun er mwyn ein cynorthwyo i ddatblygu strategaeth sy'n hyrwyddo lles cenedlaethau'r presennol a chenedlaethau'r dyfodol, gan ein bod yn gwybod bod gweithredu yn allweddol i'w dyfodol a bod ganddynt ran allweddol i'w chwarae yn gwireddu ein huchelgais i fynd i'r afael ag ansawdd aer yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth ymhlith eu cyfoedion. Rydym wedi gweld nifer o ysgolion cynradd ledled Cymru sy'n cymryd rhan yn rhaglen Dreigiau Ifanc yn monitro a datblygu eu hymgyrchoedd newid ymddygiad eu hunain, a allai gynnwys bysiau cerdded, mynd i'r ysgol ar sgwteri a mesurau dim oedi ger tir yr ysgol. Edrychaf ymlaen at weld plentyn naw oed yn curo ar ffenestr rhywun i ddweud wrthynt am ddiffodd eu hinjan. I gloi, hoffwn ailddatgan ymrwymiad y Llywodraeth hon i weithredu yn awr ac yn y dyfodol er mwyn sicrhau ein bod yn gweld y gwelliannau parhaus y gwyddom fod eu hangen arnom o ran iechyd a lles ansawdd aer. Diolch yn fawr iawn, a daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch. Daeth y cyfarfod i ben am 19:03. QNR Cwestiynau i Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit Mohammad Asghar: Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith Brexit ar fewnfudo i Gymru? Jeremy Miles: We set out in 'Brexit and Fair Movement of People' an evidence-based approach to migration, which reflects the needs of our economy and the importance of achieving full and unfettered access to the EU single market, while addressing the concerns of many voters by linking migration more closely to employment. David Rees: Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'i swyddogion cyfatebol yn y DU o ran effaith Brexit heb fargen, ar economi Cymru ? Jeremy Miles: I am in frequent contact with the UK Government on a range of 'no deal' issues. This includes frequent senior engagement with the Department for Business, Energy and Industrial Strategy on business and sector specific issues. We continue to press the UK Government to rule out a 'no deal' outcome whilst providing advice on mitigating actions. Mark Reckless: Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gydag arweinydd yr wrthblaid yn San Steffan ynghylch cynigion Llywodraeth Cymru am aliniad deinamig o ran rheolau cymorth gwladol yr UE? Jeremy Miles: In our White Paper, 'Securing Wales’ Future', we set out the position very clearly for continued full and unfettered access to the single market. Dynamic alignment on EU state-aid rules will be one of the requirements of this approach. Mike Hedges: A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol amlinellu'r camau a gymerir gan Lywodraeth Cymru i sicrhau parhad y cyllid ar gyfer y sector addysg bellach ar ôl Brexit? Jeremy Miles: I continue to press the UK Government to ensure that Wales does not lose out on funding as a result of Brexit, including for the further education sector. I have written and spoken to the Secretary of State for Wales and the Chancellor of the Duchy of Lancaster about this. Janet Finch-Saunders: Pa gamau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cymryd i sicrhau bod Cymru yn manteisio cymaint â phosibl ar gytundebau masnach y dyfodol ar ôl Brexit? Jeremy Miles: The Minister for International Relations and the Welsh Language leads on trade policy for the Welsh Government and she will ensure Wales makes the most of any future post-Brexit trade agreements. Sian Gwenllian: Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU yngylch gwarchod hawliau pobl ifanc Cymru i deithio neu weithio ar draws Ewrop yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd? Jeremy Miles: Mae Gweinidogion Cymru yn parhau i gael trafodaethau’n gyson gyda Gweinidogion y Deyrnas Unedig i sicrhau’r ffurf leiaf niweidiol o Brexit, ac un sy’n gwarchod hawliau dinasyddion Cymru. Fel y nodwyd yn 'Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl', dylai hyn gynnwys hawl pobl ifanc i symud fel rhan o ddull ehangach o ymdrin â thegwch o ran symudiad pobl. Dai Lloyd: A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am oblygiadau Brexit ar lywodreth leol yng Nghymru? Jeremy Miles: Local government provides essential public services, including to our most vulnerable citizens, and the impacts of Brexit on local government will be wide-ranging and serious, particularly in a 'no deal' situation. Welsh Government has strong engagement with local government to develop preparedness, including readiness for 'no deal'. Cwestiynau i Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Andrew R.T. Davies: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau bysiau yng Nghanol De Cymru? Ken Skates: Since 2013, the Welsh Government has provided local authorities with £25 million a year to support local bus and community transport services across Wales. Towards the end of 2017-18, we provided an additional £3 million to support the bus network, in addition to other specific grants allocated to support public transport services. Nick Ramsay: Sut y mae Llywodraeth Cymru yn datblygu cysylltiadau trafnidiaeth cynaliadwy mewn ardaloedd gwledig? Ken Skates: We are moving forward with our ambitious vision to reshape public transport infrastructure and services across Wales, including local bus services, rail services, active travel and the various metro projects that will act as a blueprint for integrated transport across the whole of Wales. Mandy Jones: Sut y mae'r Gweinidog yn bwriadu asesu llwyddiant bargen twf y gogledd? Ken Skates: The success of the growth deal will be measured in terms of its transformation of the region’s economy, its ability to leverage private sector investment and its contribution to improving opportunity for people across the region, in line with the well-being of future generations Act and the economic action plan. David Melding: Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith a gaiff tueddiadau cyfredol mewn gwerthiannau manwerthu, ar economi ehangach Cymru? Ken Skates: Retail is a foundation sector in our economic action plan. We are working across Government to develop an enabling plan for the sector, as the foundation economy is crucial to communities in Wales. In 2018, there were 9,125 enterprises active in the retail sector in Wales, up 8 per cent since 2011. Dai Lloyd: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y trafodaethau diweddara o ran creu system trafnidiaeth gyhoeddus effeithiol yng Ngorllewin De Cymru? Ken Skates: Rydym yn cydweithio’n agos ag awdurdodau lleol yn y de-orllewin er mwyn gwella’r drafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardal a chynllunio system drafnidiaeth fodern ac integredig drwy’r prosiect metro. Cwestiynau i Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Mandy Jones: A wnaiff y Gweinidog amlinellu cynnydd o ran cyflwyno'r rhaglen 5G? Lee Waters: Our mobile action plan outlines our commitment and plans to continue supporting emerging technology initiatives throughout Wales to enable future 5G deployment. Furthermore, we have also asked Innovation Point to co-ordinate 5G activity in Wales and to identify and develop tangible 5G projects that help progress this agenda.
uk-hansard-senedd-cy
senedd2019-02-13
2024-06-01T00:00:00
{ "year": "2019", "language": "cy", "license": "Open Parliament Licence - https://www.parliament.uk/site-information/copyright-parliament/open-parliament-licence/" }
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd Prynhawn da a chroeso i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan James Evans. Parciau Cenedlaethol James Evans MS: 1. Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i wneud parciau cenedlaethol yn fwy atebol i bobl leol? OQ58580 Julie James AC: Mae atebolrwydd lleol yn hanfodol i lywodraethiant ein parciau cenedlaethol. Mae dwy ran o dair o’r aelodau’n cael eu dewis gan awdurdodau lleol, gan warantu atebolrwydd i bobl a chymunedau lleol. Rydym yn gwella atebolrwydd a llywodraethiant, gan gynnwys pecyn cymorth ar gyfer Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a swydd strategol newydd ar gyfer Cymru gyfan sy’n canolbwyntio ar amrywiaeth a llywodraethiant. James Evans MS: Diolch, Weinidog. Yn ein parciau cenedlaethol, mae’n hanfodol fod pobl leol yn teimlo eu bod yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau, a bod y parciau cenedlaethol yn sefyll o'u plaid a bod ganddynt gynrychiolaeth o’r ardal honno. Mae Llywodraeth Cymru yn penodi nifer o bobl i barciau cenedlaethol, ond yn anffodus, nid yw rhai o'r bobl hynny'n dod o Gymru hyd yn oed. Felly, yr hyn yr hoffwn ei weld yw system lle gall pobl leol gyfrannu at y broses benodi honno i sicrhau bod gennym bobl leol yn cynrychioli ein parciau cenedlaethol er mwyn gwneud yn siŵr fod ein busnesau a’n cymunedau'n teimlo bod ein parciau cenedlaethol yng Nghymru yn gwrando arnynt ac yn eu parchu. Diolch, Lywydd. Julie James AC: Iawn, felly, yn sicr, mae angen i barciau cenedlaethol ymateb i bobl leol a’u pryderon, ac wrth gwrs, mae’n rhaid iddynt fod yn gynrychioliadol o’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, ond mae parciau cenedlaethol hefyd yn gwasanaethu holl bobl Cymru—hwy, yn amlwg, yw ein parciau 'cenedlaethol', ac mae'n bwysig iawn fod awdurdodau'r parciau cenedlaethol yn ymateb i anghenion lleol a chenedlaethol. Ac felly, mae'n rhaid inni sicrhau bod eu llywodraethiant a'u hatebolrwydd yn adlewyrchu'r angen i adlewyrchu'r gymuned ymgysylltiedig honno o fewn y parc cenedlaethol ac ar gyrion y parc cenedlaethol, ond hefyd eu bod yno ar gyfer dyfodol holl bobl Cymru. Felly, rydym yn gweithio’n agos iawn gyda’r parciau cenedlaethol i ymgysylltu’n eang pan fyddwn yn datblygu’r cynlluniau rheoli a’r blaenoriaethau eraill. Mae angen inni gael arbenigedd penodol ar y parciau cenedlaethol, yn ogystal â’r cynghorwyr lleol sy’n cyfrannu cymaint. Felly, rwy'n awyddus iawn i sicrhau bod gennym amrywiaeth o leisiau arbenigol hefyd ymhlith penodiadau Llywodraeth Cymru. Felly, nid wyf yn gwbl sicr fy mod yn cytuno â chi y dylent fod yn bobl sy'n byw yng Nghymru, er, yn amlwg, lle mae gennym yr arbenigedd yng Nghymru, byddem yn sicr yn ceisio gwneud hynny. Rydym yn llawer mwy awyddus i sicrhau bod gan y parc cenedlaethol ystod o arbenigedd ar gael iddo, ar ei fwrdd, os mynnwch—gan mai dyna yw’r cyngor ei hun, mewn gwirionedd—ac yna drwy'r ystod o arbenigwyr y byddwn yn ymgysylltu â hwy er mwyn cael y canlyniad gorau posibl i’r bobl yn y gymuned ei hun, ond yn bwysig iawn, i holl bobl Cymru, ac mewn gwirionedd, holl bobl y DU a holl bobl y byd, gan fod y parciau cenedlaethol, wrth gwrs, yn rhan o'n tirwedd warchodedig. Mike Hedges AC: Credaf hefyd fod barn pobl leol yn bwysig. Yn bwysicach fyth, credaf ei bod yn bwysig diogelu ein parciau cenedlaethol, ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol a'r llain las—mae pob un ohonom yn elwa ohonynt. A yw’r Gweinidog yn cytuno â mi ei bod yn hollbwysig gwarchod yr ardaloedd hyn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, yn wahanol i arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, a ddywedodd fod datblygu yn iawn cyhyd â bod y seilwaith yn cael ei roi ar waith, megis meddygfeydd, ysgolion a seilwaith trafnidiaeth? Julie James AC: Wel, rwy'n cytuno'n llwyr â chi, Mike. Hoffwn bwysleisio nad oes gennym unrhyw fwriad i ddilyn Llywodraeth y DU o ran ystyried caniatáu mwy o ddatblygu ger ein parciau cenedlaethol yn ein hardaloedd o harddwch naturiol eithriadol neu ein safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig. Mae 'Cymru’r Dyfodol' a 'Polisi Cynllunio Cymru' yn darparu fframwaith cynhwysfawr o amddiffyniadau i'n parciau cenedlaethol a’n hardaloedd o harddwch naturiol eithriadol ar gyfer datblygiadau amhriodol ac rwyf fi, yn un, yn benderfynol iawn iddo aros felly. Trafnidiaeth Gyhoeddus yn Nwyrain De Cymru Peredur Owen Griffiths AS: 2. Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i wella trafnidiaeth gyhoeddus yn Nwyrain De Cymru? OQ58587 Lee Waters AC: Diolch. Mae 'Llwybr Newydd', strategaeth drafnidiaeth Cymru, yn nodi ein cynlluniau ar gyfer system drafnidiaeth hygyrch, gynaliadwy ac effeithlon, nid yn unig yn Nwyrain De Cymru, ond ledled y wlad. Peredur Owen Griffiths AS: Diolch am yr ateb. Peredur Owen Griffiths AS: Cwyn gyffredin yn ystod cymorthfeydd stryd yw cyflwr y rhwydwaith bysiau. Mae’r gwasanaeth hwn yn achubiaeth i gynifer o bobl ac mae hynny’n arbennig o wir ym Mlaenau Gwent, lle mae perchnogaeth ceir yn isel a lle ceir cyfran uwch o bobl hŷn nag mewn llawer o etholaethau eraill. Yn anffodus, pe baech am deithio ar fws rhwng Aber-bîg a Chwm—taith 10 munud mewn car—byddai’n cymryd awr a 44 munud, gan ei fod yn mynd y ffordd hir o gwmpas. A wnewch chi roi syniad o’r broses o gyflwyno amserlen fysiau newydd ynghyd â'r gyllideb ar gyfer hynny? A wnewch chi hefyd ymgynghori â defnyddwyr bysiau yn y cymunedau lle mae llwybrau’n gweithredu fel bod y gwasanaeth yn cael ei gynllunio gyda hwy mewn cof? Lee Waters AC: Wel, rwy’n angerddol am y rôl y mae’r bws yn ei chwarae yn y system drafnidiaeth gynaliadwy. Mae wedi bod yn rhan o’r ddadl sydd wedi’i hesgeuluso ers yn rhy hir o lawer. Rydym yn ymdrin â gwaddol preifateiddio, sy’n ei gwneud yn anodd iawn mabwysiadu ymagwedd strategol, oherwydd yn y bôn, gall cwmnïau preifat gynnal y gwasanaethau y maent yn dymuno eu cynnal, a gwyddom, ar ôl blynyddoedd o gyni, nad oes gan gynghorau arian i ddarparu gwasanaethau ar gyfer angen cymdeithasol. Felly, mae angen diwygio'r peth yn gyfan gwbl. Rydym yn ymgynghori ar ein Papur Gwyn ar fysiau. Rydym wedi cael llawer o ymatebion cadarnhaol, a byddwn yn cyhoeddi crynodeb ohonynt cyn bo hir, ac yna rydym yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth gerbron y Senedd y flwyddyn nesaf, i bennu system fasnachfreinio. A phwrpas hynny yw caniatáu inni nodi, gyda Trafnidiaeth Cymru ac awdurdodau lleol, sut olwg sydd ar rwydwaith o lwybrau, i alluogi bysiau i fod yn opsiwn ymarferol i’r rhan fwyaf o bobl. Gwyddom nad yw oddeutu hanner ein pobl byth yn mynd ar y bws, ac os ydym am gyflawni ein targedau newid hinsawdd, mae’n rhaid i hynny newid. Felly, mae angen iddynt fod yn ddibynadwy, mae angen iddynt fod yn fynych, mae angen iddynt fod yn fforddiadwy. Er mwyn gwneud hynny, mae angen llawer o waith plymio ar y system, ac rydym yn cychwyn ar y daith honno. Yn anffodus, nid yw’n daith gyflym, ond credaf ein bod yn mynd i’r cyfeiriad cywir. Natasha Asghar AS: Ddirprwy Weinidog, ym mis Mehefin y llynedd, gofynnais i’r Prif Weinidog am y posibilrwydd y byddai'n cyflwyno cerdyn teithio Cymru gyfan, i ganiatáu i bobl o bob cefndir economaidd-gymdeithasol a phob grŵp oedran gael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus. Byddai cyflwyno cerdyn o’r fath yn sicrhau teithio mwy di-dor i drigolion, cymudwyr, a myfyrwyr, yn ogystal ag annog twristiaeth, a thrwy hynny, yn ysgogi gwelliannau mewn trafnidiaeth gyhoeddus, drwy gynyddu nifer y teithwyr a’r galw. Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weinidog fod llawer iawn yn werth ei archwilio yn y syniad, a rhoddodd ymrwymiad i archwilio’r posibilrwydd o gerdyn, i wella cysylltedd trafnidiaeth ledled Cymru. Fodd bynnag, Ddirprwy Weinidog, pan gyflwynais gwestiwn ysgrifenedig yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ar y cynlluniau, fe wnaethoch ateb ar 11 Hydref 2022, gan gyfeirio at amrywiol gynlluniau tocynnau teithio consesiynol sy'n bodoli eisoes a dweud eich bod yn archwilio opsiynau ar gyfer tocynnau integredig gyda Trafnidiaeth Cymru. Mae’n swnio'n debyg i mi, Ddirprwy Weinidog, fel pe baech yn arllwys dŵr oer ar y syniad o gerdyn teithio Cymru gyfan. Felly, a fyddech cystal â chadarnhau beth yw eich safbwynt ar hyn, ac a ydych chi wir yn cytuno â'r Prif Weinidog fod hwn yn gynnig sy'n werth ei archwilio? Lee Waters AC: Wel, rydym yn sicr yn meddwl amdano, ond fel rwyf newydd ei egluro, gan fod gennym system dameidiog sydd wedi'i phreifateiddio, nid yw mor syml ag y mae'n swnio, gan fod gan weithredwyr gwahanol systemau gwahanol, nid oes gennym allu i'w gorfodi, gan mai cwmnïau masnachol ydynt. A holl bwynt newid i system fasnachfraint ledled Cymru, gyda safonau ar gyfer gweithwyr a theithwyr, yw caniatáu mwy o gyffredinedd rhwng gwasanaethau. Ac mae hynny’n cynnwys tocyn bws, trên a theithio llesol cyfnewidiadwy, y mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio arno. Ond hyd nes y cawn y gwaith plymio hwnnw'n iawn, ni allwn wneud hynny. Ac mae arnaf ofn mai gwaddol preifateiddio yw'r sefyllfa yr ydym yn byw gyda hi heddiw, ac mae'n un yr ydym yn gweithio'n galed i'w goresgyn. Hefin David AC: Gwn ein bod yn awyddus i edrych ymlaen yn hytrach nag yn ôl, ond mae’n werth nodi mai’r rheswm pam fod gennym wasanaeth bysiau o gwbl bellach yw oherwydd y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau, a’i gynllun olynol, a gychwynnwyd yn ystod argyfwng y coronafeirws. Ac roedd honno'n enghraifft o Lywodraeth Cymru yn camu i'r adwy i gynorthwyo gwasanaeth preifat. Nawr, credaf fod gan y gwasanaeth preifat le i dalu'n ôl i ni, ac ni chredaf fod hynny'n digwydd. Beth a welwn yng nghwm Aber, er enghraifft? Mae llawer o etholwyr wedi cwyno wrthyf am wasanaethau'n cael eu canslo. A'r hyn y mae gwir angen inni ei weld yw rhyw fath o reolaeth gyhoeddus dros hyn. Nawr, rwyf wedi sylwi bod y Papur Gwyn ar ddiwygio llywodraethiant bysiau a fu'n destun ymgynghoriad yn mynd ymhellach na chynigion y Bil bysiau, felly byddai'n ddiddorol clywed yr ymatebion i'r ymgynghoriad. A wnewch chi roi syniad i ni pryd y byddwch yn eu cyhoeddi? Gwn eich bod wedi dweud y byddwch yn gwneud hynny cyn bo hir, ond a wnewch chi roi syniad clir i ni pryd y byddwch yn cyhoeddi'r ymatebion i'r ymgynghoriad bysiau, a phryd y byddwn yn clywed mwy am gynnydd y Papur Gwyn? Lee Waters AC: Diolch. Y bwriad yw gwneud hynny y mis hwn. Mae llawer iawn yn digwydd mewn perthynas â'r agenda diwygio bysiau. Rydym yn edrych ar fater tocynnau teithio, rydym yn edrych ar fater rhaglennu—fel y dywedaf, nid yn unig rhoi’r fframwaith deddfwriaethol ar waith ar gyfer caniatáu masnachfreinio, ond gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru ac awdurdodau lleol ar ble y dylai’r llwybrau hynny fynd. Felly, mae Trafnidiaeth Cymru wedi gwneud gwaith manwl yng ngogledd Cymru fel cam cyntaf ar gyfer y gwaith o fapio ble y dylid cael llwybr bws delfrydol, sydd wedyn yn caniatáu inni gynnwys hynny yn y fasnachfraint, pan fyddwn yn ei chyflwyno a phan fyddwn yn ei gosod. Rydych yn llygad eich lle ein bod wedi rhoi swm sylweddol o arian i'r diwydiant bysiau—oddeutu £150 miliwn o gyllid brys. Fel y dywedwch, heb hynny, ni fyddai diwydiant bysiau i'w gael yn y rhan fwyaf o Gymru. Fis Mehefin eleni, fe wnaethom gyhoeddi pecyn cymorth pellach o £48 miliwn, ac mae amodau ynghlwm wrtho—mae’n fargen rhywbeth-am-rywbeth. Ac mewn gwirionedd, mae'r berthynas waith a gawsom gyda'r diwydiant wedi bod yn gynhyrchiol iawn, sydd yn fy marn i yn ein paratoi ar gyfer masnachfreinio. Oherwydd am y tro cyntaf, credaf fod y rhwystrau wedi'u dymchwel, lle roedd y sgwrs yn arfer bod, weithiau, yn gynhennus, wrth iddynt hwy fynnu eu hawliau fel gweithredwyr masnachol. Mae bellach yn llawer mwy o bartneriaeth, ac mae gennym fynediad at ddata amser real ar y llwybrau y maent yn eu darparu a'r arian y maent yn ei gynhyrchu, ac mae hynny wedyn yn caniatáu inni lunio system newydd yn llawer gwell. A bod yn deg â’r diwydiant bysiau, maent yn wynebu pwysau sylweddol, gyda gweithlu sydd wedi bod yn crebachu, gyda gyrwyr bysiau hŷn ddim yn dychwelyd ar ôl y pandemig, anawsterau recriwtio, yn ogystal â chostau cynyddol oherwydd chwyddiant. Felly, mae llawer o bwysau ar y diwydiant. Dyna pam ein bod yn credu mai eu rhoi ar sylfaen fwy cadarn, o dan system fasnachfreinio drefnus a thryloyw, yw’r ffordd i newid dulliau teithio. Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf, Janet Finch-Saunders. Janet Finch-Saunders AC: Diolch, Lywydd. Weinidog, ddydd Gwener diwethaf, ymunais â chyfarfod brys gyda grŵp o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i drafod dyfodol tai cymdeithasol yng Nghymru. Ymysg eu hofnau a’u gofidiau a’u pryderon oedd y teimlad fod Llywodraeth Cymru, yn eu barn hwy, wedi methu creu sylfaen gadarn i ysgogi adeiladu tai cymdeithasol newydd. Dim ond oddeutu 9,000 o gartrefi cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol a adeiladwyd rhwng 2010 a 2019, cyfartaledd o 1,000 y flwyddyn. Mae hyn yn llawer llai na'ch amcangyfrif chi, hyd yn oed, fod angen rhwng 3,000 a 6,000 o gartrefi newydd dros y pum mlynedd nesaf. Mewn gwirionedd, mae eich ymrwymiad maniffesto eich hun, sy'n dweud y byddech yn adeiladu '20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel newydd i'w rhentu' yn y fantol. Mae landlordiaid cymdeithasol cofrestredig wedi fy rhybuddio, os na allant gynyddu rhenti'n unol â chwyddiant eleni, y bydd yn rhaid gwneud toriadau difrifol i’r gwasanaethau a ddarparant. Maent yn darparu cyngor ar ddyledion. Mae llawer o bethau y mae landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn eu cynnig wrth ddarparu llety o safon. Yn sicr, hoffwn gofnodi fy niolch am y rhan y maent yn ei chwarae yn darparu cartrefi i bobl yng Nghymru. Ond hefyd, byddai toriadau difrifol yn cael effaith ar eu gallu i barhau gyda phrosiectau adeiladu. Pa gamau y byddwch yn eu cymryd i sicrhau nad oes rhaid i’r landlordiaid cymdeithasol cofrestredig eu hunain ohirio'r gwaith o adeiladu tai cymdeithasol newydd mewn unrhyw fodd? Julie James AC: Unwaith eto, Janet, mae gofyn y cwestiynau hyn i mi yn absenoldeb llwyr unrhyw ddealltwriaeth o’r trefniadau ariannol cyffredinol yn y DU ar hyn o bryd yn rhyfeddol. Rydym yn wynebu argyfwng costau byw ar draws y DU, yn gyfan gwbl o ganlyniad i benderfyniadau hurt y Llywodraeth Geidwadol. Mae gennym benderfyniad anodd iawn i’w wneud ar osod y capiau rhent yng Nghymru ar gyfer tai cymdeithasol—penderfyniad anodd iawn yn wir. Rydych yn llygad eich lle fod hwnnw’n benderfyniad lle mae angen cydbwysedd rhwng sicrhau bod gennym lif o incwm rhent i wneud yn siŵr bod gennym gyllidebau ar gyfer gwaith atgyweirio a chynnal a chadw, a chyllidebau ar gyfer adeiladu tai newydd sy’n gallu bodloni’r galw cynyddol—y galw cynyddol a achosir gan y nifer o bobl sy'n methu â chadw to uwch eu pennau oherwydd yr argyfwng costau byw. Felly, mae gennym gylch dieflig hyfryd yma. Mae hwnnw’n benderfyniad anodd iawn yn wir. Mae gennym oddeutu 20 y cant i 30 y cant o'n tenantiaid yn talu eu hunain—mae'n dibynnu pa landlord cymdeithasol cofrestredig a chyngor yr ydych yn siarad â hwy. Mae'n amlwg yn amrywio, ond mae oddeutu 20 y cant i 30 y cant o'r tenantiaid yn talu eu hunain, ac maent ymhlith y gweithwyr ar y cyflogau isaf yn ein gwasanaethau cyhoeddus ac yn ein heconomi gìg, ac maent angen gallu cadw to uwch eu pennau mewn tai cymdeithasol. Yna, fel rydym wedi'i drafod droeon, mae’r Llywodraeth Geidwadol wedi penderfynu rhewi’r lwfans tai lleol, gweithred eithriadol o wirion o ystyried ansefydlogrwydd y farchnad dai. Felly, mae nifer o benderfyniadau macro-economaidd yma sy’n gwneud y sefyllfa'n waeth o lawer. Mae gennym hefyd broblemau gyda'r gadwyn gyflenwi fyd-eang fel y gwyddoch. Mae gennym broblemau enfawr gyda sicrhau bod cwmnïau adeiladu'n gallu cael y gweithwyr a'r deunyddiau adeiladu sydd eu hangen arnynt, gan na allwn bellach recriwtio'r gweithwyr o dramor fel yr arferem ei wneud. Mae gennym storm berffaith o drallod. Felly, wrth gwrs, rydym yn awyddus i gyflymu hynny. Rydym yn gweithio'n galed iawn gyda'n landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a'n darparwyr tai cymdeithasol. Rwy’n cyfarfod â hwy'n rheolaidd iawn, yn unigol a chyda'r grwpiau trosfwaol. Mae'n ddrwg gennyf, ond mae'r syniad fod yna fwled arian i ddatrys y llanast y mae'r economi ynddo ar hyn o bryd yn gwbl hurt. Felly, mae ein gallu i adeiladu 20,000 o gartrefi carbon isel yn y fantol. Rydym bron yn sicr yn wynebu’r toriadau gwaethaf erioed i'r holl wasanaethau cyhoeddus. Er, pe bai eich Llywodraeth wedi cyhoeddi hynny ar yr un pryd ag y gwnaethant gyhoeddi’r llanast a oedd ganddynt, byddem yn gwybod hynny'n barod. Ni allaf ddychmygu sut y gallwch ofyn y cwestiwn hwnnw i mi, heb ystyried y sefyllfa facro-economaidd. Janet Finch-Saunders AC: Weinidog, nid wyf yma i graffu ar eich perfformiad dros yr ychydig wythnosau diwethaf, ond rwyf yma i herio a chraffu ar berfformiad Llywodraeth Lafur Cymru dros 23 mlynedd sy'n gyson wedi methu adeiladu'r nifer cywir o dai, flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae'n rhaid i chi—. Rhowch y gorau i geisio beio Llywodraeth y DU. Eich llanast chi yw hwn. Mae datganoli o dan Lywodraeth Lafur Cymru dros y 23 mlynedd diwethaf wedi amddifadu llawer o bobl yn fy nghymuned o gartref a tho uwch eu pennau. Rhaid ichi ddefnyddio'r dulliau sydd gennych at eich defnydd yn awr i sicrhau bod digon o dai'n cael eu hadeiladu. Nid ydym eisiau gweld sefyllfa, am yr eildro, lle cymerodd flwyddyn a hanner i'r Prif Weinidog, o fis Ionawr 2021 i fis Gorffennaf 2022, gynnal uwchgynhadledd i drafod yr argyfwng adeiladu tai, sy'n rhywbeth y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi galw amdano— ac maent yn agos iawn atoch chi—. Ac mae eu canllawiau ar ffosfforws—. Yn wir, rwyf wedi cael rhybudd y gallai'r data ar faetholion morol sy'n debygol o gael ei ryddhau gan CNC ymestyn yr ardaloedd yr effeithir arnynt ledled Cymru ac arwain at awdurdodau arfordirol bellach yn methu rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer tai. Fe ddywedoch chi, yr wythnos diwethaf— Mae angen ichi ddod at eich cwestiwn. Janet Finch-Saunders AC: Rwy'n dod ato. Fe ddywedoch chi fod y lefel hon o drafodaeth ynghylch rhyddhau maetholion morol yn cael ei chadw ar lefel swyddogol. Mae angen ichi gael rôl arweiniol yn hyn o beth. Ac a wnewch chi egluro a ydych chi'n datblygu strategaeth, rhag ofn y bydd rhyddhau data ar faetholion morol yn arwain at fwy fyth o broblemau rheoli maetholion sy’n gwaethygu’r argyfwng adeiladu tai? Julie James AC: Unwaith eto, Janet, mae hyn fel ceisio trafod y 1930au heb gyfeirio at y dirwasgiad. Mae’r syniad y gallwch chi ddweud wrthyf fod fy nharged ar gyfer ffosffadau yn atal adeiladu tai, pan fyddwch yn honni drwy'r amser eich bod yn credu mewn argyfwng hinsawdd a natur, yn syfrdanol a dweud y gwir. Mae ein hafonydd mewn sefyllfa enbyd. Mae angen inni wneud rhywbeth am yr holl bobl sy’n cyfrannu at hynny, ar draws nifer fawr o sectorau. Felly, y cwmnïau dŵr, yn sicr; adeiladwyr tai, yn sicr; y sector amaethyddol, yn sicr. Pob un sector sy'n cyfrannu at hynny. Cawsom uwchgynhadledd dros yr haf, lle cytunodd pob sector â’r Prif Weinidog y byddent yn cadw at eu cyfrifoldeb eu hunain i wneud hynny. Mae CNC, wrth gwrs, yn monitro hynny, a hwy yw’r corff gorfodi wrth gwrs, ond mae’n llawer iawn mwy cymhleth na hynny. Ac a bod yn onest mae dweud wrthyf eich bod yn credu mai'r ateb i hynny yw cael gwared ar bob terfyn ar yr hyn y gellir ei adeiladu ger ein hafonydd a'n harfordiroedd a chaniatáu adeiladu tai yn ddigyfyngiad am fod fy lefelau ffosffad, rywsut, yn atal hynny, a dweud wrthyf yn gyson ar yr un pryd eich bod yn credu mewn argyfwng hinsawdd a natur yn rhagrith o fath nad wyf prin wedi'i weld o'r blaen. Janet Finch-Saunders AC: Diolch, Weinidog. Gallaf roi sicrwydd gonest i chi nad oes unrhyw un erioed wedi gorfod rhoi geiriau yn fy ngheg. Nid oes angen inni fynd yn ôl i’r 1930au; mae 23 mlynedd yn hen ddigon hir i'ch diffyg adeiladu tai wneud cam â phobl Cymru. Mae swyddogion cynllunio a rheoleiddio yn ganolog i'r broses adeiladu tai yng Nghymru, ond maent wedi'u gorlethu â gwaith i'r fath raddau fel y gwn na all fy awdurdod lleol fy hun wirio cydymffurfiaeth ag amodau cynllunio, a dim ond yn awr y maent yn mynd ar drywydd gorfodi ar ôl cwynion. [Torri ar draws.] Hisht! Weinidog, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Sefydliad Siartredig Rheoli Gwastraff Cymru, Cyngor Dinas Casnewydd, Cyngor Sir y Fflint a Chaerffili wedi mynegi pryderon ynghylch diffyg adnoddau a chapasiti ar gyfer gorfodi o fewn awdurdodau lleol. Felly, a wnewch chi gydweithio â ni, gyda'ch swyddogion ar draws ein hawdurdodau cynllunio, i sicrhau bod ganddynt adnoddau angenrheidiol i ymdrin â cheisiadau chynllunio yn gyflymach—i ganiatáu mwy o geisiadau cynllunio—fel bod hynny'n helpu tuag at eich targedau? A hefyd, mae angen inni gael proses orfodi effeithlon yng Nghymru. Diolch. Julie James AC: Unwaith eto, Janet, sut y credwch chi y caiff y bobl hynny eu talu? Janet Finch-Saunders AC: Atebwch y cwestiwn. Julie James AC: Rwy'n ateb y cwestiwn. Y grant cynnal ardrethi sy'n talu am y bobl hynny. Ynte? Mae hwnnw wedi’i dorri gan Lywodraethau Ceidwadol olynol dros y 10 mlynedd diwethaf. Cynllunwyr yw'r staff ystafell gefn hynny y mae Llywodraethau Ceidwadol mor hoff o'u gwawdio am fod yn wastraffus. Dyma ganlyniad uniongyrchol eich polisïau cyni, gyda mwy i ddod yn ôl pob tebyg. Os credwch fod yna goeden arian hud yma yn Llywodraeth Cymru, rydych yn gwneud camgymeriad mawr. Nid wyf wedi dod o hyd iddi eto; nid yw'n bodoli. Mae eich Llywodraeth yn San Steffan yn gwbl gyfrifol am y diffyg buddsoddiad mewn gwasanaethau cyhoeddus, sy’n arwain yn uniongyrchol at y diffyg twf. Mae arnaf ofn fod y glymblaid gwrth-dwf, Janet, ar eich meinciau chi ac yn eich Llywodraeth chi. Llefarydd Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor. Mabon ap Gwynfor AS: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi am gychwyn drwy sôn am rywbeth sydd yn gyffredin drwy Gymru, ond gan ddefnyddio enghraifft o fy etholaeth i. Mae un o fy etholwyr i yn rhiant sengl, sydd wedi gorfod symud i mewn gyda'i chwaer, oherwydd bod ei chyn-bartner wedi ei throi hi allan o'i thŷ. Mae hi rŵan yn byw mewn tŷ tair ystafell wely, ond mae yna naw ohonyn nhw'n byw yn yr eiddo. Mae hi ar restr y cyngor, ond does yna ddim tai cymdeithasol ar gael, felly mae hi'n chwilio am dŷ rhent preifat. Yn anffodus, mae hi wedi cael ei phrisio allan o'r farchnad rhentu preifat. Y rhataf mae hi'n medru ei ffeindio yn yr ardal ydy £700 y mis. Ond mae'n rhaid iddi brofi bod ganddi incwm o dair gwaith y rhent er mwyn i'r asiant a'r landlord ei osod o iddi. Mae hynna'n £25,000 y flwyddyn, sy'n fwy na chyflog cyfartalog fy etholaeth i. Does ganddi ddim gobaith o ddangos bod ganddi incwm o £2,100 y mis, ac mae'n debyg fod yr arfer yma o ofyn am gyflog tair gwaith y rhent yn arfer cyffredin iawn yn y sector. Mae sôn ei bod hi'n medru cael guarantor, ond eto mae angen teulu efo pocedi dyfnion iawn i wneud hynny. Ydych chi'n cytuno y dylid dirwyn yr arfer yma o roi rhwystrau yn ffordd pobl ar incwm isel rhag cael mynediad i'r sector rhent i ben, a pha gamau sy'n cael eu cymryd gennych chi er mwyn cael gwared ar y rhwystrau yma i rentwyr incwm isel? Diolch. Julie James AC: Yn hollol, Mabon, mae gennym arferion yn datblygu yn y sector rhentu sy’n amlwg yn gosod rhwystrau i bobl sydd am rentu. Yn amlwg, yr hyn yr hoffem ei wneud yw adeiladu llawer o gartrefi cymdeithasol yn gyflym. Rwyf newydd gael sgwrs gyda’r meinciau gyferbyn am y ffactorau macro-economaidd sy’n ein hatal rhag adeiladu mor gyflym ag yr hoffem, ond hoffwn ddweud ein bod wedi rhoi’r lefelau uchaf erioed o fuddsoddiad tuag at hynny, drwy’r grant tai cymdeithasol a chyda’n cynghorau. Felly rydym yn dal i’w hadeiladu, ond mae’r gyfradd ymyrraeth sy'n rhaid inni ei wneud bellach yn cynyddu’n sylweddol ar gyfer pob tŷ unigol. Mae’r arian yr ydym wedi’i neilltuo, er ei fod yn fwy nag erioed, wedi’i erydu gan chwyddiant wrth gwrs, sydd wedi cyrraedd ffigurau dwbl heddiw, yn ôl yr hyn a ddeallaf. Mae’n gwbl amlwg, onid yw, fod y darlun macro-economaidd yn erydu’r pŵer prynu sydd gennym yma yng Nghymru gydag incwm sefydlog, i bob pwrpas. Ond rydym yn gweithio gyda'r cynghorau lleol i sicrhau eu bod yn gallu rhoi gwarantau a bondiau ar gyfer tenantiaid sydd yn y sefyllfa honno yn y sector rhentu preifat. Rydym yn gweithio gyda landlordiaid ein sector preifat, y gallwn gysylltu â hwy drwy Rhentu Doeth Cymru, i sicrhau eu bod yn ymwybodol o hynny a’u bod yn fodlon ac yn gallu derbyn gwarantau a bondiau gan yr awdurdod lleol. Nid yw hynny ar gael i bawb, ond mae'n swnio fel pe bai eich etholwr ar y rhestr tai cymdeithasol beth bynnag, ac y byddent yn gymwys. Yn amlwg, rwy’n dweud yn gyson wrth y meinciau gyferbyn y byddai cynyddu’r lwfans tai lleol yn unol â chwyddiant, fel y dylent fod wedi’i wneud, yn helpu’r sefyllfa yr ydych ynddi yn sylweddol. Rydym yn gweithio gyda landlordiaid sector preifat hefyd i sicrhau bod cymaint ohonynt â phosibl yn cymryd rhan yng Nghynllun Lesio Cymru, ac mae hynny’n tyfu'n gyflym. Gwn ein bod yn cael sgwrs am lefelau rhent a chapio rhenti, ac yn y blaen, ond o ddifrif, rydym yn gwylio'r hyn sy'n digwydd yn yr Alban ac Iwerddon gyda chryn ddiddordeb. Fe wyddoch fod y ddwy Lywodraeth wedi cael eu bygwth â chamau cyfreithiol dros yr hyn sydd wedi digwydd. Byddai gennyf gryn ddiddordeb mewn cael sgwrs â landlordiaid sector preifat mewn gwahanol ardaloedd o Gymru i ddeall beth yw eu hawydd i aros yn y farchnad, yn enwedig pe bai rhenti'n cael eu capio. Felly, os na all landlord gael y lefel honno o rent, beth fyddant yn ei wneud â’r tŷ? Y broblem yw, mewn marchnad dai anwadal a chyda chyfradd llog o'r fath, y tebygrwydd yw y bydd landlord yn gwerthu’r tŷ, gan y gallant gael lefelau tebyg o incwm drwy fuddsoddi’r arian yn y marchnadoedd, gan fod chwyddiant uchel yn amlwg yn helpu pobl sy'n cynilo, ac ond yn difreinio benthycwyr. Felly, rydym o ddifrif yn ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng helpu pobl i symud i mewn i'r tai hyn fel y gallant gael to uwch eu pennau, gyda'r holl ffactorau sydd gennym o ran cynyddu nifer y tai cymdeithasol mor gyflym ag y gallwn, ond rwyf hefyd yn awyddus i gymell y sector preifat i aros yn y farchnad, felly gweithio gyda hwy i wybod beth fyddai’n helpu. Er enghraifft, bydd yr Aelodau’n clywed gennym cyn bo hir am bethau fel sut y gallwn gymell y sector rhentu preifat i sicrhau bod eu cartrefi yn bodloni safonau ansawdd tai Cymru fel bod tenantiaid yn talu biliau llawer is pan fyddant yn symud i mewn i'w cartref. Mae a wnelo â mwy na'r rhenti uchel yn unig, mae lefel y gwariant ar ynni ac ati'n bwysig iawn. Rwy'n cydymdeimlo â phobl ledled Cymru sydd yn y sefyllfa honno. Mae'n rhaid inni fynd ati'n gyflym i adeiladu llawer o'r cartrefi newydd hynny, ond mae gwir angen inni weithio gyda'n sector rhentu preifat hefyd i sicrhau sefydlogrwydd yn y farchnad a lefel weddus o elw wrth ddarparu cartrefi i bobl. Byddwn yn fwy na pharod i edrych ar yr enghraifft benodol, serch hynny, os hoffech ysgrifennu ataf. Mabon ap Gwynfor AS: Diolch i'r Gweinidog am yr ateb yna. Mabon ap Gwynfor AS: Mae’r cwestiwn nesaf, os caf, yn ymwneud ag ymchwil ddiweddar a gomisiynwyd gan bartneriaid Cefnogi’r Mesur, sy'n cynnwys Tai Pawb, Shelter Cymru a Sefydliad Tai Siartredig Cymru. Daethant i'r casgliad y byddai cyflwyno hawl i gartref digonol yn arwain at arbedion sylweddol i bwrs y wlad. Mae'r manteision yn sylweddol. Nododd yr ymchwil fanteision gwerth £11.5 biliwn i bwrs y wlad dros gyfnod o 30 mlynedd, gyda chost gychwynnol 10 mlynedd o £5 biliwn. Afraid dweud y byddai buddsoddi mewn cartrefi addas o ansawdd gwell yn arwain at lai o dderbyniadau i'r ysbyty. Yn yr un modd, gyda chynnydd graddol yn nifer y cartrefi addas sydd ar gael, byddai llai o ddibyniaeth ar wasanaethau cymorth digartrefedd ac yn y blaen gan gynghorau ac eraill. Felly, rydym yn croesawu’r Papur Gwyn sydd ar y ffordd, a’r Papur Gwyrdd a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf yn y maes hwn, ac edrychaf ymlaen yn fawr at gydweithio â chi i sicrhau y gall y sector tai ddarparu ar gyfer anghenion pawb yng Nghymru. Fodd bynnag, ar ôl degawdau o danariannu parhaus ym maes tai cymdeithasol, a yw’r Gweinidog yn cytuno mai nawr yw’r amser i roi model buddsoddi i arbed ar waith, fel yr argymhellwyd gan Tai Pawb, Shelter Cymru a Sefydliad Tai Siartredig Cymru, ac i ymgorffori’r hawl i gartref digonol mewn deddfwriaeth, fel y'i hymgorfforir yng nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau dynol? Julie James AC: Mae gennyf gryn ddiddordeb mewn treialu hawl i gartref digonol yn ystod tymor y Senedd hon, yn sicr. Ond un o'r pethau y mae'n rhaid inni eu sicrhau yw ein bod yn gosod y dominos mewn rhes yn gyntaf. Bydd yr Aelodau wedi fy nghlywed yn siarad—mae fy synnwyr o amser yn ofnadwy—yn ddiweddar iawn yn y Siambr am y ddeddfwriaeth ddigartrefedd yr ydym ar fin ei chyflwyno. Rydym yn ystyried honno'n gam cyntaf i sicrhau continwwm tuag at yr hawl i gartref digonol, oherwydd a dweud y gwir, os nad oes gennych hawl i beidio â bod yn ddigartref, rydych ymhell i ffwrdd oddi wrth gartref digonol. Felly, i ni, mae'n ymwneud â sicrhau ein bod yn llunio'r ddeddfwriaeth fel ei bod yn cyd-fynd yn ddi-dor â gallu'r gwasanaethau digartrefedd lleol i ddarparu'r cartref digonol y dylech allu ei gael. Y gwir yw, ar ôl yr holl gyni a wynebwyd gennym—. A chofiwch fod y cynllun hawl i brynu wedi gwahardd awdurdodau lleol rhag darparu tai yn lle’r tai cymdeithasol a oedd yn cael eu gwerthu, wedi eu gwahardd yn llwyr, ac mai yn ystod fy oes i fel gwleidydd y tynnwyd y capiau oddi ar y cyfrifon refeniw tai o’r diwedd gan y Llywodraeth Geidwadol, fel y gallai’r cynghorau adeiladu eto. Mae'n gyfleus iawn fod y bobl ar y meinciau eraill bob amser yn anghofio hyn. Mae angen inni fynd i'r afael â hynny, mae angen inni gael sgiliau yn ôl i mewn i'r sefydliadau hynny, ac yna mae angen inni ymgorffori'r hawl i gartref digonol. Hoffwn pe bai’r hawl i gartref digonol yn fwy na syniad yn unig, ac yn hawl y gellir ei gorfodi i unigolyn, ac mae hwnnw’n gam llawer mwy na'i ymgorffori fel egwyddor gyffredinol yn y gyfraith. Felly, rydym yn falch iawn o weithio gyda Phlaid Cymru ar y cytundeb cydweithio tuag at sicrhau ein bod yn gwneud hynny, gan fy mod yn siŵr y gallwn wneud hynny. Newid i Drafnidiaeth Gynaliadwy Altaf Hussain AS: 3. Pa mor llwyddiannus y mae Llywodraeth Cymru wedi bod o ran cael pobl allan o'u ceir ac ar drafnidiaeth gyhoeddus? OQ58553 Lee Waters AC: Nid yw nifer y teithwyr sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus wedi dychwelyd i'w lefelau cyn COVID, ond rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid i chwilio am ffyrdd o ddod â phobl allan o’u ceir ac i ddefnyddio dulliau mwy cynaliadwy. Altaf Hussain AS: Diolch. Weinidog, rwyf wedi bod yn ymgyrchu dros adfer gwasanaethau bysiau mewn rhannau o Ben-y-bont ar Ogwr a Phen-y-fai yn dilyn penderfyniad cwmni bysiau Easyway i roi’r gorau i fasnachu. Nid oes gan bobl heb geir sy’n byw ym Mhen-y-fai a’r ardaloedd eraill yr effeithir arnynt unrhyw ffordd o fynd i siopa, ymweld â’r ysbyty neu gael mynediad at lawer o wasanaethau eraill oni bai eu bod yn talu am dacsi, ac mae diffyg llwybrau teithio llesol hefyd. Rwyf hefyd yn pryderu am golli gwasanaeth sy'n mynd heibio i Ysbyty Glanrhyd. Roedd y llwybrau yr effeithiwyd arnynt yn fasnachol hyfyw, ac nid yw cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn dangos llawer o ddiddordeb mewn mynd i'r afael â'r broblem. Sut y gall pobl fod yn hyderus fod trafnidiaeth gyhoeddus yn gynnig deniadol pan ydym yn colli llwybrau bysiau mawr eu hangen, ac a wnaiff y Gweinidog ymyrryd? Lee Waters AC: Fel y buom yn ei drafod yn gynharach, rydym yn cyflwyno deddfwriaeth i roi system fysiau well, fwy cydlynol ar waith. Ceir nifer o heriau. Fel y nododd, mae llawer o bobl yn dibynnu ar y gwasanaeth bws. Gwyddom nad yw chwarter yr holl aelwydydd yn berchen ar gar. Mae ymchwil gan Trafnidiaeth Cymru o’u teithwyr eu hunain yn awgrymu nad oes car gan 80 y cant o bobl sy’n teithio ar y bws. Felly, mae gennym ymdeimlad go iawn o anghyfiawnder trafnidiaeth yma, anghyfiawnder cymdeithasol, fel y'i hadlewyrchir yn y ffordd y mae pobl yn defnyddio dulliau trafnidiaeth. Ceir angen arbennig i sicrhau bod gwasanaethau bws o ansawdd da ar gael i bobl ifanc ac i bobl ar incwm is yn enwedig, ond rydym am i'r bws fod yn rhywbeth i bawb, nid i'r rhai nad oes ganddynt ddewis yn unig. Rydym am iddo fod yn ddigon da fel ei bod yn well mynd ar fws nag mewn car. Mae angen cyfres o ddiwygiadau systemig i wneud hynny, ac rydym wedi dechrau'r broses honno. Dylwn ddweud wrth yr Aelod fod awdurdodau lleol fel Pen-y-bont ar Ogwr yn arfer darparu cymhorthdal i gefnogi llwybrau, ond mae 10 mlynedd o gyni wedi golygu nad yw’r cyllid dewisol a fu ganddynt ar gael mwyach. Nawr, gwn nad yw meinciau’r Ceidwadwyr yn hoffi cael eu hatgoffa o’r ffeithiau ariannol, ond pan fydd arbrofion asgell dde yn cael eu cyflawni yn San Steffan, mae iddynt ganlyniadau i fywydau pobl go iawn. A phan nad oes arian ar gael yn y gyllideb, mae gwasanaethau dewisol—gwasanaethau anstatudol fel llwybrau bysiau—yn cael eu torri. Felly, mae canlyniad i'r polisïau a gyflwynir gennych, ac yna rydych yn cwyno pan fydd y canlyniadau hynny'n cael eu gwireddu mewn bywyd go iawn. Mae arnaf ofn mai rhagrith yw hynny. Rydym yn ceisio mynd i’r afael â’r problemau systemig, ond heb y cyllid, ni allwn wneud hynny. Fel y dywedodd y Prif Weinidog ddoe, gwyddom mai’r toriad mwyaf a gawsom i gyllideb Llywodraeth Cymru mewn dros 20 mlynedd o ddatganoli oedd yr un gan y Canghellor George Osborne, pan dorrodd ein cyllideb 3 y cant, ar ôl degawd o gyllidebau cynyddol o dan Lafur. Ers hynny, rydym wedi cael degawd o dorri cyllidebau o ganlyniad i gyni. Ac yn ôl y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, gan fod Prif Weinidog y DU a’r Canghellor—y pleidleisiodd llawer o’r Aelodau yma drostynt—wedi dinistrio ein heconomi, rydym bellach yn wynebu toriadau gwariant o nid 3 y cant, ond 15 y cant. O dan y mathau hynny o doriadau, yn syml iawn ni fydd gennym y gallu i ddarparu gwasanaethau bws i’r rhai sydd eu hangen. Felly, mae’n rhaid ichi edrych ar eich cydwybod eich hun, yn hytrach na sefyll yma'n dweud wrthyf y dylwn ymyrryd. Chi a ddylai ymyrryd i wrthdroi'r polisïau hurt hyn yn San Steffan. Jenny Rathbone AC: Un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o gael pobl o'u ceir yw perswadio pobl i gerdded neu feicio teithiau byr, a gwn eich bod yn cytuno, Weinidog. Yn amlwg, y buddugoliaethau cyflymaf fydd dileu'r defnydd o geir ar gyfer teithio i'r gwaith a theithio i'r ysgol. Mae'n ymwneud â mwy na chreu gwell seilwaith beicio ar ein ffyrdd. Mae angen cynlluniau benthyg hefyd i deuluoedd sydd methu fforddio prynu beic i'w plentyn, ac sy'n cael trafferth talu £3 y dydd am gludiant i'r ysgol. Mae un o'r ysgolion uwchradd yn fy etholaeth yn cynnig ymgorffori llwybrau beicio diogel yn eu trefniadau pontio ar gyfer plant 11 oed, ond yn anffodus, nid yw'r awdurdod lleol, ar hyn o bryd, yn gallu darparu map o'r llwybrau beicio diogel i ni ar gyfer yr ardaloedd y bydd eu darpar ddisgyblion yn dod ohonynt. Felly, roeddwn yn meddwl tybed pa waith a wnewch gydag awdurdodau lleol i sicrhau ein bod yn meddwl am y broblem hon fel problem ddiwylliannol yn hytrach na dim ond problem ffyrdd—a gweithio gyda'n hysgolion a'n cyflogwyr ar hyn. Lee Waters AC: Wel, rwy'n cytuno'n llwyr. Rydym yn byw gyda gwaddol diwylliant lle roedd mwy o flaenoriaeth i geir nag i bobl, a lluniwyd rhwydwaith priffyrdd cyfan o gwmpas gwneud i geir fynd yn gyflymach, yn hytrach na meddwl sut i annog pobl i gerdded neu feicio. Fel y gŵyr Jenny Rathbone, mae tua 10 y cant o'r holl deithiau o dan un filltir. Nawr, mae'r rhain yn deithiau y gellid eu cerdded neu eu beicio mewn llawer o achosion ond oherwydd arfer, cânt eu gyrru yn y rhan fwyaf o achosion. Felly, mae gennym her ddiwylliannol, ac yna mae gennym her seilwaith, oherwydd mae pobl yn amharod pan nad ydynt yn teimlo'n ddiogel neu os yw dod allan o'u ceir yn brofiad newydd iddynt. Mae Cyngor Caerdydd wedi bod yn gwneud gwaith rhagorol—un o'r cynghorau mwyaf blaengar yng Nghymru mae'n debyg—ar ddatblygu teithio llesol. Mae ganddo, fel y gwyddoch, rwymedigaeth gyfreithiol o dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 i gynhyrchu map bob tair blynedd, yn seiliedig ar ymgynghori â chymunedau, sy'n dangos lle dylai seilwaith y dyfodol fynd. Mae Cyngor Caerdydd wedi cyflwyno ei fap diweddaraf i ni, ac mae'n dangos bod dull trylwyr wedi ei fabwysiadu i sicrhau bod pob ysgol yn gysylltiedig â'r rhwydwaith teithio llesol arfaethedig. Nawr, bydd rhoi'r rhwydwaith hwnnw ar waith yn cymryd amser. Yn y cyfamser, mae Cyngor Caerdydd, yn rhannol drwy ei adnoddau ei hun, yn gweithio gydag ysgolion unigol, drwy ymyrraeth swyddogion, i geisio gwneud cynlluniau mwy meddal, y tu hwnt i'r seilwaith caled, i annog newid ymddygiad. Felly, rwy'n credu bod gwaith da iawn yn digwydd yng Nghaerdydd. Maent wedi bod yn gwneud gwaith ar Strydoedd Saffach hefyd, ac rydym wedi bod yn treialu hyn gyda Sustrans yng Nghasnewydd. Mae arian ar gael yn awr, fel rhan o'r prosiect Llwybrau Diogel mewn Cymunedau, i gau strydoedd y tu allan i ysgolion yn ystod amseroedd codi a gollwng. Lle cafodd hynny ei dreialu, mae wedi bod yn hynod lwyddiannus. Mae hwnnw ar gael i bob awdurdod lleol yng Nghymru gymryd rhan ynddo. Yn anffodus, ychydig iawn sydd wedi cynnig ceisiadau, ond mae'n agored iddynt wneud hynny'n flynyddol. Rwy'n cyfarfod ag aelodau trafnidiaeth cynghorau yn ystod yr wythnosau nesaf i wthio'r agenda hon yn gyson. Mae'n ymwneud yn rhannol ag adnoddau a gallu swyddogion, ac yn rhannol â diwylliant a pharodrwydd. Ond mae hyn yn hollbwysig fel rhan o'n hagenda i newid dulliau teithio. Hawliau Datblygu a Ganiateir Darren Millar AC: 4. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi ei wneud o ddigonolrwydd hawliau datblygu a ganiateir yng Nghymru? OQ58564 Julie James AC: Mae hawliau datblygu a ganiateir yn cael eu hadolygu'n gyson drwy ymgynghori ag awdurdodau cynllunio lleol, busnesau a sefydliadau eraill sydd â diddordeb mewn datblygu a'r system gynllunio. Mae'r newidiadau diweddaraf yn helpu i sicrhau hyblygrwydd i awdurdodau lleol reoli ail gartrefi a llety gosod tymor byr. Darren Millar AC: Fel y gwyddoch, Weinidog, mae'r gwaith o gyflwyno band eang gwibgyswllt yn mynd yn eithaf da yn fy etholaeth yng Ngorllewin Clwyd o ganlyniad i waith Llywodraeth y Deyrnas Unedig, gan gynnwys yn nhref Abergele. Ond un o'r pryderon a fynegwyd wrthyf gan drigolion lleol yw nad yw llawer o'r seilwaith tanddaearol presennol sydd gan Openreach yn y dref yn cael ei ddefnyddio, a bydd ceblau uwchben ar bolion yn cael eu defnyddio yn lle llawer ohono. Mae hynny'n peri pryder i drigolion lleol, sy'n teimlo y dylai fod rhwymedigaeth ar Openreach i gynnal y seilwaith tanddaearol presennol ac ailosod seilwaith tebyg. Yn amlwg, mae'r trefniadau datblygu a ganiateir ar hyn o bryd yng Nghymru yn caniatáu i Openreach wneud hyn heb unrhyw ganiatâd cynllunio o gwbl. Pa ystyriaeth fydd Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i newid y trefniadau ar gyfer cwmnïau cyfleustodau fel Openreach i'w gwneud yn ofynnol iddynt ailosod seilwaith tebyg pan fyddant yn uwchraddio'r seilwaith yn y dyfodol? Julie James AC: Wel, i ddechrau, nid cyfleustod mohono. Dylai gael ei drin fel un, ond nid yw'n cael ei drin fel un, ac mewn gwirionedd mae hynny'n arwain at gyfres gyfan o ganlyniadau. Felly un o'r pethau cyntaf yr hoffwn ei awgrymu yw eich bod yn gofyn i Lywodraeth y DU ei wneud yn gyfleustod, gan y byddai hynny'n datrys cryn dipyn o ran pam fod lleoliadau ar ei hôl hi'n—[Torri ar draws.] Darren Millar AC: Chi sy'n gyfrifol am gynllunio. Julie James AC: Ie, ond rwy'n dweud wrthych eich bod chi wedi dweud mai cyfleustod ydyw ac nid yw hynny'n wir. Darren Millar AC: Mae'n gyfleustod pwysig. Roeddwn yn defnyddio'r diffiniad mewn ystyr ehangach. Julie James AC: Mae'n gwneud gwahaniaeth eithaf mawr i sut mae'r system gynllunio yn gweithio, Darren. Rwy'n dweud wrthych chi, mae'n gwneud gwahaniaeth, ac nid yw'n gyfleustod. Nid wyf yn gwybod beth yw manylion cytundeb Llywodraeth y DU gydag Openreach i wneud y gwaith, ond pam ar wyneb y ddaear nad yw'n golygu bod rhaid iddynt ddefnyddio'r seilwaith presennol? Roedd ein cytundeb ni'n cynnwys hynny. Dylai eu cytundeb hwy fod wedi cynnwys hynny. Felly, unwaith eto, nid wyf yn gyfrifol am hynny. Mae'n hen bryd iddynt ysgwyddo'u cyfrifoldebau. Ers amser hir, rydym wedi gorfod rhoi arian datblygu economaidd tuag at y gwaith o ehangu band eang yng Nghymru am fod Llywodraeth y DU wedi bod yn cysgu ar ei thraed. Er hynny, nid oeddwn yn ymwybodol o'r broblem benodol honno. Os ydych eisiau ysgrifennu ataf, rwy'n fodlon edrych ar y mater, ond byddwn yn dychmygu ei fod yn ymwneud â darpariaeth y cytundeb, felly mae'n debyg y byddaf eisiau gofyn i chi ysgrifennu at Weinidog Llywodraeth y DU i ofyn a ydynt yn barod i gael trafodaeth gyda mi ynglŷn â beth yw trefniadau'r cytundeb penodol hwnnw gydag Openreach. Ond cofiwch, pe bai'n gyfleustod, byddai'r rheolau cynllunio'n wahanol iawn. Diogelwch Adeiladau Rhys ab Owen AS: 5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddiogelwch adeiladau ymhellach i'w datganiad ysgrifenedig ar 7 Hydref? OQ58566 Julie James AC: Yn sicr. Ar 7 Hydref, cyhoeddais fod 11 o ddatblygwyr wedi ymrwymo i gytundeb datblygwyr Llywodraeth Cymru. Mae gwaith bellach ar y gweill i greu'r ddogfennaeth gyfreithiol ffurfiol a fydd yn sail i'r cytundeb, ac rwy'n rhagweld y bydd drafft o'r ddogfennaeth yn cael ei rannu gyda datblygwyr erbyn diwedd y mis hwn. Rhys ab Owen AS: Diolch yn fawr am hynny, Weinidog. Rwy'n falch o glywed am y cytundeb cyfreithiol. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi nad yw'n foddhaol fod lesddeiliaid yn mynd â datblygwyr i'r llys ar hyn o bryd. Ni ddylai hynny fod yn digwydd, ac un enghraifft yw Celestia gerllaw. Yn eich datganiad, fe wnaethoch chi sôn am amserlenni gyda datblygwyr; a wnewch chi roi diweddariad i ni ar yr amserlenni hynny? Julie James AC: Mae'n anodd iawn rhoi diweddariad i chi ar amserlen pob datblygwr am resymau amlwg, Rhys, ond rydym yn gweithio gyda hwy i ddeall beth yw'r amserlen ar gyfer eu hadeiladau. Rwy'n falch iawn o ddweud bod rhai adeiladau yn cael eu hadfer yn awr ac rwy'n gobeithio ymweld â nifer ohonynt dros yr wythnosau nesaf. Rydym wrth ein bodd fod adeiladau wedi mynd i'r cyfnod adfer gan fod y gwaith arolygu wedi ei gwblhau. Yn ddiweddar ysgrifennais at yr holl gwmnïau rheoli a strwythurau gwahanol berchnogion adeiladau oherwydd mae ceisio darganfod pwy sy'n gyfrifol am beth yn y system yn gymhleth, fel y gwyddoch. Ond rydym newydd ysgrifennu at bob un ohonynt i sicrhau eu bod yn ymwybodol fod angen iddynt roi caniatâd inni fynd i mewn i wneud y gwaith arolygu ymwthiol. Rydym mewn cysylltiad â nifer o drigolion i geisio hwyluso a chyflymu'r gwaith hwnnw. Rydym yn ceisio gwneud yn siŵr fod gennym lif priodol o waith ar gyfer y cyfnod adfer fel nad ydym yn cystadlu â'n gilydd am sgiliau, cyflenwadau ac yn y blaen, ac fel nad ydym yn gwthio'r pris i fyny yn anfwriadol, yn amlwg. Ac un o'r rhesymau pam fod Llywodraeth Cymru wedi ymyrryd yn yr arolygon yn y ffordd a wnaeth yw er mwyn gwneud yn siŵr nad yw hynny'n digwydd, oherwydd mae cost arolygon wedi codi yn Lloegr wrth i bobl gwblhau. Felly, rydym bob amser yn gweithio gyda'n cwmnïau adeiladu. Mae Lee Waters a minnau'n cael cyfarfodydd rheolaidd gyda'r fforwm adeiladu a'r fforwm adeiladwyr tai, felly rydym yn hoffi gweithio gyda hwy i sicrhau bod gennym waith ar y gweill, a bod ein busnesau bach a chanolig yn cael y gwaith lle bo hynny'n briodol, a bod gennym y cymysgedd cywir o sgiliau ac yn y blaen. Felly, rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'r datblygwyr i wneud yn siŵr eu bod yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb mewn perthynas â thaliadau. Yma yng Nghymru, ni fydd yn rhaid i lesddeiliaid dalu costau cyfreithiol mawr, fel a wnânt o dan y gronfa diogelwch adeiladau, i allu gwneud hynny, oherwydd byddwn yn camu i'r adwy. Ond ni allwn esgus ei bod yn bosibl adfer nifer yr adeiladau sydd gennym mewn mis neu ddau; mae hwn yn brosiect tymor hir.Rydym hefyd yn ceisio sicrhau ein bod yn gwneud y gwaethaf yn gyntaf a sicrhau bod pobl yn gallu byw i mewn, a dyna pam fod gennym y cynllun achub, ac yn y blaen, i gyd-fynd ag ef. Wrth inni ddod yn ymwybodol o'r adeiladau sy'n cael eu hadfer, byddaf yn rhannu cymaint ag y gallaf gyda'r Aelodau, am resymau cyfrinachedd masnachol ym mhroses y cytundeb, ynglŷn â ble mae hynny'n digwydd. Lywydd, mae'n debyg y byddaf yn gwneud hynny drwy ddatganiad ysgrifenedig wrth i'r wybodaeth honno ddod ar gael. Targedau Ailgylchu Tom Giffard AS: 6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl cynghorau lleol o ran helpu Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei thargedau ailgylchu? OQ58561 Julie James AC: Gyda phleser. Roedd ein cyfradd ailgylchu trefol yn 65.4 y cant yn 2020-21, ein canran uchaf erioed, sy'n fwy na'r targed o 64 y cant. Mae'r llwyddiant hwn, er gwaethaf yr holl heriau a ddaeth yn sgil y pandemig, yn dyst i waith caled ein hawdurdodau lleol ac yn enwedig eu staff rheng flaen, a sicrhaodd y gallai pobl Cymru barhau i ailgylchu fel y maent wedi hen arfer ei wneud. Tom Giffard AS: Diolch, Weinidog. Fy mhleser i. Tra bod pob un ohonom yn cael ein hannog i wneud ein rhan i ailgylchu gartref, hoffwn dynnu eich sylw, Weinidog, at bolisi cyngor Abertawe o atal ailgylchu pren yng Nghlun yng nghanolfan ailgylchu Gorseinon. Mae'r polisi hwnnw'n golygu bod rhaid i filoedd o bobl ar draws Abertawe—o Benrhyn Gŵyr a llefydd fel y Mwmbwls, ac ardaloedd fel Gorseinon yng Nghasllwchwr—deithio hyd at 20 milltir i Lansamlet, sef yr unig safle sy'n caniatáu i bobl ailgylchu pren. O ystyried nad yw pobl yn gallu cario llwythi trwm o bren ar drafnidiaeth gyhoeddus, wrth gwrs, mae hyn bellach yn achosi lefelau llawer uwch o dagfeydd ac allyriadau ar ein ffyrdd oherwydd, yn amlwg, car yw'r unig ffordd sydd gan bobl o gyrraedd y lleoliadau hyn. Fodd bynnag, pan gafodd y cyngor eu holi am hyn, dywedasant fod y polisi hwnnw wedi deillio o'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi newid y rheolau mewn perthynas ag ailgylchu pren. Felly, dywedwyd wrthyf fod nifer o bobl bellach yn llosgi pren, neu weithiau hefyd yn ei ddympio o gwmpas Abertawe. Felly, Weinidog, a wnewch chi weithio gyda chyngor Abertawe i'w helpu i ddiwygio'r cynllun hwnnw i ganiatáu i drigolion ailgylchu pren mewn lleoliadau eraill ar draws y ddinas, a fydd, gobeithio, yn gwella cyfraddau ailgylchu ac yn lleihau'r pwysau ar ein ffyrdd, ar adeg pan fo Llywodraeth Cymru a chyngor Abertawe wedi datgan argyfwng hinsawdd? Julie James AC: Yn sicr, Tom. Un o'r problemau gyda hynny, mewn gwirionedd, yw'r ffordd y mae'r system gynllunio'n rhyngweithio â'r system ailgylchu, fel mae'n digwydd. Felly, rydym yn edrych i weld beth y gallwn ei wneud i sicrhau nad yw hynny'n digwydd. Rydym hefyd, fel y gwyddoch chi, ar fin symud i darged o 70 y cant ledled Cymru, ac yn ardal Abertawe yn unig, mae gennym dri chyngor sy'n perfformio'n dda iawn, ond rhaid imi gyfeirio'n benodol at Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gan eu bod ar 69 y cant. Felly, rwy'n falch iawn yn wir eu bod wedi gallu gwneud hynny. Rydym bob amser yn anelu i ailgylchu gwahanol ddeunyddiau ar wahân hefyd, oherwydd rydym yn gallu denu ailbroseswyr i Gymru mewn niferoedd cynyddol, ac maent yn dod â'r swyddi gwyrdd yr ydym eu hangen mor daer gyda hwy. A hefyd, wrth gwrs, maent yn lleihau'r angen i ddefnyddio deunyddiau newydd wrth weithgynhyrchu gwahanol eitemau a ddefnyddir yn gyffredin. Felly, un o'r pethau yr ydym yn bwriadu ei wneud i gyrraedd y 70 y cant yw sicrhau bod gwahanol ddeunyddiau ailgylchadwy yn cael eu casglu gan yr awdurdod lleol fel rhan o'r casgliad. Byddwn yn cyhoeddi rhywfaint o bethau mewn perthynas â hynny. Rwyf wedi bod yn ymwybodol o rai problemau penodol yn Abertawe wrth gwrs; rydych yn ymwybodol fod lefel fy etholaeth yn draean o'r hyn y gwnaethoch ei grybwyll yno. Byddwn yn gweithio gydag Abertawe i sicrhau y gallwn unioni'r sefyllfa honno. Mae yna broblem fach ynghylch yr hyn sy'n cael ei ystyried yn bren gwastraff, ac nid wyf am fynd ar drywydd hynny gyda'r Llywydd gan y bydd yn dweud bod amser yn brin. Ond rwy'n fwy na pharod i gael trafodaeth ar wahân gyda chi am hynny. Cyflenwad Cynaliadwy o Dai Mark Isherwood AC: 7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau cyflenwad cynaliadwy o dai? OQ58556 Julie James AC: Rydym yn cefnogi'r sector tai i barhau i gyflenwi cartrefi newydd yng nghyd-destun yr heriau presennol. Mae ein dull newydd o asesu'r farchnad dai leol yn cynorthwyo awdurdodau lleol i gynllunio cyflenwad tai cynaliadwy a fydd yn ateb yr angen lleol. Mark Isherwood AC: Diolch am eich ymateb. Yn ôl ffigurau diweddaraf Stats Cymru, cafodd 7,492 o gartrefi cymdeithasol newydd eu darparu yng Nghymru yn ystod 12 mlynedd gyntaf y Llywodraeth Lafur ddatganoledig, gydag 11 ohonynt yn cyd-fynd â Llywodraeth Lafur y DU—cwymp o 73.45 y cant ar y 28,215 o gartrefi cymdeithasol newydd a gafodd eu darparu yng Nghymru yn ystod 12 mlynedd o Lywodraeth Geidwadol y DU hyd at 1997. Nododd adolygiad tai y DU yn 2012 mai Llywodraeth Cymru ei hun a roddodd flaenoriaeth is i dai yn ei chyllidebau cyffredinol, ac felly erbyn 2009-10, ganddi hi yr oedd y lefel gyfrannol isaf o bell ffordd o wariant ar dai ymhlith y pedair gwlad. Yn 2019, y flwyddyn uchaf ar gyfer cofrestru cartrefi newydd yn y DU ers 2007, gostyngodd y niferoedd yng Nghymru dros 12 y cant. Mae hyd yn oed y ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd ar gyfer chwarter 2 eleni yn dangos mai Cymru oedd yr unig genedl neu'r unig ranbarth o 12 yn y DU i weld nifer y tai newydd a gwblhawyd wedi lleihau. Os ydych yn anghytuno ag unrhyw un o'r ffigurau swyddogol hyn, gallaf eu hanfon atoch. Felly, os nad ydych yn anghytuno â'r rhain, pryd y gwnewch chi roi'r gorau i ddweud a dechrau gofyn i'r sector tai cyfan, gan gynnwys darparwyr tai traws-sector, sut i fynd i'r afael ag argyfwng cyflenwad tai fforddiadwy hirsefydlog Llafur yng Nghymru, rhywbeth y dechreuais i a'r sector cyfan—a Phlaid Cymru ar y pryd—rybuddio Llywodraeth Lafur Cymru yn ei gylch tua 18 mlynedd yn ôl? Julie James AC: Wel, wyddoch chi, Mark, byddwn yn dweud unwaith eto fod gallu'r Ceidwadwyr i ddyfynnu ystadegau y tu hwnt i'r sefyllfa facro-economaidd yn rhyfeddol. Felly, mae'r Llywodraeth hon wedi gosod y lefelau uchaf erioed o gyllid grant tai cymdeithasol drwy'r gyllideb, felly £300 miliwn, a dyraniadau cyllideb ddangosol ddrafft o £330 miliwn ar gyfer y flwyddyn nesaf a £325 miliwn ar gyfer y flwyddyn ar ôl honno, yn amodol, wrth gwrs, ar yr anhrefn lwyr a welwn yn San Steffan. Yng ngogledd Cymru mae'r grant tai cymdeithasol wedi cynyddu o £48,533,745 a wariwyd yn 2021-22 i £65,750,153 o ddyraniad yn 2022-23. Felly, cynnydd sylweddol iawn—mae bron iawn wedi'i ddyblu, mewn gwirionedd. Ni yw'r wlad gyntaf i fandadu bod yr holl gartrefi newydd a ariennir gan y grant tai cymdeithasol wedi'u cynllunio i sgôr EPC A, drwy ofynion ansawdd datblygu Cymru a gafodd eu lansio ym mis Gorffennaf 2021. Mae hyn yn ymwneud â mwy na dim ond adeiladu unrhyw hen dŷ, ei godi rywsut-rywsut a gwneud yn siŵr eich bod yn gallu galw hwnnw'n adeilad newydd. Mae eich Llywodraeth eich hun wedi gorfod penodi ombwdsmon cartrefi newydd oherwydd cyflwr cwbl warthus nifer o'r cartrefi newydd yr oeddech mor hapus i ddarllen yr ystadegau arnynt, Mark. Maent yn hollol warthus. Maent wedi cael eu hadeiladu'n wael, maent yn ddrafftiog, maent yn anodd i fyw ynddynt, ac maent yn llythrennol wedi gorfod penodi ombwdsmon i reoli'r farchnad. Mae'n llawer gwell cael asesiad priodol o'r farchnad dai leol, y lefel gywir o ddeiliadaeth gymysg, a'r lefel gywir o insiwleiddio a niwtraliaeth carbonnag adeiladu unrhyw hen beth yn unrhyw hen le a rhoi tic i chi'ch hun. Diogelwch Ynni Rhianon Passmore AC: 8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella diogelwch ynni yn Islwyn? OQ58589 Julie James AC: Diolch, Rhianon. Bydd ein polisïau o gefnogi cartrefi, busnesau a'r sector cyhoeddus i leihau'r galw am ynni ynghyd â chamau gweithredu cadarnhaol i gynyddu'r gwaith o gynhyrchu ynni adnewyddadwy sy'n cael ei gynhyrchu'n ddomestig yn gwella diogelwch ynni ym mhob ardal yng Nghymru. Rhianon Passmore AC: Diolch. Wrth i'r argyfwng costau byw waethygu ac wrth i lefelau gorbryder godi i drigolion ar draws Islwyn oherwydd y biliau ynni cynyddol, mae'n hanfodol yn awr yn fwy nag erioed fod y DU yn mynd i'r afael â mater diogelwch ynni. Weinidog, fe wnaethoch gyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn gynharach eleni ym mis Ebrill, yn dilyn ymosodiad Rwsia ar Wcráin, a ddywedodd fod Llywodraeth Cymru yn parhau i wrthwynebu echdynnu tanwyddau ffosil yng Nghymru, ac yn parhau i wrthwynebu ffracio. Weinidog, pa asesiad, felly, y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud yn y misoedd ers y datganiad ysgrifenedig o'r modd y mae Llywodraeth y DU yn gweithio mewn partneriaeth gyda gweinyddiaethau datganoledig i ddiogelu a sicrhau cyflenwadau ynni ar gyfer holl wledydd y Deyrnas Unedig? Julie James AC: Diolch, Rhianon. Yr ateb i'r argyfwng ynni hwn yw peidio ag ehangu echdynnu tanwyddau ffosil newydd. Nid ydym yn cefnogi cynlluniau Llywodraeth y DU i ehangu trwyddedau olew a nwy newydd ym môr y Gogledd ac agor safleoedd ffracio newydd yn Lloegr. Bydd ein polisïau yn parhau i wrthwynebu echdynnu newydd yng Nghymru. Mae blynyddoedd—blynyddoedd—o bolisi ynni anflaengar ar lefel y DU wedi ein gadael yn agored iawn i chwyddo prisiau byd-eang, fel a amlygwyd gan ddigwyddiadau diweddar, gyda disgwyl y bydd prisiau ynni, sydd eisoes yn uwch nag erioed, yn codi ymhellach o ganlyniad i rhyfel Rwsia yn Wcráin. Er bod prisiau ynni wedi'u rhewi, ac mae hynny i'w groesawu—er bod hynny eto'n amrywio'n fawr wrth i ni siarad, a Duw a ŵyr pwy fydd y Canghellor erbyn diwedd y sylwadau hyn, gyda'r holl ansefydlogrwydd. Rydym yn croesawu'r camau i rewi prisiau ynni, ond maent yn dal i fod yn sylweddol uwch na'r hyn oeddent y gaeaf diwethaf, hyd yn oed gyda rhewi prisiau ynni—maent yn dal i fod yn anfforddiadwy i lawer o aelwydydd er gwaethaf rhewi prisiau. Mae gennym gyfraddau llog uwch hefyd a phunt wannach, sy'n codi chwyddiant i lefelau nas gwelwyd ers y 1980au pan, gadewch i mi feddwl nawr, o, Llywodraeth Geidwadol wrth y llyw, ac mae hynny'n gwanhau gallu pobl i dalu'r prisiau hurt hyn, ac wrth gwrs mae'n gwneud yr ynni'n ddrutach beth bynnag. Mae gennym farchnad ynni sydd wedi'i chlymu wrth bris nwy nad yw'n ystyried y farchnad wahanol mewn ynni adnewyddadwy, lle mae'r gwariant cyfalaf i adeiladu'r cyfleuster yn llawer pwysicach na'r cyflenwad ynni, oherwydd mae hwnnw am ddim, yn amlwg, am adnodd adnewyddadwy. Felly, mae diwygio'r farchnad ynni mewn ffordd sy'n rhoi sefydlogrwydd i'r diwydiant a sicrwydd i ddefnyddwyr yn angenrheidiol ac mae'n hen bryd ei wneud. Felly, rydym yn gweithio i fwrw ymlaen ag argymhellion ein harchwiliad dwfn i ynni adnewyddadwy, y bwriodd Lee Waters ati i'w gyflawni cyn gynted ag y daethom yn Llywodraeth mewn gwirionedd, er mwyn inni allu cyflymu'r defnydd o ynni adnewyddadwy a sicrhau budd economaidd a chymdeithasol i Gymru, a bydd ein cynlluniau ynni lleol yn helpu i nodi'r atebion ynni cywir ar gyfer y cyfleuster cywir yn y lle cywir i bobl Islwyn ac ar draws Cymru. Yn olaf, cwestiwn 9. Luke Fletcher. Trafnidiaeth Am Ddim i'r Ysgol Luke Fletcher AS: 9. A wnaiff y Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw waith sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â'r anghysondeb ar draws awdurdodau lleol o ran y trothwyon milltiroedd a ddefnyddir wrth ddarparu trafnidiaeth am ddim i'r ysgol, yn dilyn cyhoeddi'r adolygiad o'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr ym mis Mawrth 2022? OQ58584 Lee Waters AC: Gwnaf. Bydd adolygiad manylach o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir. Luke Fletcher AS: Diolch am yr ateb, Gweinidog. Luke Fletcher AS: Rwy'n derbyn gohebiaeth yn aml gan etholwyr am y rhwystrau dyddiol sy'n eu hwynebu oherwydd y trothwyon milltiroedd. Nid yw'n iawn, yn 2022, fod y rhwystrau sylfaenol hyn yn wynebu rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru—rhwystrau y mae gan Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol bwerau i gael gwared arnynt. Yn ôl ym mis Mawrth, tynnais sylw penodol at Gaerau, cymuned sydd ychydig i'r gogledd o Faesteg yng nghwm Llynfi. Ar drothwy misoedd y gaeaf, bydd plant yng Nghaerau yn gorfod cerdded 45 munud i awr yn ôl ac ymlaen i'r ysgol ym mhob tywydd. Byddant yn cael eu gorfodi i gerdded ar hyd llwybrau nad ydynt yn ddiogel, a bydd llawer o blant ag asthma yn cael eu gorfodi i gerdded ar hyd ffyrdd sydd â thagfeydd mawr. Mae gan awdurdodau lleol bwerau disgresiwn yma ac mewn amgylchiadau fel y rhain gallent ostwng y trothwy milltiroedd i gynnwys ardaloedd difreintiedig fel Caerau, ond nid ydynt wedi gwneud hynny, felly a wnaiff y Llywodraeth gamu i'r adwy? Lee Waters AC: Wel, diolch am y cwestiwn. Fel y gwyddoch, mae gofyniad cyfreithiol o dan y Mesur teithio gan ddysgwyr i ddarparu trafnidiaeth yn seiliedig ar drothwy o dair milltir, ac rwy'n deall y pwynt a wnaeth Luke Fletcher fod hynny weithiau'n rhy bell i lawer o blant. Bûm yn cerdded gyda phlant Ysgol y Gwendraeth o'r Tymbl i'w hysgol cyn y cyfyngiadau symud, taith o dair milltir. Fe wnaethant ofyn yn garedig i mi gario eu bagiau cerddoriaeth, ac erbyn imi gyrraedd yr ysgol, roedd fy nghefn yn eithaf blinedig, rhaid i mi ddweud. Felly, rwy'n cydymdeimlo â'r ddadl. Rydych yn nodi'n gywir fod gan awdurdodau lleol bwerau disgresiwn i newid hynny, ac mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, er enghraifft, yn darparu trafnidiaeth dros drothwy o ddwy filltir. Er ei bod yn bosibl ei wneud, mae'n amlwg fod angen cyllid i'w wneud. Mae'r bil blynyddol am drafnidiaeth i'r ysgol yn £100 miliwn; mae'n un o'r eitemau mwyaf o wariant gan awdurdodau lleol ar wahân i wasanaethau cymdeithasol, ac nid yw'r cyllid wedi bod yno. Ac o ystyried y toriadau a wynebwn, bydd yn anos byth cynnal y gwasanaethau y maent yn eu darparu eisoes. Rwy'n credu bod hwnnw'n rhywbeth y mae angen inni ei ystyried yn ofalus: mae realiti toriadau gwariant o tua 15 y cant yn golygu efallai na fydd y gwasanaethau sylfaenol yr ydym wedi dod i'w cymryd yn ganiataol yn gynaliadwy. Rydym wedi cynnal adolygiad, fel y soniodd Luke Fletcher, i'r Mesur teithio gan ddysgwyr. Rydym wedi cwblhau'r rhan gyntaf ohono, ac rydym bellach yn yr ail ran, a byddwn yn ymgynghori â rhanddeiliaid i edrych ar fanylion y trefniadau cymhleth iawn y gallai fod angen eu newid ac y bydd angen deddfwriaeth ar eu cyfer. Rwyf hefyd yn eithaf awyddus i gysylltu hyn â'r system fysiau ehangach. Felly, yn hytrach na rhoi £100 miliwn tuag at drafnidiaeth ysgol a swm o arian ar wahân wedyn i wasanaethau bws nad ydynt yn bodoli o bosibl, mae angen inni ddod â'r ddau beth ynghyd. Yr wythnos diwethaf, cefais sgwrs gyffrous iawn gyda'r weinyddiaeth newydd yn sir Fynwy sy'n ceisio gweld a allant edrych ar draws y gwasanaethau a dod â'r rheini at ei gilydd. Nid yw'n syml; mae yna bethau y mae angen gweithio drwyddynt, ond rwy'n credu ei fod yn ddull llawer mwy strategol o weithredu. Felly, fel y soniais wrth Hefin David yn gynharach, wrth inni edrych ar ddwysedd y rhwydweithiau bysiau y byddwn eu hangen, mae angen inni gynnwys trafnidiaeth ysgol yn ogystal â thrafnidiaeth gyhoeddus ehangach gyda'i gilydd. Y peth arall y byddwn yn ei ddweud yw ein bod ni hefyd eisiau sicrhau bod teithio llesol yn fwy o opsiwn i fwy o bobl ifanc. Mae tair milltir, er enghraifft, yn daith y gallai'r rhan fwyaf o bobl ei seiclo mewn tua 20 munud, os oes cyfleusterau addas a diogel, a'r hyn yr ydym ei eisiau drwy Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yw i awdurdodau lleol roi'r cyfleusterau hynny ar waith, felly nid canolbwyntio ar lwybrau hamdden, ond canolbwyntio ar sut y mae cael pobl o lle maent yn byw i lle maent yn mynd i'r ysgol. Felly, i nifer o ddisgyblion, gallai hwnnw fod yn opsiwn ymarferol—nid i bawb, ond i fwy nag ar hyn o bryd. Yn ddiweddar, gyda Sarah Murphy, cyfarfûmâ'r aelod cabinet o Ben-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd Jon-Paul Blundell, a'r Cynghorydd John Spanswick i ystyried yr eitem hon a'r pwysau sy'n wynebu Pen-y-bont ar Ogwr yn enwedig, a'r gwaith sy'n digwydd i geisio gweld beth y gellir ei wneud. Ond rwy'n ofni y gallai'r holl waith da a wnawn a'r holl ddyheadau sydd gennym gael eu golchi ymaith gan y cyni sydd ar fin ein taro. Diolch i'r Dirprwy Weinidog a'r Gweinidog. 2. Cwestiynau i Weinidog yr Economi Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i Weinidog yr Economi. Y cwestiwn cyntaf heddiw gan Natasha Asghar. Parthau Buddsoddi Trethi Isel Natasha Asghar AS: 1. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â'r manteision posib o greu parthau buddsoddi trethi isel yng Nghymru? OQ58563 Vaughan Gething AC: Rydym mewn trafodaethau cychwynnol gyda Gweinidog presennol Llywodraeth y DU i ddeall cynigion y parthau buddsoddi a'r goblygiadau posibl i Gymru mewn mwy o fanylder. Byddai angen i unrhyw fenter i Gymru gyd-fynd â'n polisïau ar waith teg a'r amgylchedd, er enghraifft, yn ogystal â chynhyrchu twf gwirioneddol ychwanegol, yn hytrach na dim ond symud gweithgarwch busnes. Natasha Asghar AS: Diolch. Fe gyfarfûm â Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru yn ddiweddar i drafod y problemau sy'n wynebu cwmnïau sy'n ceisio tyfu a ffynnu yn yr hinsawdd economaidd anodd sydd ohoni. Yn erbyn cefndir o ansicrwydd, roedd yn amlwg fod rhaid i Lywodraeth Cymru flaenoriaethu camau i leddfu pwysau costau ar fentrau bach a chanolig. Yn y cyd-destun hwnnw, mynegwyd siom ynghylch yr amheuaeth a fynegwyd gan Weinidogion Cymru ynghylch polisi parthau buddsoddi Llywodraeth y DU, a luniwyd i sbarduno twf economaidd drwy amrywiaeth o gamau i symleiddio cynllunio, treth, rheoleiddio a hyblygrwydd arloesol. Mae'r rhain yn cynnwys rhyddhad o 100 y cant rhag ardrethi busnes i safleoedd busnes newydd. Weinidog, o ystyried bwriad Llywodraeth y DU i sefydlu parthau buddsoddi, a wnewch chi ymrwymo i ymgysylltu'n adeiladol â San Steffan i sicrhau na chaiff Cymru ei gadael ar ôl fel y gall busnesau Cymru fanteisio ar y potensial am fwy o weithgarwch economaidd a chreu'r swyddi sgiliau uchel yr ydym i gyd eisiau eu gweld? Diolch. Vaughan Gething AC: Wel, rydych yn iawn, mae'n gyfnod anodd i deuluoedd ac i fusnesau sy'n ei chael hi'n anodd goroesi, gyda'r ansicrwydd a'r darlun ansefydlog ar lefel y DU. Mae'n cael effaith wirioneddol ar bob un ohonom. Mae cost cyllid busnes wedi cynyddu, yn ogystal â chostau unigol i berchnogion cartrefi hefyd. Wrth gwrs, rwyf wedi sylwi bod chwyddiant ychydig dros 10 y cant yn y ffigurau diweddaraf heddiw. Nid wyf yn credu bod ceisio awgrymu bod Llywodraeth Cymru yn chwarae rôl adeiladol a llawn diddordeb yn y cynnig parth buddsoddi a wnaed yn arwain at ddiflastod ac mai dyma'r gwir achos dros ofn ac ansicrwydd ynglŷn â dyfodol busnesau yn adlewyrchu realiti ein sefyllfa. Yn fy ymgysylltiad uniongyrchol â'r Ffederasiwn Busnesau Bach, nid ydynt erioed wedi mynegi unrhyw beth sy'n debyg i siom ynghylch y dull o weithredu rwy'n ei fabwysiadu yn fy ymgysylltiad â Gweinidogion y DU. Mae angen i mi ddeall yn iawn beth yw'r cynigion, beth y mae'r cynigion yn ei olygu i Gymru, beth y maent yn ei olygu i drethu datganoledig, a beth y maent yn ei olygu i realiti refeniw y Llywodraeth hon, gan gofio ein bod yn disgwyl wynebu tynhau, gostyngiad toriad yn ein cyllideb pan fydd y gyllideb Calan Gaeaf yn cael ei chyhoeddi yn y pen draw. Ac unwaith eto mae angen inni ddeall hefyd beth fydd yn digwydd i barthau buddsoddi ger ein ffin. Cynigir parthau buddsoddi yn y de-orllewin ac yn wir mae cynnig i osod parth buddsoddi yng Ngorllewin Sir Gaer a Wirral, a bydd y pethau hyn o bwys i ni. Mae angen imi ddeall y polisïau, mae angen imi ddeall beth y mae'n ei olygu mewn gwirionedd, ac yn ddelfrydol, hoffwn gael sgwrs sy'n edrych yn debycach o lawer i ddiwedd ein trafodaeth ar borthladdoedd rhydd, yn hytrach na'r gweiddi megaffon a gafwyd yn y flwyddyn a mwy cyn y cytundeb hwnnw. Prosiectau Treftadaeth Ffydd Darren Millar AC: 2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i hyrwyddo prosiectau treftadaeth ffydd yng Ngogledd Cymru? OQ58575 Vaughan Gething AC: Mae gan ein treftadaeth grefyddol le pwysig ynghanol ein cymunedau. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid a chefnogaeth i brosiectau treftadaeth ffydd mewn amryw o ffyrdd. Rydym yn mynd ati i gynorthwyo adeiladau a sefydliadau yn y sector hwn i warchod a hyrwyddo'r agwedd hon ar ein hanes cyffredin. Darren Millar AC: Diolch am yr ymateb hwnnw, Weinidog, ac rwy'n ddiolchgar am y gefnogaeth a roddodd Llywodraeth Cymru i nifer o brosiectau ar draws gogledd Cymru ac yn wir mewn rhannau eraill o'r wlad. Mae un prosiect sydd ar y gweill yng ngogledd Cymru ar hyn o bryd yn cael ei drefnu gan Nathan Abrams a'i dîm o Brifysgol Bangor, sydd wedi bod yn ymchwilio i hanes cymunedau Iddewig yng ngogledd Cymru. Maent eisoes wedi gwneud gwaith ymchwil i hanes Iddewig ardaloedd Ynys Môn, Gwynedd a Llandudno, ac maent bellach yn symud i ogledd-ddwyrain Cymru i barhau â'u gwaith ymchwil. Mae hyn yn bwysig iawn, yn amlwg, nid yn unig i'r gymuned Iddewig, ond i bobl eraill yng ngogledd Cymru sydd â diddordeb dwfn ac angerddol yn ein naratif ffydd fel gwlad. Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru'n ei rhoi i brosiectau ymchwil o'r fath? Ac os nad oes llawer o fuddsoddiad yn mynd tuag at ymchwilio i hanes o'r fath, a gaf fi annog Llywodraeth Cymru i edrych yn iawn ar sut y gallai hwyluso'r mathau hyn o bethau yn y dyfodol? Vaughan Gething AC: Wel, yn sicr fe edrychaf ar y mater gyda'r Dirprwy Weinidog, sydd fel arfer yn arwain yn y maes hwn. Wrth gwrs, mae hi'n ymwybodol iawn o'r dreftadaeth Iddewig, o ystyried y gwaith a wnaed yn ei hetholaeth ei hun. Ac mae gennyf ddiddordeb arbennig yn nhreftadaeth Iddewig dinas Caerdydd, y cynrychiolaf ran dda ohoni, a hefyd yn y realiti ei bod yn dal i chwarae rhan bwysig ym mywydau llawer o bobl, nid yn unig adeg gŵyl. Felly, rwy'n cydnabod bod hanes cymunedau ffydd yn rhan o hanes cymdeithasol a'r hyn y mae'n ei olygu ar gyfer y dyfodol. Felly, rwy'n fwy na pharod i ymrwymo i gael trafodaeth gyda'r Dirprwy Weinidog i ddeall mwy am y prosiect a'r hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i'w gefnogi yn gyffredinol. Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau Cwestiynau'r llefarwyr nawr. Llefarydd y Ceidwadwyr, Tom Giffard. Tom Giffard AS: Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Dyma fy nghyfle olaf i'ch holi cyn i Gymru ddechrau ar eu hymgyrch hanesyddol gyntaf yng nghwpan y byd mewn 64 mlynedd. Roeddwn eisiau tynnu sylw at yr hyn a ddywedodd Nasser Al Khater, prif weithredwr Qatar 2022, mewn cyfweliad â'r cyfryngau yn ddiweddar. Awgrymodd y dylai Llywodraethau ganolbwyntio ar y pêl-droed a'i gadael ar hynny. Rydym i gyd yn ymwybodol fod gan Qatar, ar y gorau, hanes bratiog o ran hawliau dynol a'r ffordd y mae'n trin y gymuned LHDT. Ac mae gennym ddyletswydd, rwy'n credu, i dynnu sylw at y materion hyn i'r cefnogwyr sy'n teithio i Qatar a sicrhau nad ydynt yn dioddef rhagfarn am fod yn hwy eu hunain. Maent hyd yn oed wedi awgrymu na ddylai capten Cymru, Gareth Bale, wisgo band braich enfys OneLove. Gwn eich bod chi, y Prif Weinidog a Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon i gyd yn bwriadu mynd i Qatar i wylio gemau grŵp Cymru, felly roeddwn am roi cyfle i chi ymateb i'r sylwadau hynny gan brif weithredwr cwpan y byd Qatar 2022 cyn ichi fynd. Ac a gaf fi ofyn i chi hefyd, a fyddwch yn codi'r materion ynglŷn â hawliau LHDT a hawliau dynol yn fwy cyffredinol tra byddwch chi yno? Vaughan Gething AC: Rwyf am ddechrau drwy gydnabod fy mod, wrth gwrs, yn edrych ymlaen at weld tîm y dynion yn cymryd rhan yn rowndiau terfynol cwpan pêl-droed y byd. Serch hynny, rwyf am ddechrau drwy gydnabod cyflawniad tîm y menywod. Er nad ydynt wedi cyrraedd y rowndiau terfynol, mae'r cynnydd sylweddol y maent wedi'i wneud wedi gwneud pawb ar draws y Siambr hon a'r tu allan iddi yn hynod o falch a dylai fod gobaith gwirioneddol ar gyfer y dyfodol. Ac rwy'n sicr yn gobeithio y bydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn parhau i fuddsoddi yng ngêm y menywod ar bob lefel, fel bod mwy o Jess Fishlocks yn chwarae yn ein tîm cenedlaethol yn y dyfodol, ac rwy'n meddwl ei fod yn beth da i bob un ohonom weld ein tîm menywod yn bod yn gystadleuol. Ar y cwpan y byd i ddynion, rwyf eisoes wedi tynnu sylw at y materion yr ydych wedi'u codi yn fy ymweliad blaenorol â Qatar. Roedd yn rhan o'r ymgysylltiad â Llysgenhadaeth Prydain a'r trefnwyr. Rwy'n gwybod bod yna adegau pan fo pobl yn dweud, 'Dylech gadw gwleidyddiaeth a chwaraeon ar wahân', ac mae rheswm da pam nad yw gwleidyddion yn y Siambr hon yn cael penderfynu ar faterion ynglŷn â rheoli chwaraeon, sydd, yn eithaf priodol, yng nghylch gwaith y cyrff llywodraethu hynny, ond mae'n gwbl briodol inni gael sgyrsiau gyda chyrff llywodraethu a rhai rhyngwladol am ein disgwyliadau ar gyfer cefnogwyr a chwaraewyr. Mae'n gwbl briodol cydnabod y cyd-destun y mae gemau'n cael eu chwarae ynddo. Felly, ydw, rwyf eisoes wedi codi'r materion hynny'n uniongyrchol. Rwy'n gobeithio y bydd pobl yn mwynhau'r pêl-droed ymhell y tu hwnt i gymal y grwpiau—rwy'n sicr yn gobeithio hynny. Ond gallwch ddisgwyl inni gael sgyrsiau adeiladol, fel y nodais yn fy natganiad blaenorol yn y lle hwn, ynglŷn â bod yn falch o'r Gymru sydd gennym heddiw a'r gwerthoedd sydd gennym, ac ymgysylltu â gweddill y byd ar y sail honno. A gobeithio y bydd chwa o synnwyr cyffredin o safbwynt FIFA yn yr ystyr na fyddant yn ceisio atal capteiniaid timau rhag gwisgo rhwymynnau braich enfys neu rai eraill. Rwy'n meddwl ei fod yn arwydd o ble yr ydym fod ein capteiniaid pêl-droed o bob rhan o'r ynysoedd hyn yn meddwl bod hynny'n beth cadarnhaol iddynt ei wneud ar gyfer y gêm a thu hwnt. Tom Giffard AS: Diolch, Weinidog. Rwy'n ddiolchgar ichi am wneud hynny'n glir ac rwy'n credu bod y Senedd yn sefyll fel un wrth ymbellhau oddi wrth y sylwadau hynny hefyd. Fel y dywedwch, mae chwaraeon a gwleidyddiaeth yn cydblethu ac mae'n bwysig iawn ein bod yn gwneud hynny'n glir iawn i'r cefnogwyr o Gymru a fydd yn teithio i Qatar hefyd. Dyma fy nghyfle cyntaf hefyd i'ch holi fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am dwristiaeth ers ichi ymgymryd â'r rôl 18 mis yn ôl. Ers hynny, mae'r Gweinidog cyllid wedi gwneud pedwar datganiad yma yn y Senedd ar dwristiaeth; nid ydych chi wedi gwneud unrhyw ddatganiad. Pam? Vaughan Gething AC: Wel, mewn gwirionedd, rydych wedi cael cyfleoedd i ofyn cwestiynau ar dwristiaeth, ac fe wnaethoch eu cyfeirio at y Dirprwy Weinidog. Rwy'n falch eich bod wedi ailddarganfod y ddalen cyfrifoldebau gweinidogol. [Chwerthin.] Edrychwch, ar ddatganiadau a gwaith, mae'r datganiadau a wnawn yn y Siambr yn ymwneud â gwaith wrth inni ei ddatblygu ac rwy'n gweithio'n agos gyda'r Gweinidog cyllid ar rai o'r mesurau yr ydym yn edrych arnynt yn ymwneud â'n sector twristiaeth, yn arbennig ar gyflawni ein hymrwymiad maniffesto ynghylch ardoll ymwelwyr. Rwy'n ymgysylltu'n rheolaidd â'r sector ac mae'n sector pwysig i mi. Yn wir, ddoe, roeddwn yng nghyfarfod bwrdd twristiaeth Prydain yng Nghymru yn y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol, yn gwneud pwyntiau i VisitBritain ei bod yn bwysig eu bod, yn eu gwaith, yn hyrwyddo pob rhan o'r arlwy i dwristiaid sydd gennym o fewn y Deyrnas Unedig. Mae'r uno rhwng VisitBritain a VisitEngland yn rhywbeth rwy'n dal i feddwl sy'n heriol ac nad yw o reidrwydd yn rhoi'r holl negeseuon cywir. Ond mae gennym arlwy unigryw o fewn Cymru—y diwylliant, y dreftadaeth ieithyddol, ein hanes ein hunain, lle rydym arni heddiw gyda dinasoedd llai i ymweld â hwy na rhai rhannau o Loegr, er enghraifft. Mae llawer iawn gennym i'w gynnig a llawer o bethau yr ydym yn eu trafod, a hynny gyda'r cyrff cenedlaethol strategol hynny ynghylch sut y maent yn cyflwyno Prydain i weddill y byd yn ogystal ag o fewn Prydain, ac yn wir, yn uniongyrchol gyda'r sector ei hun yma, ac rwy'n cydnabod ei fod yn un o'r cyflogwyr sector preifat mwyaf yn yr economi. Tom Giffard AS: Mae arnaf ofn fod rhaid imi anghytuno â chi, Weinidog. Mae'r ffaith mai chi yw'r Gweinidog sy'n gyfrifol am dwristiaeth, ond nad ydych wedi bod ag unrhyw beth rhagweithiol i'w ddweud am y pwnc mewn gwirionedd, tra bod y Gweinidog cyllid wedi bod yn cyflwyno trethi twristiaeth a newidiadau i eiddo gwyliau hunanddarpar, yn dweud wrthym mai Llywodraeth yw hon nad yw'n gweld twristiaeth fel rhywbeth i'w hyrwyddo neu ei gwella—yn hytrach, eich bod yn ei gweld fel rhywbeth i'w drethu. A bod yn onest, rwy'n credu bod hon yn Lywodraeth Lafur Cymru sy'n brin o syniadau ynglŷn â thwristiaeth yng Nghymru. Felly, Weinidog, beth am ymrwymo i syniad gan y Ceidwadwyr Cymreig yn lle hynny? Os yw Llywodraeth Cymru yn mynd i weithredu treth dwristiaeth—[Torri ar draws.] Ni allaf glywed y sawl sy'n holi. A gawn ni glywed Tom Giffard mewn ychydig o dawelwch, os gwelwch yn dda? Mae angen inni glywed beth sydd ganddo i'w ddweud. Tom Giffard AS: Diolch, Lywydd. Os yw Llywodraeth Cymru yn mynd i weithredu treth dwristiaeth—ac rwy'n gobeithio'n fawr na wnewch chi—yr hyn y galwn amdano yw i Lywodraeth Cymru eithrio'r rhai sydd ag anableddau a phersonély lluoedd arfog o leiaf rhag talu tâl twristiaeth. A yw hyn yn rhywbeth y gwnewch chi ymrwymo iddo heddiw? Vaughan Gething AC: Rwy'n meddwl bod un neu ddau o bethau y byddwn yn eu dweud mewn ymateb i'r Aelod. Mae ystod o'r datganiadau a wneuthum ar yr economi yn sicr wedi cael effaith uniongyrchol ar rai o'r dewisiadau y bwriadwn eu gwneud ar hyrwyddo'r economi ymwelwyr, sy'n sector cyflogaeth sylweddol ac yn sector sydd dan bwysau gwirioneddol. Mae lleihad pellach yng ngwariant dewisol pobl, fel sy'n debygol o ddigwydd oherwydd y materion a gafodd lawer o sylw yn dilyn y gyllideb fach lai na phedair wythnos yn ôl, yn cael effaith wirioneddol ar y sector hwn yn enwedig. A phan gynheliais yr uwchgynhadledd economaidd ddiweddar, yn sicr fe wnaethom siarad am yr economi ymwelwyr a rhai o'r heriau sy'n ei wynebu. Rwy'n credu ei bod hefyd yn werth nodi y gallai ymddangos fel rhywbeth newydd i wleidyddion Ceidwadol, ond mewn gwirionedd, fe wnaethom sefyll ar faniffesto yr ydym yn bwriadu ei weithredu. Rydym wedi cyhoeddi rhaglen lywodraethu ac rydym wedi trafod ychwanegiadau ati gyda'n partneriaid cytundeb cydweithio, ac nid wyf yn mynd i ymddiheuro am fod yn Llywodraeth gref a sefydlog sy'n gweithredu er budd y genedl, yn hytrach na'r gynghrair anrhefn a welwn yn San Steffan. Rydym yn mynd i gyflawni'r addewidion a wnaethom. Yr her fawr wrth gyflawni ein haddewidion yw'r newid sylweddol yn y darlun economaidd a'r gwariant i gynorthwyo gwasanaethau cyhoeddus a'r economi. Ac ar eich pwynt olaf, am aelodau'r lluoedd arfog neu bobl anabl, rwy'n credu bod angen ichi ystyried nad oes angen cyfraddau arbennig a thriniaeth arbennig ar bob un o'r bobl hynny. Rwy'n credu bod—. Rhoddaf enghraifft i chi. Fe ymwelais â llety twristaidd y gwnaethom helpu'r perchnogion i'w wella, ac fe wnaethant ddweud mai'r ystafelloedd yr oeddent yn cael yr archebion mwyaf cyson a phrysur ar eu cyfer—ac mae hwn yn gynnig pum seren—oedd yr ystafelloedd â mynediad ar gyfer pobl anabl. A hynny oherwydd bod y farchnad wedi crebachu, o ran nifer yr ystafelloedd sy'n hygyrch—. A phan ymwelais â chynnig pedair seren yn Abertawe, roeddent hwythau hefyd yn dweud eu bod wedi cael llawer o ddiddordeb yn eu hystafelloedd hygyrch. Felly, mewn gwirionedd, mae her yno ynghylch cael digon o fynediad at y sector, nid ynghylch dweud bod y bobl hynny angen help gyda'r costau. Maent eisiau gallu mynd i fwynhau eu hunain fel ymwelwyr, a chael y gallu i fynd i gyfleusterau o ansawdd da i wneud hynny. Ac mewn gwirionedd, ein her yw cael cynnig sy'n ddigon amrywiol ac sy'n gynaliadwy i bawb allu cael cyfle i fwynhau'r hyn sydd gan Gymru i'w gynnig ledled y wlad. Byddwn yn parhau i fwrw ymlaen ag ymgynghoriad ar gyflawni ein haddewidion maniffesto, a gwneud hynny mewn ffordd sy'n cydbwyso buddiannau'r economi ymwelwyr, ac yn wir, y cymunedau sy'n cynnal rhannau sylweddol o'n heconomi ymwelwyr, mewn lleoliadau gwledig, arfordirol, a dinasoedd a threfi. Llefarydd Plaid Cymru, Luke Fletcher. Luke Fletcher AS: Diolch, Lywydd. Ddoe, codais yr argyfwng sy'n wynebu'r diwydiannau ynni-ddwys gyda'r Prif Weinidog. Gofynnais a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno cymorth pellach, yn benodol ynghylch helpu i leihau biliau ynni, drwy gynorthwyo busnesau fel bragdai i gynhyrchu eu hynni gwyrdd eu hunain, yn ogystal ag edrych ar optimeiddio foltedd. Rwy'n rhoi'r un cwestiwn i chi, Weinidog, gan nad oedd yn glir ddoe o ateb y Prif Weinidog. Y gwir amdani yw nad yw'r gefnogaeth bresennol yn ddigon, ac mae'r rhan fwyaf o fusnesau ynni-ddwys, yn enwedig bragdai, wedi gwario llawer, os nad y cyfan, o'u harian wrth gefn ar oroesi COVID, ac erbyn hyn maent mewn sefyllfa lle mae llawer ohonynt yn rhagweld na fyddant yn para y tu hwnt i'r gaeaf. Vaughan Gething AC: Yn ddiddorol, mae hwn yn faes lle rwyf eisoes wedi bod yn ystyried yr hyn y gallem ei wneud ers rhai wythnosau, felly nid yw'n cael ei arwain gan y cwestiwn, ond mae'n rhywbeth yr ydym wrthi'n edrych arno—ynglŷn â sut y gallwn helpu pobl i ddatgarboneiddio o bosibl, yn ogystal â'r potensial i gynhyrchu ynni nad yw'n ddarostyngedig i'r amrywiadau a'r cynnydd mewn prisiau ynni a welsom. Mewn gwirionedd, roedd yn rhan o'r sgwrs a gefais yn y cyfarfod grŵp trawsbleidiol diweddar ar gwrw a'r dafarn—ac rwy'n gweld bod y Cadeirydd gyda ni; da eich gweld chi, Mr Sargeant. Ac wrth drafod gyda bragwyr a oedd yno, mae'n un o'u pryderon gwirioneddol. Bragwyr, pobyddion, gwneuthurwyr gwydr—mae yna amrywiaeth eang o ddiwydiannau ynni-ddwys y tu allan i'r prif feysydd mawr, megis y sector dur er enghraifft, ac rydym yn wirioneddol awyddus i'w hanghenion gael eu cydnabod yng nghynllun Llywodraeth y DU, nid yn unig y chwe mis o rywfaint o gymorth sydd ar gael, ond wrth lunio cynllun i'r dyfodol sy'n cydnabod eu hanghenion. Oherwydd rydych yn iawn, i lawer o'r bobl hynny, maent yn pryderu am oroesi cyfnod y Nadolig a chyrraedd diwedd y chwe mis o gymorth heb orfod gwneud dewisiadau cyn hynny a allai ddod â'u busnes i ben. Felly, rwy'n cydnabod y gwir risg sy'n bodoli yn y sector bragu a thu hwnt. Y trueni yw ei fod wedi bod yn sector gwirioneddol lwyddiannus i Gymru, gyda chynnydd mewn bragdai llai, ac yn wir, twf ehangach yn y diwydiant bwyd a diod. Efallai eich bod yn gwybod, ond nid drwy ei ymddygiad ei hun yn unig y mae Alun Davies yn cefnogi'r sector. Pan oedd yn Weinidog â chyfrifoldeb am fwyd a diod, gosododd dargedau heriol ar y pryd ar gyfer twf yn y sector. Ar y pryd, roedd rhai pobl yn ei wawdio am osod y targedau hynny, gan ddweud na fyddent byth yn cael eu cyflawni. Mewn gwirionedd, rydym wedi rhagori ar y targedau hynny. Luke Fletcher AS: Diolch, Weinidog. Wrth gwrs, rydych yn iawn i ddweud bod llwyddiant mawr wedi bod yn y sector bragdai yng Nghymru, yn enwedig y rhai bach annibynnol. Rydym mewn perygl ar hyn o bryd o golli'r holl gynnydd mawr yna mewn cyfnod byr iawn. Felly, er ei bod yn dda clywed eich bod yn mynd ati i ystyried cymorth, byddwn yn gobeithio y byddai'r Llywodraeth yn cyflwyno datganiad cyn gynted â phosibl, oherwydd, fel y dywedais, mae'r gaeaf bob amser wedi bod yn anodd i letygarwch, ond yn enwedig yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Dyma lle maent yn gwneud eu harian er mwyn gallu goroesi misoedd Ionawr a Chwefror, ond mae'n edrych yn debyg y bydd hynny'n amhosibl y Nadolig hwn. Felly, rwy'n gobeithio y bydd cymorth yn dod cyn gynted â phosibl. Rydym wedi siarad am sectorau ynni-ddwys eraill hefyd. Roeddech yn sôn am ddur. Hoffwn gyfeirio at ddur yn arbennig fel diwydiant ynni-ddwys arall. Rwy'n siŵr fod y Gweinidog wedi darllen adroddiad UK Steel ar ddyfodol dur yn y DU. Ceir rhai ffigyrau syfrdanol ynddo. Mae gwneuthurwyr dur y DU yn talu 30 y cant yn fwy am drydan na'u cymheiriaid cyfatebol yn yr Almaen, a hyd at 70 y cant yn fwy na'u cymheiriaid yn Ffrainc. Y flaenoriaeth gyntaf sy'n cael ei hamlinellu yn yr adroddiad yw prisiau ynni cystadleuol. Bydd cyflawni hyn yn allweddol i hirhoedledd y sector, yn enwedig, fel y mae'r Financial Times yn adrodd, yn achos Tata Steel, sy'n ystyried symud i ffwrneisi arc trydan. Er tegwch i Lywodraeth Cymru, mae angen i lefel a graddfa'r buddsoddiad ddod gan Lywodraeth y DU. Ond yn anffodus, mae'r sioe sydd wedi digwydd yn San Steffan wedi gadael llawer o ansicrwydd yn y sector dur yng Nghymru. Daeth y Gweinidog i'r cyfarfod grŵp trawsbleidiol ar ddur yn ddiweddar a nododd y trafferthion yr oedd yn eu cael ar y pryd gyda Llywodraeth y DU, ond a yw'r Gweinidog wedi cael unrhyw ymgysylltiad diweddar â'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol o dan y gyfundrefn newydd hon ar ddur o Gymru, a pha sicrwydd y gall ei roi i'r sector heddiw? Vaughan Gething AC: Rwyf am ddychwelyd at y pwynt olaf a wnaethoch am letygarwch. Rwy'n ymwybodol iawn fod yr haf wedi bod yn rhesymol ond heb fod yn doreithiog. Felly, mewn gwirionedd, ar draws lletygarwch, mae yna heriau gwirioneddol wrth gyrraedd yr hydref a'r gaeaf. Mae'n gwneud y gyllideb Calan Gaeaf hyd yn oed yn bwysicach iddynt o ran beth fydd hynny'n ei wneud i'n gallu i gynorthwyo'r sector hwn, ond hefyd yr economi yn ehangach wrth symud ymlaen. Mae heriau o hyd ynghylch staffio, ond mae hyder defnyddwyr a gwariant dewisol yn fater real iawn sy'n effeithio'n uniongyrchol ar hyfywedd busnesau. Mae nifer o fusnesau lletygarwch yn gwneud cryn dipyn o'u helw yn y cyfnod sy'n arwain at y flwyddyn newydd, ond rwy'n ymwybodol iawn fod nifer o'r busnesau hynny'n ei chael hi'n anodd iawn yn y cyfnod sy'n arwain at hynny, ac mae nifer yn weithredol am lai o oriau o ganlyniad uniongyrchol i gyfuniad o'r holl ffactorau hynny. Ar ddur, cyfarfûm â Kwasi Kwarteng pan oedd yn Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, fel yr oedd bryd hynny, mewn cyngor dur a gynhaliwyd gennym yng Nghaerdydd. Bryd hynny, roeddem yn dadlau dros gael eglurder gan Lywodraeth y DU ynghylch buddsoddiad mewn perthynas â Tata, ac fe fyddwch wedi gweld eu bod wedi dangos eu safbwynt yn gyhoeddus, ond hefyd y mater tragwyddol ym mhob cyngor dur, sef costau ynni. Oherwydd ceir gwahaniaethu yng nghost ynni fel y caiff ei gyflenwi i sectorau yn yr Almaen a rhannau eraill o Ewrop hefyd. Mae hynny'n parhau i fod yn rhywbeth y gofynnwn amdano. Rwyf wedi gofyn am gyfarfod gyda Simon Clarke a chyda Jacob Rees-Mogg, sef yr Ysgrifennydd Gwladol newydd dros yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol. Mae hynny eto i ddigwydd. Yn y cyfarfod cychwynnol a gefais gyda Simon Clarke ynglŷn â pharthau buddsoddi—gofynnodd am gyfarfod—fel y dywedais mewn atebion cynharach, roeddem yn adeiladol ond yn glir yn ein hymateb. Fe ddywedais yn glir, ac yn y cwestiwn dilynol yn wir, fod dur yn un o'r meysydd blaenoriaeth lle rwy'n credu y gallem wneud rhywbeth o ddefnydd a gwerth go iawn a byddem yn awyddus i gael sgwrs bwrpasol ynglŷn â sut y gellir cefnogi'r sector. Mae cyfleoedd sylweddol yn y sector dur yng Nghymru a thu hwnt ar gyfer gweithgarwch economaidd, yn enwedig wrth inni edrych ar gyfleoedd yn y môr Celtaidd. Rwyf am i'r dur hwnnw gael ei wneud yn y DU a pheidio â chael ei fewnforio o rannau eraill o'r byd, i wneud yn siŵr ein bod yn cael y gorau o'r cyfleoedd sy'n bodoli. Byddwn yn parhau i ddadlau dros ymgysylltu adeiladol â Gweinidogion a dewisiadau cyllidebol gweithredol wedyn er mwyn ei gwneud yn bosibl gwireddu'r cyfleoedd hynny. Treftadaeth Hanesyddol Casnewydd Jayne Bryant AC: 3. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo a gwella treftadaeth hanesyddol Casnewydd? OQ58579 Vaughan Gething AC: Diolch. Mae Casnewydd yn ymfalchïo fod ganddi safleoedd treftadaeth o bwysigrwydd rhyngwladol, o gyfnod y Rhufeiniaid hyd at ein gorffennol diwydiannol diweddar. Bydd Llywodraeth Cymru'n parhau i hyrwyddo a gwella treftadaeth unigryw Casnewydd i'w thrigolion ac i ymwelwyr o bob cwr o'r byd. Jayne Bryant AC: Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Fel y dywedoch chi, o'r Siartwyr i Dŷ Tredegar, o'r bont gludo i'n llong ganoloesol, mae Casnewydd yn drysorfa o arwyddocâd hanesyddol. Un o'r tlysau yn ein coron yw pentref Caerllion a'r bensaernïaeth Rufeinig sy'n parhau i fod yno heddiw. Bydd llawer yma wedi ymweld â'r lle, ac os na, Weinidog, mae croeso mawr i chi ymuno â mi a'r Dirprwy Weinidog ar ymweliad. Mae'r amffitheatr bron yn 2,000 o flynyddoedd oed, ond mae'r safle hefyd yn cynnwys yr olion barics Rhufeinig gorau yn Ewrop, ynghyd â baddondy ac amddiffynfeydd. Mae hwn yn gynnig hanesyddol sylweddol sy'n llawer mwy nag olion Rhufeinig eraill yn y DU, gan gynnwys Caerfaddon. Mae mwy i'w ddarganfod o hyd, a gwn fod yr amgueddfa genedlaethol a Cadw yn awyddus i gydweithio gydag eraill, fel yr awdurdod lleol, i hyrwyddo Caerllion yn lleol a chenedlaethol. Ond beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i fanteisio'n llawn ar ein cynnig hanesyddol a sicrhau ei fod yn rhan o'n dyfodol yn ogystal â'n gorffennol? Vaughan Gething AC: Rwy'n cytuno'n llwyr, ac rwyf wedi bod yng Nghaerllion. Fe ymwelais â'r amffitheatr a'r barics gyda fy mab a fy mherthnasau-yng-nghyfraith a oedd yn ymweld o Iwerddon. Roeddent yn llawn edmygedd a byddent yn hapus i ddychwelyd ar ryw adeg yn y dyfodol. Rwy'n eithaf cyffrous am darganfyddiadau eraill ar y safle hwnnw yn ddiweddar, gan gynnwys yr hyn a edrychai fel olion porthladd yno hefyd. Felly, mae llawer mwy i'w wneud er mwyn datgelu hanes y safle hwnnw ac nid ei gadw i ddweud stori yn unig, ond beth a olyga ar gyfer ein dyfodol hefyd. Rwy'n bendant yn gweld treftadaeth a hanes fel rhan fawr o'r economi ymwelwyr, ac rydych yn iawn fod Cadw, cyngor Casnewydd, a'r amgueddfa genedlaethol eisoes yn trafod, ac rydym yn ceisio mynd o gwmpas hynny i wneud yn siŵr ein bod yn siarad nid yn unig am yr hyn yr ydym yn ei gadw, ond beth y mae'n ei olygu ar gyfer y dyfodol. Rwy'n meddwl ei fod yn rhan allweddol o gynnig Casnewydd a'r cyffiniau. Mae'r dreftadaeth adeiledig a threftadaeth barhaus yr ardal yn rhan o'r hyn sy'n gwneud Casnewydd yn lle deniadol i fod, ac rwy'n edrych ymlaen at ymuno â'r Aelod ar ymweliad yn y dyfodol. Laura Anne Jones AC: Weinidog, mae'n wych clywed Jayne Bryant yn sôn am y llong ganoloesol, ac yn wych hefyd clywed eich gwerthfawrogiad o'r darganfyddiadau hanesyddol yng Nghasnewydd. Darganfuwyd llong ganoloesol Casnewydd ar lannau afon Wysg ym mis Mehefin 2002, a dyma'r llong ganoloesol fwyaf sylweddol o ddiwedd y canol oesoedd a gloddiwyd ac a adferwyd ym Mhrydain. Byddai'r llong o'r bymthegfed ganrif sydd o bwys rhyngwladol yn disgwyl denu tua 150,000 o ymwelwyr i'w gweld unwaith y bydd hi'n cael ei harddangos yn iawn, gan roi hwb o tua £7 miliwn y flwyddyn i economi de Cymru a Chasnewydd. Mae gwirfoddolwyr ymgyrch Cyfeillion Llong Casnewydd yn gofyn i Lywodraeth Cymru a chyngor Casnewydd ymrwymo i gartref mwy canolog a pharhaol i'r llong, a'i ddarparu o'r diwedd—fel y cafodd ei gynnig gyntaf yng ngwaelod Theatr Casnewydd, fel y gwyddoch, Weinidog—ar ôl buddsoddi £9 miliwn o arian cyhoeddus hyd yma. Mae'n rhywbeth sydd wedi'i addo, ac yn ymrwymiad ym maniffesto Llafur, ac eto, dim ond £10,000 o arian cyfalaf sydd wedi'i glustnodi ers hynny. Mae'r safle presennol, yr ymwelais ag ef—ac mae'r gwirfoddolwyr yn gwneud gwaith gwych o'r hyn sydd ganddynt lle maent—bellach wedi bod yn gartref dros dro iddynt ers 20 mlynedd. A wnaiff y Gweinidog ymrwymo i weithio gyda chyngor Casnewydd i sicrhau ein bod yn manteisio'n llawn ar y darganfyddiad unigryw yma drwy sicrhau bod lleoliad canolog yn cael ei ganfod cyn gynted â phosibl, ac y bydd digon o arian yn cael ei neilltuo i sicrhau y gall Casnewydd, fy rhanbarth yn ne-ddwyrain Cymru, a Chymru, sicrhau cymaint o fanteision ariannol a hanesyddol â phosibl o gael arteffact hanesyddol o'r fath yng Nghasnewydd? Fel y dywedodd archaeolegydd— Na, na, na—nid fel y dywedodd yr archaeolegydd, ar ôl munud a 40 eiliad. Laura Anne Jones AC: Dim ond un frawddeg—un frawddeg. Cwestiwn. Laura Anne Jones AC: Rwyf wedi gofyn fy nghwestiwn. Ailadrodd y cwestiwn oedd hynny. O, os ydych wedi gofyn eich cwestiwn, fe ellir ei ateb. Fe gaiff ei ateb nawr. Iawn. Vaughan Gething AC: Ie. Byddwn yn parhau i weithio gyda Cyfeillion Llong Casnewydd a'r cyngor hefyd, gan eu bod wedi ymrwymo i geisio dod o hyd i gartref parhaol i'r llong, ac mae'n fenter sylweddol i warchod pob un o'r 2,000 o brennau'r llong. Yr her fydd dynodi cyllideb ar gyfer cartref parhaol ar adeg pan fo heriau gwirioneddol iawn i'n cyllideb bresennol, a bydd yn rhaid i bawb ohonom ailasesu'r hyn y gallwn ei gyflawni ar ôl i'r gyllideb Calan Gaeaf gael ei chyflwyno. Ond mae'r ymrwymiad i ddod o hyd i gartref parhaol i long Casnewydd yn parhau ac rwy'n cydnabod y potensial sylweddol sydd ganddi ar gyfer ymwelwyr, yn ogystal â dysgu am ein gorffennol cyffredin. Strategaeth Arloesi Sioned Williams MS: 4. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ynghylch y strategaeth arloesi i Gymru? OQ58571 Vaughan Gething AC: Ie. Daeth yr ymgynghoriad i ben ddiwedd mis Medi eleni, gyda dros 150 o gyflwyniadau ysgrifenedig yn dod i law. Mae dadansoddiad o ymatebion i'r ymgynghoriad ar y gweill yn awr a byddwn yn parhau i weithio gydag Aelodau dynodedig Plaid Cymru, yn unol ag ymrwymiad y cytundeb cydweithio, i ddatblygu strategaeth arloesi newydd ar y cyd. Sioned Williams MS: Diolch, Weinidog. Mae prifysgolion Cymru, wrth gwrs, yn hanfodol i'r economi, gan gynhyrchu dros £5 biliwn a bron i 50,000 o swyddi. Hoffwn dynnu sylw at rai pryderon a godwyd ynglŷn â'r strategaeth ddrafft. Yn y cyfarfod grŵp trawsbleidiol STEM fis diwethaf, awgrymwyd nad yw Llywodraeth Cymru'n bwriadu clustnodi unrhyw arian newydd ar gyfer y strategaeth, gydag argymhellion adolygiad Reid wedi'u diystyru ac nad yw gwyddoniaeth yn cael ei hystyried yn flaenoriaeth. Mae'r Sefydliad Ffiseg yn nodi bod y strategaeth ddrafft yn cydnabod yr angen yn awr i Gymru ennill mwy o gyllid Ymchwil ac Arloesi'r DU, UKRI, i wneud iawn am golli cronfeydd strwythurol, ond nid yw'n cynnwys mesurau ymarferol i helpu ymgeiswyr o Gymru i ennill mwy o arian, gyda'u glasbrint ymchwil a datblygu yn nodi nad yw cyllid sy'n gysylltiedig ag ansawdd wedi dal i fyny â chwyddiant ers degawd. Mae Sefydliad Prydeinig y Galon yn cyfeirio at y diffyg presennol o £18 miliwn ar gyfer cyllid ymchwil a datblygu yn ein prifysgolion, sy'n cyfyngu'n sylweddol ar eu gallu i wneud cais am ffrydiau ariannu ar gyfer y DU, gan lesteirio gallu Cymru i ganiatáu i ymchwil sbarduno economi ffyniannus. Ac yn ôl Prifysgol Caerdydd, ceir diffyg blaenoriaethau penodol ac ymrwymiadau ariannol hanfodol yn y drafft presennol. Weinidog, a ydych yn cytuno y dylai strategaeth arloesi Llywodraeth Cymru sicrhau bod Cymru'n gallu cael adnoddau ychwanegol er budd arloesi yng Nghymru, megis cyllid UKRI a chyllid elusennol ar gyfer ymchwil feddygol? A sut y bydd hyn yn digwydd heb gynnydd i gyllid ymchwil cysylltiedig ag ansawdd? Diolch. Vaughan Gething AC: Diolch. Felly, mae cynnydd wedi bod yn y cyllid i ymchwil cysylltiedig ag ansawdd, a ddarparodd y Gweinidog addysg i sefydliadau addysg uwch. Rydych yn iawn fod gennym her wirioneddol gyda chael gwared ar gronfeydd strwythurol a dynodi cyllid yn ei le. Mae'n gwbl hanfodol i Gymru fod yn llawer mwy llwyddiannus wrth ennill arian UKRI. Mae hwnnw'n achos sy'n cael ei wneud yn uniongyrchol ac wedi cael ei wneud fwy nag unwaith. Rhan o fy rhwystredigaeth yw fy mod yn teimlo bod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud gyda'r Gweinidog gwyddoniaeth blaenorol nad yw bellach yn y swydd; rwyf eto i gyfarfod â'r Gweinidog gwyddoniaeth presennol, ond rwy'n edrych ymlaen at wneud hynny. Nid pwynt am degwch daearyddol yn unig yw hwn. Mae tegwch daearyddol yn her fawr y tu allan i dde-ddwyrain Lloegr mewn gwirionedd. Felly, pe baech yn cael y sgwrs hon yng ngogledd Lloegr, byddai gennych yr un broblem, sef nad yw ansawdd yr ymchwil yn cael ei gydnabod yn y ffordd y caiff cyllid ei ddarparu. Mae hefyd yn ymwneud â nid yn unig bod cyllidwyr yn cydnabod yr ansawdd sy'n bodoli, ond hefyd ein bod ni, nid yn unig yn cyflwyno ceisiadau, ond yn cyflwyno ceisiadau da. Mae her reolaidd o fod angen pasio'r prawf ac nad yw'r prawf o reidrwydd yn adlewyrchu ansawdd y gwaith. Mae angen inni fod yn well o ran ansawdd y gwaith, am hyrwyddo hynny, ac yna o ran gwneud yn siŵr ein bod yn llwyddo i sicrhau bod gennym geisiadau llwyddiannus. Mae peth gwaith y gall y Llywodraeth ei wneud ar hynny, ond mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â'r sector cyfan yn cefnogi hynny ac yn cydnabod bod rhaid iddynt roi peth adnoddau tuag at gael mwy allan o gronfeydd cyllid y DU, sydd wedi cael eu cynyddu mewn gwirionedd. Mae mwy o arian ar gael ar gyfer ymchwil ac arloesi, ac mae angen inni wneud rhywbeth ynglŷn ag ennill cyllid ychwanegol. Pan fydd y strategaeth yn cael ei chyhoeddi, rwy'n disgwyl y bydd wedi nodi safbwynt cliriach ynglŷn â sut yr ydym yn disgwyl ennill cyllid ychwanegol. Cynhaliwyd trafodaeth bwrdd crwn defnyddiol ac adeiladol gan Brifysgol Caerdydd gydag amrywiaeth o bobl ynglŷn â sut i osod y strategaeth arloesi newydd at ei gilydd. Roeddwn i ac arweinydd Plaid Cymru yn bresennol, ac rwy'n edrych ymlaen at gael crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ac at allu rhoi datganiad ar ddyfodol y dull strategol yma yng Nghymru. Altaf Hussain AS: Yn ôl eich dogfen ymgynghori, rhwng 2014 a 2020 roedd dros 450 o fuddsoddiadau corfforaethol yng Nghymru ar draws ystod eang o sectorau a busnesau, nifer ohonynt yn ymwneud â gweithgarwch ymchwil a datblygu. Fe wnaethant arwain at dros 21,200 o swyddi newydd, gyda 18,300 arall yn cael eu diogelu, gan gynrychioli buddsoddiad cyfalaf o £3.8 miliwn yng Nghymru. Beth y mae hyn yn ei ddweud wrthym am y potensial i gael buddsoddiad pellach o'r math hwn ar gyfer y dyfodol, a sut y mae sicrhau y gall y cymunedau sydd heb elwa hyd yma wneud hynny yn y dyfodol? Diolch. Vaughan Gething AC: Rydym yn ffyddiog yn ein huchelgeisiau o ran ein gallu i ddenu busnesau newydd i Gymru, yn ogystal â thyfu ac ehangu busnesau sydd eisoes wedi eu sefydlu yma. Enghraifft dda o hynny yw'r clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd. Yn ddiweddar, mynychais y seremoni arloesol gyda Jayne Bryant yn ei hetholaeth ar gyfer KLA Corporation—750 o swyddi newydd yn cael eu creu gyda chyflog cyfartalog disgwyliedig o £45,000. Mae hynny'n cynnwys gweithgynhyrchu ac ymchwil a datblygu hefyd. Mae gennyf ddiddordeb bob amser mewn cael gweithrediadau ymchwil a datblygu wedi'u lleoli yng Nghymru, nid yn unig y gweithrediadau nad ydynt yn ymchwil a datblygu yn benodol. Mae'n bendant yn ychwanegu gwerth, ac rydym yn chwilio am hynny ym mhob un o'r prosiectau y ceisiwn eu cefnogi, o fusnesau bach, i fentrau canolig a mwy o faint hefyd. Pyllau Nofio Ken Skates AC: 5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o faint o byllau nofio allai orfod cau'r gaeaf hwn o ganlyniad i brisiau ynni cynyddol a'r argyfwng costau byw? OQ58557 Vaughan Gething AC: Mae pyllau nofio cyhoeddus yn adnodd iechyd a hamdden pwysig, ac yn yr un modd, yn rhan bwysig o lesiant ein cenedl. Gwyddom fod nifer ohonynt yn wynebu heriau na welwyd eu tebyg o'r blaen. Nid oes gennym asesiad manwl o'r nifer a allai orfod cau. Byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa'n agos, a lle bo angen, os oes angen, yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i wneud popeth posibl i sicrhau eu bod yn parhau ar agor yn wyneb cynnydd sylweddol mewn costau ynni a gweithredu. Ken Skates AC: Diolch, Weinidog. Mae hynny'n gysur mawr i'w glywed. Rwy'n gwybod eich bod yn gyfarwydd â stori Canolfan Hamdden Plas Madoc yn fy etholaeth a'r gwaith anhygoel a wnaed gan wirfoddolwyr i'w gadw'n agored doed a ddelo. Ond maent yn wynebu rhwystrau enfawr y gaeaf hwn, yn rhannol o ganlyniad i Brexit, gyda chostau cemegol yn codi i'r entrychion a heriau cludiant, ond hefyd oherwydd cynnydd ym mhrisiau ynni ac maent yn amcangyfrif y gallai eu bil ynni fwy na dyblu. Weinidog, beth yn union y credwch y gallai Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ei wneud i gefnogi'r pyllau nofio cyhoeddus hanfodol sy'n gwneud cymaint o les i iechyd y cyhoedd? Vaughan Gething AC: Rydych yn iawn, mae gennym heriau mawr iawn. Rwy'n gwybod bod yr Aelod yn ei amser preifat, fel tad, yn mwynhau nofio, ac rwyf innau hefyd wedi manteisio ar y cyfle i fynd i dreulio amser gyda fy mab fy hun, ond rwy'n cydnabod bod y gweithgaredd hwnnw dan bwysau mawr oherwydd cost ynni, ac un o'r pethau nad yw'n cael ei drafod yn aml yw costau mewnforion cemegol fel problem go iawn i'r sector hwn a sectorau eraill hefyd. Fe wnaethom roi setliad hael i lywodraeth leol ddechrau y llynedd, gan gyhoeddi cynnydd o 9.4 y cant yn eu cyllidebau, ac eto rydym wedi gweld hynny'n cael ei oddiweddyd gan chwyddiant. Felly, nid oes gan awdurdodau lleol lawer iawn o arian i helpu'r mentrau hyn i barhau a llwyddo, ac rydym yn gwybod am y niwed a wneir os ydynt yn cau, ac rwy'n talu teyrnged arbennig i'r holl bobl o gwmpas Plas Madoc sydd wedi cadw'r lle hwnnw ar agor. Rydym yn edrych ymlaen at ddeall beth sy'n digwydd yng nghynllun Llywodraeth y DU ar gyfer defnyddwyr ynni annomestig, a deall hefyd sut y bydd defnyddwyr ynni-ddwys yn cael eu trin hefyd, oherwydd, rwy'n credu bod gan byllau nofio achos da dros gael eu trin fel mentrau ynni-ddwys. Felly, byddwn yn parhau i ddadlau'r achos ar lefel y DU yn ogystal â cheisio gweithio'n adeiladol gyda'n partneriaid llywodraeth leol, oherwydd yn sicr rwyf am weld pyllau nofio'n parhau i gael eu defnyddio gan bobl o bob oed. Peter Fox AS: Mae Ken Skates yn gwneud pwynt pwysig, ac yn wir, mae pyllau nofio sy'n cael eu rhedeg yn breifat, a phyllau nofio a chyfleusterau hamdden sy'n cael eu rhedeg gan awdurdodau lleol yn sicr, mewn sefyllfa anodd iawn. Maent mor hanfodol, onid ydynt, i lesiant ein cymunedau. Felly, er mwyn i'r cyfleusterau hyn ddod yn fwy cynaliadwy, mae angen inni geisio eu helpu i ddefnyddio ffynonellau ynni amgen a gwyrdd i helpu i leihau eu costau yn ogystal â'u helpu i gyflawni ein hymrwymiadau newid hinsawdd. Weinidog, roeddwn yn meddwl tybed sut yr ewch ati gyda'ch cyd-Aelodau i ystyried y gefnogaeth ehangach y gall y Llywodraeth ei chynnig i gyfleusterau hamdden y sector preifat allu symud tuag at fathau rhatach a gwyrddach o ynni. Ac fel Gweinidog yr Economi, pa ystyriaeth a roddwyd gennych i helpu busnesau i gael mynediad at fentrau fel y rhwydweithiau gwresogi ardal lleol? Vaughan Gething AC: Mae hynny'n mynd yn ôl at rai o'r pwyntiau a wneuthum mewn ymateb i gwestiynau cynharach am yr hyn yr ydym yn ei ystyried o ran cynyddu ein cefnogaeth i fusnesau i ddatgarboneiddio a hefyd i ddileu risg eu cyflenwad ynni eu hunain drwy gynhyrchu ynni—mae hynny'n cynnwys cynlluniau gwresogi ardal hefyd—ac edrych ar lle mae gennym fentrau economaidd gwahanol a sut y gellir defnyddio'r gwres a allai gael ei gynhyrchu i sicrhau effaith fuddiol. Felly, mae'n bwynt y credaf y bydd yr Aelod yn ei ddeall yn dda o'i gyfnod blaenorol fel arweinydd awdurdod lleol, wrth edrych ar y cyfleoedd ar gyfer cynlluniau gwresogi a phweru ardal, ac wrth edrych i weld faint o'r rheini y gallwn eu cyflwyno a lle maent. Ond mae yna her lawer ehangach ynghylch costau chwyddiant. Rhan o'n her hefyd, yn y ffordd y mae ein marchnad ynni wedi'i strwythuro ar hyn o bryd, yw ein bod wedi caniatáu i nwy wthio prisiau i fyny mewn ffordd sydd heb gysylltiad â realiti. Felly, mae gennym heriau mawr iawn i geisio eu goresgyn. Mae angen inni ddeall yn ystod y pythefnos nesaf beth yw'r dulliau ariannol sydd ar gael at ein defnydd, ac mae angen inni ddeall beth fydd y cynllun i ddefnyddwyr ynni annomestig. Maent i gyd yn gweithio law yn llaw, ond yn sicr, byddwn yn ceisio bod mor adeiladol â phosibl, a byddaf yn gwneud datganiad pellach yn yr wythnosau nesaf ynglŷn â rhywfaint o'r gefnogaeth honno. Y Diffyg yn y Gweithlu a'r Bwlch Sgiliau yng Ngogledd Cymru Carolyn Thomas AS: 6. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â'r diffyg yn y gweithlu a'r bwlch sgiliau yng Ngogledd Cymru? OQ58583 Vaughan Gething AC: Rwyf wedi nodi camau o fewn y cynllun cyflogadwyedd a sgiliau i helpu pawb, yn enwedig y rhai pellaf o'r farchnad lafur, i lywio ac ymateb i unrhyw heriau sy'n gysylltiedig â gwaith y gallent fod yn eu hwynebu, boed hynny drwy hyfforddiant, uwchsgilio neu newid gyrfaoedd. Carolyn Thomas AS: Diolch, Weinidog. Mae busnesau ac asiantaethau yn cael trafferth recriwtio yn sgil gadael yr UE, cymhlethdodau fisa a'r pandemig. Roedd y slogan 'Stop immigration now' yn gyrru llawer o rethreg Brexit, heb unrhyw gydnabyddiaeth o'r cyfraniadau enfawr y mae'r rhai sy'n symud yma yn eu gwneud yma yn y DU. Fe achosodd y pandemig i bobl dros 50 ailfeddwl eu ffordd o fyw, ac i beidio â bod eisiau gweithio'r oriau hir sydd bellach wedi'u normaleiddio a'r shifftiau ofnadwy sy'n ddisgwyliedig. Mae cyllid gwasanaethau cyhoeddus yn enbyd, ac ni all busnesau preifat lenwi'r bwlch a fyddai'n cael ei adael ar ôl gan y sector cyhoeddus mwyach. Weinidog, beth a wnewch i annog pobl yn eu 50au i ddychwelyd i fyd gwaith, i hyrwyddo recriwtio i'r sector cyhoeddus yn ogystal â'r sector preifat, ac i ddweud wrth Weinidogion y DU bod croeso i bobl o wledydd eraill ddod yma i weithio? Diolch. Vaughan Gething AC: Diolch am y cwestiynau. Rydym yn sicr yn ceisio gwella rhagolygon cyflogaeth i bobl sy'n anweithgar yn economaidd, yn enwedig pobl dros 50 oed. Yn arbennig o amlwg ar ddiwedd y pandemig a wedyn, gwelsom nifer o bobl yn gwneud dewisiadau, a rhai o'r rheini'n ddewisiadau bwriadol ynghylch eu hawydd i sicrhau cydbwysedd gwahanol rhwng gwaith a bywyd, ond hefyd amrywiaeth o bobl eraill gyda hanes o salwch hirdymor, a phobl eraill sydd wedi mabwysiadu cyfrifoldebau gofalu newydd a gwahanol. Mae yna amryw o wahanol resymau pam fod pobl wedi gadael y farchnad lafur. Mae rhai o'r bobl hynny, yn anecdotaidd, yn ceisio dychwelyd, ac mae hynny'n cael ei yrru i raddau helaeth gan yr argyfwng costau byw a'r ffaith bod pobl angen dychwelyd i'r gwaith. Rydym eisiau sicrhau bod pobl yn y lle gorau posibl i ddychwelyd i'r farchnad lafur a rhoi'r sgiliau a'r cyfle iddynt fynd i mewn i'r farchnad lafur a chael swydd y byddant yn ei mwynhau ac a fydd yn ddefnyddiol gyda'u heriau a'u cyfleoedd ariannol. Ar fater ymfudo, un o'r ychydig bethau da yn fy marn i yng nghynllun twf Kwasi Kwarteng oedd sgwrs wahanol am ymfudo a fyddai wedi cynhyrfu llawer o'i dîm ei hun. Ond mewn gwirionedd, buom yn dadlau'n gyson wrth Lywodraeth y DU fod angen dull gwahanol o weithredu ar ymfudo. Ar gyfer sectorau allweddol o'n heconomi, gan gynnwys gwasanaethau cyhoeddus, mae'r rhethreg a'r ddelwedd nad yw Llywodraeth y DU am i bobl o rannau eraill o'r byd ddod yma i weithio neu i fod yn rhan o'n cymuned—ac rydych chi'n gweld hyn eto yn yr Ysgrifennydd Cartref presennol a'r ffordd y mae hi wedi siarad am bobl—yn gwbl hunandrechol. Rydym am weld dull llawer mwy synhwyrol wedi ei yrru gan anghenion yr economi, ie, ond hefyd wedi ei yrru gan ymagwedd weddus sy'n cydnabod dynoldeb sylfaenol bodau dynol eraill. Nid wyf yn credu bod hynny bob amser yn wir am Lywodraeth bresennol y DU. Sam Rowlands MS: A gaf fi ddiolch i'r Aelod am gyflwyno'r cwestiwn heddiw? Fel sydd eisoes wedi cael ei nodi, mae'n amlwg fod yna her ynghylch recriwtio'r gweithlu a'r bwlch sgiliau yng ngogledd Cymru. Yn wir, ddechrau'r flwyddyn hon, dangosodd ymchwil yn The Leader fod bron i hanner yr holl fusnesau yn ei chael hi'n anodd recriwtio gweithwyr newydd, ac mae hyn yn parhau i gael ei ailadrodd wrth gyfarfod â chyflogwyr, fel rwy'n siŵr eich bod chi'n ei wneud hefyd, Weinidog. Ond un o'r meysydd allweddol y credaf y gallem geisio canolbwyntio mwy arno yw hyrwyddo manteision a sgiliau addysgol prentisiaethau. Rwy'n siŵr eich bod yn cytuno, Weinidog, y gall prentisiaethau fod yn llwybrau gyrfa hynod lwyddiannus sydd, yn bwysig, yn aml yn arwain at fwy o gynnydd o ran sgiliau a chadw swydd na mynd i'r brifysgol. Wrth gwrs, i ogledd Cymru, mae hwn yn gyfle gwych, oherwydd mae'n lle mor wych i fyw ynddo, a gweithio ynddo hefyd. Felly, o gofio hynny, Weinidog, pa waith a wnewch gyda'r Gweinidog addysg i sicrhau bod ein gweithlu yn y dyfodol yn cael gwybod am fanteision gwych prentisiaethau a all arwain at yrfaoedd hir sy'n talu'n dda, a helpu yn y pen draw i fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau a wynebwn yn y dyfodol? Vaughan Gething AC: Wrth gwrs, rwy'n credu bod gan hyn a'n Llywodraethau blaenorol dan arweiniad Llafur Cymru hanes da o hyrwyddo prentisiaethau, nid yn unig o ran niferoedd, ond hefyd o ran eu hansawdd a'r ystadegau cwblhau. Rwy'n cofio Ken Skates, pan oedd yn ddyn iau byth, fel Gweinidog sgiliau, a'r gwaith a wnâi a'r ffaith bod ein ffigyrau cwblhau hyd yn oed y pryd hwnnw'n llawer gwell na'r hyn a gâi ei gyflawni gan Lywodraeth y DU yn Lloegr, ac mae hwnnw'n gyflawniad yr ydym wedi'i barhau. Mae ein her ni yn ymwneud â chael digon o bobl i fod eisiau mynd ar hyd y llwybr prentisiaeth, a chyflogwyr a fydd yn elwa ohono hefyd. Mae yna her ariannol go iawn yn hynny hefyd. Rydym wedi siarad o'r blaen yn y Siambr am y ffaith bod traean o'n rhaglen brentisiaethau wedi'i hariannu gan gyn-gronfeydd yr UE bellach, ac mae honno'n her fawr iawn i ni ei goresgyn. Rydym hefyd wedi gweld chwyddiant cynyddol sy'n creu mwy a mwy o bwysau, nid yn unig ar brentisiaethau, ond ar hyfforddiant mewn gwaith hefyd. Mae gan nifer o gyflogwyr ddiddordeb erbyn hyn yn yr hyn y gallant ei wneud i gydnabod bod gweithiwr y dyfodol yma i raddau helaeth—mae'n debygol y bydd eich gweithwyr ymhen 10 mlynedd yn eich gweithlu eisoes—a'r hyn y gallwch ei wneud i uwchsgilio pobl yn y gweithle hefyd. Mynychais raglen Sgiliau Cymru y bore yma. Maent yn disgwyl i 5,000 o bobl tuag at ddiwedd eu gyrfa ysgol uwchradd edrych ar ddewisiadau yn y dyfodol, ac mae opsiynau prentisiaeth ac opsiynau sgiliau'r dyfodol yn rhan fawr o'r hyn y maent yn sôn amdano. Felly, rydym yn cael sgwrs fwriadol a phwrpasol am bob llwybr ar gyfer y dyfodol—addysg bellach, prentisiaethau, sgiliau eraill, ac nid llwybr y brifysgol yn unig—nid yn unig i yrfa werth chweil o ran y bobl y byddwch yn eu cyfarfod, ond i'r gwobrau ariannol sy'n cael eu cynnig hefyd. Cysylltedd Didigol Jack Sargeant AC: 7. Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi ei wneud o sut mae lefelau buddsoddiad Llywodraeth y DU mewn cysylltedd digidol yn effeithio ar economi gogledd Cymru? OQ58562 Vaughan Gething AC: Diolch am y cwestiwn. Nid yw polisi telathrebu wedi'i ddatganoli i Gymru, ond eto mae economi gogledd Cymru yn elwa'n uniongyrchol o gyflwyno'r cynllun band eang gwerth £56 miliwn a'n grant o £4.2 miliwn i'r ganolfan brosesu signalau digidol ym Mhrifysgol Bangor, wrth i Lywodraeth Cymru barhau i gamu i'r adwy lle nad yw Llywodraeth y DU wedi gwneud hynny. Jack Sargeant AC: A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw? Bydd y Gweinidog yn ymwybodol fod hwn yn bwnc sy'n agos at fy nghalon. Lywydd, hoffwn gofnodi fy ymwneud fel aelod di-dâl o'r consortiwm ym Mhrifysgol Bangor, fel y crybwyllodd y Gweinidog. Maent yn benderfynol o wella cysylltedd gogledd Cymru. Er mai Llywodraeth y DU sydd â chyfrifoldeb am fand eang, mae methiant y Torïaid i fuddsoddi'n briodol wedi gwneud cam â gogledd Cymru. Rwyf am weld mwy na buddsoddi i sicrhau bod gogledd Cymru â chysylltiad digidol priodol; rwyf am ein gweld yn creu a datblygu'r genhedlaeth nesaf o dechnolegau sy'n arwain y byd ac sy'n gwella economi gogledd Cymru. Weinidog, a ydych chi'n rhannu fy angerdd ynglŷn â gwella cysylltedd yn y rhanbarth a datblygu'r gyfres nesaf a'r cam nesaf o dechnolegau ar gyfer cysylltedd, ac a wnewch chi ymrwymo i wneud hyn yn un o'ch blaenoriaethau? Vaughan Gething AC: Rwy'n fwy na pharod i ddweud hynny. Daw yn sgil gwaith cyson a wnaed ar draws y Llywodraeth hon ar wahanol ffurfiau. Efallai na wnaethoch chi glywed y Dirprwy Weinidog yn siarad yn gynharach, ond rydym wedi buddsoddi £200 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru i Superfast Cymru. Mae hwnnw'n arian mewn maes sydd heb ei ddatganoli. Rydym yn cydnabod manteision sylweddol gwella a llenwi bylchau yn yr hyn sy'n gyfrifoldebau i'r DU. Mae rhan allweddol o'n dyfodol digidol gyda gwasanaethau cyhoeddus, ac yn yr economi yn wir. Rwy'n falch iawn o fod â'r prif gyfrifoldeb gweinidogol dros wasanaethau digidol ar draws y Llywodraeth, nid yn unig yn yr economi, a byddaf yn fwy na pharod i gael sgwrs bellach gyda'r Aelod am yr hyn y credaf y gallwn ei gyflawni o fewn y Llywodraeth. Cymorth i Fusnesau Rhun ap Iorwerth AC: 8. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i fusnesau yn sgil chwyddiant a chynnydd mewn costau ynni? OQ58577 Vaughan Gething AC: Mae'r prif ysgogiadau i fynd i'r afael â chynnydd mewn costau i fusnesau, cyfraddau llog ar gyfer benthyca, treth ar ffawdelw a rheoleiddio'r farchnad ynni oll ym meddiant Llywodraeth y DU. Ein blaenoriaeth ni yw cefnogi busnesau i ddatgarboneiddio ac i arbed ynni, fel y soniais mewn ymateb i gwestiynau blaenorol heddiw. Rydym yn parhau i nodi cyfleoedd i ailgyfeirio adnoddau er mwyn lleihau baich ar fusnesau. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch am yr ymateb yna. Mi ofynnais i ddoe am ddatganiad yn dilyn y newyddion bod 28 o swyddi yn y fantol yn AMG Alpoco yng Nghaergybi; dwi wedi ysgrifennu at y Gweinidog ynglŷn â hynny eto heddiw. Cynnydd mewn costau, a chostau ynni yn arbennig, sydd yn gyrru'r ailstrwythuro yma, ond, wrth gwrs, dydy Alpoco ddim ar eu pennau eu hunain. Mae Plas Farm, cwmni hufen iâ ac iogwrt wedi'i rewi yn Ynys Môn, yn gweld chwyddiant yn codi hyd at 50 y cant ar eu costau nhw i gyd, a gallan nhw, fel Alpoco, ddim pasio'r costau cynyddol hynny ymlaen i'w cwsmeriaid. Rŵan, mae Plas Farm yn disgwyl cynnydd o bron £50,000 y mis yn eu bil ynni—£50,000 y mis. Mae hynny'n codi pryderon am ddyfodol y cwmni a'r 25 o staff, mewn difrif. Maen nhw yn buddsoddi mewn ynni solar, er enghraifft, ond tra, wrth gwrs, rydyn ni angen gweld gweithredu brys gan Lywodraeth Prydain, a gaf i ofyn eto pa gymorth y gall y Llywodraeth ei roi i gwmnïau energy intensive fel Plas Farm? Hefyd, a gaf i ofyn am sicrwydd bod pob cymorth yn cael ei roi i weithlu Alpoco ar hyn o bryd? Vaughan Gething AC: Rydym yn gwneud popeth yn ein gallu gyda'r ysgogiadau sydd gennym ar gael i ni i geisio cefnogi busnesau sydd yn yr union sefyllfa hon. Rydym yn gwybod bod yna amrywiaeth o fusnesau sy'n defnyddio llawer o ynni, fel y dywedais yn gynharach mewn ymateb i'ch cyd-Aelod Luke Fletcher, a'n her yw bod eisiau cael setliad ar gymorth Llywodraeth y DU, ond hefyd yr hyn y gallwn ni ei wneud i geisio cefnogi'r busnesau hynny. Nid oes gennym rym ariannol i wneud popeth y byddem eisiau ei wneud gyda busnesau sy'n wynebu dyfodol anodd iawn. Mae gennym nifer o gynghorwyr effeithlonrwydd adnoddau ar gael trwy wasanaeth Busnes Cymru, i geisio helpu busnesau i ddeall beth yw eu hanghenion ynni ac i weld a oes cymorth ar gael. Fel y dywedais, rydym yn edrych hefyd ar beth y gallwn ei wneud yn y dyfodol agos, ac rwy'n disgwyl y byddwn yn gwneud datganiad yn yr wythnosau nesaf ynglŷn â sut y credwn y gallwn helpu mwy o fusnesau i fanteisio ar yr help sydd ar gael ac ehangu'r cymorth hwnnw, i geisio sicrhau ein bod yn datgarboneiddio ac yn lleihau risg y cyflenwad ynni yn y dyfodol. Ond ni allwch osgoi difrifoldeb yr argyfwng ynni a'r hyn y mae'n ei wneud i fusnesau. Pe bai pob Aelod yn codi ar eu traed, rwy'n siŵr y gallent roi rhestr o fusnesau, fel y gwnaethoch chi—busnesau hyfyw sy'n cyflogi pobl ar delerau gweddus—sy'n wynebu'r posibilrwydd o beidio â gallu cadw'r holl bobl hynny yn y dyfodol agos iawn, neu'r perygl na fydd y busnesau hynny'n bodoli o gwbl. Mae'n nodi maint yr argyfwng yr ydym yn ei wynebu. Dyna pam y byddwn yn parhau i wneud yr hyn a allwn, o ran bod eisiau gwneud yn siŵr fod gan fusnesau hyfyw ddyfodol da hefyd, ond mae hefyd yn ymwneud ag ailadrodd ein galwad ar Lywodraeth y DU i wneud rhywbeth o'r diwedd a fydd yn darparu rhywfaint o sefydlogrwydd yn y farchnad ac a fydd yn darparu rhywfaint o sefydlogrwydd ar gyfer costau pobl yn y dyfodol. A phe bai hynny'n digwydd, fe fyddem yn gefnogol i hynny. Ond fel y dywedaf, mae hynny'n anorffenedig i raddau helaeth, ac rwy'n edrych ymlaen gyda rhywfaint o bryder at y gyllideb Calan Gaeaf a beth fydd honno'n ei gynnig i fusnesau ac aelwydydd. Diolch i'r Gweinidog. Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro Yr eitem nesaf, yn gyntaf, yw'r cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro i ganiatáu dadl ar yr eitem nesaf o fusnes. Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i wneud y cynnig yn ffurfiol. Cynnig NNDM8111 Lesley Griffiths Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8: Yn atal dros dro Reol Sefydlog 12.20(i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM8110 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 19 Hydref. Cynigiwyd y cynnig. Julie James AC: Yn ffurfiol. Y cwestiwn felly yw: a ddylid atal y Rheolau Sefydlog dros dro? A oes unrhyw un yn gwrthwynebu gwneud hynny? Nac oes. Felly, mae’r cynnig wedi’i dderbyn. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 3. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Prisiau Ynni Mae hynny'n caniatáu inni symud ymlaen at eitem 3, sef y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Prisiau Ynni. Dwi'n galw ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i wneud y cynnig yma—Julie James. Cynnig NNDM8110 Julie James Cynnig bod y Senedd: Yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Prisiau Ynni, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Cynigiwyd y cynnig. Julie James AC: Diolch, Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig. Mae'r rhan fwyaf o'r darpariaethau yn y Bil Prisiau Ynni wedi'u cadw'n ôl. Mae'r darpariaethau o fewn y cymhwysedd datganoledig a drafodir gennym heddiw yn ymwneud â phwerau'r Ysgrifennydd Gwladol i roi cymorth tuag at dalu costau ynni. Mae'r sefyllfa gydag amserlen seneddol y DU ar y Bil hwn yn amlwg allan o'n dwylo. Mae hyn wedi golygu nad yw'r Senedd wedi cael cyfle i graffu'n ystyrlon ar y memorandwm a osodwyd ddoe, ac ar y Bil. Er hynny, rwy'n falch ein bod wedi cael cyfle i drafod mesur hanfodol ar yr argyfwng costau byw mewn cyfnod o argyfwng cenedlaethol. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn galw ers tro am wneud mwy i gefnogi cwsmeriaid domestig ac annomestig gyda chostau ynni cynyddol. Roeddem yn croesawu'r cyhoeddiad am becyn dwy flynedd ar gyfer aelwydydd, ac yn galw am sicrhau bod yr un graddau o gefnogaeth ar gael i gwsmeriaid annomestig. Yn hytrach nag ymestyn y gefnogaeth i gwsmeriaid annomestig, cyfyngodd y Canghellor y cymorth i aelwydydd i ddim ond chwe mis. Nid oes cyfiawnhad dros y penderfyniad hwn o ystyried bod disgwyl i gost ynni aros yn uchel iawn am nifer o flynyddoedd i ddod. Y cam cyllidol credadwy oedd ei angen gan y Canghellor oedd ariannu'r cymorth drwy dreth ffawdelw ar draws y sector cynhyrchu ynni. Nid oes cyfiawnhad dros beidio â thargedu'r enillion ffawdelw hyn i ariannu'r mesurau cymorth angenrheidiol i'r rhai sydd eu hangen fwyaf ar draws Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig. Byddaf yn parhau i alw ar Lywodraeth y DU i roi pecyn cymorth hirdymor ar waith, wedi'i ariannu mewn ffordd flaengar, i helpu i liniaru effaith prisiau uchel ynni. Mae'r Bil sydd o'n blaenau heddiw yn bwysig am ei fod yn sefydlu fframwaith deddfwriaethol sy'n caniatáu ar gyfer cynllun i ostwng pris trydan a nwy ar draws Prydain. Mae hwn yn gam cadarnhaol, gan y bydd yn gwarchod cwsmeriaid rhag y ffactorau sy'n gwthio prisiau ynni i lefelau mor uchel. Rydym yn cytuno â'r egwyddor yn y Bil ynghylch cyflenwyr ynni'n darparu arbedion yn uniongyrchol drwy'r system bilio. Mae hwn yn gam effeithlon ar gyfer darparu cynllun, gan fod gan y cyflenwyr trwyddedig arbenigedd a systemau i weithredu'r polisi fel y'i nodwyd. Rydym yn croesawu'r gofyniad pellach i gyflenwyr trwyddedig ddod yn bartïon i'r cynllun cyn gynted ag y bo'n ymarferol. Fel y crybwyllwyd yn gynharach, cedwir y rhan fwyaf o'r darpariaethau yn y Bil. Mae'r darpariaethau o fewn cymhwysedd datganoledig yr ydym yn eu trafod heddiw yn ymwneud yn bennaf â phwerau'r Ysgrifennydd Gwladol i roi cymorth ar gyfer talu costau ynni. Mewn perthynas â datganoli materion cyfansoddiadol, mae'r Bil yn tresmasu ar faterion datganoledig trwy roi swyddogaethau i'r Ysgrifennydd Gwladol mewn meysydd datganoledig. O'r herwydd, mae'r dull hwn yn anghyson â'n hegwyddorion ar gyfer cydsynio i Filiau Llywodraeth y DU. Rwyf wedi galw felly ar Lywodraeth y DU i ymgynghori ar unrhyw fesurau sy'n effeithio ar feysydd datganoledig. Er fy mod yn cydnabod bod bwrw rhagddi i weithredu ar brisiau ynni yn fater brys, mae'n rhaid gweithredu trwy ymgynghori effeithiol er mwyn sicrhau bod cyfrifoldebau'r Senedd hon yn cael eu parchu. Mae'n bwysig nodi nad ydym yn trosglwyddo pwerau drwy'r Bil hwn, ond mae'r Bil yn rhoi swyddogaethau i'r Ysgrifennydd Gwladol mewn meysydd datganoledig. O'r herwydd— Alun Davies AC: Weinidog, a wnewch chi dderbyn ymyriad? Julie James AC: Gwnaf, yn sicr. Alun Davies AC: Rwy'n ddiolchgar i chi, ac rwy'n ddiolchgar i chi am gyflwyno hyn mor gyflym. Fe ddywedoch chi yn eich cyflwyniad nad oedd y Llywodraeth wedi cael golwg ar hyn. Er eglurder, oherwydd y materion yr ydych chi'n eu trafod ynghylch trosglwyddo swyddogaethau i'r Ysgrifennydd Gwladol, a wnewch chi gadarnhau nad oedd Lywodraeth Cymru wedi gweld hyn, ac nad oedd swyddogion Llywodraeth Cymru wedi gweld y ddeddfwriaeth hon cyn iddi gael ei derbyn a'i chyhoeddi? Julie James AC: Gallaf, mae hynny'n gywir. Mae'r ffaith bod y Bil wedi ymddangos ar yr amserlen seneddol mor gyflym wedi golygu na welsom ddim ohono ymlaen llaw. Fel roeddwn am fynd ymlaen i ddweud, mae ein hegwyddorion Cabinet fodd bynnag yn nodi sefyllfaoedd lle gallai fod yn briodol gwneud darpariaeth mewn Bil DU er mwyn gallu cyrraedd atebion pragmatig mewn modd amserol, gan barchu cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd ar yr un pryd drwy broses y cydsyniad deddfwriaethol. Mae'r egwyddorion hyn yn amlwg yn berthnasol yn yr achos hwn. Rwy'n ystyried bod y cymorth y mae'r Bil hwn yn ei ddarparu yn bwysig ac ni allwn fforddio oedi cyn rhoi cymorth ynni i bobl sydd ei angen yn enbyd y gaeaf hwn. Mae cymalau 13 ac 14 yn canolbwyntio ar roi pwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol i gynorthwyo pobl i dalu costau ynni. Mae'r cymalau hyn hefyd yn galluogi'r Llywodraeth i gynorthwyo aelwydydd a chwsmeriaid annomestig. Tra bod Llywodraeth y DU yn bwriadu cyflawni'r rhan fwyaf o'i chymorth drwy gyflenwyr trydan a nwy trwyddedig, mae wedi gwneud darpariaeth drwy gymal 15 yn galluogi gwneud rheoliadau ynghylch rôl cyrff eraill, gan gynnwys awdurdodau lleol, yn y broses o roi cymorth tuag at gostau ynni. Mae hon yn ddarpariaeth bwysig gan ei bod yn rhoi rôl i gyrff dynodedig eraill ddarparu cymorth ar gyfer costau ynni. Ni ddylid disgwyl i ni dalu costau awdurdodau lleol i ddarparu'r cymorth hwn. Rwyf wedi gofyn am sicrwydd gan yr Ysgrifennydd Gwladol y bydd y gost o gyflawni'n cael ei darparu'n llawn gan Lywodraeth y DU i weithredu hyn yng Nghymru. Bydd is-ddeddfwriaeth yn nodi'r manylion ar gyfer y trefniadau hyn. Gelwais ar Lywodraeth y DU i sicrhau y bydd unrhyw sefydliad sy'n gweinyddu'r cynllun, gan gynnwys y rhai sy'n cyflawni'r swyddogaeth hon ar ran awdurdodau lleol, yn derbyn yr holl gyllid sydd ei angen i gyflawni'r ddyletswydd. Mae cymal 19 yn darparu y dylai'r Ysgrifennydd Gwladol gael pwerau galluogi i osod gofynion ar bersonau y darperir cymorth gyda phrisiau ynni iddynt fel eu bod yn cael eu trosglwyddo i fod o fudd i'r defnyddiwr terfynol. Mae hyn yn hanfodol er mwyn diogelu defnyddwyr ynni rhag cyfryngwyr a allai fethu trosglwyddo'r cymorth hwn fel arall. Efallai y bydd angen i rai awdurdodau lleol gontractio'r gwaith hwn, ac mae angen caniatáu hynny'n benodol er mwyn sicrhau bod y cynllun yn cael ei gyflawni'n effeithiol yng Nghymru. Yn olaf, mae cymal 22 yn rhoi pwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol roi cyfarwyddiadau i ddeiliaid trwyddedau ynni mewn ymateb i'r argyfwng ynni neu'n gysylltiedig â'r Bil neu bethau a wneir oddi tano. Felly, Lywydd, wrth orffen, rwy'n argymell bod yr Aelodau'n cefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil prisiau ynni fel y gall pobl Cymru gael cymorth ariannol yn effeithiol gyda chost uchel ynni y gaeaf hwn. Diolch. Rhys ab Owen AS: Diolch yn fawr i chi am y cyfle i ddweud ambell i air ar yr LCM diweddaraf yma. Dyma’r seithfed ar hugain LCM o fewn y Senedd hon. I gymharu â’r pedwaredd Senedd, dim ond wyth LCM a aeth trwy’r pedwaredd Senedd i gyd. Mae hwn yn LCM ar Fil pwysig iawn, ond cafodd ei osod dim ond ddoe o flaen y Senedd, ac rŷn ni’n gofyn i bleidleisio arno fe heddiw. Nid mater cyfansoddiadol yn unig yw hwn. Mae’r mater cyfansoddiadol yn bwysig, wrth gwrs—bod Senedd Cymru yn deddfu o fewn pwerau y setliad datganoledig—ond mae’n bwysicach na hynny. Dwi ddim yn ymddiried yn Llywodraeth San Steffan i edrych ar ôl y bobl sydd mewn angen. Dwi ddim yn ymddiried yn y Torïaid i wneud yr hyn sy’n iawn yn y tymor hir. Dyw’r Bil yma ddim yn cynnwys treth windfall. Dyw e ddim yn golygu bod y cwmnïau egni yn cymryd y cyfrifoldeb. Yr hyn mae’n ei wneud yw gwthio yn ôl ar ddefnyddwyr y cyfrifoldeb yn y tymor hir. Ddoe y cafodd ei osod. Heddiw, rŷm ni'n cael ein gofyn i bleidleisio ar y mater heb unrhyw graffu o gwbl; dim cyfle i bwyllgorau i graffu, dim cyfle i gynnig gwelliannau, dim cyfle i godi problemau—ac mae yna broblemau gyda'r Bil yma—dim craffu o gwbl, mewn gwirionedd. Dadl tri chwarter awr—a dyw e ddim yn ymddangos fel bod lot yn mynd i gymryd rhan yn y ddadl hon—ar brynhawn dydd Mercher. A gwyddom, beth bynnag—mae'n siŵr mai dyna pam does dim lot yn mynd i gyfrannu—bod yr LCM yn mynd i basio, oherwydd mae Llafur a’r Torïaid yn pleidleisio law yn llaw ar y rhan fwyaf o'r LCMs yma. Yr hyn sydd gen i, Weinidog, yw dim dyma’r ffordd i ddeddfu. Mae rhaid cael amser i graffu os am basio Deddf sy’n addas i’r gofyn— Mike Hedges AC: Wrth gwrs, pe bai'r Llywodraeth yn cyflwyno deddfwriaeth, byddech chi a'r Ceidwadwyr yn pleidleisio yn ei herbyn, a byddai'n methu. Rwy'n credu bod hyn yn fodd o'i gyflawni, sy'n golygu y bydd yn digwydd. Pe gallech chi a'r Ceidwadwyr ddechrau pleidleisio dros ddeddfwriaeth y Llywodraeth, efallai y byddai'n haws ei wneud. Rhys ab Owen AS: Pwrpas Senedd ddeddfwriaethol yw pasio Deddfau, Mike. Does dim pwynt i ni fel arall, ac mae'n rhaid, wrth gwrs, fel mae set-up y Senedd—. Mae'n rhaid i'r Llywodraeth drafod gyda'r gwrthbleidiau os ydyn nhw eisiau i'w Deddfau eu pasio. Dyna yw hanfod Senedd sy'n cydweithio gyda'i gilydd. Rhys ab Owen AS: Mae problemau gyda'r Bil hwn. Mae un o bwyllgorau Tŷ'r Arglwyddi wedi nodi problemau gyda'r Bil hwn; mewn perthynas ag un o'r cymalau y gofynnir inni roi cydsyniad iddynt, cymal 22, maent yn gadarn o'r farn ei bod yn amhriodol rhoi'r pŵer hwnnw i'r Ysgrifennydd Gwladol. Bydd yn rhoi pŵer i'r Ysgrifennydd Gwladol ddiystyru deddfwriaeth sylfaenol, a gwrthod barn y rheoleiddiwr, Ofgem. Rwy'n bryderus, Lywydd, fod gofyn heddiw i'r Senedd gydsynio â chynnig cydsyniad deddfwriaethol na wyddom fawr ddim amdano, nad ydym wedi craffu'n iawn arno, ac eto fe gaiff ei basio heb drafodaeth. Rhys ab Owen AS: Fel y dywedais i, nid mater cyfansoddiadol yn unig yw hwn. Mae e'n bwysig ein bod ni'n cael Deddfau fel hyn yn iawn er mwyn helpu pobl ein gwlad ni trwy sefyllfa sydd mor echrydus o anodd. Diolch yn fawr. Janet Finch-Saunders AC: Nawr, mae'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn yn ymwneud â deddfwriaeth bwysig, ac mae'n ddeddfwriaeth sy'n rhaid ei rhoi mewn grym yn gyflym. Mae ymosodiad Rwsia ar Wcráin, heb os, wedi arwain at chwyddo pris olew a nwy ledled y byd. Diolch i Lywodraeth y DU, bydd defnyddwyr yn cael help gyda'u biliau yn awr. Bydd y pwerau brys newydd hyn yn sicrhau bod defnyddwyr ledled y wlad, o Ynys Môn i Aberdeen, o Gonwy i Gernyw, yn cael help gyda'u biliau ynni y gaeaf hwn. Heb y ddeddfwriaeth hon, gadewir i fusnesau a defnyddwyr wynebu cythrwfl ariannol cynyddol. Amcangyfrifwyd y byddai biliau ynni'n cynyddu tua £6,500 cyn i Lywodraeth y DU gamu i'r adwy, ac yn awr maent wedi'u capio ar ffigur is, sef £2,500. Yn amlwg, bydd hyn yn help. I fusnesau, byddai hyn yn drychineb. Yn Aberconwy, rwy'n gweld perchnogion gwestai yn wynebu cynnydd o 532 y cant yn eu biliau ynni, a chigydd lleol—fe fyddwch i gyd wedi cael selsig Edwards o Gonwy; rwy'n gobeithio eich bod—wedi wynebu cynnydd dinistriol o £129,000 i'r £782,000 diweddaraf, ac rwy'n deall ei fod wedi codi'n sylweddol ers hynny, wrth edrych ar dariffau newydd. Diolch i Lywodraeth y DU, bydd prisiau i fusnesau'n cael eu capio ar £211 y megawat awr ar gyfer trydan, a £75 y megawat ar gyfer nwy. Mae hyn wedi gostwng y pris fesul megawat awr i gwsmeriaid annomestig bron i 65 y cant ar gyfer trydan, a 147 y cant ar gyfer nwy. Mae ein busnesau wedi wynebu dwy flynedd gythryblus o ganlyniad i'r pandemig, gyda nifer o fusnesau bellach yn gorfod talu am fenthyciadau o gyfnod y pandemig ac roedd rhai ohonynt ar ei hôl hi gydag ôl-ddyledion rhent. Bydd cymorth Llywodraeth y DU yn hanfodol i gynorthwyo ein busnesau i barhau i weithredu dros fisoedd y gaeaf sydd i ddod, ac yn darparu cymorth ariannol mawr ei angen. Ac fel y dywedodd yr Ysgrifennydd Busnes ac Ynni, y Gwir Anrhydeddus Jacob Rees-Mogg: 'Dylai busnesau a defnyddwyr ledled y DU dalu pris teg am ynni.... Dyna pam ein bod wedi camu i'r adwy heddiw gyda phwerau eithriadol a fydd nid yn unig yn sicrhau bod cymorth hanfodol yn cyrraedd aelwydydd a busnesau y gaeaf hwn ond a fydd yn trawsnewid y Deyrnas Unedig yn genedl sy'n cynnig ynni diogel, fforddiadwy a gynhyrchir yn y wlad hon am bris teg i bawb.' Drwy gefnogi cymalau 13 a 14, byddwn yn rhoi grym i'r Ysgrifennydd Gwladol, sêl bendith, er enghraifft, i ddarparu cefnogaeth ar gyfer talu costau sy'n gysylltiedig â defnyddio ynni; darparu cymorth ar gyfer talu costau sy'n gysylltiedig â chyflenwi ynni; a galluogi neu annog defnydd effeithlon o ynni. Felly, ni welaf unrhyw reswm pam fod angen codi helynt am y cynnig cydsyniad deddfwriaethol penodol hwn. Ddydd Llun, dywedodd Alan Brown AS, SNP, hyd yn oed, ac rwy'n dyfynnu: 'Rwy'n cytuno bod angen y mesurau a'r egwyddorion hynny er mwyn diogelwch ynni ac i fod yn rhan o'r pontio i sero net.' Y Gwir Anrhydeddus Graham Stuart: 'Mae cymal 19 yn sicrhau bod y cynlluniau cymorth...yn cyrraedd y rhai y bwriedir iddynt gael budd ohonynt. Bydd y gofyniad i drosglwyddo cymorth prisiau ynni yn helpu i sicrhau bod tenantiaid a defnyddwyr terfynol eraill yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.' Rydym yn wynebu argyfwng ynni byd-eang sydd wedi'i waethygu gan ymosodiad anghyfreithlon Rwsia ar Wcráin. Drwy gefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, byddwn yn helpu pobl, busnesau, elusennau a'r sector cyhoeddus ledled y DU gyda'u biliau ynni, gyda sylfaen ddeddfwriaethol ddiogel. Mae'r Gweinidog newid hinsawdd y Gwir Anrhydeddus Graham Stuart wedi diolch yn briodol i wrthblaid Ei Fawrhydi, a phleidiau eraill, am eu hymgysylltiad adeiladol hyd yma. Felly, fel chi eich hun, Weinidog— Llyr Gruffydd AC: A wnewch chi dderbyn ymyriad? Janet Finch-Saunders AC: Gwnaf, wrth gwrs. Llyr Gruffydd AC: Diolch. Rydych chi a'ch cyd-Aelodau yn eich plaid a ninnau, wedi bod yn feirniadol iawn o Lywodraeth Cymru ynglŷn â lleihau'r cyfnod craffu ar gyfer y Bil plastigion untro. Roeddech chi'n cwyno, yn gwbl briodol, nad oeddem wedi cael digon o amser; dim ond tair, pedair, pum, chwe wythnos a roddwyd i ni i graffu ar y ddeddfwriaeth honno. Pam felly eich bod chi'n hapus na chraffwyd o gwbl ar y ddeddfwriaeth benodol hon ac na chafwyd ond ychydig oriau i'w darllen? Janet Finch-Saunders AC: Gyda phob parch, deddfwriaeth frys yw hon. Mae gennym sefyllfa ryfel, ac mae hynny'n wirioneddol—. Nid ydym hyd yn oed yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd yn awr, lle gall pethau fod hyd yn oed yn waeth na'r hyn a wynebwn ar hyn o bryd. Wrth wynebu sefyllfa debyg i ryfel fel sydd gennym, wrth wynebu argyfwng o'r fath, mae'n hanfodol fod y sefydliad hwn yn chwarae rhan gyfrifol, ac felly nid wyf yn petruso o gwbl rhag cefnogi'r Gweinidog, a dweud, 'Rydym angen i hyn fynd rhagddo, ac mae angen iddo fynd rhagddo cyn gynted ag y bo modd'. Diolch. Jenny Rathbone AC: Ni allaf ddeall dadl Janet Finch-Saunders mai deddfwriaeth frys yw hon; rydym yn gwybod am y cynnydd mawr ym mhrisiau ynni ers diwedd mis Chwefror, felly nid yw hon yn sefyllfa frys. Nawr, ni fyddai neb yn dadlau yn erbyn y cynnig i roi cymorth ar unwaith gyda'r prisiau ynni sy'n codi i aelwydydd a busnesau, ond nid yw'r fframwaith deddfwriaethol a gynigiwyd gan Lywodraeth y DU yn ateb cynaliadwy. Mae'r syniad fod hon yn ddeddfwriaeth bwysig yn chwerthinllyd. Rhaid inni weld hyn trwy lens y rhwymedigaethau sero net sydd gennym a'r argyfwng hinsawdd sy'n mynd i ddisgyn ar bob un ohonom. Nid wyf yn gweld unrhyw beth cadarn yn y cynnig hwn i annog cynhyrchwyr ynni i fuddsoddi mewn mwy o ynni adnewyddadwy, i gyflymu'r broses o bontio oddi wrth nwy. Mewn gwirionedd, rwy'n gweld ymosodiad ar gynhyrchwyr ynni adnewyddadwy, drwy sicrhau bod rhaid iddynt gyfrannu rhagor ac nad ydynt yn elwa cymaint o'r contractau y maent wedi'u cael. Ond fel y dywedodd y Gweinidog yn ei memorandwm esboniadol, mae'n wir fod angen diwygio'r farchnad ynni, gan gynnwys y ffordd y cyllidwn ynni adnewyddadwy. Felly, rwy'n deall eich bod wedi cydnabod hynny, ond y broblem yma yw nad oes dim i ddatgysylltu'r gost ynni i ddefnyddwyr o bris cyfredol diweddaraf a drutaf y farchnad am nwy, sef y ffordd y mae Ofgem yn gosod y prisiau hyn. Ac nid oes unrhyw beth i annog pobl i fuddsoddi eu helw, gan gynnwys elw'r cwmnïau olew a nwy, i bontio i ynni adnewyddadwy fel y mae angen i bawb ohonom ei wneud. Felly, tybed a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym yn ei hateb pa drafodaethau, os o gwbl, a gawsoch gyda Llywodraeth y DU—nid am y ddeddfwriaeth benodol hon sydd newydd lanio, yn amlwg—sy'n cyd-fynd â'n rhwymedigaethau sero net. A diolch i'r Aelod Rhys ab Owen am dynnu sylw at bryder Tŷ'r Arglwyddi ynglŷn ag adran 22, sef y grym i wrthod Ofgem. Mae'r holl beth yn destun pryder mawr iawn. Nid wyf yn bwriadu pleidleisio yn ei erbyn, oherwydd rwy'n gwybod bod cartrefi a busnesau'n dibynnu ar hyn, ond mae'n rhaid inni gael rhyw fath o gynllun ar gyfer y dyfodol, ac ni allwn barhau fel hyn. Mae'n rhywbeth a roddwyd at ei gilydd ar y funud olaf—efallai i dynnu sylw oddi ar bethau eraill sy'n digwydd. Y Gweinidog Newid Hinsawdd nawr i ymateb, Julie James. Julie James AC: Diolch, Lywydd. Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl. Rhannaf bryderon yr Aelod ynglŷn â’r broses sydd wedi ein harwain at y sefyllfa bresennol, a rhannaf y pryder—fel yr oeddwn yn ei rannu ynglŷn â'r Bil cynhyrchion plastig untro—ynglŷn â'r diffyg craffu. Ac nid yw hynny'n rhywbeth rwy'n ei groesawu yma ychwaith nac ar lefel y DU. Ond roeddem yn gwybod am hyn y noson gynt. Fe'i cyflwynwyd ar 12 Hydref, felly nid yw hyn yn graffu o gwbl mewn gwirionedd. Yn sicr, ni chawsom Fil drafft nac unrhyw beth arall. Rydym yn deall y brys. Nid wyf yn cytuno â disgrifiad Janet o lefel y brys, ond rydym yn deall bod rhywfaint o frys i gael cymorth i gwsmeriaid y gellir ei gyflwyno o fis Tachwedd ymlaen. Byddai’n llawer gwell gennym, serch hynny, pe bai Llywodraeth y Deyrnas Unedig, fel y mae Jenny ac eraill wedi’i nodi, wedi sylweddoli bod hyn yn digwydd gryn dipyn yn gynharach yn y flwyddyn, pan wnaeth pawb arall sylweddoli hynny, ac wedi gwneud rhywbeth, yn hytrach na chynnal cystadleuaeth arweinyddiaeth chwerthinllyd drwy gydol yr haf, gyda Phrif Weinidog presennol y DU ar y pryd yn gwneud Duw a ŵyr beth, yn hytrach na chyflawni ei gyfrifoldebau. Serch hynny, rydym yn y fan lle rydym, ac os na fyddwn yn rhoi cydsyniad i hyn, mae perygl gwirioneddol na fydd pobl Cymru yn gallu elwa ar y cynllun. Felly, rwy’n argymell ein bod yn rhoi cydsyniad i’r ddeddfwriaeth, er bod cryn dipyn o gyndynrwydd oherwydd y ffordd y mae’r Bil wedi’i drefnu. Ond serch hynny, nid ydym yn barod i roi ein hunain mewn sefyllfa lle na allai pobl Cymru gael y cymorth y mae Llywodraeth y DU yn ei argymell; mae'n bwysig iawn eu bod yn ei gael. Hoffwn gywiro rhywbeth a ddywedodd Janet. Nid oes cap o £2,500 ar ynni. Credaf ei bod yn wirioneddol bwysig nad yw pobl yn meddwl, ni waeth faint y maent yn ei ddefnyddio, fod rhyw fath o gap. Cost gyfartalog ydyw, nid cap, ac mae'n bwysig iawn fod pobl yn deall hynny. Bydd llawer o bobl yn wynebu biliau o fwy na £2,500 dros y gaeaf. Carolyn Thomas AS: A wnewch chi dderbyn ymyriad? Julie James AC: Wrth gwrs. Carolyn Thomas AS: Er y byddant yn cael y cyllid gan Lywodraeth y DU, bydd gan GIG Cymru fwlch ynni o bron i £100 miliwn i'w lenwi o hyd—£90 miliwn i £100 miliwn, yn ôl yr hyn a glywais yr wythnos diwethaf. A yw hynny'n wir? Julie James AC: Ydy, mae'n wir. Felly, dim ond plastr ar glwyf enfawr yw hwn, a bydd yn achosi problemau gwirioneddol ar draws y gwasanaethau cyhoeddus, yn ogystal ag i gwsmeriaid domestig. Serch hynny, mae'n bwysig fod y cymorth sydd ar gael yn cyrraedd pobl a busnesau Cymru, ac felly rydym yn argymell rhoi cydsyniad. Fodd bynnag—hoffwn ailadrodd, gan y credaf ei fod yn bwysig iawn—rwy'n galw ar Lywodraeth y DU i ymgynghori ar unrhyw fesurau sy'n effeithio ar feysydd datganoledig. Mae yna fethiant sylfaenol yn y farchnad ynni bresennol nad yw’r Bil hwn yn ei ddatrys; rhaid i Lywodraeth y DU ysgwyddo'i chyfrifoldeb ar hynny. Ond serch hynny, Lywydd, a chyda rhywfaint o gyndynrwydd y gallwch ei glywed, rwy’n argymell i’r Senedd ein bod yn rhoi cydsyniad i'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol, oherwydd yr angen dybryd i roi cymorth i bobl Cymru. Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Oes, mae yna wrthwynebiad. Ac felly, bydd y bleidlais yn cael ei gohirio tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. 4. Cwestiynau Amserol Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau amserol heddiw. 5. Datganiadau 90 Eiliad Ac felly y datganiadau 90 eiliad sydd nesaf, ac mae'r cyntaf o'r rheini gan Jack Sargeant. Jack Sargeant AC: Diolch, Lywydd. Mae fy nghymuned wedi’i hadeiladu ar weithgynhyrchu, ac rydym yn falch o’r cynhyrchion yr ydym yn eu cynhyrchu, a sgiliau ein gweithwyr sy’n eu creu. Fis diwethaf, dathlodd gweithgynhyrchiant yng Nglannau Dyfrdwy ben blwydd pwysig—buom yn dathlu 30 mlynedd hapus o weithgynhyrchu injans Toyota ar ystad ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy. Mae safle Toyota Manufacturing UK yng Nglannau Dyfrdwy yn cyflogi mwy na 600 o bobl yn uniongyrchol ac yn cefnogi llawer mwy o swyddi drwy ei rwydwaith o gyflenwyr lleol a chenedlaethol. Lywydd, rwy'n hynod ddiolchgar fod y Prif Weinidog wedi gallu ymweld er mwyn nodi'r pen blwydd arbennig hwn, ac edrychwn ymlaen at flynyddoedd lawer o weithgynhyrchu injans uwch-dechnoleg ar y safle pwysig hwn. I gloi, mae'n rhaid inni adeiladu ar lwyddiant ein rhagoriaeth ym maes gweithgynhyrchu yn Alun a Glannau Dyfrdwy, ac mae'n rhaid inni ymrwymo i fuddsoddi yn y sgiliau a’r dechnoleg sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol ochr yn ochr â’n partneriaid diwydiannol. Ac yn olaf, pen blwydd hapus iawn, Toyota. Diolch. John Griffiths AC: Mae’r wythnos hon yn nodi pumed flwyddyn Wythnos Caru Ein Colegau, ymgyrch sy’n tynnu sylw at y gwaith rhyfeddol a thrawsnewidiol y mae colegau addysg bellach yn ei wneud bob dydd. Bydd dathliadau eleni'n canolbwyntio ar staff, myfyrwyr a sgiliau. Gan gadw hyn mewn cof, hoffwn dynnu eich sylw heddiw at y cyfleoedd trawsnewidiol sy'n cael eu cynnig yn ein colegau ar ffurf rhaglenni cyfnewid rhyngwladol, i ddysgwyr ac i staff. I ddysgwyr, bydd profiadau tramor yn ehangu eu gorwelion ac yn codi eu huchelgeisiau, gan wneud cyfraniad cadarnhaol at eu cynnydd drwy addysg ac ymlaen i gyflogaeth yn y dyfodol. Un o'r agweddau pwysicaf ar y teithiau cyfnewid rhyngwladol hyn yw eu bod yn cynnig mynediad cyfartal i bob unigolyn ifanc yn ein colegau, ni waeth beth fo'u cefndir. Mae staff addysg bellach yn cael cyfleoedd i rannu arferion gorau gyda chydweithwyr dramor, cymryd rhan mewn hyfforddiant neu gysgodi gwaith, yn ogystal â rhannu'r gwersi a ddysgir gyda’u sefydliadau yng Nghymru. Mae’n bleser gennyf ddweud bod fy ngholeg lleol, Coleg Gwent, yn cymryd rhan weithredol mewn nifer o’r rhaglenni. Mae ColegauCymru yn arwain y gwaith o ddatblygu’r cyfleoedd tramor cyffrous hyn, a byddai eu prosiectau consortiwm ar gyfer symudedd rhyngwladol wedi galluogi dros 3,000 o ddysgwyr a 490 o staff i weithio, hyfforddi a gwirfoddoli dramor gan feithrin dealltwriaeth ynghylch gwahanol ddiwylliannau ac ieithoedd na fyddent o bosibl wedi cael cyfle i'w harchwilio fel arall. Laura Anne Jones AC: Gan fod ddoe yn Ddiwrnod Menopos y Byd, hoffwn achub ar y cyfle hwn—a diolch, Lywydd, am dderbyn y datganiad 90 eiliad—i sôn am y menopos; rhywbeth yr ydym ni, fel menywod, yn mynd drwyddo neu'n mynd i fynd drwyddo ar ryw adeg yn ein bywydau. O edrych ar y dynion yn y Siambr, rydych yn ffodus iawn nad yw'n rhywbeth y byddwch chi'n mynd drwyddo, ond mae'n hynod bwysig fod pawb yn deall y problemau a'r brwydrau y bydd menywod, rai yn fwy na'i gilydd, yn eu hwynebu wrth ymdopi â menopos. Mae’n bwysig cael mwy o ymwybyddiaeth o’r hyn y mae menywod yn mynd drwyddo, a’r brwydrau y maent yn eu hwynebu a’r anawsterau a gânt i dderbyn triniaeth, a bod y Llywodraeth hon a Llywodraeth y DU yn cymryd camau tuag at sicrhau bod ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r hyn y mae hanner y boblogaeth yn mynd drwyddo, ymwybyddiaeth o fenopos, yn dod yn norm ac yn gyffredin yn ein gweithleoedd ledled Cymru. Mae dros 10 miliwn o bobl dros 50 oed yn gweithio yn y DU heddiw, traean o’r gweithlu, gan gynnwys 4.4 miliwn rhwng 50 a 64 oed. Yr oedran cyfartalog ar gyfer cyrraedd y menopos yw 51; er, yn fy nheulu i, mae'n digwydd yn y 40au cynnar, ac i eraill, rwy’n siŵr. Felly, bydd llawer ohonom, 4.4 miliwn a mwy, yn fenywod sy’n mynd drwy’r menopos, sy'n gwneud hwn yn fater allweddol i’r gweithle modern. Dyna pam ei bod mor hanfodol ein bod yn gweld y pecyn cymorth menopos yn y gweithle yn cael ei hyrwyddo. Gall y pecyn cymorth ddarparu gwybodaeth am y ffordd y mae menopos yn effeithio ar fenywod yn y gweithle, beth yw menopos, sut y mae menopos yn effeithio ar fenywod yn y gweithle, pam fod hyn yn bwysig i gyflogwyr, a beth y gallant ei wneud i helpu. Felly, gobeithio, gyda ddoe yn Ddiwrnod Menopos y Byd, mai hwn fydd yr olaf lle bydd menywod yn dioddef yn dawel, ac yn lle hynny, y gallwn greu sgwrs agored ynglŷn â'r mater yng Nghymru. Ac fel Senedd, rwy'n gobeithio y gallwn arwain ar hyn. Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair. Diolch, bawb. 6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Ynni adnewyddadwy yng Nghymru Eitem 6 y prynhawn yma yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, 'Ynni adnewyddadwy yng Nghymru'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Llyr Gruffydd. Cynnig NDM8102 Llyr Gruffydd Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: 'Ynni adnewyddadwy yng Nghymru', a osodwyd ar 26 Mai 2022. Cynigiwyd y cynnig. Llyr Gruffydd AC: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae'n anrhydedd cael cyflwyno y ddadl yma ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, oherwydd ar ddechrau'r chweched Senedd fe gytunodd y pwyllgor i gynnal ymchwiliad byr i ynni adnewyddadwy, gan gydnabod, wrth gwrs, rôl hanfodol ynni adnewyddadwy wrth fynd i'r afael â'r argyfwng yn yr hinsawdd. Nawr, mi wnaethom ni edrych ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud a beth arall y mae angen iddi ei wneud hefyd er mwyn cynyddu datblygiad ynni adnewyddadwy yng Nghymru, a phan wnaethom ni ddechrau ar ein hymchwiliad ddechrau'r flwyddyn, gallem ni byth, wrth gwrs, fod wedi rhagweld difrifoldeb yr argyfwng ynni presennol na'r effaith, wrth gwrs, y byddai hynny'n ei gael, nid yn unig ar Gymru, ond tu hwnt. Llyr Gruffydd AC: Felly, wrth i'r ymateb domestig i'r argyfwng barhau i ddatblygu, fe wyddom wrth gwrs y gallai ein rhoi ar y trywydd naill ai i gyflawni neu dorri ein hymrwymiad i gyrraedd sero net erbyn 2050. Mae’n bosibl y gall y pecyn o fesurau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU fis diwethaf ddarparu rhywfaint o hoe i fusnesau a chartrefi, er, yn dilyn cyhoeddiad dydd Llun, efallai mai byr iawn fydd yr hoe hon mewn gwirionedd. Ond mae’r penderfyniad i godi’r gwaharddiad ar ffracio a chynyddu cynhyrchiant olew a nwy ym môr y Gogledd yn llenwi’r rhai ohonom sydd wedi ymrwymo i fynd i’r afael â newid hinsawdd ag ofn. Mae’r penderfyniadau hyn, a wnaed lai na blwyddyn—llai na blwyddyn—ar ôl yr addewidion a wnaed yn COP26 yn gywilyddus, a dweud y gwir. Ni ddylai camau i fynd i'r afael â'r argyfwng ynni a diogelu ffynonellau ynni domestig ddod ar draul y blaned. Mae amser yn prysur ddiflannu i osgoi trychineb hinsawdd. Mae'r argyfyngau ynni a hinsawdd yn rhannu ffynhonnell gyffredin: tanwydd ffosil. Maent hefyd yn rhannu ateb cyffredin: ynni adnewyddadwy. Ac nid yw’r achos dros gyflymu datblygiad ynni adnewyddadwy erioed wedi bod yn gryfach yn fy marn i. Felly, cynhaliwyd ein hymchwiliad yn fuan ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi canlyniad ei harchwiliad dwfn. Diben yr archwiliad dwfn, wrth gwrs, oedd nodi’r rhwystrau presennol i gyflymu datblygu a’r camau sydd eu hangen i fynd i’r afael â hwy. Cafodd argymhellion yr archwiliad dwfn eu croesawu gan randdeiliaid. Ond roedd yna deimlad hefyd, mewn rhai meysydd, nad ydynt ond yn crafu'r wyneb. Nid yw nifer o’r rhwystrau a nodwyd gan yr archwiliad dwfn yn newydd, ac nid yw addewidion Llywodraeth Cymru o gamau i fynd i’r afael â hwy yn newydd ychwaith. Nododd strategaeth ynni 2012 Llywodraeth Cymru ystod o gamau gweithredu i wella'r broses gynllunio a chydsynio, a'r seilwaith grid yng Nghymru hefyd—rhwystrau allweddol i ddatblygu. Ddegawd yn ddiweddarach, mae'n gwneud yr un addewidion. Wrth inni gychwyn ar gyfnod tyngedfennol yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd, mae'r angen i Lywodraeth Cymru fwrw iddi a chyflawni'r addewidion hyn yn fwy nag erioed. Yn ein hadroddiad, gwnaethom 17 o argymhellion, a derbyniodd Llywodraeth Cymru bob un ohonynt, neu o leiaf eu derbyn mewn egwyddor. Ar yr olwg gyntaf, ymddengys bod hynny'n ymateb cadarnhaol. Ond wrth ddadansoddi ymhellach, wrth gwrs, rydym yn cwestiynu a yw Llywodraeth Cymru wedi deall o ddifrif i ba raddau y mae angen iddi weithredu ar frys. Mae'r ymateb yn frith o dermau fel 'parhau i weithio ar', 'parhau i ystyried opsiynau', 'trafodaethau parhaus' ac 'archwilio potensial'. Nawr, wrth gwrs, rydym yn deall na fydd chwalu rhwystrau hirsefydlog yn digwydd dros nos. Ond gyda datblygu yng Nghymru'n arafu, mae angen inni weld canlyniadau yn sgil yr archwiliad dwfn, ac mae angen inni eu gweld ar fyrder. Yn ein hadroddiad, fe wnaethom alw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun gweithredu manwl i nodi sut y mae'n bwriadu bwrw ymlaen ag argymhellion yr archwiliad dwfn, gan gynnwys amserlenni ar gyfer cyflawni. Y meddylfryd y tu ôl i hyn oedd sicrhau tryloywder llawn, a hwyluso a chefnogi craffu. Mewn ymateb, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i adrodd i’r Senedd ddwywaith y flwyddyn ar y cynnydd tuag at weithredu, ac rydym yn croesawu hynny’n fawr. Cyhoeddwyd y cyntaf o’r adroddiadau hyn yn gynharach y mis hwn, ac fel pwyllgor, byddwn yn cadw llygad barcud ar y cynnydd drwy weddill tymor y Senedd hon. Fel y soniais eisoes, un o’r rhwystrau allweddol i ddatblygu yng Nghymru, wrth gwrs, yw’r grid. Ers dros ddegawd, cafwyd galwadau croch a pharhaus am gamau gweithredu gan Lywodraethau i fynd i’r afael â chyfyngiadau'r grid. Er gwaethaf hyn, ychydig o gynnydd a wnaed, ac mae Cymru ymhell o fod â grid sy’n barod i allu cefnogi trawsnewid cyflym i ynni adnewyddadwy. Gwyddom mai cyfyngedig yw'r dulliau sydd gan Lywodraeth Cymru at ei defnydd i sicrhau gwelliannau i’r grid. Llywodraeth y DU, wrth gwrs, sy'n parhau i fod yn gyfrifol am y drefn reoleiddiol sy’n llywodraethu’r grid a mynediad at gyllid. Yn ei adroddiad diweddar ar ynni adnewyddadwy yng Nghymru, mynegodd Pwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin bryderon nad yw Llywodraeth y DU wedi deall difrifoldeb cyfyngiadau'r grid ar yr ochr hon i’r ffin eto, ac mewn gwirionedd, nid yw hyn yn ddim llai na brawychus. Mae'r heriau y mae cyfyngiadau'r grid yn eu hachosi i ddatblygu ac i uchelgeisiau datgarboneiddio ehangach Cymru yn golygu na ddylid caniatáu i hyn barhau. Mae argymhellion 6 a 7 yn adlewyrchu ein barn fod rhaid i Lywodraeth Cymru gamu i’r adwy a gwneud mwy i sicrhau bod San Steffan yn deall anghenion seilwaith grid Cymru yn awr ac yn y dyfodol yn llawn. Felly, Weinidog, mae eich ymateb i’n hadroddiad yn cyfeirio at eich cyfarfod â Gweinidogion y DU ym mis Mehefin, pan wnaethoch grybwyll materion yn ymwneud â’r grid. Efallai y gallwch ddweud wrthym yn eich ymateb a ydych yn credu bod y geiniog wedi syrthio ac a ydynt o ddifrif ynglŷn â'r materion hyn mewn gwirionedd. Llyr Gruffydd AC: Rydym wedi ein calonogi gan brosiect grid ynni'r dyfodol Llywodraeth Cymru, sy'n ceisio dylanwadu'n rhagweithiol ar fuddsoddiad yn y grid yng Nghymru yn y dyfodol. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrthym y bydd y cynllun gweithredu a gynhyrchir gan y prosiect yn nodi camau gweithredu ar gyfer rhwydweithiau, ar gyfer Ofgem a Llywodraeth Cymru, 'i alluogi gwaith cynllunio a gweithredu rhwydwaith system gyfan optimaidd, hirdymor.' Nawr, mae hyn oll yn swnio'n gadarnhaol iawn. Ond wrth gwrs, a dyma faen tramgwydd posibl, bydd camau gweithredu ar gyfer Llywodraeth y DU hefyd. Felly, Weinidog, pa mor hyderus ydych chi y bydd Llywodraeth y DU yn fodlon cyflawni'r camau hynny? A beth sy'n digwydd os ydynt yn gwrthod cydweithio? Yn olaf ar y grid, Weinidog, rydych wedi sefydlu gweithgor grid i ystyried a yw eich cynnig gwreiddiol ar gyfer pensaer systemau ynni Cymru yn ymarferol. Efallai y gallech ddweud wrthym pryd y disgwyliwch gael ateb pendant ar hyn. I symud ymlaen at rwystr allweddol arall i ddatblygu: y drefn gydsynio a thrwyddedu. Dywedodd rhanddeiliaid wrthym fod trefn gydsynio effeithlon sydd â'r adnoddau priodol yn hanfodol er mwyn cefnogi twf y sector ynni adnewyddadwy. Mae'r drefn bresennol, wrth gwrs, yn ddiffygiol yn hyn o beth. Clywn am doriadau enfawr yng nghyllidebau awdurdodau cynllunio lleol, ac adnoddau annigonol i CNC, sy'n achosi oedi hir a chostus, weithiau, i brosiectau. Wrth gwrs, nid yw pryderon ynghylch cyllid i awdurdodau cynllunio a CNC yn newydd, ond os yw Llywodraeth Cymru am gyflawni ei huchelgais ar gyfer ynni adnewyddadwy, ni all anwybyddu'r pryderon hyn mwyach, ac mae argymhelliad 9 yn ein hadroddiad yn ceisio mynd i’r afael â hyn. Felly, yn eich adroddiad diweddar, Weinidog, ar weithredu argymhellion yr archwiliad dwfn, dywedwch fod angen gwneud rhagor o waith i adolygu anghenion Cyfoeth Naturiol Cymru o ran adnoddau yn y dyfodol. Pa mor hir y bydd yn rhaid inni aros am ganlyniad y gwaith hwnnw, ac a allwn ddisgwyl gweld unrhyw gynnydd yng nghyllideb CNC y flwyddyn nesaf o ganlyniad i hynny? Ar awdurdodau cynllunio'n benodol—dau gwestiwn plaen yma. A oes ganddynt yr adnoddau angenrheidiol i ymdopi â'r galw ar eu gwasanaethau? Ac os na, beth y bwriadwn ei wneud ynghylch hynny? Dywedodd rhanddeiliaid wrthym mai dim ond hyn a hyn y bydd cynyddu capasiti ac adnoddau yn ei wneud i wella’r broses gydsynio. Yn y pen draw, mae angen newidiadau deddfwriaethol. Ac rydym yn falch, felly, fod y Prif Weinidog wedi cyhoeddi Bil cydsyniad seilwaith i Gymru yn ei ddatganiad deddfwriaethol ym mis Gorffennaf. Wrth graffu ar y Bil, heb os, fe geisiwn wneud yn siŵr ei fod yn sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng hybu uchelgais ynni adnewyddadwy Cymru yn ogystal â diogelu ein hamgylchedd mwyfwy bregus. Yn olaf ar gydsynio, mae Llywodraeth Cymru wedi datgan yn glir ei safbwynt y dylid datganoli cydsyniadau ynni'n llawn. Felly, Weinidog, a yw hyn yn rhywbeth yr ewch ati'n weithredol i'w drafod gyda Llywodraeth y DU? Ac os felly, a fu unrhyw lygedyn o obaith? Efallai y gallech ddweud wrthym. Mae rhan olaf ein hadroddiad yn canolbwyntio ar gyfleoedd i gynyddu ynni cymunedol a lleol. Mae'n rhaid i’r twf yr ydym yn galw amdano mewn ynni adnewyddadwy fod o fudd i gymunedau ledled Cymru. Nid yn unig fod yn rhaid i gymunedau gael dweud eu dweud mewn prosiectau, mae'n rhaid iddynt fod yn rhanddeiliaid gweithredol, ac elwa ar y buddion cymdeithasol ac economaidd o'r newid i ynni adnewyddadwy. Dywedodd rhanddeiliaid wrthym, er mwyn cyflawni hyn, fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy i gymell ac annog rhanberchenogaeth, a nod argymhellion 12 a 13 yn ein hadroddiad yw mynd i’r afael â hyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn gadarnhaol i’r argymhellion hyn, ac ers cyhoeddi ein hadroddiad, mae wedi cyhoeddi canllawiau ar ranberchenogaeth. Mae hefyd wedi ymrwymo i fonitro ac adrodd yn rheolaidd ar y nifer sy'n manteisio ar ranberchnogaeth o brosiectau ynni, sydd, wrth gwrs, unwaith eto, yn rhywbeth y mae'r pwyllgor yn ei groesawu. Yn olaf, hoffwn sôn am argymhelliad 17. Roedd hwn yn galw am y wybodaeth ddiweddaraf am Ynni Cymru, gan gydnabod ei rôl yn cefnogi'r gwaith o ehangu ynni adnewyddadwy cymunedol yn arbennig. Roeddem wedi gobeithio y byddai’r argymhelliad hwnnw’n helpu i ateb rhai cwestiynau ynghylch Ynni Cymru, ond ni ddigwyddodd hynny. Er i Lywodraeth Cymru dderbyn ein hargymhelliad, yr ymateb, yn syml, oedd, 'Gwyliwch y gofod hwn'. Felly, Weinidog, rydym yn deall eich bod wedi sefydlu bwrdd interim y datblygwr ynni adnewyddadwy i ystyried cynigion ar gyfer cwmni datblygu. A ydym yn iawn i feddwl mai'r un peth fyddai’r cwmni hwn ac Ynni Cymru? Byddai’n ddefnyddiol pe gallech egluro hynny i’r pwyllgor. Ac a oes unrhyw beth arall y gallwch ei ddweud wrthym heddiw am gynnydd tuag at greu Ynni Cymru? Lywydd, mae casgliadau’r pwyllgor yn glir. Mae’n rhaid inni achub ar y llu o gyfleoedd sydd gennym yma yng Nghymru i ddatblygu ynni adnewyddadwy. Mae’n rhaid inni gael gwared ar y rhwystrau hirsefydlog sy’n atal datblygu. Ac mae'n rhaid inni wneud hynny, wrth gwrs, gan ddod â'n cymunedau gyda ni gan wybod y byddant yn elwa. Yn awr yn fwy nag erioed, mae angen inni ganolbwyntio ar y dyfodol ac nid y gorffennol, ac rwy'n gobeithio y bydd yn ddyfodol o ynni adnewyddadwy diogel a fforddiadwy, ac nid tanwydd ffosil dinistriol. Janet Finch-Saunders AC: Diolch i Gadeirydd fy mhwyllgor—Cadeirydd ein pwyllgor—am arwain y ddadl hon. Mae’r dyfyniad a ganlyn o’n hadroddiad pwyllgor trawsbleidiol yn tynnu sylw, yn gwbl briodol, at fethiant Llywodraeth Lafur Cymru i fanteisio'n llawn ar botensial ynni adnewyddadwy Cymru: 'Roedd strategaeth ynni 2012 Llywodraeth Cymru yn addo ystod o gamau gweithredu i wella’r broses gynllunio a chydsynio, a seilwaith grid yng Nghymru, ymhlith pethau eraill. Ddegawd yn ddiweddarach, mae’r un addewidion yn cael eu gwneud. Dyma’r amser i Lywodraeth Cymru gadw at ei gair, a hynny ar unwaith.' Yn 2012, Weinidog, addawodd eich Llywodraeth adolygu a gwella’r trefniadau cynllunio a chydsynio sy’n gysylltiedig â datblygu. Serch hynny, 10 mlynedd yn ddiweddarach, dylai Llywodraeth Cymru fod yn fwy—. O, mae'n ddrwg gennyf. Yn argymhellion eich archwiliad dwfn, rydych yn gwneud yr un addewid yn union, addewid y cyfeiriwch ato yn eich ymateb i argymhelliad 2. Felly, mae’n debyg mai’r cwestiwn yw: os na ddigwyddodd bryd hynny, pa hyder y gallwn ei gael y bydd yn digwydd o gwbl, ac nad ydych ond yn llusgo eich traed? Yn yr un modd, er fy mod yn croesawu ystyriaeth Llywodraeth Cymru i argymhelliad 3 a gweithredu galwad adroddiad y pwyllgor am dargedau mwy uchelgeisiol, ni ddylai hyn dynnu sylw oddi ar y cyfeiriad y mae'n rhaid inni deithio iddo. Mae angen inni wrthdroi’r dirywiad difrifol y mae pob un ohonom wedi’i weld, ac y gwyddom ei fod yn digwydd, dros y blynyddoedd diwethaf. Fel y dywedodd y Sefydliad Materion Cymreig wrthym, 'Dylai Llywodraeth Cymru ymboeni mwy am gyflawni ac osgoi addasu targedau'n ddibwrpas.' Gwn fy mod yn sefyll yma yn rhy aml ac yn clywed y bai'n cael ei daflu ar Lywodraeth y DU. Yn eich ymateb i argymhelliad 1 yn arbennig, mae'n rhaid inni gofio mai eich Llywodraeth Cymru chi a benderfynodd gael gwared ar y grantiau ardrethi busnes hanfodol i gynlluniau ynni dŵr bach, gan beryglu diwydiant lleol hyfyw, ac mae hyn wedi effeithio ar nifer o fy ffermwyr yn Aberconwy a gyfranogodd yn y cynlluniau hyn gyda phob ewyllys da, cyn clywed wedyn y byddent yn cael eu cosbi am wneud hynny. Mae hyn wedi golygu cynnydd o fwy nag 8,000 y cant mewn ardrethi busnes i gwmni North Wales Hydro Power, a ddisgrifiwyd gan y diwydiant fel cam annoeth iawn gan y Llywodraeth hon. Unwaith eto, ailadroddaf fy ngalwad ar Lywodraeth Cymru i wrthdroi’r penderfyniad hynod niweidiol hwn, a byddwn yn croesawu pe baech yn ymateb i’r pwynt penodol hwnnw, Weinidog, p'un a ydych wedi'i ystyried, ac y byddwch, o bosibl, yn ceisio cefnogi’r rhai sy’n ceisio chwarae eu rhan i'n helpu gydag ynni adnewyddadwy. Wrth gwrs, un maes lle gellid gweithredu newid mawr yn gyflymach o lawer yw allan ar y môr. Yn ôl RWE Renewables UK, mae datblygiadau ynni'r môr yn nyfroedd Cymru 'yn wynebu risg gynyddol o ran cydsyniad ac anfantais gystadleuol' o gymharu â’r rheini mewn mannau eraill yn y DU. Cyfeiriodd Ystad y Goron a’r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur at yr angen i gydbwyso cyflymu ac ehangu datblygiadau ynni adnewyddadwy ar y môr i gyflawni sero net, gan ddiogelu’r amgylchedd morol ac atal dirywiad bioamrywiaeth hefyd, ochr yn ochr â galwadau’r Sefydliad Materion Cymreig am broses gydsynio gliriach a mwy diffiniedig i sicrhau’r defnydd amserol o ynni adnewyddadwy morol. Sylwaf eich bod wedi egluro y dylai'r gwaith o nodi ardaloedd adnoddau strategol morol gael ei gwblhau yn 2023. Felly, fel y mae’r RSPB, y Gymdeithas Cadwraeth Forol ac eraill wedi’i nodi’n glir yma, bellach mae’n bryd creu llwyfan gwell eto ar gyfer datblygiadau ynni'r môr a byd natur, drwy greu cynllun datblygu morol cenedlaethol. Mater allweddol arall— Alun Davies AC: A wnewch chi dderbyn ymyriad? Janet Finch-Saunders AC: Gwnaf, wrth gwrs. Alun Davies AC: Rwy'n falch o'ch clywed yn dadlau'r achos hwn—credaf ei fod yn achos pwysig i'w ddadlau—ond wrth gwrs, yr hyn sydd gan y sefydliadau hynny'n gyffredin hefyd yw eu bod yn cefnogi datganoli Ystad y Goron i Gymru, a fyddai'n darparu hwb ariannol i’r datblygiadau hynny. Rwy'n cymryd y byddwch chi hefyd yn cefnogi hynny yn awr. Janet Finch-Saunders AC: Wrth gwrs. Mater allweddol arall sy’n atal y broses o ehangu ynni adnewyddadwy yw’r diffyg seilwaith grid digonol, ac mae'n rhaid imi ddweud, bob tro y cyfarfûm ag aelodau o’r diwydiant, maent yn nodi hyn fel mater pwysig iawn, rhwystr mawr. Dim ond mewn egwyddor y gwnaethoch chi dderbyn argymhelliad 7, ac ar adeg pan fo Pwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin yn awgrymu efallai nad yw Llywodraeth y DU yn ymwybodol o ddifrifoldeb y materion capasiti grid, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddangos mwy o arweiniad ac ymgysylltu’n rhagweithiol â Llywodraeth y DU ar y lefel uchaf un i sicrhau y caiff gofynion seilwaith grid Cymru ar hyn o bryd ac yn y dyfodol eu deall a’u bodloni’n llawn. Fel y cyfryw, ni fyddai'n gwneud unrhyw niwed codi’r argyfwng—ac a wnewch chi wneud hynny, Weinidog—yn y grŵp rhyngweinidogol nesaf ar sero net, ynni a newid hinsawdd. Yn yr un modd, credaf y dylech wrando ar alwadau 'Strategaeth Ynni Gogledd Cymru' i edrych ar sefydlu treialon microgridiau, a byddai'r gogledd yn lle da i ddechrau gwneud hynny. Byddai hyn yn ddefnydd llawer gwell o arian trethdalwyr na sefydlu cwmnïau ynni sy’n eiddo i’r Llywodraeth, sy’n syniad annoeth yn fy marn i. Maent eisoes wedi ceisio gwneud hynny ym Mryste, lle arweiniodd at ganlyniadau enbyd i drethdalwyr lleol. A wnewch chi ddirwyn i ben yn awr, os gwelwch yn dda, Janet? Janet Finch-Saunders AC: Gyda'r rhyfel Rwsiaidd yn Wcráin wedi gwneud i bob etholwr bron sylweddoli’r angen i Gymru a’r DU gynhyrchu mwy o ynni adnewyddadwy, nawr yw’r amser i Lywodraeth Cymru gymryd camau gweithredu breision. Rwy’n hyderus fod mwy o feysydd yr ydym yn cytuno arnynt i alluogi’r Senedd gyfan i gydweithio er mwyn sicrhau bod Cymru’n cyflawni ei photensial o ran ynni. Diolch. Jenny Rathbone AC: Yn gyntaf, hoffwn ddatgan bod fy mhartner yn gynghorydd i Bute Energy a fy mod innau'n gyfranddaliwr yng nghynllun ynni adnewyddadwy cymunedol Awel Aman Tawe. Mae'n rhaid inni gamu i'r adwy yn y cyswllt hwn, gan fod yr argyfwng a oedd newydd ddechrau pan oeddem yn dechrau cymryd tystiolaeth—mae'n argyfwng, ond mae hefyd yn gyfle. Mae'n rhaid inni ganolbwyntio ar hyn a chyflymu'r newid. Siaradodd Ken Skates yn gynharach am ei bryderon ynghylch pyllau nofio yn ei etholaeth, a chawsom ymateb gan Weinidog yr economi, ond ni chlywais unrhyw frys yn ei ymateb, er fy mod yn llwyr gydnabod fod hyn yn rhan o gylch gorchwyl Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, nad oedd yn y Siambr yn gynharach heddiw. Credaf fod hyn yn un o'r pethau lle bydd digwyddiadau'n mynd yn drech na ni oni bai ein bod yn gwneud rhywbeth yn ei gylch yn awr. Felly, mae'n rhaid inni edrych ar yr hyn y mae rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig eisoes yn ei wneud i ddiogelu eu pyllau nofio. Er enghraifft, un o’r arweinwyr yn hyn o beth yw Narberth Energy, sydd ag un o’r pyllau cymunedol hynaf sy’n cael ei gynhesu gan ynni adnewyddadwy yn y DU. Mae Nofio Arberth yn bwll sy’n eiddo i’r gymuned, sy’n cael ei redeg er budd ei gymuned leol, a'i gefnogi gan Narberth Energy, cymdeithas budd cymunedol, a drefnodd gynnig cyfranddaliadau i godi arian i osod boeler biomas 200 kW ac aráe solar ffotofoltäig 50 kW yn ôl yn 2015. Maent i'w canmol am fod yn ddigon craff i wneud hynny, gan fod cymaint o byllau nofio eraill yn dal i fod yn ddibynnol ar nwy i wresogi eu pyllau, ac rwy'n pryderu'n fawr amdanynt. Ni allwn fod mewn sefyllfa lle na all y genhedlaeth nesaf nofio am nad oes ganddynt gyfleusterau diogel i ddysgu sut i wneud hynny. Felly, ceir sawl enghraifft wych arall o sut i wneud hynny. Mae pyllau nofio yn tueddu i fod yn adeiladau ar eu pen eu hunain gyda thoeau mawr, sy'n sicr yn addas ar gyfer gosod araeau o baneli solar sy'n wynebu'r de. Maent hefyd yn tueddu i fod yn adeiladau sydd â digon o le ar gyfer pympiau gwres ffynhonnell aer neu bympiau gwres o'r ddaear, ac eto, tybed faint o hyn sydd eisoes wedi digwydd yng Nghymru. Yn yr Alban, er enghraifft, mae to a waliau wedi'u hinswleiddio ac unedau adfer gwres mewn pwll nofio yn Forres yn yr Alban, ynghyd â'r aráe solar sydd ganddynt, yn creu system effeithlon i hidlo'r pwll. Dyma'r pethau mwyaf amlwg y mae'n rhaid iddynt ddigwydd os ydym am achub ein pyllau nofio. Yn Ayrshire, mae’r unig bwll dŵr croyw awyr agored yn yr Alban yn cael ei gynhesu gan ddefnyddio pympiau gwres o’r ddaear, a ariennir yn rhannol gan ymddiriedolaeth ynni gwyrdd ScottishPower. Fe'i hailagorwyd yn 2017, gan ddefnyddio’r pympiau gwres o’r ddaear hyn yn unig. Yn yr un modd, yn Skipton, ceir pwll nofio sy'n defnyddio pympiau gwres ffynhonnell aer ar gyfer eu dau bwll a'r cawodydd, yn ogystal â thechnoleg adfer gwres, a cheir paneli solar ffotofoltäig eisoes ar y safle. Yn Rhydychen, mae gennych y pwll nofio awyr agored mwyaf yn y DU sy'n defnyddio pympiau gwres ffynhonnell dŵr. Mae'r rhain o ddifrif yn bethau y mae angen inni edrych arnynt fel mater o frys, neu byddwn yn colli ein holl byllau nofio. Mae'n amlwg fod angen inni addasu'r grid hefyd—rhywbeth yr ydym wedi sôn amdano, ac sydd wedi'i grybwyll eisoes gan siaradwyr blaenorol—ond mae angen inni fynnu hefyd fod pobl sy'n gosod teils ar eu toeau yn meddwl am baneli solar ar yr un pryd. Ni allaf gredu faint o bobl yn fy etholaeth sy’n atgyweirio eu toeau tra bo'r haul yn dal i ddisgleirio ond sydd heb hyd yn oed ystyried ychwanegu araeau solar ar eu to sy’n wynebu’r de ar yr un pryd, oherwydd yn amlwg, mae llawer o gost ynghlwm wrth osod y sgaffaldiau a chael y gweithwyr ar y safle yn unig. Felly, mae'n rhaid inni ddechrau meddwl am hyn mewn ffordd wahanol. Mae'n rhaid i'r argyfwng hwn fod yn gyfle i edrych ar bopeth a wnawn. Mae angen inni sicrhau bod gennym baneli solar ar ein holl doeau sy’n wynebu’r de, gyda batris i fynd gyda hwy, fel y gall pobl ddefnyddio’r ynni o’r pŵer solar pan fyddant ei angen, sef pan fyddant yn dod adref gyda’r nos wedi i'r haul fachlud. Mae'n rhaid inni newid yn llwyr. Jenny, a wnewch chi ddirwyn i ben yn awr, os gwelwch yn dda? Diolch. Delyth Jewell. Delyth Jewell AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r ddadl hon yn ofnadwy o amserol. Mae'r crisis costau byw yn golygu poen anferthol ar gyfer pobl gyffredin, fel sy'n codi dydd i ddydd yn y Senedd, a hynny ar adeg o grisis newid hinsawdd, crisis natur, ac wrth gwrs, ymlediad gwrthdaro rhyngwladol. Mewn sawl ffordd, mae'r sialensiau hyn sy'n wynebu ein byd, sialensiau sy'n effeithio ar bawb, er mewn ffyrdd anghydradd, i gyd yn cael eu tanlinellu gan y thema gyffredin yma o ynni. Mae'r argyfwng hinsawdd wedi cael ei achosi mewn lot of ffyrdd gan ymddygiad dynolryw i ddefnyddio ynni mewn ffordd sydd ddim yn gynaliadwy—hynny ydy, trwy losgi tanwydd ffosiledig ers y chwyldro diwydiannol. Mae'r crisis costau byw yn cael ei ddwysáu fel canlyniad i filiau ynni, ac mae'r rhyfel yn Wcráin ac ymateb y gymuned ryngwladol i'r rhyfel hwnnw yn cael ei nodweddu gan wrthdaro ar gyflenwad ynni. Mae miloedd ar filoedd o gartrefi yma yn wynebu amodau ofnadwy dros y gaeaf, ac mae'r Canghellor newydd yn San Steffan yn lleihau yr adeg pan fydd cymorth ar gael. Mae busnesau, iechyd a lles pobl i gyd yn y fantol, ac i wneud pethau'n waeth, mae rhybudd o flacowtsar y diwrnodau mwyaf oer. Mae hanes, Dirprwy Lywydd, yn ailadrodd ei hunan. Mae pwerau mawrion gwleidyddiaeth ryngwladol yn gwrthdaro; mae tensiynau rhwng archbwerau'r byd, a gartref, rŷn ni'n wynebu argyfwng domestig. Ac fel sydd wedi cael ei ddweud yn barod, mae Cymru mewn sefyllfa arbennig o fregus fel canlyniad i'n cyflenwad tai, sydd mor aneffeithlon o ran ynni, ac fel canlyniad hefyd i'r tlodi sydd wedi heintio ein cymunedau ers degawdau. Bydd ein pobl ni nawr yn profi'r crises hyn yn enbyd o llym. Delyth Jewell AC: Gwn fod y darlun hwnnw'n llwm, Ddirprwy Lywydd, ond rwy'n credu mai'r hyn sy'n cael ei ddweud droeon yn y ddadl hon yw nad oes angen iddi fod felly. Mae Cymru yn allforiwr ynni net ac mae potensial datblygu ynni adnewyddadwy yn enfawr. Mae'r argyfyngau presennol yn gwneud yr achos dros y newid hwn yn fwy pwysig byth. Y tu hwnt i gymhwyso angenrheidiau ynni fel trydan, cynhesrwydd, cynhyrchu bwyd, trafnidiaeth, mae'r cwestiwn o reolaeth dros adnoddau ynni hefyd wedi cael mwy o sylw dros y blynyddoedd diwethaf. Nodaf fod Alun Davies wedi gwneud y pwynt hwn. O gwestiynau ynghylch diffyg rheidrwydd, am bwerau dros y grid, am brosiectau ynni mwy, am Ystad y Goron yng Nghymru, mae'r ffactorau hyn i gyd wedi llesteirio ein gallu i ddiwallu anghenion ynni Cymru yn ddifrifol, i ymateb i newid hinsawdd a lleihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil. Pryd bynnag y cawn y dadleuon hyn, gwneir y pwynt fod hanes Cymru yn un a nodweddid, mewn cymaint o ffyrdd, gan gamfanteisio a thlodi. Roedd y pethau hynny'n diffinio oes y glo; rhaid inni sicrhau bod y dyfodol yn wahanol. Roedd y pwyllgor yn glir, fel finnau, y gall Llywodraeth Cymru wneud mwy i hybu cynhyrchiant ynni adnewyddadwy yng Nghymru, er mwyn gwneud yn siŵr fod rheolaeth dros ein system ynni ein hunain yn gryfach. Mae cynnydd cyfyngedig wedi'i wneud. Er hynny, mae Cymru'n dal i fod yn bell o fod â grid sy'n barod ac sy'n gallu cefnogi newid cyflym i ynni adnewyddadwy. Nid ydym yn agosach at bwerau datganoledig dros Ystad y Goron. Hoffwn annog Llywodraeth Cymru i ddangos mwy o uchelgais, oherwydd yr holl argyfyngau hyn sy'n ein hwynebu, i wneud popeth yn ei gallu i sicrhau bod gofynion seilwaith grid Cymru yn cael eu bodloni'n llawn yn awr ac yn y dyfodol. Pan gawn ymateb y Llywodraeth i'r ddadl, byddai'n ddefnyddiol iawn cael diweddariad ar unrhyw ddatblygiadau sydd wedi digwydd mewn perthynas â datganoli pwerau dros Ystad y Goron i Gymru. Rwy'n gwybod ein bod ni i gyd yn ymwybodol o'r angen i ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur mewn ffyrdd cysylltiedig, ac mae hyn yn rhywbeth sy'n sicr wedi codi yn ein tystiolaeth hefyd. Rwyf am orffen gyda hyn, Ddirprwy Lywydd. Mae angen i ni gydbwyso'r angen i gyflymu ac ehangu ynni adnewyddadwy ar y môr a chyflawni sero net cyn gynted ag y gallwn gyda diogelu amgylcheddau morol ac atal dirywiad bioamrywiaeth. Felly, byddai'n dda pe gallem gael rhywfaint o fanylion ar hyn, oherwydd mae'r holl argyfyngau hyn wedi'u cydgysylltu yn y ffordd y maent yn ein taro, ond mae angen cydgysylltu'r ffordd yr ymatebwn iddynt gymaint â phosibl hefyd. Diolch yn fawr. Alun Davies AC: Wrth ddarllen drwy adroddiad y pwyllgor—rwy'n ddiolchgar iawn i Gadeirydd y pwyllgor am ei gyflwyniad y prynhawn yma—a darllen drwy ymateb y Llywodraeth, fy nheimlad llethol oedd nad oedd llawer iawn o wahaniaeth rhwng y ddau, fod llawer iawn o bethau'n gyffredin, yn enwedig o ran uchelgais a gweledigaeth, rhwng y Llywodraeth a'r pwyllgor. Mae hynny i'w groesawu wrth gwrs. Fodd bynnag, wrth ddarllen drwy'r ddau, teimlwn hefyd fod y ddau braidd yn anfoddhaol mewn ffyrdd gwahanol. Gadewch imi egluro pam rwy'n meddwl hynny. Os wyf edrychaf yn ôl dros gyfnod Llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru, mae yna bethau yr ydym wedi eu gwneud yn dda iawn ac mae yna bethau eraill yr ydym wedi eu gwneud yn llai da, a dyna natur llywodraethu, wrth gwrs. Rwy'n credu bod ynni yn un o'r meysydd polisi lle nad ydym wedi llwyddo dros y ddau ddegawd diwethaf, ac rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y gallwn ddysgu gwersi ohono. Rwy'n falch fod y Prif Weinidog wedi dod i'w sedd ar gyfer y ddadl hon, oherwydd rwyf am ei longyfarch ar benderfyniad a wnaeth—mae'n edrych yn fwy pryderus byth yn awr. [Chwerthin.] Mae'n dechrau difaru nad aeth am baned o goffi. Ond pan oeddwn yn Weinidog ynni rai blynyddoedd yn ôl, roeddwn yn un o dri Gweinidog ynni yn y Cabinet. Ar wahân i fi fy hun, roedd gennym Weinidog yr economi a'r Prif Weinidog ar y pryd. Roedd pob un ohonom yn gyfrifol am ynni, ac ni fyddai'n synnu neb yn y Siambr na thu hwnt na chyflawnodd y tri ohonom unrhyw beth gyda'n gilydd, na wnaethom gyflawni, oherwydd roedd gennym ddull tameidiog o weithredu, ac roedd gennym Weinidogion yn cystadlu â'i gilydd, os mynnwch, yn hytrach na chydweithio. Felly, rwy'n credu bod rhoi'r cyfrifoldeb i un Gweinidog ynghyd â newid systemau'r Llywodraeth i adlewyrchu hynny yn benderfyniad pwysig, ac mae'n ffordd bwysig o hyrwyddo polisi. Rwy'n croesawu'r ymrwymiad y mae'r Gweinidog ei hun wedi'i wneud mewn perthynas â hyn. Rwyf hefyd yn derbyn y pwyntiau a wnaeth mewn dadl gynharach, ac sydd wedi'u gwneud mewn mannau eraill, am natur anfoddhaol y setliad. Nid wyf am geisio ailadrodd y dadleuon hynny eto y prynhawn yma. Ond mae'n ymddangos i mi, o ystyried ein sefyllfa a natur y setliad heddiw, fod yna ddwy rôl y gall Llywodraeth Cymru eu chwarae yn fras mewn polisi ynni. Mae'r gyntaf yn rôl fwy goddefol o ran creu trefn gydsynio a chynllunio a fydd yn galluogi eraill i wneud penderfyniadau a gaiff eu hysgogi'n fasnachol yn bennaf. Janet Finch-Saunders AC: Ond a ydych yn credu, yn ogystal â'r ffaith ei fod yn gyfrifoldeb i'r Llywodraeth—? Beth all y Llywodraeth ei wneud i rymuso mwy o bobl i gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb? Y rheswm rwy'n gofyn y cwestiwn hwn yw oherwydd bod cymaint o bobl yn dweud wrthyf, 'O, byddwn wrth fy modd yn cael paneli solar, ond nid oes gennyf syniad sut i fynd ati', neu 'Byddwn wrth fy modd yn gosod pwmp gwres, ond nid oes gennyf syniad beth rwy'n ei wneud.' A oes yna ffordd y gallai'r Llywodraeth, wrth i ni symud ymlaen, geisio grymuso pobl i gymryd cyfrifoldeb eu hunain, ac annog y rhai sy'n dymuno mynd allan a phrynu'r pethau hyn i helpu, hyd yn oed os yw ond i gynhesu eu cartref eu hunain, neu fwydo i mewn i grid, y gellid annog hynny? Alun Davies AC: Mae'r Aelod dros Aberconwy yn gwneud fy ail bwynt ar fy rhan. Y rôl gyntaf bosibl i'r Llywodraeth yw rôl fwy goddefol; mae'n darparu'r amgylchedd lle gall pobl eraill wneud penderfyniadau a gwneud buddsoddiadau. Mae'r ail rôl, rwy'n credu, yn un lawer mwy diddorol. Mae'r ffordd y fframiais y cwestiwn, wrth gwrs, yn dangos lle rwy'n sefyll, sef sbardun gweithredol i newid. Gall y sector cyhoeddus—cawsom y ddadl hon ddoe dros wariant cyhoeddus, i ryw raddau—newid telerau'r ffordd y gwnawn bethau yn ein cymdeithas. Rwy'n croesawu rhai o'r penderfyniadau sy'n cael eu gwneud a fydd yn ein galluogi i gyflawni polisi ynni sy'n canolbwyntio ar reolaeth leol ar ffurf wasgaredig. Yn amlwg, mae angen y strwythurau grid mawr ac mae angen inni allu darparu cyflenwad llwyth sylfaenol—rwy'n deall hynny i gyd—ond mae'n rhaid inni ddeall hefyd fod Ofgem yn rheoleiddiwr arall sydd wedi methu. Un o'r problemau sydd gennym—. Dyma lle roeddwn yn anghytuno â Llywodraeth Blair nad yw perchnogaeth yn bwysig ac y gallwch gyflawni popeth drwy reoleiddio. Rwy'n credu bod perchnogaeth yn bwysig. Rwy'n credu bod ethos cwmni cyhoeddus yn bwysig, ac rwyf hefyd yn credu bod gallu cwmni cyhoeddus i ddarparu er budd cyhoeddus yn bwynt pwysig i bob un ohonom. Felly, hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio—ac mae'r Llywodraeth yn dweud hyn mewn rhannau o'i hymateb—ar gynhyrchu ynni'n fwy lleol. Nawr, sut y gallwn ni wneud hynny? Sut y gallwn ni leihau'r risg sydd ynghlwm wrth hynny? Sut y gallwn ni ddarparu'r cyllid a fyddai'n galluogi llywodraeth leol ddiwygiedig, er enghraifft, i fuddsoddi mewn cwmnïau ynni lleol, neu gyfleoedd cyflenwi ynni cydweithredol? Credaf fod honno'n ddadl hynod ddiddorol y gallwn ei chael. Ac rwyf am erfyn ar y Gweinidog—gallaf weld bod fy amser yn dirwyn i ben— Mae gennych amser ychwanegol gan eich bod wedi derbyn ymyriad. Alun Davies AC: Rwyf am fanteisio ar bob eiliad o'r cynnig hael hwnnw. Gadewch inni beidio â mynd i lawr y llwybr—. Rwyf wedi gweld cynigion yn fy etholaeth fy hun lle mae tyrbinau 180m, 650 troedfedd, yn cael eu hargymell o fewn 1km i rai aneddiadau. Dyna faint ochrau'r cymoedd yn fy etholaeth i. Mae'n ddatblygiad cwbl amhriodol, ac rwy'n credu y bydd hynny'n tanseilio cefnogaeth i faterion ehangach a phwysicach yn ymwneud ag ynni adnewyddadwy. Y pwynt rwyf am ei wneud i gloi yw: yn ymateb y Llywodraeth a'r adroddiad gan y pwyllgor, ni welsom unrhyw enghreifftiau rhyngwladol. Wyddoch chi, Ddirprwy Lywydd, gallai fod yn broblem i chi hefyd; yn fy amser i yn y lle hwn, rwyf wedi ein gweld yn meddwl llai am lefydd eraill. Rwyf wedi ein gweld yn meddwl llai ynglŷn â sut y gallwn ddysgu gwersi o lefydd eraill. Roeddwn wrth fy modd yn gweld y Dirprwy Weinidog chwaraeon yn cefnogi'r tîm rygbi merched yn Seland Newydd, a chyfarfod â sefydliadau chwaraeon a sefydliadau diwylliannol yno. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gwneud hynny. Dylem bob amser gefnogi pobl sy'n ymgymryd â'r rôl honno. Ond sut y mae dysgu gwersi gan Ffrainc neu'r Almaen, dyweder, gan yr Alban, yr Unol Daleithiau, Canada, am ddarparu cynhyrchiant ynni sydd wedi'i leoli'n lleol a'i wreiddio'n lleol? Credaf fod cyfleoedd yno inni ddysgu a chymhwyso'r gwersi hynny yng Nghymru, ac rwy'n gobeithio na fydd y Senedd a'r Llywodraeth yn swil ynglŷn ag edrych am yr enghreifftiau rhyngwladol hynny a cheisio eu cymhwyso yma yng Nghymru. Rwy'n credu bod yna ymdeimlad o fenter ar y cyd yn y lle hwn, gyda'n gilydd, rhwng y Llywodraeth a'r Senedd, ac os gweithiwn gyda'n gilydd ar y materion hyn, rwy'n credu y gallwn gyflawni pethau gwych ar gyfer y dyfodol. Rwy'n ddiolchgar. Diolch yn fawr iawn. Carolyn Thomas AS: Rwy'n falch o weld bod diffyg capasiti grid wedi cael ei gydnabod yn argymhelliad 6 a 7. Dyma'r rhwystr mwyaf i fynd ar drywydd ynni adnewyddadwy yng ngogledd Cymru. Nid oes prinder aelwydydd sy'n dymuno cael ynni adnewyddadwy, fel pympiau gwres ffynhonnell aer ac ynni solar ffotofoltäig, ond mae cyrraedd y grid—y gweithredwr rhwydwaith dosbarthu sy'n ei osod—yn achosi cymaint o broblemau. Rwyf wedi cael gwybod ei bod yn arbennig o anodd cael unrhyw beth o werth wedi'i dderbyn gan SP Energy Networks, ac mae'n ymddangos mai ychydig iawn o awydd sydd yna i gysylltu ynni adnewyddadwy â'u grid yng ngogledd Cymru. Maent wedi gadael ceisiadau heb eu hateb am gyhyd â chwe mis, gan ychwanegu oedi a chymhlethdodau i brosiectau. Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn rhagweithiol iawn wrth geisio defnyddio ynni adnewyddadwy ar dai cymdeithasol i gynorthwyo tenantiaid, gan gynnwys llety gwarchod. Roeddent eisiau gosod 300 o systemau solar ffotofoltäig y flwyddyn, ond gwrthodir caniatâd i'w gosod yn aml. Mewn achos arall yn Saltney, dair blynedd yn ôl, cyflwynwyd cais i'r gweithredwr rhwydwaith ardal ar gyfer gosod 100 o systemau solar ffotofoltäig a cafodd hwnnw ei wrthod. Y rheswm a roddwyd oedd bod angen uwchraddio'r rhwydwaith lleol. Dair blynedd yn ddiweddarach, nid oes unrhyw gynlluniau i uwchraddio ar y gweill. Gyda'r cynnydd mewn biliau tanwydd dros y cyfnod, mae gennym sefyllfa lle nad yw 103 o aelwydydd yn derbyn y buddion a fyddai'n dod yn sgil paneli solar. Yn fuan ar ôl y cais gwreiddiol, cafodd Cyngor Sir y Fflint ddyfynbris o £33,000 am y gwaith uwchraddio, ac fe'i gwrthodwyd, yn ddealladwy, gan nad oeddent yn gallu ei fforddio. Nid yw'n ymddangos yn iawn fod angen talu gweithredwr rhwydwaith ardal i uwchraddio eu rhwydwaith eu hunain pan fyddant yn cael trydan am ddim a phan fo gweithredwyr rhwydwaith ardal eraill yn dweud nad ydynt angen taliad. Felly, mae angen cydbwyso hynny, mewn gwirionedd—pam fod Scottish Power yn dweud eu bod angen taliad, ac eraill yn dweud nad ydynt angen taliad. Digwyddiad arall gyda thai cymdeithasol gogledd Cymru oedd bod bloc o fflatiau eisiau gosod 54 o bympiau gwres ffynhonnell aer wedi eu gwrthbwyso gan bŵer solar, ac unwaith eto, gwrthodwyd hyn gan SP Energy Networks. Fodd bynnag, dywedwyd wrthynt y byddent yn gallu gosod gwresogyddion storio trydan costus, a oedd yn ganlyniad llawer llai dymunol, oherwydd eu bod yn deall y dechnoleg honno yn y bôn. Felly rwy'n credu bod eu dealltwriaeth o dechnoleg yn ddiffygiol. Ambell enghraifft yw'r rhain o nifer y cefais wybod amdanynt. Rwy'n credu mai'r mater allweddol yw na fyddwn byth yn cyrraedd targedau arfaethedig Llywodraeth Cymru heb uwchraddio radical i seilwaith y grid a dealltwriaeth y darparwyr rhwydwaith hyn. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog ehangu ar ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhellion hyn yn arbennig, gan eu bod mor hanfodol i ehangu cynhyrchiant ynni adnewyddadwy, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Rwy'n pryderu'n fawr hefyd nad yw'n ymddangos bod Prif Weinidog y DU yn credu mewn newid hinsawdd na'r argyfwng natur, a'i bod eisiau buddsoddi mewn tanwydd ffosil a ffracio—gan fynd yn groes i waharddiad ar ffracio na chaiff ei godi hyd nes y profir yn bendant nad yw'n achosi daeargrydiau. Mae arbenigwyr daeareg yn dal i fethu gwneud hyn, ond eto maent yn dal i fod eisiau bwrw ymlaen ag ef, sy'n bryderus iawn. Roeddwn mor falch o weld yr uned beirianneg newydd yn cael ei hadeiladu yng Ngholeg Llandrillo yn Y Rhyl, diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru. Maent yn adeiladu canolfan sgiliau ynni tyrbinau gwynt flaenllaw yno, sy'n wych. Felly fe fyddant yn arwain ar uwchsgilio prentisiaid peirianneg yng ngogledd Cymru, ond maent yn gobeithio sicrhau'r cytundeb ar gyfer gogledd-orllewin Lloegr hefyd i wneud y ddarpariaeth honno yng ngogledd Cymru, sy'n wych. Diolch. Rhun ap Iorwerth AC: Mi fyddwn i’n licio gwneud pwynt neu ddau ynglŷn â datblygiadau ynni gwynt y môr yn y dyfodol, efo cyfeiriad yn benodol at argymhelliad 11, sydd yn gofyn am eglurhad o ba gamau y byddai’r Llywodraeth yn eu cymryd i symleiddio’r broses ar gyfer datblygu prosiectau ynni adnewyddol yn y môr Celtaidd mewn blynyddoedd i ddod. Dwi’n llongyfarch y pwyllgor am y gwaith sydd wedi mynd i mewn i’r adroddiad yma, ac sydd yn cyffwrdd â chymaint o feysydd pwysig fel hwn. Dwi’n darllen yn ymateb y Llywodraeth wrth iddyn nhw dderbyn yr argymhelliad hwn eu bod nhw'n edrych ar y broses o drwyddedu a chydsynio, ac ati, sydd yn bwysig iawn, a dwi’n croesawu hynny. Dwi’n falch o weld cyfeiriad at y ffaith bod trafodaethau yn digwydd efo Ystad y Goron, sydd yn gwbl, gwbl allweddol, a dwi’n ategu’r angen yn fan hyn i ddatganoli’r cyfrifoldeb dros Ystad y Goron i Gymru. Ond, mi hoffwn i holi’r Gweinidog ynglŷn â’r angen hefyd i sicrhau datblygiad y seilwaith ehangach yna a all ganiatáu i ni fanteisio yn economaidd i’r eithaf ar ynni adnewyddol. Dwi yn credu bod hynny’n flaenoriaeth, a dwi’n frwd iawn—fydd y Gweinidog ddim yn synnu o glywed hynny—dros ddatblygu porthladd Caergybi fel porthladd i wasanaethu’r genhedlaeth nesaf o brosiectau ynni gwynt y môr oddi ar arfordir Cymru. Dwi yn gweld bod yna gyfle go iawn yn fan hyn i greu swyddi, i ddod â buddsoddiad, i roi defnydd cynaliadwy hirdymor i hen safle Alwminiwm Môn, nid yn unig fel canolfan wasanaethu’r ffermydd gwynt nesaf, ond hefyd ar gyfer cynhyrchu. Felly, mi fyddwn i'n croesawuclywed gan y Gweinidog y math o gefnogaeth a'r math o ymrwymiad mae hi'n barod i'w roi i geisio gwireddu potensial porthladd Caergybi yn y ffordd yma. Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James Julie James AC: Diolch, Ddirprwy Llywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r ddadl hon heddiw, a diolch yn fawr i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith am eu hadroddiad gwerthfawr iawn. Mae'r argyfwng a nododd y Cadeirydd yn ei ragair yn amlwg wedi dyfnhau, fel y dywedodd, ac mae'r ffaith bod yr argyfwng costau byw yn parhau o ganlyniad i gamreoli economaidd Llywodraeth y DU hollol ddi-drefn yn rhywbeth yr ydym eisoes wedi'i drafod nifer o weithiau heddiw yn barod. Rwy'n dal i orfod edrych ar fy ffôn i weld pwy yw'r Gweinidog cyfrifol. Ond mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno rhywfaint o help gyda chostau ynni yn hwyr yn y dydd, ond mae'r sicrwydd ynghylch y mesurau hynny wedi diflannu fel un o'r nifer o droeon pedol a ddilynodd cyllideb ddi-drefn y Torïaid fis diwethaf, fel y buom yn ei drafod ychydig yn gynharach.Mae costau ynni'n dal i fod yn sylweddol uwch na'r gaeaf diwethaf, hyd yn oed gyda'r cymorth hwnnw. Ceir llawer o aelwydydd a busnesau na chânt gynnig y cymorth sydd ei angen arnynt, ac mae gennym gyfraddau llog uwch a phunt wannach erbyn hyn, sy'n codi chwyddiant i lefelau nas gwelwyd ers y 1980au a'r llywodraeth Geidwadol fwyafrifol ddiwethaf. Mae'r DU wedi gweld rhai o'r codiadau mwyaf yng nghostau ynni, er gwaethaf dibyniaeth uniongyrchol gymharol gyfyngedig ar gyflenwadau nwy o Rwsia, a hynny'n uniongyrchol oherwydd methiant Llywodraeth y DU i ddiwygio system ynni'r DU dros y degawd diwethaf. Ceir risg y bydd y methiant hwn yn ein gorfodi i fod yn ddibynnol ar danwydd ffosil, fel sy'n cael ei adlewyrchu yn y cyhoeddiadau enbyd gan Lywodraeth y DU ar ei bwriad i ehangu trwyddedau olew a nwy newydd ym môr y Gogledd, a hwyluso gwaith ffracio newydd yn Lloegr. Hoffwn ailadrodd unwaith yn rhagor, rydym yn gwrthwynebu'r ddau fesur hwn yn chwyrn, a bydd ein polisïau'n parhau i ddefnyddio'r holl bwerau sydd ar gael i ni i wrthwynebu unrhyw echdynnu newydd yng Nghymru. Mae'r system bresennol wedi caniatáu i fusnesau mawr yn y sector ynni gynhyrchu ffawdelw digynsail, a dylai Llywodraeth y DU fod yn targedu'r enillion ffawdelw ar draws y sector ynni cyfan i ariannu'r cymorth i aelwydydd a busnesau. Mae'n anodd dirnad beth ddaeth dros Lywodraeth y DU i ddiystyru trethu ffawdelw yn y sectorau olew a nwy. Ni allaf ddirnad ai ideoleg yw hi neu a ydynt wedi paentio eu hunain i gornel wleidyddol nad ydynt yn gwybod sut i ddod ohoni. O ystyried y troeon pedol diweddar a chyflwr truenus cyllid cyhoeddus o ganlyniad uniongyrchol i benderfyniadau a wnaethant, rwy'n gobeithio'n fawr y bydd Llywodraeth y DU yn ailystyried ei safbwynt ar echdynnu tanwydd ffosil ar fyrder, Ddirprwy Lywydd, oherwydd nid esgus dros leihau uchelgais ar gyfer system ynni decach a gwyrddach yw'r argyfwng hwn. Mae'r argyfwng, mewn gwirionedd, yn mynnu ein bod yn rhoi camau pellach ar waith i fynd i'r afael â methiannau'r degawd diwethaf, tra byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i ddiogelu'r rhai mwyaf agored i niwed rhag y cythrwfl economaidd Torïaidd hwn. Sefydlwyd yr archwiliad dwfn i ynni adnewyddadwy i nodi cyfleoedd a mynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n peryglu ein huchelgais i Gymru o leiaf ddiwallu ein hanghenion ynni ein hunain o ffynonellau adnewyddadwy, er, yn amlwg, byddem yn hoffi bod yn allforiwr net hefyd. Ac rwy'n hynod ddiolchgar i aelodau'r archwiliad dwfn am eu gwaith ystyrlon, ac am eu cefnogaeth barhaus wrth inni weithredu'r argymhellion. Gydag uchelgais clir ar waith, byddwn yn ymgynghori ar dargedau ynni adnewyddadwy diwygiedig yn ddiweddarach eleni, yn unol â'n hymrwymiadau, fel y'u nodir yn 'Cymru Sero Net'. Mae adroddiad y pwyllgor yn cydnabod yn briodol y rôl y gall targedau ei chwarae yn helpu i ddod â mwy o eglurder i ddiwydiant, rhanddeiliaid ac i'r holl ddinasyddion ar y llwybr i system ynni sero net. Rydym yn cydnabod yn llwyr fod gan Gymru doreth o adnoddau naturiol sy'n golygu ein bod yn gallu cynhyrchu ynni i ateb y galw mewn mannau eraill. Ond os ydym am ddefnyddio ein hadnoddau, rhaid inni wneud hynny mewn ffordd sy'n diogelu ein treftadaeth naturiol ac sy'n cadw cymaint â phosibl o fudd a gwerth yng Nghymru, gan rannu'r costau a'r gwobrau'n deg, fel y mae nifer fawr o'r Aelodau wedi dweud yn ystod y ddadl hon. Rydym eisoes wedi cyflawni nifer o ymrwymiadau o'r archwiliad dwfn; rydym wedi cyhoeddi ein canllawiau ar berchenogaeth i gefnogi'r trafodaethau rhwng datblygwyr a chymunedau i gyflawni ein huchelgeisiau perchnogaeth leol a chymunedol; rydym wedi cynyddu'r adnoddau i Ynni Cymunedol Cymru a'r cyllid sydd ar gael drwy wasanaeth ynni Llywodraeth Cymru i ddarparu prosiectau ynni adnewyddadwy cymunedol; ac rydym yn parhau i fwrw ymlaen â gwaith ar gwmni datblygu ynni adnewyddadwy mewn dwylo cyhoeddus, fel y gwnaethom ymrwymo i'w wneud yn 'Cymru Sero Net'. Hoffwn nodi, Janet, eich amheuaeth yn eich cyfraniad am gwmni sy'n eiddo i'r wladwriaeth ar gyfer y DU neu i Gymru, ond wrth gwrs, caiff y grid ei ddarparu gan Scottish Power yng ngogledd Cymru, ac eironi'r hyn a ystyriwch yn gwmni preifat sy'n eiddo i wlad wahanol—yr un peth ar gyfer ynni, yr un peth ar gyfer y rheilffyrdd, yr un peth ar gyfer yr hyn a elwir gennych yn sector preifat—byddwn yn hoffi pe baech yn callio ac yn deall bod y gwledydd hynny'n elwa o ddiffyg uchelgais ein Llywodraeth ar gyfer ei phobl ei hun. Nid ydym yn rhannu'r diffyg uchelgais hwnnw. Byddwn yn cyflwyno manylion am ein cynlluniau ar gyfer cwmni datblygu mawr mewn dwylo cyhoeddus yr wythnos nesaf, a sut y byddwn yn datblygu perthynas newydd gyda'r sector preifat i gyflawni'r nod hwnnw. Rydym eisiau cefnogi sector ynni adnewyddadwy preifat sy'n ffynnu ac sy'n darparu'r gwerth economaidd a chymdeithasol y gall buddsoddiad ei gynnig i Gymru. Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth, lle mae gennym weledigaeth gyffredin ar gyfer y modd y bydd buddsoddiad o fudd uniongyrchol i bobl Cymru. Rhaid imi ddweud ar y pwynt hwn, Rhun, fy mod wedi cael trip pleserus iawn i Wynt y Môr, ond fe gawsom drafodaeth adeiladol iawn gyda datblygwr yno ynglŷn â sut y gallwn ymgorffori trefniadau ynni cymunedol yn y system honno, a bydd hynny'n gwella'r holl system ar draws gogledd Cymru. Rhaid inni sicrhau'n bendant fod y ffrydiau cyflenwi, ar gyfer cam adeiladu a cham gweithredu'r datblygiadau sector preifat hynny—er, unwaith eto, mae 'sector preifat' mewn dyfynodau—yn dod i Gymru, felly rwy'n benderfynol iawn o wneud hynny. Ond rydym hefyd yn benderfynol o gynnwys rhaglen perchnogaeth gymunedol yn y datblygiadau preifat hynny drwy gwmni datblygu mawr. Mae ein trefniadau cydsynio a chynllunio a thrwyddedu yno i gefnogi datblygiadau priodol ac i osgoi effeithiau annerbyniol ar bobl a'r amgylchedd. Mae angen inni wneud yn siŵr fod y prosesau sy'n penderfynu ar geisiadau yn addas i'r diben ac nad ydynt yn oedi penderfyniadau'n ddiangen, ond nad ydynt yn effeithio'n ddiangen ar ein hamgylchedd ychwaith. Mae ein rhaglen waith i symleiddio'r prosesau cydsynio a sicrhau bod digon o adnoddau ar gael i gefnogi datblygwyr yn mynd rhagddi. Byddwn yn nodi casgliadau'r adolygiad annibynnol o drefniadau cydsynio morol erbyn diwedd eleni, ac fel y mae llawer o'r Aelodau wedi dweud, rydym wedi ymrwymo i gyflwyno Bil cydsyniad seilwaith cyn diwedd y flwyddyn nesaf. Rhan allweddol o'r seilwaith sydd ei angen arnom yw digon o gapasiti grid, fel y mae pawb, fwy neu lai, wedi'i gydnabod. Mae'n amlwg nad yw'r system bresennol, gyda'r cyfrifoldeb wedi'i gadw'n ôl i Lywodraeth y DU, yn addas i'r diben. Braidd yn drasig, ac ychydig cyn y traed moch go iawn a ddilynodd dros y ffin, roeddwn newydd siarad â'r Gweinidog ar y pryd, Greg Hands, ac o'r diwedd roeddent wedi derbyn yr angen am grid wedi'i gynllunio a gweithredwr system rhwydwaith uwch. Siaradais â phennaeth Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol y DU y bore yma, i bwysleisio'r ffaith ein bod eisiau i'r ymrwymiad hwnnw barhau. Mae'n ymddangos i mi fod cyswllt â Llywodraeth bresennol y DU yn amhosibl oherwydd nid ydynt yn aros yn y swydd yn ddigon hir ichi allu cael eu cyfeiriad. Ond os cawn unrhyw synnwyr o bwy sy'n gyfrifol amdano, byddwn yn gwthio hynny. Mae gennyf gyfarfod grŵp rhyng-weinidogol wedi'i drefnu ar gyfer dydd Llun. Roedd i fod i gael ei gynnal wyneb yn wyneb yng Nghaeredin; mae'n rhithiol erbyn hyn, oherwydd nid ydym yn gwybod pwy yw'r Gweinidog a fydd yn mynychu o Lywodraeth y DU. Ond byddwn yn gwthio i sicrhau parhad yr ymrwymiad i weithredwr system rhwydwaith uwch a grid wedi'i gynllunio, oherwydd dyna sydd ei angen arnom. Rydym wedi bod yn gwthio am hynny ers cyn cof; rwyf wedi bod yn siarad am hyn ers 40 mlynedd yn bersonol. Sut y gallwn gael grid wedi'i lywio gan y farchnad mewn amgylchiadau lle nad oes marchnad weithredol, hynny yw, mae'n anghredadwy. Felly, byddwn yn gwthio am hynny. Er hynny, nid dim ond gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen â hynny rydym ni; mae gennym brosiect grid Cymru ar gyfer y dyfodol yng Nghymru, felly byddwn yn arwain ar hynny. Rydym wedi mabwysiadu dull strategol o weithredu ar seilwaith y grid, wrth inni ddarparu'r dystiolaeth empirig ar gyfer yr hyn sydd ei angen ar y grid yng Nghymru, er mwyn llywio anghenion gweithredwr system. Roedd yr archwiliad dwfn yn cydnabod yr angen parhaus am ddull gweithredu strategol i Gymru yn yr argymhelliad ar gyfer pensaer system; rydym yn ystyried honno fel un elfen mewn set ehangach o ddiwygiadau sydd eu hangen ar lefel y DU i reoleiddio'r system ynni i ddod yn faes mwy deinamig, effeithlon a chynaliadwy. Rydym yn gweithio ar wahân [Torri ar draws.]—ni fydd gennyf amser yn awr, mae fy amser wedi dirwyn i ben—gydag CNC ar y cyllidebau a'r Bil cynllunio seilwaith, ac rwyf am ddweud wrth Janet fy mod yn falch o weld ei bod wedi cefnogi datganoli Ystadau'r Goron, ac rwy'n edrych ymlaen at gael fy nghopïo i mewn i'w llythyr at y Gweinidog. Janet Finch-Saunders AC: Ar bwynt o drefn— Nid yw'n bwynt o drefn, ond fe wnaf ganiatáu ichi wneud ymyriad os ydych chi eisiau gwneud hynny. Janet Finch-Saunders AC: Diolch yn fawr, a diolch am dderbyn yr ymyriad. Ni chlywais beth a ddywedodd Alun. Ni wneuthum ddweud yn onest fy mod yn ei gefnogi; nid oeddwn yn golygu hynny beth bynnag. Julie James AC: Rydych chi'n ei dynnu'n ôl. Tro pedol arall gan y Ceidwadwyr, yma ar lawr y Senedd. [Chwerthin.] Rwy'n credu bod yr Aelod wedi mynegi ei hun a chywiro pethau, felly—. Janet Finch-Saunders AC: Diolch. Rhun ap Iorwerth AC: Mae hi eisiau i'r arian aros yn—[Anghlywadwy.] Weinidog. Julie James AC: Felly, Ddirprwy Lywydd, mae fy amser wedi dod i ben yn awr, er fy mod wedi derbyn nifer o ymyriadau. Yn y tymor byr sydd ar gael, rwyf wedi nodi rhai o'r camau allweddol a gymerwyd gennym yn unol ag argymhellion y pwyllgor. Fe wnaethom gyhoeddi adroddiad cynnydd ar gyfer holl argymhellion yr archwiliad dwfn, fel y cydnabu'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith. Mae angen inni weithredu ar y cyd ar draws nifer o feysydd yng Nghymru—gweithredu gan fusnesau, mewn cymunedau, a'r camau sy'n galw ar Lywodraeth y DU i ysgwyddo ei siâr o'r cyfrifoldeb. Mae angen inni weithredu ar frys i gyweirio'r farchnad doredig, er mwyn diogelu defnyddwyr y gaeaf hwn a sicrhau ein bod yn symud yn gyflym oddi wrth danwydd ffosil ac yn adeiladu system ynni sero net wydn a chynaliadwy. Ac rwyf am gloi drwy ddiolch unwaith yn rhagor i'r pwyllgor am ei waith gwerthfawr. Diolch. Galwaf ar Llyr Gruffydd, y Cadeirydd, i ymateb i'r ddadl. Llyr Gruffydd AC: Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu. Gwnaf i ddim ailadrodd popeth mae pawb wedi'i ddweud; mae yna beryg o wneud hynny weithiau wrth gau dadl fel hyn, ond dim ond i bigo rhai o'r prif themâu. Yn sicr, mae'r neges ynglŷn â thrwyddedu a chaniatadau yn dod trwyddo'n glir. Ar drwyddedu ar y môr, dwi'n ymwybodol bod, yn Lloegr, y Llywodraeth yn ymrwymo i leihau'r amserlen ar gyfer trwyddedu i 12 mis. Rŷn ni'n gwybod am enghreifftiau yn yr Alban lle mae’r Llywodraeth yn fanna wedi trwyddedu prosiectau mawr o fewn 11 mis. Felly, rŷn ni'n edrych nawr i Lywodraeth Cymru i wybod ble mae Cymru yn mynd, ac rôn i'n falch o glywed bod yna gyhoeddi efallai ar ganlyniadau gwaith sydd wedi digwydd ddiwedd y flwyddyn. Ond, wrth gwrs, eto, diwedd y flwyddyn—mae yna risg ein bod ni'n colli cyfle fan hyn a bod y cyfleoedd mawr y mae'r gwledydd eraill o'n cwmpas ni yn eu cofleidio yn mynd i fod wedi cael eu colli erbyn inni gyrraedd y pwynt lle rŷn ni'n barod. Mi oeddwn i'n mynd i groesawu datganiad llefarydd y Ceidwadwyr eu bod nhw bellach o blaid datganoli Ystad y Goron. Mae hi bellach wedi egluro nad ydyn nhw o blaid hynny. Mae’n amlwg bod u-turns yn nodwedd y mae’r Ceidwadwyr yn falch iawn ohonyn nhw ac mae'r u-turn yna yn gynt hyd yn oed na rhai o rai Liz Truss yn yr wythnosau diwethaf. Ond, dyna fe, dwi ddim yn gwybod, rhyw bolisi—. Wel, cewch chi esbonio pam neu le rŷch chi'n sefyll efallai rhywbryd eto. Mae yna gyfraniadau eraill wrth gwrs oedd wedi cyfeirio at bwysigrwydd ein bod ni'n cael rheolaeth dros ddewis y dyfodol ynni rŷn ni eisiau ei weld yng Nghymru, yn hytrach na bod eraill yn gwneud hynny drostyn ni, oherwydd rŷn ni'n gweld y legacy sydd wedi cael ei adael yng nghyd-destun glo a chyd-destunau eraill. Ond, ar yr un pryd, wrth gwrs, mae cydbwyso'r ehangu ynni adnewyddadwy yna gyda atal dirywiad bioamrywiaeth yn rhywbeth rŷn ni i gyd yn ingol ymwybodol ohono fe. Roedd Alun Davies yn dweud, mewn gwirionedd, does yna ddim lot o wahaniaeth, efallai, rhwng beth mae’r pwyllgor yn ei ddweud a beth mae’r Llywodraeth yn ei ddweud. Y rhwystredigaeth fawr yw, wrth gwrs, fod y pwyllgor a’r pwyllgorau o'n blaenau ni wedi bod yn dweud hyn ers 10 mlynedd a rŷn ni dal yn gorfod ei ddweud e. Ac rwy'n derbyn bod yna nifer o'r elfennau hynny y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru, ac mae rhywun yn cydnabod hynny. Ond mae yna deimlad o fenter ar y cyd—y joint venture yma yr oedd Alun yn sôn amdano, a rwy'n credu sydd yn rhywbeth y dylem ni fod yn adeiladu arno fe. Ond hefyd y joint venture go iawn rŷn ni eisiau ei weld yw rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn datgloi’r potensial rŷn ni eisiau ei weld. Diolch i Rhun am gyfeirio’n benodol at y seilwaith, wrth gwrs, sydd yn gwbl ganolog i’r hyn sy’n gyrru llawer o’r weledigaeth rŷn ni eisiau ei weld, ac y mae porthladd Caergybi—fel Aelod rhanbarthol, gallaf ddweud y byddwn i'n cytuno 100 y cant. Fel cadeirydd y pwyllgor, byddwn i'n dweud, wrth gwrs, fod yna borthladdoedd ar draws Cymru rŷn ni eisiau gweld yn manteisio ar hyn. Ond, wrth gwrs, mae'r holl werth ychwanegol a fydd yn dod yn sgil y cadwyni cyflenwi ac yn y blaen—hynny yw, dyna’r gôl, yntefe? Hynny yw, rŷn ni eisiau gwireddu yr holl fuddiannau—nid dim ond y datgarboneiddio, ond y buddiannau economaidd a'r buddiannau cymdeithasol fydd yn gallu dod yn ei sgil e. Felly, dyw cyflawni un o'r rheini—dyw hwnna ddim yn llwyddiant; mae'n rhaid inni gyflawni ar bob un o'r ffryntiau yna. Ac mae’r Gweinidog yn iawn, wrth gwrs: mae unrhyw fath o sicrwydd o fewn y sector yn yr hinsawdd rŷn ni'n ffeindio ein hunain yng nghyd-destun cyflwr Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn heriol eithriadol. Ac mae yna adroddiadau, onid does, fod y bleidlais ynglŷn â ffracio yn mynd i fod yn rhyw fath o bleidlais o hyder, neu fel arall, yn y Prif Weinidog. Wel, efallai fod hynny’n wir, ond, i mi, yn bwysicach na hynny, mi fyddai pleidlais felly yn bleidlais o hyder, neu ddiffyg hyder, yng nghenedlaethau’r dyfodol. Anghofiwn ni am unigolion, ond mi fyddai fe'n arwyddocaol iawn dwi'n credu ac yn ddatganiad clir o gyfeiriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig fod newid hinsawdd yn rhywbeth sydd bellach ddim yn flaenoriaeth, a hynny, fel rôn i'n dweud, lai na blwyddyn ers uwchgynhadledd COP. Felly, diolch i chi i gyd am eich cyfraniadau. Mae hwn yn ddarn o waith wrth gwrs fydd yn parhau o safbwynt y pwyllgor. Mi fyddwn ni'n parhau i graffu ar waith y Llywodraeth yn y cyd-destun yma ac mi fyddwn ni'n parhau i fod yn feirniadol pan fo angen, ond i fod yn gefnogol hefyd er mwyn trio cael y maen i'r wal. Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Ni welaf unrhyw wrthwynebiad. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus: Comisiynu Cartrefi Gofal Eitem 7 y prynhawn yma yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar gomisiynu cartrefi gofal. A galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Mark Isherwood. Cynnig NDM8104 Mark Isherwood Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar ei ymchwiliad: Comisiynu Cartrefi Gofal, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Medi 2022. Cynigiwyd y cynnig. Mark Isherwood AC: Diolch am y cyfle i drafod adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar gomisiynu cartrefi gofal. Efallai fod yr Aelodau'n ymwybodol o adroddiad y pwyllgor ar y mater hwn, adroddiad a wnaeth sawl argymhelliad allweddol mewn maes cymhleth, gyda'r nod o wneud y system yn fwy teg i bawb. Bu'r ymchwiliad yn ystyried adroddiad cryno cenedlaethol Archwilydd Cyffredinol Cymru, 'Comisiynu Cartrefi Gofal'. Mark Isherwood AC: Clywodd y pwyllgor gan amrywiaeth o randdeiliaid ynghylch hygyrchedd ac ansawdd y ddarpariaeth cartrefi gofal, gan gynnwys tystiolaeth lafar gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Age Cymru, Fforwm Gofal Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol, a Llywodraeth Cymru ei hun. Cafodd y pwyllgor gyflwyniadau ysgrifenedig hefyd gan amrywiaeth o fyrddau partneriaeth rhanbarthol, Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru ac eraill, a diolch i bawb a gyfrannodd at yr ymchwiliad pwysig hwn. Er bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y rhan fwyaf o'n hargymhellion, mae'r pwyllgor yn nodi bod ei hymateb i'w weld yn codi cwestiynau ynglŷn â'u dealltwriaeth o rai o'r materion, er bod y rhain wedi'u nodi'n glir yng nghyfraith gyfredol Cymru a'r canllawiau. Pryder, felly, yw'r ffaith bod yr ymateb yn arwydd o arafwch y broses o ddiwygio polisi yn y meysydd hynny ac yn benodol, arafwch y broses o weithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Argymhellwyd y dylai Llywodraeth Cymru ystyried lleisiau defnyddwyr gwasanaethau wrth ystyried diwygio polisi yn y maes, lle mae profiadau byw trigolion yn dystiolaeth hanfodol fel rhan o unrhyw broses ddiwygio. Dylai eu lleisiau fod yn ganolog i waith grŵp gorchwyl a gorffen Llywodraeth Cymru a'r grŵp annibynnol sy'n datblygu'r fframwaith cenedlaethol newydd ar gyfer gofal cymdeithasol a gwasanaeth gofal cenedlaethol. Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn gan nodi bod y grŵp arbenigol annibynnol yn cynnwys unigolion o ystod o gefndiroedd amrywiol. Clywodd y pwyllgor y dylai argymhellion y grŵp annibynnol fod wedi dod i law Gweinidogion ddiwedd Ebrill, ond bod oedi wedi bod. Nid yw'n eglur o ymateb Llywodraeth Cymru beth yw statws cyfredol gwaith y grŵp a phryd y bydd yn cyflwyno'i adroddiad. Felly, byddwn yn croesawu eglurder gan y Gweinidog ar hyn, o ystyried y rôl bwysig sydd gan y grŵp yn hyrwyddo diwygio polisi yn y maes hwn. Yn anffodus, nid yw'r naratif sy'n cyd-fynd â derbyn yr argymhellion hyn yn ddigon i gyflawni argymhelliad y pwyllgor a darpariaethau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) ei hun, sy'n mandadu dull cydgynhyrchiol, ac rwy'n dyfynnu: 'Rhaid i unigolion a’u teuluoedd allu cymryd rhan lawn yn y broses o ddewis a chyflawni eu canlyniadau llesiant drwy broses sy’n hygyrch iddyn nhw.' Mae hyn yn wahanol i'r dull ymgynghorol a ddisgrifir yn ymateb Llywodraeth Cymru. Mae Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth, er enghraifft, yn disgrifio cydgynhyrchu fel hyn 'Nid gair yn unig, nid cysyniad yn unig mohono, ond meddyliau'n dod ynghyd i ganfod ateb ar y cyd.' Fel y dywedant: 'Mae gwahaniaeth rhwng cydgynhyrchu a chymryd rhan: mae cymryd rhan yn golygu ymgynghori, tra bod cydgynhyrchu yn golygu bod yn bartneriaid cyfartal a chyd-grewyr.' Mae cydgynhyrchu gwasanaethau cyhoeddus go iawn gyda defnyddwyr a chymunedau yn ymwneud â darparu gwasanaethau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau eraill yn well—yn yr achos hwn, i boblogaeth sy'n heneiddio. Nid yw'n ymwneud ag ymgynghori â rhanddeiliaid ar ôl i bolisi gael ei ddatblygu, ni waeth pwy oedd yn rhan o ddatblygu'r polisi hwnnw. Rwy'n gofyn am sicrwydd gan y Gweinidog ynglŷn â sut y bydd Llywodraeth Cymru'n sicrhau bod ei grŵp arbenigol yn cyrraedd y rhai y mae'n fwyaf perthnasol iddynt ac yn eu cynnwys yn y broses o greu a darparu gwasanaeth sy'n gweithio i bawb, nid dim ond ymgynghori â hwy wedyn. Mae'n destun pryder nad yw'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn arwain ar y dull hwn, er gwaethaf bwriad darpariaethau cydgynhyrchu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, y bûm yn gweithio gyda'r Dirprwy Weinidog ar y pryd, Gwenda Thomas, ar ei ddatblygu, ac yn fwyaf arbennig, nid yn unig y Ddeddf ei hun ond y codau ymarfer perthnasol, sy'n gwbl glir yn hyn o beth. Felly, rwy'n annog Llywodraeth Cymru i weithredu argymhelliad y pwyllgor yn ei holl waith yn y maes hwn yn y dyfodol ac i weithredu darpariaethau cydgynhyrchu diamwys y Ddeddf a'i chodau ymarfer. Daeth y pwyllgor i'r casgliad hefyd y dylid gwneud mwy i gefnogi ac annog cyfranogiad gwirfoddolwyr yn y sector cartrefi gofal, i gynnig gwasanaethau ansawdd bywyd i ddefnyddwyr gwasanaethau. Fodd bynnag, rhaid i rôl gwirfoddolwyr beidio â bodoli yn lle gofal cyflogedig proffesiynol, amser llawn. Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn a darparodd fwy o wybodaeth am brosiect peilot diweddar i geisio recriwtio gwirfoddolwyr i gefnogi darpariaethau ymweld diogel rhwng preswylwyr a pherthnasau yn ystod y pandemig. Caiff y pwyllgor ei galonogi o glywed bod nodau'r prosiect peilot cychwynnol hwn i'w hehangu, a byddem yn ddiolchgar pe bai'r Gweinidog yn gallu cytuno i barhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar hyn. Mark Isherwood AC: Un o brif gasgliadau'r pwyllgor oedd y dylid gwneud mwy i sicrhau telerau ac amodau a chyflog cydradd â staff y GIG, gyda'r bwriad o gadw staff a bod yn gystadleuol gyda diwydiannau neu sectorau eraill, megis y diwydiant lletygarwch. Mae'r pwyllgor yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn a chyflwyno'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol. Fodd bynnag, byddem yn ddiolchgar pe gallai Llywodraeth Cymru ddweud pryd fydd y cynnydd yn y cyflog byw gwirioneddol, a gyhoeddwyd gan y Living Wage Foundation ar 22 Medi, ar gael i ddarparwyr trwy awdurdodau lleol, lle deëllir bod derbynwyr yn dal i gael £9.90 yr awr yn unig ar hyn o bryd. Mae'r pwyllgor hefyd yn cydnabod gwaith y fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol, sy'n edrych ar amodau gwaith gweithwyr gofal cymdeithasol. Mae'r pwyllgor yn annog Llywodraeth Cymru i fynd ymhellach yn ei chynigion i sicrhau trefniadau cydradd â staff y GIG ac i fod yn gystadleuol â sectorau eraill. Rydym yn croesawu ymrwymiad datganedig Llywodraeth Cymru i werthuso gwaith ymgyrch recriwtio Gofalwn.Cymru. Mae'r pwyllgor hefyd yn croesawu gwaith Gofal Cymdeithasol Cymru yn dysgu sut y mae darparwyr gofal cymdeithasol yn recriwtio gweithwyr gofal a'r heriau y maent yn eu hwynebu wrth wneud hynny. Rydym yn edrych ymlaen at glywed mwy am eu gwaith, wedi iddo gael ei gwblhau fis Ebrill nesaf. Ar archwiliadau cartrefi gofal, anogir y pwyllgor i glywed am yr ymdrechion i adlewyrchu barn defnyddwyr gwasanaethau yn ystod eu harolygiadau, ond mae'n credu y dylid gwneud mwy i ehangu'r rhan hon o'r broses arolygu. Er bod y pwyllgor yn cael ei annog i nodi bwriad Arolygiaeth Gofal Cymru neu AGC i archwilio pob cartref gofal cofrestredig i oedolion yn y cyfnod rhwng 1 Hydref 2021 a 31 Mawrth 2023, mae'n bryderus nodi efallai na chyflawnir y nod hwn. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru felly i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor ar gynnydd AGC ar ôl i'r cyfnod hwn ddod i ben, ac ar sut y mae'n cydymffurfio â'r mesurau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru rai blynyddoedd yn ôl yn dilyn adroddiad pryderus iawn gan y comisiynydd pobl hŷn ar y pryd. Mae'r pwyllgor yn siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi dewis gwrthod tri argymhelliad, yn enwedig yr argymhelliad ar ffioedd ychwanegol. Roeddem yn bryderus iawn am natur y ffioedd hyn a'r ffordd y cânt eu cyfleu i ddefnyddwyr gwasanaethau. Clywodd y pwyllgor dystiolaeth fod defnyddwyr gwasanaethau'n gorfod talu ffioedd ychwanegol ar gam, gan olygu bod rhai o'n dinasyddion mwyaf bregus yn wynebu costau am wasanaethau sylfaenol. Dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wrth y pwyllgor fod defnyddwyr gwasanaethau'n aneglur ynghylch pa wasanaethau y byddai'n rhaid talu ffioedd ychwanegol amdanynt, ac aeth rhagddi i ddatgan bod teuluoedd wedi gofyn am gymorth gan ei swyddfa oherwydd, 'biliau annisgwyl, sydyn am ffioedd ychwanegol, yn eithaf aml ar gyfer pethau y byddech chi'n disgwyl iddynt fod yn y ffi safonol'. Dywedodd y comisiynydd wrthym fod defnyddwyr gwasanaethau wedi gorfod talu am gael mynediad i'r ardd, er enghraifft. Felly, rydym yn anghytuno'n gryf â gosod ffioedd ychwanegol ar gyfer cael mynediad at wasanaethau a hawliau sylfaenol, a daethom i'r casgliad y dylid gwneud mwy i dynhau'r rheolau sy'n gysylltiedig â'r ffioedd ychwanegol hyn, ynghyd â system gwneud iawn annibynnol newydd er mwyn caniatáu i benderfyniadau gael eu herio. Yn anffodus, dewisodd Llywodraeth Cymru wrthod yr argymhellion hyn, gan ddweud bod canllawiau clir ar waith fel rhan o'r fframwaith gofal iechyd parhaus, gan wahardd ffioedd ychwanegol am wasanaethau sylfaenol. Fodd bynnag, mae arbenigwyr y sector wedi dweud wrth y pwyllgor fod yr arferion niweidiol hyn yn parhau i ddigwydd. Nid yw canllawiau Llywodraeth Cymru ar y mater hwn yn gweithio ac nid ydynt yn glir ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau a darparwyr. Rydym yn cwestiynu'r hyn sy'n cael ei wneud i fonitro a gwerthuso effaith y fframwaith hwn, pan fo'n amlwg o ymateb Llywodraeth Cymru nad yw i'w gweld yn ymwybodol nad yw'r canllawiau hyn yn cael eu dilyn, er gwaethaf y dystiolaeth i'r gwrthwyneb yn ein hadroddiad. Mae'r pwyllgor yn annog Llywodraeth Cymru yn gadarn iawn i adolygu'r mater ar frys, ac fel rhan o'r adolygiad hwnnw, i weithio gyda defnyddwyr a'r sefydliadau sy'n eu cynrychioli, fel Fforwm Gofal Cymru, Age Cymru a'r comisiynydd pobl hŷn, ymhlith eraill, i ddatblygu dull newydd o weithredu ffioedd ychwanegol sy'n gweithio i'r sector gofal cymdeithasol, ac yn bwysicach fyth, i'w ddefnyddwyr. Hefyd, fe wrthododd Llywodraeth Cymru gynnig y pwyllgor ynghylch gorfodaeth i rannu gwybodaeth ar draws y sector cartrefi gofal, gan ganolbwyntio'n benodol ar brofiad a boddhad defnyddwyr gwasanaethau. Roedd y pwyllgor wedi dod i'r casgliad y dylai'r wybodaeth hon gael ei rhannu ar lefel genedlaethol, er mwyn sicrhau bod gan bob parti fynediad at wybodaeth gyson a pherthnasol, yn gysylltiedig â'r saith nod llesiant i Gymru. Yn eu hymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru wrth y pwyllgor nad oeddent am fandadu rhannu gwybodaeth gan nad oeddent yn ystyried 'cost uchel' gweithredu'r darpariaethau hyn fel un a fyddai'n arwain at greu 'budd cymesur o ran datblygu data ar ben y mesurau yr ydym eisoes wedi'u cymryd ac sydd wrth law.' Hoffai'r pwyllgor wybod, felly, sut y cyfrifodd Llywodraeth Cymru y 'gost uchel' hon, a beth oedd y cyfrifiad yn ei ddangos. Mae'n destun gofid fod Llywodraeth Cymru yn gweld gweithredu darpariaeth o'r fath fel cost yn hytrach na buddsoddiad yn y sector gofal cymdeithasol a ddylai arwain at fanteision o ran costau a gwell corff o wybodaeth, gan gynnwys llais profiad bywyd, i ddylanwadu ar lunio polisïau yn y maes hwn yn y dyfodol. Clywodd y pwyllgor gan brif weithredwr Fforwm Gofal Cymru am yr heriau sy'n gysylltiedig â chasglu gwybodaeth ar draws ffiniau awdurdodau lleol a byrddau iechyd, gyda galw am wybodaeth wahanol mewn fformatau gwahanol. Byddai system genedlaethol yn symleiddio'r broses ac yn darparu corff cynhwysfawr o wybodaeth i seilio penderfyniadau ynghylch arbed costau yn y sector yn y dyfodol. Mae'n destun pryder felly fod Llywodraeth Cymru wedi diystyru casgliadau'r pwyllgor yn y maes. Bydd y pwyllgor yn parhau i fynd ar drywydd y materion hyn gyda Llywodraeth Cymru, ac fel arall edrychwn ymlaen at drafodaeth bellach gyda hwy ar y pwnc hwn, a byddwn yn monitro gweithrediad ein hargymhellion yn ofalus. Mike Hedges AC: Mae'r ymchwiliad hwn gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn amserol yn fy marn i. Mae cartrefi gofal yn chwarae rhan bwysig yn y ddarpariaeth gofal i bobl hŷn yn bennaf, ond nid pobl hŷn yn unig. Mae'n cynnwys nifer fawr o ddarparwyr. Mae rhai yn ddarparwyr gyda mwy nag un safle, eraill ond ag un cartref, a cheir rhai darparwyr mawr, ond mae pob un ohonynt yn darparu gofal i unigolion. Mae pob un o'r rhain yn bwysig. Nid yw'n uchelgais gan neb i fynd i gartref gofal, ond bydd llawer ohonom yn yr ystafell hon heddiw yn mynd i gartref gofal yn y pen draw, a bydd mwy fyth ohonom ag aelod o'r teulu mewn cartref gofal naill ai nawr neu yn y dyfodol. Felly, mae gan bob un ohonom ddiddordeb personol mewn cael hyn yn iawn. Bwriad adroddiad y pwyllgor oedd archwilio a thynnu sylw at yr heriau a wynebir ym maes cymhleth comisiynu cartrefi gofal i bobl hŷn, gyda'r nod o wneud y system yn decach i bawb. Rwy'n credu bod 'teg' yn air y mae angen inni ei ddefnyddio'n amlach, oherwydd dylai popeth fod yn deg. Clywodd y pwyllgor dystiolaeth am hygyrchedd ac ansawdd y ddarpariaeth cartrefi gofal yng Nghymru, yr amrywiaeth a'r cymhlethdod sy'n gysylltiedig â chyllido gofal, lleoedd mewn cartrefi, yr anhawster a wynebir i ddenu a chadw staff i'r diwydiant, a'r diwygiadau polisi arfaethedig sy'n berthnasol i'r maes hwn. Argymhelliad y pwyllgor oedd y dylai Llywodraeth Cymru ystyried llais defnyddwyr gwasanaethau fel rhan o'u gwaith diwygio polisi yn y maes. Byddai'r pwyllgor yn croesawu rhagor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut y maent wedi ymgynghori gyda defnyddwyr gwasanaethau a'u teuluoedd fel rhan o waith y grŵp arbenigol ar ofal cymdeithasol. Rwy'n cefnogi'r alwad y dylai'r grŵp gorchwyl a gorffen Llywodraeth Cymru sy'n datblygu'r fframwaith cenedlaethol newydd ar gyfer gofal cymdeithasol ymgynghori â defnyddwyr gwasanaethau fel rhan o'i waith, ac fel rhan fawr o'i waith, byddwn i'n dweud. Mae angen i Lywodraeth Cymru roi diweddariad ar sut y caiff hyn ei gyflawni fel rhan o'i hymgynghoriad yng ngwanwyn 2023. Yn rhy aml, caiff pethau eu gwneud i ddefnyddwyr gwasanaethau a'u teuluoedd, caiff pethau eu gwneud ar eu cyfer, pethau y mae pobl yn meddwl a fydd yn dda iddynt. Yn rhy aml, mae hyn yn seiliedig ar y gred mai 'gweithwyr proffesiynol sy'n gwybod orau', yn hytrach na'r unigolion a'u teuluoedd. Ac nid ym maes gofal yn unig; mae'r un peth yn digwydd ym maes iechyd. Yn rhan o'r gwaith o ddatblygu gwasanaeth gofal cenedlaethol, argymhellodd y pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru ystyried beth arall y gellir ei wneud i adolygu cyflogau a thelerau ac amodau gweithwyr gofal, i sicrhau eu bod yn gydradd â staff y GIG ac i fod yn gystadleuol â diwydiannau eraill fel y diwydiant lletygarwch. Heb gyflogau ac amodau cydradd, bydd y sector yn parhau i wynebu problemau recriwtio a chadw staff. Mae iechyd a gofal yn galw am lawer o'r un sgiliau. Mae iechyd yn talu'n well, ac mae'n cael ei ystyried yn bwysicach gan wleidyddion a'r cyhoedd. Gofal yw perthynas tlawd y gwasanaeth iechyd a gofal mewn gwirionedd, ac mae hynny'n rhywbeth y gwn fod y Gweinidog yn poeni llawer amdano, felly nid ymgais ar fy rhan i ladd ar y Gweinidog yw hyn, oherwydd mae gennym Weinidog sy'n deall pwysigrwydd y system ofal mewn gwirionedd ac sydd wedi ymrwymo i'r system ofal. Ond mae staff cartrefi gofal yn gadael i weithio yn y gwasanaeth iechyd, gan greu problem prinder staff mewn cartrefi gofal. A pham na fyddent yn gwneud hynny? Nid yw'n ymwneud â thâl bob amser, ond pam na fyddai pobl yn gadael am swydd sy'n talu'n well? Ac yn enwedig yn y cyfnod yr ydym ynddo yn awr pan fo pobl o dan bwysau ariannol, mae llawer i'w ddweud dros symud i swydd sy'n talu'n well. Gallai olygu eich bod yn rhoi'r gwres ymlaen hanner awr ynghynt, gallai olygu eich bod yn cael tri phryd y dydd nid dau, neu ddau bryd bwyd y dydd nid un. Felly, mae'n bwysig iawn fod y cyflog yno. Gwn fod y Dirprwy Weinidog wedi siarad am hyn ac rwy'n gwybod bod ymrwymiad y Dirprwy Weinidog iddo mor fawr â fy un i, ond mae'n rhywbeth y mae gwir angen inni ei sicrhau, nad gofal yw'r perthynas tlawd. Mae'r Dirprwy Weinidog eisoes wedi derbyn yr angen i godi cyflogau, yr hyn sydd ei angen yn awr yw gweithredu ar godi cyflogau i'r rhai sy'n gweithio mewn cartrefi gofal. Mae angen i Lywodraeth Cymru fandadu dull mwy rhagweithiol o rannu gwybodaeth ar draws y sector cartrefi gofal, yn enwedig gwybodaeth am brofiad a boddhad defnyddwyr gwasanaethau, yn gysylltiedig â'r saith nod llesiant i Gymru. Dylai'r gofyniad gorfodol i rannu gwybodaeth gael ei weithredu ar lefel genedlaethol i sicrhau bod darparwyr, defnyddwyr gwasanaethau a Llywodraeth Cymru yn cael mynediad at wybodaeth gyson a pherthnasol. Mae angen rhannu data hefyd, ac yn bwysicach efallai, rhwng iechyd, gofal cymdeithasol a chartrefi gofal. Yn rhy aml o lawer, mae gan bawb eu system eu hunain, mae pawb yn dweud nad ydynt yn cael rhannu, ac rydym yn cael dau ateb ar hynny: mae naill ai'n costio llawer neu nid yw GDPR yn ei ganiatáu. Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda darparwyr i ofyn yn rhagweithiol am ganiatâd defnyddwyr gwasanaethau a'u teuluoedd i rannu gwybodaeth; pan fydd pobl yn darparu gwybodaeth, eu cael i gymeradwyo rhannu gydag iechyd a gofal cymdeithasol sy'n gwasanaethu'r cartref gofal. Byddai hyn yn caniatáu rhannu data, yn union fel y ffordd y mae pawb ohonom yn caniatáu i ddata gael ei rannu gan sefydliadau yr ydym yn ymwneud â hwy. Rydym yn ticio'r bocs, 'A gawn ni rannu data?' Mae angen inni gael y bocs yno pan fo pobl mewn mannau iechyd a gofal. Rwy'n rhannu pryder y pwyllgor ynghylch codi ffioedd ychwanegol ac yn cefnogi'r argymhelliad y dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi cyfyngiadau rhwymol er mwyn cyfyngu ar y meysydd lle codir ffioedd o'r fath, a dylid eu cadw mor isel â phosibl a'u cyhoeddi. Soniodd Mark Isherwood yn gynharach am godi tâl am bethau fel defnyddio gardd y cartref gofal; mae hynny'n annheg ac yn anghywir. Ac yn olaf, rwy'n falch iawn fod yr archwilydd cyffredinol wedi archwilio'r sector cartrefi gofal a bod y pwyllgor wedi cynhyrchu'r adroddiad hwn, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog yn gwrando arnom. Natasha Asghar AS: Daw'r adroddiad hwn ar gomisiynu cartrefi gofal yn sgil adolygiad yr archwilydd cyffredinol a gyhoeddwyd ym mis Hydref y llynedd, o'r enw 'Darlun o Ofal Cymdeithasol'. Mae'r adolygiad hwn wedi edrych ar y sector gofal cymdeithasol cyfan ledled Cymru ac mae wedi nodi tri mater allweddol a heriau hirsefydlog i'r sector. Yn flaenaf ymhlith y rhain y mae'r angen i gyflawni cynaliadwyedd ariannol a threfniadau cyllido. Honnai fod cynnydd ar fynd i'r afael â heriau wedi bod yn araf a bod y pandemig wedi gwneud yr angen am newid hyd yn oed yn fwy dybryd. Yn wir, dywedodd yr archwilydd cyffredinol yn glir, er bod y pandemig wedi amlygu breuder gwasanaethau gofal ar draws Cymru, roedd y rhan fwyaf o'r problemau yn bodoli'n barod i ryw raddau. Mae'r galw am ofal cymdeithasol i oedolion yn debygol o gynyddu'n sylweddol, ac rwy'n gwybod bod fy nau gyd-Aelod wedi tynnu sylw at hynny. Mae platfform amcanestyniad poblogaeth Gofal Cymdeithasol Cymru yn dangos, o 2020 i 2040, y rhagamcanir y bydd nifer y bobl dros 65 oed sy'n cael trafferth gyda gweithgareddau byw bob dydd yn cynyddu i 34 y cant. Yn wyneb yr heriau hyn, archwiliodd y pwyllgor y gwaith o gomisiynu cartrefi gofal i bobl hŷn gyda'r bwriad o gryfhau'r sector a'i wneud yn fwy teg. Edrychwyd ar hygyrchedd ac ansawdd y ddarpariaeth, yn ogystal ag amrywiadau cyllido a materion yn ymwneud â recriwtio a chadw staff, fel y crybwyllodd fy nghyd-Aelodau eisoes. Ar hygyrchedd, cafodd y pwyllgor ei arwain gan yr egwyddor o symleiddio'r broses ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau. Dywedodd adroddiad cryno cenedlaethol yr archwilydd cyffredinol fod mynediad pobl hŷn at gartrefi gofal yn gymhleth ac yn anodd ei lywio, ac nid yw'n deg fod pobl oedrannus a'u teuluoedd yn gorfod ymdopi â hynny. Nododd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru fod ansawdd cyffredinol cartrefi gofal yn amrywio ac adroddodd Age Cymru am broblemau lle nad oes gofal ar gael i ddefnyddwyr gwasanaethau drwy gyfrwngy Gymraeg. Ar gyllido, fe wnaethom geisio darganfod y rhesymau dros yr amrywio yn y gwariant ar ofal preswyl a chostau gofal iechyd wythnosol parhaus. Unwaith eto, os caf ddyfynnu'r archwilydd cyffredinol, gall dulliau o ariannu'r sector cyhoeddus ar gyfer gwahanol agweddau ar ofal greu rhaniad ymhlith partneriaid. Mae'r tirlun cyllido ar gyfer gofal cymdeithasol yn gymhleth iawn ac yn ddryslyd oherwydd y ffrydiau ariannu amrywiol y gallai unigolyn fod yn gymwys ar eu cyfer. Gwn ein bod i gyd yn cefnogi cydraddoldeb yma ar draws y pleidiau yn y Senedd, ond mae'n rhaid inni gael cydraddoldeb i'r henoed yma ledled Cymru. Fy mhryder mwyaf yw bod y safonau'n amrywio, gyda chleifion sy'n cael eu hariannu'n breifat yn gallu cael mynediad at lety o ansawdd llawer gwell. Ar recriwtio a chadw staff, nododd y pwyllgor fod gweithwyr yn cael eu colli i'r diwydiannau manwerthu a lletygarwch am fod lefel uwch o gyflog yn cael ei gynnig a llai o bwysau gwaith. Roedd staff hefyd yn cael eu colli i'r GIG am yr un rhesymau. Er mwyn ymateb i'r heriau hyn, rydym wedi gwneud 13 o argymhellion, ac rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno—gyda fy nghyd-Aelodau, gan eu bod hwy wedi crybwyll hyn hefyd—fod 10 wedi cael eu derbyn. Hoffwn eich annog, felly, Weinidog, i ailystyried o ddifrif eich gwrthwynebiad i argymhelliad 8 yn benodol, ynglŷn â'r angen am ddull mwy rhagweithiol o rannu gwybodaeth er tryloywder ac i sicrhau mynediad at wybodaeth gyson a pherthnasol. Yn anffodus, mae ein hargymhellion 11 a 12 ar godi ffioedd ychwanegol wedi eu gwrthod. Yng Nghymru, er ein bod i gyd yn sôn am gydraddoldeb a thegwch i bawb, mae'n drist iawn nad yw'n amlwg mewn gofal i'r henoed yma yng Nghymru. Mewn tystiolaeth, dywed Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru fod defnyddwyr gwasanaethau'n aml yn ansicr ynglŷn â'r hyn a fydd yn galw am ffioedd ychwanegol ac nad yw gwir gost gofal wedi ei deall yn llawn o ganlyniad i hynny. Mae angen iddynt gael hynny yn ei le, Weinidog. Hoffwn ofyn ichi edrych unwaith eto ar y mater hwn i roi sicrwydd fod codi ffioedd ychwanegol yn digwydd yn enw cydraddoldeb, tegwch a thryloywder yn y dyfodol. Felly, Weinidog, mae'r bwriad yno'n llawn yn nodau'r adroddiad hwn i sicrhau bod y system gofal cymdeithasol yng Nghymru yn fwy hygyrch, yn llai cymhleth ac yn decach i unigolion agored i niwed a'u teuluoedd. Rwy'n credu'n wirioneddol ei fod wedi llwyddo yn ei nodau ac rwy'n ei gefnogi'n llawn, ond rhaid edrych eto ar y meysydd a wrthodwyd gan na allwn anwybyddu'r boblogaeth gynyddol sy'n heneiddio yng Nghymru. Diolch. Peredur Owen Griffiths AS: Rwy'n croesawu adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar ei ymchwiliad i gomisiynu cartrefi gofal. Rwyf hefyd yn croesawu'r cyfle i siarad ar y pwnc yn y Senedd. Mae'r adroddiad hwn yn tynnu sylw clir at yr heriau sy'n wynebu maes cymhleth comisiynu cartrefi gofal i bobl hŷn, gyda'r bwriad o wella'r system fel ei bod yn fwy teg i bawb. Mae'n deg dweud bod yr heriau sy'n wynebu'r sector yn eang ac yn bellgyrhaeddol. Clywodd y pwyllgor dystiolaeth am hygyrchedd ac ansawdd y ddarpariaeth cartrefi gofal yng Nghymru, yr amrywiadau a'r cymhlethdod sy'n gysylltiedig â chyllido lleoedd mewn cartrefi gofal, yr anawsterau a wynebir wrth ddenu a chadw staff yn y diwydiant, a'r diwygiadau polisi arfaethedig sy'n berthnasol i'r maes. Nod argymhellion yr adroddiad yw mynd i'r afael â rhai o'r materion pwysig, ac o'u rhoi ar waith, bydd yn helpu i gryfhau a symleiddio'r broses o gomisiynu cartrefi gofal. Mae gwelliannau o'r fath yn bwysig i bob un ohonom, gan fod gofal cymdeithasol yn wasanaeth sy'n cyffwrdd â bywydau unigolion a theuluoedd ym mhob rhan o Gymru. Yn anffodus, am wasanaeth sydd mor hanfodol, nid yw gofal cymdeithasol yn cael ei werthfawrogi hanner digon. Nid yw gweithwyr yn cael y parch y maent yn ei haeddu a chaiff hyn ei adlewyrchu yn y telerau ac amodau gwael. Mae'n siŵr y bydd y Llywodraeth yn sôn am gyflwyno'r cyflog byw, ond fel y casglodd TUC Cymru, nid yw'n ddigon. Mae'n werth nodi y daethpwyd i'r casgliad hwn y llynedd, ac ymhell cyn i gamreoli economaidd gan y Torïaid yn San Steffan waethygu'r argyfwng costau byw, sydd wedi gwneud gofal cymdeithasol yn llai deniadol. Caiff gweithwyr gofal gam oherwydd pethau heblaw cyflogau hefyd: mae'r telerau ac amodau'n wan. Fel y nododd y TUC hefyd, nid oes gan filoedd o weithwyr gofal yn y sector allanol hawl cytundebol i dâl salwch priodol. Maent yn amcangyfrif nad yw oddeutu 5 y cant o staff hyd yn oed yn gymwys i dderbyn tâl salwch statudol. Ar wahân i anfoesoldeb hyn, mae'n anochel y bydd y sefyllfa'n arwain at weithwyr sâl yn dod i gysylltiad â phobl fregus am na allant fforddio cymryd diwrnod yn absennol oherwydd salwch. Sut y gall hyn ddigwydd yn yr unfed ganrif ar hugain? Gellid datrys nifer o'r problemau a nodwyd yn yr adroddiad drwy uno rhwng iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hwn wedi bod yn bolisi hirsefydlog gan Blaid Cymru ac rwy'n falch fod yna symud tuag at y nod hwn yn sgil y cytundeb cydweithio a gafwyd rhyngom ni a'r Llywodraeth. Ni all yr ymrwymiad i gael adroddiad gan grŵp arbenigol i archwilio'r gwaith o greu gwasanaeth gofal cenedlaethol, am ddim lle mae ei angen, fel gwasanaeth cyhoeddus parhaus, ddod yn ddigon buan. Drwy integreiddio gweithwyr iechyd a gofal, gallwn wella'r gydnabyddiaeth yn ogystal â'r tâl y mae'n hen bryd i weithwyr gofal cymdeithasol ei gael. Rhaid imi sôn hefyd am ddiffyg capasiti ysbytai cymunedol yn y GIG, sy'n cael effaith ganlyniadol ar ofal cymdeithasol yn ogystal â'n gwasanaeth iechyd. Yr wythnos diwethaf, soniodd fy nghyd-Aelod ym Mhlaid Cymru Rhun ap Iorwerth am y gostyngiad yn nifer y gwelyau ysbyty yng Nghymru, o oddeutu 20,000 ar ddiwedd y 1980au i ychydig dros hanner hynny ar hyn o bryd. Gall tranc yr ysbyty cymunedol egluro'r duedd ar i lawr yn rhannol, ac mae'n cael effaith enfawr ar y GIG, gan achosi tagfeydd mewn ysbytai a mannau eraill. Rwy'n deall yr ymdrech i drin mwy a mwy o bobl gartref, gan y byddai'n well gan lawer o bobl hynny, ond i rai nid yw'n briodol, os nad ydynt yn ddigon iach neu fod ganddynt broblemau symud sy'n cyfyngu ar eu gallu i fyw gartref. Mewn amgylchiadau o'r fath, heb becyn digonol ar waith, byddant yn aros yn yr ysbyty. Byddai gwely ysbyty cymunedol yn ateb llawer gwell. Nid yw'r gwelyau hyn yn costio cymaint â gwelyau ysbytai cyffredinol dosbarth, ac rwy'n adleisio galwad Rhun ar y Llywodraeth i edrych i mewn i'r mater ar frys. Diolch yn fawr. Gareth Davies AS: Hoffwn ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, Mark Isherwood, aelodau'r pwyllgor a staff am gynnal ymchwiliad i gomisiynu cartrefi gofal mewn ymateb i gyhoeddi adroddiad y comisiynydd yn ôl ym mis Rhagfyr 2021. Mae cartrefi gofal ar draws Cymru angen lefelau staffio uchel a staff ymroddedig er mwyn darparu'r gofal gorau posibl i gleifion. Er bod nifer o ofalwyr yn darparu'r gofal ymroddedig sydd ei angen, mae hefyd yn bwysig tynnu sylw at rôl nyrsys mewn cartrefi gofal yn darparu gofal mewn amgylchiadau heriol a chymhleth. Yn yr un modd, mae'n bwysig tynnu sylw at y modd y mae nyrsys mewn cartrefi gofal yn chwarae rôl yn lleihau nifer y derbyniadau i'r ysbyty, sy'n cefnogi gweithrediad y GIG ac yn rhyddhau mwy o welyau yn ein hysbytai. Mae'n anffodus mai tua dau o bob pum cartref gofal sy'n darparu nyrsys, ac rwy'n credu'n gryf y dylai Llywodraeth Cymru annog cael mwy o nyrsys mewn cartrefi gofal. Rwy'n cydnabod bod argyfwng recriwtio nyrsio ehangach yn y GIG yng Nghymru, ac nid yw hyn yn rhywbeth y gall Llywodraeth Cymru ei ddatrys dros nos, ond mae'n dangos bod rhaid i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â methiant i recriwtio a methiant i gadw staff nyrsio. Rwy'n cytuno â'r pwyllgor y dylid poeni am allu cartrefi gofal i ddarparu gofal o safon uchel yn sgil prinder difrifol. Er y byddai gennym nyrsys ym mhob cartref gofal mewn byd delfrydol, ni ellir gwireddu hynny ar hyn o bryd. Rhaid inni gydnabod y ffordd gywir yr aeth y pwyllgor ati i gydnabod rôl gwirfoddolwyr yn cynorthwyo gyda gofal preswylwyr cartrefi gofal, ond ni ddylent fod yn cymryd lle staff proffesiynol ar gyfer darparu gofal sylfaenol. Er y gall gwirfoddoli roi sgiliau i bobl ifanc ddechrau ar yrfa gydol oes mewn gofal, rhaid peidio â'u defnyddio yn lle staff proffesiynol tra bo'r Llywodraeth yn ceisio hybu recriwtio a chadw staff. Mae cartrefi gofal yn chwarae rhan hanfodol yn sicrhau bod yr henoed a'r rhai sydd fwyaf o angen gofal yn gallu cael y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt mewn amgylchedd diogel a chartrefol. Ond un o'r problemau mwyaf sy'n wynebu cartrefi gofal ar hyn o bryd yw recriwtio a chadw staff gofal cymdeithasol. Mae angen inni wneud gyrfa mewn gofal cymdeithasol yn fwy deniadol. Fel y crybwyllwyd yn nadl y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ryddhau cleifion o'r ysbyty yr wythnos diwethaf, mae staff gofal cymdeithasol yn gweithio mwy na 9 i 5 o ddydd Llun i ddydd Gwener, maent yn gweithio ar benwythnosau, nosweithiau, oriau anghymdeithasol, ac yn cysgu i mewn. Maent angen i Lywodraeth Cymru gefnogi eu galwadau hwy a fy ngalwadau innau am well tâl i weithwyr gofal cymdeithasol. Mae Llywodraeth Cymru'n codi yn y Siambr hon ac yn canmol eu hunain am dalu'r cyflog byw go iawn, ond nid yw £9.90 yn ddigon, yn enwedig o ystyried y pwysau costau byw presennol a wynebwn. Gweithwyr gofal cymdeithasol yw rhai o'r gweithwyr sy'n cael y cyflogau isaf yn y farchnad lafur, er gwaethaf eu hymroddiad i helpu ein pobl fwyaf bregus. Pe bai Llywodraeth Cymru'n rhoi'r gorau i ariannu meysydd awyr a hoff brosiectau, efallai y gallai ymdrechion i gysoni cyflogau staff gofal cymdeithasol â graddfeydd cyflog y GIG fod yn fwy cyraeddadwy. Rwy'n credu ei fod yn gyraeddadwy, a byddwn yn ddiolchgar pe bai'r Gweinidog yn gallu mynd i'r afael â hyn eto yn ei hymateb i'r ddadl y prynhawn yma. Os gallwn dalu'n iawn i'n nyrsys, ein gweithwyr gofal cymdeithasol a'n staff rheng flaen, byddwn yn gwneud y sector yn fwy deniadol, a byddwn hefyd yn gwella llawer o'r pryder ehangach ynghylch gofal iechyd wrth inni ymrafael â phroblem oedi wrth drosglwyddo gofal a rhoi'r gofal sydd ei angen ar bobl pan fyddant fwyaf o'i angen. Mae'n rhedeg drwy'r system gyfan, Ddirprwy Lywydd. Os gallwn wella cyfraddau rhyddhau cleifion i gartrefi gofal, byddwn yn rhyddhau gwelyau ysbyty, yn gwella amseroedd aros mewn adrannau brys ac yn chwarae ein rhan yn gwella amseroedd aros ambiwlansys. Nid wyf yn ceisio dweud mai dyma'r un llwybr diffiniol i ddatrys holl broblemau'r byd, ond rwy'n sicr yn credu y bydd yn mynd yn bell i helpu rhai o'r problemau cronig sy'n ein hwynebu yn ein systemau iechyd a gofal cymdeithasol yng ngogledd Cymru ac ar draws Cymru gyfan. Gadewch inni fod yn uchelgeisiol a gwneud popeth yn ein gallu i ddarparu'r gwasanaethau gorau posibl i'r bobl sydd eu hangen fwyaf. Diolch Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan. Julie Morgan AC: Diolch. Rydw i yn croesawu'r cyfle i ymateb i'r ddadl bwysig hon. Julie Morgan AC: Rwyf wedi mwynhau gwrando ar y ddadl hon heddiw ac fel y gwyddoch, rydym yn hapus iawn i dderbyn y mwyafrif o argymhellion y pwyllgor. Mae gan yr adroddiad ffocws clir a chywir ar werthuso a monitro effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a rhoi llais a phrofiadau defnyddwyr gwasanaethau ynghanol y system. Yn ogystal â'r astudiaethau gwerthuso a gyflawnwyd gennym, asesir cydymffurfiaeth â'r Ddeddf gan y rheoleiddwyr AGC ac AGIC, a ategir gan fframwaith gwella perfformiad cenedlaethol ac adroddiadau awdurdodau lleol. A thrwy ein diwygiadau ailgydbwyso, byddwn yn sicrhau bod hyn yn esblygu ymhellach. Mae defnyddwyr a gofalwyr yn ein helpu i lunio'r rhaglen ailgydbwyso drwy'r gwahanol grwpiau gorchwyl a gorffen, gan gynnwys un yn edrych yn benodol ar gydgynhyrchu, ymgysylltu a llais ar draws y byrddau partneriaeth rhanbarthol. Edrychir ar allbynnau'r grwpiau hyn yn y gwanwyn. Mae'r grŵp gorchwyl a gorffen ailgydbwyso ar ymgysylltu a llais yn gweithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid i gydgynhyrchu offer a safonau i wella ymgysylltiad a chyfranogiad defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol, a bydd y gwaith yn cael ei adlewyrchu yn y fframwaith comisiynu cenedlaethol sy'n cael ei ddatblygu. Hefyd, cafodd profiadau a disgwyliadau defnyddwyr gwasanaethau eu hystyried gan y grŵp arbenigol, a oedd yn cynnwys unigolion o ystod amrywiol o gefndiroedd a sefyllfaoedd. Gofynnodd cadeirydd y pwyllgor imi adrodd ar ba mor bell yr oedd y grŵp hwn wedi cyrraedd, ac rwy'n falch o ddweud bod yr adroddiad wedi ei gwblhau erbyn hyn. Mae yn y broses o gael ei gyfieithu, a bydd yn cael ei gyhoeddi fis nesaf, ym mis Tachwedd. Felly, hoffwn gofnodi fy niolch i'r unigolion a gymerodd ran yn y grŵp hwnnw. Pan fydd yr adroddiad wedi'i ystyried gan Weinidogion ac Aelod dynodedig Plaid Cymru, oherwydd, wrth gwrs, mae hwn yn rhan greiddiol o'n cytundeb cydweithio, bydd cyfnod o ymgynghori helaeth i ddatblygu cynllun gweithredu a fydd yn cael ei gydgynhyrchu. Wrth gwrs, byddwn yn sicrhau bod yr ymgyngoriadau hyn yn cynnwys defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr di-dâl a'r trydydd sector, a grwpiau cymunedol sy'n cynrychioli eu barn a'u profiadau. Roedd yr adroddiad hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd ymgorffori llais defnyddwyr gwasanaethau mewn arolygiadau. Rhwng Hydref 2021 ac Awst 2022, cynhaliodd AGC 705 o arolygiadau o 614 o gartrefi gofal i oedolion, a threuliodd 9,181 o oriau ar safleoedd, yn darparu cyfle i siarad yn uniongyrchol â'r preswylwyr, eu teuluoedd a'u ffrindiau. Mae honno'n rhan allweddol o'r hyn y mae AGC yn ei wneud: ceisio ymgysylltu'n uniongyrchol â'r trigolion. Mae AGC hefyd yn chwilio am dystiolaeth fod gan bobl lais yn y modd y caiff eu cartref ei redeg, sydd, unwaith eto, yn bwynt pwysig iawn. Mae AGC yn ymwybodol iawn o effaith barhaus y pandemig ar ofal cymdeithasol, ac mae'r pwysau ar staffio yn ei gwaethygu. Pan fo AGC yn canfod canlyniadau gwael, maent yn galw am weithredu a byddant yn dychwelyd i wirio gwelliannau a wnaed. Gallai archwiliadau ychwanegol o'r fath ohirio cwblhau'r rhaglen a gynlluniwyd, ond y nod o hyd yw bod wedi archwilio'r holl gartrefi gofal cofrestredig i oedolion rhwng 1 Hydref 2021 a 31 Mawrth 2023. Gobeithio y bydd hynny'n tawelu meddyliau'r pwyllgor. Mae llawer o'r Aelodau wedi sôn am recriwtio, cyflogau a thelerau ac amodau, ac mae'r adroddiad yn tynnu sylw—ac mae llawer o bobl wedi sôn heddiw—at yr angen i fynd i'r afael â'r materion dybryd hyn. Mae'r rhain i gyd yn cael eu hystyried gan y fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol, sy'n dod â phartneriaid allweddol o bob rhan o'r sector ynghyd i ddod o hyd i atebion uchelgeisiol, pragmatig a chyraeddadwy, ac i sicrhau newid go iawn a pharhaol. Mae'r fforwm wedi canolbwyntio ar welliannau i gyflogau i gychwyn, gan gynnwys cyngor ar sut i symud ymlaen â'r ymrwymiad i dalu'r cyflog byw go iawn i holl staff gofal, ac rwy'n falch ein bod wedi llwyddo i dalu'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae hyn wedi'i gefnogi gan gyllid o £43 miliwn eleni. Gofynnodd y cadeirydd am y cynnydd i'r cyflog byw go iawn, ac mae hynny'n rhywbeth sydd dan ystyriaeth gennym ar hyn o bryd. Wrth gwrs ein bod am ei dalu, ond rwy'n credu y byddwch yn ymwybodol nad yw'r amgylchiadau ariannol ar hyn o bryd yn galonogol iawn. Ond mae hyn yn rhywbeth y byddem yn sicr eisiau ei wneud. Mewn perthynas â recriwtio, rydym yn gweithio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru i sicrhau gwerthusiad cadarn o ymgyrch Gofalwn.Cymru. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru eisoes wedi comisiynu gwaith ymchwil ar ddulliau recriwtio cyflogwyr gofal, gan gynnwys eu hymwybyddiaeth o'r ymgyrch a'i heffaith, a bydd hwnnw'n cael ei gwblhau ddechrau'r flwyddyn nesaf. Rwy'n meddwl ei bod yn anodd sefydlu pa mor llwyddiannus yw ymgyrchoedd recriwtio penodol pan fo gennym gymaint o ddarparwyr yn darparu gofal cymdeithasol yng Nghymru oherwydd y nifer fawr o gartrefi gofal yn y sector annibynnol. Mae'r adroddiad yn cydnabod y potensial ar gyfer defnyddio mwy o wirfoddolwyr mewn cartrefi gofal, rhywbeth y mae nifer o'r Aelodau wedi'i grybwyll, ac yn ein hymateb ysgrifenedig fe wnaethom fanylu ar y gwaith a wnawn gyda'n partneriaid i ehangu rôl, cyrhaeddiad a sgiliau gwirfoddolwyr yn y lleoliadau hyn ac i dyfu eu niferoedd. Rwy'n awyddus iawn i annog gwirfoddolwyr i ymwneud mwy â chartrefi gofal ac ystyriaeth allweddol fydd sicrhau bod rôl gwirfoddolwyr yn glir ac yn briodol, ac yn canolbwyntio ar werth ychwanegol. Rydym yn cytuno'n llwyr fod rhaid i brofiadau dinasyddion fod yn sail ac yn ysgogiad i bob gwelliant yn y ddarpariaeth gofal cymdeithasol, ac rydym yn derbyn yr egwyddor sy'n sail i argymhelliad y pwyllgor y dylid cyflwyno gofyniad gorfodol ychwanegol i rannu'r wybodaeth hon. Fodd bynnag, nid wyf wedi fy argyhoeddi ar hyn o bryd fod costau gweithredu hyn ar draws cannoedd o ddarparwyr yn gorbwyso'r manteision y tu hwnt i'r mesurau rhannu gwybodaeth sydd eisoes ar waith. Fodd bynnag, mae'n rhywbeth y gallwn ei ystyried yn y dyfodol. Ar ffioedd ychwanegol, byddwn yn pryderu'n fawr os oes unrhyw unigolyn yn talu am ofal lle mae'r gofal hwnnw eisoes yn cael ei ddarparu am ddim drwy'r pwrs cyhoeddus, ac rwy'n nodi'r sylwadau a wnaeth sawl Aelod ynghylch gorfod talu ffioedd ychwanegol i gael mynediad i'r ardd, sy'n gwbl hurt. Felly, rwy'n credu y byddai hynny'n gwbl anghywir. Mae canllawiau clir eisoes ar wasanaethau ychwanegol yn y fframwaith gofal iechyd parhaus, a rhaid peidio byth â defnyddio trefniadau cyfraniadau personol o'r fath fel mecanwaith ar gyfer sybsideiddio'r gwasanaeth y mae'r GIG yn gyfrifol amdano. Felly hefyd, nid ydym yn credu ei bod yn briodol ymrwymo i ddiwygiadau i reoliadau ar ben y rhain, na chychwyn system gwneud iawn annibynnol newydd, cyn ystyried adroddiad gan y grŵp arbenigol ar y gwasanaeth gofal cenedlaethol. Byddai angen inni ystyried yn ofalus sut y mae unrhyw gywiriadau canlyniadol y gallem eu gwneud i'r rheoliadau a'r fframweithiau presennol yn gweddu i gyd-destun unrhyw system newydd, felly nid ydym yn teimlo y gallwn dderbyn yr argymhelliad hwnnw yn awr. Yna, yn olaf, mewn perthynas â chyllid cyfun ar gyfer comisiynu, mae'r grŵp gorchwyl a gorffen ar wasanaethau integredig wedi bod yn adolygu'r trefniadau presennol fel rhan o'n rhaglen ailgydbwyso, ac yn fwyaf arbennig maent wedi ystyried adroddiad Archwilio Cymru ar gomisiynu lleoliadau cartrefi gofal ar gyfer pobl hŷn. Byddant hefyd yn adolygu effaith y pecyn cymorth a gydgynhyrchwyd gyda rhanddeiliaid. Bydd argymhellion gan y grŵp gorchwyl a gorffen yn rhan o'r pecyn ymgynghori y gwanwyn nesaf. Yn olaf, hoffwn ddiolch yn fawr i'r pwyllgor am ei adroddiad, sy'n adroddiad gwerthfawr iawn yn fy marn i. Mae'n amlwg fod llawer i'w wneud. Mae llawer o waith yn parhau, ac edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda'n partneriaid ar yr agenda hon drwy'r gwahanol grwpiau a sefydlwyd gennym. Fe fyddwn yn cadw'r argymhellion y mae'r pwyllgor wedi'u gwneud mewn cof, ac rwy'n hapus i adrodd yn ôl ar y rheini i'r pwyllgor wrth iddynt fwrw ymlaen. Diolch. Galwaf ar Mark Isherwood i ymateb i'r ddadl. Mark Isherwood AC: Diolch. Mae'n rhaid i mi fod yn fyr, gan fod amser yn brin, ond diolch yn fawr i'r holl gyfranwyr. Mike Hedges, fel y dywedoch chi, roedd yr ymchwiliad hwn yn amserol. Er ei fod yn cynnwys pobl hŷn yn bennaf, nid yw'n ymwneud â phobl hŷn yn unig; dylai popeth fod yn deg, ac mae angen inni symud o wneud pethau i, neu ar gyfer pobl, i wneud pethau gyda hwy. Pwysleisiodd Natasha yr angen am sefydlogrwydd ariannol lle mae'r dirwedd ariannu yn gymhleth ac yn ddryslyd ac mae staff yn cael eu colli i'r sectorau manwerthu a lletygarwch. Soniodd Peredur Griffiths am yr angen i symleiddio'r broses ar gyfer comisiynu cartrefi gofal, ac am ddiffyg capasiti ysbytai cymunedol. Mae hynny'n mynd a fi'n ôl at yr ymgyrch a gafodd ei hennill i ddechrau ac yna'i cholli, yn nhrydydd tymor y Senedd, Ysbytai Cymunedol yn Gweithredu'n Genedlaethol Gyda'i Gilydd, CHANT Cymru. Fe wnaethom ddal y lein am gyfnod byr ond yna fe wnaethant eu cau. Ond nid y Gadair sy'n siarad nawr—am eiliad, roeddwn i'n Aelod annibynnol. Iawn. [Chwerthin.] Cyfeiriodd Gareth Davies at bwysigrwydd rôl nyrsys, a phwysigrwydd recriwtio a chadw staff hefyd. Diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei hymateb. Cyfeiriodd at Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a soniodd am astudiaethau gwerthuso'n cael eu cynnal, a defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr yn helpu Llywodraeth Cymru i lywio hyn drwy grwpiau gorchwyl a gorffen. Mae angen inni wybod sut y mae'r grwpiau hynny'n cydymffurfio ag egwyddorion cydgynhyrchu, sy'n ymwneud â gwneud amser i arbed amser, a throi'r peth pŵer wyneb i waered. Sut y mae hynny'n adeiladu gwytnwch a chapasiti cymunedol, fel y gall pobl fod yn bartneriaid a chyd-grewyr gwirioneddol gyfartal? Fel y dywedodd yr ymateb ysgrifenedig sydd gennym gan Lywodraeth Cymru, pan fydd adroddiad y grŵp arbenigol yn cael ei ystyried gan Weinidogion a'r Aelod dynodedig, bydd cyfnod helaeth o ymgynghori, gan gynnwys defnyddwyr gwasanaethau a'u teuluoedd, fel rhan o'r broses i ddatblygu cynllun gweithredu. Mae hwnnw'n gwbl wahanol i Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, a'i godau ymarfer. Ble mae'r egwyddorion gofal darbodus go iawn—egwyddorion cydgynhyrchu, ymyrraeth gynnar ac atal? Ac ar yr argymhellion a dderbyniwyd ac a wrthodwyd fel ei gilydd, rwy'n falch o glywed peth o ymateb y Dirprwy Weinidog, ond rwy'n dal i deimlo efallai fod yna ddiffyg, sydd i'w weld mewn gwasanaethau cyhoeddus mewn mannau eraill yng Nghymru, o ran deall yn iawn beth y mae llais profiad bywyd, yr arbedion costau y gellir eu cynhyrchu drwy hynny a rhannu gwybodaeth yn ei olygu mewn gwirionedd. Ac os ydym yn gwneud hynny'n iawn, sut y gallwn wella bywydau go iawn, adeiladu cymunedau cryfach ac yn y pen draw, nid ychwanegu costau ond arbed costau hefyd. Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf wedi clywed gwrthwynebiad, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 8. Dadl ar Ddeiseb P-06-1294, 'Peidiwch â gadael cleifion â chanser y fron metastatig yng Nghymru y tu ôl' Eitem 8 sydd nesaf. Y drafodaeth am ddeiseb P-06-1294, 'Peidiwch â gadael cleifion canser metastatig y fron yng Nghymru ar ôl'. Rwy'n ymwybodol fod y deisebydd yn y Senedd; hoffwn ei chroesawu, ac fe fydd hi'n gwrando'n astud ar y ddadl. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig, Jack Sargeant. Cynnig NDM8103 Jack Sargeant Cynnig bod y Senedd: Yn nodi’r ddeiseb P-06-1294, 'Peidiwch â gadael cleifion â chanser y fron metastatig yng Nghymru y tu ôl’, a gasglodd 14,106 o lofnodion. Cynigiwyd y cynnig. Jack Sargeant AC: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Jack Sargeant AC: Ar ran y Pwyllgor Deisebau, diolch am y cyfle i gyflwyno'r ddadl bwysig hon ar y ddeiseb, Jack Sargeant AC: P-06-1294, 'Peidiwch â gadael cleifion canser metastatig y fron yng Nghymru ar ôl' a gafodd 14,106 llofnod. Ddirprwy Lywydd, bydd yr Aelodau'n ymwybodol ei bod hi'n Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Canser Eilaidd y Fron ddydd Iau diwethaf. Mae'r diwrnod yn nodi bod y ffordd y gwnawn ddiagnosis, y ffordd yr ydym yn trin, y ffordd yr ydym yn cefnogi a'r ffordd yr ydym yn gofalu am ganser eilaidd y fron wedi bod yn rhy araf yn rhy hir. Rwy'n credu y gall y ddadl hon heddiw wneud cyfraniad pwysig tuag at dynnu sylw at rai o'r heriau a wynebwn yma yng Nghymru. Yn ôl gwerthusiad o gymorth a gofal i gleifion a gafodd ddiagnosis o ganser metastatig y fron yn 2019, gwneir diagnosis o 2,786 achos newydd o ganser y fron bob blwyddyn, gyda 612 o farwolaethau cysylltiedig yng Nghymru bob blwyddyn—612, Ddirprwy Lywydd. Mae ffigyrau gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr yn dweud mai canser y fron yw prif achos marwolaeth mewn menywod rhwng 35 a 64 yn y DU erbyn hyn. Mae'r ddeiseb hon yn galw am newid. Mae'r ddeiseb yn nodi fel a ganlyn: 'Mae pobl sy’n byw â chanser y fron metastatig yng Nghymru yn cael eu hesgeuluso’n ddybryd gan y system. Ar hyn o bryd dim ond un nyrs glinigol arbenigol canser y fron neilltuedig sydd gan Gymru, sefyllfa a allai adael cannoedd o bobl heb ddigon o gymorth. Mae angen i ni wybod faint o bobl sy’n byw gyda chanser y fron metastatig er mwyn gwella gwasanaethau. Ac rydym am wella canlyniadau o ran ansawdd bywyd drwy godi ymwybyddiaeth o symptomau baner goch ar gyfer canser y fron metastatig.' Ddirprwy Lywydd, cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Tassia Haines, sy'n un o nifer o gleifion, ymgyrchwyr a chefnogwyr yma y prynhawn yma, yn gwylio yn yr oriel gyhoeddus, a hoffwn eu croesawu i Siambr y Senedd. Cefais y fraint o gyfarfod Tassia ddydd Llun, ac rwyf am dalu teyrnged i'r ymroddiad a'r dewrder y mae hi wedi'i ddangos drwy godi ymwybyddiaeth o'r cyflwr dinistriol hwn, a thrwy neilltuo cymaint o'i hamser i ymgyrchu dros welliannau a fydd ond o fudd i eraill. Nawr, rwy'n gwybod bod y Dirprwy Lywydd, Dai Rees, yn rhannu fy sylwadau am Tassia, gan ei fod wedi gweithio'n agos gyda hi yn ei rôl ei hun fel Aelod o'r Senedd dros Aberafan. Fel y dywed Tassia, yn ei llythyr agored at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac rwy'n dyfynnu, Ddirprwy Lywydd: 'Yn anffodus, bûm yn byw gyda chanser metastatig y fron ers dros ddwy flynedd er mai dim ond deg ar hugain oed ydw i. Rwy'n cael triniaeth gan ddau fwrdd iechyd ac wedi cyfarfod â phobl sy'n cael triniaeth o bob cwr o Gymru, ac yn anffodus mae'n rhaid imi eich hysbysu fod Cymru'n methu pan ddaw'n fater o ddiwallu anghenion cleifion canser metastatig y fron, yn ôl yr hyn a welwn ni—y bobl sy'n marw o'r clefyd a'r bobl agos sy'n cefnogi'r rhai sydd â chanser metastatig y fron.' Mae deiseb Tassia, a'r ymgyrch ehangach, yn galw am dri pheth. Yn gyntaf, casglu data gwell am bobl sy'n byw yng Nghymru gyda chanser eilaidd y fron nad oes modd ei wella. Ar hyn o bryd, nid yw System Gwybodaeth Rhwydwaith Canser Cymru yn adrodd ar nifer y cleifion sydd wedi cael diagnosis o'r clefyd metastatig. Mae'r ymgyrch hon yn gofyn am system ganolog i Gymru a fydd yn casglu manylion holl gleifion canser eilaidd y fron yn y wlad. Yn ail, gwell ymwybyddiaeth o symptomau baner goch canser metastatig y fron. Ceir diffyg dealltwriaeth ymhlith cleifion canser cynradd y fron ynglŷn â sut i ddweud bod canser wedi lledaenu y tu hwnt i'r fron, ac mae'r ymgyrch hon am i gleifion cynradd a meddygon teulu gael mwy o fanylion ynglŷn â sut i adnabod y symptomau baner goch hyn er mwyn gwella diagnosis cynharach. Ac yn drydydd ac yn bwysig, Ddirprwy Lywydd, gwell gofal i gleifion. Mae'r ymgyrch eisiau i bob claf yng Nghymru gael mynediad at nyrs canser metastatig y fron wedi'i hyfforddi'n arbennig, sydd â llwyth gwaith yn canolbwyntio ar gleifion canser metastatig y fron yn unig, ac mae'r ymgyrchwyr yn teimlo y gall hynny fod yn gosteffeithiol i'r GIG trwy atal derbyniadau i'r ysbyty, er enghraifft. Ddydd Llun, nid Tassia'n unig a gyfarfûm, cefais y fraint o gyfarfod â chleifion a nyrsys eraill, a bwysleisiodd fod rhaid inni ddeall, Aelodau—rhaid inni ddeall bod canser cynradd y fron a chanser eilaidd y fron yn wahanol, ac felly, mae angen darpariaeth gofal iechyd wahanol arnynt. Fe wnaethant bwysleisio bod angen cefnogaeth ar unigolion ar yr adeg anoddaf yn eu bywydau pan gânt ddiagnosis o salwch terfynol, ac mae angen cefnogaeth wedi'i deilwra i unigolion trwy gydol triniaeth barhaus hyd at ofal lliniarol. Nawr, rwy'n gwybod bod y Gweinidog wedi ymrwymo i hybu gwelliannau mewn gofal canser yng Nghymru. Mae safon ansawdd newydd Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Mai eleni, yn amlinellu sut olwg fydd ar ofal da yn y dyfodol. Yn ddiweddarach eleni, rydym yn disgwyl gweld cynllun gweithredu ar gyfer canser dan arweiniad y GIG yn cael ei gyhoeddi, i roi rhagor o fanylion i'r weledigaeth o ofal sy'n cael ei arwain gan gleifion i ddioddefwyr canser. Ond gyda hynny i gyd mewn cof, Ddirprwy Lywydd, rwy'n edrych ymlaen at glywed gan gyd-aelodau o'r Pwyllgor Deisebau, cyd-Aelodau, ac wrth gwrs, gan y Gweinidog iechyd, i glywed am y datblygiadau diweddaraf ym maes gofal canser, ac i ymateb y benodol i dair prif alwad y ddeiseb, a sut y gallwn helpu'r bobl sydd angen y gefnogaeth honno fwyaf. Diolch yn fawr. Buffy Williams MS: Diolch i'r Pwyllgor Busnes am y brys, gan alluogi'r ddadl hon i ddigwydd yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Deisebau yr wythnos diwethaf. Gwn fod Tassia yma heddiw, a hoffwn ddiolch iddi a'i llongyfarch ar ei hymdrechion i godi ymwybyddiaeth o ganser metastatig y fron. Tassia, ni allaf ddechrau dychmygu pa mor anodd y mae'r ymgyrch hon wedi bod i chi. Rydych chi'n ysbrydoliaeth i ni i gyd, a bydd eich llais yn siarad dros y 35,000 o bobl sy'n byw gyda chanser metastatig y fron ar draws y DU. Ni all gofal canser diwedd oes fod yn seiliedig ar ragdybiaethau. Mae pobl yng Nghymru yn marw nawr. Nid yw'n bosibl cynllunio gofal na chreu llwybrau heb ddata cadarn, dibynadwy. Os ydym am gefnogi pobl sy'n byw gyda chanser metastatig y fron yng Nghymru, mae angen inni wybod faint yn union o bobl sy'n cael eu trin. Mae llawer ohonom wedi sefyll yn y Siambr hon ar fwy nag un achlysur yn galw am fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau sy'n bodoli ym maes iechyd menywod. Mae'n ffaith mai prif achos marwolaeth ymhlith menywod rhwng 35 a 64 oed yn y DU yw canser metastatig y fron. Mynediad at arbenigwr nyrsio clinigol yw'r prif bwynt cyswllt cyson rhwng gwahanol weithwyr iechyd proffesiynol. I bobl sy'n dioddef gyda chanser metastatig y fron, mae'n rhaid ystyried hyn o ddifrif. Mae Tassia wedi rhannu llythyr agored a gefnogir gan 277 o gleifion canser metastatig y fron sy'n dweud nad yw pobl yn cael y gofal sydd ei angen. Mae dyfyniad o'r llythyr yn dweud: 'A allwch chi amgyffred sut beth yw llywio'ch misoedd/blynyddoedd olaf drwy anabledd, poen a marwolaeth? Ac yn fy achos i i fod yn rhy sâl i ddilyn gyrfa a chael teulu, ond heb fod yn ddigon sâl i farw, ddim eto?' Oni bai ein bod ni ein hunain yn y sefyllfa honno, y gwir amdani yw na allwn ddechrau deall sut beth ydyw, ond yr hyn y gallwn ei wneud yw helpu i godi ymwybyddiaeth. Yr wythnos diwethaf, mynychais angladd ffrind annwyl, Marion Abbott, a fu farw gyda chanser metastatig y fron. Heddiw ac yfory, mae tîm Canolfan Pentre yn cynnal arwerthiant gacennau 'gwisgwch binc' i godi arian ac ymwybyddiaeth o ganser metastatig y fron er cof am Marion, ac i gefnogi'r rhai sy'n ymgyrchu, fel Tassia. Ein cyfrifoldeb iddynt hwy yw parhau i godi ymwybyddiaeth, i weithio ar frys tuag at gasglu data gwell, ac i roi ystyriaeth ddifrifol i gynyddu nifer yr arbenigwyr gofal clinigol canser eilaidd y fron, sy'n amhrisiadwy i wella gofal ac ansawdd bywyd pobl sy'n dioddef o ganser metastatig y fron yng Nghymru. Diolch. Joel James MS: Rwyf am ddechrau drwy ddweud bod grŵp y Ceidwadwyr Cymreig a minnau'n cytuno'n llwyr â'r galwadau a geir yn y ddeiseb hon, ac mae'r ffaith bod cymaint o lofnodion wedi'u casglu yn dangos cryfder y teimlad a geir yng Nghymru ynghylch yr angen i wneud llawer mwy i helpu'r rhai sy'n byw gyda chanser metastatig y fron. Rwyf am ddiolch i Tassia a phawb sydd wedi arwyddo'r ddeiseb. Fel y clywsom eisoes, canser metastatig y fron yw prif achos marwolaeth ymhlith menywod rhwng 35 a 64 oed yn y DU, ac mae angen gwneud llawer mwy i atal y loteri cod post o ran mynediad at ofal priodol. Mae'r ffaith mai un arbenigwr nyrsio clinigol canser eilaidd y fron penodedig sydd gan Gymru yn mynd yn groes i ganllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ar weithwyr allweddol ar gyfer canser metastatig y fron. Mae'n sefyllfa warthus a allai fod yn gadael cannoedd o bobl heb gefnogaeth ddigonol. Ar ben hynny, rwyf hefyd yn meddwl ei fod yn cael yr effaith ganlyniadol o greu'r argraff nad yw'r rhai sydd mewn grym yng Nghymru yn poeni am y rhai sy'n byw gyda chanser metastatig y fron, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno nad yw hynny'n wir. O siarad gyda'r deisebwyr, yr hyn a'm trawodd fwyaf oedd bod llawer ohonynt yn teimlo eu bod wedi gorfod brwydro am eu diagnosis, a bod amharodrwydd i drafod yn y cyfnod cyn y diagnosis, a bod diffyg cefnogaeth a gwybodaeth sylfaenol ar ôl ei chael. Rydym wedi trafod prinder nyrsys a dosbarthiad anghyson o nyrsys yn adrannau GIG Cymru ac ar draws byrddau iechyd sawl gwaith yn y Siambr, ac rwy'n ofni y bydd y ddeiseb hon yn disgyn ar glustiau byddar ac yn cael ei gweld yn syml fel cwyn arall i ychwanegu at y rhestr. Ond rwyf am annog y Gweinidog i gydnabod y dylai darparu'r nyrsys arbenigol hyn fod yn fwy nag ymarfer ticio bocsys yn unig. Mae llawer o bobl sy'n byw gyda chanser metastatig y fron yn wirioneddol ofnus am eu bywydau bob dydd, a gall cael y gefnogaeth gywir wella canlyniadau byw gyda chanser metastatig y fron yn sylweddol. Mae'r ddeiseb hon hefyd yn gofyn am gofrestr genedlaethol o'r rhai sy'n byw gyda chanser metastatig y fron, oherwydd ar hyn o bryd, nid oes digon o ddealltwriaeth o'r darlun cenedlaethol, a fyddai'n caniatáu ar gyfer dull mwy cydgysylltiedig o ddarparu gofal, a dull gwell o fesur effaith ymyriadau, ac ni allaf weld sut nad yw hyn eisoes wedi'i wneud, gyda'r holl offer technolegol sydd gennym at ein defnydd. Nid wyf yn credu bod cost yn broblem hyd yn oed—rwy'n meddwl ei fod yn ymwneud mwy â chyfyngiadau ein byrddau iechyd o ran dod o hyd i'r amser a'r arbenigedd angenrheidiol i ddod at ei gilydd a llunio a gweithredu modelau casglu data a fydd yn gallu darparu tystiolaeth addas i lywio cynlluniau diagnosis a thriniaeth hirdymor. Weinidog, dyma lle gofynnir i chi ymyrryd. Mae 'r gymuned sy'n byw gyda chanser metastatig y fron angen eich cefnogaeth. Maent angen i chi ddarparu ysgogiad i sicrhau nad yw byrddau iechyd yn colli cyfleoedd hawdd i wneud diagnosis o ganser metastatig y fron gan adael y rhai sy'n dioddef ar ôl. Weinidog, pe bai cronfa ddata genedlaethol yn cael ei chreu, byddai'n helpu i wella dealltwriaeth o ganser metastatig y fron ymysg y boblogaeth, ac yn sicr byddai hyn yn helpu i ddarparu cynlluniau triniaeth gwell, yn helpu i reoli ac oedi amrywiolion penodol o'r clefyd a lleddfu symptomau, gan ganiatáu i bobl fyw'n dda am gyn hired â phosibl. Rwy'n annog pawb yma i gefnogi'r ddeiseb, ac rwy'n annog y Llywodraeth i weithredu ei hargymhellion. Diolch. Luke Fletcher AS: I gychwyn, fel fy nghyd-aelodau o’r Pwyllgor Deisebau, hoffwn ddweud y dylai Tassia fod yn falch o’i gwaith ac yn falch o’i deiseb. Yn y swydd hon, ac mewn bywyd a dweud y gwir, y bobl sy'n ysbrydoli fwyaf yw'r rhai yr ydym yn cymryd eu profiadau o adfyd ac yn eu defnyddio i gael dylanwad da. Anaml y cewch bencampwyr heb greithiau. Hwy yw'r cryfaf ohonom a'r gorau ohonom, ac yn fy marn i, os oes unrhyw un wedi dilyn Tassia dros yr wythnos neu ddwy ddiwethaf yn y newyddion, neu wedi cael y pleser o'i chyfarfod, ni chredaf y gallai unrhyw un amau ei chryfder. Hyd yn oed heddiw, mae hi wedi bod yn y Senedd yn cyfarfod ag Aelodau, yn ymgyrchu hyd yr eiliad olaf cyn y ddadl hon. Mae Tassia ei hun yn byw gyda chanser metastatig y fron, ac mae ei phrofiadau o fyw gyda'r cyflwr wedi ei hysgogi i ymgyrchu dros ymyriadau clir sy'n seiliedig ar dystiolaeth i wella bywydau pobl sy'n byw gyda chanser metastatig y fron. Mae pobl sy'n byw gyda chanser metastatig y fron yng Nghymru yn cael eu hesgeuluso'n arw gan y system. Mae'n rhaid imi ddweud ei bod yn frawychus nad oes gennym ffigur cywir, cyfredol o hyd o faint o bobl sy'n byw gyda chanser eilaidd y fron yn y DU ar hyn o bryd. Y gwir amdani yw: pan nad ydych yn gwybod pwy sy'n fyw ac am ba mor hir, sut y gallwch nodi tueddiadau'n gywir? Sut y sicrhewch nad yw cynlluniau'n seiliedig ar ragdybiaethau? Mae cael y data cywir yn hollbwysig. Mae rhwystredigaeth amlwg iawn ymhlith y rheini sydd â chanser metastatig y fron eu bod yn cael clywed bod y llwybrau'n bodoli a bod y gofal yn cyrraedd y safon. Ymddengys bod datgysylltiad rhwng yr hyn y mae’r Llywodraeth yn ei feddwl a’r hyn sy’n digwydd ar lawr gwlad. Dyna roddodd sbardun i'r ddeiseb hon—i'r 14,000 o bobl a’i llofnododd, i'r 277 o gleifion â chanser metastatig y fron a’r rhai sy’n rhoi gofal iddynt a lofnododd lythyr agored yn tynnu sylw at eu pryderon ynghylch gofal, ac i’r cleifion sydd wedi cyfrannu at arolygon Macmillan. Ar hyn o bryd, dim ond un arbenigwr nyrsio clinigol canser eilaidd y fron penodedig sydd gan Gymru. Canfu ymchwil Breast Cancer Now mai 68 y cant yn unig o ymatebwyr yng Nghymru a gafodd enw nyrs glinigol arbenigol pan gawsant eu diagnosis, sy’n golygu nad oes gan filoedd fynediad at nyrs glinigol arbenigol a’r cymorth hanfodol y maent yn ei ddarparu. Roedd Llywodraeth Cymru wedi sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i asesu’r angen am nyrsys canser eilaidd y fron, ond hyd yn hyn, nid ymddengys bod hynny wedi arwain at unrhyw ganlyniadau. Mae angen i Lywodraeth Cymru gymryd camau brys i fynd i’r afael â’r prinder nyrsys clinigol arbenigol, gan gynnwys darparu’r buddsoddiad sydd ei angen i recriwtio a hyfforddi digon o nyrsys clinigol arbenigol i gefnogi pobl â chanser eilaidd y fron yn awr ac yn y dyfodol. Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda byrddau iechyd hefyd i greu swydd nyrs canser eilaidd y fron amser llawn ym mhob bwrdd ac ymddiriedolaeth iechyd yng Nghymru. Dywedwyd wrthyf heddiw fod Macmillan yn ariannu un o’r rhai cyntaf ym mwrdd Cwm Taf. Mae angen i Lywodraeth Cymru wneud yr un peth. Nod y ddeiseb hon yw gwella ansawdd bywyd i bobl â chanser metastatig y fron. Bydd ei nodau'n helpu i unioni methiannau Cymru mewn perthynas â chefnogi anghenion cleifion â chanser metastatig y fron. Dyfynnodd Buffy lythyr agored Tassia, a dyma ddilyn ymlaen o’r dyfyniad hwnnw gan Tassia: 'Nawr ystyriwch y teimlad o ofn wrth ichi sylweddoli bod y system yr ydych wedi'i chefnogi drwy gydol eich oes wedi celu gwybodaeth rhagoch a allai fod wedi atal hyn rhag digwydd, a hefyd yn gwneud i chi wynebu diwedd eich oes ar eich pen eich hun?' Fe all ac fe ddylai Cymru weithredu’r ddau bolisi hyn, gweithredu nodau’r ddeiseb hon, er mwyn helpu i wella ansawdd bywyd y rhai sy’n byw gyda chanser metastatig y fron. Efallai mai deiseb Tassia yw hon, ond mae hi'n siarad dros gynifer o bobl. Rhun ap Iorwerth AC: Pan fydd cleifion canser metastatig y fron yn dweud wrthym eu bod yn teimlo eu bod wedi cael eu hesgeuluso, mae'n rhaid inni gydnabod eu bod yn cael eu hesgeuluso, a hoffwn dalu teyrnged i Tassia a phawb sy'n ymgyrchu ar ran cleifion ddoe a heddiw. Ond y peth allweddol i'w gofio yma yw y bydd cleifion yn y dyfodol hefyd, a drostynt hwy y mae'r ymgyrchwyr yn ymgyrchu. Dyna pam eu bod yn deisebu. Dyna pam eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu hesgeuluso gan ymateb presennol Llywodraeth Cymru. Gwyddom beth yw’r gofynion, gwyddom fod angen y swyddi nyrsio allweddol hynny, a gwyddom fod rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu ar unwaith i roi’r cyfle i gleifion y dyfodol gael y driniaeth orau bosibl a’r gobaith gorau o oroesi. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Eluned Morgan. Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Diolch i’r Pwyllgor Deisebau am gyflwyno’r ddadl hon yn ystod Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron. Hoffwn groesawu’r deisebwyr i’r Siambr, yn enwedig Tassia, ac eraill sydd wedi ymgyrchu mor frwd ar y mater hwn. Hoffwn ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor, Jack Sargeant, a hefyd i gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ganser, David Rees, y gwn ei fod wedi codi’r mater hwn gyda mi ar sawl achlysur. A hoffwn roi gwybod y byddaf yn rhoi rhywfaint o fy araith yn Gymraeg. Mae hwn yn fater pwysig iawn, a hoffwn roi sicrwydd i’r holl bobl yng Nghymru sy’n wynebu diagnosis o ganser metastatig y fron na fyddwn yn eich gadael ar ôl ar unrhyw gyfrif. Mae llawer o’r rheini sydd eisoes wedi siarad wedi egluro’r anawsterau y bydd pobl sydd wedi cael diagnosis o ganser metastatig y fron yn eu hwynebu, felly nid wyf am ailadrodd hynny, heblaw dweud fy mod yn deall, i raddau, pa mor anodd yw hi i deuluoedd yn y sefyllfa honno, gan fod teulu fy mrawd yn un o’r rhai yr effeithiwyd arnynt. Rwyf wedi gweld â fy llygaid fy hun yr effaith y mae’n ei chael, nid yn unig ar yr unigolyn sy’n dioddef, ond hefyd ar y teulu ehangach. Ysgrifennais at y Pwyllgor Deisebau yn eithaf diweddar i egluro fy ymrwymiad i wella gwasanaethau canser ac adfer ar ôl effaith y pandemig. Ynddo, esboniais fy mod yn disgwyl i'r gwasanaeth iechyd gefnogi pobl â chanser metastatig y fron nid yn unig gyda thîm amlbroffesiynol, ond hefyd gyda mewnbwn nyrsio arbenigol yn ôl yr angen. Rwyf hefyd yn disgwyl i bawb â chanser gael asesiad cyfannol o anghenion i sicrhau eu bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Er mai cyfrifoldeb y byrddau iechyd yw defnyddio’r gweithlu sydd ar gael iddynt yn unol â safonau proffesiynol ac mewn ffordd sy’n deg ar gyfer mathau eraill o ganser, rwy’n falch o ddweud bod canolfan ganser de-orllewin Cymru wedi cyflwyno nyrsio arbenigol ar gyfer canser eilaidd y fron, ac mae canolfan driniaeth canser gogledd Cymru yn y broses o wneud hynny. Mae trafodaethau pellach ar y gweill rhwng y GIG a’r trydydd sector ynghylch y posibilrwydd o swyddi yn ne-ddwyrain Cymru. Mae Rhwydwaith Canser Cymru wedi gwneud cryn dipyn o waith gyda’r trydydd sector, clinigwyr y fron a byrddau iechyd i adolygu gwasanaethau canser eilaidd y fron a phrofiad cleifion. Mae wedi datblygu cyfres o argymhellion a fydd yn cael eu cyflwyno i fwrdd y rhwydwaith eu hystyried ym mis Tachwedd. Eluned Morgan AC: Mae clinigwyr arbenigol Rhwydwaith Canser Cymru hefyd wedi nodi sut y dylid trin cleifion ledled Cymru mewn llwybr sydd wedi ei gytuno yn genedlaethol. Flwyddyn nesaf, byddwn ni'n cyflwyno archwiliad clinigol cenedlaethol o wasanaethau canser metastatig y fron i helpu i wella'r gofal mae pobl yn ei gael. Eluned Morgan AC: Felly, er eglurder, mae'r ddeiseb yn galw am well prosesau casglu data ar ganser metastatig, ac rwy'n gobeithio y bydd y deisebwyr yn falch o glywed fy mod wedi cymeradwyo cyllid ychwanegol i gyflwyno archwiliad clinigol cenedlaethol o ganser metastatig y fron yng Nghymru. Mae darparu gwell gwasanaeth o ran data cynllunio yn un o'r rhesymau pam ein bod yn buddsoddi £11 miliwn mewn system gwybodaeth canser newydd i Gymru. Eluned Morgan AC: Rŷn ni wedi nodi ein dull ehangach yn y datganiad ansawdd ar gyfer canser. Mae'r datganiad yn cynnwys y disgwyl y caiff y gweithlu canser ei gynllunio i fodloni'r galw a ragwelir, yn benodol o ran oncoleg glinigol a meddygol, nyrsys canser arbenigol, ffiseg feddygol, radiograffwyr a therapiwtig. Rŷn ni bellach yn gweithio gyda'r gwasanaeth iechyd drwy ei brosesau cynllunio ac atebolrwydd i sicrhau eu bod nhw'n cyflawni hyn. Ac wrth inni ddod allan o effaith y pandemig, rhaid inni barhau i ganolbwyntio ar adfer gwasanaethau canser a lleihau unrhyw effaith ar ganlyniadau. Yn fwy cyffredinol, dwi am achub ar y cyfle hwn i annog pobl i leihau eu risg o ganser y fron drwy wneud yr hyn a allan nhw, megis byw bywyd iach, ac annog menywod sydd yn gymwys i gymryd rhan mewn sgrinio'r fron. Ond pan fydd angen y cymorth hwnnw ar fenywod a thriniaeth ar gyfer canser y fron, fy mwriad yw y gall y gwasanaeth iechyd ei darparu. Diolch yn fawr. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor i ymateb i'r ddadl. Jack Sargeant AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i’r Gweinidog am ymateb, ac wrth gwrs, i aelodau fy mhwyllgor, Rhun ap Iorwerth, ac i Buffy am ei chyfraniad a’i theyrnged i’w ffrind agos hefyd—cyfraniadau pwerus iawn. Hoffwn ddiolch hefyd i’r Pwyllgor Busnes am gyflwyno’r ddadl frys hon a’r ffordd y’i trefnwyd. Lywydd, mae’n bwynt arferol imi geisio crynhoi sylwadau’r Aelodau, ond heddiw, teimlaf fod gennyf ddyletswydd bwysicach. Rwyf bob amser wedi ceisio dweud mai pwyllgor y bobl yw’r Pwyllgor Deisebau, ac rwyf wedi addo ceisio sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed— James Evans MS: A wnaiff yr Aelod ildio? Jack Sargeant AC: Gwnaf, wrth gwrs. James Evans MS: Diolch. A fyddech yn cytuno â mi nad yw gwir arwyr ein cymdeithas yn gwisgo clogynnau, pobl fel y deisebydd ydynt, a gyflwynodd y deisebau hyn i godi materion fel hyn ar lwyfan cenedlaethol? Ac a ydych yn cytuno â mi y dylai fod mwy o gyfle i faterion fel hyn gael eu trafod yn y Senedd fel y gall pawb ledled Cymru, fel y deisebydd, ddwyn y pwyntiau hanfodol bwysig hyn i'n sylw ni fel y swyddogion etholedig yn y lle hwn? Jack Sargeant AC: A gaf fi ddiolch i James Evans am ei ymyriad? Cytunaf yn llwyr â James, a’r pwynt rwyf am geisio'i wneud yn awr yw nad pobl fel ni, James, pobl mewn siwtiau sy’n eistedd yn y Siambr hon, sy’n creu newid gwirioneddol, ond pobl fel Tassia. Roedd Tassia'n ddigon caredig, Weinidog, i roi rhai sylwadau i mi ar y llythyr y sonioch chi amdano, a anfonwyd ataf ar 14 Hydref: o ran llwybrau, mae gan Lywodraeth Cymru gyfres o lwybrau delfrydol, ond mae pryderon nad oes llwybr penodol ar gyfer canser metastatig y fron, a dylem geisio mynd i’r afael â hynny. Ar nyrsio arbenigol, credaf y dylem fod yn ystyriol—ac rwy'n darllen geiriau Tassia yma—dylem fod yn ystyriol wrth ddatgan nad rôl Llywodraeth Cymru yw pennu pa gyflyrau a ddylai elwa o gymorth nyrsio arbenigol penodedig, gan mai dyma'n union a wnawn gyda chyflyrau eraill. I sôn yn fyr am yr archwiliad, rwy'n croesawu'r ffaith bod yr archwiliad wedi'i gyhoeddi, a’r £11 miliwn a gyhoeddwyd gennych heddiw yn y Siambr, ond gwn o sgyrsiau a gefais gydag ymgyrchwyr, y bydd peth rhwystredigaeth ei fod wedi cymryd gormod o amser. Gwn fy mod yn brin o amser, felly rwyf am orffen gyda hyn, Lywydd: mae 277 o gleifion a rhai sy’n rhoi gofal i gleifion canser metastatig y fron yng Nghymru wedi llofnodi llythyr agored Tassia, y mae pob un ohonom wedi’i glywed, ac yn cytuno â’r ddeiseb. Mae Tassia a’r 14,105 o bobl eraill wedi arwyddo deiseb i wneud yn well. Yn fy ngeiriau fy hun yn awr, Lywydd, dylai’r ystadegau hyn fod yn gloch yng nghlustiau pawb yn y Siambr, a phawb sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau, y Gweinidog a Llywodraeth Cymru yn gyffredinol, ac wrth gwrs, ein byrddau iechyd, y dylem i gyd eu dwyn i gyfrif. Diolch yn fawr. Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r ddeiseb? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ardrethi busnes Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths, a gwelliant 2 yn enw Siân Gwenllian. Symudwn ymlaen at eitem 9, dadl y Ceidwadwyr Cymreig: ardrethi busnes. Galwaf ar Peter Fox i wneud y cynnig. Cynnig NDM8105 Darren Millar Cynnig bod y Senedd: 1. Yn gresynu at y ffaith bod gan Gymru'r ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain Fawr. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar unwaith i leihau trethi annomestig i gefnogi busnesau a diogelu swyddi. Cynigiwyd y cynnig. Peter Fox AS: Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, yr Aelod dros Orllewin Clwyd, a chroesawaf y cyfle i gyflwyno’r ddadl hon heno. Mae busnesau yng Nghymru yn hollbwysig i’n ffyniant economaidd. Maent yn sbardun pwysig i dwf, gan greu swyddi a chyfoeth, ac maent yn sail i’n cymunedau, gyda llawer yn darparu gwasanaethau pwysig i bobl leol. Yn syml: eu llwyddiant hwy yw llwyddiant Cymru. Ond—ac rydym wedi clywed hyn droeon yn y Siambr a thu hwnt—mae llawer o fusnesau wedi wynebu cyfnod anodd iawn dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. O’r pandemig i’r argyfwng ynni presennol a phwysau chwyddiant, mae busnesau wedi gorfod ymdopi ag ystod o heriau sydd wedi llesteirio eu potensial. Daeth y Llywydd i’r Gadair. Peter Fox AS: Mae'r materion hyn yn effeithio’n uniongyrchol ar fusnesau, megis drwy gynyddu gorbenion, ond mae iddynt effeithiau anuniongyrchol hefyd, a gwyddom y bydd yr argyfwng costau byw a chwyddiant yn lleihau pwerau gwariant dewisol, sy’n golygu bod busnesau’n wynebu ergyd arall i'w ffrydiau incwm. Mae llawer wedi ceisio amsugno'r pwysau ar brisiau dros yr ychydig fisoedd diwethaf eisoes, ond yn amlwg, nid yw hyn yn gynaliadwy yn y tymor hwy. Gwyddom fod busnesau a pherchnogion busnesau'n wirioneddol bryderus. Croesawaf y mesurau amrywiol sydd wedi’u cyhoeddi gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chefnogi busnesau. Mae rhai enghreifftiau o hyn yn cynnwys cynllun ffyrlo Llywodraeth y DU, a roddodd gymorth sylweddol i fusnesau yn ystod y pandemig, yn ogystal â’r cynllun rhyddhad ar filiau ynni a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Mae gwelliant Llywodraeth Cymru, fel y'i nodwyd ar yr agenda, hefyd yn rhestru’r cymorth y mae hi’n ei roi i fusnesau ledled Cymru, sy'n rhywbeth yr ydym ni ar yr ochr hon i’r Siambr yn ei groesawu’n fawr, wrth gwrs. Ond mae angen mwy o gymorth. Rydym mewn argyfwng costau gwneud busnes yn ogystal ag argyfwng costau byw ar hyn o bryd, a dyna pam na fydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth. Oherwydd pe bai’r gost o wneud busnes yn gostwng, ni fyddai angen cymorth mor sylweddol arnynt i leddfu baich ardrethi busnes. Ac yn anffodus, nid yw gwelliant y Llywodraeth yn cyfleu’r angen i ailystyried trethiant busnes i sicrhau nad yw’n rhwystr atchweliadol i ddyheadau a thwf busnes. Fel y saif pethau ar hyn o bryd, mae busnesau’n poeni y bydd gwneud gwelliannau i’w hadeiladau—gan gynnwys ymdrechion i’w gwneud yn fwy cynaliadwy, er enghraifft—yn achosi i werth ardrethol eu heiddo godi, gan olygu y byddent yn cael eu gorfodi i dalu mwy am eu bod am ehangu eu busnes neu wella eu rhagolygon, neu yn achos gwelliannau ynni, lleihau eu gorbenion a helpu'r amgylchedd. Mewn gwirionedd, mae’r ffordd y mae ardrethi busnes yn gweithio yn golygu bod cwmnïau’n cael eu gorfodi i dalu treth cyn iddynt gael unrhyw incwm hyd yn oed, heb sôn am wneud unrhyw elw. Ychwanegwch y ffaith bod ardrethi yng Nghymru yn gymharol uchel o gymharu â gwledydd eraill—Cymru sydd â’r ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain ar hyn o bryd—a gallwch weld pam fod y sector yn galw am ailystyried y ffordd yr ydym yn trethu ffyniant. Lywydd, nid wyf yn mynd i esgus fod gennyf yr holl atebion, nac yn wir y bydd y ddadl hon yn datrys y mater; mae’n sefyllfa gymhleth ac mae’n mynd i gymryd amser i weithio gyda busnesau i gael y cydbwysedd cywir rhwng cefnogi gwasanaethau cyhoeddus drwy drethiant a thwf economaidd. Nodaf yr awgrym o dreth gwerth tir, fel y mae Plaid Cymru yn dadlau o'i phlaid yn eu gwelliant hwy. Fodd bynnag, yn anffodus, ni fyddwn ni ar yr ochr hon yn gallu cefnogi’r gwelliant hwnnw ychwaith fel y saif pethau. Er fy mod yn cydnabod bod gan ddiwygio o’r fath rai manteision o gymharu â’r system bresennol, mae'n rhaid inni fod yn ofalus iawn ynghylch yr effeithiau y gallai diwygiadau mor eang â’r hyn a gynigir eu cael, fel y bydd yr holl Aelodau'n cytuno, rwy'n siŵr. Er enghraifft, mae llawer o fusnesau bach ar hyn o bryd yng nghanol trefi a dinasoedd lle mae gwerth tir yn ddrud. A allai diwygiadau o’r fath eu gyrru oddi ar ein stryd fawr, lle mae taer angen eu presenoldeb? Mae'n rhaid inni ofyn i ni'n hunain: beth y byddem yn dymuno'i weld: canol trefi bywiog, neu rywbeth arall? A fyddai treth gwerth tir yn annog pobl i sefydlu mwy o fusnesau ar-lein yn hytrach na chael presenoldeb ffisegol er mwyn osgoi talu’r dreth hon? Sut, felly, y byddem yn sicrhau bod busnesau ar-lein yn cael eu trethu’n deg, ac yn cael eu trin yn gyfartal â’r rheini sydd ag eiddo ffisegol? Ond edrychaf ymlaen at glywed gan feinciau Plaid Cymru sut y gallai treth o’r fath weithio’n ymarferol, a sicrhau y byddai’r pot o arian sy'n cael ei godi ar hyn o bryd drwy ardrethi annomestig yn aros yr un fath, gan fod yn decach i fusnesau ar yr un pryd. Fodd bynnag, mae pethau y gellid eu cyflwyno dros y misoedd nesaf i helpu busnesau i oroesi wrth i ddiwygiadau ehangach gael eu hystyried. Er enghraifft, mae Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru wedi galw am ailgyflwyno seibiant ardrethi busnes o 100 y cant ar gyfer busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch tra bo'r hinsawdd economaidd ansicr yn parhau. Fan lleiaf, gellid ystyried ymestyn y cynllun rhyddhad presennol o 50 y cant y tu hwnt i’w oes bresennol yn ystod y cyfnod anodd hwn, gan fod busnesau ar hyn o bryd yn ofni’r dibyn sydd o'u blaenau. Neu gallai’r Llywodraeth barhau i rewi'r lluosydd, fel y gall busnesau o leiaf gynllunio gyda rhyw fath o sicrwydd. Byddwn hefyd yn dadlau y gallem edrych ar hollti’r lluosydd, yn debyg iawn i’r hyn a welwn mewn rhannau eraill o’r DU, fel nad yw busnesau bach yn cael eu trin yn yr un modd â busnesau mawr, a byddai hynny’n annog twf. Mae Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru hefyd wedi nodi pwyntiau dilys iawn, megis lleihau cost apeliadau i fusnesau a sicrhau bod pob busnes yn ymwybodol o’r cynlluniau cymorth amrywiol sydd eisoes yn bodoli. Gwn y bydd y Gweinidog yn dweud bod y pethau hyn yn costio arian, ac rwy’n ymwybodol nad oes cronfa ddiderfyn o arian i Lywodraeth Cymru ei defnyddio, ond serch hynny, mae ganddi’r dulliau sydd eu hangen i ddarparu cymorth i fusnesau drwy'r cyfnod hwn, fel y mae wedi'i wneud o'r blaen. Gallwn ddefnyddio adnoddau presennol yn well i ddarparu cymorth sydd nid yn unig yn lleihau baich ardrethi busnes, ond sy’n helpu busnesau i dyfu, gan leihau’r ddibyniaeth ar gymorth ariannol ychwanegol gan y Llywodraeth i dalu’r ardrethi. Lywydd, edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau'r Aelodau o bob rhan o’r Siambr y prynhawn yma, ac rwy'n gobeithio y gallwn ddefnyddio’r ddadl hon i drafod yn adeiladol sut y gallwn gefnogi busnesau Cymru yn y ffordd orau, nid yn unig drwy’r cyfnod anodd hwn, ond y tu hwnt, felly gallwn helpu i adeiladu economi gryfach, fwy llewyrchus i bawb. I grynhoi, Lywydd, gofynnaf i’r Aelodau gefnogi’r cynnig gwreiddiol ac i wrthwynebu gwelliannau 1 a 2. Diolch. Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig, a dwi’n galw ar y Gweinidog cyllid i gynnig gwelliant 1. Gwelliant 1—Lesley Griffiths Dileu popeth a rhoi yn ei le: 1. Yn nodi’r gwahanol gyfraddau ardrethi annomestig sy’n bodoli yng Nghymru, gyda chyfran uwch o fusnesau bach a chanolig. 2. Yn croesawu: a) y rhyddhad ardrethi annomestig y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i drethdalwyr bob blwyddyn, sy’n golygu nad yw 44 y cant yn talu unrhyw filiau. b) y cymorth ychwanegol gwerth £116 miliwn ar gyfer busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch eleni er mwyn eu helpu i adfer ar ôl y pandemig, gan ddarparu rhyddhad o hyd at 50 y cant ar eu biliau ardrethi annomestig. c) y ffaith bod, o ganlyniad i’r rhyddhad yma, 70 y cant o eiddo annomestig yng Nghymru yn derbyn cymorth â’u biliau ardrethi annomestig yn 2022-23. Cynigiwyd gwelliant 1. Rebecca Evans AC: Yn ffurfiol. Mae wedi’i gynnig. Dwi’n galw nawr ar Llyr Gruffydd i gynnig gwelliant 2 a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Gwelliant 2—Siân Gwenllian Ychwanegwch pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i ddisodli'r system bresennol o ardrethi annomestig gyda chynigion ar gyfer un dreth dir ac eiddo newydd sy'n cwmpasu tir preswyl, tir masnachol, a thir diwydiannol (gyda thir amaethyddol yn parhau i gael ei eithrio). Cynigiwyd gwelliant 2. Llyr Gruffydd AC: Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i’r Aelod am agor y ddadl, er fy mod yn credu na ddylai dadl heddiw fod ynglŷn â pha ran o’r DU sydd â’r lefel ardrethi busnes uchaf neu isaf? Rwy'n credu, ac rydych chi'n cydnabod, fod angen iddi fod yn drafodaeth ehangach, fwy soffistigedig ynghylch, yn y lle cyntaf, ai’r system ardrethi busnes ei hun yw’r dull gorau, ac a oes ffordd decach a mwy effeithiol o'i wneud. Mae ein gwelliant yn awgrymu bod gennym farn benodol ar hynny. Ond mae'n fater gwirioneddol bwysig, sydd wedi'i godi'n gwbl briodol, gan mai ardrethi busnes yw un o'r costau mwyaf i fusnesau yng Nghymru. Cânt eu crybwyll yn rheolaidd fel un o’r beichiau trymaf y mae llawer o’n busnesau'n eu hwynebu. Ond wrth gwrs, maent hefyd, ar yr un pryd, yn ffrwd incwm bwysig i awdurdodau lleol, fel sydd wedi'i gydnabod. Felly, mae angen taro cydbwysedd yn hyn o beth ac mae'n rhaid inni sicrhau bod y system a ddefnyddiwn yn deg ac yn flaengar, ond hefyd yn casglu’r refeniw angenrheidiol sydd mor bwysig i gyllid cyhoeddus. Rwy’n arbennig o ymwybodol yma, wrth gwrs, o fuddiannau busnesau bach a chanolig eu maint o fewn yr hafaliad cyfan. Gŵyr pob un ohonom fod amryw gynlluniau rhyddhad wedi eu crybwyll, a gwnaed llawer i ddarparu cymorth i’r busnesau sydd wedi'i chael hi'n anodd oherwydd effeithiau amrywiol Brexit, y pandemig, a bellach, yn ddiweddar, yr argyfwng chwyddiant. Ond gwyddom hefyd nad yw pawb wedi cael mynediad at y cymorth y teimlent fod ei angen arnynt, a bydd llawer ohonom wedi ymdrin â gwaith achos yn ein rhanbarthau a'n hetholaethau lle roedd pobl yn cwympo drwy'r bylchau hynny. Ac ni waeth a gawsant gymorth ai peidio, mae llawer o fusnesau bellach, fel y gwyddom, yn gorfod dewis rhwng gorfod ymdopi â chostau ychwanegol, ac a ydych yn cynyddu eich prisiau neu'n ceisio parhau i fod yn gystadleuol, ac mae’n her aruthrol i lawer o'n busnesau. Felly, nid yn unig fod chwyddiant cynyddol, y costau ynni, prinder staff, ad-daliadau dyledion i lawer o fusnesau, nid yn unig fod cost economaidd ynghlwm wrth hynny i gyd, ond mae cost ddynol hefyd, onid oes, yn sgil y straen a'r pwysau ar yr unigolion sy'n ceisio cael deupen llinyn ynghyd. Ond rhwng popeth, nid yw'r darlun yn edrych yn gynaliadwy iawn fel y saif pethau. Felly, dylem gael polisi treth sydd nid yn unig yn deg, ond sydd hefyd yn cymell entrepreneuriaid yma yng Nghymru yn y ffyrdd cywir. Gwyddom hefyd fod ardrethi busnes yn cael eu hystyried yn annheg ac yn atchweliadol i raddau helaeth, ac mae’r Gweinidog, a bod yn deg, wedi dweud o’r blaen ei bod am symud tuag at greu Cymru decach a’i bod wedi ymrwymo i archwilio treth gwerth tir, gyda gwaith amrywiol yn mynd rhagddo ar hynny. Felly, byddai’n dda, yn eich ymateb i’r ddadl hon heddiw, Weinidog, pe baech yn egluro ble rydych chi arni ar hyn o bryd gyda llawer o’r gwaith hwn, ac efallai y gallech roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am amserlenni ac ailadrodd eich ymrwymiad, gobeithio, i archwilio a datblygu opsiynau ynghylch y dreth gwerth tir. Rydym wedi gweld ymchwil, wrth gwrs, gan Brifysgol Bangor sy'n dangos y gall treth gwerth tir fod yn system decach, a chan fod y diwygiadau arfaethedig a nodwyd gennych yn flaenorol i fod i ddigwydd dros gyfnod o bedair blynedd, os cofiaf yn iawn, rwy'n gobeithio y bydd cyfleoedd rheolaidd inni graffu ar gynnydd yn y lle hwn, i sicrhau bod llais busnesau, awdurdodau lleol ac eraill, wrth gwrs, yn ganolog i’r holl broses honno. I mi, mae treth gwerth tir yn cynnig tegwch ac effeithlonrwydd. Mae'n eithaf syml i'w chasglu, byddwn yn dychmygu; mae'n anodd iawn osgoi talu treth gwerth tir—ni allwch ei chuddio mewn cyfrifon alltraeth fel y gallwch gyda phethau eraill yn aml iawn. Gall fod yn ddatgymhelliad cryf i hap-berchnogaeth, oherwydd yn amlwg, byddai tirfeddianwyr sy'n crynhoi tir o ansawdd uchel at y diben hwnnw'n wynebu bil mwy. Ac rwy'n gobeithio, wedyn, y byddai hynny'n helpu i wastatáu'r cylchoedd o ffyniant a methiant, gan wneud eiddo, o bosibl, yn fwy fforddiadwy i bobl ifanc. Yn ogystal, gallai treth gwerth tir annog datblygu, gan y byddai gan bobl gymhelliant i ddefnyddio tir segur a thir nad yw’n cael ei ddefnyddio’n ddigonol at ddefnydd mwy cynhyrchiol. Er bod y rhan fwyaf o drethi'n dueddol o annog pobl i beidio â buddsoddi, neu'n ymyrryd mewn marchnadoedd, nid yw trethi gwerth tir yn ystumio gweithgarwch economaidd; yn hytrach, maent yn helpu i gynyddu sefydlogrwydd a thwf hirdymor—dyn a ŵyr, mae angen ychydig o hynny arnom y dyddiau hyn—drwy feithrin defnydd mwy cynhyrchiol o gyfalaf. Ac wrth gwrs, yn hollbwysig, mae'n helpu cyllid y Llywodraeth drwy ddod â refeniw i mewn yn effeithlon ac yn gyflym. Daeth asesiad Prifysgol Bangor i’r casgliad fod gwerth tir yng Nghymru yn darparu sylfaen drethu ddigon mawr i sicrhau y gallai treth gwerth tir godi refeniw sy’n cyfateb i’r hynny a godir gan y drefn dreth leol bresennol yng Nghymru. Ond wrth gwrs, mae llawer o waith i’w wneud. Mae nifer o gwestiynau a nifer o heriau y mae angen mynd i'r afael â hwy, a chyfeiriwyd at lawer ohonynt yn gynharach. Ond wrth gwrs, nid ydym yn argymell rhuthro i mewn i hyn, ond o'i wneud yn iawn, rwy'n credu y byddai'n system decach a mwy cyfartal. Mae'n un sydd wedi dod i amlygrwydd gwleidyddol yn y DU dros y blynyddoedd diwethaf, gydag ymrwymiadau gan Lafur, gan y Democratiaid Rhyddfrydol, y Gwyrddion, Plaid Cymru yma yn cynnig hyn yn ein gwelliant. Mae mwy na 30 o wledydd wedi mabwysiadu gwahanol fathau o dreth gwerth tir, gan gynnwys Awstralia, Seland Newydd, Kenya, Taiwan, Singapore, Denmarc, a rhai o daleithiau'r UDA hefyd. Felly, wrth gynnig gwelliant Plaid Cymru heddiw, gofynnaf i Aelodau’r Senedd gefnogi datganiad clir fod Cymru'n dymuno bod nesaf. Janet Finch-Saunders AC: Mae 126,700 eiddo annomestig yng Nghymru yn gorfod talu ardrethi busnes, a chodaf fy het iddynt. Mae ardrethi busnes wedi cynyddu 10 y cant dros y chwe blynedd diwethaf; cymharwch hynny â 3 y cant yn Lloegr, 2.9 y cant yn yr Alban. Golyga hynny mai Cymru yw'r gornel fwyaf anghyfeillgar i fusnes yn y Deyrnas Unedig. Dywedodd cadeirydd cenedlaethol y Ffederasiwn Busnesau Bach fod y system ardrethi busnes bresennol yn cyfrannu at nifer y siopau gwag. A phan welwn stryd fawr wag, mae'n fwy na'r ffaith nad oes busnesau yno; nid yw siopau gwag yn edrych yn dda ar stryd fawr. Mae'n gostwng gwerth siopau eraill mewn gwirionedd. Mae 88 y cant o fusnesau'n credu y dylech fod yn defnyddio rhyddhad trethi i hybu twf, ac rwy'n croesawu'r cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch, ond nid yw ond yn ymestyn i ryddhad o 50 y cant gyda chap o £110,000. A chredaf fod yr hyn y mae'r Ffederasiwn Busnesau Bach yn ei ddweud yn wir. Dylem ailgyflwyno’r seibiant ardrethi busnes 100 y cant ar gyfer busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch. Mewn gair, gallai rhai busnesau gau eu siopau a masnachu ar-lein yn unig, ac nid ydym am i hynny ddigwydd. Dylem fod yn gwobrwyo eu presenoldeb ar ein stryd fawr, a'u cadw fel mannau bywiog hanfodol y gall pobl eu mynychu. Mike Hedges AC: A wnewch chi dderbyn ymyriad? Janet Finch-Saunders AC: Gwnaf. Mike Hedges AC: Efallai mai un ffordd ymlaen fyddai codi tâl ar fanwerthwyr ar-lein fel pe baent ar y stryd fawr. Janet Finch-Saunders AC: Wel, wyddoch chi beth, ni allaf anghytuno â hynny, Mike? A gwrandewais y tro hwnnw. [Chwerthin.] Credaf eich bod yn gwneud pwynt dilys iawn, oherwydd— Andrew RT Davies AC: Fe fyddwch yn Ganghellor cyn bo hir yn ôl pob tebyg. [Chwerthin.] Janet Finch-Saunders AC: Neu'n Ysgrifennydd Cartref. O, mae'r Ysgrifennydd Cartref wedi mynd. [Chwerthin.] Mae'n ddrwg gennyf. Mae angen synnwyr cyffredin wrth ymdrin gydag Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Gwn pa mor rhwystredig y teimlwch, rwy'n siŵr, oherwydd pan fyddaf yn ceisio gweithio ar ran etholwr ar brisiadau, gall gymryd hyd at ddwy flynedd. Rwyf wedi codi'r mater gyda’r swyddfa brisio, ac os wyf fi'n ei chael hi'n anodd, mae’n rhaid ei fod yn anodd, ond rywsut, mae'n rhaid ichi gael y sgyrsiau hynny. Bydd yn rhaid i bob busnes ar Stryd Mostyn apelio, wrth gwrs, pan gaiff y gwerthoedd ardrethol newydd eu cyhoeddi. A chredaf fod proses apelio Asiantaeth y Swyddfa Brisio, fel rwyf wedi sôn—. Mae gennyf rai busnesau yn Aberconwy ar hyn o bryd yn aros pum mlynedd i'w hapeliadau gael eu clywed. Felly, rywsut, mae'n rhaid cael rhywfaint o gyswllt. Nawr, rwyf wedi dadlau ynglŷn â hyn dros y blynyddoedd gyda'r Prif Weinidog, a Gweinidogion eraill, a'u dadl hwy yw, 'O, Asiantaeth y Swyddfa Brisio, mae'n adran o Lywodraeth y DU'. Ond, mae'n ddrwg gennyf, Llywodraeth Cymru sy'n caffael gwasanaeth Asiantaeth y Swyddfa Brisio gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Felly, yn fy marn i, os wyf yn tendro am wasanaeth neu'n caffael gwasanaeth fy hun, mae gennyf lais o ran pa mor dda neu ddrwg yw'r gwasanaeth hwnnw. Felly, ni chredaf fod yr esgus yn ddigon da, i chi fel Llywodraeth Cymru ddweud, 'Wel, mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn rhan o Lywodraeth y DU, nid yw'n ddim i'w wneud â ni'. Rydych yn caffael, gan ddefnyddio arian trethdalwyr, felly credaf yn gryf y dylai fod gennych lefel o ddisgwyliad ynghylch safon eu gwaith. Gwyddom fod gennym argyfwng hinsawdd ac ynni. Rwyf eisoes wedi sôn heddiw am rai o’r costau anghredadwy y mae rhai o fy musnesau'n eu hwynebu. Mae pobl wedi ysgrifennu ataf ynglŷn â hyn, ac rwyf wedi gorfod dweud, 'Wel, Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am ynni’. Ond maent yn fy ateb yn syth, gan ddweud, 'Ond rwy'n gofyn beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i'n helpu ni fel busnesau'. Ac i mi, mae ardrethi busnes yn gwbl amlwg. Dyna un o’r ffyrdd y gallwch chi helpu’r busnesau hynny sy'n dioddef yn enbyd. Erys y ffaith mai busnesau yng Nghymru, busnesau ledled y DU, yw asgwrn cefn economi ein gwlad. Nid yn unig eu bod yn dymuno talu eu ffordd eu hunain, darparu gwasanaeth da, maent hefyd am gyflogi pobl. Mae wedi dod yn llawer anoddach bellach i gynnig prentisiaethau ym maes manwerthu, yn y sector lletygarwch—nawr, ar hyn o bryd. Mae llawer o ffocws wedi bod ar yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud. O ran ardrethi busnes, rwy'n credu o ddifrif y gallech arloesi a chreu ffordd ymlaen i fusnesau—hynny yw, pe bai gennych awydd ac ewyllys i wneud hynny. Diolch. James Evans MS: Gadewch i ni fod yn glir, busnes yw asgwrn cefn ein heconomi—o berchennog y busnes bach ar y stryd fawr i'r cwmnïau mwy sy'n cyflogi cannoedd a miloedd o bobl ar draws y wlad. Y gwledydd mwyaf llewyrchus yn y byd yw'r rhai lle gall busnesau ffynnu, a rhan allweddol o'r llwyddiant hwnnw yw llai o fiwrocratiaeth a llai o drethi i'r busnesau hynny. Yng Nghymru, mae gennym yr ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain gyfan, fel y dywedodd Peter Fox. Mae gennym yr allbynnau cynnyrch domestig gros y pen gwaethaf o gymharu ag unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig. A hyn ar ôl 23 mlynedd o ddatganoli, a 23 mlynedd o reolaeth Lafur, felly rwy'n credu ei bod yn hen bryd i fusnesau gael ffrind ym Mae Caerdydd. Mae yna fusnesau yn fy nghymunedau ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed sydd wedi nodi bod ardrethi busnes yn un o'r rhesymau pam na allant fforddio dal ati, nad yw ardrethi busnes fel y maent wedi'u gosod ar hyn o bryd yn fforddiadwy i lawer, yn enwedig mewn cyfnod o broblemau economaidd, wedi'u hachosi gan ryfel gwarthus Putin yn Wcráin ac ansicrwydd y farchnad fyd-eang. Maent hefyd wedi gorfod ymdrin â chanlyniadau dinistriol cyfyngiadau COVID-19, a bydd effeithiau hynny'n cael eu teimlo am ddegawdau i ddod, gyda rhai busnesau'n gadael y stryd fawr, a byth yn dychwelyd eto. Heb os, mae'n gyfnod anodd i fusnesau. Felly, byddai diwygio ardrethi busnes, fel rydym ni fel Ceidwadwyr Cymreig yn ei gredu, yn gwneud Cymru'n wlad gystadleuol ac yn cynnig rhaff achub fawr ei hangen i fusnesau ar yr adeg y maent fwyaf o'i hangen. A hoffwn annog Llywodraeth Cymru i ystyried hyn yn ymateb y Gweinidog. Mae mwy o werth i fusnesau na busnes yn unig. Maent yn darparu swyddi, maent yn cynyddu ffyniant, maent yn gwneud ein trefi a'n pentrefi a'n dinasoedd yn fwy deniadol, ac maent yn annog arloesi, ac yn gwella gwerth a dewis i gwsmeriaid. Byddai diwygio ardrethi busnes yng Nghymru yn ein gwneud yn lleoliad llawer mwy deniadol ar gyfer mewnfuddsoddiad, a fydd yn rhoi hwb i swyddi, twf a ffyniant. Ond rwy'n cytuno, fel y mae eraill wedi'i ddweud, fod angen inni edrych ar fesurau ehangach a allai gefnogi ein sector busnes ym maes manwerthu a lletygarwch, oherwydd rydym yn gweld tafarndai'n cau ar raddfa enfawr, ac mae hynny'n rhywbeth sy'n rhaid rhoi diwedd arno. Felly, gadewch inni roi diwedd ar yr holl ddiflastod a orfodwyd ar fusnesau Cymru a rhoi'r offer a'r rhyddid iddynt ffynnu mewn ffordd a fydd o fudd i'n heconomi ac i bobl Cymru am genedlaethau i ddod. Diolch, Lywydd. Samuel Kurtz MS: Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw. Fel cyn-gynghorydd sir, ond heb gyrraedd uchelfannau statws arweinydd cyngor fel fy nau gyd-Aelod parchus sy'n eistedd bob ochr i mi, rwy'n ymwybodol iawn o bwysigrwydd y refeniw y mae ardrethi busnes yn ei godi i awdurdodau lleol, ond rwy'n ymwybodol hefyd o annigonolrwydd y fformiwla gyllido bresennol a'r tro gwael a wneir â llawer o gynghorau drwy setliadau cyllidebol a dosbarthiad cyllid. Oherwydd hyn, rwy'n falch o'r cyfle i gyfrannu. Nid oedd yn syndod mawr mewn gwirionedd mai busnesau yng Nghymru sy'n talu'r ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain gyfan, gyda busnesau Cymru'n talu hyd at 4.5 y cant yn fwy na busnesau eraill ar draws Prydain. Mae'r ffaith mai Cymru yw'r unig wlad ym Mhrydain i godi un ardreth safonol ar bawb, beth bynnag fo maint y busnes neu'r trosiant, yn ymddangos yn rhyfedd ac yn anystyriol o'r busnesau yma yng Nghymru, yn enwedig busnesau bach a chanolig. Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod yr Aelod dros Fynwy, mewn modd mor huawdl wrth agor y ddadl, mae busnesau yng Nghymru yn hanfodol i'n ffyniant economaidd. Mae hyn yr un mor wir am fasnachwyr bach annibynnol ag ydyw am gwmnïau rhyngwladol mwy o faint, sydd fel ei gilydd yn chwarae rhan bwysig ar ein strydoedd mawr. Felly, er bod y sector wedi wynebu ansicrwydd dros y blynyddoedd diwethaf, mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd i wneud popeth yn ei gallu, gyda'r dulliau sydd ar gael iddi, i liniaru peth o'r pwysau a helpu busnesau i ganfod llwybr yn ôl at dwf a ffyniant. Mae'n debyg y byddai llawer ohonom yn y Siambr heddiw yn ymffrostio'n falch am stryd fawr yn eu hetholaeth sy'n llawn o fasnachwyr annibynnol ac sy'n gweithredu fel esiampl o sut yr hoffem i strydoedd mawr ledled Cymru edrych. I mi, Arberth sy'n gwneud hynny, ac nid yn unig am fod fy swyddfa i ar y stryd fawr, ond rwy'n siŵr ei fod yn ffactor sy'n cyfrannu—stryd fawr sy'n llawn o fasnachwyr annibynnol, bwytai o safon uchel a busnesau teuluol yn denu cwsmeriaid i mewn i'r dref. Mae'r Aelodau wedi cyfeirio at drefi eraill ar draws Cymru a'r enghreifftiau cadarnhaol sydd ganddynt hwy yn eu hetholaethau, ond am bob stori lwyddiant, mae gennym hefyd ardaloedd lle mae busnesau wedi cael eu prisio allan o ganol y dref. Yn anffodus, mae trefi hanesyddol Doc Penfro yn sir Benfro neu Hendy-gwyn ar Daf yn sir Gaerfyrddin yn enghreifftiau lle mae busnesau, dros y genhedlaeth ddiwethaf, wedi cau a lle mae siopau'n wag. Un o'r ffactorau sy'n cyfrannu at hyn yw'r drefn ardrethi busnes anhyblyg y mae'n rhaid iddynt weithredu oddi tani. Elwodd trefi fel Arberth yn fawr o gynlluniau rhyddhad ardrethi gwledig blaenorol, a wnaeth lawer i sefydlu'r dref fel cyrchfan siopa i ymwelwyr a phobl leol. Rwy'n deall bod cynlluniau o'r fath yn parhau yn ôl disgresiwn awdurdodau lleol unigol, ond hoffwn wybod, Weinidog, a yw Llywodraeth Cymru'n annog eu cydweithwyr mewn llywodraeth leol i wneud defnydd o'r dulliau sy'n parhau i fod ar gael iddynt. Ymhell cyn i mi gael fy ethol i'r lle hwn, galwodd fy nghyd-Aelodau ar yr ochr hon i'r Siambr am i fusnesau sydd â gwerth ardrethol o lai na £15,000 gael eu heithrio o ardrethi busnes yn gyfan gwbl, ac i fusnesau sy'n werth o dan £18,000 i dalu ardreth sy'n cynyddu'n raddol i'r swm llawn hwnnw. Byddai hyn yn golygu bod modd ailfuddsoddi mwy o arian mewn busnesau bach, yn enwedig yn eu blynyddoedd cyntaf o weithgarwch. Os nad yw ein polisi yn dderbyniol i Lywodraeth Cymru, a gaf fi annog y Gweinidog i roi ystyriaeth i awgrym a wnaed gan y Ffederasiwn Busnesau Bach ynghylch pryd y dylai busnesau newydd ddechrau talu ardrethi busnes? Yn hytrach na rhoi bil ardrethi i fusnes newydd o'r diwrnod cyntaf, a fyddai'n werth archwilio'r opsiwn o wyliau ardrethi ar gyfer, dyweder, y 12, 18 neu 24 mis cyntaf o weithgarwch? Byddai hyn yn galluogi mwy o fusnesau newydd, yn cynyddu'r gobaith o oroesi'n hirdymor ac yn cynyddu nifer y safleoedd a feddiennir a'r cyfleoedd gwaith a gaiff eu creu. Weinidog, mae'n amlwg nad oes gan neb yr atebion i gyd i'r broblem hon. Fodd bynnag, ceir amryw o atebion a all fynd rhywfaint o'r ffordd i oresgyn rhai o'r heriau sydd o'n blaenau. Rwy'n annog y Siambr i gefnogi ein cynnig heddiw a dangos i fusnesau yng Nghymru fod Llywodraeth Cymru ar eu hochr hwy mewn gwirionedd. Diolch, Lywydd. Y Gweinidog cyllid nawr i gyfrannu at y ddadl. Rebecca Evans. Rebecca Evans AC: Diolch, Lywydd. Mae Llywodraeth Cymru yn sicr ar ochr busnesau Cymru, ac rydym yn llawn gydnabod yr heriau y mae busnesau a thalwyr ardrethi eraill yn eu hwynebu o dan yr amodau economaidd presennol, ac yn wir, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn agored i'r un pwysau cyllidebol. Rebecca Evans AC: Mae ardrethi annomestig wedi bod yn rhan bwysig o'r system cyllid llywodraeth leol ers dros 30 mlynedd, gan godi mwy na £1.1 biliwn yn flynyddol, ac nid yw hwn yn gyfraniad bach at y cyllid sydd ei angen i gynnal y gwasanaethau lleol y mae pawb ohonom yn dibynnu arnynt, ac nid yw'n gyfraniad bach i gyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru yn wir. Ond mae'n rhaid cofio bod pob ceiniog yn mynd yn ôl i gefnogi awdurdodau lleol a'r gwasanaethau cyhoeddus y maent yn eu darparu. Rwy'n cydnabod bod sicrhau bod refeniw hanfodol yn cael ei gasglu i ariannu'r gwasanaethau lleol y mae pawb ohonom yn eu defnyddio, a sicrhau cyfraniad teg a chynaliadwy gan dalwyr ardrethi, yn gydbwysedd heriol i'w gyflawni. Ond rwy'n herio'r rhai a hoffai ein gweld yn mynd gam ymhellach nag a wnawn eisoes—ac rydym eisoes yn darparu llawer iawn o gefnogaeth—i ddweud pa rai o'r gwasanaethau cyhoeddus hynny y byddech chi eisiau eu gweld yn cael eu torri neu eu lleihau er mwyn darparu'r gefnogaeth ychwanegol honno, oherwydd dyna yw'r dewis gonest yr ydym yn ei wynebu pan fyddwn yn cael y sgyrsiau hyn. Nid wyf yn credu ei bod yn ddigon i ddweud y dylem ddefnyddio adnoddau presennol yn well, oherwydd nid yw hynny'n cyfleu anferthedd yr hyn sy'n cael ei ofyn. Mae'r rhain yn sgyrsiau agored y dylem eu cael ynglŷn â blaenoriaethau, ac rwy'n agored i gael y sgyrsiau hynny. Ond dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi capio'r cynnydd yn y lluosydd. Rhwng 2018-19 a 2020-21, rydym wedi defnyddio'r mesur chwyddiant is, y mynegai prisiau defnyddwyr, i gymedroli codiadau blynyddol yn y lluosydd. Gwn fod hynny wedi cael croeso cynnes gan gynrychiolwyr diwydiant. Ers hynny, rydym hefyd wedi rhewi'r lluosydd yn 2021-22 a 2022-23, ac mae hynny'n cydnabod effaith estynedig y pandemig coronafeirws ar fusnesau a thalwyr ardrethi eraill, a gadewch inni gofio bod hynny wedi arbed bron i £200 miliwn i dalwyr ardrethi ar eu biliau ardrethi yng Nghymru ers 2018-19, o'i gymharu â'r refeniw y byddem yn ei godi pe baem wedi cynyddu'r lluosydd yn flynyddol gyda'r mesur chwyddiant uwch, y mynegai prisiau manwerthu. Mae'r lluosydd yn un ffactor sy'n pennu biliau talwyr ardrethi, ac ni ddylid ei ystyried ar ei ben ei hun. Ffactor arall, wrth gwrs, yw gwerth ardrethol yr eiddo. Mae gan ein sylfaen drethu yng Nghymru werth ardrethol o tua £19,000 ar gyfartaledd, ac mae hynny, yn amlwg, yn wahanol iawn i'r hyn a geir yn Lloegr, sydd â chyfartaledd llawer uwch o tua £32,000. Mae hynny'n gwneud gwahaniaeth mawr i gyfartaledd yr hyn a delir gan dalwyr ardrethi. Cymhwysir rhyddhad wedyn i'r biliau sy'n lleihau neu'n dileu'r taliad i fwyafrif y talwyr ardrethi yng Nghymru, felly mae'n rhaid imi ddweud, o ganlyniad i'r gwahaniaethau rhwng ein sylfeini trethu a'n cynlluniau rhyddhad a ariennir yn llawn, fod biliau cyfartalog yng Nghymru yn sylweddol is na'r hyn ydynt yn Lloegr. Rydym wedi darparu cymorth ariannol digynsail i fusnesau a thalwyr ardrethi eraill dros y blynyddoedd diwethaf, ac yn enwedig ers dechrau'r pandemig coronafeirws. Mae ein cynlluniau rhyddhad parhaol yn golygu nad yw 44 y cant o'r sylfaen drethu yn talu unrhyw ardrethi domestig o gwbl, ni waeth beth fo lefel y lluosydd. Eleni, rydym yn darparu £116 miliwn o ryddhad ychwanegol wedi'i dargedu ar gyfer busnesau yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch. Er mwyn sicrhau bod busnesau yng Nghymru yn cael digon o gefnogaeth, ac er mwyn adlewyrchu natur ein sylfaen drethu, rydym wedi buddsoddi £20 miliwn ychwanegol at y cyllid canlyniadol gan Lywodraeth y DU at y diben hwn, gan arddangos, unwaith eto, y sylfaen drethu wahanol sydd gennym yma yng Nghymru. Ond o ganlyniad i'n cynlluniau rhyddhad parhaol a'r cymorth ychwanegol hwn, rydym yn gwario dros £350 miliwn eleni i ddarparu cymorth llawn neu rannol gyda'u biliau ardrethi i 70 y cant o safleoedd yng Nghymru. Bydd yr ailbrisiad ardrethi annomestig nesaf yn dod i rym ar 1 Ebrill 2023, yn seiliedig ar werthoedd eiddo ar 1 Ebrill 2021. Mae hyn yn golygu y bydd y gwerthoedd ardrethol yn adlewyrchu effaith y pandemig coronafeirws, yn ogystal â newidiadau yn y sylfaen drethu ers yr ailbrisiad diwethaf. Bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn cyhoeddi fersiwn ddrafft o restr ardrethi newydd cyn diwedd eleni, a byddwn yn asesu effaith ailbrisio ar ein sylfaen drethu. Ond mae'n iawn fod ein system ardrethi annomestig yn adlewyrchu natur unigryw'r sylfaen drethu yma yng Nghymru. Ar 29 Mawrth, nodais raglen ar gyfer diwygio ardrethi annomestig a fydd yn cael ei chyflwyno dros y pedair blynedd nesaf. Ers hynny rwyf wedi lansio ymgynghoriad ar amrywiaeth o ddiwygiadau, gan gynnwys ailbrisiadau mwy mynych ac ystod o fesurau i helpu Llywodraeth Cymru i addasu'r system i ddiwallu anghenion Cymru yn y dyfodol, ac wrth gwrs, mae apeliadau hefyd yn rhan o'r ymgynghoriad hwnnw. Mae ein cynlluniau'n cynnwys archwilio ymhellach y posibilrwydd o gyflwyno treth gwerth tir leol yn lle ardrethi annomestig a'r dreth gyngor. Byddai disodli'r trethi lleol presennol yn orchwyl fawr a fyddai'n galw am fuddsoddiad sylweddol, ac mae'n hanfodol fod gennym ddealltwriaeth drylwyr o'r costau a'r effeithiau. Rwyf wedi nodi fy mwriad i gynhyrchu map ffordd posibl ar gyfer y gwaith hwn tuag at ddiwedd tymor y Senedd hon. Roeddwn yn falch o glywed y cyfeiriad at yr asesiad technegol o’r potensial ar gyfer treth gwerth tir leol yng Nghymru gan Brifysgol Bangor. Roedd hwnnw'n waith a gomisiynwyd gennym yn Llywodraeth Cymru, ac mae'n nodi, fel y clywsom, fod yna amryw o gwestiynau sydd eto i'w hateb, a bod llawer o waith i'w wneud o hyd yn y maes penodol hwn. Ond mae'n rhywbeth yr ydym wedi ymrwymo i barhau i fynd ar ei drywydd a'i archwilio. Ar fater gwerthiannau digidol, cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw hwn, ond hoffwn roi sicrwydd i gyd-Aelodau fod fy swyddogion yn ymgysylltu â'u swyddogion cyfatebol ar y mater penodol hwn. Felly, er bod ein hymyriadau dros y blynyddoedd diwethaf—[Torri ar draws.] Wrth gwrs. Mike Hedges AC: Fel y dywedais wrth Janet Finch-Saunders yn gynharach, pam na allwn godi tâl ar y gwerthwyr ar-lein yn eu warysau mawr fel pe baent ar y stryd fawr? Rebecca Evans AC: Rwy'n gwybod bod Llywodraeth y DU yn archwilio amryw o ffyrdd y gellid cyflwyno treth ddigidol, ac rwy'n gwybod y byddent yn awyddus i glywed syniadau gan gyd-Aelodau yn y Senedd hefyd ynglŷn â sut y gellid cyflwyno'r fath beth. Oherwydd, fel rwy'n dweud, mae swyddogion yn Llywodraeth Cymru yn cael trafodaethau i gael gwell dealltwriaeth o'r hyn y gallai'r cynlluniau a'r cyfleoedd fod a'r modelau gwahanol ar gyfer cyflwyno treth gwerthiannau digidol. Cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw gwneud hynny, ond mae'n rhywbeth yr ydym yn ymwneud ag ef. Er bod ein hymyriadau dros y blynyddoedd diwethaf yn dangos bod y system ardrethi annomestig yn un ffordd sydd gennym o roi cymorth i fusnesau, rhaid inni beidio â cholli golwg ar y ffaith mai pwrpas trethi lleol yw codi refeniw ar gyfer gwasanaethau lleol. Mae ein pecyn helaeth o ryddhad ac ymyriadau i gymedroli'r lluosydd yn cael ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru. Nid oes unrhyw effaith wedi bod ar yr arian sydd ar gael i'r awdurdodau lleol, ac nid yw hynny'n hawdd ei gyflawni. Mae wedi codi o benderfyniadau anodd a ystyriwyd yn ofalus ynglŷn â sut i wario cyllideb gyfyngedig er budd gorau posibl holl bobl Cymru. Ers dros 30 mlynedd, mae ardrethi annomestig wedi bod yn rhan bwysig o'r ffordd yr ariannwn ein gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru, ac rwyf wedi ymrwymo i wneud gwelliannau i'r system yn unol â'n huchelgeisiau ar gyfer Cymru decach, wyrddach a chryfach, gan gynnal cryfderau'r dreth leol bresennol ar yr un pryd. Rwy'n annog yr Aelodau i bleidleisio dros welliant y Llywodraeth heddiw. Sam Rowlands i ymateb i'r ddadl. Sam Rowlands MS: Diolch, Lywydd, ac a gaf fi ddweud ei bod yn bleser cau dadl y Ceidwadwyr Cymreig heddiw ar ardrethi busnes? Rwyf am fod yn gryno iawn wrth gloi'r ddadl. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau, a dynnodd sylw at bwyntiau pwysig ynghylch y ffaith mai ardrethi busnes Cymru yw'r rhai uchaf ym Mhrydain. Wrth gwrs, cododd Plaid Cymru eu cynnig ar gyfer un dreth dir ac eiddo. Rwy'n credu bod Peter Fox wedi amlinellu'n glir iawn pam fod pryderon ynghylch hynny. Lywydd, hoffwn alw ar bob Aelod i gefnogi cynnig y Ceidwadwyr Cymreig a gwrthwynebu gwelliannau Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru heddiw. Diolch yn fawr iawn. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly mae'r bleidlaisyn cael ei gohirio tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. Rŷn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio nawr. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, fe fyddaf i'n symud yn syth i'r bleidlais. Oes yna dri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch? Un, dau, tri. Oes. Felly, canu'r gloch. Canwyd y gloch i alw’r Aelodau i’r Siambr. 10. Cyfnod Pleidleisio Cyn i mi alw am bleidlais, a gaf fi atgoffa pob Aelod o'r canllawiau newydd ar bleidleisio a bod disgwyl i bob Aelod sydd ar yr ystad fod yn y Siambr i bleidleisio? Byddaf yn disgwyl i unrhyw Aelod sydd ar yr ystad ond sy'n pleidleisio o'u swyddfa heno roi rheswm i mi, a byddaf yn disgwyl i Aelodau sy'n gwneud hynny yn y dyfodol anfon eu rhesymau ataf ymlaen llaw. Rwy'n credu bod yr Aelodau'n gwybod pwy ydynt, neu bwy yw ef neu hi, sy'n pleidleisio o'u swyddfeydd ar hyn o bryd. Byddaf yn derbyn eu pleidleisiau am heno, ond ni fydd hyn yn dderbyniol yn y dyfodol. Felly, dyna rybudd 'un tramgwydd arall ac fe fyddwch chi allan'. Awn ni at y bleidlais nawr. Gwnaf i alw yn gyntaf am bleidlais ar eitem 3, sef y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Prisiau Ynni. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 40, neb yn ymatal, 10 yn erbyn. Mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn. Eitem 3. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Prisiau Ynni: O blaid: 40, Yn erbyn: 10, Ymatal: 0 Derbyniwyd y cynnigCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Mae'r pleidleisiau nesaf ar eitem 9, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ardrethi busnes. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig yn gyntaf, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 36 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi ei wrthod. Eitem 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ardrethi busnes - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 14, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0 Gwrthodwyd y cynnigCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Gwelliant 1 sydd nesaf, felly, am bleidlais. Dwi'n galw am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei gymeradwyo. Eitem 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 26, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0 Derbyniwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Gwelliant 2 sydd nesaf, yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Mae gwelliant 2 wedi ei wrthod. Eitem 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian: O blaid: 11, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0 Gwrthodwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Y bleidlais olaf, felly, ar y cynnig wedi ei ddiwygio. Cynnig NDM8105 fel y'i diwygiwyd: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi’r gwahanol gyfraddau ardrethi annomestig sy’n bodoli yng Nghymru, gyda chyfran uwch o fusnesau bach a chanolig. 2. Yn croesawu: a) y rhyddhad ardrethi annomestig y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i drethdalwyr bob blwyddyn, sy’n golygu nad yw 44 y cant yn talu unrhyw filiau. b) y cymorth ychwanegol gwerth £116 miliwn ar gyfer busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch eleni er mwyn eu helpu i adfer ar ôl y pandemig, gan ddarparu rhyddhad o hyd at 50 y cant ar eu biliau ardrethi annomestig. c) y ffaith bod, o ganlyniad i’r rhyddhad yma, 70 y cant o eiddo annomestig yng Nghymru yn derbyn cymorth â’u biliau ardrethi annomestig yn 2022-23. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn. Eitem 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ardrethu busnes. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 26, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0 Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwydCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Dyna ni, dyna ddiwedd ar y pleidleisio. 11. Dadl Fer: Byw gyda chanser yng Nghymru: Gwella mynediad at wasanaethau rhagsefydlu ac adsefydlu Byddwn ni'n symud ymlaen yn awr i'r ddadl fer, ac felly os gall Aelodau adael y Siambr yn dawel cyn i fi alw ar Altaf Hussain i gynnig y ddadl fer. Altaf Hussain. Altaf Hussain AS: Diolch yn fawr. Rwyf wedi cytuno i roi munud o fy amser i Joel James. Bydd fy nadl fer y prynhawn yma'n canolbwyntio ar fyw gyda chanser. Rydym i gyd yn gwybod beth yw'r ystadegau: bydd un o bob dau ohonom yn cael canser rywbryd yn ystod ein hoes. Roedd canser yn arfer bod yn ddedfryd sicr o farwolaeth, ond diolch byth mae mwy a mwy o bobl yn goroesi canser. Ledled y DU, mae dros 3 miliwn o bobl yn dal yn fyw o leiaf bum mlynedd ar ôl cael diagnosis o ganser. Yng Nghymru, mae 70,000 o ddynion a 90,000 o fenywod yn byw gyda chanser, ac mae disgwyl i gyfanswm y niferoedd godi i 0.25 miliwn erbyn diwedd y degawd hwn. Cydnabyddir yn eang fod llawer o'n llwyddiant yn erbyn canser i'w briodoli i ddiagnosis cynharach. Fodd bynnag, ni waeth beth yw'r datblygiadau mewn sgrinio a thriniaethau, gall diagnosis o ganser arwain at ganlyniadau sy'n newid bywydau—canlyniadau fel problemau iechyd sy'n datblygu yn ystod triniaeth ac sy'n gallu cael effaith barhaol hyd yn oed bum mlynedd ar ôl gorffen y driniaeth. Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair. Altaf Hussain AS: Mae effeithiau hirdymor yn effeithio ar iechyd corfforol a seicolegol. Rhai o'r effeithiau yw blinder, problemau symudedd, poen, bod yn brin o anadl, diffyg maeth, iselder a gorbryder. Ceir hefyd yr effeithiau hwyr i ymgodymu â hwy. Diffinnir effeithiau hwyr fel problemau iechyd corfforol neu seicolegol sydd i'w gweld chwe mis neu fwy ar ôl triniaeth a gallant effeithio ar systemau organau cyfan o ganlyniad i driniaethau canser. Mae enghreifftiau'n cynnwys gwenwyndra cardiofasgwlaidd, llai o ddwysedd esgyrn neu isthyroidedd. Prin yw'r dystiolaeth ynghylch faint o bobl yr effeithir arnynt gan ganlyniadau canser parhaol o'r fath, er i Cymorth Canser Macmillan amcangyfrif yn 2013 fod tua hanner miliwn o bobl ledled y DU wedi cael problemau iechyd ar ôl triniaeth. Disgwylir bod y nifer wedi codi'n helaeth dros y degawd diwethaf. Yn 2015, bu Cymorth Canser Macmillan yn cyfweld pobl yr effeithiwyd arnynt gan ganser mewn astudiaeth ledled y DU i'w hanghenion gofal cymdeithasol ac emosiynol, a gwelodd fod gan 64 y cant o'r ymatebwyr anghenion cymorth ymarferol a bod 78 y cant arall o'r ymatebwyr angen cefnogaeth emosiynol yn dilyn diagnosis. Mae astudiaethau wedi profi'r effaith y gall rhagsefydlu ac adsefydlu ei chael ar y rhai sy'n byw gyda chanser. Datblygwyd y cysyniad o adsefydlu canser yn yr Unol Daleithiau yn ystod y 1960au, ond mae'r byd wedi bod yn araf i'w fabwysiadu. Canfu astudiaeth o Ddenmarc a gynhaliwyd yn y 2000au cynnar—prosiect ymchwil FOCARE—fod goroeswyr canser Danaidd wedi profi iechyd corfforol sylweddol waeth, o bosibl fel effeithiau corfforol hwyr yn sgil triniaeth. Mae'r problemau a nodwyd gan bobl a oedd wedi goroesi canser yn awgrymu y dylai adsefydlu canser gynnwys yr agweddau hyn ar fyw ar ôl canser ac ystyried gwahaniaethau economaidd-gymdeithasol ymhlith goroeswyr canser. Awgrymai'r astudiaeth mai'r ffordd orau o fynd i'r afael â'r heriau hyn oedd mewn rhaglenni adsefydlu amlddimensiwn. Mae gwasanaethau adsefydlu canser yn cynnwys ystod eang o weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd sy'n cyflawni rolau penodol ar hyd y llwybr, megis deietegwyr, ymarferwyr lymffoedema, therapyddion galwedigaethol, ffisiotherapyddion a therapyddion lleferydd ac iaith. Maent yn darparu ymyriadau arbenigol sy'n ategu sgiliau aelodau eraill o'r tîm amlddisgyblaethol. Bydd gan wahanol gleifion anghenion adsefydlu gwahanol yn dibynnu ar fath a lleoliad eu canser, ac ar ba gam y mae. Cydnabyddir y gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol hefyd, yn cynnwys gweithwyr cymorth, gyfrannu at adsefydlu pobl yr effeithiwyd arnynt gan ganser. Mae rhagsefydlu'n ymestyn y gofal hwnnw hyd at ddechrau'r llwybr triniaeth. Mae gweithgarwch corfforol wedi'i ddisgrifio fel 'cyffur rhyfeddol' nad yw wedi cael ei werthfawrogi ddigon a dylid gwneud mwy i sicrhau bod pobl sy'n byw gyda chanser yn ymwybodol o'i fanteision. Cafodd gwasanaeth Symud Mwy Macmillan ei ddatblygu i helpu pobl â chanser i fod yn fwy egnïol. Mae gwerthuso wedi dangos bod ganddo'r potensial i gefnogi pobl sydd ag ystod o gyflyrau hirdymor ac i arwain at newid ymddygiad. Gellir defnyddio'r dystiolaeth a'r mewnwelediad hwn yn awr i sicrhau bod gweithgarwch corfforol yn cael ei ystyried yn rhan annatod o ofal canser. Mae bod yn egnïol cyn, yn ystod ac ar ôl triniaeth yn ddiogel. Gall leihau blinder, lleihau gorbryder ac iselder, eich helpu i gadw at bwysau iach, cryfhau eich cyhyrau, gwella iechyd esgyrn, gwella eich ystwythder a'ch gallu i ymestyn eich cyhyrau, gwella cydbwysedd, a chynyddu eich hyder. Cafodd y dystiolaeth hon ei rhoi ar waith yn helaeth yn fy etholaeth gan Dr Rhidian Jones, a aeth ati, gyda'r cynllun cenedlaethol i atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff, i lunio rhaglen ragsefydlu ar gyfer cleifion canser yng Nghwm Taf. I ddyfynnu Rhidian, 'Rydym yn gwybod, pan fo claf yn cael diagnosis o ganser y coluddyn neu ganser yr oesoffagws, ei fod yn gyfnod hynod frawychus cyn cael llawdriniaeth fawr. Mae llawer o'r cleifion hyn heb lawer o ffitrwydd corfforol ac yn bryderus iawn wrth aros am eu llawdriniaeth; gall y ddau beth arwain at ganlyniadau gwael ar ôl llawdriniaeth. Nod y rhaglen yw gwella ffitrwydd, iechyd meddwl a phrofiad cleifion cyn eu llawdriniaeth. O ganlyniad i'r nodau cychwynnol hyn, gwelwn lai o gymhlethdodau ar ôl llawdriniaethau a thuedd tuag at arosiadau byrrach i'n cleifion yn yr ysbyty.' Mae rhaglen Rhidian yn cael effaith ddramatig ar gyfleoedd hirdymor cleifion. Ynghyd â rhaglen adsefydlu helaeth ar gyfer canser, gallwn sicrhau nad goroesi canser yn unig y mae cleifion yng Nghymru, nid byw gyda chanser yn unig, ond byw'n dda gyda chanser. Rhaid i hynny fod yn flaenoriaeth i ni. Dyna pam fy mod am weld rhaglenni fel un Rhidian ar gael i bob claf canser yng Nghymru, a pham y mae'n rhaid inni gael rhaglenni adsefydlu canser helaeth wedi'u teilwra ar gyfer anghenion cleifion unigol. Rhaid imi longyfarch Llywodraeth Cymru. Maent wedi mabwysiadu safbwynt cadarnhaol ar wasanaethau rhagsefydlu ac adsefydlu. Yng Nghymru, crybwyllir optimeiddio iechyd cyn triniaethau a rhagsefydlu yn glir yng nghynllun cyflawni Cymru ar gyfer canser 2016-20. Mae'n rhoi Cymru ar y blaen i wledydd eraill y DU. Deallaf gan Macmillan fod trafodaethau'n parhau gyda Llywodraeth Cymru ynghylch darparu a chyllido rhagsefydlu cynaliadwy hirdymor. Mae Macmillan wedi cynhyrchu eu fframwaith gofal sylfaenol ar gyfer canser. Mae'r fframwaith hwn yn pontio o'r ymgynghoriad cychwynnol, atgyfeirio ac ymlaen i ddiagnosis a thriniaeth a thu hwnt. Mae optimeiddio iechyd cyn triniaeth mewn gofal sylfaenol ar y pwynt atgyfeirio at archwiliad canser yn elfen allweddol yn y fframwaith hwn. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu'r fframwaith pan fydd yn lansio eu cynllun gweithredu gwasanaethau canser, sydd ar y ffordd. Fodd bynnag, er bod y datganiad ansawdd ar gyfer canser yn dweud bod rhagsefydlu ac adsefydlu yn rhannau allweddol o'r llwybr canser, nid yw hyn yn fy llenwi â gobaith y bydd gwasanaethau'n cael eu darparu ar lawr gwlad. Er gwaethaf ymrwymiadau yn y cynllun cyflawni blaenorol ar gyfer canser i wasanaethau rhagsefydlu ac adsefydlu, nid oedd profiad y claf ar lawr gwlad yn adlewyrchu'r cynlluniau. Mae mynediad at ragsefydlu wedi parhau'n loteri cod post gyda dros draean y cleifion yn dweud na chawsant gymorth ôl-driniaeth o gwbl. Canfu astudiaeth yn 2020, 'Qualitative exploration of cancer rehabilitation in South Wales', nad yw adsefydlu yn elfen reolaidd o fewn y llwybr canser. Dywedodd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol fod nifer o rwystrau i ddarparu gofal. Un o'r prif rwystrau yw nad yw adsefydlu canser yn cael ei ddarparu'n rheolaidd o fewn y llwybr canser. O ystyried pwysigrwydd gwasanaethau rhagsefydlu ac adsefydlu i gleifion canser, rwy'n annog y Gweinidog i ymrwymo y prynhawn yma i sicrhau bod gwasanaethau o'r fath ar gael ac wedi'u teilwra ar gyfer pob claf canser yng Nghymru. Diolch. Joel James MS: A gaf fi ddiolch i Altaf am roi munud o'i amser i mi? Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar glefyd yr afu a chanser yr afu, rwyf am dynnu sylw at rai o'r heriau sy'n wynebu cleifion canser yr afu wrth iddynt lywio llwybrau triniaeth yng Nghymru. Mae canser yr afu yn un o'r mathau mwyaf anodd i'w goroesi, ond mae ymhlith y mathau o ganser sy'n tyfu gyflymaf yn y DU, ac mae'r canlyniadau'n frawychus o wael. Dim ond 13 y cant o bobl a gaiff ddiagnosis o ganser yr afu a fydd yn goroesi am fwy na phum mlynedd ar ôl cael diagnosis. Canfuwyd bod cleifion y mae eu lefelau ffitrwydd yn isel, fel y'u haseswyd drwy brofion ymarfer cardio-pwlmonaidd, CPET, â chyfraddau marwolaethau ac afiachedd uwch ar ôl llawdriniaeth. Felly, mae potensial i ragsefydlu fel dull o wella gwerthoedd CPET ac felly, i wella canlyniadau ar ôl echdorri'r afu ar gyfer canser metastatig y colon a'r rhefr neu'r afu. Canfuwyd hefyd ei fod yn paratoi cleifion yn well ar gyfer effeithiau triniaeth ganser sy'n aml yn wenwynig ac yn anablu. Mae canfyddiadau diweddar gan linell gymorth, grwpiau cymorth ac arolygon Ymddiriedolaeth Brydeinig yr Afu yn dangos bod llai na 10 y cant o gleifion canser yr afu yn teimlo eu bod wedi'u cyfeirio'n ddigonol at wybodaeth am eu cyflwr, ac mae llawer yn cael eu gadael yn ddryslyd ac yn ansicr ynglŷn â lle i ofyn am gyngor credadwy ar opsiynau triniaeth. Ceir gwahaniaethau hefyd o ran gofal a chanlyniadau canser yr afu ar draws y byrddau iechyd. Felly, bydd gwella mynediad at adsefydlu, gwybodaeth wedi'i phersonoli a sicrhau mynediad teg at gefnogaeth gorfforol, seicolegol a maethol i gleifion canser yr afu ar bob cam o'r llwybr triniaeth nid yn unig yn gwella profiad cleifion, ond yn y pen draw, gallai wella canlyniadau a chyfraddau goroesi i gleifion canser yr afu. Gyda hyn mewn golwg, rwy'n awyddus i wybod a wnaiff y Gweinidog ymrwymo i dargedau penodol ar gyfer rhagsefydlu ac adsefydlu i helpu i wella canlyniadau ar gyfer canserau anos eu goroesi, fel canser yr afu, yng nghynllun gweithredu gwasanaethau canser y GIG sydd ar y ffordd. Diolch. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl—Eluned Morgan. Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr. Diolch i Altaf Hussain, sef fy nghynghorydd arbennig cyfrinachol yn y GIG, am gyflwyno'r ddadl fer hon ac am ei wahoddiad diweddar i Gwm Taf Morgannwg i gyfarfod â chlinigwyr sy'n darparu'r gwasanaethau rhagsefydlu hynny. Edrychaf ymlaen yn fawr at ein hymweliad ar y cyd fis nesaf. Rwy'n cydnabod pa mor bwysig yw helpu pobl i baratoi ar gyfer eu triniaeth ganser ac iddynt fod yn y lle gorau posibl o ran eu cyflwr i allu gwella'n dda. Felly, mae cael eich atgyfeirio dan amheuaeth o ganser ac yna aros, yn aml mewn ofn, fel y dywedochchi, gyda llawer iawn o ansicrwydd nes bod y profion a'r driniaeth yn dod yn ôl yn brofiad anodd iawn i lawer o bobl. Felly, yn hytrach na gwastraffu'r amser hwn a gadael i bobl ymdopi, dyma gyfle yma i'w cael yn barod ac i'w grymuso i gymryd rhywfaint o reolaeth. Mae hyn bob amser yn rhywbeth y gallant ei wneud, hyd yn oed os yw dros ychydig wythnosau, i gael eu hunain yn barod. Gall camau gweithredu gynnwys mynd i'r afael ag effaith seicolegol diagnosis a datblygu technegau a strategaethau ymdopi. Ac fel yr awgrymoch chi, gall pobl weithio ar eu maeth a'u ffitrwydd a'u cryfder fel eu bod yn barod i wynebu eu triniaeth a gwella'r gobaith o adferiad wedyn, fel yr awgrymodd y ddau ohonoch. Felly, os gallwn ni fod wrth ochr pobl, yn rhoi cefnogaeth emosiynol iddynt, yn annog a chefnogi pobl gyda newidiadau priodol i'w ffordd o fyw, fe gânt brofiad gwell a gwell gobaith o ganlyniad da. Mae rhagsefydlu yn galluogi pobl â chanser i baratoi ar gyfer triniaeth ganser, gan wneud y gorau o'u gallu i wrthsefyll y sgil-effeithiau. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod rhagsefydlu'n sicrhau canlyniadau gwell gyda llai o gymhlethdodau. Pe bai modd i gyffur gyflawni effaith rhagsefydlu, mae'n siŵr y byddem yn ei roi ar bresgripsiwn, felly mae angen inni weithio gyda'n gilydd i roi'r gefnogaeth hon ar waith, a dyna pam ein bod wedi gosod disgwyliad clir iawn yn y datganiad ansawdd ar gyfer canser: mae rhagsefydlu ac adsefydlu yn rhannau allweddol o'r llwybr canser. Wedi'i gynnwys yn y datganiad ansawdd, rydym wedi cyflwyno 21 llwybr canser a gytunwyd yn genedlaethol, ac mae'r rhain yn nodi sut y dylai'r gwahanol lwybrau canser weithredu a'r hyn y dylent ei gynnwys. Maent i gyd yn cynnwys rhagsefydlu ar adegau allweddol ar y llwybr. Rwy'n disgwyl iddo ddod yn rhan fwy cyffredin a safonol o'r llwybr canser dros y blynyddoedd nesaf, wrth i fyrddau iechyd ddatblygu ffyrdd newydd o weithio ac wrth i'r sylfaen dystiolaeth dyfu. Ond nid yw'n hawdd, nid yw mor syml â dweud, 'Gwnewch hyn.' Mae'r timau clinigol canser a'r gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn enwedig o dan bwysau aruthrol eisoes, o ystyried y cynnydd mawr yn nifer y bobl sy'n cael eu hatgyfeirio ar gyfer canser. Nid oes arian ychwanegol i'w daflu at hyn, gan ein bod eisoes wedi bod yn darparu pob diferyn olaf o adnodd i gefnogi adferiad gwasanaethau. Dyna pam y mae'n bwysig ein bod yn edrych i weld a allwn gynyddu mynediad at ragsefydlu drwy wasanaethau digidol. Mae Rhwydwaith Canser Cymru wedi ariannu cynlluniau peilot, ac mae gennym y cynlluniau hynny ar y gweill yn ein byrddau iechyd, mewn cydweithrediad â Chomisiwn Bevan, i weld a all atebion digidol helpu. Mae Rhwydwaith Canser Cymru hefyd wedi penodi clinigydd meddygol arweiniol ac arweinydd proffesiynol perthynol i iechyd ar gyfer canser i helpu i weithio ar hyn dros y ddwy flynedd nesaf. Bydd y swydd yn helpu i gydlynu ac arwain ymdrechion y byrddau iechyd, fel y gallwn roi'r gwasanaethau hyn ar waith ar gyfer mwy o lwybrau canser mewn rhagor o fyrddau iechyd mewn ffordd sy'n gynaliadwy. Bydd y gwaith hwn yn cael ei oruchwylio gan grŵp rhagsefydlu canser Cymru, sy'n adrodd wrth fwrdd Rhwydwaith Canser Cymru, fel rhan o weithrediaeth y GIG. Eluned Morgan AC: Yn y gynhadledd canser yr wythnos diwethaf, roedd byrddau iechyd yn awyddus i dderbyn cynnig Cynghrair Canser Cymru ar gyfer adnoddau a chymorth i gleifion sy'n aros ar lwybrau canser. Yn fwy cyffredinol, cafodd ein rhaglen ar gyfer trawsnewid a moderneiddio gofal a gynlluniwyd ei chyhoeddifis Ebrill eleni, ac mae'n nodi y byddwn yn datblygu ac yn ymwreiddio dull rhagsefydlu safonol er mwyn gwella canlyniadau. Felly, dylai rhagsefydlu, adsefydlu, ailalluogi ac adfer gael eu gweld fel elfennau craidd o bob gofal ym mhob llwybr gofal. A pan fo rhywun angen unrhyw driniaeth, mae'n rhaid mynd ati mor gynnar â phosibl i'w paratoi ar gyfer y driniaeth ac ar gyfer yr hyn fydd yn digwydd wedyn. Dŷn ni ddim yn gwireddu gwerth llawn ymyriadau iechyd oni bai ein bod ni'n cefnogi pobl i adfer cystal â phosibl, ac mae hyn yn golygu ymyrryd cyn ac ar ôl triniaeth, i sicrhau'r canlyniadau gorau. Mae sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio ar hyn yn barod. Rŷn ni hefyd wedi lansio fframwaith adsefydlu cenedlaethol sydd wedi ei ddiwygio. Mae'n amlinellu egwyddorion cryf a chlir ar gyfer rhagsefydlu ac adsefydlu o ansawdd uchel. Yn benodol, mae'n ceisio sicrhau bod ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn ymwreiddio dull rhagsefydlu sy'n canolbwyntio ar allu'r unigolyn i fyw mor annibynnol â phosibl am mor hir â phosibl. Fe fydd y gweithwyr perthynol i iechyd arweiniol cenedlaethol ar gyfer adsefydlu sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn arwain y gwaith o weithredu'r fframwaith newydd. Fe fydd disgwyl i bob staff iechyd a gofal ganolbwyntio'n bositif ar adfer a chefnogi amcanion adsefydlu eu claf. Mae ein fframwaith proffesiynau perthynol i iechyd yn ceisio sicrhau bod gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, neu AHPs, ar gael yn fwy cyffredinol mewn gofal sylfaenol a chymunedol. Mae hefyd am sicrhau bod digon o ymyriadau adsefydlu, ailalluogi ac adfer yn cael eu darparu, yn enwedig adsefydlu yn y gymuned. I wneud y defnydd gorau posibl o adnoddau ac i ddarparu profiad hwylus i gleifion, dwi'n disgwyl i wasanaethau fod yn integredig ac wedi eu lleoli yn y gymuned, a chanolbwyntio ar yr unigolyn yn hytrach na'r clefyd. Felly, dwi'n cytuno â'r angen i ddatblygu'r gwasanaethau hyn ac yn gobeithio fy mod i wedi cyfleu ehangder y gwaith sydd eisoes ar y gweill. Diolch. Diolch, Weinidog. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Daeth y cyfarfod i ben am 18:48. QNR Cwestiynau i Gweinidog yr Economi Rhianon Passmore: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i warchod yr economi yn Islwyn? Vaughan Gething: We will continue to support businesses to grow throughout Wales with our partners and stakeholders as set out in our Regional Economic Frameworks. Alun Davies: Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith economaidd polisïau ffyniant bro Llywodraeth y DU ym Mlaenau Gwent? Vaughan Gething: In Wales, “Levelling-Up” means the Welsh budget being £4 billion less over this three-year spending round, a £1.1bn loss in un-replaced EU funds, and an assault on our devolution settlement. This is already costing us significant investment and jobs, and having a major impact on employers and communities across Wales. Rhys ab Owen: Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Cwnsler Cyffredinol am gynnydd a'r amserlen a ragwelir ar gyfer dadansoddiad anghenion arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer prentisiaethau yn y sector cyfreithiol yng Nghymru? Vaughan Gething: We have progressed our analysis on apprenticeships at Level 3 and 5. From September employers have been able to enrol employees with training providers to qualify as a paralegal or advanced paralegal. My officials continue to work with stakeholders to critically assess the need for a solicitor apprenticeship. Hefin David: Pa gefnogaeth all Llywodraeth Cymru ei ddarparu i fusnesau bach sy'n ei chael hi'n anodd y gaeaf hwn oherwydd yr argyfwng costau byw? Vaughan Gething: The levers to tackle cost increases onbusinesses, interest rates for borrowing, taxation of windfall profits and regulation of the energy market, lie squarely with UK Government. Our priority is to support businesses to decarbonise and save. We continue to identify opportunities to redirect resources to reduce burdens on business. Cwestiynau i Y Gweinidog Newid Hinsawdd Sian Gwenllian: A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am y cymorth sydd ar gael i bobl yn Arfon yr effeithiwyd arnynt gan broblemau gyda chynllun Arbed 2? Julie James: Mae 655 o aelwydydd yn Arfon wedi elwa ar y gwelliannau effeithiolrwydd ynni a ddarperir o dan gynllun Arbed 2, gan arbed iddynt ar gyfartaledd fwy na £300 ar eu biliau ynni blynyddol. Mae fy swyddogion wedi gweithio gyda Fortem Energy Services i sicrhau bod pob aelwyd yn gwybod am y broses unioni cam pan geir problemau. Sam Rowlands: Sut mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio â'r sector preifat i annog mwy o adeiladu tai yng Ngogledd Cymru? Julie James: The Welsh Government works with the private sector by providing increased funding, reducing barriers and maintaining a regular dialogue with developers, SMEs and industry representatives with the aim of encouraging more house building in North Wales, and across Wales. Cwestiynau i Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Natasha Asghar: Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Network Rail am wella dibynadwyedd trenau yng Nghymru? Lee Waters: I have recently written to Network Rail seeking an update on the action they are taking to improve their performance to ensure better reliability of rail services in Wales.
uk-hansard-senedd-cy
senedd2022-10-19
2024-06-01T00:00:00
{ "year": "2022", "language": "cy", "license": "Open Parliament Licence - https://www.parliament.uk/site-information/copyright-parliament/open-parliament-licence/" }
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog Prynhawn da, a dyma gychwyn ar ein cyfarfod ni y prynhawn yma. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Sioned Williams. Tlodi Plant Sioned Williams MS: 1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fesurau Llywodraeth Cymru i drechu tlodi plant yng Ngorllewin De Cymru? OQ58632 Mark Drakeford AC: Llywydd, diolch i Sioned Williams am y cwestiwn. Rydyn ni yng nghanol argyfwng tlodi, ac yn gwneud popeth y gallwn ni ar gyfer y rhai sydd fwyaf agored i niwed, gan gynnwys plant. Eleni, drwy raglenni sy’n amddiffyn cartrefi sydd dan anfantais, a chynlluniau sy’n rhoi arian nôl ym mhocedi pobl, rydyn ni wedi darparu gwerth £1.6 biliwn o gymorth. Sioned Williams MS: Diolch, Prif Weinidog. Datgelodd y gwaith ymchwil diweddaraf gan Sefydliad Bevan bod nifer y bobl ar aelwydydd ag un neu ddau o blant sy'n gorfod lleihau faint o fwyd maen nhw'n eu bwyta bron wedi dyblu ers yr adeg yma y llynedd, gydag un o bob 10 teulu ag un plentyn, ac un o bob pum teulu â dau blentyn yn lleihau'r bwyd y maen nhw'n ei roi i'w plant. Felly, mae'r nifer syfrdanol yna o 6,300 o blant y cofnodwyd eu bod yn byw mewn tlodi yn fy sir enedigol, Castell-nedd Port Talbot, yn y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli, wedi codi hyd yn oed yn uwch dros yr wythnosau diwethaf wrth i gostau bob dydd saethu i fyny. Ac rydym ni'n gwybod bod y tlodi hwn yn achosi anghydraddoldebau iechyd yn ein cymunedau, rhywbeth y mae 114 aelod o'r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant wedi tynnu sylw ato yn eu llythyr agored diweddar atoch chi, sy'n rhybuddio nad oes gan Gymru strategaeth wedi'i chanolbwyntio ac amlwg, sy'n pennu targedau penodol i leihau tlodi plant a chanlyniadau iechyd anghyfartal. Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi cynllun y bobl a fyddai'n gwneud i'r pecyn cyflog fynd ymhellach, yn ymestyn prydau ysgol am ddim mewn ysgolion uwchradd ac yn cynyddu'r lwfans cynhaliaeth addysg. Prif Weinidog, a wnewch chi wrando ar eiriau'r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, ac a wnewch chi weithio gyda Phlaid Cymru i ddiogelu plant Cymru rhag tlodi? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, diolch i Sioned Williams am rai o'r ffeithiau pwysig iawn hynny. Rwy'n credu fy mod i wedi adrodd yn flaenorol i'r Senedd bod pwyllgor costau byw'r Cabinet yn cyfarfod yn wythnosol, ac, ar ddechrau pob cyfarfod, rydym ni'n clywed ar hyn o bryd gan grwpiau arbenigol sy'n gallu rhoi'r wybodaeth a'r syniadau diweddaraf i ni ynglŷn â sut y gallwn ni wneud mwy i helpu pobl yng Nghymru. Fe wnaeth pwyllgor y Cabinet gyfarfod ddoe, a ddoe roedd y dystiolaeth arbenigol yn wir gan Sefydliad Bevan. Aeth prif weithredwr y sefydliad drwy nifer o'r pwyntiau y mae Sioned Williams wedi eu codi y prynhawn yma, ac aeth drwy'r pethau y mae'r sefydliad yn credu sy'n cael effaith gadarnhaol yma yng Nghymru gyda ni, y pethau rydym ni wedi eu gwneud ar y cyd â Phlaid Cymru i ymestyn prydau ysgol am ddim—ac mae dros 4,000 o blant ychwanegol yn rhanbarth yr Aelod yn derbyn pryd ysgol am ddim o ganlyniad i'r gwaith rydym ni wedi ei wneud gyda'n gilydd—ac edrych ar effaith y cymorth rydym ni'n ei roi gyda chost y diwrnod ysgol, a gyda'r gronfa cymorth dewisol, gyda dros 4,500 o ddyfarniadau yn rhanbarth yr Aelod yn unig ym mis Medi. Yr holl bethau ymarferol hynny yr ydym ni'n gallu eu gwneud, a'r agweddau ymarferol y mae'r Llywodraeth hon yn canolbwyntio arnyn nhw. Mae gwaith yn cael ei wneud, dan arweiniad fy nghyd-Weinidog Jane Hutt, ar strategaeth tlodi plant ond, ar hyn o bryd, rydym ni'n canolbwyntio llai ar strategeiddio nag yr ydym ni ar nodi'r camau ymarferol hynny y gallwn ni gynorthwyo â nhw a fydd yn helpu'r teuluoedd hynny a'r plant hynny drwy'r gaeaf hwn. Rwy'n falch iawn, Llywydd, o weld mwy o awdurdodau lleol yn nodi'r ffyrdd y byddan nhw'n defnyddio'r gronfa ddewisol yr ydym ni wedi ei darparu iddyn nhw i helpu teuluoedd drwy'r gaeaf hwn, a gwn y bydd Sioned Williams yn falch o weld, ym Mhen-y-bont ar Ogwr, er enghraifft, yn ei rhanbarth hi, bod yr awdurdod lleol wedi penderfynu defnyddio'r arian sydd ganddyn nhw nawr i ddarparu £50 i deuluoedd ar gyfer pob plentyn ym mhob teulu sy'n derbyn prydau ysgol am ddim, a £150 i'r holl deuluoedd hynny sydd â phlant sy'n byw mewn llety dros dro. Lle mae syniadau pellach, a phethau pellach y gallwn ni weithio arnyn nhw gyda'n gilydd, yna, wrth gwrs, bydd Llywodraeth Cymru bob amser yn awyddus i ymchwilio i syniadau sy'n ymarferol, ac sydd, o safbwynt ariannol, o fewn ffiniau'r posibl. Tom Giffard AS: Prif Weinidog, byddwch yn ymwybodol o'r adroddiad diweddar gan Brifysgol Loughborough a ddangosodd bod tlodi plant ledled y DU, yn 2020-21, wedi gostwng 4 y cant, ond, yng Nghymru, roedd wedi cynyddu 5 y cant. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni, Prif Weinidog, pam mae'r ystadegau yn dweud wrthym ni fod eich Llywodraeth Lafur Cymru yn methu â mynd i'r afael â thlodi plant? Mark Drakeford AC: Llywydd, nid yw'r ffigyrau'n dangos y fath beth. Yr hyn mae'r ffigyrau'n ei ddangos yw effaith toriadau i fudd-daliadau gan Lywodraeth y DU. Ac os ydych chi'n byw mewn rhan o'r wlad lle mae mwy o deuluoedd yn dibynnu ar fudd-daliadau, yna mae'r toriadau i'r budd-daliadau hynny, wrth gwrs, yn cael mwy o effaith. Gadewch i mi ddweud wrtho beth mae'r gwaith ymchwil ddiweddaraf yn ei ddweud wrthym ni am weithredoedd ei Lywodraeth. Mae'r Resolution Foundation yn canfod, os nad yw budd-daliadau'n cael eu codi yn unol â chwyddiant, yna bydd 300,000 o blant eraill ar draws y Deyrnas Unedig yn canfod eu hunain mewn tlodi llwyr. Mae'n debyg mai dyma'r bedwaredd wythnos yn olynol yr wyf i wedi gwahodd y Ceidwadwyr Cymreig i ddweud eu bod nhw'n credu y dylid cynyddu budd-daliadau—[Torri ar draws.] Wel, os gwnaethoch chi ddweud hynny wythnos diwethaf, yna rwy'n falch iawn—[Torri ar draws.] Os gwnaethoch chi ei ddweud yr wythnos diwethaf, rwy'n falch dros ben o'i gydnabod, oherwydd rwy'n meddwl po fwyaf y gallwn ni siarad gyda'n gilydd ar y mater hwnnw, y mwyaf o ddylanwad fydd gennym ni. Ac o ystyried hynny, fel plaid, mae gennych chi allu uniongyrchol i ddylanwadu ar Lywodraeth Geidwadol yn San Steffan i wybod eich bod chithau hefyd yn credu y dylid cynyddu budd-daliadau yn unol â chwyddiant, byddai hynny'n newyddion da i'r teuluoedd tlawd hynny yng Nghymru. Hyd yn oed os yw budd-daliadau'n cael eu cynyddu yn unol â chwyddiant, yna mae'r Resolution Foundation yn dweud y bydd tlodi plant ar draws y Deyrnas Unedig yn codi i 34 y cant—yr uchaf ers dros 20 mlynedd. Ac i bobl sy'n ddibynnol ar gymorth di-waith sylfaenol, bydd gwir werth y cymorth hwnnw yn is nag yr oedd ar yr adeg pan oedd Mrs Thatcher yn Brif Weinidog y DU. Dyna pam rydych chi'n gweld y ffigurau rydych chi'n eu dyfynnu—oherwydd effaith y 12 mlynedd diwethaf ar incwm y teuluoedd tlotaf ar draws Cymru a'r Deyrnas Unedig. Mike Hedges AC: Mae llawer o blant yn byw mewn tlodi nad yw wedi'i achosi gan ddiogi neu afradlondeb rhieni; mae llawer o rieni yn gweithio dwy neu dair swydd, ond am isafswm cyflog, ar oriau afreolaidd. Mae ehangu prydau ysgol am ddim i ddarpariaeth gyffredinol o brydau bwyd i'w groesawu'n fawr. Pa gymorth pellach all Llywodraeth Cymru ei roi i gynorthwyo banciau bwyd, ac a fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud dadl i roi terfyn ar y tâl sefydlog gan gwmnïau ynni, sy'n golygu bod pobl yn talu am ynni ar ddiwrnodau nad ydyn nhw'n defnyddio unrhyw ynni? Dyma'r tâl mwyaf creulon sydd gennych chi—dydych chi ddim yn defnyddio unrhyw ynni am bum diwrnod, ac yna rydych chi'n cynhesu powlen o gawl, sy'n costio tua £2.50 neu £3.00 i chi. Mark Drakeford AC: Mae Mike Hedges yn gwneud rhai pwyntiau pwysig iawn, Llywydd. Rwy'n meddwl mai un o gelwyddau mwyaf niweidiol tlodi yw bod tlodi yn cael ei achosi rywsut gan y bobl sydd mewn tlodi. Nid wyf i erioed wedi cwrdd â phobl a allai reoli arian yn well na'r bobl hynny sydd â'r lleiaf i ymdopi ag ef—mae'n rhaid iddyn nhw. Ac mae'r syniad mai diogi neu afradlondeb rhieni sy'n gyfrifol i'w wrthod yn llwyr. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £1 miliwn arall i gynorthwyo gwaith gwrth-dlodi ar lefel gymunedol yng Nghymru dim ond wythnos neu ddwy yn ôl. Mae hynny bellach yn £5 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon. Ac mae llawer o hynny'n mynd yn uniongyrchol i fanciau bwyd, sydd bellach yn gweld bod y rhoddion yr oedden nhw'n gallu dibynnu arnyn nhw cynt yn lleihau wrth i deuluoedd hyd yn oed ymhellach i fyny'r lefel incwm fethu â rheoli effaith prisiau ynni a chwyddiant bwyd. Tynnodd Sioned Williams sylw at waith Sefydliad Bevan, Llywydd, a bydd yn gwybod nawr, yn y gwaith hwnnw, nad teuluoedd sydd ar yr incwm isaf oll yn unig sy'n dweud na allan nhw fforddio'r pethau sylfaenol erbyn hyn; mae teuluoedd ymhellach i fyny'r raddfa incwm yn dweud hynny hefyd, wrth i bobl ganfod bod y pethau y maen nhw wedi gwneud ymrwymiadau iddyn nhw pan oedden nhw mewn cyfnod gwell bellach y tu hwnt i'w cyrraedd. Ac mae'r pwynt y mae Mike Hedges yn ei wneud am daliadau sefydlog a'r mesuryddion talu ymlaen llaw, Llywydd, yn fy marn i, yn un o anghyfiawnderau mawr ein hoes. Codais hyn yn uniongyrchol gyda Gweinidogion y DU yng Nghyngor Prydain-Iwerddon pan gyfarfu ym mis Gorffennaf, ac ysgrifennais yn syth wedyn at Weinidog Llywodraeth y DU a oedd yn bresennol, gan ofyn iddo weithredu ar lefel y DU i ganslo taliadau sefydlog i bobl sy'n dibynnu ar fesuryddion talu ymlaen llaw. Ni all fod dim gwaeth, Llywydd, a all yna, na chanfod, ar ôl methu â chael mynediad at ynni ers llawer o ddiwrnodau a chrafu'r arian at ei gilydd er mwyn gallu llenwi'r mesurydd talu ymlaen llaw eto, nad yw'r arian rydych chi wedi ei roi ynddo yn ddim byd tebyg i'r arian yr ydych chi wedi ei ganfod gan ei fod eisoes wedi cael ei gymryd oddi arnoch? Mewn llawer o achosion, byddwch wedi cael eich rhoi ar fesurydd talu ymlaen llaw oherwydd dyled. Mae 60,000 o gwsmeriaid mesuryddion talu ymlaen llaw newydd yn y Deyrnas Unedig hyd yma eleni. Mae eu mesuryddion yn cael eu graddnodi fel mai'r peth cyntaf y mae'n rhaid iddyn nhw ei wneud yw talu'r arian sy'n ddyledus ganddyn nhw yn ôl. Wedyn maen nhw'n canfod, yn yr holl ddiwrnodau pan nad oedd ganddyn nhw unrhyw drydan o gwbl, bod yn rhaid iddyn nhw dalu tâl sefydlog am gyfnod pan nad oedden nhw'n gallu cael mynediad at y gwasanaeth. Dychmygwch faint y mae'n rhaid bod hynny'n brifo. Mae'r pwynt y mae Mike Hedges yn ei wneud am y camau y gellid eu cymryd, am gost isel iawn, rwy'n credu, i'r Llywodraeth neu i'r cwmnïau, i unioni'r anghyfiawnder hwnnw yn alwad hynod bwysig rydym ni wedi ei chlywed y prynhawn yma. Twf Economaidd Altaf Hussain AS: 2. A wnaiff y Prif Weinidog nodi strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer twf economaidd? OQ58597 Mark Drakeford AC: Llywydd, prynhawn da i Dr Hussain. Mae strategaeth Llywodraeth Cymru yn gwbl groes i ddull trychinebus y Llywodraeth Geidwadol ddiweddaraf. Ochr yn ochr â busnesau ac mewn partneriaeth â nhw, rydym ni'n buddsoddi yn y seilwaith ffisegol sy'n hyrwyddo buddsoddiad a'r cyfalaf dynol sy'n gwella cynhyrchiant. Altaf Hussain AS: Ym mis Mawrth y llynedd, cyhoeddodd eich Llywodraeth ei 'Chynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru—Llif Prosiectau', yn cyflwyno amrywiaeth o fuddsoddiadau mewn cymunedau yng Nghymru, gan gynnwys y rhai yr oedd awdurdodau lleol wedi ymrwymo iddyn nhw. Er fy mod i'n croesawu'r ymgais i nodi'r gweithgareddau hyn, mae'n amlwg bod amrywiaeth o heriau mawr bellach yn wynebu de'r wlad nad ydyn nhw'n cael sylw, ac nid lleiaf y tagfeydd parhaus ar yr M4 yn nhwneli Brynglas yng Nghasnewydd. Mae CBI Cymru wedi dadlau ers amser maith dros roi sylw i hyn er budd ein ffyniant a'n cyflogaeth yn ne a gorllewin Cymru. Yr wythnos hon hefyd yw Wythnos Genedlaethol Lorïau y Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd, a lansiwyd ganddyn nhw yn fy rhanbarth i ddoe. Dywedodd cludwyr ar y ffyrdd wrthyf i yn y lansiad bod oedi o amgylch Casnewydd yn aml yn gwthio gyrwyr dros eu horiau penodedig a bod y diffyg parciau lorïau hefyd yn cael effaith. Prif Weinidog, yn absenoldeb gwneud y peth iawn ac adeiladu ffordd liniaru, pa atebion amgen sydd gennych chi ar y gweill i ddatgloi'r cysylltiad hanfodol hwn i Gymru a gwella'r sefyllfa i gludwyr ar y ffyrdd Cymru? Diolch. Mark Drakeford AC: Llywydd, nid wyf yn bwriadu ail-fyw mater sydd wedi ei hen setlo yma yng Nghymru. Fe wnaeth y Blaid Geidwadol gyflwyno eu hachos i'r bobl yng Nghymru yn etholiad diwethaf y Senedd. Roedd adeiladu ffordd liniaru'r M4 yn addewid blaenllaw a wnaeth Plaid Geidwadol Cymru, a methodd eich plaid ag ennill yr un sedd—yr un sedd—ar hyd yr M4 gyfan yn ne Cymru. Felly, os ydych chi'n credu bod eich dadl yn un gadarn, gallwch chi barhau i'w chyflwyno i bobl yng Nghymru, a byddwch yn parhau i gael yr un ateb. Yr hyn rydym ni'n ei wneud yw bwrw ymlaen â chynigion comisiwn Burns—cyfres o gamau ymarferol y gellir eu cymryd i fynd i'r afael â thagfeydd wrth yr M4. Byddwn yn cwblhau'r gwaith o ddeuoli ffordd Blaenau'r Cymoedd, fydd yn golygu y bydd traffig trwm sy'n dod o ganolbarth Lloegr yn gallu mynd yn uniongyrchol i dde-orllewin Cymru heb orfod dod i lawr a mynd trwy Gasnewydd. Fel yr wyf i wedi ei ddweud o'r blaen, Llywydd, ceir her fawr sy'n wynebu Llywodraeth y DU nawr. Lansiodd Llywodraeth Johnson adolygiad cysylltedd y DU. Fe wnaethon ni roi tystiolaeth i adolygiad Syr Peter Hendy—nid wyf i'n credu bod y Ceidwadwyr Cymreig wedi gwneud hynny—ac fe wnaethon ni hyrwyddo yno'r buddsoddiad sydd ei angen i wella'r ail reilffordd, yr ail brif linell, i lawr o dde Cymru, er mwyn gallu tynnu traffig oddi wrth yr M4 ac fel bod gan bobl well dewisiadau trafnidiaeth gyhoeddus amgen. Fe wnaeth adolygiad Hendy gymeradwyo'r ddadl yr ydym ni wedi ei gwneud, ac, i fod yn deg, mae Llywodraeth y DU wedi darparu swm bach o arian i ddatblygu'r syniadau a gymeradwywyd gan adolygiad Hendy. Nawr fe fydd penderfyniad mawr. Fe gawn ni weld a fydd Prif Weinidog diweddaraf y DU yn bwrw ymlaen â'r addewidion a wnaed yn adolygiad cysylltedd y DU a dangos eu bod nhw'n barod i fuddsoddi yng Nghymru, fel y gellir mynd i'r afael yn briodol â rhai o'r materion y mae Dr Hussain wedi'u crybwyll. Rwy'n siŵr bod y Prif Weinidog yn bwriadu dweud 'yr un sedd etholaeth ar hyd yr M4'. Mark Drakeford AC: Beth ddywedais i? Lesley Griffiths AC: Fe ddywedoch chi 'yr un sedd'. Mark Drakeford AC: Yr un sedd etholaeth—mae'n ddrwg gen i. Delyth Jewell. Delyth Jewell AC: Diolch, Llywydd. Rwy'n ofni bod ymdrechion i hybu twf wedi cael eu tanseilio'n angheuol gan yr hyn mae'r Torïaid wedi ei wneud i'n heconomi, ac rwy'n pryderu am y posibilrwydd o golli swyddi a'r niwed y bydd hynny'n ei olygu nid yn unig i'n heconomi, ond i fywydau pobl. Mae busnesau ar draws fy rhanbarth dan bwysau gyda biliau ynni cynyddol a chwyddiant. Canfu mynegai busnesau bach Ffederasiwn y Busnesau Bach yn ddiweddar bod hyder busnesau wedi plymio, wrth iddyn nhw wynebu costau cynyddol a refeniw gostyngol, ac mae cyflogeion sector cyhoeddus hefyd yn wynebu'r posibilrwydd o don newydd o hyper-gyni, gydag arweinwyr cynghorau a Gweinidogion yn rhybuddio bod y sefyllfa ariannol yn ddifrifol. Felly a wnewch chi sicrhau'r Senedd, Prif Weinidog, y byddwch chi'n gwneud popeth o fewn eich gallu i ddiogelu swyddi yng Nghymru dros y cyfnod sydd i ddod, ac egluro pa drafodaethau y byddwch chi'n eu cael gyda chynrychiolwyr busnesau a gwasanaethau cyhoeddus i geisio osgoi colli swyddi? Mark Drakeford AC: Diolch i Delyth Jewell am y cwestiwn yna, Llywydd, oherwydd mae'n iawn: ar unrhyw ddarlleniad rhesymol o'r prosbectws presennol, mae colledion swyddi yn dod i Gymru ac i'r Deyrnas Unedig. Rwy'n credu i mi ddweud ar lawr y Senedd yn yr wythnos neu ddwy ddiwethaf, pe baem ni'n gweld toriadau i wariant cyhoeddus o'r math sy'n tynnu dŵr i'r llygaid a addawyd gan Ganghellor y Trysorlys, yna bydd hynny'n arwain at golli cannoedd, os nad miloedd, o swyddi mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae'n gwbl anochel. Mae tua 50 y cant i 56 y cant o'r holl arian sy'n cael ei wario yn y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn cael ei wario ar bobl; cyflogi pobl i wneud y swyddi y mae pobl eraill wedyn yn dibynnu arnyn nhw. Os bydd toriadau i'r cyllidebau hynny, yna bydd y swyddi hynny'n cael eu colli. Mae'n gwbl anochel, a bydd yn ganlyniad uniongyrchol o orfod ymdrin â chanlyniadau trychinebus y Prif Weinidog mwyaf byrhoedlog yn hanes y DU. Eto, mae Delyth Jewell yn iawn i gyfeirio at y ffaith bod y pwysau hynny'n ymddangos yn y sector preifat yn ogystal ag yn y sector cyhoeddus. Mae Banc Lloegr yn dweud bod economi'r DU eisoes mewn dirwasgiad a bydd yn codi cyfraddau llog eto ym mis Tachwedd er gwaethaf y ffaith y bydd, o dan unrhyw amgylchiadau eraill, yn torri cyfraddau llog er mwyn cefnogi economi sy'n crebachu, a bydd hynny'n rhoi pwysau mawr ar gyflogaeth yn y sector preifat hefyd. Wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'n cydweithwyr mewn awdurdodau lleol ac yn y GIG i sicrhau, y gorau gallwn ni, bod pa bynnag effaith a ddaw o'r datganiad ar 31 Hydref cyn lleied â phosibl. Ac rydym ni'n gweithio gyda'n cyflogwyr mawr hefyd, y mae gan lawer ohonyn nhw gynlluniau i ehangu cyflogaeth yma yng Nghymru, oherwydd yr agwedd y mae Llywodraeth Cymru yn ei chymryd i'r materion hyn. Maen nhw'n deall ein bod ni'n bartneriaid gyda nhw, yn y busnes o'u helpu. Meddyliwch, Llywydd, am eiliad, am Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch Cymru yn y gogledd, a adeiladwyd gyda £20 miliwn o arian Llywodraeth Cymru, a'r rheswm pam mae Wing of Tomorrow yn cael ei adeiladu gan Airbus yn y gogledd; y rheswm pam, gyda'r sector bwyd a diod yn y gogledd, mae gennym ni brosiect Ffatri'r Dyfodol wedi'i leoli yn yr AMRC—oherwydd ein bod ni'n deall, mewn ffordd nad yw'r Torïaid byth yn ei ddeall, fod buddsoddiad cyhoeddus sy'n cael ei ddefnyddio'n briodol yn denu buddsoddiad preifat, ac ddim yn ei gau allan, a'i bod yn gyfrifoldeb ar Lywodraeth i fuddsoddi mewn sgiliau gweithlu sy'n dod â chyflogaeth i Gymru yn y dyfodol. Dyna hanes Airbus; dyna hanes y clwstwr seiberddiogelwch yn y de. Maen nhw'n enghreifftiau o'r ffordd y gall agwedd synhwyrol at dwf economaidd wneud i bethau ddigwydd, yn union fel rydym ni wedi gweld beth all agwedd drychinebus tuag at dwf economaidd ei wneud i ragolygon y wlad ar gyfer y dyfodol. Alun Davies AC: Wrth gwrs, y tro diwethaf i ni gyfarfod, Prif Weinidog, roedd y Torïaid yn dweud wrthym ni mai Liz Truss oedd y Prif Weinidog gorau i ni ei gael erioed ac nad oedd hi'n bosibl herio polisi economaidd y Ceidwadwyr. Rydym ni wedi gweld rhywfaint o newid i hynny yn ystod y dyddiau diwethaf. Ond, yr hyn nad ydym wedi ei weld, wrth gwrs, yw unrhyw newid yn realiti anallu economaidd y Torïaid, sy'n golygu nad yw Cymru'n cael y buddsoddiad a ddylai ddod i ni. Mae pobl Blaenau Gwent eisiau gweld buddsoddiad yn rheilffordd Glynebwy, ond dydyn nhw ddim yn ei gael gan nad yw'r rheilffyrdd wedi'u datganoli, ac ni wnaiff y Torïaid fuddsoddi yng Nghymru. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi mai'r hyn sydd angen i ni ei weld yw nid yn unig newid Llywodraeth, ond mae angen i ni weld newid agwedd gan Drysorlys y DU sy'n golygu bod gwledydd fel Cymru a'r Alban, a gogledd Lloegr, yn cael yr un flaenoriaeth a buddsoddiad â Llundain a de-ddwyrain Lloegr? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, wrth gwrs rwy'n cytuno ag Alun Davies mai'r hyn sydd ei angen ar y wlad hon yw etholiad cyffredinol—cyfle i bob plaid wneud eu dadleuon i bobl ac i'r bobl benderfynu beth maen nhw'n ei gredu yw'r ffordd orau o fynd i'r afael â'r argyfwng sy'n ein hwynebu. Mae'r etholiad cyffredinol hwnnw'n anghenraid democrataidd, ond mae hefyd yn anghenraid economaidd oherwydd mae angen Llywodraeth arnoch chi sydd â mandad ac â'r sefydlogrwydd i wneud y penderfyniadau anodd sydd yn ddiamheuaeth yno i'w gwneud. Pe bai gennym ni'r cyfle hwnnw, rwy'n credu nid yn unig y byddai Cymru ar ei hennill, ond byddai'r Deyrnas Unedig, wrth gwrs, ar ei hennill hefyd. O ran y pwynt y mae'r Aelod wedi ei wneud am y Trysorlys, mae gen i ofn fy mod i wedi credu ers tro bod y Trysorlys, wedi'i yrru gan fformiwla Barnett, yn Drysorlys i Loegr yn ei hanfod, a bod rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, yn syml, yn cael canlyniadau penderfyniadau sy'n cael eu gwneud yn y ffordd honno. Mae angen Trysorlys arnom ni sy'n barod i wneud y penderfyniadau sy'n cydnabod gwahanol anghenion y Deyrnas Unedig ac sy'n barod i fuddsoddi yn y ffordd honno. Gadewch i ni roi un enghraifft o ba mor wahanol yr ystyrir pethau yn Llundain a chan y blaid Geidwadol: byddai'r pecyn o doriadau treth a wnaed gan Liz Truss, sydd bellach wedi cael eu tanseilio, wedi arwain at dair gwaith—[Torri ar draws.] Iawn, gadewch i ni glywed y Prif Weinidog yn gorffen ei ateb i'r cwestiwn. Mark Drakeford AC: Diolch, Llywydd. Ycwbl rwy'n ei wneud yw egluro pwysigrwydd y pwynt a wnaeth Alun Davies. Pe bai Llywodraeth Liz Truss wedi cael eu ffordd, byddai'r toriadau treth hynny wedi darparu tair gwaith cymaint i Lundain a'r de-ddwyrain nag y bydden nhw wedi ei ddarparu i Gymru neu i ogledd Lloegr. Roedden nhw, wrth gwrs, yn falch iawn o gefnogi hynny i gyd dim ond pythefnos yn ôl, yn union fel heddiw, mae'n siŵr eu bod nhw'n falch o droi eu cefnau ar y cyfan fel pe na bai erioed wedi digwydd. Ond, y pwynt y mae Alun Davies yn ei wneud yw hynny'n union: mae angen Trysorlys arnom ni sy'n barod i feddwl am anghenion y wlad yn ei chyfanrwydd, nid Llundain a de-ddwyrain Lloegr yn unig. Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies. Andrew RT Davies AC: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, hoffwn eich hysbysu bod gennym ni chwe Aelod rhanbarthol ac un Aelod etholaeth sy'n rhedeg ochr yn ochr â'r M4, felly mae gennym ni fudd personol, ac mae hynny'n gynnydd i nifer yr Aelodau a ddaeth yn ôl ar ôl etholiadau 2021. Yr hyn yr hoffwn ei ofyn i chi, Prif Weinidog, yw: ar ôl y ffigurau amseroedd aros a gyhoeddwyd ddydd Iau diwethaf, un o'r materion mawr y mae llawer o bobl yn cael trafferth ag ef yw cael apwyntiad gyda meddyg teulu. Rwyf i wedi gweld, mewn rhannau eraill o'r DU, bod ymrwymiadau wedi cael eu gwneud, os bydd rhywun angen apwyntiad gyda meddyg teulu, y bydd yn ei gael o fewn deuddydd. A ydych chi'n barod i wneud ymrwymiad tebyg yma yng Nghymru? Mark Drakeford AC: Llywydd, mae'n bwysig cael y ffeithiau'n iawn, ac rwy'n hapus i gywiro'r ffaith bod Plaid Geidwadol Cymru wedi ennill un sedd etholaethol ar hyd cyfan yr M4 yn ne Cymru. O ran apwyntiadau meddyg teulu, gadewch i ni fod yn eglur nad oes unrhyw sicrwydd o gwbl y bydd yr addewid hwnnw'n cael ei gyflawni. Rwyf i wedi ei glywed yn cael ei wneud gan Weinidogion iechyd Ceidwadol dro ar ôl tro dros fwy na degawd. Dydyn nhw erioed wedi llwyddo i wneud iddo ddigwydd hyd yma; yn sicr dydyn nhw ddim yn mynd i wneud iddo ddigwydd y tro hwn chwaith. Bydd yr Aelod yn ymwybodol mai bod y Comisiwn Ansawdd gofal, dim ond yr wythnos diwethaf, wedi cyhoeddi ei adroddiad ar gyflwr gofal iechyd a gofal cymdeithasol i oedolion yn Lloegr. Disgrifiodd system, fel maen nhw'n dweud, sy'n sefyll yn stond: dim ond dau berson o bob pump sy'n gallu gadael yr ysbyty pan fyddan nhw'n barod i wneud hynny oherwydd bod cyflwr gofal cymdeithasol a gofal sylfaenol yn Lloegr yn golygu na all y bobl hynny adael yr ysbyty. Mae pobl yn Lloegr yn y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol, Llywydd, yn gweithio mor galed ag y gallan nhw. Nid wyf i'n gwneud dim beirniadaeth ohonyn nhw o gwbl. Dim ond eu bod nhw'n wynebu, fel yr ydym ni, rwystrau sylweddol dros ben o ran gallu darparu'r gwasanaeth i bawb yn y ffordd y byddem ni'n dymuno gwneud hynny. Treuliais fore dydd Gwener mewn meddygfa deulu yma yng Nghymru, yn clywed gan feddygon teulu a'r tîm gofal sylfaenol ehangach am yr holl ymdrechion rhyfeddol y maen nhw'n eu gwneud i allu darparu apwyntiadau ar gyfer y boblogaeth y maen nhw'n ei gwasanaethu, ac maen nhw'n gwybod bob dydd, nad ydyn nhw'n gallu gwneud y swydd yn y ffordd y bydden nhw'n hoffi i'r swydd honno gael ei gwneud, ond yn sicr nid yw hynny oherwydd nad ydyn nhw'n gwneud popeth o fewn eu gallu i wneud i hynny ddigwydd, ac mae ganddyn nhw gefnogaeth lawn Llywodraeth Cymru i wneud hynny. Andrew RT Davies AC: Wel, mae'n ddiddorol mai llefarydd iechyd y Blaid Lafur wnaeth yr ymrwymiad hwnnw yng nghynhadledd y Blaid Lafur yn Lerpwl, felly rwy'n siŵr y byddwch chi'n codi'r ffôn ac yn dweud wrtho nad oes modd cyflawni'r ymrwymiad hwnnw, o gofio eu bod nhw'n edrych at Gymru bob tro i weld yr hyn y gellir ei gyflawni ar lefel San Steffan. Roedd hwnna'n sylw diddorol i chi ei wneud yn y fan yna, Prif Weinidog. Beth am arosiadau o ddwy flynedd? Yn benodol, yma yng Nghymru mae gennym ni ychydig yn llai na 60,000 o bobl yn aros dwy flynedd neu fwy i gael cwblhau eu triniaeth ar y GIG. Mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, yn Lloegr, mae'r arosiadau dwy flynedd hynny wedi cael eu dileu, ac yn yr Alban, maen nhw bron wedi cael eu dileu. A wnewch chi roi amserlen i ni o ran pryd fydd hynny'n digwydd yma yng Nghymru, a phryd y gall y 59,000 sydd wedi bod ar restr aros am ddwy flynedd neu fwy ddisgwyl yr un lefel o wasanaeth yma yng Nghymru? Mark Drakeford AC: Llywydd, yn y ffigurau y cyfeiriodd yr Aelod atyn nhw yr wythnos diwethaf, dangoswyd bod yr arosiadau hir hynny yn parhau i leihau. Maen nhw bellach wedi lleihau bum mis yn olynol. Fe wnaethon nhw leihau eto ym mis Gorffennaf, a chyn belled ag y bo'r system yn gallu parhau yn y ffordd honno, yna wrth gwrs bydd yr arosiadau hir hynny'n cael eu dileu. Yr hyn yr oedd y ffigurau yn ei ddangos hefyd yw i ba raddau y mae'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, er gwaethaf y pwysau aruthrol sy'n ei wynebu, wedi gallu adfer lefelau gweithgarwch bellach. Roedd gweithgarwch cleifion allanol ym mis Gorffennaf ar 102 y cant o'r lefelau cyn y pandemig. Mewn geiriau eraill, nid yn unig y mae'r system yn darparu popeth yr oedd cyn i'r pandemig daro, ond mae'n dal i weithredu mewn cyflwr lle mae dros 500 o gleifion yn meddiannu gwely yn GIG Cymru heddiw gyda COVID, lle nad yw dros 1,000 mewn gwaith oherwydd COVID—mae'r system yn darparu apwyntiadau cleifion allanol i lefelau uwch na'r hyn yr oedd yn gallu ei wneud cyn i'r pandemig daro. Ac mae llawdriniaethau, gofal cleifion mewnol dewisol, wedi gwella i 92 y cant o'r lefel yr oedden nhw arni cyn y pandemig. Dyna'r lefel uchaf yr ydym ni wedi ei gweld ers i'r pandemig daro, a hyn oll tra bod y system yn parhau i wneud popeth arall y gwnaethom ni ofyn ganddi. Yr wythnos hon, rydym ni wedi mynd dros 500,000 o frechiadau COVID a roddwyd dros gyfnod yr hydref hwn. Pwy sy'n rhan o wneud hynny i gyd? Wel, y meddygon teulu y soniodd yr Aelod amdanyn nhw yn ei gwestiwn cyntaf, a'r holl staff eraill hynny sy'n troi i fyny ar benwythnosau ac yn rhedeg y clinigau sy'n golygu ein bod ni wedi gweld y llwyddiant rhyfeddol hwnnw. Felly, er bod y gwasanaeth iechyd yn gweithio'n galed bob dydd i adennill y tir a gollwyd yn ystod COVID, i ymateb i'r argyfyngau y mae pobl yn eu cyflwyno, i wneud y pethau eraill rydym ni'n eu gofyn ganddyn nhw o ran brechu nid yn unig ar gyfer COVID, ond ar gyfer y ffliw hefyd, rydym ni'n gweld yr arosiadau hir hynny yn parhau i leihau. Andrew RT Davies AC: Yn fy nghwestiwn cyntaf, Prif Weinidog, gofynnais i chi gefnogi ymrwymiad y dywedodd llefarydd iechyd y blaid Lafur yn San Steffan y byddai Llafur yn ei gyflawni, ac fe ddywedoch chi nad oedd modd ei gyflawni. Yn yr ail gwestiwn, gofynnais i chi roi ymrwymiad a map ffordd i ddileu'r arosiadau dwy flynedd yma yn y GIG. Mae etholwr wedi cysylltu â mi yr wythnos hon, Richard Cooper, a gafodd ei hysbysu, i gael ei lawdriniaethau clun ar y GIG yma yng Nghymru—oherwydd roedd angen llawdriniaeth ar y ddwy glun—gallai ddisgwyl arhosiad o bedair i bum mlynedd i'r llawdriniaethau hynny gael eu cyflawni. Bu'n rhaid iddo ddefnyddio ei gynilion preifat ei hun i fynd i glinig yng Ngwlad Pwyl i gael y llawdriniaeth. Nawr, ni allaf gael ymrwymiad ar amseroedd ymateb meddygon teulu, ni allaf gael ymrwymiad ararosiadau dwy flynedd gennych chi; beth yw'r cyngor y dylwn i ei roi i'm hetholwyr, fel Richard Cooper, sy'n gorfod defnyddio eu cynilion eu hunain, eu potiau pensiwn, oherwydd na allwch chi ddarparu gwasanaeth iechyd sy'n gallu diwallu anghenion pobl Cymru? Mark Drakeford AC: Ar y tri phwynt hynny, Llywydd, yn gyntaf oll, cyn gynted ag y bydd Llywodraeth Lafur, byddwn yn gallu gweithredu addewidion y Blaid Lafur. Rwyf i wedi esbonio i chi—[Torri ar draws.] Rwyf i wedi esbonio i chi pam, o dan eich Llywodraeth chi, gyda chyllidebau'n gostwng o un flwyddyn i'r llall, a nawr cyfnod arall o gyni cyllidol yn ein hwynebu ni i gyd, ni fydd yr addewidion a wnaed gan eich Ysgrifennydd iechyd yn Lloegr yn cael eu cyflawni. Gyda Llywodraeth Lafur, yna bydd y pethau hynny'n wahanol ac yna wrth gwrs byddwn ni'n gweld pethau'n gwella, fel y gwnaethom ni o dan y Llywodraeth Lafur ddiwethaf. Ac esboniais i chi bod arosiadau hir yn y GIG yn parhau i leihau, er gwaethaf popeth arall y mae'r gwasanaeth iechyd yn ei wneud, ac mae popeth arall y mae'r gwasanaeth iechyd yn ei wneud yn ymestyn i geisio gwneud yn siŵr bod gennym ni wasanaeth orthopedig cynaliadwy yma yng Nghymru. Mae hynny'n her, Llywydd. Mae gennym ni boblogaeth sy'n heneiddio. Mae gennym ni fwy o waith y mae angen ei wneud. Mae gennym ni theatrau llawdriniaeth nad ydyn nhw'n gallu cwblhau lefel y gweithgarwch yr oedden nhw'n gallu ei gwblhau cyn y pandemig o hyd, ac eto, fel y dywedais i, ym mis Awst yn unig cyflawnwyd 24,000 o lawdriniaethau yn y GIG yng Nghymru, a 230,000 o apwyntiadau cleifion allanol. Er fy mod i'n gresynu unrhyw un sy'n aros yn rhy hir am y llawdriniaeth sydd ei hangen arnyn nhw, yr hyn rwy'n ei ddweud wrthyn nhw yw bod y system yn gweithio mor galed ag y gall, mae'n ennill tir nid colli tir, a byddwn yn parhau i fuddsoddi yn ariannol ond hefyd yn y staff sydd ei angen arnom ni i wneud yn siŵr bod ein GIG yn parhau i ddarparu'r driniaeth y mae'n ei darparu ar y lefel ddiwydiannol honno yr wyf i newydd ei disgrifio i chi o fis Awst yn unig. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price. Adam Price AC: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, fe wnaethoch chi gwyno'n gwbl briodol bod Prif Weinidog Torïaidd diwethaf y DU wedi methu â chodi'r ffôn i chi, ac yn wir yn trin eich Llywodraeth chi a'r Llywodraethau datganoledig eraill â dirmyg. Sut ydych chi'n bwriadu mynd i'r afael â'r berthynas gyda Phrif Weinidog diweddaraf y DU? A wnewch chi benderfynu newid tac efallai a cheisio codi'r ffôn iddo ef, fel y mae arweinwyr Llywodraethau cenedlaethol eraill ar fin ei wneud dros y dyddiau nesaf? Os byddwch chi'n sgwrsio, mae'n siŵr y byddwch chi eisiau ei longyfarch ar fod yr unigolyn Asiaidd Prydeinig cyntaf i gael ei ethol yn Brif Weinidog y DU, sydd wir yn ddigwyddiad hanesyddol ac yn fwy addas fyth ei fod yn ystod Diwali. Ond a fyddwch chi hefyd eisiau tanlinellu mai'r un peth y mae'n rhaid iddo beidio â'i wneud yn ei gyllideb Calan Gaeaf yw cychwyn cyfnod newydd o gyni cyllidol a phlymio'r economi i ddirwasgiad, pobl i dlodi a'n gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys y GIG, i argyfwng mwy dwys fyth? Mark Drakeford AC: Llywydd, rwy'n gobeithio wrth gwrs y bydd Prif Weinidog newydd y DU yn mabwysiadu agwedd wahanol o ran y berthynas â'r Llywodraethau datganoledig ar draws y Deyrnas Unedig. Rwy'n gweld cyfres o Aelodau Seneddol Ceidwadol o Gymru heddiw yn galw ar Brif Weinidog newydd y DU i achub y blaen yn hynny o beth, ac mae'n gam i Brif Weinidog y DU ei gymryd. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr iawn y bydd yna gyswllt cynnar gan y weinyddiaeth ddiweddaraf, ac, os oes, yna gallwch fod yn sicr y byddaf eisiau cael perthynas adeiladol gyda Phrif Weinidog newydd y DU. Os caf gyfle, bydd cyfres o bethau y byddaf i eisiau eu rhoi'n gynnar ar ei restr o flaenoriaethau. Dyfodol y Deyrnas Unedig ei hun—byddaf yn ei atgoffa, rwy'n siŵr, mai Llywodraeth Cymru yw'r unig Lywodraeth unoliaethol ddiamwys arall y bydd ganddo gysylltiad â hi, a byddwn eisiau gweithio gydag ef i wneud yn siŵr bod dyfodol llwyddiannus i'r Deyrnas Unedig. Rwyf i eisiau siarad ag ef am faterion unigol pwysig iawn sy'n bwysig yma yng Nghymru—dyfodol Tata Steel, er enghraifft. Pan ysgrifennais at y Prif Weinidog ond un yn ôl yn gynharach yn yr haf, fe wnaeth fy ateb gan gydnabod difrifoldeb sefyllfa Tata Steel, ond gan ddweud mai mater i Brif Weinidog nesaf y DU fyddai gwneud y penderfyniadau am lefel y cymorth y gellid ei chynnig i'r cwmni; wel, mae'r Prif Weinidog diweddaraf hwnnw wedi mynd a dod ac ni wnaed penderfyniad o'r math hwnnw. Felly, os caf gyfle, byddaf yn sicr yn dweud wrth Brif Weinidog newydd y DU y dylai rhoi sylw i'r mater pwysig iawn hwnnw, cyn belled ag y mae Cymru yn y cwestiwn, fod yn uchel ar ei restr o flaenoriaethau. Ac, wrth gwrs, Llywydd, dywedaf hefyd mai'r peth olaf un sydd ei angen ar bobl yng Nghymru neu ar draws y Deyrnas Unedig yw dos pellach o gyni cyllidol Torïaidd. Adam Price AC: Rydych chi wedi bod yn galw am etholiad cyffredinol, ac mae dadl na ellir ei hateb dros gael un, o ystyried ein bod ni bellach wedi cael dau Brif Weinidog y DU heb fandad democrataidd. Y gwir amdani yw bod y Prif Weinidog Sunak yn rhydd i anwybyddu hynny, fel y mae'n rhydd i'ch anwybyddu chi. Mae cyfansoddiad anysgrifenedig y DU yn canolbwyntio grym enfawr yn nwylo Prif Weinidog y DU, sy'n esbonio'r llanast rydym ni ynddo. Nawr, mae athrawiaeth goruchafiaeth San Steffan yn golygu bod Prif Weinidog newydd y DU yn rhydd i ddiddymu unrhyw Ddeddf y Senedd hon a diddymu unrhyw rym, er nad oes ganddo unrhyw fandad i wneud hynny, yn sicr nid yma yng Nghymru. Nawr, efallai y bydd y pendil gwleidyddol yn troi yn yr etholiad nesaf, pryd bynnag y daw, ond sut gallwn ni roi'r gorau i fod yn union yr un sefyllfa mewn blynyddoedd i ddod, pan fydd y pendil yn troi'n ôl? Sut ydych chi'n cynnig y byddai Llywodraeth Lafur newydd yn gwreiddio ein democratiaeth yng Nghymru mewn system wleidyddol lle mae San Steffan yn oruchaf? Mark Drakeford AC: Llywydd, rwy'n cytuno bod dadl na ellir ei hateb dros etholiad, ac nid wyf i'n credu bod Prif Weinidog y DU yn y sefyllfa anorchfygol y mae arweinydd Plaid Cymru wedi'i awgrymu. Efallai y bydd y rhaniadau dwfn y tu mewn i'r Blaid Geidwadol yn cael eu cuddio am ychydig wythnosau eto. Efallai y byddwn ni'n gweld Aelodau Seneddol Ceidwadol yn chwarae pêl-droed yn erbyn ei gilydd ar y lawnt y tu allan i Senedd San Steffan mewn rhyw fath o gadoediad Nadolig, ond, unwaith y bydd y Nadolig allan o'r ffordd, yna mae gen i ofn y bydd y Prif Weinidog newydd yn wynebu'r rhaniadau dwfn iawn, iawn y tu mewn i'r Blaid Geidwadol, fel y mae'r pedwar rhagflaenydd diwethaf wedi ei wneud hefyd. Ac nid wyf i o'r un farn yn union ag arweinydd Plaid Cymru o feddwl na fydd etholiad cyffredinol ar ei ffordd i ni yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach. Ar ôl yr etholiad hwnnw, bydd cyfle, rwy'n gobeithio, i Lywodraeth Lafurnewydd wneud yr union beth y mae Adam Price wedi ei ddweud: gwreiddio datganoli, fel na ellir ei erydu yn y modd rydym ni wedi ei weld ers 2019. Rwy'n credu bod cyfres o ffyrdd ymarferol y gellir gwneud hynny, a phan fydd adroddiad Gordon Brown ar drefniadau'r Deyrnas Unedig yn y dyfodol yn cael ei gyhoeddi, rwy'n credu y byddwn ni'n gweld nifer o'r syniadau ymarferol hynny. Nid wyf i'n mynd i'w trafod nhw y prynhawn yma o reidrwydd, Llywydd, ond maen nhw yna. Maen nhw yna mewn ffyrdd a fyddai'n sicrhau y gellir trefnu'r pethau a gymeradwywyd mewn dau refferendwm gan bobl yng Nghymru mewn ffordd y gellir darparu'r dewisiadau hynny heb y risg eu bod nhw bob amser o dan bwysau o gael eu herydu. Adam Price AC: Pan oeddech chi yn Iwerddon yn ddiweddar, fe wnaethoch chi ail-bwysleisio eich barn bod y Deyrnas Unedig, i Gymru, yn bolisi yswiriant gwych, ond sut mae'r polisi hwnnw'n gweithio i ni pan fo modd newid y contract yn gyson dros ein pennau, yn erbyn ein dymuniadau ac yn erbyn ein buddiannau? Fe wnaethoch chi sôn am gyfuno risg drwy'r undeb, ond siawns nad yw digwyddiadau'r wythnosau diwethaf wedi dangos bod yr undeb mewn gwirionedd yn ein hamlygu ni yng Nghymru i risg, i ansicrwydd ac i niwed y gellir ei osgoi. Nawr, rydych chi wedi dweud na fyddech chi byth yn cefnogi Cymru annibynnol, ond a fyddech chi'n derbyn bod rhai amgylchiadau o leiaf—Llywodraeth Dorïaidd arall yn cael ei hethol yn erbyn ein dymuniadau yng Nghymru, neu bleidlais dros annibyniaeth i'r Alban mewn refferendwm—lle gallai annibyniaeth ddod, i Gymru, a hyd yn oed i'ch plaid, yr opsiwn mwy blaengar? Rwy'n deall bod yn well gennych chi undeb barhaus, ond onid yw dweud 'byth' i annibyniaeth yn gwneud dim ond clymu ein hunain i ddyfodol na fydd byth yn eiddo i ni ei benderfynu? Mark Drakeford AC: Llywydd, mae'r cwestiwn a ddylai Cymru fod yn annibynnol yn gwestiwn i bobl yng Nghymru, ac rwyf i wedi dweud erioed pe bai plaid yn cynnig hynny fel dewis mewn maniffesto ac y bydden nhw'n ennill mwyafrif y seddi yma yn y Senedd, yna, wrth gwrs, os yw pobl yn dewis y cam hwnnw, yna dyna ewyllys ddemocrataidd pobl yng Nghymru. Eu llais nhw yw'r un pwysig—nid fy un i, pa un a ydw i'n meddwl ei fod yn iawn neu'n anghywir. Lle byddaf yn cytuno ag arweinydd Plaid Cymru yw hyn: pe bai geometreg wleidyddol y Deyrnas Unedig yn newid, pe bai un o'i rhannau cyfansoddol yn dewis gwahanol ddyfodol, nid yw hynny'n gadael yr hyn sy'n weddill heb ei gyffwrdd. Byddai'n rhaid i chi gael cyfres ddifrifol iawn o drafodaethau ynglŷn â'r ffordd orau y gellid cynllunio dyfodol Cymru o dan yr amgylchiadau gwahanol hynny, a dyna pam, fel y mae arweinydd Plaid Cymru yn gwybod, rydym ni wedi sefydlu ein comisiwn cyfansoddiadol ein hunain i'n helpu i feddwl pa ddewisiadau fyddai ar gael i Gymru o dan yr amgylchiadau hynny. Gallai annibyniaeth fod yn un ohonyn nhw, fel y bu ers sefydlu ei blaid ac ers iddi roi'r dewis hwnnw gerbron pobl Cymru. Hyd yn hyn, nid yw pobl wedi cael eu perswadio o hynny, a bydd gwahanol fathau o ddyfodol y byddai'n well gan eraill ohonom ni eu hyrwyddo. Ond dyna'r lle iawn i'r penderfyniadau hyn gael eu trafod; dydyn nhw ddim yn fater i mi fel Prif Weinidog na hyd yn oed i bleidiau gwleidyddol yma wneud y penderfyniad hwnnw. Yn union fel y dywedodd arweinydd Plaid Cymru bod dadl na ellir ei hateb dros etholiad cyffredinol i benderfynu cyfeiriad economaidd y Deyrnas Unedig yn y dyfodol, felly hefyd y byddai'n angen na ellir ei ateb am benderfyniadau o'r fath y mae wedi'u hamlinellu y prynhawn yma i gael eu gwneud gan y bobl sy'n ein rhoi ni yma. Prentisiaethau Gradd Laura Anne Jones AC: 3. Pa asesiad mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith rhaglen prentisiaethau gradd Llywodraeth Cymru ar niferoedd mynediad am brentisiaethau gradd? OQ58629 Mark Drakeford AC: Llywydd, ers i'r rhaglen prentisiaeth gradd ddechrau yng Nghymru yn 2018, rydym ni wedi sicrhau cynnydd o fwy na phum gwaith i gofrestriadau. Yn y flwyddyn academaidd bresennol, mae 780 o brentisiaethau yn gweithio i ennill cymwysterau lefel gradd ym meysydd digidol,ynni a gweithgynhyrchu uwch. Laura Anne Jones AC: Diolch, Prif Weinidog. Mae'n ddiddorol, yr hyn a ddywedoch chi, a hoffwn nodi bod y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi prentisiaethau gradd yn llawn, ac, a dweud y gwir, rydym ni'n mynd ymhellach na'r polisi presennol. Ond, Prif Weinidog, ychydig wythnosau yn ôl, sefais yma a chodais rai ystadegau pryderus yn amlygu mai gwrywod dosbarth gweithiol gwyn yw'r rhai lleiaf tebygol o fynd i'r brifysgol ar draws y DU, ond mae'r darlun yn waeth yng Nghymru. Fe wnaethoch chi awgrymu nad oedd y broblem cynddrwg ag y dywedais i, gan geisio esgusodi'r ffigurau. Fe ddywedoch chi, ac rwy'n dyfynnu: 'Ni fydd ein rhaglen prentisiaethau gradd yn cael ei chyfri yn y ffigurau y mae'r Aelod wedi'u hawgrymu y prynhawn yma', fel pe bai hynny rhywsut yn gwneud i'r sefyllfa edrych yn well. Ar gyfer blwyddyn academaidd 2019-20, roedd 380 o brentisiaid newydd a pharhaus yn y rhaglen prentisiaeth gradd. Yn yr un cohort, aeth 83,800 o fyfyrwyr o Gymru i'r brifysgol—453 y cant yn fwy na'r nifer sy'n dilyn prentisiaethau gradd; dim ond 0.45 y cant o 83,800 yw 380. Prif Weinidog, mae'n gwbl eglur o'r ystadegau y byddai prentisiaethau gradd, hyd yn oed pe baen nhw'n cael eu cynnwys yn y ffigurau, a'ch ffigurau newydd a amlinellwyd gennych chi nawr, yn gwneud ychydig iawn o wahaniaeth i'r niferoedd cyffredinol hynny a amlinellais. Felly, Prif Weinidog, mae'r broblem yn parhau: rydym ni'n gweld niferoedd isel o dderbyniadau prifysgol ymhlith dynion dosbarth gweithiol gwyn. Sut yn union ydych chi'n ceisio unioni'r sefyllfa, ac, eto, pa atebion ymarferol ydych chi'n mynd i'w rhoi ar waith i sicrhau nad yw'r duedd honno'n parhau? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, rwyf i wedi mwynhau cyfraniad diweddaraf Laura Anne Jones at ei hymgyrch arweinyddol, ond mae'n rhaid i mi ddweud hyn wrthi: y bydd angen iddi arafu ar y niferoedd er mwyn caniatáu i bobl ddilyn y pwyntiau y mae hi'n eu gwneud. Rwy'n edrych ymlaen at ddarllen y trawsgrifiad fel y gallaf ddilyn y ddadl yr oedd hi'n ei gwneud yn well. Mae'r rhaglen brentisiaeth—y rhaglen prentisiaeth gradd—Llywydd, wedi ei chynllunio i ganolbwyntio, fel y dywedais i yn fy ateb, ar y meysydd hynny lle mae gennym ni anghenion arbennig yn economi Cymru—digidol, ynni a gweithgynhyrchu uwch yn eu plith—meysydd lle, yn hanesyddol, y mae menywod wedi cael eu tangynrychioli ond mae dynion ifanc gwyn yn sicr yn y mwyafrif ac, er gwaethaf ein hymdrechion i ddenu menywod ifanc i'r meysydd hynny drwy'r rhaglen prentisiaeth gradd, mae hynny'n parhau i fod yn wir. Ond yr hyn sy'n bwysicach o ran y cwestiwn aofynnwyd i mi, Llywydd, yw a ydym ni'n denu drwy'r llwybr prentisiaeth gradd pobl ifanc na fyddai fel arall mewn addysg uwch. Rwy'n cael fy nghalonogi bod dros 57 y cant o'r bobl ifanc hynny sy'n dod i ddilyn prentisiaethau gradd yng Nghymru yn dod o deuluoedd lle nad oes rhiant erioed wedi bod mewn addysg uwch. Mewn geiriau eraill, rydym ni'n recriwtio drwy'r llwybr hwnnw pobl na fyddai mor debygol o gael profiad addysg uwch drwy'r llwybrau confensiynol. Ac yn yr ystyr hwnnw, rwy'n falch bod yr Aelod wedi croesawu'r rhaglen prentisiaeth gradd, oherwydd rwy'n meddwl—nid wyf i'n credu fy mod i wedi ei dilyn hi'n llwyr yma, ond rwy'n meddwl, pan fyddaf yn astudio ei ffigurau, y byddaf yn gweld, mewn gwirionedd, ei bod yn gwneud yr hyn y mae hi eisiau iddi ei wneud; mae'n cyrraedd y rhannau hynny o'r gymuned y mae llwybrau mwy confensiynol i addysg uwch yn methu â sicrhau'r treiddiad yr hoffem ni ei weld. Jack Sargeant AC: Ddydd Gwener yma, byddaf yn ymweld â Grŵp DRB yn fy etholaeth fy hun, sef Alun a Glannau Dyfrdwy, ac rwy'n falch o fod wedi cwblhau fy mhrentisiaeth mewn gweithgynhyrchu uwch yn DRB, gyda chymorth Llywodraeth Lafur Cymru. Rwyf i hefyd yn hynod ddiolchgar i'r cwmni am ariannu fy ngradd rhan amser tra'r oeddwn i yno. Cyn i mi ymweld a dychwelyd i fy hen weithle, byddaf yn siarad mewn cynhadledd prinder sgiliau, a drefnwyd gan Fforwm Busnes Glannau Dyfrdwy. Pa neges gaf i ei hanfon gennych chi, fel Prif Weinidog Cymru, i'r gynhadledd, i gwmnïau fel Grŵp DRB yn Alun a Glannau Dyfrdwy, am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi'r sgiliau i'r gweithlu nesaf i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o gynhyrchion diwydiannol gwyrdd yn y gogledd-ddwyrain? Mark Drakeford AC: Diolchaf i Jack Sargeant am hynny a'i longyfarch, wrth gwrs, ar y ffordd y daeth ef ei hun drwy'r system brentisiaeth honno a gwneud hynny'n llwyddiannus. Yr hyn y gallwch chi ei ddweud yn eithaf sicr wrth y fforwm busnes yw bod ganddyn nhw, yng Nghymru, Lywodraeth sy'n deall yn iawn y cyfrifoldeb sydd gennym ni i fuddsoddi yn y sgiliau a fydd yn caniatáu i fusnesau yn y rhan honno o Gymru i barhau i ffynnu. Mae diweithdra, Llywydd, yng Nghymru ar ei isaf yn y gogledd-ddwyrain. Fe wnes i gyfarfod â chwmnïau yn ardal Glannau Dyfrdwy pan oeddwn i yn y gogledd dim ond cwpwl o wythnosau yn ôl. Maen nhw'n gwybod ei bod hi'n farchnad gystadleuol i ddenu, yn enwedig, pobl ifanc i fanteisio ar y cyfleoedd gwaith sydd ar gael iddyn nhw, ac roedden nhw'n gwerthfawrogi'n fawr y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ac yn enwedig y darparwyr llawr gwlad hynny—Coleg Cambria ac eraill—y pethau y maen nhw'n eu gwneud i alinio'r rhaglenni y maen nhw'n eu darparu gydag anghenion y dyfodol diwydiannol gwyrdd gwych hwnnw rydym ni eisiau ei greu yma yng Nghymru. A byddwn yn ddiolchgar iawn i Jack Sargeant pe gallai, ar ein rhan ni, ar ran Llywodraeth Cymru, atgyfnerthu, gyda'r fforwm busnes hwnnw, ein penderfyniad i barhau i weithio ochr yn ochr â nhw a'r system addysg i wneud yn siŵr ein bod ni'n cynhyrchu pobl ifanc sydd â'r sgiliau y bydd eu hangen arnyn nhw i greu dyfodol llwyddiannus iddyn nhw eu hunain, ac i gyfrannu at y cyflogwyr gwych hynny sydd gennym ni yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Dolydd Blodau Gwyllt Gareth Davies AS: 4. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith dolydd blodau gwyllt ar fywyd gwyllt yn Sir Ddinbych? OQ58599 Mark Drakeford AC: Llywydd, cofnododd prosiect blodau gwyllt sir Ddinbych 268 o rywogaethau blodau gwyllt ar eu safleoedd yn 2021. Nid oedd 136 o'r rhywogaethau hynny wedi cael eu canfod yno o'r blaen, ac mae rhwydwaith safleoedd y prosiect yn tyfu bob blwyddyn, wedi'i gefnogi gan fenter Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru. Gareth Davies AS: Diolch am yr ymateb yna, Prif Weinidog, a'r rheswm rwy'n gofyn y cwestiwn y prynhawn yma yw bod nifer o drigolion ardal Nant Close yn Rhuddlan wedi cysylltu â mi, ac o ardaloedd arfordirol y Rhyl a Phrestatyn dros yr haf, sy'n bryderus iawn am rai o ddefnyddiau dolydd blodau gwyllt mewn ardaloedd preswyl adeiledig. Nawr, gallaf yn sicr weld budd dolydd blodau gwyllt a'r effeithiau cadarnhaol y mae'r rhain yn eu cael ar hybu bioamrywiaeth a bywyd gwyllt yn sir Ddinbych, ond a fyddech chi'n ymuno â mi, Prif Weinidog, i alw ar sir Ddinbych ac awdurdodau lleol i fabwysiadu agwedd fwy synnwyr cyffredin at brosiectau o'r fath? Felly, lle ceir tystiolaeth dda o effeithiolrwydd, yna cadwch nhw ar bob cyfrif, ond pan nad oes llawer o dystiolaeth o hyn, yna torrwch nhw i lawr ac adfer rhywfaint o drefn arddwriaethol, fel y gallwn ni chwalu'r myth bod y cyngor yn rhy ddiog i dorri'r lawnt a rhoi sicrwydd i'm hetholwyr bod—[Torri ar draws.] Gadewch i'r Aelod orffen ei gwestiwn. Gadewch i'r Aelod orffen ei gwestiwn, os gwelwch yn dda. Gareth Davies AS: Diolch. Fel y gallwn ni chwalu'r myth bod y cyngor yn rhy ddiog i dorri'r lawnt a rhoi sicrwydd i'm hetholwyr y bydd yr haf nesaf yn fwy effeithiol na'r un yma. Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, wnes i wir ddim dychmygu'r prynhawn yma y byddem ni'n clywed bod plaid Geidwadol Cymru yn erbyn blodau. [Chwerthin.] Maen nhw yn erbyn bron popeth arall, ond doeddwn i ddim wedi disgwyl gweld dolydd blodau gwyllt yn cael eu hychwanegu at eu rhestr o bethau nad ydyn nhw'n eu cefnogi yn y Gymru fodern. Wrth gwrs, nid wyf i'n cefnogi'r hyn a ddywedodd y prynhawn yma. A dweud y gwir, rwy'n llongyfarch Cyngor Sir Ddinbych yn llwyr. A gyda llaw, Llywydd, dyma fyddai gweithredoedd Cyngor Sir Ddinbych wedi bod ar adeg pan oedd y Blaid Geidwadol yn rhan o weinyddiaeth Cyngor Sir Ddinbych, oherwydd nid ydych chi'n creu dôl blodau gwyllt mewn pum munud. Gall hi gymryd nifer o flynyddoedd i gyflawni'r hyn y llwyddodd ei gydweithwyr i'w gyflawni yn sir Ddinbych. Rwy'n credu ei fod yn fater o glod gwirioneddol i brosiect blodau gwyllt sir Ddinbych, yn gweithio gyda'r awdurdod lleol, eu bod nhw wedi gallu creu bron i 50 erw o ddolydd brodorol lleol ar draws y sir. Mae honno'n gamp sylweddol iawn. Mae'n gyfraniad go iawn at gynnal bioamrywiaeth, i wneud y pethau y gallwn ni eu gwneud sy'n gwneud gwahaniaeth. Rwy'n eu llongyfarch, ac rwy'n credu y byddai'n llawer gwell i'w Haelod lleol gefnogi'r ymdrechion hynny yn hytrach na lladd arnyn nhw o'r ymylon. Carolyn Thomas AS: A gaf i ddatgan diddordeb yn gyflym? Rwy'n aelod o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Diolch. Fe es i gyfarfod cyffredinol blynyddol yr ymddiriedolaeth natur ddydd Sadwrn. Maen nhw'n gwneud gwaith gwych gyda thirfeddianwyr o ran eu rheoli nhw ar gyfer natur, a siaradodd y prif swyddog gweithredol am bryderon sylweddol am bolisïau Llywodraeth y DU yn gwanhau amddiffyniadau amgylcheddol o adael yr UE, a hefyd dadreoleiddio o dan barthau buddsoddi. Siaradodd am y ffordd y mae Cymru'n arwain y ffordd o ran polisïau natur, ac un prosiect gwych yw prosiect natur 'Iddyn Nhw' Llywodraeth Cymru, yn gweithio gyda chynghorau a phartneriaethau natur lleol, gan reoli lleiniau ymyl ffordd a glaswelltiroedd amwynder ar gyfer bioamrywiaeth, gan sicrhau cefnogaeth y trigolion. Mae Aelodau Seneddol Ceidwadol y gogledd wedi bod yn ysgrifennu at arweinwyr cynghorau, gan gynnwys rhai sir Ddinbych, yn eu hannog i ddangos diddordeb yn y parthau dadreoleiddio buddsoddi hyn, a gwn na ymgynghorwyd â dau arweinydd cynghorau yn Lloegr sydd ar y ffin cyn iddyn nhw gael eu hychwanegu at y rhestr. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi ysgrifennu at arweinwyr cynghorau gogledd Cymru, i rannu eich pryderon ynglŷn â'r pwysau sydd arnyn nhw o ran yr amgylchedd naturiol o dan y parthau buddsoddi wedi'u dadreoleiddio? Ac a allech chi hefyd ysgrifennu i gefnogi'r gwaith da y maen nhw'n ei wneud yn y prosiect 'Iddyn Nhw', yn rheoli ein hardaloedd bywyd gwyllt a'n lleiniau glaswellt ar gyfer bioamrywiaeth, fel y gallwn sicrhau cefnogaeth ein trigolion ynghyd â nhw? Rwy'n poeni y gallai ddisgyn ymhellach i lawr y rhestr o dan gyni cyllidol 2. Diolch. Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, yn gyntaf oll, a gaf i ddiolch i Carolyn Thomas am yr holl waith y mae hi wedi ei wneud, a gomisiynwyd gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, i hyrwyddo gwell rheolaeth o'n lleiniau ffyrdd a'n glaswelltiroedd ar draws y gogledd? Mae Carolyn Thomas yn llygad ei lle, Llywydd. Dyma beth mae dadreoleiddio yn ei olygu. Yn ymarferol, yr hyn y mae'n ei olygu yw diddymu'r amddiffyniadau sydd gennych chi a minnau fel y gallwn ni warchod ein hamgylchedd, fel y gallwn ni wneud yn siŵr bod yr hawliau rydym ni'n eu mwynhau yno ar ein cyfer ni ar gyfer y dyfodol. Mae hon yn broblem wirioneddol i ni yma yng Nghymru, oherwydd mae gennym ni safleoedd dynodedig trawsffiniol lle byddwn ni eisiau gwneud yn siŵr bod y safonau uchaf yn cael eu cynnal, ac ni fyddwn yn hapus iawn â'r syniad y dylid gostwng y safonau hynny i fynd ar drywydd rhyw fath o ymrwymiad ideolegol i ddileu'r amddiffyniadau sy'n bodoli ar hyn o bryd. Rwy'n hapus iawn i ysgrifennu, yn y ffordd y mae'r Aelod wedi awgrymu, i longyfarch yr awdurdodau hynny yn y gogledd sy'n gwneud gwaith gwych yn y maes hwn a gwneud yn siŵr eu bod nhw'n deall bod ganddyn nhw yn Llywodraeth Cymru Lywodraeth sydd ar eu hochr nhw. Gofal Cymdeithasol Hefin David AC: 5. Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu i weithlu gofal cymdeithasol Cymru? OQ58637 Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, diolch i Hefin David am y cwestiwn. Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda'n partneriaid gofal cymdeithasol i wella telerau ac amodau cyflogaeth y gweithlu. Mae £43 miliwn wedi cael ei ddarparu i'r sector i'w helpu i gynyddu cyflogau i'r cyflog byw gwirioneddol. Yn ogystal â hynny, mae £45 miliwn wedi cael ei roi ar ffurf grant y gweithlu i awdurdodau lleol eleni. Hefin David AC: Diolch am yr ateb. Hefin David AC: Mae'r cwestiwn yma'n dilyn ymlaen, mewn sawl ffordd, o fy nghwestiwn yr wythnos diwethaf am y gwasanaeth ambiwlans. Pen arall y raddfa yw hon, lle gallai oedi ymhellach i lawr y ffordd gyda'r gwasanaeth ambiwlans gael ei achosi drwy oedi wrth drosglwyddo gofal, sydd wrth gwrs yn dibynnu'n enfawr ar y gweithlu gofal cymdeithasol. Cefais alwad yr wythnos hon a'r wythnos ddiwethaf hefyd gan Neville Southall, sy'n gweithio i Unsain, yn ceisio cael cartrefi gofal i gydnabod gwerth eu gweithlu, a gweithio gyda chartrefi gofal ac Unsain i wneud hynny, a dywedodd bod ychydig o bethau a allai ddigwydd i helpu pethau i wella. Yn gyntaf oll, cyflog, ac mae'r Prif Weinidog wedi cydnabod bod y cyflog byw gwirioneddol yn hanfodol; ceir recriwtio hefyd, gan fod y bobl hynny sy'n gweithio yn y sector gofal yn gweld eu bod nhw'n cael eu gorlwytho â gwaith; ceir amodau gwaith, nad ydyn nhw'n gyfartal â'r GIG; ceir cydnabyddiaeth undebau llafur, sy'n hanfodol bwysig; ac ar y cyfan mae hynny'n gyfystyr â chyd-barch â'u cydweithwyr yn y GIG. A'r hyn a ddywedodd Neville Southall wrthyf i oedd ei fod yn canfod bod pobl yn y sector gofal yn teimlo eu bod nhw'n cael eu cydnabod llai na'u cymheiriaid yn y GIG yn ystod y pandemig. Felly, mae'r pethau hyn i gyd gyda'i gilydd yn bwysig. A fyddai'r Prif Weinidog yn barod i ganiatáu i swyddogion gyfarfod gyda mi a gyda Neville Southall, a'r Gweinidog, i drafod rhai o'r materion hyn a cheisio dod o hyd i ffordd drwy hynny a fyddai o gymorth iddo yn ei waith? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, fe wnaeth Hefin David gyfres o bwyntiau pwysig yn y fan yna, yr wyf i'n credu y byddai Llywodraeth Cymru yn cytuno â phob un ohonyn nhw ac sydd i gyd yn feysydd yr ydym ni'n parhau i wneud ein hymdrechion ynddyn nhw. Soniais am y £43 miliwn yr ydym ni'n ei fuddsoddi mewn sicrhau'r cyflog byw gwirioneddol i'n gweithlu gofal cymdeithasol, y buddsoddiad ychwanegol rydym ni wedi ei wneud—£10 miliwn a dweud y gwir, ar ben y £45 miliwn rydym ni'n ei ddarparu fel rheol yn y grant gweithlu blynyddol, i helpu awdurdodau lleol yn eu hymdrechion i recriwtio ac yna chadw gweithwyr gofal cymdeithasol, ac mae codi statws y proffesiwn yn bwysig iawn i wneud hynny. Dyna pam y pasiodd y Senedd hon ddeddfwriaeth i'w gwneud yn ofynnol cofrestru'r gweithlu. Mae dros 40,000 o weithwyr ym maes gofal cymdeithasol eisoes wedi'u cofrestru neu ar fin cael eu cofrestru yma yng Nghymru. Fe wnaethon ni ddechrau trwy gofrestru gweithwyr gofal cartref, fe wnaethon ni symud ymlaen i gofrestru cartrefi gofal i oedolion hefyd, ac mae hynny'n bwysig gan mai trwy gofrestru rydych chi'n agor y drws i ddatblygiad gyrfaol, hyfforddiant, cyfleoedd, hyfforddiant arweinyddiaeth. Mae'r fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol, yr ydym ni wedi ei sefydlu yn rhan o'r fforwm partneriaeth gymdeithasol, newydd gwblhau'r fersiwn gyntaf o fodel y maen nhw'n mynd i'w hyrwyddo ar gyfer datblygiad gan weithwyr ym maes gofal cymdeithasol. Felly, os byddwch chi'n dod yn weithiwr gofal cymdeithasol, gallwch weld sut y gallai gyrfa ddatblygu o'ch blaen, fel y byddech chi, yn wir, pe byddech chi'n ymuno â'r GIG. Rwy'n hapus iawn i edrych i weld a fyddai sgwrs rhwng y fforwm a Mr Southall yn ffordd dda o fwrw ymlaen â rhai o'r pwyntiau y mae wedi eu gwneud, a gyflëwyd gan yr Aelod dros Gaerffili y prynhawn yma. Janet Finch-Saunders AC: Ar hyn o bryd mae fy awdurdod lleol fy hun, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, yn comisiynu tua 790 o welyau sy'n cefnogi unigolion mewn gofal preswyl a/neu nyrsio. £23 miliwn oedd y gwariant gros yng Nghonwy ar wasanaethau preswyl a nyrsio yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gyda chynnydd posibl yn y dyfodol o ddim ond tua 7 i 9 y cant—7 i 9 y cant, nid 79 y cant. Ac eto, mewn rhai awdurdodau lleol eraill, lle maen nhw'n cadw cronfa wrth gefn flwyddyn ar ôl blwyddyn, mewn rhai awdurdodau lleol, cwpl o gannoedd o filiynau wrth gefn, mae darparwyr yn hysbysu'r awdurdod lleol bod y cyfuniad o lefelau uchel na ragwelwyd o chwyddiant, lefelau gofal cynyddol, gwasanaethau cymhleth a phwysau gweithlu cyfredol yn arwain at ddiffyg ariannol yn ymwneud â gofal preswyl a nyrsio—ac fe welais hyn yn bersonol pan ymwelais â chartref gofal yn ddiweddar. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi y dylai'r cyfraddau a delir gan unrhyw awdurdod lleol i gartrefi gofal gynyddu yn unol â chwyddiant o leiaf? A pha gamau ydych chi'n eu cymryd i sicrhau bod setliad ariannu tecach ac un sy'n adlewyrchu'n well gwir gost yr angen gofal cymdeithasol yn ein hawdurdodau lleol? Diolch. Mark Drakeford AC: Llywydd, rydym wedi trafod droeon yma y galwadau a ddaw o wahanol rannau o Gymru i ddiwygio'r fformiwla ariannu, ac rydym ni bob amser wedi dweud, fel Llywodraeth, y byddwn ni, wrth gwrs, yn barod i drafod y peth gydag awdurdodau lleol pan fyddan nhw'n cyflwyno cynnig ar gyfer diwygio. Yr hyn na allwn ei wneud o bosibl, fel y bydd yr Aelod yn ei ddeall, yw cytuno ar fformiwla ar wahân ar gyfer pob un o'r 22 awdurdod lleol. Ceir un fformiwla, fel sydd yn Lloegr, fel sydd yn yr Alban. Nid oes modd osgoi bod gennych chi un system. Gellir diwygio'r system, ond dim ond gyda chytundeb awdurdodau lleol eu hunain y gellir ei diwygio. Ac, o ran y pwynt y mae hi'n ei wneud ynglŷn â sicrhau cynnydd yn unol â chwyddiant i gyllid ar gyfer y gwasanaethau hynny, rwy'n gobeithio ei bod hi'n cyfleu'r pwynt hwnnw i'r Llywodraeth newydd yn San Steffan, oherwydd os byddan nhw'n rhoi'r cynnydd hwnnw i ni, byddwn yn bendant yn ei roi i'r gwasanaethau y mae hi wedi siarad amdanyn nhw y prynhawn yma. Amseroedd Aros Canser Peter Fox AS: 6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella amseroedd aros canser y GIG? OQ58607 Mark Drakeford AC: Mae arloesedd, buddsoddiad ychwanegol a recriwtio staff arbenigol ymhlith y camau sy'n cael eu cymryd ochr yn ochr ag arweinwyr clinigol i leihau amseroedd aros canser. Peter Fox AS: Diolch. Dangosodd y data ddiweddaraf a gafodd ei ryddhau ar achosion canser, mai dim ond 52.5 y cant ym mis Awst a gyrhaeddodd nod y Llywodraeth o ddechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod—y nifer lleiaf ers i gofnodion gael eu casglu. Mae un o fy etholwyr i wedi bod yn aros dros saith mis am driniaeth canser. Yn y blynyddoedd blaenorol, roedd wedi cael canser y geg ac roedd wedi cael mynediad i ysbyty Henffordd, lle cafodd driniaeth lwyddiannus o fewn tri mis ar ôl cael ei gyfeirio am ganser y geg a chanser y trwyn wedi hynny. Ar ôl symud i fy etholaeth i, datblygodd ganser bach ar ei glust, a oedd yn gofyn am driniaeth gymharol fach. Ond o ganlyniad uniongyrchol i fod yn sownd ar restr aros GIG Cymru, mae'n debygol nawr o golli ei glyw a'i glust. Mae'r hyn a ddechreuodd fel twf bach canseraidd, a allai fod wedi'i dynnu gydag ymyrraeth gynnar, nawr wedi tyfu'n rhywbeth cwbl erchyll i'r unigolyn. Diolch i'r Gweinidog iechyd am ei gohebiaeth o ran hyn, ond, yn gyntaf Prif Weinidog, er ei fod yn newyddion i'w groesawu bod Cymru'n cyflwyno canolfannau diagnosis cyflym, yn anffodus, mae'n rhy hwyr i fy etholwr i. Ydych chi'n cytuno bod angen mwy o weithredu i ymdrin â thriniaeth ar ei hôl hi yng Nghymru i atal pobl rhag mynd drwy ddioddefaint o'r fath, a pha obaith y gall y Llywodraeth ei ddarparu i bobl sy'n dioddef fel fy etholwr i? Mark Drakeford AC: Diolch i Peter Fox am y cwestiwn yna. Rydw i wedi gallu darllen ei lythyr at y Gweinidog iechyd ac rydw i wedi gweld ei hateb. Gobeithio y bydd yn rhoi rhywfaint o wybodaeth sy'n ddefnyddiol i'w etholwr yn yr hyn sy'n amlwg yn amgylchiadau unigol sy'n peri gofid mawr. Mae'r system yn gweithio'n galed bob mis i ymdrin â'r cynnydd yn nifer yr achosion sy'n dod drwy'r drws. Ac mae'n beth da bod mwy o achosion yn dod drwy'r drws, oherwydd rydym ni eisiau sicrhau bod pobl yn cael eu cyfeirio i'r system mor gynnar â phosibl. Ym mis Awst, cafodd y nifer uchaf o gleifion eu trin yn y flwyddyn ariannol hon, a chafodd y nifer uchaf erioed o gleifion wybod nad oedd ganddyn nhw ganser—aeth 13,500 o gleifion yng Nghymru ym mis Awst drwy'r system a chael gwybod nad oedd ganddyn nhw'r clefyd ofnadwy hwnnw'n pwyso arnyn nhw. Pan ydych chi'n cyfri'r bobl a gafodd eu trin, a'r bobl a gafodd wybod nad oedden nhw angen triniaeth, mae hynny'n dod i dros 14,500 o bobl, sef y niferoedd uchaf yr ydym ni erioed wedi ymdopi ag ef. Ac eto cafodd 16,000 o bobl eu cyfeirio at y system yn yr un mis. Fel yr wyf i'n ei ddweud, Llywydd, mae hynny'n newyddion da, oherwydd mae hynny'n golygu ein bod ni'n gweld mwy o bobl, ac yn gynharach, a gobeithio bydd mwy o'r bobl yna'n darganfod nad oed angen iddyn nhw wynebu diagnosis o ganser. Ond fe welwch chi, a bydd yr Aelod dros Fynwy yn gweld, hyd yn oed os ydych chi'n ymdopi â nifer uchaf erioed o bobl sy'n dod trwy'r system, os oes gennych chi'r niferoedd uchaf erioed o bobl yn dod i mewn i'r system, mae'r system yn dal i fod wedi'i hymestyn i'r eithaf. Dyna pam mae gennym ni'r canolfannau diagnostig cyflym newydd, dyna pam mae gennym ni'r clinigau un stop newydd, dyna pam ein bod ni'n datblygu'r system diagnosteg symud yn syth at brofion. Mae'r rhain i gyd yn ymdrechion sy'n cael eu gwneud gan glinigwyr i ddod o hyd i ffordd o ymateb i'r cyfeiriadau newydd ac ymdrin â phobl sydd wedi bod yn y system yn rhy hir yn barod. Jane Dodds AS: Prynhawn da, Prif Weinidog. Yn ogystal â thalu teyrnged i'r gweithwyr iechyd a'r rhai yn ein proffesiynau iechyd sy'n ymdrin â chanser, mae amrywiaeth o elusennau hefyd sy'n diwallu anghenion pawb sy'n dioddef o ganser, ac mae hynny'n cynnwys teuluoedd y rhai sy'n dioddef o ganser. Mae gan nifer o'r rheiny broblemau iechyd meddwl, ac mae pobl eisiau siarad, nid yn unig y dioddefwr canser, ond y rhai o fewn y teulu a'r teulu estynedig. Mae'n gyfnod anodd iawn, a diolch i fy nghydweithiwr Peter Fox am godi'r mater a siarad am y sefyllfa drist iawn honno. Rwy'n gobeithio y bydd teulu'r person hwnnw, yn ogystal â'r dioddefwr hwnnw, yn cael y gefnogaeth sydd ei angen arnyn nhw. Yn ogystal â'r elusennau mwy fel Macmillan ac ymddiriedolaeth Marie Curie, mae gennym ni hefyd, yn y canolbarth a'r gorllewin, y Bracken Trust wych yn Llandrindod, sy'n cwrdd ag anghenion teuluoedd a'u gofalwyr. Mae ganddyn nhw wasanaeth galw heibio, gwasanaeth cyfnewid wig, ac maen nhw yn cynnig y gefnogaeth yna i deuluoedd sy'n cael eu heffeithio. Tybed a gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog, pa gefnogaeth y gall Llywodraeth Cymru ei rhoi i'r elusennau gwych hynny sy'n gweithredu yn y maes gyda'r dioddefwr a'r teulu ehangach? Diolch. Diolch yn fawr iawn. Mark Drakeford AC: Diolch i Jane Dodds; mae'r rheiny i gyd yn bwyntiau pwysig iawn. Mae hi'n hollol gywir—nid yr unigolyn yn unig sydd yma, teulu'r unigolyn sy'n cael ei ddal mewn diagnosis canser. A dim ond un o'r anawsterau mae teuluoedd yn ei wynebu yw effaith gorfforol diagnosis canser. Mae gwaith gwych yn cael ei wneud gan sefydliadau'r trydydd sector yng Nghymru, dim ond ar geisio sicrhau bod pobl yn cael yr help ariannol sydd ei angen arnyn nhw. Mae bod yn sâl gyda chanser yn aml yn golygu nad yw pobl yn gallu ennill arian mewn ffordd y byddai ganddyn nhw o'r blaen, ac nid yw'r system fudd-daliadau yn cydymdeimlo, yn y ffordd y dylai, â phobl sy'n wynebu'r anawsterau hynny. Felly, mae yna broblemau ymarferol, mae'r problemau iechyd ehangach, gan gynnwys effeithiau iechyd meddwl, o ddiagnosis o'r math yna. Mae'r llawer iawn o sefydliadau bach a lleol sy'n bodoli ledled Cymru yn arwydd o gryfder cymdeithas ddinesig Cymru—bod pobl yn rhoi o'u hamser, yn codi'r arian hynny, yn darparu'r gwasanaethau hynny. Ac mae'r gwaith mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda chyngor partneriaeth y trydydd sector, rhan o'n tirwedd ers sefydlu datganoli gyntaf. Rydym ni'n cydnabod ac yn gweithio gyda'r grŵp ehangach hwnnw o bobl yn ein cymdeithas, sydd eisiau sicrhau bod y gwasanaethau cyhoeddus craidd a ddarperir yn cael eu cefnogi a'u hymestyn, yn enwedig i bobl â'r anghenion mwyaf. Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Paul Davies AC: 7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau iechyd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda? OQ58598 Mark Drakeford AC: Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau gofal iechyd diogel, cynaliadwy o ansawdd uchel i'w phoblogaeth leol, wedi'i seilio ar y dystiolaeth a'r cyngor clinigol diweddaraf. Paul Davies AC: Prif Weinidog, fel yr wyf i'n siŵr eich bod chi'n ymwybodol, ddydd Sadwrn, mae'n Ddiwrnod Strôc y Byd, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau i gyd wedi manteisio ar y cyfle i gwrdd â'r Gymdeithas Strôc y tu allan ar risiau'r Senedd yn gynharach i ddysgu mwy am ofal strôc a'r effaith gadarnhaol y gall thrombectomy ei gael ar gleifion strôc. Yn ardal fy mwrdd iechyd i, roedd y gyfradd thrombectomy yn 2020-21 yn 0.15 y cant, sy'n golygu nad oedd yn bosibl i ddigon o gleifion strôc gael un. Ac eto, rydym ni'n gwybod y gall y driniaeth hon wneud gwahaniaeth sy'n newid bywydau a lleihau'r siawns o anableddau fel parlys, dallineb neu anawsterau cyfathrebu yn sylweddol. Felly, Prif Weinidog, pa waith sy'n cael ei wneud i gynyddu'r gyfradd thrombectomy ar frys yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, fel bod mwy a mwy o bobl yn fy etholaeth i'n gallu cael gafael ar y driniaeth hanfodol iawn hon? Mark Drakeford AC: Rwy'n siŵr y bydd aelodau ar draws y Siambr eisiau nodi Diwrnod Strôc y Byd, ac i gydnabod y datblygiadau sylweddol iawn sydd wedi bod yn ddiweddar mewn triniaethau sydd ar gael i gleifion strôc a'r ffordd y mae'r GIG wedi gallu ymateb i hynny. Nid ydw i'n ddigon cyfarwydd â manylion cwestiwn yr Aelod i roi ateb uniongyrchol iddo ar y pwyntiau hynny y prynhawn yma, ond mae'r Gweinidog iechyd yn ei lle, ac rwy'n siŵr y bydd ganddi hi bethau y gall hi eu dweud yfory, rwy'n credu, pan fydd hi'n cyfrannu ar lawr y Senedd, bydd hynny'n help i ateb y pwyntiau pwysig mae Paul Davies wedi'u gwneud y prynhawn yma. Ac yn olaf, cwestiwn 8, Joel James. Datgarboneiddio Digidol Joel James MS: 8. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r angen am ddatgarboneiddio digidol? OQ58620 Mark Drakeford AC: Gall technolegau digidol gynorthwyo'r ymdrech angenrheidiol i ddatgarboneiddio Cymru yn sylweddol. Fodd bynnag, gall y weithred o ddefnyddio, ei hun, greu ôl troed carbon. Datgarboneiddio digidol cynaliadwy felly yw uchelgais strategaeth ddigidol Cymru. Joel James MS: Prif Weinidog, mae mwy na 60 y cant o'r data digidol y mae cwmnïau'n ei gynhyrchu yn cael ei gasglu, ei brosesu a'i storio at ddibenion untro yn unig. Gallai hyn gynnwys hen daenlenni, nifer o ddelweddau bron yr un fath, neu'r miloedd ar filoedd o e-byst heb eu darllen neu wedi'u storio na fydd byth, byth yn cael eu hystyried eto. Caiff y math hwn o ddata ei alw'n 'ddata tywyll' neu 'ddata anstrwythuredig'. Ar hyn o bryd mae'n cynhyrchu 2.5 y cant o'r holl allyriadau carbon deuocsid byd-eang sy'n cael eu hachosi gan bobl, sy'n fwy na chyfanswm y sector hedfan at ei gilydd ar 2.1 y cant. Yn bryderus, mae maint y data tywyll yn tyfu ar gyfradd o 62 y cant y flwyddyn, a rhagwelir y bydd y carbon deuocsid dilynol sy'n cael ei gynhyrchu yn cyfrif am fwy na'r sectorau hedfan, modurol ac ynni gyda'i gilydd mewn dim ond ychydig flynyddoedd. Mae polisi'r Llywodraeth ac arloesi technolegol yn canolbwyntio'n bennaf ar ymdrin ag allyriadau carbon traddodiadol a dal a storio carbon heb ymdrin â phroblem gynyddol data tywyll, ond rhan o weledigaeth ddigidol y Llywodraeth hon yw hyrwyddo ffyniant a chadernid economaidd drwy groesawu a manteisio ar arloesi digidol. Gyda hyn mewn golwg, Prif Weinidog, pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau bod cyrff cyhoeddus a chwmnïau preifat yng Nghymru yn rhoi dulliau ar waith i ymdrin â'r carbon deuocsid o ddata tywyll? Diolch. Mark Drakeford AC: Diolch i Joel James am y cwestiwn yna. Fel mae'n digwydd, oherwydd nid wyf i'n gwneud unrhyw honiadau fy mod i'n arbenigwr yn y maes hwn, roeddwn i'n trafod yr union fater yna gyda phrif swyddog digidol Cymru yn ddiweddar iawn. Rwy'n credu ei fod yn gwestiwn pwysig oherwydd mae'n amlygu mater sydd mewn rhai ffyrdd ond wedi dod i'r fei mewn dadl gyhoeddus yn ddiweddar iawn. O'r drafodaeth a gefais, fy nealltwriaeth i yw bod dau ateb posibl i'r pwynt y mae'r Aelod wedi'i wneud. Yn gyntaf oll, mae cyfrifoldeb ar y cwmnïau mawr hynny sy'n storio data, gan gynnwys data sy'n cael ei storio yn y cwmwl, i roi camau ar waith y gallen nhw eu cymryd eisoes i leihau storio data tywyll ac felly i leihau ei ôl carbon. Yn y dyfodol, nawr bod hwn yn fater sydd wedi dod i fwy o amlygrwydd a mwy o ddealltwriaeth, pan fydd contractau'n cael eu taro rhwng cyrff cyhoeddus a busnesau eraill gyda'r darparwr data, dylai rhan o'r trefniadau contract newydd hynny fod yn ffordd y gall storio data yn ofer na fydd byth yn cael ei ddefnyddio na'i weld eto ddod yn rhan o'r cytundeb sydd gennych chi gyda'r darparwr, fel bod y data hwnnw'n cael ei waredu mewn ffordd nad yw'n arwain at yr effeithiau niweidiol y mae Joel James wedi'u hamlygu y prynhawn yma. Diolch i'r Prif Weinidog. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Yr eitem nesaf yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Fe gaiff y Trefnydd wneud y datganiad hwnnw—Lesley Griffiths. Lesley Griffiths AC: Diolch, Llywydd. Mae tri newid i'r busnes yr wythnos hon. Mae'r datganiad ar yr oriel gelf gyfoes genedlaethol wedi ei dynnu'n ôl. Hefyd, mae'r drafodaeth ar adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg wedi'i gohirio tan 15 Tachwedd. Yn olaf, mae datganiad llafar ar gau pont Menai wedi'i ychwanegu fel yr eitem olaf ar agenda heddiw. Mae busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad busnes a'r cyhoeddiad, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i Aelodau yn electronig. Samuel Kurtz MS: Trefnydd, yr wythnos diwethaf, cefais i'r pleser o gyfarfod â Diabetes UK a'r Aelod Seneddol Syr James Duddridge i drafod y clefyd llai adnabyddus diabetes math 3c, rhywbeth y mae James a fy nhad yn dioddef ohono. I'r rhai yn y Siambr nad ydyn nhw'n ymwybodol, mae diagnosis math 3c yn digwydd pan fydd y pancreas nid yn unig yn stopio cynhyrchu inswlin ar gyfer y corff ond yn rhwystro cynhyrchu ensymau treuliol hefyd. Mae llu o gyflyrau eraill yn achosi hyn yn aml, fel pancreatitis, canser y pancreas, ffibrosis systig a haemochromatosis. Fodd bynnag, er gwaethaf ei achosion, yn aml mae'n cael camddiagnosis, gan amlaf fel diabetes math 2. Felly, o ystyried ei brinder a phwysigrwydd cael diagnosis cywir, a gaf i ofyn i'r Gweinidog iechyd, naill ai ar lafar neu mewn datganiad ysgrifenedig, wneud datganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i godi ymwybyddiaeth glinigol am ddiabetes math 3c a sut y mae modd cefnogi unigolion sy'n byw gyda'r cyflwr? Diolch, Llywydd. Lesley Griffiths AC: Diolch. Yn sicr, rwy'n credu eich bod chi wedi gwneud gwaith da iawn o ran codi ymwybyddiaeth o fath o ddiabetes anhysbys iawn. Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei lle ac wedi cytuno i ysgrifennu atoch chi am hyn. Peredur Owen Griffiths AS: Trefnydd, roedd y ffigyrau a gafodd eu rhoi i fy swyddfa yn amlygu'r problemau capasiti o fewn GIG Cymru. Mae ymddiriedolaeth ambiwlansys Cymru yn colli mwy na 2,000 awr y mis yn rheolaidd oherwydd ambiwlansys yn aros y tu allan i un ysbyty yn unig yn fy rhanbarth i. Mae'r ffaith mai'r ysbyty hwn yw ysbyty blaenllaw y Faenor hyd yn oed yn fwy problematig, gan fod hyn i fod i gyflwyno gwelliant mewn gwasanaethau iechyd i etholwyr. A all y Llywodraeth hon felly orchymyn adolygiad i faterion capasiti o fewn y GIG a'r sgil-effaith y mae hyn yn ei gael ar wasanaethau eraill a lles cleifion? Mae'r drefn bresennol yn methu cleifion, mae'n methu ysbytai ac mae'n methu staff ambiwlans. Gobeithio eich bod chi'n cytuno bod pethau'n annerbyniol ac na all pethau fynd ymlaen fel hyn. Lesley Griffiths AC: Diolch. Wel, mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn, ac yn sicr mae'n rhywbeth rwy'n meddwl ein bod ni wedi'i weld y tu allan i lawer o'n hysbytai yng Nghymru, sy'n rhywbeth nad ydym ni eisiau'i weld, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog wedi bod yn gweithio'n galed iawn gyda'r holl fyrddau iechyd i geisio gwella'r amseroedd y mae ambiwlansys yn aros y tu allan. Yn amlwg, mae hwn yn broblem gyda gallu yn ein hadrannau brys, ac, unwaith eto, rwy'n gwybod bod y Gweinidog wedi bod yn gweithio'n galed iawn i recriwtio mwy o ymgynghorwyr meddygol brys. Rwy'n gwybod, yn sicr, bod Betsi Cadwaladr, nad yw, rwy'n gwerthfawrogi, yn eich ardal chi, yn faes lle maen nhw wir wedi bod â phwyslais gwirioneddol. Huw Irranca-Davies AC: Rwy'n gofyn am un datganiad yn unig fel cyfrwng ar gyfer yr wybodaeth diweddaraf. Roedd gwir deimlad o optimistiaeth flwyddyn yn ôl, pan gamodd Llywodraeth Cymru i'r adwy o ran materion rhaglen arbed ynni cymunedol Caerau Arbed, gyda dros 100 o ddeiliaid tai—nid pob un drwy gynllun Cymru, mewn gwirionedd, y mwyafrif drwy raglen CESP Lloegr—wedi'u heffeithio'n ddwfn, a'u cartrefi a'u safon byw hefyd, mae'n rhaid i mi ddweud. Mae hi wir yn broblem. Ond fe gamodd Llywodraeth Cymru i'r adwy a dywedodd y byddai'n gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gyflwyno achos busnes a fyddai wedyn yn cael ei gymeradwyo a gallen ni fynd ati i wella cartrefi'r holl bobl hynny. Ond mae amser wedi mynd heibio; rwy'n credu ei bod hi'n wyth mis ers i'r achos busnes gael ei gyflwyno. Rwy'n gwybod bod yna 'nôl a blaen' wedi bod rhwng y cyngor a Llywodraeth Cymru yn mireinio'r peth, oherwydd yr wyf i wedi ysgrifennu o'r blaen. Mae Aelodau eraill yn y Senedd wedi codi'r mater yma hefyd. Ond mae angen datganiad, fel y gallwn ni roi'r sicrwydd i bobl bod hyn yn mynd yn ei flaen, er gwaethaf yr oedi, er gwaethaf mireinio, er gwaethaf gorfod cael yr holl fiwrocratiaeth wedi'i chymeradwyo, oherwydd mae'n swm anferth o arian yr ydym ni'n sôn amdano, ond rydym ni eisiau'i weld yn symud ymlaen. Felly, a oes unrhyw obaith y gallem ni gael datganiad o'r wybodaeth ddiweddaraf fel y bydd yr holl ddeiliaid tai hynny—dros 100 yng Nghaerau—yn gwybod y bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud o'r diwedd, ac yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach? Lesley Griffiths AC: Diolch. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog Newid Hinsawdd, sydd yn amlwg â chyfrifoldeb am y cynllun hwn, wedi ysgrifennu at y Cynghorydd Huw David, arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan ddiolch i'w swyddogion, yn enwedig, am eu hymgysylltiad parhaus gyda'i swyddogion wrth ddatblygu'r achos busnes manwl. Fel y dywedoch chi, cymeradwyodd y Gweinidog y cynllun mewn egwyddor, nôl ym mis Tachwedd diwethaf, felly mae bron i flwyddyn wedi bod, ac yn amlwg mae cyflwyniad wedi bod ers hynny o'r achos busnes manwl, ac rwy'n gwybod bod swyddogion y Gweinidog yn gweithio ar gyngor, a fydd yn cael ei roi i'r Gweinidog a hynny ar fin digwydd. Gareth Davies AS: A gaf i ofyn am ddatganiad brys gan y Gweinidog iechyd y prynhawn yma ar amseroedd aros yn ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan, gan fod Chelsea Clark o Meliden wedi cysylltu â mi dros nos, y mae ei nain wedi bod yn eistedd yn yr adran damweiniau ac achosion brys am 35 awr—35 awr mewn coridor budr gyda chlot gwaed yn ei choes, niwmonia, ac mae hi eisoes wedi cael sepsis a llid yr ymennydd, sydd wedi achosi clefyd yr arennau? Mae hwn yn achos byw, Trefnydd, sydd yn achosi llawer o drallod i'r claf a'i theulu, ac mae angen gwneud rhywbeth, gan ein bod ni'n gweld o achosion fel hyn yn rhy aml. Felly, hoffwn i gael datganiad brys gan Lywodraeth Cymru prynhawn yma yn manylu ar ba ddulliau maen nhw'n mynd i'w defnyddio i ddod â'r bwrdd iechyd i gyfrif ar y problemau hyn. A gan fethu hyn, a fydd Llywodraeth Cymru'n derbyn eu bod nhw wedi colli rheolaeth dros wasanaethau iechyd yn y gogledd yn llwyr? Mae angen atebion ar fy etholwyr i ac maen nhw eu hangen nhw arnyn nhw nawr. Lesley Griffiths AC: Wel, mae'r Aelod yn gwybod nad oes modd i ni wneud datganiad brys y prynhawn yma ar achos unigol gofidus iawn, ac mae'n ddrwg gennyf i nad yw'r Gweinidog yn y Siambr, ond byddaf i'n sicrhau ei bod hi'n clywed am yr achos unigol. Er na all hi wneud sylwadau ar achos penodol yn amlwg, byddwch chi'n ymwybodol iawn o'r gwaith arwyddocaol y mae'r Gweinidog yn ei wneud gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn enwedig ynghylch yr adran damweiniau ac achosion brys. Gwnes i sôn yn fy ateb cynharach i Peredur am y gwaith y mae hi wedi bod yn ei wneud i sicrhau ein bod ni'n gallu cael—[Torri ar draws.] Gadewch i'r Gweinidog—[Anghlywadwy.] Lesley Griffiths AC: —i wneud yn siŵr bod— Beth sy'n digwydd i fy meicroffon? Gadwch i'r Trefnydd fynd yn ei blaen. Rwy'n credu ei bod hi wedi fy nghlywed i. Lesley Griffiths AC: —i wneud yn siŵr bod gan ein prif ysbytai yn y gogledd yr ymgynghorwyr gofal brys sy'n ofynnol. Altaf Hussain AS: Gweinidog, fel clinigwr, rwy'n gwerthfawrogi'r pwysau enfawr ar y GIG, ar ein cleifion sy'n aros am driniaeth, ac ar ein staff, sydd wedi dangos y fath broffesiynoldeb yn wyneb heriau digynsail. Er fy mod i'n gwybod bod yn rhaid i ni ddatrys yr argyfwng tymor byr, mae angen i ni hefyd edrych i'r tymor hwy yn strategol a gyda phwrpas. Ym maes gofal canser, mae hyn yn hanfodol bwysig. Mae gan Loegr a'r Alban gynllun canser cenedlaethol, ac fe wnaeth Gogledd Iwerddon ymgynghori ar hyn fis Tachwedd diwethaf. Ar y llaw arall, Cymru yw'r unig genedl o'r DU nawr sydd heb gynllun canser. Rwy'n gwybod ei bod yn ddyletswydd arnoch, i'r rhai sydd angen gofal a thriniaeth ac i'r rhai sy'n darparu ein gwasanaethau, sefydlu strategaeth i nodi'r canlyniadau sydd eu hangen. A wnaiff y Gweinidog drefnu dadl yn amser y Llywodraeth i ganiatáu i'r Gweinidog nodi ei syniadau? Diolch. Lesley Griffiths AC: Yn sicr, fe wnaf i ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ystyried gwneud datganiad ar wasanaethau canser yng Nghymru. Rwy'n credu ei bod hi'n gwneud hynny bron bob blwyddyn, ond nid ydw i'n hollol siŵr lle yr ydym ni yn y cylch, ond yn sicr, fe wnaf i ofyn i'r Gweinidog—sydd newydd glywed eich cwestiwn—os yw hi'n barod i wneud hynny. Jane Dodds AS: Prynhawn da, Trefnydd. Mae'r sefyllfa ariannol benodol ar hyn o bryd yn golygu bod y rhai tlotaf yn ein cymdeithas yn mynd i ddioddef ergyd arbennig o galed ac mae'r rheiny sydd mewn dyled ar hyn o bryd yn mynd i ddioddef problemau penodol. Cafodd hyn ei amlygu mewn stori ar-lein gan y BBC a ganolbwyntiodd ar achos ofnadwy mam sengl a oedd yn gweithio fel gofalwr. Soniodd Julie am y cywilydd roedd hi'n ei deimlo. Soniodd hi am braw a wynebodd ei merch ifanc pan oedd beilïaid mewn arfwisg corff llawn yn curo ar y drws. Rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno na ddylai neb orfod byw fel hyn. Rydym yn gwybod mai Cymru sydd â'r gyfran uchaf o waharddiadau ariannol yn y DU ac mae angen i ni fod yn barod i ystyried atebion radical i ymdrin ag effeithiau dyled ar ein trigolion yma. Felly, mae hyn hefyd drwy ddilyniant. Roeddwn i'n falch iawn o fod yn rhan o'r pwyllgor cyfiawnder cymdeithasol a wnaeth argymell y dylai Cymru ystyried coelcerth ddyled. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar y pwnc hwn a'r wybodaeth ddiweddaraf ar y sefyllfa? Diolch yn fawr iawn. Lesley Griffiths AC: Diolch. Wel, rydym ni'n sicr yn gwybod, i lawer o bobl, y bydd yr argyfwng costau byw hwn yn eu gwthio dros y diben, yn anffodus, o ran eu cyllid, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi ystyried yr adroddiad yn ofalus iawn, a'i bod hi'n edrych—. Rwy'n gwybod mai un maes lle mae hi'n gwneud rhywfaint o waith yw dyled sy'n ddyledus i gredydwyr y sector cyhoeddus, er enghraifft, ac mae hynny'n cynnwys awdurdodau lleol, sy'n dod yn bryder cynyddol wrth i bobl wynebu'r argyfwng costau byw, ac mae swyddogion yn parhau i ymchwilio i'r cynnig am goelcerth ddyled. Fel Llywodraeth, rydym ni'n sicr yn gwneud popeth o fewn ein gallu ni i gefnogi ein trigolion o ran gallu manteisio ar gefnogaeth ariannol, a gwneud yr hyn y gallwn ni i helpu pobl gyda dyled a gyda'r argyfwng costau byw, a byddwch chi wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud yn ei ateb yn ystod ei sesiwn holi sut, fel Cabinet, bob wythnos mae gennym ni is-bwyllgor costau byw o'r Cabinet, lle mae gennym ni arbenigwyr yn dod i mewn i roi cyngor i ni ynglŷn â sut y gallwn ni fod yn fwy radical a beth arall y gallwn ni ei wneud i helpu pobl. Natasha Asghar AS: A gaf i ofyn am ddatganiad gan Weinidog yr Economi am ba waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hybu masnach cyn y Nadolig i'n busnesau canol trefi sy'n gweithio'n galed? Rwy'n credu'n gryf y dylem ni fod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu busnesau i ffynnu, nid dim ond goroesi, ledled Cymru, ac maen nhw'n wynebu pwysau costau byw cynyddol a pharhau i ymdrin â chanlyniadau'r pandemig coronafeirws. Yn fy rhanbarth i yn y de-ddwyrain, rwyf i wedi lansio menter newydd i roi hwb angenrheidiol i fusnesau yn ystod cyfnod yr ŵyl a chynyddu nifer yr ymwelwyr yng nghanol ein trefi. Rwyf i wedi ysgrifennu at holl arweinwyr yr holl awdurdodau lleol ar draws y de-ddwyrain, yn gofyn iddyn nhw gefnogi fy nghynigion a gweithio gyda mi i wireddu hyn. Fy nghynllun i yw gweld ffioedd parcio ceir yn cael eu dileu ym mhob maes parcio sy'n cael eu rheoli gan y cyngor drwy gydol mis Rhagfyr mewn ymgais i annog mwy o bobl i fynd allan wrth i gyfnod yr ŵyl agosáu. Bydd busnesau nid yn unig yn elwa o ganlyniad i barcio am ddim, ond byddai hefyd yn cyfrannu'n helaeth at helpu teuluoedd sy'n teimlo'r wasgfa ariannol. Mae llawer o ganol trefi ledled y DU wedi cyflwyno cynlluniau tebyg, sydd wedi bod yn hynod lwyddiannus, ac rwy'n gwerthfawrogi bod cyngor Mynwy yn wir wedi dechrau ar hyn hefyd. Felly, byddai unrhyw gefnogaeth y gall Llywodraeth Cymru ei roi i fy menter i'n cael ei werthfawrogi'n fawr, a byddwn i hefyd yn gwerthfawrogi pe bai Gweinidog yr economi yn gallu amlinellu sut yn union y mae'n gweithio gydag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill i helpu busnesau Cymru yn y cyfnod cyn y Nadolig. Lesley Griffiths AC: Diolch. Yn sicr, rwy'n credu y byddai'n werth i chi ysgrifennu at Weinidog yr Economi, gan amlinellu'r cynigion sydd wedi'u hawgrymu gennych chi, ac rwy'n gwybod ein bod ni wedi gwneud cryn dipyn o waith fel rhan o adfywio canol tref, yn enwedig yn y cyfnod cyn y Nadolig yn ystod y blynyddoedd blaenorol, i dynnu sylw at sut y gallan nhw gael mwy o ymwelwyr i ganol ein trefi, ac, yn amlwg, mae parcio am ddim yn un maes. Janet Finch-Saunders AC: Prynhawn da, Trefnydd. Hoffwn ddatganiad gan y Gweinidog Addysg am y ffaith bod angen cefnogaeth frys ar rai ysgolion cynradd i ymestyn eu ceginau a chyflogi mwy o staff i reoli'r polisi prydau ysgol am ddim. Yn wir, mewn ymateb i gwestiwn ysgrifenedig, gwnaeth y Gweinidog addysg fy nghyngori i, ac rwy'n dyfynnu, 'Bydd gwaith arall yn cael ei wneud yn ystod mis Hydref i ddeall a oes angen unrhyw waith uwchraddio ceginau ychwanegol i gyflawni camau nesaf prydau ysgol cynradd cyffredinol.' Yr oedd bryd hynny, fodd bynnag, yn methu 'cadarnhau nifer yr ysgolion cynradd yng Nghymru y mae angen uwchraddio eu ceginau.' Heb y staff sy'n cael eu cyflogi i weithio yng ngheginau ein hysgolion yn Aberconwy ac ar draws Cymru, nid yw darparu'r cynnig cyffredinol hwn yn mynd i fod yn bosibl. Gwnes i gyfarfod ag un o'r timau hynny—tîm cegin ysgol, y diwrnod o'r blaen—ac roedden nhw'n gweithio'n anhygoel o galed, ond maen nhw eu hunain nawr yn dechrau mynd i banig ynghylch sut maen nhw'n mynd i gymryd y polisi hwn a'i gyflawni'n gywir, gyda nifer y disgyblion mewn gwahanol ysgolion. Felly, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog? A wnaiff e' roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr ar ganlyniad y gwaith y mis hwn fel bod timau cegin ysgol eu hunain yn gallu darganfod a ydyn nhw'n mynd i fod yn derbyn yr help hwn? Ac, yn bennaf, cyllid hefyd maen nhw'n chwilio amdano. Diolch. Lesley Griffiths AC: Diolch. Yn amlwg, wrth i ni gyflwyno'r polisi hwn, bydd mwy o waith yn cael ei wneud gyda'n hysgolion, ac mae hynny eisoes yn digwydd. Fe wnaethoch chi sôn eich bod wedi cael ymateb gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg mewn perthynas â gwaith pellach oedd yn cael ei wneud yn ystod mis Hydref. Yn amlwg, rydym ni'n dal ym mis Hydref, felly byddwn yn gobeithio pan fydd ganddo'r wybodaeth honno wrth law, os yw'n teimlo bod angen iddo wneud diweddariad, y bydd yn gwneud hynny. Laura Anne Jones AC: Diolch, Gweinidog busnes. Hoffwn ofyn am ddatganiad, hefyd, gan y Gweinidog addysg yn datgan safbwynt y Llywodraeth ar yr elusen Mermaids a'u dylanwad ar ddeunydd addysgol yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae ymchwiliad ar y gweill gan y Comisiwn Elusennau ynghylch cydymffurfiaeth yr elusen, ac, y mis yma, mae'r Adran Addysg wedi dileu Mermaids fel adnodd iechyd meddwl a lles i ysgolion o ganlyniad i ymchwiliad sy'n parhau, difrifoldeb yr honiadau a'r angen i amddiffyn ein plant a'n pobl ifanc. A gaf i ofyn felly i'r Gweinidog Addysg am ddatganiad llafar neu ysgrifenedig yn amlinellu safbwynt Llywodraeth Cymru ynghylch Mermaids a'r pryderon yr amlinellais i? Diolch. Lesley Griffiths AC: Dydw i ddim yn ymwybodol o unrhyw waith sy'n cael ei wneud gan y sefydliad rydych chi'n cyfeirio ato, ond os yw hynny'n wir, fe wnaf ofyn i'r Gweinidog ysgrifennu at yr Aelod. Diolch i'r Trefnydd. 3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Fframwaith Imiwneiddio Cenedlaethol i Gymru Yr eitem nesaf, felly, yw datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y fframwaith imiwneiddio cenedlaethol, a dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad—Eluned Morgan. Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr. Heddiw, rydw i'n cyhoeddi ein fframwaith imiwneiddio cenedlaethol newydd. Mae brechu wedi bod yn rhan hanfodol o ddarpariaeth GIG Cymru i ddiogelu ein dinasyddion a'n cymunedau ers amser maith. Roedd y pandemig yn gofyn i ni feddwl yn wahanol am ddefnyddio brechiadau, yn enwedig yr angen i gael cynifer â phosib i'w cymryd ac i sicrhau tegwch. Mae'n rhaid i ni ddysgu'r gwersi hyn a'u cynnwys yn ein trefniadau yn y dyfodol, a thrwy'r fframwaith imiwneiddio cenedlaethol hwn y byddwn yn gwneud hynny. Mae arna i eisiau i'r fframwaith hwn alluogi newidiadau cadarnhaol i gyflawni a gwella trefniadau brechu a chynyddu'r niferoedd sy'n cael eu brechu ar draws ein holl raglenni brechu. Cafodd y rhaglen trawsnewid brechiadau ei sefydlu yn gynharach eleni i edrych ar ddarparu gwasanaethau brechu er mwyn sicrhau bod y trefniadau'n addas i'r dyfodol. Ym mis Gorffennaf, cyhoeddais strategaeth frechu'r gaeaf yn erbyn feirysau anadlol, a fraenarodd y tir ar gyfer rhaglen gyfunol i frechu yn erbyn COVID-19 a'r ffliw a lansiwyd ar 1 Medi. Mae'r rhaglen yn bwrw ymlaen yn dda, gyda'r ymgyrchoedd COVID-19 a'r ffliw bellach ar eu hanterth. Bydd pawb sy'n gymwys i gael pigiad atgyfnerthu COVID-19 yn cael gwahoddiad erbyn diwedd Tachwedd, a bydd y rhai sy'n gymwys i gael brechiad ffliw yn cael gwahoddiad erbyn diwedd Rhagfyr. Mae mor bwysig ein bod yn sicrhau bod cynifer â phosib yn cael y ddau frechlyn, ac rwy'n annog pawb i fynd i'w hapwyntiadau yr hydref hwn i amddiffyn eu hunain a'u teuluoedd. Er mor bwysig ydynt, yn enwedig yr adeg hon o'r flwyddyn, mae'r fframwaith hwn yn ymwneud â llawer mwy na brechu yn erbyn firysau anadlol; mae'n cynnwys ein holl raglenni brechu, gan gynnwys brechiadau plentyndod. A llwyddiant ac arfer da'r rhaglenni yma sydd wedi bod yn sylfaen i'r broses drawsnewid. Yn wir, fe wnaethant ddarparu sail i'n rhaglen frechu COVID-19 sy'n arwain y byd. Ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol imiwneiddio yng Nghymru yw bod cynifer â phosib yn cael brechlyn effeithiol mewn ffordd gynaliadwy ar yr adeg gywir i leihau salwch difrifol a marwolaeth. Mae arnom ni eisiau gweld gwasanaethau brechu sydd yn glir, lle mae pobl yn gwybod pa frechiadau y maent yn gymwys i'w cael, a sut i'w derbyn, gyda chynifer â phosib yn eu cael a thegwch yn y ffordd y gwneir hynny wrth galon dylunio a darparu gwasanaethau. Dyma'r fframwaith imiwneiddio cenedlaethol cyntaf i'w gyhoeddi ar gyfer Cymru, ac fe'i datblygwyd ar y cyd, gyda Llywodraeth Cymru a'r GIG yn gweithio fel un tîm i adnabod a defnyddio gwersi o'r pandemig i drosglwyddo i sefyllfa o well gweithredu rheolaidd ar gyfer pob rhaglen frechu. Bydd atebolrwydd y byrddau iechyd yn parhau heb newid, gyda byrddau yn asesu angen lleol, comisiynu, rheoli perfformiad a gwerthuso'r ddarpariaeth yn unol â'r cyfeiriad strategol cenedlaethol. Ein bwriad yw cefnogi hynny, galluogi gwelliannau ac i sicrhau bod cymaint â phosib o bobl yn manteisio i'r eithaf ar ddiogelu pawb yng Nghymru. Bydd gan fwrdd gweithredu'r GIG ran allweddol yn y gwaith o gynllunio a rheoli perfformiad rhaglenni brechu yn y dyfodol. Felly, mae'r fframwaith yn nodi chwe maes pwyslais allweddol, lle mae ein blaenoriaethau a'n disgwyliadau strategol yn cael eu gosod, a'r rhain yw tegwch brechu, brechu digidol, cymhwysedd, llythrennedd brechu cyhoeddus, rhoi a llywodraethu. Mae mwyafrif yr ymrwymiadau a amlinellir yn y fframwaith yn adeiladu ar arferion sydd wedi gweithio'n dda o'n profiad o raglen COVID-19 ac o hyblygrwydd hynny neu ar yr arferion gorau o raglenni presennol, hirsefydlog. Mae'r cyfan wedi'u nodi gan bartneriaid allweddol, gan gynnwys y rhai sy'n darparu gwasanaethau ar lawr gwlad. Rydym ni'n gwybod nad yw niwed iechyd yn sgil COVID-19 wedi effeithio ar bobl yng Nghymru yn yr un modd. Roedd angen cefnogaeth benodol i alluogi ac annog grwpiau sydd wedi'u hesgeuluso i fanteisio ar y cynnig o frechu. Bydd pobl o gymunedau anoddach eu cyrraedd yn dod ymlaen i gael eu brechu, sy'n awgrymu bod hygyrchedd yn hytrach nac argaeledd yn rhwystr allweddol. Mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni fynd i'r afael ag ef, a dyna pam rydym ni wedi rhoi tegwch o ran brechu wrth wraidd dull brechu Cymru a'r fframwaith hwn. Mae dealltwriaeth a diddordeb y cyhoedd yn hanfodol wrth gefnogi pobl i gael eu brechu, felly mae'r fframwaith yn canolbwyntio ar hyn. Mae'n cynnwys blaenoriaethau ar gyd-gynhyrchu deunyddiau i gleifion, strategaethau cyfathrebu ac ymgysylltu cadarn, a hyfforddiant i gynyddu ymwybyddiaeth o frechu ymhlith y gweithlu iechyd a gofal, a ffigyrau cymunedol a dibynadwy, fel y gallant eirioli dros frechu a gwneud i bob cyswllt gyfrif. Daeth Joyce Watson i’r Gadair. Eluned Morgan AC: Mae'r fframwaith yn ymrwymo i greu adnodd imiwneiddio craidd mewn byrddau iechyd. Mae'n newid strwythurau llywodraethu i sicrhau goruchwyliaeth a rheolaeth briodol ac integredig i'r holl raglenni brechu a llifoedd gwaith i drawsnewid y seilwaith digidol ar gyfer brechu, sy'n cynnig cyfleoedd enfawr i wasanaethau a dinasyddion. Ymrwymiad arall o bwys yn y fframwaith yw symud i broses gaffael ganolog ar gyfer brechlyn y ffliw. Rŷn ni wedi gweld lefelau digynsail yn manteisio ar y brechlyn yn ein rhaglen COVID-19. Dwi'n derbyn bod hyn yn rhannol oherwydd y cyd-destun, ond mae peth o'r diolch hefyd i'r ffordd y mae'r system wedi meithrin cysylltiadau a chynnwys grwpiau sydd wedi bod yn anodd eu cynnwys yn y gorffennol.Dwi am i'r pwyslais hwn ar ddiogelu iechyd gael ei ddefnyddio yn y rhaglen ffliw yn y dyfodol hefyd. Gallwn ni ddim disgwyl i ddarparwyr gofal sylfaenol ysgwyddo'r risg o archebu mwy o'r brechlyn. Rŷn ni'n cydnabod bod yn rhaid cadw'r risg hon ar lefel genedlaethol, felly rŷn ni'n archwilio sut allwn ni symud at fodel caffael cenedlaethol o 2024 ymlaen. Bydd darparwyr gofal sylfaenol, gan gynnwys fferyllfeydd cymunedol, yn dal i chwarae rhan bwysig iawn wrth ddarparu brechlyn y ffliw a rhaglenni brechu eraill ar ôl 2024. Maen nhw'n elfen hollbwysig o'r opsiynau y dylid eu rhoi i ddinasyddion er mwyn sicrhau bod y nifer mwyaf posibl o bobl yn manteisio ar y brechlynnau.Rŷn ni'n gweithio'n agos gyda phawb sy'n rhan o'r gwaith hwn i roi'r newidiadau ar waith. Mae cyhoeddi’r fframwaith imiwneiddio cenedlaethol yn garreg filltir allweddol sy'n dangos ein bod wedi symud i gyfnod gweithredu'r rhaglen drawsnewid frechu. Rŷn ni'n disgwyl y bydd y broses o bontio i'r trefniadau newydd yn digwydd yn ystod 2023 a 2024. Drwy gydol y cyfnod gweithredu, bydd y rhaglenni presennol yn parhau i gael eu cyflawni'n effeithiol, a bydd ein trefniadau llywodraethu yn adlewyrchu hyn. Uned gyflawni'r gwasanaethau iechyd fydd yn goruchwylio'r gwaith gweithredu, a bydd yr uned yn dod yn rhan o waith gweithredu'r gwasanaeth iechyd yn 2023, gyda Llywodraeth Cymru yn symud i rôl oruchwylio. Rŷn ni wedi ymrwymo i barhau i weithio ar y cyd yn ystod y cyfnod gweithredu, a'r bwriad yw cyhoeddi diweddariad yn 2023 i roi gwybod am y cynnydd sy'n digwydd o ran y newidiadau a'r ymrwymiadau sydd wedi'u nodi yn y fframwaith imiwneiddio cenedlaethol. Diolch. Russell George AC: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw? Rwy'n gwybod bod y Prif Weinidog a chi wedi datgan droeon trwy gydol y pandemig y byddai'r wyddoniaeth yn arwain eich Llywodraeth. Rwy'n cytuno, wrth gwrs, gyda'r dull hwnnw hefyd, a sefydlodd y Llywodraeth y gell gynghori dechnegol sydd hefyd wedi derbyn argymhellion y cyd-bwyllgor ar imiwneiddio a brechu, o ran pa grwpiau ddylai gael brechiadau COVID. Nawr, yn eich fframwaith, rydych yn nodi eich bod yn cael eich tywys gan gyngor y cyd-bwyllgor, ond mae'r fframwaith hefyd yn mynd ymlaen i ddweud, 'Wedi dweud hynny, hyd yn oed mewn rhaglenni sydd fel arferyn sefydlog, bydd angen ymateb brys a chyflym weithiau'. Felly dim ond eisiau gofyn oeddwn i beth mae hyn yn ei olygu yng nghyd-destun pryd rydych chi'n aros am gyngor gan y cyd-bwyllgor. Wrth gwrs, mae'r cyd-bwyllgor yn sefydliad hynod bwysig, sy'n cynnwys clinigwyr ac arbenigwyr ar draws y DU, ac asiantaeth diogelwch iechyd y DU. Mae hefyd yn rhoi argymhellion i holl awdurdodau iechyd y DU ar frechiadau eraill, nid dim ond COVID-19. Felly dim ond ceisio gofyn i chi ydw i pa ddyfodol ydych chi'n gweld sydd i'r cyd-bwyllgor, er enghraifft, a gaiff ei swyddogaeth ei gryfhau, neu ydych chi'n cymryd safbwynt gwahanol? Darllenais hefyd gyda diddordeb, Gweinidog, yr adran ar frechu'n ddigidol, ac mae'n nodi eich bod wedi comisiynu Iechyd a Gofal Digidol Cymru—Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru gynt—i adolygu'r holl systemau brechu, ond eich bod yn chwilio am atebion tymor byrrach. Felly, rwy'n ymwybodol bod y system imiwneiddio Gymreig bresennol wedi'i sefydlu yn ystod y pandemig i gofnodi a rheoli darparu brechlynnau COVID, ond rwyf hefyd wedi cael gwybod bod y gwasanaeth gwybodeg, neu y gall fod, yn feichus ac yn anhyblyg, felly efallai y gallech roi barn ar hynny. Ond, er y bu'r system, efallai, yn ddigonol i gofnodi brechlynnau COVID a drefnwyd ymlaen llaw, rwy'n dyfalu efallai na fydd y system yn debygol o fod yn briodol yn ei ffurf bresennol i gofnodi brechlynnau ffliw a brechiadau eraill y gallai fod eu hangen ar gleifion. Felly tybed, Gweinidog, p'un ai, felly, rydych chi'n disgwyl i'r gwasanaeth gwybodeg ddod y brif system TG ar gyfer rheoli a chofnodi brechlynnau yn y dyfodol, ac os felly, sut ydych chi'n bwriadu gwella'r system fel ei bod yn fwy hyblyg, llai biwrocrataidd a symlach i'w defnyddio? Byddai diweddariad cyflym ynghylch brechiadau ffliw a COVID ymhlith gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn cael ei werthfawrogi. Rwy'n gwybod eich bod chi, neu rwy'n credu bod eich swyddogion, wedi ysgrifennu at fyrddau iechyd yn hynny o beth, felly byddai diweddariad ar hynny'n cael ei werthfawrogi. Ac yn olaf, Gweinidog, darllenais gyda hyfrydwch eich bod wedi sôn am ddefnyddio ap hir-ddisgwyliedig GIG Cymru yn y fframwaith, ond does dim gwybodaeth ynglŷn â phryd y bydd hyn yn digwydd. Fydd hyn cyn y gaeaf, o fewn y chwe mis nesaf, y flwyddyn nesaf? Rydym yn aros am rywbeth a fydd yn chwyldroi mynediad cleifion i apwyntiadau, presgripsiynau a mwy, felly allwch chi gadarnhau pryd y cyflwynir hynny? Diolch, Gweinidog. Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr, Russell. Rydym ni, trwy gydol y pandemig, wedi bod yn dilyn cyngor y cyd-bwyllgor ar imiwneiddio a brechu, sydd, fel y gwyddoch chi, wedi'i ymgorffori mewn gwyddoniaeth a dull gweithredu clinigol, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Yn amlwg, os oes adegau pan fydd angen i ni weithio ar gyflymder, maen nhw hefyd wedi dangos, yn ystod y pandemig, y gallan nhw hefyd weithio ar gyflymder. Rwy'n credu y byddai'n rhaid i ni gael rheswm eithaf da i gefnu ar gyngor y cyd-bwyllgor, felly yn sicr dyna'r model rydym ni wedi'i ddilyn hyd yn hyn. O ran brechu digidol, byddwn ni'n datblygu taith frechu ddigidol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, a bydd hynny'n cynnwys cofnod brechu integredig, cydsyniad digidol ac ymarferoldeb archebu a chyfathrebu a chofnodi gwell. Felly, fel rydych chi wedi ei nodi, mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn mynd i adolygu'r holl systemau brechu. Ar hyn o bryd, dydyn nhw ddim yn cyfathrebu â'i gilydd, felly mae rhyngweithrededd yn gwbl allweddol, a dyna beth maen nhw'n gweithio i'w wneud. Felly, wrth feddwl am atebion digidol tymor hir, bydd angen i ni gael rhai atebion tymor byrrach i wneud gwelliannau ar unwaith. Mae cynlluniau gwella digidol presennol a fydd yn cysylltu â phethau fel ein portffolio trawsnewid meddyginiaethau digidol, yr adnodd data cenedlaethol a'r gwasanaethau digidol i gleifion a rhaglen gyhoeddus. Mae ap GIG Cymru—. Iawn, rwy'n mynd i ddweud wrthych chi'n dawel, Russell. Mewn gwirionedd mae'n cael ei brofi ar hyn o bryd; mae wedi cael ei brofi. Yr hyn mae arnom ni eisiau ei wneud yw sicrhau ei fod yn gweithio a bod y swyddogaeth yn gweithio. Mae'n rhaid cael tri mater allweddol iawn sy'n gwneud iddo weithio'n dda. Un yw bod angen i'r darnau technegol weithio'n dda. Yr ail yw eich bod angen i'r claf allu ei ddefnyddio, ac felly gwneud yn siŵr ei bod yn broses syml iawn y gall pawb ei ddefnyddio. A'r trydydd yw bod angen, er enghraifft, i feddygon teulu i allu cysylltu ag ef. Felly, mae hynny'n cael ei brofi ar hyn o bryd mewn gweithrediad byw go iawn; mae 1,000 o bobl yn ei ddefnyddio wrth i ni siarad. Felly, mae pethau'n dod yn eu blaen, ond yr hyn nad ydw i eisiau ei wneud yw lansio rhywbeth, fel y gwnaethon nhw yn Lloegr, y mae'r holl feddygon teulu wedyn yn ei ddiffodd oherwydd ei fod yn rhy llethol. Dim ond ceisio sicrhau ydym ni ein bod ni'n ystyried pethau a ddim yn ei lansio'n ffurfiol nes ein bod ni'n hollol sicr bod y peth yn mynd i weithio. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch am y datganiad. Dwi'n eiddgar, wrth gwrs, i gadarnhau cefnogaeth frwd y meinciau yma i raglenni brechu yn gyffredinol a'u cyfraniad nhw at iechyd y genedl. Mewn ffordd, mae'n od, tra'n croesawu'r fframwaith newydd, nad oedd gennym ni fframwaith ynghynt, mor bwysig ydy brechu fel rhan o'r tirwedd iechyd yng Nghymru. Ond, wrth gwrs, rydyn ni wedi bod drwy gyfnod lle mae yna fwy o sylw wedi cael ei roi i frechiadau nag ar unrhyw gyfnod yn ein hanes ni, debyg iawn, efo'r pandemig. Un cwestiwn ar raglen frechu'r pandemig. Mae'r Llywodraeth yn dweud bod rhaglen booster yr hydref yn mynd yn iawn, ond mae'r ffigurau yn awgrymu bod yr uptake yn llai nag y mae o wedi bod, yn enwedig pobl immunosuppressed. Tybed all y Gweinidog ymchwilio, neu roi ymrwymiad i ymchwilio i pam fod yr uptakewedi bod, mae'n ymddangos, gymaint llai yr hydref yma. Ond yn ôl at y datganiad yn gyffredinol, dwi'n meddwl bod y chwe maes ffocws yn y fframwaith yn synhwyrol. Dwi'n croesawu'n arbennig, mae'n rhaid dweud, y sylw sydd yna ar anelu am system lle mae pawb yn gyfartal, lle mae pawb yn cael mynediad cyfartal at frechiadau, achos ar hyn o bryd, fel mae'r Gweinidog wedi'i ddweud, nid dyna yr achos. Dwi am roi sylw i un peth yn benodol yn fan hyn. Mae'r datganiad yn cyfeirio at y bwriad i greu system gaffael ganolog ar gyfer brechiad y ffliw o 2024 ymlaen. Ar hyn o bryd, wrth gwrs, mae meddygfeydd yn caffael brechiadau eu hunain yn uniongyrchol gan gyflenwyr. Mae'r Alban wedi dweud yn barod eu bod nhw'n troi at system gaffael ganolog, lle mae'r byrddau iechyd yn prynu'r holl frechlynnau ac yn eu dosbarthu nhw yn lleol. Rŵan, tra bod yna fanteision, dwi'n meddwl, i symud i system ganolog fel hynar gyfer yr hirdymor, mae'n bwysig, dwi'n meddwl, ar y pwynt cynnar yma yn y trafodaethau, i gadw mewn golwg yr heriau sy'n debyg iawn o godi, ac rydyn ni'n gwybod hynny o brofiad yr Alban. Pan wnaeth yr Alban gyflwyno'r system, mi wnaethon nhw sylweddoli (1) y byddai hi'n cymryd cyfnod o bosib tair blynedd i gyflwyno system fel hyn, ond (2) y byddai fo'n cael effaith negyddol ar y fferyllfeydd—ar y meddygfeydd, sori. Mi oedd angen ymateb i'r ansicrwydd yna; beth wnaethon nhw, fel Llywodraeth yr Alban, oedd rhoi £5 miliwn yn ychwanegol i wneud yn siŵr bod y broses nid yn unig yn cyflymu, yn digwydd yn effeithiol, ond, yn fwy na hynny, yn digolledi meddygfeydd yn ystod y cyfnod cychwynnol yna. Felly, gaf i ofyn a wnaiff y Gweinidog roi ymrwymiad i gydweithio'n agos iawn â meddygon a meddygfeydd i chwilio am ffyrdd o liniaru'r effeithiau negyddol posib yna, os bydd hwn yn cael ei gyflwyno? A hefyd a wnaiff hi gytuno i ystyried dilyn esiampl yr Alban a chynnig cymorth ariannol penodol lle bo angen gwneud hynny? Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr. Wel, jest o ran y booster, felly, dwi'n falch o ddweud, ar yr ail ar bymtheg o'r mis yma, roedd 471,488 o bobl wedi cael y booster. Mae targed gyda ni o 75 y cant. Dwi'n falch o ddweud, os ydych chi mewn cartref gofal, rŷn ni lan at 74 y cant eisoes. Felly, mae hwnna ymhell o flaen ein targed ni. Rŷn ni yn poeni rhywfaint am staff sy'n gweithio mewn cartrefi gofal a staff yn y byrddau iechyd, felly dwi'n gwybod bod chief executive yr NHS wedi ysgrifennu nawr at y byrddau iechyd i ofyn iddyn nhw roi tipyn bach mwy o ymdrech i gael staff. Dwi'n gwybod eu bod nhw wedi blino a'u bod nhw'n gwneud ymdrech fawr, ac efallai mai pwysau gwaith sydd wedi'u stopio nhw rhag gwneud hynny, ond mae yn bwysig iddyn nhw ddiogelu eu hunain wrth inni fynd i mewn i beth rŷn ni'n gwybod fydd yn aeaf caled. Rŷch chi'n iawn ynglŷn â'r grŵp risg yna: felly, rŷn ni'n edrych ar tua 7 y cant o bobl o bump i 49, ond dyw'r ffocws ddim wedi bod ar hynny eto; rŷn ni yn ei gwneud hi mewn trefn blaenoriaeth, a dyna pam rŷn ni wedi sicrhau ein bod ni'n canolbwyntio'n gyntaf ar y cartrefi gofal yna. O ran y system caffael cenedlaethol, yn amlwg dyw hwn ddim yn mynd i ddigwydd yfory, ond mae hyd yn oed beth sydd wedi digwydd eleni, lle rŷn ni wedi gweld GPs, er enghraifft, yn prynu'r y flu vaccine—dydyn nhw ddim wedi ordro digon ac rŷn ni wedi gorfod camu mewn fel Llywodraeth. Felly, eisoes, rŷn ni'n camu i mewn, ac, wrth gwrs, mae hwnna'n golygu bod arian ychwanegol yn mynd mewn. Ond, os ydych chi'n mynd i system caffael cenedlaethol, rŷch chi'n fwy tebygol o gael gwell dêl hefyd, felly dwi yn gobeithio y bydd hwnna'n gwneud gwahaniaeth. Joyce Watson AC: Diolch i chi. 4. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Banc Datblygu Cymru—Buddsoddi Uchelgeisiol Joyce Watson AC: Fe symudwn ni ymlaen nawr at eitem 4, sef datganiad gan Weinidog yr Economi, Banc Datblygu Cymru—Buddsoddi Uchelgeisiol. Rwy'n galw ar y Gweinidog, Vaughan Gething. Vaughan Gething AC: Diolch i chi, Llywydd dros dro. Rwy'n gwybod bod busnesau a gweithwyr yn ymgodymu o'r newydd ag ysgytwadau gwirioneddol unwaith eto. Yn dilyn llawer o drafodaethau a gefais i gyda busnesau yn ystod yr wythnosau diwethaf, rwy'n cydnabod yr anawsterau aruthrol y maen nhw'n eu hwynebu. Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw amheuaeth ynghylch difrifoldeb y sefyllfa. Mae ein heconomi ni'n fwy dibynnol ar fusnesau bach, felly fe fydd y risgiau y maen nhw'n eu hwynebu yn sicr o ergydio ein cymunedau ni'n anghymesur. Mae llawer o fusnesau bach yn anadl einioes i'n cymunedau ni ac yn cynnig man cyfarfod i bobl, gan lunio rhan o gymeriad y cymdogaethau ledled Cymru. Yn oes datganoli, rwy'n falch ein bod ni wedi cydweithio i estyn cefnogaeth sy'n ymateb i fusnesau bach a chanolig. Rwy'n gwybod bod y Banc Datblygu â rhan ragweithiol wrth hwyluso cymorth i fusnesau. Cafodd hynny ei fynegi yn hyglyw ac eglur yn ein huwchgynhadledd economaidd ni'n ddiweddar. Fe geir safbwyntiau amrywiol wrth gwrs o ran ein dull ni o sicrhau economi gryfach yng Nghymru yn y tymor byr a'r tymor hir, ond mae pob un ohonom ni'n awyddus i feithrin amgylchedd sy'n rhoi mwy o gydnerthedd i ni. Yn fy marn i, mae hynny'n golygu economi lle ceir sgiliau ac amddiffyniadau sy'n rhoi diogelwch i bobl drwy'r cyfnodau anodd sydd i ddod. Vaughan Gething AC: Nawr, mae gan Gymru gydnerthedd cynhenid. Mae busnesau Cymru wedi camu i'r adwy ac wedi datblygu gallu rhyfeddol i addasu i'r heriau anoddaf. Yr ysbryd hwn sydd wedi cynnal cymaint o fusnesau yn ystod ansicrwydd y cyfnod diweddar. Yn gwrthgyferbynu yn llwyr â Llywodraeth y DU, mae gan Gymru Lywodraeth sefydlog, aeddfed yn ogystal â rhwydwaith o bartneriaid cymdeithasol sy'n ein helpu i wneud y penderfyniadau cywir. Roedd yr uwchgynhadledd yn gynharach y mis hwn yn enghraifft ardderchog o dîm Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i feintioli problemau a chynnig datrysiadau. Fe fyddaf i'n cwrdd â rhanddeiliaid allweddol unwaith yn rhagor ar ddechrau mis Tachwedd i gael eu hadborth nhw ynglŷn ag ymdrechion Llywodraeth y DU i sefydlogi'r economi yn dilyn y gyllideb Calan Gaeaf. Y gobaith yw y gallwn ni asesu gyda mwy o sicrwydd wedyn o ran yr ystod o gymorth sydd ei angen yma yng Nghymru a'r ysgogiadau ymarferol sydd ar gael i ni os bydd Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen ac yn torri cyllideb Llywodraeth Cymru eto. Ond, heddiw, fe hoffwn i nodi pum mlynedd ers sefydlu Banc Datblygu Cymru, banc datblygu rhanbarthol cyntaf y DU, a sôn am fy uchelgeisiau ar gyfer ei ddyfodol. Mae'r banc datblygu wedi tyfu i reoli arian gyda chyfanswm o tua £2 biliwn, ac wrth wneud hynny mae wedi dod yn rhan allweddol o'r ecosystem datblygu economaidd a chyllid yma yng Nghymru. Mae'r banc â rhan ganolog wrth ariannu busnesau sydd â chynlluniau busnes cadarn ond sy'n ei chael hi'n anodd cael gafael ar gyllid o'r farchnad. Mae'n gwneud hyn drwy weithio law yn llaw yn gyfochrog â'r cyngor a'r cymorth sy'n cael eu darparu gan Busnes Cymru a thrwy gysylltiadau clos iawn â banciau prif ffrwd a chyd-fuddsoddwyr eraill, lle mae'n llunio rhan yn unig o'r pecyn buddsoddiad yn ei gyfanrwydd. Drwy fynd i'r afael â bylchau yn y farchnad, mae'r banc yn caniatáu i fusnesau gael gafael ar y cyllid sydd ei angen arnyn nhw. Dros bum mlynedd gyntaf ei fodolaeth, mae'r banc wedi rhagori ar nodau buddsoddi, gan gyflawni effaith economaidd o £1.2 biliwn. Fe gyrhaeddodd buddsoddiad cyffredinol o ran dyled ac ecwiti £110 miliwn yn 2021-22 yn ôl bwriad, a bennwyd yn ôl yn 2017, i gyrraedd £80 miliwn erbyn y flwyddyn honno. O ganlyniad i benderfyniad Llywodraeth y DU i gymryd rheolaeth uniongyrchol ar y rhaglenni a addawyd yn lle'r rhaglenni a oedd yn cael eu hariannu gan yr UE, mae'r dirwedd ariannu yn llawer mwy cymhleth erbyn hyn nag yr oedd hi bum mlynedd yn ôl. Mae'r ffaith bod ein banc datblygu ein hunain sydd â digon o gyfalaf gennym ni nawr yma yng Nghymru yn golygu y gallwn ni gynnal y gallu a'r sefydlogrwydd i helpu i ysgogi datblygiad economaidd. Wrth gynllunio ar gyfer y pum mlynedd nesaf, rydym ni wedi ystyried y dirwedd newidiol hon o ran ariannu, sy'n cynnwys arian newydd gan brifddinas-ranbarth Caerdydd a Banc Busnes Prydain. Gyda'i gilydd, mae hi'n bosibl y bydd yr arian hwn yn dod â thua £35 miliwn y flwyddyn o gyfalaf ychwanegol i Gymru. Mae hwnnw'n ddatblygiad i'w groesawu, a fydd, o'i gyfuno â'r buddsoddiadau blynyddol a fwriedir gan y banc datblygu, sydd am godi i dros £120 miliwn y flwyddyn dros yr un cyfnod, yn helpu i sicrhau y bydd mwy o fusnesau yng Nghymru yn gallu manteisio ar gyllid. Fe fydd y banc datblygu yn cydweithio yn glos â nhw i sicrhau bod eu buddsoddiad oddi wrth brifddinas-ranbarth Caerdydd a Banc Busnes Prydain yn ategu ei gilydd ac yn cefnogi busnesau ledled ein cenedl ni. Yn ein rhaglen lywodraethu ni, rydym ni'n amlinellu ein huchelgais i gynyddu'r defnydd o gyfran ecwiti mewn cymorth busnes. Fe all buddsoddi ecwiti gefnogi busnesau arloesol sydd â thwf dichonadwy, gan greu swyddi o werth mawr a rhoi hwb i allforion. Mae cyfran ecwiti nid yn unig yn dod ag adnodd y cyllid ond ag arbenigedd i fusnesau hefyd, ac fe all fod yn gatalydd pwerus ar gyfer twf economaidd hirdymor. Hyd yn hyn, mae ein banc datblygu ni wedi buddsoddi £78 miliwn o ecwiti mewn busnesau yng Nghymru, sydd, ochr yn ochr â buddsoddwyr eraill, wedi eu helpu i godi dros £200 miliwn. Rwyf i wedi rhoi gorchwyl i'r banc datblygu i anelu at nod o £100 miliwn o leiaf o ran cyfanswm buddsoddi ecwiti, a all, ochr yn ochr â chyd-fuddsoddi'r sector preifat, gyflawni dros £250 miliwn o gyfalaf i fusnesau arloesol—chwistrelliad o gyfalaf a fydd yn helpu i greu swyddi newydd, ehangu sectorau twf newydd yn ein heconomi, a helpu i ddiogelu safle Cymru i'r dyfodol. Bydd y buddsoddiad ecwiti newydd hwn yn cael ei gyfeirio yn fwy uniongyrchol eto hyd yn oed, gyda chefnogaeth arall gan Lywodraeth Cymru, o gyngor busnes hyd gymorth arloesi, sy'n ei wneud yn gynnig cyflawn a'r gorau o'r fath. Wrth symud ymlaen, fe fydd gan fusnesau sy'n cael buddsoddiad ecwiti gefnogaeth ddigyffelyb ar hyd eu taith fuddsoddi. Rydym ni o'r farn y bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth o ran cefnogi cwmnïau technoleg newydd cyffrous i fynd â'u cynnyrch o fod yn gysyniad cynnar hyd at ei farchnata, a rhoi cymorth i fusnesau uchelgeisiol i anelu at fod â thwf cryf, a thimau rheoli sy'n awyddus i brynu busnesau presennol a'u cadw nhw yn eiddo Cymru. Ac yn wir, dim ond amser cinio heddiw, cyn bod yn bresennol yng nghwestiynau'r Prif Weinidog, bûm mewn digwyddiad dan gadeiryddiaeth Huw Irranca-Davies gyda'r Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol. Ac i'r rhai sydd â diddordeb, roedd Huw Lewis yn bresennol hefyd, gynt o'r parthau hyn, yn ei swydd newydd ef. O bryder uniongyrchol i fusnesau yw'r heriau sy'n cael eu hachosi gan gostau cynyddol am ddeunyddiau, cyflogau ac, wrth gwrs, ynni. I helpu busnesau, fe fydd y banc datblygu yn parhau i gynnig hyblygrwydd i'w cwsmeriaid nhw drwy ymataliad a gwyliau ad-dalu lle bo hynny'n briodol. Er bod cyfraddau llog ar fenthyciadau'r banc datblygu wedi cael eu pennu wrth eu rhoi nhw—mae hynny'n amddiffyn y cwsmeriaid hyn rhag yr anwadalwch presennol—rydym ni'n gwybod hefyd nad y cyfraddau yw'r unig fater, ac fe all busnesau fod â ffydd fod y banc wedi ymrwymo i weithio gyda nhw drwy'r cyfnod anodd hwn. Mae gan y banc datblygu swyddogaeth bwysig wrth gefnogi pontio busnes ar egwyddor 'buddsoddi i arbed' ac mae cyllid ganddo ar waith eisoes i gefnogi busnesau ar eu taith hyd at sero net. Ar hyn o bryd, mae'r banc yn datblygu cynllun newydd yn gyflym a fydd yn caniatáu i fusnesau ymgymryd â benthyca i ariannu buddsoddiad cyfalaf sy'n darparu ar gyfer datgarboneiddio. Ei nod fydd cynnig telerau ad-dalu sy'n fwy hyblyg, cyfraddau llog deniadol a chymorth fel arall, megis cymorth tuag at gostau ymgynghori, yn rhan o'r cynnig hwn i alluogi busnesau i fanteisio ar y lwfansau cyfalaf hael presennol a sicrhau eu bod nhw â ffydd fod y technolegau a'r datrysiadau sy'n cael eu mabwysiadu yn addas ar eu cyfer nhw. Rwy'n gofyn i'r banc datblygu wneud popeth yn ei allu i gyflymu ei gynlluniau er mwyn i'r gwaith cyflenwi ddechrau eleni, gan sicrhau buddugoliaeth ddwbl i fusnesau cymwys drwy eu helpu nhw i dorri costau ynni'r dyfodol a symud ymlaen â'n huchelgais gyffredin ni o ran datgarboneiddio. Mae Banc Datblygu Cymru yn ased i'r genedl. Mae'n parhau i helpu busnesau ledled Cymru i oroesi, tyfu a ffynnu. Rwy'n falch o'r hyn a gyflawnodd hyd yn hyn ac mae gennyf i ffydd yn y cynlluniau sydd ganddo i gyflawni fy uchelgeisiau i o ran dyfodol yr economi yng Nghymru. Paul Davies AC: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad ef y prynhawn yma a llongyfarch y banc datblygu ar gyrraedd ei ben-blwyddyn bump oed? Nawr, mae Banc Datblygu Cymru wedi bod yn agored iawn i graffu gan Bwyllgor yr Economi, Masnach, a Materion Gwledig, ac rwy'n gwybod bod yr Aelodau yn croesawu'r gallu i holi'r tîm ynglŷn â'i fuddsoddiadau a'i gynnydd. Nawr, mae'r datganiad heddiw yn briodol yn cydnabod bod economi Cymru yn dibynnu mwy ar fusnesau bach, ac felly mae hi'n hollbwysig bod y banc datblygu yn ymestyn at fentrau bach a chanolig ac yn cynnig cefnogaeth. Mae'r Gweinidog wedi dweud bod y banc datblygu â swyddogaeth ragweithiol wrth hwyluso cymorth i fusnesau, ond nid yw yn dweud yn iawn wrthym ni sut mae'r gwaith hwnnw'n digwydd, ac felly efallai y gallai'r Gweinidog ddweud wrthym ni sut yn union y mae'r banc datblygu yn gweithio gyda busnesau bach yn benodol, o ystyried yr hinsawdd ariannol bresennol. Mae datganiad heddiw yn tynnu sylw at waith da iawn gan y banc datblygu. Mae hi'n wych clywed ei fod wedi buddsoddi £78 miliwn o ecwiti i fusnesau yng Nghymru. Wrth gwrs, mae angen i ni sicrhau bod yr arian yn mynd i fusnesau ym mhob rhan o Gymru, ac felly fe allai'r Gweinidog ddweud mwy wrthym ni efallai ynglŷn â sut mae Llywodraeth Cymru am sicrhau bod y banc yn codi ymwybyddiaeth o'i wasanaethau i fusnesau ym mhob cwr o'r wlad. Mae'r Gweinidog wedi rhoi nod i'r banc o gyfanswm o £100 miliwn o ran buddsoddi ecwiti, sydd, ochr yn ochr â chyd-fuddsoddiad y sector preifat, yn gallu darparu dros £250 miliwn o gyfalaf i fusnesau. Fe fydd gweithio gyda chyd-fuddsoddwyr yn hanfodol os yw'r banc yn dymuno i'w fuddsoddiad mewn busnesau yng Nghymru fod â'r effaith fwyaf. Wrth gwrs, ar gyfer gwneud hynny, mae'n rhaid i'r banc barhau i annog y sector preifat i fuddsoddi ochr yn ochr ag ef ei hun, ac felly efallai y gall y Gweinidog ddweud mwy wrthym ni am y gwaith sy'n cael ei wneud i gynyddu'r cyd-fuddsoddiad hwnnw. Nawr, rydym ni'n gwybod am effaith aruthrol pandemig COVID ar fusnesau yng Nghymru, ac mae gan y banc datblygu swyddogaeth bwysig o ran cefnogi adferiad economaidd a chefnogi busnesau. Mae hi'n hanfodol nad yw dull sy'n trin pawb yr un fath trwy'r amser yn cael ei fabwysiadu gan y banc, ac rwy'n falch o glywed y Gweinidog yn siarad am gynnig hyblygrwydd i'w gwsmeriaid trwy ataliad a gwyliau ad-dalu. Mae datganiad heddiw yn cydnabod yr heriau oherwydd costau cynyddol am ddeunyddiau, cyflogau ac, wrth gwrs, ynni y mae busnesau yn eu hwynebu ac felly efallai gall y Gweinidog ddweud ychydig mwy wrthym ni ynglŷn â sut y gall y banc roi cefnogaeth wedi'i theilwra ar gyfer busnesau o ran yr heriau penodol hyn. Mae hi'n hanfodol ein bod ni'n cydnabod y swyddi sy'n cael eu creu gan y banc datblygu, ac mae swm o waith da wedi bod yn mynd rhagddo i nodi a mesur cynhyrchiant hefyd. Yn ôl cynllun corfforaethol y banc, ei nod o ran swyddi sylfaenol ar gyfer 2022 i 2027 yw 20,000 o swyddi, ond mae hi'n hanfodol bod cyfran o feintioli ansawdd swyddi. Ac felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe bai'r Gweinidog yn dweud wrthym sut mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod llwyddiant o ran swyddi, a'r hyn y mae llwyddiant yn ei olygu i Lywodraeth Cymru yn y maes penodol hwn. Mae'r Gweinidog wedi dweud yn eglur heddiw y bydd busnesau sy'n derbyn buddsoddiad ecwiti yn cael cefnogaeth ddigyffelyb ar hyd eu taith fuddsoddi nhw. Mae datganiad heddiw yn cadarnhau y bydd y banc yn cefnogi cwmnïau technoleg newydd i ddwyn eu cynnyrch nhw ymlaen o gysyniad cynnar hyd at y farchnad, yn ogystal â busnesau sy'n anelu at dwf mawr, a thimau rheoli i brynu busnesau presennol a'u cadw nhw ym mherchnogaeth Cymru. Rydw i, wrth gwrs, yn croesawu'r uchelgais yma, ac fe wnaiff y Gweinidog ddweud mwy wrthym ni efallai ynglŷn â sut mae'r banc yn buddsoddi mewn busnesau newydd ym maes technoleg newydd yn benodol. Mae rhywfaint o waith da wedi digwydd ynghylch cronfa sbarduno technoleg Cymru, ond mae angen gwneud mwy, ac felly fe fyddwn i'n ddiolchgar am unrhyw wybodaeth bellach y gall y Gweinidog ei rhoi yn hyn o beth. Yn yr un modd, mae hi'n bwysig fod yna gefnogaeth i dimau rheoli sy'n awyddus i brynu busnesau cyfredol a'u cadw nhw ym mherchnogaeth Cymru. Hyd yma, mae Cronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru, sy'n cael ei gweithredu gan Fanc Datblygu Cymru, wedi bod yn cynnig llwybr ariannu posibl ar sail dyled i'r gweithwyr allu prynu eu busnesau. Ac rwy'n gwybod bod cefnogaeth ar gael i reolwyr brynu busnesau drwy gronfa olyniaeth rheoli Cymru, ond efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud ychydig mwy wrthym ni ynglŷn â sut mae'r cronfeydd hynny'n cael eu gwerthuso a'u monitro, er mwyn i ni sicrhau bod y gefnogaeth briodol ar gael i fusnesau. Ac yn olaf, mae datganiad heddiw yn cyfeirio at waith y banc datblygu i hyrwyddo trawsnewid yng Nghymru i amgylchedd busnes sy'n cynnig cryn dipyn yn fwy o ran datgarboneiddio. Mae gennyf i ddiddordeb arbennig yn natblygiad cynllun newydd a fydd yn caniatáu i fusnesau ymgymryd â benthyca ar gyfer ariannu buddsoddiad cyfalaf sy'n cyflawni datgarboneiddio. Yn wir, mae adroddiad blynyddol y banc yn dangos bod 41 y cant o'i gwsmeriaid wedi mynegi eu bod yn cael eu hysgogi i weithredu ynglŷn â newid hinsawdd, ond nad yw'r arbenigedd hwnnw ganddyn nhw mewn gwirionedd. Ac felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe bai'r Gweinidog yn gallu dweud ychydig mwy wrthym ni am y cynllun newydd sy'n cael ei ddatblygu a phryd mae hwnnw'n debygol o fod ar waith. Felly, wrth gloi, Llywydd dros dro, rydym ni'n gwybod mai un o brif themâu'r banc yw buddsoddi mewn busnesau sy'n adlewyrchu'r amrywiaeth yn ein cymunedau ni, ac mae'n rhaid i ni gofio bod y banc, yn ei hanfod, yn fuddsoddwr sy'n ceisio creu effaith sydd â phwrpas cymdeithasol. Ac, felly, a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad ef y prynhawn yma, a dweud fy mod i'n edrych ymlaen at glywed mwy am waith y banc datblygu yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf? Diolch i chi. Vaughan Gething AC: Diolch am y gyfres o gwestiynau. Mae hon yn sefyllfa fanteisiol i fod yn gwneud datganiad ynddi hi, sef bum mlynedd ar ôl i Ken Skates lansio'r banc datblygu. Mae hi'n deg dweud, ar y pryd, nad oedd pawb mor obeithiol y byddem ni'n gallu dathlu ei daith lwyddiannus ef nawr, a'i gyflawniadau o ran ei nodau buddsoddi sydd wedi bod yn well na'r disgwyl. O ran eich pwynt chi ynglŷn â busnesau bach a pha mor ymwybodol ydyn nhw o hyn, mewn gwirionedd, fe ymgymerodd Ffederasiwn y Busnesau Bach â'u harolwg eu hunain, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror eleni, ac roedd hwnnw'n canfod bod dwy ran o dair o'u haelodau yn ymwybodol o'r banc datblygu eisoes, a bu cynnydd sylweddol hefyd mewn ymwybyddiaeth o frand y banc datblygu dros y pum mlynedd ers ei sefydlu, a bod 92 y cant o gwsmeriaid, mewn gwirionedd, wedi dweud y bydden nhw'n defnyddio'r banc datblygu ar gyfer anghenion cyllido yn y dyfodol, ac, unwaith eto, bod naw o bob 10 yn cysylltu'r banc datblygu gyda gonestrwydd a hygrededd. Ac, yn fy marn i, mewn gwirionedd, pan fyddwch chi'n meddwl am sefydliadau ariannol, mae hynny'n dangos nid yn unig ei fod wedi ennill ei blwyf ac wedi codi'r ymwybyddiaeth ohono i'r fath raddau mewn dim ond pum mlynedd, ond bod enw da iddo hefyd ymhlith ei gwsmeriaid cyfredol, yn ogystal â hynny. Fe fyddem ni'n hoffi gweld mwy o'r bobl hynny yn y traean olaf hwnnw yn fwy ymwybodol o'r hyn y mae'r banc yn ei wneud ac yn manteisio ar y cynhyrchion sydd ganddo i'w gynnig. Fel y dywedais i yn fy natganiad, mae'r buddsoddiad a all ddigwydd gan y banc datblygu, boed yn fenthyciad neu'n ecwiti, neu'n gyfuniad o'r ddau, yn rhan o'r pecyn o gefnogaeth buddsoddi yn aml, ac mae hynny, rwy'n credu, yn cyffwrdd â'ch pwynt chi ynglŷn â chyd-fuddsoddi. Yn ddiweddar, fe wnes i gwrdd â banciau'r stryd fawr a'r banc datblygu i siarad am rai o'r heriau i'r economi yng Nghymru, yr heriau yr ydym ni wedi bod yn eu gweld nhw gyda'r cynnydd mewn cyfraddau llog, a sut olwg a oedd ar yr hinsawdd fuddsoddi. Nawr, mae yna her bob amser oherwydd bod rhai busnesau yn ceisio arbed arian ac yn peidio â gwneud dewisiadau o ran buddsoddi, sy'n ddealladwy o ystyried yr hyn sydd wedi digwydd yn ystod y chwech neu saith wythnos diwethaf. Ond mae yna fusnesau sy'n bwriadu buddsoddi o hyd. Yr hyn yr ydym ni'n ei sôn amdano heddiw yw'r lansiad, neu'r arwydd ein bod ni'n mynd i allu lansio o fewn y flwyddyn eleni—dyna fy nod i; os nad felly, yna yn gynnar yn y flwyddyn newydd—gynnyrch newydd i helpu pobl i fuddsoddi yn eu dyfodol nhw, i ddatgarboneiddio a helpu gyda chostau ynni hefyd. Felly, rydym ni'n gobeithio cael mwy o bobl i ddod i mewn i'r maes hwnnw. A dyna faes hefyd lle mae llawer o fanciau ar y stryd fawr yn dweud bod ganddyn nhw arian ar gael i'w fuddsoddi ymhellach. Felly, fe fydd yr her o ran cyd-fuddsoddi, yr hyn y gall Banc Datblygu Cymru ei wneud, yr hyn y mae'r busnesau eu hunain yn ei godi yn aml—mae nhw'n aml yn chwilio am rywun i bontio'r bwlch rhwng eu cyllid nhw a rhywun arall—ond buddsoddwyr posibl eraill hefyd, nid banciau'r stryd fawr yn unig. Mae hynny'n cynnwys, fel dywedais i, fuddsoddwyr ecwiti eraill. Rhan o'n her ni yw bod y rhan fwyaf o'r buddsoddiad ecwiti sy'n digwydd ledled y DU wedi ei ganoli yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr. Os oeddech chi'n cael y sgwrs yma gyda de-orllewin Lloegr neu ogledd Lloegr, fe fydden nhw'n dweud fel hyn, 'Y broblem yw, mae gormod o arian yng nghornel de-ddwyrain Lloegr sy'n gorlifo.' Ac maen nhw eu hunain—ac os ydych chi'n siarad â'r Ffederasiwn Busnesau Bach—yn dweud, 'Fe hoffem ninnau gael banc datblygu rhanbarthol fel Banc Datblygu Cymru.' Mae hi'n fantais fawr y mae pobl a busnesau yn ei chydnabod, ond mae angen i ni sicrhau bod buddsoddwyr ecwiti eraill yn edrych ar Gymru hefyd, ar gyfer ychwanegu at yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yn y banc datblygu. Nawr, roeddwn i'n sôn am brifddinas-ranbarth Caerdydd a'u buddsoddiad nhw, ond am Fanc Busnes Prydain hefyd. Maen nhw'n annhebygol o fod â'u harian nhw'n barod tan y flwyddyn nesaf. Pan gyhoeddwyd y buddsoddiad gan y cyn-Ganghellor, sy'n Brif Weinidog y DU erbyn hyn, fe gyhoeddodd ef y byddai cronfa yng Nghymru. Mae hi'n deg dweud, bryd hynny, nad oedd yna unrhyw gynllun arbennig. Erbyn hyn mae yna rywbeth sy'n edrych yn fwy tebyg i gynllun, ac mae'r banc datblygu, fel rwy'n dweud, wedi bod yn ymgysylltu ac yn cynllunio yn wirioneddol sut wedd a fyddai ar hynny. Fe fydd rhoi hynny ar waith yn cymryd peth amser eto, ac felly rwy'n edrych ymlaen at y buddsoddiad ychwanegol hwnnw sy'n dod i mewn i ategu'r darlun hwnnw. Ac, yn ogystal â hynny, ac nid buddsoddwyr preifat unigol yn unig chwaith, mae nifer o fuddsoddwyr cyfoeth sofran—o Ewrop a thu hwnt—sy'n edrych ar gyfleoedd yng Nghymru. A rhan o'r cydbwysedd y mae'n rhaid i ni ei daro yw, pan fo hwnnw'n gyfle gwirioneddol, yw sut ydym ni am wneud yn siŵr ein bod ni'n cael cytundeb nad yw'n golygu y bydd yr asedau hynny'n cael eu diwreiddio o Gymru, ond eu bod nhw'n cael eu tyfu yma hefyd. Rwy'n credu bod hyn yn cyffwrdd â'ch pwynt chi am y sector technoleg. Mae technoleg ariannol a seiber yn enghreifftiau da iawn o sector sy'n gryf yng Nghymru a'r cyfle i hwnnw dyfu eto—yn sicr mewn rhannau o'r sgyrsiau a gefais i gyda sefydliadau bancio, gyda chronfeydd cyfoeth sofran eraill, ac yn wir gyda'r sectorau eu hunain. Mae gennym ni grŵp cadarnhaol iawn o sectorau yng Nghymru. Rwyf i o'r farn ei fod yn un o'r pethau yr ydym ni'n ei werthfawrogi, a bod gweddill y byd yn edrych ar yr hyn yr ydym ni'n ei wneud ac yn gadarnhaol iawn ynglŷn â'r peth, o ran dysgu sut y daethom ni yma, ond ar gyfer ystyried hefyd a allen nhw fuddsoddi er mwyn helpu i dyfu'r sector yn y fan hon hefyd. Ac ym mhob un o'r sectorau hynny, rydym ni'n debygol o weld cyflogaeth o werth mawr. Mae'r cynnig gan Fanc Datblygu Cymru a Busnes Cymru yn cynnwys cefnogaeth a deilwrwyd, fel crybwyllais i yn fy natganiad, felly nid yn unig y cewch chi arian—fe gewch chi rywfaint o gefnogaeth ac ymgynghoriaeth ynglŷn â hwnnw. Rydym ni wedi dweud, yn y gronfa newydd ar gyfer buddsoddi mewn datgarboneiddio, y gallai cymorth ymgynghori fod yn rhan o'r hyn a gaiff ei greu, i ddeall anghenion penodol busnes unigol. Rwy'n falch iawn o ailadrodd yr hyn a ddywedais i am berchnogaeth gweithwyr, nid yn unig y cronfeydd ar gyfer prynu busnesau gan eu rheolwyr nhw, ond yr hyn yr ydym ni'n ei wneud eisoes gyda grwpiau fel Cwmpas Cymru a'r cronfeydd y maen nhw'n eu gweinyddu, i geisio cynyddu nifer y busnesau sy'n perthyn i'w gweithwyr ledled Cymru a gwireddu ein haddewid maniffesto i ddyblu'r sector. Ac yn olaf, ynglŷn â'ch pwynt chi am ein dull ni o sicrhau y bydd hyn yn hysbys o gwmpas Cymru, wrth gwrs, mae gan y banc datblygu bum swyddfa, a leolir yng Nghaerdydd, Llanelli, Cyffordd Llandudno, y Drenewydd, a'r pencadlys, wrth gwrs, sydd yn Wrecsam. Luke Fletcher AS: Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad. Ac wrth gwrs, mae yna rôl bwysig gan y banc yn nyfodol economi Cymru. Luke Fletcher AS: Mae Banc Datblygu Cymru yn estyn cymorth i'w gwsmeriaid trwy nifer o sefydliadau, gan gynnwys Busnes Cymru. Mae Busnes Cymru yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau yn rhad ac am ddim i gwmnïau ac unig fasnachwyr o Gymru. Bron i flwyddyn yn ôl bellach, cafwyd trafodaethau mewn pwyllgorau a'r Cyfarfod Llawn hefyd am bryderon ynglŷn â chyllid i Fusnes Cymru, y mae llawer ohono'n mynd at gefnogi'r busnesau hynny. Ar 11 o fis Rhagfyr 2021, fe wnaethoch chi, Gweinidog, nodi bod dros draean o arian Busnes Cymru yn dod o ffynonellau Ewropeaidd. Flwyddyn yn ddiweddarach, sut mae hyn wedi effeithio ar Fanc Datblygu Cymru a Busnes Cymru, ac a oes asesiad effaith wedi cael ei wneud? Tua'r un pryd, fe ofynnais i'r Gweinidog hefyd am y cyrsiau a gynigir gan Fusnes Cymru, ac roeddwn i'n ddiolchgar am y cyfarfod dilynol a gawsom ni ynglŷn â'r pwnc hwnnw. Ers hynny, a oes unrhyw ehangu wedi bod o ran niferoedd y cyrsiau a faint sydd ar gael? Nawr, mae cwmnïau cydweithredol a phartneriaethau cymdeithasol yn caniatáu i economi Cymru dyfu mewn ffordd fwy cynaliadwy, ac fe fydd rhan enfawr ganddyn nhw wrth fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw. Ac rwyf i am achub ar y cyfle hwn i roi cyhoeddusrwydd i'r grŵp trawsbleidiol ar gwmnïau cydweithredol a chydfuddiannol sy'n cael ei gynnal yfory, pryd byddwn ni'n edrych ar yr union fater hwn. Ym mis Mehefin 2021, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i ddyblu nifer y busnesau sy'n perthyn i'w gweithwyr yng Nghymru. Yn gynharach eleni, fe ofynnais i'r Gweinidog am y cyllid sydd ar gael ar gyfer cwmnïaucydweithredol, ar gyfer helpu i gyrraedd nod Llywodraeth Cymru o ddyblu nifer y busnesau sy'n eiddo i'w gweithwyr yng Nghymru. Fe fyddwn i'n awyddus i wybod pa gynnydd sydd wedi bod o ran cyrraedd y nod hwnnw. Fe wnes i nodi, yn ei ddatganiad ef, ei fod wedi sôn am gefnogi rheolwyr sy'n prynu busnesau. Ai hynny felly yn hytrach na gweithwyr yn prynu busnesau yn y cyd-destun penodol hwnnw? Mae gwahaniaeth pwysig i'w nodi rhwng rheolwyr yn prynu a gweithwyr yn prynu. Fe fydd gan y ddau grŵp flaenoriaethau a bwriadau gwahanol wrth symud ymlaen. Yn olaf, cymhelliant sero net busnesau'r flwyddyn nesaf. Mae'r fenter honno'n gobeithio cymell busnesau i ostwng eu hôl troed carbon ar sail yr egwyddor o fuddsoddi i arbed ac fe ddylai hynny leihau'r defnydd o ynni a biliau busnesau is yn yr hirdymor. Mae hynny, wrth gwrs, i'w groesawu. Fe fydd busnesau sy'n ystyried buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy neu fesurau effeithlonrwydd ynni yn cael cynnig o delerau mwy ffafriol. Fe all busnesau fenthyca i ariannu buddsoddiad cyfalaf sy'n cyflawni datgarboneiddio drwy delerau ad-dalu mwy hyblyg, cyfraddau llog deniadol a chefnogaeth yn fwy eang, fel cymorth tuag at gostau ymgynghoriaeth. Mae'r Gweinidog yn rhoi'r gorchwyl i'r banc hefyd i anelu at nod uchelgeisiol o fuddsoddi ecwiti o £100 miliwn dros y pump i saith mlynedd nesaf. Er bod y cyhoeddiad hwn i helpu anelu at nodau sero net yng Nghymru i'w groesawu, mae hwn yn rhywbeth y gwnes i eich holi chi a'r Prif Weinidog ynglŷn ag ef yn ddiweddar, ac fe alwyd amdano gan lawer yn y Siambr hon. Sut mae'r cynnyddhwn mewn buddsoddi yn cyd-fynd ag egwyddor pontio teg? Wrth i mi holi, roeddwn i'n cyfeirio at fusnesau, bragdai annibynnol bychain yn benodol, sydd wedi ymestyn eu cyllid ymhellach nag yr oedden nhw'n credu ei bod hi'n bosibl yn ystod y pandemig, a nawr, yn ystod yr argyfwng costau byw, efallai eu bod nhw'n amharod i ysgwyddo mwy o ddyled. Beth fyddech chi'n ei ddweud wrthyn nhw yn ogystal â'r rhai na fydden nhw o bosibl yn gymwys ar gyfer y cynllun hwn? Hefyd, a fyddai Banc Datblygu Cymru, yn sgil y fenter hon, yn gallu rhedeg dull gweithredu sy'n rhoi blaenoriaeth i ddeunyddiau adeiladu effeithlon o ran ynni, gyda'r telerau mwyaf ffafriol yn cael eu rhoi ar gyfer adeiladu â'r deunyddiau hynny? Mae'r dull o sicrhau effeithlonrwydd ynni sy'n rhoi blaenoriaeth i ddeunyddiau yn ceisio gwella perfformiad y darnau a'r deunyddiau yn lluniad yr adeilad ei hun, cyn defnyddio unrhyw systemau mecanyddol neu drydanol. Diolch yn fawr. Vaughan Gething AC: I ddechrau, ynglŷn â'ch pwynt chi am y cyrsiau unigol sydd ar gael, nid wyf i mewn sefyllfa i ateb y pwynt arbennig hwnnw nawr, ond fe fyddaf i'n gwneud yn siŵr fy mod yn dod yn ôl atoch chi gyda'r manylion o ran y pwynt arbennig hwnnw. Ynglŷn â'ch pwynt olaf chi ynghylch buddsoddiad sero net a'r cyhoeddiad a wnaethom ni heddiw ynghylch y gefnogaeth newydd a ddylai fod ar gael i helpu gyda datgarboneiddio ac effeithlonrwydd ynni a lleihau costau ynni, y tro diwethaf i ni siarad fe fynegais i y byddai gennyf i fwy i'w ddweud yn ystod yr wythnosau nesaf, a dyma ni. Rydym ni wedi bod yn gweithio ar hynny ers cryn amser. Nid rhywbeth sydd wedi ei greu yn ystod yr wythnos diwethaf fwy neu lai mohono. Ystyr hyn yn rhannol yw ceisio creu pontio teg, i sicrhau, wrth i ni ddatgarboneiddio, nad ydym ni dim ond yn cadw'r swyddi sydd gennym ni, ond ein bod ni mewn gwirionedd yn helpu i leihau risgiau'r dyfodol i raddau, nid yn unig o safbwynt ehangach o ran yr hinsawdd, ond o ran y costau sy'n bodoli nawr i fusnesau. Dyma rywbeth yn fy marn i y bydd nifer o fusnesau yn awyddus i'w ystyried yn fanwl iawn. Ac, fel dywedaf i, ar y pwynt ynglŷn ag amgylchiadau unigryw busnesau unigol fel roeddech chi'n sôn, wel, mae'r rhain yw amrywio yn fawr rhwng y naill fusnes a'r llall. Bydd anghenion busnesau unigol yn yr un sector yn wahanol, a chyfleoedd amrywiol ganddyn nhw, efallai, i fanteisio ar hynny. Hynny yw, edrych ar wead eu sefydliadau nhw ar hyn o bryd a'u cyfleoedd nhw i wneud y gorau o hynny. Dyna pam yr oeddwn i'n tynnu sylw at y ffaith mai'r cyfle sydd yma yw gallu edrych ar yr hyn sy'n bosibl i'r busnes unigol hwnnw. Yn ogystal â hynny, fe fydd hi'n bosibl y byddwn ni'n gallu cefnogi cynlluniau ynni ardal yn y pen draw hefyd, os ydych chi'n meddwl am nifer y busnesau a allai rannu ôl troed eang cyffredin yng nghyd-destun parc busnes neu ardal ac sy'n awyddus i ystyried a fyddai hi'n bosib gwneud mwy o fewn lleoliad arbennig ac nid yn unig yng nghyd-destun busnesau unigol. Felly, fe fydd yna amrywiaeth o wahanol amgylchiadau unigol. Y gwirionedd arall y mae'n rhaid i ni ei wynebu yw, hyd yn oed gyda'r gefnogaeth sydd ar gael, ac mae hyn oddi wrth y banc a'r benthyciadau a gynigir ganddo, pa un a yw ar ffurf ecwiti neu'n gyllid benthyg unigol neu gyfuniad o'r pethau hyn, nid oes gan Lywodraeth Cymru, fel rydym ni wedi dweud heddiw, mo'r grym noeth i ddarparu cynllun ar sail grantiau a fydd yn ymestyn at bob maes yn yr economi. Fe wn i fod yna fwy o fusnesau â heriau a fyddai'n fusnesau hyfyw fel arall yn fy marn i ond nid oes gennym ni fodd i'w cefnogi nhw. Dyna pam yr ydym ni'n aros mor ddisgwylgar am ganlyniad y gyllideb Calan Gaeaf. 'Wn i ddim a gawsoch chi gyfle i wrando ar y Gweinidog cyllid yng nghynhadledd Llywodraeth Cymru i'r wasg heddiw, ond y sefyllfa wirioneddol o ran ein cyllideb ni'n syml yw nad oes gennym ni arian ychwanegol sy'n cael ei ddal yn ôl mewn gobaith y gallwn ni ei fuddsoddi eto dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Mae hwn yn ddarlun ariannol dyrys tu hwnt sy'n ein hwynebu ni, ac mae'r busnesau eu hunain yn gwybod hynny hefyd. Yn y sgyrsiau a gefais i ag amrywiaeth o grwpiau busnes o wahanol feintiau mewn gwahanol sectorau, roedden nhw i gyd yn gwybod nad yw'r arian gennym ni'n aros ar eu cyfer nhw. Mewn gwirionedd, roedd busnesau gweithgynhyrchu yn eglur iawn eu bod nhw'n bryderus ynglŷn â'r dyfodol, nid am nad oedd ganddyn nhw lyfrau'n llawn archebion, ond oherwydd eu bod nhw'n ymwybodol o'r costau a'r prisiau cynyddol ar gyfer nwyddau, yr heriau o ran chwyddiant, ac maen nhw'n gwybod mewn gwirionedd bod angen i Lywodraeth y DU weithio fel pe byddai hi ar eu hochr nhw i'w helpu nhw drwy'r hyn sydd i ddod. Fe fyddwn ni i gyd yn canfod yn weddol fuan sut wedd fydd ar bethau mewn gwirionedd. Fe fyddwn i'n falch iawn o gael fy nghywiro ac y bydd pecyn hael ar gael i helpu busnesau i oroesi yn eu sefyllfa bresennol, ond nid yn unig hynny, i ffynnu mewn gwirionedd yn y dyfodol. Yma yng Nghymru, serch hynny, fe fyddwn yn gwneud y gorau o'r manteision sydd gennym ni, ac mae Banc Datblygu Cymru yn un o'r rhain. Ond ni allaf i ddweud wrthych chi na neb arall y byddwn ni'n gallu achub pob busnes unigol y byddem ni fel arall yn awyddus i'w achub. O ran Banc Datblygu Cymru a Busnes Cymru a'r sefyllfa bresennol wirioneddol gyda chyllid yn lle cyllid o Ewrop, fel nodais i—ac rwyf i wedi bod yn gwbl agored o'r cychwyn cyntaf—fe geir effaith wirioneddol ac arwyddocaol oherwydd y cronfeydd Ewropeaidd sy'n diflannu heb unrhyw beth tebyg o ran gwerth yn eu lle nhw neu, yn wir, o ran eu dibenion nhw. Yr hyn y mae'n yn ei olygu, er hynny, yw ar gyfer cynnal Busnes Cymru, sef yr hyn a wnes i, rwyf i wedi gorfod gwneud dewisiadau anodd iawn gyda gweddill fy nghyllideb adrannol i. Mae hynny'n golygu nad wyf i wedi gallu buddsoddi mewn meysydd eraill y byddwn i fel arall wedi bod yn awyddus i fuddsoddi ynddyn nhw i helpu i gefnogi dyfodol economi Cymru, am fy mod i o'r farn fod gwasanaeth Busnes Cymru yn wir bwysig ledled Cymru, ac fe allwch chi weld hynny o'r canlyniadau a'r niferoedd o fusnesau sydd wedi cael cefnogaeth, cymorth a chyngor gan Fusnes Cymru. Unwaith eto, mae Ffederasiwn y Busnesau Bach yn dweud wrth eu cymheiriaid yng ngweddill y DU yn rheolaidd fod yr hyn sydd gennym ni yng Nghymru mewn gwirionedd yn werthfawr iawn. Mewn gwirionedd, fe hoffai Ffederasiwn y Busnesau Bach yn Lloegr weld gwasanaeth fel Busnes Cymru mewn rhanbarthau ledled Lloegr. Mae hynny'n esbonio pam y bu i mi warchod y cyllidebau i'r dyfodol ar gyfer y gwasanaethau y maen nhw'n eu cynnig. Pe byddai swm tebyg o arian gennym ni i fuddsoddi mewn gwahanol ddewisiadau, fe fyddai'n golygu y byddem ni'n gallu gwneud mwy, ac, yn wir, fe allai Banc Datblygu Cymru ehangu eto hefyd. Yn olaf, o ran cefnogaeth ymarferol i fusnesau sy'n eiddo i'w gweithwyr—ac rwy'n cydnabod y pwynt nad yw rheolwyr yn prynu busnesau yn gwbl gyfystyr â hynny o reidrwydd—mae gennym ni hyd at 40 o fusnesau sy'n eiddo i'w gweithwyr erbyn hyn, ac yn ddiweddar rwyf i wedi cadarnhau bod £170,000 ychwanegol ar gael i Gwmpas Cymru i helpu gyda'r cymorth ymarferol hwnnw i symud busnesau o un dull o berchnogaeth i un arall. Fe geir enghreifftiau da iawn o fusnesau newydd sy'n eiddo i'w gweithwyr yng Nghymru, ac rwy'n edrych ymlaen at gyhoeddi pryd y byddwn ni, fel rwy'n ffyddiog y byddwn ni, wedi cyflawni ein nod maniffesto ni, sef dyblu maint y sector. Mike Hedges AC: Rwy'n croesawu'r datganiad yn fawr iawn. Rwy'n cytuno â'r Gweinidog fod y banc datblygu yma yng Nghymru yn golygu y gallwn ni gynnal y gallu a'r sefydlogrwydd i ysgogi datblygiad economaidd. Rwyf i, fel Paul Davies, yn falch fod y banc datblygu am fod â rhan ragweithiol wrth hwyluso cymorth i fusnesau. Mae gennyf i dri chwestiwn. Ym mha ffordd y bwriedir iddyn nhw helpu busnesau i symud o fod yn fentrau bach i rai canolig, sef un o wendidau economi Cymru? Ai bwriad y Gweinidog yw blaenoriaethu tri o sectorau twf sef gwyddorau bywyd, TGCh a gwasanaethau ariannol? Ac, efallai, yn bwysicaf i gyd o fy safbwynt i, yn Abertawe, a fydd y banc yn rhoi mwy o gefnogaeth i brosiectau dinas-ranbarth Bae Abertawe? Vaughan Gething AC: Diolch i chi am y cwestiynau. Rydych chi'n iawn; mae twf o fach i ganolig ac o ganolig i fawr wedyn yn un o'r heriau mawr i ni o ran yr economi. Mewn gwirionedd, dyma un o'r union bethau y gall Banc Datblygu Cymru ei wneud, oherwydd, yn aml, methu â chael gafael ar gyllid sy'n dal pobl yn ôl. Dyma pryd mae banciau ar y stryd fawr wedi gweld bwlch yn yr hyn y maen nhw'n ei wneud ac mae Banc Datblygu Cymru wedi gallu cau'r bwlch hwnnw. O ran y swyddi a'r dewisiadau o ran buddsoddi, nid arian yn unig sydd wedi helpu i greu tua 2,600 o swyddi—i naill ai ddiogelu neu greu rhai oherwydd y buddsoddiadau a fu yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf—ond, mewn gwirionedd, mae hynny'n ychwanegu at gynnydd yng ngwerth ychwanegol gros Cymru o tua £85.8 miliwn yn ystod y flwyddyn honno, ac rydych chi'n disgwyl i hynny barhau i dyfu wrth i ni symud ymlaen. Felly, dyna un o'r pethau yr wyf i'n wirioneddol bryderus yn ei gylch. Oes, mae gweithgarwch mewn gwyddorau bywyd, ac fe geir gweithgarwch mewn gwasanaethau ariannol, yn enwedig yn y sector technoleg ariannol sy'n tyfu yma. Ac ynglŷn â'ch pwynt ehangach chi am y sector technoleg ehangach a sut olwg sydd ar hwnnw, mewn gwirionedd mae'r gwasanaethau hyn yn mynd i mewn i'r rhan fwyaf o fusnesau nawr, ac felly mae yna dipyn o ystyr i'r hyn y mae ein sector technoleg ehangach ni'n ei wneud. Ar daith ddiweddar, y daith fasnach a arweiniais i'r Emiradau Arabaidd Unedig, roedd gennym ni lawer iawn o fusnesau technoleg, busnesau bach a chanolig, yn chwilio am fuddsoddiad ac yn cydnabod bod cyfle iddyn nhw yn hyn o beth, gan gynnwys busnesau yn Abertawe, fe fyddwch chi'n falch iawn o'i glywed. Ac ie, ynglŷn â'ch pwynt chi o ran bargen ddinesig Bae Abertawe, rydym ni'n edrych ar yr hyn y gall Banc Datblygu Cymru ei wneud; sut y gall helpu i weithio gyda honno a bargeinion twf eraill yng Nghymru i ddatblygu'r prosiectau sydd ganddyn nhw. Mewn gwirionedd rwy'n gadarnhaol iawn o ran y cynnydd ymarferol y mae grŵp bargen ddinesig Bae Abertawe yn ei wneud nid yn unig o ran bod â phortffolio o brosiectau, ond o ran y buddsoddiad sy'n cael ei wneud eisoes. Jenny Rathbone AC: Yr wythnos diwethaf, rhoddodd Mervyn King, cyn-lywodraethwr Banc Lloegr, gyfweliadau amrywiol, gan gynnwys rhai ynglŷn â'r ffaith nad ydym ni wedi datrys y broblem o berygl moesol parhaus sefydliadau sy'n rhy fawr i fethu, a dyna pam y bu'n rhaid i Fanc Lloegr ymyrryd yn y marchnadoedd yn dilyn cyllideb fechan drychinebus Liz Truss, i achub cronfeydd pensiwn a oedd wedi ymhél â buddsoddiadau llawn risg i gynyddu'r difidendau y maen nhw'n eu dosbarthu. Felly, rwy'n croesawu gwaith Banc Datblygu Cymru yn fawr iawn, ac mae angen llawer mwy o sefydliadau fel hyn i gynnig ychydig mwy o sefydlogrwydd yn y marchnadoedd ariannol. Rwy'n croesawu'r wybodaeth i gyd y gwnaethoch chi ei rhannu ynglŷn â'r buddsoddiad ecwiti y mae'r banc datblygu yn ei ddarparu ar gyfer cwmnïau sy'n dymuno datgarboneiddio; mae honno'n ymddangos yn fuddugoliaeth lwyr i'r cwmnïau hynny, yn ogystal ag o ran ein nodau sero net ni ledled Cymru. Yr wythnos diwethaf, roeddwn i mewn cynhadledd a drefnwyd gan Gynghrair Gweithwyr y Tir ac fe glywais i am ddatblygiad llwyddiannus busnesau garddwriaeth bychain sy'n gwneud elw ac nad oes angen unrhyw gymhorthdal arnyn nhw. Mae'r ddau wedi eu lleoli yn weddol leol yn y de-ddwyrain, ym Mhenrhyn Gŵyr a Bro Morgannwg. Rydych chi'n sôn bod eisiau economi lle mae'r sgiliau a'r amddiffyniadau gan bobl i roi diogelwch iddyn nhw mewn cyfnodau anodd. A wnaeth yr uwchgynhadledd economaidd ddiweddar drafod diogelwch bwyd yng nghyd-destun y ffaith— Joyce Watson AC: A wnaiff yr Aelod ofyn ei chwestiwn hi, os gwelwch hi'n dda? Jenny Rathbone AC: —nad yw bwyd yn dod i mewn i'r farchnad gyfanwerthu? A pha fuddsoddiadau a ydych chi'n ymwybodol ohonyn nhw y gallai Banc Datblygu Cymru fod yn eu buddsoddi i gynyddu swm y bwyd yr ydym ni'n ei dyfu yng Nghymru? Vaughan Gething AC: Nid yw cynyddu diogelwch bwyd yn y wlad yn amcan penodol i'r banc datblygu. Nid yw'n amcan penodol y gwnaethom ni ei bennu. Er hynny, rydym ni wedi pennu amcanion ynghylch helpu Cymru i bontio i economi fwy cynaliadwy a chynlluniau ynghylch sero net. Lesley Griffiths, fel gwyddoch chi, yw'r Gweinidog sy'n arwain y sector fwyd. Fe soniais i am hynny'r wythnos diwethaf, ac fe nododd Alun Davies waith o ran cefnogi'r sector bwyd a diod ar hyd ei oes, mewn ffordd bersonol weithiau—ein bod ni mewn gwirionedd wedi gweld twf gwirioneddol yn y sector o safbwynt allforio. Ond mae yma rywbeth hefyd ynglŷn â'r hyn sydd ei angen i ni ei wneud, ac rydym ni'n cydnabod hynny yn y Llywodraeth, yng nghyd-destun diogelwch bwyd ehangach o ran sut caiff bwyd ei gynhyrchu, ymhle y caiff ei gynhyrchu, a pha mor lleol hefyd. Nid wyf i'n ceisio osgoi'r mater; dim ond mai fy marn i yw nad y banc datblygu yw'r prif ysgogydd yn hyn o beth. Nid yw hynny'n golygu na fydd yna gefnogaeth i brosiectau sy'n cynnig diogelwch bwyd. Yn wir, yn y sector bwyd a diod rydym ni wedi cefnogi nifer o brosiectau i dyfu ac ehangu. Yn yr uwchgynhadledd economaidd roedd llawer mwy o sôn am fusnesau yn ceisio goroesi ac yn awyddus i ddeall yr hyn sy'n debyg o ddigwydd, ac undebau llafur â diddordeb yn nhelerau ac amodau gweithwyr sy'n symud ymlaen a'r hyn y mae hynny'n ei olygu, ond yn sicr yn dymuno cefnogi busnesau i fwynhau dyfodol llewyrchus. Felly, rwy'n credu ein bod ni'n siarad yn groes i'n gilydd o ran diben a phwrpas yr uwchgynhadledd, oherwydd ni wnaeth unrhyw fusnes arbennig sôn am ddiogelwch bwyd yn y digwyddiad hwnnw, ac ni fyddwn i wedi disgwyl hynny o reidrwydd. Rwy'n deall eich pwynt chi ynglŷn â chronfeydd pensiynau, maint y ddyled a oedd ganddyn nhw a chyfradd y risg a oedden nhw'n ei hwynebu hefyd. Ac wrth gwrs yr hyn a newidiodd mewn gwirionedd ac a oedd yn annisgwyl iawn ychydig wythnosau yn ôl, yw bod dyled y Llywodraeth wedi newid ei phroffil. Felly, roedd gwerth dyled y Llywodraeth honno a buddsoddiad y Llywodraeth yn ffactor gwirioneddol ar gyfer cronfeydd pensiynau a oedd yn ceisio darparu elw sefydlog i ddeiliaid y pensiynau. Rwyf i'n sicr yn gobeithio, o safbwynt busnesau, pensiynwyr, a deiliaid tai, yn wir, y byddwn ni'n gweld mwy o sefydlogrwydd o du marchnad y DU. Mae ganddo effaith wirioneddol nid yn unig ar deuluoedd unigol ond ar fusnesau unigol, oherwydd mae amodau'r ddyled sydd ar gael yn ffactor gwirioneddol wrth rwystro buddsoddi yn economi Cymru. Alun Davies AC: Rwy'n mwynhau datganiadau'r Gweinidog ac yn mwynhau'r sgyrsiau y mae'n eu cychwyn ar draws y Siambr. Wrth drafod llawer o'i flaenoriaethau amrywiol ef ar gyfer y banc buddsoddi fe'i gwnaeth hi'n eglur ei fod ef yn awyddus i weld y banc datblygu yn gweithio mewn ffordd ystwyth iawn, yn chwilio am gyfleoedd, ac yn buddsoddi mewn ffordd greadigol hefyd, ac rwy'n croesawu'r hyn a ddywedodd ef brynhawn heddiw am ddatgarboneiddio yn fawr iawn. Yr hyn sy'n fy mhoeni i weithiau, Gweinidog, yw na osodwyd amcanion na nodau eglur iawn ar gyfer y gweithgarwch hwn. Er enghraifft, un o'r materion mwyaf sy'n ein hwynebu ni yn economi Cymru yw cynhyrchiant. Pa ganllawiau neu gyngor a wnaethoch chi eu rhoi i'r banc datblygu ar gyfer mynd i'r afael â materion cynhyrchiant yn yr economi, a sut fyddwch chi'n mesur a yw'r banc datblygu yn cael effaith yn hynny o beth? Mae'r etholaeth yr wyf i'n ei chynrychioli ym Mlaenau Gwent, wrth gwrs, yn un o'r ardaloedd lle mae angen mwy o fuddsoddiad arnom ni, nid yn unig o ran cynhyrchiant ond o ran gweithgarwch economaidd. A ydych chi'n rhoi canllawiau eglur i'r banc datblygu ynglŷn ag agwedd ofodol ei fuddsoddiad, fel eich bod chi'n edrych a'ch bod chi'n pennu nodau ar gyfer buddsoddi ym Mlaenau'r Cymoedd, er enghraifft, i sicrhau eich bod chi'n buddsoddi mewn gwirionedd nid yn unig mewn busnesau i sicrhau canlyniadau byd-eang, a fyddai'n ysgogi buddsoddiad i fannau fel Caerdydd a choridor yr M4, ond yn ysgogi buddsoddiad i rai o rannau llai breintiedig Cymru, sy'n dioddef o ran methiant sylweddol yn y farchnad? Vaughan Gething AC: Fe geir dau bwynt bras yn y fan yna. Y cyntaf yw hyn, ydw, pan fyddaf i'n siarad â'r banc datblygu rwy'n hoffi gwybod i ble y bydd y buddsoddiad hwnnw'n mynd. Pe byddai hwnnw'n mynd i gyd yn ddestlus i ranbarth Caerdydd a'r cyffiniau yn unig, ni fyddai hynny'n briodol wedyn yn fy marn i, oherwydd fe gafodd ei sefydlu yn rhannol i ymdrin â'r bwlch y soniwyd amdano ynglŷn â chwmnïau bach i ganolig, fel roedd Mike Hedges yn dweud, am estyn cyfalaf i rai o'r busnesau hynny, a oedd yn broblem i fenthycwyr traddodiadol yn aml. Nawr, nid yw hynny'n golygu nad yw benthycwyr ar y stryd fawr yn gwneud unrhyw beth i helpu pobl ar y daith honno o ran twf, ond mewn gwirionedd dyma lle mae'r alwad wirioneddol wedi bod am weithredu pellach. A'r rhannau amrywiol o'r wlad y mae pobl ynddyn nhw hefyd, ac rwy'n cydnabod bod honno'n ffactor wirioneddol yn eich etholaeth chi. Felly, ydym, rydym ni'n ystyried hynny, ond nid yw'n ymwneud â'r banc datblygu yn unig. Nid wyf i wedi pennu nod na mesur arbennig iddyn nhw. Rwy'n fwy na pharod i drafod hyn gyda'r Aelod ac eraill—ac mae cyfarfod ehangach i ddod ar gyfer trafod rhai o'r pwyntiau hyn—am y cylch gwaith a osodais i iddyn nhw a phryd a sut yr ydym ni'n disgwyl gweld cynnydd. Ond ystyr hyn wedyn hefyd yw cynnal rhan o'r sgwrs gyda'r brifddinas-ranbarth, er enghraifft. Yr hyn yr ydym ni'n ei siarad amdano gyda nhw a'r hyn yr ydym ni'n awyddus i'w weld ac yn disgwyl ei weld wrth i'r brifddinas-ranbarth fuddsoddi mwy o arian yw sicrhau, unwaith eto, nad yw'n digwydd o gwmpas Caerdydd a Chasnewydd yn unig ond bod angen i'r brifddinas-ranbarth yn ei chyfanrwydd weld y budd—ac nid yn unig i dynnu pobl yn gyflym o rannau eraill o'r brifddinas-ranbarth i Gaerdydd neu Gasnewydd neu ganolfannau trefol mawr eraill ond mewn gwirionedd i ysgogi rhywfaint o dwf mewn rhannau eraill o'r rhanbarth hefyd. Ni all fod i gyn i un cyfeiriad, tynnu pobl o'r Cymoedd i mewn i Gaerdydd a Chasnewydd. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn o ran y metrigau yr ydym ni'n eu gosod i ni ein hunain, ac mae hynny'n cyffwrdd â'r penbleth o ran cynhyrchiant hefyd, oherwydd ystyr llawer o hynny'n aml yw'r ysgogiadau sydd ar gael i ni ar gyfer buddsoddi mewn cyfalaf dynol, mewn sgiliau a phobl, a gwneud yn siŵr ein bod ni'n cael pobl i fuddsoddi wedyn mewn ardaloedd lle mae'r bobl hynny eu hunain yn byw ac yn gallu gweithio ynddyn nhw. Felly, mae'n rhan o'r rheswm pam y mae'r cynllun cyflogadwyedd a sgiliau gennym ni, gan nodi'r hyn y byddwn ni'n ei wneud. Bydd angen i ni edrych eto i weld a oes unrhyw newid cyfeiriad sy'n wahanol yn yr ailadroddiad diweddaraf o Lywodraeth y DU, oherwydd fe nodwyd y cynllun hwnnw pan oedd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn fwy gweithredol ac roedd pobl yn nes at y farchnad. Mae'n ddigon posibl y bydd angen i ni ystyried unwaith yn rhagor, yn gynt na'r disgwyl yn fy marn i, a ydym ni'n parhau i wneud digon a hynny yn y mannau priodol oherwydd, mae arna' i ofn, fe fyddwn ni'n wynebu darlun economaidd llymach, gyda mwy o bobl ar y clwt yn y misoedd nesaf o bosibl. Felly, ein hymyriadau ni, fel rhaglen ReAct+—a ydyn nhw am wneud digon i gael pobl yn ôl i waith yn gyflym, ac a ydym ni'n gwneud digon i gael pobl sydd wedi bod mewn segurdod economaidd hirdymor yn ôl ar lwybr i fod yn gweithio a bod â'r sgiliau i wneud mwy na dim ond mynd i'r gwaith ond i lwyddo ym myd gwaith hefyd? Dyma pam yr ydym ni'n edrych ar yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yn ein lle polisi sgiliau hefyd, nid yn unig o ran prentisiaethau ond mewn hyfforddiant mewn gwaith yn ogystal â hynny. O ran y gweithlu presennol, mae dyfodol gwaith yma eisoes mewn llu o wahanol ffyrdd. Ymhen 10 mlynedd, fe fydd y rhan fwyaf o'r bobl sydd mewn gwaith eisoes yn gweithio. Yr hyn sydd ei angen i ni ei wneud yw sicrhau bod y sgiliau ganddyn nhw a fydd yn addas ar gyfer y byd gwaith ymhen 10 mlynedd. Felly, ystyr hyn i raddau helaeth fydd buddsoddi yn y gweithlu presennol, ac fe fydd hynny'n bendant yn gwneud gwahaniaeth i gynhyrchiant. A'r pwynt olaf yn hyn o beth yw buddsoddi yn ansawdd yr arweinyddiaeth a'r rheolaeth sydd gan fusnesau. Nid gweithwyr ar lawr gwaith yw hynny'n unig, os mynnwch chi, mae hynny'n ymwneud hefyd â'r arweinwyr a'r rheolwyr sydd hefyd yn gwneud gwahaniaeth mawr i effeithiolrwydd a chynhyrchiant busnesau. Ond, fel dywedais i, rwy'n ffyddiog iawn y byddwn ni'n siarad mwy am hynnyyn y Siambr a'r tu allan iddi yn y misoedd i ddod. Joyce Watson AC: Rwyf i am ganiatáu un cwestiwn arall, os yw hwnnw'n un cryno, ac un ateb arall, os yw hwnnw'n un cryno. Huw Irranca-Davies. Huw Irranca-Davies AC: Diolch. Yn wir, fe fyddaf i'n gryno. Gweinidog, diolch am y datganiad a hefyd am ddod i lansiad adroddiad y Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol amser cinio, 'Owning the workplace, securing the future', ynglŷn â sut yr ydym ni'n cynyddu cyfradd perchnogaeth gan y gweithwyr mewn busnesau yma yng Nghymru. Rydym ni'n gwneud yn dda eisoes, rydym ni'n ystyried sut y gallwn ni fynd ymhellach. Sut all Banc Datblygu Cymru fod â rhan yn hyn o beth, gan gynyddu perchnogaeth gan y gweithwyr? A oes unrhyw ran arbennig iddyn nhw pan fo problem gennych chi o ran olyniaeth a throsglwyddo i berchnogaeth gan y gweithwyr yn y gweithle, rhyw fath o gyfleuster dal, rhywfaint o gyllid a fyddai'n caniatáu i'r trafodaethau hynny ddigwydd gyda gweithwyr yn y gweithle fel nad oes rhuthr gwyllt o chwe mis hyd at lwyddiant neu fethiant llwyr, ein bod ni mewn gwirionedd yn gallu pwyllo a mynd drwy'r broses honno gyda nhw? Pa swyddogaeth sydd gan Fanc Datblygu Cymru o ran perchnogaeth gan y gweithwyr? Vaughan Gething AC: Mae'r banc datblygu yn weithredol yn y maes hwn eisoes, yn cefnogi perchenogaeth gan y gweithwyr, ond mae'n rhaid iddo weithio ochr yn ochr ag eraill fel Cwmpas Cymru, fel gwyddoch chi. Fe fyddwn i'n hapus i gael sgwrs ehangach â chi. Fel gwyddoch chi, yn y digwyddiad heddiw, fe wnes i ymrwymo i gael sgwrs â chi a gweithredwyr eraill yn y maes hwn nid yn unig ar gyfer ystyried y syniadau a fynegwyd amser cinio heddiw ond i weld sut y gall gwahanol sefydliadau wneud eu rhan. Rwyf i o'r farn y bydd hwnnw'n bwynt diddorol i'w godi a gweithio drwyddo gyda'r banc datblygu ei hun. Joyce Watson AC: Diolch i chi, Gweinidog. 5. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rôl y Sector Cyhoeddus yn System Ynni’r Dyfodol Joyce Watson AC: Symudwn ni ymlaen nawr i eitem 5, datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar rôl y sector cyhoeddus yn system ynni'r dyfodol, ac rwy'n galw ar y Gweinidog Newid Hinsawdd—Julie James. Julie James AC: Diolch, Llywydd dros dro Rydym wedi treulio llawer iawn o amser yn y Siambr hon yn siarad am yr argyfwng costau byw, sy'n uniongyrchol gysylltiedig â'r cynnydd mawr yng nghost ynni. Mae cadw pobl Prydain yn gaeth i bris tanwydd ffosil yn ddrwg i dalwyr biliau ac yn drychinebus i'r camau yr ydym ni i gyd yn gwybod y mae angen i ni eu cymryd i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Mae'r costau cynyddol a'r diffyg sicrwydd y bydd cyflenwad yn cryfhau'r achos dros gydnerthedd ynni a'r angen am reolaeth dros ein system ynni. Mae ein Llywodraeth wedi hyrwyddo'r angen am fwy o effeithlonrwydd ynni a mwy o ynni adnewyddadwy, ynghyd â mesurau hyblygrwydd i sicrhau y gallwn bob amser ateb y galw. Dyma'r atebion tymor hir cywir i gyflawni o ran yr argyfwng costau byw presennol a'r argyfyngau hinsawdd a natur. Mae'r system llawer mwy lleol hon yn gofyn i ni ymwneud llawer mwy â'r system ynni nag o'r blaen. Bydd angen i'r llywodraeth ar bob lefel fod â rôl weithredol wrth ddylunio'r system ynni sero-net, un sy'n galluogi pobl i fyw a symud, ond eto sydd â'r costau a'r effeithiau isaf posibl. Rwyf wedi bod yn falch iawn o'r ffordd mae awdurdodau lleol a rhanbarthau wedi gweithio gyda ni ar gynlluniau ynni sy'n nodi'r newidiadau sydd angen digwydd, a sut y gall y newidiadau hynny sicrhau swyddi medrus i bobl yn eu hardaloedd. Wedi'r cynlluniau treialu llwyddiannus yng Nghonwy a Chasnewydd, edrychaf ymlaen at weld gweddill ein hawdurdodau yn datblygu cynlluniau ynni lleol manwl, a fydd yn sail i'r cynllun ynni cenedlaethol yn 2024. Nid yw'r cynlluniau hyn yn datrys ein problemau cost ynni ar unwaith, ond maent yn gosod fframwaith cryf i ni ganolbwyntio ar y cyd ein camau i amddiffyn ein hunain yn y tymor canolig. Wrth gyflawni'r cynlluniau hyn, rhaid i ni feddwl yn wahanol fel cenedl am sut rydyn ni'n rheoli asedau cyhoeddus. Byddwn ni'n cyflawni rhwymedigaethau sero-net yn unig mewn ffyrdd sydd o fudd i gymunedau trwy gymryd dulliau newydd a gwahanol. Rydym eisoes wedi defnyddio'r prif ased cyhoeddus sef ystad goetir Llywodraeth Cymru i gyflawni ein polisi ar ynni adnewyddadwy a budd lleol. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi goruchwylio gwaith gosod pedwar prosiect gwerth 441 MW o wynt ar y tir, ac mae 134 MW arall yn dal i gael ei ddatblygu. Mae hyn wedi darparu nid yn unig incwm i'r pwrs cyhoeddus o daliadau prydles ac yn uniongyrchol i gymunedau o gronfeydd budd cymunedol, ond cyfleoedd i gymunedau gymryd perchnogaeth o ran o'r datblygiadau hyn. Mae'r prosiectau hefyd wedi ariannu gwelliannau mewn cyfalaf naturiol, fel adfer ac ehangu ardaloedd lle'r oedd mawn mewn perygl o ryddhau nwyon tŷ gwydr. Mae wedi bod yn ddiddorol nodi bod y cwmnïau sy'n ennill cystadlaethau prydles—y rhai hynny sydd fwyaf parod i sicrhau buddion lleol—yn ddatblygwyr sy'n eiddo i'r wladwriaeth. Rydym yn rhannu uchelgais y cenhedloedd eraill hyn, ac rydym yn benderfynol o sicrhau cymaint â phosibl y gwerth y mae Cymru yn ei dderbyn gan asedau cenedlaethol Cymru a ddefnyddir i gynhyrchu ynni. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi bod yn gweithio gyda CNC i asesu lefel y cynhyrchu gan wynt y gall yr ystad goetir ei chynnal ac ystyried sut i sicrhau bod Cymru'n cadw mwy o'r manteision mewn marchnad sy'n newid. Mae tir cyhoeddus yn gyfle gwych, fodd bynnag, nid yw ond yn deg cymryd cyfran fwy o ran y risgiau os ydym yn dymuno cymryd mwy o'r enillion i Gymru. Felly, Llywydd dros dro, rwy'n falch iawn o gyhoeddi, fel y nodais yn Cymru Sero Net y llynedd, ein bod ni'n mynd i sefydlu datblygwr gwladol Cymru. Byddwn ni'n cymryd mwy o risgiau pan fydd y rhain yn rhesymol, ac yn cael yr enillion er budd dinasyddion Cymru. Byddwn ni'n bwrw ymlaen â phrosiectau ar dir Llywodraeth Cymru ac yn eu datblygu'n fasnachol, gan barchu barn pobl a rheoli ein hadnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy ar yr un pryd. Byddwn yn cyflawni'n uniongyrchol ar ein nodau i gael dros gigawat o gynhyrchiant dan berchnogaeth leol erbyn 2030, a'n hymrwymiad maniffesto i gynhyrchu o leiaf 100 MW ychwanegol erbyn 2026. Mae hwn yn ddull hirdymor, ac nid ydym yn disgwyl gweld enillion tan tua diwedd y ddegawd. Fodd bynnag, rwy'n disgwyl enillion sylweddol o'u cymharu â'n buddsoddiad. Bydd yr incwm yn ein helpu i gefnogi cymunedau—fel yn wir yr ydym eisoes wedi gweld cymunedau'n elwa yn ystod COVID ac erbyn hyn yr argyfwng costau byw—o'r cronfeydd cymunedol o ffermydd gwynt presennol. Ond rwy'n arbennig o awyddus i archwilio sut y gallwn gysylltu'r datblygiadau hyn â ôl-osod cartrefi gerllaw, gan ddefnyddio busnesau lleol. Bydd hyn yn golygu gweithio mewn ffordd wahanol gyda'r sector preifat. Gobeithio y bydd y sector hwnnw'n croesawu aelod arall dan berchnogaeth gyhoeddus, gan weithio ar sail gyfartal a dychwelyd elw i'r pwrs cyhoeddus. Byddwn yn gweithio gyda CNC i ystyried sut, yn y dyfodol, y gallwn gynnig cyfleoedd ar draws yr ystad coetir sy'n ategu ein datblygiadau ni, cyfleoedd i ddatblygwyr masnachol a chymunedol gynnig mentrau ar y cyd gyda ni. Rydym hefyd yn gobeithio y bydd ein dull ni o weithredu yn helpu i ailffurfio'r farchnad mewn mannau eraill yng Nghymru. Bydd ein dealltwriaeth ddyfnach o arbedion yn sgil datblygiadau mawr yn ein helpu i bennu disgwyliadau ynglŷn â faint o fudd cymdeithasol ac amgylcheddol lleol y mae'n rhesymol ei ddisgwyl gan ffermydd gwynt eraill ledled Cymru. Mae gennym lawer iawn mwy o waith i'w wneud i sefydlu cwmni newydd erbyn mis Ebrill 2024. Ochr yn ochr â sefydlu'r datblygwr, byddwn ni'n datblygu portffolio o brosiectau, gan ymgysylltu yn gynnar â chymunedau ac awdurdodau lleol. Byddwn hefyd yn edrych yn fanwl ar y buddion y bydd y dull hwn yn eu cyflawni. Byddwn yn gweithio gyda'r rhai sy'n byw ger prosiectau i ddiffinio cynigion budd cymunedol sydd wir yn gwneud gwahaniaeth i'w bywydau. Byddwn hefyd yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i wneud yn siŵr bod y prosiectau hynny'n cyfrannu at fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur. Byddaf yn rhoi gwybod i'r Siambr ar y cynnydd wrth i ni weithio trwy sefydlu'r datblygwr. Gobeithio y byddwch i gyd yn croesawu'r cyhoeddiad hwn, wrth i Gymru fod y genedl gartref gyntaf i fod â datblygwr ynni adnewyddadwy dan berchnogaeth gyhoeddus yng Nghymru. Diolch. Janet Finch-Saunders AC: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Mae'n dda iawn gweld eich bod chi'n bwrw ymlaen o ran edrych ar brosiectau a all ein helpu ni mewn gwirionedd tuag at ein huchelgeisiau o ran sero carbon, yn ogystal â rhoi mwy o arian yn ôl i'r economi leol. Nawr, ar hyn o bryd, mae gennych chi gwasanaeth ynni Llywodraeth Cymru. Mae hwn wedi cefnogi 242 o brosiectau, gan arbed 716,000 tunnell o garbon deuocsid rhag cael ei allyrru, gan gynhyrchu £322 miliwn mewn incwm a chynilion lleol. O'ch datganiad, dyna'r darn wnaeth wir sefyll allan i mi ynglŷn â chyhoeddi datblygwr gwladol Cymru a phrosiectau newydd ar dir Llywodraeth Cymru a fydd wedyn yn cael eu datblygu'n fasnachol yn 2024. Am wn i, gan fynd yn ôl at wasanaeth ynni Llywodraeth Cymru, sut fydd hwn yn gweithio gyda'r un newydd yr ydych chi'n ei sefydlu, oherwydd, yn 2021, dim ond pum prosiect ynni adnewyddadwy gafodd eu cefnogi gan y gwasanaeth? Felly, a ydych chi'n cytuno â mi, y dylid herio'r gwasanaeth hwn, os yw'n mynd i barhau i weithredu, i gynyddu niferoedd y prosiectau ynni adnewyddadwy y mae'n eu cefnogi? Hefyd, mae gwerth £5.34 miliwn o brosiectau yn dod i ben ar ôl sicrhau cyllid, felly mae'r adroddiad mewn gwirionedd yn nodi na chafodd y cynlluniau eu hadeiladu, ond nid oes eglurder o ran yr hyn sydd wedi digwydd i'r miliynau a gafodd eu buddsoddi. Felly, efallai y gwnewch chi ymhelaethu ar hynny ymhellach. A fyddwch chi'n gydgysylltu â'r gwasanaeth i ganfod beth sydd wedi digwydd i'r rheini? Cyhoeddodd yr archwilydd cyffredinol adroddiad ar barodrwydd y sector cyhoeddus i gyrraedd targed sero-net 2030 ym mis Awst 2022, felly mae ansicrwydd o fewn y sector ynghylch a allan nhw gyrraedd y targed sero-net. Nawr, dim ond 10.4 y cant o'n cyrff sector cyhoeddus yng Nghymru sy'n hyderus eu bod nhw'n mynd i gyrraedd targed 2030, ac nid oedd 40 y cant arall o gyrff cyhoeddus yn cytuno nac yn anghytuno â'r datganiad hwn. Felly, sut ydych chi'n ffyddiog eu bod nhw'n mynd i gyrraedd targed y sector? A chwestiwn arall: mae dau fis wedi mynd heibio ers i'r rhybudd y gallai 90 y cant o gyrff cyhoeddus fethu targed sero-net 2030, felly pa gamau rydych chi'n eu cymryd i fynd i'r afael â hyn? Yn ddiddorol, mae'r sector iechyd yn gyfrifol am oddeutu traean o allyriadau'r sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae cynllun cyflawni strategaeth ddatgarboneiddio GIG Cymru wedi gosod targed o ostyngiad o 34 y cant mewn allyriadau carbon, ond y gwir amdani yw, os mai dim ond gostyngiad o 34 y cant ohonynt a gyflawnir, yna bydd yn anodd i'r sector cyhoeddus gyflawni ei darged sero-net cyffredinol. Felly, pa gamau fyddwch chi'n eu cymryd, sut fyddwch chi'n gweithio gyda'r Gweinidog iechyd a gofal cymdeithasol i weld targed mwy heriol yn cael ei osod gan GIG Cymru? Mae eraill wedi rhybuddio y bydd cyrraedd y targed yn gofyn am adnoddau ariannol ychwanegol, ac, wrth gwrs, bydd absenoldeb yr arian hwn yn rhwystr i symud ymlaen. Prif bwnc eich datganiad oedd y cwmni datblygu newydd hwn, felly sut fydd hwnnw'n gweithio gyda'r gwasanaeth ynni a oedd gennych, a sut y bydd yn cyflawni mewn gwirionedd? Pa mor ffyddiog—? Ac, am wn i, fy nghwestiwn olaf yw: rydych chi'n dweud yn 2024; mae gennym ni'r argyfwng hinsawdd nawr, a oes unrhyw ffordd o gwbl y gallai hynny gael ei gyflwyno'n gynt? Diolch. Julie James AC: Diolch, Janet. Rwy'n credu bod y rhan fwyaf o'ch cyfraniad yn y fan yna ynghylch y gwasanaeth effeithlonrwydd ynni, ac yn amlwg nid dyna yw prif bwrpas y datganiad hwn. Yn amlwg, rydym yn gweithio gyda'r gwasanaeth effeithlonrwydd ynni i sicrhau y gallwn gael effeithlonrwydd ynni. Fe wnaethoch chi ddyfynnu rhai o'r ystadegau da iawn yr ydym ni wedi'u cael mewn gwirionedd o ran canlyniadau yn y fan yna. Rwy'n falch iawn o fod yn gweithio gyda nhw. Byddwn ni hefyd yn datblygu datblygwr ynni cymunedol, fel rhan o'n cytundeb cydweithredu â Phlaid Cymru, a fydd yn tynnu'r cynlluniau ynni lefel gymunedol sydd eu hangen arnom yn y gymuned at ei gilydd ledled Cymru—y cynlluniau ar raddfa fach sydd eu hangen arnom ledled Cymru. A byddan nhw hefyd yn gyfuniad o gynhyrchu trydan—felly o'ch paneli solar, o'ch hydro ar raddfa fach ac yn y blaen, yr wyf yn gwybod bod gennych ddiddordeb ynddyn nhw—ond hefyd yn gweithio ar effeithlonrwydd ynni'r adeiladau sy'n rhan o'r prosiect cymunedol hwnnw. Felly, yn amlwg, yr hyn sydd angen i ni ei wneud hefyd yw lleihau'r galw am gynhyrchu trydan. Mae'r datganiad hwn, er hynny, am datblygwr ar raddfa fawr iawn sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru, gan ddechrau ar dir Llywodraeth Cymru, i gymryd ei le gyda nifer o gwmnïau sydd eisoes yn gweithio ledled Cymru. Mae Scottish Power, er enghraifft, yn darparu, fel y gwn eich bod chi'n gwybod, y grid yn y gogledd. Mae hyn, Llywydd Dros Dro, yn un o'r hen ystrydebau wedi ei wireddu: felly, mae'n debyg mai'r amser gorau i wneud hyn oedd tua 40 mlynedd yn ôl, a'r amser gorau wedi hynny yw nawr. Felly, dyma ni—rydym ni'n ei wneud. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud hefyd yw gwahodd menter ar y cyd â chwmnïau'r sector preifat—rwy'n dweud 'sector preifat' gyda dyfynodau o'i amgylch, oherwydd cwmni pŵer cenedlaethol o Sweden, cwmni pŵer cenedlaethol yr Alban, cwmni pŵer cenedlaethol yr Almaen, Denmarc yw'r rhan fwyaf ohonyn nhw, wyddoch chi, mae'r rhain yn gwmnïau sydd yno'n barod, felly dydyn nhw ddim yn rai sector preifat mewn gwirionedd; maen nhw'n weithredwyr sy'n eiddo i'r wladwriaeth—i weithio ochr yn ochr â ni i wneud yn siŵr, wrth gynhyrchu'r math o ynni sydd ei angen arnom ledled Cymru o bob math o ynni adnewyddadwy, er ein bod yn dechrau ar ystad Llywodraeth Cymru gyda gwynt, rydym yn dychwelyd y buddsoddiad yn hwnnw, nid yn unig mewn buddion cymunedol ond y buddsoddiad gwirioneddol yn ôl i bobl Cymru, ac mae'r cwmnïau eraill hynny'n gallu gwneud hynny i'w dinasyddion cenedlaethol nhw. Wrth wneud hynny, fe fyddwn ni, wrth gwrs, yn gallu ailfuddsoddi mewn cydnerthedd ynni a effeithlonrwydd ynni, sef dwy ochr o'r un geiniog—rwy'n cytuno'n llwyr â chi. Felly, rwy'n falch eich bod chi'n croesawu hyn. Bydd yn cymryd blwyddyn i ni sefydlu'r cwmni yn iawn, oherwydd mae hon yn strategaeth fuddsoddi fawr, y mae'n rhaid i ni ei gwneud er mwyn cael ein hagenda pontio teg yn weithredol mewn gwirionedd. Gwn eich bod yn rhannu ein huchelgais na ddylai pobl Cymru, wrth bontio i economi werdd, ddioddef y problemau y gwnaethom eu dioddef mewn chwyldroadau diwydiannol blaenorol. Felly, dyma'r cam mawr cyntaf ymlaen wneud yn siŵr ein bod ni'n sicrhau cyfoeth ein diwydiant adnewyddadwy ar gyfer pobl Cymru. Delyth Jewell AC: Diolch, Gadeirydd dros dro, a diolch, Weinidog, am eich datganiad. Mae’n dda clywed mwy am fel y gall y sector cyhoeddus chwarae rôl bwysig wrth inni fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur. Mae hyn wedi codi yn barod, ond rwy'n meddwl ei bod hi'n werth i ni siarad ychydig am hyn. Roedd hi'n peri pryder clywed bod Audit Wales wedi dweud dros yr haf ei bod hi'n glir y byddai'r sector yma yn gorfod—er mwyn iddyn nhw gyrraedd y nod o net sero gydag allyriadau carbon erbyn 2030, dywedodd yr archwilydd fod angen i gyrff cyhoeddus gwneud mwy yn gyflymach. Gwnaethon ni glywed fod heriau mawr yn eu ffordd nhw, a bod angen i Lywodraeth Cymru eu helpu nhw i ddod dros yr heriau hyn. Fel rydyn ni wedi clywed, o'r 48 corff cyhoeddus yr oedd Audit Wales wedi siarad â nhw, dim ond dau oedd wedi asesu goblygiadau ariannol cyrraedd y nod yma yn llawn. Dywedodd y cyrff cyhoeddus fod angen arnynt fwy o fuddsoddiad, a bod angen iddyn nhw ffeindio ffyrdd fwy agile neu wahanol, newydd o ddefnyddio’u harian. A gaf i ofyn i chi yn gyntaf, Weinidog, ymateb i’r pryderon ariannol a dweud sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi datgarboneiddio yn y sector cyhoeddus, efallai’n ffocysu ar ein system ynni? Hefyd, datgelwyd problemau gyda chapasiti a bylchau yn y sgiliau sydd yn y sector. Dywedodd y cyrff fod eu hadnoddau nhw’n cael eu defnyddio ar gapasiti llawn yn barod wrth iddyn nhw ddelio â gwasanaethau craidd, ac nad oes ganddyn nhw wastad y sgiliau arbenigol i ddelio â natur gymhleth datgarboneiddio. Rwy’n siŵr y byddech chi’n cytuno, Weinidog, fod angen gweithlu gyda’r sgiliau gwyrdd hyn er mwyn inni wneud yn siŵr ein bod ni'n gweld y newid sydd ei angen. Felly, a gaf i ofyn i chi osod allan eich vision chi ar gyfer y gweithlu? Ymhellach i hynny, sut ydy’r Llywodraeth yn annog cydweithrediad yn y sector cyhoeddus yn y materion hyn? Mae adroddiad yr archwilydd yn sôn am bwysigrwydd rhannu gwybodaeth, capasiti ac arbenigedd, felly buaswn i’n hoffi clywed eich persbectif chi ar hynny. Yn olaf ond un, mae data yn her sylweddol yn hyn. Mae’n glir bod dyfodol ein system ynni, a rôl ddatgarboneiddio'r sector cyhoeddus, yn dibynnu ar ddata sydd yn ddibynadwy. Galwodd yr archwilydd ar gyrff cyhoeddus i wella’u dealltwriaeth nhw o allyriadau carbon. Beth ydy’r Llywodraeth yn gwneud i gefnogi hynny a beth sy’n cael ei wneud i wella casglu data gan y Llywodraeth ei hun wrth ystyried hyn? Yn olaf, Weinidog, hoffwn i ofyn: beth oeddech chi’n ei olygu wrth 'returns'? Roeddech chi'n dweud Delyth Jewell AC: 'nid ydym yn disgwyl gweld enillion tan...diwedd y degawd'. Daeth y Llywydd i’r Gadair. Delyth Jewell AC: Ai prosiectau oeddech chi’n golygu wrth hwnna, neu returns on investment? Ac yn olaf, o ran yr amserlen, 'the end of the decade', roeddech chi’n dweud. Ydych chi’n cytuno, yn sicr o ran prosiectau ynni cymunedol, fod angen mwy o frys na hynny? Diolch yn fawr. Sori os oedd hwnna bach yn gyflym ar gyfer y cyfieithwyr. Does dim angen ymddiheuro i’r cyfieithwyr. Maen nhw’n fwy na ddigon abl i gyfieithu popeth sy’n cael ei ddweud yn y Siambr yma. Julie James AC: Ac rydw i, o'm rhan fy hun, yn ddiolchgar iawn iddyn nhw yn wir, Llywydd, oherwydd mae arna i ofn nad yw fy Nghymraeg i yn ddigon da i drafod ynni adnewyddadwy yn fanwl ar hyn o bryd, er cymaint yr hoffwn iddi fod. Felly, Delyth, rwy'n ddiolchgar iawn yn wir am y sylwadau hynny. Fe wnaethoch chi gwmpasu cryn dipyn mewn ychydig iawn o amser yn y fan yna, felly mi wnaf i fy ngorau i ateb rhywfaint o'r cwestiynau hynny, ond mi fyddaf i'n dechrau o gynsail y datganiad, sef mai dyma'r cyhoeddiad amdanom ni'n ffurfio datblygwr ynni sylweddol gwladol. Felly, mae hyn yn raddfa lawer mwy na'r prosiectau cymunedol ledled Cymru. Mae hwn yn ddatblygwr o bwys. Dyna pam mae'n cymryd degawd i weld unrhyw enillion, oherwydd bydd yn cymryd mor hir â hynny i adeiladu'r fferm wynt gyntaf, y mae gennym ni blot eisoes wedi'i neilltuo ar ei chyfer, ond bydd yn rhaid i ni ymdrin â phob agwedd o ddatblygu hynny, gan gynnwys yr holl ganiatâd cynllunio a'r ymgysylltu cymunedol a'r holl bethau yr ydym ni'n disgwyl i ddatblygwyr eraill ei wneud. Felly, yn amlwg, mae'n rhaid i ni fuddsoddi o flaen llaw i alluogi'r datblygwr i wneud hynny, ac ni fydd gennym ni fferm wynt weithredol yn cynhyrchu ei helw am beth amser. Felly, dyna yw'r oedi yn y peth arbennig yma. Y peth arall i'w ddweud yw, oni bai ein bod ni'n datgarboneiddio ein grid yn gyflym—ac, a dweud y gwir, rwyf wedi colli pob ffydd yng ngallu Llywodraeth y DU i weithredu yn hyn o beth; rwy'n gobeithio fy mod i'n anghywir a'u bod nhw'n rhoi trefn ar eu hunain, ond, ar hyn o bryd, nid yw pethau'n edrych yn wych. Wyddon ni ddim eto pwy yw'r Ysgrifennydd Gwladol newydd. Ond oni bai ein bod ni'n datgarboneiddio'r grid, wrth gwrs bydd cyrff yn y sector cyhoeddus ym mhob rhan o Gymru yn ei chael hi'n anodd, gan gynnwys y gwasanaeth iechyd, oherwydd datgarboneiddio'r grid y maen nhw'n cael eu hynni ohono yn y lle cyntaf yw un o'r camau mawr ymlaen, ac mae hynny'r un peth ar gyfer tai ac i weithredwyr masnachol ledled Cymru. Rwy'n credu fy mod i wedi dweud yn y Siambr hon o'r blaen, Llywydd, y buom ni'n cael trafodaeth dda gyda'r Gweinidog ar y pryd am gael grid wedi'i gynllunio i Gymru, trefniant datblygu rhwydwaith a oedd yn caniatáu inni gynllunio'r grid a pheidio ag ymateb i rymoedd y farchnad drwy'r amser. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd hynny'n goroesi'r cynnwrf presennol yn Llywodraeth y DU, oherwydd wrth gwrs mae hynny'n ein galluogi nid yn unig i roi ein generaduron adnewyddadwy mawr ar waith, ond yn bwysicach o lawer, Delyth, mae'n caniatáu i'r holl gynlluniau cymunedol bach ledled Cymru gysylltu â'r grid, i ddefnyddio ynni pan fydd ei angen arnynt, ond, yn bwysicach o lawer, i gyfrannu ynni pan fydd ganddyn nhw ynni dros ben, ac felly'n helpu gyda'r holl argyfwng costau byw a gyda datgarboneiddio. Yn amlwg, fel y dywedais i mewn ymateb i Janet, dyma un ochr i ddull deublyg. Fe wyddoch chi, o dan y cytundeb cydweithio, ein bod ni'n bwriadu creu Ynni Cymru. Ynni Cymru fydd y datblygwr ynni cymunedol ledled Cymru ar gyfer yr holl brosiectau bach, gan eu tynnu at ei gilydd. Mae'n cael ei drafod ar hyn o bryd ond mae'n debyg—wel, rwy'n gobeithio—y bydd ganddo berthynas â gwasanaeth ynni Cymru, neu hyd yn oed yn disodli hynny, er mwyn dod a'r ddwy agwedd ar hynny—y datgarboneiddio, insiwleiddio, yr ôl-osod a'r agwedd cynhyrchu ynni—at ein gilydd, oherwydd mae'n rhaid inni ddefnyddio llai a sicrhau ein bod yn defnyddio'r hyn y gwnaethom ni ei gynhyrchu yn effeithlon iawn er mwyn cyflawni unrhyw beth yn agos at sero net. O ran sgiliau, rydym ni'n gweithio'n agos iawn gyda fy nghyd-Aelod Jeremy Miles, a fy nghyd-Aelod Vaughan Gething, i sicrhau bod gennym ni'r cyfle datblygu economaidd wedi'i amlygu a bod gennym ni'r sgiliau cynhyrchu, fel ein bod ni'n penodi'r prentisiaid cywir, yn sicrhau ein bod ni'n gweithio gyda'n colegau addysg bellach i fod yn cynhyrchu'r mathau cywir o brentisiaid i weithio ar y prosiectau hyn, ond mewn gwirionedd, byddwn ni hefyd yn gweithio, wrth gwrs, gyda'n prifysgolion hefyd, oherwydd un o'r manteision mawr o gael datblygwr gwladol yw y caiff ei gynllunio a'i redeg yma yng Nghymru. Ni fyddwn yn mewnforio rhywbeth sydd â'r rhan fwyaf o'r swyddi mawr yn ôl ym mha bynnag wladwriaeth weithredu yr ydych yn sôn amdani. Felly, mae'r gobaith yma wedi fy nghyffroi'n fawr. Mae hwn yn gam mawr ymlaen mewn clytwaith o bethau sydd angen i ni eu gwneud gyda'n gilydd er mwyn cael yr economi werdd llawer gwell a llawer mwy gwyrdd i Gymru y mae arnom ni i gyd ei heisiau. Huw Irranca-Davies AC: Yn wyneb graddfa anhygoel yr argyfwng newid hinsawdd sy'n ein hwynebu a'r angen i gyrraedd sero net, mae hwn yn ddatganiad i'w groesawu heddiw ac yn enwedig y cynigion ynghylch datblygwr gwladol Cymreig. Yr hyn yr hoffwn i ei ofyn i chi, Gweinidog, yw: fe wyddoch chi ar garreg fy nrws—dydw i ddim yn gofyn i chi wneud sylw ar y cais unigol, peidiwch â phoeni, ac ni fydd yn dod atoch chi tan, rwy'n credu, 2023—mae gennym y cynnig ar gyfer datblygiad Bryn. Dyma fydd un o'r mwyaf yng Nghymru, os nad yn Ewrop. Rhain hefyd fydd rhai o'r tyrbinau gwynt talaf. Rwyf wedi eiriol yn gyson, gyda llaw, dros bŵer gwynt yr holl flynyddoedd yma. Mae'r rhain yn union gyferbyn â fy nhŷ i; rwy'n parhau'n eiriolwr cyson ohonynt oherwydd yr her honno sydd gennym ni. Ond mae'n ddiddorol iawn ei fod yn gorgyffwrdd; mae'r amseru yn anghywir. Gallai'r cynllun hwn fod wedi bod yn un o rai'r datblygwr gwladol. Iawn, felly os yw'n anghywir, fe ddywedasoch chi hefyd yn eich datganiad: 'Bydd ein dealltwriaeth ddyfnach o arbedion yn sgil datblygiadau mawr yn ein helpu i bennu disgwyliadau ynglŷn â faint o fudd cymdeithasol ac amgylcheddol lleol y mae'n rhesymol ei ddisgwyl gan ffermydd gwynt eraill ledled Cymru.' Wel, dyma un o'r rhai eraill hynny. Beth ddywedaf i wrthyn nhw pan fyddaf yn eu cyfarfod nesaf ar ran fy etholwyr am faint o ymgysylltu cymunedol, llog, cyfranddaliadau, enillion, ôl-osod, beth bynnag, y dylem ni ddisgwyl ganddyn nhw os yw hyn yn mynd i fod yn un o'r datblygiadau gwynt mwyaf ar y tir nid yn unig yng Nghymru ond yn Ewrop? Beth ddylem ni fod yn ei fynnu ganddyn nhw? Julie James AC: Diolch yn fawr, Huw. Felly, yn amlwg, dydw i ddim yn mynd i wneud sylw ar yr agwedd benodol yna, ond yn gyffredinol, un o'r rhesymau mae arnom ni eisiau cwmni gwladol sy'n eiddo i ni, ddinasyddion Cymru, yw i roi pwysau ar yr holl ddatblygiadau eraill ledled Cymru i ddangos beth y gellir ei wneud mewn menter ar y cyd rhwng datblygwr gwladol ac ymgysylltu â'r gymuned a'r partner cyd-fentro. Rydym ni wedi gwneud gwaith da iawn gyda'r buddion cymunedol, ond mae buddion cymunedol yn gyfyngedig; dydych chi ddim yn cael elw uniongyrchol yn ôl o hynny. Mae'n gyfran elw o fath, ond nid yw'n elw uniongyrchol. Yr hyn rydym ni'n bwriadu ei wneud yw cael ffermydd gwynt ledled Cymru—ac rwy'n pwysleisio'n llwyr nad ydw i'n siarad am unrhyw un penodol yma—hoffem i ffermydd gwynt ledled Cymru ymgysylltu â ni o ddifrif wrth sicrhau, wrth adeiladu pa bynnag fferm wynt maen nhw'n ei hadeiladu, fod rhai o'r tyrbinau yn eiddo uniongyrchol i'r gymuned leol. Felly, maen nhw'n cael budd cymunedol o'r fferm wynt gyfan, ond maen nhw mewn gwirionedd yn berchen ar rai o'r tyrbinau—felly, fe gânt eu codi ar ran y gymuned. Yr hyn y mae arnom ni eisiau ei wneud, wrth ddatblygu gyda Phlaid Cymru a'n cynlluniau o dan y cytundeb cydweithio—ac mae hyn, rwy'n pwysleisio, yn cael ei ddatblygu, nid yw hyn wedi'i gytuno, ond mae'n un o'r trafodaethau rydym ni'n eu cael—yw gweld a yw'r cwmni hwnnw—felly, nid yr un yma yr wyf yn siarad amdano yn y fan yma, ond y bydd y cwmni arall hwnnw—yn gallu hwyluso'r berchnogaeth honno ar ran pobl leol, oherwydd un o'r materion mawr i ni yw nad yw pobl leol yn debygol o allu prynu stociau yn y cwmnïau hynny. Felly, i hwyluso'r berchnogaeth honno. Felly, perthynas lawer mwy uniongyrchol, ac, wrth gwrs, felly, perthynas lawer mwy uniongyrchol drwy gydol yr holl broses—felly, wrth ymgysylltu, wrth ddylunio, wrth adeiladu, gyda sgiliau, wrth ddarparu prosiectau ynni ac ôl-osod cartrefi, wrth uwchsgilio cymunedau cyfan. Un o'r pethau rwy'n ei ddweud yn aml mewn sgyrsiau gyda chwmnïau ynni adnewyddadwy—a dyma pam mae'r agwedd grid o hyn mor bwysig—yw bod yna gartrefi drwy Gymru benbaladr sy'n gallu edrych allan o ffenest a gweld fferm wynt ond sydd ar olew nad yw'n rhan o'r grid, sydd ddim yn gallu uwchraddio eu tai er mwyn gallu manteisio ar bethau fel pympiau gwres ffynhonnell aer oherwydd bod y buddsoddiad yn ormod iddyn nhw. Gall y ffermydd gwynt hynny gyfrannu'n uniongyrchol at hynny. Mae angen i ni uwchsgilio ein cymunedau i allu gofyn am y peth cywir mewn buddion cymunedol. Mae angen i ni gael yr elw uniongyrchol iddyn nhw o fod yn berchen ar rai o'r tyrbinau, a bydd i'r datblygwr sylweddol hwn ran allweddol yn llywio'r sgwrs honno i gyfeiriad cyd-fentro. Rwy'n prysuro i ddweud eto nad ydw i'n trafod unrhyw gais penodol yma, ond, yn amlwg, yr hyn rydym ni'n ceisio ei wneud yw rhoi pwysau ar yr holl system fel ei fod yn ymddwyn mewn ffordd benodol, a gobeithio y bydd hyn nid yn unig ar gyfer gwynt ar y tir, ond hefyd ar gyfer gwynt ar y môr. Rydym ni wedi cael sgyrsiau da iawn gyda Ystad y Goron hyd yn hyn. Rydym ni'n gobeithio'n fawr cael sgwrs debyg am berchnogaeth a gweithrediad cynlluniau gwynt ar y môr hefyd, oherwydd rydym ni'n siarad yn y fan yna am gynhyrchu symiau sylweddol iawn o ynni. Peter Fox AS: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Fel rwy'n siŵr y byddwch yn cofio, Gweinidog, mentrodd Cyngor Sir Fynwy, yn ôl pan oeddwn i'n arweinydd, sefydlu ei fferm solar ei hun ar dir sy'n eiddo i'r cyngor yn y Crug. Y bwriad oedd cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar gyfer tua 1,400 o gartrefi a lleihau allyriadau carbon. Gofynnodd y cyngor i Lywodraeth Cymru ar y pryd ymuno â'r prosiect fel partner, a chawsom gefnogaeth a chyllid derbyniol drwy'r gronfa twf gwyrdd buddsoddi i arbed er mwyn helpu i gyflawni hynny. Rwy'n siŵr bod llawer o enghreifftiau gwych eraill ar draws yr holl awdurdodau ac fe wnaethoch chi dynnu sylw at ddau rwy'n gwybod amdanynt, ac rwy'n gobeithio y bydd llywodraeth leol yn cyflwyno cynlluniau ynni manwl iawn, ac rwy'n croesawu'r mentrau rydych chi wedi'u cyhoeddi heddiw fel y gallwn ni gynyddu prosiectau ynni a'u darparu'n gynt yn lleol. Roedd yr archwiliad manwl i gynlluniau ynni adnewyddadwy a gynhaliwyd y llynedd yn argymell bod angen i ni edrych ar ffyrdd o wella mynediad at dir cyhoeddus a phrosiectau ynni lleol, yn ogystal â meithrin gallu ychwanegol yn y mentrau cymunedol, er mwyn helpu i gychwyn y cynlluniau newydd hynny. Gweinidog, roedd arna i eisiau gwybod yn fras sut rydych chi'n gweithio gyda'r Gweinidog llywodraeth leol i ddatblygu gwybodaeth a gallu ychwanegol mewn awdurdodau lleol a strwythurau rhanbarthol i helpu i gynyddu cynlluniau ynni adnewyddadwy presennol a newydd, fel y gallwn ni greu sector mwy, a mwy cynaliadwy. Diolch. Julie James AC: Diolch yn fawr, Peter. Rwy'n cofio hynny'n iawn, gyda phleser mawr hefyd. Ac un o'r pethau mae arnom ni eisiau ei wneud yw cynorthwyo cynghorau i gyflwyno cynlluniau ynni adnewyddadwy sy'n gwneud nifer o bethau eraill hefyd—felly, er enghraifft, gwella bioamrywiaeth, annog plannu coed o gwmpas yr ymylon ac ati, yr holl bethau y gwnaethom ni eu trafod yng nghais sir Fynwy, ac, mewn gwirionedd, gyda nifer fawr o awdurdodau eraill ledled Cymru. Felly, mae gennym ni strategaeth ynni rhanbarthol—rwy'n siŵr eich bod yn cofio hyn; roedd yn destun cryn sgwrsio—ac rydym ni wedi cefnogi pob rhanbarth i adnabod faint o newid sydd ei angen i gyrraedd system ynni carbon isel ar gyfer ei ranbarth. Roedd y strategaeth ranbarthol yn gosod yr uchelgais honno. Nid oes ganddyn nhw ddigon o fanylion ynddyn nhw ar hyn o bryd i lywio'r cam cyflawni gwirioneddol, ond byddant yn sail i'n cynllun ynni ar gyfer Cymru. Byddwn ni wedyn yn mynd i lawer mwy o fanylion drwy'r cynlluniau ynni ar gyfer ardaloedd lleol—rydym ni wedi arbrofi gyda Chonwy a Chasnewydd, y credaf i mi grybwyll yn barod—ac yna byddwn yn cyflwyno hynny i bob awdurdod lleol ar gyfer cefnogaeth debyg, gan gyflawni ein hymrwymiad i bob ardal yng Nghymru gael cynllun ynni lleol manwl erbyn mis Mawrth 2024. Bydd hynny'n ein helpu i siarad â gweithredwr y grid, a fydd, gobeithio, nawr yn weithredwr grid wedi'i gynllunio, am beth yw'r gofyniad ynni ym mhob un o'r meysydd hynny a beth yw'r gofyniad effeithlonrwydd ynni ym mhob un o'r meysydd hynny, drwy'r gwasanaeth ynni a thrwy'r cynlluniau ardal, a wneir gyda'n partneriaid awdurdod lleol, na fydden ni hebddyn nhw yn gallu gwneud dim o hyn, wrth gwrs. Ac yna bydd hynny'n rhoi'r cynllun sgerbwd ar gyfer cynllun ynni cenedlaethol Cymru, sef y glasbrint i arwain grid cydlynol—haleliwia, greal sanctaidd grid cydlynol—wedi ei gynllunio am y tro ac at y dyfodol, gyda'r llinellau grid ar hyd y gogledd a'r de yn cael eu huwchraddio, ond hefyd i lenwi'r hyn sydd i bob pwrpas yn ddim grid ar draws rhannau helaeth iawn o ganolbarth Cymru. Felly, rydym ni'n rhoi'r cynlluniau hynny ar waith, gyda'n partneriaid awdurdod lleol, ac mae Rebecca a minnau wedi cael llawer o sgyrsiau am hyn gydag arweinwyr awdurdodau lleol. Mewn gwirionedd, mae'n eitem sefydlog yn y cyngor partneriaeth i fynd i'r afael â sero net a'r argyfyngau hinsawdd a natur. Felly, rydym ni'ngwbl ddibynnol arnyn nhw i wneud hyn, ond maen nhw'n hapus iawn i'w wneud gyda ni, i gael y system arfaethedig gydlynol honno ar waith, felly rydym ni'n deall yr hyn sydd ei angen arnom ni, rydym ni'ndeall beth yw ein huchelgais, gallwn ei gyflawni'n lleol ac ar y lefel genedlaethol newydd, fawr hon er mwyn cael yr elw gorau i bobl Cymru o'n hadnoddau naturiol toreithiog. Jenny Rathbone AC: Rwy'n croesawu'r fenter yn fawr i sefydlu cwmni gwladol newydd. Mae angen i ni ddysgu o brofiad Norwy, y gwnaethon nhw, ar ôl darganfod olew yno, sefydlu'r hyn sydd bellach yn gronfa cyfoeth sofran fwyaf y byd. A beth gawsom ni? Dim; mae'r cyfan wedi diflannu mewn pwff o fwg ac mae'r cwmnïau preifat wedi mynd â'r arian i gyd. Felly, rwyf wedi bod yn rhwystredig ers tro nad yw Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gallu datblygu ynni adnewyddadwy ei hun, yn hytrach na rhoi consesiynau i gwmnïau tramor o ryw fath neu'i gilydd, oherwydd nid yw'r cymunedau sy'n byw yn yr ardaloedd lle mae gennym ni'r fath botensial yn deall gwerth y gweithgarwch adnewyddadwy a fydd yn digwydd yn eu hardal ac, a bod yn onest, mae'r cwmnïau hyn wedi cael dianc gan gynnig dim byd ond arian mân. Mae cyn lleied o gynlluniau ynni adnewyddadwy sydd wedi bod o fudd uniongyrchol i'r cymunedau lleol eu hunain mewn gwirionedd. Mae cynllun hydro Bethesda, a gefnogwyd gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn un lle mae budd uniongyrchol i gymunedau, ac mae Awel Aman Tawe, yr ydw i'n fuddsoddwr ynddo, hefyd wedi bod o fudd uniongyrchol i gymunedau lleol. Ond mae'n stori gymhleth, onid yw, i geisio buddsoddi mewn ynni newydd. Ond mae gennym ni gymaint o bosibiliadau o ddatblygu ynni adnewyddadwy yng Nghymru ac rydym ni'n gwybod y gallwn ni ei werthu i unrhyw nifer o wledydd tramor, wedi i ni fodloni ein hanghenion ein hunain. Felly, mae'n debyg fod arna i eisiau deall ychydig mwy am yr amserlenni, oherwydd rwy'n sylweddoli bod angen pwyll i gael telerau unrhyw brosiect cyd-fentro yn iawn, ond, yn y cyfamser, mae gennym ni'r argyfwng ynni ofnadwy yma. Pa mor gyflym allwn ni fod, ochr yn ochr, yn datblygu cynlluniau posibl a fydd yn barod i'w gweithredu unwaith y bydd gennych chi'r telerau ariannol cywir gyda phwy bynnag fydd eich partner cyd-fentro? Julie James AC: Ie, diolch i chi, Jenny. Rydych chi'n hollol gywir. Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny i gyd. Er hynny, mae rhai enghreifftiau da iawn, o amgylch Cymru, yr ydym ni'n cyfeirio pobl atyn nhw. Felly, Pen y Cymoedd, wn i ddim a ydych chi wedi llwyddo i fynd yno, ond mae'n werth mynd yno. Mae'r fioamrywiaeth gynyddol o gwmpas yr hyn y maen nhw'n ei alw'n 'sbotio' y tyrbinau wedi bod yn rhyfeddol. Mae'n eithaf syfrdanol mewn gwirionedd. Mae'r ymgysylltu â phobl leol sydd bellach yn defnyddio'r goedwig, lle nad oedden nhw o'r blaen, wedi bod yn rhyfeddol, ac mae'r pecyn buddiannau cymunedol wedi darparu budd gwirioneddol i'r gymuned honno. Mae'r cwmni yna'n weithredwr gwladol, wrth gwrs, a dyna'r pwynt, ynte? Ond mae'r elw go iawn yn mynd yn ôl i'r gweithredwr gwladol a dyna'r darn yr ydym ni am gael ein dwylo arno, os mynnwch chi. Dim ond un elfen o nifer fawr o bethau rwyf wedi bod yn ceisio eu hamlinellu heddiw yw hyn. Felly, dyma'r cynhyrchydd ynni sylweddol a fu ar goll o'r cynllun hyd yma. Ond, ni fydd hynny'n gweithio oni bai bod gennym ni ddyluniad y rhwydwaith cyfannol—i ddefnyddio'r jargon—felly, y grid arfaethedig, fel yr wyf yn ei ddisgrifio, fel y gallwn ni ei gyflenwi'n iawn, fel y gallwn ni gael y grid angenrheidiol i ni ddiwallu anghenion pobl ac y gallwn ni gael pobl oddi ar olew y tu allan i'r grid, er enghraifft. Mae angen ymgysylltu â'r gymuned hefyd er mwyn sicrhau bod y cymunedau yn deall yr hyn sy'n angenrheidiol iddyn nhw. Ac nid bod yn llyffetheiriol yw hynny; fyddai gen i ddim y syniad lleiaf oni bai bod rhywun yn gallu fy helpu i ddeall beth sy'n bosib yn fy nghartref penodol i ac yn fy ardal benodol i ar gyfer effeithlonrwydd ynni ac yn y blaen. Felly, dyna'r cynlluniau ardal yr oeddwn yn sôn amdanynt; dyna gynllunio cyfannol ar gyfer anghenion y gymuned yn y dyfodol, ar gyfer creu ei hynni ac o ran ei effeithlonrwydd—mae angen i ni wneud yr holl bethau hynny. Mae angen i ni gael cynlluniau ynni adnewyddadwy bach ar draws Cymru ar hyn o bryd, yn benodol iawn, oherwydd gallan nhw weithiau osgoi problemau'r farchnad ynni. Dim ond i fod yn glir iawn, ar hyn o bryd, gyda'r ffordd hurt y mae'r farchnad ynni'n gweithio ar hyn o bryd, hyd yn oed pe bai gennym ni weithredwr adnewyddadwy gwladol, byddai'n dal i godi pris ymylol nwy am ei ynni, sy'n amlwg yn hurt bost. Mae angen i Lywodraeth y DU weithredu i newid y farchnad ac mae hi wedi bod yn ddiffygiol iawn yn gwneud hynny yn anffodus. Ac, yn y Bil newydd sy'n mynd trwy Senedd y DU, y cyflwynais i gynnig cydsyniad deddfwriaethol yn ei gylch yn ddiweddar iawn, roeddwn i'n glir iawn, er bod angen hynny i wneud yn siŵr bod pobl Cymru yn cael rhywfaint o'r budd, nad yw'n gwneud i'r farchnad ynni yr hyn sy'n ofynnol i wneud iddo weithio. Felly, dim ond i fod yn glir, gall cynlluniau ynni adnewyddadwy cymunedol gyflawni hynny oherwydd y gallan nhw wneud hynny oddi ar y grid, ond mae'n rhaid i ni wneud hynny mewn ffordd sy'n gydnerth ac yn gallu ymuno â'r grid unwaith y cawn ni farchnad ynni mwy synhwyrol. Felly, mae'n ddrwg gennyf am fod yn dechnegol iawn am y gwahanol elfennau o hynny, ond mae'n bwysig ein bod yn ceisio gweithredu gyda'r hyn sydd gennym ni nawr yn y ffordd orau, ond hefyd yn cynllunio ar gyfer y dyfodol, fel y gallwn ni elwa ohono mewn ffordd sy'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf i bobl Cymru. Jane Dodds AS: Prynhawn da, Gweinidog. Mae hyn yn swnio'n anhygoel. Diolch o galon am y datganiad—gweledigaeth go iawn, hirdymor o'r hyn a dybiwn fydd dyfodol ein hynni, pan fo yna demtasiwn i bleidiau gwleidyddol ddim ond edrych ar y tymor byr. Felly, diolch o galon. Dim ond dau sylw cyflym iawn, os caf i. Dim ond o ran edrych ar brosiectau ynni bach adnewyddadwy yn y gymuned, dim ond o ran ceisio deall sut y bydd y datblygwr adnewyddadwy newydd hwn i Gymru mewn gwirionedd yn cefnogi ac yn helpu'r bobl hynny sydd eisiau datblygu eu hynni cymunedol. Sut bydd yn eu cefnogi? Rydym ni'n gwybod bod gan Lywodraeth yr Alban gynllun da iawn, a dim ond meddwl ydw i tybed a fydd yna gynlluniau tebyg. Yn ail, yr wythnos hon, fel y gwyddom ni i gyd, rwy'n siŵr, yw Wythnos y Gwynt. Felly, gwych clywed yr holl ymrwymiad i ynni gwynt, yr wyf hefyd yn ei gefnogi'n llwyr, ac rwyf wedi bod yn clywed llawer am y potensial am wynt ar y môr ym mhorthladd Aberdaugleddau. Ond, un o'r materion maen nhw'n eu codi yw cyflymu ein hymrwymiad a'n gallu i osod y llwyfannau gwynt hynny, a'r materion yn ymwneud â chynllunio. Felly, dim ond meddwl oeddwn i tybed allech chi helpu ychydig bach mwy gyda hynny. Diolch yn fawr iawn. Julie James AC: Diolch yn fawr iawn, Jane, am hynny. Rwy'n falch iawn, fel y dywedaf, wrth fy modd, yn cyhoeddi hyn, yr hyn sy'n fuddsoddiad tymor hir iawn i bobl Cymru. Rwy'n siŵr na fydd hi'n ddadleuol, dim ots pwy fydd y Llywodraeth ar ein holau, oherwydd dylen ni fod wedi gwneud hyn amser maith yn ôl, ond yr ail adeg orau yw nawr. Felly, dyma ni, yn mynd amdani. Mae hyn yn ychwanegol i ynni cymunedol. Felly, ni fydd yn cyfrannu'n uniongyrchol at ynni cymunedol. Ond, mae angen ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr arnom ni hefyd, ac, fel rwyf wedi bod yn dweud, y ffordd rydym ni'n gweld hyn yn gweithio yw y bydd yr elw o hyn yn dod yn ôl yn uniongyrchol i bobl Cymru. Nid buddion cymunedol yn unig fel a geir mewn mannau eraill. Ac yna, gellir ail-fuddsoddi'r elw hwnnw i nifer fawr o brosiectau, cynlluniau ynni adnewyddadwy eraill sylweddol, ond, wrth gwrs, ynni adnewyddadwy cymunedol hefyd. Mae hefyd yn rhoi troedle go iawn i ni yn y cynllunio ar gyfer y grid, sy'n bwysig iawn, ac rwy'n pwysleisio hynny o hyd. Ac mae'n rhoi prosiect enghreifftiol i ni, i bob diben, o sut y gellid gwneud hyn ledled Cymru. Felly, wrth ateb Huw Irranca, roeddwn i'n dweud y bydd hyn yn ymwneud â'r math gorau o ymgysylltu, y math gorau o gyd-fentroâ phartneriaid yn y sector preifat, a'r math gorau o gydberchnogaeth gymunedol, hyd yn oed ar brosiect adnewyddadwy mawr. Felly, mae gennym ni lawer o uchelgais ar gyfer y prosiect hwn cyn iddo ddechrau hyd yn oed. Ac yna, ynghylch rhan arall eich cwestiwn, rydym ni wedi cynnal adolygiad trwyadl fel yr argymhellodd yr archwiliad manwl, ynglŷn â thrwyddedu morol yng Nghymru, gyda Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae hynny'n dod i gasgliad nawr. Byddwn yn addasu'n Bil Cydsynio Seilwaith, fydd yn dod i'r Senedd erbyn diwedd eleni—felly, 'tymor yr haf' mewn ffordd o siarad. Bydd hynny, wrth gwrs, yn llywio ein proses gydsynio, ond mae'n hanfodol bod gennym ni barhad o'r rheoliadau cynefinoedd oherwydd holl ddiben hyn yw cael y cydbwysedd cywir rhwng cyflymder y darparu, fel ein bod yn gweithredu ar lwyfan byd-eang, ac amddiffyn yr amgylchedd, fel nad oes gennym ni ganlyniadau anfwriadol. Felly, bydd y darn nesaf o waith yn gwneud yn siŵr ein bod yn cael y cydbwysedd hwnnw'n iawn. Yn olaf, Alun Davies. Alun Davies AC: Rwy'n ddiolchgar, Llywydd. Fel eraill, Gweinidog, rwy'n croesawu'r datganiad rydych chi wedi'i wneud y prynhawn yma. Rwy'n croesawu'r fenter rydych chi'n ei chymryd yn fawr. Hoffwn barhau â'r hyn a ddywedodd Aelodau eraill yn yr un ysbryd y prynhawn yma, ac efallai cymryd golwg wahanol i chi. Mae'r datganiad rydych chi wedi'i wneud wedi amlinellu y bydd yr endid gwladol hwn yn canolbwyntio ar fentrau ar raddfa fwy, ac rwy'n croesawu hynny—mae'n rhan bwysig o'r cyfuniad cyffredinol. Ond, mae fy niddordeb go iawn ar raddfa ychydig yn wahanol. Mae'r ystad gyhoeddus yn enfawr ledled Cymru, ac yn berchen ar amrywiaeth o gyfleusterau, adeiladau a thir gwahanol, a fy niddordeb i yw sut ydym ni, mewn amgylchedd trefol, yn darparu dulliau adnewyddadwy o gynhyrchu ynni. Rydym ni wedi gweld enghreifftiau yn yr Almaen a Ffrainc, er enghraifft, lle mae'r wladwriaeth wedi ymyrryd i sicrhau bod yna economi gyflenwi gymysg gyda gwahanol ffyrdd o gynhyrchu. Ydych chi'n gweld y cwmni gwladol hwn yn cyflawni mewn ffordd fwy ystwyth, os mynnwch chi—cyflawni ar gyfer amgylchedd trefol yn ogystal ag ar gyfer amgylchedd ehangach a mwy gwledig? A sut ydych chi'n gweld y cwmni ynni, Ynni Cymru, yn darparu'r cyllid sydd ei angen ar gyfer datblygiad cymunedol ar raddfa fach, yr arbenigedd y bydd ei angen er mwyn darparu'r cyngor i bobl ynghylch sut i fynd ati, ac yna'r buddsoddiad rydych chi eisoes wedi'i ddisgrifio yn y grid? Oherwydd mae'n ymddangos i mi mai dyna'r rhwystrau, ac os ydym ni am oresgyn y rhwystrau a chyflawni'r math o gynhyrchu ynni gwasgaredig y credaf y byddem ni i gyd yn cytuno arno, yna mae angen i ni allu gwireddu'r materion hynny. Rwy'n credu bod y cyhoeddiad rydych chi'n ei wneud y prynhawn yma wedi'i gynllunio i raddau helaeth i fynd i'r afael â pholisi ynni mewn ffordd y credaf yr hoffai pob un ohonom ei weld, ac rwy'n credu y bydd yn gwneud hynny. Julie James AC: Ydy, yn hollol, Alun. Felly, fel rwy'n dweud, dyma un o'r amryw bethau y mae angen i ni eu gwneud i ddod at ein gilydd i allu cyflawni'r math o grid ynni ar draws Cymru mae arnom ni ei eisiau. Felly, mae'r mentrau trefol yn ddiddorol iawn. Rydym yn disgwyl i ddatblygwr adnewyddadwy sylweddol gloriannu a oes cyfleoedd sylweddol yn rhai o'n mannau trefol, er enghraifft, defnyddio toeau ar adeiladau ac yn y blaen, fel y gwelwch chi mewn mannau eraill. Mae rhai materion gwirioneddol yn ymwneud â solar, na fydda i'n ymhelaethu arnyn nhw nawr—bydd y Llywydd yn dweud y drefn wrthyf am faint o amser rwy'n ei gymryd—ond byddai'n ddiddorol iawn sicrhau y gallwn ni fanteisio ar dechnolegau sy'n cael eu datblygu yn ein prifysgolion yma yng Nghymru ar hyn o bryd i gael paneli solar a wnaed yma, a weithgynhyrchwyd yma yng Nghymru, mewn ffordd lawer gwell a mwy carbon-niwtral nag sy'n digwydd yn aml. Mae gen i ddiddordeb mawr sicrhau y bydd rhai o'r toeau sy'n cael eu cynhyrchu gyda elfennau ffotofoltäigeisoes ynddyn nhw mewn gweithfeydd dur o amgylch Cymru'n cael eu defnyddio yn y mathau hynny o adeiladau. Mae yna, efallai, swyddogaeth i'r datblygwr sylweddol hwn yn hynny. Credaf mewn gwirionedd ei bod hi'n llawer mwy tebygol o fod yn rhan o Ynni Cymru, datblygwr y cytundeb cydweithio, sy'n debygol o fod yn cydlynuymdrech gymunedol i wneud y math yna o beth gyda grwpiau bach. Er enghraifft, byddai ardal gais mewn dinas yn berffaith ar gyfer tynnu'r math yna o beth at ei gilydd. Ond bydden ni'n disgwyl iddyn nhw gydweithredu, wrth gwrs, a chroesffrwythloni a gwneud yn siŵr bod yr elw yn cael ei ail-fuddsoddi'n iawn yn y mathau cywir o brosiectau. Mae gennym ni brosiect mewn golwg i ddechrau arni, ac yna un o'r tasgau mawr i ni fydd sicrhau bod gennym ni gyfres o brosiectau yn y dyfodol sy'n gyfuniad o'r holl bethau hynny mae'n debyg. Diolch i'r Gweinidog. 6. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar y diweddariad ar Wcráin. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud y datganiad. Jane Hutt. Jane Hutt AC: Diolch yn fawr, Llywydd. Diolch i chi am roi cyfle i mi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am ein gwaith parhaus i gefnogi pobl o Wcráin sy'n chwilio am noddfa yng Nghymru. Pan wnes i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ddiwethaf ym mis Medi, roedd Cymru wedi croesawu ychydig dros 5,600 o Wcreiniaid i Gymru o dan gynllun Cartrefi i Wcráin, gan gynnwys o dan ein llwybr uwch-noddwr. Mae rhai yn dal i gyrraedd, ond ar gyflymder llawer arafach yn ystod yr wythnosau diwethaf. Roedd ychydig dan 6,000 o Wcreiniaid a noddwyd gan Lywodraeth Cymru ac aelwydydd Cymru wedi cyrraedd Cymru erbyn 18 Hydref, a daeth rhai ychwanegol o dan y cynllun teuluoedd o Wcráin, ond ni roddir y data hwnnw i ni gan Lywodraeth y DU. Mae mwy na 8,300 o fisâu bellach wedi'u rhoi i bobl o Wcráin sydd â noddwyr yng Nghymru, felly gallwn ddisgwyl i nifer y bobl sy'n cyrraedd barhau i dyfu'n raddol yn ystod yr wythnosau nesaf, ac rydym yn ymwybodol y gall digwyddiadau yn Wcráin gael effaith uniongyrchol ar nifer yr Wcreiniaid a allai gyrraedd Cymru. Rydym yn gresynu at ymdrechion diweddaraf Putin i geisio torri ysbryd pobl Wcráin. Rydym yn parhau i weithio gyda'r Swyddfa Gartref i ganfod pa mor debygol yw hi y bydd yr 1,600 o unigolion ychwanegol yr ydym wedi eu noddi yn cyrraedd Cymru, fel y gallwn gynllunio'n iawn ar gyfer darparu llety a chefnogaeth gofleidiol. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydym wedi bod yn ystyried y cynnig a wnawn i Wcreiniaid yr ydym yn eu cefnogi yn ein llety o dan y llwybr uwch-noddwr. Rwyf i a chyd-Weinidogion eraill wedi ymweld â nifer o'n safleoedd llety ac wedi cael adborth yn uniongyrchol gan westeion o Wcráin a'r staff ymroddedig sy'n ein helpu i roi'r cymorth. Rydym eisiau helpu pobl i symud o sefyllfa o groeso cefnogol i sefyllfa o integreiddio gweithredol cyn gynted â phosibl. Rydym yn credu y gallwn wella annibyniaeth bersonol a chefnogi pobl i symud ymlaen i gam nesaf eu bywydau yng Nghymru drwy ailedrych ar ein cynnig cefnogaeth gofleidiol. Byddwn ni'n alinio ein cynnig llety cychwynnol yn llawer agosach â'r gefnogaeth a geid mewn mathau eraill o lety dros dro, a bydd hyn yn annog gwesteion i gyfrannu at gostau drwy enillion neu gredyd cynhwysol pryd bynnag y bo modd, ar ôl cyfnod byr cychwynnol. Rwyf hefyd wedi ymgysylltu â fy Ngweinidog cyfatebol yn Llywodraeth yr Alban, y Gweinidog Neil Gray ASA, ac rwy'n deall y byddan nhw'n cymryd agwedd debyg iawn, wrth i ni ddysgu o brofiadau ein gilydd yn ein hymateb fel uwch-noddwyr. Mae ein llwybr uwch-noddwr yn rhan allweddol o ymateb Cymru i argyfwng dyngarol Ewrop gyfan. Rhaid i ni sicrhau ein bod ni'n ddiwyro yn ein hymrwymiad i gefnogi Wcráin ac Wcreiniaid dadleoledig sy'n byw yng Nghymru, er gwaethaf y pwysau cynyddol o ran costau yr ydym ni i gyd yn ei brofi. Bydd y gefnogaeth yr ydym ni'n ei darparu yma yn cael effaith ar y teulu a ffrindiau sy'n dal i amddiffyn Wcráin. Bydd y newidiadau a wnawn yn cydbwyso'n ofalus y cymorth i bobl i fod yn fwy annibynnol, er mwyn symud ymlaen i lety arall yn gyflymach, a sicrhau bod gennym y cyllid sydd ei angen arnom i gyflawni ein hymrwymiad i'r Wcreiniaid yr ydym wedi eu noddi. Yn ogystal â fy ymweliadau â chanolfannau croeso, bûm yn ddiweddar yng ngŵyl gelfyddydau Wcráin a chanolfan newydd Wcráin yng Nghaerdydd. Ym mhob achos, rwyf wedi cael fy nharo gan awydd a gallu Wcreiniaid, gydag ystod eang o sgiliau a phrofiad, i integreiddio ac ymuno â'r gweithlu cyn gynted â phosibl. Mae llawer o Wcreiniaid eisoes yn gweithio, gan gynnwys cyfran sylweddol o'r rhai yn ein llety cychwynnol. Mae angen i ni fod yn ymwybodol y dylai llety cychwynnol fod yn ddarpariaeth tymor byr, gyda'n gwesteion yn cael cymorth i symud ymlaen i lety mwy hirdymor cyn gynted ag y bo'n ymarferol. Deallwn fod ein canolfannau croeso, sydd wedi eu hariannu gan Lywodraeth Cymru, o ansawdd da—ac rydym ni'n falch o hynny—ond dydyn nhw ddim yn ddewis hirdymor i bobl, yn bennaf oherwydd na ellir sefydlu gwreiddiau'n iawn mewn cymunedau mewn llety dros dro o'r fath. Y tro diwethaf i mi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi, soniais am y berthynas waith dda a gawsom gyda Gweinidog blaenorol y DU dros Ffoaduriaid, yr Arglwydd Harrington, a fy ngobeithion am berthynas debyg gyda'i olynydd. Mae'n ddrwg gen i orfod adrodd nad ydym wedi cael unrhyw ymgysylltiad gan Weinidogion y DU ar y materion hyn ers ymddiswyddiad yr Arglwydd Harrington. Ond rydym mewn cyfnod tyngedfennol yng nghynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth y DU. Mae aelwydydd Cymru a gofrestrodd yn noddwyr yn agos at gyrraedd y garreg filltir chwe mis sy'n cynrychioli'r ymrwymiad a wnaethant i'w gwesteion ar adeg y cais. Mae'r aelwydydd hyn wedi gwneud peth ysbrydoledig ac wedi ymgorffori gweledigaeth cenedl o noddfa yn ei gwir ystyr. Rydym yn gwybod nad oedd llawer yn bwriadu parhau y tu hwnt i chwe mis, ond rydym yn annog cymaint â phosibl o'r rhai sy'n cynnig llety i ystyried cynnig llety am gyfnod hirach os yw'n bosibl o gwbl. Pan nad yw hynny'n bosib, diolchwn am bopeth yr ydych chi wedi'i wneud i'ch gwesteion ac i ni fel cenedl. I'r rhai sy'n gallu parhau, rydym wedi ariannu Cyfiawnder Tai Cymru i ddarparu cyngor, hyfforddiant, cefnogaeth gan gymheiriaid a gwasanaethau cyfryngu i'r rhai sy'n cynnig llety yng Nghymru. Ceir mwy o wybodaeth drwy ffonio 01654 550 550 neu drwy anfon neges e-bost i [email protected]. Rydym yn gwybod bod y rhai sy'n cynnig llety yng Nghymru yn ei chael hi'n anodd gyda phwysau costau byw, ac mae hyn yn ffactor pwysig wrth benderfynu a oes modd iddyn nhw barhau. Dyma pam yr ysgrifennais at Weinidogion y DU, gyda fy Ngweinidog cyfatebol yn yr Alban, i annog penderfyniad cyflym ar gynyddu'r taliad 'diolch' i'r rhai sy'n cynnig llety i o leiaf £500 y mis o'r lefel bresennol o £350. Rydym yn dal i aros am ddiweddariad ar hyn. Mae angen penderfyniad brys arnom i osgoi ton o achosion o ddigartrefedd wrth i ni symud i fis Tachwedd, ac rwy'n galw eto ar Lywodraeth y DU i weithredu ar hyn, yn ogystal â rhoi sicrwydd ariannol i flwyddyn 2 y rhaglen, gan gefnogi'r ddarpariaeth Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill heb ei ariannu a sicrhau cydraddoldeb cyllido ar draws tri chynllun fisa Wcráin. Rydym bellach yn cyfathrebu'n rheolaidd gyda'r rhai sy'n cynnig llety a gwesteion o Wcráin, gyda chylchlythyr misol yn cael ei anfon o Lywodraeth Cymru, a byddwn yn adeiladu ar hyn gyda sesiynau gwybodaeth ychwanegol a chyfleoedd i gymryd rhan. Ochr yn ochr â'n partneriaid trydydd sector a ariennir, fe wnaethom gynnal sesiwn wybodaeth agored yn ddiweddar, yr oeddwn yn falch o weld tua 180 o bobl yn bresennol i glywed mwy am ein gwaith; rydym yn rhoi grŵp cymorth gan gymheiriaid Wcráin ar waith drwy Displaced People in Action; a byddwn hefyd yn arolygu ein gwesteion o Wcráin yn fuan er mwyn deall yn well eu sgiliau a'u hanghenion cyflogaeth sydd heb eu diwallu. Mae Wcreiniaid yn amlwg yn integreiddio'n dda iawn yn wir, ond byddwn yn parhau i ystyried unrhyw gamau y gallwn eu cymryd i wneud hyn mor effeithiol a chefnogol â phosibl. Diolch. Mark Isherwood AC: Diolch am eich datganiad ac am ein cyfarfod byr yn gynharach, a oedd yn ddefnyddiol iawn. Wrth ymateb i'ch diweddariad ar ddatganiad Wcráin yma bedair wythnos yn ôl, cyfeiriais at eich perthynas adeiladol, yr ydych chi wedi cyfeirio ati eto, gyda Gweinidog blaenorol Llywodraeth y DU dros ffoaduriaid, yr Arglwydd Harrington, a gofyn sut, ar sail perthnasoedd gweithio ymarferol rhyng-lywodraethol yng Nghymru, wnaethoch chi ymateb i'w ddatganiad adeg ei ymddiswyddiad fis diwethaf sef bod y swyddogaeth i fod yn un dros dro a bod ei waith yn ei hanfod yn gyflawn. Gofynnais hefyd pa drafodaethau yr oeddech wedi'u cael neu'n bwriadu eu cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cynnydd posibl i'r taliad misol o £350 i bobl sy'n lletya Wcreiniaid yn eu cartrefi eu hunain, ac unwaith eto rydych chi wedi cyfeirio at hynny yn eich datganiad heddiw. Yn eich ymateb chi bryd hynny, fe ddywedoch chi nad oedd y gwaith wedi ei gyflawni. Gan gyfeirio at y llythyr ynglŷn â'r materion hyn yr oeddech wedi'i anfon ar y cyd gyda'ch Gweinidog cyfatebol yn yr Alban at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau ar y pryd a'r Ysgrifennydd Cartref newydd ar y pryd, fe ddywedoch chi y byddech chi, ac rwy'n dyfynnu, 'â diddordeb mawr mewn gweld pa ateb a gawn'. Diolch am fy nghopïo i mewn i'r llythyr hwnnw wedyn. Pa ateb, os o gwbl, gawsoch chi? Ac os, o ystyried digwyddiadau mewn mannau eraill, nad ydych chi wedi cael ateb eto, sut fyddwch chi'n ymateb ar ôl i'r Prif Weinidog Rishi Sunak gyhoeddi ei Gabinet? Yn eich ateb i mi, fe ddywedoch fod arweinyddiaeth leol yn hanfodol bwysig yn narpariaeth y gwasanaeth datganoledig y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdano. Yn dilyn fy nghyfeiriad at, er enghraifft, yr angen am Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill, neu ESOL, gwersi personol ac ar-lein ac am weithredu i gefnogi trosglwyddo sgiliau a chymwysterau, rhywbeth a drafodwyd gennym hefyd yn gynharach, pa ddiweddariad gallwch ei ddarparu ar y materion hyn, o ystyried eich ymateb yna bod gennych gyfarfodydd bob pythefnos ar Wcráin, wedi'u cadeirio gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol? Rwy'n cyfeirio at y ddogfen a anfonais atoch, a gynhyrchwyd gan y Ganolfan Cefnogi Integreiddio Pwylaidd, neu PISC, yn Wrecsam, yn manylu ar eu hymdrechion dyngarol i helpu ffoaduriaid o Wcráin a'r cynnig am gefnogaeth gyfunol a chynaliadwy i bobl Wcráin, gan gynnwys adeiladu tai dros dro. Pa ymgysylltu fu rhyngoch chi neu eich swyddogion felly wedi hynny â nhw ynglŷn â hyn? Yn ehangach, o ystyried bod y ffigyrau diweddaraf yn dangos bod 4,833 o geisiadau fisa gan bobl o Wcráin wedi cael eu cyflwyno gyda Llywodraeth Cymru fel uwch-noddwr, bod 4,564 wedi eu cyhoeddi gyda Llywodraeth Cymru fel uwch-noddwr, a bod 2,904 o'r bobl sydd wedi cyrraedd y DU wedi cael Llywodraeth Cymru fel uwch-noddwr, beth yw'r sefyllfa bresennol o ran saib ceisiadau newydd yng Nghynllun uwch-noddwr Llywodraeth Cymru a gafodd ei gyhoeddi ym mis Mehefin? Mae fy nghyd-Aelod Russell George a minnau wedi cael e-bost yn dweud, ac rwy'n dyfynnu, 'Rwy'n gofyn am gymorth gan Lywodraeth Cymru gyda phrosiect treialu i ddefnyddio unedau tai gwag hirdymor i ddarparu llety tymor byr i ffoaduriaid o Wcráin, gan ddefnyddio model tai oes fer o'r math a weithredwyd mewn mannau eraill ers y 1980au.' Pwy yw'r person gorau y dylid cyfeirio'r anfonwr ato ynghylch hyn? Yn olaf, rwyf wedi eich cyfeirio chi o'r blaen at y rhan a chwaraewyd gan grwpiau ffydd yn rhaglen gyswllt Wcráin i gefnogi Wcreiniaid sy'n cyrraedd y gogledd. Yn y cyd-destun hwn, pa ymgysylltu ydych chi wedi'i gael â'r gymuned Gatholig ynglŷn â'i hymateb i'r ymosodiad anghyfreithlon ac annynol ar Wcráin, gan gynnwys apêl ddyngarol a thîm ymateb brys pwrpasol elusen yr Asiantaeth Gatholig ar gyfer Datblygu Tramor i gyrraedd pobl sydd fwyaf anghenus, ac asiantaeth gweithredu cymdeithasol domestig cynhadledd yr esgobion, Caritas Social Action Network, neu CSAN, sydd, gyda'i bartneriaid, yn cefnogi adleoli ffoaduriaid ar draws y DU gydag esgobaethau ac asiantaethau'r eglwys yn cynorthwyo'r ymdrechion cydlynu? Diolch. Jane Hutt AC: Diolch yn fawr iawn, Mark, a diolch i chi hefyd am roi diweddariadau a mewnwelediadau i mi bob amser o'r gwaith sydd wedi'i wneud yn y gogledd, yn enwedig mewn cysylltiad â'r ymgysylltiadau trydydd sector a'r awdurdodau lleol. Rwy'n gobeithio y gallwn sefydlu perthynas waith newydd dda gyda'r Llywodraeth newydd, y Cabinet newydd a fydd yn cael ei gyhoeddi dros y dyddiau nesaf. Fe gyfeirioch at y llythyr ar y cyd a anfonais at Andrew Stephenson, a oedd wedi'i enwi'n Weinidog dros ffoaduriaid gan y Prif Weinidog blaenorol yn yr adran dai a ffyniant bro, ond mae'n rhaid i mi ddweud, ni chafwyd ateb i'r llythyr hwnnw. Gofynnais i fy swyddogion, ac yn wir gofynnodd Gweinidog yr Alban i'w swyddogion ofyn am gyfarfod brys gyda'r Gweinidog newydd, ond ni chafwyd ymateb. Felly, rydw i, mewn ffordd gadarnhaol ac adeiladol, yn edrych ymlaen at groesawu cyhoeddiad newydd yn syth, a fydd, gobeithio, yn cael ei wneud, y bydd gennym Weinidog dros ffoaduriaid y gallwn godi'r mater hwn gydag ef. Oherwydd y mae angen ymatebion ar frys i'r cwestiynau yr ydym wedi'u gofyn, yn enwedig am y codiad i'r taliad misol o £350 i'r rhai sy'n lletya ar gyfer y cynllun Cartrefi i Wcráin. Mae gennyf ddiddordeb hefyd yn y ffaith bod nifer o elusennau wedi dod at ei gilydd yn Lloegr. Rwy'n credu eu bod wedi ysgrifennu at y cyn Brif Weinidog i ddweud fwy neu lai yr hyn a ddywedom ni, gan adleisio mewn gwirionedd, alwad yr Arglwydd Harrington am daliad cynyddol i helpu'r rhai a oedd yn lletya drwy'r gaeaf. Rwy'n credu bod haelioni y rhai a oedd yn lletya ar adeg o straen economaidd a phwysau costau byw yn rhyfeddol; haelioni'r rhai oedd yn lletya ledled Cymru sydd mewn sefyllfaoedd economaidd-gymdeithasol ac ariannol gwahanol iawn eu hunain. Felly, a gaf i ofyn i chi a'ch cyd-Weinidogion yn San Steffan sicrhau ein bod ni'n cael ymateb cadarnhaol? Mae arweinyddiaeth leol yn hanfodol, felly rydw i a'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, ac yn wir y Gweinidog Newid Hinsawdd, yn cwrdd bob pythefnos gydag arweinwyr llywodraeth leol. Mae ein swyddogion yn gweithio'n agos iawn, yn enwedig ynghylch fframwaith ar gyfer llety o ran cyfleoedd i symud ymlaen. Cyn belled â bod arweinyddiaeth leol yn gadarn, bydd yn bositif. Mewn gwirionedd, mae Wcráin ar yr agenda fel eitem sefydlog wrth i ni gwrdd bob pythefnos. Mae'r ymateb yr ydym ni'n ei gael oddi wrth arweinyddiaeth leol yn ymwneud â nid yn unig y gefnogaeth y maen nhw'n ei rhoi i'w canolfannau croeso, os oes ganddyn nhw rai yn eu hardaloedd sirol, ond hefyd y ffyrdd y maen nhw'n cefnogi y rhai sy'n lletya hefyd, y rhai sy'n darparu'r gefnogaeth bwysig honno i gynifer o'n gwesteion o Wcráin yng Nghymru. Mae'n bwysig iawn o ran llety symud ymlaen sy'n cael ei ddarparu ein bod ni'n edrych, fel yr oedd y Gweinidog Newid Hinsawdd yn gallu ei wneud yr wythnos diwethaf, ar y rhaglen gyfalaf llety dros dro gwerth £65 miliwn. Mae hyn yn rhywbeth a fydd yn ein helpu ni i gynyddu llety i gefnogi'r pwysau tai presennol, ynghyd ag ymateb Wcráin. Mae awdurdodau lleol yn dod ymlaen ac yn gweithio gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i ddarparu'r math hwn o lety. Wrth gwrs, mae pwysau enfawr ar ein rhaglen gyfalaf yr ydych yn ymwybodol iawn ohono, ond llety dros dro yw hwn a all hefyd ddiwallu ystod eang o anghenion tai yng Nghymru. Felly, rydym yn gobeithio y cawn ni'r gefnogaeth, ac mae hynny'n cynnwys cefnogaeth o ran cyhoeddiadau sydd i ddod gan Lywodraeth y DU. Rydym ni'n bryderus iawn ynghylch beth fydd hyn yn ei olygu i gyfalaf, oherwydd bydd hyn yn ffordd bwysig iawn o helpu'r rhai sydd angen tai i symud ymlaen. Mae'n rhaid i ni gofio bod gennym ni dros 8,000 o bobl mewn llety dros dro yn barod, a dyma bwysau tai y mae ein harweinwyr lleol yn eu cefnogi. Diolch, eto, am nodi gwaith a chefnogaeth y gymdeithas integreiddio Pwylaidd, a gwnaf yn siŵr bod ymateb iddynt. A hefyd, dim ond o ran unrhyw awgrym am ddefnydd arall o lety—rwy'n credu eich bod chi wedi sôn bod rhywun wedi cysylltu â Russell George hefyd ynghylch y defnydd posibl o lety oes fer—dylen nhw fynd at yr awdurdod lleol lle darperir y llety hwnnw. Wrth gwrs, mae'n her o ran ein cynllun uwch-noddwr. Rydym wedi ymrwymo iddo, mae'n darparu ffordd ddiogel o groesawu pobl o Wcráin sy'n ffoi rhag y gwrthdaro ofnadwy hwnnw. Maen nhw'n dod yma ac maen nhw'n cael y gefnogaeth honno, y gefnogaeth gofleidiol yna yr ydym ni wedi'i darparu. Cofiwch mai'r ymrwymiad gwreiddiol a wnaethom oedd i 1,000 o bobl o Wcráin gael eu cefnogi; nawr rydym yn cefnogi pedair a phum gwaith y nifer gwreiddiol o bobl drwy ein llwybr uwch-noddwr. Mae ein canolfannau croeso bellach yn gweithredu gyda chapasiti llawn, ond rydym yn gweithio'n gyflym i sicrhau bod llwybr dibynadwy at lety tymor hwy i bawb yr ydym yn cynnig llety iddyn nhw. Sioned Williams MS: Diolch am y datganiad, Weinidog. Mae'n wir bod yr adroddiadau am y rhyfela yn Wcráin a'r dwysáu sydd o ran tactegau ac agwedd cwbl annynol Rwsia yn peri gofid ofnadwy i'r bobl sydd wedi cael lloches yng Nghymru, ac yn debyg, wrth gwrs, o gael effaith ar y niferoedd o ffoaduriaid. Mae'r newidiadau rŷch chi wedi sôn amdanyn nhw o ran y gefnogaeth fydd ar gael i bobl dan nawdd Llywodraeth Cymru, sydd, wrth gwrs, wedi gorfod gadael popeth, wedi profi trawma a cholled, yn peri peth pryder. Tra'n cydnabod bod angen annog pobl i symud ymlaen, integreiddio i gymdeithas a thalu eu ffordd ble'n bosib, oni ddylid gwneud hynny mor gyflym â sy'n briodol yn hytrach na mor gyflym â phosib? Felly, beth yw llais y ffoadur yn hyn? Pwy sy'n penderfynu pa gostau sy'n cael eu talu a beth yw'r meini prawf? A fyddai tapr o ryw fath o ran y cymorth sydd ar gael gan y Llywodraeth yn briodol os yw pobl yn ennill cyflog neu o ran eu taliadau credyd cynhwysol? Ers i'r Gweinidog gyflwyno ei diweddariad diwethaf ar Wcráin, mae mwy a mwy o sefydliadau'r trydydd sector yn pryderu am y bygythiad gwirioneddol o ddigartrefedd sy'n wynebu ffoaduriaid o Wcráin. Yn ôl adroddiad yn The Guardian, gallai 50,000 o ffoaduriaid o Wcráin ledled y Deyrnas Gyfunol fod yn ddigartref y flwyddyn nesaf. Eisoes ers mis Chwefror rydym ni'n gwybod bod 1,335 o aelwydydd o Wcráin, gan gynnwys 945 â phlant, wedi eu cofrestru'n ddigartref. Felly, Weinidog, a yw hi'n adeg ddoeth i wneud y newid yma nawr a ninnau yn wynebu'r gaeaf caletaf ers degawdau a gwyntoedd main y storm economaidd yn arbennig o fygythiol i'r rhai sydd wedi gorfod ffoi, gan adael popeth ar ôl yn eu mamwlad? Sioned Williams MS: Mae cynghorau Cymru yn ein rhybuddio eisoes eu bod yn mynd i fod yn wynebu diffygion enfawr yn eu cyllidebau o ganlyniad i bandemig COVID, adweithiau'r farchnad i anhrefn San Steffan, yr argyfwng ynni a phwysau chwyddiant oherwydd yr argyfwng costau byw hwn. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi rhybuddio bod cynghorau mewn perygl o gael eu gorfodi i wneud toriadau sylweddol i wasanaethau allweddol. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi ac yn gweithio gydag awdurdodau lleol nawr i sicrhau bod cefnogaeth a thai lleol ar gael i'r rhai sydd eu hangen, yn enwedig o ystyried y newid mewn cefnogaeth a gyhoeddwyd heddiw? Gofynnais hyn i chi ar ôl eich diweddariad diwethaf i'r Senedd, ond ni wnaethoch fy ateb, felly rwy'n gofyn i chi eto a allem o bosibl ganiatáu i'n hawdurdodau lleol fod yn warantwyr i Wcreiniaid sy'n wynebu sefyllfa lle maen nhw'n gorfod mynd i mewn i'r farchnad rentu, sydd, fel y gwyddom, ar hyn o bryd yn hynod gystadleuol a chostus. Sioned Williams MS: Yn olaf, rŷch chi'n cyfeirio yn eich datganiad nad ydych chi wedi cael unrhyw ymgysylltiad ag olynydd yr Arglwydd Harrington, a oedd yn Weinidog ffoaduriaid yn Llywodraeth San Steffan, ac rwyf am roi ar gofnod farn Plaid Cymru fod hyn yn gwbl warthus ac yn gwbl anfaddeuol yng ngolau'r argyfwng sydd yn wynebu'r miloedd o ffoaduriaid yng Nghymru sydd mewn sefyllfa mor anodd wrth geisio ymgartrefu mewn gwlad newydd. Mae nifer ar ymyl dibyn brawychus yn sgil y ffaith fod nifer fawr iawn o'r rhai sydd wedi dod yma drwy gynllun Cartrefi i Wcráin yn agos nawr at ddiwedd y cytundeb chwe mis â'r rhai sydd wedi rhoi llety iddynt. Gyda'r argyfwng costau byw a heb gynnydd yn y taliad misol o £350, bydd hi'n anodd iawn nawr i nifer o bobl ymestyn y croeso hwnnw. Mae'n warthus fod Torïaid San Steffan yn poeni cyn lleied am gefnogi pobl Wcráin. Weinidog, gan ein bod ni yma yng Nghymru yn genedl noddfa, a oes modd defnyddio taliadau costau byw eraill i gefnogi'r cytundebau hyn er mwyn atal embaras, straen, caledi a digartrefedd? Diolch. Jane Hutt AC: Diolch yn fawr, Sioned Williams, a diolch am y cwestiynau pwysig yna. Rwy'n credu, yr hyn rwy'n ceisio ei amlygu, am wn i, yw ein bod ni'n gweithio, nid yn unig gyda ein gwesteion Wcreinaidd ond ein partneriaid awdurdod lleol i ddod o hyd i ffordd y gallwn ni sicrhau y gallwn ddarparu'r gefnogaeth gychwynnol honno drwy ein cynllun arch-noddwr yn ein canolfannau croeso ledled Cymru, a hefyd, eu helpu gyda'u hymgysylltiad, oherwydd bod hyn yn ymwneud â chydweithio mewn cydweithrediad i symud, fel y dywedwch chi, mewn ffordd briodol i'w galluogi nhw i symud ymlaen i fyw'n fwy annibynnol. Felly, mae rhai o'n gwesteion yn dweud, 'Gawn ni gyfrannu?', oherwydd maen nhw'n gweld y croeso yma. Maen nhw wedi dod, nid oedden nhw'n gorfod cael eu paru—maen nhw wedi dod yn llythrennol ac wedi cael eu croesawu i ganolfan groeso neu, yn wir, i lety cychwynnol dros dro arall, ac maen nhw'n dweud, 'Rydym ni eisiau bod yn annibynnol'. Os gallan nhw, wrth gwrs, wedyn gael gwaith, swyddi, maen nhw'n defnyddio eu sgiliau ac, hefyd, yn dechrau—oherwydd bod gennym ni bob asiantaeth wrth law i'w helpu i gael mynediad at fudd-daliadau fel credyd cynhwysol, maen nhw'n barod ac yn dymuno gwneud cyfraniad. Ond, hefyd, rydym ni'n ystyried y ffaith y byddai'n well ganddyn nhw, efallai, droi at hunan-arlwyo o ran deiet a mynediad at fwyd a darpariaeth briodol ar gyfer eu bywydau, yn hytrach na dibynnu ar drefniant penodol neu fwydlen sydd wedi ei darparu mewn canolfan groeso efallai. Wrth gwrs, pan gychwynnom ni ar hyd y llwybr hwn, a dyna pam yr ydym ni'n gweithio'n agos iawn gyda'n cyd-Weinidogion yn Llywodraeth yr Alban, roeddem ni'n arch-noddwr i ddarparu'r croeso hwnnw, y gefnogaeth gofleidiol honno. Mae hynny'n cynnwys y gefnogaeth sydd, yn amlwg, yn hollbwysig, wrth asesu anghenion iechyd, anghenion addysgol y plant, ac rwyf wedi siarad am y gallu i gael budd-daliadau a hefyd sgiliau a swyddi. Felly, rydych chi'n gwybod, drwy ein gwefan a thrwy ein gwaith, fod gennym gyngor gyrfaoedd, hyfforddiant a chymorth cyflogaeth personol am ddim gan Cymru'n Gweithio ar gyfer pob—wrth gwrs, maen nhw'n dod i bob canolfan groeso, felly mae pobl yn cael eu hannog a'u cefnogi i mewn i fyd gwaith. Mae llawer o'n gwesteion Wcreinaidd wedi symud ymlaen yn annibynnol, ond mae pwysau gwirioneddol o ran faint o dai sydd ar gael, o ran y cyfle i symud ymlaen hwnnw. Felly, rydym ni eisiau osgoi unrhyw fygythiad o ddigartrefedd—rydym ni eisiau osgoi hynny. Gwyddom fod pob gwestai Wcreinaidd sy'n dod drwy'r llwybr uwch-noddwr, neu, yn wir, y rhai sy'n lletya ac yn cefnogi, a chyllid—ariannu Cyfiawnder Tai Cymru, Asylum Justice Cymru, Cyngor Ffoaduriaid Cymru a'r Groes Goch Brydeinig i sicrhau eu bod nhw i gyd yn cymryd rhan i gefnogi'r ffoaduriaid sydd naill ai gyda'r rhai sy'n lletya neu yn ein canolfannau croeso. Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud yw diolch am eich cydnabyddiaeth bod angen i ni gael ymateb gan Lywodraeth y DU, nid yn unig o ran y £350, a chynyddu hwnnw ar gyfer y rhai sy'n lletya, ond hefyd y ffaith ein bod ni wedi galw arnyn nhw i roi mwy o gymorth ar gyfer taliadau disgresiwn at gostau tai ac am lwfansau tai lleol, fel bod awdurdodau lleol yn gallu defnyddio'u disgresiwn i helpu pobl i symud ymlaen i'r sector rhentu preifat. Yn wir, fel yr wyf wedi sôn, mae'r llythyr hwn gan elusennau ffoaduriaid yn Lloegr, mewn gwirionedd yn dweud eu bod yn helpu teuluoedd sy'n ffoaduriaid i ddod o hyd i gartrefi—dyma'r llythyr at Brif Weinidog y DU—cynllun rhentu ar gyfer ffoaduriaid sy'n cyrraedd drwy gynllun sy'n cael ei gefnogi gan y Llywodraeth. Wrth gwrs, mae awdurdodau lleol yn defnyddio eu disgresiwn, eu pwerau, er mwyn ceisio helpu pobl i gael llety hirdymor. Jane Dodds AS: Prynhawn da, Gweinidog. Dydd Iau yr wythnos diwethaf, roeddwn i mewn gwirionedd ar stondin gyda grŵp cefnogi ffoaduriaid Aberhonddu, Y Gelli a Thalgarth, ac fe gwrddais â ffoadur yno, merch ifanc, sydd â thri o blant, yr ieuengaf ohonyn nhw wedi'i eni mewn lloches fomiau yn Kyiv. Mae hi'n unigolyn entrepreneuraidd dros ben ac yn ceisio sefydlu busnes yn gwneud gemwaith. Ond roedd hi eisiau i mi gyfleu ei diolch a diolch ei theulu i Lywodraeth Cymru am yr holl gefnogaeth y maen nhw wedi ei chael. Mae un o'r materion a godir gan y grŵp yn ymwneud â mynediad at ofal deintyddol i ffoaduriaid. Mae llawer o'r rhai sy'n cyrraedd angen cymorth ac yna mae'r teuluoedd sy'n cynnig llety iddyn nhw yn canfod eu bod angen gofal deintyddol mewn gwirionedd. Rwy'n adnabod un teulu sydd wedi gorfod talu tua £2,000 ar ran y ffoadur o Wcráin oedd yn aros gyda nhw, felly tybed, Gweinidog, a wnewch chi roi gwybod i ni beth yw eich dealltwriaeth chi o'r sefyllfa o ran yr awdurdodau iechyd yn ymateb i geisiadau am archwiliadau deintyddol a gofal deintyddol i ffoaduriaid, nid dim ond y rhai o Wcráin. Diolch yn fawr iawn. Jane Hutt AC: Diolch yn fawr, Jane Dodds. Hefyd, mae'n dda iawn clywed am gynnydd y ffoadures honno y gwnaethoch chi ei chyfarfod ar y stondin mor ddiweddar, a'r hyn a fu ei phrofiad—rhoi genedigaeth mewn lloches fomiau yn Kyiv—sy'n pwysleisio pa mor bwysig yw hi ein bod ni'n parhau gyda'n cefnogaeth fel uwch-noddwr ac fel cenedl noddfa. Ac mae cymaint ohonom ar draws y Siambr hon wedi cwrdd â phobl sydd wedi cael yr un profiad, a hefyd sydd eisiau bwrw ymlaen a sefydlu busnesau, mynd i mewn i waith, bod yn annibynnol, dod yn ddinasyddion Cymru. Ni fyddai llawer wedi dychmygu eu bod nhw'n mynd i aros cyhyd; bydden nhw wedi gobeithio y byddai'r rhyfel drosodd ac y bydden nhw'n ôl gyda'u hanwyliaid. Mae'n rhaid i ni ystyried, bob amser, y ffaith bod eu hanwyliaid yn ôl, mae llawer ohonyn nhw yn ôl yn Wcráin, yn ymladd, yn amddiffyn eu gwlad. Ond mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n rhoi'r gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw i sefydlu busnes, i gael tai, i helpu i wneud eu cyfraniad, sy'n rhan o'r hyn yr wyf yn ei ddweud yn fy natganiad, ond hefyd cael Llywodraeth y DU i chwarae ei rhan. Nid mater i Gymru yn unig yw hwn, nid mater i'r DU yn unig—mae'n ymwneud â'r ymateb dyngarol Ewropeaidd cyfan sydd wedi bod mor bwysig. Ond o ran mynediad at wasanaethau deintyddol, yn amlwg mae angen i ni sicrhau bod y rhai sydd gyda rhai sy'n lletya—. Efallai eto, mai cyfrifoldeb y rhai sy'n lletya yw cael yr wybodaeth. Rydym ni'n ariannu sefydliadau i gefnogi'r rhai sy'n lletya, sy'n bwysig iawn yn fy marn i, fel eu bod nhw'n gallu edrych ar yr wybodaeth y maen nhw'n ei chael fel eu bod nhw—. Ni ddylai'r rhai sy'n lletya eu hunain dalu am y math yna o wasanaethau, ac mae angen i ni sicrhau eu bod yn gwybod lle i fynd, a'u cyfeirio nhw. Felly, fe fyddai'n ddoeth i Wcreiniaid gofrestru gyda deintydd cyn gynted â phosibl, ond efallai na fydd practis deintyddol yn cynyddu capasiti er mwyn derbyn cleifion newydd y GIG. Ond mae'r bwrdd iechyd lleol wedi cael y rhestr honno o feddygfeydd, a hefyd, os yw'n argyfwng deintyddol, yna dylai Galw Iechyd Cymru hwyluso mynediad at wasanaethau deintyddol cymunedol. Felly, os caf i ddweud hynny heddiw a'i roi ar gofnod: GIG 111 ar gyfer y bwrdd iechyd lleol er mwyn cael rhestr o feddygfeydd y GIG a 0845 46 47 ar gyfer Galw Iechyd Cymru, i'w cyfeirio nhw at wasanaeth deintyddol cymunedol. Diolch i'r Gweinidog. 7. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Cau Pont Menai Yr eitem nesaf felly yw'r datganiad gan y Diprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar gau Pont Menai, a dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud y datganiad hynny—Lee Waters. Lee Waters AC: Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch i chi am y cyfle i roi diweddariad i'r Aelodau ar bont Menai. Fel y bydd Aelodau yn gwybod, am 2 p.m. ddydd Gwener 21 Hydref, penderfynodd Llywodraeth Cymru gau pont Menai i'r holl draffig ar unwaith. Ni wnaed y penderfyniad ar chwarae bach; cafodd ei wneud ar sail diogelwch ar ôl cyngor clir gan beirianwyr strwythurol a sgyrsiau gyda'r heddlu. Mae pont Menai yn cael ei rheoli gan gwmni preifat, UK Highways A55 Ltd, fel rhan o fenter cyllid preifat sy’n cael ei alw yn gontract dylunio-adeiladu-ariannu-gweithredu, neu DBFO, ar gyfer yr A55 ar Ynys Môn a dolen Menai. Fel rhan o'u cyfrifoldeb cynnal a chadw, mae UK Highways wedi bod yn cynnal archwiliadau ar y bont. Maen nhw'n gwneud hyn i safon diwydiant bob dwy a chwe blynedd. Mae'r archwiliadau cyffredinol bob dwy flynedd yn archwiliadau gweledol lle archwilir pob rhan o'r strwythur, gan ddefnyddio binocwlars neu arolygon drôn o'r awyr fel arfer. Mae'r prif archwiliad yn digwydd bob chwe blynedd, ac mae'n cynnwys archwilio'r holl rannau y gellir eu harolygu o'r bont sydd o fewn pellter cyffwrdd. Mae'r arolwg manwl yn cynnwys archwiliadau gweledol, yn ogystal â thechnegau arbenigol megis arolygon tapio gyda morthwyl ar goncrit, neu fesur rhwd. Fel rhan o'r prif arolygiad diwethaf yn 2019, nodwyd pryder am gadernid hongwyr sy'n cefnogi'r bont grog, ac arweiniodd at gyfyngiad pwysau yn cael ei osod ar y bont tra bod astudiaethau pellach yn cael eu cynnal. Adroddwyd yr arolygiad diweddaraf i Lywodraeth Cymru ddydd Mercher diwethaf, ac yn annisgwyl fe dynnodd sylw at bryder ar unwaith ynghylch mecanwaith methiant bregus yr hongwyr. Fel sy'n arfer safonol, fe wnaeth swyddogion adolygu’r canfyddiadau a’u herio. Fodd bynnag, yn seiliedig ar gyngor clir iawn gan beirianwyr strwythurol, ystyriwyd nad oedd opsiwn arall ond cau'r bont tra bod gwiriadau pellach ar y dadansoddiad yn cael eu cynnal gan ymgynghorydd annibynnol. Fel rydw i’n ei ddweud, nid yw hyn yn benderfyniad a wnaed ar chwarae bach, ac rwy'n llwyr werthfawrogi goblygiadau i bobl leol, yn enwedig heb unrhyw rybuddion ymlaen llaw. Yn wreiddiol, fe wnaethom gynllunio ymgyrch gyfathrebu o flaen llaw i roi rhybudd i bobl, ond yn dilyn sgyrsiau pellach gyda'r heddlu ac yn seiliedig ar y cyngor, fe wnaethom ni benderfynu ei bod hi'n ddoeth cau'r bont ar unwaith. Mae diogelwch ein rhwydwaith a'r cyhoedd sy'n teithio yn hollbwysig, ac mae'r penderfyniad wedi bod yn seiliedig ar yr argymhellion diogelwch gan nifer o beirianwyr strwythurol, ymhlith y gorau yn y byd. Mae'r canfyddiadau a arweiniodd at yr argymhelliad i gau'r bont yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd, fel sy'n safonol. Bydd yr adolygiad cychwynnol yn cymryd hyd at bythefnos. Mae swyddogion, ynghyd â rhanddeiliaid, yn asesu'r holl opsiynau sydd ar gael i ailagor y bont cyn gynted â phosib. Efallai y bydd angen gosod gwaith i gryfhau'r hongwyr dros dro er mwyn sicrhau diogelwch ac uniondeb pont Menai, a gallai'r rhaglen hon gymryd rhwng 14 ac 16 wythnos, gyda'r bont yn ailagor i gerbydau hyd at 7.5 tunnell, eto ar ddechrau 2023. Nawr, rwy'n ymwybodol iawn o'r anghyfleustra mae hyn yn ei achosi. Yn amlwg, mae pont Menai yn gyswllt hanfodol i bobl y gogledd a thu hwnt, a hoffwn ddiolch i bobl leol am eu hamynedd a'u dealltwriaeth tra bod y gwaith brys hwn yn digwydd. Ac rwyf i am eu sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda UK Highways a'r holl randdeiliaid, gan gynnwys y gwasanaethau brys, i sicrhau y gellir gwneud hyn mor gyflym a diogel â phosibl. Mae'r holl draffig cerbydau bellach yn cael ei ddargyfeirio i bont Britannia, ac mae swyddogion Llywodraeth Cymru wrthi'n gweithio ar frys ar gynlluniau wrth gefn pellach yn yr ardal, a byddant yn parhau i fonitro'r tagfeydd i lywio newidiadau yn y dyfodol. Maen nhw hefyd yn datblygu strategaethau pellach i gynyddu cadernid ar bont Britannia i liniaru'r risg y bydd y ddwy bont yn cau mewn amgylchiadau eithriadol. Gallaf gadarnhau, yn dilyn trafodaethau gyda UK Highways a'u harbenigwyr strwythurol, cytunwyd bod modd ailagor y llwybr troed ar draws y bont ar gyfer cerddwyr a beicwyr oddi ar eu beiciau. Rhaid i gerddwyr aros ar y llwybr troed, a bydd y niferoedd yn gyfyngedig, a monitro'n digwydd. Mae swyddogion yn gweithio gyda UK Highways i helpu i gyfyngu’r effaith ar y gwasanaethau brys ac i ganiatáu eu cerbydau, sy'n pwyso llai na 7.5 tunnell, ar draws pont Menai, os bydd A55 pont Britannia yn cau. Bydd hyn yn amodol ar y gwasanaethau brys yn bodloni meini prawf penodol a’r rheolaeth traffig, sy’n cael ei roi ar waith gan UK Highways, ei bod hi’n ddiogel i ganiatáu i hyn ddigwydd. Mae effeithiau'r cau yn newydd iawn. Mae swyddogion eisoes yn ystyried yr effeithiau a byddant yn parhau i fonitro'r rhwydwaith ffyrdd i weld beth y gellir ei wneud er mwyn lleddfu tagfeydd ymhellach. Byddaf yn rhoi diweddariadau pellach wrth i bethau fynd yn eu blaen, a hoffwn wahodd yr Aelodau lleol i sesiwn friffio technegol gyda swyddogion Llywodraeth Cymru, fel y gallant ofyn eu cwestiynau manwl eu hunain i fodloni eu hunain gyda’r penderfyniadau a'r camau nesaf. Byddwn i'n annog pobl leol i ymweld â gwefannau Llywodraeth Cymru a Traffig Cymru a sianeli cyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf. Unwaith eto, rwy'n hynod ddiolchgar i bawb fydd yn cael eu heffeithio gan hyn. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ailagor y bont cyn gynted ag y bydd yn ddiogel i wneud hynny. Diolch. Natasha Asghar AS: Dirprwy Weinidog, mae'r golygfeydd rydyn ni wedi bod yn eu gweld yn digwydd yn Ynys Môn dros y dyddiau diwethaf yn gwbl annerbyniol ac, os caf fentro dweud, y gellid bod wedi eu hosgoi. Mae'n rhaid i mi ddweud, o'r eiliad y caeodd y bont yn sydyn yn hwyr brynhawn Gwener, mae anhrefn llwyr wedi bod yn yr ardal, gyda gyrwyr, cerddwyr a seiclwyr wedi'u gadael yn sownd. Mae fy mewnflwch wedi bod yn llawn negeseuon, ac rydw i wedi fy lleoli yn y de-ddwyrain. Bydd cau'r bont ar y funud olaf heb rybudd ymlaen llaw am yr hyn a allai fod yn bedwar mis nid yn unig yn taro trigolion, ymwelwyr a chymudwyr, ond hefyd busnesau gweithgar yn yr ardal. Wrth gwrs, Dirprwy Weinidog, mae diogelwch yn hollbwysig—dydw i ddim yn mynd i'w wadu am un eiliad—ond sut ar y ddaear ydyn ni ond bellach yn ymwybodol o wendidau strwythurol yma heddiw? Dylai pont 200 mlwydd oed, sy'n cael ei defnyddio gan bron i 50,000 o gerbydau bob dydd, gael ei harchwilio'n rheolaidd, nid bob chwe blynedd. Pe bai'r broblem hon wedi cael ei chodi ynghynt, gellid bod wedi rhoi rhybudd o flaen llaw a byddai pobl Ynys Môn wedi gallu gwneud trefniadau amgen. Bellach mae disgwyl i fodurwyr ddefnyddio pont Britannia tra bod Pont Menai ar gau. Yn syml, nid yw hyn yn mynd i weithio, Dirprwy Weinidog, yn enwedig nawr wrth i ni fynd i'r gaeaf, pan fydd pont Britannia ar gau yn rheolaidd oherwydd gwyntoedd cryfion. Beth sy'n digwydd os bydd pont Britannia yn gorfod cau tra bod Pont Menai ar gau? Mae rhai o fy nghydweithwyr yma, a fy nghydweithiwr anrhydeddus Virginia Crosbie yn San Steffan, wedi bod yn cael ymosodiadau ar y cyfryngau cymdeithasol gan eich Plaid Lafur chi dros y saga wael hon. Mae'r Blaid Lafur, sy'n amlwg heb wir ddealltwriaeth o'r sefyllfa, wedi bod yn honni bod hyn yn broblem i Lywodraeth y DU, oherwydd ei fod yn cynnwys cwmni o'r enw UK Highways A55 Limited—[Torri ar draws.] Datganiad yw hwn, Janet Finch-Saunders. [Torri ar draws.] Ers pryd ydych chi wedi bod yma, Janet? Janet Finch-Saunders AC: Roeddwn i ond yn ceisio. Natasha Asghar AS: Rwy'n falch eich bod chi wedi rhoi diwedd ar yr honiadau anghywir hyn—[Torri ar draws.] Rwy'n falch eich bod chi wedi rhoi diwedd ar yr honiadau anghywir hyn trwy gadarnhau bod UK Highways A55 Limited yn gwmni preifat, a bod y cyfrifoldeb yn nwylo eich Llywodraeth chi, nid San Steffan. Fodd bynnag, dylech chi fod wedi gwneud hyn yn gwbl glir o'r cychwyn cyntaf, oherwydd mae wedi arwain at lawer o ddryswch gyda'r cyhoedd, gwleidyddion a'ch plaid chi eich hun. Gadewch i mi fod yn glir o'r cychwyn cyntaf: rwy'n credu'n gryf fod y ffiasgo hwn yn amlygu esgeulustod Llywodraeth Cymru o'r gogledd ymhellach ac yn dangos bod rhaniad mawr yn dal i fodoli rhwng y gogledd a'r de. Mae'n hanfodol ailagor pont Menai, sydd yn wythïen hanfodol, cyn gynted â phosibl, a rhaid i'ch Llywodraeth wneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau bod sefyllfaoedd fel hyn yn cael eu hosgoi yn y dyfodol. A fyddwch chi'n ymrwymo nawr, wrth symud ymlaen, y bydd pont Menai yn cael ei harchwilio'n rheolaidd ac yn drylwyr fynd i'r afael ag unrhyw broblemau yn y dyfodol cyn iddyn nhw waethygu? Oherwydd mae pobl a busnesau Ynys Môn yn haeddu gwell na hyn, Dirprwy Weinidog. Lee Waters AC: Wel, er ei fod yn gymaint o demtasiwn, Llywydd, i ymgysylltu â'r cyfraniad hwnnw yn yr un cywair ag y'i cynigiwyd, dydw i ddim am wneud hynny. Rwy'n credu bod hwnnw'n ymyrraeth annoeth iawn ar yr hyn sy'n bwnc difrifol iawn. Mae archwiliadau rheolaidd o'r bont i safon y diwydiant, sy'n llawer uwch nag i'r rhwydwaith priffyrdd arferol, sy'n ddull sy'n seiliedig ar risg. Nid yw archwiliadau o'r bont yn seiliedig ar risg, maen nhw'n cael eu cynnal yn rheolaidd, ac fe wnes i sôn am y broses ar gyfer hynny, a thrwy'r archwiliad rheolaidd hwnnw y tynnwyd sylw at y broblem gychwynnol. Mae gwaith monitro parhaus wedi bod yn digwydd ers hynny, a'r monitro parhaus hwnnw sydd wedi amlygu'r potensial am fethiant pellach, a'n harweiniodd ni i weithredu ar unwaith. Ac fel yr eglurais, gallem fod wedi aros tan ddiwedd y penwythnos a rhoi rhybudd ymlaen llaw y byddai'r bont yn cau ddydd Llun, ond, wrth fyfyrio, roedden ni'n meddwl y byddai hynny'n anymarferol; petai rhywbeth wedi digwydd, byddai hynny wedi bod yn anfaddeuol. Ac o ystyried pwysau'r cyngor yr oeddem ni'n ei gael gan y peirianwyr strwythurol, roedd yn amlwg mai'r peth iawn i'w wneud oedd gweithredu ar unwaith, gan wybod yn iawn y byddai hyn yn achosi gofid ac anghyfleustra, yr ydym ni'n gresynu'n arw yn ei gylch, ond roeddem ni'n teimlo mai dyma'r peth cyfrifol i'w wneud. Ac os oes gan yr Aelod amser i ailddarllen y datganiad a roddais, rwy'n credu ei fod yn ateb yn deg y cwestiynau sydd wedi eu codi, ac rwy'n gresynu'r ffordd y mae wedi gwneud ei hymyrraeth heddiw. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch am y datganiad. Mae'n rhaid dweud wrth y Gweinidog: mae hyn yn llawer mwy nag anghyfleustra, ac mae'n rhaid i mi ddweud hefyd fod y sefyllfa'n llawer mwy difrifol nag yr oedd llefarydd y Ceidwadwyr wedi'i drin o. Dwi'n meddwl bod yna dri chwestiwn sylfaenol yn codi rŵan. Yn gyntaf, y flaenoriaeth: beth ydy'r camau sy'n cael eu cymryd i ymateb i hyn, cadw traffig i lifo, lliniaru risgiau? Yn ail, cyflwr y bont: sut adawyd i hyn ddigwydd yn y lle cyntaf? Sut mae dod o hyd i'r ffordd gyntaf i ailagor yn ddiogel? Ac yn drydydd, beth fydd yr ymateb er mwyn sicrhau gwytnwch yn yr hir dymor? O ran yr ymateb rŵan, te, mae yna gymaint o haenau i hyn: sicrhau does dim rhwystrau i gerbydau brys; sut i gael staff allweddol i'w gwaith—staff Ysbyty Gwynedd yn arbennig, ond llawer mwy na hynny—sut i gael pobl allan o'u ceir—mwy o drenau'n stopio mewn mwy o orsafoedd, mwy o fysus, annog mwy o ddefnydd o park and rides, bysus gwennol ac ati. A fydd y llwybr cerdded ar agor drwy'r cyfnod yma? Dydy hynny dal ddim yn hollol glir. Oes modd defnyddio'r llwybr wrth ymyl y rheilffordd ar ddec isaf pont Britannia i ryw bwrpas? Mae hynny'n rywbeth dwi wedi'i godi o'r blaen. Mae yna bwysau ar wasanaethau iechyd. Pa gamau fydd yna i wella darpariaeth ar yr ynys yn Ysbyty Penrhos Stanley, er enghraifft? Beth am gynlluniau i leihau'r angen i gau pont Britannia mewn gwynt, a'r cynlluniau brys wedyn, parcio loris ac ati, os oes rhaid cau? Beth am gynlluniau i liniaru ym mhorthladd Caergybi? Fel dwi'n dweud, mae yna gymaint o elfennau i hyn—gormod o restr yn fanna i ddisgwyl ymateb ar bob un ohonyn nhw gan y Gweinidog—ond does yna brin ddim mesurau cadarn wedi cael eu hamlinellu hyd yma. Mae'n rhaid inni glywed am fesurau pendant ar frys. A hefyd, os caf i ddweud, mi fydd angen buddsoddiad. Felly, a allwn ni gael ymrwymiad o adnoddau ychwanegol i'r cyngor sir, fydd yn gorfod delifro sawl elfen o'r mesurau yma? Gadewch i ni ddod at yr ail elfen, te: sut ddigwyddodd hyn? Rydyn ni wedi cael disgrifiad o'r rhaglen archwilio ac ati a wnaeth arwain at y datganiad ddydd Gwener, ond mae yna gwestiynau'n parhau i fi. Sut mae pethau wedi gallu gwaethygu mor gyflym, yn cyrraedd pwynt mor gritigol, mae'n ymddangos, mewn cyfnod mor fyr? Mae'n lot o waith edrych ar ôl pont o'r math yma—yn sicr dyw e ddim mor hawdd ag roedd Lewis Carroll yn ei awgrymu yn Through the Looking-Glass: Rhun ap Iorwerth AC: 'Roeddwn i newydd / gwblhau fy nyluniad / i gadw Pont Menai rhag rhwd / Trwy ei berwi mewn gwin.' Rhun ap Iorwerth AC: Nid felly mae gwneud. Ond a oedd y gwaith cynnal a chadw, y gwaith paentio ac amddiffyn, wedi bod yn ddigon da? Yn sicr, dwi wedi bod yn gweld rhwd. Mwy nag arfer? Dwn i ddim; dwi ddim yn beiriannydd. Ond oedd Llywodraeth Cymru'n monitro'n ddigon da'r modd yr oedd UK Highways yn gwneud eu gwaith? Ac ai gwaith UK Highways oedd adnabod problemau'n gynnar—preventative maintenance schedule—neu ymateb i broblemau wrth iddyn nhw godi? Buaswn i'n mawr obeithio mai bod yn rhagweithiol oedd gofynion y cytundeb. Mae'n rhaid rhoi diogelwch yn gyntaf, wrth gwrs, ond hefyd mae angen asesu'n drylwyr ai cau oedd yr unig opsiwn. Oes modd symud yn gynt, yn ddiogel—hynny ydy, i ailagor? Ydw i'n iawn i ddeall mai asesu bydd yn digwydd am y tri neu bedwar mis nesaf, ac y gallai gwaith trwsio gymryd mwy na hynny? A gadewch i mi droi at y pwynt olaf. Dwi ac eraill wedi rhybuddio'n hir am hyn. Rydyn ni angen croesiad newydd. Mi oedd Llywodraeth Cymru wedi addo croesiad, a dydy o dal ddim wedi digwydd. Mae yna bris i'w dalu am oedi—pris mewn punnoedd, pan fo chwyddiant mor fawr ag ydy o rŵan, ond pris cymunedol hefyd. Y ffaith bod cynllun Wylfa wedi dod i stop sy'n cael y bai yn aml, ond gadewch inni fod yn glir: nid ymateb i broblem traffig ydy'r angen am groesiad dual carriagewaylle mae'r Britannia. Ydy, mae hi'n boen aros mewn ciw i groesi, ond, mewn difrif, gwytnwch—resilience—sydd dan sylw yn fan hyn. Dau groesiad sydd yna, ac mae un ohonyn nhw'n bont grog 200 mlwydd oed. Mi fu ond y dim i mi gael cytundeb Llywodraeth Cymru rai blynyddoedd yn ôl i gael system tair lôn, system peak flow, ond bod peirianwyr y Llywodraeth wedi penderfynu yn y pen draw bod y bont yn rhy gul i hynny, yn enwedig o ystyried bod traffig yn ymuno efo pont Britannia ar gyflymder uchel. Efallai fod modd edrych ar weithredu rhywbeth felly dros dro rŵan. Ond y gwir amdani ydy bod angen ateb parhaol, gwydn. Un peth ydy bod yn ynys, peth arall ydy cael ein hynysu, a dyna'r realiti sydd wedi cael ei amlygu rŵan. Dwi'n edrych ymlaen at ymrwymiad o'r newydd i ailgydio, ar frys, yn y gwaith o ddatblygu croesiad newydd. Lee Waters AC: Wel, hoffwn ddiolch i'r Aelod am y ffordd mae wedi ymgysylltu â'r mater hwn, ac rwy'n deall ei bryderon, ac mae'r cwestiynau hynny'n deg. Fe wnaf i geisio ateb rhai ohonyn nhw nawr. Byddaf yn ysgrifennu ato gyda'r rhai nad wyf wedi eu hateb, ac fel y dywedais i, byddwn yn sefydlu cyfarfod iddo ef ac eraill siarad â phrif beiriannydd Llywodraeth Cymru i siarad drwy'r cwestiynau a'r pryderon manwl sydd ganddo. Rwy'n credu bod y cwestiynau cyffredinol, 'A gafodd digon ei wneud?' 'Oes yna wersi wedi eu dysgu?', yn gwestiynau teg, ac mae'r rheiny'n gwestiynau rydyn ni'n eu gofyn i ni'n hunain, a byddwn ni'n adolygu'r hyn sydd wedi digwydd i'n cael ni i'r cam hwn. Rwy'n credu ei bod hi’n deg dweud bod ein swyddogion wedi synnu pan gawsom yr adroddiad ddydd Mercher diwethaf bod angen gwneud gwaith brys. Cefais wybod amdano ddydd Mercher a chefais wybod i ddechrau nad yw'n anarferol i bryderon gael eu codi, ond y broses yw eu herio a'u profi, o ystyried canlyniadau cau, i wneud yn siŵr ein bod ni’n gwbl sicr. Cefais wybod wedyn ddydd Iau, ar ôl cael profion pellach a sgyrsiau pellach—. Fel y dywedais i, mae’r cwmni o beirianwyr sydd wedi bod yn gwneud y gwaith hwn yn fyd-enwog am y gwaith hwn. Maen nhw hefyd yn gweithio ar bont grog Clifton, felly maen nhw'n gyfarwydd â'r math o beirianneg dan sylw. Ac o ystyried bod eu cyngor mor glir, teimlwyd bod yn rhaid gwneud hyn yn syth, ond nid oedd yn rhywbeth yr oeddem ni wedi’i ragweld. Felly, yn amlwg, roedd rhywbeth wedi newid ers yr archwiliad blaenorol i fod angen y gwaith hwn. Ond, ar un ystyr, roedd y system yn gweithio. Mae'r system yn un sy’n cynnwys gwiriadau—gwiriadau rheolaidd, gwaith dilynol, dadansoddiad—a dyna ddigwyddodd. Cafodd ei nodi am y tro cyntaf fel problem yn 2019, roedd cyfyngiad ar gerbydau trwm yn croesi, gwnaed gwaith dilynol a phrofi pellach, ac mae hynny wedi arwain at benderfyniad a thrafodaeth heddiw. Felly, ar un ystyr, mae'r mesurau diogelwch a oedd gennym ni ar waith wedi profi eu bod yn effeithiol. Mae'r risg o ddigwyddiad trychinebus yn digwydd i'r bont yn dal i fod yn isel, ond mae'n rhy uchel i ni allu mentro. Ac fel y nododd yr Aelod yn gywir, mae hon yn bont hen iawn. Gosodwyd tua 40 o hongwyr newydd yn lle hen rai yn yr 1990au, ond mae dros 200 yn weddill sy'n llawer hŷn, a thechnoleg llawer hŷn. Ac mae hynny hefyd yn creu rhywfaint o ansicrwydd, oherwydd mae'r dechnoleg fwy newydd yn gallu cael ei phrofi ac yn gallu cael ei monitro mewn ffordd llawer mwy dibynadwy. Mae gennym ni rywfaint o ansicrwydd gyda'r hongwyr llawer hŷn. Dyna un o'r rhesymau pam rydyn ni wedi bod yn ofalus wrth wneud y penderfyniadau rydym ni wedi’u gwneud. Mae'n bosib y bydd y gwiriadau fydd yn digwydd dros y pythefnos nesaf yn canfod ein bod ni wedi gorymateb ac y byddwn ni’n gallu agor y bont, gyda chyfyngiad pwysau, llawer, llawer cynt. Mae fy swyddogion yn fy nghynghori eu bod nhw’n credu bod hynny'n annhebygol, ond mae'n sicr yn bosibilrwydd, ac ni fyddwn ni’n cadw hon ar gau yn hirach nag yr ydym ni’n credu sydd wedi ei gyfiawnhau drwy bwyso a mesur risgiau. Er mwyn ceisio ateb rhai o'r cwestiynau am lif y traffig, wel, mae cynlluniau yn cael eu datblygu gyda'r awdurdod lleol a gyda UK Highways i fonitro hynny ac i roi unrhyw fesurau lliniaru ar waith, ac rwy'n hapus i roi mwy o fanylion i chi am y rheini. O ran, wedyn, y cynlluniau wrth gefn o ran beth ddylai ddigwydd os yw'r ddwy bont ar gau—. A dim ond rhywfaint o sicrwydd ar hyn—mae hyn wedi tueddu i ddigwydd rhywbeth fel dim mwy na dwywaith y flwyddyn. Felly, mae'n ddigwyddiad prin, a phan mae'n digwydd, mae'n digwydd yn gyffredinol am fater o oriau. Mae'n amlwg yn achosi aflonyddwch enfawr, ac nid wyf i'n ei leihau; rydw i yn ei roi mewn cyd-destun o ran pa mor aml. Rydw i’n meddwl ei bod wedi'i chau 10 gwaith ers 1987, pont Britannia. Nawr, fel mae'n digwydd, mae yna wyntoedd cryfion yn cael eu rhagweld ar gyfer yfory, felly mae'n caniatáu i ni roi cynlluniau ar waith ar unwaith i hysbysu gyrwyr o'r amodau ac annog y rhai sydd â cherbydau agored i niwed, fel carafanau a beiciau modur, i beidio â theithio tra bod yr amodau gwynt uchel hynny’n mynd rhagddynt, ac mae'r rhai sy'n gwneud hynny yn gwneud hynny ar eu risg eu hunain. Mae'r swyddogion yn gweithio gydag asiantaeth cefnffyrdd y gogledd ar strategaeth wyntoedd uchel newydd ar gyfer yr A55 Britannia i adolygu hyrddiadau gwynt yn erbyn cyflymder cerbydau, a gallai'r opsiwn i leihau'r terfyn cyflymder i 30 mya gynorthwyo gyda chaniatáu i'r cerbydau mwyaf agored i niwed groesi pan fydd hyrddiadau gwynt uchel. Mae cynlluniau wrth gefn hefyd yn cael eu drafftio, a byddai opsiynau cychwynnol yn y cynllun hwn yn cynnwys yr opsiynau i gynyddu cyfleusterau parcio a theithio, creu opsiynau safle pentyrru posibl, ac adolygu'r defnydd o'r rheilffyrdd i'r ynys ac oddi yno. Felly, mae llawer o feddwl, fel y gallech chi ddychmygu, yn mynd i edrych ar ystod gyfan o bosibiliadau, o ystyried pwysigrwydd y ddolen hon. O ran cadernid y bont yn yr hirdymor, fel soniodd Rhun ap Iorwerth, mae gwaith wedi bod yn mynd ymlaen i edrych ar drydydd croesiad. Mae hynny bellach wedi mynd trwy gam 2 WelTAG. Byddai'n costio rhywle yn agos i £400 miliwn. Dyna'r amcangyfrif presennol. Felly, mae'n benderfyniad sylweddol i'w wneud a buddsoddiad i'w wneud. Fel y gwyddoch chi, mae wedi cael ei adolygu fel rhan o'r panel adolygu ffyrdd, ynghyd â'r holl gynlluniau eraill yng Nghymru, a byddwn ni hefyd yn gofyn i adolygiad Burns yn y gogledd edrych ar ba gynlluniau wrth gefn y gellid eu rhoi ar waith yn y tymor byr. Hyd yn oed pe byddem ni’n ddechrau ei hadeiladu nawr, mae'r broses yn cymryd tua saith mlynedd. Mae'r pethau yma'n ddrud ac yn araf. Felly, byddwn ni’n gofyn i Burns fynd i'r afael â'r broblem o ran cadernid yn y tymor hwy, a bydd yr adroddiad hwnnw ar gael y flwyddyn nesaf. Felly, rwy'n credu, fel rydw i wedi’i nodi, rydyn ni’n gwneud rhai pethau tymor byr. Os yw'r archwiliad hwnnw ymhen pythefnos yn dangos mai'r penderfyniad oedd yr un cywir, yna bydd rhywfaint o fodelu manwl yn cael ei wneud gan gwmni cwbl ar wahân, sydd hefyd yn brofiadol iawn yn y strwythurau hyn, i wneud yn siŵr ei fod yn annibynnol, ac yna bydd modelu pellach yn cael ei wneud. Felly, byddwn ni’n sicrhau ein bod ni’n gwneud hyn yn iawn a byddwn ni’n sicrhau ein bod ni’n ei wneud gyda diogelwch mewn golwg, a byddwn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu yn y cyfamser i helpu pobl Ynys Môn a thu hwnt sy'n profi anghyfleustra oherwydd y tagfeydd mae hyn yn ei achosi ar adegau prysur. Carolyn Thomas AS: Mae gen i ambell i awgrym hefyd gan drigolion. Mae'n debyg bod rhai ohonyn nhw eisoes wedi cael sylw, os yw hynny'n iawn. Fel y dywedais i o'r blaen, mae Britannia yn dagfa barhaol ac mae'n ffordd ddeuol ar y bont, ond mae lle hefyd i lôn arall, sydd wedi cael ei thrafod yn y gorffennol ac a godwyd yn gynharach. Felly, a fyddai'r Gweinidog yn gofyn am ail-werthuso'r drydedd lôn ganolog ar frys ar draws pont Britannia, gyda rheolaeth traffig yn gweddu i gyfeiriad y llif ar yr adegau prysuraf? A hefyd, fel y soniwyd hefyd, mae dec is ar bont Britannia, ac rwy'n gwybod bod beicwyr wedi bod yn gofyn ers talwm os byddai modd ailagor hwnnw eto fel llwybr beicio. Gallai hynny ddigwydd nawr. Mae'r rheilffordd wedi'i ffensio, felly gallai hynny ddigwydd mewn gwirionedd nawr, pe bai camerâu yno. Gallai hynny fod yn opsiwn. Maen nhw hefyd wedi awgrymu efallai bod bysiau mini i staff a threnau amlach yn cael eu hamserlennu, ond maen nhw'n gwybod ei bod hi'n eithaf anodd hefyd, i ffitio hynny i mewn. Mae diogelwch yn hollbwysig, felly diolch i'r peirianwyr am sylwi ar hyn. Mae'n anghyfleus iawn, ond rydym ni'n gwerthfawrogi ei fod yn cael ei wirio'n rheolaidd. Ac allai ofyn i chi hefyd am y diweddaraf am groesfan Afon Dyfrdwy yr A494? Rwy'n gwybod, dipyn o flynyddoedd yn ôl, roedd problem yno o bosib ynglŷn â dirywio, ac efallai y byddai'n rhaid iddo fynd yn un lôn. Mae hyn i gyd yn rhan o'r un llwybr i mewn ac allan o Gymru. Felly, allech chi roi diweddariad i mi ar hynny, os gwelwch yn dda, hefyd? Diolch. Lee Waters AC: Yn sicr. O ran y pwyntiau a wnaeth yr Aelod am awgrymiadau amgen, mae hynny'n rhywbeth y byddai cynlluniau wrth gefn pont Britannia—y soniais amdano ac yr wyf wedi bod yn eu drafftio, gan edrych ar opsiynau—yn edrych arno, i edrych ar yr holl ystod o bethau y gallem ni eu gwneud. O ran mynediad seiclo, un o'r pethau sy'n cael ei edrych arno nawr fel rhan o'r adolygiad pythefnos hwn yw p'un a yw'r cyfyngiad ar feicwyr yn gorfod dod oddi ar eu beiciau a'u gwthio nhw ar draws y bont yn gymesur ai peidio, ac a fydd beicwyr yn gallu croesi ai peidio. Mae hynny'n cael ei brofi, yn ogystal â, fel y dywedais i, y mynediad i gerbydau brys yn mynd yn araf dros y bont pan nad yw pont Britannia ar gael. O ran pont Dyfrdwy, sy'n amlwg yn bwynt ar wahân ac ni ddylem eu cysylltu gan eu bod nhw'n faterion gwahanol, ond gan eich bod chi wedi gofyn am eglurhad, rwy'n hapus i gadarnhau bod opsiwn sy'n cael ei ffafrio o groesfan afon newydd ar gyfer traffig tua'r gorllewin ac ailddefnyddio'r bont bresennol yn rhannol ar gyfer traffig tua'r dwyrain wedi'i nodi. Mae gorchmynion drafft wedi'u cynllunio ar gyfer y gaeaf hwn, gydag ymchwiliad cyhoeddus wedi'i nodi ar gyfer yr haf nesaf, a, gan dybio y bydd y cyfan yn cael ei gymeradwyo, gallai'r gwaith adeiladu ddechrau yn 2024. Nid yw'r cynlluniau hynny'n destun yr adolygiad ffyrdd, oherwydd eu bod eisoes ar y gweill, ac mae'r rheiny wedi dechrau. Sam Rowlands MS: Diolch, Llywydd. Fel y gwyddoch chi, fe wnes i gyflwyno cwestiwn brys ar y mater hwn, ond yn amlwg fe wnes i ei dynnu'n ôl wrth i'r datganiad hwn gael eigyhoeddi, ac rwy'n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru a'r Dirprwy Weinidog am gyflwyno'r datganiad heddiw. Mae'n cael ei werthfawrogi. Rydw i hefyd yn ddiolchgar, Dirprwy Weinidog, eich bod chi wedi ei gwneud yn glir yn eich datganiad ynglŷn â'r penderfyniadau ynghylch cau pont Menai a deall pwy sy'n gyfrifol am beth o fewn hynny. Fel sydd eisoes wedi ei grybwyll yma heddiw, mae cau pont Menai yn syth, sy'n gweld miloedd o gerbydau yn croesi bob dydd, yn peri pryder gwirioneddol, ac rwy'n gwerthfawrogi, Dirprwy Weinidog, eich cydnabyddiaeth o bwysigrwydd y croesiad hwn i'r ynys ac i'r tir mawr fel ei gilydd. Rydw i am godi cwpwl o bwyntiau, Llywydd. Rwy'n gwerthfawrogi bod amser yn fyr iawn, ond rydych chi eisoes wedi sôn, Dirprwy Weinidog, am y pwynt ynghylch y cynlluniau wrth gefn pan fydd gwyntoedd cryfion yn debygol o gau pont Britannia. Byddwn yn gofyn i chi rannu'r cynlluniau wrth gefn hynny, os nad ydyn nhw eisoes wedi cael eu rhannu, cyn gynted â phosib, fel bod busnesau a phobl leol yn gwybod sut y bydd hynny'n gweithio. Rwy'n credu bod hynny'n bwynt pwysig iawn. Yn ail, o edrych ar y tymor hwy, mae'r rhaglen waith yn mynd i gymryd tua 16 wythnos i'w chwblhau, ac yna dim ond yn edrych i ailagor ar gyfer cerbydau hyd at 7.5 tunnell. Byddai'n ddiddorol cael gwybod pryd rydych chi'n rhagweld cerbydau trymach na 7.5 tunnell yn gallu croesi pont Menai yn y dyfodol, er mwyn creu'r capasiti ehangach yna sydd angen i groesi i'r ynys ac oddi arni. Ac yna'n drydydd, Dirprwy Weinidog, fe wnaethoch chi gyfeirio at hyn, a soniwyd amdano yn y datganiad, y ffaith i'r broblem hon gael ei hamlygu i ddechrau yn 2019, felly mae'n amlwg bod patrwm o bryder wedi bod dros gyfres o flynyddoedd a misoedd. Dydy hi dal ddim yn glir i mi pam, er bod patrwm o bryder wedi bod dros amser hir—rydyn ni'n edrych ar dair blynedd a mwy yma—bod penderfyniad uniongyrchol a sydyn y bu'n rhaid ei wneud heb rybudd i bobl leol ac i fusnesau fel ei gilydd. Felly, byddwn i'n gwerthfawrogi efallai ychydig mwy o eglurder pam nad chafodd y patrwm hwnnw o bryder ei ystyried yn iawn. Ac yn olaf, Llywydd, dim ond apêl ar gyfer cyfathrebu rheolaidd ac o safon, os gwelwch yn dda, i drigolion a busnesau lleol yn yr ardal. Diolch yn fawr iawn. Lee Waters AC: Diolch. Wel, yn sicr, ar eich pwynt olaf, byddwn i'n gwerthfawrogi help pob Aelod i wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu cyfathrebu'r negeseuon hyn gyda gonestrwydd a chynildebi etholwyr. Mae naws gwyllt braidd wedi bod ymysg rhai pleidiau gwleidyddol dros y penwythnos i geisio creu rhywfaint o sgorio pwyntiau, sydd, yn fy marn i, yn amhriodol iawn ac nid yw'n helpu pobl i ddeall natur y problemau yr ydym ni'n delio â nhw. Felly, rwy'n gobeithio na fyddwn ni'n gweld mwy o hynny, a byddwn i'n hapus iawn i ymgysylltu â'r holl Aelodau sydd â diddordeb mewn sgwrs lawn a gonest am yr hyn sy'n digwydd a'r opsiynau wrth i ni fynd drwyddyn nhw. Mae hyn yn rhywbeth lle na ddylai fod unrhyw le i wleidyddiaeth bleidiol, yn fy marn i. O ran y cynlluniau wrth gefn, rwy'n hapus i'w cyflwyno nhw i chi drwy lythyr, ond maen nhw fel maen nhw'n sefyll eisoes: rhybuddio a hysbysu gyrwyr o'n cyfyngiadau cynghori pan fydd eu hangen. Fel y dywedais i, anaml mae eu hangen nhw a hynny, yn gyffredinol, am gyfnodau cymharol fyr. Ac, fel y dywedais i, rydym ni'n gweithio ar strategaeth wrth gefn newydd i edrych ar opsiynau eraill, a byddaf yn sicrhau bod yr Aelodau yn cael y wybodaeth ddiweddaraf amdanyn nhw. O ran pryd mae'r bont yn debygol o ailagor heb gyfyngiadau, wel, rwy'n credu bod hynny wir yn dibynnu ar y dadansoddiad o gyflwr yr hongwyr. Nid fy lle i yw dyfalu canlyniadau'r adroddiad peirianyddol, ond pa bai angen disodli pob un neu lawer o'r hongwyr, yna'n amlwg mae hynny'n mynd i fod yn ddarn sylweddol o waith. Ni fyddai'r cyfyngiad 7.5 tunnell, byddwn i'n dychmygu, yn gallu cael ei godi nes bod y peirianwyr yn argyhoeddedig bod hynny'n ddiogel. Ac o ystyried bod pryder am natur bregus yr hongwyr, mae'n ymddangos i mi ei bod hi'n rhy gynnar i feddwl am godi cyfyngiadau yn gyfan gwbl nes bod yr asesiad llawn a'r gwaith hwnnw'n cael ei wneud. Rwy'n meddwl mod i wedi ateb y cwestiwn am y diffyg rhybudd a chyflwr y bont. Mae archwiliadau rheolaidd wedi bod, ac mae'r rhain yn cyd-fynd â safonau'r diwydiant. Nid yw hyn yn rhywbeth arbennig i bont Menai; dyma sy'n digwydd gyda phontydd eraill tebyg. Mae'n safon arolygu uwch na ffyrdd arferol, ac yn ogystal â bod yn amlach, mae'r gwiriadau sy'n digwydd o fewn y broses i lefel llawer uwch a mwy trylwyr, ac mae'r gwirio sy'n gysylltiedig â'r gwahanol asiantaethau sy'n gyfrifol a'r cwmnïau ac, ar wahân iddyn nhw, adolygiadau annibynnol gan gymheiriaid yn eithaf sylweddol. Dyna un o'r rhesymau pam ei bod wedi cymryd cyhyd, ers nodi'r broblem gyntaf yn 2019, oherwydd mae hwn yn ddull trylwyr a threfnus iawn, wedi'i wneud hyd braich oddi wrth ei gilydd i wneud yn siŵr ei fod yn gadarn. Felly, rwy'n credu y byddai'n annheg cynrychioli hyn fel ymateb araf i dystiolaeth o bryder. Rwy'n credu bod hwn wedi bod yn ddull trylwyr a threfnus, yn unol â safon y diwydiant ledled y byd, a dyna'r broses sydd wedi dangos i ni fod yna broblemau sy'n cyfiawnhau cau'r bont, felly rwy'n credu ein bod ni wedi gweithredu'n ddoeth ac yn gyfrifol. Ond fel y dywedais i mewn ateb i Rhun ap Iorwerth, byddwn ni wrth gwrs yn cynnal ymarfer dysgu gwersi, i weld a wnaed unrhyw gamgymeriadau a fyddai wedi ein hatal rhag cyrraedd y sefyllfa hon heddiw. Ond dydw i ddim yn ymwybodol o unrhyw un sydd wedi dod i'r amlwg hyd yn hyn. Siân Gwenllian AC: Diolch am y datganiad a chyfle i drafod y mater pwysig yma. Fel rydych chi'n gwybod, dwi'n cynrychioli'r etholaeth ar y tir mawr sydd agosaf at bont Menai a phont Britannia. Mae hi'n ardal ddinesig brysur iawn, yn cynnwys busnesau a siopau, meysydd chwarae, parc busnes, gwesty, ysgolion a channoedd o dai, a hefyd, dyma lle mae Ysbyty Gwynedd. Fe gafwyd ciwiau o bron i dair awr jest i adael maes parcio'r ysbyty, a hyd yn oed cyn i'r ceir ymuno â'r ciw i groesi pont Britannia. Erbyn hyn, mae staff yr ysbyty sy'n byw ond ychydig filltiroedd i ffwrdd ar Ynys Môn yn wynebu dwy awr o siwrnai bob ffordd bob diwrnod, felly pa ystyriaeth ydych chi wedi ei rhoi i sefyllfa benodol Ysbyty Gwynedd o safbwynt y staff, y gwasanaeth ambiwlans, y rhai sy'n mynychu clinigau, a'r cleifion a'u teuluoedd? Dwi yn cytuno: mi oedd yn rhaid cau pont Menai am resymau diogelwch er gwaethaf yr hafoc mae hynny wedi ei greu. Dwi yn gallu gweld hynny. Mi fyddai unrhyw un synhwyrol yn gallu gweld hynny. Mi ddaeth y problemau diogelwch i sylw'r swyddogion ddydd Mercher diwethaf—dyna rydych chi'n ei ddweud yn eich datganiad. Mi fyddwn i yn tybio erbyn hyn fod yna ddigon o amser wedi pasio er mwyn cytuno o leiaf ar gynllun traffig amgen dros dro ar gyfer yr ardal. Pryd ydyn ni am weld y cynllun traffig amgen yma o ran y llif traffig, ac yn bwysicach, pryd ydyn ni'n mynd i weld hwnnw'n cael ei roi ar waith yn yr ardal? Yn amlwg, dydy’r sefyllfa fel y mae hi ar hyn o bryd, efo pobl yn cymryd dwy awr i gyrraedd Ysbyty Gwynedd o Ynys Môn, jest ddim yn gynaliadwy, felly mae'n rhaid dod â chynllun arall ymlaen i wella'r llif traffig yn yr ardal, a dwi eisiau gwybod pryd fydd hynny'n digwydd. Rydyn ni ar yr ochr yma o'r Siambr am weld datrysiadau ymarferol er budd pobl leol tra bod y bont yn cael ei diogelu, ac mae yna lot o etholwyr yn dod ymlaen efo syniadau sydd yn swnio’n synhwyrol i mi—rhai ymarferol am sut i wella'r llif traffig yn yr ardal. Ydych chi'n barod i wrando ar rai o'r syniadau rheini? Rydyn ni wedi rhannu ambell un yma y prynhawn yma. Mae Rhun ap Iorwerth a Carolyn Thomas wedi sôn am y syniad yma o greu tair lôn ar bont Britannia dros dro, efo dwy ar agor i gludo'r traffig i'r tir mawr yn y bore, a dwy i gludo traffig yn ôl i Fôn gyda'r nos—rhywbeth sydd yn swnio'n synhwyrol. Os nad ydy hynny'n bosib, oes modd cael esboniad, achos mae lot o bobl yn gofyn pan nad ydyn ni ddim yn gallu gwneud y math yna o beth? Felly, fe fyddwn ni jest eisiau cael sicrwydd gennych chi eich bod chi yn barod i wrando ar syniadau fel hwnna. Mae yna rai eraill hefyd yn cael eu crybwyll o gwmpas gwneud rhywbeth yn wahanol o gwmpas rhai o'r rowndabowts yn yr ardal er mwyn gwella'r llif dros dro. Felly, gobeithio eich bod chi yn fodlon gwrando ar y syniadau yna ac yn gwerthfawrogi ein bod ni yn troi helpu i gael datrysiad sydd yn mynd i helpu pobl i gyrraedd i lle maen nhw'n trio mynd yn gynt nag y maen nhw ar hyn o bryd. Lee Waters AC: Diolch eto am dôn y cyfraniad hwnnw, oherwydd rwy'n cydnabod yn llwyr fod pobl yn ofidus ac wedi cythruddo ac yn pryderu am ganlyniadau'r penderfyniad hwn. Rwy'n arbennig o ymwybodol o sefyllfa'r ysbyty. Rwy'n meddwl ein bod ni wedi gweld, yn amlwg, oherwydd natur sydyn y cyhoeddiad, a'r anallu i bobl gynllunio a meddwl ymlaen llaw, a gobeithio y bydd hynny'n setlo wrth i bobl sylweddoli bod angen iddyn nhw ganiatáu mwy o amser i gyrraedd apwyntiadau a gallu cynllunio llawer mwy. Rwy'n tybio mewn gwirionedd fod cyfyngiadau ar yr hyn y gallwn ni ei wneud o fewn cyfyngiadau'r opsiynau sydd ar gael i ni. Yn sicr o ran pwynt yr Aelod a ydym ni'n fodlon gwrando ar syniadau gan y cyhoedd ar gyfer gwella llif y traffig: wrth gwrs ein bod ni. Ac yn sicr, fel y dywedais i, byddaf yn sicrhau bod ein swyddogion ar gael i'r Aelodau lleol sy'n dymuno cwrdd â nhw, a gallwch chi drafod a phrofi rhai o'r syniadau, ymarferoldeb y rhain, gyda'r arbenigwyr peirianneg hynny i weld beth y gellir ei wneud a beth na ellir ei wneud. Ond rwy'n sicr, fel y Gweinidog, yn agored iawn i edrych ar unrhyw opsiwn posibl i agor cyn gynted â phosibl pan fydd yn ddiogel i wneud hynny ac i geisio lliniaru'r tagfeydd sy'n anochel yn cael ei achosi ganddo, nawr ac yn y dyfodol. Felly, fe gewch chi fy ymrwymiad i wneud hynny. O ran pryd y bydd gennym ni gynllun traffig terfynol wedi'i gwblhau, 'Dydw i ddim yn sicr' yw'r ateb gonest. Mae'n rhywbeth rydyn ni'n gweithio arno'n rhagweithiol. Byddwn yn gallu eich diweddaru pan fyddwch chi'n cwrdd â'r swyddogion, a byddaf yn gallu rhoi mwy o wybodaeth i chi cyn gynted ag y gallaf. Diolch i'r Dirprwy Weinidog. Mae gweddill yr eitemau ar yr agenda wedi eu gohirio am y tro, ac felly dyna ddod â'n gwaith ni am heddiw i ben. Daeth y cyfarfod i ben am 17:46. QNR Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru Joyce Watson: Sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi rhieni yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru gyda chost y diwrnod ysgol? Mark Drakeford: Our pupil development grant—access provides funding directly to eligible families for the purchase of uniform, kit and other school supplies. We announced an additional one-off payment of £100 to all children and young people eligible for PDG— Access this year, taking funding to over £23 million for 2022-23. Jenny Rathbone: Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar fynd i'r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd? Mark Drakeford: In Wales, we take the threat of antimicrobial resistance extremely seriously. Wales is fully committed to the actions, ambitions and goals identified in the UK 20-year vision and five-year action plan for reducing antimicrobial resistance. All NHS Wales organisations are expected to adhere to the principles of safe antibiotic usage. Rhun ap Iorwerth: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar y rhwystrau mewn mynediad at ofal sylfaenol? Mark Drakeford: Mae gwella mynediad at ofal sylfaenol yn un o addewidion allweddol y Llywodraeth. Mae pob gwasanaeth gofal sylfaenol sydd wedi ei gontractio yn mynd drwy broses ddiwygio gofal sylfaenol, ac mae cynyddu mynediad yn hollbwysig i drawsnewid gwasanaethau. Fel rhan o’r rhaglen datblygu clystyrau carlam, mae mentrau cydweithredu proffesiynol yn cael eu sefydlu. O ganlyniad, bydd gwasanaethau sy’n dod â sawl proffesiwn at ei gilydd—a gwasanaethau y bydd yn hawdd cael mynediad atyn nhw—yn cael eu datblygu. Delyth Jewell: Beth yw asesiad y Prif Weinidog o sut bydd newidiadau diweddar ym mholisi a phersonél Llywodraeth y DU yn effeithio ar safonau byw pobl Cymru? Mark Drakeford: With the resignation of another Prime Minister, the complete and utter failure of the UK Government prevents crucial decisions and actions from being taken to deal with the many challenges that we are facing. We will continue to seek to help people over what is going to be a very difficult winter.
uk-hansard-senedd-cy
senedd2022-10-25
2024-06-01T00:00:00
{ "year": "2022", "language": "cy", "license": "Open Parliament Licence - https://www.parliament.uk/site-information/copyright-parliament/open-parliament-licence/" }
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. Galw’r Aelodau i drefn. 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda y prynhawn yma yw’r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, a’r cwestiwn cyntaf, Joyce Watson. Y Diwydiant Ffermio Joyce Watson AC: 1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y diwydiant ffermio yng Nghymru? (OAQ51203) Lesley Griffiths AC: Diolch. Rwy’n awyddus i weld sector amaethyddol mwy cadarn, proffidiol a chynaliadwy yng Nghymru. Rwy’n cynorthwyo ein ffermwyr i gyflawni hyn drwy ddefnydd arloesol o’r cyllid sydd ar gael, gan gynnwys y grant cynhyrchu cynaliadwy, y grant busnes i ffermydd, y fenter strategol ar gyfer amaethyddiaeth, yn ogystal â thrwy Cyswllt Ffermio. Joyce Watson AC: Diolch yn fawr iawn am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Dros yr haf, roeddwn yn falch iawn o glywed am y buddsoddiad o £4.2 miliwn, gyda £3 miliwn ohono’n dod o gronfa datblygu rhanbarthol Ewrop, ar gyfer canolfan filfeddygol arloesol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’n fuddsoddiad sydd i’w groesawu’n fawr ar gyfer canolbarth Cymru, ac rwy’n siŵr y bydd yn helpu i’w rhoi ar y map. Bydd yr ymchwil pwysig a wneir yn y datblygiad newydd hwnnw o fudd nid yn unig i’r ffermwyr, ond i ddiwydiannau eraill hefyd. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch roi unrhyw syniad inni ynglŷn â phryd y mae’n debygol y bydd y ganolfan filfeddygol newydd yn gwbl weithredol? Lesley Griffiths AC: Diolch i Joyce Watson am ei chwestiwn atodol. Nid oes unrhyw amheuaeth fod cronfeydd yr UE wedi bod yn ffynhonnell hanfodol o fuddsoddiad ar gyfer ymchwil a datblygu, nid yn unig yng ngorllewin Cymru, ond yn amlwg, ledled Cymru. Bydd £3 miliwn o gyllid cronfa gymdeithasol Ewrop, trwy Lywodraeth Cymru, yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu cyfleuster newydd y ganolfan filfeddygol yn Aberystwyth, a bydd yn darparu labordai a swyddfeydd modern wedi’u cyfarparu’n llawn. Fe’i defnyddir nid yn unig i hybu iechyd a lles anifeiliaid, ond iechyd pobl hefyd. Ac roeddwn yn falch iawn o allu lansio’r ganolfan filfeddygol dros yr haf yn Sioe Frenhinol Cymru.O ran yr amserlen ar ei chyfer, yn ôl yr hyn a ddeallaf, y flwyddyn nesaf fydd hynny, yn 2018, ond nid oes gennyf fis penodol, er enghraifft, ond yn sicr, gallaf roi gwybod i’r Aelod. Russell George AC: Ysgrifennydd y Cabinet, mae problemau’n bodoli o hyd ar gyfer ffermwyr trawsffiniol, o ganlyniad i ddiffyg ymgysylltu adeiladol, weithiau, rhwng asiantaethau taliadau Cymru a Lloegr. Mewn cyfarfod o’r grŵp trawsbleidiol ar faterion trawsffiniol, a gadeiriais yn gynharach eleni, ymrwymodd prif weithredwyr yr Asiantaeth Taliadau Gwledig a Taliadau Gwledig Cymru i gynnal cyfarfodydd ar y cyd gyda’r undebau ffermio yn rheolaidd er mwyn trafod unrhyw faterion heb eu datrys a hyrwyddo gwell cydweithio. A ydych yn ymwybodol a yw hyn wedi digwydd, a pha baratoadau y gellir eu gwneud i sicrhau na fydd unrhyw oedi cyn gwneud taliadau i ffermwyr trawsffiniol eleni? Lesley Griffiths AC: Rydych yn codi pwynt pwysig iawn, gan y credaf fod y mwyafrif o’r taliadau hwyr y llynedd yn deillio o’r mater hwn ynghylch ffermydd trawsffiniol a’r diffyg ymgysylltiad, gadewch inni ddweud, gan Taliadau Gwledig Lloegr. Nid wyf yn ymwybodol a gynhaliwyd cyfarfodydd penodol gyda Taliadau Gwledig Cymru a Taliadau Gwledig Lloegr ac undebau’r ffermwyr—mater i undebau’r ffermwyr yw hwnnw—ond yn sicr, gwn fod fy swyddogion wedi bod yn cael cyfarfodydd i sicrhau ein bod, eleni, yn gallu talu cymaint o daliadau cyn gynted â phosibl mewn perthynas â’r taliadau trawsffiniol hynny. Michelle Brown AC: Pa gynlluniau y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn eu rhoi ar waith i sicrhau bod yr hawl i bysgota oddi ar arfordir y gorllewin yn cael ei blaenoriaethu ar gyfer pysgotwyr Cymru yn hytrach na chychod a gofrestrwyd yng Nghymru yn unig ar ôl Brexit? Lesley Griffiths AC: Bydd yr Aelod yn ymwybodol o’r gwaith ymgysylltu helaeth sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd. Byddwch yn gwybod am fy nghyfarfodydd gweinidogol o amgylch y bwrdd, sy’n cynnwys aelodau o’r diwydiant pysgota, yn amlwg. Mae’n amlwg y bydd hwn yn fater sy’n codi wrth i ni gyflwyno Bil pysgodfeydd. Rwyf wedi dweud yn glir iawn y bydd gennym Fil pysgodfeydd Cymru, felly mae’r trafodaethau hynny yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd, yn ogystal â’r ymgysylltiad hwnnw. Ond nid yw’r gwaith wedi cyrraedd y lefel honno o fanylder eto. Cynhyrchu a Dosbarthu Ynni Jeremy Miles AC: 2. Pa rôl y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei rhagweld ar gyfer awdurdodau lleol yn y broses o gynhyrchu a dosbarthu ynni yng Nghymru? (OAQ51212) Lesley Griffiths AC: Diolch. Rwyf wedi gosod targedau ynni adnewyddadwy uchelgeisiol ac wedi galw am sicrhau bod y sector cyhoeddus yn garbon niwtral erbyn 2030. Mae gan awdurdodau lleol rôl arweiniol bwysig yn cefnogi’r broses o ddatgarboneiddio ynni yn eu cymunedau drwy gynlluniau ardaloedd a chyflawni prosiectau sy’n cadw incwm a buddion ehangach yn lleol. Jeremy Miles AC: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw. Mae rôl cynghorau lleol yn cyflenwi ynni wedi ehangu dros y blynyddoedd diwethaf hefyd, yn amrywio o gwmnïau gwasanaethau ynni, neu gwmnïau cyflenwi ynni, i’r rheini sydd â threfniadau cyflenwi llawnach, fel Robin Hood Energy, wrth gwrs, yn Nottingham, sy’n honni bod eu biliau’n llai, cynnydd mewn effeithlonrwydd ynni ac allyriadau carbon is. Bu datblygiadau hefyd ym Mryste, yng Nghaerlŷr a’r Liverpool Energy Community Company yn Lerpwl. Ymddengys bod y rhan fwyaf o’r twf yn hyn o beth wedi bod dros y ffin. Beth yw ei dadansoddiad o’r rheswm pam nad yw hyn wedi llwyddo yng Nghymru, ac yn sgil ei datganiad diweddar am gynyddu ymwneud lleol mewn prosiectau adnewyddadwy, a yw’n teimlo bod hyn yn rhywbeth yr hoffai ei weld yn tyfu yng Nghymru? Lesley Griffiths AC: Credaf eich bod yn iawn. Mae angen inni weld mwy o waith a chynnydd yn y meysydd hynny. Rwy’n ymwybodol fod nifer o sefydliadau cyhoeddus yn Lloegr a’r Alban wedi cyhoeddi cwmnïau ynni. Mae fy swyddogion wedi cyfarfod â’r sefydliadau hyn fel rhan o’r gwaith a wnaethom pan fuom yn ystyried a ddylem gael cwmni cyflenwi ynni yng Nghymru, ac fe fyddwch yn gwybod am y datganiad a wneuthum ynglŷn â pham nad ydym yn mynd ar drywydd hynny ar hyn o bryd. Rwy’n ymwybodol fod yr Alban wedi cyhoeddi hyn yn ddiweddar, ond ni fyddant yn ei wneud tan 2021. Ond byddaf yn trafod gyda fy swyddogion cyfatebol i weld sut y byddant yn datblygu eu cynigion. Nid wyf wedi cau’r drws yn llwyr ar hyn. Credaf fod angen inni weithio gydag awdurdodau lleol hefyd. Mae angen inni eu cynorthwyo i edrych ar y cyfleoedd a allai fod ar gael a sut y byddent yn cynllunio i ddatblygu’r rheini. Angela Burns AC: Ysgrifennydd y Cabinet, un o’r heriau a wynebai cynllun ynni cymunedol Ynni’r Fro oedd yr anhawster i gael caniatâd cynllunio a chydsyniad pan oedd awydd i greu prosiectau ynni cymunedol o’r fath. Sut yr aethoch i’r afael â hyn ar ôl yr adroddiad ar gynllun cymunedol Ynni’r Fro, ac oni fyddai hynny’n un o’r rhesymau allweddol pam na all cymaint o’r prosiectau ynni cymunedol hyn fynd rhagddynt, mewn gwirionedd, oherwydd cyfranogiad cynghorau lleol a’r ymgysylltiad â hwy? Lesley Griffiths AC: Yn sicr, credaf fod hynny’n rhwystr, ac rwyf wedi gofyn i fy swyddogion weithio i edrych ar—. Rwyf wedi gwneud datganiad ynglŷn â sut rwy’n awyddus i weld perchnogaeth leol, er enghraifft, mewn perthynas â’n targedau ynni, a bydd yn rhaid symud yn gyflym os ydym am gyflawni’r targedau hynny erbyn 2030. Felly, rwyf wedi gofyn i swyddogion ddechrau edrych ar y rhwystrau a pham y ceir yr anawsterau hyn gyda’r broses gynllunio. Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Simon Thomas. Simon Thomas AC: Diolch yn fawr, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch ddweud wrthym pam y cynhaliwyd ymgynghoriad gennych ar 56 o gynigion gwahanol ar reoli adnoddau naturiol dros yr haf? Lesley Griffiths AC: Cyflwynais yr ymgynghoriad ar reoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy gan y credaf ei bod yn arbennig o bwysig, yn sgil Brexit, ein bod yn clywed barn rhanddeiliaid ynglŷn â pha ddeddfwriaeth a rheoliadau y bydd angen inni eu hystyried, yn enwedig dros y flwyddyn nesaf cyn ein cyfnod pontio Ewropeaidd. Simon Thomas AC: Nid amrywiadau Heinz yn hollol, ond bron â bod. [Chwerthin.] Un arall a byddech wedi’i gwneud hi. Awgrymodd llawer o bobl fod hyn yn edrych fel clirio’r desgiau cyn Brexit. A gaf fi awgrymu y byddai’n siŵr o fod yn well cyflawni mewn perthynas ag ymgynghoriadau blaenorol cyn agor rhai newydd? Er enghraifft, yr hydref diwethaf, fe ymgynghoroch chi ar barthau perygl nitradau, a ddeng mis yn ddiweddarach, nid ydych wedi gwneud penderfyniad o hyd. Sut y gallwn fod o ddifrif ynglŷn ag ymgynghoriad pan fo’n cymryd blwyddyn iddo ddod i unrhyw gasgliad? Lesley Griffiths AC: O ran y parthau perygl nitradau, rwyf wedi dweud sawl tro ein bod wedi cael nifer sylweddol o ymatebion a chredaf fod llawer o’r syniadau a gyflwynwyd mewn perthynas â’r parthau perygl nitradau yn haeddu cael eu hystyried yn fanwl iawn. Rwyf wedi ymrwymo i gyhoeddi penderfyniad ar barthau perygl nitradau erbyn diwedd y flwyddyn. Mewn gwirionedd, mae gennyf gyfarfod gyda swyddogion yn ddiweddarach heddiw ynglŷn â pharthau perygl nitradau.O ran pam y cawsom ymgynghoriad arall, credaf fy mod wedi egluro hynny yn fy ateb gwreiddiol i chi, a gwn y bu llawer o sôn am yr ymgynghoriad hwn. Rwyf wedi gwrando ar yr hyn yr oedd y rhanddeiliaid yn ei ddweud. Ymestynnais yr ymgynghoriad hyd at ddiwedd mis Medi. Rydym wedi cael 15,000 o ymatebion, a byddwn yn dweud bod oddeutu 1,000 ohonynt yn annibynnol a bod 14,000 ohonynt yn ymgyrchwyr ac ati, mae’n debyg. Unwaith eto, bydd yn rhaid edrych yn ofalus iawn ar yr ymatebion hynny. Mae angen inni fod mewn sefyllfa i allu cyhoeddi deddfwriaeth yn gyflym iawn, o bosibl. Dyna’r broblem, a chredaf ei bod yn wirioneddol bwysig ein bod yn clywed barn rhanddeiliaid. Mae’n rhaid i mi ddweud bod y rhanddeiliaid wedi bod yn dda iawn o ran cymryd rhan yn yr ymgynghoriad. Simon Thomas AC: Credaf eu bod wedi cymryd rhan am eu bod yn bryderus, i fod yn onest, eich bod yn awgrymu cymaint o newidiadau mewn cyfnod mor fyr. Nid yw hyn yn feirniadaeth o rai o’r syniadau unigol yn rhai o’r ymgynghoriadau hyn; mae’n ymwneud â’r ffordd y mae eich Llywodraeth yn ymgymryd ag ymgynghori bellach—ffrwd gyson o gynlluniau newydd heb unrhyw arwydd o gyflawni’r rhai blaenorol. Felly, gadewch i ni edrych ar un yr ydych newydd ei chyhoeddi yr wythnos diwethaf. O’r diwedd, fe gyhoeddoch chi’r nodyn cyngor technegol 20 newydd, sy’n ymwneud â chynllunio a’r iaith Gymraeg. Cymerodd hynny flwyddyn a hanner. Felly, tybed pa mor hir y bydd 56 o ymgynghoriadau gyda 15,000 o ymatebion yn ei gymryd. Ond fe gawsom nodyn cyngor technegol 20 yr wythnos diwethaf. Yn nodyn cyngor technegol 20, dywedwch eich bod yn awyddus i gael system a arweinir gan gynlluniau datblygu lleol, a dywed nodyn cyngor technegol 20 yn ei dro mai’r ffordd orau o asesu effeithiau cronnol posibl datblygiadau ar yr iaith Gymraeg ar draws ardal y cynllun datblygu lleol yw ystyried y defnydd o’r iaith Gymraeg wrth baratoi’r cynllun datblygu lleol ei hun. Felly, rydych eisiau system a arweinir gan y cynllun datblygu lleol a dywedwch mai’r ffordd orau o ystyried yr iaith Gymraeg a’r effaith ar yr iaith Gymraeg yw wrth baratoi’r cynllun datblygu lleol. Os felly, pam nad yw ystyried yr iaith Gymraeg yn rhan orfodol o baratoi ac adolygu’r cynllun datblygu lleol yn ei gyfanrwydd, ac yn un o’r gwahanol asesiadau? Lesley Griffiths AC: Rwy’n credu ei bod yn siomedig ein bod yn cael ein beirniadu am ymgynghori. Yn sicr, nid dyna y mae’r rhanddeiliaid yn ei ddweud. Rwy’n derbyn eu bod wedi cael llawer iawn o waith i’w wneud dros yr haf a dyna pam yr ymestynnais y cyfnod ymgynghori, ond credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn ymgynghori. Rwy’n credu y byddem yn cael ein beirniadu pe na baem yn gwneud hynny, felly mae arnaf ofn, ar y sail na allwch blesio pawb drwy’r amser, fy mod yn fwy na pharod i ymgynghori. Rwyf hefyd yn Ysgrifennydd Cabinet sy’n mynnu cymaint â phosibl ein bod yn cael yr amser llawn ar gyfer ymgynghori; credaf fod 12 wythnos yn wirioneddol bwysig.Mewn perthynas â nodyn cyngor technegol 20, rydych yn llygad eich lle. Cyhoeddais nodyn cyngor technegol 20 wedi ei ddiweddaru yr wythnos diwethaf i ddarparu eglurder i awdurdodau cynllunio, datblygwyr a chymunedau lleol ynglŷn â sut y gall y system gynllunio gefnogi a diogelu’r iaith Gymraeg. Mae’n ddyletswydd gyfreithiol i ystyried yr iaith fel rhan o werthusiad cynaliadwyedd cynlluniau datblygu lleol, a chredaf y bydd nodyn cyngor technegol 20 yn eu cynorthwyo gyda’r dasg honno. Llefarydd y Ceidwadwyr, David Melding. David Melding AC: Diolch yn fawr, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, ddoe, buoch yn sôn am, ac yn wir, pleidleisiodd eich plaid o blaid treth ar blastigau na ellir eu hailddefnyddio ac na ellir eu hailgylchu yng Nghymru. Tybed a allwch roi rhywfaint o eglurhad inni ynghylch manylion ac ymarferoldeb y bwriad hwn a sut y gallech fwrw ymlaen â hynny, neu ai rhyw sicrwydd amwys i Blaid Cymru ydoedd fod ganddynt rywfaint o berthnasedd o hyd ym mhroses Llywodraeth Cymru o wneud penderfyniadau? Lesley Griffiths AC: Ni fyddwn byth yn ymddwyn felly gyda Phlaid Cymru, David Melding. O ran y dreth ar blastig, cawsom ddadl dda iawn ddoe ynglŷn â’r economi gylchol. Crybwyllais sawl pwynt ynglŷn â’r astudiaeth ddichonoldeb estynedig o gyfrifoldeb cynhyrchwyr sydd ar y gweill gennyf. Siaradodd sawl Aelod am gynllun dychwelyd blaendal, ac yn amlwg, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, ar 3 Hydref rwy’n credu, y posibilrwydd, o bedair o’r trethi, y gallai treth ar blastig fod yn un ohonynt. Byddaf yn cael y trafodaethau manwl hynny gyda swyddogion a chydag Ysgrifennydd y Cabinet. David Melding AC: Rwy’n ffyddiog y byddwch yn cynnal asesiad llawn, oherwydd yn y gorffennol, rydych wedi dweud bod angen i gynllun dychwelyd blaendal asesu goblygiadau hynny i filiau’r cartref o ddydd i ddydd, ac a allwch roi sicrwydd inni, mewn unrhyw dreth newydd y gallech fod yn ei hystyried, unwaith eto, y byddai’r effaith y byddai hynny’n ei chael ar filiau’r cartref yn cael ei hystyried yn llawn? Lesley Griffiths AC: Gallaf, yn sicr. Soniais ddoe fy mod yn un o blant y 1960au ac rwy’n cofio cynlluniau dychwelyd blaendal, ond credaf fod pethau wedi newid cryn dipyn ers hynny, ac yng Nghymru, rydym yn ailgylchu 75 y cant o’n poteli plastig. Mae ein gwasanaethau ailgylchu ar garreg y drws yn rhagorol, felly mae’n rhaid i chi sicrhau nad oes unrhyw effeithiau neu ganlyniadau anfwriadol mewn perthynas â chael cynllun dychwelyd blaendal. Ond yn sicr, mae’n rhaid i’r gost i’r cartref fod yn rhan o’r dadansoddiad ynglŷn ag a ddylem fwrw ymlaen â hyn. David Melding AC: Rwy’n cytuno â hynny, ac mae’n bwysig iawn, ond mae’r modd y defnyddir unrhyw dreth yn bwysig hefyd. Fel rwyf wedi’i ddweud eisoes, yn dechnegol, gellir ailddefnyddio cynhwyswyr bwyd polystyren. Credaf fod angen inni fod yn fanwl iawn o ran y camau rydym yn ceisio’u cymryd i sicrhau canlyniadau o ran lleihau llygredd o blastigion. Tybed a fyddech yn agored i gynnig mwy radical, un y byddai’r meinciau Torïaidd hyn yn fwy na pharod i’w gefnogi, os gallwch ddod o hyd i ffordd ymarferol o wneud hynny, sef gwahardd rhai o’r deunyddiau hyn. Dyna y maent yn ei wneud yn yr Unol Daleithiau bellach. Felly, os gallant hwy ei wneud heb ei ystyried yn ymosodiad ofnadwy ar y farchnad rydd, efallai y dylem ninnau ei wneud hefyd. Mae’n llawer symlach i’r cyhoedd ei ddeall hefyd. Lesley Griffiths AC: Rwyf o blaid polisïau radical, felly rwy’n fwy na pharod i edrych ar unrhyw beth a fydd yn ein helpu i leihau sbwriel plastig, yn enwedig. Cafwyd ymgyrch yn ddiweddar ynghylch sbwriel plastig yn ein cefnforoedd, a chredaf fod hynny’n hollol ofnadwy, felly unrhyw beth y gallwn ei wneud i helpu—. Felly, rwy’n fwy na pharod i edrych ar unrhyw bolisi radical, ac os hoffai’r Aelod gyfarfod â mi i’w drafod ymhellach, buaswn yn fwy na pharod i wneud hynny. Llefarydd UKIP, Neil Hamilton. Neil Hamilton AC: Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn mynychu cynhadledd NFU Cymru mewn pythefnos, ac rwy’n siŵr y bydd wedi gweld y datganiad i’r wasg ymlaen llaw gan John Mercer, cyfarwyddwr NFU Cymru, lle y mae’n dweud hyn:Cred yr Undeb yn gryf y gallwn sicrhau bod Brexit yn llwyddiant os canolbwyntiwn gyda’n gilydd ar gynorthwyo ein diwydiant i oresgyn yr her o fwydo poblogaeth fyd-eang sy’n cynyddu â bwyd diogel, safonol a fforddiadwy.Rwy’n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi ei bod yn hollbwysig fod gan ffermwyr Cymru syniad cadarn o beth fydd y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer amaethyddiaeth wedi inni adael yr Undeb Ewropeaidd, ac felly, mae’n hollbwysig fod Llywodraeth Cymru yn gwneud ei phenderfyniadau fframwaith beth bynnag, cyn gynted â phosibl, a’i bod yn eu cyhoeddi. Mae hwn yn gyfle gwych i ffermwyr Cymru, fel y dywed John Mercer. A all Ysgrifennydd Cabinet roi syniad cadarn o’r amser y bydd yn ei gymryd iddi ddatblygu o leiaf polisi fframwaith amaethyddol y gall ei gyhoeddi? Lesley Griffiths AC: Diolch i Neil Hamilton am ei gwestiwn. Yn sicr, byddaf yn mynychu cynhadledd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr. Credaf ei bod yn gynnar ym mis Tachwedd neu ddiwedd mis Tachwedd— Neil Hamilton AC: Ar 2 Tachwedd. Lesley Griffiths AC: Dyna ni. Felly, rwy’n edrych ymlaen at hynny’n fawr iawn. Nid wyf yn siŵr fy mod wedi gweld y datganiad i’r wasg y cyfeiriwch ato, ond yn sicr, rwy’n ymgysylltu’n aml ag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac rwy’n ymwybodol iawn o’u safbwyntiau ar gyfleoedd yn ogystal â’r heriau sy’n ein hwynebu. Mae fy swyddogion yn gwneud llawer iawn o waith mewn perthynas â fframweithiau, deddfwriaeth bosibl yn ogystal â thrafodaethau gyda’u swyddogion cyfatebol. Felly, gwn fod yr holl uwch swyddogion o’r pedair gwlad wedi cyfarfod yma yng Nghaerdydd ddydd Mercher diwethaf. Fe fyddwch yn gwybod am yr ymgysylltiad gweinidogol rwy’n ei gael. Bellach, mae gennym ddyddiad arall ar gyfer ein cyfarfodydd misol—yn anffodus, ni chawsom un ym mis Hydref—gydag Ysgrifennydd Gwladol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, ond byddwn yn cyfarfod eto, yn Llundain unwaith eto yn anffodus, ar 6 Tachwedd. Ond mae’n bwysig iawn fod y trafodaethau hynny’n parhau.O ran amserlen, buaswn yn dychmygu y gallwn ddechrau cyhoeddi hynny’n gynnar y flwyddyn nesaf, ond unwaith eto, mae llawer iawn o waith manwl yn cael ei wneud am gyfnod. Neil Hamilton AC: Rwy’n deall hynny’n llwyr. Nid oes unrhyw un yn bychanu maint enfawr y prosiect hwn, ond mae’n hanfodol bwysig i ni a Llywodraeth y DU yng nghyd-destun y trafodaethau sy’n mynd rhagddynt ym Mrwsel ar hyn o bryd hefyd, oherwydd, os ydym am gael y fargen orau sydd ar gael gan yr UE, mae angen iddynt wybod ein bod yn hollol barod am ddim bargen. Ac felly, yn fy marn i, bydd po fwyaf y gallwn ei gyhoeddi ymlaen llaw yn ein helpu i sicrhau bargen resymol gan yr UE os ydynt yn synhwyrol yn ei gylch.Sail sylfaenol y drefn bresennol yw cynllun y taliad sylfaenol, a pholisi UKIP yw parhau ag amrywiad o hwnnw, ond gyda chap o £120,000 ar y taliadau, er mwyn rhoi diwedd ar y gwahaniaethu o blaid ffermwyr a busnesau amaethyddol mwy o faint a rhoi mwy o gefnogaeth i fentrau llai. Credwn hefyd y dylid rhoi codiad o 25 y cant i ffermydd organig. O gofio bod natur amaethyddiaeth yng Nghymru yn wahanol iawn i Loegr—nid oes gennym beithdiroedd helaeth fel Swydd Lincoln ac yn y blaen—ni ddylai fod yn anodd i Lywodraeth Cymru ddod i gasgliadau gweddol debyg. Felly, tybed a all roi unrhyw syniad inni ynglŷnâ sail polisi amaethyddol yn y dyfodol, o leiaf. Lesley Griffiths AC: Credaf i chi godi pwynt pwysig iawn ar ddechrau’ch cyfraniad ynglŷn â sicrhau y ceir y wybodaeth orau bosibl. Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn rhannu gwybodaeth hefyd, ac yn sicr, rwy’n fwy na pharod i rannu gwybodaeth gyda gweinidogion cyfatebol. Credaf ein bod yn dechrau gweld mwy o hynny.O ran bod yn hollol barod ar gyfer ‘dim bargen’, wel, nid wyf yn gwybod sut y gallwch fod yn hollol barod ar gyfer ‘dim bargen’. Mewn gwirionedd, nid wyf yn deall sut y gallwch gael ‘dim bargen’, oherwydd mae gadael yr UE, yn fy marn i, fel ysgariad. Nawr, ni allwch gael ‘dim bargen’ gydag ysgariad. Mae’n rhaid ichi gael bargen o ryw fath; mae’n rhaid ichi gael bargen. Felly, mae’r holl sôn am ddim bargen—rwyf mewn penbleth llwyr ynglŷn â sut y gallwch gael ‘dim bargen’. Credaf yn bendant y dylai fod yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth y DU eu bod yn sicrhau’r fargen orau bosibl, ac rydym yn pwyso am hynny ar gyfer pobl Cymru.O ran eich cynigion, unwaith eto, buaswn yn fwy na pharod i edrych ar beth yw cynigion UKIP ar gyfer ffermio yn y dyfodol ar ôl Brexit. Neil Hamilton AC: Wel, yn amlwg, mae pob un ohonom yn awyddus i gael bargen os oes un ar gael, ond mae dwy ochr i hyn, ac os nad yw’r UE yn barod i daro bargen, ac os nad ydynt yn barod i barhau i siarad, hyd nes ein bod yn talu’r pridwerth, dyna sut beth fydd ‘dim bargen’. Nid hynny oedd diben fy nghwestiwn heddiw. Y bwriad oedd edrych ar ddyfodol ffermio a physgota yng Nghymru.Yn dilyn cwestiwn Michelle Brown yn gynharach, yr hyn yr hoffai UKIP ei weld er mwyn adfer bywyd i’n cymunedau pysgota a chymunedau ein harfordir yw parth economaidd cyfyngedig o amgylch y Deyrnas Unedig, ac yn amlwg, yn nyfroedd Cymru, o dan reolaeth Llywodraeth Cymru, er mwyn atal pysgotwyr Ewropeaidd rhag cael mynediad cyfartal i’r dyfroedd hyn, cael parthau lle na chaniateir pysgota i gynorthwyo’r broses o silio ac ailgyflenwi stociau pysgod—efallai y gallai llongau pysgota tramor gael mynediad i’n dyfroedd, ond gyda thrwyddedau—a sicrhau bod yr holl bysgod sy’n cael eu dal yn nyfroedd y DU, gan gynnwys y rhai sy’n cael eu dal gan longau tramor sy’n gweithredu o dan drwydded, yn cael eu glanio a’u gwerthu yn y DU i helpu i ariannu a denu buddsoddiad mewn diwydiant pysgota sy’n datblygu o’r newydd.Felly, gobeithiaf fod Ysgrifennydd y Cabinet yn gweld y gallwn wneud cyfraniad cadarnhaol tuag at y ddadl hon mewn ffordd amhleidiol. Credaf fod lle i wneud hynny gyda phob plaid yn y Cynulliad hwn. Lesley Griffiths AC: Oes, yn sicr. Rwyf newydd ddweud wrth David Melding fy mod yn fwy na pharod i edrych ar syniadau unrhyw un, wrth gwrs, ac yn sicr, rwy’n awyddus i gael polisi pysgota a physgodfeydd cadarnhaol iawn. O siarad â’r diwydiant pysgota—ac rydym newydd ddechrau paratoi ein trafodaethau yn awr cyn y cyngor pysgodfeydd ym mis Rhagfyr—rwy’n credu eu bod yn teimlo bod yr UE wedi gwneud tro gwael â hwy. Nid oes amheuaeth am hynny, yn sicr wrth siarad â diwydiant pysgota Cymru. Felly, mae’n hanfodol ein bod yn cael y polisi pysgodfeydd yn gywir. Felly, ydw, rwy’n fwy na pharod i edrych ar unrhyw syniadau yr hoffech eu cyflwyno. Ardaloedd Morol Gwarchodedig Huw Irranca-Davies AC: 3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu manylion pellach am sut y gall rhanddeiliaid y tu hwnt i awdurdodau rheoli gyfrannu at ddatblygu cynllun gweithredu ar flaenoriaethau rheoli ardaloedd morol gwarchodedig? (OAQ51185) Lesley Griffiths AC: Mae grŵp cynghori a gweithredu Cymru ar faterion morol wedi bod yn ymgymryd â’r gwaith o ddatblygu cynllun morol cenedlaethol i Gymru. Mae yna swyddogaeth statudol sy’n rhaid inni ei chyflawni, a byddwn yn ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth fwrw ymlaen â hyn. Byddwn yn ceisio barn y grŵp hwn ynglŷn â chynllun rheoli’r ardaloedd morol gwarchodedig. Huw Irranca-Davies AC: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb. Yn ôl ym mis Awst, fel y gŵyr, cyhoeddodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ei adroddiad, o dan yr enw bachog, ‘Y Llanw’n troi?’, a bwysleisiai cymaint y dylem ymfalchïo yn ein hamgylchedd morol ac arfordirol yng Nghymru, a photensial ardaloedd morol gwarchodedig i helpu i gefnogi moroedd iach, pysgodfeydd cynaliadwy a llawer mwy.Soniai argymhelliad 1 am y brys i ddatblygu strategaeth yr ardaloedd morol gwarchodedig. Soniai argymhelliad 3 am yr angen i Lywodraeth Cymru weithredu mewn ffordd dryloyw ac effeithlon, gan sicrhau bod rhanddeiliaid yn ymgysylltu’n llawn â’r broses o ddatblygu strategaeth yr ardaloedd morol gwarchodedig. Ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet yn gadarnhaol i’r argymhellion, fodd bynnag, yn hytrach nag ymrwymo i ddatblygu strategaeth ar gyfer yr ardaloedd morol gwarchodedig, yn ôl argymhelliad y pwyllgor, ymrwymodd yn hytrach i gwblhau cynllun gweithredu blaenoriaethau rheoli ar gyfer yr ardaloedd morol gwarchodedig, a chytuno drwy hynny ar gyfeiriad strategol drwy weithio gyda grŵp llywio rheoli’r ardaloedd morol gwarchodedig. Ond yn anffodus, nid yw rhanddeiliaid morol sy’n gweithio yn y sector preifat na chyrff anllywodraethol yn rhan o grŵp llywio’r ardaloedd morol gwarchodedig, sy’n gyfyngedig i awdurdodau rheoli ardaloedd morol gwarchodedig megis Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol. Felly, a gaf fi ofyn, mewn ffordd adeiladol iawn, i Ysgrifennydd y Cabinet edrych ar hyn eto—gwn y bydd yn awyddus i ddefnyddio holl arbenigedd y sector morol wrth ddatblygu’r cynllun gweithredu a’r strategaeth forol—a chyda chymorth ei swyddogion, i archwilio ffyrdd o sicrhau ymgysylltiad llawn â’r holl randdeiliaid cyn mis Ebrill y flwyddyn nesaf? Lesley Griffiths AC: Gwnaf, rwy’n fwy na pharod i wneud hynny. Mae fy adran yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a grŵp llywio rheoli’r ardaloedd morol gwarchodedig i gwblhau’r cynllun gweithredu blaenoriaethau rheoli ar gyfer yr ardaloedd morol gwarchodedig. Ar ôl hynny, wrth gwrs, byddwn yn ymgysylltu ag amrywiaeth eang o randdeiliaid morol drwy’r grŵp cynghori a gweithredu ar faterion morol. Mark Reckless AC: Ysgrifennydd y Cabinet, oni ddylid sicrhau er hynny fod yr ymgysylltiad hwnnw’n digwydd cyn i’r cynllun gael ei gwblhau? Mae adnoddau eich adran yn gyfyngedig; rydych yn wynebu gorfod gwneud rhagor o arbedion. Mae heriau eithriadol ynghlwm wrth yr ardaloedd morol gwarchodedig hyn; ni wyddom fawr ddim ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd ar waelod y môr, ac mae casglu gwybodaeth yn ddrud iawn. Pam na wnewch chi gynnwys y rhanddeiliaid yn gynharach yn y broses fel y gallwch ddefnyddio’u hadnoddau a’u harbenigedd i’ch cynorthwyo i ddatblygu’r cynllun hwn? Lesley Griffiths AC: Pan ddechreuwyd ar y broses o greu cynlluniau morol, aethom ati i gyhoeddi datganiad cyfranogiad y cyhoedd a nodai sut y gallai rhanddeiliaid gyfrannu at y cynllun o’r cychwyn cyntaf, ac yna wrth iddo ddatblygu. Felly, mae gennym yr ymgynghoriad hwnnw a’r cytundeb hwnnw gyda’r rhanddeiliaid; nid yw’n fater o beidio â’u cynnwys—fe wnaethom hynny. Mae gennym hefyd grŵp cyfeirio’r rhanddeiliaid ar gyfer y cynlluniau morol. Mae hwnnw’n cynnwys ystod eang o gyrff anllywodraethol, cynrychiolwyr diwydiant a fforymau arfordirol. Mae’n cynnwys Ystâd y Goron, a Cyfoeth Naturiol Cymru yn amlwg, yn ogystalâ Chanolfan Gwyddorau’r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu. Maent wedi bod yn cyfrannu drwy gydol y broses. Felly, credaf ei bod yn anghywir dweud na chawsant eu cynnwys; roeddent yno o’r cychwyn cyntaf. Mynediad i Ddyfrffyrdd Mark Isherwood AC: 4. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r manteision sy'n dod i Gymru o ganlyniad i fynediad i ddyfrffyrdd? (OAQ51188) Lesley Griffiths AC: Yn ychwanegol at ystyried adroddiadau a strategaethau ar gymryd rhan mewn twristiaeth gweithgareddau a hamdden, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud cryn dipyn o ymgysylltu â’r cyhoedd. Daeth oddeutu 15,000 o ymatebion i law yn sgil yr ymgynghoriad diweddar ar reoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy. Mae pob un yn dangos gwerth a photensial gweithgareddau hamdden dŵr fel pysgota a rhwyfo a pham fod angen datrys anghytundebau cyfredol. Mark Isherwood AC: Diolch. Ym mis Medi 2017, canfu diweddariad i’r adroddiad ‘The value to the Welsh economy of angling on inland fisheries in Wales’, a gynhyrchwyd gan Ymgyrch Mynediad Cynaliadwy Cymru, fod genweirio ar bysgodfeydd mewndirol o dan y trefniant presennol ar gyfer mynediad i afonydd Cymru yn cynnal oddeutu 1,500 o swyddi yng Nghymru a £45 miliwn mewn incwm aelwydydd bob blwyddyn. Mae deiliaid trwyddedau yn treulio 1.7 miliwn o ddyddiau yn pysgota ar bysgodfeydd mewndirol yng Nghymru, gan gynhyrchu £104 miliwn y flwyddyn, ac mae’n rhaid bod cyfraniad genweirio ar bysgodfeydd mewndirol i economi Cymru yn fwy na £125 miliwn y flwyddyn yng Nghymru. Yn y cyd-destun hwnnw, sut yr ymatebwch i’r pryder a fynegwyd gan Salmon and Trout Conservation Cymru na fyddai newid i fynediad dirwystr o dan yr estyniadau arfaethedig i Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 o fudd i gyfanrwydd ecolegol cynefinoedd o’r fath, a bod diogelu’r amgylchedd yn hollbwysig wrth ystyried cynyddu lefel y mynediad at adnoddau naturiol Cymru, yn enwedig yr ecosystemau bregus mewn afonydd a llynnoedd a gerllaw? Lesley Griffiths AC: Credaf fod eich cwestiwn yn rhoi cyfle i mi ddweud ei bod hi’n bwysig sicrhau bod y cydbwysedd yn iawn, ac yn sicr, dyna pam yr ydym wedi ymgynghori ar fater mor bwysig. Rydych yn llygad eich lle, mae twristiaeth pysgota, o ran ymweliadau domestig ac ymweliadau undydd â Chymru, yn bwysig iawn. Credaf ei fod oddeutu £38 miliwn yn 2015. Fe gyfeirioch at adroddiad yn 2017, ond gwn ei fod oddeutu £38 miliwn y flwyddyn yn 2015. Credaf ei fod hefyd yn dangos pwysigrwydd datblygu fframwaith fel y gallwn hwyluso cyfleoedd mynediad cyfrifol yn y dyfodol. David Rees AC: Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi cael llawer o sylwadau gan etholwyr ynglŷn â’r mater hwn yn benodol, ac fel y dywedoch, rwy’n credu bod angen i’r ddau grŵp ddod at ei gilydd i’w ddatrys. Nawr, rydych newydd sôn am dwristiaeth pysgota, ond mae llawer o’n dinasyddion yn mwynhau pysgota fel gweithgaredd hamdden mewn gwirionedd, ac felly’n mwynhau’r gweithgareddau y maent yn eu gwneud, nid fel gweithgareddau twristaidd, ond fel rhan o’u hamser hamdden. A ydych yn cytuno â mi mai’r ffordd orau o ddatrys hyn, mewn gwirionedd, yw sicrhau bod y sefydliadau’n dod at ei gilydd ac yn dod i gytundeb o’u gwirfodd, yn hytrach na chael rhywbeth wedi’i orfodi arnynt? Lesley Griffiths AC: Ydw, rwy’n cytuno, ond rwy’n credu—. Wyddoch chi, pan oeddwn ar y meinciau cefn, roedd hwn yn bwnc dadleuol iawn, a chredaf fod yr ymgynghoriad wedi dangos y gall fod yn hynod gynhennus ac yn hynod begynol, felly mae’n ymwneud â dod o hyd i ateb. Rydym yn awyddus i weld hynny gan ei fod yn hanfodol i’n twristiaeth. Felly, ar ôl dadansoddi’r ymgynghoriadau a phan fyddwn yn cyflwyno atebion, gobeithiaf y gallwn ymgysylltu â’r holl randdeiliaid i sicrhau ein bod yn bwrw ymlaen â hyn yn y ffordd orau bosibl. David J Rowlands AC: Ysgrifennydd y Cabinet, yn dilyn y sylwadau a wnaed yn gynharach, rwy’n siŵr eich bod yn ymwybodol o’r perygl o wrthdaro y gallai mynediad dirwystr i ddyfrffyrdd Cymru ei greu rhwng pobl sy’n eu defnyddio mewn ffyrdd gwahanol, yn enwedig pysgotwyr a chanŵ-wyr. Buaswn yn dweud bod David Rees yn llygad ei le mai’r ffordd orau ymlaen fyddai cael rhywfaint o ymgynghori rhwng y ddau grŵp hyn. Yn anffodus, yn ôl yr adborth a gaf gan y cymdeithasau genweirio, nid yw’n ymddangos bod y canŵ-wyr yn awyddus i siarad.Mae nifer o gymdeithasau pysgota wedi cysylltu â mi, ac rwyf wedi cael cyfarfodydd gydag Isca a Gelli Gandryll, un ar afon Wysg a’r llall ar afon Gwy. Mynegwyd cryn bryder ganddynt ynglŷn â gweithgaredd canŵio ar yr afonydd gan nad yw’n cael ei reoleiddio ar hyn o bryd. Un ffactor pwysig a nodwyd oedd nad oes unrhyw ddull adnabod ar ganŵod, felly ni ellir adnabod unrhyw ganŵiwr sy’n cyflawni troseddau neu’n peri niwsans. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu cyflwyno rheoliadau i wneud cofrestru, a thrwy hynny, ddulliau adnabod, yn ofyniad gorfodol? A oes unrhyw gynlluniau i godi ffi ar ganŵ-wyr am fynediad i’n dyfrffyrdd, fel sy’n rhaid i enweirwyr ei thalu, wrth gwrs, drwy drwyddedau pysgota a/neu ffioedd cymdeithasau? Lesley Griffiths AC: Soniais yn fy ateb i David Rees fod hwn yn fater hynod gynhennus, ac mae’n fater cynhennus sydd wedi bodoli ers peth amser. Fodd bynnag, credaf mai dyma ein cyfle bellach i wneud hyn yn iawn. Buaswn yn sicr yn awyddus i ddod â’r holl grwpiau at ei gilydd. Nid wyf am ochri ag unrhyw grŵp, ond os gallwn hwyluso’r broses o ddod â’r grwpiau at ei gilydd, buaswn yn fwy na pharod i wneud hynny. Mewn perthynas â’ch cwestiynau polisi penodol ynghylch dulliau adnabod a ffioedd, unwaith eto, mae hynny’n rhywbeth y byddai’n rhaid i ni ei ystyried wedi’r ymgynghoriad. Tirweddau Dynodedig Janet Finch-Saunders AC: 5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr adolygiad o dirweddau dynodedig yng Nghymru? (OAQ51197) Lesley Griffiths AC: Diolch. Mae’r adolygiad diweddar wedi rhoi cyfle i ailddatgan pa mor bwysig yw ein tirweddau dynodedig i Gymru. Byddaf yn gwneud datganiad ar y ffordd ymlaen wedi i mi ystyried yr amrywiaeth eang o sylwadau a gafwyd mewn ymateb i’r ymgynghoriad diweddar ‘Bwrw ymlaen â rheoli adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy’. Janet Finch-Saunders AC: Ysgrifennydd y Cabinet, mae gennyf ddiddordeb mawr yn eich barn ar ymateb y Gynghrair dros Dirluniau Dynodedig Cymru i’r adolygiad. Mae’r gynghrair wedi galw am ailysgrifennu’r adroddiad i ddarparu olrheiniadwyedd o adroddiad Marsden, gan iddo gael ei gomisiynu, wrth gwrs—rwy’n edrych ar Dafydd; mae’n ddrwg gennyf, Dafydd—ar sail argymhellion yr adroddiad hwnnw. Ni ddywedodd unrhyw beth, gallwch barhau. [Chwerthin.] Dim eto, dim eto. [Chwerthin.] Janet Finch-Saunders AC: Maent hefyd—dyma a ddywedasant yn awr. Maent hefyd wedi galw am ailddatganiad clir o egwyddor Sandford. A wnewch chi ymrwymo i’r cynigion hyn heddiw? Lesley Griffiths AC: Yn sicr, ni fyddaf yn gofyn i unrhyw un ailysgrifennu unrhyw adroddiad. Gwnaed penderfyniad gan grŵp, cyflwynwyd yr adroddiad ac rwyf wedi ei dderbyn. Roeddwn yn ddiolchgar iawn i’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas—nad oes ond angen iddo edrych, yn amlwg—am y gwaith a wnaeth gyda’r grŵp. Mewn perthynas ag egwyddor Sandford, rwy’n fwy na pharod i ddweud, unwaith eto: ni fyddaf yn cyflwyno unrhyw gynigion ar gyfer diwygio a fyddai’n peryglu harddwch naturiol a rhinweddau arbennig yr ardaloedd o harddwch cenedlaethol a pharciau cenedlaethol. Rwy’n credu bod llawer o greu helynt wedi digwydd, ac rwy’n fwy na pharod i gadarnhau hynny eto yn y Siambr. John Griffiths—cwestiwn 6, Mike Hedges. Rhywogaethau Goresgynnol Estron Mike Hedges AC: 6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y broblem o rywogaethau goresgynnol estron yng Nghymru? (OAQ51178) Lesley Griffiths AC: Diolch. Mae rhywogaethau goresgynnol estron yn parhau i gael effaith amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd sylweddol yng Nghymru. Rydym yn gweithio i’w lleihau drwy weithredu rheoliad rhywogaethau goresgynnol estron yr UE a thrwy gydweithio gyda’n partneriaid i hybu ymwybyddiaeth, rhannu arferion gorau a data, a gweithredu er mwyn rheoli neu ddileu’r rhywogaethau hyn. Mike Hedges AC: Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. O’r holl rywogaethau estron sydd gennym yn Abertawe, yr un sy’n achosi’r broblem fwyaf inni yw clymog Japan, sy’n oresgynnol iawn, yn anodd iawn ei dileu ac yn arwain at fethu gwerthu tai a difrod i ddraeniau, a gall danseilio sylfeini tai. A all Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â defnydd o’r profion ysglyfaethwyr naturiol yn ogystal â gwell triniaeth gemegol i gael gwared ar y rhywogaeth hynod beryglus a goresgynnol hon? Lesley Griffiths AC: Diolch. Roedd gennym ddull gwell o gyflwyno, ac mae hynny wedi arwain at gyfraddau goroesi gwell ymhlith y llyslau, sy’n ddatblygiad allweddol wrth fynd i’r afael â chlymog Japan. Cawsom ollyngiadau pellach yn gynharach eleni. Ar hyn o bryd, mae Prifysgol Abertawe yn dadansoddi canlyniadau’r treialon rheolaeth gemegol ar wahân, y byddwch yn ymwybodol ein bod wedi eu cefnogi—treial dwy flynedd gan Brifysgol Abertawe. Edrychaf ymlaen yn fawr at ddarllen eu hadroddiad. Suzy Davies AC: A dweud y gwir, roeddwn am eich holi ychydig ymhellach ynglŷn â rheolaeth gemegol ar gyfer clymog Japan, ond rwyf newydd glywed eich ateb. A fu unrhyw ganfyddiadau cychwynnol y gallai Prifysgol Abertawe eu rhyddhau, neu unrhyw dreialon ychwanegol a allai fod wedi cael eu cynnal ar ganfyddiadau interim? Fel y gwyddoch, mae ein cynllun datblygu lleol yn golygu y bydd cryn dipyn o dir yn cael ei symud o ganlyniad i adeiladau newydd, a chredaf y byddai’n eithaf defnyddiol pe gallai datblygwyr gael syniad cynnar o unrhyw beth a all fod o gymorth, neu o ddim cymorth, efallai—mae’n dibynnu ar beth yn union ydyw—wrth iddynt benderfynu a ydynt yn mynd i ddatblygu darn penodol o dir. Lesley Griffiths AC: Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw ganfyddiadau interim. Gwn fod y data’n cael ei ddadansoddi ar hyn o bryd. Felly, nid wyf yn ymwybodol o unrhyw ganfyddiadau interim, nac unrhyw adroddiad bychan y maent wedi’i wneud, ond rwy’n sicr o holi ynglŷn â hynny. Os bydd, rwy’n fwy na pharod i ysgrifennu at yr Aelod. Ond gwyddoch fod y treial wedi archwilio gwahanol gyfuniadau o driniaethau chwynladdol a chamau mecanyddol. Roedd yn dreial trylwyr iawn, a gobeithiaf y gallwn ddod o hyd i’r dull rheoli mwyaf effeithiol. Gareth Bennett AC: Ydy, mae clymog Japan yn gur pen go iawn i ddeiliaid tai. Mae gennym hefyd rywogaethau goresgynnol ym myd yr anifeiliaid a all fod yn fygythiad gwirioneddol, megis y ferdysen reibus. Daethpwyd o hyd i’r rhywogaeth hon mewn dyfroedd ger Bae Caerdydd ac yng nghronfa ddŵr Eglwys Nunydd ym Mhort Talbot yn 2010. Nawr, mae’r sector bioddiogelwch wedi bod yn monitro’r sefyllfa ers hynny. Tybed a oes gennych unrhyw newyddion ynglŷn â lefel gyfredol y bygythiad y mae berdys rheibus yn ei achosi. Lesley Griffiths AC: Nag oes, mae arnaf ofn, a bydd yn rhaid imi ysgrifennu at yr Aelod. Tlodi Tanwydd y Gaeaf Lynne Neagle AC: 7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa gefnogaeth sydd ar gael i amddiffyn yr aelwydydd mwyaf agored i niwed yng Nghymru rhag tlodi tanwydd y gaeaf hwn? (OAQ51209) Lesley Griffiths AC: Diolch. Mae cymorth ar gael drwy Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru, sy’n cynnwys ein cynlluniau Nyth ac Arbed. Mae Nyth yn cynnig cyngor a chymorth diduedd rhad ac am ddim i gynorthwyo pobl i leihau biliau ynni yn y cartref, ac mae’n darparu mesurau effeithlonrwydd ynni yn y cartref yn ddi-dâl i aelwydydd cymwys er mwyn eu cynorthwyo i gadw’n gynnes am gost fwy fforddiadwy. Lynne Neagle AC: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, ac roeddwn yn falch o weld yn adroddiad blynyddol Nyth y bydd gosod pecyn gwella effeithlonrwydd ynni yn y cartref a ariennir gan y Llywodraeth yn arwain, ar gyfartaledd, at arbediad o £410 y flwyddyn ar fil ynni bob cartref. Dengys y ffigurau hyn yn glir fod y cynllun yn cyflawni’n well na’r disgwyl ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gartrefi tlawd o ran tanwydd. Hoffwn holi, fodd bynnag, ynglŷn ag ôl-osod preswyl, gan fod sicrhau bod cartrefi sy’n bodoli eisoes yng Nghymru yn defnyddio ynni’n effeithlon yn rhan allweddol o drechu tlodi tanwydd. Felly, a gaf fi ofyn pa gynlluniau sydd gennych i gynyddu gweithgarwch Llywodraeth Cymru o ran ôl-osod preswyl? Lesley Griffiths AC: Diolch. Rwy’n cydweithio’n agos iawn gyda fy nghyd-Aelod Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, mewn perthynas ag ôl-osod. Rwyf hefyd wedi sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol ar ddatgarboneiddio gyda dau arall o fy nghyd-Ysgrifenyddion Cabinet, felly bydd hynny’n sbardun mawr i weithredu traws-Lywodraethol. Roeddwn am helpu i gyflwyno cynigion i gyflawni ein hymrwymiadau heriol o ran carbon hefyd. Felly, er y byddwn yn parhau i edrych ar raddfa ein rhaglenni effeithlonrwydd ynni ein hunain, mae angen i ni edrych ar ein huchelgeisiau o ran datgarboneiddio. Ni ellir eu cyflawni drwy gyllid y Llywodraeth yn unig, felly rydym yn mynd i sicrhau bod gennym ddull llawer mwy cydgysylltiedig ar draws y Llywodraeth ac ar draws pob sector, mewn gwirionedd, i’n cynorthwyo i gyflawni mewn perthynas â’r agenda hon. David Melding AC: Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n siŵr y byddwch yn croesawu’r cap ar brisiau ynni a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, yn ogystal â’r broses barhaus o gyflwyno mesuryddion deallus. Credaf fod gan fesuryddion deallus rôl enfawr i’w chwarae yn rhoi mwy o reolaeth i berchnogion tai dros faint o ynni y maent yn ei ddefnyddio, a’u hannog hefyd i newid darparwr. Fodd bynnag, mae rhywfaint o amharodrwydd wedi bod ymysg rhai perchnogion tai i osod y mesuryddion deallus, ac roeddwn yn meddwl tybed pa rôl y mae Llywodraeth Cymru yn ei chwarae i hybu’r broses o ddarparu mesuryddion deallus i bob cartref yng Nghymru. Lesley Griffiths AC: Rwy’n credu eich bod yn iawn, mae yna ychydig o faterion yn codi mewn perthynas â mesuryddion deallus, rwy’n credu. O siarad â grŵp o ddefnyddwyr ynglŷn â pham na fuasent eisiau mesurydd deallus, roeddent yn dweud mai’r rheswm oedd, wyddoch chi, fod eu cymdogion wedi cael problemau ag ef ac yn y blaen. Felly, rwy’n credu bod angen gwneud yn siŵr ein bod yn gweithio ar draws pob sector i annog pobl i osod mesuryddion deallus, ac rydym yn gweithio gyda’r cwmnïau cyfleustodau, er enghraifft, i wneud hynny. Bethan Sayed AC: Wrth benderfynu ar gynllun newydd i ddisodli’r cynllun Nyth, a allwch ddweud wrthym a fuasech yn barod i edrych ar reolau cymhwysedd mewn perthynas â gwneud cais am welliannau effeithlonrwydd ynni yn y cartref? Rwy’n credu bod gan becyn cymorth ynni cyfatebol yr Alban feini prawf llai llym, ac mae ar gael i’r rhai sydd ar incwm isel ac sy’n feichiog, er enghraifft, neu i rai cartrefi â phlant. Yng Nghymru, mae rheolau cyfredol yn eithrio llawer o bobl sy’n wynebu tlodi o ran tanwydd, yn enwedig pobl ifanc, felly gyda’r cynllun newydd a fydd, o bosibl, yn cael ei roi ar waith, gobeithio, ar ôl i’r un cyfredol ddod i ben, tybed a fuasech yn ystyried newid y meini prawf hynny. Lesley Griffiths AC: Yn sicr, mae hynny’n rhywbeth y gallwn edrych arno. Rwy’n credu ein bod ar fin cychwyn ar y broses gaffael, felly’n amlwg mae hyn yn rhywbeth y gallwn edrych arno wrth inni gyflwyno’r cynllun newydd y flwyddyn nesaf. Y Diwydiant Amaethyddol yng Ngorllewin Cymru Paul Davies AC: 8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y diwydiant amaethyddol yng ngorllewin Cymru? (OAQ51180) Lesley Griffiths AC: Diolch. Mae Llywodraeth Cymru’n cynorthwyo’r diwydiant ffermio yn Sir Benfro a gorllewin Cymru, fel ym mhob rhan o Gymru, i fod yn fwy proffidiol, cynaliadwy a chadarn, ac i ganolbwyntio mwy ar fusnes. Mae dros 1,400 o bobl yn Sir Benfro wedi cofrestru â Cyswllt Ffermio i ddysgu mwy am wella proffidioldeb, cystadleurwydd a pherfformiad amgylcheddol eu busnesau. Paul Davies AC: Ysgrifennydd y Cabinet, un o’r prif faterion sy’n wynebu’r diwydiant amaethyddol yng ngorllewin Cymru yw dynodiadau arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer parthau perygl nitradau. Nawr, yn gynharach yn y sesiwn hon, mewn ymateb i Simon Thomas, fe ymrwymoch i wneud penderfyniad ar barthau perygl nitradau erbyn diwedd y flwyddyn ac y byddwch, yn nes ymlaen heddiw, yn trafod y mater gyda’ch swyddogion. O ystyried yr effaith aruthrol y gallai cyflwyno parthau perygl nitradau ei chael ar ffermwyr yn fy etholaeth, a wnewch chi ymrwymo i ystyried edrych ar fesurau gwirfoddol cyn gosod parthau perygl nitradau, ac a allwch gadarnhau a ydych yn barod i drafod mesurau gwirfoddol gyda’ch swyddogion yn nes ymlaen y prynhawn yma ? Lesley Griffiths AC: Rwyf wedi bod yn cael trafodaethau parhaus gyda swyddogion dros y misoedd diwethaf—wel, yn ôl pob tebyg, dros y flwyddyn ddiwethaf—mewn perthynas â hyn, ac fel y dywedais, mae gennyf gyfarfod arall y prynhawn yma. Nid wyf yn diystyru unrhyw beth; cawsom nifer sylweddol o ymatebion, ac fe ddywedais yn fy ateb i Simon Thomas yn gynharach fod yna rai cynigion ac awgrymiadau da iawn ymhlith yr ymatebion hynny. Dyna pam ei bod yn cymryd mwy o amser na’r disgwyl, rwy’n credu, i’w dadansoddi ac i edrych ar lefel y manylder sydd wedi’i gynnwys ar y ffurflenni. Ond rwy’n ymrwymo, ac rwyf wedi ymrwymo ers y dechrau, i wneud cyhoeddiad ar ddiwedd y flwyddyn.Rwyf hefyd yn awyddus iawn i weithio gyda ffermwyr a chyda’u rhanddeiliaid a’r undebau ffermio er mwyn i ni allu datblygu atebion. Pobl Ifanc yn y Diwydiant Ffermio Simon Thomas AC: 9. Pa gamau y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i annog pobl ifanc i mewn i'r diwydiant ffermio? (OAQ51191)[W] Lesley Griffiths AC: Diolch. Mae’r Llywodraeth hon yn cefnogi newydd-ddyfodiaid ifanc i amaethyddiaeth drwy nifer o fesurau pwysig. Yn y setliad cyllidebol diweddar, neilltuwyd £6 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf ar gyfer cynllun cymorth i newydd-ddyfodiaid ifanc yr ydym yn y broses o’i ddatblygu ac sy’n ategu ein pecyn cymorth ehangach. Ac wrth gwrs rydym yn cyfarfod y prynhawn yma i’w drafod ymhellach. Simon Thomas AC: Diolch yn fawr, Ysgrifennydd Cabinet. Rwy’n edrych ymlaen at drafod manylion y cytundeb rhyngom ni i sefydlu cynllun ar gyfer ffermwyr ifanc o ryw £6 miliwn. Y tro diwethaf yr oedd gan Lywodraeth Cymru gynllun o’r fath, roedd yna ryw £7 miliwn o arian yn y cynllun hwnnw, ac roedd e wedi helpu 520 o bobl ifanc i mewn i ddiwydiant amaeth. Efallai fod rhywun sy’n bresennol yn cofio’r cynllun hwnnw, Llywydd. Wrth fynd ymlaen â’r cynllun yma, rwy’n meddwl ei bod yn bwysig iawn ein bod ni’n gyrru neges gref i ffermwyr ifanc ein bod ni’n moyn iddyn nhw fod yn rhan o lywio’r cynllun a’u bod nhw’n gallu dysgu oddi wrth ei gilydd hefyd. Felly, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ystyried pa rôl y mae clybiau ffermwyr ifanc yn gallu ei chwarae yn hyn, wrth hysbysebu cynllun o’r fath, wrth rannu a dysgu, ac, wrth gwrs, wrth roi cefnogaeth a mentora uniongyrchol i ffermwyr ifanc? Lesley Griffiths AC: Gwnaf, yn sicr; rwy’n siŵr fod y Llywydd yn cofio’r cynllun yn dda iawn. Rwy’n credu, wrth edrych yn ôl ar gemau blaenorol, fy mod yn awyddus iawn i sicrhau ein bod yn cael newydd-ddyfodiaid o hyn; nid pobl sy’n olynu, er enghraifft. Mae’n wirioneddol bwysig ein bod yn ymgysylltu â—fe sonioch am glybiau ffermwyr ifanc. Rwy’n sicr yn hapus i wneud hynny, oherwydd rydym eisiau cael y bobl ifanc hyn cyn iddynt ddechrau ffermio fel busnes. Yn sicr, yr hyn sy’n mynd drwy fy meddwl ar hyn o bryd yw colegau addysg bellach ac addysg uwch. Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn siarad â’r myfyrwyr ac yn cael eu barn. Ond fel rwy’n dweud, rwy’n siŵr y gallwn drafod hyn ymhellach pan fyddwn yn cyfarfod. Angela Burns AC: Roeddwn wrth fy modd yn eich clywed yn dweud ‘newydd-ddyfodiaid’ i’r cynlluniau ffermio yn awr, oherwydd credaf fod y cynllun cymorth i newydd-ddyfodiaid ifanc yn gam i’w groesawu’n fawr ac rydym yn gefnogol iawn ohono. Fodd bynnag, mae gennyf nifer o bobl nad ydynt yn bodloni’r meini prawf hynny yn fy etholaeth. Mae teuluoedd wedi newid, mae pobl yn gweithio’n hwy, ac mae dynameg teuluoedd yn wahanol iawn. Mae gennych bobl sydd wedi gadael ac sy’n dychwelyd wedyn ac yn cymryd meddiant ar fferm deuluol—un fach efallai, ond serch hynny maent yn dal i fod yno, yn dal i geisio ychwanegu bywyd i’n treftadaeth wledig.Maent yn ei chael hi’n anodd iawn cael cymorth, oherwydd dylent fod yn gwybod y cyfan, oherwydd nid ydynt yn perthyn i’r categori ‘ifanc’. Roeddwn yn meddwl tybed a allech ystyried, pan fyddwch yn edrych ar hyn, rhoi mwy o bwyslais ar ‘newydd-ddyfodiaid’, neu gadw llygad ar y ‘newydd-ddyfodiaid’, ac y gallech ystyried sefydlu rhyw fath o gynllun mentora. Wyddoch chi, rwyf wedi tynnu sylw pobl at sefydliadau megis Cyswllt Ffermio, ond nid yw hynny yr un fath â chael rhywun a all eich helpu go iawn a mynd gyda chi drwy’r blynyddoedd cyntaf hanfodol hynny wrth i chi ddod i arfer, nid yn unig â’r modd yr ydych yn rhedeg y busnes, ond mewn gwirionedd, â’r gwaith papur, â’r cynlluniau amrywiol y gallwch berthyn iddynt—dyna’r pethau y mae pobl yn ei chael yn anodd iawn ymdopi â hwy. Lesley Griffiths AC: Ie, rwy’n credu eich bod yn nodi pwynt perthnasol iawn, ac yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, cyn y cytundeb cyllidebol gyda Phlaid Cymru, rwyf wedi bod yn edrych ar sut y gallwn annog mwy o bobl, a phobl ifanc a newydd-ddyfodiaid yn arbennig, oherwydd rwy’n credu, wrth edrych yn ôl ar y cynllun cymorth i newydd-ddyfodiaid, tua 10 y cant yn unig oedd yn newydd-ddyfodiaid. Rwy’n credu bod y gweddill yn rhan o’r olyniaeth honno i mewn i fusnesau sy’n bodoli eisoes. Felly, rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod yn edrych ar sut y gallwn ddenu newydd-ddyfodiaid. Crybwyllais fy mod yn meddwl am golegau addysg bellach a gweithio gyda myfyrwyr a cholegau addysg uwch. Rwy’n credu bod mentora’n bwysig iawn, felly os ydych yn meddwl am gynllun arall sydd gennym, y cynllun Mentro, lle’r ydym yn edrych ar bobl ifanc unwaith eto gyda phobl sydd efallai’n dymuno ymddeol, credaf fod hwnnw wedi bod yn llwyddiannus iawn ar lefel wahanol, ond mae’n ymwneud â chasglu’r holl ddarnau gorau a dod â’r cyfan at ei gilydd i ffurfio cynllun newydd. Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet. 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg. Yr eitem nesaf yw cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, a’r cwestiwn cyntaf gan Hannah Blythyn. Cymunedau yn Gyntaf Hannah Blythyn AC: 1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cymorth sydd ar gael i weithwyr Cymunedau yn Gyntaf? (OAQ51205) Carl Sargeant AC: Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Cafodd tîm pontio Cymunedau yn Gyntaf ei sefydlu i gynorthwyo cyrff cyflawni arweiniol Cymunedau yn Gyntaf gyda chynllunio a chynghori staff. Cafwyd trafodaethau parhaus gyda staff awdurdod lleol a staff ac undebau’r trydydd sector. Mae gan gyrff cyflawni arweiniol gynlluniau pontio ar waith i lywio’r gwaith o gyflawni’r rhaglen yn ystod 2017-18. Hannah Blythyn AC: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n codi’r mater hwn fel Aelod Cynulliad sy’n gwasanaethu rhai o weithwyr y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf ac fel undebwr llafur—gyda’r ddwy het. Rwy’n siŵr y byddwch yn deall y dylai’r gweithlu gael y gefnogaeth a’r ystyriaeth y maent yn eu haeddu. Fe ddywedoch ei fod yn mynd drwy gyfnod pontio ar hyn o bryd, ac mae hynny’n amlwg yn digwydd yn Sir y Fflint, fel mewn mannau eraill yn y wlad. Mae llawer o’r staff yn Sir y Fflint wedi gweithio ar y prosiectau Cymunedau yn Gyntaf hyn ers iddynt gael eu sefydlu yn 2002, gan wasanaethu ar draws ein cymunedau ar nifer amrywiol o brosiectau sy’n galluogi pobl i fod yn barod am waith, ac i’w cynorthwyo i ddod o hyd i waith. Ar ôl cyfarfod â’r tîm Cymunedau yn Gyntaf yn Sir y Fflint, gwn eu bod yn parhau i weithio’n galed, fel y byddwch chi’n ei wneud, Ysgrifennydd y Cabinet, a’u bod o dan lawer o bwysau i sicrhau cyfnod pontio llyfn i bob gweithiwr. Rwy’n credu eu bod yn awyddus yn awr i ganolbwyntio symud ymlaen. Felly, rwy’n gobeithio y bydd y prosiectau Cymunedau yn Gyntaf a gefnogir gan y gronfa dreftadaeth yn darparu cyfleoedd newydd i weithwyr presennol, ac y bydd llesiant y gweithlu ymroddedig a’u teuluoedd yn cael blaenoriaeth yn ystod y cyfnod pontio. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn cytuno y dylai cefnogi ein gweithwyr Cymunedau yn Gyntaf a darparu sicrwydd ar gyfer eu dyfodol fod yn flaenoriaeth drwy’r cyfnod pontio hwn, a pha neges o sicrwydd y gallwch ei rhoi iddynt heddiw? Carl Sargeant AC: Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod am grybwyll hyn, ac mae llawer o Aelodau eraill hefyd wedi gwneud hynny. Diolch i chi am hynny. Rwy’n cytuno mai un o’r blaenoriaethau yw sicrhau bod staff Cymunedau yn Gyntaf yn cael eu cefnogi drwy’r cyfnod pontio hwn, ac mae’n flaenoriaeth bwysig. Rwy’n ymwybodol fod fy swyddogion wedi bod yn gweithio gyda chyrff cyflawni arweiniol i sicrhau bod y gweithdrefnau cywir yn cael eu dilyn, gan gynnwys cysylltu â chynrychiolwyr undeb yn ôl yr angen. Gwn y bydd llawer o’r staff Cymunedau yn Gyntaf yn Sir y Fflint a ledled Cymru eisiau parhau i weithio i gefnogi ein cymunedau mewn rhaglenni pwysig eraill, ac rwy’n dymuno pob lwc iddynt gyda hynny hefyd. Janet Finch-Saunders AC: Ysgrifennydd y Cabinet, mae cymaint o ddryswch erbyn hyn ynglŷn â dirwyn Cymunedau yn Gyntaf i ben yn ein cymunedau fel bod nifer o swyddi gwag parhaol yn dal i gael eu hysbysebu ar-lein. Pa gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau nad yw arian y trethdalwyr yn cael ei wastraffu ar brosesau recriwtio pellach ar gyfer cynllun yr ydych, yn dechnegol, yn ei ddirwyn i ben? Carl Sargeant AC: Wel, mae’n ymddangos mai’r unig berson sydd wedi drysu yma yw chi. Mae’r cyrff cyflawni arweiniol mewn cysylltiad rheolaidd ac yn cael eu hannog i siarad â fy swyddogion. Os oes unrhyw gwestiynau neu ymholiadau ynglŷn â’r cyfnod pontio neu faterion staffio cysylltiedig, maent yn fwy na hapus i siarad â fy nhîm yn y broses honno, ond mae’r Aelod wedi cael ei chamarwain o ran ei safbwyntiau heddiw. Effaith Diwygiadau Lles ar Dde-ddwyrain Cymru Jayne Bryant AC: 2. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o effaith diwygiadau lles Llywodraeth y DU ar dde-ddwyrain Cymru? (OAQ51201) Carl Sargeant AC: Rwy’n ddiolchgar am gwestiwn yr Aelod ac yn bryderus iawn am yr effaith ddinistriol y mae diwygiadau lles Llywodraeth y DU yn ei chael ar deuluoedd incwm isel, yn enwedig teuluoedd â phlant. Amcangyfrifir bod y colledion blynyddol cyfartalog oddeutu £600 y cartref yn yr is-ranbarth y mae’r Aelod yn ei gynrychioli, o’i gymharu â £300 y cartref yn yr is-ranbarthau yr effeithiwyd arnynt leiaf yng Nghymru. Jayne Bryant AC: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn gynharach eleni, mewn ymchwil a gomisiynwyd gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd, darganfuwyd bod ôl-ddyledion rhent cyfartalog tenantiaid sy’n hawlio credyd cynhwysol yn £449.97. Bydd y cyfnod aros o chwe wythnos am y taliadau cyntaf yn golygu y bydd taliad cyntaf credyd cynhwysol ar gyfer pobl yng Nghasnewydd ar 27 o Ragfyr. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet, unwaith eto, annog Llywodraeth y DU i ailystyried y cyfnod aros o chwe wythnos ar gyfer y polisi diffygiol hwn, a fydd yn gwthio mwy byth o bobl i mewn i dlodi a dyled, yn ogystal â chefnogi galwadau’r sector tai i fynd ati ar unwaith i gyflwyno’r porth landlordiaid a’r statws partner dibynadwy sy’n fawr eu hangen, fel bod cymdeithasau tai yng Nghymru yn cael eu trin yr un fath â’r rhai yn Lloegr? Carl Sargeant AC: Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod am godi’r mater hwnnw gyda mi heddiw. Rwyf wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU i ofyn iddynt roi stop ar gyflwyno’r credyd cynhwysol. Nid oedd egwyddor y rhaglen credyd cynhwysol yn anghywir, ond nid yw’n gweithio’n iawn ac mae pobl yn cael eu heffeithio a’u trawmateiddio yn y ffordd y maent yn byw eu bywydau. Yn wir, mae aros am chwe wythnos—. Darllenais erthygl heddiw am berson ifanc iawn yn Wirral yng Nglannau Mersi a oedd yn gorfod aros am chwe wythnos ac a oedd yn hunanladdol ac yn byw ar ddŵr dros y cyfnod hwnnw o amser. Nid yw’n iawn, mae angen ei stopio ac mae angen ei ailasesu yn awr. Mark Reckless AC: Mae’r gyfradd ddiweithdra yn ne-ddwyrain Cymru wedi gostwng i 3.5 y cant eleni; mae’r gyfradd gyflogaeth yn y flwyddyn hyd at fis Mehefin wedi codi o 70.2 y cant i 72.5 y cant. O gofio bod diwygiadau lles y Llywodraeth yn San Steffan wedi’u cynllunio o leiaf yn rhannol i helpu pobl i ddod o hyd i waith, a bod Ysgrifennydd y Cabinet ei hun yn dweud ei fod yn cefnogi egwyddor credyd cynhwysol, oni ddylai fod yn croesawu’r rhain ac yn gweithio gyda’r Llywodraeth i’w gweithredu? Carl Sargeant AC: Yn sicr nid wyf yn croesawu cyflwyno’r credyd cynhwysol fel y mae, ac rwyf wedi mynegi hynny mewn llythyr cryf at y Gweinidog yn San Steffan. Mae hyn yn cael effaith ddinistriol ar deuluoedd a phlant ledled Cymru. Mae’n angen ei stopio yn awr a’i ailasesu o ran sut y dylid ei gyflwyno yn y dyfodol. Steffan Lewis AC: Mae’r Aelod dros Orllewin Casnewydd wedi crybwyll lefelau dyled bersonol a’r ffaith eu bod yn un o effeithiau go iawn y diwygiadau lles erchyll sy’n cael eu gorfodi arnom gan y wladwriaeth Brydeinig. Mae ymchwil a gynhaliwyd yn gynharach eleni wedi dangos mai lefelau dyled bersonol yn ardal cod post Casnewydd oedd yr uchaf yng Nghymru, ac ar draws y Deyrnas Unedig, maent yn awr yn cyrraedd lefelau nas gwelwyd ers cyn y dirwasgiad. Rwy’n meddwl tybed pa gamau y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn eu hystyried yng ngoleuni’r ymchwil newydd hwn i dargedu cymorth ariannol moesegol yn yr ardaloedd sydd â’r lefel uchaf o ddyled bersonol, a hefyd yr ardaloedd sy’n colli gwasanaethau ariannol gan y banciau traddodiadol, gan mai’r peth olaf yr ydym ei eisiau yw i’r bobl hyn sydd eisoes o dan warchae’r wladwriaeth i fod o dan warchae benthycwyr twyllodrus hefyd. Carl Sargeant AC: Ie, mae’r Aelod yn iawn i nodi’r pwynt hwn, ac rwyf wedi gweithio gyda Bethan Jenkins mewn perthynas â llythrennedd ariannol; mae’n bwynt pwysig iawn. Ond problem llawer o’r bobl hyn sy’n rhan o broses y credyd cynhwysol yw nad oes ganddynt unrhyw arian. Y broblem yw bod meddu ar gynilion neu rywbeth arall yn foethusrwydd. Mae’r rhaglen hon yn ddiffygiol. Rwy’n ddiolchgar am gefnogaeth yr Aelod yn hyn o beth, ond mewn gwirionedd mae’n rhaid i ni, gyda’n gilydd, feddwl am sicrhau bod Llywodraeth y DU yn cydnabod yr effaith niweidiol y mae cyflwyno’r credyd cynhwysol yn ei chael ar gymunedau. Ac er ein bod wedi cael dwy ardal brawf yng Nghymru, roedd llawer o dystiolaeth y tu ôl i hynny’n sôn am yr effaith ddinistriol y mae’n ei chael ar y teuluoedd yn yr ardaloedd hynny. Nid ydym ond newydd ddechrau’r broses o gyflwyno’r rhaglen hon, ond mae’n ddiffygiol ac mae angen ei stopio. Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood. Mark Isherwood AC: Diolch, Llywydd. Fel y byddwch yn gwybod, cyhoeddodd y Prif Weinidog ar ddechrau’r mis y buasai £10 biliwn yn ychwanegol ar gyfer y cynllun Cymorth i Brynu, er mwyn ysgogi adeiladu cartrefi newydd a chymell 135,000 yn fwy o bobl i fynd ar yr ysgol dai, gyda manylion y cynlluniau llawn i’w cynnwys yng nghyllideb y DU ar 22 Tachwedd. O ystyried bod Llywodraeth Cymru yn y gorffennol wedi lansio ei fersiwn ei hun o’r rhaglen hon tua 18 mis ar ôl i’r DU wneud cyhoeddiad tebyg, gyda chyllid benthyciadau ailgylchadwy, sut y credwch y gallai Cymru gael ei heffeithio neu sut y gallai elwa ar hyn, a pha ymgysylltiad a gawsoch neu y byddwch yn ei gael gyda Llywodraeth y DU yn unol â hynny? Carl Sargeant AC: Nid ydym wedi cael unrhyw arwydd o unrhyw gyllid ychwanegol yn dod i Gymru ar y pwynt penodol hwnnw. Mark Isherwood AC: Wel, rwy’n siomedig, yn amlwg, ond rwy’n gobeithio y byddwch yn mynd ar drywydd hynny, o ystyried nad arian bloc arferol yw hwn ond cyllid benthyciadau ailgylchadwy—os bydd yn cael ei gyllido ar yr un sail; wrth gwrs, nid ydym yn gwybod eto.Gan symud ymlaen o dai i gymorth sy’n gysylltiedig â thai, wrth gwrs, ar ddiwedd y mis diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod £10 miliwn y flwyddyn, am ddwy flynedd, yn cael ei adfer i’r rhaglen Cefnogi Pobl. Wrth gwrs, cafodd ei groesawu’n fawr, a bydd £4 miliwn o hwnnw’n mynd drwy eich cyllideb adrannol chi. Croesawyd hyn gan y sector, ond roeddent yn galw am sicrwydd y byddai’r arian yn cael ei neilltuo ar gyfer cymdeithasau tai a darparwyr y trydydd sector. Ai felly y bydd hi, neu pa sicrwydd y gallwch ei roi, gan weithio gyda hwy, y bydd yr arian hwn yn cyrraedd lle y mae angen iddo fynd? Carl Sargeant AC: Gallai’r Aelod fod wedi bod ychydig yn fwy hael yn ei sylwadau. Nid arian a gafodd ei roi’n ôl i mewn i’r system oedd hwn; roedd hwn yn arian ychwanegol. Mae’r Llywodraeth Lafur yma yng Nghymru wedi rhoi £10 miliwn ychwanegol am ddwy flynedd er mwyn mynd i’r afael â digartrefedd—£6 miliwn o hwnnw i’r grant cynnal refeniw a £4 miliwn i fy llinell wariant i. Ni allaf warantu sut y bydd hynny’n gweithio, oherwydd mae’n ymwneud â gweithio gyda’r sector a sefydliadau i gael y gwerth gorau i fynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â digartrefedd, ac rwyf eisoes mewn trafodaethau gydag asiantaethau ynglŷn â sut y bydd hynny’n edrych o ran y ddarpariaeth ar gyfer y dyfodol. Mark Isherwood AC: Wrth gwrs, roedd yn fater o adfer arian a gymerwyd o’r gyllideb ers 2013, a chafodd hynny ei groesawu, ond mae angen i ni wybod a fydd yn cael ei neilltuo oherwydd mae’n ymwneud â gweithio gyda phobl, er enghraifft, drwy’r Rhaglen Pobl a Lleoedd a ariennir gan y Loteri Fawr, sy’n gorfod cyllido prosiectau i fod yn rhai wedi’u harwain gan y bobl, ac yn seiliedig ar gryfderau a chefnogi pobl a chymunedau i adeiladu ar yr wybodaeth, y sgiliau a’r profiad sydd ganddynt eisoes. Unwaith eto, sut y byddwch yn sicrhau felly fod hyn yn cyd-fynd â’r mathau hynny o raglenni, ac yn galluogi pobl i chwarae rhan uniongyrchol yn y gwelliannau yn eu bywydau eu hunain? Carl Sargeant AC: Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar y Llywodraeth a chyrff sector cyhoeddus. Rydym yn gweithio gyda sefydliadau y tu allan i’r sector cyhoeddus yn y trydydd sector. Mae Llamau, Wallich a sefydliadau eraill yn awyddus iawn i ddeall sut y dylem ddefnyddio’r arian hwn yn y ffordd orau. Nid wyf yn arbenigwr yn y maes hwn, ond maent hwy, ac rwyf eisiau gweithio gyda hwy i sicrhau ein bod yn cyfeirio ein cyllid cyfyngedig i’r lleoedd cywir er mwyn helpu pobl mewn angen ar draws ein cymunedau. Llefarydd UKIP, Gareth Bennett. Gareth Bennett AC: Diolch, Llywydd. Heddiw, roeddwn eisiau tynnu sylw at broblem camddefnyddio cyffuriau a chamddefnyddio cyffuriau mewn mannau cyhoeddus yn arbennig. Rydym wedi cael sawl adroddiad yn y cyfryngau yn ddiweddar sy’n ymwneud â defnyddwyr cyffuriau yn chwistrellu heroin, yn weddol agored, yn ardal Butetown yng Nghaerdydd. Mae hyn hefyd yn tynnu sylw at broblem gysylltiedig nodwyddau, a all fod yn berygl gwirioneddol i blant, mater sydd wedi cael sylw yn y cyfryngau hefyd. Mae hon yn broblem nad yw wedi ei chyfyngu i Gaerdydd yn unig; mae hefyd yn broblem sy’n codi dro ar ôl tro mewn llawer o’n trefi yn y Cymoedd. Felly, fy nghwestiwn cyntaf yw: a ydych yn cydnabod bod hon yn broblem fawr, a pha gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i helpu’r awdurdodau perthnasol i fynd i’r afael â hi? Carl Sargeant AC: Mae’r defnydd o gyffuriau a chamddefnyddio sylweddau ar gynnydd, ond rydym yn gweld un o effeithiau diwygio lles yn cael effaith ar unigolion sy’n symud i mewn i’r gofod hwnnw. Ond gadewch i ni beidio ag anghofio bod pobl sy’n dioddef o gamddefnyddio cyffuriau ac alcohol neu sylweddau yn fodau dynol hefyd. Mae’n rhaid i ni feddwl yn ofalus sut y gallwn eu cefnogi trwy wneud yn siŵr ein bod yn gallu gweithredu’n briodol i’w cynorthwyo i roi’r gorau i ddefnyddio cyffuriau ac alcohol, a’u rhoi yn ôl ar y llwybr tuag at lwyddiant. Mae’n peri gofid i mi pan fyddaf yn gweld pobl yn ein cymunedau yn cymryd cyffuriau a’r cyfarpar arall a ddefnyddir i wneud eu hunain yn agored i risg. Mae’n ddyletswydd arnom i wneud yn siŵr ein bod yn gallu helpu pawb yn ein cymunedau, ni waeth beth yw eu safle mewn bywyd neu ble y maent. Gareth Bennett AC: Ie, ac rwy’n cytuno â’r hyn a ddywedwch. Mae’r rhain yn fodau dynol—nid oes neb yn gwadu hynny—ac mae angen i ni helpu’r bobl hyn cyn belled ag y gallwn i roi’r gorau i’w harferion. Ond o ran sut i ddelio â’r broblem fel mater o drefn gyhoeddus, efallai, beth yw eich barn ar stopio a chwilio a pha mor effeithiol ydyw i helpu i ddarparu amgylchedd trefol diogel? Carl Sargeant AC: Mae’r materion yn ymwneud â stopio a chwilio yn fater i Lywodraeth y DU a phlismona, ond mewn gwirionedd, nid wyf yn credu bod stopio a chwilio ynddo’i hun yn ddefnyddiol wrth ddarparu gwasanaethau i bobl sydd angen cael eu cefnogi. Mae ein rhaglen Cefnogi Pobl, ynghyd â’n polisi ar gamddefnyddio sylweddau, wedi’u cynllunio i helpu pobl i ddychwelyd i’r hyn a fuasai’n cael ei ystyried yn ffordd o fyw normal, beth bynnag y mae hynny’n ei olygu mewn gwirionedd. Ond mae mynd â hwy oddi wrth y risg y maent yn ei chreu iddynt eu hunain ac eraill yn rhywbeth y dylem weithio arno’n ofalus. Gareth Bennett AC: Ie, a Cefnogi Pobl, wrth gwrs, rydym yn aros i glywed beth fydd y cyllid ar gyfer hynny yn y gyllideb sydd i ddod, felly rwy’n falch eich bod wedi crybwyll Cefnogi Pobl. Ond ar fater cysylltiedig ar thema cyffuriau, a oes gennych unrhyw newyddion ynglŷn ag ymchwiliadau Llywodraeth Cymru i’r hyn a elwir yn fannau chwistrellu diogel, lle y gall defnyddwyr cyffuriau chwistrellu mewn amgylchedd dan oruchwyliaeth feddygol, ac a oes gennych unrhyw syniadau eich hun ar y mater sy’n cynnig ffordd bosibl o gael gwared ar nodwyddau oddi ar y strydoedd? Carl Sargeant AC: Cafwyd rhai trafodaethau gydag awdurdodau, ond mae hwn yn fater i Weinidog gwahanol. Byddaf yn gofyn i’r Gweinidog priodol ysgrifennu at yr Aelod. Llefarydd Plaid Cymru, Bethan Jenkins. Bethan Sayed AC: Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch gadarnhau’r cwestiynau canlynol? A wnaeth Llywodraeth Cymru gynnig safle Rhosydd Baglan ar gyfer y carchar, pan oedd y safle, ar yr adeg y cafodd ei gynnig ym mis Mai 2016, wedi’i gategoreiddio fel parth perygl llifogydd C2 ac yn mynd yn erbyn nodyn cyngor technegol 15 eich canllawiau cynllunio eich hun? A allwch chi hefyd egluro a oedd y cyfamod ar y tir yn golygu na ellid ond ei ddefnyddio at ddibenion economaidd yn gydnaws â pharc diwydiannol? Carl Sargeant AC: Ni allaf roi ateb ‘ie’ neu ‘na’ i hynny, gan fod llawer o gwestiynau, ond os bydd yr Aelod yn amyneddgar gyda mi—. Roedd y tir y mae’r Aelod yn sôn amdano yn rhan o restr hir o diroedd sydd ar gael i unrhyw ddatblygwr, boed o’r Weinyddiaeth Gyfiawnder neu unrhyw weithrediad masnachol arall, ac nid yw’n anarferol i ni wneud hynny. A oes cyfamod ar y tir? Rwy’n credu bod cyfamod ar y tir. Bethan Sayed AC: Iawn. Nid wyf yn credu eich bod wedi ateb y cwestiwn cyntaf, ond gallaf ddod yn ôl ato eto. Rwyf eisiau ceisio ymchwilio ymhellach i hynny’n benodol. Pam na chafodd y categori perygl llifogydd ei ddiweddaru drwy Cyfoeth Naturiol Cymru hyd nes fis Mawrth 2017? Dyna’r mis y daeth y newyddion am y safle—. Cafodd y dewis a ffafrid ar gyfer carchar newydd ei wneud yn gyhoeddus yn ystod y cyfnod hwn. Yn ôl yr hyn rwy’n ei ddeall o gyfathrebiad drwy ein cynghorydd, Nigel Hunt, ni soniodd Cyfoeth Naturiol Cymru wrth Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot am y newid i’r categori perygl llifogydd hyd nes fis Chwefror, ychydig wythnosau cyn i’r safle gael ei ddewis yn gyhoeddus. Pam y digwyddodd hyn? A allwch gadarnhau pryd y dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru wrthych chi, neu unrhyw un arall yn Llywodraeth Cymru, y buasai categori perygl llifogydd y tir yn newid, gan ei wneud yn ddewis posibl ar gyfer datblygiad mawr fel y carchar? Gan dybio y buasai wedi cymryd peth amser i lunio rhestr o safleoedd addas ar gyfer carchar o’r maint hwn, roedd hynny cyn i’r categori perygl llifogydd gael ei newid. Carl Sargeant AC: Nid oes gennyf y manylion ynglŷn â phryd y digwyddodd yr ohebiaeth gyda Cyfoeth Naturiol Cymru neu fel arall. Ond byddaf yn sicrhau bod yr Aelod yn cael gwybod y manylion hynny. Ond dylai’r Aelod fod yn ymwybodol hefyd, oherwydd bod y tir hwn wedi’i gynllunio gyda pherygl llifogydd, mae yna gyfleoedd i ddatblygwyr liniaru yn erbyn hynny. Felly, mae’r Aelod yn cyfeirio at y ffaith y gallai perygl llifogydd fod wedi’i osod ar y tir, ond mewn gwirionedd, gellir ystyried lliniaru gan unrhyw fusnesau mewn proses gynllunio arferol. Bethan Sayed AC: Y pwynt yw, fodd bynnag, ei fod wedi cael ei newid, fod hynny wedi ei wneud yn lleoliad posibl, felly, i’r carchar hwn allu cael ei adeiladu. Yn y gorffennol, nid oedd mor bosibl i ddiwydiannau geisio’r tir hwnnw, ac rwy’n ceisio deall pam oedd hynny a phryd y cafodd y penderfyniad ei wneud, ac nid wyf yn clywed hynny gennych yma heddiw. O ran y cyfamod, a’r hyn rwy’n ei ddeall, fel chi, fel rydym wedi clywed, yw bod cyfamod ar waith, rwyf wedi cael cyngor cyfreithiol, sy’n dweud, ac rwy’n dyfynnu, ‘Gan dybio bod y cyfamod yn gyfreithiol ddilys, mae’n golygu bod y safle’n cael ei effeithio gan rwymedigaeth o blaid trydydd parti sy’n cyfyngu ei ddefnydd i barc diwydiannol yn unig. Yn yr amgylchiadau hynny, gallai adeiladu carchar ar y safle dorri’r cyfamod.’Sut y bwriadwch oresgyn hyn, gan dybio y byddwch yn parhau i gydweithio â Llywodraeth y DU a pharhau i gynnig y tir hwn ar gyfer y carchar? Y gwir amdani, wrth gwrs, yw ein bod yn deall y bydd pethau, o bosibl, yn newid mewn perthynas â llifogydd a chategoreiddio, ac mae’r cyfamod bellach yn sicrhau y dylai fod at ddefnydd diwydiannol. A wnewch chi, felly, ddweud wrth y Weinyddiaeth Gyfiawnder, ‘Wel, mewn gwirionedd, nid ydym yn cydweithio mewn perthynas â’r darn hwn o dir mwyach, ac ni fyddwn, felly, yn darparu Rhosydd Baglan fel safle carchar’? Carl Sargeant AC: Rwy’n siomedig iawn ynglŷn â thôn y cwestiwn gan yr Aelod. Rwyf wedi bod yn trafod gyda hi, a llawer o Aelodau eraill, gan gynnwys Dai Rees, yr Aelod lleol—[Torri ar draws.] Pe bai’r Aelodau’n hoffi gwrando, buaswn yn fwy na hapus i ateb y cwestiwn. Y ffaith amdani yw bod hwn yn fater i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Rydym ni, fel bob amser, a chyda’n proses dir, yn cynnig tir sy’n briodol ar gyfer datblygu. Os ydynt yn dymuno edrych ar y cyfamod, neu drefniadau eraill mewn perthynas â’r tir, mater i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yw hwnnw, nid i Lywodraeth Cymru. Safon Ansawdd Tai Cymru Rhianon Passmore AC: 3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd sy'n cael ei wneud tuag at gyrraedd safon ansawdd tai Cymru? (OAQ51196) Carl Sargeant AC: Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Mae pob landlord cymdeithasol ar y trywydd cywir i gyrraedd y safon erbyn 2020. Mae’r ystadegau blynyddol diweddaraf yn dangos, ar 31 Mawrth 2017, fod 192,302—86 y cant—o dai cymdeithasol bellach yn cyrraedd y safon, o gymharu â 79 y cant ar gyfer y flwyddyn gynt. Mae dros 15,000 o aelwydydd bellach yn byw mewn tai o ansawdd gwell nag yn y flwyddyn flaenorol. Rhianon Passmore AC: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’r ffigurau a ryddhawyd, fel y dywedoch, yn gynharach y mis hwn, yn dangos bod 86 y cant o’r holl dai cymdeithasol wedi bodloni safon ansawdd tai Cymru erbyn 31 Mawrth, sef cynnydd o saith pwynt canran, yn wahanol i Loegr lle y bu dadfuddsoddi. Mae’r buddsoddiad sylweddol hwn gan Lywodraeth Cymru yn cael effaith sylweddol a phellgyrhaeddol, ac yn trawsnewid bywydau yn wir. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y gallwn sicrhau bod y cynnydd hwn yn cael ei gynnal a’i wella ledled Cymru? Carl Sargeant AC: Llywydd, mae hon yn stori newyddion dda i ni gan fod ansawdd cartrefi mor bwysig i lesiant bobl. Mae hefyd yn hanfodol er mwyn inni gyflawni llawer o’n nodau eraill fel Llywodraeth, gan gynnwys gwella iechyd a llesiant y genedl. Mae gan fuddsoddi mewn gwella ac adeiladu cartrefi botensial enfawr i greu swyddi a chyfleoedd hyfforddi mewn ardaloedd fel etholaeth Rhianon Passmore, ac rydym yn edrych ymlaen at barhau’r gefnogaeth honno i sefydliadau sy’n datblygu safonau ansawdd tai. David Melding AC: Ysgrifennydd y Cabinet, yn ddiweddar, ymwelais â’r tŷ Solcer ym Mhen-y-bont ar Ogwr fel rhan o waith y pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, ac roeddwn yn frwdfrydig iawn i weld y posibilrwydd o adeiladu cartrefi sydd erbyn hyn yn cynhyrchu mwy o ynni nag y maent yn ei ddefnyddio mewn gwirionedd. Nawr, mae’r tŷ hwnnw’n costio tua dwywaith cymaint â thŷ wedi ei adeiladu yn y ffordd arferol, ond nid yw wedi cael ei wneud ar y raddfa gywir eto, ac rwy’n deall bod tai cymdeithasol yn cynnig cyfle i ddatblygu’r cynhyrchion hyn ar y raddfa gywir, ac maent yn ddeniadol ac yn effeithlon iawn ac yn cynnig manteision enfawr i bobl, yn enwedig rhai a allai fod mewn tlodi o ran tanwydd hefyd. Carl Sargeant AC: Rwy’n cytuno â’r Aelod—mae braidd yn anarferol, ond o ran y pwynt hwn, mae’n hollol gywir i wneud yn siŵr fod—. Mewn gwirionedd, mae hwn yn fuddsoddiad clyfar ar gyfer y dyfodol. Efallai y bydd yn costio ychydig yn fwy ond mae’n fuddsoddiad ar gyfer biliau ynni is neu ddatgarboneiddio; mae’n ticio’r holl flychau hynny. Byddaf yn gwneud cyhoeddiad yn fuan ar y cynlluniau tai arloesol ac mae’n fater o wylio’r gofod hwn. Michelle Brown AC: Rwy’n cefnogi’r amcan o uwchraddio tai cymdeithasol, yn sicr, Ysgrifennydd y Cabinet. Ond hoffwn ofyn pa ddadansoddiad a wnaethoch o’r gost i landlordiaid cymdeithasol o uwchraddio’r tai a’r tebygolrwydd y caiff y gost honno ei throsglwyddo i denantiaid yn y dyfodol drwy godiadau rhent? Carl Sargeant AC: Caiff hyn oll ei fesur yn y cynlluniau busnes ar gyfer cymdeithasau ac awdurdodau lleol. Rydym yn darparu cyllid ychwanegol i sicrhau nad ydynt yn waeth eu byd. Ond mae’n ymwneud â sicrhau bod tai yn addas ar gyfer y dyfodol a bod llawer o aelwydydd ar draws ein holl etholaethau yn elwa ar y buddsoddiad hwn gan y Llywodraeth a chan y sector ei hun. Adsefydlu Troseddwyr Mark Isherwood AC: 4. Beth yw rôl Llywodraeth Cymru yn y broses o adsefydlu troseddwyr yng Nghymru? (OAQ51179) Carl Sargeant AC: Er bod adsefydlu troseddwyr yng Nghymru yn fater i Lywodraeth y DU, rydym yn gweithio’n agos gyda Gwasanaeth Prawf a Charchardai Ei Mawrhydi, er enghraifft, drwy ein cefnogaeth i raglen ddargyfeirio’r cynllun braenaru ar gyfer menywod. Mark Isherwood AC: Diolch. Wel, o ystyried yr ymateb hwnnw, ac wrth gwrs, eich cyfrifoldebau ar y lefel ddatganoledig dros bolisi troseddu a chyfiawnder, gan gynnwys cyfiawnder ieuenctid, sut yr ydych yn ymgysylltu neu sut y byddwch yn ymgysylltu ag Ysgrifennydd Gwladol y DU dros Gyfiawnder yn dilyn y cyhoeddiad a wnaed ar ddechrau’r mis hwn ynglŷn â buddsoddiad o £64 miliwn mewn dalfeydd ieuenctid i wella staffio ac addysg ar gyfer pobl ifanc a thasglu cenedlaethol—h.y. tasglu cenedlaethol y DU, mae’n debyg—i helpu cyn-droseddwyr i ddod o hyd i waith, a fydd yn targedu cyflogwyr er mwyn gwerthu manteision cyflogi cyn-droseddwyr, yn ogystal â chynghori llywodraethwyr ar hyfforddiant i’w roi i gyn-garcharorion i gynyddu eu cyfleoedd i ddod o hyd i waith? Carl Sargeant AC: Rwy’n credu bod yn rhaid inni beidio ag anghofio, mewn llawer o’r sefydliadau hyn, mae yna garcharorion o Gymru ac mae’n rhaid inni feddwl am eu hintegreiddio yn ôl i mewn i’n cymdeithas hefyd. Mae llawer o’r gwasanaethau sy’n ymwneud â charchardai yn wasanaethau sydd wedi’u datganoli. Felly, mae iechyd, addysg, ac yn y blaen, yn wasanaethau sydd wedi’u datganoli ac rydym yn cael trafodaethau rheolaidd am gyfraniad y Llywodraeth o ran eu gallu i helpu i strwythuro ymagwedd newydd at y gwasanaethau prawf ac adsefydlu yn ein cymunedau. John Griffiths AC: Ysgrifennydd y Cabinet, er mwyn adsefydlu’r rhai sy’n gadael y carchar yn effeithiol mae’n bwysig iawn fod ganddynt do uwch eu pennau. Golygai Deddf Tai (Cymru) 2014 nad oedd pobl a oedd yn gadael y carchar bellach yn cael eu categoreiddio’n awtomatig fel rhai ag angen blaenoriaethol am dai. Cafwyd gwerthusiad ôl-weithredol o’r ddeddfwriaeth honno yn 2017, a oedd yn datgan bod pobl sy’n gadael y carchar ymhlith y grwpiau nad yw eu hanghenion tai yn cael eu bodloni. O ystyried y ffeithiau hynny, a wnewch chi roi ystyriaeth bellach yn awr i amddiffyn a chategoreiddio pobl sy’n gadael y carchar mewn perthynas â digartrefedd ac anghenion tai? Carl Sargeant AC: Rwy’n credu bod yr Aelod yn iawn i godi’r mater, ond creais weithgor i edrych ar bobl sy’n gadael y carchar mewn perthynas ag atebion tai. Byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod gyda manylion y grŵp a chanlyniadau hynny. David Rees AC: Ysgrifennydd y Cabinet, mae adsefydlu a lleihau aildroseddu yn bethau y mae pawb ohonom am geisio eu cyflawni. Rwyf am roi un awgrym i chi yn awr: mae’n bosibl y bydd atal carchardai mawr yn helpu rywfaint yn hynny o beth mewn gwirionedd, ac felly mae’n bosibl y bydd atal yr un ym Maglan yn eich helpu rywfaint. Ond yn yr ystyr o sut y gallwn helpu i’w hadsefydlu, mae gwasanaethau cymorth yn hollbwysig a bydd y gwasanaethau cymorth yn defnyddio llawer iawn o adnoddau ein gwasanaethau. Pa drafodaethau yr ydych yn eu cael gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder i sicrhau eu bod yn cyllido’r gwasanaethau hynny fel y gallwn sicrhau, pan fyddwn yn adsefydlu a phan fyddwn yn lleihau aildroseddu, y byddwn yn gwneud hynny oherwydd eu bod yn ein helpu ni mewn gwirionedd ac nad ydym yn ei wneud ar eu traul? Carl Sargeant AC: Fel gyda phob ystâd garchardai ar draws Cymru, ceir cytundeb rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru o ran asesiad o anghenion a chostau gwasanaethau ychwanegol sy’n angenrheidiol. Gallaf sicrhau’r Aelod, heb ystyried os a phryd y bydd carchar yn ymddangos yn unrhyw le yng Nghymru, fod yna drafodaeth gyda Llywodraeth y DU er mwyn sicrhau bod gennym y nifer gywir o wasanaethau a’r swm cywir o arian i ymdrin â’r materion sy’n gysylltiedig ag unrhyw garchar. Cyn-filwyr David J Rowlands AC: 5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cyn-filwyr yng Nghymru, yn dilyn ei drafodaethau gyda grŵp arbenigol y lluoedd arfog? (OAQ51192) Carl Sargeant AC: Diolch. Ein blaenoriaeth yw sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau effeithiol sy’n diwallu anghenion mewn meysydd fel iechyd, tai a chyflogaeth. Enghreifftiau o’r rhain yw’r llwybr tai a’r gwaith y mae GIG Cymru y Cyn-filwyr yn ei wneud ar gyflwyno treialon ymchwil i leddfu problemau iechyd meddwl megis anhwylder straen wedi trawma. David J Rowlands AC: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno ein bod ni yng Nghymru yn falch o’n lluoedd arfog a’r gwaith y maent yn ei wneud ar ein rhan. Mae’n rhaid i ni gofio mai gwleidyddion a’u gyrrodd i faes y gad, felly dyletswydd gwleidyddion yw sicrhau eu bod yn cael gofal pan fyddant yn gadael y lluoedd arfog. Hyd yn oed o ystyried yr holl ymyriadau y gwn fod Llywodraeth Cymru wedi’u gwneud, ac maent i’w canmol am hynny, rydym yn dal i weld bod yna rai sy’n llithro drwy’r rhwyd ac yn dal i gysgu ar ein strydoedd. A oes gennych unrhyw newyddion ynglŷn â sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymdrin â’r bobl hynny? Carl Sargeant AC: Yr hyn y ceisiwn ei sefydlu yma yw ateb cenedlaethol i’r problemau, yn ogystal ag yma yng Nghymru. Rydym yn ceisio nodi pobl sy’n gadael y lluoedd arfog sydd eisiau cymorth a chynnig llwybr iddynt tuag at newid. Rwy’n credu ei bod yn ddyletswydd ar Lywodraeth y DU, o ran sut y maent yn ymdrin â chyn-filwyr—ac rwyf wedi dwyn hyn i sylw Gweinidogion ar sawl achlysur mewn perthynas â’u cyfrifoldebau moesol, pan fydd pobl yn mynd i ymladd, o ran sut y maent yn ymdrin â hwy ac yn eu cefnogi ar ôl iddynt ddychwelyd. Mae’n rhywbeth y byddaf yn parhau i’w wneud a byddaf yn gweithio gyda grŵp arbenigol y lluoedd arfog ar hynny. Darren Millar AC: Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn cytuno mai un gwasanaeth cymorth lefel isel yw mudiad Siediau Cyn-filwyr, y sefydlwyd y gyntaf ohonynt, wrth gwrs, yng ngogledd Cymru, ac sydd bellach yn fodel sy’n cael ei gopïo mewn rhannau eraill o’r wlad, nid yn unig yng Nghymru, ond ar draws y DU yn ogystal, ac mae hynny’n rhywbeth y dylai Llywodraeth Cymru ei gefnogi? Gwn fod eich cyd-Aelod, Lesley Griffiths, pan oedd hi’n gyfrifol am bortffolio’r lluoedd arfog, wedi ymweld â’r Sied Cyn-filwyr ym Mae Colwyn a bod yr hyn y maent yn ei gyflawni wedi creu argraff fawr arni. Ond pa adnoddau y gallai Llywodraeth Cymru sicrhau eu bod ar gael i gefnogi rhwydwaith Siediau Cyn-filwyr Cymru fel y gall wella bywydau cyn-filwyr eraill mewn rhannau eraill o Gymru lle nad ydynt ar gael ar hyn o bryd? Carl Sargeant AC: Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod ac yn diolch iddo am y gwaith y mae’n ei wneud yn y grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog hefyd. Ni allaf ymrwymo i gyfraniad ariannol ar gyfer y grŵp hwn. Rwy’n cydnabod y gwaith y maent yn ei wneud yn ein cymunedau. Rwy’n credu mai’r hyn yr ydym yn edrych arno fel corff Llywodraeth yw’r ymyriadau lefel uchel y gallwn eu cefnogi—mae’r ymyriad lefel is, ond ystyrlon, y mae’r Aelod yn sôn amdano yn un pwysig. Mae’n rhaid i ni weld pa lwybr at gyllid y gallant gael mynediad ato, ond nid wyf yn hollol siŵr ei fod ar lefel y Llywodraeth. Vikki Howells AC: Ysgrifennydd y Cabinet, yn aml, gall cyn-aelodau o’r lluoedd arfog ei chael hi’n anodd cael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth newydd, er gwaethaf y cyfoeth o sgiliau trosglwyddadwy sydd ganddynt, ac rwy’n siŵr eich bod yn ymwybodol o’r sylw y mae’r mater hwn wedi’i gael yn y cyfryngau yn ddiweddar. Yn eich ateb i David Rowlands, fe gyfeirioch at gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu yn y maes hwn. Tybed a allech chi ymhelaethu ar hynny, os gwelwch yn dda. Carl Sargeant AC: Rwy’n ddiolchgar am gwestiwn yr Aelod, cwestiwn pwysig ynglŷn â sut y symudwn o swydd yn y lluoedd arfog i’r sector cyhoeddus a’r sector preifat, sy’n gallu bod yn drawsnewidiad anodd iawn i rai. Rydym yn gweithio gyda’r Bartneriaeth Pontio Gyrfa pan fo milwyr yn cael eu rhyddhau. Yn wir, rwyf hefyd wedi cyfarfod ag un o gyn-ddefnyddwyr y gwasanaeth yn etholaeth Dawn Bowden, a oedd wedi symud o fod yn gyn-aelod o’r lluoedd arfog i fod yn aelod rhagorol o staff mewn cwmni contractio lleol. Mae yna bethau y gallwn eu dysgu yn y fan honno ynglŷn â’r mecanweithiau cymorth y gallai rhai pobl fod eu hangen yn ychwanegol at sgiliau gwaith a hyfforddiant a sut y dysgwn o brofiad. Mae’n rhywbeth y mae fy nhîm a grŵp arbenigol y lluoedd arfog yn edrych arno ac yn rhoi cyngor i mi yn ei gylch yn rheolaidd. Tynnwyd cwestiwn 6 [OAQ51199] yn ôl. Felly, cwestiwn 7, Lynne Neagle. Technegau Rhianta Cadarnhaol Lynne Neagle AC: 7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chynnig i alluogi rhieni i ddatblygu technegau rhianta cadarnhaol? (OAQ51208) Carl Sargeant AC: Rwy’n ddiolchgar am gwestiwn yr Aelod dros Dorfaen. Mae rhianta cadarnhaol yn hanfodol i’n blaenoriaeth drawsbynciol i’r blynyddoedd cynnar yn ‘Ffyniant i Bawb’. Rydym yn cynorthwyo pob awdurdod lleol yng Nghymru i ddarparu ystod o gymorth rhianta sy’n cwmpasu gwybodaeth a chyngor sydd ar gael i bawb. Mae grwpiau rhianta ac ymyrraeth gynnar ddwys wedi’i dargedu drwy Dechrau’n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf yn parhau. Lynne Neagle AC: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Ddoe, lansiodd y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant eu hymgyrch rhianta cadarnhaol newydd, Take 5, sy’n ceisio annog rhieni i oedi ac ymateb yn ddigynnwrf wrth wynebu sefyllfa rianta sy’n heriol. Cafodd yr ymgyrch ei datblygu gyda rhieni yng Nghymru ac mae’n darparu cyngor sy’n hawdd ei gofio i’w helpu i beidio â chynhyrfu. Mae’n annog pobl i gymryd hoe—i oedi, i anadlu ac i ymateb yn ddigynnwrf wrth ymdrin â strancio, ymddygiad anodd neu sefyllfaoedd rhianta heriol eraill, megis amser bwyd a gwisgo—ac mae wedi’i gynllunio i gyd-fynd â’r cyngor a’r rhaglenni rhianta cadarnhaol sydd eisoes ar waith. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ategu fy nghroeso i ymgyrch y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant, sy’n ceisio rhoi hyder i rieni wneud penderfyniadau mwy gwybodus i’w galluogi i feithrin perthynas gadarnhaol ac iach gyda’u plentyn? Carl Sargeant AC: Gwnaf. Yn wir, cyfarfûm â’r Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant a chefais sesiwn friffio ar yr ymgyrch y maent wedi’i lansio. Ac rydych yn llygad eich lle, mae’n ategu ymgyrch TrafodMaguPlant a lansiwyd gennym fel Llywodraeth Cymru. Mae’n rhaid i ni barhau i weithio gyda’n gilydd yn rhagweithiol i gefnogi rhieni ar draws ein cymunedau, ac rwy’n ddiolchgar fod yr Aelod wedi crybwyll hyn heddiw. Angela Burns AC: Ysgrifennydd y Cabinet, gwn y byddwch yn cytuno â mi fod datrys problemau sy’n ymwneud ag ymlyniad yn gwbl hanfodol i sicrhau y gall pobl ifanc neu blant ifanc dyfu i fyny i fod yn unigolion cyflawn. Yn y Cynulliad diwethaf, lluniodd y pwyllgor plant a phobl ifanc adroddiad cryf iawn ar gymorth mabwysiadu a chymorth ar ôl mabwysiadu. Mae llawer o blant sy’n cael eu mabwysiadu neu ar fin cael eu mabwysiadu yn dioddef o broblemau ymlyniad, ac eto, rydym yn dal i glywed gan fabwysiadwyr a darpar fabwysiadwyr eu bod yn ei chael hi’n anodd iawn cael mynediad at hyfforddiant i’w helpu i ddysgu sut i rianta plant sydd ag anhwylder ymlyniad difrifol. Os ydym eisiau i’r plant hyn gael lle parhaol mewn cartrefi sefydlog a chariadus, mae’n rhaid inni helpu’r rhai sydd eisiau estyn allan at y plant hynny. Pryd y bydd eich Llywodraeth—. Neu beth y gall eich Llywodraeth ei wneud i helpu’r rhieni hyn ac i ddarparu’r hyfforddiant y maent ei angen i wneud yn siŵr eu bod, nid yn unig yn gallu mabwysiadu’r plant hyn, ond, pan fyddant yn eu mabwysiadu, fod y mabwysiadau hynny’n gadarn ac nad ydynt yn methu, fel y gwelais yn rhy aml gydag etholwyr yn fy etholaeth i? Carl Sargeant AC: Rwy’n rhannu pryder yr Aelod ynglŷn â hyn, ac rydym yn gwneud gwaith gyda David Melding, sy’n cadeirio grŵp cynghori i edrych ar ba mor eithriadol o agored i niwed yw pobl ifanc sydd wedi cael eu rhoi mewn gofal maeth neu wedi cael eu mabwysiadu, ac rydym yn chwilio am gyngor ar beth arall y gallwn ei wneud i helpu gyda hyn. Nid yw hyn bob amser yn ymwneud ag arian, gyda llaw. Mae hyn yn aml yn ymwneud â systemau cymorth—cyrff trydydd sector weithiau, neu gyrff sector cyhoeddus—yn gwneud yr hyn y maent yn ei ddweud ar y tun mewn gwirionedd, gan wneud yn siŵr ein bod yn cydnabod bod y bobl ifanc hyn yn hynod agored i niwed a gwneud gwaith dilynol ar y broses honno hefyd. Nid yw’n ymwneud â lleoliad yn unig; mae’n ymwneud â lleoliad a chymorth, ac mae’n rhywbeth rwy’n ymwybodol iawn ohono. Hysbysiadau o dan Adran 21 o Ddeddf Tai 1988 Dawn Bowden AC: 8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddefnyddio hysbysiadau a gyflwynir o dan adran 21 o Ddeddf Tai 1988 yng Nghymru? (OAQ51195) Carl Sargeant AC: Nid ydym yn casglu data penodol ar hysbysiadau adran 21. Fodd bynnag, rydym wedi cyflwyno gofynion newydd o ran eu defnydd, ac mae’n rhaid i landlordiaid fod wedi cofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru. Yn ogystal, bydd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn darparu amddiffyniad ychwanegol i ddeiliaid contractau ar ddefnydd o hysbysiadau landlordiaid. Dawn Bowden AC: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y byddwch yn ymwybodol, gellir cyflwyno hysbysiadau adran 21—yr hyn a elwir yn hysbysiadau troi allan ‘dim bai’—ar unrhyw adeg yn erbyn tenant nad yw wedi cael ei ddiogelu gan gontract cyfnod penodol. Gellir cyflwyno’r hysbysiad heb roi unrhyw reswm na phrawf a gall roi terfyn sydyn ar denantiaethau ac aflonyddu’n fawr ar fywydau tenantiaid. Nid yw’n syndod fod y cynnydd yn y defnydd o hysbysiadau adran 21 yn peri pryder i Shelter a sefydliadau tai a digartrefedd eraill. Gan fod hon yn ddeddfwriaeth ers cyn datganoli sy’n parhau’n gymwys yng Nghymru, a gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a fuasai’n ystyried adolygu gweithrediad adran 21 o Ddeddf Tai 1988, ac os bydd angen, yn datgymhwyso ei ddarpariaeth yng Nghymru er mwyn cael gwared ar yr annhegwch a darparu mwy o ddiogelwch i denantiaid o’r fath? Carl Sargeant AC: Roedd hyn yn destun trafodaeth hir wrth i ni arwain Deddf Tai (Cymru) 2014 drwy’r Cynulliad yn y tymor blaenorol. A gaf fi ddweud wrth yr Aelod y bydd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, wrth gadw’r gallu i landlord gyflwyno rhybudd o ddau fis, yn cynnig mwy o amddiffyniad i ddeiliaid contractau drwy broses y Ddeddf ar gyfer troi allan er mwyn dial? Felly, mae yna ran o’r Ddeddf sy’n amddiffyn tenantiaid hefyd. Ond rwyf wedi clywed yr Aelod ac rwyf wedi clywed ei barn gref, a byddaf yn ystyried hynny ymhellach gyda fy nhîm. David Melding AC: Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n cytuno â’r Aelod sydd newydd ofyn y cwestiwn fod angen edrych yn ofalus ar amddiffyn tenantiaid. Yn Lloegr, o ganlyniad i Ddeddf Dadreoleiddio 2015, ni all landlordiaid gyflwyno hysbysiadau adran 21 i breswylwyr os yw’r adeilad o safon wael ac os nad yw’n bodloni safonau deddfwriaethol. Ymddengys efallai fod hon yn ffordd briodol yn awr o reoleiddio’r maes hwn yng Nghymru hefyd. Carl Sargeant AC: Dyna’r sefyllfa ar hyn o bryd, gyda’r ymgynghoriad ar y person cymwys a phriodol a’r ymgynghoriad llety cymwys a phriodol sydd ar y gweill gennym. Tlodi Ymysg Plant Siân Gwenllian AC: 9. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi ymysg plant? (OAQ51207)[W] Carl Sargeant AC: Diolch. Mae ein strategaeth tlodi plant yn nodi ein hamcanion ar gyfer trechu tlodi plant. Rydym wedi ymrwymo i ddull Llywodraeth gyfan o drechu tlodi plant ac rydym yn cymryd camau i sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd. Siân Gwenllian AC: Mae’r defnydd o fanciau bwyd wedi codi dros 500 y cant, gyda thraean o’r defnyddwyr yn blant. Mae 31 y cant o blant yn byw mewn tlodi, ac mae yna 10 gwaith yn fwy o bobl yn derbyn sancsiynau ar hyn o bryd, â thystiolaeth bod y cynnydd yn y defnydd o fanciau bwyd yn uniongyrchol gysylltiedig efo sancsiynau a materion yn ymwneud â chredyd cynhwysol. A ydych chi’n cytuno bod angen trosglwyddo rheolaeth weinyddol dros fudd-daliadau o Loegr i Gymru? Rheolaeth weinyddol—nid y gallu i amrywio’r lefel na’r mathau o fudd-daliadau, ond y gallu i ddod â’r diwylliant o sancsiynau creulon i ben a’r gallu i greu cyfundrefn fwy trugarog a dynol yma yng Nghymru. Carl Sargeant AC: Nid wyf yn anghytuno’n llwyr â’r Aelod o ran dod â’r weinyddiaeth i Gymru. Fodd bynnag, yr hyn sy’n peri pryder i mi yw anallu Llywodraeth y DU i gynnal hynny gyda’r cyllid priodol y tu ôl iddo. Rwy’n credu y buaswn yn awyddus iawn i gael trafodaethau pellach. Mae’r Prif Weinidog wedi bod yn glir iawn ynglŷn â phwerau’n dod i’r Cynulliad heb gyllid i’w cefnogi. Rwy’n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn ac mae hi’n gywir i ddweud fy mod yn credu mai credyd cynhwysol yw un o’r pethau sy’n gwthio pobl i mewn i dlodi yn ein cymunedau. Suzy Davies AC: Dylai pob un o gynghorwyr ein hawdurdodau lleol, wrth gwrs, ystyried cyfiawnder cymdeithasol wrth wneud unrhyw benderfyniadau, ond tybed a yw’n debygol y byddwch yn croesawu penodiad penodol yr hyrwyddwr cyfiawnder cymdeithasol yng Nghyngor Sir Fynwy. Dyma unigolyn sydd wedi cael y gwaith o sicrhau bod y cysyniad cyfan yn drawsbynciol drwy’r holl broses o wneud penderfyniadau. Fy hun, buaswn yn fwy na balch pe bai’n ystyried hynny er mwyn gwneud yn siŵr fod erthyglau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn rhan o’i gwaith. Rwy’n meddwl tybed a ydych yn credu bod yr amser wedi dod yn awr i wneud yn siŵr fod erthygl 12 yn benodol, ond pob agwedd ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, yn orfodol yn ein gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys awdurdodau lleol. Carl Sargeant AC: Wel, mae hwnnw, unwaith eto, yn destun trafodaeth hirsefydlog arall yn y Cynulliad hwn. Buaswn yn eithaf awyddus i drafod y mater ymhellach gyda’r Aelod ac eraill i wneud yn siŵr mai dyma’r peth iawn i’w wneud. Yr hyn sy’n fy mhryderu am hyrwyddwyr mewn sefydliadau yw mai bathodyn neu deitl ydyw yn aml. A dweud y gwir, yr hyn rwy’n awyddus iawn i’w wneud yw sicrhau bod yr hyrwyddwyr hynny’n troi eu dyletswydd yn gamau gweithredu. Rydym yn gweld hynny mewn sawl ffordd, ac rwyf wedi fy nghalonogi gan bwynt yr Aelod ynglŷn â’r cyngor penodol y mae’n ei grybwyll, gyda hyrwyddwr cyfiawnder cymdeithasol yn y sefydliad hwnnw. Rwy’n dymuno’n dda iddi. Credyd Cynhwysol Steffan Lewis AC: 10. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o gyflwyno credyd cynhwysol yng Nghymru? (OAQ51186) Carl Sargeant AC: Rwy’n bryderus iawn am effaith ddinistriol y credyd cynhwysol ar y rhai sy’n aros am chwe wythnos neu fwy am eu taliadau cyntaf. Rwyf wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau yn galw arno i oedi cyn cyflwyno gwasanaeth llawn y credyd cynhwysol. Steffan Lewis AC: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb, ac mae’n dilyn ymlaen o ateb a roddodd i’r Aelod dros Arfon y prynhawn yma. Gwn y bydd yn cytuno’n llwyr fod credyd cynhwysol yn fwy na llanast gwleidyddol yn unig; mae’n greulon ac mae’n achosi caledi go iawn. Mae cost ffonio llinellau cymorth wedi cael sylw yn rheolaidd, fel y mae mater allweddol amlder taliadau. Nawr, nid wyf yn amau didwylledd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei wrthwynebiad i ddiwygio lles yn fwy cyffredinol. Gwn ei fod yn gwirioneddol wrthwynebu’r drefn gosbi greulon yn ogystal, ond ni allaf ddeall yn fy myw, felly, pam na wnaiff gymryd cam arall ymlaen, o leiaf, ac edrych ar ddichonoldeb sefydlu cronfa cydsefyll cymdeithasol yng Nghymru a allai ddechrau cyllido mesurau lliniaru, ac ystyried model gweinyddu lles datganoledig ar yr un pryd—oherwydd gadewch i ni gofio, ni yw’r unig wlad ar yr ynysoedd hyn lle nad yw gweinyddu lles wedi’i ddatganoli—fel y gallwn wneud iddo weithio ar gyfer Cymru, ac yn hytrach na gorfod protestio wrthynt yn Llundain i newid eu ffyrdd, gallwn wneud rhywbeth mwy dynol dros ein dinasyddion yma. Carl Sargeant AC: Rwy’n ddiolchgar am gwestiwn yr Aelod. Rwy’n wirioneddol—. Pan fyddaf yn cael cwestiynau, mae’r Aelod yn codi’r mater hwn yn rheolaidd, ac mae hynny’n galonogol o ran ei ymrwymiad hefyd. Y ffaith amdani yw ein bod yn gwneud llawer o bethau sy’n lliniaru’r problemau a’r effeithiau sy’n digwydd o ganlyniad i benderfyniadau San Steffan, ond fel y dywedais yn gynharach, mae gwneud yn siŵr fod gennym y cyllid i gefnogi gweinyddiaeth y broses hon yn bwysig. Mae’n rhaid inni wneud yn siŵr fod cymryd cyfrifoldeb yn gredadwy, drwy ein bod yn gallu gweithredu’n gadarnhaol i gefnogi’r unigolion y mae hyn yn effeithio arnynt. Ar hyn o bryd, cyfrifoldeb Llywodraeth y DU ydyw, ac rydym yn dweud yn glir iawn nad yw’r broses credyd cynhwysol yn gweithio i bobl a bod y ffordd y mae’n cael ei weithredu’n beryglus. Caethwasiaeth Fodern Vikki Howells AC: 11. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o raddfa a chwmpas chaethwasiaeth fodern yng Nghymru? OAQ51200) Carl Sargeant AC: Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Heddiw yw Diwrnod Gwrth-Gaethwasiaeth, ac mae digwyddiadau a gweithgareddau gwrth-gaethwasiaeth yn digwydd ledled Cymru i godi ymwybyddiaeth o hyn. Drwy godi ymwybyddiaeth a gwella lefelau adrodd gellir dwyn troseddwyr o flaen eu gwell, ac yn hollbwysig, gellir cynnig cefnogaeth i ddioddefwyr. Vikki Howells AC: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae cod ymarfer ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cyfleoedd cyflogaeth moesegol ymhlith busnesau sy’n cael cyllid cyhoeddus yn cynnig nodau clir ar gyfer sut y gall y sector preifat helpu i ddod â chaethwasiaeth fodern i ben. Nawr, mae busnesau fel y Co-operative Group yn arwain y frwydr drwy gynnig lleoliadau gwaith â thâl i ddioddefwyr caethwasiaeth fodern drwy eu rhaglen ‘Bright Future’ a sicrhau nad oes lle i weithwyr wedi’u masnachu yn eu cadwyni cyflenwi. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud yn fwy cyffredinol i sicrhau bod y cod yn cael ei ddilyn gan fusnesau sy’n derbyn cyllid cyhoeddus, a pha waith sy’n cael ei wneud i annog Llywodraeth San Steffan i ddilyn ein hesiampl? Carl Sargeant AC: Wel, mae’r Aelod yn iawn: mae’r cod yn torri tir newydd i Gymru, ynghyd â llawer o bethau eraill, ac yn torri tir newydd i’r DU. Gyda’r canllawiau atodol, mae’n darparu modd ymarferol i fynd i’r afael ag arferion annheg, anfoesol ac anghyfreithlon, gan gynnwys caethwasiaeth fodern. Fodd bynnag, yr Aelod arweiniol ar hyn yw fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol. Byddaf yn gofyn iddo ysgrifennu atoch gyda manylion penodol yn ymwneud â’r cod a’i weithrediad. Mark Isherwood AC: Mynegwyd pryderon wrthyf fod masnachu pobl drwy borthladd Caergybi yn gwaethygu, ond nad oes digon o’r dioddefwyr sy’n daer eisiau cael eu canfod yn cael eu canfod, ac er gwaethaf hyn, mae wedi bod yn amhosibl cael y chwe chynrychiolydd sirol yng ngogledd Cymru o gwmpas y bwrdd hyd yn hyn. Sut yr ydych yn ymateb felly i ganfyddiadau adroddiad proffil lleol troseddau difrifol a threfnedig Heddlu Gogledd Cymru ar gaethwasiaeth fodern sy’n dweud bod yna dystiolaeth o grwpiau troseddu cyfundrefnol yn gweithredu yng ngogledd Cymru drwy fasnachu dioddefwyr drwy borthladd Caergybi i Iwerddon neu gyflogi dioddefwyr mewn salonau ewinedd neu buteindai dros dro, a thystiolaeth o grwpiau yng ngogledd Cymru, wedi’u clymu gan gysylltiadau teuluol, sy’n targedu dynion agored i niwed ar gyfer gwaith llaw a chanfasio? Carl Sargeant AC: O, credwch fi, mae masnachu pobl yn fyw yn y DU, a ni yw’r unig ran o’r wlad sydd â chydgysylltydd atal masnachu pobl. Mae fy nhîm yn gweithio’n hynod o galed gyda’r heddlu ac asiantaethau eraill i sicrhau ein bod yn ceisio cadw golwg ar y mater hwn, ond rydym yn rhan o ynys fwy o faint. Buaswn yn annog yr Aelod ac Aelodau eraill i siarad â rhannau eraill o weinyddiaethau’r DU i ddod ynghyd a chreu cydgysylltwyr atal masnachu pobl ar hyd a lled y DU er mwyn sicrhau y gallwn fynd i’r afael â’r problemau y mae’r Aelod yn gywir yn eu codi mewn perthynas â masnachu pobl. Joyce Watson AC: Ddoe, cawsom gyfarfod o amgylch y bwrdd, ac roedd yr ystafell yn llawn o arbenigwyr ym maes rhoi diwedd ar fasnachu pobl neu gaethwasiaeth yng Nghymru. Un o’r materion a gododd dro ar ôl tro oedd y cyfnod o 45 diwrnod sydd gan ddioddefwyr i brofi eu hachos a chwblhau’r mecanwaith atgyfeirio cenedlaethol a’r awydd i wneud hwnnw’n gyfnod llawer hwy, yn 60 diwrnod fan lleiaf. Gwn mai gan Lywodraeth y DU y mae’r pwerau, Ysgrifennydd y Cabinet, ond mae cais clir gan yr holl arbenigwyr yng Nghymru i chi ofyn i Lywodraeth y DU ystyried ymestyn hwnnw, oherwydd ni chynigir unrhyw help na chymorth o gwbl i unigolion nes eu bod wedi cwblhau’r mecanwaith atgyfeirio cenedlaethol. Mater i’r cyrff anllywodraethol yw cynnig unrhyw loches, unrhyw help, unrhyw gymorth o gwbl ar ôl y 45 diwrnod. Carl Sargeant AC: Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod am ddwyn y mater i fy sylw. Byddaf yn gofyn i fy nghydgysylltydd atal masnachu pobl gyfarfod â’r Aelod er mwyn iddi egluro hynny iddo, a byddaf yn gweithredu’n unol â’i gyngor. Ac yn olaf, cwestiwn 12—Huw Irranca-Davies. Llwybr Tai Cenedlaethol ar Gyfer Cyn-aelodau’r Lluoedd Arfog Huw Irranca-Davies AC: 12. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y llwybr tai cenedlaethol ar gyfer cyn-aelodau’r lluoedd arfog? (OAQ51183) Carl Sargeant AC: Diolch i’r Aelod dros Ogwr am ei gwestiynau. Lansiais y llwybr cenedlaethol ar gyfer cyn-aelodau’r lluoedd arfog ym mis Tachwedd 2016. Rydym yn parhau i hyrwyddo’r dull drwy gyhoeddi taflenni, posteri a chardiau cyngor yn ddiweddar, fel y gall unrhyw un sydd angen llety gael mynediad at y cymorth y maent ei angen. Huw Irranca-Davies AC: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw. Wrth lansio’r llwybr hwn, sy’n engraifft wych o arloesedd, rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet lawer o bwyslais ar yr angen am gydweithio effeithiol gyda chonsortia tai, gyda’r awdurdodau lleol, pwyllgorau cydweithredol rhanbarthol, byrddau iechyd lleol ac asiantaethau darparu eraill. Felly, cyn belled â hyn ar hyd y llwybr, a allai roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â pha mor effeithiol yw’r cydweithio hwnnw ac a yw’n gweld cysondeb da o ran cydweithredu ledled Cymru, yn hytrach nag amrywio ar sail cod post? Carl Sargeant AC: Rwy’n credu mai’r hyn a welwn yw ein bod yn dysgu o brofiad. Dywedais wrth Vikki Howells yn gynnar ynglŷn ag ymdrin â chyn-aelodau’r lluoedd arfog—mae’n broses amrywiol am fod anghenion pawb yn wahanol. Mae’n rhaid inni ddeall hynny’n well. Yr hyn yr ydym yn falch iawn ohono gyda’r llwybr tai yw bod awdurdodau lleol a chymdeithasau tai’n wynebu’r her yn hyn o beth ac yn gweithio’n dda iawn i helpu cyn-aelodau’r lluoedd arfog a chyn-filwyr gyda’u hanghenion, yn ogystal ag anghenion teuluoedd aelodau’r lluoedd arfog hefyd. Felly, rwy’n gweld canlyniadau gwych a chadarnhaol ar draws Cymru. Rwyf wedi ymweld â rhai o’r sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau i gyn-aelodau o’r lluoedd arfog hefyd. Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet. 3. 3. Cwestiynau Amserol Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg. A’r eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r cwestiynau amserol. Y cwestiwn cyntaf—Angela Burns. Yswiriant Meddygol Meddygon Teulu Angela Burns AC: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o ran cyflwyno ateb tymor hir i’r costau yswiriant meddygol uchel sy'n wynebu meddygon teulu yng Nghymru?(TAQ0053) Vaughan Gething AC: Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Rydym yn parhau i gael sgwrs adeiladol gyda Chymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yng Nghymru ynglŷn â chost uchel yswiriant indemniad. Rydym wedi cytuno â hwy i adolygu sut y mae’r farchnad yn gweithredu yng Nghymru ar hyn o bryd er mwyn helpu i lywio ein hopsiynau ar gyfer camu ymlaen. Mae’r Llywodraeth hon yn parhau’n ymrwymedig i ddod o hyd i ateb sy’n gweithio i feddygon teulu yng Nghymru. Angela Burns AC: Ysgrifennydd y Cabinet, nid wyf yn amau eich ymrwymiad i ddod o hyd i ateb. Y drafferth yw eich bod wedi bod yn chwilio am yr ateb hwnnw ers dros ddwy flynedd, os nad mwy. Nid ydych yn cynnig unrhyw linell amser, unrhyw derfyn amser nac unrhyw ymrwymiad i ateb wedi’i gefnogi gan y wladwriaeth nac unrhyw atebion. Y mater dan sylw yw bod yn rhaid i feddygon teulu dalu am ddwy elfen o yswiriant. Ceir cyfradd osod gymharol sefydlog am gyngor a chymorth proffesiynol a chyfradd newidiol ar wahân ar gyfer yswiriant esgeuluster meddygol clinigol. Mae newidiadau i’r model yswiriant esgeulustod clinigol wedi gwneud yr yswiriant hwn yn hynod o ddrud ac mae’n rhwystro llawer o feddygon teulu sydd dan gontract rhag cynyddu eu horiau ar adegau o angen megis yn ystod pwysau’r gaeaf neu gamu i mewn i helpu practis arall pan fydd meddyg teulu wedi ymddiswyddo, wedi marw neu wedi ymddeol. Mae cronfa risg Cymru’n gwrthbwyso yswiriant ar gyfer practisau a reolir, locymau a gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau. Ysgrifennydd y Cabinet, er bod hwn yn gam i’w groesawu, trwy wneud hanner y gwaith yn unig drwy fynd i’r afael â hanner y gweithlu, rydych mewn perygl o ansefydlogi ymarfer meddygol. Rwy’n derbyn ei fod yn ganlyniad anfwriadol, ond rwy’n credu bod hyn yn amlygu pam y mae angen i chi weithredu’n gyflym, oherwydd mae’n gwneud gyrfa fel meddyg teulu mewn practis yn llawer llai deniadol.Byddai’r cyhoeddiad diweddar gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd yn Lloegr—cyhoeddiad a gafodd ei groesawu—y bydd meddygon teulu yn Lloegr yn cael eu diogelu gan ateb wedi’i gefnogi gan y wladwriaeth yn gallu arwain at ddenu mwy o feddygon teulu o Gymru. O ystyried y gwahaniaeth rhwng enillion meddygon teulu yng Nghymru ac enillion meddygon teulu yn Lloegr, mae’n bosibl mai dyma fydd yr hoelen olaf yn yr arch. Felly, mae gennym sefyllfa yng Nghymru lle’r ydych wedi bod yn chwilio am ateb; rydych wedi bod yn chwilio ers amser hir iawn. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch ddweud wrthym pryd y byddwch yn cyflwyno rhyw fath o gynnig os gwelwch yn dda, fel y gallwn geisio sicrhau nad ydym yn colli’r meddygon teulu yr ymdrechwyd mor galed i’w cael? Mae angen inni sicrhau eu bod yn aros gyda ni. Mae angen i ni gael gwared ar y gwahaniaeth rhwng bod yn feddyg teulu mewn practis a bod yn feddyg teulu sy’n gweithio i’r bwrdd iechyd, sy’n locwm neu sy’n gweithio i’r gwasanaethau y tu allan i oriau, ac mae angen inni sicrhau nad ydynt yn llithro ar draws y ffin. Rwy’n credu y gallai hyn ddadwneud llawer iawn o’r gwaith da y gwn eich bod wedi ceisio’i wneud ar recriwtio a chadw meddygon teulu yn y wlad hon. Vaughan Gething AC: Mae nifer o bwyntiau i ymateb iddynt yn y fan honno. Mae’n werth atgoffa ein hunain fod yswiriant indemniad yn broblem gyffredinol ar draws y DU, ac mae wedi bod yn broblem ers peth amser. Mae’r angen i wneud rhywbeth yn ei gylch wedi cael ei brysuro gan y cyhoeddiad a wnaed gan yr Arglwydd Ganghellor ar y pryd ar gyfradd ddisgownt niwed personol. Mae yna wahaniaeth rhwng y bobl sy’n gweithio’n uniongyrchol i’r byrddau iechyd a rôl cronfa risg Cymru, a’r rhai sy’n gweithio fel contractwyr annibynnol, ac mae angen i ni gydnabod hynny. Felly, nid yw hwn yn rhywbeth lle y mae yna ateb hawdd ac y bydd mynnu cynnydd yn awr yn darparu’r ateb. Wrth ymrwymo i linell amser ar gyfer ein sefyllfa, rydym yn cyflawni dadansoddiad priodol o’r farchnad mewn gwirionedd. Rydym wedi cytuno i benodi rhywun i wneud hynny ar ein rhan. Rwy’n disgwyl y bydd adroddiad yn cyrraedd y Llywodraeth erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon, a bydd hynny wedyn yn caniatáu i ni gael sgwrs fanylach am opsiynau wrth symud ymlaen.Gwn eich bod wedi gwneud y pwynt ynglŷn â pheidio ag ymrwymo i ateb a gefnogir gan y wladwriaeth. Y rheswm am hynny yw nad wyf mewn sefyllfa i wneud hynny. Mae’r cyhoeddiad a wnaeth Jeremy Hunt ar ateb a gefnogir gan y wladwriaeth yn un na chafodd ei weithio allan yn llawn. Mae’r cyhoeddiad wedi’i wneud gyda 12 i 18 mis i ddeall beth y mae hynny’n ei olygu, ac nid ydym yn gwybod beth y mae hynny’n ei olygu i ni yng Nghymru, nac yn yr Alban nac yng Ngogledd Iwerddon, gan nad ydym wedi cael y cyfleuster i ddeall yr hyn y mae hynny’n ei olygu o ran ‘ateb a gefnogir gan y wladwriaeth’; nid oes gennym y pŵer i wneud hynny yma. Os yw’n mynd i fod yn ateb a gefnogir gan y wladwriaeth a fydd yn darparu adnoddau gyda’r wladwriaeth yn sefyll y tu ôl i feddygon teulu yn Lloegr, mae angen i ni wneud yn siŵr fod y cyfleusterau hynny ar gael ym mhob gwlad ddatganoledig. Ac wrth gwrs, ers y cyhoeddiad cyntaf mae hefyd wedi bod yn amlwg y gallai fod angen i feddygon teulu ychwanegu at eu premiymau eu hunain beth bynnag. Felly, nid oes sefyllfa benodol fel sy’n bodoli yn Lloegr, ond un sy’n ansicr yma yng Nghymru’n unig. Dros yr amser y byddwn yn gweithio ar hyn, rwy’n disgwyl i ni gael ateb o ran pa opsiynau sy’n bodoli yng Nghymru dros yr un amserlen yn union ag y bydd pobl yn symud o fewn Lloegr, ac mae’n bwysig fod meddygon teulu yn deall y neges honno. Dyna pam rwy’n falch i ailadrodd ein bod wedi gweithio ac yn parhau i weithio’n adeiladol gyda Chymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol. Ysgrifennais atynt ar adeg y cyhoeddiad, ac wrth gwrs, byddaf yn dod yn ôl i roi gwybod i’r Aelodau pan fydd cynnydd go iawn i’w adrodd. Ond mae hwn yn fater rwyf o ddifrif yn ei gylch, ac rwy’n cydnabod yr amserlenni ar gyfer gweithredu. Caroline Jones AC: Mae’r cyhoeddiad a wnaed ddydd Iau diwethaf gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd mewn perthynas â threfniadau indemniad ar gyfer meddygon teulu yn Lloegr yn creu her bosibl i Gymru. Mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd yn bwriadu cyflwyno cynllun indemniad a gefnogir gan y wladwriaeth ar gyfer ymarfer meddygol yn Lloegr, ac mae hefyd wedi datgan bod y trefniadau indemniad yn fater sydd wedi’i ddatganoli. Felly, mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd wedi cyflwyno’r posibilrwydd y bydd trefniadau indemniad gwahanol iawn i feddygon teulu yn Lloegr o gymharu â Chymru. Felly, yng ngoleuni’r prinder meddygon teulu ar hyn o bryd, mae hwn yn newyddion sy’n peri pryder mewn gwirionedd.Os yw trefniadau indemniad meddygon teulu yn y dyfodol yn fwy deniadol yn Lloegr nag yng Nghymru, gallai darpariaeth meddygon teulu yng Nghymru wynebu sawl her. Un her fyddai’r posibilrwydd y byddai meddygon teulu sy’n gweithio yng Nghymru ar hyn o bryd yn symud i ymarfer yn Lloegr. A fyddai graddedigion hefyd yn teimlo bod ymarfer yn Lloegr yn gynnig mwy deniadol? Yn ei ddatganiad ddydd Iau diwethaf, dywedodd y byddai ei adran yn parhau i gysylltu â’r gweinyddiaethau datganoledig ynglŷn â darpariaeth indemniad meddygon teulu. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi sicrhau bod yr addewid hwn yn cael ei gadw, ac a wnewch chi dynnu sylw at yr heriau penodol sy’n ein hwynebu yng Nghymru? Ar ben hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymrwymo i gynnal trafodaethau gyda chynrychiolwyr meddygon teulu, gan gynnwys Cymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, ynglŷn â’r heriau penodol a wynebwn mewn perthynas â chynlluniau indemniad meddygon teulu yng Nghymru, y broblem recriwtio a chadw meddygon yng Nghymru, ac yng ngoleuni’r cynllun a gefnogir gan y wladwriaeth sy’n cael ei gynnig yn Lloegr, a fydd, rwy’n credu, yn gwaethygu’r problemau sydd gennym yng Nghymru? Diolch. Vaughan Gething AC: Rwy’n hapus i ailadrodd ein bod, wrth gwrs, yn ymgysylltu â Chymdeithas Feddygol Prydain, drwy eu pwyllgor ymarferwyr cyffredinol yng Nghymru, a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol hefyd. Rydym wedi bod yn ymgysylltu â hwy mewn trafodaeth ystyrlon cyn y cyhoeddiad hwn. Ac wrth gwrs, bydd trafodaethau’n parhau gyda Llywodraeth y DU. Ond gyda phob parch i’r sylwadau a wnaed am y posibilrwydd fod meddygon teulu yn Lloegr mewn sefyllfa fwy manteisiol, neu’r cwestiynau a’r sylwadau blaenorol ynglŷn â bod eglurder yn Lloegr, nid yw hynny’n wir. Yn sicr nid oes eglurder yno. Mae hwn yn gyhoeddiad ynghylch cyfeiriad teithio a dweud y gellid cael cynllun a gefnogir gan y wladwriaeth. Nid yw manylion yr hyn y mae’n ei olygu mewn gwirionedd wedi cael eu gweithio allan ac nid ydynt yn glir i gynrychiolwyr meddygon teulu yn Lloegr nac yn unrhyw un o’r gwledydd datganoledig.Ac nid yw’r her hon ynglŷn â beth yn union a olygir wrth gynllun a gefnogir gan y wladwriaeth yn glir o gwbl. Os yw’r wladwriaeth, y DU, yn mynd i gefnogi cynllun yn Lloegr, ond nid yn y gwledydd datganoledig, byddai honno’n broblem fawr iawn, ac nid wyf yn credu am eiliad y byddai Cymdeithas Feddygol Prydain yn ymrwymo i gynllun sy’n rhoi mantais i ymarferwyr yn Lloegr yn unig ond nid eu haelodau yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban neu Gymru. Mae angen cael sgwrs aeddfed ynglŷn â beth y mae hyn yn ei olygu, beth yw ein hopsiynau yma yng Nghymru, sut y mae pa ateb bynnag sydd gennym yn cyd-fynd ag anghenion ein hymarferwyr yma yng Nghymru a’r cyhoedd a wasanaethir ganddynt, ond sicrhau i’r un graddau na ddefnyddir y wladwriaeth i roi mantais benodol i un rhan o’r Deyrnas Unedig dros y rhannau eraill. A byddwn wedi meddwl y byddai pobl ym mhob plaid yn cydnabod mai dyna yw’r safbwynt i ni ei fabwysiadu a’i ddisgwyl er mwyn dwyn Llywodraeth y DU i gyfrif—mai dyna’n sicr yw safbwynt meddygon teulu eu hunain ym mhob gwlad ar draws y DU. Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet. Mae’r cwestiwn nesaf gan Simon Thomas. Diogelu Plant ym Mhowys Simon Thomas AC: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am adroddiad diweddar Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru am ddiogelu plant ym Mhowys? (TAQ0054) Rebecca Evans AC: Rhaid i ddiogelu plant fod yn flaenoriaeth uchaf i gyrff cyhoeddus. Amlygodd adroddiad AGGCC bryderon difrifol, ac rwyf wedi cyhoeddi hysbysiad rhybuddio i Gyngor Sir Powys. Cafodd ei gyflwyno gerbron y Cynulliad ddoe, ac rwyf hefyd wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig. Rwy’n disgwyl gwelliant cyflym, neu fe roddir camau ymyrryd mwy uniongyrchol ar waith. Simon Thomas AC: Diolch i’r Gweinidog am yr ateb ac am y cyfle i drafod y materion hyn gyda hi ddoe. Ers i’r datganiad gael ei wneud ddoe, a’r cwestiynau gen i hefyd i’r Prif Weinidog, mae yna gwpwl o gwestiynau wedi codi yn ymateb Powys i’r sefyllfa yma. A gaf i ofyn yn gyntaf, felly, yn benodol, pa gamau y mae’r Llywodraeth naill ai’n eu cymryd, neu’n diogelu sy’n cael eu cymryd, i sicrhau bod y gwasanaethau yn ddiogel yn ystod yr 20 diwrnod nesaf? Rwy’n gwybod eich bod chi’n disgwyl ac yn erfyn gweld cynllun gweithredu o fewn 20 diwrnod, ond beth sy’n cael ei wneud nawr gan fod yr adroddiad yn dweud bod yna berygl i blant ym Mhowys? Ac felly, beth sy’n cael ei wneud yn yr 20 diwrnod nesaf?Yr ail beth, os caf i jest ofyn: neithiwr, ar y cyfryngau, roedd Cyngor Sir Powys yn ymateb i’r sefyllfa gan ddweud bod y ffigurau a oedd gyda nhw o ran rheoli’r gwasanaethau o bosibl wedi cael eu ffugio a’u bod nhw wedi trafod hyn â’r heddlu. A oes gyda chi unrhyw wybodaeth y gallwch chi ei rhannu â’r Cynulliad ynglŷn ag a ydy’r ffigurau yma yn rhai cywir, yn seiliedig ar y gwasanaethau, a pha gwestiynau y mae hyn yn eu gofyn ynglŷn â gwasanaethau ehangach ym Mhowys? Os oes yna honiad fod ffigurau gwasanaethau cymdeithasol plant yn cael eu ffugio, beth y mae hynny’n ei ddweud am wasanaethau i oedolion ac i’r henoed? Ac felly, yn y cyd-destun yna, pa gamau ydych chi’n eu cymryd fel Gweinidog i sicrhau diogelwch yn y gwasanaethau cymdeithasol ehangach ym Mhowys?Ac yn olaf, roedd Powys hefyd yn datgan yn gyhoeddus y byddai mynd i’r afael â’r broblem yma yn costio £4 miliwn iddyn nhw. A ydych chi’n ddiogel eich meddwl bod gyda nhw’r arian a’r adnoddau digonol i wneud hyn? Rebecca Evans AC: Diolch yn fawr am y cwestiynau hynny, a hefyd am y cyfle i ddod â’r mater hwn i lawr y Cynulliad heddiw. Fel y dywedwch, rhaid i ddiogelu plant sy’n agored i niwed fod yn brif flaenoriaeth, ac roedd yn sicr yn flaenoriaeth i mi pan ddeuthum yn ymwybodol o’r sefyllfa gyntaf, a hynny wedi i nodyn cyfrinachol gael ei gyflwyno, mewn gwirionedd, gan brif arolygydd AGGCC, ac mae’n sicr yn adlewyrchu difrifoldeb yr adroddiad arolygu. Mae’n anarferol iawn, yn sicr yn ddigynsail yn fy amser yn y swydd hon, i gamau gweithredu o’r fath gael eu rhoi ar waith. Felly roedd yn sicr yn flaenoriaeth i fodloni fy hun, hyd yn oed cyn i’r adroddiad gael ei dderbyn yn ffurfiol gan Bowys, fod plant ym Mhowys yn ddiogel, a mynnais fod camau gweithredu’n cael eu rhoi ar waith ar unwaith. Er enghraifft, mae Powys wedi ymateb drwy archwilio achosion a chofnodion a rhaglen sicrwydd yn seiliedig ar risg mewn perthynas â diogelu, ac maent wedi dod â chwmni allanol i mewn i wneud y gwaith hwnnw.Maent hefyd wedi cynyddu eu hadnoddau staff a rhoi rhaglen arweinyddiaeth ac ymddygiadau ar waith, ac mae holl aelodau’r cabinet yn awr ar y pwyllgor rhianta corfforaethol. Felly, maent wedi rhoi rhai camau cynnar ar waith, ond ar bob cam rwyf wedi gofyn am sicrwydd gan y prif weithredwr ac arweinydd y cyngor fod plant ym Mhowys yn ddiogel yn eu barn hwy, a rhoesant y sicrwydd hwnnw i mi’n fwyaf diweddar pan gyfarfûm â hwy ddydd Gwener diwethaf i roi rhybudd ymlaen llaw iddynt am y camau y byddem yn eu cymryd mewn perthynas â’r hysbysiad rhybuddio.Fe sonioch fod Powys wedi cyfeirio mater posibl yn ymwneud â cham-drin rheoli perfformiad i’r heddlu. Mae’n rhaid i mi ddweud wrthych nad wyf fi nac AGGCC wedi cael unrhyw rybudd blaenorol ynglŷn â’r mater hwn gan Gyngor Sir Powys, felly roeddwn yn siomedig ac yn synnu clywed am hynny yn y cyfryngau. Mater i Gyngor Sir Powys ei ystyried yw hwn, ac wrth gwrs, mae’n fater i’r heddlu yn awr, felly ni fuasai’n briodol i mi wneud unrhyw sylw pellach ar hynny ar hyn o bryd, ond fe wnaf ddweud, wrth gwrs, ein bod yn ystyried y goblygiadau o ran yr ystadegau a gyhoeddir gennym a’r rhai sydd i’w cyhoeddi gennym yn dilyn y cyhoeddiad ddoe fod yr heddlu’n ymchwilio i’r materion posibl yn ymwneud â cham-drin data ym Mhowys.O ran gwasanaethau yn ehangach, rwy’n deall bod gan Estyn rywfaint o bryderon ynglŷn ag addysg, a bod Powys yn ddarostyngedig i’r broses gynhadledd achos sydd ganddynt. Yn wyneb y pryderon sydd gennyf am wasanaethau plant ym Mhowys, rwyf wedi gofyn i AGGCC gynnal eu harolwg o wasanaethau cymdeithasol i oedolion yn gynt. Roedd i fod i’w gynnal yn y gwanwyn y flwyddyn nesaf, ond rwyf wedi gofyn iddynt ei gynnal cyn hynny, a bydd Powys yn cael chwe wythnos o rybudd ynglŷn â pha bryd y bydd hynny’n digwydd.Rwy’n deall hefyd fod Cyngor Sir Powys wedi awgrymu y bydd gwelliannau i wasanaethau plant yn costio tua £4 miliwn, ac rwy’n deall y bydd arian a dynnwyd yn flaenorol o’r gyllideb gwasanaethau plant yn cael ei adfer o gronfeydd wrth gefn y cyngor i dalu’r arian hwnnw. Russell George AC: Buaswn yn cytuno â chi, Weinidog, fod adroddiad AGGCC ar wasanaethau plant ym Mhowys yn fater difrifol tu hwnt. Mae’n adroddiad damniol ac yn anghysurus i’w ddarllen, ac mae’n tynnu sylw at nifer o fethiannau hanesyddol sydd wedi golygu bod diogelwch a lles plant wedi cael eu peryglu.Mae’r adroddiad yn codi nifer o bryderon difrifol iawn am adran gwasanaethau plant Cyngor Sir Powys, ac mae’n yn dweud bod yr adran wedi gosod plant mewn perygl o niwed. Nodaf eich bod wedi dweud heddiw eich bod wedi cael sicrwydd eich hun gan brif weithredwr ac arweinyddiaeth y cyngor sir fod plant yn ddiogel yn awr, ond a gaf fi ofyn: a ydych chi eich hun yn fodlon fod plant yn ddiogel ar hyn o bryd?Os oes gan deuluoedd sydd wedi ymwneud ag adran gwasanaethau plant y cyngor bryderon i’w lleisio yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad ddoe, pa gamau y buasech chi’n awgrymu eu bod yn eu cymryd? A ddylent godi hyn yn uniongyrchol gydag AGGCC, neu gyda Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol, neu drwy Aelodau’r Cynulliad, neu’n wir drwy Gyngor Sir Powys? Os oes mecanwaith i roi gwybod am unrhyw faterion drwy Gyngor Sir Powys, a fuasech yn cytuno â mi na fyddai’n briodol iddynt fynegi pryderon drwy’r gwasanaeth plant ei hun? Nid yw’r adroddiad yn awgrymu bod unrhyw broblemau cyllido neu doriadau o fewn y maes gwasanaeth yn sgil ei fethiannau, ond rwy’n gweld yr adroddiad heddiw hefyd am £4 miliwn o arian ychwanegol a ryddhawyd. A gaf fi ofyn: a oes unrhyw ymrwymiad y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud mewn perthynas â chefnogaeth ariannol i’r gwasanaeth arbennig hwnnw gan Lywodraeth Cymru?Roeddwn innau hefyd yn siomedig o glywed nad oedd y cyngor wedi dwyn unrhyw drafodaethau a gafodd gyda’r heddlu i’ch sylw. Fel y gwelsom mewn adroddiadau heddiw, nodaf fod y wybodaeth yr adroddwyd yn ei chylch yn dweud bod Cyngor Sir Powys wedi siarad â’r heddlu. Nid yw’n dweud bod yr heddlu’n ymchwilio i unrhyw fater. Gweinidog, a gaf fi ofyn i chi gyflwyno sylwadau ffurfiol i’r cyngor sir—yn sicr, byddaf yn ei wneud fy hun fel Aelod Cynulliad lleol, ond yn ffurfiol, chi eich hun, fel Gweinidog—i ofyn i’r cyngor sir beth yn union y maent yn siarad â’r heddlu yn ei gylch a chael gwybod a oes ymchwiliad ffurfiol ar y gweill ai peidio? Fy marn i, yn sicr, yw y dylai’r gwasanaeth gael ei adeiladu o’r newydd, a bydd arweinyddiaeth yn allweddol yn hynny. A oes gennych unrhyw asesiad o brofiad y cyfarwyddwr dros dro newydd sydd wedi ei benodi? A oes unrhyw drefniadau ar waith i annog staff sydd â phryderon i ddod ymlaen heb ofni unrhyw ganlyniad negyddol? Ac yn olaf, er bod yr adroddiad yn hynod feirniadol o arweinyddiaeth adrannau’r cyngor, dylid nodi hefyd fod yr adroddiad wedi canmol ymroddiad y staff sydd wedi dangos cadernid a phroffesiynoldeb mewn amgylchiadau heriol—dyna y mae’r adroddiad yn ei nodi. Yn aml, bydd sylwadau’n cael eu colli, wrth gwrs, pan fo’r cyfryngau’n adrodd ar faterion sy’n peri’r fath bryder. Felly, beth yw eich neges i’r aelodau penodol hynny o staff? Rebecca Evans AC: Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau hynny, ac rydych yn iawn, mae’r adroddiad yn glir iawn fod yr arolygwyr wedi nodi bod yna ymrwymiad gwirioneddol wedi’i ddangos ymhlith y staff a ddangosodd gadernid a phroffesiynoldeb go iawn mewn gwirionedd yn ystod y cyfnod hwn, ond fe gododd materion perfformiad difrifol ac roedd hynny, ym marn yr adroddiad, yn deillio o ansefydlogrwydd o ran rheoli, cyfarwyddyd gwael a dryslyd a llywodraethu gwan. Ac yn sicr, pan gefais drafodaethau gyda’r prif arolygydd fy hun, mae hi wedi gwneud ymdrech fawr i bwysleisio’r pwynt fod yr adroddiad yn fwriadol yn nodi’n glir mewn gwirionedd y dylem gydnabod ymrwymiad y staff rheng flaen a oedd yn dymuno gwneud gwaith da, ond, fodd bynnag, fod y strwythurau a’r arweinyddiaeth a’r rheolaeth ac yn y blaen o’u hamgylch yn eu hatal rhag gwneud y gwaith gwell y gallent fod wedi’i wneud i’r plant ym Mhowys.O ran mater yr heddlu, fel y dywedais, deuthum i wybod amdano drwy’r cyfryngau, fel pawb arall, felly byddaf yn sicr yn mynd ar drywydd hynny i weld yn union beth yw’r problemau a’r hyn y mae’r heddlu’n bwriadu ei wneud am y peth. Yn amlwg, ni fuasech yn disgwyl i mi wneud sylw pellach, gan mai ychydig iawn o wybodaeth a gefais amdano fy hun. Fodd bynnag, byddaf yn sicr o archwilio’r mater.Mae’r bwrdd gwella yn mynd i fod yn hanfodol o ran gyrru gwelliannau, fel y gallwch ddychmygu, ac mae Cyngor Sir Powys eisoes wedi galw’r bwrdd gwella hwnnw ynghyd; roedd hynny’n un o’r amodau yn yr hysbysiad rhybuddio. Gallaf ddweud wrthych fod aelodau’r bwrdd yn cynnwys Jack Straw, cyn-brif weithredwr Abertawe, a ymddeolodd o’r cyngor yn yr awdurdod lleol yn 2016; Phil Hodgson, cyn-gyfarwyddwr gofal cymdeithasol ym Mlaenau Gwent; a Geoff Burrows, a oedd, tan fis Mai 2017, yn aelod Ceidwadol o Gyngor Sir Fynwy. A bydd y rhain, gyda Phil Evans, sef cyn-gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol Bro Morgannwg, sydd bellach yn dod yn gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol dros dro Powys, yn gweithio fel tîm cryf er mwyn hybu gwelliannau. A byddant yn adrodd yn ôl i Lywodraeth Cymru yn fisol wrth inni fynd drwy’r cyfnod hwn, ond fel y gallwch ddychmygu, ers i’r pryderon gael eu lleisio gyntaf, mae Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi bod mewn cysylltiad agos a chyson iawn â Phowys ar y materion hyn.Rwy’n deall bod yr aelodau hynny o’r bwrdd eisoes wedi bod yn cynnal trafodaethau ynghyd ag AGGCC am waith y bwrdd a’r hyn y bydd angen iddynt ei wneud o ran symud ymlaen. Mater i Gyngor Sir Powys yn bendant yw gwneud yn siŵr eu bod yn darparu cyllid sylweddol i fynd i’r afael â’r materion hyn. Fel y dywedais, roedd arian wedi cael ei symud yn flaenorol o wasanaethau plant, ac rwy’n deall y doir o hyd i arian o’r cronfeydd wrth gefn i’w ailfuddsoddi mewn gwasanaethau plant er mwyn ceisio mynd i’r afael â rhai o’r problemau a welwyd yn adroddiad yr arolygiad. Nid yw rhai o’r materion hyn yn galw am gyllid, wrth gwrs. Roedd rhai o’r prif faterion yn ymwneud â diffyg cyfeiriad strategol a chynllunio a diffyg parhauster yn rhai o’r rolau uwch-reolwyr a rheolwyr canol, diwylliant o fwrw bai—. Wyddoch chi, mae rhai o’r pethau hyn yn ymwneud â diwylliant y gweithle a diffyg arweinyddiaeth yn hytrach na buddsoddi a chapasiti ac yn y blaen o reidrwydd. Joyce Watson AC: Rwyf wedi bod yn darllen gyda diddordeb y bore yma am rai o’r honiadau a wnaed ynglŷn â darpariaeth—neu ddiffyg darpariaeth, i fod yn fanwl gywir—gwasanaethau plant ym Mhowys. Rwy’n ei chael hi braidd yn syfrdanol i glywed eich bod chi, yn yr un modd, Gweinidog, wedi darganfod hyn am y tro cyntaf trwy ddarllen pethau ar-lein neu wrando ar y newyddion, ym mha bynnag ffurf y daw. Ac mae’n ymddangos yn glir iawn i mi mai’r hyn sydd wedi bod ar goll yw arweinyddiaeth, rheolaeth, ffocws a chyllid. Ac oni bai bod gennych y pedair elfen gyfansoddol hon yn gweithio gyda’i gilydd, yna nid oes dim yn mynd i wella mewn gwirionedd.Ond un peth sy’n fy mhoeni’n wirioneddol yw eich bod yn sôn am blant penodol a allai fod yn agored i niwed ym mhob un achos y siaradwn amdano, ac rydych yn siarad am adolygiadau achos lle y bydd y plant hynny wedi cael eu nodi, yn amrywio o risg isel, i risg canolig, i risg uchel. Ac rydym yn cael gwybod drwy’r eitemau newyddion heddiw fod yna bosibilrwydd fod rhai o’r achosion, neu beth o’r wybodaeth, o bosibl, ynglŷn â’r achosion hynny, wedi cael ei chamliwio—mewn geiriau eraill, fod rhywun wedi ymyrryd â hi. Nawr, rwy’n ystyried mai dyna sy’n peri fwyaf o bryder. Felly, fy nghwestiwn, yn amlwg, yw: maent mewn llanast, ymddengys nad oes amheuaeth am hynny, eu bod mewn llanast llwyr a bod gennych staff yno sydd wedi bod yn ymdrechu’n galed tu hwnt i wneud eu gorau; mae’n ymddangos yn glir nad oedd proses chwythu’r chwiban dryloyw neu agored neu ddibynadwy ar waith, gan y buasai’r staff hynny wedi bod yn dweud wrth rywun yn rhywle am eu pryderon, a naill ai ei fod wedi ei fygu neu eu bod yn rhy ofnus i ddweud amdano—ac rwyf wedi gweld hyn mewn man arall mewn awdurdod arall lle’r oeddwn yn arfer bod yn gynghorydd sir. Ac os oes gennych ddiwylliant nad yw’n caniatáu i bethau ddod yn agored, mae angen archwilio’r diwylliant hwnnw’n fanwl. Felly, fy nghwestiwn i chi yw hwn: mae ganddynt 20 diwrnod i roi eu darnau o bapur at ei gilydd, ond nid yw’n mynd i fod yn 20 diwrnod a fydd yn newid y diwylliant, felly gofynnaf i chi, Gweinidog, a fyddwch yn edrych ar y diwylliant fel nad yw’n ddiwylliant sy’n edrych tuag at i mewn gydag ymladd mewnol, o bosibl, ac o natur gyfrinachol sy’n gosod y plant hyn mewn perygl mewn gwirionedd. Rebecca Evans AC: Diolch yn fawr iawn am y pwyntiau a wnaethoch, ac yn sicr bydd y bwrdd gweithredu yn edrych yn fanwl iawn ar y diwylliant yn y sefydliad ac yn ystyried pob un o’r holl sylwadau a wnaed yn yr adroddiad arolygu hefyd. Rwy’n credu ei bod yn bwysig i Gyngor Sir Powys geisio chwilio am gymorth gan gymheiriaid yn awr ac edrych ar arferion da awdurdodau lleol eraill sydd â hanes blaenorol da a chryf mewn perthynas â gwasanaethau plant, a hefyd gwn fod y bwrdd rhanbarthol diogelu plant yn yr ardal hefyd yn awyddus iawn i gynnig cyngor a chefnogaeth, ac mae’r cadeirydd, Jake Morgan, cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol yng Nghaerfyrddin, eisoes wedi siarad â phrif weithredwr Powys i gynnig ei gefnogaeth. Felly, buaswn yn disgwyl i’r awdurdod lleol fod yn chwilio am, ac yn cael cefnogaeth gref gan yr ardaloedd hynny sydd â phrofiad cryfach o wasanaethau plant.O ran y cwestiwn a ofynnwyd gennych ynglŷn â chwythu’r chwiban, credaf ei fod yn un hynod o bwysig ac mae’n un y byddaf yn ymrwymo i edrych i weld yn union beth a ddigwyddodd ym Mhowys a byddaf yn ymateb i chi drwy lythyr gyda sylwadau pellach ar hynny. Diolch i’r Gweinidog. 4. 4. Datganiadau 90 Eiliad Yr eitem nesaf, felly, yw’r datganiadau 90 eiliad, a’r cyntaf—Hefin David. Hefin David AC: Diolch, Llywydd. Ddydd Gwener diwethaf, mynychais y gwasanaeth blynyddol wrth gofeb lofaol genedlaethol Cymru yn Senghennydd, sydd yn ward Cwm Aber yn fy etholaeth, a chefais y fraint o osod torch ar y gofeb. Cynhelir y gwasanaeth bob blwyddyn ar neu o gwmpas pen-blwydd trychineb Glofa Universal 1913—digwyddiad trasig a hawliodd fywydau 440 o ddynion a bechgyn. O ran y niferoedd a gollwyd dyma oedd—ac mae’n parhau i fod—y trychineb gwaethaf yn hanes Cymru a Phrydain. Agorwyd cofeb lofaol genedlaethol Cymru, sy’n sefyll ar y safle, yn swyddogol ar ganmlwyddiant y trychineb, ym mis Hydref 2013. Yn wir, mynychodd y Prif Weinidog ei hun y digwyddiad i ddadorchuddio’r cerflun efydd o weithiwr achub yn cynorthwyo glöwr.Cafodd y syniad o gofeb lofaol genedlaethol Gymreig ei wireddu diolch, i raddau helaeth, i ymdrechion aruthrol Grŵp Treftadaeth Cwm Aber, band bychan o wirfoddolwyr a roddodd o’u hamser eu hunain i fynd ati i gasglu rhoddion er mwyn i’r syniad hwn allu dwyn ffrwyth. Rhoddodd Llywodraeth Cymru arian cyfatebol tuag at yr apêl codi arian, a chafwyd cyfraniadau hefyd o ffynonellau eraill, gan gynnwys Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo a Chronfa Dreftadaeth y Loteri. Noddwr Grŵp Treftadaeth Cwm Aber yw’r darlledwr adnabyddus o Gymro, Roy Noble. Gwnaeth Roy lawer o waith da yn ystod yr apêl i godi arian, ac fel bob amser, roedd yn bresennol i siarad yn y gwasanaeth blynyddol ddydd Gwener diwethaf. Roedd llawer o blant ysgol lleol o Gwm Aber yn bresennol yn y gwasanaeth ddydd Gwener hefyd, a sylweddolais pa mor bwysig yw hi fod ein cenhedlaeth iau’n dysgu am dreftadaeth ddiwydiannol eu hardal, a’r pris eithaf a dalwyd gan y rhai a fentrodd allan un diwrnod i wneud eu gwaith. Jeremy Miles AC: Roedd Hydref 1917 yn fis a adawodd ei ôl ar y byd. Yma yn y DU, mae’n 100 mlynedd ers i’r mudiad cydweithredol benderfynu gyntaf ei fod am roi mynegiant i’w werthoedd drwy’r llwybr seneddol yn San Steffan, drwy ffurfio’r Blaid Gydweithredol. Gwnaed y penderfyniad hwnnw yn ei chynhadledd yn Abertawe—a oedd yn addas, o ystyried y rôl yr oedd Cymru wedi ei chwarae yn hanes y mudiad cydweithredol. Ers hynny, mae datganoli wedi rhoi seneddau eraill i’r Blaid Gydweithredol ymgyrchu drwyddynt dros ei gweledigaeth o fyd cydweithredol. Yn wir, mae’r syniad o ddatganoli’n adleisio cymaint o werthoedd cydweithredol—democratiaeth, cyfranogi gweithredol, a chymuned. Y penwythnos diwethaf yn ein cynhadledd i nodi’r canmlwyddiant, siaradodd y Prif Weinidog am y ffyrdd y mae’r sefydliad hwn, a Chymru’n fwy cyffredinol, yn cefnogi ac yn meithrin y ddelfryd gydweithredol.Wrth i ni ddathlu ein canmlwyddiant mae gennym gydweithredwyr yn holl seneddau’r DU, ac mae gennym grŵp ffyniannus y Blaid Gydweithredol yn y Cynulliad Cenedlaethol yr wyf yn falch i fod yn gadeirydd arno. Mae’r pumed Cynulliad hwn yn cynnwys y nifer fwyaf o aelodau’r blaid gydweithredol ers datganoli. Yn wir, mae 25 y cant o Aelodau’r Cynulliad bellach yn perthyn i’r Blaid Gydweithredol. Trwy 100 mlynedd o newid, mae’r Blaid Gydweithredol wedi bod yn hyrwyddwr democratiaeth, dinasyddiaeth weithredol, cyd-gymorth, tegwch, cymuned a chynaladwyedd—egwyddorion cydweithredu. Ac wrth i ni wynebu’r 100 mlynedd nesaf, mae’r egwyddorion hynny’n parhau i fod mor berthnasol ag yr oeddent pan sefydlwyd y blaid 100 mlynedd yn ôl. Bethan Sayed AC: Hoffwn wneud datganiad i nodi mai yfory yw Diwrnod Rhyngwladol yr Undebau Credyd. Mae ‘Nid er credyd, nid er elusen, ond er gwasanaeth’ yn arwyddair undebau credyd. Rydym yn aml yn anghofio nad busnes yn unig yw diben bancio, ond angen cymdeithasol. Wrth inni weld miloedd o fanciau bach manwerthu a lleol yn cael eu cau a’u caffael dros y 30 i 40 mlynedd diwethaf, a phan ystyriwn fod y banciau sydd gennym bellach yn diflannu’n gyflym o’r stryd fawr a threfi llai, yn awr yn fwy nag erioed, mae angen dewis arall. Ynghyd â mwy o addysg am gynhwysiant ariannol, mater y bu’n bleser gennyf weithio arno, mae angen gwneud mwy i hyrwyddo undebau credyd fel rhan o addysg ariannol well a threchu anghydraddoldeb a thlodi.Yn y DU, yn anffodus, mae Cymru yn dal i lusgo ar ôl yr Alban a Gogledd Iwerddon o ran aelodaeth o undebau credyd. Mae hyn er gwaethaf y ffaith fod Cymru yn un o’r ardaloedd yn y DU sy’n wynebu’r heriau mwyaf o ran cael mynediad at gredyd ac o ran y modd y mae pobl yn rheoli eu harian. Yn chwarter cyntaf y flwyddyn hon, roedd gan yr Alban 0.33 miliwn o aelodau sy’n oedolion, roedd gan Ogledd Iwerddon dros 0.5 miliwn, a 66,000 yn unig o aelodau undebau credyd oedd gan Gymru. Mae angen i hyn newid.Ddydd Gwener, roeddwn yn falch o helpu i agor cangen newydd o undeb credyd Celtic yng nghanol dinas Abertawe. Dyma’r math o ddatblygiad yn y sector y dylem ei groesawu, a buaswn yn annog pob Aelod yma i gysylltu â’u hundebau credyd lleol, eu cefnogi a helpu i hyrwyddo dewis arall mwy diogel, cynhwysol yn ariannol a chymdeithasol gyfrifol i bobl Cymru. The next item on the agenda is the motions to elect Members to committees. In accordance with Standing Order 12.24, I propose that the motions to elect Members to committee are grouped for debate, but with separate votes. 5. Cynigion i Ethol Aelodau i Bwyllgorau Galwaf felly ar aelod o’r Pwyllgor Busnes i wneud y cynigion yn ffurfiol. Rhun ap Iorwerth. Cynnig NDM6541 Elin JonesCynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Neil McEvoy (Annibynnol) yn aelod o’r Pwyllgor Deisebau. Cynnig NDM6542 Elin JonesCynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Deisebau. Cynnig NDM6543 Elin JonesCynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Adam Price (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Cynigiwyd y cynigion. Rhun ap Iorwerth AC: Cynnig yn ffurfiol. Ac i siarad, Paul Davies. Paul Davies AC: Diolch, Llywydd. A gaf fi, o’r cychwyn, ei gwneud hi’n gwbl glir nad oes gennym ni ar yr ochr hon i’r Siambr unrhyw broblem gyda Phlaid Cymru yn llenwi’r seddi gwag ar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a’r Pwyllgor Deisebau? Nid oes gennym unrhyw broblem ychwaith gyda Neil McEvoy yn cael lle ar y Pwyllgor Deisebau fel Aelod ychwanegol. Yn wir, rydym yn credu y dylai gael y lle hwnnw. Fodd bynnag, credwn na ddylai’r newidiadau hyn ddigwydd heb newid dyraniad y Cadeiryddion pwyllgorau hefyd.O ystyried bod cydbwysedd gwleidyddol y Cynulliad wedi newid unwaith eto, mae hi hyd yn oed yn gliriach mai grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yw’r grŵp gwrthbleidiol mwyaf. Felly, rwyf am gofnodi unwaith eto y prynhawn yma fy siom llwyr fod dyraniad presennol y Cadeiryddion pwyllgorau yn parhau i fethu adlewyrchu maint cymharol pob un o grwpiau’r pleidiau’n gywir. Gan fod grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn parhau i fod yr ail grŵp mwyaf yn y lle hwn, nid yw ond yn iawn fod hynny’n cael ei adlewyrchu yn nyraniad y Cadeiryddion pwyllgorau. Yn wir, mae’r Llywydd hefyd wedi dod i’r casgliad fod yn rhaid i reolwyr busnes roi sylw i’r angen i sicrhau bod dyraniad Cadeiryddion pwyllgorau’n wleidyddol gytbwys. Fel y mae adroddiad y Pwyllgor Busnes yn ei nodi, ac rwy’n dyfynnu:‘Er bod y Llywydd yn fodlon bod Rheolwyr Busnes yn ymwybodol o’r gofyniad hwnnw yn ystod eu trafodaethau, nid yw’n cytuno â barn y mwyafrif ar y Pwyllgor fod y dyraniad presennol yn dderbyniol o safbwynt cyflawni’r gofyniad hwnnw.’Felly, fy safbwynt i yw y dylai’r Cynulliad anrhydeddu a pharchu penderfyniad y Llywydd gan y byddai unrhyw beth arall, yn fy marn i, yn amharchu’r Gadair. Mae’r Llywydd yn ei gwneud yn gwbl glir fod sefyllfa lle y mae gan grŵp Plaid Cymru fwy o Gadeiryddion na’r grwp Ceidwadol yn amlwg yn afreolaidd, ac felly dylai’r Pwyllgor Busnes gadw at hynny. Wrth gwrs, mae nifer presennol yr Aelodau bellach yn 12 i’r Ceidwadwyr Cymreig a 10 i Blaid Cymru, ac eto mae gan Blaid Cymru fwy o Gadeiryddion pwyllgorau a mwy o seddi ar bwyllgorau na’r Ceidwadwyr Cymreig. Felly, ni fydd yn syndod i’r Aelodau glywed nad yw fy marn wedi newid ers i ni drafod y mater hwn yn y Siambr hon ddiwethaf. Credaf fod hyn yn annerbyniol, yn hynod o annemocrataidd ac yn destun pryder a bod yn onest fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn parhau i weithredu yn y modd hwn. O ganlyniad, byddwn ni, ar yr ochr hon i’r Siambr, yn gwrthwynebu’r cynigion hyn fel mater o egwyddor, o ystyried bod y newidiadau penodol hyn wedi digwydd heb newid y Cadeiryddion pwyllgorau, o ystyried cydbwysedd gwleidyddol presennol y Cynulliad.Rwy’n siomedig nad oedd rheolwyr busnes o bleidiau eraill yn argyhoeddedig fod angen gwneud newid ar y sail y dylai Cadeiryddion pwyllgorau gael sicrwydd daliadaeth. Nid rôl y Pwyllgor Busnes yw cadw Cadeiryddion yn eu swyddi doed a ddêl, ond yn hytrach, adlewyrchu tirlun gwleidyddol y Cynulliad sy’n newid yn gyson. Mae cadeirio pwyllgor yn fraint, nid yn rhywbeth i’w gymryd yn ganiataol, ac os bydd y dirwedd wleidyddol yn newid, yn sicr mae’n rhaid i’r Aelodau i gyd barchu hynny a bod yn ddigon aeddfed i adlewyrchu unrhyw gydbwysedd gwleidyddol newydd.Yn yr adroddiad, mae rheolwr busnes y Blaid Lafur wedi gofyn cwestiwn ynghylch parhauster y cydbwysedd presennol, o gofio bod Neil McEvoy wedi ei atal ar hyn o bryd yn hytrach na’i ddiarddel o grŵp Plaid Cymru, ac wrth gwrs, mater i Blaid Cymru ei benderfynu yw hynny yn y pen draw. Ei barn hi yw bod yna bosibilrwydd y gall fod angen i’r Pwyllgor Busnes ailedrych ar ddyraniad y Cadeiryddion eto. Ydy, mae hynny’n wir, ond pam y gwnawn newidiadau eraill os nad yw’r sefyllfa’n barhaol? Yn sicr, o ddilyn y rhesymeg honno, ni ddylem fod yn gwneud unrhyw newidiadau o gwbl? A beth bynnag, mae’r Llywydd wedi penderfynu nad yw Neil McEvoy yn aelod o grŵp Plaid Cymru ac y dylai’r sefydliad hwn barchu’r penderfyniad hwnnw.Nid yw’n iawn fod gan wrthblaid yn y sefydliad hwn sydd â llai o Aelodau na gwrthblaid arall fwy o Gadeiryddion pwyllgorau, a gallai hyn greu goblygiadau difrifol yn y dyfodol i’r sefydliad hwn. Ym mlwyddyn ugeinfed pen-blwydd datganoli, ai dyma’r neges y mae’r Cynulliad yn awyddus i’w hanfon at bobl Cymru mewn gwirionedd? Os caniateir i’r sefyllfa barhau, daeth yn amlwg nad yw’r rhan fwyaf o’r Cynulliad hwn yn cefnogi Cynulliad cytbwys sy’n adlewyrchu cydbwysedd gwleidyddol ei Aelodau mwyach. Felly, Llywydd, rwy’n credu bod hwn yn ddiwrnod trist arall eto i’r Cynulliad Cenedlaethol a’i weithrediadau, ac yn ddiwrnod trist i’n cyfansoddiad.Gan symud ymlaen, rwy’n mawr obeithio y bydd y Cynulliad hwn yn y pen draw yn cyflwyno canlyniad sy’n adlewyrchu cydbwysedd gwleidyddol y sefydliad hwn wrth gydlynu busnes y Cynulliad, fel y gall pobl Cymru fod yn gwbl hyderus fod y Cynulliad yn gweithio mewn modd cwbl agored, tryloyw a democrataidd. Caroline Jones AC: A gaf fi ofyn i rywun egluro sefyllfa Mark Reckless o fewn y Blaid Geidwadol? Diolch. Wel, nid wyf yn credu bod—. Oes, mae yna rywun sydd eisiau egluro. Mark Reckless. Mark Reckless AC: Rwy’n hapus iawn i egluro. Ysgrifennodd y Llywydd at Andrew R.T. Davies ac ataf fi i gadarnhau y dylwn gael fy ystyried yn aelod o grŵp y Ceidwadwyr at holl ddibenion y Cynulliad hwn, yn union fel y mae wedi dyfarnu y dylid symud Cadeiryddion pwyllgorau er mwyn adlewyrchu cydbwysedd grwpiau’r pleidiau. Nid yw’n iawn nad yw’r sefydliad hwn, sy’n dymuno cael ei ystyried yn Senedd, yn dilyn ei Lywydd ei hun hyd yn oed nac yn dilyn ei Reolau Sefydlog ei hun yn unol â’r hyn y dylai unrhyw sefydliad democrataidd rhesymol ei wneud. Dylech fod â chywilydd ohonoch eich hunain. Diolch. Nid oes siaradwyr eraill yn y ddadl hon. Mae’r holl Aelodau sydd wedi nodi eu bod yn dymuno siarad wedi siarad. Ar gyfer y cofnod, fy marn i ar y mater—[Torri ar draws.] Rwy’n meddwl y buaswn yn awgrymu eich bod i gyd yn dawel, gan fy mod ar fin dweud rhywbeth, ac nid wyf yn ei ddweud yn aml iawn. Mae fy safbwyntiau i ar y mater hwn wedi eu nodi yn yr adroddiad a gyflwynwyd gyda’r cynnig hwn. Rwy’n awgrymu bod pawb ohonoch yn ei ddarllen. Mae’n ddiddorol ynddo’i hun ac mae barn pob rheolwr busnes o bob plaid wleidyddol yn cael eu hamlinellu yn yr adroddiad hwnnw hefyd. Rydym wedi trafod y mater dros nifer o wythnosau ac rwy’n fodlon, a heb fy amharchu, gan y ffaith bod y Pwyllgor Busnes wedi bod drwy’r broses sy’n ofynnol o dan y Rheolau Sefydlog wrth ystyried y mater hwn a bod ganddo bob hawl i wneud y penderfyniad y mae wedi ei wneud. Mewn sefyllfa fel hon, mae Rheol Sefydlog 17.13 yn rhoi’r dewis i’r Pwyllgor Busnes adolygu dyraniad y Cadeiryddion, ond ar yr achlysur hwn barn y mwyafrif oedd nad oedd yn briodol gwneud hynny. Mae’n amlwg fod tensiwn, mewn sawl ffordd, rhwng gwahanol ddarpariaethau yn y Rheolau Sefydlog ac mae cyfres ddigynsail o ddigwyddiadau wedi arwain at y sefyllfa afreolaidd bresennol. Dyna pam y byddaf yn gofyn i’r Pwyllgor Busnes adolygu’r gofynion ynglŷn â dyrannu ac ethol Cadeiryddion.The proposal is to agree the motion to elect Neil McEvoy to the Petitions Committee. Does any Member object? [Objection.] I will defer voting on this motion until voting time.The proposal is to agree the motion to elect Rhun ap Iorwerth to the Petitions Committee. Does any Member object? [Objection.] I will defer voting on this motion until voting time.The proposal is to agree the motion to elect Adam Price to the Public Accounts Committee. Does any Member object? [Objection.] I will defer voting again on this motion until voting time. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. The next item is the motions to elect Members to committees. In accordance with Standing Orders 12.24 and 12.40, I propose that the motions to elect members to committees are grouped for debate and for voting. Galwaf ar aelod o’r Pwyllgor Busnes i wneud y cynigion yn ffurfiol. Rhun ap Iorwerth. Cynnig NDM6544 Elin JonesCynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Dai Lloyd (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn lle Sian Gwenllian (Plaid Cymru). Cynnig NDM6545 Elin JonesCynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Sian Gwenllian (Plaid Cymru) yn aelod o Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn lle Dai Lloyd (Plaid Cymru). Cynigiwyd y cynigion. Rhun ap Iorwerth AC: Ffurfiol. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynigion? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynigion yma yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 7. 5. Cynnig i Ddiwygio Rheolau Sefydlog 26, 26A a 26B mewn perthynas ag Uwch-fwyafrifoedd ar gyfer Biliau'r Cynulliad Yr eitem nesaf yw’r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog 26, 26A a 26B mewn perthynas ag uwch-fwyafrifoedd ar gyfer Biliau’r Cynulliad. Rwy’n galw ar aelod o’r Pwyllgor Busnes i gynnig y cynnig yn ffurfiol. Rhun ap Iorwerth. Cynnig NDM6535 Elin JonesCynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog 26, 26A a 26B—Uwch-fwyafrifoedd ar gyfer Biliau'r Cynulliad' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Hydref 2017; a2. Yn cymeradwyo'r cynnig i adolygu Rheolau Sefydlog 26, 26A a 26B, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes. Cynigiwyd y cynnig. Rhun ap Iorwerth AC: Ffurfiol. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yna yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 8. 6. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Dulliau Trafnidiaeth yn y Dyfodol Yr eitem nesaf, felly, yw’r ddadl gan Aelodau unigol o dan Rheol Sefydlog 11.21(iv). Rwy’n galw ar Jenny Rathbone i wneud y cynnig. Jenny Rathbone. Cynnig NDM6527 Jenny Rathbone, Suzy Davies, Dafydd Elis-Thomas, Dai Lloyd, David Melding, Eluned MorganCefnogwyd gan Simon ThomasCynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:1. Yn nodi bod cyflymder y chwyldro mewn technoleg drafnidiaeth yn herio rhagdybiaethau cynllunio presennol ac yn golygu bod angen ail-feddwl dylunio a pholisi cyhoeddus yn sylweddol.2. Yn credu y bydd angen i weithgynhyrchwyr trafnidiaeth a'u cadwyni cyflenwi addasu neu farw wrth i'r motor tanio gael ei ddiddymu'n raddol dros yr 20 mlynedd nesaf o ganlyniad i:a) cerbydau heb yrwyr, a fydd yn amharu ar dybiaethau ynghylch y berchnogaeth breifat o geir, cynllunio trefol, rheoli tagfeydd ar y ffyrdd a rôl bysiau i gysylltu cymunedau; ab) cerbydau trydan, sy'n golygu bod angen i drydan gael ei gynhyrchu a'i gyflenwi mewn ffordd fwy gwasgaredig gan gynnwys pwyntiau trydanu ledled Cymru;3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu'r camau y mae'n eu cymryd i alinio polisïau â chyflymder y newid a sicrhau bod pob dinesydd yn cael budd o hyn, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Cynigiwyd y cynnig. Jenny Rathbone AC: Diolch, Llywydd. Mae Chris Blake, y bydd llawer ohonoch yn ei adnabod fel aelod anweithredol o Cyfoeth Naturiol Cymru ac un sydd, mewn sawl modd, yn lladmerydd dros ynni cynaliadwy, adnewyddadwy, wedi buddsoddi mewn car trydan, ynghyd â thyrbin gwynt a phaneli solar ar ei dŷ, er mwyn sicrhau bod ei gerbyd yn cael ei bweru gan ynni glân yn unig. Ond ei rwystredigaeth yw na all ddefnyddio’r car trydan i gyrraedd pob rhan o Gymru. Fel arloeswyr eraill gyda cheir trydan, mae’n gallu mynd o Gaerfyrddin i Nottingham neu Lundain ac yn ôl mewn car trydan, ond ni all gyrraedd Gwynedd neu Ynys Môn, yn syml oherwydd nad oes pwyntiau gwefru trydan yn bodoli. Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair. Jenny Rathbone AC: Bydd llawer ohonom yn gyfarwydd â’r ddadl hon; mae Simon Thomas hefyd yn dweud wrthym am ei boen nad yw’n gallu defnyddio car trydan i fynd o Aberystwyth i deithio o amgylch ei ranbarth, sef Canolbarth a Gorllewin Cymru. Felly, roeddwn wrth fy modd yn clywed bod cynnig yn y gyllideb eleni i fuddsoddi £2 filiwn ar gyfer datblygu mwy o bwyntiau gwefru trydan fel nad ydynt ond ar gael ar yr M4 yn unig a rhannau dwyreiniol yr A55. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth fod gan Simon Thomas rywbeth i’w wneud gyda hyn, ond credaf nad yw’r ymrwymiad hwn gan Lywodraeth Lafur Cymru ond yn ddechrau ar sut y gwelwn y trawsnewid hwn yn digwydd, gan na allwn weld hon fel her i adeiladu gorsaf bŵer arall eto maint Hinkley Point, fel yr awgrymodd y Grid Cenedlaethol, a ddywedodd fod hynny’n ddigonol i fodloni’r galw brig gyda’r nos pe bai cerbydau trydan yn dod yn boblogaidd ac yn dod yn norm. Mae’n rhaid inni weld hyn fel cyfle i wasgaru ein dull o gynhyrchu a chyflenwi trydan, ac mae pwyntiau gwefru trydan yn ffordd ddelfrydol o gicdanio’r broses honno.Felly, sut y gallwn wneud hyn? Yr ynni adnewyddadwy y mae gennym ddigonedd ohono yw gwynt; ni yw’r wlad fwyaf gwyntog yn Ewrop. Felly, yn hytrach na chael Brigands Inn ar yr A470 i osod pwynt gwefru trydan wedi ei gysylltu â’r grid, gallent fod yn cynhyrchu eu hynni gwynt a solar eu hunain, yn union fel y mae Chris Blake eisoes yn ei wneud. Yn wir, os ydynt yn gosod pwynt gwefru trydan gan ddefnyddio ynni confensiynol o’r grid, rwy’n cynnig y byddant yn gyflym yn colli eu mantais yn y farchnad heb fod yn rhy hir, wrth i bwyntiau gwefru trydan rhatach wedi eu tanio gan ynni adnewyddadwy ymddangos. Gallai hyn roi hwb mawr i gynlluniau ynni cymunedol na fyddant yn gorfod ysgwyddo costau cysylltu drud â’r grid os oes ganddynt incwm cyson o gerbydau trydan sydd angen gwefru ar gyfer trafnidiaeth leol ac ar gyfer teithiau pellach. Bydd hyn hefyd wedyn yn creu cyfle ychwanegol i bobl allu cynhyrchu eu hynni eu hunain ar gyfer cynhesu eu cartrefi.Ond un cog yn unig yn y chwyldro sydd ei angen i wireddu ein dyfodol mwy cynaliadwy yw pwyntiau gwefru cerbydau trydan. Yr wythnos diwethaf, enillwyd Her Solar y Byd, a gynhaliwyd yn Awstralia, gan gar o’r Iseldiroedd a bwerir gan yr haul yn unig. Er bod gennym lai o haul nag yn Awstralia, mae cerbydau sydd wedi eu pweru o leiaf yn rhannol gan yr haul yn rhywbeth y bydd angen i ni ei ystyried hefyd. Nid yw cerbydau trydan yn newydd i Gymru. Cynhyrchwyd y fflôt laeth ym Merthyr rhwng y 1930au a’r 1980au, ac mae’r Eco Travel Network eisoes yn gweithredu ar draws Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, gan gynnig cerbydau trydanol i’w llogi o’u fflyd o Renault Twizys. Maent wedi datblygu rhwydwaith gwefru 13 amp anffurfiol gyda busnesau twristiaeth fel bod ymwelwyr yn cael dewis diddorol o atyniadau i ymweld â hwy, gweithgareddau i roi cynnig arnynt, a llefydd i fwyta ac yfed.Ond nid at ddefnydd unigolion neu hamdden yn unig y mae cerbydau trydan. Maent yn un o’r ffyrdd allweddol y gallwn lanhau ein system trafnidiaeth gyhoeddus, ac mae’n rhaid i ni wneud hyn oherwydd ein hymrwymiadau newid yn yr hinsawdd. Nid dadl ynglŷn ag a fyddwn yn newid o ddiesel budr i systemau trafnidiaeth gyhoeddus glân—nid yw’n ymwneud ag a wnawn ni hynny, ond yn hytrach â sut y gwnawn hynny wrth newid o ddiesel budr i systemau trafnidiaeth gyhoeddus glân. Rydym wedi gweld yn barod fod Llundain, Milton Keynes a Nottingham i gyd wedi comisiynu cerbydau trydan, ac mae llawer ohonynt eisoes yn weithredol. Bydd yn rhaid i ddinasoedd eraill ddilyn. Felly, y cwestiwn yw: a all Cymru adeiladu’r cerbydau y bydd eu hangen ar gyfer y dyfodol, yn enwedig ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus dorfol, nid yn lleiaf, rhaid i mi ddweud, er mwyn cadw’r arbenigedd sydd gennym eisoes o amgylch ffatri injans Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr a’r ffatri injans Toyota ar Lannau Dyfrdwy, y bydd eu gweithgareddau presennol yn dod i ben o ganlyniad i benderfyniad Llywodraeth y DU i ddod ag injans motor tanio petrol a diesel i ben erbyn 2040, ac yn llawer cynt na hynny mae’n debyg o ganlyniad i hynny? A allwn ni adeiladu diwydiant cerbydau amgen i ganolbwyntio ar uchelgeisiau di-garbon i wneud yn siŵr nad ydym yn colli’r arbenigedd sydd gennym ar hyn o bryd ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac yng Nglannau Dyfrdwy? Sut y gallwn fanteisio, er enghraifft, ar gynhyrchu tacsis Llundain ysgafn trydan, sydd bellach yn digwydd yng Nghaerffili, i wyrddu ein fflyd o dacsis ein hunain er enghraifft?Nawr, y dewis arall yn lle cerbydau trydan yw hydrogen. Dyfeisiwyd y gell danwydd hydrogen gan William Grove o Abertawe yn y 1840au. Ddeuddeng mlynedd yn ôl—. Ond nid ydym wedi ei ddatblygu’n iawn hyd yn hyn. Ddeuddeg mlynedd yn ôl, roedd gan WalesOnline stori o dan y pennawd ‘Hydrogen Valley to put Wales on Green Map’. Ar yr adeg honno, roedd Awdurdod Datblygu Cymru yn bwriadu datblygu microeconomi yn ne Cymru yn seiliedig ar dechnoleg hydro. Disgrifiodd y Gweinidog Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth ar y pryd, Andrew Davies, y dyffryn hydrogen fel cyfle unigryw i ddefnyddio seilwaith hydrogen presennol i harneisio arbenigedd yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus. O fewn 10 mlynedd, roedd yn rhagweld y byddai yna orsafoedd tanwydd hydrogen, rhwydweithiau trafnidiaeth integredig heb allyriadau, tacsis dŵr yn rhedeg ar hydrogen a chanolfannau lle y gall cerbydau nwyddau trwm drosglwyddo nwyddau ar gerbydau trydan ar gyfer eu dosbarthu.Mae’r canlyniadau hyd yn hyn yn gymedrol. Mae canolfan hydrogen Prifysgol De Cymru ym Maglan wedi datblygu gorsaf danwydd hydrogen gyntaf Cymru gan ddefnyddio hydrogen a gynhyrchir yn adnewyddadwy, ond mae gorsafoedd tanwydd hydrogen wedi eu cyfyngu i ddau safle Prifysgol De Cymru, ym Maglan ac ym Mhontypridd. Maent yn gweithio gyda chwmni bach yn Llandudno sy’n bwriadu adeiladu ceir hydrogen ar gyfer eu llogi i gychwyn y flwyddyn nesaf. Ond mae’n amlwg nad yw hyn ar y raddfa fawr y bydd angen i ni ei wneud yn y dyfodol.Fy mhwynt olaf sydd angen i ni feddwl amdano yw systemau sydd eisoes ar waith ar gyfer cyfathrebu di-wifr rhwng cerbydau a’r systemau tagfeydd y mae angen i ni eu rheoli. Hynny yw, maent eisoes yn eu lle; rydym eisoes yn gallu eu gweld ar waith pan edrychwn i weld sut y mae mynd o A i B ar Google. Ond yn y dyfodol, byddant yn cael eu defnyddio fel cyfrwng ar gyfer rheoli ceir di-yrrwr, ac mae’n ymddangos i mi’n gwbl hanfodol ein bod yn ymladd i wrthsefyll preifateiddio’r rhwydwaith 5G, a fydd yn llwyfan i hyn allu digwydd. Mae angen i hwn fod yn wasanaeth cyhoeddus, nid yn wasanaeth er elw wedi ei breifateiddio na all neb ond pobl ag arian ei weithredu. Felly, mae honno’n ystyriaeth fawr i mi ei gadael gyda chi am y tro. Dai Lloyd AC: Mae’n bleser cael cymryd rhan yn y ddadl hon gan Aelodau unigol. Rhyfeddai Tim Peake y gofodwr, wrth syllu ar y Ddaear o’r gofod, at ymddangosiad ysblennydd ein planed. Ac mewn byd lle’r ydym yn siarad mewn miliynau o filltiroedd, biliynau o gilometrau a blynyddoedd golau i ffwrdd, nododd ymddangosiad ysblennydd ein hatmosffer, nad yw ond yn 16 km o uchder—haen denau, lachar sydd angen ei gwarchod, sydd mor hanfodol bwysig. Ac fe’i trawyd ef ar y pryd gan freuder posibl ein bodolaeth. Mae’n 16 km o ddyfnder, yr atmosffer yr ydym yn byw ac yn anadlu ynddo, hynny’n unig, a dyna sut y down at y drafodaeth angenrheidiol iawn hon ar roi’r gorau i’r motor tanio traddodiadol, am yr holl resymau y mae Jenny eisoes wedi cyfeirio atynt, a chyflwyno ceir trydan, ceir hydrogen, ceir awtomataidd di-yrrwr, faniau, bysiau a phopeth arall.Oherwydd mae llawer o arloesi enfawr yn digwydd. O ran cerbydau trydan, sydd, yn amlwg, eisoes ar ein ffyrdd, rydym yn gweld camau arwyddocaol yn cael eu gwneud, gyda rhai ceir yn gallu cyrraedd 300 milltir cyn ailwefru a chynhyrchu amseroedd 0 i 60 milltir yr awr i gystadlu â cheir cyflym. Mae angen cynllunio ar gyfer y cynnydd hwn yn niferoedd ceir trydan, yn ogystal â’r defnydd o geir hybrid a’r rhai a bwerir gan gelloedd tanwydd hydrogen y mae Jenny, unwaith eto, wedi cyfeirio atynt, o’r dechrau gyda William Grove gyda chelloedd hydrogen a chelloedd ffotofoltäig a ddyfeisiwyd yn Abertawe yn ôl yn oes Fictoria, ac a ddefnyddiwyd gan NASA cyn hyn. Mae angen i ni wneud llawer mwy o ddefnydd ohonynt ar lawr gwlad hefyd, oherwydd nid oes angen trydan o’r prif gyflenwad arnynt, y ceir hybrid na’r ceir tanwydd hydrogen. Ond mae angen i gynllunio ar gyfer cynnydd o ran cynhyrchu a chyflenwi trydan ddigwydd yn awr gyda’r cynnydd a ragwelir yn y galw amser brig am drydan o rhwng 15 y cant a 40 y cant. Mae angen i ni ddatblygu atebion Cymreig i’r her gynhyrchu trydan hon. Ac yn amlwg, gyda môr-lynnoedd llanw yn enghreifftiau amlwg, dylid cefnogi hynny yn awr.Yn ogystal, mae angen rhwydwaith cenedlaethol o bwyntiau gwefru ar gyfer ceir trydan. Mae angen inni wybod beth y mae Llywodraeth yn ei wneud ar y cyd â’r diwydiant i ehangu’r rhwydwaith hwn i ateb y galw a ragwelir. Simon Thomas AC: A wnaiff yr Aelod ildio? Dai Lloyd AC: Simon. Simon Thomas AC: Diolch i’r Aelod. Ar y pwynt am rwydwaith cenedlaethol, rwy’n meddwl ei bod yn bwysig cofio bod Shell heddiw, er enghraifft, wedi cyhoeddi eu bod yn mynd i osod pwyntiau gwefru trydan cyflym yn rhai o’u gorsafoedd petrol. Ond maent yn canolbwyntio ar dde-ddwyrain Lloegr, a dyma pam ei bod yn bwysig cael seilwaith cenedlaethol yma yng Nghymru, fel nad yw mannau yng Nghymru yn cael eu hepgor. Dai Lloyd AC: Yn hollol, oherwydd mae angen inni gael y rhwydwaith cenedlaethol hwnnw o bwyntiau gwefru. Gan droi at geir di-yrrwr, sef un o’r datblygiadau technolegol mwyaf ers y llinell gydosod, mae cwmnïau fel Tesla, Audi, Nissan a Google yn gwario miliynau i gael ceir di-yrrwr ar y ffordd. Rydych yn mynd i mewn, yn nodi eich cyrchfan ac mae’r electroneg yn gwneud y gweddill—ac ychydig flynyddoedd yn unig sydd yna cyn y bydd hyn yn digwydd. Un o fanteision mwyaf ceir di-yrrwr fydd rhoi modd o symud i bobl nad ydynt yn gallu gyrru ar hyn o bryd, gyda manteision cymdeithasol amlwg o ran trechu unigrwydd ac unigedd yn ogystal.Ond rwy’n dychwelyd at y ffaith bod angen inni gynllunio ar gyfer hyn oll—sut y talwn am geir di-yrrwr, bysiau, faniau dosbarthu a’r gweddill. Buaswn yn dadlau y dylent fod yn wasanaeth cyhoeddus—rwy’n cytuno â Jenny yn hynny o beth. Ac yn union pa rôl y mae’r sector cyhoeddus yn ei chwarae’n datblygu rhwydwaith trafnidiaeth wirioneddol integredig—. A beth am yr holl lonydd gwledig cul a throellog a geir yng Nghymru? Her arbennig, yn wir, ar gyfer cerbydau di-yrrwr. Wel, nid yn unig cerbydau di-yrrwr, ond her i gerbydau di-yrrwr yn arbennig.Felly, i orffen, mae llawer i fyfyrio yn ei gylch, ond mae’r cyfeiriad teithio, fel petai, yn glir: er mwyn amddiffyn y dyfnder bregus o 16 km o atmosffer yr ydym i gyd yn dibynnu arno, cefnogwch y cynnig. Diolch yn fawr. David Melding AC: Mae’n bleser cael cefnogi’r cynnig hwn ac rwy’n falch fod y dadleuon Aelodau unigol yn parhau i ddod â syniadau diddorol iawn i’r Cynulliad, a syniadau sydd at ei gilydd yn cael cefnogaeth drawsbleidiol.Rwy’n credu ein bod i gyd yn ymwybodol iawn o’r cysylltiadau agos rhwng lefelau uchel o dagfeydd a llygredd aer, ac rwy’n credu y bydd cerbydau trydan yn cynnig ffordd i liniaru’r broblem. Ond fel y mae Jenny eisoes wedi amlinellu, mae’r diffyg seilwaith ar hyn o bryd yn wirioneddol rwystredig, er y buaswn yn dweud, yn yr etholiad diwethaf, rwy’n meddwl, fy mod wedi gweld, am y tro cyntaf, nifer o bwyntiau gwefru wedi eu hadeiladu, yn naturiol, i mewn i seilwaith tai newydd. Yn hytrach na chebl hir yn arwain i’r cefn yn rhywle neu drwy’r garej, erbyn hyn mae yna bwyntiau gwefru wedi eu cynllunio’n briodol o flaen rhai tai.Felly, mae’r byd yn newid ac mae angen inni weld y cynnydd hwn yn gyflym iawn. Rwy’n credu y gall y sector cyhoeddus arwain, yn enwedig o ran trafnidiaeth gyhoeddus, a buaswn yn cynnwys annog tacsis i newid i gerbydau trydan. Nawr, bydd hynny, yn amlwg, yn galw am argaeledd pwyntiau gwefru o amgylch y ddinas, a rhai cymhellion eraill hefyd efallai. Hefyd, rwy’n meddwl, wrth i ardaloedd trefol gyfyngu ar y defnydd o gerbydau preifat, yn enwedig cerbydau gyrrwr yn unig, gallwn weld llawer mwy o deithio trefol mewnol yn cael ei wneud mewn cerbydau trydan. Felly, rwy’n credu bod hwnnw’n faes pwysig hefyd. Ond oni bai eich bod yn cael y seilwaith yn iawn, ni fyddwch yn gallu gweld y trawsnewidiad hwn. Maent wedi ymdrechu’n galed iawn—roedd hi’n ddiddorol nodi—yn Hong Kong. Maent wedi bod yn ymdrechu’n galed iawn i sicrhau newid yno, gyda’u cronfa trafnidiaeth werdd, ond maent wedi dod i’r casgliad mai costau cynhyrchu uchel, hyd oes gwasanaeth cyfyngedig, amseroedd gwefru hir a dwysedd ynni isel batris e-gerbydau yw’r cyfyngiadau allweddol o ran gallu cerbydau trydan i gyflawni swyddogaethau trafnidiaeth masnachol. Felly, mae’n eithaf amlwg fod yn rhaid inni gael ymagwedd gyfannol at gael trefn ar y seilwaith ac yna darparu pa gymhellion bynnag sydd eu hangen ar ben hynny i weld y newid moddol hwn, neu o leiaf y newid yn y dull o redeg y cerbydau hyn. Os edrychwch ar Gaerdydd, Abertawe a Chasnewydd yn arbennig, rwy’n credu bod ansawdd yr aer yn aml yn wael, ac os ydym eisiau parthau aer glân yn y dinasoedd hyn, ac rwy’n siŵr bod hynny’n rhywbeth y mae angen i ni ei fynnu, yna rydym yn mynd i orfod gweld y math yma o newid.A gaf fi siarad ychydig am integreiddio dulliau trafnidiaeth? Oherwydd, unwaith eto, rwy’n credu bod hyn yn bwysig iawn. Nawr, fel arfer clywn fod angen i chi ddod oddi ar y trên ac ar fws neu fel arall, ac mae hynny’n bwysig iawn, ond rwy’n meddwl bod y cyfleusterau ar gyfer pobl sydd efallai’n gyrru rhan o’u taith, efallai i faes parcio lloeren ar ymyl dinas, ac yna’n newid i fws neu drên, yn wir, ond hefyd, efallai, yn cerdded neu’n beicio, a chael y gwahanol rwydweithiau wedi eu cysylltu â’r pwyntiau lloeren hyn—credaf fod hynny’n bwysig tu hwnt, yn enwedig os ydych yn gwneud taith ychydig yn hwy, efallai o Flaenau’r Cymoedd, ac yn gyrru i ymyl Casnewydd, Caerdydd, neu Abertawe yn wir, os edrychwch ar y Cymoedd gorllewinol. Rwy’n credu bod hyn yn cynnig llawer o gyfle yn ogystal, ac rwy’n credu bod angen inni edrych ar ein seilwaith sydd yno ar hyn o bryd a meddwl sut y gellir ei ddefnyddio’n fwy effeithiol.Sylwaf fod strategaeth drafnidiaeth ddrafft maer Llundain yn gynharach eleni’n awgrymu y gellid cau Oxford Street i gerbydau domestig a’i gwneud yn stryd ar gyfer beicio a cherdded yn unig, a dyna’r math o feddwl sydd ei angen arnom. Mae llawer o lwybrau yno ar hyn o bryd; nid oes angen inni adeiladu rhai newydd o reidrwydd. Rwy’n credu bod llawer i’w gynnig o ganolbwyntio ar gerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus mewn ffordd fwy integredig, a’r defnydd preifat o geir yn yr ardaloedd sy’n debygol o gael llai o dagfeydd, felly ar gyrion y dref a mannau o’r fath—ond mewn partneriaeth â modurwyr fel nad ydym ond yn eu llesteirio â llawer o gyfyngiadau.A gaf fi ddweud yn olaf fy mod yn meddwl fod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ddeddfwriaeth ddelfrydol i geisio cydlynu’r dulliau hyn? Felly, rwy’n meddwl y bydd hynny’n brawf allweddol o’r Ddeddf yn y dyfodol. Diolch, Dirprwy Lywydd. Vikki Howells AC: Hoffwn longyfarch yr ACau y cyflwynwyd y ddadl hon yn eu henwau heddiw. Ar gyfer fy nghyfraniad, hoffwn gyfeirio fy sylwadau at ail ran y cynnig sy’n ymwneud â cherbydau trydan. Mae nifer y cerbydau trydan a hybrid ar ffyrdd Cymru wedi codi’n ddramatig yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda chynnydd 25 gwaith drosodd yn y pedair blynedd rhwng 2012 a 2016. Mae hyn yn amlwg yn rhywbeth y dylem ei groesawu. Rydym yn gwybod bod allyriadau o gerbydau modur yn cyfrannu at gynhesu byd-eang ac yn gysylltiedig â degau o filoedd o farwolaethau bob blwyddyn. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau mwy o ddefnydd ar gerbydau trydan, mae angen inni sicrhau bod y seilwaith cywir yn ei le fel y gellir eu defnyddio mewn bywyd bob dydd, ac mae hyn yn rhywbeth y mae fy nghyd-Aelod Jenny Rathbone wedi ei grybwyll eisoes.Sylwais gyda diddordeb mawr ar yr ymrwymiad yn y gyllideb ychydig wythnosau’n ôl i roi £2 filiwn ar gyfer pwyntiau gwefru cerbydau trydan. Rwy’n credu bod hwn yn gam gwirioneddol synhwyrol i wneud yn siŵr fod Cymru yn gallu datblygu’r rhwydwaith o bwyntiau cyflenwi sydd ei angen arni, ond mae angen inni sicrhau rhwydwaith, nid yn unig o bwyntiau gwefru, ond o bwyntiau gwefru gyflym. Unedau gwefru yw’r rhain sy’n gallu gwefru 80 y cant mewn oddeutu 30 munud, o gymharu â’r unedau sy’n cymryd tair i bedair awr i wefru cerbyd yn llawn. Y pellter y gall cerbyd trydan ei deithio cyn ailwefru yw oddeutu 80 milltir ar gyfartaledd, ac ar gyfer llawer o deithiau, bydd angen i ddefnyddwyr aros ac ailwefru eu cerbyd eto, ac nid yw’n ymarferol inni gael unedau gwefru lle y byddai’n rhaid i bobl aros am dair i bedair awr. Dyma’r math o bethau sy’n datgymell pobl rhag bod yn berchen ar gerbydau trydan, felly mae’n bwysig iawn ein bod yn defnyddio’r buddsoddiad hwn i gael y pwyntiau gwefru cyflym, yn hytrach na’r rhai confensiynol.Ar wahân i oddeutu dwsin o bwyntiau gwefru cyflym sydd wedi eu cyfyngu i raddau helaeth i goridorau’r M4 neu’r A55, mae hyn o ddifrif yn rhywbeth sy’n galw am ddatblygiad pellach, a buaswn yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â chymuned frwdfrydig ac ymroddgar y defnyddwyr cerbydau trydan yn gynnar yn y broses er mwyn gwneud y penderfyniadau gorau ar wario’r arian hwn yn gywir ac yn effeithlon. Mae’n bwynt sylfaenol, ond mae’n rhaid inni wneud yn siŵr fod y cyfleusterau gwefru hyn wedi eu lleoli yn y mannau cywir a’u bod yn hygyrch 24 awr y dydd hefyd.Wrth wneud fy ymchwil ar gyfer heddiw, roedd yr adroddiad gan y grŵp arbenigol ar gerbydau carbon isel a gynhyrchwyd ar gyfer y Gweinidog Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth blaenorol yn arbennig o ddefnyddiol. Mae’r adroddiad yn cynnig awgrymiadau synhwyrol ar sut y gall Llywodraeth Cymru hyrwyddo rhwydwaith gwefru cyflym ar draws ystâd y sector cyhoeddus a datblygu fflyd well o gerbydau nwyddau. Mae hefyd yn nodi pwysigrwydd hyrwyddo ffynonellau tanwydd amgen i gerbydau trafnidiaeth gyhoeddus. Fel y noda’r adroddiad, mae cryfder sylfaen fodurol Cymru yn ein rhoi mewn sefyllfa dda i ddatblygu fel canolfan ragoriaeth ar gyfer cerbydau carbon isel, ac mae hyn, yn ei dro, yn cynnig cyfleoedd newydd inni ysgogi twf ac elwa ar ei fanteision economaidd. Cymeradwyaf y cynnig hwn heddiw. Gareth Bennett AC: Diolch i’r gwahanol Aelodau am gyflwyno’r ddadl heddiw. Rydym yn cefnogi’r cynnig yn fras, er bod angen gwneud rhai sylwadau ynglŷn â datblygiad cerbydau di-yrrwr a cherbydau trydan. Nawr, rwy’n derbyn ein bod yn mynd i symud ymlaen â’r dechnoleg hon, felly efallai na fydd y problemau sydd gennym yn awr yn broblemau mewn rhai blynyddoedd, ond rwy’n awyddus i ddilyn arweiniad Vikki Howells drwy dynnu sylw at rai o’r problemau sydd gennym ar hyn o bryd.O ran ceir di-yrrwr, nid wyf yn siŵr iawn a ydynt yn mynd i fod yn ddatblygiad cadarnhaol, gan ei bod yn ymddangos i mi fod yna risg real iawn, pe bai ceir di-yrrwr yn dod yn gynnyrch masnachol hyfyw, gallai arwain at fwy o geir ar y ffordd yn y pen draw. A fyddwch angen trwydded draddodiadol i’w gyrru? Os na, gallech gael pobl sy’n rhy hen i yrru’n mynd yn ôl i mewn i gar, yn ogystal â phobl sy’n rhy ifanc. Nawr, fel y dywedodd Dai Lloyd, gallai hyn ddwyn manteision cymdeithasol yn ei sgil. Fodd bynnag, gallem weld cynnydd enfawr yn nifer y cerbydau ar y ffordd, a gallai’r ffyrdd wynebu mwy o dagfeydd nag a geir yn awr hyd yn oed. Mae’n rhaid inni gofio bod pob gwelliant mawr a gawsom erioed i’r system ffyrdd o gychwyn y traffyrdd yn y 1950au ymlaen wedi arwain at fwy o dagfeydd traffig— Nick Ramsay AC: A wnewch chi ildio? Gareth Bennett AC: Wrth gwrs. Nick Ramsay AC: Diolch am ildio, Gareth. Gwnaethoch rai pwyntiau diddorol yno. Wrth gwrs, mae yna ochr arall i hynny: os oes gennych geir di-yrrwr sy’n cyfathrebu â’i gilydd trwy gyfrwng cyfrifiadur, Wi-Fi, neu beth bynnag ydyw, mewn gwirionedd gallwch gael pellteroedd stopio byrrach, am nad ydych yn dibynnu ar ymateb dynol, felly gallwch gael llawer mwy o gynhwysedd ar y rhwydwaith ffyrdd presennol. Gareth Bennett AC: Ie. Rwy’n ymwybodol o’r cysyniad, ond yr hyn sy’n fy mhoeni gyda’r cysyniad hwn yw’r cyfnod trosiannol, pan fydd gennych geir di-yrrwr ar y ffordd ac mae gennych geir yn cael eu gyrru gan deithwyr ar y ffordd. Sut y byddant yn rhyngweithio â’i gilydd? Mae gennyf ddiddordeb yn y goblygiadau o ran tagfeydd a ffactorau eraill ar y ffyrdd gyda rhyngweithio o’r fath, ond mae’n dda eich bod yn codi’r mater hwnnw.Y materion eraill sy’n ymwneud â cheir di-yrrwr: os yw’n ei gwneud hi’n haws i bobl fynd i mewn i gerbydau preifat i wneud taith, gallai hyn effeithio’n negyddol ar y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, ac rydym yn ceisio annog y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus. Beth am ei effaith ar deithio llesol? Gallai ceir di-yrrwr ei gwneud yn haws byth i blant gyrraedd yr ysgol mewn car preifat, gan na fyddai’n rhaid i’r car hwnnw gael ei yrru gan rieni heb lawer o amser. Felly, rwy’n meddwl bod y rhain yn bethau y mae’n rhaid inni eu cadw mewn cof wrth inni symud ymlaen i ystyried ceir di-yrrwr.Ceir trydan yw’r peth arall y buom yn ei drafod, ac nid oes arnaf eisiau ailbobi pob un o’r pwyntiau dilys ac ymarferol iawn y mae Vikki Howells newydd eu gwneud. Soniodd am yr un mesuriadau ag a welais wedi eu dyfynnu. Gwahaniaethodd rhwng y ddau fath gwahanol o bwyntiau gwefru, ac rydym angen y pwyntiau gwefru cyflym, ond hyd yn oed wedyn, ar hyn o bryd, rydym yn sôn am hanner awr i ailwefru 80 y cant. Sut y mae hynny’n cymharu â llenwi tanc o betrol? Ychydig funudau. Felly, mae yna wahaniaeth mawr o hyd, a bydd yn gwneud llawer o deithiau’n anymarferol o fewn ffrâm amser benodol, teithiau y gallwch eu gwneud ar hyn o bryd.Mae yna faterion eraill hefyd yn codi mewn perthynas â cheir trydan. Sut y gallwn gael gwared ar yr holl fatris ar ôl i ni eu defnyddio ac o ble y daw’r rhannau i’w gwneud yn y lle cyntaf? O ystyried mai dwy o’r rhannau a ddefnyddir yw lithiwm, y daw peth ohono o Zimbabwe, a chobalt, y daw peth ohono o Weriniaeth Ddemocrataidd Congo, gall hyn greu problemau ynglŷn ag amodau gwaith yn y gweithfeydd yn y gwledydd hynny.Problem arall yw bod cerbydau trydan hefyd yn dawel iawn; ni allwch eu clywed yn dod. Felly, un peth y gallem ei gael, os cawn fwy o geir trydan ar y ffordd, yw mwy o farwolaethau ymhlith cerddwyr, beicwyr a beicwyr modur. Felly, er fy mod yn cytuno â byrdwn cyffredinol eich cynnig, ac mae’n rhywbeth sydd angen inni ei archwilio, rwy’n credu bod yn rhaid inni gadw mewn cof ein bod yn mynd i ddyfroedd dieithr a gallai fod peryglon o’n blaenau. Diolch. Rhun ap Iorwerth AC: Mi wnaf i gyfraniad byr. Rydw i eisiau gwneud hynny oherwydd fy mod i’n teimlo’n wirioneddol angerddol ynglŷn â’r mater yma. Rydw i’n licio ceir. Rydw i wastad wedi licio ceir; roeddwn i’n mynd i’r ‘motor shows’ pan oeddwn i’n hogyn bach, efo fy rhieni. Rydw i’n ystyried moduron i fod yn ddarnau o gelf, ac mae rhywun yn gallu edrych ar gar o unrhyw gyfnod a dysgu llawer am y cyfnod hwnnw oddi wrth y car sydd o’ch blaen chi. Bydd, mi fydd y ceir sydd ar ein ffyrdd ni yng Nghymru yn y dyfodol yn arwydd o beth fydd ffasiynau a ffyrdd o fyw Cymru yn y dyfodol.Mae fy niddordeb i mewn ceir yn eu gyriant nhw hefyd, sydd hefyd wedi dilyn ffasiynau ac wedi dilyn ‘trends’ byd eang. Rydym ni’n gwybod yn barod, wrth gwrs, bod gyriant wedi newid dros y blynyddoedd, wrth i anghenion a dyheadau a disgwyliadau pobl newid. Ond mae arferion pobl o ran eu dewis nhw o gar yn gallu cael eu newid, ac mae yna nifer o ddylanwadau yn gallu dod i mewn i hyn: consyrn amgylcheddol, wrth gwrs, ac mae hynny diolch byth yn dod yn fwy amlwg; perfformiad car, o bosib; a’r gost hefyd.Rydym ni yng Nghymru rŵan yng nghanol neu, o bosib, ar ddechrau’r newid mawr nesaf o ran gyriant ceir, sef y newid i gerbydau llwyr drydanol, ond mae o’n newid graddol iawn, iawn, ac nid ydw i’n gweld y gwir gymhelliad yna eto i gyflymu’r newid yna. Mae pwynt 1 yn y cynnig heddiw yn nodi cyflymder y chwyldro mewn technoleg trafnidiaeth, ond nid ydy strategaeth Llywodraeth a pholisi cyhoeddus yn dod yn agos at ddal i fyny efo’r chwyldro technolegol hwnnw.Rydw i yn wirioneddol yn credu bod yna gyfle i ni yng Nghymru i greu enw i’n hunain yn y maes yma, a thrwy hynny i yrru a chyflymu newid yn arferion defnyddwyr yng Nghymru. Felly dyma i chi ambell i syniad: pam ddim newid canllawiau cynllunio i dai newydd er mwyn ei gwneud hi’n orfodol i osod pwyntiau gwefru y tu allan iddyn nhw? Lle mae’r strategaeth ar draws y sector cyhoeddus i osod pwyntiau gwefru? A oes rhaid cael pwyntiau gwefru mewn meddygfeydd neu ysgolion yr unfed ganrif ar hugain? Mae angen gweithredu ar hyn. Lle mae’r rheoliadau i’w gwneud hi’n angenrheidiol i fflyd cerbydau’r sector cyhoeddus—cynghorau, yr NHS ac ati—fod yn sero allyriadau neu’n drydanol? Mae yna un rheolwr NHS yn fy etholaeth i sydd wedi bod yn trio sicrhau bod nyrsys ardal a nyrsys ysgol yn gallu cael ceir trydan ar gyfer eu hymweliadau nhw, ond yn methu oherwydd bod y contract a oedd gan yr NHS efo cwmni a oedd yn methu â darparu ceir trydan. Dyma newid a allai gael ei gyflwyno drwy newid polisi.Beth am rwydwaith wedi’i farchnata o ran ei apêl dwristaidd? ‘Dewch i Gymru ac mi wnawn ni sicrhau bod eich amgueddfeydd chi a’ch atyniadau twristiaeth a’ch gwestai chi yn llefydd lle y gallwch chi wefru eich car.’ Nid ydw i’n gwybod os mai’r dacteg ydy gadael i bethau ddigwydd yn organig, gadael pethau i siawns, ond nid oes rhaid i chi ond edrych ar fapiau Tesla o bwyntiau gwefru ar draws Ewrop i weld bod Cymru yn cael ei gadael ar ei hôl. Rydw i’n sôn am bwyntiau gwefru cyflym; dim ond ar goridorau’r A55 a’r M4 y maen nhw yng Nghymru. I fi, sy’n hollti fy mol eisiau cael car trydan, nid ydy’r rhwystrau yn rhai rydw i’n gallu eu goresgyn mewn ffordd sy’n economaidd synhwyrol ar hyn o bryd.As someone who is unashamedly a fan of the motor car for its artistic and mechanical and technological merits—and before I’m criticised, I’m as eager as anybody to make sure as many people as possible leave their motorcars behind and use public transport. But, as a car fan, I want Wales to embrace and to accelerate the electric vehicle revolution, to normalise electric vehicles. So, let’s try to build a reputation for Wales as an EV-friendly country. And knowing that investment and culture change doesn’t happen overnight, I think even a declaration of real intent, a declaration of ambition to build that reputation, could be a good way to get the ball rolling on this.Finally, I was discussing recently with an electric vehicle enthusiast in my constituency who, incidentally, has installed a high voltage charger at his business in Llangefni, because of the lack of charging points elsewhere. I said, ‘I don’t want Wales to just follow others in this.’ His response: ‘At the moment, we’re not even following; we’re looking at our feet and shuffling’, and we really need to move ahead from that.Diolch yn fawr iawn am gymryd rhan yn y ddadl yma. I’m glad to have had this opportunity. I’m thankful to those who have put forward this motion today and, with a pun fully intended, let’s use this debate as a spark to Government putting a positive electric vehicle vision forward for Wales. Diolch. Galwaf ar y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James. Julie James AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf fi hefyd ychwanegu fy niolch i’r Aelodau a gyflwynodd y ddadl bwysig hon ac am yr holl gyfraniadau meddylgar gan bob Aelod yn y Siambr heddiw? Rwyf fi, hefyd, yn eithaf brwd ynglŷn â cheir. Mae pawb sy’n fy adnabod yn dda yn gwybod fy mod yn adfer hen geir Mini fel ffordd o ymlacio ar y penwythnosau. Ac rwyf fi hefyd yn teimlo y dylai Cymru fod ar frig y don, pa gyfatebiaeth bynnag a fynnwch, ar gyfer datblygu hyn.Rwy’n teimlo rheidrwydd, yn anffodus, i fynd i’r afael â chyfraniad braidd yn ddigalon Gareth Bennett gyda hanesyn adnabyddus am yr adeg y cyflwynwyd cerbydau modur yn y lle cyntaf, pan groesawyd y cerbyd modur gan lawer o wledydd ar draws Ewrop, ond rhoddodd Prydain ddeddfwriaeth ar waith i wneud i ddyn gyda baner goch gerdded o’u blaenau. O ganlyniad, roedd bron bob un o gwmnïau modurol mawr, llwyddiannus yr ugeinfed ganrif yn yr Almaen a Ffrainc, ac roeddem ni’n llusgo ar ôl yn ofnadwy. Mae gwers y Ludiaid yn glir: ni allwch atal llanw technoleg; ni allwch ond ei groesawu a’i fowldio yn ôl eich uchelgais eich hun. A dyna rydym eisiau ei wneud yma yng Nghymru fel rhan o strategaeth ein Llywodraeth i gofleidio a chynnwys ein hunain yn y newid hwn sydd i’w groesawu’n fawr, yn fy marn i, wrth i’r dechnoleg ddatblygu.Gwnawn hynny drwy gael strwythur trithroed i sefyll arno, sef drwy gael polisi sy’n croesawu’r newid ac sy’n hyblyg, drwy gael polisi seilwaith i fynd gyda’r polisi trosfwaol sy’n ein galluogi i fowldio ein buddsoddiad i sicrhau bod y gofynion newydd ar gyfer y seilwaith hwnnw yn eu lle, a hefyd fod gennym bolisi sgiliau sy’n cynhyrchu’r bobl angenrheidiol i gynhyrchu’r seilwaith ac yn wir, y cerbydau ac yn y blaen sy’n teithio ar y seilwaith yn y dyfodol. Ac nid oes unrhyw reswm o gwbl pam na allai Cymru fod ar flaen y gad ym mhob un o’r pethau hynny.Mae’r angen i weithredu yn hynod o glir, nid yn unig oherwydd bod y dechnoleg wedi cyrraedd pa un a ydym yn hoffi hynny ai peidio—yn wir, rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau’n gweld fy mod yn ei hoffi’n fawr iawn—ond hefyd, mewn gwirionedd, oherwydd ei fod yn ein galluogi i osod llwybr clir ar gyfer Cymru o ran datgarboneiddio a chynhyrchiant ynni adnewyddadwy gwirioneddol dda ar yr un pryd.Mae’n rhaid i ni fod ar y blaen yn y gêm hon. Mae’n rhaid i ni ddeall systemau trafnidiaeth deallus, integreiddio gwybodaeth— Nick Ramsay AC: A wnewch chi ildio? Julie James AC: Yn sicr. Nick Ramsay AC: Diolch am ildio, Julie. Rydych wedi bod yn eithriadol o dda ac yn ddiwyd yn ymweld â mannau gwan band eang ar draws fy etholaeth ac ar draws rhannau mwyaf anghysbell ac anghyfannedd Cymru dros y misoedd diwethaf. A ydych chi wir yn barod i fynd i’r afael â hyn? Efallai y cewch wahoddiad i bob math o rannau o Gymru i archwilio pwyntiau gwefru trydan sy’n fannau gwan yn ogystal. [Chwerthin.] Julie James AC: Rwy’n edrych ymlaen at hynny’n barod. [Chwerthin.] Wel, y rheswm y bûm yn ymweld â’r holl leoedd hynny oedd am fy mod eisiau gwneud yn siŵr ein bod yn gwneud yn fawr o’r dechnoleg wrth iddi ein cyrraedd.Fel roeddwn ar fin dweud, mae deall systemau trafnidiaeth deallus, integreiddio technoleg gwybodaeth a chyfathrebu gyda seilwaith trafnidiaeth, cerbydau a defnyddwyr yn un o’r heriau pwysig hyn. Felly, wrth inni fabwysiadu’r technolegau newydd hyn—allyriadau isel, cerbydau awtonomaidd cysylltiedig ac yn y blaen—mae angen inni wneud yn siŵr fod ein cwmnïau yng Nghymru a’n seilwaith mewn sefyllfa i fanteisio arnynt. Mae gennym gyfres gyfan o gynhyrchwyr sydd eisoes â diddordeb mewn dod i Gymru neu sydd eisoes yng Nghymru, ac sydd â diddordeb mewn addasu eu gwaith i gynnwys hyn, ac mae hynny’n rhan o’r rheswm pam ein bod yn mynd i fuddsoddi £100 miliwn yn y parc modurol ym Mlaenau Gwent. Bydd hwnnw—nid af i ailadrodd y metrics ar gyfer hynny gan fod pawb ohonoch yn ymwybodol ohonynt.Mynychais ginio ar ôl Digidol 2017 yn ddiweddar gyda chyfres o entrepreneuriaid modurol a digidol gyda golwg ar ddod â hwy at ei gilydd i siarad am eu syniadau. Roedd hwnnw’n ginio addysgiadol iawn, gan ei fod yn gwneud i chi ddeall o ddifrif beth yw rhai o’r elfennau integreiddio ar gyfer hyn. Felly, mae’n rhaid i ni integreiddio ein rôl mewn datblygu a gweithgynhyrchu batris, a phwyntiau gwefru trydan a’u dosbarthiad ar draws Cymru—mannau gwefru trydan cyflym; rwy’n derbyn y pwynt hwnnw’n llwyr. Mae’n rhaid inni gael gweithgynhyrchu cerbydau trydan at ddibenion arbennig ar raddfa lai, gweithgynhyrchu cyfansawdd, mae angen inni gael cwmnïau annibynnol cystadleuol iawn yng Nghymru, ond mae’n rhaid inni gael seilwaith cyhoeddus da iddynt allu eu defnyddio, ar gyfer mannau prawf y ddwy flynedd nesaf, ac yna ar gyfer ceir y dyfodol, wrth i hynny gael ei gyflwyno.Rwy’n credu ei bod yn werth edrych am funud ar ychydig o’r pethau y bydd angen i ni eu trafod ar hyd y ffordd. Bydd yr Aelodau’n gwybod ein bod wedi cyhoeddi cynllun gweithredu symudol yn ddiweddar, sy’n sôn am barodrwydd, ymhlith pethau eraill, ar gyfer profion pumed genhedlaeth ac atebion arloesol eraill yng Nghymru. Hoffwn i’r Aelodau feddwl ychydig ynglŷn â sut y gallai cerbyd awtonomaidd deithio ar hyd ffordd. Bydd y ffordd honno’n wifrog. Bydd ganddi bibell band eang ffibr tetrabeit yn rhedeg ar ei hyd, a bydd nodau arni bob hyn a hyn i siarad â’r cerbydau uwch ei phen. Ond ni fydd y car yn gwthio sbigyn i’r ffordd. Bydd yn rhaid iddo gael rhyw fath o sbectrwm—Wi-Fi neu sbectrwm radio—i siarad â’r ffordd honno, ac â’r car o’i flaen. Os yw’r Llywodraeth yn gwerthu’r sbectrwm radio 5G, sy’n adnodd cyfyngedig—cofiwch nad yw’n beth diddiwedd—yn y ffordd y mae wedi gwerthu sbectra eraill, yna bydd beth fydd gennym, i bob pwrpas, yn cyfateb i fancio tir. Felly, bydd yr Aelodau’n ymwybodol iawn nad yw’r bedwaredd genhedlaeth ar gael ledled Cymru, ond mae 4G wedi cael ei werthu, ac nid yw’r cwmnïau sy’n berchen arno yn ei ddefnyddio mewn ardaloedd nad ydynt yn fasnachol hyfyw. Rydym yn galw ar Lywodraeth y DU i feddwl o ddifrif am y ffordd y mae’n ymwneud â gwerthu sbectra y tro nesaf, nid fel buchod arian parod, ond fel ffyrdd o wneud yn siŵr y gellir defnyddio’r seilwaith hwn yn gynhyrchiol i wneud i’r dechnoleg hon ddigwydd yn y ffordd iawn. Felly, er enghraifft, yn bersonol ni fyddwn eisiau gyrru mewn cerbyd awtonomaidd yng nghanol Powys i ddarganfod bod fy nghysylltiad symudol yn torri i ffwrdd oherwydd bod cwmni sector preifat wedi dod i gytundeb ysgeler yn rhywle arall yn y byd ac wedi mynd yn fethdalwr. Buaswn yn hoffi iddo fod yn seilwaith cyhoeddus, ac rwyf angen iddo fod yn ddibynadwy ac yn wydn. Felly, rwy’n meddwl bod gwir angen meddwl drwy’r pethau hyn wrth inni symud ymlaen i’r dyfodol. Felly, rwy’n meddwl ei bod yn werth nodi hynny.Ar yr un pryd, mae angen inni groesawu newid o ran batris a thechnoleg, er enghraifft, fel bod yr ystod yn mynd yn fwy ac yn well, a’n bod yn mynd i’r afael â rhai o’r materion a nododd Gareth Bennett ynglŷn â chynhyrchu deunyddiau prin ac yn y blaen. Yn ddiweddar, cefais bleser mawr o fynychu canolfan ymchwil catalysis arloesol ym Mhrifysgol Caerdydd i edrych ar beth o’r arbrofi sy’n digwydd yno ar ddatblygu celloedd tanwydd gwahanol a defnyddio gwahanol gatalyddion i gynhyrchu gwahanol fathau o dechnoleg tanwydd. Rwy’n cyfaddef, er fy mod wedi deall yr hyn a ddywedwyd wrthyf ar y pryd, nid wyf yn rhy siŵr y gallwn ei ailadrodd yn awr yn ei holl ogoniant cemegol amryliw. Ond roedd yn drawiadol iawn yn wir, ac wrth gwrs mae’r Llywodraeth wedi rhoi llawer iawn o adnoddau i bartneriaethau trosglwyddo gwybodaeth a masnacheiddio adnoddau o’r fath gyda chwmnïau priodol yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus mewn perthynas â’r gwaith ymchwil hwnnw, er mwyn gwneud yn siŵr fod y masnacheiddio ar gyfer y math hwnnw o beth yn digwydd yma yng Nghymru. Mae fy amser yn mynd i ddod i ben—fel arall buaswn yn darllen rhestr hir o gwmnïau sy’n rhan fawr o hynny i chi.Fel y nododd Vikki Howells, rydym wedi darparu £2 filiwn yn y gyllideb i helpu i sicrhau rhwydwaith o bwyntiau gwefru, ac yn ogystal, rydym yn gosod 10 pwynt gwefru cyflym yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru i wasanaethu fel rhwydwaith i weithwyr ac ymwelwyr wrth inni ei gyflwyno. Rydym yn cysylltu â Swyddfa Cerbydau Allyriadau Isel y DU, sy’n gweinyddu cyllid y DU ar y potensial i gynnal digwyddiadau tebyg i sioeau teithiol yng Nghymru ar gyfer y sector cyhoeddus a’r sector preifat, ac mae fy nhîm arloesi wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau mewn partneriaeth ag Innovate UK a’r Rhwydwaith Trosglwyddo Gwybodaeth ar gyfleoedd i ariannu systemau trafnidiaeth integredig fel rhan o’n seilwaith, systemau awtonomaidd cysylltiedig a chyflymu arloesedd mewn systemau rheilffyrdd.Dirprwy Lywydd, mae gennyf 12 neu fwy o dudalennau eraill am yr holl bethau y gallem eu gwneud mewn perthynas â rheilffyrdd a thrydan— Na, nid wyf yn credu hynny. [Chwerthin.] Julie James AC: [Yn parhau.]—nad wyf am foddio fy hun yn eu darllen i gyd. Ond rwy’n meddwl ei bod yn werth—ac fe faddeuwch i mi am wneud hynny—crybwyll yr angen i hyrwyddo meddylfryd polisi ar bob lefel o lywodraeth yn y DU. Mae’r mater o gynhyrchu trydan er mwyn cynnal y technolegau newydd hyn yn un mawr. Felly, rwy’n mynd i fanteisio ar y cyfle hwn yn ddiedifar i ofyn i Lywodraeth y DU wneud y penderfyniad ar y morlyn llanw yn Abertawe yn y ffordd y dylid ei wneud—fel y gwyddom y mae pawb yng Nghymru am iddo gael ei wneud, oherwydd credaf nad yw’n dderbyniol mewn gwirionedd eu bod yn llusgo’u traed ar hynny—ac i ffieiddio at fethiant i drydaneiddio’r brif reilffordd draw i Abertawe, nid yn lleiaf oherwydd ein bod angen seilwaith ar gyfer cyflwyno rhai o’r rhaglenni eraill. Mae yna lawer o bethau y gallwn eu gwneud. Rydym wedi bod yn glir o’r dechrau ein bod eisiau systemau trafnidiaeth integredig yng Nghymru i ddod â chymunedau yn agosach, i gysylltu ein pobl â chyfleoedd swyddi, hamdden a thwristiaeth, ac i ddatblygu ein heconomi. Ond yn fwy na dim byd arall, rydym yn awyddus i gael ein cario ar frig y don, i groesawu hyn, a’i wneud yn gyfraniad Cymru i’r dyfodol wrth inni symud ymlaen. Diolch yn fawr. Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Eluned Morgan i ymateb i’r ddadl. Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr. Hoffwn ddiolch i Jenny Rathbone a phawb arall a gefnogodd y ddadl hon, oherwydd credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn dechrau edrych at y dyfodol. Pan fyddwn yn datblygu strategaeth economaidd newydd, mae’n rhaid i hyn fod yn rhan sylfaenol ohoni, ac rwy’n falch iawn mai Julie James yw’r person sy’n ymateb i hyn gan fod ganddi ddealltwriaeth wirioneddol o’r dechnoleg hon a’r angen a’r potensial i hyn newid y ffordd yr ydym yn byw. Nid wyf yn ei weld fel rhywbeth negyddol, rwy’n ei weld yn cynnig cyfleoedd newydd go iawn yn enwedig i bobl sy’n byw yng nghefn gwlad Cymru. Gwn fod General Motors yr wythnos hon wedi cyhoeddi y byddai’n cynnal profion gyrru cerbydau hunan-yrru yn ninas Efrog Newydd. Felly, y pwynt yw: mae hyn yn digwydd yn awr, nid yw hwn yn chwyldro sy’n mynd i ddigwydd yn y dyfodol, nid ffuglen wyddonol ar gyfer ein hwyrion yw hyn—mae hyn yn digwydd yn awr ac mae angen inni ddal i fyny, ac mae angen i ni greu’r seilwaith a rhoi hwnnw ar waith. Yn wir, mae Elon Musk, sef gwrw’r dechnoleg newydd hon, wedi dweud ei fod eisiau cael cerbyd cwbl awtonomaidd ar y ffordd erbyn 2018: y flwyddyn nesaf yw hynny. Cerbyd masnachol yw hynny. Felly, mae pethau’n newid: rwyf newydd ddychwelyd o Frwsel ddoe, a gallech weld ceir yn cael eu gwefru ar y stryd ym Mrwsel. Mae pobl eraill yn ei wneud, mae angen inni ddal i fyny.Mae disgwyl y bydd y dechnoleg newydd hon, mewn amser, yn arwain at ostyngiad o 90 y cant mewn damweiniau, gostyngiad o 40 y cant mewn tagfeydd, gostyngiad o 80 y cant mewn allyriadau, a gostyngiad o 50 y cant yn y gofod parcio a gaiff ei arbed. Ac rwy’n meddwl ei bod yn hollol gywir na ddylem gyfyngu hyn, fel y dywedodd Jenny, i gerbydau trydan. Mae cyfle i gerbydau hydrogen gyfrannu at hyn hefyd. Yn fy etholaeth, yn Llandrindod, gwn fod y car Riversimple—maent ar fin dechrau cynllun peilot newydd sy’n mynd i fod yn digwydd o’r Fenni. Felly, mae hyn yn digwydd—rydym yn rhan o hyn, ond mae angen inni fynd ymhellach.Un o’r pethau mwyaf diddorol i mi mewn gwirionedd yw bod y potensial i fod yn berchen ar gar newydd yn debygol o newid. Nawr, mae KPMG wedi awgrymu bod 59 y cant o benaethiaid diwydiant yn credu na fydd mwy na hanner yr holl berchnogion ceir heddiw am fod yn berchen ar gar erbyn 2025: wyth mlynedd o nawr yw hynny. Wel, nid wyf yn gwybod amdanoch chi, ond mae hynny’n golygu fy mod wedi prynu fy nghar olaf. [Chwerthin.] Felly, credaf ei bod yn bwysig iawn inni ddeall bod yr economi gylchol hon, fod y ffordd newydd o fod yn berchen ar geir hefyd yn mynd i newid ein perthynas â’r ffordd yr ydym yn teithio o gwmpas mewn gwirionedd. Ac wrth gwrs, fe fydd rhai’n dioddef. Fe fydd rhai’n dioddef: mae’n debyg na fydd gyrwyr tacsi yn hapus iawn ynglŷn â hyn; mae’n debyg na fydd y bobl sy’n adeiladu motorau tanio yn gyffrous iawn ynglŷn â hyn. Ond dyna pam y mae’n rhaid i ni symud gydag ef a chreu swyddi newydd. Nid wyf yn un o’r proffwydi gwae. Nid wyf yn credu y gallwn wthio bys i’r morglawdd. Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn ei groesawu a’n bod yn rhedeg gydag ef.Mae’n rhaid inni fanteisio ar y cyfleoedd economaidd hynny. Mae’r Boston Consulting Group yn dweud bod y farchnad hon yn mynd i fod yn werth $77 biliwn erbyn 2035. Nawr, hyd yn oed pe bai gennym ffracsiwn o hynny yng Nghymru byddai’n gam mawr. Rwy’n gobeithio’n fawr y bydd y Gweinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet, pan fyddant yn datblygu’r strategaeth economaidd newydd hon, yn meddwl—fel y maent, rwy’n siŵr—y tu hwnt i’r presennol. Mae gwrando ar Julie wedi fy nghalonogi’n fawr, a gwybod eu bod yn cadw llygad ar hyn mewn gwirionedd, fod potensial ar ei gyfer, ond hefyd i wrando ar y problemau real sydd gennym mewn gwirionedd. Wyddoch chi, os oes gennym y Wi-Fi 5G yn mynd allan i’r sector masnachol, heb fod unrhyw reolaeth arno, yna gallai hynny, o bosibl, rewi’r system go iawn mewn rhai ardaloedd. Rwy’n credu ei bod yn bwysig hefyd—. Clywsom am gynllunio—siaradodd llawer o bobl am gynllunio—ac rwy’n meddwl bod Rhun yn llygad ei le yn sôn nid yn unig am system wefru’r seilwaith yr awgrymodd Vikki ei bod yn wirioneddol bwysig—y system wefru cyflym honno. Mae yna wefru cyrchfannau hefyd. Gallwch yrru i rywle a’i adael i wefru dros nos. Mae angen inni wneud yn siŵr y gall hynny ddigwydd, ac mae’n digwydd mewn rhai mannau yng Nghymru eisoes. Ond rwy’n credu bod cyfle inni feddwl. Ac rwy’n gobeithio y byddwn yn adeiladu hyn i mewn i bethau pan fyddwn yn asesu beth fydd yr effaith os ydym yn mynd ati i newid yr M4, a beth fydd yr effaith pan fyddwn yn ailgynllunio ein trefi a’n dinasoedd. Mae angen adeiladu pob un o’r pethau hyn i mewn i’r syniadau cynllunio hynny yn awr, fel yr awgrymodd Rhun.Gwn fod llawer o bobl yn y Siambr hon wedi ymrwymo i wella trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, a hoffwn ofyn i bobl roi ystyriaeth arbennig i sut y gallai’r dechnoleg hon fod yn fuddiol iawn mewn rhannau o’r Gymru wledig, lle y mae angen i bethau fod ychydig yn fwy hyblyg, lle na allwn gael bysiau mawr a phethau yn yr un ffordd ag y gallwch mewn dinasoedd. Ac mae’r potensial sydd yno, rwy’n meddwl, yn enwedig ar gyfer helpu poblogaeth sy’n heneiddio, yn wirioneddol wych ac unwaith eto, mae angen inni feddwl am hynny.Soniodd Dai Lloyd am yr anhawster gyda lonydd gwledig cul. Wel, un o’r pethau a ddysgais o siarad â Tesla yw bod yn rhaid i chi beintio streipiau gwyn ar ymyl ffyrdd, ond yn hanner ein hardaloedd gwledig, nid oes unrhyw streipiau gwyn i’r cerbydau awtonomaidd hyn eu darllen. Felly, unwaith eto, beth y mae awdurdodau lleol yn ei wneud? A ydynt yn cynnwys hynny yn eu strategaethau economaidd?Felly, mae angen inni feddwl sut y gwnawn hyn, mae angen inni feddwl sut y gallwn addasu ein gridiau—nid y gridiau seilwaith mawr yn unig, ond a allem gael gridiau mwy lleol? A allwn wneud mwy gydag ynni adnewyddadwy, sy’n hollol hanfodol? Ni fyddwn yn gallu parhau os cawn y chwyldro hwn at gerbydau trydan gyda’r seilwaith pŵer sydd gennym yn awr. Felly, gadewch inni gofio bod y chwyldro cerbydau trydan ar ein gwarthaf. Rwy’n credu bod angen inni symud yn gyflym iawn i wneud yn siŵr nad ydym yn cael ein gadael ar ôl, ac rwy’n gobeithio y gallwn arwain gyda’r dechnoleg hon a chroesawu’r dechnoleg hon, gan fy mod yn credu ei fod yn gyfle go iawn i ni yng Nghymru arloesi ac arwain.Thank you very much for the debate. Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 9. 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Teithio Rhatach ar Fws a Thrên i Bobl Ifanc Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt. We now move on to the next item on the agenda, which is the Welsh Conservative debate on concessionary bus and rail travel for young people, and I call on Russell George to move the motion. Cynnig NDM6534 Paul DaviesCynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:a) ymestyn cymhwysedd ar gyfer hawlio teithiau bws am ddim i bob person rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru; ab) ymestyn cymhwysedd ar gyfer breintiau cerdyn rheilffordd i bob person rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru. Cynigiwyd y cynnig. Russell George AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig yn enw Paul Davies sy’n galw ar y Cynulliad i ymestyn y cymhwysedd ar gyfer hawlio teithiau bws am ddim a breintiau cerdyn rheilffordd i bob person rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru. Rwy’n credu ei bod yn addas iawn fod ein dadl y prynhawn yma’n dilyn ymlaen o’r ddadl flaenorol.Fel y bydd yr Aelodau’n derbyn, ni allwn gefnogi gwelliant Llywodraeth Cymru sy’n ceisio dileu ein cynnig yn ei gyfanrwydd. Rhaid i mi ddweud, fodd bynnag, fy mod yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth Cymru i’w gweld yn dilyn yr ôl troed wrth ymgynghori ar gynllun newydd i gefnogi pobl ifanc i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a diwygio’r cynllun fyngherdynteithio—cynllun nad yw wedi cyrraedd ei botensial cychwynnol mewn gwirionedd er bod miliynau wedi ei fuddsoddi ynddo, a chafodd ei ddisgrifio fel un siomedig o ran y niferoedd a fanteisiodd arno.Nod y cynnig hwn, Dirprwy Lywydd, yw helpu i ryddhau pobl ifanc o’r heriau ariannol sy’n eu hwynebu yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni trwy gyflwyno cynllun a luniwyd i wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy hygyrch a sicrhau mwy o chwarae teg i bobl iau. Oedolion ifanc sy’n tueddu i fod â’r cyflogau isaf, y premiymau yswiriant car uchaf, hwy sy’n dioddef fwyaf o argyfwng tai Cymru, a hwy hefyd sydd wedi dioddef yr ansicrwydd o beidio â gwybod a fydd eu ffioedd dysgu’n codi unwaith eto—ac mae hyn, wrth gwrs, wedi gwaethygu pryderon pobl ifanc ynglŷn â chostau addysg uwch. Felly, gallai’r cynllun cerdyn gwyrdd a gynigiwn gael gwared ar y rhwystr i gael mynediad at addysg a hyfforddiant ar gyfer swyddi i lawer o bobl yng Nghymru.Yn wir, mae hon yn broblem sy’n wynebu llawer o bobl ifanc yn fy etholaeth i, lle y mae cost defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn rhwystr mawr i lawer o oedolion ifanc wrth iddynt geisio cael mynediad at addysg bellach ac uwch. Yn sgil y ffaith bod ysgolion a cholegau mewn rhai rhannau o ganolbarth Cymru yn darparu cyrsiau mwyfwy cyfyngedig, mae’r cyfyngiadau ariannol a’r anhawster mawr i gael mynediad at addysg bellach mewn mannau eraill yn golygu bod pobl ifanc naill ai’n dewis peidio â dilyn eu dewis cyntaf o bwnc, neu’n peidio â chamu ymlaen i addysg bellach o gwbl. Felly, buaswn yn awgrymu bod yn rhaid i ni weithredu. Rwy’n ei chael hi’n anodd gweld sut y gall strategaeth ‘Ffyniant i Bawb’ Llywodraeth Cymru gael ei gwireddu heb roi mesurau digonol ar waith i leihau cost trafnidiaeth gyhoeddus i bobl iau.Deillia’r cyfiawnhad dros y cynnig hwn o’r rhwystrau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu yng Nghymru heddiw. Bellach, gweithwyr Cymru sy’n cael y cyflogau wythnosol isaf yn y DU. Mae’n arswydus fod pecyn cyflog yn yr Alban yn cynnwys £43 yr wythnos yn fwy na gweithwyr Cymru. O ganlyniad i hyn, mae pobl iau yn wynebu rhagolygon llwm o ran eu gallu i ennill arian. Credaf y bydd darparu gwasanaeth bws am ddim a cherdyn rheilffordd yn chwarae rhan yn galluogi pobl iau i fynd ar drywydd cyflogaeth neu addysg bellach, yn enwedig gan fod pobl ifanc rhwng 18 a 21 oed yn fwy tebygol o ddefnyddio bws nag unrhyw grŵp oedran arall. Mae ein pobl ifanc yn dibynnu’n drwm ar y rhwydwaith bysiau a rheilffyrdd i fanteisio ar gyfleoedd gwaith ac addysg, felly rydym ni ar y meinciau hyn yn credu y dylent gael eu cefnogi yn hynny.Hoffwn nodi bod ein cynnig wedi denu adborth cadarnhaol iawn gan y Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr, a oedd yn hynod falch o ymdrechion y Ceidwadwyr Cymreig i gefnogi’r defnydd o fysiau gan bobl iau. Rydym wedi argymell dwy fenter wedi eu costio’n llawn y credwn y byddent yn lleihau’r baich ariannol sy’n wynebu pobl iau yng Nghymru. Felly, er mwyn helpu pobl ifanc i gyflawni eu potensial, rwy’n meddwl bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy hygyrch i grŵp oedran sy’n ei chael yn anodd, a bydd ein cynllun teithiau bws am ddim hefyd yn creu manteision amgylcheddol sylweddol sy’n mynd y tu hwnt i’r manteision uniongyrchol i bobl ifanc eu hunain, gan annog pobl i newid o foduro preifat i drafnidiaeth gyhoeddus. Mae hyn, wrth gwrs, yn gyson ag amcanion Llywodraeth Cymru i leihau allyriadau cerbydau, a bydd hefyd yn adfywio’r diwydiant bysiau.Fel y dywedais mewn cyfraniad yr wythnos diwethaf, os yw pobl ifanc yn cael eu cyflwyno i drafnidiaeth gyhoeddus yn gynnar, mae’n amlwg eu bod yn dal ati ac yn parhau i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn ddiweddarach mewn bywyd. Felly, rwy’n credu bod ein cynigion ar gyfer trafnidiaeth am ddim yn ddigyfyngiad i bobl rhwng 16 a 24 oed yn gam hanfodol i sicrhau bod pobl ifanc yn gwneud y gorau o’u potensial, gan adeiladu uchelgais ac annog dysgu, fel y mae strategaeth Llywodraeth Cymru, ‘Ffyniant i Bawb’, yn ceisio ei gyflawni. Felly, cymeradwyaf ein cynnig y prynhawn yma i’r Cynulliad, ac edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau’r Aelodau i’r ddadl y prynhawn yma. Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol y gwelliant i’r cynnig, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith i gynnig gwelliant 1 yn ffurfiol. Gwelliant 1—Jane HuttDileu’r cyfan a rhoi yn ei le:Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:1. Yn cydnabod pwysigrwydd economaidd, addysgol a chymdeithasol helpu pobl ifanc â chostau cludiant cyhoeddus.2. Yn nodi'r ymgynghoriad a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun Pas Teithio newydd ac uchelgeisiol i Bobl Ifanc sy'n annog mwy o bobl ifanc i ddefnyddio'r bysiau.3. Yn cydnabod bod angen costio unrhyw gynigion.4. Yn nodi pwysigrwydd ymgysylltu'n helaeth â phobl ifanc, awdurdodau lleol, darparwyr addysg a chwmnïau bysiau i sicrhau bod y ddarpariaeth, o'i hehangu, yn targedu'r rheini sydd angen yr help fwyaf.5. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru trwy Trafnidiaeth i Gymru i annog mwy o bobl ifanc i ddefnyddio rhwydwaith cludiant cynaliadwy, integredig ac amlfoddol. Cynigiwyd gwelliant 1. Ken Skates AC: Gwelliant 1. Diolch yn fawr iawn. Paul Davies. Paul Davies AC: Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma. Fel y mae Russell George wedi dweud, mae trafnidiaeth gyhoeddus dda yn hanfodol ar gyfer pobl iau yng Nghymru sy’n dibynnu ar fysiau a threnau i gael mynediad at ddosbarthiadau addysg, swyddi penwythnos, clybiau ar ôl ysgol a chwaraeon—mae’r rhestr yn ddiddiwedd. Mae mynediad at y cyfleoedd a’r gweithgareddau hyn yn rhan annatod o ddatblygiad y genhedlaeth nesaf, sy’n parhau i’w gwneud yn glir eu bod am weld gwell trafnidiaeth gyhoeddus. Efallai fod yr Aelodau’n cofio bod Senedd Ieuenctid y DU wedi pleidleisio dros wneud trafnidiaeth gyhoeddus ratach, well a mwy hygyrch yn brif ymgyrch ar gyfer 2012. Deilliodd yr ymgyrch hon yn y DU o arolwg barn cenedlaethol o 65,000 o bobl ifanc, a nodai’r pum prif fater sy’n peri pryder i bobl ifanc, ac roedd trafnidiaeth gyhoeddus yn amlwg iawn ar frig yr agenda honno. Felly, mae’n bwysig fod Llywodraethau ar bob lefel yn dangos eu bod yn gwrando ar farn pobl ifanc wrth ddarparu gwasanaethau trafnidiaeth.Wrth gwrs, mae’n bwysig hefyd fod y diwydiant rheilffyrdd a bysiau’n gwrando ac yn ymgysylltu â phobl ifanc, gan fod pobl ifanc yn farchnad bwysig ar gyfer teithio cyhoeddus. Yn wir, yn aml iawn, ni fydd gan bobl ifanc unrhyw ddewis ond defnyddio gwasanaethau bws a thrên cyn iddynt ddysgu gyrru. Felly, rhaid i ddarparwyr trafnidiaeth gyhoeddus sicrhau bod pobl ifanc yn cael profiad cadarnhaol o deithio’n gyhoeddus er mwyn eu hannog i barhau i ddefnyddio bysiau a threnau pan fyddant yn oedolion, hyd yn oed os ydynt yn dysgu gyrru neu’n prynu car.Rydym yn byw mewn oes lle y mae’n cymryd eiliadau i anfon trydariad neu ddiweddaru statws ar Facebook, ac felly mae’n amlwg y gall pobl ifanc fod yn ddylanwad mawr ar drafnidiaeth gyhoeddus, neu’n feirniadol iawn ohoni, ac mae hynny’n rhywbeth nad yw’r diwydiant bysiau a threnau wedi bod o ddifrif yn ei gylch yn y gorffennol. Felly, efallai fod yna gyfle yn y fan hon i weithredwyr gwasanaethau bws a thrên ymgysylltu mwy â phobl iau wrth ddatblygu gwasanaethau a hyd yn oed ymgyrchoedd yn y dyfodol, drwy ddefnyddio’r llwyfannau digidol hyn lawer mwy nag y maent wedi ei wneud yn y gorffennol i gyfathrebu â phobl ifanc.Felly, o ystyried pwysigrwydd trafnidiaeth gyhoeddus i bobl ifanc, mae’r cynnig hwn heddiw yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi camau i gyflwyno cynllun cerdyn gwyrdd newydd i ddarparu mynediad at deithiau bws am ddim yn ddigyfyngiad a theithio ar y trên am bris gostyngol i’r holl bobl rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru. Rwy’n credu bod y cynllun hwn yn anfon neges glir i bobl ifanc ledled Cymru ein bod yn cydnabod y pryderon sydd ganddynt mewn perthynas â thrafnidiaeth gyhoeddus, a’n bod yn edrych ar ffyrdd y gallwn eu cefnogi’n well.Bydd y polisi hwn hefyd yn helpu i gryfhau a chefnogi’r diwydiant bysiau yng Nghymru drwy annog mwy a mwy o bobl ifanc i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, a thrwy hynny ddiogelu’r gwasanaethau bws hynny ar gyfer y dyfodol, sy’n arbennig o bwysig mewn ardaloedd gwledig a’r etholaeth a gynrychiolaf. Bydd cynllun fel hwn yn ddi-os yn gwneud rhai gwasanaethau bysiau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, yn llawer mwy cynaliadwy.Wrth gwrs, gall y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus fod hyd yn oed yn fwy o rwystr i bobl ifanc ag anawsterau dysgu sy’n eithaf aml yn teimlo bod y system drafnidiaeth gyhoeddus yn gymhleth a bygythiol. Un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol y gall Llywodraeth Cymru gefnogi pobl ifanc sydd ag anawsterau dysgu i ddefnyddio’r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn syml iawn yw cynyddu dealltwriaeth a goddefgarwch o’r heriau sy’n wynebu pobl ifanc ag anawsterau dysgu. Rwyf wedi cael nifer o sylwadau gan grwpiau megis Pembrokeshire People First, a dylwn ddatgan buddiant fel eu llywydd. Mae grwpiau fel Pembrokeshire People First yn parhau i ddadlau dros bolisïau i wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy hygyrch i bobl ag anawsterau dysgu, ac un o’u galwadau yw hawl i deithio ar fysiau’n rhad ac am ddim. Y gobaith yw y bydd y cynllun hwn yn helpu mewn rhyw ffordd drwy annog mwy o bobl ifanc ag anawsterau dysgu i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, a thrwy hynny feithrin eu hyder a’u hannog i fyw’n fwy annibynnol a chymryd rhan yn y gymuned ehangach.Yn sicr, mae pwysigrwydd darparu trafnidiaeth gyhoeddus dda yn sicr i’w deimlo mewn ardaloedd gwledig, lle y ceir llai o wasanaethau a chostau uwch. Ar gyfer pobl ifanc sy’n byw mewn ardaloedd gwledig fel Sir Benfro, nid yw’r ddaearyddiaeth mor gydgysylltiedig â rhannau eraill o Gymru. Felly, credaf fod achos yma dros wneud gwell defnydd o’r fflyd drafnidiaeth bresennol yn ardaloedd gwledig yr awdurdodau lleol trwy ddatblygu mwy o ddull partneriaeth gyda’r rhai sy’n darparu gwasanaethau trafnidiaeth mewn cymunedau lleol. Byddai hyn yn golygu dwyn ystod o asiantaethau a rhanddeiliaid ynghyd, yn ogystal ag adrannau awdurdodau lleol, i gydlynu’n ganolog a threfnu trafnidiaeth gyhoeddus, trwy ystyried cynhwysedd y rhwydwaith prif ffrwd a dod o hyd i fylchau, gobeithio, yn y ddarpariaeth drafnidiaeth lle y gellir darganfod atebion ar y cyd. Gyda chyllid yn dynn i lawer o awdurdodau lleol mewn ardaloedd gwledig, mae angen dewisiadau amgen i gefnogi argaeledd trafnidiaeth ar gyfer pobl ifanc, ac efallai fod ymagwedd gydweithredol a all gydlynu trafnidiaeth gyhoeddus yn ffordd effeithiol ymlaen.Felly, i gloi, Dirprwy Lywydd, wrth galon y ddadl hon mae’r awydd i ddarparu mwy o gymorth ac annibyniaeth i bobl iau. I wneud hyn, credaf fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru, darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus a phobl ifanc eu hunain weithio gyda’i gilydd i wneud gwasanaethau’n fwy fforddiadwy, hygyrch a derbyniol. Nod ein cynigion yw rhoi annibyniaeth i bobl ifanc deithio’n fwy rhydd o amgylch Cymru trwy gynnig teithiau bws am ddim a theithiau ar y trên am bris gostyngol i bobl ifanc, ac rwy’n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig. Jeremy Miles AC: Heddiw, pan fyddwch yn siarad ag unrhyw berson ifanc am y math o bethau y maent am eu gweld o wleidyddiaeth, mae trafnidiaeth gyhoeddus, o ran ei argaeledd a’i gost, bob amser yn eithaf agos at frig y rhestr. Drwy fforwm economaidd ardal Castell-nedd, clywsom stori am ddyn ifanc a oedd wedi colli hyder am fod cyfle lleoliad gwaith wedi methu, a hynny am ei fod yn gorfod dibynnu ar gludiant bws o ben cwm Nedd i mewn i Gastell-nedd ac ymlaen i Gaerdydd. Roedd yr anhawster o wneud i’r daith honno weithio iddo ef wedi arwain at golli ei swydd a’i adael ar ôl, mewn gwirionedd, ar y ffordd i gyflogaeth gynaliadwy. Felly, yn bendant mae angen i bobl ifanc gael bargen newydd ar gyfer defnyddwyr bysiau ac un sy’n caniatáu iddynt deithio am ddim neu’n rhad, ond sydd hefyd yn gwella amseroedd teithio a phrofiad. Ac mae hynny’n ymwneud â blaenoriaethu bysiau, materion cynllunio a thechnoleg, fel sydd wedi ei drafod gennym sawl gwaith o’r blaen yn y Siambr hon.Ar gost teithio, croesawaf ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ymestyn oedran teithio am bris gostyngol i gynnwys rhai 24 oed, a buaswn yn annog pobl ifanc ledled Cymru i ymateb i’r ymgynghoriad gyda’u safbwyntiau fel y gallwn glywed beth sy’n bwysig iddynt hwy. Rwyf hefyd yn meddwl ei bod yn iawn y dylai Llywodraeth Cymru gadw’r opsiwn, os oes angen, o gynllun gorfodol i adeiladu ar y trefniadau gwirfoddol os gwelir bod angen gwneud hynny. Ond nid yw’r ddadl heddiw ar gynnig y Ceidwadwyr Cymreig yn ymwneud â’r pethau hynny; mae’r cynnig yn ailadrodd y polisi y mae’r Ceidwadwyr wedi bod yn pwyso amdano yn y wasg dros yr wythnosau diwethaf, ac mae’n gyson os nad yw’n fawr ddim arall.Maent yn honni bod cynnig teithiau bws am ddim a thraean oddi ar docynnau trên yn costio £25 miliwn. Gadewch inni edrych ar hynny. Ar hyn o bryd ceir oddeutu 15,000 o ddeiliaid tocynnau a fydd yn gwneud tua 1.5 miliwn o deithiau ar fysiau erbyn mis Mawrth 2018. Ar sail y ffigurau hynny, gallwch gymryd yn ganiataol y buasai tocyn teithio rhad ac am ddim yn cael ei ddefnyddio gan lawer mwy o bobl ifanc. Gan gymryd bod tocyn bws i oedolion yn costio tua £2 ac y byddai oddeutu 350,000 o bobl yn gymwys o bosibl, byddai’r pris am gynnig y Ceidwadwyr yn agosach at £70 miliwn na £25 miliwn mae’n debyg—ac ar gyfer yr elfen bws yn unig y mae hynny, heb sôn am y gostyngiad trên. Nawr, mae gennyf gyfrifiannell os oes unrhyw un am ei benthyg.Ond maent yn dweud wrthym eu bod am gael gwared ar y lwfans cynhaliaeth addysg er mwyn talu am ran ohono, yn union fel y gwnaeth eu cymheiriaid Torïaidd yn San Steffan—y lwfans cynhaliaeth addysg, sydd, gyda llaw, yn cynorthwyo 26,000 o fyfyrwyr i aros mewn addysg. Nawr, os ydych chi’n un o’r myfyrwyr hynny—ac rydym wedi clywed llawer am gyfleoedd addysg o’r fainc gyferbyn heddiw—os ydych chi’n un o’r myfyrwyr hynny byddai cynllun y Ceidwadwyr yn mynd â mwy na £1,500 y flwyddyn oddi wrthych. Mae Russell George wedi dweud bod costau trafnidiaeth yn rhwystr mawr i addysg ac rwy’n cytuno, ond beth ar y ddaear ydych chi’n galw colli £1,500? Rwy’n galw hynny’n rhwystr enfawr hefyd.Ac os nad yw polisi bws y Torïaid yn ddigon o benbleth, mae eu polisi o draean oddi ar docynnau trên eisoes yn bolisi rheilffyrdd cenedlaethol. Felly, ni fyddaf yn cefnogi cynnig y Torïaid heddiw gan nad yw’n helpu pobl ifanc ac nid yw’n gwneud synnwyr. Rwy’n annog pobl ifanc i ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ac i ddweud wrthym beth y maent ei eisiau o ran teithiau bws am ddim er mwyn iddynt gael polisi sy’n gweithio iddynt. Dai Lloyd AC: Mae’n bleser cymryd rhan yn y ddadl yma’r prynhawn yma. Nawr, mi fydd Plaid Cymru yn cefnogi cynnig y Ceidwadwyr heddiw, oherwydd, mewn egwyddor, mi ydym ni’n gefnogol o’r syniad o ymestyn cymhwysedd ar gyfer hawlio teithiau bws a rheilffordd am ddim i bob person rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru. Os ydych chi’n gofyn i bobl ifanc os ydyn nhw eisiau talu i fynd ar y bws, neu fynd am ddim, mynd am ddim sy’n ei chael hi bob tro. Ond mae’n rhaid i’r gyllideb fod ar gael er mwyn gwireddu hynny. Felly, mi fuasem yn galw ar y Llywodraeth i edrych ar gynigion y Ceidwadwyr am hyn, ac i beidio â diystyru a phardduo unrhyw gynigion polisi gan wrthbleidiau heb hyd yn oed eu hystyried nhw’n gyntaf. Mi fuasai gwneud unrhyw beth i’r gwrthwyneb i hynny yn sicr yn anaeddfed ar ran y Llywodraeth ac yn or-blwyfol heb reswm. Oherwydd, o edrych ar welliannau’r Llywodraeth, yn ogystal â dogfen ymgynghori’r Llywodraeth, mae’n edrych yn debyg y bydd y Llywodraeth yn cyflwyno rhywbeth tebyg dros y blynyddoedd nesaf, ta beth. Felly, mi oedd ymateb y Llywodraeth i’r cyhoeddiad yma gan y Ceidwadwyr yn hollol ddiangen. Ond mae’n rhaid cofio, wrth gwrs, pam yr ydym yn ystyried ehangu’r manteision hyn i fwy o bobl ifanc. Yn amlwg, mi fuasai sicrhau bod mwy o bobl ifanc yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn dod â nifer o fanteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol, fel rydym ni wedi clywed eisoes yn y drafodaeth yma. Ond, mewn rhannau helaeth o Gymru ble mae dreifio yn fwy cyfleus, mae trafnidiaeth gyhoeddus hefyd yn brin. Mae angen ehangu darpariaeth gwasanaethau bysys, ac yn y pen draw i’w ddod ag ef nôl i fod yn wasanaeth cyhoeddus.Ond, mewn sefyllfaoedd a lleoliadau ble mae darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus ar gael, yna mae’n angenrheidiol i ni ddarganfod ffyrdd arloesol er mwyn newid ymddygiad o blaid defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae angen cael bysys a threnau sydd yn ddibynadwy, sydd yn cyrraedd ar amser bob tro, sydd yn lân, sydd yn cydlynu efo gwasanaethau eraill, ac yn cydgysylltu efo'i gilydd, a hynny’n digwydd yn rheolaidd, fel nad oes angen treulio rhan sylweddol o bob dydd yn teithio.Mae’r cynigion yr ydym yn eu dadlau heddiw’n werth eu hystyried fel un ffordd amlwg o gyrraedd at y nod o newid ymddygiad o blaid defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, o blaid rhyddhau a’i gwneud hi’n haws i’n pobl ifanc gael swydd yn y lle cyntaf a chadw’r swydd honno pan fyddan nhw wedi ei chael hi. Felly, edrychaf ymlaen at dderbyn rhagor o wybodaeth am y posibiliadau hyn gan y Llywodraeth ar ôl i’r cyfnod ymgynghori ddod i ben. Diolch yn fawr. Janet Finch-Saunders AC: Rhaid i annog mwy o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus fod yn agos at frig agenda unrhyw Lywodraeth. Mae’r manteision i’r amgylchedd, yr economi, iechyd y cyhoedd, yn ddiymwad. Yn ogystal, mae cynorthwyo ein pobl ifanc i gael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth ac addysg yn hanfodol i dwf a datblygiad ein gweithlu yn y dyfodol. Mae ein dadl heddiw— Member of the Senedd: A wnewch chi dderbyn ymyriad? Janet Finch-Saunders AC: Nid wyf ond newydd ddechrau, mae’n ddrwg gennyf. Mae ein dadl heddiw yn amlinellu polisi realistig, cadarnhaol wedi’i gostio. Yn wir, efallai y byddai disgwyl yn realistig i Lywodraeth Cymru gefnogi hyn, o ystyried ei bod yn mynd mor bell tuag at fodloni amcanion pobl ifanc, fel sydd wedi ei amlinellu yn eu dogfen, ‘Ffyniant i Bawb’, ac mae’n ddewis amgen credadwy yn lle’r system bresennol.Nid oes ond 15,000 o bobl ifanc rhwng 16 a 18 oed wedi gwneud cais am fyngherdynteithio Llywodraeth Cymru, o gyfanswm o 113,000. Nawr, maddeuwch i mi am feddwl bod rhywbeth o’i le ar hynny. Mae’r ystadegyn hwnnw ar ei ben ei hun yn dweud nad yw eu neges yn cael ei chlywed. Dyma gyfradd defnydd o 13 y cant yn unig, ac eto mae ymgynghoriad presennol Llywodraeth Cymru yn methu gofyn y cwestiwn hyd yn oed ynglŷn â sut y gallwn annog mwy o bobl ifanc i ymuno â’r cynllun. Mae’n bryder go iawn, oherwydd gwyddom fod 23 y cant o yrwyr sy’n cael damweiniau mewn cerbyd modur a 21 y cant o’r rhai sy’n cael damweiniau difrifol neu angheuol yn 24 oed neu’n iau. Felly, mae angen inni fynd ati i annog opsiynau trafnidiaeth amgen a mwy gwyrdd lle y bo’n bosibl.Ein cynigion i ymestyn hawl i deithio am ddim ar fysiau i bawb sydd rhwng 16 a 24 oed yw’r opsiwn symlaf, mwyaf agored a hygyrch. Dylai cymhwysedd cyffredinol annog pobl i fanteisio ar y cynnig, ac yn yr ardaloedd lle y ceir ein ffyrdd prysuraf, dylai weithio i leihau tagfeydd a damweiniau. Yn ogystal, bydd lleddfu baich costau trafnidiaeth yn lleihau’r heriau economaidd mwy cyffredinol sy’n wynebu ein pobl ifanc yma yng Nghymru heddiw. Arbedion o ran petrol, yswiriant, prynu car yn y lle cyntaf: mewn gwirionedd maent yn ffigur tebyg i flaendal am dŷ o fewn ychydig flynyddoedd i rai pobl ifanc. Mae cost yswiriant car ar gyfartaledd i rywun 17 oed, er enghraifft, yn swm anhygoel o £2,272 y flwyddyn bellach. Yn ogystal â hyn, gweithwyr Cymru sydd â’r cyflog mynd adref isaf o holl wledydd y DU, gyda chyflogau canolrifol wythnosol i rai rhwng 18 a 21 oed yn 40 y cant yn unig o gyflogau rhai rhwng 40 a 49 oed. Ymhellach, mae’r gyfradd gyflogaeth ymhlith rhai rhwng 16 a 24 oed gryn dipyn yn is yma nag yn Lloegr a’r Alban, a chaiff 57,400 o bobl rhwng 16 a 24 oed eu categoreiddio fel NEET—rhai nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant.Nawr, o ystyried bod bron 40 y cant o’r rhai sy’n chwilio am waith yn dweud bod eu hymdrech i ddod o hyd i waith wedi ei chyfyngu oherwydd y costau sy’n gysylltiedig â hynny, mae’n amlwg fod mynediad drwy gyfrwng teithiau bysiau am ddim yn gallu gwneud gwahaniaeth hynod o gadarnhaol yn hyn o beth. Ddeunaw mlynedd ers sefydlu’r Cynulliad hwn, mae Llafur Cymru, gyda chymorth achlysurol gan Blaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol, wedi methu mynd i’r afael ag anghenion ein pobl ifanc, sy’n wynebu rhai o’r cyfleoedd cyflogaeth gwaethaf yn y DU. Mae’r polisi hwn yn glir a gellid ei roi ar waith ar unwaith, ac rwy’n annog y pleidiau o bob rhan o’r Siambr hon i gefnogi ein cynnig heddiw. Diolch. Rhianon Passmore AC: Dychmygwch fy syndod o weld bod y ddadl hon gan y Torïaid gerbron y Senedd yn cynnig haelfrydedd tybiedig—yr un grŵp o Aelodau gyferbyn sy’n cefnogi’r polisi cyni ideolegol, obsesiynol y mae Llywodraeth Dorïaidd y DU yn ei orfodi ar ddioddefwyr yn ddidrugaredd: er enghraifft, diddymu budd-dal tai ar gyfer rhai 16 a 17 oed, a lle y maent mewn grym, fel yn Lloegr, cael gwared ar y lwfans cynhaliaeth addysg i’r bobl ifanc hyn yn yr un modd ag y maent yn argymell yn awr y dylid cael gwared arno i bobl ifanc yng Nghymru.Mae cyfleoedd bywyd—mae rhai rhwng 16 a 24 oed yn genhedlaeth sy’n dioddef yn enbyd. O’r cyni parhaus i gontractau dim oriau yn y sector preifat ac i Lywodraeth Dorïaidd yn Lloegr sy’n methu darparu tai mwy fforddiadwy, mae pobl ifanc ar draws y DU yn parhau i dalu’r pris am esgeulustod a methiant y Torïaid. Dychmygwch fy syndod pan glywaf eich bod yn dymuno helpu’r genhedlaeth iau i gyrraedd eu potensial trwy ddiddymu eu lwfans cynhaliaeth addysg. Nid yw’n syndod bod gweld rhywun ifanc sy’n pleidleisio dros y Torïaid bron mor anodd â dod o hyd i Aelod Cynulliad o blith y Ceidwadwyr Cymreig sy’n credu y bydd Theresa May yn eu harwain i mewn i’r etholiad nesaf.Ond gadewch i ni edrych yn fanylach ar y cynigion hyn. Beth ydynt? Wel, mae’r athrawon economaidd gyferbyn sy’n pregethu wrthym ynglŷn â drygau gwariant yn honni eu bod yn cynnig teithiau bws am ddim a gostyngiad o draean ar docynnau trên, fel y mae Jeremy Miles eisoes wedi dweud, ar gyfer yr holl bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed ar gost o £25 miliwn. Rwy’n siŵr eu bod yn credu y bydd hyn yn gwneud deunydd darllen hyfryd a chreadigol fel datganiad i’r wasg, ond buaswn yn dweud hefyd fod yn rhaid inni edrych ar y print mân, gan fod y diafol bob amser yn y manylion. Daw’r cyllid arfaethedig hwn, fel y dywedais, o gael gwared ar y lwfans cynhaliaeth addysg—sy’n helpu mwy na 26,000 o fyfyrwyr i aros mewn addysg amser llawn yng Nghymru ac sydd, peidiwch ag anghofio, yn achubiaeth i’n pobl ifanc fwyaf agored i niwed sydd mewn perygl o adael addysg yn gyfan gwbl. Mae’n help enfawr i’w cyfleoedd mewn bywyd a byddai cael ei wared yn cael effaith ddinistriol yng Nghymru pe bai’n cael ei ganiatáu, fel sydd wedi digwydd yn Lloegr.Yn wir, a ydynt wedi ymgysylltu â myfyrwyr a phobl ifanc mewn gwirionedd? Pe bawn yn dweud wrthych, ‘jam am ddim yfory,’ rwy’n credu y buasem ei eisiau, ond pe bawn i’n dweud, ‘jam am ddim yfory, ond fe fyddwch yn colli eich mynediad at addysg,’ mae’r ymateb yn wahanol. Yr wythnos diwethaf, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar y posibilrwydd o ymestyn yr oedran ar gyfer teithio am bris gostyngol i gynnwys rhai 24 oed. Mae’n ymarfer ymgynghori eang, fel y dywedwyd, a’i nod yw ymgysylltu â phobl ifanc, ysgolion, colegau, sefydliadau a chwmnïau bysiau er mwyn datblygu cynllun sy’n ddeniadol. Mae’r ymgynghoriad hwn yn rhedeg tan 4 Ionawr, 2018 ac yn edrych ar amrywiaeth o agweddau, gan gynnwys pa gategorïau o deithiau, lle y mae oedran cymhwysedd a maint y gostyngiad, a dulliau talu amgen yn cynnwys cyfraniadau sefydlog fesul taith neu docyn misol/blynyddol ar gyfer teithio am ddim adeg ei ddefnyddio. Felly, mae gennym Lywodraeth Lafur Cymru gydag ymgynghoriad pwrpasol ar y gweill nad yw i gael ei gwblhau tan fis Ionawr, ac eto, am ryw reswm, dyma gyflwyno’r hyn na ellir ond ei weld fel ymgais sinigaidd gan y blaid gyferbyn i achub y blaen arno neu i ddilyn yn ei sgil.Felly, gadewch inni edrych ar y ffigurau hynny: ar hyn o bryd, 15,000 o ddeiliaid tocynnau a fydd yn gwneud oddeutu 1.5 miliwn o deithiau ar fysiau erbyn mis Mawrth 2018. Ar sail y ffigurau hyn, gellir cymryd yn ganiataol yn rhesymol y byddai tocyn teithio rhad ac am ddim yn cael ei ddefnyddio gan lawer mwy o bobl. Gan ragdybio bod pris tocyn bws i oedolion yn £2 ac y gallai oddeutu 350,000 o bobl fod yn gymwys, gallai cynnig y Torïaid gostio tua £70 miliwn o ran ad-dalu teithiau bws yn unig. Mae hynny bron dair gwaith y gost a gyhoeddwyd gan y Torïaid—tair gwaith £25 miliwn. Nid yw’r ffigur hwn ond yn cynnwys y rhan o’r cynllun sy’n ymwneud â theithiau bws am ddim ac nid yw’n ystyried y gost ychwanegol sylweddol o ad-dalu cwmnïau trenau am ddarparu gostyngiad o draean oddi ar gostau teithio ar y trên i rai rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru.Felly, sut y byddai’r Torïaid Cymreig yn pontio’r bwlch ariannu enfawr hwn rhwng y £25 miliwn a gyhoeddwyd ganddynt a’r £70 miliwn a mwy y byddai’r cynllun hwn yn ei gostio mewn gwirionedd, yn enwedig o ystyried yr effaith ddinistriol y mae cyni parhaus eu plaid yn parhau i’w gael ar gyllidebau? Mae’r Torïaid Cymreig yn dadlau dros gynllun gydag anghydlynedd economaidd damniol a fyddai’n peri i ‘spreadsheet Phil’ gochi. Eto maent yn parhau i bregethu i’r gweddill ohonom eu bod yn feistri o ran eu cymhwyster economaidd. Ni fyddai Alec Douglas-Home hyd yn oed, gyda’i goesau matsis, yn gallu cynhyrchu’r ffigurau hyn gan y Torïaid Cymreig. Felly, fel y cyfryw, byddaf yn cefnogi’r gwelliannau i’r cynnig a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru, yn hytrach nag economeg anhygoel a ffantasïol y Torïaid Cymreig. Diolch. Suzy Davies AC: A wnewch chi faddau i mi am ddechrau trwy ddweud bod ‘ymgynghori pwrpasol’ ychydig bach yn hwyr efallai i Lywodraeth y methodd ei chynllun diwethaf mor drawiadol ac sydd, wrth gwrs, wedi effeithio ar fy etholaeth i? Y peth cyntaf yr hoffwn siarad yn ei gylch yw’r etholwyr hynny. Mae fy rhanbarth yn dilyn ffiniau hen awdurdod Gorllewin Morgannwg i bob pwrpas, a gyflwynodd, yn ôl yn niwloedd amser ac mewn tystiolaeth a dogfennau sydd yn ôl pob golwg yn llawer rhy ddrud i’r awdurdod lleol eu datgelu y dyddiau hyn, bolisi addysg coleg trydyddol sy’n parhau i fod yn ddylanwadol hyd heddiw. Mae cyngor bwrdeistref Castell-nedd Port Talbot yn parhau i ddilyn y polisi hwnnw. Gyda dau eithriad, yn seiliedig ar iaith a chrefydd, darparir addysg ôl-16 gan lond llaw o golegau addysg bellach, ac mae uno gydag addysg bellach Powys heb fod mor bell â hynny’n ôl yn golygu bod peth o’r cynnig hwnnw bellach yn ymestyn ymhell y tu hwnt i ffin yr awdurdod lleol. Gallai hynny olygu bod gan bobl ifanc ddewis da o addysg ôl-16 o bosibl, ond mae’n cael ei ddarparu mewn nifer fach o gampysau canolog, sy’n ymestyn i mewn i ganolbarth Cymru ac sydd wedi eu gwahanu gan bellter sylweddol. Felly, trwy ddiffiniad, nid yw’r rhain yn lleol i’r rhan fwyaf o bobl, ac yn fy mhrofiad i, mae codi’n gynnar i deithio cryn bellter yn gynnig go anneniadol i rai pobl ifanc, os yw fy nhŷ i’n llinyn mesur o fath yn y byd, ac mae hyd yn oed yn fwy anneniadol os nad cost y bws i’r coleg yw’r gwariant blaenoriaethol o’r lwfans cynhaliaeth addysg os ydynt yn ei gael, neu arian arall yn wir os nad ydynt yn ei gael. Roedd colegau’n dweud wrthym, heb fod mor bell â hynny’n ôl, fod eu cronfeydd caledi’n cael eu llyncu—a hyn yn ystod cyfnod y lwfans cynhaliaeth addysg—gan gostau gofal plant a theithio, gan adael dim ar ôl ar gyfer ateb gofynion eraill, ac os mai’r cyfeiriad y mae Cymru’n mynd iddo yw canoli darpariaeth colegau addysg bellach, yna byddai ein polisi cerdyn gwyrdd yn lliniaru’r ddwy elfen gysylltiedig honno sy’n creu pwysau.Mae fy ail bwynt yn ymwneud â darpariaeth iaith Gymraeg ôl-16 yng Nghymru, ac eto rwy’n edrych ar Gastell-nedd Port Talbot: un chweched dosbarth iaith Gymraeg, a leolir ar ben uchaf cwm Tawe, filltiroedd o’r prif ardaloedd poblogaeth. Rwy’n credu y buasai’n rhaid i chi fod yn ymroddedig iawn i gyrraedd yno os ydych yn byw yn rhywle fel Port Talbot, ac nid yw cymorth ar gyfer teithio wedi ei warantu’n arbennig o dda. Nid yw’r colegau trydyddol yn agos at fod yn barod eto ar gyfer darparu amgylchedd ymdrwythol ar gyfer y Gymraeg. Rwy’n credu y gallai ein cerdyn gwyrdd helpu Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei thargedau o filiwn o siaradwyr Cymraeg drwy beidio â thagu’r cyflenwad i’r chweched dosbarth hwnnw, drwy beidio â gwneud cost yn rheswm i berson ifanc ddewis coleg a all fod yn agosach, a thrwy beidio â’i gwneud yn haws i adael eich Cymraeg ar ôl.Mae fy nhrydydd pwynt yn ymwneud â’r modd y mae pobl ifanc yn edrych arnynt eu hunain, ac rwy’n credu bod hyn yn bwysig iawn. Dechreuodd David Melding siarad am y peth yn y ddadl ddiwethaf, mewn gwirionedd. Afraid dweud, rwy’n credu, y bydd defnydd y boblogaeth o drafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig lleihau diesel, yn arwain at lai o lygredd aer a sŵn, yn ogystal â chreu llai o dagfeydd ar y ffyrdd. Er y byddai llawer o’n pobl ifanc, yn enwedig y rhai 16 oed, yn cael budd o’n cerdyn gwyrdd—. Wel, nid ydynt yn gyrru eto. Felly, mae eu hannog i wneud mwy o ddefnydd o fysiau a threnau yn helpu i ymgorffori’r syniad nad oes angen iddynt ddibynnu ar geir drud yn y dyfodol. Mae tagfeydd yn mynd i arafu eu teithiau ar y ffordd os ydynt yn estyn am allweddi eu ceir beth bynnag, felly mae annog poblogaeth sy’n hoff o ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus drwy ddefnydd o’r cerdyn gwyrdd yn gweithio ar ddwy lefel o iechyd, gyda’r cyntaf yn ymwneud ag ansawdd aer gyda llai o geir, neu lai o geir yn segura—yr un peth ydyw mewn gwirionedd.Ond yr ail bwynt, a’r un llai amlwg efallai yw eich bod, trwy ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, yn cerdded ac yn beicio mwy. Hyd yn oed os oes rhaid i chi gerdded at ben draw eich stryd i ddal bws, mae hynny’n bellach na cherdded at y car sydd wedi’i barcio tu allan i’ch tŷ. Yn 2009, canfu Sefydliad Iechyd y Byd mai un o’r ffyrdd gorau o annog mwy o weithgarwch corfforol yn gyffredinol oedd trwy bolisi trafnidiaeth, ac mae cerdyn gwyrdd y Ceidwadwyr Cymreig yn bwydo i mewn i hynny mewn ffordd amlwg iawn, gan y bydd trafnidiaeth gyhoeddus yn galw am rywfaint o deithio ar droed neu feicio, ar un pen i’r daith o leiaf. Mewn gwledydd lle y mae’r boblogaeth yn gwneud cyfran uwch o deithiau trwy gerdded, seiclo neu drafnidiaeth gyhoeddus—rwy’n siŵr ein bod wedi clywed hyn o’r blaen—ceir cyfraddau is o ordewdra. A hefyd—er nad dyma fydd y ddadl gryfaf yng Nghymru, rwy’n tybio—mae golau’r haul yn rhoi fitamin D i ni, sydd, yn ei dro, yn arwain at risg is o glefyd cardiofasgwlaidd, diabetes math 2 a rhai mathau o ganser.Wedyn, i orffen, ym maes iechyd, ond yn bwysicach, llesiant ehangach, mae sut y mae pobl ifanc yn dod yn hyderus a sut nad ydynt yn cyfyngu eu gorwelion eu hunain yn bwysig. Ar hyn o bryd, mae’n rhaid i bobl ifanc brynu cerdyn trên i deithio’n rhatach, neu efallai eu bod yn cael bargen pan fyddant yn mynd i brifysgol wrth agor cyfrif banc i fyfyrwyr. Bûm yn holi o gwmpas yn gyflym yn lleol yr wythnos diwethaf cyn y ddadl hon, a gwelais nad ar gyfer mynd adref yn unig y mae myfyrwyr Abertawe’n defnyddio’u cardiau. Maent yn manteisio ar y cyfle i fynd i lefydd a gwneud cysylltiadau, sy’n arwain at gyfleoedd gwaith, rhwydweithiau newydd, teithiau na fyddai rhai ohonynt wedi eu hystyried heb y gostyngiad. Gwelodd Coleg Prifysgol Llundain hefyd nad oedd pobl bob amser yn defnyddio cardiau teithio am bris gostyngol gan fod un taliad hyd yn oed yn gallu bod yn anfforddiadwy ar y pryd. Felly, dyna un rhwystr bach sy’n cau’r holl gyfle hwnnw i’r rhai sydd eisoes yn y sefyllfa orau i fanteisio arno. Rwy’n credu bod pawb o’n pobl angen y cyfle hwnnw—nid myfyrwyr yn unig—ac mae ein cerdyn gwyrdd rhad ac am ddim yn ei gwneud ychydig bach yn haws manteisio ar y cyfle hwnnw. Diolch yn fawr iawn. Galwaf yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates. Ken Skates AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r holl Aelodau yn y Siambr am eu cyfraniadau heddiw yn yr hyn sy’n dod yn gyfres o ddadleuon sy’n gysylltiedig â thrafnidiaeth. Cyn i mi ymateb i sylwadau penodol am wasanaethau bws, hoffwn ychwanegu fy enw at y rhestr o rai sydd â diddordeb mewn ceir a dweud bod Cymru mewn sefyllfa ddelfrydol i fanteisio ar dechnolegau newydd, yn enwedig ym maes pwerwaith trydan a hydrogen. Yn wir, mae gennyf ddiddordeb mewn ceir clasurol, ac rwy’n falch o ddweud ei bod hi bellach yn bosibl troi eich car clasurol sy’n cael ei yrru ar betrol yn un â phwerwaith trydan, diolch i wasanaeth sy’n bodoli yma yng Nghymru mewn gwirionedd, Dragon Electric Vehicles, ac sydd ar flaen y gad ym maes datblygu injans trydan ar gyfer cerbydau sy’n bodoli eisoes. Rydym ar y blaen o ran ymchwil a datblygu a gweithredu ffyrdd newydd o bweru cerbydau.Gan symud yn ôl at wasanaethau bws, a gwasanaethau bws i bobl ifanc yn enwedig, rwy’n credu ei bod yn gwbl eglur o’r ddadl hon ein bod i gyd am weld mwy o bobl ifanc yn defnyddio gwasanaethau bws lleol. Rydym am i bobl eu defnyddio’n fwy rheolaidd, nid yn unig o ran manteision amgylcheddol, ond hefyd, fel y nododd Suzy Davies, er budd cymdeithasol a llesiant ehangach, er mwyn cysylltu cymunedau’n well ac yn hollbwysig, er mwyn galluogi pobl i gysylltu’n well â bodau dynol eraill. Ac felly, mae’n nod i’r Llywodraeth hon, ac mae’n rhywbeth yr ydym yn awyddus i’w annog er lles cenedlaethau’r presennol, a’r dyfodol yn wir. Daeth y Llywydd i’r Gadair. Ken Skates AC: Ers mis Ebrill eleni, mae pobl ifanc wedi gwneud dros 0.5 miliwn o deithiau gan ddefnyddio fyngherdynteithio a heddiw, mae yna dros 17,000 o ddeiliaid tocynnau. Rwy’n derbyn nad yw’r gyfran honno, y nifer sy’n eu defnyddio, mor uchel ag y byddem yn dymuno iddi fod, ac felly, yr her yw annog mwy byth o bobl ifanc i wneud yr un peth, er mwyn gwella ein cynllun teithio ar fysiau am bris gostyngol i bobl iau, a’i gwneud yn haws i genhedlaeth gyfan deithio ar y bws. Yr wythnos diwethaf, roeddwn wrth fy modd yn gwireddu ein haddewid i ymgynghori ar y ffordd orau i gynllun newydd Llywodraeth Cymru sydd i’w gyflwyno ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf annog mwy o bobl ifanc i ddod ar ein bysiau. A hoffwn bwysleisio’r pwynt a nododd Jeremy Miles, ei bod yn gwbl hanfodol fod y rhai sydd â fwyaf i’w ennill o unrhyw gynllun teithio am bris gostyngol yn ganolog i unrhyw benderfyniad a wnawn. Mae’r ymgynghoriad ar deithio ar fysiau am bris gostyngol ar gyfer pobl iau yng Nghymru yn anelu i gasglu safbwyntiau pobl ifanc, ysgolion, grwpiau cymunedol, colegau, a chwmnïau bysiau ar gynllun sy’n ddeniadol ac yn fforddiadwy—un a all gynnal pobl yn ymarferol yn eu bywydau, yn eu gwaith ac wrth iddynt astudio.Mae’r ddogfen ymgynghori yn gwahodd sylwadau ar gynnal y ddarpariaeth bresennol neu ymestyn cwmpas y cynllun presennol i gynnwys, o bosibl, codi’r terfyn oedran uchaf, cynyddu lefel y gostyngiad, disodli’r trefniant ad-dalu presennol gan dâl am bob taith, sef rhywbeth a welwn mewn sawl rhan o Ewrop, yn ogystal â chyflwyno ffi fisol neu flynyddol er mwyn cadw teithiau am ddim adeg eu defnyddio. Mae’r ymgynghoriad hefyd yn ystyried ymestyn y cynllun i gynnwys prentisiaid, nad oes ond rhai ohonynt yn gymwys o dan y trefniadau presennol. Mae hefyd yn edrych ar y posibilrwydd o ymestyn y cynllun i gynnwys gwirfoddolwyr, gofalwyr, pobl sy’n cael lwfans cynhaliaeth addysg, a’r holl bobl ifanc mewn addysg bellach. Ac rwy’n cydnabod manteision cynllun o’r fath i lawer o bobl eraill sy’n cyfrannu’n weithredol yn y gymdeithas neu sydd angen cymorth wrth gychwyn ar yrfa newydd ond sydd heb eu cynnwys o fewn yr oedran cymhwysedd. Dyna pam rwy’n arbennig o awyddus i archwilio faint o archwaeth sydd yna i ymestyn yr oedran teithio am bris gostyngol i 24 oed, gan ein galluogi o bosibl i helpu mwy o bobl ifanc i wneud y gorau o deithio ar fws ledled Cymru. Bydd y cynllun, sydd i’w gyflwyno ym mis Ebrill 2018, yn un sy’n adlewyrchu orau beth yw anghenion a dewisiadau ein pobl ifanc ac yn helpu i roi hwb pellach i deithio ar fws fel opsiwn. Mae hynny’n hanfodol os ydym i greu rhwydwaith bysiau cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.Yn y flwyddyn ariannol gyfredol, rydym wedi neilltuo hyd at £1 filiwn i gefnogi’r cynllun gostyngiad o draean. Gellir disgwyl i unrhyw welliant ar y cynllun arwain at fwy o gostau ar gyfer digolledu gweithredwyr bysiau dan yr hyn a fyddai’n parhau i fod yn drefniant gwirfoddol. Fodd bynnag, rhaid i weithredwyr sydd am fod yn gymwys i gael arian grant cynnal gwasanaethau bws gynnig y gostyngiad. Mae’r ddeddfwriaeth bresennol, wrth gwrs, yn golygu na allwn wneud cynllun teithio ar fws am bris gostyngol i bobl ifanc yn orfodol, ac eithrio ar gyfer rhai rhwng 16 a 18 oed mewn addysg amser llawn, ac rwy’n cydymdeimlo’n fawr iawn â’r pwynt a wnaeth fy nghyd-Aelod Jeremy Miles mewn perthynas â’r mater hwn. Rwyf hefyd yn croesawu cynnig Jeremy Miles o gyfrifiannell i’r Aelodau sy’n meddu ar abacws toredig. Rwy’n credu bod ei ddadansoddiad fforensig ef a Rhiannon Passmore o gynigion y Ceidwadwyr yn dangos bod twll anferthol yn y ffigurau. Fe amlinellaf eto y rhesymau pam nad yw’r ffigurau hynny’n dal dŵr. Ar sail 50 y cant o ddefnydd ar draws y cohort 16 i 24 oed, byddai’r gost yn fwy tebygol o fod yn £78 miliwn neu fwy. Mae hynny’n seiliedig ar 50 y cant o ddefnydd. Nawr, rydym yn gwybod bod y Ceidwadwyr yn cefnogi ein barn y dylai fod mwy o bobl ifanc ar y bysiau, felly gan dybio defnydd, efallai, o 100 y cant, yr hoffai pawb ohonom ei weld, rwy’n siŵr, byddai’r ffigur hwnnw’n codi i dros £150 miliwn. Eto byddai eu cyllideb o £25 miliwn yn caniatáu ar gyfer defnydd o 16 y cant yn unig o bobl rhwng 16 a 24 oed. Yn ei dro, byddai hynny’n cyfateb i oddeutu 17,700 o rai rhwng 16 a 18 oed; yn eironig, yr union ffigur defnydd ag yr oedd y Ceidwadwyr mor feirniadol ohono.Fodd bynnag, rwy’n llongyfarch y Ceidwadwyr am ymroi i’r ddadl hon mewn modd hynod o gydweithredol. Rwy’n credu ei bod yn ddefnyddiol iawn eu bod wedi cyflwyno’r ddadl hon heddiw i dynnu sylw at faint y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud ac yn bwriadu ei wneud i gefnogi pobl ifanc ar draws ein holl gymunedau. Fodd bynnag, rwy’n credu y buasai pawb yn y Siambr hon yn derbyn bod disgwyl i bob person ifanc gael ei amddifadu o fanteision car ar gyfer ei holl deithiau yn afrealistig yn ôl pob tebyg. Ond mae’n gwbl realistig, Llywydd, i lawer o bobl ifanc ddefnyddio’r bws ar gyfer mwy o’u teithiau, ac rwy’n gobeithio y bydd nifer o bobl ifanc y mae eu profiad o deithio ar fysiau wedi ei gyfyngu i’r daith ddyddiol i’r ysgol ac oddi yno yn manteisio ar y cynllun newydd i roi cynnig ar ddefnyddio’r bws am resymau eraill, ac ar ôl gwneud hynny, y byddant yn gweld bod bysiau heddiw’n gynnig deniadol mewn gwirionedd.Tra bo lleihau cost teithio ar gyfer pobl ifanc yn flaenoriaeth i annog defnydd, rwy’n derbyn mai rhan o’r ateb yn unig ydyw. Mae darparu cynnyrch bws sy’n ddeniadol a hefyd yn effeithlon yr un mor hanfodol, a bydd unrhyw un sydd wedi defnyddio bws yn ddiweddar, rwy’n credu, yn cydnabod bod y mwyafrif helaeth o gerbydau ar ein ffyrdd yn cynnig amgylchedd glân, cyfforddus ac wedi ei gyfarparu’n dda. Eto i gyd, yn anffodus, ceir argraff anghywir o hyd fod bysiau rywsut yn berthynas dlawd i’r car modur preifat. Os bu hyn erioed yn wir, yn bendant iawn, nid yw’n wir mwyach.Rwyf wedi gofyn i’r Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr, sy’n cynrychioli’r diwydiant bysiau, ddatblygu cynigion ar gyfer ymgyrch farchnata i hyrwyddo a rhoi cyhoeddusrwydd i rwydwaith bysiau heddiw, ac yn amodol ar eu cynigion, buaswn yn gobeithio rhoi arian cyfatebol tuag at eu cyfraniad ariannol i unrhyw ymgyrch o’r fath er mwyn rhoi hwb i nawdd. Bydd y cynllun newydd y bwriadaf ei gyflwyno ym mis Ebrill yn ffordd well a mwy deniadol o annog pobl ifanc i ddefnyddio’r bws ar gyfer mwy o’u teithiau. Mae’r cynllun presennol wedi dechrau’n dda, ond mae angen inni wneud rhagor os ydym am newid agweddau.Bydd yr Aelodau’n ymwybodol o’r uwchgynhadledd fysiau a gynhaliais ym mis Ionawr, ac rwy’n falch o ddweud bod nifer o weithdai’n digwydd yn yr hydref i ystyried y ffordd orau o wella profiad teithwyr mewn arosfannau bws trwy ddarparu gwell cyfleusterau a gwybodaeth gyson i deithwyr; sut y gallwn hefyd ddatblygu atebion ariannu sy’n cynnig mwy o sefydlogrwydd i’r diwydiant bysiau yng Nghymru; a sut y gallwn ddarparu system drafnidiaeth integredig sy’n darparu gwell hygyrchedd ac atebion tocynnau sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Dyma ein huchelgais, a dyma y dymunwn ei gyflawni. Diolch. Galwaf ar Darren Millar i ymateb i’r ddadl. Darren Millar AC: Diolch, Llywydd. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn yr hyn a fu, ar y cyfan, yn ddadl dda a gweddus iawn ar bob ochr i’r Siambr. Rydym yn cyflwyno’r cynigion hyn heddiw am ein bod yn credu eu bod yn cynnig cyfle cyffrous i wneud rhywbeth gwahanol yng Nghymru na chafodd ei wneud mewn unrhyw ran arall o’r DU, sef cynnig cyfle i’n pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed deithio ar y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn rhad ac am ddim, ar ein rhwydwaith bysiau. Ar hyn o bryd, wrth gwrs, rydym yn cynnig y breintiau hynny i rai dros 60 oed ac i grwpiau sy’n agored i niwed a grwpiau arbennig eraill fel aelodau o’r lluoedd arfog sydd wedi cael anaf, a gwyddom fod hynny wedi bod yn hynod o lwyddiannus. Mae wedi bod yn rhywbeth a gafodd ei gefnogi gan bob plaid wleidyddol. Rwyf am estyn breintiau tebyg i’n pobl ifanc, oherwydd credaf eu bod hwy hefyd yn haeddu bargen deg. Mae ein cynigion cerdyn gwyrdd yn dda i bobl ifanc. Fel y clywsoch eisoes gan y siaradwyr yn y ddadl hon, maent yn dda i’r amgylchedd, maent yn dda i drafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, lle y gwelsom wasanaethau bysiau yn cael eu torri oherwydd diffyg hyfywedd masnachol; maent yn dda ar gyfer iechyd y cyhoedd, ac maent yn dda i les cymdeithasol pobl. Rhianon Passmore AC: A wnewch chi dderbyn ymyriad? Darren Millar AC: Fe egluraf ble rwyf fi gyda chostio mewn eiliad, os gwnewch chi eistedd os gwelwch yn dda, gan fy mod yn credu ei bod yn bwysig iawn mai’r un gwrthwynebiad arwyddocaol a oedd gan rai o’r Aelodau, mae’n ymddangos, oedd ynglŷn â’r cyllid. Felly, gadewch i mi fanylu ychydig ar ein cyllid a sut yr ydym wedi costio’r cynigion hyn. Yn gyntaf oll, a gaf fi ddweud bod eich awgrym chi, Rhianon Passmore, am y ffaith y byddai inni gael gwared ar y lwfans cynhaliaeth addysg yn cynyddu nifer y bobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth a hyfforddiant yn anghywir, oherwydd, mewn gwirionedd, mae gan Gymru gyfradd uwch o bobl ifanc NEET na Lloegr, nad oes ganddi lwfans cynhaliaeth addysg o gwbl? Fe sonioch chi, Jeremy Miles, am y ffaith bod 26,000 o bobl yn elwa o’r lwfans cynhaliaeth addysg ar hyn o bryd, ac rydych yn hollol gywir, ond byddai ein cynigion o fudd i 360,000, nid i 26,000 yn unig, ac fel y gwyddoch o siarad ag unigolion yn eich etholaeth eich hun, gall dyfarniadau’r lwfans cynhaliaeth addysg fod yn hynod o gynhennus ymhlith pobl ifanc mewn sefydliadau addysgol, ac mae yna raniad rhwng y rhai sy’n ei gael a’r rhai nad ydynt yn ei gael.Felly, gadewch i mi egluro pam y credaf fod hwn yn bolisi fforddiadwy. Mae eich costau, Ysgrifennydd y Cabinet, wedi eu seilio ar y cynllun fyngherdynteithio sy’n gweithredu ar hyn o bryd, ac sydd, a dweud y gwir, yn gynllun hynod o ddrud. Ni allaf weld sut y mae’n costio cymaint o arian i drethdalwyr Cymru. O ran y ffigurau ar gyfer y flwyddyn ariannol hyd at 2017, roedd 15,000—. Roedd 9,000—gadewch i mi gael y ffigyrau fan hyn—roedd 9,250 yn elwa ar y cynllun hwnnw ar gost o £9.743 miliwn. Golyga hynny fod cost fyngherdynteithio fesul buddiolwr yn £1,053 y flwyddyn. Nawr, ym meddwl unrhyw un, mae hynny’n hynod o ddrud. £1,053 y flwyddyn i gael traean oddi ar eich tocynnau bws pan allwch brynu tocyn bws am flwyddyn gyfan yn fy ardal i mewn gwirionedd am £490 y flwyddyn am bris masnachol. Rwy’n credu bod hwnnw’n gynllun hynod o ddrud ac rwyf eto i weld unrhyw esboniad ynglŷn â pham y mae’n costio cymaint â hynny i drethdalwyr Cymru. [Torri ar draws.] Rwy’n hapus iawn i dderbyn ymyriad. Ken Skates AC: Fel y bydd yr Aelod yn gwybod, mae’n seiliedig ar senario ‘dim gwell, dim gwaeth’, ac felly mae’r ad-daliad yn seiliedig ar faint o deithiau y bydd person ifanc yn eu gwneud. Nawr, mae’n debyg na fyddai eich cynllun fel rydych wedi ei argymell ond yn costio £25 miliwn, ac eto byddai’n gymwys ar gyfer 350,000 o bobl. Hynny yw, ni fyddai cost y pen am y flwyddyn ond yn £71. Nid wyf yn siŵr faint o deithiau y byddai hynny’n eu prynu ar gyfradd ddydd i oedolion, ond nid wyf yn credu ei fod yn llawer, ac mae’n sicr yn llai na’r 200 o deithiau y disgwylir iddynt gael eu gwneud yn sgil cyflwyno cynllun o’r fath. Darren Millar AC: Rwy’n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am egluro pam y mae ei gynllun mor ddrud, oherwydd yr hyn y bydd hefyd yn ei wybod yw bod y cynllun arall sy’n cael ei weithredu gan Lywodraeth Cymru, y cynllun tocyn teithio rhatach, yn llawer llai costus—yn llawer iawn llai drud yn wir. Mewn gwirionedd, mae’n llai na £100 y buddiolwr ar gyfer pobl hŷn sy’n cael eu tocynnau bws am ddim. Ac rwy’n deall yr anhawster y mae Llywodraeth Cymru yn ei gael i geisio cyfiawnhau gwario £1,000 y buddiolwr ar draean oddi ar docyn bws, pan allwch eu prynu dros y cownter mewn gwirionedd am £490—a byddech yn well eich byd yn rhoi grant yn uniongyrchol i’r unigolion dan sylw, a dweud y gwir, gan y byddai’n costio llawer iawn llai i chi—ond y gwir yw, os gallwn fforddio hyn ar gyfer pobl hŷn, gallwn ei fforddio ar gyfer ein pobl ifanc hefyd. Yn sicr, maent yr un mor werthfawr i gymdeithas â phobl hŷn.Nawr, rydym wedi seilio ein ffigurau ar gostau’r cynllun tocyn teithio rhatach presennol, a’r gwariant presennol o fewn y cynllun hwnnw. Mae cost y pen buddiolwyr, fel y dywedais eisoes, gryn dipyn yn is na £100 y flwyddyn, ac os ydym yn ymestyn y cynllun i gynnwys pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed, gwyddom nad yw pob un o’r rheini sydd rhwng 16 a 24 oed yn mynd i fanteisio ar y cyfle, fel sy’n wir gyda phobl hŷn. Felly, ar hyn o bryd, mae pawb sydd dros 60 yn gymwys i fod yn rhan o’r cynllun tocyn teithio rhatach, ond nid oes ond oddeutu 70 y cant o bobl yn manteisio ar y cyfle i fod yn rhan o’r cynllun hwnnw mewn gwirionedd. Rydym yn credu y buasai pobl iau’n dewis: buasai rhai pobl yn dymuno manteisio ar y cyfle i gael eu tocynnau bws am ddim, ni fuasai pobl eraill yn gwneud hynny. Ac mewn gwirionedd rydym yn disgwyl oddeutu dwy ran o dair o’r gyfradd o bobl hŷn sy’n manteisio ar y cynnig, felly byddai ychydig dros hanner y bobl ifanc yn gymwys. Felly, dyna sut yr ydym wedi costio’r cynllun. Rydym hefyd yn gwybod y gallwch brynu cardiau rheilffordd cenedlaethol am bris masnachol ar gyfer pobl ifanc, cerdyn rheilffordd person ifanc am lai na £15 ar sail reolaidd: gwelais hwy’n cael eu hysbysebu am £14.99—£15—yr wythnos diwethaf. Y pris arferol yw £30, ond mae gostyngiad arnynt yn rheolaidd. Nawr, buaswn yn gobeithio y gallai Llywodraeth Cymru ddefnyddio ei grym gwario i 360,000 o rai rhwng 16 a 24 oed gael rhyw fath o ostyngiad ychwanegol ar y pris hwnnw er mwyn annog pobl ifanc i fanteisio ar y cyfle i ddefnyddio’r rhwydwaith rheilffyrdd am bris gostyngol. Felly dyna ble y cawsom ein ffigurau, ac rwy’n hapus i’w rhannu gyda chi yn yr un ffordd ag y gwneuthum yn awr. Rydym wedi taflu ychydig i mewn hyd yn oed—ar ben ariannu’r tocynnau bws ac ar ben cyllid y gostyngiad cerdyn rheilffordd, rydym wedi taflu ychydig i mewn ar gyfer hyrwyddo, am nad ydych wedi gwneud digon i hyrwyddo eich cynllun presennol yn awr, a dyna pam nad oes gennym fwy na 15 y cant pitw—15 y cant—o rai rhwng 16 a 18 oed yn derbyn ac yn cymryd rhan yn y cynllun fyngherdynteithio mewn gwirionedd.Nawr, rydych eisoes wedi clywed bod hwn yn fater pwysig i bobl ifanc. Mae’n un o’r prif flaenoriaethau, fel y cydnabu Paul Davies a Jeremy Miles. Mae cost trafnidiaeth yn rhwystr i bobl rhag gallu mynd i’w lleoliad addysg, mae’n rhwystr iddynt rhag cyrraedd cyfweliad am swydd, heb sôn am gyrraedd y gwaith a dod adref. Felly mae angen inni wneud rhywbeth ynglŷn â hyn. Rydym wedi dod o hyd i ateb, rydym wedi cyflwyno’r ateb hwnnw, rydym yn ceisio ei wneud mewn ffordd amhleidiol, ac mae’n drueni fod rhai pobl sydd wedi siarad yn y ddadl hon wedi ceisio ei gwneud yn ddadl bleidiol iawn a hynny’n gwbl ddiangen. Felly, mae gennym ateb realistig, wedi ei gostio’n llawn i drafferthion teithio pobl ifanc ar draws Cymru, ac rydym am eich annog, Ysgrifennydd y Cabinet, i roi ystyriaeth ddifrifol i ddatblygu’r cynlluniau hyn, oherwydd rwy’n dweud wrthych, byddai’n gwneud gwahaniaeth enfawr i bobl ifanc ledled Cymru.Mae fy merch wedi pasio ei phrawf gyrru—rwy’n falch iawn ohoni. Mae hi wedi pasio ei phrawf gyrru y tro cyntaf, yn wahanol i’w thad, ac mae cost ei hyswiriant yn gwbl afresymol—dros £1,600 y flwyddyn. A gadewch i mi ddweud wrthych, nid yw’n gyrru car swanc; car bach cyfyng ydyw. Felly pan fyddwch yn ystyried y gost i bobl ifanc o allu bod yn fodurwyr ar hyn o bryd, gallwch weld pam y byddai ein cynnig yn rhoi dewis arall iddynt. Byddai’n eu hannog i fanteisio ar y cyfle i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, yn helpu’r llwybrau bysiau i aros yn gynaliadwy, yn eu hannog i fynd allan a gweld eu ffrindiau ac i weld peth o’r hyn sydd gan Gymru i’w gynnig, a byddai’n eu galluogi i fynd yn ôl ac ymlaen i’w lleoliad addysg neu waith. Rhianon Passmore AC: A wnewch chi gymryd ymyriad? Darren Millar AC: Fe gymeraf ymyriad gennych chi. Rhianon Passmore AC: Diolch. Fel y nodwyd, o ran gwella cyfleoedd bywyd, lles a photensial pobl ifanc, sut rydych yn gweld ffactoreiddio’r ochr i’r geiniog lle’r ydych yn mynd i gael gwared ar y lwfans cynhaliaeth addysg i dalu am y polisi arfaethedig bendigedig hwn? Darren Millar AC: Wel, rwy’n meddwl fy mod wedi nodi’n hynny, ond i ailadrodd fy hun, gan ei bod yn amlwg nad oeddech yn gwrando: nid yw’r lwfans cynhaliaeth addysg yn cyflawni ei nodau datganedig. Cafodd y lwfans cynhaliaeth addysg ei ddiddymu yn Lloegr ac mae ganddynt lefelau is o rai nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant—lefelau is nag erioed o’r blaen o rai NEET mewn gwirionedd—yn Lloegr, tra bo cyfradd Cymru lawer yn uwch, yn gyfrannol, o rai rhwng 16 a 18 oed. Fel y dywedais, rwy’n credu bod defnyddio’r arian hwnnw—mae’n ymrannol iawn hefyd. Mae defnyddio’r arian a rhoi cyfle i 360,000 o bobl ifanc, yn hytrach na 26,000, gael budd yn ddefnydd llawer gwell o arian trethdalwyr, a dyna pam rwy’n gobeithio, Ysgrifennydd y Cabinet, y byddwch yn bwrw ymlaen â’n cynigion. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. 10. 8. Dadl Plaid Cymru: Economi Gogledd Cymru Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Paul Davies. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol. Yr eitem nesaf yw dadl Plaid Cymru ar economi y gogledd, ac rwy’n galw ar Llyr Gruffydd i wneud y cynnig. Cynnig NDM6536 Rhun ap IorwerthCynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:1. Yn nodi'r angen i gryfhau perfformiad economi Gogledd Cymru.2. Yn gresynu at danariannu hanesyddol yng ngogledd Cymru gan Lywodraeth Lafur Cymru.3. Yn croesawu llwyddiant Plaid Cymru yn sicrhau buddsoddiad sylweddol ar gyfer gogledd Cymru fel rhan o gytundeb y gyllideb gyda Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018/19 a 2019/20, gan gynnwys:a) gwell cysylltiadau ffyrdd rhwng y gogledd a'r de;b) cyllid i gefnogi dylunio a datblygu trydydd croesiad dros y Fenai;c) cyllid i fwrw ymlaen â chanlyniad yr astudiaeth ddichonoldeb ynghylch creu amgueddfa bêl-droed genedlaethol yng ngogledd Cymru;d) sefydlu cynllun grant ffermwyr ifanc a fydd o fudd i'r diwydiant amaethyddol yng ngogledd Cymru;e) creu cronfa ddatblygu ar gyfer hyfforddiant meddygol israddedig yng ngogledd Cymru;f) rhyddhad ardrethi o 100 y cant ar gyfer cynlluniau ynni dŵr cymunedol, y mae sawl un ohonynt yng ngogledd Cymru;g) cyllid ychwanegol ar gyfer Croeso Cymru a fydd yn hwb i'r diwydiant twristiaeth yng ngogledd Cymru.4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno, fel rhan o'i strategaeth economaidd hir-ddisgwyliedig, ymdrechion gwirioneddol i fynd i'r afael ag anghydbwysedd rhanbarthol yn economi Cymru. Cynigiwyd y cynnig. Llyr Gruffydd AC: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae’n bleser gen i arwain y ddadl yma yn enw Plaid Cymru heddiw ar economi gogledd Cymru ac, yn wir, yn ehangach ar yr angen i Lywodraeth Cymru i roi mwy o chwarae teg i’r gogledd—rhywbeth mae nifer o bobl yn teimlo y maen nhw wedi methu yn glir ei wneud ers blynyddoedd erbyn hyn.Nawr, mae’r Deyrnas Unedig, wrth gwrs, yn cael ei chydnabod ac yn cael ei hadnabod fel gwladwriaeth anghyfartal—un o’r gwladwriaethau mwyaf anghyfartal yn Ewrop, lle mae buddsoddiad, wrth gwrs, yn cael ei ganolbwyntio mewn un cornel bychan o’r wladwriaeth ar draul y gweddill. Yn wir, rydym ni’n byw yn y wladwriaeth o fewn yr Undeb Ewropeaidd lle mae gennym ni’r ardal gyfoethocaf yn Ewrop, yn ogystal, wrth gwrs, â rhai o’r ardaloedd tlotaf, a hynny yn sgil methiannau Llywodraethau olynol y Deyrnas Unedig o bob lliw, a hynny, wrth gwrs, yn destun siom a rhwystredigaeth i nifer ohonom ni. Ond mae yna berig hefyd fod Cymru yn disgyn i’r un trap, a’n bod ni yn mynd lawr yr un llwybr anffodus hwnnw. Pan enillwyd y refferendwm i sefydlu’r Cynulliad hwn 20 mlynedd yn ôl, ac mae yna lawer o edrych yn ôl ar hynny wedi bod yn y misoedd diwethaf, mi oedd yna gryn dipyn o obaith ledled Cymru y gallem ni fel cenedl, nid yn unig dechrau gwneud penderfyniadau dros ein hunain ond, wrth gwrs, i wneud pethau yn wahanol. Ond nid oes ond angen edrych ar ffigurau’r Llywodraeth eu hunain ar gyfer gwariant cyfalaf y pen fesul rhanbarth ar draws Cymru er mwyn gweld yr anghyfartaledd sydd yna mewn buddsoddiad. Ers 2013, mae trigolion y gogledd wedi derbyn dros £360 yn llai y pen na thrigolion de-ddwyrain Cymru, er enghraifft. Ac mae trigolion canolbarth a gorllewin Cymru mewn sefyllfa hyd yn oed yn waeth, lle maen nhw wedi methu allan ar dros £520 y pen mewn cymhariaeth. Nawr, mae’n rhaid pwysleisio—rwy’n siŵr y bydd rhai pobl yn trio portreadu y peth fel hyn—nad ein bwriad ni heddiw, nag ar unrhyw adeg arall pan rydym ni yn amlygu methiannau’r Llywodraeth i wasgaru cyfoeth a buddsoddiad yn gyfartal ar draws y wlad, yw i greu rhyw fath o raniadau a rhwygiadau rhwng rhanbarthau gwahanol yng Nghymru. Rwyf i yn sicr ddim yn dannod buddsoddiad yng Nghaerdydd, ar hyd coridor yr M4, nag yn unrhyw le arall, ond mae yna rwystredigaeth pan nad ydw i’n gweld buddsoddiad cyfatebol, neu weithiau hyd yn oed lled gyfatebol, yn y gogledd. Ein bwriad ni yn y ddadl yma yw tanlinellu’r angen i uno’n cenedl ni drwy sicrhau bod gennym ni wlad sy’n rhannu manteision datganoli yn fwy cyfartal. Ac mae’n rhaid imi ddweud: yr argraff rwy’n ei chael yw bod yr ymdeimlad yma yn y gogledd bod popeth yn mynd i Gaerdydd erioed wedi bod yn gryfach; yn sicr, dyna rwy’n ei glywed ar draws y rhanbarth rwy’n ei chynrychioli. Ac nid wyf yn meddwl bod hyn yn unigryw i’r sefyllfa genedlaethol. Mae yna ‘microcosms’ o hynny yn bodoli mewn awdurdodau lleol ar hyd a lled y wlad. Rwy’n byw yn sir Ddinbych ac rwy’n clywed pobl yn cwyno yn ddyddiol, ‘O, mae’r arian i gyd yn mynd i’r Rhyl ac mae’r ardal wledig yn ne’r sir yn colli mas.’ Rwy’n ddigon eangfrydig i dderbyn bod yna elfen o ganfyddiad yn perthyn i’r ffenomen yma, ond rwyf hefyd yn gorfod cydnabod bod yna fwy nag elfen o realiti yn bodoli hefyd yn y cyd-destun yma ar lefel genedlaethol, ac mae angen newid hynny. Ond er mwyn i hynny ddigwydd, wrth gwrs, mae’n rhaid sicrhau bod buddsoddiad yn cyrraedd pob cornel o Gymru, er mwyn gosod y seilwaith yn ei le er mwyn i Gymru gyfan fedru ffynnu. Ers y chwyldro diwydiannol, mae gogledd Cymru wedi bod yn bwerdy economaidd llwyddiannus. Mae gennym ni weithlu medrus yn y gogledd, a gweithlu cynhyrchiol gydag arbenigeddau megis y meysydd awyrofod, peirianneg, bwyd a’r amgylchedd, a’r cyfan yn dod at ei gilydd ac yn cydweithio’n effeithiol gyda’n colegau a’n prifysgolion ardderchog ni. Mae’r sector dwristiaeth yn un sydd wedi newid yn sylweddol yn y gogledd dros y blynyddoedd; mae’n rhaid cydnabod hynny. Bellach, mae gogledd Cymru wedi goddiweddyd ardaloedd a gwledydd eraill, megis Ardal y Llynnoedd a Chernyw, ac mae’r rhain i gyd yn ddatblygiadau cyffrous ac sydd yn dangos arloesedd y gogledd, a’r potensial sydd yna i wireddu y potensial hwnnw. Mae gan ogledd Cymru gyfleoedd gwych i dyfu’r economi, ac mae’r cynhwysion oll i’w cael yna ar gyfer economi fywiog ac amrywiol, ond er mwyn i hynny ddigwydd, wrth gwrs, mae’n rhaid derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen i ddatgloi y potensial hwnnw yn llawn. Siaradwch chi ag unrhyw un o gwmnïau’r rhanbarth neu unrhyw un sector yn arbennig, ac mi glywch chi thema gyson o safbwynt y gŵyn sy’n dod yn ôl, sef gwendid sylfaenol ein hisadeiledd ni yn y rhanbarth yn y gogledd. Mae gallu ein rhwydwaith ffyrdd ni i ymdopi yn wael, ac roeddwn yn clywed bod yna giwiau o hyd at chwe milltir ar yr A55 y prynhawn yma ddiwethaf—prif ffordd y gogledd ac un o’r llwybrau traws-Ewropeaidd pwysig, wrth gwrs, ar stop am gyfnod yn ystod y dydd. Mae trafnidiaeth gyhoeddus, o fysiau i drenau, yn wan, a dweud y lleiaf, ac mae safon derbyniad signal 4G, heb sôn am unrhyw ‘G’ arall, yn echrydus o wael mewn nifer o ardaloedd. Mae band llydan hefyd yn boenus o araf ac o wan mewn rhannau helaeth o’r gogledd, ac fe allaf i siarad o brofiad personol ynglŷn â hynny.Mae cyflwr ein ffyrdd ni yn golygu nad yw hi’n hawdd i gynhyrchwyr gael eu cynnyrch i’r farchnad, ac roeddwn yn sôn gynnau am dwristiaeth. Mae gennym ni yn y gogledd, wrth gwrs, Zip World, Bounce Below, Surf Snowdonia, beicio mynydd o’r safon orau yn y byd, canŵio dŵr gwyn heb ei ail, ac mae pob un ohonyn nhw yn tynnu arian da i’w hardaloedd, ond trïwch chi deithio o un i’r llall ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mi ddywedaf i wrthych chi ei bod hi bron iawn yn amhosib i wneud hynny.This is where investment by an ambitious Government that looks to boost the whole of Wales can, of course, make a key difference. A Cardiff-centric approach to Government has seen new institutions created along the M4 corridor at the expense of other parts of Wales. The new Welsh Revenue Authority was a prime example, if you ask me, of an opportunity missed. The Government decided, of course, for it to be located at Treforest and, you know, all well and good for the people of Treforest, but there was a palpable feeling in Wrexham that there was a missed opportunity. We know that HMRC are closing their tax office in Wrexham—over 300 employees are likely to lose their jobs there. They had many of the relevant skills, and the question that people there are asking is, ‘Well, why didn’t it come here when this opportunity offered itself?’ Huw Irranca-Davies AC: A wnewch chi ildio, Llyr? Llyr Gruffydd AC: Gwnaf, fe wnaf. Gwnaf, wrth gwrs. Huw Irranca-Davies AC: Diolch yn fawr iawn. Rwy’n gwrando gyda diddordeb mawr ar eich cyfraniad. Roeddwn yn y cyfarfod y bore yma ar gyfer rhaglansiad Banc Datblygu Cymru, ac mae’n rhaid i mi ddweud fy mod wrth fy modd, fel Aelod Cynulliad yn ne Cymru, eu bod wedi dewis pencadlys yng ngogledd Cymru, a staffio’n fwy cymesur o gwmpas canolbarth Cymru a gogledd Cymru yn ogystal â chael pencadlys yng ngogledd Cymru. Mae honno’n ffordd dda ymlaen, byddai’n rhaid iddo gytuno, ac mae’n debyg fod angen inni wneud mwy ohono, ond nid yw hynny’n feirniadaeth ar ranbarthau eraill sy’n ceisio cael buddsoddiad i’w hardal hefyd. Llyr Gruffydd AC: Rwy’n cytuno, a diolch am hynny oherwydd rydych yn gwneud fy araith drosof, i bob pwrpas. [Chwerthin.] Gallaf neidio tudalen yn ôl pob tebyg. [Chwerthin.]Ie, ond pan feddyliwch fod y Llywodraeth yn ei gael yn iawn—. Fel y dywedwch, mae’r Banc Datblygu Cymru newydd yn mynd i gael ei bencadlys yn Wrecsam, ond wedyn, wrth gwrs, fe glywn na fydd y prif weithredwr wedi ei leoli yno, clywn y bydd swyddogion arweiniol ac aelodau’r bwrdd wedi eu lleoli mewn mannau eraill, er bod Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud wrthym y byddai’n fwy na dim ond plât pres ar y drws. Wel, wyddoch chi, rwy’n derbyn ei bod yn gadarnhaol ei fod yn mynd i gael ei leoli yno, ond wyddoch chi, mae’n dal i adael rhywfaint o gwestiwn pa un a fyddant â’u pencadlys yno go iawn neu nad yw hynny’n wir mewn gwirionedd.Mae Plaid Cymru wedi mynnu’n gyson fod arnom angen cyllid cydradd ar gyfer pob rhan o’r wlad yn ogystal â datganoli go iawn i sefydliadau cenedlaethol sy’n bodoli eisoes a sefydlu rhai newydd, megis Awdurdod Cyllid Cymru, a’r banc datblygu, a’r amgueddfa bêl-droed genedlaethol yn ogystal, wrth gwrs, a fydd, gobeithio, os daw i fodolaeth, yn bwysig yn ddiwylliannol ac yn ysgogiad economaidd pwysig i ogledd Cymru yn ogystal. Yn ein cytundeb cyllidebol yn ddiweddar, llwyddasom i sicrhau miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad ychwanegol ar gyfer gogledd Cymru, gan gynnwys arian posibl ar gyfer yr amgueddfa bêl-droed genedlaethol y soniais amdani yn awr, buddsoddiad mewn cysylltiadau gogledd-de, hyfforddiant meddygol ar gyfer y gogledd, gwaith ar drydedd groesfan y Fenai ac yn y blaen, ac mae hynny, wrth gwrs, yn gadarnhaol.Ond ceir pryder yng Ngogledd Cymru fod economi gogledd Cymru—. Mae yna deimlad ei bod braidd—. Neu mae perygl, yn sicr, ei bod yn mynd yn ôl-ystyriaeth braidd. Mae’n ychwanegiad neu’n atodiad i Bwerdy Gogledd Lloegr. Clywaf hynny gan nifer gynyddol o bobl yn y sector, ac mae perygl yn ogystal ei bod yn syrthio rhwng dwy stôl Pwerdy Gogledd Lloegr a’r dinas-ranbarthau yn ne Cymru. Mae angen inni warchod yn erbyn hynny ac mae angen inni sicrhau bod gogledd Cymru’n dod yn bwerdy economaidd yn ei hawl ei hun fel rhan o strategaeth economaidd genedlaethol ehangach ar gyfer Cymru. Wrth gwrs, mae gweledigaeth economaidd ar gyfer Cymru gyfan, fel un Plaid Cymru, yn hanfodol os ydym i ledaenu ffyniant a chyfle ledled y wlad.Hoffwn nodi yma hefyd y gronfa ffyniant a rennir y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu ei chael yn lle cronfeydd rhanbarthol yr UE y mae Cymru yn eu derbyn ar hyn o bryd, ar gyfer y cyfnod ar ôl Brexit. Mae cronfeydd rhanbarthol yr UE ar gael, wrth gwrs, ar gyfer gorllewin Cymru a’r Cymoedd, os edrychwch ar rai agweddau ar y cyllid hwnnw. Os yw’r gronfa ffyniant a rennir ar gyfer Cymru gyfan—ac mae trafodaeth i’w chael, wyddoch chi, ynglŷn â sut y defnyddiwn yr arian hwnnw—rwyf eisoes yn clywed pobl yn mynegi pryderon ei bod yn mynd i gael ei sianelu i feysydd sydd eisoes yn cael y gyfran fwyaf o’r buddsoddiad. Nid wyf yn dweud bod hynny’n mynd i ddigwydd, ond mae gwir angen inni gofio bod yna risg yno na fydd rhai o’r ardaloedd yng ngogledd Cymru, gorllewin Cymru a’r Cymoedd, yn cael mynediad at gymaint o arian ag y maent wedi gallu ei gael yn flaenorol o bosibl.Mae Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru hefyd yn allweddol yn hyn i gyd, mae un o’r gwelliannau ger ein bron yn hollol iawn i gydnabod eu rôl, mae eu gweledigaeth ar gyfer twf yn sicr yn cynnig cyfeiriad teithio i ni, ac mae eu gwaith yn ddiweddar ar amlygu’r anghenion sgiliau yng ngogledd Cymru yn nodi her glir i Lywodraeth Cymru ac i Lywodraeth y DU, ac mae’n her y mae angen mynd i’r afael â hi’n iawn.Ochr yn ochr â hyn i gyd, wrth gwrs, mae Plaid Cymru eisiau cyflwyno Bil adnewyddu rhanbarthol a fydd yn ymgorffori, mewn cyfraith, y gofyniad i Lywodraeth Cymru sicrhau bod buddsoddiad o fantais i bob rhan o’n cenedl ac yn hybu cynhyrchiant ym mhob rhan o Gymru. Bydd yn trawsnewid y modd y caiff penderfyniadau buddsoddi eu gwneud yng Nghymru, yn ogystal â sut y cânt eu cyflawni. A thrwy ddeddfwriaeth, buasem yn sefydlu asiantaethau datblygu rhanbarthol, yn ogystal â chomisiwn seilwaith cenedlaethol gyda phwerau statudol, ac yn ei lythyr cylch gwaith bydd dyletswydd i ledaenu buddsoddiad ar draws Cymru. Mae angen inni flaenoriaethu’r ardaloedd mwyaf difreintiedig ar gyfer buddsoddi er mwyn adfer cydbwysedd yr economi, ac mae cyfrifoldeb ar y Llywodraeth i sicrhau nad oes unrhyw gymuned nac unrhyw ran o Gymru yn cael ei gadael ar ôl wrth iddo geisio creu’r swyddi, y twf a’r cyfleoedd y mae pawb ohonom yn eu haeddu. Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Gwelliant 1—Jane HuttDileu’r cyfan a rhoi yn ei le:Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:1. Yn cydnabod pwysigrwydd strategol hanfodol economi'r Gogledd i Gymru a'r DU.2. Yn nodi rôl Llywodraeth Cymru fel arweinydd trawsffiniol i ddatblygu cynigion â phartneriaid ar gyfer Bargen Twf y Gogledd.3. Yn croesawu'r rhaglen fuddsoddi uchelgeisiol o dan arweiniad Llywodraeth Cymru yn y rhanbarth, sy'n cynnwys:a) buddsoddi £250m yng nghoridor yr A55/A494;b) £20m i sefydlu Athrofa Ymchwil a Gweithgynhyrchu Uwch;c) £50m ar gyfer Metro'r Gogledd Ddwyrain; ad) cynlluniau ar gyfer trydedd bont dros y Fenai.4. Yn croesawu cymorth cyllido Llywodraeth Cymru ar gyfer y diwydiant dur, sy'n helpu i roi dyfodol cynaliadwy i'r gwaith, cymuned a gweithwyr yn Shotton.5. Yn nodi cefnogaeth Llywodraeth Cymru i brosiect gwerth £14 biliwn Wylfa Newydd a gwaith i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn gadael gwaddol gynaliadwy o swyddi, seilwaith a thai o ansawdd da yn Ynys Môn a'r Gogledd Orllewin.6. Yn croesawu'r cytundeb cyllidebol diweddar â Phlaid Cymru.7. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i ddod â Cynllun Gweithredu Economaidd yn ei flaen a all gynnal swyddi a thwf yn y rhanbarth. Cynigiwyd gwelliant 1. Ken Skates AC: Yn ffurfiol. Galwaf ar Mark Isherwood i gynnig gwelliannau 2 a 3 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Mark Isherwood. Gwelliant 2—Paul DaviesDileu pwynt 3. Gwelliant 3—Paul DaviesYchwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:Yn nodi bod dogfen Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, 'Gweledigaeth ar gyfer Twf yr Economi yng Ngogledd Cymru', yn nodi bod ‘gogledd Cymru mewn lle da i dderbyn ystod o gyfrifoldebau newydd’ ac yn cymeradwyo ei alwad am ddatganoli pwerau gan Lywodraeth Cymru dros gyflogaeth, trethi, sgiliau a thrafnidiaeth. Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3. Mark Isherwood AC: Diolch, Llywydd. Fel y mae’r cynnig hwn yn ei nodi, mae angen inni gryfhau perfformiad economi gogledd Cymru ac rydym yn gresynu at danariannu hanesyddol gogledd Cymru gan Lywodraeth Lafur Cymru. Rydym hefyd, fodd bynnag, yn gresynu at rôl Plaid Cymru yn hyn pan oedd mewn clymblaid â Llywodraeth Lafur Cymru ac yn ei chytundebau cyllidebol â hwy yn y gorffennol.Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi lansio pedair strategaeth economaidd ers 1999, ac eto mae perfformiad economaidd Cymru wedi parhau i aros yn ei unfan. Yn 1999, roedd gwerth y nwyddau a’r gwasanaethau a gynhyrchwyd fesul y pen o’r boblogaeth, neu’r gwerth ychwanegol gros, yng Nghymru yn 72.4 y cant o gyfartaledd y DU; yn 2015, roedd wedi crebachu i 71 y cant. Mae is-ranbarth gorllewin Cymru a’r Cymoedd, gan gynnwys pedair o siroedd gogledd Cymru, yn dal i fod ar y gwaelod ar draws y DU, ar 64 y cant yn unig o gyfartaledd y DU. Gwelodd Sir y Fflint a Wrecsam hyd yn oed eu gwerth ychwanegol gros yn disgyn o bron 100 y cant o lefel y DU i 84 y cant yn unig, tra bo gwerth ychwanegol gros ar Ynys Môn wedi disgyn i 54 y cant yn unig—y lefel isaf yn y DU. Eto i gyd, nid yw Llywodraeth Lafur Cymru ond yn rhoi’r unfed lefel ar ddeg uchaf o gyllid refeniw llywodraeth leol fesul y pen o’r boblogaeth i Ynys Môn—rhan dlotaf y DU—allan o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, gyda Chonwy’n bymthegfed; Wrecsam yn ddeunawfed; a Sir y Fflint yn bedwerydd ar bymtheg.Mae bwrdd iechyd lleol gogledd Cymru yn destun mesurau arbennig ac wedi gorwario, gan fod Llafur Llywodraeth Cymru wedi diystyru ein rhybuddion ar ran cleifion a staff dros nifer fawr o flynyddoedd. Mae gwelliant Llywodraeth Lafur Cymru sy’n honni ei bod wedi chwarae rôl arweiniol yn drawsffiniol wrth ddatblygu cynigion gyda phartneriaid ar gyfer bargen dwf yng ngogledd Cymru yn chwerthinllyd. Yn ei chyllideb ym mis Mawrth 2016, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bod yn agor y drws i fargen dwf ar gyfer gogledd Cymru, a byddai’n disgwyl i Lywodraeth nesaf Cymru ddatganoli pwerau i lawr a buddsoddi yn y rhanbarth fel rhan o unrhyw fargen yn y dyfodol. O leiaf mae Llywodraeth y DU â’r cwrteisi i ddweud bod ei swyddogion ei hun a swyddogion Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid lleol i ddatblygu’r weledigaeth a deall sut y byddai bargen dwf yn rhan ohoni.Anogodd Llywodraeth y DU bartneriaid lleol i flaenoriaethu eu cynigion, sef yr un peth yn union ag y gwnaeth y weledigaeth ar gyfer twf yr economi yng ngogledd Cymru pan alwodd am ddatganoli pwerau gan Lywodraeth Cymru dros gyflogaeth, trethi, sgiliau a thrafnidiaeth, gan ddweud y byddai hyn yn hybu’r economi, swyddi a chynhyrchiant, gan greu o leiaf 120,000 o swyddi a rhoi hwb i werth yr economi leol o £12.8 biliwn i £20 biliwn erbyn 2035. Golyga ‘trethi’ yma gyflawni prosiectau drwy fenthyca cyllid drwy gynyddrannau treth, wedi ei ariannu gan gynnydd yn y dyfodol yn y derbyniadau ardrethi busnes yn deillio o brosiectau’r fargen dwf.Mae pobl yng ngogledd Cymru’n edrych tua’r de ac yn dod i’r casgliad fod gwahanol setiau o reolau’n cael eu cymhwyso i wahanol rannau o Gymru. Fel y nododd cadeirydd siambr fasnach gogledd Cymru, mae Llywodraeth Cymru’n canolbwyntio gormod ar Gaerdydd, a gallai gogledd Cymru wneud yn well pe bai’n gallu sicrhau ei ffurf ei hun ar fargen ddatganoli gyda Llywodraeth Cymru, fel y gall ymateb yn llawer cyflymach ac mewn modd mwy deallus i ddatblygiadau parhaus yn y rhanbarth ac ar draws y ffin.Wel, ie, mae Plaid Cymru wedi dod i gytundeb. Mae wedi dod i gytundeb gyda’r diafol gwleidyddol yn gyfnewid am ychydig friwsion o’r bwrdd uchaf. Ac i’r ymynyswyr hynny a fyddai’n tanseilio’r fargen dwf, rwy’n dweud hyn, ‘Peidiwch â bradychu pobl y gororau, y tiroedd canol, neu diroedd gorllewinol gogledd Cymru a allai fod fwyaf ar eu colled.’Felly rwy’n cynnig gwelliannau 2 a 3, sy’n argymell y dylai’r Cynulliad hwn nodi bod dogfen ‘Gweledigaeth ar gyfer Twf yr Economi yng Ngogledd Cymru’ Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn dod i’r casgliad fod gogledd Cymru mewn sefyllfa dda i gael ystod o gyfrifoldebau newydd a’n bod yn cymeradwyo ei alwad am ddatganoli pwerau gan Lywodraeth Cymru.Roedd newyddion mis Ebrill ynghylch datblygiad cais twf gogledd Cymru’n datgan bod uchelgeisiau ar gyfer rhoi hyblygrwydd a phwerau datganoledig i’r rhanbarth yn cynnwys swyddogaethau trafnidiaeth, cynlluniau strategol defnydd tir, arloesedd busnes a swyddogaethau cynghori, cyngor gyrfaoedd a phwerau trethu, ac roedd tystiolaeth a gyflwynwyd gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i ymchwiliad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau i fargeinion dinesig ac economïau rhanbarthol Cymru yn datganMae angen i Gymru fel ffurflywodraeth sicrhau y gall Gogledd Cymru gystadlu â Gogledd-orllewin Lloegr a chymryd rhan effeithiol yn y gwaith o gynllunio ar gyfer twf yng Ngogledd Lloegr trwy Bwerdy Gogledd Lloegr.Roeddent hefyd yn dweudMae datganoli swyddogaethau i Ogledd Cymru sy’n cyfateb i rai rhanbarthau cyfagos Lloegr yn anghenraid amddiffynnol ac yn alluogydd twf i’w groesawu.Dyna’r realiti economaidd a chymdeithasol y mae’r bobl yn y gogledd-ddwyrain yn byw ynddo. Dyma hefyd yw’r ffordd o ledaenu ffyniant i’r rhanbarthau canol a gorllewinol hynny sy’n dal i ddihoeni ar y gwaelod, nid yn unig yn nhabl Cymru, ond yn nhabl y DU, ar ôl 18 mlynedd o ddatganoli. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch am gael gwneud cyfraniad i’r ddadl yma. A gaf i osod un cafeat yn y fan hyn, fel y gwnaeth Llyr hefyd? Mae’n gyffredin iawn yn y gogledd i glywed pobl yn dweud bod popeth yn mynd i’r de, ond wir, nid oes gen i lawer o ddiddordeb mewn bwydo rhaniadau. Uno’r genedl ydy fy niddordeb i, ond—ac mae hyn yn bwysig iawn—lle mae yna dystiolaeth o ddiffyg gweithredu gan Lywodraeth i ledaenu llewyrch yn deg i sicrhau bod pob rhanbarth yn cael y cyfle gorau posib i gael y gwasanaethau cyhoeddus mwyaf cynaliadwy, fod buddsoddiad, trafnidiaeth neu ddatblygu economaidd ddim yn ymddangos yn hafal ar draws y wlad, mae’n bwysig sefyll i fyny dros y rhanbarthau hynny, lle bynnag y maen nhw. Lle mae yna syniadau—. Rydw i’n hapus iawn i ildio i Alun Davies, sydd fel arfer yn siarad yn—[Anhyglyw.] Nid yw’r Gweinidog eisiau cyfrannu i’r ddadl, er mae’n gwneud llawer gormod o gyfraniadau ar ei eistedd, os caf i ddweud. Felly, os gwnaiff y Gweinidog ganiatáu i Aelodau siarad ac i gyfrannu i’r ddadl yn llawn. Diolch. Rhun ap Iorwerth AC: Nid ydy’r Gweinidog byth eisiau gwneud cyfraniad i ddadleuon, Llywydd, ond mae’n hapus iawn i’w lais gael ei glywed yma yn Siambr tra mae o ar ei eistedd. Mi wnaf i barhau.Lle mae yna syniadau neu gynlluniau, fel sydd gennym ni ym Mhlaid Cymru, fel rydym ni’n eu hamlinellu y prynhawn yma, i gryfhau’r gogledd, i annog buddsoddiad, cael gwared ar ddiffyg cydbwysedd rhanbarthol mewn nifer o feysydd, gwneud ein gwaith ar ran ein hetholwyr ydym ni, a dal y Llywodraeth i gyfrif.Rydw i am edrych ar ddau faes roesom ni sylw iddyn nhw yn ein trafodaethau ni ar gyfer ein cytundeb ni efo Llywodraeth Cymru cyn y gyllideb.Trafnidiaeth yn gyntaf. Mae deuoli’r Britannia yn rhywbeth rydw i wedi galw amdano’n gyson ers cael fy ethol. Nid dim ond ymateb i oedi mewn oriau brig ydy hyn, er mor rwystredig ydy hynny i deithwyr ac i’r rhai sy’n defnyddio’r bont am resymau masnachol, yn hytrach, cam ydy hyn i adeiladu gwytnwch i’r cysylltiadau rhwng y tir mawr a Môn yn yr hir dymor. Dim ond yr wythnos yma mi gafodd pont Britannia ei chau oherwydd gwynt, efo pont Menai yr unig gyswllt ar agor—pont fydd yn dathlu dau ganmlwyddiant o fewn y degawd nesaf. Y bont yw’r bont hyfrytaf gewch chi, ond tynnu’r pwysau oddi arni hi, nid ychwanegu pwysau arni hi, dylem ni fod yn ei wneud yn y dyfodol. Mae yna gyfle yma i sicrhau cysylltiad fydd yn sicrhau llif traffig, rhoi’r sicrwydd i’r gwasanaethau brys mae’n nhw’n gofyn i fi bwyso amdano fo, cyfle i roi sicrwydd i fasnach, a hefyd cyfle rŵan i chwilio am fuddsoddiad y Grid Cenedlaethol ar gyfer cludo gwifrau trydan foltedd uchel ar draws y Fenai. Yn hytrach na gwario efallai £150 miliwn ar wneud twnnel, mi allan nhw wneud cyfraniad a chael arian wrth gefn i fuddsoddi mewn tanddaearu gwifrau ar draws Ynys Môn. Mae pob Aelod etholedig yn Ynys Môn yn cefnogi hynny, ar wahân i Aelod rhanbarthol UKIP. Dyna pam yr oeddem ni’n falch o weld cytundeb y gyllideb yn neilltuo arian i ddatblygu’r cynlluniau ar gyfer y croesiad ymhellach.Tra’r ydw i ym maes trafnidiaeth, gadewch imi gyfeirio at gysylltiadau’r gogledd efo rhannau eraill o Gymru. Mae Prydain gyfan yn dioddef o’r canoli—pob ffordd, pob rheilffordd yn arwain i Lundain, a gorllewin-dwyrain o hyd ydy’r prif wythiennau trafnidiaeth yng Nghymru. Mae’n bwysig bod yna gysylltiadau cryf rhwng gogledd Cymru a Llundain, mae’n bwysig bod yna gysylltiadau cryf trawsffiniol, ond gadewch i ni gofio hefyd am yr angen i fuddsoddi yn y cysylltiadau trafnidiaeth yna a fydd yn helpu cryfhau economi gynhenid Gymreig, y math o economi, fel y dywedodd Llyr, a fydd yn gallu bod yn bartner efo’r ‘Northern Powerhouse’ ac yn bartner efo’n partneriaid ni hefyd i’r gorllewin yn Iwerddon.Mi ddefnyddiaf i’r munud sydd gen i ar ôl i dynnu sylw at un maes arall, sef y prinder affwysol o weithwyr iechyd sydd gennym ni yn y gogledd, yn benodol meddygon. Mae Plaid Cymru wedi cyflwyno cynnig a allai helpu mynd i’r afael â hyn, sef sefydlu canolfan addysg feddygol ym Mangor. Rydym ni’n gwybod bod yna batrwm o feddygon yn tueddu setlo i weithio lle maen nhw wedi cael eu hyfforddi. Rywsut, rydym ni angen darparu mwy o feddygon sydd wedi eu gwreiddio yn y Gymru wledig, wedi datblygu arbenigedd efallai mewn meddygaeth wledig, ac sy’n ymroddedig i weithio yn y Gymru wledig ac yn y gogledd yn benodol hefyd. Mae yna gyfle, rydw i’n meddwl, drwy’r ganolfan addysg newydd yma, i ddarparu hynny mewn partneriaeth, rydw i’n gobeithio, efo Caerdydd ac Abertawe. Mae yna sôn am symud mwy o fyfyrwyr o Gaerdydd ac Abertawe. Rydym ni’n gwybod bod rhai dan hyfforddiant yn mynd ar ‘rotations’ o gwmpas Cymru, ond mae’n rhwystr i bobl sydd ddim yn dymuno gwneud y teithio de-gogledd yna. Mae’n rhwystr iddyn nhw i ddod i astudio o fewn y gyfundrefn Gymreig. Felly, beth am gryfhau’r addysg feddygol sydd yna yn y gogledd?Felly, mewn addysg feddygol, mewn trafnidiaeth, mewn datblygu economaidd, nid yn unig y mae angen tegwch, mae angen sicrhau cydraddoldeb cyfle ac mae’n rhaid i bobl y gogledd allu gweld mai dyna’r realiti. Hannah Blythyn AC: Rwy’n croesawu’r cyfle i gael y ddadl hon heddiw ac i allu cyfrannu, gan fy mod yn falch o wasanaethu’r gymuned a’m ffurfiodd ac ers cael fy ethol ychydig dros flwyddyn yn ôl, rwyf wedi dweud yn glir mai yma’n unig wyf fi i fod yn llais cryf ac i sefyll dros fy etholwyr yn Nelyn, ond hefyd dros ogledd Cymru ac ardal gogledd-ddwyrain Cymru yn gyffredinol. Fel llawer o bobl eraill o’r ardal, rwy’n ymwybodol iawn o’r hyn y tueddaf i’w alw’n ddatgysylltiad datganoli yn yr ardal y dof ohoni, yn anad dim oherwydd, o fy etholaeth i, mae’n gyflymach i gyrraedd Caerdydd—yn gyflymach i gyrraedd Llundain, mae’n ddrwg gennyf, ar y trên, o’r Fflint, nag yw hi i gyrraedd Caerdydd. Mae yna amrywiaeth eang o bethau y gallwn eu gwneud i fynd i’r afael â hynny, a dyna un o’r rhesymau pam rwy’n edrych ymlaen at weld Senedd@ yn dod i Delyn fis nesaf a defnyddio hwnnw mewn gwirionedd i gynnwys mwy o bobl yn yr hyn y mae’r Cynulliad yn ei wneud a sut y mae’n effeithio ar eu bywydau.Ond hefyd mae’n ymwneud â sicrhau ein bod yn dod â mwy o fanteision economaidd datganoli i’r rhanbarth, ac rwy’n falch o weld bod rhywfaint o fuddsoddiad o’r fath ar y gweill, gan gynnwys y banc datblygu a gafodd ei lansio heddiw, ac a fydd wedi ei leoli yn Wrecsam. Rwyf hefyd yn cefnogi’r cynlluniau i gael amgueddfa bêl-droed genedlaethol yn Wrecsam, ond buaswn yn gofyn, efallai, a all Plaid Cymru egluro a fydd honno’n rhan o’r amgueddfa genedlaethol neu’n amgueddfa annibynnol. O fy safbwynt personol innau hefyd, buaswn yn awyddus i wybod hefyd a fyddai’r amgueddfa yn cynnwys yr enwogion Cymreig hynny, megis Neville Southall, y diweddar Gary Speed, a oedd hefyd yn chwarae i’r tîm Rhif 1 i bobl gogledd Cymru ei gefnogi, sef Everton. Dylwn nodi mai dyma’r unig dro y byddaf yn cefnogi’r tîm mewn glas.Dros y haf— Rhun ap Iorwerth AC: A gaf fi wneud ymyriad? Mae’n werth nodi bod Neville Southall wedi dod allan o blaid annibyniaeth dros yr wythnosau diwethaf. Hannah Blythyn AC: Mae ymddangos bod gan bawb stori am Neville Southall; fe’i gadawaf yn y fan honno. [Chwerthin.]Treuliais lawer o’r haf yn cynnal arolwg o etholwyr, yn mynd o ddrws i ddrws, yn curo ar ddrysau, ac un o’r prif bethau a ddaeth yn ôl oedd trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig mewn ardaloedd mwy gwledig. Mae yna lawer o gwestiynau’n codi mewn perthynas ag amserlenni bysiau a threnau ac integreiddio yn y rhanbarth, ac rwy’n meddwl bod yna bethau y mae angen i fetro gogledd-ddwyrain Cymru fynd i’r afael â hwy. Mae’r £50 miliwn gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu metro gogledd-ddwyrain Cymru yn gynnig mawr a allai greu budd economaidd enfawr, ond wrth i’r gwaith tuag at y metro gyflymu, rwy’n meddwl bod angen inni ystyried hefyd pa mor bwysig yw gallu pobl i gael mynediad at waith gweddus yn agosach at adref a darparu ysgogiad i fusnesau fuddsoddi ac ehangu. Rwy’n meddwl y buasai’r cynigion ar gyfer gorsafoedd newydd ym mharc diwydiannol Glannau Dyfrdwy ac Airbus ym Mrychdyn i hwyluso teithio i Airbus a’r sefydliad gweithgynhyrchu uwch newydd yn arfogi ein rhanbarth yn well gyda chysylltiadau trafnidiaeth i ateb galw gwaith. Fodd bynnag, credaf na ddylai’r uchelgais orffen gyda hynny. Rwy’n credu bod angen inni edrych ar orsafoedd ychwanegol ac yn enwedig o fy safbwynt i yn fy etholaeth, rwy’n meddwl bod gwerth mewn edrych ar orsaf ychwanegol yn ardal Maes-glas, Treffynnon, a fyddai nid yn unig yn cysylltu’r sector gweithgynhyrchu uwch yn y gogledd-ddwyrain â’r sector ynni yn y gogledd-orllewin a Maes-glas a dociau Mostyn, ond hefyd gallai gysylltu â pheth o dwristiaeth a threftadaeth Abaty Dinas Basing a Ffynnon Gwenffrewi yn yr ardal.Rydym eisoes wedi crybwyll sut y mae system drafnidiaeth integredig yn hanfodol, nid yn unig i’n cysylltu o’r dwyrain i’r gorllewin ac o’r gogledd i’r de, ond hefyd ar draws y ffin â gogledd-orllewin Lloegr. Felly, gwyddom fod bron 23,000 o bobl yn cymudo o ogledd Cymru yn ddyddiol i ogledd-orllewin Lloegr, ac mae bron 31,000 yn teithio i’r cyfeiriad arall i ogledd Cymru. Mae hyn wedi creu pwysau hirsefydlog ar ein seilwaith trafnidiaeth, ac mae’n fater y mae angen mynd i’r afael ag ef. Gwyddom fod y coridor M56-A55 hwnnw’n werth £35 biliwn ac mae dros 2 filiwn o bobl yn byw o fewn pellter cymudo 30 munud i barc diwydiannol Glannau Dyfrdwy, gan wneud buddsoddiad pellach yn ein seilwaith yn fwy arwyddocaol byth, a dyna pam y mae gwelliannau i’r A55 ac edrych ar groesfannau’r Fenai, llwybrau ychwanegol, gan ledu lle y gallwn, yr astudiaeth gydnerthedd i edrych ar fannau cyfyng i weld sut y gallwn fynd i’r afael â’r heriau hynny, oll yn anhygoel o bwysig, fel y mae’r porth i ogledd Cymru hefyd a’r holl dwristiaeth a’r atyniadau anhygoel sydd gennym yno. Ac felly mae angen i’r seilwaith fod yn ei le er mwyn gwneud y gorau o’n heconomi ymwelwyr.Rydym wedi siarad am—. Rwy’n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru—rydym wedi siarad ynglŷn â strategaeth dwf a bargen dwf ar gyfer gogledd Cymru, a buaswn yn gofyn beth yw safbwynt Llywodraeth y DU ar hyn ac yn gobeithio gweld rhywbeth mwy na geiriau caredig yn unig yn natganiad yr hydref, a bod rhywfaint o arian yn dilyn mewn gwirionedd—arian lle mae eu ceg, yn llythrennol—fel y gallwn fwrw ymlaen â hynny. Ond mae angen i Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, a’r holl wleidyddion ar draws y rhanbarth weithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid fel Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy, a chydweithio er mwyn cyflawni’r fargen dwf hon ar gyfer gogledd Cymru.Rwy’n credu bod pobl eraill wedi cydnabod, pan fyddwn yn sôn am economi gogledd Cymru, na allwn anwybyddu’r ffaith ein bod yn gysylltiedig yn hanesyddol ac yn gorfforol ac yn economaidd â’n cymdogion yng ngogledd-orllewin Lloegr. Ac er fy mod o’r farn fod gweithio trawsffiniol yn creu set unigryw o heriau, gallai hefyd sicrhau cyfleoedd sylweddol, ond mae angen inni sicrhau bod y cyfleoedd hynny’n gwneud cymaint â phosibl i ni yng ngogledd Cymru. Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair. Hannah Blythyn AC: Yn olaf, hoffwn groesawu gwelliant Llywodraeth Cymru i’r cynnig hwn, sy’n ymrwymo i gefnogaeth barhaus ar gyfer y diwydiant dur yng Nghymru, gan gynnwys gwaith dur Shotton yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Nid wyf yn ymatal rhag dadlau achos gwaith dur Shotton dro ar ôl tro pan fyddwn yn sôn am y diwydiant dur yng Nghymru. Mae’n olau disglair yn y sector sy’n cynhyrchu cynhyrchion proffidiol ac unigryw gyda gweithlu medrus ac ymroddedig, ac nid yw ond yn un enghraifft o’r sector gweithgynhyrchu uwch, sef conglfaen ein cyfoeth rhanbarthol a’n cyfoeth ehangach yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Yn wir— A ydych yn dirwyn i ben, os gwelwch yn dda? Hannah Blythyn AC: Ydw. Yn wir, rwy’n credu bod potensial mawr ar y ffordd i ogledd Cymru—potensial sydd wedi cael ei gydnabod yn awr gan y Llywodraeth yma—ond ni allwn fod yn hunanfodlon. Mae’n rhaid inni adeiladu ar hyn a sicrhau bod lleisiau pobl gogledd Cymru yn cael eu clywed yn glir wrth ddatblygu ein rhanbarth, os ydym yn mynd i lwyddo i bontio’r bwlch rhwng gogledd a de a chael cyfran deg o’r difidendau datganoli. Siân Gwenllian AC: Mae’n bleser gen i gymryd rhan yn y ddadl hollbwysig yma heddiw, ac, fel gog o’r gorllewin, rydw i am ddefnyddio fy nghyfraniad i i drafod y gogledd orllewin yn benodol. Un o fy hoff arferion i fel yr Aelod Cynulliad dros Arfon ydy sgwrsio efo chynifer o bobl â phosib ar draws yr etholaeth. A’r un peth sy’n cael ei godi efo fi—minnau hefyd, yn debyg i Llyr a Rhun. Dro ar ôl tro, beth sy’n cael ei godi efo fi ydy’r ymdeimlad yma fod Llywodraeth San Steffan, ac yn gynyddol Llywodraeth Cymru, yn gadael ein cymunedau ni ar ôl. Ond mae o’n fwy nag ymdeimlad; yn anffodus, mae o’n realiti hefyd. Mae Llyr Gruffydd wedi sôn am y ffaith bod trigolion y gogledd wedi derbyn dros £350 yn llai y pen, o’u cymharu â thrigolion de-ddwyrain Cymru ers 2013. Efo’r posibilrwydd o ddefnyddio holl bwerau benthyg y Llywodraeth ar ariannu prosiect drudfawr llwybr du’r M4 yn fuan, mae’n debyg mai dal i ddisgwyl am chwarae teg y bydd trigolion y gogledd, a hynny am flynyddoedd lawer i ddod, os nad oes yna newid cyfeiriad sylweddol.Mae gorfodi’r Llywodraeth i fuddsoddi yn sylweddol yn ein cornel ni o Gymru yn aml yn teimlo fel trio gwasgu gwaed o garreg. Fel mae cynlluniau ar gyfer y ffordd osgoi yn y Bontnewydd yn dangos, mae buddsoddiadau sylweddol o’r math yma ond yn dod oherwydd ymgyrchu diflino gan Blaid Cymru dros nifer o flynyddoedd.Mae angen buddsoddi yn isadeiledd y gogledd, ond hefyd fuddsoddi mewn swyddi. Yn fan hyn, mae yna gyfle i’r Llywodraeth ddangos eu hymrwymiad nhw i ddosbarthu cyfoeth drwy sicrhau bod swyddi yn y sector cyhoeddus a sefydliadau cenedlaethol yn cael eu dosbarthu ledled Cymru. Ond hyd yn oed ar ôl cyhoeddi'r strategaeth lleoli, gyda’r amcan o gynnal a chreu swyddi mewn ardaloedd y tu allan i goridor yr M4, methwyd â mynd â’r maen i’r wal, yn enwedig yn y gogledd-orllewin.Yn 2010, roedd 127 o swyddi wedi’u lleoli yn nhref Caernarfon. Erbyn hyn, 82 o swyddi sydd yna yng Nghaernarfon, ac mae yna fwy o ansicrwydd ar y gorwel ar gyfer gweithwyr yn swyddfa Llywodraeth Cymru yn y dref. Mae’r Llywodraeth yn mynd i werthu’r safle presennol er mwyn lesu rhan o adeilad llai mewn rhan arall o’r dref—lesu, nid prynu adeilad newydd, efo’r hawl i ddiweddu’r les ar ôl pum mlynedd. Mae hyn, i mi, yn codi cwestiynau mawr am sicrwydd y swyddi yng Nghaernarfon yn yr hirdymor. Roeddwn i’n falch iawn pan gytunodd Llywodraeth Cymru i alwadau Plaid Cymru i gynnwys £2 filiwn er mwyn hyrwyddo cydweithio rhwng pedair sir y gorllewin fel rhan o gytundeb y gyllideb. Mae gennym ni gyfle rŵan ar draws y gorllewin i rannu arfer da, gyfle i weithio yn strategol, a chyfle i gychwyn denu buddsoddiad newydd i’r gorllewin, oherwydd mi fyddai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb unrhyw fath o ddêl yn ddim llai na thrychineb i’r ardal wledig, dlawd, orllewinol, Gymraeg yma. Mae’n rhaid inni felly ddyblu ein hymdrechion dros yr ardal, ac un cam clir y mae’n rhaid i’r siroedd gorllewinol hyn ei gymryd ydy gweithio gyda’i gilydd er mwyn denu buddsoddiad ar gyfer isadeiledd modern a swyddi o ansawdd i’r ardaloedd difreintiedig yma. Pryder pobl yn fy etholaeth i yw na fydd manteision bargen twf y gogledd yn ymestyn i’r gogledd-orllewin. Felly, rwy’n edrych ymlaen at weld rhanbarth newydd, grymus yn dod i’r amlwg yn y gorllewin er mwyn gweithio yn erbyn methiannau Llywodraeth Cymru a’r Deyrnas Unedig i fuddsoddi mewn talp mawr o’n gwlad. Efallai wedyn y gallwn ni greu cenedl lle mae pob cwr o’r wlad yn cael cyfle i ffynnu. Michelle Brown AC: Rwy’n cefnogi’r teimladau a fynegwyd ym mhwyntiau 1, 2 a 4 o gynnig Plaid Cymru. Mae’n berffaith wir fod angen cryfhau perfformiad yr economi yng ngogledd Cymru. Yn benodol, mae angen inni adeiladu economi yng ngogledd Cymru sy’n caniatáu i’w phobl ennill mwy gan ganiatáu iddynt gadw mwy o’u harian eu hunain. Rwyf hefyd yn gresynu at danariannu hanesyddol yng ngogledd Cymru, fel y mae cymaint o bobl eraill yng ngogledd Cymru. Fodd bynnag, er bod Plaid Cymru’n gwneud y synau cywir, o ran gweithredu maent yn gwneud y gwrthwyneb ac yn cefnogi cyllideb Lafur a Llywodraeth Lafur sydd wedi gwneud cam â gogledd Cymru yn y gorffennol a bydd yn gwneud cam â gogledd Cymru yn y dyfodol. Gellid bod wedi cyflawni cymaint mwy dros ogledd Cymru pe bai Plaid Cymru wedi aros yn ffyddlon i ddymuniadau eu pleidleiswyr ac wedi helpu i gael gwared ar y gyllideb honno. Ond yn awr maent yn disgwyl inni eu cymeradwyo am gardota’n llwyddiannus am y briwsion a adawyd ar ôl wedi i Gaerdydd a gweddill y de gymryd y gyfran fwyaf unwaith eto gan y Llywodraeth hon sy’n canolbwyntio ar y de.Mae’n debyg y gellid cytuno â gweddill y cynnig, ond unwaith eto, mae’n ymddangos braidd yn rhyfedd yn dod gan Blaid Cymru o ystyried eu hanes blaenorol. Maent yn sôn am y briwsion ychwanegol y mae bradychu pleidleiswyr Plaid Cymru wedi eu sicrhau ar gyfer Croeso Cymru, ond rywsut, maent yn anghofio sôn am y dreth dwristiaeth y maent naill ai’n ei chefnogi, neu’n ddi-rym neu’n amharod i’w hatal, a fydd yn gwneud pethau hyd yn oed yn anos i’r rhai sy’n rhedeg busnesau sy’n gysylltiedig â thwristiaeth yng Nghymru. Ers dyfodiad gwyliau tramor rhad, mae angen i fusnesau twristiaeth yng Nghymru gael pob cymorth y gallant ei gael, nid newidiadau a fydd yn cynyddu costau a gorbenion, yn enwedig o gymharu â’u cymheiriaid yn Lloegr. Nid treth ar fusnesau twristiaeth yn unig yw hon, ond ar bob un o’r busnesau nad ydynt yn fusnesau twristiaeth sy’n rhan o’r gadwyn gyflenwi neu sy’n elwa ar sector twristiaeth iach a’r gwaith y mae’n ei gynnal. Felly, ardoll ar holl fusnesau lleol gogledd Cymru yw’r cynnig i bob pwrpas. Ond mae i’r dreth dwristiaeth un swyddogaeth ddefnyddiol: mae’n helpu pleidleiswyr i weld beth sy’n digwydd pan fyddwch yn datganoli pwerau trethu i Lafur a’u cefnogwyr, Plaid Cymru—maent yn eu codi. Maent yn ceisio dod o hyd i unrhyw un sy’n gwneud bywoliaeth ac yn bachu’r hyn a allant tra gallant heb ystyried yr effeithiau hirdymor.Ni allwn gefnogi pwynt 3 o gynnig Plaid Cymru, lle y mae Plaid Cymru’n ceisio curo’i chefn ei hun am negodi consesiynau a sicrhawyd gan Lywodraeth Cymru yn gyfnewid am gynnal Llywodraeth Cymru unwaith eto, gan esgus gwrthwynebu’r Llywodraeth ar yr un pryd. O ganlyniad— Llyr Gruffydd AC: A wnewch chi dderbyn ymyriad? Michelle Brown AC: Iawn, ewch ymlaen. Llyr Gruffydd AC: Rydych wedi gweld y rhestr a amlinellwyd gennym yn ein cynnig. Pa rai rydych chi’n anghytuno â hwy, felly? Michelle Brown AC: Pwynt 3.Felly, o ganlyniad, bydd UKIP yn cefnogi gwelliant 2. O ran y gwelliannau eraill i’r cynnig, mewn perthynas â gwelliant 1 gan Lafur, nodaf y bydd Llafur Cymru yn awr yn gwario rhywfaint o arian yng ngogledd Cymru—o leiaf maent wedi addo gwneud hynny, ac fe welwn a fydd y cynlluniau hynny’n digwydd—ond nid wyf yn credu bod gan Lafur Cymru unrhyw beth i ymffrostio yn ei gylch, er hynny. Oes, mae arian yn cael ei addo i ogledd Cymru mewn rhai ffyrdd cyfyngedig, ond diferyn mewn pwll yw hynny o’i gymharu â’r arian sy’n cael ei fuddsoddi gan Lywodraeth Cymru yn ne Cymru. Mae manteision y gwelliant honedig i goridor yr A55/A494 i’r economi leol eto i’w gweld. Rwyf fi a llawer o rai eraill yn credu na fydd y penderfyniad i weithredu’r llwybr coch ond yn symud y problemau traffig a geir ar hyn o bryd yn Queensferry ymhellach i’r gorllewin, na fydd yn helpu neb ac yn sicr ni fydd yn helpu’r gymuned ehangach. Felly, byddaf yn atgoffa pleidleiswyr y bydd eu bywyd a’u bywoliaeth yn cael eu niweidio gan benderfyniadau Llafur Cymru ynglŷn â gogledd Cymru a’i hesgeulustod ohoni, nid yn unig y dylent roi’r bai ar y Blaid Lafur, ond hefyd ar Blaid Cymru sydd yr un mor euog.Gan droi at y gwelliannau eraill a gynigiwyd gan Lafur, o ran croesfan ychwanegol dros afon Menai, pryd fydd y cynlluniau hyn yn gweld golau dydd mewn gwirionedd, a phryd fydd gwaith adeiladu yn dechrau? Pa mor fuan y gall pobl ar Ynys Môn ddisgwyl y drydedd groesfan? Pryd fydd y sefydliad ymchwil gweithgynhyrchu uwch yn dechrau dangos ei fudd? Ni ellir teimlo unrhyw fanteision economaidd hyd nes y bydd y cynlluniau’n dwyn ffrwyth, felly pryd fyddwn ni’n gweld gwelliannau yn y byd go iawn? Rwy’n cydnabod y byddai angen datganoli rhai o’r pwerau y mae Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn galw amdanynt gan Lywodraeth y DU yn gyntaf. Fodd bynnag, mae cynigion Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn ddiddorol iawn a dylai Llywodraeth Cymru eu hystyried, ond rwy’n ofni na chânt eu hystyried. Byddai’n gwneud synnwyr i benderfyniadau o’r fath gael eu gwneud gan y rhai y maent yn effeithio arnynt agosaf a chan bobl sy’n deall yr ardal ac yn rhoi gogledd Cymru yn gyntaf.Dylid datganoli pwerau i’r lefel isaf o lywodraeth sy’n ymarferol, ac felly byddwn yn cefnogi gwelliant 3. Pe bai penderfyniadau buddsoddi wedi eu gwneud yn hanesyddol gan y rhai yr effeithiwyd arnynt fwyaf, efallai na fyddem yn cwyno’n awr am y modd y cafodd gogledd Cymru ei hesgeuluso o gymharu â rhanbarthau eraill o Gymru.Felly, yn gryno, er fy mod yn cefnogi’r teimladau a fynegwyd yng nghynnig Plaid Cymru, rwy’n eu hystyried braidd yn syfrdanol yn dod gan blaid sydd wedi cynnal Llywodraeth Lafur ers blynyddoedd, sydd wedi trin gogledd Cymru fel perthynas dlawd ac anghysbell, ac sy’n parhau i wneud hynny. Diolch. Simon Thomas AC: Mae’n rhaid i mi ddweud, mewn dadleuon fel hyn, rydw i’n ffeindio fy hun ar dir haniaethol. Weithiau, rydw i’n tybio lle mae gogledd Cymru yn dechrau a lle mae’n bennu, ond y tro yma, rwyf newydd ddilyn sgwrs lle roeddwn i’n tybio ym mha fyd ac ym mha Gymru rydw i’n byw ynddo, achos roedd hynny yn gyfan gwbl afreal wrth gymharu â’r byd rydym ni’n byw ynddo fe—yn enwedig trafod treth nad yw’n bodoli eto, nad yw wedi cael ei chynnig yn ffurfiol, a lle mae Llywodraeth San Steffan yn gallu dweud ‘na’ wrth y dreth yna unrhyw bryd o gwbl.Beth sydd yn digwydd yng ngogledd Cymru, wrth gwrs: mae twristiaeth yn hynod o bwysig i’r arfordir a’r ardaloedd gwledig, a beth fyddai’n gwneud byd o wahaniaeth yn fanna fyddai torri treth ar werth i 5 y cant, fel mae Plaid Cymru wedi bod yn ymgyrchu amdano yn gyson. Mae’r Ceidwadwyr, sydd wedi bod mor huawdl ynglŷn â thwristiaeth yn ystod y pythefnos diwethaf, ond wedi cadw treth ar werth ar 17.5 y cant, ac wedyn codi treth ar werth i 20 y cant ar fusnesau twristiaeth, ar ôl addo mewn etholiad na fyddan nhw byth yn gwneud y fath beth i ogledd Cymru a gweddill Cymru. Dyna’r gwir am y blaid honno.Ond mae yna un peth sy’n gallu cael ei weld fel llinyn sy’n cysylltu’r gogledd, lle bynnag rydych chi’n teimlo mae’r gogledd yn dechrau—byddai rhai yn teimlo bod yr iaith yn dechrau newid rhywbryd uwchben Aberystwyth, a rhai eraill yn teimlo bod yn rhaid i chi fynd heibio Dolgellau; nid ydw i cweit yn siŵr lle yn union mae’r gogledd yn dechrau. Ond rydw i yn gwybod bod yna rywbeth cyffredin yn yr ardaloedd hynny, sef cefn gwlad, ffermio ac amaeth, ac adnoddau naturiol, yn enwedig y gwynt a’r glaw. Rydw i jest eisiau siarad yn fras iawn am y cyfleoedd y dylem ni drio manteisio arnyn nhw nawr i sefydlu economi cryfach gan ddefnyddio ein hadnoddau naturiol ni yn yr ardaloedd hynny i sicrhau dyfodol llewyrchus i gefn gwlad. Mae Sian Gwenllian wedi cyffwrdd ar hyn, ond gobeithio y bydd hi’n maddau i mi jest ddweud ychydig mwy am y ffaith bod gyda ni erbyn hyn adroddiadau arbenigol iawn am y gwahanol senarios gall ddeillio o adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, neu gyda chytundeb o fath arbennig, neu gyda pharhad ar, i bob bwrpas, y farchnad sengl a’r undeb tollau. O’r holl senarios yna, nid oes dim dwywaith bod gogledd Cymru’n mynd i fod yn dioddef yn wael iawn oni bai bod gyda ni rhyw fath o gytundeb sydd yn cadw mynediad at, neu rhywbeth reit tebyg i aros yn, y farchnad sengl a’r undeb tollau. Mae’n bwysig rhoi ar gofnod, rydw i’n meddwl, bod Undeb Amaethwyr Cymru wedi dweud bod yn rhaid i ni aros yn y farchnad sengl a’r undeb tollau, a bod yr NFU heb sôn yn benodol am y farchnad sengl ond wedi sôn yn benodol am aros yn yr undeb tollau, o leiaf am y tro, er mwyn sicrhau bod y masnachu yna’n digwydd. Mae un o’r senarios sydd wedi cael ei grybwyll gan adroddiad yr Agriculture and Horticulture Development Board yn dweud yn glir iawn bod yr ardaloedd hynny sydd yn llai ffafriol, sef y rhan fwyaf o amaeth yng ngogledd Cymru, yn mynd i fod nid yn unig yn colli arian ond, a dweud y gwir, yn mynd i fod mewn sefyllfa negyddol pe bai y cytundeb yna yn digwydd.Mae yn bwysig, felly, ac nid ydym ni’n mynd i ymddiheuro i neb am roi mewn cynnig Plaid Cymru ar ddadl Plaid Cymru rai o’r pethau rydym ni wedi llwyddo eu sicrhau gan Lywodraeth Cymru. Yn eu plith nhw mae £6 miliwn ar gyfer ffermwyr newydd, ar gyfer pobl newydd i mewn i fyd amaeth, a chefnogaeth, rydw i’n gobeithio, drwy drafod gyda Llywodraeth Cymru, y byddwn ni’n cael gweld cynllun llewyrchus i sicrhau ein bod ni’n rhoi’r neges iawn i bobl. Wrth i ni ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, mae yna gyfleoedd i waed newydd yn y diwydiant, mae yna gyfleoedd i bobl newydd ddod i mewn i’r diwydiant, ac yn fwy na dim byd arall, mae yna gyfleoedd i syniadau newydd ddod i mewn i amaeth, ac mae angen y chwyldro yna, wrth gwrs, er mwyn delio â her y dyfodol. Ac, wrth gwrs, mae gyda ni lwyddiant wrth geisio lliniaru rhai o’r problemau sydd wedi deillio o newid trethi busnes a’r effaith ar gynlluniau ynni dŵr. Rydym ni wedi llwyddo cael rhyddhad treth ar gyfer cwmnïau cymunedol. Mae yna ddadl dros gael rhyddhad treth ar gyfer pob math o gwmni sydd yn gwneud ynni o’r dŵr. Rydym ni wedi pwsio’r Llywodraeth mor bell â gallan nhw yn y cytundeb yma. Mae yna oblygiadau tymor hir i drethi busnes. Mae’n amlwg nad yw’r Llywodraeth ddim yn moyn gweld trethi busnes yn lladd busnes llewyrchus ym maes ynni adnewyddo—rydw i’n siŵr nad ydyn nhw eisiau gweld hynny—ond dyna beth yw sgil effeithiau’r newid sydd wedi bod mewn trethi busnes, ac mae rhaid i unrhyw adolygiad nawr sicrhau bod yna lwyddiant a ffyniant. Rydw i’n gweld, er enghraifft, bod Llywodraeth San Steffan yn edrych ar ryddhad ar y dreth stamp, y dreth prynu tai ac eiddo, ar gyfer y tai ac eiddo sydd yn defnyddio ynni adnewyddol. Wel, gallem ni wneud yr un peth yn rhwydd fan hyn yng Nghymru. A dweud y gwir, roedd Plaid Cymru wedi cynnig hynny wrth edrych ar y dreth yn mynd trwy’r pwyllgor, ond nid oedd y Llywodraeth yn barod i dderbyn e ar y pryd. Felly, jest i gloi ar nodyn o obaith, rydw i’n meddwl bod yna gyfleoedd di-ri i dyfu economi gogledd Cymru os rydym ni’n meddu ar ein hadnoddau ein hunain ac ar ein dyfodol ein hunain, ac mae hynny’n golygu mwy o rym i Gymru gyfan. Diolch yn fawr iawn. Galwaf yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates. Ken Skates AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau i’r ddadl heddiw. Rwy’n hynod o falch o ogledd Cymru a’r economi ddynamig, flaengar sydd ganddi: canolfannau gweithgynhyrchu uwch yng ngogledd Cymru, sector twristiaeth ffyniannus, sector bwyd a diod llwyddiannus, darparwyr sgiliau rhagorol; maent i gyd yn cyfrannu at ran hynod ffyniannus o Gymru, un yr ydym am ei gweld yn cael ei datblygu yn y blynyddoedd i ddod, ond un sydd wedi ei hadeiladu ar gryfderau a galluoedd sy’n bodoli’n barod.Gyda llaw, rwy’n meddwl y dylwn dynnu sylw at y ffaith bod WorldSkills yn cael ei gynnal ar hyn o bryd yn y dwyrain canol. Ceir oddeutu 30 o gystadleuwyr o’r DU yno ac rwy’n falch o ddweud bod dau ohonynt yn dod o Gymru: mae dau ohonynt yn dod o Goleg Cambria yng ngogledd Cymru. Mae’r ddau’n cynrychioli galwedigaethau yn y sector gweithgynhyrchu uwch. Mae un yn byw ym Manceinion, un yn byw yng Nghymru ac mae’r ddau’n gweithio yng ngogledd Cymru, gan gyfrannu at y sector ac at yr economi ranbarthol. Rwy’n falch o ddweud hefyd fod allbwn economaidd ac incwm aelwydydd yng ngogledd Cymru yn uwch na’r cyfartaledd yng Nghymru. Mae hyn yn dangos bod economi’r rhanbarth yn fywiog, yn gryf, ond nid ydym yn dymuno gorffwys ar ein rhwyfau a byddwn yn buddsoddi’n drwm yn y rhanbarth yn ystod y blynyddoedd i ddod.O Wylfa i Airbus, o Zip World i Chetwood Financial, mae gennym rai o’r gweithwyr medrus gorau, mae gennym rai o’r atyniadau mwyaf a’r rhagolygon mwyaf disglair yn y DU. Ac rwy’n dweud hyn i gyd oherwydd fy mod yn credu ei bod yn rhy hawdd mewn dadleuon fel hon i ganolbwyntio ar y pethau negyddol. Rydym yn canolbwyntio’n briodol ar yr hyn y gallwn ei wneud yn well, ond anaml y byddwn yn rhoi eiliad i fyfyrio mewn gwirionedd ar yr hyn yr ydym yn ei wneud yn dda iawn. Ac felly hoffwn ddechrau fy nghyfraniad drwy sôn am y pethau cadarnhaol, ac rwy’n meddwl bod hanfodion economi gogledd Cymru yn gryf. Ein tasg yn awr yw edrych ymlaen ac adeiladu ar gryfderau’r rhanbarth, hyrwyddo gogledd Cymru a chryfhau ei hyder, yn hytrach na throi’r gogledd yn erbyn rhannau eraill o’n gwlad.Rwy’n falch o’r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud i gefnogi llwyddiant gogledd Cymru dros y blynyddoedd diwethaf. Mae portffolio buddsoddi ein rhaglen lywodraethu yng ngogledd Cymru yn hynod uchelgeisiol—yn llawer iawn mwy uchelgeisiol nag yn ystod y cyfnod y daliai Aelod o Blaid Cymru liferi’r economi a’r seilwaith. Ar draws y rhanbarth, mae gennym gynlluniau ar gyfer buddsoddi mewn 78 o gynlluniau, cyfanswm buddsoddiad cyfalaf o dros £1 biliwn ar gyfer gogledd Cymru. Yn sicr, nid arian bach yw hwnnw. Rydym yn buddsoddi £0.25 biliwn yng nghoridor Glannau Dyfrdwy, neu goridor Sir y Fflint fel y mae fy nghyd-Aelod Hannah Blythyn yn gywir i’w alw, i fynd i’r afael â’r tagfeydd cronig—tagfeydd cronig a waethygodd, rwy’n ofni, pan benderfynodd Gweinidog blaenorol ganslo’r prosiect. Rydym yn creu sefydliad gweithgynhyrchu uwch ac ymchwil i ddarparu cefnogaeth weddnewidiol i gwmnïau gweithgynhyrchu allweddol, a allai greu cynnydd o £4 biliwn yn yr economi ranbarthol. Ac rydym yn buddsoddi £50 miliwn er mwyn bwrw ymlaen â cham cyntaf metro gogledd-ddwyrain Cymru. Fel y gŵyr yr Aelodau, rydym yn creu M-SParc yn y gogledd-orllewin, rydym yn lleoli pencadlys Banc Datblygu Cymru yn y gogledd-ddwyrain, ac mae Llywodraeth Cymru wedi arwain y ffordd drwy bwyso ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod cysylltiadau rheolaidd a hygyrch o HS2 i mewn i ogledd Cymru er mwyn cefnogi’r economi, a byddwn yn gofyn i Aelodau’r gwrthbleidiau a ydynt wedi gwneud fel y gwnaethom ni, sef annog Llywodraeth y DU i gefnogi senario 3.Fel yr amlinellais ym mis Mawrth, rydym yn symud ymlaen i ddatblygu trydedd groesfan dros afon Menai, ac rwy’n credu, fel y dywedodd Hannah Blythyn, fod angen edrych yn aeddfed ar sefyllfa economi gogledd Cymru a datblygu agenda strategol ar gyfer y rhanbarth sy’n datblygu’r cyfleoedd trawsffiniol sylweddol sydd gennym i sicrhau bod y rhanbarth yn chwarae rhan fwy ym Mhwerdy Canolbarth Lloegr a Phwerdy Gogledd Lloegr. Mae’n ffaith bod gwerth ychwanegol gros gogledd Cymru a rhanbarth y Mersi a’r Ddyfrdwy yn fwy na hanner economi Cymru gyfan. Roedd Hannah Blythyn yn gywir i ddweud ei bod hi’n anodd teithio o Ddelyn i Gaerdydd mewn llai o amser nag y cymer i deithio o Ddelyn i Lundain, ond y gwir amdani yw ei bod yn cymryd llai nag awr bellach i deithio o Ddelyn i Lerpwl, o Ddelyn i Fanceinion, neu o Ddelyn i Gaer, ac mae’n rhaid cydweithio’n drawsffiniol, ac mae’n sicr yn ddymunol ar gyfer gwella ein lles economaidd. Am y rheswm hwnnw, mae Llywodraeth Cymru wedi chwarae rhan flaenllaw, gyda’n partneriaid yng ngogledd Cymru ac ar y ddwy ochr i’r ffin, yn datblygu cynigion ar gyfer bargen dwf gogledd Cymru. Mae’n cael budd ychwanegol o fargeinion sy’n cael eu ffurfio dros y ffin yng ngogledd-orllewin a chanolbarth Lloegr. Ac rwyf wedi bod yn glir iawn fod yn rhaid i unrhyw gytundeb twf gael ei ddefnyddio i ddod â Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru at ei gilydd gyda diben a rennir i fanteisio ar botensial strategol y rhanbarth, gyda ffocws di-baid ar wella cynhyrchiant, gwella sgiliau a gwella seilwaith, gyda gofynion Growth Track 360 yn ganolog i unrhyw fargen. Er mor adeiladol y gallai cyfraniad Mark Isherwood fod wedi bod heddiw, rwy’n credu bod cael ei feistri gwleidyddol yn Llundain i fynd i’r afael â thanariannu cywilyddus—cywilyddus—ein rheilffyrdd yn llawer mwy buddiol i ogledd Cymru.Er mor wych yw gogledd Cymru, fodd bynnag, rydym wedi wynebu heriau yn y cyfnod diweddar. Y llynedd, fe wnaethom ymyrryd i gefnogi ein diwydiant dur, gan gynnwys y gwaith pwysig yn Shotton, drwy sicrhau bod dros £60 miliwn o gymorth ar gael i Tata i gadw swyddi dur a chynhyrchiant dur yma yng Nghymru. Mae ein buddsoddiad yn helpu’r gwaith yn Shotton i ddatblygu dyfodol cynaliadwy ac yn ei dro, mae’n helpu’r gymuned i wneud cyfraniad hanfodol a bywiog i’r economi leol.Ond wrth gwrs, y buddsoddiad mwyaf sylweddol yng ngogledd Cymru—yng Nghymru gyfan yn wir—yn y blynyddoedd sydd i ddod fydd prosiect gwerth £14 biliwn Wylfa Newydd. Dyma’r buddsoddiad sector preifat mwyaf ers dechrau datganoli, ac rydym yn gwbl ymrwymedig i sicrhau bod y prosiect hwn—yn amodol ar y caniatadau angenrheidiol wrth gwrs—yn sicrhau etifeddiaeth barhaol i Ynys Môn, ac i wneud yn siŵr fod y datblygiad hwn yn cael ei adlewyrchu’n llawn ac yn gyfan gwbl yn y fargen dwf.Dirprwy Lywydd, fe fyddwch yn falch o glywed bod penodiadau wedi eu gwneud yr wythnos diwethaf i’n hunedau datblygu economaidd newydd sydd â ffocws rhanbarthol, gyda phenodi Gwenllian Roberts yn ddirprwy gyfarwyddwr i ranbarth gogledd Cymru. Bydd ein model datblygu economaidd sydd â ffocws rhanbarthol yn adeiladu ar y gwaith y buom yn ei wneud gyda’n partneriaid yng ngogledd Cymru ar ddatblygu strwythurau cydweithio newydd. Ac felly, i orffen, rydym wedi ymrwymo i wneud popeth sy’n bosibl i gefnogi swyddi a thwf ar draws gogledd Cymru, o Fae Cemaes i Saltney Ferry, ac yn wir i bob rhan o Gymru. Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Llyr Gruffydd i ymateb i’r ddadl. Llyr Gruffydd AC: A gaf i ddiolch, Dirprwy Lywydd, i bawb sydd wedi cyfrannu i’r ddadl yma? Mae’n debyg fy mod i wedi siarad gormod ar y dechrau i allu ymateb i bob pwynt sydd wedi cael ei wneud wrth gloi fel hyn.I’ll pick up on one or two of the contributions, and thank you for making those contributions. The Member for Delyn, of course, mentioned concerns about the devolution disconnect and she was asking about clarity around the proposed national football museum. My wish, certainly, is that it would be part of the network of national museums that we have in Wales. Certainly, when you look at the map, there is a gaping hole in north-east Wales in terms of having national museums in all parts of our country. There has been reference to the lack of national institutions in north-east Wales generally, and I think maybe that over the years has fed a little bit of the devolution disconnect that some people feel. So, that’s my response to your point there. And I have to say, the contribution that we had from the UKIP Member for north Wales—you confirmed to me that you don’t support the third point of our motion today. That means that you don’t support better links between north and south Wales, you don’t support improvements to the Menai crossing, you don’t support additional support for young farmers in your region, more medical training in your region, business rate relief for community hydro schemes in your region, additional funding for Visit Wales in your region. You heard it here first, and that tells us all we need to know, I think, about your party. Can I thank Simon Thomas for his contribution as well? Certainly, there’s a lot that we can build on in terms of the rural economy, but also the point that was made about tourism. Clearly, if parties in this Assembly want to do something to support the tourism sector in Wales, then certainly they can start with VAT and the Tory Chancellor of the Exchequer can start next month in his budget. I look forward to seeing Conservative Members of Parliament voting his budget down if he doesn’t walk the walk, or even supporting Plaid Cymru amendments, and I trust that there will be amendments to that effect in relation to VAT. In the meantime, this party is getting on with being an effective opposition, securing millions of pounds of additional investment for Visit Wales last year, millions of pounds of additional investment next year as well; that’s what effective opposition is about. Just to address some of the amendments, which was something that I didn’t do in my opening remarks, I see that the Welsh Government has once again opted for one of its ‘delete all and replace with’ amendments in an attempt to highlight some of their successes, many of which, of course, I support. I just wonder how long the list would be for other parts of the country when I look at that list. We won’t be supporting the second amendment from the Conservatives, which, again, seeks to delete recognition of the numerous victories that we’ve secured in this budget, and, indeed, victories for some of the people who you represent as a party as well. The third amendment we’re happy to support in favour of devolving beyond Cardiff. You could argue that, of course, if we had a Government that truly did represent the whole of Wales and ensured equity of investment to all parts of the country, you might not need that amendment, but we are happy to support it. So, with those comments and having been told I have three minutes and 25 seconds to sum up, I thank you all for contributing. Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Iawn, diolch. Gohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon yn awr tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. 11. 9. Cyfnod Pleidleisio Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i’r gloch gael ei chanu, fe symudaf yn syth at y cyfnod pleidleisio. Iawn. Felly, pleidleisiwn yn gyntaf ar gynigion i ethol Aelodau ar bwyllgorau. A gaf fi roi gwybod ichi fod y tair pleidlais gyntaf a gawn yn galw am fwyafrif o ddwy ran o dair i gael eu derbyn? Felly, galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig cyntaf i ethol Neil McEvoy i’r Pwyllgor Deisebau. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 39, roedd 10 yn ymatal. Felly, derbyniwyd y cynnig. Derbyniwyd y cynnig: O blaid 39, Yn erbyn 0, Ymatal 10. Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6541.Cliciwch i weld canlyniad y bleidlais Mae’r cynnig i ethol Rhun ap Iorwerth i’r Pwyllgor Deisebau unwaith eto’n galw am fwyafrif o ddwy ran o dair i gael ei dderbyn. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 39, roedd 10 yn ymatal. Felly, derbyniwyd y cynnig. Derbyniwyd y cynnig: O blaid 39, Yn erbyn 0, Ymatal 10. Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6542.Cliciwch i weld canlyniad y bleidlais Mae’r cynnig i ethol Adam Price i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus eto’n galw am bleidlais o ddwy ran o dair i gael ei dderbyn. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 40, roedd 10 yn ymatal. Felly, derbyniwyd y cynnig. Derbyniwyd y cynnig: O blaid 40, Yn erbyn 0, Ymatal 10. Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6543.Cliciwch i weld canlyniad y bleidlais Symudwn ymlaen yn awr at ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar deithiau bws a theithio rhatach ar gyfer pobl ifanc, a galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 24, neb yn ymatal, yn erbyn y cynnig 26. Felly, gwrthodwyd y cynnig hwnnw—[Torri ar draws.] A gawn ni rywfaint o dawelwch tra byddwn yn pleidleisio? [Aelod Cynulliad: ‘Clywch, clywch.’] A’r person sy’n dweud ‘Clywch, clywch’ mae’n debyg, yw’r un mwyaf swnllyd yn y Siambr. Diolch. Felly, roedd 24 o blaid y cynnig, neb yn ymatal, yn erbyn y cynnig 26. Felly, gwrthodwyd y cynnig. Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 24, Yn erbyn 26, Ymatal 0. Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6534.Cliciwch i weld canlyniad y bleidlais Trown yn awr at bleidlais ar welliant 1. Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 26, roedd 8 yn ymatal, 16 o bleidleisiau yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1. Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 26, Yn erbyn 16, Ymatal 8. Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6534.Cliciwch i weld canlyniad y bleidlais Galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd. Cynnig NDM6534 fel y’i diwygiwyd:Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:1. Yn cydnabod pwysigrwydd economaidd, addysgol a chymdeithasol helpu pobl ifanc â chostau cludiant cyhoeddus.2. Yn nodi'r ymgynghoriad a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun Pas Teithio newydd ac uchelgeisiol i Bobl Ifanc sy'n annog mwy o bobl ifanc i ddefnyddio'r bysiau.3. Yn cydnabod bod angen costio unrhyw gynigion.4. Yn nodi pwysigrwydd ymgysylltu'n helaeth â phobl ifanc, awdurdodau lleol, darparwyr addysg a chwmnïau bysiau i sicrhau bod y ddarpariaeth, o'i hehangu, yn targedu'r rheini sydd angen yr help fwyaf.5. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru trwy Trafnidiaeth i Gymru i annog mwy o bobl ifanc i ddefnyddio rhwydwaith cludiant cynaliadwy, integredig ac amlfoddol. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 49, roedd 1 yn ymatal. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. Derbyniwyd cynnig NDM6534 fel y’i diwygiwyd: O blaid 49, Yn erbyn 0, Ymatal 1. Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6534 fel y diwygiwyd.Cliciwch i weld canlyniad y bleidlais Symudwn ymlaen yn awr at ddadl Plaid Cymru ar economi gogledd Cymru, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Unwaith eto, os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 8, neb yn ymatal, 42 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig. Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 8, Yn erbyn 42, Ymatal 0. Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6536.Cliciwch i weld canlyniad y bleidlais Symudwn ymlaen i bleidleisio ar y gwelliannau. Trown yn awr at welliant 1. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Felly, galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 26, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 1 a chaiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 26, Yn erbyn 24, Ymatal 0. Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6536.Cliciwch i weld canlyniad y bleidlais Cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 3 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 50, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly derbyniwyd gwelliant 3. Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 50, Yn erbyn 0, Ymatal 0. Canlyniad y bleidlais ar welliant 3 i gynnig NDM6536.Cliciwch i weld canlyniad y bleidlais Felly, galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd. Agorwch y bleidlais. Cynnig NDM6536 fel y’i diwygiwyd: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:1. Yn cydnabod pwysigrwydd strategol hanfodol economi'r Gogledd i Gymru a'r DU.2. Yn nodi rôl Llywodraeth Cymru fel arweinydd trawsffiniol i ddatblygu cynigion â phartneriaid ar gyfer Bargen Twf y Gogledd.3. Yn croesawu'r rhaglen fuddsoddi uchelgeisiol o dan arweiniad Llywodraeth Cymru yn y rhanbarth, sy'n cynnwys:a) buddsoddi £250m yng nghoridor yr A55/A494;b) £20m i sefydlu Athrofa Ymchwil a Gweithgynhyrchu Uwch;c) £50m ar gyfer Metro'r Gogledd Ddwyrain; ad) cynlluniau ar gyfer trydedd bont dros y Fenai.4. Yn croesawu cymorth cyllido Llywodraeth Cymru ar gyfer y diwydiant dur, sy'n helpu i roi dyfodol cynaliadwy i'r gwaith, cymuned a gweithwyr yn Shotton.5. Yn nodi cefnogaeth Llywodraeth Cymru i brosiect gwerth £14 biliwn Wylfa Newydd a gwaith i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn gadael gwaddol gynaliadwy o swyddi, seilwaith a thai o ansawdd da yn Ynys Môn a'r Gogledd Orllewin.6. Yn croesawu'r cytundeb cyllidebol diweddar â Phlaid Cymru.7. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i ddod â Cynllun Gweithredu Economaidd yn ei flaen a all gynnal swyddi a thwf yn y rhanbarth.8. Yn nodi bod dogfen Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, 'Gweledigaeth ar gyfer Twf yr Economi yng Ngogledd Cymru', yn nodi bod ‘gogledd Cymru mewn lle da i dderbyn ystod o gyfrifoldebau newydd’ ac yn cymeradwyo ei alwad am ddatganoli pwerau gan Lywodraeth Cymru dros gyflogaeth, trethi, sgiliau a thrafnidiaeth. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 28, roedd 8 yn ymatal, 14 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. Derbyniwyd cynnig NDM6536 fel y’i diwygiwyd: O blaid 28, Yn erbyn 14, Ymatal 8. Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6536 fel y’i diwygiwyd.Cliciwch i weld canlyniad y bleidlais Symudwn yn awr at y ddadl fer. Os oes Aelodau’n gadael y Siambr, a wnewch chi hynny’n dawel ac yn gyflym, os gwelwch yn dda? 12. 10. Dadl Fer: Diogelu a Hawliau Cleifion yn y GIG yng Nghymru—Cynorthwyo'r Dioddefwr Symudwn yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Bethan Jenkins—[Torri ar draws.] Os ydych yn gadael y Siambr, a wnewch chi hynny’n gyflym ac yn dawel, os gwelwch yn dda? Os nad ydych yn gadael, eisteddwch. Diolch. Mae’n ddrwg gennyf, Bethan. Galwaf yn awr ar Bethan Jenkins i siarad ar y pwnc y mae wedi ei ddewis. Bethan. Bethan Sayed AC: Diolch. Rwyf wedi rhoi munud i Angela Burns.Wrth nesáu at y ddadl hon, a meddwl am y materion y mae’n eu codi, gan gynnwys hawliau cleifion, sut yr ydym yn cefnogi ac yn credu gair pobl sydd wedi dioddef troseddau neu gam-drin yn y GIG, sut yr ydym yn diogelu yn erbyn digwyddiadau yn y dyfodol, a sut y mae’r GIG yn ymdrin â phroblemau a digwyddiadau mawr pan fyddant yn codi, roeddwn yn teimlo ei bod yn bwysig defnyddio digwyddiadau cyfredol fel prism ar gyfer edrych ar y problemau hyn.Mae achos Kris Wade, wrth gwrs, yn un y bydd pobl yma’n gwybod fod gennyf ddiddordeb arbennig ynddo, nid yn unig oherwydd bod Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn fy rhanbarth i, ond mae gennyf ddiddordeb ynddo am fod yr achos wedi dangos yn glir, er gwaethaf yr adolygiad a’r addewidion a’r sicrwydd, fod Cymru’n dal i fod mewn sefyllfa lle y mae bwrdd iechyd mawr unwaith eto wedi methu cyflawni’r disgwyliadau sydd gan bobl o’u GIG, ac yn fwy sylfaenol, mae menywod wedi cael cam—dioddefwyr cam-drin rhywiol—drwy gael rheibiwr rhywiol mewn amgylchedd honedig ddiogel.Mae’n rhaid i mi gofnodi’r achos hwn, cael trafodaeth briodol am y peth, ac asesu beth a aeth o’i le a’r materion sydd wedi codi o ganlyniad i hynny. Roedd y ‘Desktop Review Lessons Learned Report’, a gyhoeddwyd gan PABM ym mis Awst, yn croesddweud ei hun braidd. Rwy’n credu y byddem yn cytuno, er mwyn i adolygiad priodol o ddigwyddiad mawr fod yn drylwyr, ac i ddangos bod gwersi wedi cael eu dysgu mewn gwirionedd, buasai adolygiad o’r fath yn cydnabod difrifoldeb sefyllfa fel yr un sy’n cael ei thrafod cyn unrhyw beth arall. Ond mewn gwirionedd, yr hyn a welsom oedd rhywbeth hollol wahanol. Roedd yr adroddiad ei hun yn hwyr ac ni chafwyd esboniad am hynny. Cawsom ein hysbysu i gychwyn y byddai’r adolygiad yn barod ym mis Ionawr. Ni chafodd ei gyhoeddi tan fis Awst. Ni roddwyd unrhyw eglurhad am hyn. Ni chafwyd yr adolygiad dan arweiniad y prif weithredwr blaenorol, Paul Roberts, ac yn lle hynny cyhoeddwyd adolygiad bwrdd gwaith gyda gwaith awduron wedi’i olygu—yn wahanol iawn i’r broses drylwyr ac eang yr oedd y mater yn ei haeddu ac a oedd yn ddisgwyliedig. Cefais wybod bod sawl cais gan feddyg ymgynghorol a chyn-gyfarwyddwr clinigol i roi tystiolaeth i’r adolygiad bwrdd gwaith wedi cael eu gwrthod dro ar ôl tro. Daeth yr adroddiad i gasgliadau heb unrhyw sail iddynt, fel yr honiad nad oedd unrhyw gysylltiad rhwng y methiant i erlyn neu ddiswyddo Mr Wade a llofruddiaeth Christine James. Mae hyn yn rhywbeth y mae eraill, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, wedi ei ailadrodd yn anffodus. Sut y gellir gwneud yr honiad hwn yn bendant pan fo Mr Wade yn amlwg wedi cyflawni cyfres o ymosodiadau rhywiol yn erbyn menywod agored i niwed, gweithredoedd ymosodol a gydnabyddir yn aml fel ymddygiadau sy’n rhagflaenu troseddau mwy difrifol? Ym marn llawer, gan gynnwys rhai safbwyntiau o fyd y gyfraith, ceir cyswllt achosol rhwng methiant i erlyn a’r ffaith nad oedd Mr Wade wedi wynebu unrhyw gamau cyfreithiol ar yr adeg y llofruddiodd Christine James.Ychydig iawn o wybodaeth a oedd ar gael ynglŷn â sut y daeth Mr Wade i gael ei gyflogi fel gweithiwr cymorth iechyd, gan weithio gyda phobl agored i niwed, yn y lle cyntaf. Dechreuodd Mr Wade gyda’r awdurdod rhagflaenol, Bro Morgannwg, fel technegydd technoleg gwybodaeth. Nid oedd yn ddarostyngedig i unrhyw wiriadau Swyddfa Cofnodion Troseddol uwch ychwaith, sy’n ofyniad ar gyfer y rôl yr oedd yn gyflogedig ynddi’n ddiweddarach, ac yn arswydus, mae PABM wedi dweud wrth fy staff, a staff ACau eraill hefyd, fod ganddynt wiriadau Swyddfa Cofnodion Troseddol eraill heb eu gwneud ar staff presennol.Mae’r adroddiad yn osgoi sôn am unrhyw wrthdaro buddiannau posibl yn sgil nepotiaeth ymhlith rheolwyr PABM. Mae’n dweud yn syml nad yw’r pwynt nac yma nac acw. Methodd ddod i gasgliadau y naill ffordd neu’r llall. Nid oedd hyn yn fy nharo i’n ddigon da ar y pryd, ac mae’n agwedd ar hyn sy’n haeddu mwy o sylw. Câi Kris Wade ei gyflogi, wedi’r cyfan, fel gweithiwr cymorth iechyd yn y gwasanaeth anableddau dysgu heb y gwiriadau gorfodol, pan oedd ei dad, Steven Wade, yn gyfarwyddwr clinigol gyda chyfrifoldeb am y gwasanaeth. Un o rannau mwyaf allweddol yr achos hwn, ac un na roddwyd fawr o sylw iddi o gwbl yn yr adolygiad, oedd pam na chafodd Mr Wade ei ddiswyddo’n gynt. Pam fod cymaint o oedi a gwrandawiadau disgyblu ynglŷn â’i weithredoedd pan oedd honiadau wedi dod gan dri o bobl? Cyfrifoldeb uniongyrchol PABM yw hyn, ac mae cyfrifoldeb clir i’w gymryd a gwersi i’w deall o ran diogelu wrth inni symud ymlaen.Er ei fod yn frawychus, mae yna risg sydd wedi ei chydnabod o fewn y GIG o gam-drin pobl sy’n agored i niwed, yn enwedig menywod. Yn wir, mae Rowan House ar safle Ysbyty Trelái, lle y cynhaliwyd yr ymchwiliad i fethiannau i ofalu am gleifion mewn perthynas â phobl ag anableddau dysgu yn 1969. Digwyddodd achos Kris Wade o dan y bwrdd iechyd lle’r oedd safonau gofal yn Ysbyty Tywysoges Cymru wedi bod yn destun ymchwiliad annibynnol ac adroddiad Andrews, ‘Ymddiried mewn gofal’, yn sgil hynny ac roedd digwyddiadau tebyg wedi digwydd yn ei wasanaethau iechyd meddwl. Mae PABM wedi cydnabod ei fethiannau i ofalu am bobl ag anableddau dysgu yn achos trasig Paul Ridd. Hyd yn oed heb yr enghreifftiau lleol, dylai’r methiannau a’r cam-drin a welwyd mewn byrddau iechyd eraill ledled y DU ac mewn cyfleusterau gofal fod wedi bod yn rhybudd clir i’r bwrdd iechyd fod o ddifrif ynghylch honiadau o’r math hwn, fod yn rhaid pwyso a mesur cyflogaeth mewn achosion o’r math hwn, yn erbyn risg, ac roedd risg glir a phatrwm yn datblygu gyda’r achos hwn.Roedd y problemau llywodraethu yn PABM wedi eu hepgor o’r adolygiad hefyd. Dywedodd cyn-feddyg ymgynghorol o PABM y cyfarfûm ag ef wrthyf, ‘Roeddwn i’n bersonol wedi mynegi pryderon wrth y cyfarwyddwr meddygol yn 2012 yn dilyn yr ail honiad o gamdriniaeth a’i oblygiadau wedi’u cydnabod. Cafodd pryderon ynglŷn â llywodraethiant ac arweinyddiaeth y cyfarwyddwr eu hamlygu mewn adolygiadau mewnol o lywodraethiant a pherfformiad, ond ni weithredwyd arnynt. A chafodd ystod gynhwysfawr o bryderon a godwyd gennyf fi ac eraill am fethiannau llywodraethu a gweithredoedd y cyfarwyddwr clinigol naill ai eu hanwybyddu neu, yn fwy gweithredol, eu mygu gan weithrediaeth y bwrdd iechyd.’ Mae’n amlwg fod cyhuddiadau mawr i’w gwneud yma, ac ni chafodd y rheini sylw yn yr adroddiad ar y gwersi a ddysgwyd, i raddau helaeth oherwydd bod ei geisiadau i gyflwyno tystiolaeth wedi cael eu gwrthod. Mae’n mynd ymlaen i ddweud, ‘Roedd y diwylliant o fewn bwrdd iechyd PABM yn rhoi rhwydd hynt i’r cyfarwyddwr clinigol redeg gwasanaeth ynysig, heb oruchwyliaeth briodol, a oedd yn gweithredu heb arferion llywodraethu safonol.’ Ni all hyn fod yn dderbyniol.Yn amlwg, er nad oedd yn rhan o’r adolygiad bwrdd gwaith, mae llywodraethu yn y bwrdd iechyd yn fater allweddol yma. Ni fu unrhyw atebolrwydd neu gyfrifoldeb clir gan y rheolwyr am yr hyn a ddigwyddodd ac ni chafwyd ymddiheuriad ffurfiol. Bu’n rhaid i ddioddefwyr Kris Wade gael gwybod oddi ar y teledu fod yr adroddiad bwrdd gwaith wedi ei ryddhau hyd yn oed. Mae’n ymddygiad ofnadwy ar ran PABM. Yn ddiweddar, dywedodd Cymdeithas Feddygol Prydain na ddylai’r bwrdd iechyd gael yr hawl i adolygu eu hunain, ac rwy’n meddwl bod Angela Burns wedi dweud rhywbeth tebyg, ac rwy’n dyfynnu,Disgrifiodd Adroddiad Francis yr effeithiau trychinebus yn glir pan nad ymdrinnir â phryderon yn effeithiol, ac ar ôl Francis, credwn ei bod yn annerbyniol i fwrdd iechyd ymchwilio pryderon difrifol ynglŷn â’i hunan.Daw’n hollol glir o’r achos hwn, ac o’r adolygiad bwrdd gwaith, fod angen cael fframwaith gwell a mwy cadarn ar waith er mwyn goruchwylio rheolwyr y byrddau iechyd. Pe bai meddyg yn gwneud camgymeriad difrifol neu nifer ohonynt, ceir cyrff disgyblu proffesiynol a fyddai ag awdurdod i ymdrin ag unrhyw un o’r achosion hyn, ond nid oes unrhyw gorff o’r fath yn bodoli yn achos methiannau’n ymwneud â chyfrifoldeb ar ran rheolwyr. Ni all y byrddau barhau i osgoi cael eu cosbi am hyn. Rhaid eu dwyn i gyfrif. Er na allwn ddweud yn bendant na fydd yr hyn a ddigwyddodd yn achos Kris Wade byth yn digwydd eto, yn anffodus, mae’n debygol y ceir honiadau o gam-drin a throseddau a gyflawnir yn erbyn cleifion yn y dyfodol. Felly, mae’n rhaid inni baratoi byrddau iechyd a’r GIG i ymdrin â digwyddiadau’n fwy effeithiol ac yn fwy amserol na’r hyn a ddaeth yn amlwg yn ystod y digwyddiadau diweddar.Rwy’n credu bod yn rhaid i’r heddlu ysgwyddo rhywfaint o gyfrifoldeb am yr hyn a ddigwyddodd yn achos Kris Wade. Nid yw’n fater i Ysgrifennydd y Cabinet, ond dylai fod ymchwiliad mor drylwyr â phosibl yn yr asesiad sydd ar y ffordd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ynglŷn â pham na chafwyd cyhuddiad gan yr heddlu ar y cychwyn mewn perthynas â’r honiad cyntaf, a pham na chafwyd cyhuddiad gan Wasanaeth Erlyn y Goron mewn perthynas â honiad diweddarach. Mae cwestiwn i’w ateb hefyd ynglŷn â pham, yn un o’r honiadau, y cofnododd yr heddlu fod trosedd wedi cael ei chyflawni, ac eto ni chafwyd cyhuddiad mewn perthynas â hi.Dywedodd Alan Collins, cyfreithiwr a gynrychiolai un o’r dioddefwyr yn achos Wade, wrthyf: ‘Mae diffyg gweithredu ar ran yr heddlu yn bryder ynddo’i hun. Nid wyf o reidrwydd yn beirniadu’r heddlu, oherwydd nid oes yr un ohonom yn gwybod mewn gwirionedd pam na chafodd Wade ei erlyn am y tri ymosodiad rhywiol, a hynny am nad yw’r wybodaeth yn gyhoeddus.’ Ar ben hynny, roedd awduron yr adolygiad yn y tywyllwch hefyd. Y ffaith yw bod tri o gleifion agored i niwed wedi dioddef ymosodiad rhywiol gan ddyn a oedd yn peri risg ddifrifol i fenywod. Aeth yn ei flaen i ladd. Mae gan y cyhoedd hawl i wybod pam na chafodd y dyn hwn ei erlyn am y tri ymosodiad. Yn amlwg, ar yr olwg gyntaf, credai’r heddlu fod troseddau wedi cael eu cyflawni. Mae gan y dioddefwyr a’r cyhoedd hawl i wybod pam y cafodd y dyn peryglus hwn—gan mai dyna ydoedd—ei gyflogi mewn gwasanaeth cyhoeddus a pham na chafodd ei erlyn. Mae gennym hawl i ofyn hefyd: a oes gwersi i’w dysgu o’r hyn a wyddom? Er enghraifft, a fyddai’r heddlu’n trin yr achosion hyn yn wahanol pe baent yn cael gwybod amdanynt heddiw?Buaswn yn gobeithio y cefnogwch fy ngalwad ar AGIC i ymchwilio’r mater hwn sy’n ymwneud â’r heddlu yn drylwyr, a’u bod yn cydweithredu’n llawn. Bydd adroddiad AGIC yn ganolog wrth gwrs, a bydd yn sefyll fel prawf ynglŷn ag a allwn fod â ffydd yn yr adolygiad a’r prosesau goruchwylio sydd gennym ar hyn o bryd ai peidio. Rwyf wedi cyfarfod ag AGIC, a chefais fy sicrhau, i raddau, yr edrychir ar yr achos yn ei gyfanrwydd. Fodd bynnag, mae i ba raddau y gellir galw tystion a mynnu tystiolaeth o’r tu allan i’r bwrdd iechyd, neu gan rai nad ydynt bellach yn cael eu cyflogi gan y GIG, yn parhau i fod yn ansicr, a buaswn yn gadael yn agored yr opsiwn i alw am ymchwiliad annibynnol llawn o dan Ddeddf Ymchwiliadau 2005 yn y dyfodol os bydd angen.Yn fwy cyffredinol, buaswn yn gobeithio gweld ymddiheuriad priodol a gostyngedig gan y byrddau iechyd ar ôl y digwyddiadau hyn. Buaswn yn gobeithio y bydd AGIC yn ymchwilio i strwythurau rheoli’r byrddau iechyd yn llawn a sut y maent yn gweithio ar draws Cymru, yn enwedig atebolrwydd a phwy sy’n ysgwyddo cyfrifoldeb pan fo’n amlwg fod digwyddiad i fod yn gyfrifol amdano; sut y mae byrddau iechyd yn ymdopi â digwyddiadau mawr; a beth sy’n digwydd os nad yw gweithdrefnau diogelu’n cael eu dilyn, neu eu bod wedi methu. Mae angen gwneud ymchwiliadau ynglŷn â sut y cawn well trosolwg o strwythurau rheoli’r GIG, gan gydnabod nad meddygon yn unig sy’n gwneud penderfyniadau sy’n cael effaith real a pharhaol ar glaf neu ddefnyddiwr y GIG.I mi, un o’r agweddau mwyaf negyddol a ddaeth yn glir o ganlyniad i’r achos hwn yw ei bod yn amlwg fod diwylliant o gyfrinachedd mewn rhai rhannau o’r GIG lle y mae angen taflu goleuni arnynt. Ceir tuedd anffodus mewn rhai rhannau o’r GIG i ymateb i ddigwyddiad mawr, neu nifer ohonynt, drwy godi’r baricadau a chuddio, yn hytrach nag agor drysau a phenderfynu darganfod beth aeth o’i le mewn modd agored a thryloyw. Buaswn yn gobeithio y bydd AGIC a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’i gilydd yn ddiwyd i symud ymlaen i ddatrys y problemau hyn unwaith ac am byth.Hoffwn orffen gyda dyfyniad gan feddyg ymgynghorol o PABM a ddywedodd wrthyf, a dyfynnaf: ‘Mae’r gwersi sydd i’w dysgu yn berthnasol nid yn unig i PABM, ond i bob bwrdd iechyd arall. Yn gryno, ni ellir dysgu gwersi os yw’r GIG yng Nghymru yn gwrthod mynd i’r dosbarth.’ Rwy’n gobeithio, wrth symud ymlaen, nad dyma fel y bydd hi ac y bydd dioddefwyr a’u teuluoedd yn cael y cyfiawnder y maent yn ei haeddu. Diolch yn fawr iawn. Angela Burns AC: Hoffwn ddiolch i Bethan Jenkins am gyflwyno’r ddadl hon ar ddiogelu a hawliau cleifion yn y GIG yng Nghymru. A’r rheswm pam rwy’n awyddus i gyfrannu oedd fy mod wedi cyflwyno dadl fer ym mis Ionawr 2012 ag iddi’r teitl ‘A oes cyfrifoldeb moesol ar Lywodraeth Cymru i geisio gwarchod y rheini sy’n chwythu’r chwiban ym mhob agwedd ar fywyd?’ Oherwydd un o’r digwyddiadau—ac fe siaradoch yn benodol am achos Kris Wade—yw bod pobl yno a oedd yn ceisio chwythu’r chwiban, ac ni allent ac ni wnaethant. Y cwestiwn yw: pam?Pan godais hyn o’r blaen, sicrhaodd y Gweinidog a ymatebodd i mi ar y pryd, sy’n arweinydd y tŷ bellach, fod yna ganllawiau ysgrifenedig wedi eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru i ymddiriedolaethau’r GIG yn ei gwneud yn ofynnol i bob un ddatblygu ei pholisi chwythu’r chwiban ei hun a bod asesiad strwythuredig o gyrff y GIG wedi cael ei gynnal gan Swyddfa Archwilio Cymru, i geisio sicrwydd ar lefel uchel fod polisïau chwythu’r chwiban a chanllawiau i staff ar waith. Y rheswm y teimlaf mor gryf am hyn yw’r ffaith na weithiodd chwythu’r chwiban yn yr achos hwn. Ym Mhowys, fel y soniwyd gennym yn gynharach, fe geisiodd pobl chwythu’r chwiban, ac ni weithiodd hynny. Ac ar hyn o bryd, rwy’n cael fy ngheryddu gan fwrdd iechyd mawr oherwydd bod rhywun wedi ceisio chwythu’r chwiban, wedi cael eu rhoi yn eu lle gan y bwrdd iechyd, cyn dod ataf fi wedyn, ac rwyf wedi mynegi’r pryderon hynny. Mae gennyf lythyr—ac fe’i rhannaf, nid wyf am godi cywilydd arnynt yn gyhoeddus, ond rwy’n hapus i’w rannu gyda chi, Gweinidog—sy’n dweud wrthyf, yn y bôn, am nad ydynt wedi mynd drwy’r polisi, y weithdrefn, yna hen dro ond dyna ni. Y rheswm na all pobl chwythu’r chwiban yw oherwydd eu bod yn ofni gwneud hynny. Y rheswm nad ydynt yn chwythu’r chwiban yw bod arnynt ofn eu bod yn mynd i golli eu swyddi neu fod eu bywydau’n mynd i gael eu gwneud yn artaith. A phan fydd pobl dda yn cerdded heibio a gwneud dim, mae’n caniatáu i bethau fel digwyddiad Kris Wade i basio, i ddigwydd heb gael cosb briodol.Mae’n rhaid i ni ddechrau cael system gadarn yn ei lle y bydd pawb yn y GIG a chyrff gwasanaethau cyhoeddus eraill yn glynu ati’n llwyr o ran gallu tynnu sylw at rywbeth y maent yn teimlo ei fod yn foesol neu’n ffeithiol anghywir, a bod ganddynt reolwr sydd y tu allan i’r system honno, yn edrych arno ac yn ei archwilio, ac yn anad dim, rhywun—ac rwy’n gwybod fy mod yn diystyru’r holl bobl faleisus, ac nid oes llawer ohonynt— Ac rydych yn mynd i ddirwyn i ben yn awr, gan eich bod wedi mynd ymhell dros eich munud. Angela Burns AC: Mae’n ddrwg gennyf. Na, na, mae’n iawn. Angela Burns AC: Ond dylai’r bobl hyn gael yr hawl honno, oherwydd hebddynt hwy i gadw llygad ar ein gwasanaethau cyhoeddus, bydd gennym fwy o’r achosion ofnadwy hyn yn y dyfodol. Diolch. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i ymateb i’r ddadl. Vaughan Gething. Vaughan Gething AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau i’r ddadl heddiw, sydd wrth gwrs yn fater pwysig a difrifol yn gyffredinol i’r holl Aelodau ym mhob plaid a phob un o’r etholwyr yr ydym yma i’w gwasanaethu.Credaf fod yna gefnogaeth drawsbleidiol ddilys i sicrhau bod pob claf sy’n defnyddio ein gwasanaethau yn cael gofal diogel o ansawdd uchel ac yn cael eu hamddiffyn rhag niwed. Mae llawer o’r hyn yr ydym yn ei drafod yn y lle hwn yn ymwneud â phan nad yw hynny’n digwydd. Wrth gwrs natur ein busnes yw ein bod yn llai tebygol o siarad am bethau pan fo pethau’n mynd yn iawn, ond i siarad mewn gwirionedd am y pethau sydd wedi mynd o’i le a cheisio deall pam.I gleifion, dyna pam yr ydym wedi rhoi’r broses Gweithio i Wella ar waith, i integreiddio’r rheini, i geisio sicrhau y caiff y materion hynny eu harchwilio a’u hunioni. Rydym am weld un dull integredig i’w gwneud yn haws i bobl leisio pryderon a darparu canlyniadau teg i unigolion a’i fod yn gyson o ran y ffordd y caiff pobl eu trin. Wrth wneud hynny, rydym yn disgwyl gwneud y defnydd gorau o’n hamser a’n hadnoddau, a sicrhau bod pobl o ddifrif yn dysgu gwersi lle y mae pethau’n mynd o chwith.Gallai a dylai pryderon a chwynion gael eu lleisio gan gleifion, staff ac aelodau o’r cyhoedd, a dylai pawb sy’n eu lleisio gael cymorth yn ystod y broses. Beth bynnag yw’r broses sydd gennym ar waith, rwy’n cydnabod y bydd yna bob amser elfen o gamgymeriad dynol yn rhan o hynny. O fewn y GIG yng Nghymru, dylai staff gael eu trin ag urddas a pharch, yn unol â’n polisïau sefydledig. Mae’n rhaid i holl sefydliadau’r GIG, fel cyflogwyr, roi camau ar waith i fynd i’r afael ag unrhyw bryderon a godir gan staff mewn modd prydlon ac amserol. Ceir gweithdrefn Cymru gyfan i staff y GIG allu lleisio pryderon, fel y cytunwyd mewn partneriaeth â fforwm partneriaeth Cymru, a chaiff ei hadolygu’n rheolaidd er mwyn sicrhau ei bod yn addas at y diben.Ni ddylwn ymateb yn uniongyrchol i rai o’r pwyntiau a wnaeth Angela Burns oherwydd yn fy mywyd blaenorol, pan oeddwn yn gyfreithiwr cyflogaeth, ceir her i’r hawliau sydd gan bobl mewn theori ac yn y gyfraith ac mewn gwirionedd y rhan wirioneddol anodd o sut yr ydych yn mynnu’r hawliau hynny yn ymarferol. Oherwydd hyd yn oed mewn sefydliad fel y GIG, ac mae’n fraint i godi ar fy nhraed a bod yn Weinidog y gwasanaeth iechyd, ond ymysg yr oddeutu 76,000 o staff, credwn fod yna amherffeithrwydd. Mae yna adegau pan fydd pobl yn gwneud camgymeriadau ac mae yna adegau pan fydd pobl nid yn unig yn gwneud camgymeriadau, ond mewn gwirionedd mae ychydig yn fwy bwriadol. Nid yw hynny’n ymosodiad ar y gwasanaeth; mae’n fater o gydnabod, mewn gwasanaeth dynol, y bydd hynny’n digwydd.Ein her go iawn yw sut y cefnogwn bobl yn ymarferol, oherwydd rydym yn gofyn i bobl godi eu pennau uwchben y parapet, ac nid yw hynny bob amser yn hawdd. Mae gennyf bob amser ddiddordeb mewn deall pan fydd rhywun yn mynegi pryder neu gŵyn, efallai na fydd bob amser yn rhywbeth lle y ceir ymchwiliad llawn, ond ni ddylent ddioddef niwed o wneud hynny. Mae honno’n her sy’n ymwneud â’r rhan ddiwylliannol a’r weledigaeth a’r gwerthoedd. Dyna pam y gwnaethom lawer o waith gyda Chymdeithas Feddygol Prydain ar y weledigaeth a’r gwerthoedd ar gyfer y gwasanaeth, ac mae hynny’n dal i fod mor berthnasol yn awr â phan gyflwynwyd ac y cytunwyd ar y gwaith hwnnw gennym mewn gwirionedd.I blant ac oedolion sy’n agored i niwed, mae’r GIG wedi bod wrthi’n gwella ei ddulliau yn y blynyddoedd diwethaf. Mae’r tîm diogelu cenedlaethol yn gweithio ar draws y GIG yng Nghymru gyda rhanddeiliaid a phartneriaid i helpu gyda’r ddarpariaeth leol mewn byrddau iechyd, yn ogystal, wrth gwrs, â’n byrddau rhanbarthol diogelu plant ac oedolion, lle y mae gweithwyr proffesiynol dynodedig yn darparu ffynhonnell o gyngor iechyd annibynnol, arbenigol o bersbectif Cymru gyfan. Yn ogystal, ceir rhwydwaith diogelu GIG Cymru sy’n cysylltu sefydliadau ar draws GIG Cymru i geisio creu amgylchedd cydweithredol er mwyn adnabod materion cyffredin, datblygu atebion, a chyrraedd safonau gofal iechyd sy’n diogelu lles plant ac oedolion mewn perygl yn well. Yn ganolog iddo mae’r gwerthusiad o effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd trefniadau ac ymyriadau diogelu plant ac oedolion, yn ogystal â cheisio lleihau amrywiadau mewn ymarfer yn y GIG. Enghreifftiau o’r hyn y mae’r rhwydwaith wedi ei wneud eisoes yw fframwaith ansawdd a chanlyniadau GIG Cymru ar gyfer diogelu plant, strategaeth atal camfanteisio’n rhywiol ar blant a’r cynllun gweithredu ar gyfer GIG Cymru, a safonau ansawdd ar gyfer rolau cynghorwyr meddygol ym maes mabwysiadu a maethu, a hefyd mae gennym lwybr clinigol ar gyfer Cymru gyfan ar anffurfio organau cenhedlu benywod, gan feddwl am yr ystod o feysydd lle y daeth pobl i mewn i’n gwasanaeth. Ac wrth gwrs, rhan allweddol o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a basiwyd yn ystod tymor diwethaf y Cynulliad, oedd sefydlu bwrdd diogelu cenedlaethol annibynnol newydd, sy’n cael ei gadeirio bellach gan Dr Margaret Flynn. A’u gwaith fel bwrdd yw cynghori Gweinidogion Cymru ynglŷn â digonolrwydd ac effeithiolrwydd y trefniadau diogelu ar draws Cymru. Nid wyf yn credu y byddwn byth mewn sefyllfa lle y gallwn ddweud bod popeth yn berffaith. Bydd angen adolygu ein gweithdrefnau a’n harferion bob amser, er mwyn deall a oes gennym y system orau sy’n bosibl ar waith, ac yn yr un modd, a oes gennym bobl yn eu lle i wneud hynny.Dof at y pwyntiau a nododd Bethan Jenkins yn benodol am yr achos unigol dan sylw. Ac nid her mewn perthynas â chwythu’r chwiban yn unig sydd yma, ond yn yr achos penodol hwn, gyda’r tri honiad blaenorol, yn anffodus mae’n ymddangos ei bod yn wir na chafodd yr achwynwyr hynny eu hystyried yn ddibynadwy. Ac mae honno’n broblem fawr inni yn ein system. Ni ddylai fod yn wir fod pobl agored i niwed, boed yn blant neu’n oedolion, yn cael eu gweld fel rhai sy’n gynhenid annibynadwy. Ac mae honno’n broblem. Ond fe gyfeiriodd y bwrdd iechyd yr honiadau’n ddiymdroi at y system cyfiawnder troseddol er hynny. Fe ymchwiliodd yr heddlu. Ac ar bob un o’r achlysuron hynny, penderfynodd y system cyfiawnder troseddol beidio â bwrw ymlaen. Mae honno’n broblem i ni ei deall. Ond yn adolygiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, nid oes ganddynt bwerau i fynd i ymchwilio i’r hyn a wnaeth y system cyfiawnder troseddol. Yr hyn sydd angen i ni sicrhau ein hunain yn ei gylch, gyda’n cyfrifoldebau, o ran y camau gweithredu a roddwyd ar waith, yw pa wersi sydd yno i’w dysgu, ac edrych i’r dyfodol mewn perthynas â beth arall sydd angen ei ddysgu ar gyfer pobl eraill. Bydd yna bobl yn ein gwasanaeth, yn anffodus, sydd mewn sefyllfa lle nad ydynt wedi ymddwyn fel y byddem wedi dymuno iddynt wneud o gwmpas pobl yn eu gofal. Mae hynny’n rhywbeth y mae angen inni gael adolygiad AGIC annibynnol yn ei gylch, ond wrth gwrs, rwy’n disgwyl iddynt gael sgwrs gyda’r system cyfiawnder troseddol am yr hyn a ddigwyddodd yn yr achos hwn, ac yn bendant mae gwersi i’w dysgu gan y system cyfiawnder troseddol o achos Kris Wade hefyd.Ond rwy’n anghytuno â Bethan Jenkins a nifer o bobl eraill ar y farn eglur na ddylai byrddau iechyd ymchwilio i bryderon difrifol. Rwy’n credu bod yn rhaid i fyrddau iechyd ymchwilio i bryderon difrifol lle y mae ganddynt gyfrifoldeb. Bydd yna bob amser her ynglŷn â phryd y mae’n briodol, felly, i gael adolygiad annibynnol yn ogystal, gan ein bod yn disgwyl i’r byrddau iechyd edrych ar bryderon difrifol, ac maent eisoes yn gwneud hynny. Cawn adroddiadau ombwdsmyn yn rheolaidd, ble y maent yn edrych ar yr hyn y mae’r bwrdd iechyd wedi gwneud, ac mewn rhai o’r rheini, nid ydynt bob amser yn cael pethau’n iawn. Maent yn dal i fod angen y broses hon ynglŷn â deall yr hyn y maent wedi ei wneud, a dysgu a gwella’n briodol. Ac yn yr achos hwn, rydym wedi penderfynu y dylid cynnal adolygiad annibynnol, a dyna pam yr ydym wedi gofyn i AGIC gynnal yr adolygiad hwnnw. Bethan Sayed AC: A wnewch chi dderbyn ymyriad? Vaughan Gething AC: Fe gymeraf ymyriad. Bethan Sayed AC: Ar yr adroddiad penodol hwn, fodd bynnag, cafodd yr awduron eu golygu. Rydym yn cael adolygiad mewnol ac nid ydym yn gwybod pwy sydd wedi ei ysgrifennu mewn gwirionedd. Felly, mae’n anodd iawn bod â ffydd mewn system lle na allwn graffu’n iawn arni, a lle na chymerodd yr adroddiad hwnnw dystiolaeth gan y rhai a oedd am roi tystiolaeth. Sut y gallwch fod yn sicr y bydd hynny’n digwydd, os yw byrddau iechyd yn ymchwilio eu hunain? Vaughan Gething AC: Rwy’n deall y pwyntiau a godwyd am bobl a ble y cymerwyd y dystiolaeth, gan mai adolygiad bwrdd gwaith ydoedd. Yn ôl yr hyn a ddeallaf hefyd, cyn cwblhau’r adroddiad hwnnw, cafwyd sgwrs gydag un o’r bobl a oedd yn chwythwr chwiban. Ond fe awn drwy hynny gydag adolygiad AGIC, ac os oes angen edrych ar ein proses eto, gyda’r gwersi a fydd yn deillio o hyn, byddwn am ddysgu’r rheini. Dyna’r pwynt am fod yn agored ac yn fodlon derbyn—nad ydym yn dechrau’r adolygiad AGIC o’r pwynt fod hyn yn ymwneud ag amddiffyn y gwasanaeth. Mewn gwirionedd mae’n ymwneud â deall yr hyn sydd wedi digwydd, a deall beth y gallem ac y dylem ei wneud yn wahanol yn y dyfodol.Wrth gwrs, mae amryw o honiadau difrifol wedi eu gwneud heddiw wrth agor y ddadl hon, a’r datganiad fod Kris Wade yn amlwg wedi cyflawni cyfres o ymosodiadau rhywiol. Nid wyf mewn sefyllfa i ddweud a yw hynny’n wir. Dyna ran o’r her ynghylch rhyngweithio â’r system cyfiawnder troseddol, a’u cyfle i ymchwilio i hynny ac i ddeall beth sydd wedi digwydd. Bydd yr adolygiad AGIC yn edrych ar yr ystod o faterion drwy’r broses gyfan. Mae gennyf ddiddordeb yn yr oedi cyn datrys y materion cyflogaeth ar ôl atal o’r gwaith. Mae gennyf ddiddordeb yn y rhyngweithio rhwng gwahanol gynrychiolwyr—a oes esgus da, ai peidio—a deall beth arall y gallwn ac y dylem ei wneud. Oherwydd, o bryd i’w gilydd, pan fydd gennych rywun yn cael eu hatal o’r gwaith am amser hir, nid yw’n dda i’r sefydliad, nid yw’n dda i’r unigolion, neu’r bobl sy’n ymwneud â hynny o bosibl fel tystion.Rydym wedi trafod achos Kris Wade o’r blaen. Rwy’n siŵr y byddwn yn gwneud hynny eto. Rwyf am ddweud yn glir, mewn ymateb i rai o’r pwyntiau eraill a godwyd mewn heriau eraill ynglŷn â’r bwrdd iechyd hwn, fy mod yn meddwl fod methiant gofal Paul Ridd yn enghraifft ddiddorol iawn, lle y mae’r teulu wedi ailymgysylltu â’r bwrdd iechyd i geisio gwella’r sefyllfa ar ôl i’r bwrdd gael ei feirniadu, ac ar ôl i ddyfarniad anffafriol difrifol gael ei wneud yn ei erbyn. Mae’n arwydd o’r ffaith bod nyrs y flwyddyn eleni’n gweithio yn y gwasanaeth anabledd dysgu o fewn y bwrdd iechyd. Mae llawer o’i gwaith mewn perthynas â’r wobr a gafodd yn deillio o’r ffaith ei bod hi wedi ymgysylltu â’r teulu hwnnw ac wedi gwrando arnynt ac mae’r bwrdd iechyd hwnnw wedi newid y ffordd y maent yn ymddwyn, yn enwedig mewn perthynas â phobl ag anableddau dysgu. Dyna enghraifft o’r natur agored yr ydym am ei hannog. Yn ddelfrydol, wrth gwrs, rydym yn awyddus i gael system lle’r ydym yn cael gwared ar y cyfle i fethiannau ddigwydd yn y lle cyntaf, ond mae’n hynod bwysig ein bod yn manteisio ar y cyfle i ddysgu, ac yna i weithredu wedi hynny i wella’r ansawdd gofal iechyd y mae pob un ohonom yn ei ddisgwyl, nid yn unig i ni ein hunain, ond i’r holl bobl yr ydym yn eu cynrychioli. Diolch yn fawr iawn, a dyna ddiwedd ein trafodion am heddiw. Daeth y cyfarfod i ben am 18:51. QNR Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig Huw Irranca-Davies: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet herio DEFRA i newid ei safiad ar y rheolau ynghylch profion ar ôl symud sy'n gysylltiedig â symud gwartheg o'r ardal TB isel yng Nghymru i'r ardal risg isel yn Lloegr? Lesley Griffiths: Officials have been in discussion with the Department for Environment Food and Rural Affairs in recent months about allowing cattle from Wales’s low TB area into England’s low risk area without a post-movement test. These negotiations have resulted in DEFRA committing to review their stance after a year of implementation of the regionalised approach to TB eradication. Vikki Howells: Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru? Lesley Griffiths: We are investing £104 million over the next four years in our Welsh Government Warm Homes programme, which includes the Nest and Arbed schemes. This investment will enable us to improve the energy efficiency of 25,000 homes of those on low incomes or living in the most deprived areas of Wales. David J. Rowlands: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y rhwystrau ariannol sy'n atal ynni adnewyddadwy rhag cyrraedd ei botensial yng Nghymru? Lesley Griffiths: The principal barrier is the lack of a stable investment regime to support the use of our natural resources in Wales. The recent contracts for difference auction brought almost no investment in Wales. I continue to press UK Government on the need for appropriate support for renewable energy generation. Bethan Sayed: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa fesurau cynllunio sydd ar waith i ddiogelu ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd yng Nghymru? Lesley Griffiths: ‘Planning Policy Wales’ and technical advice note 15 set out the Welsh Government’s planning policy on flood risk. The policy clearly states highly vulnerable development, including new homes, should not be approved in undefended areas at risk of flooding. Hefin David: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y gellir defnyddio'r system gynllunio i adeiladu cartrefi newydd? Lesley Griffiths: The planning system plays a vital role in the delivery of new homes by identifying the land necessary to meet the housing requirements of communities that is determined by local planning authorities in their local development plans. John Griffiths: Pa gamau pellach y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i wella ansawdd aer yng Nghymru? Lesley Griffiths: Taking further action to improve air quality in Wales is a key priority. Next year we will develop a new clean air plan for Wales, including a clean air zone framework. The involvement of all sectors and representative bodies in this work, including the private sector, will be essential. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant Huw Irranca-Davies: Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o fanteision rhaglen Dechrau'n Deg? Carl Sargeant: The latest research indicates that Flying Start makes a difference to children’s lives, including developmental improvements. Outcomes for families in Flying Start areas may now be comparable with families in less disadvantaged areas. We are piloting a project to better understand the health and educational outcomes of Flying Start children. Russell George: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am berfformiad Rhentu Doeth Cymru? Carl Sargeant: Almost 84,000 landlords are now registered with Rent Smart Wales, and over 90 per cent of all agents are now fully licensed. One hundred and twenty-five fixed penalty notices have been issued for non-compliance. There have also been three successful prosecutions for non-compliance. Neil McEvoy: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am hawliau plant i gael mynediad at eu dau riant? Carl Sargeant: The Welsh Government is fully committed to the rights of children, as expressed in the United Nations Convention on the Rights of the Child, including children’s right to know and, as far as possible, to have access to both parents.
uk-hansard-senedd-cy
senedd2017-10-18
2024-06-01T00:00:00
{ "year": "2017", "language": "cy", "license": "Open Parliament Licence - https://www.parliament.uk/site-information/copyright-parliament/open-parliament-licence/" }
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. Datganiad gan y Llywydd Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y cyfarfod yma heddiw, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda. 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog Cwestiynau i'r Prif Weinidog yw'r eitem gyntaf y prynhawn yma, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Rhys ab Owen. Y Ddeddf Diogelwch Adeiladu 2022 Rhys ab Owen AS: 1. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU a chynghorau ynghylch effaith Deddf Diogelwch Adeiladu 2022 y DU ar drigolion Cymru? OQ58004 Mark Drakeford AC: Llywydd, rwy'n diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae Gweinidogion yn parhau i ymgysylltu yn uniongyrchol â Llywodraeth y DU ac eraill i greu cyfundrefn gadarn o ddiogelwch adeiladau i Gymru. Mae hynny yn cynnwys defnyddio agweddau ar Ddeddf Diogelwch Adeiladu'r DU. Parhaodd y trafodaethau hynny ar lefel weinidogol yr wythnos diwethaf. Rhys ab Owen AS: Diolch, Prif Weinidog. Gofynnodd preswylydd o fflatiau Spillers a Bakers i fyny'r ffordd i mi godi'r cwestiwn hwn heddiw. Yn y fan honno, mae llawer o lesddeiliaid wedi cael hysbysiad adran 20. Maen nhw'n wynebu colli eu cartrefi oherwydd methiannau rheoleiddio costus yn y gorffennol. Pryd byddan nhw'n cael y cymorth ymarferol sydd ei angen arnyn nhw i ddod â'r hunllef hon i ben? Diolch yn fawr. Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, cymerwyd amddiffyniadau lesddaliadol yn Neddf Diogelwch Adeiladau'r DU. Mae'n rhaid i mi ddweud wrth yr Aelod, gyda phwyll, ei fod, wrth gwrs, wedi pleidleisio yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol a roddodd y pwerau hynny i Gymru allu amddiffyn lesddeiliaid. Nid yw'n bwynt annheg i'w wneud, i ofyn i bwerau gael eu defnyddio pan ydych chi wedi gwrthwynebu cymryd y pwerau yn y lle cyntaf. Mae rhaglen ddiwygio Llywodraeth Cymru yn parhau. Fel y bydd yr Aelodau yn gwybod, cafodd cronfa diogelwch adeiladau Cymru, gyda'i £375 miliwn a neilltuwyd dros dair blynedd—llawer mwy fesul pen o'r boblogaeth nag sy'n wir dros ein ffin—248 o ddatganiadau o ddiddordeb. Mae arolygon digidol bellach wedi cael eu cynnal ar yr holl adeiladau y derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb ar eu cyfer. Nodir bod angen arolygon pellach, mwy ymwthiol ar 100 o'r adeiladau hynny, a byddan nhw'n cael eu cwblhau yr haf hwn, fel y gall arian hwnnw lifo wedyn i'r bobl y mae angen y gwaith adfer hwnnw ar eu hadeiladau. O ran y cynllun cymorth lesddeiliaid, mae manylion terfynol hwnnw yn cael eu llunio, a bydd ceisiadau gan lesddeiliaid sy'n gallu manteisio ar y gronfa benodol honno sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru yn gallu gwneud y ceisiadau hynny cyn diwedd y tymor hwn. Janet Finch-Saunders AC: Ar 29 Mawrth, dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, a dyfynnaf: 'Unwaith y bydd y Mesur Diogelwch Adeiladau yn cael cydsyniad brenhinol, y dasg fydd cyflwyno'r rheoliadau angenrheidiol'. Wel, fis diwethaf, cafodd y Bil Gydsyniad Brenhinol, felly rwy'n siŵr eich bod chi fel Prif Weinidog mor awyddus â ninnau i weld y rheoliadau hyn yn cael eu gosod cyn gynted â phosibl. Fodd bynnag, rydym ni hefyd eisiau cyfiawnder i breswylwyr sy'n parhau i gael eu dal yn yr hyn a ddisgrifiwyd fel 'blychau tân'. Nawr, diolch i'r gwir anrhydeddus Michael Gove AS, mae adeiladwyr tai mawr, sy'n gyfrifol am adeiladu hanner y cartrefi newydd, wedi addo trwsio'r holl adeiladau tal anniogel y maen nhw wedi chwarae rhan yn eu datblygu. Yma yng Nghymru, mae trigolion sy'n byw mewn cartrefi a adeiladwyd gan Redrow a datblygwyr eraill mewn anobaith, er bod Llywodraeth y DU wedi sicrhau ymrwymiad gan y datblygwyr yn Lloegr, nad ydych chi wedi gwneud hynny i Gymru eto. Felly, Prif Weinidog, pryd ydych chi'n dechrau gweld bod gwir angen brys i chi fod yn llawer mwy cryf a chadarn o ran amddiffyn y tenantiaid agored iawn i niwed hyn? Diolch. Mark Drakeford AC: Llywydd, mae'r Aelod yn iawn bod rhaglen o is-ddeddfwriaeth y bydd angen iddi ddeillio o'r pwerau sydd wedi dod i Gymru o ganlyniad i Ddeddf y DU. Rydym ni'n credu y bydd angen 17 darn o ddeddfwriaeth ar wahân i weithredu'r pwerau hynny. Bydd angen canllawiau cysylltiedig ar gyfer pob un o'r darnau hynny o ddeddfwriaeth. Bydd y darn mawr cyntaf yn cael ei gyflwyno yr haf hwn. Bydd yn ymdrin â rheoleiddio arolygwyr rheoli adeiladau a chymeradwywyr rheoli adeiladau'r sector preifat. Mae'n ddarn o waith ar y cyd â Llywodraeth y DU, felly mae ei amseriad yn dibynnu ar gasgliad terfynol y trafodaethau gyda nhw. Ond rydym ni'n credu y byddwn ni mewn sefyllfa i ddechrau'r llif hwnnw o raglen fawr o is-ddeddfwriaeth o flaen y Senedd gyda'r agwedd honno cyn diwedd yr haf hwn. Plant sy'n Derbyn Gofal a'r Rhai sy'n Gadael Gofal Jack Sargeant AC: 2. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod lleisiau plant sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal yn cael eu clywed, i'w galluogi i lywio penderfyniadau polisi, fel diwygio'r gwasanaethau presennol mewn modd radical? OQ58012 Mark Drakeford AC: Llywydd, diolch i Jack Sargeant am hynna. Mae gwrando ar lais plant yn rhan annatod o'n gwaith ac, yn wir, wedi'i ymgorffori mewn deddfwriaeth a basiwyd gan y Senedd hon. Yr haf hwn, byddwn yn dod â phobl ifanc â phrofiad o ofal ynghyd i drafod ein hagenda radical o leihau niferoedd gofal, dileu'r broses o wneud elw yn y system ofal, a darparu ein cynllun incwm sylfaenol arloesol. Jack Sargeant AC: Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am hynna. A bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol fy mod, ar hyn o bryd, yn cadeirio sesiynau tystiolaeth y Pwyllgor Deisebau ar gasglu a chyhoeddi data fel mater o drefn ar faint o fabanod a phlant sy'n dychwelyd at eu rhieni sydd â phrofiad o ofal ar ddiwedd lleoliad rhiant a phlentyn. Nawr, yn rhan o fy ymrwymiad i ymgysylltu'r pwyllgor â'r cyhoedd yng Nghymru, ymwelais i â fy nghyd-Aelod Buffy Williams â Voices From Care Cymru gan gyfarfod â rhieni â phrofiad o ofal i glywed yn uniongyrchol ganddyn nhw. Dywedodd un unigolyn wrthym ni am y rhyngweithio y cafodd gyda'r gweithiwr cymdeithasol, a dyfynnaf: 'Roedd gen i ychydig o win yn y gegin ers y Nadolig. Daeth y gweithiwr cymdeithasol i mewn, dod o hyd iddo, a'i dywallt i lawr y sinc. A dywedodd, "Os gwnei di barhau fel hyn, fe fyddi di yn yr un sefyllfa â dy fam yn y pen draw." Doeddwn i ddim hyd yn oed wedi ei agor eto, roedden nhw'n cymryd yn ganiataol fy mod i'n yfwr, a doeddwn i ddim.' Llywydd, ceir enghreifftiau di-rif o sut mae pobl sydd wedi dioddef trawma yn eu bywydau yn cael eu trin yn wahanol i'r ffordd y byddai rhywun yn siarad â fi neu chi neu weddill yr Aelodau yn y Senedd hon. Prif Weinidog, yn y rhaglen lywodraethu, rydych chi wedi ymrwymo i archwilio diwygio radical i'r gwasanaethau presennol ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal. Mae'n amlwg o'r sgyrsiau yr wyf i wedi eu cael eu bod nhw eisiau cymryd rhan yn y broses hon. A wnewch chi ymrwymo i sicrhau bod pobl ifanc mewn gofal, a'r rhai sy'n gadael gofal, yn cael eu cynnwys yn llawn? Mark Drakeford AC: Llywydd, diolch i Jack Sargeant am y cwestiwn ychwanegol yna. Ac rwy'n credu ei fod yn dangos pwysigrwydd y pwyllgor y mae'n ei gadeirio a'r ffordd y gall y Pwyllgor Deisebau sicrhau bod tystiolaeth uniongyrchol pobl yng Nghymru yn dylanwadu ar y trafodaethau yr ydym ni'n eu cael fel Llywodraeth ac yn y Siambr hon. Rydym ni eisoes wedi ymrwymo i wneud yn siŵr bod llais pobl ifanc yn cael ei glywed yn y rhaglenni yr ydym ni'n eu datblygu. Lansiwyd ein cynllun plant a phobl ifanc ar 1 Mawrth. Roedd yn bleser mawr, ynghyd â'r Gweinidog Julie Morgan, cael cyfarfod â phobl ifanc yr adlewyrchwyd eu lleisiau yn y cynllun hwnnw. Ac mae gan y bwrdd goruchwylio, sy'n gyfrifol am wneud yn siŵr bod y cynllun hwnnw yn cael ei roi ar waith, ddau berson ifanc â phrofiad o ofal ar y bwrdd hwnnw—un yn cynrychioli pobl ifanc o'r gogledd a'r llall bobl ifanc yma yn y de. Mae gan ein grŵp rhianta corfforaethol, sydd, eto, yn goruchwylio'r gwaith y mae ein cydweithwyr yn yr awdurdodau lleol yn ei wneud, bump o bobl ifanc mewn panel, yn helpu i wneud yn siŵr bod y gwaith hwnnw yn cael ei gyflawni yn briodol. Mae hynny i gyd yn dyst i'n penderfyniad parhaus i wneud yn siŵr bod llais pobl ifanc, ac yn enwedig pobl ifanc â phrofiad o ofal, yn cael ei glywed yn uniongyrchol yn natblygiad y gwasanaethau y maen nhw naill ai'n dibynnu arnyn nhw ar hyn o bryd neu wedi dibynnu arnyn nhw yn y gorffennol. O ran y pwynt penodol a gododd Jack Sargeant, Llywydd, rydym ni wedi ymrwymo fel Llywodraeth i wneud yn siŵr bod gwasanaethau eiriolaeth rhieni ar gael i deuluoedd sy'n cael eu hunain mewn perygl o gael eu tynnu i mewn i'r system ofal, fel nad yw'r mathau hynny o sylwadau yn cael eu gwneud i bobl sy'n agored i niwed yn y ffordd honno, mewn ffordd na fydden nhw'n cael eu gwneud gan rieni eraill. Ac mae'r gwasanaeth eiriolaeth rhieni hwnnw bellach wedi cael ei ariannu, o ganlyniad i'r gyllideb a basiwyd yn y Senedd hon, ac a fydd yn cael ei chyflwyno dros y 12 mis sydd o'n blaenau, ac a fydd yn enghraifft arall o'r ffordd y gallwn ni wneud yn siŵr sicrhau bod llais pobl ifanc, a llais y rhai sy'n ymwneud â systemau cyhoeddus, yn cael ei glywed a'i glywed yn rymus. Gareth Davies. Gareth Davies AS: Doeddwn i ddim yn sylweddoli fy mod i i lawr ar gyfer cwestiwn atodol. Ond o ran eich pwynt am ddiddymu'r gwasanaethau i blant sy'n gwneud elw yng Nghymru, mae'n 80 y cant o'r sector, Prif Weinidog. Felly, gyda hynny mewn golwg, a allwch chi newid y polisi hwnnw i'w wneud yn fwy adlewyrchol o'r sector preifat, sy'n rhan mor fawr o'r sector yng Nghymru? Diolch. Mark Drakeford AC: Na, Llywydd, nid wyf i'n bwriadu newid y polisi hwnnw. Mae'n bolisi sy'n cael ei ddylanwadu yn uniongyrchol gan leisiau'r bobl ifanc eu hunain. Rwy'n argymell i'r Aelod adroddiad blynyddol y comisiynydd plant, lle disgrifiodd pobl ifanc yn y system ofal sut beth yw cael eu rhoi ar werth ar wefan fel y gall eu gofal gael ei ddarparu gan y cais rhataf. Nid yw hynny yn dderbyniol yma yng Nghymru. Mae angen darparu'r gwasanaethau a ddarperir i'n pobl ifanc ar sail eu hangen, yn hytrach nag elw preifat cwmnïau preifat. Tybed a yw'r Aelod wedi darllen adroddiad yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd—dau adroddiad—y llynedd, a gomisiynwyd gan ei Lywodraeth yn San Steffan, y mae'r ddau ohonyn nhw yn adrodd ar y ffaith bod cwmnïau yn y maes hwn yn cymryd gormod o elw, ffaith a gydnabuwyd gan Weinidogion y DU. Byddwn yn gweithio yn ystod y tymor hwn i wneud yn siŵr bod cwmnïau sy'n gweithredu yng Nghymru yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n sicrhau bod unrhyw elw y maen nhw'n ei wneud yn cael ei ail-fuddsoddi yn y gwasanaeth y maen nhw'n ei ddarparu, yn hytrach na chael ei dynnu allan o Gymru i ddwylo cyfranddalwyr preifat. Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies. Andrew RT Davies AC: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, pan oeddwn i'n mynd o gwmpas Cymru dros yr wythnosau diwethaf, a oedd yn llawer mwy proffidiol i chi nag i mi fel y daeth i'r amlwg ddydd Iau diwethaf—[Chwerthin.]—codwyd llawer o bethau gyda mi wrth i mi fynd o gwmpas Cymru, ond un o'r themâu allweddol a ddaeth i'r amlwg ym mhob rhan o Gymru oedd mynediad at feddygon teulu a'r gallu i gael apwyntiadau mewn meddygfeydd teulu. Ac mae'r cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru ynghylch cynllunio'r gweithlu a'r arian a fydd ar gael yn sôn am ariannu 160 o leoedd y flwyddyn, ond, yn ôl Cymdeithas Feddygol Prydain, i fodloni'r gofyniad galw, bydd angen i ni ariannu yn agos at 200 o leoedd i wneud yn siŵr ein bod ni'n disodli pobl sy'n ymddeol neu'n gadael y gweithlu neu'n lleihau eu horiau. Pwynt arall sy'n cael ei wneud gan Gymdeithas Feddygol Prydain yw mai dim ond ychydig dros ddwy ran o dair o feddygon yma yng Nghymru sy'n gweithio oriau llawn amser, felly mae bron i draean ar oriau rhan-amser, ac yn yr un modd mae gennym ni nifer uwch o feddygon teulu sydd dros 60 oed—mae 23 y cant o feddygon teulu yng Nghymru dros 60 oed ar hyn o bryd. Mae hynny'n creu, rwy'n gobeithio y byddwch chi'n cytuno â mi, pwysau gwirioneddol o ran llunio'r gwasanaeth ar gyfer y dyfodol. Felly, a ydych chi'n cytuno â mi bod problem o ran cynyddu nifer y lleoedd hyfforddi ar gyfer darpariaeth meddygon teulu yma yng Nghymru, a hefyd gwneud yn siŵr ein bod ni'n creu gwasanaeth sy'n addas ar gyfer y dyfodol ac y gall cleifion ei ddefnyddio lle bynnag yr ydych chi'n byw yng Nghymru? Mark Drakeford AC: Diolch i'r Aelod am y pwyntiau pwysig yna. Mae'n iawn i ddweud bod yn rhaid i ni hyfforddi'r gweithlu meddygon teulu sydd ei angen arnom ni ar gyfer y dyfodol. Mae gennym ni'r nifer uchaf erioed o feddygon teulu dan hyfforddiant yng Nghymru. Cawsom gyfnod nid mor bell â hynny yn ôl pan oeddem ni'n ei chael hi'n anodd llenwi nifer y lleoedd hyfforddi a oedd ar gael gennym ni. Nawr, mae gormod o alw am leoedd hyfforddi, ac mae hynny, wrth gwrs, yn cael ei gymryd i ystyriaeth gan y corff sy'n cynllunio darpariaeth y gweithlu ar gyfer y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru yn y dyfodol. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelod wedi gweld y nifer ddiweddaraf o feddygon teulu sydd gennym ni yng Nghymru, a gynyddodd eto yn y ffigurau a gyhoeddwyd tua adeg y Nadolig. Er bod nifer y meddygon teulu yn y gwasanaeth iechyd yn Lloegr wedi bod yn gostwng, yng Nghymru rydym ni'n llwyddo i gynnal y nifer sydd gennym ni, a'i chynyddu hefyd. Mae natur y gweithlu meddygon teulu yn newid, Llywydd. Mae pobl yn dewis gweithio oriau rhan-amser, ac mae hynny yn adlewyrchu natur y bobl sy'n cael eu recriwtio iddo. Nid yw'r hen batrymau—yr hen batrymau—o bobl yn prynu cyfran mewn busnes, yn meddwl y byddan nhw yno am 30 neu 40 mlynedd, nid yw llawer o bobl ifanc sy'n dod yn feddygon teulu yn gweld eu dyfodol yn y ffordd honno, ac mae'n rhaid i ni lunio dyfodol iddyn nhw sy'n golygu bod Cymru yn parhau i ddenu'r bobl sydd eu hangen arnom ni. Gwnaf un pwynt arall, yr wyf i'n ei wneud bob tro y caiff hyn ei godi gyda mi: mae gofal sylfaenol yn fwy na meddygon teulu. Ac er bod meddygon teulu yn hanfodol, maen nhw'n goruchwylio'r system, mae ganddyn nhw lefel o arbenigedd sy'n golygu eu bod nhw'n gyfrifol am y tîm ehangach, mae'r dyfodol yn ymwneud o leiaf â gwneud yn siŵr bod gennym ni'r holl elfennau eraill hynny o'r tîm—y nyrsys practis, y parafeddygon, y ffisiotherapyddion—yr holl bobl hynny a fydd yn gweithio ochr yn ochr â meddygon teulu i wneud yn siŵr bod pobl yng Nghymru yn cael y gwasanaeth gofal sylfaenol sydd ei angen arnyn nhw. Andrew RT Davies AC: Diolch am yr ateb, Prif Weinidog. Mae'n ffaith bod mwy o feddygon teulu yng Nghymru, ond mae'n ffaith, yn amlwg, bod llawer ohonyn nhw yn rhan-amser, fel y dywedais i yn fy sylwadau agoriadol i chi. Mae bron i draean o'r gweithlu ar sail ran-amser pan ddaw i bractisau meddygon teulu. Yn bwysig, fel y dywedais wrthych chi, rwy'n cydnabod bod mwy o feddygon teulu yn cael eu hyfforddi, ond mae'r ffigurau gwirioneddol yn dangos bod y Llywodraeth yn ariannu lleoedd hyfforddi i tua 160 y flwyddyn, pan fo'r galw gwirioneddol yn 200 o leoedd. Felly, yr hyn yr wyf i'n chwilio amdano gennych chi heddiw, Prif Weinidog, ac rwy'n siŵr y bydd y rhai sy'n gysylltiedig â gofal meddygol sylfaenol yma yng Nghymru yn chwilio amdano hefyd, yw ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i fodloni'r galw sydd ei angen ar y gofyniad, sef rhoi 40 o leoedd eraill ar y bwrdd fel y gallwn ni gyrraedd 200 o leoedd hyfforddi yma yng Nghymru i fodloni'r ffordd y bydd angen i weithlu 2030 edrych yn y sector sylfaenol. Rwy'n cytuno yn llwyr â'r sylwadau yr ydych chi'n eu gwneud bod y sector sylfaenol yn ehangach na phractisau meddygon teulu yn unig—mae fferyllwyr yn arbennig yn cynnig swyddogaeth bwysig dros ben o ran cefnogi meddygon teulu yn y gwaith y maen nhw'n ei wneud—ond mae'n ffaith eich bod chi angen, fel sail i fynediad at y GIG, gweithlu meddygon teulu cadarn a chynaliadwy ac, fel y dywedais i, mae'r modelu yn dangos bod angen i ni hyfforddi 200 o feddygon teulu y flwyddyn yn hytrach na'r 160 yr ydym ni'n eu hyfforddi ar hyn o bryd. A wnewch chi ymrwymo i hynny? Mark Drakeford AC: Llywydd, nid oes llawer yr wyf i'n anghytuno ag ef yn yr hyn y mae arweinydd yr wrthblaid wedi ei ddweud, ac rwy'n sicr yn cytuno ag ef ynglŷn â phwysigrwydd fferyllwyr a'r rhan y maen nhw'n ei chwarae. Maen nhw'n chwarae rhan arbennig o arwyddocaol ar hyn o bryd pan fo prinder, am amryw o resymau, nifer o feddyginiaethau pwysig iawn y mae'n rhaid i fferyllwyr eu rheoli. Mae gwahanol ffyrdd y gallwch chi fodelu'r angen am feddygon teulu yn y dyfodol. Rydym ni'ngofyn i'r corff yr ydym ni wedi ei sefydlu, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, wneud hynny ar ein rhan. Byddan nhw'n cymrydsafbwyntiau’r proffesiwn i ystyriaeth, wrth gwrs, ond bydd ganddyn nhw ffynonellau eraill o dystiolaeth ar gael iddyn nhw. Nid yw'r Llywodraeth Lafur hon erioed wedi methu ag ariannu cynnydd i nifer y lleoedd hyfforddi meddygon teulu pan mai dyna'r cyngor yr ydym ni wedi ei gael gan y rhai sydd yn y sefyllfa i gynnal y dadansoddiad hwnnw. Os byddan nhw'n dod atom ni ac yn gofyn am gynnydd pellach—cofiwch, mae 160 yn gynnydd sylweddol ar y ffigurau a oeddem gennym ni gynt—os byddan nhw'n dod atom ni ac yn gwneud y ddadl honno, yna, wrth gwrs, bydd hynny yn cael ei ystyried yn briodol iawn gennym ni. Andrew RT Davies AC: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Rwy'n gobeithio yn fawr y bydd y rhai yn y maes meddygol fel Cymdeithas Feddygol Prydain yn dod ac yn gwneud y ddadl rymus honno i chi, oherwydd fe wnes i synhwyro ymrwymiad i sicrhau'r lleoedd wedi'u hariannu ychwanegol hynny os caiff y ddadl honno ei gwneud i chi. Ond yr hyn yr ydym ni hefyd yn ei wybod yn y sector acíwt, h.y. yr ysbytai, yw nad yw data rheolaidd yn cael eu darparu ar gyfraddau swyddi gwag. Roedd i'w groesawu bod y mesur staff nyrsio wedi cael ei roi ar waith beth amser yn ôl a oedd yn diogelu rhai swyddi yn yr ysbytai, ond yr hyn yr ydym ni'n ei wybod o'r atebion rhyddid gwybodaeth y mae sefydliadau wedi eu cael yw mai dim ond 52 y cant o swyddi meddygon ymgynghorol sy'n barhaol mewn rhai byrddau iechyd—mae 48 y cant wedi eu llenwi gan feddygon ymgynghorol dros dro. Mae'n amlwg nad yw hynny yn gynaliadwy o ran datblygu gweithlu i ymdrin â'r ôl-groniad o'r pandemig, ond hefyd gweithlu sy'n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. A wnewch chi ymrwymo i wneud yn siŵr bod data rheolaidd ar swyddi gwag yn y sector acíwt, h.y. ein hysbytai, yn cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru fel y gallwn ni weld faint o gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran llenwi'r swyddi gwag sydd ar ein taflenni ysbytai ar hyn o bryd fel y gellir cael cymorth wrth gefn ar gyfer rowndiau ward ac y gallwn ni wneud cynnydd gwirioneddol o ran ymdrin â'r rhestrau aros sydd wedi datblygu drwy'r pandemig? Mark Drakeford AC: Llywydd, rwy'n hapus i edrych ar y mater y mae'r Aelod yn ei godi. Rydym ni'n cyhoeddi llawer iawn o ddata ar weithlu Cymru. Os oes bylchau ynddo y gellir eu llenwi yn synhwyrol, yna wrth gwrs rwy'n hapus i edrych ar y pwynt y mae'r Aelod wedi ei godi. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price. Adam Price AC: Prif Weinidog, efallai y byddai rhai yn meddwl ei fod yn ddewis rhyfedd i ni ddewis cyhoeddi telerau ein cytundeb ar gryfhau democratiaeth Cymru ar yr un diwrnod ag agoriad swyddogol y Senedd arall honno ar lannau afon Tafwys. Rwy'n credu ei fod yn serendipaidd, oherwydd mae'n caniatáu i ni nodi gwrthgyferbyniad, onid yw, gyda'r system sigledig honno yn San Steffan, gyda'r holl bomp a seremoni, gydag ASau etholedig—roeddwn i yn arfer bod yn eu plith—yn cael eu galw gan Black Rod i Dŷ'r Arglwyddi anetholedig sy'n llawn dop gyda ffrindiau Boris Johnson. Nawr, y tu hwnt i fanylion yr hyn yr ydym ni wedi ei gyhoeddi heddiw, onid yr hyn sydd wrth ei wraidd yw'r awydd i adeiladu, yma yng Nghymru, democratiaeth fodern, gan ddiddymu'r system y cyntaf i'r felin annheg, Senedd ymarferol sy'n gwbl gytbwys o ran y rhywiau ac wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth ym mywydau pobl, nid Senedd San Steffan, sy'n glwb bonheddwyr ac yn bantomeim yn un? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, rwy'n credu bod heddiw yn ddiwrnod arwyddocaol iawn yn natblygiad y sefydliad hwn. Fe wnes i ddod â fy nghopi o gomisiwn Richard gyda mi, a phan roeddwn i'n meddwl am ddod i lawr yma y prynhawn yma, cofiais yn eglur sefyll ochr yn ochr â'r Prif Weinidog ar y pryd, Rhodri Morgan, pan wnaeth alwad ffôn i'r Arglwydd Richard yn gofyn iddo gadeirio'r comisiwn hwnnw. A dyma ni, 20 mlynedd y tu hwnt i'w gynnig i ehangu nifer yr Aelodau etholedig yma yng Nghymru, o'r diwedd yn gallu dod â chapasiti'r Senedd i bwynt lle y gall gyflawni'r cyfrifoldebau sy'n disgyn ar ysgwyddau pobl sy'n cael eu hethol i fod yma. Ac onid dyna bwrpas y diwygiad? I wneud yn siŵr bod penderfyniadau sy'n cael eu gwneud yma yng Nghymru ar ran pobl yng Nghymru yn cael eu gweithredu gan sefydliad sydd â'r adnoddau priodol i wneud hynny. Rwyf i wedi edrych yn ôl yn ddiweddar, Llywydd, ar y cynigion niferus i greu Senedd yma yng Nghymru. Nid oedd yr un ohonyn nhw, ac eithrio'r un a gyrhaeddodd y llyfr statud, yn cynnig nifer mor fach â 60. Cynigiodd adroddiad Kilbrandon, a sefydlwyd yn y 1960au, 100 o aelodau ar gyfer y senedd Cymru a gynigiwyd ganddo. Gallwch fynd yn ôl cyn belled â Bil Llywodraeth Cymru dydd Gŵyl Dewi Emlyn Hooson ym 1967 i weld cynnig ar gyfer 88 aelod o'r senedd a gynigiwyd bryd hynny, ac roedd hwnnw yn gorff heb lawer o'r cyfrifoldebau y mae'n rhaid eu harfer yma. Felly, diben y diwygiadau a'r ffaith ein bod ni wedi gallu dod i gytundeb, ar ôl yr hyn a fydd erbyn hynny wedi bod yn 25 mlynedd o geisio sicrhau diwygio, fydd creu senedd yma yng Nghymru sy'n adlewyrchu pobl Cymru yn ei hamrywiaeth, ac sydd â'r gallu priodol i gyflawni'r cyfrifoldebau y mae'r Senedd hon yn gyfrifol am eu cyflawni ar ran pobl Cymru. Adam Price AC: Wrth gwrs, mae'r Blaid Geidwadol, yn ôl y disgwyl unwaith eto, yn dweud nad yw pobl Cymru eisiau mwy o wleidyddion. Maen nhw bron yn iawn, wrth gwrs, oherwydd yr hyn nad yw pobl Cymru ei eisiau yw mwy o wleidyddion Torïaidd, fel y gwelsom ni'n cael ei ddangos yn eglur ddydd Iau. Mae gennych chi a minnau, Prif Weinidog—[Torri ar draws]. Mae gennych chi a minnau, Prif Weinidog—[Torri ar draws]. Mae gennych chi a minnau, Prif Weinidog, wahanol weledigaeth ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru. Nawr, nid yw'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei adeiladu yma, wrth gwrs, yn—. Nid yw'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei adeiladu yma, wrth gwrs, yn garreg sarn tuag at unrhyw un dyfodol i Gymru, nid opsiwn hanner ffordd, ond sylfaen gadarn i bobl Cymru allu penderfynu ar eu dyfodol eu hunain—democratiaeth sy'n ystyriol o'r dyfodol, yn barod am fwy o bwerau sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Ac onid dyna'r cwestiwn canolog—a ddylai'r Senedd hon fod yn symbol o'n democratiaeth yn unig, ynteu a ddylai fod yn Senedd sydd â'r pwerau, yr amser, y sgiliau, yr offer a'r personél i wneud y gwaith y mae pobl Cymru wedi gofyn i ni ei wneud, nid yn unig mewn un refferendwm, ond mewn dau, ac ym mhob etholiad y mae pob un ohonom ni wedi sefyll ynddo yn y cyfamser? Mark Drakeford AC: Llywydd, nid wyf innau ychwaith yn synnu at wrthwynebiad y Ceidwadwyr Cymreig i ddatblygu democratiaeth ymhellach yma yng Nghymru. Yr holl ddadleuon a glywaf yn cael eu defnyddio yw'r union ddadleuon a ddefnyddiwyd ganddyn nhw wrth wrthwynebu datganoli yn y lle cyntaf. Mae hon yn blaid sydd heb newid o gwbl o ran y materion hyn. Nid oes angen i ni arllwys halen i unrhyw friwiau agored yma, rwy'n siŵr, ond bydd pobl o amgylch y Siambr yn gwybod, ddydd Iau yr wythnos diwethaf, yn yr Alban, y collwyd 23 y cant o gynghorwyr Ceidwadol yn yr etholiad; yn Lloegr, methodd 25 y cant o gynghorwyr Ceidwadol â chael eu hailethol; ac yng Nghymru gostyngodd y nifer 44 y cant. Mae'n rhaid bod hynny yn dweud rhywbeth wrthych chi. Mae'n dweud rhywbeth wrthych chi am y ffordd nad yw'r safbwyntiau adweithiol parhaus y mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn eu cymryd yn cyd-fynd â'r ffordd y mae pobl yng Nghymru eisiau gweld eu democratiaeth yn datblygu. Mae pobl eisiau gweld Siambr yma sydd â'r adnoddau priodol i wneud y gwaith y gofynnir i ni ei wneud. Mae adroddiad ar ôl adroddiad a chomisiwn ar ôl y comisiwn wedi dangos, gyda'i haelodaeth bresennol a lefel y cyfrifoldebau a gyflawnir yma, na allwch chi wneud y gwaith yn y ffordd y mae gan bobl yng Nghymru yr hawl i ddisgwyl iddo gael ei wneud. Bydd y diwygiadau yr ydym ni wedi cytuno arnyn nhw yn cywiro hynny, ac yn ei gywiro nid yn unig am y 10 mlynedd nesaf ond rwy'n meddwl am y dyfodol rhagweladwy. Adam Price AC: Un o'r ffyrdd o gadarnhau eich bod chi'n iawn, wrth gwrs, yw gwybod bod y Blaid Geidwadol yn anghytuno â chi, oherwydd maen nhw wedi bod ar ochr anghywir hanes ar bron bob cwestiwn pwysig mewn 300 mlynedd o gynnydd dynol. Adam Price AC: Un o'r pethau mwyaf cyffrous am y cynlluniau diwygio yw'r addewid i ddeddfu i warantu cynrychiolaeth gyfartal o ddynion a merched wrth galon ein prif gorff democrataidd. Tra bod cwotâu rhywedd statudol yn ganolog i'r prif gynigion rŷn ni wedi'u cyhoeddi heddiw, ac yn gwbl hanfodol i wireddu'r nod hynny, ac yn gweithio er lles pawb yng Nghymru, ydy'r Prif Weinidog yn gytûn y dylid manteisio ar y cyfle mae diwygio yn ei gynnig i gyflwyno ystod ehangach o gamau i sicrhau bod y Senedd yn gynhwysol, gan gynnwys rhannu swyddi gan Aelodau a mesurau eraill i warantu cynrychiolaeth pobl o liw a grwpiau lleiafrifol ethnig yn y Senedd? A thu hwnt i'r materion sylfaenol rŷn ni wedi cyhoeddi yn eu cylch heddiw, onid oes angen bod yn glir mai dechrau'r drafodaeth ydyn ni i'r Senedd, i fywyd cyhoeddus, ac i bawb sydd am weld gwella Cymru gymryd rhan ynddi? Mark Drakeford AC: Llywydd, bydd Bil yn dod o flaen y Senedd, a bydd cyfleoen i bob Aelod fan hyn i dreial tynnu ar y cyfleoen fydd yn y Bil i wneud mwy i greu Senedd sy'n adlewyrchu'r bobl sy'n byw yma yng Nghymru. Rŷn ni wedi llwyddo i wneud rhai pethau dros y blynyddoedd, yn enwedig yn y Blaid Llafur, ond mae mwy gyda ni i'w wneud—y pethau rŷn ni wedi cytuno arnynt heddiw—a rhoi hynny ar y gweill. Ond mae lot mwy o fanylion i'w trafod i greu Senedd lle mae pobl sydd ddim wedi bod yn rhan o'r hanes fan hyn dros y ddegawd ddiwethaf yn gallu gweld Senedd lle maen nhw'n gallu gweld cyfleoen iddyn nhw sefyll i fod fan hyn lle rŷn ni wedi bod o'r blaen. Nawr, mae hwnna'n rhywbeth cyffrous, dwi'n cytuno. Pan oedden ni'n trafod y pwnc yn Llandudno yng nghynhadledd y Blaid Llafur, roedd pobl o'r llawr yn dod at y llwyfan i ddweud tro ar ôl tro eu bod nhw eisiau inni ddefnyddio'r cyfleoen nawr i greu dyfodol lle gall pobl o bob cefndir yng Nghymruedrych ar y Senedd a meddwl, 'Fe allaf i fod yna.' Andrew RT Davies AC: A gaf i wneud pwynt o drefn, Llywydd? Cewch. Andrew RT Davies AC: Byddwn i'n ddiolchgar pe gallech chi egluro eich penderfyniad o ran y cytundeb cydweithredu. Rwy'n credu eu bod nhw'n bwyntiau rhesymol iawn yr oedd arweinydd Plaid Cymru yn eu codi yn y fan yna, ac mae gan y Prif Weinidog berffaith hawl i ymateb iddyn nhw, ond rydych chi wedi penderfynu mewn llythyr a anfonwyd gennych chi pan ddaeth y cytundeb cydweithredu i rym y dylai cwestiynau i'r Prif Weinidog gan arweinydd Plaid Cymru osgoi'r cytundeb cydweithredu. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, roedd y datganiad i'r wasg a ddilynodd y cyhoeddiad neithiwr yn cyfeirio yn benodol at y cytundeb cydweithredu, ac roedd y llinell ymateb a nododd y Prif Weinidog yn adlewyrchu'r cytundeb cydweithredu. Siawns nad yw hynny yn mynd yn groes i'ch penderfyniad ynghylch sut y dylid ymgymryd â chwestiynau yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog. Diolch am godi'r pwynt o drefn, a diolch am ei awgrymu yn ystod y cwestiwn i dynnu fy sylw at y cwestiynau a oedd yn cael eu gofyn gan arweinydd Plaid Cymru. Rwy'n credu o fyfyrio eich bod chi'n gywir, a'i bod yn debyg ei fod wedi mynd y tu hwnt i'r canllawiau yr wyf i wedi eu cyhoeddi yn yr achos hwnnw. Fe'i cymeraf fel eithriad i'r rheol heddiw. Ni fyddaf yn disgwyl iddo gael ei ailadrodd eto, ond mae gan arweinydd Plaid Cymru yr hawl i ofyn cwestiynau craffu ar y Prif Weinidog nad yw'n arwain ato'n ymddangos fel pe bai'n llwyfan ar gyfer polisïau'r cytundeb cydweithredu hwnnw. Byddaf yn dysgu o'r hyn sydd wedi digwydd heddiw a byddwn yn myfyrio ar hynny ar gyfer y dyfodol. Rwy'n amau y byddwn ni'n dychwelyd at y mater hwn droeon dros yr wythnosau nesaf, y misoedd nesaf, os nad y blynyddoedd nesaf—nid blynyddoedd, gobeithio, ar y pwynt hwnnw. Cwestiwn 3, felly, Rhun ap Iorwerth. Hepatitis C Rhun ap Iorwerth AC: 3. A wnaiff y Prif Weinidog rannu’r wybodaeth ddiweddaraf am darged Llywodraeth Cymru i ddileu hepatitis C yng Nghymru? OQ58030 Mark Drakeford AC: Llywydd, er bod adnoddau wedi gorfod cael eu cyfeirio i fannau eraill yn ystod y pandemig, roedd y camau a gymerwyd i daclo digartrefedd ar y stryd yn golygu bod nifer fawr o gleifion newydd yn gallu cael triniaeth effeithiol. Mae cynlluniau allweddol yn ailddechrau erbyn hyn mewn gwasanaethau feirysau a gludir yn y gwaed. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch am yr ymateb yna. Mae gan o leiaf 8,000 o bobl yng Nghymru heintiad cronig hepatitis C, ond mi allwn ni gael gwared ar hepatitis C yn llwyr. Dyna'r newyddion da mewn difrif. Ond er bod gwaredu yn bosib a bod Cymru yn y gorffennol wedi cymryd camau breision tuag at ddileu erbyn 2030, y gwir amdani yw ein bod ni rŵan wedi llithro yn ôl a dydyn ni ddim ar y trywydd iawn i daro'r targed, ac mae yna dargedau erbyn hyn sy'n llawer mwy uchelgeisiol yn yr Alban a hefyd yn Lloegr. Rŵan, yr agwedd mae Llywodraeth Cymru wedi ei gymryd ar hyn, yn anffodus, yw ei bod hi i fyny i'r byrddau iechyd i ddatblygu eu rhaglenni eu hunain, ond mae hon yn her genedlaethol ac mae yna fuddiannau cenedlaethol i'w hennill yn fan hyn. A wnaiff y Prif Weinidog, felly, ymrwymo i sefydlu cronfa genedlaethol a strategaeth genedlaethol fel ein bod ni'n gallu gweithio yn unedig, efo cefnogaeth lawn ac uniongyrchol y Llywodraeth fel ein bod ni'n gallu cyflawni'r nod iechyd cyhoeddus hollbwysig yma? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, gallaf i weld y manteision o gael strategaeth genedlaethol, ond mae strategaeth genedlaethol a grŵp o bobl sy'n gweithio ar lefel genedlaethol gyda ni yn barod. Dwi ddim eisiau gweld cronfa genedlaethol. Os ydyn ni'n dechrau cael cronfa genedlaethol am hepatitis C, gallaf i weld lle bydd hynny'n mynd: bydd pob grŵp gyda phethau sy'n bwysig iddyn nhw—ac rydyn ni'n gwybod pam maen nhw'n bwysig iddyn nhw—yn dod ymlaen ac eisiau'r un peth. Strategaeth genedlaethol, wrth gwrs, ond mae gwasanaethau yn cael eu darparu trwy'r byrddau iechyd. Dyna'r system sydd gyda ni yma yng Nghymru. Rŷn ni'n dal i ddweud ein bod ni eisiau dod at 2030 gyda neb yn dioddef o hepatitis C yma yng Nghymru. Mae hynny'n uchelgeisiol, yn fwy uchelgeisiol, achos rydyn ni wedi cael profiad dros y ddwy flynedd diwethaf sydd wedi tynnu pobl mas o'r gwasanaeth. Ond rydyn ni'n dal i weithio gyda phobl yn y maes i drio dod at 2030 yn y sefyllfa roeddem ni wedi ei rhoi mas yn y strategaeth wreiddiol. Russell George AC: Prif Weinidog, clywais eich ateb blaenorol. Gwnaeth y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon blaenorol argymhelliad penodol ynghylch ymgyrch genedlaethol ac, mewn ymateb i hynny, derbyniodd y Gweinidog ar y pryd yr argymhelliad hwnnw mewn egwyddor. Ond un o'r rhwystrau oedd nad oedden nhw'n gweld y dystiolaeth ar gyfer ymgyrch genedlaethol, ac yna dywedodd y Gweinidog y byddai angen iddyn nhw weld y dystiolaeth honno cyn y gellid cyflwyno ymgyrch genedlaethol. Pa fath o dystiolaeth fyddech chi'n disgwyl ei gweld i dderbyn yr argymhelliad hwnnw a chytuno mai ymgyrch genedlaethol yw'r ymateb priodol? Mark Drakeford AC: Llywydd, rwy'n gyfarwydd ag adroddiad y pwyllgor, a gyhoeddwyd yn 2019 wrth gwrs, ac mae'r pandemig wedi torri ar draws ei argymhellion—gwn fod yr Aelod yn deall hyn. Mewn gwirionedd, rydym ni wedi cael rhywfaint o dystiolaeth genedlaethol bwysig iawn o ganlyniad i'r pandemig, oherwydd rydym ni wedi cael dros 1,000 o bobl a oedd yn ddigartref ar y stryd yn ôl yn 2019, pan ysgrifennwyd yr adroddiad hwnnw, y daethpwyd â nhw i mewn i lety oherwydd y camau a gymerwyd yn ystod y pandemig. Ac mae mwy na 1,000 o ddefnyddwyr gwasanaeth bellach yn elwa o'r driniaeth newydd a weithredir yn genedlaethol, sef Buvidal. Yng nghyfarfod diweddaraf Bwrdd Partneriaeth Plismona Cymru, ymunodd Gweinidog Gwladol y Swyddfa Gartref, Kit Malthouse, â ni a dywedodd mai Cymru oedd y rhan fwyaf blaenllaw o'r Deyrnas Unedig o ran gwneud yn siŵr bod Buvidal yn cael ei ragnodi i bobl o dan yr amgylchiadau hynny, ac a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran hepatitis C yr ydym ni'n ei drafod y prynhawn yma. Felly, rydym ni wedi cael, yn anfwriadol ac nid yn y ffordd yr oedd y pwyllgor yn rhagweld, yr arbrawf cenedlaethol hwnnw, sy'n dangos ei bod hi'n bosibl gwneud cynnydd mewn rhai poblogaethau eithaf heriol, lle mae ymdrechion yn cael eu cydgysylltu a'u gweithredu gyda'r math o benderfyniad a welsom gan ein gwasanaethau digartrefedd o wynebu effaith pandemig. Sarah Murphy AS: Prif Weinidog, yn nigwyddiad yr Ymddiriedolaeth Hepatitis C yma yn y Senedd yr wythnos diwethaf, cefais gyfle i siarad â Kieren, sy'n dod o Borthcawl yn fy etholaeth i, am y gwaith cefnogaeth gan gymheiriaid y mae ef ac eraill yn ei wneud ar draws ein cymunedau. Mae pobl fel Kieren yn gwneud gwahaniaeth i'r rhai sy'n agored i glefydau fel hepatitis C, a rhannodd ei brofiad o weithio ar lawr gwlad. Ac roedd yn drist iawn i mi ddarganfod, er bod cynnydd o ran profi a thrin clefydau fel HIV, bod llawer o stigma o hyd ynghylch clefydau fel hepatitis C sy'n atal pobl rhag cael eu profi. Gall y rhesymau pam y gall pobl fod yn agored i hepatitis C fod yn gymhleth iawn yn aml, ond cefais fy sicrhau gan Kieren, drwy'r gefnogaeth gan gymheiriaid, boed hynny mewn hosteli neu garchardai, ei fod yn gwneud gwahaniaeth ac yn lliniaru'r lledaeniad. Mae'n wirioneddol bosibl ei ddileu yn ystod ein hoes. Prif Weinidog, sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda sefydliadau fel yr Ymddiriedolaeth Hepatitis C i'w ddadstigmateiddio a sicrhau bod cymunedau sydd fwyaf agored i niwed yn cael yr adnoddau i gael eu profi, eu trin a'u cynorthwyo? Mark Drakeford AC: Llywydd, rwy'n falch iawn bod yr Ymddiriedolaeth Hepatitis C wedi ymestyn ei rhaglen i Gymru ac wedi penodi dau weithiwr i weithio yn y ffordd honno dan arweiniad cymheiriaid. Mae stigma yn sicr yn rhan o'r rhwystr i bobl ddod ymlaen i gael triniaeth ar gyfer hepatitis C, ac mae cyswllt person-i-berson gan rywun sydd wedi bod drwy'r broses ac sy'n gallu dangos ei llwyddiant yn ffordd y gallwn ni erydu hynny. Yma yng Nghaerdydd a'r Fro, mae'r cynllun 'Follow Me', sy'n gynllun arall rhwng cymheiriaid, bellach yn gweithredu, yn enwedig mewn gwasanaethau digartrefedd, ac, wrth iddo gael ei sefydlu, y bwriad yw y bydd wedyn yn hyfforddi gwirfoddolwyr cymheiriaid eraill mewn rhannau eraill o Gymru, eto yn rhan o'r ymgyrch honno i erydu'r stigma sy'n rhy aml yn gysylltiedig â'r clefyd ac yn atal pobl rhag dod ymlaen i gael cymorth. Ac rydym ni'n gwybod, Llywydd, ei bod hi'n bosibl, fel y dywedodd Sarah Murphy, i wneud cynnydd gwirioneddol yn y maes hwn. Carchar Abertawe oedd y carchar remánd cyntaf yn y Deyrnas Unedig i gael gwared ar hep C yn ôl yn 2019. Mae'r un technegau a ddefnyddiwyd yno bellach yn cael eu rhoi ar waith yn y gogledd yng Ngharchar y Berwyn, a sicrhawyd cyllid i ledaenu'r gwasanaeth hwnnw i garchar Caerdydd hefyd. Felly, rydym ni'n gwybod am bethau sy'n gweithio, ac mae'r enghraifft a roddodd Sarah Murphy i ni o berson yr oedd hi'n siarad ag ef yn un yn unig o'r enghreifftiau hynny o sut y gallwn ni wneud cynnydd yn y maes heriol hwn, ond un lle'r ydym ni'n gwybod y gellir llwyddo. Llwybr Arfordir Cymru Huw Irranca-Davies AC: 4. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i goffáu 10 mlynedd ers lansio llwybr arfordir Cymru? OQ57994 Mark Drakeford AC: Llywydd, yn 2012, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i greu llwybr pwrpasol ar hyd arfordir cyfan. Bydd rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau blwyddyn o hyd bellach yn dathlu'r cyflawniad hwnnw. Diolch i'r Aelod am arwain yr adolygiad annibynnol o lwybr arfordir Cymru, ac edrychaf ymlaen at gyhoeddiad ei adroddiad yfory. Huw Irranca-Davies AC: Diolch yn fawr iawn i'r Prif Weinidog. A gaf i fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i aelodau'r grŵp adolygu hwnnw, sydd wedi gwneud gwaith rhagorol dros y mis neu ddau diwethaf, yn edrych nid yn unig ar y llwyddiannau a'r cyflawniadau rhyfeddol pendant dros y 10 mlynedd diwethaf—defnyddiwyd geiriau fel 'eiconig', 'ysbrydoledig', 'emblematig' i ddisgrifio'r cyflawniad nodedig hwn o 10 mlynedd yn ôl—ond gan edrych ar y dyfodol a sut y gallwn ni ddefnyddio llwybr arfordir Cymru i'n helpu i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur, i hybu iechyd a llesiant, llesiant corfforol a meddyliol poblogaeth Cymru, ac i edrych tuag allan fel gwlad, o ran sut rydym ni'n defnyddio'r awyr agored yng Nghymru, yr awyr agored glas a gwyrdd, ond hefyd yn portreadu ein hunain i'r byd? Felly, rwy'n mynd i fod yn hy, a chan fentro'r perygl, Prif Weinidog, o ailadrodd digwyddiad sydd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, wedi mynd yn feirol o'r wythnos diwethaf rhwng timau pêl-droed Abertawe a Chaerdydd a gwleidyddiaeth hynny, a gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog, beth yw eich hoff ran o lwybr arfordir Cymru? Mark Drakeford AC: O diar. O diar. Rydych chi'n adnabod pas ysbyty pan ddaw eich ffordd chi yng Nghymru, onid ydych? [Chwerthin.] Wel, yn gyntaf oll, gadewch i mi ddweud, Llywydd, rwyf i wedi cael y fantais o weld copi ymlaen llaw o adroddiad y grŵp, felly gwn am rai o'r pethau y bydd yn eu hargymell: sut y gallwn ni adeiladu ar y llwybr, sut y gallwn ni ymestyn ei gyrhaeddiad drwy wneud yn siŵr bod llwybrau cylchol sy'n mynd i mewn i'r tir. Roeddwn i'n gallu ateb cwestiwn gan John Griffiths yn ddiweddar ar lawr y Senedd, Llywydd—ac wrth gwrs John oedd y Gweinidog a oedd yn gyfrifol am lwybr yr arfordir—lle gwnaethom ni edrych ar y ffordd y mae cyngor Casnewydd yn cysylltu llwybr yr arfordir gyda llwybrau mewndirol, er enghraifft drwy ddyffryn Sirhywi, a gwn fod yr adroddiad yn manteisio ar y profiad hwnnw i awgrymu ffyrdd eraill, ac yn enwedig y ffordd y gall plant a phobl ifanc fod yn rhan o'r llwybr, er mwyn hybu ei botensial o ran iechyd a llesiant. Llywydd, mae dewis rhan o lwybr sy'n mynd yr holl ffordd o amgylch Cymru yn sicr o bechu llawer mwy o bobl nag y bydd byth yn ei blesio, felly diolch i'r Aelod am y cyfle hwnnw. Fel y mae'n digwydd, gofynnwyd y cwestiwn hwn i mi yn ddiweddar gan newyddiadurwyr a oedd yn ysgrifennu copi ar gyfer y degfed pen-blwydd, felly fe wnaf i ailadrodd yr hyn a ddywedais i bryd hynny—y peth mwyaf diogel. Felly, roeddwn i ar lwybr yr arfordir dros y penwythnos. Roeddwn i'n cerdded rhwng Pentywyn yn sir Gâr i Amroth yn sir Benfro. Mae'n debyg nad yw'n un o'r rhannau mwyaf adnabyddus o'r llwybr, ond mae'n hardd dros ben. Gallwch ddychmygu, gyda'r tywydd dros y penwythnos, ei fod yn syfrdanol o hardd. Mae'n heriol mewn rhannau, fel y mae'r llwybr yn aml. Mae ganddo rai llethrau serth iawn, i fyny mynydd Marros er enghraifft, ac mae ganddo rannau cudd o'r arfordir, na fyddwch chi byth yn eu gweld drosoch chi eich hun oni bai eich bod chi'n dilyn llwybr yr arfordir. Pe bai'n rhaid i mi ddewis un rhan fach yn unig o'r cyflawniad gwych hwnnw ar gyfer y prynhawn yma, byddwn yn argymell y daith gerdded honno i unrhyw un. Samuel Kurtz MS: Nid wyf i'n petruso rhag dweud mai fy hoff ran o lwybr yr arfordir yw Pwllderi, lle cefais fy magu, lle mae carreg goffa i'r bardd Dewi Emrys, gyda'r llinellau: Samuel Kurtz MS: 'A thina'r meddilie sy'n dwad ichi / Pan fochchi'n ishte uwchbenPwllderi.' Samuel Kurtz MS: Fy hoff ran. Ond, fel rhywun a fagwyd gyda fferm sy'n gweld llwybr arfordir sir Benfro yn mynd drwy ei thir, rwy'n llwyr werthfawrogi pwysigrwydd datblygu perthynas dda rhwng y tirfeddiannwr a'r cerddwyr. Ac er bod llwybr arfordir Cymru yn dathlu ei ddegfed pen-blwydd, mae parc cenedlaethol arfordir sir Benfro yn dathlu ei ben-blwydd yn saith deg oed, ac mae mewn sefyllfa fel yr unig barc cenedlaethol cwbl arfordirol ac mae wedi arwain y ffordd o ran datblygu perthynas gydlynol a llwyddiannus rhwng defnyddwyr a'r rhai sy'n berchen ar y tir ar lwybr yr arfordir. Felly, pa gamau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cysylltiadau cadarnhaol tebyg yn cael eu datblygu a'u cynnal ar hyd gweddill llwybr arfordir Cymru? Diolch. Mark Drakeford AC: Mae'n bwynt pwysig y mae'r Aelod yn ei wneud, Llywydd, a phan roedd y llwybr yn cael ei ddatblygu, roedd rhai rhannau bach heriol o'r llwybr lle bu'n rhaid meithrin y cysylltiadau hynny, ac weithiau daethpwyd i gytundebau. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod, wrth gwrs, bod cynnal a chadw'r llwybr yn rhywbeth y mae'n rhaid mynd i'r afael ag ef yn gyson. Mae gwaith wardeiniaid a gwirfoddolwyr ar lwybr arfordir sir Benfro ac mewn mannau eraill yn ganolog i hynny, oherwydd, drwy gadw'r llwybr mewn cyflwr da a gwneud yn siŵr, lle bo angen, bod pethau fel ffensys ac amddiffynfeydd fel nad yw cnydau neu fywyd gwyllt yn cael eu hunain mewn perygl yn anfwriadol gan gerddwyr sy'n crwydro oddi ar y llwybr, ceir dealltwriaeth dda o hynny i gyd, rwy'n credu. Rydym ni'n dibynnu ar y bobl sydd agosaf at y llwybr ei hun i wneud i hynny ddigwydd, ac rwy'n credu mai un o gryfderau'r llwybr dros ei hanes o 10 mlynedd yw'r ffordd y mae'r cysylltiadau hynny wedi datblygu, a lle ceir anawsterau y mae'n rhaid mynd i'r afael â nhw, mae ffyrdd adnabyddus o dynnu sylw at y materion hynny a chanfod ateb iddyn nhw. Adolygiad Cass Laura Anne Jones AC: 5. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd yn sgil adroddiad interim adolygiad Cass? OQ58018 Mark Drakeford AC: Llywydd, comisiynwyd adolygiad Cass gan GIG Lloegr ar gyfer GIG Lloegr. Mae'n un ffynhonnell o dystiolaeth, ymhlith eraill, y gellir ei defnyddio i ddatblygu gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc traws yng Nghymru. Laura Anne Jones AC: Diolch, Prif Weinidog. Mae adroddiad interim adolygiad Cass i GIG Lloegr, fel rydych chi newydd ei ddweud, wedi tynnu sylw at nifer o faterion sy'n peri pryder. Mae'r adroddiad interim yn amlwg yn haeddu dadleuon a thrafodaethau go iawn ar yr un gwasanaethau yma yng Nghymru. Tynnodd sylw at faterion sy'n peri pryder gwirioneddol, a byddwn wedi meddwl y byddai wedi ysgogi'r Llywodraeth hon yng Nghymru i gynnal ymchwiliad tebyg yng Nghymru ar sail y canfyddiadau hynny. Nid oes amheuaeth bod problemau tebyg iawn yn cael eu hadlewyrchu yma yng Nghymru. Gwn fod y diffyg ymateb i'r adolygiad hwn gan y Llywodraeth hon yng Nghymru yn rhywbeth sy'n peri pryder i wleidyddion o bob lliw ledled Cymru—Aelodau o'r Senedd ac Aelodau Seneddol. Oni allwch chi weld pwysigrwydd gwneud hyn yn iawn, Prif Weinidog? Y peth olaf rwy'n siŵr y mae unrhyw un ohonom ni ei eisiau yw peryglu bywydau plant. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i adolygiad penodol i Gymru o wasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n cwestiynu eu rhywedd? Mark Drakeford AC: Fe wnaeth Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, sy'n gyfrifol am y gwasanaeth yng Nghymru, gyfarfod â Dr Cass ym mis Mawrth. O ganlyniad, mae gennym ni ymrwymiad y bydd y tîm adolygu yn gweithio gyda'r gwasanaeth a'r darparwyr yma yng Nghymru, fel y gallwn ni ddiffinio ymhellach y model gwasanaeth clinigol ar gyfer y dyfodol y bydd ei angen yng Nghymru ac unrhyw oblygiadau a nodwyd i'r gweithlu. Mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn bwriadu gofyn am ddatganiadau o ddiddordeb gan y rhai yn y maes am wasanaeth datblygu hunaniaeth rhywedd i Gymru, a bydd hynny yn cael ei hysbysu gan adolygiad Cass, gan y sgyrsiau y byddwn ni'n eu cael gyda Dr Cass, ond hefyd gan set ehangach o dystiolaeth sydd gennym ni yma yng Nghymru o anghenion pobl ifanc o dan yr amgylchiadau hyn, a fydd yn caniatáu i ni nid yn unig gasglu cyfres o atebion a ddyfeisiwyd ar gyfer awdurdodaeth wahanol, ond i ddatblygu'r gwasanaethau hynny mewn ffordd sy'n sensitif i dirwedd y gwasanaeth ac anghenion pobl ifanc yma yng Nghymru. Diswyddo ac Ailgyflogi Mike Hedges AC: 6. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r defnydd o ddiswyddo ac ailgyflogi gan gwmnïau yng Nghymru? OQ57993 Mark Drakeford AC: Nid yw diswyddo ac ailgyflogi yn cyd-fynd â gwerthoedd partneriaethau cymdeithasol Cymru. Mae defnyddio'r bygythiad o ddiswyddo i wanhau telerau ac amodau cyflogaeth yn achos o gam-drin grym cyflogwr. Rydym ni'n parhau i alw ar Lywodraeth y DU i ddeddfu i roi terfyn ar yr hyn y mae Prif Weinidog y DU yn ei alw yn arfer 'cwbl annerbyniol'. Mike Hedges AC: A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna? A gaf i ofyn iddo fynd gam ymhellach ac a wnaiff ef gondemnio'r defnydd o ddiswyddo ac ailgyflogi, a chytuno nad oes unrhyw le iddo yng Nghymru ac yn sicr dim lle iddo yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru? A wnaiff Llywodraeth Cymru wrthod contractio gyda chwmnïau sy'n diswyddo ac ailgyflogi a gofyn i gyrff a ariennir gan Lywodraeth Cymru wneud yr un peth? Mark Drakeford AC: Rwy'n sicr yn condemnio'r defnydd o ddiswyddo ac ailgyflogi. Roeddem ni'n cefnogi, fel Llywodraeth Cymru, Bil Aelodau preifat Barry Gardiner a fyddai wedi gwahardd yr arfer a'i gwneud yn amhosibl iddo ddigwydd. Yn anffodus, fe wnaeth Llywodraeth y DU orchymyn ei Haelodau Seneddol Ceidwadol i wrthwynebu'r Bil a gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei roi o'r neilltu. Ble mae'r Bil cyflogaeth yn Araith y Frenhines heddiw? Addawyd hwnnw yn Araith y Frenhines yn 2019 a byddwch yn chwilio yn ofer am unrhyw gyfeiriad ato yn Araith y Frenhines heddiw. Byddai wedi bod yn gyfle i Lywodraeth y DU wneud yr hyn y mae'n dweud y dylai ddigwydd yng nghyd-destun diswyddo ac ailgyflogi. Onid ydyn nhw wedi dysgu dim o'r profiad P&O, pan wnaeth Prif Weinidog y DU, unwaith eto, gyfres o sylwadau condemnio, dim ond i ganfod nad oes unrhyw gamau o unrhyw fath sydd wedi dilyn? Yma yng Nghymru, rydym ni'n gwbl unedig â'r Aelodau Seneddol hynny—ac nid Aelodau Seneddol Llafur yn unig oedden nhw chwaith—yn Nhŷ'r Cyffredin a gefnogodd Fil Barry Gardiner, ac a fyddai wedi ei weld ar y llyfr statud fel na allai'r arfer 'cwbl annerbyniol' hwn, fel y mae Prif Weinidog y DU yn ei alw, ddigwydd. Ynni Adnewyddadwy Tom Giffard AS: 7. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddyfodol ynni adnewyddadwy yng Nghymru? OQ58022 Mark Drakeford AC: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Bydd y dyfodol hwnnw yn golygu cynhyrchu o leiaf ddigon o ynni adnewyddadwy i ddiwallu ein hanghenion ynni ein hunain yn llawn, gan gadw cyfoeth a gwerth yma yng Nghymru ar yr un pryd. Bydd mwy o ynni adnewyddadwy, ynghyd â chamau i leihau'r galw am ynni, yn sicrhau mwy o gydnerthedd ynni ac yn cefnogi ein targedau sero-net. Tom Giffard AS: Diolch, Prif Weinidog, am yr ateb, a dim cwestiynau am yr Elyrch yr wythnos hon gen i. Ond yr hyn y byddaf i'n eich holi amdano yw'r cynlluniau newydd cyffrous yn Abertawe ar gyfer morlyn llanw newydd yn fy rhanbarth i, ac mae'n syniad a atgyfodwyd gan y cwmni DST Innovations, sydd wedi'i leoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Fel y byddwch chi'n gwybod, mae'n debyg, byddai Blue Eden yn cael ei ddatblygu mewn tri cham dros 12 mlynedd, a chynlluniau i ddechrau yn 2023, gyda 1,000 o swyddi yn gwneud batris uwch-dechnoleg ar gyfer storio ynni. Mae'r prosiect gwerth £1.7 biliwn a gyhoeddwyd yn cynnwys morlyn llanw wedi'i ddylunio o'r newydd a thyrbinau tanddwr o'r radd flaenaf sy'n cynhyrchu 320 MW o ynni adnewyddadwy o'r strwythur 9.5 cilomedr. Ac er fy mod i'n gwybod bod siom na aeth y prosiect blaenorol yn ei flaen ar sail costau, mae gan y prosiect newydd hwn y potensial i fod yn gyffrous dros ben. Ac yn wahanol i'r prosiect blaenorol, nid oes angen buddsoddiad trethdalwyr ar hwn chwaith. Felly, a gaf i gadarnhau a yw'r Prif Weinidog wedi cyfarfod â DST Innovations ynglŷn â'r prosiect newydd, a pha gamau y mae ei Lywodraeth yn eu cymryd i sicrhau bod y prosiect hwn yn cael ei ddarparu? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, dim ond oherwydd yr arian a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i ganiatáu i gyngor dinas Abertawe, sef y corff cyhoeddus arweiniol o ran prosiect Blue Eden, i fynd yn ei flaen y mae'r prosiect hwn yn fyw. Pan dynnodd Llywodraeth y DU y plwg ar forlyn llanw bae Abertawe, er gwaethaf adolygiad Hendry, a sefydlwyd ganddi hi, gan ddweud wrthyn nhw ei fod yn fuddsoddiad di-edifeirwch, mae'r ffaith bod cynllun o gwbl dim ond oherwydd, bryd hynny, bod Llywodraeth Cymru wedi camu i mewn a darparu'r cyllid i gyngor y ddinas sydd wedi caniatáu iddyn nhw ddod o hyd i'r buddsoddwr hwnnw, i weithio gyda DST ac i lunio'r gyfres newydd o gynigion. Rydym ni'n parhau i ymgysylltu yn agos iawn â chyngor y ddinas i gefnogi'r gwaith y maen nhw wedi ei wneud. Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd yr Aelod am y potensial ar gyfer y cynllun hwn. Yr edifeirwch mawr yw na ddigwyddodd pan gafodd ei gynnig yn wreiddiol, ac ar adeg pan fo diogelwch ynni mor flaenllaw yn ein meddyliau, byddem ni wedi bod o fewn ychydig fisoedd byr i'r morlyn gwreiddiol hwnnw fod yn cynhyrchu ynni y gellid ei ddefnyddio yma yng Nghymru. Roedd yn gynnig y dywedodd adolygiad Hendry y dylai Llywodraeth y DU fwrw ymlaen ag ef. [Torri ar draws.] Nid wyf i'n gwadu am eiliad—. Nid wyf i'n credu fy mod i wedi dweud dim sy'n awgrymu bod y Ceidwadwyr Cymreig wedi cefnogi'r penderfyniad i dynnu'r plwg ar y syniad hwnnw. Roeddem ni i gyd yma yn dymuno iddo ddigwydd. Byddai hynny wedi bod yn well. Mae'r ffaith bod gennym ni gynllun olynol yn deillio o fuddsoddiad a ddarparwyd o'r Siambr hon ac yn unman arall, ac rydym ni, fel y dywedais i, yn cadw mewn cysylltiad agos â chyngor y ddinas yn Abertawe, sef y sbardun y tu ôl i'r datblygiad diweddaraf hwn. Gwasanaethau Awdioleg Joel James MS: 8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu clirio'r rhestrau aros ar gyfer gwasanaethau awdioleg? OQ58011 Mark Drakeford AC: Llywydd, mae'r cynllun adfer gofal arfaethedig, a gyhoeddwyd ar 26 Ebrill, yn ymrwymo i leihau amseroedd aros am therapi i 14 wythnos erbyn gwanwyn 2024. Mae'r rhestr aros ar gyfer gosod cymorth clyw i oedolion am y tro cyntaf wedi ei chynnwys yn yr ymrwymiad hwn, a bydd cynnydd yn erbyn yr uchelgais yn rhan o'r rhaglen adfer genedlaethol. Joel James MS: Diolch. Prif Weinidog, fel y byddwch chi'n ymwybodol, rwy'n siŵr, mae gwasanaethau'r GIG yng Nghymru yn defnyddio contractwyr optometreg, fferylliaeth a deintyddol preifat fel mater o drefn i ddarparu gofal sylfaenol, ond nid ydyn nhw'n defnyddio contractwyr awdioleg preifat i ddarparu gwasanaethau gofal awdioleg y GIG, ac rwy'n awyddus i ddeall pam mae hyn yn wir. Mae anawsterau clyw yn effeithio ar un o bob chwe oedolyn ac, yn anffodus, mae oedolion sy'n colli eu clyw mewn mwy o berygl o golli gweithrediad gwybyddol, ac yn gallu datblygu dementia neu glefyd Alzheimer wrth i'w cyflwr waethygu. Mae cywiro colled clyw gyda chymhorthion clyw nid yn unig yn gwella ansawdd bywyd unigolion, ond gall hefyd atal y dirywiad gwybyddol hwn, y dangoswyd ei fod yn helpu i ymestyn iechyd a llesiant unigolion, a lleihau'r angen i bobl fynd i gartrefi gofal neu ddefnyddio gwasanaethau cymdeithasol. Mae'n destun pryder bod rhestrau aros y GIG am wasanaethau awdioleg yng Nghymru yn tyfu. Ac yng Nghanol De Cymru, mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod bron i 1,500 o bobl yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn aros am driniaeth, a bod ychydig dros 800 wedi bod yn aros dros 14 mis. Gyda hyn mewn golwg, a wnaiff y Llywodraeth hon ymchwilio i'r rhan y gall contractwyr awdioleg ei chwarae o ran helpu i ddarparu gwasanaethau awdioleg y GIG yng Nghymru neu, o leiaf, gytuno i gyfarfod ag arbenigwyr awdioleg i drafod ffyrdd posibl ymlaen? Diolch. Mark Drakeford AC: Llywydd, wrth gwrs, rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd yr Aelod am bwysigrwydd awdioleg a'r effaith y mae'n ei chael ar fywydau pobl. Mae'n ffaith drist, yn ystod y pandemig, fod llawer o bobl oedrannus, yn arbennig—ac mae gwasanaethau awdioleg yn cael eu defnyddio'n helaeth gan ddinasyddion hŷn Cymru—mae llawer o'r bobl hynny, oherwydd eu bod yn gwarchod eu hunain yn ystod y pandemig, wedi methu â chadw eu hapwyntiadau ac rydym yn awr yn eu gweld yn dod ymlaen, ac mae hynny'n anochel yn golygu pwysau ar y system. Mae'r pwysau wedi ei ddosbarthu'n anghyfartal iawn ar draws byrddau yng Nghymru. Mae'r Aelod yn iawn i dynnu sylw at y twf yn y niferoedd yng Nghaerdydd a'r Fro, ond ym mae Abertawe, er enghraifft, dim ond naw o bobl oedd yn aros am apwyntiad awdioleg ym mis Chwefror eleni, ac roedd hynny i lawr o 225 o bobl, flwyddyn ynghynt. Felly, mae rhannau o Gymru lle mae cynnydd gwirioneddol yn cael ei wneud ac mae rhannau eraill o Gymru lle mae pwysau gwirioneddol ar y system. Y ffordd orau o ddatrys hyn, Llywydd, yw drwy feithrin capasiti gofal sylfaenol, fel nad oes rhaid i bobl fynd i ysbyty i gael y gwasanaeth y mae arnyn nhw ei angen, oherwydd gall ymarferwyr cyswllt cyntaf awdioleg ddarparu'r asesiad arbenigol hwnnw yn nes at adref a sicrhau bod pobl yn cael y driniaeth y mae arnyn nhw ei hangen. Mae'r gwasanaeth hwnnw eisoes ar waith mewn rhai rhannau o Gymru, er enghraifft, ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, ac mae byrddau iechyd eraill yn cynnal cynlluniau treialu i ddatblygu gwasanaeth o'r un math. Mae'n golygu recriwtio pobl yn uniongyrchol i'r gwasanaeth, ond cael awdiolegydd fel rhan o'r tîm gofal sylfaenol, sy'n ymroddedig i hynny, sy'n gallu cyflawni'r apwyntiadau hynny bum niwrnod yr wythnos, dyna'r ffordd orau o sicrhau dyfodol y gwasanaeth. Diolch i'r Prif Weinidog. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny. Lesley Griffiths. Lesley Griffiths AC: Diolch, Llywydd. Mae un newid i fusnes heddiw. Bydd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn gwneud datganiad ar etholiadau llywodraeth leol. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymysg y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig. Darren Millar AC: A gaf i alw, Trefnydd, am ddatganiad gan y Prif Weinidog ar ddiwygio'r Senedd? Bydd Aelodau'r Senedd yn ymwybodol, o'r drafodaeth yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog ac, yn wir, o ddatganiad i'r wasg a gyhoeddwyd y bore yma am chwarter wedi naw, fod y Prif Weinidog ac arweinydd Plaid Cymru, i bob pwrpas, wedi rhwystro gwaith y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd a sefydlwyd gan holl Aelodau'r Senedd hon er mwyn ystyried diwygio'r Senedd hon yn y dyfodol. Nawr, mae fy mhlaid i, wrth gwrs, bob amser wedi gwrthwynebu cynnydd yn nifer Aelodau'r Senedd, ond rydym ni wedi dweud yn gyson ein bod yn cydnabod bod mwyafrif o Aelodau'r Senedd yn dymuno gweld diwygio a bod mandad i gyflawni rhywfaint, ac ar y sail honno, gwnaethom ymuno â phwyllgor diwygio'r Senedd yn ddidwyll, er mwyn chwarae rhan adeiladol yn swyddogaeth a gwaith y pwyllgor hwnnw, er mwyn iddo allu gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru eu cyflawni. Mae hynny wedi ei danseilio heddiw. Mae gwaith y Senedd wedi ei danseilio heddiw, ac mae wedi bod yn amharchus o ran y ffordd y cyhoeddodd y Prif Weinidog ac arweinydd Plaid Cymru y datganiad penodol hwnnw i'r wasg. Rwy'n credu bod arnom ni reidrwydd i roi datganiad yn y Siambr hon i bobl Cymru, lle y gellir croesholi'r Prif Weinidog ac, yn wir, arweinydd Plaid Cymru ynghylch eu cynigion ar gyfer diwygio er mwyn i ni allu dangos i bobl Cymru ein bod yn eu hystyried nhw yn briodol ac yn llawn. Mae'n amhriodol i'r pwyllgor hwnnw gael ei orfodi i sefyllfa ar sail trafodaethau clyd, a dweud y gwir, mewn swyddfeydd gweinidogol. Yn ail, a gaf i alw am ddatganiad ar fynediad at brofion diagnostig yng Nghymru? Cysylltodd etholwr â mi yn ddiweddar sydd, yn anffodus, newydd gael diagnosis o ganser y brostad. Mae'n aros am sgan MRI; yn anffodus, ni all gael y sgan MRI hwnnw yn y gogledd, ac mae wedi cael ei atgyfeirio i Ysbyty Broadgreen yn Lerpwl oherwydd bod ganddo reolydd calon. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw gapasiti o gwbl i unrhyw un yn y gogledd sydd â rheolydd calon gael sgan MRI, ac, o ganlyniad, ni all y dyn hwn, sy'n gwybod bod ganddo ganser, sy'n gwybod bod arno angen y sgan hwn er mwyn penderfynu ar y driniaeth sydd o'i flaen, gael y sgan hwnnw tan ddiwedd mis Mehefin. Mae hynny'n annerbyniol; mae'n gyfnod pryderus iawn i'r dyn hwn a'i deulu. A gaf i ofyn pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r angen am brofion diagnostig o'r math hwnnw, ac a gaf i alw am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd er mwyn mynd i'r afael â'r mater? Diolch. Lesley Griffiths AC: Rwy'n credu fy mod i'n anghytuno â phopeth a ddywedodd Darren Millar ynghylch diwygio'r Senedd. Nid oes dim wedi ei rwystro, nid oes dim wedi ei danseilio ac nid oes dim wedi ei amharchu. O ran eich cwestiwn ynglŷn â diagnosteg, rwy'n credu bod hwnnw yn bwynt da iawn. Yn amlwg, ni allwn gael pob darn o bob offer ar gael ym mhob ysbyty yng Nghymru, ac mae'n gwbl briodol bod eich etholwr yn mynd i'r lle gorau ar gyfer y sgan hwnnw. Byddaf yn siarad â'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, sydd yn ei lle, i weld a oes unrhyw beth yn yr arfaeth i gyflwyno offer o'r fath. Delyth Jewell AC: Hoffwn i ofyn am ddatganiad ar bwysigrwydd ymgysylltu democrataidd. Rydym newydd ddod allan o etholiad, ac er y gallan nhw fod yn anodd, ar eu gorau mae etholiadau yn ddathliad o gymuned, cysylltiadau rhwng pobl, ac yn gyfle i newid pethau. Trefnydd, rwy'n siŵr y byddech yn ymuno â mi i dalu teyrnged i bawb a safodd i gael eu hethol yr wythnos diwethaf, gan longyfarch y bobl a enillodd, ond hefyd i ddiolch i'r holl bobl hynny na chawson nhw eu hethol, oherwydd gall peidio ag ennill etholiadau fod yn boenus, ond mae sefyll dros yr hyn yr ydych yn ei gredu yn bwysig. Dylid canmol pobl am wneud hynny, ac, fel cenedl, rwy'n credu y dylem ni ddiolch iddyn nhw. Ond, Trefnydd, mae nifer isel o bobl yn pleidleisio yn dal i fod yn broblem ystyfnig. Mae gormod o bobl yn meddwl nad yw eu llais yn cyfrif, yn enwedig oherwydd y system y cyntaf i'r felin. Felly, a gawn ni ddatganiad, os gwelwch yn dda, yn amlinellu pwysigrwydd ymgysylltu democrataidd, a sut y gellir cyfleu hynny i blant yn yr ysgol, i oedolion hefyd, fel y bydd pawb yn teimlo cymhelliant i fynd allan a phleidleisio pan ddaw'r etholiad nesaf? Lesley Griffiths AC: Diolch. Rwy'n credu eich bod yn codi pwynt pwysig iawn. Dylid dathlu democratiaeth yn llwyr, ac rwy'n ymuno â chi wrth ddiolch i bawb, o ba blaid wleidyddol bynnag, am gyflwyno eu hunain. Yn bersonol, roeddwn i yn y cyfrif yn fy etholaeth i ddydd Gwener, ac roedd yn bwysig iawn dweud diolch i bobl am gyflwyno eu hunain. Fel arall, yn wir, ni fyddem yn cael etholiadau. Mae'n amlwg bod y nifer isel o bobl sy'n pleidleisio yn fater yr ydym wedi gorfod ei wynebu mewn llawer o etholiadau. Rwy'n credu bod etholiad y Senedd hefyd yn faes lle yr ydym ni wedi gwneud ein gorau glas i geisio cynyddu nifer y bobl sy'n pleidleisio. Rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd ar bob un ohonom ni yn y Siambr hon i wneud popeth o fewn ein gallu i ymgysylltu ag ysgolion, i ymgysylltu â phobl ifanc. Wrth gwrs, un ffordd o gynyddu hynny oedd cael pobl ifanc 16 a 17 oed, a byddai gen i ddiddordeb yn bersonol mewn gweld faint o bobl ifanc 16 a 17 oed a bleidleisiodd yr wythnos diwethaf. Hefin David AC: Hoffwn i Lywodraeth Cymru wneud datganiad yn y Siambr ar gytundeb gweithredol Rhentu Doeth Cymru. Rwyf wedi bod yn ymdrin â nhw ar faterion yn ymwneud â gwaith achos etholaethol, ac mae wedi bod yn brofiad rhwystredig iawn i mi. Fel sefydliad, rydym wedi canfod bod diffyg cyfathrebu, tryloywder ac unrhyw ymdeimlad o frys ganddyn nhw wrth geisio cael yr wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniad darn diweddar o waith achos ynghylch etholwr sydd dan fygythiad o gael ei droi allan yn anghyfreithlon o eiddo a rentir yn breifat. Dywedwyd wrthym na allai Rhentu Doeth Cymru ddatgelu canlyniad yr ymchwiliad i ni, ac ni allai ychwaith gymryd unrhyw gamau cyfreithiol yn erbyn landlord y canfuwyd ei fod yn torri ei gyfrifoldebau. Ers hynny, nid ydym wedi gallu cael unrhyw wybodaeth er budd yr etholwr, er gwaethaf y ffaith ein bod ni wneud ein gorau glas a chynghori'r sefydliad y gallai'r etholwr fod ar fin cael ei droi allan. Nid yw'n dderbyniol, ac nid yw'n ymddangos bod llwybr ar gael y gallwn ei ddefnyddio i graffu ar weithgarwch Rhentu Doeth Cymru, a dyna pam yr wyf yn gofyn am ddatganiad yn y Siambr hon ar eu cylch gwaith. Lesley Griffiths AC: Diolch. Rwy'n bryderus o glywed am y profiad yr ydych chi wedi ei gael gyda Rhentu Doeth Cymru. Cyngor Caerdydd sy'n eu cynnal, felly dylid mynd i'r afael â chwynion amdanyn nhw, yn y lle cyntaf, drwy eu gweithdrefn gwyno nhw, ac mae hynny ar gael yn rhwydd, fel y gwyddoch eich hun, ar wefan Rhentu Doeth Cymru. Gall Aelodau Etholedig y Senedd, ac, yn amlwg, y staff sy'n gweithio i ni, anfon neges e-bost at Rhentu Doeth Cymru os ydyn nhw'n dymuno trafod unrhyw achos gyda nhw. Y llwybr nesaf wedyn, yn amlwg, fyddai'r ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus. Rwy'n gwerthfawrogi na fyddai'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn gallu ymyrryd mewn achos unigol penodol, ond rwyf i yn credu bod eich profiad yn cyfiawnhau ysgrifennu ati, i weld pa ganllawiau y mae angen iddi edrych arnyn nhw. Os yw'n credu ei bod yn briodol cyflwyno datganiad ysgrifenedig, byddaf yn gofyn iddi wneud hynny. Mark Isherwood AC: Rwy'n galw am ddatganiad ar ddarpariaeth feddygol i bobl yng Nghymru sy'n dioddef o ME/CFS—enseffalomyelitis myalgig/syndrom blinder cronig—a all gael effaith ddinistriol ar y gallu i weithredu ac ar ansawdd bywyd. Mae hi'n Wythnos Ymwybyddiaeth ME, 9 i 15 Mai. Gan fod canllawiau newydd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ar gyfer ME wedi eu cyhoeddi bellach, mae'n hanfodol yn awr symud ymlaen gyda llwybr clir ar gyfer pobl sy'n byw ag ME yng Nghymru. Mae ymgyrchwyr yng Nghymru yn dweud wrthyf y gallai fod gwasanaeth ME mewn rhai byrddau iechyd, ond, os oes, nid ydyn nhw'n gwybod ble mae'r gwasanaethau hyn, pwy sy'n eu rhedeg, na pha driniaethau y maen nhw'n eu defnyddio. Mae ganddyn nhw bellach gymorth cynghorydd meddygol y Gymdeithas ME, sy'n barod i weithio gyda nhw i alluogi pobl ag ME ledled Cymru i gael y ddealltwriaeth a'r gefnogaeth feddygol gywir ar gyfer eu cyflwr, ac i fynd i gyfarfod â Llywodraeth Cymru. Maen nhw'n ychwanegu ei bod yn aneglur iawn ar hyn o bryd ble neu sut y gall pobl ag ME gael triniaeth ar gyfer ME yng Nghymru. Mater o lwc yw hi os daw rhywun o hyd i feddyg teulu sydd â dealltwriaeth a hyfforddiant da o ran y cyflwr, ac nid oes ganddyn nhw unman i anfon cleifion ymlaen ato. Galwaf am ddatganiad yn unol â hynny, gan gynnwys, gobeithio, ymateb i'r cynnig o gyfarfod gan gynghorydd meddygol y Gymdeithas ME. Lesley Griffiths AC: Diolch. Doeddwn i ddim yn ymwybodol ei bod hi'n Wythnos Ymwybyddiaeth ME. Mae gennym ni sawl 'wythnos' a 'mis', ond doeddwn i wir ddim yn ymwybodol ei bod yn wythnos ymwybyddiaeth o bobl sy'n dioddef o'r cyflwr hwnnw. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cael y dyddiau, wythnosau, misoedd ymwybyddiaeth hyn, er mwyn sicrhau bod pobl yn adnabod y symptomau a hefyd yn gwybod i le y gallan nhw fynd am driniaeth. Yn amlwg, mater i fyrddau iechyd yw sicrhau bod ganddyn nhw'r gwasanaethau sydd eu hangen ar gyfer eu poblogaeth leol, pa gyflwr bynnag ydyw. Ken Skates AC: Dim ond dau ddatganiad yr hoffwn i ofyn amdanyn nhw heddiw. Mae'r cyntaf yn ymwneud â'r ymgyrch gan Glwb Pêl-droed Wrecsam i sicrhau cyllid gan Lywodraeth y DU ar gyfer ailddatblygu Kop y Cae Ras, a hefyd ar gyfer dychwelyd gemau rhyngwladol i'r gogledd. A wnaiff Llywodraeth Cymru gefnogi'r ymgyrch dros stadiwm i'r gogledd, a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am brosiect Porth Wrecsam a'r miliynau lawer o bunnoedd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo iddo? A fyddai modd cael ail ddatganiad, o ran cais Wrecsam am statws dinas diwylliant? A wnaiff Llywodraeth Cymru, unwaith eto, ailddatgan ei chefnogaeth ddiwyro i'r cais, a fydd yn drawsnewidiol i'r fwrdeistref sirol os bydd yn llwyddiannus? Lesley Griffiths AC: Diolch. O ran cais Dinas Diwylliant Wrecsam 2025, fel y gwyddoch, mae Wrecsam ar y rhestr fer, ynghyd â thri lle arall yn Lloegr, i fod yn ddinas diwylliant. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig ei chefnogaeth lwyr i gais Wrecsam, sy'n dod i ben yn gyflym. Rwy'n credu y byddai'n wirioneddol drawsnewidiol i Wrecsam—rwy'n credu y byddai'n hwb gwirioneddol, wrth i ni edrych ymlaen. Rwy'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog yn llwyr gefnogi'r cais. O ran y ddeiseb a lansiwyd ddoe, roeddwn i'n meddwl ei bod yn ddiddorol iawn gweld y pwysau hwnnw'n cael ei ddwyn ymlaen ar Lywodraeth y DU mewn cysylltiad â'r gronfa ffyniant bro. Rydym wedi bod yn aros yn hir i weld a fydd y cyllid hwnnw yn cael ei gynnig. Mae'n ddeiseb anwleidyddol. Mae'n dda gweld cyn bêl-droedwyr fel Mickey Thomas a John Hartson yn llwyr gefnogi'r ddeiseb, ac rwy'n siŵr, pan fydd y Dirprwy Weinidog wedi cael cyfle i edrych arni, y bydd yn gallu cynnig ei chefnogaeth. Mae'n bwysig iawn, rwy'n credu, ein bod ni'n cael pêl-droed rhyngwladol yn ôl ar y Cae Ras. Ac os caf i fodloni mympwy, roedd yn wych gweld Wrecsam yn mynd i frig y gynghrair ddydd Sul. Ie, da iawn, Wrecsam. A dyna ddiwedd y cwestiynau busnes. 3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar COVID-19 Y datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol sydd nesaf—diweddariad ar COVID-19. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud y datganiad hwnnw. Eluned Morgan. Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr, Llywydd. Diolch am y cyfle i ddod â'r drafodaeth yma i'r Senedd. Eluned Morgan AC: Diolch am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa bresennol o ran iechyd y cyhoedd a chanlyniad yr adolygiad diweddaraf o'r rheoliadau coronafeirws. Mae trosglwyddiad y don omicron BA.2 o COVID-19 yn y gymuned yn parhau ar lefel uchel iawn ledled Cymru. Yn ôl arolwg y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae gan un o bob 25 o bobl yng Nghymru COVID. Mae tua 1,064 o gleifion yn yr ysbyty o hyd yn gysylltiedig â COVID—mae hynny 11 y cant yn is na'r wythnos diwethaf—er mai dim ond 78 o'r rhain sy'n cael eu trin yn weithredol ar gyfer COVID, gyda 15 o bobl mewn gofal critigol gyda COVID. Mae'r system iechyd a gofal cymdeithasol yn parhau i gael trafferthion oherwydd gofynion COVID-19. Mae lefelau uchel o absenoldeb staff a phwysau eraill yn parhau. Mae'n rhaid i ni barhau â'n hymdrechion i leihau trosglwyddo o fewn ysbytai. Mae cyfyngu nifer yr ymwelwyr i ysbytai, cadw pellter cymdeithasol a gweithredu gweithdrefnau rheoli heintiau yn drylwyr i gyd yn parhau i fod yn bwysig. Gan gofio hyn, ac wrth ddilyn cyngor y prif swyddog meddygol a'r gell cyngor technegol, mae'r Cabinet wedi penderfynu cadw'r cyfyngiad cyfreithiol olaf sy'n weddill, sef y gofyniad am orchuddion wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol cyhoeddus dan do, am dair wythnos arall. Rwy'n deall pa mor heriol fu'r ddwy flynedd ddiwethaf, yn enwedig i'r rhai hynny sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ac i'r bobl y maen nhw'n gofalu amdanyn nhw. Bu llawer o waith caled ac aberth, ac rwy'n cymeradwyo'r ymdrechion parhaus, wrth i ni barhau i gymryd camau i gadw'r bobl fwyaf agored i niwed a'r staff sy'n gweithio yn y lleoliadau risg uchel hyn yn ddiogel. Fel yr wyf wedi ei ddweud o'r blaen, brechu yw'r mesur amddiffyn pwysicaf yn erbyn COVID o hyd, ac mae wedi gwanhau'n llwyddiannus y cysylltiad rhwng y feirws a salwch difrifol a mynd i'r ysbyty. Nid yw byth yn rhy hwyr i gael eich brechu, ac rydym yn annog pawb sy'n gymwys i ddod ymlaen. Mae camau eraill y gallwn eu cymryd i amddiffyn ein hunain ac eraill. Byddwn yn parhau i argymell bod gorchuddion wyneb yn cael eu gwisgo ym mhob man dan do gorlawn neu gaeedig, fel rhan o gyfres o ganllawiau cryfach a chyngor ar iechyd y cyhoedd. Gall y mesurau hyn a mesurau eraill gydweithio i helpu i leihau trosglwyddo'r coronafeirws a chadw pob un ohonom yn ddiogel. Rydym yn cydnabod pa mor anodd y mae hyn wedi bod i ddysgwyr, yn enwedig wrth i ni nesáu at dymor yr arholiadau. Mae'n bleser gen i gyhoeddi ein bod ni, ynghyd â'r Gweinidog Addysg a'r Gymraeg, wedi cytuno ar eithriad i'n canllawiau hunanynysu ar gyfer y bobl hynny sy'n sefyll arholiadau TGAU, UG, Safon Uwch a galwedigaethol. Y nod yw galluogi dysgwyr yn well i sefyll eu harholiadau'n ddiogel, a sicrhau nad ydyn nhw o dan anfantais o'u cymharu â'u cyfoedion yn Lloegr a'r Alban, pan fo'r canllawiau yn dweud y dylai plant a phobl ifanc ynysu am dri diwrnod. Os byddan nhw'n cael canlyniad negatif, yna gallan nhw sefyll yr arholiadau hynny—os byddan nhw'n cael dau brawf negatif dilynol. Mewn cam cadarnhaol arall, cyhoeddwyd 'Cyngor Iechyd y Cyhoedd i Ysgolion: Coronafeirws' yr wythnos diwethaf, ac mae'r cyngor newydd hwn yn gosod ysgolion a lleoliadau addysg ar yr un gwastad â sectorau eraill yng Nghymru o ran cyngor iechyd y cyhoedd a COVID-19. Hefyd, fe wnaethom ni gyhoeddi, ddoe, ein bod bellach wedi dileu'r fframwaith rheoli heintiau ar gyfer sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach yn ffurfiol, sy'n golygu y bydd y sectorau hyn hefyd yn symud tuag at ddefnyddio'r canllawiau iechyd cyhoeddus ehangach a ddilynir gan fusnesau, cyflogwyr a threfnwyr digwyddiadau. Eluned Morgan AC: Ond mae'n bwysig ein bod ni'n cydnabod nad yw COVID-19 wedi mynd, ac y bydd yn aros gyda ni yn fyd-eang. Wrth i'r don bresennol o'r haint leddfu, fel roeddem ni'n gobeithio, rhaid inni baratoi ar gyfer tonnau newydd yn y dyfodol. Allwn ni ddim cymryd yn ganiataol y bydd amrywiolion y dyfodol yr un fath ag omicron. Fe allem ni weld amrywiolyn mwy niweidiol yn dod yn y dyfodol. Rhaid inni gofio hefyd, wrth i bobl ddechrau cymysgu unwaith eto, y bydd heintiau anadlol tymhorol eraill yn dechrau lledaenu, gan gynnwys y ffliw. Am y tro cyntaf amlygodd y pandemig COVID-19 bod angen inni gael gwybodaeth am achosion yn y gymuned, derbyniadau i'r ysbyty a marwolaethau mewn amser real, cyn belled â phosibl. Roedd hynny'n angenrheidiol, oherwydd defnyddiwyd y data hyn i lywio'r cyfyngiadau ar gyfer lleihau'r trosglwyddiadau yn y gymuned a'r effaith y rhagwelwyd y byddai'r haint yn ei chael ar y boblogaeth a'n system gofal iechyd. O dan y sefyllfa COVID sefydlog bresennol, rŷm ni wedi rhoi'r gorau i adnabod pob achos trwy brofi cymunedol torfol ac olrhain cysylltiadau. Wrth gadw gwyliadwriaeth yn y dyfodol, ni fydd modd dibynnu ar lefelau mor uchel o ddata. Ac eto, bydd angen i’n trefniadau cadw gwyliadwriaeth ein helpu i benderfynu a yw Cymru wedi symud o sefyllfa COVID sefydlog i sefyllfa COVID brys. Bydd angen inni hefyd gofnodi effaith heintiau anadlol eraill, ac felly rydym ni'n gweithio’n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i ystyried cynigion ar gyfer strategaeth wyliadwriaeth newydd i Gymru, gyda’r bwriad o gyflwyno’r datblygiadau hyn cyn gaeaf 2022-23. Llywydd, mae pobl Cymru wedi gweithio’n ddiflino i ddiogelu a chefnogi ei gilydd drwy’r cyfnod hynod o anodd yma. Dwi'n gwbl ffyddiog, drwy barhau i gymryd pob un o'r camau bach i'n diogelu ni ein hunain ac eraill, y byddwn ni'n symud drwy'r cyfnod pontio hwn yn llwyddiannus ac oddi wrth yr argyfwng iechyd y cyhoedd sydd wedi bod yn rhan mor amlwg o'n bywydau ni. Diolch, Llywydd. Russell George AC: Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi am eich datganiad heddiw, a diolch i chi hefyd am eich papurau briffio i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol bob tair wythnos? A gaf i groesawu llawer o'r hyn a ddywedoch chi heddiw? Fodd bynnag, ni ddylai'r rheolau ar fasgiau mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol fod yn rhan o gyfraith frys, yn fy marn i; dylid diddymu hynny o ystyried y sefyllfa sefydlog yr ydym ynddi bellach. Felly, a gaf i ofyn, a fyddwch chi'n sicrhau bod hyn felly yn rhan o ganllawiau rheoli heintiau'r GIG ac ni fyddan nhw'n cael eu hymgorffori yn y gyfraith? Pryd gallwn ni ddisgwyl i'r datganiadau rheolaidd, y datganiadau tair wythnos, ddod i ben o ystyried y sefyllfa yr ydym ni ynddi bellach? Ydych chi'n bwriadu i'r cynadleddau teledu rheolaidd ddod i ben, neu ydych chi'n bwriadu parhau â nhw yn rheolaidd? Byddai'n ddefnyddiol cael eich dealltwriaeth o'r cylch adolygu tair wythnos, Gweinidog. Rwyf hefyd yn gweld o'ch cyngor gan y gell cyngor technegol, er bod heintiau COVID wedi gostwng yn sylweddol, sydd wrth gwrs yn newyddion i'w groesawu, fod ffliw a heintiau anadlol yn cynyddu. Felly, pa mor bryderus ydych chi y bydd ton o'r heintiau hyn dros gyfnod yr haf? Rwy'n sylweddoli mai dros gyfnod yr haf yw hi, sy'n ei gwneud ychydig yn haws ei thrin efallai, ond pa negeseuon cyhoeddus ydych chi'n bwriadu eu cyflwyno ar gyfer y misoedd nesaf yn hynny o beth, os ydych yn wir yn credu bod hyn yn bryder? Rwy'n sylwi ar y pwyslais ar leoliadau addysg, ac rwy'n croesawu yn fawr eich bod wedi eu dileu o'r fframwaith rheoli heintiau, ochr yn ochr â chyhoeddiadau'r Gweinidog addysg yr wythnos diwethaf y byddai'r cyfyngiadau terfynol hynny yn cael eu codi. Yr hyn yr wyf i'n pryderu yn ei gylch yw bod rhai sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach yn dal i gyfyngu ar addysg wyneb yn wyneb. Y llynedd, roedd nifer y cwynion yn erbyn prifysgolion Cymru a Lloegr yr uchaf ar gofnod, gyda bron i hanner—45 y cant—yn ymwneud â materion gwasanaeth fel addysgu a darpariaeth cyrsiau. Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i fonitro'r gwaith o ddychwelyd i fusnes fel arfer mewn lleoliadau addysg uwch ac addysg bellach fel y gall myfyrwyr fynychu addysg wyneb yn wyneb yn llawn, sydd, yn fy marn i, yn arbennig o bwysig cyn i dymor yr arholiadau ddechrau? Yn olaf, Gweinidog, rydych chi wedi penderfynu cyhoeddi cynllun gweithlu ar wahân i'ch cynllun adfer gofal wedi'i gynllunio, ond mae eich bylchau o ran gweithlu'r GIG ar-lein yn parhau i fod yn broblem ar hyn o bryd hefyd, ac rwy'n gwybod y bydd y ddau ohonom yn cytuno ar hynny. Gwelaf, er enghraifft, fod bwrdd iechyd Aneurin Bevan yn cau unedau geni dan arweiniad mamolaeth yn ysbyty Brenhinol Gwent ac yn ysbyty Nevill Hall tan fis Hydref oherwydd pwysau sylweddol o ganlyniad uniongyrchol i brinder staff. Felly, er bod gan y bwrdd iechyd rai dewisiadau eraill ar waith—rwyf wedi nodi hynny—ac o gofio mai dim ond tair blynedd yn ôl y cafodd sgandal uned mamolaeth Cwm Taf ei ddatgelu, pa fonitro ydych chi'n ei roi ar waith ar unwaith i sicrhau bod lefelau staffio diogel yn cael eu cadw ac nad yw diogelwch cleifion yn cael ei beryglu? Rwyf hefyd yn gweld, yn y GIG yn Lloegr, fod miloedd o swyddi wedi eu creu ar gyfer y rhai hynny sydd wedi gwirfoddoli mewn canolfannau brechu, a tybed pa fesurau ydych chi'n eu cymryd i efelychu'r llwyddiant hwnnw a'r hyn sy'n digwydd yn awr i'r canolfannau brechu torfol. Diolch, Llywydd. Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr, Russell. Rwy'n credu ei bod yn glir iawn nad yw canllawiau mor gryf â gorfodi yn y gyfraith, a dyna pam yr ydym wedi parhau, yn enwedig yn y lleoliadau hyn sydd dan fygythiad, i fynnu ar wisgo gorchuddion wyneb yn y lleoliadau hynny. Ac mae'n amlwg nad yw'n ofyniad ar y bobl sy'n gweithio yno yn unig, ond mae hefyd yn ofyniad ar y bobl sy'n dod i mewn i'r adeiladau hynny i ymweld. Felly, mae'n llawer haws i bobl blismona hynny os oes ganddyn nhw rym y gyfraith y tu ôl iddyn nhw. Felly, yn yr ystyr hwnnw, mae'r adolygiad 21 diwrnod yn parhau, oherwydd bod gennym ni ddarn o ddeddfwriaeth o hyd sy'n gysylltiedig â COVID, a bydd yr adolygiad 21 diwrnod hwnnw yn parhau tra bo'r cyfyngiad cyfreithiol hwnnw ar waith. Rydych chi'n llygad eich lle, rydym ni yn gwylio'n ofalus iawn y cynnydd yn nifer y bobl sy'n dioddef o'r ffliw ar hyn o bryd. Rydych chi'n llygad eich lle wrth awgrymu, mewn gwirionedd, ein bod ni, mae'n debyg, yn poeni'n fwy y bydd hynny'n dechrau yn wirioneddol yn y gaeaf, a'r hyn yr ydym yn ei wneud eisoes, wrth gwrs yw, rydym yn parhau â'n rhaglen gyfathrebu, 'Helpwch ni i'ch helpu chi', gan geisio cyfeirio pobl i'r gofal iawn yn y lle iawn ar yr adeg iawn, ac mae hynny eisoes yn cael effaith. O ran addysg, mae'n amlwg mai gwaith i'r Gweinidog addysg fydd monitro sut y byddan nhw'n dychwelyd i'r drefn arferol, i weld i ba raddau y gallan nhw fod yn cynyddu'r addysg wyneb yn wyneb y gwnaethoch ei nodi ei bod yn bwysig iawn. O ran cynllunio'r gweithlu, hoffwn eich atgoffa ein bod ni wedi cynyddu'r gweithlu yng Nghymru 54 y cant yn yr 20 mlynedd diwethaf. Rydym wedi gweld cynnydd, er enghraifft, yn nifer y meddygon teulu o 1,800 i 2,000 yn 2021. Fe wnaethoch chi sôn am y sefyllfa yn Aneurin Bevan. Rydym ni wedi gweld cynnydd o 100 o bobl mewn gofal sylfaenol yn unig yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, a chynnydd o 255 yn nifer y staff yno. Felly, rydym yn gweld niferoedd yn cynyddu'n gyson. Rhan o'r broblem, wrth gwrs, ar hyn o bryd hefyd yw bod gennym ni lawer o staff yn dioddef o COVID, felly maen nhw i ffwrdd oherwydd COVID, ac mae hynny'n rhoi pwysau ar y gwasanaeth hefyd. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch am y datganiad. Ryw dri chwestiwn, dwi'n meddwl, gen i. Prin ydy'r newidiadau erbyn hyn, mewn difri. Dwi'n falch bod y dystiolaeth—nid yn gymaint y profion, wrth gwrs, erbyn hyn, ond tystiolaeth yr ONS a dŵr gwastraff ac ati—yn awgrymu bod y sefyllfa yn gwella. Mae'r cwestiwn cyntaf ynglŷn ag ysgolion a cholegau, sy'n gweld y newid mwyaf yn fan hyn, am wn i, efo gorchuddion wyneb ddim yn angenrheidiol bellach. All y Gweinidog ddweud pa gryfhau mae hi am ei weld o ran mesurau fel sicrhau awyr iach a monitro carbon deuocsid er mwyn gwarchod disgyblion? Yn ail, dwi'n dal i fod yn bryderus am COVID hir. Fel cyd-gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar COVID hir, dwi wedi galw'n gyson am ddatblygu gofal arbenigol i gleifion COVID hir, i drio sicrhau cefnogaeth a diagnosis a thriniaeth gyflym. Rŵan, mae ffigurau newydd gan yr ONS yn awgrymu y gallai 438,000 o bobl fod â symptomau COVID hir o'r don omicron yn unig. Felly, mae'n sefyllfa sy'n dal i ddatblygu. Dwi wedi derbyn cyswllt gan rieni sy'n poeni am ddiffyg triniaeth i blant yn benodol. Yn Lloegr, mi fydd y Gweinidog yn gwybod bod yna rwydwaith o ganolfannau COVID hir pediatrig, ond beth mae rhieni yn dweud wrthyf i ydy eu bod nhw nid yn unig yn methu â chael triniaeth mewn canolfannau arbenigol yng Nghymru, ond eu bod nhw hefyd yn methu â chael referrali ganolfannau y tu allan i Gymru, hyd yn oed os mai dyna fyddai, o bosib, orau i'w plant nhw. Felly, pa gynlluniau mae'r Gweinidog yn barod i'w datblygu i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn benodol yng Nghymru yn cael y gofal gorau posib am COVID hir? Yn drydydd ac yn olaf— Rhun ap Iorwerth AC: —ysgrifennais at y Prif Weinidog ar 27 Ebrill, yn gofyn iddo gywiro'r Cofnod, Cofnod y Senedd, ar ôl iddo ddweud bod y cyfrifoldeb am ymchwiliad cyhoeddus i COVID 'wedi symud i ddwylo'r barnwr annibynnol a benodwyd i'w arwain.' Roedd yn ateb cwestiwn a ofynnodd Heledd Fychan. Nawr, fel rhywun sydd wedi galw'n gyson am ymchwiliad i Gymru yn unig i sicrhau bod materion yn cael eu hystyried yn iawn o safbwynt Cymru—ac mae'r rhain yn faterion hollbwysig, wrth gwrs, ynghylch amgylchiadau miloedd o farwolaethau yma yng Nghymru—nid wyf i'n hapus ein bod yn rhan o ymchwiliad y DU yn unig nad wyf i'n credu y gall edrych yn ddigon fforensig ar y sefyllfa yma yng Nghymru, ac, fel yr wyf i wedi ei ddweud dro ar ôl tro, rwy'n rhwystredig bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi bod yn hapus i ymddiried yn Boris Johnson ar hyn, ar amseriad ymchwiliad a'r cylch gwaith. Nawr, y rheswm y galwais am gywiro'r Cofnod oedd oherwydd nad oedd cyfrifoldeb llawn wedi ei roi i'r cadeirydd annibynnol a bod Prif Weinidog y DU yn dal i fod yn gyfrifol am gymeradwyo'r cylch gorchwyl—cylch gorchwyl holl bwysig yr ymchwiliad. Felly, gan fod y Prif Weinidog wedi ysgrifennu ataf heddiw i ddweud nad yw'n mynd i achub ar y cyfle hwn i gywiro'r Cofnod, a wnaiff y Gweinidog iechyd o leiaf gadarnhau yr hyn sy'n ffeithiol gywir: fod y Prif Weinidog yn anghywir i ddweud nad oedd gan Boris Johnson unrhyw swyddogaeth na dylanwad pellach ar sefydlu'r ymchwiliad, oherwydd bod hyn ganddo? Mae angen ymchwiliad i Gymru arnom. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn rhoi hynny i ni, ond o leiaf byddwch yn onest gyda ni. Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr. Mae'n dda i weld bod y niferoedd wedi dod i lawr, fel ŷch chi'n cyfeirio, ac rydym ni'n gwybod hyn oherwydd yr ONS a dŵr gwastraff. Mae'n glir bod canllawiau newydd wedi cael eu rhoi gerbron prifysgolion a cholegau ynglŷn â sut i ddelio â COVID nawr, ac fel rhan o hynny bydd gofyn i bobl ystyried sut maen nhw'n mynd i alluogi awyr iach i ddod i mewn i'w hystafelloedd nhw. O ran COVID hir, byddwch chi'n ymwybodol ein bod ni wedi canolbwyntio ar hwn fel Llywodraeth ac, yn sicr o'r tystiolaeth rŷn ni wedi ei chael o'n rhaglen ni, mae pobl fwy neu lai yn hapus gyda beth ŷn ni wedi cyflwyno er ein bod ni wedi dechrau'n hwyr, ond erbyn hyn dwi'n meddwl bod pethau wedi gwella. Dwi'n meddwl bod yn dal i fod rhywfaint gyda ni i'w wneud o ran plant. Beth ŷn ni'n sôn am fan hyn yw niferoedd bach iawn, felly, o'r hyn rŷn ni wedi ei weld, ychydig iawn o blant sy'n cael eu heffeithio, ond, wrth gwrs, mae gyda ni gyfrifoldeb i helpu'r rheini sydd yn blant, ac rydym ni'n cyd-fynd bod mwy o waith i'w wneud yn y maes yna. O ran— Eluned Morgan AC: —yr ymchwiliad cyhoeddus i COVID, byddwch yn ymwybodol o'n safbwynt ni ar hyn. Rydym ni wedi ei gwneud yn glir drwy'r adeg ein bod ni'n annhebygol o gael ymchwiliad cyhoeddus yng Nghymru gan ein bod ni'n system lle mae COVID wedi ei integreiddio fwy neu lai â'r DU. Roedd llawer o'r penderfyniadau a wnaethom yn benderfyniadau yn seiliedig ar ddadansoddiad a thystiolaeth a gawsom drwy Lywodraeth y DU. Yn sicr, roedd ein gallu i atal COVID rhag dod i mewn i'r wlad yn gyfyngedig oherwydd nad oes gennym reolaeth dros ofod awyr a phobl yn dod i mewn i'r wlad, ac rwy'n falch o ddweud ein bod ni wedi sicrhau bod £4.5 miliwn ar gael i fyrddau iechyd allu ymchwilio i'r holl bobl hynny sydd wedi colli anwyliaid y credir eu bod nhw wedi ei ddal mewn ysbyty. Felly, gallaf eich sicrhau nad ydym yn ymddiried yn Boris Johnson; rydym yn ymddiried mewn cadeirydd annibynnol. Byddwn yn troi at y cadeirydd annibynnol hwnnw a byddwn yn sicrhau ein bod yn cyfrannu at y cylch gorchwyl hwnnw—system, fel y mae'r Prif Weinidog wedi ei egluro o'r dechrau lle gall ef sicrhau y byddai'r cylch gorchwyl yn rhywbeth y byddai ef hefyd yn gallu dylanwadu arno. Diolch yn fawr. Eitem 4 yw'r eitem nesaf, ond nid yw'r Gweinidog yma i wneud ei datganiad. Rwy'n cynnig felly, os yw'r Gweinidog iechyd yn fodlon gwneud hynny, ac rwy'n credu bod pawb sy'n dymuno cyfrannu at eitem 5 yn y Siambr, ac o gofio ein bod ni mewn sefyllfa debyg yr wythnos diwethaf gan nad oedd y Gweinidog iechyd yn bresennol, efallai y bydd y Gweinidog iechyd yn cytuno i gamu i'r adwy yn awr. Unwaith eto, rwy'n mynd i fod yn siarad yn araf yn fwriadol er mwyn i bawb gael paratoi ar gyfer y datganiad hwn. Mae'n amlwg nad yw'n ddelfrydol. Hoffwn atgoffa pob Gweinidog bod datganiadau wedi eu hamserlennu am 30 munud bellach a bod angen iddyn nhw fod yn y Siambr yn barod i wneud eu datganiad. 5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Fframwaith Canlyniadau Iechyd a Gofal Cymdeithasol A gaf i ofyn i'r Gweinidog iechyd wneud ei datganiad ar eitem 5? Y datganiad hwnnw yw'r datganiad ar y fframwaith canlyniadau iechyd a gofal cymdeithasol. Eluned Morgan, felly. Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr, Llywydd, a diolch am siarad yn araf iawn. Eluned Morgan AC: Llywydd, a gaf i ddiolch i chi am y cyfle i amlinellu cynlluniau ein fframwaith canlyniadau iechyd a gofal cymdeithasol? Nawr, yn fy natganiad heddiw, byddaf yn amlinellu rôl a swyddogaeth y fframwaith canlyniadau, sut y mae'n cael ei ddatblygu ac yn trafod y camau nesaf arfaethedig. Mae'r Dirprwy Weinidogion a minnau wedi ymrwymo i wella iechyd a llesiant pobl Cymru. Rydym yn glir bod cynlluniau a darpariaeth gwasanaethau ar draws iechyd a gofal cymdeithasol yn canolbwyntio ar wneud y pethau iawn yn dda ac ar yr angen i gyflawni ein nodau cynaliadwyedd cenedlaethol. Mae datblygu'r fframwaith canlyniadau yn cyflawni ein hymrwymiad yn 'Cymru Iachach' i ddatblygu fframwaith canlyniadau a rennir yn seiliedig ar y nod pedwarplyg, sef gwella iechyd a llesiant y boblogaeth; gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol o ansawdd gwell a haws eu defnyddio; iechyd a gofal cymdeithasol gwerth uwch; a gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol brwdfrydig a chynaliadwy. Mae'r fframwaith yn ategu'r fframwaith canlyniadau ar gyfer pobl y mae angen gofal a chymorth arnyn nhw ac ar gyfer gofalwyr y mae angen cymorth arnyn nhw, sy'n rhan o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Bydd y fframwaith hwn, ynghyd â fframwaith canlyniadau iechyd y cyhoedd, yn parhau a bydd yn parhau i ddarparu pwyslais gwerthfawr er mwyn sicrhau gwell canlyniadau. Prif nod y fframwaith canlyniadau iechyd a gofal cymdeithasol newydd yw mesur effaith iechyd a gofal cymdeithasol, gan gydweithio o safbwynt ein dinasyddion. Mae'n blaenoriaethu nifer bach o feysydd allweddol a fydd, gyda'i gilydd, yn gwella'r canlyniadau i holl boblogaeth Cymru. Trwy fesur canlyniadau integredig, byddwn yn symud ein pwyslais o fesur yr hyn y mae'r system yn ei wneud i'r hyn y mae'n ei gyflawni i bobl. Bydd yn ein galluogi i ddangos effeithiolrwydd ein gweithredoedd ar y cyd ac yn ein helpu i ateb a ydym yn gwneud digon o'r pethau cywir yn dda. Mae'n gyfle i ddatblygu cynlluniau ac atebolrwydd ar y cyd, yn enwedig yng nghyd-destun gweithio rhanbarthol ac integredig. Gall ein ffyrdd presennol o weithio arwain at weithio tameidiog, sy'n gwneud synnwyr yng nghyd-destun sefydliadau unigol ond sy'n gwrthdaro â'i gilydd wrth edrych arnyn nhw o safbwynt y system gyfan. Os edrychwn ar ein system gofal heb ei drefnu bresennol, mae'r atebion yn ehangach na pherfformiad ambiwlansys ac adrannau achosion brys. Fel y dangoswyd gan y chwe nod gofal brys ac argyfwng, mae angen i ni edrych ar draws y system gyfan, gan gynnwys gofal cymdeithasol, a llunio nodau a rennir a chamau gweithredu integredig. Mae angen ymgorffori gwaith atal ar bob cam yn ein gweithredoedd, gan gefnogi unigolion i gadw'n iach, gan symud o system salwch i system iechyd da. Mae'r fframwaith canlyniadau yn darparu'r cyd-destun strategol ar gyfer cynllunio a darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer y dyfodol. Mae ei gyfres o ddangosyddion yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig a fydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i unigolion yng Nghymru. Datblygwyd y fframwaith yn seiliedig ar dri gwerth craidd: atal, i gefnogi'r anghenion iechyd a ragwelir i atal salwch a lleihau effaith iechyd gwael; cydraddoldeb, gwella bywydau pawb—ceir system deg sy'n sicrhau canlyniadau iechyd cyfartal i bawb drwy gau'r bylchau cydraddoldeb yng Nghymru; cyfrifoldeb unigol, cefnogi pobl i reoli eu hiechyd a'u llesiant eu hunain, gan alluogi pobl i fod yn gadarn ac yn annibynnol am fwy o amser yn eu cartrefi a'u hardaloedd eu hunain—mae hyn yn cynnwys cyflymu adferiad ar ôl triniaeth a gofal, a chefnogi camau hunanreoli cyflyrau hirdymor. Trwy gyfres o weithdai a sesiynau grŵp, rydym wedi datblygu'r agwedd lefel poblogaeth ar y fframwaith canlyniadau. Mae'n nodi'r canlyniad a ddymunir ar gyfer y boblogaeth, wedi'i ategu gan gyfres fach o ddangosyddion i fesur cyflawniad. Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i'r Gadair. Eluned Morgan AC: Mae'r canlyniad cyffredinol sydd wedi ei ddewis ar gyfer y fframwaith yn seiliedig ar y weledigaeth yn 'Cymru Iachach', sef pawb yng Nghymru yn mwynhau iechyd a llesiant da. Caiff hwn ei ategu gan 13 o gynigion ar gyfer dangosyddion poblogaeth a fydd, gyda'i gilydd, yn helpu i ddangos bod y canlyniad wedi'i gyflawni. Mae pump o'r 13 a fydd yn cael eu trafod gyda'r sector yn ddangosyddion llesiant cenedlaethol sy'n cael eu defnyddio i fonitro cynnydd yn erbyn y nodau llesiant. Ac mae gan ddau ddangosydd arall gysylltiad agos gyda'r dangosyddion llesiant cenedlaethol. Er bod pob un o'r dangosyddion arfaethedig wedi'u dewis oherwydd eu perthnasedd i iechyd a gofal cymdeithasol a'u gallu i ddylanwadu, mae'n bwysig cydnabod bod partneriaid eraill yn hanfodol i droi cornel neu wella llwybr y dangosydd dan sylw. Mae'r enghreifftiau hyn yn cynnwys helpu pobl sy'n unig a chadw teuluoedd gyda'i gilydd. Y cam datblygu nesaf fydd creu camau gweithredu integredig ar gyfer pob un o'r dangosyddion. Drwy wneud hyn, gallwn nodi beth mae angen i ni ei wneud i sicrhau'r effaith fwyaf. Unwaith y cytunir ar y camau gweithredu, byddant yn cael eu defnyddio i ddatblygu mesurau perfformiad. Bydd y mesurau perfformiad yn cael eu defnyddio i ddal sefydliadau i gyfrif am eu rolau perthnasol wrth gyflawni yn erbyn y dangosyddion poblogaeth. Mae bellach yn bryd rhannu'r gwaith yn ehangach a chyd-gynhyrchu'r manylion y tu ôl i bob dangosydd gyda'n partneriaid. Byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid i nodi'r camau gweithredu mwyaf effeithiol i wella'r cyflawni ac i wneud gwahaniaeth i unigolion a chymunedau. Dros yr haf byddwn yn ymgysylltu â rhanddeiliaid o bob rhan o Gymru i brofi'r dangosyddion a gyflwynwyd er mwyn nodi'r camau cywir y mae angen i ni eu cymryd. Er bod y rhain yn ddangosyddion ar gyfer y boblogaeth gyfan, rŷn ni'n gwybod o'r gwaith cychwynnol a'r gwersi a ddysgwyd o COVID-19 fod yr effeithiau'n wahanol i grwpiau gwahanol o'r boblogaeth. Rŷn ni wedi ymrwymo'n gryf i fynd i'r afael â'r anghydraddoldeb, felly bydd y gwaith ymgysylltu gyda rhanddeiliaid yn cynnwys sefydliadau sy'n cynrychioli grwpiau poblogaeth allweddol, megis plant a phobl ifanc, pobl hŷn, pobl o gefndir du, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol, a phobl ag anableddau dysgu. Ar gyfer pob dangosydd, defnyddir set safonol o alluogwyr, a fydd yn ystyried agweddau allweddol, megis yr iaith Gymraeg, ansawdd a gwerth, y gweithlu a thrawsnewid digidol. Bydd fframwaith terfynol yn cael ei gyhoeddi ym mis Hydref i gefnogi fframwaith cynllunio NHS Cymru ar gyfer 2023-24. Bydd y fframwaith canlyniadau iechyd a gofal cymdeithasol terfynol yn cael ei ddefnyddio i roi adroddiad cynnydd i'r Senedd ar sut mae 'Cymru Iachach' yn gwneud gwahaniaeth. Diolch, Dirprwy Lywydd. Gareth Davies AS: Diolch am y datganiadheddiw, Minister. Gareth Davies AS: A nawr y datganiad cynamserol, ac rwy'n falch fy mod o gwmpas fy mhethau y prynhawn yma. Ac rwy'n croesawu'r newid pwyslais o reoli systemau tuag at sicrhau gwell canlyniadau i'r rhai hynny sy'n dibynnu ar ein systemau iechyd a gofal, sef pob un ohonom ni, ac rwy'n mawr obeithio y bydd y fframwaith hwn yn helpu i symud pwyslais tuag at well canlyniadau i ddinasyddion Cymru ac, ar yr un pryd, yn helpu i integreiddio iechyd a gofal a dileu'r rhwystrau artiffisial rhag gofal y caniatawyd iddyn nhw dyfu. Dylai canolbwyntio ar fywydau ein dinasyddion fod yn brif flaenoriaeth i ni bob amser ond, yn anffodus, mae Llywodraethau ar bob lefel yn rhy aml yn colli golwg ar y ffaith honno. Gweinidog, rwy'n sylweddoli nad dyma ddiwedd y broses wrth ddatblygu'r fframwaith hwn, ond ychydig iawn o fanylion sydd ar gael am sut y bydd y fframwaith yn gweithredu. Felly, pryd byddwn ni'n gallu gweld manylion y dangosyddion canlyniadau, a pha ran, os o gwbl, y bydd gwahanol egwyddorion hawliau'r Cenhedloedd Unedig yn ei chwarae wrth ysgogi'r newid i ddull sy'n canolbwyntio ar y dinesydd ac sy'n seiliedig ar ganlyniadau? Gweinidog, er fy mod i'n croesawu'r pwyslais sy'n cael ei roi ar sicrhau bod hyn yn trawstorri iechyd a gofal, rwyf yn cwestiynu pam yr ydych wedi dewis rhedeg y fframwaith hwn ochr yn ochr â'r fframwaith ar gyfer pobl y mae angen gofal a chymorth arnyn nhw, ac ar gyfer gofalwyr y mae angen cymorth arnyn nhw eu hunain. Onid ydych chi'n cytuno y byddai cael un fframwaith integredig sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau sy'n trawstorri iechyd a gofal yn ddewis gwell? Ac yn yr un modd, pam y mae angen fframwaith canlyniadau iechyd y cyhoedd arnom hefyd, neu'r llu o fframweithiau eraill sydd gennym? Fy ofn i yw, drwy ddyblygu cyfrifoldebau ar draws y fframweithiau lluosog, na welwn y newid pwyslais tuag at ganlyniadau. Onid ydym yn ychwanegu at y dulliau systemau y buom yn ceisio symud oddi wrthyn nhw i ddechrau? Mae gen i bryderon hefyd ynghylch sut y byddwn yn mesur cynnydd o'i gymharu â'r nodau a'r dangosyddion a fydd yn ffurfio'r fframwaith terfynol. Felly, Gweinidog, sut caiff cynnydd ar hyn ei fonitro a pha offerynnau fyddwn ni'n eu defnyddio mewn gwirionedd i fonitro'r cynnydd hwn? A fyddwch chi'n dibynnu unwaith eto ar arolwg cenedlaethol i Gymru, ac ydych chi'n credu bod dibynnu ar rywbeth nad yw'n ddim mwy na phôl piniwn yn ffordd ddigonol o asesu gwelliannau i'r modd y darperir iechyd a gofal? Ydych chi wedi cael unrhyw drafodaethau gyda chydweithwyr yn y Cabinet ynglŷn â'r ffordd orau o ddefnyddio gwelliannau technolegol i gasglu ystod ehangach o safbwyntiau a monitro canlyniadau drwy gydol y flwyddyn? Yn olaf, Gweinidog, rwy'n sylwi y byddwch chi'n ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid dros yr haf, ac rwy'n gobeithio bod hynny'n cynnwys y rhanddeiliaid pwysicaf, sef dinasyddion Cymru, yn wir. Edrychaf ymlaen at weld y fframwaith yn fanylach a gweithio gyda chi i ddarparu system gofal wirioneddol integredig sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Diolch. Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr. Rwy'n falch ein bod ni ar yr un dudalen o ran hyn. Felly, rwy'n awyddus iawn i roi'r gorau i fod mewn sefyllfa lle rydym yn edrych yn gyson ar faint o arian yr ydym yn ei roi i'r system. Yr hyn y mae'n rhaid i ni ddechrau ei fesur yw'r hyn sy'n dod allan y pen arall. Pa wahaniaeth y bydd yn ei wneud i'r cyhoedd ac i gleifion? Ac os gallwn ni wneud hynny mewn ffordd effeithlon ac effeithiol, gan fesur yr hyn sy'n bwysig i bobl—dyna'r peth arall. Mae'n bwysig iawn nad yw'n ymwneud â cheisio sicrhau bod pobl yn—ein bod ni'n gwella pobl, ond yn colli diben eu bywydau mewn gwirionedd. Dyna sy'n sylfaenol yn 'Cymru Iachach' mewn gwirionedd. Mae'n ceisio yn wirioneddol i greu system sy'n canolbwyntio'n wirioneddol ar yr hyn sy'n bwysig i bobl. Gallaf eich sicrhau chi mai'r hyn yr ydym yn ceisio'i wneud yma yw osgoi dyblygu. Nawr, mae llawer o bethau yn digwydd yma, ond dyma'r math o fframwaith ymbarél y bydd rhai o'r pethau eraill yn cael eu mesur oddi tano. Felly, mae gennym ni ddeddfwriaeth eisoes, er enghraifft, yn y Ddeddf gofal cymdeithasol y mae'n rhaid i ni gydymffurfio â hi, ond a fydd yn dod o dan yr ymbarél hon bellach, yn yr ystyr y bydd angen i ni wybod ble maen nhw'n cwrdd. Felly, mae cyfrifoldebau ar ofal cymdeithasol, er enghraifft, i sicrhau bod pobl yn derbyn gofal yn eu cartrefi eu hunain, ond ni ellir datgysylltu hynny oddi wrth y ffaith bod pobl, mewn gwirionedd, ar hyn o bryd, yn sownd yn yr ysbyty, nid ydyn nhw'n gallu mynd allan o gartrefi—rydym yn mynd i edrych ar integreiddio'r system yn ei chyfanrwydd. Adrannau damweiniau ac achosion brys—mae problem yn y fan yna. Felly, mae dod â hyn i gyd at ei gilydd a sicrhau bod pawb yn gwybod beth yw eu cyfrifoldeb yn mynd i fod yn hanfodol, a gallaf eich sicrhau chi y bydd llawer o wahanol ffyrdd o fonitro. Felly, un o'r pethau yr wyf wedi bod yn ei wneud heddiw yw mynd drwy'r cynlluniau tymor canolig integredig ym mhob un o'r byrddau iechyd yn fanwl iawn. Nid wyf i'n credu eu bod nhw wedi gweld unrhyw un yn mynd trwyddyn nhw â chrib fân yn y ffordd yr wyf i'n mynd trwyddyn nhw ar hyn o bryd. Ac mae hyn dim ond yn edrych ar: beth sydd yn eich rhaglen chi? Beth sydd ar goll o'ch rhaglen chi? Rwy'n mynd i fod yn gwbl glir ynglŷn â'r hyn sydd ar goll o'r rhaglenni hynny, ond byddaf i hefyd yn ceisio sicrhau bod gennym ni'r pwyslais yn y lle iawn. Ar ben hynny, bydd llythyr y cadeirydd—y llythyr y byddaf yn ei anfon at y cadeirydd, a byddaf yn dwyn cadeiryddion i gyfrif ar sail hynny. Ac yn amlwg mae gennym ni dargedau hefyd, y byddwn yn eu monitro, ac rwy'n siŵr, fel pwyllgor, y byddwch chi'n dymuno eu monitro hefyd. Gallaf eich sicrhau chi na fyddwn yn cymryd ein hadroddiadau o arolwg Cymru yn unig. Rwy'n credu ei bod yn bwysig i ni fynd ychydig yn bellach o dan y boned, ac rwy'n gwbl benderfynol ein bod yn mesur cynnydd. Ond mae hyn yn ymwneud ag atal. Mae llawer ohono'n ymwneud ag atal ac, yn y gorffennol, nid wyf i'n credu—. Gan fod atal yn rhaglen tymor hwy, nid ydym wedi ei fesur yn yr un ffordd. Rwy'n gwbl benderfynol o geisio cyrraedd man lle'r ydym yn mesur gwaith atal fel ein bod yn gweld y newid yn y pwyslais yn ein holl wasanaethau tuag at hynny. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch, Weinidog, am y datganiad yma. Dwi ddim yn anghytuno efo'r cynnwys—efo cynnwys y geiriau—a dydw i ddim yn anghytuno efo'r nod yn fan hyn. Pwy fyddai'n anghytuno efo'r nod o drio creu cenedl fwy iach? Beth sy'n fy mhoeni i braidd ydy y gallwn ni gael ein clymu yn fan hyn yn siarad mwy eto am beth rydyn ni'n trio ei gyflawni ond dydyn ni ddim yn gweld y camau cadarn hynny sydd yn mynd â ni gam wrth gam, yn brasgamu tuag at y nod. Mae'r Gweinidog yn hollol iawn i ddweud: Rhun ap Iorwerth AC: 'Mae angen ymgorffori gwaith atal ar bob cam yn ein gweithredoedd'. Rhun ap Iorwerth AC: Mae hynny mor, mor wir, ond dydw i ddim yn gweld yr arwyddion o'r math o chwildro y buaswn i'n licio ei weld. Dwi'n cofio, ar ôl datganiad diweddar, gwnes i gyhuddo'r Gweinidog o fod wedi colli nought oddi ar ddiwedd rhyw ffigur oedd yn cael ei wario ar fesurau ataliol, a dwi'n ei feddwl o. Hynny ydy, mae'n rhaid inni anelu yn y pen draw at allu gwario llai ar ofal iechyd, a'r ffordd o gyrraedd y nod honno ydy ein bod ni'n genedl iachach oherwydd bod yna symiau rhyfeddol o fawr wedi cael eu gwario ar yr ataliol ym mhob ffurff, ond hefyd bod yna newid meddwl am y fath o gyfundrefn iechyd a gofal a llesiant rydyn ni'n chwilio amdani hi. Felly, ie, does yna ddim anghytuno ynglŷn â phwysigrwydd yr ataliol. Does yna ddim anghytuno gen i ynglŷn â'r ail o'r tair egwyddor: cyfartaledd rhwng pobl. Mae hynny'n hollol, hollol allweddol. A dwi'n meddwl, mewn cyfres o ymyriadau yn ddiweddar, mae Plaid Cymru wedi bod yn pwysleisio'r modd mae anghydraddoldebau wedi bod yn gwaethygu, nid yn gwella, yma yng Nghymru. A'r drydedd egwyddor yna—rhoi'r gallu i'r unigolyn i gymryd cyfrifoldeb ac i wneud y penderfyniadau iawn—wrth gwrs mae honno'n bwysig, ond mae yna gymaint o bobl sy'n methu â gwneud y penderfyniadau iawn oherwydd yr amgylchiadau maen nhw wedi canfod eu hunain ynddyn nhw, oherwydd bod anghydraddoldebau yn eu cloi nhw mewn cylch dieflig, os liciwch chi. Felly, mae eisiau adnabod lle mae'r blockage. Mae angen gallu adnabod beth sy'n atal y Llywodraeth go iawn rhag gallu gweithredu mewn ffordd integredig a dod â'r holl elfennau o lywodraethiant—tai, iechyd, addysg, cymdeithas, economi, y cyfan— at ei gilydd, a dydy'r ateb i hynny ddim mewn fframwaith o'r math yma, er bod yr amcanion yna. Felly, yr un cwestiwn: ydy'r Gweinidog yn cytuno efo fi ei bod hi'n amhosib gwella'r allbynau heb gael gwared ar yr anghydraddoldebau sy'n ein dal ni nôl fel cenedl a chymdeithas ar hyn o bryd? Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr. Wel, i ateb y cwestiwn olaf, 'Ydy hi'n amhosibl gweld gwahaniaeth yn yr allbynau?', wel, na, dyna pam mae gwneud rhywbeth ynglŷn ag anghydraddoldeb yn rhan allweddol o beth rydyn ni'n ei mesur fan hyn. Dwi'n awyddus iawn i beidio â jest siarad fan hyn; dwi'n glir iawn mai beth sydd ei angen yw pethau rydyn ni'n gallu eu mesur, a dwi'n benderfynol i sicrhau bod hynny'n bosibl yn y maes atal, yn ogystal â chlirio'r rhestrau aros. Mae hi mor hawdd i gyfrif faint o hip operations sydd angen eu gwneud. Mae'n lot mwy anodd i ddweud, 'Reit, rŷm ni'n mynd i weld llai o blant yn mynd i'r ysgol yn ordew.' Ond dwi yn meddwl ei fod e'n bwysig ein bod ni'n canolbwyntio ar hynny, a dwi'n meddwl bydd yna bwysau arnom ni i ganolbwyntio bron â bod yn llwyr ar glirio'r rhestrau aros yma, ond dwi'n meddwl byddai hwnna'n gamgymeriad, achos os nad ydym, fe fydd y system jest yn llenwi lan eto. Ac felly, dyna pam, i fi, mae'n hollbwysig ein bod ni'n canolbwyntio ar y mesurau ataliol yma ar yr un pryd â chlirio'r rhestrau aros yna. A jest ynglŷn â'r cyfrifoldeb ar yr unigolyn, dwi'n meddwl bod hwn—. Mae'n swnio'n dda, ond, actually, rŷm ni wedi treulio dwy flynedd yn dweud wrth unigolion yn union beth i'w wneud, yn union ble i fynd, yn union pryd i adael eu tŷ nhw, yn union pwy i gwrdd â nhw, sut i gwrdd â nhw. Felly, mae'r sifft yna yn mynd i fod yn eithaf anodd, achos rŷm ni wedi bod yn eithaf paternalistic dros y ddwy flynedd diwethaf. Nawr, mae angen i ni gael pobl i gymryd y cyfrifoldeb drostyn nhw eu hunain. Dwi ddim yn meddwl ein bod ni'n mynd i'w gadael nhw ar ben eu hunain i wneud hynny. Rŷm ni'n cydnabod bod rhai pobl yn gallu gwneud hynny yn well nag eraill, ond dwi yn meddwl bod pethau newydd gyda ni i'n helpu ni gyda hwnna. Dwi'n meddwl bod mesurau digidol, er enghraifft, lle rŷm ni'n gallu helpu pobl i helpu eu hunain hefyd, a does dim rheswm pam na allwn ni ddefnyddio mesurau newydd modern i'n helpu ni gyda mynd i'r afael â rhai o'r problemau yma. Diolch i'r Gweinidog. 4. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Safon Ansawdd Tai Cymru 2 Yr eitem nesaf heddiw yw eitem 4 ar yr agenda, datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, safon ansawdd tai Cymru 2, a galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, i wneud y datganiad. Julie James AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Heddiw, rwy'n lansio'r ymgynghoriad ffurfiol ar gyfer safon ansawdd tai arfaethedig Cymru 2023. Cyflwynwyd y SATC wreiddiol, fel y gelwir hi, yn 2002 ar gyfer gwella ansawdd tai cymdeithasol yng Nghymru. Ynghyd â'n partneriaid cyflenwi landlordiaid cymdeithasol, rydym ni wedi buddsoddi biliynau o bunnau dros ddau ddegawd i wella a chynnal ansawdd cartrefi cymdeithasol mewn ffordd sylweddol ledled Cymru drwy gyfrwng y SATC, ac fe weithiodd hynny i raddau helaeth iawn. Erbyn diwedd 2020, roedd 99 y cant o dai cymdeithasol yng Nghymru yn cyrraedd y SATC wreiddiol, safon sy'n llawer mwy heriol nag yn unrhyw un o wledydd eraill y DU. Mae'r SATC bob amser wedi bod yn safon wrthdlodi, gan sicrhau tai o ansawdd uchel i rai o'n cartrefi a'n cymunedau mwyaf agored i niwed. Yn rhychwantu chwe gweinyddiaeth, mae'r SATC yn enghraifft o sut y gall Llywodraethau, yn wir, edrych i'r hirdymor, gan fuddsoddi mewn polisïau a rhaglenni hirdymor, gyda modelau ariannu hirdymor. Rydym ni wedi galluogi landlordiaid cymdeithasol i fuddsoddi gyda hyder mewn asedau a chymunedau yn yr hirdymor, ac mae hyn wedi arwain at godi safon tai cymdeithasol yng Nghymru. Mae pawb yn derbyn bod ymgartrefu mewn cartref o safon yn dod â manteision i lesiant corfforol a meddyliol y rhai sy'n trigo ynddyn nhw. Yn wir, mae'r pandemig wedi newid dulliau pobl o fyw, sut maen nhw'n teimlo am eu cartrefi a'u disgwyliadau yn hynny o beth. Hon yw'r adeg iawn i adolygu'r safon, gan gydnabod y newid hwn, yn ogystal â'r argyfwng costau byw digynsail sy'n wynebu pobl Cymru. Ac wrth wneud hynny, mae'n rhaid i ni godi'r safon eto, gan fynd ymhellach i sicrhau bod cartrefi cymdeithasol yn bodloni nid yn unig y disgwyliadau newydd, ond, wrth gwrs, eu bod nhw'n ymateb i'r argyfwng newid hinsawdd gan leihau'r allyriadau carbon a achosir gan dai cymdeithasol. Mae'r safon arfaethedig ar gyfer SATC 2023 yn adeiladu ar gyflawniadau rhagorol ei rhagflaenydd. Mae'r safon newydd yn cadw at ofynion wrthdlodi yn ei gofynion hi, gan gyflwyno'r gofyniad i ddarparu lloriau drwy'r cartref i gyd ym mhob tenantiaeth newydd, gwella effeithlonrwydd ynni a lleihau amlygiad i sŵn, gyda'r nod o roi mwy o arian ym mhocedi'r tenantiaid a chefnogi eu cysur a'u llesiant nhw. Fe fydd hefyd yn cyflwyno safonau o ran effeithlonrwydd gyda dŵr ac yn annog landlordiaid i ystyried cyfleoedd o ran bioamrywiaeth. Mae'r safon arfaethedig yn ceisio bod yn uchelgeisiol, ond yn gyraeddadwy yn y pen draw. Ein nod ni o ran yr ymgynghoriad yw sicrhau bod llais y sector yn cael ei ystyried wrth gwblhau'r safonau hyn, a'u cael nhw'n hollol iawn. Nid wyf i'n ymddiheuro am gynnig yr hyn y bydd rhai yn ei ystyried yn ddull beiddgar; rwy'n benderfynol y dylid codi'r safonau eto. Yn wyneb yr argyfwng costau byw a'r argyfwng newid hinsawdd, nid ydym ni'n gallu sefyll yn ein hunfan. Mae'n rhaid i ni barhau i wthio cynnydd a gosod safonau i fynd i'r afael â datgarboneiddio drwy amrywiaeth o fesurau gyda'r tai cymdeithasol presennol. Cefnogwyd yr elfennau technegol yn y safon gan arbenigwyr sydd wedi edrych ar beth arall sy'n digwydd ledled y DU a thu hwnt, ac wedi helpu i ddatblygu safon arfaethedig sy'n cadw Cymru ar y rheng flaen o ran datgarboneiddio tai cymdeithasol. Fe glywyd lleisiau dros 900 o denantiaid wrth lunio'r safon newydd sy'n adlewyrchu eu hanghenion nhw, eu dymuniadau a'u dyheadau nhw ar gyfer eu cartrefi. Ac rydym ni wedi gweithio yn agos iawn gydag ystod eang o randdeiliaid, gan wrando ac ystyried eu pryderon a'u heriau nhw wrth ddrafftio'r safon arfaethedig newydd hon. Mae'r dull cydweithredol hwn wedi bod yn sail i ddatblygiad SATC 2023 hyd yn hyn, ac fe fydd honno'n parhau i fod yn sail i'n dull ni o ymgynghori ar y safonau a'u mireinio nhw wrth symud ymlaen. Fe fydd safonau arfaethedig SATC 2023 yn cael eu cyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad o 11 o fis Mai ac fe fyddan nhw'n agored i randdeiliaid ymateb am 12 wythnos. Mae ein tenantiaid tai cymdeithasol ni'n haeddu'r safonau gorau posibl y gallwn ni eu llunio. Mae cyrraedd ein nodau ni o ran Sero Net Cymru yn ei gwneud hi'n ofynnol i ni wneud cynnydd pendant ac rwyf i o'r farn y bydd y safonau hyn yn helpu i lywio'r cynnydd hwn. Fy ngobaith pybyr i yw y bydd y safonau hyn nid yn unig yn cael eu dwyn i'r amlwg ar gyfer tai cymdeithasol, ond y gallai deiliadaethau eraill hefyd ystyried yn y dyfodol sut y gellid bodloni a rhagori ar y disgwyliadau hyn, ac rwy'n annog rhoi safbwyntiau drwy'r ymgynghoriad ynglŷn â sut y gallai'r safon hon weithio i bawb. Diolch. Janet Finch-Saunders AC: Diolch i am y datganiad, a, Gweinidog, a gaf i ddweud pa mor braf yw eich gweld chi'n ôl yn y Siambr hon a'n bod ni wedi meddwl llawer amdanoch chi yn ystod yr wythnosau diweddar? Julie James AC: Diolch i chi, Janet. Janet Finch-Saunders AC: Nawr, rwyf i yn cytuno â'r egwyddor sylfaenol bod rhaid i dai sy'n perthyn i gymdeithasau ac awdurdodau lleol fod mewn cyflwr da, deniadol a chyfanheddol, ond rwy'n credu y gallai rhai holi a yw safon ansawdd tai Cymru wedi gweithio hyd eithaf ei gallu. Mae canlyniadau arolwg y tenantiaid yn dweud llawer: dim ond 53.6 y cant o'r ymatebwyr a oedd o'r farn fod eu cartref nhw mewn cyflwr da; dim ond 60.3 y cant a oedd o'r farn fod eu cartref nhw'n bodloni gofynion penodol yr aelwyd; ac nid oedd 44 y cant wedi clywed erioed am safon ansawdd tai Cymru. Felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddech chi'n amlinellu pa fesurau y byddwch chi'n eu cymryd i sicrhau bod tenantiaid yn cael gwybod am y safonau hyn, a sut y maen nhw'n teimlo eu bod wedi eu grymuso i sicrhau'r newidiadau angenrheidiol. Rwy'n ymwybodol hefyd, oherwydd rhai cyfarfodydd a gynhaliwyd yn ddiweddar, sut weithiau, pan gynigir cyfle i denantiaid gael rhai gwelliannau—efallai mai systemwresogi neu ffenestri newydd sydd dan sylw, ac fe wn i fod hyn wedi codi yn ein pwyllgor ni, ynghylch datgarboneiddio tai—fod tenantiaid weithiau ychydig yn amharod i ganiatáu i gontractwyr fynd i mewn. Felly, mae'n debyg mai fy nghwestiwn rhif 1 yw gofyn sut efallai y byddech chi yn y Llywodraeth yn gallu gwneud ein tenantiaid ni yn fwy ymwybodol o'r safonau hyn o ran ansawdd tai, a sut i fagu hyder y tenantiaid wedyn i ganiatáu i'r gwaith hwn gael ei wneud, oherwydd fe fydd o les mawr iddyn nhw. Ar y llaw arall, rydych chi'n cytuno â mi, rwy'n siŵr, Gweinidog, fod rhai tenantiaid yn dweud eu bod nhw wedi bod yn aros hyd at 10 mlynedd i orffen rhai atgyweiriadau. Mae hi'n bwysig ystyried hefyd a yw SATC yn mynd ar drywydd gwaith atgyweirio ac adnewyddu sy'n rhesymol. Roeddech chi'n cyfeirio at loriau, effeithlonrwydd ynni a lleihau amlygiad i sŵn. Er hynny, mae tystiolaeth oddi wrth Linc Cymru, ClwydAlyn a Grŵp Pobl wedi tynnu sylw, er enghraifft, at y ffaith bod rhaid iddyn nhw newid y ceginau bob 15 mlynedd yng Nghymru, ond bob 20 mlynedd y mae angen newid y ceginau, sydd o'r un gwneuthuriad, yn Lloegr. Ystafelloedd ymolchi yn yr un modd, sef 25 mlynedd yng Nghymru a 30 mlynedd yn Lloegr. Nawr, mae'r cymdeithasau tai yn tynnu sylw mewn ffordd amlwg at y ffaith bod landlordiaid cymdeithasol Cymru yn gorfod talu gwerth miliynau o bunnau o gostau yn ddiangen. Felly, a wnewch chi edrych ar hynny, neu ymateb i hynny, ar gyfer ystyried a ellid rhyddhau cyllid i'w wario ar faterion eraill sy'n ymwneud â chartrefi cymdeithasol? Mae'r arian yn achos pryder mawr. Mae landlordiaid cymdeithasol yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu cartrefi carbon isel er lles eu tenantiaid nhw, yr amgylchedd a'r blaned. Er hynny, maen nhw wedi egluro i'r pwyllgor newid hinsawdd y dylai materion o ran diogelwch fod â mwy o flaenoriaeth nag uchelgeisiau datgarboneiddio, os yw'r adnoddau yn brin. Mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru wedi cyhoeddi adroddiad sy'n nodi y bydd £5.5 biliwn o gost i ôl-osod pob tŷ cymdeithasol i fodloni gradd tystysgrif perfformiad ynni yng Nghymru. Felly, fe fyddai hynny'n cyfateb i gyfartaledd o £24,000 y cartref. A ydych chi'n cytuno â chostau Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, ac, os felly, a fydd Llywodraeth Cymru yn rhoi'r cyllid hwn sydd ei angen? Mae Cartrefi Cymunedol Cymru hyd yn oed wedi datgan y bydd angen i fodel ariannu safon 2 ansawdd tai Cymru roi sicrwydd digonol i fyrddau pob landlord cymdeithasol y gellir bodloni'r safon heb beryglu amcanion y sefydliad arall. Lle bwriedir gwneud gwaith, mae hi'n ffaith, fel soniais i'n barod, fod landlordiaid cymdeithasol yn wynebu gwrthsafiad gan denantiaid. Yn ôl astudiaeth y gronfa datgarboneiddio tai cymdeithasol, y prif faterion sy'n achosi gwrthwynebiad y tenantiaid yw bod ag ystafelloedd na ellir eu defnyddio yn ystod gwaith sydd ar 43 y cant; yr amser y bydd y gwaith yn ei gymryd, ar 45 y cant; y tarfu oherwydd sŵn y gwaith ar 60 y cant, ac mae eraill yn casáu unrhyw newid o gwbl ac mae'r gyfradd honno ar 62 y cant. Felly, er fy mod i'n sylweddoli bod gwrando ar leisiau dros 900 o denantiaid wedi digwydd, o gofio'r ystadegau hyn, sut ydych chi, wrth symud ymlaen, yn bwriadu cyflawni'r nod o sicrhau nad yw tenantiaid ar eu colled o ganlyniad i'r gwaith datgarboneiddio yn eu cartrefi nhw, ac y gallwn ni i gyd weithio gyda'n gilydd i sicrhau ein bod ni'n cyrraedd safonau ansawdd tai Cymru i'r graddau pryd y gall pob un o'n tenantiaid ni elwa ar hynny? Diolch i chi. Julie James AC: Wel, diolch yn fawr iawn i chi, Janet. Rydych chi'n codi rhai pwyntiau diddorol iawn a rhai materion o egwyddor. Felly, o ran y materion o egwyddor, mae hi'n amlwg ein bod ni'n wynebu her ynglŷn â'r hinsawdd. Rydych chi, rwy'n siŵr, wedi gweld yr adroddiad diweddaraf sy'n mynegi ein bod ni'n edrych ar rai o'r blynyddoedd poethaf a gofnodwyd erioed. Ac, felly, mae hyn yn ymwneud â sicrhau bod cartrefi pobl yn addas ar gyfer hynny. Felly, nid yw hyn yn ymwneud â gwresogi yn ystod y gaeaf yn unig; mae hyn yn ymwneud hefyd â'u cadw nhw'n oer yn ystod yr haf, eu gwneud nhw'n addas i'w diben. Fe wyddom ni mai hyd at EPC D yr ydym ni newydd godi safon ansawdd tai Cymru, ac mae hwnnw'n welliant sylweddol iawn o'i gymharu â'r hyn a gafwyd o'r blaen, ond mae hi'n amlwg nad yw hynny'n agos at y safon yr ydym ni'n disgwyl ei chyrraedd i ymateb yn effeithiol i newid hinsawdd. Felly, un o'r pethau cyntaf yr ydym ni'n ei wneud yw edrych ar y safon dros gyfnod ymarferol o amser. Yn amlwg, ni chaiff pawb ei dro yn ystod y flwyddyn gyntaf, felly fe fydd hi'n cymryd 10 mlynedd arall i ni gyrraedd y fan. A mater i gymdeithasau tai a chynghorau fydd cynllunio sut y byddan nhw'n cyrraedd y fan, a pha rai yw'r tai anoddaf i'w haddasu, neu'r hawsaf i'w haddasu, hyd yn oed, mewn rhai achosion, a chynllunio ar gyfer hynny dros y cyfnod hwnnw. Hefyd, rydym ni'n ymwybodol iawn bod rhaglenni gennym ni fel y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio a'r rhaglen tai arloesol sy'n gyfredol ar hyn o bryd, ac maen nhw'n profi technolegau i ni. Felly, yn ystod y cyfnod o 10 mlynedd, fe fydd yna dechnolegau ar gael iddyn nhw nad ydyn nhw ar gael nawr, neu fe allai'r dechnoleg gostio lawer yn llai yn y dyfodol nag ar hyn o bryd, ac ati. Felly, mae hi'n bwysig iawn bod gan y safon allbwn yn hytrach na—. Nid wyf i am ddweud y bydd rhaid i chi gael pwmp gwres o'r awyr, neu y bydd raid i chi gael y naill beth neu'r llall; yr allbwn sy'n bwysig. Fe fydd yn rhaid i'r cartref fod â chyfradd safonol o ddatgarboneiddio, fe fydd yn rhaid iddo fod ag effeithlonrwydd ynni safonol ac ati. Ac yna fe fydd ein llwybr ni'n dibynnu ar sut fath o dŷ ydyw. Ac rydych chi'n gwybod ein bod ni wedi bod yn profi'r gwahanol fathau o bethau sy'n gweithio ar wahanol fathau o dai gan ddefnyddio'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio, felly rydym yn disgwyl dysgu o'r pethau hyn i gyd wrth symud ymlaen. Dyna pam hefyd yr ydym ni'n ymgynghori â'r tenantiaid wrth gwrs, oherwydd rydych chi yn llygad eich lle: nid yw rhai pobl yn hoff o newid, nid yw rhai'n gallu ymdopi wrth i un ystafell beidio bod ar gael ac ati. Rydym ni'n edrych hefyd, o ran rhai pobl, fe fydd angen dod o hyd i rywle arall iddyn nhw fyw am gyfnod wrth i'w cartref nhw gael ei ôl-osod, ac roedd hynny'n wir am hen safon ansawdd tai Cymru hefyd, mewn gwirionedd. Felly, roedd gennym ni bobl yn symud i rywle arall am dri neu bedwar mis tra bod eu cartref nhw'n cael ei ôl-osod. Yr hyn a wyddom ni yw, pan fo pobl yn symud yn ôl i mewn, maen nhw'n nhw'n hapus iawn â'r hyn y maen nhw'n ei ganfod. Ac o ran pethau fel pa mor aml ydych chi'n newid eich cegin, pa mor aml ydych chi'n newid eich ystafell ymolchi, eto mae hynny'n dibynnu ar yr hyn yr ydych chi'n ei nodi. Felly, nid oes neb yn dymuno cael gwared ar bethau sy'n dal i weithio yn berffaith iawn—mae ôl troed carbon i hynny hefyd. Ond, ar yr un pryd, rydym ni'n awyddus hefyd i bobl fod â'r defnydd mwyaf effeithlon a mwyaf effeithiol o leoedd ac offer. Felly, mae hyn i gyd yn ymwneud ag ymgynghoriad, onid yw? Mae hyn i gyd yn ymwneud â phob cymdeithas dai unigol, pob cyngor unigol, ymgynghori mewn ffordd briodol â'i thenantiaid, rhoi rhaglen waith iddyn nhw, ac yna cytuno ar honno. Ni chawn ni gefnogaeth 100 y cant i unrhyw un o'r pethau hyn; mae rhai pobl yn casáu unrhyw newid yn eu tŷ nhw ni waeth pa fanteision sy'n dod yn eu sgil nhw, ac rydym ni wedi gweld enghreifftiau o hynny mewn cymdeithasau tai dros y cyfnod. Ond rwy'n credu y bydd modd gwneud y pethau hyn i gyd os bydd pobl yn deall beth fydd y canlyniad iddyn nhw, ac os mai'r canlyniad hwnnw yw cartref gwell sy'n fwy diogel ac effeithlon o ran ynni, ac yn fwy ffasiynol ac yn fwy modern yn y cyfnod dan sylw, yna fe fydd y rhan fwyaf o bobl yn dod ar y daith honno gyda nhi. Ni wnewch chi fyth blesio pawb bob amser. Ond rwy'n falch iawn o'r ffordd y gwnaethom ni ddod i'r fan hon. Felly, gan ddysgu o'r gwersi hynny gan y rhaglen tai arloesol a'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio, gan ddysgu oddi wrth gymdeithasau tai gwirioneddol dda fel ClwydAlyn ac yn y blaen, sydd wedi gwneud llawer o waith yn hyn o beth, fe fyddwn ni'n gallu cyflwyno hyn mewn ffordd sy'n addas i'r mwyafrif llethol o'r tenantiaid sydd gennym ni, yn fy marn i. Mabon ap Gwynfor AS: A gaf innau ategu geiriau Janet ynghynt, a dweud pa mor dda ydy o i weld y Gweinidog nôl, a'n bod ni wedi bod yn meddwl amdani a'i theulu yn ystod y cyfnod anodd diweddar? Ond diolch i'r Gweinidog am y cyhoeddiad heddiw. Wrth gwrs, mae gosod safonau ar ansawdd tai yn beth da iawn, ac mi rydyn ni wedi gweld gwella yn safon nifer o'n tai ni. Ond erys y ffaith bod canran fawr iawn o'r tai yn y sector cyhoeddus yn parhau i fod yn israddol. Mi ddaru'r Gweinidog ddweud ar ddechrau ei datganiad bod 99 y cant yn cyrraedd y safonau gwreiddiol ddaru gael eu gosod, ond mae bron i 55,000 o dai cyhoeddus yng Nghymru yn yr hyn y maen nhw'n ei alw'n 'compliant subject to acceptable fails'. Mae hyn yn bron i chwarter o'r stoc tai cyhoeddus. Rŵan, mae acceptable fails yn golygu nifer o wahanol bethau. Yn amlach na pheidio, mae'n golygu nad ydy rhywun yn medru fforddio i'w gael o i'r lefelau angenrheidiol. Felly, ydy'r Gweinidog yn meddwl bod hyn yn nifer derbyniol? Mae ystadegau diweddar hefyd yn dangos ein bod ni'n gwybod, wrth gwrs, fod tua 15 y cant o'r stoc dai yn rhent preifat, a thua'r un nifer, neu ychydig yn fwy, 16 y cant, o'r stoc dai yn rhent cymdeithasol. Ond o'r rhai rhent cymdeithasol, mae 93 y cant ohonyn nhw yn dai sydd yn glir o beryglon—does yna ddim peryglon ynddyn nhw. Ond yn y stoc breifat, dim ond 75 y cant—tri chwarter ohonyn nhw—sy'n glir o beryglon. Hefyd, mi rydym ni'n gwybod bod perfformiad llawer iawn is o ran rhyddhau ynni a pherfformiad ynni yn y sector preifat. Felly, beth mae'r Gweinidog am ei wneud er mwyn cau'r bwlch yma rhwng y sector preifat a'r sector cyhoeddus, er mwyn gwneud yn siŵr bod pob tŷ yng Nghymru yn cyrraedd y safonau gofynnol yma? Tra bod camau wedi cael eu cymryd i sicrhau bod tai cyhoeddus yng Nghymru yn ynni effeithiol, fel rydyn ni wedi sôn, y gwir ydy nad ydyn nhw hyd yn oed yn cyrraedd y lefel angenrheidiol ar hyn o bryd. Mae ôl-ffitio yn parhau i fod yn her anferthol. Ac er fy mod yn croesawu eich bod chi wedi blaenoriaethu datgarboneiddio, y gwir ydy bod y costau i fynd i'r afael ag ôl-ffitio a datgarboneiddio yn anferthol. Fedrwch chi ddim disgwyl i'r sector tai cyhoeddus godi rhent er mwyn talu'r costau ôl-ffitio yna. Ac yn yr hinsawdd bresennol, efo costau adeiladu yn cynyddu mor aruthrol, mae hi'n mynd i fod yn anodd iawn i'r sector benderfynu a ydyn nhw'n mynd i adeiladu tai newydd ynteu ôl-ffitio. Felly, lle mae'r sector am gael y pres ychwanegol angenrheidiol yna er mwyn sicrhau eu bod nhw'n cyrraedd y safonau gwresogi yna? Yna, wrth edrych ar yr ymgynghoriad newydd rydych chi'n ei gyflwyno, mae'n rhaid i ni gofio bod Cymru 2023 yn wahanol iawn i Gymru 2002. Ac un o'r hanfodion newydd, wrth gwrs, yn yr oes yma ydy band eang. Gaf i ofyn wedyn a fyddwch chi, yn ystod eich ymgynghoriad, yn fodlon ystyried gofyn y cwestiwn ynghylch pa mor bwysig ydy cael mynediad i fand eang a sicrhau bod band eang ar gael ym mhob tŷ fel rhan o'r safonau hynny? Yn ogystal, mae cymdeithas, o'r diwedd, yn dod i werthfawrogi bod gan bawb yr hawl i dŷ sydd yn addas i bwrpas, a phawb â'u hanghenion gwahanol nhw—rhai, wrth gwrs, efo clefydau, rhai efo rhywbeth fel motor neurone disease, rhai'n methu â gweld yn glir, efo nam ar eu llygaid, rhai'n methu â symud, ac yn y blaen, ac yn y blaen. Pa waith ydych chi felly, fel Llywodraeth, yn ei wneud er mwyn adnabod anghenion pobl sydd efo'r gwahanol anghenion yma, a sicrhau bod hyn yn rhan o'r ystyriaeth wrth ein bod ni'n symud ymlaen i safon tai Cymru 2? Ac yn olaf yr un pryd byddwch chi hefyd yn gwerthfawrogi bod safon byw mewn tŷ nid yn unig yn ddibynnol ar frics a morter; mae'n ddibynnol ar y gwasanaethau sydd ar gael hefyd. Felly, yn yr ymgynghoriad yma ar gyfer safon tai Cymru 2, a fyddwch chi hefyd yn fodlon ystyried yr angen i edrych ar gael mynediad at wasanaethau o ran trafnidiaeth gyhoeddus a pha mor hawdd ydy hi i bobl fyw yn y cymunedau hynny lle mae'r tai am gael eu hadeiladu? Diolch yn fawr iawn. Julie James AC: Diolch yn fawr, Mabon. A diolch yn fawr am eich sylwadau chi ar y dechrau, yn arbennig. Rydych chi'n gwneud nifer o bwyntiau da iawn, ac un o'r rhesymau yr ydym ni'n mynd am ymgynghoriad yw ar gyfer tynnu sylw at rai o'r pethau hyn. O ran y methiannau derbyniol a welsom ni eisoes, rwy'n awyddus iawn i edrych eto ar yr hyn a ystyriwn ni'n fethiant derbyniol ar gyfer y safon ansawdd tai newydd. Mae rhai ohonyn nhw'n amlwg iawn. Felly, mae gennym ni bobl sy'n byw mewn fflatiau, rhandai, nad oes ganddyn nhw fynediad i'r mannau awyr agored sef rhywbeth angenrheidiol i gyrraedd rhan o'r safon. Yn amlwg, rydym ni i gyd yn gallu deall bod hwnnw'n fethiant derbyniol yn hyn o beth. Nid wyf i'n awyddus o gwbl i alw unrhyw beth o ran fforddiadwyedd yn fethiant derbyniol. Ein barn ni yw, os gellir dod â'r cartref i'r safon, yna nid yw'n ymwneud â maint y gost i wneud hynny, mae hyn yn ymwneud â sut yr ydych chi'n codi'r tŷ i'r safon honno dros gyfnod o amser, ac efallai drwy nifer o ymdrechion ôl-osod, gan ystyried y pwynt a wnaeth Janet Finch-Saunders ynglŷn â sicrhau bod y tenant yn hapus gyda'r rhaglen waith barhaus. Ac un o'r pethau y mae'r ymgynghoriad yn ei wneud yw gofyn i denantiaid, cymdeithasau tai a chynghorau, ystyried sut y maen nhw am gynllunio'r dull hwnnw, fel bydd—. Ni fydd pob cartref yn bodloni'r safon ar unwaith gyda'r ymdrech ôl-osod gyntaf, er enghraifft. Ac yna, fel yr ydych chi wedi fy nghlywed i'n dweud, rydym ni'n gobeithio dysgu gwersi hefyd yn sgil y rhaglenni ôl-osod er mwyn optimeiddio a thai arloesol o ran y dechnoleg y gellir ei defnyddio mewn mathau arbennig o gartrefi ar gyfer cyrraedd safonau effeithlonrwydd ynni penodol, ac ati. Julie James AC: Rydym ni hefyd yn awyddus iawn i weld pethau fel mynediad i fannau gwyrdd. Felly, hyd yn oed os ydych chi mewn fflat, fe ddylech chi barhau i allu cael mynediad i fannau gwyrdd y tu allan. Rydym ni'n bwriadu annog pob landlord cymdeithasol—cynghorau a chymdeithasau tai—i sicrhau mynediad i fannau gwyrdd, hyd yn oed os nad yw'n ardd breifat, serch hynny, mae mynediad da yn rhan o hynny—fe wyddom ni i gyd, yn rhan o'r pandemig—yn rhan bwysig iawn o'ch llesiant chi wrth fyw yn y tŷ hwnnw. O ran gwasanaethau eraill, yn sicr, fe fyddwn ni'n edrych ar hynny, ond nid wyf i'n siŵr a fyddem ni'n dymuno i dŷ fethu â chyrraedd SATC am nad yw'r gwasanaeth bws y tu allan iddo yn cyrraedd y safon, ond yn amlwg mewn rhan wahanol o fy mhortffolio rydym ni'n awyddus iawn i wella gwasanaethau cyhoeddus, fel gwasanaethau bysiau ac ati. Ond rwy'n sicr yn barod i edrych ar yr hyn y gellir ei wneud i annog landlordiaid cymdeithasol i roi pwysau ar gwmnïau gwasanaethau i ddefnyddio gwasanaethau eraill. Mae pethau fel mynediad i amwynderau lleol, yr holl ffordd hyd at siopau a chyfleusterau hamdden yn un o'r pethau sy'n gwneud tai yn fwy derbyniol. Ond mae hyn yn ymwneud llawer mwy ag adeiladwaith y cartref, mewn gwirionedd, ac fe wyddom ni, o'r dadansoddiad a wnaethom ni o arolygon boddhad cymdeithasau tai a thenantiaid cyngor a phethau eraill, fod pethau fel sŵn a lloriau a phethau o'r fath yn uchel iawn ar restrau dymuniadau tenantiaid, ac felly dyna pam y cawsant eu cynnwys yn y safon. Mae'r hafaliad rhent y gwnaethoch chi ei godi yn ddiddorol iawn hefyd. Bob tro yr ydym ni'n pennu'r hafaliad rhent ar gyfer landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru rydym ni'n cael y cyfyng-gyngor ofnadwy hwn i wneud hynny'n fforddiadwy, ond gan sicrhau bod y ffrwd rentu ar gyfer y landlordiaid hynny'n ddigonol, i ôl-osod eu tai nhw ac adeiladu'r tai newydd y mae eu hangen arnom ni. A'r ffrwd rentu, wrth gwrs, yw'r hyn sy'n gyrru'r gallu i fenthyca gan y cymdeithasau tai lleol, ac felly mae hwn yn hafaliad anodd iawn, onid yw e', sy'n ymwneud â fforddiadwyedd a'r hyn na ellir ei fforddio. Ond mae rhai pwyntiau gwleidyddol i'w gwneud yn y fan hon hefyd, mae arnaf i ofn. Mae rhewi'r lwfans tai lleol gan Lywodraeth bresennol y DU wedi bod yn rhywbeth niweidiol iawn, nid yn unig i'r tenantiaid sydd wedi eu caethiwo gan ostyngiad yn eu gallu nhw i hawlio budd-dal yn y sector rhentu preifat, ond mewn gwirionedd i allu pobl i fforddio tai ledled Cymru. Felly, mae'r dewisiadau gwleidyddol hyn yn broblem wirioneddol. Rwyf i wedi ysgrifennu sawl tro at y Gweinidog yn cwyno bod y toriad cudd o rewi'r lwfans tai lleol yn cael effaith andwyol iawn, nid yn unig ar unigolion, ond ar y gallu i gynllunio tai yn gyffredinol. Felly, dim ond i wneud y pwynt yna. O ran costau adeiladu, o ran adeiladu o'r newydd, rydym ni eisoes wedi helpu drwy godi'r ffordd yr ydym ni'n trin ein grant tai cymdeithasol a'r ffordd y cawn ni amlen fforddiadwyedd i chwilio am adeiladu o'r newydd. Rydym ni wedi addasu hynny i roi cyfrif am gostau adeiladu. Fe fyddwn ni'n ceisio gwneud hynny ar gyfer ôl-osod hefyd, ond, unwaith eto, un o'r pwyntiau sydd i'w gwneud yn y fan hon yw eich bod chi'n talu TAW ar adnewyddu, ond nid ydych chi'n ei dalu ar adeiladu o'r newydd. Ac felly un o'r pethau yr ydym ni wir yn gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn ei ystyried yw pa mor llethol yw bod â TAW ar adnewyddu, a pha mor andwyol i'r agenda newid hinsawdd yw annog dymchwel rhywbeth ac adeiladu rhywbeth yn ei le yn hytrach nag adnewyddu'r hen adeilad, a chymaint o ysgogiad i'r economi fyddai edrych eto ar TAW ar gyfer adnewyddu. Felly, mae hynny'n rhywbeth sydd gennym ni hefyd—. Mae Rebecca Evans a minnau wedi ysgrifennu sawl gwaith ar ffolineb codi TAW ar waith adnewyddu. Felly, mae'r pethau hyn yn hafaliadau ariannol cymhleth bob amser ac nid yw hynny'n helpu. Ond yn gyffredinol, yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw sefydlu safon briodol i ddechrau, ac edrych wedyn ar y cyfnod amser a'r model ariannu. Felly, rwy'n credu mai'r safon yw'r peth pwysicaf yn hyn o beth, ond mae yna gyllid ar gael i ni. Rydym ni'n gallu cael gafael ar yr hyn a elwid yn flaenorol yn lwfans atgyweiriadau mawr i awdurdodau lleol, a'r hyn a elwir yn waddoli, sef yr arian trosglwyddo gwirfoddol stoc leol a dalwyd pan allanolodd ein hawdurdodau lleol eu stoc tai nhw ddeng mlynedd yn ôl neu fwy erbyn hyn, ac fe gadwyd yr arian yn y cyllidebau ac mae hwnnw ar gael o hyd ar gyfer safon ansawdd tai Cymru. Dyna sut y gwnaethom ariannu'r fersiwn gyntaf hefyd. Felly, mae'r arian hwnnw yno, Mabon, ac rydym ni'n edrych ar ffyrdd ariannu arloesol ar gyfer ymestyn hwnnw cymaint ag y bo modd hefyd. Ac yna'r peth olaf yr oeddwn i eisiau ei ddweud oedd ynghylch mynediad at fand eang. Rydych chi'n gwneud pwynt da iawn yn hyn o beth. Nid yw hyn yn ymwneud â'r seilwaith yn unig, er, ar gyfer band eang, mae'n ymwneud â fforddiadwyedd y ddarpariaeth o fand eang. Rydym ni wedi bod yn annog cymdeithasau tai lleol ac awdurdodau lleol i edrych ar drefniadau prynu ar gyfradd fawr neu drefniadau Wi-Fi ac ati. Felly, nid yw yn ymwneud ag adeiladwaith y tŷ yn caniatáu'r band eang yn unig, mae hyn yn ymwneud â fforddiadwyedd y pecyn band eang sydd ar gael ac ar gyfer beth y mae'n cael ei ddefnyddio ac ati. Felly, rydym yn cadw golwg ar hynny. Mae gennym ni nifer fawr o adeiladau gwyn o hyd ar wasgar yng nghefn gwlad, felly un o'r pethau y gallwn ni ei wneud yw defnyddio ein tai cymdeithasol ni i roi pwyslais ar sicrhau bod y gwasanaethau hynny'n cael eu gwella yn yr ardal honno. Felly, rwy'n cadw golwg ar hynny hefyd, er, unwaith eto, nid yw o reidrwydd yn ymwneud ag adeiladwaith y tŷ, nag yw, mae hyn yn ymwneud â pha mor rhwydd yw hi i gael gafael ar y seilwaith allanol. Felly, rwy'n croesawu eich cyfraniad chi'n fawr, ac rwy'n edrych ymlaen at y cyflwyniad y byddwch chi'n ei wneud, rwy'n siŵr, wrth ymateb i'r ymgynghoriad. Mike Hedges AC: Rwy'n siarad fel un a gafodd ei fagu mewn tŷ cyngor. Rwy'n croesawu'r datganiad hwn yn fawr iawn. Mae safon ansawdd tai wreiddiol Cymru wedi gweithio, ac mae wedi gweithio yn dda iawn. Mae wedi gwella ansawdd tai cymdeithasol yng Nghymru, landlordiaid cyngor a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, neu, fel rwyf i'n eu galw nhw fel arfer, cymdeithasau tai. Mae hyn yn mynd yn ôl i 2002, sydd 20 mlynedd yn ôl. A yw'r tai hynny a oedd â cheginau ac ystafelloedd ymolchi newydd dros 15 mlynedd yn ôl yn cael eu hadnewyddu neu eu diweddaru erbyn hyn? Rwyf i o'r farn y dylai gwrthdlodi fod yn ysgogiad i bob un o bolisïau'r Llywodraeth, ac fe hoffwn i weld mwy o drafodaeth gan y Llywodraeth ynghylch sut y mae popeth a wnân nhw yn ymwneud â wrthdlodi. Rwy'n credu mai'r rheswm y daeth y blaid yr wyf i'n perthyn iddi i fodolaeth oedd ar gyfer ymladd yn erbyn tlodi. A yw'r Gweinidog yn derbyn ein bod ni ar hyn o bryd yn creu system ddwy haen ar gyfer tai rhent, tai cymdeithasol a thai rhent preifat? A yw'r Gweinidog yn bwriadu cyflwyno safon ansawdd tai ar gyfer llety a rentir yn breifat, y mae rhai ohonyn nhw mewn cyflwr llawer gwaeth na thai cyngor a chymdeithasau tai? Julie James AC: Diolch, Mike. Fe wn i eich bod chi'n rhannu fy mrwdfrydedd i dros dai cymdeithasol. Fe gawsom ni ein magu nid nepell oddi wrth ein gilydd, fel mae hi'n digwydd, ac rwyf i bob amser wedi edmygu eich sêl a'ch brwdfrydedd chi dros dai cymdeithasol o ansawdd da iawn. Yn sicr, mae hon yn agenda wrthdlodi; mae hon yn agenda o ran datgarboneiddio hefyd. Mae'r pethau hynny'n mynd law yn llaw, wrth gwrs. Po fwyaf effeithlon o ran ynni y byddwch chi'n gwneud y tŷ, y lleiaf o garbon y mae'n ei allyrru, y lleiaf yw eich bil ynni chi, ac mae'r cylch gwrthdlodi yn gwella o'r herwydd. Felly, rwy'n cytuno â hynny'n llwyr. O ran y sector rhentu preifat, rydym ni'n gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, a fydd yn helpu yn hynny o beth, ond mae gennym amrywiaeth o gynlluniau hefyd y bwriedir iddyn nhw gymell landlordiaid yn y sector preifat i'n galluogi ni i'w helpu i godi eu tai nhw i'r safon. Fel gwyddoch chi, i landlord sy'n rhoi tŷ drosodd i ni am o leiaf bum mlynedd, fe fyddwn ni'n ei helpu i godi'r tŷ i'r safon, fe fyddwn ni'n gwarantu'r rhent cymdeithasol am y cyfnod hwnnw, fe allwn ni roi gwell sicrwydd deiliadaeth i'r tenant am y cyfnod hwnnw, ac mae'r landlord yn cael y tŷ yn ei ôl mewn cyflwr gwell, mae gwelliant yn y stoc tai—mae honno'n sefyllfa lle mae pawb yn gyfan gwbl ar ei ennill ynddi. Gorau po fwyaf y gallwn ni gyhoeddi'r wybodaeth ynglŷn â hynny yn y sector rhentu preifat, po fwyaf o'r landlordiaid hynny y gallwn eu hannog i ymuno â'r cynllun hwnnw, y gorau fydd y stoc tai. Yr hyn nad ydym ni'n awyddus i'w gael yw dweud bod yn rhaid i'r sector rhentu preifat godi tŷ i safon EPC E, fel gwnaeth Llywodraeth y DU yn ddiweddar, heb unrhyw grantiau na benthyciadau nac unrhyw beth arall i'w gael, oherwydd rydym ni'n ofni y bydd y landlordiaid hynny'n ymadael â'r sector rhentu preifat ac yn gwerthu'r tai. Yn arbennig, gyda'r tai mawr sy'n pontio'r cenedlaethau a gawn ni mewn etholaethau sydd yng nghanol dinasoedd, fel yn fy etholaeth i ac un Jenny Rathbone, er enghraifft, rydym ni'n gofidio llawer y byddai'r landlordiaid hynny'n gweld hynny'n anghymellol. Felly, yr hyn sydd ei angen arnom ni yw cynlluniau cymhelliant i sicrhau bod pobl yn aros yn y sector rhentu preifat, yn cael elw teilwng ar eu cyfalaf, ond mewn gwirionedd yn cael eu gwobrwyo am roi cartrefi gwell i'w tenantiaid. Rhan o hynny yw agenda'r Ddeddf rhentu cartrefi—rydym ni wrthi yn gweithredu'r Ddeddf honno—a rhan o hynny yw'r cymhelliant a roddwn ni i landlordiaid y sector preifat i sicrhau bod y cartrefi hynny'n cyrraedd y safon. Ac wrth gwrs, drwy ysgogi safon tai cymdeithasol, rydym ni'n amlygu'r gwrthgyferbyniad, onid ydym ni? Rydym ni'n rhoi'r dewis hwnnw i bobl. A thrwy adeiladu mwy o dai cymdeithasol, rydym ni'n rhoi'r dewis hwnnw i bobl hefyd. Cafodd hynny i gyd ei gynllunio i roi pwysau ar landlordiaid PRS a allai fod yn ystyried peidio â chodi'r tŷ i'r safon. Jenny Rathbone AC: Fe hoffwn i ddiolch i chi, a phob un o'r Gweinidogion blaenorol sydd wedi bod â chyfrifoldeb am dai, a'r rhanddeiliaid eraill i gyd sydd wedi ymwneud â dod â'r SATC i'n holl dai cymdeithasol ni. Nid yw hynny'n golygu nad oes unrhyw waith i'w wneud eto. Mae gen i denantiaid sy'n dal i fyw mewn llety nad yw'n destun dirwyon sy'n ddeifiol oer yn y gaeaf. Rwyf i eisiau achub ar y cyfle a gawsom ni gennych chi yn eich paragraff olaf o ran ystyried sut y byddwn ni'n codi deiliadaethau eraill i'r safonau sydd gennym ni ar hyn o bryd mewn tai cymdeithasol, oherwydd mae byw mewn band D neu eiddo rhent preifat gwaeth yn golygu diffyg cysur, biliau ynni anfforddiadwy, ac, i lawer, gorfod dewis rhwng gwresogi neu fwyta. Yng nghyd-destun argyfwng costau byw'r Torïaid, rydym ni ar y dibyn mewn gwirionedd. Nid wyf i'n credu y gallwn ni edrych i'r hirdymor, ac yn bendant ni allwn ni sefyll yn yr unfan. Mae angen i ni weithredu ar frys nawr. Mae'n rhaid i ni gofio mai yn 2007 y cyflwynodd Gordon Brown y safonau di-garbon ar gyfer pob tŷ newydd, ac fe gafodd y rheini eu diddymu gan George Osborne yn 2015—un o'r mesurau mwyaf trychinebus yng nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd. Mae gwir angen i ni wybod pryd y byddwn ni'n cael safonau Rhan L llawer mwy cadarn ar gyfer tai newydd, oherwydd mae ôl-osod yn llawer mwy cymhleth a drud na chywiro trachwant adeiladwyr tai preifat sy'n dymuno adeiladu cartrefi sy'n is na'r safon. Felly, mae hi'n ymddangos i mi— Mae angen i chi orffen gofyn y cwestiwn, os gwelwch chi'n dda. Jenny Rathbone AC: —fe geir cyfleoedd yng ngradd sero TAW ar insiwleiddio y dylai landlordiaid preifat gael eu cymell i fanteisio arnyn nhw. Nid wyf i'n chwilio am grantiau; fe hoffwn i weld benthyciadau ar gael i landlordiaid preifat fel eu bod nhw'n gwneud y peth iawn. Yn y pen draw, fe hoffwn i weld gwialenni ar gyfer landlordiaid preifat nad ydyn nhw'n gwneud y peth iawn, a wnewch chi ddweud ychydig mwy wrthym am hynny, tybed? Julie James AC: Rwy'n cytuno, Jenny, yn llwyr â chi. O ran adeiladau newydd, wrth gwrs, fe fyddwn ni'n cyflwyno newidiadau i reoliadau rhan L yn fuan iawn. Rydym ni eisoes wedi newid yr hyn a elwir y DQL ar gyfer tai cymdeithasol newydd i garbon goddefol neu garbon niwtral, felly unwaith eto, yn cymell y diwydiant i adeiladu yn unol â hynny. Rydym ni hefyd, wrth gwrs, yn caniatáu i landlordiaid cymdeithasol brynu oddi ar y cynllun ar gyfer adeiladu o'r newydd, gan gymell ein hadeiladwyr i adeiladu eu holl dai i hynny yn y gobaith y byddant yn gallu gwerthu mwy ohonyn nhw oddi ar y cynllun i'r landlordiaid cymdeithasol cofrestredig mawr a'r cynghorau. Mae hynny'n digwydd ledled Cymru. O ran y wialen, fe fydd gweithredu'r Ddeddf rhentu cartrefi yn cael effaith fawr iawn ar sicrhau bod landlordiaid yn y sector preifat yn gorfod cynnig cartref sy'n addas i'r diben. Ond rwy'n cytuno â chi ynghylch cymell benthyciadau; rydym ni'n rhoi ystyriaeth i'r hyn y gallwn ni ei wneud i ganiatáu hynny. Un o'r pethau yr ydym ni'n eu gwneud yw ceisio gwarantu, fel dywedais i, gyda'r cynlluniau prydlesu—. Yn gyntaf i gyd, rydym ni'n ceisio sicrhau bod yr holl landlordiaid yn gwybod am hyn. Rydym ni wedi bod yn defnyddio Rhentu Doeth Cymru ar gyfer cyfathrebiadau. Rwyf i o'r farn fod hwnnw'n gymhelliad mawr sef bod yr incwm hwnnw'n cael ei warantu i chi heb unrhyw dai gwag neu beth bynnag dros gyfnod cyfan yr amser y byddwch chi'n cyflwyno hynny, ac wrth gwrs i'r cartref gael ei godi i'r safon. Rwy'n dymuno i bawb wneud pobl yn ymwybodol o hynny, felly pan fyddwn ni'n dod ar draws tenantiaid yn y tai hynny, rwy'n credu ei bod hi'n werth gofyn iddyn nhw bob amser a yw eu landlord nhw'n ymwybodol o'r cynllun hwn. Fe geir llawer ohonyn nhw nad ydyn nhw'n ymwybodol o hynny, ac fe gefais i fy synnu, felly, bod cymaint o bobl nad oedden nhw'n ymwybodol o hynny. O ran gwialenni, rydym ni'n ystyried yr hyn y gellir ei wneud ar y cyd â Llywodraeth y DU, mewn gwirionedd, ynghylch gwella hyn i ryw raddau. Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi rhai safonau ansawdd ar y sector rhentu preifat, ond yn anffodus, mae'r rhain yn tueddu gorfodi EPC E arnoch chi heb unrhyw un o'r cymhellion. Fel dywedais i, rwy'n awyddus iawn i osgoi rhai o ganlyniadau anfwriadol hynny, yn enwedig yng nghanol dinasoedd lle ceir y stoc hynaf, fwyaf o dai. Fe fyddai hi'n anodd iawn i gael rhywbeth yn ei lle nhw'n gyflym, ar gyfer teuluoedd sy'n pontio'r cenedlaethau yn arbennig felly. Mae tai o'r fath yn arbennig o gyffredin yn eich etholaeth chi ac yn fy etholaeth innau. Ond rwy'n awyddus i gael y sgwrs honno. Fe fyddaf i'n cwrdd â Chymdeithas y Landlordiaid Preswyl yn fuan; fe fyddwn ni'n parhau â'r sgwrs honno gyda nhw. Ond yn y cyfamser, gosod y safon aur, os mynnwch chi, ar gyfer tai yng Nghymru gyda'r tai cymdeithasol yw'r sefyllfa yr ydym ni ynddi hi gyda'r datganiad hwn. Fe ddywedwyd wrthym ni na allem ni wneud hynny'r tro cyntaf, ac fe wnaethom ni, felly rwy'n siŵr y byddaf i'n cael gwybod na allaf ei wneud y tro hwn chwaith, ac rwy'n eithaf sicr y byddwn ni'n gallu ei wneud unwaith eto. Rebecca Evans oedd fy rhagflaenydd i yn y swydd, mewn gwirionedd, ac fe wn iddi hi gynnal sgyrsiau hir iawn am ein hanallu ni i wneud fel hyn, ac fe wnaethom ni beth bynnag. Felly, dyna'r sefyllfa, ond rwy'n fodlon cael sgyrsiau unigol gyda chi hefyd, Jenny, ynglŷn â materion etholaethol. Ac yn olaf, Joyce Watson. Joyce Watson AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r datganiad. Yn ddiweddar, fe fuom ni'n trafod y sgiliau y bydd eu hangen yn y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith. Fe ddywedodd Mark Bodger o Fwrdd Hyfforddi Diwydiant Adeiladu Cymru y bydden nhw'n fwy na pharod i ddod i'r adwy yn hynny o beth. Ac wrth gwrs, mae cynllun sgiliau Sero Net Cymru ar y gweill gennym ni, ac rwy'n deall y bydd hwnnw'n cael ei gyhoeddi rywbryd yn ystod yr hydref eleni. Un o'r meini prawf yn y cynllun hwnnw yw atal yr anghydraddoldebau presennol yn y farchnad lafur rhag cael eu trosglwyddo i'r economïau sero net a digidol newydd. Felly, rwy'n gobeithio eich bod chi'n cytuno â mi, Gweinidog, fod yna gyfle enfawr yn y fan hon, a hefyd, yn fy marn i, fe geir rhwymedigaeth hefyd, i ddefnyddio safon ansawdd tai newydd Cymru i annog a chefnogi mwy o fenywod ac aelodau o leiafrifoedd ethnig i ddilyn gyrfaoedd ym maes adeiladu. Os edrychwn ni ar safleoedd, rydym ni'n sôn am gyfradd o 2 neu 3 y cant yn unig o fenywod, a dim ond ychydig dros 14 y cant os edrychwn ni ar y swyddi ar yr ochr dechnegol. Felly, dyma farchnad enfawr heb ei defnyddio gyda'r prinder sydd yn y farchnad lafur honno ar hyn o bryd. A wnewch chi, Gweinidog, gyda'ch cyd-Aelodau chi, ystyried sut i ddefnyddio safon ansawdd tai Cymru i droi'r niferoedd hynny'n rhywbeth sy'n gadarnhaol? Julie James AC: Diolch yn fawr iawn i chi, Joyce. Rwy'n gwybod eich bod chi wedi bod yn ymgyrchydd ynglŷn â'r mater hwn ers i mi ddod i'ch adnabodchi, felly mae hi'n braf eich gweld chi'n dod i fatio, neu beth bynnag yw'r gyffelybiaeth o fyd chwaraeon am hynny. Ie, yn hollol; un o'r pethau yr oeddem ni'n gallu ei wneud gydag ymgyrch gyntaf safon ansawdd tai Cymru oedd gorhyfforddi nifer y prentisiaid sy'n angenrheidiol i sicrhau eu bod nhw ar gael i'r sector preifat ar gyfer ôl-osod o'r fath. Fe fyddwn ni'n gallu gwneud hynny'r tro hwn hefyd, gan adeiladu ar yr hyn yr ydym ni wedi bod yn ei wneud ar gyfer y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio a'r rhaglen tai arloesol, sef deall sut beth yw'r dechnoleg i ôl-osod, a sicrhau wedi bod y ddeialog â CITB ac eraill, ein colegau AB ac ati, yn hollbwysig ac yn gwbl ganolog yn y rhaglen honno, fel eu bod nhw'n newid eu rhaglenni hyfforddiant prentisiaid wrth i ni newid y dechnoleg. Nid oes diben hyfforddi fflyd o beirianwyr atgyweirio nwy os yr hyn yr ydym ni'n ei fynegi yw, 'Nid boeler nwy sydd ei eisiau arnoch chi'. Felly, yn amlwg, mae yna fater o ran ailhyfforddi gweithwyr presennol, ac fe geir newydd-ddyfodiaid i'r farchnad. Y peth olaf i'w ddweud yw y bydd llawer o'r ôl-osod hwn, rydym ni'n gobeithio, yn cael ei wneud gydag ynni adnewyddadwy—pren o Gymru ar gyfer paneli inswleiddio ac ati. Fe wneir llawer o hynny yn ein ffatrïoedd ni sy'n cynhyrchu pethau newydd a chyfoes o ran deunyddiau adeiladu. Fe gefais i fy syfrdanu, wrth fynd o gwmpas y ffatrïoedd hyn, gan weithlu sy'n llawer mwy amrywiol, oherwydd nid yw hyn yn digwydd ar uchelderau, nac allan ym mhob tywydd, ond y tu mewn i ffatri. Felly, rydych chi'n gweld llawer mwy o bobl ag anableddau a llawer mwy o fenywod yn y lleoliadau hynny nag y byddech chi ar safle adeiladu arferol y tu allan ym mhob tywydd. Rwy'n gobeithio mai dyna fydd y sbardun, os hoffech chi, i gael y bobl hynny'n ôl i'r proffesiwn. Y peth olaf yr hoffwn ei ddweud yw ein bod ni, wrth gwrs, yn gwthio'r pwynt i raddau helaeth iawn, y gwnaethoch chi droeon, nad ymwneud ag adeiladwyr yn unig y mae hyn. Fe geir cyfleoedd i weithio yn y sector adeiladu ym mhob dull a modd—yr aseswyr, y syrfewyr meintiau, y penseiri, rheolwyr y prosiect ac ati. Fe hoffem ni weld llawer mwy o amrywiaeth ym mhob un o'r haenau hynny yn y diwydiant adeiladu, yn ogystal ag o ran crefftau. Diolch. Diolch i chi, Gweinidog. Ar ran yr Aelodau i gyd, rwy'n siŵr y byddem ni'n hoffi eich croesawu chi'n ôl i'r Siambr a chydymdeimlo â chi yn yr anawsterau a welsoch chi yn ystod yr wythnosau diweddar. Julie James AC: Diolch. 6. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Etholiadau Llywodraeth Leol Symudwn ymlaen i eitem 6, datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar etholiadau llywodraeth leol. Galwaf ar y Gweinidog, Rebecca Evans. Rebecca Evans AC: Diolch. Ar ran Llywodraeth Cymru, fe hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi bod â rhan yng ngweithrediad didrafferth etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru'r wythnos diwethaf, a phob unigolyn a safodd i gynrychioli ei gymuned. Fe hoffwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am yr etholiadau hefyd a sut y byddwn ni'n bwrw ymlaen yn ein perthynas ni â'r awdurdodau lleol yn ystod y misoedd nesaf. Y rhain oedd yr etholiadau llywodraeth leol cyntaf ers i ni ymestyn y fasnachfraint i bobl ifanc 16 ac 17 oed a rhai cymwys o wledydd tramor, gan roi cyfle iddyn nhw fod â rhan mewn democratiaeth a bywyd dinesig yng Nghymru. Mae hon yn garreg filltir bwysig yn ein huchelgais ni ar gyfer etholiadau sy'n fwy hygyrch. Fe wnaethom ni gefnogi cynlluniau treialu hefyd ar gyfer pleidleisio hyblyg yn etholiadau'r wythnos diwethaf, a gynhaliwyd mewn pedwar awdurdod lleol. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r pedwar awdurdod a ddaeth i'r adwy a chytuno i weithio gyda ni ar y cynlluniau treialu hyn: Blaenau Gwent, Caerffili, Tor-faen a Phen-y-bont ar Ogwr. Mae hwn wedi bod yn bod yn batrwm o gynhyrchu gyda'n gilydd. Er mai'r awdurdodau oedd yn gyfrifol am gyflwyno'r cynlluniau treialu, fe'u cefnogwyd nhw gan y gymuned etholiadol gyfan wrth gynllunio'r modelau treialu a chynllunio ar gyfer cyflawni. Fe geir arwyddion cynnar sy'n awgrymu bod y rhain wedi gweithio yn dda, ac rydym ni'n edrych ymlaen at werthusiad annibynnol y Comisiwn Etholiadol yn ystod y misoedd nesaf. Fe fydd hwnnw'n helpu ni i nodi'r mannau lle gallwn ni leihau mwy o'r rhwystrau rhag cymryd rhan mewn etholiadau. Mae lleihau'r oedran ar gyfer pleidleisio ac ymestyn yr etholfraint i bawb sy'n byw yng Nghymru yn datgan yn eglur ein bod ni'n Llywodraeth sy'n cefnogi ac yn annog amrywiaeth yn ein democratiaeth leol. Mae amrywiaeth ymhlith ein cynrychiolwyr etholedig lleol yn hanfodol i sicrhau bod barn ac anghenion pawb yn cael eu lleisio, ac yn cyfoethogi penderfyniadau lleol. Roedd cynyddu amrywiaeth mewn democratiaeth leol yn un o themâu craidd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Fe fydd darpariaethau gan gynnwys rhannu swyddi ar gyfer aelodau gweithredol a chynorthwywyr yn dod i rym ar gyfer y gweinyddiaethau llywodraeth leol newydd. Rydym ni eisoes wedi gweithredu'r ddarpariaeth barhaol yn Neddf 2021 sy'n galluogi prif gynghorau a chynghorau tref a chymuned i gyfarfod o bell, sy'n cefnogi aelodau sydd mewn cyflogaeth amser llawn, sydd â chyfrifoldebau gofalu, neu sy'n ei chael hi'n anodd teithio. Ac mae'r darpariaethau hyn wedi cael eu defnyddio a'u croesawu yn eang. Am y tro cyntaf mewn etholiadau lleol yng Nghymru, fe wnaethom ni agor mynediad at gronfa sefyll mewn etholiad i gefnogi ymgeiswyr anabl. Rwy'n falch iawn o ddweud bod tua 20 o ymgeiswyr wedi cael cymorth drwy'r gronfa hon. Rydym ni'n archwilio erbyn hyn sut y gallwn ymestyn y gronfa i gefnogi pobl â nodweddion gwarchodedig eraill. Rydym ni wedi cymryd camau hefyd i sicrhau nad oes rhaid i gyfeiriadau ymgeiswyr ac aelodau etholedig fod ar gael i'r cyhoedd. Mae hyn wedi cael croeso eang ar gyfer sicrhau bod ymgeiswyr, aelodau a'u teuluoedd yn cael rhywfaint o amddiffyniad rhag y cam-drin ofnadwy sydd, yn anffodus, yn llawer rhy gyffredin. Rydym ni wedi gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Un Llais Cymru i hyrwyddo pwysigrwydd a manteision bod yn gynghorydd lleol ac fe fyddwn ni'n parhau i weithio yn agos gyda nhw. Gyda'n gilydd, fe wnaethom ni gynhyrchu amrywiaeth o ddeunyddiau i gefnogi a rhoi gwybodaeth i ddarpar ymgeiswyr. Dyma enghraifft arall o'r ffordd yr ydym ni wedi gweithio gyda llywodraeth leol ac mae hyn yn tystiolaethu i'r berthynas waith gref a chadarnhaol rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol. Yn ystod pandemig COVID-19, ac yn fwy diweddar fel cenedl noddfa wrth ymateb i'r digwyddiadau ofnadwy yn Wcráin, rydym ni wedi gweld pwysigrwydd y berthynas honno ar waith, a chadernid drwy ddatblygu atebion ar y cyd. Rwyf i wedi ymrwymo i barhau i adeiladu ar y berthynas hon, a pharhau i weithio gyda'n gilydd i wynebu heriau'r dyfodol er mwyn pobl Cymru. Yn tystio i'r bartneriaeth hon, mae'r cynghorau sydd newydd eu hethol yma'n troi at eu dyletswyddau newydd gyda chefnogaeth oddi wrth y setliad llywodraeth leol mwyaf grymus a fu ers blynyddoedd lawer. Gan ein bod ni wedi dewis blaenoriaethu llywodraeth leol a gwasanaethau iechyd yng nghyllideb Cymru, fe ddarparwyd £5.1 biliwn i awdurdodau lleol eleni mewn cyllid refeniw craidd ac ardrethi annomestig i ddarparu gwasanaethau allweddol—cynnydd o 9.4 y cant. Rydym ni hefyd yn darparu dros £1 biliwn mewn grantiau refeniw penodol a bron i £0.75 biliwn o bunnau mewn cyllid cyfalaf penodol. Fe wn i fod risgiau ac effeithiau chwyddiant ac economi sy'n arafu yn golygu bod yr heriau yn parhau i'n cynghorau ni, ond fe allan nhw ymateb i'r heriau hynny gyda sylfaen ariannol sy'n fwy cadarn, a mwy o sicrwydd o gyllideb tair blynedd ddangosol, a chefnogaeth Llywodraeth sy'n gwerthfawrogi ac yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus a llywodraeth leol yn benodol. Rwy'n edrych ymlaen at siarad yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol CLlLC ar 24 Mehefin a chynhadledd CLlLC ym mis Medi i drafod ein blaenoriaethau ar y cyd ni ar gyfer gweddill tymor y Senedd hon. Diolch. Sam Rowlands MS: A gaf i ymddiheuro am fod ychydig funudau yn hwyr yn cyrraedd? Doeddwn i ddim wedi sylweddoli bod trefn agenda'r prynhawn yma wedi cael ei newid. Ymddiheuriadau, Gweinidog. A gaf i ddiolch i chi, Gweinidog, hefyd, am gyflwyno datganiad adeiladol heddiw ynglŷn â'r etholiadau llywodraeth leol, a ddigwyddodd yr wythnos diwethaf? Fe hoffwn innau ymuno â chi i ddiolch i bawb a fu â rhan yng ngweithrediad rhwydd etholiadau'r wythnos diwethaf, o'r swyddogion hynny a fu'n monitro hynny i'r rhai hynny a fu'n cyfrif yn y gorsafoedd cyfrif. Rwy'n siŵr bod llawer o Aelodau yn y Siambr heddiw wedi bod yn bresennol yn y cyfrifiadau hynny'r wythnos diwethaf ac fe gefais i argraff dda ar y broses etholiadol yn gyffredinol, gan weld gwaith ac ymroddiad eithriadol pawb a fu'n gwneud y broses yn llwyddiant mor fawr. Fe hoffwn i ymuno â'r gweinidog i ddiolch i bob un hefyd a fu'n sefyll mewn etholiad, gan gynnwys y rhai, wrth gwrs, a fu'n ddigon ffodus i gael mandad i gynrychioli cymunedau lleol, a hefyd, y rhai a safodd ond heb fod yn llwyddiannus, yn anffodus. Mae hi'n bwysig iawn bod amrywiaeth o bobl gennym ni'n sefyll mewn etholiad er mwyn cael democratiaeth sy'n weithredol, ac, wrth gwrs, ymgeiswyr yn ddigon dewr i leisio barn, rhywbeth nad yw'n hawdd ei wneud bob amser. Fel gwnaethoch chi amlinellu yn eich datganiad chi, Gweinidog, yn etholiad yr wythnos diwethaf, fe welsom ni gynlluniau treialu ar gyfer pleidlais hyblyg yn digwydd mewn pedair ardal awdurdod, ac, fel yr ydych chi'n dweud, fe geir argoel fod hynny wedi gweithio yn dda. Eto i gyd, ar gyfer etholiadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, rwy'n deall mai dim ond tua 180 o bobl a fanteisiodd ar yr etholiadau cynnar hynny mewn 68 o wardiau. Os yw hynny'n gywir, fe fyddai'n dangos mai dim ond tri o bobl fesul ward a fanteisiodd ar hyn. I ddechrau, yn fy marn i, nid yw hi'n ymddangos bod hynny'n cynnig gwerth da am arian o ran y buddsoddiad angenrheidiol i'w weithredu. Ac fel yr ydych chi'n dweud, rydych chi'n edrych ymlaen at werthusiad annibynnol y Comisiwn Etholiadol yn ystod y misoedd nesaf yn hyn o beth, ond tybed a fyddech chi'n rhoi mwy o ddealltwriaeth i ni heddiw ynglŷn â sut yr aeth y cynlluniau treialu hyn ac a ydych chi'n rhagweld y gellir eu defnyddio nhw mewn etholiadau i'r cynghorau yn y dyfodol. Yn ail, Gweinidog, yn eich datganiad chi roeddech chi'n sôn bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i sicrhau nad oes rhaid i gyfeiriadau ymgeiswyr nac aelodau etholedig fod ar gael i'r cyhoedd. Wrth gwrs, mae hyn i'w groesawu o ran diogelu'r ymgeiswyr a'r cynghorwyr, ac mae hwn yn faes y gwnaethom ni ei drafod yn y Siambr yn flaenorol. Yn ogystal â hynny, rwy'n croesawu eich gwaith parhaus chi gyda CLlLC i hyrwyddo urddas a manteision bod yn gynghorydd lleol. Serch hynny, fe welsom ni 74 o seddi heb ymgeiswyr yn etholiadau'r wythnos diwethaf, sy'n dangos bod pobl yn poeni o hyd am gyflwyno eu hunain i'w hethol oherwydd weithiau, a dweud y gwir, mae gwawdio a bwlio yn wynebu ymgeiswyr mewn etholiadau. Felly, tybed pa gamau penodol yr ydych chi'n bwriadu eu cymryd i leihau gwawdio a bwlio fel hyn a sut ydych chi am weithio gyda'r ombwdsmon i sicrhau bod eu pwerau nhw'n ddigonol i fynd i'r afael â'r mater hwn hefyd. Ac yn olaf, Gweinidog, rhywbeth na wnaethoch chi ei godi yn eich datganiad chi heddiw yw'r niferoedd a fu'n pleidleisio yn etholiadau'r wythnos diwethaf. Fel y gwyddom ni, mae'r niferoedd sy'n pleidleisio yn dal i fod yn isel iawn mewn etholiadau cyngor. Fe ellid priodoli rhywfaint o hynny i bobl nad ydyn nhw'n deall, efallai, holl swyddogaethau cynghorau a chynghorwyr yn narpariaeth ein gwasanaethau hanfodol ni. Felly, pa asesiad a wnaethoch chi o'r niferoedd a bleidleisiodd yn yr etholiadau a pha gamau yr ydych chi o'r farn y gellir eu cymryd i ganiatáu i fwy o'n dinasyddion ni yng Nghymru fod â rhan yn yr etholiadau pwysig iawn hyn yn y dyfodol? Diolch yn fawr iawn. Rebecca Evans AC: Diolch yn fawr iawn i Sam Rowlands am ei gyfraniad y prynhawn yma, ac, yn amlwg, rwy'n ategu ei sylwadau am y gwaith anhygoel a welsom ni i gyd, rwy'n credu, yn y cyfrifiadau yr aethom ni iddyn nhw, ac mae'r gofal y mae'r bobl sy'n ymwneud â'r cyfrifiadau hynny'n ei roi i'r dasg dan sylw yn brawf gwirioneddol o bwysigrwydd democratiaeth leol. Ac eto dim ond i ddweud 'diolch' i bawb a safodd. Fel y mae Sam Rowlands yn dweud, mae'n beth hynod ddewr i'w wneud, yn enwedig yn yr hinsawdd ar hyn o bryd o ran y gwawd y mae llawer o bobl yn ei wynebu pan fyddan nhw'n ddigon dewr i gynnig eu hunain i gynrychioli eu cymunedau, ond mae hi'n hynod siomedig os ydych chi'n aflwyddiannus. Felly, 'diolch' enfawr i bawb a roddodd ddewis i bobl yn y cymunedau o leiaf, sy'n bwysig yn fy marn i, ac mae hynny'n ategu'r pwynt pwysig hwnnw ynglŷn â seddau lle ceir dim ond un ymgeisydd. Gwyddom fod ymchwil Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru yn dweud bod 74 sedd â dim ond un ymgeisydd y tro hwn; mae hynny'n 6 y cant. Mae'n ostyngiad bach ar y 92 sedd neu 7.3 y cant yn etholiadau 2017, ond mae'n dal i fod yn rhy uchel, rwy'n credu. Mae'n bwysig bod pobl yn cael y cyfle hwnnw i weld democratiaeth yn fyw yn eu cymunedau a chael dewis o ymgeiswyr. Felly, rwy'n credu bod gwaith i ni ei wneud i barhau i ennyn brwdfrydedd pobl ynghylch potensial swydd cynghorydd, oherwydd bydd y gwaith yr ydym ni'n ei wneud gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a gydag Un Llais Cymru, mewn gwirionedd, o ran cynghorau tref a chymuned, yn bwysig. O ran y nifer sy'n pleidleisio, mae'n amlwg bod y nifer sy'n pleidleisio bob amser yn llai nag y byddech chi eisiau iddo fod; byddech chi eisiau gweld cynifer o bobl â phosibl yn dod i bleidleisio yn yr etholiadau hyn, oherwydd rwy'n credu bod pobl, dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn enwedig, wedi gweld gwir werth llywodraeth leol a'r hyn y gall llywodraeth leol ei gyflawni ar eu cyfer yn eu cymunedau. Felly, rwy'n credu y bydd y nifer sy'n pleidleisio bob amser yno fel her i ni fel gwleidyddion, ond hefyd i'n pleidiau gwleidyddol hefyd, i weld beth arall y gallwn ni fod yn ei wneud i ysgogi democratiaeth yn lleol ac i ennyn brwdfrydedd pobl i gymryd rhan yn hynny. O ran y cynlluniau treialu, rwy'n credu ei bod yn rhy gynnar i roi blas gwirioneddol ar y cynlluniau treialu heddiw, oherwydd mae'n gynnar iawn, ond mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i'r Comisiwn Etholiadol werthuso'r cynlluniau treialu hynny, a byddan nhw'n cyhoeddi eu hadroddiad o fewn tri mis i'r etholiad. Yr arwyddion cynnar yw bod y cyfan wedi bod yn llwyddiannus heb unrhyw faterion gweithredol, ond nid ydym yn gwybod eto beth yw'r ffigurau ar gyfer pobl a bleidleisiodd yn y cynlluniau treialu. Ym Mlaenau Gwent defnyddiwyd parth dysgu Glynebwy a leolir yn ganolog fel gorsaf bleidleisio ymlaen llaw ar gyfer holl drigolion y sir, ac roedd hynny'n cynnwys myfyrwyr y coleg, yn ystod yr wythnos cyn diwrnod yr etholiad. Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, roedd y gorsafoedd pleidleisio mewn rhai wardiau â nifer isel yn pleidleisio ar agor ar gyfer pleidleisio ymlaen llaw yn ystod yr wythnos cyn y diwrnod pleidleisio, a chrëwyd canolfan bleidleisio ymlaen llaw newydd mewn ysgol ar gyfer myfyrwyr a oedd wedi'u cofrestru yn yr ysgol honno. Ac yna yng Nghaerffili, sef yr enghraifft y cyfeiriwyd ati, defnyddiwyd swyddfeydd y cyngor yn Ystrad Mynach fel canolfan bleidleisio ymlaen llaw ar gyfer holl drigolion y sir ar y penwythnos cyn y diwrnod pleidleisio. Ac yna yn Nhorfaen defnyddiwyd swyddfeydd y cyngor ym Mhont-y-pŵl fel canolfan bleidleisio ymlaen llaw ar gyfer holl drigolion y sir ar y penwythnos cyn y diwrnod pleidleisio hefyd. Felly, ar draws y pedwar cynllun treialu hynny roedd rhai pethau gwahanol a brofwyd, ac rwy'n credu y bydd yn ddiddorol cymharu canlyniadau'r cynlluniau treialu hynny. Mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn dysgu o'r cynlluniau treialu hynny—a wnaethon nhw ennyn brwdfrydedd pobl i ddod na fydden nhw fel arfer yn pleidleisio? A oedd yn gwneud pleidleisio'n haws, neu a oedd yn gwneud pleidleisio'n fwy cyfleus i bobl a oedd eisoes yn bwriadu dod i bleidleisio? Felly, bydd hynny'n brawf diddorol o'r cynlluniau treialu hynny. Cynhaliodd y Comisiwn Etholiadol arolygon o bobl wrth iddyn nhw adael y gorsafoedd treialu hynny, felly dylem ni fod â darlun eithaf manwl o bwy a ddaeth i'r gorsafoedd hynny, a pham a beth yr oedden nhw'n ei deimlo am y profiad, a fydd yn ein helpu i ddatblygu polisi ar gyfer etholiadau eraill. Llyr Gruffydd AC: Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Mae canlyniadau wythnos diwethaf yn fy marn i yn tanlinellu unwaith eto fod y gyfundrefn cyntaf i'r felin o safbwynt pleidleisio ddim yn gweithio. Dŷn ni wedi gweld enghraifft yng Nghaerdydd fan hyn o Blaid Cymru'n cael 17 y cant o'r bleidlais ac yn ennill dwy sedd, a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cael 13 y cant o'r bleidlais ac yn ennill 10 sedd. Nawr, dwi ddim yn gwneud pwynt pleidiol wleidyddol fan hyn, achos dwi'n gwybod mi fyddai yna rannau eraill o Gymru lle byddai fy mhlaid i ar ei cholled petaem ni yn mabwysiadu system fwy cyfrannol, ond a fyddech chi, Gweinidog, yn cytuno â fi ei bod hi nawr yn amser inni symud unwaith ac am byth o'r gyfundrefn cyntaf i'r felin, fel rŷn ni, gobeithio, yn mynd i weld fan hyn fel Senedd? Dwi'n gwybod bod yna fodd i awdurdodau lleol fabwysiadau modelau mwy cyfrannol, ond pan fo un blaid yn ennill dwy ran o dair o seddi yng nghyngor y brifddinas lle rŷn ni heddiw, does yna ddim cymhelliad yn fanna i newid y gyfundrefn, oes e? Felly, beth ŷch chi fel Llywodraeth yn mynd i'w wneud i fod yn fwy rhagweithiol i wneud i'r newid yma ddigwydd, yn hytrach na jest gadael i'r awdurdodau lleol ddewis a dethol ac efallai yn y diwedd bydd rhai yn, rhai ddim a bydd hynny'n waeth nag unrhyw beth. Felly, byddwn i'n licio clywed eich ymateb chi i hynny. Dwi'n meddwl mai stori fawr yr etholiadau lleol yr wythnos diwethaf yw'r creisis sydd wedi amlygu ei hun o safbwynt cynghorau bro a thref yng Nghymru. Mae'r niferoedd isel eithriadol o bobl oedd wedi eu rhoi eu hunain ymlaen, yn sicr yn yr ardal dwi'n byw ynddi ac yn ei hadnabod orau, wedi fy mrawychu i, a dweud y gwir, a chyn lleied o gynghorau bro a thref oedd ag unrhyw fath o etholiadau. Wrth gwrs, beth rŷn ni'n gweld yw niferoedd llai a llai, felly, yn cael eu hethol yn ddiwrthwynebiad a bod y rheini wedyn yn gallu cyfethol mwy a mwy o bobl sy'n dwysau y deficit democrataidd rŷn ni eisiau mynd i'r afael ag e. Dwi ddim yn gwybod a oes bwriad gyda chi fel Llywodraethi edrych yn benodol ar hyn. Yn amlwg, mae angen edrych ar a dadansoddi rhai o'r ffigurau, ond dwi hefyd eisiau deall beth yw'r rhesymau pam fod cyn lleied o bobl nawr eisiau rhoi eu hunain ymlaen ar gyfer y ffas lo agosaf sydd gennym ni i'n cymunedau, y lefel bwysicaf, gallech chi ddadlau, mewn sawl ffordd yn hynny o beth. A hefyd, wrth gwrs, rŷch chi fel Llywodraeth wedi creu statws ar gyfer cynghorau cymuned cymwys—eligible community councils—lle mae gofyn bod dwy ran o dair o'r cyngor wedi cael ei hethol i fod yn gymwys. Felly, ble mae hwnna'n gadael y cynghorau hynny lle does dim digon o bobl wedi rhoi eu hunain ymlaen, a beth ŷch chi'n meddwl yw'r oblygiadau iddyn nhw yn hynny o beth? Dwi hefyd yn croesawu'r ffaith bod dim rhaid cyhoeddi cyfeiriadau ymgeisyddion, ond mae yna broblem, dwi'n meddwl, yn mynd i godi yn sgil hynny nawr, oherwydd mae rhai ymgeisyddion yn cyhoeddi a rhai ddim. I'r rhai sydd ddim, dwi'n ofni—beth roeddwn i'n ei glywed nôl gan etholwyr oedd, 'O, maen nhw'n trio cuddio'r ffaith eu bod nhw ddim yn byw yn lleol.' Dwi'n ofni bod y rhai oedd â rhesymau cwbl ddilys dros beidio â chyhoeddi eu cyfeiriad yn cael eu pardduo gan y dybiaeth annheg yna. Felly dwi ddim wedi meddwl yn ddigonol am hyn, ond efallai fod angen inni sicrhau bod neb yn cyhoeddi cyfeiriadau, rhag ofn bod rhai pobl yn cael eu pardduo oherwydd, efallai, fod rhai yn cuddio yn fwriadol am resymau etholiadol yn hytrach na rhesymau personoldilys. Yn olaf, dwi'n falch, wrth gwrs, fod y Llywodraeth yn treialu dulliau gwahanol o safbwynt pleidleisio,a byddwn i eisiau gwneud mwy o hynny yn sicr, ond mae tyrnowt yn dal i ddisgyn mewn ardaloedd yn fwy na fydden ni'n dymuno. Mae e yn profi i fi, y ffaith bod y tyrnowt yn dal i ddisgyn, fod angen mynd llawer ymhellach na'r hyn rŷn ni wedi ei weld, a dwi'n siŵr bod bwriad gan y Llywodraeth i wneud hynny gydag amser, ond onid yw'r amser nawr wedi dod inni symud yn wirioneddol tuag at bleidleisio electronig? Mi oedd pobl 16 ac 17 oed yn cael pleidleisio am y tro cyntaf. Roeddwn i'n siarad â nifer fawr ohonyn nhw wrth ymgyrchu, a, bron yn ddieithriad, y cwestiwn a oedd yn cael ei ofyn i fi oedd, 'Ydyn ni'n gallu gwneud hynny'n electronig?', 'Oes yna ap ar gyfer gwneud hynny?', a bob tro, roeddwn i'n gorfod dweud, 'Na. Rŷch chi'n gorfod ffeindio ffordd o fynd i'r blwch pleidleisio er mwyn taro'ch pleidlais ar bapur, gyda phensil.' Wel, chi'n gwybod, roedd yr edrychiad roeddwn i'n ei gael yn ôl cystal â dweud, 'Wel, ym mha oes ydyn ni'n byw?' Felly, beth yw bwriad y Llywodraeth nawr? Ydych chi o ddifrif ynglŷn â symud i'r cyfeiriad yma neu beidio? Gallaf i wneud fy nhrethi gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Mae yna gwestiynau diogelwch, wrth gwrs, ond, os gallaf i wneud pethau fel yna, dyw e ddim y tu hwnt i allu unrhyw un i symud i'r cyfeiriad yna, ac mae'r amser wedi dod i ni wneud hynny nawr. Rebecca Evans AC: Diolch i Llyr Gruffydd am y cwestiynau hynny. O ran y dull o ethol a phleidleisio, rwy'n credu bod heddiw'n ddiwrnod pwysig o ran dyfodol y Senedd a'r ffordd y byddwn ni'n ethol Aelodau'r Senedd yn y dyfodol, o ystyried y cytundeb y mae ein dwy blaid wedi dod iddo a'r gwaith a fydd yn awr yn wynebu'r Senedd hon o ran craffu ar Fil maes o law, pan ddaw hwnnw gerbron. Ond rwy'n gwybod mai prif bwynt Llyr Gruffydd oedd effaith y system cyntaf i'r felin ar lywodraeth leol a beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wneud i newid ddigwydd o ran symud i Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy mewn awdurdodau lleol, oherwydd, fel y gŵyr cyd-Aelodau, roedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn rhoi'r darpariaethau hynny i ganiatáu i'r prif gynghorau hynny ddewis eu system bleidleisio rhwng y system cyntaf i'r felin a'r system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy. Mae'r darpariaethau hynny bellach mewn grym, ond rwy'n credu mai dyma'r pwynt yma, mai safbwynt Llywodraeth Cymru yw mai mater i awdurdodau lleol yw dewis gwneud y newid hwnnw. Felly, ni fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud i'r newid ddigwydd, ond rwy'n credu bod swyddogaeth i sicrhau bod gan y cynghorwyr hynny a fydd yn awr o bosibl yn mynd i'r afael â'r cwestiwn hwn y wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw i wneud penderfyniadau gwybodus am hynny, a chefais drafodaeth ddiddorol gyda'r Gymdeithas Diwygio Etholiadol ar yr union bwynt hwnnw. Felly, rwy'n credu bod gan Lywodraeth Cymru, os oes ganddi swyddogaeth y tu hwnt i osod y ddeddfwriaeth neu gyflwyno'r ddeddfwriaeth y mae'r Senedd wedi'i phasio, ei bod yn fwy o ran darparu gwybodaeth er mwyn i gynghorwyr allu gwneud y dewis iawn ar gyfer eu hardal leol. Rwy'n gwybod nad dyna'r ymateb y byddai Llyr Gruffydd eisiau ei glywed, ond byddwn yn rhoi ateb pendant i hwnnw. Ac yna, o ran cynghorwyr tref a chymuned, ydy, mae hwn yn faes y mae'n parhau i fod yn siomedig nad oes gennym ni restr lawn o ymgeiswyr yn cyflwyno ei hunain ym mhob ardal, ac mae hyn i gyd yn rhan o'r gwaith sy'n gysylltiedig â dangos pwysigrwydd bod yn gynghorydd, o ran prif gynghorau ond hefyd cynghorau tref a chymuned, a'r effaith anhygoel y gallwch chi ei chael, mewn gwirionedd, pan fydd gennych gyngor tref a chymuned gwirioneddol dda yn eich ardal. Felly, mae angen i ni wneud mwy o waith i ddeall yr hyn sy'n atal pobl rhag cyflwyno eu hunain. Deallwn fod pobl yn pryderu am eu hymrwymiadau eraill, yr ymrwymiad amser sy'n gysylltiedig â bod yn gynghorydd tref a chymuned. Felly, mae llawer, rwy'n credu, y mae angen i ni barhau i'w archwilio yn y fan yna a byddaf yn gwneud hynny gydag Un Llais Cymru wrth i ni barhau i geisio gwella iechyd ein cynghorau tref a chymuned ledled Cymru, gan edrych at y rhai gorau hynny, mewn gwirionedd, am ysbrydoliaeth o ran sut y gallwn sicrhau bod pob cyngor tref a chymuned yn cyrraedd y lefel honno o uchelgais y mae rhai ohonyn nhw yn bendant yn ei dangos. Ac yna, o ran y pwynt am gyfeiriadau ymgeiswyr, rwy'n credu ei bod yn debyg bod sgyrsiau pellach i'w cael o ran a ydym ni'n rhoi'r opsiwn hwnnw o gwbl ai peidio, oherwydd mae'r pwynt hwnnw a wnaeth Llyr Gruffydd yn un pwysig o ran beirniadu rhai ymgeiswyr am beidio â byw'n lleol. Mae'n haws i ni fel Aelodau o'r Senedd, oherwydd gallwn ni ddweud bod gennym gyfeiriad yn etholaeth Gŵyr, neu beth bynnag fo'r etholaeth, ond nid wyf i'n credu bod gan ymgeiswyr y dewis o roi'r ateb bod ganddyn nhw gyfeiriad yn y ward. Rwy'n gwybod eu bod wedi gallu nodi eu bod o fewn ardal y cyngor sir. Felly, mae rhywbeth, rwy'n credu, y gallwn ni edrych arno yn y fan yna, o bosibl, i wneud gwelliannau yn y dyfodol. Ac yna, unwaith eto, llawer i'w ddysgu ar y cynlluniau treialu. Rwy'n credu, fel y dywedais, ei bod yn ymddangos bod pethau wedi mynd yn ddidrafferth, sy'n dda, ac edrychwn ymlaen yn fawr at yr ymchwil hwnnw gan y Comisiwn Etholiadol a fydd yn cael ei gyhoeddi ac bydd cyfleoedd, rwy'n siŵr, i ni drafod hynny fel Senedd. Ac yna, o ran pleidleisio electronig, yn sicr, mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni'n cymryd diddordeb arbennig ynddo. Rwy'n credu bod pob Llywodraeth ledled y byd yn edrych i weld sut y gallwn ni symud at bleidleisio electronig. Cefais yr un sgyrsiau ag a wnaeth Llyr Gruffydd, rwy'n siŵr, o ran gallu ymgymryd â chymaint o rannau eraill o'n bywydau mewn ffordd rithwir, ond yna mae pleidleisio ei hun, er ein bod yn ceisio ei wneud mor hawdd â phosibl gyda'r cynlluniau treialu, gyda phleidleisio drwy'r post ac yn y blaen, yn dal i fod yn weithgaredd traddodiadol i raddau helaeth. Felly mae llawer i'w wneud yn bendant o ran diweddaru a moderneiddio yn y maes hwnnw. Carolyn Thomas AS: Rwy'n falch o ddweud bod Llafur wedi ennill mwy na'r holl bleidiau eraill gyda'i gilydd yn Lloegr, ond mae'r gwir lwyddiant i Lafur yma yng Nghymru, lle mae'r Prif Weinidog yn rhedeg Llywodraeth boblogaidd a blaengar, ac roedd bron i hanner yr holl enillion Llafur ar draws y DU gyfan yma yng Nghymru, sy'n wych. Hoffwn longyfarch pob cynghorydd newydd a gobeithio y byddan nhw'n mwynhau'r swyddogaeth bwysig gymaint ag y gwnes i dros y 14 mlynedd diwethaf. Roedd yr atodiad eleni gan Lywodraeth Cymru i gynghorau yn un da. Fodd bynnag, ni fydd y ddwy flynedd nesaf mor uchel, ac rwy'n gweld y bydd cyllid cyfalaf yn lleihau gan Lywodraeth y DU dros y tair blynedd nesaf, ar ben y diffyg cyllid Ewropeaidd. Gyda chynghorau'n cael eu torri i'r asgwrn o dan 10 mlynedd o gyni y Torïaid, a phwysau cynyddol ar wasanaethau, clywais y bore yma ddadl ar BBC Radio Wales yn dilyn adroddiad gan Sustrans am fforddiadwyedd trafnidiaeth gyhoeddus a chostau byw cynyddol fel pryder gwirioneddol. A ydych chi'n credu ei bod yn ddoeth i gynghorau ddefnyddio'r setliad da hwn tuag at fuddsoddi yn y ddwy flynedd nesaf, a pharhau i weithio'n gadarnhaol gyda Llywodraeth Cymru yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn? Diolch. Rebecca Evans AC: Diolch yn fawr iawn i Carolyn Thomas am y sylwadau hynny ac rwy'n ymuno â hi, unwaith eto, i longyfarch yr holl gynghorwyr sydd wedi'u hethol. Gwn fod gan Carolyn bersbectif penodol, ar ôl gwasanaethu ei hun, felly bydd yn gyfarwydd iawn â'r fraint o fod yn aelod, ond ychydig yn drist, mae'n debyg, o weld y rhan honno o'i bywyd wedi mynd, oherwydd, pan fyddaf yn siarad â chynghorwyr sydd wedi bod yn sefyll i lawr yn yr etholiad hwn, a'r rhai, yn anffodus, na chafodd eu hailethol, maen nhw'n sôn am eu profiad o fod yn gynghorydd gyda llawer o gynhesrwydd, am ei bod yn gymaint o fraint cael y cyfle hwnnw i gynrychioli'r bobl yr ydych yn byw wrth eu hymyl. Credaf fod hynny'n beth gwych i'w wneud, ac mae'n hyfryd cael y cyfle hwn i dynnu sylw at hynny yn y Siambr y prynhawn yma. Mae'n wir bod Llywodraeth Cymru wedi darparu setliad cyllideb da i lywodraeth leol yn y cylch cyllideb diweddaraf. Roedd hynny'n cael ei gydnabod yn fawr iawn, rwy'n credu, gan lywodraeth leol eu hunain. Gwn yn awr eu bod yn canolbwyntio'n fawr ar ddefnyddio'r setliad hwnnw i wneud y newid mwyaf posibl yn eu cymunedau, gan weithio'n agos iawn gyda Llywodraeth Cymru, fel yr ydym ni wedi'i wneud yn y cyfnod yr ydym wedi pasio drwodd yn ddiweddar. Rwy'n awyddus iawn yn awr i ddefnyddio'r cyfnod hwn sydd o'n blaenau i feithrin perthynas ag arweinwyr newydd a hefyd i feithrin perthynas â chynghorwyr newydd, aelodau cabinet newydd ac yn y blaen wrth i ni symud ymlaen, oherwydd rwy'n credu, drwy weithio gyda'n gilydd, yn amlwg, y gallwn ni gyflawni cymaint yn fwy. Cyfeiriodd Carolyn Thomas at gostau byw, ac yn amlwg rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y byddaf yn gweithio'n agos iawn arno gyda llywodraeth leol, ochr yn ochr â'r heriau mawr eraill sy'n ein hwynebu gyda'n gilydd, fel yr argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur, a'r mater pwysig iawn hwnnw o ran cynorthwyo pobl sy'n dod o Wcráin i Gymru i gael noddfa. Ac yn olaf, Mike Hedges. Mike Hedges AC: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Croesawaf datganiad y Gweinidog. Rwy'n llongyfarch yr holl gynghorwyr a etholwyd yn yr etholiad, pa blaid bynnag. Gwn y bydd pob un ohonyn nhw'n gwneud eu gorau dros eu hetholwyr dros y pum mlynedd nesaf. Credaf hefyd fod nifer o Aelodau yma'n falch na fydd yn rhaid iddyn nhw barhau i ddatgan buddiant bob tro y bydd eitem yn codi ynghylch llywodraeth leol. Rwy'n siŵr, pan welwn ni faint o bobl ifanc 16 a 17 oed a bleidleisiodd, y bydd yn is na'r nifer ar gyfer y boblogaeth gyffredinol. Yr hyn nad yw pobl iau yn ei ddeall—dim ond i ddilyn ymlaen o'r hyn a gododd Llyr Gruffydd—yw na allan nhw ddefnyddio dulliau pleidleisio electronig, pan allan nhw ddefnyddio dulliau electronig o dalu am nwyddau. Maen nhw'n credu y byddai gan bobl fwy o ddiddordeb mewn ceisio tynnu eu harian oddi arnyn nhw na cheisio tynnu eu pleidlais oddi arnyn nhw. A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried pleidleisio electronig mewn etholiadau yn y dyfodol? Ac er fy mod yn croesawu'r ffaith nad oes angen i gyfeiriadau ymgeiswyr fod ar y papur pleidleisio, pam na all rhan gyntaf y cod post fod yno, e.e. SA6, CF1, SA2, beth bynnag ydyw, fel y gall pobl weld nad yw'r ymgeisydd efallai'n byw gyda chyfeiriad y dywedir wrthyn nhw amdano, ond gallan nhw weld eu bod yn byw yn eu hardal? Yr un peth yr wyf i wedi'i ganfod mewn etholiadau y mae gan bobl y diddordeb mwyaf ynddo yw nid eich gwleidyddiaeth chi, ond ble'r ydych chi'n byw. Rebecca Evans AC: Rwy'n credu bod Mike Hedges yn gwbl iawn o ran y diddordeb sydd gan bobl, yn enwedig mewn etholiadau lleol, o ran o ble yr ydych chi'n dod, ble yr ydych chi'n byw ac yn y blaen. Felly, credaf fod hynny'n syniad da arall gan Mike Hedges y gallwn ni ei archwilio wrth i ni barhau i ddatblygu'r polisi hwn, sy'n rhoi'r lefel honno o breifatrwydd i ymgeiswyr a'u teuluoedd drwy beidio â datgelu eu cyfeiriad i'r cyhoedd, ond hefyd rwy'n credu ei fod yn rhoi'r wybodaeth honno i bobl leol y maen nhw yn ei dymuno o ran deall a yw'r ymgeiswyr lleol yn lleol i'w hardal ai peidio. Felly, syniadau da y prynhawn yma, y credaf y gallwn ni yn bendant edrych ymlaen at eu harchwilio ymhellach. Ac yna mae'r pwynt am bobl ifanc 16 a 17 oed sy'n pleidleisio am y tro cyntaf yn bwysig iawn. Nid oes gennym y data eto ar y niferoedd a ddefnyddiodd eu hawl i bleidleisio. Bydd yn ddiddorol gweld data'r Comisiwn Etholiadol o ran y prosiectau treialu ac a gawsant effaith benodol ar annog pobl ifanc 16 a 17 oed i bleidleisio. Rydym wedi gweithio'n agos iawn gydag awdurdodau lleol, gyda sefydliadau'r trydydd sector a phartneriaid eraill, gan gynnwys y Comisiwn Etholiadol, i gynyddu nifer y bobl ifanc 16 a 17 oed ar y gofrestr. Roedd hynny, ynddo'i hun, yn broblem, os cofiwn i gyd, yn ôl yn ein hetholiad ein hunain, nad oedd pobl ifanc 16 a 17 oed wedi bod yn manteisio ar y cyfle hwnnw i gofrestru i bleidleisio. Rydym hefyd wedi darparu cyllid ychwanegol i gynyddu capasiti mewn timau etholiadau awdurdodau lleol, fel bod ganddyn nhw y gallu yno i wneud mwy o waith o ran ymgysylltu â phobl ifanc, ac rydym hefyd wedi rhoi grantiau i sefydliadau'r trydydd sector i gefnogi'r gwaith arloesol, wyneb yn wyneb y maen nhw yn ei wneud gyda phobl ifanc a hefyd gyda'r dinasyddion tramor cymwys i gefnogi'r unigolion hynny i ddefnyddio eu hawl i bleidleisio. Ac rydym hefyd wedi gweithio i sicrhau bod mwy o adnoddau a chyfleoedd ar gael i athrawon er mwyn iddyn nhw allu ymgysylltu â dysgwyr mewn ysgolion drwy waith yr Association for Citizenship Teaching, a hefyd y Politics Project, yr oedd yn fraint fawr i mi fod yn rhan ohono a chael y cyfle i siarad â phleidleiswyr tro cyntaf mewn ysgolion ar draws fy etholaeth fy hun. Ac roedd y sgyrsiau hynny'n wirioneddol wych o ran deall pryderon penodol y bobl ifanc a'u gobeithion a'u hofnau ar gyfer y dyfodol. Felly, os caiff fy nghyd-Aelodau gyfle i gymryd rhan yn hynny, byddwn i yn ei argymell. Ac yna rydym ni'n parhau, fel y dywedais i, i weithio'n agos gyda phartneriaid i nodi'r hyn sydd wedi gweithio, sut y gallwn adeiladu ar y sylfeini hyn yr ydym wedi'u gosod, ond hefyd pa rwystrau sy'n parhau i fodoli. Felly, credaf fod hynny'n dod â fy nghyfraniad i ben, ond, cyn i mi orffen, Dirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i'r arweinwyr yr wyf wedi gweithio'n agos iawn gyda nhw, ac mae fy nghyd-Aelod Julie James wedi gweithio'n agos iawn gyda nhw, sydd naill ai wedi ymddeol neu na chawson nhw eu hailethol. Felly, y Cynghorydd Nigel Daniels ym Mlaenau Gwent, y Cynghorydd Philippa Marsden yng Nghaerffili, y Cynghorydd Emlyn Dole yn sir Gaerfyrddin, a hefyd y Cynghorydd Rosemarie Harris ym Mhowys, hoffwn ddiolch yn fawr iawn am yr arweiniad y maen nhw wedi'i ddangos yn eu cymunedau. Mae wedi bod yn fraint gweithio gyda nhw. Ac yna hefyd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn yng Ngheredigion a'r Cynghorydd Neil Moore, y ddau ohonyn nhw'n ymddeol y tro hwn—Neil Moore ym Mro Morgannwg—y ddau ohonyn nhw wedi bod yn fraint gweithio gyda nhw. Diolch i'r Gweinidog. 7. Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Rhannu Swydd a Chynorthwywyr Gweithrediaeth) 2022 Eitem 7 heddiw, Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Rhannu Swydd a Chynorthwywyr Gweithrediaeth) 2022, a galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig. Cynnig NDM7995 Lesley Griffiths Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Rhannu Swydd a Chynorthwywyr Gweithrediaeth) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Mawrth 2022. Cynigiwyd y cynnig. Rebecca Evans AC: Rwy'n croesawu'r cyfle i gyflwyno Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Rhannu Swydd a Chynorthwywyr Gweithrediaeth) 2022 heddiw. Mae'r rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth i sicrhau bod y trefniadau ynglŷn â rhannu swyddi yn gymwys fel y bwriadwyd pan wnaed Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Yn sylfaenol i drefniadau rhannu swyddi gweithredol yw bod gan aelodau sy'n rhannu'r un swydd weithredol un bleidlais rhyngddyn nhw a gyda'i gilydd yn cyfrif fel un aelod wrth benderfynu a yw cyfarfod yn gworwm. Felly, mae'r rheoliadau hyn yn ofynnol i sicrhau cysondeb â'r egwyddor hon o ran pwyllgorau gwasanaethau democrataidd, pwyllgorau safonau a phwyllgorau llywodraethu ac archwilio. Mae Deddf 2021 hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer penodi aelodau i gynorthwyo'r weithrediaeth i gyflawni ei swyddogaethau. Nid yw'r cynorthwywyr hyn yn aelodau o'r weithrediaeth. Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn glir, at ddibenion dyrannu'r un sedd sydd ar gael i'r weithrediaeth ar y pwyllgor llywodraethu ac archwilio neu'r pwyllgor gwasanaethau democrataidd, y gellir penodi un cynorthwy-ydd i'r weithrediaeth neu un aelod o'r weithrediaeth, nid y ddau. Mae'n ofynnol i'r rheoliadau hyn sicrhau cysondeb o ran trefniadau ynglŷn â phwyllgor safonau awdurdod lleol. Gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau hyn heddiw. Nid oes unrhyw siaradwyr eraill. Weinidog, a ydych am ychwanegu unrhyw beth arall? Rebecca Evans AC: Na, diolch. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nag oes, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. A daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch yn fawr. Daeth y cyfarfod i ben am 16:30. QNR Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru Carolyn Thomas: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i hyrwyddo cyflogaeth yn y sector cyhoeddus? Mark Drakeford: We promote employment opportunities within the public sector through a range of different activities such as: jobs fairs, careers interviews and particularly through the young person's guarantee. Janet Finch-Saunders: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllid ar gyfer cartrefi gofal yng Ngogledd Cymru? Mark Drakeford: Care homes in north Wales, as in the rest of Wales, receive income from a range of sources including local authorities. The Welsh Government budget for 2022-23 includes an additional £180.5 million local government allocation for social care, a £45 million reform fund and a £50 million capital fund for social care. Sian Gwenllian: A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar gynllun ar gyfer ysgol feddygol y Gogledd? Mark Drakeford: Ar 4 Ebrill cynhaliwyd cyfarfod cyntaf bwrdd annibynnol rhaglen ysgol feddygol y gogledd, dan gadeiryddiaeth yr Athro Iwan Davies. Mae wedi cyfarfod am yr ail waith heddiw. Fy nisgwyliad yw y bydd bwrdd y rhaglen yn gweithio i sicrhau’r garfan gyntaf o israddedigion ym mis Medi 2023. Llyr Gruffydd: Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella lefelau'r nifer sydd yn pleidleisio mewn etholiadau lleol? Mark Drakeford: Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i wella lefelau’r nifer sy’n pleidleisio mewn etholiadau lleol. Dangosir yr uchelgais hon yn ein cynlluniau peilot ar gyfer pleidleisio hyblyg, a’r ffaith ein bod yn ddiweddar wedi ymestyn yr hawl i bleidleisio i bobl ifanc 16 a 17 oed a dinasyddion tramor cymwys.
uk-hansard-senedd-cy
senedd2022-05-10
2024-06-01T00:00:00
{ "year": "2022", "language": "cy", "license": "Open Parliament Licence - https://www.parliament.uk/site-information/copyright-parliament/open-parliament-licence/" }
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. Datganiad gan y Llywydd Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod yma ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn y Siambr ac eraill yn ymuno trwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y cyfarfod yma, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda. 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Yr eitem gyntaf yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Carolyn Thomas. Cynhwysiant Digidol mewn Cymunedau Gwledig Carolyn Thomas AS: 1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cynhwysiant digidol mewn cymunedau gwledig? OQ57979 Jane Hutt AC: Mae ein rhaglen cynhwysiant digidol ac iechyd, Cymunedau Digidol Cymru, yn cefnogi sefydliadau ar draws pob cymuned a sector i helpu pobl i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd y gall technoleg ddigidol eu cynnig. Ac mae dros 91,000 o bobl wedi cael cymorth gyda sgiliau digidol sylfaenol, cymhelliant a hyder, a all eu helpu i gael cyflogaeth, cyrchu gwasanaethau a chefnogi llesiant. Carolyn Thomas AS: Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae llawer o fy nhrigolion yng ngogledd Cymru'n byw mewn cymunedau gwledig sy’n aml yn cael eu gwasanaethu’n wael gan y seilwaith digidol presennol, ac er bod rhai bellach yn cael cynnig gwell gwasanaethau, gall fod yn anodd gwneud y penderfyniadau cywir o ran darparwyr, mathau o fand eang a newid llinellau ffôn. Mae hyn yn arbennig o wir wrth i'r argyfwng costau byw barhau a gall gwella cysylltedd digidol cartref fod yn ddrud. Pa gymorth sydd gan Lywodraeth Cymru ar waith i arwain pobl mewn cymunedau gwledig drwy’r broses o wella cysylltedd digidol fel nad ydynt yn cael eu hallgáu o fyd lle mae bod ar-lein bellach yn hanfodol? Jane Hutt AC: Diolch yn fawr iawn, Carolyn Thomas, am eich cwestiwn pwysig fel yr Aelod rhanbarthol dros Ogledd Cymru. Mae gwefan Llywodraeth Cymru www.llyw.cymru/band-eang-yng-nghymru yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol i helpu i arwain pobl drwy’r broses o wella cysylltedd digidol, gan gynnwys yr amrywiaeth o opsiynau sydd ar gael. Mae'n hanfodol yn awr ein bod yn cynyddu ein dealltwriaeth a'n hymwybyddiaeth o hynny, fel y dywedwch, yn enwedig mewn perthynas â'r argyfwng costau byw, ond hefyd er mwyn croesawu'r ffaith bod gan lawer o awdurdodau lleol swyddogion ymgysylltu band eang sy'n helpu pobl a chymunedau i wella eu cysylltedd digidol, gan gynnwys Ynys Môn, Gwynedd, sir y Fflint, sir Ddinbych a Wrecsam yn y gogledd. Felly, mae’n bwysig ein bod yn sicrhau y gwneir y mwyaf o hyn ac estyn allan at eich dinasyddion a’ch etholwyr. Natasha Asghar AS: Weinidog, mae pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig nad ydynt ar-lein fel arfer wedi'u hallgáu oherwydd problemau gyda darpariaeth band eang, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Carolyn. Gyda gwasanaethau band eang symudol a llinell sefydlog, mae'n aml yn wir fod y ddau fath yn broblem i etholwyr. Pobl sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol yw rhai o’r defnyddwyr mwyaf o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac maent mewn perygl o gael eu gadael ar ôl gan ddatblygiadau diweddar sydd wedi golygu bod gwasanaethau, fel gwneud apwyntiadau, gwneud ceisiadau am bresgripsiynau ac ymgynghoriadau wedi symud ar-lein. O gofio bod llai o bobl yng Nghymru'n defnyddio’r rhyngrwyd i reoli eu hiechyd na gweddill y Deyrnas Unedig, beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud—a gwn o’ch ateb blaenorol, ichi sôn am y wefan a’r gwasanaethau cymorth, ond beth yn benodol y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud—i sicrhau nad yw pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig yn cael eu gadael ar ôl a'u hallgáu o fanteision cyrchu gwasanaethau iechyd ar-lein? Diolch. Jane Hutt AC: Diolch, Natasha Asghar. Mae hwnnw'n gwestiwn pwysig iawn hefyd. Yn ddiddorol, gwyddom drwy arolwg cenedlaethol Cymru nad ardaloedd gwledig a threfol o reidrwydd yw achos sylfaenol allgáu digidol—mae 93 y cant o bobl mewn ardaloedd gwledig a threfol yn defnyddio'r rhyngrwyd. Ond fel y dywedwch, o ran cynhwysiant digidol a mynediad at iechyd, mae'n bwysig cydnabod hefyd fod £2 filiwn y flwyddyn wedi'i fuddsoddi yn y rhaglen honno—y rhaglen cynhwysiant digidol ac iechyd, Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant—ers mis Gorffennaf 2019. A dweud y gwir, cefais gyfarfod am hyn gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Cwmpas, sy'n gweithio i hyrwyddo rhaglen Cymunedau Digidol Cymru, yr wythnos diwethaf, a buom yn edrych ar y materion penodol hyn mewn perthynas â mynediad at iechyd. Mae'n ddiddorol hefyd, er enghraifft, fod byrddau iechyd yn mabwysiadu cyfrifoldebau. Mae bwrdd Hywel Dda'n gweithio’n agos gyda Cymunedau Digidol Cymru i ystyried sut i ymgorffori cynhwysiant digidol yn eu cynlluniau ac maent hefyd yn ymrwymo i’r siarter cynhwysiant digidol. Ond yn olaf ar y pwynt hwn, rydym yn awyddus iawn i weithio ar safon ofynnol Cymru ar gyfer bywyd digidol, ac mae hynny bellach yn mynd rhagddo—rydym wedi comisiynu Prifysgol Lerpwl i barhau â'r gwaith hwn. Mabon ap Gwynfor AS: Diolch yn fawr iawn i Carolyn am y cwestiwn yma. Mae gen i drigolion yn Nwyfor Meirionnydd, yn Islaw'r-dref, er enghraifft, sy'n methu â chynnal eu busnes ar-lein ac sy'n gorfod symud i ffwrdd neu gau'r busnes i lawr. Mae gen i blant bach sy'n cael eu heithrio o sgyrsiau yn yr ysgol achos eu bod nhw'n methu â gweld y fideo diweddaraf ar YouTube, neu'n methu â chael mynediad i Netflix, er mwyn medru cymryd rhan yn y sgyrsiau efo'u cyd-ddisgyblion nhw. Mae eraill yn methu â gwneud gwaith cartref ar-lein, neu'n methu â chofrestru stoc oherwydd diffyg cysylltedd. Dydw i ddim yn gwybod sawl gwaith dwi wedi cael cyfarfod efo'r awdurdodau, boed yn Openreach neu'n rhywun arall, a hwythau'n dweud efo balchder eu bod nhw'n mynd i gyrraedd 95 y cant o'r boblogaeth o fewn rhai blynyddoedd. Y gwir ydy, ni ddylid anelu i gyrraedd 95 y cant o'r boblogaeth; dylid anelu i gyrraedd 100 y cant o'r boblogaeth, a dim llai. Beth ydy'r pwynt hefyd i drigolion gwledig gael mynediad i dechnoleg heddiw mewn pum mlynedd, pan fydd y dechnoleg mewn pum mlynedd wedi symud ymlaen a hwythau'n cael eu heithrio o'r dechnoleg newydd yna? Felly mae'n fater o gyfiawnder cymdeithasol. A wnewch chi, felly, sicrhau bod cael mynediad i'r we i bawb yng Nghymru—nid canran o'r bobl, ond i bawb—yn flaenoriaeth i chi fel Llywodraeth? Jane Hutt AC: Diolch yn fawr am eich cwestiwn pwysig iawn. Jane Hutt AC: Mewn gwirionedd, mae Cymunedau Digidol Cymru yn cefnogi prosiect adfywio cymunedol Dinasyddion Ar-lein—mae'n debyg eich bod yn ymwybodol ohono, Mabon—sef Gwynedd Ddigidol, sy'n canolbwyntio ar gefnogi pobl â sgiliau digidol sylfaenol sy'n gysylltiedig â chyflogaeth. Hefyd, gan gydnabod nad yw telathrebu wedi’i ddatganoli i Gymru—gwnaethom sylwadau ar hynny ddoe—rydym yn parhau i sicrhau gwelliannau mewn cysylltedd digidol, yn benodol ar draws gogledd Cymru i ymateb i’ch cwestiwn, ond wrth gwrs, ar gyfer Cymru gyfan. Felly, ar gyfer y gogledd, o dan ein cynlluniau gwerth £56 miliwn i gyflwyno band eang ffeibr llawn, rydym eisoes wedi darparu mynediad at fand eang ffeibr llawn i 8,869 o adeiladau yn chwe sir gogledd Cymru, a chan weithio'n agos iawn gyda Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, rydym wedi cysylltu campysau a phrosiectau coridor. Ffoaduriaid o Wcráin ac Affganistan Joel James MS: 2. Pa fentrau sydd gan Lywodraeth Cymru i helpu ffoaduriaid o Wcráin ac Affganistan i integreiddio â chymunedau Cymru? OQ57961 Jane Hutt AC: Diolch am eich cwestiwn, Joel. Drwy ein hymagwedd tîm Cymru, mae gwasanaethau ar waith i roi cymorth i ffoaduriaid o Wcráin ac Affganistan. Ac mae ein cynllun cenedl noddfa yn nodi’r camau yr ydym yn eu cymryd i integreiddio pawb sy’n ceisio noddfa yng Nghymru. Joel James MS: Diolch, Weinidog. Cyfarfûm yn ddiweddar â chynrychiolydd o’r grŵp Alltudion ar Waith, sy’n dadlau bod gennym gyfle i helpu ffoaduriaid o Affganistan a Wcráin yng Nghymru i ennill sgiliau a fydd yn eu helpu i integreiddio yma ac a fydd yn ddefnyddiol os a phan fyddant yn gallu dychwelyd adref. Enghraifft sydd eisoes wedi’i chrybwyll yn y Siambr fyddai rhoi’r cyfle i ffoaduriaid o Affganistan—y mae gan lawer ohonynt brofiad milwrol blaenorol—hyfforddi fel gyrwyr cerbydau nwyddau trwm. Roeddent hefyd yn argymell y dylai sefydliadau ffoaduriaid gael cymorth gan Lywodraeth Cymru, yn enwedig gyda gorbenion a chostau rheoli, a chael cyllid iddynt allu cynnal prosiectau sy'n darparu gwasanaethau perthnasol. Credaf fod hynny’n bwysig i ffoaduriaid o Affganistan a Wcráin yn benodol sy'n agored i gael eu targedu gan bobl ddiegwyddor i weithio am arian parod ac islaw’r isafswm cyflog, neu hyd yn oed i gael eu gorfodi i weithio o dan amodau caethlafur. Weinidog, fel yr arweinydd ar faterion o’r fath yng Nghymru, pa drafodaethau a gawsoch gyda Llywodraeth y DU ynghylch cynlluniau i gael mynediad at anghenion hirdymor a setiau sgiliau presennol ffoaduriaid o Affganistan a Wcráin yng Nghymru, a pha lwybrau a gynigiwyd i’w hatal rhag cael eu targedu? Diolch. Jane Hutt AC: Diolch am eich cwestiwn defnyddiol iawn. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu gwasanaethau cynghori ac eirioli hollbwysig i bobl sy’n ceisio noddfa. A dweud y gwir, yn ddiweddar, dyfarnwyd cyllid i gonsortiwm a arweinir gan Gyngor Ffoaduriaid Cymru ar gyfer y gwasanaeth cymorth i geiswyr noddfa, ac mae hwn yn wasanaeth olynol i'r rhaglen hawliau lloches, a ariannwyd gennym dros y tair blynedd diwethaf. Ond mae gennym hefyd ein gwefan noddfa, y byddwch yn ymwybodol ohoni rwy'n siŵr, sy'n darparu gwybodaeth yn benodol ar gyfer pobl a ddaw yma drwy gynlluniau Wcráin, ac Affganistan yn wir. Fel y dywedwch, yn gwbl gywir, y sgiliau sydd yno, y sgiliau sy'n dod, yn enwedig o fis Awst, gyda ffoaduriaid o Affganistan, y sgiliau hynny—cyfieithu, a llawer o setiau sgiliau eraill—. A dweud y gwir, cyfarfûm â rhai o’r ffoaduriaid o Affganistan a oedd gyda ni yn yr Urdd, ac roedd menywod â sgiliau hefyd yn y sector iechyd, yn ogystal â sgiliau busnes. Felly, mae'n hanfodol, ar gyfer integreiddio, fod modd gwneud y cyfraniadau hynny. Felly, rydym yn darparu’r wybodaeth am fynediad at iechyd, addysg a chyflogaeth, ac mae gan y wefan hefyd feddalwedd cyfieithu testun i leferydd er mwyn sicrhau bod y wefan yn hygyrch i bobl sy’n ceisio noddfa ac sy'n ymuno â ni yng Nghymru yn awr, gan integreiddio, a chyfrannu mewn cynifer o ffyrdd wrth gwrs. Mae angen inni ddefnyddio eu sgiliau. Ers blynyddoedd lawer, rydym wedi cefnogi meddygon sy’n ffoaduriaid hefyd, sydd bellach yn rhan o’n GIG. Ond byddai'n rhaid imi ddweud bod yr hawl i weithio'n fater allweddol a godais droeon gyda Gweinidogion mewnfudo Llywodraeth y DU, ar y cyd, yn wir, â fy swyddogion cyfatebol o Lywodraeth yr Alban. Mae’n hanfodol ein bod yn galluogi ein ffoaduriaid i weithio a defnyddio'u set sgiliau, yn ogystal â chael mynediad at sgiliau newydd yng Nghymru. Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Joel James. Joel James MS: Diolch, Lywydd. Weinidog, a ydych yn cytuno â dadansoddiad Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru o ddyfarniadau diweddar yr Uchel Lys ar brofi mewn cartrefi gofal yn ystod COVID-19? Jane Hutt AC: Mae hwn yn gwestiwn sydd—. Yn wir, ymatebodd y Prif Weinidog i’r cwestiynau hyn ddoe, ac wrth gwrs, bydd yr ymchwiliad annibynnol yn mynd i'r afael â’r holl faterion hyn. Joel James MS: Diolch. Mae’n drueni, Weinidog, eich bod yn parhau i ailadrodd llinellau eich Prif Weinidog, a’r cyn-Weinidog iechyd, sydd fel pe baent yn meddwl na ddylai gweithredoedd neu ddiffyg gweithredu Llywodraeth Cymru yn ystod COVID-19 arwain at unrhyw ganlyniadau o sylwedd. Dylid cofio bod Cymru bythefnos gyfan ar ôl Lloegr cyn i’ch Llywodraeth gyflwyno profion cyffredinol mewn cartrefi gofal, ac rwy'n atgoffa'r Senedd fod y comisiynydd pobl hŷn wedi dweud yn ddiweddar fod dyfarniad yr Uchel Lys yn tanlinellu’r angen am ymchwiliad cyhoeddus penodol i Gymru er mwyn archwilio effaith y penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru, a darparu atebion mawr eu hangen i'r bobl sy'n chwilio amdanynt. Mae eich penderfyniad i wrthod cynnal ymchwiliad cyhoeddus penodol i Gymru yn awgrymu eich bod yn fodlon â'r sefyllfa bresennol. A wnewch chi sefyll dros hawliau pobl hŷn a chefnogi galwad y comisiynydd pobl hŷn? Jane Hutt AC: Wel, rwy’n falch iawn o gael cyfarfodydd rheolaidd gyda’r comisiynydd pobl hŷn. A dweud y gwir, cyfarfûm â’r comisiynydd pobl hŷn ychydig wythnosau’n ôl yn unig, a’r pynciau yr oedd hi am eu codi gyda mi oedd ffyrdd y gallem wella hawliau pobl hŷn yng Nghymru, a buom yn trafod amrywiaeth o ffyrdd y gallwn wneud hynny. Roedd yn falch iawn ein bod wedi dweud y byddem nid yn unig yn hybu’r ymgyrch mynediad at gredyd pensiwn, sy’n hollbwysig i hawliau pobl hŷn yng Nghymru, ond hefyd yn edrych ar faterion fel sicrhau er enghraifft fod ein strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol hefyd yn mynd i'r afael â materion sy'n gysylltiedig â cham-drin pobl hŷn. Mae'n hollbwysig fod y comisiynydd pobl hŷn yn sefyll dros hawliau pobl hŷn yng Nghymru. Mae hi'n gomisiynydd annibynnol. Ac yn fy rôl i, ac yn wir, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, rydym nid yn unig yn gwrando ar faterion a godir gan y comisiynydd pobl hŷn, yn benodol ynghylch y meysydd polisi y gwyddom amdanynt, fel costau byw, y mae’r Llywodraeth Dorïaidd, wrth gwrs, yn eu gwneud mor anodd i bobl hŷn, rydym hefyd yn ymateb i'r materion allweddol y mae'n eu codi. Joel James MS: Diolch am eich sylwadau, Weinidog, ond credaf y bydd llawer o bobl yn dal yn siomedig â’r ymateb a roesoch. Gan droi at bwnc arall, yn y newyddion, rydym wedi clywed dro ar ôl tro pa mor brin o arian yw cyllideb Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yn ei thyb hi. Ond fe’i gwelwn wedyn yn gwastraffu arian ar astudiaethau o ddichonoldeb incwm sylfaenol cyffredinol ac ymchwil i wythnos waith pedwar diwrnod. Roeddwn yn sgrolio drwy’r cyfryngau cymdeithasol yn ddiweddar pan welais fideo cerddoriaeth am gomisiynydd cenedlaethau’r dyfodol a’r gwaith y mae ei swyddfa'n ei wneud. Ni fyddwn yn hoffi dychmygu faint o arian a wariwyd ar hynny, a gwnaeth y fideo i mi wingo, mae'n rhaid imi ddweud. Weinidog, yng ngoleuni sylwadau’r comisiynydd ynglŷn â bod yn brin o arian, a ydych yn cytuno nad gwario arian mawr ar fideo cerddoriaeth yw’r defnydd gorau o’i chyllideb, fideo y talwyd amdanogan drethdalwyr Cymru? Diolch. Jane Hutt AC: Wel, rwy’n falch iawn o’r ymateb a gaf i ddeddfwriaeth llesiant cenedlaethau’r dyfodol, ac yn wir, i benodi comisiynydd annibynnol cryf. Ac roeddwn yn meddwl tybed a hoffech ystyried hefyd y pwyntiau a wnaeth yn gynharach yr wythnos hon, sydd, yn fy marn i, yn berthnasol iawn i bob un ohonom yma yn y Siambr. Dros y dyddiau diwethaf, mae comisiynydd cenedlaethau’r dyfodol, Sophie Howe, ac yn wir, Laura Ann-Jones, wedi rhannu eu straeon eu hunain am rywiaeth mewn bywyd cyhoeddus. Gwn, yn anffodus, y bydd gan lawer o gyd-Aelodau yn y Siambr hon eu henghreifftiau eu hunain i’w rhannu. Ac roedd comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, a chyd-Aelodau ar draws pob plaid yn y Siambr hon yn wir, yn ddewr iawn i sôn am hyn. Rwy’n falch o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a chyflawniad y comisiynydd. Mae agenda llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn treiddio ac yn ysgogi gwelliant parhaus yn y ffordd y mae’r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus yn gweithio. Mae a wnelo hyn â chenedlaethau'r dyfodol yn disgwyl ansawdd bywyd gwell ar blaned iach. Mae hon yn ddeddfwriaeth arloesol, sydd bellach yn cael ei hadlewyrchu ledled y byd. Llefarydd Plaid Cymru, Sioned Williams. Sioned Williams MS: Diolch, Lywydd. Weinidog, mae’r cwmnïau olew a nwy yn gwneud mwy o elw nag erioed, biliynau a biliynau o bunnoedd anweddus. Mae'n anodd iawn ei stumogi, ac yn sicr, mae'n teimlo'n annerbyniol wrth inni brofi argyfwng costau byw yng Nghymru ar raddfa sy'n anodd ei hamgyffred. Mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn amcangyfrif na fydd gan fwy nag un o bob pump o bobl yng Nghymru ddigon o arian yn weddill ar ôl talu biliau hanfodol i dalu am y cynnydd pellach a ragwelir ym mhrisiau ynni ym mis Hydref. Mae’r amcangyfrifon tlodi tanwydd diweddaraf yn dangos bod 98 y cant o aelwydydd incwm isel yn byw mewn tlodi tanwydd, a dywedir bod nifer syfrdanol o aelwydydd incwm isel, 41 y cant, yn byw mewn tlodi tanwydd difrifol. Roedd yn anghredadwy, ac a dweud y gwir, yn ffiaidd clywed Boris Johnson yn dweud ddoe nad oes ateb hud ar gael i deuluoedd mewn angen, pan fo Llywodraeth y DU wedi methu defnyddio’r pŵer a’r adnoddau sydd ganddynt i roi cymorth i bobl ar yr adeg y maent ei angen fwyaf. Mae ymdrechion Llywodraeth Cymru i liniaru’r argyfwng hwn, gyda mesurau fel cynllun cymorth tanwydd y gaeaf, i’w croesawu. Rwy'n siŵr fod y Gweinidog yn cytuno â mi ei bod yn hollbwysig fod y taliadau sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru yn cyrraedd pob cartref cymwys. Felly, a allai’r Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni, os gwelwch yn dda, am y nifer sydd wedi manteisio ar gynllun cymorth tanwydd y gaeaf? Pa wersi a ddysgwyd ar gyfer cyflwyno’r cynllun yn y dyfodol, wedi iddi gyhoeddi y bydd yn cael ei lansio yn yr hydref? Ac ai bwriad y Gweinidog yw gwneud taliadau cyn mis Hydref i helpu i atal pobl rhag mynd heb wres a thrydan yn ystod y misoedd oeraf? Jane Hutt AC: Diolch yn fawr am eich cwestiynau pwysig, Sioned Williams. Rwy’n siŵr y byddech yn ymuno â mi, fel y mynegwyd gennych eisoes, i ffieiddio at y ffordd yr ymatebodd Prif Weinidog y DU ddoe—ffieiddio at y ffordd y siaradodd am bobl heb unrhyw ddealltwriaeth o fywydau pobl mewn gwirionedd. Ni allai ateb y cwestiwn pan ofynnwyd iddo, 'Beth yw eich barn am rywun sydd ond yn gallu cael un pryd y dydd ac sy'n teithio mewn bws er mwyn cadw'n gynnes gyda'u tocyn bws am ddim?' Ond mae'n hollbwysig ein bod yn gwneud yr hyn a allwn yn Llywodraeth Cymru. Ar ein cynllun cymorth tanwydd y gaeaf, mae gennym yr etholiadau llywodraeth leol ar hyn o bryd, a chyn gynted ag y bydd y rheini wedi bod, byddwn yn edrych ar y ffigurau diweddaraf ar y nifer sydd wedi manteisio ar gynllun cymorth tanwydd y gaeaf. Rydym am ymestyn cymhwysedd, ac wrth gwrs—rydym newydd fod yn siarad am bensiynwyr—byddwn yn edrych nid yn unig ar bobl sydd ar gredyd pensiwn, ond ar gymhwysedd ehangach o ran y nifer sy'n manteisio ar y cynllun. Oherwydd mewn perthynas â thlodi tanwydd, rwy'n awyddus i sicrhau y gallwn roi'r cyllid hwnnw’n syth ym mhocedi’r rheini sydd ei angen drwy’r argyfwng ofnadwy hwn. Hefyd, yr wythnos nesaf, byddaf yn cael cyfarfod—cyfarfod bord gron—ar drechu tlodi bwyd hefyd, gan fod hyn oll yn rhan o'r argyfwng costau byw, i edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud, ac i ddeall y ffyrdd y mae banciau bwyd a’r sefydliadau sy’n ceisio trechu tlodi bwyd hefyd yn ceisio trechu tlodi tanwydd, ac yn edrych ar ffyrdd y gall talebau tanwydd hefyd, er enghraifft, fod yn rhan o’r ffordd y byddwn yn eu cefnogi. Ar Cyngor ar Bopeth, rwyf am ddweud eu bod mor bwysig, y rôl y maent yn ei chwarae gyda Hawliwch yr Hyn sy’n Ddyledus i Chi ar gyfer pob budd-dal, sy'n ymwneud â hawlio budd-daliadau'r DU. Ond rydym yn pwyso arnynt. Sioned Williams MS: Diolch, Weinidog. Un o nodau cynllun peilot incwm sylfaenol cyffredinol y Llywodraeth yw gwella'r cymorth sydd ar gael i bobl ifanc sy'n gadael gofal mewn ymgais i drechu tlodi a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb. Mae mesurau arloesol a radical, fel incwm sylfaenol cyffredinol, yn allweddol wrth fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw. Ond mae Barnardo’s Cymru, er eu bod yn croesawu’r cynllun, wedi codi rhai cwestiynau mewn perthynas â thai cynaliadwy. Mae pobl ifanc sy’n gadael gofal yn aml yn cael mynediad at lety lled-annibynnol, fel fflatiau mewn cyfadeilad, ond mae’r math hwn o lety lled-annibynnol yn ddrud i’w redeg, ac o'r herwydd, gall rhenti fod yn uchel. I lawer o bobl sy'n gadael gofal, byddai rhent yn cael ei dalu'n uniongyrchol i landlordiaid y math hwn o lety drwy fudd-dal tai. Fodd bynnag, bydd y rheini sy'n cymryd rhan yn y cynllun peilot incwm sylfaenol yn cael llai o fudd-daliadau o ganlyniad i'w hincwm. Felly, Weinidog, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y rheini sy’n cymryd rhan yn y cynllun peilot yn cael cymorth ariannol i gael y gefnogaeth a’r llety gorau posibl. Sut y bydd y Llywodraeth yn sicrhau nad yw'r rheini sy’n rhan o'r cynllun yn cael eu datgymell yn ariannol rhag cael mynediad at dai â chymorth? Jane Hutt AC: Rwy’n ddiolchgar iawn, fel rwyf wedi’i ddweud o’r blaen, am eich cefnogaeth ac am gefnogaeth eich plaid i’n cynllun peilot incwm sylfaenol cyffredinol. Ar hyn o bryd, rydym yn ceisio sicrhau ein bod yn cwmpasu'r cynllun peilot, yn enwedig wrth weithio gyda phobl ifanc eu hunain, pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, i sicrhau ein bod yn gwneud hyn yn gywir mewn perthynas â'u hanghenion a'u disgwyliadau. Yr hyn sy’n bwysig iawn am y cynllun peilot yw ei fod yn ddiamod. Byddant yn cael eu cyllid ond hefyd yn cael cymorth o ran y ffordd y gallant gael mynediad yn sgil hynny at dai, at swyddi, hyfforddiant ac addysg. Mae'r cynllun peilot incwm sylfaenol yn canolbwyntio, wrth gwrs, ar rai sy'n gadael gofal o 18 oed ymlaen. Bydd yn cael ei lansio yn y flwyddyn ariannol hon, a bydd yn darparu £1,600 y mis i'r garfan honno am gyfnod o 24 mis. Dylai hyn wneud gwahaniaeth sylweddol a chadarnhaol i fywydau'r rheini sy'n cymryd rhan. Hefyd, mae angen inni nodi'r hyn y mae'n ei olygu i'w gallu i gael cyllid a budd-daliadau eraill—budd-daliadau tai, er enghraifft. Ond byddaf yn edrych ar y pwynt penodol a grybwyllwyd gennych, gan fod hon yn adeg hollbwysig wrth inni fwrw ymlaen i gwmpasu ein gwerthusiad o'r cynllun peilot incwm sylfaenol, a fydd yn hollbwysig i weld pa wersi a ddysgwyd. Hawliau Cyfartal i Blant ag Anableddau Janet Finch-Saunders AC: 3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau hawliau cyfartal i blant ag anableddau? OQ57955 Jane Hutt AC: Mae Llywodraeth Cymru wedi arwain y ffordd wrth hyrwyddo hawliau plant drwy ein hymrwymiad ymarferol i’r egwyddorion a ymgorfforir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Ein nod yw sicrhau bod anghenion unigol pob plentyn yn cael eu diwallu, gan eu galluogi i gael cyfle cyfartal. Janet Finch-Saunders AC: Diolch. Ar 9 Chwefror eleni, nodais wrth ein Senedd, er bod gan bob plentyn hawl i chwarae fel y’i hymgorfforir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, ac er bod adran 11 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ystyried anghenion plant sy’n anabl mewn perthynas â digonolrwydd cyfleoedd chwarae, fod llawer o feysydd chwarae ledled Cymru o hyd, Weinidog, heb unrhyw gyfleusterau addas ar gyfer plentyn ag anabledd. Fe ddywedoch chi ar y pryd: 'yn sicr, byddaf yn mynd i’r afael â hyn ac yn archwilio'r mater, yn enwedig gyda’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol'. Dri mis yn ddiweddarach, a wnewch chi gadarnhau pa drafodaethau a gafwyd gyda’r Dirprwy Weinidog, ac a wnewch chi ddweud wrthym pa gamau ychwanegol a gymerir i sicrhau nad oes unrhyw blant yn cael eu hamddifadu o’u hawl i chwarae yng Nghymru? Diolch. Jane Hutt AC: Diolch, Janet. Mae hwn yn gwestiwn pwysig iawn. Mae hawliau plant wedi’u hymgorffori yng nghyfraith Cymru drwy Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Golyga hynny, pryd bynnag y byddwn yn defnyddio unrhyw un o’n pwerau i wneud penderfyniad, fod yn rhaid inni ystyried yr effaith ar blant. Wrth gwrs, mae hynny’n cynnwys hawl pob plentyn i chwarae yn ogystal â chydnabod yr hawliau hynny mewn perthynas â'u datblygiad corfforol, gwybyddol ac emosiynol. Mae hyn yn ymwneud â pharhau â’n hymrwymiad i wella cyfleoedd i bob plentyn a pherson ifanc chwarae’n ddiogel— Janet Finch-Saunders AC: Pa drafodaeth? Jane Hutt AC: Wrth gwrs, y neges—os caf barhau—yw ei bod yn ofynnol i awdurdodau lleol sicrhau cyfleoedd chwarae digonol i bob plentyn yn unol â darpariaethau adran 11 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, darpariaeth benodol ar gyfer anghenion plant anabl, ac mae 'Polisi Cynllunio Cymru' yn cynnwys gofyniad clir y dylid darparu mannau hamdden a chwarae. Felly, rwy’n siŵr y byddwch yn edrych ar asesiad o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae eich awdurdod lleol bob blwyddyn. Mae disgwyl un ddiwedd mis Mehefin eleni. Ymosodiad Rwsia ar Wcráin Altaf Hussain AS: 4. A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut mae Cymru'n cyflawni ei dyletswyddau i'r rheini sy'n ffoi rhag ymosodiad Rwsia ar Wcráin? OQ57947 Jane Hutt AC: Diolch, Altaf Hussain. Gwneuthum ddatganiad llafar ddoe i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Senedd am ein dull o gefnogi ceiswyr noddfa o Wcráin. Rydym yn parhau i arddangos ein gweledigaeth cenedl noddfa fel uwch-noddwr drwy roi cymorth ar waith ac annog gwelliannau i brosesau Llywodraeth y DU. Altaf Hussain AS: Diolch. Weinidog, mae Cymru, ynghyd â gweddill y DU, yn dangos unwaith eto ein bod yn wlad sy’n croesawu’r rheini sy’n ffoi rhag gwrthdaro. Mae ymosodiad Rwsia ar Wcráin, yn ogystal â'r troseddau rhyfel echrydus a gyflawnwyd gan wladwriaeth Rwsia, wedi dadleoli miliynau o bobl ac mae arnynt angen cartref. Mae Cymru’n iawn i groesawu cymaint ohonynt ag y gallwn. Felly, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau faint o bobl y gobeithiwn eu helpu a pha ddarpariaeth a wnaed gennym i gartrefu a chefnogi’r rheini a fydd yn ein gofal cyn bo hir? Diolch, Weinidog. Jane Hutt AC: Diolch yn fawr iawn. Yn fy natganiad ddoe, nodais yn glir yr ystadegau a gyhoeddwyd yn ffurfiol gan y pedair gwlad, gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban, ddydd Iau diwethaf, a byddant yn cael eu diweddaru yfory. Erbyn dydd Iau diwethaf, roedd 2,300 o fisâu wedi'u rhoi lle'r oedd y noddwr yn dod o Gymru, gyda 1,650 wedi'u noddi gan unigolion, a 670 wedi’u noddi gan Lywodraeth Cymru fel uwch-noddwr. Rydym eisoes wedi dweud—yn fy natganiad agoriadol, rwy'n credu—ein bod yn barod i groesawu yn ein canolfannau croeso. Mae gennym ganolfannau croeso yn barod ac ar agor, i roi lloches i ffoaduriaid o Wcráin. Diolch hefyd i’r holl aelwydydd sy’n noddi drwy gynllun Cartrefi i Wcráin. Mae llawer o rai eraill hefyd wedi dod drwy’r cynllun teuluoedd, ac fel y dywedais ddoe, yn anffodus, ni all y Swyddfa Gartref roi unrhyw wybodaeth i ni ynglŷn â faint ohonynt, pwy ydynt, o ran teuluoedd â chysylltiadau â’r DU, ond gwyddom eu bod wedi cyrraedd yma yn gyntaf mewn perthynas â chael fisâu. Nid oes cyllid ar gyfer rhoi cymorth i bobl yn y cynlluniau hynny, ac yn wir, mae llawer o bwysau ar ein hawdurdodau lleol, ond maent yn fodlon ac yn abl ac yn camu i'r adwy er mwyn cyrraedd a chefnogi'r holl ffoaduriaid o Wcráin sy'n ymuno â ni yma yng Nghymru. Ond mae’r oedi'n annerbyniol; mae’n rhaid i Lywodraeth y DU fynd i’r afael â’r diffyg cyllid. Sarah Murphy AS: Weinidog, hoffwn ddiolch i chi eto am roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar y mater hwn a’ch ymrwymiad i helpu’r noddwyr sydd wedi bod o dan gymaint o bwysau ac mor awyddus i sicrhau bod eu gwesteion yn cyrraedd yma’n ddiogel, yn ogystal ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod Cymru’n genedl noddfa. Mae cynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth y DU wedi sefydlu system sy’n rhoi'r cyfrifoldeb ar bawb arall heblaw'r rheini sydd yn San Steffan. Mae noddwyr ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi dweud wrthyf eu bod yn teimlo eu bod wedi'u gadael ar eu pen eu hunain ar ôl ymrwymo i gynllun Llywodraeth y DU. Mae elusen leol, cynllun mentora Pen-y-bont ar Ogwr a chanolfan gymunedol y Zone yn bwriadu cydlynu caffi galw heibio er mwyn i westeion o Wcráin a noddwyr lleol ddod ynghyd a chael mynediad at wasanaethau a chymorth. Ond mae angen y cyllid ar fudiadau trydydd sector a grwpiau cymorth cymunedol i ddarparu’r gwasanaeth hwn. Felly, Weinidog, pa ystyriaeth a roddwyd i sicrhau bod y trydydd sector a grwpiau cymunedol yn cael eu cynorthwyo i redeg y gwasanaethau hyn yn llwyddiannus? Jane Hutt AC: A gaf fi ddiolch eto i Sarah Murphy am y ffordd y mae wedi ymgysylltu a chefnogi’r teuluoedd a’r aelwydydd yn ei hetholaeth sydd, unwaith eto, wedi estyn allan a chroesawu a chefnogi ffoaduriaid o Wcráin? Clywais straeon ysbrydoledig gan eich etholwyr. Drwy ein gwefan cenedl noddfa hefyd, mae gennym ganllawiau i noddwyr, mae gennym ganllawiau i awdurdodau lleol. Hefyd, rwy’n cyfarfod yn rheolaidd, ac rwy’n cyfarfod eto yr wythnos nesaf, â’r Gweinidog Ffoaduriaid, yr Arglwydd Harrington, a Neil Gray, y Gweinidog, fy swyddog cyfatebol, o Lywodraeth yr Alban. Y tri mater yr ydym yn eu codi gyda hwy yw oedi gyda’r fisâu, diogelu, ond cyllid hefyd. Rwyf eisoes wedi gwneud sylwadau ar y diffyg cyllid sy'n cael ei ddarparu. Yn wir, mae llai o arian yn dod drwy gynllun Wcráin nag a ddaeth drwy gynllun adsefydlu dinasyddion Affganistan. Nid oes unrhyw gyllid ar gyfer cymorth gwasanaeth iechyd, nac unrhyw gyllid cymorth Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill, nac unrhyw gyllid ar gyfer y cynllun teuluoedd. A hefyd, ar y llwybr uwch-noddwyr, fel y dywedais, gwyddom fod hon yn ffordd y gall pobl ddod yn syth i'n canolfannau croeso heb orfod wynebu cymhlethdod a biwrocratiaeth, a phroblemau diogelu hefyd. A gaf fi ddweud bod cysylltiadau cryf yn y trydydd sector eisoes â’r sefydliad cymunedol, sydd wedi sefydlu cronfa newydd Croeso? Mae £1 filiwn wedi'i ddarparu gan Lywodraeth Cymru, ac maent yn mynd i gefnogi mudiad trydydd sector sy’n integreiddio unrhyw geiswyr noddfa yng Nghymru. Felly, byddaf yn rhannu hynny eto ar gyswllt â chronfa newydd cenedl noddfa'r sefydliad cymunedol. Y Trydydd Sector Buffy Williams MS: 5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl sefydliadau'r trydydd sector o ran sicrhau cyfiawnder cymdeithasol yng Nghymru? OQ57968 Jane Hutt AC: Mae'r trydydd sector yn chwarae rhan hanfodol ac unigryw yn creu Cymru deg a chyfiawn, ac wrth inni weithio i osgoi cynnydd mewn anghydraddoldebau yn ein cymunedau oherwydd y pandemig, rydym wedi cydgynhyrchu cynllun adfer COVID gyda'r sector sy'n canolbwyntio ar gymorth, cysylltiadau a gwirfoddoli. Buffy Williams MS: Diolch yn fawr, Weinidog. Rydym yn hynod ffodus yng Nghymru i gael ystod mor amrywiol o wasanaethau a chymorth wedi'i ddarparu gan y trydydd sector. Yn y Rhondda yn unig mae gennym gyn-filwyr Rhondda, Plant y Cymoedd, Men's Sheds, y Ffatri Gelf a Cymorth i Fenywod RhCT, ymhlith cannoedd o rai eraill. Ers dod yn Aelod o'r Senedd, rwyf wedi cael cyfle i ymweld â Dyfodol Gwell Barnardo's, Ambiwlans Awyr Cymru a Voices from Care. Mae pob un o'r elusennau a'r grwpiau cymunedol hyn yn darparu cymorth pwrpasol i deuluoedd ac unigolion, ac mae gan bob un ohonynt eu perthynas unigryw eu hunain â Llywodraeth Cymru—gyda rhai angen cymorth ariannol, eraill angen cyngor ac arweiniad, a bydd rhai'n elwa'n fawr o weithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill yn y trydydd sector. Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru wedi nodi cynnydd yn y galw am gymorth gan y trydydd sector ledled Cymru, a cheir ymchwil sy'n awgrymu y bydd 20 y cant o bobl sy'n cysylltu â meddygon teulu yn elwa o bresgripsiynu cymdeithasol yn hytrach na chymorth meddygol. Gan wybod hyn, sut y bydd y Gweinidog yn ymgysylltu â sefydliadau, grwpiau ac elusennau'r trydydd sector wrth symud ymlaen? Ac a fyddwn yn gweld cynllun mwy cynhwysfawr ar sut y gallwn gefnogi'r sector yn well yn y dyfodol, gan gwmpasu cymorth ariannol, cyngor ac arweiniad, a chymorth i wneud partneriaethau ystyrlon? Jane Hutt AC: Diolch i Buffy Williams. Fel yr Aelod o'r Senedd dros y Rhondda, rydych yn ymwneud cymaint â'ch cymuned, ac mae hynny wedi dod i'r amlwg yn glir yn eich cwestiwn am eich cysylltiadau a'ch ymweliadau a'ch ymgysylltiad â sefydliadau lleol—sefydliadau fel sydd i'w cael mewn etholaethau ledled Cymru, sy'n gwneud cyfraniad enfawr yn y gymuned. Rwy'n credu bod y pandemig wedi dangos hyd yn oed yn gliriach beth yw cyfraniad a rôl y trydydd sector a gwirfoddolwyr, ac yn wir, mae hynny wedi gwneud gwahaniaeth, o ran y ffordd ymlaen gyda'n cyllid, oherwydd mae gennym grant Cymru ar gyfer cefnogi'r trydydd sector sy'n darparu'r cyllid craidd hwnnw, nid yn unig i Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, ond hefyd i'n cynghorau gwirfoddol sirol. Bydd gan bob Aelod o'r Senedd hon gyngor gwirfoddol sirol y byddant yn gwybod amdano—Interlink RhCT yn eich ardal chi wrth gwrs—sy'n helpu i gefnogi'r sefydliadau lleol. Ond rwy'n credu mai'r pwynt allweddol a wnewch, o ran y ffordd ymlaen i'r trydydd sector—mae cynllun adfer y trydydd sector yn allweddol i hynny. Ond rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'r pwyllgor ariannu a chydymffurfiaeth, gyda'r trydydd sector, i sicrhau y gallwn gael mwy o ymwybyddiaeth o gyfleoedd ariannu, blaenoriaethau ar gyfer y trydydd sector. A hoffwn ddweud, yn olaf, fod y flaenoriaeth yn awr wedi canolbwyntio ar sut y gallant helpu, fel y maent yn ei wneud, fel cymorth i gymunedau a phobl fregus gyda'r argyfwng costau byw. Rhaid inni gofio, yn eich etholaeth chi a ledled Cymru, fod gennych Cyngor ar Bopeth, fod gennych fanciau bwyd Ymddiriedolaeth Trussell a sefydliadau trydydd sector, yn ogystal ag undebau credyd, sy'n helpu i gefnogi teuluoedd ac aelwydydd a chymunedau gyda'r argyfwng costau byw. Mark Isherwood AC: Rwyf wedi eistedd yma ers 19 mlynedd yn gwrando ar Weinidogion Llywodraeth Cymru yn dweud wrthyf sut y maent yn gweithio mewn partneriaeth ac yn cydgynhyrchu gyda sefydliadau'r trydydd sector i sicrhau cyfiawnder cymdeithasol yng Nghymru. Fodd bynnag, rwy'n noddwr elusen sy'n cefnogi pobl anabl ledled gogledd Cymru, ond er bod y mwyafrif o'r dros 100 o atgyfeiriadau newydd y maent yn eu derbyn yn wythnosol yn dod gan gyrff cyhoeddus yng ngogledd Cymru, nid ydynt yn cael arian cyhoeddus gan unrhyw un ohonynt. Yn wythnosol, mae sefydliadau'r trydydd sector yn cysylltu â mi i ddweud eu bod yn brwydro i gefnogi pobl y mae cyrff cyhoeddus wedi gwrthod rhoi llais iddynt ynghylch eu gofal a'u cymorth, sef eu hawl o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Pan holais Age Cymru yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf ynghylch ymgysylltu â byrddau partneriaeth rhanbarthol, ynglŷn â chymorth iechyd a gofal cymdeithasol integredig, fe wnaethant ateb: 'Yr hyn a glywn yn ôl gan rai o'r sefydliadau rhanbarthol yw nad yw lefel ymwneud cynrychiolwyr pobl hŷn gystal ag yr hoffent iddi fod, a thrwy ddatblygu byrddau partneriaeth rhanbarthol hoffem weld ymgysylltu mwy ystyrlon â mwy o bobl hŷn, a bod eu cynrychiolwyr yn rhan o'r datblygiadau hynny'. Wrth gwrs, maent wedi bod yn dweud hynny ers i fyrddau partneriaethau rhanbarthol ddechrau. Felly, sut a phryd y byddwch chi'n troi geiriau'n weithredoedd drwy gynllunio'r system am yn ôl, gyda phobl a sefydliadau'r trydydd sector? Jane Hutt AC: Wel, wrth gwrs, ers blynyddoedd lawer rydym wedi trafod y materion hyn, Mark Isherwood, ac rwy'n falch iawn o'r ffaith bod gan Lywodraeth Cymru bartneriaeth gyda'r trydydd sector, a fy mod yn cadeirio cyngor partneriaeth y trydydd sector. Gallaf eich sicrhau bod y cyngor hwnnw'n cynnwys cynrychiolwyr, fel y gwyddoch yn iawn, o bob sector, sy'n codi materion gyda ni nid yn unig ynghylch polisi, ond hefyd ynghylch cyllid. Dyna pam y mae gennym bwyllgor ariannu a chydymffurfiaeth, a dyna pam y gwnaethom ymateb—. Mae'n ymateb o ganlyniad i gydgynhyrchu ein bod bellach wedi newid i roi ymrwymiad grant tair blynedd. Rwy'n gwybod y byddech yn croesawu'r ymrwymiadau grant tair blynedd yr ydym yn eu rhoi i'r trydydd sector. Mae'n eu galluogi i gynllunio'n hirdymor, gan gadw staff a sgiliau, ond mae hefyd yn eu helpu i ddatblygu partneriaethau hirdymor hanfodol gyda byrddau rhanbarthol a chonsortia, gydag awdurdodau lleol a byrddau iechyd. Gallaf eich sicrhau bod y cyllid ar gael, ac o ran ariannu nid yn unig y cynghorau gwirfoddol sirol, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, a chymorth diogelu, cronfa newid y trydydd sector, cymorth i wirfoddoli, cronfa meithrin gallu partneriaeth—mae'r rhain i gyd yn symiau sylweddol o arian sy'n dod drwy ein cynllun grant trydydd sector. Hefyd, rwy'n credu bod y rhaglen cyfleusterau cymunedol yn bwysig iawn i'r trydydd sector ac i lawer o'r rheini yr ydych yn eu cynrychioli, rwy'n siŵr, oherwydd roedd honno'n werth £4.8 miliwn yn 2020-21, ac fe arhosodd ar agor drwy gydol y pandemig, ac mae ar agor yn awr yn wir. Effaith Chwyddiant Mike Hedges AC: 6. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith chwyddiant ar bobl sy'n byw ar incwm isel? OQ57954 Jane Hutt AC: Bydd y cynnydd mewn chwyddiant ynghyd â threthi uwch yn arwain at ostwng safonau byw a bydd yn rhoi pwysau sylweddol pellach ar gyllidebau aelwydydd. Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu, gyda'r pwerau sydd ganddi, i ddarparu cymorth i'n haelwydydd mwyaf bregus yng Nghymru. Mike Hedges AC: Rwy'n dyfynnu Jack Monroe: 'Fe brynais werth £10 o fwyd yn 2012... a phrynu'r un peth yn union' yn 2022, 'ac fe gostiodd £17.11.' Dyna gynnydd o dros 70 y cant. Nid yw'r isafswm cyflog na budd-daliadau wedi codi'n agos at y lefel honno. Hyd yn oed gyda'r newid gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn y ffordd y mae'n casglu data chwyddiant, nid yw'r cynnydd enfawr mewn prisiau bwyd yn cael ei adlewyrchu'n llawn yn y cyfraddau chwyddiant. Mae mwy a mwy o bobl dlawd yn gorfod defnyddio banciau bwyd. Mae gan saith o'r wyth ward yn fy etholaeth fanc bwyd erbyn hyn. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i fanciau bwyd? Jane Hutt AC: A gaf fi ddweud fy mod yn parchu rôl a chyfraniad yr ymgyrchydd cyfiawnder bwyd, Jack Monroe, am dynnu sylw at hynny, a chydnabod effaith Brexit ar gostau bwyd cynyddol hefyd, rhywbeth y gwnaethom ymateb iddo a'i grybwyll ddoe yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog—yr effaith, a'r ffyrdd y mae'r Llywodraeth Dorïaidd hon yn y DU wedi cael effaith mor andwyol ar fywydau pobl, gan arwain at yr argyfwng costau byw hwn? Ond yr ateb i'ch cwestiwn yw bod y ffigurau a gyhoeddwyd gan Ymddiriedolaeth Trussell yr wythnos diwethaf wedi dangos rhwydwaith o fanciau bwyd, a bod 1,341,000 o barseli bwyd brys wedi'u dosbarthu i bobl sy'n wynebu caledi ariannol rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2022. Mae'n fater o fwyta neu aros yn gynnes, o golli'r £2 filiwn o gyllid pontio'r UE, cefnogi sefydliadau bwyd cymunedol, a 40 o ddyfarniadau grant sydd bellach yn mynd gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol, grwpiau'r trydydd sector, ysgolion ac eglwysi. Sam Rowlands MS: Diolch hefyd i'r Aelod am gyflwyno'r cwestiwn pwysig hwn heddiw. Yr wythnos diwethaf, Weinidog, fe fynychais un o weminarau Prifysgol Caerdydd, ac roedd Aelodau eraill o'r Senedd yno hefyd, lle'r oeddent yn rhannu eu gwerthusiad o'r ymateb polisi i'r her costau byw. Gwnaethant dynnu sylw at y ffaith mai un o'r heriau anghymesur sy'n wynebu'r rheini ar incwm is yw pwysau chwyddiant costau ynni wrth gwrs, ac fel y gwyddom yng Nghymru mae gennym stoc dai hŷn a llai effeithlon o ran ynni o gymharu â rhannau eraill o'r DU. Cefnogir hynny gan ddata dadansoddi cyllidol Cymru, a ganfu mai 45 y cant o eiddo yng Nghymru sydd wedi'u graddio o A i C o ran effeithlonrwydd ynni, o'i gymharu â 52 y cant o eiddo mewn mannau eraill, sydd â'r lefel uchaf honno o effeithlonrwydd ynni. Felly, yng ngoleuni hyn, Weinidog, pa drafodaethau yr ydych yn eu cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd i wneud tai'n fwy effeithlon yng Nghymru, i helpu gyda phwysau chwyddiant costau ynni ar y rheini sydd â'r incwm isaf? Jane Hutt AC: Diolch ichi am y cwestiwn adeiladol iawn hwnnw, Sam Rowlands. Fe fyddwch yn gwybod fy mod wedi cynnal uwchgynhadledd argyfwng costau byw ym mis Chwefror. Fe'i cadeiriais, gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd, a siaradodd am heriau tai ac effeithlonrwydd ynni a'r buddsoddiad yn y gyllideb eleni i gefnogi effeithlonrwydd ynni a hybu ynni adnewyddadwy, ond hefyd o ran ffynonellau ynni. Ac roedd fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans, sy'n Weinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yno hefyd. Felly, rydym yn trafod y materion hyn. Mae'n gyfrifoldeb trawslywodraethol i fynd i'r afael â thlodi tanwydd, ein rhaglen Cartrefi Clyd, sy'n dod i ben yn awr wrth gwrs yn sgil yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gennym. Mae'r rhain i gyd yn hanfodol i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw, ond yr hyn sydd ei angen arnom yw'r arian i'n cefnogi i wneud hynny, a dyna lle rwy'n gobeithio y byddwch yn galw ar Lywodraeth y DU yn arbennig i gael yr arian hwnnw o dreth ffawdelw i sicrhau y gallwn fuddsoddi mwy mewn effeithlonrwydd ynni a hefyd i leihau biliau tanwydd y rhai sy'n mynd i gael eu taro galetaf gan yr argyfwng costau byw. Hawliau Pobl Hŷn Natasha Asghar AS: 7. Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i hybu ymwybyddiaeth o hawliau pobl hŷn? OQ57962 Jane Hutt AC: Diolch ichi am y cwestiwn hwnnw. Rydym yn ariannu Age Cymru i weithio gyda phobl hŷn i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o hawliau gan ddefnyddio ein canllawiau a gydgynhyrchwyd, 'Sicrhau bod hawliau’n gweithio i bobl hŷn'. Mae Age Cymru hefyd yn cynhyrchu pecyn cymorth fideo ac yn cyflwyno ymgyrch hawliau pobl hŷn, sydd ar y gweill tan fis Mehefin. Natasha Asghar AS: Weinidog, mae credyd pensiwn yn daliad ychwanegol i'n pensiynwyr mwyaf bregus ac mae'n werth £3,300 ar gyfartaledd. Yn ogystal ag ychwanegiad ariannol at bensiwn y wladwriaeth, mae'n bont i gael mynediad at lawer o fudd-daliadau eraill, megis cymorth gyda chostau tai, biliau gwresogi, cynlluniau gostyngiadau'r dreth gyngor a thrwyddedau teledu am ddim i bobl dros 75 oed. Amcangyfrifir nad yw tua chwarter y bobl a allai hawlio'r cymorth ychwanegol hwn yn gwneud hynny ar hyn o bryd. Mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi lansio ymgyrch fawr i annog pensiynwyr cymwys, yn ogystal â'r rhai sy'n gofalu am bobl hŷn ac yn eu cefnogi, i gael y cymorth y mae ganddynt hawl iddo. Felly, Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth y DU a'r comisiynydd pobl hŷn i godi ymwybyddiaeth o'r credyd pensiwn sydd ar gael i bobl hŷn agored i niwed yng Nghymru sydd â hawl i gael y cymorth ariannol ychwanegol hwn? Diolch. Jane Hutt AC: Diolch yn fawr iawn. Mae hynny'n dilyn yn dda iawn o'r pwyntiau cynharach yr oeddwn yn eu gwneud am fy nghyfarfodydd gyda'r comisiynydd pobl hŷn. Ac yn wir, rwy'n gwybod bod galwadau o bob rhan o'r Siambr—rwy'n credu bod Peredur hefyd wedi'i godi—ynglŷn â sut y gallwn gynyddu'r nifer sy'n manteisio—budd-dal Llywodraeth y DU ydyw—ar gredyd pensiwn yn benodol, ond ceir mynediad at fudd-daliadau eraill hefyd. Rydym yn gweithio, wrth gwrs, gyda'r comisiynydd pobl hŷn, ac rydym hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth y DU. Rydym wedi bod yn gofyn i Lywodraeth y DU ymuno â ni, gyda'r Alban, mewn ymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi' ledled y DU, ac rydym yn cael rhywfaint o ymateb i hynny yn awr. Ond rwyf am ddweud bod 'Sicrhau bod hawliau’n gweithio i bobl hŷn', a gyhoeddwyd gennym y llynedd, ac a gydgynhyrchwyd gyda Gofal Cymdeithasol Cymru a chydag Age Cymru, hefyd yn ymwneud â sicrhau bod pobl hŷn yn ymgysylltu ac yn dweud wrthym am y ffordd orau o gyfleu'r neges fod y rhain yn bethau y mae ganddynt hawl iddynt a'n bod eisiau iddynt fanteisio arnynt, i sicrhau nad ydynt yn dioddef cymaint yn yr argyfwng costau byw, oherwydd mae hefyd yn taro pensiynwyr yn galed iawn. Polisi Rwanda ar gyfer Ceiswyr Lloches Joyce Watson AC: 8. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch ei pholisi Rwanda ar gyfer ceiswyr lloches? OQ57977 Jane Hutt AC: Diolch am y cwestiwn pwysig hwnnw, Joyce Watson. Mae asiantaeth ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig wedi dweud yn glir fod y mesurau yn Neddf Cenedligrwydd a Ffiniau 2022, gan gynnwys symud y gwaith o brosesu ceiswyr lloches i wlad arall, yn groes i'r confensiwn ffoaduriaid, confensiwn y mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo iddo. Mae cynllun Rwanda yn warthus, ac rwy'n gwneud fy marn yn glir i'r Gweinidog mewnfudo. Joyce Watson AC: Diolch am y diweddariad hwnnw, Weinidog. Mae'r cynllun, wrth gwrs, yn foesol ffiaidd, am yr holl resymau a drafodwyd gennym ddoe yn y ddadl ar hawliau dynol, ond mae'n anghyfiawn o ddrud. Ac o ystyried rhwymedigaeth Prydain o dan gonfensiwn ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig a'r cyfreithiau hawliau dynol, mae'n edrych yn anymarferol beth bynnag, fel y mae'r heriau cyfreithiol a welsom yn y dyddiau diwethaf yn dangos. A dweud y gwir, mae'r cynllun yn llanastr. Felly, a ydych yn rhannu fy nicter a fy rhwystredigaeth mai'r unig beth sy'n sicr am y polisi hynod gywilyddus hwn gan y Torïaid yw y bydd yn mynd ag arian o bocedi trethdalwyr Cymru ac y bydd ffoaduriaid yn fwy bregus nag y buont erioed? Jane Hutt AC: Rwy'n cytuno â'r pwyntiau hynny, Joyce Watson. Ddoe, galwodd un elusen—Care4Calais—gynllun Rwanda yn ddim ond un arall mewn rhes hir o bolisïau ataliaeth a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth Dorïaidd hon dros y blynyddoedd diwethaf. Care4Calais—mae gennyf etholwyr yn ymwneud â Care4Calais sydd wedi bod yn Calais ar sawl achlysur. Oherwydd maent yno; maent yn gweithio gyda phobl sy'n byw mewn anobaith, sydd wedi dianc rhag erchyllterau'r bywydau y maent wedi dianc rhagddynt. Ac roedd yn ddiddorol gweld bod yr aelod dros Calais yng nghynulliad cenedlaethol Ffrainc yn dweud, 'Pan fyddwch yn gadael eich gwlad o ganlyniad i lifogydd, o ganlyniad i newyn, oherwydd nad oes arnoch ofn cael eich dal a chael eich hel yn ôl i wlad arall, o leiaf mae gennych obaith, fe rowch gynnig arni.' Mae'n gwbl warthus fod ein gwlad, fod Llywodraeth y DU, yn mynd ar drywydd Deddf Cenedligrwydd a Ffiniau 2022 a chynllun Rwanda. A gadewch inni obeithio y bydd yr her gyfreithiol yn ei atal, ac mae'n edrych yn anymarferol beth bynnag. Ond mae gennym bryderon mawr. Rydym yn un o'r gwledydd cyfoethocaf, Rwanda yw un o'r gwledydd tlotaf, ac rwyf wedi ysgrifennu hefyd i ddweud bod hyn yn rhywbeth sy'n gwbl groes nid yn unig i'r confensiwn ffoaduriaid, ond wrth gwrs, i'n moesoldeb a'n hysbryd a'n moeseg fel cenedl noddfa. Ffoaduriaid o Wcráin Peter Fox AS: 9. Sut mae Llywodraeth Cymru'n defnyddio ei statws uwch noddwr i helpu pobl o Wcráin i geisio diogelwch yng Nghymru? OQ57966 Jane Hutt AC: Diolch, Peter Fox. Rwyf wedi annog Gweinidog Ffoaduriaid y DU i fabwysiadu ein model uwch-noddwr i'w ddefnyddio ledled y DU er mwyn osgoi'r risgiau diogelu annerbyniol a achosir gan gynllun ehangach Cartrefi i Wcráin. Ac fe roddais ffigurau a gwybodaeth wedi'u diweddaru yn fy natganiad llafar ddoe. Peter Fox AS: Diolch am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Lywydd, rwy'n llwyr gefnogi bwriad y Llywodraeth i helpu cynifer â phosibl o'n cyfeillion o Wcráin i geisio diogelwch yng Nghymru, ac mae pob un ohonom yn y Siambr hon yn falch o'r ffaith bod Cymru wedi'i dynodi yn genedl noddfa. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae Llywodraeth Cymru yn helpu i noddi pobl i ddod i mewn i'r DU, yn hytrach na dibynnu ar gael eu cysylltu â theulu a all gynnig llety iddynt. Caiff yr unigolion hyn eu gosod mewn canolfannau croeso i ddechrau. Nawr, yn ddiweddar, rwyf wedi cael nifer o e-byst gan etholwyr a hoffai gynnig llety i'r rhai sydd mewn canolfannau croeso ar hyn o bryd, ond nid ydynt wedi gallu dod o hyd i wybodaeth ynglŷn â sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cysylltu'r teuluoedd hyn â theuluoedd a all gynnig llety iddynt. Weinidog, a wnewch chi ddarparu unrhyw wybodaeth ychwanegol ynglŷn â pha gamau a gymerir gennych i helpu teuluoedd sydd wedi cael eu noddi gan y Llywodraeth i ddod o hyd i lety mwy hirdymor? A yw eich cynllun yn cysylltu â theuluoedd sydd wedi cofrestru eu diddordeb drwy gynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth y DU, neu a fyddwch chi hefyd yn edrych ar ddarparu llwybr i bobl wirfoddoli i helpu i gynnig llety i'r rhai sydd wedi cyrraedd y DU drwy'r cynllun uwch-noddwr? Diolch. Jane Hutt AC: Diolch yn fawr iawn ichi, ac mae hwnnw'n gwestiwn gweithredol ymarferol iawn ac i'w groesawu, oherwydd ar hyn o bryd—. Mewn gwirionedd, cawsom gyfarfod i'w drafod y bore yma, cyfarfod gweinidogol o dan gadeiryddiaeth y Prif Weinidog, lle buom yn diweddaru'r camau nesaf ar gyfer pobl o ganolfannau croeso. Wrth gwrs, mae pob awdurdod lleol yn edrych ar y camau nesaf mewn perthynas â theuluoedd sy'n cynnig llety neu lety arall a fydd ar gael. Er eglurder, mae'r cynllun uwch-noddwr yn rhan o gynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth y DU. Mae'r cynllun Cartrefi i Wcráin—. Felly, dyna lle mae pobl yn cael eu cysylltu. Dyma ein pryder yn ei gylch, nid yw wedi'i reoleiddio'n iawn, ond mae'r cysylltu'n digwydd. Mae gennym noddwyr aelwydydd ledled Cymru, ac fe fyddwch yn gwybod amdanynt yn lleol, ac mae rhai ohonynt wedi cael eu cysylltu ac mae rhai ohonynt yn dal i aros i'w teuluoedd gyrraedd, ac rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol o hyn. Ond rydym yn edrych ar yr opsiynau hynny, a gallaf ddweud wrthych fod hyn, unwaith eto, yn ymwneud â gweithio gyda Llywodraeth y DU, gyda'r Swyddfa Gartref. Byddaf yn cwrdd â'r Gweinidog Ffoaduriaid eto yr wythnos nesaf i sicrhau y bydd y llwybrau hynny ar gael. Ac yn olaf, cwestiwn 10, Rhys ab Owen. Diogelwch Cymunedol Rhys ab Owen AS: 10. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU a chyrff cyhoeddus eraill ynghylch rôl swyddogion prawf o ran sicrhau diogelwch cymunedol? OQ57965 Jane Hutt AC: Diolch yn fawr, Rhys ab Owen. Rwy'n ymgysylltu'n rheolaidd â Gweinidogion Llywodraeth y DU ar bob agwedd ar ddiogelwch cymunedol yng Nghymru ac rwy'n cwrdd â Phrif Arolygydd Prawf Ei Mawrhydi ar 18 Mai ac yn parhau i drafod gyda'r holl bartneriaid, datganoledig ac a gadwyd yn ôl, gan atgyfnerthu ein hymrwymiad i sicrhau bod cymunedau'n ddiogel yng Nghymru. Rhys ab Owen AS: Diolch yn fawr, Weinidog. Mae'n deg dweud eu bod—ac rwy'n siŵr y gall pawb gytuno â hyn—oherwydd tanariannu ac ad-drefnu'r gwasanaethau prawf yng Nghymru a Lloegr dros y 12 mlynedd diwethaf, wedi wynebu cyfnod anodd iawn. Yn aml, gall hyn arwain at ganlyniadau real a thrasig. Ar hyn o bryd, mae dros 700 o swyddi gwag ledled Cymru a Lloegr. A yw'r Gweinidog wedi cael unrhyw drafodaethau ynghylch lefelau staff a pha effaith y mae hynny'n ei chael ar ddiogelu aelodau o'r cyhoedd yma yng Nghymru? Jane Hutt AC: Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw, ac rwy'n gwerthfawrogi eich diddordeb yn y gwasanaeth prawf. Yn wir, dros y blynyddoedd, rydym wedi datblygu perthynas waith gadarnhaol gyda phartneriaid cyfiawnder allweddol a darparwyr gwasanaethau allweddol yng Nghymru. Roeddwn yn falch iawn pan ddaethom yn rhan gyntaf y DU—y wlad gyntaf—lle'r oedd y gwasanaeth prawf wedi'i ail-wladoli, os mynnwch, i fod yn wasanaeth prawf cenedlaethol ar ôl y preifateiddio diffygiol a gwarthus a ddigwyddodd o dan Chris Grayling fel Gweinidog. Felly, mae'n rhaid inni—. O ran sicrhau bod ein gwasanaeth prawf yn diwallu anghenion pobl yng Nghymru, rwy'n credu ei fod yn allweddol i'n glasbrintiau cyfiawnder ieuenctid a throseddu benywaidd—enghreifftiau rhagorol o weithio mewn partneriaeth—ac i ddiogelwch cymunedol yng Nghymru. Ond gwelwn fod cyfleoedd gwirioneddol wrth inni symud ymlaen ar gyfiawnder yng Nghymru i edrych ar rôl y gwasanaeth prawf ac i sicrhau, felly, ei fod yn sector lle bydd pobl eisiau gweithio a gwneud cyfraniad. Ac rwy'n credu y byddant, oherwydd y ffocws sydd gennym ar gyfiawnder wrth edrych ar rôl y gwasanaeth prawf. Diolch i'r Gweinidog. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Jack Sargeant. Troseddau Rhyfel yn Wcráin Jack Sargeant AC: 1. Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyflwyno i Lywodraeth y DU mewn perthynas â thribiwnlys rhyngwladol i erlyn troseddau rhyfel Vladimir Putin yn Wcráin? OQ57978 Mick Antoniw AC: Diolch am y cwestiwn. Cyfarfûm â swyddogion y gyfraith o Lywodraeth y DU a'r Llywodraethau datganoledig ynghylch y cymorth y gellir ei ddarparu i erlyn troseddau rhyfel. Byddwn yn parhau i gysylltu â Llywodraethau tair gwlad arall y DU i ddarparu unrhyw gymorth posibl er mwyn dwyn y rheini sy'n gyfrifol i gyfrif. Jack Sargeant AC: A gaf fi ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw, ac os caf, Lywydd, hoffwn achub ar y cyfle i gofnodi fy niolch i'n Senedd yma yn y Siambr am y ffordd y mae'r Cwnsler Cyffredinol—yn rhinwedd ei swydd fel Cwnsler Cyffredinol yn Llywodraeth Cymru, ond hefyd yn bersonol—y ffordd y mae wedi hyrwyddo achos pobl Wcráin, nid yn unig yn ddiweddar, ond ers blynyddoedd lawer? Lywydd, dylai'r holl ddynoliaeth siarad ag un llais, a dweud y dylai'r rhai sydd wedi achosi'r rhyfel hwn a'r erchyllterau cysylltiedig wynebu cyfiawnder. Gwnsler Cyffredinol, a wnewch chi nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i chwarae rhan ragweithiol yn codi llais dros gyfiawnder? Mick Antoniw AC: Wel, diolch am y cwestiwn atodol hwnnw, ac mae'n eithaf gwarthus mewn sawl ffordd, onid yw, ein bod mewn byd lle'r ydym yn trafod troseddau rhyfel ac erlyn y troseddwyr. A gaf fi ddiolch i'r Aelod? Wrth gwrs, fe godoch chi fater troseddau rhyfel a Putin yn eich cwestiwn brys ar 1 Mawrth. Mae gennym gryn dipyn o unigolion wedi cyrraedd o Wcráin, sydd wedi gweld rhai o'r erchyllterau mwyaf gwarthus o fewn cof. Bydd y tîm troseddau rhyfel, gyda gwasanaeth gwrth-derfysgaeth yr Heddlu Metropolitan, yn cynorthwyo'r ymchwiliad i droseddau rhyfel, ac maent yn ymgysylltu'n uniongyrchol â'r Llys Troseddau Rhyngwladol. Yn amlwg, dylid adrodd am unrhyw dystiolaeth o droseddau o'r fath wrth y tîm troseddau rhyfel yn yr Heddlu Metropolitan. Nawr, rwyf wedi trafod y mater hwn gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Weinidog yn wir, ynglŷn â'n hymagwedd tuag at hynny. Rwy'n ymwybodol iawn fod angen i bobl sy'n cyrraedd Cymru o Wcráin fod yn ymwybodol o'r cyfle i gyflwyno tystiolaeth a allai fod yn uniongyrchol berthnasol i droseddau rhyfel y gallent fod wedi'u profi. Rwyf wedi gofyn i swyddogion ystyried sut y gellir gwneud hyn yn ymarferol mewn canolfannau croeso, a thrwy'r rhai sy'n cyrraedd drwy'r cynllun Cartrefi i Wcráin i unigolion a theuluoedd. Rhaid inni sylweddoli, wrth gwrs, fod rhai o'r bobl hyn wedi'u trawmateiddio a bod hwn yn fater y mae'n rhaid ei drin yn sensitif iawn. Ar fater ehangach troseddau rhyfel, wel, wrth gwrs, o dan ymchwiliad y Llys Troseddau Rhyngwladol, byddai unrhyw erlyniadau fel arfer yn cael eu dwyn gerbron gan Lywodraeth Wcráin. Yn y trafodaethau a gawsom, rydym wedi rhoi cefnogaeth lawn i weld y Deyrnas Unedig yn rhan o ymdrech ryngwladol i ddarparu'r gefnogaeth, yr adnoddau a'r cymorth sydd eu hangen i alluogi'r hynny. Rhaid i fater troseddau rhyfel beidio â bod yn rhywbeth y gellir ei gyfnewid am drafodaethau ynghylch sancsiynau, ac mae'n rhaid mynd ar eu trywydd ni waeth pa mor hir y bydd hynny'n cymryd, ac wrth gwrs, maent yn faterion allweddol yn y pen draw wrth ddechrau ar y broses o wneud iawn i Wcráin am ganlyniadau gweithredoedd Rwsia. Prentisiaeth Cyfreithiwr Lefel 7 Rhys ab Owen AS: 2. Pa ystyriaeth y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i rhoi i gyflwyno prentisiaeth cyfreithiwr lefel 7, fel sy'n bodoli yn Lloegr, i helpu i ehangu mynediad economaidd-gymdeithasol i'r proffesiwn cyfreithiol? OQ57964 Mick Antoniw AC: Diolch am y cwestiwn. Rydym yn gwneud cynnydd da ar brentisiaethau cyfreithiol. Er enghraifft, yr wythnos diwethaf cyhoeddwyd fframwaith prentisiaeth gennym ar gyfer dau gymhwyster newydd gan Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol, paragyfreithiol lefel 3 a pharagyfreithiol uwch lefel 5. Dylai hyn helpu i ehangu mynediad economaidd-gymdeithasol at y proffesiwn cyfreithiol. Rhys ab Owen AS: Yn naturiol, rwy'n croesawu'r cyhoeddiad am lefel 3 a lefel 5 newydd y proffesiwn gwasanaethau cyfreithiol. Fodd bynnag, rwy'n gobeithio y gallwn fynd ymhellach i gyflwyno prentisiaethau cyfreithwyr lefel 7 yng Nghymru. Rwy'n siŵr bod y Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â mi y byddai swydd o'r fath yn helpu i fynd i'r afael â mater mynediad at y proffesiwn cyfreithiol, ac wrth gwrs, gallai helpu gyda'r anialdiroedd cyngor cyfreithiol presennol. A ydym yn mynd i weld prentisiaethau lefel 7 yma yng Nghymru, fel sydd i'w gweld yn Lloegr? Mick Antoniw AC: Diolch am y cwestiwn atodol, ac wrth gwrs mae hwn yn gwestiwn a godwyd hefyd yn fy nhrafodaeth fisol gyda Chyngor Cyfraith Cymru, sydd, efallai eich bod yn gwybod, wedi sefydlu gweithgor addysg a hyfforddiant cyfreithiol, a fydd yn bwysig iawn i hyn yn fy marn i. Rwy'n credu ein bod wedi cymryd y camau cyntaf, ac rwy'n credu bod angen inni fynd ymhellach, felly rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol yn y sector cyfreithiol, gan gynnwys Cymdeithas y Cyfreithwyr, yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr—y cyfarfûm â hwy yn ddiweddar iawn—a chyda'r bar, i gefnogi datblygiad a chynaliadwyedd y sector. Ac wrth gwrs, rwy'n credu y bydd rôl Cyngor Cyfraith Cymru yn hyn yn eithriadol o bwysig. Wrth gwrs, rydym am annog a chefnogi mwy o amrywiaeth yn y proffesiwn cyfreithiol, a chynyddu mynediad i'r rhai na fyddent fel arfer yn gallu cael cymhwyster o fewn y proffesiwn cyfreithiol fel cyfreithwyr. Felly, mae prentisiaethau ar y lefel honno'n bwysig. Mae'n rhywbeth—. Mae ymchwil ar y gweill, ac mae'r gwaith a'r trafodaethau'n mynd rhagddynt. Wrth gwrs, yr hyn yr hoffem ei wneud, os dilynwn y trywydd hwn, yw sicrhau y caiff yr amcanion eu cyflawni ac nad ydym yn disodli cyllid sydd eisoes yn bodoli o fewn y proffesiwn cyfreithiol i gefnogi'r cymwysterau hynny, a bod hyn nid yn unig yn annog yr amrywiaeth a grybwyllais ond hefyd yn cefnogi cwmnïau yn ardaloedd y Cymoedd, er enghraifft, ac mewn ardaloedd gwledig, sydd o dan fwy o bwysau economaidd, lle bydd y cymorth hwn yn annog pobl i fynd i mewn i'r proffesiwn cyfreithiol ac i weithio yn y cymunedau hynny a chyfrannu at gynyddu mynediad at gyfiawnder. Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood. Mark Isherwood AC: Diolch, Lywydd. Pa ymgysylltiad a gawsoch â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar gyfer y DU ynghylch eu cyhoeddiad ar 15 Mawrth y bydd £135 miliwn ychwanegol yn cael ei wario ar y sector cymorth cyfreithiol bob blwyddyn i gyd-fynd â'r argymhellion a wnaed gan adolygiad annibynnol o'r system, dan oruchwyliaeth Syr Christopher Bellamy CF, a fydd, ar ben y £200 miliwn ychwanegol blynyddol i gyflymu'r system llysoedd, yn golygu bod cyfanswm cyllid y trethdalwr ar gyfer amddiffyn troseddol yn £1.2 biliwn y flwyddyn? Mick Antoniw AC: Diolch am y cwestiwn hwnnw, ac mae'n faes pwysig, cymorth cyfreithiol, ac yn rhywbeth yr ydym wedi'i drafod yn y Siambr hon droeon, oherwydd ei bwysigrwydd mewn perthynas â mynediad at gyfiawnder. Ac wrth gwrs, rwy'n croesawu unrhyw gynnydd yn y cyllid sy'n mynd tuag at gymorth cyfreithiol, ac rwy'n croesawu hefyd y cynigion ychwanegol ar gyfer newid y trefniadau prawf modd i wneud mynediad at gymorth cyfreithiol yn haws. Wedi dweud hynny, mae ymgynghoriad ar y gweill ar hyn o bryd ac mae cryn bryder nad yw Llywodraeth y DU, mewn cryn nifer o rannau o'r argymhellion gan yr Arglwydd Bellamy, wedi gwneud yr ymrwymiadau yr oedd disgwyl iddi eu gwneud eto. Ac wrth gwrs, mae hyn wedi arwain at—. Rwy'n credu mai'r awgrym gan aelodau o'r proffesiwn cyfreithiol yw y byddant yn rhoi camau cyfreithiol ar waith. Rwyf wedi codi'r mater hwn ar bob cyfle a gefais gyda'r Gweinidog cyfiawnder perthnasol, sydd, wrth gwrs, wedi ymddiswyddo yn ddiweddar. Felly, er fy mod yn croesawu peth gwelliant, rwy'n credu bod llawer i'w wneud eto ac mae cryn ansicrwydd o hyd ynghylch yr hyn a fydd yn ganlyniad i ymrwymiad Llywodraeth y DU. Yn fy marn i, nid oedd argymhellion Bellamy hyd yn oed yn mynd yn ddigon pell i fynd i'r afael â'r anialdiroedd cyngor sydd gennym. Mae'n amlwg fod cymorth cyfreithiol yn tanariannu'n sylweddol y cwmnïau hynny sy'n gweithio'n fwyaf arbennig gyda chymorth a chyngor cyfreithiol mewn cymunedau. Ond mae hwn yn fater y byddaf yn dod yn ôl ato ac yn ei godi yn y Senedd hon ar gam diweddarach pan fyddwn yn gwybod canlyniad llawn ymgynghoriad Llywodraeth y DU a'r argymhellion y mae'n bwriadu eu cyflwyno. Mark Isherwood AC: Diolch. Wel, fe gyfeirioch chi, ymhlith pethau eraill, at groesawu dileu'r prawf modd, ond sut rydych yn ymateb i'r ffaith eich bod wedi'i gynnwys yng nghyhoeddiad mis Mawrth am gyllid i sicrhau bod gweithwyr proffesiynol yn cael eu talu'n well am y gwaith y maent yn ei wneud mewn gwirionedd, a helpu i ryddhau capasiti yn y llys; cynyddu tâl cyfreithwyr sy'n cynrychioli pobl a ddrwgdybir mewn gorsafoedd heddlu; rhoi cyfle i fwy o bobl ddilyn gyrfa mewn cyfraith trosedd, beth bynnag fo'u cefndir; mynediad agored at gymorth cyfreithiol sifil i tua 2 filiwn yn fwy o bobl yng Nghymru a Lloegr, a chael gwared ar y prawf modd, fel y dywedoch chi, yn gyfan gwbl i rai ymgeiswyr, yn enwedig er budd dioddefwyr cam-drin domestig sy'n dadlau ynghylch perchnogaeth tai; dileu'r cap ariannol ar gymhwysedd ar gyfer diffynyddion Llys y Goron; darparu mynediad at gymorth cyfreithiol troseddol i 3.5 miliwn yn fwy o bobl yng Nghymru a Lloegr yn y llys ynadon; ac am y tro cyntaf erioed, darparu cynrychiolaeth gyfreithiol am ddim i bob plentyn dan 18 oed ac i rieni sy'n herio meddygon ynghylch rhoi diwedd ar driniaeth cynnal bywyd i'w plentyn, a chymorth cyfreithiol am ddim i deuluoedd mewn cwestau lle gallai hawliau dynol fod wedi'u torri? Mick Antoniw AC: Wel, diolch ichi am y cwestiwn pellach hwnnw. Wrth gwrs, mae'n cyflwyno cymorth cyfreithiol o fewn cyd-destun nad yw'n bodoli mewn gwirionedd, oherwydd nid oes gan y rhan fwyaf o bobl, ac yn sicr nid oes gan rai o'r bobl dlotaf yn ein cymdeithas, fynediad at lawer o feysydd cyfiawnder y dylent gael mynediad atynt. Mae'n debyg, fel man cychwyn, fod unrhyw welliant yn welliant, ond mae'n rhaid gosod hyn yng nghyd-destun y toriadau enfawr mewn cymorth cyfreithiol ers i'r Ceidwadwyr ddod i rym yn 2010, i'r graddau bod y system cymorth cyfreithiol wedi'i thanariannu'n aruthrol; mae llawer o feysydd hawliau cyfreithiol nad ydynt yn bodoli mwyach; ac mae llawer o gwmnïau yn ddi-os yn anhyfyw'n fasnachol bellach oherwydd eu dibyniaeth ar gymorth cyfreithiol. Mae argymhellion yr Arglwydd Bellamy yn ceisio gwella hynny. Felly, mae unrhyw welliant yng nghyfraddau cyflogau cyfreithwyr sy'n gwneud gwaith cymorth cyfreithiol, unrhyw ehangiad, unrhyw welliant mewn perthynas â hawliau cymorth cyfreithiol a'r prawf modd, yn welliant, ond plastr yn unig ydyw o hyd o ran darparu cynllun cymorth cyfreithiol a ariennir yn briodol ac nid yw'n gwneud iawn mewn unrhyw fodd am y toriadau difrifol iawn a welwyd mewn cymorth cyfreithiol dros y 12 mlynedd diwethaf, sydd, i raddau helaeth, wedi cyfyngu ar hygyrchedd cymorth cyfreithiol a'r hawl i gael cyngor cyfreithiol i lawer o rannau o'n cymunedau sy'n dibynnu arno fwyaf. Mark Isherwood AC: Wel, yn ôl fy ngeiriadur i, credaf eich bod yn cyfeirio at 'gyni', sy'n cael ei ddiffinio fel bod heb ddigon o arian, ac fel y cyfryw, etifeddiaeth ydoedd, nid dewis, ond mae penderfyniadau anodd wedyn wedi galluogi'r gwelliannau sy'n cael eu cyhoeddi yn awr. Ac rwy'n cytuno â chi, gobeithio y bydd gwelliannau pellach, wrth inni edrych ymlaen at y blynyddoedd i ddod. Ond roedd ôl-groniad y llysoedd yn uwch ym mlwyddyn olaf Llywodraeth Lafur y DU na'r hyn ydoedd o dan Lywodraeth Geidwadol y DU cyn dechrau'r pandemig. Sut rydych wedi ymgysylltu'n gadarnhaol â chyhoeddiad Llywodraeth y DU ar 21 Ebrill y bydd llysoedd yn parhau i weithio ar gapasiti llawn am ail flwyddyn i gyflymu cyfiawnder i ddioddefwyr, gyda'r cap ar y diwrnodau y cynhelir achosion yn cael ei godi am flwyddyn arall? Mae hyn yn rhan o lu o fesurau i leihau ôl-groniadau yn y llysoedd, lle bydd y buddsoddiad yn golygu y gellir cynnal mwy o dreialon, gan sicrhau cyfiawnder yn gynt a lleihau'r ôl-groniad o achosion, a gododd yn sylweddol yn ystod y pandemig—[Torri ar draws.]—lle'r oedd yr un penderfyniad y llynedd yn golygu bod achosion wedi'u cynnal ar bron i 17,000 yn fwy o ddiwrnodau yn Llys y Goron nag yn y flwyddyn cyn y pandemig. Ac mae hyn ochr yn ochr â'r gwaith i ymestyn 30 o lysoedd Nightingale tan fis Mawrth 2023—byddwn yn derbyn ymyriad pe na bai'n sesiwn gwestiynau, ond rhaid imi gadw at y cwestiynau—gwrandawiadau digidol, a'r buddsoddiad sylweddol uwch ar gyfer cymorth cyfreithiol troseddol. Mick Antoniw AC: Diolch ichi am y gyfres bellach honno o gwestiynau. Mae ôl-groniadau yn y llysoedd yn sicr yn rhywbeth sydd, yn ystod y degawd diwethaf, wedi dirywio'n sylweddol. Fel y dywedaf, yn yr un modd, mae'r mynediad at gyfiawnder, argaeledd cyfreithwyr mewn rhai ardaloedd, wedi dod yn fwyfwy anodd hefyd. Diau hefyd fod penderfyniad Llywodraeth y DU i gau llysoedd, a'r llysoedd ynadon yn enwedig, wedi gwaethygu'r mater penodol hwnnw. Mewn perthynas ag ôl-groniadau yn ystod cyfnod COVID, yn sicr yng Nghymru, o'r holl adroddiadau rwyf wedi'u cael—gan gyfreithwyr, gan y farnwriaeth, a chan y rhai sy'n gweithio yn y llysoedd—hwn oedd un o'r meysydd mwyaf llwyddiannus, a hynny'n rhannol oherwydd gallu'r llysoedd a'r rhai sy'n gweithio yn y llysoedd ac yn eu defnyddio i gydweithio yng Nghymru er mwyn sicrhau bod achosion yn parhau i gael eu clywed. Nawr, o ran achosion troseddol difrifol, ceir nifer sylweddol iawn o ôl-groniadau y mae angen mynd i'r afael â hwy o hyd. Mae llawer o'r rhain na ellir mynd i'r afael â hwy drwy ddigideiddio; mae materion moesegol arwyddocaol iawn yn codi ynghylch digideiddio. Ond yn sicr yn system y tribiwnlysoedd, sydd o fewn awdurdodaeth Llywodraeth Cymru, mae cael gwrandawiadau digidol, gwrandawiadau ar-lein, yn sicr wedi bod yn llwyddiannus iawn er mwyn sicrhau bod y tribiwnlysoedd hynny'n parhau i weithredu. Ac rwy'n sicr yn cymeradwyo pawb sydd wedi gweithio o fewn y system benodol honno. Credaf fod y broblem gydag ôl-groniadau mewn llysoedd yn deillio o danariannu sylweddol mewn perthynas â chyfiawnder, yn mynd yn ôl ddegawdau lawer, ac rwy'n cyfaddef y pwynt penodol hwnnw. Credaf ei fod wedi'i waethygu'n arbennig dros y 10 mlynedd diwethaf, a chredaf y byddwch yn ymwybodol—ni sonioch chi amdano, ond fe fyddwch yn ymwybodol, wrth gwrs—fod materion pwysig yn codi yn awr mewn perthynas ag ystad llysoedd y Weinyddiaeth Gyfiawnder a safon honno, addasrwydd ein llysoedd, ac nid yw'n llai pwysig nag ystad y ganolfan cyfiawnder sifil yng Nghaerdydd, sy'n rhywbeth y mae taer angen mynd i'r afael ag ef. Cwestiynau nawr gan lefarydd Plaid Cymru, Rhys ab Owen. Rhys ab Owen AS: Diolch yn fawr, Lywydd. Ddiwedd mis Mawrth, cafodd datganiad Llywodraeth Cymru ar fwrw ymlaen ag argymhellion y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru ac adroddiad Comisiwn y Gyfraith ar Dribiwnlysoedd Cymru ei dynnu'n ôl. Pryd y gwneir y datganiad yn awr, ac a all y Cwnsler Cyffredinol warantu i mi y bydd y datganiad yn darparu cerrig milltir allweddol, gydag arweiniad a chyfeiriad clir ac atebol? Diolch. Mick Antoniw AC: Mae hwnnw'n gwestiwn pwysig iawn. A gallaf ddweud wrthych fod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a minnau wedi bod yn gweithio'n agos iawn ar ystod eang o faterion cyfiawnder ar draws ein dau bortffolio—nid yn unig ym maes cyfiawnder deddfwriaethol, ond hefyd ym maes cyfiawnder economaidd-gymdeithasol. Oherwydd rwy'n meddwl ein bod yn credu'n gryf iawn fod cyfiawnder economaidd-gymdeithasol a chyfiawnder cyfreithiol yn mynd law yn llaw. Credaf y bydd rhai o'r problemau'n ymwneud â datganoli cyfiawnder yn cael sylw mewn gwaith sydd ar y gweill ar hyn o bryd, ac rydym yn gobeithio ei gyhoeddi'n fuan. Felly, nid yw'n barod eto, ond nid yw'n bell o fod. Rwy'n credu y bydd hwnnw hefyd yn cyfeirio'n benodol iawn at argymhellion Comisiwn y Gyfraith ar dribiwnlysoedd, a gallaf eich sicrhau bod diwygio tribiwnlysoedd yn rhywbeth sy'n cael ei ystyried i raddau helaeth a bydd yn rhan o'r cyflwyniad eang ar gyfiawnder y gobeithiwn ei wneud o fewn ychydig wythnosau. Rhys ab Owen AS: Diolch yn fawr, Gwnsler Cyffredinol. Hoffwn ganolbwyntio yn awr ar Dribiwnlysoedd Cymru. Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod wedi cael sawl adroddiad yn awr sy'n argymell gwahanu uned Tribiwnlysoedd Cymru oddi wrth Lywodraeth Cymru, ac mae hyn, mewn gwirionedd, wedi'i gymeradwyo gennych chi a Llywodraeth Cymru. Ond yn hytrach na sefydlu adran anweinidogol, pam fod uned Tribiwnlysoedd Cymru wedi'i symud o swyddfa'r Prif Weinidog i adran yr economi, masnach a'r cyfansoddiad? Ac ar gyfleusterau, fe sonioch chi am ddiffyg cyfleusterau mewn perthynas â'r llys. Mae prydles yr unig gyfleuster ar gyfer tribiwnlysoedd datganoledig, Oak House, yn dod i ben y flwyddyn nesaf. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau cyfleusterau digonol ar gyfer Tribiwnlysoedd Cymru? Mick Antoniw AC: Mae hwnnw'n bwynt teg iawn. Fel rhan o'r broses o ddiwygio'r system dribiwnlysoedd, rydym eisiau sicrhau bod gwahaniad barnwrol ac annibyniaeth briodol i'r system honno, ond hefyd fod gan y tribiwnlysoedd y cyfleusterau priodol sy'n angenrheidiol iddynt gael eu hystyried yn llysoedd priodol, i ennyn parch llysoedd priodol, ac i gael y cyfleusterau priodol i'r rhai sy'n cymryd rhan ynddynt. Mae hynny'n cael ei ystyried a'i adolygu, a bydd yn rhan o'r hyn y cyfeiriais ato'n gynharach gyda ein hadolygiad ehangach o'r system gyfiawnder gyffredinol yng Nghymru, argymhellion comisiwn Thomas a materion yn ymwneud â datganoli cyfiawnder. Teuluoedd Hillsborough Jack Sargeant AC: 3. Pa sgyrsiau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda chymheiriaid yn Llywodraeth y DU am y frwydr barhaus dros gyfiawnder i deuluoedd Hillsborough? OQ57981 Mick Antoniw AC: Wel, diolch am eich cwestiwn ar y mater pwysig hwn. Cyn ei ymddiswyddiad egwyddorol, gohebais a chefais drafodaethau rheolaidd gyda'r Arglwydd Wolfson am amrywiaeth o bryderon difrifol fel y rhain. Rydym yn aros, unwaith eto, i Lywodraeth y DU benderfynu pwy fydd y Gweinidog newydd i arwain y gwaith o ymgysylltu â Llywodraeth Cymru yn y dyfodol. Jack Sargeant AC: Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb a'i ymrwymiad hirsefydlog i gefnogi teuluoedd trychineb Hillsborough. Gwyddoch fy mod wedi codi'r mater hwn o'r blaen, fod angen cyfraith Hillsborough arnom yn awr i gefnogi'r ymgyrch. Bydd y Cwnsler Cyffredinol hefyd yn ymwybodol o'r galwadau diweddar, unwaith eto, gan y meiri metro Llafur, Andy Burnham a Steve Rotheram, am gyfraith Hillsborough. A wnewch chi ofyn i Lywodraeth y DU frysio, a phenderfynu pwy fydd yn ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ar gyfiawnder, oherwydd mae hon yn ddeddfwriaeth hollbwysig? A wnewch chi drosglwyddo'r neges honno i'ch Gweinidog cyfatebol pan gaiff ei benodi, a gofyn iddynt gefnogi'r ymgyrch yn ogystal â gweithredu yn awr a chyflwyno cyfraith Hillsborough? Mick Antoniw AC: Diolch ichi am y cwestiwn atodol hwnnw, ac am godi mater diwygio cyfraith pwysig iawn yn fy marn i. Ac mae'n werth atgoffa pobl beth yw cyfraith Hillsborough mewn gwirionedd, o dan, mae'n debyg, yr enw Bil Awdurdod Cyhoeddus (Atebolrwydd), y cyfeirir ato fel cyfraith Hillsborough. Mae'n ymwneud â darparu siarter i deuluoedd sy'n colli anwyliaid drwy drasiedi gyhoeddus, sy'n rhwymo mewn cyfraith i bob corff cyhoeddus; dyletswydd o onestrwydd i weision cyhoeddus; cyfranogiad priodol teuluoedd galarus mewn cwestau, drwy gynrychiolaeth gyfreithiol a ariennir yn gyhoeddus, ac eiriolwr cyhoeddus i weithredu dros deuluoedd yr ymadawedig yn sgil digwyddiadau mawr. Mae'n ymddangos i mi fod hynny'n mynd at wraidd cyfiawnder sylfaenol. Rwyf wedi gwneud y pwynt o'r blaen, wrth gwrs, o gofio bod llysoedd crwneriaid yng Nghymru'n cael eu hariannu'n gyfan gwbl gan arian cyhoeddus, ei bod yn ymddangos i mi ei fod yn fater y dylid ei ddatganoli i Gymru, yn ogystal â darparu cyllid cyhoeddus priodol ar gyfer cynrychiolaeth mewn cwestau. Rwy'n credu ei fod wedi bod yn wendid ac yn anghysondeb mawr erioed nad yw hynny wedi bodoli. Ni ddylai neb fynd drwy'r mathau o brofiadau y mae teuluoedd Hillsborough wedi bod drwyddynt, y camau y bu'n rhaid iddynt eu cymryd er mwyn cael cyfiawnder, gyda llawer o'r teuluoedd hynny'n rhoi rhan fawr o'u bywydau, a bywydau eu teuluoedd, i gael y cyfiawnder hwnnw. Ac nid dyna'r unig gamweddau cyfiawnder. Ceir mannau eraill lle gwelwyd camweddau cyfiawnder sylweddol; heb fod yn hir yn ôl, fe wnaethoch chi sôn am Horizon a'r swyddfeydd post, ac wrth gwrs, mae nifer o farwolaethau'n gysylltiedig â hynny ynddo'i hun. Felly, y sicrwydd y gallaf ei roi i chi yw bod hyn yn rhywbeth a fydd ar yr agenda o faterion y byddwn yn eu codi gyda'r Gweinidog newydd pan gaiff ei benodi, a byddaf yn adrodd yn ôl eto ar ganlyniad y trafodaethau hynny. Ceiswyr Lloches Alun Davies AC: 4. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch hawliau ceiswyr lloches yng Nghymru yng ngoleuni cynllun Llywodraeth y DU i brosesu ceisiadau am loches o'r glannau hyn yn Rwanda? OQ57950 Mick Antoniw AC: Diolch am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn falch fod Cymru'n genedl noddfa i bawb. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddiogelu hawliau ceiswyr lloches yng Nghymru ac yn ceisio trafod y cynigion hyn gyda Llywodraeth y DU. Ni rannodd Llywodraeth y DU ei chynigion parthed Rwanda gyda Llywodraeth Cymru cyn eu cyhoeddi. Alun Davies AC: Diolch yn fawr iawn, Gwnsler Cyffredinol, ac nid wyf yn credu bod hynny'n synnu neb. Mae cynllun Rwanda, wrth gwrs, yn annynol, yn anymarferol ac yn debygol iawn o fod yn anghyfreithlon hefyd. Fe'i hysgogwyd gan fuddiannau tymor byr Llywodraeth Dorïaidd asgell dde yn hytrach nag unrhyw ymgais wirioneddol i ddod o hyd i ateb sy'n diogelu pobl mewn argyfwng sy'n dianc rhag rhyfel, dioddefwyr masnachu pobl neu ateb sy'n mynd i'r afael o ddifrif â methiannau ein system fewnfudo doredig. Cafodd ei gondemnio gan bawb, o Oxfam i Theresa May. Mae'n warthus ac mae'n warthus i bob un ohonom yn y Deyrnas Unedig fod hyn wedi cyrraedd y pwynt hwn. A all y Cwnsler Cyffredinol roi sicrwydd y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i sicrhau bod hawliau ceiswyr lloches yng Nghymru yn cael eu diogelu hyd eithaf gallu'r Llywodraeth hon ac i sicrhau graddau llawn yr holl bwerau cyfreithiol sydd ar gael i Weinidogion, Llywodraeth Cymru a hefyd y lle hwn, ac y bydd y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn sicrhau bod gwerthoedd pobl Cymru yn parhau i lywio ein hymagwedd fel cenedl noddfa i ddarparu cartrefi, diogelwch a chymorth i bobl sydd eu hangen a'u bod yn gwneud mwy na cheisio bachu penawdau papurau newydd ddydd ar ôl dydd, fel y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud i bob golwg? Mick Antoniw AC: Rwy'n cytuno'n llwyr â'r sylwadau hynny. Maent yn sylwadau y mae Aelodau eraill wedi'u gwneud, yn sylwadau y mae fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, wedi'u gwneud hefyd, ac mae llawer o Aelodau eraill wedi gwneud y sylwadau hynny yn y Siambr hon. Credaf mai ddoe ddiwethaf y gallais gyfeirio at bennaeth Eglwys Loegr a gyfeiriodd at y cynigion hyn fel rhai sy'n groes i natur Duw. Nid wyf yn grefyddol fy hun, ond pan fydd pennaeth eglwys fawr yn cael ei ysgogi gan gynigion i'r fath raddau nes eu bod yn dweud eu bod yn annuwiol, mae'n rhaid i lywodraeth nodi hynny. Ac roedd yn eithaf eironig, mewn gwirionedd, pan oedd Boris Johnson yn Kyiv yn siarad am hawliau dynol, fod Priti Patel yn cael ei bygwth â chamau cyfreithiol am dorri hawliau dynol ar lefel y DU. Ar wahân i hynny, mae'r cynigion yn debygol o fod yn hynod o ddrud ac aneffeithlon. Nid oedd unrhyw dystiolaeth o gwbl y byddant yn cyflawni unrhyw beth y mae Llywodraeth y DU yn dweud y byddant yn ei gyflawni. Maent yn sicr yn groes i'r confensiwn ffoaduriaid, yn enwedig erthyglau 31 a 32. Rwy'n monitro'n agos iawn y camau cyfreithiol y deallaf eu bod yn cael eu dwyn gerbron i herio'r cyfreithlondeb, ac mae'n ymddangos i mi fod cwestiwn pwysig iawn yn codi ynglŷn ag a yw'r cynigion hyn yn torri cyfraith ryngwladol ai peidio. Ond byddaf yn monitro hynny'n agos iawn, a byddaf yn gwneud popeth yn fy ngallu i gefnogi cyfreithlondeb rhyngwladol. Diffyg Democrataidd Janet Finch-Saunders AC: 5. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ynghylch datblygu polisi etholiadau sy'n mynd i'r afael â'r diffyg democrataidd mewn rhai wardiau yng Nghymru? OQ57971 Mick Antoniw AC: Diolch am eich cwestiwn. Mae diwygio etholiadau llywodraeth leol i leihau'r diffyg democrataidd yn ymrwymiad yn ein rhaglen lywodraethu, ac rwy'n trafod materion o'r fath yn rheolaidd gyda fy nghyd-Weinidogion. Janet Finch-Saunders AC: Diolch. Nawr, yfory, fel y gwyddom i gyd, dylai pobl ym mhob cymuned yng Nghymru fod yn mynd i ethol cynrychiolwyr i hyrwyddo eu cymuned ar faterion sy'n effeithio arnynt yn uniongyrchol—y dreth gyngor, priffyrdd, gofal cymdeithasol, i enwi rhai yn unig. Fodd bynnag, mae 72 o seddi cyngor yn rhai diwrthwynebiad. Yr enghraifft fwyaf eithafol yw Gwynedd, lle mae 28 o 69 sedd y cyngor, ychydig dros 40 y cant, ag un unigolyn yn unig yn ymgeisio amdanynt. Dim ond 1 y cant o holl seddi cyngor yr Alban sydd eisoes wedi'u llenwi, ond mae'r ffigur yn 6 y cant yma yng Nghymru. Bydd y ffigur hyd yn oed yn uwch ar gyfer cynghorau tref a chymuned, a chofiaf godi hyn gyda'r Gweinidog ar y pryd, ynglŷn â'r nifer enfawr o seddi diwrthwynebiad yn ein cynghorau tref a chymuned. Yn sir Conwy yn unig, dim ond chwech o'r cynghorau tref a chymuned sydd ag o leiaf un ward yn wynebu etholiad. Wrth gwrs, gallem leihau nifer y seddi a newid ffiniau'r wardiau, ond unwaith eto gallem ddal i wynebu'r un broblem. A ydych yn cytuno â mi fod angen adolygu a datblygu polisi etholiadol yn awr er mwyn inni allu nodi'r rhwystrau sydd yno i enwebu ac felly annog etholiadau o'r fath i ddigwydd? Diolch. Mick Antoniw AC: Diolch ichi am y cwestiwn atodol hwnnw, ac rwy'n cytuno â'r rhan fwyaf o'r hyn a ddywedoch chi mewn gwirionedd. Rwyf wedi mynegi fy mhryderon droeon ynghylch iechyd democrataidd Cymru, ac mae'n wir ar draws y Deyrnas Unedig. Rwy'n credu ei fod bob amser yn destun pryder pan nad oes digon o ymgeiswyr ar gyfer rhai seddi. Rwy'n ystyried bod cynghorau cymuned yn rhan eithriadol o bwysig o'n democratiaeth, felly pan nad oes ymgeiswyr neu pan nad yw seddi wedi'u llenwi—. Rwy'n ymwybodol o ddau gyngor cymuned penodol lle nad oes digon o ymgeiswyr i gael cworwm. Rwyf hefyd yn ymwybodol fod cryn nifer o seddi gydag un ymgeisydd yn unig. Wrth gwrs, mae rhywfaint o hynny'n berthnasol hefyd ar lefelau eraill y cynghorau, ond mae'n bryder. Rwyf hefyd yn ymwybodol, wrth gwrs, fod llawer o bobl, ac rwyf wedi dod ar draws unigolion sydd â diddordeb mawr yn eu cymuned a'u gwaith cymunedol ond sydd wedi penderfynu na fyddant yn sefyll mewn etholiadau oherwydd y gamdriniaeth y byddant yn ei hwynebu mewn gwirionedd—fel pobl mewn swyddi cyhoeddus. Rwy'n meddwl am y difrïo a welwyd. Credaf yn sicr fod hynny'n rhywbeth y mae angen mynd i'r afael ag ef. Gwn am un cynghorydd cymuned mewn gwirionedd a gafodd eu cam-drin ar y cyfryngau cymdeithasol yr eiliad y dywedasant eu bod yn bwriadu sefyll, ac fe wnaethant newid eu meddwl a dweud nad oeddent am sefyll. Felly, credaf fod problem wirioneddol yno o ran sefyll dros uniondeb y rhai sy'n ymgeisio am swydd gyhoeddus. Credaf fod hynny'n rhywbeth y mae angen mynd i'r afael ag ef. Ar ôl yr etholiadau, rwy'n credu bod angen inni edrych ar ddau fater. Un ohonynt yw statws cyffredinol cyfranogiad mewn etholiadau, yn ddemograffig efallai, ledled Cymru gyfan.Mae angen inni edrych ar ganlyniad y cynlluniau peilot a gawsom sy'n edrych ar wahanol ffyrdd y gall pobl gymryd rhan mewn etholiadau. Rwyf finnau hefyd, fel y gwyddoch, eisoes wedi gwneud datganiad ein bod yn bwriadu cyflwyno Bil diwygio a gweinyddu etholiadol gerbron y Senedd hon ym mlwyddyn tri, a gobeithio y bydd yr holl sylwadau a'r safbwyntiau rydych wedi'u mynegi yn bethau a fydd yn ymddangos o ran sut yr awn ati mewn gwirionedd i edrych ar ddiwygio, gwella, a gwneud ein system etholiadol yn fwy hygyrch. Mae rhai o'r sylwadau a wnaed yn y cyfryngau yn ddiweddar wedi gwneud argraff arnaf, pethau y buom yn eu hystyried mewn gwirionedd mewn perthynas â diwygio etholiadol, sef pobl ag anabledd a'u gallu i gymryd rhan briodol yn y system etholiadol. Felly, credaf fod llawer o bethau'n codi yno, ond mae'n debyg mai fy mhwynt olaf yw hwn: credaf fod iechyd ein democratiaeth yn dibynnu'n rhannol ar gyfranogiad dinasyddion o fewn hynny, ac os yw'r cyfranogiad hwnnw wedi'i wanhau mewn rhyw ffordd neu os nad yw'n cael ei gyflawni fel y dylai, caiff ein cymdeithas gyfan ei gwanhau. Dyna rywbeth y byddwn yn ei drafod eto a byddwn eisiau gweld beth y gallwn ei wneud i'w unioni, ond hefyd i wella a gwneud ein system etholiadol ein hunain yn fwy hygyrch. Wrth gwrs, rydym wedi sicrhau bod pobl ifanc 16 i 17 oed yn cael yr hawl i bleidleisio am y tro cyntaf, sy'n estyniad o'r fasnachfraint, ond dim ond un mesur yw hwnnw. Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig Rhys ab Owen AS: 6. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am statws apêl Llywodraeth Cymru i Oruchaf Lys y DU ar ei her gyfreithiol i Ddeddf marchnad fewnol y DU? OQ57956 Mick Antoniw AC: Diolch am y cwestiwn. Cafodd cais am ganiatâd i apelio yn erbyn gorchymyn y Llys Apêl, ynghyd â chais am ystyriaeth gyflym, ei gyflwyno i'r Goruchaf Lys ar 7 Mawrth. Nid yw'r cais wedi'i ystyried hyd yma. Felly, rydym yn aros am benderfyniad gan y Goruchaf Lys. Rhys ab Owen AS: Diolch yn fawr, Cwnsler Cyffredinol. Rhys ab Owen AS: Cytunaf yn llwyr â'r sylwadau rydych wedi'u gwneud o'r blaen fod y Ddeddf hon yn tanseilio pwerau hirsefydlog y Senedd a Gweinidogion Cymru mewn perthynas â materion lle mae cymhwysedd wedi'i ddatganoli. Ceir uwchfwyafrif clir yn y Senedd hon sydd eisiau ymestyn a gwella ein pwerau. Pa drafodaethau a gawsoch chi gyda Llywodraeth San Steffan i wneud iddynt sylweddoli o'r diwedd mai ewyllys pobl Cymru a Senedd Cymru yw cael mwy o bwerau ac nad ydynt yn gwadu'r mwyafrif hwnnw a'r mandad a roddwyd i ni gan bobl Cymru? Mick Antoniw AC: Diolch ichi, ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwyntiau a wnaethoch. Credaf fod y Ddeddf marchnad fewnol, os caiff ei dehongli fel y mae Llywodraeth y DU eisiau iddi gael ei dehongli, yn tanseilio rhan o'n setliad cyfansoddiadol. Wrth gwrs, rydym yn anghytuno â'r ddeddfwriaeth honno; credwn ei bod yn anghyfansoddiadol, ac mae camau cyfreithiol wedi'u cymryd o'r herwydd.Mae'n werth dweud ar y cam hwn, wrth gwrs, nad ymdriniwyd â rhinweddau ein dadleuon mewn gwirionedd. Y cwestiwn yw, beth yw'r mecanwaith gorau ar gyfer gwneud hynny, boed hynny drwy ddehongli deddfwriaeth y Ddeddf ei hun, neu a yw'n well gwneud hynny drwy gyfrwng deddfwriaeth a gaiff ei phrofi drwy ei chyfeirio at y Goruchaf Lys. Felly, fel y dywedais, rydym wedi gwneud y cais am ganiatâd i apelio. Ni chafodd ei ystyried gan banel o ustusiaid eto, ond byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd maes o law pan fyddwn yn gwybod y canlyniad. Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair. Diwygio’r Senedd Janet Finch-Saunders AC: 7. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am rôl y comisiwn cyfansoddiadol yn y broses o ystyried maint y Senedd a'r system bleidleisio a ddefnyddir i ethol Aelodau o'r Senedd? OQ57972 Mick Antoniw AC: Diolch am y cwestiwn. Rydym wedi pennu amcanion cyffredinol y comisiwn. Gan fod y comisiwn yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru, mater iddynt hwy yw'r materion y maent yn eu hystyried o fewn y cylch gwaith hwnnw. Janet Finch-Saunders AC: Diolch. Wrth gwrs, gwyddom fod Cymru'n dal i fod yn ei babandod democrataidd, ac mae honno'n sefyllfa unigryw i fod ynddi wrth inni geisio gwella lles Cymru yma ym Mae Caerdydd—neu yno ym Mae Caerdydd—ac ar draws y wlad. Fodd bynnag, mae dyfalu yn y cyfryngau a sgyrsiau ymysg cyd-Aelodau wedi peri pryder ynglŷn â sut y bydd dyfodol y Siambr hon yn edrych a'r broses etholiadol a ddefnyddir i ethol ei Haelodau. Fel y gobeithiaf y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn cytuno, mae angen cynnal trafodaethau ar ddyfodol Cymru mewn modd tryloyw ac agored iawn, lle gall pob dinesydd, os dymunant, graffu'n barhaus ar waith y comisiwn cyfansoddiadol a rhoi eu mewnbwn ar sut y maent yn rhagweld y bydd Cymru ddemocrataidd fodern yn edrych. Ni ddylid naddu dyfodol y wlad hon y tu ôl i ddrysau caeedig. Felly, wrth ddarparu safbwynt adeiladol i'r ddadl ar gynyddu nifer yr Aelodau yma ym Mae Caerdydd, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â pha fodelau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u hystyried i gynyddu nifer yr Aelodau a pha system bleidleisio a ffafriwch ar hyn o bryd? Diolch. Mick Antoniw AC: Diolch ichi am y cwestiwn. Gallaf ateb rhan ohono, ac mae'n debygol na allaf ateb rhan arall ohono. A gaf fi ddweud am y comisiwn cyfansoddiad fy mod i a'r Prif Weinidog ac arweinydd Plaid Cymru, fel rhan o'r cytundeb cydweithio, wedi cyfarfod â'r comisiwn ar 28 Ebrill am adroddiad diweddaru ar y cynnydd sy'n cael ei wneud? Credaf fod yr adroddiad hwnnw wedi'i osod yn y llyfrgell a'i fod ar gael i chi. Yr hyn sy'n ddiddorol yw bod llawer o waith wedi'i wneud ar gael tystiolaeth gan amrywiaeth eang o gyrff, sefydliadau ac unigolion, a'u bod ar gam nesaf y gwaith o ddechrau datblygu proses ymgysylltu. Mae'n amlwg fod proses ymgysylltu yn rhan sylweddol iawn o'u gwaith. Ond ar faint y Senedd, wrth gwrs, mater i'r Senedd ei hun yw hwn, ac wrth gwrs, mae pwyllgor diben arbennig wedi'i sefydlu sydd i fod i gyflwyno adroddiad erbyn diwedd mis Mai. Wrth gwrs, mae gennych Darren Millar yn gynrychiolydd ar y pwyllgor diben arbennig hwnnw. Rwy'n siŵr ei fod wedi clywed y pwyntiau a wnewch a bydd yn sicrhau bod y pwyntiau hynny'n cael eu codi yn ystod trafodion y pwyllgor penodol hwnnw. Ac yn olaf, cwestiwn 8, Jenny Rathbone. Canolfan Gyfiawnder Newydd i Gaerdydd Jenny Rathbone AC: 8. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi diweddariad ar drafodaethau Llywodraeth Cymru gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder mewn perthynas â chanolfan gyfiawnder newydd i Gaerdydd? OQ57958 Mick Antoniw AC: Diolch am eich cwestiwn. Ers imi gyfarfod ag uwch aelodau o’r farnwriaeth yng nghanolfan cyfiawnder sifil Caerdydd fis Medi diwethaf, rwyf wedi parhau i bwyso ar y Weinyddiaeth Gyfiawnder ynghylch yr angen cynyddol i gael gwared ar y ganolfan cyfiawnder sifil a chael un yn ei lle sy’n addas ar gyfer prifddinas yn yr unfed ganrif ar hugain. Jenny Rathbone AC: Diolch, Gwnsler Cyffredinol. Mae’r adeilad presennol, sydd yn fy etholaeth, wedi dyddio ac yn gwbl annigonol. Mae’n anniogel i deuluoedd ac nid yw’n lle da i’r farnwriaeth, ei staff a’i chyfreithwyr fod yn gweithio ynddo. Gan mai cyfrifoldeb y Weinyddiaeth Gyfiawnder yw datrys y broblem hon, tybed sut nad ydym wedi gweld unrhyw gynnydd ers eich cyfarfod ym mis Medi. Oherwydd mae peidio â buddsoddi yn ein system gyfiawnder yn effeithio ar ansawdd cyfiawnder, ond hefyd ar y canfyddiad o bwysigrwydd cyfiawnder yng Nghymru, ac yn atal unrhyw un sydd am ddod i weithredu o’r eiddo hwn, sy'n amlwg yn amharu ar ddatblygiad economi gyfreithiol ffyniannus yng Nghymru. Felly, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i unioni’r sefyllfa gwbl annerbyniol hon? Mick Antoniw AC: Rydych yn codi pwyntiau pwysig iawn. Wrth gwrs, rwyf wedi gweithio o'r ganolfan cyfiawnder sifil ac mae Aelodau eraill o'r Senedd hon yn gyfarwydd iawn â'r cyfleusterau hynny. Tynnwyd sylw at gyflwr y llys gan y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru ddwy flynedd a hanner yn ôl. A phan fyddwch yn cymharu’r cyfleuster a’r llys â’r rheini sy’n bodoli yn Llundain, Caeredin a Belfast, credaf fod y sefyllfa yng Nghaerdydd yn gwbl annerbyniol. Codais y mater hwn gyda’r Arglwydd Wolfson, ac mewn gwirionedd, roeddwn wedi gwahodd yr Arglwydd Wolfson i ddod i ymweld â’r llys. Mae ei ymddiswyddiad, wrth gwrs, wedi rhoi diwedd ar hynny, ond mae'n rhywbeth rwy'n bwriadu ei wneud gyda phwy bynnag a ddaw yn ei le. Cododd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a minnau'r mater hwn gyda’r Arglwydd Ganghellor, Dominic Raab. Ni chawsom ymateb boddhaol o gwbl. Mewn gwirionedd, yr hyn a ddywedwyd wrthym oedd na fyddem yn cael canolfan cyfiawnder sifil newydd. Efallai y byddai rhai mân welliannau, ond nid oedd unrhyw gynlluniau ar y gweill ar gyfer llys newydd. Mae hyn yn arwyddocaol am nifer o resymau. Yn gyntaf, nid yw canolfan cyfiawnder sifil Caerdydd yn addas i'r diben. Nid yw’n addas ar gyfer y teuluoedd, y dinasyddion sy’n defnyddio’r llys hwnnw, nid yw’n addas ar gyfer y cyfreithwyr sydd angen ei ddefnyddio ac nid yw'n addas nac yn ddiogel ychwaith ar gyfer y farnwriaeth eu hunain. Credaf y bydd unrhyw un sy’n gyfarwydd â’r llys yn llwyr gytuno â'r sylwadau hynny. Felly, mae’n fater cyfiawnder nad yw wedi ei ddatganoli sydd o’r pwys mwyaf, ond lle nad oes cyfleuster priodol ar gyfer llawer o’r canlyniadau a llawer o’r materion yr ydym ni'n ymwneud â hwy, ac y mae’n rhaid ymdrin â hwy yn y llys penodol hwnnw. Mae hyn hefyd yn tanseilio’r economi gyfreithiol yng Nghymru gan ei fod yn atal cyfle i ddatblygu’r arbenigedd, y math o waith masnachol a fyddai’n bwysig iawn i economi Cymru ac y byddwn i'n sicr yn hoff o'i weld. Gwn fod Llywodraeth Cymru yn dymuno gweld economi gyfreithiol Cymru yn ehangu ac yn tyfu. Er mwyn gwneud hynny, mae'n rhaid ichi gael llys priodol, mae'n rhaid ichi gael cyfleusterau priodol ac mae'n rhaid ichi gael rhywbeth sy'n sefyll ar ei draed ei hun ac sy'n cael ei ystyried yn rhywbeth sy'n ennyn parch. Ni chredaf fod gennym unrhyw un o'r rheini. Credaf mai ymagwedd y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar hyn o bryd yw esgeuluso eu rhwymedigaethau mewn perthynas ag ystad y llysoedd yng Nghymru. Mae’n rhywbeth rwy'n bwriadu ei godi, a gwn fod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn bwriadu ei godi, a byddwn yn gwneud hynny ar bob lefel. A dweud y gwir, mae'n ddadl arall eto lle na fyddai’r llys yn y cyflwr hwnnw pe bai cyfiawnder wedi'i ddatganoli, ac ni fyddai’n rhaid inni oddef y cyfleusterau hynny. Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol. 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd Eitem 3 y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Gomisiwn y Senedd. Cwestiwn 2 yn gyntaf, Jenny Rathbone, i'w ateb gan Janet Finch-Saunders. Defnydd o Ynni Jenny Rathbone AC: 2. Pa gamau y mae'r Comisiwn yn eu cymryd i leihau'r defnydd o ynni yn adeiladau ystâd y Senedd? OQ57959 Janet Finch-Saunders AC: Diolch i’r Aelod, Jenny Rathbone AS, am ofyn y cwestiwn hwn, gan ei fod yn rhywbeth rwy’n ei drafod yn eithaf aml â phobl sy’n gweithio yn ein Comisiwn. Mae gan y Senedd hanes hir o leihau’r defnydd o ynni, gyda’n hôl troed allyriadau ynni yn lleihau fwy na 50 y cant dros ein dwy strategaeth garbon flaenorol. Mae gwaith eisoes wedi dechrau ar y camau gweithredu a ddisgrifir yn strategaeth garbon niwtral newydd y Senedd, sy’n ymrwymo i fuddsoddi a gwella’r ystad. Mae mesurau effeithlonrwydd ynni a newid ymddygiad, ynghyd â gwelliannau i'r seilwaith ac ynni adnewyddadwy, oll yn rhan o'n cynlluniau i fod yn garbon niwtral erbyn 2030. Mae prosiectau a gwblheir eleni'n cynnwys darparu goleuo mwy effeithlon o ran ynni ar gyfer swyddfeydd drwy ddefnyddio deuodau allyrru golau, yn ogystal â chynyddu parthau ardaloedd gwresogi Tŷ Hywel ar gyfer arbedion gwresogi yn y dyfodol yn unol â lefelau defnydd. Rydym yn dechrau ystyried pa mor ymarferol yw paneli solar ffotofoltaig ar yr ystad ac rydym hefyd wedi ymrwymo i ymuno â rhwydwaith gwres Caerdydd, a fydd yn cael gwared ar gydran fawr o ôl troed gwresogi'r ystad. Jenny Rathbone AC: Diolch. Mae angen i'r mesurau ymddygiad hyn ddechrau gyda'r ffordd y mae'r system oleuadau trydanol yn gweithio. Er enghraifft, fy nghyd-Aelod, Mike Hedges, mae'r goleuadau ymlaen yn barhaol yn ei swyddfa, ond bu'n rhaid imi wneud ymdrech enfawr i gael y bobl fusnes yn y Senedd i newid y system oleuadau fel na fyddai'n cynnau'n awtomatig. Nid oes angen y golau arnoch mewn swyddfa sy'n wynebu'r de os yw'r haul yn tywynnu. Os ydym yn disgwyl i bobl eraill gymryd camau i leihau eu defnydd o ynni er mwyn arbed carbon, mae angen inni sicrhau bod ein hadeiladau’n gweithio'n briodol. Felly, hoffwn graffu ar y cynllun gweithredu hwn y mae'r Comisiwn yn dweud sydd ganddo er mwyn lleihau'r allyriadau carbon yn sylweddol, inni allu bod yn esiampl i eraill yn hytrach nag ar ei hôl hi gyda'r mater pwysig hwn. Janet Finch-Saunders AC: Rwy’n derbyn eich pwynt, ac mewn gwirionedd, rwy’n cytuno ag ef, i raddau. Mae'n rhaid imi ddweud, pan oedd gennyf swyddfa a oedd yn wynebu’r gogledd yn ystod y tymor diwethaf, gyda’r mecanweithiau newydd a gyflwynwyd i arbed ynni, roeddem yn cael problemau gyda goleuadau ein swyddfa, ac roedd angen inni symud llawer er mwyn cynnau'r goleuadau yn y swyddfa. Rwyf bellach mewn swyddfa sy'n wynebu'r de, lle rydym yn cael llawer o haul, ac mae'n rhaid imi fod yn onest, nid oes gennyf broblem, ymddengys eu bod yn gweithio'n eithaf da yn awtomatig. Ond wrth inni agosáu at yr haf, byddwn hefyd yn annog defnyddwyr yr adeilad i chwarae eu rhan drwy agor ffenestri lle bo modd er mwyn awyru a rheoli'r tymheredd yn naturiol cyn cynnau'r system aerdymheru. Drwy gydol y pandemig, golygai'r ffaith bod niferoedd bychain o staff wedi'u gwasgaru drwy'r adeilad nad yw’r defnydd o ynni wedi’i leihau cystal ag y gallai fod, ac mae’r rhain oll yn faterion rwyf wedi’u codi gyda’r cyfarwyddwr. Gadewch imi eich sicrhau bod y defnydd o ynni ar draws ystad y Senedd wedi lleihau dros y pandemig. Ond mae angen inni fod yn ddyfalbarhaus. Ar y pwyntiau a wnewch ynglŷn â'r cynllun, credaf y cewch rywfaint o sicrwydd pan fyddwch yn craffu ar y cynllun hwnnw. Mae'n rhywbeth rwyf wedi'i wneud, a'r unig beth y byddwn yn ei ddweud yw ei fod yn rhywbeth yr ydym yn gyson—. Roeddwn yn yr adeilad yr wythnos o'r blaen ac roedd y coridorau, yn fy marn i, yn rhy gynnes. Mae’r rhain oll yn faterion rwy'n eu codi, ond mae’n bwysig fod pob un ohonom ni fel Aelodau—ac rwy’n falch eich bod wedi tynnu sylw at hyn heddiw—. Mae'n gyfrifoldeb ar bob un ohonom fel Aelodau, nid fel Comisiynwyr yn unig, i chwarae ein rhan er mwyn sicrhau nad ydym yn gwastraffu ynni mewn unrhyw ffordd. Diolch. Nôl i gwestiwn 1. Bydd y cwestiwn yn cael ei ateb gan Ken Skates. Heledd Fychan. Arferion Diswyddo ac Ailgyflogi Heledd Fychan AS: 1. Pa asesiad y mae'r Comisiwn wedi'i wneud i ganfod a yw unrhyw rai o'i gontractwyr yn defnyddio arferion diswyddo ac ailgyflogi? OQ57963 Ken Skates AC: Diolch. Mae gennym fesurau diogelu ar waith a ddylai ddiogelu rhag arferion diswyddo ac ailgyflogi, ac mae’r Comisiwn wedi ymrwymo i sicrhau bod arferion cyflogaeth teg a thryloyw ar waith ym mhob rhan o’r gadwyn gyflenwi ar gyfer ein contractau. Er mwyn cael ein busnes, mae'n rhaid i'n contractwyr ddangos safonau uchel o gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol yn y cam tendro, ac mae gennym gymalau yn ein contractau sy'n ymwneud â chydraddoldeb, hawliau dynol ac arferion cyflogaeth teg. Pan fyddant yn llwyddiannus, rydym yn cynnal cyfarfodydd adolygu contractau rheolaidd lle mae cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol yn eitem sefydlog ar yr agenda, ac yn rhan o hyn, rydym yn gweithio gyda chontractwyr i sicrhau arferion cyflogaeth teg. Gan weithredu’n rhesymol, rydym hefyd yn cadw’r hawl i ofyn am newidiadau i unrhyw un o’r arferion hynny yr ystyriwn eu bod yn annheg. Heledd Fychan AS: Diolch yn fawr iawn ichi. Mae hynny'n galonogol iawn i'w glywed. Mi ydym ni, finnau a Mike Hedges, drwy ein rôl efo'r grŵp trawsbleidiol PCS, wedi clywed gan PCS bod rhai sefydliadau a ariennir gan drethdalwyr Cymru yn defnyddio diswyddo ac ailgyflogi, wedyn mae o'n beth da i weld bod y Comisiwn felly yn cael dylanwad o ran hyn o beth. Fyddech chi yn cytuno efo fi, o ran contractwyr, ei bod hi'n bwysig ein bod ni yn sicrhau a gyrru neges glir iawn nad yw'r arfer o ddiswyddo ac ailgyflogi yn rhywbeth rydyn ni yn cytuno â fo yn y Senedd hon? Ken Skates AC: A gaf fi ddiolch i’r Aelod am godi’r mater pwysig hwn? Byddaf yn sicr yn addo archwilio pob contract i sicrhau nad yw’r arfer ffiaidd o ddiswyddo ac ailgyflogi yn rhan o’r contractau y bu modd i ni ymrwymo iddynt fel Comisiwn. Byddwn hefyd yn parhau i edrych i weld a oes mwy y gallwn ei wneud i wella amddiffyniadau yn erbyn arferion diswyddo ac ailgyflogi, ac fel y dywedais, mae gennym gymalau ar waith, yn ein contract ar arferion cyflogaeth teg, ac rydym yn cadw'r hawl i newid unrhyw arferion yr ystyriwn eu bod yn annheg. Rydym yn sicrhau bod ein contractwyr, er enghraifft, yn talu eu staff yn unol â’r gyfradd gychwynnol ar gyfer staff y Comisiwn—sef £10.78 yr awr—sy’n fwy na’r cyflog byw gwirioneddol, sef £9.50 yr awr ar hyn o bryd o fis Ebrill eleni ymlaen. Credaf fod hynny’n dangos sut rydym yn gosod y bar yn uchel iawn o ran y contractau yr ydym yn ymrwymo iddynt gyda busnesau. Mike Hedges AC: A wnaiff y Comisiwn gondemnio’r defnydd o ddiswyddo ac ailgyflogi yn llwyr, ac a wnaiff y Comisiwn ddweud na fydd unrhyw gontractwra ariennir gan y Comisiwn sy'n defnyddio dull o’r fath i leihau telerau ac amodau gweithwyr yn cael tendro a bod yn rhan o’r Comisiwn ac yn gyflogedig gan y Comisiwn mwyach, p'un a ydynt yn gwneud hynny gyda rhannau eraill o'r sefydliad, neu'n gwneud hynny gyda'r bobl y maent yn eu cyflogi yn y Comisiwn? Ac a wnewch chi gytuno â mi hefyd nad oes lle i ddiswyddo ac ailgyflogi yn unman yn y sector cyhoeddus yng Nghymru? Ken Skates AC: Rwy'n cytuno â’r Aelod nad oes unrhyw le i’r arfer o ddiswyddo ac ailgyflogi yn ein barn ni. Fel y dywedais mewn ymateb i Heledd Fychan, byddwn yn parhau i edrych i weld a oes mwy y gallwn ei wneud i wella'r amddiffyniadau yn erbyn yr arfer hwn. Mae'n annerbyniol, nid yw’n rhywbeth y byddem yn dymuno'i weld, a byddwn yn gwneud ein gorau glas i sicrhau ein bod yn monitro contractau a gweithgarwch i sicrhau nad yw’n rhan o’r busnes yr ydym yn ei gefnogi. I'w ateb gan Joyce Watson, cwestiwn 3, Mabon ap Gwynfor. Lle sy'n Ystyriol o Feigryn Mabon ap Gwynfor AS: 3. Pa gamau y mae'r Comisiwn yn eu cymryd i sicrhau bod ystâd y Senedd yn lle sy'n ystyriol o feigryn? OQ57960 Joyce Watson AC: Diolch am eich cwestiwn. Mae’r Comisiwn yn sicrhau bod hygyrchedd ystad y Senedd yn cael ei adolygu’n rheolaidd i sicrhau ei fod yn gweithredu fel esiampl yn unol â datblygiadau ac arferion gorau a ddaw i’r amlwg. Mae cynllun adeilad y Senedd yn cael gwared ar oleuadau annaturiol, sy'n rhy llachar, yn cyflwyno mannau mawr agored, yn lleihau sŵn, ac mae cyfforddusrwydd thermol yn cael ei reoleiddio, gan leihau amrywiadau eithafol mewn tymheredd. Mae nifer o orsafoedd dŵr ar gael am ddim ar ystad y Senedd, ynghyd ag amrywiaeth o fyrbrydau iach. Mae ystafelloedd tawel yn hygyrch, ac mae swyddogion cymorth cyntaf cymwys wrth law. Mae'r Comisiwn wedi ymrwymo i sicrhau, wrth iddo barhau i ddatblygu'r ystad, fel lleoliad i ymwelwyr a gweithle, fod ymrwymiadau'r Comisiwn i gynhwysiant a hygyrchedd yn parhau i fod yn rhan hollbwysig o'r cynllun hwnnw. Mabon ap Gwynfor AS: Diolch yn fawr iawn am yr ateb yna. Bydd y Migraine Trust yn darparu pecyn cymorth,toolkit, i Aelodau'r Senedd y mis yma er mwyn ein helpu ni i roi cymorth i bobl sy'n dioddef o feigryn, gan gynnwys y staff sy'n gweithio efo ni ac yn wir holl staff y Senedd a'r Llywodraeth. A wnaiff y Comisiwn gymryd camau i sicrhau bod staff y Senedd yn teimlo eu bod nhw'n gallu datgelu bod ganddyn nhw'r cyflwr yma, cyflwr sy'n cael ei stigmateiddio yn llawer rhy aml, a'u bod nhw'n medru gofyn am addasiadau rhesymol, gan rannu arfer da am sut mae cefnogi staff sy'n byw efo meigryn orau? Diolch. Joyce Watson AC: Rwy'n croesawu'r pecyn cymorth hwnnw’n fawr iawn ac edrychaf ymlaen at ei dderbyn. O ran absenoldeb o’r gwaith, mae’r broses ar gyfer cofnodi absenoldeb yn cynnwys cod meigryn yn benodol er mwyn cefnogi cofnodi cywir yn ogystal â lleihau’r stigma yr ydych newydd ei grybwyll. Mae’r nyrs iechyd galwedigaethol ar gael yn rheolaidd ar gyfer apwyntiadau unigol, wyneb yn wyneb neu’n rhithiol, ac mae nifer o fannau tawel ar gael yn ôl yr angen. Mae'r holl offer cyfrifiadurol newydd sy'n cael ei brynu, yn liniaduron a sgriniau, wedi'u hardystio gan TÜV Rheinland, a lle caiff rhai newydd eu prynu, byddant yn bodloni'r gofyniad hwnnw. Bydd yr un peth yn digwydd gyda'r setiau teledu newydd a osodir ar draws yr ystad. Nid yw rhai ohonynt, wrth gwrs, yn bodloni'r safon honno am nad oes rhai newydd wedi'u gosod yn eu lle, ond rwy'n sicr yn edrych ymlaen at weithio gyda chi a'r Migraine Trust i sicrhau ein bod yn gyflogwr ac yn ofod yma sy'n sicrhau bod pobl yn teimlo'n gyfforddus os ydynt yn dioddef o'r meigryn. Diolch. Diolch, bawb. 4. Cwestiynau Amserol Nid oes unrhyw gwestiynau amserol heddiw. 5. Datganiadau 90 eiliad Felly, symudwn ymlaen at eitem 5: datganiadau 90 eiliad. Unwaith eto, un datganiad yn unig sydd gennym yr wythnos hon, a galwaf ar Mabon ap Gwynfor. Mabon ap Gwynfor AS: Diolch yn fawr iawn unwaith eto, Dirprwy Lywydd. Heddiw, dwi am dynnu sylw'r Senedd at ReilfforddLlyn Tegid, sy'n teithio o Lanuwchllyn i'r Bala ac sydd yr wythnos yma yn dathlu 50 mlwyddiant ers gosod y traciau cyntaf ar gyfer y rheilffordd bresennol. Roedd y rheilffordd wreiddiol yn rhan o rwydwaith a oedd yn teithio o Riwabon i'r Bermo, ond fel cynifer o reilffyrdd Cymru, fe ddioddefodd o dan fwyell Beeching nôl ym 1965. Ond efo gweledigaeth George Barnes a chefnogaeth y Cynghorydd Tom Jones bryd hynny, sefydlwyd cwmni newydd, cwmni Rheilffordd Llyn Tegid, y cwmni cyntaf i gael ei gofrestru trwy gyfrwng y Gymraeg, gyda llaw. Dechreuodd y cwmni weithredu 50 mlynedd yn ôl ym 1972, gan newid y trac o un maint safonol i un maint cul, gan weithredu fel atyniad ymwelwyr. Mae nifer fawr o bobl wedi rhoi oriau dirifedi i sicrhau llwyddiant y rheilffordd, ac mae angen diolch i bob un o'r gwirfoddolwyr yma. Rŵan mae'r rheilffordd yn edrych i ymestyn y traciau ymhellach i mewn i'r Bala a datblygu gorsaf newydd yn y dref fydd yn denu miloedd yn rhagor o ymwelwyr i'r ardal. Dwi'n edrych ymlaen, felly, i weld y datblygiad newydd cyffrous yma er mwyn sicrhau 50 mlynedd lwyddiannus arall i'r rheilffordd fach odidog yma yn hyfrydwch Meirionnydd. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cymunedau Lleol Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths, a gwelliant 2 yn enw Siân Gwenllian. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei dad-ddethol. Eitem 6 y prynhawn yma yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig heddiw: cymunedau lleol. Rwy'n galw ar Sam Rowlands i wneud y cynnig. Cynnig NDM7992 Darren Millar Cynnig bod y Senedd: Yn credu bod Llywodraeth Lafur Cymru yn gadael cymunedau lleol i lawr. Cynigiwyd y cynnig. Sam Rowlands MS: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddweud fy mod wrth fy modd yn cyflwyno'r cynnig heddiw yn enw Darren Millar? Am y tro olaf y tymor hwn, yn sicr, hoffwn ddatgan buddiant fel aelod etholedig o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, gyda fy 14 mlynedd o fod yn gynghorydd tref a bwrdeistref sirol yn dod i ben, yn anffodus. Rwy’n siŵr fod pob un ohonom yn siomedig o glywed hynny. Fel y mae ein cynnig heddiw'n ei nodi, mae 'Llywodraeth Lafur Cymru yn gadael cymunedau lleol i lawr.' Am adeg i fod yn cael y ddadl bwysig hon, gyda phobl ledled ein gwlad yn mynd i'r blwch pleidleisio yfory a chyda chymaint eisoes wedi pleidleisio drwy'r post i benderfynu pwy fydd eu cynghorydd lleol nesaf. Rwy’n siŵr fod pob Aelod o bob rhan o’r Siambr yn rhannu’r brwdfrydedd sydd gennyf dros yr etholiad yfory, gan ei bod yn adeg mor bwysig i’n cymunedau. Mae cynghorwyr mor bwysig yn ein dinasoedd, ein trefi a’n pentrefi, hwy yw’r gwir hyrwyddwyr lleol sydd â’r grym a’r dyhead i sicrhau newid yn ein cymunedau pan fyddant wedi’u grymuso’n briodol i wneud hynny. Wrth agor y ddadl heddiw, hoffwn ganolbwyntio ar dri maes lle credaf fod Llywodraeth Lafur Cymru yn gadael ein cymunedau i lawr. Y maes cyntaf yr hoffwn ganolbwyntio arno yw cyllid. Fel y gwyddom, mae’r Llywodraeth hon yng Nghymru, yn hanesyddol, wedi tanariannu ein cynghorau, ac mae hynny'n parhau i’w gorfodi i godi’r dreth gyngor i ddarparu’r gwasanaethau y mae galw cynyddol amdanynt. Ers i Lafur fod mewn Llywodraeth yma yng Nghymru, mae’r dreth gyngor wedi codi bron i 200 y cant ledled y wlad, gan ychwanegu £900 at fil cyfartalog cartrefi. Dyma pam fod gwelliant y Llywodraeth yn ddiddorol i mi, gan eu bod yn datgan nad yw Llywodraeth y DU wedi bod o ddifrif ynghylch yr argyfwng costau byw—yr un Llywodraeth Cymru a orfododd drigolion i dalu treth gyngor uwch drwy gyllido is, gan orfodi'r penderfyniadau anodd ac amhoblogaidd hyn ar ein cynghorau a'n cynghorwyr. Mae'n bryd i lywodraeth leol gael y cyllid go iawn y mae'n ei haeddu—cyllid sy'n deg ledled Cymru. Byddai hyn yn rhyddhau ein hyrwyddwyr lleol ac yn eu galluogi i wneud gwaith hyd yn oed yn well nag y maent yn ei wneud ar hyn o bryd. Yn ail, mae Llywodraeth Lafur Cymru yn parhau i esgeuluso ein cymunedau lleol drwy beidio â chefnogi ac ymddiried mewn pobl sy’n cael eu hethol yn lleol. Fel y gŵyr Aelodau o bob rhan o’r Siambr hon yn iawn, cyflwynwyd datganoli, wrth gwrs, i ddod â grym mor agos â phosibl at y bobl, a’n cynghorwyr lleol sydd agosaf at bobl leol a materion lleol. Serch hynny, gyda Llywodraeth Lafur Cymru, mae’n amlwg nad ydynt am i ddatganoli fynd ymhellach na Bae Caerdydd. Ac fel y nodais wrth y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yr wythnos diwethaf, mae cynghorau a chynghorwyr yn parhau i fod yn rhwystredig ynghylch yr haenau o fiwrocratiaeth a’r haenau o lywodraethiant, byrddau a chyrff sy’n cael eu rhoi ar waith gan y Llywodraeth Lafur hon. Gellir gweld hyn drwy fyrddau gwasanaethau cyhoeddus, byrddau partneriaeth rhanbarthol, byrddau arweinyddiaeth rhanbarthol, cyd-bwyllgorau corfforedig, sydd oll yn glastwreiddio grym a rheolaeth y bobl a etholwyd yn lleol. Enghraifft arall o’r diffyg ymddiriedaeth mewn pobl a etholir yn lleol yw’r cyllid ôl-UE. Dro ar ôl tro, rydym yn clywed Llywodraeth Cymru yn ymosod ar Lywodraeth y DU am roi arian a chyllid yn uniongyrchol i’n cynghorau. Yn wahanol iddynt hwy, y Ceidwadwyr sy’n ymddiried mewn pobl a etholir yn lleol i wneud y penderfyniadau cywir ar gyfer y cymunedau, yn hytrach na bod mamlong Bae Caerdydd yn ceisio llywio’r hyn y mae cynghorau'n ei wneud dro ar ôl tro. Nawr yw’r amser i’n cynghorau ffynnu drwy ymddiried ynddynt i wneud yr hyn sy’n iawn i gymunedau yng Nghymru. Y trydydd maes, a’r maes olaf lle mae Llywodraeth Lafur Cymru yn parhau i adael ein cymunedau lleol i lawr yw balchder yn y lleoedd yr ydym yn byw ac yn gweithio ynddynt. Mae'n hanfodol ein bod yn grymuso ein cymunedau ymhellach gyda chynlluniau cymdogaeth, gan alluogi pobl leol i arwain ar ble y dylid adeiladu a datblygu tai a gwasanaethau newydd, ynghyd â chyflwyno cronfeydd perchnogaeth gymunedol i helpu cymunedau i reoli a llywio eu cyfleusterau a'u gwasanaethau lleol. Y pethau hyn sy'n creu ymdeimlad o berchnogaeth a balchder yn y lleoedd yr ydym yn byw ynddynt, gan roi'r grym hwnnw i bobl leol iawn. Mae taer angen gwella llawer o’n cymunedau, ac mae llawer o hyn yn ymwneud â phethau sylfaenol iawn. Mae angen inni sicrhau bod biniau’n cael eu casglu’n brydlon, fod tyllau yn y ffordd yn cael eu llenwi, fod palmentydd peryglus yn cael eu hatgyweirio, a bod pobl yn cael yr addysg a’r gofal cymdeithasol y maent yn eu haeddu. A phan welwn bethau y gellid eu hystyried yn faterion bach yn cael sylw, rydym hefyd yn gweld busnesau’n ffynnu, gyda mwy o swyddi i bobl leol, balchder yn cael ei adfer yn ein trefi a’n pentrefi, a phobl leol ar y blaen wrth wneud penderfyniadau. Wrth gloi’r sylwadau agoriadol hyn, Ddirprwy Lywydd, mae 23 mlynedd wedi bod ers i rym gael ei ddatganoli i Gymru, ac ers hynny, o dan Lywodraethau Llafur olynol a gafodd eu cynnal gan Blaid Cymru, prin y mae ansawdd bywyd wedi gwella i lawer o gymunedau Cymru. Mae cynghorau’n darparu’r gwasanaethau hollbwysig y mae ein trigolion yn dibynnu arnynt, ond mae’r degawdau o danariannu gan y Llywodraeth hon wedi golygu bod eu gallu i wella gwasanaethau cyhoeddus wedi’i lesteirio a’i ddal yn ôl. Nawr yw’r amser i gefnogi ein cymunedau a busnesau lleol, i ymddiried mewn pobl leol, ac i weithio gyda phob sector i wella cymunedau lleol a gwasanaethau lleol. Ers gormod lawer o amser, mae’r Llywodraeth hon wedi cymryd Cymru’n ganiataol ac yn credu mai hwy sy’n gwybod orau yn hytrach nag ymddiried mewn pobl leol. Dim ond drwy bleidleisio dros hyrwyddwyr lleol y Ceidwadwyr Cymreig y gall pobl adfer rheolaeth ar ddyfodol eu cymunedau a darparu cymunedau cryfach a mwy diogel. Galwaf ar bob Aelod i gefnogi ein cynnig a gwrthod y gwelliannau ger ein bron. Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Gwelliant 1—Lesley Griffiths Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd: Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu i amddiffyn cymunedau ledled Cymru rhag methiant Llywodraeth y DU i gymryd yr argyfwng costau byw o ddifrif a'i gwrthodiad i wrthdroi’r toriad niweidiol i gredyd cynhwysol. Cynigiwyd gwelliant 1. Jane Hutt AC: Ffurfiol. Galwaf ar Peredur Owen Griffiths i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Gwelliant 2—Siân Gwenllian Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn credu bod polisïau anflaengar llywodraethau olynol San Steffan—o dan y Blaid Lafur a'r Ceidwadwyr—a diffyg uchelgais Llywodraethau Llafur Cymru wedi gadael cymunedau Cymru i lawr. 2. Yn credu bod y Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn sicrhau nifer o bolisïau trawsnewidiol a fydd o fudd i bobl a chymunedau Cymru. Cynigiwyd gwelliant 2. Peredur Owen Griffiths AS: Diolch, Dirprwy Lywydd, a dwi'n cynnig y gwelliant yn ffurfiol yn enw Siân Gwenllian. Peredur Owen Griffiths AS: Bydd llawer o bobl mewn cymunedau rwy'n eu cynrychioli yn credu ei bod braidd yn rhagrithiol i'r Torïaid gyflwyno'r ddadl hon yma heddiw yn y Senedd. Rwy'n cynrychioli llawer o hen bentrefi a threfi glofaol ledled Dwyrain De Cymru. Bydd pobl sy’n byw yn y lleoedd hyn yn cofio’n iawn mai’r Torïaid a wnaeth eu gorau i ddinistrio calon y cymunedau hyn yn y 1980au. Dros y 12 mlynedd diwethaf, mae gwleidyddiaeth cyni, a gefnogwyd yn y blynyddoedd cynnar yn San Steffan gan wrthblaid Lafur ddof, wedi gwaethygu cenedlaethau o esgeulustod a thanariannu mewn cymunedau sy’n dal i ddioddef yn sgil cau'r pyllau glo. Os yw’r Torïaid yn dymuno sôn am adael cymunedau i lawr yng Nghymru, dylent edrych yn ofalus arnynt eu hunain yn y drych yn gyntaf. A beth am y Llywodraeth Lafur yma yng Nghymru? Wel, er yr hyn y byddai rhai o’r Aelodau yn y Siambr am i'w hetholwyr gredu, mae Plaid Cymru yn parhau i gefnogi ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd a ddinistriodd gymunedau yn 2020. Dim ond rhai o’r lleoedd yr effeithiwyd arnynt yn fy rhanbarth i oedd Llanhiledd, Ystrad Mynach a Machen. Mae angen fforwm llifogydd Cymru hefyd i roi llais i’r cymunedau sydd mewn perygl er mwyn darparu cymorth ymarferol yn ogystal ag eirioli ar eu rhan. Byddai ymchwiliad annibynnol a fforwm llifogydd yn rhoi rhywfaint o gysur mawr ei angen i’r bobl na allant gysgu yn y nos pan fydd hi’n bwrw glaw, rhag ofn i hanes ailadrodd ei hun. Mae’r diffyg gweithredu ar lygredd aer gan Lywodraeth Lafur nid yn unig yn syndod, ond mae hefyd yn addewid a dorrwyd. Bydd yn rhyddhad mewn lleoedd fel Hafodyrynys, lle bu’n rhaid dymchwel stryd oherwydd llygredd aer, pan fydd y polisi hirddisgwyliedig yn cael ei gyflwyno o’r diwedd, diolch i rôl Plaid Cymru yn y cytundeb cydweithio. Mae gwir angen y ddeddfwriaeth hon oherwydd yr hyn a adawyd ar ôl gan ein gorffennol diwydiannol, sydd wedi gwneud llawer o bobl yn ein cymunedau yn agored i lygredd aer. Amcangyfrifir y gall yr aer a anadlwn gyfrannu at ostyngiad mewn disgwyliad oes a marwolaethau, gan achosi rhwng 1,000 a 1,400 o farwolaethau yng Nghymru bob blwyddyn. Y gost i GIG Cymru yw oddeutu £1 biliwn y flwyddyn. Yn olaf, hoffwn sôn am dlodi plant yng Nghymru. Mae'r ffaith bod traean o’n plant yn byw mewn tlodi yn warth cenedlaethol, ac mae wedi’i waethygu gan y ffaith bod yr ystadegyn ofnadwy hwn ar fin gwaethygu yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod. Mae gan Lywodraethau Torïaidd olynol yn San Steffan lawer i ateb drosto, ond mae mwy y gallwn ei wneud yma yng Nghymru, mwy o lawer. Mae diffyg rhaglen wrthdlodi yn y pum mlynedd diwethaf ers i Lafur gael gwared ar Cymunedau yn Gyntaf yn siomedig. Diolch i’r cytundeb cydweithio, sydd wedi rhoi llawer o ymrwymiadau maniffesto Plaid Cymru ar agenda’r Llywodraeth, ceir llygedyn o obaith mewn darlun tywyll. Bydd yr ymrwymiad i warantu pryd ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd yng Nghymru yn wirioneddol drawsnewidiol i filoedd o deuluoedd. Bydd y camau beiddgar i fynd i’r afael â’r argyfwng tai cynyddol yng Nghymru hefyd yn mynd i’r afael â’r doreth o ail gartrefi a thai anfforddiadwy. Mae’r cytundeb cydweithio hefyd yn cadarnhau bygythiad Llywodraeth y DU i genedligrwydd Cymreig gyda’r datganiad cryfaf hyd yma fod ein Senedd yma i aros. Mae’r ymrwymiad i ddiwygio etholiadol, ac o ganlyniad, i Senedd fwy, sy'n gryfach ac yn addas i’r diben, yn ymateb uniongyrchol i’r cyfrifoldebau cynyddol sydd gan y Senedd. Yn olaf, mae ein cynllun i archwilio ffyrdd o gyflawni sero net erbyn 2035 yn hwb mawr ei angen i’r argyfwng hinsawdd, sef yr her a’r bygythiad mwyaf sy'n ein hwynebu am genedlaethau i ddod, yn sicr ddigon. Mae ein cymunedau wedi dioddef o dan bolisïau anflaengar Llywodraethau olynol yn San Steffan—ie, rhai Llafur a Cheidwadol—ac mae Cymru ar hyn o bryd yn dioddef canlyniadau diffyg gweithredu ar feysydd allweddol, megis llifogydd, llygredd aer a thlodi. Mae’r diffyg uchelgais hwn yn gadael cymunedau ledled Cymru i lawr, ac mae cymaint mwy y dylai’r Llywodraeth hon fod yn ymdrechu tuag ato. Diolch yn fawr. Huw Irranca-Davies AC: Cynsail y ddadl hon heddiw yw cynnig gan y Ceidwadwyr sy’n cadarnhau bod Llywodraeth Geidwadol y DU yn gadael cymunedau lleol i lawr, neu dyna a ddylai fod. Mae fy nghymunedau'n gymunedau gwych. Maent wedi wynebu sawl her dros sawl degawd, maent wedi plygu weithiau, ond nid ydynt byth wedi cael eu curo, ac maent yn llawn o bobl wych. Rwy’n teimlo weithiau nad yw pobl o’r tu allan i’r Cymoedd byth yn deall yr ymdeimlad dwfn o berthyn a gwreiddiau sy’n ein cadw ni yno ac yn ein cadw gyda'n gilydd, doed a ddelo. Ac rydym wedi bod drwy adegau anodd iawn ac rydym wedi goroesi. Ond methiant Llywodraeth y DU i ddeall a chydymdeimlo â’r cymunedau hyn ac ymateb yn gadarnhaol i'w heriau yw'rmethiant a welwn ar hyn o bryd. Ac o ran yr Aelodau Ceidwadol yma yn y Siambr heddiw, ar y meinciau gyferbyn, yn draddodiadol, nid yw Llywodraethau Ceidwadol wedi bod yn gyfaill i fy nghymunedau i. Cawsom ein disgrifio unwaith, yn wir, fel 'y gelyn oddi mewn' gan Margaret Thatcher. Ac nid y glowyr yn unig oedd y gelyn oddi mewn, wrth gwrs, ond eu teuluoedd hefyd, eu cymunedau, y bobl a oedd yno. Ac mae'n anghofio, wrth gwrs, fod hyn bob amser, hyd yn oed bryd hynny, yn ymwneud â phobl yn chwilio am degwch a chyfiawnder cymdeithasol ac economaidd. Ond wrth gwrs, mae hynny'n hen hanes, onid yw? Mae amseroedd wedi newid, mae pethau wedi symud ymlaen, mae'n adeg arall, ac yn wir, yn ganrif arall. Felly, gadewch inni symud ymlaen. Efallai fod yr wynebau wedi newid, ond cafodd yr ymagwedd ei datgelu ddoe, yn anffodus, yn y cyfweliad gyda Phrif Weinidog y DU, Boris Johnson—yr un hen stori. Roedd ei ymddangosiad ar GMTV ddoe, ar ôl pum mlynedd o absenoldeb, yn addysgiadol. Gofynnodd y sawl a oedd yn ei gyfweld gwestiwn syml iawn i Brif Weinidog y DU, ynglŷn â beth arall y gellid ei wneud i helpu Elsie, sy’n dewis teithio ar y bws drwy’r dydd i gadw’n gynnes am na all fforddio gwresogi ei chartref a bwyta hefyd—nid oes ganddi unrhyw arian ar ôl. 'Beth arall y gellir ei wneud?', gofynnodd y cyfwelydd. Ei ateb—ar ôl ymbalfalu a baglu i ddod o hyd i ateb plaen, mewn eiliad o hunanaddoliad llwyr, fe gymerodd y clod am gyflwyno’r tocyn bws am ddim y gall Elsie ei ddefnyddio. Mae'n rhaid bod Elsie wrth ei bodd fod ganddi Prif Weinidog y DU sy'n darparu bysiau cynnes, rhad ac am ddim i ofalu amdani wrth i'w chartref rewi. Ar ôl hyn, fe wnaeth y cyfwelydd, a oedd wedi'i syfrdanu gan yr ymateb hwn, holi Prif Weinidog y DU eto ynglŷn â beth arall y gellid ei wneud ar gyfer Elsie, sydd wedi dihysbyddu'r holl opsiynau eraill sydd ar gael iddi. 'A fyddai'n werth cael gwared ar y TAW ar wresogi?’, gofynnodd, 'Beth am dreth ffawdelw ar elw syfrdanol y cwmnïau ynni tanwydd ffosil, sy'n defnyddio eu henillion i fantoli eu cyfrifon a thalu difidendau yn hytrach na helpu Elsie?' Unwaith eto, perfformiodd Prif Weinidog y DU yr hyn y gallai fod wedi cyfeirio ato, mewn gwirionedd, fel tric Chauceraidd, yr hyn y gallai Chaucer fod wedi cyfeirio ato fel torri gwynt ar lafar. Bustachodd a phaldaruodd, gan esbonio nad oedd unrhyw beth arall y gallai ef neu ei Lywodraeth ei wneud. Mae Elsie yn byw ym mhob un o’n cymunedau yn awr. Pan ddywedwn fod pobl yn gwneud y dewis heddiw rhwng gwresogi a bwyta, nid dyfais rethregol mo honno, mae'n ffaith. Mae bellach yn dod yn fwyfwy cyffredin. Pan ddywedwn fod pobl yn mynd i fanciau bwyd mewn siwtiau ac mewn iwnifformau ar ôl bod yn y gwaith, nid yw hynny'n anarferol, dyma'r normal newydd. Mae Llywodraeth Geidwadol y DU bellach yn creu, yn fwriadol neu drwy esgeulustod, cenhedlaeth newydd o bobl yr ydym wedi’u gweld yn ein cymunedau o’r blaen o dan Lywodraethau Ceidwadol blaenorol—cenhedlaeth o dlodi mewn gwaith yn ogystal â thlodi ymhlith pobl ddi-waith. [Torri ar draws.] Fe ildiaf mewn eiliad. Cenhedlaeth o ddyled gynyddol, a’r genhedlaeth gyntaf, Darren, o lawer y mae eu rhagolygon bellach yn waeth na rhai eu mamau a’u tadau a’u neiniau a'u teidiau. Yn ystadegol, yn ffeithiol, mae'n wir. Beth sy'n digwydd, Darren? Darren Millar AC: Wel, os yw eisiau sôn am ragolygon i bobl, mae angen inni ddatrys ein system addysg yng Nghymru, y mae eich Llywodraeth yn gyfrifol amdani, a hon yw'r system addysg waethaf, yn anffodus, yn y Deyrnas Unedig. O ran yr hyn y mae'r Deyrnas Unedig yn ei wneud i helpu pobl ar hyn o bryd gyda'r sefyllfa costau byw yn ein gwlad, gwyddom fod y cyflog byw cenedlaethol wedi codi i'r lefel uchaf erioed—hwb o £1,000 y flwyddyn i'r rhai sy'n cael y cyflogau isaf. Huw Irranca-Davies AC: Ymyriad ydyw. Darren Millar AC: Gwyddom fod cyfradd tapr ycredyd cynhwysol— Huw Irranca-Davies AC: Credaf fod yr ymyriad—[Anghlywadwy.] Darren Millar AC: —wedi'i leihau, i roi £1,000 arall ym mhocedi'r 2 filiwn o bobl ar y cyflogau isaf ledled y DU. A gaf fi ofyn— Darren Millar AC: Treth tanwydd— Darren, a gaf fi ofyn ichi—[Anghlywadwy.] Darren Millar AC: —wedi'i rewi am 12 mlynedd yn olynol. Darren. Darren. Darren Millar AC: A ydych yn gresynu— Huw Irranca-Davies AC: Mae wedi mynd â munud yn barod. Darren Millar AC: A ydych yn gresynu at y cynnydd pitw yn y pensiwn— Huw Irranca-Davies AC: Rwy'n credu ei fod wedi siarad yn rhy hir yn awr. Darren Millar AC: —y rhoddodd Llywodraeth Lafur flaenorol y DU i'n pensiynwyr, nad oedd hyd yn oed yn talu am becyn o gnau bob blwyddyn? Cyn i chi ateb— Huw Irranca-Davies AC: [Anghlywadwy.]—munud. Mae'n ddrwg gennyf, Ddirprwy Lywydd. Mae'r Aelod yn gwybod y byddaf yn gwirio'r amseroedd, iawn. Cyn ichi ateb, a gaf fi atgoffa'r Aelodau mai diben ymyriadau yw gofyn cwestiynau, nid i wneud eich areithiau eich hun, o'r gorau? Darren Millar AC: Gofynnais gwestiwn. Huw Irranca-Davies AC: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae ein cymunedau, Darren, bellach wedi wynebu degawd o gyni yn y maes cyhoeddus hanfodol a thoriadau i nawdd cymdeithasol, sydd wedi bwyta i mewn i wasanaethau cyhoeddus ledled y DU ac sydd wedi gwneud pobl a oedd eisoes yn dlawd yn dlotach. O'r dreth ystafell wely i'r toriadau credyd cynhwysol, mae'r Llywodraeth Geidwadol bresennol hon yr un mor gyfarwydd i'n cymunedau ag yr oedd difaterwch tuag at gyflogaeth fyrhoedlog a threth y pen i Lywodraeth Thatcher. Yr un hen Lywodraeth yw hi. Felly, ar ôl degawd o gyni, mae ein cymunedau'n wynebu argyfwng costau byw'r Ceidwadwyr, sy'n cael ei waethygu gan brisiau ynni cynyddol ac amharodrwydd Llywodraeth y DU a Phrif Weinidog y DU i weithredu, ond mae'n cael ei waethygu gan benderfyniadau'r Ceidwadwyr. Felly, wrth ddirwyn i ben—ar ôl yr ymyriad a barodd am funud—mae cymorth diweithdra bellach wedi gostwng i'w werth isaf mewn termau real mewn mwy na thri degawd. Mae gennym werth pensiynau a budd-daliadau, Darren, gyda thaliadau sydd wedi gostwng i'r pwynt isaf mewn 50 mlynedd. Mae gennym Sefydliad Joseph Rowntree yn dweud bod pensiynwyr a hawlwyr budd-daliadau wedi gweld gwerth eu taliadau'n gostwng mewn termau real mewn wyth o'r 10 mlynedd diwethaf. Maent yn dweud, Darren, o ran eu gwerth—faint o fara a llaeth y gallwch ei brynu yn y siopau—mai dyma'r gostyngiad mwyaf yn eu gwerth ers 1972. Daeth y cynnydd o £20 yr wythnos mewn credyd cynhwysol, a gyflwynwyd i helpu derbynwyr y dioddefodd eu hincwm o ganlyniad i'r pandemig, i ben ym mis Medi. Mae pobl wedi colli mwy na £1,000 o ganlyniad. Hyd yn oed gyda'r newidiadau—hyd yn oed gyda'r newidiadau—i fudd-daliadau mewn gwaith, megis lleihau'r gyfradd tapr a chynnydd o £500 yn y lwfans gweithio, bydd tri chwarter yr aelwydydd ar gredyd cynhwysol yn cael llai yn awr na'r hyn a gaent flwyddyn yn ôl, a bydd derbynwyr nad ydynt yn gweithio o gwbl yn colli'r ychwanegiad COVID i gyd, sy'n cyfateb i dros £1,000 y flwyddyn. Ac yn awr mae gennym godiadau treth, codiadau yswiriant gwladol— Rwyf wedi rhoi mwy na digon o amser i'r Aelod am yr ymyriad. Huw Irranca-Davies AC: Yn wir, rwyf am ddweud, Ddirprwy Lywydd, gwrthwynebwch gynnig y Ceidwadwyr, a chefnogwch gynnig y Llywodraeth. Mae'r Ceidwadwyr yn gwneud cam â'n cymunedau. A gaf fi atgoffa'r Aelodau y byddaf yn neilltuo amser ar gyfer yr ymyriadau? Felly, nid oes angen imi gael fy atgoffa i wneud hynny, ond gofynnaf hefyd i'r Aelodau, pan fyddant yn ymyrryd, i ofyn cwestiynau a pheidio â gwneud datganiadau. Peter Fox. Peter Fox AS: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n datgan buddiant hefyd fel cynghorydd yn sir Fynwy, a hynny am y tro olaf, gan orffen, fel Sam, gyrfa hir o 25 mlynedd mewn awdurdodau lleol. [Torri ar draws.] Ie. Ddirprwy Lywydd, mae ein cynnig yn iawn ar gynifer o lefelau, boed hynny ar deuluoedd a chymunedau, ar yr economi, ar y diffygion mewn cyrhaeddiad addysgol, ac wrth gwrs, fel y gwyddom i gyd yma, ar faterion pwysig sy'n wynebu ein GIG yng Nghymru. Pe bai—. Oherwydd bod pawb eisiau siarad am nawr, am y misoedd diwethaf hyn, yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ond pe bai Llywodraethau Llafur Cymru olynol wedi gwneud mwy dros y 23 mlynedd diwethaf i adeiladu cymunedau cryfach a mwy gwydn, byddai'r cymunedau hynny mewn sefyllfa well o lawer i oresgyn yr heriau sy'n wynebu llawer ohonynt heddiw. Yn yr un modd, pe bai mwy o ffocws wedi'i roi i gryfhau ein heconomi, drwy leihau rhwystrau i fewnfuddsoddi, hyrwyddo Cymru'n fyd-eang, drwy fwy o ymchwil a datblygu, gallai'r Llywodraeth fod wedi galluogi'r gwaith o greu llawer o ddiwydiannau newydd, gyrfaoedd newydd, gwell swyddi, gyda manteision enfawr i Gymru a'i chymunedau. Mae'r pethau hyn yn creu cyfleoedd bywyd i bobl a'u teuluoedd ac yn creu gobaith a dyhead ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Ond na, nid oes digon wedi'i gyflawni o dan Lafur Cymru. Nid yw nifer y plant o Gymru sy'n byw mewn tlodi, fel y nodwyd ar yr ochr arall i'r Siambr, hyd yn oed cyn yr argyfwng costau byw diweddar, ond wedi lleihau'n gymedrol mewn 20 mlynedd— Huw Irranca-Davies AC: A wnaiff yr Aelod ildio? Peter Fox AS: Rwyf am orffen y pwynt hwn, os caf, Huw. Er bod Llafur Cymru wedi dweud na fyddai unrhyw blentyn yn byw mewn tlodi—Tony Blair—erbyn 2020. Huw Irranca-Davies AC: A fyddai'r Aelod yn cydnabod, yn Llywodraeth 1997 i 2010, gyda Llafur Cymru yma a Llafur y DU yn Llywodraeth y DU, fod 1 filiwn o blant wedi'u codi allano dlodi absoliwt—nid tlodi cymharol, tlodi absoliwt? Bydd ffigurau annibynnol yn dangos bod hynny'n wir. Bydd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn ei ddangos. A yw'n cytuno â'r ffigurau hynny, a beth a wnaeth y gwahaniaeth yn ei farn ef? Peter Fox AS: Ffocws y ddadl hon yw'r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud dros 20 mlynedd, ac nid yw Llywodraeth Cymru ond wedi codi ychydig iawn o blant allan o dlodi. Mae gennym yr un faint yn byw mewn tlodi yn awr ag a oedd gennym 20 mlynedd yn ôl. Felly, yn yr un modd, pe bai mwy o ffocws wedi bod ar—. O, rwyf wedi siarad am y rhan honno. [Chwerthin.]Mae'r pethau hyn yn creu cyfleoedd bywyd. Ac rwyf wedi sôn am y rhan honno hefyd, ond nid yw nifer y plant o Gymru sy'n byw mewn tlodi wedi lleihau, ac mae hynny'n gondemniad trist o'r hyn y mae'r Llywodraeth hon wedi llwyddo i'w gyflawni. Ac ydw, rwy'n cydnabod pa mor anodd yw hi i gynifer o ddinasyddion Cymru ar hyn o bryd, ond yr hyn rwy'n ei ddweud yw y gellid bod wedi gwneud mwy dros y blynyddoedd. Gellid bod wedi rhoi mwy o obaith ac arfau i fwy o deuluoedd gyflawni'r hyn y maent yn anelu ato. Felly, yn y cyswllt hwn, mae'r Blaid Lafur wedi gadael cymunedau lleol i lawr. Unwaith eto, rwyf wedi ailadrodd yn y Siambr hon fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud cam â llywodraeth leol, ac yn sicr mae awdurdodau gwledig wedi gorfod darparu'r cannoedd lawer o swyddogaethau a gwasanaethau i'n dinasyddion flwyddyn ar ôl blwyddyn. Ac rwy'n siarad fel rhywun sydd â phrofiad sylweddol yn y maes hwn, o gofio fy mod wedi arwain yr unig gyngor dan reolaeth y Ceidwadwyr yng Nghymru ar hyn o bryd am dros 13 mlynedd. Sir Fynwy yw'r cyngor sydd wedi cael y swm lleiaf o arian yng Nghymru ers creu'r awdurdod lleol, ond er hynny, mae'n darparu nifer o'r gwasanaethau gorau yng Nghymru, gan gynnwys modelau gofal cymdeithasol arloesol a arweinir gan bobl, a darparodd lawer o ysgolion cynradd newydd, ysgolion cyfun newydd—dwy newydd yn ddiweddar, dwy arall i ddod—a chanolfannau hamdden newydd. Rydym wedi diogelu ein gwasanaethau diwylliannol, ac yn wir rydym wedi buddsoddi yn Theatr y Fwrdeistref yn y Fenni. Ac rydym hefyd wedi bod yn talu'r cyflog byw go iawn ers sawl blwyddyn, tra bo eraill ond yn siarad amdano. A flynyddoedd cyn i COVID daro, roeddem eisoes wedi gweithredu gweithio ystwyth, gan ganolbwyntio ar gydbwysedd bywyd a gwaith ein staff, a ddenodd gynghorau o bob rhan o'r DU i weld sut y gwnaethom hynny. Gallwn fynd ymlaen ac ymlaen. Ac rwyf wedi gweithio gyda llawer o Weinidogion—a'n Gweinidog yma heddiw yn wir—dros y blynyddoedd, ac maent yn gwybod beth y mae Cyngor Sir Fynwy wedi'i gyflawni dan reolaeth y Ceidwadwyr. Yn y pen draw, yr hyn sy'n gwthio cynghorau a reolir gan y Ceidwadwyr i weithredu yw'r sylweddoliad ein bod yn atebol i'r etholwyr, a chyda hynny mewn golwg, nid ydym byth yn cymryd ein trigolion yn ganiataol. Felly, er mai sir Fynwy yw'r cyngor sy'n cael y lleiaf o arian yng Nghymru a hynny o bell ffordd, mae'n dal i lwyddo i gyflawni mwy na llawer o gynghorau sy'n cael eu rheoli gan Lafur. Yn rhyfedd iawn, mae cynghorau a reolir gan Lafur yn gyffredinol yn torri gwasanaethau hanfodol—ffordd o gael dau ben llinyn ynghyd—er gwaethaf y ffaith eu bod yn eistedd ar symiau enfawr o gronfeydd wrth gefn, fel y clywsom ddoe yn y Siambr hon. Nid yw'r Ceidwadwyr yn sir Fynwy wedi tynnu allan o bethau fel gwasanaethau a rennir, megis Cerdd Gwent neu Addysg Awyr Agored Gwent, fel y mae ein cymdogion wedi'i wneud. Rydym yn gwybod gwerth y pethau hyn ac rydym yn parhau'n ymrwymedig iddynt. Lle mae cynghorau Ceidwadol yn cyflawni dros gymunedau, mae fy mhrofiad i'n dweud wrthyf fod cynghorau Llafur yn gadael eu cymunedau hwy i lawr yn rhy aml. Ond mae mwy o waith da i ddod.O dan arweiniad deinamig y Cynghorydd Richard John a'i gydweithwyr galluog, ceir cynlluniau newydd a chyffrous ar gyfer sir Fynwy, sy'n cynnig y dechrau gorau posibl mewn bywyd i blant a phobl ifanc, gan rymuso pobl i fyw'n annibynnol, a chan ddarparu cymunedau cynaliadwy sydd wedi'u cysylltu'n well. Dyma ymrwymiadau beiddgar y Cynghorydd John a'i gydweithwyr. Mae Cyngor Sir Fynwy yn dempled i eraill edrych arno a dysgu ohono. Felly, Ddirprwy Lywydd, mae arnaf ofn fod y cynnig fel y mae'n sefyll yn dangos yn gywir fod Llywodraeth Lafur Cymru, a Llafur ar bob lefel yn wir, wedi gadael eu cymunedau lleol i lawr. Diolch. Cyn imi alw'r siaradwr nesaf, hoffwn groesawu esgobion Catholig Cymru a Lloegr, sydd yn yr oriel. Rwy'n ymwybodol eu bod yng Nghaerdydd ar gyfer eu cynhadledd. Felly, croeso. Ac rwy'n siŵr, ar wahân i'r ymgyrchu etholiadol rwy'n ei glywed, fod mater y ddadl mewn gwirionedd yn rhywbeth sy'n bwysig iawn i'r cymunedau y maent yn eu cynrychioli. Mabon ap Gwynfor. Mabon ap Gwynfor AS: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Gadewch inni fod yn onest, nid dadl yw hon mewn gwirionedd; ymgais enbyd yw hi gan yr Aelodau gyferbyn i gael clipiau cyfryngau cymdeithasol yn barod ar gyfer yr etholiad yfory, ond gadewch inni fwrw yn ein blaenau er hynny. Mabon ap Gwynfor AS: Mae Cymru yn gymuned o gymunedau. Dyna oedd ac ydy cri rhai o arweinwyr blaenllaw'r mudiad cenedlaethol, a hynny wedi bod dros y 100 mlynedd diwethaf, ac mae'n glir yr ydw innau, ac eraill, yn parhau i'w chanu heddiw. Felly, dwi yn ddiolchgar am y cyfle i drafod y mater yma sydd o'n blaen ni. Ond y gwir ydy nad y Blaid Lafur yng Nghymru, neu yn wir y Blaid Geidwadol yn y Deyrnas Gyfunol, sydd yn gadael cymunedau Cymru i lawr, ond, yn hytrach, y syniadaeth neo-ryddfrydol sy'n dra arglwyddiaethu ar eu meddylfryd sydd yn ein gadael ni i lawr. Dyma'r meddylfryd arweiniodd at y Ceidwadwr nodedig, Norman Tebbit, yn dweud, 'Get on your bike', heb gonsérn o fath yn y byd am bobl yn ein cymunedau ni. Yn yr un modd, wrth drafod ail dai a'r ymgyrch 'Hawl i fyw adra', mae aelodau'r blaid Geidwadol oddi draw yma wedi gofyn pa hawl sydd gan bobl i fyw yng nghymuned eu magwraeth. Felly, beth ydy cymuned? Yn ôl y meddylfryd yma, dydy cymuned yn golygu dim byd. Casgliad o adeiladau yn unig ydyn nhw, efo pobl yn mynd ac yn dod. Rydym ni'n gweld hyn yn gynyddol heddiw, onid ydym, wrth i bentrefi a threfi bach ddatblygu yn ddim mwy na satellites ar gyfer dinasoedd mwy: commuter towns, ble mae pobl yn rhoi eu pennau lawr gyda'r nos er mwyn teithio yn ôl ac ymlaen i'r gweithle. Ond pobl sy'n gwneud cymuned, boed yn gymuned ddaearyddol fach neu'n genedl, neu yn wir yn gymuned ar-lein. Pobl a pherthynas pobl a'i gilydd ddylai fod wrth wraidd pob dim yr ydym ni yn ei drafod yma: y sgyrsiau bach yna rhwng rhieni wrth giât yr ysgol am 3.00 y prynhawn, y plant yn chwarae yn y parc ar ddiwrnod braf, yr ymholiad yna, 'Sut mae dy fam neu dy dad?' wrth ichi daro mewn i rywun yn prynu bara yn y siop, y dathlu neu'r gwgu wrth ichi weld yr hogiau neu'r merched yn llwyddo ar y maes chwarae ar ddydd Sadwrn neu'r Sul, y capel neu'r eglwys, y dafarn, y cyfarfod cyhoeddus, y gyngerdd, y bingo, y clwb cerdded. Hyn oll a llawer iawn mwy ydy'r gwead cymdeithasol cyfoethog sy'n creu cymuned. Ond, heb hyn, heb yr ysgol gymunedol, heb y dafarn, y capel, y neuadd, y maes chwarae, y parc, y siop, y bws, y bingo, heb y pethau yma nid cymuned sydd gennym ni, ond yn hytrach creisis iechyd meddwl wrth i bobl fyw mewn seilos unig. Mae'r drefn neo-ryddfrydol yn trin ein cymunedau fel chwareli, yno i gael eu hecsbloetio er mwyn dwyn cyfoeth, ond yna'n cael eu hamddifadu pan fo'r cyfoeth yno yn dirwyn i ben. Mae pob elfen o bolisi cyhoeddus neu fuddsoddiad preifat yn ddibynnol ar niferoedd pobl, nid anghenion pobl, a dyna i chi neo-ryddfrydaeth yn ei grynswth. Oherwydd, wrth wraidd hyn, y ffon fesur ydy gwerth am arian, nid safon byw, nid gwerth cymunedol. Dyna sy'n cyflyru cymdeithas heddiw yn anffodus; dyna neo-ryddfrydaeth. Mae yna sawl enghraifft o hyn, ond dwi am gyfeirio at un enghraifft i gloi. Ystyriwch gynllunio: heddiw, gall cwmni adeiladu mawr wneud cais i adeiladu stad fawr o dai. Does dim rhaid i'r stad yma gynnwys ysgol na feddygfa, hyd yn oed. Gall yr adran gynllunio geisio gorfodi rhyw barc chwarae bach neu ffordd gyswllt a gofyn am geiniogau i fynd tuag at yr ysgol leol, ond yn elfennol gall datblygwr gael prosiect fydd yn dwyn elw mawr iddo ar draul y gymuned. Os ydy'r datblygiad yn cael ei wrthod, yna gall y datblygwr apelio i'r arolygydd cynllunio. Ond, os ydy'r datblygiad yna'n cael ei ganiatáu, ble mae hawl i'r gymuned i apelio? Does gan y gymuned ddim hawl i apêl o gwbl. Mae hyn yn un enghraifft o'r system a'r drefn neo-ryddfrydol yn rhoi elw ac anghenion cyfalafol o flaen anghenioncymunedol, ac mae'n dangos mai'r drefn neo-ryddfrydol bresennol sydd yn milwrio yn erbyn cymunedau. Dyna pam dwi'n gofyn i chi bleidleisio yn erbyn y cynnig—[Torri ar draws.] Wel, wrth fy mod i'n gorffen, wrth gwrs, Sam. Sam Rowlands MS: Diolch, Mabon. Rydych yn gwneud rhai pwyntiau diddorol iawn, yn enwedig ynglŷn â pherchnogaeth gymunedol a'r diffiniad o gymunedau. Felly, a fyddech yn cytuno â mi ar y pwyntiau a godais yn gynharach mai'r hyn a welwn ar hyn o bryd yw'r diffyg ymddiriedaeth yn y berchnogaeth gymunedol honno, a bod rhai rhwystrau yn y ffordd nad ydynt yn caniatáu i gymuned gael ymdeimlad o berchnogaeth ar rai o'r asedau cymunedol a phethau eraill a allai fod ar gael iddynt ar hyn o bryd, a bod angen i hynny newid? Mabon ap Gwynfor AS: Yn wir, dyna oedd un o'r ychydig bethau roeddwn i yn cytuno efo yn dy gyfraniad di, Sam. Mae'r angen i gael perchnogaeth leol yn fwy nag erioed, a dwi'n gobeithio'n sicr y byddwn ni'n gwthio i weld mwy o hynny yn ystod y Senedd yma, ac mi ydyn ni'n barod yn gweld cefnogaeth drawsbleidiol i'r cysyniad yna o gael perchenogaeth leol ar asedau cymunedol. Diolch yn fawr iawn. Altaf Hussain AS: Fy natganiad i yw na fyddaf yn ymladd unrhyw etholiadau ar ôl 10 mlynedd fel cynghorydd cymuned etholedig Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Nawr, gadewch imi siarad am Ben-y-bont ar Ogwr. Rwyf am ei wneud yn syml. Roedd Pen-y-bont ar Ogwr yn arfer bod yn dref fywiog, yn llawn bywyd, busnesau a siopwyr. Mae llawer o bobl bellach yn siopa ar-lein, neu'n mynd i Gaerdydd neu Abertawe. Mae'r dirywiad yn wirioneddol drist. Y cyfyngiadau symud oedd yr hoelen olaf yn yr arch i lawer o fusnesau a oedd eisoes yn ei chael hi'n anodd, ac i'r rhai sy'n dal ar agor, nid yw masnach wedi dychwelyd i'w lefelau cyn COVID. Dylem wneud popeth yn ein gallu i helpu ein busnesau i ffynnu wrth inni ailgodiar ôl y pandemig. Rydym eisiau iddynt ffynnu, nid goroesi'n unig. Ond y realiti trist yw bod y Llywodraeth Lafur hon yn cosbi ein busnesau yng Nghymru drwy fod â'r ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain. Mae canol trefi fel Pen-y-bont ar Ogwr mor bwysig i fywydau cymdeithasol pobl a'u lles cyffredinol. Dyna pam y dylai pobl leol chwarae rôl ganolog yn nyfodol canol eu tref a'u cymuned. Mae gan y Ceidwadwyr Cymreig gynllun clir i adeiladu cymunedau cryfach a mwy diogel ac adfywio canol ein trefi a'n strydoedd mawr.Ac nid yn unig hynny, rydym hefyd eisiau rhoi grym yn ôl yn nwylo pobl leol fel y gallant arwain y ffordd o ran penderfynu lle dylid adeiladu tai a sefydlu gwasanaethau newydd. Rydym eisiau gweld trigolion yn prynu cyfleusterau lleol sydd mewn perygl, megis y dafarn, y siop a'r llyfrgell leol, sy'n aml yn ganolbwynt i'n cymunedau. Gall cynlluniau cymdogaeth lleol a'r gronfa perchnogaeth gymunedol ddatgloi'r potensial sydd wedi bod yn glir ond sydd wedi ei golli o dan y Blaid Lafur, yn anffodus. Dychmygwch yr hyn y gallai tref fywiog ei wneud i iechyd ei chymunedau cyfagos. Gallem dynnu'r pwysau oddi ar bobl sy'n ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd a gwneud Pen-y-bont ar Ogwr yn dref y gall ei thrigolion fod yn falch ohoni eto. Er mwyn i Ben-y-bont ar Ogwr ffynnu, mae angen inni wneud canol y dref yn lle deniadol i fuddsoddi ynddo unwaith eto, drwy ostwng y costau i fusnesau bach a gweithio gyda Heddlu De Cymru i leihau'r ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n codi ofn ar gynifer o bobl ac yn eu hatal rhag mynd i mewn i'r dref. Yn ogystal â'r codiadau arfaethedig yn y dreth gyngor, gofynnir i bobl Pen-y-bont ar Ogwr ddioddef bil ynni cyfartalog o bron £700 y cartref. Yn y DU, amcangyfrifir bod 12 y cant o aelwydydd mewn tlodi tanwydd wrth iddynt orfod dewis rhwng bwyd, gwres a hyd yn oed y dreth gyngor. Mae angen gwneud mwy i ddarparu ynni o ffynonellau diogel ar gyfer ardal Pen-y-bont ar Ogwr. Ym mis Chwefror eleni, cwympodd tyrbin gwynt ar fferm sy'n darparu trydan ar gyfer tua 18,000 o gartrefi. Nid yn unig y mae hyn yn beryglus i unrhyw un sy'n agos at y tyrbin ei hun, ond mae'n rhoi pobl sy'n agored i niwed mewn perygl, yn enwedig y rhai sy'n dibynnu ar drydan i gadw gwasanaethau hanfodol yn weithredol. Yn ddiweddar, mae Llywodraeth y DU wedi lansio cynllun i roi bywyd newydd i ganol trefi yn Lloegr. Bydd y gyfraith newydd yn gorfodi landlordiaid i osod unedau manwerthu sydd wedi bod yn wag am chwe mis neu fwy. Gall awdurdodau lleol gynnal arwerthiannau rhent, gan roi cyfle i fusnesau newydd lesio eiddo am gost fforddiadwy a rhoi cyfle iddynt lwyddo. Byddai Pen-y-bont ar Ogwr yn ardal wych ar gyfer strategaeth o'r fath yng Nghymru, gyda chymaint o eiddo gwag. Rwy'n annog y Prif Weinidog i ystyried y cynllun hwn ac ystyried Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer hyn. Nid canol y dref yw'r unig ardal ym Mhen-y-bont ar Ogwr sy'n cael ei hesgeuluso. Nid oes gan Ben-y-Fai unrhyw lwybrau cerdded na beicio. Ni allwn gerdded i Ben-y-bont ar Ogwr, sydd ond 2 filltir i ffwrdd. Ni all ein plant gerdded i'w hysgolion am nad oes llwybrau cerdded na beicio diogel iddynt eu defnyddio. Am drueni. A hyn er bod Pen-y-Fai yn cael cymorth o dan y cynllun teithio llesol. Mae trigolion Pen-y-Fai yn gaeth ym Mhen-y-Fai oni bai eu bod yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu'n gyrru. A pheth arall: nid oes croesfan i gerddwyr ger yr orsaf betrol ar Heol Tondu, gan ynysu pobl ymhellach am na allant groesi'r ffordd yn ddiogel. A fydd angen i rywun gael ei ladd neu ei anafu'n ddifrifol cyn y rhoddir camau ar waith i unioni hyn? Mae angen i'r Aelod ddirwyn i ben yn awr, os gwelwch yn dda. Altaf Hussain AS: Rwyf am wneud un pwynt olaf, syr. Mae pobl Pen-y-bont ar Ogwr yn haeddu gwell, a rhaid inni wneud mwy i sicrhau bod ganddynt fan lle gallant fagu teulu a chael cymuned a chartref sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Diolch. Carolyn Thomas AS: A gaf fi ddatgan fy mod yn gynghorydd yn sir y Fflint, am y diwrnod olaf? Pan fyddwch yn cerdded o amgylch y gymuned rwy'n falch o fod yn rhan ohoni, gallwch weld beth sydd wedi'i gyflawni diolch i bolisïau a buddsoddiad Llywodraeth Lafur Cymru yn gweithio gyda chyngor sir y Fflint o dan arweiniad Llafur: ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, darpariaeth feithrin newydd estynedig, buddsoddiad mewn adeiladau cymunedol, tai cymdeithasol newydd, cynnydd hyd at 500 yn nifer y tai cyngor, cynlluniau amlenni, paneli solar ar fyngalos pensiynwyr yn lleihau'r hyn y mae'n rhaid iddynt ei dalu, cyfleusterau chwarae—rydym wedi cadw'r holl gyfleusterau chwarae ac rydym yn ailfuddsoddi yn y rheini—llwybrau beicio, croesfannau i gerddwyr—felly, beth sy'n digwydd gydag Altaf yno—ac mae'r rhestr yn parhau. Dros y 15 mlynedd diwethaf, yn ogystal â bod yn gynghorydd sir, rwyf hefyd wedi bod ar ddau gyngor cymuned, pwyllgor neuadd bentref, pwyllgor Hafan Deg, pwyllgor yr eglwys a phwyllgor y cylch chwarae. Rwyf wedi trefnu gwyliau, carnifalau, sioeau ffasiwn, digwyddiadau codi arian a thrafnidiaeth gymunedol, ac wedi helpu i adnewyddu neuadd y pentref a sawl man chwarae. Mae'n ymwneud â phobl. Mae'n ymwneud â darparu pethau i bobl, i'r gymuned. Y bobl yw'r gymuned. Nid yw'r gronfa datblygu gwledig, a oedd yn arian Ewropeaidd drwy Lywodraeth Cymru ac asiantaethau datblygu gwledig—roeddwn ar un o'r rheini hefyd—yn bodoli mwyach ac nid yw Llywodraeth y DU wedi cyflwyno unrhyw beth tebyg ar ôl Brexit, ac mae angen ei hailgyflwyno. Roedd yn darparu cyllid sbarduno ar gyfer digwyddiadau a phrosiectau cymunedol, bwrsariaethau i fusnesau newydd—rwyf wedi clywed rhai'n sôn am hynny yn y newyddion yn ddiweddar hefyd, pa mor bwysig ydoedd ac roedd yn ddefnyddiol iawn—gwelliannau cymunedol i greu ymdeimlad o le, megis gwefannau ac arwyddion, ac i greu cymunedau. Mae mesur canlyniad anhygoel y gwelliannau bach hyn i adeiladu cymunedau cryf bob amser wedi bod yn anodd, ond mae'r buddsoddiad yno i'w weld. Mae enghreifftiau o ddigwyddiadau a ariennir gan y ffrwd ariannu hon yn cynnwys Gŵyl Eirin Dinbych, y mae Gareth yn sôn yn aml amdani—rwy'n gweld Gareth ar y sgrin; Gŵyl Fwyd a Diod yr Wyddgrug a phabell y cyflenwyr bwyd yn sioe Fflint a Dinbych. Mae grant rhaglen cyfleusterau cymunedol presennol Llywodraeth Cymru wedi helpu i adnewyddu neuaddau pentref a chyfleusterau cymunedol mewn ardaloedd difreintiedig. Mae'r cylch ariannu diweddaraf wedi dyfarnu cyfran o £1.78 miliwn i 24 o grwpiau cymunedol, gan gynnwys Sefydliad Enbarr yn sir y Fflint, tuag at atgyfodi hen adeilad John Summers i alluogi'r gymuned leol i fanteisio ar gyfleoedd cyflogaeth. Cyn hynny, cafodd Clwb Rygbi y Rhyl a'r Cylch, Gareth, £490,000 gan Lywodraeth Cymru o dan yr un cynllun, a welodd y clwb yn symud o'r tu allan i'r dref gyda llwybrau trafnidiaeth cyfyngedig i ganol ardal ddifreintiedig lle'r oedd y gyfran o bobl a oedd yn berchen ar geir yn isel, gyferbyn ag ysgol uwchradd ac wrth ymyl llwybr beicio, gan alluogi mynediad hawdd i ysgolion lleol ac ardaloedd preswyl. Ac ers agor, er gwaethaf y pandemig, mae bellach yn cyflogi 20 o staff amser llawn, mae ganddo 26 o grwpiau'n defnyddio'r cyfleusterau, gan gynnwys corau, grwpiau ymarfer corff, Knit and Natter, a disgo wythnosol i bobl ag anableddau. Maent bron â dyblu nifer y bobl sy'n cymryd rhan mewn rygbi— A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad? Rwyf wedi cael cais am ymyriad gan Gareth Davies. Carolyn Thomas AS: Gwnaf siŵr, Gareth. Gareth Davies. Gareth Davies AS: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch eich bod wedi sôn am glwb rygbi y Rhyl. Mae'n ymddangos bod llwyddiant clwb rygbi y Rhyl yn parhau ac mae'r asedau cymunedol yno'n wych. A fyddech yn cytuno bod angen cyflymu'r cyllid ar gyfer canol y dref a chyllid Llywodraeth Cymru i adeiladau'r Frenhines er mwyn cynorthwyo gyda datblygiad y stryd fawr a hefyd i wella'r potensial sydd gan y Rhyl fel tref? Carolyn Thomas AS: Roeddwn yn cyfeirio at y clwb rygbi, felly rwy'n gwybod amdano, ond gwn am adeiladau'r Frenhines hefyd. Mae'r holl gyllid hwn yn bwysig iawn, boed yn arian Ewropeaidd, yn arian gan Lywodraeth Cymru, neu'n gyllid gan Lywodraeth y DU hefyd. Mae'n bwysig iawn sicrhau cyfleusterau i'n trigolion, felly gallaf gytuno â chi. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ariannu hybiau dysgu. Ymwelais â Tŷ Calon yn Queensferry yn ddiweddar, cyfleuster chwaraeon a chymunedol cyfunol arall a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae drws nesaf i ganolfan gofal dydd i oedolion ag anableddau a ariennir gan Lywodraeth Cymru, Hwb Cyfle, a'r uned cyfeirio disgyblion. Caiff ei gynnal gan elusennau a sefydliadau amrywiol sy'n rhedeg cyfleusterau a dysgu cymunedol. A bydd y ganolfan iechyd a lles gyntaf o'i bath yn cael ei hadeiladu ym Mhen-y-groes, ar safle hen ddepo bysiau, gan weithio mewn partneriaeth â Grŵp Cynefin, Cyngor Gwynedd a'r bwrdd iechyd. Bydd yn hyb modern a fydd yn cynnig mynediad at wasanaethau iechyd, deintyddol, fferylliaeth a gwasanaethau ataliol, gwasanaethau cymdeithasol, gofal i'r henoed, swyddfeydd, cyfleuster crèche a lle celf ar y safle i'r gymuned leol, gyda chyllid o gronfa gofal integredig Llywodraeth Cymru. Nawr, mae hyn i gyd er gwaethaf y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi torri cyllid gwasanaethau cyhoeddus, a byddai Cymru £3 biliwn yn well ei byd pe bai cyllid gan Lywodraeth y DU wedi codi yn unol â'r economi. Ac yn awr rydym wedi colli cyllid Ewropeaidd, yr oedd Cymru'n fuddiolwr net ohono. O'r ffrwd ariannu newydd yn y DU, y gronfa adfywio cymunedol, cafwyd 26 o geisiadau aflwyddiannus o Gymru a channoedd o bob rhan o'r DU. Gwiriais hyn, ac roedd 21 tudalen ohonynt. Nid Llywodraeth Cymru sy'n gadael cymunedau Cymru i lawr; mae Brexit a'r cyllid newydd cwbl anaddas i'r diben wedi golygu bod llai o gyfleoedd buddsoddi i gymunedau— Mae angen i'r Aelod ddirwyn i ben yn awr. Carolyn Thomas AS: —ac mae angen i Lywodraeth Dorïaidd y DU gamu i'r adwy a darparu'r cyllid sydd ei angen ar fyrder i wasanaethau cyhoeddus, nid eu torri. Diolch. Joel James MS: Fel y mae pawb arall wedi'i wneud, hoffwn ddatgan fy mod yn gynghorydd—dim ond am ychydig ddyddiau eto. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i fy nghyd-Aelod, Sam Rowlands, am agor y ddadl ac i fy holl gyd-Aelodau eraill am eu sylwadau hyd yn hyn. Er ein bod wedi sôn am y gwahanol faterion sy'n wynebu ein cymunedau, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i siarad am y system o gynllunio canolog gan y Llywodraeth sydd gennym yma yng Nghymru, a sut y bydd bob amser yn methu deall anghenion a dymuniadau cymunedau lleol ar gyfer y dyfodol yn ddigonol. Felly, bydd bob amser yn methu darparu'n effeithiol ar eu cyfer. Mae rhai o'r methiannau a welwn heddiw yn ein cymunedau yn deillio o'r ffaith na wnaeth Llywodraeth Cymru ragweld y newidiadau mewn cymunedau bum, 10 neu hyd yn oed 15 mlynedd yn ôl, ac felly ni wnaeth ddatblygu polisi priodol. At hynny, mae'r broses gymharol araf o ddeddfu yn golygu ei bod yn cymryd sawl blwyddyn i ddata gael ei gasglu'n ddigonol, i bolisi gael ei ysgrifennu a chael ei basio wedyn drwy'r Siambr, sy'n golygu bod cydlyniant cymunedol yn aml yn cael ei golli neu ei niweidio ymhell cyn i gamau gael eu cymryd yn y pen draw. Mae hyn wedyn yn golygu bod y Llywodraeth bob amser yn gorfod dal i fyny i adfer yr hyn a gollwyd, ac mae pobl yn mynd yn ddi-hid ynghylch y system hon o Lywodraeth. Credaf mai'r hyn sydd ei angen mewn gwirionedd i helpu ein cymunedau lleol yw'r gallu iddynt benderfynu'n fwy effeithiol beth sy'n gweithio orau iddynt hwy, ac yna i'r Llywodraeth eu cefnogi mewn modd amserol, sy'n caniatáu ar gyfer ymateb cymunedol ystwyth i fygythiadau dirfodol. Gallai'r cymorth hwn fod yn system o ddeddfwriaeth dros dro a roddir mewn grym er mwyn atal problemau rhag gwaethygu, ac sy'n para hyd nes y cesglir mwy o dystiolaeth neu hyd nes y caiff gweithdrefn ddeddfwriaethol lawnach ei phasio. Beth am ddefnyddio felodrom Maendy fel enghraifft ymarferol. Mae Ysgol Uwchradd Cathays eisiau ehangu i'r safle, ac wrth wneud hynny, byddant yn dinistrio ased cymunedol lleol a hanesyddol. Felly, mae'r gymuned wedi'i chornelu gan Gyngor Caerdydd, oherwydd os nad ydynt yn cytuno i ildio eu felodrom poblogaidd, ni wneir unrhyw waith uwchraddio i Ysgol Uwchradd Cathays, neu ddim ond gwaith uwchraddio cyfyngedig. Credaf ei bod yn anghywir rhoi cymuned mewn sefyllfa o'r fath, oherwydd mae'n creu rhaniadau hirdymor, gan y bydd rhai pobl yn brwydro i achub y felodrom ac eraill yn ymladd dros uwchraddio'r ysgol. Mae'r rhaniadau hyn hefyd yn bersonol dros ben. Er enghraifft, nid oes amheuaeth y bydd y rhai sy'n brwydro i achub y felodrom yn cael eu cyhuddo'n annheg o fod eisiau amddifadu plant o addysg well. Mater arall yw'r ffaith nad oes gan gymunedau lleol bŵer i gydnabod yn ffurfiol ac atal datblygiadau y maent yn ystyried eu bod yn cael effaith negyddol. Enghraifft arall yw ysgol ferched y Bont-faen, ac mae cefnogaeth leol aruthrol i achub yr adeilad hwn. Mae'r gymuned ei eisiau ond nid yw'n ticio'r blychau cywir i Cadw. Mae'r Dirprwy Weinidog sy'n gyfrifol yn credu bod yn rhaid i'r gymuned leol wynebu colli treftadaeth leol sy'n bwysig iddynt. Mae'n sylfaenol anghywir nad oes gan y gymuned hon bŵer i achub y darn hwn o dreftadaeth leol, a chredaf y dylai Llywodraeth Cymru eu grymuso i addasu'r adeilad hwn at ddibenion gwahanol, a chefnogi eu prosiect yn hytrach na throi ei cefnau. Felly, rydym angen grymuso cymunedau lleol yn well i achub yr hyn sy'n bwysig iddynt, a defnyddio pŵer y Llywodraeth, yn lleol neu fel arall, i'w orfodi. Felly, yn hytrach na bod y Llywodraeth yn dweud wrth gymunedau beth y maent hi'n credu y maent ei eisiau, mae gan y Llywodraeth ddyletswydd gofal i ymateb i'r hyn y mae'r gymuned ei eisiau mewn gwirionedd. Os ydym yma i helpu cymunedau lleol i aros yn hyfyw, yn iach ac yn ddeinamig, rhaid iddynt gael gallu i atal newidiadau nad oes mo'u heisiau rhag cael eu gorfodi arnynt gan y Llywodraeth a dylanwadau allanol eraill. Dylid rhoi mecanweithiau ar waith y gellir eu gweithredu'n gyflym i ddiogelu'r gymuned pan gaiff problem ei nodi, ac ni ddylai cymunedau orfod brwydro mor galed i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed. Credaf fod cymunedau ledled Cymru wedi cael eu gadael i lawr gan Lywodraeth Cymru am nad yw'n eu grymuso. Yn hytrach, mae'n rhoi cymaint o rwystrau yn eu ffordd nes eu bod yn cael eu hannog i beidio â thrafferthu, neu i roi'r gorau iddi.Weithiau, nid y ffordd fwyaf effeithlon yn ariannol i gyngor yw'r ffordd orau i'r gymuned bob amser, a rhaid inni dderbyn hyn os ydym eisiau diogelu cymunedau lleol ar gyfer y dyfodol. Diolch yn fawr. Galwaf ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt. Jane Hutt AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy longyfarch Sam Rowlands, a agorodd y ddadl, a phawb sydd wedi datgan eu bod yn camu i lawr yfory, ar eich gwasanaeth gwych mewn llywodraeth leol fel arweinwyr a chynghorwyr? A minnau wedi bod yn gynghorydd fy hun, rwy’n gwbl angerddol am bwysigrwydd llywodraeth leol a rôl cynghorau lleol. Ond a gaf fi ddweud bod Carolyn Thomas yn fodel rôl rhagorol yn y ffordd y daeth yn gynghorydd lleol o lawr gwlad? Rydych wedi chwarae rôl wych, a bellach, rydych yma'n cynrychioli rhanbarth Gogledd Cymru gyfan fel Aelod o'r Senedd. A gaf fi ddweud, Ddirprwy Lywydd, fy mod yn ei chael hi'n anodd deall sut y gall y Ceidwadwyr Cymreig gyflwyno'r cynnig hwn ar adeg pan fo'r argyfwng costau byw'n dinistrio bywydau pobl yma yng Nghymru yn y cymunedau yr ydym yn eu cynrychioli? Bydd pobl y tu allan i'r Siambr hon—yn wir, yn ein horiel gyhoeddus, rwy'n siŵr—yn clywed eu geiriau ac yn meddwl tybed pa realiti amgen y maent yn bodoli ynddo. Byddant yn meddwl tybed pam fod y Ceidwadwyr Cymreig yn poeni gymaint am lesiant cymunedau ledled Cymru. Maent wedi methu sefyll o'u plaid ar yr adegau pwysicaf. Nid yw’r realiti yr ymddengys eu bod ynddo yn realiti lle maent wedi annog Boris Johnson i gymryd camau ar gostau byw. Nid yw'n realiti lle maent wedi mynd ati'n frwd i gadw'r ychwanegiad o £20 i'r credyd cynhwysol. Nid yw’n realiti lle maent wedi brwydro'n galed i sicrhau setliad ariannol teg i Gymru. Yn hytrach, mae'n realiti lle maent wedi ymateb i'r argyfwng costau byw drwy ganiatáu mwy o amser rhwng profion MOT. Ble mae eu dyhead i amddiffyn cymunedau Cymru? Nid ydynt wedi mynnu'r £3 biliwn sy'n ddyledus i'n cyllideb a'n cymunedau yng Nghymru. [Torri ar draws.] Yn amlwg, Ddirprwy Lywydd, mae pobl ledled Cymru yn wynebu argyfwng costau byw digynsail. Dywedodd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol—[Torri ar draws.] A wnaiff y Gweinidog ildio i Aelod? Jane Hutt AC: Gwnaf. [Anghlywadwy.] Jack. Jack Sargeant AC: Diolch am ildio, Weinidog. Clywsom yr hyn a ddywedoch chi yno am weithredoedd gwarthus Llywodraeth y DU, ond clywsom gan feinciau’r Ceidwadwyr eu bod am gael lleisiau cryf i gynrychioli cymunedau. A ydych yn cytuno â mi mai’r ffordd orau o gael cynrychiolaeth gref yn eich cymuned yw drwy bleidleisio dros Lafur Cymru yfory? Jane Hutt AC: A chredaf y gwelwch ganlyniad hynny, pan ddaw democratiaeth leol i'r brig yfory. Ond y pwynt difrifol am y ddadl yr ydym yn ei chael heddiw yw’r straeon yn y newyddion, o ddydd i ddydd, am brisiau’n codi i’r entrychion: bwyd, tanwydd, dillad, costau teithio, rhent, cynnydd o 54 y cant yn y cap ynni yn unig. Dyma’r cynnydd mwyaf ym miliau ynni’r DU ers dros 20 mlynedd. Bydd y bil tanwydd cyfartalog yn codi i bron i £2,000 y flwyddyn. Beth oedd ymateb y Torïaid i hyn? Ad-daliad untro o £200 y mae'n rhaid ei dalu'n ôl. Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mwy na dwywaith yr hyn a gawsom mewn cyllid canlyniadol gan Lywodraeth y DU. Mae ein cronfa gymorth i aelwydydd gwerth £51 miliwn ym mis Rhagfyr yn targedu cymorth at y bobl sydd ei angen fwyaf. Yn ganolog i hyn, mae ein taliad cymorth tanwydd y gaeaf—taliad arian parod o £100. Gwnaethom ddyblu hwnnw i £200. Hefyd, mae £1.1 miliwn ar gael i gefnogi banciau bwyd, partneriaethau bwyd cymunedol a hybiau cymunedol. Ond ar ôl i Ofgem gyhoeddi’r codiadau i’r cap ynni, fe wnaethom roi pecyn cymorth costau byw gwerth £330 miliwn ar waith, ymhell y tu hwnt i’r hyn a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU. Roedd yn cynnwys y taliad costau byw o £150, sy’n cefnogi dros filiwn o aelwydydd, a £25 miliwn arall—ac mae'n hollbwysig i awdurdodau lleol fod ganddynt y gronfa ddewisol honno hefyd, i ddiwallu anghenion y rheini y gwyddant sydd ei hangen fwyaf. Mae £21.4 miliwn wedi’i ddyrannu i ymestyn prydau ysgol am ddim drwy’r Pasg, y Sulgwyn a’r haf, ac yn hollbwysig, ac fel y bu galw amdano yn y Siambr hon, rydym yn ymestyn y gronfa cymorth dewisol—£100 miliwn yn ychwanegol ar ei chyfer—ac yn ymestyn cynllun cymorth tanwydd y gaeaf i'r flwyddyn nesaf. Y taliad hollbwysig hwnnw—dim benthyciadau. Taliad. Dyma £200 o arian sy'n mynd i bocedi'r rheini sydd ei angen, yn wahanol i ad-daliad Llywodraeth y DU, y mae'n rhaid ei dalu'n ôl. Nid ad-daliad yw hwnnw. Dim ond benthyciad. Felly, dyma sut y mae'n edrych pan fyddwn ni, Lywodraeth Llafur Cymru, yn sefyll o blaid cymunedau Cymru. Darren Millar AC: A wnewch chi dderbyn ymyriad? Jane Hutt AC: Gwnaf, Darren. Darren Millar AC: Wrth gwrs, nid dyna’r unig beth a wnaeth Llywodraeth y DU i gefnogi pobl gyda’r sefyllfa costau byw. Fe wnaethant hefyd roi gostyngiad o £150 yn y dreth gyngor i aelwydydd, er mai yn Lloegr y digwyddodd hynny. Fe gawsoch chi gyllid canlyniadol. Gallech fynd 20 y cant ymhellach na hynny yma yng Nghymru oherwydd, wrth gwrs, am bob £1 sy’n cael ei gwario ar wasanaeth datganoledig yn Lloegr, mae Cymru'n cael £1.20 i'w wario yma. Pam na wnaethoch roi gostyngiad mwy hael yn y dreth gyngor i berchnogion tai a thalwyr y dreth gyngor yng Nghymru, sydd wedi gorfod ymdopi â chynnydd o hyd at 300 y cant yn y dreth gyngor mewn rhai awdurdodau lleol ers 1999, ers i'r Blaid Lafur fod mewn grym yng Nghymru? Jane Hutt AC: Wel, wrth gwrs, Darren, rydych chi'n anghofio ein cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, sy'n werth £244 miliwn. Mae hwnnw ynddo’i hun yn helpu dros 270,000 o aelwydydd, ac mae 220,000 wedi’u heithrio’n gyfan gwbl rhag talu'r dreth gyngor, ond maent yn dal i gael y taliad costau byw o £150. Mae hwnnw'n dal i gael ei dalu i'r aelwydydd hynny yng Nghymru. Ond mae hefyd yn hanfodol bwysig ein bod yn edrych ar y ffyrdd eraill o sefyll dros awdurdodau lleol: y £0.75 biliwn ychwanegol yn y setliad llywodraeth leol, a chyllid ar gyfer ysgolion, gofal cymdeithasol, y cyflog byw gwirioneddol. Mae'n hanfodol bwysig i weithwyr gofal cymdeithasol—y £43 miliwn a ddyrannwyd i fyrddau iechyd i'w weithredu—a'r cyfraniadau rhyfeddol a wnaethant, o ran y cyllid ychwanegol a ddyrannwyd i ofal cymdeithasol. Ond hefyd, mae’n bwysig fod y rhaglen cyfleusterau cymunedol wedi’i chrybwyll: £42 miliwn ar gyfer bron i 300 o brosiectau, o Ynys Môn i sir Fynwy. Rwy'n siŵr y gwelwch hynny ym mhob un o’ch etholaethau. Ond rydym hefyd wedi diogelu swyddi a busnesau ar draws ein holl— Darren Millar AC: Mae'n ddrwg gennyf wneud ymyriad arall mor fuan, ond hoffwn ddweud rhywbeth am y rhaglen cyfleusterau cymunedol. A gaf fi ganmol Llywodraeth Cymru am y rhaglen honno? Mae wedi arwain at fuddsoddiad sylweddol mewn llawer o gyfleusterau cymunedol yn fy ardal i, gan gynnwys mannau addoli, sydd wedi’u haddasu ac sydd bellach yn hybiau i’w cymunedau, fel y buont erioed, ond bellach mae ganddynt gyfleusterau sydd wedi’u huwchraddio’n sylweddol. A allwch gadarnhau y byddwch yn parhau i ymrwymo i’r gronfa honno, gan gynyddu’r buddsoddiad hwnnw yn nhymor y Senedd hon? Jane Hutt AC: Ein hymrwymiad oedd y £42 miliwn a mwy, y 300 o brosiectau, drwy gydol y pandemig, gan ei ymestyn, mewn gwirionedd, i sicrhau y gallai ddiwallu anghenion y pandemig. Ond mae'n bwysig inni gydnabod bod hwn yn fater sy'n ymwneud â chymunedau lleol yn dylanwadu ar yr hyn y maent yn dymuno ei gael, fel canolfan addysg ddiwylliannol Al-Ikhlas yng Nghaerdydd—cawsant £0.25 miliwn i drawsnewid dau eiddo cyfagos yn hyb cymunedol. Ac rwyf wedi bod yn awyddus iawn i sicrhau y dylid mabwysiadu ymagwedd ryng-ffydd wrth estyn allan at ein cymunedau Mwslimaidd, cymunedau Hindŵaidd, a chymunedau Cristnogol hefyd. Ac rydym wedi diogelu swyddi a busnesau ar draws ein holl gymunedau. Felly, i gloi, ar yr holl gyllid a ddarparwyd gennym i adeiladu 20,000 o gartrefi carbon isel, £1 biliwn mewn cyfalaf ar gyfer addysg, Dechrau'n Deg—. Gallem barhau, Ddirprwy Lywydd, gyda phob portffolio yn rhoi llu o enghreifftiau o sut y mae’r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru, gyda chefnogaeth mewn llawer o feysydd gan Blaid Cymru, yn sefyll o blaid y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu, ac yn cyflawni ein rhaglen lywodraethu. Felly, y gwir amdani, Ddirprwy Lywydd, yw ei fod yn gam beiddgar yn wir, hyd yn oed ym myd gwleidyddiaeth, i'r Ceidwadwyr Cymreig gyflwyno cynnig o'r fath a hwythau'n gwneud cymaint o anghymwynas â'r bobl sydd ein hangen fwyaf. Bydd y Llywodraeth hon yn parhau i gyflawni. Byddwn yn parhau, gyda'n partneriaid mewn llywodraeth leol, i amddiffyn i'r eithaf y rheini a wasanaethwn. Diolch yn fawr. Galwaf ar Mark Isherwood i ymateb i'r ddadl. Mark Isherwood AC: Diolch i Sam Rowlands am agor y ddadl. Fel y dywedodd, mae cynghorau mor bwysig yn ein dinasoedd, ein trefi a’n cymunedau, pan gânt eu grymuso’n briodol i fod felly. Fel y dywedodd, mae Llywodraeth Lafur Cymru yn gadael cymunedau i lawr mewn tri maes allweddol. Cyllid: mae angen cyllid teg ar gynghorau ledled Cymru gyfan, gan gynnwys sir y Fflint. Gwn fod Carolyn Thomas wedi bod yn rhan o ymgyrchoedd lleol i dynnu sylw at fethiant polisi cyllido Llafur i ariannu’r sir yr oedd yn gynrychiolydd ynddi yn briodol. Peidio â chefnogi ac ymddiried mewn pobl a etholwyd yn lleol: mae arnom angen datganoli mor agos at y bobl â phosibl, ond yn hytrach, mae Llywodraeth Cymru yn cipio grym i Fae Caerdydd. A grymuso pobl leol i arwain ar benderfynu lle mae angen tai, cyfleusterau a gwasanaethau—lle dylid eu datblygu, gan ymddiried yn y bobl leol. Cyfeiriodd Peredur Owen Griffiths at y modd y mae'n cynrychioli llawer o hen drefi a phentrefi glofaol, sy’n dal i ddioddef—a chan ddefnyddio rhywfaint o ryddid barddol yma—ar ôl 25 mlynedd o Lywodraeth Lafur barhaus yng Nghymru. Ac efallai y dylwn ddatgan: rwy'n or-ŵyr i löwr, y dywedwyd wrth ei fab, fy nhaid, na fyddai'n mynd i weithio i'r pwll; roedd yn mynd i dorri'r cadwyni a oedd wedi bodoli ers cymaint o genedlaethau. Cyfeiriodd at y diffyg gweithredu gan y Llywodraeth Lafur ar lifogydd a llygredd aer, a’r lefelau uchel o blant yng Nghymru sy'n byw mewn tlodi—rhywbeth y bûm yn tynnu sylw ato yma ers 19 mlynedd, ymhell cyn y daeth newidiadau'r Llywodraeth i ymyrryd, yn dilyn hynny. Fel y dywedodd, mae’n warth cenedlaethol, fel y mae'r ffaith nad oes gan Lafur strategaeth wrthdlodi. Dywed Huw Irranca-Davies fod ei gymunedau'n llawn o bobl wych, ac wrth gwrs, maent yn llawn o bobl wych, ond o hynny ymlaen, clywsom osgoi cyfrifoldeb a gwadu atebolrwydd gan Aelod o'r blaid sydd wedi bod yn gyfrifol am hyrwyddo ffyniant a threchu tlodi yng Nghymru ers 25 mlynedd, ac a adawodd gyni— A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad? Mae'n ddrwg gennyf, mae gennych Aelod y tu ôl i chi sy'n gofyn. Mark Isherwood AC: Fe dderbyniaf un ymyriad byr. Carolyn Thomas AS: Diolch. Cafodd fy enw ei grybwyll yn gynharach. A wnewch chi ailadrodd yr hyn a ddywedoch, gan fy mod am egluro hynny, os gwelwch yn dda, ar gyfer y cofnod? Mark Isherwood AC: Rydych wedi bod yn rhan o ymgyrchoedd trawsbleidiol cynghorwyr sir y Fflint i newid fformiwla gyllido llywodraeth leol Llywodraeth Cymru, fel nad yw sir y Fflint yn parhau i fod yn un o’r cynghorau a ariennir waethaf yng Nghymru. Carolyn Thomas AS: Nid dyna a ddywedoch chi. Fe ddywedoch chi fy mod yn erbyn polisi Llafur Cymru. Felly, diolch am gywiro hynny. Mae hynny'n iawn. Mark Isherwood AC: Wel, polisi Llywodraeth Cymru oedd cefnogi’r fformiwla gyllido llywodraeth leol honno. [Torri ar draws.] Byddwn yn gwirio'r Cofnod yn nes ymlaen i sicrhau bod yr hyn a ddywedwyd yn glir. Carolyn Thomas AS: Mae'n ddrwg gennyf, ond mae gyda CLlLC hefyd. Diolch. Nid Llafur Cymru. Bydd y Cofnod yn cael ei wirio yn nes ymlaen i gadarnhaubeth a ddywedwyd. Mark Isherwood AC: Ac mae'r blaid—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf. Mae gennym ymyriad arall. A wnewch chi dderbyn un arall, Mark? Mark Isherwood AC: Mae'n ddrwg gennyf? Mae gennym ymyriad arall. A wnewch chi dderbyn un arall? Mark Isherwood AC: Wel, rydym braidd yn brin o amser. Fe roddaf yr amser i chi, Mark. Mark Isherwood AC: Yn fyr iawn, os gwelwch yn dda. Huw Irranca-Davies AC: Byr iawn yn wir. Rwy’n ceisio cael ateb i’r cwestiwn a ofynnais yn gynharach: pan oedd gennym Lywodraeth Lafur yma a Llywodraeth Lafur mewn grym yn y DU hefyd, pam y gwelsom filiwn o blant yn cael eu codi allan o dlodi? Beth y llwyddodd y gynghrair ryfedd honno i'w wneud lle mae Llywodraeth y DU wedi methu ei wneud, cyn ac ar ôl y Llywodraeth honno? Mark Isherwood AC: Yn ystod y blynyddoedd llwyddiannus, yn seiliedig ar ddyled anghynaliadwy, fe gafwyd llai o dlodi, ond yna, dechreuodd godi eto cyn 2010, ac erbyn 2010—. Edrychwch ar y Cofnod o areithiau a wnaeth fy nghyd-Aelodau a minnau yn y Siambr yma yn 2010 yn tynnu sylw at y broblem honno ac yn galw am weithredu i fynd i’r afael â hi. Gwiriwch y Cofnod. A all yr Aelodau ar feinciau’r Ceidwadwyr dawelu, os gwelwch yn dda, gan yr hoffwn glywed ymateb Mark i’r ddadl? Mark Isherwood AC: Ac mae'n amddiffyn ei blaid, a adawodd gyni yn etifeddiaeth i Lywodraeth newydd y DU yn 2010, cyni a fyddai wedi arwain at orfodi toriadau mwy o lawer pe na bai Llywodraeth y DU wedi cymryd y camau a wnaethant. Dim ond dau o Aelod-wladwriaethau’r UE—ac yn amlwg, roeddem yn yr UE bryd hynny—a oedd mewn sefyllfa waeth, sef Iwerddon a Gwlad Groeg. Gwnaeth Iwerddon orfodi toriadau mwy na'r DU i gael gwared ar eu cyni hwy. Ni wnaeth Gwlad Groeg hynny, a gorfodwyd toriadau mwy o lawer arnynt hwy. Pa un a fyddai wedi bod orau gennych chi? Peter Fox: mae ein cynnig, meddai, yn gywir ar gymaint o lefelau: teuluoedd, yr economi, addysg a GIG Cymru. O na bai Llywodraethau Llafur olynol Cymru ond wedi gwneud mwy, meddai, dros y 23 mlynedd diwethaf i adeiladu cymunedau cryf, gwydn ac economi gref, gan roi gobaith ac uchelgais i genedlaethau’r dyfodol. Dywedodd y gallai eu methiant i wneud hyn roi diwedd ar gyfleoedd bywyd, ac er bod sir Fynwy, dan arweiniad y Ceidwadwyr Cymreig, yn cael y lefel isaf o gyllid yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru, maent wedi darparu rhai o'r gwasanaethau gorau a pheth o'r arloesi gorau yng Nghymru. Dywedodd fod y cynghorau a reolir gan Lafur fel arfer yn torri gwasanaethau hanfodol er bod ganddynt gronfeydd wrth gefn enfawr y maent yn eu cario ymlaen flwyddyn ar ôl blwyddyn. A dywedodd fod cynghorau Ceidwadol yn cyflawni dros gymunedau; mae cynghorau Llafur, yn gyffredinol, yn eu gadael i lawr. Dywedodd Mabon ap Gwynfor fod Cymru’n gymuned o gymunedau—yn sicr—sydd wedi'i gadael i lawr, meddai, gan ideoleg neoryddfrydol. Rwy'n ei chael hi'n anodd deall beth y mae hynny'n ei olygu. Mewn geiriau eraill, mae plaid asgell chwith eithafol, Plaid Cymru, yn condemnio ymagwedd nad yw'n hoff o eithafion, sy'n cydnabod manteision rhoi llais a rheolaeth i bobl leol a’r gymuned, sy'n cynhyrchu menter sy’n gwella ffyniant ac yn ariannu gwasanaethau cyhoeddus, ac yn hyrwyddo newid esblygiadol gan gydnabod bod newid chwyldroadol bron bob amser yn taro'r gwannaf galetaf. Dywedodd Altaf Hussain y dylem wneud popeth a allwn i helpu ein busnesau i ffynnu wrth inni ailgodi wedi'r pandemig ac i roi rôl ganolog i bobl leol wrth adeiladu cymunedau cryfach, mwy diogel. Dywedodd Carolyn Thomas, pan fydd yn cerdded o gwmpas y gymuned y mae'n perthyn iddi, y gallwch weld yr hyn sydd wedi'i gyflawni. Wel, rwy’n perthyn i’r un gymuned—rydym yn byw'n agos iawn at ein gilydd—ac rwy’n gweithio gyda llawer o’r sefydliadau y soniodd amdanynt ac yn noddwr i rai ohonynt, ac rwy’n cymeradwyo’r bobl wych, yr ymladdwyr a’r entrepreneuriaid cymunedol hynny, sydd wedi hybu cymaint o'r newid hwnnw. Ond rwyf hefyd yn cael llond bwced o e-byst bob dydd gan bobl yn sir y Fflint sy'n dweud wrthyf, er eu bod yn agored i niwed, fod gwleidyddion Llafur neu gyngor Llafur wedi dweud wrthynt beth sy'n dda iddynt, yn hytrach na'u holi beth y maent am ei gyflawni. [Torri ar draws.] Ac wrth gwrs, hoffwn pe na bai’r gwaith achos mor enfawr, yn enwedig pobl anabl ac eraill, ac wrth gwrs, mae ffyniant y pen yn sir y Fflint, a oedd ar yr un lefel â lefel y DU ym 1999, bellach yn llusgo ar ôl. Joel James—dywedodd nad yw system ganolog o gynllunio Llywodraethol yng Nghymru, neu’r system ganolog yng Nghymru, yn deall anghenion cymunedau lleol, gyda chydlyniant yn cael ei niweidio wrth i bobl ddod yn ddi-hid ynghylch y system Lywodraethol hon. Mae arnom angen i gymunedau lleol gael eu grymuso i raddau mwy, ac ni ddylai cymunedau orfod ymladd mor galed i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed. Gan Jane Hutt, y Gweinidog, clywsom ddarllediad gwleidyddol yn seiliedig unwaith eto ar osgoi—[Torri ar draws.]—osgoi cyfrifoldeb am eu methiant erchyll ac ysgytwol yn Llywodraeth Cymru ers 1999. Hefyd, rhoddodd restr i ni unwaith eto o sut y maent wedi dosbarthu'r cyllid y maent wedi'i dderbyn gan Lywodraeth y DU. Wedi'i lansio yn 2001, Cymunedau yn Gyntaf oedd rhaglen flaenllaw Llywodraeth Lafur Cymru i wella amodau byw a rhagolygon pobl yn y cymunedau mwyaf difreintiedig ledled Cymru. Fodd bynnag, nododd adolygiad archwilio Cymru o Cymunedau yn Gyntaf fod y rhaglen wedi deillio o anhrefn, nad oedd wedi'i chynllunio a bod diffyg cynllunio ariannol ac adnoddau dynol sylfaenol cyn lansio'r rhaglen. Pan gafodd ei dileu, roedd £0.5 biliwn wedi’i wario arni pan gyhoeddwyd bod Llywodraeth Cymru yn ei dirwyn i ben yn raddol, ar ôl methu lleihau’r prif gyfraddau tlodi na chynyddu ffyniant cymharol yng Nghymru. Fel y dywedodd Sefydliad Bevan: 'Ni wnaeth Cymunedau yn Gyntaf ostwng y prif gyfraddau tlodi yn y mwyafrif helaeth o gymunedau, a llai fyth drwy Gymru gyfan.' Wel, ar ôl 23 mlynedd o Lywodraeth Cymru Lafur sy'n llywodraethu o’r brig i lawr, sy’n cadw pobl mewn tlodi, yn gorchymyn a rheoli, mae taer angen dull y Ceidwadwyr Cymreig o alluogi, grymuso a rhyddhau ein cymunedau lleol. A bydd hyn yn galw am chwyldro o ran polisi a darparu gwasanaethau yng Nghymru, gan alluogi pobl a chymunedau i nodi eu cryfderau ac i fynd i’r afael â’r problemau sylfaenol sy’n eu hatal rhag cyflawni eu potensial. Fel y dywed Ymddiriedolaeth Carnegie, mae ymagwedd gwladwriaeth sy'n galluogi yn ymwneud â chydnabod 'y dylai'r Llywodraeth, ynghyd â hybu perfformiad gwasanaethau cyhoeddus, alluogi cymunedau i wneud yr hyn a wnânt orau', lle mae cymunedau yn y sefyllfa orau i ddod â chyfoeth o wybodaeth leol ac egni cyfunol i'r penderfyniadau sy'n effeithio arnynt. Fodd bynnag, fel y canfu ymchwil yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau, 'Mae pobl yng Nghymru yn teimlo'n llai a llai abl i ddylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio ar eu hardal leol.' Rhoddodd Deddf Lleoliaeth 2011 gan Geidwadwyr y DU hawliau a phwerau newydd i gymunedau ac unigolion ddatganoli grym ac annog mwy o arloesi a hyblygrwydd lleol. Fodd bynnag, methodd Llywodraeth Lafur Cymru gyflwyno’r rhan fwyaf o’i darpariaethau allweddol yng Nghymru. Wel, drwy fabwysiadu’r agenda hawliau cymunedol yng Nghymru o’r diwedd, gallwn symud grym oddi wrth y Llywodraeth ganolog yng Nghaerdydd tuag at gymunedau, gan greu cymdeithas sy’n ymgysylltu mwy ac sy’n fwy ymatebol. Mae’n bryd chwalu hualau Llywodraeth Cymru sy’n llywodraethu o’r brig i lawr, yn bryd galluogi ein cymunedau ac yn bryd rhyddhau Cymru i anelu at adferiad bywiog sydd wedi’i bweru gan bobl. Ers dechrau datganoli bron i chwarter canrif yn ôl, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi bod yn fwy a mwy awyddus i ddinistrio ei beirniaid drwy wawd, malais ac osgoi cyfrifoldebau, heb gynnig fawr ddim dadleuon gwleidyddol difrifol. Drwy gydol fy amser yma ers 2003, rwyf wedi gwrando arnynt yn brolio am allbynnau yn hytrach na chanlyniadau, faint sy’n cael ei wario yn hytrach na pha mor dda, gan fethu monitro a gwerthuso eu rhaglenni a’u gwariant yn effeithiol. Bob tro y mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi argymell cynigion, deddfwriaeth a gwelliannau i ddeddfwrieth yn seiliedig ar hawliau dynol a hawliau cymunedol, maent wedi pleidleisio yn eu herbyn. Mark, rwyf wedi rhoi’r amser ychwanegol i chi ar gyfer yr ymyriadau. Mae angen ichi ddirwyn i ben yn awr, os gwelwch yn dda. Mark Isherwood AC: Y frawddeg olaf, felly. Gan eu bod yn credu na allant golli grym, mae Llywodraeth Lafur gyfeiliornus Cymru wedi bod yn gadael cymunedau lleol Cymru i lawr ers llawer gormod o amser. A gaf fi atgoffa’r Aelodau—? Rwy’n gwbl ymwybodol fod etholiad yfory, fel y mae’r cyhoedd, ond mae’n deg ein bod am wrando ar y cyfranwyr, p’un a ydynt yn cau’r ddadl, yn agor y ddadl neu’n cymryd rhan yn y ddadl. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallai pob Aelod o bob plaid sicrhau eu bod yn caniatáu i'r cyfraniadau hynny gael eu clywed, os gwelwch yn dda. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Economi Cymru Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Siân Gwenllian. Eitem 7 heddiw yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar economi Cymru. Galwaf ar Paul Davies i wneud y cynnig. Cynnig NDM7993 Darren Millar Cynnig bod y Senedd: Yn gresynu at stiwardiaeth wael economi Cymru gan Lywodraethau olynol Cymru. Cynigiwyd y cynnig. Daeth y Llywydd i’r Gadair. Paul Davies AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar. Heddiw, mae ein cynnig yn adlewyrchu’r ffaith bod economi Cymru, yn ôl llawer o ddangosyddion allweddol, yn dal ar ei hôl hi o gymharu â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Er enghraifft, mae'n ffaith mai Cymru, o blith holl wledydd y DU, sydd â'r twf gwaethaf mewn gwerth ychwanegol gros ers 1999. Ni hefyd sydd â'r allbwn cynnyrch domestig gros y pen isaf, sef £24,586. Ni a gododd y swm lleiaf o refeniw y pen yn y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2020, a phobl sy’n byw yng Nghymru sydd â’r incwm gwario gros isaf yn y DU, sef £17,263. Nid yw’r rhain yn ystadegau newydd, ac nid ydynt yn deillio o bandemig COVID neu am fod pobl y DU wedi dewis gadael yr Undeb Ewropeaidd. Ym 1997, roedd pecynnau cyflog wythnosol gweithwyr yng Nghymru a'r Alban yr un fath yn union, ar £301 yr ​​wythnos. Ond erbyn 2021, roedd pecyn cyflog yng Nghymru yn cynnwys £562, tra bo pecyn cyflog wythnosol yn yr Alban yn cynnwys £60 yn rhagor, sef £622. Yn wir, drwy gydol fy amser fel Aelod o’r Senedd o 2007 ymlaen, cafwyd cymaint o ddadleuon am gyflwr economi Cymru a’r angen i wneud pethau’n wahanol, ac eto, flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae ein heconomi wedi aros yn eu hunfan ac ar waelod y tabl mewn perthynas â llawer o ddangosyddion allweddol. A dyna pam ein bod wedi cyflwyno’r ddadl hon, oherwydd, er gwaethaf uchelgais a phenderfyniad clir busnesau, mae rhywbeth nad yw'n gweithio. Ac felly, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn ystyried yr ystadegau difrifol hyn ac yn ceisio cyflwyno atebion arloesol a gefnogir gan ddiwydiant. Nawr, gwelaf fod Plaid Cymru wedi cyflwyno gwelliant i’n cynnig sy’n datgan eu barn mai dim ond drwy annibyniaeth y bydd busnesau Cymru yn cyrraedd eu potensial llawn. Rwy’n siŵr na fydd yn syndod i unrhyw un yn y Siambr hon y prynhawn yma glywed na fyddwn ni ar yr ochr hon i’r Siambr yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru. Yn wir, credwn mai ein haelodaeth o’r DU yw’r union beth sydd wedi diogelu economi Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, a phe baem yn annibynnol, byddai ein heconomi mewn sefyllfa lawer gwannach. Amlygwyd hyn yn ystod y pandemig pan wnaeth ein haelodaeth o’r DU ein helpu i oroesi storm pandemig byd-eang, gyda biliynau o bunnoedd o gymorth yn cael ei ddarparu i Gymru er mwyn mynd i’r afael ag effaith COVID-19. Mae’n gwbl amlwg fod bod yn rhan o’r DU wedi helpu i fynd i’r afael â’r pandemig, gyda Llywodraeth y DU yn darparu brechlynnau, profion COVID a chymorth y lluoedd arfog yng Nghymru, yn ogystal â mesurau ariannol arloesol sydd wedi diogelu bywoliaeth oddeutu 500,000 o bobl yng Nghymru. Felly, credwn y byddai Cymru annibynnol yn peryglu economi Cymru ac yn ei gwneud yn llai gwydn yn wyneb pandemigau a siociau byd-eang. A ydych yn derbyn yr ymyriad? Paul Davies AC: Fe wnaf dderbyn yr ymyriad gan yr Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru. Joyce Watson AC: Diolch am dderbyn yr ymyriad. Ac ydy, mae'n iawn fod y pandemig wedi'i gefnogi ar lefel y DU, ond yr hyn y mae gennyf ddiddordeb eich clywed yn ei egluro yw p'un a ydych yn credu na ddylai hynny fod wedi digwydd. Oherwydd, yn sicr, mewn pandemig, dyletswydd Llywodraeth San Steffan, corff trosfwaol y pedair gwlad, yw amddiffyn ei holl ddinasyddion. Roeddwn braidd yn ansicr o’r pwynt yr oeddech yn ei wneud. Paul Davies AC: Wel, nid wyf yn siŵr a ydych yn unoliaethwr ai peidio, Joyce, a bod yn hollol onest, ar ôl eich ymyriad. Rwy’n unoliaethwr, rwy'n credu yn y Deyrnas Unedig a dylech chithau hefyd os ydych yn aelod o’r blaid Lafur honedig unoliaethol. Nawr, un o’r beichiau mwyaf ar fusnesau yng Nghymru yw ardrethi annomestig, ac mae hynny wedi bod yn broblem i fusnesau ers tro byd. Ar ddiwedd y trydydd Cynulliad, cafwyd dadl gan yr wrthblaid ar economi Cymru, yn debyg iawn i hon, ac wrth agor y ddadl honno yn 2011, dywedodd fy nghyd-Aelod, Darren Millar, fod gennym yr amgylchedd ardrethi busnes lleiaf cystadleuol yn y Deyrnas Unedig gyfan. Wel, ewch ymlaen i 2022, ac mae hynny'n wir o hyd. Mae busnesau Cymru yn talu 53.5c, mewn cyferbyniad llwyr â Lloegr, lle mae busnesau bach yn talu 49.9c a busnesau mawr yn talu 51.2c, ac yn yr Alban, lle mae busnesau bach yn talu 49.8c a busnesau mawr yn talu 52.4c. Mae busnesau Cymru yn parhau i dalu’r ardrethi busnes uchaf, ac o’r sgyrsiau a gefais gyda busnesau yn fy etholaeth, gwn fod ardrethi busnes yn parhau i fod yn faich gwirioneddol ar fusnesau, yn enwedig busnesau bach. Nawr, rwy’n sylweddoli—[Torri ar draws.] Fe wnaf mewn munud, Mike. Rwy'n sylweddoli bod cymorth ar gael i fusnesau bach cymwys a chanddynt werth ardrethol o hyd at £6,000 a rhyddhad graddedig i fusnesau a chanddynt werth ardrethol rhwng £6,001 a £12,000, ond mae mwy y mae angen ei wneud o hyd. Yn wir, roedd adroddiad diweddar y Ffederasiwn Busnesau Bach, ‘A Vision for Welsh Towns’ hefyd yn galw ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau ar bob lefel i leddfu a mynd i'r afael â’r pwysau uniongyrchol y mae busnesau manwerthu bach presennol a chanol trefi yn eu hwynebu o ran costau, gan gynnwys ardrethi busnes, parcio a chymorth uniongyrchol i fusnesau. Nawr, mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi dweud yn glir yn ddiweddar y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth i symud tuag at gylch ailbrisio tair blynedd er mwyn i fusnesau Cymru fod ar yr un lefel â rhannau eraill o'r DU, ond rydym eto i glywed pryd yn union y bydd y ddeddfwriaeth honno'n cael ei chyflwyno. Ac felly, wrth ymateb i’r ddadl hon, efallai y gwnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am ba gynnydd sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd yn y maes hwn ac ar ddiwygio ardrethi busnes yn ehangach. Ac fe ildiaf i’r Aelod dros Ddwyrain Abertawe. Mike Hedges AC: Diolch yn fawr iawn am wneud hynny. A ydych yn cytuno mai un o’r pethau eraill sydd gennym yw gwerthoedd ardrethol is yng Nghymru fel bod y swm gwirioneddol a delir yng Nghymru yn aml iawn yn llai nag y byddai yn Lloegr neu’r Alban? Paul Davies AC: Ie, ond mae’r ystadegau’n glir iawn, Mike: busnesau Cymru sy’n talu’r ardrethi busnes uchaf yn y Deyrnas Unedig gyfan. Mae hynny’n ffaith, ac yn ffaith na allwch ddianc rhagddi. Wrth gwrs, dim ond un darn o’r pos jig-so yw ardrethi busnes o ran creu’r amodau ar gyfer twf a gwneud Cymru’n lle mwy deniadol i wneud busnes. Mae angen inni harneisio potensial ein tirwedd gyfan, o ganol ein dinasoedd i’n hardaloedd gwledig, i’n porthladdoedd a’n harfordiroedd. Nid oedd rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru yn cynnig dadansoddiad trwyadl o anghenion y Gymru wledig ac unrhyw gamau i ddatblygu’r economi wledig neu harneisio’i manteision. Yn yr un modd, mae angen mwy o gymorth a buddsoddiad yn ein porthladdoedd, a fydd yn dod yn fwyfwy pwysig yn y blynyddoedd i ddod. Nawr, yr wythnos diwethaf, dywedodd un busnes yn glir iawn wrthyf eu bod wedi’u dal yn ôl gan ddiffyg buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn seilwaith y porthladdoedd, a allai helpu i ddenu cyfleoedd busnes byd-eang. Mae’n rhaid i hynny newid. Bydd yr Aelodau’n gwybod bod ein maniffesto wedi addo cronfa datblygu porthladdoedd Cymru gwerth £20 miliwn at yr union ddiben hwn—cefnogi cynnydd mewn allforion o Gymru, helpu i greu mwy o swyddi a helpu i ddenu cyfleoedd busnes byd-eang. Daw hynny â mi at fuddsoddi mewn seilwaith yn fwy cyffredinol. Gwyddom fod busnesau hefyd yn galw am fuddsoddiad a chymorth taer ei angen mewn seilwaith ar ffurf seilwaith trafnidiaeth, seilwaith gwyrdd a seilwaith i helpu busnesau i ddatgarboneiddio. Wrth i fusnesau Cymru ymdrechu i ddatgarboneiddio eu busnesau, mae’n hanfodol fod cymorth ar gael i’w helpu i lywio'r ffordd drwy hynny a deall yn union— Rhianon Passmore AC: A wnewch chi dderbyn ymyriad? Paul Davies AC: —pa gamau y gallant eu cymryd. Ac rwyf am dderbyn ymyriad gan yr Aelod dros Islwyn. Rhianon Passmore AC: Diolch yn fawr iawn. A ydych yn cydnabod bod lefel gwariant y DU ar seilwaith yng Nghymru wedi bod yn ddiffygiol a phryd y mae eich plaid yn mynd i sefyll dros Gymru? Paul Davies AC: Wel, Lywydd, nid wyf am wrando ar unrhyw bregeth gan y Blaid Lafur ar sut i redeg yr economi. Gadewch inni beidio ag anghofio mai'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd a ddywedodd—a dyma a ddywedodd— 'Ers 20 mlynedd rydym wedi cymryd arnom ein bod yn gwybod beth rydym yn ei wneud ar yr economi—a'r gwir amdani yw nad ydym yn gwybod yn iawn beth rydym yn ei wneud ar yr economi. Nid oes unrhyw un yn gwybod beth y maent yn ei wneud ar yr economi.' Dyna farn un o aelodau eich Llywodraeth eich hun, felly nid wyf am wrando ar unrhyw wersi gan eich plaid chi ar sut i redeg yr economi. Nawr, wrth inni ymadfer ar ôl y pandemig COVID, mae gennym gyfle i wneud pethau'n wahanol ac un maes y gobeithiaf y bydd yn cael ei flaenoriaethu'n well yw entrepreneuriaeth a datblygu busnesau newydd. Mae peth newyddion addawol yma, gan fod nifer y busnesau newydd yng Nghymru wedi codi fwy na'u hanner ers mis Rhagfyr y llynedd, sy'n golygu bod pobl yn amlwg yn credu y gall y farchnad gynnal busnesau newydd. Mae angen inni adeiladu ar hyn a sicrhau bod busnesau newydd yn cael y gefnogaeth, yr arweiniad a'r mynediad at gyllid sydd ei angen arnynt. Yn ddiweddar cafwyd galwadau ar y banc datblygu i gynnig mwy o gymorth i fusnesau ac mae'r Athro Jones-Evans yn iawn i ddweud y gallai banc Llywodraeth Cymru chwarae mwy o ran yn y farchnad microgyllid. Nawr, mae angen inni hefyd weld mwy o weithredu i fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau yng ngweithlu Cymru, felly mae angen rhoi llawer mwy o flaenoriaeth i fuddsoddi mewn ymchwil a datblygu. Cymru sydd wedi dioddef y toriad nominal mwyaf ym mhedair gwlad y DU i gyllid ymchwil a datblygu, ac nid yw hynny'n argoeli'n dda ar gyfer y dyfodol. Ac mae Llywodraeth Cymru wedi cyfaddef o'r diwedd ac wedi cadarnhau nad yw bellach yn gweithredu argymhellion Reid yn llawn erbyn hyn. Ac mae'r Athro Richard Wyn Jones yn iawn i ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi cefnu ar strategaeth a oedd â'r nod o drawsnewid y dirwedd ymchwil ac arloesi yn hirdymor. Wrth inni symud ymlaen, rhaid inni edrych tua'r dyfodol a buddsoddi mewn technolegau sy'n dod i'r amlwg, ond ni all hynny ddigwydd os nad yw Llywodraeth Cymru yn ariannu ymchwil a datblygu'n ddigonol. Lywydd, rydym ar bwynt hollbwysig wrth inni lywio drwy'r normal newydd ar ôl COVID, a rhaid i Lywodraeth Cymru ddefnyddio'r holl arfau sydd ar gael iddi i ysgogi a datblygu economi Cymru. Mae'r Gweinidog wedi cyhoeddi cyfres o strategaethau a chynlluniau yn ystod y misoedd diwethaf, ac mae'n hanfodol fod y gweithgarwch hwnnw'n cael ei gydlynu, ei symleiddio a'i fonitro er mwyn sicrhau nad yw'n dyblygu gwaith nac yn ychwanegu mwy o reolaeth a biwrocratiaeth, ond yn hytrach yn sicrhau canlyniadau go iawn i fusnesau. Ac mae angen inni glywed mwy ynglŷn â sut y mae Llywodraeth Cymru yn meithrin ac yn annog busnesau newydd a hefyd yn gweithio i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid. Felly, i gloi, Lywydd, mae gennym gyfle i newid y ffordd y meddyliwn am bolisi economaidd Cymru ac rwy'n gobeithio y gwnawn hynny er mwyn ein busnesau ac er mwyn ein heconomi. Edrychaf ymlaen at gyfraniadau'r Aelodau ac at glywed eu syniadau ar sut y gallwn ysgogi a chefnogi ein busnesau yma yng Nghymru ac rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig. Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig a dwi'n galw ar Cefin Campbell i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Gwelliant 1—Siân Gwenllian Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd: Yn credu bod stiwardiaeth economi Cymru gan lywodraethau olynol yng Nghymru wedi'i chyfyngu o ganlyniad i beidio â chael ysgogiadau economaidd ac ariannol llawn gwlad annibynnol, sef yr unig ffordd gynaliadwy o sicrhau bod Cymru'n cyflawni ei photensial economaidd llawn. Cynigiwyd gwelliant 1. Cefin Campbell MS: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Cyn fy mod i'n mynd at y cyfraniad, dwi eisiau gwneud datganiad o ddiddordeb am y tro olaf, gan fy mod i'n gynghorydd sir am un diwrnod arall. Mae braidd yn eironig bod y Torïaid wedi cyflwyno'r cynnig hwn heddiw, gan fod eu plaid, nid yn unig yn erbyn caniatáui Gymru gael y levers economaidd ac ariannol priodol sydd eu hangen arnom ni i wir drawsnewid a datblygu'n heconomi mewn ffordd radical, ond mae eu polisïaunhw hefyd yn tanseilio economi Cymru dro ar ôl tro. Ers degawdau, mae adnoddau Cymru wedi cael eu hechdynnu—hynny yw, yrextractive economy rŷch chi wedi clywed cymaint ohonom ni'n sôn amdano fe—gan San Steffan. Ar un adeg, roedd Cymru'n ganolbwynt i'r chwyldro diwydiannol, gyda'n glo a'n dur yn tanio'r economi. Ond, yn anffodus, gadawodd y cyfoeth a grëwyd yng Nghymru i gryfhau economi de-ddwyrain Lloegr. Ecsbloetiwyd ein hadnoddau, gan adael ychydig ar ôl i Gymru. Erbyn hyn, mae gennym ni waddol o dlodi—un o bob tri o'n plant yn byw islaw y llinell dlodi, a salwch hirdymor a iechyd gwael. Hyd yn oed heddiw, rŷn ni'n allforio mwy o drydan a dŵr nag sydd angen arnom ni, ond nid ydym yn cael ceiniog mewn refeniw; mae'r elw'n arllwys i goffrau cwmnïau preifat dros y ffin. Rydym hefyd yn cynrychioli 6 y cant o filltiroedd y trac rheilffordd ym Mhrydain tra'n derbyn dim ond 1 y cant o gyllideb bresennol Network Rail, heb sôn am effaith HS2, sy'n costio £5 biliwn i drethdalwyr Cymru, heb fod un modfedd o'r trac hwnnw yng Nghymru. Bu'r diffyg buddsoddiad yn ein seilwaith gan San Steffan yn warthus. Cefin Campbell MS: Mae poblogaeth Cymru yn 4.7 y cant o boblogaeth y DU, ond yn 2020, 2 y cant yn unig o gyllideb ymchwil a datblygu'r DU a gawsom, cyllideb sy'n hanfodol ar gyfer twf ein heconomi. Yn ychwanegol at hyn, rydym wedi gweld tanfuddsoddi cronig yn hanesyddol, gan olygu nad ydym wedi paratoi'n ddigonol ar gyfer argyfwng fel yr argyfwng costau byw presennol, ac yn methu rheoli'r sefyllfa drosom ein hunain. Yn nwylo San Steffan y mae 45 y cant o wariant Cymru o hyd, heb unrhyw sicrwydd y caiff ei wario yn unol ag anghenion Cymru. Os edrychwn ar yr argyfwng costau byw diweddar er enghraifft, mae wedi effeithio'n anghymesur ar gymunedau tlotach, sy'n golygu ei fod wedi cael effaith enfawr ar Gymru o'i chymharu â rhannau eraill mwy llewyrchus o'r DU. Rydym eisoes wedi mynd i mewn i'r argyfwng costau byw gyda'r lefel uchaf o dlodi incwm cymharol a'r lefel uchaf o dlodi plant yn y DU. Ond yn hollbwysig, mae'r arfau sydd ar gael i ni i ymdrin â'r argyfwng yn adweithiol i raddau helaeth yn hytrach nag yn ataliol. Er enghraifft, nid oes gennym reolaeth dros les yma yng Nghymru, ac nid oes gennym reolaeth dros ein trethi ychwaith. Ni chaem weithredu treth ffawdelw, er enghraifft, ar yr elw anllad a wneir gan gwmnïau olew a nwy, ac ni chaem geisio ailddosbarthu cyfoeth ychwaith i helpu'r rhai yr effeithir arnynt waethaf. A allwch chi ddychmygu Cymru annibynnol nad yw'n darparu cymorth lles i deuluoedd incwm isel, yn wahanol i dorri'r ychwanegiad i'r credyd cynhwysol mewn modd mor greulon gan y Torïaid yn San Steffan? A gadewch inni edrych ar yr argyfwng costau byw: mae ymdrechion Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r argyfwng hwn wedi bod yn druenus. Y gorau y gall y Torïaid ei gynnig yw newid profion MOT ceir o bob blwyddyn i bob dwy, gan arbed £23 pitw y flwyddyn i deuluoedd sydd ag un car. Waw, am syniad radical. Ni roddwyd ystyriaeth ddigonol i'r cynllun cymorth ar gyfer biliau ynni, gan olygu bod y teuluoedd mwyaf difreintiedig mewn sefyllfa fregus iawn. Ac mae'n debyg y bydd y cyfweliad trychinebus ddoe ar Good Morning Britain yn dod yn foment arwyddocaol yn hanes ofnadwy'r Llywodraeth Dorïaidd hon mewn grym, pan gydnabu Boris Johnson nad oedd ganddo atebion i'r trafferthion costau byw yn y bôn. Y llun o Elsie, a miloedd o Elsies eraill ar draws yr ynysoedd hyn, sy'n teithio ar fws i gadw'n gynnes, yw'r darlun sy'n mynd i bara o Lywodraeth aflwyddiannus a phwdr. Cefin Campbell MS: Gadewch inni daflu—i gloi, Llywydd—Brexit i'r pair. Gwnaeth y Prif Weinidog sicrhau cytundeb Brexit gwan iawn i'r gwledydd hyn, sydd wedi golygu bod Cymru ar ei cholled o dros £1 biliwn dros y tair blynedd nesaf, ac mae effaith hyn ar ein sector amaethyddol a'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn sylweddol iawn, iawn. Ie, yn sicr, gallai Llywodraeth Cymru fod yn gwneud mwy i dyfu economi Cymru, ond maen nhw wedi cael eu llesteirio yn eu gallu i wneud hynny yn wirioneddol oherwydd cyfyngiadau San Steffan. Gallen ni wneud cymaint yn well na hyn yng Nghymru pe baem ond yn cael y levers ariannol yna i amddiffyn ein pobl mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas a thyfu ein heconomi i'w llawn botensial. Cefnogwch y gwelliant. Diolch yn fawr. Natasha Asghar AS: Mae'n ffaith drist iawn, o dan Lafur Cymru, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Paul Davies, mai Cymru sydd â'r lefel uchaf o ardrethi busnes, y cyflogau wythnosol isaf a'r swm isaf o incwm gwario aelwydydd yn y Deyrnas Unedig. Gadewch imi fod yn onest—nid yw'n rhoi unrhyw lawenydd imi ddweud hyn—fod stiwardiaeth Llafur Cymru ar economi Cymru wedi'i nodweddu gan ddiffyg uchelgais a chefnogaeth sydd wedi llesteirio busnesau rhag cyrraedd yr un potensial ag a welir mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ac mae hynny'n fy nhristáu'n fawr, gan fy mod bob amser wedi bod eisiau gweld Cymru'n chwaraewr byd-eang ym mhob agwedd ar bethau'r byd, fel y mae llawer o fy ymgeiswyr Ceidwadol—cyd-Aelodau, mae'n ddrwg gennyf, sy'n eistedd yma— Mike Hedges AC: Ymgeiswyr oeddech chi'n ei olygu. Natasha Asghar AS: Byddaf yn sôn amdanynt hwy maes o law, Mike, peidiwch â phoeni; nid wyf am eu hepgor. Ond fel y mae llawer o fy nghyd-Aelodau Ceidwadol yma, y tu mewn a'r tu allan i'r Senedd, yn teimlo ac yn credu, gan gynnwys bellach, Mike, byddwch yn falch o wybod, ein hymgeiswyr cyngor Ceidwadol gwych sy'n sefyll ledled Cymru yn yr etholiad yfory—. Rwyf wedi siarad am y mater hwn droeon yn y Siambr, am y modd y mae esgeulustod Llafur Cymru, yn enwedig yn ein seilwaith trafnidiaeth, wedi niweidio ein heconomi'n ddifrifol, ac nid yw fy nheimlad ynghylch y diffyg symud ar hyn yn gyfrinach ymysg y rhai ohonoch sy'n eistedd yma o fy nghwmpas heddiw. Ar ôl gweithio yn y Senedd cyn dod yn Aelod, mae'n aml yn teimlo fel pe baem yn clywed geiriau, ond nad ydym yn gweld llawer o weithredu. Rydym i gyd wedi clywed yr ymadrodd, 'Peidiwch â chael eich dal yn cysgu.' Wel, heddiw, hoffwn godi mater yn eich plith i gyd heddiw ac rwyf am ofyn i Lywodraeth Cymru gefnogi prosiect uchelgeisiol a hanfodol a fydd yn dod â manteision enfawr i ogledd Cymru ac yn enwedig i economi Cymru gyfan. Porthladd Caergybi yw'r ail borthladd gyrru i mewn ac allan mwyaf yn y DU. Mae'n darparu cyswllt hollbwysig rhwng y Deyrnas Unedig, Gweriniaeth Iwerddon a'r UE. Amcangyfrifir y bydd gwerth y nwyddau a gludir ar fferis gyrru i mewn ac allan sy'n mynd drwy Gaergybi yn codi i £794 miliwn erbyn 2030. Fodd bynnag, mae dyfodol porthladd Caergybi mewn perygl oherwydd dirywiad y morglawdd Fictoraidd. Mae morglawdd Caergybi yn diogelu gweithgarwch y porthladd. Hebddo, byddai'r tonnau'n rhy arw i wasanaethau allu rhedeg ac yn y pen draw, byddai hyn yn gorfodi'r porthladd i gau. Ers ei adeiladu yn 1873, mae'r twmpath rwbel a adeiladwyd ar wely'r môr sy'n sylfaen i'r morglawdd wedi erydu'n raddol, ac mae'n fwyfwy tebygol y bydd stormydd yn chwalu'r strwythur wrth i'r stormydd hynny waethygu yn sgil newid hinsawdd. Oherwydd y modd y cafodd ei gynllunio, mae'r morglawdd bob amser wedi galw am waith cynnal a chadw rheolaidd gan ei berchennog, Stena, er mwyn cynnal cyflwr yr uwchstrwythur ac ail-godi'r twmpath rwbel. Mae'r drefn gynnal a chadw hon wedi mynd yn fwyfwy costus, ac nid yw bellach yn gallu ymdopi â maint yr erydiad i'r twmpath rwbel. Mae'n amlwg fod angen ateb hirdymor mwy hyfyw yn y pen draw i sicrhau sefydlogrwydd y morglawdd. Nawr, amcangyfrifir bod y gost o adnewyddu rhwng £90 miliwn a £100 miliwn ar hyn o bryd, ac rwy'n gwybod bod hynny i'w weld yn llawer. Fodd bynnag, os na wneir unrhyw beth, credir y gallai'r costau ddyblu o fewn y tair i bum mlynedd nesaf, sy'n golygu, os na chymerir camau yn awr, y bydd yn costio llawer mwy i ni a threthdalwyr y dyfodol os na wneir rhywbeth yn awr. Mae Stena wedi cadarnhau eu bod wedi dyrannu £30 miliwn ar gyfer y gwaith adnewyddu. Maent yn gofyn am gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru i helpu gyda'r gost, o ystyried pwysigrwydd strategol y porthladd i Gymru. Nawr, hoffwn dalu teyrnged yn y cyfraniad hwn i'n Haelod Seneddol lleol gweithgar iawn, Virginia Crosbie, sydd wedi bod yn wych am hyrwyddo buddiannau Ynys Môn, ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn ymateb yn gadarnhaol ac yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol porthladd Caergybi i economi Cymru, ac wrth symud ymlaen, y bydd yn dod o hyd i ateb gwych i bawb yma yng Nghymru. Diolch. Carolyn Thomas AS: Rwy'n credu bod gan y Ceidwadwyr Cymreig wyneb yn cyflwyno'r ddadl hon, sy'n rhoi'r bai ar Lywodraeth Cymru am stiwardiaeth wael ar economi Cymru. Mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi torri cyllid i wasanaethau cyhoeddus o dan bolisïau cyni. Gwasanaethau cyhoeddus yw un o'r cyflogwyr mwyaf yng Nghymru. Creodd ymgyrch bresennol Llywodraeth gyfredol y DU dros Brexit fynydd o fiwrocratiaeth a chost yn ei sgil i fusnesau a ffermwyr Cymru sydd am allforio ac mae wedi'i gwneud yn anodd iawn i weithwyr mawr eu hangen barhau i ddod yma i weithio, gan arwain at brinder gweithwyr yn ogystal ag amddifadu Cymru o gyllid hanfodol yn lle'r arian Ewropeaidd a olygai fod Cymru ar ei hennill. Ac mae cost deunyddiau wedi codi 50 y cant, 70 y cant, 90 y cant mewn rhai meysydd. Mae Llywodraeth Dorïaidd y DU wedi erydu hawliau gweithwyr mewn ras i'r gwaelod, gyda chontractau dim oriau neu oriau cyfyngedig, diswyddo ac ailgyflogi, a phatrymau gwaith shifft afrealistig. Un o'r cyflogwyr mwyaf yng Nghymru yw gwasanaethau cyhoeddus. Mae'r rhain yn cyflogi pobl leol ar draws ardaloedd trefol a gwledig sy'n gwario yn eu cymunedau lleol. Yng Nghymru, y cyfartaledd yw 30.1 y cant, ond yn y gogledd mae'r ffigur hwn yn uwch, gyda 38 y cant yn Ynys Môn a 35.4 y cant yng Ngwynedd yn cael eu cyflogi mewn gwasanaethau cyhoeddus. Mae effaith y Llywodraeth Geidwadol yn torri cyllid y sector cyhoeddus flwyddyn ar ôl blwyddyn o dan bolisïau cyni wedi cael effaith ar y swyddi a'r gwasanaethau pwysig hyn, ac yn anffodus mae cynghorau'n cael y bai ar garreg y drws. Ac yn awr, mae Llywodraeth y DU am barhau ag agenda preifateiddio a thoriadau pellach i wasanaethau cyhoeddus ar ben yr argyfwng costau byw a phrisiau tanwydd cynyddol. Gallai'r swyddfa basbort a'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau gael eu taro nesaf, Mike, o dan Jacob Rees-Mogg, y Gweinidog Cyfleoedd Brexit ac Effeithlonrwydd y Llywodraeth—mae'r teitl yn dweud y cyfan. Drwy breifateiddio cwmnïau cyhoeddus, yr hyn sy'n mynd i ddigwydd yw y bydd gennych nifer o bobl ar y brig ar gyflogau enfawr a'u prif weithlu ar lai o arian gydag amodau gwaith gwael. Edrychwch ar beth a ddigwyddodd i'r gwasanaeth prawf a drafodwyd yn gynharach. Mae rhywbeth tebyg yn digwydd gyda'r Post Brenhinol ers preifateiddio. Cefais wahoddiad i gyflwyniad yr wythnos diwethaf ynglŷn â sut y bydd y Post Brenhinol yn sicrhau gwasanaeth gwych saith diwrnod yr wythnos i'n hetholwyr, ond beth am y gweithlu sy'n etholwyr i ni? Mae rowndiau'n cynyddu—yn ddwywaith eu maint mewn rhai ardaloedd; roeddent eisoes ar 12 milltir y dydd mewn rhai ardaloedd, sy'n afrealistig, a bellach maent yn edrych ar ddiswyddo ac ailgyflogi ar gyfer rheolwyr. Mae pobl angen incwm sylfaenol gweddus y byddant yn ei wario ac yn ei fuddsoddi yn yr economi, a byw bywydau iach. Gall y straen o boeni am arian fod yn llesteiriol, gan arwain at broblemau iechyd meddwl a chorfforol hefyd. Yn y grŵp trawsbleidiol ar fenywod yn ddiweddar, dan gadeiryddiaeth Siân Gwenllian, sydd ar-lein yn y fan honno, rwy'n credu, cawsom gyflwyniad yn ddiweddar ar adferiad a arweinir gan ofal, gan gyflogi pobl leol yn y gwasanaeth gofal a fydd yn gwario yn eu cymunedau lleol. Mae'n wyrddach nag adeiladu ac yn rhoi mwy o gyfleoedd i fenywod. Y cyfan a welsom gan y Ceidwadwyr yw ras i'r gwaelod ym maes hawliau ac amodau gweithwyr, lle nad yw cyflogau wedi codi yn unol â'r economi; mae cynhyrchiant ac effeithlonrwydd wedi'u gwthio y tu hwnt i'r terfynau, lle disgwylir i bobl weithio patrymau shifft hurt nad ydynt yn gydnaws â bywyd teuluol, gan effeithio ar blant a pherthnasau'r gweithlu blinedig. Roeddwn yn edrych ar rai swyddi a gâi eu hysbysebu yn ddiweddar, i fy ngŵr mewn gwirionedd: saith diwrnod yr wythnos, roeddent yn shifftiau 12 awr, saith diwrnod yr wythnos, ac yna fe gewch wythnos i ffwrdd ac yna'n ôl ar y shifftiau 12 awr saith diwrnod yr wythnos. Sut y gallwch chi fagu plant fel hynny a chael bywyd teuluol? Mae'n hurt. Mae angen edrych ar hyn i gyd. A hefyd, mae'r newid i gredyd cynhwysol o gredydau treth gwaith a phlant yn golygu bod pobl yn waeth eu byd. Rhowch arian i bobl yn eu pocedi ac incwm sylfaenol i fyw arno—Jack; crëwch gymunedau iach a hapus ledled Cymru a thyfwch yr economi yn y ffordd honno. Janet Finch-Saunders AC: Ffaith: mae stiwardiaeth wael Llafur Cymru ar yr economi wedi golygu mai gan Gymru y mae'r ardrethi busnes uchaf yn y Deyrnas Unedig, y cyflogau wythnosol isaf, a'r lleiaf o incwm gwario aelwydydd yn y Deyrnas Unedig. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn credu bod Llywodraeth bresennol Cymru wedi hwyluso safbwynt gwrth-fusnes, gan arwain at lefelau isel o fuddsoddiad a chyfleoedd twf ers dau ddegawd. Yn ddiweddar, canfu baromedr Banc Lloyds fod hyder busnesau Cymru wedi gostwng 34 pwynt i -5 y cant, gan olygu mai dyma'r unig ardal o'r rhai a arolygwyd a gafodd sgôr negyddol. O'i gymharu, roedd hyder yn ne-orllewin Lloegr yn 8 y cant, a'r Alban yn 17 y cant. Dangosodd ffigurau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod incwm gwario gros aelwydydd y pen yn 2019 ar gyfer Cymru yn £17,263. Dyna'r swm lleiaf o'i gymharu â gweddill y Deyrnas Unedig, gyda'r cyfartaledd yn £21,443. Nawr, er ein bod yn fach o ran poblogaeth a maint, mae gwledydd bach eraill ar y cyfandir wedi dangos mwy o benderfyniad i fod yn weithredol iawn ym maes twf busnes a diwydiant. Cydnabyddir yn eang fod Denmarc yn arweinydd yn yr economi werdd fyd-eang, mae'n meddu ar y seithfed cyfernod Gini isaf—mesur o anghydraddoldeb economaidd—ac mae'n fodel economaidd y gallai Cymru ymdrechu i'w efelychu a chystadlu ag ef. Mae Copenhagen yn gartref i ddyffryn Medicon, ac mae wedi denu cwmnïau rhyngwladol mawr sydd wedi defnyddio'r ddinas fel porth i farchnadoedd y gwledydd Nordig, yr Almaen a Benelux. Yn 2017, roedd 78.8 y cant o'r holl bobl ifanc 15 i 64 oed yn Nenmarc yn weithgar yn y farchnad lafur—y chweched ffigur uchaf o holl wledydd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Yn wahanol i Ddenmarc, fodd bynnag, mae Cymru'n gyfoethog o ran datblygu ynni adnewyddadwy. Yn yr un modd, mae gennym ddiwydiant amaethyddol hir a balch, rhywbeth sydd wedi bod yn dirywio yn Nenmarc ers blynyddoedd lawer. Yma yng Nghymru, mae angen inni roi hwb i'r sector drwy ddarparu cynllun cymorth amaethyddol sy'n cefnogi ein ffermwyr gweithgar ac yn cynyddu cynhyrchiant bwyd, ac yn oedi targed o 180,000 hectar o goed hyd nes y gall Llywodraeth Cymru ein sicrhau nad yw cymunedau gwledig yn cael eu gyrru allan gan brynwyr tramor. Gan ganolbwyntio ar brosiectau yn y wlad hon, rwy'n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi i groesawu'r Prif Weinidog—ie, y Gwir Anrhydeddus Boris Johnson AS—a'i ymrwymiad i Wylfa dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, a'r swyddi a ddaw yn ei sgil i ogledd Cymru. Fel yr awgrymodd fy nghyd-Aelod, Natasha Asghar, beth amser yn ôl, mae gwir angen ei dyffryn diwydiant technoleg a gwyrdd ei hun ar Gymru, lle mae rhwystrau'n cael eu gostwng i gwmnïau mawr allu buddsoddi, a lle caiff pecynnau deniadol eu creu i lansio ardal fancio ac ariannol fawr yn y brifddinas, yn ogystal â chreu gwasanaethau newydd yma yng ngogledd Cymru. Wrth edrych ar draws môr Iwerddon ac at ein cyfeillion yng ngogledd-orllewin Lloegr, gwelwn tua 25 y cant o weithwyr yn croesi'r ffin rhwng Cymru a Lloegr ar gyfer gwaith. Yn 2019, symudodd 1.9 miliwn o bobl a 5.3 miliwn tunnell o nwyddau drwy borthladd Caergybi, i ac o ynys Iwerddon i Gymru. Mae'r rhain yn gyfleoedd y gallwn eu hehangu ac a fydd yn sicr yn gwella ein cymunedau lleol. Ond er hyn, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i oedi a llusgo'i thraed cyn ymrwymo i wneud Caergybi yn borthladd rhydd, a llusgo buddsoddiad ar hyd rifiera gogledd Cymru o'r dwyrain i'r gorllewin. Bydd diffyg cyfeiriad ac ymdeimlad o ddatblygiad a phwrpas economaidd yn parhau i wneud cam â phobl Cymru, fel y mae wedi gwneud dros y 22 mlynedd diwethaf. Ni waeth pwy y maent hwy na chithau fel Llywodraeth Cymru yn ceisio'i feio, nid oes esgus o gwbl dros beidio â bod yn hyb ffyniannus, arloesol yn y Deyrnas Unedig. Mae gennym adnoddau i adeiladu hyb cyfalaf byd-eang ac economi ffyniannus, arbenigol sy'n seiliedig ar ddiwydiant. Os ydych yn cael trafferth dod o hyd i syniadau, mae yna lwyddiannau i'w cael yn fyd-eang, a chredaf y dylech edrych ar y rheini. Ond yfory, bydd ein pleidleiswyr yn ethol eu hymgeiswyr yn yr awdurdodau lleol, ac os caf ddweud, cymharwch 22 mlynedd o Lywodraeth Lafur aflwyddiannus yng Nghymru, gwelwch hynny fel rydym ni wedi'i wneud dros flynyddoedd lawer mewn awdurdodau lleol dan arweiniad Llafur Cymru, ac rwy'n gobeithio y bydd y Ceidwadwyr Cymreig, sydd â mwy o ymgeiswyr nag erioed o'r blaen, yn darparu'r cyfle hwnnw i'n pleidleiswyr ddod allan yfory a phleidleisio'n gadarn dros y Ceidwadwyr Cymreig. Mae arnom angen newid yng Nghymru, a gallwn ddechrau drwy i bobl bleidleisio dros y Ceidwadwyr Cymreig yfory. Diolch, Llywydd. Mabon ap Gwynfor AS: Dro ar ôl tro, dywedwyd wrthym fod Cymru'n rhy fach i fod yn annibynnol ac na allem oroesi yn economaidd. Dyna fu'r mantra ers cyhyd fel ein bod wedi dod i'w gredu heb ei gwestiynu hyd yn oed. Ond mae pethau'n newid, ac mae pobl bellach yn deffro i'r syniad y gallai Cymru oroesi yn economaidd fel cenedl-wladwriaeth annibynnol yn ein hawl ein hunain. Yn wir, gallai Cymru annibynnol fod ymhlith y cenhedloedd cyfoethocaf, yn economaidd, yn gymdeithasol, yn amgylcheddol ac yn ddiwylliannol. Ar draws y byd, gwelwn mai'r gwledydd hapusaf yw'r gwledydd lleiaf. Edrychwch ar y gwledydd Norden—Gwlad yr Iâ, Sweden, Norwy, Denmarc a'r Ffindir, er enghraifft. Nawr, mae cynnyrch domestig gros yn ffon fesur wael, ond dyna sydd wedi'i ddefnyddio i fesur economïau ledled y byd ers degawdau, a chyda chynnyrch domestig gros o tua £80 biliwn, mae ein cynnyrch domestig gros ni eisoes yn fwy nag un Bwlgaria, Estonia, Croatia, Lithwania, Latfia, Slofenia a llawer o wledydd eraill. Felly, dyma ein sylfaen isaf. Dychmygwch yr hyn y gallem ei wneud gydag ysgogiadau economaidd ac ariannol i weddnewid ein heconomi. Dywed gwrthwynebwyr wrthym nad oes gennym ddigon o adnoddau i fod ag economi lwyddiannus, felly gadewch inni feddwl am hynny am eiliad. Yn gyntaf, mae gennym fwy o adnoddau naturiol na'r Swistir, dyweder, un o wledydd cyfoethocaf y byd. Nawr, meddyliwch am rai o'r rhanbarthau cyfoethocaf yn y byd—dyffryn Silicon, Monaco, Llundain hyd yn oed. Pa adnoddau naturiol sydd ganddynt i fanteisio arnynt yn y rhanbarthau hynny i ddod mor gyfoethog? Yn sicr, nid glo, nid gwynt, nid pren, nid unrhyw nwydd. Yr adnodd mwyaf gwerthfawr y gall unrhyw wlad neu ranbarth ei gael i ddatblygu ei heconomi yw pobl. Pobl sy'n creu cyfoeth. Pobl sy'n gyrru'r economi. Nawr, os credwch fod pobl Cymru'n rhy dwp i redeg eu heconomi eu hunain, dywedwch hynny. Ond nid wyf i'n meddwl bod pobl Cymru yn dwp. Mae gennyf ffydd a hyder llwyr yn fy nheulu, yn fy ffrindiau, yn fy nghymdogion, yn fy nghydwladwyr. Mae'r bobl sy'n byw yng Nghymru mor alluog ag unrhyw un arall i redeg economi lwyddiannus. Yn wahanol i rannau cyfansoddol eraill o'r DU a newidiodd, 40 mlynedd yn ôl, i fod yn ddibynnol ar y sector gwasanaethau, rydym yn dal i greu pethau yng Nghymru. Mae ein heconomi wedi'i hadeiladu ar weithgynhyrchu ac mae hynny'n darparu sylfaen lawer mwy sefydlog ar gyfer economi gref na chael llafur rhad tramor i gynhyrchu ar ein rhan. Ond mae rheswm pam y mae ein heconomi wedi aros yn ei hunfan ers 50 mlynedd, ac yn y bôn, mae wedi gwneud hynny am fod de-ddwyrain Lloegr, a Llundain yn benodol, yn gweithredu fel twll mawr du sy'n sugno buddsoddiad ac yn gadael fawr ddim ar ôl i bawb arall. Dyma lle bydd Paul Davies a minnau'n cytuno: diffyg buddsoddiad mewn seilwaith. Rwyf wedi dyfynnu Adam Smith o'r blaen, ond mae'n werth ei ddyfynnu eto. Mae economi lwyddiannus, meddai, yn dibynnu ar adeiladu a chynnal seilwaith. Mae gwariant seilwaith yn lluosydd. Mae'n creu cyfoeth, gan ddod ag arian newydd i mewn, ond yn hanesyddol yr hyn a welsom yw bod gwariant ar seilwaith yng Nghymru yn gyfran fach iawn o'r gwariant yn Lloegr, a de-ddwyrain Lloegr yn enwedig. Rydym newydd glywed cadarnhad heddiw fod £18 biliwn yn cael ei roi i Crossrail yn Llundain yn unig, heb wariant hafal yma yng Nghymru. Ac nid problem rhwng Cymru a Llundain yn unig yw hon: mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi bod yn brysur yn efelychu'r model Llundain-ganolog yma yng Nghymru. Rydych yn ceisio mynd â'ch nwyddau i'r farchnad o gefn gwlad gogledd, canolbarth neu orllewin Cymru, heb gludo unrhyw nwyddau ar y rheilffyrdd, gyda seilwaith ffyrdd gwael, a Brexit bellach yn dinistrio morgludiant. Ydy, mae'r DU wedi dyrannu rhywfaint o wariant ar seilwaith yma yng Nghymru, ond mae'r mwyafrif helaeth yn ymwneud â phrosiectau ynni, a fydd ond yn mynd â chyfoeth allan o Gymru ac nad ydynt o fudd i'n cymunedau i'r graddau y dylent fod. Yn olaf, mae'n werth nodi mai Llundain sy'n gosod y polisïau economaidd ac ariannol sy'n ein llywodraethu yma yng Nghymru. Mae ein heconomi wedi'i hadeiladu ar weithgynhyrchu, ac eto mae Llundain yn rhoi cytundebau rhwng cariadon i gwmnïau—[Torri ar draws.] Ie, Darren. Darren Millar AC: Roeddwn yn Weinidog yr wrthblaid dros yr economi pan oedd y Dirprwy Brif Weinidog ar y pryd, a oedd yn gyfrifol am yr economi, Ieuan Wyn Jones, cyn-arweinydd eich plaid, yn gyfrifol am gynhyrchu strategaeth weithgynhyrchu, strategaeth y methodd ei chynhyrchu yn y pum mlynedd y bu wrth y llyw. A ydych yn gresynu na lwyddodd y cyn Ddirprwy Brif Weinidog i lunio strategaeth weithgynhyrchu, a fyddai'n cael effaith yn awr pe bai wedi tynnu ei fys allan a'i wneud? Mabon ap Gwynfor AS: Na, rwy'n credu mai'r hyn a welwch yw bod Ieuan Wyn Jones wedi buddsoddi yn seilwaith Cymru ac wedi sicrhau bod gogledd, canolbarth a de Cymru wedi'u cysylltu, sy'n golygu y gallem fynd â nwyddau i bob rhan o Gymru, a chysylltu cymunedau yng Nghymru, sydd wedi bod yn hanfodol i'n cymunedau. Byddwn yn barhaol ddiolchgar i Ieuan Wyn Jones am y gwaith hwnnw. Ond mae'r polisïau cyllidol sy'n deillio o Lundain—pethau fel cytundebau rhwng cariadon i Goldman Sachs ac eraill yn y sector ariannol—mae'r cytundebau hyn wedi'u llunio ar sail cryfderau economaidd Llundain a de-ddwyrain Lloegr. Nid ydynt yn deall economi Cymru. Mae economi Cymru yn wahanol i economi Llundain. Dyna pam y byddai annibyniaeth yn cryfhau ein heconomi. Byddem yn penderfynu ar ein polisïau cyllidol ein hunain yn seiliedig ar gryfderau a gwendidau ein heconomi ein hunain. Dyna pam fy mod yn galw ar bob un ohonoch yma sy'n bresennol i gefnogi ein gwelliant. Diolch yn fawr iawn. Sam Rowlands MS: Fel yr amlinellodd Paul Davies, a agorodd y ddadl heddiw wrth gwrs—dadl wirioneddol bwysig ar stiwardiaeth ar economi Cymru—rydym yn gweld stiwardiaeth wael ar economi gan y Blaid Lafur sydd mewn grym yma yng Nghymru, gyda'r ardrethi busnes uchaf yn y Deyrnas Unedig, y cyflogau wythnosol isaf, a'r swm isaf o incwm gwario aelwydydd yn y DU. Mae'r ystadegau hyn yn wirioneddol frawychus. Felly, yn fy nghyfraniad heddiw, Lywydd, hoffwn ganolbwyntio ar dri maes byr y carwn eu hamlinellu lle gwelaf y Llywodraeth Lafur yma yn gwneud cam ag economi Cymru. Mae'r maes cyntaf yn benodol i fy rhanbarth yng Ngogledd Cymru ac mae'r modd y mae'r Llywodraeth wedi esgeuluso fy rhanbarth wedi arwain at raniad rhwng y gogledd a'r de. Pa ystadegau economaidd bynnag y gallem edrych arnynt, mae economi'r gogledd yn parhau i fod ar ei hôl hi o'i chymharu â gweddill Cymru. Mae un enghraifft yn ymwneud â gwerth ychwanegol gros. Mae gan Gaerdydd tua dwbl gwerth ychwanegol gros y pen rhai o'r ardaloedd yng ngogledd Cymru. Ar drafnidiaeth, mae prosiect metro Llywodraeth Cymru yn enghraifft wych arall lle'r ydym yn gweld diffyg buddsoddiad, buddsoddiad wedi'i glustnodi, yng ngogledd Cymru. Soniodd Mabon ap Gwynfor—o, mae newydd ddiflannu—am bwysigrwydd seilwaith a'r gwahaniaeth y gall hynny ei wneud i'r economi, ac nid ydym yn gweld y buddsoddiad hwnnw yng ngogledd Cymru ar y raddfa y dylem. Mae £750 miliwn wedi'i glustnodi ar gyfer y metro yn ne Cymru, a £50 miliwn ar gyfer y gogledd. Maes arall lle gwelwn raniad rhwng y gogledd a'r de a chyfle mawr a gollwyd, yn fy marn i—efallai eich bod yn ysgwyd eich pen, Weinidog, ond mae'n gyfle mawr a gollwyd—yw buddsoddiad mewn chwaraeon. Mae'r economi sy'n ymwneud â chwaraeon a photensial chwaraeon yn enfawr. Ar hyn o bryd rydym yn gweld un tîm chwaraeon proffesiynol yn ffynnu yng ngogledd Cymru, sy'n wych i'w weld, ond nid yw hynny'n agos at beth o'r buddsoddiad a welwn yn ne Cymru, gyda'r digwyddiadau chwaraeon cenedlaethol yn cael eu cynnal yn bennaf yn y de. Mae cyfle gwych i Lywodraeth Cymru hyrwyddo chwaraeon yn y gogledd a hyrwyddo'r rhan honno o'r economi. Yr ail faes y credaf fod angen rhoi sylw parhaus iddo yw pwysigrwydd twristiaeth i economi Cymru. Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am fwriadu mynychu'r grŵp trawsbleidiol ar dwristiaeth yn ddiweddarach y mis hwn, a chyfrannais at y ddadl yr wythnos diwethaf, a amlinellai pa mor hanfodol yw twristiaeth i economi Cymru, gyda chymaint o bobl yn mwynhau ein hatyniadau, yn gwario eu harian—mae hyn i gyd yn cynnal tua 140,000 o swyddi. Weinidog, mae'n debyg y byddwch yn clywed gan y rhai a fydd yn bresennol yn y grŵp trawsbleidiol yr wythnos nesaf am yr her a wynebwyd ganddynt drwy'r pandemig. Ac maent yn ddiolchgar am y gefnogaeth a gawsant drwy'r adeg honno, ond maent hefyd yn edrych tua'r dyfodol, ar y gefnogaeth y maent am ei chael, a'u dathlu fel sector a'r gwaith a wnânt yn y wlad hon. Nid ydynt eisiau mwy o drethiant; nid ydynt eisiau mwy o gyfyngiadau rhag gallu gwneud y gorau o'u busnesau a chyflogi mwy o bobl yma yng Nghymru. Mae'r trydydd maes, y maes olaf yr hoffwn gyfeirio ato'n fyr, Lywydd, wedi'i grybwyll eisoes, sef y safbwynt gwrth-fusnes sy'n peri i rai busnesau ei chael hi'n anodd yng Nghymru, ac mae'n cael effaith andwyol ar ein heconomi. Mae eisoes wedi'i grybwyll, enghraifft o hyn, yn ymwneud ag ardrethi busnes. Yr hyn y mae'n rhaid inni ei weld yw ardrethi busnes yn gostwng, nid ardrethi busnes yng Nghymru sy'n uwch nag unman arall yn y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn sicr yn cyfrannu at y ffaith bod siopau Cymru— Rhianon Passmore AC: A wnewch chi dderbyn ymyriad? Sam Rowlands MS: Yn sicr. Rhianon Passmore AC: Diolch. A fyddech chi'n cydnabod bod y cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol yn mynd i daro'r bobl dlotaf, pro rata, yn fwy na neb arall, a'i bod yn dreth lechwraidd? Sam Rowlands MS: Fel y gŵyr yr Aelod, mae angen sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu cefnogi'n briodol. Ac o ran busnesau, mae busnesau sy'n cyflogi yn creu swyddi, sy'n rhan sylfaenol o'n heconomi; mae'r ardrethi busnes hyn, y clywn amdanynt gan fusnesau ledled Cymru, yn eu taro hwy galetaf. Ac enghraifft o hyn yw ein bod, yng Nghymru, yn gweld y nifer leiaf o ymwelwyr yn y Deyrnas Unedig â'r siopau hynny a'r busnesau hynny. Nid yw'r ardrethi busnes hyn yn helpu o gwbl. Wrth gloi, Lywydd, mae'n amlwg fod Llywodraeth Lafur Cymru yn parhau i wneud cam ag economi Cymru a phobl Cymru, gyda'r cyflogau wythnosol isaf a'r swm isaf o incwm gwario aelwydydd. Mae'n bryd darparu mwy o swyddi, gobaith a sicrwydd i bawb yng Nghymru. Mae'n bryd ailadeiladu ac ailgydbwyso economi Cymru a chodi'r gwastad yng Nghymru gyfan gyda thechnoleg newydd a buddsoddiad newydd. Yng ngoleuni hyn, galwaf ar yr Aelodau i gefnogi cynnig y Ceidwadwyr Cymreig a gwrthod y gwelliannau o'n blaenau. Diolch yn fawr iawn. Mike Hedges AC: Nid yw economi Cymru wedi perfformio'n dda cyn nac ar ôl datganoli. Pan agorodd y Cynulliad ym 1999, roedd hi'n ddyddiau cynnar ar fanwerthu ar-lein, byddai'n wyth mlynedd cyn yr iPhone cyntaf, yn bum mlynedd cyn i YouTube ddod ar-lein, nid oedd gemau cyfrifiadurol ond yn cynhyrchu cyfran fach iawn o'r incwm y mae'n ei gynhyrchu heddiw, a byddai'n flwyddyn eto cyn lansio'r Sega Dreamcast, consol cyntaf y byd ar gyfer y rhyngrwyd. Nid oedd swyddi fel dylanwadwyr, chwaraewyr gemau cyfrifiadurol proffesiynol a gyrwyr Uber yn bodoli. Ers hynny, mae cyflogaeth wedi dod yn llai sicr a dibynadwy. Ym 1999, parhaodd Llywodraeth Cymru â pholisi Awdurdod Datblygu Cymru o ddefnyddio grantiau i ddenu buddsoddwyr o'r dwyrain ac America yn bennaf, gan gynnig swyddi medrus a chyflogau cymharol isel o gymharu â gwledydd diwydiannol datblygedig eraill, a mynediad at farchnadoedd yr Undeb Ewropeaidd. Nid oedd pob ymgais i ddenu buddsoddiad uniongyrchol o dramor yn llwyddiannus—a gwn fod hyn cyn datganoli, ond yr un yw'r egwyddor—gydag LG yn enghraifft glasurol. Er gwaethaf grant o £200 miliwn, tua £30,000 am bob swydd, ni ddaeth y swyddi disgwyliedig i fodolaeth. Mae'r rheswm nad yw unrhyw economi'n llwyddiannus yr un fath—dim digon o swyddi medrus a chyflogau uchel, yn rhy ddibynnol ar swyddi tymhorol ar gyflogau isel ac ar gynhyrchu sylfaenol, nid ar ychwanegu gwerth. Ar ôl gwrando ar y Ceidwadwyr ar yr economi am 11 mlynedd, y ffordd orau o grynhoi eu strategaeth yw cynnyrch amaethyddol, twristiaeth a dod o hyd i fewnfuddsoddiad i ddenu ffatrïoedd cangen i mewn. Rwy'n hapus i dderbyn ymyriad os gall rhywun ddweud wrthyf am economi lwyddiannus yn seiliedig ar y strategaeth honno. Unwaith eto, rwy'n dweud hyn: os oes angen ichi roi cymhelliant ariannol sylweddol i gwmnïau ddod â ffatri gangen yma, ni fyddant am ddod. Nid oes rhaid i leoedd llwyddiannus fel Palo Alto, swydd Gaergrawnt a Mannheim wobrwyo cwmnïau i'w denu; maent yn darparu'r gweithlu addysgedig, y seilwaith a'r cyfleoedd ar gyfer mewnfuddsoddi a busnesau newydd. Unwaith eto, yr hyn sydd ei angen arnom yng Nghymru yw llai o fuddsoddiadau tebyg i un LG a mwy o Admiral Insurance. Byddai polisi annibyniaeth Plaid Cymru yn arwain at dorri traean oddi ar economi Cymru a gwariant Llywodraeth Cymru. Mae economïau gwledydd sydd wedi dod yn annibynnol yn ddiweddar fel De Sudan, Gogledd Macedonia a Bosnia yn gwneud yn waeth na'r gwledydd y maent yn torri'n rhydd oddi wrthynt. Mae angen i leoedd llwyddiannus allu denu busnesau a'u cadw wedyn, a rhaid i hyn fod yn seiliedig ar ddeall eu gofynion. Mae dadansoddiad o leoedd llwyddiannus a llai llwyddiannus yn awgrymu mai'r pedwar ffactor canlynol yw'r allwedd i lwyddiant economaidd: diwylliant o fentergarwch ac arloesedd, lle mae lleoedd yn addasu'n gyflym i gyfleoedd newydd a lle gall pawb rannu yn y posibilrwydd o lwyddiant busnes a'i wobrwyo, ac mae hyn yn cynnwys croesawu'r cyfleoedd a gyflwynir gan y chwyldro mewn gwyddor bywyd, technoleg gwybodaeth a chyfathrebu, deallusrwydd artiffisial, ac un o'r meysydd sy'n tyfu gyflymaf, sef gemau cyfrifiadurol; mynediad at fuddsoddiad, gan gynnwys cyfalaf menter, sy'n hanfodol i fusnesau allu dechrau, tyfu a darparu swyddi a chyfleoedd i bawb; pobl sydd â'r sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr, yn ogystal â chymhelliant a chyfleoedd i weithio; diwylliant o ddysgu gydol oes, gan alluogi pobl i gyflawni eu potensial a manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd cyflogaeth, a galluogi ymateb hyblyg i gyfleoedd sy'n newid ac annog cwmnïau i ddod i'n trefi a'n dinasoedd ac i aros ynddynt; system drafnidiaeth effeithlon a dibynadwy, sy'n ei gwneud hi'n bosibl darparu deunyddiau crai yn effeithlon i ddiwydiant a nwyddau i'r farchnad—a phan ddywedaf drafnidiaeth, rwy'n golygu'r rhyngrwyd fel rhan o'r drafnidiaeth, oherwydd os ydych yn gwmni ar-lein, y rhyngrwyd yw'r hyn y byddwch yn cludo gwybodaeth ohono, a dyna'r hyn y byddwch yn anfon eich gemau cyfrifiadurol a'ch cerddoriaeth ar hyd-ddo; a darparu mynediad at swyddi, gwneud trefi a dinasoedd yn lleoedd gwell i fyw ynddynt, a helpu i fynd i'r afael ag allgáu cymdeithasol. Mae angen i gynllunio'r economi a thrafnidiaeth fod yn seiliedig ar ranbarthau Cymru. Mae angen inni adeiladu ar gryfderau'r prifysgolion i'w gweld fel sbardunau economaidd. Mae gormod o fyfyrwyr, gan gynnwys llawer a fagwyd yn yr ardal, yn symud i ffwrdd ar ôl graddio ac yn aml, ni fyddant yn dychwelyd. Mae arnom angen parciau gwyddoniaeth yn gysylltiedig â phrifysgolion er mwyn inni allu eu defnyddio fel hybiau arloesi, ac arbenigo mewn sectorau economaidd allweddol megis—unwaith eto, fel y dywedais—gwyddorau bywyd, deallusrwydd artiffisial a TGCh. Hefyd, mae arnom angen canolfan entrepreneuriaeth ac arloesi a all ddarparu llwyfan sefydlu a deor i fyfyrwyr, entrepreneuriaid ifanc a buddsoddwyr. Rwy'n gwybod hyn am ei fod yn gweithio yn Mannheim. Mae arnom angen mynediad at gyfalaf, nid yn unig ar y cam cychwyn, ond ar y ddau gam twf pwysig o fach i ganolig eu maint ac yna o ganolig i fawr eu maint. Mae gormod o gwmnïau sy'n symud o fod yn ganolig i fawr eu maint yn cael eu prynu gan gwmnïau mwy o leoedd eraill naill ai ym Mhrydain neu Ewrop, ac yna bydd y manteision economaidd yn diflannu. Bydd angen i waith mewn prifysgolion ac addysg bellach edrych ar uwchsgilio ein poblogaeth; ni ddylai addysg ddod i ben yn 16, 18 neu 21 oed. Yn olaf, nid yw'n fformiwla gyfrinachol—mae arnom angen i wleidyddion Cymreig o bob lliw ei mabwysiadu fel ffordd o symud ymlaen. Hoffwn ddweud wrth Janet Finch-Saunders am Ddenmarc, gwlad yr wyf wedi'i hastudio'n eithaf manwl, mae gan Ddenmarc ddiwydiant mawr o'r enw Lego, y credaf eich bod i gyd wedi clywed amdano, mae'n debyg, ond efallai mai'r allwedd o gymharu â ni yw eich bod wedi clywed am gaws Castello, rydych wedi clywed am Arla, rydych wedi clywed am Lurpak. Maent yn troi eu prif gynnyrch amaethyddol yn nwyddau eilaidd lle maent yn gwneud yr elw. Mae angen i ni wneud yr un peth. Y Gweinidog yn awr i gyfrannu at y ddadl. Vaughan Gething. Vaughan Gething AC: Diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau. Mae'n ddrwg gennyf na fyddaf yn gallu ymateb yn fanwl i bob un ohonoch a'r pwyntiau a wnaed. Fodd bynnag, ar y dechrau, dylwn egluro bod Llywodraeth Cymru, er syndod i neb, yn gwrthwynebu'r cynnig. Ac ar y gwelliant, er fy mod yn cytuno â llawer o'r hyn a oedd gan Cefin Campbell i'w ddweud, nid ydym yn cytuno mai annibyniaeth yw'r ateb. Mae arnaf eisiau, ac mae Llywodraeth Cymru eisiau, undeb diwygiedig sy'n gweithio i Gymru ac sy'n parchu datganoli. Ers dechrau datganoli, rydym wedi mwy na haneru'r bwlch yn y cyfraddau cyflogaeth rhwng Cymru a gweddill y DU. Mae hwnnw'n gam hanesyddol sy'n bwysig iawn i ganlyniadau economaidd ac aneconomaidd, gan gynnwys iechyd a llesiant. Vaughan Gething AC: Ar ddiweithdra, mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod y gyfradd ddiweithdra yng Nghymru yn 3 y cant, o'i gymharu â chyfradd y DU o 3.8 y cant. Dros y degawd diwethaf, rydym wedi helpu dros 19,000 o bobl ifanc i gael gwaith o ansawdd da drwy Twf Swyddi Cymru. Yn fwy cyffredinol, Cymru sydd â'r twf ail gyflymaf yn unrhyw un o wledydd neu ranbarthau'r DU dros y cyfnod rhwng y dirwasgiad yn 2008 a'r data diweddaraf sydd ar gael. Dim ond Llundain a wnaeth yn well na Chymru, a hynny o drwch blewyn yn unig. Fel yr adroddodd Sefydliad Resolution cyn y pandemig, mae cyfran y gweithwyr sydd ar gyflogau isel yng Nghymru wedi bod yn gostwng. Ar gyflog yr awr, y clywsom lawer amdano, mae'r cyflog canolrifol yr awr yng Nghymru bellach yn uwch na gogledd-ddwyrain Lloegr, dwyrain canolbarth Lloegr a Swydd Efrog a Humber. Nid oedd hynny'n wir ar ddechrau datganoli. Ym mis Chwefror eleni, awgrymodd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol ei bod yn ymddangos bod rhannau o Gymru, ynghyd â Llundain a Gogledd Iwerddon, wedi cael adferiad cryfach o'r pandemig na rhannau eraill o'r DU. Rwy'n falch o'r hyn a wnaethom yn ystod y pandemig, drwy gefnogi busnesau Cymru yn llwyddiannus gyda mwy na £2.6 biliwn, gan ddiogelu dros 160,000 o swyddi yng Nghymru, a allai fod wedi'u colli fel arall, a mynd y tu hwnt i'r symiau canlyniadol Barnett a gawsom gan Lywodraeth y DU. Ond rydym bellach yn wynebu argyfwng costau byw, lle mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod cefnogi pobl Cymru yn iawn. Er gwaethaf galwadau eang cyn ei ddatganiad yn y gwanwyn, cyhoeddodd y Canghellor gynnydd o ddim ond £27 miliwn—toriad mewn termau real, gyda chynnydd chwyddiant—i gyllideb Llywodraeth Cymru. Ac mewn neges glir i deuluoedd a busnesau sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi, mae'r Canghellor hyd yn oed wedi dweud y byddai'n wirion rhoi mwy o gefnogaeth ar gyfer biliau ynni i deuluoedd a busnesau. Dyna yw ymagwedd y Torïaid. Mewn cymhariaeth, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi £380 miliwn o gymorth i deuluoedd, i helpu gyda'u biliau cartref cynyddol. Rwy'n dal i bryderu'n fawr am yr heriau sy'n wynebu ein cymunedau lleiaf cefnog yma yng Nghymru. Ni chânt eu datrys gan ateb George Eustice, sef troi at gynhyrchion brand y siop sydd eu hunain, mewn rhai archfarchnadoedd, wedi codi'n gyflymach na chyfradd chwyddiant. Mae'n dangos o ddifrif pa mor bell ohoni yw'r Torïaid. Mae'r argyfwng costau byw yn taro ein busnesau hefyd. Dyna pam ein bod yn dal i alw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno treth ffawdelw ar yr elw gormodol y mae cynhyrchwyr nwy ac olew yn ei fwynhau. Fel y dywedodd pennaeth BP, ni fyddai treth ffawdelw yn eu hatal rhag gwneud unrhyw un o'r dewisiadau buddsoddi y maent eisoes wedi ymrwymo iddynt. Mae angen inni roi diwedd ar ein dibyniaeth ar danwydd ffosil a newid yn gyflymach i ynni adnewyddadwy a gwell effeithlonrwydd ynni, gyda phontio teg. Bydd hynny'n effeithio'n sylweddol ar leihau costau ynni i ni, ac ar draws y byd yn wir. Dylwn atgoffa'r Aelodau hefyd y rhagwelir y bydd effaith cytundeb masnach a pharhad Llywodraeth y DU â'r UE yn brifo economi'r DU hyd at ddwbl effaith y pandemig. Mae busnesau eisoes yn ei chael hi'n anodd masnachu gyda gwledydd yr UE ac yn wynebu costau sylweddol uwch a phrinder staff. Ac fel y clywsom sawl gwaith dros y dyddiau diwethaf, mae'r ymchwil diweddaraf yn dangos bod Brexit wedi ychwanegu 6 y cant at filiau bwyd Prydain. Mae hynny'n fy arwain at y gronfa ffyniant gyffredin, ateb Llywodraeth y DU i bob gwae, a'r arian y mae llawer o sôn amdano yn lle unrhyw gyllid blaenorol gan yr UE. Hoffwn atgoffa'r Aelodau ei bod yn amlwg ac yn annerbyniol fod Llywodraeth y DU wedi methu cyflawni addewid ei maniffesto i ddarparu arian yn lle cyllid yr UE yn llawn. O ganlyniad uniongyrchol i hynny, bydd Cymru dros £1 biliwn yn waeth ei byd. Ni ddylai unrhyw Aelod o'r Senedd hon, o unrhyw blaid, groesawu na cheisio gwadu'r brad hwnnw. Mae datblygu economaidd yn gymhwysedd datganoledig. Cafodd cyllid rhanbarthol ei reoli gan Lywodraeth Cymru a bu'n destun craffu gan y Senedd hon ers dros 20 mlynedd. Mae dull Llywodraeth y DU o weithredu yn parhau i amharchu ein setliad datganoli. Mae datganoli, wrth gwrs, wedi'i gymeradwyo gan ddau refferendwm a sawl etholiad. Er hynny, mae Llywodraeth y DU yn parhau i ddefnyddio'r Ddeddf marchnad fewnol i fynd â chyllid a'r hawl i benderfynu o ddwylo Llywodraeth a Senedd Cymru. Ar gyllid arloesi, y soniwyd amdano droeon, wrth gwrs, ceir diffyg ariannol yn deillio o'r gronfa ffyniant gyffredin, a bydd hynny'n brifo, nid yn helpu, ein huchelgais cyffredin i fuddsoddi mwy mewn ymchwil, datblygu ac arloesi. Rwy'n ymwybodol iawn o'r straen a'r pwysau aruthrol y mae'r ansicrwydd a'r diffyg ariannol yn eu rhoi ar fuddiolwyr presennol sy'n defnyddio'r cyllid hwnnw o'r UE: y bobl a'r busnesau sy'n ei ddefnyddio i helpu i wella economi Cymru. Yn wahanol i Lywodraeth y DU, bydd economi gryfach, tecach a gwyrddach Llywodraeth Cymru wedi'i seilio ar ein gwerthoedd, sef newid blaengar, cydweithredu nid cystadleuaeth, a pheidio â rhannu yn erbyn ei gilydd. Felly, byddwn yn bwrw ymlaen gyda'n partneriaid yn y sector cyhoeddus, yn y byd busnes ac mewn undebau llafur. Byddwn yn adeiladu ar ein seilwaith economaidd ar gyfer swyddi da hirdymor a chynaliadwy wedi'u creu yng Nghymru. Mae hynny'n cynnwys mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, fel rhan o'r pontio teg i sero net, gyda'n huchelgais cyffredinol wedi'i grynhoi mewn strategaeth buddsoddi mewn seilwaith gwerth £8.1 biliwn. Yn hollbwysig, rydym am i fathau mwy gwyrdd o drafnidiaeth gael eu darparu i fwy o bobl, gan roi mwy o ddewis ynghylch y modd y gallwn symud o gwmpas, yn ogystal â gosod sylfeini ar gyfer buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy. Rydym ar daith £5 biliwn i drawsnewid gwasanaethau rheilffyrdd dros y 15 mlynedd nesaf, ac etifeddodd Trafnidiaeth Cymru waddol heriol, ond mae cerbydau newydd yn cael eu cyflwyno ledled Cymru erbyn hyn, gyda gostyngiadau ym mhrisiau tocynnau i'r rhwydwaith rheilffyrdd yn rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl ledled Cymru. Yma yng Nghymru, rydym wedi sefydlu'r banc datblygu cyntaf erioed, gyda thros £1 biliwn o gyllid i gefnogi economi ehangach Cymru. Rydym wedi buddsoddi a byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch modern. Ac yn erbyn cefndir ariannol anodd iawn, gan gynnwys colli £1 biliwn o hen gronfeydd yr UE, mae ein cynllun cyflogadwyedd a sgiliau newydd yn darparu cynnig cyflogadwyedd a sgiliau cryf er mwyn buddsoddi yn ein pobl. Ni fydd y dyfodol y mae pobl Cymru am ei gael i'w ganfod mewn symiau bach o arian wedi'u gwasgaru'n denau i amrywiaeth o brosiectau heb gysylltiad rhyngddynt drwy benderfyniad Gweinidogion y DU. Fe'i ceir yn y dull partneriaeth gymdeithasol o weithredu a welir gan Lywodraeth Cymru, dull sy'n dod â phobl ynghyd i hyrwyddo gwaith teg a swyddi gwell, i weithio mewn partneriaeth â llywodraeth leol, busnesau ac undebau llafur. Bydd ein dull 'tîm Cymru' o weithredu yn cyflawni dros Gymru, ac edrychaf ymlaen at chwarae fy rhan i helpu i greu Cymru sy'n fwy gwyrdd, yn fwy teg ac yn fwy ffyniannus. Mark Isherwood nawri ymateb i'r ddadl. Mark Isherwood AC: Diolch, Lywydd. Diolch i Paul Davies am agor y ddadl hon, gan ddweud bod economi Cymru'n parhau i fod ar ei hôl hi o'i chymharu â rhannau eraill o'r DU gyda'r gwerth ychwanegol gros gwaethaf—sy'n golygu gwerth nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchir y pen—ers 1999. Fel y dywedodd, rydym wedi cael cynifer o ddadleuon am yr angen i wneud pethau'n wahanol, ond mae'r economi wedi llusgo ar waelod cynifer o ddangosyddion allweddol oherwydd bod rhywbeth ddim yn gweithio—Llywodraeth Lafur Cymru. Dywedodd fod aelodaeth o'r DU wedi galluogi Cymru i oroesi storm y pandemig, ac mae angen gwneud llawer mwy i gynorthwyo busnesau a chreu amodau ar gyfer twf, a gwneud Cymru'n lle deniadol i wneud busnes, gan gynnwys. ac yn enwedig yn ein hardaloedd gwledig a'r porthladdoedd, sydd wrth gwrs yn agos at ei galon. Soniodd am yr angen am seilwaith trafnidiaeth gwyrdd a chymorth i fusnesau lywio'r dyfroedd hynny, a dywedodd, wrth inni ymadfer ar ôl y pandemig, fod gennym gyfle i newid ein meddylfryd a gwneud pethau'n wahanol. Soniodd Cefin Campbell, fel y gallech ddisgwyl cyn etholiad, am y prif reswm dros fodolaeth ei blaid, sef ymwahanu—gan anwybyddu'r realiti hanesyddol efallai fod Cymreig yn golygu Prydeinig mewn gwirionedd. Yna nododd rai pwyntiau—. Dyfynnaf enghraifft: 6 y cant o'r trac rheilffordd yng Nghymru, dim ond 1 y cant o'r gyllideb. Pan gyflwynasom hynny i Swyddfa Rheoleiddio'r Rheilffyrdd mewn pwyllgor ychydig flynyddoedd yn ôl, dywedasant fod Cymru wedi cael 9.6 y cant o gyllid net y Llywodraeth ar gyfer gweithredwyr trenau'r fasnachfraint a Network Rail, a 6.4 y cant o gyfanswm cyllid net y Llywodraeth ar gyfer llwybrau rheilffyrdd cenedlaethol. Dywedodd Natasha Asghar ei bod yn aml yn teimlo fel pe baem yn clywed geiriau ond nad ydym yn gweld unrhyw weithredu, a galwodd ar Lywodraeth Cymru i gefnogi porthladd Caergybi. Diolch ichi am gefnogi gogledd Cymru a gwaith gwych Virginia Crosbie AS, wrth gwrs. Wrth gwrs, mae ein cynnig heddiw'n ymwneud â stiwardiaeth wael ar economi Cymru gan Lywodraethau Llafur Cymru olynol. [Torri ar draws.] Wel, rwy'n llongyfarch Carolyn Thomas ar ei hyfdra'n dargyfeirio'r bai am fethiant Llywodraeth Lafur Cymru. Mae'n llusgo Cymru o waelod y pentwr economaidd a rhyddhau ei hysbryd entrepreneuraidd mawr. Cyfeiriodd Janet Finch-Saunders at stiwardiaeth wael ar economi Cymru gan Lafur, a adawodd Gymru gyda'r lefel isaf o incwm gwario yn y DU. Cyfeiriodd at ymrwymiad y Prif Weinidog i Wylfa Newydd ar Ynys Môn, lle mae 23 mlynedd o Lywodraeth Lafur Cymru wedi gadael lefelau ffyniant ar eu hisaf yng Nghymru, ar ychydig o dan hanner y lefelau yng Nghaerdydd. Dywedodd nad oes esgus i Gymru beidio â bod yn rhan uchelgeisiol, arloesol o'r Deyrnas Unedig. Mabon ap Gwynfor: mwy o'r mantra cenedlaetholgar—dealladwy, ond efallai'n bradychu gwir hanes ac etifeddiaeth ein pobl, y Prydeinwyr hanesyddol a'u tynged i uno tiroedd Prydain. Darllenwch Y Mabinogi. Fel y dywedodd, fodd bynnag, pobl sy'n creu cyfoeth, ac nid yw pobl Cymru'n dwp; maent mor alluog ag unrhyw un arall i redeg economi sefydlog—sy'n gwbl gywir. Fodd bynnag, dywedodd fod economi Cymru yn wahanol i economi Llundain. Mae'n wir, ond nid yw'n wahanol i economi nifer o ranbarthau mewn rhannau eraill o'r DU. Tynnodd Sam Rowlands sylw at y ffaith bod Llafur yn methu yng ngogledd Cymru, gan greu rhaniad rhwng y gogledd a'r de, gydag economi'r gogledd ar ei hôl hi o'i chymharu â gweddill Cymru, ac fel enghraifft, soniodd am y diffyg buddsoddi ym metro gogledd Cymru—dim ond £50 miliwn o'i gymharu â £750 miliwn ym metro de Cymru. A soniodd am yr angen i hyrwyddo chwaraeon yn y gogledd a phwysigrwydd twristiaeth i economi Cymru, drwy gynnal 140,000 o swyddi, a beirniadodd eto y safbwynt gwrth-fusnes, sy'n achosi i rai busnesau ei chael hi'n anodd yng Nghymru. Mike Hedges—dylech fod draw yma, Mike. Roeddwn wrth fy modd gyda'ch araith; byddwn yn cytuno â 90 y cant ohoni—pwysigrwydd mynediad at fuddsoddiad a chyfalaf menter a diwylliant o ddysgu gydol oes a systemau trafnidiaeth effeithlon, annog cwmnïau i ddod i'n trefi a'n dinasoedd. Rydych chi'n llygad eich lle. Y Gweinidog, Vaughan Gething: rwy'n cytuno ag ef pan ddywedodd nad yw'n cytuno mai annibyniaeth yw'r ateb. Dywedodd wedyn fod diweithdra yng Nghymru yn is na chyfradd y DU ond methodd nodi bod lefel cyflogaeth yng Nghymru yn is na Lloegr, yr Alban a'r Deyrnas Unedig. Nododd sut yr oedd Llywodraeth Cymru wedi gwario'r arian a gafodd gan Lywodraeth y DU, ond yna dywedodd ei fod am gael mwy—gan wario bob amser ar beidio â datrys y problemau sy'n effeithio ar Gymru, a mynnu mwy drwy'r amser. Er bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi cael biliynau o arian yr UE, a oedd i fod i gau'r bwlch ffyniant yng Nghymru a rhwng Cymru a gweddill y DU, mae'r bylchau hyn wedi dyfnhau. Fodd bynnag, er mai dros dro yn unig y bwriadwyd i'r cyllid hwn fodoli, mae Llywodraeth Lafur Cymru yn ei ddefnyddio i sybsideiddio yn hytrach na thargedu achosion dwfn tangyflawniad economaidd, ac amddifadedd cymdeithasol yn ei sgil, mewn rhannau helaeth o Gymru, gan ei chamddisgrifio fel ffynhonnell barhaol o gyllid, a chadw'r bobl i lawr ac yn ddibynnol. Mae gan Gymru 5 y cant o boblogaeth y DU, ond ar ôl 23 mlynedd o Lywodraeth Lafur yng Nghymru, dim ond 3.4 y cant o gyfoeth y DU y mae'n ei gynhyrchu o hyd. Cymru sydd â'r allbwn isaf y pen ac mae'n codi llai o refeniw y pen nag unrhyw wlad arall yn y DU— Rwy'n mynd i'ch atgoffa am yr amser. Rwyf wedi bod yn eithaf hael yn barod. Mark Isherwood AC: O, nid oeddwn yn sylweddoli. Na, mae'n iawn. Os gallwch ddod â'ch cyfraniad i ben yn awr, Mark. Mark Isherwood AC: Cymru sydd â'r ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain, a dim ond un busnes yn y FTSE 100. Rwy'n dod i ben: mae Llywodraeth Cymru yn anwybyddu rhybuddion gan lais unedig y diwydiant twristiaeth allweddol yng Nghymru nad yw ei chynigion ar eu cyfer wedi bod yn seiliedig ar astudiaeth lawn o'r effaith economaidd ac y byddant yn arwain at gau llawer o fusnesau lleol. Eu hunig bolisi economaidd effeithiol yw bod yn ddarbodus gyda'r gwirionedd. Ni fydd dim yn newid oni fydd Gweinidogion ym Mae Caerdydd yn rhoi'r gorau i bennu polisi ac yn dechrau gweithio gyda busnesau ac arweinwyr diwydiant mewn partneriaeth wirioneddol gyfartal i sbarduno'r newid cynaliadwy y mae cymaint o'i angen, yn hytrach na'u condemnio i berthynas wasaidd a'u gweld yn rhy aml yn dadfuddsoddi ac yn mynd i rywle arall. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad, felly byddwn ni'n cymryd y bleidlais yn ystod y cyfnod pleidleisio ar y cynnig yna. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. Dyma ni'n cyrraeddy cyfnod pleidleisio. Fe fyddwn ni'n cymryd toriad technegol byr i baratoi ar gyfer y bleidlais. Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:24. Ailymgynullodd y Senedd am 17:26, gyda'r Llywydd yn y Gadair. 8. Cyfnod Pleidleisio Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, felly, ac mae'r bleidlais gyntaf ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar gymunedau lleol. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Mae'r cynnig wedi'i wrthod. Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cymunedau Lleol. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 15, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0 Gwrthodwyd y cynnigCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Gwelliant 1 sydd nesaf, ac os bydd gwelliant 1 yn cael ei dderbyn, yna bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Dwi'n galw am bleidlais, felly, ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, 10 yn ymatal, 15 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 1 wedi'i dderbyn. Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cymunedau Lleol. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 26, Yn erbyn: 15, Ymatal: 10 Derbyniwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Mae gwelliant 2, felly, yn cael ei ddad-ddethol. Cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Ac mae'r bleidlais nesaf ar y cynnig wedi'i ddiwygio. Cynnig NDM7922 fel y'i diwygiwyd: Cynnig bod y Senedd: Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu i amddiffyn cymunedau ledled Cymru rhag methiant Llywodraeth y DU i gymryd yr argyfwng costau byw o ddifrif a'i gwrthodiad i wrthdroi’r toriad niweidiol i gredyd cynhwysol. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, neb yn ymatal, 15 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn. Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Cymunedau Lleol. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 36, Yn erbyn: 15, Ymatal: 0 Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwydCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Mae'r bleidlais nesaf ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar economi Cymru. A dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Ac felly mae'r cynnig yna wedi'i wrthod. Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Economi Cymru. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 15, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0 Gwrthodwyd y cynnigCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Gwelliant 1 fydd nesaf, a'r gwelliant hwnnw wedi'i gyflwyno gan Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 10, neb yn ymatal, 41 yn erbyn. Ac felly mae'r gwelliant yna wedi cael ei wrthod. Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Economi Cymru. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian: O blaid: 10, Yn erbyn: 41, Ymatal: 0 Gwrthodwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod, a'r gwelliant wedi'i wrthod, ac felly does yna ddim pleidlais arall. Ac felly, dyna ni'n dod at ddiwedd y pleidleisio a diwedd ein gwaith ni am y dydd heddiw. Daeth y cyfarfod i ben am 17:29. QNR Cwestiynau i Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Laura Anne Jones: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â gwrth-semitiaeth? Jane Hutt: The Welsh Government has adopted the International Holocaust Remembrance Alliance's definition of antisemitism in full and without qualification. Through our action plan for an anti-racist Wales, the Welsh Government will take concerted action to tackle antisemitism. The plan will be published next month. Sioned Williams: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau cydraddoldeb i blant anabl? Jane Hutt: The Welsh Government has led the way in promoting children's rights of all children regardless of any protected characteristics. We are committed to the principles of the United Nations Convention on the Rights of the Child and, as such, aim to ensure disabled children have equality of opportunity.
uk-hansard-senedd-cy
senedd2022-05-04
2024-06-01T00:00:00
{ "year": "2022", "language": "cy", "license": "Open Parliament Licence - https://www.parliament.uk/site-information/copyright-parliament/open-parliament-licence/" }
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. Galw’r Aelodau i drefn. 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw cwestiynau i’r Prif Weinidog. Mae’r cwestiwn cyntaf [OAQ51256] wedi ei dynnu yn ôl, ac felly’r ail gwestiwn, Janet Finch-Saunders. Diogelwch Cleifion Janet Finch-Saunders AC: 2. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau diogelwch cleifion yng Nghymru? (OAQ51245) Carwyn Jones AC: Rydym ni’n dwyn holl sefydliadau'r GIG i gyfrif ar amrywiaeth eang o ddangosyddion diogelwch cleifion ac rydym yn annog diwylliant adrodd agored o ddigwyddiadau difrifol i alluogi ymchwiliad llawn o bob achos. Janet Finch-Saunders AC: Diolch, Prif Weinidog. Yn y gogledd, fodd bynnag, cawsom sioc yr wythnos diwethaf i ddarganfod, o'r 77 digwyddiad nas bwriadwyd neu annisgwyl a arweiniodd at farwolaethau cleifion wedi’u cofrestru ledled Cymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, bod mwy na hanner y rhain ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr. Bydd pob un o'r achosion hyn wedi bod yn ddinistriol iawn i deuluoedd ac anwyliaid y cleifion hyn. Prif Weinidog, bydd cwestiynau’n cael eu gofyn ynghylch sut y mae'r mesurau arbennig ac, yn wir, ymyrraeth eich Llywodraeth o ran gwireddu unrhyw welliant yn gweithio i’r gwrthwyneb erbyn hyn, mewn gwirionedd. Rwy’n gofyn i chi nawr: a wnewch chi ymrwymo i ymchwiliad i pam mae’n ymddangos bod diogelwch cleifion o dan y bwrdd hwn a chyfrifoldeb eich Llywodraeth mewn perygl cynyddol? Carwyn Jones AC: Nid yw'r Aelod yn deall yn llawn sut y mae'r ystadegau'n cael eu casglu.Yn gyntaf oll, rydym ni’n annog gonestrwydd a natur agored, ac mae hynny'n golygu ein bod ni’n annog pobl i adrodd am ddigwyddiadau difrifol. Nawr, mae hynny'n golygu, yn union fel yr ystadegau troseddu, er enghraifft, pan fo mwy o bobl yn adrodd am ddigwyddiadau difrifol, yna mae mwy’n cael eu cofnodi.Nid yw'n golygu bod mwy o ddigwyddiadau difrifol mewn gwirionedd. Wedi dweud hynny, wrth gwrs, rydym ni eisiau sicrhau bod y digwyddiadau hynny’n cael eu hadrodd.Ni ddylid dweud na gwneud unrhyw beth a fydd yn atal adrodd yn y dyfodol, oherwydd rydym ni eisiau sicrhau bod digwyddiadau'n cael eu hadrodd a’u bod yn gyhoeddus.Gallaf ddweud wrth yr Aelod mai 1.79 y cant oedd y gyfradd marwolaethau ysbyty crai ar gyfer ysbytai PBC yn 2016-17, sy'n is na chyfartaledd Cymru o 1.81 y cant. Felly, ydy, mae'n bwysig bod pob achos yn cael ei ymchwilio, ond mae'n bwysig bod pobl yn dod ymlaen, bod diwylliant agored wrth ymdrin â chwynion.Ac rwy’n credu mai dyma’r hyn yr ydym ni’n ei weld yma—mwy o gwynion yn dod i’r amlwg yn hytrach na mwy o achosion yn dod i’r amlwg. Tlodi Tanwydd yng Nghwm Cynon Vikki Howells AC: 3. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â thlodi tanwydd yng Nghwm Cynon? (OAQ51248) Carwyn Jones AC: Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru yw ein rhaglen allweddol ar gyfer mynd i'r afael â thlodi tanwydd.Ers 2011, rydym ni wedi buddsoddi dros £240 miliwn i wella effeithlonrwydd ynni mewn dros 45,000 o gartrefi.Ers 2012, mae Nyth wedi gwario dros £9 miliwn yn ardal Rhondda Cynon Taf yn cyflwyno mesurau effeithlonrwydd ynni i gartrefi incwm isel. Vikki Howells AC: Prif Weinidog, er gwaethaf y cynnydd sy’n cael ei wneud o ran lleihau tlodi tanwydd yng Nghwm Cynon a ledled Cymru trwy gyfres o gamau gweithredu ymarferol Llywodraeth Cymru, mae'n ymddangos yn annhebygol y bydd tlodi tanwydd yn cael ei ddileu erbyn y targed o 2018 a nodwyd yn flaenorol.A yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu adolygu'r strategaeth tlodi tanwydd yng ngoleuni hynny, ac, os felly, pa wersi fydd yn cael eu dysgu o elfennau llwyddiannus a heb fod mor llwyddiannus y cynllun presennol? Carwyn Jones AC: Mae arolwg cyflwr tai Cymru wedi cychwyn erbyn hyn.Bydd hwnnw'n darparu data pwysig a fydd yn helpu i hysbysu cyflwyniad 'Ffyniant i Bawb'.Bydd yn rhoi amrywiaeth o wybodaeth i ni, gan gynnwys amcangyfrifon a data tlodi tanwydd cenedlaethol wedi eu diweddaru i helpu gyda thargedu mesurau cyflawni.Bydd hefyd yn ein helpu i hysbysu trafodaethau gyda rhanddeiliaid, a bydd hynny'n golygu, wrth gwrs, y gallwn fanteisio ar y data y mae'r arolwg yn eu darparu er mwyn helpu i gryfhau'r strategaeth yn y dyfodol. David Melding AC: Prif Weinidog, rwy’n cytuno â'r hyn a ddywedasoch am effeithlonrwydd ynni, ond mae hefyd yn ffaith eithaf syfrdanol, yn ôl Cyngor ar Bopeth Cymru, mai dim ond 12 y cant o'r rheini sydd ar yr incwm isaf sydd ar y tariffau isaf sydd ar gael, ac rwy’n credu bod gwaith i'w wneud yn y fan yma i hysbysu pobl am y tariffau sydd ar gael a'r rhai isaf. Gall Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chymdeithasau tai, pan fyddant yn ymgymryd â’r gwahanol gynlluniau yr ydych chi wedi bod yn cyfeirio atynt efallai, atgoffa pobl pa mor bwysig yw hi i ddod o hyd i’r tariff isaf. Carwyn Jones AC: Rwy'n cydymdeimlo â hynny.Mae pobl yn dueddol o aros gyda'r un darparwr ar yr un tariff oherwydd hwylustod, ac yna, wrth gwrs, maen nhw'n methu â chael y fargen orau.Yr hyn a fydd yn helpu yw gweld—gan fod Llywodraeth y DU wedi mabwysiadu polisi'r Blaid Lafur—capiau ar dariffau ynni newidiol.Bydd hynny'n helpu llawer o bobl nad ydynt wedi manteisio ar y cyfle i newid eu tariffau, neu sy’n canfod nad ydynt yn gallu gwneud hynny, i elwa ar brisiau is. Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau, ac arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood. Leanne Wood AC: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yn ddiweddarach heddiw, mae eich Llywodraeth yn gwneud datganiad ar isafbris am alcohol. Nawr, rwy'n ymwybodol o’r dadleuon iechyd y cyhoedd a'r angen i leihau marwolaethau o ganser yn arbennig. Ond dylai polisi iechyd y cyhoedd fod yn ystyried yr holl ddefnydd o sylweddau sy'n peri problemau. Pa asesiad y mae eich Llywodraeth wedi ei wneud o effaith isafbris am alcohol ar y defnydd o sylweddau eraill, fel cyffuriau anghyfreithlon? Carwyn Jones AC: Wel, rydym ni’n gwybod y bydd rhai pobl, wrth gwrs, sy’n gaeth. Efallai y bydd rhai sy’n ystyried cyffuriau anghyfreithlon wedyn. Ond, i’r mwyafrif llethol o bobl, bydd dau ganlyniad i hyn. Yn gyntaf, bydd yn helpu i leihau'r problemau iechyd sy'n gysylltiedig â goryfed. Ac, yn ail, bydd yn helpu tafarndai, a dweud y gwir, oherwydd y tafarndai sy'n dioddef fwyaf o ganlyniad i werthu gan archfarchnadoedd am brisiau llai na thafarndai, y gwyddom sy’n bwysig i'n cymunedau. Felly, mae agwedd fasnachol i hyn hefyd. Ond nid ydym yn ymddiheuro am fod eisiau sicrhau ein bod ni’n cael gwared ar sefyllfaoedd lle mae alcohol rhad iawn ar gael i bobl, mewn ffordd sy'n achosi iddyn nhw yfed gormod ac felly effeithio ar eu hiechyd. Leanne Wood AC: Mae gen i rywfaint o gydymdeimlad â'r dadleuon yr ydych chi newydd eu hamlinellu.Ond nid yw’n ymddangos o'ch ateb fel pe byddai unrhyw asesiad wedi ei wneud o’r cysylltiad hwnnw, yr wyf yn gobeithio’n fawr sy’n rhywbeth y gwnaethoch chi ei anghofio, Prif Weinidog.Mae angen i ni leihau marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau yn ogystal â marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol.Nawr, mae marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau wedi cyrraedd eu huchaf erioed yng Nghymru a Lloegr.Yn ôl y ffigurau diweddaraf, mae marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau 44 y cant yn uwch o’u cymharu â 2012.O ran ffigurau Cymru'n unig, yn y flwyddyn ddiweddaraf a gofnodwyd, roedd cynnydd o’r flwyddyn gynt hefyd—bu farw 168 o bobl yn 2015.Mae derbyniadau i ysbytai ar gynnydd hefyd, sy'n golygu cost gynyddol i wasanaethau cyhoeddus ac i'r GIG. Ac, yn anecdotaidd, rydym ni i gyd yn gwybod bod rhai pobl yn defnyddio cyffuriau yn agored mewn mannau cyhoeddus, ar ein strydoedd, yng nghanol trefi, lle mae'n llai diogel iddyn nhw ac i eraill.Prif Weinidog, a allwch chi esbonio sut y mae eich strategaeth camddefnyddio sylweddau yn defnyddio pwerau datganoledig i leihau derbyniadau i ysbytai a marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau? Carwyn Jones AC: Un o'r problemau a wynebir ar hyn o bryd yw bod Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 wedi ei chael hi’n anodd erioed i gadw i fyny â chyffuriau newydd wrth iddyn nhw ymddangos ar y farchnad. Mae Cyffuriau fel Spice—sy’n gymharol newydd, yn achosi i bobl droi’n hynod dreisgar. Ac mae arweinydd Plaid Cymru yn llygad ei lle—mae gormod o ddefnydd agored o gyffuriau, a gwerthwyr nad yw’n ymddangos eu bod yn rhy bryderus am gael eu dal. Y peth cyntaf i'w wneud yw targedu'r gwerthwyr.Mae angen eu cael yn euog a'u carcharu—dyna lle ddylen nhw fod, oddi ar y strydoedd.Ydy, mae'n wir dweud y gall eraill ymddangos, ond mae'n bwysig anfon y neges honno.Nawr, nid yw hynny'n ddigon ynddo'i hun; rwy'n deall hynny.Sut ydym ni'n ymdrin â phobl sy'n camddefnyddio cyffuriau?Wel mae'r strategaeth camddefnyddio sylweddau yno i helpu i wneud hynny.Mae'n gyfuniad, yn fy nhyb i, o ymyrraeth feddygol, ond hefyd bod yn gryf o ran cosbi pobl sy'n cyflenwi'r cyffuriau. Leanne Wood AC: Wel, nid yw rhoi’r gwerthwyr dan glo wedi gweithio hyd yma, ac mae'r pwerau hynny y tu hwnt i'ch rheolaeth.Yr hyn y mae gennych chi reolaeth drosto yw iechyd.Nawr, dull lleihau niwed fu’r dull mwyaf effeithiol o ran lleihau marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau.Ac, yn eich strategaeth camddefnyddio sylweddau, rydych chi'n honni eich bod wedi ymrwymo i ddull lleihau niwed.Ni fyddwn yn gwybod a yw'r camau yr ydych chi wedi eu cymryd yn ddigonol tan i ystadegau newydd Cymru gael eu cyhoeddi y gaeaf hwn.Ond, wrth gwrs, nid yw’r ystadegau Cymru a Lloegr yr ydym ni wedi eu gweld eisoes yn argoeli’n dda.Os oeddech chi o ddifrif am leihau marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau, yn ogystal â lleihau'r problemau cymdeithasol ehangach, byddech chi’n agored i'r atebion a gynigiwyd gan gomisiynydd heddlu a throseddu Plaid Cymru, Arfon Jones.A wnewch chi gytuno i gyfarfod ag Arfon Jones a rhoi cymorth sydd ei angen arnynt i'r heddlu ac eraill i alluogi cyfleuster chwistrellu diogel arbrofol mewn lleoliad addas, a fyddai'n lleihau niwed i'r cyhoedd, yn ogystal â helpu i leihau marwolaethau diangen o gyffuriau niweidiol? Carwyn Jones AC: Wel, ceir cyfarfodydd rheolaidd eisoes a gynhelir rhwng y comisiynwyr heddlu a throseddu a Gweinidogion beth bynnag.Mae'n gwbl gywir i ddweud nad oes llawer iawn o bwynt, ac na fyddai’n iawn ychwaith, i ystyried camddefnyddio sylweddau fel rhywbeth sy'n drosedd. Ceir pobl sydd â phroblemau meddygol; mae'r cyflenwyr yn wahanol.Ond y bobl hynny, wrth gwrs, sydd mewn sefyllfa lle maen nhw’n camddefnyddio sylweddau, mae’n rhaid i’r ymyrraeth iddyn nhw fod yn feddygol. Ac mae hynny'n golygu gweithio gyda'r heddlu—mae hynny'n wir; dyna'r hyn y mae’r strategaeth camddefnyddio sylweddau wedi ei llunio i'w wneud.Dywedodd hi ei hun ein bod ni’n aros am ffigurau Cymru, ac rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod y ffigurau Cymru hynny yn dangos ein bod ni’n gweld effaith gadarnhaol ar gamddefnyddio sylweddau.Ond mae'r her bob amser yno: sut ydych chi'n ymdrin â chyffuriau newydd sy'n ymddangos, drwy'r amser, wedi eu syntheseiddio'n wreiddiol o gyffuriau nad oeddent yn bodoli ym 1971?Mae hi'n iawn i sôn am heroin—yn iawn i sôn am heroin.Ond mae'n bwysig iawn ein bod ni'n gweithio gyda'r comisiynwyr heddlu a throseddu, fel yr ydym yn ei wneud, a'n bod ni’n datblygu ac yn rhoi’r amser i’n strategaeth camddefnyddio sylweddau ddatblygu, ac yn y modd hwnnw, rwy'n credu y byddwn ni'n helpu mwy a mwy o bobl i roi’r gorau i gymryd y sylweddau y maen nhw’n dod yn gaeth iddynt. Arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies. Andrew RT Davies AC: Diolch, Llywydd.Prif Weinidog, mae pwysau ar draws y Deyrnas Unedig pan ddaw i’r gwasanaeth iechyd.Ym mis Mehefin 2015, gwnaeth eich Llywodraeth fwrdd iechyd Gogledd Cymru, Betsi Cadwaladr, yn destun mesurau arbennig, ac ym mis Mawrth eleni, dywedasoch, mewn gwirionedd, lle mae diffygion yn mynd allan o reolaeth a phroblemau yn bodoli mewn byrddau iechyd eraill ledled Cymru, efallai’n wir y bydd yn rhaid i chi ystyried ymyrryd yn y byrddau iechyd hynny. Yr hyn yr ydym ni wedi ei ddysgu yn ystod y misoedd diwethaf yw bod y diffyg wedi dyblu ym mwrdd iechyd gogledd Cymru, bod amseroedd aros wedi cynyddu 79 y cant—o 4,858 i 8,700—a rhagwelir y bydd y diffyg ar ddiwedd y flwyddyn hon yn £100 miliwn yn gronnus dros y tair blynedd: £50 miliwn ar gyfer yr un flwyddyn ariannol hon, ac roedd y ddwy flaenorol yn £25 miliwn.Sut all pobl fod yn ffyddiog bod eich Llywodraeth yn rhoi Betsi ar y trywydd i wella ac, yn bwysig, bod y pryderon a godir gan yr Aelod o Aberconwy yn cael sylw, pan fo'r ystadegau'n dangos, o ran amseroedd aros, o ran recriwtio a rheoli a lleihau diffygion eich bod chi’n methu eich holl dargedau eich hun? Carwyn Jones AC: Wel, mae hyn yn anghywir, yn syml.Yn gyntaf oll, i egluro ei awgrym y bydd diffyg o £100 miliwn, nid ydym yn disgwyl i unrhyw un o'r byrddau iechyd ddangos diffyg erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon, ac mae honno'n neges yr ydym ni’n ei gwneud yn eglur iddyn nhw. Andrew RT Davies AC: Wel, Prif Weinidog, gyda'r parch mwyaf, yn eu papurau bwrdd eu hunain, yr wyf yn tybio eich bod chi wedi eu gweld ac, yn amlwg, wedi helpu i’w llunio, gan ei fod o dan eich rheolaeth chi, y bwrdd iechyd hwn, maen nhw'n rhagweld diffyg yn y flwyddyn ariannol hon o £50 miliwn. Nid fy nghyfrifiad i yw e; eu cyfrifiad nhw, ac maen nhw’n dweud, oni bai bod mesurau a chamau lliniaru yn cael eu cyflwyno i ostwng y diffyg hwnnw, y bydd y diffyg hwnnw'n bodoli. Yma yng Nghaerdydd, rydych chi’n dweud nad yw hynny’n wir. Mae eich rheolwyr a'ch cyfarwyddwyr eich hun yn y gogledd sy'n gyfrifol am ddarpariaeth gwasanaethau o ddydd i ddydd yn dweud bod y diffyg hwn yn bodoli. Ni allwch chi gael y ddau’n gweithio yno. Efallai ei bod yn destun pryder eich bod chi wedi eich datgysylltu cymaint o'r hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad. Gofynnaf i chi eto, Prif Weinidog, gydag amseroedd aros yn mynd drwy'r to, gyda diffyg nad yw dan reolaeth ac, yn anad dim, yr anallu i recriwtio a chadw staff, ar lefel meddygon teulu nac yn yr ysbytai, sut, ar ôl bron i dair blynedd o dan eich goruchwyliaeth a'ch rheolaeth uniongyrchol chi, all trigolion y gogledd fod yn ffyddiog bod eu bwrdd iechyd ar y llwybr i wella? Carwyn Jones AC: Gallant fod yn gwbl ffyddiog. Fel y dywedais, nid ydym ni’n disgwyl i'r bwrdd iechyd ddangos diffyg erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Os ydyn nhw’n nodi problem nawr, mae'n rhaid iddyn nhw ymdrin â hi. Eu cyfrifoldeb nhw yw hynny. Mae'n sôn am restrau aros sy'n mynd drwy'r to ac nid yw'n cynnig unrhyw dystiolaeth o hynny. Mae hefyd yn dweud bod problemau gyda recriwtio a chadw. Gallaf ddweud wrtho fod 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' wedi bod yn hynod lwyddiannus o ran llenwi lleoedd hyfforddi, yn enwedig o ran ceisiadau nyrsio hefyd. A wyddoch chi beth mae meddygon teulu yn ei ddweud wrthym ni—ac rwyf i wedi cael hyn gan un meddyg ymgynghorol a ddywedodd hyn wrthyf fis yn ôl—'Y rheswm pam yr oeddwn i eisiau dod i Gymru oedd oherwydd fy mod i’n hoffi'r ymgyrch recriwtio', a dau air arall: Jeremy Hunt. Andrew RT Davies AC: Pam mae amseroedd aros gymaint yn well yn y DU o’u cymharu â’r hyn sy'n digwydd yma yng Nghymru? Carwyn Jones AC: Ydyn nhw? Andrew RT Davies AC: Defnyddiais ffigurau i—. Wel, rydych chi’n dweud nad ydyn nhw, Prif Weinidog.Damweiniau ac achosion brys—yr arhosiad 12 awr yn Lloegr—mae 78 o bobl yn aros o bobl 12 awr neu fwy mewn adrannau damweiniau ac achosion brys o boblogaeth o 55 miliwn. Yng Nghymru, 2,438 o boblogaeth o 3 miliwn oedd y ffigur.Nid fy ffigurau i ydyn nhw; eich ffigurau chi ydyn nhw.Yr hyn yr wyf i’n ceisio ei gael gennych chi, Prif Weinidog, yw rhywfaint o allu i fod yn ffyddiog.Defnyddiais yr amseroedd aros a gyhoeddwyd gan eich Llywodraeth yr wythnos diwethaf a oedd yn dweud bod amseroedd aros wedi dyblu o 4,858 i 8,708.Defnyddiais y ffigurau diffyg y mae'r bwrdd iechyd ei hun wedi eu cyhoeddi yn ei adroddiad bwrdd.Rwyf wedi defnyddio'r enghraifft bod y bwrdd iechyd ei hun yn dweud y bydd y diffyg hwn yn bodoli ar ddiwedd y flwyddyn ariannol oni bai fod camau lliniaru’n cael eu cymryd.Felly, mae popeth yr wyf i wedi ei ddyfynnu i chi wedi dod gan y bwrdd iechyd neu’n ystadegau sydd wedi dod gan eich Llywodraeth eich hun.Y cwbl yr wyf i’n ofyn amdano yw sicrwydd gennych chi, Prif Weinidog, ar ôl bron i ddwy flynedd a hanner o'ch Llywodraeth yn bod mewn rheolaeth uniongyrchol o fwrdd iechyd gogledd Cymru, bod y bwrdd iechyd hwnnw’n symud ymlaen i sefyllfa lle bydd amseroedd aros yn lleihau, y bydd swyddi meddygon gwag yn cael eu llenwi ac, yn anad dim, y bydd y diffyg yn dod o dan reolaeth. Ar ddau achlysur, rydych chi wedi methu â rhoi unrhyw sicrwydd hyd yn hyn.Rwy'n credu bod hynny'n dweud mwy wrthych chi am eich gafael ar realiti nag y mae'n ei ddweud am unrhyw beth arall. Carwyn Jones AC: Wel, y cwbl y gallaf i ei ddweud wrtho yw bod ymwrthodiad llwyr o gyfrifoldeb am y GIG yn Lloegr. Bob tro mae bwrdd iechyd yn tanberfformio, nid bai Jeremy Hunt yw hynny, nage? Byth yn fai ar y Llywodraeth Geidwadol na Jeremy Hunt. Gadewch i mi roi ffigur iddo sy'n gywir er mwyn iddo allu ei bendroni: yn Lloegr, y rhestr aros gyffredinol yw’r fwyaf erioed erbyn hyn—y fwyaf erioed. Dyna stiwardiaeth y Torïaid o’r GIG. Roedd 409,342 o gleifion dros darged Lloegr—mae hynny wedi mwy na dyblu dros y tair blynedd diwethaf. Mwy na dyblu dros y tair blynedd diwethaf. Gwyddom, yng Nghymru, ein bod ni wedi mynd i'r cyfeiriad arall. Ac mae'n eistedd yn y fan yna ac yn cyd-fynd â chil-dwrn o £1.67 biliwn i Ogledd Iwerddon—rhywfaint ohono ar iechyd—ac ni wnaeth ddim i gynrychioli ei wlad. [Torri ar draws.] Ni wnaeth ddim i gynrychioli ei wlad. Pa sylwadau wnaeth ef i Lywodraeth y DU a'i gydweithwyr i fynnu y dylai Cymru gael swm Barnett cyfatebol i'r arian hwnnw? Dim o gwbl; mae arno ormod o’u hofn. Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton. Neil Hamilton AC: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Gan ddychwelyd at y thema y cyfeiriwyd ati gan arweinydd Plaid Cymru yn gynharach heddiw—Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru)—sut ar y ddaear all y Prif Weinidog gefnogi mesur sydd mor atchweliadol yn y modd y mae'n gweithio? Mae hwn yn fesur sydd wedi ei lunio'n benodol, yn anghymesur, i dargedu'r diodydd hynny sy'n cael eu hyfed mewn mesurau anghymesur gan bobl ar incwm isel. Mae'n hysbys iawn bod aelwydydd incwm isel yn prynu llai o unedau o alcohol ar y cyfan, ond mae mwy o’r hyn y maen nhw’n ei brynu wedi ei brisio ar lai na 40c yr uned. Ble mae'r tegwch mewn mesur sy'n gadael sosialwyr siampaen maestrefi mwy llewyrchus Caerdydd heb eu heffeithio, ond yn targedu yfwyr cwrw Blaenau Gwent? Carwyn Jones AC: A yw o ddifrif yn dweud bod pobl ar incwm isel yn yfed mwy yn ôl eu cyfran?Mae hynny'n snobyddiaeth o raddau nad wyf i erioed wedi ei weld o'r blaen, mae'n rhaid i mi ddweud.A chanlyniad ei ddadl, yn yr achos hwnnw, yw y dylem ni leihau'r dreth ar dybaco, gan fod honno’n atchweliadol yn anghymesur hefyd, felly gadewch i ni leihau'r dreth ar dybaco hefyd.Mae'n union yr un ddadl. Yr hyn yr ydym ni eisiau ei wneud yw sicrhau nad yw alcohol yn dod yn rhatach ac yn rhatach, fel y mae wedi dod, fel bod pobl yn yfed mwy a mwy, gan eu bod yn ei ystyried yn rhad.Fel y dywedais yn gynharach, ceir problem i’r tafarndai yma hefyd.Mae tafarndai yn cael eu hergydio flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn gan alcohol rhad o archfarchnadoedd, ac mae tafarndai’n fannau cyfrifol lle mae pobl yn yfed—maen nhw'n gofalu am bobl sy’n feddw ac yn gwrthod gwerthu iddynt—ac mae tafarndai'n cael eu colli yn eithriadol o gyflym yn ein cymunedau.Siaradwch ag unrhyw dafarnwr a bydd yn dweud wrthych mai rhan o'r rheswm yw bod pobl yn prynu alcohol rhad o archfarchnadoedd, sy’n cael ei werthu am bris is-gost, yn aml iawn.Nawr, mae'r bobl hynny yn haeddu tegwch hefyd.Felly, oes, wrth gwrs, mae agwedd iechyd i hyn, ond hefyd, wrth gwrs, fel mater cysylltiedig, gwyddom mai un o'r canlyniadau yw y bydd yn cynnig sefyllfa llawer mwy teg i dafarndai hefyd. Neil Hamilton AC: Ni ddywedais fod pobl ar incwm isel yn prynu mwy o alcohol; dywedais y gwrthwyneb a dweud y gwir—bod pobl ar incwm isel yn prynu llai o alcohol yn gyffredinol na phobl ar incwm uwch, ond mae mwy o'r alcohol y maen nhw’n ei yfed yn frandiau rhatach, nid brandiau drytach, felly bydd yn cael effaith anghymesur o galed ar bobl ar incwm isel.Dywedodd y Ganolfan Ymchwil Economeg a Busnes yn 2009 fod tystiolaeth sylweddol, yn gyffredinol, mai yfwyr trymach sydd leiaf ymatebol i newidiadau i brisiau.Felly, yr yfwyr alcohol sy’n peri problemau yw’r rhai sydd leiaf tebygol o ymateb i'r mesurau sy’n cael eu cynnig nawr.Yr hyn sy'n mynd i ddigwydd yma yw y bydd yr yfwyr sy’n peri problemau gwirioneddol yn parhau i yfed, ac efallai y bydd ganddyn nhw lai o arian i'w wario ar bethau fel bwyd.Felly, o safbwyntiau deietegol eraill, mae eu hiechyd yn mynd i ddioddef.Ni fydd hyn yn cael unrhyw effaith gadarnhaol o gwbl.Yr unig bobl sydd wir yn mynd i fanteisio ar hyn yw'r archfarchnadoedd, oherwydd nid treth sy'n cael ei chodi yw hon—bydd yn codi pris cynnyrch rhad, a bydd hynny'n cynhyrchu elw ychwanegol i'r archfarchnadoedd.Yn sicr ni fydd yn cynhyrchu elw ychwanegol i dafarndai. Carwyn Jones AC: Wel, eto, gellid defnyddio'r un ddadl ar gyfer sigaréts.Os yw'n dweud y dylai'r dreth ar sigaréts gael ei gostwng gan ei bod yn atchweliadol, gadewch i ni ei glywed yn dweud hynny.O ran alcohol, rydym ni’n gwybod bod alcohol wedi dod yn rhatach yn gymesur, rydym ni’n gwybod ei fod wedi annog pobl i yfed mwy—nid oes unrhyw amheuaeth am hynny; os yw'n rhatach bydd yn gwneud hynny. Mae hon yn ffordd o sicrhau bod y cydbwysedd yn iawn rhwng pris alcohol ac iechyd pobl.Nid wyf yn gweld dim o'i le ar hynny, ac mae'n hynod bwysig bod gennym ni agwedd gyfrifol at alcohol, yn hytrach nag un sy'n dweud, 'Prynu un, cael un am ddim', 'Prynu dau, cael un am ddim'—ac nid yw hynny ar y brandiau rhataf bob amser; mae’n aml iawn ar frandiau sy'n eithaf drud yn gymesur.Dyna'r ffordd y mae pobl yn cael eu hannog i brynu mwy ac yfed mwy.Does bosib bod hynny’n rhywbeth yr ydym ni eisiau ei annog. Neil Hamilton AC: Ceir problem gyda nifer gymharol fach o bobl sy'n goryfed.Ac, wrth gwrs, rydym ni eisiau targedu'r rheini.Y broblem gyda mesur o'r math hwn yw ei fod gymaint ar hap o ran ei ddull ei fod mewn gwirionedd yn cosbi’r llawer sy'n yfwyr cymedrol heb gael unrhyw effaith fesuradwy ar y rheini yr ydym ni eisiau eu helpu mewn gwirionedd. Carwyn Jones AC: Nid wyf yn deall y rhesymeg honno.Mae'r un rhesymeg yn berthnasol i sigaréts.Gallai sefyll ar ei draed a gallai ddweud, 'Wel, mae'n cosbi'r ysmygwr achlysurol, ac felly dylid gostwng y dreth ar dybaco.'Mae’r ddau beth yn cael yr un math o effaith.Edrychwch, i mi, mae'n hynod bwysig, fel cymdeithas, nad oes gennym ni alcohol yn cael ei werthu islaw'r pris cost—ac mae'n digwydd yn rhai o'r cynigion a welwn mewn archfarchnadoedd—ac nad oes gennym ni bobl yn cael eu hannog i brynu mwy o alcohol nag y byddent eisiau ei brynu fel arall.Mae hynny'n annog pobl a fyddai fel arall yn yfwyr eithaf cymedrol i yfed mwy na sy'n dda iddynt, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni’n awyddus i'w osgoi.Fel mae'n digwydd, fel sgîl-effaith, mae hefyd yn galluogi tafarndai i allu cystadlu ar sail deg gyda'r archfarchnadoedd sydd wedi gyrru cymaint o dafarndai allan o fusnes.Peidiwch â siarad â mi, siaradwch â thafarnwyr a byddant yn dweud hyn wrthych chi.Mae'r gwahaniaeth mewn pris, yn gymesur, rhwng alcohol archfarchnadoedd nawr ac alcohol mewn tafarndai yn llawer iawn mwy nag a fu erioed o'r blaen.Mae angen i ni sicrhau bod gan bobl le i fynd yn y pentrefi lle maen nhw’n byw, trwy dafarndai, er enghraifft.Nid dyma fwriad y ddeddfwriaeth—y bwriad yw ei bod yn ddeddfwriaeth sy'n ymdrin ag iechyd.Ond, wrth gwrs, ceir effeithiau ehangach a nodir. Lefelau Cynhyrchu y Diwydiant Garddwriaeth Jenny Rathbone AC: 4. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio prosesau caffael cyhoeddus i gynyddu lefelau cynhyrchu'r diwydiant garddwriaeth yng Nghymru? (OAQ51250) Carwyn Jones AC: Mae'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn datblygu dulliau cydweithredol sydd â’r nod o gynyddu faint o gynnyrch o Gymru a gyflenwir i'r sector cyhoeddus. Jenny Rathbone AC: Diolch. Rwyf newydd ddod o'r uwchgynhadledd lysiau sy’n cael ei chynnal yn y Pierhead ar yr un pryd ag yn Llundain a Chaeredin, a chlywsom addewidion pwysig iawn gan amrywiaeth eang o gynhyrchwyr a hyrwyddwyr, er enghraifft, hawliau plant. Tynnodd y comisiynydd plant sylw at y ffaith nad yw bron i 80 y cant o blant pump i 10 oed yn bwyta digon o lysiau, ac nad yw 95 y cant o blant 11 i 16 mlwydd oed yn bwyta digon o lysiau i allu dysgu a chwarae'n effeithiol, a bod hwn yn fater hawliau plant. Clywsom addewidion pwysig gan archfarchnad fwyaf y DU, Tesco, sydd wedi cytuno i brynu llysiau tymhorol gan dyfwyr yn y DU, yn ogystal â chynnwys mwy o lysiau yn eu bargeinion pryd bwyd. Mae Castell Howell, Brains, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro a chyngor Caerdydd i gyd yn addo gweini a hyrwyddo mwy o lysiau yn eu tafarndai, eu ffreuturiau a’u hystafelloedd bwyta. Beth allwn ni ei wneud i sicrhau bod y pryniant cynyddol hwnnw o lysiau yn dod oddi wrth gynhyrchwyr Cymru, yn hytrach na marchnadoedd eraill y DU neu, yn wir, o dramor? Carwyn Jones AC: A gaf i groesawu'r ffaith bod yr uwchgynhadledd lysiau yn cael ei chynnal yn adeilad Pierhead ar hyn o bryd? Mae'n dod â ffermwyr, manwerthwyr, proseswyr a Llywodraeth at ei gilydd, gan edrych ar y gadwyn gyflenwi a sut y gallwn gynyddu cynhyrchiant llysiau. Rydym ni wedi ymrwymo, drwy'r cynllun gweithredu ar fwyd a diod, yr ydym ni’n ei rannu gyda'n bwrdd diwydiant a benodwyd yn gyhoeddus, nid yn unig i dyfu sector bwyd a diod Cymru, ond i wneud hynny’n gynaliadwy ac i fynd i'r afael â heriau dwys deiet. Mae'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi sefydlu trefniadau prynu sy'n galluogi cyrff cyhoeddus Cymru i gael mynediad at amrywiaeth eang o gynhyrchion llysiau i gefnogi cynllunio prydau bwyd iachach. Paul Davies AC: Yn dilyn cwestiwn Jenny Rathbone, a allwch chi ddweud wrthym ni pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gydag awdurdodau lleol ynglŷn â chaffael bwyd i gyrff cyhoeddus er mwyn sicrhau bod mwy a mwy o gynhyrchwyr bwyd lleol yn cael eu defnyddio gan awdurdodau lleol? Hefyd, a allwch chi ddweud wrthym ni un peth mae eich Llywodraeth chi wedi ei wneud yn y flwyddyn ddiwethaf i wneud gwahaniaeth a sicrhau bod mwy a mwy o gynhyrchwyr bwyd lleol yn cael eu defnyddio yn y sector gyhoeddus? Carwyn Jones AC: Mae yna grŵp cydweithredol wedi cael ei sefydlu, ac mae’n cynnwys rhai o’r sector gyhoeddus yng Nghymru. Nod y grŵp hwnnw yw sicrhau ein bod ni’n gweithredu ar sicrhau bod yna fargen dda ynglŷn â chaffael. Mae hwnnw’n gweithio gyda chyrff cyhoeddus a hefyd gyda’r rheini sydd yn cynhyrchu er mwyn symud y project hwn ymlaen. So, felly, mae yna bethau’n cael eu gwneud wrth weithio gyda’r diwydiant er mwyn sicrhau bod mwy o fwyd a diod yn dod i mewn o Gymru. Un o’r pethau, wrth gwrs, sydd wedi newid dros y blynyddau yw, ar un adeg, un o’r problemau, gyda chytundebau mawr fel y gwasanaeth iechyd, oedd nad oedd dim corff neu fusnes digon mawr i sicrhau bod nwyddau yn mynd i mewn i’r farchnad honno ddydd ar ôl dydd, fis ar ôl mis. Mae hynny wedi newid nawr, ac mae hynny, wrth gwrs, o achos y gwaith rŷm ni wedi ei wneud fel Llywodraeth ynglŷn â chefnogi edrych ar hyn mewn ffordd wahanol ac nid yn yr un hen ffordd. Simon Thomas AC: Rydw i’n gweld, Brif Weinidog, fod eirin Dinbych yn mynd i fod yn cael eu gweini fel pwding yfory yn y Cynulliad. Felly, mae croeso i bawb gyfrannu drwy fwyta’r eirin hyfryd hynny. Ond wrth inni ymadael â’r polisi amaeth cyffredin, sydd erioed wedi rhoi unrhyw gefnogaeth i arddwriaeth yng Nghymru, pa gamau ydych chi’n mynd i’w cymryd fel Llywodraeth i sicrhau bod yna gefnogaeth i adeiladu’r seilwaith ar gyfer gwneud yn siŵr bod ffermwyr nawr yn gallu buddsoddi mewn garddwriaeth ac ar gyfer y marchnadoedd newydd? Carwyn Jones AC: Nawr, mae hyn yn rhywbeth, wrth gwrs, rŷm ni’n ei ystyried gyda’r diwydiant ar hyn o bryd. Y peth cyntaf rydw i’n moyn ei bwysleisio, wrth gwrs, yw’r ffaith ein bod ni’n wastad wedi dweud y dylai’r un faint o arian fod ar gael yn y dyfodol â beth sydd nawr. Beth rŷm ni wedi dweud wrth Lywodraeth y Deyrnas Unedig yw y dylai’r arian gael ei ddodi mewn un lle ac nad oes unrhyw beth i’w newid ynglŷn â’r cyfanswm hynny heb fod yna gytundeb rhwng y Llywodraethau i gyd. Ond, wedi dweud hynny, mae yna gyfle inni nawr ystyried ym mha ffordd y gallwn ni ddefnyddio’r arian hynny er lles ffermwyr Cymru—edrych ar ffyrdd newydd, efallai, o weithio—ac mae hynny’n un peth y gallwn ni ei ystyried.Rydw i’n cofio, 17 o flynyddoedd yn ôl, pan oeddwn i’n aelod o bwyllgor amaeth y Cynulliad, roedd yna adolygiad wedi cael ei wneud bryd hynny ar arallgyfeirio, a’r peth a ddaeth reit lan ar y top ynglŷn â beth oedd â’r cryfder mwyaf yn y pen draw oedd tyfu llysiau organig. Felly, mae hyn yn rhywbeth sydd wedi bod rownd ers amser, ond, wrth gwrs, nid oedd y system talu ‘subsidies’ yn ddigon hyblyg er mwyn sicrhau ein bod ni’n gallu defnyddio’r arian yn y ffordd y byddem ni eisiau. Mae yna gyfle nawr, wrth gwrs, yn y dyfodol, i sicrhau bod hyn yn digwydd. Patrymau Hunangyflogaeth Hefin David AC: 5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am batrymau hunangyflogaeth yng Nghymru? (OAQ51252)[R] Carwyn Jones AC: Mae hunangyflogaeth yn parhau i fod yn gonglfaen economi Cymru ac mae'n ganolog i'r strategaeth genedlaethol. Rydym ni’n parhau i gefnogi busnesau i gychwyn a thyfu, i fuddsoddi ac, wrth gwrs, i wella eu cyfraniad at economi Cymru. Hefin David AC: Y prynhawn yma, cadeiriais y grŵp trawsbleidiol ar fentrau bach a chanolig, ac roedd yn bleser gennym groesawu'r Ffederasiwn Busnesau Bach i lansio ei adroddiad, 'Mynd ar eich Pen eich Hun: Deall Hunangyflogaeth yng Nghymru', a ysgrifennwyd gan yr Athro Andrew Henley a Dr Mark Lang. Ceir nifer o argymhellion i Lywodraeth ynddo, ond un o'r materion pwysicaf yn yr adroddiad yw bod y lefelau uchaf o hunangyflogaeth ym Mhowys, sef 23 y cant, a bod y lefelau isaf yn y Cymoedd gogleddol yr wyf i’n eu cynrychioli, ac eraill, sef 8.7 y cant. Beth all Llywodraeth Cymru ei wneud yn benodol i ysgogi a chynyddu hunangyflogaeth yn y cymunedau hynny yn y Cymoedd, ac yn enwedig ymhlith grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol a menywod? Carwyn Jones AC: Yr hyn sy'n ddiddorol am yr adroddiad yw y bu tybiaeth mai’r rheswm pam mae mwy o bobl yn hunangyflogedig yw oherwydd bod amgylchiadau economaidd wedi pennu hynny— eu bod nhw wedi colli eu swyddi. Ond, mewn gwirionedd, ymddengys ei fod yn dyniad entrepreneuraidd.Mae'n awydd mewn gwirionedd i fod yn fwy entrepreneuraidd, sy'n rhywbeth yr ydym ni wedi ceisio ei annog ers llawer iawn o flynyddoedd yng Nghymru. Fel rhywun a oedd yn hunangyflogedig, yn bennaf, cyn i mi ddod i'r lle hwn, rwy’n deall rhai o'r heriau y gall hynny eu hachosi.Sut ydym ni’n bwrw ymlaen â hyn yn y Cymoedd? Tasglu’r Cymoedd. Mae hwnnw wedi gwneud llawer o waith i weld sut y gallwn annog mwy o hunangyflogaeth. Nid wyf yn credu bod gan bobl ddiffyg dawn entrepreneuraidd yn y Cymoedd; rwy'n credu ei fod yn fater o anogaeth. Mae'n golygu gallu dweud wrth bobl, 'Gallwch chi wneud hyn. Nid oes unrhyw reswm pam na allwch chi fod yn llwyddiannus.’ Ac mae angen yr anogaeth honno ar bobl. A dyna'n union un o'r pethau y mae tasglu'r Cymoedd yn bwriadu bwrw ymlaen ag ef yn y dyfodol. Russell George AC: Prif Weinidog, roeddwn innau hefyd yn bresennol yn y digwyddiad, a gadeiriwyd gan Hefin yn gynharach, a chlywsom sut mae Cymru wledig yn ddibynnol iawn ar gyfraniad hunangyflogaeth i’r economi. Nododd Hefin fod 23 y cant o'r rhai sydd ym Mhowys yn hunangyflogedig, ac mae hynny’n cymharu â chyfartaledd Cymru o 13 y cant. Nawr, mae adroddiad FSB Cymru wedi canfod bod y rheini sy'n hunangyflogedig yn tueddu i fod yn hŷn, ac nad yw pobl ifanc yn dilyn olion eu traed. A gaf i ofyn pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei rhoi i ddeall y rhwystrau sy’n atal pobl ifanc rhag bod yn hunangyflogedig, yng Nghymru wledig yn arbennig? Pa botensial allai bargen dwf canolbarth Cymru ei gynnig i sicrhau bod atebion lleol sy'n bodloni gofynion hunangyflogaeth yng Nghymru, yn hytrach nag ateb Cymru gyfan, efallai na fyddai’n briodol bob amser? Carwyn Jones AC: Rwy'n credu bod atebion rhanbarthol yn bwysig.Mae'r Aelod yn iawn i ddweud na ellir cael un ateb i bawb ledled Cymru.Pan ddaw i bobl iau, mae llawer ohono'n dechrau mewn ysgolion, yn fy marn i.Gwn fod gwaith wedi ei wneud mewn ysgolion o ran annog prosiectau entrepreneuraidd, ac wrth gwrs, y cynllun entrepreneuriaid ifanc, sydd gennym ni, a hefyd wrth gwrs, darparu'r math hwnnw o gymorth ariannol i bobl ifanc sydd ei angen arnynt. Mae gan bobl hŷn fynediad yn aml at gyfalaf mewn modd nad oes gan bobl iau, a gallant ddefnyddio'r cyfalaf hwnnw i sefydlu busnes.Sut ydym ni'n cefnogi pobl sy'n dod i mewn i fusnes?Mae Busnes Cymru yn un maes lle mae hynny'n digwydd, wrth gwrs.Bydd y banc datblygu yn gallu cynorthwyo pobl i ddod i mewn i fusnes hefyd.Gwella gallu mentrau bach a chanolig i gael mynediad at gyllid—dyna'r peth mwyaf.Gwyddom fod y banciau yn y DU wedi bod yn amharod yn hanesyddol i ddarparu cyfalaf ar gyfer mentrau sy’n cychwyn, a dyna pam yr oeddem ni ar ei hôl hi am flynyddoedd lawer iawn, sef un o'r rhesymau pam y bydd y banc datblygu yno.Gallwch chi annog pobl, ond mae angen mynediad at gyfalaf arnyn nhw i ddechrau eu busnes.Oni bai bod ganddynt gyfalaf teuluol y tu ôl iddyn nhw, mae'n rhaid bod ffordd arall o’i wneud, a dyna lle mae Busnes Cymru a lle mae Banc Datblygu Cymru yn dod i mewn. Adam Price AC: Un o’r pethau mwyaf trawiadol sydd yn yr adroddiad yw’r ffaith yma: fod 38 y cant o gyfanswm twf swyddi yng Nghymru dros y ddeng mlynedd diwethaf i’w briodoli i’r hunangyflogedig. Dros yr un cyfnod, nid oes cynnydd net o gwbl wedi bod yn y sector tramor—hynny yw, y sector mewnfuddsoddi. Ac eto, ac rwy’n dyfynnu’r adroddiad fan hyn:‘mae iaith llunio polisïau economaidd wedi’i sgiwio’n anferth tuag at bwysigrwydd sicrhau mewnfuddsoddiad â pherchnogaeth dramor.’A ydy’r Prif Weinidog yn derbyn ffigurau’r FSB, ac os yw e, a ydy e’n derbyn yr angen am newid pwyslais nawr i fusnesau cynhenid a’r hunangyflogedig? Carwyn Jones AC: Nid wyf yn credu bod yn rhaid inni ddewis. Rwy’n cytuno. Ar un adeg, rwy’n gwybod, yn ystod cyfnod y WDA, roedd y pwyslais yn hollol ar fuddsoddiad o dramor—yn hollol. Nid oedd ots gyda nhw am fusnesau bach. Rwy’n cofio siarad â rhai o’r bobl a oedd yn gweithio i’r WDA. Bryd hynny, roedd popeth, yr holl ffocws, ar sicrhau buddsoddiad, ac ar ôl LG, daeth dim byd mawr i mewn beth bynnag. So, mae’n hollbwysig sicrhau ein bod ni’n adeiladu sylfaen hunangyflogedig yr economi. Rwy’n deall hynny. Ond, nid wyf yn credu y dylem ni wneud hynny drwy osgoi unrhyw fath o help i fusnesau sydd yn cyflogi miloedd o bobl yng Nghymru, sef Tata, sef GE, sef Airbus, sef cwmnïau fel EADS ac yn y blaen, sydd yn cyflogi llawer iawn o bobl yng Nghymru. Felly, mae’n rhaid inni ddal i bwysleisio denu buddsoddiad o dramor. Ond, nid yw hynny’n meddwl mai dim ond hynny y dylem ei wneud. Byddwn i’n dadlau bod y cydbwysedd yn iawn gyda ni, ac rydym yn moyn sicrhau bod mwy a mwy o fusnesau nid dim ond yn cael eu sefydlu yng Nghymru, ond yn tyfu. Un o’r problemau yr ydym wastad wedi’u hwynebu yw’r ffaith bod busnesau’n tyfu i lefel, ac wedyn mae’r perchnogion yn eu gwerthu. Wel, mae’n rhaid inni sicrhau bod mwy yn cael ei wneud er mwyn sicrhau bod pobl yn teimlo eu bod yn gallu tyfu’r busnesau hynny er mwyn eu bod yn gallu mynd yn fwy. I mi, dyna beth yw’r her fwyaf yn yr economi: dweud wrth bobl, ‘Peidiwch â gwerthu mas. Sefwch i mewn. Fe wnawn ni eich helpu chi i dyfu yn fwy.’ Y Sector Gofal Lliniarol Mark Isherwood AC: 6. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector gofal lliniarol yng Nghymru? (OAQ51226) Carwyn Jones AC: Mae'r cynllun cyflenwi gofal diwedd oes wedi’i ddiweddaru, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth, yn nodi'r amrywiaeth eang o gamau yr ydym ni’n eu cymryd i ddarparu dull cydweithredol o wella gofal diwedd oes ledled Cymru.Mae hynny'n cynnwys £6.4 miliwn i ddarparu gwasanaethau gofal lliniarol arbenigol. Mark Isherwood AC: Diolch am eich ateb. Fel y gwyddoch yn ôl pob tebyg, darperir y rhan fwyaf o’r gofal diwedd oes yng Nghymru mewn 13 hosbis i oedolion a dwy hosbis i blant yng Nghymru. Rydych chi’n nodi ffigur o tua £6.4 miliwn—dyna a ddywedasoch rwy’n meddwl—ond maen nhw’n gwario £32.5 miliwn y flwyddyn i ddarparu'r gwasanaethau hynny yng nghartrefi pobl, a gofal dydd a gofal seibiant hefyd. Felly, maen nhw’n gorfod codi dros £2 filiwn y mis, ac maen nhw’n awyddus i'ch helpu chi, Llywodraeth Cymru, a'u byrddau iechyd lleol i wneud llawer iawn mwy. Sut gallwch chi, neu a wnewch chi, ymgysylltu â nhw a gofyn iddyn nhw sut y gallan nhw eich helpu i gyflawni mwy? Efallai y byddai ychydig mwy o gyllid gan y byrddau iechyd a'r Llywodraeth yn arbed llawer mwy i fyrddau iechyd ac yn rhyddhau gwasanaethau i helpu i fynd i'r afael â rhai o'r problemau eraill yr ydym ni wedi clywed cyfeirio atyn nhw heddiw mewn gwahanol gyd-destunau. Carwyn Jones AC: Wel, os edrychwn ni ar yr adroddiad diweddar gan Hospice UK ar ofal hosbis yng Nghymru, mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni’n ei groesawu—yr hyn a ddywedodd yr adroddiad. Mae'n cydnabod y camau cadarnhaol a amlinellir yn y cynllun cyflenwi gofal lliniarol a diwedd oes. Mae'n tynnu sylw at yr angen am sicrwydd am gyllid hirdymor. Yn rhan o'r cytundeb cyllideb gyda Phlaid Cymru, rhoddwyd £1 filiwn ychwanegol ar gael gennym yn 2017 i wella darpariaeth gofal diwedd oes ymhellach. Mae hwnnw'n gyllid ailadroddus hefyd. Ond wrth gwrs, o ran ymgysylltu â'r sector, y byrddau gofal sy'n darparu'r lefel honno o ymgysylltiad, a dyna pam, wrth gwrs, yr ydym ni’n gweithio gyda nhw i nodi'r adnoddau sydd eu hangen. Rhun ap Iorwerth AC: Mae’r grŵp trawsbleidiol ar hosbisau a gofal lliniarol yma yn y Cynulliad yn edrych ar y posibiliad o ymchwilio i sut i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau yn y mynediad at ofal hosbis yng Nghymru. Mi gyfeirioch chi at yr arian a sicrhawyd mewn cytundeb rhyngom ni a’r Llywodraeth. Ond, onid y gwir amdani ydy bod cyfres o Lywodraethau Llafur wedi methu â mynd i’r afael â’r elfen sylfaenol yna, fod yna anghydraddoldeb yn y mynediad at y gofal cwbl, cwbl allweddol yma ar draws Cymru? Carwyn Jones AC: Na, nid wyf i’n derbyn hynny. Rydym ni wedi sicrhau bod yna fuddsoddiad ar gael i fyrddau iechyd. Mae’n fater, wrth gwrs, i fyrddau iechyd sicrhau bod yna wasanaeth ar gael, ac mae hynny’n rhywbeth rŷm ni wedi gweithio gyda nhw arno, ynglŷn â sicrhau bod hwnnw’n cael ei weithredu. Rŷm ni’n gwybod bod hosbisau eu hunain wedi cymryd mwy o rôl yn y pum mlynedd diwethaf nag o’r blaen, nid dim ond o ran gofal, ond rhoi cyngor i bobl hefyd. Ac nawr, wrth gwrs, rŷm ni’n moyn gweithio gyda’r byrddau er mwyn sicrhau ein bod ni’n gwybod beth nesaf sy’n gorfod cael ei wneud er mwyn sicrhau bod yna wasanaeth cyson ar gael ar draws Cymru. Brexit David J Rowlands AC: 7. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r effaith y bydd unrhyw newidiadau i reolaethau mewnfudo yn dilyn Brexit yn ei chael ar y GIG yng Nghymru? (OAQ51229) Carwyn Jones AC: Ie, mae'n wael. David J Rowlands AC: Wel, diolchaf i'r Prif Weinidog am ei sylw, ond mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos mai dim ond 1.55 y cant o gyflogeion GIG Cymru sy’n weithwyr mewnfudol o'r UE, ac, o ystyried mai 3.3 y cant yw poblogaeth mewnfudwyr Cymru o'r UE, mae'n ymddangos y gallai rheoli mewnfudiad gael effaith gadarnhaol ar ein gwasanaeth iechyd.Ond, rwyf eisoes wedi tynnu sylw'r Siambr hon at y ffaith fod 80,000 o ymgeiswyr i weithio yn GIG y DU bob blwyddyn yn cael eu gwrthod oherwydd diffyg lleoedd hyfforddi.Does bosib, Prif Weinidog, nad yw’n bryd i ni yng Nghymru ehangu cyfleusterau hyfforddi, ailystyried yr arfer o anfon pob nyrs i'r brifysgol, ac archwilio'r posibilrwydd o ailgyflwyno'r gwahaniaeth rhwng nyrsys SEN ac SRN a hyfforddiant ar y ward, yn enwedig i staff SEN.Gyda llaw, dywedodd Mark Drakeford yn 2015,Dylai trafodaethau am ddyfodol hirdymor GIG Cymru fod y tu allan i ymryson gwleidyddiaeth bleidiol o ddydd i ddydd.Efallai, Prif Weinidog, y dylem ni ystyried yr awgrym ardderchog hwnnw unwaith eto. Carwyn Jones AC: A gaf i ddweud wrth yr Aelod nad oes unrhyw ots o gwbl gen i o ble mae meddygon yn dod pan eu bod yn gweithio yn GIG Cymru, cyhyd â'u bod yn darparu gwasanaeth rhagorol i'n cleifion? Ceir llawer o feddygon sy'n dod o'r UE, a thu hwnt—India, wrth gwrs; gwyddom fod llawer o feddygon wedi dod o India. Yn wir, maen nhw yn ychwanegiadau gwych at ein GIG. Mae'r farchnad ar gyfer meddygon a nyrsys yn fyd-eang. Mae'n fyd-eang. Bydd pobl yn mynd—mae'n gymhwyster symudol—i ble maen nhw'n meddwl y byddan nhw’n cael y fargen orau iddyn nhw fel unigolyn ac i’w teuluoedd.Gwyddom, er enghraifft, ei bod yn wir i ddweud bod nyrsys o’r UE yn ganran eithaf bach o weithlu'r GIG yng Nghymru, ond a allwn ni wir fforddio colli 360 o nyrsys? Ai dyna’r hyn y mae'n ei ddweud? Oherwydd mae’n ymddangos mai’r hyn y mae’n ei ddweud yw bod hynny’n iawn, cyn belled â'n bod ni’n hyfforddi pobl i safon is yn y dyfodol, a bydd hynny'n iawn cyn belled ag y mae’r dyfodol yn y cwestiwn. A yw ef wir yn dweud, er enghraifft, nad ydym ni eisiau meddygon o'r UE? Wel, mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i eisiau sicrhau bod meddygon a nyrsys yn dod i weithio yng Nghymru, waeth beth yw eu cenedligrwydd, oherwydd byddant yn ychwanegu llawer mwy at y GIG nag y maen nhw'n ei gymryd allan. Yr anwiredd sy’n cael ei wthio gan ei blaid yw bod mewnfudo, rywsut, yn rhoi straen ar y GIG. Mae'r rhan fwyaf o'r bobl sy'n dod i Gymru yn ifanc. Maen nhw’n talu trethi, ac maen nhw’n talu llawer mwy nac y maen nhw’n ei gymryd allan drwy'r GIG. Ac rydym ni’n gwybod ein bod ni’n talu teyrnged i'r meddygon hynny o'r UE a thu hwnt sy'n dod i weithio yn GIG Cymru, sy'n cyfrannu at drin ein pobl, sy'n achub bywydau. I mi, mae hynny'n llawer pwysicach na gwirio eu pasbortau. Suzy Davies AC: Adroddodd y pwyllgor materion allanol yn ddiweddar ar oblygiadau Brexit i borthladdoedd Cymru, wrth gwrs, a cheir beirniadaeth yn y fan honno nad oedd Ysgrifennydd yr economi wedi cael sgyrsiau uniongyrchol bryd hynny gyda'i gyfatebwr yn Iwerddon, ond rwy’n credu efallai fod hynny wedi digwydd erbyn hyn. A ydych chi'n gwybod a oedd unrhyw drafodaethau ynghylch pa un a ellid cyflwyno technoleg bresennol i helpu i gynnal y ffin anweledig rhwng Gogledd Iwerddon a'r Weriniaeth, ond hefyd i leihau'r oedi o ran symud pobl rhwng Cymru a Gweriniaeth Iwerddon ei hun? Carwyn Jones AC: Wel, yn gyntaf, y rheswm pam y soniodd y pwyllgor amdano yw fy mod i wedi sôn amdano wrth y pwyllgor. Fi oedd yr un â’i gododd yn gyntaf, y mater hwn o'r porthladdoedd.Fe'i trafodais fisoedd yn ôl gyda Leo Varadkar, pan ddaeth yn Taoiseach, a’i gwneud yn eglur na allem ni gefnogi sefyllfa lle’r oedd ffin fwy di-dor rhwng Gogledd Iwerddon a'r Weriniaeth na rhwng Cymru a'r Weriniaeth tra bod 70 y cant o fasnach rhwng Prydain Fawr ac Iwerddon yn mynd trwy borthladdoedd Cymru.Os oes unrhyw gymhelliad i fynd trwy borthladdoedd yr Alban yn hytrach, trwy Ogledd Iwerddon, mae'n amlwg ei fod yn wael a nodwyd hynny gan y pwyllgor—mae’n wael i Gymru.Felly, bu trafodaethau gyda Llywodraeth Iwerddon ar hyn.I fod yn blaen—rwy'n gwybod barn yr Aelod ar Brexit, ac rwy'n eu gwerthfawrogi—rwyf i wedi gweld llawer o ddogfennau gan Lywodraeth y DU erbyn hyn sy'n dweud y bydd y mater o reoli ffiniau yn cael ei ddatblygu trwy dechnoleg arloesol.Nid yw'n bodoli.Nid yw'r dechnoleg hon yn bodoli.Pe byddai’n bodoli, byddem ni wedi ei gweld erbyn hyn. Mae'n sôn am gael atebion arloesol, archwilio atebion.Dyna'r cod ar gyfer, 'Nid oes gennym ni unrhyw syniad sut i ymdrin â hyn.'Mae’n un peth, wrth gwrs, cael teithio di-basbort rhwng Cymru ac Iwerddon.Mae teithio di-doll yn rhywbeth gwahanol.Roedd archwiliadau ar hap yn y porthladdoedd hynny bob amser yn y blynyddoedd a fu, ond nid oedd pob cerbyd yn cael ei archwilio.Ceir problem fwy yn Dover, gan nad oes gan y DU y gallu ar hyn o bryd i gyflwyno rheolaethau ffin yn Dover heb oedi enfawr, ac mae’r un fath, rwy’n amau, yn wir ar ochr Ffrainc hefyd, os ydw i'n onest, yn Calais.Nid wyf yn credu bod ateb technolegol i hyn.Pe byddai un, yna byddem ni’n gwybod erbyn hyn gan Lywodraeth y DU beth yw'r ateb hwnnw.Un o'r atebion a gynigiwyd i mi oedd y byddai camerâu ar y ffin rhwng y gogledd a'r de yn Iwerddon.Os rhowch chi gamerâu yng Ngogledd Iwerddon gallem ni agor llyfr ar ba mor hir y bydden nhw’n aros yno, gan na fyddent.Ni fydden nhw’n aros yno.Mae'n amlygiad ffisegol o'r ffin.Byddai pobl yn eu gweld fel diffyg cydymffurfiad â’r cytundeb heddwch.Felly mae'n broblem anhydrin. Gellir ei datrys.Yr ateb yw bod y DU yn aros yn yr undeb tollau.Yna nid oes unrhyw broblem.Nid oes unrhyw broblem.Os bydd y DU yn gadael yr undeb tollau, bydd yn rhaid i chi gael yr un math o ffin â hwnnw sy'n bodoli, er enghraifft, rhwng Gibraltar a Sbaen, gan fod Gibraltar y tu allan i'r undeb tollau. Mae honno'n ffin hynod o galed.Ni allwch chi gael sefyllfa lle mae nwyddau'n mynd i ddwy wahanol farchnad mewn dau wahanol undeb tollau heb unrhyw fath o archwiliadau ffisegol wrth groesi ffiniau tir.Mae hyn wedi bod yn broblem erioed, yn fy marn i.Ni feddyliodd neb am Iwerddon yn refferendwm Brexit, ac ni feddyliodd neb am y ffin honno, ac mae'n dal i fod yn broblem anhydrin.Yr ateb?Aros yn yr undeb tollau. Steffan Lewis AC: Wrth gwrs, un o'r bygythiadau mwyaf i staffio hirdymor yn GIG Cymru fyddai i ni gael un polisi mewnfudo ar gyfer y DU gyfan ar ôl gwahanu oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd.Mae Prifysgol Caeredin wedi cyhoeddi papur gan yr Athro Christina Boswell, ‘Scottish Immigration Policy After Brexit: Evaluating Options for a Differentiated Approach'.Mae'n ystyried nifer o ddulliau rhanbarthol a chenedlaethol o ymdrin ag ymfudiad ar ôl Brexit, gan wybod beth yw bwriadau Llywodraeth y DU o ran eu dyheadau. Mae'r dewisiadau'n cynnwys edrych ar gyfalaf dynol, system seiliedig ar bwyntiau, cynlluniau gwaith ôl-astudio, cynlluniau dan arweiniad cyflogwyr, rhestrau prinder galwedigaethol, y byddwn yn awgrymu eu bod o bwysigrwydd arbennig yma yng Nghymru, ac yn y papur hwn maen nhw’n cynnig ffyrdd llawn dychymyg o gael costau a beichiau gweinyddol cyn lleied â phosibl. A fyddai’r Prif Weinidog yn cytuno bod hyn yn werth ei ystyried a’i ddatblygu o ddifrif erbyn hyn, a bod angen i ni weld Cymru’n lleisio ei barn ar bolisi ymfudo rhanbarthol neu genedlaethol ar ôl Brexit ar gyfer y DU? Oherwydd ar hyn o bryd , dyma'r unig ran gyfansoddol o'r DU sydd wedi dweud ychydig iawn am y posibilrwydd hwnnw. Fel arall, rydym ni’n wynebu cael targed mudo net y DU fel amcan polisi mawr y DU, a fydd, fel y gwyddom, yn niweidiol i wasanaethau cyhoeddus Cymru ac i economi Cymru. Carwyn Jones AC: Gadewch i mi ei atgoffa o'r hyn yr wyf i wedi ei ddweud yn gyhoeddus i dawelu ei ofnau. Yn gyntaf oll, nid wyf yn cytuno â chap artiffisial. Nid wyf yn gweld pa synnwyr sydd i hynny. Does bosib nad oes rhaid i economi recriwtio yn ôl ei hanghenion, nid cael cap artiffisial.Pe byddai cap artiffisial, yna mae problemau difrifol sy'n codi o ran pa un a fyddai capiau sectorol.Nid oes gen i unrhyw amheuaeth mai’r syniad yn Llywodraeth y DU fydd gwneud cymaint â phosibl i Ddinas Llundain—ac mae'r sector gwasanaethau ariannol yn bwysig i ni, ond mae'n aruthrol o bwysig i Ddinas Llundain—a bydd gennym gap sectorol uwch yn y pen draw, yn gymesur i'r Ddinas nag sydd gennym ar gyfer y GIG. Yn amlwg, ni fyddai hynny er lles Cymru.Ni ddywedodd hyn yn benodol, ond gwn ei fod yn awgrymu'r syniad o gwotâu rhanbarthol, ac mae hwnnw'n syniad diddorol.Mae’n cael ei wneud yng Nghanada, mae’n cael ei wneud yn Awstralia.Iawn, maen nhw'n llawer mwy, ond nid yw'n amhosibl gwneud hyn. Yn bersonol, byddai’n well gen i beidio â chael cap, ond os oes cap, rwy’n credu fod dadl dros edrych yn ofalus ar ba un a fyddai cwotâu rhanbarthol yn gweithio, ac yn enwedig pa un a fyddent yn gweithio i Gymru. Strategaeth Leoli Llywodraeth Cymru Siân Gwenllian AC: 8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am strategaeth leoli Llywodraeth Cymru? (OAQ51234)[W] Carwyn Jones AC: Bydd y strategaeth leoli yn creu ystâd sy’n gynaliadwy yn economaidd ac yn amgylcheddol sy’n cyd-fynd ag anghenion y Llywodraeth hon yn y dyfodol. Mae’r strategaeth yn cynnal ein hymrwymiad i weithredu ledled Cymru gan sicrhau bod ein hystâd yn gweithredu mor effeithlon â phosibl ac yn lleihau ein costau gweithredu. Siân Gwenllian AC: Wel, mae’n hollol amlwg nad ydy’r strategaeth rheoli swyddi yn gweithio os mai’r bwriad oedd gwasgaru swyddi Llywodraeth i bob cwr o Gymru a chadw’r rheini a oedd eisoes yn bodoli. Mae pobl yn fy etholaeth i yn teimlo ein bod yn cael ein gadael ar ôl, teimlad sy’n cael ei gefnogi efo ffeithiau.Ffaith 1: mae’ch Llywodraeth chi yn bwriadu cau a gwerthu adeilad yng Nghaernarfon heb unrhyw fwriad i godi adeilad newydd yn ei le, gan greu ansicrwydd mawr. Ffaith 2: mae nifer y swyddi Llywodraeth sydd wedi’u lleoli yng Nghaernarfon wedi gostwng 35 y cant dros y saith mlynedd ddiwethaf.Mae bwriad y strategaeth yn glir ond, unwaith eto, rydych chi wedi methu pan fo’n dod yn fater o weithredu’r amcanion. Felly, a wnewch chi ailystyried edrych ar y strategaeth eto er mwyn gosod meini prawf a thargedau penodol newydd er mwyn delifro twf a swyddi o ansawdd i bob cwr o Gymru? Carwyn Jones AC: A gaf i ddweud wrth yr Aelod: nid yw swyddfa Caernarfon yn gadael y dref, maen nhw’n symud o un i’r llall? Mae’n wir i ddweud eu bod nhw’n symud o’r adeilad lle maen nhw nawr, ar y top, ac wedyn yn edrych ar swyddfeydd newydd mwy modern er mwyn aros yn y dref. Felly, nid oes problem ynglŷn â swyddi’n sefyll yn Nghaernarfon.A ydy’n wir fod swyddi wedi cael eu colli? Mae hynny’n wir ar draws Cymru. Rydym ni wedi colli mwy na 1,000 o weision sifil dros y blynyddoedd—rhyw saith mlynedd. So, mae’n wir i ddweud bod yna swyddi wedi cael eu colli ym mhob rhan o Gymru.Wrth ddweud hynny, wrth gwrs, os edrychwn ni ar y gogledd, mae gyda ni swyddfa Cyffordd Llandudno a bydd pencadlys y banc datblygu yn Wrecsam, so, felly, rŷm ni wedi ymrwymo i sicrhau bod mwy o swyddi yn cael eu symud mas o Gaerdydd. Pan ddechreuodd y Cynlluniad, roedd swyddfa yng Nghaernarfon ond nid oedd dim byd yn Merthyr, nid oedd dim byd yn Nghyffordd Llandudno, nid oedd lot yn Abersytwyth—roedd y Comisiwn Coedwigaeth yn Aberystwyth ond nid llawer yn fwy na hynny.Rŷm ni wedi dangos ein hymrwymiad ni i symud swyddi mas o Gaerdydd ac nid oes problem o gwbl ynglŷn â swyddfa Caernarfon. Rŷm ni’n gwybod pa mor bwysig yw Caernarfon i helpu ffermwyr a hefyd wrth gwrs ynglŷn â sicrhau cyflogaeth yn y dref. Brexit Joyce Watson AC: 9. Pa sicrwydd y mae'r Prif Weinidog wedi'i gael gan Lywodraeth y DU yn ystod trafodaethau Brexit mewn perthynas â sicrhau hawliau dynol? (OAQ51249) Carwyn Jones AC: Mae Llywodraeth y DU wedi dweud na fydd yn diddymu nac yn disodli Deddf Hawliau Dynol 1998 tra bod y broses o adael yr UE ar y gweill.Rydym ni hefyd yn cefnogi ymdrechion i ddiwygio Bil yr UE (Ymadael)— pryd bynnag y caiff ei gyflwyno—i sicrhau bod y DU yn parhau i barchu Siarter Hawliau Sylfaenol yr UE ar ôl i ni adael yr UE. Joyce Watson AC: Pan fo Prydain yn gadael yr UE, ni fydd gan y Siarter Hawliau Sylfaenol unrhyw effaith yng nghyfraith y DU mwyach.Mae hynny'n golygu y gellid dileu'r hawliau hynny nas cwmpasir gan y Ddeddf hawliau dynol—er enghraifft, hawliau'r plentyn, hawliau gweithwyr a gwahaniaethu. Fodd bynnag, mae Papur Gwyn y Bil diddymu mawr yn addo diogelu hawliau presennol.Nid wyf yn gwybod amdanoch chi, Prif Weinidog, ond rwy’n hynod amheus am y Blaid Geidwadol a wrthwynebodd llawer o'r hawliau hynny yn y lle cyntaf—o ran ymddiried ynddynt i amddiffyn hawliau ar ôl Brexit.Mae'n rhaid i ni edrych yn gyflym iawn ar y ffordd y maen nhw wedi bod yn barod i gamblo hyd yn hyn â hawliau preswylio dinasyddion yr UE.Ond, ar drywydd arall, Prif Weinidog, a wnewch chi roi sicrwydd i brifysgolion Cymru ynghylch eu hawliau i ryddid academaidd rhag ymyrraeth gan y Llywodraeth? Rwy'n siŵr y byddwch chi wedi darllen heddiw, fel yr wyf innau, yr adroddiadau ar y llythyr sinistr a dweud y gwir, a anfonwyd gan yr AS Torïaidd Chris Heaton-Harris i'r holl is-gangellorion yn gofyn am enwau unrhyw un sy'n addysgu materion Ewropeaidd neu Brexit. Carwyn Jones AC: Yn gyntaf oll, mae Siarter Hawliau Sylfaenol yr UE yn cynnwys hawliau a rhyddid o dan chwe phennawd: urddas, rhyddid, cydraddoldeb, cydsefyll, hawliau dinasyddion a chyfiawnder. Does bosib bod neb a fyddai'n dadlau na ddylai unrhyw un o'r pethau hynny fod yn gymwys pan fyddwn ni’n gadael, a dyna pam mae’n gwneud synnwyr i'r siarter hwnnw barhau.Ceir rhai—nid pawb, er tegwch, ond mae rhai—yn y Blaid Geidwadol a fyddai wrth eu boddau’n cael gwared â chymaint o'r amddiffyniadau a ddatblygwyd dros flynyddoedd lawer iawn.Nhw yw asgell dde galed y Blaid Geidwadol ac rwy'n siŵr y bydden nhw’n ymfalchïo mewn cael gwared ar gymaint o hawliau a mesurau diogelu â phosibl.Rwy'n gobeithio y bydd y bobl synhwyrol yn y blaid honno'n ennill y ddadl.O ran peidio â bod yn synhwyrol, rwy’n deall yr anfonwyd llythyr gan AS nad wyf wedi clywed amdano, Chris Heaton-Harris, a anfonodd lythyr at bob academydd, pob academydd—nid yw'n rhywbeth yr wyf i wedi clywed amdano o’r blaen—yn mynnu cael gwybod pwy sy'n addysgu cyrsiau ar Brexit a chynnwys y meysydd llafur hynny.Cynnwys y meysydd llafur hynny.Mae hwnnw’n gais mor awdurdodaidd ag y byddai’n bosibl ei wneud.Nawr, nid wyf yn dweud y byddai'r blaid Geidwadol gyfan yn cytuno â'i ymddygiad, ond, os yw hynny'n wir, mae'n ddyletswydd ar Weinidogion y Llywodraeth i’w geryddu, gan ei bod hi’n hollol warthus y dylai rhywun geisio creu, i bob pwrpas, rhestr o bobl sydd i'w beirniadu gan nad ydynt yn dilyn barn y blaid. Rwy'n amau ​​y byddai gan y gŵr hwn lawer i’w addysgu i Stalin. Diolch i’r Prif Weinidog. 2. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Yr eitem nesaf, felly, yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw i’n galw ar Jane Hutt, arweinydd y tŷ. Jane Hutt. Jane Hutt AC: Llywydd, mae gen i dri newid i'w hadrodd i fusnes yr wythnos hon.Rwyf wedi ymestyn datganiad y prynhawn yma ar recriwtio athrawon, ac yn ddiweddarach y prynhawn yma bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad llafar ar yr wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau Brexit.Hefyd, mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i leihau cwestiynau yfory i Gomisiwn y Cynulliad i 15 munud.Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes y gellir eu gweld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig. Andrew RT Davies AC: A gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os yn bosibl, os gwelwch yn dda, arweinydd y tŷ?Mae'r cyntaf yn ymwneud â'r adolygiad o Flaenau'r Cymoedd a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi—y cam ar ran ddwyreiniol y ffordd honno yw hwn.Ymddengys bod goblygiadau sylweddol o ran cost ac amser, ac mae busnesau yn fy rhanbarth i eisoes wedi gwneud sylwadau ar y sefyllfa drafnidiaeth ofnadwy y maent yn ei hwynebu, gyda lorïau, ceir, faniau, ddim yn symud mewn oedi traffig sylweddol ar y rhan hon o'r rhwydwaith ffyrdd.Mae'n siomedig, o gofio mai dyma'r gwariant cyfalaf mwyaf gan Lywodraeth Cymru ar ffyrdd, nad oes datganiad ar gael gan y Llywodraeth ynghylch math a maint yr adolygiad ac, yn wir, rhai o'r problemau cychwynnol y maen nhw wedi eu nodi.Nid wyf yn credu ein bod wedi cael yr amser na'r cyfle i holi'r Gweinidog—nac Ysgrifennydd y Cabinet, ddylwn i ddweud—ar yr adolygiad hwn.Ac, fel y dywedais, nid rhyw welliant i gilfan yw hwn ond buddsoddiad o £220 miliwn gan Lywodraeth Cymru yn rhan derfynol cyswllt dwyreiniol ffordd Blaenau'r Cymoedd, ac rwyf i o’r farn y byddai wedi haeddu bod ar y papur gorchmynion y prynhawn yma, ond, gan nad yw ar y papur gorchymyn y prynhawn yma, a allwn ni gael y cyfle i gael datganiad cyflawn a chynhwysfawr gan Ysgrifennydd y Cabinet ar y mater hwn?Yn ail, a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, os yn bosibl, os gwelwch yn dda?Roedd y Prif Weinidog yn ymddangos yn bendant iawn yn ei anerchiad wrthyf y prynhawn yma na fyddai diffyg ym mwrdd iechyd gogledd Cymru, pryd y dangosir diffyg rhagamcanol o £50 miliwn gan y bwrdd ei hun yn ei bapurau bwrdd ei hun, pan fo amseroedd aros yn dyblu yn y bwrdd iechyd penodol hwnnw. Gall rhywun weld sut y gall trigolion yn y gogledd yn arbennig, ond yn enwedig gwleidyddion o’r gwrthbleidiau yn y Siambr hon sydd yma i graffu ar y Llywodraeth, godi eu hysgwyddau mewn anghrediniaeth pan fyddwch chi'n ystyried, bum mis yn ôl, bod y bwrdd iechyd yn y fan honno i fod i wneud arbedion o £10 miliwn y mis. Ac mae peidio â chael unrhyw effaith ar amseroedd aros nac unrhyw effaith ar gadw staff, rwy'n credu, yn afrealistig a dweud y lleiaf.Os yw’n wir y bydd Llywodraeth Cymru yn chwistrellu cronfeydd newydd i'r bwrdd iechyd, ac, yn wir, byrddau iechyd eraill a oedd â diffygion rhagamcanol, yna credaf fod angen gwneud hynny'n gwbl glir a byddwn, felly, yn galw ar yr Ysgrifennydd iechyd i wneud datganiad i egluro'r safbwynt a gymerwyd gan y Prif Weinidog fel y gallwn ni fod yn ffyddiog y bydd y camau sy'n cael eu cymryd yn (a) lleihau amseroedd aros a (b) yn sicrhau bod y diffygion yn y byrddau iechyd yn dod yn ôl o dan reolaeth. Jane Hutt AC: Diolch, Andrew R.T. Davies.I ateb eich cwestiwn cyntaf, dim ond i egluro a diweddaru, dechreuodd y gwaith adeiladu ar ran 2 deuoli ffordd A465 Blaenau'r Cymoedd yn gynnar yn 2015.Fel y dywedwyd o'r blaen, mae natur heriol y cynllun wedi golygu bod y rhaglen gwblhau wedi ei heffeithio, ac o ystyried hyn—ac rwy'n siŵr y byddwch yn croesawu hyn—mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi gorchymyn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r rhaglen a’r gost ar gyfer y prosiect. Disgwylir i'r broses hon gael ei chwblhau yn fuan, ond mae e'n hapus i ysgrifennu at yr Aelodau i roi rhagor o wybodaeth am yr adolygiad a’r rhaglen gynhwysfawr honno.Rwy'n credu bod yn rhaid inni gofio, wrth gwrs, bod y deuoli hwn yn brosiect mor fawr a pharhaus, mae’n rhaid ei gyflawni mewn rhannau; mae'n cefnogi amcanion tasglu'r Cymoedd; mae'r ffordd yn cysylltu’r M4 yng Nghastell-nedd i'r Fenni a Henffordd ac mae'n darparu cysylltiadau rhwng gorllewin Cymru a chanolbarth Lloegr—hanfodol. Ond bydd yn ysgrifennu atoch chi gyda mwy o fanylion am ei raglen gynhwysfawr a'i adolygiad cost.Ar eich ail bwynt, atebais gwestiynau ar hyn yr wythnos diwethaf.Mewn gwirionedd, credaf mai cwestiwn gan Angela Burns oedd hwnnw, a chredaf ei bod hi'n bwysig ailadrodd y pwyntiau a wneuthum yr wythnos diwethaf o ran Betsi Cadwaladr i egluro'n iawn nad yw’n debygol o orwario gan £50 miliwn eleni.Mae'r bwrdd wedi nodi risg sylweddol na fydd yn gallu cyflawni ei ddiffyg o £26 miliwn a gynlluniwyd, ond mae yn defnyddio ei drefniadau llywodraethu yn briodol i fynd i'r afael â hyn.Mae'r bwrdd iechyd wedi cydnabod y risg, mae'n cwblhau cynllun adennill ariannol i sicrhau ei fod yn cyflawni’r diffyg o £26 miliwn, sy'n cyflwyno cyfanswm rheoledig, a bydd y camau hyn yn gwella eu rhagolygon yn sylweddol.Ond rwy'n credu hefyd, dim ond o ran materion sy'n ymwneud â threfniadau mesurau arbennig, ers mis Awst, mynegodd swyddogion bryderon am y perfformiad ariannol hyd yn hyn a'r effaith bosibl ar y diffyg a ragwelwyd.Maen nhw wedi ychwanegu cyfarfodydd uwchgyfeirio ychwanegol gyda swyddogion gweithredol y bwrdd iechyd ar berfformiad a chyllid.Comisiynwyd adolygiad llywodraethu ariannol annibynnol, a bydd hwnnw'n cwmpasu datblygu, mabwysiadu a pherfformiad cynllun ariannol eleni. Ac mae Ysgrifennydd y Cabinet, ynghyd â phrif weithredwr GIG Cymru, wedi cwrdd â chadeirydd a phrif weithredwr Betsi Cadwaladr.Felly, credaf fod hwnnw'n ymateb eithaf cadarn i'ch cwestiynau. Steffan Lewis AC: A gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi a thrafnidiaeth ar anallu ymddangosiadol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i wella cylchfan heb achosi anhrefn llwyr?Mae pobl oriau'n hwyr yn cyrraedd y gwaith, plant yn hwyr yn yr ysgol, ac mae tystiolaeth bod busnesau bellach yn cael eu heffeithio gan y gwaith o wella cylchfan Pwll-y-Pant.Bwriedir i'r gwaith barhau am hyd at flwyddyn, ac rwy’n ofni, os bydd yn parhau am hyd at flwyddyn ar ei ffurf bresennol, y bydd yn cael effaith economaidd niweidiol hirdymor ac na fydd tref Caerffili yn gallu ailgodi ar ei thraed am beth amser.Dyma un o'r ffyrdd prysuraf yn y wlad.A wnaiff y Llywodraeth ymyrryd er mwyn gwrthdroi’r llanast hwn os gwelwch yn dda? Jane Hutt AC: Wel, bydd Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n siŵr, trwy ei swyddogion, yn ymwybodol o'r anawsterau sy'n ymwneud ag adeiladu'r gylchfan hon.Ond wrth gwrs, mae'n debyg bod enghreifftiau ledled Cymru lle ceir tarfu o ganlyniad i fuddsoddi mewn seilwaith, a fydd, yn y pen draw, yn golygu gwelliant enfawr, rwy'n siŵr, o ran cysylltedd a mynediad, nid yn unig ar gyfer busnes ond i gymudwyr hefyd. Ond rydych chi wedi gwneud eich pwynt heddiw, Steffan Lewis, felly rydym ni’n cydnabod hynny. Hannah Blythyn AC: Arweinydd y tŷ, a gaf i achub ar y cyfle i ofyn am ddau ddatganiad heddiw?Y cyntaf yw diweddariad i'r lle hwn o ran Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru a’n sefyllfa ni o ran gweithredu'r Gorchymyn cyntaf.Llwyddais i, mewn bywyd blaenorol, i chwarae rhan wrth sicrhau ein bod ni'n sefydlu'r panel yma yng Nghymru i ddisodli'r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol ar gyfer Cymru a Lloegr a oedd wedi ei ddiddymu.Rwy'n ymwybodol bod Gorchymyn i fod i gael ei wneud ym mis Ebrill 2017 ac rydym yn dal i ddisgwyl hwnnw, felly rwy'n meddwl bod angen diweddariad arnom yn y lle hwn ynghylch y camau nesaf yn y broses ac a fyddai hynny, cyn y trafodaethau ffurfiol, mewn gwirionedd yn cynnwys cynnal trafodaethau cyflog arferol a thaliadau ôl-ddyddiedig hefyd.Yr ail ddatganiad yr hoffwn ofyn amdano heddiw yw diweddariad ar ein sefyllfa o ran sicrhau bargen twf gogledd Cymru.Rwy'n deall y bu trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.Felly, byddwn i'n gwerthfawrogi ac yn croesawu diweddariad ar hynny. Hefyd, mae Llywodraeth Cymru wedi bod mewn trafodaethau gydag arweinwyr yn y rhanbarth, a byddwn yn annog, wrth fwrw ymlaen, bod unrhyw drafodaeth yn cynnwys y rhanddeiliaid a'r arweinwyr busnes yn yr ardal i sicrhau ein bod yn cael bargen sy’n gweithio er lles gorau'r ardal. Jane Hutt AC: Diolch i Hannah Blythyn am y ddau gwestiwn yna.Mewn ymateb i'ch cwestiwn cyntaf ar y panel cynghori amaethyddol a gweithrediad Gorchymyn, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig wedi cyfeirio’r Gorchymyn drafft Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2017 yn ôl i’r Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru.Mae hynny'n unol ag adran 4(1)(b) o Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014.Mae hi'n aros am eu hymateb.Mae'r ymgynghoriad ar y Gorchymyn arfaethedig yn agored ar hyn o bryd.Mae i fod i gau ar 3 Tachwedd, a deallaf y bydd y panel yn trafod canlyniadau'r ymgynghoriad yn ei gyfarfod nesaf.O ran eich ail gwestiwn ar y fargen twf ar gyfer gogledd Cymru, rydym ni’n gweithio'n agos iawn â thîm cynnig twf gogledd Cymru ac yn darparu cymorth ac arweiniad, ond unwaith eto, mae'n bwysig bod partneriaid yn nodi pecyn realistig a chymesur o fesurau i gyfiawnhau datgloi cymorth ariannol Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. O ran ymgysylltiad Ysgrifennydd y Cabinet yn hyn o beth, rhoddwyd cefnogaeth anffurfiol i gysyniad strategaeth dwf ar gyfer gogledd Cymru, wedi'i integreiddio â macro gynllunio ar gyfer gogledd-orllewin Lloegr a chysylltedd ag economi ehangach y DU.Mae hyn yn amlwg yn bwysig yng nghyd-destun twf y sectorau ynni a gweithgynhyrchu uwch, sy'n cael eu blaenoriaethu gan Lywodraeth Cymru fel y ddau sector arweiniol ar gyfer y rhanbarth.Ond mae'r Gweinidog dros Bwerdy Gogledd Lloegr a thwf lleol, Swyddfa Cymru, yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol a thîm cynnig twf gogledd Cymru, gyda'n Hysgrifennydd Cabinet ni—mae’r cyfarfodydd hynny wedi digwydd. Mohammad Asghar (Oscar) AC: Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynghylch y problemau sy'n wynebu athrawon cyflenwi yng Nghymru? Yr wythnos diwethaf, siaradais ag etholwr yng Nghasnewydd a gododd bryderon bod cyflogi athrawon cyflenwi trwy asiantaethau wedi arwain at dâl is a thelerau ac amodau gwaeth yn y sector.Yn hytrach na chael £140 y dydd, maen nhw'n cael £95, oherwydd bod gweddill yr arian yn mynd i'r asiantaeth sy'n cyflenwi'r athro.Ac rwy’n siŵr nad dyna’r ffordd gywir o roi arian cyhoeddus—i gyfeiriad gwahanol, yn hytrach nag i'r system addysg.Hefyd, dywedodd fy etholwr wrthyf fod llawer o'i chydweithwyr yn ystyried gadael y proffesiwn, ac mae hi eisiau gwybod pam nad yw Cymru yn mabwysiadu system gofrestru ganolog fel y maen nhw’n ei wneud yn y cenhedloedd datganoledig eraill yn y Deyrnas Unedig.A gawn ni ddatganiad ar y mater pwysig hwn os gwelwch yn dda? Jane Hutt AC: Wel, Mohammad Asghar, byddwch chi, rwy'n siŵr, yn aros drwy gydol y prynhawn i glywed y datganiad ar recriwtio athrawon gan Ysgrifennydd y Cabinet. Jayne Bryant AC: Arweinydd y tŷ, hoffwn ofyn am ddatganiad ar y defnydd o rwyll pelfis yn GIG Cymru. Mae un o'm hetholwyr wedi cysylltu â mi ynglŷn â'i phrofiad torcalonus ar ôl ei llawdriniaeth i fewnblannu rhwyll pelfis.Dywedodd fy etholwr wrthyf fod y llawdriniaeth wedi effeithio ar ei theulu cyfan a’i bod yn teimlo bod hyn wedi dinistrio ei bywyd a hithau ond yn 46 mlwydd oed.Nid yw hi wedi gallu gadael y tŷ, mae’n methu â mynd i'r gwaith, ac o ganlyniad, mae hi ar hanner cyflog, gyda phryderon difrifol ynghylch ei dyfodol. Mae hi’n un enghraifft o filoedd o ferched eraill ar draws y DU sy'n wynebu'r un broblem ofidus.Rwy'n deall bod gan Lywodraeth Cymru grŵp gorchwyl a gorffen ar y mater hwn, ond byddwn yn croesawu datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd cyn gynted ag y bo modd, os gwelwch yn dda. Jane Hutt AC: Mae hwn yn fater pwysig sy'n effeithio ar etholwyr, gan gynnwys rhai o'm hetholwyr fy hun, a bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn gwneud datganiad ar y mater hwn. Janet Finch-Saunders AC: Arweinydd y tŷ, hoffwn alw am ddatganiad ar gaffael cyhoeddus.Yn ôl adroddiad diweddar Archwilydd Cyffredinol Cymru, er gwaethaf cefnogaeth eang i egwyddor Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, roedd llai na thraean o'r awdurdodau lleol yn fodlon ag ef, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, er gwaethaf y ffaith mai hi oedd y sefydliad cynnal.Dim ond £149 miliwn o amcangyfrif o uchafswm gwariant posibl o £1.1 biliwn a wariwyd drwy'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn 2015-16.Dim ond 13.5 y cant yw hynny.Rwy'n credu y byddwch chi'n cytuno â mi nad yw'r adroddiad mewn gwirionedd yn rhoi darlun rhy dda o Lywodraeth Cymru. O ran cyfanswm yr arbedion sydd i’w cynhyrchu gan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, fel y'i cyflwynwyd yn yr achos busnes cychwynnol—tua £98 miliwn dros bum mlynedd—nodwyd ei bod yn glir bod y rhain, a rhai amcangyfrifon dilynol eraill, wedi eu profi'n rhy uchelgeisiol. Felly, a fydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol bellach yn cyflwyno datganiad manylach ar sut y mae'n bwriadu i’r addasiad i’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a Gwerth Cymru fynd i'r afael â'r materion hyn? Jane Hutt AC: Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn mynd i'r afael â'r mater hwn a bydd yn diweddaru'r Aelodau yn unol â hynny. Jenny Rathbone AC: Yr wythnos hon, cawsom wybod bod Llundain bron wedi dyblu'r taliadau ar gyfer y cerbydau sy’n llygru fwyaf sy'n mynd i ganol Llundain, ac mae Rhydychen newydd gyhoeddi mai hi fydd y ddinas gyntaf yn y DU i wahardd ceir petrol a diesel o ganol y ddinas o 2030.Yn y cyfamser, mae Paris yn cael diwrnodau dim ceir yn rheolaidd ym mhrifddinas Ffrainc i fynd i'r afael â'r aer gwenwynig y maen nhw’n ei ddioddef.A wnaiff yr Ysgrifennydd dros yr amgylchedd neu’r Ysgrifennydd dros drafnidiaeth wneud datganiad ar ba ysgogiadau a chosbau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried i lanhau'r aer gwenwynig yn ein dinasoedd, sy'n ‘gyrru’ gormod o bobl i farwolaeth gynnar? Jane Hutt AC: Diolch i Jenny Rathbone am y cwestiwn yna.Rydym yn datblygu cynllun aer glân newydd i Gymru, sy’n cynnwys fframwaith parth aer glân, y byddwn yn ymgynghori arno.Bydd yr holl ddewisiadau'n cael eu hystyried, a bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud datganiad llawn i'r Cyfarfod Llawn ynghylch y rhaglen waith barhaus ar ansawdd yr aer cyn diwedd y flwyddyn.Ac mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio'n agos iawn gydag awdurdodau lleol i drafod heriau ansawdd yr aer sy'n benodol i'w hardaloedd nhw a sut y bydd cydymffurfio â chyfyngiadau'r UE ar gyfer nitrogen deuocsid yn cael ei gyflymu. Mark Isherwood AC: A gaf i ofyn am ddau ddatganiad?Yn gyntaf, deallaf fod y cydgysylltydd anhwylder ar y sbectrwm awtistig cenedlaethol—er bod yn well gennyf y term 'cyflwr'—; rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn dechrau defnyddio hwnnw—yn gadael ei swydd.A gaf i felly alw am ddatganiad?Mae hyn oherwydd bod ansicrwydd yn y gymuned ynghylch y bwriad o ran cael rhywun yn ei lle, neu sut y gallai hyn effeithio ar gyflwyno'r gwasanaeth awtistiaeth integredig cenedlaethol newydd.Yn ail, ac yn olaf, a gaf i alw am ddatganiad ar gaethwasiaeth a masnachu pobl trwy Gymru?Yr wythnos diwethaf, holais yr Ysgrifennydd dros gymunedau am fasnachu pobl trwy borthladd Caergybi, gan gyfeirio at ganfyddiadau adroddiad caethwasiaeth fodern proffil lleol troseddau difrifol a threfnedig Heddlu Gogledd Cymru.Yn ei ymateb, dywedodd mai ni yw'r unig ran o'r wlad—credaf mai’r DU yr oedd yn ei olygu—sydd â chydgysylltydd gwrth-fasnachu pobl, er bod gan y DU mewn gwirionedd gomisiynydd gwrth-gaethwasiaeth annibynnol ers 2015, a chollwyd cydgysylltydd gwrth-gaethwasiaeth gogledd Cymru ar ôl i'r cyllid tair blynedd ddod i ben, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru trwy asiantaethau statudol lleol.Dywedir wrthyf fod y llwybr masnachu o Rwmania i Ffrainc ac i Ddulyn, trwy borthladd Caergybi, yn broblem enfawr.Nid yw’r niferoedd ar y fferi yn gywir, ac mae enwau ffug yn cael eu rhoi.Mae'r sefyllfa'n gwaethygu, ond nid oes digon o ddioddefwyr, sy’n daer o fod eisiau cael eu canfod, yn cael eu canfod.Nid oes tŷ diogel, canolfan dderbyn na chyfleusterau yn y gogledd , ac fel y dywedais, fe wnaethom ni golli'r cydgysylltydd rhanbarthol.O gofio, dydd Sadwrn nesaf, bod sefydliad dielw o'r enw Haven of Light, gan weithio gyda Heddlu Gogledd Cymru, cyngor y sector gwirfoddol, grwpiau cymunedol a ffydd, yn cynnal digwyddiad mawr yn eglwys gadeiriol Llanelwy i godi ymwybyddiaeth ymhlith cymuned y gogledd am y problemau gwirioneddol o fasnachu a chamfanteisio, rwy'n gobeithio y gallwn gael ymateb mwy trylwyr gan Lywodraeth Cymru sy'n nodi pa gamau yr ydych yn eu cymryd yn unigol, a hefyd ar y cyd â Llywodraeth y DU ac asiantaethau eraill. Diolch. Jane Hutt AC: Wel, wrth gwrs, ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i hyn yr wythnos diwethaf, ac yn wir, gwneuthum innau hefyd yn y cwestiynau ar y datganiad busnes, o ran y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd.Mae ganddi'r cydgysylltydd gwrth-fasnachu pobl—y cyntaf yn y DU—ond mae'n gweithio'n agos iawn â Llywodraeth y DU, oherwydd, wrth gwrs, cyfrifoldeb y Swyddfa Gartref yw llawer o'r materion yr ydych yn eu codi.Mae hyn yn ymwneud â gweithio ar y cyd a grŵp arweinyddiaeth ar y cyd, yr ydym wrth gwrs yn ymwneud yn llawn ag ef, fel yr ydym gyda’r comisiynwyr heddlu a throseddu hefyd. Darren Millar AC: A gaf i godi pryder gyda'r Gweinidog a gofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion gwledig ar effaith incwm sŵau yng Nghymru o ganlyniad i dreth twristiaeth bosibl? Un o'r pethau a drafodwyd yn y Cynulliad Seneddol Prydain-Iwerddon diweddar oedd gwerth mawr sŵau ledled y Deyrnas Unedig, ac yng Ngweriniaeth Iwerddon, i'r economi leol.Ac wrth gwrs, maen nhw'n gwneud llawer iawn o waith o ran addysg a chadwraeth hefyd.Codwyd pryderon gan Dr Pullen, sef prif weithredwr y British and Irish Association of Zoos and Aquariums, ynglŷn ag effaith bosibl cynlluniau Llywodraeth Cymru i ystyried cyflwyno treth twristiaeth yma yng Nghymru.Roedd wedi achosi peth braw iddi, oherwydd, wrth gwrs, byddai'n golygu gostyngiadau sylweddol yn y ffioedd wrth giât sŵau pe byddai’n effeithio ar nifer yr ymwelwyr, a gallai hynny amharu ar eu cyfleoedd i addysgu a chynnal gweithgareddau cadwraeth.Felly, tybed a gawn ni ymateb gan Lywodraeth Cymru ar y pryderon y mae British and Irish Association of Zoos and Aquariums wedi eu codi, ac a fu unrhyw drafodaeth â sŵau.Fy nealltwriaeth i yw na fu unrhyw drafodaeth â sŵau yng Nghymru ynglŷn â hyn, gan gynnwys Sŵ Mynydd Cymru, sef, wrth gwrs, sŵ genedlaethol Cymru yn fy etholaeth i fy hun.Maen nhw’n bryderus iawn am effaith bosibl treth twristiaeth a hoffwn weld y Llywodraeth yn ymateb i'w pryderon. Jane Hutt AC: Rydych chi’n amlwg, mae’n glir, yn paratoi ar gyfer dadl yr wrthblaid yfory, mae'n ymddangos i mi.Ni chredaf fod llawer mwy—heblaw bod gwybodaeth ffug neu ddi-sail bosibl yn cael ei chyflwyno.Ond edrychwn ymlaen at gael eich clywed chi eto brynhawn yfory, rwy'n siŵr, Darren Millar. Suzy Davies AC: Arweinydd y tŷ, byddwn i'n ddiolchgar pe caf ailadrodd fy nghais o bedair wythnos yn ôl am ddatganiad ynglŷn â chyhoeddi rheoliadau ar gyfer safonau’r Gymraeg yn y sector iechyd.Fe wnaethoch chi ddweud yn eich ateb i mi, ar y pryd, y byddai rhywbeth yn y ddadl y diwrnod canlynol, ond rwy'n ofni nad oedd.Felly, byddwn i'n ddiolchgar iawn pe gallech chi efallai bwyso am i hynny gael ei gyflwyno, er mwyn rhoi rhyw fath o syniad o bryd y bydd yr amserlen yn cael ei chyhoeddi. Jane Hutt AC: Diolch i chi, Suzy Davies.Byddaf yn sicr yn holi ynghylch y cynnydd a'r amserlenni. Nick Ramsay AC: A gaf i gytuno â sylwadau cynharach Janet Finch-Saunders wrth gyfeirio at adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gaffael?Edrychaf ymlaen, gyda gweddill aelodau'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, at roi mwy o ystyriaeth i hynny.Mae'n amlwg yn fater pwysig iawn i'r Cynulliad ei ystyried.Yn ail, o fewn y bythefnos ddiwethaf, mae cais ar gyfer gwesty a sba newydd yn Nhrefynwy, ger porth Cymru, wedi'i wrthod ar ôl cael ei alw i mewn gan Lywodraeth Cymru.Cafodd y penderfyniad i gyflwyno'r cais hwnnw ei groesawu’n bendant gan y bobl yn nhref Trefynwy ac roedd manteision economaidd mawr posibl o gael y datblygiad hwnnw.Fe'i gwrthodwyd ar sail nodyn cyngor technegol 15.Tybed a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet ar weithrediad TAN 15 ledled Cymru, oherwydd gwn mai dim ond un o nifer yw’r datblygiad penodol hwn dros y misoedd a'r blynyddoedd diwethaf sydd wedi cael eu gwrthod fel hyn. Rwyf yn sicr yn cefnogi mesurau i warchod rhag llifogydd ledled Cymru, a llifogydd mewn datblygiadau newydd, ond mewn achos o hwb economaidd mawr fel hwn, rwy'n credu bod yna gwestiynau difrifol y mae angen eu hateb, a chredaf fod angen i Lywodraeth Cymru ystyried diwygio TAN 15 fel nad yw deddfwriaeth o’r fath yn effeithio'n negyddol ar economi Cymru. Jane Hutt AC: I ateb eich cwestiwn cyntaf, Nick Ramsay, wrth gwrs, rydym ni’n croesawu canfyddiadau adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru.Cododd Janet Finch-Saunders hyn yn gynharach, fel y dywedasoch chi.Rydym yn falch ei fod yn nodi'r arweinyddiaeth a ddangoswyd gennym wrth ddarparu cyfeiriad ar gaffael cyhoeddus a chefnogaeth i gyrff cyhoeddus yng Nghymru ar gaffael, ond rydym yn gweld hwn fel cyfle arall i adeiladu ar y cynnydd a gyflawnwyd, a dyna pam y cyhoeddodd yr Ysgrifennydd cyllid ei fwriad i ailbwysleisio'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a Gwerth Cymru o fewn Llywodraeth Cymru, gan ystyried, wrth gwrs, yr holl argymhellion yn yr adroddiad wrth inni fwrw ymlaen â'r gwaith mewn cydweithrediad â'r sector cyhoeddus.Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, rwy'n siŵr, yn nodi'r pwyntiau a wnaeth yr Aelod y prynhawn yma, ac mae cyfle bob amser i ofyn y cwestiwn hwnnw a gwneud y pwyntiau hynny iddi: amser cwestiynau ac yn briodol fel Aelod mewn pwyllgor. Diolch i arweinydd y tŷ. 3. 3. Datganiad: Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) Yr eitem nesaf, felly, yw’r datganiad gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru). Rwy’n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad, Rebecca Evans. Rebecca Evans AC: Roeddwn yn falch o gyflwyno Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddoe.Mae’r Bil yn cadarnhau ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i arwain ar iechyd y cyhoedd a gwneud popeth o fewn ein gallu i wella a diogelu iechyd pobl yng Nghymru.Nod y Bil yw mynd i’r afael â niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru.Mae hyn yn cynnwys lleihau nifer y bobl sy’n cael eu trin yn yr ysbyty bob blwyddyn o ganlyniad i yfed alcohol, a thorri ar y nifer fawr o farwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol. Nod y Bil hwn yw lleihau’r defnydd o alcohol ymysg pobl sy’n yfed lefelau peryglus a niweidiol.Mae effaith niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru yn hanes anodd ei ddarllen. Yn 2015-16 yn unig, roedd 54,000 o’r derbyniadau i ysbytai yng Nghymru i’w priodoli i alcohol. Mae derbyniadau i ysbytai oherwydd alcohol yn costio £120 miliwn y flwyddyn i’r GIG. Yn 2015, bu farw 463 o bobl oherwydd alcohol a gellid bod wedi atal pob un o’r marwolaethau hyn. Mae’r Bil hwn yn ymwneud â lleihau’r niweidiau hyn. Mae gennym amrywiaeth o gamau gweithredu eisoes i fynd i’r afael â niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru. Mae’r rhain yn cynnwys ymgyrchoedd iechyd y cyhoedd i hyrwyddo yfed synhwyrol a gwasanaethau triniaeth ar gyfer pobl sydd angen cymorth a chefnogaeth. Bydd y gwaith hwn yn parhau fel rhan o’n cynllun cyflawni ar gamddefnyddio sylweddau. Rydym wedi gwneud rhywfaint o gynnydd pwysig i leihau lefelau yfed gormodol a niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol yn y blynyddoedd diwethaf, ond mae angen gwneud mwy. Mae ein gallu i ymdrin â chael gafael ar alcohol a phris alcohol wedi bod yn gyfyngiad allweddol, yn enwedig o ran lleihau’r defnydd ymysg yfwyr peryglus a niweidiol. Rydym yn cydnabod bod camau i fynd i’r afael â’r alcohol rhad sydd ar gael yn fwlch allweddol yn ein strategaeth. Felly, rwy’n cyflwyno’r Bil hwn i gyflwyno isafbris am alcohol i fynd i’r afael â’r bwlch hwn ac yn rhan o’n dull ehangach a pharhaus o hyrwyddo perthynas iachach ag alcohol.Mae’r Bil hwn yn darparu isafbris am werthu a chyflenwi alcohol yng Nghymru ac mae’n ei gwneud yn drosedd i alcohol gael ei werthu neu ei gyflenwi o dan y pris hwnnw. Caiff yr isafbris am gyflenwi alcohol yng Nghymru ei gyfrifo trwy fformiwla, gan gymryd i ystyriaeth yr isafbris uned, cryfder canrannol yr alcohol a’i gyfaint. Bydd yr isafbris uned yn cael ei osod mewn rheoliadau. Ni fydd cyflwyno isafbris yn cynyddu pris pob diod alcoholig, dim ond y rhai a werthir dan y pris hwnnw. Bydd y Bil hefyd yn cyflwyno cyfres o droseddau a chosbau sy’n ymwneud â’r system gosod isafbris newydd ac mae’n cynnig rhoi pwerau a dyletswyddau newydd i awdurdodau lleol i’w gorfodi.Gwyddom fod pris alcohol yn bwysig. Mae pris yn dylanwadu’n gryf ar y galw am nwyddau a gwasanaethau, ac mae’r berthynas hon yn ymestyn i alcohol. Mae tystiolaeth o bob cwr o’r byd yn awgrymu y gallai cyflwyno isafbris gael effaith bwysig ar lefelau yfed peryglus a niweidiol. Credwn y bydd hyn yn cael effaith allweddol ar leihau’r defnydd o alcohol, niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol, gan gynnwys marwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol, ac ar nifer y bobl sy’n cael eu trin yn yr ysbyty. A gallai leihau’r costau sy’n gysylltiedig â’r niweidiau hynny.Roedd ymchwil gan Brifysgol Sheffield yn 2014 yn amcangyfrif y byddai isafbris uned o 50c, er enghraifft, yn werth £882 miliwn i economi Cymru dros 20 mlynedd, o ran y lleihad mewn salwch, trosedd ac absenoldeb yn y gweithle sy’n gysylltiedig ag alcohol. Rydym wedi comisiynu Prifysgol Sheffield i ddiweddaru’r dadansoddiad a wnaeth yn 2014 o effeithiau posibl polisïau isafbris uned. Rydym wedi gofyn iddynt fodelu effeithiau gwahanol isafbrisiau uned, yn amrywio o 35c i 70c, a bydd y dadansoddiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Bydd y dadansoddiad hwn a ffactorau eraill yn helpu i bennu isafbris uned alcohol ar gyfer Cymru. Mae tystiolaeth yn awgrymu mai effaith fach yn unig y byddai cyflwyno isafbris uned yn ei chael ar yfwyr cymedrol. Y bobl sy’n yfed lefelau peryglus a niweidiol o alcohol fyddai’n profi’r effeithiau mwyaf. Dyma’r bobl sydd fwyaf tebygol o yfed alcohol a fyddai’n cael ei effeithio gan isafbris uned. Y nhw hefyd yr union bobl y mae’r ddeddfwriaeth hon yn anelu at eu helpu.Rydym wedi ymgynghori’n helaeth ar yr angen am isafbris uned ar gyfer alcohol yng Nghymru.Roedd y cynnig yn rhan o Bapur Gwyn Llywodraeth y Cynulliad ar iechyd y cyhoedd yn 2014, a chyflwynwyd Bil drafft gennym ar gyfer ymgynghoriad yn 2015.Roedd dwy ran o dair o’r bobl a ymatebodd i’r ymgynghoriad Bil drafft yn cefnogi’r syniad o ddeddfu ar gyfer isafbris am alcohol yng Nghymru.Yn benodol, cafwyd cydnabyddiaeth eang ymhlith rhanddeiliaid y gallai cyflwyno isafbris uned wneud cyfraniad pwysig i leihau’r costau sy’n gysylltiedig ag yfed gormodol ar unigolion, gwasanaethau cyhoeddus, busnesau a chymunedau.Mae’r ffordd y mae gosod isafbris uned wedi’i dargedu’n benodol at gynyddu pris alcohol cryf a rhad yn golygu y gall gael effaith bwysig ar leihau’r defnydd peryglus a niweidiol ymhlith pobl ifanc. Bydd hefyd yn cyfrannu at fynd i’r afael â materion cysylltiedig, er enghraifft y cynnydd mewn yfed cyn mynd allan, lle caiff alcohol ei yfed yn y cartref cyn mynd allan i far, tafarn neu glwb nos.Mae prisio isafbris uned a’i effeithiolrwydd wrth leihau’r defnydd ymysg yfwyr peryglus a niweidiol wedi bod yn ganolog i’r ddadl ar alcohol mewn sawl gwlad o amgylch y byd. Ychydig iawn o wledydd sydd wedi cynnig y math hwn o ddeddfwriaeth, a gynlluniwyd yn benodol i dargedu alcohol cryf a rhad. Fel yn yr Alban, yma yng Nghymru rydym yn bwriadu defnyddio’r isafbris uned, cryfder alcohol a chyfaint yr alcohol i gyfrifo’r isafbris perthnasol. Ond yr hyn a wyddom yw, mewn gwledydd lle cyflwynwyd deddfwriaeth gyffelyb, y cafwyd gostyngiad yn y lefelau o yfed alcohol a gostyngiadau cysylltiedig mewn niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol. Yng Nghanada, er enghraifft, roedd cynnydd o 10 y cant yn isafbrisiau alcohol cyfartalog yn gysylltiedig â gostyngiad o 9 y cant mewn derbyniadau i’r ysbyty sy’n gysylltiedig ag alcohol.Yn y pen draw, bydd cynyddu pris alcohol trwy gyflwyno isafbris uned yn lleihau lefelau peryglus a niweidiol o yfed alcohol. Bydd yn gwella iechyd ac, yn y pen draw, bydd yn achub bywydau. Rydym yn dal i aros am ganlyniad yr apêl gan y Scotch Whisky Association mewn cysylltiad ag isafbris uned yn yr Alban. Ond, trwy gyflwyno’r ddeddfwriaeth hon yn awr yng Nghymru, mae gennym gyfle i wireddu potensial gosod isafbris uned a darparu manteision iechyd ac economaidd-gymdeithasol ehangach ledled Cymru.Bu llawer o alwadau— gan y rhan fwyaf o bleidiau gwleidyddol yn y Siambr hon a’r gymdeithas ddinesig—i Gymru ailddiffinio ei pherthynas ag alcohol. Mae’r ddeddfwriaeth hon yn gyfle pwysig inni wneud hynny. Edrychaf ymlaen at y broses graffu a fydd yn dilyn ac at ymgysylltiad adeiladol y nifer o sefydliadau sydd â diddordeb mewn gwneud y Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) hwn yn llwyddiant. Diolch. Angela Burns AC: Diolch, Gweinidog, am gyflwyno’ch datganiad heddiw a chyflwyno nodau ac amcanion y Bil hwn. Yn ddiamau, mae bod yn gaeth i alcohol yn ddrwg cymdeithasol difrifol, ac mae’n esgus i gam-drin eraill yn ogystal â chi eich hun. Mae’n rhywbeth yr wyf yn cytuno â chi yn llwyr arno, tuag at ddiwedd eich datganiad, pan ddywedasoch fod angen i Gymru ailddiffinio ei pherthynas ag alcohol. Felly, rydym yn cefnogi’r nodau a’r egwyddorion y tu ôl i’r Bil hwn.Fodd bynnag, mae gennyf nifer o bryderon ynghylch a fydd yn cyflawni ei amcan ai peidio. Cred y Ceidwadwyr Cymreig y dylid edrych ar bob agwedd ar hyn ac, fel y Gweinidog sy’n gyfrifol am gyflwyno’r Bil hwn, byddwn yn gobeithio ac yn ceisio eich cael i edrych ar fesurau eraill y dylid eu rhoi ar waith i gefnogi pobl sy’n gaeth i alcohol. Rydym ni i gyd yn gwybod bod dibyniaeth yn beth drwg unwaith yr ydych yn yng ngafael yr hyn yr ydych yn gaeth iddo. Mae’n eithriadol o anodd dod allan ohono. Nid ydym eisiau gweld pobl yn dechrau dwyn oherwydd na allant fforddio alcohol. Nid ydym am weld pobl yn mynd i lawr y llwybr caethiwus ac yn dechrau cymryd cyffuriau oherwydd eu bod yn rhatach na’r botel o wisgi neu’r hyn yr oeddent wedi arfer ag ef yn flaenorol. Felly, hoffwn eich gweld chi, Gweinidog, yn cyflwyno, wrth fwrw ymlaen â hyn, ystod o fesurau a fyddai’n cefnogi nid yn unig gaethiwed i alcohol ond yr holl ymddygiadau caethiwus eraill sy’n ymwneud ag alcoholiaeth, gan gynnwys cyd-ddibyniaeth. Mae hynny mewn gwirionedd yn rhywbeth pwysig iawn nad yw pobl yn aml yn ei ystyried yn rheswm pam mae pobl yn yfed, ac mae llawer ohono’n ymwneud â chyd-ddibyniaeth.Rydych yn sôn yn eich datganiad eich bod yn awyddus iawn i fynd i’r afael â’r holl faes o gael ein pobl ifanc i gael eu haddysgu’n well, ac i beidio â dod yn gaeth i alcohol. Nid yw’n broblem i bobl ifanc yn unig. Roeddwn yn siarad â mam ychydig ddyddiau yn ôl a ddywedodd fod ei merch ifanc 15 mlwydd oed wedi mynd i barti lle’r oedd y fam wedi dod â photeli o fodca i’r plant. Felly, mae’n ymwneud ag addysgu’r bobl ifanc yn yr ysgolion, mae’n ymwneud ag addysgu’r rhieni ac mae’n ymwneud ag addysgu’r gymdeithas. Hoffwn ddeall, Gweinidog, yr hyn y byddwch chi’n ei wneud a sut y byddwch chi’n cynnwys yr elfennau hynny yn yr amcan hwn sydd gennych ar gyfer iechyd y cyhoedd.Gwn mai dim ond digon o amser i ychydig o gwestiynau sydd gennym ar ddatganiad, ac mae llawer i’w ofyn am hwn, felly, cyn belled ag y mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn y cwestiwn, rydym yn awyddus iawn i chi allu datblygu hyn, a byddwn yn eich lobïo gyda chwestiynau a gwelliannau wrth i ni fynd drwy’r broses. Ond hoffwn wneud ychydig mwy o sylwadau, os caf, Llywydd.Rydych yn dweud bod swyddogion yn credu y bydd yfwyr risg uchel mwy cyfoethog hefyd yn ymateb i newidiadau yn y prisiau, ac roeddent yn mynnu nad treth oedd hyn ond offeryn i newid ymddygiad. Unwaith eto, mae hwn yn rhywbeth yr hoffwn wybod sut yr ydych yn mynd i’w gyflawni. Gall y rhai sy’n gyfoethog fforddio 50c arall, neu £1 arall, neu’r diodydd ansawdd uchel na fydd eich treth yn effeithio arnyn nhw. Byddant yn yfed Glenlivet, nid chwisgi archfarchnad, cyffredin, neu beth bynnag y gallai fod. Ni ddylai hon fod yn dreth; mae hyn yn ymwneud ag iechyd y cyhoedd. Rwyf am wneud yn siŵr, wrth i hyn ddigwydd, ein bod yn glir iawn, bod hwn yn fater iechyd y cyhoedd ac nid yn fater sy’n ymwneud ag amrywio trethi. Hoffwn hefyd gael sicrwydd gennych chi, Gweinidog, y byddai unrhyw arian a godir o’r isafbrisiau alcohol yn cael ei ddefnyddio i atal a chefnogi pobl.Yn olaf, Gweinidog, hoffwn ofyn eto pam eich bod yn bwrw ymlaen â hyn yn awr, a chael eglurder ar y sefyllfa honno. Rydym ni’n ymwybodol bod y Scotch Whisky Association wedi cyflwyno apêl, a byddwn wedi tybio y gellid fod wedi arbed amser cyhoeddus a’r pwrs cyhoeddus pe gallem weld pa mor llwyddiannus y byddai hynny cyn cyflwyno hyn, er mwyn gallu cynnal ymarfer o unrhyw wersi a ddysgwyd. Rwy’n credu bod yn rhaid inni fod yn ofalus iawn ar y mater hwn. Mae’r bwriad yn wych. Rydym yn llwyr gefnogi’r bwriad. Ond mae angen inni gydnabod hefyd bod y gwledydd sydd wedi llwyddo gyda hyn yn wledydd sydd â hanes a diwylliant o wahardd a newid diwylliannol. Nid yw Cymru yn wlad fel’ny eto. Felly, mae angen inni sicrhau y bydd yr hyn a wnawn ni yn cael ei adlewyrchu a’i weithredu’n llwyddiannus yn ein gwlad ni i helpu i glirio’r drwg niweidiol hwn, sef caethineb i alcohol. Rebecca Evans AC: Diolch yn fawr iawn, iawn am y cwestiynau hynny ac am amlinellu’r gefnogaeth i nodau ac egwyddorion y Bil. Rwy’n credu ein bod ni i gyd yn ystyried y Bil iechyd y cyhoedd blaenorol a swyddogaeth bwysig craffu ar hynny, ac yn sicr wrth gryfhau’r Bil ac wrth brofi’r Bil. A chredaf y gallwn edrych ymlaen at graffu yr un mor gadarn wrth i’r Bil hwn fynd drwy’r Cynulliad hefyd.O ran y cwestiwn ‘pam nawr?’, mae hwnnw’n gwestiwn ardderchog, ac mewn gwirionedd, mewn byd delfrydol ni fyddai hyn yn digwydd nawr. Ond yn anffodus mae’r pwerau sydd gennym yn y maes hwn yn bwerau a fydd yn cael eu tynnu oddi wrth Lywodraeth Cymru pan ddaw Deddf Cymru 2017 i rym ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf. Felly, mae’n rhaid i ni fod wedi clirio Cyfnod 1 yn y Cynulliad ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf. Felly, dyna pam yr ydym yn cyflwyno’r Bil ar adeg benodol hon. Byddai’n well gennyf fod wedi aros hyd nes i achos llys yr Alban ddod i benderfyniad, ac roeddwn wedi gobeithio y byddai hynny wedi digwydd cyn nawr. Rwy’n deall y bydd yn digwydd yn fuan, ac, yn amlwg, pan wneir y dyfarniad hwnnw, bydd yn rhaid inni ystyried goblygiadau hynny i’n Bil ni. Ond mae’n fater o gael ffenestr fach iawn i weithredu oddi mewn iddi ar hyn o bryd, ac rydym ni’n cymryd y ffenestr hon tra gallwn ni.Rwy’n cytuno’n llwyr â chi hefyd mai dim ond un rhan mewn jig-so llawer ehangach yw gosod isafbris uned o ran mynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau yn llawn a thrylwyr, ac yn benodol gefnogi pobl â dibyniaeth ar alcohol, ac atal pobl rhag mynd yn ddibynnol ar alcohol yn y lle cyntaf. Felly, rydym ni eisoes yn ceisio mynd i’r afael ag yfed alcohol ac yfed niweidiol a pheryglus mewn amrywiaeth o ffyrdd, yn benodol ledled Cymru, a nodwyd y rhain yn ein cynllun cyflawni ‘Gweithio Gyda’n Gilydd i Leihau Niwed’ ar gyfer camddefnyddio sylweddau 2016-18 , a gyhoeddwyd yn y Cynulliad ym mis Medi 2016. Mae enghreifftiau o rai o’r camau gweithredu yn cynnwys gweithio i fynd i’r afael ag yfed gormod o alcohol trwy addysg well, trwy atal, ac wrth gwrs drwy’r gwasanaethau triniaeth hynny i gefnogi’r yfwyr mwyaf niweidiol, yn ogystal â chymorth, wrth gwrs, i deuluoedd pobl sy’n camddefnyddio alcohol. Cydnabuwyd hynny fel un o brofiadau andwyol iawn plentyndod, sy’n rhywbeth y mae pob Gweinidog yn bryderus iawn y ei gylch.Cyfeiriasoch, yn eithaf priodol, at y mater o ganlyniadau anfwriadol, ac rwy’n cydnabod y pryderon yr ydych chi ac eraill wedi’u codi bod rhai grwpiau agored i niwed a allai barhau i brynu’r un faint o alcohol er gwaethaf y cynnydd yn y pris. Er enghraifft, o ran gwariant aelwydydd ar feysydd megis bwyd neu wresogi—gwneud y dewisiadau hynny hefyd. Felly, rwy’n ymwybodol iawn o’r broblem bosib honno ac rydym eisoes yn edrych gyda’n byrddau cynllunio ardal ar sut y gallwn sicrhau bod gwasanaethau lleol mor ymatebol â phosib i anghenion grwpiau bregus yn hyn o beth.Mae hefyd yn bwysig cydnabod, yn gyffredinol, ein bod yn disgwyl gweld lefelau llai o ddefnydd ymhlith yfwyr niweidiol a pheryglus, a gostyngiadau cysylltiedig mewn niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol. Fodd bynnag, mae’n bwysig sicrhau bod y gwasanaethau hynny yno, sef un o’r rhesymau pam rydym yn buddsoddi £50 miliwn yn ein hagenda camddefnyddio sylweddau i geisio sicrhau bod y gefnogaeth yno i bobl sydd ei hangen. Nodais hefyd rai o’r pryderon eraill a godwyd gan randdeiliaid ynghylch canlyniadau anfwriadol. Er enghraifft, gallai teuluoedd, fel y dywedais, gael eu gorfodi i wneud y dewisiadau anodd hynny hefyd, ond fel yr awgrymwyd gennych chi, ac mae eraill wedi awgrymu yma heddiw, gallai unigolion newid i ddefnyddio sylweddau eraill. Rydym o’r farn bod y risg y gallai defnyddwyr newid i gyffuriau anghyfreithlon neu sylweddau seicoweithredol newydd, er enghraifft, yn weddol isel. Mae sylwedd anghyfreithlon neu sylwedd sydd heb ei brofi yn amlwg yn ansoddol yn gam mawr ac yn wahanol iawn i’r defnydd o alcohol, ac ni fyddai’r rhan fwyaf o bobl yn ystyried hynny i fod yn rhywbeth amgen dilys. Fodd bynnag, mae’n rhywbeth yr ydym yn bwriadu ei archwilio ymhellach gyda phanel cynghori Llywodraeth Cymru ar gamddefnyddio sylweddau. Maent wedi dweud yn flaenorol nad ydynt yn credu bod hyn yn debygol o fod yn broblem. Fodd bynnag, mae’n rhywbeth yr ydym ni’n ymwybodol iawn ohono hefyd.O ran cyfeirio at hon fel treth, rydym yn glir iawn nad yw hon yn dreth. Mae’n bendant yn isafbris uned. Mae’r dystiolaeth yn awgrymu na fyddai trethi uwch yn unig mor effeithiol ag isafbris uned. Mewn gwirionedd, byddai’n rhaid ichi ostwng trethi’n fawr i sicrhau’r un math o fanteision i iechyd a’r GIG ag y byddem yn disgwyl eu gweld o isafbris uned yn unig. Dyna un o’r rhesymau pam mae’n bwysig edrych ar hyn fel isafbris uned. Mae’n ein galluogi i dargedu’r cynhyrchion alcohol rhad cryf iawn hynny yn hytrach na chymryd dull mwy cyffredinol a chodi pris pob diod alcohol hefyd.Nodyn diddorol i hyn yw bod modelu 2014 yn awgrymu bod y rhai sy’n yfed llawer yn prynu mwy o’u halcohol o dan isafbris uned 50c ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn bobl ar bob lefel incwm. Mae yfwyr risg uchel mewn tlodi yn prynu 42 y cant o’u halcohol o dan y 50c yr uned, o’i gymharu â 21 y cant ar gyfer yfwyr cymedrol mewn tlodi. Mae yfwyr risg uchel nad ydynt mewn tlodi yn prynu 28 y cant o unedau o dan 50c, o’i gymharu â 14 y cant o yfwyr cymedrol nad ydynt mewn tlodi. Felly, byddai’r isafbris uned yn newid pris oddeutu un rhan o bump o’r alcohol a brynir gan yfwyr cymedrol mewn tlodi, tra byddai cynnydd mewn treth yn effeithio ar bris yr holl ddiodydd a brynir gan bobl sy’n byw mewn cartrefi incwm is. Dai Lloyd AC: A gaf i ddiolch i’r Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol a chroesawu ei datganiad, a chroesawu’r cyfeiriad teithio cyffredinol? Yn Plaid, rydym yn cefnogi’r isafbris am uned o alcohol. Mae wedi bod yn ein maniffestos ar gyfer etholiadau 2011 a 2016 i’r Cynulliad hwn, ar ôl i ni ennill y pwerau ar ôl refferendwm 2011—yn amlwg pan oedd gennym rai pwerau i wneud y math hwn o beth. Mwy yn y munud am golli’r pwerau hynny, diwrnod ffŵl Ebrill nesaf. Beth bynnag, yn ôl at—. Rydym ni’n siarad yma am yr isafbris am alcohol, sydd, fel y dywedwch yn eich datganiad, yn fformiwla sy’n cyfuno cyfaint yr alcohol â chryfder yr alcohol hwnnw a’r isafbris uned. Hoffwn edrych yn fanylach ar y fformiwla honno a sut mae’r tri maes hynny yn cael eu pwysoli yn erbyn ei gilydd, rhag ofn y cewch ganlyniadau anfwriadol yno hefyd, oherwydd, yn anfwriadol, byddai pobl yn gallu fforddio prynu alcohol cryfach pe na bai pwysoli’r fformiwla honno, mewn rhai ffyrdd, fel y dylai fod. Weithiau, gall fod canlyniadau anfwriadol dim ond oherwydd nad yw’r fformiwla wedi’i phwysoli’n hollol gywir. Rwy’n adleisio rhai o’r canlyniadau anfwriadol eraill a grybwyllodd Angela Burns a Leanne Wood yn gynharach, o ran cyffuriau eraill, yn anghyfreithlon a chyfreithlon, yn cael eu defnyddio yn lle alcohol. Ond mae hynny oherwydd bod hwn yn fesur iechyd y cyhoedd, a byddem yn disgwyl bod gwasanaethau ychwanegol ar gyfer iechyd y cyhoedd, o ran gwasanaethau cyffuriau a chamddefnyddio sylweddau, ar gael ar ôl i’r ddeddfwriaeth hon ddod i rym.Ond, ar ddiwedd y dydd, mae’r ddeddfwriaeth hon yn ymwneud ag achub bywydau. Nid yw pob darn o ddeddfwriaeth yr ydym yn ei basio yn y lle hwn yn achub bywydau. Ond rydym wedi cael gwaharddiad ysmygu sy’n achub bywydau, ac mae gennym gyfraith optio allan o roi organau, sydd hefyd yn achub bywydau. Felly, gallwn ychwanegu hon at y rhestr honno—dim ond wrth ystyried, o safbwynt meddygol, y nifer uchel o ddamweiniau ac achosion brys a achosir gan alcohol. Ar rai nosweithiau yn yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys, mae dros 90 y cant o’r rhai sy’n mynd yno dan ddylanwad alcohol. Mae’n cael effaith enfawr ar iechyd, fel y gwyddom i gyd, nid yn unig yn achosi sirosis yr afu a methiant yr afu, ond mae amryw o ganserau hefyd, oherwydd effeithiau difäol yfed gwirodydd cryf—o ganser y geg a’r tafod, yr oesoffagws i lawr—yn ogystal â chyfraddau enfawr o drais domestig, ymosodiadau cyffredinol, problemau plismona enfawr a bywydau unigol sydd wedi’u difetha gan alcoholiaeth. Felly, mae angen mynd i’r afael â’n perthynas ag alcohol yn bendant, fel y dywedwch, ac nid yw hyn ond un elfen yn unig o hynny. Mae’r gwaith modelu y cyfeiriwyd ato eisoes gan Sheffield yn 2014 yn tystio y byddai 53 yn llai o farwolaethau yng Nghymru yn flynyddol, a 1,400 yn llai o dderbyniadau i’r ysbyty bob blwyddyn, a achosir gan alcohol, pe baem yn cyflwyno’r math hwn o ddeddfwriaeth.Rydym yn cefnogi hyn yn fawr. Hoffwn i gael rhyw syniad o’r manylion, fel y crybwyllais, a hefyd , beth am yr ymateb i unrhyw benderfyniad y Goruchaf Lys yn yr Alban? Pa gyngor cyfreithiol sydd gennym wrth gefn, p’un a yw’r Goruchaf Lys yn cymeradwyo’r hyn y mae Llywodraeth yr Alban yn ceisio’i wneud, er gwaethaf gwrthwynebiad cryf y diwydiant whisgi, neu p’un a yw’n cael ei wrthod? Mae angen inni wybod i ble’r ydym yn mynd, oherwydd ein bod ni wedi gwybod am y materion o ran mynd i’r afael â phroblemau alcohol, h.y. ei wneud yn ddrutach, ei wneud yn anos cael gafael arno, a mesurau yn erbyn yfed a gyrru ac yfed dan oed—a ddatgelwyd mewn astudiaeth gan Sefydliad Iechyd y Byd. Mor bell yn ôl â 2004, bu angen gweithredu ar hyn. Yn y wlad hon, yn y DU yn gyffredinol, rydym ni wedi gwybod am y materion hyn a’r angen i wneud rhywbeth amdanynt ar frys, felly, mae ‘Pam yr oedi?’ yn gwestiwn arall, yn enwedig yn awr pan ein bod yn wynebu colli’r pwerau i orfodi hyn yn sgil Deddf Cymru 2017.Yn amlwg, os bydd y mesur hwn, y Bil hwn, yn dod gerbron y pwyllgor iechyd, byddem yn ceisio galluogi’r Gweinidog i’w gael wedi ei basio cyn gynted â phosibl, o ystyried bod amser yn mynd yn ei flaen, cyn diwrnod ffŵl Ebrill 2018. Wel, os nad ydym ni wedi cyrraedd Cam 1 erbyn hynny, mae hyn yn methu. Dyna pam y pleidleisiodd y blaid hon yn erbyn deddfu Deddf Cymru 2017, yn unigryw yn y Siambr hon, oherwydd ein bod ni wedi colli pwerau a’n bod ni yn colli pwerau, ac mae hyn yn enghraifft dda iawn o’r golled honno o bwerau. Felly, rwy’n dymuno’n dda i’r Gweinidog.Mae llawer o waith manwl i’w wneud ar y gwahanol lefelau o brisio unedau alcohol—30c yr uned, 35c, 50c, 70c, neu hyd yn oed mwy—ond dywedwch y bydd gennych ganlyniadau’r gwaith hwnnw yn y flwyddyn newydd. Yn wir, fel y dywedais, mae amser yn mynd yn ei flaen—mae angen y dystiolaeth honno arnom yn awr, Gweinidog, oherwydd bod angen inni gael y ddeddfwriaeth hon wedi’i phasio. Fel arall, mae’r holl beth yn methu, a bydd llawer o eiriau dewr a ddywedwyd yma am y goblygiadau o ran iechyd a sut y byddwn ni’n achub bywydau yn golygu dim os caiff y ddeddfwriaeth ei cholli. Diolch yn fawr. Rebecca Evans AC: Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau hynny, a hefyd am ddangos cefnogaeth barhaol Plaid Cymru i’r ymagwedd benodol hon.O ran sut y bydd yr isafbris uned ei hun yn cael ei gyfrifo, mynegir hynny ar wyneb y Bil, a gwneir hynny trwy luosi’r isafbris uned a bennir gan ganran yr alcohol a thrwy gyfaint yr alcohol sy’n cael ei werthu. Nid yw’r gwir isafbris uned ar wyneb y Bil, mewn gwirionedd; bydd hynny’n cael ei bennu trwy reoliadau hefyd. Credwn fod hynny’n ymateb mwy priodol, gan ei fod yn caniatáu i ni edrych ar brofiadau mewn mannau eraill lle mae’r isafbris uned wedi’i bennu ond nid yw wedi caniatáu'r math hwnnw o hyblygrwydd y byddai ei angen, efallai, i newid mewn ymateb i’r newid yn amgylchiadau yr economi hefyd. Rwyf i mor awyddus ag unrhyw un i gael canlyniadau’r gwaith ailfodelu isafbrisiau uned newydd a wnaed gan Brifysgol Sheffield.Byddwn i wedi hoffi cyflwyno hyn yn gynt, ond, mewn gwirionedd, roedd hyn yn rhywbeth a oedd wedi’i basio—roedd y dull hwn wedi’i basio —gan Senedd yr Alban yn ôl yn 2012. Felly, y mae wedi treulio’r pum mlynedd diwethaf yn mynd trwy wahanol lysoedd. Yn amlwg, mewn byd delfrydol, byddai gennym ganlyniad dyfarniad yr Alban, sydd bellach yn eistedd gyda’r Goruchaf Lys, er mwyn penderfynu ar yr ymateb priodol. Fodd bynnag, mae’r amgylchiadau yn golygu bod angen inni gymryd y camau hyn yn awr.O ran yr hyn a fydd yn digwydd os gwrthodir yr achos yn y Goruchaf Lys, rwy’n credu y bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried, ar y cyd â’n cyfreithwyr, y sail dros ei wrthod ac ystyried beth fyddai ein hymagwedd wrth symud ymlaen o hynny.Ond, yn sicr, gwnaethoch chi amlinellu’r rhesymau amlwg pam ei bod yn bwysig ein bod yn mynd ati yn y modd penodol hwn i ymdrin â rhai o’r lefelau yfed niweidiol a pheryglus sydd gennym yng Nghymru. Er ein bod ni wedi gwneud cynnydd gwirioneddol, yn fy marn i, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, trwy addysg, trwy ddulliau ataliol ac yn y blaen, mae’r lefelau yn parhau i fod yn rhy uchel. Yn ôl data’r arolwg cenedlaethol, mae un o bob pum oedolyn yn yfed uwchlaw’r canllawiau wythnosol newydd, ar hyn o bryd, ac mae bron i draean yn adrodd eu bod wedi yfed uwchlaw’r canllawiau dyddiol blaenorol o leiaf unwaith yn ystod yr wythnos flaenorol. Felly, er ein bod yn gwneud cynnydd, fel y dywedais yn fy natganiad, yn 2015, y flwyddyn y mae gennym y ffigurau diweddaraf ar ei chyfer, roedd 483 o farwolaethau yn gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru. Yn amlwg, mae’r holl farwolaethau hyn yn drasig. Mae modd osgoi pob un, ac maent i gyd yn gadael teulu, ffrindiau ac anwyliaid eraill ar eu holau. Felly, mae hyn yn dangos bod gwneud rhagor o gynnydd yn fater o frys hefyd.Fel yr ydych chi wedi ei amlinellu yn ddigon iawn hefyd, nid yw dim ond yn fater o farwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol. Mae afiechydon sy’n gysylltiedig ag alcohol yn bryder gwirioneddol ac yn parhau yn ystyfnig o uchel yng Nghymru. I roi un enghraifft yn unig, yn 2015—eto, y ffigurau diweddaraf—bu farw 807 o bobl o glefyd yr afu yng Nghymru, ac mae hynny’n gynnydd o 131 yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Hefyd, mae dros draean o’r marwolaethau hyn o glefyd yr afu yng Nghymru yn achosion sy’n gysylltiedig ag alcohol.Gwnaethoch chi gyfeirio at bwysigrwydd y modelu, a bod y gwaith modelu hwnnw yn amcangyfrif mai bach iawn fydd effaith isafbrisiau uned ar yfwyr cymedrol. Dangosodd ymchwil grŵp ymchwil alcohol Sheffield fod yfwyr peryglus a niweidiol, at ei gilydd yn ffurfio 26 y cant o’r boblogaeth yfed, ond eu bod, mewn gwirionedd, yn yfed 72 y cant o’r holl alcohol. Ar ben hynny, bydd y newidiadau i ddefnydd yn amrywio ar draws y boblogaeth, ond ar sail isafbris uned o 50c, amcangyfrifwyd yn y dadansoddiad y bydd yfwyr risg uchel yn yfed 293 yn llai o unedau y flwyddyn, gan wario £32 yn fwy y flwyddyn, ond bydd yfwyr cymedrol dim ond yn yfed chwe uned y flwyddyn yn llai, ac yn gwario £2 yn fwy y flwyddyn. Neil Hamilton AC: Wel, yn wahanol i siaradwyr blaenorol i’r datganiad hwn, fel y bydd y Gweinidog wedi’i ragweld o fy nghwestiwn i’r Prif Weinidog yn gynharach, ni fydd fy mhlaid yn cefnogi’r mesur hwn. Nid yw hynny’n golygu nad ydym ni’n cefnogi’r nod, sef lleihau’r problemau sy’n deillio o yfed yn ormodol. Ond nid ydym ni o’r farn bod y mesur hwn yn debygol o gyflawni hynny, a hyd yn oed i’r graddau y mae yn gwneud hynny, effaith gwneud hynny fydd gorfodi costau annerbyniol ar y mwyafrif llethol o bobl sy’n yfed, fel fi, nad ydynt yn cael eu hystyried yn yfwyr â phroblem. Wel, efallai fod eraill yn fy ystyried i’n broblem, ond byddai hynny am resymau gwahanol, nid diod.A wnaiff hi gadarnhau’r ffigurau a ddyfynnir ar wefan y BBC ynghylch effaith y mesur hwn—ei fod, yn ôl fformiwla 50c, yn debygol o gynyddu pris can nodweddiadol o seidr i £1, potel o win i o leiaf £4.69, a litr o fodca nodweddiadol i fwy nag £20? Oherwydd, yn fy marn i, mae’n hollbwysig bod y cyhoedd yn sylweddoli yn awr, cyn i ni ddechrau trafod y mesur hwn yn iawn hyd yn oed, pa effaith debygol y mae’n debygol o’i chael. Mae’r Gweinidog yn dweud ei fod wedi’i anelu at yfwyr â phroblem, nid at y boblogaeth gyffredinol, ond dyma’r bobl y mae’r isafbris am alcohol yn lleiaf tebygol o’u heffeithio, nid y bobl sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio. Rydym ni’n gwybod o ymchwil a wnaethpwyd bod y rhai a alwn yn yfwyr â phroblem yn sensitif o ran prisiau rhwng brandiau, felly os byddwch chi’n cynyddu pris un, byddan nhw’n newid i un arall, ond nid oes unrhyw dystiolaeth wirioneddol o gwbl dros ddangos y byddan nhw’n lleihau eu defnydd o alcohol yn gyffredinol, a llai fyth i ddod yn llwyrymwrthodwyr. Mae’r galw am elastigedd pris i yfwr â phroblem wirioneddol, bron yn ôl diffiniad yn sero. Ni fydd yn cael unrhyw effaith ar faint y mae’n yfed. Un o’r materion sy’n bwysig, wrth gwrs, yw goblygiadau yfed gormodol o ran trefn gyhoeddus, yn enwedig yng nghanol dinasoedd. Mae pob un ohonom yn gwybod am broblemau’r parthau rhyfel yng nghanol dinasoedd ar nosweithiau Gwener a Sadwrn. Felly, yr hyn sy’n bwysig, yn fwy nag yfed alcohol yn gyffredinol—gallwch beidio ag yfed am bum diwrnod yr wythnos a goryfed mewn pyliau ar y penwythnos. Gallwch chi gael diod ar ôl gwaith a sgwrsio’n hamddenol ac yna mynd adref am bum niwrnod yr wythnos ac wedyn penderfynu meddwi’n gaib ar y penwythnos. Nid yw’r mesur hwn yn debygol o gael unrhyw effaith, yn fy marn i, ar y rhai sy’n goryfed mewn pyliau, sydd yno at y diben penodol hwnnw. Maen nhw eisiau meddwi’n gaib, ac nid yw’r gwahaniaeth o ychydig bunnoedd yn debygol iawn o wneud unrhyw wahaniaeth i’w hymddygiad cymdeithasol.Mae’r Gweinidog wedi sôn am dystiolaeth ryngwladol o’r honiadau y mae wedi’u gwneud. Nid wyf i mewn gwirionedd yn ymwybodol o unrhyw dystiolaeth ryngwladol ac academaidd o’r broblem benodol hon o effaith isafbrisiau ar yfwyr â phroblem. Mae’n bwysig iawn peidio â gwneud camsyniad rhesymegol post hoc ergo propter hoc ac edrych ar yr ystadegau iechyd ar yr un llaw ac yna eu cymhwyso i fesurau deddfwriaethol a allai fod wedi digwydd fel pe na byddai unrhyw ffactorau eraill a allai fod wedi dylanwadu arnynt. Gwyddom, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, fod y problemau a grëwyd gan alcohol wedi gostwng yn sylweddol. Mae hyn yn sicr yn wir yn yr Alban. Ni all neb brofi—ac yn wir, rwy’n credu nad yw hyd yn oed yn rhesymegol—mai’r ddeddfwriaeth isafbris yr hoffai Llywodraeth yr Alban ei gweld a fu’n gyfrifol am hynny.O ran enghraifft Canada, a grybwyllir yn benodol yn y datganiad hwn, mae Canada yn farchnad wahanol iawn, iawn i Brydain gan fod yr holl wirodydd, bron, a gaiff eu gwerthu yng Nghanada yn cael eu rheoli gan y wladwriaeth neu eu rheoleiddio gan y wladwriaeth mewn modd nad ydyw yn y wlad hon, yn sicr. Nid oes ganddynt system isafbris fel yr un sy’n cael ei chynnig beth bynnag. Mae ganddynt system brisiau cyfeirio sy’n wahanol i wahanol ddiodydd, ac yn wahanol mewn gwahanol daleithiau yng Nghanada. Felly, mae’n anodd iawn, iawn o dystiolaeth Canada, i’r graddau y mae’n ddiamheuol, tynnu unrhyw gasgliadau ar gyfer y math o ddeddfwriaeth sydd bellach yn cael ei chynnig yma yng Nghymru.Mae agwedd arall nad oes neb arall wedi’i chrybwyll hyd yn hyn y prynhawn yma: mae gan Gymru ffin hir ac mae llawer o bobl yn byw yn eithaf agos ati. Yn arbennig yn y gogledd-ddwyrain, mae Caer a Lerpwl ar garreg y drws, pa effaith y bydd hyn yn ei chael ar werthwyr alcohol mewn ardaloedd fel hyn? Byddai’n hawdd iawn, yn enwedig yn awr pan allwn archebu ar-lein, archebu, o Sainsbury’s dyweder ar draws y ffin yn Lloegr a’i threfnu ei ddanfon yng Nghymru. Ni fydd y ddeddfwriaeth isafbrisiau a gynigir yma yn berthnasol i hynny.Felly, am amryw o resymau, y byddwn yn eu nodi’n fanylach pan gaiff y Bil hwn ei drafod maes o law, mae diffygion yn y rhesymeg y tu ôl iddo sy’n tanseilio ei union ddiben. Yr hyn y dylem ni fod yn ei ystyried yw sut i gymryd camau i fynd i’r afael ag effeithiau anffafriol yfed gormod o alcohol ar gymdeithas, ac yn wir ar unigolion, ond peidio â chosbi’r mwyafrif i geisio a methu â helpu’r lleiafrif. Rebecca Evans AC: Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau hynny ac rwy’n edrych ymlaen at drafod a dadlau cadarn parhaus wrth i’r Bil fynd rhagddi i’r camau craffu, ac rwy’n siŵr y byddwn yn sicr yn cael trafodaeth gref o ran y dystiolaeth sy’n sail i’r cynigion yr ydym yn eu gwneud.Credaf ei bod yn deg dweud ei fod yn ddull newydd, ac rwy’n credu y byddem ni’n dau yn cydnabod hynny. Mae gennym dystiolaeth, pan fo pris alcohol wedi cynyddu a bod y cynnydd hwnnw wedi’i drosglwyddo i unigolion, yna mae’r defnydd yn lleihau ac mae niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol yn gostwng ymhellach. Dyna’r dystiolaeth sydd gennym ac rwy’n credu bod honno’n dystiolaeth eithaf cymhellol.Fodd bynnag, fel y dywedais, rydym yn cydnabod bod hwn yn ddull eithaf radical a newydd, felly rydym wedi ymrwymo i gyhoeddi adroddiad, ar ôl cyfnod o bum mlynedd, ar weithrediad ac effaith y Ddeddf yn ystod y cyfnod hwnnw. A, byddwn yn comisiynu gwerthusiad ac adolygiad llawn o effeithiau gosod isafbris uned yng Nghymru, gan fonitro amrywiaeth eang o ddangosyddion lle byddem yn gobeithio gweld newidiadau, megis nifer y derbyniadau i’r ysbyty o ganlyniad i gamddefnyddio alcohol, marwolaethau o alcohol, gostyngiadau hirdymor mewn sirosis, ac eraill o’r materion iechyd mesuradwy y gellir eu priodoli i alcohol.Ond, rydym ni wedi cynnwys cymal machlud yn y ddeddfwriaeth hefyd, oherwydd ein bod yn awyddus i sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn cyflawni’r hyn yr ydym ni’n dymuno iddi ei gyflawni. Fel y gwyddom, pasiodd Llywodraeth yr Alban ei Deddf yn 2012, ond nid ydynt wedi gallu dod â hi i rym. Felly, rydych chi’n iawn i ddweud nad oes unrhyw wlad arall yn y DU wedi gweithredu isafbris uned am alcohol. Ar sail yr hyn y mae gwledydd eraill yn ei ddweud wrthym, rydym yn hyderus y bydd yn sicrhau enillion iechyd sylweddol, ond, fel y dywedais, mae angen i ni fod yn hyderus bod y ddeddfwriaeth yn gweithio, felly mae’r cymal machlud wedi’i osod yn y Bil.Gwnaethoch chi ofyn i mi gadarnhau’r prisiau alcohol a ddyfynnir ar wefan y BBC pe byddai’r isafbris uned yn cael ei osod ar 50c, ac wrth gwrs bydd yn cael ei osod trwy reoliadau a fydd yn dod gerbron y Cynulliad maes o law, pe byddai’r Bil yn pasio trwy’r Cynulliad. Byddai potel o win ar £4.49 yn cynnwys y rhan orau o naw uned, felly, ie, byddai hynny’n gywir. Byddai peint o lager, er enghraifft, yn cynnwys dwy uned, felly, unwaith eto, 50c wedi’i luosi â dau, felly byddem yn cael £1 am hynny. Ac mae’r botel o wirod a ddyfynnir ar y wefan yn botel litr mewn gwirionedd, felly byddai honno’n gwerthu am £20, ond rwy’n credu bod y rhan fwyaf o bobl yn tueddu i brynu gwirodydd mewn poteli llai na photeli litr.Mae’r materion trawsffiniol yr ydych chi’n eu disgrifio yn rhai yr ydym yn ymwybodol iawn ohonynt hefyd. Rydym yn gwybod y gallai cyfundrefnau gwahanol yng Nghymru a Lloegr effeithio ar ymddygiad defnyddwyr, ond byddai hynny’n dibynnu yn llwyr ar barodrwydd pobl a’u gallu i deithio, ynghyd â, mewn gwirionedd, y gwahaniaeth mewn pris o’i gymharu â chost y cludiant y byddai hyn yn ei achosi hefyd. Mae siopa trawsffiniol eisoes yn bodoli, fel y gwyddom, ond rydym ni’n credu y bydd effaith cyflwyno isafbris uned yn fach iawn, ac mae hyn oherwydd, yn achos y rhan fwyaf o boblogaeth Cymru, byddai prynu yn Lloegr yn golygu cost o ran amser a theithio ac mae’r gost yn debygol o fod yn fwy nag unrhyw gynilion ar bris alcohol. Yn wir, mae pobl sy’n yfed alcohol ar lefelau niweidiol a pheryglus yn tueddu i brynu alcohol i’w yfed ar unwaith, felly byddai hynny’n amlwg yn lleihau’r cymhelliant i deithio hefyd.Mae’r Prif Weinidog yn glir mai darn o ddeddfwriaeth iechyd y cyhoedd yw hwn yn bennaf. Fodd bynnag, mae effeithiau posibl mewn mannau eraill, ac rydym yn rhagweld y bydd yn effeithio ar lefelau troseddu. Er enghraifft, amcangyfrifwyd y byddai isafbris uned o 50c yn arwain at ostyngiad o 4.7 y cant mewn troseddau treisgar, gostyngiad o 4.6 y cant mewn difrod troseddol, a gostyngiad o 4.6 y cant mewn lladrata, bwrgleriaeth a dwyn hefyd. Felly, mae’r buddion y tu hwnt i’r manteision corfforol yn unig.Ac i ddychwelyd at y pwynt cyntaf y gwnaethoch chi, sef yr un am bobl sy’n byw mewn tlodi a phobl ar incwm isel y mae’r ddeddfwriaeth hon yn effeithio arnynt: mae pobl sy’n byw mewn tlodi yn llawer mwy tebygol o ymatal rhag unrhyw alcohol o gwbl ac yn llawer mwy tebygol o fod yn yfed alcohol ar lefelau isel. Mae’r ymchwil yn awgrymu, i bobl sy’n yfwyr niweidiol a pheryglus, bod pobl sydd ar incwm isel neu sy’n byw mewn ardaloedd o amddifadedd yn fwy tebygol o ddioddef salwch hirdymor o ganlyniad i yfed gormod o alcohol, felly gall isafbris uned, o bosibl, leihau lefelau yfed niweidiol a pheryglus yn y cymunedau hyn, sy’n golygu y bydd y perygl o niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol yn lleihau hefyd. Ystadegyn llwm iawn a ddaeth i law wrth baratoi ar gyfer y Bil hwn oedd bod cyfraddau marwolaethau y gellir eu priodoli i alcohol yn y cymunedau o amddifadedd mwyaf ar gyfer dynion dair gwaith yn uwch nag yn yr ardaloedd o amddifadedd lleiaf, ac mae hynny, i mi, yn dweud bod y ddeddfwriaeth hon yn rhoi cyfle inni roi sylw i fater cryf iawn o anghydraddoldeb iechyd. Nid wyf i’n credu ei bod yn iawn i ni dderbyn canlyniadau iechyd gwaeth i bobl sy’n byw yn ein cymunedau tlotaf. John Griffiths AC: Rwy’n cefnogi’r Bil yn fawr iawn oherwydd, yn fy marn i, yr amrediad sylweddol o niwed y mae camddefnyddio alcohol a phroblemau yfed yn gyfrifol amdanynt yng Nghymru: iechyd; diwrnodau gwaith a gollir, felly'r effaith economaidd; ac, yn wir, y math o gymdeithas yr ydym ni ac agweddau diwylliannol hynny. Rwy’n derbyn yn llwyr yr hyn y mae’r Gweinidog newydd ei ddweud ei fod yn fater anghydraddoldeb iechyd hefyd. Gwyddom fod bwlch mawr mewn disgwyliad oes a disgwyliad oes iach rhwng ein cymunedau mwyaf cyfoethog a’n cymunedau tlotaf, ac mae’r effeithiau ar iechyd yn sgil camddefnyddio alcohol ac, yn wir, ysmygu yn rhan sylweddol o hynny. Rydym ni wedi cymryd camau ar ysmygu, ac rydym ni’n parhau i wneud hynny. Mae angen i ni gymryd camau pellach, yn fy marn i, o ran problemau yfed hefyd.Rwy’n credu ein bod ni i gyd yn gyfarwydd â rhai o’r problemau sy’n ymwneud â goryfed mewn pyliau, er enghraifft. Rwyf wedi clywed llawer o ymwelwyr i Gymru yn sylwi ar yr hyn y maen nhw’n yn ei weld fel golygfa arswydus yn ein dinasoedd a chanol trefi ar nosweithiau Gwener a Sadwrn, er enghraifft, gyda’r goryfed sy’n digwydd. Rwy’n credu y gallai’r ddeddfwriaeth hon gael effaith gadarnhaol ar y broblem honno, oherwydd credaf, unwaith eto, y dylem i gyd fod yn gyfarwydd â’r hyn a elwir yn yfed cyn mynd allan, lle mae llawer o brynu alcohol cryf a rhad o archfarchnadoedd, o siopau cornel, a ddefnyddir wedyn cyn mynd allan i dafarndai a chlybiau. Felly, rwy’n credu y gallem ni gael effaith gadarnhaol iawn ar rai o’r problemau ymddygiad gwrthgymdeithasol hynny o’r mesur hwn.Ac, wrth gwrs, mae’n cael ei gefnogi’n gryf gan y rhai sydd â phrofiad ac arbenigedd o ddarparu gwasanaethau yn ymwneud â chamddefnyddio alcohol.Darparwyd briff gan Alcohol Concern Cymru, er enghraifft, mewn ymateb i’r datganiad hwn heddiw, a oedd yn gefnogol iawn i’r ddeddfwriaeth ac yn nodi, er enghraifft, eu bod wedi gwneud rhywfaint o siopa yn ddiweddar a chanfod, mewn siopau cornel ac archfarchnadoedd, er enghraifft, 3 litr o seidr cryf ar werth am £3.99, pris uned o 18c; 70 cl o win cyfnerthedig am £2.99, pris uned o 27c; a 70 cl o fodca a gin ar werth am £10, pris uned o 38c.Dyna’r mathau o gynhyrchion sy’n cael eu prynu ac yna mae yfed cyn mynd allan yn dilyn.Mae Kaleidoscope, er enghraifft, yn fy etholaeth i, sefydliad sy’n darparu gwasanaethau gwerthfawr iawn i’r rheiny sydd â phroblemau camddefnyddio alcohol, unwaith eto yn cefnogi’r ddeddfwriaeth hon yn gryf.Maen nhw’n dweud bod llawer iawn o broblemau yn ymwneud â thrais domestig, damweiniau gyrru ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn dirwyn o alcohol cryf a rhad yn eu profiad nhw.Rwy’n credu bod cefnogaeth gan Alcohol Concern Cymru a Kaleidoscope yn arwyddocaol iawn o gefnogaeth ehangach gan yr asiantaethau hynny sydd â’r dasg o ymdrin â’r problemau sy’n codi o werthu alcohol cryf a rhad.Hefyd, rwy’n credu ei bod yn eithaf diddorol bod Public Health England yn cefnogi isafbris uned, ac rwy’n credu ei fod yn drueni mawr nad yw Llywodraeth y DU yn rhoi mwy o sylw i beth mae Public Health England eisiau ei weld a’r dystiolaeth y mae’n ei darparu.Felly, yn fyr, Llywydd, rwy’n cefnogi’r ddeddfwriaeth hon yn gryf. Rwy’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru a’r Gweinidog yn ei dwyn ymlaen, ac edrychaf ymlaen at ei hynt lwyddiannus drwy’r Cynulliad a’r buddion—iechyd, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol—y bydd yn eu cyflwyno. Rebecca Evans AC: Diolch yn fawr iawn am y sylwadau hynny ac am ein hatgoffa ar ddechrau eich cyfraniad am bwysigrwydd y ddeddfwriaeth hon o ran mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru, a hefyd rhai o’r manteision iechyd y byddem yn disgwyl eu gweld o’r ddeddfwriaeth, yn arbennig achub o leiaf 50 o fywydau neu fwy y flwyddyn o ganlyniad i’r ddeddfwriaeth a 1,400 yn llai o dderbyniadau i’r ysbyty yng Nghymru o ganlyniad i alcohol hefyd.Cyfeiriasoch at oryfed mewn pyliau, a chredaf ei bod yn bwysig gweld y ddeddfwriaeth hon o fewn cyd-destun ehangach ein gwaith ar economi’r nos.Yn ddiweddar, es i i uned yn Abertawe i lansio ein fframwaith economi’r nos, ac mae hynny’n ymwneud â phob un o’r partneriaid sy’n rhan o economi’r nos yn gweithio law yn llaw i gefnogi pobl ac i sicrhau diogelwch pobl a sicrhau lefelau yfed diogel ac ati. Rwy’n credu y gall y darn hwn o ddeddfwriaeth ein helpu i wneud hynny, yn rhannol oherwydd ei fod hefyd yn cynnwys camau penodol i fynd i’r afael â mentrau hyrwyddo diodydd hefyd.Gwyddom y gall hyn fod yn broblem arbennig yn economi’r nos.Mae hefyd yn mynd i’r afael â chynigion arbennig yn ymwneud ag aml brynu alcohol ac ynglŷn â chyflenwi alcohol gyda nwyddau a gwasanaethau, gan gynnwys cynigion prynu un a chael un am ddim ac ati.Mae hefyd yn nodi sut y dylid cyfrifo’r isafbris perthnasol na ellir gwerthu alcohol oddi tano lle mae’r cyflenwad alcohol yn rhan o gynnig arbennig, er enghraifft, cael pryd o fwyd am hyn a hyn ac ati.Felly, mae cyfleoedd, yn fy marn i, o fewn y ddeddfwriaeth i sicrhau ein bod yn dal yr holl ffyrdd gwahanol hyn lle mae potensial i werthu alcohol o dan yr isafbris uned. Rhun ap Iorwerth AC: Mae ychydig o bwyntiau gennyf i. Mi wnaf i gyfeirio at yr hyn glywsom ni gan Dai Lloyd, wrth gwrs, ynglŷn ag amseru cyflwyno hyn rŵan. Y ffaith ydy na fyddai hyn yn gallu cael ei wneud ar ôl i’r newidiadau ddod i rym dan y Ddeddf Cymru newydd, sy’n codi’r cwestiwn pam bod pleidiau eraill yn y lle yma wedi pleidleisio dros y Ddeddf honno. Mae Plaid Cymru, mewn sawl maniffesto, wedi cynnwys cyfeiriad tuag at gyflwyno trefn o’r fath yma, felly mae’n cefnogaeth ni yno.Rydw i hefyd yn ymwybodol o’r pryderon sydd yna, ac mi ddylem ni i gyd fod yn sensitif i’r pryderon yna y gallai hwn, o beidio â’i gael o’n iawn, o bosib, gael effaith anghymesur neu ‘disproportionate’ ar yfwyr cymedrol gyda llai o arian i’w wario. Rydw i yn edrych ymlaen i glywed tystiolaeth wrth i hwn fynd drwy’r Senedd er mwyn tawelu pryderon pobl y tu allan yn bennaf, ond hefyd pobl i mewn yma yn y Senedd.A couple of questions—. We’ve talked a lot about how, hopefully, this can drive a change of behaviour amongst consumers. We know from evidence relating to sugar levies—pop taxes, if you like—globally, that manufacturers have often responded by reducing the sugar content of their drinks, for example. Can I just ask what assessment has been made by Government of the possibility, the likelihood, that some manufacturers will actually try to achieve a lower alcohol content within their drinks? Because we’re a market of 3 million—if Scotland does this, that’s another market of 5 million. It’s not a tiny market, and, certainly, in Singapore, I think, all the major drinks manufacturers came together to reduce sugar content in response to changes in legislation on sugary drinks. So, I wonder if the Government has made an assessment of that, because lowering the alcohol content of drinks would also have a beneficial effect.Secondly, what assessment has been made of what happens if consumer behaviour doesn’t change as much as the Government envisages? Because you will know that, in Scotland, the Labour Party refused to support legislation on minimum alcohol pricing. So, politics does play a part in this, and the reason given by Scottish Labour, as I understand, is their concern about what would happen to a possible windfall for retailers or manufacturers of alcoholic drinks because they were charging more, because of legislation, for their product. So, what assessment, again, has the Government made of that and what would be the monitoring process? And what would be the actions that the Government would wish to see if, suddenly, retailers or manufacturers have a windfall? Rebecca Evans AC: Diolch am y cwestiynau yna, a hefyd am amlinellu eich cefnogaeth i’r dull penodol hwn trwy ddeddfwriaeth. Cyfeiriais yn gynharach at y gwaith modelu a wnaed, sy’n dangos y byddai yfwyr cymedrol, er enghraifft, ddim ond yn cynyddu eu gwariant gan £2 y ​​flwyddyn, ond y byddent yn lleihau eu defnydd gan chwe uned y flwyddyn.Ac, fel y dywedais, rydym yn cael y gwaith modelu hwnnw wedi’i ddiweddaru i ystyried sefyllfaoedd cyfredol y farchnad a hefyd yn edrych ar y gwahanol wahaniaethau ar bwyntiau gwahanol rhwng 35c a 70c. Rwy’n credu bod cyfle gwych yn y fan yma i weithgynhyrchwyr o ran cynhyrchu diodydd alcohol cryfder is, a byddwn yn sicr eisiau gweld ein diwydiant diodydd gwych yng Nghymru yn manteisio ar y cyfle hwnnw hefyd.Rwyf eisoes wedi cael rhai trafodaethau gyda rhai o’r swyddogion yn yr adran fwyd yma hefyd i drafod pa botensial sydd ar gael i’r diwydiant diodydd yma yng Nghymru, y gwn ein bod ni i gyd yn falch iawn ohono, ac rwy’n siŵr bod cyfleoedd iddyn nhw fod yn arloesol a dychmygus o ran y cyfleoedd sydd ar gael iddynt.Yr effaith ar y diwydiant, y diwydiant manwerthu—disgwylir i’r isafbris uned arwain at gynnydd cyffredinol mewn refeniw i fanwerthwyr allfasnach a mewnfasnach, a rhagwelir, ar gyfer pob sefyllfa isafbris uned sydd wedi’u modelu gan Brifysgol Sheffield, y byddai mwy o refeniw ar gyfer y diwydiant alcohol yn ei gyfanrwydd. Nid wyf yn siŵr i ba raddau y byddai’n elw annisgwyl, o gofio y byddem yn disgwyl, ar yr un llaw, i rai lefelau o yfed alcohol fod yn gostwng ymhlith yr yfwyr niweidiol a pheryglus hynny, a hefyd yn gyffredinol ymhlith yfwyr cymedrol i raddau llai. Fodd bynnag, credaf y byddai’n gyfle inni edrych, gyda’r modelu wedi’i adnewyddu, i weld beth fyddai’r gwahaniaethau rhwng y 35c a’r 70c hwnnw yn ei olygu ar gyfer y manwerthwyr.Ond, yn y pen draw, deddfwriaeth iechyd y cyhoedd yw hon, er bod y Prif Weinidog wedi cyfeirio yn ei gyfraniad yn y Cwestiynau i’r Prif Weinidog heddiw ei bod hefyd yn darparu cyfleoedd a buddion i dafarnwyr.Mae’r Sefydliad Astudiaethau Alcohol wedi cyhoeddi adroddiad diweddar, o’r enw ‘Pubs Quizzed: What Publicans Think of Policy, Health Public and the Changing Trade’.Ac roedd hynny’n seiliedig ar ganlyniadau arolwg cenedlaethol o reolwyr tafarndai, a ganfu bod 83 y cant o’r farn bod alcohol archfarchnad yn rhy rhad, a 41 y cant ohonynt o blaid gosod isafbris uned, a chanfod mai dim ond 22 y cant oedd yn erbyn. Jenny Rathbone AC: Rwy’n gweld agwedd gwydr hanner gwag rhai Aelodau braidd yn ddiflas.Oherwydd mae’n bwysig iawn ein bod ni’n manteisio ar y cyfle. Mae’r Llywodraeth wedi newid ei safbwynt o fod yn ystyried deddfwriaeth i fanteisio mewn gwirionedd ar y cyfle a’i wneud, ac rwy’n falch iawn o glywed hynny.Rwy’n croesawu’r ymagwedd—yr ymagwedd bwyllog—gan Angela Burns, ac, yn wir, Dai Lloyd, bod yn rhaid inni symud ymlaen â hyn, oherwydd mae hwn yn fater iechyd y cyhoedd difrifol iawn. Dyma’r lladdwr mwyaf o bobl rhwng 15 a 49 oed, nid cyffuriau, diod.Ac mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â hyn yn bendant. Nid yw’n dderbyniol ei bod yn ddrutach prynu dŵr na phrynu alcohol.Mae hyn yn gwbl hurt. Ac mae’n annerbyniol bod yr archfarchnadoedd yn defnyddio alcohol rhad i ysgogi nifer eu cwsmeriaid.Dylem fod yn gweithredu yn erbyn hyn, ac mae’n rhaid inni ei atal.Rydym wedi gweld o Ganada—. Yn wahanol i Neil Hamilton—yn amlwg, nid yw faint o alcohol y mae ef yn ei yfed yn mynd i newid o gwbl o ganlyniad i hyn, ond nid yw hynny’n bwysig. Y pwynt yw bod yn rhaid inni geisio sicrhau y bydd pobl yn cael eu dylanwadu gan y pris i brynu llai ohono, ac i beidio â mynd i archfarchnadoedd sy’n anghyfrifol yn y modd y maent yn ei werthu. Felly, rydym wedi gweld o Ganada bod y gweithredu systematig a’r gorfodi cadarn ar yr isafbris alcohol mewn gwirionedd wedi gweithio, gan ei fod wedi gweld gostyngiad sylweddol iawn yn y derbyniadau i’r ysbyty a marwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol. Felly, rwy’n gobeithio y bydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn dysgu o brofiad Canada i osgoi’r canlyniadau annisgwyl a esboniodd Dai Lloyd.Ac mae’n rhaid inni gydnabod bod y pedair cyllideb ddiwethaf wedi torri trethi ar alcohol mewn gwirionedd, nad yw, yn fy marn i, yn mynd i’r cyfeiriad cywir o gwbl. Hoffwn weld adfer y doll codi prisiau.Ond nid yw’r ffaith na allwn ddylanwadu ar yr hyn y mae Senedd y DU yn ei wneud yn rheswm i ni wneud dim.Ac rwy’n gobeithio, ar y cyd, y byddwn yn bwrw ymlaen ac yn cynhyrchu’r ddeddfwriaeth hon i ragori ar ddyddiad cau Deddf Cymru. Rebecca Evans AC: Diolch yn fawr iawn am y sylwadau yna.Ac wrth gwrs, mae Jenny Rathbone wedi bod yn gefnogol i’r ymagwedd benodol hon ers tro, ac mae wedi lobïo’r Llywodraeth yn gryf iawn ar y mater penodol hwn hefyd. Felly, diolch ichi am y gwaith yr ydych chi wedi bod yn ei wneud wrth baratoi ar gyfer hyn, ar gyfer cyflwyno’r Bil.Ac rydych chi’n gwneud pwynt pwysig, y credaf sydd wedi ei golli mewn llawer o’r ddadl yr ydym wedi ei chael dros y 48 awr diwethaf ar y mater isafbris uned, sef ei fod yn ymwneud i raddau helaeth ag atal ac ymyrraeth gynnar. Wrth gwrs, soniasoch am bobl ifanc, a dangoswyd bod pobl ifanc, yn enwedig y rheini sy’n yfed yn drwm neu’n aml, wedi bod yn arbennig o sensitif i gynnydd mewn prisiau, ac yn arbennig ceir tystiolaeth sy’n dangos perthynas rhwng prisiau yfed a chyffredinrwydd yfed trwm, ac yn arbennig yfed cyn mynd allan, ymhlith pobl ifanc. Felly, credaf fod y ddeddfwriaeth hon yn rhoi cyfle da i ni gymryd yr ymagwedd ataliol honno a chaniatáu i bobl ifanc ddechrau eu bywydau gyda pherthynas fwy iach gydag alcohol. Oherwydd rydym yn gwybod bod yr ymddygiad iechyd diweddar mewn data arolwg plant oedran ysgol yn dangos y dylai yfed ymhlith pobl ifanc fod yn bryder i ni, gyda 7 y cant o fechgyn a 5 y cant o ferched 11 i 16 oed yng Nghymru yn yfed alcohol o leiaf unwaith yr wythnos. Ac mae’r cyfrannau’n codi wrth i oedran y plant a’r bobl ifanc hynny godi hefyd.Mae angen inni sicrhau, er mwyn i’r bobl ifanc hynny sy’n dechrau camddefnyddio sylweddau yn fuan yn eu bywydau, bod ymyrraeth gynnar ac adnabod cynnar ar gael iddynt er mwyn cyfyngu ar niwed a lleihau’r siawns o gamddefnyddio alcohol a chyffuriau yn y dyfodol. A dyna un o’r rhesymau pam yr ydym ni’n gweld y darn hwn o ddeddfwriaeth o fewn cyd-destun ehangach y gefnogaeth y dylem ei chynnig i bobl yn yr agenda ataliol honno, a’r agenda gefnogi honno, os a phryd y mae pobl ifanc yn ymwneud â chyffuriau ac alcohol, ac rydym yn sicrhau bod gennym amrywiaeth o wasanaethau ar gael. Er enghraifft, mae gennym wasanaethau cwnsela, lles emosiynol—mae gwasanaethau niwed cudd yn bwysig iawn, ac mae’r rhain yn wasanaethau i blant a phobl ifanc yr effeithir arnynt gan ddefnydd alcohol a chyffuriau mewn modd sy’n achosi problem gan eu rhieni, neu eu gofalwyr, yn y cartref teuluol hefyd.Ac, wrth gwrs, mae addysg ac atal i bobl ifanc dan 18 oed yn rhan bwysig o’r gwaith a wnawn, fel y mae ymyriadau byr, er enghraifft, therapi ymddygiadol gwybyddol, cyngor ar leihau niwed, ac atal atglafychu hefyd. Felly, mae’n rhaid ei weld o fewn cyd-destun llawer ehangach y gwaith yr ydym ni’n ei wneud.Soniodd Jenny Rathbone am bwysigrwydd gorfodi hefyd. Rwy’n ddiolchgar iawn i CLlLC am eu cefnogaeth lawn i’r ddeddfwriaeth benodol hon, gan fod y Bil yn darparu’n benodol mai’r awdurdodau lleol fydd y rhai i ddod ag erlyniadau, ymchwilio i gwynion a chymryd camau eraill gyda’r bwriad o leihau troseddau gosod isafbris yn eu hardal. Mae’r ddeddfwriaeth hefyd yn rhoi pwerau mynediad iddynt, pwerau mewn perthynas ag arolygiadau a hefyd bwerau i roi hysbysiadau cosb benodedig i bobl y mae ganddynt reswm dros gredu eu bod wedi cyflawni trosedd gosod isafbris hefyd. Felly, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i CLlLC am eu cefnogaeth i’r ddeddfwriaeth hon, a hefyd yr holl sefydliadau hynny a grybwyllodd John Griffiths yn ei gyfraniad a llawer o bobl eraill sy’n gweld budd y dull hwn. Ac yn olaf, Simon Thomas. Simon Thomas AC: Diolch yn fawr, Llywydd. Yn amlwg, mae’r Gweinidog a’r Llywodraeth wedi gwneud achos cymhellol dros weithredu yn y maes hwn a’r problemau sydd gennym gyda chamddefnyddio alcohol yn ein cenedl, er ei bod yn werth cofnodi, rwy’n credu, nad cwestiwn o gost yn unig yw hwn. Mae gwledydd sydd ag alcohol rhatach nag sydd gennym yng Nghymru heddiw nad oes ganddynt y problemau sydd gennym ni. Mae mater diwylliannol ehangach y mae angen inni fynd i’r afael ag ef. Efallai y bydd y Bil hwn yn rhan o fynd i’r afael â hynny, ond mae dau fater yr hoffwn eu crybwyll ar hynny, rwy’n credu y mae angen eu datrys wrth inni fynd â’r Bil ymlaen.Y cyntaf yr hoffwn ei alw ‘Cwestiwn Co-op y Gelli Gandryll’, ble y gallwch fynd o’r dafarn hynaf yn Y Gelli Gandryll, y Three Tuns—200 llath i lawr y ffordd a’ch bod mewn Co-op sydd yn Lloegr—y mae angen i ni fod yn gwbl glir ynghylch sut y byddai hyn yn gweithio o ran perthnasoedd trawsffiniol a hefyd archebion rhyngrwyd a materion eraill. Ar ôl mynd â dau Fil drwyddo yn y Pwyllgor Cyllid sy’n ymwneud yn uniongyrchol â threthi, mae’n rhaid i mi ddweud bod materion trawsffiniol yn fater gwirioneddol y bu’n rhaid inni fynd i’r afael â nhw yn y pwyllgor hwnnw ac rwy’n credu bod angen i unrhyw bwyllgor sy’n edrych ar y Bil hwn fynd i’r afael yn drylwyr â’r materion trawsffiniol hynny. Nid esgus yw hynny i beidio â mynd a’r Bil drwodd, ond mae’n fater y mae angen ei archwilio’n iawn a’i lyfnhau.Yr ail fater, wrth gwrs, yw nad Bil treth yw hwn ond mae’n fesur ariannol, ac rydym yn cael dadl gyson yn y Cynulliad, yn eithaf priodol, ynghylch pryd a ble mae’r amser mwyaf priodol i ddatgan eich costau ariannol neu drethi. Mae Aelodau eraill wedi ceisio rhoi cost, er enghraifft, treth stamp yn y gorffennol, sydd bellach wedi dod i mewn yn y gyllideb, ar wyneb y Bil. Rwy’n fodlon bod hyn yn cael ei ddatblygu fel rhan o broses gyllidebol ar y cyfan; rwy’n credu bod hynny’n ffordd briodol i’w wneud. Fodd bynnag, nid treth yw hon, ac mae’r dadleuon iechyd y cyhoedd yn benodol yn ymwneud â beth fydd yr isafbris uned, ac mae’r holl ffigurau a ddyfynnoch chi heddiw, Weinidog, wedi dod o isafbris uned o 50c ac rydych wedi cyfeirio at nifer o adroddiadau sydd wedi delio ag isafbris uned o 50c. Felly, pam nad yw hynny ar wyneb y Bil? Beth yw’r ansicrwydd ynghylch beth fyddai’r isafbris hwn? Nid wyf yn credu ei fod yn ddigon da, oherwydd ein bod ni’n ceisio rhuthro’r Bil hwn cyn i ni golli’r pwerau, i beidio â rhoi sylw cywir i’r cwestiwn hwn. Os yw’n rhy isel, yna ni fydd yn cael yr effaith yr ydych chi’n gobeithio y bydd. Os yw’n rhy uchel, gallai gael effaith anghymesur ar yfwyr cymedrol sy’n dod o gefndiroedd incwm isel. Felly, mae’n rhaid inni ei wneud yn iawn, ac rwy’n awgrymu bod ei gael yn iawn yn dasg i’r Cynulliad cyfan ac nid yn dasg i’r Llywodraeth yn unig. Er fy mod yn deall eich bod yn cymryd pwerau rheoleiddio a ddaw i’r Cynulliad o dan y dull cadarnhaol, rwy’n awgrymu ei bod yn well ac yn fwy priodol, pan fyddwn yn trosglwyddo’r Bil hwn, bod yr isafbris uned ar wyneb y Bil ac mae’r pwerau gennych i newid hynny yn y dyfodol gyda chymeradwyaeth y Cynulliad. Rebecca Evans AC: Diolch i chi am y cwestiynau hynny a’ch cefnogaeth eang i’r Bil. Byddwn yn cytuno’n llwyr â chi fod hwn yn fater diwylliannol llawer ehangach yr ydym yn ymdrin ag o yma ac mai dim ond rhan o’r ateb yw gosod isafbris uned. Mae’r ateb mewn cyfres lawer ehangach o fesurau sy’n mynd yr holl ffordd o addysg i gefnogi teuluoedd yn y cartref lle ceir problemau alcohol, i’n gweithleoedd, i’n bywydau cymdeithasol ein hunain ac yn y blaen. Felly, credaf fod cyfleoedd eang er mwyn ceisio cael perthynas llawer iachach ag alcohol yng Nghymru. Ond, fel y dywedais, dim ond un rhan ohono yw hwn.Mae’r cwestiwn ‘Co-op Y Gelli Gandryll’ rwy’n credu yn rhywbeth y byddwn yn ei drafod yn fanylach wrth i’r ddeddfwriaeth fynd trwy broses graffu’r pwyllgor. Fodd bynnag, mae’r Bil yn ymdrin ag archebion rhyngrwyd ar ei wyneb ac yn y blaen. Rydym ni wedi ceisio bod mor gynhwysfawr ag y gallwn wrth feddwl am y gwahanol ffyrdd y mae pobl yn prynu alcohol ac i geisio ei ddiogelu at y dyfodol yn y ffordd honno.O ran y 50c, pa un a ddylai fod ar wyneb y Bil ai peidio neu wedi’i osod trwy reoliadau, eto, rwy’n siŵr bod hwn yn rhywbeth y byddwn yn ei drafod yn helaeth yng nghamau’r pwyllgorau. Pan ymgynghorwyd ar y Bil ar ffurf ddrafft, y bwriad oedd y byddai Gweinidogion Cymru yn gosod yr isafbris uned trwy reoliadau, a byddem yn cael cyfle i drafod hynny.Dylai’r modelu wedi’i ddiweddaru, a fydd yn edrych ar y gwahaniaethau pris o 35c i 70c, fod gyda ni ar ddiwedd y flwyddyn hon, neu’n gynnar iawn ar ddechrau’r flwyddyn nesaf, a chredaf y bydd hynny’n rhoi llun llawn wedi’i ddiweddaru i ni o ran faint o fywydau y byddem yn disgwyl eu hachub ar y gwahanol lefelau, faint o dderbyniadau i ysbytai y byddem yn disgwyl eu hosgoi, faint o ddiwrnodau gwaith a gollwyd y byddem yn disgwyl eu hosgoi a pha fath o arbedion cost y gallem eu disgwyl ar gyfer y GIG hefyd. A bydd hynny’n rhoi’r cyfle i ni gael trafodaeth fwy cytbwys ar y pwynt hwnnw. Ond rwy’n credu ei bod yn ddefnyddiol defnyddio’r 50c hwnnw fel canllaw enghreifftiol ar hyn o bryd, gan ei fod yn rhoi’r mater mewn rhyw fath o gyd-destun i ni, fel y gallwn ni gael syniad yn ein meddyliau ynghylch pa fath o ffigurau yr ydym yn sôn amdanynt.Diolch i’r holl Aelodau am eu cyfraniadau i’r ddadl heddiw ac edrychaf ymlaen at ragor o graffu manwl wrth i ni symud drwy’r camau nesaf. Diolch i’r Gweinidog. 4. 4. Datganiad: Recriwtio Athrawon Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar recriwtio athrawon, ac rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd, Kirsty Williams. Kirsty Williams AC: Diolch, Llywydd.Un o amcanion allweddol ein cynllun gweithredu addysg a gyhoeddwyd yn ddiweddar yw datblygu proffesiwn addysg o ansawdd uchel.Mae'n amhosib gorbwysleisio pwysigrwydd swyddogaeth ein hathrawon i’n helpu i lwyddo yn ein cenhadaeth genedlaethol i godi safonau, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad a darparu system addysg sy'n destun balchder a hyder cenedlaethol.Heddiw, rwy'n amlinellu cynlluniau'r Llywodraeth i sicrhau ein bod ni’n hyrwyddo addysgu yng Nghymru fel proffesiwn gwerthfawr a hyblyg sydd â statws iddo. Ochr yn ochr â hynny, yn ein hymdrechion parhaus i godi safonau yn yr ystafell ddosbarth, byddaf hefyd yn rhoi manylion ynglŷn â sut yr ydym ni’n datblygu cynnig amgen i gefnogi trefniadau rheoli absenoldebau mewn ysgolion. Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair. Kirsty Williams AC: Yn syml, ni all system addysg fod yn well na safon ei hathrawon.Os ydym ni am lwyddo gyda’n diwygiadau uchelgeisiol mae angen athrawon uchelgeisiol o safon uchel sy’n cael eu cefnogi’n dda arnom ni.Felly, mae’n rhaid inni ddenu a chefnogi'r graddedigion gorau gyda'r cymwysterau gorau i addysgu.Rwy’n pryderu y gall problemau recriwtio sylweddol ar draws y ffin roi camargraff o’r hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd yma yng Nghymru. Er hynny, rwy'n derbyn yn llwyr ein bod ni, er hynny, yn wynebu heriau wrth recriwtio i rai pynciau ac mewn rhai lleoliadau daearyddol.Mae hon yn her y mae'n rhaid i ni, ac y byddwn ni, yn ymgyrraedd ati. Felly, rwyf wedi penderfynu cyhoeddi ein cymhellion ar gyfer blwyddyn academaidd 2018-19 yn gynnar.Rydym ni’n cynnig eglurder a sicrwydd yn ein hymrwymiad i'n hathrawon mwyaf newydd.Mae'r cymhellion hyn yn cefnogi blaenoriaethau cenedlaethol allweddol, gan gynnwys ffiseg, cemeg, mathemateg, Cymraeg ac ieithoedd tramor modern. Rydym ni hefyd erbyn hyn yn cynnwys gwyddoniaeth gyfrifiadurol fel pwnc blaenoriaeth sy'n gymwys ar gyfer y lefel uchaf o gymhelliant.Os ydym ni, fel Llywodraeth, eisiau cyflawni ein huchelgeisiau yn strategaeth 'Cymraeg 2050', yna mae angen inni gynyddu nifer yr athrawon sy'n gallu addysgu'n ddwyieithog, trwy gyfrwng y Gymraeg ac addysgu'r Gymraeg fel pwnc.Er bod ein cyfradd recriwtio athrawon cyfrwng Cymraeg cynradd yn cyfateb ar y cyfan i’r hyn y dylai fod, os ydym ni eisiau cyflawni ein targedau ar gyfer addysg uwchradd, mae angen i ni gynyddu nifer y bobl yr ydym ni’n eu recriwtio bob blwyddyn i leoedd ar gyrsiau addysg gychwynnol i athrawon cyfrwng Cymraeg er mwyn cyrraedd y targed ar gyfer cynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg uwchradd erbyn 2021.Felly, rwyf hefyd yn cyhoeddi cymhelliant cyfrwng Cymraeg newydd heddiw a fydd yn targedu myfyrwyr sy’n astudio ar gyfer tystysgrif addysg i raddedigion mewn addysg uwchradd ac sy’n hyfforddi i addysgu pob arbenigrwydd pwnc drwy gyfrwng y Gymraeg neu yn ddwyieithog. Wrth gwrs, mae ein gweithlu addysgu yn cynnwys nifer o swyddogaethau gwahanol, ac mae gan bob un ohonyn nhw swyddogaeth hanfodol wrth godi safonau.Mae athrawon cyflenwi yn rhan arwyddocaol a phwysig o'n gweithlu addysgu.Mae’n rhaid inni sicrhau bod ein hathrawon cyflenwi yn rhan wybodus o weithlu ehangach yr ysgol a’u bod yn barod ac yn alluog i gefnogi ein cenhadaeth genedlaethol o ddiwygio addysg.Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth fod lle i wella yn y modd y mae ein system ar hyn o bryd yn cyflogi, rheoli a chefnogi athrawon cyflenwi yng Nghymru. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod gan athrawon sy'n gweithio'n hyblyg yn y modd hwn ddigon o adnoddau, y cânt eu gwobrwyo'n briodol, a’u cefnogi a'u hintegreiddio i'r proffesiwn addysgu.Felly, rwy'n cydnabod bod angen i'n system fod yn fwy hyblyg, arloesol a chynhwysol yn ein dull o ymdrin ag absenoldeb athrawon a sicrhau bod y rhai sy'n gweithio yn y modd hwn yn cael eu cefnogi yn yr un modd ag athrawon parhaol.Rwyf heddiw yn cyhoeddi cefnogaeth o £2.7 miliwn ar gyfer y flwyddyn academaidd bresennol a’r blynyddoedd academaidd nesaf er mwyn ariannu 15 awdurdod lleol i gefnogi trefniadau clystyrau cyflenwi yn yr ysgol mewn 86 o ysgolion.Bydd y trefniant clwstwr hwn yn cefnogi penodi oddeutu 50 o athrawon cymwysedig ychwanegol i weithio gyda chlystyrau ysgol, gan lenwi swyddi athrawon sy’n absennol, meithrin gallu a chefnogi gwelliannau ysgol ehangach a deilliannau dysgwyr. Mae'r dull hwn yn buddsoddi mewn, yn datblygu ac yn meithrin athrawon sydd wedi cymhwyso’n ddiweddar, a hefyd yn sicrhau bod digon o ddarpariaeth mewn ysgolion i ddiwallu’r galw am ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol ac athrawon arbenigol eraill, gan gynnwys athrawon cyfrwng Cymraeg.Drwy'r dull arloesol hwn, rydym ni’n rhagweld y gellir defnyddio arbedion a wneir yng nghyllidebau cyflenwi ysgolion i ailfuddsoddi yn y dyfodol er mwyn creu newid a gwella ysgolion mewn modd mesuradwy.Rwyf o’r farn y bydd y dull hwn yn meithrin gallu yn y system i gefnogi ein hysgolion i reoli eu hanghenion cyflenwi mewn modd mwy cydlynol, cydweithredol a chynaliadwy. Rwy'n falch ein bod ni’n gallu bwrw ymlaen ag adroddiad tasglu y model cyflenwi yn y ffordd arloesol hon a chydweithio ag awdurdodau lleol i gefnogi cysondeb, llwybrau gyrfa a bodloni anghenion cymhleth mewn gwahanol ranbarthau.Dirprwy Lywydd, mae gan systemau addysgol gorau’r byd addysgwyr egnïol a brwdfrydig sy'n teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu.Rydym ni wedi hen ddechrau ar y daith yng Nghymru drwy ddatblygu a chynnig proffesiwn o ansawdd uchel sy’n barod i godi safonau yn gyffredinol.Rwy'n ffyddiog bod y cynigion a gyhoeddir heddiw yn dangos ymrwymiad eglur a chlir i'n gweithlu, yn y presennol a’r dyfodol, wrth iddyn nhw gyflawni ein cenhadaeth genedlaethol i godi safonau a lleihau'r bwlch cyrhaeddiad.Diolch yn fawr. Darren Millar AC: A gaf i groesawu'r datganiad?Rydym ni mewn difrif calon yn rhannu nod Llywodraeth Cymru i sicrhau y gellir hyrwyddo addysgu fel proffesiwn boddhaus a gwerthfawr gyda statws iddo, ac mae'n yrfa yr ydym ni am annog mwy o bobl i’w dilyn.Mae'n arbennig o bwysig, y datganiad hwn, o gofio'r datganiadau yr ydym ni wedi'u clywed gan Undeb Cenedlaethol yr Athrawon ac eraill eleni, sydd wedi awgrymu bod recriwtio athrawon yn ymylu ar fod yn argyfwng.Dyna oedd eu geiriau yn ôl ym mis Mehefin.Fe wyddom ni ein bod ni wedi cael nifer o flynyddoedd bellach lle yr ydym ni, fel cenedl, wedi methu’r targedau recriwtio athrawon a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Yn wir, roeddem ni draean islaw'r targed am yr ail flwyddyn yn olynol o ran athrawon uwchradd, a chredaf fod hynny'n peri pryder i bob un ohonom ni.Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn synnu braidd nad oedd cyfeiriad at faich gwaith athrawon yn eich datganiad.Fe wyddom ni o'r arolwg gweithlu addysg genedlaethol, a gynhaliwyd yn gynharach eleni, fod 78 y cant o'r rheini a ymatebodd i’r arolwg hwnnw'n dweud mai'r baich gwaith oedd yr agwedd leiaf boddhaus o'u gwaith.Rydym ni hefyd yn gwybod o'r arolwg hwnnw bod traean o athrawon yng Nghymru yn ystyried gadael y proffesiwn o fewn y tair blynedd nesaf.Maen nhw’n ystadegau hynod frawychus.Nawr, rwy’n gwybod, i fod yn deg â chi, Ysgrifennydd y Cabinet, eich bod wedi cyhoeddi yn gynharach eleni eich bod yn bwriadu treialu rhai o gynigion rheolwyr busnes ledled Cymru er mwyn lleihau'r baich gwaith diangen, a'ch bod wedi cyhoeddi rhai canllawiau arfer da, fel petai, i’w gwneud hi’n glir i bobl beth mae angen ac nad oes angen iddyn nhw ei wneud. Credaf fod hynny'n gam cadarnhaol ymlaen, ond rwyf yn credu bod yn rhaid cydnabod bod y llwyth gwaith yn rhywbeth sy’n rhwystro rhai pobl rhag mentro i’r proffesiwn hwn yn llwyr, ac, yn amlwg, mae angen i ni wneud mwy, er gwaetha’r ffaith bod y llwyth gwaith yn cyfrannu at yr angen am fwy o athrawon cyflenwi, oherwydd absenoldebau heb eu cynllunio yn y gweithlu addysgu. Felly, byddai'n dda pe gallech chi roi diweddariad i ni ynglŷn â rhywfaint o'r gwaith yr ydych chi'n ei wneud ynghylch hynny.Sylwaf eich bod wedi sôn y bydd y cymhellion ar gyfer y flwyddyn academaidd 2018-19 yn cael eu cyhoeddi'n gynnar.Dyna rywbeth yr wyf yn ei groesawu.Rwy'n falch iawn o weld bod Llywodraeth Cymru bellach yn ystyried ychwanegu gwyddoniaeth gyfrifiadurol at y rhestr o bynciau blaenoriaeth.Credaf fod hynny'n hollol hanfodol hefyd, yn enwedig os ydym ni eisiau gweithlu sy'n addas ar gyfer y dyfodol, ac fe wyddoch chi fod hynny’n rhywbeth yr ydym ni wedi siarad amdano y tu mewn a’r tu allan i’r Siambr hon yn y gorffennol—yr angen i arfogi pobl ifanc i wneud codio a phethau felly, fel y gallwn ni sicrhau bod gan fusnesau y bobl sydd â'r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw. Rwy'n falch iawn hefyd o weld y bydd cymhellion newydd er mwyn denu siaradwyr Cymraeg i'r gweithlu. Rydych chi yn llygad eich lle, os ydym ni’n mynd i gyrraedd y targed uchelgeisiol hwnnw o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae'n rhaid i ni gael gweithlu sy'n mynd i gyflawni'r pethau hyn yn ein hysgolion ac annog y defnydd o’r iaith o fewn ac y tu allan i furiau’r ysgol. Sylwaf fod Lloegr eisoes wedi cyhoeddi ei chymhellion ar gyfer blwyddyn academaidd 2018-19.Ni allaf weld eich bod chi wedi cyhoeddi dogfen heddiw ynglŷn â'r cymhellion, ac ni allaf weld unrhyw beth ar wefan Llywodraeth Cymru. Felly, byddai'n ddefnyddiol, Ysgrifennydd y Cabinet, pe gallech chi ddweud wrthym ni’n union beth yw'r cymhellion hynny, oherwydd rwyf am ohirio rhoi barn ar ba un a ydyn nhw’n ddigon deniadol i ddenu pobl i'r proffesiwn, oherwydd mae'n amlwg mai’r maen prawf fydd sut maen nhw’n cymharu â chymhellion mewn mannau eraill yn y DU. Felly, byddai gennyf ddiddordeb gweld y cymhellion hynny.At hyn, a wnewch chi hefyd ddweud wrthym ni a fyddwch chi'n adolygu'r targedau ar gyfer recriwtio i'r proffesiwn?Rydym ni’n gwybod inni fethu â chyrraedd targedau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, felly mae'n amlwg bod angen targedau arnom ni sy'n mynd i’n herio ond sydd hefyd yn realistig a bydd hynny'n sicrhau bod gennym ni weithlu sy'n bodloni gofynion system addysg Cymru.A allwch chi hefyd ddweud wrthym ni a fyddwch chi'n derbyn cyngor Cyngor y Gweithlu Addysg ac eraill ynglŷn â’u galwadau am ryw fath o ymgyrch genedlaethol gynhwysfawr i recriwtio athrawon?Nawr, fe wn i fod peth gwaith yn cael ei wneud rhwng y consortia ar hyn o bryd. Ceir rhywfaint o gydweithio, ceir rhywfaint o weithgarwch, ond nid oes ymgyrch genedlaethol gynhwysfawr i recriwtio athrawon.Pan fydda i’n mynd i'r sinema, hyd yn oed, y dyddiau hyn, yn aml iawn fe welwch chi hysbysebion cyn i'r ffilmiau ddechrau yn annog pobl i fynd i'r proffesiwn addysgu, ac maen nhw’n hysbysebion sy'n ceisio denu pobl i system addysgu Lloegr, nid i un Cymru—hyd yn oed mewn sinemâu yng Nghymru, ac rwy’n gweld hynny braidd yn rhyfedd.Felly, tybed a allwch chi ddweud wrthym ni a fyddwch chi'n gwneud unrhyw beth ynglŷn â’r agwedd honno.Un o'r pethau yr wyf i hefyd wedi sôn wrthych chi amdano yn y gorffennol ac sydd wedi bod yn destun trafodaeth ymhlith y pleidiau yn hanesyddol yw potensial athrawon wedi eu hyfforddi dramor a dod â'r rheini i'r proffesiwn yma yng Nghymru.Fe wyddoch chi nad oes ganddyn nhw statws athro cymwysedig awtomatig ar hyn o bryd, hyd yn oed os ydyn nhw o systemau addysg cymharol o ran safonau'r systemau addysg hynny. Mae hynny’n rhywbeth sy'n berthnasol yn unig yng Nghymru—nid yn unrhyw ran arall o'r DU—ac mae'n rhwystr i gannoedd o bobl a allai fod eisiau gweithio yn y proffesiwn yma yng Nghymru nad ydyn nhw’n cael y cyfle i wneud hynny ar hyn o bryd heb oresgyn rhwystrau ychwanegol er mwyn gallu gwneud hynny. Gan droi at y £2.7 miliwn yr ydych chi wedi ei gyhoeddi heddiw—cyhoeddiad calonogol—i gefnogi'r trefniadau clwstwr, rwy'n synnu y bydd cyn lleied o ysgolion yn cymryd rhan yn y trefniadau clwstwr hynny.Mae gennym ni dros 1,500 o ysgolion yma yng Nghymru, ac mae'r arian hwnnw'n targedu dim ond 86, i’w hannog i gydweithio.Fe wnaethoch chi ddweud y bydd hynny ar waith mewn 15 awdurdod lleol.Beth am y saith awdurdod lleol arall?Pa awdurdodau lleol nad ydynt yn cael eu cynnwys?Pam cyn lleied o ysgolion?Fe wyddom ni fod gan y trefniadau clwstwr hyn botensial enfawr.Byddwn wedi gobeithio y byddai’r rhaglen yn un fwy o ran ceisio manteisio ar y cyfle sy’n dod yn sgîl y trefniadau hynny, felly efallai y gallwch chi ddweud ychydig wrthym ni ynglŷn â hynny.Ac yn olaf, ynglŷn ag athrawon cyflenwi— Y pwynt olaf un, nawr. Darren Millar AC: Un o'r rhwystrau mawr, fel y gwyddoch chi, yw’r cyfleoedd i athrawon cyflenwi fanteisio ar ddatblygiad proffesiynol.Rydych chi wedi dweud eich bod eisiau gweld hynny’n cael sylw.Nid ydych chi wedi dweud sut y disgwyliwch y dylid mynd i'r afael â hynny, ond mae'n amlwg bod angen inni sicrhau bod consortia addysg rhanbarthol ac awdurdodau addysg lleol yn gwahodd athrawon cyflenwi ac yn caniatáu iddyn nhw gymryd rhan mewn cyfleoedd datblygu proffesiynol yn rhad ac am ddim, heb unrhyw gost iddyn nhw. A wnewch chi hefyd ddweud wrthym ni a ydych chi’n bwriadu bwrw ymlaen â'r argymhelliad a wnaeth y tasglu ichi ynglŷn â chyflwyno rhywfaint o ddeddfwriaeth i fynd i'r afael â pheth o’r camddefnydd y mae asiantaethau athrawon yn gyfrifol amdano o ran safonau'r asiantaethau hynny a hefyd y cyflog a'r gwobrau maen nhw’n eu talu i'n gweithlu addysgu sy'n gweithio fel athrawon cyflenwi? Diolch. Kirsty Williams AC: Diolch i Darren Millar am yr hyn a gredaf oedd yn groeso eangfrydig i'r datganiad heddiw a rhestr hir o gwestiynau, y byddaf yn ceisio eu hateb mor gyflym ag y gallaf. Ni chredaf fod gennym ni argyfwng.Caiff naw deg y cant o leoedd dysgu mewn ysgolion cynradd eu llenwi yn unol â’r targedau.Ond rydych chi'n iawn, gydag addysg uwchradd mae gennym ni heriau penodol, ac yna mae gennym ni heriau penodol mewn rhai pynciau addysg uwchradd—gyda rhai cyrsiau. Rydym ni’n recriwtio'n llawn mewn pynciau eraill.A dyna yw pwrpas y cymhellion.Fodd bynnag, mae Darren hefyd yn iawn; nid yw dysgu yn ymwneud â’r cyflog yn unig, ac mewn gwirionedd mae'r holl arolygon yn dangos, pan fo’r rhan fwyaf o athrawon yn mynd i'r proffesiwn, nad yr unig gymhelliant yw ennill arian mawr. Yr hyn sy’n eu cymell nhw yw bod arnyn nhw eisiau gweithio gyda phlant, eisiau rhannu’r brwdfrydedd sydd ganddyn nhw am eu pynciau, a gwneud y gorau y gallan nhw dros y system addysg.Felly, mae materion yn ymwneud â llwyth gwaith yn bwysig.Cyfeiriodd Darren at ein rheolwyr busnes a'n canllaw arfer da.Rwyf ar fin ysgrifennu at bob pennaeth eto i sicrhau bod y canllaw arfer da yn cael ei ddefnyddio yn eu hysgolion, ac rydym ni’n gobeithio cyhoeddi prosiectau ychwanegol ynglŷn â llwyth gwaith wrth i ni symud ymlaen.Ond mae a wnelo hyn hefyd â chefnogi'r proffesiwn a sicrhau bod gweithwyr proffesiynol yn cael y cyfle i ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus sy'n eu galluogi i fod y gorau y gallan nhw fod.Fe wyddoch chi ein bod ni’n datblygu ffordd genedlaethol o fynd i’r afael â DPP, fel bod athrawon yn cael hynny ble bynnag y maen nhw yng Nghymru.Fe wyddom ni hefyd, weithiau, nad yw ein harweinyddiaeth efallai mor dda ag y gallai fod.Mae arweinyddiaeth yn hollbwysig wrth reoli llwyth gwaith a sicrhau bod ysgolion a cholegau yn lleoedd deniadol i weithio ynddynt. Dyna pam yr ydym ni’n datblygu ein hacademi arweinyddiaeth i sicrhau bod gan ein harweinwyr ysgol y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i fod yn rheolwyr effeithiol ar eu sefydliadau.Y prif newidiadau i'r cymhellion, o’u cymharu â’r llynedd—.Mae'r ffigurau yr un fath, sef £20,000 ar gyfer gradd dosbarth cyntaf mewn mathemateg, ffiseg, cemeg, Cymraeg, ond y pwnc ychwanegol ymhlith y rhain yw gwyddoniaeth gyfrifiadurol.Hefyd, rydym ni’n newid—.Roedd rhywfaint o gyfyngiadau gwrthnysig, afresymegol ar y bobl hynny oedd â Doethuriaeth a graddau Meistr.Felly, pe byddai gennych chi radd 2:1 ond bod gennych chi Ddoethuriaeth, neu pe byddai gennych chi radd 2:1 a bod gennych chi radd Meistr, dim ond y gyfradd 2:1 fyddech chi’n ei chael, sy'n is na'r gyfradd dosbarth cyntaf, nad oedd mewn gwirionedd, yn rhesymegol, yn gwneud llawer o synnwyr. Felly, rydym ni yn mynd i'r afael â hynny y tro hwn.Felly, os oes gennych chi radd dosbarth cyntaf neu Ddoethuriaeth neu radd Meistr, byddwch yn derbyn y swm mwyaf ar gyfer y pynciau hynny.Ar gyfer pynciau blaenoriaeth ganolig bydd cymhelliant o £15,000.Yr hyn sy'n bwysig iawn i'w gofio, Darren, yw mai pedwar cymhelliant yw’r rhain ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, 2018-19, lle bydd y myfyrwyr hyn hefyd yn gallu ymgeisio am ein pecyn Diamond cyflawn. Mae myfyrwyr TAR yn eithriad i astudiaethau ôl-raddedig, felly mae'n bosib y bydd y myfyrwyr hyn yn gallu ymgeisio am becyn cymorth Diamond llawn ochr yn ochr â'r cymhellion yr ydym ni yn eu cyflwyno heddiw.Rydym ni’n gweithio ar hyn o bryd ar—. Fe wnaethoch chi ofyn a fydd targedau yn aros yr un fath.Rydym ni’n ceisio creu sefydlogrwydd i'n sefydliadau sy'n cynnig y cyrsiau hyn ar hyn o bryd, ond rydym ni’n gweithio ar offeryn cynllunio gweithle newydd i gael data gwell a gallu dadansoddi anghenion ein gweithlu yn well yn y dyfodol, ac rwyf yn disgwyl y byddwn ni’n newid ein targedau o ran pryd y bydd y gwaith hwnnw wedi'i gwblhau, ac rwy'n gobeithio y gwneir hynny yn 2019— y bydd yr offeryn newydd hwnnw ar gael ac yn cyd-fynd â datganoli tâl ac amodau gwaith athrawon.Mae yna gyfres gyfan o bethau y mae angen cyswllt rhyngddynt.Mae ymgyrch genedlaethol ar droed.Mae'n cael ei hariannu ar y cyd gan yr holl gonsortia rhanbarthol.Ei henw yw Darganfod Addysgu.Rydym ni’n trafod yn gyson a yw’r amgylchiadau a’r adnoddau ar gael ar gyfer ymgyrch fwy.Rwyf hefyd yn edrych yn barhaus ar ba un a ydym ni’n creu rhwystrau artiffisial i athrawon o wledydd eraill i ddod i ddysgu yn y wlad hon.Y tro diwethaf i Lywodraeth Cymru ymgynghori ar hyn, barn gref iawn yr ymatebion i'r ymgynghoriad oedd y dylai'r cyfyngiadau hynny fod yn berthnasol.Ond, yn amlwg, nid ydym ni eisiau rhwystro pobl a all wneud cyfraniad i'n hystafelloedd dosbarth, a byddwn ni’n adolygu hynny. Hynny yw, wrth gwrs, os gallan nhw fynd drwy system fewnfudo Llywodraeth y DU a dod i fyw yma a gweithio yma yn y dyfodol.Rydych chi’n hollol gywir ynghylch yr angen i'r consortia gynnig datblygiad proffesiynol parhaus i'n hathrawon cyflenwi. Cyhoeddwyd adroddiad y tasglu athrawon cyflenwi ym mis Chwefror.Rydym ni wedi sefydlu grŵp annibynnol i oruchwylio’r modd y caiff yr argymhellion hynny eu gweithredu.Mae'r grŵp wedi cyfarfod dair gwaith, ac rydym ni’n gwneud cynnydd.Mae'r model cyflenwi yr ydym ni’n sôn amdano heddiw yn argymhelliad sy'n cael ei weithredu.Rydym ni wedi sicrhau bod Hwb ar gael i athrawon cyflenwi, nad oedd yn bosib o’r blaen, ac rydym ni’n gweithio gyda'r consortia i sicrhau bod modd i’r athrawon cyflenwi fanteisio ar ddatblygiad proffesiynol parhaus.O ran y cynllun arbrofol, gadewch i mi ddweud: mae hyn yn arwydd o'm bwriad. Roedd y cynllun arbrofol yn argymhelliad uniongyrchol gan y grŵp gorchwyl a gorffen, ond mae'n rhoi cyfle inni ymchwilio i hyn fel model amgen i recriwtio a chyflogi athrawon cyflenwi, wrth symud ymlaen.Y 15 awdurdod lleol a ddewiswyd yw 15 o'r 16 a fynegodd ddiddordeb. Ni allwn ni wneud hyn ar ein pennau ein hunain.Mae’n rhaid inni ei wneud mewn partneriaeth â llywodraeth leol ac ysgolion, oherwydd bod ysgolion yn cael eu rheoli’n lleol. Ni allwn ni orfodi hyn arnyn nhw.Felly, fe dderbyniwyd cais 15 o'r 16 awdurdod a fynegodd diddordeb, a dyma nhw, os yw pobl eisiau gwybod, ac os yw'r Dirprwy Lywydd yn caniatáu imi eu rhestru: Sir Benfro, Torfaen, Bro Morgannwg, Wrecsam, Powys , Rhondda Cynon Taf, Castell-nedd Port Talbot, Sir Fynwy, Merthyr, Conwy, Sir Gaerfyrddin, Caerdydd, Caerffili, Blaenau Gwent a Chasnewydd.Felly, mae gennym ni drawstoriad mawr o awdurdodau trefol a gwledig, gogledd a de, dwyrain a gorllewin, a chymysgedd o ysgolion. Felly, mae gennym ni glystyrau cynradd, mae gennym ni rai uwchradd, ond mae gennym ni ysgolion 3-19 oed hefyd.Ni allwn ni orfodi hyn ar bobl; mae'n rhaid inni ei wneud drwy gydweithio â’r rheini sy’n barod i wneud hynny. Mae'n rhaid inni ei wneud ar y cyd, ac mae'r awdurdodau lleol hynny, rwy'n falch iawn o ddweud, wedi camu i’r adwy ac yn dangos gweledigaeth wirioneddol ac wedi archwilio'r posibilrwydd y gall hyn ddod â manteision yn ei sgîl. Ac mae’r manteision hynny nid yn unig i'r athro cyflenwi.Yr hyn sy'n hollbwysig ynglŷn â hyn yw bod manteision i'r plant, oherwydd bydd ganddyn nhw wynebau cyfarwydd. Felly, pan fo’u hathro dosbarth yn absennol neu'n mynd ar gwrs hyfforddi, byddan nhw’n gweld wyneb cyfarwydd yn eu hysgol, a bydd hynny'n cael effaith ar addysgu a dysgu'r plant hynny. Llyr Gruffydd AC: A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad? Rwyf innau hefyd yn teimlo ei bod hi braidd yn od nad oedd yna ddim manylion ynglŷn â’r cymhellion a oedd yn cael eu cyhoeddi heddiw, ond diolch i chi am roi amlinelliad i ni yn eich ymateb. Byddai diddordeb gyda fi wybod sut mae’r cymhellion newydd yma yn mynd i gymharu â gweddill y Deyrnas Unedig. Mi wnaethoch chi roi rhyw amlinelliad i ni, ond mi fyddai hynny’n ddifyr oherwydd ein bod ni mewn sefyllfa gystadleuol yn aml iawn pan mae’n dod i rai o’r pethau yma. Rwyf innau hefyd eisiau croesawu’r cymhelliad ychwanegol yr ŷch chi’n ei gynnig o safbwynt athrawon sy’n medru dysgu pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg, oherwydd mae lefel recriwtio athrawon cyfrwng Cymraeg yn y flwyddyn 2015-16, y flwyddyn ddiwethaf y mae gyda ni ffigurau ar ei chyfer, ar ei hisaf ers 2008-09. Felly, rhowch chi hynny ochr yn ochr ag uchelgais y Llywodraeth o safbwynt ble yr ŷm ni’n mynd ar nifer y siaradwyr Cymraeg ac mae’n amlwg bod angen bod yn rhagweithiol ar y ffrynt yna, ac rwy’n croesawu hynny yn fawr iawn.Mi oedd eich datganiad chi’n sôn bod angen edrych hefyd ar ardaloedd gwledig yn benodol, ond nid wyf i’n gweld cyfeiriad at gymhellion yn y cyd-destun hynny. Efallai y gallech chi roi ychydig o sylwadau i ni ynglŷn â sut yr ŷch chi’n gweld modd o gymell pobl i edrych i’r cyfeiriad penodol yna. Rŷch chi hefyd wedi dweud yn y gorffennol fod yna ddiffyg amrywiaeth ar draws y gweithlu dysgu, ac mi ddywedoch chi wrth y pwyllgor ychydig yn ôl fod yna job o waith sydd angen ei wneud i fynd i’r afael â hynny gan y Llywodraeth. Nid oes dim byd yn eich datganiad chi ynglŷn â hynny, ac efallai y byddwch chi’n gallu rhoi diweddariad i ni o’r hyn yr ŷch chi wedi bod yn ei wneud i geisio cyflwyno mwy o amrywiaeth yn y gweithlu dysgu yng Nghymru.Mae’r grŵp arbenigol, yr ‘ITE expert forum’, hefyd wedi bod yn edrych ar adolygu tystiolaeth o’r arfer gorau am lwybrau amgen i mewn i ddysgu. Rŷch chi wedi cyffwrdd â hyn unwaith neu ddwy yn y gorffennol, ond byddai’n dda cael diweddariad ac efallai cael gwybod pryd y gallwn ni ddisgwyl rhywbeth mwy cynhwysfawr o gwmpas y maes yna.Mae yna nifer o rwystrau, wrth gwrs, i recriwtio athrawon newydd. Nid oes neb yn honni bod yn un ateb—mae angen cyfres o atebion, mewn gwirionedd. Ond un sy’n codi ei ben yn gyson yw’r gofyniad i gael gradd B mewn TGAU mathemateg. Nawr, rwy’n gwybod ein bod ni’n annog ac yn awyddus i godi safon yr addysgwyr sydd gennym ni yng Nghymru, ond pan mae rhywun fel John Furlong ei hunan yn codi cwestiwn ynglŷn â gwerth hynny yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, mae yn bwysig, rwy’n meddwl, ein bod ni jest yn stopio i edrych ar hynny. A byddwn i jest yn gofyn i chi ddweud: a ydych chi yn credu bod newid hwnnw yn y ‘mix’ o gwbl, neu a ydych chi’n gwbl hapus bod hynny’n mynd i aros yn yr hirdymor?Rŷm ni wedi cyffwrdd â biwrocratiaeth, felly af i ddim ar ôl hynny.O safbwynt yr athrawon cyflenwi, yn sicr rwy’n croesawu’r cyhoeddiad ynglŷn â’r trefniadau cyflenwi mewn clwstwr fel cam i’r cyfeiriad iawn. Fel yr ŷch chi’n dweud eich hunan, peilot yn amlwg fydd llawer o’r gwaith yma. Roeddwn innau hefyd yn rhannu rhai o’r cwestiynau ynglŷn â’r niferoedd isel o athrawon a’r niferoedd isel o ysgolion a oedd yn cael eu cynnwys yn hyn. Ond, wrth gwrs, rydym ni hefyd yn sôn fan hyn am 50 o athrawon newydd gymhwyso, tra bo gennym 4,000 o athrawon cyflenwi yng Nghymru, a nifer o’r rheini yn sicr yn teimlo nad ydyn nhw, efallai, wedi cael y gefnogaeth a’r statws y bydden nhw yn eu dymuno. Ac rydw i wedi codi gyda chi ar nifer o achlysuron yn ddiweddar y problemau o gwmpas tâl ac amodau, ac af i ddim nôl dros y tir yna, ond yn sicr mae rôl yr asiantaethau preifat yma, sydd wedi cynyddu yn sylweddol o ryw ddwsin rai blynyddoedd yn ôl i bron i 50 erbyn hyn, wedi peri tipyn o gonsérn i nifer sy’n gweithio yn y sector.Felly, yr hyn y liciwn i ofyn yw: yn amlwg, peilot yw hwn—mae’n rhoi rhyw flas ar y cyfeiriad, efallai, mae’r Llywodraeth yn symud tuag ato fe—ond ble ŷch chi’n gweld y ddarpariaeth, a pha fath o fodel ŷch chi’n gweld yn y tymor hir? A ydy hyn yn gnewyllyn o’r model y byddech chi’n hoffi ei weld yn cael ei ddatblygu ar draws Cymru yn y pen draw, neu a ydych chi’n dal i fod yn edrych ar fodelau amgen yn ogystal â’r hyn sydd wedi cael ei gyhoeddi hefyd?Rŷm ni wedi clywed, wrth gwrs, fod yn rhaid datganoli tâl ac amodau i athrawon cyn bo modd, efallai, mynd i’r afael i’r graddau y byddem ni i gyd yn hoffi mynd i’r afael â rhai o’r materion yma. Ond byddwn i’n falch petasai chi’n cadarnhau mai’ch bwriad chi yn y pen draw fydd mynd i’r afael, unwaith ac am byth, â’r mater o dâl ac amodau i athrawon cyflenwi a rôl y sector breifat pan fyddwch chi’n teimlo bod gennych chi’r pwerau i wneud hynny.A jest i gloi, rŷch chi’n dweud yn eich datganiad bod y gweithlu dysgu yn cynnwys pobl mewn nifer o rolau gwahanol, oll yn chwarae rhan allweddol wrth godi safonau, ond nid oes yna ddim sôn am gynorthwywyr dosbarth wedi bod cymaint ag y byddwn i’n licio yn y drafodaeth gyffredinol yma am recriwtio athrawon, a recriwtio a chadw cynorthwywyr dosbarth, a dweud y gwir, oherwydd maen nhw yn elfen bwysig o’r glud sy’n dal y gyfundrefn addysg at ei gilydd yn y dyddiau sydd ohoni, lle mae llawer o bwysau ar y system. Mae yna lawer yn teimlo nad yw’r grŵp yma chwaith wedi cael y gydnabyddiaeth y maen nhw yn ei haeddu, ac yn sicr y tâl a’r amodau y maen nhw yn eu haeddu. Byddwn i’n falch o glywed beth yw’ch neges chi iddyn nhw hefyd, oherwydd mae’n bwysig ein bod ni’n cofio, am bob un athro, mae yna un cynorthwyydd dosbarth yng Nghymru, a byddwn i’n licio gwybod pa waith ŷch chi a’r Llywodraeth yn ei wneud o ran recriwtio a chadw'r gweithlu yn y sector benodol honno. Kirsty Williams AC: Diolch yn fawr iawn, Llŷr, am y gyfres yna o gwestiynau.O ran cael eich derbyn ar gwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon, ac a wyf i'n bwriadu dileu’r gofyniad am radd B mewn Saesneg a mathemateg, nid oes gennyf unrhyw fwriad i wneud hynny ar hyn o bryd. Byddwch yn ymwybodol fod y fframwaith llythrennedd a rhifedd yn berthnasol i’n holl gwricwlwm ar gyfer hyd gyrfa ysgol plant, ac felly byddai angen i'n holl ymarferwyr gael sylfaen gadarn yn Saesneg ac mewn mathemateg.I'r bobl hynny sydd efallai yn edrych—.A dyna pam mae hi mor bwysig nad yw athrawon yn bancio graddau pan eu bod nhw’n paratoi disgyblion i wneud eu harholiadau yn gynnar, oherwydd bod goblygiadau i'r bobl ifanc hynny yn y dyfodol—.Dim ond y penwythnos hwn, cwrddais â mam nad oedd ag unrhyw syniad, wrth dderbyn gradd C, y byddai hynny'n atal ei mab rhag dilyn gyrfa mewn addysgu.Felly, mae angen inni fod yn glir bod gennym ni’r safonau hyn.Yn achos y bobl hynny sydd o bosib yn dychwelyd i addysgu, efallai yn newid gyrfa neu bobl sy'n dymuno mynd i mewn i'r proffesiwn lle mae ganddyn nhw radd C, yna mae dewisiadau ar gael i wneud prawf cywerthedd drwy'r prifysgolion ar adeg y cais.Felly, nid yw hynny’n golygu nad oes gan bobl gyfle i sicrhau neu ddangos eu sgiliau a'u gwybodaeth mewn ffordd wahanol, oherwydd mae recriwtio graddedigion, newid gyrfa a llwybrau amgen i'r proffesiwn yn bethau yr ydym ni’n edrych yn ofalus arnyn nhw ar hyn o bryd.Y llynedd, fe welsom ni 20 o bobl yn cael eu cyflogi gan ysgolion ac yn mynd drwy broses hyfforddi.Fe hoffwn i weld mwy o hynny, ac, fel y dywedais i, rydym ni’n edrych o ddifrif ar ffyrdd y gallwn ni gael llwybrau amgen i'r proffesiwn addysgu, yn enwedig i'r rheini sydd efallai wedi cael gyrfa mewn gwyddoniaeth a diwydiant, ac sydd nawr yn awyddus i symud i'r byd addysg er mwyn rhannu eu brwdfrydedd a'u gwybodaeth am y pwnc hwnnw gyda phobl ifanc.Mae hynny'n rhan o’r amrywiaeth eang o ffyrdd yr ydym ni’n edrych arnynt i roi gwybod i bobl am bosibiliadau addysgu.Pam y byddech chi’n ystyried bod yn athro a beth wyddoch chi am hynny?Dyna pam mae cynlluniau fel y cynllun mentora ieithoedd tramor modern mor bwysig yn ein prifysgolion, oherwydd eu bod nhw’n rhoi cyfle i’n myfyrwyr ieithoedd tramor modern gael cyfnodau o weithio gyda phobl ifanc yn yr ysgol a chyflwyno iddyn nhw’r posibilrwydd, efallai, o fod yn athro.Mae un o'r graddau ffiseg gorau ym Mhrifysgol Llundain yn gwneud i’w holl israddedigion ffiseg wneud uned ynglŷn â dysgu ffiseg.Rydym ni wedi bod yn siarad â'n sector prifysgol am gynnwys hynny yn ein cyrsiau gwyddoniaeth israddedig ni, fel bod pob myfyriwr israddedig yn cael y cyfle hwnnw i fod yn agored i'r posibilrwydd o addysgu fel gyrfa, fel y gallwn ni gael ystod eang o bobl sydd â diddordeb yn y proffesiwn.Fe wnaethoch chi ofyn am y sefyllfa barhaus ynglŷn ag athrawon cyflenwi a dyfynu’r ffigur o ychydig dros 4,000 o athrawon sydd wedi eu cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg fel athrawon cyflenwi—hynny yw, mae 4,200 o athrawon sydd wedi'u cofrestru ar hyn o bryd fel athrawon cyflenwi.Mae'n bwysig dweud, Llyr, y caiff hanner y rheini eu cyflogi drwy gyfrwng ysgolion ac awdurdodau lleol ac maen nhw ar ddogfen tâl ac amodau athrawon yr ysgol.Felly, maen nhw’n cael eu talu yn y modd hwnnw.Felly, mae'n bwysig cydnabod, pan fyddwn ni’n sôn am y system gyflenwi, bod 50 y cant o'r rheini yn gweithio ac yn cael eu talu ar delerau dogfennau tâl ac amodau athrawon ysgol.Mae hynny'n ein gadael ni gydag oddeutu 2,100 o athrawon sydd wedi'u cofrestru gydag asiantaethau masnachol—sef tua 6 y cant o'n holl athrawon cofrestredig sy'n cael eu cyflogi ar y sail honno.Rwyf eisiau ei gwneud hi’n hollol glir, nid wyf i’n cymeradwyo arfer ysgolion ac asiantaethau o gynnig cyfraddau tâl isel i athrawon cyflenwi.Fe ddywedais i heddiw yn fy natganiad, fy mod yn disgwyl i athrawon dros dro gael eu gwobrwyo a'u cefnogi'n briodol ar gyfer y gwaith y maen nhw’n ei wneud.Felly, gallai'r dull yr wyf i wedi'i amlinellu heddiw ynglŷn ag Athrawon Newydd Gymhwyso gynnig model amgen dichonol i ni yn hytrach na defnyddio asiantaethau cyflenwi wrth i ni gamu i’r dyfodol. Ac, ar hyn o bryd, rwyf wrthi’n ystyried y posibilrwydd o gyflwyno system baru ganolog i gyd-fynd â blwyddyn gyntaf datganoli tâl ac amodau athrawon, gyda’r cyfrifoldebau hynny’n cael eu trosglwyddo yn nhymor yr hydref 2018.Felly, 2019 fydd ein blwyddyn gyflog gyntaf y bydd y system honno’n weithredol.Mae’n rhaid i’r system hon fod yn un sy'n ateb gofynion Cymru. Ni all fod yn system lle nad ydym ni wedi gwneud dim amgenach na’i thrawsblannu o rywle arall.Gadewch i mi ei gwneud hi’n gwbl glir eto: mae'r mater hwn wedi'i ddatganoli i benaethiaid. Mater i benaethiaid yn eu hysgolion yw gwneud trefniadau ar gyfer cyflogi athrawon cyflenwi. Nid oes dim yn eu gorfodi i ddefnyddio asiantaeth; nhw sy’n penderfynu.Fe allwn ni ddadlau ynghylch pa un a ydym ni eisiau rheoli ysgolion yn lleol, neu a ydym ni eisiau tynnu’r pwerau hynny oddi ar benaethiaid a gorfodi system genedlaethol arnyn nhw. Fe allwn ni gael dadl ynghylch hynny, ond mae'n dangos bod hwn yn fater eithaf cymhleth ac oherwydd y cymhlethdodau hynny, cofiwch, dyna pam na allai'r grŵp gorchwyl a gorffen argymell un system ar gyfer Cymru y gellid ei gweithredu'n gyflym.Ond, rydym ni’n parhau i edrych ar hyn, ac mae'r cynllun arbrofol hwn, fel y dywedais i, yn rhoi’r posibilrwydd o fodel amgen inni. Hefin David AC: Mae hwnna'n ateb trylwyr iawn.Rwy’n croesawu’n fawr, mae'n rhaid i mi ddweud, y ffaith y bydd y system ganolog yn cyd-fynd â datganoli cyflogau ac amodau athrawon. Roeddwn yn synnu na chafodd ei grybwyll yn natganiad i'r wasg Lywodraeth Cymru, oherwydd credaf fod hynny'n fater sylfaenol a fydd o fantais i athrawon cyflenwi yn yr amgylchiadau hyn.Felly, rydych chi yn cydnabod, yr hyn oedd wrth wraidd fy nghwestiwn, y bydd datganoli cyflogau ac amodau yn eich galluogi i gymryd camau pellach.Felly, a yw'r wybodaeth a fydd yn arwain at sefydlu'r system baru yn deillio o sefydlu'r system glwstwr yr ydych chi'n arbrofi gyda hi?Ai o’r fan yna y mae hi’n deillio?Y mater arall yr hoffwn i gyfeirio ato, y mae etholwyr wedi dwyn fy sylw ato, yw eu bod nhw'n bryderus iawn am ‘New Directions’, sef y corff a ddewisiwyd i ddarparu athrawon cyflenwi.A fydd y fframwaith cyfredol hwnnw yn cael ei adnewyddu pan ddaw’r contract i ben?A pha gynlluniau yn y dyfodol sydd gan y Llywodraeth ynglŷn â chynnwys asiantaethau wrth ddarparu athrawon cyflenwi? Kirsty Williams AC: Diolch, Hefin.Fel y dywedais i, rydym ni ar hyn o bryd wrthi’n ystyried pa mor ddichonadwy fyddai system baru genedlaethol i gyd-fynd â datganoli telerau ac amodau.Yr hyn sy'n bwysig iawn yw ein bod ni’n gwneud hyn mewn trafodaeth gyda'r undebau eu hunain, fel eu bod nhw’n rhan annatod o'r broses hon wrth symud ymlaen. Mae gennym ni fodel partneriaeth gymdeithasol yma yn Llywodraeth Cymru, lle yr ydym ni’n gweithio yn yr ysbryd cydweithredol hwnnw sy’n bodoli rhyngom ni fel Llywodraeth, llywodraeth leol fel y cyflogwyr ac ysgolion fel y cyflogwyr, yn ogystal â'r undebau.Unwaith eto, mae'n rhaid i mi ddweud: Nid wyf i’n cyflogi athrawon ac, felly, nid fy nghontract i yw contract ‘New Directions’, nid contract Llywodraeth Cymru mohono, ac nid oes dim sy'n gorfodi penaethiaid i ddefnyddio'r asiantaeth honno, neu, yn wir, unrhyw un o'r asiantaethau eraill sydd ar gael. Pa un a fydd y model hwnnw'n parhau i fodoli ar ôl i ni orffen ein hastudiaeth o ddichonoldeb ac ystyried dewisiadau polisi, wel, byddai hynny'n fater iddyn nhw; penderfyniad masnachol iddyn nhw yw hwnnw.Ond yr hyn sy'n bwysig i ni yw bod gennym ni ddewis arall ar gael i athrawon, penaethiaid, ysgolion ac awdurdodau lleol wrth symud ymlaen, a bod y gwaith hwnnw'n digwydd yn ymarferol ar hyn o bryd, oherwydd rwy’n cydnabod y pryderon a fynegwyd, ac mae’r datganiad heddiw ynglŷn ag Athrawon Newydd Gymhwyso yn ddatganiad o'm bwriad. Michelle Brown AC: Diolch ichi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, sy'n sicr yn cynrychioli cam i'r cyfeiriad cywir.Mae'r datganiad yn dwyn yr enw 'recriwtio athrawon', ond ni allaf wir weld ble yr ydych chi'n siarad am recriwtio athrawon yn gyffredinol wrth fynd i'r afael â'r problemau sylfaenol a nodwyd ynglŷn â recriwtio athrawon yng Nghymru.Rwy’n gweld tri chyhoeddiad pendant yn y datganiad, a’r cyntaf o’r rhain yw’r cymhelliant cyfrwng Cymraeg, sy’n syniad gwych yn fy nhyb i. Nid yw hi ond yn iawn a phriodol y dylai Llywodraeth Cymru annog addysg trwy gyfrwng y Gymraeg, ac rydym ni’n hen gyfarwydd yn y Siambr hon â phrinder yr athrawon hynny.Yn amlwg, rwy’n cefnogi'ch amcan yn llwyr yn hyn o beth, ac felly hefyd eich mesur i gyfrif gwyddoniaeth gyfrifiadurol fel cymhwyster i gael cymhelliant uwch.Gan droi at y cyllid ar gyfer trefniadau clwstwr mewn ysgolion, mae hwn yn ymddangos yn syniad da iawn, ond nid oes unrhyw fanylion—.Rwy'n gwybod eich bod wedi rhoi rhywfaint o fanylion heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, ond ychydig iawn—nid oes unrhyw fanylion yn eich datganiad ei hun.Felly, wyddoch chi, os yw disgyblion ac ysgolion yn gallu meithrin perthynas waith gyda chriw rheolaidd o athrawon cyflenwi, yn hytrach na bod yr athro cyflenwi yn aml yn ddieithryn llwyr, mae hynny'n llawer gwell i'r athro cyflenwi, yr ysgol a'r disgyblion. Felly, sut ydych chi'n rhagweld y bydd y clystyrau'n gweithio'n ymarferol?Ydych chi'n gweld yr awdurdod lleol—?A fydd yn golygu clwstwr fesul awdurdod lleol neu a fydd yr awdurdodau lleol yn clystyru gyda'i gilydd?Sut mae'n mynd i weithio ar lawr gwlad yn eich tyb chi?Sylwaf yr hoffech chi gyflogi cronfa o athrawon cyflenwi, sydd, rwy’n credu, eto, fel y dywedais i, yn syniad da.Ond nid oes arnom ni eisiau i athrawon newydd gymhwyso droi yn athrawon cyflenwi hirdymor, felly fe hoffwn i weld rhyw fath o gynnig neu glywed pa waith yr ydych chi'n ei wneud i sicrhau nad yw hynny'n digwydd.Yr hyn rwy’n ei olygu yw, yn amlwg, mae gweithio fel athro cyflenwi yn mynd i fod yn ffordd ddefnyddiol iawn i athro newydd gymhwyso fagu profiad, felly nid wyf am ddifrïo’r llwybr athrawon cyflenwi o gwbl.Rydych chi wedi dweud, a bu peth sôn amdano eisoes, mai dim ond 15 awdurdod lleol yn cynnwys 86 o ysgolion sy'n cael eu hariannu i redeg y trefniant clwstwr hwn.Rwyf wedi dod i ryw fath o gasgliad o'r sgyrsiau heddiw mai cynllun arbrofol yw hwn, ond, wyddoch chi, beth fydd eich meini prawf o ran dyfarnu'r arian?Rydych chi wedi neilltuo £2.7 miliwn.Sut gaiff hwnnw ei ddosrannu rhwng y clystyrau?Pwy sy'n mynd i wneud y penderfyniad ynghylch faint y mae pob clwstwr yn ei gael?A sut mae'n mynd i weithio mewn gwirionedd? A fydd yn rhaid i'r awdurdodau lleol hyn wneud cais am yr arian neu a ydych chi am benderfynu yn seiliedig ar feini prawf penodol, ac, os felly, beth yw'r meini prawf yn debygol o fod? Ydych chi'n meddwl hefyd eich bod yn debygol o ehangu’r system hon i'r awdurdodau lleol nad ydyn nhw wedi eu cynnwys ar hyn o bryd?Iawn. Mae'n peri pryder imi fod, yn ôl ffigurau Cyngor y Gweithlu Addysg, dros 80 y cant o athrawon sydd newydd eu cofrestru yng Nghymru yn gweithio ar sail tymor penodol neu gyflenwol.Nid wyf i’n gweld unrhyw fesurau i fynd i'r afael â hyn yn eich datganiad, felly efallai y gallech chi ddweud ychydig mewn ymateb i hynny.Nid wyf yn gweld unrhyw gynigion i fynd i'r afael â'r cyhoeddusrwydd negyddol am ansawdd yr hyfforddiant yng Nghymru na chanfyddiad myfyrwyr bod y proffesiwn yn mynd yn anoddach a bod y proffesiwn yn anneniadol.Nid fy ngeiriau i yw'r rhain; dyna eiriau Cyngor y Gweithlu Addysg, gyda llaw.Mae nifer y cofrestriadau newydd ar gyfer athrawon ysgol yn is eleni nag y bu ers 2004.Ac, er bod y datganiad yn honni ei fod yn cynnig atebion arloesol i'r broblem, heblaw am y tri mesur a drafodwyd eisoes, nid oes fawr mwy na hynny.Felly, fe hoffwn i glywed pa waith arall yr ydych chi'n ei wneud i fynd i'r afael â'r problemau sylfaenol a'r rhwystrau i hyfforddi athrawon yng Nghymru sydd wedi'u nodi gan Gyngor y Gweithlu Addysg ac eraill.Diolch. Kirsty Williams AC: Diolch am y gyfres yna o gwestiynau.Mae'n bwysig ein bod ni’n blaenoriaethu'r rhai a fydd yn mynd ymlaen i fod yn athrawon yn ein hysgolion dwyieithog a’n hysgolion cyfrwng Cymraeg.Dyna pam mae’r Gymraeg yn bwnc blaenoriaeth ar gyfer cymhellion, ac y priodolir iddo’r cymhellion uchaf i astudio ar gyfer TAR. Rydym ni hefyd yn cyhoeddi cynllun newydd heddiw, fel yr ydych wedi cyfeirio ato, a fydd yn daliad ar ôl llwyddo i ennill statws athro cymwysedig, gydag ail daliad i'r graddedigion hynny ar ôl cwblhau eu blwyddyn sefydlu yn llwyddiannus mewn ysgol Gymraeg. Felly, nid arian ymlaen llaw yw hwn.Mae hyn yn ymwneud mewn gwirionedd â chymell pobl i orffen eu cwrs a mynd ymlaen i ddysgu mewn ysgol. Felly, nid yw hyn yn ymwneud yn unig â thalu drwy gyfrwng cwrs; mae hyn yn ymwneud â chymell pobl mewn difrif i fentro i'n hystafelloedd dosbarth.Fe wnaethoch chi bwynt pwysig iawn ynghylch sut y gallwn ni symud pobl o'r cynllun SAC i swyddi parhaol.Yr hyn yr ydym yn ei wybod yw bod SAC, athrawon newydd gymhwyso, yn ffurfio rhan sylweddol o'n hathrawon cyflenwi, ac felly mae'n wirioneddol bwysig eu rhoi ar lwybr llwyddiannus ar gyfer dechrau eu gyrfa addysgu, a gobeithio y bydd y profiad hwnnw o fynd i ysgolion yn rhoi'r cyfle gorau posibl iddyn nhw sicrhau gwaith parhaol yn yr ysgol, os mai dyna yw eu dymuniad. Mae'r syniad hwn o ddilyniant, mewn gwirionedd, yn bwysig iawn. Dyna un o ddiffygion model Gogledd Iwerddon.Mae llawer o bobl yn y Siambr hon wedi sôn am fodel Gogledd Iwerddon.Un o ddiffygion y model hwnnw yw nad oes ffordd glir i bobl adael y gofrestr gyflenwi a symud i swyddi addysgu parhaol.Does arnom ni ddim eisiau i athrawon sydd eisiau swydd barhaol fod yn gaeth i un system.Mae awdurdodau lleol wedi gwneud cais am yr arian.Mae’r arian wedi ei ddyrannu yn seiliedig ar gryfder eu ceisiadau o ran effaith, cynaliadwyedd ac ansawdd yr hyn a gynigiwyd ganddynt. Derbyniwyd un ar bymtheg o geisiadau gan awdurdodau lleol, ac ystyriwyd bod 15 yn llwyddiannus, ac mae'r holl awdurdodau lleol hynny wedi cael gwybod am fwriad Llywodraeth Cymru i roi grant iddynt.Mae Michelle yn gofyn am amgyffred pobl o addysg gychwynnol athrawon yng Nghymru, ac nid ydych chi'n anghywir.Efallai nad yw ein darpariaeth yn y gorffennol wedi bod cystal ag y buasem yn dymuno iddo fod, ac fe gafodd hynny ei amlinellu yn adroddiad yr Athro John Furlong, a dyna pam yr ydym ni’n diwygio'r ddarpariaeth Addysg Gychwynnol Athrawon yng Nghymru ar hyn o bryd.Rwyf eisiau i bobl ddod i Gymru, nid dim ond oherwydd ein bod ni’n cynnig cymhellion ariannol, ond byddant yn dod i'n prifysgolion i hyfforddi i fod yn athrawon oherwydd eu bod yn gwybod beth fydd ar gael iddyn nhw mewn system addysg o'r radd flaenaf ac y bydd ganddyn nhw’r sylfaen academaidd gorau posib i'w cychwyn ar yrfa lwyddiannus.A dyna pam yr ydym ni’n diwygio'r ffordd yr ydym ni’n cyflwyno addysg gychwynnol athrawon wrth i ni symud ymlaen.Mae amrywiaeth eang o sefydliadau wedi mynegi diddordeb mawr yn hyn—nid dim ond y sefydliadau arferol hynny sydd wedi gwneud hynny yn y gorffennol—ac rydym ni wrthi ar hyn o bryd yn bwrw golwg beirniadol iawn dros y datganiadau hynny o ddiddordeb a’r cynigion.Nid proses ar fy nghyfer i fydd dyrannu ac achredu'r cyrsiau hynny, ac mae fy neges yn hollol, hollol glir: oni bai eu bod o ansawdd uchel, ni chânt eu comisiynu, oherwydd ein bod eisiau i athrawon y dyfodol fod wedi eu haddysgu i'r safonau uchaf posib. Mae gennym ni ein hymgyrch Darganfod Addysgu; rydym ni’n gweithio gyda'n prifysgolion, fel y dywedais i, i wneud eu myfyrwyr israddedig yn ymwybodol o’r posibilrwydd o addysgu; mae gennym ni ein cymhellion; rydym ni’r mynd i’r afael â’r llwyth gwaith; ac rydym ni’n mynd i’r afael ag arweinyddiaeth. Rwyf eisiau i Gymru fod y lle gorau i fod yn athro.Nid oes unrhyw ffordd hud unigol o wneud hynny.Cyfanrwydd ein diwygiadau fydd yn gwneud i hynny ddigwydd. Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. 5. 5. Datganiad: Y Rhaglen Tai Arloesol Eitem 5 ar yr agenda yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar y rhaglen tai arloesol, ac rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant, i wneud y datganiad. Carl Sargeant AC: Diolch, Dirprwy Lywydd.Mae 'Ffyniant i Bawb' yn egluro bwriad y Llywodraeth hon i wella ffyniant a lles unigolion, teuluoedd a chymunedau. Mae tai yn un o'r pum maes blaenoriaeth sy’n drawsbynciol a nodwyd yn y strategaeth ac mae’n sail i gyflawni nifer o amcanion strategol eraill.Mae angen cartrefi o ansawdd da ar bobl ar hyd eu hoes.Maen nhw’n rhoi mangre i blentyn dyfu a ffynnu ynddi.Mae tai gweddus yn lleihau straen ar unigolion a theulu, ac mae adeiladu ac adnewyddu cartrefi yn creu cyfleoedd enfawr o ran swyddi a hyfforddiant.Mae angen lle i fyw ar bobl hŷn i gael ymddeoliad hwyliog a chysurus.Ac mae angen y cartrefi hyn o ansawdd da ar bobl ar unwaith.Cynyddu'r nifer sydd ar gael, cyfradd eu cyflenwi, eu fforddiadwyedd, gan leihau eu heffaith ar yr amgylchedd, yw’r heriau amlwg.Mae ein nod o 20,000 o dai fforddiadwy yn ganolog i gynyddu'r cyflenwad ledled yr holl ddeiliadaethau, ac rwy’n awyddus i wneud mwy i helpu pobl beth bynnag fo’u hoedran a beth bynnag fo’u hamgylchiadau.Yn y bôn, rwy'n bwriadu dod o hyd i ffyrdd newydd nid yn unig o ran cynyddu nifer y cartrefi sydd ar gael, ond hefyd o ran pa mor gyflym y gellid cyflenwi mwy ohonyn nhw.Nododd canfyddiadau adroddiad Farmer, 'Modernize or Die', yn eglur broblemau difrifol iawn yn y diwydiant adeiladu yn y DU.Roedd yn amlwg i mi y byddai dulliau traddodiadol o adeiladu tai yn annhebygol o gyflawni'r newidiadau sy’n angenrheidiol.Roedd angen dull newydd ac arloesol. Dangosodd yr adroddiad a gomisiynwyd gan Ysgol Bensaernïaeth Cymru, er nad oes un ateb syml at bob achos, mae yna lawer o fodelau a dulliau posib ar gael.Dyna pam, ym mis Chwefror eleni, lansiais y gronfa dai arloesol.Gyda £10 miliwn ar gael eleni a'r flwyddyn nesaf, gwahoddwyd cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol i wneud cais am adnoddau i ddefnyddio modelau tai newydd, llwybrau cyflenwi newydd a thechnegau adeiladu newydd.Rhoddais her i sefydliadau ddatblygu meddylfryd ffres o ran cyflenwi cyn gynted â phosib.Rwyf wedi fy synnu a’m plesio gan y diddordeb mawr yn y rhaglen a'r ymateb brwdfrydig iddi.Mae hyn wedi mynd y tu hwnt i landlordiaid tai cymdeithasol i gynnwys llawer o sefydliadau eraill, gan gynnwys mentrau bach a chanolig, benthycwyr, academyddion a chyrff proffesiynol.Rydym wedi siarad â llawer o bobl eleni, o ystod eang o gefndiroedd, ac mae eu barn a'u syniadau wedi helpu i lunio'r rhaglen.Mae llawer wedi rhoi o’u hamser hefyd, gan ein helpu ni gyda phopeth, o ddatblygu'r dogfennau technegol hyd at edrych ar sut mae’r pecynnau cais yn mynd i weithio ac asesu ceisiadau.Rwy'n estyn fy niolch diffuant i bawb dan sylw.Ym mis Medi, daeth 35 o geisiadau am gyllid i law.Gofynnais i banel annibynnol asesu'r cynlluniau i nodi sut yr oedden nhw’n cynnig yr arloesedd a'r gwerth sydd ei angen ar gyfer graddfa'r newid yr hoffwn ei weld.Ar y sail honno, rwy'n falch iawn fy mod wedi penderfynu ariannu 22 o gynlluniau yn ystod y flwyddyn ariannol hon.Yn amodol ar y gwiriadau diwydrwydd dyladwy sy’n angenrheidiol, byddaf yn sicrhau bod bron £19 miliwn ar gael i adeiladu 276 o gartrefi newydd—bron dwbl yr hyn a fwriadwyd.Bydd rhestr lawn o'r cynlluniau a fu’n llwyddiannus ar y wefan yn ddiweddarach yr wythnos hon pan fydd yr holl ymgeiswyr llwyddiannus ac aflwyddiannus wedi cael gwybod.Er hynny, Llywydd, rwy’n awyddus i ddweud wrthych am rai ohonyn nhw er mwyn rhoi syniad i chi o ehangder yr hyn y byddwn yn ei ariannu.Yn gyntaf, bydd cynllun a fydd yn cyflwyno elfennau o'r prosiect a fydd yn troi cartrefi’n orsafoedd pŵer, prosiect gan SPECIFIC, y Ganolfan Beirianneg Cynnyrch Cynaliadwy ar gyfer Haenau Diwydiannol Gweithredol Arloesol. Bydd pobl yn elwa o gartrefi sydd nid yn unig yn arbed arian iddyn nhw, ond yn ffynhonell o incwm drwy gynhyrchu pŵer—bydd llawer ohonoch chi’n gwybod bod datblygiad y model hwn wedi cael cefnogaeth sylweddol gan Lywodraeth Cymru.Mae ei weld ar waith yn gyffrous iawn. Mae yna brosiect newydd gofal ychwanegol 40 gwely ar gyfer pobl hŷn yn y Cymoedd, a adeiladwyd gan ddefnyddio technegau modiwlar gan fusnesau bach a chanolig yng nghanolbarth Cymru—rwy'n credu bod cartrefi modiwlaidd a adeiladwyd mewn ffatrïoedd yn cynnig cyfleoedd mawr i gynyddu cyflymder adeiladu ac ansawdd y cartrefi.Rwy’n ariannu cynlluniau modiwlaidd eraill, fel y gallwn ni gymharu a chyferbynnu modelau. Bydd hyn yn ein galluogi ni i weld beth sy'n gweithio orau yma a nodi cyfleoedd ond hefyd y problemau a all godi. Drwy adeiladu 24 o gartrefi yng nghanolbarth Cymru gan ddefnyddio'r model cartrefi cartref, lle defnyddir pren wedi'i dyfu'n lleol i ddarparu cartrefi o ansawdd uchel a darbodus gydag ynni—bydd hyn yn cefnogi swyddi a hyfforddiant newydd yn lleol fel rhan o'n gwaith ni sy’n cefnogi’r tyfwyr coed ledled Cymru.Llywydd, rwyf hefyd yn ariannu cynlluniau sy'n cynnwys cartrefi a wneir o gynwysyddion a ailgylchwyd er mwyn profi a ydynt yn addas fel atebion byw byrdymor neu dros dro i’r bobl sydd â'r angen mwyaf am dai.Rwy'n credu bod yn rhaid inni roi cynnig ar yr holl ddatrysiadau yn y maes hwn.Nid yw arloesedd heb ei risg, ac nid wyf yn disgwyl i bob cynllun ddarparu'r atebion hirdymor yr ydym yn chwilio amdanyn nhw.Ond yr hyn y gwn yw ei bod yn rhaid i ni wneud rhywbeth gwahanol ac mae'r prosiectau hyn wedi'u dewis yn ofalus.Bydd yr holl gynlluniau yn cael eu monitro a’u gwerthuso fel y gallwn ddysgu o'r hyn sy'n gweithio orau a pham felly.Mae hynny'n cynnwys gofyn i bobl sut beth ydyw byw ynddyn nhw.Llywydd, y flwyddyn nesaf, rwy’n awyddus i agor y rhaglen i gynnwys y sector preifat, yn ogystal â landlordiaid cymdeithasol, i’w galluogi i'n helpu ni i chwilio am atebion. Y mis diwethaf, cyhoeddais gynnydd yn y gronfa datblygu eiddo i gynorthwyo adeiladwyr tai a datblygwyr busnesau bach a chanolig i ddychwelyd i'r farchnad.Bydd y gronfa honno, ynghyd â'r rhaglen hon, yn ein helpu ni i ddarparu mathau newydd o gartrefi a fydd yn gymorth i ddiwallu anghenion pobl yng Nghymru ar hyn o bryd ac, rwy’n gobeithio, ymhell i'r dyfodol.Diolch. David Melding AC: Rhaid imi ddweud fy mod yn synhwyro awgrym o anogaeth yn y datganiad hwn, ac nid yw hynny bob amser wedi bod yn wir am faterion tai yn achos Llywodraeth Cymru, ac rydym wedi anghytuno weithiau.Ond rwy'n croesawu agweddau ar y datganiad hwn yn arbennig felly.Er enghraifft, wrth adeiladu tai, mae’n dweud, ac rwy’n dyfynnu, bydd yn creu cyfleoedd enfawr ar gyfer swyddi a hyfforddiant,Rwy’n cytuno'n llwyr â hynny, a hefyd ei fod yn awyddus iddod o hyd i ffyrdd newydd, nid yn unig o ran cynyddu nifer y cartrefi sydd ar gael, ond hefyd o ran pa mor gyflym y gellir cyflenwi mwy ohonyn nhw.Rwy'n credu mai dyna'r cywair sydd ei angen arnom i ddiwallu'r angen cyfredol am dai, ac rwy'n falch o glywed hynny ganddo.Yn llai optimistaidd, ond mae hefyd, gwaetha’r modd, yn faes y mae’n rhaid i mi gytuno ag ef arno, y casgliad y daw’r adroddiad y cyfeiriodd ato iddo, sef bod yna broblemau difrifol iawn yn ein hwynebu ni yn niwydiant adeiladu’r DU. Ond rwy'n credu bod hynny’n gofyn am ddull cynhwysfawr, drwy'r sector addysg bellach yn benodol, i sicrhau y caiff y sgiliau newydd sydd eu hangen ar y diwydiant adeiladu eu darparu, a chyfeiriodd sawl gwaith at adeiladu modiwlaidd, a fydd yn galw am y sgiliau hynny.Rwy'n croesawu wir y nod o hyrwyddo arloesedd.Rwy'n credu mai dyna'n union yw’r hyn y dylem fod yn ceisio ei wneud mewn polisi cyhoeddus: defnyddio'r adnoddau yn fwy effeithiol, dwyn pethau ymlaen, a bodloni nifer o amcanion ar yr un pryd, os oes modd.Felly, am unwaith, a gaf i ei longyfarch am ei orwariant enfawr yn hyn o beth?Rwy'n tybio bod y gronfa bellach ddwywaith yn fwy nag y bwriadwyd ei gwario, a bydd yn ymestyn y gronfa i'r sector preifat hyd yn oed y flwyddyn nesaf, rhywbeth, eto, yr wyf i’n ei groesawu.Ond mae’n bwynt difrifol: rwyf i o’r farn pan fydd arloesi yn codi stêm—.Ac, fel y clywsom ni, rydych chi wedi cael eich synnu ac rydych yn falch iawn bod cymaint o brosiectau wedi’u cyflwyno. Eto, rwy’n credu bod hynny'n golygu eich bod wedi cyrraedd y man cywir, o ran rhaglen ddefnyddiol gan Lywodraeth.O ran y manylion, felly: cartrefi yn orsafoedd pŵer—rwy’n credu’n wir mai dyma’n union y math o uchelgais y dylem ei chael, sef defnyddio effeithlonrwydd ynni mewn tai fel ffordd o roi rhywfaint o incwm i bobl ac, yn amlwg, i gael gwared ar unrhyw risg o dlodi tanwydd i’r bobl yn y cartrefi hynny.Roeddwn yn falch iawn yn ddiweddar i ymweld â'r tŷ SOLCER ger Pen-y-bont ar Ogwr gyda'r pwyllgor.Roedd yn wirioneddol wych gweld yr ymarfer arloesol yn y fan honno, a chredaf fod hynny'n cynnwys Prifysgol Caerdydd, ac fe wnaethoch chi gyfeiriad at rywfaint o'u gwaith nhw.Yn wir, credaf mai’r hyn yr ydym yn dymuno’i weld yw'r math hwn o waith yn cael ei gyflwyno ymhellach, ac mae’r tŷ effeithlonrwydd ynni hwnnw hefyd o ddyluniad modiwlaidd.Rwy'n gwybod o ran hynny, eto, mai un o'r problemau yw sut i ddatblygu’r dechnoleg ymhellach o ran batris.Mae llawer o gynnydd wedi bod, ac fe ddangoson nhw hynny i ni.O’r blaen roedd y batri’n llenwi’r rhan fwyaf o’r gofod o dan y to, bellach maint rheiddiadur gweddol fawr ydyw.Felly, cafwyd cynnydd gwirioneddol, ond mae'n bwysig, rwy’n credu, ar gyfer bwydo yn ôl i'r grid a chael yr incwm hwnnw.Ond, yn bennaf oll, dywedwyd wrthym fod y math hwnnw o ddyluniad arloesol ar hyn o bryd, gan fod yn rhaid ei archebu’n bwrpasol o hyd, yn costio tua dwywaith yn fwy i’w adeiladu na deunyddiau traddodiadol.Eto, pan fydd cynnydd o ran maint, bydd y costau hynny'n lleihau yn ddramatig iawn.Rwy'n deall bod cyngor sir Caerfyrddin wrthi’n adeiladu ystad o dai cymdeithasol gan ddefnyddio'r dulliau newydd hyn. Tybed a yw'n edrych ar ddefnyddio'r sector tai cymdeithasol fel ffordd o sefydlu pa mor hyfyw yw’r math hwn o weithredu a dylunio modiwlaidd ac effeithlonrwydd ynni ac, yn wir, gynhyrchiant net.Bydd hynny'n cael ein cefnogaeth ni.O ran cartrefi modiwlaidd, eto rwy'n credu—.Hynny yw, roedd hyn yn rhan o'r ateb yn y 1950au; y gred oedd bod llawer o'r cartrefi hynny yn rhai dros dro ond mae un neu ddau o gwmpas hyd heddiw—mae'n debyg y byddan nhw’n cael eu cludo i Sain Ffagan cyn hir—oherwydd roeddent mewn gwirionedd yn eithaf poblogaidd ac roedd hi’n anodd cael rhai pobl i symud ohonyn nhw. Ond nawr mae'r dechnoleg wedi datblygu cymaint fel mai dyluniad modiwlar yw'r ffordd orau yn aml o adeiladu tai. Dyna yw'r newid sylfaenol sydd wedi digwydd, ac rwy'n falch o weld ei fod yntau’n ymuno â'r alwad i adeiladu gofal hyblyg ar gyfer pobl yn y Cymoedd, a byddai gen i ddiddordeb mawr i weld sut y bydd hynny’n cael ei drin.Rwy’n deall, y llynedd, fod Legal & General wedi agor ffatri bwrpasol i adeiladu tua 3,000 o gartrefi modiwlar ledled y DU. Maen nhw’n amcangyfrif y bydd yn cymryd 70 y cant yn llai o amser i adeiladu'r cartrefi hynny na dulliau traddodiadol.Felly, eto, rwy’n credu bod yna ddiwydiant arwyddocaol yma a ffordd o fanteisio arno os gallwn ni ddatblygu'r farchnad yng Nghymru.Felly, rwy’n croesawu hynny ac yn gobeithio y bydd dyluniad modiwlaidd yn cael ei ddefnyddio hefyd i ateb y gofynion mewn cymunedau trefol sy'n newid. Rwy'n gweld y rheini, yn enwedig ar sail egwyddorion amgylcheddol, y cyfeiriwyd atyn nhw gennych chi hefyd, yn rhan o'r ateb, fel y bydd gennym gartrefi o faint teuluol i bobl iau nad yw’n debygol y gallan nhw fforddio tŷ pâr traddodiadol. A beth bynnag, maen nhw’n croesawu’r ffordd newydd hwn o fyw ac maen nhw’n gweld y manteision o gael lle chwarae cymunedol efallai—ond, wyddoch chi, maen nhw hefyd yn adeiladau diddorol iawn ac arloesol i fyw ynddyn nhw ac yn effeithlon o ran ynni.Felly, rwyf i o’r farn, o ran dylunio trefol, fod yna lawer o gyfleoedd i’w cael yma.Ac yn wir, roedd y datganiad hwn yn chwa o awyr iach ac rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru yn gwneud peth cynnydd yn y meysydd hyn. Carl Sargeant AC: Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfraniad cadarnhaol gan yr Aelod a diolch iddo am ei eiriau caredig.Ychydig o bwyntiau, byddwn yn—. Roedd hi’n anodd iawn ar ddechrau'r broses hon, gan ei bod yn anodd torri ar hen arferion. Buom yn siarad â'r tîm ac fe ddywedon nhw, ‘Felly, beth yw'r paramedrau ynglŷn ag arloesedd?’sydd i ryw raddau’n trechu’r amcanion cyn dechrau.Dywedais i, ‘Nid oes paramedrau ynglŷn ag arloesedd am yr union fater hwnnw.Gadewch i bobl ddod atom ni gyda’r dewisiadau sydd ar gael’.Fodd bynnag, mae hynny ynddo'i hun yn achosi problemau, gan ein bod ni'n frith o arloesedd yn awr ac ar ryw adeg, bydd yn rhaid inni bennu'r hyn a ystyrir yn dda o ran mynd i'r afael â'r materion y mae'r Aelod yn eu codi, yn enwedig o ran maint.Mae llawer o werth ychwanegol, heblaw adeiladu cartref, yn deillio o’r pethau yr ydym yn sôn amdanyn nhw yn y datganiad ac y mae'r Aelod yn eu codi: sef, y dull o adeiladu’r unedau modiwlar hyn mewn modd sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd, pa mor effeithiol yw goddefgarwch o ddeunyddiau darfodol, ac ati, y sgiliau sy'n gysylltiedig â hynny, y datrysiad sy’n tarddu o Gymru.Ac mae rhywbeth yn hyn o beth.Pan fydd cwmnïau cyfreithiol neu gwmnïau yswiriant mawr yn buddsoddi mewn ffatrïoedd mawr i adeiladu unedau modiwlaidd, mae rhywbeth yn hynny o beth, a dyna pam y dylem fod yn symud tuag at hynny: ateb modiwlaidd sy'n tarddu o Gymru, sy’n gynnyrch o Gymru, a allai fod yn fyd-eang. Mewn gwirionedd, mae peth o'r dechnoleg yr ydym wedi ei gweld ledled Cymru yn flaenllaw drwy’r byd, felly rwy'n cael fy annog yn fawr gan hynny. Mae gweithio gyda Ken Skates a Julie James ar y sgiliau, y gadwyn gyflenwi, yr holl ddilyniant hwnnw sydd yn rhan o gyflwyno uned orffenedig, yn rhywbeth yr wyf yn llawn cyffro yn ei gylch.Mae'r cynnyrch penodol y mae'r Aelod wedi troi ato, cartrefi yn orsafoedd pŵer, rwy'n credu ei fod yn ateb dyfeisgar ac arloesol iawn. Rwyf eisoes wedi cwrdd â'r cwmni ac rwyf eisoes wedi dweud wrthyn nhw, ‘Rydym ni’n awyddus i fod â rhan yn hyn o beth’. Nid oherwydd ein bod ni'n dyheu am bunt i bwrs ein gwlad yma yng Nghymru, ond mewn gwirionedd werth yr ynni sy'n dod yn ei ôl—. Ie, efallai y bydd hynny'n dda o beth i'r ystad, ac yn dda o beth i denant yr eiddo, ond gellid ei ddefnyddio fel cost refeniw ar gyfer datblygu mwy o gartrefi i’r dyfodol.Felly, mae hon yn ffordd ragorol—yn gyfle—i ail-fuddsoddi’r arian a grëwyd mewn tai i ddatrys problem ar gyfer y dyfodol yn yr hirdymor.Mae'r gost, wrth gwrs, yn ddiddorol ar hyn o bryd, ac rwy'n barod i gymryd risgiau. Dywedais hynny yn y datganiad.Bydd rhai yn ffynnu ac ni fydd eraill yn ffynnu am wahanol resymau. Mae'n rhaid i ni ddefnyddio dull ar gyfer oes gyfan y cartref yma.Gwn y bydd prisiau ynni yn parhau i gynyddu, felly mae'n rhaid inni wneud rhywbeth i fynd i'r afael â'r materion hynny.Felly, mae eiddo positif yn cynhyrchu ynni yn rhywbeth y dylem ni ystyried buddsoddi ynddo.Rwyf wedi bod yn glir iawn i'r tîm sydd gennyf i.Rydym am wneud buddsoddiad gwerth tua £1.4 biliwn yn y stoc dai dros dymor y Llywodraeth hon.Rwy’n dweud wrthyn nhw, ‘Pryd y dylwn i ddweud y dylai hanner hwnnw neu chwarter hwnnw gael ei fuddsoddi yn natblygiad y math hwn o eiddo yn unig?A phan fydd gen i’r prosiect arloesi hwnnw a’r cynnyrch sydd er lles Cymru, yn llesol i bobl Cymru, a fydda i’n dweud wedyn—neu'r Gweinidog bryd hynny—yn dweud, ‘Fel yn achos y sector preifat, ni wnawn ond adeiladau chwe math o eiddo, o gartrefi cychwynnol i blasdai, os hoffech chi, ond dyma beth ydyw: mae'n dŷ pŵer.Os ydych chi’n ceisio am grant tai cymdeithasol, byddwn ond yn talu allan mewn achos fel hwnnw?Rwy'n credu bod hynny'n ddewr, ond dyma'r unig ffordd, (1) y cawn ni raddfa ddigonol, a (2) y gellir ei gyflawni yng Nghymru ar gyfer pobl Cymru.Rwy'n credu mai dyna'r peth iawn i'w wneud; yn syml, dod o hyd i'r prosiect iawn.Bydd hyn yn gyfle i ni gyflawni ar hynny.Rwyf i o’r farn ei bod yn bwysig iawn ein bod ni, ar y cyd, yn cyhoeddi’r neges nad ydym yn sôn am y ‘prefabs’, tai parod y 1960au. Rydym yn sôn am ddull gwahanol iawn sydd ar flaen y gad o ran technoleg unedau modiwlaidd sy'n cael eu datblygu ar gyfer y bobl.Dywedodd cydweithiwr mewn awdurdod lleol wrthyf—.Ei eiriau oedd, ‘Sargey, ‘dwyt ti ddim am roi fy mam-gu mewn bocs metel, wyt ti?’Dywedais i, 'Yn dechnegol, ydw, ond nid mewn bocs metel fel y cyfryw’.Dywedodd ef, ‘Dwi am weithio gyda thi ar hyn’. Mewn gwirionedd, rwyf wedi gweld rhai o'r prosiectau hyn. Maen nhw’n anhygoel.Ni feddyliech chi byth eu bod wedi’u hadeiladu’n fodiwlaidd.Maen nhw’n edrych yn draddodiadol.Felly, mae gennym ni Gymru ddoeth, a hir y parhaed hynny. Nid yw’r prosiect hwn ond yn ddechrau i rywbeth da wrth symud ymlaen. Siân Gwenllian AC: Rydym ni, wrth gwrs, yn croesawu unrhyw gynnydd yn y gwaith o ddatblygu tai carbon isel, ac yn croesawu’r datganiad, felly, yn sicr. Ond, rydym yn ei weld o, wrth gwrs, fel rhan o’r ymdrech i godi 20,000 o dai fforddiadwy, ac mi fyddai’n dda cael datganiad yn y dyfodol agos ar sut y mae’r strategaeth honno yn dod yn ei blaen, yn ei chyfanrwydd, fel petai. Rydym ni wedi bod yn sôn llawer am ddiddymu’r hawl i brynu, ond law yn llaw efo hynny, mae’n rhaid inni fod yn codi tai newydd yng Nghymru er mwyn ateb yr argyfwng sydd yn ein hwynebu ni yn y wlad.Mae hwn yn ddatganiad sy’n rhoi gwybodaeth am y cynlluniau sydd wedi cael eu hariannu o’r gronfa tai arloesol. Rydym yn cael gwybod bod 22 cynllun allan o’r 35 cynllun a gyflwynwyd am gael eu hariannu, ac y bydd yna 276 o dai newydd yn cael eu hadeiladu. Rwy’n edrych ymlaen at weld y rhestr gyflawn o’r cynlluniau llwyddiannus ar y we, ac fel rydych yn ei ddweud, erbyn diwedd yr wythnos, bydd honno ar gael. Rydych yn sôn yn eich datganiad am bedwar o’r cynlluniau yma: tai yn creu incwm wrth gynhyrchu ynni; y prosiect tai modwlar ar gyfer pobl hŷn; a thai yn defnyddio coed lleol. Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb yn adroddiad y pwyllgor newid hinsawdd, yr oeddwn i’n aelod ohono fo tan yn ddiweddar, sy’n pwysleisio bod angen symud ar fyrder i dyfu llawer mwy o goed yng Nghymru ar gyfer tai'r dyfodol, yn ogystal ag am resymau newid hinsawdd uniongyrchol. Mae gen i ddiddordeb arbennig hefyd yn y pedwerydd cynllun. Nid yw’n swnio’n rhywbeth cyffrous iawn—gwneud tai allan o ‘containers’ wedi cael eu hailgylchu—ond rwy’n barod iawn i gael fy ngoleuo ar hynny, a bydd yn ddiddorol iawn gweld pa mor addas y byddan nhw ar gyfer anghenion teuluoedd cyfoes.Ychydig o gwestiynau: a ydy’r 22 cynllun llwyddiannus yn mynd i greu cynlluniau tai ym mhob cwr o Gymru? Byddai’n dda gweld sut y mae’r 22 cynllun yma yn edrych ar y map, mewn ffordd. Mae’n bwysig arbrofi mewn lleoliadau amrywiol sydd efo gwahanol heriau, gan gynnwys yr ardaloedd gwledig, wrth gwrs, lle efallai nad ydy’r ‘uptake’ o dai o’r math yma ddim ar yr olwg gyntaf yn mynd i fod mor ddeniadol â hynny. Ond mae angen gweithio trwy’r heriau yna yn yr ardaloedd gwledig yn ogystal ag yn yr ardaloedd mwy trefol.Rydych chi’n sôn am 276 o dai carbon isel—gwych—allan o darged o 20,000 o dai fforddiadwy. A ydych chi’n meddwl bod hyn yn ganran ddigon uchel? Hynny yw, faint o beilota sydd ei angen? Cynlluniau peilot ydy hyn. Ond mae yna lawer iawn o wersi i’w dysgu gan wledydd eraill yn y maes yma, ac nid ydy’r dechnoleg mor hollol newydd â hynny; mae lot o dreialu wedi digwydd yn barod. Felly, oni allai’r ganran fod wedi bod ychydig bach yn fwy uchelgeisiol?Rydych chi’n ymrwymo £19 miliwn ar gyfer y 22 gynllun yma eleni, sydd yn £9 miliwn yn fwy nag a fwriadwyd. Buaswn i’n licio gwybod faint o arian a fydd yn y pot ar gyfer y flwyddyn nesaf, felly, ac o ble y daeth y £9 miliwn ychwanegol oddi mewn i’r gyllideb. Wedyn, beth fydd yn digwydd ar ôl y cyfnod yma o arbrofi? Sut y byddwch chi’n symud ymlaen i sicrhau cyflenwad sylweddol fwy o dai carbon isel yng Nghymru, unwaith y bo’r cyfnod arbrofol yma yn dod i ben? Beth ydy’r cynllun tymor hir? Beth ydy’r targedau? Beth ydy’r weledigaeth ar gyfer pen draw’r daith? Ac yn olaf, a ydych chi wedi ystyried defnyddio treth trafodion tir, sef y ‘stamp duty’, i annog tai carbon isel? Diolch. Carl Sargeant AC: Rwy'n ddiolchgar am sylwadau'r Aelod.Cyn gynted ag y bydd data ar gael o ran datganiad sefyllfa ar y 20,000 o gartrefi, byddaf yn dod gerbron y Cynulliad ac yn hysbysu'r Aelodau am hynny. Rydym wedi cael llwyddiant mawr eisoes, ond byddaf yn rhoi’r manylion pellach cyn gynted ag y byddan nhw ar gael i mi.276 yw nifer y cartrefi yn y cynllun hwn.Mae hynny ddwywaith y nifer yr oeddem yn credu y byddem yn gallu eu cyflenwi yn seiliedig ar asesiad ar ddechrau'r rhaglen.Felly, rwyf i o’r farn, o ran uchelgais, bod dyblu'r nifer yn ddigon effeithiol. Felly, efallai y bydd yr Aelod yn dymuno ystyried y sylwadau hynny.Mae mater pren yn—. Mae'r Aelod yn iawn i godi mater pren.Y broblem gyda phren Cymru yn draddodiadol yw nad yw o'r ansawdd cywir ar gyfer adeiladu.Fe'i defnyddiwyd i gynorthwyo gyda'r gwaith adeiladu, ond nid fel prif ddeunydd.Mae'r diwydiant coed yng Nghymru wedi datblygu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf ac erbyn hyn mae gennym bren o ansawdd da ar gyfer adeiladu unedau cyfan.Felly, mae'r treialon yr ydym yn eu defnyddio yn y gofod hwn yn rhywbeth y byddwn yn edrych arno â diddordeb. Mae cyfle gwych yma i leihau carbon ac ôl troed carbon y fframwaith cartref cyfan.Ar gynwysyddion, bydd rhai’n feirniadol o'm penderfyniad i ddefnyddio hen gynhwysydd llongau fel unedau modiwlaidd ar gyfer llety. Rydym mewn argyfwng gyda thai yn ein cymunedau, ac mae gennym bobl sy'n cysgu ar y strydoedd.Rwyf i’n awyddus i gael cartref dros dro diogel a chynnes i unigolion, ac mae cynwysyddion yn cynnig hynny.Cânt eu defnyddio drwy’r byd.Os aiff yr Aelodau i Ardal y Dociau yn Llundain, fe welan nhw bentref cyfan ohonyn nhw.Mewn gwirionedd, yr hyn yr ydym yn ceisio ei brofi gyda'r cysyniad hwn yw y bydd unigolion sy’n well eu byd yn gweld y rhain yn gartrefi gwych mewn arddull iypïaidd. Ac i brofi hynny, mewn gwirionedd, nid mater o roi unrhyw un i fyw yn un o’r rhain yw hyn; mae yna bobl sy’n fodlon talu arian i fyw mewn lleoedd fel hyn. Felly, rwy'n credu y dylech chi roi siawns inni a gweld a yw hyn mewn gwirionedd yn llwyddo a sut beth fydd y profiad o fyw ynddynt. Os nad yw hyn yn beth iawn i'w wneud, yna dylem roi’r gorau i hynny. Ond nid wyf o’r farn nad yw’n haeddu’r cyfle, a byddaf yn fodlon cymryd unrhyw feirniadaeth a ddaw law yn llaw â hynny.Gofynnodd yr Aelod am fanylion o ran lleoliadau’r cynlluniau.Gallaf sicrhau'r Aelod bod y cynlluniau wedi’u lleoli ledled Cymru, o Ynys Môn hyd Sir y Fflint, o Sir Fynwy hyd Sir Benfro, a darnau o’r wlad rhwng y rheini.Mae yna 22 o brosiectau a bydd manylion pellach i’r Aelod ar y wefan, yn ddiweddarach yr wythnos hon.Mae'n anffodus na lwyddwyd i gwblhau’r manylion gyda'r cwmnïau a’r rhaglenni llwyddiannus er mwyn rhoi manylion i'r Aelodau heddiw. Ond gallaf eich sicrhau, cyn gynted ag y bydd y manylion hynny gyda ni, erbyn diwedd yr wythnos, yna byddan nhw’n ymddangos ar y wefan ar gyfer Aelodau. Jenny Rathbone AC: Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi fy llwyr gyfareddu gan eich datganiad, ac yn croesawu’n fawr y datganiad gan David Melding, Geidwadwr blaengar, os nad yw hynny'n ormod o wrtheiriad.Hoffwn ymhel ychydig â’r hanes, o ran pam yr ydym ni yn y sefyllfa yr ydym ynddi heddiw. Gordon Brown, pan oedd yn Ganghellor y Trysorlys, yn 2006 wnaeth gyhoeddi polisi cartrefi di-garbon ledled y DU, a Phrydain oedd y wlad gyntaf i wneud ymrwymiad o'r fath.Byddai'n ei gwneud hi'n amhosib i unrhyw gartrefi newydd a adeiladwyd ers 2016 i beidio â bod yn rhai a oedd hefyd yn cynhyrchu cymaint o ynni ar y safle ag y bydden nhw’n ei ddefnyddio wrth wresogi, twymo dŵr poeth, goleuo ac awyru. Felly, roedd hwn yn bolisi ardderchog a blaengar, gyda phecyn gwyrdd a oedd yn nodi'r fframwaith rheoleiddiol i helpu i gyflawni'r allyriadau di-garbon y bu'n rhaid inni eu darparu mewn tai erbyn 2016 ac adeiladau annomestig erbyn 2019.Felly, peth trist iawn oedd bod George Osborne wedi diddymu'r ddwy raglen hyn yn ôl ym mis Gorffennaf 2015 mewn troednodyn, yn y cynllun cynhyrchiant cywilyddus a oedd ynghlwm wrth ei ddatganiad cyllideb yn yr haf.Cyhoeddodd pennaeth Green Building Council y DU ar y pryd mai dyma hoelen yn arch y polisi cartrefi di-garbon.Felly, rwy’n llongyfarch Ysgrifennydd y Cabinet am adfywio'r polisi hwnnw, oherwydd dyna'r union beth y mae angen inni fod yn ei wneud.Mae gennym ni argyfwng tai enfawr, fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet eisoes, a rhaid inni gofio bod 80 y cant o'r tai y bydd pobl yn byw ynddyn nhw yn 2050 eisoes wedi'u hadeiladu. Felly, nid oes angen inni fod yn adeiladu unrhyw gartrefi annigonol y bydd yn rhaid inni eu hôl-addasu.Mae angen inni roi stop ar hynny ac adeiladu'r math o gartrefi a amlinellwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet.Felly, rwy'n croesawu'r syniad o weithio gyda thyfwyr coed, a gobeithio bod Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o waith Wood Knowledge Wales, lle mae tyfwyr, adeiladwyr a phenseiri yn cydweithio i gynhyrchu'r cartrefi arloesol hyn y mae pobl eisoes yn byw ynddyn nhw, ac y gwyddom eu bod yn llwyddiannus.Ar y cynwysyddion wedi'u hailgylchu, nid wyf i wedi ymweld ag un hyd yn hyn, ac rwy’n edrych ymlaen at wneud hynny. Ond rwy’n cytuno’n llwyr bod byw mewn cynhwysydd wedi'i ailgylchu'n llawer gwell na chysgu ar y stryd, neu syrffio ar soffa rhywun arall.Bydd hyn yn rhoi preifatrwydd ac urddas i bobl a'u galluogi i ailadeiladu eu bywydau a symud ymlaen i dai mwy o faint sy’n addas i’w hamgylchiadau.Ond rydych yn gywir i nodi bod yr iypis yn Llundain eisoes yn byw yn y cartrefi hyn, gan na allan nhw fforddio hyd yn oed sied mewn gardd gyda’r prisiau hurt yn Llundain.Rwy’n awyddus i’n herio ni i fynd i'r afael â'r gafael haearnaidd sydd gan y pum adeiladwr mawr o ran adeiladu tai yn y sector preifat. Dangoswyd eisoes y gellir adeiladu tai modiwlaidd o fewn terfynau tebygol cyllidebau tai cymdeithasol—£110,000 ar gyfer cartref tair ystafell wely.Felly, os gallan nhw wneud hynny, pam mae’r pump mawr yn parhau i fynnu bod yn rhaid iddyn nhw weld 25 y cant yn ôl ar eu helw cyn eu bod yn codi o'r gwely yn y bore hyd yn oed?Credaf fod angen i hynny newid, ac mae angen inni newid y sgwrs honno. Bydd hyn yn ein galluogi ni i ddangos iddyn nhw unwaith eto fod yna atebion cwbl gampus eisoes ar gael i ganiatáu i ni fynd i'r afael â'r broblem tai mewn ffordd a fydd yn darparu cartrefi cynnes a fforddiadwy i bobl, y byddan nhw’n falch o gael byw ynddyn nhw. Carl Sargeant AC: Rwy'n ddiolchgar am gyfraniad yr Aelod.Mae hi wedi hyrwyddo achos tai cynaliadwy am nifer o flynyddoedd ac rwy'n ddiolchgar am ei sylwadau.Mae'n rhaid inni dorri'r arfer, a rhaid inni dorri'r chwedl, ynghylch pam mae'n rhaid i ni gael yr un hen fath o gartref yn cael ei adeiladu, yng Nghymru neu yn unrhyw le arall. Rwyf hefyd yn cydnabod, er ein bod yn datblygu cynhyrchion newydd, ei bod yn rhaid cael cyfnod pontio i alluogi pobl i ailhyfforddi ac ailsefydlu—efallai y bydd y dewis o sgiliau traddodiadol o osod brics nawr yn symud i ffatri sy’n creu unedau modiwlaidd. Felly, mae'n rhaid inni helpu'r diwydiant i wneud hynny. Bu Julie James a Ken Skates o gymorth mawr gyda rhai o'r materion cyflogadwyedd o ran hynny.Mae mater y pwysau y soniodd yr Aelod amdano, yn enwedig o ran digartrefedd—yn un sydd gyda ni ar hyn o bryd.Mae'n rhaid i ni wneud rhywbeth a dyna pam mae ateb cyflym, fel yr unedau dur modiwlaidd—yn rhywbeth y gallwn ei gyflawni yn gyflym iawn. Fel arfer bydd yn cymryd tua 12 wythnos o’r archeb i’r cyflenwad. Ymwelais i â rhaglen yng Nghasnewydd lle’r oedd grŵp eglwys a oedd yn gweithio gyda phobl ifanc digartref yn troi cynwysyddion yn gartrefi, ac roedden nhw wedyn yn mynd i’w defnyddio fel llety.Felly, roedd mecanwaith hyfforddi a chynorthwyo’n ymwneud â hynny hefyd, a byw â chymorth.Felly, roedd yn brosiect craff iawn.Dyma rai o'r syniadau yr wyf i wedi dod ar eu traws ar fy nesg a rhai pethau y byddwn yn eu datblygu.Y cwestiwn mawr yw hyn—ac mae'n un sylfaenol i unrhyw Weinidog y mae angen iddo wneud penderfyniadau am hyn—beth yr ydym yn ei wneud a beth yr ydym yn ei adeiladu i’r dyfodol?Mae mater pwysau costau ynni, pwysau ar yr amgylchedd a phwysau cynhesu byd-eang i gyd yn bethau y dylem ni eu hystyried a gwneud buddsoddiad doeth nawr a fydd yn para 40 mlynedd.Dyfarnu’n gywir yw hyn.Efallai y bydd yn costio ychydig yn fwy i ni ond dyna'r peth iawn i'w wneud, a dyna’r hyn y byddaf i’n parhau i'w wneud.Ond rwy’n credu y bydd y raddfa yn lleihau'r costau yn sylweddol ac felly y bydd yn gallu cystadlu â'r adeiladau traddodiadol, a bydd yn rhywbeth y credaf i—fel y dywedais yn gynharach wrth gydweithwyr, y bydd y dull gweithredu tarddu o Gymru yn rhywbeth y gallem ni arwain y farchnad arno os gwnawn ni hyn yn iawn. Gareth Bennett AC: Diolch i'r Gweinidog am ddatganiad heddiw.Rwy'n credu bod y rhain yn syniadau diddorol ac yn haeddu ymchwil iddynt. Rwy'n credu ein bod wedi gweld gweledigaeth dda heddiw, felly rwy'n gobeithio y bydd llawer o'r arloesi hwn yn troi’n llwyddiant.Fel y dywedodd y Gweinidog, mae angen dybryd am fwy o dai, a gobeithio y bydd y rhaglen dai arloesol yn helpu i fynd i'r afael â hynny.Ond wrth gwrs, mae angen inni sicrhau eu bod yn dai o ansawdd da a hefyd, yn y pen draw, eu bod yn fforddiadwy. Rwy'n gwerthfawrogi bod llawer o risg ynghlwm wrth arloesi, fel y dywedodd y Gweinidog, felly rydym yn deall na fydd yr holl syniadau newydd gwahanol yn codi stêm, ond da o beth yw ein bod yn ymchwilio iddyn nhw.Dywedodd y Gweinidog fod amrywiaeth eang o gynhyrchion tai arloesol ar fin dod i'r farchnad, a dywedodd fod llawer ohonynt o ansawdd da iawn erbyn hyn, felly mae hynny'n galonogol.Credaf ei fod yn syniad da, fel yr awgrymodd y Gweinidog, i gysylltu’r rhaglen dai arloesol gyda hyfforddi cenhedlaeth newydd o weithwyr adeiladu, gan gofio y gallai tai fel hyn fod yn llwyddiant mawr ac efallai y bydd llai o angen am osod brics, fel y gwnaethoch chi ei awgrymu.Mae'n bosib fod hynny braidd o flaen yr oes—nid wyf yn siŵr sut yn union y gallwn ni hyfforddi pobl ar gyfer heddiw.Os oes gan y Gweinidog fwy i'w ddweud am hynny byddai gen i ddiddordeb i glywed, a sut y bydd hynny’n cysylltu â’r syniadau sydd gan Ken Skates am gyflogadwyedd a phrentisiaethau ac yn y blaen.Ond efallai y bydd hynny’n cael ei gynnwys mewn datganiad arall yn y dyfodol, oherwydd rwy'n gwerthfawrogi ei bod yn ddyddiau cynnar i’r rhaglen tai arloesol.Nawr, bydd 276 o gartrefi yn cael eu hadeiladu yn y gyfran gyntaf.O gofio bod risgiau yn yr arloesedd, fel y dywedoch chi, pa ddulliau sydd gennym ni i ddiogelu yn erbyn costau cynyddol adeiladu—costau uchel iawn posib—i sicrhau ein bod mewn gwirionedd yn dod yn agos at 276 o gartrefi a'u bod yn cynnig gwerth da am arian.Mae yna faterion eraill o ran cynllunio.Soniodd David Melding am y pwyllgor amgylcheddol a'n taith ni i dŷ SOLCER, sy'n enghraifft o gartref arloesol sy’n orsaf bŵer.Roedd yn ddiddorol iawn mynd o gwmpas ac edrych ar dŷ SOLCER, ond dywedwyd wrthym fod yna gymdeithas dai sy'n cynllunio datblygiad arloesol yn yr un modd ac roedden nhw mewn anghydfod gyda'r awdurdod lleol.Ni allaf gofio'r manylion penodol—mae gen i deimlad mai Pen-y-bont ar Ogwr oedd yr awdurdod, ond efallai fy mod yn anghywir yn hynny o beth.Ond yr un cwestiwn a ofynnaf yw hyn: pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda’r Ysgrifennydd dros yr Amgylchedd, sy'n gyfrifol am gynllunio, am fynd i'r afael â phroblemau posib gyda chyfyngiadau ar gynllunio a'i gwneud hi'n haws i'r cymdeithasau tai gael caniatâd cynllunio i ddatblygu prosiectau fel hyn yn y dyfodol? A dyna fater y sector preifat hefyd.Soniodd y Gweinidog ei fod yn bwriadu ymestyn y cynllun i'r sector preifat y flwyddyn nesaf, a fydd yn—. Dyna ddatblygiad diddorol arall i edrych ymlaen ato.Felly, mae yna fater hefyd o du’r unigolion a allai fod yn awyddus i adeiladu eu cartrefi cynaliadwy eu hunain yn y dyfodol oherwydd ceir ystadegyn hynod o Awstria, bod 80 y cant o dai newydd y wlad honno wedi'u hadeiladu gan yr unigolion eu hunain.Yn y DU, dim ond 8 y cant yw’r nifer hon.Felly, tybed, yn y dyfodol, pa gamau y mae'r Gweinidog yn tybio y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd i hybu'r sector hwn o ran unigolion sydd am fwrw ymlaen eu hunain â'r math hwn o brosiect arloesol?Ac un pwynt yn olaf: yn amlwg, mae thema’r hyn sy’n llesol i'r amgylchedd yn sail i’r cyfan, felly a oes unrhyw ystyriaeth wedi’i rhoi i flaenoriaethu datblygiad safleoedd tir llwyd ar gyfer y prosiectau tai arloesol?Diolch. Carl Sargeant AC: Rwy'n ddiolchgar am gwestiynau'r Aelod, ond byddwn yn gofyn i'r Aelod am rywfaint o uchelgais, am rywfaint o frwdfrydedd, o ran y rhaglen ardderchog hon yr ydym yn ei lansio heddiw.Mae hyn yn—.Mae hyd yn oed y Ceidwadwyr wedi bod yn dweud wrthym ni heddiw ein bod ni'n gwneud gwaith da—dyna rywbeth i ryfeddu’n fawr ato.[Chwerthin.] Y ffaith amdani yw hyn, mae £10 miliwn ar arloesedd ar gyfer tai newydd o safon yn rhywbeth y dylem i gyd fod yn ei ddathlu, a rhoi gwleidyddiaeth bleidiol o'r neilltu.Byddaf yn mynd i'r afael â rhai o'r pwyntiau a gododd yr Aelod.Nid adeiladu tai gwael yr ydym yn ei wneud yma, yr ydym yn treialu gwahanol fathau o dai. Mae cyfran o risg i hynny, a bydd diwydrwydd dyladwy yn sgil yr holl brosiectau hynny. Bydd, fe fydd rhai yn well nag eraill. Ond rhaid derbyn y bydd rhai yn cael eu dwyn ymlaen ac i eraill—efallai iddo fod yn gyfle i ffynnu ond heb fod yn addas i'r amgylchedd y maen nhw ynddo.O ran yr agenda sgiliau, rwyf wedi bod yn gweithio gyda Ken Skates a Julie James ynghylch sut beth fydd y llwybr cyflogadwyedd a'r cadwyni cyflenwi o ran y prosiectau yr ydym yn eu cyflwyno.Mae prinder cenedlaethol yn bodoli eisoes o ran rhai o'r sgiliau creiddiol hynny, y gwaith saer, plymio a sgiliau traddodiadol.Gellir tynnu rhai o'r rhain allan o'r dulliau traddodiadol s rhoi lle iddyn nhw yn y ffatri.Yr hyn a welsom—. Ymwelais â safle ddoe lle gwneir llawer o'r swyddi hyn yn fewnol, ac yn cael eu gollwng ar y safle— mae hi'n ffordd wych ac iach o ymdrin â busnes, ac mae ansawdd yr adeiladau hyn yn dda iawn wir.O ran y dull partneriaeth, rydym wedi cael trafodaethau gydag awdurdodau lleol, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a’r Cyngor Benthycwyr Morgeisi am y ffactorau pwysig. Ac mae gofyn a fydd pobl yn talu am y rhain a sut y byddan nhw’n datblygu yn y dyfodol yn bethau yr ydym wedi croesawu trafodaeth yn eu cylch.Mae hyn i gyd yn ychwanegu cadernid i’r broses gwneud cynigion.Mae caniatâd cynllunio yn fater diddorol.Gyda rhai o'r unedau modiwl hyn, yr hyn sydd wedi bod yn llwyddiannus yw bod rhai o'r safleoedd y byddwn yn eu defnyddio yn safleoedd garejys ar gyn safleoedd tir llwyd gan awdurdodau lleol.Felly, bydd yn fater o ddymchwel neu glirio'r tir yr oedd y garejys gwag yn sefyll arno ac yna ddefnyddio craen i gludo rhai unedau modiwl yno i fod yn gartrefi i bobl fyw ynddyn nhw.Felly, mae yna—.Gyda chaniatâd cynllunio cyfyngedig—.Felly, rydym wedi edrych ar gyfres o adnoddau sy’n angenrheidiol i gyflawni hyn.Mae’n rhaid i mi ddweud, Llywydd, fy mod wedi anghofio ateb cwestiwn ar gyllid yn gynharach i'r Aelod o Blaid Cymru ynghylch y ffaith bod £10 miliwn eleni, a £10 miliwn gwarantedig y flwyddyn nesaf, gyda phosibilrwydd am ragor pe bai'r rhaglen yn datblygu i fod yn rhywbeth yr ystyriwn yn deilwng o fuddsoddiad pellach. Diolch yn fawr iawn.Os gall y ddau siaradwr nesaf ofyn cwestiynau ac Ysgrifennydd y Cabinet eu hateb yn weddol gyflym, byddwn ni’n gorffen ar amser. Felly, mae yn eich dwylo chi.Vikki Howells. Vikki Howells AC: Diolch, Dirprwy Llywydd, a diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad heddiw.Mae'n beth gwirioneddol gadarnhaol i ni gael clywed am yr ymateb i'ch galwad am gynigion, ac edrychaf ymlaen at ryddhau rhestr lawn o’r ymgeiswyr llwyddiannus. Gwn na allwch chi rannu gormod o fanylion eto, ond mae'n wirioneddol hyfryd i glywed am gynnwys busnesau sefydliadol bach yn y rhaglen hon, sy'n cyd-fynd yn berffaith â'r peilot Gwell Swyddi, yn nes Adref a'r cyfeiriadau at gefnogi economi sefydliadol yn 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' a 'Ffyniant i Bawb'. Felly, fy nghwestiwn cyntaf i yw hyn: i ba raddau yr oeddech chi'n blaenoriaethu cynigion gan gwmnïau cynhenid, llai o faint sy'n cyflogi pobl leol ac felly'n rhoi eu helw yn ôl i mewn i'r economi leol?Ac, yn ail, rwy'n siŵr y byddwch chi wedi clywed y sylwadau heddiw gan Gymuned Tai Cymru am y terfyn diffygiol ar lwfans tai lleol gan Lywodraeth y DU.Sut mae hyn wedi dylanwadu ar eich polisi chi, yn enwedig o ran y rhannau hynny o Gymru a allai fod wedi’i chael hi anodd iawn, neu a fydd yn ei chael hi’n anodd iawn oherwydd newidiadau polisi gan yr Adran Gwaith a Phensiynau? Carl Sargeant AC: Rwy'n ddiolchgar am gwestiwn yr Aelod a diolch iddi am ei chyfraniad cadarnhaol. Dau bwynt pwysig: mae ariannu hyn wedi bod yn rhan o'r modelau busnes sydd wedi dod ger ein bron.Rydym yn treialu enghreifftiau newydd o sut, o fuddsoddi’r model i’w gyflwyno, y mae hynny’n dod ymlaen.Rydyn ni wedi torri'r mowld traddodiadol ac rydym yn ceisio torri ar y patrwm sy’n mynnu bod yn rhaid inni wneud pethau yn yr un ffordd.Mae yna rywfaint o risg yn hynny o beth, ond rydym yn barod i gymryd y risg honno oherwydd gallwn roi atebion cyflym o ran tai.O safbwynt y pwynt ar Awdurdodau Tai Lleol, mae'r Aelod yn llygad ei le: mae yna lawer iawn o bobl mewn perygl oherwydd diwygio’r wladwriaeth les yn y DU—y rhai dan 35 oed yn arbennig. Mae'r sector yn ymateb i hynny gyda’r gallu i greu unedau llai o faint sy'n addas i fyw ynddyn nhw.Rydym ni’n eu helpu nhw.Pan fydd yr Aelod yn gweld y rhestr, bydd rhai prosiectau y bydd hi’n (1), frwdfrydig yn eu cylch, rwy’n credu, oherwydd ei diddordeb yn ei hetholaeth, ond hefyd o ran mater y rhai dan 35 oed.Mae rhai prosiectau penodol iawn ynglŷn â helpu a chefnogi unigolion yn y bwlch hwnnw. Diolch.Ac yn olaf, Jeremy Miles. Jeremy Miles AC: Diolch, Dirprwy Lywydd.Mae croeso mawr i'r datganiad a wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet.Yn benodol, rwy’n cyfeirio at y prosiect Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer yn fy etholaeth i fy hun, sy'n ddatblygiad cyffrous iawn. Mae'n debyg y bydd llawer o gyfraniad gan fentrau bach a chanolig i ddyfodol y sector hwn fel sector gweithgynhyrchu modiwlaidd yng Nghymru, a fydd yn gofyn am ddull penodol o weithredu o safbwynt polisi gan y Llywodraeth ar gaffael a chyllid y gadwyn gyflenwi yn benodol. Mae angen ffordd wahanol o ariannu rhai o'r prosiectau adeiladu nad yw’n golygu bod yn rhaid i BBaCh gadw stoc ar eu llyfrau, na allan nhw fforddio ei wneud yn y tymor hir. Felly, rwy'n gobeithio y bydd cyfle yn y gwaith y bydd yn ei wneud i archwilio rhai o'r rhwystrau posib hynny er mwyn sicrhau y gallwn feithrin y sector adeiladu BBaCh hwnnw ym maes adeiladu modiwlaidd yng Nghymru.Byddwn i’n croesawu dau sylw ganddo, yn gyntaf o ran y pwynt y mae newydd ei wneud am gartrefi ar raddfa fechan ac effaith hynny ar les a’r wladwriaeth les.A yw hefyd wedi ystyried y posibilrwydd o dai modiwlaidd lle mae modd, dros oes yr eiddo, newid dyluniad yr eiddo hwnnw i fod yn addas ar gyfer gwahanol fathau o uned deuluol dros oes yr eiddo, a all fynd i'r afael yn arbennig â rhywfaint o'r pwysau sydd ynghlwm â threth yr ystafell wely?Ac a yw hefyd yn credu bod y potensial yma, o ystyried y pwyslais y mae bellach yn ei roi ar dai modiwlaidd, i symud tuag at bolisi tai yn gyntaf o ran mynd i'r afael â digartrefedd yn gyffredinol? Carl Sargeant AC: Mae cwestiynau gwirioneddol bwysig wedi’u codi gan yr Aelod.Bydd yr Aelod yn ymwybodol o'r datganiad ein bod wedi cyhoeddi rhaglen geisiadau o gwmpas y gronfa datblygu eiddo i fusnesau bach a chanolig ledled Cymru, sydd bellach yn £30 miliwn, er mwyn rhoi arian parod i'r rhaglen.Mae rhai o'r datblygiadau yr ydym yn eu cyflwyno yn atebion ar sail bocs. Bydd waliau a drysau y gellir eu symud, ac felly mae'n addas at heddiw a gallwn ei newid yfory.Eto, mae'n ddyfais newydd glyfar gan gymdeithasau tai sydd wedi meddwl am y cyfle clyfar hwn, a gobeithio ein bod wedi gallu eu cefnogi nhw wrth ddatblygu'r cynlluniau yr ydym yn eu cyflwyno.Tybed a fyddwn ni heddiw yn dechrau rhywbeth sy'n newid ac yn torri'r model o ddatblygiad tai, datblygiad cartrefi traddodiadol, oherwydd ein bod ni yng Nghymru yn gallu bod yn glyfar a'n bod ni’n glyfar gyda'r prosiectau sydd wedi’u cyflwyno? I mi, ac i David Melding hyd yn oed—diwrnod cyffrous i Gymru a diwrnod cyffrous ar gyfer tai ledled Cymru. Dylem ddathlu'r ffaith bod £10 miliwn ar gael heddiw ar gyfer prosiectau a fydd i’w gweld ar draws ein holl etholaethau, ac yn darparu ar gyfer pobl sydd mewn angen. Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. 6. 6. Datganiad: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Drafodaethau Brexit Datganiad gan y Prif Weinidog am y diweddariad am drafodaethau Brexit yw Eitem 6 ar ein hagenda y prynhawn yma, a galwaf ar y Prif Weinidog i wneud y datganiad—Carwyn Jones. Carwyn Jones AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn wneud datganiad ar y datblygiadau diweddar ynglŷn â phenderfyniad y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd. Daeth y Llywydd i’r Gadair. Carwyn Jones AC: In my written statement earlier today, I reported on recent meetings with the UK Government, including last week’s Joint Ministerial Committee (European negotiations), which was attended by the Cabinet Secretary for Finance and Local Government. From that, Members will have seen that there is at last some indication that the UK Government realises it needs to work far more closely with the devolved administrations on these vital issues. We secured an assurance that we would be more fully involved in the development of future policy positions when the negotiations move into the second phase of detailed discussions on our future relationship with the EU.Llywydd, I have to say, though, that this would not be difficult, given the way in which papers on vital issues such as customs arrangements, the Ireland-Northern Ireland border, and even the largely devolved policies of research and development were published without any input from the Welsh Government. Moreover, on the constitutional implications of Brexit within the UK and the crucial issue of providing legal certainty as we leave the EU, we appear to have seen a significant shift in the UK Government’s position. In line with the ideas we set out in July, we have agreed with the Scottish and UK Governments the principles that should underpin common frameworks that could be developed jointly between administrations for areas where co-operation or common standards are needed when EU frameworks cease to operate. I have published these principles for Members via a written statement. Work to take this forward is now under way and I look forward to this Assembly having the opportunity to scrutinise future joint arrangements.While it’s far too early to conclude that the UK Government will address our fundamental concerns on the EU withdrawal Bill, it is clear that they do at least recognise the seriousness of the issues we’ve raised and the breadth of support within the UK Parliament for the amendments that we, together with the Scottish Government, have proposed. As a Government, we are absolutely clear that we will not recommend that this Assembly gives its consent to the legislation unless and until there are meaningful amendments on two fronts: firstly to remove the imposition of new restrictions on the legislative competence of the Assembly; and, second, to ensure that UK Ministers must consult us before making any changes to legislation within devolved competence, however technical. That is the bare minimum. Concurrent use of those powers for us is the preferred outcome. To use a rather hackneyed phrase, the ball is now in their court.If we’ve seen some positive developments in terms of the domestic agenda, I see less reason to be optimistic over the negotiations with EU-27. Last week, the European Council met to consider whether sufficient progress had been made to proceed to the second phase of negotiations. Regrettably, they concluded that more work still has to be done on the terms of the UK’s exit from the EU before negotiations can commence on the long-term relationship and the vital question of transitional arrangements. In the view of our EU partners, the UK Government has not given sufficient clarity on how to protect the rights of EU nationals in the UK or how to resolve the complex issues arising from the Northern Ireland land border, nor on the financial terms on which the UK should leave. That’s deeply worrying and it’s a failure of policy and political leadership.What would we have said if we’d been told on 30 June last year that 16 months later, and less than 18 months before we will leave the EU by default even if no agreement is reached, we would have not even started negotiating the terms of our future relationship with the EU? Of course, the issue of how to disentangle the hugely complex nexus of ties that have bound us together with our closest neighbours for more than 40 years was always going to be highly complex. But on citizens’ rights, we argued from day 1 that the UK Government could and should have made a generous and unilateral offer to secure the existing rights of all EU citizens who have chosen to live and work in the UK for the future. It’s not too late to do so now. It’s not just a moral issue—EU nationals in Wales make a valuable contribution to our businesses, our public services and our society, and we can ill afford to lose them. It would have been a gesture that the EU, I believe, would have had to reciprocate.In terms of the Ireland-Northern Ireland border, it’s become increasingly clear that a so-called soft border can only be maintained if we continue to work within a customs union with the EU. And, again, the choice here should be clear-cut. The UK Government has presented no evidence at all to justify its assumption that the economic advantages of moving away from a customs union, seduced by the prospect of hypothetical new free trade agreements, would compensate for the disadvantages of erecting new barriers to the free and frictionless flow of trade to our biggest market.And while it would clearly be wrong to sell UK taxpayers’ short in terms of any financial settlement, we need to recognise two things: firstly, that the potential for economic damage from no deal would make any loss to the Exchequer from a one-off payment recognising our liabilities pale into insignificance; and, secondly, that we have moral and political responsibilities to honour commitments made with our agreement as a member state. If we cannot fulfil those agreements, what hope is there that people will trust us to do so in the future? I ask Members here to think how we would react if the European Commission notified us that the structural fund operational programmes in Wales, agreed with them after years of development and negotiation, were going to be drastically cut back because of a decision taken in another member state, which the rest of the EU had had no opportunity to influence. To the prospect of five or six more years of funding for apprenticeships, for crucial infrastructure like the metro, for support to harness the potential of our universities to apply research to the real-world economy, which we believed was secure, how would we react to that being snatched away?The failure to ensure sufficient progress on these issues by the time of the October European Council is a critical one. While the UK Government has, at long last, accepted the need, which we have advocated since the referendum, for a transition period to provide an element of economic certainty, businesses and business organisations are telling us that they need to take critical investment decisions right now. There really is no time to lose. Don’t take my word for it: ask the Confederation of British Industry. Llywydd, last week I was attacked for saying that ‘no deal’ was unthinkable and that it was impossible to mitigate the effects of such a disastrous conclusion to the negotiations with the EU-27. Let me quote, then, a few of the examples of expert organisations’ warnings of the impact of ‘no deal’ published in just the last month: the BMA says it would,‘remove the guarantee of consistent and timely access to radioisotopes’,which are‘vital...for the treatment of cancer… potentially resulting in delays in diagnosis and cancelled operations for patients’.The British Airline Pilots Association says,‘UK airlines could find they have to stop flying—it’s that serious’.The British Retail Consortium says reverting to WTO tariffs might mean UK shoppers paying up to a third more for everyday food items, with the price of cheese up 30 per cent and tomatoes up nearly 20 per cent, while the introduction of customs controls with little notice would create,‘enormous disruption and have a potential impact on the availability of food on the shelves’.The Freight Transport Association says a cliff-edge solution would,‘send costly shockwaves through EU trade flows and supply chains’.The Agriculture and Horticulture Development Board models a fortress UK scenario where we trade on WTO terms, which would render upland farms economically unsustainable. And the leading Dutch bank, Rabobank, estimates that ‘no deal’ could lead to a level of GDP 18 per cent lower in 2030 than it would have been had we remained in the EU.So, it’s clear to me that a disorderly Brexit would take decades to recover from, and also would lead to chaos and damage to our economy, our social fabric and our security. So, how do we prevent this outcome? Well, preventing this outcome, not preparing contingency plans for it, is what we should be doing, and what we are doing. To do otherwise would be like a passenger on the Titanic who, seeing the iceberg straight ahead, goes below to find his or her lifejacket and to pack his or her bags, rather than rushing to the bridge and hammering on the door in a desperate attempt to alert the captain to the disaster ahead—we need to alert people to what lies ahead.So, I repeat what I said last week: ‘no deal’ cannot be an option. However difficult—and I don’t underestimate the difficulties—the UK Government must do absolutely everything in its power to reach a position on the terms of exit, so that the December European Council will move negotiations into the second phase and very rapidly thereafter conclude agreement on a transition phase of at least two years. Our offer to support and contribute to the negotiations remains, and, Llywydd, we continue to press at every opportunity to ensure the interests of Wales are taken into proper account. Mark Isherwood AC: Er gwaethaf y ffaith mai’r Prif Weinidog sy’n cael y gair olaf a bod ganddo arfer o'i ddefnyddio, ni allaf beidio â defnyddio datganiad Churchill am y Prif Weinidog Neville Chamberlain—ei fod, ac rwy’n dyfynnu:‘yn edrych ar faterion tramor drwy ben anghywir pibell ddraen drefol’.Ni allaf ychwaith osgoi cyhoeddeb Churchill, rhywbeth tebyg i,‘Peidiwch â dadlau am anawsterau. Gwnaiff yr anawsterau ddadlau drostynt eu hunain’.Gwnaethoch sôn am y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE) ar 16 Hydref, lle’r oedd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn bresennol. Casgliad y cyd-gyhoeddiad a wnaethpwyd ar ôl y cyfarfod hwnnw oedd,‘Nododd y Gweinidogion y cynnydd cadarnhaol sy’n cael ei wneud o ran ystyried fframweithiau cyffredin’.Felly, oni ddylem fod yn dathlu'r ffaith, fel y dywedodd hyn, bod cytundeb wedi'i gyrraedd rhwng Llywodraeth y DU a gweinyddiaethau datganoledig ynglŷn â’r egwyddorion a fydd yn sail i'r broses o ddwyn pwerau yn ôl o'r UE i'r DU, ac yn sail i ddatblygu fframweithiau cyffredin i’r DU ar y cyd rhwng pedair gweinyddiaeth y DU, lle mae angen cydweithrediad a safonau cyffredin—eich geiriau chi—pan na fydd fframweithiau'r UE yn berthnasol mwyach i’r DU? Yn y cyd-destun hwnnw, hefyd, a allech chi ddweud wrthym a fu unrhyw drafodaeth eto, neu a ydych chi’n ymwybodol o unrhyw drafodaeth eto, ynghylch cynigion ar gyfer dyfarnu sy'n berthnasol i'r fframweithiau cyffredin hynny y cytunwyd arnynt?Gwnaethoch sôn am gyfarfod y Cyngor Ewropeaidd yr wythnos diwethaf. Pam na wnewch gydnabod bod y ddwy ochr—nid wyf yn hoffi defnyddio 'ochr', oherwydd, wrth gwrs, rydym ni i gyd yn ffrindiau ac yn gymdogion—nawr o fewn pellter cyffwrdd i fargen ar hawliau dinasyddion, eu bod yn cytuno bod rhaid osgoi unrhyw seilwaith ffisegol ar y ffin yn Iwerddon a bod rhaid i'r ardal deithio gyffredin barhau, a bod araith y Prif Weinidog yn Florence wedi rhoi mwy o ysgogiad i drafodaethau am y setliad ariannol a'r cyfnod i’w roi ar waith? Rwy’n mynd i wrthsefyll y demtasiwn i ofyn pa bolisïau, sydd yn ôl pob tebyg yn ddryslyd, sydd gan eich cydweithwyr yn Senedd y DU ar hyn o ran yr undeb tollau, y farchnad sengl, symudiad rhydd ac ail refferendwm, oherwydd rwyf mor ddryslyd â phawb arall am hynny.Onid yw'n wir, ar ôl cyfarfod y Cyngor Ewropeaidd yr wythnos diwethaf, bod Llywydd y Cyngor Ewropeaidd, Donald Tusk, wedi dweud, rwy’n dyfynnu,‘Mae adroddiadau bod sgyrsiau am Brexit rhwng Prydain a'r UE wedi pallu wedi’u "gorliwio".Onid yw'n wir bod arweinwyr 27 aelod-wladwriaeth arall yr UE wedi dweud wrth y DU bod cynnydd wedi bod yn y trafodaethau, a'u bod wedi rhoi'r golau gwyrdd i ddechrau paratoadau am ail gam sgyrsiau Brexit, gan ddechrau â masnach, i glirio’r ffordd i ddechrau trafodaethau ffurfiol o bosibl am berthynas fasnach yr UE â’r DU yn y dyfodol ym mis Rhagfyr? Onid yw'n ffaith bod Canghellor yr Almaen Angela Merkel, ar ôl y trafodaethau hynny, wedi dweud bod arwyddion gobeithiol y byddant yn cynllunio ar gyfer dechrau trafodaethau â Phrydain am fasnachu ym mis Rhagfyr, a’i bod wedi dweud ein bod yn mynd i gyflawni 'canlyniad da', y bydd canlyniad da? Pam na allwch chi ymuno â'r ymagwedd gadarnhaol honno os ydych chi eisiau canlyniad da? Oherwydd mae eich ymosodiadau ailadroddus ynglŷn â’r mater hwn yn parhau i ymladd negeseuon y refferendwm, er i chi honni eich bod yn eu derbyn yn hytrach nag uno â’r giwed gyferbyn i wrthwynebu popeth sy’n ymwneud â hyn.Gwnaethoch sôn am y Bil ymadael â’r UE. Er ein bod yn rhannu eich pryder ynghylch cyfyngiadau ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad hwn ac yn derbyn y rhesymeg y dylai Gweinidogion y DU ymgynghori â ni cyn gwneud unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth â chymhwysedd datganoledig, a ydych chi'n cydnabod bod ymagwedd Llywodraeth y DU yn seiliedig ar adborth yr oeddent wedi’i gael gan ddiwydiant yn y DU a Chymru ac mai bwriad hyn oedd bod ar ochr economi gref? Efallai y gallwch ddweud wrthym beth mae Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ei ddweud am hyn, oherwydd rwy’n gwybod beth maen nhw wedi'i ddweud wrth Lywodraeth y DU. Bwriad y Bil ymadael Ewropeaidd yw darparu cymaint â phosibl o sicrwydd a pharhad i fusnesau, gweithwyr a defnyddwyr ledled y DU na fyddant yn wynebu newidiadau annisgwyl a sicrhau bod y llyfr statud yn gallu gweithredu ar y diwrnod ar ôl inni adael yr UE. A wnewch chi gadarnhau eich bod chi'n rhannu'r nod hwnnw, er bod gennych chi amodau penodol o hyd yr hoffech iddynt gael eu bodloni?Gwnaethoch ddweud nad yw 'dim bargen' yn opsiwn, ond a wnewch chi gydnabod, er y bydd rhai pobl yn cofio’r nod hwnnw o 'ddim bargen', mai strategaeth negodi oedd hyn i'r rhan fwyaf o bobl a bod y ffaith—[Torri ar draws.]—y ffaith bod poblogrwydd yr opsiwn 'dim bargen' ymhlith poblogaeth y DU wedi arwain at newid pwyslais gan lawer o leisiau blaenllaw yn yr UE o bosibl wedi profi bod y strategaeth yn gweithio? Mae er budd i bawb sicrhau bargen dda, i’r DU ac i'n ffrindiau a'n cymdogion yn yr UE, ac er mai cynllunio ar gyfer pob canlyniad yw'r dull cyfrifol, mae Llywodraeth y DU yn credu mai cael canlyniad da, un sy'n gweithio i bobl a busnesau'r DU ac i’r rheini yn yr UE yw'r canlyniad mwyaf tebygol o bell. A oes angen inni ofyn pam na wnaethoch, felly, gydnabod yn eich datganiad bod y Prif Weinidog a David Davis wedi dweud yn gyson ein bod am weld cytundeb llawn a chynhwysfawr gyda'r UE gan gadw ardal fasnachu agored a rhydd ar draws cyfandir Ewrop? [Torri ar draws.] Iddyn nhw, nid yw’r gwydr yn hanner llawn nac yn hanner gwag; mae'n ymddangos bod y gwydr yn hollol wag yn barhaol. Rydych yn dweud mai’r unig ffordd o gadw ffin feddal Iwerddon-Gogledd Iwerddon yw drwy barhau i weithio mewn undeb tollau o fewn yr UE. Mae angen imi glywed y cwestiynau, ac rwy’n meddwl bod angen i'r Prif Weinidog glywed y cwestiynau, ac rwy'n siŵr eu bod yn dod i ben yn fuan, rywbryd. [Aelodau'r Cynulliad: ‘Clywch, clywch.’] Mark Isherwood AC: Pam yr ydych chi'n gyson yn dilorni ac yn diystyru’r datrysiadau eManifest technolegol y mae Cyllid a Thollau EM wedi bod yn gweithio arnynt nawr ers 18 mis ac sy'n berthnasol rhwng Canada, yr Unol Daleithiau a ffiniau di-ri ledled y byd? Os gallan nhw wneud hynny, pam ydych chi'n meddwl na allwn ni?Yn olaf—[Aelodau'r Cynulliad: ‘Hwrê.’] ‘They don’t like it up ’em’, nag ydynt? Yn olaf, pam yr ydych chi wedi gwrthod y gwahoddiad— Gofynnwch y cwestiwn. Mark Isherwood AC: Pam rydych chi wedi gwrthod—[Torri ar draws.] Gofynnwch y cwestiwn. Nick Ramsay AC: Roedd hwnnw'n gwestiwn. [Chwerthin.] Mark Isherwood AC: Pam yr ydych chi wedi gwrthod y gwahoddiad i Lywodraeth Cymru fod yn bresennol ym mhanel gweithredu arbenigol yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Cymru, i weithio er mwyn i Gymru ymadael â’r UE mewn modd didrafferth a threfnus? Mae'n mynd drwy swyddogaethau'n fanwl gydag uwch Weinidogion y DU a swyddogion sy'n ymwneud yn uniongyrchol â thrafodaethau a gallech fod yno, ond mae Cymru ar goll. Fodd bynnag, mae'r gwahoddiad i Lywodraeth Cymru yn dal i sefyll. A wnewch chi dderbyn y gwahoddiad hwnnw ynteu a wnewch chi barhau i wneud pethau ochr yn ochr? A wnewch chi ymgysylltu'n uniongyrchol a derbyn y cynnig i ymgysylltu'n uniongyrchol â'r uwch swyddogion a'r Gweinidogion hynny, ynteu a wnewch chi barhau i daflu'ch teganau allan o'r pram? Carwyn Jones AC: Dydy hi byth yn syniad da cymharu eich hun â Lance Corporal Jones yn 'Dad's Army', ydy hi? Clive Dunn a ddywedodd hynny ar y meinciau fan acw; sylweddolodd ei gamgymeriad cyn gynted ag y dywedodd hynny, ond rwy’n mynd i adael iddo ef fyfyrio ar hynny. Churchill—. Heblaw am y ffaith ei fod wedi sôn am y Chamberlain anghywir, mae'n debyg mai Churchill yw'r person anghywir i sôn amdano mewn dadleuon am Ewrop, oherwydd dywedodd Churchill dri pheth. Yn gyntaf oll, ar adeg y rhyfel, roedd am i'r DU a Ffrainc ddod yn un wladwriaeth—un wlad, un wladwriaeth. Dyna oedd ei farn ar y pryd. Ef oedd y cyntaf i fod yn frwdfrydig am Undeb Ewropeaidd. Ef oedd y cyntaf i sôn am fyddin Ewropeaidd, a dweud y gwir, Churchill. Ni fyddai Churchill wedi cael dim i’w wneud â Brexit—gallaf addo hynny nawr—o ystyried yr hyn a ddywedodd yn y gorffennol.Nawr, o ran y peth olaf a ddywedodd, gallaf ddweud—. Ie, Ysgrifennydd Gwladol Cymru—nid oes ganddo record dda o gydweithrediad; dewch imi ddweud hynny. Dewch imi roi enghraifft iddo o'r hyn a ddigwyddodd yn ddiweddar. Anfonwyd taflen at bob busnes yng Nghymru, mae'n debyg o swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru—heb yr un baner Cymru arni, os caf ychwanegu—i esbonio sut y gall Llywodraeth y DU helpu busnesau. Wel, popeth yn iawn hyd yn hyn, efallai. Ond yna mae'n dyfynnu gwahanol fusnesau yng Nghymru sydd wedi cael cymorth gan Lywodraeth Cymru, a llawer o'r pethau y sonnir amdanynt yno yw cymorth allforio, teithiau masnach, cyllid, sydd wedi dod gan Lywodraeth Cymru, ac mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn ceisio honni eu bod yn dod ganddo ef. Nid dyma'r tro cyntaf iddo wneud hynny. Mae eisoes wedi honni mai ef ddaeth â Qatar Airways i Gaerdydd. Ni wnaeth gyfrannu o gwbl at hynny. Gwnaethpwyd hynny—ac rwy'n rhoi clod i'r unigolyn a wnaeth hynny—gan Roger Lewis, sef cadeirydd y maes awyr. Ef oedd yr un a ddangosodd y dyfalbarhad i ddod â Qatar Airways i mewn. Felly, mae gan Lywodraeth y DU—. Wel, na—mae gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru hanes gwael iawn o gydweithredu a gofyn am gydweithrediad pan fydd yn gweld yn dda. Fe'i gwahoddwyd, os cofiaf yn iawn, i'r cyngor ar gyfer datblygu economaidd. Nid yw wedi bod eto, ond serch hynny mae gwahoddiad yno iddo ddod draw. Dyna'r fforwm lle mae busnesau Cymru’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru, a does dim rheswm pam na all yr Ysgrifennydd Gwladol fod yn y fforwm hwnnw yn hytrach na cheisio creu ei un ei hun, sef yr hyn y mae'n ceisio ei wneud ar hyn o bryd.Nawr, dewch inni droi at y pwyntiau a wnaeth Mark Isherwood. A oes angen cydweithredu? Oes. A oes angen safonau cyffredin? Oes, ac mae angen safonau cyffredin gyda'r UE, a dweud y gwir. Ni allwn greu ein safonau ein hunain. Nid yw'n gwneud synnwyr i hynny ddigwydd. Yn ail, a yw'r canlyniad o ran sicrwydd wedi’i rannu rhyngom ni a Llywodraeth y DU? Ydy, mae. Rydym yn deall bod angen sicrwydd ar fusnesau, a bod angen cyn lleied â phosibl o ymyrraeth ym marchnad sengl y DU. Rydym yn deall hynny. Y gwahaniaeth yw ein bod ni o'r farn y dylai'r Llywodraethau gytuno ar sut i gyrraedd y canlyniad hwnnw heb i un Llywodraeth osod un rheol ar y ddwy arall—gobeithio y tair arall yn y dyfodol. Felly, beth mae'n ei olygu yw y gallai Llywodraeth y DU wneud fel y mynno hi yn Lloegr, ond na allem ni wneud yr un peth yng Nghymru. Mae'n golygu, er enghraifft—ac mae wedi cydnabod ei fod yn rhannu rhai o'r pryderon hyn—y gallai Gweinidogion y DU ddiwygio deddfwriaeth ddatganoledig a basiwyd yn y lle hwn heb ofyn i'r lle hwn nac i Weinidogion Cymru, nac, yn wir, i Senedd y DU. Mae’n rhaid bod hynny’n anghywir mewn egwyddor. Nid yw hyn wedi'i gynllunio i fod yn sefyllfa lle mae Llundain yn troi’n Frwsel newydd ar unwaith, ac fe'i gwelir fel rhywle sy'n anghysbell ac yn annemocrataidd. Nid yw hynny'n rhywbeth yr hoffai ef na fi ei weld, does bosib, fel dau sy'n credu yn yr undeb.O ran ail gam y sgyrsiau, mae'n anghywir dweud bod yr UE a'i gwladwriaethau cyfansoddiadol wedi rhoi'r golau gwyrdd i gam nesaf y sgyrsiau; yr hyn maen nhw wedi'i wneud yw dechrau paratoi ar eu cyfer. Mae’r rheini’n ddau beth gwahanol. Ar hyn o bryd, mae'r sgyrsiau wedi pallu. Dydw i ddim eisiau gweld y sgyrsiau’n pallu—yn amlwg ddim. Rwyf am i’r trafodaethau hynny symud, ac rwy’n gobeithio y bydd y symudiad yno erbyn mis Rhagfyr fel y gall hyn symud ymlaen, fel na fyddwn yn syrthio dros ymyl dibyn ym mis Mawrth. Ond nid yw'n iawn dweud bod ail gam y sgyrsiau wedi cychwyn. Y realiti ar hyn o bryd yw bod yr UE yn llawer mwy unedig o ran eu nodau a'u targedau na'r DU. Mae gennym Brif Weinidog, ac rwy'n cytuno â llawer o'r hyn y mae hi wedi'i ddweud. Araith Florence: roeddwn yn croesawu llawer o honno. Ac yna mae gennych Boris Johnson, sy'n dweud rhywbeth gwahanol. Ac yna mae gennych Weinidog arall, Liam Fox, sy'n dweud rhywbeth gwahanol. Y broblem—a'r rhwystredigaeth ar lefel yr UE—yw ei bod yn ymddangos nad oes gan y DU syniad am yr hyn y mae ei eisiau, ac nad oes ganddi syniad pa fath o ganlyniad yr hoffai ei weld.Gwnaeth y Prif Weinidog gamgymeriad tactegol, yn fy marn i. Fe'i cyflwynodd ei hun fel un oedd o blaid, er ei bod yn arhoswr, Brexit caled—y tu allan i'r undeb tollau, y tu allan i'r farchnad sengl—ac aeth i mewn i etholiad gan feddwl bod hynny’n ased etholiadol, ac nid oedd. O ganlyniad, nid oes ganddi nawr fandad i arwain y DU ar y Brexit caletaf hwnnw. Mae'n hynod bwysig, felly, bod Llywodraeth y DU yn gweithio gyda'r gweinyddiaethau datganoledig i gyflawni—a rhaid inni gyflawni Brexit—y math o Brexit sy’n cael yr effaith negyddol leiaf ar economi Cymru a gweddill y DU. Does dim cyfiawnhad dros ddweud, pan bleidleisiodd pobl i adael yr UE, eu bod wedi pleidleisio i adael y farchnad sengl. Does dim cyfiawnhad dros ddweud, pan bleidleisiodd pobl i adael yr UE, eu bod wedi pleidleisio i adael yr undeb tollau. Ni chafodd dim un o'r pethau hyn sylw yn yr etholiad, ac eithrio gan wleidyddion UKIP. Oherwydd dywedodd gwleidyddion UKIP—er enghraifft, Daniel Hannan—nad oes neb yn mynd i adael y farchnad sengl. Dywedodd Nigel Farage, 'Gallwn ni fod fel'—[Torri ar draws.] Rwy'n gwybod nad ydych yn hoff o hyn, ond dywedodd Nigel Farage, 'Gallwn ni fod fel Norwy'. Dywedodd ef hynny. 'Gallwn ni gael ein cacen a'i bwyta', i ddyfynnu Boris Johnson. 'Gallwn ni fod yn yr AEE'. Cafodd pobl eu camarwain y llynedd. Dywedwyd wrthynt y byddai gwneuthurwyr ceir yr Almaen yn gorfodi cytundeb masnach rydd ar yr UE. Nid yw’n mynd i ddigwydd. Maent yn poeni mwy am y farchnad sengl nag am ddim byd arall. Does dim un o'r pethau hynny wedi digwydd.Nawr, pan fyddwn yn sôn am 'ddim bargen', dylem fod yn glir iawn ynglŷn â beth mae hynny'n ei olygu. Nid yw ef yn ei argymell. Nid dyna'r hyn y mae'n ei argymell, ond mae digon yn ei blaid sydd—nid pawb. Os na allwn negodi cytundeb â’n cymdogion agosaf, y rhai yr ydym yn rhannu ffin dir â nhw, y rhai yr ydym yn rhannu llawer iawn o gydgyfeiriant rheoleiddiol â nhw, does gennym ddim gobaith o negodi cytundeb â gwledydd nad oes ganddynt ddim o'r ffactorau hynny yn gyffredin â ni. Sut ar y ddaear allem ni? Nid wyf yn derbyn y syniad hwn bod yna nirfana allan yna o gytundebau masnach rydd a fydd o fudd inni. Does dim. Os ydym yn gadael yr UE heb fargen ym mis Mawrth 2019, fydd gennym ni ddim cytundeb masnach rydd â neb—â neb—oherwydd fydd dim un wedi’i gytuno ar yr adeg honno. Ble mae hynny'n ein gadael ni? Ar ein pennau ein hunain ac yn methu â masnachu'n rhydd â gwledydd eraill. Doedd neb eisiau gweld hynny, does bosib. Dydw i ddim yn meddwl mai cytundebau masnach rydd yw'r ateb, a dweud y gwir. Rwy'n meddwl bod cytundebau masnach rydd yn gweithio'n dda pan gânt eu llunio gyda gwledydd sydd â lefel incwm debyg i chi. Os nad yw hynny’n wir, rydych chi'n gwahodd swyddi i adael eich gwlad a mynd i rywle arall. Dyna oedd y brif gŵyn yn yr Unol Daleithiau yn yr etholiad arlywyddol, bod swyddi wedi mynd i Fecsico oherwydd bod costau llafur yn rhatach. Ac roedd hynny oherwydd cytundeb masnach rydd. Felly, mae'n rhaid inni fod yn ofalus iawn ynglŷn â gweld cytundebau masnach rydd fel y panacea i bopeth. Mae'n dibynnu pa farchnad a pha wlad rydych chi'n siarad â nhw.Yn olaf, mae'n sôn am y ffin. Bydd yn maddau imi: rwy'n ei hadnabod yn dda, y ffin honno—yn dda iawn, iawn. Does dim modd ei rheoli â heddlu. Rwy'n ei chofio pan oedd yr Helyntion yn dal i fod yn eu hanterth. Roedd yna fannau archwilio diogelwch. Fe wnaeth byddin Prydain chwalu ffyrdd bach i atal pobl rhag eu croesi nhw. Roedd yna fannau archwilio dynodedig. Hyd yn oed wedyn, doedd dim modd rheoli’r ffin honno â heddlu. Does neb eisiau mynd yn ôl i'r dyddiau hynny. Mae amlygu’r ffin mewn unrhyw fodd yn gwahodd problemau yng Ngogledd Iwerddon. Rydych yn dod yn ôl at y pwynt hwn—rwyf wedi clywed y ddadl yn cael ei gwneud—y bydd datrysiadau technolegol. Does dim datrysiadau technolegol. Sut y gallai fod? Er enghraifft, os yw nwyddau'n croesi rhwng Iwerddon a'r DU ac i'r gwrthwyneb, pwy sy'n eu rheoleiddio? Neb. Mae yna system hunan ddatgan, o bosibl, ond, a dweud y gwir, plismona cyffyrddiad ysgafn yw hynny; mae'n wahoddiad i smyglo. Yn ail, os nad oes rheolaeth pasbortau ar y ffin rhwng Iwerddon a'r DU, cyhyd â bod rhywun yn gallu mynd i Iwerddon, gall fynd i'r DU. Mae'r DU yn colli rheolaeth o'i ffin dan yr amgylchiadau hynny. Felly, mae'r syniad y bydd y DU yn rheoli ei ffiniau yn amhosib oni bai bod y ffin yn Iwerddon wedi’i hamlygu’n ffisegol. Wnaiff datrysiadau technolegol ddim gweithio yn hynny o beth. Rwyf wedi clywed awgrym y bydd camerâu yno. Wnaiff y camerâu hynny ddim para’n hir, oherwydd wnaiff pobl ddim derbyn unrhyw fath o amlygiad o ffin y tu hwnt i newid lliw’r llinellau ar ochr y ffordd, rhwng melyn ar un ochr a gwyn ar y llall.Nawr, dydy’r materion hyn ddim yn hawdd eu datrys. Gellir eu datrys os ydym yn aros yn yr undeb tollau—wedi ei wneud. Does dim problem o ran nwyddau. Mae yna fwy o broblem o ran rheoli pasbortau, mae hynny'n wir. Mae'n helpu nad yw'r Weriniaeth yn Schengen, mae hynny'n wir. Ond, serch hynny, mae'r rhain yn gwestiynau anodd, anodd y mae angen eu hateb, a byddwn yn cynnig ein cymorth i Lywodraeth y DU i helpu i ddod i'r casgliadau yr hoffai pobl eu gweld, sef Brexit sy'n bodloni'r hyn y pleidleisiodd pobl drosto y llynedd, ond Brexit nad yw'n cael effaith negyddol ar economïau Cymru a Phrydain. Leanne Wood AC: Mae diweddariad heddiw ar y trafodaethau Brexit yn adlewyrchu rhai o'r negeseuon sy'n dod o Lywodraeth Cymru ar ôl y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE) diweddar ac yn ymwneud â rhai o'r materion a godais gyda'r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf. Mae sôn bod Llywodraeth y DU, ac rwy’n dyfynnu,‘yn sylweddoli bod angen iddynt weithio'n llawer agosach gyda'r gweinyddiaethau datganoledig',a’i bod yn ymddangos bod Llywodraeth Cymru—ac unwaith eto rwy'n dyfynnu—'wedi gweld newid sylweddol yn safbwynt Llywodraeth y DU'.Nawr, rwy’n derbyn y gallai'r cyfarfodydd hynny fod wedi dod yn fwy cadarnhaol, a'r rheswm dros hyn yw bod Llywodraeth y DU wedi bod ar y rhaffau o safbwynt barn y cyhoedd, yn enwedig o ran gadael yr UE heb fargen. Mae Gweinidogion y DU yn awyddus i osgoi ffrae o fewn y DU ar sut i gyflawni Brexit. Er nad ydym yn gwybod beth fyddai argyfwng cyfansoddiadol, rydym yn gwybod y gallai'r goblygiadau i ddyfodol yr Alban ac, o bosib, i ddyfodol y broses heddwch yn Iwerddon fod yn arwyddocaol. Felly, mae hyn yn esbonio i raddau helaeth pam y gallai Llywodraeth y DU fod wedi trosglwyddo signalau mwy cadarnhaol i'r gweinyddiaethau datganoledig. Ond mae'r problemau'n parhau, ac, yn ein barn ni, mae'r risg o gipio grym yn parhau.Nawr, mae'r materion ynglŷn â’r trafodaethau gyda'r UE-27 yn bwysig i Gymru. Mae hawliau dinasyddion yn broblem lle mae’n rhaid i synnwyr cyffredin ennill y dydd. Barn Plaid Cymru yw y dylai holl ddinasyddion yr UE yng Nghymru allu aros ac, fel rhan o hynny, rydym yn nodi'r cyfraniad y mae gweithwyr o’r UE yn ei wneud i'n trethi, i’n gwasanaethau cyhoeddus, ac i'n sector preifat. Hefyd, mae mater y ffin yn Iwerddon yn hanfodol i ffyniant a dyfodol ein porthladdoedd, yn enwedig yng Nghaergybi, a byddwn yn annog y Prif Weinidog i bwyso’r pwynt hwnnw hyd yn oed yn fwy effeithiol.I droi at yr effeithiau ar y Cynulliad hwn, nid yw'r ffaith bod cyfres fwy adeiladol o gyfarfodydd wedi digwydd yn newid natur gyffredinol y trafodaethau. Mae Plaid Cymru yn glir iawn bod Bil yr UE (Ymadael) yn galluogi San Steffan i gipio grym, ac yr wythnos ddiwethaf fe wnaethom gyhoeddi barn gyfreithiol i'r perwyl hwnnw. Ein dadansoddiad yw ein bod ar ein ffordd at sefyllfa lle bydd grym yn y wladwriaeth Brydeinig wedi’i ganoli yn San Steffan o dan esgus gweithredu marchnad sengl yn y DU. Yn wahanol i farchnad sengl yr UE, lle mae aelod-wladwriaethau'r UE yn penderfynu ar y rheolau ar y cyd, caiff y gweinyddiaethau datganoledig eu trin fel ymgynghoreion yn unig. Mae Plaid Cymru yn credu y gellid ymdrin â threfniadau o'r fath y tu mewn i'r DU mewn modd lle mae’r cenhedloedd, eu Llywodraethau a'u deddfwrfeydd yn gydradd.Mae yna nifer o broblemau gweithdrefnol gyda Bil yr UE (Ymadael), sy'n golygu na all Plaid Cymru ei dderbyn. Hoffem atal Gweinidogion y Goron rhag gallu defnyddio rheoliadau i addasu'r setliadau datganoledig. Hoffem gael gwared ar y cyfyngiadau ar Weinidogion Llywodraeth Cymru i allu cywiro diffygion sy'n deillio o ymadael. Ac mae Plaid Cymru hefyd yn credu bod cymal 11 y Bil yn gwanhau ein pwerau datganoledig yn y ffordd fwyaf sylfaenol. Yn fwy nag erioed, rydym yn credu y byddai Bil parhad yn ffordd unigryw i ymdrin â hyn.Felly, i droi at fy nghwestiynau, Brif Weinidog, yn gyntaf oll, a ydych yn gresynu nawr bod Llafur yn San Steffan wedi pleidleisio i ysgogi erthygl 50, o ystyried nad oedd dim gwarantau i ddinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru? Gofynnais ichi yr wythnos diwethaf a oeddech yn cytuno â Damian Green bod y sôn am gipio grym y tu ôl inni, a gwnaethoch ddweud yn eich ateb eich bod yn credu bod cipio grym yn dal i fod yn risg, er bod y cyfarfod wedi bod yn gadarnhaol. A gaf i ofyn ichi heddiw: a ydych chi’n fodlon ar fod yn ymgynghorai? A ydych chi’n fodlon bod cymryd rhan mewn ymgynghoriad ar fframweithiau'r DU yn y dyfodol yn ddigonol, ynteu a ydych yn cytuno â barn Plaid Cymru y dylid penderfynu ar y cyd ar y fframweithiau hynny? Wrth ystyried dyfodol grym gwleidyddol yn y wladwriaeth hon a lle bydd y grym hwnnw, a yw cyngor Gweinidogion y DU yn nes at fod yn realiti?O ystyried popeth rydych chi wedi'i ddweud am beryglon methu â tharo bargen, a ydych chi nawr yn derbyn y dylech chi gynllunio ar gyfer y canlyniad hwnnw? Mae pawb ohonom yn cytuno y byddai hynny'n ganlyniad gwael, ond rydym hefyd yn cytuno y gallai ddigwydd. Felly beth ydych chi'n mynd i'w wneud amdano? Allwch chi ddim gwadu y gallai ddigwydd.Yn olaf, a ydych chi'n credu bod yr oedi yn y Bil ymadael â’r UE yn rhoi cyfle inni nawr i fwrw ymlaen â Bil parhad? Carwyn Jones AC: O ran y Bil parhad, mae'n rhywbeth, wrth gwrs, yr ydym yn dal i’w ystyried, ond byddai'n well pe bai cynnydd yn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE). A ydym mewn sefyllfa i argymell i'r Cynulliad y dylem gymeradwyo'r Bil ymadael fel y mae? Na. Dywedais hynny yn yr hyn a ddywedais ar ddechrau fy natganiad. A yw Llywodraeth y DU nawr yn ymgysylltu mwy? Yr ateb i hynny yw 'ydynt'. Pam? Wel, rwy'n meddwl eu bod wedi gwneud y rhifyddeg yn Nhŷ’r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi. Rwy'n meddwl, petai ganddynt fwyafrif o dros 100, na fyddem yn y sefyllfa hon nawr. Ond mae'n eithaf clir bod y geiniog wedi syrthio yn hynny o beth.Mae Damian Green yn rhywun sy'n fy nharo fel rhywun y gallwch chi siarad ag ef, ac a wnaiff siarad yn ôl â chi—mae hynny’n helpu. Mae ei gyfraniad yn sicr wedi helpu'r broses hyd yn hyn, ac mae arnom angen iddo barhau felly. A yw hyn yn golygu ein bod mewn sefyllfa lle mae popeth yr oedd ei eisiau arnom wedi'i gynhyrchu? Na. Ydyn ni'n meddwl y dylai fframweithiau cyffredin fod yn destun cytundeb rhwng y Llywodraethau? Ydym, rydw i wedi dweud hynny o’r dechrau. Rwyf eisoes wedi dweud llawer o'r hyn y dywedodd arweinydd Plaid Cymru, dros lawer o fisoedd. A ydw i'n credu y dylid cytuno ar reolau marchnad sengl, a phenderfynu ar y cyd? Ydw, rwyf wedi dweud hynny sawl gwaith, ac rwyf wedi dweud bod angen llys. Un cwestiwn yr anghofiais ei ateb gan Mark Isherwood yw bod angen llys i feirniadu ar y farchnad sengl. Goruchaf Lys yr Unol Daleithiau yw'r llys sy'n rheoleiddio masnach rhyngdaleithiol yn yr Unol Daleithiau. Llys Cyfiawnder Ewrop sy’n ei wneud yn y farchnad sengl. Llys Cymdeithas Masnach Rydd Ewrop sy’n ei wneud ar gyfer Cymdeithas Masnach Rydd Ewrop. Mae angen llys i reoleiddio marchnad sengl y DU. Gallai'r Goruchaf Lys wneud hynny. Mae'n weddol hawdd dynodi'r Goruchaf Lys fel y llys a fyddai'n gwneud hynny. Yr hyn na all ddigwydd yw bod Llywodraeth y DU yn gwneud y rheolau a Llywodraeth y DU yn penderfynu ar anghydfodau. Rydym yn dal i fod mewn sefyllfa lle rydym wedi cychwyn proses datrys anghydfodau dros arian Gogledd Iwerddon â Llywodraeth y DU ac maen nhw'n gwrthod mynd â hi drwy broses datrys anghydfodau'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion am eu bod yn dweud nad oes anghydfod. Wel, yn amlwg mae yna. Nawr, allwn ni ddim derbyn sefyllfa fel hyn yn parhau i’r dyfodol, ac, fel y dywedais o'r blaen, mae angen i'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion esblygu i fod yn gyngor priodol o Weinidogion y DU sy'n ymdrin â materion datganoledig ac sy'n cynnal gwrandawiadau, o leiaf, ynglŷn â materion nad ydynt wedi'u datganoli, er mwyn i'r DU weithio'n iawn.O ran y cyngor cyfreithiol a'r cipio grym, gallwn fod wedi rhoi hynny iddi am ddim, oherwydd rydym yn gwybod bod hynny’n digwydd yn barod. Bydd hi'n gwybod, yn y trafodaethau sydd wedi digwydd rhwng ein pleidiau yn ystod y misoedd diwethaf, ein bod i gyd yn cytuno y bydd yna gipio grym. Dyna beth mae cymal 11 yn ei ddweud. Byddai'n atal y Cynulliad rhag defnyddio pwerau a fyddai'n dod inni’n awtomatig pe na byddent yn cael eu dargyfeirio drwy’r drws cefn i Whitehall. Fel y dywedais o'r blaen, ni allaf ddod gerbron y Cynulliad hwn ac awgrymu i'r Cynulliad y dylent ildio pwerau, a fyddai'n cyrraedd ar garreg y drws, am gyfnod amhenodol yn wirfoddol. Dydw i ddim yn barod i wneud hynny, ac yn amlwg dyna'r sefyllfa o hyd ar hyn o bryd. Mae angen gwneud mwy o waith.O ran y porthladdoedd, unwaith eto, mae'n rhywbeth yr wyf wedi'i godi gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Iwerddon. Codais y mater hwn gyda'r Taoiseach. Y gwir amdani yw bod 70 y cant o'r fasnach rhwng Prydain Fawr ac Iwerddon yn mynd drwy borthladdoedd Cymru. Os gwelir ei bod yn haws mynd drwy Lerpwl a Cairnryan a Troon yn yr Alban i Ogledd Iwerddon, ac yna i lawr dros ffin a fyddai'n haws ei chroesi, byddwn yn colli masnach a byddwn yn colli swyddi. Mae hynny'n ymddangos yn glir iawn i mi. A byddai Iwerddon hefyd, o ran hynny—byddai Gweriniaeth Iwerddon hefyd.O ran y cwestiynau y mae hi'n eu gofyn imi, a ydw i'n gresynu at ysgogi erthygl 50? Na, rwy'n meddwl bod hynny'n cyd-fynd â chanlyniad y refferendwm. A ydw i'n gresynu at y diffyg cynnydd ers hynny? Ydw, yn fawr iawn. Yn fawr iawn. Byddwn wedi gobeithio y byddai llawer mwy o gynnydd na hyn wedi’i wneud erbyn hyn. O ran y Bil ymadael, ydy, mae wedi cael ei ohirio. Mae yna broblemau amlwg o ran Llywodraeth y DU, mewn sawl ffordd wahanol. Fe’i gwnaethom yn glir iawn iddynt nad ydym yn barod i symud, yr Albanwyr a ni. Nid ydym yn barod i symud o’r sefyllfa bresennol nes ein bod yn ddigon bodlon a chyfforddus ar ran pobl Cymru y bydd y pwerau'n cyrraedd yma fel y dylent.Yn olaf, ynglŷn â mater 'dim bargen', gallwn, gallwn baratoi am 'ddim bargen', ond ni allaf gamarwain pobl drwy ddweud y gallwn liniaru'n llwyr yr hyn y mae 'dim bargen' yn ei olygu. Byddai hynny’n amhosibl. Os na all ein ffermwyr gael mynediad—. Os na all ein ffermwyr defaid gael mynediad at y farchnad Ewropeaidd, y farchnad allforio fwyaf o bell ar gyfer cig oen Cymru, does dim marchnad arall lle gallant werthu ar fyr rybudd. Nid yw'n bosibl. Ni waeth faint o gymhorthdal gaiff ei dalu i bobl, bydd ganddynt anifeiliaid nad ydynt yn gallu eu gwerthu, ac mae hynny'n golygu y bydd y pris yn gostwng, fel y gwyddom. Does dim lliniaru ar hynny. Rydym wedi mynd allan dros y blynyddoedd, mae cig oen Cymru wedi mynd i wledydd eraill. Pan oeddwn i'n Weinidog materion gwledig, buom yn gweithio'n galed i gael cig oen Cymru i Dubai, ac rwy’n gwybod bod y Llywydd wedi gwneud hynny hefyd pan olynodd fi yn y swydd honno. Mae nawr yn cymryd ei le yn falch yn archfarchnadoedd Dubai. Mae gennym farchnadoedd eraill o gwmpas y byd lle rydym wedi ehangu cig oen Cymru a'i gyrhaeddiad, ond y realiti yw mai'r farchnad Ewropeaidd, o bell, yw'r farchnad fwyaf o hyd.Mae yna broblemau go iawn o ran y sector modurol a'r hyn y mae'r tariffau yn ei olygu iddo. Mae llawer o'n cwmnïau wedi gweithredu ar y sail eu bod yn weithrediadau Ewropeaidd—mae Airbus yr un fath, mae'r diwydiant modurol yr un fath. Dydy creu rhwystr artiffisial rhwng un rhan lawer llai o hynny a’r gweddill ohono ddim yn gwneud dim synnwyr i mi. Felly, gallwn, gallwn helpu, ond ni allaf, â’m llaw ar fy nghalon, ddweud ei bod hi'n bosib lliniaru effaith dim bargen yn llwyr. Os nad oes marchnad, y cyfan y gallwch chi ei wneud wir yw cynnig dewis gwahanol i'r hyn y mae pobl yn ei wneud yn barod a dweud, 'Mae'n ddrwg gennym, allwch chi ddim allforio ar yr un lefel nawr, rydym yn mynd i orfod eich symud a bydd rhaid inni eich ailhyfforddi fel rhywbeth arall.'I mi, y ffordd i osgoi hynny yw gwrthod 'dim bargen', a dweud y gwir. Ni ddywedodd neb yn y refferendwm y llynedd na fyddai dim bargen—ni ddywedodd neb hynny. Dywedodd pawb a oedd o blaid gadael y byddai bargen: byddai bargen, a byddai'n fargen ar delerau'r DU, byddai gweithgynhyrchwyr ceir yr Almaen yn ei gorfodi, a gallem fod yn yr AEE. Ni ddywedodd neb, y llynedd, pe baem yn gadael yr UE, y dylem adael popeth a throi at reolau Sefydliad Masnach y Byd. Ni ddywedodd neb hynny. Ac roedd hynny'n dwyll; dim mwy na breuddwyd gwrach gan bobl a feddyliodd am syniadau a oedd yn cyd-fynd â’u barn nhw am y byd.Yn olaf, yr hyn sy'n hollbwysig yw bod y rheini yn San Steffan a thu allan sy'n meddwl y dylai dyfodol Cymru a'r DU a'u perthynas â'r UE fod yn seiliedig ar egwyddorion yr hyn sy’n edrych i mi fel cenedlaetholdeb y bedwaredd ganrif ar bymtheg—y dylid gwrthwynebu’r bobl hynny ar bob cyfle. Rydym yn barod i weithio gyda'r rheini yn Llywodraeth y DU sy'n bragmatig, sydd am weld y canlyniad gorau o Brexit, ond mae hynny'n golygu na allwn esgus ein bod yn byw yn oes Fictoria ac y bydd y byd yn syrthio wrth ein traed. Neil Hamilton AC: Rwy’n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad, ond i fod yn onest, ac nid yw hyn yn feirniadaeth iddo, mae'n ddigwyddiad digon dibwys, oherwydd yr hyn y mae wedi sôn amdano yw cynnydd bach o fewn y Deyrnas Unedig o ran y berthynas a fydd gan Lywodraeth Cymru, ac a fydd gan y Cynulliad hwn, yn y dyfodol gyda Llywodraeth Prydain a Senedd y Deyrnas Unedig. Ac fel y dywedodd y Prif Weinidog yn gywir, ni fu braidd dim symudiad o gwbl yn yr UE.Yr unig gytundeb y maen nhw wedi'i gynnig yw y gallen nhw efallai siarad ymhlith eu hunain am y ffordd ymlaen, ond yn sicr nid oes cynnig cadarn ar y bwrdd am sut y gwneir cynnydd pellach ym Mrwsel. Rwy'n meddwl bod yn rhaid inni gydnabod mai'r anhyblygrwydd hwnnw, nid unrhyw anhyblygrwydd ar ran Llywodraeth Prydain, sydd wedi ein rhoi yn y sefyllfa yr ydym ynddi heddiw.Mae'n gwbl glir o'r alwad gan y Cyngor Ewropeaidd na allwn hyd yn oed ddechrau siarad am drafodaethau masnach hyd nes inni ddatrys yr hyn y mae'r Prif Weinidog yn ei ddatganiad ei hun yn dweud yw mân fater yr arian. Rydym ni’n sôn am £20 biliwn y mae'r Prif Weinidog wedi ei gynnig—arian trethdalwyr Prydain—na ddylai hi fod wedi’i gynnig, yn fy marn i. Nid yw'r UE wedi enwi ffigur penodol; gallai fod yn gofyn am unrhyw beth rhwng £60 biliwn a £100 biliwn o'n harian ni, fel pridwerth, cyn iddynt hyd yn oed ddechrau’r trafodaethau am fasnach.Felly, dewch inni fod yn eithaf clir lle mae'r prif fai yma: nid bai Llywodraeth Prydain ydyw, er nad wyf edmygu o gwbl y ffordd y maent wedi ymddwyn yn ystod y broses negodi hon. Y cyfan y mae'n rhaid i'r Prif Weinidog ac unrhyw un arall ei wneud er mwyn deall y broses sy'n digwydd yma yw darllen y llyfr a gyhoeddwyd yn gymharol ddiweddar gan Yanis Varoufakis, ‘Adults in the Room’—sosialydd adain chwith na fyddai, efallai, yn ystyried y Prif Weinidog yn sosialydd ei hun. Ond serch hynny, mae ef wedi nodi—[Torri ar draws.] Mae'n wir, mae’n arhoswr. Ond mae wedi nodi yn ystod y llyfr hwn beth fyddai tactegau negodi’r Undeb Ewropeaidd yn ystod trafodaethau Brexit. Ac mae'r dilyniant yn gwbl allweddol iddo, oherwydd yr hyn y mae'r UE yn ei wneud yma yw chwarae cachgi—pwy sy'n mynd i flincio gyntaf? Ac os nad yw'r arian yn bwysig i ni, mae hyd yn oed yn llai pwysig i'r UE, oherwydd mae cynnyrch domestig gros yr UE, wrth gwrs, lawer gwaith mwy na’r Deyrnas Unedig. Felly, mae gan yr UE gymaint o ddiddordeb mewn cytundeb masnach synhwyrol â Phrydain ag sydd gan Brydain â nhw yn y dyfodol. Ond maen nhw'n chwarae gêm wahanol i'r un y mae'n ymddangos bod y Prif Weinidog yn meddwl eu bod yn chwarae.Nawr, rwy'n falch o'r cynnydd bach y mae’n ymddangos sydd wedi digwydd o ran rhoi trefn ar y trefniadau cyfansoddiadol ar gyfer y dyfodol yn y Deyrnas Unedig, ac rwy'n sicr yn cytuno â dull bras cyffredinol Llywodraeth Cymru ac, yn wir, hyd yn oed â llawer o'r hyn a ddywedodd arweinydd Plaid Cymru yn gynharach. Ond y prif anhawster sydd gennym yma yw bod etholwyr y Deyrnas Unedig wedi pleidleisio dros adael yr UE ac, yn wir, bod etholwyr Cymru wedi gwneud hynny, ac er fy mod yn sicr yn erbyn unrhyw fath o gipio grym deddfwriaethol gan San Steffan, hyd yn oed dros dro, serch hynny, yr amcan pwysicaf yw bod Prydain gyfan, gan gynnwys Cymru, yn gadael yr UE, ac nid yw'r telerau ar gyfer gwneud hynny yn hollol o fewn ein rheolaeth, yn amlwg, oherwydd mewn cytundeb mae'n rhaid i’r ddwy ochr gyrraedd safbwynt cyffredin. Ac nid oes gennym syniad beth yw llinell waelod yr UE, ond os dywedwn mai ein llinell waelod ni yw y byddwn yn derbyn beth bynnag sydd ar gael, fydd yna ddim negodi o gwbl, ac mae’n ymddangos i mi mai dyna yw sail sylfaenol ymagwedd y Prif Weinidog at hyn. Mae 'dim bargen' yn annychmygadwy; ni allwn dderbyn dim bargen o dan unrhyw amgylchiadau. Pwy ar y ddaear mewn busnes sy’n mynd i drafodaeth ac yn dweud, ‘Gwnaf gymryd beth bynnag rydych chi’n ei gynnig imi.’ Byddai hynny'n wallgofrwydd llwyr. Wrth gwrs, hoffem daro bargen—hoffem gytundeb masnach rydd cynhwysfawr gyda'r UE—ond os nad ydyn nhw'n barod i'w gynnig, does dim byd y gallwn ei wneud am y peth. Ac ni fyddwn yn derbyn y dull pridwerth y mae’n ymddangos bod yr UE yn ei ddefnyddio ar hyn o bryd. Y dacteg yw bod Monsieur Barnier yn dweud nad oes ganddo fandad i negodi ar ddim byd hyd nes y bydd y Cyngor Ewropeaidd yn dweud wrtho y caiff wneud hynny, felly pan fydd Theresa May yn mynd i'r Cyngor Ewropeaidd i ddweud, ‘Rydym ni eisiau siarad am fasnach rydd', byddan nhw'n dweud, ‘O na, mae’n rhaid ichi fynd i siarad â Michel Barnier’, a dydyn ni’n mynd dim pellach. A dyna pam rydym ni yn y sefyllfa yr ydym ynddi heddiw.Mae'n ddrwg gen i bod rhan helaeth o'r datganiad wedi’i neilltuo i barhau â'r ymagwedd ‘prosiect ofn’ a gawsom yn y refferendwm, gyda'r llu o gyrff sy'n dweud bod yn rhaid inni daro bargen am unrhyw bris. Y mwyaf chwerthinllyd ohonynt, wrth gwrs, yw Consortiwm Manwerthu Prydain sy'n dweud y gallai troi’n ôl at dariffau Sefydliad Masnach y Byd olygu y bydd siopwyr yn y DU yn talu hyd at draean yn fwy am eitemau bwyd bob dydd. Beth yw pwynt y PAC heblaw am gadw allan bwyd tramor rhad? Ei holl bwynt yw bod prisiau bwyd y byd yn is na phrisiau bwyd yr UE. Ni fyddai pwynt i’r tariffau pe byddai prisiau bwyd yn ddrutach yng ngweddill y byd. Yn wir, mae pris bwyd cyfartalog wrth adael gatiau ffermydd yn yr UE 17 y cant yn uwch nag ym marchnadoedd y byd. Mae hynny'n cymryd swm sylweddol o bocedi pobl gyffredin Prydain. Nawr, wrth gwrs, rwy'n credu mewn cefnogi ffermwyr Prydain, ond y gwir amdani yw, am bob £1 y mae trethdalwyr Prydain yn ei wario drwy gyfrwng yr UE ar ffermwyr Prydain, ein bod ni’n talu £1 arall i gefnogi ffermwyr mewn rhannau eraill o'r UE. Felly, mae'r syniad na allem ni barhau â rhyw fath o gefnogaeth amaethyddol ar ôl gadael yr UE yn nonsens llwyr. A dweud y gwir, byddai gennym fwy o arian i'w wario ar ffermwyr petaem yn penderfynu bod hynny'n beth dymunol i'w wneud.Mae’r Prif Weinidog yn dweud yn y datganiad hwn nad yw'n credu mewn rhoi bargen wael i drethdalwyr, ond mae'n barod i dderbyn unrhyw fargen sydd ar gael, felly bydd yn barod i dalu unrhyw swm y bydd yr UE am ei fynnu gennym. Gallai fod yn £60 miliwn, £100 miliwn, £200 biliwn—unrhyw ffigur: ‘Enwch chi’r pris, gwnawn ni ei dalu.’ Dyna dacteg negodi wych! Ni allai unrhyw un synhwyrol, yn sicr neb cyfrifol, erioed fynd i drafodaeth ryngwladol ar y sail honno. Wrth gwrs, mae gennym broblemau i’w datrys, yn enwedig y ffin ag Iwerddon, ffin y mae'r Prif Weinidog yn gwybod llawer iawn amdani, fel yr wyf finnau, yn wir; bûm yn chwip y Llywodraeth dros Ogledd Iwerddon unwaith. Ond prin y gallwch siarad am ddyfodol ein perthynas fasnach â Gweriniaeth Iwerddon os na allwn siarad am ein perthynas fasnach â’r UE yn y dyfodol. Felly, mae'r dilyniant yma i gyd yn anghywir. Felly, maen nhw am inni ildio ar bopeth cyn y gwnânt siarad am unrhyw beth. Wel, nid negodi yw hynny o gwbl, ac mae'n bendant yn erbyn buddiannau Prydain pe byddem o blaid hynny.Felly, rwy’n meddwl y byddai'r Prif Weinidog wedi gwneud gryn dipyn yn well yn ei, yr hyn y gallem ei alw'n negodi 'domestig', gyda Llywodraeth Prydain pe byddai wedi bod yn fwy optimistaidd am ganlyniad Brexit neu o leiaf am y cyfleoedd i Brydain lwyddo o ganlyniad i fod yn rhydd i fasnachu’n fwy rhydd yn y byd. Rwy’n gwybod ei fod yn besimistaidd iawn ynghylch y posibiliadau o ddod i gytundeb masnach rydd â gwledydd eraill, ond mae yna lawer o wledydd, yn enwedig gwledydd y Gymanwlad, sy'n awyddus iawn i ddechrau'r broses o sgyrsiau. Ac, yn wir, maen nhw, mewn ffordd anffurfiol, yn dechrau. Ond, wrth i’r cloc dicio, dewch inni fod yn hollol glir bod pobl Prydain a phobl Cymru ar 23 Mehefin y llynedd, wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd, heb os nac oni bai. Mae’r syniad na ddywedwyd wrth neb y byddai hyn yn golygu gadael y farchnad sengl neu'r undeb tollau—. Roedd pob un arhoswr brwd yn taro’r drwm ac yn defnyddio'r geiriau hynny bob munud bob dydd yn ystod ymgyrch y refferendwm. Ac, wrth gwrs, gallai neb warantu beth fyddai canlyniad trafodaethau masnach gyda'r UE yn y dyfodol. Efallai nad ydynt yn deall ble mae eu hunan-fudd rhesymol. Wedi'r cyfan, mae yna lawer iawn o afresymoldeb yn yr UE. Beth yw ardal yr ewro ond adeiladwaith o afresymoldeb anhygoel sydd wedi rhoi hanner cyfandir ar y clwt?Felly, pe byddai’r Prif Weinidog ond ychydig yn fwy optimistaidd ynghylch nid yn unig gobeithion a dyheadau pobl Prydain ond hefyd eu gallu i wneud eu gwlad yn llwyddiant yn y byd yn y dyfodol, efallai y byddai Llywodraeth Prydain wedi gwrando llawer iawn mwy ar yr hyn y bu ganddo i’w ddweud. Carwyn Jones AC: Wel, mae ardal yr ewro yn gwneud yn dda iawn, a dweud y gwir—yn well na Phrydain ar hyn o bryd. Ni wn a welodd y ffigurau twf yn ardal yr ewro. Roedd yna rywfaint o naïfrwydd, unwaith eto, yn yr araith honno gan arweinydd UKIP. Dewch inni ailadrodd yr hyn a ddywedwyd y llynedd. Nid wyf am frwydro’r refferendwm eto, ond mae'n werth ein hatgoffa ein hunain o'r cyd-destun yma. Bydd tri chant a hanner o filiynau o bunnoedd yr wythnos ar gael i'r GIG: sothach. Byddwn yn rheoli ein ffiniau ein hunain: nonsens. Bydd cytundeb masnach rydd ar unwaith gyda'r Undeb Ewropeaidd oherwydd bydd cynhyrchwyr ceir yr Almaen yn gorfodi hynny i ddigwydd: breuddwyd gwrach. Bydd cytundebau masnach rydd ar waith gyda phob math o wledydd cyn mis Mawrth 2019: chwerthinllyd. I ddechrau, nid oes gan y DU unrhyw brofiad o negodi cytundebau masnach rydd. Nid yw'r holl bethau hyn a ddywedwyd y llynedd yn wir. Doedden nhw erioed yn wir. Felly, mae'n rhaid inni addasu i'r sefyllfa bresennol.Nawr, byrdwn yr hyn yr oedd arweinydd UKIP yn ei ddweud yn y bôn oedd hyn: nid yw'n deg na fydd yr UE yn rhoi’r hyn yr ydym ei eisiau inni. Roedd wedi defnyddio gair fel pridwerth. Pa drafodaethau busnes sy'n digwydd lle mae un ochr yn mynd i mewn ac yn dweud wrth y llall, ‘Rydym am gael popeth ein ffordd ni; pob peth ein ffordd ni, ac, os nad ydych chi'n cyfaddawdu, byddwn ni'n cerdded i ffwrdd’? Nid yw hynny, rwy’n dweud wrthych, yn lle synhwyrol i fod mewn trafodaeth fusnes. Y gred oedd y byddai'r UE yn chwalu. Nid yw'n mynd i chwalu. Dywedodd David Davis y byddai yn Berlin yn gyntaf, yn negodi gyda'r Almaenwyr. Nid yw’n mynd i ddigwydd. Mae'r farchnad sengl yn llawer pwysicach i ddiwydiant yr Almaen na dim byd arall. Mae Prydain yn farchnad bwysig, ond mae marchnad sengl yr UE yn llawer, llawer mwy na Phrydain. Y realiti yw bod Prydain yn bumed rhan o faint yr UE. Rwy'n meddwl ei fod wedi crynhoi pethau ei hun wrth ddweud mai'r anhawster oedd y bleidlais y llynedd. Wel, roedd ef o blaid yr anhawster hwnnw. Felly, ni all ymgilio oddi wrth hynny nawr. Nid wyf yn derbyn bod pobl, y llynedd, wedi pleidleisio i adael yr UE ar y telerau y mae ef wedi’u hawgrymu. Y realiti yw y gofynnwyd i bobl bleidleisio am gysyniad. Ni ofynnwyd iddynt bleidleisio ynghylch sut y byddai'r cysyniad hwnnw'n gweithredu. Ni ofynnwyd iddynt am undeb tollau. Doedd pobl ddim yn deall beth oedd undeb tollau. Ni ofynnwyd iddynt am y farchnad sengl. Doedd pobl ddim yn deall beth oedd y farchnad sengl. Er gwaethaf hynny, roedd arhoswyr yn dweud, ‘Byddwn yn aros yn y farchnad sengl. Byddwn yn iawn. Byddwn yn aros yn yr undeb tollau. Bydd gennym gytundeb masnach rydd cynhwysfawr.’ A nawr mae'n beirniadu'r UE am wneud yr hyn y byddai ef ei hun yn argymell bod y DU yn ei wneud—gofalu am eu buddiannau eu hunain. Wrth gwrs eu bod nhw'n mynd i wneud hynny. Felly, mae'n rhaid cyfaddef yma bod rhaid cyfaddawdu ar y ddwy ochr.Y broblem, yn fy meddwl i ar hyn o bryd, yw’r DU. Nid yw'r DU yn gwybod beth mae ei eisiau arni. Mae gennym Lywodraeth y DU sydd ddim wir yn gwybod pa fath o Brexit y mae am ei weld, ac mae angen datrys hynny yn gyntaf. Soniodd am brisiau bwyd. Wrth gwrs, yr hyn nad yw'n ymddangos ei fod yn ei ddeall yw y byddem wedyn yn gweld tariffau’n cael eu rhoi ar fwyd sy'n dod o weddill yr UE, lle mae swm sylweddol o'n mewnforion yn dod ohono. Mae prisiau'n siŵr o godi oherwydd mae tariffau ar fwyd yn uchel iawn, iawn. Ar ben hynny, byddai allforion Cymru—cig oen Cymru, yn enwedig—yn mynd yn llawer drutach dros nos. Mae'n siŵr o wneud. Os oes gennych chi dariffau, does dim osgoi hynny; bydd hynny'n digwydd. Mae'n golygu bod cig oen Cymru yn ddrutach yn ei farchnad bwysicaf. Dyna beth mae 'dim bargen' yn ei olygu. Mae'n golygu y bydd y galw’n gostwng. Mae'n golygu y bydd gan ffermwyr anifeiliaid na allant eu gwerthu. Ni fydd unrhyw swm o arian yn eu helpu os na allant werthu’r hyn maen nhw'n ei gynhyrchu. Felly, bydd rhaid ystyried materion yn ymwneud â lles anifeiliaid. Does dim ffordd o gwmpas hyn. Byddwn mewn sefyllfa, os bydd tariffau, lle mae llawer o nwyddau’n ddrutach yn y DU, yn enwedig bwyd a diod, a byddwn yn gweld bod yr hyn yr ydym yn ei allforio’n mynd yn llawer drutach, a does dim angen inni wneud hyn.Does neb yn argymell gosod tariffau, mae hynny’n wir, ond dylem fod yn ofalus iawn, iawn i beidio â mynd i sefyllfa lle mae tariffau, mewn gwirionedd, yn cael eu gosod. Pwy sy'n mynd i lywodraethu'r tariffau rhwng Gweriniaeth Iwerddon a'r DU? Pwy sy'n mynd i wneud hynny? Does dim archwiliadau, felly beth ydyn ni'n ei wneud i leihau smyglo, y ddwy ffordd? Os nad oes rheolaethau ffin, beth fyddwch chi'n ei wneud i leihau masnachu pobl? Nid yw’r pethau hyn i gyd wedi cael eu hystyried o gwbl. Tybiaeth drahaus llawer o eithafwyr Brexit oedd y byddai Iwerddon yn gadael yr UE gyda'r DU, oherwydd bod pobl Iwerddon yn adnabyddus am wneud yr hyn y mae'r DU yn dweud wrthynt am ei wneud. Ni chafodd dim o hyn ei ystyried.Nawr, soniodd am y rhyddid i fasnachu. Mae'n ddeniadol. Pe byddwn i yn Awstralia a Seland Newydd, byddwn i wrth fy modd o fod â bargen masnach rydd gyda'r DU. Pam na fyddwn i? Beth ydyn ni'n ei gael yn ôl? Mae Awstralia yn llawer llai na'r DU, ac mae gan Seland Newydd 4 miliwn o bobl. Os oes gennych fargen masnach rydd â Seland Newydd, mae'n wych i Seland Newydd—rwy'n derbyn hynny. Byddai eu cig oen yn gallu dod i'r DU heb unrhyw fath o gyfyngiad o gwbl. Ble mae hynny'n gadael ffermwyr Cymru? Beth ydyn ni'n ei gael o’r peth? Sut gall marchnad o 4 miliwn o bobl gymryd lle marchnad o 500 miliwn o bobl? Nid yw'n gweithio o gwbl. Nid yw'r rhifyddeg yno.Rwy’n gwybod, yn India, er enghraifft, bod y trafodaethau â Llywodraeth India wedi mynd yn wael, oherwydd dywedodd Llywodraeth India, Prif Weinidog India, ‘Wel, os ydym ni yn edrych ar gytundeb masnach rydd, beth am ein myfyrwyr? Beth am y cyfyngiadau fisa yr ydych chi’n eu gosod ar ein myfyrwyr?’ Safbwynt Llywodraeth India, os caf ei grynhoi—ac rwy’n meddwl fy mod yn gwneud cyfiawnder â nhw—yw dweud, ‘Wel, os ydych chi eisiau cytundeb masnach rydd, rydyn ni eisiau i bobl allu symud yn fwy rhydd’. Dyna safbwynt rhesymol India, gwlad o dros biliwn o bobl. Dyna fydd eu safbwynt nhw. Wrth gwrs, pan mae'n sôn am ein masnach rydd gyda gwledydd y Gymanwlad ac, efallai, rhyddid symudiad â gwledydd y Gymanwlad, nid yw'n golygu pob gwlad y Gymanwlad, ydy ef? Mae'n golygu rhai fel Awstralia a Seland Newydd.Felly, mae'n rhaid ystyried y pethau hyn yn ofalus iawn, iawn. Yr hyn rwy'n ei wybod yw bod yr holl bethau, yr holl optimistiaeth, y dywedodd byddin Brexit eu bod yno y llynedd wedi mynd. Yr holl bethau yr oeddent yn dweud y byddent yn digwydd, nid ydyn nhw wedi digwydd. Nid ydyn nhw wedi digwydd. Felly, mae'n rhaid inni fod yn realistig. Oes, mae’n rhaid inni weithredu'r bleidlais a gafodd pobl, ond nid wyf yn credu mai Brexit ar y telerau caletaf yw’r hyn yr oedd y bobl yn pleidleisio amdano. Dywedwyd wrthynt na fyddai hynny'n digwydd, ac os oes gofyn nawr i bobl wynebu hynny, os na chawn ni unrhyw fargen, byddem yn cael etholiad cyffredinol ar unwaith. Byddai gan bobl bob hawl i fynegi barn am yr hyn a fyddai wedi bod yn fethiant ac am set o amgylchiadau lle byddent yn teimlo eu bod wedi cael eu camarwain. Rwy'n gobeithio na ddaw i hynny, oherwydd bydd pobl yn dioddef os yw'n dod i hynny. Bydd swyddi'n mynd a bydd pobl yn talu mwy am yr hyn maen nhw'n ei brynu. Nid wyf eisiau gweld hynny.Felly, dewch inni anghofio’r sôn hwn am ddim bargen. Wrth gwrs, nid oes neb yn awgrymu y dylem dalu beth bynnag y mae'r Undeb Ewropeaidd yn gofyn amdano. Gwnes y pwynt hwnnw yn fy natganiad. Mae'n rhaid cael cyfaddawd synhwyrol ar hyn. Mae'n rhaid inni ddatrys mater ein dinasyddion ein gilydd. Mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu dal yn wystlon, yn yr UE ac yn y DU. Mae angen datrys hynny. Ond mae hi nawr 15 mis yn ddiweddarach a does dim digon o gynnydd wedi'i wneud o hyd. Mae angen cynnydd arnom erbyn mis Rhagfyr. Mae angen inni symud ymlaen. Dewch inni anghofio’r byd ffantasi hwn lle bydd niferoedd enfawr o gytundebau masnach rydd ar waith erbyn mis Mawrth 2019—wnaiff hynny ddim digwydd—a dewch inni ganolbwyntio ar daro’r fargen orau gyda'n marchnad agosaf: 400 miliwn o bobl ar ôl i ni adael, ein cymydog agosaf. Rhaid canolbwyntio ar yr her honno. Yn y bôn, mae'r syniad o gefnu ar ein rhwymedigaethau’n anfon y neges nad yw'r DU yn cadw at eu hymrwymiadau. Pwy fyddai'n ymddiried ynom ar ôl hynny? Y mater dan sylw yw sicrhau mynediad i'n marchnad fwyaf, sef y farchnad sengl. Dyna lle y dylai'r pwyslais fod ac nid yn unman arall ar hyn o bryd. Rydym ni’n bell dros yr amser sydd wedi’i neilltuo ar gyfer y datganiad hwn. Mae gen i lawer o siaradwyr sydd wedi nodi eu bod am ofyn cwestiynau. Gofynnwch un cwestiwn byr, yr un, gydag atebion byr, a gwnaf geisio galw cynifer ohonoch â phosib. David Rees. David Rees AC: Diolch, Llywydd. Gwnaf geisio bod mor fyr ag y gallaf. Prif Weinidog, rwy’n codi i siarad ar ôl arweinydd UKIP yn y Cynulliad—mae’n ymddangos, unwaith eto, ei bod yn well ganddo ei farn ef na ffeithiau yn y mater hwn—byddaf i’n ceisio cadw at y ffeithiau.Mae'r materion yn eich datganiad yn tynnu sylw at ddau faes, sy'n ymwneud â phrosesau a chynnydd y prosesau hynny, yn San Steffan ac ym Mrwsel. O ran San Steffan, mae'r pwyllgor yr wyf i’n ei gadeirio, y pwyllgor materion allanol, wedi edrych yn ofalus iawn ar y Bil ymadael â’r UE ac wedi awgrymu eu chwe maes eu hunain lle'r ydym yn credu bod angen addasu'r Bil, nid yn unig i adlewyrchu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn amdano, ond i fynd y tu hwnt i hynny ac edrych ar swyddogaeth y Cynulliad a'i allu i graffu ar Weinidogion yn ein Llywodraeth ni i sicrhau y gallwn gynnal hynny, ac mae'n briodol i'n democratiaeth y gallwn ni wneud hynny. Felly, a gaf i ofyn cwestiwn ynghylch beth yw eich llinellau coch fel Llywodraeth ar y Bil ymadael hwnnw? Rydych chi wedi tynnu sylw at eich gwaith gyda Llywodraeth yr Alban. Wel, rydym wedi mynd y tu hwnt i hynny. Beth yw eich llinellau coch cyn y gallwch benderfynu a yw'r Bil hwnnw wedi'i ddiwygio'n ddigonol erbyn hyn i'r Llywodraeth ei dderbyn?O ran y cynnydd yn Ewrop, rydym wedi cael cyfle i ofyn cwestiynau i'r tri chynrychiolydd Ewropeaidd blaenllaw: Didier Seeuws dros y cyngor, Michel Barnier dros y Comisiwn, a Guy Verhofstadt dros y Senedd. Byddwn wrth fy modd yn cael cyfle i ofyn yr un cwestiynau i brif drafodwr y DU, ond nid yw ef wedi dod atom eto. Pan wnaethom gyfarfod â Michel Barnier, yn wir—rwy'n dyfynnu, mewn ffordd—doedd ef ddim eisiau sefyllfa 'dim bargen'. Roedd ef wir eisiau taro bargen ac mae'n awyddus i weithio er pennaf les yr UE-27 a'r DU, a dywedodd ei bod yn bwysig nodi mai’r DU sydd wedi gofyn am gael gadael, ac fel y dywedasoch, na fyddai'n deg disgwyl i'r UE-27 dalu am yr holl ymrwymiadau a wnaethpwyd mewn cytundeb â'r DU yn y Fframwaith Ariannol Amlflwydd. Fel yr ydych newydd ei nodi nawr yn eich ateb, byddai'n fethiant i anrhydeddu'r cytundebau hynny a gallai fod yn broblem. Felly, pwy fyddai'n ymddiried mewn cytundeb masnach newydd gyda gwlad nad yw'n anrhydeddu’r ymrwymiadau y mae wedi’u gwneud yn gywir? Felly, rwy’n meddwl bod angen inni ymdrin â hynny, ond a allwch chi ofyn y cwestiwn ar—? Rhoddodd Leanne Wood sylw i’r cwestiwn a ydych chi’n gwneud cynlluniau wrth gefn ar gyfer 'dim bargen', ond a ydych chi wedi gwneud unrhyw ddadansoddiad o sefyllfa 'dim bargen'? A yw Llywodraeth y DU mewn gwirionedd wedi trafod gyda chi eu dadansoddiad o effaith 'dim bargen', rhywbeth y mae'n ymddangos nad ydynt hyd yn oed yn ei roi i'w Senedd eu hunain? A ydynt wedi rhannu hynny gyda'r sefydliadau datganoledig?Hefyd, ynglŷn â chylch cyfarfodydd y Cyd-bwyllgor Gweinidogion, rwy'n gwerthfawrogi eich bod yn meddwl bod cynnydd yn cael ei wneud, ac mae'n wych gweld un yn digwydd wyth mis ar ôl yr un diwethaf, ond mae'r nesaf, rwyf ar ddeall, cyn y Nadolig. Mae'r cylch trafodaethau ym Mrwsel bob pedair wythnos, felly a fyddwch yn gwthio am fwy o gylchoedd y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE) fel y gallwn wneud cyfraniad go iawn at y gwaith trafod neu negodi, yn hytrach na dim ond cael adroddiadau gan Lywodraeth y DU? Ac ynglŷn â’r Papur Gwyn ar gyfer y tollau— Dyna dri chwestiwn nawr, a gofynnais am un yn unig. David Rees AC: A gaf i roi un arall? Bydd y Prif Weinidog yn ateb. Cewch chi ddigon o gyfleoedd i godi materion ar Brexit eto, rwy'n siŵr. [Torri ar draws.] Carwyn Jones AC: Rwy'n meddwl mai'r broblem yw hyn— Rydym wedi cael cwestiynau hir gan lefarwyr. Rydym wedi cael atebion hir gan y Prif Weinidog. Rwy'n meddwl bod hwn yn fater pwysig—mae'n haeddu ymestyn yr amser—ond mae angen imi alw mwy ohonoch nag yr wyf wedi gallu gwneud hyd yn hyn. Carwyn Jones AC: Iawn. Yr hyn a fyddai'n ein bodloni yw cael gwared â'r cipio grym, ymrwymiad i ymagwedd gydweithredol at farchnad sengl y DU, ymrwymiad i ymagwedd gydweithredol a chytûn at fframweithiau, at gymorth gwladwriaethol, a hefyd at y ffordd y mae'r farchnad yn cael ei rheoleiddio a dyfarniad llys. Y rheini yw ein llinellau coch ni o ran cipio grym.O ran dadansoddi effaith, mae pobl eraill wedi gwneud y dadansoddiad hwnnw. Nid oes dim ohono’n dda. Mae Llywodraeth y DU, rydym yn meddwl, wedi gwneud un ac nid ydym yn meddwl ei fod yn arbennig o dda oherwydd nid yw wedi cael ei rannu â neb arall. A ddylid cynnal cyfarfodydd y Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn amlach? Dylid. Hoffwn pe bai cyfarfod llawn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn ogystal â’r Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE). Bydd gennym Gyngor Prydain-Iwerddon y mis nesaf ac mae gennyf gyfarfod wedi'i gynllunio gyda'r Prif Weinidog yr wythnos nesaf, sy’n gynnydd. A ddylent gyfarfod yn amlach? Dylent. Mae gennym gyfarfodydd dwyochrog hefyd, dylwn ychwanegu, yn ogystal â’r Cyd-bwyllgor Gweinidogion, sy'n ein helpu i drafod rhai o'r materion hyn hefyd. Mae'n drueni ei bod wedi cymryd wyth mis i'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion. Un o'r problemau yn y gorffennol oedd eu bod yn cyfarfod yn afreolaidd, gyda chadeiryddion gwahanol bob amser ac nad oedd pobl yn gwybod beth oedd wedi digwydd yn y cyfarfod cyn hynny neu pwy oedd yn eistedd yn y gadair. Mae angen cysondeb; mae angen i'r un bobl fod yn y cyfarfodydd hynny bob tro er mwyn gwneud cynnydd. Dyna'r hyn sydd ei angen arnom. Dyna'r hyn yr ydym wedi bod yn ei ddweud ers misoedd lawer nawr, a dyna beth y byddwn yn parhau i’w argymell. Dafydd Elis-Thomas AC: A fyddai’r Prif Weinidog yn cytuno ein bod ni’n wynebu penderfyniad dau refferendwm sydd yn gwrthdaro â'i gilydd? Yn gyntaf, y refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd—roedd y canlyniad o fwyafrif bychan yn glir. Ond mae yna refferendwm arall, pwysig iawn, i ni yn y lle hwn, sef 2011, pan bleidleisiodd pobl Cymru dros ychwanegu grymoedd cyfreithiol i’r lle hwn. Ac felly, onid ydy hi’n hollol amhriodol inni basio cynnig cydsyniad deddfwriaethol i Fil sydd yn tynnu pwerau oddi wrth Senedd Cymru? Carwyn Jones AC: Wel, mae hynny’n iawn. Mae beth sydd ar wyneb y Deddfau hynny’n hollol glir—yn 1997 a 2011—sef bod pwerau gan bobl Cymru ac ni ddylai unrhyw beth ymyrryd na rhwystro’r modd y mae’r pwerau hynny’n cael eu defnyddio. Mae hynny’n meddwl nad oes hawl—nid oes neb wedi dodi hyn mewn maniffesto ac ni ddywedwyd hyn y llynedd yn ystod y refferendwm—nid oes hawl gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddweud, ‘Wel, y pwerau a fydd yn dod yn ôl atoch chi yn y rhannau sydd wedi eu datganoli—byddan nhw’n dod atom ni yn lle hynny.’ Mae pobl Cymru wedi rhoi eu barn yn glir, yn enwedig yn 2011, ynglŷn â pha bwerau y dylai’r lle hyn eu cael. Nid yw e’n briodol i’r mesur sydd yn ein tynnu ni mas o’r Undeb Ewropeaidd ymyrryd mewn unrhyw ffordd ynglŷn â chanlyniadau’r refferenda hynny. Huw Irranca-Davies AC: A dweud y gwir, byddai rhywun teg yn dechrau drwy gymeradwyo’r trafodaethau adeiladol ond cadarn y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am y Bil ymadael â’r UE ac am beirianwaith newidiadau’r Llywodraeth hefyd. Fel rhywun teg, rhof glod lle mae’n haeddiannol. Ond o ran y cynnig cydsyniad deddfwriaethol a hefyd y peirianwaith angenrheidiol o ran newidiadau gan y Llywodraeth, pa un a yw'n Bwyllgor Cyd-Weinidogion neu Gyngor Gweinidogion cryfach, a gaf i ei annog, os gwelwch yn dda, i beidio â rhoi’r wobr yn rhy hawdd, yn seiliedig ar y cyflwyniadau gan bwyllgor David Rees, y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, a'n pwyllgor ni, y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, a’n sesiwn dystiolaeth ar y cyd, ynghyd â'n hymweliad yr wythnos diwethaf â'r fforwm rhyng-seneddol ar ymadael â’r UE. Byddai'r hyn a glywsom yn awgrymu’n gryf bod angen iddo ddal yn dynn iawn a bod angen iddo sicrhau’r newidiadau o fewn peirianwaith y Llywodraeth a hefyd y cynnig cydsyniad deddfwriaethol sydd ei angen a pheidio â rhoi'r gorau iddi yn hawdd ar hynny.Ond a gaf i ofyn iddo ble mae'n sefyll ar y consensws trawsbleidiol sy'n tyfu yn Llywodraeth y DU y dylai'r fargen olaf, ac yn enwedig 'dim bargen', fod yn destun pleidlais yn Senedd y DU yn yr hyn a fyddai, mewn gwirionedd, yn dangos gwir sofraniaeth seneddol, neu yng ngeiriau’r 'Brexiteers', 'cael ein gwlad yn ôl'? Carwyn Jones AC: Wel, gallaf sicrhau'r Aelod na chaiff dim gwobr ei hildio—nid wyf yn ei ystyried yn wobr, rwy’n ei ystyried yn degwch ac rwy'n ei ystyried yn barch at ganlyniadau'r refferendwm ac rwy'n ei weld fel ymrwymiad i ymagwedd gydweithredol fel partneriaid yn yr undeb. Nid yw’n llawer, does bosib, i ofyn amdano.O ran y fargen, rwyf wedi dweud y dylai unrhyw fargen fod yn destun pleidlais, nid yn unig yn Senedd y DU, ond yma hefyd ac yn Senedd yr Alban a gobeithiwn, wrth gwrs, ar ryw adeg yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon. Pam? Oherwydd bydd hynny'n effeithio ar ardaloedd datganoledig. Er mwyn cael y cytundeb ehangaf posibl â bargen, mae'n gwneud synnwyr perffaith i mi i gael pleidlais ym mhob un o'r pedwar sefydliad. Os nad oes bargen, byddai hynny'n fethiant mor druenus fel y byddai angen etholiad cyffredinol ar unwaith. Jeremy Miles AC: Pan gyfarfu'r pwyllgor â Michel Barnier, atgoffodd ni fod llawer o'r cytundebau sydd eu hangen i roi effaith i'r berthynas hirdymor rhwng y DU ac Ewrop yn gytundebau cymysg mewn gwirionedd—nid yw o fewn cwmpas y cyngor a'r Senedd i’w datrys: mae angen diplomyddiaeth a strategaeth hirdymor gyda phob un o'r aelod-wladwriaethau. Pa gamau ydych chi’n meddwl bod angen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU eu cymryd nawr i ddechrau’r broses honno cyn gynted ag y bo modd, o ystyried ei chymhlethdod a’i gallu i daflu’r berthynas hirdymor rhwng y DU a gweddill yr UE oddi ar y cledrau? Carwyn Jones AC: Wel, a dweud y gwir, mae angen inni weld cynnydd dros y misoedd nesaf. Mae amser yn mynd yn brin. Mae'n rhaid inni gofio bod angen cytundeb erbyn yr adeg hon y flwyddyn nesaf, i bob diben, oherwydd yna mae proses gadarnhau, nid yn unig mewn sefydliadau Ewropeaidd, ond ym mhob un Senedd, ac mewn rhai achosion, fel Gwlad Belg, mewn Seneddau rhanbarthol hefyd. Mae hynny i gyd yn cymryd llawer iawn o amser. Gall dim ond un ohonynt, fel y gwyddom o gytundeb masnach Canada, daflu’r broses oddi ar y cledrau. Nid yw hyn erioed wedi'i wneud o'r blaen.Mae rhywfaint o obaith oherwydd, wrth gwrs, nid yw hon yn sefyllfa lle mae dwy farchnad yn dod at ei gilydd i gytuno ar fynediad rhydd, sydd erioed wedi bod â mynediad o’r fath o'r blaen. Mae gennym fynediad rhydd eisoes, felly, a dweud y gwir, nid yw mor anodd negodi cytundeb masnach rydd—neu ni ddylai fod— gyda’r UE ag y mae gyda gwledydd eraill nad ydym erioed wedi bod â chytundeb masnach rydd â nhw—fel yr Unol Daleithiau. Mae yna frys. Rydw i'n mynd i geisio bod yn deg yma, mae angen i'r Prif Weinidog allu cynnal y trafodaethau hyn heb sŵn cefndir oddi mewn i’w Chabinet ei hun. Mae hynny'n hollol hanfodol. Mae hi wedi rhoi gwell syniad inni o'r hyn yr hoffai hi ei wneud. Rwy'n cytuno. Rwy’n meddwl bod yr hyn a amlinellodd yn Florence yn gwbl synhwyrol, ond mae arni angen cefnogaeth y bobl yn ei Chabinet, ac mae hynny, hyd yn hyn, wedi bod yn brin. Ac yn olaf, Eluned Morgan. [Torri ar draws]. O, bendigedig. Felly, diolch i’r Prif Weinidog am hynny. 7. 7. Rheoliadau Dyddodi Gwastraff heb Awdurdod (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2017 Rydym ni’n symud nesaf at y Rheoliadau Dyddodi Gwastraff heb Awdurdod (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2017, ac rydw i’n galw ar Ysgrifennydd Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i wneud y cynnig—Lesley Griffiths. Cynnig NDM6540 Jane HuttCynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Rheoliadau Dyddodi Gwastraff Heb Awdurdod (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2017 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Hydref 2017. Cynigiwyd y cynnig. Lesley Griffiths AC: Diolch, Llywydd.Rwy'n cynnig y cynnig.Rwy'n cyflwyno'r rheoliadau a fydd yn mewnosod darpariaethau newydd yn Neddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, a fydd yn caniatáu i awdurdodau lleol yng Nghymru gyhoeddi hysbysiadau cosb benodedig ar gyfer achosion o dipio anghyfreithlon.O dan y darpariaethau newydd, bydd awdurdodau lleol yn gallu pennu swm cosb benodedig o rhwng £150 a £400, gyda swm diofyn o £200.Gallai gostyngiad ar gyfer talu cynnar fod ar gael, a gall awdurdodau lleol gadw'r derbyniadau i helpu i gyfrannu at gostau mynd i’r afael â thipio anghyfreithlon.Ceir defnyddio'r hysbysiadau cosb benodedig ar dir cyhoeddus a phreifat. Mae'n offeryn gorfodi ychwanegol i helpu i fynd i’r afael â’r troseddau tipio anghyfreithlon hynny ar raddfa fechan pan ystyrir bod erlyniad yn anghymesur.Fodd bynnag, bydd awdurdodau lleol yn dal i allu defnyddio eu pwerau erlyn troseddol sy'n bodoli eisoes am droseddau y maent yn eu hystyried yn amhriodol ar gyfer hysbysiad cosb benodedig, er enghraifft i fynd i’r afael â throseddwr parhaus.Mae hysbysiad cosb benodedig yn ffordd bwysig o fynd i'r afael â throsedd amgylcheddol, cyn belled â'u bod yn cael eu cyflwyno’n synhwyrol, eu gorfodi’n deg a’u bod yn cael eu hystyried fel ymateb i broblem wirioneddol. Fodd bynnag, teimlaf ei bod yn bwysig bod ymgysylltiad cyhoeddus priodol, codi ymwybyddiaeth a rhaglenni addysg ehangach yn cyd-fynd â nhw.Credaf fod hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau ymateb cadarnhaol gan ein dinasyddion a gostyngiad cynaliadwy mewn ymddygiad troseddol.Rwy'n falch o gymeradwyo'r cynnig hwn i'r Siambr. Simon Thomas AC: Mae Plaid Cymru yn cefnogi’r rheoliadau sydd gerbron y Siambr heddiw, ond rwyf jest eisiau gofyn cwpl o gwestiynau a gwneud ambell i sylw. Yn gyntaf oll, rwy’n siomedig bod y memorandwm esboniadol, sydd ddim ond yn 10 tudalen, sy’n esbonio’r rheoliadau hyn, ddim ond ar gael yn Saesneg. Yn fy marn i, os ŷch chi’n cyflwyno unrhyw fath o ddeddfwriaeth, gan gynnwys deddfwriaeth eilaidd, sydd yn rhoi cosbau ar unigolion, neu sydd yn gallu arwain at ryw fath o ddilyniant cyfreithiol a throseddol, mi ddylai fod ar gael yn ddwyieithog. Mae’n siomedig nad yw’r Llywodraeth fersiwn yn Gymraeg o’r memorandwm esboniadol yn fan hyn.Yr ail bwynt rydw i eisiau gwneud yw bod—dyma enghraifft berffaith o beth rŷm ni newydd fod yn trafod. Nid ydw i eisiau parhau’r drafodaeth y cawsom ni dros awr gynnau fach, ond dyma gyflwyno rheoliadau amgylcheddol, ac a gawn ni fod yn glir bod y rheoliadau hyn yn deillio yn uniongyrchol o Ddeddf Cymunedau Ewropeaidd 1972? Pe baem ni ddim yn llwyddo yn y frwydr yma gyda San Steffan ynglŷn â phwy sydd â’r hawl i’r grymoedd sydd yn dod i law o’r gymuned Ewropeaidd wrth inni ymadael â’r gymuned Ewropeaidd, dyma enghraifft o Gynulliad heddiw yn pasio rheoliadau a fydd wedyn yn nwylo Gweinidogion yn San Steffan. Felly, enghraifft go iawn sydd ger ein bron heddiw o ba mor bwysig yw e ein bod ni’n ennill y frwydr yma, a pheidio â chaniatáu i San Steffan ennill y frwydr ynglŷn â gafael yng ngrym y Cynulliad ar faterion Ewropeaidd. Y trydydd pwynt ar hyn, sydd yn gwestiwn hefyd i’r Gweinidog: rydw i’n croesawu’r ffaith bod gyda ni arf ychwanegol i fynd i’r afael â dyddodi sbwriel a chael gwared ar wastraff yn y modd yma. Rydw i jest eisiau bod yn siŵr, pan fydd hyn yn codi o hyd fel mater o batrwm—. Nid ydym yn sôn am rywun yn cael gwared ar ‘fridge’—mae’n hollol briodol eu bod nhw’n cael cosb benodol am hynny—ond pan fydd gyda chi dystiolaeth bod rhywun yn defnyddio caeau ffermwyr, cornel lawr y stryd neu lôn gefn fel ffordd o gael gwared ar wastraff yn gyson—ac rŷm ni wedi gweld yn y gorffennol rai adeiladwyr sydd heb ddilyn y drefn ac ati—na fyddwn ni’n dibynnu ar y cosbau penodol hyn wedyn, ond bod yn rhaid mynd â’r bobl yna i’r llys o dan Ddeddf amgylcheddol. Felly, rydw i jest eisiau deall gan yr Ysgrifennydd Cabinet ble mae hi’n credu y mae’r cosbau penodol yn y fan hyn yn y rheoliadau priodol, a ble mae’n credu y dylai’r awdurdodau lleol ac awdurdodau eraill ddefnyddio’r ystod helaethaf o bwerau statudol. Yr Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb i’r ddadl, felly. Nid oes yna siaradwyr eraill. Lesley Griffiths AC: Diolch.Byddaf yn sicrhau bod y ddogfen ar gael yn Gymraeg cyn gynted â phosib.Rwy'n rhoi’r sicrwydd hwnnw i chi.Rydych chi’n gwbl iawn bod hon yn enghraifft berffaith o'r hyn yr ydym ni newydd fod yn siarad amdano, a byddwch wedi fy nghlywed i’n dweud sawl gwaith fy mod o’r farn bod ein safonau amgylcheddol yng Nghymru yn llawer uwch nag mewn rhannau eraill o'r DU, yn rhannol.Ac, yn sicr, os edrychwch chi ar ein hailgylchu, er enghraifft, mae hynny'n rhan o'n hamgylchedd lle mae gennym safonau uchel iawn ac rydym wedi cyrraedd targedau llawer uwch na rhannau eraill.Ac rwyf wedi dweud hyn: mae'n rhaid i ni allu gosod y cyfyngiadau hynny a bod y polisïau hynny ar waith ac nad ydynt yn cael eu gorfodi arnom ni gan Lywodraeth y DU.Felly, rwy'n credu eich bod chi'n hollol iawn: mae hon yn enghraifft berffaith.O ran yr enghreifftiau a roesoch chi, soniais i yn fy sylwadau agoriadol y byddai awdurdodau lleol yn dal i allu defnyddio eu pwerau erlyn troseddol presennol ar gyfer troseddau y byddent yn eu hystyried yn amhriodol ar gyfer hysbysiad cosb benodedig a chredaf fod troseddwr parhaus, unwaith eto, yn enghraifft dda o hynny.Felly, dim ond rhan o'r ddau ydyw hyn.Rwyf wedi cyfarfod ag awdurdodau lleol sydd wedi gofyn imi gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon; maen nhw'n teimlo y byddai'n fuddiol iawn wrth fynd i'r afael â throseddau amgylcheddol, ond eu dewis nhw yw gallu penderfynu pryd y maen nhw eisiau defnyddio'r pwerau sydd ganddyn nhw o ran erlyn. Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 8. 8. Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) (Diwygio) 2017 Yr eitem nesaf yw’r Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) (Diwygio) 2017. Rydw i’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i wneud y cynnig—Kirsty Williams. Cynnig NDM6539 Jane HuttCynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) (Diwygio) 2017 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Hydref 2017. Cynigiwyd y cynnig. Kirsty Williams AC: Diolch, Llywydd.Mae datblygu proffesiwn addysgu o ansawdd uchel a chreu arweinyddion ysbrydoledig i helpu i godi safonau ymhlith amcanion ein cynllun addysg cenedlaethol newydd.Un elfen bwysig o'n diwygiadau i gefnogi hyn yw'r gwaith yr ydym wedi'i wneud gyda'n partneriaid addysg uwch ac ysgolion i gynllunio ar gyfer gweddnewid addysg gychwynnol i athrawon.Fel y dywedais yn gynharach y prynhawn yma, ni all system addysg fod yn well na safon ei hathrawon, ac ni ellir cyflwyno ein cwricwlwm cenedlaethol newydd heb broffesiwn addysgu uchelgeisiol a gefnogir yn dda.I wneud hynny, bydd angen gweithlu addysg o ansawdd uchel arnom sy'n fywiog, sy’n ymgysylltu ac sy’n ymrwymedig i ddysgu parhaus i bawb.Gan fod Cyngor y Gweithlu Addysg eisoes wedi cael y pwerau i achredu hyfforddiant cychwynnol i athrawon o fis Medi 2019 ymlaen, mae'n briodol y dylent hefyd gymryd y swyddogaeth ychwanegol hon a nodwyd trwy ein trafodaethau gyda Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.Mae'r Gorchymyn hwn yn fân welliant ac fe'i nodwyd yn rhan o'n hymgysylltiad parhaus â CCAUC. Y cyfan y mae’n ei wneud yw nodi swyddogaeth arall i Cyngor y Gweithlu Addysg i roi sylw i ragfynegiad Gweinidogion Cymru o'r galw am athrawon newydd gymhwyso, wrth arfer ei swyddogaeth achredu addysg gychwynnol i athrawon.Bydd yr Aelodau'n ymwybodol o'r ffaith nad yw Llywodraeth Cymru yn rheoli'n uniongyrchol pa gyrsiau a gynigir mewn sefydliadau penodol. Fodd bynnag, mae'n rheoli cyflenwad cychwynnol athrawon trwy osod dyraniadau targed derbyn cyffredinol ar gyfer recriwtio i addysg gychwynnol i athrawon. 2018-19 fydd y flwyddyn olaf y bydd CCAUC yn dyrannu niferoedd hyfforddeion i sefydliadau.Mae CCAUC wedi cadarnhau y byddai'n fwy priodol i'r swyddogaeth hon o ddyrannu targedau derbyn symud i Cyngor y Gweithlu Addysg ac rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau'n gallu cefnogi'r cynnig hwn heno. Llyr Gruffydd. Llyr Gruffydd AC: Na, rwy’n fodlon. Nid oes yna siaradwyr. Ac felly, rwy’n cymryd nad yw’r Gweinidog eisiau ymateb i’r ddadl. Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 9. 9. Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2017 Yr eitem nesaf yw Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2017. Rydw i’n galw ar Weinidog Iechyd y cyhoedd i wneud y cynnig—Rebecca Evans. Cynnig NDM6538 Jane HuttCynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2017 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Hydref 2017. Cynigiwyd y cynnig. Rebecca Evans AC: Diolch, Llywydd.Rwy'n cynnig y cynnig.Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a gychwynwyd ym mis Ebrill y llynedd, yn dwyn ynghyd dyletswyddau a swyddogaethau awdurdodau lleol o ran gwella lles pobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth mewn un Ddeddf. Mae'r rheoliadau sydd ger eich bron heddiw yn ceisio gwneud mân welliannau technegol i ddeddfwriaeth sylfaenol o ganlyniad i gychwyn y Ddeddf honno.Eu pwrpas i raddau helaeth yw tacluso'r llyfrau statud a darparu eglurder a chysondeb ar draws deddfwriaeth sylfaenol, pan fo Deddf 2014 yn effeithio arni. Mae Adran 101(2) o Ddeddf 2014 yn ailadrodd y pŵer gwneud rheoliadau sy'n bodoli yn adran 25C(2) o Ddeddf Plant 1989 o ran achosion plant a atgyfeirir i swyddogion achosion teulu yng Nghymru gan swyddogion adolygu annibynnol yr awdurdod lleol. Mae'r pŵer a ddyblygir yn adran 25C(2) felly yn ddiangen ac mae'r rheoliadau hyn yn diwygio Deddf 1989 i ddatgymhwyso'r adran hon o ran Cymru. Mae'r rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 trwy ddisodli cyfeiriad at adran 6 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970 â'r cyfeirnod wedi'i ddiweddaru i adran 144 o Ddeddf 2014.Yn olaf, mae'r rheoliadau yn disodli cyfeiriadau at Orchmynion preswylio trwy adrannau 76 ac 81 o Ddeddf 2014 â Gorchmynion trefniant plant, y term a ddefnyddir yn Neddf Plant a Theuluoedd 2014.Mae'r rheoliadau hyn, er eu bod yn fân o ran eu natur, yn angenrheidiol er mwyn sicrhau ymagwedd gyson tuag at ymdrin â therminoleg ym mhob rhan o ddeddfwriaeth sylfaenol, ac fel y cyfryw, rwyf yn eu cymeradwyo i'r Aelodau. Nid oes siaradwyr ar yr eitem yma. Ac felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Dyna ddod â diwedd ar ein trafodion am y dydd. Daeth y cyfarfod i ben am 18:31. QNR Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru Darren Millar: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd economaidd yng ngogledd Cymru? Mark Drakeford: ‘Prosperity for All’ frames our actions to grow our economy and spread opportunity. Later this autumn, we will publish the economic action plan that will support delivery of ‘Prosperity for All’. Suzy Davies: Pryd oedd y tro diwethaf i'r Prif Weinidog gynnal trafodaethau ynghylch Brexit gydag arweinwyr rhanbarthol Ewropeaidd eraill? Mark Drakeford: I regularly meet leaders and senior representatives from European countries and regions. We are hosting a conference next month on European co-operation, which will enable discussions on Brexit with European regional leaders. The Cabinet Secretary for Finance and Local Government also spoke at a regional conference in Helsinki last week. David Melding: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd yn y niferoedd sy'n cysgu ar y stryd yng Nghanol De Cymru? Mark Drakeford: We are working with partners to reverse this trend, which concerns me deeply. In addition to the £2.6 million we recently announced to tackle rough sleeping and homelessness, we have protected the Supporting People budget and increased homelessness funding by £10 million for 2018-19. Rhun ap Iorwerth: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fudd cymunedol o gynlluniau ynni? Mark Drakeford: Mae cymunedau ar hyd a lled Cymru yn elwa ar gynlluniau cynhyrchu ynni adnewyddadwy, o’u hadeiladu a’u meddiannu yn ogystal ag o gronfeydd mantais gymunedol, ac o ostwng eu lefelau allyriadau a llygryddion. Nod ein targedau ynni uchelgeisiol yw cynyddu perchnogaeth Cymru o ddatblygiadau ynni yn sylweddol yn y dyfodol. David Rees: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i recriwtio meddygon teulu i bractisiau mewn ardaloedd difreintiedig ledled Cymru? Mark Drakeford: Last week, the Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport relaunched ‘Train. Work. Live.’ The renewed national and international campaign includes a further round of incentives to attract GP trainees to areas of Wales that have traditionally been hard to recruit to. Dai Lloyd: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd ymgynghori cyhoeddus ar gynlluniau awdurdodau lleol ar gyfer ad-drefnu ysgolion yng Nghymru? Mark Drakeford: The School Standards and Organisation (Wales) Act 2013 requires that, before school organisation proposals are published, they must first be subject to consultation. Our school organisation code sets a high standard for consultation, ensuring those with an interest can express their views and those views are conscientiously taken into account.
uk-hansard-senedd-cy
senedd2017-10-24
2024-06-01T00:00:00
{ "year": "2017", "language": "cy", "license": "Open Parliament Licence - https://www.parliament.uk/site-information/copyright-parliament/open-parliament-licence/" }
Cyfarfu'r Senedd drwy gynhadledd fideo am 13:29 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. Datganiad gan y Llywydd Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn inni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y cyfarfod yma, ac mae'r rheini wedi eu nodi ar eich agenda chi. A dwi eisiau atgoffa Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol, wrth gwrs, i'r cyfarfod yma. 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog Cwestiynau i'r Prif Weinidog sydd yn gyntaf y prynhawn yma, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Darren Millar. Amddiffynfeydd rhag Llifogydd Darren Millar AC: 1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ddigonolrwydd amddiffynfeydd rhag llifogydd yng Ngorllewin Clwyd? OQ57361 Mark Drakeford AC: Llywydd, Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol yng Nghymru sy'n asesu digonolrwydd amddiffyn rhag llifogydd. Yna maen nhw'n cynllunio, yn hyrwyddo ac yn darparu cynlluniau i leihau perygl llifogydd yn eu hardaloedd. Mae Llywodraeth Cymru yn pennu polisi cenedlaethol ac yn darparu cyllid, gan gynnwys £5.24 miliwn ar gyfer cynlluniau yng Ngorllewin Clwyd yn y flwyddyn ariannol hon. Darren Millar AC: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Rwyf i wrth fy modd bod arian yn cael ei ddyfarnu i wella amddiffynfeydd rhag llifogydd yng Ngorllewin Clwyd. Un o'r ardaloedd hynny sydd i lawr i'w gwella yn fuan iawn yw'r llain arfordirol rhwng Tywyn a Bae Cinmel, sydd, wrth gwrs, yn eithriadol o bwysig o ran y tymor ymwelwyr, a lle mae'r amddiffynfeydd môr arfordirol hynny yn diogelu miloedd lawer o eiddo a busnesau. Un o'r pryderon a godwyd gyda mi am y cynlluniau, sydd wedi cael eu cyhoeddi erbyn hyn, ar gyfer gwella'r amddiffynfeydd môr yn yr ardal hon yw nad yw'r cynlluniau yn ddigon deniadol i'r bobl leol na'r ymwelwyr a fydd eisiau defnyddio'r llwybr arfordirol a'r llain arfordirol yn rhan o'u hamwynder lleol ar gyfer cyfleusterau. Yn ogystal â hynny, yn amlwg, ataliwyd nodyn cyngor technegol 15 dros dro o ran gweithredu'r nodyn cyngor technegol newydd, a fydd yn rhoi mwy o amddiffyniad i gartrefi a busnesau yn y dyfodol. Pa sicrwydd allwch chi ei roi i mi, ar ran Llywodraeth Cymru, y bydd pobl Tywyn a Bae Cinmel yn cael lefel dda o ddiogelwch rhag llifogydd er gwaethaf y ffaith nad yw'r nodyn cyngor technegol newydd wedi cael ei weithredu, a pha sicrwydd allwch chi ei roi o ran pa mor ddeniadol y gall yr amddiffynfeydd rhag llifogydd hyn fod, o ystyried y pryderon am y ffaith bod y rhain mewn ardal cyrchfannau twristiaeth? Mark Drakeford AC: Llywydd, diolch i Darren Millar am y cwestiynau yna. Gwn pa mor fawr yw ei ddiddordeb mewn materion llifogydd ac erydu arfordirol yn ei etholaeth, a gwn fod ganddo, yn ei hanes personol ei hun, brofiad uniongyrchol o'r hyn y mae'n ei olygu i ddioddef o lifogydd, felly gwn ei fod yn dod â llawer iawn o angerdd ac arbenigedd i'r materion hyn. Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu adolygu'r achos busnes amlinellol ar gyfer cynllun arfordirol Llanddulais-Bae Cinmel. Rydym ni wedi gallu dyfarnu gwerth £450,000 o gyllid i gyngor Conwy ar gyfer yr achos busnes llawn a'r dyluniad manwl. Rwy'n gobeithio y bydd hynny yn gyfle i gymryd i ystyriaeth y pwyntiau y mae'r Aelod wedi eu gwneud am y ffaith, yn ogystal â'r angen dybryd i ddiogelu cartrefi pobl, bod yr arfordir yn ased cenedlaethol yma yng Nghymru—mae'n dod â llawer o ymwelwyr—a bod angen gwneud y gwaith hwnnw mewn ffordd sensitif i wneud yn siŵr bod yr agweddau economaidd pwysig iawn hynny yn cael eu cynnal i'r dyfodol. Rwy'n diolch i'r Aelod am yr hyn a ddywedodd am TAN 15, Llywydd. Mae'r dyddiad gweithredu wedi cael ei ohirio am 18 mis fel y gallwn ni wneud yn siŵr bod y sail ar gyfer seilio'r cyngor hwnnw—y mapiau ac yn y blaen—yn y drefn orau bosibl. Ond diben TAN 15 yw gwneud yn siŵr nad yw tai yn cael eu hadeiladu yn y dyfodol mewn mannau sy'n eu rhoi mewn perygl uniongyrchol o lifogydd. Nid oes unrhyw ddal yn ôl o gwbl y tu mewn i Lywodraeth Cymru o ddiben sylfaenol TAN 15 a'r nodyn cyngor diwygiedig a fydd yn cael ei gyhoeddi. Rydym ni eisiau ei gael cystal ag y gallwn. Bydd yr oedi yn caniatáu i ni weithio ymhellach gydag awdurdodau lleol ar yr wybodaeth fanwl sy'n sail i'r polisi, ac yna bydd angen iddo wneud yr hyn y mae Darren Millar yn ei ddweud, o ran gwneud yn siŵr ei fod yn diogelu'r cymunedau hynny a fyddai mewn perygl fel arall. Rwyf i angen gwirio a ellir fy nghlywed i ar hyn o bryd. A all unrhyw un—? Iawn, gellir fy nghlywed. Diolch. Fy mhroblem i yw nad wyf i'n gallu eich clywed chi. Nid yw hynny yn rhoi caniatâd i chi wneud beth bynnag yr ydych chi'n ei ddymuno, ond fe wnaf i alw'r cwestiwn nesaf. Cwestiwn 2, Rhys ab Owen. Cyfraddau Ailgylchu Rhys ab Owen AS: 2. Pa drafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi eu cynnal gyda Chyngor Caerdydd ynglŷn â chyfraddau ailgylchu yng Nghaerdydd? OQ57356 Mark Drakeford AC: Diolch yn fawr i Rhys ab Owen am y cwestiwn. Mae Gweinidogion a swyddogion wedi bod yn trafod yn uniongyrchol â Chyngor Caerdydd am ei berfformiad ailgylchu, ac mae’r trafodaethau hynny yn parhau. Rhys ab Owen AS: Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Mae yn siomedig bod cyfraddau ailgylchu Caerdydd gyda’r gwaethaf yng Nghymru. O’r tri awdurdod lleol wnaeth fethu â chyrraedd y targed o 64 y cant ym Mesur Gwastraff (Cymru) 2010, Caerdydd yw’r gwaethaf o bell ffordd, ar 55.8 y cant. A dwi’n siŵr bod cau canolfannau ailgylchu yn Heol Wedal a Heol Waungron yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi cael effaith wael, ond disgwyliedig, ar y cyfraddau ailgylchu. Ond nid yn unig y mae’r gyfradd ailgylchu yn isel, dyw e ddim yn glir pa fath o ailgylchu sy’n digwydd. Mae’n bwysig yn amgylcheddol ac yn economaidd fod gwastraff yn cael ei addasu yma yng Nghymru at ddibenion gwahanol yn hytrach na mynd dramor, yn enwedig, yn rhy aml o lawer, i wledydd difreintiedig. Felly, sut mae modd cynyddu’r cyfraddau ailgylchu yma yng Nghaerdydd a sicrhau bod gwastraff Cymru yn cael ei ailgylchu a’i ailaddasu yma yng Nghymru? Diolch yn fawr. Mark Drakeford AC: Diolch yn fawr am y cwestiynau ychwanegol. Mae Cyngor Caerdydd yn gweithio’n galed i dreial gwneud mwy i roi’r ffigurau ailgylchu yn y lle ble rŷn ni i gyd eisiau eu gweld nhw. Bydd strategaeth newydd o flaen y cabinet yng Nghaerdydd yn ystod yr wythnos hon ac, fel rwy’n siŵr fod yr Aelod yn gwybod, maen nhw’n mynd i dreial mas nifer o bethau newydd yng Ngorllewin Caerdydd, y lle rwyf i'n ei gynrychioli. Yn Radyr a Llandaf, ym mis Ionawr, bydd system newydd ar waith i dreial rhoi mwy o bethau mewn lle i godi’r ffigurau ailgylchu yn y ddinas. Mae’r swyddogion wedi gweithio’n galed gyda Chyngor Caerdydd i weld beth sydd y tu ôl i’r ffigurau ac mae rhai pethau sydd yn berthnasol i Gaerdydd—mae nifer y tai sy'n HMOs, fel rŷn ni'n eu galw nhw yn Saesneg, yn heriol i Gyngor Caerdydd, ond mae cynllun newydd gyda nhw, a dwi'n hyderus y bydd hwnna'n cael effaith bositif ar y ffigurau. A dwi'n gwybod, Llywydd, fod y Gweinidog Julie James wedi ymateb i gwestiynau ar lawr y Cynulliad ac wedi rhoi gwybodaeth fanwl am ble mae popeth rŷn ni'n ei gasglu gyda'i gilydd i'w ailgylchu yn mynd. Ac mae mwy na hanner yn cael ei ddelio ag e yma yng Nghymru, ac mae tua 30 y cant yn mynd dros y ffin i Loegr, ac mae rhai pethau yn mynd dramor. Ond mae cynllun gyda ni i dynnu nôl ar faint sydd yn mynd dramor ac i wneud mwy gyda phopeth rŷn ni eisiau ei ailgylchu yma yng Nghymru. Rwy'n mynd i alw Joel James nawr. Joel James MS: Diolch, Llywydd. Mae Cyngor Caerdydd, fel y mae'r Aelod blaenorol wedi ei esbonio, wedi methu'n gyson â chyrraedd y targedau ailgylchu a bennwyd gan Lywodraeth Cymru, ac mae'r cyngor wedi rhagweld y bydd yn rhaid iddo fuddsoddi mewn ailgylchu eilaidd er mwyn eu cyrraedd nhw. Yn wrthnysig, nid oes ganddyn nhw'r gyllideb i weithredu ailgylchu eilaidd, ac mae'r cyngor yn rhagweld y bydd y ddirwy amcangyfrifedig y byddan nhw'n ei hwynebu, oherwydd nad ydyn nhw'n cyrraedd eu targedau ailgylchu, yn fwy na £10 miliwn erbyn 2025. Fel yr wyf i'n siŵr y bydd y Prif Weinidog yn cytuno, mae er budd pawb gweld Cyngor Caerdydd yn cyrraedd y targedau ailgylchu hyn, ac i'r cyngor allu buddsoddi mewn ailgylchu eilaidd. Yn wir, gallen nhw hyd yn oed gynhyrchu refeniw iddyn nhw eu hunain drwy wneud y buddsoddiad hwn a chael mynediad at farchnadoedd ailgylchu o ansawdd uchel y bydd y buddsoddiad hwn yn eu hagor. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog esbonio pa gyllid sydd ar gael i gynghorau fel Caerdydd sy'n caniatáu iddyn nhw wneud y gwelliannau hyn, a pha fuddsoddiad mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud i gael mynediad at y marchnadoedd ailgylchu o ansawdd uchel hyn y gallai economi Cymru elwa arnyn nhw? Mark Drakeford AC: Wel, rwy'n cytuno â'r Aelod bod cyfleoedd i Gaerdydd fel awdurdod lleol wneud yr hyn yr wyf i'n gwybod y mae'r awdurdod lleol ei hun eisiau ei wneud, sef arallgyfeirio'r polisïau sydd ganddo ar waith a darparu gwell gwasanaethau ar gyfer ei drigolion ei hun, ac yn wir, o bosibl, gallu darparu gwasanaethau i eraill hefyd. Rwy'n credu y dylwn i egluro, Llywydd, bod system ddirwyo wedi'i nodi yn ein rheoliadau. Mae gan Weinidogion ddisgresiwn yn y ffordd gyfyngedig hon: gall Gweinidogion benderfynu naill ai i ddirwyo yn llawn neu i beidio â dirwyo o gwbl—nid oes sefyllfa hanner ffordd ar gael yn ein rheoliadau, ac nid oes gan Weinidogion ddisgresiwn chwaith dros faint y ddirwy. Mae hynny yn cael ei bennu gan fformiwla y mae'r rheoliadau, unwaith eto, yn ei nodi. Felly, nid oes dim byd anochel ynghylch awdurdodau lleol yn cael eu dirwyo, ac, yn y gorffennol, mae Gweinidogion wedi gwneud penderfyniadau erioed ar y sail a oes gan awdurdodau lleol gynlluniau credadwy ar waith i roi eu hunain yn y sefyllfa y mae'r mwyafrif llethol o awdurdodau lleol ynddi yng Nghymru, a chydymffurfio â'r targed yw honno. Ers datganoli, Llywydd, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £1 biliwn mewn ailgylchu cartrefi, ac mae llawer iawn o'r arian hwnnw yn mynd i awdurdodau lleol i'w cynorthwyo i greu'r amodau lle mae'r ffigurau da iawn yr ydym ni'n eu gweld yng Nghymru yn rhagori ar ein targed ar sail Cymru gyfan, gyda nifer o awdurdodau lleol yn rhagori ar y targed o 70 y cant sydd y tu hwnt i ni ac na fyddai wedi bod yn bosibl heb fuddsoddiad sylweddol iawn. Mae Caerdydd wedi elwa arni, ond mae'n system y mae'n rhaid iddi fod yn deg i bob awdurdod lleol a gwneud yn siŵr y gellir cynnal y cynnydd—y cynnydd sylweddol iawn y mae pob awdurdod lleol, gan gynnwys Caerdydd, wedi ei wneud—i'r dyfodol. Fel y gallwch chi ddweud o rai newidiadau gwyllt o glustffonau ar fy rhan i, rwy'n cael trafferth clywed popeth sy'n digwydd ar hyn o bryd, ac mae honno yn sefyllfa beryglus iawn i Lywydd fod ynddi. Felly, bydd angen i mi alw toriad technegol byr, a byddwn yn ailddechrau cyn gynted ag y gellir datrys fy mhroblem. Toriad technegol byr, felly. Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 13:42. Ailymgynullodd y Senedd am 13:52, gyda'r Llywydd yn y Gadair. Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau Felly, rŷn ni'n barod nawr i ailgychwyn. Ymddiheuriadau am y toriad am resymau technolegol. Felly, dwi nawr yn galw ar arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig i ofyn cwestiynau arweinyddion—Andrew R.T. Davies. Andrew RT Davies AC: Diolch, Llywydd. Heddiw, Prif Weinidog, mae'r astudiaeth gyntaf yn y byd go iawn ar frechlynnau yn erbyn haint omicron wedi cael ei chyhoeddi. Mae'n bwysig nodi bod y data hwn yn deillio o dair wythnos gyntaf yr achosion, felly gallai newid, ond dyma'r astudiaeth ddifrifol gyntaf o'i math. Mae'r canfyddiadau yn dangos bod amrywiolyn y feirws 29 y cant yn ysgafnach, bod dau ddos o frechlyn Pfizer 30 y cant yn effeithiol o ran lleihau trosglwyddiad, ac, yn bwysig, bod dau ddos o frechlyn Pfizer 70 y cant yn effeithiol o ran lleihau niferoedd y mae'n rhaid iddyn nhw fynd i'r ysbyty. Prif Weinidog, rwy'n sylweddoli mai dim ond newydd gael ei gyhoeddi y bore yma y mae'r data hwn, ond a gaf i eich ymateb i'r astudiaeth hon, ac ymateb eich cynghorwyr? A pha effaith fydd yr wybodaeth hon yn ei chael ar gynlluniau posibl ar gyfer gosod cyfyngiadau ddydd Gwener, ac yn y pen draw osgoi cyfyngiadau symud llwyr yng Nghymru? Mark Drakeford AC: Llywydd, diolch i Andrew R.T. Davies am hynna. Rwy'n ymwybodol o'r astudiaeth. Fel y mae'n ei ddweud, dyma'r astudiaeth gyntaf o'i math, ond mae'n anochel ei bod hi felly—fel yr awgrymodd ef ei hun rwy'n credu—yn rhagarweiniol. Mae'n dweud rhywbeth wrthym ni am y cyfnod cynnar. Nid yw'n dweud wrthym ni eto am yr hyn sy'n digwydd wrth i'r amrywiolyn omicron gymryd gafael ac wrth i fwy o wybodaeth ddod i'r amlwg am gynnydd y clefyd. Mae hefyd yn astudiaeth yng nghyd-destun De Affrica, sy'n wahanol mewn sawl ffordd i'n un ni ein hunain. Felly, calonogol yn ei ffordd, ond ni ellir dibynnu arni fel sail gref ar gyfer gwneud penderfyniadau polisi. Ac mae ymdeimlad lle mae'r materion y mae'n eu hadrodd—difrifoldeb y salwch ac i ba raddau y mae'n dianc rhag y brechlynnau presennol—yn gwestiynau eilradd. Oherwydd os yw cyfradd drosglwyddo'r feirws ar y cyflymder yr ydym ni'n ei gweld ar hyn o bryd yn yr Alban ac yn Llundain, yna, hyd yn oed os yw'n ysgafnach, a hyd yn oed os yw'r brechlyn ychydig yn fwy effeithiol, bydd nifer fawr iawn, iawn o bobl yn mynd yn sâl o hyd, a bydd canran o'r bobl hynny yn mynd yn ddifrifol wael, a bydd y niferoedd mawr hynny yn peri i bobl fod angen cymorth y GIG. Felly, astudiaeth ragarweiniol, na ddylid gor-ddibynnu arni, a hyd yn oed os yw'n sail ar gyfer rhywfaint o optimistiaeth ragarweiniol yn wir, ni fydd yn ein hachub ni rhag yr ymosodiad y mae'r amrywiolyn newydd hwn yn debygol o'i greu ar draws y Deyrnas Unedig ac yng Nghymru hefyd. Andrew RT Davies AC: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog, ac roedd hi'n dda cael rhywfaint o optimistiaeth o'r adroddiad hwnnw a gyhoeddwyd y bore yma. Yn amlwg, elfen arall o waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yw cyflwyno'r ymgyrch pigiadau atgyfnerthu, ac mae'r Gweinidog iechyd wedi bod yn cynnal cynhadledd i'r wasg y bore yma, gan sôn y bydd pawb wedi cael cynnig erbyn diwedd mis Rhagfyr, nid o reidrwydd yn cael eu hapwyntiad erbyn diwedd mis Rhagfyr. Pa mor bell i mewn i'r flwyddyn newydd y bydd disgwyl i bobl gael y cynigion hynny cyn iddyn nhw gael y pigiad atgyfnerthu? Oherwydd mae honno yn ystyriaeth bwysig iawn. Un peth yw cael y cynnig; peth arall yw cael y pigiad. Mark Drakeford AC: Wel, wrth gwrs, mae arweinydd yr wrthblaid yn llygad ei le yn hynny o beth. Mae ein cynnig ni yr un fath ag y mae yn unman yn y Deyrnas Unedig—sef gwneud yn siŵr bod pawb, erbyn diwedd y mis hwn, wedi cael cynnig. Bydd y cynnig yn ymestyn i'r flwyddyn newydd i'r graddau byrraf posibl. Ond nid yw hynny yn nwylo'r Llywodraeth yn llwyr, oherwydd mae dau beth ar waith yma. Ceir y gyfradd y gallwn ni gynyddu cyflenwad y brechlyn arni—ac mae llawer iawn yn cael ei wneud i wneud yn siŵr bod gennym ni ganolfannau brechu yn agored am fwy o oriau, canolfannau brechu â mwy o lonydd, canolfannau brechu â chapasiti galw i mewn yn ogystal â chapasiti apwyntiadau, dim ond i roi rhai enghreifftiau. Ond, yn ogystal â'r ochr gyflenwi, mae'r ochr alw—i ba raddau y mae pobl yn dod ymlaen i fanteisio ar yr apwyntiadau sy'n cael eu cynnig iddyn nhw. Ac os nad yw pobl yn dod ymlaen yn y niferoedd yr ydym ni angen eu gweld, neu os bydd pobl yn gofyn i'w hapwyntiadau gael eu haildrefnu, yna bydd hynny yn gwthio'r dyddiad hwnnw ymhellach i'r flwyddyn newydd. Felly, os oes un neges y byddwn ni eisiau ei chyfleu yn y sesiwn heddiw—rwy'n gobeithio y bydd llawer o Aelodau'r Senedd yn helpu yn hyn o beth, i rannu'r neges honno hefyd—y neges honno yw nad oes dim byd pwysicach y gall unrhyw unigolyn ei wneud na chadw'r apwyntiad hwnnw sy'n cael ei gynnig iddo. Oherwydd po fwyaf o bobl sy'n cadw'r apwyntiad, cyflymaf y byddwn ni'n trin y niferoedd, ac felly bydd angen llai o ddiwrnodau arnom ni yn y flwyddyn newydd i gwblhau'r rhaglen. Andrew RT Davies AC: Rydym ni wedi cael y canlyniadau rhagarweiniol hyn y bore yma, Prif Weinidog, o'r arolwg yn Ne Affrica. Mae gennym ni'r ymgyrch pigiadau atgyfnerthu hefyd, yr wyf i newydd eich holi amdani, a chyflwyniad yr ymgyrch pigiadau atgyfnerthu honno, ond hefyd, yn y gynhadledd i'r wasg a gynhaliodd y Gweinidog iechyd y bore yma, tynnodd sylw at yr effaith ar wasanaethau—gwasanaethau iechyd cyffredinol—boed yn llawfeddygaeth sylfaenol, neu'n llawfeddygaeth ddewisol. Ond un peth y gwnaeth Chris Whitty annerch Cabinet y DU yn ei gylch y bore yma oedd effaith cyfraddau heintio posibl ar weithlu'r GIG. A oes gennych chi unrhyw fodelu a fyddai'n dangos yr hyn y byddai hynny yn gyfystyr ag ef, o safbwynt Cymru, o ran staff y GIG yma yng Nghymru a allai, o bosibl, yn amlwg, fod i ffwrdd o'r gwaith am gyfnod sylweddol o amser, gyda chyfraddau heintio fel y mae Chris Whitty wedi bod yn tynnu sylw Cabinet y DU atyn nhw y bore yma? Ac os yw'r wybodaeth honno gennych chi, a wnewch chi ei rhannu gyda ni, fel y gallwn ni ddeall yr effaith ar wasanaethau'r GIG ledled Cymru? Mark Drakeford AC: Wel, diolch i Andrew R.T. Davies am hynna, oherwydd mae hwnna yn bwynt pwysig iawn. Ar ran anoddaf y sbectrwm hwn, fe allem ni weld nifer sylweddol uwch o bobl sydd angen cymorth gan wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn dod wyneb yn wyneb â gwasanaeth lle mae llai o bobl ar gael i ddarparu'r cymorth sydd ei angen, oherwydd bydd yr aelodau staff hynny yn agored i effaith amrywiolyn omicron ochr yn ochr â phawb arall. Nawr, y newyddion da yw bod gennym ni eisoes, yn y poblogaethau hynny, gyfraddau uchel iawn sydd wedi cael y brechlyn atgyfnerthu. Felly, bydd hynny yn diogelu'r gweithlu hwnnw. Ond os byddwn ni'n gweld ton fawr iawn, sy'n effeithio ar nifer fawr iawn o bobl, yna bydd pobl sy'n gweithio yn ein system iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu cynnwys ynddi hefyd. Hyd yn oed heddiw, nid yw 11 y cant o'n gweithlu meddygon teulu yn y gwaith oherwydd amrywiolyn delta y coronafeirws. Felly, os gwnewch chi allosod hynny a dychmygu effaith ton omicron o'r math y bydd Chris Whitty wedi bod yn ei ddisgrifio i Gabinet y DU, yna gallwch weld y gallai'r effaith fod yn sylweddol iawn. Nawr, mae hynny i gyd yn cael ei fodelu drwy'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud gyda Phrifysgol Abertawe a chyda'n byrddau iechyd lleol, ac mae camau yn cael eu cymryd—fel y dywedais, yn enwedig drwy flaenoriaethu'r staff hynny ar gyfer yr ymgyrch pigiadau atgyfnerthu—i ddiogelu cynifer o'r bobl hynny â phosibl. Bydd rhai newidiadau i'r gofynion hunanynysu i weld a all pobl ddychwelyd yn ddiogel i'r gweithle eto cyn gynted â phosibl hefyd yn rhan o'r holl ystyriaeth honno. Ond, gall pob un ohonom ni wneud pethau i ddiogelu ein hunain, a thrwy ddiogelu ein hunain rydym ni'n diogelu pobl eraill, ac mae hynny yn cynnwys y bobl y byddwn ni'n dibynnu arnyn nhw i'n helpu os bydd ton omicron yn ein taro fel y mae rhai o'r modelau yn awgrymu y gallai. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price. Adam Price AC: Diolch, Llywydd. Mae rhywfaint o newyddion optimistaidd yn y dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg y cyfeiriodd Andrew R.T. Davies ati, ond mae hefyd yn canfod bod dau ddos o frechlyn AstraZeneca yn cynnig dim amddiffyniad rhag amrywiolyn omicron, er bod yr un cafeatau yn berthnasol i'r dystiolaeth honno—sampl fach, canfyddiadau rhagarweiniol, ac yn y blaen. Mae yn canfod, hyd yn oed yn achos AstraZeneca, y byddai pigiad atgyfnerthu yn cynyddu lefel yr amddiffyniad i 71 y cant. Yn amlwg, mae cael y pigiad atgyfnerthu i bawb erbyn diwedd y mis, rwy'n credu, yn nod pwysig iawn, ond a oes rhywfaint o ystyriaeth yn cael ei rhoi, yng ngoleuni'r dystiolaeth hon, i roi blaenoriaeth i'r rhai a gafodd frechiad AstraZeneca? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, mae Adam Price yn llygad ei le, sef nad yw'r dystiolaeth ar effeithiolrwydd y ddau ddos yn wych ar gyfer Pfizer nac AstaZeneca—roedd hyd yn oed Pfizer, yn yr astudiaeth honno, yn cynnig tua 30 y cant o amddiffyniad—a dyna pam mae'r rhaglen pigiadau atgyfnerthu mor gwbl hanfodol. Oherwydd nid yw dau ddos o AstraZeneca yn eich diogelu chi; mae dau ddos o AstraZeneca a phigiad atgyfnerthu yn mynd â'r amddiffyniad hwnnw i fyny dros 70 y cant. Nawr, byddwn yn parhau i ddilyn cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yng Nghymru ynghylch sut rydym ni'n blaenoriaethu galw pobl ymlaen i gael eu brechu gyda'r pigiad atgyfnerthu. Ceir rhywfaint o gytgord rhwng rhestr flaenoriaethau'r Cyd-bwyllgor a phobl a gafodd AZ yn y ddwy rownd gyntaf o frechiadau. Felly, mae gan y pethau hyn rywfaint o gysondeb â'i gilydd. Byddwn yn gweithio ein ffordd i lawr yr ystodau oedran, ac rydych chi'n cyrraedd pwynt gyda phobl yn eu 30au pryd yr oeddem ni'n defnyddio Pfizer yn hytrach nag AZ ar gyfer y rhan fwyaf o bobl. Felly, rwy'n credu mai cadw at gyngor y Cyd-bwyllgor, sef galw pobl ymlaen yn nhrefn pa mor agored i niwed clinigol ydyn nhw, yw'r peth iawn i'w wneud, ac i raddau sylweddol, nid i raddau perffaith, ond i raddau sylweddol bydd hynny yn mynd i'r afael â'r mater y mae Adam Price newydd ei godi gyda mi. Adam Price AC: Prif Weinidog, adroddwyd y gallai Llywodraeth yr Alban gyhoeddi rhai newidiadau heddiw ynghylch cadw pellter cymdeithasol o ran cymysgu aelwydydd, ond ar ffurf cyngor yn hytrach na rheoliadau. Tybed a yw hynny yn opsiwn polisi sy'n cael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru. Ac yn flaenorol fe wnaethoch chi ddweud, wrth ystyried mynd i fyny drwy'r lefelau statws rhybudd, y byddech chi'n canolbwyntio ar ddangosyddion rhagfynegi fel niferoedd achosion, yn hytrach na dangosyddion ôl-fynegi fel marwolaethau a niferoedd sy'n mynd i'r ysbyty. Tybed, o ystyried yr awgrym efallai nad yw'r niferoedd sy'n mynd i'r ysbyty yn olrhain nifer yr achosion mor agos ag y maen nhw wedi ei wneud gyda thonnau blaenorol, yn seiliedig ar ddata De Affrica, a ydych chi'n bwriadu cymryd rhyw fath o olwg fwy cyfannol, gan edrych ar ddangosyddion rhagfynegi ac ôl-fynegi wrth benderfynu beth fyddai'r ymateb mwyaf cymesur. Mark Drakeford AC: Diolch i arweinydd Plaid Cymru am y ddau bwynt yna. Rwyf i wedi cael cyfres o gyfleoedd yn ystod y dyddiau diwethaf i glywed gan Brif Weinidog yr Alban ac i gael rhywfaint o ddealltwriaeth o'r ffordd y bydd Cabinet Llywodraeth yr Alban yn trafod y materion hyn heddiw. Rwy'n credu bod y dull o ganllawiau, canllawiau cryf, ar gael i ni ac yn rhywbeth y byddwn ni eisiau ei drafod fel Cabinet yn ystod yr wythnos hon. Yn ystod y pandemig, mae pobl yng Nghymru wedi dangos, rwy'n credu, eu bod nhw'n awyddus iawn i glywed y cyngor y maen nhw'n ei gael drwy'r prif swyddog meddygol, gan ein prif wyddonydd, ac fel y mae'n cael ei gyfleu gan Weinidogion, ac mae rhoi cyngor da iddyn nhw yn sicr yn rhan o'r repertoire sydd gennym ni ar gyfer ceisio helpu pobl i gadw eu hunain yn ddiogel. Byddwn ni bob amser yn cymryd cyfres gytbwys o ddangosyddion i ystyriaeth wrth wneud ein penderfyniadau, ac mae hynny yn cynnwys niferoedd sy'n mynd i'r ysbyty a marwolaethau—[Anghlywadwy.] Rwy'n credu y bydd angen i mi dorri ar eich traws, Prif Weinidog. Mae'n ddrwg gennyf i, ond mae'n ymddangos bod problem gyda'ch sain ar hyn o bryd. Gadewch i mi gymryd saib cyflym. Rhowch gynnig arall arni, ac os nad yw'n bosibl, bydd yn rhaid i ni—. Rhowch gynnig arall arni, Prif Weinidog. Mark Drakeford AC: Llywydd—[Anghlywadwy.] Na. Mae gennym ni broblem. Bydd yn rhaid i ni gymryd seibiant technegol arall i ailddechrau sain y Prif Weinidog. Toriad technegol, felly, eto. Ymddiheuriadau am hyn, Aelodau. Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 14:06. Ailymgynullodd y Senedd am 14:08, gyda'r Llywydd yn y Gadair. Felly, dychwelwn nawr at ymateb y Prif Weinidog i gwestiwn Adam Price. Prif Weinidog. Mark Drakeford AC: Diolch, Llywydd. Y cwbl yr oeddwn i'n ei wneud oedd ailadrodd pwynt yr oeddwn i wedi ei wneud yn gynharach i Andrew R.T. Davies, sef hyd yn oed pe bai'r cyfraddau sy'n mynd i'r ysbyty yn is gyda omicron, os yw'r niferoedd crai o bobl sy'n mynd yn sâl gydag ef yn cynyddu yn sydyn, bydd hynny ynddo'i hun yn arwain at sefyllfa lle byddai angen i nifer fawr o bobl fynd i'r ysbyty. Adam Price AC: Mae COVID yn glefyd a drosglwyddir drwy'r awyr, wrth gwrs, ac rydym ni'n gwybod bod awyru da a phuro aer yn effeithiol iawn o ran mynd i'r afael â haint. A oes mwy, Prif Weinidog, y gallem ni fod yn ei wneud yn hyn o beth? Mae Gwlad Belg wedi gosod monitorau carbon deuocsid mewn ysgolion ac, yn wir, gweithleoedd i weld a oes angen gwella awyriad. Mae Iwerddon wedi cyhoeddi buddsoddiad pellach o €60 miliwn yr wythnos hon mewn dyfeisiau puro aer mewn ysgolion, gan ddefnyddio cymysgedd o aer gronynnol effeithlonrwydd uchel a golau uwchfioled. O ystyried yr amcangyfrif o 3,500 o blant sy'n parhau i ddioddef symptomau COVID hir yng Nghymru, onid yw hwn yn fuddsoddiad yn iechyd ein plant, yn ogystal â phawb arall, y dylem ninnau hefyd fod yn ei wneud? Mark Drakeford AC: Wel, diolch i Adam Price am y pwynt pwysig yna. Wrth gwrs, mae gennym ni fonitorau carbon deuocsid ar gael yma yng Nghymru nawr ac maen nhw'n cael eu defnyddio mewn ysgolion, ond mae mwy y gellir ei wneud o ran awyru. Mae'n rhan bwysig iawn o'r ffordd y gallwn ni gadw ein gilydd yn ddiogel. Ysgrifennodd y prif swyddog meddygol a'r prif swyddog nyrsio at y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn ystod y dyddiau diwethaf yn unig yn rhoi cyngor pellach ar yr hierarchaeth o gamau y gellir eu cymryd i wneud yn siŵr bod pobl sy'n gweithio a phobl sy'n cael eu trin yn ein hysbytai a lleoliadau caeedig eraill o'r math hwnnw yn cael eu cadw mor ddiogel â phosibl, ac awyru oedd un o'r materion a bwysleisiwyd ganddyn nhw yn y llythyr y maen nhw wedi ei anfon. Rydym ni'n parhau i adolygu'r dystiolaeth o rannau eraill o'r byd ar gamau a all fod yn effeithiol o ran cynorthwyo mewn ysgolion ac mewn lleoliadau eraill—gweithleoedd, er enghraifft, yn ogystal ag ysbytai a chartrefi gofal—i helpu i wella awyru a monitro ansawdd aer. A phryd mae syniadau neu atebion ymarferol yr ydym ni'n eu canfod mewn mannau eraill, byddwn yn sicr yn agored i ddysgu ohonyn nhw a gweld beth y gallwn ni ei wneud i gefnogi eu gweithrediad. Patentau Brechlynnau COVID Jenny Rathbone AC: 3. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch ildio patentau brechlynnau COVID? OQ57377 Mark Drakeford AC: Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynlluniau i lacio hawliau eiddo deallusol fel y gellir gwneud brechlynnau a phatentau ar gael i wledydd incwm isel i helpu i liniaru'r pwysau sy'n cael eu hachosi gan bandemig COVID-19. Rydym ni wedi cyfleu'r farn honno yn uniongyrchol i Lywodraeth y DU gan fod cyfrifoldeb am hawliau eiddo deallusol yn parhau i fod yn fater a gadwyd yn ôl. Jenny Rathbone AC: Diolch. Yn gyntaf, hoffwn gyfeirio'r Aelodau a'r cyhoedd at fy nghyfranddaliadau datganedig sydd gen i o hyd yn AstraZeneca, er nad am lawer hirach. Rwy'n siomedig nad yw AstraZeneca na Pfizer wedi ymateb i'm cais am esboniad ynghylch pam, yng nghanol pandemig byd-eang, nad yw'r cwmnïau cyffuriau aml-wladol hyn wedi hepgor eu patentau ar y brechlynnau hyn sy'n achub bywydau. Wrth gwrs, mae cynsail ar gyfer hyn, o ran hepgor y patentau ar gyffuriau HIV pan dynnodd Nelson Mandela sylw at eu methiant i wneud hynny, a achosodd brotestiadau byd-eang. Yn yr Unol Daleithiau, mae'r Sefydliadau Iechyd Cenedlaethol yn mynd â Moderna i'r llys. A ydych chi'n ymwybodol o unrhyw gynlluniau gan Lywodraeth y DU i fynd ag AstraZeneca i'r llys i'w gorfodi i wneud y peth iawn, o gofio na fydd neb yn ddiogel rhag COVID tan fydd digon o bobl wedi cael eu brechu ledled y byd i atal COVID i lefelau y gellir eu rheoli? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, nid wyf i'n ymwybodol o unrhyw gamau o'r fath gan Lywodraeth y DU, a byddwn yn synnu'n fawr iawn pe baen nhw'n barod i gymryd unrhyw gamau, oherwydd maen nhw'n parhau i rwystro cynigion ar gyfer hepgor hawliau eiddo deallusol yn Sefydliad Masnach y Byd. Gwn y bydd Jenny Rathbone yn ymwybodol iawn ei bod hi'n flwyddyn—dros flwyddyn bellach—ers i Dde Affrica ac India gynnig hepgoriad dros dro o hawliau eiddo deallusol ar frechlynnau COVID-19 gan wneud y cynnig hwnnw i Sefydliad Masnach y Byd. Ym mis Mai eleni, cyhoeddodd yr Unol Daleithiau eu bod nhw o blaid hepgoriad o'r fath, ac mae ymhell dros 100 o wledydd bellach wedi rhoi eu pwysau y tu ôl i hynny. Mae nifer gymharol fach o wledydd ledled y byd yn parhau i rwystro'r trafodaethau hynny, ac mae Llywodraeth y DU yn un ohonyn nhw. Cyfarfu Sefydliad Masnach y Byd ddiwethaf ddiwedd mis Hydref, ac mae arnaf ofn mai'r adroddiadau oedd bod trafodaethau ar hepgoriad wedi pallu ac yn ddigyfeiriad oherwydd y llond llaw hwnnw o wledydd. Dyna pam yr wyf i wedi ysgrifennu at Brif Weinidog y DU yn ei annog i dynnu'r Deyrnas Unedig o'r sefyllfa honno; y dylem ni gefnogi'r safbwynt a gyflwynwyd gan Dde Affrica ac India, ond gan yr Unol Daleithiau hefyd, oherwydd byddai hynny'n datgloi'r sefyllfa lle na fyddem ni'n ddibynnol ar ewyllys da cwmnïau fferyllol unigol, ond byddai safbwynt cyson ar draws y byd lle na fyddai hawliau eiddo deallusol yn rhwystr rhag brechu gweddill y byd. Fe'm hatgoffir o'r hyn a ddywedodd cyn Brif Weinidog y DU Gordon Brown ychydig ddyddiau yn unig yn ôl: bod y gorllewin sydd ag adnoddau da yn chwarae rwlét y Rwsiaid gyda COVID-19, a thra nad ydym ni'n gwneud yr ymdrech y mae angen i ni ei gwneud i wneud yn siŵr bod pawb yn cael eu brechu, rywle yn y byd, mae amrywiolyn yn datblygu a allai fod yn un sy'n dianc rhag diogelwch brechlynnau yn llwyr, a fydd yn fwy difrifol na'r fersiynau yr ydym ni'n ymdrin â nhw ar hyn o bryd. Mae er budd pawb, yn yr union ffordd y dywedodd Jenny Rathbone, i wneud yn siŵr bod poblogaeth y byd i gyd yn cael diogelwch brechiad, a byddai hepgoriad dros dro o hawliau eiddo deallusol yn un cam pwysig o ran helpu i sicrhau'r canlyniad hwnnw. Russell George AC: Rwyf innau'n gwybod hefyd, gan ymateb i rai o'r—. Allwch chi fy nghlywed i, Llywydd? Mae fy llun i wedi diflannu. Rydym ni'n gallu eich clywed chi, Russell, er nad wyf i'n gallu eich gweld chi ar hyn o bryd. A!ydych, rydych chi yn ôl ar y sgrin. Parhewch. Russell George AC: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, rwy'n ymwybodol bod y DU wedi rhoi'r mwyafrif o unrhyw frechlynnau sydd dros ben yn y DU, wrth gwrs, i COVAX i gynorthwyo gwledydd datblygol, ond rwy'n deall rhywbeth gwahanol i chi, Prif Weinidog, o ran barn ddatblygol aelodau Sefydliad Masnach y Byd ar hepgoriad arfaethedig o rai o ddarpariaethau'r agwedd sy'n gysylltiedig â masnach ar gytundeb hawliau eiddo deallusol i fynd i'r afael â COVID-19. Mae Llywodraeth y DU, yn ôl a ddeallaf, wrthi'n cymryd rhan gadarnhaol yn hynny. Ond a gaf i ofyn, Prif Weinidog, a ydych chi'n rhagweld unrhyw faterion negyddol ynghylch hepgor patentau brechiadau, beth yw canlyniadau anfwriadol hynny, a sut gellir goresgyn y problemau hyn? Mark Drakeford AC: Yn gyntaf oll, a gaf i ddweud, yn fy llythyr at yr Ysgrifennydd Tramor ar y mater hwn yn gynharach yn y flwyddyn, ac yn fwy diweddar at Brif Weinidog y DU, fy mod i wedi bod yn awyddus iawn i ddweud pa mor gryf y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r camau y mae Llywodraeth y DU wedi eu harwain o ran rhaglen COVAX a'r ymdrechion y mae Llywodraeth y DU wedi eu gwneud i arwain camau gweithredu ledled y byd yn hynny o beth? Felly, hoffwn gydnabod hynny a'i ailadrodd y prynhawn yma. Beth yw anfanteision hepgoriad dros dro o hawliau eiddo deallusol? Wel, rwy'n credu mai'r prif un, er fy mod i'n credu ei fod yn beth angenrheidiol i'w wneud, nid yw'n beth digonol i'w wneud ar ei ben ei hun, oherwydd bydd gwledydd nad yw'r seilwaith ganddyn nhw i ddefnyddio'r eiddo deallusol a fydd ar gael iddyn nhw wedyn. Disgrifir yr ochr eiddo deallusol weithiau fel meddu ar y rysáit. Wel, os nad oes gennych chi ffwrn, os nad oes gennych chi'r sosbenni a'r padellau ac nad oes gennych chi bopeth arall sydd ei angen arnoch chi, allwch chi ddim troi'r rysáit yn gynnyrch defnyddiadwy. Dyna pam, yn y ffordd fach iawn y mae Llywodraeth Cymru wedi gallu cynnig cymorth, y mae ein cymorth mewn lleoedd fel Namibia ac Uganda, er enghraifft, wedi canolbwyntio ar wneud yn siŵr ein bod ni'n cynorthwyo'r lleoedd hynny i sefydlu'r pethau seilwaith hynny sy'n caniatáu i wledydd ddefnyddio brechlynnau wrth i frechlynnau ddod ar gael, oherwydd os nad oes gennych chi nyrsys hyfforddedig, neu os nad oes gennych chi ganolfannau brechu, neu os nad oes gennych chi gyfarpar diogelu personol, yna hyd yn oed os yw'r brechlyn gennych chi, allwch chi ddim gwneud i'r brechlynnau hynny weithio i'ch poblogaeth leol. Os oes dadl am anfantais i hepgoriad patent, rwy'n credu mai dyna'r unig un y byddwn ni'n neilltuo llawer o hygrededd iddo. Mae'n golygu, os nad oes gennych chi bopeth arall sydd ei angen arnoch chi i wneud rhaglen frechu yn effeithiol, nid yw cael hepgor hawliau eiddo deallusol ar frechlynnau yn sicrhau bod gennych chi bopeth sydd ei angen arnoch ar lawr gwlad i ddarparu rhaglen o'r fath. Delyth Jewell AC: Prif Weinidog, mae Boris Johnson wedi dweud wrth bobl sy'n byw yn y DU nad yw dau frechlyn yn ddigon mwyach i amddiffyn rhag amrywiolyn omicron. Yn Affrica, nid yw 70 y cant o weithwyr iechyd rheng flaen wedi cael un dos. Mae hynny, fel yr ydym ni wedi bod yn ei drafod, i raddau helaeth oherwydd anhyblygrwydd Llywodraethau fel y DU a'r Swistir, yn rhwystro ymdrechion i hepgor patentau ar frechlynnau, pan fo, fel yr ydych chi wedi ei ddweud Prif Weinidog, hyd yn oed Arlywydd UDA sy'n glos gyda'r cwmnïau fferyllol mawr, Joe Biden, o blaid hepgoriad. A ydych chi'n credu ei bod hi'n wir, Prif Weinidog, fod polisi Llywodraeth y DU o rwystro'r ymgais hon i frechu'r byd nid yn unig yn peryglu bywydau dramor yn greulon ac yn ddiangen, ond hefyd yn peryglu bywydau yma yn y DU yn sgil amrywiolion peryglus sy'n debygol o ddatblygu mewn gwledydd sy'n llai abl i gael gafael ar frechlynnau? Mark Drakeford AC: Rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwynt pwysig y mae Delyth Jewell yn ei wneud. Nid oes yr un ohonom yn ddiogel nes bod pob un ohonom ni'n ddiogel. A dyna'r achos dros sicrhau bod gwledydd cyfoethog fel y Deyrnas Unedig yn chwarae ein rhan—ein rhan lawn—wrth gynorthwyo gweddill y byd. Nid mater o haelioni yn unig ydyw, mae'n fater o hunan-les goleuedig. Ond hyd nes y gallwn ni fod â gweddill y byd yn y sefyllfa honno, yna'n union fel y dywedodd Delyth Jewell, ac fel y dyfynnais cyn-Brif Weinidog y DU Gordon Brown yn gynharach, rhywle yn y byd bydd amrywiolyn arall yn datblygu ac, y tro nesaf, efallai na fyddwn ni mor ffodus y bydd yr amddiffynfeydd yr ydym wedi'u creu hyd yma mor effeithiol wrth ymateb i'r amrywiolyn hwnnw fel y buon nhw yn erbyn yr amrywiolyn alffa, yr amrywiolyn delta a'r ymdrech fawr nesaf i ymdrin â'r amrywiolyn omicron. Mae angen diogelu'r byd i gyd er mwyn diogelu pob un ohonom. Yr Amrywiolyn Omicron a Busnesau Lletygarwch Janet Finch-Saunders AC: 4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith yr amrywiolyn Omicron o COVID-19 ar fusnesau lletygarwch yng Nghymru? OQ57352 Mark Drakeford AC: Diolch i'r Aelod am hynna, Llywydd. Hyd yma, prin iawn fu effaith uniongyrchol yr amrywiolyn newydd ar fusnesau lletygarwch Cymru. Mae'n anoddach asesu effaith anuniongyrchol drwy edrych ar newid ymddygiad cwsmeriaid. O ystyried lefelau uchel o ansicrwydd, bydd Llywodraeth Cymru yn monitro datblygiadau'n fanwl ac yn ymateb yn gyflym pe bai angen hynny. Janet Finch-Saunders AC: Diolch. Wrth gwrs, rydych chi'n gwybod mai twristiaeth yw asgwrn cefn yr economi yn Aberconwy, fel y mae mewn etholaethau eraill. Mae gan frenhines cyrchfannau gwyliau Cymru, Llandudno, y potensial hefyd—ac mae hyn yn ôl adroddiad diweddar yr wyf wedi bod yn ei ddarllen—i weld nifer yr ymwelwyr dydd yn cynyddu o 2.88 miliwn yn 2018 i 4.8 miliwn yn 2045, teithiau gydag arhosiad dros nos yn gweld cynnydd o 120,000, ac mae'r effaith economaidd yn codi o £388 miliwn yn 2018 i dros £0.5 biliwn erbyn 2045. Mae ein diwydiant lletygarwch wedi ysgwyddo llawer o'r amrywiolion blaenorol mewn gwirionedd. Nawr, mae ein busnesau lleol yn dioddef o ganlyniad i lawer iawn o bobl yn canslo. Mae un entrepreneur wedi colli archebion gwerth £25,000 ac mae'n gorfod ystyried diswyddo pob un o'r wyth aelod o'i staff, ac ailadroddir hyn yn y negeseuon e-bost niferus yr wyf wedi'u cael. Felly, tra'u bod nhw yn dal i aros i fanteisio ar y gronfa £35 miliwn yr ydych chi wedi'i chynllunio i helpu busnesau bach a chanolig i ail-lansio, datblygu, datgarboneiddio a thyfu, a oes unrhyw bosibilrwydd, Prif Weinidog—ac mae'n rhaid i mi ofyn—y byddwch chi'n ystyried cyflwyno cylch arall o grantiau cymorth busnes COVID-19 i helpu ein busnesau i ymdrin â'r hyn sy'n debygol o fod yn gyfnod problemus iawn iddyn nhw? Mark Drakeford AC: Diolch i Janet Finch-Saunders am hynna, Llywydd, ac rwy'n llwyr gydnabod yr anawsterau y mae busnesau lletygarwch yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Bydd hi'n gwybod nad yw Llywodraeth Cymru wedi newid unrhyw reolau o ran COVID yng Nghymru yr wythnos hon, ond mae'r newyddion am yr amrywiolyn omicron yn newid ymddygiad pobl, ac nid oes amheuaeth o gwbl bod hynny'n cael effaith ar fusnes yn y diwydiant lletygarwch. Rwyf wedi cael cyfres o drafodaethau gyda chyd-Aelodau yn Llywodraeth y DU dros y penwythnos ynghylch yr hyn y gallai'r Trysorlys fod yn barod i'w wneud i gefnogi busnesau yr effeithir arnyn nhw fel hyn, oherwydd, fel y gwn y bydd yn deall, mae hon yn effaith ar draws y Deyrnas Unedig. Mae busnesau lletygarwch a thwristiaeth ym mhobman yn gweld hyn. 'A fyddwn yn ystyried' yw'r hyn a ofynnodd yr Aelod, a'r ateb i hynny yw 'byddwn', wrth gwrs byddwn yn ystyried yr hyn y gallem ei wneud o'n hadnoddau ein hunain. Yna, byddem yn sicr yn gobeithio y byddai Llywodraeth y DU yn barod i gydnabod yr effaith y mae'r amrywiolyn newydd yn ei chael yn ehangach ar y rhannau hynny o'r economi yr effeithir arnyn nhw fwyaf. Diolch iddi am ddarllen yr wybodaeth am y dyfodol posibl ar gyfer Llandudno, sy'n gyrchfan gwyliau gwych. Rwy'n gwybod y bydd ganddi hithau hefyd ddiddordeb yn y ffordd y gallwn greu dyfodol o'r math hwnnw i rywle fel Llandudno mewn ffordd sy'n annog twristiaeth gynaliadwy. Mewn rhannau o'r gogledd dros yr haf diwethaf lle gwelsom ni niferoedd uchel o ymwelwyr, gwelsom bryderon dealladwy hefyd, os nad ydych yn cynyddu niferoedd yn y ffordd gywir, rydych yn tanseilio'r pethau sy'n dod â phobl i'r ardaloedd hynny yn y lle cyntaf. Roedd y rheini'n niferoedd calonogol iawn a rannodd yr Aelod â ni yn gynharach, a nawr bydd angen i'r sgwrs ymwneud â sut yr ydym yn tyfu'r diwydiant mewn ffordd sy'n rhoi'r gallu cynaliadwy hwnnw iddo barhau i fod yn ddeniadol i bobl ymhell i'r dyfodol. Jane Dodds AS: Prif Weinidog, roeddwn eisiau eich holi am ansawdd aer. Rwy'n gwybod, yr wythnos diwethaf, eich bod wedi ymateb i arweinydd y Ceidwadwyr drwy sôn am y Ddeddf aer glân, tybed a wnewch chi roi amserlen glir iawn, os yw hynny'n iawn, ar gyfer eich rhaglen ynghylch cyflwyno Deddf aer glân. Diolch yn fawr iawn. Mark Drakeford AC: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae amserlen gyda ni. Mae'n dechrau gyda'r cynllun, yn mynd trwy'r Papur Gwyn, lan i'r Ddeddf hefyd. Mark Drakeford AC: Er fy mod yn gwybod ac wedi gweld yr amserlen ar gyfer y broses honno—y cynllun yn gynnar y flwyddyn nesaf, y Papur Gwyn, yr ymgynghoriad, dyfodiad Bil ar lawr y Senedd yn ddiweddarach yn y tymor—nid yw gennyf i o fy mlaen i, ac rwy'n hapus iawn i ysgrifennu at yr Aelod yn nodi'r amserlen honno.FootnoteLink Ond gallaf roi sicrwydd iddi, yn bendant, fod gwaith wedi ei wneud ar amserlen o'r fath yn bendant ac rydym ar y trywydd iawn i'w chyflawni. Yn ystod tymor y Senedd hon, yn y ffordd a ddywedom yn etholiadau'r Senedd, byddwn yn rhoi Bil aer glân o flaen y Senedd. Gwybodaeth ychwanegol at y Cyfarfod Llawn (Saesneg yn unig) Mynd i'r Afael ag Anfantais Huw Irranca-Davies AC: 5. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn helpu i fynd i'r afael ag anfantais iechyd, cymdeithasol ac economaidd strwythurol mewn ardaloedd lle ceir amddifadedd acíwt a lluosog? OQ57355 Mark Drakeford AC: Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi camau gweithredu ar waith ar draws ein cyfrifoldebau i fynd i'r afael â phenderfynyddion strwythurol iechyd, anfantais gymdeithasol ac economaidd. I ddyfynnu'r Aelod mewn dadl yn y Senedd yn ddiweddar, fodd bynnag, rydym bob amser yn gorfod gwneud hyn wrth nofio yn erbyn Llywodraeth y DU 'sy'n ysgubo'r rhai agored i niwed a'r rhai ar gyflogau isel ymaith.' Huw Irranca-Davies AC: Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n cydnabod mai nofio yn erbyn y llanw yw hyn, ond mae cymaint mwy y gallwn ni ei wneud gyda rhaglen Llywodraeth Cymru hefyd sy'n buddsoddi'n weithredol yn y cymunedau hyn. Gwn mai lleoedd fel Caerau, cymunedau gwych fel Caerau yn fy etholaeth i, oedd y cyntaf i weld buddsoddiad Dechrau'n Deg. Cawsom y buddsoddiad mewn gofal plant i deuluoedd sy'n gweithio mewn lleoedd fel sefydliad Nantyffyllon, sefydliad y glowyr, a chymorth pandemig ar gyfer prydau ysgol yn ystod y gwyliau, buddsoddiad Ysgol Gynradd Caerau, a llawer mwy. Ond a gaf i ofyn i'r Llywodraeth hon am sicrwydd y byddwn ni, wrth i'r blynyddoedd fynd heibio, yn cynnal y lefel honno o fuddsoddiad yn y bobl hyn a'r lleoedd hyn sydd nid yn unig ei angen, ond yn ei haeddu, fel bod pawb yn cael yr un cyfle ym mhob rhan o Gymru? Maen nhw'n lleoedd gwerthfawr, yn bobl werthfawr, ac os oes angen inni ganolbwyntio'r buddsoddiad yno, yna dylai hynny ddigwydd. Mark Drakeford AC: Yn sicr rwy'n gallu rhoi'r sicrwydd hwnnw i'r Aelod. Rwy'n credu bod ei etholaeth ei hun yn enghraifft wych o'r buddsoddiadau a wnaed gan Lywodraethau Llafur olynol yma yng Nghymru i fynd i'r afael ag anfantais strwythurol. Soniodd Huw Irranca-Davies am Dechrau'n Deg, Llywydd; am wrthgyferbyniad rhwng y ffordd yr ydym ni wedi cynnal a pharhau i fuddsoddi yn Dechrau'n Deg yng Nghymru a'r rhaglen gyfochrog yn Lloegr, a wnaeth waith mor dda yn ystod cyfnod y Llywodraeth Lafur ddiwethaf yn y DU, yn gweld y Ceidwadwyr yn cefnu arni yn ystod y degawd diwethaf. Ac mae'n fwy na Dechrau'n Deg yn unig; fel y dywedodd Huw Irranca-Davies, mae'n ymwneud â'r ffordd yr ydym wedi buddsoddi mewn cyfleusterau gofal plant i deuluoedd sy'n gweithio mewn lleoedd fel Nantyffyllon. Rwy'n gwybod mai fy rhagflaenydd, Carwyn Jones, pan oedd yn Brif Weinidog, a agorodd Ysgol Gynradd Caerau, adeilad newydd i bobl ifanc yr ardal honno. Ac mae ein buddsoddiad mewn gwaith o ymdrin ag anghydraddoldebau strwythurol, Llywydd, wedi mynd y tu hwnt i'r hyn y gallech eu hystyried yn wasanaethau prif ffrwd safonol hefyd. Gwn fod buddsoddiad mwyaf Cyfoeth Naturiol Cymru mewn coetir cymunedol yng Nghymru yng nghoedwig Llynfi, yn etholaeth yr Aelod—coetir newydd yn tyfu ar hen safle glo. Ond y peth arall sydd bob amser yn fy syfrdanu'n wirioneddol yn etholaeth Ogwr, Llywydd, yw'r ffordd y mae gweithredu gan wasanaethau cyhoeddus yn ysgogi ymdrech gymunedol eithriadol debyg hefyd—prosiect Skyline, a gwn fod yr Aelod yn gefnogwr brwd o'r datblygiad mawr hwnnw, ac Ymddiriedolaeth Datblygu Caerau a drafododd gyda mi yn ddiweddar, ei ehangder syfrdanol o weithgarwch a'r ymdeimlad o fenter gymunedol a ddaw yn ei sgil. Mae'n wych gweld, Llywydd, gyda llaw, fod canolfan gymunedol yr ymddiriedolaeth yn cael ei defnyddio gan swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu. A dyna fuddsoddiad arall y bydd yr etholaeth yn ei weld gan Lywodraeth Lafur. Wrth gwrs, pan fyddwch yn ymdrin ag anghydraddoldebau strwythurol sydd wedi'u gwreiddio'n ddwfn, mae angen gwneud mwy. Ond ein gallu i roi pŵer y Llywodraeth ar waith, ochr yn ochr ag ymrwymiad cymunedau lleol, yw'r ffordd y credaf y gallwn ni weld cynnydd, ac yn etholaeth yr Aelod ei hun, yn yr enghreifftiau y mae wedi'u dyfynnu y prynhawn yma, rwy'n credu eich bod yn gweld hynny ar waith heb amheuaeth. Clefyd Niwronau Motor Peter Fox AS: 6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella bywydau pobl sy'n byw gyda chlefyd niwronau motor? OQ57374 Mark Drakeford AC: Llywydd, diolch i Peter Fox am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda'r grŵp gweithredu ar gyflyrau niwrolegol i wella gwasanaethau i bawb sydd â chyflyrau niwrolegol, gan gynnwys clefyd niwronau motor. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol i benderfynu beth arall y gellir ei wneud i wella bywydau pobl sy'n byw gyda'r clefyd creulon hwn. Peter Fox AS: Diolch, Prif Weinidog. Anfonodd aelodau'r Senedd neges glir iawn fis diwethaf yn ystod fy nadl, pryd y gwnaethon nhw bleidleisio â mwyafrif llethol i ddod â'r broses addasu annheg bresennol i ben lle mae dioddefwyr MND yn gaeth mewn cartrefi na ellir dianc ohonyn nhw am nad ydyn nhw'n gallu cael y cymorth angenrheidiol mewn pryd. Mae dioddefwyr MND yn glir bod angen disodli'r system bresennol gan un nad yw'n seiliedig ar brawf modd, ac rwy'n croesawu'r ffaith bod y Gweinidog iechyd ac, yn wir, Llywodraeth Cymru yn cefnogi hyn hefyd. Ond nawr mae angen i ni weld canlyniad pendant i ddioddefwyr MND yn dilyn y gefnogaeth unfrydol honno, rwy'n credu. Ac, i'r perwyl hwnnw, Prif Weinidog, a wnaiff y Llywodraeth gytuno i ofyn, yn wir, i annog awdurdodau lleol i weithredu eu pwerau disgresiwn i weithredu proses garlam ar gyfer addasu tai i bobl sy'n byw gydag MND yng Nghymru, oherwydd wrth i bob mis fynd heibio heb y broses garlam honno, bydd pobl ag MND yn parhau i ddioddef? Diolch, Prif Weinidog. Mark Drakeford AC: Llywydd, diolch i Peter Fox am hynna. Roedd ei ragflaenydd, yn Aelod o'r Senedd dros etholaeth sir Fynwy, Nick Ramsay, hefyd yn eiriolwr brwd dros anghenion pobl sy'n dioddef o glefyd niwronau motor. O ran addasiadau ffisegol penodol, nid yw tair o'r pedair rhaglen y mae Llywodraeth Cymru bellach yn eu cefnogi yn seiliedig ar brawf modd. Mae'r addasiadau ar raddfa fawr ar gyfer y grant cyfleusterau i'r anabl yn seiliedig ar brawf modd, ond nid ydyn nhw bob amser yn fath o addasiadau sydd fwyaf addas i bobl sy'n dioddef o MND o ystyried natur gynyddol y clefyd hwnnw a'r patrwm anrhagweladwy y mae'n ei ddilyn mewn unigolion. Ond mae'r rhaglen Hwyluso, pan gynyddodd Llywodraeth Cymru yn ddiweddar y cyllid a roddwn i awdurdodau lleol ar y sail y dylai fod yn rhad ac am ddim ar gyfer yr addasiadau bach a chanolig y mae'r rhaglen Hwyluso yn eu cefnogi, fod yn rhad ac am ddim i'r defnyddiwr, wedi cael ei chroesawu gan bron pob awdurdod lleol. Mae sir Fynwy yn un o'r awdurdodau hynny sydd wedi newid ei gweithdrefnau i sicrhau na chodir tâl ar bobl am y rheini, ac nad yw pobl yn gyfrifol am y grant addasiadau ffisegol a'r rhaglen addasu ymateb cyflym. Felly, rwy'n gobeithio, drwy gefnogi'r rhaglenni hynny sydd â symiau blynyddol sylweddol o arian, y bydd yn caniatáu i awdurdodau lleol fod â dull llwybr carlam ar gyfer pobl sy'n byw gyda chlefyd niwronau motor yng Nghymru. Mae ein ffigurau'n awgrymu bod tua 200 o bobl â'r cyflwr yng Nghymru ar unrhyw un adeg. Mae hynny'n golygu, i unrhyw awdurdod lleol, y dylech allu cael dull uniongyrchol a phersonol ar gyfer anghenion yr unigolyn hwnnw. Mae'r niferoedd yn ddigon bach i gael cynllun personol ar gyfer yr unigolyn hwnnw ac yna i wneud yr addasiadau ar garlam a all wneud cymaint o wahaniaeth iddo. Y Gwasanaeth 111 Llyr Gruffydd AC: 7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaeth ffôn 111 yn y gogledd? OQ57392 Mark Drakeford AC: Llywydd, cafodd gwasanaeth iechyd 111 Cymru ei lansio yn y gogledd ar gyfer unrhyw fater gofal iechyd brys ym Mehefin 2021. Rydyn ni’n buddsoddi adnoddau ychwanegol yn y gwasanaeth, o ran elfennau teleffoni ac elfennau ar-lein. Bydd hyn yn cryfhau’r gwasanaeth ar gyfer y gaeaf a thu hwnt, ac rydyn ni’n parhau i ddenu staff ansawdd uchel. Llyr Gruffydd AC: Diolch ichi am eich ateb, Prif Weinidog. Mae'n rhaid i mi ddweud, mae pryderon difrifol yn cael eu mynegi wrthyf nad yw'r gwasanaeth yn gallu ymdopi â maint y galw. Yr ymdeimlad ymhlith gweithwyr nyrsio proffesiynol yw bod y gwasanaeth yn cael ei orlethu, gyda chleifion yn gorfod aros oriau am ymateb sylfaenol. Dywedwyd wrthyf, er enghraifft, fod galwadau, yn ystod yr wythnosau diwethaf heb eu hateb, a bu'n rhaid i un galwr aros 600 munud i gael ei brysbennu. Nawr, mae angen anfon rhai o'r achosion hyn ar frys i'r adran achosion brys, ond oherwydd yr ôl-groniad, wrth gwrs, maen nhw'n cael eu colli a'u gohirio, i'r pwynt pan fo rhai yn rhoi'r gorau iddi. Nid oes unrhyw arbenigwyr pediatrig ar y gwasanaeth 111 yn y gogledd, felly mae achosion sy'n ymwneud â phlant, pan fyddant yn mynd drwodd yn y diwedd, yn cael eu cyfeirio'n syth at yr adran achosion brys. Yn yr un modd, nid oes gan y ganolfan iechyd meddwl 111 ddigon o arbenigedd seiciatrig i ymdrin â'r galw presennol. Felly, a wnewch chi, Prif Weinidog, dderbyn nad yw'r gwasanaeth 111, sydd bellach, fel y dywedwch chi, wedi disodli'r gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau arferol yn y gogledd, yn cyflawni fel y dylai, oherwydd dyna'r farn a fynegwyd i mi gan weithwyr iechyd proffesiynol pryderus iawn sydd â blynyddoedd o brofiad yn y maes? Mark Drakeford AC: Llywydd, fe fyddwn i bob amser eisiau gwrando ar bryderon a godwyd gan leisiau o'r fath. Fe wnes i ymholiad uniongyrchol i'r bwrdd iechyd, gan wybod y byddwn i'n cael y cwestiwn hwn heddiw, a dywedwyd wrthyf nad oedd pryderon o'r math hwnnw wedi'u codi naill ai gan y bobl sy'n gyfrifol am y gwasanaeth na chan y bobl sy'n ei ddarparu, er bod y system ym mhobman yng Nghymru o dan bwysau enfawr, ac rydym ar fin gofyn i'r bobl yr ydym ni'n dibynnu arnyn nhw i ddarparu'r gwasanaeth 111, mewn rhai achosion, i fod yn rhan o'r system frechu atgyfnerthu newydd. Felly, nid yw'n syndod—ni all fod yn syndod—i neb ganfod nad yw'r system bob amser yn gallu darparu ymateb mor amserol i bobl ag y byddai'n digwydd mewn amgylchiadau tawelach. Gofynnais i'r bwrdd iechyd hefyd a oedd yn cael cwynion gan y cyhoedd am ansawdd y gwasanaeth, ac fe ddywedon nhw wrthyf fod llai nag un o bob 1,000 o ddefnyddwyr y gwasanaeth wedi cwyno. Felly, nid wyf am eiliad yn diystyru'r pwyntiau pwysig y mae'r Aelod wedi'u codi—a byddaf yn sicrhau eu bod yn cael eu cyfleu i'r bwrdd iechyd—ond rwy'n credu bod mwy nag un adroddiad, mae'n debyg, ynghylch y ffordd y mae'r gwasanaeth yn ceisio darparu ymateb o safon i anghenion pobl yn y gogledd, er gwaethaf y galwadau gwirioneddol yr ydym yn eu rhoi ar y gwasanaeth iechyd yn wyneb y pandemig byd-eang. Y Lwfans Cynhaliaeth Addysg Luke Fletcher AS: 8. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y lwfans cynhaliaeth addysg? OQ57390 Mark Drakeford AC: Llywydd, mae ein hymrwymiad i barhau â'r lwfans cynhaliaeth addysg wedi'i nodi yn ein rhaglen lywodraethu. Mae adborth gan ddysgwyr yn pwysleisio pwysigrwydd y cymorth hwn i'w helpu i barhau â'u hastudiaethau. Caiff rheolau'r cynllun lwfans eu hadolygu bob blwyddyn cyn agor y cynllun i geisiadau. Luke Fletcher AS: Diolch am yr ymateb, Prif Weinidog. Luke Fletcher AS: Yn y lle cyntaf, rwy'n credu ei bod yn bwysig ailadrodd yr hyn y mae'r Prif Weinidog wedi'i ddweud wrth gydnabod bod cadw'r lwfans ar waith yng Nghymru yn darparu cymorth y mae mawr ei angen i ddysgwyr, ac rwy'n croesawu'r ymrwymiad i ddiogelu'r lwfans yn y rhaglen lywodraethu. Ond tybed a fydd y Llywodraeth yn adolygu'r lwfans ai peidio, yn benodol y swm a delir i fyfyrwyr a'r broses o wneud cais. Ar hyn o bryd, mae'r swm a delir i ddysgwyr yr un swm nawr ag yr oedd pan oeddwn i'n ei gael, ac mae wedi aros yn ei unfan, sef £30 yr wythnos, ers ei gyflwyno yn 2004. Yn y bôn, nid ydym wedi gweld cynnydd mewn bron i 20 mlynedd, felly nid yw wedi cymryd chwyddiant i ystyriaeth o gwbl. Hoffwn droi sylw'r Prif Weinidog at Goleg Pen-y-bont ar Ogwr, am eiliad yn unig, i ddangos pwynt arall, yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr, fel arfer mae ganddyn nhw rhwng 700 ac 800 o ddysgwyr addysg bellach llawn amser sy'n hawlio'r lwfans. Fodd bynnag, mae pryderon bod llawer mwy o fyfyrwyr angen mynediad. Fel y gwyddom, mae'r lwfans yn seiliedig ar brawf modd, ac mae llawer wedi dweud wrthyf fod y ffurflenni'n gymhleth ac yn anodd eu deall. Felly, byddwn yn gobeithio, wrth i'r Llywodraeth adolygu'r lwfans, y bydd y materion penodol hyn yn cael eu hystyried, wrth symud ymlaen. Mark Drakeford AC: Llywydd, diolch yn fawr i Luke Fletcher am y cwestiynau ychwanegol. Mark Drakeford AC: Wrth gwrs, rydym yn adolygu'r cynllun yn gyson. Yn ystod y flwyddyn olaf, cyn y pandemig—felly y flwyddyn olaf y byddech chi'n credu y byddai yn gymhariaeth deg—bryd hynny, cefnogwyd dros 20,200 o fyfyrwyr gan y cynllun lwfans cynhaliaeth addysg, ar gost o bron i £18 miliwn. Ac, ar ben hynny, mae Llywodraeth Cymru yn darparu £6 miliwn yn y gronfa ariannol wrth gefn, y gall colegau addysg bellach ei defnyddio, yn union er mwyn rhoi rhywfaint o hyblygrwydd ychwanegol ar ben natur prawf modd y lwfans ei hun. Rwyf wedi gweld adroddiad Sefydliad Bevan, wrth gwrs, am y ffaith pe baem yn codi'r lwfans i gynnal ei werth mewn termau real y byddai angen i ni fynd i £45. Byddai hynny'n costio £8.2 miliwn arall y flwyddyn, a phe baem yn codi'r trothwyon, i ystyried y pwynt yr oedd Mr Fletcher yn ei wneud am rai pobl ifanc nad oedden nhw'n gallu cael gafael arno, byddai hynny'n mynd â'r buddsoddiad ychwanegol sydd ei angen i dros £10 miliwn. Ac, mae arnaf ofn, ym mhob un o'r pethau hyn, fod yn rhaid gwneud dewisiadau. Mae'r rhaglen lywodraethu, gan gynnwys yr holl gytundebau sydd gennym yn y cytundeb cydweithredu rhwng ei blaid ef a fy mhlaid innau, wedi nodi mai'r prif flaenoriaethau ar gyfer buddsoddi yw prydau ysgol am ddim, gofal plant a'r ystod honno o ymrwymiadau eraill yr ydym wedi'u llunio gyda'n gilydd. Ac er y byddwn, wrth gwrs, yn parhau i adolygu'r lwfans, yr ymrwymiad presennol yw ei gynnal i mewn i dymor y Senedd hon, ac oni bai bod ein setliadau'n dod yn llawer mwy hael nag a nodwyd yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant, mae'n debyg mai dyna lle bydd rhaid i'n huchelgais aros. Gofal Iechyd Meddwl Mabon ap Gwynfor AS: 9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddarpariaeth gofal iechyd meddwl yn Nwyfor Meirionnydd? OQ57383 Mark Drakeford AC: Diolch yn fawr i'r Aelod am y cwestiwn. Mae cefnogi iechyd meddwl yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth hon, fel y nodir yn y cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl'. Rydyn ni’n cefnogi gwasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd drwy’r fframwaith ymyriad wedi’i dargedu a thrwy becyn sylweddol o gymorth strategol. Mabon ap Gwynfor AS: Diolch i'r Prif Weinidog am yr ateb hwnnw. Mae fy etholwr, David Graves, wedi bod yn aros i gael adolygiad annibynnol allanol i fewn i driniaeth a gofal ei fam ar ward Hergest ers dros dair blynedd. Gofynnwyd i Donna Ockenden, awdur adolygiad Ockenden, gynnal yr adolygiad gan y bwrdd iechyd yng Ngorffennaf 2018, ond eto ni ddilynodd y bwrdd y cais hwnnw i fyny. Mae hi, Donna Ockenden, wedi cynnig cynnal yr adolygiad unwaith eto. Dwi'n gwybod hynny am ei bod hi wedi dweud hynny wrthyf i yn bersonol rai wythnosau yn ôl. Yn 2018, fe ysgrifennodd y Gweinidog iechyd presennol at y Gweinidog iechyd ar y pryd yn gofyn ac yn mynnu bod y bwrdd yn cysylltu â Donna Ockenden i gynnal yr adolygiad annibynnol allanol yma. Rŵan bod adroddiad Holden wedi cael ei gyhoeddi, oni ddylwn i alluogi fy etholwr i fedru cau'r bennod drist yma yn ei fywyd trwy alluogi Donna Ockenden i gynnal yr adolygiad allanol annibynnol yma? A wnewch chi, Brif Weinidog, ymuno efo fi yn galw ar y bwrdd iechyd i gysylltu efo Donna Ockenden i'w chomisiynu i wneud y gwaith pwysig yma? Mark Drakeford AC: Diolch i Mabon ap Gwynfor am y pwyntiau yna. Wrth gwrs, dwi'n ymwybodol o achos David Graves, a dwi'n cydymdeimlo gyda fe am bopeth a oedd wedi digwydd a'r profiadau mae wedi'u cael. Dwi ddim wedi gweld dim byd oddi wrth Donna Ockenden, i ddweud y gwir. Os yw hi'n awgrymu rhywbeth, dydy hi ddim, fel dwi wedi gweld, wedi codi hynny gyda'r Llywodraeth. So, dwi ddim yn gallu cefnogi rhywbeth heb weld beth mae hi'n awgrymu. Os oes rhywbeth sydd wedi dod i mewn, wrth gwrs dwi'n fodlon edrych ar beth mae hi'n bwriadu ei wneud. Ac yn olaf, cwestiwn 10, James Evans. James Evans MS: A ydw i wedi fy nad-dawelu? Dwi'n credu 'mod i. Ydych. James Evans MS: Diolch Llywydd. Comisiynydd Cyn-filwyr James Evans MS: 10. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am benodi comisiynydd cyn-filwyr i Gymru? OQ57360 Mark Drakeford AC: Llywydd, mae penodi comisiynydd cyn-filwyr i Gymru yn fenter gan Lywodraeth y DU, a gyhoeddwyd heb unrhyw drafodaeth na hysbysiad ymlaen llaw gyda Llywodraeth Cymru. Serch hynny, yr wythnos hon mae'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn cyfarfod â'r Gweinidog dros Bobl Amddiffyn a Chyn-filwyr i drafod y penodiad arfaethedig hwn. James Evans MS: Diolch, Prif Weinidog. Mae Brycheiniog a Sir Faesyfed yn gymuned filwrol falch, a soniais yn ddiweddar yn y Siambr am y rhan bwysig y mae'r fyddin yn ei chwarae, yn gymdeithasol ac yn economaidd, yn fy etholaeth i. Rwy'n siarad yn rheolaidd â chyn-filwyr sy'n dweud wrthyf fod angen y swyddogaeth benodol hon yn ein system wleidyddol i ymdrin â'r materion a'r heriau y mae cyn-filwyr yn eu hwynebu. Mae'r Dirprwy Weinidog a minnau wedi cael trafodaethau cadarnhaol iawn ar y mater hwn. Prif Weinidog, a wnewch chi ymrwymo, os gellir goresgyn y problemau sy'n bodoli rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar y mater hwn, y bydd eich Llywodraeth yn gweithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y DU ar benodi comisiynydd cyn-filwyr i Gymru? Diolch, Llywydd. Mark Drakeford AC: Llywydd, roeddwn i'n falch iawn yn ddiweddar o dreulio noson ym marics Aberhonddu ac i gyfarfod â rhai staff ymroddedig iawn yno. Llywydd, nid oes unrhyw broblemau yn bodoli rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch y mater hwn; mae'n fenter gan Lywodraeth y DU yn gyfan gwbl, a gynigiwyd ganddi hi, a gyhoeddwyd ganddi hi, a ariennir ganddi hi. Wrth gwrs, byddwn ni'n gweithio gyda Llywodraeth y DU arni, ond mae'n bwysig iawn bod yn glir o le y daw'r fenter a lle mae'r fenter. Gobeithio y bydd y penodiad yn llwyddiant ac y bydd yn darparu pethau da i gyn-filwyr yng Nghymru. Ond y Llywodraeth sydd wedi ei chychwyn ac sy'n ceisio bwrw ymlaen â hi sydd â'r cyfrifoldeb i sicrhau y bydd hynny'n digwydd. Mae'r cyfarfod rhwng y Gweinidog yn Llywodraeth Cymru a'r Gweinidog dros Bobl Amddiffyn a Chyn-filwyr wedi'i gynllunio i sicrhau, pan fo gennym ran i'w chwarae, ein bod yn ymwybodol o hynny, a byddwn yn sicr yn gwneud hynny'n adeiladol. Diolch i'r Prif Weinidog. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw. Lesley Griffiths. Lesley Griffiths AC: Diolch, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig. Darren Millar AC: Trefnydd, mae aelod o'r gymuned Iddewig yng Nghymru wedi cysylltu â mi ynghylch mynediad i wefan Cadw. Mae'n ymddangos bod pobl sy'n ceisio cael mynediad i'r wefan yn Israel yn cael eu rhwystro rhag gwneud hynny. Nawr, gan ddefnyddio rhwydwaith preifat rhithwir, ceisiais edrych ar hyn fy hun, ac roedd yn ymddangos i mi fod gwefan Cadw yn gwbl hygyrch yn Ffrainc, yr Unol Daleithiau, Sbaen a llawer o wledydd eraill, ond nid i rywun â chyfeiriad darparwr rhyngrwyd yn Israel. Nawr, rwy'n deall y codwyd hyn gyda Cadw mor bell yn ôl â mis Medi ond, hyd yma, ni chymerwyd unrhyw gamau i fynd i'r afael â'r broblem. Byddwn i'n ddiolchgar iawn pe bai'r Gweinidog sy'n gyfrifol am Cadw yn edrych ar hyn ar frys i geisio mynd i'r afael ag ef, a rhoi esboniad i'r Senedd ynghylch yr hyn sydd wedi digwydd. Lesley Griffiths AC: Yn sicr byddaf i'n gofyn i'r Gweinidog sy'n gyfrifol am Cadw, Dawn Bowden, ymchwilio i hyn ac adrodd i'r Aelodau cyn gynted ag y bo'n bosibl. Delyth Jewell AC: Nos Sul, Trefnydd, roedd darllediad Boris Johnson ar deledu pobl Cymru yn dweud y byddai pawb yn derbyn trydydd brechiad erbyn diwedd y flwyddyn. Nawr, ar y pryd, roedd hwnna'n gyhoeddiad ar gyfer Lloegr yn unig, ac nid dyma'r tro cyntaf i'r Prif Weinidog wneud datganiad a gafodd ei ddarlledu ar setiau teledu yng Nghymru doedd ddim yn berthnasol i ni. Roedd yr un ym mis Mai lawer gwaeth, wrth gwrs, pan gyhoeddodd Mr Johnson bod y cyngor wedi newid o aros gartref i slogan amwys. Nid oedd y cyhoeddiad hwn yn weithredol yng Nghymru. Y cyngor yma oedd y dylai pawb barhau i aros gartref, ac nid oedd esboniad ar y pryd nad oedd y cyhoeddiad yn berthnasol i Gymru. Rwy'n credu ei fod yn amlwg bod angen newid yn y rheolau darlledu er mwyn atal gwybodaeth anghywir rhag gael ei chyhoeddi yma ac achosi dryswch, os nad perygl. Rwy'n falch felly fod y cytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth yn cynnwys ymrwymiad i edrych ar sefydlu awdurdod darlledu a chyfathrebu cysgodol i Gymru, gan y gallai'r corff hwn ystyried argymell newid o'r fath. A fyddai modd i'r Llywodraeth amserlennu datganiad ar hyn rywbryd yn y flwyddyn newydd, os gwelwch yn dda, er mwyn rhoi manylion am y camau nesaf? Lesley Griffiths AC: Diolch. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, pan fydd Prif Weinidog y DU yn gwneud y cyhoeddiadau hyn, ei fod yn ei gwneud yn glir iawn ei fod, ar yr achlysur penodol hwnnw, yn siarad ar ran pobl Lloegr, a dyna pam yr oedd yn dda iawn gweld ein Prif Weinidog ni yn annerch pobl Cymru mewn modd tebyg nos Lun. Mae'r pwynt yr ydych chi'n ei godi, fel yr ydych chi'n ei ddweud, o fewn y cytundeb cydweithredu rhwng plaid Delyth Jewell a fy mhlaid i, ac rwy'n siŵr, wrth i ni weithio drwy'r 46 o bolisïau, y bydd datganiad yn cael ei ddwyn gerbron y Senedd. Natasha Asghar AS: Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog addysg ynghylch newidiadau arfaethedig y Llywodraeth ar gyfer addysgu gwyddoniaeth mewn ysgolion yng Nghymru? O 2025 ymlaen, y sôn yw, na fydd ffiseg, cemeg a bioleg yn cael eu cynnig fel pynciau ar wahân mwyach. Yn hytrach, bydd disgyblion yn astudio ar gyfer un dyfarniad gwyddoniaeth integredig sy'n cyfuno'r tri phwnc gyda'i gilydd. Mae hyn wedi arwain at fynegi pryderon bod gwyddoniaeth yn cael, ac rwy'n dyfynnu, 'ei gorsymleiddio', ac mae gan athrawon lawer o bryder am y cwricwlwm newydd. Mae pynciau gwyddoniaeth ar wahân ffiseg, cemeg a bioleg wedi bod yn rhan o'r cwricwlwm ers blynyddoedd maith, ond mae'n ymddangos bod cynlluniau Llywodraeth Cymru i leihau'r cyfle i ddisgyblion yng Nghymru astudio'r gwyddorau penodol hyn yn gyffredin. Felly, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog yn gynnar y flwyddyn nesaf ar sut y mae'n bwriadu sicrhau bod safonau addysg gwyddoniaeth yn cael eu cynnal, ac na fydd ei gynnig yn golygu bod gwyddonwyr o Gymru yn y dyfodol, fel Dr Lyn Evans, a arweiniodd arbrofion ar y gwrthdrawydd hadron, yn dod yn fwyfwy prin? Diolch. Lesley Griffiths AC: Fel rhan o'r cyhoeddiadau sydd wedi eu gwneud, yn sicr nid yw gwyddoniaeth yn cael ei gorsymleiddio. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cryn dipyn o waith ac adnoddau i hyrwyddo pynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg ar draws pob oedran. Fel y gwyddoch chi, mae'r Gweinidog Addysg a'r Gymraeg yn gwneud llawer o ddatganiadau yn y Siambr, ac yn sicr ar y cwricwlwm ei hun, ac rwy'n siŵr y bydd yn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau os oes angen rhagor o wybodaeth. Rhys ab Owen AS: Trefnydd, hoffwn i gael datganiad ysgrifenedig, os gwelwch yn dda, ynglŷn â darpariaeth o barthau 20 mya mewn ardaloedd lled wledig, yn ogystal â sicrhau bod gyrrwyr yn cadw at y terfyn cyflymder hwnnw. Yn ddiweddar, dwi wedi cwrdd â chynrychiolwyr a thrigolion pentref Gwaelod-y-garth yn ngogledd-orllewin Caerdydd, ac maen nhw'n brwydro i sicrhau mwy o ddiogelwch i gerddwyr, yn enwedig yr henoed a phlant, sy'n gorfod cerdded trwy'r pentref i ddal y bws i'r ysgol uwchradd. Does yna ddim pafin mewn sawl man yn y pentref, ac, am resymau amlwg felly, maen nhw moyn parth 20 mya trwy'r pentref er mwyn ei wneud yn fwy diogel. Ond, fel y gwyddoch chi, Trefnydd, un peth yw cael y terfyn cyflymder; peth arall yw sicrhau bod gymaint o bobl â phosib yn cadw at y cyflymder hwnnw, ac mae hynny yn achosi pryder mewn llefydd ble mae parth 20 mya yn bodoli hefyd yng ngogledd-orllewin Caerdydd, yng Nghreigiau. Felly, a oes modd cael datganiad ysgrifenedig ynglŷn â'r materion hyn, plîs? Lesley Griffiths AC: Felly, rwy'n ceisio cofio pryd cawsom ni ddatganiad—rwy'n credu mai datganiad ysgrifenedig ydoedd—ar barthau 20 m.y.a. gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, ond nid wyf i'n credu bod hynny'n rhy bell yn ôl. Felly, nid wyf i'n ymwybodol o unrhyw ganllawiau na rheoliadau eraill sydd wedi dod i rym o ran y parthau 20 m.y.a. ond, os oes, byddaf yn gofyn i'r Dirprwy Weinidog wneud datganiad ysgrifenedig. Mark Isherwood AC: Rwy'n galw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar ddarparu cymorth i deuluoedd cyn-filwyr â chyflyrau iechyd meddwl. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Ymddiriedolaeth The Forces in Mind eu hadroddiad newydd, gan ddatblygu model y Gwasanaethau Dulliau Adferol Cyn-filwyr a Theuluoedd. Roedd hyn yn dilyn astudiaeth werthuso dair blynedd, a gafodd ei chynnal gan y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant ym Mhrifysgol Caerdydd, o wasanaeth newydd, y Gwasanaeth Dulliau Adferol Cyn-filwyr a Theuluoedd, neu RAVFS, sy'n defnyddio ymgysylltiad adferol i helpu cyn-bersonél y lluoedd arfog a'u teuluoedd i wella eu perthnasoedd, eu cyfathrebu a'u gweithredu teuluol. Mae'r gwasanaeth newydd arloesol hwn yn cael ei darparu gan elusen plant Cymru TGP Cymru, a chafodd ei ddatblygu ar y cyd â GIG Cyn-filwyr Cymru. Fel y mae'r Ymddiriedolaeth The Forces in Mind yn ei ddweud, 'ar hyn o bryd mae bwlch yn narpariaeth y cymorth i deuluoedd cyn-filwyr sydd â chyflyrau iechyd meddwl.' Mae eu datganiad polisi ar berthnasoedd yn amlinellu, er bod cymorth ar gael i gyn-filwyr, mae eu teuluoedd yn aml yn cael eu hanghofio. Maen nhw'n argymell cymorth mwy integredig i deuluoedd mewn gwasanaethau iechyd meddwl cyn-filwyr, a mwy o gyfranogiad gan y teulu wrth bontio o fywyd milwrol i fywyd teuluol. Mae canfyddiadau'r astudiaeth hon yn awgrymu y gallai gwasanaethau fel yr RAVFS helpu i ddarparu'r cymorth coll hwn a galw am gyflwyniad ehangach, efallai i boblogaeth GIG Cyn-filwyr Cymru, ar draws holl fyrddau iechyd lleol Cymru. Rwy'n galw am ddatganiad yn unol â hynny. Lesley Griffiths AC: Diolch. Rwy'n credu bod Mark Isherwood yn codi pwynt pwysig, a byddwch chi'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn darparu llawer iawn o wasanaethau ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus i'n cyn-filwyr, y mae'n amlwg bod arnom ni ddyled o ddiolchgarwch iddyn nhw. Rwy'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog gwasanaethau iechyd meddwl yn ymwybodol o'r adroddiad. Efallai pan fydd hi wedi ei ystyried y gallai hi gael sgwrs â'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, i weld a oes modd gwneud unrhyw beth arall. Heledd Fychan AS: Trefnydd, dwi'n siŵr bydd nifer o fy nghyd-Aelodau yn ymwybodol, ond mae'r rhestrau aros gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed i bobl gael asesiadau niwroddatblygiadol megis ADHD ac awtistiaeth yn gallu bod yn erchyll o hir, gyda nifer o bobl o fewn ffiniau bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg yn cysylltu â mi am gymorth ar ôl bod yn aros dros ddwy flynedd am asesiad. Golyga hyn fod gyda ni bobl ifanc yn eu harddegau sydd yn mynd i fod yn gorffen eu haddysg cyn eu bod yn cael asesiad, gan olygu eu bod yn colli allan yn llwyr ar gefnogaeth hanfodol ar amser tyngedfennol. A gawn ni ddiweddariad yn y tymor newydd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, neu ei dirprwyon, am y sefyllfa o ran CAMHS yng Nghanol De Cymru a beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau asesiadau o fewn amser rhesymol i blant a phobl ifanc? Nid yw dwy flynedd yn rhesymol, ac mae hyn yn effeithio nid yn unig ar blant a phobl ifanc a'u teuluoedd rŵan, ond hefyd ar eu dyfodol. Lesley Griffiths AC: Diolch. Wel, rwy'n cytuno; mae dwy flynedd yn amser hir ym mywyd unrhyw un, ond yn sicr ym mywyd person ifanc, ond byddwch chi'n ymwybodol o'r pwysau sylweddol ar ein GIG, nid yn unig yn eich rhanbarth chi ond ledled Cymru ac yn wir y DU. Rwy'n gwybod bod cryn dipyn o waith yn cael ei wneud gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ynghyd â'r byrddau iechyd, mewn cysylltiad â CAMHS, a bod cyllid yn cael ei gyflwyno hefyd. Altaf Hussain AS: Erbyn hyn, mae gennym ni gytundeb cydweithredu sy'n nodi diwygiadau sy'n swnio'n uchelgeisiol. Mae symud at wasanaeth gofal cenedlaethol yn syniad diddorol, a hoffwn i chi drefnu amser i'r Dirprwy Weinidog gofal cymdeithasol amlinellu'r hyn y mae gwasanaeth gofal cenedlaethol yn ei olygu, y canlyniadau yr ydym ni'n eu disgwyl i bobl, a rhan llywodraeth leol, sydd wedi brwydro'n galed ers blynyddoedd i ddarparu gwasanaethau o ansawdd da ar adeg o gyfyngiadau cyllidebol tynnach byth. A all y Gweinidog gadarnhau y bydd y gwasanaethau sydd wedi eu comisiynu gan lywodraeth leol y rhai mwyaf modern, neu a ydym ni'n wynebu ad-drefnu mawr o'r hyn y mae llywodraeth leol yn gyfrifol amdano? Lesley Griffiths AC: Diolch, ac rydych chi'n iawn, mae gwasanaeth gofal cenedlaethol yn rhan o'r cytundeb cydweithredu rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Lafur Cymru. Rwyf i o'r farn y bydd manteision enfawr iddo ar gyfer pobl y mae angen gofal arnyn nhw, a bydd yn amlwg yn cefnogi'r gweithlu ymroddedig sydd gennym ni yn y sector. Byddwch chi'n ymwybodol ein bod ni wedi cyhoeddi £42 miliwn o gyllid yn ddiweddar ar gyfer gofal cymdeithasol. Fe fydd hwnnw'n cael ei ddefnyddio i ehangu gwasanaethau gofal cymdeithasol cymunedol, bydd yn hwyluso'r broses o ryddhau cleifion ysbyty i leoliadau gofal ac yn cefnogi llesiant defnyddwyr ein gwasanaethau gofal cymdeithasol, a bydd â'r fantais hefyd o leihau aildderbyniadau i ysbytai ac yn rhyddhau pwysau ar niferoedd y gwelyau sydd ar gael. Rydym ni'n gwybod bod y galw am ofal cymdeithasol yn cynyddu yn ystod y gaeaf, ac unwaith eto ym mis Medi fe wnaethom ddyrannu £48 miliwn i gefnogi adferiad gofal cymdeithasol yng Nghymru. Ar hyn o bryd rydym ni'n edrych ar sut y byddwn yn datblygu'r gwasanaeth gofal cenedlaethol. Mae cyngor gan y fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol wedi llywio ein hystyriaethau, ac mae rhai awdurdodau lleol yn gweithio gyda'r sector annibynnol eisoes ar gynyddu cyflogau, ac rwyf i o'r farn bod hynny i'w annog hefyd i raddau helaeth iawn. Diolch i'r Trefnydd. 3. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Llunio Dyfodol Cymru—Pennu cerrig milltir cenedlaethol, dangosyddion cenedlaethol diwygiedig a chyhoeddi adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol Ac felly rydyn ni'n symud ymlaen i'r eitem nesaf, sef eitem 3. Hwn yw'r datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar lunio dyfodol Cymru, sef pennu cerrig milltir cenedlaethol, dangosyddion cenedlaethol diwygiedig a chyhoeddi adroddiad 'Tueddiadau'r Dyfodol'. Rwy'n galw ar y Gweinidog felly i wneud y datganiad yma. Jane Hutt. Jane Hutt AC: Diolch, Llywydd. Trwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'i saith nod llesiant, mae gennym ni fframwaith ar gyfer dyfodol Cymru: Cymru gyfiawn yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol, a Chymru y byddem ni'n dymuno ei rhoi yn etifeddiaeth i'n plant a'n hwyrion. Mae gan bob un ohonom ni ran mewn amddiffyn a gwella ein cenedl. Elfen bwysig o hynny yw ystyried sut yr ydym ni am osod y sylfeini gyda'n gilydd yn awr ar gyfer y Gymru well yr ydym ni'n ei dymuno yn y dyfodol. I Lywodraeth Cymru, mae ein gwaith ni o lunio rhaglen waith Cymru yn y dyfodol yn ymwneud â'n symud ni'n agosach at Gymru sy'n well i bawb. Rydym ni'n gosod cerrig milltir cenedlaethol yng nghyd-destun ein hadferiad parhaus ar ôl pandemig COVID-19 yn ogystal ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau Cymru gryfach, wyrddach a thecach. Ym mis Chwefror, fe wnaethom ni ymrwymo i fap ffyrdd ar gyfer pennu cerrig milltir cenedlaethol cyntaf Cymru, gan ddiweddaru'r dangosyddion cenedlaethol a chyhoeddi adroddiad 'Tueddiadau'r Dyfodol'. Rwy'n falch iawn o fod yn siarad heddiw wrth i ni gyflawni'r tri ohonyn nhw a chyhoeddi ein hymateb i'r ymgynghoriad a'n dadansoddiad annibynnol. Uchelgais y Llywodraeth yw i'r cerrig milltir cenedlaethol hyn ysgogi gweithredu cydweithredol a bod yn fesur allweddol o gyflymder a graddfa'r newid sydd ei angen mewn nifer o feysydd allweddol. Yn eu hanfod, eu bwriad yw ysgogi cynnydd sylweddol o ran mynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldeb, ac maen nhw'n adlewyrchu ein penderfyniad ni i wneud hyn. Yn dilyn ein rhaglen ymgysylltu â rhanddeiliaid ac o ganlyniad i'r ymatebion i'n proses ymgynghori ffurfiol, rydym ni wedi mireinio ein cerrig milltir cenedlaethol a'n cyfres o ddangosyddion cenedlaethol, ac rydym ni wedi eu cyflwyno heddiw. Dirprwy Lywydd, rydym ni'n ymrwymo i ddileu'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau ac o ran anabledd ac ethnigrwydd erbyn 2050. Mae gwaith teg a chyfiawnder cymdeithasol wrth wraidd ein gweledigaeth ni o Gymru sy'n cydnabod bod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym myd gwaith yn hanfodol i gymdeithas sy'n galluogi pobl i gyflawni eu potensial heb unrhyw ystyriaeth o'u cefndir na'u hamgylchiadau. Rydym ni'n gosod targed o 75 y cant o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru i fod â chymwysterau lefel 3 neu uwch erbyn 2050. Rydym ni'n gwybod bod pobl sydd â chymwysterau a sgiliau lefel uwch yn fwy tebygol o fod mewn cyflogaeth barhaus, gydag enillion a chyflog mwy, yn enwedig i'r unigolion hynny o ardaloedd difreintiedig. Oherwydd hyn, rydym ni hefyd yn bwriadu lleihau canran yr oedolion o oedran gweithio nad oes ganddyn nhw ddim cymwysterau i 5 y cant neu'n is ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru erbyn 2050. Mae mynd i'r afael ag anghydraddoldebau sylweddol o'r math hwn rhwng gwahanol ardaloedd yng Nghymru yn un o uchelgeisiau sylfaenol y Llywodraeth hon a byddwn ni'n mesur cynnydd hirdymor drwy gyfrwng y cerrig milltir cenedlaethol. Bydd ein carreg filltir genedlaethol sy'n canolbwyntio ar sicrhau y bydd o leiaf 90 y cant o bobl ifanc 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050 yn mesur y camau sydd wedi eu cymryd i gefnogi pobl ifanc yn ystod cyfnod tyngedfennol yn eu bywydau. Rydym ni'n gwybod bod cyfnodau o anweithgarwch economaidd yn gynnar ym mywyd gwaith unigolyn yn cael effaith niweidiol, a bod pobl ifanc wedi bod yn arbennig o agored i newidiadau o ran cyflogaeth yn sgil pandemig COVID-19. Rydym ni'n awyddus i weld pawb yng Nghymru yn cael y cyfle i fod mewn gwaith cynaliadwy o ansawdd da heb unrhyw ystyriaeth i'w hoedran nac ymhle maen nhw'n byw. Dyna pam rydym ni'n ymrwymo i ddileu'r bwlch rhwng y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru a'r DU erbyn 2050, gan ganolbwyntio ar waith teg a chodi cyfranogiad grwpiau nad oes ganddyn nhw gynrychiolaeth ddigonol yn y farchnad lafur. Fel Llywodraeth, mae'n rhaid i ni weithredu bob amser i ddiogelu iechyd a llesiant pobl Cymru a'n huchelgais ni yw dileu'r cyfan sy'n rhwystro plant rhag cael y dechrau gorau posibl i'w bywydau o ran iechyd. Rydym ni'n gwybod hefyd fod arferion da mewn plentyndod yn aml yn datblygu yn ddewisiadau iach gwell ymysg oedolion. Dyna pam rydym ni'n gosod targed i gynyddu canran y plant sydd â dau neu fwy o arferion iach i 94 y cant erbyn 2035 a mwy na 99 y cant erbyn 2050. O feddwl am ein cyfrifoldeb byd-eang ehangach, rydym ni'n ymrwymo i sicrhau y bydd Cymru dim ond yn defnyddio ei chyfran deg o adnoddau'r byd erbyn 2050. Mae hon yn elfen bwysig o'n gweledigaeth ar gyfer datblygu Cymru gynaliadwy a chadarn ac o'n hymateb parhaus ni i'r argyfwng hinsawdd a natur, gan amddiffyn ein hadnoddau naturiol a mwyaf gwerthfawr. Rydym ni'n addo cyflawni allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net yng Nghymru erbyn 2050 ac mae'r garreg filltir genedlaethol hon yn adleisio'r targedau presennol yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a'i nod yw annog a galluogi pawb yng Nghymru i chwarae eu rhan wrth leihau allyriadau, gan ein bod ni'n gwybod y bydd newidiadau cymdeithasol ac ymddygiadol yn hanfodol i gyflawni ein hamcanion. Byddwn ni hefyd yn parhau i archwilio sut y gellid cyrraedd y targed pwysig hwn yn gyflymach byth. Rydym ni'n mynegi o'r newydd ein hymrwymiad i ddiogelu a meithrin twf y Gymraeg drwy sefydlu carreg filltir genedlaethol i gefnogi miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae'r Gymraeg yn rhan annatod o'n hunaniaeth a'n diwylliant ni yng Nghymru ac rydym ni wedi ymrwymo i wneud popeth yn ein gallu i weld yr iaith yn ffynnu a'i hamddiffyn hi. Ochr yn ochr â'r cerrig milltir cenedlaethol, rwyf i hefyd wedi gosod cyfres wedi ei diweddaru o ddangosyddion cenedlaethol gerbron y Senedd sy'n mesur cynnydd Cymru tuag at y nodau llesiant. O ganlyniad i'r adborth a gawsom yn yr ymgynghoriad, mae'r rhain yn cynnwys mesurau newydd o ran cyfiawnder, teithio, costau tai a chynhwysiant digidol—bob un ohonyn nhw'n faterion y dywedwyd wrthym ni eu bod nhw'n chwarae rhan bwysicach yn ein llesiant cenedlaethol yn awr nag yn y cyfnod cyn y pandemig. Bydd y gyfres estynedig hon o ddangosyddion cenedlaethol yn parhau i'n helpu ni i fesur cynnydd tuag at y saith nod llesiant a'n taith ni tuag at fod yn Gymru decach, wyrddach, a mwy llwyddiannus. Mae heddiw hefyd yn nodi cyhoeddiad rhifyn diweddaraf adroddiad 'Tueddiadau'r Dyfodol'. Mae'r adroddiad hwn yn dwyn ynghyd mewn un man hygyrch wybodaeth awdurdodol am y tueddiadau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol allweddol sy'n debygol o effeithio ar lesiant Cymru yn y dyfodol. Gall gosod y cerrig milltir cenedlaethol, diweddaru ein dangosyddion cenedlaethol, a bwrw golwg o'r newydd ar dueddiadau'r dyfodol sy'n llywio Cymru sicrhau bod y nodau llesiant yn parhau i fod yn berthnasol i fywydau pobl yn awr a'r heriau yr ydym ni'n eu hwynebu heddiw ac yn y dyfodol. Byddwn ni'n rhoi'r diweddariad cyntaf ar y cynnydd tuag at y cerrig milltir cenedlaethol yn adroddiad llesiant Cymru y flwyddyn nesaf, a byddwn yn parhau â'r sgwrs ynglŷn â cherrig milltir cenedlaethol yn 2022 gyda datblygiad yr ail set o gerrig milltir. Er mwyn i'r cerrig milltir cenedlaethol fod yn llwyddiannus, mae hi'n hanfodol i bob corff cyhoeddus ystyried y ffordd orau y gall gyfrannu atyn nhw. Maen nhw'n rhan bwysig o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ac maen nhw'n gosod y sylfeini ar gyfer llwyddiant. Dirprwy Lywydd, rwy'n falch iawn o fod yn cyflwyno'r cerrig milltir cenedlaethol hyn i'r Senedd; cerrig milltir sydd â chyfiawnder cymdeithasol, trechu tlodi, a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb yn ganolbwynt iddyn nhw. Rwy'n falch ein bod ni, gyda'n gilydd, yn llunio Cymru sy'n fwy cyfiawn, cyfartal a ffyniannus. Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair. Llefarydd y Ceidwadwyr, Joel James. Joel James MS: Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch, Gweinidog, am eich datganiad chi heddiw. Hoffwn i ddechrau drwy wneud ychydig o sylwadau am y don gyntaf o gerrig milltir yn y gobaith o ganolbwyntio ar y sail resymegol y tu ôl iddyn nhw ac yn y gobaith o ddarganfod pam y mae'r Gweinidog o'r farn bod y cerrig milltir hyn yn rhai uchelgeisiol, o ystyried yr amserlen 30 mlynedd. Joel James MS: Yn gyntaf, Gweinidog, o ran y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, y mae gennych chi nod i'w ddileu erbyn 2050, mae'r data sy'n cael eu defnyddio yn aml—ac sydd edi eu defnyddio yn adroddiad 'Llesiant Cymru: 2021' hyd yn oed—yn fesur sy'n seiliedig ar enillion canolrifol llawnamser fesul awr. Mae'r mesur syml hwn yn coladu cyflogau dynion a menywod ac yn eu rhannu â 37 i roi cyfradd fesul awr. Yna mae'n ychwanegu data cyflog fesul awr sydd ar gael ar gyfer nifer bach o fusnesau yn unig. Trwy gynnwys y data hyn, rydych chi'n cael eich canolrif neu werth canol y set ddata. Ond, y broblem o ran defnyddio'r data hyn yw nad yw hynny'n adlewyrchu cymhlethdod y cysylltiadau cyflogau ar draws sector cyflogedig y gymdeithas. Er enghraifft, nid yw'n ystyried profiad, lefel cymhwystra, hawliau buddion ychwanegol, cysylltiadau pensiwn, ac nid yw'n ystyried proffidioldeb busnesau na safonau'r diwydiant hyd yn oed wrth gymharu cyflogau rhwng swyddogion gweithredol cwmnïau. At hynny, nid yw'n ystyried ymddygiad y rhywiau. Er enghraifft, a yw dynion yn fwy tebygol o deithio'n bellach na menywod i gael gwaith, ac felly'n gallu bod â swyddi sy'n talu'n well? Beth am amrywiadau daearyddol? A yw'r rhai sy'n byw ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr yn teithio i Loegr am waith ac felly'n cael cyflogau cyfartalog uwch? A yw menywod yn fwy tebygol o newid eu swyddi na dynion ac, o ganlyniad, yn cael mwy o gyflogaeth ar lefel mynediad? Gall y rhestr fynd yn ei blaen. Ond, yr hyn yr ydym ni yn ei wybod yw bod menywod yn fwy tebygol o fod yn gweithio llai o oriau, yn cefnogi teuluoedd, ac yn cael amser i ffwrdd i gael plant a bod hynny'n cynyddu'r bylchau rhwng y rhywiau yn sylweddol. Ond pa ystyriaeth sy'n cael ei roi o ran a yw hynny'n cael ei adlewyrchu gan ddynion yn y teulu ai peidio, fel gweithio oriau hirach, neu drwy newid swyddi ar gyfer cyflogau uwch i gefnogi eu teuluoedd? Yn y pen draw, mae angen i ni wybod sut y caiff hyn ei ystyried. Y broblem o ran defnyddio'r garreg filltir hon, yn seiliedig ar ddata crai o'r fath, yw bod y Llywodraeth a chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn cyflyru'r gymdeithas—yn enwedig menywod yn y gymdeithas—i feddwl eu bod nhw'n hanfodol yn cael llai o dâl am wneud yr un gwaith â dynion. Ac eto, nid oes gennych chi unrhyw dystiolaeth sylweddol sy'n deall y cymhlethdod o ran y cyflog rhwng y rhywiau, o'r hyn y gallaf i ei weld, i gefnogi hynny mewn gwirionedd. Rwy'n pryderu, wrth barhau i hyrwyddo cau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau heb y data angenrheidiol i gefnogi hynny, eich bod chi mewn gwirionedd yn gwneud mwy o ddrwg na da, drwy greu ymraniad nad yw'n bodoli. O'ch dadansoddiad amrwd iawn chi, rydych chi wedi adrodd bod menywod yn cael eu talu 1.5 y cant yn fwy, ar gyfartaledd, na dynion am waith rhan-amser, sy'n dangos nad yw menywod yn y gweithle yn cael llai o dâl yn ddefodol. Ond, fel y nodwyd eisoes, mae yna ffactorau llawer iawn mwy cymhleth ar waith, y mae angen eu deall. Felly, o ystyried yr amrywiadau parhaus yn y data, efallai eich bod chi'n cyrraedd eich targedau carreg filltir eisoes, ond hyd nes y byddwch chi wedi mesur gwahaniaethau cyflog rhwng y rhywiau yn gywir a hynny'n adlewyrchu'r cymhlethdod o ran y rhywiau yn y gweithle, ni fyddwch chi byth yn gwybod, sy'n golygu yn y pen draw fod cynnwys y garreg filltir hon yn ddibwrpas. Yn fy nhyb i, byddai cael cyfradd cyflogaeth o 60 y cant ar gyfer pobl anabl yn garreg filltir fwy ystyrlon. Nawr, byddai honno yn garreg filltir uchelgeisiol. I osgoi amheuaeth, hoffwn i dynnu sylw—ac rwy'n awyddus i'w roi ar gofnod—fy mod i'n credu yn angerddol y dylai pawb gael cyflog cyfartal am waith cyfartal, ni waeth beth fo'u rhywedd, eu hil, eu hanabledd neu eu crefydd. Rwy'n gwneud y sylwadau hyn gan fy mod i, yn anffodus, yn gweld y posibilrwydd y gallai'r Llywodraeth hon ddechrau cynllunio deddfwriaeth yn y dyfodol i gyrraedd ei thargedau, heb eu deall nhw'n iawn. Yn ail, i ymhelaethu ar y ddadl hon, hoffwn i sôn yn fyr iawn am bwynt sydd wedi ei nodi yn adroddiad 'Llesiant Cymru: 2021', yn yr adran sy'n ymwneud â'r rhywiau, ynglŷn ag addysg. Adroddir bod cyfran uwch o ferched na bechgyn yn cyflawni'r deilliannau disgwyliedig o'r cyfnod sylfaen hyd at gyfnod allweddol 3. Mae merched yn dal i gael gwell canlyniadau addysgol mewn TGAU hefyd, ac mae cyfran uwch ohonyn nhw, rhwng 16 a 18 oed, yn aros mewn addysg amser llawn o'u cymharu â bechgyn. Mae hyn yn wir hefyd am y rhai rhwng 18 a 24 oed. Yr hyn sy'n fy mhoeni i, a llawer iawn o bobl eraill rwy'n amau, yw a yw gwella addysg merched yn dod ar draul addysg bechgyn ai peidio. Mewn gwirionedd, pe byddai cydbwysedd rhwng y rhywiau, dylech chi bob amser gweld cyfran ychydig yn uwch o ferched neu fechgyn yn ennill graddau uwch mewn unrhyw flwyddyn benodol, ond dros gyfnod penodedig, byddai'r gwahaniaethau hynny'n diflannu ar gyfartaledd. Fodd bynnag, mae'r ffaith eich bod chi'n adrodd am y duedd hon yn golygu ei bod hi'n ymddangos bod dulliau addysgu wedi newid o bosibl i ffafrio merched yn hytrach na bechgyn. Yn bersonol, byddai hi'n dda gen i weld dileu'r bwlch cyrhaeddiad addysgol hwn yn ail don cerrig milltir cenedlaethau'r dyfodol. Yn drydydd ac yn olaf, rwy'n credu bod ceisio lleihau niferoedd y bobl ifanc 16 i 24 oed nad ydyn nhw mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant yn nod rhagorol. Rwyf i o'r farn bod grymuso pobl ifanc ag egwyddorion gwaith yn hanfodol i'w helpu nhw i gyrraedd eu potensial gorau. Fel gwyddom ni, mae astudiaethau wedi dangos y gall amser a gaiff ei dreulio fel NEET fod ag effaith niweidiol ar iechyd corfforol a meddyliol, a'i fod yn cynyddu'r tebygolrwydd o ddiweithdra, cyflogau isel neu waith o ansawdd isel yn ddiweddarach mewn bywyd. Ond y targed yr ydych chi wedi ei osod ar gyfer 2050 yw lleihau niferoedd y NEET i ddim ond 10 y cant ar gyfer pobl ifanc 16 i 24 oed, ac o gofio mai targed 30 mlynedd yw hwn, nid oes fawr o uchelgais yma, yn arbennig o gofio bod y niferoedd presennol o NEET eisoes ar 10.6 y cant yn Lloegr. Gweinidog, nid yw bod â tharged o 10 y cant yn garreg filltir mewn gwirionedd, onid yw hi? Mae'n weddol ddiystyr, o gofio mai'r sefyllfa bresennol yng Nghymru, o 2020, yw bod 13.9 y cant o bobl 16 i 24 oed— Mae angen i chi ddirwyn i ben nawr. Joel James MS: —yn NEET. Unwaith eto, o ystyried nad yw'r data samplu yn ystyried cymhlethdod y data mewn modd cywir, er enghraifft o ran symudedd cymharol pobl ifanc a'r rhai sy'n mynychu addysg bellach, colegau neu ysgolion annibynnol, fe allai canran y bobl ifanc 16 i 24 oed sy'n NEET mewn gwirionedd fod yn llawer is eisoes ac, mewn theori, efallai fod wedi cyrraedd y targed yn barod. Mae hyn yn awgrymu nad oes gan y Llywodraeth lawer o syniadau, ei bod yn pennu targedau y mae'n rhagweld y gall eu cyrraedd yn hawdd fel na ellir ei beirniadu am fethu, ac yn y pen draw, y cyfan y mae'n ei wneud yw esgus gwella bywydau unigolion ledled y wlad. Diolch, Dirprwy Lywydd. A gyda hynny mewn golwg, hoffwn i achub ar y cyfle i ddymuno pen-blwydd hapus iawn i'r Gweinidog, gan fy mod i'n credu mai yfory yw hynny. Diolch i chi. Jane Hutt AC: Diolch yn fawr iawn i chi, Joel, a diolch i chi am eich dymuniadau da. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n rhoi pam yr ydym ni'n datblygu'r cerrig milltir cenedlaethol hyn yn ei gyd-destun. Maen nhw'n pennu ein disgwyliadau o ran cynnydd yn ôl y dangosyddion cenedlaethol, ac maen nhw yn ein helpu i ddeall maint a chyflymder presennol y newid, ac a ydym ni ar y trywydd iawn. Rwy'n credu mai'r peth pwysicaf am ein sefyllfa ni heddiw, wrth i mi wneud y datganiad hwn, yw ei bod hi'n deillio o ymgynghori helaeth, ymgynghoriad ag ymateb da. Rwy'n credu eu bod nhw i gyd wedi eu cyhoeddi heddiw—rydych chi wedi gweld yr ymatebion i'r ymgynghoriad. Mae'r ymgynghoriad hwnnw yn nodi cynigion ar gyfer y naw carreg filltir genedlaethol yr ydym ni'n eu hystyried heddiw, sy'n cynorthwyo Gweinidogion Cymru, a phob corff cyhoeddus hefyd, i asesu cynnydd tuag at y nodau llesiant. Roedden nhw'n sylwadau diddorol, yn fy marn i, ynghylch dileu'r bwlch cyflog—sylwadau diddorol sydd, o ran yr ymatebion i'r ymgynghoriad, yn awgrymu bod cefnogaeth frwd iawn i amcan a phwyslais y garreg filltir genedlaethol hon, gyda 95.4 y cant o'r ymatebion yn cytuno â'r ymateb cyffredinol. Rwy'n credu os byddwch chi'n edrych ar ganlyniad yr ymgynghoriadau, daeth yr ymatebion o'r trydydd sector, er enghraifft—daeth cyfran fawr o'r trydydd sector, tua thraean o'r ymatebion, daeth y sector cyhoeddus, yn ogystal ag unigolion, addysg uwch, undebau llafur, amrywiaeth eang o randdeiliaid eraill ymlaen i ymateb i'r ymgynghoriad. Ond byddaf i yn dweud, o ran y materion penodol ynglŷn â'r bwlch cyflog, fod hyn yn bwysig iawn o ran dileu'r bwlch cyflog, ac mae hi'n bwysig ei fod ymwneud ag ethnigrwydd yn ogystal ag anabledd. Fe wnaethoch chi ganolbwyntio ar faterion y rhywiau. Rwyf i o'r farn ei fod hefyd yn ymwneud â chydnabod ein bod ni'n gweithio i sicrhau data mwy cadarn a dibynadwy ar y bwlch cyflog, ac yn enwedig ar gyfer yr holl nodweddion gwarchodedig, gan fy mod i'n gwybod, fel y gwnaethoch chi ei ddweud, eich bod chi'n awyddus i sicrhau bod hyn yn ymwneud â chael ymateb teg a chyfiawn i'r garreg filltir hon o ran dileu bylchau cyflog, sy'n hanfodol bwysig fel y gwyddom ni. Byddwn ni bob amser yn ailedrych ar gerrig milltir wrth i ddata ddod ar gael, yn arbennig o ran y nodweddion gwarchodedig. Mae hyn yn ymwneud ag ymdrechu ar y cyd. Ie, i lawer, efallai fod 2050 yn ymddangos yn bell i ffwrdd, ond mae'n gymaint o fater gan fod y bwlch cyflog mor sefydledig fel na allwn ei ddatrys dros nos. Nid oes gennym ni'r holl ysgogiadau polisi, fel cyfraith cyflogaeth, sydd wedi ei chadw, ac mae yna lawer iawn o ffactorau economaidd-gymdeithasol ehangach hefyd o ran cyflawni'r cerrig milltir. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n falch iawn o glywed ein bod ni'n sefydlu uned data cydraddoldeb, ac yn gweithio gyda dadansoddwyr eraill i ystyried gwella'r dystiolaeth o ran y data sydd eu hangen. Ond byddwn i'n dweud, yn enwedig o ran dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus, fod adolygu hynny, gan weithio gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, EHRC Llywodraeth y DU, yn hanfodol bwysig. Rydych chi wedi canolbwyntio ar y rhywiau. Ym mis Ebrill 2021, roedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru, ar sail enillion canolrifol llawnamser fesul awr, yn 5 y cant, a heb newid ers 2020. Ar gyfer gweithwyr rhan-amser yng Nghymru, y bwlch cyflog rhwng y rhywiau oedd 0 y cant, ac o'r 11 o wledydd a rhanbarthau yn y DU lle mae dynion yn ennill mwy na menywod, Cymru sydd â'r bwlch cyflog lleiaf ond un. Ond mae gennym ni fwlch cyflog mawr o ran anabledd, ac rwy'n siŵr eich bod chi'n cydnabod hynny. Yn ogystal â hynny, mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â bwlch cyflog ethnigrwydd hefyd. Rwy'n falch eich bod wedi canolbwyntio, hefyd, ar y garreg filltir i gael o leiaf 90 y cant o bobl ifanc 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050. Dyma le mae angen i ni edrych hefyd ar y rhagolygon nid yn unig ar gyfer cynllun cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd yn 2018, ond gan gydnabod hefyd y bydd cyflogadwyedd ein pobl ifanc yn gwella'n fawr o ganlyniad i'r warant i bobl ifanc ar draws yr holl nodweddion gwarchodedig hefyd. Ond yr hyn sy'n bwysig yw ein bod ni'n edrych ar y gyfres o arolygon blynyddol y boblogaeth, a gaiff ei dadansoddi yn ôl oedran ac anabledd, ac edrych ar hyn o ran rhywedd, oedran, anabledd, ethnigrwydd. Mae'n rhaid i ni edrych ar y materion o ran cydraddoldeb, hefyd, i gyflawni hyn. Byddwn ni'n edrych, rwy'n siŵr, ar adroddiad 'Llesiant Cymru' y flwyddyn nesaf, oherwydd bydd hwnnw wrth gwrs yn dechrau nodi a ydym ni'n gweld unrhyw gynnydd a sut yr ydym yn gwneud cynnydd—a hynny ar gyfer Cymru gyfan; ein holl gyrff cyhoeddus—o ran y cerrig milltir cenedlaethol hyn. Llefarydd Plaid Cymru, Sioned Williams. Sioned Williams MS: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r dyhead i greu Cymru gyfiawn yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol, y weledigaeth y mae'r Gweinidog wedi ei datgan, yn llywio'r fframwaith sydd wedi ei ategu gan y cerrig milltir a'r dangosyddion sydd wedi eu cyhoeddi heddiw, ac mae'n rhywbeth yr wyf i'n siŵr y gall Aelodau o bob plaid gytuno arno. Ond mae'r dyfodol, wrth gwrs, yn ansicr, gyda'r pandemig sy'n parhau o hyd ac effeithiau newid yn yr hinsawdd, er enghraifft, dau ffactor yn unig sy'n newid ein rhagolwg ar y dyfodol hwnnw a'n gallu i'w llunio. Os mai nod y cerrig milltir cenedlaethol yw pennu llwybr ar gyfer cynnydd Cymru, gan ddefnyddio'r mesurau a fydd yn sicrhau bod y polisïau y mae'r Llywodraeth yn eu gwneud yn gweithio tuag at y Gymru gryfach, decach a gwyrddach honno, yna mae'n rhaid i ni eu gweld nhw nid yn unig yn llywio polisi ond yn amlwg yn y canlyniadau hefyd. Dylai nod y cerrig milltir cenedlaethol fod i ddangos i bobl Cymru pa gynnydd y mae angen ei wneud o ran y nodau llesiant a'r hyn sy'n cael ei gyflawni, a bod yn fodd i gyfathrebu hefyd sy'n caniatáu i'r cynnydd hwnnw fod yn amlwg yn ein bywydau bob dydd. Pan fo cymaint o bolisïau'r Llywodraeth yn cael eu cyflawni gan awdurdodau lleol, efallai mai'r darlun lleol yn hytrach na'r un cenedlaethol sydd fwyaf ystyrlon yn aml. Mae'r garreg filltir genedlaethol i greu 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, er enghraifft, sydd wedi ei mynegi eto heddiw, yn cael ei thanseilio mor aml gan gynllunio gwael a diffyg uchelgais ar lefel leol o ran darpariaeth addysg Gymraeg. Mae'r Gweinidog wedi cydnabod yr anghydraddoldebau sylweddol rhwng gwahanol ardaloedd Cymru, ac mae yna wahaniaethau hefyd o ran y cyflawni sy'n cyfrannu at hyn. A allai setiau data lleol o fewn y dangosyddion ganiatáu i bobl gymharu a chyferbynnu perfformiad yn eu hardaloedd nhw eu hunain a gadael iddyn nhw farnu a yw'r ymdrechion cenedlaethol i lunio'r Gymru y mae llawer ohonom ni'n dymuno ei gweld yn arwain at newid yn eu cymunedau lleol? A wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni sut y caiff y darlun lleol, neu sut y gallai'r darlun lleol, gael ei adlewyrchu yn y dangosyddion a'r rhaglen waith ehangach i Lywio Dyfodol Cymru? Rwy'n croesawu'r ymrwymiad o ran y targed sero net, sydd wedi ei gynnwys, wrth gwrs, yn y cytundeb cydweithredu â Phlaid Cymru, ac rwy'n annog i'r gwaith i gyflymu'r targed hwnnw y soniodd hi amdano fod â blaenoriaeth lawn, gan gynnwys datganoli rhagor o bwerau a allai ein galluogi i'w gyrraedd yn gyflymach, oherwydd efallai mai dyma darged pwysicaf ein hoes ni. Rwyf i hefyd yn croesawu'r ymgais i fynd i'r afael â mater y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ac anghydraddoldeb mewn cyflogaeth. Er hynny, gan mai un o'r nodau llesiant yw Cymru fwy cyfartal ac mae lles menywod yn ymestyn y tu hwnt i gynhwysiant economaidd, a allai'r Gweinidog amlinellu sut y caiff diogelwch menywod a'r strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol eu cynnwys yn adroddiad 'Tueddiadau'r Dyfodol', polisïau'r dyfodol, a'r dull hwn o lywio dyfodol Cymru? Mae'r bwlch cyflogaeth i bobl anabl yng Nghymru wedi aros o gwmpas 30 y cant ers dros ddegawd. Yn y cyfamser, mae tuedd i weithwyr anabl ennill llai na phobl nad ydyn nhw'n anabl, ac mae hyn wedi aros yn yr unfan ers nifer o flynyddoedd. Rwy'n falch o glywed y Gweinidog yn cyfeirio at hynny heddiw yn ei datganiad a'i hymateb i Joel James, oherwydd rydym ni'n gwybod bod pobl anabl yn wynebu costau byw llawer uwch oherwydd eu hanableddau neu eu cyflyrau, sy'n gwneud y nod hwn o ddileu'r bwlch cyflog anabledd yn bwysicach byth. O gofio mai dim ond yn 2019 y cafodd y bwlch cyflog anabledd ei ychwanegu at ddangosyddion llesiant cenedlaethol Cymru, beth mae'r Llywodraeth yn bwriadu ei wneud i ddileu'r mater treiddiol hwn yn unol â'r nodau llesiant cenedlaethol? Ym mis Rhagfyr 2020, canfu'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol nad oedd ystyriaethau ar gyfer pobl anabl yn cael eu cynnwys mewn strategaeth a pholisi trafnidiaeth yng Nghymru. Felly, rwy'n falch o glywed bod mesurau newydd ynglŷn â theithio wedi eu cynnwys o ganlyniad i adborth yr ymgynghoriad. Ar hyn o bryd, nid yw'r system drafnidiaeth yng Nghymru o safon ddigonol ar gyfer anghenion pobl Cymru, nac ar gyfer targedau sero net, a dyna pam mae hi'n bwysig ei bod yn cael ei chynnwys yn un o'r dangosyddion erbyn hyn. Serch hynny, fe ddylai unrhyw ddangosydd ynghylch teithio ystyried hygyrchedd a dibynadwyedd i bobl anabl hefyd, oherwydd bydd hyn yn allweddol ar gyfer sicrhau cynhwysiant economaidd a chymdeithasol. Felly, a gaf i ofyn i'r Gweinidog roi sicrwydd i ni fod hyn yn wir? Diolch. Jane Hutt AC: Diolch yn fawr, Sioned Williams. Diolch i chi am y gefnogaeth i'r rhaglen uchelgeisiol iawn hon, i sicrhau ein bod ni yn bwrw ymlaen â hyn o ran y weledigaeth sydd gennym ni o Gymru decach, fwy cyfiawn a gwyrddach. Oherwydd bod hyn yn ymwneud â chenedlaethau'r dyfodol. Yn wir, mae datganiad heddiw yn arwyddocaol iawn. Dyma'r cerrig milltir cenedlaethol cyntaf erioed yr ydym ni'n adrodd arnyn nhw heddiw, yr ydym ni'n eu datgan heddiw, a fydd yn ein harwain ni, Gymru gyfan. Rwy'n credu bod eich pwynt mai cerrig milltir cenedlaethol yw'r rhain, i ddwyn rhywfaint o gysondeb ar lefel leol, lle rydym ni yn gweld y ffaith bod angen i ni ymgysylltu drwy ein cyrff cyhoeddus sydd â'r dyletswyddau llesiant drwy—yn wir, hefyd, drwy'r gwaith y maen nhw'n ei wneud drwy eu byrddau gwasanaethau cyhoeddus gyda'u partneriaid, oherwydd nid un corff cyhoeddus yn unig a fydd yn gwneud y gwahaniaeth. Mae sefydlu'r cerrig milltir cenedlaethol hynny i Gymru, ochr yn ochr â'r dangosyddion cenedlaethol, yn cynnig mecanwaith cadarn i gynorthwyo Gweinidogion, yn enwedig wrth fonitro cynnydd cenedlaethol. Mae hynny'n hollbwysig o ran yr holl gerrig milltir a'u hamcanion i gyflawni ein saith nod llesiant. Ond mae hi'n hanfodol bod gan y cyrff cyhoeddus hynny y llwybr clir hwnnw hyd at 2050, ac yn uno gyda gweledigaeth unedig iawn i weithio tuag ati. Wrth gwrs, mae hi hefyd yn bwysig ein bod ni'n gallu adeiladu ar hyn o ran ein cytundeb cydweithredu ni, oherwydd bod y rhaglen lywodraethu yn cynnwys llawer iawn o feysydd polisi a fydd yn ein helpu i lwyddo i gyrraedd y cerrig milltir hollbwysig hyn. Mae rhai o'r ymrwymiadau hyn wedi eu hadlewyrchu erbyn hyn yn y cerrig milltir cenedlaethol hyn, wrth gwrs, a gafodd eu pennu cyn, mewn gwahanol ffyrdd, ein cytundeb cydweithredu, ond nawr fe allwn ni adeiladu arnyn nhw, rwy'n gwybod, o ran y ffordd ymlaen. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn eich bod chi'n codi rhai materion penodol. Mae'r materion sy'n ymwneud â sero net yn hollbwysig o ran y ffordd ymlaen, a'r ffaith ein bod ni'n galluogi hynny i fod yn rhywbeth yr ydym ni am fynd i'r afael ag ef i fod yn rhywbeth y caiff ei adeiladu arno mewn gwirionedd o ganlyniad i'n hymgynghoriadau. Mae'r ymgynghoriadau a ddaeth drwodd ar gyfer y cerrig milltir cenedlaethol yn eglur iawn hefyd, byddwn i'n ei ddweud, o ran bod Cymru yn defnyddio ei chyfran deg yn unig o adnoddau'r byd erbyn 2050. Mae hon yn garreg filltir hollbwysig i'w chysylltu â'n huchelgais sero net. O ran cyflawni hynny, mae'n rhaid i ni edrych ar hynny o ran y cyfleoedd sydd gennym ni. Mae hynny'n eglur. Dyma gyngor diweddaraf ein cynghorwyr arbenigol, y Pwyllgor Newid Hinsawdd, ac mae wedi ei gynllunio yn benodol i adlewyrchu'r uchelgais mwyaf posibl, ond mewn gwirionedd yn mynd â hyn ymhellach gyda'r dystiolaeth y byddwn ni'n ei cheisio a'r dystiolaeth y mae angen i ni ei chael. Bob pum mlynedd, mae hi'n ofynnol i ni eisoes, wrth gwrs, gyhoeddi cynlluniau cyflawni pellach sy'n disgrifio yn fanwl ac yn effeithiol sut y byddwn yn cyflawni ein nod sero net. Mae hi mor bwysig bod gennym ni hynny mewn statud, onid yw, ein bod ni'n gallu mynd i'r afael â hyn a bwrw ymlaen â hyn. Ac rwy'n falch iawn hefyd eich bod chi wedi canolbwyntio ar y bwlch cyflog anabledd. Rwyf i wedi ymateb i rai o'r materion sy'n ymwneud â'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, ond, wrth edrych ar y bwlch cyflog anabledd, gyda dadansoddiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod bwlch cyflog anabledd yng Nghymru o 9.9 y cant yn 2018, mae hynny'n golygu bod pobl anabl yng Nghymru yn ennill ar gyfartaledd 9.9 y cant yn llai bob awr na phobl nad ydyn nhw'n anabl. Mae hwnnw'n llai, mewn gwirionedd, y bwlch cyflog, mae'n llai nag ar gyfer y DU gyfan, ac, mewn gwirionedd, hwnnw oedd y pumed lleiaf o 12 gwlad a rhanbarth y DU. Ond mae gennym ni gryn bellter i'w deithio o ran cau'r bwlch cyflog hwnnw, ac, yn amlwg, dyna le mae'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud o ran y tasglu hawliau anabledd, sy'n cyfarfod bellach—. Ac, wrth gwrs, un o'r pwyntiau a wnes i yn fy natganiad ynglŷn â'r cerrig milltir cenedlaethol yw eu bod wedi eu datblygu yng ngoleuni'r pandemig, yng ngoleuni'r ddealltwriaeth o'r anghydraddoldebau cynyddol a fu i'r rhai mwyaf difreintiedig. A dyna pam mae cysylltu anghydraddoldeb, a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb, o ran ei effaith ar sut mae hynny'n dylanwadu ar ein cerrig milltir cenedlaethol, mor bwysig. Ac rwy'n falch hefyd eich bod wedi cydnabod bod rhai cyfleoedd i'w cael gyda'r dangosyddion newydd. Bu ymgynghoriad helaeth yn arwain at ganlyniad heddiw—ymgynghoriad helaeth â'n rhanddeiliaid. Rwyf i wedi disgrifio eisoes sut y gwnaeth pobl gymryd rhan. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig iawn yw ein bod ni, er enghraifft, wedi defnyddio'r grŵp cynghori ar hawliau plant hefyd; cawsom ni sesiwn gyda phanel o bobl ifanc. Fe wnaethon nhw i gyd ymgysylltu â hyn, yn ogystal â gweminarau cyhoeddus a chydlynwyr byrddau gwasanaethau cyhoeddus. Ond, o ran y dangosyddion newydd, yn enwedig o ran teithio, nid canran y teithiau a wneir drwy gerdded, beicio neu drafnidiaeth gyhoeddus, wedi ei chynnwys ar hyn o bryd, mewn trafnidiaeth, hynny yw, o ran y dangosyddion cenedlaethol. Felly, mae hwn yn fwlch y mae angen i ni ei lenwi, ond mae hyn yn ymwneud â sut rydym ni am symud at ddulliau teithio mwy cynaliadwy o ran datgarboneiddio ac iechyd corfforol. Ond yna, wrth gwrs, mae angen i ni edrych ar faterion fel hygyrchedd trafnidiaeth, a chwalu'r rhwystrau penodol hynny, a fydd yn cael sylw yn ein tasglu anabledd, oherwydd yr hyn sy'n allweddol i hyn i gyd, ac sy'n sail i'r hyn yr ydych chi wedi ei ddweud, yw bod hyn yn ymwneud â nodau llesiant sy'n ymwneud â Chymru fwy cyfartal, yn ogystal â Chymru iachach, Cymru gydnerth, a Chymru ffyniannus. A dyna le mae cyflwyno'r dangosyddion cenedlaethol newydd wedi bod mor bwysig. Felly, o ganlyniad i hyn, dylai hyn gynnwys mwy o gydlyniad cenedlaethol o ran bwrw ymlaen dwyn i gyfrif o ganlyniad i'r cerrig milltir cenedlaethol sy'n gysylltiedig â'r dangosyddion. Bydd hyn yn gosod cyfrifoldeb ar ein hawdurdodau lleol, ein byrddau gwasanaethau cyhoeddus, ond hefyd ar bawb sy'n ymwneud â darparu'r cyfleoedd y mae deddfwriaeth llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn eu cynnig. Vikki Howells AC: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Rwy'n credu bod cyhoeddi'r cerrig milltir hyn yn gam cyffrous iawn, o ran rhoi'r ymdeimlad o ganolbwyntio a bod â ffon fesur i'w defnyddio i fesur y cynnydd. Felly, mae gen i rai cwestiynau ynghylch y cerrig milltir hynny. Yn gyntaf, rwy'n croesawu'r ymrwymiad i darged o 75 y cant o oedolion o oedran gweithio i fod yn gymwys hyd lefel 3 neu uwch erbyn 2050. Serch hynny, sut ydym ni am sicrhau bod pwyslais hefyd ar y prentisiaethau lefel 2 hynny, sydd yn aml yn borth i gymwysterau lefel 3 ac uwch? Yn ail, rwyf i hefyd yn croesawu'r bwriad i leihau canran yr oedolion o oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau i 5 y cant neu is erbyn 2050. Hoffwn i wybod a fyddai hyn yn cynnwys unrhyw bwyslais ar gynyddu'r ddarpariaeth o ddosbarthiadau sgiliau sylfaenol i oedolion yn y gymuned. Mae wedi ei brofi bod cyrsiau yn y lleoliadau hyn yn hollbwysig i ymgysylltu â'r rhai sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur, felly mae ganddyn nhw ran allweddol, yn fy marn i, wrth gyrraedd y garreg filltir hon. Ac, yn olaf, mae hefyd yn gadarnhaol gweld y targed i gynyddu canran y plant sydd â dau neu fwy o arferion iach i 94 y cant erbyn 2035, a phob un erbyn 2050. Gweinidog, yn y cyd-destun hwn, a fydd pwyslais penodol ar ferched yn eu harddegau, gan fod ymchwil yn dangos yn gyson mai dyma'r grŵp sydd fwyaf tebygol o roi'r gorau i gymryd rhan mewn chwaraeon wedi eu trefnu, yn aml oherwydd pwysau cyfoedion a diffyg hunan-barch? Diolch i chi. Jane Hutt AC: Diolch yn fawr iawn, Vikki Howells. Oes, mae yna gyfleoedd pwysig iawn, o ran y cerrig milltir cenedlaethol hyn, i sicrhau bod gennym ni lawer mwy o degwch o ran y gallu i ennill cymwysterau a chyflogaeth. Bydd saith deg pump y cant o oedolion o oedran gweithio yn gymwys hyd at lefel 3 neu uwch erbyn 2050, gan ein bod ni'n gwybod, gyda chymwysterau lefel uwch, fod rhywun yn llawer mwy tebygol o fod mewn cyflogaeth barhaus, ag enillion a chyflogau mwy hefyd. Ond rydym ni'n gwybod bod yn rhaid i ni ymestyn allan i'r rhai sydd bellaf i ffwrdd o'r cyfle i ennill y sgiliau a'r cymwysterau hynny a phyrth i swyddi sgiliau uwch. Ac rwy'n credu, os gwnewch chi edrych ar rai o'r lefelau cymwysterau, gan fynd yn ôl i'r cwestiynau blaenorol ynghylch sicrhau bod mwy o gysondeb, yn ogystal â phwyslais daearyddol, ein bod ni'n gallu canolbwyntio ar y rhai y mae angen yr hwb a'r mewnbwn mwy arnyn nhw hefyd, ac yn arbennig o ran y pwyntiau a wnaethoch chi—. Oherwydd bod yn rhaid i ni sicrhau mai pob awdurdod lleol yw hyn—canran yr oedolion o oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau 5 y cant neu'n is; mae pwyslais gwirioneddol ar yr awdurdodau lleol ar gyfer hyn. Ceir amrywio sylweddol. Mae'r cyfrannau uchaf o ran y rhai hynny heb gymwysterau i'w gweld yng nghymoedd y de, yn aml. Ac o ran cyfartaleddau cenedlaethol, dyna y mae angen i ni geisio amdano, er mwyn symud ymlaen. A byddwn yn gweld y gyfran heb unrhyw gymwysterau—bron i bum gwaith yn uwch ar gyfer oedolion sy'n byw yn y 10 y cant o gymdogaethau mwyaf difreintiedig. Felly, bydd y strategaeth cyflogadwyedd y byddwn ni'n ei chyhoeddi yn ystod y gwanwyn yn canolbwyntio llawer mwy ar fynd i'r afael ag anghydraddoldebau, darparu cymorth drwy gyfrifon dysgu personol ac, yn fy marn i, ein gwarant i bobl ifanc, a fydd yn hollbwysig i bobl dan 25 oed, fel y gwyddoch chi, ac rydych chi wedi mynegi eich cefnogaeth o ran y materion hynny. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn hefyd eich bod chi'n sôn am y cynnydd yng nghanran y plant sydd â dau neu fwy o arferion iach i 94 y cant. Ac mae hyn yn ddiddorol, oherwydd rwyf i wedi sôn y bu panel hawliau plant—daeth Cymru Ifanc â phobl ifanc at ei gilydd. Ac o ganlyniad i'r ymgynghoriad, mae'r dangosydd cenedlaethol wedi ei fynegi o'r newydd yn gadarnhaol i ganiatáu pwyslais ar y bobl ifanc nad ydyn nhw'n cynnal unrhyw arferion iach neu dim ond un. Mewn gwirionedd, mae hi hefyd yn bwysig iawn sicrhau bod camau y gellir eu cymryd i ymestyn allan i'r bobl ifanc hynny, yn arbennig menywod ifanc. Felly, materion yw'r rhain sy'n ymwneud â chamau gweithredu sydd gennym ni eisoes, o ran 'Pwysau Iach: Cymru Iach', er enghraifft, sy'n cynnig ystod lawer mwy o faterion i helpu i newid ymddygiad deietegol y boblogaeth. Mae gweithgarwch corfforol, wrth gwrs, yn hollbwysig yn hynny o beth. Ond mae'n ymwneud â sicrhau ein bod ni'n buddsoddi yn ein rhaglen i gyfoethogi gwyliau'r ysgol, yn y gemau stryd yr ydym ni wedi buddsoddi ynddyn nhw, y gronfa chwaraeon cymunedol, ac edrych ar hyn o safbwynt y bobl ifanc hefyd, a dyna pam roedd panel Cymru Ifanc mor bwysig. Diolch i chi. Jenny Rathbone AC: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Nid yw'r un o'r ddwy ohonom ni'n debygol o fod o gwmpas i gael ein holi yn 2050, felly—. Mae hyd yn oed eich targed ar gyfer 2035 ar gyfer gwella arferion iach pobl ifanc 13 mlynedd i ffwrdd. Felly, hoffwn i ofyn i chi ehangu ychydig ar sut yr ydym ni am gael naw o bob 10 o blant yn mabwysiadu dau neu fwy o arferion iach. Rwy'n sylweddoli bod prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd ac ymestyn gofal plant i blant dwy flwydd oed yn fannau cychwyn da. Ond mae adroddiad Meilyr Rowlands ar aflonyddu rhywiol gan gyfoedion, a gyhoeddwyd gan Estyn yr wythnos diwethaf, yn annifyr iawn i'w ddarllen, ac mae hi'n amlwg bod llawer iawn o waith i'w wneud i ddofi agweddau niweidiol ar dechnoleg newydd, yn enwedig ymgysylltu â rhieni a'u hannog nhw i beidio â rhoi'r offer sy'n caniatáu i bornograffi ar-lein fod ar gael i bobl ifanc. Yn yr un modd, os ydym ni am gael tri chwarter neu fwy o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru yn gymwys hyd at lefel 3, sut bydd hynny yn llywio'r un lefel o sylw y mae angen i ni ei roi i sgiliau technegol, yn hytrach na sgiliau academaidd, yn enwedig o ran sut y mae ysgolion yn hyrwyddo pwysigrwydd y sgiliau hynny? A sut bydd hyn yn llywio'r mesurau yr ydym ni'n eu defnyddio i asesu effeithiolrwydd neu werth ychwanegol ysgolion, yn hytrach na'i bod ychydig yn fwy ar hap na hynny, o ran nifer y plant difreintiedig a allai fod mewn ysgol benodol? Felly, rwy'n credu, yn amlwg— Mae angen i chi ddod i ben nawr. Jenny Rathbone AC: —dyma ddechrau'r ddadl, ond, rwy'n credu, pe gallech chi ddweud ychydig mwy am sut y byddwn yn gwella iechyd a lles pobl ifanc mewn gwirionedd, byddai hynny'n fuddiol. Jane Hutt AC: Diolch yn fawr iawn, Jenny Rathbone. Ydy, mae 2050 yn teimlo'n bell i ffwrdd, ond mewn gwirionedd yr hyn sydd mor bwysig yw beth rydym ni'n ei wneud o flwyddyn i flwyddyn, a sut rydym ni'n cael ein dwyn i gyfrif a sut y gallwn ni ddefnyddio'r cerrig milltir cenedlaethol a'r dangosyddion cenedlaethol i olrhain cynnydd. Dyna pam mae gennym ni sail statudol i hyn. Byddwn i'n annog cyd-Weinidogion ac Aelodau i edrych ar adroddiad 'Tueddiadau'r Dyfodol', oherwydd bod hynny, unwaith eto, yn ddyletswydd statudol, sydd wedi ei chyhoeddi heddiw, ac mewn gwirionedd mae'n helpu ac yn cefnogi'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau yng Nghymru, fel y mae'n ei ddweud, i edrych i'r tymor hwy. Dyma'r adroddiad statudol cyntaf—wel, cafodd yr adroddiad cyntaf o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, yr adroddiad 'Tueddiadau'r Dyfodol' cyntaf, ei gyhoeddi yn ôl ym mis Mai 2017, ond mae yn rhoi syniad eglur i ni mewn gwirionedd o'r ffordd ymlaen o ran tueddiadau'r dyfodol y mae angen i ni gysylltu â nhw o ran gwneud cynnydd pwysig hwnnw. Mae hefyd yn tynnu sylw at yr hyn y dylem ni fod yn edrych arno, o ran y tueddiadau hynny yn y dyfodol, i'n galluogi i fynd i'r afael â'r cynnydd. Ac rwy'n credu eich bod chi'n canolbwyntio, yn gwbl briodol, ar ein pobl ifanc a'r genhedlaeth honno, wrth i ni symud ymlaen. Rwyf i wedi ymateb i'r materion sy'n ymwneud ag arferion iach ein pobl ifanc, ac mae angen i ni ymgysylltu â'n pobl ifanc a'n hysgolion, a bydd y cwricwlwm newydd, wrth gwrs, yn ein helpu i symud ymlaen yn y cyswllt hwnnw. Ond rwy'n credu, o ran canran yr oedolion o oedran gweithio sydd wedi eu cymhwyso i lefel 3 neu uwch erbyn 2050, y bydd hyn yn cael ei arwain gan ein strategaeth cyflogadwyedd newydd i raddau helaeth, ac yn edrych ar y cyfleoedd sydd ar gael i'n pobl ifanc ar gyfer sgiliau mewn byd newidiol. Mae hynny mewn gwirionedd yn ymwneud â chynyddu ein cymorth ar gyfer sgiliau sylfaenol, sgiliau sylfaen a digidol, a helpu unigolion i gael y sgiliau ar gyfer y byd newidiol yr ydym ni ynddo, gan gynyddu hyblygrwydd y gweithlu, ond ein dysgwyr ifanc wedyn, i ddatblygu'r sgiliau a chael rhai newydd. Ond mae hi, yn amlwg—. O ran yr ymatebion a gawsom ni i'r ymgynghoriad, ystyrir bod hwn yn ganllaw cryf nid i'r Llywodraeth yn unig, ond i'n cyrff cyhoeddus allu canfod y ffordd ymlaen. Ac rwyf i wedi sôn hefyd am y ffaith ein bod ni wedi newid ein cerrig milltir, yn enwedig o ran arferion iach, i adlewyrchu dull mwy cadarnhaol. Ac rwy'n credu bod cyfranogiad pobl ifanc yn hollbwysig. Mae'n bwyslais ar ddatblygu targedau ac ymyriadau ar gyfer yr arferion allweddol ym mywyd person ifanc, gwelliannau ar lefel ymddygiad, ond yn dangos hefyd, yn ein hardaloedd mwyaf difreintiedig, fod yn rhaid i ni sicrhau ein bod ni'n canolbwyntio ar annhegwch, a'r rhai hynny sydd wedi eu gwaethygu yn arbennig sgil y pandemig. Ond a gaf i ddweud ein bod ni'n archwilio opsiynau ar gyfer ymchwil i gael gwell dealltwriaeth o'r ysgogiadau a fydd yn sicrhau ein bod ni'n gallu helpu ein pobl ifanc i allu mabwysiadu'r arferion iach hynny a fydd yn gwneud cymaint o wahaniaeth i'w bywydau, ond bydd yn rhaid i hynny fod o ganlyniad i ymyrraeth i fynd i'r afael â thlodi. Ac, fel rydych chi'n ei ddweud, mae'n debyg mai darparu ymyrraeth blynyddoedd cynnar o ran gofal plant a phrydau ysgol am ddim yw dau o'r penderfyniadau allweddol pwysicaf yr ydym ni'n gwybod amdanyn nhw ac yr ydym yn gobeithio y byddan nhw'n cael eu gwireddu o ran ein cyllideb a'n cytundeb cydweithredu. Diolch i'r Gweinidog. 4. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) Yr eitem nesaf yw datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar Fil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu). Galwaf ar y Gweinidog, Rebecca Evans. Rebecca Evans AC: Diolch. Ddoe, gosodais i Fil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu), ynghyd â'r memorandwm esboniadol, gerbron y Senedd. Mae datganoli trethi yn bwysig; mae'n darparu ysgogiad sylweddol i sicrhau ein bod yn gallu cyflawni blaenoriaethau strategol yn well i ddinasyddion a busnesau Cymru. Mae'r pedair blynedd diwethaf o brofiad o ddatganoli trethi wedi galluogi Llywodraeth Cymru i ddatblygu gallu treth sylweddol. Rydym ni wedi sefydlu dull penodol i Gymru o lunio polisi treth ac o gyflawni'r polisi hwnnw gan Awdurdod Cyllid Cymru. Mae ein dull gweithredu yn cadw blaenoriaeth ar anghenion dinasyddion, cymunedau a busnesau Cymru. Mae'r Bil hwn yn darparu ysgogiad cyllidol ychwanegol drwy ganiatáu i Weinidogion Cymru wneud gwelliannau mewn ymateb i newidiadau a wneir gan Lywodraeth y DU i drethi blaenorol y DU—hynny yw, i dreth dir y dreth stamp a'r dreth tirlenwi—a fydd yn effeithio ar addasiad grant bloc Cymru, ac felly'r refeniw sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Ar hyn o bryd, bob tro y mae digwyddiad cyllidol yn y DU, rydym ni'n cymryd y risg y gallai fod newid sy'n effeithio ar dreth ddatganoledig, ac efallai nad oes gennym ni'r mecanwaith priodol i ymateb yn gyflym. Gallai newidiadau o'r fath gael goblygiadau i fusnesau, y farchnad eiddo, ac effaith gyllidebol uniongyrchol ar adnoddau Llywodraeth Cymru. Cafodd hyn ei ddangos ym mis Gorffennaf 2020 pan na ddywedodd Llywodraeth y DU wrthym ni ymlaen llaw eu bod yn torri treth dir y dreth stamp, er gwaethaf y goblygiadau clir i'r farchnad dai yng Nghymru ac adferiad economaidd y DU o'r pandemig. Er y gallwn ni amrywio cyfraddau a throthwyon ar gyfer treth trafodiadau tir drwy reoliadau, ni allwn wneud hyn ar gyfer pob newid. Caniateir diwygiadau i Ddeddfau trethi Cymru hefyd er mwyn ymateb i nifer o amgylchiadau allanol eraill, fel sicrhau nad yw trethi datganoledig Cymru yn cael eu gosod pan fyddai gwneud hynny'n anghydnaws ag unrhyw rwymedigaethau rhyngwladol, er enghraifft, lle mae cytundeb masnach newydd yn dod i ben gyda gwlad arall sydd â goblygiadau i'n trethi. Bydd hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud newidiadau deddfwriaethol i ddiogelu rhag gweithgarwch osgoi, y gellir ei atal ar unwaith wedyn. Mae hyn yn cynnwys achosion lle bydd mwy o eglurder yn y ddeddfwriaeth yn ei roi y tu hwnt i amheuaeth fwriad arfaethedig y darpariaethau deddfwriaethol, ac a fydd o bosibl o fudd i drethdalwyr drwy roi'r gorau i hyrwyddo cyfleoedd osgoi nad ydyn nhw'n bodoli mewn gwirionedd. Mae camau o'r fath wedi eu cymryd gan Lywodraeth y DU i ddiogelu cyfundrefnau treth a threthdalwyr yn y gorffennol, ac rwyf i'n awyddus i Weinidogion Cymru allu cymryd camau tebyg. Yn olaf, bydd y Bil hwn hefyd yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud newidiadau pan fo penderfyniad llys neu dribiwnlys yn nodi mater y mae Gweinidogion Cymru o'r farn y gallai elwa ar newid deddfwriaethol, neu ar egluro'r gyfraith yn well. Mae hyn yn cynnwys penderfyniadau sy'n ymwneud â Deddfau trethi Cymru, trethi rhagflaenol y DU, trethi eraill, neu gyfreithiau eraill a allai effeithio ar y trethi datganoledig. Mae'r Bil hwn yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau a allai gael effaith ôl-weithredol. Bydd defnydd ôl-weithredol y pŵer yn cael ei ystyried fesul achos gan y gall y cyfiawnhad dros bob un fod yn wahanol, yn dibynnu ar y diben dan sylw. Fel arfer, bydd hyn yn cael ei gyfyngu i achosion lle bydd y rheoliadau yn arwain at fudd i drethdalwyr Cymru. Er enghraifft, efallai y bydd Llywodraeth Cymru yn dymuno i drethdalwyr Cymru elwa ar ostyngiad i'w rhwymedigaeth dreth o'r un dyddiad ag y cafodd newid ei gyflwyno yn Lloegr. Efallai bydd Gweinidogion Cymru yn dewis cyflawni hynny drwy fabwysiadu, neu addasu, yr un polisi neu bolisi gwahanol. Fodd bynnag, yn achos gweithgarwch osgoi, efallai y bydd Gweinidogion yn dymuno gallu cyhoeddi y bydd y cynllun yn cael ei gau gan reoliadau yn y dyfodol sy'n dod i rym ar ddyddiad y cyhoeddiad. O dan amgylchiadau o'r fath, gallai trethdalwyr ddisgwyl yn rhesymol i newidiadau ôl-weithredol gael eu cyflwyno sy'n sicrhau eu bod yn talu'r swm cywir o dreth. Rwy'n cydnabod bod defnyddio deddfwriaeth ôl-weithredol yn gofyn am gyfiawnhad polisi a diogelwch cyfreithiol, ac mai dim ond mewn sefyllfaoedd lle mae angen hynny y dylai cael ei ddefnyddio. Dyna pam y mae'r Bil yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi datganiad ar ddefnyddio'r pŵer i wneud rheoliadau sy'n cael effaith ôl-weithredol. Ac mae drafft o'r datganiad hwn wedi ei rannu â'r Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Bydd y Bil yn darparu offeryn ystwyth i Weinidogion Cymru i ddiogelu refeniw Cymru a gaiff ei godi drwy drethi datganoledig, gan gyfrannu at yr ymgyrch dros ddatganoli trethi yn sefydlog. Rydym ni wedi ymgynghori â'n rhanddeiliaid ar gynnwys y Bil, a hoffwn i fanteisio ar y cyfle i ddiolch yn ffurfiol i bawb sydd wedi cyfrannu at ei ddatblygu. Rwy'n edrych ymlaen at y broses graffu a fydd yn dilyn yn awr ac ymgysylltiad adeiladol sefydliadau sydd eisoes wedi cyfrannu a hefyd cyd-Aelodau ar draws y Siambr. Diolch. Llefarydd y Ceidwadwyr, Peter Fox. Peter Fox AS: Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Gweinidog. Diolch am y datganiad a diolch i'ch swyddogion am eu briff technegol ddoe yn ein cyd-bwyllgor. Roedd yn ddefnyddiol iawn ac yn ddiddorol iawn. Mae gen i rywfaint o gydymdeimlad â chi; mae prosesau cyllidebol a threthiant yn bethau cymhleth iawn, ac nid yw'r cymhlethdod hwn ond wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae'n iawn, felly, i sicrhau nad yw trethdalwyr Cymru o dan anfantais o'u cymharu â threthdalwyr eraill ledled y DU pan gaiff newidiadau eu gwneud i drethi rhagflaenol, yn ogystal â chau bylchau treth fel bod modd defnyddio arian i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus—mae'n gwbl iawn ein bod ni'n gwneud hynny. Fodd bynnag, fel rhan o'ch ymgynghoriad ar y Bil, rwy'n gwybod bod rhanddeiliaid fel Sefydliad Siartredig Trethu a Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr wedi datgan mai eu safbwynt diofyn nhw yw y dylai deddfwriaeth dreth fod mewn deddfwriaeth sylfaenol, ac yn arbennig yn yr achos lle mae deddfwriaeth yn ymwneud ag arfer pwerau trethu, ac eithrio o dan amgylchiadau eithriadol iawn. Ac rwyf i'n cytuno â'r egwyddor hon, ac rwy'n siŵr y byddai llawer yn y Siambr—y Siambr rithwir—yn cytuno â hi hefyd. Rwy'n credu, i adlewyrchu casgliadau'r Pwyllgor Cyllid blaenorol, fod angen mwy o sail ddeddfwriaethol arnom ni i'n prosesau cyllidebu a phennu trethi yng Nghymru i gefnogi'r gwaith democrataidd o graffu ar wariant cyhoeddus a threthiant. Yn hyn o beth, drwy ddefnyddio rheoliadau i wneud newidiadau i drethiant, gallai'r Bil hwn—ac rwy'n pwysleisio 'gallai'—gael ei ddefnyddio i fynd ymhellach na'r bwriad gwreiddiol. Nawr, rwy'n sylweddoli bod terfynau llym ar ddefnyddio'r pwerau o fewn y Bil, ond mae dal rhywfaint o amwysedd ynghylch pryd y mae modd defnyddio'r pwerau. Yn yr ymgynghoriad gwreiddiol, dywedodd y Sefydliad Siartredig Trethu 'mae'r amgylchiadau lle gellid defnyddio pŵer 1 yn gadael disgresiwn eithaf eang' a bod nifer o dermau sydd wedi eu defnyddio yn yr adran yn amwys a heb eu diffinio. Fodd bynnag, gwrthododd y Llywodraeth y syniad o glo y Senedd ar ddefnyddio pŵer 1. A gaf i ofyn i chi, Gweinidog, y rheswm pam mae hynny'n wir? A allwch chi egluro'r amgylchiadau hefyd—ac rydych chi wedi sôn rhywfaint am hyn eisoes—lle rydych chi'n rhagweld y bydd angen defnyddio'r pŵer i addasu Deddfau trethi Cymru? Ac, yn y pen draw, pwy yn Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am benderfynu pa un o'r profion diben yn adran 1 sydd wedi eu bodloni wrth gyflwyno rheoliadau drwy'r Bil? Yn olaf, cafodd sylwadau eu gwneud yn ystod yr ymgynghoriad gwreiddiol fod perygl wrth wneud newidiadau lluosog drwy bwerau rheoleiddio o wneud y ddeddfwriaeth sylfaenol yn anodd ei dilyn oherwydd cymaint y croesgyfeirio sydd ei angen. Os oes angen llawer iawn o is-ddeddfwriaeth, a fyddai'n bosibl y byddai angen gwaith i atgyfnerthu'r rhain er mwyn sicrhau bod cyfraith treth mor hygyrch â phosibl? Diolch, Gweinidog. Rebecca Evans AC: Diolch i Peter Fox am y cwestiynau yna. Rwy'n falch iawn bod y briff a gafodd ei ddarparu gan swyddogion wedi bod yn ddefnyddiol. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y broses graffu fanwl, a fydd yn dechrau ar 22 Rhagfyr, fel anrheg Nadolig cynnar i bob un ohonom ni, yn y pwyllgor. Ac rwy'n gwybod y byddwn ni'n edrych yn fanylach ar lawer o'r agweddau hyn, ond rwy'n falch iawn o nodi fy ymateb cychwynnol i rai o'r cwestiynau hynny y prynhawn yma o leiaf. Un o'r materion sylweddol y gwnaethoch ei godi, yn y bôn, oedd beth am ddefnyddio Bil cyllid, ac rwy'n gwybod bod hyn wedi bod yn fater o ddiddordeb i bwyllgorau cyllid yn y Senedd flaenorol. Fy safbwynt i o hyd yw nad wyf i'n ystyried bod yr amseru'n iawn i gyflwyno cyllideb flynyddol na Bil cyllid y gellir ei ddefnyddio i wneud newidiadau i Ddeddfau trethi Cymru. Un ystyriaeth allweddol i Ddeddfau trethi Cymru yn benodol yw nad yw nifer yr is-ddeddfwriaeth y mae'r Deddfau hyn wedi eu creu hyd yma yn arwyddocaol o gwbl, ac wrth i ni ddatblygu trethi mwy datganoledig, yna rwy'n credu, o bosibl, y gallai fod dadl gryfach dros Fil cyllid blynyddol, ond byddwn i hyd yn oed yn dadlau pe bai gennym ni Fil cyllid blynyddol, byddai dal angen y pwerau arnom ni y mae'r Bil hwn yn darparu ar eu cyfer, oherwydd eu bod nhw'n galluogi Gweinidogion Cymru i ymateb i ddigwyddiadau allanol na fydden nhw o reidrwydd yn cyd-fynd â chylch Bil cyllid Llywodraeth Cymru. Er enghraifft, nid yw cyllideb y DU, lle gall newidiadau ddigwydd, ar gylch sefydlog, ac mae'n digwydd yn aml fwy nag unwaith y flwyddyn, ac mae digwyddiadau cyllidol eraill hefyd pan fo modd cyhoeddi newidiadau, er enghraifft, mae cyfraddau treth dir y dreth stamp ym mis Gorffennaf 2020 yn enghraifft o hynny, rwy'n credu. At hynny, bydd y Bil yn galluogi Llywodraeth Cymru i fod yn llawer mwy ymatebol i newidiadau ehangach, fel penderfyniadau llys a gweithgarwch osgoi, nag sy'n wir am ddull Bil Cyllid Llywodraeth y DU neu ddull gweithredu Llywodraeth yr Alban, lle caiff newidiadau eu gwneud yn aml drwy Fil cyllid yn unig. O ran pam nad ydym yn defnyddio pwerau presennol—felly, gan feddwl am ddeddfwriaeth sylfaenol, er enghraifft—nod y Bil yw darparu offeryn hyblyg ychwanegol i ganiatáu i Weinidogion ymateb yn gyflym i amgylchiadau allanol sy'n effeithio ar ein trethi datganoledig. Yn gyffredinol, mae deddfwriaeth sylfaenol yn cymryd tua 12 i 18 mis i ddatblygu a chwblhau'r cylch hwnnw o graffu gan y Senedd, felly ni fyddai'n ein galluogi i ymateb mewn modd ystwyth pe bai angen i ni wneud hynny ar fyr rybudd, er enghraifft, i atal gweithgarwch osgoi treth. Ac yr oedd cwestiwn hefyd o ran pam, er gwaethaf ymgynghori yn y dogfennau ar glo y Senedd, ein bod ni wedi dileu hynny o'n cynigion. Cafodd y clo ei gynnig yn wreiddiol i alluogi'r Senedd i ddynodi ei chymeradwyaeth o ddefnydd y weithdrefn gadarnhaol a wnaed, ac roedd y polisi gwreiddiol yn cynnig defnyddio pŵer y byddai modd ei ddefnyddio pryd bynnag y byddai Gweinidogion Cymru o'r farn ei bod yn hwylus er budd y cyhoedd i wneud hynny. Bwriad y clo oedd ymateb i bryderon y byddai'r pŵer yn anarferol o eang, ond mae'r Bil bellach, fel y mae wedi ei ddrafftio ar hyn o bryd, wedi lleihau cwmpas y pŵer yn fawr i'r pedwar prawf diben hynny, nid oes modd eu defnyddio ond pan gaiff ei ystyried eu bod yn angenrheidiol neu'n briodol. Ac felly mae hynny, yn fy marn i, yn cyfyngu'n ddigonol ar y pŵer fel na fyddai clo y Senedd, a fyddai ei hun wedi bod yn anghonfensiynol ac a allai osod cynsail di-fudd ar gyfer pwerau cadarnhaol a wnaed yn y dyfodol, yn briodol, oherwydd ein bod ni wedi lleihau pethau gyda'r Bil hwn gymaint. Ac yna i gwblhau hynny, mewn gwirionedd, hoffwn i dynnu sylw at y ffaith bod cwmpas y pŵer wedi ei gyfyngu i'r pedwar diben penodol: yn gyntaf, sicrhau nad yw treth gwarediadau tirlenwi a threth trafodiadau tir yn cael eu gosod lle y byddai gwneud hynny yn arwain at beidio â chydymffurfio ag unrhyw rwymedigaethau rhyngwladol; diogelu rhag osgoi treth mewn cysylltiad â threth gwarediadau tirlenwi a threth trafodiadau tir; ymateb i newidiadau i drethi blaenorol y DU sy'n effeithio neu a allai effeithio ar y swm sy'n cael ei dalu i gronfa gyfunol Cymru; ac yna ymateb i benderfyniadau llysoedd a thribiwnlysoedd sy'n effeithio neu a allai effeithio ar Ddeddfau trethi Cymru neu reoliadau a gaiff eu gwneud oddi tanyn nhw. Felly, yn dilyn yr ymgynghoriad, rydym ni yn wir wedi lleihau cwmpas y Bil, sydd, yn fy marn i, yn dileu'r angen hwnnw bellach ar gyfer clo y Senedd, a oedd yn ein hymgynghoriad gwreiddiol. Ond rwy'n edrych ymlaen yn fawr at archwilio'r materion hyn yn fanylach yn yr wythnosau i ddod. Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd. Llyr Gruffydd AC: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Jest i bigo i fyny ar rai o'r sylwadau blaenorol yn benodol ynglŷn â'r Bil cyllid neu Fil cyllideb blynyddol, dwi'n dal i deimlo fel roeddwn i pan oeddwn i'n cadeirio'r Pwyllgor Cyllid yn y Senedd diwethaf fod hynny'n rhywbeth yn sicr y byddwn i'n dymuno i ni fel Senedd symud tuag ato fe. Dwi'n derbyn beth mae'r Gweinidog yn ei ddweud ynglŷn ag, efallai, pa mor gyflym y gallwn gyrraedd y pwynt yna, ond mae'n sicr yn drafodaeth y byddwn i'n awyddus i'w chadw'n fyw ar bob cyfrif. A dwi'n cytuno hefyd efo'r Gweinidog, boed hynny'n digwydd neu beidio, mae'n dal angen y pwerau y mae'r Llywodraeth yn edrych amdanyn nhw yn y Bil sydd o'n blaenau ni heddiw. Dwi wedi dweud yn y gorffennol, does gyda fi ddim problem mewn egwyddor i bwerau o'r math yma gael eu rhoi i Weinidogion Cymru. Mae'n gwbl resymol. Mae cael modd i gyflwyno newidiadau ar fyr rybudd fel hyn yn rhywbeth, dwi'n meddwl, sydd yn rhesymol, fel rwy'n dweud, ond mae'n gorfod digwydd o dan amgylchiadau penodol. Byddai methu ag ymateb yn arwain efallai at oblygiadau niweidiol, goblygiadau annheg, at sefyllfa afresymol. Dwi'n credu o dan yr amgylchiadau hynny ei bod hi'n rhesymol ein bod ni'n symud i'r cyfeiriad yna. Mae'n rhywbeth y mae Llywodraethau eraill yn ei gymryd yn ganiataol o gwmpas y byd. Felly, does dim byd unigryw yn hynny o beth. Wedi dweud hynny i gyd, cyn gallu cefnogi deddfwriaeth sy'n grymuso Gweinidogion fel hyn, mae'n rhaid i ni i gyd fod yn hyderus fod y cyfyngiadau angenrheidiol yn eu lle i wneud yn siŵr bod y paramedrau yn glir o ran, yn gyntaf, o dan ba amgylchiadau mae'r Gweinidog yn gallu gweithredu, yn ail, i ba raddau mae'r Llywodraeth yn gallu gweithredu, ac yn drydydd wedyn wrth gwrs, bod yna fesurau cryf yn eu lle i sicrhau craffu a phroses o roi cydsyniad seneddol amserol, neu mor fuan ag sy'n bosib ar ôl i'r penderfyniad gael ei wneud. Ar yr olwg gyntaf, mae'r ddeddfwriaeth i fi yn edrych yn eithaf rhesymol ar y ffryntiau yna, ond yn amlwg dwi'n edrych ymlaen i graffu ar y ddeddfwriaeth arfaethedig dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Dim ond un neu ddau o gwestiynau gen i yn benodol i chi, Weinidog. Mae yna risg, wrth gwrs—ac efallai rydyn ni wedi ei weld e'n digwydd mewn cyd-destunau eraill—dros amser, fod pwerau fel hyn yn cael eu defnyddio gan Weinidogion i fynd tu hwnt i'r awdurdod a roddwyd iddyn nhw. Felly, allwch chi gadarnhau ar y record y prynhawn yma mai dim ond o dan amgylchiadau eithriadol yn unig a phan fod dim opsiynau amgen y byddech chi yn bwriadu defnyddio'r pwerau fyddai'n dod i Weinidogion Cymru yn y Bil yma? A hefyd, er mwyn cydbwyso pethau ychydig, efallai, pa ystyriaeth ydych chi wedi'i roi i gynnwys lleisiau neu bersbectifau mwy annibynnol yn y broses o benderfynu gweithredu'r pwerau yma? Hynny yw, mae'r awgrym wedi cael ei wneud efallai fod yna rôl mwy ffurfiol i'r Llywydd, o bosib, yn y broses. Mi wnaeth Prifysgol Caerdydd, wrth gwrs, yn eu hymateb nhw i'r ymgynghoriad llynedd, awgrymu bod angen sicrhau amrywiaeth yn y grŵp sy'n penderfynu pryd y dylid ddefnyddio'r pwerau hyn, a byddwn i efallai â diddordeb i glywed sut ŷch chi'n bwriadu cyflwyno rhyw ffordd o gydbwyso o fewn y broses. Diolch. Rebecca Evans AC: Diolch yn fawr am godi'r gyfres yna o gwestiynau, ac am, ar y cyfan, groesawu'n gynnes yr angen am y Bil, ond yn amlwg, rydych chi'n edrych ymlaen at y broses graffu sydd o'n blaenau. Rwy'n siŵr y byddwn ni'n parhau i ddychwelyd at y cwestiwn a oes angen Bil cyllid ar hyn o bryd ai peidio, ond fel y dywedais i, byddwn ni'n parhau i adolygu hynny wrth i amgylchiadau ddatblygu a newid yn y dyfodol. Er mwyn rhoi sicrwydd, rwy'n credu bod paramedrau'r Bil yn ddigon clir, yn enwedig gan ein bod ni wedi ei leihau bellach i'r pedwar diben hynny y dylai'r Bil gael ei ddefnyddio ar eu cyfer, ac yr wyf i newydd eu hamlinellu mewn ymateb i Peter Fox. Ond rydym ni hefyd yn cydnabod gwir bwysigrwydd yr angen am graffu priodol, a dyna pam yr ydym ni wedi cynnwys mesurau diogelu sylweddol gwirioneddol, yn fy marn i, yn y Bil o ran y weithdrefn. Byddai'r Bil yn caniatáu i reoliadau sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol ddrafft gael eu gosod ar ffurf ddrafft am o leiaf 20 diwrnod cyn iddyn nhw gael eu cyflwyno i'r bleidlais. Yn amlwg, os byddan nhw'n cael eu cymeradwyo, bydd modd gwneud y rheoliadau hynny, a gall rheoliadau aros am gyfnod hwy na'r 20 diwrnod cyn eu cyflwyno i'r bleidlais. O dan y weithdrefn gadarnhaol a wnaed, byddem yn ceisio cael y cyfnod hwnnw am 60 diwrnod. Ac yn amlwg, os bydd y bleidlais yn cael ei cholli, neu os daw'r cyfnod o 60 diwrnod i ben, yna mae'r rheoliadau hynny yn peidio â chael effaith o'r dyddiadau hynny, ac rydym ni wedi rhoi barn ar waith ar yr hyn y byddem ni'n ei wneud pe bai'r rheoliadau hynny yn methu. Mae'r mesurau diogelu yr ydym ni wedi eu rhoi o amgylch y weithdrefn gadarnhaol a wnaed, yn benodol, rwy'n credu, yn bwysig, oherwydd dim ond pan fydd Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y rheoliadau'n angenrheidiol oherwydd brys a dim ond at y pedwar diben yr wyf i wedi eu disgrifio y bydden nhw'n cael eu defnyddio. Un enghraifft, rwy'n credu, fyddai angen ymateb ar frys pan fyddai oedi cyn atal cynllun osgoi treth yn arwain at golli refeniw sylweddol. Nid yw'r dull arfaethedig o weithredu yn y Bil hwn yn ddigynsail ac ni fydd yn anghyfarwydd i ymarferwyr treth. Er enghraifft, mae adran 109 o Ddeddf Cyllid 2003 yn rhoi pŵer pwrpasol i Drysorlys EM wneud rheoliadau i wneud newidiadau yn syth ond dros dro i ddeddfwriaeth treth dir y dreth stamp, ac mae rheoliadau sy'n cael eu gwneud o dan hyn yn ddarostyngedig i weithdrefn gadarnhaol dros dro, sy'n debyg i weithdrefn gadarnhaol a wnaed y Senedd, sy'n golygu bod yn rhaid iddyn nhw gael eu cymeradwyo gan Dŷ'r Cyffredin o fewn 28 diwrnod eistedd er mwyn cael yr effaith barhaol honno. Felly, nid wyf i'n credu bod yr hyn yr ydym ni'n ei gynnig yma yn anarferol nac yn newydd yn yr ystyr hwnnw, er ei fod yn rhywbeth a fydd yn ein galluogi i ymateb yn gyflym iawn i newidiadau. O ran swyddogaethau i unigolion a phartïon, rwy'n siŵr y cawn ni gyfle i archwilio hynny'n fanylach yn y pwyllgor maes o law, ac ar lawr y Senedd, wrth gwrs. Diolch yn fawr iawn. Diolch i'r Gweinidog. 5. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Cefnogi’r bwriad i greu Banc Cymunedol ar gyfer Cymru Eitem 5 yw'r datganiad gan Weinidog yr Economi ar gefnogi’r bwriad i greu banc cymunedol ar gyfer Cymru. Galwaf ar y Gweinidog, Vaughan Gething. Vaughan Gething AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae gan y DU un o'r systemau bancio manwerthu lleiaf amrywiol yn Ewrop. Mae'n system lle mae nifer fach o fanciau mawr iawn yn tra-arglwyddiaethu. Mae'r banciau hyn yn gweithredu yn ôl model busnes gwerth cyfranddalwyr traddodiadol sy'n ceisio gwneud y mwyaf o elw i'w perchnogion. Mae banciau manwerthu'r stryd fawr, fel y gwyddom ni, yn cilio o lawer o'n strydoedd mawr ar gyflymder cynyddol a brawychus. Yn ôl data'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae nifer y canghennau banc yn y DU wedi gostwng 4,390, neu 39 y cant, rhwng 2012 a 2021. Mae'r cylchgrawn defnyddwyr Which? yn amcangyfrif mai dim ond 277 o ganghennau banc a chymdeithasau adeiladu fydd ar ôl yng Nghymru erbyn diwedd 2022. Mae ein hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i gefnogi creu banc cymunedol i Gymru yn ceisio mynd i'r afael â methiant y farchnad hon o ran y bwlch yn y ddarpariaeth, effeithiolrwydd, a mynediad at wasanaethau bancio o ansawdd yng Nghymru. Mae ein gweledigaeth ar gyfer banc cymunedol Cymru yn un sy'n seiliedig ar y model cydfuddiannol, sy'n eiddo i'w aelodau, ac sy'n cael ei redeg ar eu cyfer, yn hytrach na gwneud y mwyaf o elw i gyfranddalwyr. Bydd yn fanc cymunedol modern, fydd yn cynnig gwasanaeth llawn, gyda'i bencadlys yng Nghymru. Bydd yn cynnig cynhyrchion a gwasanaethau dwyieithog mewn sawl ffordd wahanol gan gynnwys yn ddigidol, ar-lein ac mewn canghenau. Bydd y banc yn hwyluso buddsoddi'n lleol ac yn gwella'r gwaith o adeiladu cyfoeth cymunedol, gan ail-ddefnyddio cynilon fel benthyciadau ac atal cyfalaf rhag gadael ein gwlad. Bydd yn cael effaith gadarnhaol ar gymunedau a strydoedd mawr, gan wneud gwasanaethau bancio bob dydd yn haws eu defnyddio i bob dinesydd waeth beth fo'u hincwm neu gyfoeth, yn ogystal ag i fusnesau bach ledled Cymru, wrth gwrs. Rydym ni'r Llywodraeth, fodd bynnag, yn effro i'r heriau sylweddol o sefydlu banc cymunedol. Er bod nifer o fanciau cymunedol yn cael eu datblygu ledled y DU, nid oes banc cymunedol wedi'i sefydlu eto. Mae banciau cydweithredol a chydfuddiannol newydd yn wynebu mwy o heriau o'u cymharu â banciau eraill sy'n dilyn y model cyfranddalwyr. Mae hyn yn arbennig o wir o ran sicrhau cyfalaf datblygu a rheoleiddio, sy'n ei gwneud hi'n anodd camu i'r farchnad ac yna tyfu yn organig. Yn ogystal, mae cymwyseddau deddfwriaethol a rheoleiddiol y sector bancio yn faterion a gadwyd yn ôl. Felly, rydym yn dibynnu ar feddylfryd ac uchelgais cwmnïau'r sector preifat sy'n rhannu ein gweledigaeth a'n hethos er mwyn sefydlu a gweithredu banc cymunedol i Gymru. Ers i'n gwaith i gefnogi creu banc cymunedol i Gymru gael ei archwilio am y tro cyntaf, mae banciau traddodiadol y stryd fawr wedi encilio o'n strydoedd mawr yn llawer cynt. Yn awr yn fwy nag erioed, mae nifer gynyddol o gymunedau ledled Cymru yn cael eu gadael heb fynediad corfforol i'r hyn a ddylai fod yn wasanaeth cyhoeddus hanfodol yn ein barn ni. Nid yw effaith yr encilio hwn yr un fath ym mhobman, gyda chymunedau gwledig a'r unigolion a'r busnesau hynny ledled Cymru sy'n fwy dibynnol ar arian parod a'r berthynas wyneb yn wyneb yn cael eu taro galetaf. Er gwaethaf yr ymgyrchoedd cymunedol amlwg niferus a gefnogir gan aelodau o bob lliw gwleidyddol yn y Senedd, mae banciau traddodiadol wedi parhau i gau canghennau. Rwy'n croesawu y gefnogaeth drawsbleidiol barhaus i greu banc cymunedol i Gymru a chydnabod bod cwestiynau'r Aelodau yn ddealladwy yn canolbwyntio fwyfwy ar yr amserlenni cyflawni, y cynlluniau i gyflwyno canghennau, a chynhyrchion a gwasanaethau i'w cynnig gan y banc cymunedol. Mae'r cwestiynau hynny'n adlewyrchu anghenion a phryderon cymunedau yn etholaethau'r Aelodau ledled Cymru. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi gwaith archwiliadol a wnaed gan Cambria Cydfuddiannol Ltd, cymdeithas gydweithredol a sefydlwyd i archwilio'r posibilrwydd o greu Banc Cambria fel banc cymunedol i Gymru. Bu'r gwaith hwn yn hanfodol wrth lywio strategaeth gyflawni Banc Cambria, ac o ganlyniad gyda datblygu ei berthynas â sefydliad ariannol sy'n bodoli eisoes. Mae'r hyn yr wyf yn ei gyhoeddi heddiw yn ailddatgan ein cred bod gan y dull hwn fwy o botensial i ddarparu banc cymunedol hyfyw a chynaliadwy. Mae'r dull hwn hefyd yn cyd-fynd â'r argymhellion a wnaed yn adroddiad 'Mynediad at Fancio' gan Bwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau'r Senedd ym mis Hydref 2019. Credwn fod y dull hwn yn cefnogi cydweithio ar draws y sector, yn lleihau'r risgiau ac yn lleihau'r costau i'r pwrs cyhoeddus, ac yn cynyddu'r cyflymder y gellir datblygu a lansio Banc Cambria yn ddiogel. Yr wythnos diwethaf, cyfarfu'r Prif Weinidog, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a minnau â'r timau sy'n ceisio sefydlu Banc Cambria i drafod y cynnydd a wnaed, y camau nesaf a'r meysydd lle y gellir defnyddio cymorth Llywodraeth Cymru orau i wella cyflymder y datblygiad a'r ddarpariaeth. Mae'n bleser gennyf ddiweddaru a hysbysu'r Aelodau, ac rwy'n croesawu y cyhoeddiad heddiw gan Gymdeithas Adeiladu Sir Fynwy yn datgan ei bwriad i ddatblygu ei dull o ddarparu banc cymunedol yng Nghymru. Mae darparu banc cymunedol yn addas iawn i'r gymdeithas gydfuddiannol Cymreig honno sydd â'i phencadlys yng Nghasnewydd. Maen nhw wedi bod yn gwasanaethu ac yn cefnogi aelodau a chymunedau ar draws de a gorllewin Cymru i gynilo a ffynnu ers dros 150 o flynyddoedd. Gan eu bod yn gymdeithas gydfuddiannol, maen nhw eisoes yn sefydliad sy'n gweithredu i ddiben arbennig, gan alluogi cymunedau i gael cymorth a chefnogaeth ariannol mewn lleoliadau sy'n gyfleus iddynt. Er bod llawer o waith i'w wneud o hyd, gyda cherrig milltir allweddol ac agweddau pellach i benderfynu arnynt ar y gweill i Lywodraeth Cymru, y gymdeithas a Cambria Cydfuddiannol, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu'r holl gymorth priodol ac angenrheidiol er mwyn helpu i gyflymu'r broses o sefydlu a chyflwyno Banc Cambria ledled Cymru. Mae bellach yn briodol i Gymdeithas Adeiladu Sir Fynwy arwain ar y cyfathrebu ac i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect wrth iddo fynd yn ei flaen. Rydym yn cydnabod ac yn cytuno bod datblygu systemau cadarn, diogel a chydymffurfiol yn hollbwysig i'r gymdeithas, ei haelodau presennol ac i aelodau Banc Cambria yn y dyfodol. Byddaf yn cwrdd â'r gymdeithas a Cambria Cydfuddiannol yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd ac i ddeall ble y gall ein cymorth ychwanegu'r gwerth mwyaf. Byddaf, wrth gwrs, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau fel y bo'n briodol yn dilyn camau penderfynu allweddol. Diolch, Dirprwy Lywydd. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood. Mark Isherwood AC: Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i'r tîm yn Banc Cambria am yr amser a roeson nhw yn ystod y misoedd diwethaf i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i mi a chyd-Aelodau am ddatblygiad banc cymunedol i Gymru. Ar ôl gweithio o'r blaen yn y sector cymdeithasau adeiladu cydfuddiannol am fwy na dau ddegawd, rwy'n croesawu yn arbennig y ffaith bod partneriaeth y banc â Chymdeithas Adeiladu Sir Fynwy wedi'i chyhoeddi heddiw, gan ganiatáu sefydlu'r gofynion gweithredol i sicrhau bod modd darparu. Wrth siarad yma yn 2010, codais gyda'r Prif Weinidog ar y pryd y gofynion o ran rheoli risg a digonolrwydd cyfalaf a rheoleiddio y byddai'n rhaid i fanc newydd gydymffurfio â nhw, na fyddai'n rhaid i bartner a oedd yn fanc neu gymdeithas adeiladu sefydledig gydymffurfio â nhw. Yn 2013, galwodd y Ceidwadwyr Cymreig am sefydlu Buddsoddi Cymru, rhwydwaith o fanciau buddsoddi rhanbarthol sydd wedi'u gwreiddio mewn cymunedau lleol, i fenthyca i fusnesau bach a rhoi cyngor a chymorth yn seiliedig ar y model partneriaeth hwn. Yn 2017, arweiniais ddadl ar wasanaethau bancio yn y fan yma, a alwodd ar Lywodraeth Cymru i archwilio'r model bancio cymunedol nid-er-elw a ddatblygwyd wedyn yng Nghymru gan Responible Finance, a gynigiodd weithio gydag undebau credyd mewn meysydd lle na all undebau credyd weithredu, a darparu cyllid a chymorth i bobl, busnesau a mentrau cymdeithasol na allant gael gafael ar gyllid gan fanciau'r stryd fawr. Mewn ymateb i bumed Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau'r Cynulliad, cwestiynodd y Ffederasiwn Busnesau Bach a yw'r ateb o greu banc cymunedol yn gorgyffwrdd â phethau eraill y gallai offerynnau a sefydliadau eraill sydd gennym ni eisoes ar waith yng Nghymru fod mewn sefyllfa well i'w wneud. Ac felly, gan fod hwn yn fuddsoddiad masnachol i Lywodraeth Cymru, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn cyflawni diwydrwydd dyladwy a dadansoddiad trwyadl o'r cynllun busnes ar gyfer banc cymunedol cyn buddsoddi pellach. Felly, Gweinidog, pa brosesau a ddilynwyd a pha ddiwydrwydd dyladwy sydd wedi digwydd hyd yma i roi sicrwydd i bobl Cymru cyn i'r cynllun fynd yn ei flaen? Wrth gwrs, wrth gyflawni diwydrwydd dyladwy, mae hefyd yn hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn ystyried yr effaith y bydd banc cymunedol yn ei chael ar y sector undebau credyd. Roedd hi'n glir o adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn 2019 fod gan undebau credyd bryderon difrifol iawn am yr effaith y gallai banc cymunedol ei chael arnynt. Yn wir, ysgrifennodd prif weithredwr Undeb Credyd Caerdydd a'r Fro ar ran grŵp o 11 undeb credyd yng Nghymru i dynnu sylw at y ffaith y byddai bwriad Banc Cambria i ddarparu benthyciadau personol ar sail model cydweithredol yn cystadlu'n uniongyrchol ag undebau credyd, ac y byddai'n bygwth cynaliadwyedd y rhwydwaith undebau credyd yng Nghymru yn y dyfodol. Ac felly, yng ngoleuni'r pryderon hyn, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau nad yw cynaliadwyedd undebau credyd yn cael ei fygwth gan ddatblygiad banc cymunedol? A sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag undebau credyd sy'n awyddus i weithio gyda nhw ond sy'n awyddus i sicrhau nad yw Banc Cambria yn cymryd eu busnes na'u cyllid? O ystyried partneriaeth Swyddfa'r Post â banciau'r DU, gallai Banc Cambria hefyd gael effaith ar wasanaethau swyddfeydd post. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud felly o effeithiau Banc Cambria ar y sector swyddfeydd post? A pha drafodaethau y mae wedi'u cael gyda Swyddfa'r Post ynghylch sefydlu banc cymunedol yng Nghymru? Gallai creu banc cymunedol gael effaith drawsnewidiol ar gymunedau lleol, yn enwedig cymunedau gwledig sydd wedi colli presenoldeb banc ar eu stryd fawr. Mae'n galonogol bod Banc Cambria eisoes wedi dweud bod cymunedau gwledig wrth wraidd yr hyn y maen nhw'n ceisio'i wneud. Mae Banc Cambria wedi ei gwneud hi'n glir eu bod yn gobeithio agor o leiaf un gangen lle mae tystiolaeth bod y sylfaen cwsmeriaid yn dioddef yn arbennig o wael o allgáu ariannol. Ac mae'r Prif Weinidog eisoes wedi sôn am leoli cangen ym Mwcle, sir y Fflint. Sut, felly, y penderfynir ar leoliadau'r canghennau, a pha sicrwydd y gallwch ei roi y bydd cymunedau gwledig sydd wedi'u hallgáu'n ariannol ar frig y rhestr flaenoriaethau? A pha sicrwydd y gallwch ei roi inni fod gan Lywodraeth Cymru y gallu i gynnig y model hwn i bob rhan o Gymru, os yw'n profi, fel y gobeithiwn, i fod yn llwyddiannus? Mae'n hanfodol fod gennym ni'r sylfaen sgiliau gywir i gefnogi'r sector. Mewn ymateb i bumed Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau'r Cynulliad, dywedodd y Gymdeithas Banc Cynilon Cymunedol y byddai canfod y bobl sydd â'r cyfuniad cywir o sgiliau a chymhelliant moesegol i fod eisiau creu rhywbeth yng Nghymru yn anoddach na chanfod yr arian i gefnogi banc cymunedol. Mark, rhaid i chi ddod i ben nawr. Mark Isherwood AC: Felly, Gweinidog, pa waith sy'n cael ei wneud i adnabod a darparu'r sgiliau sydd eu hangen i gefnogi'r model ar gyfer y dyfodol? Ac yn olaf, sut mae mynediad i'r canghennau ar gyfer pobl anabl sydd â namau gweladwy a chudd yn cael ei gynllunio? Vaughan Gething AC: Diolch am y gyfres helaeth o gwestiynau. Os caf i ddechrau drwy ddweud fy mod i'n credu bod heddiw'n ddiwrnod mawr a phwysig iawn: mae cael sefydliad ariannol sefydledig yn cadarnhau'n gyhoeddus ei fod yn bwriadu datblygu'r cynnig mewn partneriaeth ac mai ef fydd y sefydliad sefydledig i fwrw ymlaen â materion yn gam cadarnhaol iawn ymlaen. Ac fel y dywedais i yn fy agoriad, nid oes unrhyw fanc cymunedol o'r raddfa hon neu sy'n dilyn y model hwn wedi'i sefydlu eto yn unman yn y DU. Felly, mae hwn yn faes polisi newydd lle mae Cymru'n arwain, ac rwy'n falch iawn bod gennym ni sefydliad ariannol cydfuddiannol sy'n barod ac yn fodlon cydweithio gyda ni, mewn modd a ddylai fod nid yn unig i ddarparu mwy o wasanaethau bancio cymunedol, ond mae'n debyg y bydd yn drawsnewidiol i Gymdeithas Adeiladu Sir Fynwy ei hun. Felly, mae hwn yn ddiwrnod cadarnhaol iawn, ac mae llawer o'r cwestiynau y mae Mark Isherwood wedi'u gofyn yn gwestiynau yr ydym ni eisoes wedi cael trafodaethau yn eu cylch ac y disgwyliaf y clywn ni fwy amdanyn nhw wrth inni symud ymlaen, oherwydd—. Eich pwyntiau ynghylch, 'A yw'r banc cymunedol yn gorgyffwrdd â gwasanaethau eraill?'—wel, mewn gwirionedd, mae arnom ni eisiau cefnogi a sefydlu banc cymunedol oherwydd encilio gwasanaethau bancio traddodiadol o lawer o gymunedau. Rwy'n gwybod fod hwn yn fater sydd, fel y dywedais i yn fy agoriad, yn cael ei gefnogi gan Aelodau o bob rhan o'r sbectrwm gwleidyddol yn y Senedd, oherwydd mae gan bob un ohonom ni brofiad o wasanaethau bancio traddodiadol yn diflannu o gymunedau yr ydym ni'n eu cynrychioli. Mae'r un peth yn wir i Aelodau sy'n cynrychioli etholaethau trefol i raddau helaeth, yn ogystal â'r rhai sy'n wledig i raddau helaeth. Felly, mae her wirioneddol yma, yn hytrach na phroblem bod gorgyffwrdd, fel darlun eang. Ond o ran sut y bydd y partneriaethau hynny'n gweithio, gan gynnwys, er enghraifft, y partneriaethau y byddem yn disgwyl eu gweld gyda'r mudiad undebau credyd, mae'r rheini'n bethau yr ydym ni'n disgwyl gweld mwy o fanylion amdanyn nhw mewn cynnig buddsoddi, ond hefyd mae gwaith sydd eisoes wedi'i wneud gan Fanc Cambria oherwydd, wrth gwrs, maen nhw'n rhan o'r mudiad cydweithredol a chydfuddiannol, felly maen nhw wedi sefydlu perthynas ag amrywiaeth o undebau credyd. Ond mae'n gwbl resymol i rai undebau credyd gwestiynu sut y bydd hyn yn effeithio arnyn nhw a'u busnes ac na fydd hyn yn y pen draw yn rhywbeth sy'n gwasgu cystadleuaeth lle mae gwasanaethau eisoes yn cael eu darparu, yn hytrach na darparu gwasanaethau i gymunedau yr ydym ni'n cydnabod nad ydyn nhw'n cael eu gwasanaethu'n dda ar hyn o bryd. O ran eich cwestiwn am waith diwydrwydd dyladwy gan Lywodraeth Cymru, byddwn ni ac unrhyw fuddsoddwr arall yn sicr yn gwneud gwaith diwydrwydd dyladwy yn dilyn cynnig buddsoddi. Ac rydym ni wedi cyrraedd sefyllfa nawr lle mae sir Fynwy wedi cadarnhau y byddant yn gwneud hynny, felly byddaf yn disgwyl cael cynnig buddsoddi priodol ganddyn nhw i ni edrych arno, i graffu arno, a bydd angen iddyn nhw hefyd, wrth gwrs, sicrhau eu rheoleiddiwr eu hunain am y cynigion y maen nhw'n bwriadu eu gwneud a'r hyn y mae'n ei olygu i'w haelodau presennol, yn ogystal ag ar gyfer rhai yn y dyfodol hefyd. Ac eto, mae hyn yn mynd yn ôl at un o'r pwyntiau a wnaethoch chi yn eich rhestr o enghreifftiau, lle rydych chi wedi codi materion tebyg, ynghylch y ffaith y dylai bod â sefydliad sefydledig olygu ein bod yn gallu lansio banc cymunedol yn gyflymach na phe baem ni fel arall wedi ceisio dechrau o'r newydd. Rwy'n cydnabod eich pwyntiau am Swyddfa'r Post, ac, wrth gwrs, ar un adeg, roedd posibilrwydd o fanc post wedi'i sefydlu'n briodol—mae'r rheini'n faterion sydd yn nwylo Llywodraeth y DU, ac, wrth gwrs, bu cysylltiad sefydledig rhwng Swyddfa'r Post a Banc Iwerddon ers rhai blynyddoedd. Felly, unwaith eto, rydym ni'n edrych ar dirwedd lle mae gwasanaethau'n bodoli ac yn edrych ar sut y gallwn ni ychwanegu at yr hyn sy'n bodoli yn hytrach na chystadlu â gwasanaethau sefydledig sydd eisoes yn darparu gwasanaeth gweddus i gymunedau ledled y wlad. O ran, rwy'n credu, eich sylwadau ehangach, fe hoffwn i ddweud hyn am undebau credyd: rydym ni'n disgwyl y bydd cytundebau asiantaeth neu bartneriaeth ar waith. Fyddech chi ddim yn disgwyl i'r rheini i gyd gael eu sefydlu gyda chyhoeddiad heddiw, ond ein disgwyliad yw y bydd hyn yn ychwanegiad gwirioneddol at y gwasanaethau bancio ac ariannol sydd ar gael mewn llawer o'n cymunedau, ac rwy'n credu bod hwn yn gam cadarnhaol iawn ymlaen. Rwy'n credu mai dim ond pan fyddwn ni'n manylu ar y cynigion sydd i'w cyflwyno y gellir ateb y manylion sylweddol yr ydych chi'n chwilio amdanyn nhw yn llawer o'ch cwestiynau, gan gynnwys, wrth gwrs, sut mae sefydliad newydd Banc Cambria yn disgwyl sefydlu canghennau a'r meini prawf y bydd yn eu defnyddio o ran ble yr hoffai sefydlu'r rheini yn y dyfodol. Ond edrychaf ymlaen at ddiweddaru Mr Isherwood ac Aelodau eraill dros y misoedd nesaf. Llefarydd Plaid Cymru, Luke Fletcher. Luke Fletcher AS: Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel y bydd llawer o Aelodau'n sôn, mae'n siŵr, mae'r datganiad hwn, yn wir, yn amserol; mae bron yn teimlo fel stori newyddion beunyddiol y dyddiau hyn bod canghennau banc yn cau yn ein trefi a'n pentrefi ledled Cymru. Rhwng 2015 a 2019, collodd Cymru dros ddwy ran o bump o'i changhennau banc—dyna 239 o ganghennau'n gyfan gwbl. Yn fy rhanbarth i yng Ngorllewin De Cymru, er enghraifft, yn fy etholaeth gartref yn Ogwr, dim ond un gangen banc sydd ar ôl yn yr etholaeth gyfan ac mae hynny ym Maesteg. Mae'n bwysig cofio hefyd nad sôn am ganghennau banc yn unig yr ydym ni, rydym ni hefyd yn sôn am beiriannau twll yn y wal, hefyd, yn cau, sy'n golygu bod tueddiadau tuag at fancio digidol a chymdeithas ddi-arian yn dechrau eithrio rhai grwpiau'n ariannol, a fydd, wrth gwrs, yn fwy difrifol mewn ardaloedd gwledig. Y gwir amdani yw y bydd gweithredoedd y sector bancio masnachol yn debygol o waethygu anghydraddoldeb rhanbarthol, a dyna pam mae Plaid Cymru yn croesawu datblygiad Banc Cambria ac, yn benodol, yn croesawu'r ffaith y bydd Cymru'n arwain y ffordd yn y DU drwy gael y banc cymunedol cyntaf, math o fanc sy'n gyffredin ledled y byd. A byddwn yn annog Aelodau i ddarllen am ba mor gyffredin yw banciau cymunedol yn yr Unol Daleithiau. Ac, wrth gwrs, gyda Banc Cambria, caiff yr arian a fuddsoddir ei fuddsoddi yng Nghymru er budd y rhai sy'n galw Cymru'n gartref, sy'n golygu y gallai fod potensial enfawr ar gyfer datblygu economaidd yn rhai o'n hardaloedd mwy difreintiedig. Mae'n bwysig bod Banc Cambria, fel y mae Mark Isherwood eisoes wedi cyfeirio ato rwy'n credu, yn cael ei ystyried yn fanc i Gymru gyfan, yn enwedig pan ymddengys hi fod llawer o fanciau'r stryd fawr wrthi'n cefnu ar Gymru. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a allai'r Gweinidog roi unrhyw arwydd o ble y bydd Banc Cambria yn ceisio sefydlu ei don gychwynnol o ganghennau banc, yn ogystal â lle y gallai Banc Cambria fod â'i bencadlys. Clywais Gasnewydd yn cael ei grybwyll yn y datganiad; mae'n bwysig, rwy'n credu, fod ei bencadlys y tu allan i Gaerdydd, ond, fel bachgen o Bencoed, byddaf yn manteisio ar y cyfle hwn i estyn gwahoddiad a dweud na fyddai ots gen i weld cangen wedi agor ym Mhencoed, nac i Fanc Cambria hyd yn oed gael ei bencadlys yno. Ond mae'n bwysig, wrth gwrs, bod Banc Cambria yn bresennol mewn cymunedau ledled Cymru, o gymunedau ar y ffin i'r Cymoedd, i'r Fro Gymraeg ac i'n trefi glan môr. Wrth gwrs, un mater cyson a gawn ni gyda banciau yng Nghymru yw bod diffyg gallu, neu anallu, i fancio drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym ni wedi clywed am sawl stori—un ddiweddar gyda HSBC—lle mae cymunedau Cymraeg wedi cael eu siomi yn hyn o beth. Rwy'n croesawu, fel y nododd y Gweinidog yn ei ddatganiad, y bydd gwasanaethau ar gael yn ddwyieithog. Ond a allai'r Gweinidog roi unrhyw arwydd a fydd holl wasanaethau Banc Cambria yn ddwyieithog ai peidio, gan gynnwys gwasanaethau mewn cangen yn ogystal â bancio ar-lein? Yn olaf, chwe mis yn ôl, gofynnais i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a oedd Llywodraeth Cymru wedi ystyried sut y gallem ni ddefnyddio model cymunedol Banc Cambria ar gyfer busnesau eraill lle mae'r awenau yn nwylo cymunedau, efallai ym maes ynni neu ddur, er enghraifft, a pha gymorth y mae'r Llywodraeth yn ei ddarparu ar gyfer hyn. Roedd y Gweinidog ar y pryd yn ymddangos yn agored i'r syniad, ond roedd am ganolbwyntio ar sefydlu Banc Cambria yn gyntaf, sy'n gwbl ddealladwy. Ond gan y bu peth cynnydd yn natblygiad Banc Cambria, a bod y portffolio bancio cymunedol wedi'i symud i'ch portffolio, Gweinidog, a oes mwy o ystyriaeth wedi'i rhoi i sut y gellid defnyddio'r model hwn mewn mannau eraill yn economi Cymru? Vaughan Gething AC: Diolch am y cwestiynau a'r sylwadau. Rwy'n cytuno â'ch sylwadau am yr her o ran nad yw hyn yn ymwneud â gwasanaethau cangen yn unig, ond am fynediad at wasanaethau arian parod hefyd—nid peiriannau twll yn y wal yn unig ond, yn arbennig, peiriannau twll yn y wal di-dâl hefyd. Mae rhan o'r ymgyrch y tu ôl i hyn yn gydnabyddiaeth bod ymadawiad canghennau traddodiadol a gwasanaethau arian parod yn golygu bod rhaniad cynyddol rhwng y rhai sydd â sgiliau digidol, yn enwedig bancio ar ddyfeisiau symudol, ond hefyd y rhai y mae angen arian parod arnyn nhw i redeg eu busnes arferol o ddydd i ddydd. Felly, mae her yma, o ran peidio â gweithredu a'r hyn a fyddai gennym ni fel arall. Rwy'n falch o'r gwaith yr ydym ni wedi'i wneud yn llwyddiannus dros gyfnod o amser, gyda chymorth nifer o bleidiau, o ran ceisio darparu gwasanaethau ariannol drwy undebau credyd yn arbennig hefyd. Ond rwy'n credu y bydd Banc Cambria yn llenwi bwlch penodol sy'n dal i fodoli, ac rwy'n falch o gael cefnogaeth eang Plaid Cymru wrth wneud hynny. Byddwn yn disgwyl i gynlluniau manylach ynghylch canghennau gael eu cyflwyno gyda'r cynnig buddsoddi hwnnw, ond mae Banc Cambria yn dweud eu bod yn disgwyl agor hyd at tua 30 o ganghennau yn ystod eu degawd cyntaf. Nawr, nid yw'n brawf teg dweud bod disgwyl i Fanc Cambria agor nifer cyfatebol o ganghennau i'r hyn y mae canghennau traddodiadol a hirsefydlog wedi eu cau, ac i allu gwneud hynny o fewn cyfnod byr. Rydym ni'n dal i edrych ar rywbeth sydd, fel y dywedais i, yn ymyriad polisi newydd, i allu creu banc cymunedol newydd. Ac rydych chi'n gywir i dynnu sylw at y ffaith bod gan rannau eraill o'r byd rwydwaith gwahanol iawn, ac nad oes gennym ni, fel y dywedais i yn fy agoriad, sector bancio amrywiol iawn o gwbl. Mae'r banciau mwy newydd sydd wedi dechrau cystadlu yn tueddu i fod yn fanciau ar-lein. Felly, mae bwlch o hyd y credwn ni y gall Banc Cambria helpu i'w lenwi. Pan ddaw'r cynnig buddsoddi manwl hwnnw, nid diwydrwydd dyladwy fydd yr unig elfen o hynny. Mae arnom ni eisiau gweld beth yw eu bwriad ac i osod cynllun ar gyfer sut y byddan nhw'n egluro ble yr hoffen nhw sefydlu canghennau a gwasanaethau. Felly, rwyf yn sylweddoli, gyda llawer o'r cwestiynau a ofynnir heddiw, na fyddaf yn gallu rhoi atebion pendant ichi, ond i allu dweud eu bod yn disgwyl sefydlu canghennau newydd dros y degawd cyntaf. Maen nhw'n disgwyl gallu dweud mwy am y cynhyrchion a'r gwasanaethau y byddan nhw yn eu darparu. Bydd y cynnig buddsoddi yn helpu i fanylu ar hynny ac i egluro hynny. Mae'r ffaith bod Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy yn gwneud hyn eisoes yn golygu bod gennym ni sefydliad sydd â'i bencadlys yng Nghymru. Mae pencadlys y Gymdeithas yng Nghasnewydd, a heb edrych ar y ddau Aelod etholaeth ar gyfer dinas Casnewydd, byddwn wedi meddwl yr hoffen nhw weld Banc Cambria yn parhau i gael ei sefydlu ac â'i bencadlys yn y ddinas honno. Nid wyf yn ceisio codi cynnen rhwng rhanbarthau, ond y pwynt ydy bod gennym ni sefydliad ariannol sefydledig sydd â'i bencadlys a'i wreiddiau yng Nghymru ac sydd wedi bod yma ers canrif a hanner. Mae hynny'n beth da, o ran yr addasrwydd yr ydym ni'n chwilio amdano ar gyfer rhywun sydd wedi ymrwymo i wasanaethau bancio cymunedol. Nid yw hynny'n golygu, wrth gwrs, na fyddant yn ymwneud â chefnogi busnesau. Rwy'n credu y byddan nhw—yn enwedig busnesau llai. Yr her fydd, os ydym ni'n edrych ar unedau economaidd mwy, ynghylch o ble y daw'r cyfalaf ar gyfer hynny. Felly, nid fy mod yn dweud na chân nhw ac na chaniateir iddyn nhw wneud hynny; mae'n ymwneud mewn gwirionedd â'r angen i sefydlu'r model bancio cymunedol yn gyntaf fel gwasanaeth priodol sy'n llwyddiannus, ac yna mae'n ymwneud ag uchelgais y sefydliad a'r hyn y gall ei gyflawni mewn gwirionedd. Ond, unwaith eto, nid wyf yn siŵr y byddai'n brawf teg dweud bod yn rhaid iddo ymwneud â'r un raddfa o gyllid y gallech ei weld fel arall mewn diwydiannau fel y sector dur. Ond mater i'r sefydliad yw nodi cynnig buddsoddi priodol y gall Llywodraeth Cymru ei gefnogi. A gallaf ddweud mai fy nisgwyliad i yw na fydd gwasanaethau Cymraeg ar-lein yn unig; bydd gwasanaethau Cymraeg mewn canghennauhefyd. Mae'n rhan o'r atyniad o gael partneriaeth briodol gyda sefydliad lleol sy'n deall yr angen i wneud hynny. Felly, rwy'n credu y byddai'n beth da i'r gwasanaethau iaith a bancio cymunedol, yn ogystal ag i ehangder yr hyn y byddwn yn gallu ei wneud dros amser. Y cam cyntaf, serch hynny, yw cyhoeddiad cyhoeddus heddiw am y sefydliad ariannol. Y cam nesaf fydd cynnig buddsoddi priodol a'r gwaith diwydrwydd dyladwy, ac yna gobeithiwn y byddwn yn bwrw ymlaen i sefydlu canghennau Banc Cambria yn ystod tymor y Senedd hon. Mae gennyf sawl Aelod sy'n dal yn dymuno siarad, felly a wnewch chi i gyd wneud yn siŵr eich bod yn cadw o fewn eich dyraniad amser? Ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn ein helpu drwy fod yn gryno yn ei atebion. Jack Sargeant. Jack Sargeant AC: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, fe wyddoch chi, yn amlwg, y bûm i'n ceisio gweithio'n galed iawn i ddod â changen banc cymunedol i Fwcle yn fy etholaeth i, ac rwy'n credu ei bod hi'n werth nodi bod ymrwymo i ddechrau banc cymunedol cyntaf Cymru ac agor cangen yn un beiddgar ac yn un i'w groesawu. Felly, rwyf yn ddiolchgar iawn i chi a'ch swyddogion, ond hefyd yn ddiolchgar iawn i'r Prif Weinidog, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a Ken Skates, am ei amser yn hyrwyddo'r syniad yn y Llywodraeth. Ac rwy'n credu ei bod hi'n drawiadol bod gennym ni wir gefnogaeth drawsbleidiol i'r syniad yma. Rwy'n credu fod hynny'n dangos y Senedd ar ei gorau. Mae'r cyhoeddiad heddiw gan Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Adeiladu Sir Fynwy yn dod â ni gam enfawr yn nes at fanc cymunedol trwyddedig yng Nghymru, ac rwy'n credu bod hynny'n gyflawniad aruthrol wrth wireddu uchelgais y syniad hwn. Nawr, er mai Banc Cambria fydd y cyntaf o'i fath yng Nghymru, rwy'n gwybod y bydd llawer ledled y DU yn gwylio i ddilyn eu harweiniad, ond y cwestiwn pwysig i drigolion Bwcle, Gweinidog, yw: pryd y bydd canghennau Banc Cambria yn agor ar ein strydoedd mawr, a pha mor hir y bydd hynny'n ei gymryd? Ond, Dirprwy Lywydd, os wnewch chi ganiatáu imi wrth gloi, rwy'n gwybod fod gen i dipyn o enw fel Sinach y Senedd, ond rwyf i yn yr ysbryd Nadolig hwnnw heddiw ac, fel yr wyf wedi ei ddweud o'r blaen, rwyf weithiau'n canu carolau Nadolig, ac rwyf yn canu'r un peth ag yr wyf wedi'i ganu o'r blaen, felly'r cwbl yr hoffwn ar gyfer y Nadolig, Gweinidog, yw banc ym Mwcle. Diolch yn fawr. Vaughan Gething AC: Wel, rwy'n siŵr y bydd y bobl dda ym Manc Cambria wedi'ch clywed chi cyn heddiw, yn ogystal â heddiw, ac rwy'n gwybod y byddan nhw'n ymddiddori yn y ddadl heddiw y mae'r holl Senedd yn rhan ohoni. Edrychwch, rydym yn disgwyl derbyn cynnig buddsoddi dros y flwyddyn galendr nesaf, felly yn ystod 2022, a bydd angen i ni wedyn gynnal ein hymarfer diwydrwydd dyladwy, fel yr wyf wedi'i nodi o'r blaen. Felly, ni allaf roi union amserlen i chi ar gyfer hynny. Ond y disgwyliad amlinellol yw y gallem ni weld canghennau'n dechrau agor cyn diwedd 2023. Bydd angen i ni weld manylion hynny a ble y byddant yn y cynnig buddsoddi, a mater i Fanc Cambria yw cyflwyno eu cynnig ac i nodi sut y bydden nhw'n ceisio lleoli canghennau newydd a ble y bydden nhw'n dechrau arni. Rwy'n siŵr y bydd ceisiadau eraill, ond, fel y dywedais i, mae'r Aelod wedi bod yn gyson iawn am Fanc Cambria. Mae'n werth nodi, pan siaradais yn gynharach am gytundebau asiantaeth, mai un o'r pethau y mae Banc Cambria eisoes wedi'i wneud yw rhywfaint o waith gydag Undeb Credyd y Cambrian yn y gogledd i edrych ar gytundeb asiantaeth posibl a allai eto helpu i sicrhau fod y gwasanaethau hynny ar gael i fwy o bobl ac i wneud hynny mewn ffordd sy'n bartneriaeth wirioneddol, yn hytrach nag mewn modd a fydd yn cystadlu â gwasanaethau undebau credyd hefyd. Mae amrywiaeth o bethau'n dod o hynny, a dyna pam y ceisiais nodi fy mod yn edrych ymlaen at allu dychwelyd yma gyda mwy o fanylion fel y gellir dechrau sefydlu canghennau, ac yna bydd hynny'n ffitio'n daclus i'r sector cyfiawnder cymdeithasol a bancio cymunedol mewn ffordd y credaf y byddai'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedyn yn Weinidog arweiniol, unwaith y bydd wedi'i sefydlu'n iawn. Jane Dodds AS: A gaf i ychwanegu at y gefnogaeth drawsbleidiol a adleisiwyd drwy'r Siambr rithwir y prynhawn yma? Diolch yn fawr i'r Gweinidog ac i'ch tîm ac i'r Prif Weinidog hefyd am eich holl waith yn cyflwyno hyn. Mae'n ddatblygiad cyffrous, arloesol a thra bod gen i'r cyfle hwn, mae canolbarth Cymru eisiau datblygu ei sector ariannol, ac mi fyddem ninnau hefyd yn croesawu pencadlys Banc Cambria yn unrhyw le yng nghanolbarth Cymru. Felly, ystyriwch hynny hefyd. Mae mor bwysig i ardaloedd trefol a gwledig, ac fe hoffwn i ddim ond dal sylw ar yr heriau sy'n wynebu ardaloedd gwledig heb eu banciau. Cefais y fraint fawr o gyfarfod â Banc Cambria yn Llanidloes, tref a gollodd ei banc diwethaf yn 2017, ac yn y Gelli Gandryll, lle rwy'n byw, caeodd y banc diwethaf yn 2018. Felly, mae hwn yn ddatblygiad cyffrous ac arloesol iawn. Mae banciau'n hanfodol mewn ardaloedd gwledig gan eu bod yn cefnogi busnesau bach, maen nhw'n cefnogi ffermwyr ac amaethyddiaeth, ac maen nhw'n cefnogi'r rhai na allan nhw gael mynediad i'r rhwydweithiau digidol. Felly, rydym ni'n croesawu hyn. Nid wyf am ofyn eto y cwestiynau a ofynnwyd o'r blaen, oherwydd rydych chi wedi bod yn glir bod datblygiadau i ddod o hyd, ond byddwn yn gofyn ac yn annog bod Banc Cambria a chithau'n gallu parhau i gyfathrebu'n effeithiol â'r cymunedau yr effeithir arnyn nhw gan golli eu banciau a bod proses ymgynghori dda sy'n caniatáu i bobl gyfrannu at hynny. Hoffwn hefyd adleisio safbwynt Luke Fletcher ar yr iaith Gymraeg, ac rydych chi eisoes wedi rhoi'r sicrwydd ynghylch sut y gall Banc Cambria fodloni'r disgwyliadau hynny. Diolch yn fawr, Gweinidog. Diolch yn fawr iawn. Vaughan Gething AC: Diolch, a diolch eto am y croeso eang. A'r sylw am ymgynghori a'r posibilrwydd i ganghennau newydd fod yn gatalydd gwirioneddol ar gyfer adfywio'r stryd fawr yn ogystal â chyfoeth cymunedol, mae hynny'n sylw yr wyf yn gwybod bod gan Aelodau ar draws y Siambr ddiddordeb mawr ynddo, a sut i wneud hynny mewn ffordd yr ydym ni'n ei deall a bod Banc Cambria, pan fyddan nhw'n datblygu cynnig, yn deall sut y gallan nhw wneud hynny, a gweithio gyda chymunedau yn hytrach na gwneud rhywbeth i gymunedau. Credaf y bu hynny yn ganfyddiad gydag enciliad rhai canghennau bancio traddodiadol, bod pobl wedi teimlo bod pethau wedi'u gwneud iddyn nhw heb ystyried yr effaith o reidrwydd. Ac mae'n broblem yn y Gymru drefol hefyd, ond rydym ni'n cydnabod ei bod hi'n arbennig o ddifrifol yng nghefn gwlad Cymru. Ac rwy'n ddiolchgar iawn i chi am ddiolch i'r tîm; y tîm yma yn Llywodraeth Cymru—mae rhai o'n swyddogion wedi gweithio'n eithriadol o galed ar yr hyn sy'n faes cymhleth a dyrys—ond hefyd y tîm yng Nghymdeithas Adeiladu Sir Fynwy sydd wedi ymrwymo mewn difri calon i gyflawni hyn. Heb yr ymrwymiad hwnnw ganddyn nhw, ni fyddem ni yma heddiw a byddem yn dal i siarad am syniad yn hytrach na chynnig priodol lle y gallwn ni ddisgwyl cynnig buddsoddi pendant y flwyddyn nesaf. Felly, byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau, ac rwy'n gwybod y bydd Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy, ynghyd â Banc Cambria, yn parhau i wneud hynny hefyd. Russell George AC: A gaf i ddweud 'diolch' am eich datganiad, Gweinidog? Rydych chi wedi cyfeirio at Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn helaeth, fel y mae Mark Isherwood wedi gwneud hefyd, ond roedd yn fraint gen i gadeirio'r pwyllgor hwnnw, ac rwy'n credu ei bod hi'n wych ein bod ni, ar sail drawsbleidiol, wedi cefnogi gwaith Banc Cambria yn fawr iawn ac wedi gwneud cyfres o argymhellion, a oedd, gobeithio, wedi helpu i symud materion yn eu blaen. Gydag arian cyhoeddus, Gweinidog, a gaf i ofyn sut y byddwch chi a sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod chwarae teg i bawb, ac yn enwedig i gymdeithasau adeiladu nad ydyn nhw'n ymwneud â Banc Cambria efallai? Vaughan Gething AC: Mae hwnnw'n gwestiwn teg, ac, edrychwch, yr hyn yr ydym ni'n edrych arno yw, rydym ni'n edrych ar rywbeth a fyddai'n gynnig buddsoddi priodol ar sail fasnachol. Felly, nid yw fel pe baem ni'n ceisio darparu llinellau credyd ffafriol; mae'n ymwneud â dod o hyd i bartner a all ddarparu cynnig buddsoddi masnachol manwl iawn, darparu elw ar fuddsoddiad y byddai Llywodraeth Cymru yn ei wneud. Ac felly, byddai gwaith diwydrwydd dyladwy priodol ynghylch hynny, ac ni fyddai hyn, mewn ffordd, yn dangos ffafriaeth, 'Rydym ni'n gofalu am un sefydliad.' Ac, mewn gwirionedd, roedd galwad agored, ac aeth Banc Cambria ati eu hunain i chwilio am amrywiaeth o sefydliadau i weithio gyda nhw a siarad â nhw. Roedd Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy eisiau gwneud hyn, yn barod i wneud hyn, ac yn cydnabod bod angen i'r sefydliad fod wedi ymrwymo mewn ffordd nad oedd ar rai sefydliadau eisiau bod. Nawr, mae hynny'n gwbl deg. Mater i bob sefydliad yw penderfynu sut y mae am reoli ei hun a buddsoddi ei egni ei hun. Rwy'n falch iawn o fod â Chymdeithas Adeiladu Sir Fynwy fel partner dibynadwy, yn gweithio gyda ni nawr. A dylwn i ddweud ein bod ni wedi ystyried argymhellion y cyn bwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau a gadeiriwyd gan yr Aelod—mae'n debyg y byddwn yn cytuno â llawer mwy o bethau a ddywedodd fel Cadeirydd y pwyllgor nag yn ei swyddogaeth bresennol. Ond, na, rydym ni wedi cymryd o ddifrif yr hyn a ddywedodd y pwyllgor, ac mae wedi bod yn ddefnyddiol iawn i ni allu gweithio o sail lle gwyddom ni fod cefnogaeth drawsbleidiol ac y gallwn ni geisio darparu rhywbeth a ddylai wneud gwahaniaeth, lle gall pawb gydnabod ein bod ni'n gwneud rhywbeth i fynd i'r afael ag angen gwirioneddol. Ni waeth sut y mae pobl yn pleidleisio, mae gwir angen ledled Cymru i ni wneud rhywbeth i lenwi'r bwlch hwn mewn gwasanaethau bancio lleol. Vikki Howells AC: Diolch, Gweinidog. Mae banc cymunedol Cymru yn syniad pwysig iawn, gan roi ei aelodau a'i gymunedau yn gyntaf yn hytrach na chyfranddalwyr ac elw. Ynghyd â llawer o fy etholwyr, edrychaf ymlaen at weld y cynlluniau yn cael eu cyflwyno, ond nodaf eich sylwadau ynghylch yr heriau o ran rhoi'r model newydd ar waith. Fe wnaethoch chi sôn am fanciau traddodiadol yn encilio'n gynt nag erioed o'r stryd fawr, ac rwy'n drist i nodi mai banc Barclays fu'r diweddaraf i adael y stryd fawr yn Aberdâr. Un syniad y gofynnodd etholwyr imi ei godi gyda Barclays yw'r syniad o ganolfan fancio lle gall nifer o fanciau ddod at ei gilydd mewn un adeilad ar y stryd fawr i gynnig eu gwasanaethau i'r gymuned. Gweinidog, byddwn yn croesawu eich barn ar ganolfannau bancio, ynghylch a allen nhw fod yn rhan o'r ateb i wasanaethau bancio yn gadael y stryd fawr. Fe wnes i gyfarfod â phenaethiaid Barclays ddoe a chyflwyno'r syniad hwn iddyn nhw. Fe wnaethon nhw ddweud wrthyf i eu bod nhw eisoes yn gweithio gyda banciau eraill i ddatblygu'r cysyniad hwn, gyda'r ganolfan fancio gyntaf ar fin agor yn Lloegr yn fuan. Felly, gyda hynny mewn golwg, a wnewch chi ymrwymo i weithio gyda'r sector i geisio sicrhau canolfannau bancio yng Nghymru? Vaughan Gething AC: Diolch. Mae'r hyn yr ydym ni'n ei wneud yng Nghymru gyda'r banc cymunedol yn ddull newydd o ran polisi nad yw wedi bod yn llwyddiannus yn unman arall. Mae canolfannau bancio yn treialu'r hyn y gallen nhw ei wneud, ac mae'r Aelod yn iawn i dynnu sylw atyn nhw fel rhan o'r ateb ar gyfer y dyfodol. Felly, rydym ni'n disgwyl cael adroddiad arbrofol ar ganolfannau bancio ar y cyd yn fuan, ac rwy'n deall bod dau gynllun yn arbrofi gyda chanolfannau bancio, un yn Swydd Lanark ac un yn Essex, ac mae yna hefyd fynediad cymunedol at gynllun arbrofol arian parod yn cael ei ddatblygu yn y Gelli Gandryll. Felly, byddwn yn edrych gyda gwir ddiddordeb ar y tri chynllun arbrofol gwahanol hynny i ddeall yr hyn y gallai hynny ei ddweud wrthym ni, naill ai am ein cynnig ni o ran sefydlu banc cymunedol, neu a oes ffyrdd eraill o geisio darparu gwasanaethau cynhwysiant ariannol i gymunedau ledled Cymru. Mae'n ddrwg gen i glywed bod Barclays yn bwriadu gadael Aberdâr. Mae'r Aelod yn tynnu sylw'n daclus iawn at yr union her yr ydym ni'n ceisio mynd i'r afael â hi, a byddwn i'n fwy na pharod i'w diweddaru hi ac eraill am yr hyn y gallwn ni ei wneud gyda'r sector bancio manwerthu presennol a'r posibiliadau o ganolfannau bancio sy'n helpu i lenwi rhai o'r bylchau y maen nhw yn eu gadael ar ôl. Alun Davies AC: Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma. Byddwch chi'n ymwybodol, Gweinidog, imi gyfarfod â Banc Cambria yn Abertyleri rai wythnosau'n ôl i drafod y posibilrwydd o leoli cangen yn y dref. Mae llawer o'n cymunedau yn y Cymoedd wedi gweld gwasanaethau ariannol yn cael eu tynnu'n ôl ac wedi gweld caledi gwirioneddol, i fusnesau lleol a phobl leol, o ganlyniad i hynny. Bydd llawer o bobl yn edrych ar hyn fel cyfle i weld gwasanaethau ariannol yn ôl ar y stryd fawr fel rhan o gyfle i adfywio canol trefi yn y Cymoedd ac mewn mannau eraill. A fyddech chi, Gweinidog, yn gweithio gyda Banc Cambria, ac Aelodau sy'n cynrychioli seddi yn y Cymoedd, i edrych ar sut y gallwn ni sicrhau bod gennym ni raglen o ganghennau a chyfle i sicrhau bod gwasanaethau ariannol ar gael i bobl ar hyd a lled y wlad lle bynnag y bo nhw'n byw, boed hynny'n Abertyleri, Tredegar, Glynebwy, Brynmawr neu rywle arall? Diolch. Vaughan Gething AC: Yn wir, rwy'n deall bod yna bobl nad ydyn nhw'n byw yn etholaeth yr Aelod, ond rwy'n ei ganmol am sôn am nifer o'i drefi etholaethol. Edrychwch, mae her wirioneddol, ac mae'r Aelod yn tynnu sylw at yr her yma eto, am adfywio canol trefi yn creu dyfodol llwyddiannus iawn i'n strydoedd mawr lleol, ac mae'n bwysig iawn o ran ymdeimlad o le yn y trefi hynny a'r hyn y mae pobl yn ei ddisgwyl am y man lle maen nhw'n byw. Felly, byddwn i'n fwy na pharod i barhau â'r sgwrs gydag ef wrth i ni gael y cynnig buddsoddi ynghylch Banc Cambria, wrth i ni ddeall mwy o'r manylion am ble maen nhw'n bwriadu lleoli eu canghennau, ond yn hollbwysig sut mae hynny'n cyd-fynd â'n hymyriadau eraill beth bynnag. Oherwydd nid oes a wnelo hyn â Banc Cambria yn unig—ac rwy'n sylweddoli na ddywedodd yr Aelod hynny—ond sut y gall ychwanegu at yr hyn yr hoffem ni ei wneud i sicrhau bod dyfodol gwirioneddol i drefi'r Cymoedd a threfi eraill ledled y wlad. Felly, byddwn i'n fwy na pharod i barhau â'r sgwrs honno gyda'r Aelod pan fo ar ei orau yn adeiladol. Ac yn olaf, Rhianon Passmore. Rhianon Passmore AC: A gaf i ddiolch hefyd i Lywodraeth Cymru am geisio mynd i'r afael â'r broblem anodd iawn a deimlir ym mhob cymuned ledled Cymru, a hefyd ymestyn y diolch hynny i Gymdeithas Adeiladu Sir Fynwy? Gwyddom fod y DU yn cael ei gwasanaethu'n wael gan nifer o fanciau mawr sy'n anwybyddu adborth cwsmeriaid ac yn parhau i fabwysiadu polisi o gefnu ar fancio cymunedol. Yn wyneb gwrthwynebiad cyffredinol bron ac anfodlonrwydd cwsmeriaid, maen nhw'n parhau i gau canghennau sydd wedi bod â rhan amlwg iawn yn ein strydoedd mawr ledled Cymru. Felly, Gweinidog, a allwch chi gadarnhau y bydd creu banc cymunedol i Gymru yn rhoi lles cyn pres, ac a wnewch chi gadarnhau y bydd banc cymunedol newydd Cymru yn cyflawni ar gyfer y llawer, nid yr ychydig, ar fodel cydfuddiannol cydweithredol, gan gynnwys gyda'n partneriaid sefydledig o'r undebau credyd? Ac yn olaf, sut yr wyf yn sicrhau y caiff ein banc newydd i bobl Cymru a'i pheiriannau twll yn y wal eu sefydlu ar strydoedd mawr Islwyn ar gyfer cymunedau ynysig fy Nghwm penodol i, sydd wedi'u gwreiddio mewn cydweithredu diwydiannol, ac sydd bellach wedi eu hesgeuluso'n wael iawn gan y model cyllid traddodiadol seiliedig ar elw? Diolch. Vaughan Gething AC: Wel, os oedd Banc Cambria yn amau brwdfrydedd Aelodau i gael banc cymunedol llwyddiannus i Gymru gyda phresenoldeb priodol ym mhob etholaeth a chymuned yn yr etholaethau hynny, dylai pob rhithyn o amheuaeth fod wedi diflannu ar ôl cyfraniadau'r Aelodau heddiw. Rwy'n cydnabod bod angerdd Aelodau yn ddilys oherwydd yr etholaethau a'r rhanbarthau yr ydych chi'n eu gwasanaethu, lle'r ydych chi'n gweld effaith uniongyrchol banciau'n gadael a'r hyn y mae'n ei olygu, yn enwedig i'r rhai sydd fwyaf tebygol o fod yn agored i niwed neu wedi'u hallgáu'n ariannol. Dyna pam rwy'n gadarnhaol iawn ynglŷn â'r ffaith ein bod yn gallu ffurfio partneriaeth â sefydliad cydfuddiannol, lle nad ydyn nhw'n bwriadu tynnu arian allan o Gymru i fynd i gyfranddalwyr eraill. Yr aelodau yw eu prif ddiddordeb ac mae arnyn nhw eisiau ailfuddsoddi yn y cymunedau hynny. Rwyf yn credu bod gennym ni sefydliad addas iawn ar gyfer yr hyn yr ydym ni'n ceisio'i gyflawni gyda Chymdeithas Adeiladu Sir Fynwy. Edrychaf ymlaen at dderbyn y cynnig buddsoddi ac edrychaf ymlaen at roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynghylch hynny. Yn fwy na hynny, edrychaf ymlaen at weld a all Banc Cambria ddechrau sefydlu canghennau o fewn canol tymor y Senedd hon, nid yn unig o ran y canghennau cyntaf a sefydlir, ond hefyd i'r cymunedau eraill hynny a hoffai weld sefydlu cangen banc cymunedol. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod dros Islwyn yn gwneud ei phwynt yn rymus ac yn uniongyrchol i Fanc Cambria am fanteision a buddion mynd i Islwyn, yn union fel y bydd Aelodau eraill yn gwneud yr un peth ar gyfer eu hetholaethau hefyd. Diolch yn fawr, Rhianon Passmore, a diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Diolch i'r Gweinidog. 6. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar COVID-19 Eitem 6 heddiw yw datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: diweddariad ar COVID-19. Galwaf ar y Gweinidog, Eluned Morgan. Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Diolch am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am yr amrywiolyn omicron sy'n symud yn gyflym iawn, ei effaith ar Gymru a'r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yma. Yn fy natganiad diwethaf i'r Aelodau, dywedais mai dim ond mater o amser oedd hi nes i omicron gyrraedd Cymru, ac yn anffodus, roedd hynny’n wir. Cadarnhawyd yr achos cyntaf yng Nghymru ychydig ddyddiau'n ddiweddarach ac, o heddiw ymlaen, mae 32 o achosion wedi'u cadarnhau. Mae'r niferoedd yn tyfu bob dydd, ac mae'n rhaid i ni fod yn barod iddyn nhw godi'n gyflym ac yn sydyn. Mae'r amser dyblu ar gyfer omicron yn ddau i dri diwrnod ar hyn o bryd. Mae Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU wedi amcangyfrif, os bydd yr amrywiolyn yn parhau i dyfu ar y gyfradd bresennol, mai dyma fydd y straen amlycaf, gan gyfrif am fwy na 50 y cant o'r holl heintiau COVID-19 yn y DU erbyn canol mis Rhagfyr. Os bydd y tueddiadau presennol yn parhau heb eu hatal, bydd mwy na miliwn o heintiau omicron yn y DU erbyn diwedd mis Rhagfyr. Mae'r Prif Weinidog y DU a Phrif Weinidog yr Alban wedi rhybuddio fod ton lanw o achosion ar ei ffordd. Mae'r sefyllfa'n ddifrifol iawn. Rydym yn dal i ymdrin â'r amrywiolyn delta yng Nghymru ar hyn o bryd, ond mae tystiolaeth bryderus bod omicron wedi ennill ei blwyf yn ein cymunedau eisoes. Bellach mae achosion wedi'u cadarnhau ym mhob ardal bwrdd iechyd. Cyrhaeddodd y DU drwy deithio rhyngwladol ac roedd yr achosion cychwynnol wedi'u cysylltu â theithio. Erbyn hyn, mae trosglwyddo cymunedol eang a pharhaus mewn sawl rhan o Loegr ac yn yr Alban hefyd. Nid yw'r rhan fwyaf o achosion yng Nghymru yn gysylltiedig â theithio. Pan siaradais â chi ddiwethaf am omicron, roedd llawer nad oeddem yn ei wybod. Diolch i waith arbenigwyr ac ymchwilwyr ledled y byd, rydym yn dysgu mwy bob dydd. Gwyddom bellach fod gan omicron fantais o ran twf dros delta, a gallai hyn fod o ganlyniad i osgoi imiwnedd neu drosglwyddo, ond gallai fod o ganlyniad i'r ddau. Mae omicron o leiaf mor drosglwyddadwy â delta. Mae'n ymarferol ei fod yn fwy trosglwyddadwy. Rydym yn aros am dystiolaeth bellach, ond os ydyw, mae ganddo'r potensial i heintio nifer fawr o bobl, a allai droi'n gynnydd mewn derbyniadau i'r ysbyty. Rydym yn symud i gyfnod anoddaf y flwyddyn ar gyfer ein gwasanaethau iechyd a gofal. Mae'r GIG eisoes yn hynod o brysur o ganlyniad i bwysau'r gaeaf a dal i fyny â thriniaethau a gafodd eu gohirio yn gynharach yn y pandemig. Byddai hyd yn oed cynnydd bach mewn derbyniadau COVID-19 yn rhoi hyd yn oed mwy o bwysau ar wasanaethau sydd eisoes dan bwysau a gweithlu blinedig ac, a dweud y gwir, wedi'i lethu. Gwyddom hefyd fod omicron yn dangos gostyngiad mewn diogelwch imiwnedd rhag haint ac nid oes gennym ddigon o wybodaeth o hyd i wybod a fydd yn achosi math mwy difrifol o salwch. Sut mae'r amrywiolyn yn ymddwyn mewn gwahanol boblogaethau gyda chyfraddau brechu gwahanol a phroffiliau demograffig gwahanol yw canolbwynt astudiaeth ddwys ledled y byd. Dros y penwythnos, datgelodd data sy'n dod i'r amlwg nad yw dau ddos o'r brechlyn yn ddigon i'n hamddiffyn rhag omicron. Mae'r dos atgyfnerthu yn hanfodol ar gyfer cryfhau ein diogelwch. Mae dros 1.1 miliwn o bobl eisoes wedi cael brechlyn atgyfnerthu yng Nghymru. Roeddem eisoes yn cynyddu cyflymder a chyflwyno'r rhaglen frechu wrth i'r canfyddiadau newydd hyn ddod i'r amlwg, ond byddwn yn awr yn mynd ymhellach a byddwn yn mynd yn gyflymach. Ein nod yw cynnig apwyntiad atgyfnerthu i bob oedolyn cymwys erbyn diwedd mis Rhagfyr. Mae hwn yn ymgymeriad enfawr. Bydd yn flaenoriaeth i'r GIG a bydd yn golygu ail-ganolbwyntio cymaint o weithgarwch nad yw'n fater brys â phosibl dros yr wythnosau nesaf ar y rhaglen frechu fel y gallwn sicrhau'r amddiffyniad mwyaf posibl. Byddwn yn gofyn i holl staff y GIG sy'n gallu, i weithio yn ein canolfannau brechu. Byddwn yn ymestyn canolfannau brechu i'w capasiti mwyaf, gan ymestyn oriau agor a darparu model hybrid o apwyntiadau galw i mewn a rhai a drefnwyd ymlaen llaw. Eluned Morgan AC: Rwy'n annog pawb i fanteisio ar y cynnig i gael y brechlyn. Rhowch flaenoriaeth i hyn os gwelwch yn dda. Mae'n un o'r pethau pwysicaf y gallwch chi ei wneud i amddiffyn eich hun. Dirprwy Lywydd, mae hon yn sefyllfa sy'n peri pryder ac yn symud yn gyflym iawn. Ond, ar hyn o bryd, mae nifer yr achosion o omicron sydd wedi eu cadarnhau yng Nghymru yn dal i fod yn isel, ac rydyn ni'n parhau i ymateb i don delta. Ond, rhaid inni i gyd fod yn barod i weithredu'n gyflym i ddiogelu iechyd pobl. Yn yr adolygiad tair wythnos diweddaraf o'r rheoliadau coronafeirws, mae'r Cabinet wedi ystyried pa fesurau amddiffyn sydd eu hangen nawr i ymateb i'r don delta bresennol a'r camau y mae angen inni eu rhoi ar waith i baratoi ac amddiffyn rhag cynnydd mewn achosion yn sgil yr amrywiolyn omicron. Rydyn ni wedi penderfynu newid i gylch adolygu wythnosol, er mwyn gallu monitro'r sefyllfa o ran iechyd cyhoeddus yn ofalus. Am y tro, byddwn yn aros ar lefel rhybudd 0, ond rydyn ni wedi adeiladu ar y mesurau rydyn ni wedi eu cyflwyno yn ystod y pythefnos diwethaf sy'n ymwneud â hunanynysu a theithio rhyngwladol. Rŷn ni bellach yn cynghori pobl yn gryf i brofi eu hunain ymlaen llaw—hynny yw, i wneud prawf llif unffordd cyn mynd allan i lefydd prysur neu i unrhyw ddigwyddiadau, a hefyd cyn teithio neu cyn ymweld â ffrindiau a theulu. Rŷn ni wedi cyhoeddi canllawiau i fyfyrwyr sy'n paratoi i adael y coleg a'r brifysgol cyn y Nadolig ynglŷn â chymryd profion cyn teithio. Os yw'r prawf yn bositif, arhoswch gartref. Mae angen ichi hunanynysu a threfnu prawf PCR. Rŷn ni wedi gwneud mân newidiadau i'n rheolau i egluro bod rhaid gwisgo gorchudd wyneb mewn sinemâu a theatrau ac yn ystod gwersi gyrru proffesiynol neu brofion gyrru ymarferol. Rŷn ni hefyd yn cynghori pobl yn gryf i wisgo gorchudd wyneb mewn tafarndai a bwytai pan nad ydyn nhw wrth y bwrdd neu ddim yn bwyta neu'n yfed. Rŷn ni wrthi'n gwneud rhai newidiadau technegol i'r pàs COVID. Dylid cymryd profion llif unffordd o fewn 24 awr, yn hytrach na'r cyngor blaenorol o 48 awr. A hefyd o ran y pàs COVID, rŷn ni'n cael gwared ar dystiolaeth o imiwnedd naturiol, yn unol â'r newidiadau sy'n cael eu gwneud yn Lloegr, wrth i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyflwyno ei chynllun B mewn ymateb i omicron. Rŷn ni'n ystyried sut i gefnogi ymweliadau mwy diogel mewn cartrefi gofal ac ysbytai i sicrhau ein bod ni'n diogelu'r pobl sydd fwyaf agored i niwed. Dirprwy Lywydd, mae hwn yn gyfnod pryderus ac yn un sy'n ansicr i bob un ohonon ni. Rŷn ni wedi wynebu heriau gyda'n gilydd o'r blaen, ac mae angen inni gydweithio gyda'n gilydd nawr, edrych ar ôl ein gilydd a chadw'n gilydd a Chymru yn ddiogel. Diolch yn fawr. Daeth y Llywydd i’r Gadair. Russell George AC: Gweinidog, a gaf fi ddiolch i chi am eich datganiad a'r copi ymlaen llaw heddiw, a hefyd am y briff y gwnaethoch ei roi i Aelodau'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyda'ch swyddogion? Roedd hynny'n ddefnyddiol y bore yma hefyd. Cytunaf â chi, Gweinidog; mae pryder mawr yma, oherwydd mae cymaint o ansicrwydd a gwyddom fod omicron yn prysur ddod yn brif straen ar draws y DU ac yng Nghymru. Wrth gwrs, cytunaf mai cynyddu'r rhaglen frechu yw'r flaenoriaeth ac mae'n rhaid ehangu'r rhaglen frechu'n gyflym. A gaf i ofyn ychydig o gwestiynau i chi am eich mesurau i gynyddu'r nifer sy'n manteisio? A gaf fi ofyn am negeseuon, yn gyntaf oll? Gan y Prif Weinidog, yn ei ddatganiad ddoe a heddiw—y neges yw, 'Ewch am eich brechlyn atgyfnerthu, a gwnewch hynny yn flaenoriaeth'. Ond i lawer o bobl ledled Cymru, nid dyna'r mater mewn gwirionedd, oherwydd maen nhw’n barod; maen nhw'n barod i gael eu brechlyn atgyfnerthu. Credaf mai'r cwestiwn yw sut y gallan nhw wneud hynny. I lawer o bobl, er gwaethaf y negeseuon ei fod yn flaenoriaeth, mae'n fater o eistedd ac aros nes i chi gael eich gwahoddiad. Dyna'r realiti yma. Felly, dyna rai o'r materion o ran negeseuon yr oeddwn eisiau eu codi gyda chi am hynny. Oherwydd byddwn i'n dychmygu bod unrhyw un yn y Senedd rithwir hon heddiw yn teimlo'r un ffordd. Rwy'n barod i ollwng popeth i gael fy mrechlyn atgyfnerthu. Rwyf eisiau gwybod sut rwy'n mynd i ganfod lle rwy'n mynd i'w gael, pryd gaf fi wybod, beth ddylwn i ei wneud ac erbyn pa ddyddiad os nad wyf wedi cael fy ngwahoddiad. Felly, os dyna'r cwestiynau sydd gennyf i ac Aelodau yn y Siambr rithwir hon y prynhawn yma, dyna fydd y cwestiynau gan bobl ledled Cymru. Credaf mai dyna'r elfen bwysig yma o ran cyrraedd y targedau yr ydych chi wedi'u nodi—y targedau uchelgeisiol yr ydych chi wedi'u gosod i gynnig y gwahoddiad i bob oedolyn erbyn diwedd y flwyddyn. Ynghylch y mesurau eraill o ran y nifer sy’n manteisio hefyd, yn eich papur briffio heddiw, fe wnaethoch sôn am gynlluniau ar gyfer cynyddu oriau agor. Fe wnaethoch sôn am hynny yn eich datganiad heddiw, ond nid wyf yn credu i chi sôn am yr amseroedd. Credaf yn y briff heddiw, os wyf yn iawn, eich bod wedi sôn am gynyddu amseroedd agor o 9 a.m. i 8 p.m. A gaf i awgrymu, i lawer o bobl, y gallant gyrraedd cyn 9 a.m. os yw hynny'n briodol? Gall llawer o bobl fod yn bresennol ar ôl 8 p.m. Felly, gaf fi ofyn i chi ailystyried amseroedd agor hirach efallai? Oherwydd byddwn yn awgrymu ei bod yn anodd iawn cyrraedd eich targed os na fydd yr amseroedd agor yn cael eu hymestyn ymhellach. Law yn llaw â'r cwestiwn hwnnw, wrth gwrs, mae gwirfoddolwyr hefyd. Rydych chi wedi sôn am weithio gyda'r trydydd sector, ac rwy’n croesawu hynny. A wnewch chi nawr lansio ymgyrch recriwtio ledled Cymru ar gyfer gwirfoddolwyr? Oherwydd heb os nac oni bai mae angen i hynny ddigwydd ar frys. A gaf fi ofyn i chi beth yw eich cynlluniau o ran llenwi bylchau pan nad yw pobl yn cyrraedd, yn anffodus, ar gyfer apwyntiadau? Mae'n rhwystredig iawn, rwy'n gwybod. Ond pan nad yw pobl yn cyrraedd, beth yw'r cynlluniau ar gyfer llenwi'r apwyntiadau hynny gyda rhychwant amser byrrach? Fe wnaethoch ddweud yn eich datganiad fod data sy'n dod i'r amlwg wedi datgelu nad yw dau ddos o'r brechlyn yn ddigon i'n hamddiffyn rhag omicron. A wnewch chi egluro a yw hyn dim ond yn gysylltiedig ag AstraZeneca, neu'r ddau frechlyn? A faint o ran y mae'r amser ers cael brechlyn yn ei chwarae i amddiffyn eich hun yn erbyn yr amrywiolyn newydd hwn? A gaf fi hefyd ofyn pa gynlluniau sydd gennych chi o ran canslo llawdriniaethau sydd wedi’u trefnu? Fe wnaethoch chi sôn ychydig am hynny heddiw hefyd. Rwyf yn pryderu am fod un o bob pump o bobl ledled Cymru eisoes ar restr aros, felly pa ymdrechion yr ydych chi’n eu gwneud i atal rhestrau aros rhag cynyddu ymhellach yn hyn o beth, a pha gynnydd sy'n cael ei wneud ar ganolfannau llawfeddygol, fel yr wyf wedi'i amlinellu o'r blaen? Ac yn olaf, mae'n ymddangos bod rhywfaint o ddata cadarnhaol, data cynnar, sy'n dangos bod cyfraddau marwolaethau yn Ne Affrica wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y dyddiau diwethaf, felly tybed pa asesiad sydd wedi'i wneud o rannau eraill o'r byd lle mae'r amrywiolyn newydd wedi datblygu'n sylweddol sy'n dod â rhywfaint o obaith ac anogaeth y gellir ei dynnu o'r data hwnnw. Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr, Russell. Brechu yw'r flaenoriaeth nawr, ac os ydym eisiau diogelu ein GIG wrth fynd i fis Ionawr yn arbennig, yna dyma'r amser i wneud y gwaith hwn, a dyna pam yr ydym wedi rhoi mwy o hwb i’n system mewn gwirionedd, i sicrhau y gellir cyflwyno'r rhaglen frechu honno'n llawer cyflymach, ond nid yn y ffordd anhrefnus yr ydym wedi'i gweld yn Lloegr. Yng Nghymru, rydym yn gwneud pethau'n wahanol. Rydym yn ceisio paratoi pethau cyn gwneud cyhoeddiad. Fe welsoch y golygfeydd hynny yn Lloegr dros y penwythnos—miloedd o bobl yn cyrraedd canolfannau brechu, dim cynllun, ac nid oedd meddygon teulu hyd yn oed wedi cael gwybod. Rydym yn gwneud pethau'n wahanol iawn yma yng Nghymru. Rydym yn cael sgwrs yn gyntaf, rydym yn paratoi’r cyfan, ac yna rydym ni’n gwneud cyhoeddiad. Dyna'n union yr ydym wedi bod yn ei wneud. Mae rhai manylion i’w cadarnhau. Fel y gallwch ddychmygu, mae hon yn dasg enfawr y byddwn yn ei hwynebu. Beth fydd yn digwydd yw, pan fydd yn amser i'ch brechu, byddwch yn cael neges testun neu byddwch yn cael galwad ffôn, felly mae'n bwysig bod pobl wedi rhoi eu manylion cyswllt i'w meddyg teulu fel bod gennym eich manylion cyswllt diweddaraf. Yna byddwn yn cyrraedd pwynt pan fyddwn yn rhoi gwybod i chi'n gyhoeddus os dylech fod wedi bod yn y grŵp o bobl a ddylai fod wedi'u galw. Felly, rydym yn glynu wrth awgrym y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu y dylem frechu pobl yn nhrefn blaenoriaeth o ran bod yn agored i niwed, mewn gwirionedd—felly mae'n ddull sy'n gysylltiedig ag oedran ac yn ddull sy'n gysylltiedig â salwch, fel yr argymhellwyd gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu. Rydym ni'n mynd i gadw at hynny. Mae'n bosibl y byddwn yn ymestyn yr amseroedd agor y tu hwnt i 8 o'r gloch, felly mae hynny'n rhywbeth sy'n cael ei weithio allan nawr. Mae hynny'n debygol o ddigwydd, yn sicr yn rhai o'n canolfannau mwy. Mae'r ymgyrch recriwtio eisoes wedi dechrau. Rydym wedi dweud wrth bobl y gallant gofrestru a'n helpu o ran gwirfoddoli, felly mae hynny eisoes wedi'i wneud, ac mae proses ar wahân ar gyfer gwirfoddolwyr sy'n weithwyr iechyd proffesiynol. Rydym hefyd yn aros am ymateb gan y Weinyddiaeth Amddiffyn i'n cais am gefnogaeth gan y fyddin hefyd. O ran y bylchau, rydym yn siomedig iawn. Mewn rhai ardaloedd rydym yn gweld llawer o bobl nad ydyn nhw'n dod ar gyfer eu brechiad, ac mae hynny'n sefyllfa wirioneddol anodd sy'n codi, a dyna pam mae angen i ni danlinellu'r ffaith bod hwn yn gyfle hanfodol i bobl ei gymryd a chael y brechlyn atgyfnerthu hwnnw. Felly, yr hyn yr ydym wedi ei wneud bob amser yw cael system o or-lenwi apwyntiadau, a byddwn yn gor-lenwi eto i sicrhau nad ydym yn cael y bylchau hynny. Mae'n wir nad yw dau ddos o AstraZeneca yn ddigon yn sicr, ond mae hefyd yn wir o ran Pfizer hefyd. Dyna pam ein bod yn gwthio hyn mewn gwirionedd gydag ymdeimlad gwirioneddol o frys. Rydym yn dilyn cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu pan ddaw'n fater o'r bwlch rhwng dosau. Maen nhw wedi cytuno ei bod yn bosibl lleihau'r amser rhwng dosau—yr ail ddos a'r dos atgyfnerthu—o chwe mis i dri mis, felly rydym yn dilyn y cyngor gwyddonol ar hynny. O ran canslo llawdriniaethau sydd wedi’u trefnu, rwyf am danlinellu bod hwn yn fwrlwm tair wythnos yr ydym yn sôn amdano—mae'n gyfnod o dair wythnos o weithgarwch, ac yna gobeithio y byddwn yn gallu mynd yn ôl i ryw fath o normalrwydd, sut bynnag y mae normalrwydd yn edrych y dyddiau hyn. Felly, mae'n bwysig i bobl ddeall hynny. Ar y sefyllfa o ran cyfraddau marwolaethau yn Ne Affrica, rwyf wedi bod yn ceisio darllen am hyn y prynhawn yma. Yr hyn sy'n amlwg yw bod yr arbenigwyr yn rhybuddio nad yw profiad De Affrica o bosibl yn ddangosydd dibynadwy o ran omicron mewn gwledydd eraill. Felly, roedd 72 y cant o'r boblogaeth honno wedi profi haint COVID blaenorol. Nid yw hynny'r un sefyllfa ag yma yn y DU. Mae gennym ddemograffeg wahanol, mae gennym boblogaeth hŷn yma, mae gennym wahanol wendidau i glefydau, a chredaf ei bod yn bwysig ein bod yn deall, oherwydd bod y system yn wahanol yn Ne Affrica, ein bod yn gweld cyfraddau'r ysbyty—. Rwy'n credu mai'r peth call i'w wneud yw bod yn ofalus, paratoi ar gyfer y gwaethaf a gobeithio am y gorau. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch, Llywydd. Rydw innau'n sicr yn cytuno efo'r Gweinidog bod y sefyllfa yn ddifrifol tu hwnt, a dwi'n diolch ymlaen llaw i'r holl weithwyr hynny mewn gwasanaethau iechyd a gofal, a gwasanaethau brechu a phrofi ac olrhain, ac yn y blaen, sydd eto yn mynd i fod o dan bwysau mawr yn y cyfnod o'n blaenau ni, a hwnnw'n gyfnod o bwysau mawr beth bynnag, heb omicron. Rhun ap Iorwerth AC: Dwi'n gobeithio, i roi nodyn mwy positif, fod peth o'r dystiolaeth gynnar rydan ni'n ei gweld yn mynd i brofi yn gywir, a'n bod ni efallai yn symud i mewn i bennod o'r pandemig lle mae'r feirws, o bosib, yn llai peryglus. Ond, wrth gwrs, am rŵan, dydyn ni ddim yn gwybod hynny, ac mae'n rhaid sylweddoli bod yna niferoedd uchel iawn yn mynd i gael y feirws rŵan. Hyd yn oed os ydy cyfradd y bobl sy'n mynd yn wirioneddol sâl yn is, mae o'n mynd i olygu pwysau mawr ar ein gwasanaethau iechyd ni oherwydd y niferoedd. Dwi, wrth gwrs, yn cefnogi'r egwyddor o gyflymu'r broses o roi'r brechlyn booster, ond y perig sydd gennym ni rŵan, dwi'n meddwl, ydy bod disgwyliadau pobl yn uchel iawn, iawn, a dwi ddim eto wedi gweld y cynllun sydd yn rhoi hyder bod y rhaglen yn barod i fynd. Mae'r gwaith yn sicr yn adeiladu yn dda, a dwi'n ddiolchgar am y diweddariadau rydyn ni wedi'u cael gan y Gweinidog y pnawn yma ac mewn datganiad yn gynharach heddiw. Ond tra'i bod hi'n sôn am chaos yn Lloegr—fe welais innau yr un lluniau hefyd—dwi innau, mae gen i ofn, yn clywed adroddiadau am chaosyma yng Nghymru mewn llefydd, efo pobl yn troi fyny i ganolfannau brechu ac yn cael eu troi i ffwrdd oherwydd bod ganddyn nhw apwyntiad ym mis Ionawr, tra bod pobl eraill oedd ddim wedi cael apwyntiad eto, oherwydd eu bod nhw'n llai o flaenoriaeth, yn cael cerdded i mewn a chael y booster. Dydy hynny ddim yn gwneud llawer o synnwyr. Mae angen eglurder ar beth sy'n digwydd i weithwyr allweddol sydd ddim yn weithwyr iechyd a gofal—heddlu ac athrawon. Oes yna ffordd iddyn nhw gael y brechiad ynghynt? Lle mae'r cynlluniau cadarn i fynd i'r afael â brechu pobl yn eu cartref, y bobl hynny sydd yn rhy fregus ac â phroblemau symudedd ac yn methu mynd i mewn i ganolfannau brechu? Mae'n rhaid i gyfathrebu fod yn glir yn wastad efo cleifion, ie, ond efo cydweithwyr o fewn gwasanaethau iechyd. Dydy o'n gwneud dim synnwyr i mi pan fydd un feddygfa yn dweud mai clywed ar Facebook wnaethon nhw bod yna ganolfan frechu walk-inyn yr ardal. Mae'n rhaid i hyn gael ei dynhau, ac mae'r cwestiynau yn lluosog, onid ydynt? Pa bryd fydd y canolfannau brechu cerdded-i-mewn yn agor? A fydd yna rai ym mhob un rhan o Gymru? A fydd pobl yn cael teithio o un ardal i'r llall rhwng siroedd, rhwng ardaloedd bwrdd iechyd, hyd yn oed i Lundain os ydyn nhw wedi clywed bod yna ganolfan frechu yn fanno, fel y gwnaeth un awgrymu wrthyf i yn gynharach? Dyma'r math o bethau rydyn ni angen eglurder arnyn nhw. Dwi'n gwybod gymaint o her mae'r Llywodraeth, y byrddau iechyd a timau brechu yn ei hwynebu, a dwi'n ddiolchgar am ymroddiad pawb ar wyneb y graig, a dwi'n dymuno'n dda i bawb yn y cyfnod sydd o'n blaenau ni, ond mae angen i'r negeseuon yna fod yn gwbl glir, achos nid mynnu cael y booster heddiw neu yfory mae pawb, ond eisiau gwybod beth yn union sydd o'u blaenau nhw. Maent yn hapus i glywed y bydd popeth yn iawn yr wythnos nesaf neu'r wythnos wedyn, a beth fydd yn digwydd os nad ydyn nhw wedi cael eu tro erbyn hynny. At y pwysau ar yr NHS wrth i frechu gael ei flaenoriaethu, ydy, mae hynny'n anochel. Mae'n anochel, mae'n siŵr, yn y sefyllfa rydyn ni ynddi hi fod yna beth gohirio yn mynd i fod ar driniaethau a fyddai wedi digwydd fel arall. Dydy o ddim yn ddigon, mae gen i ofn, i glywed bod y Gweinidog yn obeithiol y bydd pethau'n dod yn ôl i drefn wedyn. Wel, na, mae eisiau cynllun clir i ddod â phethau yn ôl i drefn. Ydyn, rydyn ni'n gobeithio y bydd hon yn broses fydd drosodd mewn ychydig wythnosau, ond mae'n rhaid i'r cynllun ynglŷn â sut i ddod yn ôl on track, fel petai, fod yn glir ar gyfer y cyfnod ar ôl hynny. Felly, mi fyddai eglurder ar hynny yn dda. Yn olaf, rydw innau'n gobeithio'n fawr na fydd angen cyflwyno cyfyngiadau llawer mwy llym yr ochr yma i'r Nadolig am resymau lles pobl, a rhesymau cymdeithasol a rhesymau economaidd hefyd. Mi fyddai'n sicr angen gwybod am gefnogaeth ariannol i fusnesau, ac ati, a fyddai'n dioddef pe bai angen cyfyngiadau ar ôl hynny. Ond dwi yn croesawu'r cyhoeddiadau heddiw ynglŷn â'r cryfhau sydd yna ynglŷn â sawl elfen sylfaenol, rŵan—gwisgo mygydau mewn mwy o lefydd, a chynghori pobl yn gryfach, hefyd—oherwydd er, fel dwi'n dweud, fy mod i, fel pawb, dwi'n siŵr, yn gobeithio gallu osgoi cyfyngiadau uwch am rŵan, all pethau chwaith ddim cario ymlaen cweit fel ag yr oedden nhw, ac mae gan bob un ohonom ni ein rhan i chwarae yn ymateb i'r bygythiad newydd yma. Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr, Rhun. Dwi'n meddwl eich bod chi'n eithaf iawn fod niferoedd uchel iawn yn mynd i gael yr amrywiolyn omicron yma, a dwi'n derbyn bod y disgwyliadau yn uchel iawn, ond byddwn i'n hoffi gofyn i'r cyhoedd i aros tan eu bod nhw'n cael eu galw, er mwyn inni gadw trefn ar hwn. Roedd 26,000 o bobl wedi cael eu brechu ddoe, felly rŷm ni eisoes wedi cynyddu'n aruthrol yn ystod y dyddiau diwethaf. O ran pobl sy'n cael eu brechu yn y cartref, rŷm ni wedi rhoi ysgogiad ychwanegol i GPs nawr fynd ati i helpu i gynyddu'r niferoedd fydd yn cael y brechlyn yn y cartref. Fe fydd walk-ins gyda ni, ond fyddan nhw ddim yr un peth ag sydd gyda nhw yn Lloegr, achos rŷm ni'n benderfynol o wneud yn siŵr bod pobl ifanc, er enghraifft, sy'n ffit ac yn 20 mlwydd oed, ddim yn cael y brechlyn cyn pobl sydd yn risg uchel, sy'n 64 mlwydd oed. Felly, bydd walk-ins ar gael, ond byddan nhw ar gyfer cohort arbennig o bobl, felly byddwn ni'n gwneud pethau ychydig yn wahanol i'r ffordd maen nhw'n ei wneud e yn Lloegr. O ran pethau'n mynd nôl i drefn acon track, Rhun, os wyt ti'n gwybod beth mae Ionawr yn edrych fel yn yr NHS, ti'n gwneud lot gwell job na fi, achos dwi'n meddwl bod y sefyllfa'n mynd i fod yn anodd iawn ym mis Ionawr. Dydyn ni ddim yn gwybod sut mae omicron yn mynd i effeithio ar yr NHS. Dydyn ni ddim yn gwybod faint o weithwyr fydd off yn sâl o ran omicron. Felly, yn amlwg, mae'n anodd inni ragweld beth fydd Ionawr yn edrych fel. Felly, mae gyda ni cynllun ar gyfer y tair wythnos nesaf. Mae'n wastad gyda ni cynllun gaeaf ar gyfer yr NHS. Mae hynny eisoes mewn lle. Ond, yn amlwg, efallai fydd yn rhaid inni addasu yn wyneb y ffaith bod yr amrywiolyn yma yn mynd i roi pwysau cynyddol ar y sector. Bydd y Cabinet yn cwrdd, yn amlwg, yn nes ymlaen yn ystod yr wythnos i benderfynu a oes angen mwy o gyfyngiadau i'n cadw ni'n saff dros y Nadolig. Rhianon Passmore AC: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad, a diolch hefyd i'n hyrwyddwyr brechlyn yn y GIG. Gweinidog, gwyddom fod yr amrywiolyn omicron i bob pwrpas yn lleihau imiwnedd a gyflawnwyd gan ddau ddos o'r brechlyn i ddim byd bron yn achos Oxford-AstraZeneca ac i'r amddiffyniad lleiaf posibl rhag haint yn achos Pfizer, ond nid yw hynny'n golygu na fydd y dosau dwbl yn helpu pobl i frwydro yn erbyn salwch difrifol yn sylweddol o ganlyniad i gael eu heintio â COVID-19. Felly, Gweinidog, a wnewch chi ymuno â mi a gofyn i bobl 'gymryd prawf llif unffordd cyn mynd' a hefyd galw ar bobl Islwyn i gael brechlyn atgyfnerthu y Nadolig hwn, i gadw eu hunain yn ddiogel, cadw eu teuluoedd yn ddiogel, a chadw Cymru'n ddiogel? A phan fydd pobl yn gofyn, 'Pam cael y brechlyn atgyfnerthu ar ôl dau ddos?', onid yw'n gywir y bydd y brechlyn atgyfnerthuyn cynyddu lefelau imiwnedd i dros 70 y cant, ac, fel y dywedodd un gohebydd, y dos cyntaf yw addysg ysgol gynradd eich corff, mae'r ail ddos yn debyg i anfon eich corff i'r ysgol uwchradd, ac mae'r dros atgyfnerthu yn debyg i brifysgol, gan ddyfnhau ac ehangu gallu ein corff ein hunain i ymladd y feirws dieflig hwn? Yn olaf, Gweinidog, y tu allan i'r grwpiau blaenoriaeth, pryd byddwch yn bwriadu agor lonydd a chanolfannau galw i mewn i bobl Islwyn, yn ogystal ag ymestyn oriau agor canolfannau brechu yn sylweddol? Diolch. Eluned Morgan AC: Diolch, Rhianon. Rydych chi'n llygad eich lle; nid yw'r dos dwbl yn ddigon. Ond y peth olaf yr ydw i eisiau ei wneud yw peri i bobl sydd heb gael unrhyw ddosau o gwbl benderfynu peidio â chael brechiad. Dyma'r rhai yr wyf yn dal i bryderu fwyaf amdanyn nhw—pobl nad ydyn nhw wedi cael unrhyw amddiffyniad o gwbl. Mae ein hadrannau gofal dwys o dan bwysau aruthrol, a rhan o hynny yw bod pobl yno nad ydyn nhw wedi cael brechiadau o gwbl, ac mae'n rhoi pwysau ar ein system gofal dwysyn ddiangen. Rwyf yn pledio'n wirioneddol â phobl i feddwl sut mae eu gweithredoedd yn cael effaith wirioneddol ar bobl eraill, yn yr ystyr y gallen nhw fod yn cymryd gwely ysbyty y gallai rhywun arall fod yn ei gymryd ar gyfer argyfwng nad achoswyd ganddyn nhw eu hunain. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cael pobl i ddeall eu cyfrifoldeb i'r gymuned ehangach a'r gymdeithas ehangach yma. Gan nad oes yr un ohonom yn gwybod sut y byddem yn ymateb pe baem yn dal coronafeirws, felly mae angen i ni danlinellu hynny mewn gwirionedd. Byddwn, fel y pwysleisiais, yn gwneud canolfannau galw i mewn, ond ni fyddant ar sail rydd i bawb; byddant mewn carfannau penodol. Felly, mae'r holl bethau hynny'n cael eu cyfrifo yn ystod y dyddiau nesaf. Ond yn llythrennol—pa ddiwrnod ydy hi heddiw? Dydd Mawrth—rydym wedi bod yn gweithio drwy'r penwythnos ar hyn ac, yn amlwg, mae llawer iawn i'w roi ar waith i gynyddu'r rhaglen hon mewn gwirionedd. Mae eisoes wedi cael hwb, ond mae angen i ni ddyblu'r hyn yr ydym ni eisoes yn ei wneud, felly mae llawer iawn o waith i'w wneud o hyd. Ac rwy'n gobeithio y gallwn ni i gyd sefyll gyda'n gilydd a diolch i weithlu'r GIG am y gwaith anhygoel maen nhw wedi'i wneud, ond, yn fwy na dim, rydyn ni nawr yn gofyn iddyn nhw fynd yr ail filltir unwaith eto; ar adeg sensitif o'r flwyddyn, pan fyddan nhw eisiau bod gyda'u teuluoedd, rydym yn gofyn iddyn nhw ganslo eu gwyliau—yr holl bethau hyn. Mae'n ofyn enfawr arall i'r bobl sydd wedi rhoi cymaint ohonyn nhw eu hunain yn barod. Gareth Davies AS: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad y prynhawn yma, yn ogystal â thrafod gyda'ch swyddogion a chaniatáu iddynt friffio aelodau'r pwyllgor iechyd yn gynharach y prynhawn yma. Gweinidog, er ei bod yn bwysig ein bod yn ymateb i'r darlun sy'n datblygu o ran omicron, mae'n hanfodol nad ydym yn gor-ymateb —byddai hyn yn creu mwy o niwed na lles. Rwyf yn croesawu'r ffaith na chyflwynwyd unrhyw ymyriadau newydd nad ydyn nhw'n ffarmacolegol ddydd Gwener, ond mae angen i ni ganolbwyntio ar ddiogelu'r rhai sy'n agored i niwed, felly, gyda hynny mewn golwg, Gweinidog, diweddarwyd y canllawiau i gartrefi gofal ddydd Gwener, ond nid yw'n sôn yn benodol am yr amrywiolyn omicron. A fyddwch chi'n diweddaru'r canllawiau i adlewyrchu effaith bosibl yr amrywiolyn newydd? Ac yn benodol, Gweinidog, mae arwyddion cynnar o'r gallu i drosglwyddo omicron yn dangos y gallai fod wedi'i drosglwyddo drwy aerosol yn fwy nag amrywiolion eraill, felly, gyda hynny mewn golwg, Gweinidog, a fyddwch yn rhoi gwell cyfarpar diogelu personol i staff cartrefi gofal, megis masgiau FFP3? Wrth gwrs, y ffordd orau o ddiogelu staff a phreswylwyr cartrefi gofal yw'r brechlyn atgyfnerthu. Felly, Gweinidog, pryd y gallwn ddisgwyl i holl staff a phreswylwyr cartrefi gofal gael eu pigiadau atgyfnerthu, oherwydd, fel y mae, nid yw un o bob tri aelod o staff ac 16 y cant o'r trigolion wedi cael brechlyn atgyfnerthu eto? Yn olaf, Gweinidog, gyda'r straen ar y GIG dros y misoedd nesaf, bydd pwysau enfawr i symud cleifion o ysbytai ac i'r system ofal. Felly, pa gamau ydych chi'n eu cymryd i sicrhau nad yw hyn yn dod yn gludwr a fyddai'n trosglwyddo COVID i'r sector gofal? Diolch. Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr iawn, Gareth. Mae'n rhaid i mi ddweud wrthych fod gor-ymateb yn rhywbeth yr ydym, yn amlwg, yn ymwybodol iawn ohono. Gwyddom nad yw'r sefyllfa'n ymwneud ag iechyd yn unig; mae'n ymwneud â chanlyniadau economaidd, canlyniadau cymdeithasol, canlyniadau iechyd meddwl; mae'n rhaid i ni gydbwyso'r holl bethau hyn yn erbyn y potensial i lethu ein GIG. Felly, mae'r holl bethau hyn yn bethau yr ydym yn eu rhoi yn y gymysgedd cyn i ni feddwl am gyflwyno unrhyw amddiffyniadau newydd. O ran y canllawiau sy'n cael eu diweddaru ar gyfer cartrefi gofal, rydym wedi bod yn gweithio gyda'r sector, cael sgyrsiau gyda'r sector—felly, nid ydym yn eu gorfodi; rydym yn siarad â nhw am yr hyn sy'n bosibl, beth sy'n ymarferol a beth fydd yn gweithio. Felly, rydym yn gweithio gyda'r sector. A dwi'n meddwl ein bod ni'n ymwybodol iawn y bydd pethau'n newid yn gyflym iawn. Felly, fe wnaethoch sôn am beidio â gor-ymateb. Mae gennym 30 o achosion yng Nghymru. Mae pethau'n mynd i newid yn gyflym iawn ac mae'n debyg y bydd yn rhaid i ni addasu sut yr ydym yn monitro ein canllawiau mewn cysylltiad â chartrefi gofal. O ran cyfarpar diogelu personol, rydym wedi gwneud mwy o waith mewn cysylltiad â masgiau FFP3 ac, unwaith eto, mae ein clinigwyr yn edrych ar hyn, i weld a yw hyn yn rhywbeth y mae angen ei gyflwyno. Rwy'n credu bod yn rhaid i chi fod yn ymwybodol iawn ei fod yn ofyn mawr i ofyn i bobl wisgo masgiau FFP3 drwy'r dydd; mae'n rhywbeth y maen nhw, weithiau, yn amharod i'w wneud hefyd. Felly, mae angen i ni sicrhau ein bod yn cyrraedd y lle iawn gyda hyn; mae'r sgyrsiau hynny'n parhau. O ran brechlyn atgyfnerthu i breswylwyr a gweithwyr cartrefi gofal—preswylwyr cartrefi gofal, rydym hyd at tua 85 y cant eisoes. Felly, rwy'n credu bod hynny'n lefel eithaf uchel. Felly, rydym yn falch o hynny, ond mae gennym ychydig o ffordd i fynd i gyrraedd y 97 y cant sydd wedi cael y cwrs cyntaf cyflawn. Rhywfaint o hynny, nid yw oherwydd nad ydyn nhw wedi cael cynnig; y rheswm dros hynny yw bod amgylchiadau a rhesymau gwahanol pam y dylai hynny ddigwydd. Gweithwyr cartrefi gofal—rydym hyd at 67 y cant o weithwyr cartrefi gofal sydd wedi cael y dos atgyfnerthu. Felly, yn amlwg, rydym yn awyddus i weld a allwn godi hynny'n uwch. Mae ein tystiolaeth yn awgrymu nad rhyddhau pobl o'r ysbyty oedd yn gyfrifol am gario heintiau i gartrefi gofal, mewn gwirionedd—. Roedd rhan ohono oherwydd bod gennym sefyllfa lle'r oedd gweithwyr cartrefi gofal yn mynd o gartref gofal i gartref gofal a, phan fydd yn y gymuned, mae'n anodd iawn ei gadw allan o unrhyw le arall. Mae astudiaethau rhyngwladol wedi dangos hynny. Mae ceisio adeiladu wal o amgylch y lleoedd hyn bron yn amhosibl. Felly, dyna mae'r dystiolaeth ryngwladol wedi'i ddangos i ni. Felly, byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu, a dyna pam mae angen sicrhau ein bod yn profi ac yn profi ac yn profi eto, pan ddaw'n fater o gartrefi gofal. Heledd Fychan AS: Rŷn ni wedi cael neges glir iawn gennych chi heddiw, Weinidog, i bobl aros am apwyntiad. Ond dwi wedi cael llu o alwadau heddiw a negeseuon gan bobl yn gofyn pryd y bydd walk-ins yn fy rhanbarth i, a gweld bod yna fyrddau iechyd ac ati yn hybu hyn. Wedyn, dwi yn ofni bod yna rhyw fath o banig allan yna, a dwi'n meddwl nad yw'r negeseuon yma sy'n gwrthdaro efo'i gilydd yn help ar y funud yma, o weld bod yna rai ardaloedd yn gallu cael walk-insa rhai eraill ddim. Felly, mae cael eglurder ar hynny yn hollbwysig. Mae'n ddrwg gen i hefyd swnio fel tôn gron, ond mi oeddwn yn gobeithio heddiw cael, fel rhan o'ch datganiad, ddiweddariad ynglŷn â'r pàs COVID o ran y bobl sy'n methu â chael eu brechu am ryw reswm. Dwi wedi codi hyn gyda chi ar nifer o achosion ers 2 Tachwedd. Ar wefan Llywodraeth Cymru, mae'n parhau i ddweud bod y system yma'n cael ei datblygu i sicrhau bod pobl yn gallu cael pàs COVID os oes ganddyn nhw eithriad, neu maen nhw'n methu â chael brechlyn, neu'n methu â chymryd prawf llif unffordd am resymau meddygol ac ati. A oes modd cael diweddariad o ran pryd y bydd y system yma ar gael, os gwelwch yn dda? Oherwydd mae pobl yn dal i bryderu a methu â chael at bethau fel mynd i weld sioeau ac ati, neu fynd i sinemâu, ac yn poeni bod pobl sydd ag awtistiaeth ac ati yn cael eu harddel rhag gweithgareddau ar y funud oherwydd bod y system yma mor araf yn cael ei rhoi yn ei lle, o'i gymharu efo'r hyn dŷn ni wedi'i weld yn Lloegr. Diolch. Eluned Morgan AC: Diolch, Heledd. Dwi'n meddwl ei bod hi'n rili bwysig bod pobl yn deall bod ein system ni yng Nghymru yn wahanol i'r system yn Lloegr. Dŷn ni ddim yn mynd i gael walk-ins fel yn Lloegr. Dyw e ddim yn mynd i fod yn free-for-all fan hyn. Rŷn ni'n mynd mewn trefn. Felly, dwi ddim yn gwybod o ble mae pobl yn cael y syniad ein bod ni'n ei wneud e yn y ffordd maen nhw yn Lloegr. Dŷn ni ddim. Rŷn ni'n mynd i fynd ar system lle'r ŷm ni'n mynd yn ôl oedran a pha mor fregus yw pobl. Dwi'n gwybod bod pobl efallai yn anghyffyrddus gyda hynny, ond dyna beth rŷn ni'n ei wneud. Rŷn ni'n dilyn y canllawiau sydd wedi dod oddi wrth y JCVI. Felly, bydd walk-ins, ond byddan nhw'n walk-ins ar gyfer grwpiau arbennig—ar gyfer, er enghraifft, clinical at-risk groups. Byddan nhw'n cael, 'Reit, heddiw yw'r diwrnod am eich walk-in chi.' Neu bobl sy'n 55-59 oed, 'Heddiw yw eich diwrnod chi.' Fydd e ddim yn free for allfel yw e yn Lloegr. Dŷn ni ddim eisiau gweld pobl yn oeri tu fas yng nghanol y gaeaf, fel sy'n digwydd yn Lloegr. Beth sy'n digwydd fanna yw survival of the fittest; pobl ffit sydd yn gallu ciwio yn y sefyllfa yna. Mae'n rhaid inni fynd yn ôl gofalu a diogelu pobl sydd yn fwy bregus. Dŷn ni ddim yn mynd i ymddiheuro am hynny. O ran pobl sy'n methu â chael eu brechu, mae lot o waith wedi cael ei wneud ar hwn, Heledd. Rŷn ni wedi analeiddio faint o bobl sy'n methu â chael eu brechu ac sy'n methu â chymryd prawf llif unffordd. Rŷn ni'n meddwl mai dim ond rhwng 100 a 500 o bobl sydd yn y sefyllfa honno. Felly, os yw pobl yn y sefyllfa honno, mae angen iddyn nhw gysylltu â'u meddyg nhw. Bydd hwnna’n mynd ar system, a bydd hwnna wedyn yn cael ei roi ar y pàs ar ran y person, ac felly fe fyddan nhw’n gallu cael y pàs yna. Dŷn ni ddim wedi gwneud hynny eto. Y rheswm pam mae hwnna jest wedi mynd ar saib ar hyn o bryd yw achos ein bod ni i gyd yn mynd ar y broses brechu yma. So, rŷn ni’n taflu popeth at hwnna; yr un bobl sy’n gwneud yr holl waith yma. Ond mae lot o’r gwaith wedi’i wneud. Rŷn ni’n gwybod, mwy neu lai, pwy yw’r bobl yma. Mae’r gwaith yna i gyd yn barod, ond mae’n rhaid inni jest gael y systemau i siarad gyda’i gilydd. So, rŷn ni’n gwybod pwy yw’r bobl. Dim ond tua 100 i 500 o bobl sydd yna. So, pan fo pobl yn troi lan i gemau rygbi yn mynd, 'O, dwi'n esempt', fyddan ni’n ffaelu gwneud hynny rhagor, achos bydd e i gyd ar y pàs COVID, bydd yn dangos yn glir—os ŷch chi’n esempt, bydd yn dod lan yn awtomatig. Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog. 7. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Diogelwch Adeiladau Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gwenidog Newid Hinsawdd ar ddiogelwch adeiladau, a dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad—Julie James. Julie James AC: Diolch, Llywydd. Diolch am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am fater pwysig diogelwch adeiladau. Mae cryn dipyn o waith wedi ei wneud ar y mater pwysicaf a mwyaf cymhleth hwn ers i mi roi'r wybodaeth ddiweddaraf ddiwethaf ym mis Gorffennaf. Rwy'n falch iawn o roi gwybod i chi ein bod ni wedi cyhoeddi ein hymateb i'r Papur Gwyn ar ddiogelwch adeiladau heddiw. Cawsom ni 95 o ymatebion, ac rwy'n diolch i bawb a gymerodd yr amser i rannu eu meddyliau a'u barn. Mae'r ymatebion yn dangos ymrwymiad i newid, cefnogaeth eang i ysbryd a chyfeiriad ein diwygiadau, ac i weithio gyda ni i lunio'r drefn yn y dyfodol. Ein bwriad ni yw sicrhau mai diogelwch sydd wrth wraidd adeiladau preswyl aml-feddiannaeth, nid dylunio, bod cyfrifoldebau'r rhai sy'n berchen ar adeiladau, yn eu rheoli ac yn byw ynddyn nhw yn glir, a bod preswylwyr yn cael dweud eu dweud. Hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu hyd yma, ond byddwch yn dawel eich meddwl y bydd mwy o gyfleoedd i gyfrannu a llunio polisi. Byddaf i'n ysgrifennu at bartneriaid allweddol yn y flwyddyn newydd i'w gwahodd i gymryd rhan mewn gweithgorau. Rydym ni hefyd yn datblygu gwaith penodol sy'n ymwneud ag ymgysylltu â phreswylwyr a lesddeiliaid a fydd yn elwa ar ein diwygiadau, ac i'r rhai sydd hefyd yn wynebu heriau gwirioneddol nawr gyda diffygion presennol yn eu hadeiladau. Mae hyn er mwyn sicrhau bod eu safbwyntiau a'u dirnadaeth heb eu hidlo yn cael eu cofnodi a'u hadlewyrchu'n briodol yn y system newydd a'n bod ni'n deall sut orau i gyfleu'r wybodaeth ddiweddaraf am ein cynnydd gyda phasbortau adeiladau a gwaith cysylltiedig. Mae'n rhaid i ni weithio gyda'n gilydd i ddod o hyd i'r atebion iawn ar gyfer y maes hollbwysig hwn. Fel y mae'r Aelodau yn ymwybodol, rydym ni wedi manteisio ar y cyfle i weithio gyda Llywodraeth y DU i ddefnyddio'r cyfle i sicrhau bod agweddau ar eu Bil Diogelwch Adeiladau yn berthnasol i Gymru. Bydd hyn yn helpu i wella'r ffordd y caiff adeiladau preswyl uchel iawn eu dylunio a'u hadeiladu, ac mae'n cyd-fynd â'r cynigion sydd wedi eu nodi gennym ni yn ein Papur Gwyn. Mae Bil Llywodraeth y DU yn cynnwys newidiadau arfaethedig i Ddeddf Mangreoedd Diffygiol 1972, a fydd yn gweld estyniadau i'r amser y mae modd cyflwyno hawliad gerbron y llysoedd am waith adeiladu diffygiol, ac a fydd, mewn rhai achosion, yn cael effaith ôl-weithredol. Rydym ni hefyd wedi gweithio gyda'r Swyddfa Gartref ar Ddeddf Diogelwch Tân 2021, sydd wedi gweld diwygiadau pwysig i Gymru—yn arbennig, mae amlen allanol adeiladau wedi ei chynnwys yn benodol yn y drefn diogelwch tân bresennol. Yn dilyn cefnogaeth aruthrol i'r cynigion yn ein Papur Gwyn, ysgrifennais at bob awdurdod lleol, awdurdod tân ac achub a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ym mis Mediynghylch sefydlu tîm arolygu ar y cyd a fydd yn cefnogi gweithgareddau gorfodi o ran adeiladau presennol yma yng Nghymru. Bydd y broses o recriwtio'r tîm yn dechrau yn y flwyddyn newydd. Mae hyn i gyd yn golygu y bydd dyfodol diogelwch adeiladau yng Nghymru yn gwella'n aruthrol. Er fy mod i wedi fy nghyffroi gan y datblygiadau hyn, rwy'n ymwybodol iawn bod llawer ohonoch chi a'ch etholwyr yn pryderu'n briodol am yr heriau sy'n wynebu lesddeiliaid presennol ar hyn o bryd. Rwyf i wedi dweud dro ar ôl tro na ddylai lesddeiliaid orfod talu'r bil i wneud eu hadeiladau yn ddiogel, ond rwyf i hefyd wedi dweud nad yw'r atebion yn hawdd. Yma yng Nghymru, fel mewn rhai rhannau eraill o'r DU, rydym ni wedi dweud ers y cychwyn fod hyn yn ymwneud â llawer mwy na chladin, ac nid dim ond mater i'r rhai hynny sydd mewn blociau uchel iawn ydyw. Yng Nghymru, rydym ni bob amser wedi bod yn ymwybodol bod hyn yn gofyn am ddull cyfannol, neu bydd perygl o adael pobl yn agored i risg barhaus. Rydym ni'n gwneud cynnydd sylweddol, gan fod yn gyson yn ein huchelgais i ddatrys materion ar y sail gyfannol honno. Mae'r ymateb i'r gronfa pasbortau diogelwch adeiladau, a gafodd ei lansio'n gynharach eleni, wedi bod yn gadarnhaol iawn, wrth i dros 100 o ddatganiadau o ddiddordeb gael eu cwblhau hyd yma. Caiff y datganiadau o ddiddordeb hyn eu hasesu, a bydd yr arolygon helaeth sydd eu hangen ar yr adeiladau hyn i sicrhau bod gennym ni ddealltwriaeth gyson a chadarn o anghenion pob adeilad unigol a graddfa gyffredinol y dasg yn cael eu dwyn ymlaen. Rydym ni'n penodi contractwyr drwy gronfa sefydledig o ddarparwyr achrededig i gynnal yr arolygon sy'n sicrhau cysondeb o ran arbenigedd ac ansawdd arolygon. Rydym ni'n ymdrin â hyn mewn ffordd gynlluniedig a chydgysylltiedig sy'n rhoi darlun cynhwysfawr o'r materion diogelwch sy'n bresennol, ac yn lleihau straen ac anghyfleustra i breswylwyr. Bydd yr arolygon cyntaf yn dechrau'n gynnar yn y flwyddyn newydd, gan flaenoriaethu'r adeiladau hynny sydd wedi eu nodi fel risg uchel drwy'r broses mynegi diddordeb. Fodd bynnag, er ein bod ni'n gwneud cynnydd da, rwy'n cydnabod bod y pwysau ariannol o fyw yn yr adeiladau hyn yn mynd yn annioddefol i rai pobl. Nid wyf i'n dymuno gweld dyfodol hirdymor pobl yn cael ei ddifetha gan fethdaliad, cael eu troi allan a digartrefedd posibl. Dyna pam rwy'n ymrwymo i gynllun cymorth lesddaliad newydd i helpu nifer bach o lesddeiliaid sy'n cael eu hunain mewn caledi ariannol sylweddol iawn. Bydd manylion llawn y cynllun yn cael eu darparu yn y flwyddyn newydd, ond rwy'n gobeithio gallu darparu'r dewis, mewn nifer cyfyngedig o achosion, i lesddeiliaid werthu. Bydd y cynllun yn targedu darpariaeth lle mae ei hangen fwyaf mewn adeiladau sydd â diffygion sydd wedi'u nodi lle na all lesddeiliaid unigol werthu eu heiddo ar y farchnad agored ac yn cael eu hunain mewn caledi ariannol sylweddol oherwydd costau cynyddol. Rwyf yn cloi, Llywydd, drwy ailddatgan fy safbwynt: mae'n rhaid i ddatblygwyr a'r rhai sy'n gyfrifol am y diffygion adeiladau hyn gamu ymlaen a gwneud mwy i ddatrys yr argyfwng. Nhw greodd y problemau hyn ac maen nhw'n parhau i adael lesddeiliaid yn wynebu caledi ariannol ac yn dioddef o straen a phryder. Mae'r wybodaeth ddiweddaraf hon yn dangos ymrwymiad parhaus y Llywodraeth hon i ddiogelwch adeiladau a'r gwaith dwys sy'n cael ei wneud. Rwy'n croesawu'r ymrwymiad i'r agenda hon gan Blaid Cymru ac rwy'n edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth â nhw ar y mater hollbwysig hwn wrth symud ymlaen. Diolch. Janet Finch-Saunders AC: Diolch, Gweinidog, am y datganiad hwn. Rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi siarad yn helaeth am yr argyfwng brawychus hwn sy'n wynebu deiliaid tai sydd nawr yn wynebu problemau'r cladin hwn. Felly, hoffwn i ymuno â chi i adleisio bod yn rhaid i'r datblygwyr a'r rhai sy'n gyfrifol am y diffygion adeiladu hyn gamu i'r fei i ddatrys yr argyfwng hwn. Ac os oes unrhyw un ohonyn nhw'n gwylio yma heddiw, mae'n rhaid i'r baich a rhywfaint o'r cyfrifoldeb syrthio arnoch chi, neu arnyn nhw, ac mae'n rhaid i chi dderbyn eich cyfrifoldebau. Mae'n foesol anghywir bod lesddeiliaid yn parhau i wynebu caledi ariannol ac yn dioddef o ofn, straen a phryder. Mae hefyd yn peri pryder mawr nad yw Llywodraeth Cymru yn gwybod maint yr anawsterau yn yr adeiladau hyn, ond rwy'n ymwybodol hefyd o'r dasg aruthrol sydd gennych chi o'ch blaen wrth nodi'r fath beth. Mae'r ffaith bod y fath amwysedd honno yn parhau dros bedair blynedd ers trychineb Tŵr Grenfell yn peri pryder mawr ac mae'n codi cwestiynau ynghylch pa mor gyflym y gallwch chi, Gweinidog, geisio gwella diogelwch tua 148 o adeiladau uchel iawn. Rydych chi wedi esbonio y bu 100 o ymatebion i'r gronfa pasbort diogelwch adeiladau ac y bydd yr arolygon cyntaf yn dechrau yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Felly, fy nghwestiwn i yw: pa mor fuan y gallwn ni ddisgwyl unrhyw ganlyniadau a gweithredu ar unrhyw argymhellion, fel arolygon? Pa gynllun wrth gefn sydd gennych chi ar waith ar gyfer achosion lle nad yw adeilad yn dod o dan fynegiant o ddiddordeb? Rwyf i yn cytuno â'r angen am gynllun cymorth lesddaliad ac, unwaith eto, bydd gennym ni ragor o fanylion am hyn yn y flwyddyn newydd. A allwch chi egluro heddiw faint o arian yr ydych chi'n bwriadu ei ddyrannu i'r cynllun? Rwyf i hefyd yn croesawu'r ffaith bod yr ymateb i'r Papur Gwyn ar ddiogelwch adeiladau wedi ei gyhoeddi bellach. Yn y gorffennol, eglurais i fod llawer o newidiadau yn yr ymgynghoriad yr wyf i'n eu croesawu, ond mae gen i rai pryderon o hyd ynghylch nifer o bwyntiau. O ran categorïau risg, byddwch chi'n ymwybodol fy mod i wedi ysgrifennu atoch chi, gan nodi fy mod i'n pryderu ynghylch rhesymoldeb cael tŷ sydd wedi ei drosi'n ddwy fflat yn yr un categori â bloc pum llawr, pwrpasol o fflatiau. Felly, fel rhan o'ch ymrwymiad i ystyried priodoldeb model tri chategori, a fyddech chi'n ystyried rhannu categori 2 yn ddau—felly, gan ei wneud yn ehangach? Rwyf i hefyd yn cytuno bod angen asesiadau risg tân blynyddol ar bob categori. Fodd bynnag, unwaith eto, rwy'n codi'r pryderon hyn ynghylch dod o hyd i bersonau â chymwysterau addas. Mae eich tîm chi wedi dweud wrthyf i o'r blaen nad oes unrhyw amcangyfrifon eto o ran faint o unigolion â chymwysterau addas sydd yng Nghymru i asesu tua 37,000 o eiddo yn flynyddol. A oes unrhyw gynnydd wedi bod o ran sefydlu a oes prinder, a sut yr ydych chi'n bwriadu mynd i ymdrin â hyn? Mae gen i ddiddordeb yn y pyrth, ond rwy'n dal i bryderu am y posibilrwydd y byddai'r trydydd yn golygu y bydd y prif gontractwr, gyda'r prif ddylunydd, yn llunio datganiad terfynol yn cadarnhau bod yr adeilad yn cydymffurfio â rheoliadau adeiladu. Ac, yn rhan o'ch ystyriaeth bellach o'r mater hwn, a wnewch chi ymrwymo i ddiwygio'r cynigion er mwyn sicrhau bod awdurdodau lleol yn cynnal gwiriadau ffisegol, a bod y risg sy'n cael ei hachosi gan y rhai yr ydym ni'n gwybod erbyn hyn eu bod yn adeiladwyr twyllodrus—a gadewch i ni ddweud hynny, oherwydd dyna beth ydyn nhw—yn cael ei leihau? Yn olaf, byddwch chi'n ymwybodol bod yr oruchwyliaeth reoleiddiol bresennol yng Nghymru wedi ei rhannu rhwng y tri awdurdod tân ac achub a'r 22 o rai lleol. Rwyf i wedi sôn am efallai cael un rheoleiddiwr cenedlaethol, ac roeddwn i'n falch o ddarllen bod dull cenedlaethol o ymdrin â'r rheoleiddiwr wedi cael mwy o gefnogaeth na dulliau cyflenwi lleol a rhanbarthol. Wrth symud ymlaen, a wnewch chi ragor o waith i greu un rheoleiddiwr cenedlaethol? Diolch. Diolch, Llywydd. Julie James AC: Diolch, Janet Finch-Saunders. Rwy'n credu, yn fras, ein bod ni yn yr un lle. Rydych chi wedi cyfuno problemau'r lesddeiliaid presennol â sut y gallai'r drefn newydd edrych ychydig. Felly, o ran y drefn newydd wrth symud ymlaen, pan fyddwn ni'n symud y ddeddfwriaeth yn ei blaen, wrth gwrs bydd gan y Senedd a'i phwyllgorau gyfle i edrych ar y ddeddfwriaeth honno, craffu arni ac ychwanegu ati neu awgrymu gwelliannau i'r ddeddfwriaeth honno. Ac rwy'n credu bod consensws eithaf mawr ar draws y Senedd, felly byddaf i'n edrych ymlaen at weithio gyda chi i fynd i wir fanylion hynny wrth i ni fwrw ymlaen â hynny. Ond, yn hollol, holl ddiben y drefn newydd yw ei gwneud yn hynod o glir pwy yw deiliaid y ddyletswydd, sy'n gyfrifol ar bob cam, pwy sy'n cymeradwyo a beth sy'n digwydd ar gyfer y cyfnod meddiannu. Mae technoleg wedi symud ymlaen ac yn y blaen a byddem ni'n disgwyl llawer iawn mwy o arolygiadau wrth fynd nag a fu'n bosibl hyd yma, ac, wrth gwrs, rydym ni'n mynd i ddysgu gwersi o'r gorffennol. Felly, rwy'n credu, wrth symud ymlaen, fod llawer o gonsensws. O ran lle'r ydym ni ar hyn o bryd, un o'r problemau mwyaf sydd gennym ni yw nad yw lesddeiliaid cyffredin yn deall yr hyn sydd o'i le ar eu hadeiladau—maen nhw'n gwybod nad oes dim gyda nhw—ac mae'r ffurflenni Systemau Waliau Allanol wedi gwneud hynny'n waeth oherwydd ein bod ni wedi cynnal arolygon. Felly, rhan o'r hyn yr ydym ni wedi gorfod ei wneud yw ein bod ni wedi gorfod gweithredu fel brocer ar eu cyfer nhw, os mynnwch chi, i sicrhau bod yr arbenigedd yn mynd i mewn, ac nad ydym ni'n gwaethygu'r broblem drwy gael pentwr o bobl nad ydyn nhw mewn gwirionedd yn gymwys i ddweud wrthyn nhw beth sydd o'i le ar yr adeilad ac yn y blaen. Mae'n ymddangos ein bod ni'n mynd yn eithaf araf, ond mewn gwirionedd mae hynny'n beth eithaf anodd a llafurus i'w wneud. A hefyd, nid dim ond rhywun sy'n dod i mewn ac yn cael golwg ar eich waliau yw'r arolygiadau hyn; mae'r rhain yn wirioneddol ymyrrol. Mae'n rhaid i'r bobl gael tyllau mawr yn yr adeilad ac mae gennych chi bobl fedrus iawn sy'n edrych i weld beth yn union sydd wedi digwydd y tu mewn i'r waliau ac yn y blaen. Mae'r rhain yn bethau eithaf ymyrrol i bobl wrth iddyn nhw ddigwydd, felly mae'n rhaid i ni fod yn gwbl sicr ein bod ni'n ei wneud unwaith, ein bod ni'n ei wneud yn gywir a'n bod ni'n cael y darlun iawn ar y diwedd. Y gwir yw nad ydym ni'n gwybod beth yw'r broblem ym mhob un o'r adeiladau, oherwydd nid oes gennym ni olwg pelydr-x; ni allwn ni edrych drwodd i weld a yw'r bylchau tân i gyd yn eu lle neu os yw'r adrannau'n gweithio ac yn y blaen. Rydym ni wedi bod yn glir ers y cychwyn nad yw hyn yn ymwneud â'r cladin yn unig. Un mater oedd y cladin, ond mae llawer o faterion eraill sydd wedi dod i'r amlwg. Felly, rwy'n falch iawn y bydd y cynllun pasbortau adeiladau yn caniatáu i ni wneud hynny. Bydd yn caniatáu i ni helpu'r lesddeiliaid a phartïon eraill â diddordeb i fynd drwy'r broses o ddarganfod beth yn union ydyw sydd o'i le ar yr adeilad, ac yna bydd yn rhaid i ni edrych i weld beth o hynny y gall cynllun y Llywodraeth ei gywiro i wneud hynny—cynllun grant, os gallaf i lwyddo i wneud hynny o bosibl. Ond hefyd, Janet, rwy'n ymwybodol iawn nad wyf i eisiau gweithredu ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym ni'n mynd i geisio eu rhestru yn nhrefn risg hefyd, oherwydd nid oes gen i gronfa ddiderfyn. Ni fyddwn i'n mynd i wleidyddiaeth hynny, ond rwyf i wedi siomi gyda'r swm o arian sydd gennym ni o ganlyniad i holl—. Ni chawsom ni'r symiau canlyniadol a gafodd eu cyhoeddi gan Lywodraeth y DU, a nawr, rydym ni yr ochr arall i adolygiad cynhwysfawr o wariant. Felly, dyma le'r ydym ni nawr, ond nid hwn yw'r swm o arian y byddem ni wedi dymuno ei gael. Felly, mae'n bwysig iawn sicrhau ein bod ni'n ymdrin â'r adeiladau lle mae'r risg uchaf a'r materion risg uchaf drwyddi draw, yn hytrach nag ar sail y cyntaf i'r felin. Hoffwn i sicrhau'r holl lesddeiliaid allan yno ein bod ni'n gwneud hynny, ac os mai chi yw'r ugeinfed i fynd drwy'r broses, nid yw hynny'n golygu y bydd yr arian wedi dod i ben, ac y byddwn ni'n cadw llygad ar hynny drwyddi draw. A'r rheswm yr wyf i wedi cyhoeddi'r cynllun yr wyf i wedi ei gyhoeddi heddiw, yw oherwydd fy mod i'n ymwybodol iawn ei fod yn mynd yn annioddefol i rai pobl. Felly, gan dybio eu bod nhw mewn sefyllfa lle na allan nhw werthu eu heiddo ar y farchnad agored, yna byddwn ni'n rhoi cynllun ar waith a fydd yn eu hachub, os mynnwch i—achub morgeisi ar eu cyfer. Bydd dwy elfen i hynny. Byddan nhw naill ai'n gallu gwerthu'r tŷ i ni ac yna os ydyn nhw'n dymuno aros yno a'i rentu, gallan nhw wneud hynny, neu gallan nhw adael, cymryd yr arian a dechrau eto yn rhywle arall. Rwy'n gwybod o siarad â llawer iawn o'r trigolion bod llawer o bobl a fydd â diddordeb mawr mewn cynllun o'r fath. Felly, roeddwn i eisiau codi ymwybyddiaeth pobl bod y cynllun hwnnw ar gael erbyn hyn, ac y byddwn ni'n ceisio gwneud hynny yn y flwyddyn newydd drwy broses mynegiant o ddiddordeb debyg. Mabon ap Gwynfor AS: Prynhawn da, a gobeithio bod pawb yn fy nghlywed i. Dyna ni, a diolch yn fawr iawn i’r Gweinidog am y datganiad. Gadewch i ni gymryd ennyd i’n hatgoffa ein hunain pam ein bod ni'n trafod y mater yma heddiw. Yn syml, mae’r system diogelwch adeiladau presennol yn un sydd wedi caniatáu diwylliant o dorri corneli er mwyn cynyddu elw, ar draul diogelwch y cyhoedd. Fedrwn ni fyth, felly, anghofio’r drychineb yna yn Grenfell nôl yn 2017. Yn oriau mân y bore, ar 14 Mehefin 2017, dechreuodd tân losgi drwy floc preswyl Grenfell 24 llawr o uchder yng ngorllewin Llundain, gan ladd 78 o bobl. Mae’n meddyliau ni'n parhau i fod efo’u hanwyliaid nhw, wrth gwrs. Mae nifer o’r rhai a lwyddodd i ddianc, teuluoedd y rhai a gollodd eu bywydau, a thystion i’r erchyllbeth honno, yn dal i fyw efo'r creithiau, ac yn parhau i ddioddef. Mae pobl yn byw mewn ofn ac wedi dioddef yr ofn yma am dros bedair mlynedd—pedair mlynedd heb weithredu. Mae yna wyth mis ers yr etholiad, wyth mis heb ddeddf benodol Gymreig. Mae lesddeiliaid a thenantiaid wedi cael eu dal mewn eiddo nad ydynt yn gallu ei adael. Mae ansawdd eu bywydau a’u hiechyd meddwl wedi dirywio o ganlyniad. Mae’n hen bryd i ni ymateb i’r sefyllfa hunllefus yma efo brys, drwy raglen diwygio gynhwysfawr, cymorth ariannol pellach ac amserlen glir. Fel llefarydd fy mhlaid dros dai a chynllunio, dwi am gymryd eiliad i groesawu’r cytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a’r Llywodraeth. Mae’r cytundeb yn cynnwys amryw o ymrwymiadau, gan gynnwys ymrwymiadau i ddiwygio’r system diogelwch adeiladau presennol yn sylweddol, ac i gyflwyno ail gam cronfa diogelwch adeiladau Cymru. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio efo'r Gweinidog wrth symud ymlaen. Fodd bynnag, dwi’n gresynu’r ffaith na ddaeth y datganiad yma ynghynt, a dwi am bwysleisio'r angen i’r Llywodraeth gadw mewn cyswllt cyson efo’r rhanddeiliaid. Wedi’r cyfan, pwysau ymgyrchwyr a gwleidyddion fel Rhys ab Owen sydd wedi sicrhau bod y mater yn cael y sylw yma o'r diwedd. Dwi am droi at un agwedd o’r datganiad lle dwi’n credu bod angen mwy o fanylder, os gwelwch yn dda. Mae'r Gweinidog yn cyfeirio at gynllun mortgage buy-out, cynllun lle mae pobl mewn caledi ariannol ac yn byw mewn adeiladau uchel sydd efo problemau diogelwch yn cael ymgeisio am gynllun lle bydd y Llywodraeth yn prynu’r fflat ac yn ei roi i landlord cymdeithasol. Mae’n debyg nad oes yna syniad clir o ran faint o bobl allai fod yn gymwys i’r cynllun, dim ond cyfeiriad at unigolion mewn caledi ariannol, ac na fydd y cynllun ychwaith yn dod i rym am o leiaf tri mis. Felly, hoffwn ofyn i'r Gweinidog, os caf i, egluro faint o bobl fydd yn gymwys ar gyfer y cynllun hwn? Llywydd, beth yn union y mae’r Llywodraeth yn golygu wrth ddweud pobl mewn 'caledi ariannol difrifol'? Hynny ydy, beth ydy’r meini prawf ar gyfer y categori yma? Hefyd, erbyn pryd y mae'r Gweinidog yn disgwyl i'r cynllun yma ddod i rym yn union, os gwelwch yn dda? Pa gymorth gall y Llywodraeth ei gynnig wedyn i'r rhai sy'n dioddef materion diogelwch adeiladu yn y cyfamser? A beth am bobl sydd ddim yn disgyn i ddiffiniad y Llywodraeth o galedi ariannol? Eto, tra’n ystyried y rhan o’r datganiad yma sy’n sôn am ddeiliaid les presennol a’r gobaith o gynnig cymorth i brynu eu heiddo yn y flwyddyn newydd, does dim llawer o fanylion. Llywydd, fedrith y Gweinidog gynnig ychydig mwy o fanylion inni, os gwelwch yn dda, ar faint o gyllid fydd yn cael ei neilltuo yn union? Mae’n eithaf clir y gall problemau godi o ran pris eiddo hefyd, fel rydyn ni wedi ei weld yn ddiweddar. Felly, beth fydd yn digwydd a pha ddatrysiadau all y Llywodraeth eu cynnig, os nad ydy pobl yn cytuno efo gwerth y farchnad wrth werthu'r eiddo yma? A phwy yn union fydd yn gweinyddu’r broses? Yn olaf, pa hawliau fydd gan denantiaid sydd yn rhentu gan landlordiaid sydd efo les? Diolch yn fawr iawn. Julie James AC: Diolch, Mabon. Ni fyddaf i'n ailadrodd yr hyn a ddywedais i wrth Janet Finch-Saunders o ran amseriad hyn. Mae'n amlwg yn rhwystredig iawn, ac mae pob un ohonom ni'n meddwl am drychineb Grenfell a brwydr y bobl a oroesodd hynny am gyfiawnder, wrth gwrs, ond y gwir yw bod hwn yn faes cyfreithiol hynod gymhleth, ac mae wedi bod ar frig fy agenda yr holl amser yr wyf i wedi bod yn Weinidog tai. Yn sicr, nid oes angen i mi gael unrhyw un arall yn ei roi yno. Mae wedi bod yn fater gwirioneddol o bryder i ni gael hyn yn iawn, i beidio â chyhoeddi cynlluniau nad ydyn nhw'n gweithio, sydd wedi digwydd dros y ffin droeon, ac nid yw hynny'n datrys y broblem. A hefyd, rydym ni wedi bod yn gweithio'n galed iawn ar lobïo Llywodraeth y DU i roi nifer o bethau ar waith y gall Llywodraeth y DU yn unig ei wneud. Felly, fel rhan o fy natganiad heddiw, er enghraifft, rwy'n sôn am ymestyn y cyfnod cyfyngu ar gyfer camau gweithredu cytundebol i'r rhai sy'n gallu manteisio ar hynny, ac rwy'n falch iawn o weld hynny, er na fydd hynny yn sicr yn datrys y broblem ar gyfer yr holl adeiladau sydd gennym ni, yn enwedig y rhai sydd wedi eu hadeiladu gyda model cyfrwng at ddibenion arbennig ynghlwm wrthyn nhw. Fel y dywedais wrth Janet Finch-Saunders, rydym ni wedi bod yn gweithio'n galed iawn i sicrhau bod gennym ni gynllun sy'n ein galluogi i edrych yn gyfannol ar bob adeilad, sy'n ein galluogi i ddeall beth yn union yw ei broblemau a beth fyddai ei angen i'w gywiro. Ac yna, a dweud y gwir, i ddeall beth yw'r angen ar gyfer y contractwyr sydd â'r sgiliau i wneud hynny, a pheidio â chael pawb yn ceisio eu cael i gyd ar unwaith, gan gamystumio'r farchnad a chynyddu'r prisiau. Felly, rydym ni'n camu i mewn. Nid ein cyfrifoldeb ni ydyw mewn gwirionedd, ond rwy'n teimlo'n gryf iawn mewn gwirionedd y byddwn ni'n gallu helpu'r lesddeiliaid i lywio cam adfer adeiladau hynny, oherwydd fel arall bydd llu o broblemau y gall pob un ohonom ni eu gweld ar unwaith. Felly, er fy mod i'n deall yn llwyr rwystredigaeth y lesddeiliaid, rwy'n credu ein bod ni mewn sefyllfa dda wrth symud ymlaen ar gyfer hynny, ac rwy'n edrych ymlaen at y dadansoddiad o'r pasbortau adeiladau. O ran y cynllun prynu i adael, neu'r cynllun cymorth lesddeiliaid, nid wyf i'n gwybod yn iawn yr ateb i'ch holl gwestiynau, Mabon. Yr hyn yr ydym ni eisiau'i wneud yw, rydym ni eisiau gweld, a dweud y gwir, faint o bobl sydd wedi ceisio gwerthu eu tŷ ar y farchnad agored ac wedi methu â gwneud hynny oherwydd ei fod yn eu rhoi mewn ecwiti negyddol neu oherwydd bod y telerau y gallan nhw wneud hynny oddi tanyn nhw yn rhy gosbol iddyn nhw allu cyfrif hynny. Rwyf i'n awyddus i weld yr hyn y gallwn ni ei wneud i helpu pobl sy'n mynd i ôl-ddyledion morgais, er enghraifft, neu sydd ag anawsterau ariannol difrifol eraill oherwydd eu bod wedi llwyddo i dalu eu morgais ond, o ganlyniad i hynny, mae ganddyn nhw anhawster ariannol arall. Rwy'n barod i edrych ar bobl sy'n amlwg mewn sefyllfaoedd gorlenwi o ganlyniad i orfod aros, efallai, mewn eiddo a oedd â'r bwriad yn wreiddiol o fod yn gartref cyntaf ond nawr maen nhw'n deulu mwy. Mae nifer o feysydd caledi yr ydym ni'n barod i'w hystyried. Rydym yn ystyried prisiadau a fydd yn cael eu gwneud gan y swyddfa brisio, yn yr un modd ag yr ydym ni'n ei wneud ar gyfer prisio prynu gorfodol. Ond, wrth gwrs, nid yw hyn yn orfodol. Os nad yw'r person dan sylw yn hoffi'r prisiad y gallwn ni ei gynnig, nid yw'n orfodol mewn unrhyw ffordd iddyn nhw gymryd rhan yn y cynllun. Mae hwn yn gynnig gan y Llywodraeth i'r bobl hynny sy'n dymuno manteisio arno. Os nad yw person yn dymuno manteisio arno, mater iddyn nhw yw hynny yn llwyr. Roeddwn i'n awyddus iawn i sicrhau, i'r bobl hynny a oedd yn dymuno aros yn eu cartref ond a oedd yn ei chael yn amhosibl yn ariannol o ystyried lle maen nhw gyda phrisiau ac yn y blaen, y gallen nhw wneud hynny, ac os nad oedden nhw, eu bod nhw'n gallu dechrau eto rhywle arall. Bydd y cynllun newydd ar waith ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd. Dyna pryd y bydd y gyllideb ar gael, ond bydd yn cymryd yr ychydig fisoedd i ni rhwng hynny i ddatrys y broses ymgeisio a dechrau prosesu pobl sy'n dymuno bod yn rhan o hynny. Nid dyma'r math o beth y gallwch chi ei gyhoeddi heddiw a'i ddechrau yfory; mae'n rhaid i ni weithio ochr yn ochr â'n rhanddeiliaid i'w roi ar waith. Ond roeddwn i hefyd yn awyddus iawn i'w gyhoeddi cyn y Nadolig, gan fy mod i'n credu bod angen i bobl sy'n teimlo'n anobeithiol wybod bod y rhyddhad hwnnw ar y ffordd a dechrau edrych ymlaen at allu manteisio arno. Rwy'n credu y byddwn i'n anonest, Llywydd, os byddwn i'n dweud bod gen i'r holl atebion i'r cwestiynau yr oedd Mabon wedi eu gofyn, ond rwyf i'n edrych ymlaen at weithio gyda'r lesddeiliaid eu hunain i sefydlu beth fyddai'r cynllun gorau i gyrraedd y bobl y mae angen cymorth arnyn nhw fwyaf. Mike Hedges AC: Mae hyn yn rhywbeth yr wyf i wedi gofyn amdano dros gyfnod o amser; mae'n fater o bryder difrifol. Fel y Gweinidog, sydd â'r datblygiad ar ochr arall yr afon, mae gen i ddatblygiad SA1, lle mae nifer o'r eiddo hyn. Un o'r problemau mwyaf, serch hynny, Gweinidog, yw bod rhai o'r rhain wedi eu hadeiladu gan sefydliadau nad ydyn nhw mewn busnes mwyach, fel Carillion, a adeiladodd rai ohonyn nhw. Mae'r anhawster o gael unrhyw arian ganddyn nhw, hyd yn oed pe bai gennym ni'r gallu i wneud hynny, yn rhywbeth sy'n destun pryder. Fel y dywedais i, rwy'n croesawu'r cynnig yn fawr iawn. Rwy'n credu bod y Gweinidog yn sicr yn symud i'r cyfeiriad iawn ar hyn. Ond a ydych chi'n mynd i roi rhagor ddiweddariadau i ni wrth i ni symud ymlaen? Er bod rhywfaint o arian ar gael, yn sicr nid yw'n mynd i fod yn ddigon, ydyw, i ddatrys problemau pawb yn un o'r eiddo hyn. Fe wnaethoch chi sôn am sut yr ydych chi'n mynd i geisio blaenoriaethu nid y dyddiad y mae pobl yn gwneud cais, ond cyrraedd y bobl sydd fwyaf mewn angen. Rwy'n croesawu hynny yn fawr, ond a fyddwch chi'n gallu cysylltu, neu a fydd un o'ch swyddogion yn gallu cysylltu â nhw, y rhai hynny yn y ddwy ardal yn fy etholaeth i, yn South Quay ac Altamar, lle mae gennym ni lawer iawn o bobl yno, i drafod hyn gyda nhw? Maen nhw wedi cael eich datganiad heddiw, gan fy mod i wedi ei anfon atyn nhw, ond a fydd eich swyddogion yn gallu siarad â nhw ac egluro iddyn nhw ble yn union y maen nhw, a sut y bydd yn effeithio arnyn nhw? Julie James AC: Diolch, Mike. Byddwn, wrth gwrs, yn gallu cynnal sesiynau briffio technegol ar gyfer preswylwyr mewn adeiladau i'w cynorthwyo i wneud cais yn yr un modd ag yr ydym ni wedi ei wneud ar gyfer y cynllun pasbortau adeiladau. Rydym ni'n awyddus iawn i sicrhau bod pobl yn deall yr amrywiaeth lawn o gymorth sydd ar gael iddyn nhw. Hefyd, wrth gwrs, fel rhan o'r datganiadau o ddiddordeb, rydym ni'n gallu dechrau cymryd rhai o'r camau rhagarweiniol tuag at ddeall lefel y risg sydd gan yr adeilad. Hoffwn i fod yn glir iawn nad dim ond ar yr adeg y byddwn ni'n dechrau gwneud yr ymchwiliadau ymyrrol y byddwn ni'n gallu deall lefel y risg; mae gan lawer o'r lesddeiliaid ryw syniad eisoes o rai o'r materion y maen nhw'n eu hwynebu. Felly, gallwn ni ddod at rai casgliadau rhagarweiniol ar unwaith pan fydd y pasbortau wedi eu cwblhau. Rydym ni'n dymuno gallu gwneud yn siŵr ein bod ni'n edrych ar y problemau gwaethaf yn gyntaf, yr holl ffordd drwodd. Hefyd, mae'n deg dweud na fydd modd datrys holl broblemau pob adeilad ar un tro. Mae angen sawl ymgais ar lawer o'r pethau hyn. Oherwydd y ffordd y mae'r system yn cael ei dal ar y wal, mae'n rhaid i chi dynnu'r cladin yn gyntaf, ac yna'r system, ac yna gwneud yr ymchwiliadau ymyrrol ac yn y blaen. Felly, mae'n llawer mwy cymhleth na dod i mewn, trwsio'r adeilad, a gadael eto, mae arnaf i ofn. Felly, byddwn ni'n gweithio gyda llawer o'r adeiladau hyn ymhell i'r dyfodol, ac rwy'n siŵr y bydd llawer o fersiynau o'r sgwrs hon. Rwy'n hapus iawn, Llywydd, i ymrwymo i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd pan fyddwn ni'n gwybod yn union lefel y pasbortau adeiladau sydd wedi mynd drwy'r broses, ac yn wir ar ôl i ni ddechrau cael datganiadau o ddiddordeb ar gyfer y cynllun cymorth lesddeiliaid. Rwyf i wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau bod y Senedd yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf mor aml ag sy'n angenrheidiol i sicrhau ein bod ni'n rhoi'r wybodaeth ar led, ac rwy'n ddiolchgar iawn i ASau ar draws y Siambr am gyfleu'r wybodaeth hon i'w trigolion yn y ffordd y mae Mike Hedges newydd ei disgrifio. Peter Fox AS: Diolch i chi, Gweinidog. Mae hwnnw'n ddatganiad cadarnhaol iawn, ac rwy'n diolch i chi am eich ymrwymiad i wneud hyn yn iawn. Nid mater gwleidyddol yw hwn; mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni i gyd yn dymuno ymdrin ag ef a'i wneud yn well i'r trigolion sydd wedi bod yn dioddef cymaint. Rwy'n cydnabod y gwaith da y mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi bod yn ei wneud i ymdrin â hyn. Fel y gwnaethoch chi ei ddweud, mae'n fater hynod o gymhleth ac nid yw'n mynd i gael ei ddatrys dros nos, ond rwy'n falch ein bod ni'n symud i'r cyfeiriad iawn. Gofynnodd Mabon rai o'r cwestiynau y byddwn i wedi eu gofyn, ac rydych chi wedi esbonio hynny, ac rwy'n deall nad oes gennych chi'r holl atebion nawr, ond byddwn ni'n dysgu mwy am y cynllun wrth iddo gael ei gyflwyno yn y gwanwyn. Mae pwynt arall sy'n gysylltiedig â hyn i gyd yr hoffwn i ei godi, er hynny, Gweinidog, ac mae'n ymwneud â threth trafodiadau tir sy'n cael ei chodi wrth brynu cartref. Mae gan un o fy etholwyr i eiddo amlwg yn natblygiad Celestia. Fe wnaeth brynu cartref teuluol newydd gyda'i bartner yn ôl yn 2019, ac roedd wrthi'n gwerthu ei fflat yr oedd wedi ei brynu ei hun. Roedd yn gwerthu honno i helpu i ariannu ei gartref nesaf, heb unrhyw fwriad i gael ail gartref o gwbl. Fodd bynnag, oherwydd problemau o ran cael y dystysgrif EWS1 honno, wrth i ddatblygwr y bloc fflatiau gadarnhau bod problemau cydymffurfio â rheoliadau diogelwch tân, nid oedd yr etholwr yn gallu gwerthu'r fflat. Roedd hyn yn golygu y cafodd gyfradd uwch o dreth trafodiadau tir ei chodi arno, gan y barnwyd ei fod yn berchen ar ail eiddo. Roedd y gyfradd uwch hon yn cyfateb i tua £12,000 yn fwy nag y byddai wedi ei chodi yn wreiddiol pe na bai'r mater hwn yn bodoli. I wneud pethau'n waeth, mae'n annhebygol y bydd yn gallu adennill y tâl treth trafodiadau tir uwch, gan fod gwaith adfer yn debygol o gymryd cryn dipyn o amser, ac felly mae unrhyw werthiant yn y dyfodol yn debygol o fynd y tu hwnt i'r cyfnod o dair blynedd ar gyfer hawlio yn ôl y gyfradd uwch o dreth trafodiadau tir. Yn Lloegr, rwyf i ar ddeall bod Llywodraeth y DU wedi penderfynu caniatáu estyniad i'r cyfnod y mae modd hawlio yn ôl dreth dir y dreth stamp oherwydd problemau diogelwch tân sy'n achosi problemau o ran gwerthu. Gweinidog, a yw hyn yn rhywbeth y gallech chi ystyried ei gyflwyno o leiaf fel mesur tymor byr i helpu perchnogion tai sy'n cael eu dal yn ôl gan y mathau hyn o faterion? Mae'n rhywbeth, rwy'n meddwl, a fyddai'n ffordd o leddfu ychydig o'r pwysau eraill hynny y mae rhai yn eu hwynebu. Diolch i chi am hynny. Julie James AC: Diolch, Peter. Gallaf i weld bod fy nghyd-Weinidog y Gweinidog cyllid yn gwrando ar eich cwestiwn chi yn y fan yno. Mae yn ei phortffolio hi, ond gallaf i gadarnhau ein bod ni wedi cael rhai trafodaethau rhagarweiniol ynghylch a oes modd ystyried ymestyn y cyfnod amser i werthu'r tŷ pan fo'n amlwg yn drefniant pontio. Nid ydym ni wedi cyrraedd diwedd y trafodaethau hynny eto, ond rwy'n hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi pan fyddwn ni wedi gwneud hynny. Rhys ab Owen AS: Diolch yn fawr i'r Gweinidog am ei datganiad. Rhys ab Owen AS: Rwyf i, fel Mike Hedges hefyd, wedi anfon eich datganiad at lawer o ymgyrchwyr yma ym Mae Caerdydd, ac mae'r ymatebion yr wyf i wedi eu cael i gyd wedi croesawu'r datganiad hwn gennych chi. Maen nhw'n ddiolchgar eich bod chi wedi ailadrodd unwaith eto na fydd lesddeiliaid yn talu'r bil. Rwy'n ddiolchgar i chi am sôn y bydd rhywfaint o gymorth technegol ychwanegol i lesddeiliaid lywio'r broses hon. Rwy'n deall eich bod chi sôn mewn ymateb i Mabon ap Gwynfor nad oes angen i neb eich atgoffa o'r amser sydd wedi mynd heibio ers Grenfell, ond dyna y mae trigolion yn sôn amdano drwy'r amser—mae amser yn ffactor hollbwysig iddyn nhw. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chi, Gweinidog, a gyda'r trigolion, i sicrhau y bydd cymorth addas i'r diben ar gael cyn gynted â phosibl, oherwydd dyna y mae angen iddyn nhw ei wybod yn ddirfawr—pryd y byddan nhw'n gallu cael cymorth o'r gronfa. Rwy'n edrych ymlaen hefyd at weithio gyda Janet Finch-Saunders, Peter Fox, ac rwy'n gwybod bod Andrew R.T. Davies wedi bod yn llafar iawn am hyn yn y gorffennol—y rhai hynny yn y Blaid Geidwadol—i sicrhau cefnogaeth briodol gan Lywodraeth y DU. Mae hyn yn llawer rhy bwysig i'w droi'n gêm wleidyddol. Rydym ni wedi gweld, onid ydym ni, yn ddiweddar, y canlyniadau trasig yn y Môr Udd pan nad yw dwy Lywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd yn effeithiol. Gadewch i hynny fod yn rhybudd i ni am gladin, gadewch i hynny fod yn rhybudd i ni am domenni glo. Mae'r rhain yn faterion peryglus nad oes modd eu troi'n gêm wleidyddol. Felly, rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r rhai ar feinciau'r Ceidwadwyr i lobïo Llywodraeth y DU am gefnogaeth briodol. Yn naturiol, Gweinidog, rwy'n croesawu'ch addewid o gefnogaeth i nifer bach o lesddeiliaid sy'n cael trafferthion ariannol sylweddol. Rwy'n falch bod cefnogaeth wedi ei rhoi i bobl y mae eu dyfodol hirdymor yn cael ei felltithio gan fethdaliad o bosib, troi allan a digartrefedd o bosib. Ac eto, mae llawer o rai eraill, fel y gwnaethoch chi sôn mewn ymateb i un o'r cyfraniadau, sydd wedi eu gadael—fel y gwnaethoch chi sôn, teuluoedd sy'n tyfu, pensiynwyr sy'n dymuno symud i'r llawr gwaelod, pobl sy'n dioddef yn ddifrifol o broblemau iechyd meddwl. Yn ddiweddar, Gweinidog, cefais e-bost am lesddeiliad a oedd wedi lladd ei hun yn drasig oherwydd y straen meddyliol yr oedd yn ei ddioddef. Hyd y gwn i, nid oedd yn wynebu methdaliad, troi allan na digartrefedd, ond ni allai weld unrhyw ddihangfa. Rwy'n falch i chi ddweud yn eich ymateb i Mabon ap Gwynfor y byddwch chi'n cymryd safbwynt eang am y rhai sy'n ei chael hi'n anodd, sydd wedi cael caledi ariannol sylweddol. Mae lesddeiliaid yn parhau i bryderu am gael eu llethu gan gostau rheoleiddio ychwanegol sy'n gysylltiedig ag unrhyw drefn diogelwch adeiladau yn y dyfodol. Rwy'n gobeithio bod hynny wedi ei ystyried yn eich cynlluniau, Gweinidog, ac y gallwch chi warantu na fydd preswylwyr yn wynebu unrhyw gost ychwanegol oherwydd gwaith ar ddiogelwch adeiladau. Bydd y Bil diogelwch adeiladau y gwnaethoch chi sôn amdano yn golygu y bydd yn rhaid i drigolion dalu'r bil o hyd, ac nid wyf i'n credu y bydd ymestyn y cyfnod cyfyngu y gwnaethoch chi ei grybwyll hefyd yn eich datganiad yn gwneud unrhyw wahaniaeth gwirioneddol i'r mwyafrif llethol o'r rhai sydd wedi eu heffeithio arnyn nhw. Ni fyddan nhw'n gallu mynd i'r afael â'r datblygwyr mawr hyn yn ariannol o hyd. Fel y gwnaeth Mike Hedges sôn, nid yw llawer o'r datblygwyr hyn mewn busnes mwyach. Yn wir, cafodd rhai eu creu yn benodol i adeiladu datblygiad, ac yna eu diddymu a'u dirwyn i ben. Gorffennodd y Gweinidog ei datganiad yn gryf, gan ddweud bod yn rhaid i ddatblygwyr, a'r rhai sy'n gyfrifol am y diffygion adeiladau hynny, gamu i'r fei a gwneud mwy i ddatrys yr argyfwng hwn. Rwy'n cytuno'n llwyr, Gweinidog. Sut byddwch chi'n eu cael i gamu i'r fei? A fyddan nhw'n cael eu herio? A fyddan nhw'n cael eu henwi a'u cywilyddio, ac a fydd Llywodraeth a llywodraeth leol yn defnyddio eu pŵer caffael sylweddol i sicrhau na fydd y datblygwyr nad ydyn nhw'n camu ymlaen, y datblygwyr nad ydyn nhw'n cymryd cyfrifoldeb am y sgandal ofnadwy hwn, yn ennill contractau na chymorth y sector cyhoeddus mwyach? Diolch yn fawr. Julie James AC: Diolch, Rhys. Rwy'n croesawu'ch cefnogaeth. Yn y Senedd flaenorol, cawsom ni waith trawsbleidiol da. Cymerodd Janet Finch-Saunders a'n cyd-Aelod David Melding, yn arbennig, ddiddordeb, ac rwy'n gwbl sicr, pan ddaw'r Bil yn ei flaen, y byddwn ni'n gallu gweithio gyda'n gilydd ar draws y Siambr ar roi'r drefn ddiogelwch orau posibl ar waith ar gyfer y dyfodol yng Nghymru. Fel yr ydych chi'n ei ddweud yn gwbl briodol, yn y cyfamser, rydym ni'n straffaglu â gwaddol y gyfundrefn wael iawn a oedd ar waith sydd wedi achosi'r holl anawsterau hyn ac, a dweud y gwir, safon gwbl warthus y gwaith a'r dull cowbois ffwrdd-â-hi o ymdrin â diogelwch sydd wedi ei ddangos yn glir gan lawer o'r adeiladau hyn. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r datblygwyr sydd wedi camu ymlaen ac sydd wedi rhoi o leiaf rhywfaint o arian ar y bwrdd ar gyfer rhai o'r datblygiadau yng Nghymru i ddechrau'r broses adfer. Mae nifer nad ydyn nhw wedi gwneud hynny. Rwy'n cymryd cyngor cyfreithiol ar beth yn union y gallwn ni ei wneud am y rhai nad ydyn nhw wedi gwneud hynny. Byddwch chi'n gyfarwydd iawn â'r ffaith bod llawer o'r datblygiadau hyn wedi eu hadeiladu gan gwmnïau cyfrwng dibenion arbennig; nid nhw yw'r cwmni daliannol o reidrwydd. Mae'n anodd iawn dweud na all y cwmni penodol hwnnw wneud gwaith yn y dyfodol, oherwydd byddwch chi'n darganfod yn gyflym iawn nad yr un cwmni ydyw, yn gyfreithiol, ac yn y blaen. Felly, mae'n ddeniadol iawn, y cynnig yr ydych chi'n ei roi i mi, ond mae'n anodd iawn ei wneud yn ymarferol, fel rwy'n ei ddweud, wrth i'r cwmnïau hyn ymddangos dros y lle a diflannu eto yr un mor gyflym. Bydd Mike yn ymwybodol iawn yn Abertawe o un achos penodol y mae modd ei ddefnyddio'n wirioneddol yn gwestiwn arholiad ar yr hyn a all fynd o'i le, oherwydd mae'r adeiladwr gwreiddiol, yr ail adeiladwr, yr holl yswirwyr a sawl cwmni daliannol ar ôl hynny i gyd wedi mynd yn fethdalwyr, un ar ôl y llall. Felly, mae hi wir yn wers o ran sut i beidio ag adeiladu. Bydd gennym ni'r holl wersi hynny o'n blaenau wrth i ni edrych ar ein cyfundrefn newydd ond, yn y cyfamser, rydym ni wedi ein gadael yn ceisio datrys cymhlethdodau dryslyd y sefyllfa bresennol, a dyna pam yma yng Nghymru, yn hytrach na chael yr un dull gweithredu i bawb, fe wnaethom ni ei ystyried fesul adeilad, oherwydd bod pob un ohonyn nhw'n unigryw ac yn wahanol ac, yn anffodus, cymhlethdod hynny yw pam ei fod yn cymryd cyhyd, ac nid oherwydd nad yw ar frig ein hagenda, gallaf i eich sicrhau chi. Mae hyd yn oed y ffordd yr ydym ni'n cael y syrfewyr i ddod i mewn a gwneud yr adeiladau mewn ffordd ddilyniannol sy'n golygu nad yw'r pris yn mynd drwy'r to o ganlyniad i rymoedd y farchnad, ac yn y blaen, wedi bod yn gymhlethdod. Felly, rwyf i'n eich sicrhau chi fy mod i'n awyddus iawn i weithio ar draws y Siambr ar y ddwy agwedd hyn. O ran Llywodraeth y DU, rwyf wedi fy siomi yn fawr nad ydym ni wedi gallu cael eglurder ar rai o'r cyhoeddiadau y maen nhw wedi eu gwneud. Ond, yn fwy diweddar, rydym ni wedi gweithio'n dda iawn gyda'n gilydd ar nifer o agweddau ar ddiwygiadau i lesddeiliaid, ac yn y blaen, testun cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn ddiweddarach heddiw. Mae'n bwysig iawn deall mai lesddaliad yw un o'r meysydd datganoli mwyaf cymhleth, gyda rhywfaint ohono wedi ei ddatganoli a rhywfaint ohono wedi ei gadw yn ôl, ac mae ymylon anniben datganoli yn amlwg iawn. Felly, mae gorfod llywio eich ffordd drwy hynny i gyd yn rhywbeth yr wyf i wir yn teimlo trueni dros y lesddeiliaid wrth ei wneud, a dyna pam rwy'n hapus iawn i gynnig cymaint o wybodaeth dechnegol ag y gallwn ni i helpu pobl i lywio'r dyfroedd stormus iawn hyn. Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, John Griffiths. John Griffiths AC: Diolch, Llywydd, a diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Mae ein pwyllgor wedi cytuno bod diogelwch adeiladau yn flaenoriaeth allweddol dros dymor y Senedd hon. Rydym ni eisoes wedi ystyried y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil diogelwch adeiladau a byddwn ni'n adrodd ar hynny cyn bo hir, ac rydym ni hefyd yn disgwyl y byddwn yn craffu ar Fil Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn ystod tymor y Senedd hwn. Ymatebodd ein pwyllgor blaenorol, yr oeddwn i hefyd yn gadeirydd arno, i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Bapur Gwyn 'Adeiladau Mwy Diogel yng Nghymru' ar ddiwedd y pumed Senedd. Felly, rwyf i'n croesawu'n fawr y cynnydd yr ydych chi wedi ei osod ger ein bron heddiw, Gweinidog, a chyhoeddi'r ymatebion i'r Papur Gwyn. Mae'n hanfodol ymdrin â'r materion a gafodd eu codi yn yr ymatebion wrth symud ymlaen. Tybed a allwch chi ddweud ychydig mwy, Gweinidog, am Fil diogelwch adeiladau y Senedd, gan gynnwys efallai ryw syniad o'r amserlen yn hynny o beth. Ac un peth yr ydym ni'n ymwybodol iawn ohono fel pwyllgor yw bod pobl, yn amlwg, yn teimlo'n gryf iawn y dylen nhw allu teimlo'n ddiogel yn eu cartrefi eu hunain, ac mae hynny o'r pwys mwyaf iddyn nhw. A dyna pam mae diogelwch adeiladau wedi bod yn flaenoriaeth mor frys i bob un ohonom ni, gan gynnwys y pwyllgor, ers trychineb Grenfell. Rydym ni fel pwyllgor yn dal i fod yn derbyn gohebiaeth gan breswylwyr sy'n teimlo'n rhwystredig ynghylch y cynnydd araf o ran cwblhau'r gwaith adferol a thalu am y gwaith hwnnw. Rydych chi wedi sôn am weithio gyda phreswylwyr a lesddeiliaid. Gweinidog, tybed a allwch chi ddweud ychydig mwy am hynny, oherwydd bod ymgysylltu â thrigolion a rhanddeiliaid eraill yn gwbl allweddol, a'u mewnbwn nhw a fydd yn hanfodol i sicrhau bod mesurau yn y dyfodol yn diwallu eu hanghenion. Felly, os gallech chi ddweud ychydig mwy am y gwaith ymgysylltu y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud a sut y bydd eu barn yn cyfrannu mewn gwirionedd at ddatblygu polisi yn y dyfodol, Gweinidog, byddwn i'n ddiolchgar. Ac yn olaf, gan ddychwelyd at y datblygwyr, rwy'n gwybod eich bod chi wedi cynnal digwyddiad bord gron yn yr hydref, ac fel y gwnaethom ni gyfeirio ato eisoes, fe wnaethoch chi fynegi parodrwydd, rwy'n credu, i roi ar goedd y datblygwyr hynny nad oedden nhw'n barod i ymuno â'r drafodaeth. Tybed a allwch chi ddweud ychydig mwy am hynny eto, a beth fydd yn gyhoeddus. Diolch yn fawr. Julie James AC: Diolch, John. Rwy'n edmygu'ch pwyllgor yn gofyn i mi yn gyson am amserlenni ar gyfer y Bil, ond mae arnaf i ofn bod fy ateb yr un fath â'r un a roddais i yn y pwyllgor, sef y byddwn ni'n trafod yr amserlen gyda chi pan gaiff y Bil ei gyflwyno, a'n bod ni'n gobeithio cael yr amser hiraf posibl i graffu yn y cyfnod pwyllgor yn benodol, oherwydd fy mod i'n awyddus iawn i sicrhau bod y Bil hwn yn gydsyniol ar draws y Siambr, os yw hynny'n bosibl. Felly, byddaf i'n sicr yn dod i'r pwyllgor gydag amserlen maes o law pan fydd y cytundeb wedi ei nodi yn llawn, ac rwyf i'n ymrwymo'n llwyr i fod eisiau cael yr amser hiraf posibl i'r pwyllgor edrych ar y Bil a sicrhau ein bod ni'n cael y consensws hwnnw ar draws y darn. Rydym ni wedi gwneud llawer o waith ymgysylltu ar y Papur Gwyn yn barod, a chawsom ni lawer o ymatebwyr i hynny, ond fe wnaeth yr ymatebion gydnabod hefyd fod meysydd yr oedd angen eu cwmpasu, mireinio ac egluro yn fwy, felly rydym ni wrthi'n gwahodd partneriaid allweddol i barhau i weithio gyda ni ar ddatblygu rhai o'r cynigion hynny ac i ymuno â gweithgorau arbenigol a fydd yn dechrau yn y flwyddyn newydd, i fireinio'r cynigion hynny. Felly, rwyf i'n eich sicrhau ein bod ni'n awyddus iawn i gael y diwydiant arolygu, y perchnogion eiddo eu hunain, a lleisiau'r lesddeiliaid yn amlwg iawn yn y ddadl honno, i sicrhau ein bod ni'n cael y drefn yn iawn. A byddaf i'n eich atgoffa ei fod yn raddol, y drefn, felly yn y cyfnod dylunio, adeiladu a meddiannaeth y bydd hyn yn cael ei ddwyn ymlaen. Felly, rwy'n hapus iawn i ymrwymo i hynny. Rwy'n hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor ac, yn wir, y Senedd, wrth i'r trafodaethau hynny fynd yn eu blaenau. Jenny Rathbone, yn olaf. Jenny Rathbone AC: Diolch, Llywydd. Gweinidog, rwy'n gwybod eich bod chi'n ymwybodol o fy mrwdfrydedd dros dynhau Rhan L o'r rheoliadau adeiladu fel bod pob adeilad newydd yn addas i'r diben yn ein byd sydd dan fygythiad yr hinsawdd. Dyma'r buddsoddiad mwyaf y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei wneud erioed, ac yn wir nid ydyn nhw'n haeddu bod datblygwyr yn llwytho costau cudd arnyn nhw ac yn eu hannog nhw i brynu adeiladau nad ydyn nhw'n addas i'r diben naill ai o ran diogelwch neu effeithlonrwydd tanwydd yr adeilad. Felly, rwyf i'n cefnogi yn llwyr, fel y mae pawb rwy'n siŵr, ein bod ni'n sicrhau bod diogelwch nid dylunio wrth wraidd yr adeiladau aml-feddiannaeth hyn. Gan ei bod dros bedair blynedd ers trychineb Grenfell, pa newidiadau sydd wedi eu gwneud i reoliadau adeiladu yn ogystal â'r monitro sydd ei angen i sicrhau bod y cynlluniau'n cael eu llunio i'r fanyleb gymeradwy fel nad oes rhaid i unrhyw un sy'n prynu cartref heddiw fynd drwy'r artaith y mae pobl sy'n byw yn yr adeiladau sâl hyn wedi gorfod ei dioddef am yr holl flynyddoedd hyn? Julie James AC: Diolch yn fawr iawn, Jenny. Yn sicr, rwy'n ymwybodol iawn o'ch brwdfrydedd dros Ran L, yr ydym ni'n gobeithio ei chyflwyno ddechrau'r flwyddyn nesaf, ac yn arbennig o ran effeithlonrwydd ynni cartrefi, ac yn y blaen. Wrth gwrs, mae rheoliadau adeiladu yn cynnwys llawer mwy nag effeithlonrwydd ynni yn unig; maen nhw'n cynnwys cyfres gyfan o agweddau ar ddiogelwch, fel yr ydych chi newydd ei amlinellu. Ac rydym ni wedi gwneud un neu ddau o newidiadau i hynny, felly, yn amlwg, fe wnaethom ni wahardd gwahanol fathau o gladin yn gynnar iawn ar ôl tân Grenfell, fel y gwnaeth Lloegr. Bu nifer o addasiadau bach o'r math hwnnw wrth i ni fynd ymlaen, ond nid ydym ni wedi gwneud unrhyw newidiadau cynhwysfawr eto, oherwydd ein bod ni'n bwriadu gwneud hynny o ganlyniad i'r Papur Gwyn. Ac rydym ni'n newid y drefn gyfan yn llwyr; nid mân newidiadau yw'r rhain, mae hyn yn wahaniaeth ansoddol hollol wahanol. Yr oedd yn destun llawer o ddadlau yn y pumed Senedd a byddwn ni mewn sefyllfa cyn bo hir iawn i allu dechrau ar y gwaith craffu hwnnw yma yn y chweched Senedd. O ran sicrhau bod yr adeiladau sy'n cael eu hadeiladu yn awr yn addas i'r diben, gallaf i eich sicrhau chi ein bod ni wedi cael sgyrsiau hir gydag arolygiaethau amrywiol ynghylch y ffordd orau o wneud hynny, ond rwy'n ofni ei bod yn debyg bod rhai adeiladau yn cael eu hadeiladu ar hyn o bryd y bydd ganddyn nhw broblemau tebyg os nad yw'r datblygwyr yn camu i'r fei i'r dasg o sicrhau eu bod yn derbyn eu cyfrifoldebau. A dyna un o'r rhesymau yr ydym ni wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar eu Bil nhw, oherwydd dim ond y DU sydd â'r pŵer i newid y cymalau rhwymedigaethau a'r cyfnodau cyfyngu ar gyfraith contractau, sef yr hyn yr ydych chi'n sôn amdano yn y fan yno. A dyna un o anawsterau'r maes cyfreithiol hwn, oherwydd nad yw rhywfaint ohono wedi ei ddatganoli, mae rhywfaint ohono wedi ei gadw a rhywfaint ohono heb ei gadw. Felly, rydym ni wedi bod yn ceisio llywio hynny wrth i ni fynd ymlaen. Felly, mae Llywodraeth y DU, fel y dywedais i yn fy natganiad, wedi ymrwymo'n ddiweddar i ymestyn y cyfnod cyfyngu i bobl sydd ar fin mynd i feddiannu adeilad, felly bydd ganddyn nhw 30 mlynedd i ddwyn y datblygwr i gyfrif yn y dyfodol. Bydd angen gwneud pethau eraill, felly byddwn ni'n gweithio'n galed iawn gyda gweithwyr proffesiynol trawsgludo ac asiantau tai er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth y mae pobl yn ei chael pan fyddan nhw'n prynu eu heiddo yn addas i'r diben. Ac mae hynny'n cynnwys yr holl faterion sy'n ymwneud â lesddaliad, taliadau a chyfrifoldebau hefyd, Jenny, cyn ac ar ôl y Papur Gwyn. Yn amlwg, ar ôl y Papur Gwyn, bydd yn llawer symlach ac yn fwy uniongyrchol. Diolch i'r Gweinidog. 8. Y Cwricwlwm i Gymru—Y Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb Yr eitem nesaf, felly, yw eitem 8, y Cwricwlwm i Gymru, y cod addysg cydberthynas a rhywioldeb, a dwi'n galw ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg i gyflwyno'r cynnig yma—Jeremy Miles. Cynnig NDM7864 Lesley Griffiths Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Y Cwricwlwm i Gymru – Y Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Tachwedd 2021. Cynigiwyd y cynnig. Jeremy Miles AC: Diolch, Llywydd.Rwy'n falch iawn o gyflwyno'r cod addysg cydberthynas a rhywioldeb i'w ystyried gan y Senedd. Mae angen inni helpu'n plant a'n pobl ifanc i fynd o nerth i nerth ym mhob agwedd ar fywyd, fel eu bod yn tyfu i fod yn oedolion sy'n unigolion iach, hyderus. Mae gan addysg cydberthynas a rhywioldebrôl gadarnhaol ac amddiffynnol i'w chwarae yn addysg [Anghlywadwy.] Mae gan ysgolion a lleoliadau rôl bwysig i'w chyflawni o ran creu amgylchedd diogel a grymusol sy'n cefnogi hawliau dysgwyr i fwynhau cydberthnasau boddhaus, iach a diogel drwy gydol eu bywydau. Rŷn ni hefyd yn gwybod bod plant a phobl ifanc sydd â chydberthnasau cryf ac ymdeimlad cadarnhaol o'u hunain ac sy'n gallu deall a rheoli eu hemosiynau a'u lles eu hunain mewn sefyllfa well i gyrraedd eu potensial llawn yn y dyfodol. Bydd addysg cydberthynas a rhywioldeb yn rhoi'r egwyddorion hyn wrth wraidd y dysgu. Rydym am i'n pobl ifanc ffynnu er mwyn iddynt allu ymateb yn gadarnhaol i fyd sydd yn newid a bod yn barod am y bywyd sydd o'u blaenau. Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair. Jeremy Miles AC: Mae gan blant yr hawl i gael gafael ar wybodaeth sy'n eu cadw'n ddiogel rhag niwed ac sy'n caniatáu iddyn nhw lywio'r byd cymhleth yr ydym ni'n byw ynddo—un sy'n wahanol iawn i'r byd y cawsom ni ein magu ynddo. Fel cymdeithas, rydym ni'n dod yn fwyfwy ymwybodol o ddatblygiadau mewn technoleg, gan gynnwys dylanwad cynyddol y cyfryngau cymdeithasol a'r cynnydd yn y defnydd o gyfathrebu a dyfeisiau digidol. Yn y cyd-destun hwn, mae addysg cydberthynas a rhywioldeb yn gymorth pwysig i alluogi dysgwyr i lywio'r newidiadau hyn a'u cadw'n ddiogel rhag niwed. Mae gan addysg cydberthynas a rhywioldeb swyddogaeth bwysig hefyd i ymateb i ystod eang o faterion a heriau brawychus y mae pobl ifanc yn eu hwynebu, sydd wedi eu hamlygu'n fwy diweddar, boed yn cadw'n ddiogel ar-lein, aflonyddu rhywiol gan gyfoedion, neu amlygiad plant a phobl ifanc i ddelweddau rhywiol a phornograffi. Mae'n hanfodol bod gan ein dysgwyr ddealltwriaeth o'r materion hyn, ond mae hefyd yn hanfodol ein bod ni'n eu cynorthwyo i fod yn ddiogel mewn amgylchedd cynhwysol sy'n gefnogol i bob plentyn a'n bod ni'n paratoi ein hathrawon a'n hymarferwyr i ymdrin â'r materion hyn. Rydym ni wedi parhau â'r safbwynt y dylai'r holl ddysgu mewn addysg cydberthynas a rhywioldeb fod yn briodol yn ddatblygiadol ac mae'r camau a amlinellir yn y cod yn ganllaw i roi dealltwriaeth i ymarferwyr o'r hyn sy'n debygol o fod yn briodol yn ddatblygiadol. Mae hyrwyddo a chynorthwyo perthnasoedd iach eisoes yn rhan allweddol o'n dull o roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac mae eisoes wedi llywio'r Cwricwlwm i Gymru newydd. Bydd strategaeth ddrafft newydd Llywodraeth Cymru ar drais yn erbyn menywod cam-drin domestig a thrais rhywiol yn cyd-fynd â'r cod addysg cydberthynas a rhywioldeb newydd a'r canllawiau statudol. Yn fwy cyffredinol, rydym yn parhau i hyrwyddo perthnasoedd iach yn y ffordd yr ydym yn cefnogi teuluoedd ac unigolion sy'n agored i niwed. Drwy hyrwyddo cysyniad cyson o beth yw perthnasoedd iach, byddwn yn cefnogi ein dull cymdeithas gyfan o roi terfyn ar gam-drin menywod a merched yng Nghymru. Bydd ein strategaeth newydd i atal trais yn erbyn menywod cam-drin domestig a thrais rhywiol yn cael ei chyflawni drwy ddull partneriaeth gwirioneddol, gan gynnwys addysg, iechyd, yr heddlu, gwasanaethau arbenigol, a goroeswyr i greu'r glasbrint ar gyfer gweithredu. Ar 26 Tachwedd, ysgrifennais at Aelodau'r Senedd, gan rannu'r canllawiau statudol drafft ar addysg cydberthynas a rhywioldeb. Yn y canllawiau hyn, y mae'n rhaid eu darllen gyda'r cod, bydd yr Aelodau'n sylwi ei bod yn glir y dylai'r dull o ymdrin ag addysg cydberthynas a rhywioldeb fod yn gadarnhaol, yn amddiffynnol ac yn ataliol, gan ystyried sut y gellir cynorthwyo dysgwyr i gael yr wybodaeth i adnabod pob math o wahaniaethu, trais, cam-drin ac esgeulustod, gan gynnwys trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae dolen wedi ei gynnwys mewn pecyn adnoddau i gefnogi ysgolion a lleoliadau ar drais yn erbyn menywod a merched. Hoffwn i dalu teyrnged yn arbennig a diolch i sefydliadau fel y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant, Cymorth i Ferched Cymru ac eraill am eu cefnogaeth barhaus i addysg cydberthynas a rhywioldeb orfodol a'u cyfraniadau dros y misoedd diwethaf wrth i ni gryfhau'r maes dysgu hwn o fewn y canllawiau a'r cod statudol, a fydd yn cefnogi diogelwch dysgwyr drwy eu galluogi i gydnabod perthnasoedd a sefyllfaoedd anniogel neu niweidiol. Mae adroddiad diweddar Estyn ar aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion mewn lleoliadau addysg yn anodd iawn ei ddarllen, ac mae nifer yr achosion o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn ein cymdeithas ymhlith pobl ifanc yn annerbyniol. Mae hefyd yn glir bod trais yn erbyn menywod a merched yn llawer rhy gyffredin, ac rwyf i'n credu'n gryf y bydd addysg cydberthynas a rhywioldeb orfodol yn helpu i gefnogi dysgwyr i ffurfio a meithrin ystod o berthnasoedd iach wedi eu seilio ar ymddiriedaeth a pharch at ei gilydd. Tynnodd adroddiad Estyn sylw hefyd at y ffaith bod gan ein disgyblion LGBTQ+ brofiadau personol sylweddol o aflonyddu geiriol, homoffobig. Mae unrhyw fath o fwlio yn gwbl annerbyniol. Bydd addysg cydberthynas a rhywioldeb yn cael ei gwireddu, Dirprwy Lywydd, mewn ffordd sy'n gynhwysol, yn unol ag egwyddorion cydraddoldeb. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod yr holl ddysgwyr yn gallu gweld eu hunain, eu teuluoedd, eu cymuned a'i gilydd yn cael eu hadlewyrchu ar draws y cwricwlwm ac yn gallu dysgu gwerthfawrogi gwahaniaeth ac amrywiaeth fel ffynhonnell o gryfder. Mae hyn, wrth gwrs, yn cynnwys cydraddoldeb rhwng y rhywiau a chynwysoldeb LGBTQ+. Mae hyn yn cyfrannu at gymdeithas gydlynol, deg a chyfiawn sy'n rhoi'r sgiliau am oes i ddysgwyr. Rydym yn glir bod angen arbenigedd, amser ac adnoddau arbenigol ar addysg cydberthynas a rhywioldeb i fod yn effeithiol. Bydd hyn yn sicrhau bod amgylchedd cefnogol yn cael ei greu i alluogi dysgwyr ac ymarferwyr i fod yn ddiogel, er mwyn trafod a dysgu am faterion a allai fod yn sensitif neu'n heriol. Un o'r prif flaenoriaethau i ni dros y misoedd nesaf fydd cynorthwyo ysgolion a lleoliadau cyn gweithredu addysg cydberthynas a rhywioldeb. Mae cynllun cenedlaethol o ddysgu proffesiynol ar gyfer addysg cydberthynas a rhywioldeb yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd gydag ymarferwyr a phartneriaid. Yn gynharach eleni cyhoeddais gyllideb o £100,000 i gynorthwyo'r gwaith o ddatblygu adnoddau addysg cydberthynas a rhywioldeb o ansawdd uchel, a fydd yn helpu i ddatblygu hyder a dealltwriaeth athrawon o ran darparu addysg cydberthynas a rhywioldeb gynhwysol o ansawdd uchel. Rydym yn trafod gyda rhanddeiliaid ac ymarferwyr allweddol i nodi unrhyw fylchau ac i gomisiynu adnoddau newydd o ansawdd uchel, pan fo'u hangen, i gefnogi'r gweithredu hwnnw. Bydd ein sgyrsiau rhwydwaith cenedlaethol â'r sector yn gyfle hefyd i drafod y gwaith o weithredu addysg cydberthynas a rhywioldeb ymhellach. Hoffwn i ddiolch i'r ymarferwyr yn y gweithgor addysg cydberthynas a rhywioldeb am eu gwaith caled ac am eu hymroddiad a'u hymrwymiad i ddatblygu'r cod hwn. Hoffwn i ddiolch hefyd i'r sefydliadau sy'n cynnwys crefydd, hawliau, rhanddeiliaid sy'n cynrychioli buddiannau plant, ac arbenigwyr am gymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu'r cod hwn. Mae llawer gormod ohonoch i'ch enwi'n unigol, ond nid yw fy niolch yn llai personol. Rwyf i mor falch bod y cod addysg cydberthynas a rhywioldeb hwn yn ennyn cymaint o gonsensws a chefnogaeth o bob rhan o'r gymdeithas ddinesig. Edrychaf ymlaen at y cyfraniadau yn y ddadl ac at ddeialog ag Aelodau ar y maes dysgu pwysig hwn. Diolch yn fawr iawn. Laura Anne Jones AC: Yn gyntaf, rwy'n credu ei bod yn gwbl warthus mai dim ond 30 munud sydd gennym ni i drafod rhywbeth sydd mor sylfaenol bwysig, yn ystod yr wythnos olaf cyn y toriad. Laura Anne Jones AC: Mae cymaint o'i le ar y cod ar ei ffurf bresennol, a'r canllawiau, sydd o bwys enfawr ac yn ganllaw i'n hathrawon. Cafodd y canllawiau hanfodol hyn, a oedd ar goll i ddechrau, eu cyhoeddi gan y Llywodraeth hon yn hwyr neithiwr. I graffu arnyn nhw'n briodol, mae dadl 30 munud yn unig yn sarhad ar y Senedd, y rhieni, athrawon a phlant ledled Cymru. Dirprwy Lywydd, cyn i mi geisio mynd i'r afael â'r llu o bryderon sydd gan y meinciau hyn, rwy'n diolch i'r Llywydd am gydnabod pwysigrwydd y ddadl hon yn flaenorol a chaniatáu mwy o hyblygrwydd o ran amseriadau, ac rwy'n gobeithio y byddwch chi'n ymestyn hynny i fy nghyfraniad i, gan fod angen neilltuo digon o amser i graffu ar hyn a'i drafod yn ddigonol. Mae'n hanfodol ein bod yn cael hyn yn iawn ac nad yw'n cael ei ruthro drwodd, gan y bydd hyn yn effeithio'n fawr ar genedlaethau o blant yng Nghymru. Rydym ni i gyd eisiau cael addysg cydberthynas a rhywioldeb sydd o ansawdd uchel, yn ddiogel, yn briodol i oedran, yn gwbl gynhwysol, ac yn wyddonol gywir i'n plant. Bydd y cwricwlwm newydd yn rhoi cyfle unigryw i ni fynd i'r afael o'r diwedd â rhai o faterion pwysig yr oes sydd ohoni a'u haddysgu i hyrwyddo perthnasoedd iach, ymwybyddiaeth ac i amddiffyn ein plant. Rydym ni'n croesawu hyn. Fodd bynnag, mae angen i ni ei wneud yn iawn. Mae angen iddyn nhw fod y negeseuon iawn, y cynnwys iawn, wedi eu cyflwyno gan athrawon sydd wedi eu hyfforddi'n llawn neu gan gyrff allanol sy'n cadw at y canllawiau caeth a gaiff eu gosod. Felly, mae angen i'r canllawiau hyn a'r cod fod yn glir ac wedi eu seilio ar wirionedd. Mae hyd yn oed y teitl yn fy mhoeni i—dileu'r gair 'rhyw' o deitl addysg cydberthynas a rhywioldeb a defnyddio 'rhywioldeb' yn ei le—fel y mae dileu pob cyfeiriad at 'ferch', 'bachgen', 'menyw'. Mae'n hurt o ddryslyd, yn beryglus i gyfyngu ar ddefnyddio rhywedd, ac mae'n fy nharo i fel Llywodraeth sy'n poeni'n fwy am hyrwyddo syniadaeth nag addysgu ffeithiau i'n plant a'u hamddiffyn. Mae hepgor unrhyw dermau rhywedd yn y cod, a bod yn onest, yn syfrdanol. Nid yw'r hyn sydd wedi ei gyflwyno yn addysg rhyw sydd wedi ei seilio ar ffeithiau ac sy'n gywir yn fiolegol, ond yn trwytho plant mewn syniadaeth ynghylch hunaniaeth rhywedd. Mae dileu 'rhyw' yn tanseilio diogelu, yn erydu'r cysyniad o breifatrwydd, ffiniau a chydsyniad, gan roi merched yn arbennig mewn perygl—mae cod lle mae merched a menywod yn anweledig, ar wahân i gyfeiriadau at eu gweithrediadau corfforol, yn fwy na gwrth-reddfol. Mae merched a menywod yn bodoli, ac mae'n syfrdanol bod lleiafrif bach yn ceisio ein dileu o gymdeithas. Mae angen i'n blaenoriaeth fod ar ddiogelu plant, gan roi'r ffeithiau iddyn nhw mewn modd sy'n briodol i'w hoedran. Rwy'n cytuno'n llwyr â Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, sydd wedi siarad yn erbyn y cod hwn heddiw, ac yn ailadrodd ei galwadau ac rwy'n credu y byddai'n gam cwbl resymol i gynnwys yn benodol ac yn glir yr angen i ddeall y sail rywedd i drais a'r materion rhywedd penodol ar gyfer perthnasoedd iach ar wyneb y cod addysg cydberthynas a rhywioldeb. Ac, wrth ymateb i wrthodiad y Llywodraeth, mae'n wir bod cyfeiriad at Ddeddfau yn y dogfennau hyn, sef Deddf Cydraddoldeb 2010 a Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, ond, y tu hwnt i hynny, nid oes unrhyw beth o gwbl yn y deilliannau dysgu sydd â'r pŵer i newid patrymau neu agweddau gwrywaidd cyfredol at drais rhywiol a domestig. O ystyried bod y troseddau hyn ar gynnydd, yn enwedig mewn ysgolion, fel y gwyddoch chi, Gweinidog, mae'n hanfodol manteisio ar y cyfle yn awr i fynd i'r afael â hyn. Yn yr un modd, ceir cyfeiriad at y Ddeddf Cydraddoldeb. Gallwn i fynd ymlaen, ond, Dirprwy Lywydd, nid oes amser. Ond, yn y bôn, mae diben y Ddeddf hon wedi ei erydu yn y cod hwn. Bydd llwyddiant y cod hwn yn dibynnu ar gefnogaeth a chydweithrediad gan rieni, gofalwyr, teuluoedd ac athrawon ledled Cymru, ond mae'r rhain yn god a chanllawiau anodd eu dilyn, dryslyd ac nid ydyn nhw'n ffeithiol gywir, sy'n defnyddio termau wedi eu diffinio'n wael nad oes ganddyn nhw unrhyw sail yn y gyfraith ac, rwyf i'n credu, na fydd yn cael y gefnogaeth honno. Hyd yn hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi anwybyddu'n fwriadol lu o bryderon a gafodd eu codi yn y drafft cychwynnol, ac mae'r canllawiau yn dal i fethu â mynd i'r afael ag amrywiaeth o faterion. Nid oes unrhyw sôn o hyd am y safonau sy'n ofynnol ar gyfer cyflenwyr neu ddarparwyr deunydd addysgol trydydd parti, y mae angen, yn fy marn i, eu cymeradwyo gan Estyn. Mae'r iaith yn y cod yn parhau i fod yn anrhyweddol, yn anghywir ac yn ddryslyd, a allai arwain at effaith andwyol, Gweinidog. Hoffwn i fynd ymlaen, ond, unwaith eto, nid oes digon o amser. Ac mae'n dal i beidio â chynnwys effaith pornograffi ar gymdeithas ac unigolion—yn briodol i oedran, wrth gwrs. Yn wir, bod yn briodol i oedran yw un o'r pethau pwysicaf y mae angen i ni ei sicrhau drwy'r dogfennau hyn. Ond, oherwydd rhwyddineb a thuedd gynyddol o rannu delweddau ar y cyfryngau cymdeithasol, fel yr ydym ni wedi ei drafod yn ddiweddar yn y Senedd, mae angen mynd i'r afael â hyn. Yn olaf, Dirprwy Lywydd, mae llawer o ddiffygion clir ac amlwg yn y dogfennau hyn o hyd, ac maen nhw'n ddryslyd iawn o ran eu cynnwys ac nid ydyn nhw'n addas i'r diben. Mae'n hanfodol bod angen i'r canllawiau hyn fod yn glir, yn gryno ac yn gadarn os yw'n mynd i fod yn ganllaw i addysgu addysg cydberthynas a rhywioldeb mewn modd cyson ledled Cymru ac os yw'n mynd i gael yr effaith a ddymunir. Os bydd y cod hwn yn mynd drwodd fel y mae, rwy'n rhybuddio'r Senedd hon na fydd yn mynd i'r afael â'r materion y mae'n bwriadu eu datrys, ni fydd yn mynd i'r afael â'r hyn y mae'r Llywodraeth hon ei hun yn dymuno mynd i'r afael ag ef, ac ni fydd yn gyfraniad teilwng at wella bywydau'r cenedlaethau nesaf o blant Cymru. Byddwn ni'r Ceidwadwyr Cymreig yn pleidleisio yn erbyn hyn heddiw, ac rwy'n annog y Senedd i ddilyn ein hesiampl. Rwy'n gobeithio y gellir ailgyflwyno'r canllawiau hyn, wedi eu diwygio, i'r Senedd yn y flwyddyn newydd a chraffu arnyn nhw yn iawn, fel y maen nhw'n ei haeddu ac y dylai fod. Diolch. Sioned Williams MS: Diolch i'r Gweinidog am y datganiad. Rwy'n falch iawn o allu cyfrannu at y ddadl bwysig hon ar ran Plaid Cymru. Mae hon yn agwedd mor allweddol o'r cwricwlwm newydd, ac yn agwedd rŷn ni wedi bod yn gyson gefnogol ohoni drwy gydol taith y cwricwlwm newydd drwy'r Senedd, gan y bydd, gobeithio, yn arwain at gyfle hanesyddol i feithrin agweddau a dealltwriaeth o gydraddoldeb yn ein cymdeithas o ran ymagwedd at y rhywiau, rhywedd a rhywioldeb. Rwy'n hynod o falch o nodi bod addysg cydberthynas a rhywioldeb wedi derbyn cefnogaeth eang gan ymarferwyr a dysgwyr fel ei gilydd, yn ogystal â chyrff cyhoeddus a rhieni. Roedd y rhai a ymatebodd i'r ymgynghoriad ar y cod drafft yn gefnogol ar y cyfan i'r dull cyffredinol o ymdrin ag addysg cydberthynas a rhywioldeb, gydag agweddau cadarnhaol tuag at y dull a gymerwyd yn cael eu llywio gan wahanol safbwyntiau. Roedd cymaint o'r rhai wnaeth ymateb yn deall y byddai darparu addysg cydberthynas a rhywioldeb yn effeithiol wrth gefnogi lles plant a phobl ifanc ac wrth hyrwyddo hawliau'r plentyn, a bod y ddarpariaeth honno'n adlewyrchu neu'n adeiladu ar arferion addysgu presennol mewn ysgolion. O ran lles plant a phobl ifanc, roedd yn cael ei gydnabod y byddai darpariaeth briodol yn darparu cyfleoedd iddynt ddatblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u hyder i archwilio eu bydoedd a'u sfferau cymdeithasol yn ddiogel ac yn hyderus, ac yn diogelu eu lles emosiynol a chorfforol. Yn y pen draw, y gobaith, wrth gwrs, yw y bydd yn galluogi plant a phobl ifanc i ganfod eu ffordd yn hyderus ac yn ddiogel o fewn cymdeithas sy'n newid yn barhaus—cymdeithas wahanol iawn, fel dywedodd y Gweinidog, i'r un y gwnaethon ni gael ein magu ynddi. Yn ogystal, ystyriwyd bod addysg cydberthynas a rhywioldeb yn hanfodol wrth ddarparu dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o berthnasoedd sydd â pharch wrth eu craidd, ac wrth ddarparu gwybodaeth gytbwys a diduedd a all amddiffyn a grymuso plant a phobl ifanc—syniad sy'n cael ei gefnogi ymhellach gan y pwyslais pellach ar hawliau'r plentyn oddi mewn i'r cynigion sy'n deillio o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Erbyn hyn, ers yr ymgynghoriad ar y cod drafft, gwnaed newidiadau i'r cod, ac mae'r rhain wedi'u hamlinellu'n rhannol gan y Gweinidog. Felly, byddwn yn gobeithio y gallai'r Gweinidog ddarparu mwy o fanylion am y newidiadau, y rhesymeg y tu ôl i newid y cod a sut mae'n credu y bydd y newidiadau hyn yn effeithio'n gadarnhaol neu'n cryfhau darpariaeth addysg cydberthynas a rhywioldeb. Sioned Williams MS: Gan roi'r agweddau da i'r naill ochr, mae rhai materion sy'n ymwneud â pherthnasoedd a rhywioldeb yn parhau i fod yn gyffredin yng nghymdeithas Cymru, ac rwy'n gobeithio, wrth ymateb i'r ddadl hon, y gall y Gweinidog daflu rhywfaint o oleuni ar sut y bydd yr agwedd hon ar y cwricwlwm yn helpu i unioni'r problemau hyn. Fel y clywsom mewn adroddiad diweddar gan Estyn, canfuwyd bod disgyblion dan bwysau'n rheolaidd i anfon lluniau noeth, a merched yn cael eu haflonyddu am hyd eu sgertiau. Yn hyn o beth, dywedodd tua hanner y disgyblion uwchradd eu bod wedi cael profiad o aflonyddu rhywiol gan gyd-ddisgyblion, bod dwywaith cymaint o ferched wedi dweud eu bod wedi wynebu aflonyddu rhywiol gan fechgyn, a bod 46 o'r rhai a oedd wedi cael profiad ohono wedi penderfynu peidio â dweud wrth unrhyw un arall. Mae'n frawychus, ond nid yw'n syndod llwyr gweld bod 71 y cant o ddisgyblion fechgyn ac 82 y cant o ddisgyblion sy'n ferched wedi dweud eu bod wedi gweld aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion mewn ysgolion uwchradd. Rydym yn croesawu'r dull addysg gyfan yn y cwricwlwm newydd o roi terfyn ar gasineb at fenywod a thrais yn erbyn menywod a merched. Ac yng ngoleuni'r canfyddiadau brawychus hyn yn adroddiad Estyn, mae'n gliriach nag erioed bod angen darpariaeth addysg cydberthynas a rhywioldeb gadarn arnom yn ein cwricwlwm, a bod y ddarpariaeth hon yn grymuso disgyblion i ymddiried yn eu hathrawon, sefyll i fyny i'w cyfoedion ac adrodd ar bob math o aflonyddu rhywiol. Gobeithio y gallai ymateb y Gweinidog i'r ddadl hon egluro sut y gallai darpariaeth addysg cydberthynas a rhywioldeb fynd ati i unioni'r broblem erchyll a pharhaus hon yn ein hysgolion. Fel y cyfeiriodd y Gweinidog yn ei ddatganiad, canfu arolygwyr Estyn hefyd fod lawer o ddisgyblion LGBTQ+ wedi cael llawer o brofiadau personol o fwlio ac aflonyddu homoffobig, a bod y rhan fwyaf o ddisgyblion LGBTQ+ a arolygwyd gan Estyn yn dweud eu bod nhw'n meddwl mai dim ond ychydig o athrawon fyddai'n gwneud unrhyw beth yn ei gylch pe bydden nhw'n clywed sarhad homoffobig yn cael ei ddefnyddio yn eu herbyn. Mae'n destun pryder nodi bod rhai o'r ymatebion mwy gwrthwynebol i'r ymgynghoriad yn aml yn cuddio rhagfarn ac agweddau gwahaniaethol yn erbyn pobl drawsryweddol, felly hoffwn i gofnodi ac ailddatgan fy ymrwymiad i a fy mhlaid i sicrhau bod angen clywed a chadarnhau lleisiau a phrofiadau LGBTQ+, a'n haddewid parhaus i hyrwyddo hawliau LGBTQ+. Wrth ymateb i'r ddadl hon, byddwn i'n gwerthfawrogi pe gallai'r Gweinidog egluro yn fwy sut y bydd y cod addysg cydberthynas a rhywioldeb yn helpu myfyrwyr LGBTQ+, yn ogystal â'u cydweithwyr a'u hathrawon, i greu amgylchedd o well dealltwriaeth a mwy grymusol a thosturiol yn ein hysgolion. Sioned Williams MS: Rwy'n credu hefyd fod yn rhaid gwneud— Mae angen i chi ddod i ben nawr. Sioned Williams MS: [Anghlywadwy.]—wrth gloi, ynglŷn â sut y bydd pynciau eraill yn y cwricwlwm newydd yn cryfhau neu'n cefnogi darpariaeth addysg cydberthynas rhywioldeb a'i nodau craidd. Mae Plaid Cymru wedi ymgyrchu'n hir ac yn galed er mwyn gweld mwy o bwyslais ar hanes Cymru, gan gynnwys hanes LHDTC+ yng Nghymru yn y cwricwlwm newydd, ac rwy'n falch o weld y cyfeiriad at hyn yn ein cytundeb cydweithredu gyda'r Llywodraeth. Mae'n gwbl hanfodol bod disgyblion yn dysgu'r cyd-destun hanesyddol, sut wnaethon ni gyrraedd lle'r ydym ni nawr fel cymdeithas, os ydyn nhw am ddeall a chanfod eu ffordd o fewn y gymdeithas honno. Felly, hoffwn wybod, wrth gloi, sut mae darpariaeth addysg cydberthynas rhywioldeb yn cael ei hadlewyrchu a'i chefnogi gan bynciau eraill yn y cwricwlwm fel hanes. Diolch. Darren Millar AC: Byddaf yn pleidleisio yn erbyn cod addysg cydberthynas a rhywioldeb Llywodraeth Cymru heddiw. Fel y bydd y Gweinidog yn ymwybodol iawn o ddadleuon a gafodd eu cynnal yn y Senedd flaenorol, rwyf i o'r farn mai rhieni yw prif addysgwyr eu plant, nid y wladwriaeth, ac rwyf i'n credu bod camau Llywodraeth Cymru i ddileu hawl rhieni i dynnu eu plant yn ôl o wersi addysg rhyw enfawr tuag yn ôl o ran hawliau a dewis rhieni, ac, o ystyried y ffaith na chaiff rhieni dynnu eu plant yn ôl o wersi addysg rhyw mwyach, mae'n gwbl hanfodol bod y cod addysg cydberthynas a rhywioldeb newydd mor barchus a chynhwysol â phosibl i'r amrywiaeth eang o safbwyntiau sydd gan bobl ar y pwnc pwysig iawn hwn. Ond mae'n flin gen i ddweud nad yw'r cod sydd ger ein bron heddiw a'r canllawiau statudol drafft a gafodd eu rhannu ag Aelodau yn hwyr y bore yma yn gwneud hynny. Yr hyn sydd yn amlwg yw bod Llywodraeth Cymru yn ceisio celu cyfres ddadleuol o syniadau y mae llawer iawn o ddadlau yn eu cylch fel rhyw fath o gatalog sefydlog o wirioneddau y dylid eu haddysgu i bob disgybl yn y wlad. Ond mae'r realiti ymhell o hynny. Y gwir amdani yw bod llawer iawn o ddadlau, hyd yn oed o fewn y gymuned LGBTQ+, ar yr effaith y gallai'r cod ei chael, yn enwedig ar hawliau menywod, ac mae pryderon gwirioneddol bod barn pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ledled Cymru mewn perygl o gael eu cythreulio a gwahaniaethu yn eu herbyn. Mae pwyslais mawr iawn yn y cod ar barch, ond mae'n amlwg nad yw'n ymddangos bod y parch hwnnw'n ymestyn i lawer o Gristnogion, Mwslimiaid, Iddewon, Hindŵiaid, Sikhiaid, aelodau o grefyddau eraill, aelodau o'r gymuned LGBTQ+ na'r rhai y gallai eu barn fod yn groes i'r rhai y mae Llywodraeth Cymru yn eu harddel. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod y cod a'r canllawiau drafft wedi eu dylanwadu'n fawr o safbwynt ideolegol sy'n ymwybodol iawn o bechu, ac mae'r canllawiau drafft yn arbennig yn sgrechian hynny. O'r 4,000 o eiriau sydd ynddyn nhw, rydym yn gweld y geiriau 'gwryw' yn cael ei grybwyll unwaith yn unig; 'benyw' ddwywaith, a'r ddau wrth drafod anffurfio organau rhywiol menywod; nid yw 'dynion' yn ymddangos o gwbl, nac ychwaith y geiriau 'merch', 'bachgen', 'syth' na 'heterorywiol'. Nid yw unrhyw god addysg cydberthynas a rhywioldeb sy'n ceisio osgoi'r geiriau hyn yn werth y papur y mae wedi ei ysgrifennu arno. Nawr, fel Llywodraeth y dydd, rwy'n parchu bod gennych yr hawl i gynllunio'r cwricwlwm yn y ffordd yr ydych chi'n ei ystyried sy'n addas, ond nid oes gennych chi'r hawl i addysgu cwricwlwm amhriodol, wedi ei lwytho'n rhywiol, sy'n hyrwyddo dealltwriaeth o sut y mae gan bawb hawl i, ac rwy'n dyfynnu, 'perthnasoedd pleserus' i blant mor ifanc ag 11 oed. Mae gwneud hynny heb ganiatâd rhieni, yn fy marn i, yn gwbl annerbyniol, felly rwy'n annog yr holl Aelodau heddiw i wrthod y cod hwn a'r canllawiau drafft sy'n deillio ohono, ac yn annog Llywodraeth Cymru i ddechrau o'r dechrau, i ymgysylltu'n fwy â rhieni, i ymgysylltu'n fwy â chymunedau ffydd ac amrywiaeth fwy amrywiol o leisiau o'r gymuned LGBTQ+. Rwy'n eich annog i ddatblygu cod newydd sy'n mynd i'r afael â'u pryderon. Jenny Rathbone AC: Rwy'n anghytuno'n barchus â Darren Millar. Rwy'n credu ei fod yn wirioneddol ofnadwy ar gyfer hawliau plant os nad ydyn nhw'n gwybod beth sy'n digwydd iddyn nhw pan fyddan nhw'n mynd drwy'r glasoed. Pam mae cynifer o ferched nad oes ganddyn nhw syniad beth sy'n mynd i ddigwydd iddyn nhw pan fyddan nhw'n dechrau eu mislif? Ac mae hynny'n syfrdanol, ac yn frawychus iawn ac yn ddiangen o araf. Ac rydym ni'n wirioneddol yn byw yn y gwaethaf o bob byd, lle mae rhyw yn cael ei ddefnyddio i werthu popeth, boed yn bornograffi niweidiol neu'n gwerthu'r esgidiau diweddaraf, neu'r bêl-droed, neu gar. Felly, mae angen yn llwyr i ni fynd i'r afael â hyn, fel y gwelsom yn adroddiad brawychus Meilyr Rowlands ar yr hyn yr oeddem ni eisoes yn ei wybod oedd yn digwydd—yr aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion sy'n digwydd drwy ffonau clyfar pobl a llwyfannau ar-lein eraill. Mae'n wirioneddol anghyfforddus, ac nid yw'r rhan fwyaf o'r bwlio a'r aflonyddu rhywiol hwn yn digwydd mewn ysgolion, mae'n digwydd y tu allan i'r ysgol, er ei bod yn ddigon posibl ei fod yn digwydd yn yr ysgol hefyd. Ond yn wirioneddol, mae'n tanlinellu pwysigrwydd y bartneriaeth gydweithredol â theuluoedd, yn ogystal â hawl y person ifanc i gael rhywfaint o synnwyr o wahanol berthnasoedd sydd gan blant ac oedolion. Dyma realiti eu bywydau, ac os nad ydym yn esbonio iddyn nhw sut y gallen nhw ddymuno archwilio eu personoliaeth a'u rhywioldeb, heb roi unrhyw gyd-destun iddyn nhw ar gyfer yr holl bethau erchyll eraill y mae rhyw yn cael ei ddefnyddio ar eu cyfer, i lygru pennau pobl yn ogystal â'u bywydau—. Mae angen gwirioneddol i ni gymryd y mater hwn o ddifrif. Ac mae gen i ffydd yng ngallu athrawon i fynd i'r afael â'r mater hwn mewn ffordd sy'n briodol i oedran sy'n rhoi cysur i bobl nad oes unrhyw beth anarferol am eu sefyllfa deuluol benodol, oherwydd bod rhai o bob siâp a maint, tra bod gennym ni fuddiannau masnachol sy'n targedu plant a phobl ifanc ac yn eu hannog i feddwl am bethau mewn ffordd sy'n gwbl artiffisial a niweidiol. Felly, mae angen gwirioneddol i ni fynd i'r afael â hyn, oherwydd fel arall, bydd gennym ni bobl yn tyfu i fyny yn meddwl bod rhyw yn ymwneud â bod yn greulon ac yn dreisgar, ac nid yw hynny'n wir o gwbl. Mae'n ymwneud â bod yn gariadus, a chyfeillgarwch cadarn a pharch at eich gilydd. Felly, mae gennym ni broblem fawr yma, ac mae'n debyg mai fy nghwestiwn i heddiw i'r Gweinidog yw a yw'n credu y dylem ni fod yn gwahardd ffonau clyfar mewn ysgolion ac yn cynghori rhieni mewn gwirionedd, nad yw'n syniad gwych rhoi ffonau clyfar i bobl ifanc lle gallan nhw gael gafael ar yr holl bethau niweidiol sy'n digwydd ar y rhyngrwyd nad yw wedi ei reoli o gwbl ar hyn o bryd, yn anffodus. Gareth Davies AS: Mae drafft y cod addysg cydberthynas a rhywioldeb hwn yn welliant enfawr ar yr un a gafodd ei anfon gyda'r ymgynghoriad. Fodd bynnag, fel y mae heddiw, ni allwn ei gefnogi. Mae gennym ni rai pryderon enfawr o hyd, ac rwy'n gobeithio y gall y Gweinidog fynd i'r afael â nhw, a dod â chod diwygiedig yn ôl y gall pawb yn y Siambr hon ei gefnogi. Egwyddor arweiniol y cod addysg cydberthynas a rhywioldeb, yn ôl y Ddeddf o leiaf, yw bod yn rhaid i wersi addysg cydberthynas a rhywioldeb fod yn briodol yn ddatblygiadol i'r dysgwyr. Rwy'n pryderu nad yw'r cod hwn yn dangos yn ddigonol sut y gellir cyflawni hyn a sut y caiff hyn ei gyflawni. Mae'r ffaith y bydd yn rhaid i ysgolion a lleoliadau blynyddoedd cynnar benderfynu beth sy'n briodol yn ddatblygiadol i bob plentyn yn rhoi gormod o faich ar y lleoliadau hynny. Sut mae ysgolion a lleoliadau blynyddoedd cynnar wedi eu paratoi i wneud y penderfyniadau hynny? Nid yw athrawon yn arbenigwyr mewn datblygiad plant, ac eto mae gofyn iddyn nhw ddadansoddi pob plentyn a phenderfynu ar eu cam datblygu. Mae'r cod hwn wedi ei ddatblygu gyda chyfnodau eang. Yn ôl y ddogfen ei hun: 'Cynlluniwyd y cyfnodau i roi dealltwriaeth i ymarferwyr o'r hyn sy'n debygol o fod yn briodol o safbwynt datblygiad.' Ac nid yw hyn yn ddigon da. Mae hefyd yn peri pryder y gellid addysgu plant yn wahanol, o fewn dosbarthiadau neu grwpiau blwyddyn, gan eu bod ar wahanol gamau datblygu, ond nid yw'n glir a fydd mesurau diogelu ar waith i atal plant rhag cael gafael ar ddeunydd nad yw'n briodol i'w datblygiad nhw. Mae'r diffyg mesurau diogelu yn gwneud y cod cyfan hwn yn anaddas. Mae hynny, ynghyd â'r ffaith y gofynnir i ni wella'r cod heb weld y canllawiau cysylltiedig erioed— Gareth, a wnewch chi aros am eiliad? Joyce Watson, a ydych chi eisiau gwneud ymyriad? Joyce, a ydych chi eisiau gwneud ymyriad? Gallaf weld eich bod yn gwneud arwydd. Joyce Watson AC: Ydw. Diolch. Gareth Davies AS: Ymddiheuriadau am hynny. Ni welais i chi. Gareth, a wnewch chi gymryd ymyriad? Gareth Davies AS: Wel, rwyf i bron â gorffen. Rwyf i fwy neu lai wedi gorffen, Dirprwy Lywydd, felly nid wyf yn siŵr a fyddai llawer o bwynt, mewn gwirionedd. Eich dewis chi yw hi, Gareth. Gareth Davies AS: Na, rwyf i bron â gorffen, Dirprwy Lywydd. Iawn, diolch. Joyce, mae'n ddrwg gen i. Ewch ymlaen, Gareth. Gareth Davies AS: Iawn. Gofynnir i ni gymeradwyo'r cod heb hyd yn oed gweld y canllawiau cysylltiedig, sy'n golygu nad oes modd i ni gymeradwyo'r cod hwn heddiw, ac rwy'n annog yr Aelodau i wrthod cynnig y Llywodraeth a galw ar Weinidogion i ailddrafftio'r cod addysg cydberthynas a rhywioldeb gyda rhywfaint o dystiolaeth gryfach. Diolch yn fawr iawn. Sam Rowlands MS: Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i hefyd wedi fy siomi mai dim ond 30 munud sydd wedi ei drefnu ar gyfer yr eitem bwysig iawn hon heno yn awr, a hefyd yn siomedig mai dim ond yn hwyr neithiwr y cafodd y canllawiau drafft hynny eu cyhoeddi. Mae yn ei gwneud yn anodd craffu'n briodol ar faes gwaith pwysig iawn. Gan roi hynny o'r neilltu, er efallai fod llawer o fwriad y cod a gyflwynir heddiw yn dda, rwyf i yn rhannu pryderon yr Aelodau ynghylch diffyg cydnabyddiaeth o swyddogaeth rhieni a diffyg nodi hynny'n glir o ran eu cyfrifoldeb wrth addysgu a chefnogi eu plant. Yn bennaf oll, cyfrifoldeb rhiant yw sicrhau bod eu plant yn cael eu haddysgu yn y ffordd y maen nhw'n ei hystyried sydd orau ac yn fwyaf priodol i'w plentyn ac mae'n bwysig cofio mai rhieni sy'n gyfrifol yn y pen draw am addysg a lles eu plentyn, ac mai rhieni sy'n adnabod eu plant orau, a swyddogaeth y Llywodraeth yw cefnogi rhieni i ymgymryd â'r fraint ryfeddol hon a'r cyfrifoldeb mawr hwn. Felly, gyda hyn mewn golwg, mae'n peri pryder mawr na fydd gan rieni, o dan y cod hwn, ddewis yn y maes dysgu personol a phwysig iawn hwn—yn syth pan fydd plant ifanc yn dair oed, bydd y wladwriaeth yn cael yr ymyriad hwnnw, heb ddewis rhieni yn ei gylch. Ac yn wir, rwyf i wedi cael nifer o athrawon yn cysylltu â mi ynglŷn â'u pryderon am y newid hwn o fodel addysg traddodiadol a arweinir gan rieni i un nawr sy'n rhoi llawer mwy o gyfrifoldeb a phwysau arnyn nhw fel athrawon. Felly, ar wahân i'r dewis hwnnw gan rieni, rwyf i hefyd wedi cael athrawon yn cysylltu i fynegi eu pryder am y diffyg amddiffyniad a roddir i ferched a menywod yn y cod hwn, a hoffwn i ddyfynnu un athro a ysgrifennodd ataf ar y mater hwn, a ddywedodd: 'Mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo syniadaeth yn ein hysgolion nad yw'n cael ei chefnogi gan dystiolaeth gref. Dylid cefnogi athrawon i helpu i sicrhau bod ein disgyblion yn cael addysg perthynas a rhyw sy'n briodol i'w hoedran ac yn wyddonol gywir. Dylem ni hefyd fod yn cefnogi Deddf Cydraddoldeb 2010, lle mae rhyw yn nodwedd warchodedig a chaniateir darparu gwasanaethau, mannau ac amddiffyniadau un rhyw i sicrhau diogelwch, preifatrwydd ac urddas menywod.' Dyna ddyfyniad gan athro a ysgrifennodd ataf ar y mater hwn. Ac rwy'n credu bod yr athro hwn yn tynnu sylw at bwynt pwysig iawn, ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn cymryd amser i fyfyrio ar hyn a chyflwyno fersiwn well o'r hyn sydd o'n blaenau yma heddiw. Felly, yng ngoleuni hyn, a fy mhryder sylweddol o ran y cyfeiriad teithio cyffredinol wrth wthio addysg sy'n canolbwyntio ar rieni o'r neilltu, byddaf yn pleidleisio yn erbyn y cod brysiog a gwael hwn, a fydd yn tynnu cyfrifoldeb oddi wrth rieni ac yn rhoi mwy o bwysau ar ein hathrawon. Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg i ymateb. Jeremy Miles AC: Dirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch i'r Aelodau hynny sydd wedi croesawu'r cod sydd yn destun y drafodaeth hon heddiw? A gaf i gychwyn trwy ddiolch i Sioned Williams am y ffordd y gwnaeth hi osod ei sylwadau yn y ddadl hon? Mae cynnwys a sylwedd cyfraniadau yn bwysig, ond hefyd mae'r ffordd maen nhw'n cael eu cyfrannu, a'r tôn, yn bwysig pan fo'n fater mor bwysig â hwn, felly dwi'n ddiolchgar iddi am hynny, ac am gyfeirio at y gefnogaeth eang sydd i'r dogfennau sydd o'n blaenau ni heddiw, a'r gwaith sydd wedi digwydd mewn ystod eang o fudiadau, o leisiau, er mwyn creu'r polisïau a'r dogfennau sydd o'n blaenau ni—y math o leisiau yn union yr oedd Darren Millar yn ein hannog ni i sicrhau eu bod nhw'n cael cyfrannu at y drafodaeth. Maen nhw wedi cyfrannu, ac rwy am ategu ei diolch hi iddyn nhw am wneud hynny. Gwnaeth Sioned Williams ofyn i fi yn benodol pa newidiadau sydd wedi digwydd o ganlyniad i'r broses honno o ymgynghori. Mae ystod eang o newidiadau wedi'u gwneud, yn dangos cymaint o ddyfnder oedd yn y sylwadau y gwnaethom ni eu derbyn, o ran hawliau, o ran y UNCRC, o ran egwyddorion diogelwch ac o ran y rôl i rieni roedd Darren Millar a Sam Rowlands yn sôn amdani. Mae pob un o'r rheini wedi gweld cynnydd a newidiadau o ganlyniad i'r ymgynghoriad. Fe fuodd Estyn yn cydweithio â ni i sicrhau bod eu gwaith nhw yn ein hysgolion ni—gwnaeth Sioned Williams gyfeirio ato fe—yn edrych ar aflonyddwch, a bod ffrwyth y broses honno yn cael ei gynnwys hefyd yn y cod. Felly, rwy'n ddiolchgar iddyn nhw am hynny. Mae mwy o waith ei angen o ran hyfforddi proffesiynol, a mwy o waith ei angen o ran adnoddau, ac mae'r rheini yn rhan bwysig o'r ymateb i'r sialensau yr oedd Estyn yn eu disgrifio yn y ddogfen, ac sydd wrth wraidd llawer o'r ymyraethau a'r trefniadau sydd ar waith yn y cod hwn heddiw. Gwnaeth hi ofyn i fi beth oedd cyfraniad y cod i ddealltwriaeth o anghenion y cymunedau LHDT; fel dyn hoyw fy hun, rwy'n browd iawn o'r cyfle i allu dod â'r cod hwn o'n blaenau ni heddiw, cod sydd yn gynhwysol ac sydd caniatáu i ni i gyd weld ein hunaniaeth ni yn cael ei hadlewyrchu yn y drafodaeth yn ein hysgolion ni mewn ffordd addas iawn. Jeremy Miles AC: Gwnaeth Laura Anne Jones gyfraniad agoriadol ac rwy'n credu y byddwn i'n dweud, yn fwy o dristwch nag o ddicter, fy mod i'n anghytuno â bron pob un rhan o'i chyfraniad. Nid wyf i'n credu iddo adlewyrchu realiti'r cod a'r canllawiau statudol sydd ger ein bron yma heddiw o gwbl. I'w roi ar gofnod, Dirprwy Lywydd, rwy'n credu bod Laura Anne Jones a Sam Rowlands yn credu bod y canllawiau wedi eu cyhoeddi neithiwr, bod Darren Millar yn credu eu bod wedi eu cyhoeddi y bore yma, ac nad oedd Gareth Davies yn credu eu bod wedi eu cyhoeddi o gwbl; i'w roi ar gofnod, cawson nhw eu rhannu ag Aelodau, fel sy'n gonfensiynol, ar 26 Tachwedd. Yn gonfensiynol, byddan nhw'n cael eu cyhoeddi ar ôl y ddadl hon gan eu bod yn ymwneud â chod nad yw wedi ei gymeradwyo gan y Senedd hyd yn hyn. Felly, roeddwn i'n dymuno eu cyhoeddi ymlaen llaw, yng ngoleuni'r drafodaeth a oedd yn digwydd ynghylch y cod cyn y ddadl hon. Mae wedi bod ar gael i'r Aelodau am o leiaf bythefnos, ac rwy'n gobeithio y bu hynny o gymorth i'r Aelodau eraill o leiaf. Mae yna gyfeiriadau niferus, fel y soniais yn fy natganiad agoriadol, at rai o'r pwyntiau yr oedd Laura Anne Jones yn fy herio arnyn nhw. Mae'n glir iawn o'r canllawiau statudol, Dirprwy Lywydd, pa mor bwysig yw deddfwriaeth trais yn erbyn menywod cam-drin domestig a thrais rhywiol yn rhan o'r cynllun hwn, a pha mor bwysig yw'r polisi hwn yn rhan o'n polisi ehangach i ddileu trais yn erbyn menywod a merched. Rwy'n gobeithio i mi wneud hynny'n glir iawn yn fy sylwadau agoriadol ac mae'n sicr yn glir o'r canllawiau statudol. Nododd Laura Anne Jones hefyd fod diffyg cyfeiriadau at bornograffi ac ystrydebau rhyw, rwy'n credu. Ymdrinnir â'r ddau yn benodol, Dirprwy Lywydd, i'w roi ar gofnod, gan gyfeirio at ddealltwriaeth ac ymwybyddiaeth dysgwyr o sut mae deunydd rhywiol yn y cyfryngau yn aml yn cynrychioli rhywedd, gweithgareddau rhywiol, ymddangosiad corfforol a pherthnasoedd mewn ffyrdd afrealistig a niweidiol, a'r pwysigrwydd bod dysgwyr yn gwybod sut i ymateb yn ddiogel i ystrydebau rhywedd a rhywiol ac ymddygiad annheg a'u herio. Mae'r ddau wedi eu nodi yn y llythyr a anfonais at yr Aelodau y bore yma, gan ymateb i rywfaint o'r drafodaeth a'r ddadl gyhoeddus. Dirprwy Lywydd, os caf i, un o'r cyfraniadau pwysicaf y gallwn ni ei wneud yn y Senedd hon yw cymryd y camau hynny gyda'n gilydd sy'n helpu i'n gwneud ni'n genedl fwy cynhwysol, caredig ac iach, ac rwy'n gobeithio y byddwch chi'n maddau myfyrdod personol i mi: rwy'n edrych ar y diwygiadau addysg cydberthynas a rhywioldeb newydd hyn ac yn meddwl faint y byddwn i fy hun wedi elwa ar gwricwlwm a oedd â'r math hwn o addysg wrth ei wraidd, un lle gallai fersiwn iau o fy hun weld ei hun yn cael ei adlewyrchu yn ôl ato, a'r hwb gwych i les, i hunan-barch a'r sicrwydd a ddaw yn sgil hynny. Roedden nhw'n adegau gwahanol, Dirprwy Lywydd, ond os ydym ni wedi ymrwymo yn wirioneddol i roi addysg i'n plant a'n pobl ifanc sy'n caniatáu iddyn nhw weld eu hunain wrth ei wraidd, i'w cadw'n ddiogel rhag niwed a'u galluogi i ddatblygu perthnasoedd iach, yna gadewch i ni gymryd y cam nesaf hwnnw ar y daith honno heddiw. Felly, hoffwn i ddiolch i bawb a fydd yn bwrw eu pleidlais heddiw dros y cod hwn. Mae'n weithred bwysig, Dirprwy Lywydd. I rai ohonom ni, mae Cymru gynhwysol yn fwy nag amcan gwleidyddol; mae'n rhag-amod hanfodol i les ac, yn wir, i ddiogelwch. A, Dirprwy Lywydd, mae'r diwygiadau hyn yn helpu i wireddu hynny i'n holl blant heddiw, ac i genedlaethau'r dyfodol. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. Nesaf, yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai bod Aelod yn gwrthwynebu, caiff y ddau gynnig o dan eitemau 9 a 10, Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021 a Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021, eu grwpio i'w trafod ond gyda phleidleisiau ar wahân. Gwelaf nad oes unrhyw wrthwynebiad. 9. & 10. Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021, a Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021 Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans. Daeth y Llywydd i’r Gadair. Cynnig NDM7865 Lesley Griffiths Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Tachwedd 2021. Cynnig NDM7866 Lesley Griffiths Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Tachwedd 2021. Cynigiwyd y cynigion. Rebecca Evans AC: Mae etholiadau'n hanfodol i'n democratiaeth, a dylid cymryd unrhyw beth sy'n effeithio arnyn nhw o ddifrif. Rwy'n falch o ddod â'r rheoliadau hyn ger eich bron ac i glywed barn cyd-Aelodau yn y Siambr heddiw ar Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021 a Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021. Am y tro cyntaf erioed, mae'r ddeddfwriaeth sydd i'w thrafod yn cydgrynhoi—. Rwy'n credu fy mod i'n cael problemau technegol yn y fan yna, Llywydd. Nid wyf yn siŵr pa mor bell yr oeddwn i wedi mynd gyda fy sylwadau cyn i chi fy ngholli, ond byddaf yn ceisio dychwelyd i—. Helo, Llywydd. A allwch chi fy nghlywed i yn awr? Rebecca Evans AC: Rwyf i'n eich clywed chi. Iawn. Rwy'n credu ein bod ni wedi clywed popeth y gwnaethoch ei ddweud, Rebecca, felly gallwch barhau. Rydym ni'n dal i'ch clywed chi. Rebecca Evans AC: Gwych, iawn. Rwy'n mynd i newid i fy nghopi papur gan nad yw fy sgrin yn gweithio'n iawn. Popeth yn iawn. Mae eich sgrin yn gweithio'n iawn o ran eich gweld a'ch clywed. Rebecca Evans AC: Iawn. Diolch, Llywydd. Am y tro cyntaf erioed, mae'r ddeddfwriaeth sydd i'w thrafod yn cydgrynhoi'r rheolau ar gyfer etholiadau lleol yn ddwyieithog, ac mae wedi ei theilwra'n benodol i etholiadau Cymru a'n masnachfraint ein hunain. Hoffwn i ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ystyried y ddau ddarn mawr hyn o ddeddfwriaeth, am dynnu sylw at eglurder y dogfennau ategol, ac am groesawu'r gwaith o gydgrynhoi'r gyfraith yn y maes hwn. Roedd y rheolau presennol sy'n rheoli trefniadau gweinyddu ein hetholiadau yn gweithio'n dda ar y cyfan, ac yn sicrhau bod ein prosesau etholiadol yn dryloyw ac yn deg. Ond, cawson nhw eu llunio ar sail Cymru a Lloegr a'u hysgrifennu yn Saesneg yn unig. Mae Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021 a Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021 yn cydgrynhoi'r gyfraith yn y maes hwn lle bo angen, yn moderneiddio'r iaith ac yn ei gwneud yn fwy hygyrch. Yn bwysicaf oll, mae'r offerynnau statudol hyn yn gwneud y newidiadau ymarferol i'r rheolau ar gyfer etholiadau cynghorau yng Nghymru, sydd eu hangen oherwydd y fasnachfraint newydd sydd wedi ei chynnwys yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Dyma fydd y tro cyntaf i bobl ifanc 16 ac 17 oed a dinasyddion tramor cymwys gael pleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru. Mae'r rheolau yr ydym ni'n eu trafod yn benllanw cyfnod manwl o ymgynghori a ddechreuodd gyda datganoli cyfraith etholiadol i Gymru, a'r ddogfen ymgynghori 'Diwygio etholiadol ym maes llywodraeth leol yng Nghymru' yn 2017. Er bod y rhan fwyaf o'r arferion sy'n sicrhau bod ein hetholiadau'n rhedeg yn ddidrafferth yn aros yr un fath, bydd rhai rheolau newydd pwysig yn cael eu cyflwyno, a bydd llawer ohonyn nhw yn helpu i'w gwneud yn haws sefyll fel ymgeisydd. Bydd gan ymgeiswyr mewn etholiadau lleol y dewis i beidio â chyhoeddi eu cyfeiriad cartref, os byddan nhw'n dymuno. Mae'n rhaid i swyddogion canlyniadau wneud trefniadau i ymgeiswyr gyflwyno eu papurau enwebu yn electronig. Bydd ymgeiswyr mewn prif etholiadau cyngor yn cael hunan-enwebu ac ni fydd angen iddyn nhw gael enwau 10 o danysgrifwyr etholwyr lleol mwyach. Bydd ymgeiswyr mewn etholiadau cynghorau cymuned hefyd yn cael hunan-enwebu, ac ni fydd angen iddyn nhw gael enwau dau danysgrifiwr etholwyr lleol. Bydd angen i ymgeiswyr gynnwys manylion aelodaeth pleidiau gwleidyddol yn ystod y 12 mis blaenorol ar ffurflenni enwebu. Bydd hyn yn darparu gwybodaeth ychwanegol bwysig i'r etholwyr. Mae'r rheolau newydd wedi cadw'r fformiwlâu presennol sy'n gysylltiedig â nifer yr asiantau pleidleisio a chyfrif a gaiff fod yn bresennol yn y cyfrif. Mae'r rhain wedi eu cadw yng ngoleuni'r ymatebion i'r ymgynghoriad a'r hyn a ddysgwyd o gynnal cyfrifiadau etholiad y Senedd y llynedd. Edrychaf ymlaen at glywed barn yr Aelodau. Wel, mae arnaf i ofn dweud eich bod chi'n mynd i gael eich siomi, oherwydd nid oes gen i neb i'w alw ar hyn o bryd. Nid oes neb wedi mynegi bwriad i siarad. Ni allaf weld neb yn gwirfoddoli ar hyn o bryd i rannu eu barn â chi, Gweinidog. Rwy'n amau nad oes angen i chi, felly, ymateb i unrhyw beth na chafodd ei ddweud, oni bai eich bod eisiau gwneud sylw i gloi. Rebecca Evans AC: Na, diolch eto i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu hystyriaeth o'r gwaith. Rwy'n gwybod y bydd cyd-Aelodau yn cytuno â mi y bydd cael cyfres o reolau yn benodol ar gyfer etholiadau lleol Cymru yn gwella hygyrchedd y gyfraith yn y maes hwn yn sylweddol, a'i fod yn gam sylweddol iawn ymlaen ar gyfer etholiadau Cymru. Diolch. Diolch. Diolch i'r Gweinidog. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 9? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Dwi ddim yn gweld gwrthwynebiad, ac felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn o dan Reol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Y cwestiwn nesaf yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 10? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Dwi ddim yn gweld gwrthwynebiad i hynny, ychwaith. Ac felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 11. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 21) 2021 Eitem 11 sydd nesaf, a'r rheini yw'r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 21) 2021. Dwi'n galw ar y Gweinidog iechyd i wneud y cynnig. Eluned Morgan. Cynnig NDM7863 Lesley Griffiths Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 21) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Rhagfyr 2021. Cynigiwyd y cynnig. Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr, Llywydd. Dwi'n cynnig y cynnig sydd ger ein bron ni heddiw. Drwy gydol y pandemig, mae'r Llywodraeth hon wedi gweithredu'n gyflym mewn ymateb i'r cyngor gwyddonol a meddygol diweddaraf. Mae ein safbwynt wedi bod yn gymesur: llacio cyfyngiadau pan fo'n ddiogel i wneud hynny, a'u tynhau pan fo hynny'n gwbl angenrheidiol er mwyn diogelu Cymru. Ers 7 Awst, nid oes yn rhaid i unigolion sydd wedi eu brechu'n llawn, a'r rhai o dan 18 oed, hunanynysu mwyach, os cânt eu nodi fel cysylltiadau agos ag achos positif. Ond mewn ymateb i gynnydd mewn achosion, newidiodd ein cyngor ar 29 Hydref i argymell bod cysylltiadau aelwyd sydd wedi eu brechu neu o dan 18 oed yn hunanynysu nes cael canlyniad prawf PCR negatif. Mae'n ofynnol i gysylltiadau sydd heb eu brechu hunanynysu am 10 diwrnod yn y ddau senario. Mae cyd-destun y pandemig wedi newid unwaith yn rhagor. Eluned Morgan AC: Fel y bydd yr Aelodau yn ymwybodol, cafodd yr amrywiolyn omicron o'r coronafeirws ei ganfod am y tro cyntaf ar 23 Tachwedd a'i ddynodi'n amrywiolyn sy'n peri pryder gan Sefydliad Iechyd y Byd ar 26 Tachwedd. Erbyn hyn mae gennym ni nifer o achosion yng Nghymru, ac arwyddion o drosglwyddo cymunedol ledled y DU. Rydym ni'n barod i ymateb yn gyflym i unrhyw amrywiolyn sy'n dod i'r amlwg—[Torri ar draws.] Esgusodwch fi. Mae'n ddrwg iawn gen i. Unrhyw amrywiolion sy'n peri pryder, drwy ymchwiliadau dwys a chamau iechyd cyhoeddus cadarn i arafu unrhyw ledaeniad yn ein cymunedau. Er ein bod yn dal i ddysgu am yr amrywiolyn omicron, mae ei ymddangosiad yn ddatblygiad difrifol ac yn fygythiad i iechyd y cyhoedd. Er bod y niferoedd yn parhau i fod yn fach iawn, mae'n bwysig ein bod yn gwneud popeth i ganfod ac atal lledaeniad yr amrywiolyn i ohirio trosglwyddo cymunedol mor hir â phosibl, wrth i ni ddysgu mwy ac yn gallu rhoi'r brechlyn atgyfnerthu i fwy o bobl. Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 21) 2021 yn darparu, pan fydd oedolyn wedi cael gwybod y bu mewn cysylltiad agos ag unigolyn sydd wedi profi'n bositif am coronafeirws sydd, neu a allai fod, yr amrywiolyn omicron, mae'n rhaid i'r oedolyn hunanynysu am 10 diwrnod, ni waeth beth fo'i statws brechu. A phan fydd oedolyn yn cael gwybod bod plentyn y mae'n gyfrifol amdano wedi bod mewn cysylltiad agos â rhywun sydd wedi profi'n bositif am coronafeirws sydd, neu a allai fod, yr amrywiolyn omicron, mae'n rhaid i'r plentyn ynysu am 10 diwrnod. Eluned Morgan AC: Llywydd, gadewch imi fod ynglir iawn. Nid yw'r mesurau newydd hyn wedi cael eu cyflwyno ar chwarae bach, ond gyda'r lefel uchel hon o ansicrwydd, mae'n iawn ein bod ni'n parhau i fod yn wyliadwrus. Bydd y mesurau newydd yn y rheoliadau yn ein helpu ni i ddiogelu Cymru wrth inni ddeall yr amrywiolyn yn well a phenderfynu ar ein camau nesaf. Rwy’n falch iawn bod gyda ni gyfle i drafod y cynnig hwn heddiw. Dwi'n edrych ymlaen at glywed sylwadau'r Aelodau a dwi'n annog Aelodau i gefnogi'r cynnig. Dwi'n galw nawr ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i gyfrannu—Huw Irranca-Davies. Huw Irranca-Davies AC: Diolch, Llywydd a diolch, Gweinidog. Gwnaethom ystyried y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod ddoe a gosodwyd ein hadroddiad yn syth wedyn. Huw Irranca-Davies AC: Cododd ein hadroddiad yr hyn y bydd Aelodau bellach yn eu cydnabod fel pwyntiau rhagoriaeth eithaf cyfarwydd o dan Reol Sefydlog 21.3, sef tynnu sylw at unrhyw ymyrraeth bosibl â hawliau dynol a diffyg ymgynghori ffurfiol. Mae ein trydydd pwynt adrodd rhagoriaeth yn nodi nad yw'r memorandwm esboniadol sy'n cyd-fynd â'r rheoliadau yn cyfeirio at asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb. Gofynnwyd i Lywodraeth Cymru egluro pa drefniadau y mae wedi'u gwneud mewn cysylltiad â'r rheoliadau hyn i gyhoeddi adroddiadau ar asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb yn unol â Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011. Yn ei hymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru wrthym, er nad yw asesiad effaith rheoleiddiol llawn wedi'i baratoi a'i gyhoeddi mewn cysylltiad yn benodol â'r rheoliadau hyn oherwydd yr angen i'w rhoi ar waith ar frys, y bydd asesiad effaith cryno yn cael ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl. Nid dyma'r tro cyntaf i'n pwyllgor godi pwynt rhagoriaeth yn gofyn i Lywodraeth Cymru egluro pa drefniadau y mae wedi'u gwneud o ran asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb. Mae'n dod yn dipyn o thema sy'n codi dro ar ôl tro y mae'r Gweinidog, yn anffodus, yn cael ei dal ynddi. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn eto i roi rhywfaint o adborth sydd gobeithio yn wirioneddol adeiladol i Lywodraeth Cymru. Credaf y byddai'n helpu—ac mae ein pwyllgor yn credu y byddai'n helpu—Aelodau'r Senedd a Llywodraeth Cymru, ac unrhyw un, mewn gwirionedd, yn dilyn gwaith craffu'r Senedd ar y materion hyn, pe bai'r memoranda esboniadol i reoliadau coronafeirws yn darparu gwybodaeth am asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb fel mater o drefn. Byddai cynnwys yr hyn a ddylai fod yn wybodaeth sylfaenol yn y memoranda esboniadol hyn, yn ein barn ni, yn gymharol syml i'w wneud ac yn arwain at fwy o dryloywder wrth lunio'r ddeddfwriaeth. Gweinidog, diolch yn fawr iawn a gobeithio bod hynny'n awgrym defnyddiol ar gyfer rheoliadau o'r math hwn yn y dyfodol. Diolch yn fawr iawn. James Evans MS: Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r mesurau hyn heddiw, sydd, yn ein barn ni, yn gymesur ac yn amlwg o fudd i iechyd corfforol y cyhoedd yng Nghymru. Rydym yn cytuno â'r darpariaethau ar gyfer hunanynysu domestig i adlewyrchu'r sefyllfa sy'n datblygu ac arafu trosglwyddo'r feirws yn y gymuned. Byddwn yn eich cefnogi heddiw. Fodd bynnag, dylem bob amser gofio canlyniadau anfwriadol cyfyngiadau a chyfnodau clo ar iechyd meddwl a llesiant trigolion Cymru. Gwelsom, yn ystod y gyfres ddiwethaf o gyfyngiadau, fod nifer y bobl a oedd yn ceisio cymorth wedi mynd yn fwy ac yn fwy. Felly, a wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gamau ac ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi i effaith unrhyw gyfyngiadau yn y dyfodol ar iechyd a llesiant pobl Cymru? Diolch, Llywydd. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog. Mi fyddwn ni'n cefnogi'r rheoliadau newydd yma heddiw. Maen nhw'n synhwyrol iawn ar adeg sydd yn amlwg yn un peryglus unwaith eto yn y pandemig. Mae'n bwysig gwneud y pethau sylfaenol yn iawn ac, wrth gwrs, mae ynysu yn un o'r pethau sylfaenol hynny mae angen bod yn reit llym ynglŷn ag o ar y pwynt yma. Felly, dwi'n croesawu'r newid hwn, sydd yn ymddangos i ni, yn sicr, yn gymesur i'r bygythiad newydd rydym ni'n ei wynebu. Yn sgil yr amrywiolyn newydd, yr un apêl y gwnaf: tra'n gobeithio, fel y dywedais i'n gynharach, na fydd angen cymryd camau llym o ran cyflwyno cyfyngiadau eang ar unigolion a chymdeithas rhwng rŵan a'r Nadolig, mi rydw i'n credu ei bod hi'n bwysig fel mater o egwyddor, os oes yna fwriad i ddod a'r rheini ymlaen, ein bod ni fel Senedd yn gallu ymgynnull yn rhithiol er mwyn gallu sgrwtineiddio a phleidleisio ar y rheini hefyd. Diolch yn fawr iawn ichi. Y Gweinidog i ymateb—Eluned Morgan. Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr. Diolch, Huw, a diolch am ystyriaeth eich pwyllgor. Byddwn yn apelio atoch i ystyried pa mor frysiog yr oedd yn rhaid i ni gyflwyno y rhain. Wrth gwrs, rydym bob amser yn awyddus iawn i wneud asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb, a bydd asesiad effaith cryno yn cael ei wneud cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl. Wrth gwrs, gofynnir i'r holl bobl sydd i gyd wedi torchi llewys eisoes i wneud cymaint o bethau ychwanegol ar yr un pryd. Felly, rydym yn awyddus iawn. Rwy'n derbyn eich awgrym. Fe welaf pa mor ymarferol yw hynny ac a fyddai hynny wedi gwneud gwahaniaeth yn yr achos penodol hwn oherwydd brys y sefyllfa. James, rydym yn ymwybodol iawn o ganlyniadau anfwriadol gofyn i bobl hunanynysu, yn enwedig ar iechyd meddwl pobl, a dyna pam y trafodais gyda'r Dirprwy Weinidog iechyd meddwl yr effaith ar iechyd meddwl yr wythnos hon, am yr hyn yr ydym yn ei wneud yn y lle hwn, ac roedd yn glir iawn i mi ei bod wedi gofyn am hyrwyddo llinell gymorth iechyd meddwl CALL ymhellach yn wyneb hyn. Rhun, diolch, yn amlwg, byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd o ran unrhyw newidiadau arfaethedig. Rydym yn ymdrin â hyn mewn amser real. Mae'n digwydd syrthio ar adeg pan fydd y Senedd yn cau, ac yn amlwg byddwn yn cadw mewn cysylltiad agos â'r Llywydd, a fydd, rwy'n siŵr, yn gwneud rhai penderfyniadau ynghylch a fydd angen galw'r Senedd yn ôl ai peidio. Y cwestiwn nawr, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig ar y rheoliadau yma? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu'r cynnig hwnnw? Dwi ddim yn gweld gwrthwynebiad. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn o dan Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 12. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) Y cynnig nesaf o dan eitem 12 yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir). Dwi'n galw ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i wneud y cynnig yma—Julie James. Cynnig NDM7867 Julie James Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Cynigiwyd y cynnig. Julie James AC: Diolch, Llywydd. Cynigiaf y cynnig. Mae'r Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Sylfaenol) yn Fil byr sy'n dechrau'r broses o ymdrin â phwnc mawr iawn, diwygio lesddaliad. Amcanion polisi datganedig y Bil yw gwneud perchnogaeth lesddaliad yn decach ac yn fwy fforddiadwy i lesddeiliaid drwy sicrhau na fydd rhydd-ddeiliaid yn gallu gwneud hawliadau ariannol mwyach am rent tir prydlesi newydd. Mae'r Bil yn gwneud hyn drwy gyfyngu rhent tir ar brydlesi preswyl hir newydd ar dai a fflatiau i un hedyn pupur y flwyddyn. Mae hyn i bob pwrpas yn golygu na fydd gan renti tir ar brydlesi newydd unrhyw werth ariannol. Mae'r Bil hefyd yn gwahardd codi taliadau gweinyddu mewn cysylltiad â rhenti hedyn pupur, gan atal taliadau o'r fath rhag dod yn ffordd amgen o wneud elw. Nid yw'r Bil yn ymdrin â'r materion sy'n effeithio ar lesddeiliaid presennol. Bydd angen deddfwriaeth bellach i ddiwygio perchnogaeth tai lesddaliad, gan gynnwys y diwygiadau sy'n cael eu cynnig gan Gomisiwn y Gyfraith, yr wyf wedi'u croesawu o'r blaen. Mae'r Bil hwn yn paratoi'r ffordd ar gyfer y diwygiadau pellach hynny drwy atal rhenti tir rhag cael eu codi ar brydlesi newydd. Mae datrys y problemau ar brydlesi presennol yn fater llawer mwy cymhleth, fel yr adlewyrchir gan yr argymhellion manwl iawn a gynhyrchwyd gan Gomisiwn y Gyfraith. Diolchaf i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai am y gwaith y maen nhw wedi'i wneud wrth ystyried ac adrodd ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol. Nodaf y pryderon y maen nhw wedi'u codi yn eu hadroddiadau, gan gynnwys eu beirniadaeth o'r dull a gymerwyd gennym i osod y memorandwm atodol, ac rwyf wedi ymateb yn ysgrifenedig i nifer o'u hargymhellion. Ond, rwy'n credu'n gryf fod cydsynio i ddeddfwriaeth Llywodraeth y DU sy'n sicrhau gwelliannau hanfodol i system yr ydym i gyd yn ei hystyried yn annheg yn gwbl briodol—yn wir, y peth iawn i'w wneud. Rwyf eisoes wedi nodi fy mwriad i weithio ar y cyd â Llywodraeth y DU i gyflawni'r broses o ddiwygio'n gyfan gwbl lesddaliad yn ddeddfwriaethol, a dim ond y cam cyntaf yw'r Bil hwn. Er mwyn sicrhau eu bod yn mynd i'r afael yn gynhwysfawr â'r holl faterion, mae'n bosibl bod y diwygiadau hyn yn ymwneud â mater datganoledig tai yn ogystal â materion nad ydyn nhw o fewn cymhwysedd y Senedd. Er mwyn sicrhau diwygiadau cynhwysfawr sy'n gweithio i lesddeiliaid yng Nghymru nad ydyn nhw yn gadael bylchau posibl o ran amddiffyn, credaf mai deddfwriaeth y DU sydd fwyaf tebygol o fod y ffordd fwyaf effeithiol a synhwyrol o ymdrin â'r diwygiadau hyn. Ond, gadewch i mi fod yn glir: pe na bai darpariaethau'r Bil hwn yn gymwys yng Nghymru, byddai lesddeiliaid yma yn y dyfodol, o dan anfantais ariannol sylweddol iawn o'u cymharu â'u cymheiriaid yn Lloegr. Byddai unrhyw ddeddfwriaeth y gallem ei chyflwyno i unioni'r sefyllfa honno yn anochel yn cymryd cryn amser i'w drafftio a chytuno arni. Nid wyf yn credu y dylid rhoi lesddeiliaid yng Nghymru yn y sefyllfa honno ac felly anogaf yr Aelodau i gefnogi'r cynnig a chydsynio i'r Bil. Diolch. Galwaf yn awr ar Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, John Griffiths. John Griffiths AC: Diolch yn fawr, Llywydd. Gwnaethom osod ein hadroddiad fel pwyllgor ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol hwn brynhawn ddoe. Mae diwygio lesddaliad yn faes o ddiddordeb i'r pwyllgor, ac roedd cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio yn rhywbeth y gwnaethon ni ei godi gyda chi, Gweinidog, yn ystod ein sesiwn graffu ar 22 Medi. Rydym yn croesawu'r penderfyniad i osod rhent tir ar brydlesi newydd ar un hedyn pupur y flwyddyn symbolaidd, gan gyfyngu rhenti tir i ddim gwerth ariannol i bob pwrpas. Nodwn nad yw'r Bil yn berthnasol i brydlesi presennol. Nodwn hefyd nad yw'r Bil yn mynd i'r afael â gwendidau eraill yn y system lesddaliad, fel taliadau gwasanaeth a materion eraill y mae lesddeiliaid yn eu hwynebu. Gweinidog, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau nesaf ar gyfer y rhaglen o ddiwygio lesddaliad ac ymrwymiad y rhaglen lywodraethu i weithredu argymhellion Comisiwn y Gyfraith? Ystyriodd ein pwyllgor y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol am y tro cyntaf ar 22 Medi. Fodd bynnag, roedd LCM hwnnw'n hen oherwydd bod diwygiadau sy'n rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud deddfwriaeth ddirprwyedig wedi'u gwneud i'r Bil ar 20 Gorffennaf, ond ni osodwyd LCM atodol. Ysgrifennom at y Gweinidog ar 24 Medi, gan ofyn pryd y byddai LCM atodol yn ymwneud â'r gwelliannau hynny'n cael ei gyhoeddi. Yn anffodus, ni osododd y Gweinidog un tan 26 Tachwedd, bedwar mis ar ôl i'r Bil gael ei ddiwygio. Wrth gwrs, mae Rheolau Sefydlog y Senedd yn darparu y dylid gosod LCM atodol fel arfer heb fod yn hwyrach na phythefnos ar ôl cyflwyno gwelliannau. Mae'r oedi o bedwar mis cyn gosod y LCM atodol wedi cyfyngu'n sylweddol ar ein gallu fel pwyllgor i graffu ar y gwelliannau mewn modd amserol. Rydym yn siomedig mai ychydig iawn o amser a gawsom i ystyried y LCM atodol pellach a osodwyd ar 3 Rhagfyr, er ein bod yn ddiolchgar i'r Pwyllgor Busnes am ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiadau hyd at y bore yma. Ond, wrth gwrs, roedd yr amserlenni'n dal yn dynn iawn. Gweinidog, a wnewch chi ymrwymo yn y dyfodol i osod LCM heb fod yn hwyrach na phythefnos ar ôl cyflwyno gwelliannau perthnasol i Fil? A wnewch chi hefyd ymrwymo i roi digon o amser i bwyllgorau ystyried ac adrodd ar femoranda cydsyniad deddfwriaethol? Rydym hefyd yn bryderus ac yn siomedig nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw reolaeth o ran pryd y daw'r Ddeddf i rym. Yn hytrach, mae'r Ddeddf yn rhoi pwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud Gorchmynion cychwyn. Yn yr un modd, nid oes gan Weinidogion Cymru unrhyw bwerau i wneud diwygiadau canlyniadol a allai fod yn angenrheidiol o dan y Bil. Rhoddir y pwerau hyn i'r Ysgrifennydd Gwladol yn unig. Dylai fod gan Weinidogion Cymru y pŵer i wneud deddfwriaeth ddirprwyedig yng Nghymru mewn meysydd datganoledig, nid yr Ysgrifennydd Gwladol. Felly, Gweinidog, a wnewch chi geisio gwelliannau i'r Bil fel bod gan Weinidogion Cymru bwerau cyfatebol i'r rhai sydd gan yr Ysgrifennydd Gwladol i basio is-ddeddfwriaeth? Rydym yn pryderu ymhellach na fydd y gyfraith ar ddiwygio lesddaliad mor hygyrch i bobl Cymru ag y dylai fod. Gweinidog, fe wnaethoch chi ddweud wrth y pwyllgor mai'r Bil yw'r cam cyntaf, ond arwyddocaol, tuag at weithredu diwygiadau eang ar gyfer lesddaliad fel deiliadaeth, ac y bydd Bil arall yn y DU sy'n ymdrin â diwygiadau yn cael ei gyflwyno. Fe wnaethoch chi ddweud wrthym hefyd y bydd rhai meysydd pwysig eraill o ddiwygio lesddaliad yn cael eu datblygu ar sail Cymru'n unig yn y Bil diogelwch adeiladu arfaethedig yn ystod tymor y Senedd hon. Heb os nac oni bai bydd gwneud y diwygiadau hyn drwy ddarnau lluosog o ddeddfwriaeth yn lleihau hygyrchedd cyfraith Cymru. Felly, Gweinidog, a wnewch chi amlinellu sut y byddwch yn sicrhau bod y gyfraith yng Nghymru mor hygyrch ag y dylai fod? Llywydd, er gwaethaf y pryderon hyn yr wyf newydd eu hamlinellu, mae'r rhan fwyaf o aelodau'r pwyllgor yn gweld manteision cymhwyso'r diwygiadau hyn i Gymru cyn gynted â phosibl, ac o gael dull gweithredu ar gyfer Cymru a Lloegr. Ond, fel y soniais, roedd diffyg craffu yn golygu nad oeddem yn gallu rhoi honiadau ar brawf fel y byddem wedi hoffi ei wneud. Felly, byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gan bwyllgorau'r amser a'r adnoddau angenrheidiol i allu chwarae rhan ystyrlon yn y broses cydsyniad deddfwriaethol. Diolch yn fawr. Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad sydd nesaf, Huw Irranca-Davies. Huw Irranca-Davies AC: Diolch, Llywydd. Gwnaethom gyhoeddi ein hadroddiadau ar y memorandwm cyntaf, a'r memorandwm atodol, memorandwm Rhif. 2, yr wythnos diwethaf. Yn anffodus, nid oedd digon o amser i ni ystyried memorandwm Rhif. 3 ac adrodd arno. Huw Irranca-Davies AC: Byddai'n well i mi nodi ar ddechrau hyn fy mod weithiau'n teimlo fel Jeremiah deddfol a chyfansoddiadol, ond rydym eisiau ei gwneud hi'n glir fel pwyllgor mai ein bwriad yw nid yn unig dangos lle mae gennym ni bryderon, ond hefyd, tynnu sylw'n adeiladol at feysydd a allai helpu i osgoi'r heriau rheolaidd hyn gan y pwyllgor, mae rhai ohonyn nhw bellach yn dilyn patrwm clir a rhagweladwy. Memorandwm yw'r sail ar gyfer ceisio cydsyniad y Senedd ar gyfer Bil, wrth gwrs. Yn anffodus, daethom i'r casgliad nad oedd y memorandwm penodol hwn yn addas i'r diben ac yn is na'r safon y byddem yn ei hystyried yn dderbyniol. Ymhlith pethau eraill, prin yw'r wybodaeth i egluro sut y mae'r darpariaethau'n ymwneud â diwygio lesddaliad yng Nghymru, sy'n bwynt allweddol. O fewn y memorandwm, ceir cyfeiriadau parhaus at bwerau'r Ysgrifennydd Gwladol, er bod hwn yn faes datganoledig. Er bod y memorandwm yn cydnabod y byddai Llywodraeth Cymru yn wir yn ceisio pwerau gweithredol tebyg i Weinidogion Cymru, ychydig o ymdrech a wnaed i egluro pa bwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol y byddai hyn yn berthnasol iddyn nhw. Felly, o ganlyniad, gwnaethom argymell, cyn y ddadl heddiw, y dylai'r Gweinidog egluro pam nad yw'r memorandwm yn canolbwyntio ar Gymru wrth esbonio'r cymalau perthnasol, y mae pob un ohonyn nhw yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, a pham nad oedd y memorandwm yn cyfeirio at agweddau ehangach ar y rhaglen diwygio lesddaliad a'i pherthnasedd i feddylfryd y Llywodraeth ar ddefnyddio Bil y DU. Felly, yn anffodus, mae'r pwyllgor yn dal i weld ymateb y Llywodraeth yn gwbl anfoddhaol. Rydym yn deall bod y Bil i'w wneud ar sail Cymru a Lloegr, ond mae'r memorandwm yn ymwneud ag amgylchiadau yng Nghymru, ac roedd angen i hynny fod yn ganolbwynt. Nid yw'r esboniad ynghylch pam na chafodd materion cymhwysedd eu datrys yn ddigonol yn y memorandwm yn ein hargyhoeddi ni o gwbl. Nawr, diwygiwyd y Bil yn Senedd y DU ym mis Gorffennaf 2021, i roi'r pwerau i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau yr wyf wedi cyfeirio atyn nhw o'r blaen. Ymatebodd y Gweinidog i gwestiynau a godwyd gennym am y pwerau hyn ar 16 Tachwedd, ond buom yn aros tan 26 Tachwedd i gael, fel y soniodd y Cadeirydd arall, femorandwm Rhif 2 yn esbonio'r gwelliannau hyn. Mae hyn tua phedwar mis ar ôl i'r gwelliannau gael eu cytuno yn Senedd y DU. Felly, mae dau fater i'w datrys yma—yr oedi wrth osod memorandwm Rhif 2, a'r pwerau, y byddaf yn dod atyn nhw wedyn, i wneud rheoliadau sydd i'w cadw gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Felly, mae'r oedi, am ba reswm bynnag, wrth gyfleu gwybodaeth hanfodol i'r pwyllgor tan yn hwyr yn y broses gydsynio, wedi lleihau'n sylweddol faint o amser a gawsom i graffu'n effeithiol ar benderfyniad Llywodraeth Cymru i geisio cydsyniad i ddeddfu drwy gyfrwng Bil Llywodraeth y DU mewn maes datganoledig, sy'n destun gofid, gan ein bod yn credu y gallai golwg gynharach fod wedi ein helpu ni a'r Llywodraeth. Gan droi nawr at fater y pwerau i wneud rheoliadau a ddirprwywyd i Weinidogion Cymru, tra bod y rhan fwyaf ohonyn nhw wedi'u rhoi iddyn nhw ym mis Gorffennaf, cadwyd rhai gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Nid oedd esboniad y Gweinidog am y dull hwn yn argyhoeddi'r pwyllgor, a fydd yn dadlau y dylai Gweinidogion Cymru gael yr holl bwerau i wneud rheoliadau mewn meysydd datganoledig, ac na chânt eu cadw gan yr Ysgrifennydd Gwladol, hyd yn oed gyda rhesymu'r Gweinidog y gallant fod yn cael eu harfer yn aml, neu oherwydd disgwyliad na fyddai polisi'n ymwahanu rhwng Cymru a Lloegr. Byddai rhoi'r holl bwerau i Weinidogion Cymru yn sicrhau y bydd yr holl reoliadau sy'n ymwneud â diwygio lesddaliad, fel sy'n gymwys yng Nghymru, hefyd yn ddwyieithog ac yn destun craffu gan y Senedd. Bydd hefyd yn osgoi cael rhai rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru, a rhai gan yr Ysgrifennydd Gwladol, nad yw, unwaith eto, yn gwneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch. Roeddem hefyd o'r farn y dylai Gweinidogion Cymru gael rheolaeth dros gychwyn y darpariaethau diwygio lesddaliad ar gyfer Cymru yn dilyn Cydsyniad Brenhinol. Ni fyddai dull gweithredu o'r fath yn atal yr un darpariaethau rhag cael eu cychwyn yng Nghymru ar yr un pryd â rhai Lloegr; byddai'n golygu bod y pŵer gweithredol a'r craffu yn gorwedd yma yng Nghymru. Felly, cyn ceisio cydsyniad y Senedd ar gyfer y Bil, gwnaethom argymell y dylai'r Gweinidog sicrhau ei fod yn cael ei ddiwygio i sicrhau bod gan Weinidogion Cymru yr holl bwerau i wneud rheoliadau mewn meysydd datganoledig. Ac rydym yn dal i'w chael yn anodd deall pam nad yw'r argymhelliad hwn wedi'i dderbyn. Efallai y byddai wedi'i dderbyn, byddem yn awgrymu, pe bai memorandwm Rhif 2 wedi'i osod yn fwy amserol, a bod cyfle i weithredu'n gynharach mewn ymateb i argymhellion y pwyllgor a osodwyd yn gynharach wedi hynny. Felly, mae'r pwyllgor o'r farn bod caniatáu i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau mewn maes datganoledig yn ddatblygiad annymunol, ac mae'n un a allai osod cynsail sy'n peri gofid. Oherwydd, wrth wneud hynny, nid yw Gweinidogion Cymru wedi rhoi mesurau diogelu iddyn nhw eu hunain pe bai'r Ysgrifennydd Gwladol, naill ai nawr neu yn y dyfodol, yn gwneud rheoliadau nad yw Llywodraeth Cymru yn cytuno â nhw. Nawr, wrth i ni barhau i amlygu, ac fel yr oedd yn ymddangos bod y Gweinidog yn cydnabod mewn tystiolaeth i'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, bod defnyddio Bil Llywodraeth y DU i gyflwyno deddfwriaeth mewn maes datganoledig yn rhoi llai o gyfle i graffu'n fanwl na defnyddio Bil a gyflwynwyd i'r Senedd. Ni all aelodau'r Senedd, er enghraifft, ymgysylltu â rhanddeiliaid a chyflwyno gwelliannau i brofi, herio a dylanwadu ar Weinidogion Cymru—mae hwn yn ddull allweddol o graffu. At hynny, diogelu anghenion a buddiannau Cymru yn llawn drwy ddeddfwriaeth yw swyddogaeth y Senedd mewn meysydd datganoledig, yn hytrach na'r Gweinidog neu ei swyddogion drwy gysylltiadau rhynglywodraethol. Ac yn olaf, Llywydd, gwnaethom argymell y dylai'r Gweinidog egluro sut y mae'r dull a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru yn gyson â'i hegwyddorion ei hun ar gyfer defnyddio Biliau'r DU i ddeddfu. Er i'r Gweinidog roi esboniad—a diolchwn iddi am hynny—mae ei hymateb yn codi materion pellach sy'n ymwneud â'r egwyddorion hyn, y bydd ein pwyllgor yn ceisio eu harchwilio ymhellach y flwyddyn nesaf. Diolch yn fawr iawn. Janet Finch-Saunders AC: Ar nodyn mwy cadarnhaol, rwy'n croesawu y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Sylfaenol) a'r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol. Gweinidog, mae dros filiwn o gartrefi yn y DU yn cael eu gwerthu ar ffurf lesddaliad, a bydd y ddeddfwriaeth hon yn mynd gryn ffordd—mewn gwirionedd, ymhell—i helpu miloedd o berchnogion cartrefi sy'n cael eu dal mewn trap lesddaliad. A gallaf ddweud yn uniongyrchol, ar ôl gweld rhai o fy nhrigolion, a roddodd eu henw i lawr ar gyfer eiddo hyfryd, yna prynu'r eiddo, symud i mewn i'r eiddo, dim ond i ddarganfod ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach nad oedden nhw mewn gwirionedd yn berchen ar y tir yr adeiladwyd ar y tŷ arno. O dan y gyfraith bresennol, mae llawer o bobl yn wynebu rhenti tir uchel, a all, o'u cyfuno â morgais, wneud iddyn nhw deimlo eu bod yn dal i dalu rhent ar eiddo y maen nhw'n berchen arno. Gwyddom hefyd y gall rhenti tir cynyddol hefyd ei gwneud yn anodd i lesddeiliaid werthu neu hyd yn oed ailforgeisio eu heiddo. Nawr, yn ôl ymchwil a luniwyd gan Propertymark yn 2018, dywedodd 93 y cant o ymatebwyr yr arolwg na fydden nhw yn prynu eiddo lesddaliad arall, cymaint oedd y canlyniadau hunllefus yr oedd llawer ohonyn nhw yn eu hwynebu. Dywedodd traean eu bod yn ei chael hi'n anodd denu prynwr, oherwydd nad oedden nhw'n berchen ar y rhydd-ddaliad. Bydd y newid cadarnhaol hwn i'r ddeddfwriaeth, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Geidwadol yn San Steffan, nawr yn golygu y bydd miliynau o lesddeiliaid yn cael yr hawl i ymestyn eu prydles am gyfnod hyd at 990 o flynyddoedd gyda'r rhent tir yn sero. O'r herwydd, gallai cymeradwyaeth ar gyfer y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol hwn yn sicr eu helpu i arbed miloedd o bunnau y flwyddyn, gan roi tawelwch meddwl iddyn nhw hefyd. I eraill, lle mae hawlio rhent tir fel rhan o brydles hir breswyl newydd, mae'r ffaith na fydd bellach yn fwy nag un hedyn pupur y flwyddyn yn newid pwysig. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn croesawu'r ffaith y bydd y Bil hwn yn gwahardd rhydd-ddeiliaid rhag codi ffioedd gweinyddu am gasglu rhent hedyn pupur, sy'n golygu na fydd lesddeiliaid yn y dyfodol yn wynebu hawliadau ariannol am rent tir. Rydym hefyd yn croesawu'r ffaith y bydd y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol hwn yn cynyddu atebolrwydd o ran lesddeiliaid, drwy wneud darpariaeth iddyn nhw adennill rhenti tir a godwyd yn anghyfreithlon drwy'r tribiwnlys prisio lesddaliadau yng Nghymru. Nawr, rwy'n cydnabod, ac yn parchu, y pryderon a godwyd gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ynghylch y memorandwm a osodwyd gan Lywodraeth Cymru mewn cysylltiad â'r Bil, sef nad oedd yn addas i'r diben, ac a oedd wedi disgyn islaw'r safon a ystyriwyd yn dderbyniol. Mae'n amser i'r bobl hyn sydd wedi cael eu dal yn y trap hwn symud ymlaen. Gyda'r camau blaengar a chadarnhaol yr wyf newydd eu hamlinellu, y llwyddwyd i'w cyrraedd ar ôl cydweithio'n weithredol â rhanddeiliaid, rwy'n galw yn awr ar bleidiau eraill yn y Senedd hon i ymuno â'r Ceidwadwyr Cymreig drwy bleidleisio i gefnogi'r newidiadau mwyaf arwyddocaol i gyfraith eiddo mewn cenhedlaeth, mae'n debyg. Diolch yn fawr, Llywydd. Mabon ap Gwynfor AS: Dwi am nodi ar y cychwyn fan hyn y bydd Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn hwn fel mater o egwyddor. Mae'r Llywodraeth bellach wedi gosod cynigion cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer 14 o Filiau'r Deyrnas Gyfunol o fewn misoedd cyntaf y Senedd hon. Mae hyn yn fwy nag unrhyw flwyddyn arall, ac eithrio 2020. Mae nifer y cynigion cydsyniad deddfwriaethol sy'n dod ger ein bron yn destun pryder. Mae pob cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn cwtogi ar ein grymoedd ni fel Senedd ac felly yn ymosodiad ar ddemocratiaeth Gymreig. Mae dau o bwyllgorau'r Senedd hon wedi codi pryderon eang ynghylch dogfennau'r memorandwm yma, fel mae'r Gweinidog eisoes wedi nodi ac mae'r Cadeiryddion wedi nodi. Dywed y Gweinidog nad ydy hi am i bobl Cymru gael anfantais gan y byddai'n cymryd cyhyd i Gymru ddatblygu ein deddfwriaeth ein hun. Ond pam nad ydy'r Llywodraeth wedi gwneud unrhyw waith i'r perwyl yma eisoes? Ble mae'r ddadl yma'n gadael y Senedd a diben datganoli? Dwi'n grediniol na ddylid rhoi caniatâd yma heddiw. Dwi'n anfodlon â'r dull cwbl annigonol sydd gyda ni wrth ymdrin â'r broses. Doedd yna ddim digon o amser i graffu ar y Bil na'r memorandwm yn y pwyllgor tai a llywodraeth leol, er enghraifft, ac mae'n amlwg bod gan Bwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y Senedd ei hun farn lom iawn ar y memorandwm yma, fel rydym ni wedi clywed. Dydy'r Senedd ddim chwaith wedi cael cyfle i graffu ar y gwelliannau i’r Bil mewn unrhyw fodd ystyrlon heblaw am ryw drafodaeth fach yma heno. Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i gyflwyno’r diwygiadau mewn Bil o du'r Deyrnas Gyfunol yn hytrach na chyflwyno ei Bil ei hun, yn golygu nad yw Aelodau nac ychwaith rhanddeiliaid wedi gallu gwneud unrhyw argymhellion heb sôn am newidiadau i ddeddfwriaeth sydd yn effeithio ar Gymru ac sydd wedi'i datganoli. Mae gan Gymru ei llais ei hun ac mae gennym ni'r Senedd yma i fod yn fforwm i leisio'r farn honno, ond mae'r hawl elfennol yma yn ein democratiaeth yn cael ei wadu i bobl Cymru heno. Os aiff pethau ymlaen fel hyn, yna mae'n codi cwestiwn am ddyfodol datganoli. Byddai'n siwtio San Steffan i'r dim i gael dim mwy na phwyllgor gwaith yn cydsynio'r Deddfau yma yn hytrach na chorff democrataidd grymus yn creu deddfau mewn ymateb i broblemau yma yng Nghymru. Dwi'n arbennig o bryderus bod y Mesur yn gosod cynsail beryglus trwy roi pwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol yn lle Gweinidogion Cymru. Bydd cydsynio hwn yn golygu nad oes gan Weinidogion Cymru unrhyw bwerau i wneud gwelliannau canlyniadol, a allai fod yn angenrheidiol o dan gymal 21 yma, er enghraifft. Dyma enghraifft glir o sut y byddwn ni wedi colli grymoedd yng Nghymru. Dim ond yr Ysgrifennydd Gwladol yn Llundain sydd â'r pŵer i wneud rheoliadau mewn perthynas â ffurf a chynnwys hysbysiadau, yn un o'r cymalau. Does dim cyfeiriad at sut mae'n berthnasol i Gymru, fel sydd wedi cael ei nodi efo siaradwyr blaenorol. Ac yn olaf, fydd gan Weinidogion Cymru ddim rheolaeth ynghylch pryd y daw'r Ddeddf i rym. Gweinidog, a ydych chi'n credu bod y sefyllfa yma'n dderbyniol? Rydych chi'n dadlau bod rhaid cael cysondeb rhwng Cymru a Lloegr, Weinidog, ond onid ydych yn credu bod y ddadl yma'n gosod cynsail beryglus pan fydd hi'n dod i ddatganoli? Dyma weld datganoli yn crebachu o dan ein trwynau ac nid yn unig nad oes yna ymladd yn ôl, ond bod y Llywodraeth yma yn annog hynny. Nid dyma fy niffiniad i o sefyll cornel Cymru. Yn sgil y diffyg craffu priodol, nifer y cynigion cydsyniad deddfwriaethol, annigonolrwydd dogfennau ategol a'r bygythiad go iawn i'r Senedd yma a'r setliad datganoli trwy drosglwyddo pwerau i Weinidogion y Deyrnas Gyfunol dros feysydd polisi datganoledig, mi fyddwn i'n annog fy nghyd-Aelodau i bleidleisio yn erbyn hwn heddiw. Diolch. Y Gweinidog Newid Hinsawdd nawr i ymateb i'r ddadl—Julie James. Julie James AC: Diolch, Llywydd. Diolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau. I ateb un o'r pethau penodol a godwyd nad oeddwn yn ymdrin â nhw yn fy sylwadau agoriadol, rwy'n deall rhwystredigaeth yr Aelodau ynghylch amseriad y memoranda cydsyniad deddfwriaethol atodol. Yn wreiddiol, roeddem o'r farn y gallem ni gyflwyno un LCM atodol mewn cysylltiad â'r Bil hwn a oedd yn cwmpasu'r holl welliannau a wnaed iddo, a fyddai wedi bod yn llawer mwy defnyddiol i Aelodau'r Senedd na nifer o femoranda cydsyniad deddfwriaethol atodol sy'n ymdrin â gwahanol welliannau ar wahanol adegau. Fodd bynnag, yn anffodus, bu oedi llawer hirach o ran cyflwyno gwelliannau dilynol gan Lywodraeth y DU nag y bu'r disgwyl ar y dechrau. Yn y pen draw, ni ddigwyddodd tan 30 Tachwedd, ac erbyn hynny roeddwn eisoes wedi penderfynu cyhoeddi'r LCM atodol gohiriedig, felly roedd wedi ei ddal yn yr amserlen. Rwy'n hapus iawn i weithio, fel y mae Huw yn ei awgrymu, gyda'r pwyllgorau ar y broses i'w wneud yn symlach ac i ddeall gan y pwyllgorau a yw ffrwd o femoranda cydsyniad deddfwriaethol unigol ar bob gwelliant unigol yn fwy defnyddiol yn y pen draw na cheisio eu cydgrynhoi nhw. O ran y tri phŵer rheoleiddio y mae Aelodau wedi'u crybwyll, ac eithrio'r rhai sy'n ymwneud â gwelliannau nad ydyn nhw wedi'u dirprwyo, rwy'n fodlon nad ydyn nhw'n hanfodol mewn unrhyw ffordd i weithredu'r ddeddfwriaeth yn effeithiol. Mae'r tri yn bwerau heb eu dirprwyo ar gyfer defnyddio gorchmynion hysbysiadau mewn cysylltiad ac eithrio prydlesi busnes o'r ddeddfwriaeth. Mae'n anodd iawn deall sut y byddem byth yn gorchymyn hysbysiad gwahanol yng Nghymru at y diben hwn. Mae'n fater technegol iawn. Yr ail yw i reoliadau gael eu gwneud sy'n diwygio'r diffiniad o brydlesi cynllun cyllid cartref, sydd wedi'u heithrio o'r Bil. Nid oes unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i ddefnyddio hwn yn Lloegr, ac nid oes rheswm pam y byddem ni byth yn ei ddefnyddio yng Nghymru. A'r un olaf yw'r pŵer i wneud diwygiadau canlyniadol. Nid yw hynny'n anarferol o gwbl, a phan fydd deddfwriaeth yn cael ei gwneud gan y Senedd, mae'n aml yn cynnwys y pŵer i Weinidogion Cymru wneud newidiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth arall nad yw wedi'i datganoli yn y DU. Felly, nid wyf yn credu bod hynny o unrhyw arwyddocâd gwirioneddol, ymhell o'r arwyddocâd a roddir iddo gan Aelodau achlysurol. Yn y pen draw, Llywydd, rwy'n gwerthfawrogi'n fawr y pryderon y mae Aelodau wedi'u codi, yn enwedig ynghylch faint o amser a roir ar gyfer craffu. Byddwn ni'n sicr eisiau gweithio gyda'r pwyllgorau i sicrhau bod ganddyn nhw yr amser mwyaf sydd ar gael iddyn nhw. Ond, yn y pen draw, mae'r Bil hwn yn ddeddfwriaeth sylfaenol dda sy'n mynd i'r afael ag annhegwch amlwg yn y system. Wrth gwrs, mae llawer mwy i'w wneud, ac, mewn ateb i un cwestiwn gan John Griffiths, deallwn fod Llywodraeth y DU yn bwriadu cyflwyno'r Bil diwygio lesddaliad nesaf yn y sesiwn seneddol nesaf. Mae llawer mwy i'w wneud, ond mae hwn yn gam cyntaf hanfodol o ran sicrhau tegwch i lesddeiliaid yng Nghymru, ac anogaf bob Aelod i gefnogi'r cynnig. Diolch. Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Dwi'n aros am eiliad i weld a ydw i'n gweld unrhyw Aelod yn gwrthwynebu. Gallwch chi ddangos eich llaw. [Gwrthwynebiad.] Ydw, dwi'n gweld llaw yn dangos gwrthwynebiad, ac felly dwi'n gohirio'r bleidlais ar y cynnig yma tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. Rydyn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac fe fyddwn ni'n cymryd toriad byr nawr i baratoi ar gyfer y pleidleisiau hynny. Toriad byr. Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 19:32. Ailymgynullodd y Senedd am 19:37, gyda'r Llywydd yn y Gadair. 13. Cyfnod Pleidleisio Mae'r bleidlais gyntaf heno, felly, ar eitem 8, y cod addysg cydberthynas a rhywioldeb yn y Cwricwlwm i Gymru. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Mae yna un Aelod yn dal i bleidleisio. Os ydy e'n cael trafferth gwneud, fe wnaf i alw am ei bleidlais ar lafar. Mark Drakeford. Os gall Mark Drakeford gael ei ddad-dawelu, gallwn i ofyn i'w bleidlais gael ei bwrw ar lafar am nad yw wedi'i bwrw'n electronig. Mark Drakeford AC: Diolch yn fawr, Llywydd—[Anghlywadwy.] Sut ydych chi'n pleidleisio, Mark Drakeford? Mark Drakeford AC: O blaid. Diolch. Cau'r bleidlais. Felly, o blaid 42, neb yn ymatal, 16 yn erbyn, ac mae'r cynnig yna wedi cael ei dderbyn. Eitem 8. Y Cwricwlwm i Gymru – Y Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb: o blaid 42, yn erbyn 16, ymatal 0 Derbyniwyd y cynnigCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Yr eitem nesaf i bleidleisio arni yw eitem 12, a hwn ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir), a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. O blaid 45, un yn ymatal, 12 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi cael ei gymeradwyo. Eitem 12. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir): o blaid 45, yn erbyn 12, ymatal 1 Derbyniwyd y cynnigCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Dyna ni, felly, dyna ddiwedd ar ein pleidleisiau ni am heddiw. Diolch yn fawr iawn i bawb, a nos da i chi. Daeth y cyfarfod i ben am 19:41. QNR Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru Sam Rowlands: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r heriau presennol o ran recriwtio i'r GIG yng Ngogledd Cymru? Mark Drakeford: The Betsi Cadwaladr University Health Board currently employs historically high numbers of staff, despite a challenging recruitment market nationally and internationally. This means more doctors, nurses, allied health professionals and healthcare scientists delivering services for the people of north Wales. Rhun ap Iorwerth: Faint o arbenigwyr symudedd a sefydlu sydd yng Nghymru i gefnogi plant a phobl ifanc â nam ar eu golwg? Mark Drakeford: Nid yw’r wybodaeth hon yn cael ei dal yn ganolog.
uk-hansard-senedd-cy
senedd2021-12-14
2024-06-01T00:00:00
{ "year": "2021", "language": "cy", "license": "Open Parliament Licence - https://www.parliament.uk/site-information/copyright-parliament/open-parliament-licence/" }
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. Galw'r Aelodau i drefn. Datganiad gan y Llywydd Cyn cychwyn, a gaf i ddymuno blwyddyn newydd dda i bawb a chroesawu Aelod newydd i'n plith, Mandy Jones, i gynrychioli rhanbarth y gogledd yn dilyn ymddiswyddiad Nathan Gill? A gaf i ddymuno'n dda i Mandy Jones wrth iddi ymgymryd â'i gwaith yma yn y Cynulliad? 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog Felly, ar hynny, cwestiynau i'r Prif Weinidog, a'r cwestiwn cyntaf, Joyce Watson. Ailgylchu Plastig Joyce Watson AC: 1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion i ailgylchu plastig yng Nghymru? OAQ51514 Carwyn Jones AC: Gwnaf. Rydym ni wedi ein gosod targedau uchel ar gyfer ailgylchu yng Nghymru, gan gynnwys plastig. Mae pob awdurdod lleol yn casglu plastig ar gyfer ei ailgylchu, a bydd busnesau yn cael eu hannog ymhellach i wneud hynny o dan ddarpariaethau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, ac rydym ni hefyd yn gweithio gyda'r diwydiant i gynyddu capasiti triniaeth ar gyfer plastigau sy'n cael eu casglu. Joyce Watson AC: Byddwch yn ymwybodol, Prif Weinidog, bod Tsieina, yr wythnos diwethaf, wedi gwneud cyhoeddiad na fyddant yn mewnforio gwastraff plastig o'r DU mwyach, ac allforiodd Cymru dros 4,000 o dunelli dim ond y llynedd. Gwyddom hefyd fod cyfanswm y plastig sy'n cael ei gynhyrchu a'i waredu yn tyfu bob un blwyddyn, ac mae'r rhan fwyaf o hwnnw'n blastig untro ar gyfer lapio bwyd. Felly, a allem ni fanteisio ar hwn fel cyfle efallai, yma yng Nghymru, i wneud dau beth: un, i leihau cyfanswm y bagiau plastig untro yn y lle cyntaf; ac yn ail, pan nad yw hynny'n bosibl, y gallwn ni ailgylchu plastig ein hunain—a cheir rhai enghreifftiau da iawn o bobl yn gwneud hynny yma yng Nghymru—a thyfu'r diwydiannau hynny? Carwyn Jones AC: Gallwn. Mae dau beth i roi sylw iddyn nhw yma. Yn gyntaf, rydym ni wedi comisiynu astudiaeth i asesu ymarferoldeb cynllun cyfrifoldeb estynedig ar gynhyrchwyr dros ddeunydd pecynnu bwyd a diod, gan gynnwys plastig tafladwy. Byddwn yn cael adroddiad yr astudiaeth honno ym mis Chwefror. Rydym ni hefyd yn ystyried treth neu ardoll ar blastig tafladwy, ond ceir cyfleoedd gwych yma i fusnesau Cymru ystyried sut y gallant gymryd rhan yn y diwydiant ailgylchu plastigau. Rydym ni'n gweithio, er enghraifft, gyda Jayplas i'w helpu i nodi safleoedd addas i leoli gweithfeydd yng Nghymru, a Jayplas yw arweinydd marchnad y DU ym maes ailgylchu ôl-ddefnyddio, gan gynnwys ailgylchu plastigau anhyblyg. Russell George AC: Rwy'n credu bod cytundeb cyffredinol y bydd penderfyniad Tsieina yn her fawr i ni o ran ailgylchu yma yng Nghymru, o ran plastigau. Trwy gomisiynu gwaith technolegau ailgylchu, a fyddai'n troi plastigau diwedd oes yn olew ysgafn, yn gwyr neu'n olew tanwydd trwm sylffwr isel, gallem greu adnodd delfrydol yma ar gyfer amrywiaeth eang o gymwysiadau diwydiant, a gallai hwn, wrth gwrs, fod yn gyfle i Gymru. A fyddech chi'n cytuno ei bod hi'n bryd nawr i ni roi terfyn ar y system bresennol o losgi plastigau ac anfon ein plastigau i safleoedd tirlenwi, ac i fod y wlad gyntaf i drin ei gwastraff plastig ei hun mewn ffordd gwbl ecogyfeillgar? Carwyn Jones AC: Byddwn, mi fyddwn, ac mae'n hynod bwysig i weithio, fel y soniais yn gynharach, gyda chwmnïau sydd ag arbenigedd profedig yn y maes hwn, i wneud yn siŵr bod mwy o blastig yn cael ei ailgylchu yng Nghymru a mwy o swyddi yn cael eu creu o ganlyniad, ac, wrth gwrs, i edrych i weld sut y gallwn ni gynorthwyo'r newydd-ddyfodiaid hynny i'r farchnad. Simon Thomas AC: Wel, jest fel enghraifft o faint y broblem, roedd grŵpsbwriel Llangatwg ym Mhowys wedi canfod ym mis Hydref y llynedd, wrth gasglu sbwriel jestyn ardal pentref Llangatwg, 266 o gwpanau coffi wedi'u taflu bant jest fel yna. Nid oes angen lefi latte yng Nghymru, achos mae gyda chi, fel rydych yn ei ddweud, gynllun posib ar gyfer lefi ar blastig un-defnydd fel un o'r pedair treth newydd rydych chi'n eu hystyried. Pryd, felly, cawn ni glywed pa dreth rydych chi wedi penderfynu arni, ac a gaf i eich annog chi, am y tro olaf efallai, i fanteisio ar ymrwymiad Plaid Cymru, a rhai o'ch meinciau cefn chi, rwy'n meddwl, i wneud yn siŵr mai'r dreth gyntaf yw lefi ar blastig un-defnydd? Carwyn Jones AC: Wel, fel y dywedais i, y peth cyntaf yw sicrhau bod yr adroddiad ynglŷn â chyfrifoldeb y cynhyrchwyr ynglŷn â phecynnau bwyd a diod yn cael ei gyhoeddi. Bydd hwnnw'n cael ei gyhoeddi ym mis Chwefror. Unwaith bydd hwnnw wedi cael ei gyhoeddi, bydd yn ein helpu ni i wneud penderfyniad ynglŷn â'r ffordd ymlaen gydag unrhyw dreth. Cefnogi Mentrau Nick Ramsay AC: 2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi mentrau yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ51496 Carwyn Jones AC: Nodir ein cynlluniau ar gyfer datblygu economaidd yn 'Ffyniant i Bawb' a'r cynllun gweithredu economaidd. Rydym ni'n parhau i ddarparu amrywiaeth eang o gymorth i fusnesau yng Nghymru drwy Busnes Cymru a'r banc datblygu, ac rydym ni hefyd yn darparu buddsoddiad mewn seilwaith a chamau gweithredu sy'n gwella amodau busnes. Nick Ramsay AC: Diolch, Prif Weinidog. Blwyddyn newydd dda. Roedd ddoe yn ddiwrnod hanesyddol i Gymru, wrth i bontydd Hafren gael eu gwladoli—rhywbeth yr wyf i'n siŵr y byddwch chi yn ei groesawu—a gostyngiad i'r tollau—prosiect gwych porth Cymru. Fodd bynnag, daw hyn dim ond ychydig wythnosau ar ôl i Lywodraeth Cymru alw i mewn, a gwrthod, cais cynllunio yn Nhrefynwy, yn fy etholaeth i, ar gyfer datblygiad gwesty a spa—prosiect porth Cymru ardderchog arall. Nawr, nid yw'r pryder yn y dref am y penderfyniad hwn wedi lleihau dros y flwyddyn newydd. Gwrthodwyd y gwesty ar sail cynllunio oherwydd ystyriaethau nodyn cyngor technegol 15. A all eich swyddogion edrych eto ar y penderfyniad hwn, neu, os nad yw hynny'n bosibl, edrych eto ar ganllawiau TAN 15? Oherwydd mae'n ymddangos bod hwn wedi cael ei gymhwyso'n rhy eiddgar, ac rwy'n bryderus ei fod yn dechrau llesteirio cyfleoedd economaidd ledled Cymru a fyddai o fudd i economi Cymru fel arall. Carwyn Jones AC: Wel, mae TAN 15, mae'r Gweinidog yn fy hysbysu, yn cael ei ystyried. Ni allaf wneud sylw, wrth gwrs, ar gais cynllunio unigol. Mae'n crybwyll tollau Hafren, ond gadewch i ni beidio â gorgynhyrfu'n ormodol am hyn. Wrth gwrs, rwy'n croesawu'n fawr y ffaith fod pontydd Hafren yn dychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus. Ond yr hyn y mae Llywodraeth y DU wedi ei wneud mewn gwirionedd yw dileu'r TAW, na allant ei chodi'n gyfreithlon beth bynnag, ar y tollau gan eu bod nhw'n dod yn ôl i berchnogaeth gyhoeddus. Felly, ydy, cyn belled ag y mae'r cyhoedd yn y cwestiwn, mae'n ostyngiad i'r tollau wrth gwrs, ond gadewch i ni beidio ag esgus bod hwn yn rhyw gonsesiwn mawr gan Lywodraeth y DU, gan na allant godi'r 20 y cant yn y lle cyntaf mewn gwirionedd. Yr hyn a fyddai'n llawer gwell yw pe byddent yn cael gwared ar y tollau yn gyfan gwbl. Mick Antoniw AC: Prif Weinidog, a gaf i groesawu'n fawr iawn cymorth ariannol Llywodraeth Cymru i E-Cycle yn fy etholaeth i, sef hen ffatri Remploy a helpwyd gan Lywodraeth Cymru i oroesi a gweddnewid i e-feicio, ac yn wir y pecyn ychwanegol o gyllid sy'n ei alluogi i barhau i ehangu ac i ddatblygu, gan greu busnes yn ogystal â swyddi, yn amlwg, yn ardaloedd y Cymoedd? Tybed, Prif Weinidog, a allech chi wneud sylw ar botensial y cwmni i dyfu, union fanylion y cymorth sy'n cael ei roi i'r cwmni hwnnw, ac yn enwedig y ffaith ei fod yn gwmni moesegol, sy'n cyflogi gweithwyr anabl, y mae llawer ohonynt o fy etholaeth i— mae wedi ei leoli yn fy etholaeth i. Mae'n enghraifft wirioneddol o'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud mewn gwirionedd i gefnogi'r math hwn o fusnes, sydd â photensial gwirioneddol i ehangu yn y Cymoedd. Carwyn Jones AC: Wel, mae'n wir i ddweud, wrth gwrs, y dyfarnwyd cymorth i E-Cycle, ac rwy'n falch ein bod ni'n darparu cymorth i ailgylchu. Byddwn yn parhau i gynorthwyo'r cwmni i nodi cyfleoedd newydd ar gyfer twf busnes. Mae'r cynllun gweithredu economaidd a gyhoeddwyd yn ddiweddar a chynllun cyflawni tasglu'r Cymoedd yn cydnabod effaith technoleg ddigidol, ac yn cyflwyno ein cynigion i ddiogelu economi Cymru ar gyfer y dyfodol. Steffan Lewis. [Cymeradwyaeth.] Steffan Lewis AC: Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a chyd-Aelodau. Steffan Lewis AC: Rwy'n croesawu'n fawr y cyhoeddiad ddoe gan Lywodraeth Cymru i greu cronfa parodrwydd ar gyfer Brexit o £50 miliwn, rhywbeth a fydd yn hanfodol ar gyfer cefnogi mentrau yn y de-ddwyrain a ledled y wlad. Ac rwy'n mawr obeithio bod Llywodraeth Cymru wedi edrych ar fodelau Iwerddon ar gyfer cymorth, wrth i ni wynebu gwahaniad oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd a'r ansicrwydd economaidd mawr sy'n sicr o ddeillio o hynny wrth i Theresa May barhau ei thraed moch Brexit. Pa sicrwydd all y Prif Weinidog eu roi i fentrau ledled y wlad, ac yn y de-ddwyrain yn arbennig, y bydd hon yn gronfa hygyrch, syml a fydd yn hawdd iddynt ymgysylltu â hi, ac y bydd yn cael ei thargedu ac y gall gyflawni ei bwriadau gwirioneddol dda? Carwyn Jones AC: A gaf i ddweud pa mor braf yw gweld yr Aelod yma? A bydd yn clywed o'r croeso y mae wedi ei dderbyn ewyllys da y Siambr hon, a'r cyfeillgarwch y mae'n ei fwynhau ymhlith llawer yn y Siambr hon, ar draws y pleidiau. O ran ei gwestiwn, roedd y cyhoeddiad ddoe yn gyhoeddiad sy'n dangos i fusnesau, prifysgolion ac eraill ein bod ni'n rhoi arian o'r neilltu i'w helpu i ymdrin â chanlyniadau Brexit. Yr hyn nad ydym yn ei wybod, wrth gwrs, yw sut y bydd Brexit yn edrych, ac mae cymaint o'r manylion heb gael eu hystyried hyd yn hyn. Ond byddwn yn gweithio gyda phawb sy'n cael eu heffeithio ac yn rhoi cynllun syml ac effeithiol ar waith, i sicrhau bod y cynllun yn darparu'r cymorth y bwriedir iddo ei ddarparu. Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies. Andrew RT Davies AC: Diolch, Llywydd. A gaf innau hefyd groesawu'r Aelod newydd yma heddiw, ac ategu sylwadau'r Prif Weinidog ynghylch pa mor braf yw gweld Steffan yn ôl yn y Siambr hon, a dymuno'n dda iddo yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod? Ac rwyf hefyd yn cynnig fy llongyfarchiadau i David Melding, a gydnabuwyd yn rhestr anrhydeddau'r flwyddyn newydd—cyfraniad teilwng iawn i ddemocratiaeth Cymru sydd wedi cael ei gydnabod gan y rhestr anrhydeddau'r flwyddyn newydd a gyhoeddwyd eleni. Prif Weinidog, rydym ni i gyd wedi gweld y pwysau sydd wedi taro GIG Cymru dros y pythefnos diwethaf, a'r pwysau gaeaf penodol hwnnw yn arbennig. A oedd modd eu rhagweld ac a oedd modd eu hatal? Carwyn Jones AC: Wel, yn gyntaf oll, hoffwn dalu teyrnged i'n holl staff ym mhob lleoliad—y meddygon teulu, y parafeddygon, yr ysbytai a gofal cymdeithasol—am eu hymdrechion anhygoel wrth ymateb i'r pwysau hwn. Mae'r gaeaf yn gyfnod anodd iawn bob amser. Bydd adegau bob amser pan fo'r galw yn rhoi ein gwasanaethau o dan bwysau mawr, sy'n golygu bod angen dwysau lleol. Roedd paratoadau trylwyr wedi eu gwneud, ond mae'r NHS yng Nghymru wedi bod o dan gryn bwysau yn gyson â'r hyn sy'n cael ei adrodd mewn rhannau eraill o'r DU. Cafwyd ymateb proffesiynol, rhoddwyd mwy o adnoddau ar gael ac mae'r sefyllfa yn sefydlogi erbyn hyn. Andrew RT Davies AC: Diolch, Prif Weinidog, am yr ateb yna. Rwyf yn cydnabod bod pwysau ar draws y Deyrnas Unedig gyfan fel yr ydym ni i gyd wedi ei weld ar y newyddion. Fy nghwestiwn cyntaf oedd a oedd modd eu rhagweld ac a oedd modd eu hatal, rhai o'r pwysau hynny a oedd yn unigryw i Gymru, fel dim gwasanaeth meddyg teulu y tu allan i oriau, fel yr wyf yn cael fy arwain i gredu, yma yng Nghaerdydd dros gyfnod yr ŵyl. Roedd amseroedd aros cronig yn fwy na'r hyn a welsom mewn rhannau eraill o'r GIG yn y Deyrnas Unedig. Yn Ysbyty Glan Clwyd, er enghraifft, gwelwyd llai na 50 y cant o gleifion a aeth i adrannau damweiniau ac achosion brys o fewn amser aros y Llywodraeth ei hun o bedair awr, ac roeddem ni eisoes yn gwybod bod amseroedd aros yn ormodol yma yng Nghymru o'u cymharu â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Gallwch chi a minnau gael dadl wleidyddol am hyn ac ni fydd wir yn datblygu fawr mwy ar y ddadl. Yr hyn y mae pobl eisiau ei glywed yw pa atebion y bydd y Llywodraeth yn eu rhoi ar waith i atal rhai o'r digwyddiadau unigryw hyn sydd wedi bod yn digwydd yng Nghymru—sydd yn benodol i Gymru—fel dim darpariaeth y tu allan i oriau o gwbl yma ym mhrifddinas Caerdydd ac, yn anad dim, y cyfnodau aros gwirioneddol hir hynny mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, adrannau damweiniau ac achosion brys yng Nghymru, fel yr amlygais i chi? Beth ydych chi'n ei wneud? Carwyn Jones AC: Wel, yn gyntaf oll, o ran adrannau damweiniau ac achosion brys, ac nid yw'n wir mai pedair awr yw'r targed cyn i rywun gael ei weld mewn adran damweiniau ac achosion brys. Pedair awr tan i rywun gael ei ryddhau neu ei dderbyn o adran damweiniau ac achosion brys, dim ond i wneud hynny'n eglur. Mae'n gofyn y cwestiwn yn deg: A oedd modd rhagweld hyn? Yr ateb yn fy nhyb i yw 'nac oedd' a byddaf yn esbonio pam. Er enghraifft, o ran galwadau ambiwlans coch, roedd y ffigur ar gyfer nos galan 54 y cant yn uwch na nos galan y llynedd. Adroddwyd ffigurau tebyg, ond llai, ar gyfer dydd calan ac ar gyfer cyfnod y Nadolig hefyd. Nawr, a oes modd rhagweld hynny? Byddwn i'n dadlau nad oes. Serch hynny, gwnaed llawer iawn o gynllunio i sicrhau bod y GIG yn gallu ymdopi. Roedd pwysau mawr. Talaf deyrnged i'r staff ac, wrth gwrs, fel y dywedaf, mae'r sefyllfa yn sefydlogi erbyn hyn. Ond byddwn yn ystyried pam y bu cynnydd mor sydyn nos galan, dim ond i roi un enghraifft, o'i gymharu â'r llynedd. Er gwaethaf y pwysau mawr a roddwyd ar y gwasanaeth iechyd, roedd y staff yn dal i allu gweithio'n galed i gyrraedd y targedau a osodwyd gennym, yn enwedig y staff parafeddygol. Pam y bu cynnydd sydyn o'r fath o'i gymharu â'r llynedd, mae'n rhywbeth y bydd rhaid i ni edrych arno. Andrew RT Davies AC: Diolch, Prif Weinidog. Rwyf innau hefyd yn talu teyrnged i'r holl staff a oedd allan dros gyfnod yr ŵyl tra bod llawer ohonom ni'n mwynhau'r ŵyl, ac, heb y staff hynny, ni fyddai ein GIG yn gweithio ym mha bynnag ran o'r gwasanaeth y maen nhw'n gweithio ynddi. Ond y pwynt a wneuthum yn fy ail gyfraniad y prynhawn yma, yw os nad oes unrhyw ddarpariaeth y tu allan i oriau o gwbl, yna mae'n amlwg bod y gwasanaeth ambiwlans, er enghraifft, yn mynd i weld cynnydd sydyn i'r galw am ei wasanaethau. Yr hyn yr wyf yn ei ofyn amdano yn fy nhrydydd cwestiwn i chi yw: a fyddwn ni yn yr un sefyllfa yr adeg hon y flwyddyn nesaf, neu pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd yn benodol i fynd i'r afael â'r pwysau hyn sy'n digwydd flwyddyn ar ôl y blwyddyn? Rwy'n derbyn y pwynt eich bod chi wedi cyfeirio at gynnydd sydyn penodol i'r galwadau ambiwlans a wnaed nos galan, ond rydym ni'n gweld mai ychydig iawn neu ddim o gwbl sydd ar gael o ran darpariaeth y tu allan i oriau mewn rhai ardaloedd, rydym ni'n gweld galw parhaus am ddarpariaeth damweiniau ac achosion brys ac yn amlwg rydym ni'n gweld diffyg gwelyau yn ein hysbytai. Collwyd tri deg y cant o welyau ers 1997 yma yng Nghymru. Felly, mae angen cynnal adolygiad o sut y mae'r Llywodraeth a'r byrddau iechyd yn ymateb i'r argyfwng hwn, a'r hyn y mae angen i ni ei glywed yw pryd y bydd yr adolygiad hwnnw'n cael ei gynnal ac a allwn ni ddisgwyl mewn gwirionedd na fydd y sefyllfa hon yn cael ei hailadrodd y flwyddyn nesaf. Carwyn Jones AC: Wel, wrth gwrs, mae'r adolygiad wedi cael ei gynnal, yn yr ystyr y disgwylir i'r adolygiad seneddol, rwy'n deall, gyhoeddi ei ganfyddiadau yn fuan iawn, a bydd hwnnw'n ystyried yn drawsbleidiol ar y ffyrdd y gellir cryfhau'r gwasanaeth iechyd. O ran meddygon teulu, mae'n iawn i ddweud, mewn un rhan o Gymru, y bu problemau ar ddau ddyddiad, rwy'n deall—nid mewn rhannau eraill o Gymru, ond roedd pwysau difrifol yn y fan honno'n benodol. Mae'n gofyn y cwestiwn: a oes angen i ni ystyried y rheswm pam y bu achosion penodol o gynnydd sydyn eleni, o'i gymharu â blynyddoedd blaenorol? Yr ateb yw, 'Ydy, mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni eisiau edrych arno', gan y bydd hynny'n rhan o barodrwydd y BILlau ar gyfer y gaeaf nesaf. Felly, o ran a oes modd ei atal, wel, mae pwysau ar y GIG ar yr adeg hon o'r flwyddyn bob amser, ac mae cynllunio bob amser i geisio ymdrin â phwysau o'r fath.Rhagweladwy? Na, dwi ddim yn credu, o ystyried y ffigurau yr ydym ni wedi eu gweld ar fwy nag un dyddiad dros gyfnod y gwyliau, pan fu cynnydd sylweddol i alw am alwadau ambiwlans, yn enwedig o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood. Leanne Wood AC: Diolch. Rwy'n mynd i barhau gydag iechyd, Prif Weinidog. Dywedasoch y disgwylir pwysau'r gaeaf bob blwyddyn ac rydych chi'n iawn, a dylech chi fod yn cynllunio ar gyfer cynnydd sydyn i alw bob blwyddyn hefyd. A allwch chi ddweud o ddifrif eich bod chi'n credu bod y gwasanaeth iechyd wedi perfformio'n dda dros y gaeaf o ran ymdrin â'r pwysau a'r cynnydd sydyn i alw hynny a welsom? Carwyn Jones AC: Gallaf, mi allaf. Rwy'n credu bod staff y GIG wedi perfformio'n arwrol ac yn rhagorol yn ystod y gaeaf. Meddygon teulu, wrth gwrs, yw'r rheng flaen yn aml. Maen nhw wedi gweithio'n galed iawn. Parafeddygon, rhyfeddol, o ystyried y ffaith eu bod nhw wedi ymateb mor dda i alwadau brys, er gwaethaf y cynnydd enfawr i'r galwadau hynny ac, wrth gwrs, ysbytai a'r rhai sy'n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol. Maen nhw'n parhau i gynnal GIG o faint aruthrol sy'n derbyn degau o filoedd o gysylltiadau a galwadau bob blwyddyn. Roedd uchafbwynt amlwg, wrth gwrs, o bwysau yn y flwyddyn newydd ac roedd heriau gwirioneddol, ond mae'n braf gweld sefyllfa lawer gwell a sefydlog erbyn hyn, a adroddwyd ddiwedd yr wythnos diwethaf. Leanne Wood AC: Prif Weinidog, mae'r stori yr ydych chi'n ei hadrodd yn un o wasanaeth sydd o dan bwysau ond yn ymdopi'n dda, ond ceir stori arall hefyd sy'n cael ei hadrodd gan y cyfryngau, o ysbytai sydd 'fel maes brwydr' i staff y GIG. Ni all y ddwy stori hynny fod yn wir, ac rwy'n credu eich bod chi'n gwybod nad yw paratoadau'r gaeaf wedi bod yn ddigon da. Onid dyna pam y cawsom ni ymddiheuriad gan Vaughan Gething am lawdriniaethau a ganslwyd? Onid dyna pam yr ydym ni'n clywed yr honiad gan y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys bod diogelwch cleifion yn cael ei beryglu'n feunyddiol, ac mai mwy o gapasiti yw'r ateb? Mae GIG Cymru angen mwy o welyau, mae angen mwy o nyrsys ac mae angen mwy o feddygon. Daeth y £10 miliwn o bunnoedd a gyhoeddwyd dros y penwythnos gyda chyfaddefiad bod pwysau ar draws maes iechyd a gofal cymdeithasol yn fwy na'r hyn a ragwelwyd. Pam nad ydych chi'n amcangyfrif y pwysau hwn yn ddigonol bob blwyddyn? A ydych chi'n derbyn bellach fod Ysgrifennydd y Cabinet yn anghywir i wneud yr honiad ym mis Tachwedd bod y gwasanaeth yn y sefyllfa orau bosibl i ymdopi â'r gaeaf, ac a ydych chi'n derbyn eich bod chi'n anghywir o ran gostwng nifer y gwelyau ysbyty? Carwyn Jones AC: Yn gyntaf oll, rwy'n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet yn gywir. Ni allai neb fod wedi rhagweld y math o ffigurau a welsom yn ystod y gwyliau; nid wyf yn credu bod unrhyw siawns y gallai unrhyw Aelod yn y Siambr hon fod wedi rhagweld hynny. Mae'n sôn am welyau, ond mae mae'n fwy cymhleth na hynny, yn fy marn i. Mae'n hynod bwysig nid o ran edrych ar welyau, ond o ran cael pobl allan o'r ysbyty pan fyddan nhw'n barod a dyna pam, wrth gwrs, mae'n hynod bwysig ein bod ni'n buddsoddi mewn gofal cymdeithasol, yr ydym ni wedi ei wneud, o'i gymharu â Lloegr lle mae cyllid gofal cymdeithasol wedi ei dorri. Mae'n bwysig bod pobl yn gallu gadael yr ysbyty pan fyddan nhw'n gallu gwneud hynny a bod y cymorth cywir ganddyn nhw i wneud hynny. Felly, nid yw'n fater syml o nifer y gwelyau; mae'n fater o wneud yn siŵr bod pobl yn gallu gadael yr ysbyty pan eu bod yn abl i wneud hynny. Leanne Wood AC: Mae gennych chi darged o 85 y cant ar gyfer gwelyau ysbyty ac rydych chi'n methu â chyrraedd hwnnw fel mater o drefn, sy'n golygu bod diogelwch cleifion yn cael ei beryglu. Rydych chi'n methu â bodloni'r mesur hwnnw o ddiogelwch cleifion, ac mae hynny'n annerbyniol. A, Prif Weinidog, mae'n rhaid i mi ddweud, rwy'n credu eich bod yn hunanfodlon. Nid ni yn unig sy'n dweud hynny; mae'r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys hefyd yn dweud bod angen cynyddu staffio yn y GIG, ac mae gennych chi'r grym i wneud hynny. Heb nyrsys, heb feddygon a heb arbenigwyr, ni fyddai GIG o gwbl. Rydym wedi clywed llawer o eiriau gwresog dros gyfnod y Nadolig gan wleidyddion yn cefnogi staff rheng flaen y GIG, ac rydych chi newydd dalu teyrnged eich hun. Os ydych chi wir eisiau cefnogi staff rheng flaen y GIG, yna, Prif Weinidog, dylech eu talu'n briodol. Mae'r cap cyflog yn golygu nad yw nyrsys yn cael eu talu'n ddigonol o hyd, ac mae'r grym gennych chi i ddiddymu'r cap cyflog hwnnw. Mae cynllunio'r gweithlu yn un o'r arfau pwysicaf sydd ar gael i chi, ac eto nid ydych chi'n fodlon derbyn yr angen am ysgol hyfforddiant meddygol newydd yn y gogledd. Ni fydd unrhyw Lywodraeth yn San Steffan yn gwneud hyn i ni; cyfrifoldeb eich Llywodraeth Lafur chi yw hyn. Mae Ysgrifennydd y Cabinet Llafur bellach wedi cyfaddef cyfrifoldeb am y diffyg cynllunio cyn pwysau'r gaeaf. Mae'n bryd, Prif Weinidog, i chithau wneud yr un peth nawr. O ystyried yr ymddiheuriad hwnnw gan yr ysgrifennydd dros Iechyd, a wnewch chi dderbyn cyfrifoldeb nawr am fethu â hyfforddi digon o feddygon ar gyfer GIG Cymru? Carwyn Jones AC: Dim o gwbl. Rydym ni'n gweld bod yr ymgyrch recriwtio yr ydym ni wedi ei rhoi ar waith wedi bod yn llwyddiannus iawn o ran recriwtio meddygon. Ni allwch chi recriwtio meddygon ar unwaith, yn enwedig arbenigwyr damweiniau ac achosion brys, ac mae'n hynod bwysig—. Mae gennym ni gyfleusterau hyfforddi ar waith, ond mae'n bwysig dros ben bod yr awyrgylch proffesiynol cywir ar waith i gadw meddygon a'u denu yn y lle cyntaf. Nid yw'n ymwneud yn unig â hyfforddi pobl yng Nghymru—nid ydym ni'n awtarciaeth feddygol. Yn ail, mae'n hynod bwysig deall ac rwy'n credu fod Ysgrifennydd y Cabinet a'r byrddau iechyd lleol wedi gwneud eu gwaith cynllunio. Os edrychwn ni ar y cynnydd sydyn i alw a welsom, ni allai neb fod wedi rhagweld y cynnydd sydyn hwnnw i'r galw. Ac mae'n rhaid i mi ddweud wrthi: nid wyf i'n derbyn y dylem ni gymryd cyfrifoldeb oddi wrth Llywodraeth y DU o ran y cap cyflog. Pam ar y ddaear ddylai fod rhaid i bobl Cymru ariannu methiant Llywodraeth y DU i ddiddymu'r cap cyflog? Sut gallwn ni gyfiawnhau i bobl sy'n pleidleisio drosom ni y dylem ni dalu am rywbeth y dylai Llywodraeth y DU fod yn talu amdano? Rwy'n cytuno â hi, rwy'n credu y dylai'r cap cyflog gael ei ddiddymu, ond pam ddylai fod rhaid i bobl Cymru dalu amdano pan fo gan Lywodraeth y DU gyfrifoldeb i wneud hynny? Mae cynnydd i gyflogau yn y gwasanaeth iechyd yn costio cannoedd o filiynau o bunnoedd: o ble mae'r arian yn dod? Os ydym ni'n mynd i wneud hynny, yna mae'n golygu arian yn dod allan o'r gyllideb yn rhywle arall. Nid wyf yn anghytuno â hi. Rwy'n cytuno â hi am y cap cyflog. Mae hi a minnau o'r un safbwynt, ond ni allaf gytuno â hi y dylem ni, rywsut, lenwi'r bwlch y mae Llywodraeth y DU ei hun wedi ei greu. Gadewch i'r Torïaid dalu i sicrhau bod pobl Cymru yn gallu talu staff y GIG yn briodol. Arweinydd grŵpUKIP, Neil Hamilton. Neil Hamilton AC: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. A gaf i ddechrau ar nodyn o gyfeillgarwch—na fydd yn parhau, yn sicr—ar gychwyn cyntaf y trafodion, o leiaf, a dymuno blwyddyn newydd dda i'r Prif Weinidog, a'i holl Weinidogion yn wir? Ac rwyf wirioneddol yn dymuno pob llwyddiant iddyn nhw, er fy mod i'n credu ei fod yn annhebygol o gael ei wireddu. Ac a gaf i ddychwelyd at y pwynt a godwyd gan Steffan Lewis gynharach? Rwy'n siŵr y byddai pawb yn cytuno â hyn hefyd, a dweud ei fod wir yn ysbrydoliaeth i ni gyd ei fod yma heddiw, ac os nad yw'n rhagolwg rhy frawychus, rwy'n ei gefnogi'n llwyr yn ei frwydr yn erbyn ei glefyd ofnadwy. Croesawaf y gronfa bontio y mae'r Prif Weinidog wedi ei chyhoeddi, ond onid yw'n cytuno â mi y byddai honno'n llawer mwy effeithiol pe na byddai Llywodraeth Cymru mor benderfynol o besimistaidd am y cyfleoedd a gyflwynir gan Brexit? Ac a gaf i ofyn iddo, yn 2018, am newid agwedd tuag at y cyfle hwn i Brydain gyfan? Ac os yw'n fwy cadarnhaol a brwdfrydig am y dyfodol, yna bydd gan fusnesau Cymru eu hunain fwy o hyder yn y dyfodol, a bydd buddsoddiad yn cynyddu, a byddwn i gyd yn well ein byd. Carwyn Jones AC: Wel, yn gyntaf oll, a gaf i ddymuno'n dda iddo yntau hefyd, a dweud wrtho fy mod i'n ei longyfarch ar ehangiad dros dro ei grŵp? Rwy'n gwybod na wnaeth bara'n hir iawn, ond dyna ni, yn ôl i'r pum enwog. O ran cronfa'r UE, mae busnesau yn dweud wrthym ni eu bod nhw'n poeni am Brexit. Maen nhw'n poeni am natur y berthynas fasnachu gydag Ewrop; dyna eu prif farchnad, a pham na ddylai fod? Mae mwy na 60 y cant o'n hallforion yn mynd yno, mwy na 90 y cant o'n hallforion bwyd a diod yn mynd yno. Ffantasi yw awgrymu y bydd marchnad neu farchnadoedd newydd yn ymddangos o rywle erbyn y flwyddyn nesaf i gymryd lle yr holl allforion hyn. Os na allwn ni gael ein perthynas gyda'n marchnad agosaf a mwyaf yn iawn, pa obaith sydd gennym ni o gynnal unrhyw fath o gytundeb gydag unrhyw farchnad neu wlad arall? Mae'n rhaid gwneud hynny'n gyntaf, ac nid ydym ni'n gwybod sut y bydd Brexit yn edrych. Mae'n braf iawn gweld bod Llywodraeth y DU yn symud tuag at ein tir ni, o'i gymharu â lle'r oedden nhw y llynedd. Y llynedd, nid oedden nhw'n mynd i dalu am unrhyw fath o gytundeb ariannol, nid oedd ganddyn nhw ddim diddordeb yn ninasyddion yr UE, nid oedd sôn am gyfnod pontio: maen nhw wedi gwneud hynny i gyd. Rydym ni'n croesawu'r ffaith eu bod nhw wedi symud tuag at y golau yn yr ystyr hwnnw, ond mae'n rhaid i mi ddweud wrth yr Aelod: mae'n bwysig bod yn realistig a pheidio â bod yn freuddwydiwr pan ddaw i Brexit. Yn y refferendwm, dywedwyd wrthym dro ar ôl tro gan aelodau ei blaid ei hun, 'Bydd cytundeb masnach; gallwn ni fod fel Norwy.' Nawr rydym ni'n clywed, 'Wel, peidiwch â phoeni am gytundeb masnach.' Wel, mae busnesau yn poeni am y diffyg cytundeb masnach. Neil Hamilton AC: Wel, a gaf i ymateb i ffraetheb y Prif Weinidog am ehangiad dros dro ein grŵp? Mae UKIP wedi gwneud llawer iawn ers dechrau'r flwyddyn i ddiddanu'r wlad a chodi calonnau pob un ohonom ni. Ond, rydym ni yma i ymladd dros yr hyn yr ydym yn credu ynddo a byddwn yn parhau y ymladd fel yr ydym ni wedi ei wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gyda grŵp o bump. Ond un o'r cyfleoedd y mae Brexit yn eu cynnig i ni os nad ydym yn rhan o'r farchnad sengl yw ein bod ni'n sicrhau rheolaeth ar reoleiddio wedyn. Bydd wedi gweld, yr wythnos diwethaf, bod y gyfarwyddeb marchnadoedd mewn offerynnau ariannol wedi dod i rym drwy'r UE gyfan. Mae hon yn 7,000 o dudalennau o hyd, mae'n cynnwys 1.4 miliwn o baragraffau, mae chwe gwaith maint y Beibl, a bydd yn ei gwneud yn ofynnol i bob cwmni ariannol sy'n delio mewn cyfranddaliadau, bondiau, deilliadau—pob offeryn ariannol yn wir—gaffael màs enfawr o ddogfennau, y bydd yn rhaid iddyn nhw eu cyhoeddi a'u cadw am bum mlynedd wedyn, gan orfodi costau aruthrol ar gwmnïau gwasanaethau ariannol. Os ydym ni y tu allan i'r farchnad sengl, gallwn gwtogi'r baich rheoleiddio hwnnw heb unrhyw berygl i'r cyhoedd o gwbl. Mae Dulyn wedi gwneud llwyddiant mawr o ehangu ei busnesau gwasanaethau ariannol trwy gael mantais dreth trwy leihau treth gorfforaeth. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi y gallai Caerdydd, fel canolfan ariannol sy'n datblygu, elwa'n fawr ar system rheoleiddio ariannol symlach gan wasanaethu budd y cyhoedd yn briodol? Mae deg y cant o'r bobl sy'n gweithio yng Nghaerdydd yn y gwasanaethau ariannol a phroffesiynol, maen nhw'n cyfrannu £1.2 biliwn y flwyddyn o werth ychwanegol gros ac, yn wir, mae'n £3 biliwn yng Nghymru yn ei chyfanrwydd. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog gytuno â mi y byddai'n beth da pe byddai'n ceisio cael rheoleiddio cymesur yn y sector gwasanaethau ariannol fel ffordd o roi hwb i'r diwydiant gwasanaethau ariannol yma yng Nghymru? Carwyn Jones AC: Yn gyntaf oll, nid wyf yn gwarafun gallu ei blaid i ddarparu adloniant i ni, fel y dywedodd yn briodol. Ond, gan droi at y pwyntiau a wna, yn gyntaf oll, nid yw'r mater wedi ei ddatganoli, fel y mae'n gwybod, ond, o ran ei egwyddor, nid wyf yn cytuno ag ef mai dadreoleiddio helaeth yw diben Brexit. Bydd yn rhaid i'n sector gwasanaethau ariannol weithredu yn y farchnad Ewropeaidd o hyd. Os nad yw'n dilyn rheolau'r farchnad Ewropeaidd, ni fydd yn gallu gweithredu yno, a bydd hynny'n arwain at oblygiadau enfawr i swyddi, nid yn unig yng Nghymru, ond hefyd yng ngweddill y DU, yn enwedig yn y Ddinas. Mae'r Ddinas wedi bod yn fan lle mae llawer iawn o weithrediadau Ewropeaidd wedi eu cynnal. Os bydd y rheoliadau yn y DU yn sylweddol wahanol, ni fydd pobl yn dod i'r DU, gan eu bod nhw eisiau gweithredu mewn marchnad fwy. Yn ail, mae'n rhaid i ni gofio bod argyfwng ariannol 2007 wedi cael ei achosi, i raddau helaeth o leiaf, gan ddadreoleiddio gwasanaethau ariannol, a'r ffaith y rhoddwyd cyfle i arianwyr anghyfrifol chwarae o gwmpas gydag arian pobl, benthyg i bobl nad oedd ganddynt unrhyw obaith o'u had-dalu, a chwalodd y system ariannol o ganlyniad i hynny. Felly, o'm safbwynt i, oes, mae'n rhaid i reoleiddio fod yn gymesur, ond mae'n rhaid iddo fod yno oherwydd, yn blwmp ac yn blaen, o ystyried yr hyn a welsom yn 2007-08, ceir rhai sy'n gweithio mewn canolfannau ariannol mawr yn y byd hwn na ellir ymddiried arian pobl eraill iddynt. Neil Hamilton AC: Mae'r Prif Weinidog yn gwybod nad oedd gan MiFID ddim i'w wneud â'r math o ymddygiad a achosodd yr argyfwng neu ei wneud yn waeth o lawer yn 2008, ac rwy'n atgoffa'r Prif Weinidog, wrth gwrs, bod gennym ni Lywodraeth Lafur, Canghellor y Trysorlys Llafur, a Phrif Weinidog Llafur a oedd ei hun eisiau system reoleiddio ysgafn bryf hynny. Wrth gwrs, dysgwyd gwersi mawr o hynny gan bob un ohonom ni. Ond, mae rheoliad fel MiFID II, sy'n gofyn am storio ac adalw llawer iawn o wybodaeth yn rhy fawr o lawer i unrhyw gorff rheoleiddio allu ei ddefnyddio'n effeithiol. Felly, mae'n gorfodi cost lethol ar gwmnïau ac, felly, ar y cyhoedd yn gyffredinol, sy'n cymryd cyfrifoldeb am bob treth fusnes yn y pen draw, heb unrhyw fudd ymarferol i unrhyw un o gwbl. Canlyniad hynny yw gyrru busnes gwasanaethau ariannol i ffwrdd o Ewrop yn gyfan gwbl i leoedd fel Efrog Newydd, Hong Kong, Singapore ac yn y blaen. Felly, i Brydain, ceir cyfle gwych ar ôl Brexit, os na allwn ddod i gytundeb gyda'r UE. A ni sicrhaodd neb unrhyw fath o gytundeb masnach gyda'r UE erioed; nid oedd neb yn gallu gwneud hynny. Nid yw yn ein rhodd i orfodi'r UE i ddod i gytundeb gyda ni, y cwbl a ddywedasom ni oedd ei fod o fudd iddyn nhw eu hunain, fel y mae i ninnau, i ddod i gytundeb, ond ni all neb eu gorfodi nhw i wneud hynny. Ond os nad oes cytundeb o'r fath ar gael, yna mae'r byd y tu allan yna yn llawer mwy nag Ewrop: mae 85 y cant o'r economi fyd-eang y tu allan i Ewrop. Oni ddylem ni fod yn gadarnhaol am y cyfleoedd hynny, yn hytrach na bod yn benderfynol o negyddol a dweud fod y dyfodol yn dibynnu ar yr hyn sy'n rhan o economi'r byd sy'n lleihau? Carwyn Jones AC: Wel, y peth yw, mae'n gwrth-ddweud ei hun nawr, oherwydd mae'n cwyno am gyfarwyddeb, ond yn y dyfodol, ni fydd gan y DU unrhyw ran o gwbl mewn dylanwadu ar y cyfarwyddebau hynny. Bydd yn rhaid i'r DU eu derbyn nhw neu beidio â chael mynediad at y farchnad Ewropeaidd. Mae llais y DU yn llawer llai nawr o'i gymharu â'r hyn yr oedd yn y gorffennol. Yn ail, mae'n ymddangos ei fod yn meddwl bod y byd allan yna yn agored i fasnachu gyda'r DU. Mae marchnadoedd eraill yr un mor gaeedig. Os edrychwch chi ar yr Unol Daleithiau, mae honno'n farchnad nad yw'n masnachu'n rhydd gyda gweddill y byd, ac nid yw Tsieina'n gwneud hynny ychwaith, nac India. Mae'n ymddangos bod y syniad hwn ymhlith rhai yn ei blaid, rywsut, bod y byd ddim ond yn disgwyl i ddod i gytundebau masnach rydd gyda'r DU. Nid dyna mae'r gwledydd eraill yn ei ddweud yn sicr, ac yn sicr nid dyna fu'r profiad yn y gorffennol. Chwe neu saith mlynedd yw'r amserlen gyfartalog ar gyfer cytuno cytundeb masnach rydd. Mae gennym ni yn yr Unol Daleithiau Arlywydd sy'n rhoi America yn gyntaf. A yw ef wir yn credu y bydd gennym ni gytundeb masnach rydd teg gyda'r Unol Daleithiau gydag arlywydd sy'n agored ei farn ar ddiogelu diwydiant America? A fydd gennym ni, er enghraifft, TTIP drws cefn o ganlyniad i'r Bil Masnach, sy'n ein gorfodi i breifateiddio rhannau helaeth o'r sector cyhoeddus—rhywbeth y byddwn yn ei wrthwynebu â'n holl nerth? Ond, yn y pen draw, fel yr wyf i wedi ei ddweud o'r blaen, rydym ni yn y farchnad sengl ar hyn o bryd. Hoffwn i ni aros yn y farchnad sengl neu gael mynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl. Mae gennym ni lawer iawn o gydgyfeirio â hi eisoes. Os na allwn ni ddod i gytundeb gyda marchnad lle mae gennym ni gymaint yn gyffredin i gychwyn, nid oes gennym ni unrhyw obaith o ddod i gytundeb â marchnadoedd eraill sy'n wahanol iawn, iawn, sydd â gwahanol reoliadau y byddai'n rhaid i ni geisio eu cysoni wedyn. Y farchnad Ewropeaidd yw ein marchnad fwyaf, mae ar garreg ein drws, mae gennym ni ffin dirol â hi, rydym ni'n allforio 60 y cant o'n hallforion iddi. Ni allwn ganiatáu i'n polisi ar y farchnad sengl Ewropeaidd gael ei ddallu gan lol cenedlaetholgar, gwirion. Datblygu Economaidd Dai Lloyd AC: 3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygu economaidd yng Ngorllewin De Cymru? OAQ51508 Carwyn Jones AC: Nid oedd hynny wedi'i anelu ato fe, Llywydd. Ond a gaf i ddweud bod eincynlluniau ar gyfer datblygu economaidd i’w gweld yn 'Ffyniant i Bawb' a’r cynllun gweithredu economaidd? Rŷm ni’n parhau i ddarparu amrywiaeth o gefnogaeth i fusnesau Cymru drwy, er enghraifft, Busnes Cymru a’r banc datblygu, a hefyd yn buddsoddi mewn seilwaith ac yn cymryd camau i wella amodau busnes. Dai Lloyd AC: Diolch yn fawr am yr ateb yna, Prif Weinidog. Nawr, yn naturiol, mae ffigurau GVA diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod economi Cymru yn parhau i fod yn waeth na gweddill y Deyrnas Unedig, gyda GVA y pen dim ond yn 72 y cant o'r cyfartaledd Prydeinig. Mae gennym ni hefyd anghydraddoldeb economaidd sylweddol yma yng Nghymru, gyda Chastell-nedd Port Talbot o fewn fy rhanbarth i, er enghraifft, bron i 10 y cant islaw cyfartaledd Cymru. Nawr, mae pobl yn teimlo bod yr ardal yn cael ei hesgeuluso, ac nid ydynt yn argyhoeddedig y bydd ymdrechion y fargen ddinesig a thasglu'r Cymoedd yn cyflawni'r newid economaidd angenrheidiol i'n cymunedau, yn enwedig yng nghymoedd y sir. A ydych chi'n cytuno, felly, bod angen i Lywodraeth Cymru a chyngor Castell-nedd wneud llawer mwy i sicrhau bod ardaloedd fel cymoedd Abertawe, Nedd ac Afan yn dal i fyny â gweddill Cymru a'r Deyrnas Unedig yn economaidd? Carwyn Jones AC: Wel, yn iawn, ond a gaf i ddweud, i ddechrau, wrth gwrs, fe wnaeth Llywodraeth Cymru lot fawr o waith ynghlŷn â sicrhau dyfodol gwaith dur Port Talbot? Fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddim, o beth y gallaf i ei weld. Fe siaradais i lawer gyda Tata yma yng Nghymru, a hefyd yn Mumbai, a gweithio gyda'r undebau er mwyn sicrhau dyfodol y gwaith dur. Rwy'n cofio, blwyddyn a hanner yn ôl, roedd y dyfodol hwnnw yn edrych yn sigledig dros ben. Ac, wrth gwrs, rŷm ni'n gwybod bod y gwaith dur yn talu'n dda yn yr ardal. Ac, wrth gwrs, trwy ddefnyddio tasglu'r Cymoedd, a hefyd gweithio gyda'r fargen ddinesig, mae'n hollbwysig bod y gwaith yn parhau. A gaf i ddweud ei fod e'n hollbwysig bod Castell Nedd Port Talbot yn ystyried eu bod nhw'n rhan o fae Abertawe ac yn gweithio gyda chyngorau eraill ym mae Abertawe er mwyn sicrhau dyfodol economaidd yr ardal yn gyfan gwbl? Suzy Davies AC: Ers i mi fod yn Aelod o'r Cynulliad, sef y rhan helaeth o saith mlynedd erbyn hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi dros £320 miliwn o arian trethdalwyr tuag at fusnesau yng Nghymru, sydd, wrth gwrs, yn cynnwys Gorllewin De Cymru. Erbyn mis Hydref, dim ond ar ddiwedd y flwyddyn diwethaf, clywsom fod llai na £7 miliwn o'r cyfanswm hwnnw wedi cael ei ad-dalu hyd yn hyn, a, hyd yn oed o safbwynt y Ceidwadwyr Cymreig, sy'n croesawu mentro gofalus, mae honno wir yn gyfradd ad-dalu eithaf gwael. A fydd—ac rwy'n dyfynnu hyn— y Contract Economaidd rhwng busnes a llywodraeth, y cyfeirir ato yn y cynllun economaidd newydd, yn cynnwys gofyniad bod pob benthyciad yn cael ei ad-dalu yn llawn ac yn brydlon, ac yn cynnwys y darpariaethau perthnasol ar gyfer gorfodi? Carwyn Jones AC: Wel, bydd, ond nid yw hi'n dweud nad yw benthyciadau yn cael eu talu yn brydlon; y cwbl mae'n ei ddweud yw bod canran gymharol fach wedi cael eu had-dalu, y byddwn yn ei ddisgwyl ar hyn o bryd beth bynnag, o ran y broses—oni bai ei bod hi'n dweud ein bod ni'n mynnu bod benthyciadau yn cael eu had-dalu mewn cyfnod o amser nad yw'n briodol o ran creu swyddi. Wrth gwrs, rydym ni wedi bod o'r safbwynt erioed, dros y blynyddoedd, o sicrhau bod arian yn cael ei adennill lle gellir gwneud hynny. Rydym ni wedi cymryd camau i wneud hynny pan ddaw i gyllid grant, er enghraifft, a byddwn yn parhau i wneud hynny. A gaf i ei hatgoffa bod y pecyn gwerth £60 miliwn a roddwyd ar y bwrdd gennym wedi sicrhau goroesiad Tata Port Talbot ar adeg pan na wnaeth Llywodraeth y DU unrhyw beth? Gofynnwyd i Lywodraeth y DU ymdrin â phrisiau ynni; ni wnaeth unrhyw beth o gwbl am hynny. Gofynnwyd i Lywodraeth y DU ymdrin â'r mater o bensiynau; ni wnaeth unrhyw beth am hynny ychwaith. Gweithiodd Tata a ninnau gyda'n gilydd i sicrhau dyfodol y diwydiant dur yng Nghymru wrth i Lywodraeth y DU sefyll o'r neilltu a gwneud dim. David Rees AC: Prif Weinidog, rwy'n cytuno'n llwyr â'r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd i gefnogi Tata, yn enwedig yn fy ardal i, a methiant Llywodraeth y DU—dydyn nhw wedi gwneud dim yn llythrennol. Ond y cwestiwn yw—. Hoffwn ymhelaethu ar bwynt Dai Lloyd, rwy'n credu: mae canlyniad Tata yn colli ei weithlu wedi golygu bod wedi swyddi medrus sy'n talu'n dda wedi diflannu. Fel y gwelwn, mewn diwydiannau a busnesau sy'n dod i mewn, maen nhw'n tueddu i fod fwy ar sail contractau isafswm cyflog a dim oriau. Beth ydych chi'n ei wneud fel Llywodraeth i annog swyddi i'r ardal sy'n cyfateb y sgiliau a'r lefelau cyflog yr ydym ni'n eu gweld yn cael eu colli? Carwyn Jones AC: Mae'n ymwneud â hyfforddiant mewn swydd. Yn gyntaf oll, polisi economaidd diwedd y 1980au a dechrau'r 1990au oedd denu buddsoddiad i Gymru yn seiliedig ar y ffaith fod gennym ni gyfraddau cyflog is nag unman arall yng ngorllewin Ewrop. Mae'r dyddiau hynny, diolch byth, wedi mynd. Rydym ni'n denu buddsoddiad sy'n talu'n dda erbyn hyn. Mae gennym ni fuddsoddwyr yn dod i Gymru na fydden nhw fyth wedi dod yma 20 mlynedd yn ôl. Ni fydden nhw wedi ystyried Cymru fel lle y gallen nhw gael y gweithlu medrus, sy'n cael ei dalu'n dda sydd ei angen arnynt. Dyna pam, wrth gwrs, mae gennym ni'r cynllun gweithredu economaidd. Dyna pam yr ydym ni wedi rhoi cymaint o bwyslais ar sgiliau trwy gynlluniau fel Twf Swyddi Cymru, i wneud yn siŵr bod gan ein pobl y sgiliau sydd eu hangen arnynt i ennill mwy pan fydd buddsoddwyr yn dod i Gymru a phan fyddant yn sefydlu eu busnesau eu hunain. Dyna'r ateb, yn fy marn i, i wneud yn siŵr ein bod ni'n gweld gwerth ychwanegol gros y pen yn gwella dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Canmlwyddiant y Bleidlais i Fenywod Jane Hutt AC: 4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gamau Llywodraeth Cymru i nodi canmlwyddiant y bleidlais i fenywod? OAQ51524 Carwyn Jones AC: Byddwn yn cymryd rhan lawn yn y dathliadau ledled y DU ar gyfer canfed pen-blwydd Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918. Bydd mwy o fanylion am sut y byddwn yn dathlu'r canmlwyddiant hwnnw trwy gydol y flwyddyn ar gael y mis hwn. Jane Hutt AC: Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Ym mis Tachwedd 2017, dangosodd data gan Fforwm Economaidd y Byd waethygiad y bwlch rhwng y rhywiau o flwyddyn i flwyddyn am y tro cyntaf ers 2006. A dweud y gwir, mae'r grŵp yn rhagweld y byddai'n cymryd canrif i gau'r holl feysydd cydraddoldeb y mae'n eu monitro yn fyd-eang, cynnydd sylweddol o'r 83 mlynedd a ragwelwyd yn 2016. Maen nhw'n rhagweld y bydd yn rhaid i fenywod aros 217 mlynedd cyn y byddan nhw'n ennill cymaint â dynion ac yn cael eu cynrychioli'n gyfartal yn y gweithle. Felly, a wnewch chi ymuno â mi i gefnogi nod Chwarae Teg o wneud Cymru yn arweinydd byd-eang o ran cydraddoldeb rhwng y rhywiau gyda'u meincnod cyflogwr chwarae teg, ac ymgorffori hwn yng nghynllun gweithredu economaidd Llywodraeth Cymru? Carwyn Jones AC: Gwnaf. Rydym ni'n gweithio gyda busnesau, undebau llafur ac eraill ar weithredu'r cynllun, y cynllun gweithredu economaidd, a bydd hwnnw'n cael ei lywio gan gyngor ac argymhellion y bwrdd gwaith teg. Gan ein bod ni wedi gofyn i'r bwrdd gwaith teg roi argymhellion i ni, ni fyddai'n briodol achub y blaen ar eu canfyddiadau trwy ymrwymo i feincnod Chwarae Teg ar hyn o bryd. Ond rwy'n croesawu'n fawr iawn menter Chwarae Teg o ddatblygu'r meincnod, a fydd yn helpu i gynorthwyo sefydliadau i sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn y gweithle. Janet Finch-Saunders AC: Gan mlynedd ar ôl i fenywod gael y bleidlais a bron i 50 mlynedd ar ôl Deddf Cyflog Cyfartal 1970, mae'n warthus bod gennym ni fwlch cyflog o tua 13 y cant rhwng y rhywiau yma yng Nghymru o hyd. Yn ddiddorol ddigon, mae'r bwlch cyflog uchaf yng Nghymru yn eich etholaeth chi ym Mhen-y-bont ar Ogwr, lle mae'n ganran rhyfeddol o 27 y cant. Prif Weinidog, pa gamau ydych chi'n eu cymryd neu ydych chi wedi eu cymryd, gan edrych ar eich etholaeth eich hun efallai, i fynd i'r afael â hyn, ond yn fwy eang ledled Cymru? Oherwydd chi yw'r Prif Weinidog, a chi sy'n gyfrifol yn y pen draw am sicrhau bod cydraddoldeb gwirioneddol ledled Cymru i ddynion ac i fenywod. Carwyn Jones AC: Yn gyntaf oll, cyflwynwyd dyletswydd cydraddoldeb sector cyhoeddus gennym ni yn 2011 i fynd i'r afael â gwahaniaethau cyflog a chyflogaeth, a gwahaniaethau cyflog rhwng y rhywiau bryd hynny yn benodol. Mae'r dyletswyddau hynny yn berthnasol yng Nghymru. Maen nhw'n eang, ac yn cynnwys yr angen i ddeall ac ymdrin ag achosion gwahaniaethau cyflog i bawb. Mae gwella lle menywod yn y gweithlu yn newid strwythurol tymor hir. Rydym ni'n gwybod bod mwy i'w wneud—dywedodd yr Aelod hynny, wrth gwrs—trwy raglenni fel ein prosiect Cenedl Hyblyg 2, sy'n cael ei redeg gan Chwarae Teg. Rydym ni'n gweld, gyda'r hyfforddiant a'r cymorth priodol, y gallwn ni helpu menywod i symud i mewn i swyddi rheoli ac uwch. Ac, wrth gwrs, fel y soniais yn gynharach, bydd y cynllun gweithredu economaidd yn cael ei lywio gan yr argymhellion sy'n deillio o'r bwrdd gwaith teg. Siân Gwenllian AC: Mae'n bwysig cofio beth yn union ddigwyddodd yn 1918, wrth gwrs, pan gafodd menywod bleidleisio am y tro cyntaf, ond nid oedd yna ddim cydraddoldeb efo dynion. Roedd dynion 21 oed yn cael pleidleisio, ond roedd yn rhaid i fenywod fod yn 30 oed ac yn berchen ar eiddo. Mi gymerodd hi 10 mlynedd arall cyn i ferched a dynion gael eu trin yn gydradd fel pleidleiswyr. Wrth gwrs, rydw i'n siŵr eich bod yn cytuno ein bod yn bell o fod mewn sefyllfa o gydraddoldeb rhwng menywod a dynion yng Nghymru. Rydym ni newydd glywed am y gender pay gap. A ydych chi'n cytuno bod adroddiad 'Senedd Sy'n Gweithio i Gymru', sy'n argymell integreiddio cwota rhywedd i'r system etholiadolar gyfer etholiadau nesaf y Cynulliad Cenedlaethol, yn rhywbeth i fynd ar ei ôl o? Ac a ydych chi'n cytuno, os bydd y Cynulliad yn mabwysiadu dull STV, y dylai hi fod yn ofynnol drwy gyfraith i bob plaid gyflwyno hanner ei hymgeiswyr yn fenywod a'r hanner arall yn ddynion? Carwyn Jones AC: Nid ydw i yn erbyn hynny mewn egwyddor o gwbl. Mae yna lot o bethau i'w trafod ynglŷn ag STV, er enghraifft, a'r ffordd o ethol Aelodau i'r lle hyn. Mae record—wel, edrychwch ar feinciau Llafur Cymru yma. Ond mae beth mae wedi ei ddweud, a ddylem ni ystyried neu ddadlau a ddylai fod yna gyfartaledd rhwng menywod a dynion yn y lle hwn, rwy'n credu bod hynny yn rhywbeth y dylem ni ei drafod er mwyn sicrhau bod y record da sydd wedi bod gyda ni dros y blynyddau yn parhau yn y pen draw. Penderfyniad China i Wahardd Mewnforion Plastig Julie Morgan AC: 5. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith penderfyniad China i wahardd mewnforion plastig ar Gymru? OAQ51528 Carwyn Jones AC: Cyfeiriaf yn ôl at yr atebion a roddais i'r cwestiwn blaenorol, ond gallaf ddweud mai ein hasesiad ni yw bod gan Gymru gryn dipyn o gydnerthedd yn erbyn y gwaharddiad oherwydd ein polisïau ar gyfer ailgylchu ansawdd uchel. Hefyd, rydym ni'n gweithio i gael ansawdd uwch fyth ac i gynyddu'r nifer sy'n ailgylchu plastig yng Nghymru, gan ddiogelu busnesau a chreu swyddi. Julie Morgan AC: Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Rwy'n siŵr y byddai'r Prif Weinidog yn cytuno bod atal y defnydd o blastig yn y lle cyntaf yn allweddol i leihau unrhyw allforion yr oedd eu hangen. A yw e'n credu mai un o'r ffyrdd o bosibl o wneud hyn yw cynnig cymhellion i awdurdodau lleol ddod â ffynhonnau dŵr yfed yn ôl i ddefnydd? Oherwydd, os oes gennych chi ffynhonnau dŵr yfed ar gael yn eang, mae hynny'n cael gwared ar yr angen am y poteli plastig o ddŵr y mae llawer o bobl yn eu cario o gwmpas. Felly, a yw'n credu y byddai cyflwyno ffynhonnau yn eang yn ffordd dda o symud ymlaen? Carwyn Jones AC: Mae'n syniad diddorol, mae'n rhaid i mi ddweud. Bu amser maith ers pan oedd ffynnon yfed yn gweithio yn fy nhref enedigol i. A dweud y gwir, nid wyf yn ei chofio yn gweithio, ond mae'n dal i fod yno yn fy nhref enedigol, Pen-y-bont ar Ogwr. Rwy'n credu y byddai llawer o bobl yn defnyddio ffynhonnau pe bydden nhw yno. Nid yw'n amser maith mor faith â hynny yn ôl y byddai'r syniad o brynu dŵr mewn potel blastig wedi ymddangos yn rhyfedd iawn i lawer ohonom ni, pan oedd yn dod allan o'r tap. Nid tan i mi fyw yn Llundain ddiwedd y 1980au y sylweddolais pam roedd pobl yn Llundain yn yfed dŵr potel, o ystyried ansawdd y dŵr a oedd yno, yn sicr ar y pryd. Ond rwy'n credu bod hwnnw'n syniad sy'n werth ei ystyried. Pa un a oes unrhyw faterion cyfreithiol sy'n codi o ganlyniad, wn i ddim. Ni allaf weld, yn synhwyrol, pam y dylai fod, ond mae'n rhywbeth y byddaf yn ymgymryd ag ef ac yn ysgrifennu at yr aelod ymhellach yn ei gylch. Mark Reckless AC: A yw'r Prif Weinidog yn ffyddiog bod y meintiau enfawr o blastig yr ydym ni wedi bod yn eu hallforio i Tsieina wedi cael eu hailgylchu'n briodol, yn hytrach nag, er enghraifft, cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi? Carwyn Jones AC: Wel, rydym ni'n gwybod na allwn ni barhau—. Hynny yw, o ran yr hyn sy'n digwydd yn Tsieina, mater i'r Tsieineaid yw hynny yn y pen draw, ond maen nhw wedi ei gwneud yn eglur iawn na fyddan nhw'n derbyn mwy o blastig. Rwy'n credu, yn y tymor canolig i'r tymor hir, y gallai gwaharddiad y Tsieineaid helpu i wella ansawdd y deunyddiau ailgylchadwy. Bydd yn annog buddsoddiad mewn seilwaith ailgylchu yma yng Nghymru a gallai gael effaith gadarnhaol ar ddatblygiad economi gylchol. Mae'r her yno nawr i fusnesau weld y cyfle sy'n cyflwyno ei hun nawr, oherwydd nid yw'n wir mwyach bod dewis amgen rhad sy'n ei gwneud yn anodd i'r model busnes weithio. Ceir cyfle nawr i ailgylchu mwy yng Nghymru a chreu mwy o swyddi yng Nghymru. Simon Thomas AC: Dylai fod yn brofiad cenedlaethol, does bosib, nad ydym ni yn allforio ein gwastraff ac, yn benodol, nad ydym ni'n allforio gwastraff plastig. Ie, gostwng faint o blastig yr ydym yn ei ddefnyddio, fel yr oedd Julie Morgan yn awgrymu, ond, pan fo plastig yn cael ei ddefnyddio, gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei ailddefnyddio cyn iddo hyd yn oed gael ei ailgylchu.Nawr, mae ailddefnyddio yn dibynnu ar system debyg i ryw fath o flaendal ar boteli, so rhyw fath o gynllun dychwelyd blaendal.Mae yna gytundeb rhwng ei blaid yntau a'm plaid innau ynglŷn ag edrych i mewn i hynny yn sgil y gyllideb. Pa fath o rôl y mae e'n ei gweld ar gyfer cytundeb o'r fath ac ar gyfer cynllyn o'r fath i wneud yn siŵr ein bod ni'n ailddefnyddio mwy o blastig? Carwyn Jones AC: Dyna un peth, wrth gwrs, y bydd adroddiad y mis nesaf yn ei ystyried: ym mha ffordd y gallwn ni sicrhau bod mwy o blastig yn cael ei ailgylchu a'i ailddefnyddio, a hefyd, wrth gwrs, ym mha ffordd y gallwn ni sicrhau ein bod ni'n gallu hybu pobl i sicrhau eu bod nhw'n defnyddio llai o blastig.Y broblem sydd wastad wedi bod gyda ni, wrth gwrs, yw bod y rhan fwyaf o'r gwastraff—nid dim ond plastig, ond y rhan fwyaf o'r gwastraff—sy'n codi yng Nghymru yn dod o'r tu fas i Gymru. Nid ydym ni'n gallu dodi rheolau i mewn ynglŷn â fel y mae pethau yn cael eu lapio, ac rŷm ni wastad wedi gorfod delio â beth sy'n dod i mewn i Gymru. Ond nid yw hynny'n meddwl allwn ni ddimystyried cynlluniauer mwyn lleihau'r plastig sydd ddim yn cael ei ailddefnyddio. Dyna beth fydd y rhaglen yn edrych arno, a dyna beth fydd yr adroddiad—rhan o'r adroddiad—yn edrych arno pan fydd yn cael ei gyhoeddi mis nesaf. Blaenoriaethau ar gyfer Aberafan yn 2018 David Rees AC: 6. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer Aberafan yn 2018? OAQ51509 Carwyn Jones AC: Gwnaf. Nodir ein blaenoriaethau economaidd ar gyfer pob rhan o Gymru, gan gynnwys Aberafan, yn y cynllun gweithredu economaidd, 'Ffyniant i Bawb'. David Rees AC: Diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae gan Lywodraeth Cymru yn amlwg y cysyniad o ardaloedd menter fel un o'i ffactorau pwysig o ran twf economaidd lleol, ond mae'r unig ardal fenter yng Ngorllewin De Cymru ym Mhort Talbot mewn gwirionedd. Cafodd ei chreu o ganlyniad i'r ansicrwydd yn y maes cynhyrchu dur, ac rwy'n gwerthfawrogi buddsoddiad Llywodraeth Cymru gyda Tata, ond ceir ansicrwydd ynghylch dyfodol y gwaith dur o hyd oherwydd y fenter ar y cyd, ac nid ydym yn gwybod manylion y fenter ar y cyd honno eto. Felly, mae angen cadw'r ardal fenter honno'n weithredol ac yn ddeniadol i bobl. Nawr, mae'n ymddangos mai ychydig iawn o symudiad sydd yn yr ardal fenter ar hyn o bryd o ran mewnfuddsoddi a gweld swyddi yn dod i mewn, ond efallai fod hynny oherwydd y ffaith fod carchar yn dod i'r ardal fenter. Mae'n bendant bod ansicrwydd yno oherwydd hynny. Nawr, yr hyn yr ydym ni eisiau yw i Lywodraeth Cymru gael gwared ar yr ansicrwydd hwnnw. Mae'n hawdd, oherwydd y cwbl y mae'n rhaid i chi ei wneud yw dweud nad ydych chi'n mynd i werthu'r tir i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a bydd yr ansicrwydd hwnnw'n diflannu, a gall busnesau fod yn edrych ymlaen at yr ardal fenter honno fel dewis. Mae'n bwysig bod y defnydd diwydiannol a masnachol o'r tir hwnnw ar gyfer datblygu'r economi leol a thwf, ac nid ar gyfer carchar. Carwyn Jones AC: Wel, gallaf ddweud wrth yr Aelod fy mod i wedi derbyn ymateb gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder i lythyr a anfonais. Nid yw'r ymateb yn foddhaol, yn fy marn i, ac felly mae ein safbwynt yn parhau yr un fath. Nid ydym ni mewn sefyllfa i werthu'r tir hwnnw, gan nad yw'r ymateb yn foddhaol.Gallaf ddweud, er mwyn ei gynorthwyo, o ran Port Talbot, y dyfarnwyd cymorth ariannol gwerth cyfanswm o £676,000 i tua 37 o geisiadau gan Lannau Port Talbot i'w helpu i fantoli cost ardrethi busnes. Rydym ni wedi sicrhau lwfansau cyfalaf uwch ar gyfer tri safle penodol yn ardal fenter y glannau er mwyn hybu cyfleoedd buddsoddi a chyflogi ar gyfer yr ardal, a bydd y lwfansau cyfalaf uwch hynny ar gael mewn ardaloedd penodedig ym Mharc Ynni Baglan, ystâd ddiwydiannol Baglan a dociau Port Talbot. Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd Bethan Sayed AC: 7. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu polisïau Llywodraeth Cymru i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru? OAQ51527 Carwyn Jones AC: Gwnaf. Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol a chadarnhaol. Mae gwaith i'w wneud o hyd. Dangosir ein hymrwymiad i frwydro digartrefedd gan y flaenoriaeth a roddir iddo yn 'Ffyniant i Bawb' ac rydym ni wedi gweld buddsoddiad ariannol ychwanegol sylweddol o ran ymdrin â chysgu ar y stryd, gyda thai, gyda digartrefedd ieuenctid ac iechyd meddwl. Bethan Sayed AC: Diolch. Rydym ni wedi sylwi, fel Aelodau Cynulliad, eich bod chi wedi gwneud cyhoeddiad cyn y Nadolig o £10 miliwn ychwanegol i ddigartrefedd ieuenctid, gyda'r bwriad o ddileu hynny mewn 10 mlynedd gyda £10 miliwn. Roeddwn i'n meddwl tybed a allech chi roi ychydig mwy o fanylion am hynny, oherwydd fe ofynnais i Llamau, y mae'n ymddangos yw'r unig sefydliad sy'n gysylltiedig â'r cyhoeddiad hwnnw, beth oedd y manylion, ac ni allen nhw roi mwy o fanylion i mi. Fe wnes i ymdrech hefyd i gysylltu â sefydliadau eraill yn y sector digartrefedd ac nid oedd ganddyn nhw unrhyw syniad beth oedd eich bwriad ychwaith. Felly, a wnewch chi amlinellu beth ydyn nhw, yn enwedig yng nghyd-destun y ffaith fod rhaglen 10 mlynedd ar waith eisoes, y gweithiwyd arni gyda Phlaid Cymru yn rhan o Lywodraeth Cymru'n Un? Wrth gwrs, nid ydym ni'n mynd i droi ein cefnau ar y cyhoeddiad o £10 miliwn, ond rydym ni eisiau gwybod pwy fydd yn gallu gwneud cais am y contractau hynny, os yw'n mynd i fynd i gontract cyhoeddus cyffredinol, a sut y gallwn ni graffu ar yr arian hwnnw—oherwydd mae 10 mlynedd yn bell i ffwrdd, wrth gwrs, a byddem yn gobeithio y byddem ni mewn gwirionedd wedi gallu dileu digartrefedd ymhlith pobl ifanc erbyn hyn. Carwyn Jones AC: Yn gyntaf oll, mae 10 mlynedd yn ymddangos yn amser hir, ond dyna mae'r sector yn ei ddweud wrthym sy'n realistig o ran rhoi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc. Cyn belled ag y mae'r arian yn y cwestiwn, bydd ar gael i unrhyw sefydliad sy'n gallu bodloni'r meini prawf cywir er mwyn helpu i sicrhau bod digartrefedd yn cael ei ddileu. Ond fe es i Llamau cyn y Nadolig, siaradais â phobl ifanc a oedd wedi cael eu helpu gan Llamau yn benodol. Un sefydliad ymhlith llawer yw Llamau, wrth gwrs, ac roedd yn galonogol gweld y gwaith y maen nhw wedi bod yn ei wneud a'r gwaith y maen nhw yn ei wneud. Ond rydym ni eisiau gweithio gyda'r rhai sydd yn y sector nawr i wneud yn siŵr bod yr arian hwnnw yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd orau gyda'r bwriad a rennir o roi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru. Adeiladu Tai Awdurdodau Lleol David Melding AC: 8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am adeiladu tai awdurdodau lleol yng Nghymru? OAQ51530 Carwyn Jones AC: Gwnaf. Mae adeiladu tai yng Nghymru yn flaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth. Mae awdurdodau lleol yn disgwyl adeiladu 1,000 o gartrefi cyngor newydd tuag at ein targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy. Rydym ni hefyd yn gwarchod y stoc tai cymdeithasol presennol trwy roi terfyn ar yr hawl i brynu. David Melding AC: Prif Weinidog, rwyf i wedi dweud o'r ochr hon i'r tŷ y byddem ni'n cefnogi'r symudiad i awdurdodau lleol yn adeiladu tai cymdeithasol unwaith yn rhagor pe ystyrid bod honno'n ffordd strategol o wella'r lefel o adeiladu tai. Dim ond 16 o gartrefi gafodd eu cwblhau yn y sector awdurdod lleol y llynedd, 13 o'r rheini mewn un awdurdod, sir y Fflint. Felly, os ydyn nhw'n mynd i ddod yn adeiladwyr mawr, bydd angen iddyn nhw wella eu galluoedd a'u sgiliau yn y maes hwn, ac mae angen ystyried hynny nawr, gan ein bod ni'n wynebu argyfwng dros 15 neu 20 mlynedd os na fyddwn ni'n dechrau adeiladu llawer iawn mwy o gartrefi. Carwyn Jones AC: Wrth gwrs, mae tai cyngor yn rhywbeth yr ydym ni eisiau eu hannog, ac rydym ni wedi gwneud hynny yn ariannol. Nid yw'n golygu y gallan nhw ddatrys yr holl broblemau i gyd ar eu pen eu hunain, ond mae'n hynod bwysig eu bod nhw'n gallu darparu yn eu hardal leol. Roeddwn i gyda'r Aelod dros Ddwyrain Abertawe, Mike Hedges, yn ddiweddar, a gwelais drosof fy hun y gwaith da y mae cyngor Abertawe yn ei wneud yn ardal Mynydd Newydd yn ei etholaeth. Mae Cyngor Caerdydd yn datblygu 543 o gartrefi newydd fforddiadwy yn rhan o'i raglen partneriaeth tai. Gwn fod Ynys Môn yn bwriadu adeiladu 198 o gartrefi cyngor newydd yn ystod y pum mlynedd nesaf. Mae sir y Fflint yn gwneud cynnydd gyda'r broses o ddatblygu 200 o gartrefi cyngor newydd, ac mae sir Gaerfyrddin—hoffwn i wneud yn siŵr fod pawb yn gwybod nad wyf i'n dewis cynghorau penodol sydd o dan reolaeth pleidiau penodol—drwy ei gynllun cyflenwi tai fforddiadwy yn bwriadu darparu dros 60 o dai cyngor newydd yn ystod y ddwy flynedd nesaf, yn ogystal, wrth gwrs, â'r gwaith hwnnw sy'n cael ei gyflawni yn Abertawe. Diolch i'r Prif Weinidog. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rwy'n galw ar Julie James i wneud y datganiad. Julie James AC: Diolch, Llywydd. Mae yna dri newid i waith yr wythnos hon. Bydd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol yn gwneud datganiad yn fuan ynglŷn â'r ymgynghoriad ar y ddeddfwriaeth i ddileu'r amddiffyniad o gosb resymol, yn syth ar ôl y datganiad busnes hwn. Dilynir hyn gan ddatganiad gan y Cwnsler Cyffredinol ar god erlyn Llywodraeth Cymru, ac yn olaf, bydd llai o amser yn cael ei neilltuo yfory ar gyfer Cwestiynau Llafar y Cynulliad i'r Cwnsler Cyffredinol. Mae gwaith y tair wythnos nesaf i'w weld ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes sydd ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i Aelodau ar ffurf electronig. Andrew RT Davies AC: Arweinydd y Tŷ, a oes modd cael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth ynglŷn â'r ffordd fynediad ogleddol ym Mro Morgannwg, sy'n dod o Barc Menter Sain Tathan? Heddiw, cafodd Aelodau sy'n cynrychioli'r ardal benodol honno e-bost oddi wrth drigolion y parc preswyl ar Millands road—parc carafanau Millands—sydd wedi amlygu sut y bydd tagfeydd ar y ffordd honno yn ystod datblygiad y ffordd fynediad ogleddol. Mae hyn yn mynd i'w gwneud hi'n anodd i 40 o breswylwyr gael mynediad at y safle. Nid yw'n ymddangos bod—a dyna pam rwy'n gofyn am y datganiad—nid yw'n ymddangos y bu llawer o drafod neu ymgynghori â thrigolion ynghylch pa ddewisiadau amgen allai fod ar gael, ac fel y pwysleisiwyd i mi, mae preswylwyr y safle yn dibynnu ar bob math o gerbydau yn cael mynediad, gan gynnwys casglu sbwriel ac ar gyfer gwaith cyffredinol bywyd bob dydd er enghraifft fel y post ac ati yn cyrraedd y safle. Byddwn yn croesawu datganiad fel y gallwn ni gael eglurder ac er mwyn i ni roi sicrwydd i'r trigolion yno, bod dewisiadau wedi cael eu hystyried ac y caiff datrysiadau eu rhoi ar waith. Julie James AC: Diolch ichi am y cwestiwn yna. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn dangos i mi y bydd yn sicrhau y bydd swyddogion yn trafod yn briodol gyda'r Aelod a chyda'r trigolion i sicrhau bod y sefyllfa yn cael ei datrys yn foddhaol. Bethan Sayed AC: Tybed a allwn ni gael datganiad gan Ysgrifennydd yr amgylchedd ynglŷn â dosbarthu gorlifdiroedd yng Nghymru. Bydd pobl yn ymwybodol, yr wythnos diwethaf, a thros gyfnod y Nadolig, mewn gwirionedd, bu llawer mwy o broblemau draenio yn ardal Baglan Moors, sef yr ardal sy'n cael ei chynnig ar gyfer adeiladu'r carchar. Mae llu o weithwyr Drainforce wedi bod yno. Mae trigolion wedi anfon lluniau o'r problemau hynny ataf, ac roeddem ni'n meddwl tybed a allem ni gael datganiad gan Ysgrifennydd yr amgylchedd fel y gallwn ni ddeall rhai o'r problemau hynny o safbwynt asiantaeth yr amgylchedd yma yng Nghymru, ac fel y gall trigolion sôn wrthyn nhw am y pryderon. Fy ail gwestiwn yw: cefais addewid y byddwn i'n cael ymateb ynghylch sefyllfa cylch chwarae Gweithredu dros Blant yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot. Fe wnes i gael rhywbeth, ond fe gafodd ei alw yn ôl gan y Gweinidog plant. Rwy'n gofyn eto heddiw oherwydd dywedodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot wrth y rhai hynny sydd wedi eu heffeithio, bod Aled Evans, y swyddog rheoli, wedi ymgynghori â nhw, ond mae nifer o'r rhieni wedi dweud wrthyf na ymgynghorwyd â nhw ynghylch y newidiadau. Felly, hoffwn i'r Llywodraeth ymateb ar fyrder fel y gallaf roi ateb i'r rhieni hynny sy'n eithaf pryderus ar hyn o bryd, fel yr oeddent cyn y Nadolig, i geisio dod i ddealltwriaeth ynglŷn â beth fydd yn digwydd yn y dyfodol. Diolch. Julie James AC: O ran yr ail gwestiwn, mae'r Gweinidog yn awgrymu i mi y dylen nhw gael yr ateb heddiw. Felly, gobeithio, caiff hynny ei ddatrys cyn bo hir. O ran y datganiad am y llifogydd, rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog sy'n gyfrifol yn cyflwyno datganiad ynghylch y trefniadau cyffredinol ar gyfer llifogydd ac yn eu hadolygu ar ôl cyfnod y gaeaf, sy'n arferol pan fyddwn yn ystyried y mater hwn. Os oes gan yr Aelod broblemau penodol am ardal benodol, rwy'n awgrymu y dylai hi ysgrifennu at y Gweinidog a chael ymateb penodol iawn. Julie Morgan AC: Ddeuddeg mis yn ôl, cefais ddadl fer ar yr achosion honedig o gam-drin bechgyn ifanc yn rhywiol yn ysgol Llandrindod ar gyfer pobl fyddar. Digwyddodd hyn yn yr 1950au a dygodd un o'm hetholwyr, Cedric Moon, yr achos i'm sylw. Rydym ni bellach wedi cyrraedd y cam lle mae un o'r dioddefwyr wedi derbyn cymorth cyfreithiol ac mae llythyr wedi ei anfon at Rondda Cynon Taf—yr awdurdod olynol—yn ceisio iawndal am y cam-drin rhywiol a ddioddefwyd. Anfonwyd hynny yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf. A gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch sut y mae'r math hwn o anghyfiawnder yn cael ei unioni ac a oes yna unrhyw ffordd o leihau'r costau cyfreithiol a'r straen ar bobl sydd yn hŷn erbyn hyn, sy'n agored i niwed, ac sy'n dymuno gwneud honiadau sy'n dyddio'n ôl ddegawdau—neu efallai ar gyfer y rhai nad ydyn nhw eisiau gwneud hawliad, ond efallai eu bod nhw'n dymuno cael cydnabyddiaeth neu ymddiheuriad? Julie James AC: Mae'r Aelod yn codi pwynt hynod o bwysig, ac rwy'n gwybod y cafodd y materion sy'n codi yn y llyfr ac ati, eu trafod yn drylwyr yn ei dadl fer. Rwy'n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet ar y pryd, y diweddar Carl Sargeant, wedi edrych ar bopeth a wnaethom ni ar yr adeg honno, i ddysgu o'r cam-drin yn y gorffennol ac i weithredu i sicrhau ein bod yn atal camgymeriadau tebyg rhag digwydd eto. Credaf mai digon yw dweud ein bod ni'n parhau i fod yn wyliadwrus a bod gwrando ar blant yn cael ei roi wrth wraidd ein polisïau, ein harferion a'n canllawiau. Rydym ni'n benderfynol y dylai plant gael llais. Hyd yn oed os ydyn nhw'n oedolion erbyn hyn, dylen nhw gael y llais y dylen nhw fod wedi ei gael pan oedden nhw'n blant ar y pryd. Rydym ni'n dal i fod eisiau pwysleisio mai diben y ddyletswydd i roi gwybod am blant sydd mewn perygl a'r ddyletswydd i roi gwybod am oedolion sydd mewn perygl yw sicrhau bod unrhyw bryderon am blant neu oedolion yn cael eu lleisio a'u hymchwilio'n gywir. Rwy'n deall bod un o'i hetholwyr wedi cael cymorth cyfreithiol i weithredu ar y mater, ac rwy'n falch iawn o glywed hynny. Mae hynny er mwyn dwyn achos yn erbyn yr awdurdod olynol. Felly, mae yna drefniadau cyfreithiol ar waith i sicrhau bod yr awdurdod yn parhau i fod yn gyfrifol yn gyfreithiol am y pethau sydd wedi digwydd yn y gorffennol. Yn fy marn i, mae hi'n codi pwynt pwysig: nid mater i ni yw gwneud sylwadau ar achosion unigol, ond mae'n rhywbeth y gallwn ni edrych arno wrth i ni edrych ar faterion cyffredinol ledled Cymru o ran sicrhau cyfiawnder, sydd wedi eu tanseilio'n sylweddol gan doriadau'r Torïaid i gymorth cyfreithiol, a'r materion hynny o ran sicrhau cyfiawnder yr ydym ni i gyd yn ymwybodol ohonynt. Rwy'n credu y byddai'n ddiddorol iawn cael trafodaeth gyda'r Aelod y tu allan i'r Siambr ynglŷn â rhai o'r materion a godwyd yn benodol, a gweld a oes yna unrhyw beth penodol y dylem ni ei wneud i sicrhau bod pobl yn cael y cyngor gorau posib ynglŷn â materion o'r fath yn y dyfodol. Mark Isherwood. Mark Isherwood AC: Diolch, Llywydd, a blwyddyn newydd dda. A gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda? Yn gyntaf, ar ddechrau gwyliau'r Nadolig, cafodd yr Aelodau ddatganiad ysgrifenedig ynglŷn â'r weledigaeth ar gyfer trafnidiaeth yn y gogledd, a galwaf am ddatganiad llafar fel y gallwn ni ofyn mwy o gwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet, er mwyn rhoi sylw i rai o'r materion hynny nad yw datganiad ysgrifenedig yn unig, yn amlwg, yn gallu mynd i'r afael â nhw. Mae'n cyfeirio, yn enwedig, at y gogledd-ddwyrain, ac yn dweud y cawn ni fwy o gyhoeddiadau ynghylch y gogledd-orllewin yn y flwyddyn newydd. Mae'n cyfeirio at faterion trawsffiniol, y cysylltiadau â Phwerdy Gogledd Lloegr ac ati. Cyflwynwyd y cais bargen twf ar gyfer gogledd Cymru ychydig ddyddiau'n ddiweddarach, ac rydym ni'n gwybod y bydd trafodaethau â'r ddwy Lywodraeth yn dechrau yn gynnar eleni, ac yn canolbwyntio, i raddau helaeth, ar y problemau trafnidiaeth yn y gogledd. Felly, byddai'n ddefnyddiol, yn y cyd-destun hwnnw a chyd-destun y fasnachfraint reilffyrdd wrth iddi ddatblygu, ac effaith hynny ar Wrecsam-Bidston ac ar gysylltiadau eraill y cyfeirir atyn nhw yn y datganiad, pe gallem ni gael cyfle i holi'r Gweinidog ynglŷn â datganiad llafar yn unol â hynny. Mae fy ail ddatganiad a'r olaf, yn ymwneud â'r Sgowtiaid yn sir y Fflint. Nawr, efallai y gwelsoch chi'r sylw mawr a gafodd cefnogaeth Bear Gryll, y prif Sgowt yn y DU, i'r ddeiseb yn sir y Fflint, a oedd wedi casglu 7,700 o lofnodion erbyn hynny, yn gwrthwynebu cynnig unigryw Cyngor Sir y Fflint hyd yma ymysg cynghorau, i ddiddymu'r rhyddhad ardrethi y dewisiwyd ei roi i'r sgowtiaid, os oes ganddyn nhw bencadlysoedd eu hunain. Bydd hyn yn effeithio ar hyd at 16 o grwpiau Sgowtio yn sir y Fflint, ond dim ond yn codi uchafswm o tua £6,000 y flwyddyn ar gyfer y Cyngor, a hynny ar gost fawr gan gofio'r manteision cymdeithasol y mae grwpiau Sgowtiaid yn eu cynnig i'r cymunedau y maen nhw'n gweithio ynddynt. Nawr, efallai y byddwch chi'n datgan bod hwn yn fater ar gyfer cyllideb y Cyngor, ond mae'r cynsail y gallai hyn ei osod ledled Cymru yn peri pryder mwy eang. Felly rwy'n gofyn am ddatganiad ynglŷn â'r mater hwnnw hefyd. Diolch. Julie James AC: O ran y cais cyntaf am ddatganiad llafar i ddilyn y datganiad ysgrifenedig, caiff yr Aelod, wrth gwrs, ddigon o gyfle i holi Ysgrifennydd y Cabinet yn ystod cwestiynau Llafar y Cynulliad, a fydd yn digwydd yn ddiweddarach y mis hwn. Ond deallaf y bydd hefyd yn gwneud datganiad llafar yn gyffredinol ynglŷn â thrafnidiaeth yn ddiweddarach y mis hwn, a bydd yn rhoi cyfle i'r Aelod ei holi'n fanwl ynglŷn â'r materion a gynhwysir ynddo. O ran y penderfyniad ynglŷn â'r Sgowtiaid yn sir y Fflint, mae'r Aelod yn hollol gywir—mae'n fater i'r awdurdod lleol. Ac er fy mod i'n deall pryderon rhesymol yr Aelod ynghylch rhai o'r penderfyniadau hyn, mae'n benderfyniad dewisol, a holl bwrpas cael dewis yw y gall gwleidyddion lleol sy'n ymdrin â'r mater ddefnyddio'r dewis hwnnw. Dywedaf ei bod hi'n adlewyrchiad trist iawn o'r cynni parhaus y mae'r Llywodraeth yn ei osod ar bob un ohonom ni, bod y sefydliadau lleol annwyl iawn hyn yn brwydro am arian yn y modd hwn. Simon Thomas AC: Os caf i ddweud, buom ar wyliau am dair wythnos, felly rwy'n credu bod gen i un cwestiwn am bob wythnos i ofyn i'r rheolwr busnes, os caf i wneud hynny. Yn gyntaf, a gaf i ofyn am ddadl yn amser y Llywodraeth ynglŷn â'r hyn yr ydym ni newydd ei drafod yn ystod y cwestiynau, sy'n ymwneud â chyflwr y GIG ar hyn o bryd yng Nghymru, gan gydnabod bod llawer o bwysau ar y gwasanaeth yn ystod y gaeaf? Ond fy mhryder penodol i yw archwilio rhai o'r problemau sy'n ymwneud â recriwtio a chadw meddygon teulu, oherwydd mae problemau difrifol erbyn hyn mewn nifer o feddygfeydd teulu ledled y rhanbarth yr wyf i'n ei chynrychioli—yr enghraifft ddiweddaraf yw Abersoch yn colli meddyg teulu, a'r cleifion yno yn cael eu hailgyfeirio i Fotwnnog. Ar y map, nid yw'n edrych yn bell iawn, ond gall mewn gwirionedd gymryd awr a 50 munud ar y bws, yn rhyfeddol, dim ond i deithio'r ychydig filltiroedd hynny. Mae hon yn broblem wirioneddol. Rwy'n cytuno â rhai o'r sylwadau a wnaed yn gynharach, bod diffyg argaeledd gwasanaethau sylfaenol meddygon teulu hollol ddibynadwy a safonedig ledled Cymru yn annog mwy o bobl i fynd i'r adran damweiniau ac achosion brys ac yn rhoi mwy o bwysau ar honno. Felly, rwy'n credu y byddai dadl yn hytrach na datganiad yn dda yn amser y Llywodraeth, fel y gallwn ni archwilio rhai o'r materion hyn, a herio'r Llywodraeth, fel y mae angen inni ei wneud, ynglŷn â hyfforddiant, ac, fel yr ydym ni wedi gweld yn y ffigurau a ryddhawyd yn ystod y diwrnodau diwethaf, ar y diffyg myfyrwyr meddygol sy'n hanu o Gymru sy'n astudio yn ein cyfleusterau hyfforddi ein hunain yma yng Nghymru. Ac, wrth gwrs, bydd Plaid Cymru yn dadlau dros yr achos am drydydd cyfleuster hyfforddi yn y gogledd ar yr un pryd. Mae'r ail beth yr hoffwn i ofyn amdano oddi wrth y rheolwr busnes yn ymwneud â chyfrifoldebau ei Llywodraeth ei hun hefyd, sef wrth gwrs, band eang. Fel y bydd hi'n gwybod, daeth ei rhaglen bresennol—wel, nid yw hi bellach yw'r rhaglen bresennol—i ben ar ddiwedd y flwyddyn, ac fe wnes i fet gyda fy hun ynghylch pa mor hir fyddai hi cyn y byddwn i'n cael y llythyr cyntaf sy'n dweud, 'Addawyd inni erbyn diwedd 2017, ac nid yw hynny wedi digwydd', a daeth y llythyr hwn yn ystod y penwythnos. Ac rwy'n credu mai'r llythyr hwnnw fydd y cyntaf ymysg nifer, ac rwy'n siŵr ei bod hi'n derbyn mai hwnnw fydd y cyntaf ymysg nifer. Felly, rwy'n credu yr hoffwn i ofyn am ddatganiad llafar wedi'i ddiweddaru ganddi am yr hyn a gyflawnwyd yn rhan o'r cynllun blaenorol erbyn diwedd 2017—faint oedd Openreach mewn gwirionedd wedi'i gyflawni a'i wneud, yn unol â'r hyn yr oedden nhw'n bwriadu ei wneud? Mae gen i nifer o enghreifftiau answyddogol o amcanion nad ydyn nhw wedi'u cyflawni, ond hoffwn i glywed y ffeithiau ganddi. Soniodd hi, mewn gohebiaeth â mi yn y gorffennol, y byddai cosbau ariannol os nad oedden nhw wedi cyflawni'r gwaith, felly hoffwn i archwilio hynny gyda hi, ac, wrth gwrs, mae hi wedi cyhoeddi cronfa newydd gwerth £80 miliwn, y mae hi'n dweud sydd yn agored i atebion arloesol hefyd, a hoffwn ddeall sut y mae hynny'n berthnasol i'r cymunedau hynny yn fy rhanbarth nad ydyn nhw wedi gallu defnyddio band eang cyflym yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Felly, byddwn i'n croesawu'n fawr ddatganiad llafar gan y rheolwr busnes yn rhinwedd ei swyddogaeth yn Ysgrifennydd Polisi'r Cabinet. A'r diweddariad olaf yr hoffwn i ofyn amdano gan y Llywodraeth, yw un gan Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion gwledig ynglŷn â ble'r ydym ni arni o ran syrcasau ac anifeiliaid gwyllt yma yng Nghymru. Rydym ni wedi cael cynnig ynglŷn â thrwyddedu anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau ac arddangosfeydd anifeiliaid eraill. Rwyf i fy hun yn gwahaniaethu rhwng anifeiliaid gwyllt a syrcasau ac arddangosfeydd anifeiliaid achlysurol, sydd i'w cael yng Nghymru wledig. Ac, wrth gwrs, mae Llywodraeth San Steffan a Michael Gove yn sôn unwaith eto am wahardd anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau. Ni fyddwn i eisiau gweld Cymru yn datblygu i fod yn hafan o syrcasau sy'n digwydd bod yn cynnwys anifeiliaid gwyllt, anifeiliaid gwyllt sy'n perfformio—wyddoch chi, nid y rhai sy'n gyffredinol yn hanu o Gymru ac yn ddomestig, yn yr ystyr hwnnw. Felly, efallai fod hyn yn gyfle i'r Llywodraeth fod yn fwy grymus yn ei hymagwedd, ac unwaith eto, rwy'n credu y byddai'r syniad o gael yr wybodaeth ddiweddaraf gan Ysgrifennydd y Cabinet, drwy gyfrwng datganiad, yn cael ei groesawu gan nifer o Aelodau yn y Siambr. Julie James AC: Wel, diolch am y tri phwnc diddorol iawn yna, Simon Thomas. Felly, gan fy mod i'n teimlo'n hael yn y flwyddyn newydd, rwyf yn mynd i ddweud ein bod yn croesawu'r tri ohonynt. Rydym yn fodlon iawn cyflwyno dadl ar faterion sy'n ymwneud â'r GIG. Mae nifer o broblemau y gwn i y mae Ysgrifennydd y Cabinet eisiau eu trafod yn gyffredinol yn y Siambr beth bynnag, ac yn sicr mae wedi clywed rhai o'ch pryderon, felly rydym yn hapus iawn i gyflwyno dadl o'r fath yn amser y Llywodraeth. O ran band eang, rwyf yn cynllunio, ni fydd yn syndod mawr i chi glywed, datganiad llafar i ddweud wrth Aelodau yn union beth yw ein sefyllfa ar ddiwedd y contract Cyflymu Cymru, a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr. Mae gan nifer fawr iawn o Aelodau, ledled y Siambr, ddiddordeb o ran clywed sut weithiodd y contract hwnnw. Bydd yn rhaid aros tua 16 wythnos nes y cawn ni wybod y ffigurau yn bendant. Byddwn yn gwybod yn syth beth y mae BT yn honni y maen nhw wedi eu pasio, ond bydd yr Aelod yn gwybod bod gennym ni broses profi cadarn, er mwyn sicrhau bod yr hyn y maen nhw'n ei honi mewn gwirionedd wedi'i ddilysu gennym ni. Ac yn wir bydd yr Aelod hefyd yn ymwybodol, fel y bydd nifer o Aelodau eraill sydd wedi dwyn hyn i'm sylw—rwy'n ymwybodol nad wyf wedi ateb dau lythyr gan Russell George sydd yn fy mewnflwch ar hyn o bryd—o bobl yr ydym ni wedi ysgrifennu atyn nhw, yn dweud ein bod ni'n credu y gallan nhw gael band eang, ac maen nhw wedi ymateb yn dweud na allant. Mewn gwirionedd, dyna un o'r prosesau profi. Mae'n rhwystredig iawn i'r bobl sy'n cael y llythyrau hynny, sydd ddim yn gallu cael band eang, ond mae'n galonogol iawn ein bod yn anfon miloedd o'r llythyrau hynny, a dim ond degau yr ydym ni'n eu cael yn ôl. Felly, mae'n ganran fach. Ond, serch hynny, mae'r gwiriadau ar waith ac maen nhw'n gadarn iawn. Mae'n cymryd amser—mae yna oedi o ran yr hyn y mae BT yn ei honni a'r hyn a wyddom ni sy'n gywir. Felly, ni fyddwn ni'n gallu ystyried y niferoedd terfynol, ac felly'r cymalau cytundebol, hyd nes ein bod yn cwblhau'r broses honno. Bydd ychydig o oedi. Ond gallaf ddweud wrthych chi beth yw ein sefyllfa o ran y broses honno yn syth. O ran y gronfa newydd, rwy'n gobeithio cyflwyno cyfres o weithdai ac atebion i rai o'r problemau sydd heb eu datrys ynglŷn â hynny. Rwy'n gwneud cylchdaith o Gymru. Bydd rhai ohonoch chi'n ymwybodol fy mod i wedi teithio o amgylch Cymru yn gwneud hyn ers cryn amser. Rwy'n hapus iawn i fynd i siarad ag unrhyw gymuned, neu unrhyw grŵp o bobl, sydd ag ateb arloesol y maen nhw eisiau ei gyflwyno, neu sydd â phroblemau penodol. Rwyf wedi ymweld â nifer o etholaethau eisoes, ac rwy'n parhau i wneud hynny. Mae'r problemau yn syml iawn mewn gwirionedd. Bydd ein dewisiadau rhwng chwarae gêm rifau—felly cyrraedd cymaint o bobl â phosibl, hyd yn oed os nad yw'r bobl hynny efallai yn awyddus iawn i gael band eang ar hyn o bryd, ac efallai na fyddan nhw'n ei brynu—neu cyrraedd y bobl sydd ar ben eu tennyn, ond gallai hynny leihau nifer y bobl sy'n gallu ei ddefnyddio yn y tymor byr. Felly, rydym ni'n dal i fod wrthi yn gwneud rhai o'r penderfyniadau hynny, ac rwy'n disgwyl y byddwn ni'n dewis cydbwysedd rhwng y ddau. Ond os oes gennych chi—ac mae hyn yn berthnasol i bob Aelodau yn y Siambr—os oes gennych chi gymunedau buddiant penodol, neu unigolion sydd ag atebion penodol yr hoffent eu trafod, hoffwn i'n fawr iawn glywed gennych chi ynglŷn â hynny. Ond byddaf yn cyflwyno hynny yn yr ychydig wythnosau nesaf. Ac mae Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion gwledig a materion eraill newydd ddweud wrthyf y bydd yn cyflwyno datganiad llafar ynglŷn â syrcasau yn y dyfodol agos, gan ein bod ni'n rhannu'r pryderon y gwnaeth yr Aelod sôn amdanynt, a dydym ni ddim yn dymuno o gwbl bod yn y sefyllfa yr oedd ef wedi awgrymu y gallai ddigwydd. Angela Burns AC: Prynhawn da, arweinydd y Tŷ, a gaf i ddymuno i chi a'm holl gyd-Aelodau yma flwyddyn newydd dda iawn? Gobeithio y daw 2018 â rhywfaint o iechyd a heddwch i ni i gyd. Rwy'n croesawu eich haelioni yn cynnig cyflwyno, ar ran y Llywodraeth, ddadl ynglŷn â'r GIG, ond rwy'n sylwi ar y ffaith eich bod wedi dweud 'yn gyffredinol'. Ac fe hoffwn i ofyn i chi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyflwyno dadl benodol ynghylch yr adroddiadau diweddar ynglŷn â'r problemau yr ydym ni'n eu hwynebu o ran pwysau'r gaeaf. Rwyf yn cydnabod ein bod ni yng nghanol pwysau'r gaeaf, ac y bydd pwysau'r gaeaf yn parhau am rai misoedd, ac rwyf yn cydnabod ei bod hi'n eithriadol o anodd. Sylweddolaf hefyd y gwnaed peth gwaith ynglŷn â hyn eisoes. Fodd bynnag, ein gwaith ni yw craffu, a thrwy Ysgrifennydd y Cabinet, ein gwaith ni yw craffu ar y byrddau iechyd ac ar yr hyn y maen nhw wedi ei gyflawni neu beidio, a sut y maen nhw wedi trin y symiau mawr o arian y trethdalwyr a gawsant i'w helpu i ymdopi â'r hyn sydd wedi bod yn gyfnod anodd iawn, iawn. A chredaf fod pob un ohonom ni'n ymwybodol y bu hi'n gyfnod anodd, oherwydd ein bod ni'n clywed straeon yn uniongyrchol gan etholwyr, straeon gan bobl sy'n gweithio yn y GIG ac, wrth gwrs, y storïau yn y cyfryngau. Felly, hoffwn ofyn i ni gael dadl benodol ynglŷn â'r mater hwn mewn gwirionedd, fel y gallwn ni gynnal proses graffu, ond hefyd er mwyn cyflwyno atebion posib a allai ein helpu, hyd yn oed yn y tymor byr, heb sôn am y flwyddyn nesaf, gan fod hyn yn gylch y mae'n rhaid i ni ei dorri yn bendant. A'r ail ddatganiad yr hoffwn i ofyn amdano—byddwn mewn gwirionedd yn hapus iawn gyda datganiad ysgrifenedig—eto gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ynghyd â dim ond rhywfaint o eglurhad, os gwelwch yn dda, ynglŷn â phwy sy'n ariannu a sut y caiff lleoedd hyfforddi eu hariannu yng Nghymru, a sut y caiff lleoedd hyfforddi eu hariannu rhwng y ddeoniaeth, pa fath o leoedd hyfforddi y mae'r ddeoniaeth yn gofyn i'r byrddau iechyd lleol eu hariannu, oherwydd fy mhryder i yw bod y ddeoniaeth yn cymryd arian oddi ar fyrddau iechyd lleol, sydd, wrth gwrs, yn arian oddi ar wasanaethau rheng flaen, ac mae angen i ni gael archwiliad gwirioneddol drylwyr. Felly, hoffwn i gael rhywfaint o eglurhad ynglŷn â'r adroddiadau yr wyf wedi bod yn eu clywed gan golegau brenhinol fod diffyg eglurder ynghylch cyllido lleoedd hyfforddi gan y ddeoniaeth a chan fyrddau iechyd lleol—pwy sy'n gyfrifol am beth—oherwydd, ni allwn ni gynyddu ein lleoedd hyfforddi fel arall. Julie James AC: Wel, diolch ichi am y ddau bwynt pwysig hyn. Ynglŷn â'r un cyntaf—pwysau'r gaeaf —rwy'n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu gwneud datganiad ynglŷn â phwysau'r gaeaf a sut maen nhw wedi gweithio dros y gaeaf hwn ac yn y dyfodol—. Bydd yn cyflwyno hynny maes o law. Felly, ni fydd dadl ynglŷn â hyn, ond mae datganiad wedi'i gynllunio ar gyfer hynny. Mae Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn dweud wrthyf ei fod yn fwy na pharod i ysgrifennu at yr Aelodau ac egluro'r materion mae'r Aelod wedi holi yn eu cylch, dim ond i wneud yn siŵr bod pob un ohonom ni'n deall y sefyllfa fel y mae.FootnoteLink Felly, byddaf yn sicrhau ei fod yn ysgrifennu at bob Aelod ac yn egluro hynny fel y gofynnwyd. Llywydd, hoffwn i nodi nad wyf bob amser mewn hwyliau mor dda, felly dylai pobl fanteisio ar hyn heddiw. [Chwerthin.] Gwybodaeth ychwanegol at y Cyfarfod Llawn Honno yw eich her chi, Russell George.[Chwerthin.] Russell George AC: Wel, diolch ichi, Llywydd—ie, yn wir. Mae'n debyg bod arweinydd y Tŷ wedi dyfalu yr hyn yr hoffwn i holi yn ei gylch yn fy natganiad llafar, a hynny yn wir yw band eang, wrth gwrs, gan ein bod eisoes wedi gweld diwedd y prosiect band eang ffeibr Cyflymu Cymru. Rydych chi wedi gwneud ymrwymiad, rwy'n falch o glywed, i gyflwyno datganiad llafar, ond gwnaethoch sôn y bydd hi'n 16 wythnos nes cewch y data gan BT. Ond byddwn i'n ddiolchgar pe gallech chi wneud datganiad llafar ymhell cyn hynny, ac yna, datganiad llafar arall ar ôl 16 wythnos wedi i chi dderbyn y data yr ydych chi wedi'i grybwyll. Rwyf, wrth gwrs, yn un o Aelodau'r Cynulliad sydd wedi derbyn llwyth o gwynion gan drigolion a gafodd addewid o'r blaen am uwchraddio erbyn diwedd 2017 sydd erbyn hyn wedi cael gwybod bod yr amser wedi dod i ben, wrth gwrs. Felly, byddwn i'n ddiolchgar cael sicrwydd pendant gennych chi yn eich datganiad llafar y caiff yr holl safleoedd hynny a oedd eisoes wedi eu rhestru ar gyfer eu huwchraddio eu trosglwyddo yn awtomatig nawr i gynllun olynol, gan fy mod yn credu ei bod hi'n annerbyniol pe byddai'r bobl hynny yn cael eu gadael mewn twll. Addawyd dro ar ôl tro i'r bobl hynny y caen nhw eu huwchraddio erbyn dyddiad penodol a dro ar ôl tro maen nhw wedi cael eu siomi a chredaf nad hynny mewn gwirionedd yn ddigon da —mae'n gwbl annerbyniol. Yr ail ddatganiad llafar yr hoffwn i ofyn amdano gennych chi yw diweddariad ynglŷn â chynllun gweithredu i wella cysylltedd ffonau symudol y Llywodraeth, flwyddyn yn ddiweddarach, wrth gwrs, ar ôl eich trafodaeth gychwynnol gyda rhanddeiliaid, fel y gall Aelodau weld beth mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud yn y naw maes allweddol a nodwyd i wella cysylltedd ffonau symudol yng Nghymru. Julie James AC: Ie, ynglŷn â'r sylw cyntaf, dim ond i roi eglurhad, yn sicr, nid oeddwn i'n dweud y byddwn i'n aros 16 wythnos. Roeddwn i'n dweud yn syml na fyddai gennyf ffigurau pendant am 16 wythnos. Byddwn ni'n cyflwyno datganiad llafar cyn bo hir i amlinellu'r hyn y bwriadwn ni ei wneud yn yr ail gam ac i ddweud ble yr ydym ni arni a sôn am amserlen bendant. Dywedais 16 wythnos, ond bydd gennym ni amserlen bendant er mwyn gwybod ble yr ydym ni arni yn hynny o beth. Un o'r grwpiau cymunedol sy'n rhan o'r darlun hwn—cymunedol yn yr ystyr ehangaf bosibl—yw'r bobl hynny a oedd i fod i dderbyn band eang ac am un rheswm neu'i gilydd na chawson nhw hynny. Mae angen cynnal ymarfer enfawr ynghylch hyn—. Mae'n ddrwg gennyf, am y materion technegol yma, ond mae Openreach yn adeiladu rhywbeth a elwir yn strwythurau ac rydym ni'n gwneud ymarferiad technegol enfawr i ddarganfod ym mhle yr adeiladwyd y strwythurau hynny a beth fyddai'r gost o barhau â nhw a beth allai fod y ffordd orau o wneud hynny. Nid ydym ni mewn sefyllfa i ddweud hynny eto, ond mae'n sicr o dan ystyriaeth. Rwy'n cydnabod yn llwyr y broblem y mae'r Aelod yn sôn amdani, ac rwy'n gwybod, Llywydd, y bu gennych chi broblemau tebyg yn eich etholaeth eich hun, fel y bu gan nifer o Aelodau eraill. Felly, rydym ni'n ymwybodol iawn o'r broblem honno ac rydym ni'n edrych ar yr anhawster technegol o allu gwneud hynny. Felly, nid wyf eisiau gwneud unrhyw addewidion pellach na allwn ni eu cyflawni. Rydym ni wedi trafod yn ddygn rhai o'r anawsterau cyfathrebu ac nid ydym ni eisiau gwneud hynny eto. Ond rwy'n fwy na pharod i ddod i siarad â grŵp arall o bobl yn y sefyllfa honno yn eich etholaeth ac yn wir, Llywydd, gwn fod gennych chi eich hun anawsterau tebyg. Felly, rydym ni'n ystyried yr agweddau hynny a byddaf yn ymdrin â hynny yn y datganiad llafar hefyd. O ran y cynllun gweithredu i wella cysylltedd ffonau symudol, rwyf hefyd yn bwriadu cyflwyno datganiad arall ynglŷn â'r cynllun gweithredu i wella cysylltedd ffonau symudol, ac un o'r rhesymau yw bod Llywodraeth y DU wedi cyflwyno ei Bil Economi Ddigidol a'i droi yn Ddeddf ac maen nhw wedi gwneud nifer o gyhoeddiadau ynglŷn â ffyrdd eraill o ymdrin â gwerthu hawliau cysylltedd ffonau symudol a hawliau sbectrwm ac ar y gydberthynas rhwng y rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredin ar gyfer band eang a chysylltedd symudol, sydd i gyd yn gysylltiedig â'i gilydd. Felly, byddaf yn cyflwyno datganiad pan fyddwn ni'n deall beth y mae hynny'n ei olygu i ni yma yng Nghymru o ran y sefyllfa yr ydym ni ynddi. Yn wir, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros gynllunio hefyd yn cyflwyno datganiad—ynglŷn â'r ymchwil a gomisiynwyd gennym ni—i ddweud lle yr ydym ni arni gyda'r gwaith ymchwil hwnnw o ran sut yr ydym ni'n ymdrin â hawliau datblygu caniataedig ac effaith yr hawliau hynny. Mohammad Asghar (Oscar) AC: Blwyddyn newydd dda i bawb. A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd am baratoadau’r gwasanaeth iechyd gwladol i ymdrin ag achosion o ffliw Awstralia yng Nghymru? Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau bod achosion o straen H3N2 y firws wedi cael eu canfod yng Nghymru. Mae dros 100,000 o bobl wedi gorfod cael triniaeth mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yn Awstralia oherwydd y firws cas penodol hwn. Bu farw dros 370 o bobl yno, ac roedd y rhan fwyaf ohonyn nhw'n bensiynwyr. A gaf i ofyn am ddatganiad ar yr hyn sy'n cael ei wneud i godi ymwybyddiaeth o beryglon ffliw Awstralia ymhlith ein grwpiau agored i niwed, a hefyd faint o'r brechlyn ffliw sydd ar gael a'i effeithiolrwydd o ran ymladd yn erbyn y firws hwn yng Nghymru? Mae’r ail ddatganiad a hoffwn unwaith eto gan yr Ysgrifennydd iechyd. Weinidog, cyfarfûm â gŵr bonheddig iawn, 79 oed, ychydig ar ôl y Nadolig, ac roedd yn crïo fel plentyn. Y rheswm am hyn oedd ei fod yn byw yn agos iawn i dafarn, ac nid yw’r dafarn honno, yn ei eiriau ef, yn dafarn i yfed a chwrdd yn gymdeithasol ond mae'n dden cyffuriau ac roedd hyn yn aflonyddu’n ddifrifol ar ei fywyd. Roedd yn briod yn hapus ers dros 50 o flynyddoedd. Ni wnaf enwi’r ardal, ond roedd eisiau symud o Gymru. Dywedais, 'Pam ydych chi'n gadael?' Mae wedi rhoi ei holl fywyd, gwaith, plant a phopeth, ond oherwydd yr arogl, y sŵn, yr aflonyddwch a’r annymunoldeb yn yr ardal, mae’r bobl hŷn hyn sy’n agored i niwed—. Rwy’n teithio llawer yn y de-ddwyrain, yn yr ardaloedd hyn i gyd, a chredwch fi, Weinidog, rwy’n arogli, fy hun, mewn tafarnau, siopau cornel a mannau eraill, arogl mariwana. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe byddech chi'n gwneud datganiad, neu ein bod yn gwneud yn siŵr ein bod yn cael dadl yma ynglŷn â chyfreithloni mariwana yng Nghymru, neu greu mannau y gall pobl fynd iddynt i ysmygu, yn hytrach na rhoi amser mor ddrwg i’r bobl agored i niwed hyn yng Nghymru. Diolch. Julie James AC: O ran pwynt cyntaf Mohammad Asghar, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn sôn am hynny yn rhan o'i ddatganiad ynghylch parodrwydd am y gaeaf. O ran yr ail, mae arnaf ofn mai mater i'r awdurdod lleol yw hwnnw, yn sicr. Mae'n fater naill ai i’r comisiynydd heddlu neu'r awdurdod lleol, neu'r ddau ohonyn nhw yn gweithredu ar y cyd. Byddwn yn awgrymu bod yr Aelod yn sôn am faterion penodol o'r fath wrth yr awdurdodau sy'n ymdrin â hynny. Diolch i'r Gweinidog. 3. Datganiad gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant: Ymgynghoriad ar Ddeddfwriaeth i gael Gwared ar yr Amddiffyniad Cosb Resymol Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant ar yr ymgynghoriad ar ddeddfwriaeth i gael gwared ar amddiffyniad cosb resymol. Rwy'n galw ar y Gweinidog, Huw Irranca-Davies, i wneud ei ddatganiad. Huw Irranca-Davies AC: Diolch, Llywydd, a blwyddyn newydd dda hefyd. Huw Irranca-Davies AC: Rwy’n falch iawn heddiw o lansio ymgynghoriad i lywio datblygiad ein cynigion deddfwriaethol i ddileu amddiffyniad cosb resymol. Mae'r strategaeth genedlaethol 'Ffyniant i Bawb' yn cydnabod bod rhianta hyderus, cadarnhaol a chydnerth yn hanfodol i baratoi plant ar gyfer bywyd, a’i bod yn bwysig darparu cymorth a chefnogaeth i rieni. Mae Llywodraeth Cymru yn falch iawn o’n hanes yng Nghymru o weithio i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd, ac o hyrwyddo hawliau plant. Dyma pam, fel Llywodraeth, yr ydym ni'n bwriadu cyflwyno deddfwriaeth i gael gwared ar amddiffyniad cosb resymol. Rydym ni eisiau ei gwneud yn glir nad yw cosbi plentyn yn gorfforol yn dderbyniol yng Nghymru mwyach. Mae'r ddeddfwriaeth arfaethedig yn rhan o becyn ehangach o fesurau sydd â'r nod o newid agweddau tuag at sut i fagu a disgyblu plant a phobl ifanc, drwy wneud cosb gorfforol yn annerbyniol a hyrwyddo dewisiadau amgen cadarnhaol. Fel Llywodraeth, rydym ni wedi buddsoddi'n sylweddol mewn rhaglenni rhianta ledled Cymru, ac mewn ymgyrchoedd gwybodaeth fel ‘Magu plant: Rhowch amser iddo’ i gefnogi rhieni i fod y gorau y gallant. Hoffem i’r ddeddfwriaeth gyflymu newid ymddygiadol yn y ffordd y mae rhieni’n disgyblu eu plant, a hoffem hefyd roi cymorth i’r rhieni i deimlo'n hyderus wrth ddewis dulliau disgyblu cadarnhaol a mwy effeithiol. Mae ein gwybodaeth am yr hyn sydd ei angen ar blant i dyfu a ffynnu wedi datblygu’n sylweddol dros yr 20 mlynedd diwethaf. Mae’r ymadweithio rhwng rhieni a’u plant erbyn hyn hefyd wedi newid mewn ymateb i’r wybodaeth honno, ac mae agweddau'r cyhoedd tuag at arferion rhianta wedi newid hefyd. Rydym ni nawr yn gwybod bod cosbau corfforol yn gallu cael effeithiau negyddol hirdymor ar gyfleoedd bywyd plentyn ac rydym hefyd yn gwybod eu bod yn gosbau aneffeithiol. Er bod cenedlaethau blaenorol yn derbyn cosbi plant yn gorfforol fel arfer arferol, rydym yn gwybod bod mwy a mwy o bobl yn ei ystyried yn llai derbyniol a bod rhieni’n teimlo'n llai cyfforddus wrth ddefnyddio cosbau corfforol. Mae gennym hefyd ymrwymiad hirsefydlog i hawliau plant yn seiliedig ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, ac mae'n rhaid inni gadw at yr ymrwymiad hwn. Cyflwynwyd deddfwriaeth flynyddoedd lawer yn ôl i atal cosbi corfforol mewn ysgolion ac mewn lleoliadau gofal plant, ac nawr yw'r amser i sicrhau nad yw bellach yn dderbyniol yn unman. Rydym ni wedi ymrwymo i ddileu amddiffyniad cosb resymol a hoffem sicrhau ein bod yn datblygu cynigion deddfwriaethol sy'n addas at y diben, yn ogystal â sicrhau bod gennym becyn ehangach o fesurau ar waith i gefnogi rhieni. Nawr, rwy’n gwybod bod gwahanol safbwyntiau am y ddeddfwriaeth hon. Er mwyn cyfrannu at ein dealltwriaeth o’i heffaith bosibl, rydym eisoes wedi ymgysylltu ag amrywiaeth eang o gyrff gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys yr heddlu, y gwasanaethau cymdeithasol a Gwasanaeth Erlyn y Goron. Mae'r ymgynghoriad hwn yn gyfle i ddatblygu ein cynigion ymhellach a rhoi cyfle i bawb ddweud eu dweud i’n helpu i geisio ymdrin ag unrhyw bryderon wrth ddatblygu’r ddeddfwriaeth. Ac rwy’n awyddus i sicrhau y gall y ddeddfwriaeth hon fynd rhagddi gyda chymaint â phosibl o gytundeb yn y Cynulliad hwn ac yng nghymdeithas Cymru yn ei chyfanrwydd. Mae’n arbennig o bwysig imi y dylai rhieni fod yn ffyddiog mai bwriad y gyfraith hon a’n hymdrechion ehangach i hyrwyddo rhianta cadarnhaol yw helpu i roi'r dechrau gorau posibl i’w plant mewn bywyd. Dyna yw ein bwriad ac rwy’n croesawu syniadau, drwy'r broses ymgynghori, ynglŷn â’r ffordd orau o gyflawni hynny, ac rwy’n edrych ymlaen at glywed gan Aelodau heddiw. Diolch. Angela Burns AC: Weinidog, hoffwn ddiolch yn fawr iawn ichi am eich datganiad heddiw, ac am y cwrteisi yr ydych wedi’i ddangos i mi ac i’m cyd-Aelod, Darren Millar, sydd yn anffodus yn methu â bod gyda ni heddiw, wrth fynd drwy eich cynlluniau a’ch rhesymeg y tu ôl i'r ymgynghoriad. Byddwch yn gwybod bod y Ceidwadwyr Cymreig yn cynnwys amrywiaeth eang o bobl sy’n adlewyrchu barn a phryderon rhan helaeth o boblogaeth Cymru, a'r cwestiynau a ofynnwyd ganddynt, a bod amrywiaeth o farn yn ein plith, ac y byddwn felly’n mynd ar hyd y llwybr deddfwriaethol hwn â phleidlais rydd i bob un aelod o’n plaid. Rwy’n ddiolchgar iawn am y sgwrs honno’n gynharach. Mae un neu ddau o gwestiynau y teimlaf y byddai'n fuddiol imi eu gofyn a’u cofnodi, ac i roi cyfle ichi i’w hateb i mi ac i Aelodau eraill o'r Siambr hon, ac yn wir i'r cyhoedd yn ehangach. Rwy’n meddwl, yn gyntaf oll, yr hoffwn wir ddeall beth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod yr ymgynghoriad hwn yn cyrraedd pobl gyffredin—nid y trydydd sector, nid y gwleidyddion, nid y grwpiau lobïo, nid y rhai hynny ohonom sydd â barn neu sydd efallai eisoes wedi penderfynu, ond rhieni cyffredin a phlant cyffredin nad ydyn nhw'n rhan o unrhyw fath o grŵp neu gang, fel y gallwn gael eu barn, eu syniadau ynghylch beth maen nhw'n ei feddwl oherwydd, wrth gwrs, rydym i gyd yn gwybod, beth bynnag yw eich barn, ein bod yn tueddu i fod yn amddiffynnol iawn ynglŷn â’n teuluoedd ein hunain. A hoffwn ichi, wrth wneud hynny, ei gwneud yn gwbl glir ein bod i gyd yn derbyn bod y mwyafrif o rieni yng Nghymru yn unigolion da, cariadus, rhesymol; hoffwn i’r neges honno fod yn uchel ac yn glir. Nid mater o gosbi, gorfodi na rhwystro’r unigolion hynny yw hyn. Byddwn yn awyddus iawn pe gallech roi ychydig bach mwy o wybodaeth inni am sut y gwelwch yr ymgynghoriad hwn yn bwrw ymlaen ac yn egluro i bobl nid yn unig y cynigion yr ydych wedi’u cyflwyno, ond pa atebion eraill y gwnaethoch edrych arnynt a beth yr ydych chi wedi'i ddiystyru. Cawsoch chi a mi sgwrs am y ffaith ein bod, drwy gael gwared ar y gosb resymol, i bob diben, mewn theori, yn caniatáu i bawb fod ar unwaith yn euog o drosedd. A wnaethoch chi edrych ar ddulliau eraill lle y gallai fod yn bosibl inni fynd allan a helpu a chefnogi'r rhieni hynny sy'n defnyddio cosbau amhriodol, ble bynnag yr ydych ar y raddfa honno. Beth y gwnaeth eich Llywodraeth edrych arno? Beth yr ydych chi wedi'i ddiystyru? Ble arall y gwnaethoch chi edrych, o amgylch y byd, o ran sut y gellid gweithredu hyn mewn ffordd oddefgar a chymesur? Byddwn yn ddiolchgar iawn pe byddech efallai yn esbonio ychydig—dyma’r peth olaf, Llywydd—am y prawf cymesur, pe byddai’r ddeddfwriaeth hon yn bwrw ymlaen. Hoffwn roi un enghraifft fer ichi, ac rwy’n credu efallai y rhowch chi un arall imi. Mae gen i athro, er enghraifft, yn sir Benfro, a aeth, ynghyd â nifer o athrawon eraill, â grŵp o blant i gêm rygbi. Ni allaf gofio ai Caerdydd ynteu Llundain oedd hyn, ond roedd yn un o'r dinasoedd hynny. Ac roedd un o'r plant yn llanc ifanc, yn llawn llawenydd neu beth bynnag, a rhedodd allan i’r ffordd. Gafaelodd yr athro ynddo’n rymus, i’w lusgo yn ôl. Gwnaeth y rhieni erlyn yr athro hwnnw am ymosodiad. Mae gan yr athro hwnnw farc du yn erbyn ei enw. I rywun sy’n edrych ar y sefyllfa honno, gallai edrych fel cosb annheg. Yn bersonol, fel rhiant, byddwn i'n rhoi pryd o dafod i fy mhlentyn ac yn ddiolchgar iawn i'r athro am achub ei fywyd, ond nid dyna brofiad yr athro hwnnw. Ac wyddoch chi, rydym ni wedi gwneud hyn, a gwnaf gyfaddef: rwy’n cofio fy merch fach, pan oedd yn dair oed, yn rhedeg allan o flaen lori concrid yn dod o chwarel Carew. Gafaelodd fy ffrind ynddi, oherwydd roedd gen i gadair wthio â babi ynddi o'm blaen. Roedd Katie wedi gollwng fy llaw a mynd amdani, a gafaelodd fy ffrind ynddi. A gallaf ddweud wrthych, fe wnes i afael yn fy mhlentyn, a dechrau wylo, fe wnes i ei chofleidio hi, a’i tharo ar ei phen-ôl, oherwydd mae’r holl emosiynau cymysg hynny’n ysgubo drwoch chi. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod, mewn unrhyw ddeddfwriaeth yr ydym yn edrych arni, ein bod yn gwahaniaethu rhwng moment fympwyol a rhiant sy'n gwylltio’n llwyr yn gyson ac yn curo ei blentyn, a byddai'n rhaid imi ddweud fy mod yn meddwl bod pethau effeithiol iawn yn y system cyfiawnder troseddol eisoes, fel ymosodiad a niwed corfforol difrifol, i ymdrin â hynny. Ond rwy’n meddwl bod hwn yn faes mor sensitif, ac rwy’n mynd i ddod yn ôl at fy natganiad gwreiddiol: rwy’n credu bod y rhan fwyaf o rieni’n gweithredu o sylfaen dda o gariad, cyfrifoldeb a phersbectif dwfn, gofalgar ar eu teulu, a bod y rhan fwyaf o rieni’n amddiffynnol iawn tuag at eu teulu, a hoffwn wneud yn siŵr nad yw rhieni’n teimlo bod Llywodraeth Cymru, neu Gynulliad Cymru, yn eu cosbi i gyd am bethau nad ydynt efallai hyd yn oed wedi eu gwneud. Huw Irranca-Davies AC: Diolch, Angela, ac efallai y gwnaf ddechrau, a dweud y gwir, drwy atgyfnerthu’r neges honno. Rwy’n meddwl y byddem i gyd, yn ôl pob tebyg, yn y Siambr hon, ac yn Llywodraeth Cymru ei hun, yn derbyn ac yn ategu'n llwyr y teimladau hynny sy’n dweud bod y mwyafrif helaeth o rieni yng Nghymru yn rhai sydd eisiau magu eu plant mewn amgylchedd cariadus, a gwneud hynny gyda llawer o ofal, gyda llawer o sylw, gyda llawer o anogaeth, gyda llawer o gymorth, a gan ddangos yr holl agweddau hynny ar rianta cadarnhaol yr wyf i mewn perygl o’u troi’n y slogan fwyaf erioed yma. Mae'n golygu cael eu magu mewn amgylchedd lle maent yn teimlo'n ddiogel a lle maent yn cael eu trysori a’u meithrin, a dyna’n union beth mae’r mwyafrif helaeth o rieni’n ei wneud. Ond, rwyf i’n rhiant i dri o blant. Dydyn nhw ddim yn dod gyda llyfrau rheolau, yn anffodus, oherwydd mae pob un yn wahanol. Mae fel rhai o'r dyfeisiau hynny rydych chi’n eu prynu ar y rhyngrwyd; mae gan bob un geblau gwahanol a phethau gwahanol sy’n eu cysylltu nhw ac ati. Ac rydym yn gwybod, weithiau, bod angen cymorth arnom. Felly, a dweud y gwir, mae rhan o'r ymgynghoriad hwn a rhan o fwrw ymlaen â hyn yn fater o ddarparu’r cymorth cywir i rieni a theuluoedd. A, gyda llaw, nid dim ond sôn am deuluoedd lle y ceir cymhlethdodau mawr o faterion a heriau yr ydym, ond am deuluoedd yn gyffredinol. Felly, mae hynny'n cynnwys, o'r ymwelwyr iechyd sy’n ymweld â theuluoedd i ddechrau, drwy'r ysgolion, drwy Teuluoedd yn Gyntaf, drwy Plant yn Gyntaf, yr holl bethau hynny, i helpu rhieni fel fi gymaint â neb arall. Ond, yn hollol gywir: mae’r mwyafrif helaeth o rieni’n gwneud gwaith gwych, ac yn gwneud hynny gyda'r bwriadau gorau yn y byd. Y mater dan sylw yma yw: mae gennym yr hyn y byddem yn ei ystyried yn Llywodraeth—ac roedd yn sicr yn ein maniffesto ac mae wedi bod yn destun dadleuon ers cwpl o ddegawdau, gan gynnwys gan rai Aelodau yma pan oedden nhw'n Aelodau Seneddol hefyd, yn dadlau’r achos—cael gwared ar amddiffyniad nad yw, ar hyn o bryd, ond ar gael i rieni pan fyddan nhw'n defnyddio cosb gorfforol yn erbyn eu plant. Allech chi ddim defnyddio’r un amddiffyniad o gosb resymol pe byddech chi, er enghraifft, yn taro rhywun oedrannus â dementia, neu rywun 25 mlwydd oed ag anawsterau dysgu. Allwch chi ddim defnyddio’r un amddiffyniad, ond gallwch chi ddefnyddio’r amddiffyniad, yn llwyddiannus neu beidio, yn erbyn plant. Felly, mae'n fater o ddweud, yn sicr er mwyn cefnogi rhieni, darparu'r cymorth sydd ei angen, nid fel gwladwriaeth nani, ond, a dweud y gwir, mewn partneriaeth dda â rhieni, oherwydd rydym yn gwybod i ba gyfeiriad yr hoffem fynd, ac mae'n mynd i'r cyfeiriad hwn, ac, yn ail, i ddarparu eglurder, a chael gwared ar yr amddiffyniad hwn o gosb resymol. Angela, gwnaethoch chi ofyn a oeddem wedi ystyried unrhyw opsiynau eraill. Rydym wedi gwneud hynny, ac rydym wedi bod yn ôl ac ymlaen o ran cyngor cyfreithiol, ac rydym wedi dysgu o dros 50 o enghreifftiau o wledydd eraill o wahanol fathau o awdurdodaeth gyfreithiol lle y maen nhw wedi gwneud fersiwn o gael gwared ar yr amddiffyniad hwn ac wedi nodi’n glir mai ymosodiad yw ymosodiad yw ymosodiad. Rydym wedi gallu dysgu oddi wrth hynny. Ond, mae gennym ein lleoliad cyfreithiol ein hunain o fewn y wlad hon a’r paramedrau yr ydym yn gweithio oddi mewn iddynt, a’r cyngor clir, cryf iawn yr ydym yn ei gael yw mai’r ffordd gliriaf o wneud hyn yw cael gwared ar amddiffyniad cosb resymol a’r hyn sydd ar ôl, mewn gwirionedd, yw’r hyn sydd yno ar hyn o bryd o fewn y gyfraith, sef trosedd ymosodiad. Ar gyfer trosedd ymosodiad, mae angen clirio rhai rhwystrau. Nid yw mor syml â, 'rwyf wedi gweld rhywun a oedd yn gwneud rhywbeth â'u plant ac rwy’n meddwl ei fod yn ymosodiad, roedd yn ddrwg.' Ceir profion tystiolaethol er mwyn i Wasanaeth Erlyn y Goron ddweud, mewn llys barn, 'Rydym yn meddwl bod tystiolaeth yma bod ymosodiad wedi digwydd.' Yn ail, mae angen iddo fod er budd y cyhoedd. Rhan o’r rhesymeg budd y cyhoedd y tu ôl i fwrw ymlaen â chyhuddiad—fel y mae ar hyn o bryd, gyda llaw, ym mhob maes, ac eithrio o ran plant—fyddai nid yn unig a yw er budd y cyhoedd, ond a oes siawns resymol o erlyniad llwyddiannus. Byddwn yn ei chyfeirio hi ac Aelodau eraill at adran 9 yr ymgynghoriad, oherwydd, o fewn honno, mae'n edrych ar dystiolaeth ryngwladol, ond hefyd y dystiolaeth o lle y defnyddiwyd hyn mewn gwledydd eraill, gan gynnwys Seland Newydd, gyda model ychydig yn wahanol. Ydy, mae wedi arwain, yn y blynyddoedd cynnar, at gynnydd mewn riportio; mae wedi arwain at erlyniadau ar achlysur; mae hefyd wedi arwain at rybuddio a rhyddhau llawer o bobl, ac, wrth gwrs, yna mae’r niferoedd yn lleihau, oherwydd mae newid diwylliannol yn digwydd—fel gyda deddfau gwregysau diogelwch, fel gyda llawer o bethau eraill—lle mae pobl yn derbyn nad yw'n rhesymol mwyach i gosbi plentyn yn gorfforol, yn ddim gwahanol i unrhyw aelod arall o'r gymdeithas. Bethan Sayed AC: Diolch am y briff a roesoch imi ddoe, roedd yn ddefnyddiol. Rwyf wedi bod falch o gefnogi’r ymdrechion hyn yn y gorffennol, fel y mae Plaid Cymru, pan oeddem yn ymgyrchu am hyn—cyn-Aelodau Cynulliad fel Lindsay Whittle a llawer o Aelodau Cynulliad o bob plaid wleidyddol. Rwy’n meddwl ei bod yn hollbwysig datgan, o'r cychwyn cyntaf, nad wyf o blaid cosbi rhieni am ddisgyblu eu plant, ac nad dyna ddylai fod diben y newid hwn, fel yr amlinellwyd eisoes. Mae hyn, a dylai hyn, yn bennaf oll, fod yn fater o gael gwared ar amddiffyniad yn y llys ac o dan y gyfraith sy’n caniatáu i rywun sy’n curo neu’n cam-drin plentyn efallai ei gael yn ddieuog o dan gochl ei bod yn rhesymol i riant neu warcheidwad ddefnyddio grym, ac nid wyf yn meddwl bod hynny’n dderbyniol. Rwy’n deall bod hon yn ddadl y mae rhai pobl yn teimlo’n angerddol amdani—yn wir, pan ofynnais i bobl ar y cyfryngau cymdeithasol, cefais fwy o sylwadau nag a gefais erioed, ynglŷn â’r mater hwn—fel unrhyw gwestiwn sy'n mynd at wraidd y berthynas rhwng y bobl, y teulu a'r wladwriaeth, a pha mor bell sy’n rhy bell i’r wladwriaeth fynd. Ond rwy’n meddwl ei bod yn bwysig nodi, o'm safbwynt i, na ddylai ac na fydd unrhyw newid yn y gyfraith er mwyn erlid rhywun sy’n disgyblu eu plentyn mewn eiliad o rwystredigaeth neu banig. Rwy’n gwybod, pan fydd plentyn yn symud tuag at soced plwg neu’n profi amynedd a ffiniau i'r eithaf, pa mor anodd yw hi. Ni ddylai fod dim awydd i gosbi rhieni neu warcheidwaid da, ac rwy’n credu nad oes gan y mwyafrif helaeth o rieni a gwarcheidwaid ddim dymuniad i ddefnyddio cosb gorfforol. Fodd bynnag, rwy’n credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru wneud hyn yn iawn, neu y perygl yw y bydd rhai elfennau adweithiol yn neidio ar y newid i’r gyfraith, er ei fwriadau da, er mwyn cyfleu polisi sydd, yn ei hanfod, yn bolisi o fwriadau da, ac yn un hir-ddisgwyliedig, dylwn ddweud, fel rhywbeth hyll ac ysgeler ar ran awdurdodau. Fy nghwestiwn cyntaf, er fy mod yn falch gyda Llywodraeth Cymru, eich bod wedi gweld y goleuni yn hyn o beth, o’r diwedd, yw: beth sydd wedi newid rhwng y tro diwethaf inni drafod y mater hwn yn ystod tymor blaenorol y Cynulliad a nawr? Safbwynt blaenorol Llywodraeth Cymru oedd na fyddai newid y gyfraith ar gosb resymol yn ddichonadwy, gan y byddai’n cael ei herio nid yn unig am ei fod y tu hwnt i'n cyfrifoldebau fel Cynulliad, ond ei fod hefyd yn agored i her mewn llys. A allech chi egluro beth yw’r sefyllfa gyfreithiol nawr, ar gyfer y cofnod, ac a fu unrhyw ddatblygiad sylweddol a fyddai'n golygu nad yw Llywodraeth Cymru bellach yn ystyried bod hyn yn rhwystr? Mae'n bwysig gwybod beth y bydd hyn yn ei olygu’n ymarferol, hefyd. Nid ydym ni eisiau i gael gwared ar gosb resymol gael ei ddefnyddio ar gyfer dim mwy na dileu'r amddiffyniad hwnnw mewn achos o gam-drin neu ymosodiad ar blentyn, a rhaid inni wneud yn siŵr na fydd unrhyw lys nac elfen o gyfraith yn gorfodi defnyddio'r newid i’r gyfraith i sianelu erlyniad gorfrwdfrydig yn erbyn rhywbeth diniwed. Felly, soniasoch yn gynharach am brawf budd y cyhoedd. Mae’r rheol de minimis, yn ogystal, hefyd yn berthnasol. Sut byddwn yn siarad â'r llysoedd, Gwasanaeth Erlyn y Goron a'r heddlu ynghylch sut y byddent o bosibl yn defnyddio hyn, yn y dyfodol? Yn y datganiad yn gynharach, gwnaethoch chi amlinellu rhesymau eraill dros y newid hwn i’r gyfraith, fel hyrwyddo—ac rwy’n dyfynnu’r hyn a ddywedasoch—'newid ymddygiad' mewn rhieni. A wnewch chi egluro pa newid ymddygiad sydd ei angen, ac a ydych chi'n gweld bod y newid ymddygiad hwnnw’n rhywbeth sydd yn uwch mewn cymdeithas yng Nghymru nag mewn mannau eraill, neu ei fod yn newid ymddygiad y dylem oll ei gydnabod ynom ein hunain? Oherwydd yr hyn yr hoffwn ei ddeall yw nad dim ond targedu rhai teuluoedd mewn rhai ardaloedd o Gymru yr ydym, ond dweud mai dyma ffordd gyffredinol o drin pobl eraill yn ein cymdeithas. Rwy’n meddwl y byddwn yn fwy cyfforddus o lawer gyda'r math hwnnw o fenter polisi nag y byddwn wrth ddweud y byddai rhai teuluoedd yn fwy euog o hyn nag eraill. Gwnaethoch chi sôn am wledydd eraill, ac rwyf finnau wedi gwneud rhywfaint o ymchwil gyda phobl yr wyf yn eu hadnabod yn Sweden. Cyn belled ag y deallaf, nid yw cyfraith Sweden yn dod gyda chosb. Gofynnais i un unigolyn sy'n gweithio yn y llywodraeth mewn bwrdeistref yn Sweden, ac mae ganddyn nhw 94,000 o drigolion, ond 200 o weithwyr ieuenctid, fel y gallant ddefnyddio gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr ieuenctid, i fynd i mewn i'r cartrefi er mwyn ceisio siarad am newid diwylliant ac ymddygiad. Os yw hyn yn fwriad i chi hefyd, wel, efallai y bydd yn rhaid inni ystyried adnoddau ariannol ar gyfer hyn. Felly, pa mor bell ydych chi wedi mynd gyda hyn, neu a ydych chi'n meddwl bod angen hynny o gwbl? Un o'm cwestiynau olaf yw: a ydych chi'n fodlon, er mwyn cyfleu’n effeithiol i'r cyhoedd nad yw’r gyfraith bresennol yn ddigon, bod rheswm dilys a chyfiawn dros newid y gyfraith? Rwyf hefyd wedi siarad â rhai pobl i ddweud bod y dyfarniad penodol hwn yn cael ei ddefnyddio mor anaml mewn llysoedd nes nad oes gennych ddigon o ystadegau i gymharu, ac mae'n anodd iawn canfod tueddiadau ohono. Felly, byddai'n ddefnyddiol gwybod, os ydym yn mynd i newid y gyfraith, y bydd yn ystyrlon. Fy mhwynt olaf am hyn, oherwydd gwrandewais ar y ddadl yn y Cynulliad diwethaf, er na wnes gymryd rhan ynddi, yw ein bod bob amser yn dweud, yn y dadleuon hyn, 'fel rhiant', ac rydych yn teimlo rywsut bod rhieni o bosibl yn fwy cymwys i ddeddfu yn y maes hwn. Ond, ar ôl darllen llawer am hyn, nid dim ond rhieni sy'n gyfrifol. Mae rhieni a gwarcheidwaid, a gofalwyr maeth, a phobl eraill mewn cymdeithas yn gyfrifol. Pan aned fy chwaer, roeddwn yn 17 mlwydd oed, yn troi’n oedolyn. Edrychais ar ei hôl hi gryn dipyn, a chefais i’r cyfrifoldeb rhiant hwnnw. Felly, hoffwn gael y ddadl hon, nid fel rhywbeth na all neb sydd ddim yn rhiant fod â barn amdani, ond fel y gall pawb yn y gymdeithas fod â barn am hyn a gwneud cyfraniad adeiladol. Oherwydd, ar ddiwedd y dydd, efallai y byddwn mewn sefyllfaoedd lle caiff cyfrifoldebau gofalu eu rhoi inni y tu hwnt i'n rheolaeth, a bydd angen inni wybod sut i ymdrin â phlant yn y mathau hynny o sefyllfaoedd, ond mae angen inni wybod bod y wladwriaeth a phobl eraill mewn cymdeithas yn credu bod gennym y parch a’r gallu, dylwn ddweud, i edrych ar ôl plant, yn union fel rhieni. Huw Irranca-Davies AC: Bethan, diolch yn fawr iawn am hynny yn wir. Rwy’n meddwl bod llawer o'r materion manwl yr ydym yn dechrau cyffwrdd arnyn nhw nawr yn rhai y gallwn roi mwy o sylw iddynt wrth i’r ymgynghoriad fwrw ymlaen, ond gwnaf geisio ateb rhai ohonyn nhw nawr hefyd, os yw o gymorth. Mae'n werth dweud hefyd, o ddifrif, yr hoffwn ymgysylltu â holl Aelodau'r Cynulliad o bob plaid ar hyn, fel ein bod yn cael hyn yn iawn ar gyfer y dyfodol, ac mae hwnnw'n gynnig diffuant. Os gallaf wneud unrhyw beth i helpu gyda'r trafodaethau hynny, fi neu fy swyddogion, rwy’n hapus i wneud y cynnig. Gwnaethoch y pwynt ynghylch peidio â chosbi rhieni â bwriadau da. Gwnaeth Angela bwynt tebyg yn ogystal. Hollol gywir; cwbl gywir. Wrth inni fynd drwy'r ymgynghoriad, mae'n rhaid inni daro’r cydbwysedd o gael gwared ar yr amddiffyniad hwn o gosb resymol, sydd, hyd eithaf fy ngwybodaeth, ond wedi bod yn bosibl ei ddyfynnu, mewn gwirionedd, wrth amddiffyn achosion dros y rhai blynyddoedd diwethaf, fwy na thebyg ddwsin o weithiau. Mewn gwirionedd, yn y pen draw dim ond mewn pedwar ohonynt y gellid wir ei ddefnyddio, ac yn y pedwar achos hynny, ar y cyfan, cafwyd yr unigolyn yn ddieuog neu gwrthodwyd yr achos. Felly, mae'n sefyllfa anarferol nad yw wir fel arfer yn arwain at ddim byd mewn llys, ond mae'n sefyllfa anarferol sy’n bodoli. Pan fyddwch yn siarad â gweithwyr proffesiynol rheng flaen sy'n gweithio mewn pethau fel Dechrau'n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf, yn gwneud yr ymyriadau hynny—ymyriadau cynnar, doeth, da gyda rhieni—rwyf yn llythrennol wedi cael y sgwrs hon â nhw a dweud, 'Ydy’r eglurder y byddem yn ei roi gyda hyn yn broblem ichi, ynteu a fyddai'n helpu?' Ac mae pob un, pob menyw—oherwydd menywod yw pawb yr wyf wedi siarad â nhw sy'n gwneud yr ymyriadau rheng flaen hyn gyda theuluoedd—wedi dweud, 'Mae hyn yn rhoi’r eglurder y byddai ei angen inni.' Felly, yn ogystal â’r rhianta cadarnhaol, y cymorth a’r cyngor a’r gefnogaeth yr ydym yn eu rhoi i rieni, gallwn nawr ddweud, 'Edrychwch, gyda llaw, nid cosbi corfforol yw hyn; mae yna ffyrdd eraill, ac rydych chi'n gwybod y gallwn wneud hynny', ac rydym yn mynd ymlaen. Nid er mwyn cosbi rhieni â bwriadau da, ond i’w gwneud yn gwbl glir na fydd amddiffyniad o gosb resymol. Does dim byd yn newid, gyda llaw, o ran pa gosbau sydd ar gael. Soniasoch am fater cosbau. Mae’r cosbau yn aros fel y maent ar gyfer ymosodiad, ac mae'r un profion tystiolaethol a phrofion lles y cyhoedd yn gymwys i ymosodiad. Y Cyngor Dedfrydu sy’n gosod canllawiau ar gyfer ymosodiad. Mae'r Cyngor Dedfrydu, a dweud y gwir, yn gosod canllawiau ar wahân sy'n ymwneud ag ymosodiad ar blant. Maent hefyd yn gosod canllawiau ar wahân sy'n ymwneud ag ymosodiad ar blant gan rieni sydd o dan 18 oed. Mae'r rheini i gyd yno. Does dim o hynny’n newid o gwbl, ond mae'n cael gwared ar ddefnyddio cosb resymol fel amddiffyniad am ymosodiadau yn erbyn plentyn. Gwnaethoch chi ofyn, yn hollol ddealladwy, beth sydd wedi newid. Rwy’n meddwl ein bod wedi cael cyfnod o gasglu tystiolaeth i ddangos, un, y gallwn fwrw ymlaen mewn gwirionedd ac y gallwn wneud hynny ar sail gyfreithiol gadarn; ond, yn ail, casglu’r dystiolaeth fyd-eang honno sydd nawr yn dangos beth sy'n gweithio o ran rhianta cadarnhaol, yr effeithiau negyddol cyfanredol ar draws plant sy’n cael cosbau corfforol, a, hefyd, cyngor cyfreithiol hefyd—cyrraedd y pwynt lle gall cyngor cyfreithiol awgrymu—. Gyda llaw, rhaid imi fod yn hollol onest: nid wyf yn dweud na chaiff hyn ei herio’n gyfreithiol, oherwydd gallai hynny ddigwydd. Ond, yr hyn y mae’n rhaid inni ei wneud yn iawn o ran cymesuredd yw bod hawliau plant, sydd yn hawliau cyffredinol a diamod o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau'r plentyn, yn cael eu cydbwyso hefyd yn erbyn yr erthyglau hawliau Ewropeaidd hynny sy'n amddiffyn hawliau’r teulu a hawliau crefydd. Ond, mae ffordd o wneud hynny oherwydd mae’r ddwy gyfres hynny o hawliau—y ddwy olaf—yn hawliau amodol. Os gallwch chi ddangos bod y mesurau hyn yn angenrheidiol ac yn gymesur, fel yr rydym wedi'i wneud cyn hyn mewn meysydd polisi eraill, gallwch wir effeithio ar yr hawliau amodol hynny, os yw hawliau plant o ran amddiffyn y plant hynny yno o fewn y prif ddiben. A oes gennym dystiolaeth o newid agweddau a newid ymddygiad? Oes. Unwaith eto, ni wnaf adrodd yr hyn sydd yn y ddogfen, ond rwy’n gobeithio y bydd pob rhiant, a phob gwarcheidwad a phob gofalwr, yn ogystal â sefydliadau, yn edrych ar y ddogfen hon. Rydym wedi ceisio rhoi cryn dipyn o’r wybodaeth orau sydd ar gael inni ynddi. Ond, ydynt, mae agweddau yng Nghymru’n newid ac mae agweddau yn y DU yn newid. Yr hyn sy'n arwyddocaol yw, lle mae'r dull hwn wedi’i ddefnyddio mewn gwledydd eraill, i’w gwneud yn glir na chewch chi ymosod yn gorfforol ar blentyn, bod hynny ynddo ei hun wedi creu newid oherwydd arwyddocâd pur dweud, 'Dim amheuaeth, dim os nac oni bai.' Mae wedi creu newid ynddo ei hun; mae’r agweddau tuag at gosb gorfforol wedi newid o ganlyniad i gyflwyno'r gyfraith hon. Mae ychydig yn debyg i’r gyfraith gwregysau diogelwch neu gyfreithiau eraill tebyg. Yn olaf, soniasoch am y pwynt yno o ddefnyddio’r adnoddau presennol yn effeithiol. Mae'n hanfodol, i wneud i hyn weithio, ein bod yn gweld beth yr ydym yn ei wneud ar hyn o bryd ar lawr gwlad. Unwaith eto, ni wnaf ei adrodd fesul pennod ac adnod, ond maent wedi'u gosod allan yma: popeth rhwng ymyriadau iechyd, ymyriadau addysg, Dechrau'n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf, ardaloedd Plant yn Gyntaf ac ati. A ydym yn gwneud yn siŵr, ar draws y sector, ein bod yn rhoi’r cymorth cywir i’r rhieni cywir a’r teuluoedd cywir o dan yr amgylchiadau cywir yn gynnar iawn, fel ein bod yn osgoi cyrraedd y sefyllfa lle mae plant yn cael eu cosbi’n gorfforol? Diolch am y cwestiynau. Rwy’n gwybod y byddwn yn dychwelyd at fwy o'r rhain yn fanwl wrth fwrw ymlaen â hyn, ond hoffwn hefyd wahodd Aelodau i ymgysylltu â mi wrth i’r ymgynghoriad hwn fwrw ymlaen, fel y gallaf glywed mwy o safbwyntiau fel hwnnw. Julie Morgan AC: A gaf i yn gyntaf oll ddweud cymaint yr wyf yn croesawu'r ymgynghoriad hwn a llongyfarch y Gweinidog am ei gyflwyno fel un o, bron, ei weithredoedd cyntaf ar ôl cymryd y swydd? Dywedodd y Gweinidog fy mod i wedi ymwneud â hyn ers amser maith fel AS. Mae gennym hefyd Simon Thomas, a fu hefyd yn ymwneud â hyn fel AS, ac roeddwn yn cofio pan aethom i Stockholm fel grŵp, a daeth Jane Hutt hefyd, yn ogystal â Christine Chapman, ac eraill efallai—ni allaf gofio nawr. Rwy’n meddwl, mewn gwleidyddiaeth, eich bod yn dysgu bod angen strategaeth hir arnoch chi. Mae'n debyg mai dyna yw fy nghasgliad ynglŷn â’r rhan fwyaf o faterion yr wyf erioed wedi ymwneud â nhw. Ond, eto, rwyf wir yn croesawu hyn. Dim ond rhai cwestiynau byr sydd gennyf i’w gofyn, oherwydd rwy’n gwybod y cawn yr holl drafodaeth fanwl pan fyddwn mewn pwyllgor. Ond, yn amlwg, mae Llywodraeth yr Alban yn mynd drwy'r un broses bron ar yr un pryd â ni, felly tybed a ydych chi wedi cyfathrebu o gwbl â Llywodraeth yr Alban ac a ydych chi wedi dysgu o’r hyn y maen nhw wedi llwyddo i'w wneud hyd yn hyn. Y cwestiwn arall oedd: o ran amserlen, rwy’n gwybod mai ymgynghoriad 12 wythnos yw hwn—beth yw'r amserlen ar gyfer y ddeddfwriaeth ar ôl hynny? Rwy’n meddwl eich bod wedi dweud y byddwn yn edrych eto ar y newid agwedd sydd wedi digwydd ymysg rhieni; rwy’n meddwl bod hynny yno yn y ddogfen ymgynghori. A ydych chi wedi cael unrhyw gyfle i edrych ar sut y mae plant yn gweld y mater hwn? Oherwydd rwy’n meddwl bod hwnnw’n beth eithaf pwysig i edrych arno. Rwy’n meddwl bod rhai astudiaethau wedi cael eu gwneud i ddangos barn plant, ond rwy’n meddwl bod hynny'n rhywbeth y dylem yn sicr ei wneud fel rhan o'r ymgynghoriad hwn, yn enwedig o ystyried y ffaith nad yw plant yn cael eu hamddiffyn cystal ag oedolion o dan y gyfraith fel y mae ar hyn o bryd. Y cwestiwn olaf, wedyn, yw gofyn i chi, gan—wyddoch chi, rydych chi'n amlwg yn gweld hyn fel rhan o becyn o hawliau plant, ac rwy’n gwybod bod CCUHP wedi annog Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i wneud hyn ar sawl achlysur, felly rwy’n siŵr y byddech chi'n gweld hyn fel y cyfle i gydymffurfio'n llawn â CCUHP, sydd, wrth gwrs, yn rhywbeth yr ydym wedi ymrwymo’n llawn iddo. Huw Irranca-Davies AC: Julie, a gaf i ddiolch yn fawr ichi am y cwestiynau hynny, ond hefyd ddiolch yn gwbl ddiffuant i chi ac eraill dros y blynyddoedd sydd wedi ymgyrchu ar hyn yn hir ac yn galed? Rwy’n gwybod bod y broses wedi bod fel Sisyphus yn gwthio’r graig yn barhaus i fyny’r rhiw ac yna’n ei gweld yn rholio’n ôl ar gyfer y bore wedyn. Ond rwy’n meddwl ein bod yn agos nawr, ac mae hynny'n dda i’w weld. Ac mae hynny’n dod â mi at—. Os caf i ymdrin yn gyntaf â’ch cwestiwn am y ddeddfwriaeth, os mai ewyllys y Cynulliad hwn yw pasio’r newid deddfwriaethol hwn a gwneud yn siŵr bod y pecyn cywir ar waith gennym a bod yr adnodd yn cael ei ddefnyddio’n dda, gallem symud ymlaen ar hyn yn gyflym, o bosibl o fewn trydydd tymor y Cynulliad. Nawr, mae hyn yn amodol ar i'r rheolwyr busnes ganiatáu hynny ac ati, a’i fod yn flaenoriaeth, ond nid wyf yn amau, pe bai'r Cynulliad yn cefnogi hyn yn gryf—ac mae'r Cabinet, rwy’n gwybod, yn awyddus i weld hyn yn symud ymlaen—gallem ei weld mor gynnar â’r trydydd tymor. Soniasoch am cynnig Llywodraeth yr Alban—yn wir, ac mae pobl wedi gofyn imi, 'oni fyddai'n braf pe gallai Cymru gyrraedd yno yn gyntaf, cyn yr Alban?' Ond, edrychwch, un o fanteision—. Byddai'n braf cyrraedd yno cyn yr Alban, ond Bil Aelod preifat sy'n cael ei defnyddio fel cyfrwng yn yr Alban, ond y gwir yw ei bod, yn ôl pob tebyg, yn bwysicach cyrraedd yno yn y ffordd gywir a gwneud yn siŵr bod y darn cywir o ddeddfwriaeth ger ein bron. Gallai fod yn fantais, o bosibl, cyrraedd ychydig ar ôl yr Alban, oherwydd hi, o’r holl wledydd yr ydym wedi edrych arnyn nhw, yw’r debycaf o ran ei hawdurdodaeth droseddol a’i chorff o gyfraith achos. Yn wir, pe byddem yn edrych ar rai o'r pethau y maen nhw yn eu dysgu ar hyn o bryd, gallai ein helpu i lunio hyn a lleihau, rhaid imi ddweud hefyd, y siawns y gallai her gyfreithiol lwyddo yn ei erbyn. Fodd bynnag, rydym yn cydweithio'n agos â swyddogion ac rwy’n edrych ymlaen at siarad â'm cymheiriaid yn Senedd yr Alban hefyd a Llywodraeth yr Alban i drafod eu cynigion a'u hamserlen yn fanwl. Julie, soniasoch am sut y mae plant yn gweld cosbau corfforol. Rydym yn cyfeirio at rywfaint o hynny, yn ddefnyddiol gobeithio, yn y ddogfen. Ceir cryn dipyn o dystiolaeth bellach bod y plant—nid yw'n anodd deall pam—yn eithaf clyfar ac yn gallu mynegi’n effeithiol—plant o wahanol oedrannau hefyd—y ffaith eu bod nid yn unig yn gweld cosbau corfforol yn ddiangen ac ati, ond yn wirioneddol niweidiol o ran sut y maent yn effeithio arnynt, nid yn unig yn gorfforol, ond yn emosiynol, ac ar y berthynas â gofalwyr, y berthynas â gwarcheidwaid, ac â rhieni, ond maent hefyd yn eithaf clir wrth ddweud eu bod yn cydnabod mai’r ffordd orau o ddisgyblu a sbarduno ymddygiad da yw’r dull gweithredu mwy cadarnhaol hwnnw o gydnabod ymddygiad da, gwobrwyo ac annog, a gosod ffiniau clir. Mae yna ffyrdd o ddisgyblu heb fod angen cosbi corfforol. Ac, yn olaf, o ran CCUHP, rwy’n meddwl ein bod yn ddigon clir, o ran deddfwriaeth flaenorol yr ydym wedi’i chyflwyno drwy'r lle hwn sy’n berthnasol i CCUHP, y byddai hwn yn ddarn o ddeddfwriaeth, ynghyd â phecyn ehangach, a fyddai’n rhoi Cymru ar flaen y gad, nid yn unig o ran bodloni gofynion y Confensiwn, ond ar flaen y gad unwaith eto o ran sut yr ydym yn ymdrin â hawliau plant ac yn amddiffyn yr hawliau plant hynny. Felly, rydym yn edrych ymlaen at yr ymgynghoriad a'r safbwyntiau a gyflwynir, ond rydym yn awyddus i fwrw ymlaen â hyn. Caroline Jones AC: Hoffwn hefyd ddiolch i'r Gweinidog am gymryd yr amser i gysylltu â mi ddoe, i drafod pethau â mi, ac i roi datganiad imi y bore yma. Rwy’n gwerthfawrogi, tra yr ydym yn y camau ymgynghori ar y pwnc hwn ac nad yw y ddeddfwriaeth ar waith eto, ei fod yn cyfeirio at y ddeddfwriaeth arfaethedig fel un sy’n dileu amddiffyniad cosb resymol. Mewn termau symlach, bydd y cyhoedd yn gyffredinol yn gwybod y gelwir hyn yn waharddiad ar smacio, yn syml. Yn ystod ymgynghoriad, mae'n bwysig ein bod yn cyrraedd cynulleidfa mor eang â phosibl, oherwydd mae'r pwnc hwn yn un dadleuol, ac, yn amlwg, yn un sensitif. Mae llawer o faterion i'w hystyried yma cyn rhoi gwaharddiad ar waith. Rhaid inni ofyn i ni'n hunain: a yw’r wladwriaeth yn ymestyn ei chrafangau i fywyd y teulu—wyddoch chi, pa mor bell yr ydym ni'n barod i fynd â hyn? A pha mor effeithiol fyddai’r gwaharddiad? Rydym i gyd yn cytuno bod rhaid inni annog rhianta cadarnhaol. Edrychais ar ôl dau o blant am flynyddoedd lawer ac ni wnes i eu smacio unwaith. Nid fy mhlant i oedden nhw. Roeddwn i'n gofalu amdanyn nhw yn barhaol am amser hir iawn, ond gweithiodd pethau’n iawn inni heb ddim smacio o gwbl. Mae hawliau plant yn bwysig, ond edrychais ar ddyfyniadau dwy fam ynghylch gwahardd smacio—roedd y ddwy ohonynt yn anghytuno ag ef—a dywedodd un: 'Mae gwahaniaeth rhwng disgyblu plant a’u cam-drin. Mae rhianta y dyddiau hyn yn llawer rhy feddal, a dyna pam mae gennym bobl yn rhedeg o amgylch y stryd heb ddim parch i awdurdod. Rwy’n teimlo dros athrawon. Y disgyblion sy’n rheoli’r athro nawr. Chaiff athrawon ddim gwneud dim byd i ddisgyblu’r plant, ac, yn y mwyafrif o achosion, dydy’r cymhellion ddim yn gweithio a dydy athrawon ddim yn cael gwneud pethau ac mae llawer o rieni’n meddwl nad yw hyn yn ddigon da.' Felly, mae'n agored i ymgynghoriad, ac, wyddoch chi, dim ond dweud barn pobl eraill yr wyf fi. Mae gan bawb hawl i’w safbwyntiau gael eu clywed. Dyma'r hyn yr wyf i'n ei ddweud—dyfyniad gan rywun arall—ac mae ganddyn nhw bob hawl i gyflwyno’r dyfyniad hwnnw. Wrth inni sôn am effeithiolrwydd gwaharddiad o'r fath, hoffwn ofyn sut y caiff ei roi ar waith, sut y caiff ei orfodi, sut y byddwn yn ysgwyddo’r gost—wyddoch chi, beth fydd yn ei gostio? A dywedodd ail riant hefyd ei bod yn meddwl bod pobl sydd o blaid y gwaharddiad eisiau inni drin plant fel oedolion bach, fel pobl y gallwch chi resymu â nhw, ond weithiau allwch chi ddim rhesymu â phlant. Dydy plant ddim bob amser yn deall eu meddyliau eu hunain ac maen nhw'n tueddu i wthio ffiniau. Ac maen nhw wedi gofyn, 'os ydyn nhw’n gwahardd smacio, a allwch chi roi datrysiadau inni? Mae eu cadw nhw yn y tŷ, neu gymryd breintiau oddi arnyn nhw, yn aneffeithiol ar y cyfan.' Yna aeth ymlaen i ddweud, 'Roedd pobl o fy nghenhedlaeth i’n cael eu smacio ac roeddwn i'n teimlo ein bod ni’n dipyn mwy cytbwys na rhai o'r genhedlaeth iau nawr.' A dywedodd hi, 'Roedd fy mhlentyn cyntaf yn cael ei smacio. Dydy smacio i ddisgyblu ddim yn golygu crasfa, ac, erbyn yr adeg pan oedd fy ail blentyn yn tyfu i fyny, roedd llawer o wrthwynebiad yn y cyfryngau i smacio, felly ni chafodd yr ail blentyn ei smacio. Cafodd hi ei rhoi ar y stepen ddrwg, ac ni chafodd hyn ddim effaith o gwbl; roedd ei chadw yn y tŷ yn union yr un fath. Felly, o ran y canlyniadau, roedd y cyntaf yn dangos llawer mwy o barch tuag at unrhyw fath o awdurdod na’r ail. Roedd dau o athrawon yr wyf yn eu hadnabod yn methu aros i symud i Dubai i addysgu oherwydd, yn eu geiriau eu hunain, "O ran disgyblaeth, does dim cymhariaeth. Yn Dubai, gallwn ni wneud yr hyn yr ydym ni'n cael ein talu i’w wneud, sef addysgu. Ychydig iawn o faterion disgyblu sydd yma, ond, yn anffodus, mae Cymru ar goll. Nid oes gennym ddim bwriad i ddychwelyd. Rydym yn addysgu, ac mae’r plant yn dysgu. Mae pawb yn ennill".' Felly, ein gwaith ni fel gwleidyddion yw helpu rhieni i fod y rhieni gorau posibl. Rydym yn annog ac yn meithrin ffordd o fyw, efallai, yn hytrach na gwahardd, a rhaid ymdrin â cham-drin pan gaiff ei gydnabod a’i gosbi gan y gyfraith. Rhieni sy'n byw gyda'u plant 24/7 a rhaid inni ddeall a pharchu eu hawliau hefyd i geryddu, o fewn rheswm, y plant y maen nhw'n dod â nhw i'r byd. Diolch. Huw Irranca-Davies AC: Caroline, diolch yn fawr iawn. Rwy’n meddwl bod hyn yn dangos pam, yn yr ymgynghoriad 12-wythnos, yr hoffem ni gael pob barn i mewn i hyn, ond heb fod dan unrhyw gamargraff mai’r bwriad yma yw cael gwared ar amddiffyniad cosb resymol. Nawr, unwaith eto, i gyfeirio at y ddogfen, yr ydym wedi treulio llawer o amser arni—yn y ddogfen ymgynghori, mae’n cyfeirio at yr hyn sydd wedi digwydd mewn gwledydd eraill ac nid yw wedi arwain at giwiau o rieni a gwarcheidwaid y tu allan i lysoedd yn aros i gael eu herlyn; nid yw wedi arwain at fasgedi o erlyniadau. Mae wedi arwain, gyda llaw, at bethau fel cynnydd sydyn yn y cwpl o flynyddoedd cyntaf o fwy o riportio, ond nid yw hynny wedi arwain at erlyniadau diddiwedd. Yr asesiad yw bod gan hynny gymaint i'w wneud â’r ymwybyddiaeth o fewn cymdeithas mai effaith deddfwriaeth fel hyn, yn sydyn, yw nad dyna’r ffordd orau o ddisgyblu plentyn, mewn gwirionedd, defnyddio cosb gorfforol. Ond bydd amrywiaeth eang o safbwyntiau’n cyfrannu at hyn. Byddwn yn tynnu, Caroline, eich sylw at dudalen 21 y ddogfen, sy’n edrych ar rai o'r astudiaethau ynghylch agweddau tuag at gosbi plant. Yn ôl yn 1998, gwnaeth yr Adran Iechyd astudiaeth o 2,000 o oedolion ym Mhrydain—ar yr adeg honno, dywedodd 88 y cant o rieni, 'Weithiau mae angen smacio plant drwg.' Tachwedd 2015, arolwg Llywodraeth Cymru: cytunodd 24 y cant o rieni fod angen smacio plant drwg weithiau. Mae pethau’n symud: rwy’n siarad â phobl sy'n dweud hyn wrthyf. Os ydych chi wedi gweld yr arolygon o farn rhieni dros yr ychydig ddyddiau diwethaf, maen nhw'n dweud, 'Dydy’r hyn yr oedd fy rhieni’n meddwl ei fod yn normal ddim yr un fath â’r hyn yr oedd eu neiniau a’u teidiau’n nhw yn ei feddwl' ac ati. Nid yw hynny’n golygu, gyda llaw, eu bod yn rhieni gwael; doedden nhw ddim, o gwbl. Ond mae cymdeithas yn symud, rydyn ni’n symud gyda hi, ac weithiau mae angen i’n deddfwriaeth ddal i fyny â beth yn union sy'n digwydd a’i gwneud yn glir, hefyd, rhaid imi ddweud, i rywun mewn llys, beth yn union sy'n dderbyniol a beth sydd ddim. Soniasoch chi am gostau. Rwy’n siŵr y bydd llawer o gyflwyniadau yn ystod yr ymgynghoriad hwn ar y pecyn ehangach hwnnw o gefnogaeth. Nid ydym ni'n rhagweld unrhyw gost ychwanegol yma o ran llysoedd neu erlyniadau ac ati, oherwydd dydy’r dystiolaeth ddim yn dangos bod hynny'n digwydd, ond efallai y caiff awgrymiadau eu cyflwyno o ran ble i ddefnyddio’r adnoddau o ran cymorth i rieni neu ofal cymdeithasol ac ati, ac ati, ac ati, a byddwn yn edrych ymlaen at gael y rheini. Ac, yn olaf, gwnaethoch chi y pwynt, fel y gwnaeth eraill, am ledaenu hyn i gynulleidfa mor eang â phosibl. Anghofiais ddweud, Angela, ac eraill, wrth ymateb, bod yr ymgynghoriad, wrth inni siarad, wedi mynd yn fyw ar y wefan a’i fod yn ymgynghoriad da a hawdd i ymateb iddo, a byddwn yn annog Aelodau i hysbysebu hyn i'w hetholwyr yn eu cylchlythyrau rheolaidd ac ati i wneud yn siŵr bod pobl yn rhoi eu barn. P'un a ydynt yn rhiant neu beidio, bydd ganddyn nhw farn am hyn. Felly, gallan nhw roi eu barn. Diolch. David Melding AC: A gaf ddweud bod yr ymgynghoriad hwn a'r ddadl genedlaethol y bydd nawr yn ei hysgogi, gobeithio, i’w croesawu’n fawr? Fi yw’r unig Aelod Cynulliad Ceidwadol sydd wedi gwasanaethu pob Cynulliad hyd yma. Dyma'r pumed, ac, yn y cyntaf, cawsom ddadl am gosbi plant yn gorfforol ar gynnig yr wyf yn meddwl a gynigiwyd gan Christine Chapman ac roedd naw o Geidwadwyr yn y Cynulliad ar y pryd, a phleidleisiodd tri ohonom o blaid y cynnig hwnnw. Felly, bu cefnogaeth drawsbleidiol i hyn ac, yn amlwg, mae pobl o bob plaid sy'n teimlo y dylid cadw’r amddiffyniad. Rwy’n meddwl mai’r hyn sy'n hanfodol yw ein bod yn cael y ddadl hon yng nghyd-destun hyrwyddo’r dulliau rhianta mwyaf cadarnhaol ac amgylchedd lle mae ein plant yn cael cyfle i ffynnu. Un o'r pryderon y mae angen inni eu cofio yw nad y smacio de minimis, fel y'i gelwir, sy’n digwydd mewn diwylliant sy'n caniatáu hynny sydd bwysicaf; mae hynny’n ymosodiad corfforol bach iawn. Y pryder yw bod hynny’n gwneud defnyddio grym corfforol yn dderbyniol i ryw raddau, ac y gellir colli rheolaeth ar hynny, ac y gallai fod yn haws atal y mathau hynny o gam-drin mewn diwylliant sy'n dweud, 'Mae'r gyfraith yma yn glir iawn, iawn'. Ac rwy’n meddwl bod angen inni gofio’r plant hynny sy'n agored i niwed corfforol gwirioneddol weithiau, er fy mod yn derbyn yn llwyr bod hynny'n bell y tu hwnt i unrhyw beth y byddai’r mwyafrif helaeth o rieni’n ei ystyried yn rhesymol o gwbl. A gaf ddiweddu drwy ddweud bod rhaid inni, yn anffodus, wynebu y ddadl hon fel mater o gyfraith droseddol? Ac nid wyf yn meddwl bod hynny'n ddefnyddiol. Rwy’n meddwl ei bod yn llawer gwell sôn am gyfreithlondeb rhywbeth, ac, os ydym yn newid y gyfraith, ei bod yn well o lawer dweud nad yw cosb gorfforol yn gyfreithlon mwyach, ac os yw’n digwydd, y byddai disgwyl ymyriad, ond yn y mwyafrif helaeth o achosion, y byddai’n anffurfiol ac yn llawer llai nag unrhyw achos troseddol. Dyna fy nealltwriaeth o'r hyn sydd wedi digwydd yn rhyngwladol, a dyna beth y dylem fod yn ei annog. Rwy’n canmol Llywodraeth Cymru am fwrw ymlaen â hyn nawr, ac rwy’n siŵr y cawn sgwrs helaeth iawn â phobl Cymru yr ydym yn eu gwasanaethu. Bydd llawer o safbwyntiau, ac mae’n ddigon teg i Caroline fynegi barn pobl sydd â barn wahanol, ond rwy’n meddwl bod angen dadl lawn a phriodol. Yn fy marn i, 20 mlynedd yn ôl, roeddwn yn teimlo ei bod yn bryd inni symud ymlaen, ond rwy’n sicr yn meddwl hynny nawr. Huw Irranca-Davies AC: David, a gaf i ddiolch ichi am eich sylwadau? Efallai eich bod chi ac Aelodau eraill yma o flaen eu hamser, ond nawr mae’r cynnig hwn yn dal i fyny â chi. Unwaith eto, hoffwn bwysleisio y byddwn yn sicr yn ceisio bwrw ymlaen â hyn gyda chefnogaeth drawsbleidiol mor eang â phosibl, ac wrth yr Aelodau hynny sydd cyn hyn wedi mabwysiadu safbwyntiau gwahanol i'r cynnig presennol, byddwn wir yn dweud 'Ymgysylltwch â ni, byddwch yn agored o ran yr hyn yr ydym yn ei gynnig.' Rwy’n hapus i drafod hyn hyd syrffed gyda phobl, yn ffurfiol ac yn anffurfiol, oherwydd rwy’n meddwl bod yr hyn sydd gennym ger ein bron yn gymesur, yn gytbwys, ac yn canolbwyntio'n gryf ar y mater o agwedd gadarnhaol at rianta, gan gydnabod bod rhieni eisiau gwneud y peth iawn i’w plant—weithiau, mae angen cymorth ar bob math o rieni i wneud hynny. Ond mae hefyd yn fater o roi, yn hollbwysig, yr eglurder hwnnw a nodwyd gennych, David, i bobl allan yna yn y gymdeithas ehangach, gan fy nghynnwys i, ond hefyd i lysoedd barn, fel y ceir symlrwydd ac eglurder a bod pobl yn gwybod lle maen nhw yn sefyll, ac fel bod y bobl sy’n gweithio mewn gwasanaethau rheng flaen yn gwybod lle maent yn sefyll hefyd wrth roi cyngor i rieni a gwarcheidwaid. Felly, diolch ichi am eich cefnogaeth ac rwy’n edrych ymlaen at ymgysylltu â chi a llawer o bobl eraill ar hyn. Yn olaf, Jane Hutt. Jane Hutt AC: Diolch, Llywydd. Hoffwn hefyd ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw, a myfyrio hefyd ar y ffaith ein bod wedi cael cyngor ac ymatebion cadarnhaol iawn gan bobl fel yr Athro Sally Holland, y comisiynydd plant annibynnol. Cyn iddi ddod yn gomisiynydd plant, roedd hi’n athro polisi cymdeithasol a gwaith cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd. Rwyf hefyd yn cydnabod y dystiolaeth a ddarparwyd dros y blynyddoedd, i fynd yn ôl at y ddadl y mae David Melding newydd gyfeirio ati yn y sesiwn gyntaf, gan y sector gwirfoddol plant hefyd. Ac rwy’n meddwl ei bod yn bwysig iawn bod pobl yn gallu edrych at, a throi at, y sector gwirfoddol plant sefydledig ac uchel ei barch—Barnado's, yr NSPCC, Plant yng Nghymru—sydd wedi bod yn glir iawn am hyn ers y dyddiau cynnar hynny o ran y drafodaeth. Hoffwn hefyd ddiolch i Aelodau fel Julie Morgan am ei chefnogaeth barhaus i’r newid hwn yn y gyfraith ers iddi fod yn AS ac yn ei hamser fel AC. Yn wir, hoffwn ddweud fy mod wedi bod yn Weinidog ac y gallwn hyd yn oed fod wedi ymateb i’r ddadl honno a ysbrydolwyd gan Christine Chapman, a dweud bryd hynny, ‘Ydym, rydym ni eisiau symud ymlaen ar hyn.’ Rwy'n meddwl ei bod yn bwysig iawn ein bod yn edrych ar yr agenda rhianta cadarnhaol, a bod hynny’n digwydd nid yn unig o ran aros am ymatebion, ond rwy’n cofio ein bod wedi ariannu canllawiau da iawn ar reoli ymddygiad. Roedd dwy ddogfen, ac rwy’n meddwl y cawsant eu cynhyrchu gan weithwyr iechyd cyhoeddus proffesiynol, ymwelwyr iechyd, bydwragedd, pobl sy'n gweithio gyda'r plant. Roedd dogfen ar gyfer plant o dan bump, ac wedyn roedd yn ymwneud â rheoli ymddygiad, a rheoli ymddygiad plant dros 10 oed hefyd. Dyma lle y mae angen inni wneud yn siŵr ein bod yn cyfleu’r wybodaeth honno, felly rwy’n gobeithio y byddwch hefyd yn gwneud yn siŵr bod y canllawiau rhianta cadarnhaol a'r cyngor sydd ei angen arnom i gyd—. Ac rwy’n meddwl bod Bethan Jenkins wedi gwneud pwynt pwysig iawn: bod hyn yn berthnasol i bob oedolyn—ac, yn wir, Caroline hefyd. Mae’n ymwneud ag oedolion sy'n gofalu am blant, a’r cyngor y gallwn ei roi. Ond rwy’n credu bod y ffordd yr ydych chi fel Gweinidog wedi bwrw ymlaen â hyn yn rhagorol, gan ystyried y materion mor fanwl, a’ch ymrwymiad personol eich hun i archwilio’r mater hwn. Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair. Huw Irranca-Davies AC: Jane, diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth hirdymor yn hyn o beth. Yn gwbl briodol, rydych yn cydnabod swyddogaeth y comisiynydd plant wrth ddadlau dros hyn ers cryn amser. Rwy'n deall iddi fod yn gefnogol i'r cynigion yr ydym yn eu cyflwyno ar hyn o bryd, ac mae hi wedi dweud hynny—ond mae'r amrywiaeth eang o sefydliadau yn y sector gwirfoddol hefyd wedi ymgyrchu ers amser hirdros hyn. Ac rwy'n sicr y bydden nhw i gyd—fel y bydd eraill sydd o farn wrthgyferbyniol hefyd—yn cyfrannu at yr ymgynghoriad hwn wrth iddo fynd rhagddo. Rydych, yn gwbl gywir felly, yn pwysleisio pwysigrwydd canolbwyntio unwaith eto ar yr agwedd rhianta cadarnhaol, ac fe wyddom ni—ac rydym yn cyfeirio at hynny yn y ddogfen ymgynghori—lle gallwnweld y manteision. Ceir manteision gwirioneddol, gydag enghreifftiau rhyngwladol, o'r effaith fuddiol ahirdymor ar y plant a'r bobl ifanc hynny wrth iddynt ddatblygu i fod yn oedolion, drwy'r dulliau cadarnhaolo rianta, yn hytrach na chosb gorfforol. Ond gwyddom hefyd mai adeiladu y mae hyn ar y gwaith yr ydym eisoes wedi gwneud cymaint ohono yng Nghymru. Eto, nid wyf yn mynd i'w darllen nhw nawr ar gyfer y cofnod, ond maen nhw yno yn y ddogfen ymgynghori. Y cwestiwn yw: ai'r rhain yw'r ymyriadau cywir, wrth fynd ymlaen, a oes angen eu mireinio a'u haddasu, a oes gennym yr adnoddau digonol, a oes angen inni adleoli'r adnodd? Ond gwyddom na fydd hyn yn digwydd ar hap; bydd yn digwydd o'r llwybr a osodwyd gan y Cynulliad hwn, a Llywodraethau olynol, ynghylch y ffordd yr ydym yn ymdrin â rhianta, teuluoedd a phlant yng Nghymru. Credaf mai agenda gadarnhaol a blaengar iawn fu hon erioed, a dyma'r cam diweddaraf. Ond mae'n mynd â ni ymlaen at gam sy'n diffinio, lle byddwn ni mewn gwirionedd yn dweud bod gennym ni, ar gyfer plant a rhieni Cymru, ddull lle mae eglurder yn y gyfraith, ac mae eglurder pwrpas hefyd o ran rhianta cadarnhaol. Ac rydym yn gwybod bod gennym ni fel Llywodraeth, ac fel Cynulliad, swyddogaeth allweddol wrth symud hyn yn ei flaen. Diolch. Diolch yn fawr iawn i chi, Gweinidog. 4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Cod Erlyn Llywodraeth Cymru Eitem 4 ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol ar God Erlyn Llywodraeth Cymru. Rwy'n galw ar y Cwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles, i gyflwyno'r datganiad. Jeremy Miles AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae gan Lywodraeth Cymru nifer o gyfrifoldebau erlyn mewn cysylltiad â'i swyddogaethau. Mae'r cyfrifoldebau hyn yn ymwneud yn bennaf â lles anifeiliaid, cynhyrchu bwyd, a physgodfeydd. Pan fo cyfreithiau’n creu rhwymedigaethau rheoleiddiol a throseddau cysylltiedig, rhaid sicrhau eu bod yn cael eu gorfodi’n briodol er budd llywodraethu da, ac ni fydd yn syndod i Aelodau, felly, bod Llywodraeth Cymru yn cymryd yr angen i orfodi’r materion hyn o ddifrif. Jeremy Miles AC: Mae'r camau gorfodi a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru o ran lles anifeiliaid a chynhyrchu bwyd wedi arwain at erlyniadau. Yn fwyaf diweddar, er enghraifft, cafwyd erlyniad yn enw'r Cwnsler Cyffredinol am drosedd â rheoliadau CE o ran marchnata wyau a thwyll. Rwy'n falch o ddweud bod yr erlyniad hwn wedi arwain at euogfarn, dirwy a gorchymyn enillion troseddau. Mae'r achos hwn, ac eraill tebyg, yn ein hatgoffa pan fydd torcyfraith yn dod i'r amlwg—yn yr achos hwn, o fewn y diwydiant wyau yng Nghymru— ydylai troseddwyr fod yn gwbl sicr y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu i gynnal y gyfraith. O ran pysgodfeydd, mae swyddogion gorfodi morol sy'n gweithredu ar ran Gweinidogion Cymru wedi ymchwilio i nifer o droseddau yn erbyn deddfau pysgodfeydd yn nyfroedd Cymru, gan arwain at nifer o erlyniadau llwyddiannus. Mae'r erlyniadau hyn yn diogelu uniondeb a chynaliadwyedd y sector pwysig hwn. Er hynny, nid yw ein cyfrifoldebau erlyn yn dod i ben gyda hynny. Mae gennym hefyd gyfrifoldebau erlyn o ran gweithgaredd a reoleiddir ym meysydd gofal cymdeithasol, gofal iechyd annibynnol a gofal plant. Felly, gellir dwyn erlyniadau yn erbyn unigolion sy'n ddarparwyr cofrestredig yn un o'r meysydd hynny am dorri gofynion rheoliadol. Yn yr un modd, gellir dwyn erlyniadau yn erbyn unigolion sy'n cyflawni gweithgareddau rheoleiddiedig heb fod wedi eu cofrestru. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i erlyniad teg ac effeithiol fel ffordd o gynnal cyfraith a threfn, amddiffyn unigolion, y cyhoedd a'n hadnoddau, a sicrhau bod pob un ohonom yn byw mewn cymdeithas ddiogel a chyfiawn. Mae penderfyniad i erlyn neu hyd yn oed argymell rhybudd yn gam difrifol iawn sy'n effeithio nid yn unig ar yr unigolyn sydddan amheuaeth mewn achos, ond yn effeithio ar bawb sy'n gysylltiedig â'r achos, yn ddioddefwyr a thystion yn benodol. Mae'n hollbwysig ein bod yn cadw hyder y cyhoedd wrth wneud penderfyniadau o ran erlyniadau. Rhan fawr o hynny yw esbonio sut yr ydym yn gwneud ein penderfyniadau a'r egwyddorion sydd yn gymwys wrth wneud y penderfyniadau hynny. Rhaid cymryd pob penderfyniad i erlynyn deg, yn ddiduedd ac yn ddidwyll. Rwyf felly wrth fy modd oddatgan heddiw fy mod wedi cyhoeddi Cod Erlyn Llywodraeth Cymru. Yn Gwnsler Cyffredinol, rwy'n gyfrifol yn gyffredinol am benderfyniadau erlyn yn Llywodraeth Cymru, er y gwneir rhai penderfyniadau erlyn yn enw Gweinidogion Cymru o dan statud. Ym mhobachos, mae angen i mi ystyried a yw'n achos sy'n addas ar gyfer ei erlyn. Hyd yn hyn, gwnaed hynny drwy gyfeirio at God Gwasanaeth Erlyn y Goron ar gyfer erlynwyr y goron. Fodd bynnag, o heddiw ymlaen bydd pob penderfyniad erlyn gan Lywodraeth Cymru yn cael ei wneud drwy gyfeirio at god erlyn Llywodraeth Cymru. Mae cod Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar god presennol Gwasanaeth Erlyn y Goron ond wedi ei addasu i gymryd swyddogaethau erlyn Llywodraeth Cymru i ystyriaeth. Cafodd cod Gwasanaeth Erlyn y Goron CPS ei ddatblygu yn bennaf i'w ddefnyddio mewn perthynas â thramgwyddau troseddol prif ffrwd. Mae felly yn cymryd i ystyriaeth y math o erlyniadau sy'n cael eu cychwyn gan Wasanaeth Erlyn y Goron a'r heddlu. Mae'n anochel nad yw rhannau o god Gwasanaeth Erlyn y Goron yn gymwys i Lywodraeth Cymru. Er enghraifft, mae cod Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cynnwys prawf trothwy sy'n gymwys i achosion dalfa. Yng ngoleuni hyn, ac ynghyd â'r ffaith bod swyddogaethau erlyn Llywodraeth Cymru yn parhau i dyfu, mae'n briodol i Lywodraeth Cymru gael ei chod erlyn ei hunan. Bydd y cod hwn, sydd wedi ei deilwra'n benodol, yn sicrhau y gwneir penderfyniadau teg a chyson am erlyniadau gan Lywodraeth Cymru. Mae'r cod newydd yn pennu fy ngallu cyffredinol iddechrau erlyniadau o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Ymhellach, mae'r cod yn cynnwys y prawf erlyniad, a fydd yn berthnasol i holl achosion erlyn. Mae dau gam ar wahân i'r prawf hwn: yn gyntaf, prawf y dystiolaeth ddigonol, ac yn ail, camlles y cyhoedd. Mae'r cam tystiolaeth ddigonol yn ei gwneud yn ofynnol i'r erlynydd gael ei fodloni bod digon o dystiolaeth i roi gobaith realistig o euogfarn yn erbyn pob un sydd dan amheuaeth ar gyfer pob trosedd. Mae cam lles y cyhoedd yn ei gwneud yn ofynnol i erlynwyr fynd ymlaen i ystyried a yw erlyniad yn ofynnol er lles y cyhoedd. Jeremy Miles AC: Mae’r cod yn amlinellu nifer o ffactorau penodol i'r erlynydd eu hystyried wrth benderfynu ar y budd i'r cyhoedd, sy’n amrywio gan ddibynnu ar gyd-destun yr erlyniad. Er enghraifft, yngnghyd-destun erlyniad amgylcheddol, bydd angen i erlynydd ystyried effaith y drosedd ar yr amgylchedd. Po fwyaf yw effaith y troseddu, y mwyaf tebygol yw hi y bydd angen erlyniad, ac yng nghyd-destun erlyniad gofal cymdeithasol, bydd angen i'r erlynydd ystyried a oes elfen o berygl i iechyd neu ddiogelwch y cyhoedd. Cyn y cafodd y cod hwn ei gyhoeddi, lansiodd fy rhagflaenydd a’m cydweithiwr Mick Antoniw ymgynghoriad cyhoeddus ar god drafft er mwyn rhoi cyfle i randdeiliaid a'r cyhoedd gyflwyno sylwadau a barn. Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i bawb wnaeth ymateb i'r ymgynghoriad hwnnw. Cafwyd nifer o sylwadau gwerthfawr a gallaf gadarnhau y cafodd diwygiadau eu gwneud i'r cod drafft o ganlyniad i'r sylwadau hyn. Hoffwn ddiolch yn benodol i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am y sylwadau ynghylch eglurder yn benodol.Mae’r cod wedi elwa ar fewnbwn y pwyllgor ac rwy’n gobeithio y bydd yn cytuno bod y cod terfynol yn gliriach oherwydd hynny. Hoffwn ddiolch, yn olaf, i Wasanaeth Erlyn y Goron am gydweithio'n agos â swyddogion Llywodraeth Cymru wrth ddatblygu'r cod. Jeremy Miles AC: Amcan Llywodraeth Cymru drwy'r cyfan fu datblygu cod erlyn Llywodraeth Cymru sydd yn glir, yn hygyrch ac yn addas at y diben. Mae mewnbwn gan yr holl randdeiliaid wedi bod yn werthfawr wrth ddatblygu cod a fyddai'n rhoi sail glir i erlyniadau gan Lywodraeth Cymru i'r dyfodol wrth inni barhau i weithredu'r cyfreithiau yr ydym yn gyfrifol amdanynt. Diolch ichi. David Melding. David Melding AC: Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Byddaf yn gwneud ymyriad byr, ond mae gennyfun prif ymateb, mewn gwirionedd, a hwnnw yw: beth oedd cywair yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn gyffredinol? Fel y dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, fis Mai diwethaf cafodd cod drafft ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad. Hyd y gwn i, ni chyhoeddwyd yr ymatebion i'r ymgynghoriad. Rwy'n ymddiheuro os fy methiant TG i yw hynny, ond nid wyf wedi llwyddo i gael gafael arnyn nhw, ac nid wy'n credu bod dadansoddiad o'r ymatebion wedi bod ar gael inni. Rwyf i o'r farn y byddai hynny'n ddefnyddiol iawn, yn enwedig gan eich bod wedi dweud bod y cod wedi'i ddiwygio mewn gwirionedd yng ngoleuni'r ymatebion hyn. Eto i gyd, rwyf wedi gweld ymateb yr RSPCA i'r ymgynghoriad ar wahân ac roedd pryderon ynddo am y prawf erlyn, sydd, fel y dywedasoch, yn allweddol i'r ymgynghoriad gan ei fod yn culhau cymhwysiad cod Llywodraeth Cymru o'i gymharu â chod Gwasanaeth Erlyn y Goron. Yn amlwg, mae hwn yn bwynt y byddai angen ystyriaeth ofalus ohono a naill ai sicrwydd neu wrthbrawf o'ch safbwynt chi. Yn olaf, hoffwn iofyn a oes unrhyw asesiad o allu Llywodraeth Cymru i gyflawni'r dasg hon a gweithredu'r cod yn effeithiol. O ystyried y bydd gennym fwy o gyfraith Cymru, yn ôl pob tebyg, mae'n mynd yn fwy ar wahân, ac mae dyletswyddau erlyn yn debygol o dyfu. Rwy'n cytuno â chi yn sicr fod angen innisicrhau gweithrediad teg ac effeithiol o'r gyfraith, ni chawn ni ein llywodraethu yn dda fel arall, ac felly yn wir mae hynny'n mynd at galon hyn. Wrth wneud hynny, rwy'n ymwybodol iawn y bydd angen ystyriaeth ofalus iawn, iawn o'r materion hawliau dynol dan sylw pan fydd pobl ynwynebu torcyfraith, ac wrth gasglu tystiolaeth a phethau tebyg,fel sy'n digwydd yn amlwg ar hyn o bryd gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron. Jeremy Miles AC: Diolch. O ran cyhoeddi'r ymatebion i'r ymgynghoriad, maen nhw wedi'u cyhoeddi mewn gwirionedd, felly gwnaf yn siŵr eu bod yn cael euhanfon eto mewn e-bost heddiw, a gwnaf yn siŵr bod yr Aelod yn cael copi. Mae e'n iawn i ddweud bod nifer o'r pwyntiau a godwyd yn ymwneud â'r cwmpas, fel petai. Roedd rhanddeiliaid yn awyddus i gael rhagor o eglurderynghylch y sawl y mae'r cod yn berthnasol iddo, er enghraifft, ac felly gwnaed diwygiadaui egluro'n benodol ei fod yn ymwneud â swyddogaethau Llywodraeth Cymru yn unig yn hytrach na chyrff trydydd parti sydda'u swyddogaethau erlyn eu hunain o bosib. Roeddech chi'n sôn am y prawf erlyn yn benodol, ac, unwaith eto, mae rhanddeiliaid amrywiol wedi gwneud sylwadau ar gam lles y cyhoedd ac wedi gwneud rhai awgrymiadau penodol am welliannau i'r cam hwnnw, a rhoddwyd ystyriaeth i sawl un o'r awgrymiadau hynny. Roeddech chi'n holiam effaith y cod ar y capasiti yn gyffredinol i fynd ar drywydd rhai o'r erlyniadau. Efallai y byddwch yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi cymhwyso cod erlyn Gwasanaeth Erlyn y Goron, sy'n nodi ei gamau ei hun. Felly, mae hyn yn golygurhyw fath o werthusiad o'r hyn sy'n benodol i Lywodraeth Cymru. Yn amlwg, gwneir penderfyniadau am erlyniadau ar sail ffeithiau pob erlyniad unigol, ac mae nifer yr erlyniadau yn amrywio o faes i faes, ac wrth gwrs yn amrywio dros amser. Rhan yw hynny o gyfrifo neu ddadansoddi lles y cyhoedd sy'n ymwneud â chymesuredd y penderfyniadau i erlyn, acun o'r ffactorau yw'r gost, er na fyddech yn gwneud penderfyniad ar sailhynny'n unig. O ran capasiti'n fwy cyffredinol, mae gan y gweinyddiaethau datganoledig eraill asiantaethau erlyn ar wahân, wrth gwrs. Yn y tymor hir, gellid ystyried hynny'nrhan naturiol o daith datganoli, sydd â chysylltiad agos â datganoli cyfrifoldebau cyfiawnder. Mae'r asiantaethau hynny yn bodoli yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac rwyf am fentrodweud, dros amser, wrth i'n cyfrifoldebau erlyn nidyfu, y bydd hynny o bosib yn rhan o'r ystyriaethauy byddwn ni'n dymuno eu cael yma yng Nghymru hefyd. Dai Lloyd AC: A allaf i groesawu datganiad y Cwnsler Cyffredinol? A allaf i hefyd groesawu'r bwriad a hefyd croesawu ymddangosiad cod erlyn Llywodraeth Cymru, achos mae hyn yn adeiladau ar gael pwerau deddfwriaethol yma yng Nghymru? Wrth gwrs, fe fydd y Cwnsler Cyffredinol yn rhy ifanc i gofio Deddfau Hywel Dda ar y pryd, dros 1,000 o flynyddoedd yn ôl, ond rydym wedi cael y gallu yma yng Nghymru i greu deddfwriaeth o'r blaen ac i erlyn pobl, felly rwy'n gweld hyn fel cam cyntaf i adennill y tir deddfwriaethol. Dyna pam y cewch chi groeso cynnes o'r blaid hon am eich bwriad. Wrth gwrs, mae yna rai heriau, achos, fel rydychwedi crybwyll eisoes, ac mae'n wybyddus i bawb fod cyfiawnder troseddol fel y mae e heb ei ddatganoli, ond mae gan y Llywodraeth yn fan hyn rym i erlyn pobl sydd yn troseddu yn y meysydd datganoledig yna—fel rydych wedi crybwyll: pysgodfeydd, lles anifeiliaid, bwyd, gofal cymdeithasol a phlant.Wrth gwrs, mae yna her yn mynd i ddod pan mae'r broblem neu'r drosedd yn cael ei gweld yn fwy difrifol na beth sydd gyda ni'r pwerau i'w herlyn nhw o dan jest y meysydd datganoledig. Fe fuaswn i jest eisiau gwybod mwy am y broses, ond rwy'n croesawu'r bwriad i gael y cefndir clir yma rydych chi'n datgan i'r cod, a bod y cod yma'n mynd i fod yn glir ac yn hygyrch ac yn gymesur efo'r gwaith. Achos mae'n bwysigiawn—er taw dim ond y grym i erlyn pobl sy'n troseddu ym meysydd datganoledig sydd gyda ni ar hyn o bryd, mae'r meysydd hynny, er hynny, yn feysydd pwysig iawn. Mae diogelu ein hadnoddau naturiol yn allweddol bwysig. Mae'n bwysig felly eich bod chi fel Cwnsler Cyffredinol yn gallu cael y grym i fynd i'r afael efo'r her yna. Rwy'n dilyn cwestiwn David Melding ynglŷn â deddfwriaeth hawliau dynol yn yr un un achos yna o feddwl sut mae materion gweddol ddifrifol mewn meysydd datganoledig yn mynd i gael eu delio efo nhw pan mae gyda chi ddaugwahanol god, fel rydych wedi awgrymu—eich cod chi a hefyd cod y CPS. Mae her yn fanna. Fe fuaswn i'n eich cefnogi chi i wthio pob maen i bob wal a sicrhau bod pob ffin yn cael ei gwthio i'r eithaf i sicrhau bod eich cod erlyn chi fel Llywodraeth yn cael digon o rym i wneud yn siŵrein bod ni'n gallu gwneud beth rydym ni'n disgwyl iddo fe ei wneud. Achos ar ddiwedd ydydd, beth rydym ni eisiau gweld yn y fan hyn wrth inni gamu ymlaen a chael rhagor o ddatganoli ydy, wrth gwrs, gwasanaeth erlyn Cymreig hefyd, a hefyd awdurdodaethgyfreithiol Gymreig sydd ar wahâni awdurdodaeth gyfreithiol Cymru a Lloegr, sydd gyda ni ar hyn o bryd. Yn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, wrth gwrs, rydym wedi bod yn craffu ar ddeddfwriaeth yn y lle yma sydd nawr yn naturiol ddwyieithog, ac mae yna her yn hynny hefyd yn sut rydym ni'n datblygu Deddfau wrth fynd ymlaen, a sut rydym ni'n erlyn pobl yn y meysydd datganoledig yma wrth fynd ymlaen hefyd. Roeddwn i'n gweld un o'r ymadroddion yn yr ymgynghoriad yn dweud, 'Wel, beth am yr iaith Gymraeg, felly?' ac 'A ydy'n bosib i herio ac i erlyn yn yr iaith Gymraeg?', a buaswn i'n gobeithio y buasech ni'n gallu cyfiawnhau a chadarnhauei bod hi yn bosib erlyn rhywun yn y meysydd yma drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Wrth gwrs, wrth imi gloi rŵan, mae angen inni fod yn cysoni Deddfau newydd wrth fynd ymlaen hefyd. Rydym ni wedi cael sôn yn y Siambr hon o'r blaen am yr angen i wneud hynny—cydredeg Deddfau newydd efo'r hen rai a hefyd dod â'r agwedd ddwyieithog yma i mewn iddo fe, fel ein bod ni yn y pen draw yn gallu symleiddio pob cod cyfreithiol sydd yn mynd ymlaen.A allaf i ofyn i chi egluro faint o waith ehangach sydd yn digwydd yn nhermau yr angen i wneud yn siŵrbod cod erlyn eich Llywodraeth chi yn mynd i fod yn llwyddiannus yn hyn o beth? Y pwynt sylfaenol, wrth gwrs, ydy eich bod wedi sôn am beth sy'n digwydd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon ac ati, a gyda'r holl sôn am erlyn a deddfwriaeth rydym ni ar y meinciau hyn yn gredwyr cryf yn yr angen i ddatganoli y materion hyn ta beth yn eu cyfanrwydd. Mi fuasai yn symleiddio'r broses. Fuasech chi ddim yn cael y mur yma rhwng eich cod chi a chod y CPS wedyn. Buasai'n llawer haws petai'r heddlu wedi eu datganoli yma yn y lle cyntaf, fel y mae i'r Alban a Gogledd Iwerddon, Llundain a Manceinion hyd yn oed. Pe bai'r llysoedd, y gwasanaeth prawf, carchardai ac ati i gyd wedi eu datganoli i'r lle yma, mi fuasai yn gwneud eich gwaith chi o ddatblygu'r cod erlyn yma yn llawer haws ac yn llawer cryfach hefyd. A fuasech chi yn cytuno efo'r bwriad yna taw'r ffordd ymlaen ydy gweithio yn gyson i ddatganoli rhagor o bwerau deddfwriaethol i'r Siambr yma? Diolch yn fawr. Jeremy Miles AC: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Ar y materion olaf y gwnaeth eu codi yn ei gwestiwn, fel y bydd e'n gwybod mae'r Prif Weinidog wedi sefydlu comisiwn Thomas a fydd yn edrych i mewn i lot o'r cwestiynau a oedd ynghlwm yng nghwestiwn yr Aelod ynglŷn â'r siwrnai ddatganoli ynglŷn â meysydd cyfiawnder yn gyffredinol, a'r sefydliadau sydd ynghlwm yn hynny, yn cynnwys yr heddlu ac ati. Rwy'n dymuno'n dda i'r comisiwn a'i waith ac rwy'n gobeithio y bydd eglurhad a dadansoddiad a gwaith y comisiwn yn gallu dwyn y siwrnai hynny ymhellach yn ei blaen. Fe wnaeth e hefyd sôn am y cwestiwn o hygyrchedd y gyfraith yn gyffredinol a'r system gyfiawnder. Bydd e'n gwybod efallai am waith Comisiwn y Gyfraith, sydd wedi darparu adroddiad ar hynny yn benodol, ac mae'r Llywodraeth wedi derbyn sawl un o'r argymhellion hynny. Mae'r ffaith bod y Llywodraeth yn gwneud darnau o waith ynghlwm â hynny yn hysbys iddo fe hefyd. Fe wnaeth e ofyn am enghraifft o sut mae'r penderfyniadau i erlyn yn cael eu cymryd ar hyn o bryd. Gan ddefnyddio enghraifft o fyd pysgota a physgodaeth, bydd swyddogion ar lawr gwlad yn paratoi ffeil i Weinidogion ystyried hynny. Bydd hynny yn dod ataf i gydag argymhelliad i ddwyn achos. Byddaf i wedyn yn asesu'r achos i sicrhau bod y profion yn cael eu hateb—y profion rwyf wedi sôn amdanyn nhw yn y datganiad yn barod—ac wedyn yn penderfynu ar sail y cod newydd beth yw'r penderfyniad iawn i'w gymryd. Felly, dyna'r ffordd mae'n digwydd ar y cyfan. Fe wnaethoch chi sôn am y berthynas rhwng y cod hwn a gwaith y CPS yn gyffredinol. Fe wnaf i ailddweud: dim ond i benderfyniadau y Llywodraethyng Nghymru ar erlyn y mae'r cod hwn yn berthnasol. Mae cod y CPS yn annibynnol ond, wrth gwrs, mae cynnwys y cod hwnnw yn debyg iawn i gynnwys cod Llywodraeth Cymru, gyda'r newidiadau pwysig rwyf wedi sôn amdanyn nhw. O bryd i'w gilydd, mae'n agored i Lywodraeth Cymru i basio rhywbeth ymlaen i'r heddlu neu i'r CPS. Yn yr amgylchiadau hynny, o dan god y CPS y byddai'r materion hynny yn mynd yn eu blaenau. Mae hefyd yn bosib i'r CPS gymryd drosodd erlyniad gan Lywodraeth Cymru neu gan Lywodraeth yn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig. Eto, o dan yr amgylchiadau hynny, cod y CPS fyddai'n berthnasol. Suzy Davies AC: Diolch am y cod a gaiff ei gyhoeddi heddiw. Mae arnaf ofn nad wyf i wedi ei weld ac efallai y bydd rhai o'r cwestiynau yr wyf yn eu gofyn eisoes wedi eu hateb, ac ymddiheuriadau am hynny. Y cwestiwn cyntaf yw hyn:a ydyw'r cod, fel y'i cyhoeddir, yn eglur o ran y mannau y mae'n gwyro oddi wrth y cod Gwasanaeth Erlyn y Goron presennol er mwyn inni allu gweld yn glir ymhle mae'r gwahaniaethau yn bodoli. Y rheswm am ofyn y cwestiwn hwn yw, pan drafodwyd y cynnig am ddeddfu ychwanegol ar gyfer Cymru yn y Cynulliad diwethaf, yn enwedig yn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, cawsom sicrwydd clir gan y Prif Weinidog ar y pryd, na fyddai egwyddorion y gyfraith, os gallaf ei roi fel hynny,yn wahanol i Gymru a Lloegr. Felly, er enghraifft, nid yw'r hyn sy'n gyfraith droseddol yn wahanol yn y ddwy awdurdodaeth botensial; nid yw'r hyn sy'n ffurfio contractyn wahanol. Felly, nid yw'n fater o droseddau penodol, mae a wnelo â'r hanfodion hynny—wyddoch chi, y pethau yr ydym yn eu dysgu ynysgol y gyfraith, yn y bôn. Felly, rwy'n ceisio cael rhywfaint o sicrwydd yma, wrth lunio'r cod sy'n ymdrin â gweithrediad cyfraith a gweinyddu'r gyfraith, nad oes dim ynddo, sy'n anfwriadol efallai, yn baglu dros y terfyn hwnnw ac a fyddai'n arwain atgyfres o ffeithiau am droseddyn cael eu trin mewn ffordd wahanol iawn ar y naill ochr i'r ffin a'r llall. Ni fyddwn i'n disgwyl gweld gwahaniaeth mewn canlyniad pan ddaw'n fater o gyfraith droseddol lle mae'r ffeithiau yrun peth ar y naill ochr i'r ffin a'r llall. A'r ail gwestiwn yw hyn: pa ystyriaeth yr ydych chi wedi ei rhoi i droseddau o atebolrwydd caeth neu droseddau lle mae baich y prawf i'r gwrthwyneb? Fel arfer, mae baich y prawf i'r gwrthwyneb yn y troseddau hynny sy'nneilltuol i Gymru. Yr enghraifft a ddaw i'r meddwl yw Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016—nid wyf am ailadrodd yr holl beth yma—ond yn sicr mae trosedd yn y Ddeddf honno sydd yn troi baich y prawf yn y fan honno i'r gwrthwyneb. Pan drafodwyd mater hawliau dynol, roedd Ysgrifennydd y Cabinet ar y pryd o'r farn y bodlonwyd y prawf hawl i gael achos teg, ond byddwn i wedi dadlau y ceir tystiolaeth i hynny yng nghyfraith Cymru a Lloegr drwy'r egwyddor o fod yn ddieuog nes y cewch eich profi'n euog. Felly, eto, rwy'n holi tybed a fyddech chi'n gweithredu'r cod hwni deddfwriaeth ar gyfer Cymru yn unigyn wahanol i'r gyfraith sy'n gymwys yng Nghymru a Lloegr am drosedd sy'n digwyddyng Nghymru? Jeremy Miles AC: Fe wnaethoch chi ofyn am eglurhad o'r gwahaniaethau gyda chod Gwasanaeth Erlyn y Goron yn gyffredinol. Ceir nifer o wahaniaethau allweddol: maen nhw'n ymwneud yn bennaf â natur gwahanol y troseddau y mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldebau erlyn drostynt. Un o'r prif wahaniaethau yw hyn: yn wahanol i god Gwasanaeth Erlyn y Goron, nid yw cod erlyn Llywodraeth Cymru yn cynnwys cyfeiriad at brawf trothwy, sef, er enghraifft, fel yr ydych efallai yn gwybod, pan geir trosedd sy'n golygu carchar a lle bod risg mechnïaeth sylweddol gyda'r un dan amheuaeth. Nid yw hynny'n berthnasol i'r troseddau y mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb i'w herlyn yn gyffredinol. Felly, er enghraifft, nid yw hynny wedi'i gynnwys. Cafodd cod Gwasanaeth Erlyn y Goron ei addasu i adlewyrchu'r swyddogaethau erlyn yn fwy penodol. Nodwyd crynodeb o alluoedd erlyn y Cwnsler Cyffredinolyn y cod, ac nid yw hyn yn amlwg yn ymddangos yng nghod Gwasanaeth Erlyn y Goron am resymau amlwg. Soniais yn fy ateb cynharach am fater prawflles y cyhoedd, gan roi enghreifftiau penodol o sut y gallai prawf lles y cyhoeddweithredu o fewn cyd-destun y troseddau y byddai Llywodraeth Cymru yn eu herlyn. Ceir hefyd rai newidiadau allweddol o ran cwestiynau lleoliad ar gyfer treial ac o ran datrysiadau y tu allan i'r llys. Eto, mae'r rheolau'n wahanol ar gyfer y mathau o droseddau y byddai Llywodraeth Cymru yn eu herlyn i'rcod Gwasanaeth Erlyn y Goron yn gyffredinol. Mae cod Gwasanaeth Erlyn y Goron yn berthnasol, wrth gwrs, i'r gyfraith droseddol yn gyffredin, os mynnwch chi, sydd yn gyd-destun gwahanol o weithredu i'r hyn y mae cod erlyn Cymru Llywodraeth Cymru yn gymwys iddo. Ar y cwestiwn o faich y prawf ac sut mae rhywun yn asesu a ddylid bwrw ymlaen â throseddau unigol lle bod hynny'n wir: eto, yn y cod, nodir y prawf tystiolaeth ddigonol, i bob pwrpas, sy'n cynnwys y gofyniad i ragweld dadleuon ar y naill ochr a'r llall o'r achos. A bydd hynny'n cynnwys gwerthusiadau o dderbynioldeb y dystiolaeth, dibynadwyedd y dystiolaeth a'i hygrededd, ac mae hynny'n berthnasol i'r dystiolaeth yn ei chyfanrwydd. Fe wnaethoch chi godi mater deddfwriaeth hawliau dynol, ac yn wir y mae Aelodau eraill wedi codi hynny. Mae'r cod yn ei gwneud hi'n glir ei bod yn rhaid i erlynwyr gymhwyso darpariaethau'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol yn unol â Deddf Hawliau Dynol 1998, acmae'nbenodol glir yn y cod ei bod yn rhaid i erlynwyr roi sylw i ofynion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, sydd wrth gwrs wedi'i weithredu ymhellach yng Nghymru yn benodol. Diolch i chi, Cwnsler Cyffredinol. 5. Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2018 Eitem 5 ar agenda yw Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2018. Rwy'n credu y bydd angen mwy o amser arnoch ar gyfer hyn os y bydd yn rhaid i chi ailadrodd hynny o hyd. Felly, rwy'n galw arYsgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i symud y cynnig hwnnw. Mark Drakeford. NDM6618Julie James Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft aosodwydyn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Tachwedd 2017. Cynigiwyd y cynnig. Mark Drakeford AC: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch am y cyfle i gyflwyno'r rheoliadau diwygio hyn heddiw. Hoffwn i ddiolch i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am ei adroddiad ar y rheoliadau. Mae'r rheoliadau o flaen y Cynulliad y prynhawn yma yn diwygio rheoliadau gostyngiadau'r dreth gyngor 2013. Fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddileu budd-dal y dreth gyngor o 1 Ebrill 2013 ymlaen, a phasio'r cyfrifoldeb am ddatblygu trefniadau newydd i Lywodraeth Cymru. Fe wnaethon nhw hefyd wneud 10 y cant o doriad i'r cyllid ar gyfer y cynllun. Ymatebodd Llywodraeth Cymru trwy ddarparu cyllid i alluogi tua 300,000 o aelwydydd llai cefnog yng Nghymru i barhau i gael hawl i gymorth. Mae angen y ddeddfwriaeth ddiwygio er mwyn gwneud yn siŵr bod y ffigurau a ddefnyddir i gyfrifo hawl pob aelwyd i ostyngiad yn y dreth gyngor yn cael eu codi i gymryd i ystyriaeth bod costau byw wedi cynyddu. Mark Drakeford AC: Gydag ychydig yn fwy o fanylder, Dirprwy Lywydd, yn y rheoliadau gerbron y Cynulliad y prynhawn yma, mae'r ffigurau ariannol ar gyfer pobl o oedran gweithio, pobl anabl a gofalwyr ar gyfer 2018-19 yn cynyddu yn unol â mynegai prisiau defnyddwyr, hynny yw, 3 y cant. Mae hyn yn cyferbynnu â pholisi Llywodraeth y DU o rewi budd-daliadau pobl o oedran gweithiotan 2019-20. Y bwriad yw cynyddu'r ffigurau sy'n ymwneud ag aelwydydd pensiynwyr yn y rheoliadau i fod yn unol â gwariant isafswm incwm safonol Llywodraeth y DU ac adlewyrchu'r uwchraddio o ran budd-dal tai. Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno cyfyngiadau newydd ar fudd-dal tai i deuluoedd gyda dau o blant neu fwy, a phlentyn wedi ei eni ar neu ar ôl 1 Ebrill 2017. Mae hynny'n ychwanegol at y cyfyngiadau a gyflwynwyd o fis Ebrill 2016, sydd yn dileu'r premiwm teulu ar gyfer genedigaethau newydd a hawliadau newydd am fudd-dal tai. Nid wyf i'n bwriadu mabwysiadu'r newidiadau hyn o ran gostyngiadau'r dreth gyngor yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i amddiffyn teuluoedd ar incwm isel yr effeithiwyd arnynt gan ddiwygiadau lles rhag toriadau pellach yn eu hincwm. Wrth wneud y rheoliadau hyn, cafwyd cyfle hefyd i gynnwys mân newidiadau technegol ac iwneud newidiadau ychwanegol i adlewyrchu newidiadau eraill i fudd-daliadaua thaliadau cysylltiedig. Er enghraifft, o fis Ebrill 2018, bydd nifer o fudd-daliadau a thaliadau ychwanegol, os cymeradwyir y rheoliadau hyn, yn cael eu diystyru o ran cyfrifo'r gostyngiadau i'r dreth gyngor. Mae'r rhain yn cynnwys y taliadau cymorth profedigaeth newydd, y grant cynllun gwaed heintiedig, a'r grant iechyd thalidomid ymysg eraill. Ni fydd y rhai sy'n derbyn cymorth o'r fath yng Nghymrudan anfantais wrth gael help gyda'u treth gyngor. Mae'r rheoliadau hyn, Dirprwy Lywydd, yn cadw'r hawl am ostyngiad yn miliau treth gyngor ar gyfer aelwydydd yng Nghymru.Gwnaed darpariaeth o £244 miliwnyn y gyllideb am 2018-19 at y dibenion hyn. O ganlyniad i'r cynllun, bydd tua 220,000 o aelwydydd sydd o dan y pwysau mwyaf yng Nghymru yn parhau i dalu dim treth gyngor yn 2018-19. Gwn fod gan y cynllun gefnogaeth grefymysg Aelodau mewn gwahanol rannau o'r Siambr hon ers ei gyflwyno yn 2013, ac rwy'n gobeithio y bydd y gefnogaeth hon yn ymestyn i gymeradwyaeth o'r rheoliadau ger eich bron y prynhawn yma. Diolch. A gaf i alw ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Deddfwriaethol a Chyfansoddiadaol, Mick Antoniw? Mick Antoniw AC: Diolch ichi am hynny. Rhoddodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ystyriaeth i'r offeryn hwn yn ein cyfarfod ar 11 Rhagfyr. Adroddwyd ar un pwynt rhinweddol a nodwyd o dan Reol Sefydlog 21.3. Mae'r darn penodol hwn o ddeddfwriaeth yn gymhleth a thechnegol iawn o'i ddarllen ar ei ben ei hun. Mae'r memorandwm esboniadol sy'n cyd-fynd â'r rheoliadau hyn yn defnyddio iaith bob dydd i esbonio'r newidiadau technegol a wneir ac mae'n help mawr i'r darllenydd i wneud synnwyr o'r ddeddfwriaeth. Roedd y pwyllgor yn gwerthfawrogi'r dull defnyddiol hwn, o ystyried pa mor gymhleth fo'r ddeddfwriaeth. Fel Cadeirydd y pwyllgor, ac ar ran y pwyllgor, rwy'n gwybod y byddwch yn falch iawn ac yn hapus i wybod mai barn y pwyllgor oedd y dylid rhoi canmoliaeth i Lywodraeth Cymru am yr enghraifft hon o arfer da. Siân Gwenllian AC: Mae cynlluniau gostyngiadau treth gyngor yn hanfodol bwysig i bobl fwyaf bregus Cymru. Dyma'r cynllun sy'n caniatáu i lawer iawn o bobl hawlio gostyngiad ac mae o'n bodoli, i raddau, oherwydd nad ydy'r dreth gyngor yn ddigon blaengar. Felly, hoffwn ofyn i ddechrau a oes gan y Llywodraeth unrhyw fwriad i edrych ar system decach o drethiant fel na fydd angen cynllun gostyngiadau treth gyngor mor eang a phellgyrhaeddol ag sydd gennym ni ar hyn o bryd yn y dyfodol. Mi fyddwch chi'n cofio mai Plaid Cymru wnaeth orfodi'r Llywodraeth flaenorol i gymryd cyfrifoldeb dros y cynllun cymorth yma gan arwain at basio rheoliadau yn 2013, ac ers hynny mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn llenwi'r diffyg cyllid blynyddol ar gyfer y cynllun, gan sicrhau bod bron i £0.25 miliwn o bunnoedd ar gael ar gyfer y cynllun o fewn y setliad llywodraeth leol bob blwyddyn ers 2013-14. Ond felly, mewn gwirionedd, mae'r gronfa sydd ar gael, os ydy hi'n parhau ar yr un lefel, ac rydw i'n meddwl eich bod chi newydd ddweud y bydd hi, mae hynny'n golygu ei bod hi'n llai mewn termau real nag yr oedd hi bedair blynedd yn ôl. A hyd y gwelaf i, mae'r ffigurau newydd yn golygu cynnydd yn yr hyn mae trigolion yn mynd i dderbyn mewn cymorth, er mwyn cyd-fyndefo chwyddiant a chynnydd mewn costau byw. Felly, sut mae hynny'n mynd i gael ei dalu amdano fo? A fydd yna gynnydd cyfatebol ym maint y gronfa? Rydych chi wedi dweud rŵanna fydd yna. A ydy o'n golygu y bydd yna rhai trigolion yn derbyn mwy i gyd-fynd efo cynnydd chwyddiant ac ati, tra bod yna eraill yn cael eu hepgor yn gyfan gwbl o'r cynllun oherwydd newidiadau i'r system lles? Neu, yn wir, a ydych chi'n disgwyl i'r awdurdodau lleol ganfod yr arian o'u cyllidebau sydd yn prinhau? Felly, fe fuaswn i'n gofyn i chi gadarnhau faint o bres sydd ar gael, oherwydd os mai'r un ffigur sydd ar gael, yna mae yna beryg, hyd y gwelaf i, y bydd yna rai o drigolion mwyaf bregus Cymru yn dioddef. Rydw i yn deall bod yna asesiad effaith wedi cael ei gynnal i gostau tebygol cydymffurfio â'r rheoliadau yma. Nid ydw i wedi cael amser i edrych ar hwnnw—i fynd ar ôl hwnnw. A fedrwch chi ddweud wrthym ni beth oedd canlyniad yr asesiad yna? Rydw i'n siŵr y medrwch chi ddeall bod angen i ni gael yr holl wybodaeth cyn ein bod ni'n gallu rhoi ein cefnogaeth i'r rheoliadau yma. Diolch. Diolch. A gaf i alw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i ymateb i'r ddadl? Mark. Mark Drakeford AC: Diolch ichi, Dirprwy Lywydd, a diolch i Mick Antoniw am waith y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wrth graffu ar y rheoliadau hyn. Byddaf yn sicr o adrodd am yr hyn yr oedd ganddo i'w ddweud wrth y rhai a fu'n helpu i baratoi'r deunydd esboniadol cysylltiedig. Rwy'n gwybod eu bod yn gweithio'n galed iawn i geisio troi deunydd technegol cymhleth a heriol yn naratif y gellir ei ddeall gan y bobl sy'n gorfod gweithredu hyn mewn awdurdodau lleol, a'r rhai sydd â diddordeb cyffredinol yn y ffordd y gellir rhoi cefnogaeth i'r teuluoedd mewn amgylchiadau fel hyn. Mark Drakeford AC: A gaf i ddweud wrth Siân Gwenllian hefyd, rydw i'n cydnabod y cymorth oddi wrth Blaid Cymru pan oedd y cynllun gwreiddiol yn cael ei baratoi, nôl yn 2013, ac am y cymorth rydym ni wedi'i gael oddi wrth Blaid Cymru dros y blynyddoedd i gadw'r cynllun i fynd, blwyddyn ar ôl blwyddyn? Mark Drakeford AC: Wrth gwrs, mae'r pwyntiau a gododd Siân Gwenllian yn bwysig, ac yn bwysig i mi fel Gweinidog Cyllid. Yr hyn sydd wedi digwydd yn y 12 mis diwethaf, Dirprwy Lywydd, yw fod nifer yr aelwydydd sy'n hawlio'r budd-dal treth gyngor wedi gostwng. Mae hyn yn gysylltiedig â chynnydd mewn lefelau cyflogaeth mewn rhannau o Gymru dros y 12 mis diwethaf, ac mae effaith hynny'n caniatáu i nigynnal y cynllun yn llawn a'i wneud ychydig yn fwy hael mewn rhai meysydd y flwyddyn nesaf, fel na fydd angen culhau'r meini prawf cymhwyso ar gyfer y cynllun y flwyddyn nesaf o gwbl, ac y gallwn barhau, yn ein barn ni, i dalu'r costau hynny o'r gyllideb yr oedd modd ei darparu yn y flwyddyn ariannol hon. Dyna £244 miliwn o arian Llywodraeth Cymru, wedi ei ategu, mae'n wir, fel y dywedodd Siân, gan gyfraniad—o'm cof, Dirprwy Lywydd—o tua £12 miliwn gan yr awdurdodau lleol eu hunain. Nid ydym yn disgwyl y bydd yn rhaid i'w cyfraniad nhw godi y flwyddyn nesaf chwaith. Ond, pe bai amodau yn yr economi yn newid, a phe bai cynnydd yn nifer y bobl sydd angen cymorth gan y cynllun, yna, wrth gwrs, wrth ddod â'r rheoliadau gerbron y Cynulliad Cenedlaethol y flwyddyn nesaf, byddai'n rhaid imi gyflwyno cynigion naill ai i gynyddu'r gyllideb sydd ar gael neu i ddod o hyd iffordd o leihau'r hawliadau o fewn y cynlluniau, fel bod modd byw o fewn y gyllideb sydd ar gael. Rydym yn y sefyllfa ffodus o beidio â gorfod gwneud hynny y flwyddyn nesaf. Mae'r gyllideb sydd gennym yn ddigonol. Ni chyfyngwyd ar ycynllun,estynnwyd fymryn ar ei haelioni, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn y Siambr yn barod i gefnogi'r cynllun sy'n rhoi swm mawr o arian Llywodraeth Cymru yn syth ym mhocedi'r rheini y mae eu hamgylchiadau ymhlith y mwyaf anodd yn y wlad. Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, derbynnir y cynnig. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 6. Dadl: 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun Cyflawni' Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 2 a 3 yn enw Paul Davies a gwelliant 4 yn enw Rhun ap Iorwerth. Trown yn awr at eitem 6, sef dadl ar 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun Cyflawni'. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus i gyflwyno'r cynnig — Alun Davies. NDM6617Julie James Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi cyhoeddi Ein Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun Cyflawni. Cynigiwyd y cynnig. Alun Davies AC: Rwy'n ddiolchgar i chi, Dirprwy Lywydd. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol fy mod i wedi cytuno i gael y ddadl hon yn gynharach nag y bwriadwyd yn dilyn sesiynau holi cyn y Nadolig, pan ofynnodd yr Aelodau am y cyfle i gael sgwrs ehangach a mwy manwl ynglŷn â thasglu'r Cymoedd a'r gwaith yr oedd y tasglu yn arwain arno ac yn ei wneud. Rwy'n ddiolchgar i chi, Dirprwy Lywydd, am ganiatáu inni gyflwyno'r ddadl hon mor gynnar â phosib yn y flwyddyn newydd. Dywedaf ar y cychwyn y bydd y Llywodraeth yn derbyn yr holl welliannau heblaw am welliant 4. Mae Paul Davies, yn ei welliannau, yn nodi yn amlwg, mewn llawer o ffyrdd, nifer o'r heriau sy'n ein hwynebu yng Nghymoedd y de a nifer o'r heriau sy'n wynebu trigolion cymunedau Cymoedd y De. Mae'n gwneud hyn yn amlwg iawn ac yn eithaf huawdl. Diben y tasglu, wrth gwrs, yw nid dim ond sôn drachefn am yr anawsterau a'r heriau hynny, ond cynnig atebion iddynt. Nid ydym ni'n cefnogi'r gwelliant a gyflwynwyd gan Rhun ap Iorwerth oherwydd nid ydym eisiau creu cwango yng Nghymoedd y de. Nid ydym eisiau creu lefel neu haen arall o gymhlethdod o fewn daearyddiaeth cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yn y Cymoedd. Yr hyn yr ydym eisiau ei wneud yw sicrhau bod yr holl adnoddau sydd ar gael inni yn canolbwyntio ar gyflawni, a chyflawni ar y rheng flaen, y nodau, yr amcanion a'r dyheadau a amlinellwyd gennym yn y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf. Diben y Tasglu —. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn egluro diben y tasglu, oherwydd credaf, mewn rhai cylchoedd, y bu rhywfaint o gamddealltwriaeth ynghylch hyn. Diben y tasglu yw defnyddio holl fanteision adnoddau Llywodraeth Cymru i ddylanwadu ar y materion sy'n wynebu'r Cymoedd, a chymunedau a thrigolion Cymoedd y De. Nid diben y tasglu yw sefydlu haenau biwrocratiaeth newydd, na chwaith sefydlu mathau newydd o gyflenwi. Y diben yw llunio sut mae'r Llywodraeth yn mynd ati, a defnyddio'r holl rymoedd a'r adnoddau sydd ar gael i'r Llywodraeth, defnyddio'r adnoddau sydd gennym o ran pobl, yr arbenigedd, yr wybodaeth a'r profiad, yr adnoddau ariannol sydd ar gael i ni, ond hefyd, ac efallai yn fwyaf allweddol, y dylanwad a'r adnoddau y gall y Llywodraeth eu defnyddio i ddwyn pobl ynghyd—y grym o fod yn gatalydd ar gyfer newid, y grym o ddod â phobl at ei gilydd i edrych am atebion i gwestiynau sydd wedi bod yn ein hwynebu ers rhai cenedlaethau—ac yna defnyddio'r grym hwnnw o eiddo'r Llywodraeth er mwyn nodi'n glir sut y dymunwn fynd i'r afael â materion sy'n ein hwynebu, a gwneud hynny mewn ffordd benodol. Roeddwn yn glir iawn 18 mis yn ôl, pan sefydlwyd y tasglu hwn gennym ni, nad oeddwn i eisiau iddo fod yn grŵp o wleidyddion neu weision sifil yn cyfarfod yn breifat, bron iawn yn y dirgel—cyfrin-gyngor o wleidyddion yn cyflwyno i'r etholwyr eiddgar yr atebion i'r problemau nad oedden nhw hyd yn oed wedi meddwl amdanynt. Roeddwn i eisiau gweld proses a oedd yn cynnwys, ac sy'n ceisio mynd ati i gynnwys, pobl ym mhob un o gymunedau'r Cymoedd, ond hefyd roeddwn eisiau gweld atebolrwydd wrth wraidd yr hyn yr oeddem ni'n ei wneud. Un o'r cwestiynau cyntaf a ofynnwyd imi, ac un o'r atebion cyntaf a roddais, pan sefydlwyd y tasglu, oedd cadarnhau y bydd ein papurau yn ddogfennau cyhoeddus— yr agendâu, y papurau, y cyflwyniadau, ein cyfarfodydd, byddai pob un yn llygaid y cyhoedd. Byddai pobl yn gallu deall a gweld a dilyn ein gwaith, dylanwadu ar ein gwaith, llywio ein gwaith. Alun Davies AC: Nid cynllun ar gyfer y Cymoedd a gyhoeddwyd gennym ni yr haf diwethaf, ond cynllun gan y Cymoedd. Cafodd ei ddylunio a'i gyhoeddi o ganlyniad i sgyrsiau a gawsom ni gyda phobl ledled rhanbarth y Cymoedd. Gosodwyd amcanion clir a ddiffiniwyd gan y sgyrsiau a gawsom ni â phobl. Cyhoeddwyd cynllun cyflawni ym mis Tachwedd a oedd yn ceisio bryd hynny roi ymrwymiadau clir ac, eto, i sicrhau atebolrwydd yn yr hyn yr oeddem ni'n ei wneud. Nodwyd nifer o amcanion a chamau gweithredu gwahanol yn y cynllun cyflawni hwnnw. Gosodwyd terfynau amser a thargedau, pennwyd amserlenni ar gyfer cyflawni'r amcanion a'r uchelgeisiau yr ydym ni wedi gosod i'n hunain. Yn y modd hwn, rydym yn ceisio mynd ati o ddifrif i fynd i'r afael â rhai o'r materion sylfaenol sy'n ein hwynebu yn y Cymoedd—nid er mwyn gwneud dim byd ond cynhyrchu adroddiadau ac ymarferion cysylltiadau cyhoeddus, ond i fynd i'r afael â hanfodion economi sydd wedi bod yn dirywio ers gormod o flynyddoedd, ers gormod o genedlaethau, ac yna i fynd i'r afael â rhai o'r materion sy'n effeithio arnom ni yn ein cymunedau a'r bobl sy'n byw yn y cymunedau hynny. Rydym wedi buddsoddi amser yn gwrando ar bobl o bob rhan o'r Cymoedd ac yn cydweithio gyda phobl o bob rhan o'r Cymoedd. A byddwn yn parhau i weithio yn y modd hwn. Caniatewch imi roi hyn ar ddeall y prynhawn yma. Byddaf yn cyhoeddi cynlluniau pellach dros y misoedd nesaf. Bydd gan bob un o'r cynlluniau hyn amserlenni, targedau a therfynau amser clir ynghlwm wrthynt. Byddwn yn cyhoeddi cynlluniau clir ar gyfer pob un o'r canolfannau strategol yr ydym ni ar hyn o bryd yn eu hystyried ac yn ymgynghori arnynt, a byddaf yn dychwelyd i'r Siambr i wneud datganiadau pellach ac i arwain dadleuon pellach ynglŷn â phob un o'r materion hyn wrth i'r gwaith fynd rhagddo. Mae'n iawn ac yn briodol nad yw'r Llywodraeth yn ceisio osgoi atebolrwydd ond yn ein galluogi i gael ein dwyn i gyfrif drwy gyhoeddi'r holl wybodaeth sy'n sail i'n penderfyniadau. Dirprwy Lywydd, rydym wedi cael nifer o wahanol negeseuon cryf gan bobl wrth inni gynnal yr ymarfer hwn. Rydym wedi pennu tri maes amlwg y bydd ein gwaith yn canolbwyntio arnynt: yn gyntaf, yr angen am swyddi cynaliadwy o ansawdd da a'r cyfle i hyfforddi fel y bydd pobl yn y Cymoedd yn gallu elwa o'r swyddi hyn. Rydym wedi gosod targed uchelgeisiol o helpu 7,000 o bobl ddi-waith neu bobl economaidd anweithgar sy'n byw yn y Cymoedd i gael gwaith drwy greu miloedd o swyddi newydd, teg, diogel a chynaliadwy erbyn 2021. A gadewch i mi fod yn hollol glir: pan rwy'n sôn am swyddi, rydym yn sôn am waith teg yn y Cymoedd. Yn rhy aml o lawer, gwyddom fod pobl yn ein cymunedau yn cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd, am lawer o'r rhesymau a amlinellwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn y ddadl flaenorol. Ond maen nhw'n gweithio'n galed bob dydd, heb gael eu gwobrwyo am yr holl waith caled hwnnw. Gwyddom nad yw ein heconomi yn gweithio ar gyfer nifer yn y Cymoedd. Byddwn yn sicrhau, wrth greu gwaith, y byddwn yn canolbwyntio ar waith teg yn y Cymoedd, a byddwn yn gwneud hynny yn rhan o bopeth a wnawn. Byddwn yn creu saith canolfan strategol. Rydym ar hyn o bryd wrthi'n arwain cyfres o seminarau ynglŷn â phob un o'r canolfannau hyn fel eu bod nhw'n adlewyrchu buddiannau ac anghenion yr ardaloedd y maen nhw'n eu gwasanaethu. Nid oes templed unigol a grëwyd naill ai ym Mae Caerdydd neu ym Mharc Cathays a gaiff ei weithredu'n ddidostur ym mhob un o'r lleoedd hyn. Bydd yn adlewyrchu anghenion pob ardal unigol. Byddwn yn ceisio defnyddio buddsoddiad cyhoeddus i ddenu buddsoddiad o'r sector preifat, gan greu swyddi a chyfleoedd. Byddwn hefyd yn sicrhau bod gennym ni'r gwasanaethau cyhoeddus gorau posib. Un o'r pwyntiau a wnaed dro ar ôl tro ar ôl tro mewn cyfarfodydd ledled y Cymoedd yw'r angen i allu defnyddio trafnidiaeth leol o ansawdd uchel. Gallwn greu faint fynnwn ni o swyddiar goridor yr M4, ond fyddwn ni ddim yn ymdrin â phroblemau tlodi yn Nhreherbert neu Dredegar oni bai fod gennym gyfleoedd i bobl weithio yn y Cymoedd yn ogystal ag yn y coridorau deheuol. Felly, byddwn yn buddsoddi mewn cyfleoedd hyfforddiant, byddwn yn buddsoddi mewn trafnidiaeth, a byddwn yn ceisio buddsoddi mewn gweithgareddau sy'n hybu'r economi yn y Cymoedd eu hunain. Ac mae'r Ysgrifennydd Economaidd, fy nghyfaill a'm cyd-Weinidog Ken Skates, eisoes wedi gwneud nifer o ddatganiadau ynglŷn â hynny. Y maes a'r thema olaf y byddwn ni'n ymdrin â nhw yw'r gymuned. Yn aml iawn, rydym yn siarad am ein cymunedau mewn ffordd rhy ramantus, ac nid wyf i'n un sy'n adnabyddus am fod yn rhamantus, yn anffodus. Ond gadewch imi ddweud hyn: mae angen inni ganolbwyntio ar yr hyn mae'n ei olygu i fod yn gymuned a sut y gallwn ni fuddsoddi ym mywydau pobl yn y Cymoedd. Fel llawer o bobl, fe wnes i fwynhau gwyliau'r Nadolig a'r flwyddyn newydd gyda'r teulu, gan fanteisio ar y cyfle i gerdded a mwynhau ardal y Cymoedd, ac, yn sicr, pan wyf yn mynd â'r mab a'm plant am dro o gwmpas y Cymoedd a'r broydd a Bannau Brycheiniog ac ati, rwyf bob amser yn dweud wrthyn nhw am hanes eu cynefin a hanes ein cymunedau. Mae'n bwysig mai'r hyn yr ydym yn gallu ei wneud yw rhoi modd i bobl a galluogi pobl i ymfalchïo unwaith eto yn y gymuned lle maen nhw'n byw. Mae angen inni fynd i'r afael â materion megis taflu sbwriel a thipio anghyfreithlon, ond mae angen inni hefyd fuddsoddi yn nhreftadaeth a naws cymunedau de Cymru. Es i a fy mab i Flaenafon, at fedd Foxhunter, ar ddydd San Steffan, ac es ag ef ar hyd y ffordd honno ac egluro wrtho sut yr oedd y rhan hon o'r byd, lle mae ei wreiddiau a gwreiddiau ei deulu, wedi chwarae rhan yn creu chwyldro diwydiannol sydd wedi creu trefn byd newydd ac arwain at greu diwydiant ar draws y byd—ein Cymoedd, ein hanes, ein cymuned, ein treftadaeth, ac mae angen inni sicrhau bod hynny ar gael i'n holl bobl, ac y gallan nhw fyw bywydau lle maen nhw'n falch o'r hyn yr ydym ni'n gallu ei gyflawni a byw hefyd mewn cymunedau lle y gallwn ni fod yn falch o'r hyn y gallwn ni ei gyflawni. Felly, rwy'n gobeithio y bydd tasglu'r Cymoedd yn gatalydd ac yn ein helpu i gyflawni llawer o'r amcanion hynny, ac edrychaf ymlaen at y ddadl y prynhawn yma. Diolch. Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Mark Isherwood i gynnig gwelliannau 1, 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Mark Isherwood. Gwelliant 1.Paul Davies Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu: a) bod gwerth nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchir fesul pen o'r boblogaeth (Gwerth Ychwanegol Gros) yn is-ranbarth Gorllewin Cymru a'r Cymoedd yn dal i fod ar y gwaelod ledled y DU, ar ddim ond 64 y cant o gyfartaledd y DU - gyda Chymoedd Gwent yn ail yn unig i Ynys Môn fel yr isaf yn y DU; b) bod adroddiad Sefydliad Bevan 'Tough Times Ahead? What 2018 might hold for Wales', yn nodi er y rhagwelir y bydd diweithdra yn y DU yn aros yn tua 4.3 y cant dros y flwyddyn, bod perfformiad yn annhebygol o fod yn ddigon i hybu'r rhannau hynny o Gymru lle mae diweithdra yn uwch o lawer na ffigur y DU, megis Merthyr Tudful (7.3 y cant) a Blaenau Gwent (6.7 y cant); c) y gohiriwyd cyflwyno rhaglen gyflogadwyedd newydd Cymru'n Gweithio Llywodraeth Cymru tan fis Ebrill 2019. Gwelliant 2.Paul Davies Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu sut y bydd yn siarad ynghylch, ymgynghori ar, dylunio a chyflwyno 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun Cyflawni' â phobl sy'n byw a gweithio yng nghymoedd de Cymru; Llywodraeth y DU; y sector busnes a'r trydydd sector, wrth i waith y tasglu fynd yn ei flaen. Gwelliant 3.Paul Davies Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi er mwyn cael ymgysylltiad gwirioneddol â mudiad 'Creu Sbarc', i greu busnesau mwy proffidiol o Gymru sy'n sicrhau cyfoeth a ffyniant ar gyfer Cymru gyfan, y bydd angen cydweithrediad Llywodraeth Cymru gyda diwylliant sy'n cysylltu arloesi ac entrepreneuriaeth gyda'i gilydd. Cynigiwyd gwelliannau 1, 2 a 3. Mark Isherwood AC: Diolch. Rydym yn falch y cyhoeddwyd y cynllun cyflawni hwn ac rydym yn rhannu'r blaenoriaethau allweddol y soniodd y tasglu gweinidogol ar gyfer Cymoedd y de amdanynt, ynghyd ag amheuon Ysgrifennydd y Cabinet a fynegwyd ganddo ar ddechrau ei araith ynglŷn â chreu corff darparu newydd. Fodd bynnag, rwyf hefyd yn cynnig gwelliant 1, gan nodi gyda gofid bod gwerth nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchir fesul pen o'r boblogaeth, neu werth ychwanegol crynswth, yn is-ranbarth gorllewin Cymru a'r Cymoedd yn dal i fod ar waelod y rhestr o blith ardaloedd y DU, yn ddim ond 64 y cant o gyfartaledd y DU, gyda Chymoedd Gwent yn ail yn unig i Ynys Môn, sef yr isaf yn y DU. Mae adroddiad Sefydliad Bevan 'Tough Times Ahead? What 2018 might hold for Wales', yn nodi, er y rhagwelir y bydd diweithdra yn y DU yn aros oddeutu 4.3 y cant dros y flwyddyn, mae'r amgylchiadau'n annhebygol o fod yn ddigon i roi hwb i'r rhannau hynny o Gymru lle mae diweithdra ymhell uwchlaw ffigur y DU megis Merthyr Tudful, sy'n 7.3 y cant, a Blaenau Gwent, sy'n 6.7 y cant, a bod cyflawni rhaglen gyflogadwyedd newydd Llywodraeth Cymru, Cymru'n Gweithio, wedi'i ohirio tan fis Ebrill 2019. Dengys ffigurau a gyhoeddwyd dair wythnos yn ôl, yn y ddeunawfed flwyddyn o gael Llywodraeth Lafur yng Nghymru, mai Cymru o hyd yw'r rhan dlotaf o'r Deyrnas Unedig, mai hi sy'n cynhyrchu'r gwerth isaf o ran nwyddau a gwasanaethau y pen ymhlith 12 o ranbarthau a gwledydd y DU, er gwaethaf gwario biliynau ar gynlluniau gwrthdlodi ac adfywio economaidd. Mae Ynys Môn yn parhau i fod yn isaf yn y DU, gyda'r gwerth ychwanegol crynswth yn gostwng i 52 y cant o gyfartaledd y DU, a chymoedd Gwent yn ail agos o'r gwaelod, ar ddim ond 56 y cant o gyfartaledd y DU, gyda'r Cymoedd canolog yn ddim ond 63 y cant o gyfartaledd y DU. Yna, mae adroddiad Sefydliad Bevan a gyhoeddwyd y mis hwn, 'Tough Times Ahead? What 2018 might hold for Wales' yn dweud nad oes dim i'w ennill drwy esgus bod popeth yn fêl i gyd, ac mae'n dweud, yn ychwanegol at y ffigurau diweithdra a nodir yn ein gwelliant, nad yw'r perfformiad yn debygol o helpu oedolion ifanc, gyda mwy nag un o bob wyth person 16-24 oed yn ddi-waith yng Nghymru yn gyffredinol. Ar y cyfan, er bod diweithdra yn y DU yn parhau ar ei lefel isaf ers 1975, mae cyfradd ddiweithdra Cymru 4.7 y cant yn uwch nag unrhyw wlad arall yn y DU. Ac o'i gymharu â blwyddyn yn ôl, Cymru yw'r unig ran o'r DU lle mae diweithdra wedi cynyddu, a chan Gymru y mae cyfraddau anweithgarwch economaidd cydradd uchaf ar Ynys Prydain.Fodd bynnag, er gwaethaf addewid Llywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun cyflogadwyedd newydd ar gyfer pobl o bob oedran sy'n barod am swydd a'r rhai sydd bellaf o'r farchnad lafur, gohiriwyd ei gyflwyno am flwyddyn arall. Er gwaethaf galwadau yn y gorffennol gan Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan ar i'r rhaglenni cyflogadwyedd yng Nghymru sydd wedi eu datganoli a'r rhai sydd heb eu datganoli weithio gyda'i gilydd, mae Llywodraeth Cymru bellach ar ei hôl hi yn sgil lansio Remploy y mis diwethaf yng Nghymru, sef Rhaglen Waith ac Iechyd Llywodraeth y DU ar gyfer pobl gyda chyflwr iechyd neu anabledd, y di-waith tymor hir a grwpiau gweithredu cynnar gwirfoddol megis gofalwyr a chyn-filwyr. Mae cynllun cyflawni Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at weithio gyda phobl yng Nghymoedd y De. Mae'n dweud: 'er mwyn sicrhau bod y cynllun hwn yn llwyddo, mae’n rhaid i’r tasglu ddwyn ynghyd holl adnoddau Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid niferus'. y bydd yn 'cyhoeddi diweddariadau ac adroddiadau monitro blynyddol yn erbyn nifer o dargedau allweddol', y 'bu'n bwysig iawn i'r tasglu siarad ac ymgynghori â phobl sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymoedd y De' ac y 'cyhoeddir cynllun ymgysylltu a fydd yn nodi sut mae'r tasglu yn bwriadu ymgysylltu â phobl . . . a'u grymuso.' Mae'r camau gweithredu manwl hefyd yn cynnwys gweithio gyda bargeinion dinesig rhanbarth Caerdydd a Bae Abertawe, Llywodraeth y DU, busnesau a'r trydydd sector. Fodd bynnag, mae angen cyd-gynhyrchu yng ngwir ystyr y gair er mwyn i Lywodraeth Cymru beidio â pharhau â chamgymeriadau'r 18 mlynedd diwethaf, ac felly alluogi pobl a gweithwyr proffesiynol i rannu grym a gweithio mewn partneriaeth gyfartal, gan gydnabod bod pawb yn arbenigwr yn eu bywyd eu hunain, bod gan bawb rywbeth i'w gyfrannu, a bod galluogi pobl i gefnogi ei gilydd yn adeiladu cymunedau cryf, cydnerth. Felly, cynigiaf welliant 2. Mae'r cynllun hefyd yn cyfeirio at weithio gyda'r mudiad Creu Sbarc ac rwyf felly hefyd yn cynnig gwelliant 3, gan nodi 'er mwyn cael ymgysylltiad gwirioneddol â mudiad "Creu Sbarc", creu busnesau mwy proffidiolsy'n sicrhau cyfoeth a ffyniant ar gyfer Cymru gyfan, y bydd angen cydweithrediad Llywodraeth Cymru gyda diwylliant sy'n cysylltu arloesi ac entrepreneuriaeth gyda'i gilydd.' Fel y dywed Creu Sbarc, 'Mae pethau mawr yn digwydd pan fydd pobl fentrus a blaengar yn cydweithio'. Ac, fel y dywedodd grwpiau busnes yn ddiweddar yn ystod ymchwiliad cefnogi entrepreneuriaeth y grŵp trawsbleidiol ar siopau bach, mae'n bwysig bod llunwyr polisi yn deall yr heriau sy'n wynebu busnesau. Felly, rwy'n falch o derfynu drwy gyflwyno'r tri gwelliant i'r Cynulliad hwn a chroesawu cefnogaeth yr Ysgrifennydd Cabinet iddyn nhw ar ddechrau ei gyfraniad. Diolch. Diolch. Galwaf ar Adam Price i gynnig gwelliant 4 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth—Adam. Gwelliant 4.Rhun ap Iorwerth Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod yr angen am fuddsoddiad strategol ym mhob rhan o Gymoedd De Cymru, gan gynnwys y Cymoedd gorllewinol. Yn credu mai dim ond gyda lefel ddigonol o gyllid y caiff y Cynllun Cyflawni ei gyflawni'n llawn. Yn credu y bydd angen corff cyflenwi trosfwaol i fonitro, hyrwyddo a gweithredu'r Cynllun Cyflawni. Cynigiwyd gwelliant 4. Adam Price AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddweud ar y dechrau, drwy ymateb i’r Ysgrifennydd Cabinet, fy mod i yn dymuno yn dda iddo fe gyda gwireddu amcanion clodwiw y strategaeth yma? Nid wyf am eiliad, a dweud y gwir, yn amau ei ddiffuantrwydd ef a’i commitment personol i’r dasg honno. Lle mae yna anghytundeb rhyngom ni, wrth gwrs, yw’r graddau y gallwn ni ddisgwyl i’r strategaeth yma gael ei gwireddu, oherwydd un peth sydd yn wir: os ydym ni’n edrych nawr dros hanes y Cymoedd yn mynd yn ôl i 1930au’r ganrif ddiwethaf, mae wedi bod yn frith o strategaethau clodwiw, a dweud y gwir, a bron ym mhob cenhedlaeth rydym wedi gweld gosodiad polisi gan y Llywodraeth ar y pryd sydd yn ceisio gwneud yn iawn am ddiffygion y blynyddoedd cynt. Gallech chi fynd yn ôl i’r dechrau, a dweud y gwir, a’r polisi rhanbarthol yn y 1930au, yn y chwalfa, a llyfr Hilary Marquand, South Wales Needs a Plan. Mae dal yn wir, a dyna’r drasiedi, ac rwyf i yn gobeithio mai dyma fydd y cynllun a fydd yn troi’r cornel i’r cymunedau rŷm ni’n eu cynrychioli. Ond, os ŷm ni’n edrych yn ôl dros amser, y patrwm yr ydym ni’n ei weld ydy, o ddyfynnu Saesneg Idris Davies, ‘The great dream and the swift disaster’. Hynny yw, rŷm ni’n gwybod am gynllun y Llywodraeth Geidwadol ddiwedd y 1980au, a dwy fenter y Cymoedd—y Valleys initiatives—ond hyd yn oed ers datganoli, roedd yna gynllun yr un mor glossy wedi cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Lafur Cymru 12 mlynedd yn ôl: ‘Turning Heads: A Strategy for the Heads of the Valleys 2020’. Geiriau da, syniadau da, a rhai ohonyn nhw yn debyg, a dweud y gwir, i rai o’r syniadau sydd yn y cynllun yma—yn lle parc tirwedd ar gyfer y Cymoedd, parc rhanbarthol ar gyfer y Cymoedd. Mae’n rhaid gofyn cwestiwn: pam ŷm ni bob rhyw 10, 15, 20 mlynedd yn gorfod cael strategaeth newydd, gorfod cael tasglu newydd, neu beth bynnag rŷm ni'n ei alw fe? Oherwydd bod polisi wedi methu â mynd i'r afael â phroblemau dwfn, strwythurol y Cymoedd. Rydw i'n deall y pwynt, wrth gwrs. Rydw i'n cytuno â'r Ysgrifennydd Cabinet; nid oes dim eisiau cwango. Ond trasiedi'r cymoedd yw—ac rydym ni'n sôn, wrth gwrs, am ranbarth sydd yn cynnwys poblogaeth o ryw 750,000 o bobl—nid oes yna ddim siâp strwythurol, sefydliadol wedi bod iddo fe. Nid oes yna ddim endid rhanbarthol o ran llywodraethiant wedi medru mynd i'r afael â phroblemau'r ardal yna. Mae'n debyg iawn, a dweud y gwir, i ardal y Ruhr yn yr Almaen, sy'n ardal faith iawn, llawer mwy—miliynau o bobl—ond sydd hefyd wedi methu â chael undod a chysondeb o ran polisi, oherwydd mae yna ryw 53, a dweud y gwir, awdurdod lleol yn yr ardal yna. Beth maen nhw wedi'i wneud yn y Ruhr, wrth gwrs, yw: ar droad y mileniwm, y flwyddyn 2000, fe wnaethon nhw greu corff datblygu economaidd ar gyfer y Ruhr am y tro cyntaf. Mae'n dal mewn bodolaeth heddiw. Rydw i'n credu mai dyna un o'r rhesymau pam fod y Ruhr wedi medru troi'r cornel—bod gyda nhw gorff, a chorff, gyda llaw, sydd yn atebol yn ddemocrataidd, nid yn gwango. Mae'n atebol i'r 53 o ddinasoedd a threfi o fewn y rhanbarth. Ond mae wedi medru nid yn unig llunio y strategaeth, ond gwneud yn siŵr ei bod hi wedi cael ei gwireddu. Dyna fy ngofid i, a dweud y gwir: ein bod ni hefyd yn mynd i gael yr un drafodaeth mewn 10 i 15 mlynedd eto—strategaeth dda, ond heb gael ei gwireddu oherwydd nad oedd y cyfrwng yna ar gyfer sicrhau hynny. Jenny Rathbone AC: Beth bynnag yr ydym ni wedi neu heb ei wneud yn y gorffennol, rwy'n credu bod yr adroddiad hwn yn rhoi inni fframwaith rhagorol ar gyfer bwrw ymlaen â gwneud pethau y mae angen inni eu gwneud yn awr. Credaf yn arbennig yr hoffwn i ddadlau bod y rhaglen dai arloesol a ddechreuwyd gan Carl Sargeant yn fodel ar gyfer cyflawni pob un o dair blaenoriaeth yr adroddiad ar gyfer swyddi o ansawdd da a'r sgiliau i'w gwneud, gwell gwasanaethau cyhoeddus, a chryfhau cymunedau. Felly, ddydd Gwener ym Merthyr, cefais sgwrs ddiddorol gyda phrif weithredwr cymdeithas dai Bron Afon, a fu'n sôn wrthyf am gynllun yr oedd yn gweithio arno gyda phobl ifanc, sengl yn Nhorfaen i ddylunio'r tai a rennir y bydd eu hangen arnyn nhw gan na fydd modd defnyddio budd-dal mwyach i dalu i bobl gael cartrefi unigol. Mae hyn yn rhywbeth sydd gan y myfyrwyr yn fy etholaeth i—maen nhw'n rhannu tai ym mhob man—ond mae'n newid diwylliant llwyr i bobl nad ydyn nhw wedi cael y profiad o fynd i brifysgol oddi cartref. Ond nid yw hyn yn ofyniad ar gyfer pobl yn Nhorfaen yn unig. Bydd wrth gwrs angen i bobl ledled Cymru gael gwahanol fathau o dai a fydd yn cyd-fynd â newid mewn amgylchiadau o ran budd-daliadau. Roedd hi'n ddiddorol iawn clywed bod y prosiect penodol hwn yn un o 46 o brosiectau a gafodd arian gan Carl Sargeant. Credaf ei bod yn enghraifft hynod gyffrous o beth y gallwn ni ei wneud, a hefyd beth y mae angen inni ei wneud. Mae'r farchnad dai yn ddiffygiol, ac mae angen inni gywiro hynny. Felly, os ydym yn mynd i ymyrryd yn yr economi, dyma gyfle gwych i gywiro'r farchnad honno. Yn y gorffennol roedd gennym bolisïau cyllidol a oedd yn annog pobl i weld tai fel buddsoddiadau yn hytrach na chartrefi, i'r graddauna all mwyafrif ydinasyddion, gan gynnwys rhai'r Cymoedd, fforddio i brynu. Oni bai fod gennym ni sefyllfa wahanol iawn yn y dyfodol, dydyn nhw byth yn mynd i allu gwneud hynny. Yn ogystal â hyn, mae gennym ni'r storm berffaith o werthu tai cyngor sydd wedi arwain at y lefelau digartrefedd a gorlenwi a welwn ni yn ein cymunedau. Ac mae gennym y sector tai preifat, sydd wedi mynd ar drywydd elw gan hepgor unrhyw ymrwymiad i ddarparu gwerth am arian, ac mae hyn wedi arwain at y sefyllfa wrthun o Persimmon yn dyfarnu miliynau o bunnoedd i'w uwch reolwyr am wneud dim gwaith ychwanegol. Felly, credaf y dylem ddefnyddio'r rhaglen tai arloesol a manteisio mewn gwirionedd ar y cyfleoedd y mae'n eu creu. Rydym hefyd yn edrych ar adroddiad Farmer, a elwir yn 'Modernise or Die', sy'n tynnu sylw at y ffaith, yng ngweithlu'r diwydiant adeiladu, y bydd 25 y cant ohonyn nhw'n ymddeol yn yr ychydig flynyddoedd nesaf ac ni fyddant yno, a byddai'r crebachu hwn mewn capasiti yn golygu na allai'r diwydiant adeiladu ddarparu'r isadeiledd cymdeithasol a ffisegol sydd ei angen arnom ni, oni wnawn ni rywbeth ynglŷn â datblygu'r sgiliau newydd y bydd eu hangen. Rydym wedi gweld tanfuddsoddi cyson mewn hyfforddi a datblygu gan y sector diwydiant tai, a sgiliau hollol newydd sydd eu hangen gyda'r math o dai sydd eu hangen arnomnawr, sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, nid yr un hen rai y buom ni'n eu cynhyrchu yn y gorffennol. Felly, yn union fel mae gan y Cymoedd broblem delwedd gamarweiniol y mae angen inni ei herio—y dirwedd fendigedig, aer glân, y bensaernïaeth hanesyddol nad aeth i ebargofiant fel cynifer o gartrefi ac adeiladau Fictoraidd ac Edwardaidd yng Nghaerdydd. Mae'r rhain yn bethau y gallwn ni adeiladu arnyn nhw o ddifrif—felly hefyd mae angen i'r diwydiant adeiladu newid ei ddelwedd. Bellach nid yw'n ofyniad bod yn rhaid ichi fod yn gryf yn gorfforol. Mae angen ichi gael sgiliau manwl a chywrain i ddatblygu'r cysondeb a fydd yn rhan o godi tai parod mewn ysguboriau cynhyrchu, a dim ond y gwaith terfynol fydd yn digwydd ar y safle. Felly, does dim angen i boblorfod gweithio yn yr awyr agored ym mhob tywydd, gallwn ddylunio ein tai i ddiwallu'r holl anghenion hynny. Felly, credaf fod hwn yn gyfle gwych, a gobeithio mai hwn yw un o'r pethau y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ei gofleidio gan weld hyn fel canolfan ragoriaeth, nid yn unig ar gyfer tai ledled Cymru ond hefyd yn rhywbeth i'w allforio i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig ac yn ehangach. Mohammad Asghar (Oscar) AC: Mae'r heriau sy'n wynebu ein cymunedau yng Nghymoedd y de yn sylweddol ac yn enfawr. Dyma'r diweddaraf o nifer o fentrau i geisio chwalu a gwrthdroi'r cylch amddifadedd drwy fynd i'r afael â phroblemau anweithgarwch economaidd, canlyniadau addysgol a materion iechyd y cyhoedd. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cydnabod na fu rhaglenni eraill yn llwyddiannus, felly er fy mod yn y croesawu sefydlu'r tasglu hwn, mae'n hanfodol ei fod yn gynhyrchiol ac yn dwyn ffrwyth ar gyfer y rhaglen. Mae pawb yn y Siambr hon yn cefnogi'r amcanion a nodir yn y strategaeth 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol'. Mae'n amlwg bod llawer o'r strategaeth hon yn cydblethu â rhaglenni presennol Llywodraeth Cymru. Felly mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cydlyniant rhwng yr holl adrannau perthnasol er mwyn datblygu'r strategaeth hon. Mae cau'r bwlch cyflogaeth rhwng y Cymoedd a gweddill Cymru yn amlwg yn bwynt allweddol yma. Rwy'n croesawu ymrwymiad yr Ysgrifennydd Cabinet i greu swyddi cynaliadwy yn y Cymoedd eu hunain, yn hytrach na dim ond cynorthwyo pobl i deithio i'r gwaith yng Nghaerdydd, Abertawe neu Gasnewydd. Felly, o ran y cynllun hwn ar gyfer canolfannau strategol newydd mewn meysydd penodol, rwy'n gofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet, wrth ateb, roi mwy o fanylion ynglŷn â pha gymhellion a gynigir i ddenu'r buddsoddiad sector preifat hanfodol sydd ei angen yn yr ardal.Gwn fod un o'r canolfannau strategol hyn ar gyfer Glynebwy, gan ganolbwyntio ar barc busnes newydd a fydd yn arbenigo mewn technolegfodurol . Ym mis Chwefror 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn ehangu'r ardal fenter sydd eisoes yn bodoli yng Nglyn Ebwy i gynnwys tri safle newydd. Felly, a allai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrth yr Aelodau beth fydd effaith y ganolfan strategol newydd hon ar ardal fenter Glynebwy yn y dyfodol? Mae'r strategaeth yn addo manteisio ar botensial creu swyddi drwy gyfrwng buddsoddiadau mawr mewn seilwaith fel ffordd liniaru'r M4 a phrosiect metro de Cymru. Mae ffordd liniaru'r M4 ar hyn o bryd yn destun ymchwiliad cyhoeddus, ac mae un o'i feincwyr cefn ei hun yn honni bod prosiect metro de Cymru wedi ei gynllunio i fod yn fethiant. Mae'n hanfodol, felly, bod Llywodraeth Cymru yn cyflawni'r prosiectau hyn. Beth sy'n digwydd os na fyddant yn gweld golau dydd? Rwyf wedi gwneud sylwadau o'r blaen am y prinder pobl sydd â phrofiad busnes ar y tasglu hwn. Mae'n bwysig bod y gymuned fusnes yn cydweithio'n agos er mwyn darparu'r hyfforddiant angenrheidiol i wella sgiliau'r gweithlu. Rwy'n gofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet yn ei ateb am sicrwydd y bydd cymaint o gydweithio â phosib gyda busnesau i sicrhau bod y strategaeth hon yn darparu'r gweithlu medrus sydd ei angen arnynt. Mae'r strategaeth yn sôn am ehangu twristiaeth i'r Cymoedd fel cyrchfan dwristiaeth gydnabyddedig. Mae'n anodd gweld sut y gellir cyflawni'r nod hwn, Dirprwy Lywydd, o ystyried bod Llywodraeth Cymru yn ystyried cynlluniau i gyflwyno treth ar dwristiaeth. Efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet roi gwybod inni a fydd y dreth dwristiaeth arfaethedig yn helpu neu yn llesteirio ei nod. Llywydd, rhaid inni ddysgu gwersi o'r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf, strategaeth arall gyda'r bwriadau gorau, ond na lwyddodd i sicrhau buddion sylweddol ein pobl yn y de-ddwyrain. Mae—. [Torri ar draws.] Na, mae'n wir. Dydych chi ddim yn byw yn yr ardal—byddaf i'nteithio yno am wythnosau. Rwy'n gwybod. Mae'n un o'r mannau harddaf y gallwn ni ei wella ar gyfer twristiaeth, ac mae'r A467 mewn gwirionedd yn un o'r ffyrdd mwyaf prydferth i yrru arni. Ond yn y nos does dim digon o oleuadau, does dim digon o wasanaethau, ac mewn gwirionedd mae cyflwr yr adeiladau, y soniodd y siaradwr blaenorol amdanynt—mae'r adeiladau yn dal i fod yno, ers cannoedd o flynyddoedd, ac maen nhw'n hardd, ond nid yw'r adeiladau wedi cael eu cynnal a'u cadw, ac mae'r lle yn dal yr un fath. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru osod a chyhoeddi targedau clir fel bod modd i'r cyhoedd a'r cynulliad fonitro a chraffu ar y cynnydd tuag at gyflawni nodau 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol'. Gobeithio y bydd y strategaeth hon yn llwyddo i gyflawni ei nod ac yn creu'r cymunedau byrlymus a ffyniannus yn y Cymoedd yr ydym ni i gyd yn dymuno eu gweld. Diolch. Hefin David AC: Bydd y rhai ohonom ni a fagwyd mewn cymuned nodweddiadol yn y Cymoedd yn gwybod nad oes y fath beth â chymuned nodweddiadol yn y Cymoedd. Rwyf i'n dod o Gaerffili. Mae fy etholaeth i wedi ei rhannu yn dde a gogledd, ac mae'r hyn a welwch chi yn ne Caerffili yn wahanol fath o gymuned i'r hyn a welwch chi yng ngogledd Gaerffili. Ond hefyd, bydd y rheini ohonom sydd â chyfeillion a pherthnasau yn byw mewn gwahanol drefi a phentrefi yn y Cymoedd yn gwybod bod y trefi a'r pentrefi yn wahanol iawn i'w gilydd, a'u bod yn wynebu heriau gwahanol. Un o'r cwestiynau yr oeddwn i eisiau ei ofyn i'r Prif Weinidog ynglŷn â chwestiwn Nick Ramsay ynghylch dod â menter i'r de-ddwyrain oedd ynglŷn â—ac ni chefais fy ngalw, ac nid wyf yn dal unrhyw un yn gyfrifol am hynny, Dirprwy Lywydd—ond mae un o'r cwestiynau yr oeddwn yn mynd i ofyn yn ymwneud ag AerFin, sydd â'u canolfan yng Nghaerffili. Mae AerFin yn dosbarthu rhannau ar gyfer awyrennau sifil, ac am ddwy flynedd yn olynol mae wedi bod ar frig rhestr y 50 cwmni sy'n tyfu gyflymaf. Mae'r cwmni ym Medwas. A'r cwestiwn rwy'n ei ofyn yw hyn: pam na allwn ni gael mwy o ganolfannau AerFin, wedi'u lleoli ym Margod, Rhymni, Nant-y-glo, Pont-y-pwl? Pam na allwn ni weld canolfannau AerFin yn datblygu mewn mannau eraill? Mae'n gwbl bosibl, ond bydd angen y math o newid mewn diwylliant a deinameg sy'n rhan o'r cynllun hwn. Ymhlith y pethau hynny, wrth gwrs, fyddai cysylltiadau trafnidiaeth gwell, mwy o dai fforddiadwy, mwy o gyfleoedd gwaith, ond hefyd rhaid sicrhau nad yw pobl fel fi a gafodd eu magu mewn cymuned yn y Cymoedd, eisiau gadael, a'u bod eisiau aros a gweithio a chyfrannu i'r gymuned. Dyna pam nad wyf i erioed wedi gadael fy nghymuned i yn y Cymoedd, ac nad wyf byth yn bwriadu gwneud hynny. Roedd yn rhaid imi ddod o hyd i waith, fodd bynnag, yng Nghaerdydd, ac roeddwn i'n gweithio ym maes addysg uwch. Llwyddais i aros hefyd yn gynghorydd sir; mae'n debyg fy mod i wedi crybwyll hyn o'r blaen yn y Siambr hon. Ond ar ôl gweithio mewn addysg uwch sy'n cynrychioli cymunedau yn y Cymoedd, rwyf wedi gweld yr hyn y gall addysg uwch ei wneud yn y cymunedau yr wyf i'nhanu ohonynt. Credaf fod dyletswydd ar y prifysgolion hynny sy'n gwasanaethu'r Cymoedd i estyn allan i'w bröydd mewn ffordd nad ydyn nhw wedi ei wneud hyd yn hyn, ac mae'n un o'r pethau yr wyf i wedi ceisio, a llwyddo, ei gyfleu i Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf eisiau gweld Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru yn mynd ati'n rhagweithiol i fynd allan i'r cymunedau hyna chymryd rhan yn y cynllun, ac rwyf wedi clywed y partneriaid fydd yn cyflawni'r cynllun yn sôn yn gyson am addysg uwch. Mae'n ddyletswydd arnyn nhw i gynyddu astudiaethau rhan-amser ac mae'n ddyletswydd arnyn nhw i gynyddu astudiaethau breiniol mewn sefydliadau addysg bellach. Mae Ysgrifennydd y Cabinet, mewn sylwadau blaenorol, wedi cyfeirio at yr angen i gael gwared ar y ffiniau rhwng addysg bellach ac addysg uwch. Ond mae angen inni hefyd weld ein prifysgolion yn ymwneud ag ysgolion cynradd ac uwchradd. A minnau'n uwch ddarlithydd, es i fy hen ysgol gynradd a chynhaliwyd diwrnod prifysgol yn ysgol gynradd Glyn-Gaer, un o'r pethau mwyaf gwerthfawr a wnes i yn y proffesiwn hwnnw. O ran y canolfannau strategol, mae gen i rai cwestiynau. Os byddan nhw wedi'u lleoli mewn ardaloedd sydd eisoes yn ffyniannus, yna does dim diben iddynt. Un cwestiwn yr hoffwn i ei ofyn yw hyn: sut mae'r canolfannau hynny yn mynd i gysylltu ag ardaloedd lle mae angen twf? Sut, er enghraifft, y bydd canolfan yn Ystrad Mynach yn effeithio ar Senghennydd? Sut y bydd Senghennydd yn elwa o'r ganolfan strategol yn Ystrad Mynach? Byddai gennyf ddiddordeb clywed mwy am hynny, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ddewr ac yn gwbl briodol wedi cytuno i gefnogi gwelliant y Ceidwadwyr, sy'n cydnabod bod angen atebion i'r cwestiynau ychwanegol hynny, ac y cawn nhw eu hateb. A hefyd o ran y Cymoedd yn gyffredinol: rwy'n sôn am y Cymoedd gogleddol fel man gwahanoliawn i'r ardaloedd hynny sy'n rhagor o orddatblyguyn yr ardal lle maen nhw'n byw—sef basn Caerffili—ac mae angen inni sicrhau bod tai fforddiadwy yn cael eu datblygu mewn ardaloedd megis Bargoed ac ymhellach i'r gogledd,gan symud oddi wrth y mannau hynny yn yr ardal lle mae tagfeydd eisoes. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd yma, a bydd hi'n gwybod fy mod i wedi sôn wrthi am hyn ar sawl achlysur. Felly, rhaid i'r ganolfan strategol alluogi'r elfen olaf a gwarchod rhag yr elfen gyntaf. Os gallwn ni wella cysylltiadau trafnidiaeth, credaf fod hyn yn dechrau ateb y cwestiynau hynny. Credaf felly ei fod yn gynllun cadarnhaol iawn ac yn un yr wyf ynei gefnogi. Gallwn ymdrin â materion y cefais i fy magugyda nhw ac wedi parhau i ymgodymu â nhw, ac rwy'n edrych ymlaen at gefnogi Ysgrifennydd y Cabinet a'r Gweinidogion wrth wneud hynny. Mick Antoniw AC: Yn gyntaf oll, a gaf i gyfeirio at rai o'r sylwadau a wnaeth Adam Price? Cytunaf yn gryf â'r pwyntiau a wnaed o ran cynllun ar ôl cynllun ar ôl cynllun, a dyma mewn gwirionedd yw'r cynllun y mae angen inni ei gyflawni. Mae gennyf yn fy swyddfa i gynllun 1958 Llywodraeth y DU ar gyfer datblygu de Cymru, gyda chynlluniau hardd a lluniau plât copr ac ati, ac mae'n sôn am dai, yn sôn am seilwaith. Mae'n sôn am lawer o'r pethau yr ydym ni'n dal i siarad amdanyn nhw ar hyn o bryd. A gaf i ganolbwyntio ar dri maes lle mae datblygiadau pwysig yn fy marn i? Y cyntaf yw'r cyfleoedd sydd gennym drwy gaffael. Gofynnais y cwestiwn yn gynharach y bore 'ma i'r Prif Weinidog am, er enghraifft, E-Cycle ar gyrion fy etholaeth i, sef cwmni sy'n ymdrin â glanhau data. Mewn gwirionedd, mae'r cwmni'n caelmwy o waith gan awdurdodau cyhoeddus Lloegr nagawdurdodau cyhoeddus Cymru, ac ar draws y ffordd—maebron iawn fel rhywbeth o Bruce Almighty—milltiroedd o silffoedd o gofnodion Bwrdd Iechyd Cwm Taf yn cael eu digideiddio. Ac rydych yn edrych o gwmpas Cymru, acyn meddwl, 'Wel, dyma gyfle i greu diwydiant o ragoriaeth, yn cyflogi pobl yn y Cymoedd, mewn maes y mae dirfawr angen amdano, lle mae gennym rywfaint o reolaeth drwy gaffael.' Gwneich bod wedi cytuno i ymweld ar ryw adeg yn y dyfodol, ond ymddengys i mi na ddylid osgoi creu mentrau cyhoeddus ac ati sydd mewn gwirionedd yn gallu creu—y gallwn ni ddylanwadu arnyn nhw mewn gwirionedd. Yr ail sylw yr hoffwn i ei godi, wrth gwrs, yw'r ffordd yr ydym ni wedi defnyddio'r weinyddiaeth a'r pwerau datganoledig yng Nghymru er mwyn bod yn gatalydd. Roeddwn yn falch iawn ichi ddod i gyfarfod y ganolfan a lansiwyd gennych yn y lido ym Mhontypridd: enghraifft o adfywio a datblygu. Ond mae'r cyhoeddiad y bydd Trafnidiaeth Cymru yn symud i ganolfan siopa Taf, lle ceir partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Rhondda Cynon Taf, ar gyfer datblygiad enfawr gwerth £43 miliwn, eisoes yn dechrau trawsnewid y dref. Mewn ardal lle mae llygaid pobl yn edrych tua'r llawr pan rydych chi'n sôn am adfywio'r dref, ac yn dweud, 'ie, ie, rydym wedi clywed hynny o'r blaen, fe greda i e pan wela i e', roeddwn yn falch iawn o fod yno gyda chynghorwyr lleol, gydag Owen Smith AS a chydag arweinydd y cyngor, Andrew Morgan, i weld y teirw dur yn symud ar y safle. Eisoes, ym Mhontypridd, gallwch weld yr adfywio a'r gweddnewid yn digwydd, fel mae busnesau mwy craff yn dechrau symud i mewn, yn dechrau agor ac ati. Dyna ichi dref gyda chanolfan sydd wedi bod yn gatalydd—effaith uniongyrchol ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru. Wrth gwrs, nid yw hyn yn beth newydd. Dyma'r hyn yr arferem ni ei wneud yn yr 1950au a'r 1960au, pan gâi adnoddau'r Llywodraeth ganolog eu defnyddio er mwyn ysgogi. Dyna pam mae'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau yn Abertawe, pam roedd Cyllid y Wlad yn Llanisien ac ati ac ati. A gaf i gyfeirio, felly, at un maes arall yn ychwanegol at hynny, gan fod sôn tragwyddol am y metro, ac, wrth gwrs, mae'n debyg mai dyma'r buddsoddiad seilwaith cyfalaf pwysicaf y gallwn ni ei wneud sydd â'r potensial i drawsnewid pethau? Rydym wedi siarad mor aml am hyn, ond a gaf i ddweud nad wyf i eto'n argyhoeddedig bod gennym yr ymrwymiad i'r buddsoddiad cyfalaf sydd ei angen i sicrhau bod hynny'n digwydd mewn gwirionedd? Y ffaith bod angen llinellau newydd arnom ni—rwyf wedi sôn droeon am yr angen am linell newydd o'r Creigiau i Lantrisant, oherwydd, ar hyn o bryd, mae tagfeydd traffig o amgylch y Cymoedd. Hoffwn i'n fawr pe byddem ni'n rhoi'r un faint o sylw i'r dagfa economaidd honno a'r angen am fuddsoddiad cyfalaf strwythurol yn yr ardal honno â'r sylw yr ydym ni'n ei roii brosiect M4 Casnewydd. Gobeithio y byddwn ni'n sylweddoli hynny ar ryw adeg yn y dyfodol. Ond heb y buddsoddiad hwnnw, mae'n sicr o fethu, ac mae'n rhaid imi ddweud na fydd parhad o'r system drafnidiaeth warthus sydd gennym ni, gyda 'metro' wedi ei ysgrifennu ar hyd yr ochr, yn dderbyniol. Ni fydd yn cyflawni'r diben syddei heisiau arnom mewn gwirionedd, sef rhywbeth a fydd yn rhwystro'r broses o bobl ynteithio lawr y Cymoedd ond yna'ncael eu dal mewn tagfeydd cyn cyrraedd Caerdydd, ond bydd yn symud yn ôl i'r Cymoedd— yr adfywio, trawsnewidiad y cymunedau penodol hynny. Felly, mae hynny— Adam Price AC: A wnaiff yr Aelod ildio? Mick Antoniw AC: Gwnaf, wrth gwrs. Adam Price AC: Nid oeddwn eisiau tarfu ar ei araith, ac rwy'n gwbl gytûn ag ef, ond a gaf i hefyd ei annog i ailadroddy syniad rhagorolyr ysgrifennodd amdano tua phum mlynedd yn ôl gyda Mark Barry, sef creu llinell gylchol ar gyfer y Cymoedd, a ddylai mewn gwirionedd fod yn flaenoriaeth gyntaf ar gyfer y metro, yn hytrach na'r pwyslais hwn, yn anffodus, ar y cysylltiad â Chaerdydd? Mick Antoniw AC: Wel, gwrandewch, yn hollol, ac mae'n hollbwysig i drawsnewidiad y Cymoedd ein bod ni mewn gwirionedd yn dechrau edrych—. Ni all pobl fforddio byw yn ardal Caerdydd bellach. Maen nhw'n gadael yn barhaus, ond rydym ni eisiau iddyn nhw symud y tu hwnt i ardal Bro Taf yn unig, i'r ardaloedd hardd, yr ardaloedd gwyrdd sydd gennym ni bellach yn y Cymoedd. A'r allwedd i hyn yw trafnidiaeth, ac nid trafnidiaethi lawr i Gaerdydd, ond ar draws y Cymoedd. Ac nid yn unig at ddibenion gwaith, ond hefyd at ddibenion swyddogaethau cymdeithasol, swyddogaethau diwylliannol, fel y gall pobl gyfathrebu a chymryd rhan. Dyna sy'n drawsnewidiol. Mae'n gwbl hanfodol, a dyna pam mae mor hanfodol y cawn ni'r ymrwymiadau ar gyfer buddsoddiad cyfalaf yn y metro. Diolch. Diolch. Rhianon Passmore. Rhianon Passmore AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. A minnau'n Aelod Cynulliad Islwyn, un o'r ardaloedd allweddol a gwmpesir gan y tasglu gweinidogol ar gyfer Cymoedd y de, a gaf i ddweud ar goedd fy mod i'n gwbl gefnogol i'r ffordd ragweithiol yr aeth Llywodraeth Lafur Cymru ati i gefnogi datblygiad economaidd cymunedau yn Islwyn a thu hwnt? Mae'n briodol bod Llywodraeth Lafur yn gwneud hyn. Mae fy etholwyr yn awyddus i weld un o ogoniannau tirwedd naturiol Cymru, coedwig Cwmcarn, yn cael ei adfer yn llawn i'w ogoniant blaenorol i'r byd a'r betws ei fwynhau, a chefnogaf yr ymdrech honno. O ran trafnidiaeth, mae fy etholwyr yn awyddus iawn hefyd, fel y rhan fwyaf o bobl yn fy etholaeth i, i weld trên uniongyrchol iGasnewydd ac oddi yno—ac nid yw hynny'n anwybyddu'r pwyntiau a wnaed gynnau am y llwybr cylchog—ar y rheilffordd hynod lwyddiannus o Lyn Ebwy i Gaerdydd. Byddai hyn yn agor y cymunedau yn y cymoedd ymhellach ac yn fwy abl i gynnig rhagolygon gwaith teg i bawb. Wrth i'r sylw droi at fetro de Cymru, mae gennyf bob gobaith y rhoddir ystyriaeth i sut y gellir ailfywiogi Crymlyn ymhellach gyda'r posibilrwydd o gael gorsaf. Mae twristiaeth yn bwysig i Islwyn, ac felly hefyd gael mynediad iddi. Mae Crymlyn yn gymuned hanesyddol wych sy'n cynnwys y Navigation, safle eiconig, hanesyddol a safle glofa sydd â threftadaeth ddiwydiannol. Safleoedd fely Navigation a chymunedau fel Cwmcarn y mae 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' yn sôn amdanyn nhw ac yn eiriol drostynt. Hoffwn i Ysgrifennydd y Cabinet wybod fy mod i'n gwbl gefnogol i'w agwedd frwdfrydig a deallus ynglŷn â'r ymdrech hon, ac mae'n briodol ein bod yn mynd i'r afael, heb unrhyw gywilydd, ag ardaloedd sydd â mynegeion Cymru ar lefel Cymunedau yn Gyntaf a mynegeion amddifadedd lluosog, a data Amcan 1, a hynny ar gyfer pawb, ni waeth sut bydd rhai yn bychanu yr ymdrech. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet, wrth grynhoi'r ddadl hon, egluro sut y gall Islwyn a chymunedau elwa'n uniongyrchol ar y cynllun cyflawni, yn ei farn ef? A fyddai'n barod i gwrdd â mi i drafod a mynd i'r afael â sut y gall pobl Islwyn ymwneud yn llawn â gwaith y tasglu, wrth i'w genhadaeth bwysig ddatblygu mewn cytgord a phartneriaeth â'r strategaeth economaidd i Gymru? Diolch. Vikki Howells AC: Rwy'n croesawu natur gynhwysfawr y cynllun cyflawni hwn. Pan fûm i yn sesiwn dystiolaeth y tasglu yn Aberpennar, cafwyd amrywiaeth o syniadau gan bobl leol ynghylch sut y gallwn ni wneud y Cymoedd yn lle gwell byth i fyw a gweithio ynddo. Caiff yr amrywiaeth hwn ei gyfleu yn dda yn y cynllun cyflawni sydd, ochr yn ochr â'r pwyslais disgwyliedig ar welliant economaidd, swyddi a sgiliau, yn gynhwysfawr ei natur ac sy'n sôn ar goedd am ystyriaethau ynglŷn ag iechyd, lles, yr amgylchedd a gwleidyddiaeth lle. Mae'r gyfres o fesurau yn y cynllun wedi eu dylunio'n dda i fodloni'r heriau pwysicaf sy'n wynebu'r Cymoedd ar ddechrau'r unfed ganrif ar hugain, ond hefyd i fynd i'r afael â'r problemau hirhoedlog, a fu'n bodoli yn aml ers cenedlaethau, ac sy'n bla ar ein cymunedau. Er enghraifft, yng Nghwm Taf mae'r nifer mwyaf o bobl yng Nghymru sy'n cymryd cyffuriau gwrth-iselder. Nid yw hyn yn newydd; does dim datrysiad parod, ond rwy'n falch yr ystyrir bod mynd i'r afael â hyn yr un mor bwysig â gwella perfformiad economaidd. Yn hynny o beth, hoffwn i longyfarch Ysgrifennydd y Cabinet am adroddiad cynhwysfawr, a diolch i aelodau'r tasglu am eu gwaith dros y misoedd diwethaf. Gan droi at fanylion yr adroddiad, rwy'n croesawu'r ymrwymiad i fanteisio i'r eithaf ar greu swyddi gwyrdd. Mae llawer o'r gweithgarwch economaidd hanesyddol sy'n gysylltiedig â'r Cymoedd wedi cael effaith niweidiol ar yr amgylchedd. Yn y dyfodol, rhaid inni wneud yn siŵr nad yw hynny'n digwydd eto. Yn wir, ceir cyfleoedd penodol mewn cysylltiad â'r economi werdd. Mae gan Gyngor Rhondda Cynon Taf gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer datblygu parc eco gwerth miliynau o bunnoedd yng nghyfleuster rheoli gwastraff Bryn Pica. Bydd y parc eco yn troi mwy o sbwriel yn adnodd, gan gasglu ac ailddefnyddio'r gwastraff a gynhyrchir ar y safle. Mae'r cyngor hefyd yn trafod gyda gwahanol denantiaid posib eraill, sy'n ailgylchu paent, tecstilau matres, clytiau a phlastigau. Os bydd yn llwyddiannus, y parc hwn fydd y cyntaf o'i fath yn y DU ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi'r holl gymorth angenrheidiol i'r prosiect cyffrous hwn. Croesawaf hefyd fod y cynllun cyflawni yn canolbwyntio ar y flaenoriaeth o ddatblygu parc tirwedd yn y Cymoedd. Bydd hyn yn grymuso cymunedau yng Nghymoedd y de i weithio gyda'r sector cyhoeddus i wneud yn fawr o fanteision cynaliadwy lleol adnoddau naturiol eu hardal. Rwy'n gwybod hefyd y bu trafodaethau rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a Phartneriaeth Adfywio Ynysybwl. Mae'r bartneriaeth wedi sicrhau dros £1 miliwn gan y Loteri Fawr ar gyfer prosiect cymunedol saith mlynedd, ac mae'r defnydd gorau o goedwigaeth leol yn allweddol i hyn. Er enghraifft, drwy ddatblygu cyfleusterau a'r ganolfan ymwelwyr yng nghanolfan gweithgareddau awyr agored Daerwynno, a chreu llwybrau drwy'r goedwig leol. Mae cyfleoedd gwirioneddol yma, y gellid eu hefelychu ledled y Cymoedd, a fydd, yn eu tro, yn cynnig manteision i iechyd a lles meddwl. O ran caffael, hefyd, ceir enghreifftiau da o fusnesau lleol yn y Cymoedd sydd eisoes â'r math o gadwyni cyflenwi datblygedig y mae angen inni geisio eu hefelychu. Er enghraifft, mae Carpet Fit Wales, yn Aberdâr, yn defnyddio cyflenwyr yn Abertawe, Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr. Maen nhw'n defnyddio gwneuthurwr llawr lleol yng Nghaerffili ac mae ganddyn nhw wasanaethau adnoddau dynol, TG, dylunio a modurdy sy'n cael eu darparu i gyd yng Nghwm Cynon. Dyma'r math o bwynt yr ydym ni wedi bod yn casglu tystiolaeth yn ei gylch yn y pwyllgor economi, gan bwysleisio pwysigrwydd rhwydweithiau effeithlon. Os nad ydym yn gwneud yn fawr o hyn, er ein bod hefyd yn disgwyl gwneud mwy o ran caffael, credaf y byddwn yn colli cyfle yn y Cymoedd i hybu perfformiad a chyflawni amcanion cymdeithasol ehangach. Daw hyn â fi at yr hyna deimlaf sy'n dal i achosi'r heriau mwyaf i amcanion polisi, sef y problemau parhaus o anweithgarwch economaidd, tâl isel a sgiliau gwael. Mae pwyslais trwm ar sgiliau yn y cynllun cyflawni, ac rwy'n sicr yn gobeithio y bydd hyn yn dwyn ffrwyth. Mae coleddu elfennau mwyaf llwyddiannus Cymunedau yn Gyntaf, fel Cymunedau am Waith, hefyd yn allweddol.Os gallwn ddatblygu rhywbeth sydd eisoes yn gweithio, mae'n rhaid inni fod yn feiddgar wrth wneud hynny. I gloi, credaf fod gwelliant 2 yn gwneud pwynt pwysig. Mae'r cynllun cyflawni yn cynnig ysgerbwd ardderchog i adeiladu cymunedau cryfach yn y Cymoedd, o'r gwaelod i fyny. Fodd bynnag, mae'n rhaid inni ystyried hyn yn fan cychwyn y drafodaeth, a sicrhau ein bod ni'n dal i gael trafodaethau nid yn unig ynglŷn â chymunedau'r Cymoedd, ond gyda nhw. Gwn fod hyn yn rhywbeth y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn awyddus i'w wneud, ac edrychaf ymlaen at gydweithio gydag ef ar hyn. Diolch. Yn olaf, Caroline Jones. Caroline Jones AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' yn gyfle cyffrous ac i'w groesawu. Ond mae'r dogfennau yn gyfaddefiad diamheuol bod rhaglenni blaenorol, rhai ohonyn nhw a ddechreuwyd gan Lywodraeth Cymru, naill ai wedi methu neu wedi bod yn ddiffygiol. Mae Cadeirydd y tasglu gweinidogol ar gyfer Cymoedd y de hyd yn oed yn dweud yn y ddogfen gychwynnol yr haf hwn, a dyfynnaf: 'Os ydym am lwyddo lle mae rhaglenni eraill wedi syrthio ar fin y ffordd, mae’n rhaid i gymunedau lleol a phobl leol fod yn gwbl ganolog i waith y tasglu.' Mae 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' yn tynnu sylw at bwynt a glywaf yn rheolaidd gan fy etholwyr. Ar dudalen 9, dywed y ddogfen fod y rhai yr ymgynghorwyd â nhw ar y pryd wedidweudnad oes digon o gyfleoedd gwaith o fewn cyrraedd cymunedau'r Cymoedd, bod yna ormod o gontractau dim oriau, a gormod o waith dros dro a gwaith asiantaeth. Mae ein diwydiannau glo a dur wedi crebachu'n sylweddol, a gweithgynhyrchu hefyd, a does dim digon o waith arall yn llenwi'r bwlch. Cefais fy ngeni yng nghwm Rhondda a bûm yn byw yno am flynyddoedd lawer, ac mae'r seilwaith a thrafnidiaeth gyhoeddus yn golyguei bod yn amhosib mynd o A i B mewn amser rhesymol. Mae hyn yn ei gwneud hi'n anodd gweithio y tu allan i'r ardaloedd hyn. Gyda phobl yn gorfod teithio i'r ddinas ar gyfer gwaith—Caerdydd, Abertawe—mae hi bron yn amhosib os nad oes gennych chi gar. Pam ydym ni yn y sefyllfa hon? Rwyf wedi dweud yn y Siambr hon sawl gwaith o'r blaen nad yw'r DU a Chymru yn fannau lle mae'r dreth yn isel. Yng Nghastell-nedd Port Talbot, yn fy rhanbarth i, mae'r dreth gyngor yn codi bob blwyddyn, ond gwasanaethau'r cyngor yn dirywio. Er enghraifft, caiff sbwriel ei gasglu bob pythefnos bellach. Mae'r cynnydd mewn TAW wedi bod yn rhwystr i ddefnyddwyr ac wedi gwneud bywyd yn anodd i fusnesau bach. Rwy'n derbyn cwynion cyson gan fusnesau bach sy'n ymwneud ag ardrethi busnes yn fy rhanbarth i a sut mae hyn yn mygu mentergarwch. Mae'n bosib y gall cwmnïau mwy neu ryngwladol sy'n tueddu i gyflogi staff asiantaeth ac ymsefydlu mewn dinasoedd mawr oroesi yn y fath amgylchiadau, ond ni all busnesau bach cynhenid, lleol—fel y rhai yn y Cymoedd—a'r busnesau bachlleol hyn sydd fwyaf tebygol o gyflogi trigolion lleol yn barhaol. Roedd pobl a ddaeth yn berchnogion busnes ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn synnu o weld bod casglu gwastraff yn daliad ar wahân i ardrethi busnes. O'r blaen, roedd ardrethi busnes yn cynnwys y gwasanaeth hwn. Bellach, mae wedi dod, yn eu geiriau nhw, yn ychwanegyn arall, ac yn un drud hefyd, sy'n ychwanegu miloedd o bunnoedd y flwyddyn yn at eu hardrethi busnes. Mewn ymateb i'r sefyllfa hon, ateb Llywodraeth Cymru yw, yn rhyfedd iawn, i ymchwilio i fwy fyth o ffyrdd o drethu pobl—roedd y drafodaeth am y dreth twristiaeth yn un o'r syniadau a drafodwyd yn fwyaf diweddar. Yn fy rhanbarth i, mae gennyf ddwy ardal twristiaeth, Gwyr a Phorthcawl, ac rwy'n bryderus iawn ynglŷn â hyn. Mae'r syniad hwnnw yn groes i farn y rhai sy'n gweithio yn y diwydiant, gan gynnwys prif weithredwr gwesty'r Celtic Manor a rhai pobl yng Nghymdeithas Lletygarwch Prydain. Felly, ar un llaw, mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod hi'n gwrando ar bryderon trigolion ynghylch ansicrwydd gwaith a diffyg cyfleoedd am swyddi a chontractau dim oriau, ond wedyn gyda'i llaw arall mae hi'n mygu'r atebion gorau sydd gennym ni i'r pryderon hyn drwy lesteirio mentergarwch a busnesau bach gyda mwy o dreth. Mae'r un peth yn wir am ardrethi busnes. Rydym ni wedi trafod y pwnc hwnnw o'r blaen yn y Siambr hon gan nodi bod y Ffederasiwn Busnesau Bach yn dweud bod y system ardrethi annomestig, fel y mae, yn dreth drom ac annheg nad yw'r rhoi unrhyw ystyriaeth o gwbl i allu cwmni i dalu. Yn y ddadl honno, ni siaradodd unrhyw un o aelodau meinciau cefn Llafur i amddiffyn Llywodraeth Cymru. Felly, unwaith eto, gallai diwygio ardrethi busnes adfywio busnesau lleol ac entrepreneuriaeth, ac ymdrin â phryderon y bobl hynny yn y Cymoedd. Felly, gawn ni, gyda'n gilydd, achub ar y cyfle hwn? Ffordd arall a allai helpu i wneud iawn am y broblem o ddiffyg swyddi sy'n talu'n dda yn y Cymoedd fyddai gosod dyletswydd statudol ar gynghorau lleol i hyrwyddo datblygiad economaidd. Cymeradwywyd y cynnig hwn gan y Ffederasiwn Busnesau Bach. Efallai y bydd y polisi hwn yn well na mentrau o'r brig i lawr, oherwydd byddai'n galluogi'r rheini sy'n adnabod eu hardal orau i gyfrannu at y mathau o fusnesau a swyddi y byddent yn hoffi eu denu yno mewn gwirionedd. O ran yr elfennau sy'n effeithio ar fy rhanbarth i, Gorllewin De Cymru, gallaf ddweud y canlynol: roeddwn yn croesawu'r cynnig yn ystod yr haf y bydd y ganolfan yng Nghastell-nedd yn canolbwyntio'n rhannol ar ddatblygu digidol a diwydiannol. Ni all Cymru weithredu ar ddatblygiadau preswyl yn unig, a hwyrach mai'r economi ddigidol yw'r allwedd i swyddi'r dyfodol. Fodd bynnag— A wnewch chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda. Caroline Jones AC: Ie. Yn yr un modd, mae datblygiadau twristiaeth a diwylliant yn fy ardal i, ar safleoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, i'w croesawu. Rwy'n sicr yn hapus i glywed am y datblygiad yng nghanol tref yng Nghastell-nedd, ond ar yr un pryd rwy'n pryderu, oherwydd, weithiau, pan caiff canolfannau tref eu hadfywio, eu hailddatblygu— Os gwelwch yn dda, a wnewch chi orffen nawr? Caroline Jones AC: —mae canlyniadau anfwriadol. Iawn, o'r gorau. Diolch. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus i ymateb i'r ddadl. Alun Davies. Alun Davies AC: Rwy'n ddiolchgar i chi, Dirprwy Lywydd. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma. Credaf fod nifer yr Aelodau sy'n dymuno chwarae rhan yn y ddadl a'r cyfraniadau a glywsom ni yn dangos pa mor bwysig yw hi fod y Llywodraeth yn cyflwyno'r dadleuon hyn i'n galluogi i gael sgwrs yn y fan yma yn y Cynulliad Cenedlaethol ynghylch y ffordd y mae'r Llywodraeth yn ymateb i'r holl heriau sy'n ein hwynebu. Rwyf hefyd yn falch nad yw hon yn ddadl yr ydym ni wedi ei chael yn y gorffennol, ble mae Aelodau wedi traddodi areithiau parod, cyffredinol yn ailadrodd yr holl heriau sy'n ein hwynebu, oherwydd mae pobl y Cymoedd eisiau mwy na dadleuon di-fflach am bethau a fu. Mae pobl y Cymoedd eisiau mwy na gwleidyddion sy'n gwneud dim byd ond dyfynnu ystadegyn ar ôl ystadegyn ar ôl ystadegyn heb lawn ddeall yr ystadegau hynny neu allu mynegi beth fydd yn digwydd yn y dyfodol o ganlyniad i wynebu'r heriau hynny. Yn rhy aml—ac rwy'n credu yr eglurodd Adam Price hyn yn dda iawn—yr hyn a welsom ni oedd lansiadau cysylltiadau cyhoeddus, gyda dim neu fawr ddim sylwedd ac yn sicr dim canlyniadau. Credaf fod hynny'n feirniadaeth deg o lawer o'r mentrau a welsom yn y gorffennol, ac rwy'n derbyn hynny. Rwyf hefyd yn gobeithio y byddai'n derbyn rhan ei blaid yn un o'r rheini hefyd. Ond gadewch imi ddweud hyn: Mae angen inni sicrhau ein bod yn mynegi ein huchelgeisiau a'n hamcanion a'n gweledigaethau difrifol iawn ar gyfer dyfodol ein cymunedau ledled Cymoedd y de. Ac mae hynny'n golygu bod o ddifrif ynglŷn â'r heriau sy'n ein hwynebu. Nid dim ond gwneud araith ar brynhawn dydd Mawrth a cherdded ymaith ar nos Fawrth, ond gan gydnabod yr heriau hynny a chydnabod sut y gallwn ni fynd i'r afael wedyn â rhannau sylfaenol yr economi a'r cymunedau i'n galluogi i oresgyn yr heriau hynny. Yr hyn a welsom ni y prynhawn yma yn y ddadl hon oedd amrywiaeth eang o fentrau gwahanol, syniadau gwahanol, cyfraniadau gwahanol, bob un ohonyn nhw eisiau gallu cyfrannu at y weledigaeth gadarnhaol honno i'r dyfodol. Cytunaf yn llwyr â'r pwyntiau a wnaeth Jenny Rathbone ynghylch tai a'r diwydiant adeiladu, a'r modd y gellir defnyddio tai er mwyn gwella safonau ac ansawdd bywyd, ond hefyd buddsoddi yn ein heconomi. Ac mae'r pwyntiau a wnaeth Hefin David am gymuned nodweddiadol yn y Cymoedd yn hollol gywir. Pan fyddaf yn siarad mewn cyfarfodydd — siaradais mewn cyfarfod gyda Huw Irranca yn neuadd y dref Maesteg, a chredaf y buom am dair awr yn sefyll a siarad a thrafod a dadlau gyda'r bobl yno. Roeddwn i'n siarad fel rhywun o Dredegar, yn edrych ar y Cymoedd o'm safbwynt i ym Mlaenau Gwent a Thredegar, ac mae safbwynt rhywun sy'n byw yng Nghwm Llynfi neu Maesteg, wrth gwrs, yn gyfan gwbl ac yn hollol wahanol. Cawsom ddadleuon a thrafodaethau tebyg ledled y Cymoedd, lle mae pobl wedi buddsoddi amser i siarad, dadlau a thrafod beth maen nhw eisiau ei weld ar gyfer eu cymunedau. Bu'n un o'r profiadau mwyaf cyfoethog yn fy oes wleidyddol i, ac mae'n rhywbeth y byddaf bob amser yn ei werthfawrogi. Ac mae'n debyg bod yr hyn a ddysgais i o bob un o'r cyfarfodydd hynny yn bwysicach i mi na'r holl destunau gwahanol a ddysgais ar adegau eraill, oherwydd fe gawsom ni sgyrsiau gwirioneddol gyda phobl am eu cartrefi, eu cymunedau, eu teuluoedd, eu gobeithion, eu penderfyniad i greu ac ail-greu cymunedau ar gyfer y dyfodol. Ond mae'n rhaid inni hefyd fod yn hollol, hollol o ddifrif ynglŷn â sut i wneud hyn, gan fynd i'r afael â'r economi sylfaenol, rhoi cymorth sy'n hyblyg ac ystwyth i fusnesau, gan gallu edrych ar y busnesau y soniodd Hefin David amdanyn nhw yng Nghaerffili, a hefyd wedyn gallucynyddu'r gefnogaeth sydd ei hangen ar y busnesau hynny i dyfu a llwyddo yn y dyfodol. O ran yr heriau a amlinellwyd i ni gan Mick Antoniw, roedd y sgwrs a gawsom ni cyn y Nadolig ym Mhontypridd rwy'n credu yn enghraifft o sut yr hoffwn i weld y tasglu hwn ar gyfer y Cymoedd yn mynd rhagddo, gan ddod â phobl ynghyd, bod yn gatalydd, cynnig gweledigaeth ar gyfer newid, gweledigaeth ar gyfer y dyfodol. Yn sicr, mae'r holl bwyntiau a wnaethoch hi yn bwyntiau y byddwn i'n dymuno eu hailadrodd hefyd. Rhianon, rwyf wedi bod am dro gyda fy mhlant i yn y car drwy goedwig Cwmcarn, a chytunaf yn llwyr â'r pwyntiau a wnaethoch chi. Wrth gwrs, gallwn gyfarfod a thrafod materion yn ymwneud ag Islwyn yn benodol, ond hefyd beth am gyfarfod a thrafod sut y gall eich gweledigaeth am dwristiaeth gyfrannu mewn gwirionedd at bob un o'r Cymoedd hefyd. Oherwydd un o'r pethau rwy'n gobeithio y gallwn ei wneud yw dod â phobl ynghyd o bob rhan o'r Siambr hon er mwyn darparu ar gyfer y dyfodol. Adam Price AC: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet dderbyn ymyriad? Alun Davies AC: Does gen i ddim amser yn weddill. Gyda charedigrwydd y Dirprwy Lywydd— Yn fyr, felly. Yn fyr—gan ei bod hi'n flwyddyn newydd ac rwy'nteimlo'n eithaf hael. Yn fyr. Adam Price AC: Roedd pris o £1 biliwn y flwyddyn ar strategaeth y Cymoedd a gyhoeddwyd 12 mlynedd yn ôl gan A. Davies arall. Pryd gawn ni'r ffigurau gan Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch y buddsoddiad ychwanegol sydd ynghlwm wrth y strategaeth hon i gyflawni'r amcanion? Alun Davies AC: Roedd yr araith agoriadol a wnes i, y sylwadau agoriadol a wnes i, ynglŷn â thasglu'r Cymoedd, oedd bodhyn yn llywio gwaith Llywodraeth Cymru yn ei gyfanrwydd, ac felly rydym yn gweld cyfraniadau. Y pwynt yr oeddwn yn mynd i'w wneud wrthgloi oedd y sylw a wnaed gan Vikki Howells o ran ehangder y syniadau o Aberpennar, yr angen inni wreiddio ein cynlluniau ar gynaliadwyedd a swyddi cynaliadwy, ac yn olaf y sylwadau a wnaeth hi—ac rwy'n llwyr gytuno â hi—ynglŷn â'r parc tirwedd. Fy nghyfaill a'm cyd-Aelod Lesley Griffiths a'i hadran sy'n arwain y gwaith ar y Parc tirwedd, a'i swyddogion hi sy'n gwneud gwaith ar hynny. Mae'r gwaith a gyflawnir gan y canolfannau strategol, y cyfarfodydd a drafodir mewn mannau eraill, yn cael eu harwain gan Ken Skates. Felly, ceir Gweinidogion a chyfrifoldebau gweinidogol yn cyflawni'r uchelgeisiau hyn ym mhob un o adrannau'r Llywodraeth. Yr hyn yr ydym eisiau cefnu arno, Adam, yw cyfyngu'r Cymoedd i un adran ac i un cwango. Rydym yn awyddus i'r Llywodraeth gyfan fynd i'r afael â'r materion hyn, a chaiff y gwaitha ddisgrifiodd Mick Antoniw o ran y metro, wrth gwrs, ei arwain gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth. Felly, gadewch imi orffen drwy ddweud hyn: Adam, fe wnaethoch chi ddyfynnu Idris Davies, ac mae pob un ohonom wedi darllen Gwalia Deserta ar wahanol adegau yn y gorffennol, ac roedd hynny wrth gwrs yn gri ddirdynol gan gymuned a gafodd ei bradychu gan Lywodraeth ddi-hid. Yr hyn yr wyf i'n ei ddweud wrthych chi yw hyn—gadewch imi aralleirio Gwyn Alf Williams, a bod yn gwbl glir—bydd ein Cymoedd yn llwyddo os ydym ni'n dewis eu galluogi nhwi fyw yn y dyfodol, a byddwn yn gwneud ac yn ail-wneud ein cymunedau oherwydd rydym ni wedi ymrwymo i'r cymunedau hynny, rydym ni o'r cymunedau hynny, rydym ni wedi ein gwreiddio yn y cymunedau hynny, ac mae hon yn Llywodraeth sydd wedi ei gwreiddio yn nyfodol y cymunedau hynny. Felly, byddwn yn gwneud ac yn ail-wneuddyfodol ar gyfer ein holl gymunedau. Diolch. Y cynnig yw derbyn gwelliant 1. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Y cynnig yw derbyn gwelliant 2. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Y cynnig yw derbyn gwelliant 3. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Da iawn. Felly, derbynnir gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Y cynnig yw derbyn gwelliant 4. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.]Felly byddwn yn gohirio'r pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. 7. Dadl: Cynllun Morol Cenedlaethol Drafft Cymru Trown yn awr at eitem 7, sef dadl ar ffurf ddrafft cynllun morol cenedlaethol Cymru, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i gynnig y cynnig—Lesley Griffiths. NDM6616Julie James Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu’r ymgynghoriad ar fersiwn ddrafft Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru (WNMP). 2. Yn cydnabod ac yn cefnogi posibilrwydd 'Twf Glas' cynaliadwy mewn sectorau morol fel y nodir yn y cynllun drafft. 3. Yn cydnabod, fel y nodir yn y cynllun drafft, bwysigrwydd ecosystemau morol Cymru a phwysigrwydd rheoli ein hadnoddau naturiol morol yn gynaliadwy o safbwynt llesiant cenedlaethol. 4. Yn croesawu ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i ymgysylltu a chydweithio wrth ddatblygu a gweithredu cynllunio morol i Gymru. Cynigiwyd y cynnig. Lesley Griffiths AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Croesawaf yn fawr y cyfle hwn i drafod ffurf ddrafft cynllun morol cenedlaethol Cymru a'i swyddogaeth o ran bod yn ganllaw i reoli ein moroedd yn gynaliadwy. Mae hon yn enghraifft gref o bolisi a luniwyd gan ein Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Wrth ddatblygu ein cynigion mewn cydweithrediad agos ag amrywiaeth eang o bartneriaid a rhanddeiliaid fe wnaethom ni ddangos yn glir sut i wrando ar safbwyntiau pobl Cymru ac adeiladu arnynt. Mae gan Gymru hanes morwrol balch a hirhoedlog. Mae ein moroedd yn fwy na phwysig i ni. Maen nhw'n arbennig, wedi eu bendithio â chyfoeth o adnoddau naturiol, morluniau eiconig a bywyd gwyllt ysbrydoledig, ac mae gan bob un ohonom ni ddiddordeb ar y cyd yn eu dyfodol. Daeth y Llywydd i’r Gadair. Lesley Griffiths AC: Yn anffodus, ar adegau, mae moddanwybyddu euharwyddocâd. Mae moroedd Cymru yn cynnwys amrywiaeth o gynefinoedd a rhywogaethau sy'n cyfrannu at ecosystemau morol iach a chryf. Mae'r ecosystemau hyn yn darparu amrywiaeth eang o fanteision hanfodol sy'n cefnogi ein lles cenedlaethol. Mae ein moroedd hefyd yn cynnwys cyfoeth o adnoddau naturiol sy'n cynnigcyfle i Gymru elwa ar dwfglas. Simon Thomas AC: A wnaiffYsgrifennydd y Cabinet ildio? Lesley Griffiths AC: Gwnaf. Simon Thomas AC: Dim ond ar y pwynt hwnnw, bydd hi'n ymwybodol bodrhai elusennau sy'n ymwneud â chadwraeth forol wedi dweud heddiw bod canlyniadau negyddol arwyddocaol i'wchynllun. A yw hi'ncydnabod bod hynny'n feirniadaeth ddilys, neu a yw'n credu eu bod wedi gorbwysleisio eu hachos? Lesley Griffiths AC: Yn amlwg, rydw i wedi cyfarfod â llawer o'r sefydliadau a wnaeth y sylwadau. Felly, rwy'n credu eu bod o bosib ychydig yn gamarweiniol. Fodd bynnag, rydym mewn cyfnod o ymgynghori. Mae'n gyfnod ymgynghori hir iawn. Gwneuthum yn sicr mai felly yr oedd hi, yn enwedig dros y Nadolig, felly gallant gyfrannu eu sylwladau, ac yn amlwg byddwn yn ystyried pob barn wrth fynd ymlaen. I barhau, rydym yn defnyddio ein moroedd mewn llawer o ffyrdd ac mae pysgodfeydd, morgludiant a gweithgareddau hamdden hir-sefydledig yn bodoli ac yn ffynnu ochr yn ochr â defnyddiau mwy newydd megis tyrbinau gwynt ar y môr a thyrbinau tanddwr, a all ein helpu i ddatgarboneiddio ein heconomi. Fodd bynnag, wrth i'nmoroedd brysuro, mae mwy o risg gwrthdaro a mwy o botensial i danseilio cadernid morol. Felly, mae cynllunio strategol morol yn hollbwysig. Drwy gynllunio effeithiol, gall ein diwydiannau morol dyfu a ffynnu a gellir diogelu ein treftadaeth naturiol werthfawr ar yr un pryd. Fis Medi diwethaf, gosodais dargedau ynni uchelgeisiol ar gyfer Cymru, gan gynnwys bod 70 y cant o'r trydan a ddefnyddir yn deillio o ynni adnewyddadwy erbyn 2030. Gwelaf fod gan ynni adnewyddadwy ar y môr ypotensial i wneud cyfraniad pwysig wrth gyrraedd y targed hwn. Gallai ynni adnewyddadwy ar y môr ddarparu amrywiaeth o dechnolegau i gefnogi'r daith tuag at gynhyrchu cynaliadwy, carbon isel yng Nghymru. I gefnogi'r gwaith o ddatblygu ein moroedd yn gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol, rwy'nfalch o fod wedilansio ymgynghoriad ffurfiol ar y Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru drafft. Dyma'rcynllun statudol cyntaf ar gyfer ein moroedd ac mae'n gychwyn ar gynllunio cyfundrefn forol strategol newydd. Mae'n bwysig bod gennym weledigaeth glir a hirdymor o'r hyn yr ydym yn ceisio'i gyflawni ar gyfer ein moroedd, yn arbennig wrth i'rDU adael yr Undeb Ewropeaidd. Credaf ei bod yn hanfodol darparu eglurder a sicrwydd ar gyfer y rhai sy'n defnyddio ac yn elwa ar ein moroedd. Mae'r cynllun morol yn adeiladu ar y cynnydd cadarn yr ydym eisoes yn ei wneud wrth warchod ein moroedd, gan gefnogi ein nod o gyflawni statws amgylcheddol da, cwblhau ein rhwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig, rheoli gweithgareddau a allai niweidio cryfder yr ecosystem forol, helpu i adfer ein stociau pysgod a bioamrywiaeth, a sicrhau bod gennym gyfundrefn gydsynio gadarn ac effeithiol. Wrth gwrs, mae mwy i'w wneud i gynnal a gwella'r manteision a ddaw i'n rhan o foroedd iach a ffyniannus. Rwy'n sicr ein bod ni i gydwedi bod yn pryderu ynghylch straeon ar y newyddion yn ddiweddar am effeithiau dinistriol aphellgyrhaeddol llygredd plastig ar ein hecosystemau. Dengys hyn cymaint o gysylltiad sydd rhyngom ni â'n moroedd, nid dim ond yn ddiwylliannol ond o ran pa mor helaeth a pharhaus y gall effeithiau fod. Mae'n rhaid inni barhau i weithredu mewn ffyrdd sy'n cydnabod ac yn dangos ein hymrwymiad i fod yngyfrifol yn fyd-eang am ein gweithredoedd. O ran cysoni polisïau, rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a'r system cynllunio defnydd tir yn ei chyfanrwydd yn cefnogi ein hamcanion morol. Drwy barhau i weithio gyda'n rhanddeiliaid, byddwn yn sicrhau bod eincyfundrefnau cynllunio tir a môr yn gweithio gyda'i gilydd i gyflawni eu nodau cyffredin. Mae cyflwyno'r cynllun yn gam pwysig wrth ddwyn ynghyd ystod o bolisïau a sefydliadau i'n helpu i ganolbwyntio ar y materion hyn, edrych ar ôl ein moroedd ar gyfer y tymor hir, cydnabod a mynd i'r afael â phroblemau yn gynnar, a gweithio ar y cyd i gyflawni canlyniadau gwirioneddol. Datblygwyd y cynllun drafft yr wyf yn ymgynghori arno ar y cyd ag amrywiaeth eang o randdeiliaid. Mae diwydiannau, grwpiau amgylcheddol, ymchwilwyr a mwy wedi gweithio gyda'i gilydd i helpu i ddatblygu cynlluna fydd ynarwain gweithgarwch yn y dyfodol mewn ffordd gynaliadwy. Yn 2011, llunioddpob un o bedair gweinyddiaeth y DU gyfreso amcanion morol cyffredin. Cyhoeddwyd y rhain yn ein datganiad polisi morol 2011. Mae'n bwysig gosod amcanion sy'n parchu graddfa a natur gydgysylltiedig ecosystemau morol. Mae'r amcanion cyffredin hyn, ynghyd â nodau llesiant a'n hymrwymiad i reoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol, yn llywiopolisïau cyffredinol y cynllun, sy'n berthnasol i bob gweithgaredd yn ein moroedd. Mae'rpotensial i Gymru elwa ar y twf glas yn gyffrous ac yn sylweddol. Drwy sicrhau bod gwahanol ddefnyddwyr y môr yn ystyried gweithgareddau ei gilydd, yn ogystal â'r potensial ar gyfer y dyfodol, gallwn oll elwa. Mae'r cynllun drafft yn nodi y ceir cyfle twf penodol i nifer o sectorau: ar gyfer ynni adnewyddadwy ar y môr megis gwynt ar y môr, tyrbinau tanddwr a môr-lynnoedd llanw; ar gyfer dyframaethu, a meithrin pysgod cregyn ynbenodol; ar gyfer gweithgarwch llongau, sy'n darparu cysylltiadau hanfodol i Gymru, o Gymru a thrwy Gymru; ac, yn bwysicaf oll, ar gyfer twristiaeth a gweithgareddau hamdden, sy'n gwneud cyfraniad pwysig i'n heconomi ni. Rwy'ncydnabod arwyddocâd yr holl sectorau sy'n gweithredu yn nyfroedd Cymru. Er enghraifft, mae agregau morol yn darparu deunydd adeiladu hanfodol i gefnogi twf economaidd. Mae pysgodfeydd yn ein galluogi i fwynhau protein iach, o ffynonellau lleol, ac mae ceblau o dan y môr yn caniatáu i symiau anferth o ddata lifo drwy ein cartrefi a busnesau ac wrth gwrs maent yn hanfodol i economi fodern. Rwy'nsiŵr y bydd yr Aelodau yn cytuno bodangen rheoli ein moroedd yn ofalus i ganiatáu i'r gweithgareddau amrywiol hyn barhau a, lle bo'n briodol, i dyfu ochr yn ochr mewn cytgord â'n hamgylchedd naturiol. Mae'r cynllun yn diogelu adnoddau naturiol pwysig i leihau'r risg o golli'r cyfle i'w defnyddio yn y dyfodol. I wneud hynny, mae'r cynllun yn nodi meysydd o'r fath—meysydd adnoddau strategol—ac mae ganddo bolisïau i annog y sectorau i dyfu mewn modd cynaliadwy. Mae cyrff awdurdod cyhoeddus yn chwarae rôl bwysig wrth wneud penderfyniadau am yr amgylchedd morol, er enghraifft wrth asesu cynigion datblygu a rhoi trwyddedau morol. Mae'r cynllun hwn yn eu cefnogi drwy nodi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru i helpu i lywioeu penderfyniadau, heb danseilio'r archwiliadau a'r cydbwysedd penodol i brosiect mewn unrhyw ffordd i sicrhau bod pob cynnig yn destun craffu priodol. Rwy'n disgwyl i bob prosiect unigol fodloni rhwymedigaethau statudol perthnasol cyn sicrhau cydsyniad. Drwy gydol y gwaith o ddatblygu'r cynllun hwn, rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio'r dystiolaeth orau sydd ar gael a sicrhau bodhyn ar gael i bawb. Yng Nghymru, mae gennym sylfaen dystiolaeth forol sylweddol wedi'i chrynhoi yn 'Adroddiad Tystiolaeth Forol Cymru' 2015, ac mae data morol yn awr ar gael i'r cyhoedd ar ein porth cynllunio morol ar-lein. Mae hyn yn golygu y gall rhanddeiliaid ddefnyddio'r porth i ddeall y rhesymau dros ein cynigion a beth y gallai ei olygu yn ymarferol. Mae'r amgylchedd morol yn weithle cymhleth a heriol. Mae cyflwyno system gynllunio morol newydd yn golygu buddsoddiad pwysig o ran amser ac ymdrech, nid yn unig gan Lywodraeth Cymru ond gan lawer o randdeiliaid sydd wedi rhoi o'u hamser a'u harbenigedd i'r broses. Hoffwn gofnodi fy niolch iddynt am eu cymorth a'u brwdfrydedd. Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, fforwm arfordir sir Benfro ac eraill yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau lleol o gwmpas yr arfordir yn ystod y mis hwn, a byddwn yn annog y rheini sydd â diddordeb yn nyfodol ein moroedd i fynd iddynt a dweud eu dweud. Felly, yn gryno, Llywydd, mae hwn yn gam pwysig ar gyfer dyfodol moroedd Cymru, yn arbennig wrth inni gychwyn ar Flwyddyn y Môr Llywodraeth Cymru. Rwyf eisiau sicrhau bod cynllun morol cenedlaethol Cymru yn gweithio ar gyfer Cymru. Drwy weithio gyda'n gilydd a nodi'n huchelgais yn glir a cheisio'i wireddu, gallwn i gyd gyfrannu at wneud y mwyaf o'n moroedd. Rwyf wedi dethol y pum gwelliant i'r cynnig ac, os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Rwy'n galw felly ar Simon Thomas i gynnig gwelliannau 1, 2 a 5, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Gwelliant 1.Rhun ap Iorwerth Ychwanegu pwyntiau newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny: Yn croesawu buddsoddiad yr UE mewn ynni morol yn Sir Benfro ac Ynys Môn ac yn galw am fuddsoddiad cydlyniad rhanbarthol tebyg gan Lywodraeth y DU yn dilyn Brexit. Yn gresynu at yr oedi wrth ddatblygu prosiect Morlyn Llanw Bae Abertawe fel prosiect braenaru a fyddai'n ein galluogi i ddysgu llawer iawn am botensial twf glas o ynni llanw. Gwelliant 2.Rhun ap Iorwerth Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le: Yn gresynu at yr oedi o ran cyhoeddi cynllun morol terfynol Llywodraeth Cymru yng nghyd-destun yr her i foroedd Cymru yn dilyn y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Gwelliant 5.Rhun ap Iorwerth Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno ardoll ar blastig untro tafladwy i helpu i sicrhau bod moroedd Cymru'n lân, yn iach, yn ddiogel, yn gynhyrchiol ac yn fiolegol amrywiol. Cynigiwyd gwelliannau 1, 2 a 5. Simon Thomas AC: Diolch yn fawr, Llywydd, ac os caf ddechrau drwy ddweud a nodi ein bod ni'n trafod y cynllun morol ymgynghorol heddiw a bydd gennym ni drafodaeth yfory eto ar adroddiad y pwyllgor newid hinsawdd ar yr union bwnc yma, rwyf jest yn gobeithio y tro nesaf y bydd rhywbeth fel hyn yn digwydd y bydd y Pwyllgor Busnes yn gallu bod yn fwy creadigol ynglyn â chael trafodaeth ar gynigion y Llywodraeth wedi eu cymhwyso a goleuni wedi taflu arnyn nhw gan adroddiad y pwyllgor, yn hytrach na chael dwy ddadl ar wahân.Ond, wedi dweud hynny, rydw i'n falch iawn ein bod ni yn trafod yr ymgynghoriad heddiw ac, wrth gwrs, mae yn ymgynghoriad felly mae llawer o gwestiynau rwy'n mynd i ofyn efallai yn rhai a gaiff eu hateb yn ystod y cyfnod ymgynghorol ac, wrth gwrs, mae yna ambell i bwynt efallai a ddaw allan yn ystod y broses yna yn ogystal. Hoffwn i ddechrau gyda lle rydw i'n cytuno gyda'r Ysgrifennydd Cabinet, sef ar y sylfaen egwyddorol yma ein bod ni efallai fel cenedl yng Nghymru wedi troi ein cefnau ar y môr yn ystod yr hanner canrif diwethaf, ac nid ydym ni'n meddwl digon am y môr fel ffynhonnell bywoliaeth,fel ffynhonnell bioamrywiaeth, fel ffynhonnell rhai o'r pethau mwyaf economaidd y gallwn ni eu datblygu ar gyfer y dyfodol, efallai. Rwyf hefyd yn rhannu, yn y gwelliannau sydd gan Blaid Cymru i'r ddadl heddiw, ofnau ynglŷn ag oedi cyn cyflwyno yr ymgynghoriad yma, cynigion sydd wedi'u rhannu gan y Blaid Geidwadol, rwy'n sylwi, yn ogystal. Mae yna dymor cyfan o'r Cynulliad wedi pasio ers i ni glywed am y datganiad polisi morol cyn i ni weld y cynllun ar ei ffurf drafft presennol. Ac yn ystod y cyfnod yna, mae'r dystiolaeth a dderbyniwyd gan y pwyllgor newid hinsawdd yn ystod ei adroddiad diweddar—y byddwn ni'n ei drafod yfory—wedi dangos yn glir bod yr ardaloedd cadwraeth morol y cyfan oll mewn cyflwr anffafriol ar gyfer y cynefinoedd a hefyd yr amrywiaeth o fywyd môr sydd i gael ynddyn nhw. Felly mae'r amser yn pasio ac mae dirywiad yn digwydd. Gofynnais i gwestiwn i'r Ysgrifennydd Cabinet ynglŷn ag agwedd neu ymateb cyntaf rhai o'r mudiadau amgylcheddol i'r cyhoeddiad. Rwy'n credu bod hynny wedi cael ei yrru gan y pwyslais yn yr adroddiad ynglŷn ag ynni o'r môr, ac yn enwedig y posibiliadau o forlynnoedd llanw. Nawr, mae hynny'n rhywbeth y mae Plaid Cymru yn ei gefnogi mewn egwyddor, ond wrth gwrs, mae hefyd yn un o'r pethau a fydd yn profi defnyddio her Deddf cenedlaethau'r dyfodol wrth baratoi. Mae'n bwysig i nodi ei bod hi'n flwyddyn gyfan ers i adroddiad annibynnol Hendry gael ei gyhoeddi ar y morlyn llanw ym mae Abertawe, a oedd i fod i roi yr atebion i ni i rai o'r cwestiynau sydd wedi cael eu gofyn gan y mudiadau amgylcheddol heddiw, ac sydd yn cael eu crybwyll yn yr ymgynghoriad hefyd. Rydym ni'n gwybod bod bioamrywiaeth o dan fygythiad gan ddatblygiadau ynni o'r môr—wrth gwrs eu bod nhw—ac mae yna effaith ar ecosystemau o ddatblygu ynni o'r môr. Ond hefyd mae newid hinsawdd yn ei dro yn effeithio ar y môr, ac ar y cynefinoedd, ac ar y bioamrywiaeth yn y môr, a chadw'r ddysgl yn wastad rhwng y ddau beth yna oedd yr union beth a oedd i fod i gael ei ateb o leiaf yn rhannol drwy gael cynllun morlyn llanw pathfinder, fel roedd yn cael ei alw gan adroddiad Hendry. Felly, mae'n siomedig iawn bod Llywodraeth San Steffan o hyd yn trin Cymru yn y fath fodd, fel nad oes hyd yn oed penderfyniad wedi'i wneud, flwyddyn gron ar ôl cyhoeddi'r adroddiad annibynnol hwnnw. Yr ail ran, efallai, a fydd yn denu sylw'r cyhoedd yn yr adroddiad yma yw'r pwyslais ar lygredd môr, ac wrth gwrs mae plastig yn rhywbeth rydym ni eisoes wedi'i drafod wrth ddod nôl o'r gwyliau yn ystod y Cyfarfod Llawn heddiw. Ond mae'n bwysig i danlinellu bod y rhai a wnaeth ymateb i'r pwyllgor newid hisawdd ar y materion hyn wedi sôn am sbwriel a llygredd yn y môr fel un o'r pethau a oedd yn eu poeni nhw fwyaf. Ac wrth gwrs, nid yn unig bod hyn yn cael effaith ar dwristiaeth a mwynhad ar lan y môr, mae'n cael effaith benodol ar fywyd môr yn ogystal. Felly, mae mynd i'r afael â llygredd plastig yn mynd i fod yn rhan bwysig o gynllunio morol cyn belled ag y mae'r Llywodraeth yn y cwestiwn. Fe fydd nifer o bethau eraill yn cael eu trafod wrth i ni ymateb i'r pwyllgor newid hinsawdd yfory, felly nid wyf eisiau ailadrodd fy hunan yn ormodol mewn dau ddiwrnod. Fe wnaf i jest crybwyll y ddau beth yna fel rhai o'r heriau a fydd ar gyfer y cynllun presennol, gan nodi, wrth gwrs, ein bod ni'n dechrau ar gyfnod ymgynghorol, gan edrych ymlaen at ymateb gan y cymunedau hynny yn benodol sy'n byw ar lan y môr, a chroesawu beth ddywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet ynglŷn â'r posibiliadau nawr o gyfarfodydd cyhoeddus a thrafodaeth gyhoeddus ar y cynllun. Galwaf ar David Melding i gynnig gwelliannau 3 a 4 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Gwelliant 3.Paul Davies Ym mhwynt 4, dileu popeth ar ôl 'chydweithio' a mewnosod: 'ond yn gresynu at yr oedi wrth lunio Cynllun Morol Cenedlaethol Drafft Cymru.' Gwelliant 4.Paul Davies Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi mwy o flaenoriaeth i economi ac amgylchedd morol Cymru yn y dyfodol. Cynigiwyd gwelliannau 3 a 4. David Melding AC: Diolch yn fawr, Llywydd. Cynigiaf y gwelliannau yn enw fy nghyd-Aelod. Fel Simon, a gaf i groesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru nawr wedi cyhoeddi cynllun morol cenedlaethol drafft? Dyma hanner cyntaf y ddadl a fydd yn mynd yn ei blaen yfory pan fyddwn yn trafod rhai o syniadau'r Pwyllgor yn y maes hanfodol hwn. Ac rwy'n gobeithio y bydd y ddwy awr hyn o ddadl yn bwydo i'r broses ymgynghori mewn ffordd effeithiol. Rydym wedi aros yn hir, ond rydym wedi cael ein gwobrwyo ag adroddiad drafft hir iawn. Rwy'n siwr bod 300 o dudalennau, i'r rhan fwyaf ohonom sy'n talu sylw i'r maes polisi hwn a rhai sy'n gweithio yn y maes a'n cydweithwyr mewn pob math o sefydliadau anllywodraethol—roedd yn ddeunydd darllen ysbrydoledig iawn i bobl dros y Nadolig. Ond rwy'n falch ei fod gennym yn awr, ac rwy'n poeni o ddifrif ynghylch ble y mae'n ein galluogi ni i symud o ran polisi cydlynol yn y maes hwn. Ond credaf fod angen atgoffa ein hunain bod y gallu i gael y math hwn o gynllunio yn mynd yn ôl at Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009. Cawsom y datganiad polisi morol yn 2011. Mae awdurdodaethau eraill wedi bod yn gyflymach: yn yr Alban, cafodd eu cynllun ei gyflwyno yn 2015, felly maen nhw wedi cael dros ddwy flynedd, mewn gwirionedd, o amser ychwanegol, efallai, i ddechrau mynd i'r afael â rhai o'r pryderon uniongyrchol o ran ecoleg yr amgylchedd morol, ond hefyd, yn bwysig iawn, sut yr ydym yn ffitio'r amgylchedd i'n gweledigaeth datblygu cynaliadwy, ac mae hynny'n wahanol iawn ac yn bwysig yn ogystal. Byddai'n rhaid inni ddweud nad yw ein hecosystemau morol presennol mewn cyflwr iechyd perffaith, cyn belled ag y gwyddom, beth bynnag; fe soniaf ychydig am ddiffygion data yn ddiweddarach. Ond dywedodd yr adroddiad ar sefyllfa adnoddau naturiol mai dim ond 29 y cant o ddyfroedd ein haberoedd a'n harfordiroedd sydd â'u statws ecolegol yn dda, felly mae'n eithaf clir bod angen llawer mwy o sylw yn y maes hwn o bolisi cyhoeddus. Nid oesgennyf unrhyw broblemau â'r tri phrif bwynt yn y cynnig hwn. Nid oes gennyf unrhyw broblemau, ychwaith, â gwelliannau Plaid Cymru, ond ceir, rwy'n credu, synnwyr o ddifaterwch ynsafbwynt y Llywodraeth, neu o leiaf mae hyn yn llithro i mewn, a dyna pam nad wyf wedi fy mhlesio'n gyfan gwbl ganbwynt 4 a'r gymeradwyaeth y mae'n ceisio ei rhoi i'rLlywodraeth. Ond yn amlwg mae angen inni nodi potensial yrhyn a elwir gan lawer yn dwf glas yn y sector morol, ac mae gennym adnoddau cyfoethog, amgylchedd morol mawr y gellir tynnu ohono, ac yn wir dylem fod yn gweld hyn yn rhywbeth canolog i'nnodau llesiant cenedlaethol. Dylem fod yn arweinwyr yn y sector a dylai fod gennym y math hwnnw o uchelgais, ac nid yn llusgo ychydig ar ei hôl hi yn y lôn araf. Byddwn yn dweud ei bod yn iawn i gynhyrchu dogfen 300 o dudalennau os yw'n dal yn eithaf clir ac wedi'i thargedu. os nad yw hi felly, y broblem yw ei bod hi'n ymddangos braidd yn hirwyntog. O'i chymharu â fersiwn yr Alban, mae honno yn llai na hanner hyd ein cynllun drafft, ac rwy'n credu ei bod yn llawer mwy cryno a phenodol. Mewn gwirionedd, ar ben arall y raddfa, mae cynllun gweithredu polisi morol cenedlaethol yr Unol Daleithiau yn 36 o dudalennau. Credaf mai dyna'r math o groywder y mae angen inni ei weld os ydym yn mynd i gael syniad o sut y mae'r Llywodraeth yn mynd i wneud penderfyniadau a galluogi eraill i weithredu yn y maes hwn a gwybod beth sy'n bosibl o ran ceisiadau y maen nhw'n mynd i'w cyflwyno mewn gwirionedd. Mae'n bwysig iawn, Llywydd, bod angen i'r cynllun morol fod yn rhagnodol yn ofodol, yn darparu eglurder i defnyddwyr môr a rhanddeiliaid fel ei gilydd, tra'n sicrhau bod lle i fywyd morol ffynnu. Dyna, yn amlwg, yw'r cydbwysedd y mae angen inni ei osod. Mae gennyf un pryder mawr yr wyf am ei godi heddiw. Er mwyn i'r cynigion hyn weithio, mae angen gwybodaeth effeithiol y gall cynlluniau a chynigion ei defnyddio. Mae ansawdd cyffredinol y sylfaen dystiolaeth yn wael iawn. Hefyd, mae llawer o ddryswch yn y darnio sy'n bodoli rhwng awdurdodaethau a sectorau gwahanol sydd â chyfrifoldebau amrywiol ar gyfer ein hamgylchedd morol. A chredaf fod angen inni dalu llawer o sylw i'r maes hwn fel ein bod yngweld llawer mwy o gydweithio ar ddata rhwng awdurdodau a sefydliadau ar draws y gwahanol sectorau, a bod hyn yn cael ei weld yn rhan o'r sylfaen gadarn ar gyfer datblygu yn y dyfodol. Ond a gaf igloi drwy ddweud mai'r dechreuad yw hyn, ac y byddwn ni'n gweithio mewn ffordd adeiladol i wella pethau a sicrhau, ar gyfer y dyfodol, fodgennym strategaeth glir iawn ar gyfer ein hamgylchedd morol? Diolch. Mike Hedges AC: Rwyf i ar yr ochr gadarnhaol. Mae dyfodiad y cynllun morol cyntaf erioed ar gyfer Cymru, rwy'n credu, yn foment arwyddocaol yn hanes Cymru fel cenedl forol. Er bodsystem gynllunio defnydd tir wedi bod ar waith ers 70 o flynyddoedd, ni chafwyd dull gofodol a arweinir gan gynllun strategol i reoli amgylcheddau morol y DU—gan gynnwys Cymru. Nid yw hynny'n golygu bod cynllunio defnydd tir wedi bod heb ei broblemau, heb ei ddadleuon, ond o leiaf bu gennym strategaeth cynllunio. Efallai nad ydymni bob amser wedi cytuno â'r hyn sydd wedi deillio ohoni, ond bu gennym strategaeth. Mewn ymateb i alwadau cynyddol ar y gofod ac adnoddau morol, a'r angen i gyflawni ymrwymiad bioamrywiaeth morol ochr yn ochr â dyheadau ar gyfer twf economaidd, byd-eang, mae llawer o wledydd wedi dechrau datblygu systemau ar gyfer cynllunio gofodol morol. Mae llawer ohonom yn ddigon hen i gofio pan oedd y môr yn cael eidrin fel un domen sbwriel fawr, ac roedd popeth o garthffosiaeth amrwd i wastraff diwydiannol yn cael ei anfon allan i'r môr, oherwydd byddai'r môr yn ei wasgaru— byddai popeth yn diflannu. Ac, wrth gwrs, byddai'r digonedd o bysgod fel penfras yn para am byth ni waeth faint fyddem ni'neu dal. Mae'r ffaith nad yw'rmôr yn cael ei drin mwyach fel tomen sbwriel, a physgod fel adnodd diderfyn, yn gynnydd sylweddol dros y 40 mlynedd diwethaf. Yn draddodiadol, y dull a ddefnyddiwyd ar gyfer rheoli morol oedd rheoli anghenion pob sector—felly, arferion pysgota, yna ynni, yna twristiaeth ac ynni—yn cael eu trafod ar wahân. Credaf ei bod yn bwysig fod cynllun morol cenedlaethol Cymru yn llwyddo i dynnu pob un ohonynt at ei gilydd, oherwydd weithiau mae ganddynt anghenion sy'n cystadlu, a bydd yn rhaid penderfynu pa un gaiff y flaenoriaeth mewn unrhyw faes penodol. Dywed mai ei nod yw dod â defnyddwyr at ei gilydd i edrych ar ardal o'r môr o ran ei nodweddion amgylcheddol, cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd, a phenderfynu ar y cyd sut y dylid ei defnyddio. Mae'r cynllun yn cyflwyno fframwaith i gefnogi penderfyniadau cynaliadwy ar gyfer ein moroedd, yn nodi gweledigaeth o amcanion strategol, yn cyflwyno polisïau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol cyffredinol, ac mae'n cynnwys polisïau sy'n benodol i sectorau sy'n gweithredu yn ein moroedd, sy'n cynnwys dyframaeth, agregau, amddiffyn, pysgota a thwristiaeth. Mae rhoi popeth at ei gilydd ac ymdrin ag ef fel hynny, rwy'n credu, yn gam cadarnhaol. Credaf y bydd y bobl sydd wedi bod yn feirniadol o'r trydydd sector yn derbyn syniad cyffredinol y polisi. Efallai na fyddant yn cytuno â'r hyn sydd yno, ac efallai y byddant yn dweud y dylid gwneud pethau'n wahanol, ond rydym yn bendant yn symud i'r cyfeiriad cywir. Unwaith y bydd gennym hyn, unwaith y byddwn wedi ymgynghori arno, gellir ei newid. Y peth gorau am gael cynllun yw bod modd ei newid. Yr anfantais o beidio â chael cynllun yw nad oes dim byd i'w newid. Mike Hedges AC: Rydym wedi bod yn aros yn hir am gynllun i Gymru. Dechreuodd gyda Chyngor Cefn Gwlad Cymru yn ôl yn 2009, yn cynghori Llywodraeth Cymru ar ei dull gweithredu cychwynnol o gynllunio morol. Nid wyf yn mynd i feirniadu hynny. Mae bob amser yn well cael polisi yn iawn na chael polisi yn gyflym, felly nid wyf yn beirniadu’ramser hir; credaf ei bod yn bwysig ein bod wedi llwyddo i gael hyn yn iawn. Nid yw Cymru ar ei phen ei hun yn hyn o beth. Mae gan Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon hefyd gynlluniau sydd wedi cyrraedd gwahanol gyfnodau yn eu datblygiad, fel y dywedais yn gynharach. Credaf fod angen inni roi rhywfaint o ddiolch i waith y Comisiwn Ewropeaidd wrth yrru'r agenda hon yn ei blaen—ac o fewn yr agenda hon, mae'r DU bod yn arweiniol ac wedi cael enw da i'w hun. Gobeithiaf na fydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn effeithio ar ymrwymiad pobuno'r pedair cenedl i greu cynllun hirdymor ar gyfer y môr o amgylch ein hynysoedd—ac yn enwedig Iwerddon a Lloegr. Mi fydd yr hyn y maen nhw yn ei wneud yn amlwg yn effeithio ar Gymru. Os yw cynllunio yn gweithio'nllwyddiannus, bydd yn cyflawni uchelgeisiau Llywodraeth Cymru. A chredaf fod hynny—. Yr uchelgeisiau, rwy'n credu, nid oes ganddynt gymaint o broblem â nhw, nac oes? Y ffaith yw—. Mae'n fater o raio'r darnau yno. Credaf fod yr uchelgeisiau yn dda, a gobeithio y bydd pobl yn derbyn ac yn cefnogi'r uchelgeisiau. A gaf i siarad ychydig am ynni adnewyddadwy? Gwn fod Simon Thomas wedi ei grybwyll yn gynharach. Credaf fod ef a minnau wedi crybwyll môr-lynnoeddllanw droeon yn y Siambr. Nid wyf yn ymddiheuro am eu crybwyll eto. Credaf fod mor-lynnoedd llanw yn anhygoel o bwysig, nid yn unig fel ffynhonnell o ynni, ond fel modd i ddatblygu diwydiant sy'n seiliedig yn y de-orllewin, ac yn manteisio ar yr holl fuddion o fod y cyntaf. Credaf ei bod yn wirioneddol bwysig inni wneud popeth yn ein gallu fel Cynulliad i roi cymaint o bwysau ag y gallwn ar Lywodraeth San Steffan i ddweud 'ie' o'r diwedd i'rmorlyn llanw hwn. Fel y maepobl yn ymwybodol, lluniodd Charles Hendry ei adroddiad. Roedd llawer ohonom yn ofni pan ofynnwyd iddo gynhyrchu adroddiad na fyddai'n ddim ond cyfle i'w ysgubo o'r neilltu. Dyma'radroddiad mwyaf cadarnhaol addarllenaiserioed, pan ddywed ei fod ynbolisi heb ddimgresynu—os ydych chi'n rhoi cynnig ar rywbeth a dyw e' ddim yn gweithio, o leiaf mae gennych wal fôr, i bob pwrpas. Felly, mae'n bolisi heb ddim gresynu, ac mae'n wirioneddol bwysig y cawn hynny, a chredaf ein bod i gydo blaid cael y morlyn llanw yn Abertawe. Ystyriwch: mae'n ben-blwydd cyntaf adroddiad Hendry. Roedd llawer ohonom yn credu y byddai rhywbeth wedi digwydd o fewn y flwyddyn gyntaf. Gadewch i ni obeithio, erbyn inni gyrraedd yr ail flwyddyn, y bydd yn cael ei adeiladu. Gaf ihefyd —? Os ydym ni'n sôn am gost môr-lynnoeddllanw, a ellir eu barnu yn ôlyr un rheolau â niwclear? Mae niwclear yn cael cymhorthdal enfawr, ac wedyn dywedir wrthynt, 'Byddwn, fe fyddwn yn talu am eich holl gostau datgomisiynuar y diwedd'. Ni fyddai unrhyw orsaf niwclear erioed wedi ei hadeiladu pe byddai'n rhaid iddynt dalu eu hunain am eu datgomisiynu. Ni fyddai Calder Hall erioed wedi ei adeiladu pe baent wedi gorfodi dilyn yr un rheolau ag sydd gennym yn awr ar gyfer ein morlyn llanw. Credaf mai'r peth pwysicaf i'm rhan i o'r de ar hyn o bryd yw bod y morlyn llanw yn cael sêl bendith, a gobeithiaf yn fawr y bydd yn ei chael. Janet Finch-Saunders AC: Hoffwn ategu'r ffaith y bu disgwyl hir a chroeso mawr i'r cynllun drafft hwn, fel y maefy nghyd-Aelodau wedi'i grybwyll yma heddiw. Ac rwyf hefyd yn gresynu'r oedi cyn ei gyhoeddi, o ystyried y bu modd i Lywodraeth Cymru ddatblygu dull o reoli ein moroedd a arweinir gan gynllun ers cyflwyno Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009, ac er gwaethaf galwadau gan bwyllgorau blaenorol i roi blaenoriaeth i ddatblygu'r cynllun hwn. Hyd yma, rydym yn nodi bod rheoli a rheoleiddio ein hamgylchedd morol wedi bod yn ddi-drefn, ac yn cael ei wneud ynbennaf ar sail ad hoc, fesul sector. Felly, yn naturiol, rydym yn croesawu'r potensial ar gyfer dull rheoli morol mwy cydgysylltiedig yn y dyfodol. O ran yr amgylchedd, mae datganiad polisi morol y DU yn mynnu bod yn rhaid i gynllunio morol fabwysiadu dull seiliedig ar ecosystemau, gan sicrhau cydbwysedd rhwng twf economaidd a chadwraeth. Yn benodol, rydym yn gwybod bod yn rhaid i'r cynllun gefnogi gweledigaeth y DU ar gyfer cefnforoedd a moroedd glân, iach, diogel, cynhyrchiol a biolegol amrywiol. Mae'n ddiddorol braidd fy mod gyda chyd-Aelodau yma heddiw a oedd yn y Pwyllgor Deisebau y bore yma, ac rydym yn canfod bod yr holl ddadl a phryderon bellach am wastraff Hinkley yng Nghaerdydd yma—na fu unrhyw asesiad am effaith hynny ar fywyd morol, ac mae hynny'n peri llawer o bryder imi. Ymhellach, o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, mae gofyniad i'r cynllun helpu i reoli adnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy. Eto, fel y nodwyd gennym, ar ôl wyth mlynedd o datblygu, nid yw'r ddogfen hon yn cynnig y mewnwelediad, y cwmpas na'r manylion y byddem yn gobeithio eu gweld. Yn fy etholaeth fy hun, mae gennyf nifer o bryderon penodol am reoli morol, ac rwy'nfalch iawn i gynrychioli etholaeth sy'n gyfoethog iawn mewn bywyd morol o bob math. Byddwn yn cynghori unrhyw un, os oes gennych ddiddordeb yn beth ynunion sydd o dan ein moroedd, i gael copi o ffotograffiaeth, neu'r nifer o lyfrau y mae Paul Kay wedi'u hysgrifennua/neu hyd yn oed wylio un o'i ffilmiau. Tynnwyd sylw at y bygythiad i forloi a llamhidyddion harbwr o amgylch Bae Angel aThrwyn y Fuwchgan gychod a cheiswyr hamdden dim ond yr wythnos diwethaf, gyda'r enghraifft drist o lamidydd wedi'i niweidio wedi eiolchi yn farw i'r lan yno. Rwy'n falch i fod yn hyrwyddwr llamhidydd yr harbwr ar gyfer y Cynulliad. Yn ogystal, mae pysgotwyr yn yr ardal wedi dweud bod stociau cregyn gleision Conwy yn lleihau, ac mae ganddyntstatws rhyfeddol ers 100 mlynedd, ac mae angen eu diogelu a'u cadw. Ac eto, mae yna ostyngiad pryderus yn y lefelau o hadu flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae'r gwaith o reoli'r stoc unigryw hon wedi bod yn wael, gan arwain at gau gwelyau yn gynharach eleni fel ymgais olaf i'w diogelu. Mewn sefyllfaoedd o'r fath, nid yw'r amgylchedd na'r economi yn elwa, felly mae'rcydbwysedd yranelir ato yn y cynllun drafft hwn yn cael ei golli. Ymhellach ar hyd arfordir y gogledd, ac yn dal i fod yn fy etholaeth i fy hun, mae pryderon am gynaeafu torfol ar gyllyll môr yn Llanfairfechan wedi eu codi dro ar ôl tro, a hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei gweithredoedd wrth roi gwaharddiad ar hynny. Roedd y rhain yn gamau a gymerwyd gennych mewn ffordd ystyrlon, ac rwy'n werthfawrogol iawn o hynny. Rwyf wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu gwaith drwy Ysgol Gwyddorau'r Cefnforoedd Prifysgol Bangor i edrych ar effaith cynaeafu a halltu ar y rhywogaethau. Rydym mor ffodus fod prifysgol o'r fath ym Mangor. Mae ganddynt enw da iawn a gaiff ei gydnabod ym mhedwar ban y byd, felly defnyddiwch yr adnodd hwnnw. Mae'n peri pryder, fodd bynnag, y gallem fod yn anelutuag at sefyllfa funud olaf yma, ac felly mae'n siomedig nodi bod y cynllun drafft yn datgan na allardaloedd adnoddau strategol adlewyrchu ystyriaethau manwl sy'n benodol i safle yn llawn. Dyna beth yw gwir gadwraeth forol. Nid wyf ynystyried fy hun yn gadwraethwraig forol fel y cyfryw, ond rwyf ynpoeni o ddifrif am warchod ein hamgylchedd morol. Byddwn yn ffôl iawn i beidio â gwneud hynny. O ystyried maint y ddogfen hon, testun sydd wedi'i grybwyll eisoes, byddai rhywun yn disgwyl llawer mwy o ystyriaeth o'n hardaloedd adfywio strategol, ac eto ymddengys eu bod wedi eu datblygu ar sail dichonoldeb technegol ac adnoddau yn unig. O gofio bod y cynllun yn nodi y gallai mwy na 50 o safleoedd gwarchodedig pwysig ar gyfer bywyd gwyllt gael eu heffeithio gan ei bolisïau, byddwn yn hoffi sicrwydd gan Ysgrifennydd y Cabinet na fydd ardaloedd morol gwarchodedig yn cael eu tanseilio gan y cynllun hwn. Felly, er ein bod yn croesawu'r cynllun drafft hwn, byddwn yn cadw llygad ac yn monitro ymatebion i'r ymgynghoriad ac yn edrych ar nodi a chydnabod anghenion cynaliadwyedd ecosystemau, rhywogaethau a chynefinoedd bywyd gwyllt penodol. Edrychaf ymlaen at yr ymatebion, ac edrychaf ymlaen at weithio'n gadarnhaol gydag Ysgrifennydd y Cabinet i sicrhau bod gennym gynllun sy'n gweithio mewn gwirionedd ar gyfer Cymru ac ar gyfer ein hamgylchedd morol. Neil Hamilton. Neil Hamilton AC: Llywydd, rwy'n falch i gael fyngalw, efallai ychydig yn hwyrachnag y byddwn wedi'i ddisgwyl. Roeddwn yn dechrau meddwl eich bod yn drysu rhyngof i aGareth Bennett, ond dyna ni. Rwy'n cytuno â'r rhan fwyaf—[Torri ar draws.] Jôc oedd hi i fod. Rwy'ncytuno â'r rhan fwyaf o'r hyn a ddywedwyd yn y ddadl hon hyd yma. Rwy'nderbyn y pwynt y maeDavid Melding wedi'i godi am hyd y cynllun hwn, ond mae gwleidydd yn cwyno am eiriogrwydd, wrth gwrs, fel morwyr yn cwyno am y môr—mae'n un o ffeithiau bywyd. Ond rwyfyn meddwl bod hwn yn arloesi, ac i'w groesawu'n fawr; y cynllun cyntaf sy'nceisio integreiddio'r holl fuddiannau cystadleuol sy'n pryderu am yr hyn sy'n digwydd o amgylch ein harfordiroedd. Un ffaith ddiddorol a gefais o ddarllen y ddogfen yn gyflym yw bod moroedd Cymru yn cwmpasu 15,000 o gilometrau sgwâr, a'r pwynt diddorol yw bod hynny'n 43 y cant o arwynebedd Cymru. Mae'r hyn yr ydym yn aml yn meddwl amdano fel Cymru wedi'i lywodraethu gan siâp yr arfordir, ond, mewn gwirionedd, mae llawer mwy i Gymru na'r hyn sydd ar y tir, ac mae'n iawn felly i ddechrau ar hyn drwy adlewyrchu'r ffaith hynod bwysig hon. Rwy'ncroesawu, felly, hyd yr adroddiad, ar un ystyr, oherwydd mae'n ceisio rhoi trosolwg cynhwysfawr o'r buddiannau gwahanol y mae angen eu cysoni. Yn sicr rwy'n croesawu'r pwyslais ar dwf glas, oherwydd mae adfywiad ein hardaloedd arfordirol—ac mae'rCanolbarth a'r Gorllewin, wrth gwrs, yn cynnwys mwy oarfordir nag unrhyw ranbarth arall—yn angen pwysig iawn ar gyfer y dyfodol agos yn fy marn i, a dyna un rheswm pam y credaf fodBrexit yn rhoi cyfle inni na fyddai ynofel arall, oherwydd pan fydd gennym reolaeth dros ein polisi morol a'n pysgodfeydd ein hunain, byddwn yn gallu gwneud penderfyniadau sydd wedi eu haddasu'nfwyi fuddiannau Cymru nag sy'n bosibl ar hyn o bryd. Ond y mae, wrth gwrs, fuddiannau yn cystadlu y maeangen inni eu hystyried hefyd. Mae datblygiad economaidd ein hardaloedd arfordirol flaenaf yn fy meddwl i, ond rwy'nderbyn yr angen i fod yn sensitif i anghenion bywyd gwyllt yr amgylchedd, ac rwyf wedi cael cyfarfodydd gyda Chymdeithas Cadwraeth y Môr, a gwelaf fod Clare Reed yn dweud 'Rydym yn pryderu y gall cynnwys presennol ardaloedd adnoddau strategol—ardaloedd wedi'u mapio ar gyfer twf diwydiant morol—efallai gael effeithiau negyddol sylweddol ar fywyd gwyllt morol a chynefinoedd y maent yn dibynnu arnynt.' Dwi ddim yn gweld o reidrwydd fod hynny'n beth drwg. Credaf fod modd cael twf economaidd heb gael effaith andwyol ar y môr. Un o'r problemau gyda'r polisi pysgodfeydd cyffredin, flynyddoedd yn ôl yn sicr, oedd ei fod wedi troiyndrychineb ecolegol oherwydd gorbysgota. Nid yw hynny'n broblem o amgylch ein harfordiroedd, wrth gwrs, oherwydd mae'r rhan fwyaf o echdynnu rhywogaethau morol o'r môr yn tueddu i fod yn bysgod cregyn—mae tua dwy ran o dair, rwy'n credu, o werth beth gaiff ei bysgota o'r môr arffurf pysgod cregyn. Rwy'nsiŵr y gallwn wneud llawer mwy i ehangu'r diwydiant, a gallwn wneud hynny heb gael effaith andwyol ar yr amgylcheddmewn unrhyw ffordd. Un o'm prif bryderon, wrth gwrs, yw effaith ffermydd gwynt ar ein harfordir, ac nid yw hynny'n unig oherwydd amlygrwydd yr ymwthiadauhyn, yn fy marn i, o gwmpas ein glannau, yn dinistrio golygfeydd arfordirol, ond hefyd y bygythiad i fywyd gwyllt. Gwn fod Ymddiriedolaeth Adareg Prydain yn ddiweddar wedi cyhoeddi adroddiad sy'n dweud bod 99 y cant o adar y môr yn osgoi ffermydd gwynt, ond yn sicr mae diffyg data dibynadwy yn y maes hwn, ac mae angen gwneud mwy o waith i sefydlu beth yw'r gwir sefyllfa. Oherwydd, wrth gwrs, os yw'r adar y môr yn cael eu briwiomewn melinau gwynt, nid yw'rcyrff yno i gael eu harchwilio, oherwydd gweithrediad y môr. Felly, credaf yn sicr fod yn rhaid inni fod yn sensitif i fuddiannau adar y môr yn ogystal, fel y mae llawer yn ei weld, âbuddiannau ynni adnewyddadwy. Rwy'naml wedigwneud y pwynt, oherwydd nad ywein cyfraniad at allyriadau carbon deuocsid yn y Deyrnas Unedig ond yn gyfran fechan iawn o gyfanswm yr allyriadau byd-eang, ac felly mae cyfraniad Cymru hyd yn oed yn fwy pitw, nid yw hyn yn rhywbeth y mae angen inni boeni gormod amdanohyd yn oed os ydych yn derbyn y damcaniaethau cynhesu byd-eang gan ddyn. Ond rwy'ncredu, felly, bodangen i fuddiannau bywyd gwyllt a natur gael eu blaenoriaethu mwy nag a wnaed hyd yn hyn. Croesawaf yr ymagwedd sydd ganYsgrifennydd y Cabinet at y maes hwn. Dwi wedi dweud o'r blaeny credaf ei bod yn ddidwyll yn ei hawydd i wrando ar bob ochr o'r dadleuon mewn perthynas â chefn gwlad a moroedd, ac rwy'n gobeithio, felly, y bydd yn darparucynllun inni y gallwn fesur canlyniadau yn ei erbyn ar gyfer adfywiad ein cymunedau arfordirol a'n porthladdoedd yn arbennig. John Griffiths AC: Fel y mae eraill wedi'i ddweud, rwy'n credu ein bod yn ffodus iawn yng Nghymru fod gennym amgylchedd morol o ansawdd mor uchel, ac mae'n bwysig iawn inni bellach fwrw ymlaen â chynllunio morol fel y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig, fel bod gennym ddull gweithredu mwy cydgysylltiedig, y mae, unwaith eto, Aelodau eraill wedi sôn amdano. Hyd yn hyn, rwy'n credu ein bod wedi gweld gwahanol fuddiannau penodol yn dilyn eu hagenda eu hunain o ran yr amgylchedd morol, ac yn aml mae hynny wedi arwain at rywfaint o densiwn, os nad gwrthdaro rhwng y gwahanol ddefnyddiau. Rydym wedi gweld grwpiau sy'n ymwneud â bywyd gwyllt a chynefinoedd bywyd gwyllt yn pryderu'n fawr nad oes digon o amddiffyniad na digon o gydnabyddiaeth o'u pryderon a'u materion. Rwy'n gobeithio ein bod ni yn awr yn gweld y cydbwysedd cywir a phriodol drwy'r dull gweithredu mwy cydgysylltiedig hwn. Ond mae pryderon amrywiol sydd gan rai o'r grwpiau amgylcheddol y credaf fod angen inni eu cydnabod a mynd i'r afael â nhw. Felly, er enghraifft, wrth ddatblygu'r dull gweithredu mwy cydgysylltiedig hwn, mae angen i ni sicrhau bod gennym ddigon o ddealltwriaeth o effaith bosibl y gweithgarwch morol amrywiol ar gynefinoedd bywyd gwyllt; bod angen i ni ddiogelu yn ddigonol ein hamgylchedd naturiol a'n bioamrywiaeth drwy'r ddealltwriaeth honno a pholisïau sy'n cydnabod ac yn ymdrin â hynny; bod ein meysydd adnoddau strategol yn cael eu datblygu nid yn unig ar sail y potensial i ddiwydiannau penodol dyfu, sef yr hyn sydd wedi'i bwysleisio hyd yma, ond y ceir sgrinio cymdeithasol ac amgylcheddol digonol a phriodol ar gam priodol. Felly, mae yna bryderon, er enghraifft, pe byddai'r mapiau'n cael eu cyhoeddi ar hyn o bryd, byddai'n rhy gynnar, gan nad yw'r sgrinio hynny wedi'i wneud, ac mae angen gwaith ychwanegol ar elfennau gofodol y cynllun er mwyn sicrhau bod materion adnoddau naturiol wedi'u hymgorffori'n briodol yn narluniadau'r ardaloedd hynny, a'n bod yn diogelu bywyd gwyllt sydd dan fygythiad yn ddigonol. Wrth gwrs, mae'n berthnasol i'r ddadl yfory ar ardaloedd morol gwarchodedig. Sut bydd cynllunio morol a'r ardaloedd gwarchodedig hynny yn rhyngweithio? Sut bydd y cynllun yn cefnogi gwarchod yr ardaloedd penodol hynny? Rydym yn gwybod nad yw'r meysydd adnoddau strategol yn y cynllun morol yn cydnabod lleoliad safleoedd gwarchodedig, ond maen nhw'n cydnabod y gallai effeithio ar y safleoedd hynny. Felly, sut bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ardaloedd gwarchod morol yn fwyfwy effeithiol o ran sicrhau a darparu'r amddiffyniad hwnnw? Hefyd, Llywydd, mae asesiad Llywodraeth Cymru ei hun o'n cynllun morol cenedlaethol yn cydnabod y risg o niwed i'r amgylchedd, ac mae hynny'n amlwg felly'n codi'r cwestiwn ynghylch sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gochel rhag y risg hwn ac yn osgoi effeithiau negyddol posibl. Wrth gwrs, mae hynny'n berthnasol hefyd i'n nodau llesiant. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod pob un o'r nodau llesiant hynny yn cael sylw priodol wrth daro'r cydbwysedd cywir ynghylch y buddion hyn a allai gystadlu â'i gilydd. Felly, mae'n her fawr, byddwn i'n dweud, i Lywodraeth Cymru. Mae rhai Aelodau wedi cyfeirio at yr amserlen wrth fwrw ymlaen â'r cynlluniau hyn—mae wedi bod yn broses hir—ond rwy'n cytuno mai'r her yw ei gwneud yn iawn. Mae llawer i'w ystyried wrth ei gwneud yn iawn, ac rwy'n gobeithio'n fawr iawn y bydd pryderon y sefydliadau amgylcheddol a fynegwyd yma heddiw yn cael eu hystyried yn briodol gan Lywodraeth Cymru, a bod Lesley Griffiths, y gwn ei bod yn Ysgrifennydd Cabinet sy'n gwrando, yn parhau i gael y ddeialog angenrheidiol honno, oherwydd rwy'n credu'n gryf iawn mai dim ond os bydd y ddeialog honno'n parhau y bydd modd i ni wneud popeth posibl i sicrhau'r cydbwysedd cywir hwnnw. Rhun ap Iorwerth. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch i'r Llywydd am y cyfle i ddweud ychydig o eiriau. Rwy'n teimlo fy mod i'n gorfod dweud ychydig o eiriau fel yr unig un sy'n cynrychioli ynys yma yn y CynulliadCenedlaethol—fel etholaeth. Rwy'n bendant yn croesawu'r ffaith fod gennym ni rŵanddrafft o gynllun morol cenedlaethol. Rwy'n cofio yn y Cynulliad diwethaf, pan oeddwn i'n aelod o'r pwyllgor economi, i gryn argraff gael ei greu arnaf i gan y ddogfen a gafodd ei chreu rai blynyddol yn ôl bellach gan Lywodraeth Iwerddon, 'Harnessing Our Ocean Wealth', ac mi ro'n i'n gallu gweld yn hwnnw y math o fodel yr oeddwn i'n dyheu am gael ei weld yn cael ei ddatblygu yng Nghymru. Rwy'n meddwl ei fod yn symptomatig o'n hagwedd ni, o bosibl, tuag at y môr ei bod hi wedicymryd cyhyd i ni gael dogfen o'r math yma. Mae'n swnio'n beth od bron iawn i ddweud ond, yn Ynys Môn, rwy'n teimlo'n aml iawn nad ydyn ni'n edrych digon tuag at y môr, ac mai cymdeithas y tir ydym ni yn Ynys Môn. Wrth gwrs, mae gennym ni dreftadaethforwrol ryfeddol, o'r bad achub a hanes y Royal Charter ac ati ym Moelfre, porthladd Caergybi y bu fy nghyn-deidiau i yn gweithio ynddo fo, y diwydiantadeiladu llongau yn Amlwch, diwydiannau bwyd môr, cregyn gleision, ac yn fwy diweddar Halen Môn. Ac wrth gwrs, mae'r arfordir yn bwysig iawn o ran twristiaeth. Ond, rhywsut, mae cymdeithas yn cael ei thynnu mwy tuag at beth sy'n digwydd ar y tir ac nid beth sy'n digwydd yn y môr. Fe allwch chi wneud cymhariaeth efo beth sy'n digwydd ym maes ynni ar hyn o bryd. Mae yna bwerdy, o bosibl, yn mynd i gael ei adeiladau ar y tir yng ngogledd Ynys Môn yn y blynyddoedd nesaf, ond llawer mwy cyffrous a llawer mwy arloesol yw'r cynlluniau sy'n cael eu datblygu ar gyfer tynnu ynni o lif y môr oddi ar arfordir gorllewinol Ynys Môn. Yn y fan honno mae'r arloesi. Minesto yw'r cwmni hwnnw sy'n gobeithio datblygu technoleg yn Ynys Môn a all gael ei hallforio i'r byd, ac mae cyffro mawr yno am barth arbrofi Morlais sydd yn cyrraedd cyfnod critigol yn ei ddatblygiad. Rwy'n gwybod fod y Gweinidogyn mynd i fod yn cael ei briffio yn y dyfodol agos, rwy'n meddwl, ar y camau tuag at sicrhau bod y cysylltiad trydan yn cael ei ddatblygu'n llawn ar gyfer Morlais. Mae yna arian Ewropeaiddwedi cael ei glustnodi, rwy'n gwybod, ar gyfer y cysylltiad hwnnw, ac mi fyddwn i'n annog y Gweinidogi wneud popeth o fewn ei gallu i wneud yn siŵr bod cyswllt Morlais yn gallu digwydd mor fuan â phosibl, a bod modelauPrydeinig newydd yn cael eu datblygu efo help Llywodraeth Cymru o bosibl i sicrhau bod hynny yn gallu digwydd. Felly, rwy'n falch bod hwn gennym ni rŵan, ond wrth gwrs dechrau'r broses ydy'r ymgynghoriadar y cynllun fel ag y mae o. Beth sy'n bwysig ydy bod y cydfodoli yma yn gallu digwydd fel bod ynni yn gallu cael ei dynnu allan o'r môr, ochr yn ochr â datblygiadein twristiaeth forwrol ni, ochr yn ochr â datblygiad bwydydd, ac ochr yn ochr, wrth gwrs, â bywyd naturiolcyfoethog arfordir Cymru. Dechrau’r daith ydy hyn. Rwy'n edrychymlaen i chwarae fy rhan fel Aelod etholaeth, ochr yn ochr ag Aelodaurhanbarthol y gogledd dros Ynys Môn, er mwyn troi y gwreiddyn yma, rwy'n gobeithio, yn rhywbeth all fod o fudd cenedlaethol i ni. Neil McEvoy AC: Rwyf wedi edrych drwy'r ddogfen ac ni allaf weld unrhyw gyfeiriad at y diwydiant twf newydd yng Nghymru, sef gwaredu llaid niwclear yn amgylchedd morol Cymru. Fel y gwyr y Siambr, mae yna gynigion i waredu 300,000 o dunnelli o laid o'r tu allan i Hinckley Point ychydig oddi ar yr arfordir, heb fod ymhell o'r fan lle'r ydym ni'n eistedd ac yn sefyll heddiw. Yn y Pwyllgor Deisebau heddiw, datgelwyd bod y drwydded wedi'i rhoi heb unrhyw brofion ar y dos o ymbelydredd o unrhyw sylwedd islaw 5 cm. Credaf fod werth ailadrodd hynny, oherwydd mae'r canllawiau mor llac fel y gellir rhoi trwydded heb i'r deunydd hwn gael ei brofi am y dos o ymbelydredd y gallai fod yn ei gynnwys. Nid yw effaith y llaid hwn ar yr amgylchedd morol wedi'i hasesu, felly sut gallan nhw gael trwydded? Nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwybod fawr ddim ynghylch lle y bydd y llaid, os caiff ei ddympio, yn mynd yn y pen draw. Y cyfan a ddywedwyd wrthym ni oedd, 'Wel, mae'r ardal yn wasgaradwy', felly gallai'r gronynnau, a allai fod yn ymbelydrol neu beidio i raddau mwy neu lai, fynd yr holl ffordd o amgylch arfordir Cymru, ac nid wyf yn credu o gwbl fod hynny'n ddigon da. Felly, yr hyn yr hoffwn i ei ddarllen yn y dogfennau hyn yw camau i gryfhau llawer mwy ar y canllawiau ar roi trwyddedau morol. Diolch yn fawr. Joyce Watson AC: Rwy'n croesawu'r cynllun, ac rwy'n credu bod y pethau hyn yn cymryd amser, ond yr un peth y bydd yn rhaid i mi gytuno â David Melding arno yn y fan hon yw diffyg data, ac maen nhw'n hynod o bwysig. Os ydym ni'n mynd i ddweud ein bod yn gwybod mewn gwirionedd beth yw cyflwr ein hamgylchedd morol, mae'n rhaid bod gennym y data sy'n ategu hynny. Rwyf i wedi cael sylwadau, fel y mae eraill yma, yn dweud bod sefydliadau yn casglu data yn ufudd, ond bod eu cyllid wedi'i ddileu neu ei leihau i'r fath raddau fel nad ydyn nhw wedi gallu parhau â'r gwaith hwnnw bellach. Gan ein bod yn trafod mater y diffyg data, hoffwn hefyd godi'r mater o fonitro. Mae 12 mis ers ailgyflwyno'r llusgrwydo am gregyn bylchog ym Mae Ceredigion. Roedd yn hynod ddadleuol ar y pryd, pan gafodd ei stopio a phan gafodd ei ailgyflwyno, ac addawyd inni, flwyddyn yn ddiweddarach, y byddem ni'n clywed rhywbeth am unrhyw ddirywiad posibl yng ngwely'r môr a allai fod wedi digwydd o ganlyniad i'r ailgyflwyno hwnnw, sef yr union reswm y cafodd ei stopio. Felly, hoffwn weld rhywbeth yn y cynllun sy'n ein cyfeirio tuag at ddeall sut yr ymdrinnir â'r monitro hwnnw yn ogystal â'r diffyg data hwnnw. Rydym ni i gyd wedi clywed sôn yma heddiw am blastigau, ond mae angen inni hefyd ystyried microbelenni ac a ddylem ni symud i'r cyfeiriad o helpu i wahardd y rheini. Mae digon o dystiolaeth ar gael ar hyn o bryd bod pysgod yn eu bwyta a'n bod ninnau wedyn yn eu bwyta a'u bod nhw'n gyffredin hyd yn oed mewn halen môr bellach. Mae'r niwed yr ydym ni'n ei wneud yn eithaf rhyfeddol yn y cyfeiriad hwnnw ac ni allwn ddweud 'Croeso i Gymru' a gwahodd pobl yma i fwynhau harddwch y môr oni bai ein bod yn edrych ar ei ôl. Mewn gwirionedd, dyna beth yr hoffwn i ei weld; hoffwn i weld y cydbwysedd. Dydw i ddim eisiau ailadrodd y materion y mae pobl wedi sôn amdanyn nhw yn y fan hon heddiw, ond hoffwn i weld y cydbwysedd sy'n rhoi hyder llwyr i ni nad yw'r hyn yr ydym ni'n ei wneud yn niweidiol i'r môr, oherwydd byddai'n anodd iawn dod i leoedd fel sir Benfro i fwynhau adar y môr sydd yno—y palod—yn yr adroddiad os nad ydym mewn gwirionedd wedi ystyried y niwed sy'n cael ei wneud o fewn y parth diogelu sydd, unwaith eto, yn dibynnu ar ddata digonol sy'n dweud wrthym ni, ac nid yw yno ar hyn o bryd. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb i'r ddadl. Lesley Griffiths. Lesley Griffiths AC: Diolch, Llywydd. Diolch i'r Aelodau am eu sylwadau ac am eu cefnogaeth gyffredinol i'rcynllun drafft, a gadewch i mi ddweud mai cynllun drafft ydyw. Rydym ni wrthi'n ymgynghori, a nodwch eich barn os gwelwch yn dda ac anogwch eich etholwyr i wneud hynny hefyd. Credaf mai'r hyn yr wyf i'n ei ddeall o'r ddadl hon yw bod Aelodau yn teimlo mor gryf am foroedd Cymru a'u pwysigrwydd i'n ffordd o fyw a'n llesiant cenedlaethol ag yr wyf innau. Mae'n gyfnod cyffrous iawn ar gyfer ein moroedd. Soniais ei bod yn ddechrau Blwyddyn y Môr Llywodraeth Cymru. Os gallaf sôn ychydig am y cynnig a'r gwelliannau, i ddechrau, cyn sôn yn benodol am sylwadau'r Aelodau, rwyf yn amlwg yn gofyn i'r Aelodau gefnogi'r cynnig. O edrych ar y gwelliannau, rwy'n derbyn gwelliant 1, i gydnabod swyddogaeth bwysig ein moroedd wrth helpu'r camau i ddatgarboneiddio ein heconomi. Rwy'n galw ar Lywodraeth y DU unwaith eto i roi gwybod inni beth yw eu barn ar Hendry, fel y dywedodd Mike Hedges. Mae blwyddyn wedi mynd heibio ers hynny, ac nid ydym yn dymuno bod yn yr un sefyllfa ar yr adeg hon y flwyddyn nesaf. O ran gwelliannau 2 a 3, dyma'r cynllun morol cyntaf ar gyfer Cymru. Mae'n rhoi darlun 20 mlynedd o sut y dylid defnyddio ein moroedd, ac mae'n gwbl hanfodol ein bod yn ei wneud yn iawn. Mae'n gymhleth iawn, a gwn y dywedodd David Melding ei bod yn ddogfen hir iawn, a chredaf iddo ddweud bod un yr Alban yn gryno, ond mae gan yr Alban sawl cynllun rhanbarthol hefyd, felly, mewn gwirionedd, os ydych chi'n rhoi popeth at ei gilydd, byddai'n gwneud eu dogfen nhw yn hirach fwy na thebyg, mewn gwirionedd, na'n un ni. Unwaith eto, am y cyfnod o amser, dechreuodd Gogledd Iwerddon ar waith cynllunio morol cyn ni, ac nid ydyn nhw hyd yn oed wedi ymgynghori ar eu cynllun drafft eto. Fel y dywedais i, mae moroedd Cymru yn bwysig i ni, ac mae'r system cynllunio morol newydd hon yn dangos fy ymrwymiad i'r rheoli cynaliadwy hwnnw. Mae fy swyddogion eisoes yn rhoi blaenoriaeth uchel iawn i faterion morol. Rydym ni wedi cynyddu'r gyllideb yn y maes hwn hefyd, a byddant yn parhau i wneud hynny. Mae polisïau eisoes ar waith i gefnogi adferiad ein hecosystemau, felly dydw i ddim yn cefnogi gwelliant 4. Trof at y pwyntiau a godwyd gan yr Aelodau. Cyfeiriodd Simon Thomas at y gwaith a wnaethom ni gyda rhanddeiliaid. Rydym ni wedi gwneud swm anhygoel o waith gyda rhanddeiliaid ac mewn gwirionedd gwnaethom rannu ein drafft cyntaf o'n cynllun gyda nhw, a gwnaethon nhw ofyn am fwy o fanylion, felly rydym ni wedi bod yn gweithio'n agos iawn â nhw. Ond af yn ôl at yr hyn a ddywedais. Drafft yw hwnac mae proses ymgynghori hir. Dydy e' ddim yn cau tan 29 Mawrth, felly mae digon o amser i bawb fynegi eu barn. David Melding, os gallaf i dawelu eich meddwl, yn amlwg, mae amddiffyniadau ar waith, er enghraifft drwy drwydded forol er mwyn sicrhau nad yw'r amgylchedd yn cael ei niweidio gan unrhyw brosiect unigol, a bod y cynllun, yn fy marn i, yn gwneud hynny yn glir iawn iawn. Roedd Mike Hedges yn cefnogi'r hyn yr oeddwn yn dweud sef mai drafft cyntaf y cynllun morol yw hwn, a sut y mae'n faes cymhleth—mae'n bwysig ei wneud yn iawn. Daeth Brexit hefyd ag agwedd wahanol arno, ac rydym wedi gorfod edrych ar faterion penodol iawn. Ond mae'n rhaid imi ddweud, o ran Hendry, er ein bod wrth gwrs yn galw ar Lywodraeth y DU i roi'r gorau i din-droi, nad yw'r diffyg cynnydd ar Hendry wedi effeithio ar y cynllun morol drafft. Janet Finch-Saunders, soniasoch chi ei fod wedi bod yn cael ei ddatblygu ers wyth mlynedd. Dydw i ddim yn siŵr o le y cawsoch chi'r wyth mlynedd; dechreuodd yn 2014, felly oddeutu tair blynedd yw hynny. [Torri ar draws.] Na, dechreuodd yn 2014, felly mae'n dair blynedd yn y cam cynllunio. Cytunaf yn llwyr â chi am Brifysgol Bangor. Mae'n ffynhonnell ragorol o ddeallusrwydd gwych a gwyddoniaeth sydd o gymorth mawr i ni, sy'n gwbl hanfodol wrth wneud y penderfyniadau hyn. Ac, unwaith eto, dim ond i dawelu meddwl Janet Finch-Saunders, ni fydd ardaloedd morol gwarchodedig yn cael eu tanseilio o gwbl gan y cynllun drafft hwn. Soniodd Neil Hamilton am ffermydd gwynt, a chytunaf ei bod yn bwysig iawn i wrando ar bob ochr. Fodd bynnag, mae'n ofynnol i ddatblygiadau gwynt ar y môr fonitro eu heffeithiau. Mae yna astudiaethau helaeth sy'n ein galluogi i ddeall yn well yr effeithiau posibl. Gwnaethoch chi gyfeirio at adar y môr. Ceir rhai nythfeydd adar môr helaeth a phwysig iawn yng Nghymru ac, wrth gwrs, byddwn yn sicrhau eu bod yn cael eu hamddiffyn, ac, unwaith eto, bydd y rhwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig yn sicrhau bod hynny'n digwydd. Cyfeiriodd John Griffiths hefyd at ardaloedd morol gwarchodedig, ac rwy'n gwbl ymrwymedig i warchod ein moroedd, ac mae hynny'n cynnwys drwy reoli ardaloedd morol gwarchodedig. Credaf fod y cynllun drafft yn cynnwys polisïau sy'n cadarnhau yr amddiffyniad ar gyfer y rhwydwaith o safleoedd sy'n ardaloedd morol gwarchodedig, ac mae asesiadau rheoliadau cynefinoedd helaeth wedi'u cynnal er mwyn i ni ddeall a rheoli effeithiau posibl y polisïau yn y cynllun drafft. Gan fynd yn ôl unwaith eto, soniodd John am ddeialog gyda'n rhanddeiliaid, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn gwarchod yr amgylchedd, ac mae gwneud hynny yn sicr wrth wraidd y dull yr ydym ni'n ei arddel ar gyfer rheoli morol. Mae Rhun ap Iorwerth yn amlwg yn cynrychioli ynys brydferth Ynys Môn ac rwy'n credu i chi wneud pwynt pwysig iawn ynghylch sut nad ydym bob amser yn ystyried y moroedd, ac roeddech chi'n dweud hynny yn eich swyddogaeth fel AC etholaethol. Credaf mai un o'r pethau sydd wedi codi o'r sgyrsiau hynny yr ydym ni wedi bod yn eu cael â'n rhanddeiliaid, wrth ddod â hyn at ei gilydd, yw pa mor bwysig yw'r moroedd ar gyfer bwyd, ar gyfer yr economi, ynni, ar gyfer diwylliant ac ar gyfer twristiaeth a hamdden. Dim ond er mwyn tawelu'ch meddwl, cefnogir parth prawf Morlais yn y cynllun, ac rydym ni'n gefnogol iawn o dechnolegau newydd hefyd. Cododd Neil McEvoy y mater ynghylch canllawiau, ac rwy'n credu y bydd y cynllun yn helpu pobl wrth iddyn nhw geisio penderfynu ar drwyddedau. Unwaith eto, gallwn ni sicrhau drwy'r ymgynghoriad os oes unrhyw beth ar goll ein bod yn ei gynnwys. Yn olaf, soniodd Joyce Watson am effeithlonrwydd data. Mae gwybodaeth effeithiol yn bwysig iawn, a chredaf fod y porth sydd gennym ar hyn o bryd yn adnodd rhagorol, ond wrth gwrs mae angen inni wneud mwy. Felly, rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn, Llywydd, at ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad ar y cynllun drafft. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir gwelliant 1 yn enw Rhun ap Iorwerth. Derbynnir gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 2? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. 8. Cyfnod Pleidleisio Dyma ni yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Os nad oes unrhyw dri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, dyma ni yn symud i'r bleidlais ar y ddadl ar 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol'. Mae'r bleidlais gyntaf ar welliant 4. Galwaf am bleidlais, felly, ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 21, tri yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi'i wrthod. NDM6617 Dadl: Ein Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun Cyflawni - Gwelliant 4: O blaid: 21, Yn erbyn: 26, Ymatal: 3 Gwrthodwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Galwaf am bleidlais nawr ar y cynnig wedi'i ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Cynnig NDM6617 fel y’i diwygiwyd Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cyhoeddi Ein Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun Cyflawni. 2. Yn gresynu: a) bod gwerth nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchir fesul pen o'r boblogaeth (Gwerth Ychwanegol Gros) yn is-ranbarth Gorllewin Cymru a'r Cymoedd yn dal i fod ar y gwaelod ledled y DU, ar ddim ond 64 y cant o gyfartaledd y DU - gyda Chymoedd Gwent yn ail yn unig i Ynys Môn fel yr isaf yn y DU; b) bod adroddiad Sefydliad Bevan 'Tough Times Ahead? What 2018 might hold for Wales', yn nodi er y rhagwelir y bydd diweithdra yn y DU yn aros yn tua 4.3 y cant dros y flwyddyn, bod perfformiad yn annhebygol o fod yn ddigon i hybu'r rhannau hynny o Gymru lle mae diweithdra yn uwch o lawer na ffigur y DU, megis Merthyr Tudful (7.3 y cant) a Blaenau Gwent (6.7 y cant); c) y gohiriwyd cyflwyno rhaglen gyflogadwyedd newydd Cymru'n Gweithio Llywodraeth Cymru tan fis Ebrill 2019. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu sut y bydd yn siarad ynghylch, ymgynghori ar, dylunio a chyflwyno 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun Cyflawni' â phobl sy'n byw a gweithio yng nghymoedd de Cymru; Llywodraeth y DU; y sector busnes a'r trydydd sector, wrth i waith y tasglu fynd yn ei flaen. 4. Yn nodi er mwyn cael ymgysylltiad gwirioneddol â mudiad 'Creu Sbarc', i greu busnesau mwy proffidiol o Gymru sy'n sicrhau cyfoeth a ffyniant ar gyfer Cymru gyfan, y bydd angen cydweithrediad Llywodraeth Cymru gyda diwylliant sy'n cysylltu arloesi ac entrepreneuriaeth gyda'i gilydd. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 51, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn. NDM6617 Dadl: Ein Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun Cyflawni - Cynnig (fel y'i diwygiwyd): O blaid: 51, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0 Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwydCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Y bleidlais nesaf ar y ddadl ar y cynllun morol cenedlaethol. Rydw i'n galw am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Mae'n cymryd tipyn o amser. Mae'n flwyddyn newydd. Fe ddaw nawr. Agor y bleidlais, felly. Cau'r bleidlais. O blaid 20, neb yn ymatal, 30 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi'i wrthod. NDM6616 Dadl: Cynllun Morol Cenedlaethol Drafft Cymru - Gwelliant 2: O blaid: 20, Yn erbyn: 30, Ymatal: 0 Gwrthodwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Galwaf am bleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais.Cau'r bleidlais. O blaid 17, neb yn ymatal, 34 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 3 wedi ei wrthod. NDM6616 Dadl: Cynllun Morol Cenedlaethol Drafft Cymru - Gwelliant 3: O blaid: 17, Yn erbyn: 34, Ymatal: 0 Gwrthodwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 4 wedi ei wrthod. NDM6616 Dadl: Cynllun Morol Cenedlaethol Drafft Cymru - Gwelliant 4: O blaid: 24, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0 Gwrthodwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Galwaf am bleidlais ar welliant 5, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 21, 26 yn ymatal, pedwar yn erbyn. Ac felly, derbyniwyd gwelliant 5. NDM6616 Dadl: Cynllun Morol Cenedlaethol Drafft Cymru - Gwelliant 5: O blaid: 21, Yn erbyn: 4, Ymatal: 26 Derbyniwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig wedi'i ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Cynnig NDM6616 fel y'i diwygiwyd: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu’r ymgynghoriad ar fersiwn ddrafft Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru (WNMP). 2. Yn cydnabod ac yn cefnogi posibilrwydd ‘Twf Glas’ cynaliadwy mewn sectorau morol fel y nodir yn y cynllun drafft. 3. Yn croesawu buddsoddiad yr UE mewn ynni morol yn Sir Benfro ac Ynys Môn ac yn galw am fuddsoddiad cydlyniad rhanbarthol tebyg gan Lywodraeth y DU yn dilyn Brexit. 4. Yn gresynu at yr oedi wrth ddatblygu prosiect Morlyn Llanw Bae Abertawe fel prosiect braenaru a fyddai'n ein galluogi i ddysgu llawer iawn am botensial twf glas o ynni llanw. 5. Yn cydnabod, fel y nodir yn y cynllun drafft, bwysigrwydd ecosystemau morol Cymru a phwysigrwydd rheoli ein hadnoddau naturiol morol yn gynaliadwy o safbwynt llesiant cenedlaethol. 6. Yn croesawu ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i ymgysylltu a chydweithio wrth ddatblygu a gweithredu cynllunio morol i Gymru. 7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno ardoll ar blastig untro tafladwy i helpu i sicrhau bod moroedd Cymru'n lân, yn iach, yn ddiogel, yn gynhyrchiol ac yn fiolegol amrywiol. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 40, 11 yn ymatal, neb yn erbyn. Derbyniwyd y cynnig wedi ei ddiwygio. NDM6616 Dadl: Cynllun Morol Cenedlaethol Drafft Cymru - Cynnig (fel y'i diwygiwyd): O blaid: 40, Yn erbyn: 0, Ymatal: 11 Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwydCliciwch i weld canlyniad y bleidlais A dyna ddod â therfyn ar ein trafodion am y dydd. Daeth y cyfarfod i ben am 18:21. QNR Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru Suzy Davies: A wnaiff y Prif Weinidog esbonio pam roedd angen i Lywodraeth Cymru ail-drafod ei threfniadau â Stiwdios Pinewood? Mark Drakeford: Following a change in ownership, Pinewood made a commercial decision to withdraw from fund-management services. The fund was a key part of the collaboration agreement and therefore required the agreement to be renegotiated. We are confident that the new agreement will serve to further develop the industry in Wales. Angela Burns: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r prosesau statudol y mae'n rhaid eu dilyn pan fo sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus yn destun camau goruchwylio Llywodraeth Cymru? Mark Drakeford: The Local Government (Wales) Measure 2009 sets out the improvement arrangements for principal councils, national park authorities and fire and rescue authorities. The intervention arrangements for the NHS are set out in the National Health Service (Wales) Act 2006 and in the escalation and intervention arrangements. Sian Gwenllian: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynghylch dyfodol adeilad Llywodraeth Cymru yng Nghaernarfon? Mark Drakeford: Mae’r Llywodraeth hon eisoes wedi ymrwymo i gynnal presenoldeb allweddol yng Nghaernarfon, ond nid yn yr eiddo presennol, sy’n anaddas. Byddwn yn symud ein swyddfa bresennol yng Ngogledd Penrallt, Caernarfon, i leoliad newydd yn y dref, sef Doc Fictoria. Rhianon Passmore: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymunedau lleol yn Islwyn drwy brosiectau buddsoddi cyfalaf? Mark Drakeford: Our budget proposals for 2018-19 set out how we are investing over £5 billion capital over the next three years in infrastructure projects across the whole of Wales, including local communities in Islwyn. Simon Thomas: Pryd oedd y tro diwethaf y cyrhaeddwyd y targed o 95 y cant o gleifion yn aros llai na pedair awr cyn cael eu gweld mewn uned damweiniau ac achosion brys yn ardal bwrdd iechyd Hywel Dda? Mark Drakeford: The national target is for 95 per cent of patients attending Welsh emergency departments to be admitted, transferred or discharged within four hours of arrival. There is no national target for a patient’s first assessment. Janet Finch-Saunders: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysau'r gaeaf yn y GIG yng Nghymru? Mark Drakeford: I would refer the Member to the Cabinet Secretary‘s written statement issued on winter pressures on 8 January. I would personally like to thank all of our NHS Wales staff for their commitment and dedication to patients despite increased pressures across the health and care system. Jenny Rathbone: Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â llygredd aer yng Nghaerdydd? Mark Drakeford: As part of our clean air plan for Wales, we will be consulting on a clean air zone framework, which will ensure the consistent and effective implementation of clean air zones by local authorities wherever they are needed. Officials are working closely with Cardiff council in developing the draft framework.
uk-hansard-senedd-cy
senedd2018-01-09
2024-06-01T00:00:00
{ "year": "2018", "language": "cy", "license": "Open Parliament Licence - https://www.parliament.uk/site-information/copyright-parliament/open-parliament-licence/" }
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. Galw'r Aelodau i drefn. 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog cyllid, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Lynne Neagle. Portffolio Addysg Lynne Neagle AC: 1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch dyraniadau cyllid i'r portffolio addysg? OAQ54345 Rebecca Evans AC: Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â fy nghyd-Weinidogion i drafod ystod o faterion ariannol ar draws pob portffolio. Fel rhan o broses y gyllideb ddrafft, byddaf yn cynnal rownd arall o gyfarfodydd cyllideb dwyochrog, gan gynnwys gyda'r Gweinidog Addysg, y mis hwn. Lynne Neagle AC: Diolch, Weinidog. Fe fyddwch yn gwybod bod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi mynegi pryderon difrifol ynghylch digonolrwydd cyllid ysgolion yn ein hadroddiad diweddar ar ein hymchwiliad i gyllid ysgolion. Roeddwn wrth fy modd fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn pob un o'n hargymhellion. Nodaf hefyd y swm sylweddol iawn o arian ychwanegol a fuddsoddwyd mewn ysgolion yn yr adolygiad gwariant diweddar. Yn wyneb y pwysau sylweddol iawn ar gyllid mewn ysgolion, a'r diwygiadau mawr sydd ar y gweill yn ein system addysg, pa sicrwydd y gallwch ei roi y bydd buddsoddi yn nyfodol ein plant a'n pobl ifanc yn brif flaenoriaeth i chi yn y cylch cyllidebol nesaf? Rebecca Evans AC: Diolch i Lynne Neagle am godi'r mater pwysig hwn, sef, yn ei hanfod, dyfodol ein pobl ifanc yma yng Nghymru. A bydd Lynne yn ymwybodol fod blynyddoedd cynnar a sgiliau a chyflogadwyedd yn ddwy o'r blaenoriaethau penodol sydd gan Lywodraeth Cymru ar draws y Llywodraeth, a byddwn yn edrych yn agos iawn ar y rheini o ran gosod y gyllideb. Ond byddaf yn cael y trafodaethau manwl hynny gyda'r Gweinidog Addysg, a chyda chyd-Aelodau ar draws y Llywodraeth, o ran gosod y gyllideb. Mae Lynne yn llygad ei lle wrth gyfeirio at yr adolygiad gwariant diweddar. Mae'n drueni mawr fod Llywodraeth y DU wedi teimlo eu bod yn gallu rhoi sicrwydd adolygiad tair blynedd, os mynnwch, i’r GIG yn Lloegr ac addysg yn Lloegr—neu ragolwg tair blynedd o wariant. Yn anffodus, ni wnaethant yr un peth ar gyfer Cymru, felly blwyddyn yn unig sydd gennym, ac nid oes gennym unrhyw sicrwydd o gyllid y tu hwnt i hynny. Rwyf wedi gweld rhai sylwadau diddorol yn y wasg ac ar y cyfryngau cymdeithasol gan y Ceidwadwyr Cymreig. A chredaf ei bod yn werth nodi’r ffeithiau o ran gwariant ar addysg yma yng Nghymru, gan iddo gynyddu 1.8 y cant yn 2017-18, a dyna'r twf cyflymaf o bob un o bedair gwlad y DU, ac roedd gwariant y pen ar addysg yng Nghymru yn £1,369, sef 5 y cant yn uwch na gwariant y pen yn Lloegr, ac mae'n cyfateb i £65 y pen yn ychwanegol. Felly, credaf ei bod yn bwysig gallu nodi’r ffeithiau. Mohammad Asghar (Oscar) AC: Weinidog, ym mis Ebrill, datgelodd ymchwil newydd y bydd gwariant y disgybl yn ysgolion Cymru wedi gostwng 9 y cant dros 10 mlynedd. Mae hyn yn doriad o £500 y disgybl mewn termau real. Yn wyneb y ffaith y bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £1.25 biliwn o arian ychwanegol dros y tair blynedd nesaf, pa drafodaethau a gawsoch gyda'ch cyd-Aelodau i sicrhau bod ysgolion Cymru yn cael yr adnoddau y maent yn eu haeddu? Rebecca Evans AC: Wel, ni fydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £1.25 biliwn dros y tair blynedd nesaf; bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £593 miliwn yn ychwanegol at ein cyllideb gyfredol ar gyfer y flwyddyn nesaf, ac mae hwnnw'n gynnydd o 2.3 y cant mewn termau real, a byddwn hefyd yn derbyn £18 miliwn yn ychwanegol mewn cyfalaf, sef cynnydd o 2.4 y cant ar ein cyllideb gyfredol. Ac mae'n rhaid i mi ddweud bod hyn yn dychwelyd at y pwynt a wnaed fod y GIG ac addysg yn Lloegr yn cael edrych dair blynedd i’r dyfodol o ran eu cyllidebau. Cawsom addewid, mewn cyfarfod â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, y byddai adolygiad gwariant cynhwysfawr tair blynedd yn cael ei gynnal eleni. Yn hytrach, cylch gwario byr yn unig a ddyrannwyd inni, cylch nad yw'n ein galluogi i gynllunio ymlaen llaw yn yr un ffordd. Nid yw'n ein galluogi i ganiatáu i awdurdodau lleol gynllunio ymlaen llaw yn yr un ffordd. Felly, mae'n gwbl anghywir i awgrymu ein bod wedi cael setliad tair blynedd o dros £1 biliwn. Siân Gwenllian AC: Er gwaetha'r darlun dŷch chi yn— Arhoswch funud. Rebecca Evans AC: Ymddiheuriadau. Sylweddolais fod fy nghlustffonau wedi torri, ac nid oedd unrhyw un i fy nghynorthwyo. Siân Gwenllian AC: Er gwaetha'r darlun dŷch chi yn ei beintio o'r sefyllfa o safbwynt y Deyrnas Unedig, cyfrifoldeb y Llywodraeth yma ydy pennu blaenoriaethau o fewn ei chyllideb. Ac mi fyddwch chi'n gwybod bod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi awgrymu'n gryf fod angen cydbwyso gwariant tuag at wariant ataliol, efo addysg ag ysgolion yn rhan ganolog o hynny. Fel arall, fe fyddwn ni'n parhau i golli'n hathrawon mwyaf profiadol, yn gweld mwy a mwy o blant mewn dosbarthiadau, yn gweld erydu pellach ar addysg blynyddoedd cynnar, ac yn gweld gwasanaethau lles a bugeiliol yn diflannu, efo'r canlyniad anochel y bydd safonau yn disgyn. Felly, dwi yn gobeithio y byddwch chi'n cymryd y neges yna'n glir yn ystod eich trafodaethau efo gweddill y Cabinet. Gaf i ofyn cwestiwn penodol am gefnogaeth i'r sector addysg bellach o ran tâl a phensiynau staff? A fedrwch chi roi diweddariad, os gwelwch yn dda, oherwydd does yna ddim manylion wedi bod am ddyraniad cyllid ychwanegol i addysg bellach? Rebecca Evans AC: Diolch yn fawr iawn am godi'r mater hwnnw. O ran cost y pensiynau, fe fyddwch yn ymwybodol mai cyfanswm cost y newidiadau pensiwn ar gyfer cynlluniau pensiwn cyhoeddus datganoledig a heb eu datganoli yng Nghymru yw £255 miliwn ar gyfer eleni, a £219 miliwn yn unig a roddodd Llywodraeth y DU i ni mewn perthynas â’r codiadau hynny, gan ein gadael â bwlch cyllido eleni o £36 miliwn y bu’n rhaid i Lywodraeth Cymru ddod o hyd iddo. Gan edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf, credaf y gallwn ddisgwyl y bydd y bwlch cyllido hwnnw'n cynyddu, hyd at £50 miliwn o bosibl. Felly, mae hynny'n rhoi pwysau ychwanegol ar Lywodraeth Cymru, ac mae'n bwysig cydnabod hefyd, o ran ein cylch cyllido ar gyfer y flwyddyn nesaf, fod y toriad o 15 y cant a gawsom eleni wedi'i wneud yn rhan o’r gyllideb sylfaenol. Felly, bydd y toriad hwnnw o 15 y cant gennym yng nghyllidebau'r dyfodol hefyd. Felly, credaf fod hynny'n rhywbeth yr ydym yn parhau i fynd i’r afael ag ef gyda Llywodraeth y DU, oherwydd o ran ein cytundeb cyllido gyda Llywodraeth y DU, pan fyddant yn rhoi pwysau arnom fel Llywodraeth o ganlyniad i bethau y maent wedi’u codi, yna mae'n ddyletswydd arnynt i roi'r cyllid hwnnw i ni, ac nid ydynt wedi gwneud hynny. Yn benodol o ran addysg bellach a'r pensiynau yn y fan honno, mae'r rheini'n drafodaethau rwy’n eu cael gyda'r Gweinidog addysg. Gwasanaethau i Bobl dros 60 Oed David Rees AC: 2. Pa ystyriaethau y mae'r Gweinidog wedi'u rhoi i sicrhau nad yw cyllideb Llywodraeth Cymru, sydd ar y gweill, yn lleihau gwasanaethau i rai dros 60 oed yng Nghymru? OAQ54305 Rebecca Evans AC: Rydym yn asesu effaith ystod o ffactorau ar gynlluniau gwario Llywodraeth Cymru yn barhaus, gan gynnwys yr amcanestyniadau demograffig diweddaraf. Byddaf yn cyfarfod â'r comisiynydd pobl hŷn ar 9 Hydref, fel rhan o fy ngwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid cyn y gyllideb sydd i ddod. David Rees AC: A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei hateb? Ac mae'n bwysig iawn eich bod yn cyfarfod â'r comisiynydd pobl hŷn i drafod yr anghenion hyn. Rydym wedi gweld toriadau Llywodraeth y DU i bensiynwyr; maent wedi taro Menywod yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth er enghraifft, gan sicrhau bod ganddynt ystyriaethau anos i'w gwneud mewn perthynas â'u pensiwn y wladwriaeth. Rydym wedi gweld sut y cawsant wared ar drwyddedau teledu, neu'r modd y maent wedi goruchwylio’r broses o gael gwared ar drwyddedau teledu i rai pobl. Mae'n bwysig fod y grŵp hwn o bobl bob amser wedi cael cefnogaeth Llywodraeth Cymru. Maent bob amser wedi gallu elwa ar y consesiynau teithio i bobl dros 60 oed ar fysiau. Maent hefyd wedi gallu elwa ar nofio am ddim i bobl dros 60 oed. Yn amlwg, rwyf wedi cael llawer o ohebiaeth gan etholwyr yn dilyn cyhoeddiadau diweddar gan Lywodraeth Cymru, yn enwedig y llythyr gan y Dirprwy Weinidog yr wythnos diwethaf, a nododd y newidiadau i'r consesiynau nofio am ddim. Mae'r bobl hyn yn ystyried hyn yn fuddiol i'w hiechyd, i’w lles, er mwyn cael gwared ar unigrwydd ac arwahanrwydd, i fod yn rhan bwysig iawn o gymdeithas sifil mewn gwirionedd. A wnaiff Llywodraeth Cymru sicrhau na fydd y cymunedau hyn yn cael eu hanghofio yng nghyllideb Cymru, ac y cânt gymorth i barhau â'r gweithgareddau hyn? Rebecca Evans AC: Yn sicr, gallaf roi'r sicrwydd hwnnw i chi. Mae gofal cymdeithasol yn un maes sy'n arbennig o bwysig i bobl hŷn, a dyna un o'n prif feysydd blaenoriaeth trawslywodraethol. Fel rhan o fy ystyriaethau ar gyfer y gyllideb, bûm ar gyfres o ymweliadau dros yr haf, a bydd ambell i un ohonynt o ddiddordeb arbennig. Y cyntaf oedd un o brosiectau’r gronfa gofal integredig yng Nghaerdydd, sydd yno i gefnogi pobl hŷn, ac yna, roedd yr ail ymweliad â datblygiad tai Maes Arthur yn Aberystwyth, datblygiad tai cymdeithasol sy'n helpu pobl hŷn i symud i eiddo llai o faint sy’n haws ymdopi ag ef, ac mae hynny’n rhyddhau eiddo gyda mwy o ystafelloedd gwely i deuluoedd hefyd. Felly, mae’r ddau ymweliad a wneuthum yn berthnasol i bobl hŷn yn benodol. O ran y fenter nofio am ddim, wrth gwrs, mae cwestiwn i'r Dirprwy Weinidog yn ddiweddarach y prynhawn yma o ran gallu archwilio hynny ymhellach, ond mae'n bwysig cydnabod y bydd cynnig nofio am ddim ar gael i bobl ifanc a phobl dros 60 oed o hyd, cynnig wedi'i ddarparu gan awdurdodau lleol, yn seiliedig ar ddealltwriaeth awdurdodau lleol o'u cymunedau, gyda ffocws ar ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc, yn enwedig mewn cymunedau difreintiedig. Ond bydd pobl dros 60 oed hefyd yn parhau i fod yn gynulleidfa darged, ac mae'n bwysig fod awdurdodau lleol yn dod o hyd i'r ffordd orau o ymgysylltu â'r gynulleidfa darged honno i ddeall sut y gall nofio am ddim ddiwallu'r anghenion hynny orau. Ac o ran mater y pàs bws am ddim, gwn i chi gael cyfle i drafod eich pryderon gyda Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, ac rwy'n siŵr y bydd y trafodaethau hynny'n parhau, oherwydd wrth gwrs, mae honno'n ddeddfwriaeth a fydd yn ddarostyngedig i'r broses graffu lawn yn y Cynulliad. Janet Finch-Saunders AC: Mae awdurdodau lleol ledled Cymru, wrth gwrs, yn darparu gwasanaethau sy'n cael eu gwerthfawrogi'n fawr, a gwasanaethau y mae mawr eu hangen ar ein pobl hŷn yn wir. Fodd bynnag, er bod ganddynt y ganran uchaf o bobl dros 65 oed yng ngogledd Cymru, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, yn hanesyddol, wedi cael eu taro gan eich setliadau gwael. Mae'r awdurdod lleol bellach yn wynebu diffyg o £12.5 miliwn yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Byddai'n cymryd cynnydd o 23.1 y cant yn y dreth gyngor i dalu am y pwysau ar y gwasanaeth, gan olygu unwaith eto fod llai fyth o arian yn mynd i bocedi ein pensiynwyr. Mae’n rhaid i hyn ddod i ben, a chyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw gwneud hynny. Mae’r arian yn cael ei ddarparu i chi gan Lywodraeth y DU. Caiff £1.20 ei wario yma yng Nghymru am bob punt a werir yn Lloegr. Y peth yw, a wnewch chi ymrwymo yn awr i ddefnyddio peth o'r £600 miliwn ychwanegol hwn gan y Canghellor i roi terfyn ar y strategaeth o gwtogi setliadau llywodraeth leol yn barhaus, yn enwedig ein hawdurdodau lleol yng ngogledd Cymru? Rebecca Evans AC: Wel, dyna i chi wyneb. Mae'r ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi wynebu toriadau i’w chyllideb ers degawd—. Mae pobl wedi bod yn byw gyda chyni ers degawd, a Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am hynny, mae'n rhaid i mi ddweud. Ond wedi dweud hynny, credaf ei bod yn bwysig cydnabod hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir yn ein trafodaethau cynnar ar y gyllideb y bydd iechyd yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth, ond rydym yn wirioneddol awyddus i sicrhau y gallwn gynnig y setliad gorau posibl i awdurdodau lleol. O ran fformiwla ariannu'r awdurdodau lleol, caiff honno ei phennu mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, ac mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a minnau wedi dweud yn glir iawn ein bod yn agored i syniadau ynglŷn â ffyrdd eraill o ymdrin â'r fformiwla, ond nid yw'r awdurdodau lleol eu hunain wedi pwyso arnom am newidiadau i'r fformiwla honno. Leanne Wood AC: Pryder mawr i lawer o bobl yn y Rhondda ar hyn o bryd, a rhywbeth a allai leihau mynediad at wasanaethau, yw mater adnewyddu pasys bws. Ni fydd y pàs bws presennol yn ddilys ar ôl mis Rhagfyr, felly yn naturiol, mae pobl yn awyddus i sicrhau bod ganddynt yr hyn sydd, i lawer o bobl, yn cynrychioli'r unig ffordd o gyrraedd y byd y tu allan i ddrws eu tŷ. Yn anffodus, gwelwyd problemau mawr o'r cychwyn cyntaf. Am ryw reswm, dim ond ar-lein y bu modd gwneud ceisiadau, ac rydym yn sôn am bensiynwyr. Nid yw rhai pensiynwyr ar-lein, wrth gwrs, ac ni fydd ganddynt ffrindiau na theulu i'w helpu, ac mae'r awgrym gan Trafnidiaeth Cymru y gallai gofalwr helpu yn chwerthinllyd, gan y gŵyr pob un ohonom nad yw gofalwyr yn cael digon o amser i wneud eu gwaith fel y mae hi. Ar ôl wythnos, cyhoeddwyd y byddai ceisiadau papur yn cael eu derbyn. Ni allwn ond dyfalu a yw hynny'n ymwneud â'r ffaith fod gwefan adnewyddu pasys bws Trafnidiaeth Cymru wedi methu ac na fu modd ei defnyddio ers wythnos diwethaf. Pam na chafodd y pasys bws hyn eu hadnewyddu'n awtomatig? Nid oes unrhyw un wedi mynd yn iau ers gwneud eu cais cyntaf, nac oes? Weinidog, a wnaiff y Llywodraeth hon dderbyn cyfrifoldeb am y llanast hwn, ac os oes angen, rhoi mwy o adnoddau tuag at hyn fel nad oes unrhyw un sy'n gymwys am bàs bws ar eu colled o ganlyniad i aflerwch rhywun arall? Rebecca Evans AC: Wel, ailadroddaf yr hyn a ddywedais ddoe, a chredaf fod Leanne Wood yn y Siambr pan ddywedais hyn ddoe, sef y bydd y cardiau teithio consesiynol presennol yn parhau i fod yn ddilys tan 31 Rhagfyr. Felly, y neges allweddol yw nad oes brys i wneud cais am eich pàs bws newydd; mae gennym tan ddiwedd y flwyddyn. A'r rheswm pam fod gennym basys bws newydd yw na fydd y sglodion cyfredol yn gweithio yn y system ar ôl 31 Rhagfyr, ond caiff y rhai newydd eu fformatio fel y gallant weithio mewn lleoliad trafnidiaeth integredig, ac rydym yn siarad o hyd am bwysigrwydd teithio integredig. Mae'n wir, wrth gwrs, fod llawer iawn o draffig ar y wefan yn y dyddiau cynnar, ac arweiniodd hynny at fethiant y wefan, sy'n amlwg yn anffodus, ond mae gwaith wedi'i wneud bellach i wella profiad a chapasiti'r wefan honno. Ac mae trafodaethau'n mynd rhagddynt i weld sut y gellir cynorthwyo pobl hŷn i wneud cais am eu pàs bws os nad oes ganddynt rywun i'w helpu i wneud hynny. Rwy'n siŵr y bydd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn gallu darparu diweddariadau pellach maes o law. Caroline Jones AC: Weinidog, o ganlyniad i doriadau i gyllidebau llywodraeth leol dros y blynyddoedd, mae pobl dros 60 oed wedi cael eu heffeithio'n anghymesur. Rydym wedi gweld canolfannau dydd a llyfrgelloedd yn cau, ac mae hynny wedi cynyddu unigrwydd ac arwahanrwydd yn y grŵp oedran hwn. Weinidog, sut y bydd eich Llywodraeth yn sicrhau nad yw eich penderfyniadau cyllidebol yn y dyfodol yn cyfrannu at gynyddu unigrwydd ac arwahanrwydd? Rebecca Evans AC: Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir fod mynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd yn flaenoriaeth i ni. Gwnaed gwaith gwych gan y pwyllgor a fu'n edrych ar hynny, ac mae'n llywio gwaith Llywodraeth Cymru o ran sut y gallem fynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd yn y dyfodol. Drwy awdurdodau lleol, mae cyllid Llywodraeth Cymru yn mynd tuag at gydgysylltwyr cymunedol neu froceriaid lleol—rhoddir enwau gwahanol iddynt mewn gwahanol rannau o Gymru. Maent yn gwneud gwaith cwbl anhygoel yn cysylltu pobl hŷn sy'n wynebu unigrwydd ac arwahanrwydd â'r math o wasanaethau a'r holl gyfleoedd cymdeithasol sydd i'w cael mewn cymunedau. Ac mae hynny'n rhywbeth rwy'n wirioneddol awyddus i barhau i'w gefnogi, gan fy mod wedi gweld drosof fy hun y gwaith anhygoel a wnânt. Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Nick Ramsay. Nick Ramsay AC: Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Ddoe, cawsom y wybodaeth ddiweddaraf gennych ar oblygiadau cylch gwario Llywodraeth y DU a'ch blaenoriaethau ar gyfer cyllideb Llywodraeth Cymru. Clywaf yr hyn rydych newydd ei ddweud yn ateb i gwestiwn blaenorol ynghylch yr awydd i gael amcanestyniad cynaliadwy o wariant bob tair blynedd yng Nghymru, a chredaf fod hynny'n rhywbeth yr hoffai pob un ohonom ei weld yn y pen draw. Fodd bynnag, a allech roi ychydig rhagor o fanylion inni ynglŷn â sut y bwriadwch fanteisio i'r eithaf ar y cyllid ychwanegol o £600 miliwn neu fwy, gan fod hwnnw i'w groesawu, sy'n dod i Gymru yn sgil y cylch gwario hwn? Rebecca Evans AC: Diolch. Yn gyntaf, byddaf yn cwblhau fy rownd gyfredol o gyfarfodydd dwyochrog gyda fy Ngweinidogion. Felly, rwy'n cael trafodaethau yn gynnar yn y flwyddyn—felly ym mis Mawrth—pan fyddwn yn edrych ar beth allai ein blaenoriaethau cyffredinol fod, ein blaenoriaethau strategol ar gyfer y Llywodraeth. Ac unwaith eto, byddech yn dychmygu bod iechyd yn rhan bwysig o'r trafodaethau hynny, yn ogystal â chefnogaeth i lywodraeth leol. Fodd bynnag, drwy'r flwyddyn, rydym yn cael ystod a chyfres o gyfarfodydd dwyochrog gyda Gweinidogion lle maent yn siarad am y blaenoriaethau yn eu portffolio, cyflawniad yn erbyn ein rhaglen lywodraethu, y pwysau sy'n dod i'r amlwg o fewn y cyllidebau hynny, ond hefyd, yn hanfodol, cyfleoedd newydd i ymateb i faterion cyfredol. Felly, mae gennym yr argyfwng hinsawdd a ddatganwyd gan Lywodraeth Cymru, felly rydym wedi cael trafodaethau da gyda phob Gweinidog o ran y ffordd orau o ymateb i hynny. Nick Ramsay AC: Diolch, Weinidog. Mae'r Gweinidog addysg wedi ymuno â ni yn y Siambr. Yn amlwg, mae ganddi chweched synnwyr, gan fy mod ar fin canolbwyntio ychydig ar rai o'r cyhoeddiadau a wnaeth ddoe mewn perthynas â gwariant ar addysg. Nid yw cyllid ysgolion yn arbennig, fel y dywedais ddoe, wedi cadw i fyny â chwyddiant yng Nghymru. Rhwng 2010-11 a 2018-19, mae gwariant gros y gyllideb ar ysgolion wedi wynebu toriad mewn gwirionedd o 2.9 y cant mewn termau real—rwy'n sôn am dermau real nawr, nid yn nhermau arian parod—ac mae cyllid ysgolion y disgybl wedi ehangu i £645 y disgybl yn 2017-18. Sut y defnyddiwch y dyraniad cyllid newydd i fynd i'r afael â hyn? Rebecca Evans AC: Mae'n braf fod Nick Ramsay wedi ymuno â ni oherwydd wrth ateb y cwestiwn cyntaf y prynhawn yma wrth gwrs, roeddwn yn gallu siarad â Lynne Neagle am ein hymagwedd tuag at addysg a'r flaenoriaeth a roddwn i hynny. Mae'r Gweinidog addysg yn llygad ei lle fod y bwlch yn cau mewn gwirionedd, a chredaf fod hynny'n rhywbeth i'w groesawu. Gallais amlinellu ar y cychwyn fod gwariant addysg y pen yng Nghymru wedi cynyddu i fod 5 y cant yn uwch bellach na gwariant addysg y pen yn Lloegr, a chredaf fod hynny'n bwysig. Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi darparu mwy na £265 miliwn drwy grantiau addysg uniongyrchol i awdurdodau lleol, ac mae hynny'n cynnwys grantiau gwella ysgolion rhanbarthol, y grant amddifadedd disgyblion, a grant addysg awdurdodau lleol, sy'n cynnwys mynediad at y grant amddifadedd disgyblion ac yn y blaen. O ran gwariant cyfalaf, rydym yn gwneud cryn dipyn o waith drwy ein rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ac mae cannoedd o filiynau o bunnoedd wedi'i fuddsoddi yn y rhaglen honno hefyd. Nick Ramsay AC: Rwy’n sicr yn cefnogi’r Gweinidog ar fater rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ac rwyf wedi lleisio fy nghefnogaeth i hynny yn y Siambr hon. Mae hwnnw'n gynllun da iawn. Fe sonioch chi fod y bwlch yn cau, ond wrth gwrs, mae'r bwlch hwnnw'n dal i fod yn sylweddol, ac mae'n dal i fod yn fwlch sylweddol o gymharu â gwariant dros y ffin yn Lloegr, felly gobeithiwn y bydd y Llywodraeth yn cyflwyno polisïau i gau'r bwlch hwnnw ymhellach, gan ystyried chwyddiant hefyd. Fodd bynnag, nid mater o gyllid yn unig mohono i ysgolion yn y flwyddyn gyfredol. Mae adroddiad diweddar wedi dangos bod y cronfeydd wrth gefn sydd gan ysgolion ar hyn o bryd wedi gostwng 28 y cant ers 2016-17. Roedd gan ysgolion gyfanswm o £50 miliwn wrth gefn yn 2018, neu £111 y disgybl, ac mae hynny i lawr o £64 miliwn yn 2016. Nid wyf yn siŵr a oes gennych ffigurau eleni ar gyfer y cronfeydd wrth gefn, ond mae'n amlwg fod cyllidebau ysgolion o dan bwysau o bob cyfeiriad. Felly, Weinidog, gan roi adeiladau newydd, sydd i'w croesawu, i'r naill ochr, sut rydych yn sicrhau bod sefyllfa ariannol ysgolion yng Nghymru, sefyllfa ariannol wirioneddol ysgolion, yn cael ei diogelu? Os caf gloi drwy ofyn i chi, nododd y Gweinidog Addysg yng nghyllideb 2019-20 fod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £100 miliwn ar gyfer codi safonau ysgolion dros bumed tymor y Cynulliad, ond deallaf nad yw'r cyllid hwnnw i gael ei ddyrannu i ysgolion drwy gyllid craidd, ond drwy'r grant cynnal refeniw. A ydych yn credu ei bod yn bryd edrych ar hyn, a bod ffordd well i'w chael o ariannu ysgolion yng Nghymru er mwyn sicrhau bod cyllidebau'n cael eu gwarchod, fel ein bod yn gweld y gwelliant rydym am ei weld yn sefyllfa ariannol ysgolion, yn hytrach na bod yr arian yn diflannu i feysydd eraill y byddai'n well gennym pe na bai'n mynd iddynt? Rebecca Evans AC: Rwy'n cydymdeimlo'n llwyr ag angen pobl i ddeall yn well beth fydd ein cynigion yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, ac rwy'n deall yr awydd sydd gan bobl i gael rhai cyhoeddiadau cynnar. Ond credaf y byddai'n annheg bwrw ymlaen a gwneud cyhoeddiadau cyn i ni gael rownd arall o gyfarfodydd dwyochrog gyda fy nghyd-Weinidogion, a hefyd cyn i mi gael cyfle i gyfarfod a thrafod pethau ymhellach gyda'r comisiynydd plant, y comisiynydd pobl hŷn, Comisiynydd y Gymraeg, rownd arall o drafodaethau gyda chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, a thrafodaethau gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Credaf fod llawer o wrando a siarad i'w wneud cyn i ni gyrraedd y pwynt lle y gallwn ddarparu'r cyllidebau dangosol hyn ar gyfer y flwyddyn nesaf. Wedi dweud hynny, gwn fod y Gweinidog addysg wedi bod yn falch o dderbyn holl argymhellion ymchwiliad diweddar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i gyllid ysgolion, ac rwy'n siŵr y bydd ganddi fwy i'w ddweud ar hynny maes o law. Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch yn fawr iawn. Ar ôl degawd o wasgu ar eu cyllidebau, all lywodraeth leol yng Nghymru ddim cymryd mwy o doriadau, neu hyd yn oed aros yn llonydd o ran eu cyllid. A allwch chi roi sicrwydd y bydd llywodraeth leol yn cael ei blaenoriaethu ar gyfer 2020-21 gyda chynnydd sylweddol termau real yn eu cyllidebau nhw? Rebecca Evans AC: Yn sicr, gallaf roi'r sicrwydd, yn y trafodaethau a gawsom, y trafodaethau cynnar ynghylch blaenoriaethau, fod iechyd yn amlwg yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth, ond mae pob un ohonom wedi dweud yn glir ein bod am roi'r setliad gorau posibl i lywodraeth leol. O ran beth arall y gallaf ei ddweud am hynny, ar hyn o bryd, heb gael trafodaethau manwl pellach, nid wyf yn awyddus i ddweud gormod heddiw. Rhun ap Iorwerth AC: Dydy 'best possible settlement', mae gen i ofyn, ddim yn rhoi i fi'r hyder dwi'n chwilio amdano fo, a dwi'n eithaf siŵr na fydd o'n rhoi'r hyder y mae llywodraeth leol yn chwilio amdano fo, chwaith. Yn y gorffennol, mae setliad fflat wedi cael ei werthu i lywodraeth leol fel bod yn newyddion da. Dydy o ddim. Gwnes i grybwyll Ynys Môn yma yn y Siambr ddoe, yn dweud eu bod nhw angen £6 miliwn. Mae'r ffigwr yn amrywio o gyngor i gyngor, wrth gwrs. Mae Pen-y-bont ar Ogwr yn chwilio am doriadau o £35 miliwn; mi fyddai angen cynnydd yn y dreth gyngor o dros 13 y cant er mwyn gwneud iawn am y twll yn eu cyllideb nhw. Allwn ni ddim mynd yn ôl yn 2020-21 at drethdalwyr lleol Cymru i ofyn iddyn nhw lenwi'r gap, achos mae'r pwysau yn ormod arnyn nhw. Mae'n rhaid i arian ychwanegol ddod gan Lywodraeth Cymru. Mae'r cynghorau yn wynebu pwysau o dros £0.25 biliwn y flwyddyn nesaf, ac efo cyllidebau lle mae yna ddisgresiwn arnyn nhw wedi cael eu torri cymaint, does yna nunlle i dorri erbyn hyn heb fynd i wasanaethau cwbl greiddiol a sylfaenol, fel gwasanaethau plant, ac allwn ni ddim fforddio torri'r rheini. Felly, dwi'n gofyn eto: a gaf i sicrwydd na fyddwch chi’n dathlu rhyw fath o setliad fflat fel newyddion da, ond y byddwch chi, y tro yma, yn chwilio am gynnydd i gyfateb i’r hyn y mae llywodraeth leol yng Nghymru yn ei ddweud sydd ei angen arnyn nhw dim ond i sefyll yn llonydd? Rebecca Evans AC: Felly, rydym yn cael y trafodaethau clir hynny gyda llywodraeth leol, o ran yr hyn y maent wedi'i nodi yw'r pwysau arnynt yn eu cyllideb, ond hefyd eu huchelgeisiau i wneud mwy yn y blynyddoedd i ddod. Mae gennyf gyfarfod gyda'r Gweinidog llywodraeth leol gyda'r is-grŵp cyllid llywodraeth leol, sef y grŵp lle mae gan holl arweinwyr a phrif weithredwyr yr awdurdodau lleol gyfle i siarad â mi a'r Gweinidog llywodraeth leol am faterion cyllid. Felly, byddwn yn siarad yn ein cyfarfod nesaf, yr wythnos nesaf rwy'n credu, ac yn cael trafodaethau cynnar am y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Oddeutu pythefnos yn unig sydd wedi bod ers ein cyhoeddiad ar gyllid y cylch gwariant, felly, ar hyn o bryd, ni allaf wneud y math o gyhoeddiadau y mae pob un ohonom yn awyddus i'w clywed, ond fe geisiaf roi'r math hwnnw o sicrwydd cyn gynted â phosibl. Rhun ap Iorwerth AC: Mewn atebion i mi ac i Aelodau Cynulliad eraill heddiw, nodaf eich bod wedi crybwyll iechyd yn gyntaf oll fel y flaenoriaeth, ac mae pob un ohonom, wrth gwrs, yn blaenoriaethu iechyd, ond a gaf fi ofyn i chi ddod ag iechyd a gofal cymdeithasol at ei gilydd wrth i chi ystyried beth sy'n digwydd i gyllid llywodraeth leol? Oherwydd drwy bwmpio arian i mewn i iechyd, sy'n angenrheidiol ar gyfer iechyd yn nhyb rhai, mae pob perygl mai ychydig iawn o adnoddau a fydd ar ôl i'w gwario ar lywodraeth leol. Heb arian ar gyfer gofal cymdeithasol mewn llywodraeth leol, ni fyddwn byth yn datrys mater cronnol a chyfunol iechyd a gofal cymdeithasol. Felly, a gawn ni sicrwydd y bydd gofal cymdeithasol a ddarperir drwy lywodraeth leol yn cael ei flaenoriaethu i'r un graddau ag iechyd yn y gyllideb ar gyfer 2020-21? Rebecca Evans AC: Cytunaf yn llwyr fod iechyd a gofal cymdeithasol ynghlwm wrth ei gilydd—ni allwch wahanu'r ddau beth. Mae'n anochel y bydd pwysau mewn un maes yn arwain at bwysau mewn maes arall. A gall buddsoddiad mewn un maes fod o fudd i faes arall, a dyna pam fod gennym y gronfa gofal integredig. Roeddwn yn falch, yn fy rôl flaenorol, o gyhoeddi £130 miliwn o gyllid ychwanegol, cyllid cyfalaf, i'r gronfa gofal integredig allu edrych ar atebion sy'n seiliedig ar dai ar gyfer materion iechyd a gofal cymdeithasol. Ac mae'r gronfa gofal integredig, ar y cyfan, yn gwneud gwaith gwych yn newid y llwybr hwnnw i bobl, os mynnwch, fel eu bod yn gallu osgoi mynd i'r ysbyty, neu os yw pobl yn mynd i'r ysbyty, mae'n sicrhau y gallant adael yr ysbyty yn llawer cynt a dychwelyd naill ai adref neu i wasanaeth cam-i-lawr arall. Felly, rydym eisoes wedi cydnabod y cysylltiad rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn amlwg, bydd hynny'n rhan o'n hystyriaethau yn y gyllideb. Llefarydd Plaid Brexit, Mark Reckless. Mark Reckless AC: Weinidog, fe sonioch chi gryn dipyn am y grant bloc ar gyfer y flwyddyn nesaf a'r hyn a wyddom bellach yn dilyn yr adolygiad gwariant un flwyddyn. Ochr arall y refeniw y bydd modd i chi ei ddefnyddio i ariannu ymrwymiadau gwariant yng Nghymru yw'r refeniw o'r trethi datganoledig, a tybed a allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â'r rheini yn y gyllideb atodol. Er i ni gael hanner blwyddyn arall o ddata, ni welsom unrhyw newidiadau yn y rhagolwg. Mae'r Pwyllgor Cyllid wedi craffu ar y cytundeb hwn, a gefnogir gennym at ei gilydd, gyda’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, ond tybed, o ystyried yr hyn sydd wedi digwydd gyda Llywodraeth y DU—. Credaf ichi ddweud ddoe nad oedd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi cael y dasg o lunio rhagolwg ar gyfer y DU gyfan eto. Pa effaith a gaiff hynny ar y ffordd y maent yn eich cefnogi gyda'r rhagolwg ar gyfer trethi a ddatganolwyd i Gymru? A fyddant yn cael eu rhagfynegi ar sail annibynnol ar gyfer Cymru'n unig, neu a fydd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn dal i edrych ar gymhariaeth â Lloegr o ran beth fydd y trethi hynny? Rebecca Evans AC: Rydym yn trafod yn gyson â'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ac mae'r rhan fwyaf o'n cyllid yn dal i gael ei bennu, wrth gwrs, gan benderfyniadau gwario Llywodraeth y DU, sydd newydd gael eu cyhoeddi. Fel y dywedwch, nid oes unrhyw ragolygon ariannol newydd ynghlwm wrth y cyhoeddiad, felly nid oes diweddariad i'r rhagolwg refeniw datganoledig ar gyfer Cymru. Ond bydd y rhagolwg refeniw treth nesaf ar gyfer Llywodraeth Cymru yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021. Felly, dywedais ddoe fy mod yn gobeithio symud dyddiad cyhoeddi'r gyllideb ddrafft i ddechrau mis Tachwedd, yn amodol ar gydsyniad y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Busnes. Felly, byddwn yn cyhoeddi'r manylion hynny ochr yn ochr â'r gyllideb ddrafft. Ac wrth gwrs, mae'r ddwy dreth a ddatganolwyd yn llawn yn dal i fod ar y trywydd iawn i ddod â dros £1 biliwn i mewn yn eu dwy flynedd gyntaf i ariannu gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru. Dywedodd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, yn eu rhagolwg ym mis Mawrth, y bydd cyfraddau treth incwm yn codi oddeutu £2.2 biliwn yn eu blwyddyn gyntaf. Felly, mae gennym y rhagolygon hynny, ond rydym yn disgwyl i ragolygon manylach gael eu cyhoeddi ochr yn ochr â'r gyllideb ym mis Tachwedd. Mark Reckless AC: Ond os nad yw'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi cael y dasg, hyd yn hyn o leiaf, gan Lywodraeth y DU o lunio rhagolygon ar gyfer y DU, sut y byddant yn llunio'r rhagolygon hynny ar gyfer Cymru? A oes ganddynt fodel o economi Cymru ar gyfer edrych ar Gymru ar ei phen ei hun, neu a fyddant yn llunio rhagolwg ar gyfer y DU, er na chawsant y dasg o wneud hynny gan Llywodraeth y DU, ac yna'n defnyddio amrywiant ar gyfer Cymru? Ac a wnaiff y Gweinidog ddweud ychydig rhagor am yr hyn y mae ei thîm yn ei wneud a'r adnoddau sydd ganddi i gefnogi'r cysylltiad â'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol? Oherwydd Trysorlys Cymru sy'n gyfrifol am lunio'r rhagolygon hynny, ac yna bydd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn eu profi a'u dilysu, ac mae hwn yn waith newydd iddi hi a'i hadran. Er enghraifft, gwelsom yn gynharach heddiw fod chwyddiant prisiau tai yng Nghymru yn uwch nag yn unrhyw un o wledydd a rhanbarthau eraill y DU. Pam hynny? A yw Llywodraeth Cymru yn disgwyl i hynny barhau, oherwydd bydd yn effeithio ar refeniw? Yn yr un modd, twf cyflogaeth yng Nghymru a thwf cyflogau yng Nghymru—sut y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i hynny gymharu â'r DU a pham, gan y bydd ein refeniw a'n gallu i gefnogi gwariant yn dibynnu ar y dyfarniadau hynny, er y byddant yn cael eu dilysu, gobeithio, gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol? Rebecca Evans AC: Yn y gynhadledd dreth flynyddol, a gynhaliais yn ôl ym mis Gorffennaf—ac roeddwn yn falch iawn fod Mark Reckless wedi gallu ymuno â ni ar gyfer honno—rhoddodd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol gyflwyniad manwl iawn a oedd yn nodi sut y maent yn ystyried amryw o elfennau a'r hyn y maent yn ei ystyried o ran gallu darparu'r rhagolygon hynny. Felly, roeddent yn darparu rhagolygon yn benodol ar ein cyfer ni yma yng Nghymru, ond yn amlwg yn defnyddio amrywiaeth o ddata o fannau eraill. Credaf y byddant yn gwneud y gwaith manwl i ni yma yng Nghymru. Buaswn yn dychmygu, erbyn hynny, y byddent wedi'i wneud ar gyfer Llywodraeth y DU hefyd o bosibl. Mae'n rhaid i ni ragdybio y bydd datganiad yn yr hydref ac y byddant, buaswn yn tybio, yn cael y dasg o gyflawni gwaith i lywio hynny bron yn syth. Os byddai o ddefnydd, Lywydd, gallwn drefnu briff technegol gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ar gyfer yr Aelodau, a allai roi cyfle i archwilio rhai o'r cwestiynau manwl a allai fod o ddiddordeb i ni ymhellach wrth i ni ddechrau symud tuag at gyhoeddi rhagolygon wedi'u diweddaru. Rhyddhad Ardrethi Busnes Russell George AC: 3. A wnaiff y Gweinidog esbonio sut y gall dyfarnu rhyddhad ardrethi busnes yn ôl disgresiwn gefnogi busnesau bach a chanolig? OAQ54311 Rebecca Evans AC: Gall awdurdodau lleol ddefnyddio rhyddhad ardrethi yn ôl disgresiwn i ostwng biliau ardrethi annomestig i fusnesau a threthdalwyr eraill lle y tybiant y bydd hynny'n cael yr effaith fwyaf yn lleol. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £2.4 miliwn ychwanegol i awdurdodau lleol yn 2019-20 i ddarparu rhyddhad ardrethi yn ôl disgresiwn. Russell George AC: Diolch am eich ateb, Drefnydd. Rydych wedi sôn eisoes, ac mae eich rhagflaenwyr wedi sôn, am ddiwygio'r system ardrethi busnes yng Nghymru. O ran rhyddhad ardrethi busnes llawn, gall eiddo, wrth gwrs, sydd â gwerth ardrethol o hyd at £12,000 elwa o ryddhad ardrethi yn Lloegr, ond yng Nghymru, mae'r ffigur hwnnw'n berthnasol i eiddo busnes sydd â gwerth ardrethol o hyd at £6,000 yn unig. A gaf fi ofyn ichi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am ba gynnydd a wneir mewn perthynas â'r gwaith ar ddiwygio ardrethi busnes er mwyn cefnogi busnesau bach a chanolig, fel eu bod ar sail gyfartal o ran gwerth ardrethol, yn hytrach na'u bod dan anfantais am fod eu busnesau wedi'u lleoli yng Nghymru yn hytrach na thros y ffin yn Lloegr? Rebecca Evans AC: Diolch am godi'r mater hwn. Credaf ei bod yn bwysig fod y trothwyon sydd gennym yma yng Nghymru yn adlewyrchu sylfaen drethu Cymru. Mae ein cynllun yn adlewyrchu'r ffaith fod gwerthoedd ardrethol yma yng Nghymru—y gwerth ardrethol cyfartalog—yn is o lawer na thros y ffin yn Lloegr. Credaf ein bod yn edrych yng Nghymru ar werthoedd ardrethol cyfartalog o £33,000, ond yn Lloegr credaf ein bod yn edrych ar fwy na £50,000. Felly, mae'n bwysig fod ein cynlluniau yma yng Nghymru yn adlewyrchu'r sefyllfa wahanol sydd gennym yma yng Nghymru. Ond wedi dweud hynny, rydym yn gwneud rhywfaint o waith sy'n edrych ar y posibilrwydd o ddiwygio ardrethi busnes yn y dyfodol. Rydym hefyd yn edrych ochr yn ochr â hynny ar ddiwygiadau posibl i'r dreth gyngor yn y dyfodol. Felly, rydym yn edrych ar ein dwy dreth leol i weld sut y gallwn eu gwella, o bosibl, ar gyfer y dyfodol. Rydym yn disgwyl adroddiad canol tymor ar y gwaith o ran ardrethi annomestig erbyn tua mis Hydref a buaswn yn fwy na pharod i ddarparu rhyw fath o amlinelliad o beth fydd canfyddiadau cynnar y gwaith hwnnw.FootnoteLink Cefais drafodaeth dda y bore yma gyda Chonsortiwm Manwerthu Cymru. Mae ganddynt gryn dipyn o ddiddordeb yn y gwaith hwnnw, ac rwy'n awyddus i ddefnyddio'u harbenigedd a chael gwybod ganddynt a ydynt yn teimlo bod yr ymchwil yn mynd â ni i'r cyfeiriad cywir. Ond mae popeth a wnaf mewn perthynas â threthi, ardrethi annomestig—wrth i ni geisio diwygio a newid pethau, rwyf am ei wneud ar y cyd ac mewn ffordd agored a thryloyw, felly rwy'n fwy na pharod i drafod pethau ymhellach. Gwybodaeth ychwanegol at y Cyfarfod Llawn (Saesneg yn unig) Ariannu Ailgylchu Dai Lloyd AC: 4. Pa drafodaethau diweddar y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol o ran darparu dyraniad cyllideb ychwanegol i ariannu ailgylchu yng Nghymru? OAQ54324 Rebecca Evans AC: Rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i drafod ystod o faterion ariannol, gan gynnwys ailgylchu. Er gwaethaf y toriadau i’n cyllideb gyfalaf, rydym wedi buddsoddi £30 miliwn yn ychwanegol dros y cyfnod 2018/19 i 2020/1 i gefnogi’r rhaglenni newid cydweithredol ar gyfer caffael gwastraff. Dai Lloyd AC: Diolch am eich ateb. Weinidog, ac fe fyddwch yn ymwybodol fod awdurdodau lleol ledled Cymru yn anfon llawer o'r deunydd ailgylchu a gasglwyd ganddynt i ganolfannau ailgylchu yn Lloegr ac ymhellach dramor. Yn ein sir ein hunain yn Abertawe, er enghraifft, mae'r cyngor yn anfon miloedd o dunelli o wastraff i Dwrci, Tsieina, India, Indonesia a Gwlad Pwyl. A ydych chi'n cytuno felly fod angen i ni wneud mwy i ganolbwyntio ar yr agenda hon? A pha gyllid ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn barod i'w ddarparu i awdurdodau lleol i ddatblygu canolfannau ailgylchu rhanbarthol neu genedlaethol i sicrhau ein bod yn ailgylchu popeth a allwn yng Nghymru, gan leihau ein hôl troed carbon a chreu swyddi i bobl yng Nghymru? Rebecca Evans AC: Wel, yn sicr, mae angen i mi gydnabod bod angen i ni wneud mwy yn y maes penodol hwn, oherwydd mae'n wir fod peth o'n gwastraff yn cael ei allforio i Ewrop, ac fel y dywedoch chi, i wledydd eraill o gwmpas y byd, ond mae'n bwysig cydnabod bod y rhan fwyaf ohono'n cael ei brosesu yma yng Nghymru. Rydym wedi cefnogi datblygiad seilwaith i brosesu ein gwastraff yma, gyda'r nod mwy hirdymor o brosesu cymaint o'n gwastraff ag y gallwn yma. Yn amlwg, nid ydym am i wastraff gael ei allforio o'r DU i wledydd eraill a pheidio â chael ei drin yn briodol, ac rydym wedi gweld rhai straeon yn y wasg ynglŷn â hynny. Serch hynny, credaf mai'r rheswm pam ein bod wedi gallu cael y ffigurau rydych wedi'u dyfynnu i ni yw am mai Cymru yw'r unig wlad yn y DU sy'n gorfodi awdurdodau lleol i ddefnyddio WasteDataFlow, sef system ar gyfer cofnodi data gwastraff trefol. Fel rhan o hynny, mae'n ofynnol bellach i awdurdodau lleol roi gwybod i ble mae eu gwastraff yn mynd yn y pen draw. Felly, credaf ei bod yn wirioneddol gadarnhaol fod gennym eglurder a thryloywder o'r fath yn hynny o beth. Bydd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol yn gwneud datganiad ddydd Mawrth nesaf ar ailgylchu, a chredaf y bydd hwnnw'n gyfle arall i drafod hyn yn fanylach. Andrew RT Davies AC: Clywaf yr hyn a ddywedoch chi, Weinidog cyllid, am lif gwastraff a monitro hynny o fewn awdurdodau lleol, ond does bosibl nad un o'r pethau y mae'n rhaid i chi boeni amdanynt fel Gweinidog cyllid yw cryfder y trywydd archwilio. Mae llawer ohonom wedi gweld lluniau ar y teledu ac mewn papurau newydd yn dangos gwastraff a ailgylchwyd o Gymru—ac mae pobl wedi mynd ati i wneud hynny gyda'r ewyllys gorau—yn ymddangos ar draethau filoedd o filltiroedd i ffwrdd o'r ynysoedd hyn. Felly, pa ymdrechion rydych yn eu gwneud i sicrhau bod y broses archwilio yn gadarn, ac y gellir defnyddio unrhyw arian newydd y gallech fod yn ei roi i'r mentrau ailgylchu i ailgylchu'r cynnyrch sydd ar gael yma yng Nghymru, neu yn wir, yng ngweddill y Deyrnas Unedig, yn hytrach na'i ddympio'n ddiseremoni ar draethau, fel y dywedais, filoedd o filltiroedd i ffwrdd? Rebecca Evans AC: Wel, fel y dywedaf, mae gofyniad statudol i awdurdodau lleol Cymru roi gwybod i ble mae'r gwastraff y maent yn ei gasglu yn mynd yn y pen draw, ond credaf fod pob un ohonom yn ymwybodol iawn o'r erthygl ddiweddar ar WalesOnline a ddangosodd fod 0.8 y cant o'r gwastraff a gasglwyd yng Nghymru yn cael ei anfon i gyrchfannau terfynol amhenodol. Yn amlwg, er mai canran fach iawn yw honno, mae'n rhywbeth sy'n peri cryn bryder i bob un ohonom. Felly, gallaf gadarnhau bod pob awdurdod lleol bellach wedi cael cais i adolygu eu contractau i sicrhau y gallwn roi diwedd ar hynny. Trethi Ail Gartrefi Siân Gwenllian AC: 5. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar gynlluniau trethi ail gartrefi Llywodraeth Cymru? OAQ54333 Rebecca Evans AC: Mae fy swyddogion yn parhau i weithio gyda llywodraeth leol i adolygu sut y mae awdurdodau lleol yn defnyddio eu pwerau disgresiwn i godi premiymau'r dreth gyngor. Byddant yn ystyried unrhyw dystiolaeth a ddarperir i gynorthwyo'r adolygiad ac yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn gweithredu yn ôl y bwriad. Siân Gwenllian AC: Fe gafwyd trafodaeth ar y pwnc yma ddoe, os ydych chi'n cofio, a rhaid imi ddweud, roeddwn i'n rhyfeddu bod y Prif Weinidog yn methu'r pwynt yn llwyr am hyn. Y sefyllfa gwbl annerbyniol ydy fod yna anomali yn y system, sy'n golygu bod nifer fawr o berchnogion ail gartrefi yn osgoi talu trethi. Dydyn nhw ddim yn talu treth gyngor, a dydyn nhw chwaith ddim yn talu treth fusnes drwy iddyn nhw weithredu fel busnes am gyfnod byr iawn o'r flwyddyn. Rŵan, hwnna ydy'r anomali yn y system sydd angen sylw, ac rydych chi'n gwybod fy mod i wedi tynnu sylw at hyn sawl gwaith, ac mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru hefyd yn cytuno bod angen gwneud rhywbeth ar fyrder. Fel rydych chi'n dweud, mae'ch swyddogion chi yn edrych ar y sefyllfa. Ces i gyfarfod efo nhw nôl ym mis Mehefin, ac fe addawyd y byddai yna ryw fath o adroddiad, neu ryw fath o gynnydd yn y maes yma, ond dwi'n dal i ddisgwyl i weld beth fydd yr argymhellion yn union. Mae hwn yn sgandal ac mae'n rhaid ei sortio fo ar fyrder. Rebecca Evans AC: Diolch am godi hyn, a diolch hefyd am eich diddordeb yn y mater ac am siarad â fy swyddogion am eich syniadau ynglŷn â sut y gallwn ddechrau mynd i'r afael â'r mater penodol hwn. Mae'n wir fod yn rhaid i fusnes allu dangos bod yr eiddo y maent yn ceisio'i osod fel llety gwyliau, er enghraifft, ar gael am o leiaf 140 diwrnod mewn cyfnod o 12 mis, ac wedi'i osod am 70 diwrnod. Nawr, y cwestiwn yma yw: a yw'r cydbwysedd yn iawn gennym? A yw 140 diwrnod o fod ar gael i'w osod yn iawn, ac a yw 70 diwrnod o fod wedi'i osod—a yw hynny'n iawn? A yw hynny'n dangos bod yr eiddo hwnnw'n cael ei ddefnyddio fel llety hunanddarpar? Felly, mae hwn yn fater arall y byddaf yn ei drafod â'r is-grŵp cyllid llywodraeth leol yn ein cyfarfod nesaf, yr wythnos nesaf rwy'n credu, ond mae'n fater rwy'n sicr yn ymwybodol ohono. Fe ofynnom ni i awdurdodau lleol roi gwybod i ni am unrhyw achosion lle roeddent yn teimlo bod eiddo'n cael ei farchnata fel llety hunanddarpar heb ei fod yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd honno mewn gwirionedd. Cafwyd rhai enghreifftiau gan awdurdodau lleol, gan gynnwys Gwynedd, o eiddo y credent ei fod yn perthyn i'r categori hwnnw. Edrychodd Asiantaeth y Swyddfa Brisio ar bob un o'r achosion a daethant i'r casgliad fod pob un ohonynt yn gweithredu o fewn y gyfraith, ond mae'r cwestiwn yn codi i ba raddau yr ydym yn ei gael yn iawn o ran nifer y dyddiau, ac rwy'n sicr yn awyddus i edrych ar hynny. David Melding AC: Os nad yw'r eiddo yn talu ardrethi busnes, dylent fod yn talu'r dreth gyngor. Ymddengys mai dyna sydd wrth wraidd hyn, ac mae angen i ni fynd i'r afael â'r mater. Rebecca Evans AC: Gallaf roi sicrwydd i chi ein bod yn cael y trafodaethau hyn gydag awdurdodau lleol o ran eu profiadau o'r mater, i ba raddau y mae'n broblem. Credaf ei fod yn amrywio ledled Cymru o ran faint o ail gartrefi a geir a faint o eiddo gwyliau ar osod a geir, ac yn sicr, mae'n broblem ddifrifol mewn rhai ardaloedd. Ond mae'n un yr ydym yn awyddus iawn i fynd i'r afael â hi oherwydd, fel y dywedais, mae gwaith ar y gweill gennym sy'n edrych ar ddyfodol y dreth gyngor, ac yn archwilio gwahanol ffyrdd o edrych ar y dreth gyngor, i geisio'i gwneud yn fwy blaengar, ac mae'n edrych ar drethi gwerth tir, ac ar dreth incwm leol—pob math o wahanol ffyrdd o godi trethiant lleol yn y dyfodol. Ac yn sicr, mae hyn yn rhan o hynny. Mike Hedges AC: Buaswn yn rhoi ateb syml i chi: pam na wnewch chi ddod â'r rhyddhad ardrethi busnes ar dai a fflatiau i ben? Pe baech yn gwneud hynny, ni fyddai’n gwneud unrhyw les iddynt gael eu galw’n fusnesau. Ni allaf weld unrhyw reswm da dros roi rhyddhad ardrethi busnes i dai a fflatiau. Pe baech yn dod â hynny i ben, byddech yn cael gwared ar yr anghysondeb, a gallwch wneud hynny yfory. Rebecca Evans AC: Gwn fod Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori ar y mater hwn yn y gorffennol mewn perthynas ag a ddylai dosbarthiadau o eiddo penodol fod wedi'u heithrio rhag rhyddhad ardrethi busnesau bach. Yn sicr, roedd hynny'n rhywbeth yr edrychwyd arno'n fanwl pan ddatblygwyd y cynllun parhaol gennym. Ni ystyriwyd bod cael gwared ar ryddhad ardrethi ar gyfer eiddo hunanddarpar yn briodol a chredaf, os cofiaf yn iawn, fod hynny oherwydd yr effaith y gallai ei chael ar y diwydiant twristiaeth, lle mae'r eiddo hyn yn arbennig o bwysig mewn rhai ardaloedd i gadw'r diwydiant twristiaeth yn fyw. Mae'n amlwg fod yma gydbwysedd eithriadol o anodd a bregus i'w sicrhau. Cyhoeddiad Ariannol Llywodraeth y DU Llyr Gruffydd AC: 6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith cyhoeddiad ariannol Llywodraeth y DU ar gyllideb Llywodraeth Cymru? OAQ54320 Rebecca Evans AC: Yn seiliedig ar gylch gwario Llywodraeth y DU, bydd ein cyllideb ar gyfer 2020-21 yn is o 2 y cant mewn termau real na'r hyn ydoedd yn 2010-11, sy'n cyfateb i £300 miliwn yn is mewn termau real na'r hyn ydoedd ddegawd yn ôl. Yn fy natganiad llafar ddoe, nodais effaith adolygiad gwariant Llywodraeth y DU. Llyr Gruffydd AC: Diolch i chi am eich ateb. Dwi ddim yn mynd i ymddiheuro am wneud ple eto arnoch chi i sicrhau bod awdurdodau lleol Cymru'n cael setliad gwell eleni. Dŷn ni wedi clywed eisoes am y £6 miliwn sydd ei angen ar sir Fôn i aros yn ei hunfan. Dŷn ni wedi gweld yn y papur bore yma bod Cyngor Sir y Fflint yn sefyll ar ymyl dibyn ariannol, a fydden i ddim yn licio dychmygu beth fyddai'r goblygiadau petai'r hwch yn mynd drwy'r siop yn fanna. Nawr, yn flaenorol, wrth gwrs, mae'r Llywodraeth wedi dweud fe fydd awdurdodau lleol ar flaen y ciw petai yna arian yn dod ar gael a byddwn i'n gofyn i chi o leiaf ailadrodd yr ymrwymiad yna ac i wneud hynny, wrth gwrs, gan wybod y byddai ariannu tecach i awdurdodau lleol, fel dŷn ni wedi'i glywed, yn gallu cyfrannu'n helaeth tuag at faterion iechyd drwy ariannu gwasanaethau cymdeithasol yn iawn, ond mi fyddai hefyd yn gallu caniatáu inni ddechrau mynd i'r afael â than-gyllido ysgolion yn eithriadol. Felly, yr hyn dwi eisiau clywed yw—ganddoch chi a'r Llywodraeth—y bydd awdurdodau lleol ar flaen y ciw eleni. Rebecca Evans AC: Diolch. Mae'r holl ddadleuon hyn o blaid gwell setliadau ar gyfer awdurdodau lleol wedi'u gwneud yn dda iawn ac wedi'u clywed yn dda iawn, a byddwch wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud o'r blaen, pe bai cyllid ychwanegol ar gael, yna byddai awdurdodau lleol a llywodraeth leol ar flaen y ciw. Suzy Davies AC: Soniodd Lynne Neagle yn gynharach am adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a oedd yn beirniadu'r ddwy Lywodraeth yn hallt mewn perthynas â chyllid ysgolion. Mae Llywodraeth y DU wedi ymateb ac wedi cynyddu bloc Cymru o ganlyniad i ddarparu cynnydd o £14 biliwn i'w chyllideb ysgolion ei hun ar gyfer y DU. Felly, mae angen i Lywodraeth Cymru roi camau ar waith ar hyn, ac mae arnaf ofn, Weinidog, na allwch gyfiawnhau blynyddoedd o danariannu yn ein hysgolion yng Nghymru—mae hwn yn bwynt a wnaed gan undebau, nid ar yr ochr hon i'r Siambr yn unig—drwy dynnu sylw at Lywodraeth arall sydd wedi gweithredu ar unwaith i wyrdroi'r peryglon a oedd yn effeithio arnynt. Gofynnodd Lynne Neagle am y blynyddoedd cynnar, ond a allwch gadarnhau y bydd y rhan fwyaf os nad yr holl arian yn mynd i ysgolion neu awdurdodau lleol ar gyfer eu cyllidebau ysgolion? Rwy'n derbyn na allwch roi manylion am hynny, ond mewn egwyddor. Ac os bydd yr arian hwnnw'n mynd i awdurdodau lleol ar gyfer eu cyllidebau ysgolion, a fydd yn cael ei warchod fel na fydd cynghorau'n cael eu denu i ddargyfeirio'r arian hwnnw i feysydd blaenoriaeth ac angen eraill? Rebecca Evans AC: Wel, ni allaf gytuno bod Llywodraeth y DU wedi gweithredu ar unwaith i fynd i’r afael â chyllid mewn ysgolion. Maent wedi bod mewn grym ers degawd, felly mae wedi cymryd cryn dipyn o amser iddynt gydnabod pwysigrwydd addysg, ac maent hefyd wedi rhoi sicrwydd o ragolwg gwariant tair blynedd i ysgolion a'r GIG yn Lloegr. Nid oedd ganddynt y cwrteisi i wneud hynny yma yng Nghymru, lle yr addawyd adolygiad gwariant tair blynedd. Felly, o ran gwneud cyhoeddiadau heddiw ac addewidion heddiw, nid wyf mewn sefyllfa i wneud hynny. Rydym newydd gael ein dyraniadau gwariant ar gyfer y flwyddyn nesaf, gyda dwy flynedd i wneud hynny. Ond hoffwn sicrhau pobl ein bod yn gwrando ar yr holl ddadleuon a wnaed gennych chi, yr awdurdodau lleol, a'r gwahanol sectorau, ac ystyrirhynny i gyd wrth i ni osod y cyllidebau yn y dyfodol. Yn olaf, Mick Antoniw. Mick Antoniw AC: Weinidog, yng nghyd-destun y cyni hwn, os gallwn gael rhywfaint o eglurder ynghylch y sefyllfa ariannol, efallai y gallech ddweud wrthym faint o arian a gollwyd gennym ers 2010 pan ddaeth y Torïaid i rym, efallai y gallech ddweud wrthym pa warantau a gawsoch mewn perthynas â chyllid yr Undeb Ewropeaidd pe baem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac o ran yr arian ychwanegol sy'n cael ei addo, a ydym wedi gweld rhywfaint o'r arian hwn mewn gwirionedd, neu a yw'n dal i fod yr un mor ddychmygol—[Torri ar draws.] A yw'n dal i fod yr un mor ddychmygol â chytundeb Brexit Prif Weinidog y DU? Rebecca Evans AC: Diolch i Mick Antoniw am godi hynny. O ran, 'A ydym wedi gweld rhywfaint o'r arian eto?', wel, yr ateb i hynny yw 'na', ac nid oes unrhyw warant gadarn y byddwn yn ei weld, wrth gwrs, gan fod yn rhaid i hynny ddibynnu ar Fil cyllid yn mynd drwy'r Senedd, ac nid yw'r Senedd, wrth gwrs, yn eistedd ar hyn o bryd. Felly, mae hwnnw'n amlwg yn faes sy'n peri pryder i ni. Felly, ni fyddwn yn gweld yr un geiniog ohono hyd nes y bydd y prosesau seneddol angenrheidiol wedi'u cwblhau. O ran cyllid yr UE, unwaith eto, roedd y Canghellor yn hollol dawel ynglŷn â chyllid yn lle cyllid yr UE a'r gronfa ffyniant gyffredin arfaethedig. Gofynnais i Brif Ysgrifennydd y Trysorlys ynglŷn â'r gronfa ffyniant gyffredin, ac unwaith eto, cafodd y mater ei wthio i lawr y lôn—'Cynhelir ymgynghoriad maes o law'. Mae'r ymgynghoriad hwnnw wedi'i addo inni ers oddeutu 18 mis bellach ac rydym yn wirioneddol awyddus i gymryd rhan ynddo. Nid yw'n iawn mai ymgyngoreion ydym ni beth bynnag, gan fod hwn yn fater mor sylfaenol, ond rydym yn parhau i wneud y pwyntiau na allwn fod mewn sefyllfa lle y caiff datganoli ei anwybyddu o ganlyniad i'r gronfa honno. Tynnais sylw Prif Ysgrifennydd y Trysorlys at y ffaith na ddylai Cymru fod geiniog yn waeth ei byd, a'i atgoffa bod hwnnw'n addewid allweddol yn ystod y refferendwm, ond fe atebodd, wrth gwrs, mai addewid a wnaed gan yr ymgyrch dros 'adael' oedd hwnnw, ac mai'r Llywodraeth Geidwadol ydynt hwy, ond fe wnaethom ei atgoffa wedyn fod Prif Weinidog y DU, mewn gwirionedd, yn un o'r bobl a arweiniodd yr ymgyrch honno, felly byddem yn disgwyl iddo gadw at yr addewid hwnnw i bobl Cymru. Mae Mick Antoniw yn gwbl iawn i godi’r ffaith ein bod wedi gweld degawd o doriadau ac nad yw’r cyllid ychwanegol a roddwyd o'n blaenau yn awr yn agos at allu ein codi i'r lefel yr oeddem arni 10 mlynedd yn ôl. Diolch i'r Gweinidog. 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol Yr eitem nesaf, felly, yw cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Llyr Gruffydd. Miliwn o Siaradwyr Cymraeg Llyr Gruffydd AC: 1. Pa bwysigrwydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar bobl ifanc 16-18 oed wrth feddwl am ei tharged o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050? OAQ54321 Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr. Mae pobl ifanc with galon Cymraeg 2050 ac rŷn ni’n gweithio gydag ysgolion a cholegau addysg bellach i gynyddu’r cyfleoedd i bobl ifanc i gael defnyddio’r Gymraeg. Rŷn ni hefyd, wrth gwrs, wedi ehangu rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ond rŷn ni hefyd yn cydnabod bod angen inni wneud mwy. Llyr Gruffydd AC: A wnewch chi ddweud wrthyf fi, felly, beth yw pwrpas ehangu’r ddarpariaeth pan fo mwy a mwy o bobl ifanc yn cysylltu â mi yn dweud eu bod nhw'n methu â chael at y ddarpariaeth honno? Mae nifer ohonon ni yn y Siambr fan hyn, dwi’n siŵr, wedi gweld cynnydd yn y gwaith achos rŷn ni’n ei dderbyn gan fyfyrwyr chweched dosbarth mewn ysgolion Cymraeg sydd yn wynebu sefyllfa lle mae’r drafnidiaeth oedd yn cael ei ddarparu i’r ysgolion hynny gan yr awdurdodau lleol yn cael ei thorri. Dwi wedi delio ag achosion yn Wrecsam, yn sir y Fflint, yn sir Ddinbych ac mewn siroedd eraill ar draws y gogledd—rhai ohonyn nhw wedi'u datrys; yn anffodus, rhai ohonyn nhw ddim. Felly, a gaf i ofyn beth ydych chi am ei wneud i sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cael mynediad trwy drafnidiaeth i’r ysgolion hynny lle mae’r ddarpariaeth ychwanegol yma rŷch chi’n sôn amdano fe yn cael ei darparu? Eluned Morgan AC: Wel, rŷn ni'n treulio eithaf lot o amser ar hyn o bryd yn treialsicrhau ein bod ni yn gwella’r sefyllfa sydd wrthi ar hyn o bryd. Dwi wedi cael cyfarfod arall y bore yma gyda’r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros addysg. Mae’r ddwy ohonon ni wedi ysgrifennu at y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros drafnidiaeth, felly mae yna ymgais nawr i fynd ati i sicrhau ein bod ni’n gallu dod i le gwahanol gyda’r broblem yma. Mae yna refresh yn mynd i fod o’r Learner Travel (Wales) Measure 2008—mae hwnna’n digwydd yn yr hydref. Wrth gwrs, mae hwnna’n gyfle i bobl ymateb i ymgynghoriad, ond rŷn ni yn cydnabod bod yna broblem, ac, yn arbennig, fod yna broblem yn sir y Fflint a hefyd yn ardal Castell Nedd hefyd. Nick Ramsay AC: Weinidog, gwnaeth Llyr Gruffydd bwynt dilys iawn ynghylch pwysigrwydd gallu cael mynediad at y gwasanaethau cyfrwng Cymraeg hynny pan gânt eu darparu. Ac er bod pob un ohonom yn croesawu’r targed o 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg ac yn cydnabod pwysigrwydd addysg cyfrwng Cymraeg i'r gwaith o gyflawni hynny, credaf ei bod hi'n debygol fod y pwysau y cyfeiriodd Llyr ato'n waeth byth mewn ardaloedd o Gymru sydd wedi'u Seisnigeiddio, fel yr ardal rwy'n ei chynrychioli, na'r hyn ydyw yn rhai o'r ardaloedd lle y ceir mwy o siaradwyr Cymraeg. Felly, gan gyfeirio at yr ateb a roesoch i Llyr ynglŷn â'r drafnidiaeth y gall myfyrwyr cyfrwng Cymraeg—ni chlywais eich ateb, ond yr ateb a roesoch—a allwch ddweud pa ffocws penodol yr ydych yn ei roi ar sicrhau bod fy etholwyr sy'n dymuno cael mynediad at wasanaethau Cymraeg, mewn ardal lle na fu modd gwneud hynny yn draddodiadol, yn cael cymorth penodol i sicrhau bod addysg cyfrwng Cymraeg a gwasanaethau Cymraeg ar gael i bawb? Eluned Morgan AC: Pan fydd awdurdodau lleol yn datblygu eu cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, mae'n rhaid iddynt fod yn ymwybodol o'r materion trafnidiaeth mewn perthynas â sut y mae'r plant hynny'n cyrraedd yr ysgol. Wrth gwrs, mae gofyniad statudol iddynt ddarparu hynny iysgolion cyfrwng Cymraeg ar gyfer myfyrwyr o dan 16 oed. Ceir problem i rai dros 18 oed, a dyma lle y cyfyd y broblem hon, oherwydd nid yw'n sefyllfa statudol ar hyn o bryd, ac rydym yn asesu beth yw'r posibiliadau i ailedrych ar y sefyllfa honno. Mae'n eithaf cymhleth, ac yn amlwg, gall fod rhai sgil effeithiau. Rydym yn treulio cryn dipyn o amser ar hyn o bryd yn ceisio mynd i'r afael â'r union fater hwn mewn gwirionedd. Huw Irranca-Davies AC: Byddech chi'n cytuno gyda fi, Gweinidog, dwi'n siŵr, bod hi'n bwysig mewn ardaloedd lle nad oes gan y Gymraeg wreiddiau mor ddwfn, sy'n gwneud mwy i helpu i dyfu'r gwreiddiau hynny. Felly, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol a chymunedau lleol yn Ogmore i hyrwyddo'r Gymraeg? A pha mor uchelgeisiol fydd targedau addysg ar flynyddoedd cynnar i helpu gyda hyn? Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr. A gaf i ddiolch i chi am ofyn y cwestiwn yn Gymraeg? Wrth gwrs, rŷm ni yn gosod targedau ar lywodraethau lleol. Mae ein swyddogion ni wedi bod wrthi dros yr haf yn trafod gyda swyddogion ar draws rhai awdurdodau lleol, yn cynnwys ym Mhen-y-bont. Wrth gwrs, beth rŷn ni'n ceisio'i wneud yw sicrhau ein bod ni'n arwain y galw nawr, nid jest yn ymateb i'r galw. Ym Mhen-y-bont, dwi'n meddwl ein bod ni'n gobeithio y byddwn ni'n cyrraedd targed o tua 30 y cant dros y 10 mlynedd nesaf. A beth rŷn ni wedi bod yn ei wneud yw cynnig cefnogaeth ychwanegol i geisio hyrwyddo'r Gymraeg yn yr ardaloedd hynny a cheisio ennyn mwy o ddiddordeb oddi wrth y bobl leol. Beth sy'n bwysig hefyd, wrth gwrs, yw bod yna ddilyniant, bod pobl sy'n mynd i ysgolion cynradd yn symud ymlaen i'r ysgolion uwchradd. Mae hynny wedi bod yn broblem yn y gorffennol—yn arbennig yn eich ardal chi, mae arnaf i ofn. Ond, wrth gwrs, nid jest ysgolion rŷn ni'n sôn amdano; mae yna bethau eraill rŷn ni'n eu gwneud i hybu'r Gymraeg mewn ardaloedd fel Pen-y-bont, fel y mentrau iaith sydd yn rhoi lot o gefnogaeth i bobl i gael cyfleoedd i siarad Cymraeg yn gymdeithasol. Hamdden a Chwaraeon yn y Gymuned Joyce Watson AC: 2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo hamdden a chwaraeon yn y gymuned? OAQ54335 Dafydd Elis-Thomas AC: Diolch yn fawr iawn, Joyce. Mae annog ein cymunedau i fod yn fwy egnïol yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Yn y flwyddyn 2018-19, darparodd ein partner cyflenwi, Chwaraeon Cymru, oddeutu £16 miliwn i awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu chwaraeon cenedlaethol a phartneriaid eraill yn benodol er mwyn datblygu chwaraeon cymunedol ac i'w cynorthwyo i ddarparu cyfleoedd chwaraeon a gweithgarwch corfforol sy'n adlewyrchu anghenion lleol. Joyce Watson AC: Diolch am eich ateb. Yn ddiweddar, ymwelais â phrosiect Agor Drenewydd ym Mhowys ac mae'n rhan o brosiect trosglwyddo asedau cymunedol gyda 130 erw o fannau gwyrdd a sicrhaodd brydles 99 mlynedd gan gynghorau Powys a'r Drenewydd. Ac mae sawl elfen i'r prosiect hwn, a byddant yn cael eu cyflawni dros bum mlynedd, gyda chyllid o sawl ffynhonnell. Ond prif nod y prosiect yw gwella mannau gwyrdd yn y Drenewydd ar gyfer y gymuned ac ymwelwyr, ac mae'n cynnwys pwyslais cryf iawn ar wella chwaraeon a hamdden i bawb. Mae'n gwneud hynny mewn sawl ffordd: gwella llwybrau, caeau pêl-droed, mannau chwarae ac adeiladu pont droed ar gyfer cerddwyr a beicwyr. A ydych wedi gwneud unrhyw asesiad, Weinidog, o'r defnydd posibl o brosiectau trosglwyddo asedau cymunedol i wella gweithgarwch corfforol, chwaraeon a hamdden yn y cymunedau hynny? Dafydd Elis-Thomas AC: Credaf fod gan bob un ohonom yn y lle hwn brofiad yn ein rhanbarthau a'n hetholaethau o lwyddiant trosglwyddo asedau cymunedol. Mae'n ffordd o ymgymryd â gweithgarwch awdurdodau cyhoeddus mewn ffordd sy'n cysylltu ag anghenion y gymuned. Felly, byddwn yn sicr yn parhau i asesu effeithiolrwydd modelau ymddiriedolaeth a throsglwyddo asedau cymunedol, ac yn ein gwaith gyda Chwaraeon Cymru a chyrff cyhoeddus eraill y mae gennyf gyfrifoldeb amdanynt, rydym yn gweithio i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o effeithiolrwydd trosglwyddo asedau cymunedol. Ac os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, buaswn yn argymell i chi ymweld ag Atebion Clwb ar wefan Chwaraeon Cymru, sy'n pwysleisio sut y gall modelau ymddiriedolaeth a throsglwyddo asedau cymunedol fod yn ffordd effeithiol iawn i gymunedau reoli cyfleusterau chwaraeon a gweithgareddau eraill eu hunain. Nid wyf wedi sôn, wrth gwrs, am y pwll nofio bendigedig a'r wal ddringo yn Harlech, ac ni ddylwn fod wedi gwneud hynny. Paul Davies AC: Dirprwy Weinidog, efallai y byddwch chi yn ymwybodol o'r bartneriaeth hirsefydlog rhwng purfa Valero, Penfro a Chwaraeon Sir Benfro, sydd wedi cefnogi chwaraeon cymunedol ledled sir Benfro ers blynyddoedd bellach. Mae hyn, dwi'n credu, yn enghraifft arbennig o fusnesau yn gweithio gyda'r awdurdod lleol a chymunedau lleol i gefnogi chwaraeon cymunedol, ac yn sicr mae'r bartneriaeth wedi cael effaith wirioneddol ar chwaraeon cymunedol ledled sir Benfro. Yn sgil hyn, a allwch chi ddweud wrthym ni beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog mwy o berthnasoedd fel hyn, rhwng busnesau ac awdurdodau lleol, i ddatblygu rhaglenni chwaraeon cymunedol? Dafydd Elis-Thomas AC: Dwi'n ddiolchgar iawn am y wybodaeth benodol yna. Dwi'n gyfarwydd â sir Benfro—yn wir, roeddwn i yno yr wythnos yma. Mae'n bleser wastad i weld fel y mae cwmnïau mawr rhyngwladol, megis Valero, yn buddsoddi yn ôl yn y gymuned. Fe edrychaf i yn fwy manwl ar hynna. Ac yn sicr dwi'n barod iawn i dynnu sylw llywodraeth leol a chymunedau lleol tuag at y posibilrwydd cyson o wella eu gwasanaeth drwy gael nawdd masnachol effeithlon. Mae hyn yn wir ym maes y celfyddydau, ac mae o hefyd yn wir ym maes chwaraeon. Ac y mae cwmni Valero, fel y gwyddost ti yn dda iawn, wedi cyfrannu yn y ddau gyfeiriad yna—i ddatblygu'r ddarpariaeth gelfyddydol, a'r ddarpariaeth o fewn chwaraeon a'r ddarpariaeth gymunedol. Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell. Delyth Jewell AC: Gweinidog, mae'r strategaeth ryngwladol ddrafft a gyhoeddoch dros yr haf yn cynnwys tri nod. Y trydydd o'r rhain yw amlygu Cymru fel cenedl sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang. Allwch chi esbonio sut mae hynny yn gydnaws â phresenoldeb Llywodraeth Cymru yn ffair arfau Defence and Security Equipment International yr wythnos ddiwethaf? Eluned Morgan AC: Mae hi'n bwysig ein bod ni yn sicrhau bod ein hegwyddorion a'n gwerthoedd yn cael eu gweld drwy'r byd. Dwi yn meddwl ei bod hi'n bwysig, ynghyd â'r strategaeth yna, i ddweud yn glir hefyd bod cyber security yn un o'r prif bethau rŷm ni eisiau sicrhau bod pobl yn ei ddeall—bod Cymru yn un o'r llefydd lle mae yna arbenigrwydd yn y maes yma. A dyma'r peth dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n amlygu. Ac mae yn anodd gweld ble—. Mae yna berthynas agos, dwi'n meddwl bod yn rhaid i ni gydnabod, rhwng beth sy'n digwydd ym maes amddiffyn a cyber security commercial. Ac felly, wrth gwrs, mae'n anodd i ni dynnu'r rheini oddi wrth ei gilydd. Mae yna berthynas, ond dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig nad ydym ni'n tynnu i ffwrdd o wthio cyber security panmae yna gyfle gyda ni. Delyth Jewell AC: Weinidog, dwi ddim yn meddwl bod yr ateb yna yn ddigon da. Dro ar ôl tro, rydym ni'n cael addewidion gan eich Llywodraeth yn honni eich bod am fod yn gyfrifol, yn foesol, yn flaengar, a, dro ar ôl tro, rydych chi'n tanseilio'r addewidion hyn drwy weithredu mewn ffordd anghyfrifol, anfoesol a beth bynnag ydy'r gwrthwyneb i blaengar. Un maes sydd yn cael ei neilltuo yn llwyr yn y strategaeth yw gwneud defnydd o'r iaith Gymraeg er mwyn hyrwyddo diwylliant, treftadaeth a bywyd cymdeithasol unigryw ein cenedl. Mae strategaeth ryngwladol Gwlad y Basg, er enghraifft, yn cynnwys rôl ar gyfer y Etxepare Basque Institute, er mwyn hyrwyddo'r iaith Fasgeg a chynyddu proffil yr iaith a'r diwylliant yna o amgylch y byd. Er enghraifft, fe wnaethon nhw fynd eleni i'r Edinburgh fringe festival. Yr unig sôn am y Gymraeg yn eich strategaeth ryngwladol chi yw ambell gyfeiriad at y ffaith bod yr iaith yn bodoli. Ydych chi'n cytuno bod angen i chi ailystyried hyn eto, a rôl y Gymraeg o fewn eich strategaeth ryngwladol? A wnewch chi ymrwymo heddiw, fel cam cyntaf i unioni'r cam, y byddwch yn gwyrdroi'ch penderfyniad gwarthus i wrthod darparu gwersi Cymraeg am ddim i ffoaduriaid yng Nghymru—penderfyniad sy'n mynd yn gwbl groes i'r ymrwymiad yn eich cynllun noddfa i sicrhau bod ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn cael eu cynnwys mewn cyfleoedd i ddysgu Cymraeg? Eluned Morgan AC: Dwi yn meddwl ein bod ni yn gwneud lot mwy na hynny o ran gwthio yr hyn rŷm ni'n ei wneud tuag at yr iaith Gymraeg. Rŷm ni eisoes wedi bod yn y Cenhedloedd Unedig, yn dangos arweinyddiaeth yn y maes ieithoedd lleiafrifol. Rŷm ni'n mynd i gynnal cynhadledd arbennig yn Aberystwyth ym mis Tachwedd i ddathlu gŵyl ryngwladol UNESCO ac ieithoedd lleiafrifol. Mae yna ddigwyddiad yn y Senedd heno ble rŷm ni'n dod â phobl o Gatalwnia i helpu. Felly, wrth gwrs bod y Gymraeg yn rhan o hynny. Dwi eisoes wedi comisiynu fideo i ni allu darparu a dangos i'n llysgenhadon o gwmpas y byd ein bod ni eisiau arwain yn y maes yma. Ac, felly, dwi yn meddwl bod y Gymraeg yn rhan hanfodol o'r strategaeth yna. Jest ar y mater o ffoaduriaid, dwi yn meddwl ei bod hi werth tanlinellu'r ffaith ein bod ni yn sianelu yr holl ffordd rŷm ni'n dysgu Cymraeg i bobl sydd ddim yn iaith gyntaf trwy'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac mae yna ddau beilot eisoes yn bodoli, un yng Nghaerdydd, un yn Abertawe, lle mae gwersi Cymraeg yn cael eu rhoi am ddim i ffoaduriaid. Delyth Jewell AC: Wel, mae hynny'n ateb annigonol yn anffodus. Mae'n dda iawn i glywed am y gwaith da sy'n digwydd gan y Llywodraeth am yr iaith Gymraeg, ond dylai hynny fod yn y strategaeth. Ac am y ffoaduriaid, dylech chi ailystyried hynny fel mater o frys, byddwn i'n argymell. Hoffwn droi yn awr at wendidau eraill y strategaeth ryngwladol. Mae'n gymysgedd rhyfedd o orgyffredinoli a gorfanylder ar yr un pryd. Rydych chi'n canolbwyntio ar dri diwydiant i'w hyrwyddo yn rhyngwladol, sef, fel rydych chi wedi sôn amdano fe yn barod, seiberddiogelwch, lled-ddargludyddion cyfansawdd a'r diwydiannau creadigol. Nawr, dwi ddim yn gwadu o gwbl fod y rhain yn ddiwydiannau pwysig i'n heconomi, ond a ddylen ni roi lled-ddargludyddion cyfansawdd wrth ganol ein strategaeth? Oni fyddai'n gwneud mwy o synnwyr i hyrwyddo diwydiant sy'n cyd-fynd â'r nod o gyfrifoldeb rhyngwladol, er enghraifft ynni adnewyddol? Pam nad ydych wedi gosod llwybr uchelgeisiol, wedi ei seilio ar wneud Cymru yn wlad carbon sero erbyn 2040 neu gynt? Ble mae'r cynllun er mwyn gwneud y mwyaf o'r diaspora Cymraeg, a hyrwyddo cyfraniad diaspora o wledydd eraill sy'n byw yng Nghymru? Ble mae'r cynllun strategol ar gyfer gwneud y mwyaf o swyddfeydd tramor Cymru? Dyw sôn am gyhoeddi cylch gwaith yn y dyfodol, pan mae'r rhain wedi bodoli ers blynyddoedd, ddim yn ddigon da. Ble mae'r weledigaeth ar gyfer hyrwyddo'r gwaith ymchwil ardderchog sy'n cael ei wneud gan ein sector addysg uwch, a'r ymrwymiad i sicrhau bod hyn yn gallu parhau? Ble mae'r targedau sydd yn angenrheidiol er mwyn gallu mesur llwyddiant y strategaeth? Sut allwch chi gyfiawnhau'r ffaith mai dim ond dau gyfarfod y flwyddyn rydych yn bwriadu eu cynnal er mwyn mesur cynnydd? A ble mae'r weledigaeth fawr ar gyfer dyfodol ein cenedl rhyngwladol? Byddwn i'n argymell eich bod yn dechrau eto, gan adeiladu strategaeth unigryw ac uchelgeisiol, strategaeth all ond Cymru ei chael, o hyrwyddo cenedl groesawgar, werdd, Gymreig, sydd yn barod i lwyddo a chymryd ei phriod le ar lwyfan y byd, yn hytrach na'r ddogfen hon, sy'n darllen, ar adegau, fel ymarferiad PR, mae arna i ofn. Eluned Morgan AC: Wel, dwi ddim yn derbyn hynny. Dwi yn meddwl bod y gwerthoedd sydd gyda ni yng Nghymru yn dod drwodd yn glir yn y strategaeth. Beth mae'n rhaid i ni gydnabod yw ei bod hi'n anodd i ni ysgrifennu strategaeth ar hyn o bryd, achos sut ydych chi'n gwneud hynny pan rŷm ni yng nghanol trafodaeth ynglŷn â Brexit? Un o'r pethau roeddwn i'n awyddus i'w wneud oedd i ddenu sylw at ein hunain. Mae yna lot o lefydd rownd y byd yn gwneud lot o bethau gwahanol. Ble mae yna arweinyddiaeth glir gyda ni fel cenedl? Sut ydyn ni'n gallu denu sylw at ein hunain fel cenedl sydd ar flaen y gad? A newid y feddylfryd sydd gan lot o bobl tuag at Gymru, neu fod dim syniad gyda nhw am Gymru. A dyna beth oedd y syniad tu ôl i jest pigo ar rai sectorau. Wrth gwrs bydd pethau'n dod allan o'r strategaeth yma, felly bydd strategaeth ar gyfer y diaspora. Rŷm ni wedi bod yn cael cyfarfod y bore yma ynglŷn â hynny. Mae'r targedau—. Roeddwn i'n awyddus iawn i roi targedau i mewn. Dwi'n siŵr y byddech chi'n cytuno ei bod hi'n rili anodd i roi targedau ar hyn o bryd pan rŷn ni mewn sefyllfa mor wahanol. Jest i roi enghraifft i chi—rŷch chi wedi bod yn sôn am addysg uwch. Wrth gwrs, mae'r ffaith bod y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf wedi dweud, 'Reit, caiff pobl aros am ddwy flynedd ar ôl iddyn nhw raddio' yn mynd i ddenu mwy o bobl. Felly, mae pethau'n symud mor gyflym. Ar hyn o bryd, mae'n anodd i ni osod targedau, ond dwi'n awyddus iawn i sicrhau bod hwnna yn dod yn rhan, unwaith y byddwn ni'n setlo pethau yn y byd yma sy'n newid yn llwyr ar hyn o bryd. Llefarydd y Ceidwadwyr, David Melding. David Melding AC: Weinidog, mae chwe blynedd wedi bod bellach ers i'r Llywodraeth gyflwyno ei strategaeth dwristiaeth ar gyfer Cymru, y bartneriaeth ar gyfer twf, a bydd cylch gwaith y strategaeth yn dod i ben y flwyddyn nesaf. Y prif uchelgais oedd cynyddu enillion twristiaeth o leiaf 10 y cant erbyn hynny. Sylwaf fod yr Alban, sydd wedi bod â strategaeth ar waith am yr un cyfnod o amser yn union, bellach yn gwneud llawer o waith adolygu ac ymgynghori, a tybed beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd i adolygu gweithrediad y bartneriaeth ar gyfer twf, yn enwedig y targed hwnnw o 10 y cant, a pha fath o waith a wneir ar ddatblygu a pharatoi strategaeth newydd. Dafydd Elis-Thomas AC: Diolch yn fawr am y proc defnyddiol iawn hwnnw i'r cof. Gallaf roi trywydd i chi nawr ar gyfer datganiad llafar y gobeithiaf ei wneud i'r Siambr hon ym mis Hydref ar ein strategaeth dwristiaeth. Fy uchelgais yw cynhyrchu blaenoriaethau ar gyfer pob un o brif feysydd fy nghyfrifoldebau fel Dirprwy Weinidog. Rwyf wedi ceisio nodi blaenoriaethau eisoes ym maes treftadaeth, ac rwy'n falch o ddweud wrthych mai twristiaeth yw'r nesaf. Felly, bydd cyhoeddiad tebyg i'r blaenoriaethau a luniwyd gennym ar gyfer treftadaeth ar dwristiaeth, a byddaf yn croesawu ymateb gan yr Aelodau a chan y sector. Efallai eich bod yn cofio inni gynnal uwchgynhadledd dwristiaeth yn Llandrindod y llynedd, ac roedd ymateb y sector i'r cyfarfod hwnnw'n gadarnhaol iawn, ac mae'n ddigon posibl y penderfynwn gynnal digwyddiad tebyg y flwyddyn nesaf. David Melding AC: Wel, diolch i'r Gweinidog am ei ymateb defnyddiol ar y cyfan, yn enwedig y syniad y dylai pob un ohonom ymgymryd â'r gwaith o adolygu'r strategaeth a llunio un newydd, ac yn arbennig ar gyfer y sector. Ni ddywedoch a yw'r targed o 10 y cant yn mynd i gael ei gyflawni. Yn amlwg, mae blwyddyn i fynd eto, ond credaf ei bod yn allweddol ein bod o leiaf yn onest ynglŷn ag a ydym wedi cyflawni hynny, ac os nad ydym, pam, a beth sydd angen i ni ei wneud ynglŷn â hynny. Nawr, yn amlwg, mae gennym ddwy farchnad—y farchnad ddomestig ar gyfer y DU ac ymwelwyr o dramor. A chredaf ei bod yn deg dweud ein bod yn gwneud yn dda iawn yn y farchnad ddomestig, ond nid ydym yn cyflawni'r hyn y credwn y dylem ei gyflawni mewn perthynas ag ymwelwyr o dramor. Felly, tybed a fydd y strategaeth newydd yn cynnwys dwy set o farchnadoedd twf gwirioneddol uchelgeisiol ar gyfer y marchnadoedd hynny, gan y credaf fod angen dulliau gweithredu gwahanol ar eu cyfer, ac efallai nad ydym wedi darparu ar gyfer hynny yn y strategaeth bresennol. Dafydd Elis-Thomas AC: Cytunaf â'r dadansoddiad hwnnw. A gaf fi ddweud hefyd ein bod yn credu bod cyfle gwych o hyd ar gyfer yr hyn a elwir yn 'staycation'? Nid yw'n un o fy hoff eiriau, er i mi gael ychydig o wyliau gartref yr haf hwn a'i fwynhau'n fawr, gan gynnwys llawer o amser—treuliais beth ohono yn Sir Fynwy—ond llawer o amser ar y gororau yn edrych ar sut y gallwn weithio'n agosach ar hyd y cyswllt gwych hwnnw rhwng gogledd a de Cymru ar y ffin ddwyreiniol a elwir yn Glawdd Offa. Ac rydym yn gobeithio, yn y dyfodol, y byddwn yn pwysleisio bod lle eto i fwy o ymwelwyr ddod, o'r cytrefi a'r rheini sy'n glanio ym Maes Awyr Manceinion a'r rheini sydd wedi dod drwy Heathrow. Ond rwy'n derbyn y pwynt fod angen i ni roi pwyslais ar farchnata rhyngwladol. Rydym wedi nodi rhai gwledydd ar dir mawr Ewrop, a byddwn yn mynd ar drywydd y strategaeth hon er mwyn sicrhau bod y bobl hynny'n ymwybodol fod y ffin rhwng Cymru a Lloegr yn dal i fod ar agor, beth bynnag a allai ddigwydd i ffiniau'r Deyrnas Unedig. David Melding AC: A gaf fi ddweud fy mod yn rhannu ei hoffter o Glawdd Offa? Rwyf wedi cwblhau'r daith gerdded, er bod hynny, mae arnaf ofn, dros 40 mlynedd yn ôl bellach. Eleni, bûm yn cerdded yn y Gŵyr, a oedd yr un mor brydferth. Weinidog, un ffordd y gallwn harneisio apêl twristiaeth ryngwladol, yn sicr, yw gwneud Cymru'n brifddinas twristiaeth gynaliadwy yn y DU, ac yn wir yn Ewrop. Er enghraifft, mae mwy a mwy o dwristiaid amgylcheddol graff yn chwilio am gyrchfannau gwyrdd i dwristiaid. Canfu arolwg diweddar fod 64 y cant o ymatebwyr yn ystyried materion amgylcheddol wrth archebu eu gwyliau, a bod 82 y cant yn barod i dalu mwy am wasanaethau a chynhyrchion gwyrdd. Mae cymdeithasau teithio byd-eang fel National Geographic bellach yn defnyddio cynaliadwyedd amgylcheddol fel maen prawf allweddol wrth roi sgôr i gyrchfannau. Felly, rwy'n credu'n wirioneddol, os ydym am gymryd cam ymlaen a bod yn wirioneddol gystadleuol, fod hwn yn faes lle y gallem weld cryn dipyn o gynnydd yn ein cynnig, ac mae'n cyd-fynd â'n strategaethau cyffredinol—Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, er enghraifft. A ydych yn cytuno â mi fod Cymru mewn sefyllfa dda i arwain ar yr agenda hon a bod angen i hynny fod yn rhan ganolog o'n strategaeth newydd bellach? Dafydd Elis-Thomas AC: Diolch am ein helpu i ysgrifennu'r strategaeth. Mae gennym ddrafft yn barod, a byddaf yn sicrhau bod cynaliadwyedd ar y brig, oherwydd yn amlwg, mae twristiaeth werdd a thwristiaeth sy'n darparu ar gyfer y boblogaeth gyfan a phob grŵp oedran—. Mae pobl ag anawsterau symudedd yr un mor bwysig fel ymwelwyr â phobl nad ydynt yn anabl ac yn gallu mwynhau hamdden yng nghefn gwlad. Felly, mae angen inni sicrhau bod yr hyn a ddarparwn yn hygyrch ni waeth i ble y mae pobl yn awyddus i fynd, os ydynt yn gallu symud ac yn gallu manteisio ar y cyfleoedd mynediad. Ond mae angen inni ddangos hefyd fod twristiaeth gynaliadwy yn golygu cynaliadwy i bawb sy'n dymuno manteisio ar y cynnig sydd gennym yng Nghymru. Ac felly, ar fy ymweliad diweddar â Sir Benfro, y cyfeiriais ato, gwnaeth ymrwymiad un datblygwr i sicrhau bod pobl ag anableddau dwys yn gallu mwynhau cyfleusterau twristiaeth yn Sir Benfro argraff arbennig arnaf. Cynaliadwyedd a hygyrchedd ein cynnig i dwristiaid i'r holl ddinasyddion sy'n dymuno dod yma neu ymweld â chyrchfannau yma, ac mae hynny'n cynnwys pobl yng Nghymru a'r bobl o'r ochr arall i'r bont neu dros y clawdd, beth bynnag y dymunwn ei alw, ac o ble bynnag y dônt, a sut bynnag y dônt i Gymru, er mwyn iddynt deimlo, ar ôl y profiad o fod yng Nghymru, eu bod wedi cael croeso go iawn. A hoffwn ddiolch i arweinydd yr wrthblaid, ac yn wir, i Angela Burns, a fu'n rhan o fy ymweliad â Sir Benfro a dwyrain Sir Gaerfyrddin, ble bynnag yr oeddwn ar y diwrnod; nid wyf hyd yn oed yn cydnabod ffiniau yng Nghymru, heb sôn am rhwng Cymru a Lloegr. Diolch. Manylebau Swyddi Llywodraeth Cymru Michelle Brown AC: 3. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau a yw ychwanegu'r gallu i siarad Cymraeg fel sgìl dymunol ar fanylebau swyddi ar gyfer swyddi gwag yn Llywodraeth Cymru wedi cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg o fewn y sefydliad? OAQ54342 Eluned Morgan AC: Mae Llywodraeth Cymru wedi pennu sgiliau iaith Gymraeg mewn hysbysebion swyddi ers nifer o flynyddoedda gallaf gadarnhau bodcynnydd bach wedi'i weld yn nifer y staff sy'n siarad Cymraeg ers i'r safonau iaith Gymraeg ddod yn weithredol. Michelle Brown AC: Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae swydd wag gan y Llywodraeth ar hyn o bryd yn rhestru'r Gymraeg fel rhywbeth 'dymunol' yn unig, ond mae'n nodi wedyn y dylai'r sawl sy'n cael y swydd allu darllen rhywfaint o ddeunydd sy'n gysylltiedig â'r gwaith gyda chymorth geiriadur, cynnal rhai sgyrsiau sy'n gysylltiedig â'r gwaith a pharatoi rhywfaint o ddeunyddiau sy'n gysylltiedig â'r gwaith i gyd yn Gymraeg. I mi, mae hynny'n rhoi'r argraff na fyddai rhywun na allant siarad Cymraeg yn cael eu hystyried yn addas. Mae hyd yn oed swyddi gwag nad ydynt yn rhestru'r Gymraeg fel rhywbeth 'dymunol' yn dal i nodi bod y Llywodraeth yn croesawu ceisiadau gan bobl ddwyieithog. Does bosibl nad yr awgrym felly yw bod llai o groeso i'r rheini nad ydynt ond yn gallu siarad Saesneg wneud cais. Mewn cyfnod o ddiweithdra cynyddol yng Nghymru o dan eich Llywodraeth, onid ydych yn cytuno â mi, oni bai fod sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol ar gyfer swydd benodol, na ddylem wneud unrhyw beth a allai berswadio pobl nad ydynt ond yn siarad Saesneg i beidio â gwneud cais i weithio yma, fel y gallwn gael cronfa mor fawr â phosibl o ymgeiswyr i allu dewis yr unigolyn gorau ar gyfer y swydd? Eluned Morgan AC: Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn cydnabod bod gennym uchelgais i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, a bod rhan o hynny mewn gwirionedd yn golygu bod yn rhaid i ninnau hefyd fod yn rhan o'r prosiect trawsnewid hwnnw sy'n mynd rhagddo. Ar hyn o bryd, mae oddeutu 22 y cant o staff Llywodraeth Cymru yn siarad Cymraeg, sy'n adlewyrchu'r boblogaeth ddemograffig, ond mae cynnydd wedi bod ers 2015. Yr hyn sy'n amlwg yw bod gennym ni, fel Llywodraeth Cymru, gyfrifoldeb i ddarparu gwasanaeth dwyieithog i'r cyhoedd, ac er mwyn gwneud hynny, mae'n rhaid fod gennym staff sy'n gallu darparu hynny. Ar yr un pryd, wrth gwrs, nid ydym am i'r anallu i siarad Cymraeg fod yn rhwystr i bobl rhag gwneud cais i weithio yn Llywodraeth Cymru. Ac yn amlwg, yr hyn y gallwn ei wneud a'r hyn rydym yn ei wneud yw rhoi cefnogaeth gynhwysfawr i bobl i'w galluogi i gael gwersi Cymraeg ar ôl iddynt gael eu penodi. Ymwelais â Nant Gwrtheyrn yr wythnos diwethaf. Roedd pobl o Lywodraeth Cymru, o Gynulliad Cymru, yn cymryd rhan yn y gwersi hynny. Felly, mae digon o gyfleoedd i bobl sy'n ymuno â'r sefydliad ddysgu Cymraeg. Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair. Siân Gwenllian AC: Dwi'n siŵr y byddwch chi yn cytuno, yn unol ag ysbryd strategaeth miliwn o siaradwyr, fod angen symud i ffwrdd o'r drefn hen ffasiwn a simplistaidd a oedd yn nodi gofynion ieithyddol swyddi fel swyddi lle mae'r Gymraeg yn hanfodol neu'n ddymunol, gan symud i system fwy pwrpasol sy'n nodi lefel y sgiliau ieithyddol sydd eu hangen o un i bump, ac yn gwneud cwrteisi sylfaenol yn ofynnol ar gyfer pob swydd. Mae Comisiwn y Cynulliad wedi profi cryn lwyddiant yn barod yn gwneud hyn, ond mae'n rhaid imi ddweud bod Llywodraeth Cymru yn llusgo ei thraed, er i weithgor o uwch-swyddogion argymell ym mis Mawrth 2017 y dylai Llywodraeth Cymru symud i'r un cyfeiriad. Fe wnaeth y gweithgor yma hefyd argymell y dylai'r Llywodraeth fod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog a gweithio tuag at fabwysiadu'r Gymraeg a'r Saesneg yn ieithoedd swyddogol yn weinyddol erbyn 2036. Ond wrth gadarnhau eich bod chi fel llywodraeth yn gweithredu o'r diwedd, yn ystod y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu cyn yr haf, dwi'n sylwi mai erbyn 2050 y byddwch chi'n anelu, yn hytrach na 2036 fel oedd yn cael ei argymell yn wreiddiol. A fedrwch chi egluro pam? Diolch. Eluned Morgan AC: Beth dwi yn gallu dweud yw bod yna gynllunio ieithyddol manwl nawr yn mynd ymlaen y tu fewn i Lywodraeth Cymru. Bydd swyddfa'r Ysgrifennydd Parhaol yn cyhoeddi'r symudiadau ymlaen a beth yw'r cynllun o ran cyrraedd y targed yna o 2050, a beth yw ein cyfrifoldeb ni y tu fewn i Lywodraeth Cymru tuag at y targed yna. Mae hwn yn gwestiwn i'r Ysgrifennydd Parhaol. Byddwn i'n cymryd mai'r ateb fyddai, os ydych chi eisiau symud ymlaen, ei bod hi'n gwneud synnwyr i symud ymlaen ar yr un pryd, pan fyddwch chi'n gwybod y bydd mwy o blant yn dod allan o ysgolion Cymraeg. Felly, mae hon yn strategaeth hirdymor, ac felly bydd hi'n haws wedyn i recriwtio pobl wrth inni symud ymlaen achos bydd addysg Cymru a nifer y plant sy'n dod allan o ysgolion Cymraeg yn cynyddu. Felly, fe fydd hi'n haws, wedyn, i gael mwy o bobl i ymgeisio am y swyddi yna sydd â'r anghenion ieithyddol y bydd eu hangen. Miliwn o Siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 David Rees AC: 4. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gyflawni'r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050? OAQ54304 Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr, David. Mae'ch Cymraeg chi yn ardderchog, a liciwn i'ch clywed chi yn siarad mwy ohoni hi, os gwelwch yn dda. Rydym ni'n cymryd camau pwrpasol mewn llawer o feysydd er mwyn symud tuag at y filiwn. Mae hyn yn cynnwys camau i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, nifer y bobl sy’n siarad Cymraeg bob dydd, ac i osod seilwaith a chyd-destun i ganiatáu i hynny ddigwydd. David Rees AC: Diolch am yr ateb, Gweinidog. Rwyf eisiau gofyn am deithio i ysgol, thema debyg i gwestiwn Llyr—mae wedi mynd nawr. Mae'n annog disgyblion i gael eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn ffactor allweddol i sicrhau uchelgais Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg. Yn ddiweddar, gwnaeth cyngor Castell-nedd Port Talbot gynnig newidiadau i drafnidiaeth a fyddai'n gweld tâl ychwanegol ar ddisgyblion sydd eisiau parhau efo addysg ôl-16 trwy gyfrwng y Gymraeg. Rwyf yn croesawu'r penderfyniad i ohirio'r cynnig yma, ond mae'n bosibl y gallan nhw ailgyflwyno hwn yn y blynyddoedd nesaf. Fe fydd newid Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 yn gwneud gwahaniaeth i'r bobl ifanc yma ac annog mwy i barhau gydag addysg trwy gyfrwng y Gymraeg heb ofn taliadau teithio ychwanegol. Rwy'n falch eich bod chi wedi cwrdd â'r Gweinidog Addysg i drafod newid y Mesur, ond pryd fydd y newidiadau ar gael i'w gweld ac yn dod yn ddeddfwriaeth? Eluned Morgan AC: Diolch am y cwestiwn yna. Wrth gwrs, rôn ni yn pryderu fel Llywodraeth am yr hyn sy'n digwydd, yn arbennig yn ardal Ystalyfera gydag Ysgol Ystalyfera Bro Dur, ac rŷm ni’n falch dros ben i weld bod y llywodraeth leol yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi gohirio'r penderfyniad. Wrth gwrs, rŷm ni yn edrych ar y mater yma. Wrth gwrs, mae yna bwysau ariannol ar lywodraeth leol. Rŷm ni’n deall hynny, ond beth dŷn ni ddim eisiau gweld yw ei bod hi’n anoddach i bobl gael eu haddysg chweched dosbarth neu dros-16 drwy gyfrwng y Gymraeg. Dŷn ni ddim eisiau ei gweld hi’n anoddach, Ar hyn o bryd, mae hynny’n bosibl, yn gallu digwydd, ac felly dyna pam rŷm ni’n ceisio gweld sut bydd hyn yn bosibl. Wrth gwrs, os ydych chi eisiau newid guidance, mae hynny’n un peth. Os ydych chi eisiau newid deddfwriaeth, mae hynny’n fwy cymhleth, ac felly rŷm ni’n trafod ar hyn o bryd beth yw’r ffordd orau i fynd ati i edrych ac i sicrhau ein bod ni’n cael diwedd ar y broblem yma. Mohammad Asghar (Oscar) AC: Weinidog, mae hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg ym mywyd bob dydd pobl yn bwysig os yw Llywodraeth Cymru am gyflawni ei tharged uchelgeisiol. Yn ddiweddar, datgelwyd bod llai na hanner 1 y cant o brentisiaethau yng Nghymru yn cael eu cynnig drwy gyfrwng y Gymraeg. Felly, a gaf fi ofyn, Weinidog, pa drafodaethau a gawsoch gyda'ch cyd-Aelodau i gynyddu'r cyfleoedd i'r rheini sy'n dymuno dysgu a hyfforddi drwy gyfrwng y Gymraeg, yn enwedig yn ein sector diwydiannol? Diolch. Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr iawn. Rydym yn cydnabod bod hwn yn faes y mae'n rhaid i ni roi sylw iddo a dyna pam yr ydym bellach wedi pennu targed ar gyfer 50 y cant o'r rheini sydd â TGAU Cymraeg iaith gyntaf, fod 50 y cant o'r cwrs y maent yn ei ddilyn, yn enwedig mewn rhai sectorau—. Rydym yn dechrau gyda'r sector iechyd, y sector gofal, y blynyddoedd cynnar a gwasanaethau cyhoeddus. Felly, rydym yn dechrau gyda'r prentisiaethau hynny yn gyntaf. Felly, rydym yn cymryd camau ymarferol iawn, ac mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn amlwg, yn ein cynorthwyo gyda hyn. Siân Gwenllian AC: Fydd targed y filiwn o siaradwyr byth yn cael ei gyrraedd, wrth gwrs, heb ein bod ni’n creu chwyldro o fewn y system addysg cyfrwng Cymraeg. Mae’r gyfundrefn ar hyn o bryd yn hollol ddiffygiol, er gwaethaf twf mawr mewn galw, fel dŷn ni wedi’i weld ym Merthyr yr wythnos yma, lle does yna’r un ysgol uwchradd Gymraeg er gwaetha’r galw. Ac wedyn mae rhywun yn gweld y sefyllfa efo cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, sy’n sefyllfa syfrdanol a dweud y gwir, pan fyddwn ni’n meddwl yn wreiddiol fod y cyngor ond am greu llefydd newydd i 22 o ddisgyblion dros bedair blynedd i gael addysg Gymraeg. Rŵan, dŷn ni wedi clywed bod y ffigwr yna wedi gwella erbyn hyn, ond mae o’n dangos bod y gyfundrefn yma o gynlluniau strategol addysg Gymraeg yn ddiffygiol a bod angen deddfwriaeth newydd. Wnewch chi felly roi sylw i’r adroddiad yma wnes i ei gyhoeddi yn ystod yr haf gan un o arbenigwyr y byd addysg yng Nghymru, Gareth Pierce, sydd yn gosod yr achos ynglŷn a’r angen am ddeddfwriaeth ar gyfer cryfhau addysg Gymraeg? Buaswn i’n falch iawn tasech chi’n ei ddarllen o ac yn falch iawn o gael eich adborth. Diolch. Eluned Morgan AC: Wel, diolch yn fawr. Dwi yn meddwl ein bod ni wedi cymryd camau cadarnhaol. Dwi’n meddwl bod y WESPs wedi gweddnewid y ffordd mae llywodraeth leol yn edrych ar beth yw eu darpariaeth nhw. Mae’r ffaith ein bod ni’n ehangu faint o amser mae’n rhaid i lywodraeth leol gynllunio—. Mae’r ymgynghoriad yma wedi cymryd lle dros yr haf. Ac rŷm ni’n cydweithio'n agos â'r cynghorau lleol yma i sicrhau bod help gyda nhw i fynd drwy’r system, ac rŷm ni wedi rhoi targedau i bob un ohonyn nhw, yn ddibynnol ar ble maen nhw a beth yw eu disgwyliadau nhw. Rŷm ni wedi rhoi £30 miliwn o gyfalaf ychwanegol i helpu pobl ar y daith yma. Wrth gwrs y byddwn i’n hapus i ddarllen yr hyn sydd gennych chi i’w gynnig a byddwn i’n hapus i edrych ar hynny. Ond fe gawn ni weld yn gyntaf sut mae'r WESPs yma a beth yw’r ymateb wedi bod cyn ein bod ni’n symud ymlaen. Ond dwi’n fwy na hapus i’w ddarllen. Diolch yn fawr. Cwpan Rygbi'r Byd yn Siapan Andrew RT Davies AC: 5. Pa amcanion allweddol y mae'r Gweinidog wedi'u gosod ar gyfer gweithgarwch hyrwyddo Llywodraeth Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn Siapan? OAQ54332 Eluned Morgan AC: Wel, credaf fod pob un ohonom yn gyffrous iawn, onid ydym, ynglŷn â chwpan y byd? Mae hwn yn gyfle enfawr, yn fy marn i, i ni fel cenedl Gymreig roi cyhoeddusrwydd i ni'n hunain ar lwyfan y byd. Gwn ein bod eisoes wedi anfon cynrychiolwyr bwyd a diod yno, a chafwyd ymateb eisoes ac rydym wedi sicrhau rhai contractau yn barod o ganlyniad i hynny. Mae gennym daith fasnach. Mae gennym 17 o gwmnïau yn cyfranogi yn y daith honno. Mae gennym dargedau clir iawn o ran ein disgwyliadau. Hoffem weld cynnydd mewn allforion o ganlyniad i hynny, ond mae'n ymwneud â mwy na busnes yn unig; mae'n ymwneud â chodi ein proffil. Fe fyddwch yn ymwybodol fod gennym ddôm 9 troedfedd a fydd yn cael ei osod yng nghanol Japan, a dyma fydd canolbwynt ein gweithgarwch hyrwyddo. Mae hyn yn ymwneud â chodi proffil Cymru yn rhyngwladol. Yn amlwg, bydd bwyd a diod yn rhan allweddol o hynny. Twristiaeth: byddai gweld cynnydd yn nifer y twristiaid hefyd yn rhan allweddol o'r hyn yr ydym yn ei ddisgwyl fel budd. Andrew RT Davies AC: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Rhaid i mi ddweud, mae'n rhaid na wneuthum sylwi, nid oeddwn yn sylweddoli bod gennym ddôm yn Japan. Rwy'n siŵr ein bod i gyd yn dal ein hanadl yn aros am y lluniau o'r dôm hwnnw pan fydd yn cyrraedd y glannau hynny. Ond yr hyn sy'n allweddol, ar ddiwedd y broses hon, yw nad ydym yn dweud, 'Gwariodd Llywodraeth Cymru x ac anfon y o bobl yno.' Mae angen i ni fesur pa mor llwyddiannus y buom. Mae'n braf clywed bod y broses o hyrwyddo bwyd a diod yn dangos difidendau eisoes, ond wrth ddatblygu'r strategaethau hyrwyddo ar gyfer cwpan rygbi'r byd, pwy a ddefnyddioch i gefnogi datblygiad y strategaeth, er mwyn i ni wybod ein bod yn cael y gwerth gorau am ein harian? Oherwydd bydd llawer o wledydd eraill yn ei ddefnyddio fel llwyfan i hyrwyddo'u nwyddau, a'r hyn sy’n hanfodol bwysig, fel yr arferai'r WDA ei wneud, yw sicrhau bod Cymru'n sefyll allan ar lwyfan gorlawn.Felly, a ydych wedi ymgysylltu'n llawn â'r conswl anrhydeddus ar gyfer Japan yma, er enghraifft, ac yn arbennig, cwmnïau Japaneaidd sydd wedi lleoli yma sy’n gallu rhoi'r arbenigedd mewnol hwnnw i ni ynglŷn â sut i ymdrin â diwylliant Japan er mwyn i ni allu agor drysau i'r cwmnïau y bwriadwn eu hanfon yno? Eluned Morgan AC: Diolch. Rwy'n credu y dylwn bwysleisio nad dôm fel un Peter Mandelson ydyw; dôm oddeutu 9 troedfedd ydyw. Nid yw mor ddrud â hwnnw, ond rwy'n credu y bydd yn denu llawer iawn o sylw. Rydym wedi cael pobl i noddi’r dôm ac mae'n gyfleuster hollgynhwysol lle mae pethau'n cael eu taflunio ar y waliau ac mae'n gyffrous iawn. Mae llawer o gwmnïau wedi manteisio ar y cyfle i hyrwyddo'u hunain allan yno. Rydym wedi bod yn cydweithio’n agos iawn ag undeb rygbi Cymru ac rwy'n credu eu bod wedi gwneud gwaith gwych hyd yn hyn, os edrychwch ar y croeso a gafodd y tîm yn Kitakyushu. Ac wrth gwrs, mae gennym bresenoldeb Cymreig yn Japan yn barod. Mae gennym swyddfa yno. Mae gennym 40 mlynedd o sefydlu perthynas â chwmnïau Japaneaidd. Mae gennym Glwb Hiraeth, felly mae llawer o bobl sydd wedi gweithio yng Nghymru wedi dychwelyd i Japan. Mae'r holl rwydweithiau hynny'n cael eu gweithredu o ganlyniad i'r gweithgarwch hyrwyddo hwn. Felly, wrth gwrs, rydym wedi bod yn gweithio gyda'r conswl anrhydeddus ar gyfer Japan ac mae'r holl rwydweithiau hynny’n fwy prysur o ganlyniad i gwpan y byd. Y Prawf Gyrru Theori yn Gymraeg Rhun ap Iorwerth AC: 6. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynglŷn ag argaeledd profion a deunydd adolygu ar gyfer y prawf gyrru theori yn Gymraeg? OAQ54328 Eluned Morgan AC: Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cadarnhau bod profion theori ar gael yn Gymraeg ym mhob canolfan yng Nghymru, a bod y DVSA yn bwriadu cyhoeddi fersiwn ar-lein o’r deunydd adolygu cyn diwedd y flwyddyn. Mae’r deunydd adolygu eisoes ar gael yn Gymraeg mewn ffurf papur. Rhun ap Iorwerth AC: Wel, dwi bron ag eistedd lawr yn syth a dweud diolch yn fawr iawn am hynny. Mae hwn yn fater sydd wedi mynd yn ôl sbel. Dwi'n meddwl mai yn 2014-15 roeddwn i'n cyfathrebu efo'r DVSA ynglŷn â'r mater yma, achos dŷch chi'n hollol iawn wrth gwrs fod y profion ar gael yn Gymraeg ers blynyddoedd, ond wrth nad ydy'r deunydd ymarfer ar-lein ar gael yn Gymraeg—sypreis, sypreis—beth mae pobl yn ei wneud wrth ymarfer yn Saesneg yw penderfynu gwneud y prawf yn Saesneg hefyd. Dwi'n falch bod hyn yn digwydd rŵan. Mi ges i lythyr, 19 Ionawr 2015 oedd hi: Rhun ap Iorwerth AC: Fe welwch o'n llythyrau at y Comisiynydd ein bod yn cynnig ail-archwiliocostau a buddion posibl datblygu gwasanaeth ar-lein ar gyfer ymarfer y prawf gyrru theori drwy gyfrwng y Gymraeg. Rhun ap Iorwerth AC: Mae wedi cymryd pedair blynedd a hanner, ond mi wnaf i ei hawlio fe fel buddugoliaeth fach. Eluned Morgan AC: Wel, dwi'n falch eich bod chi'n gallu gwneud hynny. Wrth gwrs, beth sy'n bwysig nawr yw ein bod ni'n annog pobl i ddefnyddio'r gwasanaeth a'n bod ni'n gweld cynnydd yn y nifer o bobl sy'n gwneud hynny achos, ar hyn o bryd, dim ond 58 o bobl gwnaeth y prawf theori, sef 0.07 y cant. Ac, wrth gwrs, mae pobl yn deall pam mae hynny'n digwydd, ond gobeithiaf nawr y gwelwn ni gynnydd yn hynny o beth. Y cam nesaf, wrth gwrs, yw i gael yr hyn y mae pobl ifanc yn ei ddefnyddio i fynd trwy'r test yna, sef cael app yn Gymraeg. Felly, efallai y byddai'n syniad i'r comisiynydd weld os byddai'n gallu rhoi pwysau ymlaen i gael app yn Gymraeg, achos dyna'r ffordd y mae pobl ifanc yn dysgu o ran pasio'r prawf theori yma. Diolch yn fawr iawn, Weinidog. 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Eitem 3 ar yr agenda yw'r cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad, a bydd yr holl gwestiynau'n cael eu hateb gan y Llywydd heddiw. Cwestiwn 1, Mark Reckless. Carole Cadwalladr Mark Reckless AC: 1. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am y penderfyniad i ddewis Carole Cadwalladr fel siaradwraig Gŵyl y Gelli'r Cynulliad yng ngŵyl GWLAD—Gŵyl Cymru'r Dyfodol? OAQ54306 Mae rhaglen gŵyl GWLAD yn cael ei darparu mewn partneriaethag ystod o sefydliadau allanol. Un o'r partneriaid yw Gŵyl y Gelli, sydd wedi cytuno i gynnal darlith Gŵyl y Gelli yng ngŵyl GWLAD, a Carole Cadwalladr fydd siaradwraig darlith Gŵyl y Gelli yn ystod yr ŵyl, sy'n para am y penwythnos mewn ychydig llai na phythefnos. Hi, Carole Cadwalladr, oedd enillydd medal flynyddol Gŵyl y Gelli ar gyfer newyddiaduraeth eleni. Mark Reckless AC: Carole Cadwalladr sydd wedi bod yn gyfrifol am rai o'r damcaniaethau cynllwyn mwyaf rhyfeddol sy'n ymwneud â refferendwm yr UE. Fe ffoniodd hi fi am y tro cyntaf oddeutu tair blynedd yn ôl ynglŷn â hyn, roedd yn ymwneud â Rwsia a gweithwyr Putin yn cyflyru miliynau o bobl i gefnogi’r ymgyrch i adael drwy'r cyfryngau cymdeithasol. Yn fwy diweddar, rwy'n credu mai ei honiad yw bod rheolwyr cronfeydd rhagfantoli yn cynllwynio i sicrhau Brexit heb gytundeb oherwydd eu bod wedi lleihau gwerth y bunt. Mae hi ei hun, hyd yn oed, wedi cyfaddef bod llawer o'i herthyglau wedi bod yn anghywir iawn, a buaswn yn cwestiynu’r penderfyniad i ddewis y cyfryw unigolyn i siarad ar ran y Cynulliad. Onid yw hyn yn tanlinellu'r argraff fod y lle hwn yn siarad dros yr ymgyrch aros, yn hytrach na thros bobl Cymru, a bleidleisiodd i adael? Diolch i chi am eich cyfraniad. Rwy'n tybio eich bod yn swnio’n fwy gwybodus a than gyfaredd Carole Cadwalladr na’r rhan fwyaf ohonom. Buaswn yn dweud bod rhyddid i lefaru a'r hawl i fynegi unrhyw farn yn rhywbeth y mae'r Cynulliad hwn yn ei ystyried yn bwysig iawn ac yn awyddus i'w hyrwyddo, ac mae cymaint o groeso i Carole Cadwalladr siarad yma ag unrhyw un arall. Rwy'n sicr yn edrych ymlaen at ei chlywed yn siarad, ac rwy'n gobeithio eich bod chi hefyd. Andrew RT Davies AC: Mae'n bwysig fod y Cynulliad yn cynnwys sawl ffordd o feddwl a chynifer o siaradwyr â phosibl fel y gall cynifer o bobl ag sy'n bosibl wrando ar yr amrywiaeth honno. Rydym yn sefydliad democrataidd. Ond mae'n ffaith fod Carole Cadwalladr wedi gorfod egluro a chywiro llawer o'i gwaith, ac mae gennyf ddiddordeb mewn deall pam nad oes barn amgen yn cael ei chynnig hefyd, ac yn ôl yr hyn a ddeallaf, dim ond un siaradwr sy'n siarad ar y pwnc penodol hwn. Fel y dywedais, nid wyf yn amau y dylai pobl allu cynnig cynifer o safbwyntiau ag sy'n bosibl, ond mae'n ymddangos bod hon yn farn unochrog gan unigolyn sydd wedi gorfod egluro a chywiro llawer o'r pwyntiau a gyflwynodd yn ei herthyglau. Rwy’n sicr yn derbyn y pwynt ein bod am gefnogi amrywiaeth barn a chynnig llwyfan i'r holl safbwyntiau hynny, yn y Siambr hon ac yn y gwaith sy'n digwydd ar ein hystâd yn gyffredinol. Mae hon yn ddarlith sy'n cael ei chynnal mewn partneriaeth â Gŵyl y Gelli. Enillydd y wobr newyddiaduraeth yng Ngŵyl y Gelli eleni oedd Carole Cadwalladr a hi yw'r darlithydd gwadd. Rwyf hefyd yn credu ei bod yn bwysig cofio ei bod yn dod o Gaerdydd. Mae’n newyddiadurwr ymchwiliol sydd wedi ennill llawer o wobrau. Pa un a ydych yn cytuno â'i barn ar unrhyw fater y mae'n ei arddel, mae'n rhywun y gallwn fod yn falch ohoni a hithau’n Gymraes sydd wedi cael cryn ganmoliaeth a sylw gan gefnogwyr yr ymgyrch i aros, sydd yr un mor ddilys yn y lle hwn â chefnogwyr yr ymgyrch i adael. Ac rwy'n eich annog i gyd, os oes tocynnau ar ôl, oherwydd mae wedi bod yn boblogaidd iawn—pob tocyn sydd ar ôl—rwy'n eich annog i gyd, os gallwch ddod o hyd i’r amser, i wrando ar Carole Cadwalladr a gofyn cwestiwn iddi, efallai, yn hytrach na gofyn y cwestiwn hwn i mi. [Chwerthin.] Dathlu 20 Mlynedd o Ddatganoli Andrew RT Davies AC: 2. A wnaiff y Comisiwn gadarnhau pam nad yw Ei Mawrhydi y Frenhines, yn wahanol i Senedd yr Alban, wedi cael gwahoddiad i'r Cynulliad i nodi dathliadau 20 mlynedd o ddatganoli? OAQ54309 Cytunodd y Comisiwn ar ei raglen o ddigwyddiadau i nodi 20 mlynedd o ddatganoli ym mis Mawrth 2019. Drwy'r rhaglen, cafwyd cyfle i nodi'r pen-blwydd ac i bobl Cymru drafod eu dyfodol nhw a dyfodol democratiaeth yng Nghymru. Nid oes dim ymweliadau brenhinol wedi cael eu trefnu ar gyfer eleni. Andrew RT Davies AC: Rwy'n credu ein bod wedi colli cyfle drwy beidio ag estyn y gwahoddiad. Mae'n ddrwg gennyf, syrthiodd fy offer cyfieithu o fy nghlust wrth i chi wneud eich sylwadau agoriadol. Ond rwy'n credu fy mod yn gywir yn dweud na chafodd pennaeth y wladwriaeth wahoddiad i ddod i'r ddeddfwrfa hon, y Senedd hon, sy'n rhan bwysig o gyfansoddiad democrataidd y Deyrnas Unedig, ac rwy'n credu bod hwnnw wedi bod yn gyfle a gollwyd ar ran y Comisiwn. Rwy'n sylweddoli ein bod yn dod at ddiwedd y flwyddyn erbyn hyn, ac mae'n debyg ei bod yn llawer rhy hwyr i gyhoeddi gwahoddiad o'r fath, ond ni waeth a ydych yn weriniaethwr neu'n frenhinwr, mae'n ffaith ein bod yn byw mewn brenhiniaeth gyfansoddiadol, ac rwy'n credu mai ni sy'n waeth ein byd o beidio â chael pennaeth y wladwriaeth i'n cyfarch yn ein hugeinfed flwyddyn, rhywbeth a ddathlwyd yn briodol gan y Comisiwn. A buaswn yn gofyn i'r Comisiwn feddwl am hyn o bosibl ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol, digwyddiadau allweddol, ac ystyried cael pennaeth y wladwriaeth yn westai y byddem ei heisiau yn ein plith i'n cyfarch fel Senedd Cymru. Do, wrth gwrs, mynychodd y Frenhines y digwyddiadau yn Senedd yr Alban fel rhan o'i hwythnos Holyrood ar ddechrau mis Gorffennaf. Gallaf gadarnhau nad anfonwyd unrhyw wahoddiad ac ni thrafodwyd y mater penodol hwn yn y Comisiwn. Wrth gwrs, gofynnir i bennaeth y wladwriaeth fynychu agoriad pob Cynulliad a bod yn rhan o seremoni agoriadol y Cynulliad, fel y gwnaeth dair blynedd yn ôl. Byddaf yn ystyried y farn rydych wedi'i mynegi. Yn amlwg, mae'n hwyr i wneud hynny yn awr. Bydd dathliadau, gobeithio, ymhell i'r dyfodol lle bydd angen ystyried a gynigir y gwahoddiad hwnnw i bennaeth y wladwriaeth ai peidio. Mae'n debyg mai mater i Gomisiynau'r dyfodol fydd hynny bellach wrth ddathlu dathliadau eraill a gawn yn y dyfodol, ond rwy'n derbyn bod y farn honno'n un rydych wedi'i mynegi wrthyf yn awr. Fel y dywedais, cafodd ein penderfyniadau ar hyn eu gwneud ym mis Mawrth eleni, ond diolch i chi am fynegi'r farn honno ac am ei nodi, ac yn sicr bydd yn rhywbeth y bydd angen atgoffa Comisiynau'r dyfodol yn ei gylch. Cwestiwn 3, Janet Finch-Saunders. Janet Finch-Saunders AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n bosibl fod y cwestiynau hyn wedi'u paru, mewn gwirionedd, felly mae'n ddrwg gennyf os byddaf yn ymddangos ychydig yn ailadroddus. GWLAD—Gŵyl Cymru'r Dyfodol Janet Finch-Saunders AC: 3. Pa ymdrech a wnaed i sicrhau bod amrywiaeth eang o siaradwyr yn rhan o ŵyl GWLAD—Gŵyl Cymru'r Dyfodol? OAQ54315 Mae Comisiwn y Cynulliad wedi gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau a darparwyr allanol i gyflwyno amrywiaeth o weithgareddau yn ystod gŵyl GWLAD yma yn y Senedd ddiwedd mis Medi, a hefyd mewn digwyddiadau rhanbarthol a fydd yn digwydd yn Nhachwedd yng Nghaerfyrddin, Caernarfon a Wrecsam. Janet Finch-Saunders AC: Diolch, Lywydd. Wrth gwrs, mae GWLAD yn cael ei hysbysebu fel digwyddiad dechrau sgwrs a fydd yn annog trafodaeth am ddyfodol Cymru. Nawr, er nad yw'r ŵyl wedi bod eto, gallwch yn sicr fod yn falch ei bod wedi cyflawni ei nod yn dechnegol—mae'n bendant yn dechrau sgyrsiau yn awr. Yn anad dim, mae hyn oherwydd rhai o'r gwahoddiadau a roddwyd i siaradwyr yn y digwyddiad. Felly, rwyf wedi dychryn braidd yn sgil y diffyg sylw a roddwyd i gydbwysedd teg o siaradwyr, oherwydd mae cynnwys Carole Cadwalladr yn debygol o weld y drafodaeth yn crwydro i gyfeiriad penodol mewn perthynas â Brexit, ac mae pawb ohonom yn gwybod ei bod yn siarad mewn ffordd wleidyddol iawn. Felly, mewn ymateb i'r cwestiynau sydd wedi'u gofyn yma a chwestiynau sydd wedi'u codi gyda mi, pa gamau a gymerwyd i wrthsefyll hyn? Dywedwch wrthym, o ran cydbwysedd, pwy arall a wahoddwyd i gymryd rhan yn yr ŵyl fel y gallwn sicrhau cynrychiolaeth wirioneddol gytbwys yn y digwyddiad hwn? David Melding AC: Boris Johnson o'r Telegraph. [Chwerthin.] Gallaf gadarnhau bod Guto Harri, a oedd yn arfer gweithio i Boris Johnson o'r Telegraph, ymysg y siaradwyr a wahoddwyd i gymryd rhan yn Gwlad, ac mae'n rhaid i mi ddweud—ac fe'i clywais yn cael ei ddweud wrth i chi siarad, Janet Finch-Saunders—fod trafodaeth wleidyddol yn rhywbeth rydym yn rhagori arni yn y Siambr hon, yn yr adeilad hwn, ac mae angen i ni hyrwyddo mwy o drafodaeth wleidyddol yng Nghymru yn hytrach na llai ohoni. Felly, mae'r rhestr o siaradwyr—mae rhai yn siaradwyr, rhai yn gyfranwyr, bydd rhai'n aelodau o'r cyhoedd, gobeithio, a ddaw i'r adeilad hwn, a chymryd rhan mewn dadl ddemocrataidd am y tro cyntaf. Dylid annog hynny i gyd, ac rwy'n annog pob un ohonoch, os yn bosibl, i fynychu unrhyw un o'r digwyddiadau a gofyn i'ch etholwyr ac eraill o'ch cwmpas i fynychu cynifer o ddigwyddiadau—. Mae angen i ni gael gŵyl ddemocratiaeth yn y lle hwn ac ar yr adeg hon. Diolch yn fawr iawn. 4. Cwestiynau Amserol Eitem 4 yw'r cwestiynau amserol, a bydd y cwestiynau amserol y prynhawn yma'n cael eu hateb gan y Dirprwy Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth. John Griffiths. Gwaith Dur Orb yng Nghasnewydd John Griffiths AC: 1. A wnaiff Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerwyd ers cyhoeddi'r bwriad i gau gwaith dur Orb yng Nghasnewydd? 339 Lee Waters AC: Diolch am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu â'r cwmni i ddeall beth y mae'r cyhoeddiad hwn yn ei olygu a beth yw'r ffordd orau o gefnogi'r rhai yr effeithiwyd arnynt. John Griffiths AC: Rwy'n ddiolchgar am ymwneud Llywodraeth Cymru ac yn wir, wrth gwrs, yr ymgyrch gref gan yr undebau llafur ar ran y gweithlu a'r ymrwymiad a gafwyd na fydd unrhyw ddiswyddiadau gorfodol ond adleoli, o bosibl, yng ngweithfeydd Tata yn Llanwern a Phort Talbot. Ond yr ymgyrch sylfaenol, wrth gwrs, yw cadw'r gwaith ar agor a buaswn yn ddiolchgar am rywfaint o wybodaeth am weithgareddau Llywodraeth Cymru o ran gweithio gyda'r undebau llafur a'r gweithlu, gyda'r diwydiant, a chyda Llywodraeth y DU i edrych ar y posibilrwydd o wneud y buddsoddiad angenrheidiol, y nodwyd gan Tata ei fod yn £50 miliwn, rwy'n credu, i gadw'r gwaith ar agor a'i gyfarparu ar gyfer darparu dur trydanol ar gyfer y ceir trydan y mae pawb ohonom yn disgwyl eu gweld yn cael eu cynhyrchu en masse yn y dyfodol agos iawn. Yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog, dywedais fod hanes y gwaith hwnnw a'r gweithlu wedi ymwneud â hyblygrwydd, addasu i newidiadau, datblygu sgiliau newydd, dulliau newydd o gynhyrchu, cynnyrch newydd. Felly, mae hanes o arloesi ac addasu a hyblygrwydd yno, a chredaf fod hynny'n addawol iawn ar gyfer y dyfodol. Y cynhwysyn coll, mewn gwirionedd, yw'r buddsoddiad angenrheidiol, a dyna lle yr hoffwn yn fawr gael sicrwydd gan Lywodraeth Cymru eich bod yn gweithio gyda'r gweithlu, yr undebau llafur, Llywodraeth y DU a'r diwydiant i hwyluso ac annog y buddsoddiad hwnnw. Lee Waters AC: Diolch am y cwestiwn. Fel y dywedaf, rydym wedi bod mewn trafodaethau agos gyda'r cwmni a chyda'r undebau llafur. Siaradodd fy nghyd-Aelod, Ken Skates, â'r cwmni ar unwaith pan gyhoeddwyd y newyddion ac ers hynny mae swyddogion wedi bod yn y gwaith yn lleol i gyfarfod â'r tîm yno. Rydym wedi cael sicrwydd y bydd y gweithlu presennol yn cael ei adleoli'n llawn, yn ôl yr hyn a ddeallwn, o fewn Tata—ac na fydd yr un gweithiwr sydd eisiau parhau i weithio yn cael ei adael heb gyfle—sy'n rhywfaint o gysur, er, wrth gwrs, mae'n destun gofid mawr fod y cyfleuster wedi'i golli i Gasnewydd ac i'r sector gweithgynhyrchu yng Nghymru. Yn amlwg, penderfyniad i Tata yw hwn. Rydym wedi rhoi swm sylweddol o arian i gefnogi Tata. Oni bai am ymyrraeth Llywodraeth Cymru, ni fyddai Tata yn cynhyrchu dur yn y DU o gwbl mwyach, yn sicr pe bai'r mater wedi cael ei adael i Lywodraeth y DU, a gynigiodd lawer o eiriau ond fawr o weithredoedd ar adeg yr argyfwng dur yn ôl yn 2016. Felly, rwy'n credu bod gennym hanes cadarn o ymyrryd i wneud yn siŵr fod cynhyrchiant dur yn aros yng Nghymru. Wrth gwrs, mae safle Orb wedi bod ar werth ers Mai 2018. Mae'r cwmni'n dweud wrthym eu bod wedi bod yn rhedeg ar golled ac nid ydynt wedi llwyddo i ddod o hyd i ffordd ymarferol ymlaen ar gyfer y gwaith. Nid yw'n gywir dweud bod y dur a wneir yn Orb yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cerbydau trydan, fel y mae rhai cyfryngau wedi dweud. Cynhyrchir y math hwnnw o ddur gan ffatri Tata yn eu gwaith yn Sweden, ond nid yw'n cael ei gynhyrchu yn Orb, ac er mwyn paratoi'r ffatri i gynhyrchu'r dur hwnnw, byddai angen buddsoddiad sylweddol, ac nid oedd Tata yn credu bod modd cyfiawnhau hynny, o ystyried cyflwr y farchnad, o ystyried yr ansicrwydd o ran amodau masnachu, ac o ystyried, hefyd, yr ansicrwydd yn y farchnad mewn perthynas â cherbydau trydan—efallai nad yw'r galw yno ar hyn o bryd ac efallai na fydd yno am gryn dipyn o amser. Felly, penderfyniad i Tata yw hwn yn y pen draw. Ni allant hwy, a hwythau'n gwmni sy'n gwneud elw, ddod o hyd i ffordd o wneud elw o fuddsoddiad pellach yn y gwaith hwn. Rydym yn gweithio gyda hwy i geisio sicrhau bod gan y gweithlu presennol ddyfodol mor ffyniannus â phosibl, ond rydym yn parhau i weithio gyda John Griffiths, fel yr Aelod Cynulliad, y cyngor lleol a'r undebau llafur, i weld a oes ffordd arall ar gael o sicrhau bod rhywfaint o weithgynhyrchu'n parhau i ddigwydd ar y safle. Mae rôl i Lywodraeth y DU yn y fan hon i gamu i mewn ac edrych yn strategol ar y sefyllfa. Rydym wedi bod yn galw arnynt i gyflwyno cytundeb sector i'r sector dur. Mae'r undebau llafur ac UK Steel wedi gwneud galwadau tebyg, ac nid ydynt wedi gwneud eu rhan. Felly, o ran rhagolygon mwy hirdymor y diwydiant yn y DU, mae angen i Lywodraeth y DU wneud llawer mwy i sicrhau bod ganddo ddyfodol hyfyw. Mohammad Asghar (Oscar) AC: Weinidog, mae'r newyddion bod hyd at 380 o swyddi mewn perygl yng ngwaith Orb Tata Steel yn ergyd drom i'r gweithwyr a'r teuluoedd yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol ac i Gasnewydd yn gyffredinol. Mae Tata wedi dweud eu bod yn gobeithio cynnig swyddi i'r rheini yr effeithiwyd arnynt mewn rhannau eraill o Gymru. Felly, a gaf fi ofyn pa gymorth y byddwch yn ei roi i'r gweithwyr sy'n gallu adleoli, a sut y byddwch yn sicrhau bod y gweithwyr sy'n methu symud neu'n anfodlon i wneud hynny yn ymwybodol o'r cymorth a'r posibiliadau hyfforddi sydd ar gael fel y gallant chwilio am gyflogaeth newydd yn rhywle arall? At hynny, rwy'n deall bod Tata Steel wedi bod yn ceisio dod o hyd i brynwr ar gyfer Orb Electrical Steels. A gaf fi ofyn, Weinidog, a yw Tata wedi cysylltu â Llywodraeth Cymru am gymorth i ddod o hyd i brynwr? Ac os na, a wnewch chi roi sicrwydd y bydd pob cymorth yn cael ei ddarparu i Tata industries, hyd yn oed os yw hynny'n digwydd yn hwyr yn y dydd? Diolch. Lee Waters AC: Diolch. Gallaf gadarnhau nad yw Tata wedi gofyn am unrhyw gymorth gan Lywodraeth Cymru, er ein bod yn gweithio'n agos gyda hwy i sicrhau bod unrhyw gymorth sydd ei angen ar y gweithlu yn cael ei ddarparu. Mae'n werth nodi bod ansicrwydd ynghylch y farchnad y mae Tata yn gweithredu ynddi wedi cyfrannu at eu penderfyniad i gau'r gwaith. Os byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, yna bydd mewnforion dur i'r UE yn wynebu cwota o 25 y cant—mae hwnnw'n gynnydd o chwarter ar bris dur sy'n cael ei allforio i Ewrop. Ac yn yr un modd, os ceir sefyllfa Sefydliad Masnach y Byd, fel y clywn yn aml gan Mark Reckless ac eraill, i ddarparu rhyw fath o ateb masnach rydd gwladaidd i ddyfodol economi'r DU, gallai hynny olygu bod mewnforion o Tsieina yn gorlifo marchnad y DU wrth i'r tariffau arnynt gael eu gostwng. Felly, mae'r ddau senario Brexit—tariffau i mewn i'r UE neu dariffau'n dod oddi ar ddur o Tsieina a ddaw i mewn—yn ffactorau real iawn yn y penderfyniadau y mae'r cwmnïau masnachu byd-eang hyn yn eu gwneud mewn perthynas â dyfodol y diwydiant dur. Rydym yn siarad yma mewn termau eang, ideolegol am Brexit, ond dyma realiti caled ac ymarferol effaith y dadleuon a gawn ar ddiwydiant Prydain. Nid trafodaethau heb fod neb ar eu colled yw'r rhain, ac mae diwydiant dur y DU eisoes yn dioddef o agwedd laissez-faire Llywodraeth y DU sy'n gwrthod ymyrryd i'w helpu gydag ymchwil a datblygu, yn gwrthod ymyrryd i'w helpu gyda chostau ynni, ac yn gwrthod rhoi dyfodol hyfyw iddo, a chefnogi'r gofynion caffael y mae UK Steel a'r undebau llafur wedi galw amdanynt. Ac yn awr, ar ben y diffyg cymorth iddynt, maent yn cyflwyno ansicrwydd o ran yr amodau masnachu a dyna'i diwedd hi yn yr achos hwn. Delyth Jewell AC: Ddirprwy Weinidog, rwyf wedi bod yn Aelod Cynulliad ers llai na blwyddyn ac rwyf wedi colli cyfrif o sawl gwaith rydym wedi gorfod trafod colli swyddi yn ein cymunedau yn y Siambr hon. Schaeffler yn Llanelli, Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Rehau ar Ynys Môn, Quinn Radiators yng Nghasnewydd ac yn awr Orb yng Nghasnewydd eto—gyda'i gilydd, mae'n fwy na 3,000 o swyddi mewn mater o fisoedd. Felly, Ddirprwy Weinidog, hoffwn ofyn beth sy'n mynd o'i le gyda strategaeth ddiwydiannol y Llywodraeth a beth yw eich dadansoddiad o'r rhesymau pam fod yr holl weithfeydd hyn wedi cau mewn cyn lleied o amser. Mewn perthynas â chyhoeddiad Orb, hoffwn ofyn pa gamau y bydd eich Llywodraeth yn eu cymryd i gefnogi'r gweithwyr sy'n wynebu cael eu diswyddo ac a fyddwch yn cynnig cymorth iddynt gael taliadau diswyddo mewn achosion o ddiswyddiadau anwirfoddol. Sut y byddwch yn eu helpu i gael swyddi newydd, yn enwedig os yw hynny'n galw am ailhyfforddi? Ac yn olaf, sut y bwriadwch ddwyn Tata i gyfrif am dorri eu haddewid i weithwyr y byddai eu swyddi'n ddiogel yn gyfnewid am doriadau pensiwn? Dywedodd un gweithiwr wrth Newyddion 9 ei fod yn teimlo eu bod wedi dweud celwydd wrtho. Felly, a ydych wedi cynnal cyfarfod gyda Tata i ailadrodd y dicter cyfiawn hwn? Rwy'n credu y byddai pawb yn y Siambr hon yn gwerthfawrogi atebion i'r cwestiynau hyn ynghyd ag esboniad o sut y bwriadwch sicrhau na fydd mwy o swyddi'n cael eu colli yn y dyfodol agos. Lee Waters AC: Wel, rwy'n credu bod nifer o'r cwestiynau hynny eisoes wedi cael eu hateb mewn atebion blaenorol, felly nid wyf am eu hailadrodd. O ran y darlun cyffredinol o'r newidiadau yn yr economi a dirywiad rhai cwmnïau gweithgynhyrchu—soniodd yr Aelod am Schaeffler yn fy etholaeth a Ford—mewn sawl ffordd, rydym yn wynebu storm berffaith, ac rwy'n casáu'r trosiad hwnnw a orddefnyddir, ond mae'r newidiadau yn y sector modurol yn amlwg yn cael effaith aruthrol wrth i'r galw am ddiesel ddisgyn. Ynghyd â'r ansicrwydd masnachu y soniais amdano eiliad yn ôl, nid yw'n rhoi hyder i fusnesau fuddsoddi, yn enwedig y posibilrwydd o dariffau sylweddol uwch wrth allforio o'r DU. Felly, mae'r effeithiau hyn ar y cyd, sydd y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru, yn amlwg yn cael effaith enfawr. Er gwaethaf hynny, hyd yn hyn, mae'r ffigurau cyflogaeth wedi bod yn galonogol, ond wrth gwrs, maent yn dameidiog. Rydym yn gweithio'n galed i ddod o hyd i farchnadoedd newydd a hefyd, ar gyfer gweithlu'r dyfodol, ddydd Llun byddwn yn cyhoeddi adroddiad yr Athro Phil Brown ar ddyfodol awtomeiddio a digido, a byddwn yn edrych ar sut y gallwn sicrhau bod economi Cymru yn y sefyllfa orau i fanteisio ar ddiwydiannau newydd wrth iddynt ddod i'r amlwg. Russell George AC: Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn hynod siomedig wrth gwrs o glywed bod rhagor o swyddi wedi'u colli eto yn ne Cymru, ac yn amlwg rwy'n cydymdeimlo â'r teuluoedd yr effeithiwyd arnynt. Rydym yn ymwybodol wrth gwrs fod nifer o fusnesau'n cael anawsterau ar hyd coridor yr M4—crybwyllwyd rhai o'r busnesau yng nghwestiwn Delyth Jewell wrth iddi amlinellu rhai o'r busnesau yr effeithiwyd arnynt. Tybed i ba raddau y tybiwch chi fod arafwch Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r tagfeydd a'r problemau trafnidiaeth ar hyd yr M4 wedi cyfrannu at benderfyniad Tata. A pha gamau a gymerwch, Ddirprwy Weinidog, i sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â'r problemau cysylltedd ehangach y buaswn yn dweud eu bod yn tagu busnesau mewn rhanbarth allweddol hynod o bwysig yng Nghymru? Lee Waters AC: Wel, byddai gennyf ddiddordeb mewn unrhyw dystiolaeth sydd gan Russell George fod y penderfyniadau a nododd wedi cael unrhyw effaith o gwbl. Rwy'n credu ei fod yn taflu llwch i'n llygaid yma, yn ceisio taflu'r bai am fethiant ei Lywodraeth ei hun yn San Steffan i ymyrryd a helpu'r diwydiant dur, gan greu ansicrwydd mawr yn ein hamgylchedd masnachu drwy hyrwyddo'n agored y posibilrwydd o Brexit heb gytundeb, rhywbeth a fyddai'n cynyddu tariffau 25 y cant, a'r ffaith fod llawer yn ei blaid, gan gynnwys Jacob Rees-Mogg, yn siarad yn optimistaidd am Sefydliad Masnach y Byd, y gŵyr pawb ohonom y byddai'n gorlifo'r farchnad â dur o Tsieina. Felly, yn hytrach na cheisio meddwl am ffyrdd o feio Llywodraeth Cymru am hyn—nid wyf yn credu y bydd unrhyw un o'r gweithwyr yn cael unrhyw gysur o'r sgwrs hon—mae angen i ni ganolbwyntio ar sut y gallwn eu cefnogi. [Torri ar draws.] Mae'n dweud o'i sedd mai gofyn cwestiwn yn unig a wnaeth; mae'n gwybod yn iawn beth y mae'n ei wneud. Nid oes unrhyw dystiolaeth i ddangos bod gan unrhyw un o'r penderfyniadau a nododd ddim oll i'w wneud â hyn o gwbl. Yn wir, nid yw Tata wedi sôn amdanynt wrthym; nid yw Tata wedi gofyn am unrhyw gymorth gennym. Mewn cyferbyniad, maent wedi gofyn am gymorth gan Lywodraeth y DU ar gyfer cytundeb sector dur ac nid ydynt wedi cael unrhyw beth yn ôl. Ni ofynnwyd cwestiwn amserol 340. Diolch yn fawr iawn. 5. Datganiadau 90 Eiliad Eitem 5 ar yr agenda yw'r datganiadau 90 yr eiliad a'r prynhawn yma—Neil McEvoy. Neil McEvoy AC: Diolch. Roedd diwrnod Owain Glyndŵr ar 16 o Fedi yr wythnos hon. Mae'n werth cydnabod Owain Glyndŵr eleni yn arbennig, gan fod Cymru, yn llythrennol, yn gorymdeithio. Mewn tair gorymdaith All Under One Banner yn olynol, yng Nghaerdydd, Caernarfon a Merthyr, mae miloedd o bobl wedi gorymdeithio dros sofraniaeth ac annibyniaeth ein gwlad. Roeddwn yn falch o gymryd rhan mewn dwy o'r gorymdeithiau, yng Nghaerdydd a Chaernarfon—cymaint o obaith ac optimistiaeth wych ynglŷn ag adeiladu Cymru gyfiawn a rhydd. Roedd Owain Glyndŵr yn weledydd, ymhell o flaen ei amser. Roedd ganddo weledigaeth o Gymru eangfrydig, ddiogel a hyderus o'i lle yn y byd. Cyferbynnwch hynny â'r deyrnas ranedig sydd gennym yn awr, lle nad yw Cymru'n cyfrif. Nid oes ryfedd fod cynifer o bobl bellach yn dewis gweld Cymru'n sefyll ar ei thraed ei hun. Ychydig iawn y mae'r Cynulliad hwn yn ei wneud i gydnabod arwyddocâd hanesyddol ein gwaredwr cenedlaethol, ond gwn y bydd hyn yn newid pan ddaw'r sefydliad hwn yn senedd sofran i wladwriaeth Gymreig. Gyda mudiad cenedlaethol Cymreig mor fywiog, cadarnhaol a chynhwysol wrthi'n gorymdeithio bellach, mae'r diwrnod hwnnw'n nesáu. Diolch yn fawr. 6. Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.17(iii) mewn perthynas â’r Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) Eitem 6 ar yr agenda yw cynnig o dan Reol Sefydlog 26.17 mewn perthynas â'r Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru). A galwaf ar y Llywydd i wneud y cynnig. Cynnig NDM7134 Elin Jones Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.17(iii), yn cytuno y dylai trafodion Cyfnod 2 y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) gael eu hystyried gan Bwyllgor o’r Cynulliad Cyfan. Cynigiwyd y cynnig. Yn ffurfiol. Diolch. Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 7. Cynnig o dan Reol Sefydlog 16.5 i sefydlu pwyllgor Eitem 7 yw cynnig o dan Reol Sefydlog 16.5 i sefydlu pwyllgor, a galwaf ar y Llywydd eto i wneud y cynnig. Cynnig NDM7136 Elin Jones Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.5: 1. Yn sefydlu Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad. 2. Yn cytuno mai cylch gwaith y Pwyllgor yw archwilio argymhellion y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad. 3. Yn cytuno y caiff y Pwyllgor ei ddiddymu yn dilyn dadl yn y Cyfarfod Llawn ar ei adroddiad terfynol. Cynigiwyd y cynnig. Yn ffurfiol. Diolch. Nid oes unrhyw siaradwyr, felly y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebu.] Gwrthwynebiad. Felly, gohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. 8. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Gwasanaethau Endosgopi yng Nghymru Eitem 8 ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, 'Gwasanaethau endosgopi yng Nghymru'. A galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Dai Lloyd. Cynnig NDM7132 Dai Lloyd Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar wasanaethau endosgopi yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Ebrill 2019. Cynigiwyd y cynnig. Dai Lloyd AC: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl bwysig iawn yma heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar wasanaethau endosgopi yma yng Nghymru. Dyma’r cyntaf mewn cyfres o ymchwiliadau manwl a gynhaliwyd gan y pwyllgor, a thros y misoedd nesaf byddwn yn cyflwyno dadleuon byr ar ein canfyddiadau mewn nifer o feysydd, fel deintyddiaeth, hepatitis C a gwasanaethau nyrsio cymunedol a nyrsio ardal. Cytunodd y pwyllgor i gynnal ymchwiliad undydd i wasanaethau endosgopi oherwydd, ar yr adeg honno, roedd mwyafrif y byrddau iechyd yng Nghymru yn methu â chyflawni amseroedd aros am brofion a all wneud diagnosis o ganser y coluddyn. Dywedwyd wrthym hefyd fod nifer frawychus o fach o bobl gymwys yn cymryd rhan yn y rhaglen sgrinio coluddion. Sgrinio ydy’r ffordd orau i wneud diagnosis o ganser y coluddyn yn gynnar, ond, rhwng mis Ebrill 2017 a mis Mawrth 2018, dim ond 55 y cant o’r bobl sy’n gymwys i sefyll y prawf sgrinio coluddyn yng Nghymru a gwblhaodd y broses. Mae nifer y rhai sy’n manteisio yn uwch ymhlith menywod o'i gymharu â dynion. Mae cydberthynas gref hefyd ag amddifadedd, oherwydd mae nifer y rhai sy’n cymryd rhan yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn 45 y cant o’i gymharu â’r ardaloedd lleiaf difreintiedig, sy’n 63.3 y cant. Ynglŷn â chyflwyno'r prawf FIT, ers mis Ionawr 2019, dechreuodd Cymru ddisodli’r prawf sgrinio cyfredol gyda phrawf symlach a chywirach o’r enw prawf imiwnogemegol ysgarthol—y prawf FIT—y disgwylir iddo gynyddu nifer y bobl sy’n cael eu sgrinio. Mae pryderon, fodd bynnag, bod unedau endosgopi yn ysbytai Cymru eisoes yn ei chael hi’n anodd ymdopi efo'r galw, ac felly, er bod y prawf sgrinio newydd yn welliant cadarnhaol, gallai roi rhagor o straen ar wasanaeth sydd eisoes wedi’i or-ymestyn. Rydym yn derbyn bod yn rhaid rheoli’r galw’n briodol, ond rydym yn siomedig bod y trothwyon ar gyfer y profion imiwnogemegol ysgarthol yn is yng Nghymru, ac rydym yn pryderu y bydd Cymru, heb gynllun clir i wneud y defnydd gorau o’r rhaglen, yn cwympo ymhellach y tu ôl i rannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Hoffem pe bai Llywodraeth Cymru, drwy’r rhaglen gwella endosgopi genedlaethol, yn gosod cerrig milltir ar gyfer sicrhau bod y rhaglen yn cael ei defnyddio i’r eithaf, o ran oedran a sensitifrwydd, fel y gellir mesur yn ôl y cerrig milltir hyn a monitro cynnydd yn y gobaith y gellir sicrhau y gwneir y defnydd gorau posibl o’r rhaglen cyn 2023. Gan droi at amseroedd aros, yn 2015, ymrwymodd Llywodraeth Cymru arian ychwanegoli wella amseroedd aros am brofion diagnostig, gan gynnwys ar gyfer pobl sy'n aros am driniaethau endosgopi ar ôl cael canlyniad sgrinio cadarnhaol. Darparwyd cyllid ychwanegol hefyd yn 2016-17. Fodd bynnag, er gwaethaf y cyllid ychwanegol hwn, mae ystadegau amseroedd aros yn dal i beri pryder, ac mae angen ymrwymiad clir y bydd byrddau iechyd yn cyrraedd y targed amseroedd aros uchaf am brofion diagnostig, sef wyth wythnos, erbyn diwedd 2019. Disgrifiodd tystion yn ystod ein hymchwiliad ddull gweithredu Llywodraeth Cymru o fynd i’r afael â materion yn ymwneud â chapasiti fel dull adweithiol a thymor byr. Rhoddodd nifer o fyrddau iechyd fanylion am ysbytai sy’n contractio darparwyr allanol preifat ar gyfer darparu gwasanaethau’n fewnol i wneud triniaethau endosgopi o fewn y bwrdd iechyd ar benwythnosau, yn ogystal â rhoi gwaith ar gontract allanol, lle caiff cleifion eu hanfon at ddarparwyr preifat mewn safleoedd y tu allan i’r bwrdd iechyd, i ymdopi efo’r galw. Er bod angen rhagor o fuddsoddiad i reoli amseroedd aros, mae angen dull mwy cynaliadwy hefyd, gan fod rhoi gwaith ar gontract allanol a chontractau i ddarparu gwasanaethau’n fewnol yn ddrud ac nid yw’n darparu datrysiad hirdymor. At y gweithlu nawr: mae angen newidiadau i natur a sgiliau’r gweithlu presennol, ac ymrwymiad nid yn unig i gynyddu nifer y gastroenterolegwyr ac endosgopyddion meddygol eraill, ond hefyd i ddatblygu endosgopyddion nyrsio ac endosgopyddion anfeddygol eraill. Roedd y pwyllgor yn siomedig, felly, i glywed bod rhai nyrsys yn cael cyflogau llai nag eraill yng Nghymru i wneud gwaith endosgopi. Mae angen mynd i’r afael efo hyn. Y neges gan dystion oedd bod angen ffocws a brys i sicrhau nad yw Cymru ar ei hôl hi o’i chymharu â chenhedloedd eraill. Roedd Bowel Cancer UK, er enghraifft, eisiau gweld cynllun gweithredu cenedlaethol, gyda cherrig milltir allweddol, fel y gallai Llywodraeth Cymru gael ei dwyn i gyfrif am gyflawni a gweithredu’r cynllun. Nododd tystion y pwynt hefyd y bu nifer o adolygiadau, a bod y materion, neu'r problemau, yn amlwg. Gweithredu ac atebion yw’r hyn sydd ei angen nawr. Felly, gwnaethom un argymhelliad cyffredinol yn ein hadroddiad: erbyn mis Hydref 2019, dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda’r rhaglen gwella endosgopi genedlaethol i greu a chyhoeddi cynllun gweithredu endosgopi cenedlaethol sy’n mynd i’r afael efo’r galw nawr ac yn y dyfodol am wasanaethau sydd ag amserlenni a thargedau clir ar gyfer gwella. Rwy’n croesawu ymateb cadarnhaol y Gweinidog i’n hadroddiad, a dwi’n falch o ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn, ac wedi ymrwymo i gyhoeddi cynllun gweithredu ar gyfer gwasanaethau endosgopi o fewn yr amserlen chwe mis a nodwyd gan y pwyllgor. Rwy'n diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad ysgrifenedig a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y rhaglen endosgopi genedlaethol yn gynharach heddiw. Dwi'n falch bod y cynllun gweithredu wedi ei ddrafftio, ac edrychaf ymlaen at ei gyhoeddi, yn unol ag argymhelliad y pwyllgor. I gloi, fel y dywed y Gweinidog ei hun, mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau cynaliadwyedd y gwasanaethau endosgopi fel y gall pobl gyrraedd yr archwiliadau sydd eu hangen arnynt er mwyn cyflawni'r canlyniadau gorau posibl. Mae’n bryd gwneud cynnydd nawr, a hyderaf y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi'r arweinyddiaeth gref sydd ei hangen i gyflawni’r agenda hwn. Diolch yn fawr. Angela Burns AC: Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'r Pwyllgor am wneud yr adroddiad hwn. Yn anffodus, roeddwn yn absennol ar y diwrnod y gwnaethoch yr adroddiad undydd, ond rwyf wedi darllen eich adroddiad, rwyf wedi darllen ymateb y Llywodraeth, ac wrth gwrs rwy'n adlewyrchu sylwebaeth llawer o fy etholwyr sy'n dod i fy ngweld mewn perthynas â'r mathau hyn o wasanaethau. A sylwais ar ymateb y Llywodraeth i'r argymhellion a wnaed gan y pwyllgor, ac a bod yn blwmp ac yn blaen, roeddwn yn meddwl bod rhywfaint ohono—dim ond rhywfaint ohono—yn wan iawn, oherwydd rydych wedi derbyn yr argymhelliad a wnaed gan y pwyllgor.Fodd bynnag, rydych yn dweud bod gwasanaethau endosgopi o dan bwysau oherwydd newidiadau yn y boblogaeth, trothwy is ar gyfer archwiliadau canser, galw cynyddol am drefniadau cadw gwyliadwriaeth, a'r angen i ehangu rhaglen sgrinio'r coluddyn. Mewn ymateb, buaswn yn dweud, fan lleiaf, y dylai'r gwasanaeth allu ymateb yn awr i amcanion rhaglen sgrinio'r coluddyn. O ystyried bod cyfradd y rhai a gaiff eu sgrinio mor isel—55 y cant yn unig—dylai fod rhywfaint o slac yn y system eisoes beth bynnag. Mae'r cysyniad o anelu at gael cyfradd uwch o bobl wedi'u sgrinio heb sicrhau bod yr adnoddau wrth law i ddarparu'r rhaglen yn baradocs llwyr. A hoffwn nodi hefyd, er gwaethaf yr argymhellion a wnaed mor bell yn ôl â 2013, mai ychydig o gynnydd a wnaed wrth fynd i'r afael â'r heriau y mae gwasanaethau endosgopi ledled Cymru yn eu hwynebu.Felly, Weinidog, nid yw'r heriau a nodwch yn eich ymateb i'r pwyllgor yn newydd o gwbl. Mae awgrymu fel arall yn anonest ac yn bwysicach na dim, mae'n caniatáu rhywfaint o raff nad ydynt yn ei haeddu i'r rhai sy'n gyfrifol am gynllunio gwasanaethau. Gwelaf fod y grŵp gweithredu endosgopi eisiau i'r Llywodraeth fabwysiadu dull mwy cyfarwyddol, a phob clod i chi am symud i'r cyfeiriad hwnnw. Ond mae'n codi cwestiynau ynglŷn â'r gallu i gynllunio a darparu yn y byrddau iechyd. O ystyried yr argyfwng sy'n wynebu gwasanaethau endosgopi, Weinidog, a allwch chi gyflymu'r broses o gyflwyno cynllun cenedlaethol? Cafodd yr ymrwymiad ei wneud ym mis Medi 2018, ond, flwyddyn yn ddiweddarach, mae'r cylch gorchwyl yn dal i gael ei gwblhau. Nid yw'n gyflym iawn ac yn y cyfamser, rwy'n pryderu bod gwasanaethau'n parhau'n ddisymud a bywydau pobl yn parhau i gael eu heffeithio. Os oes unrhyw ffordd y gallwch symud y broses honno yn ei blaen yn gyflymach fel y gallwn ddarparu gwasanaethau endosgopi da ledled Cymru, credaf y byddai hwnnw'n gam cadarnhaol iawn ymlaen. Gallai cyflwyno'r Prawf Imiwnogemegol Ysgarthion wella'r nifer sy'n manteisio ar y rhaglen sgrinio. Dylai wella cyfraddau canfod canser y coluddyn a pholypau cyn-ganseraidd yn y coluddyn—fodd bynnag, ceir paradocs eto, oherwydd yr amseroedd aros annerbyniol, ac mae angen ymrwymiad clir gan y byrddau iechyd i fynd i'r afael â'r broblem hon, gan na all unrhyw raglen weithio heb fod y seilwaith yn ei le a phersonél wedi'u hyfforddi'n briodol. Mae'r gweithlu presennol yn enbyd o brin o gastroenterolegwyr ac endosgopwyr meddygol ac anfeddygol eraill. Mae nyrsys sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau endosgopi ar gyfraddau cyflog anghyfartal ac is, ac rydym angen gweld bod achrediad y cyd-grŵp cynghori ar gyfer endosgopi gastroberfeddol—mawredd, onid yw'r GIG yn creu geiriau eithriadol o hir ar brydiau, a gaf fi ddweud y darn hwnnw eto?Mae angen inni weld bod achrediad y cyd-grŵp cynghori ar gyfer endosgopi gastroberfeddol yn cael ei roi ar waith fel ein bod yn gwybod, fel y gallwn fod yn sicr, fod pob bwrdd iechyd yn darparu gwasanaethau yn unol â'r arfer clinigol gorau. Ond Weinidog, yr hyn sy'n peri rhwystredigaeth go iawn yw diffyg cynllunio ac ymrwymiad priodol gan rai byrddau iechyd. Gadewch i mi roi enghraifft i chi: roedd gan Ysbyty Glan Clwyd dîm sefydlog o dri gastroenterolegydd: mae un wedi ymddeol ac un wedi symud, ac eto nid oedd unrhyw flaengynlluniau wedi'u gwneud i ymdopi â'r newid hwn; nid oedd ganddynt gynllun B. Mae Wrecsam Maelor yn cael trafferth gyda staff locwm; mae trafferthion gyda'r capasiti ar benwythnosau. Felly, mae hon yn enghraifft wych o gamreoli. Nid oes cynllun wrth gefn, nid oedd unrhyw flaengynllunio, ac mae'n arwain at ganlyniadau dinistriol i unigolion. Derbyniodd claf terfynol yn dioddef o ganser y coluddyn ei wahoddiad i gyfarfod â'r meddyg ymgynghorol yn yr un mis ag y dywedodd meddyg ymgynghorol arall mewn ysbyty arall na fyddent yn byw i wneud hynny. Meddyliwch pa mor ofnadwy fyddai hynny, cael llythyr yn dweud, 'Dewch draw y mis hwn i gael cadarnhad o'ch diagnosis' a rhywun arall eisoes wedi dweud wrthych, 'Mae'n debyg y byddwch wedi marw erbyn hynny'. Mae angen i'r bwrdd iechyd hwnnw wneud yn well. Mae angen i'r GIG wneud yn well. Mae angen i ni i gyd wneud yn well. Hefin David AC: Canolbwyntiodd y drafodaeth ar yr adroddiad, yn ddealladwy, ar bwysigrwydd gwasanaethau endosgopi i drin canser y coluddyn yng Nghymru, ac yn ei hymateb, mae Llywodraeth Cymru yn nodi eu bod hefyd yn bwysig i driniaethau ar gyfer cyflyrau difrifol nad ydynt yn ganser fel clefyd Crohn a llid briwiol y coluddyn, a gwn fod Crohn's and Colitis UK wedi ymgyrchu dros wasanaethau endosgopi gwell yng Nghymru. Yn ogystal â hynny, gyda'r adroddiad hwn mewn golwg, cyfarfûm â Norgine, cwmni yn fy etholaeth, sydd wedi'i leoli yn Nhir-y-Berth—cyflogwr mawr iawn, ac un o gwmnïau angori Llywodraeth Cymru, sy'n cynhyrchu cynhyrchion fferyllol sy'n trin y cyflyrau hyn ac a ddefnyddir hefyd wrth baratoi ar gyfer colonosgopïau. Felly, mae ganddynt ddiddordeb cryf iawn yn y maes hwn. Ac roedd cyfarfod â'r staff yno a thrafod rhai o'r materion yn dipyn o addysg. Mewn gwirionedd, pan euthum yno, roedd copi o adroddiad y pwyllgor ar eu desg. Felly, roedd yn dda fod y pwyllgor wedi ymchwilio i hyn ac mae'n dangos gwerth y gwaith rydych yn ei wneud. Mae'n cael ei glywed gan bobl ac mae wedi cael ei glywed gan y cwmni hwn. Gofynasant i mi godi rhai materion allweddol, ac fe'u trafodais gyda hwy, oherwydd nid wyf yn arbenigwr yn y maes hwn. Nid oeddwn yn deall y materion yn llawn hyd nes i mi gael y sgwrs honno gyda hwy a darllenais eich adroddiad, sy'n adroddiad da iawn. Y mater allweddol iddynt hwy yw sut y gallwn fynd i'r afael ag effeithlonrwydd gwasanaethau—felly, gwneud mwy gyda'r hyn sydd gennym yn barod. Ac yn wir, mae Llywodraeth Cymru wedi nodi hynny yn eu hymateb i argymhelliad allweddol yr adroddiad. Roedd Norgine yn pryderu nad archwiliwyd effeithlonrwydd yn benodol yn yr adroddiad ei hun. Dywedasant fod gwaith o ansawdd uchel ar baratoi'r coluddyn cyn colonosgopi yn faes allweddol y dylid mynd i'r afael ag ef fel rhan o'r cynllun gweithredu endosgopi cenedlaethol a bod mentrau i ysgogi enillion effeithlonrwydd a chynaliadwyedd cyffredinol yn allweddol i'r hyn y dylai Llywodraeth Cymru ei wneud nesaf. Dywedasant wrthyf mai gwaith annigonol ar baratoi'r coluddyn yw'r prif reswm dros driniaethau colonosgopi aflwyddiannus a gall arwain at oedi neu golli diagnosis, triniaethau hwy ac anos a'r angen wedyn i ailadrodd triniaethau. Dywedasant eu bod yn gweithio'n barhaus i geisio gwella'r broses honno a bod eu cynnyrch wedi'i gynllunio i wneud hynny. Felly, maent wedi gofyn am dri pheth allweddol mewn perthynas â chanlyniad yr adroddiad ac ymateb Llywodraeth Cymru. Maent eisiau tri pheth: maent eisiau gweld y cynllun gweithredu endosgopi yn cael ei gyhoeddi ar fyrder, ac mae'r adroddiad wedi pwyso am hynny ac rydym yn dechrau gweld hynny'n digwydd. Ond yn ogystal â hyfforddiant a chapasiti ysbytai, mae'n bwysig fod meysydd ehangach ar gyfer gwella yn cael y lefel briodol o graffu—felly, gan edrych y tu hwnt i hyfforddiant a chapasiti ysbytai yn unig—ac os oes angen, dylai'r pwyllgor a/neu'r rhaglen endosgopi genedlaethol ymgysylltu â rhanddeiliaid perthnasol i archwilio pa welliannau y gellid eu gwneud mewn perthynas â pharatoi'r coluddyn. Yr hyn y maent yn ei ddweud wrthych, Weinidog, yw bod ganddynt arbenigedd ac y byddent yn fwy na pharod i drafod hynny gyda chi. Cwmni Cymreig ydyw; maent wedi bod yn Nhir-y-Berth ers 50 mlynedd a byddent yn croesawu sgwrs gyda chi, yn enwedig mewn perthynas â'r broses baratoi well honno. Nodaf eich bod wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig heddiw yn annog enillion effeithlonrwydd, ond rwy'n eich annog i ymgysylltu â'r cwmni hwnnw oherwydd dysgais lawer y diwrnod hwnnw a chredaf y gall deialog o'r fath helpu'n fawr yn y gwaith o gynllunio gwasanaethau yn y dyfodol. Caroline Jones AC: Diolch i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon am ei adroddiad ar wasanaethau endosgopi. Fel rwyf fi a llawer o bobl eraill wedi'i nodi, mae'r pwysau ar wasanaethau diagnostig yng Nghymru yn llesteirio ein gallu i wella cyfraddau goroesi canser. Canser y coluddyn yw'r ail ar y rhestr o ganserau sy'n lladd y nifer fwyaf o bobl yng Nghymru. Mae tua 17 o bobl yn marw o ganser y coluddyn bob wythnos. Rydym wedi colli dau o'n pobl ein hunain i'r clefyd erchyll hwn. Fel gyda phob canser, mae diagnosis cynnar yn allweddol i oroesiad hirdymor. O gael diagnosis ar gam 1, mae 90 y cant o gleifion canser y coluddyn yn goroesi. Mae hyn yn gostwng i lai nag un o bob 10 pan gaiff ei ganfod ar gam 4. Sgrinio'r coluddyn yw'r ffordd orau o sicrhau diagnosis cynnar, ond caiff llai na 10 y cant o ganserau'r coluddyn eu canfod gan raglen sgrinio'r coluddyn Cymru. Yn gynharach y mis hwn, disodlodd y Prawf Imiwnogemegol Ysgarthion yr hen brawf gwaed, a oedd yn llai cywir, ar gyfer sgrinio'r coluddyn i unrhyw un rhwng 60 a 74 oed. Yn anffodus, bydd y Prawf Imiwnogemegol Ysgarthion yn llawer llai sensitif oherwydd materion yn ymwneud â chapasiti mewn gwasanaethau endosgopi. Byddwn yn parhau i golli llawer o ganserau oherwydd nad oes gennym weithlu digonol. Unwaith eto, mae diffyg cynllunio gweithlu strategol dros y degawd neu ddau diwethaf yn golygu na fydd ein GIG yn gallu ymdopi â phwysau yn y dyfodol. Mae'n rhaid i ni ostwng ein gallu i ganfod canser am nad oes gennym weithlu i gynnal profion pellach. Mae pwyllgor sgrinio cenedlaethol y DU o'r farn y dylid sgrinio pawb dros 50 oed am ganser y coluddyn er mwyn mynd i'r afael â'r 16,000 o farwolaethau blynyddol o ganlyniad i'r clefyd dychrynllyd hwn. Unwaith eto, nid ydym wedi mynd i'r afael â'r argymhelliad hwn oherwydd problemau capasiti. Nid prinder arian yw'r rheswm am hyn; canlyniad diffyg blaengynllunio ydyw a methiant llwyr Llywodraethau olynol i weithredu cynllunio strategol ar gyfer y gweithlu. Rwy'n croesawu argymhelliad y pwyllgor a galwadau am gynllun gweithredu endosgopi cenedlaethol. Rwy'n falch fod y Gweinidog wedi derbyn argymhellion y pwyllgor a'i fod wedi dweud yn glir mai gofyniad sylfaenol ac nid targed yw'r trothwy sgrinio o 60 y cant. Mae'n rhaid i ni sicrhau bod yn nes at 100 y cant yn defnyddio'r gwasanaeth, ond er mwyn gwneud hynny, mae angen inni sicrhau bod gennym ddigon o gapasiti yn awr i ymdopi â'r cynnydd aruthrol a ragwelir yn y garfan o bobl dros 50 oed. Bydd hyn yn gofyn am gynllunio strategol ar lefel Cymru a'r DU. Rwy'n annog y Gweinidog ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru i weithio'n agos gyda'r gwledydd cartref eraill, yn ogystal â Llywodraeth y DU, i sicrhau bod gennym ddigon o staff wedi'u hyfforddi'n dda ar draws ein gwasanaethau diagnostig. Gallwn drechu'r clefyd ofnadwy hwn drwy sicrhau bod pawb sydd mewn perygl yn cael eu sgrinio'n rheolaidd a'u bod yn ymwybodol o arwyddion cynnar canser y coluddyn. Bryd hynny yn unig y gallwn sicrhau nad oes yn rhaid i deuluoedd eraill ddioddef yr hyn y bu'n rhaid i deuluoedd Sam a Steffan ei ddioddef. Diolch yn fawr. Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething? Vaughan Gething AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon am gyflwyno'r ddadl heddiw ar eu hadroddiad yn dilyn eu hymchwiliad i'r mater pwysig hwn. Rwy'n cydnabod nad yw'r mater wedi cael llawer o ffocws a sylw o ran adroddiadau pwyllgor a gwaith craffu yn y gorffennol, ac rwy'n credu ei bod yn dda fod hynny wedi digwydd yn awr. Mae'n darparu cwestiynau i'r Llywodraeth ac mae'n wir nad oes gennym atebion cyfforddus bob amser, ond mae atebion gonest yn ein hymateb am y sefyllfa bresennol, ac yn wir, yn ein hymrwymiad i fuddsoddi'r amser a'r ymdrech sy'n angenrheidiol i gyflawni'r math o wasanaeth y byddai pob un ohonom yn y Siambr hon ei eisiau i'n hetholwyr. Oherwydd rwy'n cydnabod bod gwasanaethau endosgopi yn hanfodol os ydym am fod mewn sefyllfa i gynnal archwiliadau amserol o ansawdd uchel ar gyfer ystod o feysydd triniaeth. Mae'n rhagofyniad ar gyfer cyflawni'r amseroedd aros ar gyfer diagnosteg a chanser, cyflawni achrediad uned endosgopi, ac wrth gwrs darparu gwell canlyniadau ar gyfer cyflyrau fel canser. Fodd bynnag, ni ddylem ddiystyru'r heriau gwirioneddol sy'n wynebu ein GIG. Mae'n cynnwys gwelliannau angenrheidiol mewn data a chynllunio, recriwtio a hyfforddi, diwygio a safoni ein llwybrau clinigol, yn ogystal â buddsoddi cyfalaf mewn unedau a galluogwyr digidol newydd. Felly, mae'n her amlochrog, a'r cyfan yn erbyn cefndir o gynnydd gwirioneddol yn y galw o flwyddyn i flwyddyn, a gaiff ei lywio gan boblogaeth sy'n heneiddio a chanllawiau clinigol sy'n newid. Felly, mae'n galw am weithredu ar unwaith, wrth gwrs, ond mae'n rhaid i hynny gyd-fynd â'r ffocws mwy hirdymor a pharhaus y gwn fod y pwyllgor wedi'i gydnabod a'i ddeisyfu gan y Llywodraeth. Ac rydym yn cytuno ar hynny, felly nid mater syml o roi arian ychwanegol er mwyn lleihau rhestrau aros yw hyn. Dyna pam y byddwn yn cyhoeddi cynllun gweithredu endosgopi cenedlaethol fel yr argymhellwyd gan y pwyllgor erbyn diwedd mis Hydref, a byddaf yn sicrhau ei fod yn rhoi sylw i'r pwyntiau y mae'r pwyllgor wedi'u codi. Yn y cyfamser, rydym wedi gweithredu amryw o gamau brys sy'n ofynnol ac wedi rhoi rhaglen genedlaethol fanwl a chynhwysfawr ar waith. Rwyf wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig heddiw, a gwn fod y Cadeirydd wedi cyfeirio ato, i amlinellu'r dull rydym wedi'i fabwysiadu yn fanylach, y cynnydd a wnaed hyd yma, ac wrth gwrs, y gwaith a fydd yn digwydd dros y misoedd nesaf. Felly, bydd angen inni symud yn gyflym wedyn at yr amcan a'r gweithredoedd sy'n ofynnol yn y tymor canolig er mwyn sefydlogi gwasanaethau endosgopi, ac yna'r amcanion a'r camau mwy hirdymor sydd eu hangen i sicrhau gwasanaeth gwirioneddol gynaliadwy. Felly, sefydlwyd y rhaglen fel gwasanaeth a gyfarwyddir yn genedlaethol gan y Llywodraeth, yn hytrach na'i harwain gan y GIG, ac mae hynny'n gyson, os mynnwch, yng nghyd-destun yr uchelgeisiau a nodwyd gennym yn 'Cymru Iachach'. Bydd yna adegau pan fydd angen i ni weithredu arweiniad canolog cryfach. Felly, cadeirir bwrdd y rhaglen endosgopi newydd gan ddirprwy brif weithredwr y GIG a'r dirprwy brif swyddog meddygol. Mae'r bwrdd yn cynnwys uwch gynrychiolwyr o'r byrddau iechyd a phobl sy'n cynrychioli rhaglenni gwaith cysylltiedig pwysig fel canser, patholeg a sgrinio'r coluddyn. Rwy'n meddwl am bwynt Hefin David ynglŷn â’r diddordeb sydd gan Norgine yn y maes hwn, ac rwy'n credu y gallai fod yn briodol gweld a fyddent yn cyfarfod ac yn cael trafodaeth uniongyrchol â'r bwrdd endosgopi. Fe af ar drywydd hynny mewn sgwrs gydag ef am y cwmni lleol. Ond bydd y bwrdd hwnnw'n goruchwylio pedair ffrwd waith, gan edrych ar gynllunio galw a chapasiti, addysg a hyfforddiant y gweithlu, datblygu llwybrau clinigol a gofynion cyfleusterau a seilwaith. Darparir cefnogaeth sylweddol eisoes gan gydweithrediaeth y GIG. Mae hynny'n cynnwys arweinydd y rhaglen genedlaethol a'u tîm, yn ogystal ag arweinwyr clinigol a rheolaethol ar gyfer pob un o'r pedair ffrwd waith a amlinellais. Cefnogir y rhaglen gan y £1 miliwn a ddyrannais fel rhan o gyllideb y GIG ar gyfer 2019-20. Mae mwy na hanner hwnnw wedi'i ddyrannu eisoes i gefnogi'r rhaglen waith a nodais. Yn ystod y misoedd nesaf, bydd pob uned ledled Cymru yn cael ymweliadau cyn-asesu i bennu'r hyn sydd ei angen yn lleol i gyflawni'r safon achredu a osodwyd gan Goleg Brenhinol y Meddygon. Nid wyf am geisio dweud y teitl llawn fel y bu Angela Burns yn ddigon dewr i wneud, ond mae yna her wirioneddol i sicrhau bod y seilwaith yn ei le er mwyn cyrraedd y safonau hynny. Yn ddiweddar, cyfarfûm â'r tîm yn Ysbyty Brenhinol Gwent ac maent yn cydnabod nad ydynt yn debygol o fodloni'r safon oherwydd eu lleoliad ffisegol ar hyn o bryd. Ac mae’n bosibl nad yw hyn yn ddiddorol iawn o ran trafodaeth wleidyddol, ond mae’r ffordd dechnegol y mae angen i chi gynllunio lle, y gofod sydd ei angen arnoch chi—mae'r holl bethau hynny'n elfennau gwirioneddol bwysig yn y gwaith o gyflawni'r canlyniadau y mae pob un ohonom yma eisiau eu gweld. Felly, bydd yn galw am fuddsoddiad cyfalaf, a fydd yn cymryd cryn dipyn o amser. Dylem wybod beth yw cyflwr pob un o'n hunedau, felly mae gweithdy cenedlaethol wedi'i gynllunio i roi ystyriaeth bellach i hynny a disgwylir y bydd adroddiadau'r unedau'n dod i law y byrddau iechyd erbyn diwedd y flwyddyn. Rydym hefyd wedi cwmpasu’r rhaglen hyfforddi, wedi sicrhau'r elfennau sy’n allweddol i’r gwaith o’i chyflawni, ac rwy'n gobeithio y bydd yr hyfforddeion endoscopi clinigol cyntaf yn dechrau ar eu hyfforddiant cyn diwedd y flwyddyn galendr hon. A bydd y rolau hyn yn allweddol i wasanaethau cynaliadwy o ystyried y sefyllfa recriwtio heriol ar gyfer meddygon, sef prif ddarparwyr archwiliadau ac ymyriadau hyd yma. Gallaf weld bod amser yn brin, Gadeirydd, ond rwyf wedi rhoi ymateb manwl i'r pwyllgor ac wrth gwrs, byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau a'r pwyllgor ei hun ar y camau rydym yn eu cymryd a'r cynnydd a wneir, ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd y pwyllgor ei hun yn dychwelyd at yr adroddiad hwn yn y dyfodol, a'r camau y mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i'w cymryd heddiw. Diolch. Galwaf ar Dai Lloyd i ymateb i'r ddadl. Dai Lloyd AC: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Byr ydy'r amser sydd gennyf innau hefyd. Allaf i longyfarch a diolch i bawb am gymryd rhan yn y ddadl bwysig yma? Angela Burns yn gyntaf, yn olrhain yr her sylweddol—gweithredu ac atebion sydd eu hangen nawr. Ac, wrth gwrs, i ddweud y peth sy'n amlwg: mae angen mwy o staff arbenigol a mwy o unedau endosgopi nawr i fynd i'r afael â'r her yma. Dwi'n ddiolchgar iawn i Hefin David am olrhain ei brofiad diweddar e, a hefyd am ddweud, yn amlwg, bod yna glefydau eraill y dylem ni fod yn meddwl amdanynt, ddim jest cancr y coluddion, megis clefyd Crohn ac ulcerative colitis, a phwysigrwydd paratoi'r coluddion gogyfer colonosgopi yn y lle cyntaf. Weithiau dyn ni'n anghofio am baratoi y pethau mwyaf sylfaenol. Dwi hefyd yn diolch i Caroline Jones am bwysleisio'r pwysau sydd ar wasanaethau a phwysigrwydd diagnosis cynnar yn hyn o beth. A hefyd dwi'n diolch i'r Gweinidog am ei ymateb cadarnhaol i argymhelliad y pwyllgor. Dyn ni'n edrych ymlaen at weld y cynllun gweithredu yma'n gweld golau dydd. Mae'r her yn sylweddol, ac mae'r her yn mynnu ateb cadarn nawr. Diolch yn fawr. Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ansawdd Aer Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans, a gwelliant 2 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Symudwn yn awr at eitem 9, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ansawdd aer, a galwaf ar Angela Burns i wneud y cynnig. Cynnig NDM7133 Darren Millar Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi mai yng Nghymru y mae peth o'r ansawdd aer gwaethaf yn y DU a bod rhai ardaloedd wedi torri rheoliadau'r UE ers sawl blwyddyn, gan arwain at gymryd Llywodraeth Cymru i'r llys am ddiffyg gweithredu. 2. Yn gresynu bod tua 2,000 o bobl yn marw'n gynnar bob blwyddyn (6 y cant o'r holl farwolaethau yng Nghymru) o ganlyniad i ansawdd aer gwael. 3. Yn nodi ymhellach bod llygredd aer yn dwysáu cyflyrau presennol ar yr ysgyfaint ac yn achosi asthma a chanser yr ysgyfaint, ac nad oes dealltwriaeth lawn eto o effeithiau hirdymor ansawdd aer gwael. 4. Yn galw ar y Cynulliad hwn i basio bil aer glân, a'i ddeddfu, yn ystod tymor y Cynulliad hwn, cyn etholiadau nesaf y Cynulliad. 5. Yn credu y dylai'r Ddeddf: a) ymgorffori yn y gyfraith ganllawiau ansawdd aer Sefydliad Iechyd y Byd; b) mandadu Llywodraeth Cymru i gynhyrchu strategaeth ansawdd aer statudol bob pum mlynedd; c) rhoi dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i fonitro ac asesu llygredd aer yn briodol, a chymryd camau yn ei erbyn; d) cyflwyno 'hawl i anadlu' lle y mae'n ofynnol i awdurdodau lleol hysbysu grwpiau agored i niwed pan fydd rhai lefelau yn torri'r canllawiau a argymhellir. Cynigiwyd y cynnig. Angela Burns AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n bleser gennyf wneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Yn ystod y ddadl heddiw, bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn dangos mai Cymru sydd â'r ansawdd aer gwaethaf yn y DU—ystadegyn damniol ynddo'i hun—ond yn ogystal â hynny, caiff ei waethygu ymhellach gan y realiti ofnadwy fod 6 y cant o'r marwolaethau blynyddol yng Nghymru yn digwydd o ganlyniad i ansawdd aer gwael a'r effaith y mae ansawdd aer gwael yn ei chael ar asthma, cyflyrau'r ysgyfaint a chyflyrau'r galon a chylchrediad y gwaed. A dyma pam ei bod yn hanfodol i'r Cynulliad roi blaenoriaeth i gyflwyno Bil aer glân cyn diwedd y pumed Cynulliad. Mae problemau anadlu'n effeithio ar un o bob pump o'r boblogaeth. Wrth i elusennau a gweithwyr meddygol proffesiynol weithio'n galed i ddod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o drin ac atal clefydau anadlol, maent yn ymladd brwydr yn erbyn ansawdd aer sy'n gwaethygu'n barhaus. Amcangyfrifodd adroddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2014 fod dros 13,500 o flynyddoedd bywyd wedi'u colli yng Nghymru. Am frawddeg ingol yw honno. Nid pobl ydynt mewn gwirionedd, ond y blynyddoedd y gallent fod wedi byw pe na baent wedi cael y clefydau erchyll hyn oherwydd ansawdd aer gwael. Ac mae 13,500 o flynyddoedd bywyd yn nifer enfawr o flynyddoedd bywyd. Maent hefyd yn dweud mai llygredd aer yw'r ail flaenoriaeth iechyd cyhoeddus ar ôl ysmygu. Amcangyfrifir bod cost llygredd aer i GIG Cymru o ran costau i'r gwasanaeth iechyd a diwrnodau gwaith a gollir yn fwy na £1 biliwn y flwyddyn. Mae hynny'n 11 y cant o gyllideb GIG Cymru ar gyfer 2019-20. Diffinnir llygryddaer fel unrhyw sylwedd yn yr aer sy'n gallu niweidio pobl.Mae deunydd gronynnol a nitrogen deuocsid yn ddau lygrydd. Mae deunydd gronynnol yn gymysgedd o solidau a hylifau, sy'n cynnwys carbon, sylffadau, nitradau, llwch mwynol a dŵr yn hongian yn yr aer. Mae grŵp arbenigol Llywodraeth y DU ar ansawdd aer yn nodi bod hanner y llygredd gronynnol o drafnidiaeth ffyrdd yn cynnwys gronynnau sy'n ymwneud â thraul breciau, cyflwr wyneb y ffordd a theiars yn dirywio, sy'n ffactorau enfawr sy'n cyfrannu at y broblem. Mae'n syndod fod peth o'r ansawdd aer gwaethaf yn y DU yng Nghymru, o ystyried ein dwysedd poblogaeth cymharol isel a'n dinasoedd llai. Ond mae gan Gaerdydd a Phort Talbot lefelau uwch o rai llygryddion na Birmingham neu Fanceinion, ac mae rhan o Gaerffili wedi'i dynodi fel y ffordd fwyaf llygredig yn y DU y tu allan i Lundain. Ni sydd ar fai am hyn. Mae'r mwyafrif llethol o lygryddion aer yn rhai a wneir gan bobl ac mae'r lefelau cynyddol yn deillio o'r dewisiadau y mae Llywodraethau a dinasyddion yn eu gwneud bob dydd. Mae'n rhaid i ni dderbyn bod ein penderfyniadau—[Torri ar draws.] Huw Irranca-Davies AC: Diolch am ildio ac mae'n ddrwg gennyf dorri ar draws eich sylwadau agoriadol. Pa mor bell y credwch y dylem fynd fel deddfwyr a llunwyr polisi i gydnabod yr her y mae hi wedi'i nodi mewn perthynas â dinasyddion unigol hefyd, o ran presgripsiynu pethau megis teithio llesol o amgylch ysgolion, y tu hwnt i ddarparu llwybrau'n unig, ond dweud mewn gwirionedd, 'Bydd rhieni'n gweithio gyda'r ysgolion hynny i sicrhau bod eu plant yn mynd i'r ysgol drwy gerdded neu feicio neu ar sgwter, ac nid mewn ceir'? Oherwydd mae'r effaith ar iechyd plant o amgylch ysgolion yn enfawr. Angela Burns AC: Os gwnaiff fy nghyd-Aelod aros ychydig funudau, fe ddatblygaf ychydig mwy ar hynny. Ond mae'r hyn rydych newydd ei ddweud yn atgyfnerthu ein galwad am Fil aer glân, oherwydd dyna'r math o drafodaethau y gallem ni fel Cynulliad, ym mhob un o'n pwyllgorau a chan gymryd tystiolaeth briodol gan y bobl, ddechrau eu cael—pa mor bell y gallwn ei wthio, ble y gallwn arwain, beth yw'r addewidion, beth sy'n gorfodi, beth sy'n cymell, sut y mae'n gweithio? Oherwydd mater i ni yw hyn. Mae'r mwyafrif llethol o'r llygryddion hyn yn rhai a wnaed gan bobl, a ni sy'n dewis cynyddu'r defnydd ohonynt. Rhaid inni dderbyn bod ein penderfyniadau ni, y rhai a wnawn wrth fwrw ati i deithio yn y car neu fynd ar wyliau tramor neu beth bynnag, yn effeithio ar ansawdd yr aer a anadlwn. Nid wyf yn awgrymu y dylem ddeddfu i leihau'r defnydd o geir, ond rwy'n dweud y dylem i gyd ystyried sut y defnyddiwn ein ceir, a golyga hynny fod yn rhaid i drafnidiaeth gyhoeddus wella ac mae angen inni wneud llai o ddefnydd o geir a gwella ein defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus. Un ateb syml, a dyma un peth y gallem ei roi yn ein Bil aer glân, fyddai lleihau'r llygredd yn rhai o'n dinasoedd a'n trefi drwy annog awdurdodau lleol i orfodi'r is-ddeddfau presennol ynglŷn â cheir sy'n segura, sef ceir ar stop â'u hinjan yn rhedeg am gyfnod afresymol o amser. Mae pawb ohonom wedi'i weld, mae yna amrywiaeth o bobl sy'n gwneud y math yma o beth. Rydym yn gwybod hynny, mae'n siŵr ein bod wedi'i wneud ein hunain. Am bob £1 a fuddsoddwyd ar fynd i'r afael â'r broblem hon gan awdurdod lleol, ceir tystiolaeth fod dros £4 yn dychwelyd. Hoffwn annog Llywodraeth Cymru i edrych ar sut y gellid mynd i'r afael â'r mater hwn yn well, oherwydd byddai'n rhywbeth y gellid ei wneud yn hawdd ac yn gyflym. Mae Llywodraeth Cymru yn aml wedi cuddio y tu ôl i'r dadleuon amgylcheddol yn eu hamharodrwydd i fwrw ymlaen ag uwchraddio'r M4, ond yr wrthddadl a anwybyddir yn gyfleus yw bod y draffordd o amgylch Casnewydd wedi'i blocio am sawl awr bob dydd â cherbydau ar stop neu'n teithio ar gyflymder araf iawn—yr un broblem—gan bwmpio llygryddion i'r atmosffer. Ymddengys hefyd fod y Llywodraeth yn credu y bydd buddsoddi mewn seilwaith cerbydau trydan yn helpu i ddatrys problem allyriadau, ond nid yw'n datrys y broblem yn ei chyfanrwydd. Er nad yw cerbydau o'r fath yn cynhyrchu'r un lefelau o nwyon tŷ gwydr, maent yn dal i allyrru llygryddion gronynnol, ac mae 45 y cant o'r llygryddion hynny, fel y dywedais yn gynharach, yn dod o lwch breciau a theiars. Yr hyn y mae angen inni ganolbwyntio arno yw llai o geir yn hytrach na cheir mwy newydd. Mae angen inni edrych—mae angen i chi fod yn edrych—ar sut y mae tynnu pobl oddi ar y ffordd ac ehangu'r rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus. Mae'r risgiau i iechyd sy'n gysylltiedig ag ansawdd aer gwael yn hysbys iawn. Mae clefydau cardiofasgwlaidd presennol yn gwaethygu a cheir risg uwch o asthma a chanser yr ysgyfaint. Fel y crybwyllodd Huw Irranca-Davies eisoes rwy'n credu, mae plant yn arbennig o agored i niwed. Bydd effeithiau'r llygredd y maent yn ei anadlu heddiw i'w weld yn y dyfodol. Maent yn tueddu i anadlu'n gynt nag oedolion ac mae eu hysgyfaint yn dal i dyfu. Mae cysylltiad rhwng anadlu llygredd aer yn ystod beichiogrwydd a phwysau geni isel a genedigaeth gynamserol. Mae plant yn llai o faint felly maent yn aml yn llawer is ac felly'n nes. Yn eu cadeiriau gwthio bach, cânt eu gwthio i fyny ac i lawr y palmentydd ac maent yn anadlu'r holl fygdarthau o bibelli ecsôst. Yn ôl Asthma UK, gwelwyd cynnydd o 8 y cant yn nifer y bobl a fu farw o bwl o asthma yn 2018 o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Ac mae 33 y cant yn fwy—mwy na thraean—o bobl yn marw ers 2008 oherwydd hyn. At hynny, ymhlith y boblogaeth hŷn, gall ansawdd aer gwael effeithio'n andwyol ar gyflyrau presennol. Cafodd cysylltiad cronig â lefelau uchel o lygredd aer uwch eu cysylltu ag achosion o glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, broncitis cronig, asthma ac emffysema. Mae niferoedd y marwolaethau a briodolir i lygryddion yn uwch o lawer mewn ardaloedd trefol o gymharu ag ardaloedd gwledig a cheir graddiant amddifadedd, gyda'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn gweld y crynodiadau nitrogen deuocsid uchaf a'r nifer fwyaf o farwolaethau a briodolir i lygryddion. Mae'n ddiddorol ac yn drist nodi, yn ôl adroddiad 'Toxic air at the door of the NHS' gan Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint yn 2018, fod dau ysbyty yng Nghaerdydd a mwy na hanner meddygfeydd meddygon teulu'r ddinas yn cofnodi lefelau o ddeunydd gronynnol sy'n uwch na chanllawiau Sefydliad Iechyd y Byd. Mae marwolaethau y gellir eu hatal sy'n deillio o glefydau anadlol yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn uwch na 60 y cant ymhlith dynion a 66 y cant ymhlith menywod, o gymharu â dim ond 11 y cant ymhlith dynion a menywod os ydych yn digwydd byw mewn maestref ddeiliog braf neu allan yn y wlad. Ystadegyn ysgytwol, sy'n ofnadwy o annheg ac sy'n arwain at ragor o anghydraddoldebau mewn cymdeithas. Nid ar gyflyrau anadlol yn unig y mae llygredd aer yn effeithio, ond ar gyflyrau cylchrediad y gwaed hefyd. Mae ymchwil gan Sefydliad Prydeinig y Galon wedi canfod bod mewnanadlu crynodiadau uchel o ddeunydd gronynnol yn y tymor byr yn unig yn cynyddu'r risg o drawiad ar y galon o fewn y 24 awr gyntaf i ddod i gysylltiad â llygredd o'r fath. Mae astudiaethau hefyd wedi canfod bod gronynnau mewn pibelli ecsôst diesel yn gwaethygu'r clefyd atherosglerosis—mawredd, heddiw yw fy niwrnod ar gyfer dweud geiriau anodd, onid e?—y cyfeirir ato'n fwy cyffredin fel braster sy'n crynhoi o gwmpas y rhydwelïau. Yn fyd-eang, amcangyfrifir bod 80 y cant o'r marwolaethau a briodolir i lygredd aer yn deillio o glefyd cardiofasgwlaidd. Nawr, Weinidog, rwyf wedi nodi llawer o'r cefndir yma i ddangos pam y mae angen i ni fynd i'r afael ag ansawdd aer gwael a hoffwn sôn yn fyr am y camau y byddwn yn gofyn i chi eu cymryd. Fel plaid, rydym yn croesawu'r cyfeiriad y mae Llywodraeth Cymru yn mynd iddo wrth fynd i'r afael â llygredd aer ac ansawdd aer, ond galwn arnoch i fynd lawer ymhellach. Ym mis Mehefin 2019, dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wrth y Siambr fod aer glân yn ganolog i'n llesiant, a galwaf arni i ystyried y datganiad hwn pan fyddwch yn ystyried ein cynnig heddiw. Mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi gosod cynllun uchelgeisiol i leihau lefelau deunydd gronynnol 30 y cant y flwyddyn nesaf a 46 y cant erbyn 2030, gan dorri £5.3 biliwn oddi ar gostau llygredd aer i gymdeithas yn flynyddol o 2030 ymlaen. Ac mae ein cynnig heddiw yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddilyn yr arweiniad hwn. Mae strategaeth aer glân Llywodraeth y DU yn gweithio law yn llaw â'r strategaeth twf glân ac mae'r cynllun amgylcheddol 25 mlynedd yn creu ymagwedd gyfannol tuag at lanhau aer y DU a gwella iechyd pawb ohonom. Ond credwn eich bod wedi llusgo'ch traed ar leihau allyriadau'n ddigonol yng Nghymru. Yma, cynyddodd yr allyriadau 5 y cant rhwng 2015 a 2016 ac 1.4 y cant arall y flwyddyn, ar gyfartaledd, rhwng 2009 a 2016, ond gostyngodd allyriadau'r DU 5 y cant. Rydym eisiau'r Bil aer glân hwn. Credwn y byddem yn hoffi cael syniadau clir iawn o'r hyn y gallai ei wneud. Rydym yn credu y gallem ei gyrraedd drwy gydweithio cydlynol ar draws y pleidiau ar Fil da a fyddai'n mynd i'r afael â'r broblem ofnadwy ac anodd iawn hon. Rwyf am droi'n gyflym iawn at y gwelliannau. Rydym wrth ein boddau ac yn ddiolchgar iawn am welliant Plaid Cymru. Rydym yn ei gefnogi. Mae arnaf eisiau gwneud un pwynt, sef bod gwir angen inni annog gwneuthurwyr y dechnoleg i gyd-fynd â'n huchelgais gwleidyddol, oherwydd rydym am gael y targedau 2030 hyn, ond mae angen iddynt ysgwyddo'u cyfrifoldeb a gwneud i hynny ddigwydd mewn gwirionedd. Ac o ran y Llywodraeth, mae'n rhaid i mi ddweud bod gwelliant y Llywodraeth, gwelliant 'dileu popeth', mor ddi-fudd mewn dadl eang ac mae'n mynd yn groes i'r ysbryd cydweithredol yr ydym eisiau ei weld ar fater mor bwysig yn fyd-eang. Edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau pawb heddiw i weld sut y gallwn weithio gyda'n gilydd i ddarparu awyr lanach a gwell i bobl Cymru. Diolch. Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol. Gwelliant 1—Rebecca Evans Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi bod lefelau annerbyniol o lygredd aer yn parhau mewn rhai ardaloedd o Gymru, y DU ac Ewrop. Yn gresynu at y ffaith bod rhai amcangyfrifon yn awgrymu bod dod i gysylltiad ag ansawdd aer gwael am dymor hir yn cyfrannu at farwolaeth cynifer â 36,000 o bobl yn y DU, a chynifer â 1,400 o bobl yng Nghymru. Yn nodi hefyd y gall dod i gysylltiad â llygredd aer yn y tymor byr wneud clefydau anadlol yn waeth, fod dod i gysylltiad â llygredd aer yn yr hirdymor yn cynyddu perygl afiachusrwydd a marwolaeth o ganser yr ysgyfaint a chyflyrau eraill, ac y gallwn ddisgwyl i effeithiau iechyd eraill ansawdd aer gwael ddod i’r amlwg wrth i’r ddealltwriaeth wyddonol wella. Yn croesawu camau cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru gan gynnwys cyflwyno terfynau cyflymder parhaol o 50mya; cyflwyno ymgyrch y Diwrnod Aer Glân a datblygu Cynllun Aer Glân i Gymru. Yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i ddefnyddio pob cam deddfwriaethol ac anneddfwriaethol posibl er mwyn gwella ansawdd aer. Cynigiwyd gwelliant 1. Lesley Griffiths AC: Yn ffurfiol. Diolch. Galwaf ar Llyr Gruffydd i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Llyr. Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth Cynnwys is-bwyntiau newydd ym mhwynt 5: mynnu bodcerbydau sy'n defnyddio diesel yn unig a phetrol yn unig yn cael eu dileu yn raddolerbyn 2030; creu parthau aer glân mewn trefi a dinasoedd; rhoi'r hawl i gymunedau osod offer monitro llygredd y tu allan i ysgolion ac ysbytai; galluogi awdurdodau lleol i gyflwyno taliadau llygredd a thagfeydd; llunio cynlluniau cenedlaethol a rhanbarthol i leihau llygredd aer yng Nghymru; diwygio'r gyfraith gynllunio i'w gwneud yn ofynnol y rhoddir mwy o bwys ar effaith llygredd aer yn y system gynllunio. Cynigiwyd gwelliant 2. Llyr Gruffydd AC: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A gaf i groesawu'r cynnig yma? Mi fyddwn ni, wrth gwrs, yn hapus iawn i gefnogi'r cynnig, ond rŷm ni am gynnig gwelliant jest er mwyn ymhelaethu ychydig ynglŷn â'r hyn rŷm ni'n teimlo y gellid ei weithredu. Mi wnaeth Plaid Cymru, wrth gwrs, gynnal trafodaeth ar y pwnc yma yn gynharach eleni, felly rŷm ni'n hapus iawn i weld bod y gefnogaeth yn parhau a bod hwn yn rhywbeth rŷm ni gyd, wrth gwrs, yn awyddus i'w weld, neu gobeithio bod pob un ohonom ni yn awyddus i'w weld. Oherwydd mae'r difrod sy'n cael ei achosi gan lygredd yn yr aer yn ddiamheuol. Rŷm ni wedi clywed rhai o'r ystadegau. Llyr Gruffydd AC: Rydym wedi clywed rhai o'r ystadegau sydd eisoes wedi'u rhestru. Gwyddom fod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud bod llygredd aer bellach yn argyfwng iechyd cyhoeddus gwaeth na dim heblaw ysmygu, ac mae'r ffigur o 2,000 o farwolaethau y flwyddyn yn ffigur syfrdanol. Efallai fy mod i ac eraill yn euog o grybwyll y ffigur gynifer o weithiau fel eich bod yn colli'r synnwyr o faint—2,000 o farwolaethau, neu oddeutu 40 marwolaeth yr wythnos, o rywbeth y gallem ei atal mewn gwirionedd. Dyna'r realiti. Ac wrth gwrs— Andrew RT Davies AC: A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad? Llyr Gruffydd AC: Wel, iawn, o'r gorau. Andrew RT Davies AC: Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am dderbyn ymyriad. Wrth gwrs, dyna'r ffigur ar gyfer marwolaethau a roddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, ond faint o salwch, a salwch difrifol, a achosir sy'n cuddio o dan y ffigur graffig hwnnw rydych newydd ei roi? Llyr Gruffydd AC: Pwynt cwbl ddilys, ac rwy'n falch eich bod wedi'i wneud oherwydd mae'n bwysig ein bod yn cofio hynny hefyd. Mae'n effeithio'n anghymesur, wrth gwrs, ar bobl mewn ardaloedd difreintiedig, ac mae hynny, unwaith eto, yn rhywbeth sy'n peri pryder enfawr. Rydym yn gwybod y gall cysylltiad tymor byr a hirdymor â llygredd aer amgylchynol arwain at gyfyngu ar weithrediad yr ysgyfaint, heintiau anadlol ac asthma sy'n gwaethygu. Mae cysylltiad rhwng mamau a anadlodd lygredd a chanlyniadau geni anffafriol, fel pwysau geni isel, genedigaethau cyn amser a babanod sy'n fach o ystyried oedran y beichiogrwydd. Mae tystiolaeth yn dod i'r amlwg hefyd sy'n awgrymu y gall llygredd aer amgylchynol effeithio ar ddiabetes a datblygiad niwrolegol mewn plant. Gall achosi llawer o ganserau, fel y gwyddom, ac mae rhai llygryddion aer hefyd yn gysylltiedig â chyflyrau seiciatrig. Fel llefarydd Plaid Cymru ar yr amgylchedd, wrth gwrs, ceir effeithiau ecolegol hefyd. Gall llygredd aer achosi niwed amgylcheddol difrifol i'r aer wrth gwrs, ond hefyd i ddŵr daear ac i bridd, a gall fygwth amrywiaeth bywyd yn ddifrifol. Mae astudiaethau ar y berthynas rhwng llygredd aer a lleihad yn amrywiaeth rhywogaethau yn dangos yn glir effeithiau niweidiol halogion amgylcheddol ar ddiflaniad anifeiliaid a rhywogaethau o blanhigion. Bydd llawer o'r Aelodau'n ymwybodol fod gennym grŵp trawsbleidiol ar Ddeddf aer glân yn y Cynulliad hwn wrth gwrs, a Dr Dai Lloyd sy'n ei gadeirio. Mae'n rhaid imi ddweud, pan ddefnyddiodd Dai ei ddadl fer, nifer o fisoedd yn ôl bellach, i alw am Ddeddf, rhannodd gyda ni un peth a arhosodd gyda mi: 150 a mwy o flynyddoedd yn ôl roedd pobl yn goddef dŵr yfed brwnt, ac rydym yn edrych yn ôl ac yn meddwl, 'Dyna warthus oedd hynny'. Wel, rydym ni'n goddef, neu rydym wedi bod yn goddef aer brwnt. Yn y blynyddoedd sydd i ddod, byddwn yn edrych yn ôl yn yr un ffordd ac yn meddwl, 'Sut ar y ddaear y gallasom ddychmygu y gallem oddef hynny?' Rwy'n gobeithio'n awr fod pobl yn sylweddoli bod yr amser wedi dod i weithredu. Felly, gan symud ymlaen at ein gwelliant, yn amlwg, fel y dywedais, rydym yn gefnogol i'r cynnig a'r egwyddor y tu ôl iddo, ac roeddem am sôn ymhellach efallai am rai o'r camau y teimlwn fod eu hangen. Llyr Gruffydd AC: Mae angen bod cerbydau sy'n defnyddio disel yn unig a phetrol yn unig yn cael eu dileu yn raddol erbyn 2030, a chyn hynny os yn bosibl, ond yn sicr mae angen i'r dechnoleg fedru caniatáu inni wneud hynny. Mae yna opsiynau. Mae yna le yng nghanolbarth Cymru sy'n cynhyrchu ceir hydrogen. Bues i ar ymweliad yna—Riversimple. Hynny yw, mae yna opsiynau yn bodoli. Yr hyn sydd yn rhaid inni ei wneud yw sicrhau bod pobl yn gallu manteisio ar y cyfleoedd hynny. Rydym ni angen gweld parthau aer glân mewn trefi a dinasoedd. Mi glywom ni am Gaerdydd a Phort Talbot â lefelau uwch o particulate matter na Birmingham a Manceinion, a rhai o'r strydoedd, wrth gwrs, sydd ymhlith y mwyaf llygredig ym Mhrydain y tu allan i Lundain. Rydym ni angen rhoi hawl i gymunedau osod offer monitro llygredd y tu allan i ysgolion ac ysbytai. Rydym ni angen galluogi awdurdodau lleol i gyflwyno taliadau llygredd a thagfeydd. Rydym ni angen llunio, ie, cynlluniau cenedlaethol ond cynlluniau rhanbarthol hefyd er mwyn lleihau llygredd aer yng Nghymru, a dwi yn teimlo'n gryf bod angen diwygio'r gyfraith gynllunio hefyd, i'w gwneud yn ofynnol i roi mwy o bwys ar effaith llygredd aer o fewn y gyfundrefn honno. Mae yna lawer mwy y gellir ei wneud. Y rhwystredigaeth fwyaf i fi yw nad yw lot o hyn wedi'i wneud yn barod. Mae yna ormod o lusgo traed wedi bod. Fel yr oeddwn yn ei ddweud yn gynharach, mae pob wythnos arall rydym ni'n aros yn golygu tua 40 o farwolaethau diangen, i bob pwrpas. Felly, mae'r amser am siarad yn gorfod dod i ben, a dwi'n edrych ar y Llywodraeth fan hyn gan ddweud, 'Mae'n amser gweithredu.' Nick Ramsay AC: Roedd Margaret Barnard yn ysgrifennydd Anadlu'n Rhydd yng Nghastell-nedd a gefnogir gan Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint, grŵp o bobl yng Nghymru sy'n byw gyda chlefyd yr ysgyfaint, a chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint yn bennaf. Roedd y grŵp yn cynnig cymorth i'w gilydd ac yn codi arian ar gyfer cyfarpar adsefydlu'r ysgyfaint. Roedd Margaret yn gwbl fythgofiadwy i bawb a oedd yn ei hadnabod. Soniaf amdani, nid yn unig oherwydd ei gwaith arobryn gyda Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint, ond oherwydd ei phenderfyniad i fyw'n dda, i osod esiampl, er gwaethaf y cyflwr gwanychol a'i lladdodd yn y diwedd yn 2016. Efallai fod Margaret yn wych, ond nid yw mygu'n rhywbeth gwych o gwbl. Dyna pam y mae angen inni weithredu i helpu pob Margaret arall yng Nghymru—5,500 o flynyddoedd bywyd yn cael eu colli bob blwyddyn yn hen ardal bwrdd iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, 368 o farwolaethau o nitrogen deuocsid, a llygredd deunydd gronynnol lleiaf bob blwyddyn, ac un ardal bwrdd iechyd yn unig yw honno. Yn fy ardal fy hun, yn Nwyrain De Cymru, amcangyfrifir bod 300 o farwolaethau bob flwyddyn ymhlith rhai 25 oed a hŷn wedi'u priodoli i lygredd aer. Nawr, efallai nad yw'r rhain yn ffigurau sy'n llenwi'r penawdau fel y gwelwn ar gyfer clefyd y galon a chanser, ond wrth gwrs, mae llygredd aer yn chwarae rhan mewn achosion cardiofasgwlaidd a chanser hefyd. Efallai y byddech yn disgwyl i nifer y marwolaethau oherwydd llygredd aer edrych yn eithaf gwael mewn ardaloedd lle mae'r dwysedd mwyaf o ddefnyddwyr ceir, gorsafoedd pŵer a diwydiant trwm wrth gwrs. Ond mewn gwirionedd, y dystiolaeth orau o statws llygredd aer fel lladdwr anweledig yw'r ffaith mai yng ngogledd Cymru y gwelwn y nifer fwyaf o farwolaethau, oherwydd y deunydd gronynnol lleiaf, a grybwyllwyd gan fy nghyd-Aelod Angela Burns yn gynharach—y llwch peryglus sy'n dod o draul breciau, traul teiars ac o draul wyneb y ffordd. Efallai fod gogledd Cymru'n fwy gwledig, yn llai poblog, ond fel ardaloedd yn y de—Casnewydd a chytrefi—nid oes yno draffig sy'n llifo'n rhydd. Y traffig hwnnw, yn hytrach na ffynonellau eraill, yw'r halogydd aer mwyaf yng Nghymru, ac mae'n broblem frawychus. Mae cael cerbydau trydan cyfatebol yn lle rhai petrol a diesel yn dal i olygu bod ceir, lorïau a bysiau sy'n cynhyrchu'r llwch peryglus hwnnw—y PM2.5—gyda ni heddiw. Eto i gyd, mae ein gwahanu oddi wrth ein ceir, fel y trafodwyd gennym, yn galw am newid diwylliant enfawr yn ogystal â dewisiadau amgen realistig. Wrth gwrs, mae newid wedi digwydd yn y gorffennol; rwy'n cofio pan gyflwynwyd petrol swlffwr isel iawn am y tro cyntaf—a châi hynny ei ystyried yn enghraifft o arloesi gwych. Roedd yn arloesi—roedd yn well na'r petrol plwm a oedd wedi dod cyn hynny—ond dyma ni, nifer o flynyddoedd yn ddiweddarach, ac mae arnom angen datblygiadau eraill hefyd, a rhaid i gerbydau trydan fod yn rhan o hynny. Mae angen inni fod yn ddewr ac yn feiddgar, ac mae hynny'n llawer llai brawychus os ydym i gyd yn cytuno bod angen ei wneud. Rwy'n credu bod ewyllys gwleidyddol yma yn y Siambr hon, er mor gelfydd y mae'r gwelliant a grybwyllodd Angela Burns yn gynharach yn cuddio hynny—y gwelliant 'dileu popeth'. Rydym yn croesawu gwelliant Plaid Cymru, sy'n cyflwyno elfen werthfawr i'r ddadl hon yn ein barn ni, ond cawn weld a fydd yn cael ei dderbyn. Nid dyma'r amser i Lywodraeth, boed yn Llywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU, fod yn amddiffynnol; mae'n bryd i bob un ohonom droi ymrwymiad yn weithredoedd. Cyhoeddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ei barth rheoli ansawdd aer cyntaf yn Ionawr 2019 ar gyfer Stryd y Parc, nad yw, gyda llaw, yn ardal arbennig o ddifreintiedig. Nid yw mor hawdd dod o hyd i fanylion ynglŷn â sut yn union y mae'r Cyngor yn bwriadu gwneud gwelliannau, er y gallwch ddod o hyd i fanylion ynglŷn â sut y bydd caniatâd cynllunio ar gyfer dau ddatblygiad adeiladu dadleuol yn ychwanegu ymhellach at dagfeydd traffig yno. Mae'n broblem y dylid ei thrafod, nid yn unig gennym ni, ond gan awdurdodau lleol ledled Cymru sy'n gwneud llawer o'r gwaith ar lawr gwlad, i sicrhau bod eu gweithrediadau'n dryloyw er mwyn i bobl allu cael gafael ar wybodaeth o'r fath i allu gwneud penderfyniadau gwybodus. Un peth yw lleihau cyfaint y traffig ar y ffyrdd, ond mae llawn cymaint o fai ar reolaeth draffig wael ag sydd ar ein cariad at y car, ac mae'n gofyn llawer i gynghorau ôl-osod newidiadau mawr eu hangen i seilwaith lleol, yn enwedig ar adeg pan fo cyllidebau o dan bwysau wrth gwrs. Mae parthau 50 milltir yr awr yn rhan bosibl o'r ateb, ond nid yr ateb cyfan y byddai Llywodraeth Cymru yn gobeithio amdano. Yn fy ardal i, mae gennym obeithion mawr ar gyfer metro de Cymru, ond mae llawer o'r newidiadau arloesol mwy addawol yn perthyn i'r dyfodol: yn ne-orllewin Cymru, gallai metro yno fod yn rhan o'r ateb, ac edrychwn am gynllunio tuag at hynny; rhaid i reoli traffig fod yn rhan o'r ateb a lleihau cyfaint y traffig dros amser; mae Aelodau'r Cynulliad wedi crybwyll mwy o deithio llesol; trafnidiaeth gyhoeddus, wrth gwrs, y bydd pobl yn gallu ei defnyddio'n effeithiol, a soniais yn y datganiad busnes ddoe sut y mae cyrraedd Caerdydd i weithio yn y bore yn un peth yn fy ardal i, ond mae'n anodd iawn cyrraedd adref yn y nos pan nad oes gwasanaeth bws ar ôl 5.30 pm. Dylai cynlluniau datblygu lleol fynnu bod lleoliad safleoedd ceisiadau tai yn helpu ac nid yn gwaethygu'r broblem mewn mannau lle y ceir problemau eisoes—yn hytrach, dylent eu lliniaru. Fel y dywedais yn gynharach, Ddirprwy Lywydd, nid ydym yn cefnogi'r gwelliant 'dileu popeth'. Rydym yn cefnogi'r hyn y mae gwelliant Plaid Cymru yn ei gynnig i'r ddadl. Diolch yn fawr iawn. Jenny Rathbone. Jenny Rathbone AC: Diolch. Ni allaf ddweud fy mod yn anghytuno â dim y mae'r siaradwyr wedi'i ddweud hyd yn hyn ac rwy'n credu bod llawer iawn o gytundeb ynglŷn â'r argyfwng sy'n ein hwynebu a'r camau gweithredu sydd eu hangen. Felly, gobeithiaf y bydd y Gweinidog, yn ei hymateb, yn dweud wrthym pam y mae'n credu mai dim ond 1,400 o bobl yng Nghymru sy'n marw o lygredd aer pan fo Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint yn dweud ei fod yn 2,000, oherwydd mae hwnnw'n wahaniaeth eithaf sylweddol. Rwy'n mynd i siarad am y sefyllfa yng Nghaerdydd, gan fy mod i'n gynrychiolydd o Gaerdydd, ac mae gan Gaerdydd lygredd aer sy'n cyfateb i, neu'n waeth na'r llygredd aer ym Manceinion a Birmingham ac mae hwnnw'n ystadegyn eithaf damniol o ystyried bod Birmingham a Manceinion yn gytrefi llawer iawn mwy o faint. Felly, mae gennym broblem wirioneddol ddifrifol yma yng Nghaerdydd, a gallwn weld pam, gan ein bod yn gwybod bod pedwar o bob pump o bobl yn cymudo i Gaerdydd mewn car a dim ond 8 y cant sy'n cerdded a 2 y cant yn unig sy'n beicio. Felly, mae angen gweld newid mawr yn y diwylliant a newid ymddygiad. Un o'r ardaloedd mwyaf llygredig yn fy etholaeth i yw Ffordd Casnewydd, sy'n cynnwys Ysbyty Brenhinol Caerdydd—cyn-ysbyty, canolfan iechyd estynedig bellach—ond sydd drws nesaf i ysgol gynradd, sydd â lefelau hollol erchyll o lygredd aer oherwydd nifer y cymudwyr sy'n mynd heibio'r drws yn y bore. Felly, maent wedi cyflwyno sgrin werdd, coeden werdd artiffisial ar y ffens i geisio diogelu eu buarth rhag mwg gwenwynig, ac mae'n syniad da—yn wir, yn ôl cynlluniau peilot mewn mannau eraill, bydd yn lleihau'r llygredd oddeutu 20 y cant, ond yn amlwg, nid yw hynny'n ddigonol mewn ardal hynod o lygredig. Hoffwn weld y ffordd honno'n cau ond dywedir wrthyf fod y traffig sy'n mynd ar y llwybr amgen eisoes ar 106 y cant o'r capasiti. Felly, nid yw'r mathau hynny o atebion lleol yn ddigon. Rhaid inni gyfyngu ar y traffig a ddefnyddir i gymudo ar gyfer teithiau ysgol a phobl sy'n mynd i'r gwaith yn gyffredinol, ac mae hynny'n golygu wrth gwrs fod angen gwell system trafnidiaeth gyhoeddus, ond mae angen inni hefyd newid yn gyfan gwbl y ffordd y meddyliwn am sut y mae ein plant yn mynd i'r ysgol. Mae angen inni beidio â dangos unrhyw oddefgarwch tuag at rieni sy'n dal i fynnu mynd â'u plentyn yn syth at gatiau'r ysgol, sy'n ddrwg i'r plentyn ac yn ddrwg i'r gymuned gyfan. Yr wythnos diwethaf, euthum gyda'r aelod cabinet dros yr amgylchedd a thrafnidiaeth ar Gyngor Caerdydd ar daith feicio o Ysgol Uwchradd Llanisien i Ben-twyn, o ble y bydd llawer o fyfyrwyr yn fy etholaeth yn teithio i Ysgol Uwchradd Llanisien. Mae bron yn 3 milltir ac mae cost cludiant i'r ysgol yn rhwystr enfawr i lawer o bobl ifanc nad ydynt yn mynd i'r ysgol oherwydd nad ydynt yn gallu fforddio'r tocyn bws erbyn diwedd yr wythnos, er eu bod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae honno'n sefyllfa enbyd ac mae angen inni sicrhau bod gan y disgyblion hyn ddulliau amgen o deithio, ac os gallwn roi cynllun prynu beiciau iddynt, mae llwybrau ar gael eisoes, gydag un neu ddau o fannau cyfyng y mae angen mynd i'r afael â hwy, i'w galluogi i gyrraedd yr ysgol yn eithaf rhwydd—maent yn 11 oed a hŷn—heb orfod dibynnu ar gludiant ysgol drud. Felly, dyna un peth. Bydd bysiau trydan yn dod i Gaerdydd am eu bod wedi llwyddo i gael arian gan yr Adran Drafnidiaeth, ac mae hynny'n mynd i fynd—. Mae pedwar o'r llwybrau bws hyn ar Ffordd Casnewydd yn mynd i fod yn lanach o ganlyniad. Ond mae gwir angen i ni weld y math o barthau aer glân sy'n mynd i gael eu cyflwyno yn Birmingham, ac sydd wedi'u haddo ym Manceinion hefyd, er mwyn sicrhau bod ein prifddinas yn teimlo fel prifddinas yn hytrach na man lle mae'r boblogaeth fwyaf difreintiedig yn gorfod byw mewn ardaloedd lle y ceir llygredd helaeth. Hoffwn atgoffa Aelodau'r Blaid Geidwadol fod peidio â thrydaneiddio'r brif lein i Abertawe hefyd yn cyfrannu'n helaeth at y llygredd sy'n parhau yng Nghaerdydd, a hynny am fod y drafnidiaeth ddeufodd yn golygu, pan fydd y trên naill ai'n mynd tuag at Abertawe neu'n dod yn ôl o Abertawe, ei bod yn chwydu nwyon diesel allan yn hytrach na thrydan sy'n llawer glanach. Felly, mae angen inni weld newid enfawr. A'r newid mawr arall y mae angen inni ei weld yw e-feiciau, y rhoddodd llawer ohonom gynnig arnynt pan ddaethant yma ddoe. Mae hwn yn gyfle enfawr i bobl newid o ddefnyddio ceir i ddefnyddio, nid beiciau ond e-feiciau, am eu bod yn galluogi rhai llai abl yn gorfforol i ddefnyddio beic, maent yn eich galluogi i fynd i fyny bryniau serth, fel sydd gennyf yn fy etholaeth, ac maent hefyd yn eich galluogi i gario siopa trwm adref yn ddidrafferth. Felly, rwy'n credu bod e-feiciau yn un o'r ffyrdd y gallwn hyrwyddo ffordd wahanol o symud o gwmpas ein dinas. Ond mae'n rhaid i ni feddwl hefyd am bethau fel barthau gwahardd traffig ger ysgolion i atal pobl rhag gwneud y peth anghywir a gwaethygu traffig y tu allan i'r ysgol gan beryglu pob disgybl. Mohammad Asghar (Oscar) AC: Mewn araith yn y Brifysgol Americanaidd yn Washington ym mis Mehefin 1963, dywedodd yr Arlywydd John F. Kennedy: yr hyn sy'n ein cysylltu yn fwyaf sylfaenol yw ein bod i gyd yn byw ar y blaned fach hon. Mae pob un ohonom yn anadlu'r un aer. Roedd hwnnw'n ddyfyniad enwog gan ddyn enwog iawn ac wrth gwrs, mae'n ddatganiad mor wir. Yn ddiweddarach yn yr un araith, siaradodd am hawliau dynol ac aeth ymlaen i ddweud—dyma'r dyfyniad: yr hawl i anadlu fel y darparodd natur—hawl cenedlaethau'r dyfodol i fod yn iach. Am hynny y mae'r ddadl hon y prynhawn yma, Ddirprwy Lywydd. Mae'n ffaith drist fod Cymru'n cynnwys rhai o'r ardaloedd mwyaf llygredig yn y Deyrnas Unedig, ac mae cysylltiad clir rhwng ansawdd aer, amddifadedd ac iechyd. Mae astudiaethau wedi dangos bod perygl i iechyd y cyhoedd yn sgil cysylltiad mynych â llygredd aer. Mae llygredd aer yn cynyddu'r cysylltiadau â marwolaethau drwy gael effaith andwyol ar gyflyrau presennol yr ysgyfaint. Mae hefyd yn achosi asthma a chanser yr ysgyfaint. Mae'r risg hon yn arbennig o ddifrifol i blant sy'n dod i gysylltiad â llygredd aer. Mae'n gysylltiedig â diabetes, gweithredoedd gwybyddol, namau geni, canlyniadau, a niwed i organau fel yr iau a'r arennau—rhannau hynod o bwysig o'n cyrff. Mae rhai o'r ardaloedd mwyaf llygredig yn fy rhanbarth i, sef de-ddwyrain Cymru. Ar draws ardal bwrdd iechyd Aneurin Bevan, mae tua 15 y cant o oedolion yn cael triniaeth ar gyfer problemau anadlu. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol mai cartrefi wrth yr A472 yn Hafodyrynys sy'n dioddef y lefel uchaf o nitrogen deuocsid yng Nghymru. Dim ond y rhai a gofnodwyd yng nghanol Llundain oedd yn uwch na'r lefelau a gofnodwyd yn 2015 a 2016. Mewn ymateb, mae cyngor Caerffili wedi penderfynu rhoi camau drastig ar waith i brynu 23 o'r adeiladau yr effeithiwyd arnynt waethaf er mwyn eu dymchwel. Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ddarparu'r cyllid angenrheidiol, yr amcangyfrifir y bydd yn £4.5 miliwn. Caniatawyd i'r sefyllfa hon yn Hafodyrynys barhau'n rhy hir. Mae polisi cyngor Caerffili o wneud cyn lleied â phosibl ac aros i dechnoleg newid erbyn 2025 wedi bod yn druenus o annigonol. Ddirprwy Lywydd, mae hyn yn pwysleisio'r angen am Ddeddf aer glân yng Nghymru. Mae Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint ac Awyr Iach Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Bil o'r fath. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn araf yn ymateb i'r risgiau iechyd a achosir gan ansawdd aer gwael yng Nghymru. O ganlyniad i'r methiant hwn i weithredu, mae ClientEarth wedi rhoi camau cyfreithiol ar waith. Mae Gweinidogion wedi methu gosod targedau clir yn hytrach na gwneud datganiad amwys sy'n gwadu atebolrwydd. Byddai Deddf aer glân Gymreig yn ymgorffori yn y gyfraith y canllawiau ansawdd aer a gynhyrchwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd. Byddai'n mynnu bod Llywodraeth Cymru yn cynhyrchu strategaeth ansawdd aer statudol gyda thargedau clir i wella ansawdd aer yng Nghymru. Byddai dyletswydd ar awdurdodau lleol i fonitro ac asesu llygredd aer ac i roi camau buan ac effeithiol ar waith yn unol â hynny, a byddai'n cyflwyno gorfodaeth ar awdurdodau lleol i hysbysu grwpiau diamddiffyn pan fydd lefelau llygredd yn torri'r canllawiau a argymhellir. Ddirprwy Lywydd, fel y dywedodd yr Arlywydd Kennedy dros 50 mlynedd yn ôl, mae'r hawl i anadlu aer glân yn hawl ddynol. Rydym oll yn anadlu'r un aer; mae gan bob un ohonom hawl i anadlu aer glân. Hoffwn annog pawb ohonoch i gefnogi'r cynnig hwn heddiw. Diolch. Caroline Jones AC: Rwy'n croesawu'r cyfle i drafod y pwnc pwysig hwn a diolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl hon. Fel y nodais droeon, ansawdd aer gwael yw un o'r heriau iechyd cyhoeddus mwyaf sy'n wynebu Cymru. Mae hyn yn arbennig o wir yn y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli ac yn byw ynddo, Gorllewin De Cymru, sydd â pheth o'r ansawdd aer mwyaf brwnt yn y DU. Mae lefelau PM10 yn aml yn uwch na'r trothwy dyddiol diogel; mewn sawl ysgol yn fy rhanbarth, rydym wedi cael llawer o ddyddiau yn yr ychydig fisoedd diwethaf lle'r oeddent yn ddwbl y trothwy dyddiol diogel. Llygryddion aer sy'n gyfrifol am farwolaethau o leiaf bump o bobl y dydd yng Nghymru a'r cyfrannwr mwyaf i lygredd aer yw trafnidiaeth. Ers i Lywodraeth Lafur y DU gymell y newid i ddiesel, cynyddodd nifer y gronynnau a'r nitrogen deuocsid yn ein hatmosffer yn ddramatig. Cydnabu Llywodraeth bresennol y DU ffolineb y polisi hwn ac mae wedi cyflwyno system dreth cerbydau newydd i gosbi'r cerbydau sy'n llygru fwyaf. Maent hefyd wedi cyflwyno cynllun sgrapio newydd wedi'i gynllunio i dynnu hen gerbydau sy'n llygru oddi ar y ffordd, a gwnaethant ymrwymiad i symud tuag at ddyfodol o gerbydau trydan yn unig drwy gael gwared ar yr holl injans tanwydd ffosil yn raddol erbyn 2040. Rwy'n croesawu'r camau hyn. Mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu i gefnogi'r camau hyn gan Lywodraeth y DU. Mae Llywodraeth Cymru wedi wynebu achos llys am ei diffyg gweithredu i fynd i'r afael â llygredd aer. Mae'n hen bryd iddi gyflawni ei dyletswyddau i'r cyhoedd yng Nghymru. Gall ddechrau drwy weithredu i leihau tagfeydd traffig, sy'n chwyddo effaith llygredd traffig. Mae wedi cyflwyno cyfyngiadau cyflymder o 50 mya ar yr M4 ger fy nghartref, ac eto ychydig iawn o dystiolaeth os o gwbl a geir y bydd yn helpu i wella ansawdd yr aer. Y cyfan y mae wedi'i wneud yw cynyddu tagfeydd traffig. Hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y system gynllunio yn rhoi ystyriaeth i'r effaith y bydd datblygiadau newydd yn ei chael ar dagfeydd traffig. Rwyf bob amser wedi dweud bod llygredd aer yn broblem iechyd y cyhoedd a bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddatblygu strategaeth i fynd i'r afael ag ansawdd aer gwael ar lefel genedlaethol— Jenny Rathbone AC: A wnewch chi dderbyn ymyriad? Caroline Jones AC: Yn sicr. Jenny Rathbone AC: Rwy'n ei chael hi'n anodd deall sut y credwch ei bod yn broblem fawr, ond rydych chi'n dal i wrthwynebu 50 mya, sy'n amlwg yn lleihau faint o— Caroline Jones AC: Wel, oherwydd bod y tagfeydd traffig ar gyffordd 41 ac yn y blaen yn erchyll. Jenny Rathbone AC: Gallech gael pawb yn rhuthro o gwmpas ar 100 mya, ond ni fyddai ond yn cynyddu'r llygredd, oherwydd byddai mwy fyth o gerbydau. Caroline Jones AC: Ond mae'r tagfeydd yno o gerbydau ar stop wedi— Na, ni allwch gael sgwrs ar draws y Siambr. Caroline Jones AC: Gallwn gael sgwrs yn nes ymlaen. Yn ogystal ag awdurdodau lleol yn monitro ansawdd aer, mae angen cael system adrodd i rybuddio trigolion am ansawdd aer gwael. Gellid defnyddio datblygiadau fel y lloeren Sentinel-5C a wnaed ym Mhrydain, sy'n monitro llygryddion aer, ar lefel genedlaethol i wella'r dull o ragfynegi lefelau uchel o lygredd aer a dylid eu defnyddio i rybuddio'r cyhoedd am ddigwyddiadau o'r fath, yn yr un modd ag y mae adroddiadau tywydd yn cynnwys cyfrif paill. Mae angen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU weithredu ar hyn ar frys. Mae lefelau llygredd uchel yn lladd. Rhaid inni ystyried yr heriau enfawr o ran seilwaith a ddaw yn sgil trydaneiddio trafnidiaeth. Sut y gallwn gyflwyno pwyntiau gwefru i'r bobl nad ydynt yn ddigon ffodus i feddu ar dramwyfa neu garej? Buaswn yn annog y Llywodraethau, yng Nghymru ac yn San Steffan, i fuddsoddi yn y gwaith o ddatblygu dulliau di-wifr o wefru cerbydau. Rhianon Passmore AC: A wnewch chi dderbyn ymyriad? Caroline Jones AC: Nid un arall, mae'n ddrwg gennyf. O, ewch ymlaen. Ewch ymlaen. Rhianon Passmore AC: O ran pwysigrwydd llygredd, a yw eich plaid bellach yn deall ac o'r farn fod cysylltiad agos iawn rhwng llygredd a newid yn yr hinsawdd? Caroline Jones AC: Rwyf wedi credu hynny erioed. [Torri ar draws.] Rwy'n siarad drosof fy hun. Rydych wedi gofyn cwestiwn i mi; nid gofyn i fy mhlaid a wnaethoch. Fe ofynnoch chi i mi—fy mhwynt, ac rwyf wedi'i bwysleisio. Diolch. Felly, mae angen i Gymru a San Steffan fuddsoddi yn y gwaith o ddatblygu dulliau di-wifr o wefru cerbydau. Mae angen i'r ddwy Lywodraeth sicrhau hefyd na rwystrir y broses o gyflwyno pwyntiau gwefru cerbydau trydan gan y system gynllunio. Rhaid inni fynd benben â'r her iechyd cyhoeddus fawr hon. Rhaid inni wella ein ffordd o weithredu. Dylid annog ffyrdd amgen o deithio—cerdded, pan fo modd. Mae'n rhaid i ni gyd weithio gyda'n gilydd, er mwyn sicrhau nad oes neb yn marw o ganlyniad i ansawdd aer gwael yn y dyfodol. Mae arnom angen Deddf aer glân, gan nad yw dymchwel tai mewn ardaloedd sydd wedi'u llygru'n helaeth yn ateb. Rhaid inni fynd i'r afael â'r broblem ac nid y symptomau. Diolch yn fawr. David Melding AC: Rwy'n falch o gael cyfrannu at y ddadl hon. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, am resymau cywir iawn, mae newid hinsawdd wedi dod i ddominyddu ein hagenda wleidyddol. Ond i lawer o bobl, oherwydd nad ydynt yn gweld effaith uniongyrchol yn yr hyn y maent yn ei wneud, ni chânt eu darbwyllo i wneud rhai o'r dewisiadau a fyddai o fudd mawr i ni yn hirdymor. Ond o ran ansawdd aer, mae'n faes sy'n cael effaith ar unwaith, ac mae gwella ansawdd aer yn cynnig mantais uniongyrchol. Rwy'n credu mai dyna sydd angen i ni ei bwysleisio y prynhawn yma. Rwyf wedi cefnogi hyn yn gyson. Dyma oedd un o'r areithiau cyntaf imi eu gwneud yn y pumed Cynulliad hwn, pan heriais y Llywodraeth ynglŷn â pham nad oedd ganddynt adran ar ansawdd aer yn eu rhaglen lywodraethu. Yn ffodus, fe wnaethant unioni hynny'n gyflym iawn, ac rwy'n credu ein bod wedi datblygu'n sylweddol. Roedd yn rhan ganolog o'r strategaeth a lansiwyd gennym y llynedd ar ddinasoedd byw, ac rwy'n falch iawn o weld y camau arloesol a gyflwynir ac awgrymiadau yn y maes polisi hwn, ac yn wir rwy'n cynnwys gwelliant Plaid yn y categori hwnnw. Drwy gyd-ddigwyddiad, Ddirprwy Lywydd, ceir erthygl ragorol yn y Financial Times heddiw sy'n crynhoi rhywfaint o'r gwaith ymchwil diweddar sy'n dangos effeithiau tymor byr aer gwael, ac nid wyf yn credu bod neb wedi canolbwyntio ar hynny y prynhawn yma mewn gwirionedd, felly efallai y caf amlinellu rhai o'r astudiaethau diweddaraf. Yn y bôn, mae'n dangos yr effeithiau tymor byr ar ddatblygiad plant, ar gynhyrchiant, ar effeithiolrwydd gwybyddol—mae'r holl bethau hyn yn cael eu gweld fel rhai ag iddynt effeithiau tymor byr mawr, yn ogystal â rhai hirdymor. Darganfu ymchwil a wnaed yn Israel fod cynnydd cymedrol mewn deunydd gronynnol ar ddiwrnod arholiad ysgol uwchradd myfyrwyr Israelaidd yn gysylltiedig â gostyngiad sylweddol yng nghanlyniadau arholiadau'r myfyrwyr hynny. Pan fyddwch yn meddwl amdano o ddifrif, gallai un diwrnod arwyddocaol o lygredd aer gael effaith ddramatig ar eich addysg a'ch rhagolygon ar gyfer y dyfodol—mae hynny'n syfrdanol. Edrychodd gwaith ymchwil arall ar staff canolfannau galwadau a weithiai i'r un cwmni ond mewn gwahanol ddinasoedd yn Tsieina. Ar ddiwrnodau llygredig, gostyngai'r cynhyrchiant rhwng 5 a 6 y cant. Mae ansawdd aer gwael hefyd yn achosi perfformiad gwannach—ac nid wyf yn dychmygu hyn—ymhlith pêl-droedwyr proffesiynol yn yr Almaen. Ar ddiwrnod gêm, os ydych wedi dod i gysylltiad ag aer o ansawdd gwael, maent wedi gallu mesur ei fod yn cael effaith ar eich gallu corfforol a meddyliol. Dengys astudiaeth arall fod byw mewn rhan o'r Unol Daleithiau sydd â chyfradd uchel o lygredd carbon monocsid yn gwneud mwy o niwed i faban yn y groth na phe bai'r fam yn ysmygu 10 sigarét y dydd, a dengys astudiaeth arall fod bron i 3,000 o blant yn Barcelona a ddaeth i gysylltiad â mwy na'r cyfartaledd o lygredd aer yn dioddef yn sgil datblygiad gwybyddol arafach. Mae'r rhain yn ganfyddiadau arwyddocaol iawn sy'n peri pryder, ac mae angen inni roi ystyriaeth ddifrifol iawn iddynt. Hoffwn edrych hefyd ar faes hollol wahanol i orffen, sef ansawdd llygredd aer dan do. Mae astudiaethau wedi dangos y gall fod dros dair gwaith yn waeth na llygredd awyr agored, ac mae ymgyrchwyr yn y DU wedi galw'r effaith hon ar ein cartrefi yn 'flychau gwenwynig' oherwydd nifer y gronynnau llygredd aer sy'n gallu cael eu dal y tu mewn i'n cartrefi. Mae ymchwil wedi dweud bod hyn yn deillio o ganlyniad i gyfuniad o weithgareddau dan do, fel coginio neu losgi coed, ynghyd â llygredd awyr agored o drafnidiaeth, sy'n dod i mewn, gan greu crynhoad o lygredd y tu mewn i'r cartref, ac mae'r crynoadau hyn o lygredd yn cymryd llawer mwy o amser i wasgaru na llygredd awyr agored. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cofio, o ran ansawdd cynllunio tai a'n polisi presennol, o ran sut yr awn ati i adnewyddu a gwella effeithlonrwydd ynni ac yn y blaen, fod yna effaith real ar ansawdd aer, ac y gall y llygryddion sy'n cronni yn y cartref droi ein mannau mwyaf gwerthfawr yn fannau sy'n peri niwed sylweddol. Felly, rwy'n credu bod gwir angen inni gael strategaeth gynhwysfawr yn awr ar gyfer ansawdd aer. Mae'n cyd-fynd â newid yn yr hinsawdd, ond mae hefyd yn cyd-fynd â llawer o faterion iechyd y cyhoedd, cynhyrchiant, effeithlonrwydd yr economi a chanlyniadau addysgol. Ond rwy'n falch iawn ynglŷn â chywair y ddadl y prynhawn yma. Rwy'n credu o ddifrif fod hyn y tu hwnt i wleidyddiaeth bleidiol, a'r hyn yr hoffem ei gael gan bawb a chan y Llywodraeth yw mwy o uchelgais, a byddwn yn eich annog pan fyddwch yn gosod targedau mwy uchelgeisiol, ac rwy'n credu o ddifrif hefyd mai dyna y mae pobl Cymru ei eisiau. Mandy Jones AC: Ers dod yn Aelod Cynulliad, rwyf bellach yn teithio rhwng gogledd Cymru a de Cymru'n rheolaidd, ac rwy'n defnyddio'r M4 o amgylch Casnewydd i wneud hyn. Fel gyrwyr eraill, rwy'n cadw at y cyfyngiad cyflymder. Fodd bynnag, mae gostwng y cyflymder ar yr M4 yn dipyn o syndod, gan nad yw'r arwyddion yn rhoi unrhyw reswm dros y newid, ac nid oes rhybuddion. Yr adwaith naturiol weithiau yw arafu cryn dipyn, yn is o dipyn na'r terfyn cyflymder o 50 mya, ac mae hyn hefyd yn beryglus. Yn yr amgylchiadau hyn, gallaf weld sut y mae damweiniau'n digwydd, a gwn fod hyd yn oed mân ddamweiniau'n dod â'r darn pwysig hwn o seilwaith i stop, a dim ond unwaith yr wythnos yn unig y byddaf yn gwneud hyn; rhaid i rai pobl wneud hyn bob dydd er mwyn cyrraedd y gwaith, dosbarthu pethau ac yn y blaen. A wnewch chi feddwl am arwyddion mwy effeithiol i dynnu sylw gyrwyr at y gostyngiad yn y terfyn cyflymder sydd ar ddod a'r rheswm pam? Ac rwyf hefyd yn gwybod bod yr M4 o amgylch Casnewydd a'r ffordd sy'n bwydo i mewn iddi yn aml ar stop, oherwydd mae'n rhaid i mi yrru arnynt i ddod i mewn i Gaerdydd, gyda cheir yn segura ar y ffyrdd am gyfnodau hir ac yn creu tagfeydd enfawr. Ni allaf weld sut y mae'r gostyngiad yn y terfyn cyflymder yn helpu pan fydd ceir yn sefyll yn llonydd yn chwydu nwyon ecsôst. Rwyf hefyd yn deall bod asesiadau o ansawdd aer wedi'u cynnal ar ôl i'r terfynau cyflymder gael eu gostwng a bod y canlyniadau'n amhendant. Roeddwn yn meddwl bod Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniadau a pholisi yn seiliedig ar dystiolaeth, ac nid yw'n ymddangos bod hynny wedi digwydd yma—efallai y gallech egluro hynny imi. Gan i hyn ddigwydd, a yw'r Llywodraeth yn bwriadu parhau i asesu, profi a chyhoeddi'r canlyniadau, a rhoi camau ar waith megis ymestyn y cyfyngiadau ar derfynau cyflymder, neu eu hadfer lle nad ydynt yn gwneud gwahaniaeth? Fel rhywun sy'n byw mewn ardal wledig tu hwnt gydag ansawdd aer da, rwy'n sylwi ar y gwahaniaeth pan fyddaf yn cyrraedd de-ddwyrain Cymru. Fodd bynnag, rwy'n derbyn bod cydbwysedd da i'w daro rhwng yr ymdrech i gael aer glân a gallu pobl i wneud bywoliaeth a chyrraedd lle mae angen iddynt fod, a diolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl hon i'r Siambr heddiw, a byddaf yn cefnogi'r ddadl hon. Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths? Lesley Griffiths AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn achub ar y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y camau y mae'r Llywodraeth hon wedi'u cymryd i alluogi pobl yng Nghymru i anadlu aer glân. Ac ers fy natganiad diwethaf ar y pwnc hwn yn gynnar eleni, mae ein hymdrechion wedi canolbwyntio ar fynd i'r afael â llygredd aer yn yr ardaloedd o Gymru y mae'n effeithio arnynt waethaf, ac fe wneir cynnydd tuag at gyflwyno Deddf aer glân. Yn ogystal â nodi'r camau yr ydym yn eu cymryd tuag at ddeddfwriaeth newydd, mae gwelliannau'r Llywodraeth yn cywiro gwallau yn y cynnig gwreiddiol, sy'n cynnwys hen ffigurau a datganiadau gwallus. Wrth ateb cwestiwn penodol Jenny Rathbone ynghylch ffigurau, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn pwysleisio bod y ffigurau a ddarparwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar effaith llygredd aer yn seiliedig ar astudiaethau gwyddonol sy'n ceisio rhoi amcangyfrif rhesymedig o'r lefel gyffredinol o niwed a achosir. Mae'n gyfrifiad i ddangos maint y niwed. Nid yw'r un peth, er enghraifft, â dweud bod 2,000 o bobl yn marw'n gynnar bob blwyddyn o ganlyniad i ddamweiniau ceir. Byddai rhestr o'r fath mewn gwirionedd yn tanddatgan y gwir niwed. Nid yw'n hawdd priodoli effaith llygredd aer yn yr un modd a bydd tybiaethau gwahanol a wneir yn y cyfrifiadau a ddefnyddir i lunio amcangyfrifon yn cynhyrchu ffigurau gwahanol. Ond ar wahân i'r heriau ystadegol hynny, mae'r ffigur yn ein galluogi i ddweud yn hyderus mai llygredd aer yw'r risg iechyd cyhoeddus mwyaf sydd gennym. Mae'r camau cyfreithiol y cyfeiria cynnig yr wrthblaid atynt yn ymwneud â materion ansawdd aer lleol yng nghanol dinas Caerdydd a Heol Hafodyrynys yng Nghaerffili. Mae'n wir, wrth gwrs, fod problemau ansawdd aer hyd yn oed yn waeth wedi arwain at yr un her gyfreithiol yn Lloegr, ac yn wir mewn gwledydd ar draws yr Undeb Ewropeaidd. Ers ein dadl ddiwethaf, mae awdurdodau lleol Caerdydd a Chaerffili wedi cynhyrchu eu cynlluniau i fynd i'r afael â'r broblem o dan gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru ac mewn ymateb i gyngor arbenigol annibynnol a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ac rydym hefyd wedi defnyddio ein swyddogion ein hunain i gynorthwyo'r awdurdodau lleol gyda chapasiti ac arbenigedd ychwanegol. Rydym wedi llunio set arall o gyfarwyddiadau ar gyfer y ddau awdurdod lleol ac rydym wedi dyrannu cyllid ychwanegol i gefnogi'r gwaith o gyflawni fel y gallwn fod yn sicr yr eir i'r afael â'r materion hyn yn yr amser byrraf posibl. Rwy'n cymeradwyo'r ddau awdurdod am fwrw ymlaen â'r gwaith hwn heb betruso nac oedi. Yn fy natganiad diwethaf ar ansawdd aer, cyhoeddais benderfyniad fy nghyd-Aelod, Ken Skates, i wneud y cyfyngiadau cyflymder o 50 mya a gyflwynwyd gennym mewn ardaloedd â phroblem llygredd aer ar y rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd yn rhai parhaol. Ers hynny, rydym wedi parhau i fonitro eu heffeithiolrwydd ac rydym wedi gosod camerâu cyflymder cyfartalog i sicrhau bod yr holl yrwyr sy'n defnyddio'r ffyrdd yn cadw at y terfynau. Ar hyn o bryd rydym— [Torri ar draws.] Ddim am funud. Rydym wrthi'n cyflwyno arwyddion cliriach, yn ateb i gwestiwn penodol Mandy Jones. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod yr arwyddion yn esbonio pam y mae'r parthau 50 mya hynny yno fel bod y cyhoedd yn deall y rhesymau sy'n sail iddynt, oherwydd rwy'n credu mai dyna lle y gwnaethom gamgymeriad gyda hynny. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. Mae gennyf un yn fy etholaeth i, fel y byddwch wedi fy nghlywed yn dweud o'r blaen, ac nid yw pobl yn deall y rheswm drosto. Felly, rydym wrthi'n cynllunio hynny a byddant yn cael eu gosod yn y dyfodol agos iawn. Fe ildiaf. Mark Reckless AC: A gaf fi ofyn, Weinidog, a oes tystiolaeth rymus eto fod y parthau hyn yn llwyddo i leihau llygredd aer? Lesley Griffiths AC: Rydym yn disgwyl—rwy'n credu y bydd gennym flwyddyn o ddata ddiwedd y mis hwn, ond yn sicr mae'r ffeithiau a'r data a welsom yn dangos ein bod yn gwbl gywir i wneud y rheini'n barhaol yn awr. Ers ein dadl ddiwethaf, rydym hefyd wedi parhau i wneud cynnydd tuag at gyflwyno Deddf aer glân i Gymru a'r cam nesaf wrth ddatblygu'r Ddeddf fydd cyhoeddi cynllun aer glân i ymgynghori arno cyn diwedd y flwyddyn galendr hon. Yn ogystal ag amlinellu'r angen am bwerau newydd drwy ddeddfwriaeth sylfaenol, bydd y cynllun hefyd yn egluro sut y byddwn yn gwneud gwell defnydd o'r pwerau presennol, y camau y byddwn yn eu cymryd i gryfhau monitro, a sut y byddwn yn gwella hygyrchedd yr wybodaeth am ansawdd aer yr ydym am ei chyhoeddi gan ganolbwyntio ar ddiogelu grwpiau agored i niwed. Felly, anogaf yr holl Aelodau Cynulliad sydd â diddordeb yn y pwnc i gyfrannu eu syniadau i'r broses hon, a chroesawaf y consensws trawsbleidiol sy'n datblygu ar y mater hwn, oherwydd bydd ein hiechyd a'r amgylchedd yn elwa o ganlyniad. Mae'r cynnig gan y Blaid Geidwadol yn dweud y byddai'n well cyflwyno Deddf aer glân yn ystod y tymor Cynulliad hwn—felly, o fewn y 18 mis nesaf. Wrth gwrs, byddai llawer mwy o gapasiti deddfwriaethol ar gael i'r Cynulliad hwn oni bai am lanastr Brexit y Torïaid y mae eu plaid yn llywyddu drosto. Rwy'n teimlo y byddai'n werth i Aelodau Ceidwadol Cymru gydnabod, wrth wneud yr alwad hon, y pwysau dwys ar y ddeddfwrfa hon a'n swyddogion oherwydd methiannau eu plaid. Mae'r Torïaid yn yr wrthblaid yng Nghymru yn awyddus i siarad am hawliau hefyd, er ei bod yn amlwg i'r gweddill ohonom, o'u gweithredoedd mewn Llywodraeth, fod eu parch at hawliau yn denau iawn. Mae'r Torïaid yn ein beirniadu am barchu dyfarniadau'r Llys Ewropeaidd, er enghraifft, a pholisi eu plaid yw osgoi awdurdodaeth y llys yn llwyr er mwyn tanseilio rheoliadau amgylcheddol, hawliau gweithwyr ac unrhyw amddiffyniadau cymdeithasol eraill y credant y gallant ein hamddifadu ohonynt. Felly, credaf y bydd angen Deddf aer glân i Gymru er mwyn sicrhau'r lefel o amddiffyniad sydd ei angen arnom, ac rwy'n gobeithio y bydd pawb yn gweithio tuag at hyn ac yn ein cefnogi i'w wneud. Galwaf ar Andrew R.T. Davies i ymateb i'r ddadl. Andrew RT Davies AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfraniadau o bob cwr i'r llawr ar y pwnc pwysig hwn. Gallwn hollti blew ynglŷn â'r rhifau, boed yn 1,400 neu'n 2,000; rwy'n credu mai'r hyn y mae pawb ohonom yn ei dderbyn yw bod nifer annerbyniol o farwolaethau cynamserol yng Nghymru. Daeth y ffigur yn ein cynnig ni gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, sef corff y Llywodraeth ei hun, yn ôl yr hyn a ddeallaf, sy'n ei chynghori ar faterion iechyd cyhoeddus. I roi rhif mesuradwy, mae hynny'n fwy na 40 o farwolaethau yr wythnos. Nawr, pe bai rhywun yn dod i'r Siambr hon neu i'r ddeddfwrfa hon a dweud bod y nifer hon o farwolaethau cynamserol yn digwydd mewn unrhyw agwedd arall ar ein bywydau, byddai gweithredu cyflym yn y maes penodol hwn. Nodaf yr hyn a ddywedodd Llyr Gruffydd am ddadl fer Dai Lloyd, lle y tynnodd sylw at y ddeddfwriaeth a gyflwynwyd i lanhau dŵr budr. Gant a hanner o flynyddoedd yn ôl, câi ei weld fel peth arferol i bobl dynnu dŵr o ffynhonnau llygredig ac ati, a dyna beth oedd cymdeithas yn ei dderbyn. Fel y dywedodd Angela Burns yn ei sylwadau agoriadol, ni all fod yn dderbyniol i ni ddioddef rhywbeth sy'n hawl. Mae gennym hawl i gael aer glân. A lle bynnag yr ydych yn byw, ym mha gymuned bynnag yr ydych yn byw, dylech gael yr hawl honno, a soniodd Mohammad Asghar am yr hyn a ddywedodd yr Arlywydd John F. Kennedy: dylem ei chael fel y bwriadodd natur. Ac mae gennym fodd o wneud hynny. Gwyddom beth yw'r peirianwaith mewn perthynas â llygredd, fel y nododd llawer o siaradwyr, yn enwedig ym maes trafnidiaeth, ond hefyd ym maes cynllunio. Tynnodd Jenny Rathbone, yr Aelod dros Ganol Caerdydd, sylw at ffordd brifwythiennol yng Nghaerdydd yr wyf yn gyfarwydd iawn â hi—Ffordd Casnewydd, er enghraifft. Ac am rannau mawr o'r dydd, mae tagfeydd arni, ac mae'r tagfeydd hynny'n digwydd am nad oes gan lawer o bobl ddewis arall. Mae'n rhaid iddynt ddefnyddio'r car. Ac oni bai ein bod ni fel llunwyr polisi, gan weithio gyda rhannau eraill o Lywodraeth, Llywodraeth Leol ac ar lefel y DU yn genedlaethol, yn gwneud y newidiadau hyn, byddwn yn parhau i weld y lefel hon o farwolaethau cynamserol. Ac wrth gwrs, yr hyn y mae pobl yn ei weld yn amlwg hefyd yw'r afiechydon critigol sy'n arwain at y marwolaethau cynamserol hynny. Mae llawer o ddegau o filoedd o bobl, fel y crybwyllodd Nick Ramsay yn ei sylwadau, wrth sôn am Margaret Barnard, yn mygu i farwolaeth. A allwch chi ddychmygu gwylio rhywun annwyl yn mygu i farwolaeth araf dros fisoedd a blynyddoedd, gan wybod y gallai'r bobl sy'n gyfrifol am ein hamgylchedd ac yn gyfrifol am ein deddfwrfeydd a'n safbwyntiau polisi wneud gwelliannau dramatig ym mhob ffordd pe baent eisiau? A dyna pam y mae'r cynnig hwn yn galw am gyflwyno Deddf aer glân yn y rhaglen ddeddfwriaethol. Yn anffodus, mae'r Llywodraeth wedi dewis peidio â gwneud hynny, ac nid wyf yn derbyn ateb y Gweinidog mai'r rheswm na ellir gwneud hyn yn y pen draw yw Brexit. Mae'r Llywodraeth wedi profi dro ar ôl tro y gallant gyflwyno'r ddeddfwriaeth pan fydd ganddynt fater pwysig dan sylw, fel y profodd y Bil cyflogau amaethyddol, a gyflwynwyd yn gyflym iawn. Onid yw 2,000 o bobl yn marw bob blwyddyn yn argyfwng cenedlaethol, Weinidog, argyfwng y mae gennych arfau i ymdrin ag ef? Pam na wnewch chi fel Llywodraeth ymdrin â hynny? Does bosibl nad yw hyn yn rhywbeth a ddylai fod ar eich radar ac na ddylid ymdrin ag ef mewn modd amserol, yn hytrach na beio Brexit am beidio â chyflwyno'r broses ddeddfwriaethol. Yn yr un modd, gan gefnogi argymhellion Sefydliad Iechyd y Byd ynghylch aer glân, sef yr hyn y mae ein cynnig yn galw amdano—gallwch fynd ymhellach. Mae Llywodraeth y DU wedi cefnogi argymhellion Sefydliad Iechyd y Byd, pam nad yw Llywodraeth Cymru yn gwneud hynny? Pam nad ydych chi'n defnyddio hynny fel meincnod, yn hytrach na dweud bod Llywodraeth y DU, fel y dywedwch, yn cyfyngu ar hawliau gweithwyr, ac ati? Onid dyna'r gwir? Mae'r Prif Weinidog ac arweinwyr eraill yn San Steffan wedi dweud y byddant yn ymgorffori yn y gyfraith yr hawliau a enillwyd drwy waith caled dros ddegawdau lawer. Mae hynny'n ffaith. Gallwch godi eich ysgwyddau cymaint ag y dymunwch, Weinidog, ond mae hynny'n ffaith. O dan eich goruchwyliaeth chi, mae pobl yn marw oherwydd ansawdd aer gwael ac nid yw'r Llywodraeth hon yn defnyddio'r dulliau sydd ar gael iddi. Daeth y Llywydd i’r Gadair. Andrew RT Davies AC: Buaswn hefyd yn tynnu sylw at yr hyn a ddywedodd David Melding am feinciau'r Ceidwadwyr yn cyflwyno'r ddogfen 'Dinasoedd Byw', sydd bellach oddeutu 12 neu 18 mis oed, gydag atebion go iawn ar gyfer enillion cyflym iawn y gallwn eu cyflawni yn y maes penodol hwn. A buaswn yn annog y Llywodraeth i ddyblu ei hymdrechion yn y maes penodol hwn. Rwy'n ddiolchgar am gyfraniad Plaid Brexit hefyd a'r arwydd o gefnogaeth gan Caroline Jones a Mandy Jones, oherwydd gwyddom fod trafnidiaeth yn chwarae rhan fawr yn hyn, ac mae gweld llawer o bobl yn troi at geir trydan wedi bod yn rhan o'r ateb a symud tuag at yr agenda honno, ond rydym yn gwybod hefyd mai padiau breciau a gronynnau teiars yn yr aer sydd i gyfrif o hyd am 40 y cant o'r deunydd gronynnol sy'n cael ei anadlu gan ddinasyddion ar hyd a lled Cymru. Felly, buaswn yn gobeithio y bydd yr Aelodau'n cefnogi'r cynnig sydd ger eu bron heddiw, wedi'i ddiwygio gan y gwelliant derbyniol a gawsom gan Blaid Cymru, ac yn gwrthod y gwelliant 'dileu popeth' a gyflwynwyd gan y Llywodraeth, sy'n destun gofid mawr yn yr hyn a ddylai fod yn ddadl gydsyniol. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. 10. Dadl Plaid Cymru: Cyfiawnder Hinsawdd Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Rebecca Evans. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Yr eitem nesaf yw dadl Plaid Cymru ar gyfiawnder hinsawdd. Rwy'n galw ar Llyr Gruffydd i wneud y cynnig. Cynnig NDM7137 Rhun ap Iorwerth Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu'r alwad gan Greta Thunberg ac ymgyrchwyr ieuenctid o Fridays for Future, i oedolion ymuno â myfyrwyr a phobl ifanc sydd ar streic ar 20 Medi 2019 i fynnu cyfiawnder hinsawdd. 2. Yn cymeradwyo'r rôl y mae myfyrwyr a phobl ifanc wedi'i chwarae yng Nghymru ac ar draws y byd o ran dod ag argyfwng yr hinsawdd i sylw llunwyr polisi a'r cyhoedd. 3. Yn cefnogi'r streiciau a'r gwrthdystiadau a drefnwyd gan bobl ifanc ac oedolion ar 20 Medi 2019. Cynigiwyd y cynnig. Llyr Gruffydd AC: Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch am y cyfle i siarad i'r cynnig yma gan Blaid Cymru i ddatgan cefnogaeth y Cynulliad yma i'r streiciau ysgol dros yr hinsawdd. Fridays for future, youth for climate, youth strike for climate—beth bynnag neu pa bynnag fathodyn ŷch chi eisiau rhoi arno fe, nid oes amheuaeth ei fod e nawr yn fudiad rhyngwladol o bobl ifanc sydd wedi penderfynu bod yr amser wedi dod i'w llais nhw gael ei glywed yn y drafodaeth a'r gwrthsafiad sydd ei angen i fynnu gweithredu i atal cynhesu byd eang ac i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd rŷm ni yn ei brofi ar hyn o bryd. Nawr, rŷm ni'n gwybod y stori, wrth gwrs, yn dyddio yn ôl i weithred Greta Thunberg, pan gynhaliodd hi'r brotest yn Awst 2018—dim ond 12 mis yn ôl—y tu allan i'r Riksdag yn Sweden, yn dal arwydd 'school strike for the climate', a hithau wedyn yn penderfynu ei bod hi'n teimlo ei bod hi'n gorfod gwneud hyn bob dydd Gwener tan y byddai Llywodraeth Sweden yn alinio â chytundeb Paris. Hi fathodd y slogan 'Fridays for future', ac, fel rwy'n dweud, mewn cwta 12 mis rŷm ni wedi gweld y mudiad yma yn ymledu i bob rhan o'r byd. Mi fydd hi, wrth gwrs, yn cymryd rhan mewn streiciau ysgol yn yr Unol Daleithiau ddydd Gwener yma, 20 Medi, ac mi fydd yna streiciau nawr yn digwydd ar bob cyfandir ar draws y byd, o Wlad yr Iâ i Gyprus yn Ewrop, i India a Phacistan, i Awstralia, Japan, y Philippines, De Affrica, gwledydd De America, yr Unol Daleithiau, fel yr oeddwn i'n ei ddweud, a Chanada. Yma yng Nghymru, wrth gwrs, mi fydda i'n ymuno â chriw o bobl ifanc o sir Conwy a fydd yn dod at ei gilydd ym Mae Colwyn. Rwy'n gwybod y bydd yna weithredu hefyd yn Wrecsam, fel y bydd mewn sawl tref a rhan o Gymru. Mae'r amseru yr wythnos yma yn arwyddocaol hefyd, wrth gwrs, o gofio bod yna uwchgynhadledd ar yr hinsawdd yn cael ei chynnal gan y Cenhedloedd Unedig yr wythnos nesaf. Nawr, mae'r streiciau yma wedi bod yn hynod, hynod o effeithiol, nid yn unig yn troi pennau ac yn denu sylw ac yn ennyn trafodaeth o gwmpas yr argyfwng hinsawdd mewn ystafelloedd dosbarth ac ar fuarthau ysgol, ie, ac mewn cartrefi, mewn tafarndai ac mewn senedd-dai, wrth gwrs, fel rŷm ni yn ei wneud heddiw ac fel rŷm ni wedi'i wneud lawer tro cyn heddiw. Ond, ar y cyd â'r hyn y mae Extinction Rebellion wedi bod yn ei wneud dros y cyfnod diwethaf, mae'r naratif gwleidyddol, wrth gwrs, o gwmpas newid hinsawdd wedi newid yn llwyr. Yn wir, mae'r derminoleg wedi newid. Dŷn ni ddim yn dweud 'newid hinsawdd' bellach—rŷm ni'n cydnabod mai argyfwng hinsawdd sydd gennym. Ac roeddwn yn falch iawn, wrth gwrs, fod y Senedd yma wedi cefnogi cynnig Plaid Cymru i ddatgan argyfwng hinsawdd, sef y Senedd gyntaf, o beth rwy'n ddeall, yn y byd i wneud hynny. Roedd hi'n dda hefyd gweld Llywodraeth Cymru yn datgan yr un peth yn ogystal. Mae'r momentwm sydd wedi cael ei adeiladu gan y bobl ifanc yma, ac eraill, wrth gwrs, wedi creu yr amgylchfyd newydd yna o safbwynt gwell dealltwriaeth ynglŷn â'r hyn sydd angen ei gyflawni. Nawr, dwi yn deall y bydd rhai pobl efallai'n meddwl dŷn ni ddim eisiau annog pobl ifanc i beidio â bod yn y dosbarth—i fod yn colli ychydig oriau neu ddiwrnod o addysg bob hyn a hyn—a bod yna risg i addysg y plant yn sgil hynny. Ond, wrth gwrs, nid yw hynny'n ddim byd o'i gymharu â'r risg sy'n dod yn sgil goblygiadau'r newid hinsawdd y maen nhw yn ei wynebu llawer mwy nag y bydd nifer ohonom ni yn ei wynebu. Llyr Gruffydd AC: Rwy'n credu bod yn rhaid i ni osod colli diwrnod o ysgol yn achlysurol mewn persbectif. O'r blaen, ers llawer dydd—gallaf weld y Gweinidog addysg yn ei sedd yno yn edrych arnaf yn ofalus ac yn pendroni beth rwy'n mynd i'w ddweud nesaf. Ond cyn i mi gael fy ethol i'r Cynulliad hwn, ers llawer dydd, roeddwn i'n arfer bod yn weithiwr ieuenctid. Wrth gwrs, fe wyddom fod yna gwricwlwm gwaith ieuenctid, a bod addysg ffurfiol yn bwysig iawn—wrth gwrs ei bod. Ond nid diystyru diwrnod o addysg a wnawn. Mae pobl ifanc yn dysgu mewn ffyrdd gwahanol—gwyddom hynny—ac mae rhan allweddol o'r cwricwlwm gwaith ieuenctid yn sôn am roi profiadau mynegiannol, cyfleoedd cyfranogol i bobl ifanc, a'u grymuso. Pa ffordd well o gyflawni'r canlyniadau hynny na thrwy'r gweithgareddau hyn? Rydym yn gweld dinasyddiaeth weithgar ar waith gan ein pobl ifanc yma, pobl ifanc yn dod at ei gilydd, yn ysgogi, yn codi eu lleisiau ac yn sefyll dros yr hyn sy'n iawn yn eu golwg hwy. A'r lleiaf y gallwn ei wneud, rwy'n credu, fel Cynulliad Cenedlaethol, yw cynnig ein cefnogaeth iddynt yn yr ymdrechion hynny. Nawr, un o'r placardiau mwyaf trawiadol a welais erioed mae'n debyg oedd un o'r rhai a gâi eu dal gan unigolyn ifanc yn un o'r digwyddiadau hyn, a dywedai, 'Erbyn i mi gael fy nwylo ar rym, fe fydd yn rhy hwyr'. Mae'r Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd wedi rhybuddio bod gennym 11 neu 12 mlynedd i wyrdroi hyn, a rhaid inni wrando ar leisiau'r bobl ifanc hynny. Wrth gwrs, mae'r streiciau'n amserol iawn oherwydd yr uwchgynhadledd hinsawdd sy'n digwydd yr wythnos nesaf, a chredaf y bydd Greta Thunberg yn annerch yr uwchgynhadledd honno hefyd. Rydym ynghanol argyfwng hinsawdd. Rydym wedi'i ddweud o'r blaen: ni all fod yn fusnes fel arfer, ac mae gan bobl ifanc lawer mwy i'w golli. Byddant yn ysgwyddo baich ein methiannau. Oes, mae angen i ni weithredu. Mae angen i ni ymateb gyda chamau ymarferol i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, ond rwy'n credu mai'r peth lleiaf y gallwn ei wneud y prynhawn yma yn y ddadl hon yw rhoi ein cefnogaeth i'r bobl ifanc a fydd yn sefyll dros yr hyn y maent yn credu ynddo ddydd Gwener. Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Rwy'n galw ar Andrew R.T. Davies i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Andrew R.T. Davies. Gwelliant 1—Darren Millar Dileu popeth a rhoi yn ei le: Yn cymeradwyo'r rôl y mae pobl ifanc wedi'i chwarae o ran llywio'r agenda newid yn yr hinsawdd, fodd bynnag, yn credu nad streic a phobl ifanc yn colli ysgol yw'r ateb. Yn cydnabod y pryder cyhoeddus eang ynghylch cynhesu byd-eang a bod cyfyngu ar y newid yn yr hinsawdd yn gofyn am ymdrech a chydweithrediad rhyngwladol, ac yn nodi'r camau canlynol a gymerwyd i fynd i'r afael â phryderon o'r fath: a) y rôl flaengar y mae Llywodraeth y DU wedi'i chwarae o ran mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a symud i dwf glân; b) bod y DU wedi lleihau allyriadau dros 40 y cant ers 1990 tra'n tyfu'r economi fwy na dwy ran o dair, sef y perfformiad gorau fesul person nag unrhyw genedl arall yn y G7; c) bod Llywodraeth y DU wedi gosod targed sero net â rhwymedigaeth gyfreithiol i roi terfyn ar gyfraniad y DU i gynhesu byd-eang yn gyfan gwbl erbyn 2050. Yn nodi datganiad argyfwng hinsawdd Llywodraeth Cymru ond yn gresynu at fethiant y llywodraeth i gyflwyno cyfres gynhwysfawr o fesurau sy'n addas ar gyfer argyfwng o'r fath. Cynigiwyd gwelliant 1. Andrew RT Davies AC: Diolch, Lywydd, ac rwy'n cynnig y gwelliant yn enw Darren Millar o'r grŵp Ceidwadol heddiw. A buaswn i'n un o gefnogwyr mwyaf pobl ifanc yn mynegi eu barn drwy weithredu, ond credaf fod yn rhaid inni oedi a meddwl pan fyddwn yn annog myfyrwyr a disgyblion i ddod allan o'r ysgol ar streic, a'r niwed y gallai ei wneud i unigolion. Cafodd ei roi ar orsaf radio y bore yma—wel, gallaf glywed llais Aelod ar eu heistedd; rwy'n hapus i dderbyn ymyriad—ond roeddwn i'n gwrando ar raglen Jason Mohammad, ac roedd cyfrannwr wedi ffonio i mewn i ddweud, 'Mae'r rhai nad ydynt yn streicio ddydd Gwener yn gwadu newid hinsawdd.' Ac mae hynny'n rhoi llawer o bwysau ar bobl sy'n credu'n gyfan gwbl yn yr hyn a wneir i wella'r amgylchedd yn ôl pob tebyg, ond am ba bynnag reswm—efallai eu bod yn sefyll arholiad, papur ffug-arholiad efallai, neu wers anghenion arbennig a drefnir o fewn yr ysgol—ond oherwydd pwysau gan gyfoedion, efallai eu bod yn teimlo bod yn rhaid iddynt adael y lleoliad sefydliadol hwnnw, gan mai dyna beth yw ysgol—mae'n lleoliad sefydliadol, ac amser cyfyngedig sydd gan athrawon a'r ysgol i gyflwyno'r cwricwlwm a gweithio drwy'r cwricwlwm—ac os yw'n newid hinsawdd yr wythnos hon, ac mae pawb ohonom yn cefnogi symud ymlaen yn gadarnhaol ar hynny a chymryd camau cadarnhaol, beth fydd yr achos yr wythnos nesaf? Beth fydd yr achos yr wythnos ganlynol? Rwyf am rymuso pobl ifanc i wneud yn siŵr eu bod yn cymryd rhan—. [Torri ar draws.] Rwy'n fodlon derbyn ymyriad gan yr Aelod dros Orllewin De Cymru, ond credaf fod angen i chi fyfyrio ar y pwynt hwnnw pan fyddwch yn galw ar bobl i ddod allan ar streic o'r ysgol, ac mae pobl yn teimlo pwysau gan eu cyfoedion i ddod allan drwy gatiau'r ysgol, oherwydd dyna beth y mae'r cynnig hwn a gyflwynwyd gennych heddiw yn ei gymeradwyo. Ac mae'n werth myfyrio ar y daith y buom arni dros yr 20 i 30 mlynedd diwethaf, a'r gwelliannau a wnaed, yn enwedig â ninnau wedi cadw twf economaidd i fynd yn ogystal er mwyn gwneud yn siŵr fod yr economi'n cynnal lefelau cyflogaeth. [Torri ar draws.] Wrth gwrs. Bethan Sayed AC: Gan eich bod wedi fy ngwahodd, a ydych chi wedi siarad â rhai o'r bobl ifanc ynglŷn â pham y maent allan ar streic, yn hytrach na dim ond eu beirniadu am eu bod 'allan ar streic', sy'n gwyro oddi wrth y broblem go iawn yn fy marn i? Maent yn ymgyrchu am fater y maent yn poeni'n fawr yn ei gylch. A ydych chi wedi gofyn iddynt pam y maent yn ei wneud? Andrew RT Davies AC: Rwy'n digio'n fawr at yr awgrym fy mod yn beirniadu pobl ifanc. Rwy'n siarad â phobl ifanc bob dydd o'r wythnos; mae gennyf bedwar o blant fy hun. Nid wyf yn beirniadu neb. Yn wir, yn fy sylwadau agoriadol gwneuthum y pwynt fod angen inni rymuso pobl ifanc i ymgysylltu â'r broses a chyflwyno eu barn. Ond yn ôl eich cynnig chi, sy'n sôn am streiciau mewn addysg a gadael lleoliad addysg ffurfiol— Leanne Wood AC: Yn erbyn streiciau ydych chi, onid e? Andrew RT Davies AC: Na, ddim o gwbl. Yn y pen draw, pe bai hyn yn digwydd ar fater arall, rwy'n siŵr y byddai gan Leanne Wood farn wahanol ar hyn. Ond sut y gallwch chi orfodi pobl—gorfodi pobl, oherwydd dyna beth rydych chi'n ei wneud a defnyddiais yr enghraifft a oedd ar raglen Jason Mohammad y bore yma—i ddweud os nad ydych yn cymryd rhan yn y streic hon ddydd Gwener, y byddech chi'n gwadu newid hinsawdd? Rydym wedi gwneud cynnydd aruthrol ar newid yn yr hinsawdd ac mae angen inni barhau, mae angen inni barhau i wneud hynny. Ac yn arbennig, y targed carbon niwtral a osodwyd ar gyfer 2050; y gefnogaeth a roesom i'r diwydiant i newid i ynni gwyrdd. Gadewch inni beidio ag anghofio bod yr holl gynhyrchiant ynni o fewn y DU ar lawer o ddiwrnodau erbyn hyn yn ddi-lo ac yn ddi-garbon, ac ynni gwyrdd sy'n pweru hynny ac mae hwnnw'n gynnydd gwirioneddol yn yr economi go iawn. Ac felly, yn lle galw am weithredu aflonyddgar o fewn yr ysgol, gadewch inni rymuso pobl ifanc i gymryd rhan yn y daith y mae angen i gymdeithas gyfan—y gymdeithas gyfan—ei gwneud, a sicrhau eu bod yn aros yn rhan o'r daith hon, oherwydd, yn y pen draw, bydd pob sector o gymdeithas yn elwa o amgylchedd gwell a glanach sydd â newid yn yr hinsawdd yn ganolog iddo, oherwydd gwyddom fod y cloc yn tician a gwyddom fod yr amser wedi'i gyfyngu'n fawr i 11 neu 12 mlynedd inni wneud y gwaith arwyddocaol hwnnw a'r gwelliant hwnnw yn ein hamgylchedd. Ond nid ydym yn cefnogi'r cynnig sydd ger ein bron y prynhawn yma, a gyflwynwyd gan Blaid Cymru sydd, yn ein barn ni, ond yn chwilio am bennawd. Galwaf ar Weinidog yr amgylchedd i gynnig yn ffurfiol gwelliannau 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Gwelliant 2—Rebecca Evans Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn cefnogi galwad mudiad Fridays for Future ar gyfer holl wleidyddion ac arweinwyr busnes i wrando ar bobl ifanc oherwydd bod angen eu penderfynoldeb, eu syniadau a’u hymdrechion ar frys i sicrhau Cymru carbon isel. Gwelliant 3—Rebecca Evans Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le: Yn croesawu’r ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i roi’r bleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 oed erbyn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2021, gan roi llais cryfach i’r bobl ifanc hynny ynghylch sut y mae Cymru’n wynebu’r her newid hinsawdd. Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3. Lesley Griffiths AC: Yn ffurfiol. Ffurfiol. Hefin David. Hefin David AC: Beth am gofio o ble y daw hyn: caiff ei gymell nid yn unig gan fater y mae pobl yn poeni yn ei gylch, ond gan rwystredigaeth enfawr ar ran pobl ifanc ac ofn—ac ofn—ynglŷn â'r dyfodol sy'n eu hwynebu. Nid unrhyw ymgyrch yw hi. Mae'n rhywbeth sy'n berthnasol iawn ac yn real i fywydau ein plant a'u dyfodol. A meddyliwch am y peth, maent yn gweld pobl fel Donald Trump yn cael eu hethol yn America; maent yn gweld Llywodraeth China; maent yn gweld beth sy'n digwydd yn Brasil; maent yn gweld David Cameron yn dweud ei fod yn mynd i arwain y Llywodraeth wyrddaf erioed ac yna'n dweud, 'Gadewch i ni gael gwared ar yr holl gachu gwyrdd yma', yn ddiweddarach—esgusodwch fi, Lywydd—yn ystod ei Lywodraeth. Mae ofn ar y bobl hyn. Rwyf wedi siarad ag ymgyrchydd Llafur ifanc 18 oed sy'n mynd i'r brifysgol y mis hwn, Morgan Paulett, yn fy etholaeth, ynghylch pa mor o ddifrif y dylem fod ynglŷn â hyn. Credwch fi, roeddwn yn eistedd gydag ef yn y swyddfa ac nid dim ond ymgyrch yw hon; mae pobl yn teimlo'n ddwfn am eu dyfodol. Anfonodd un neu ddau o baragraffau ataf, a dywedodd, 'Pe bawn i yn eich sefyllfa chi, dyma'r hyn y buaswn yn ei ddweud.' Felly, gyda'ch caniatâd, Lywydd, hoffwn ddarllen yr hyn y byddai wedi hoffi ei ddweud. Mae'r cynnydd yn y tymheredd byd-eang yn golygu bod miloedd o filltiroedd o rew parhaol yng nghylch yr Arctig yn toddi, a gallai hynny olygu dau beth sy'n peri pryder mawr. Bydd y carbon deuocsid sy'n cael ei storio yn y rhew parhaol hwnnw'n cael ei ryddhau i'r atmosffer pan fydd yn toddi ac mae pathogenau wedi'u cloi yn y rhew ers y cyfnod cynhanesyddol nad yw bodau dynol wedi dod i gysylltiad â hwy hyd yma. Gallai tymereddau cynyddol olygu hefyd fod afon Indus ym Mhacistan yn sychu yn ogystal â monsynau anrhagweladwy yn India, sy'n golygu y gallai dau rym niwclear gelyniaethus sy'n ffinio â'i gilydd gyda phoblogaethau sy'n tyfu'n gyflym brofi prinder bwyd dirfawr yn y dyfodol agos. Dim ond dau yw'r rhain o'r argyfyngau mawr niferus a fydd yn wynebu cenedlaethau'r dyfodol yn y degawdau i ddod ac mae llawer o bobl ifanc yn fwyfwy pryderus a rhwystredig am Lywodraethau, methiant Llywodraethau cyfunol i ymdrin â'r bygythiadau hyn o ddifrif ac ymrwymo i fod yn garbon niwtral erbyn 2030. Ei eiriau ef yw'r rheini. Dyma'r hyn y mae wedi'i ysgrifennu i mi ac eisiau i mi ei ddweud, ac nid oes gennyf unrhyw broblem yn ei ddweud. Ychwanegodd at hynny y byddai'n hoffi streic gyffredinol ymhlith ieuenctid ar draws y byd i ymdrin â hyn. Dyna yw ei farn ef. Yn fy marn i, mae angen inni edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud yma, ac rwy'n teimlo'n gryf, ac rwyf wedi'i ddweud o'r blaen yn y Siambr hon, mae angen diwygio sylfaenol o'r bôn i'r brig ar ein democratiaeth gynrychiadol yn y wlad hon, a chredaf mai rhan ohono yw sicrhau bod gan bobl ifanc 16 oed lais, a rhan ohono yw sicrhau, pan fyddwch yn pleidleisio, fod y pleidiau y pleidleisiwch drostynt yn cael eu cynrychioli wedyn a'u bod yn gorfod gweithio ar y materion hyn neu byddant yn colli grym. Ni chafodd Donald Trump ei ethol gan system sy'n gweithio. Nid yw'n ddemocratiaeth wirioneddol gynrychioliadol, yn fy marn i, yn America. Yn sicr nid yn Tsieina a'r un fath yn Brasil. Mae angen i leisiau pobl ifanc gael eu clywed ac rwy'n credu y bydd y newidiadau hynny yn ein democratiaeth yn galluogi hynny. Hefyd, hoffwn dynnu sylw'r Siambr at—. Rwy'n gweld bod fy amser wedi dod i ben. Tair munud sydd gennym ar gyfer yr areithiau hyn, Lywydd. Ie. Hefin David AC: O'r gorau. Wel, hoffwn ddweud hefyd fod Coleg y Cymoedd yn Ystrad Mynach yn cynnal protest rhwng 12.30 p.m. a 1.30 p.m. ar gampws y coleg, ac mae staff a myfyrwyr y coleg yn gweithredu'n glir iawn ynghylch y mater hwnnw hefyd. Ymddiheuriadau, roeddwn i'n meddwl fod gennyf fwy o amser. Felly, roeddwn eisiau tynnu sylw at hynny, ond mewn gwirionedd, yr hyn rwy'n ei ddweud yw: gwrandewch ar y bobl hyn a newidiwch ein system i'w helpu. Bethan Sayed AC: Mae'r mudiad dros fwy o ymwybyddiaeth amgylcheddol yn un hir ac mae wedi bod yn adeiladu momentwm ers y 1960au a'r 1970au ar draws y byd, ac mae'r mudiad presennol y gellir dadlau ei fod yn llawer mwy wedi digwydd ar ôl blynyddoedd o godi ymwybyddiaeth a lleisio pryderon. Felly, rydym wedi cyflwyno'r cynnig hwn am fod pobl iau yn iawn i boeni am yr amgylchedd y maent yn mynd i'w etifeddu. Pan fydd pobl ifanc yn gweld llunwyr polisi byd-eang yn peidio â gwneud digon, neu'n cytuno i fesurau a nodau rhyngwladol y mae gwyddonwyr a'r rhai sy'n gweithio yn y maes mewn swyddi o bob math yn eu beirniadu fel rhai nad ydynt yn ddigonol, neu'n rhy ychydig yn rhy hwyr, wel, gallaf ddeall pam y byddent yn teimlo rheidrwydd i weithredu'n uniongyrchol er mwyn sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed ac i wneud i'r lleisiau hynny gael eu clywed yn awr. Os yw plant a phobl ifanc am golli ysgol i streicio ynglŷn â'r mater hwn—. Galwch hyn yn beth bynnag a ddymunwch: yn weithredu uniongyrchol; yn brotest. Gadewch i ni beidio â gwyro oddi wrth yr hyn ydyw: pobl ifanc yn mynd allan ac yn cael llais, ac rwy'n cefnogi hynny'n llwyr. Sawl gwaith yn y Siambr hon y buom yn eistedd yma, eisiau cael mwy o bobl ifanc i ymwneud â gwleidyddiaeth? Weithiau rydym yn cael trafferth neu nid oes ganddynt ddiddordeb neu maent wedi ymddieithrio neu ni allwn wneud iddynt ddod atom i roi eu barn, ac yna dônt allan, a bryd hynny rydym yn dweud, 'O mawredd, onid yw'n ofnadwy fod Joni bach wedi dod o'r ysgol am eu bod wedi dod allan ac wedi lleisio barn ar rywbeth? Gogoniant, sut y beiddiant gael barn ar rywbeth?' Gadewch i ni eu trin yn hynod nawddoglyd yn lle hynny a dweud, 'Wel, gadewch i ni fynd i eistedd mewn ystafell gyda hwy a gofyn iddynt beth y maent yn ei feddwl, ond na foed inni wrando mewn gwirionedd; gadewch inni fynd oddi yno a chymryd arnom ein bod wedi gwrando ac yna bydd pawb yn iawn a gallwn ddychwelyd at yr hyn y buom yn ei wneud erioed a'u hanwybyddu.' Nid ydynt yn mynd i gael eu hanwybyddu y tro hwn, ac rydym yn ffyliaid os ydynt yn mynd i gael eu hanwybyddu y tro hwn oherwydd rwy'n gobeithio y gwelwn fwy o bobl ifanc yn cael eu hethol er mwyn iddynt allu dweud wrthym, 'Wel, a dweud y gwir, rydym yn ei wneud i ddial arnoch chi am ein hanwybyddu.' A pheth arall: sawl gwaith y gwelsom bobl ifanc o ysgolion—mae'n ddrwg gennyf, mae fy nwylo ar fy nghanol; rwy'n siŵr na fydd Elin Jones yn fy ngheryddu—yn cael eu gwthio allan i gyfarfod â'r teulu brenhinol, i chwifio eu baneri bach i'r Frenhines? Cânt ganiatâd gan eu hysgol, ond a ydych chi'n clywed pobl yn cwyno? A ydym yn clywed meinciau'r Torïaid yn cwyno eu bod wedi colli awr o ysgol? Nac ydym. Felly, mae'n iawn iddynt wneud hynny, ond nid yw'n iawn iddynt gael barn wleidyddol, un nad yw'n cyd-fynd â'u barn hwy. Ac os ydych chi'n siarad am streiciau, wel, cefais tête-à-tête ar Twitter gydag Andrew R.T. Davies ynglŷn â'r cludwyr nwyddau a oedd yn blocio'r ffyrdd. Roeddent yn symud yn araf iawn, ond roeddent yn dal i flocio'r ffyrdd. Ac rydych chi, a Nick Bourne o'r blaen, wedi dod allan a'u cefnogi'n gyfan gwbl. Fe aethoch i orsaf betrol yr M4 a sefyll yno gyda hwy gyda deiseb, yn dweud eich bod yn eu cefnogi. Os nad yw hynny'n weithredu uniongyrchol, beth ydyw? Andrew RT Davies AC: [Anghlywadwy.]—yn ystumio pethau, ond roeddwn yn aelod, fel chithau, o'r Pwyllgor Deisebau, ac roeddwn yn derbyn deiseb ganddynt gan fod yr heddlu wedi'u hatal rhag dod i'r Cynulliad. Fe'u corlannwydyng Nghaerdydd—[Torri ar draws.] Gallaf glywed yr Aelod dros y Rhondda yn heclo eto, fel y mae'n arfer gwneud, ond peidiwch â cheisio ystumio'r sefyllfa. Ni allent ddod i'r Cynulliad y diwrnod hwnnw am fod yr heddlu wedi'u hatal. Bethan Sayed AC: Nid wyf yn ceisio ystumio'r sefyllfa. Fe wnaethoch chi gefnogi hynny ac rwy'n dweud bod hynny'n hollol iawn, ond peidiwch â diystyru achos arall am y bernir mai streic ydyw a rhywbeth nad ydych chi'n meddwl ei fod yn addas yn wleidyddol i bobl ifanc ei wneud. Rwy'n brin o amser, felly yr unig beth yr hoffwn ei ddweud yw: gwrandewch ar y bobl ifanc pan fyddant yn dod â'r materion hynny atom. Dylech eu cymryd o ddifrif, eu clywed, cyfarfod â hwy a pheidio â'u trin yn nawddoglyd. Mark Reckless AC: Cefais fy synnu wrth gael e-bost o un o ysgolion fy mhlant yn gynharach yn dweud, 'Rydym yn fodlon awdurdodi absenoldeb i unrhyw fyfyrwyr. Rhowch wybod i ni os bydd eich plentyn yn absennol o ganlyniad i gymryd rhan yn y streic.' Cefais fy synnu'n arbennig gan fod y plentyn dan sylw yn ddwyflwydd oed. Ond rwy'n gwrthwynebu'r streiciau hyn; nid wyf yn cefnogi streiciau yn gyffredinol. Rwy'n credu bod streiciau'n awgrym o fethiant, boed yng nghyd-destun cyflogaeth neu yma, ac mae Plaid Cymru yn brolio sut y mae'r rhain yn digwydd ym mhobman yn y byd. Rhan o'r broblem yw eu bod yn anwahaniaethol. Fe ildiaf. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch yn fawr iawn am ildio. Y cyfan y dymunwn ei wneud oedd y pwynt fod y streic hon, ydy, yn symptom o fethiant, y methiant i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd yr ydym yn ei wynebu ar hyn o bryd. Mark Reckless AC: Mae'r wlad hon wedi lleihau allyriadau carbon deuocsid fwy na bron unrhyw wlad yn y byd. Gostyngiad o 40 y cant mewn allyriadau carbon deuocsid ers 1990. Rydym wedi lleihau lefelau ein hallyriadau nid i rai'r 1980au ond i rai'r 1880au. Ble mae'r gydnabyddiaeth i hynny? Leanne Wood AC: A wnewch chi dderbyn ymyriad? A ydych chi'n meddwl bod newid hinsawdd yn rhywbeth go iawn, neu a ydych chi'n meddwl ein bod ni'n ei ddychmygu? Mark Reckless AC: Mae Rhianon Passmore hefyd yn ceisio ymyrryd, felly os caf ymdrin â'r pwynt a wnaeth hi hefyd yn gynharach, oherwydd ei fod yr un mor berthnasol—gofynnodd i un o fy nghyd-Aelodau, 'A yw Plaid Brexit bellach yn derbyn bod cysylltiad agos iawn rhwng problemau ansawdd aer a newid yn yr hinsawdd?' Ydym, rydym yn derbyn hynny. Ac un ffordd allweddol y maent wedi'u cysylltu'n agos yw polisi Llywodraethau Llafur a'r Undeb Ewropeaidd i gymell newid o betrol i ddiesel, gan mai'r lleihad ymylol mewn allyriadau carbon deuocsid mewn gwirionedd yw'r hyn sy'n arwain at lawer o'r problemau yr oeddem yn eu trafod yn ein dadl ddiwethaf ar lygredd aer a phobl yn marw na fyddent fel arall yn marw— Rhianon Passmore AC: Felly, rydych chi bellach yn credu bod newid hinsawdd yn digwydd. Mark Reckless AC: Rwyf bob amser—wel, ers imi astudio'r pwnc, ers i Margaret Thatcher roi hyn ar yr agenda am y tro cyntaf drwy siarad â'r Cenhedloedd Unedig am yr hyn a allai fod yn digwydd gyda'r hinsawdd—[Torri ar draws.] Fy marn i, byth ers i mi ddechrau edrych ar y mater hwn 20 neu 30 mlynedd yn ôl, yw ei bod hi'n debygol fod gweithgarwch dynol yn cynyddu'r hinsawdd. Yr hyn a gwestiynais yw beth y dylid ei wneud am y peth, beth yw'r polisïau a roddir ar waith? Fel y newid o betrol i ddiesel, yn llawer ohonynt, mae costau'r polisïau hynny'n fwy nag unrhyw fudd. Yn y wlad hon, rydym wedi lleihau allyriadau 40 y cant. Roedd gennym darged o doriad o 80 y cant; roedd rhywfaint o gonsensws, bron, yn datblygu o'i gwmpas. Ond erbyn hyn rydym wedi mynd i doriad o 90 neu 100 y cant ac rydym yn siarad amdano ac yn siarad yn rhinweddol, ond a ydym eisiau'r gallu i wneud yr hyn y byddai ei angen mewn gwirionedd? A ydym am gau Port Talbot? A ydym am gael gwared ar yr holl ffermio da byw yng Nghymru? Beth am pan fydd y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd yn rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am y biliynau y bydd yn rhaid inni eu symud o flaenoriaethau eraill i newid hinsawdd os ydym am gyrraedd y gostyngiad o 90 y cant hyd yn oed, heb sôn am sero net? O, ni allent ymdopi â hynny. [Torri ar draws.] Rwy'n ildio—na, deuaf i ben oherwydd rwyf eisoes yn y coch. Ac rwy'n dweud, a ydych am dynnu pob boeler nwy ar gyfer pob cartref yn y wlad hon? Os felly, sut ydych chi'n mynd i dalu amdano? Dechreuwch fynd i'r afael â rhai o'r materion hyn, dechreuwch gydnabod bod y wlad hon wedi gwneud mwy nag unrhyw wlad arall yn y byd hyd yma i leihau ei hallyriadau a chael polisi synhwyrol yn hytrach na'r holl siarad rhinweddol, a streiciau. Joyce Watson AC: Rwyf wedi clywed llawer o feirniadaeth yma heddiw yn erbyn ein Llywodraeth gan y Torïaid, ond rwy'n gobeithio y byddant yn beirniadu'r Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan am eu penderfyniad i ganslo Wythnos Prydain Fawr Werdd ym mis Tachwedd. Er bod y Torïaid yn honni bod ganddynt gymwysterau gwyrdd pan fydd hynny'n gyfleus iddynt, mae'n ein hatgoffa eto nad yw eu cefnogaeth i'r agenda newid hinsawdd yn mynd mor bell â hynny. Ond cyferbynnwch hynny â'r mis nesaf pan fydd cynhadledd newid hinsawdd Llywodraeth Lafur Cymru yn mynd rhagddi yn ôl y bwriad, ac ni fydd Brexit yn tynnu sylw'r Llywodraeth rhag canolbwyntio ar y materion y mae'n rhaid mynd i'r afael â hwy er mwyn dyfodol ein plant a chenedlaethau'r dyfodol sy'n eu dilyn. Un o'r camau pwysicaf y mae'r Llywodraeth yn eu rhoi ar waith yw newid y ffordd y mae ffermwyr yn derbyn cymorthdaliadau gan y Llywodraeth, gyda chynigion y bydd pob ffermwr yn cael eu gwobrwyo am y cyfraniadau hanfodol y maent yn eu gwneud i ofalu am yr amgylchedd, gan warchod cynefinoedd a mynd i'r afael â newid hinsawdd. A bydd y newid hwnnw'n gweld biliynau'n cael eu buddsoddi i ddiogelu'r amgylchedd naturiol yng Nghymru. Sylwaf hefyd fod Plaid Cymru yn gwrthwynebu rhai o'r newidiadau hynny ac yn ffafrio yn lle hynny fod ffermwyr yn cael taliadau'n seiliedig ar faint o dir y maent yn ei ffermio, gyda'r taliad mwyaf yn mynd i'r ffermydd mwyaf. Os gall Plaid Cymru ymrwymo heddiw i newid y safbwynt hwnnw ar y mater hwn, rwy'n siŵr y bydd pawb yn croesawu hynny'n fawr. Buaswn hefyd yn croesawu'n gynnes ymrwymiad gan Blaid Cymru i groesawu rhywfaint o'r gwaith sy'n cael ei wneud ar O'r Mynydd i'r Môr. Prosiect arloesol ydyw i ddad-ddofi'r ardal rhwng masiff Pumlumon, yr ardal uchaf yng nghanolbarth Cymru, i lawr drwy'r dyffrynnoedd coediog i aber afon Dyfi ac allan i fae Ceredigion. Ac o fewn pum mlynedd bydd yn dwyn ynghyd un ardal natur-gyfoethog ddi-dor sy'n cynnwys o leiaf 10,000 hectar o dir a 28,500 hectar o fôr. Dyna'r math o weithredu a fydd yn gwneud gwahaniaeth mewn gwirionedd. Rwyf wedi clywed llawer o bobl yn bod yn emosiynol iawn yma heddiw, ac mewn rhai ffyrdd mae'n fater sy'n ennyn teimladau cryf, ond nid oes llawer o ddiben i neb, pwy bynnag ydynt, eistedd ar gadair heb eu bod wedi meddwl o ble y daeth y pren ar ei chyfer mewn gwirionedd. Felly, mae pobl yn mynd i siopau adrannol ac maent yn prynu nwyddau sy'n eithaf rhad, maent yn mynd â hwy adref ac yn aml iawn maent yn eistedd ar yr union seddi sydd wedi peri i fforest law Brasil gael ei chlirio, tra byddant yn eistedd yno'n crio mewn anobaith am yr hyn y mae hynny'n ei wneud i hinsawdd y byd. Felly, mae'n debyg mai fy mhwynt yma yw: er y bydd y gwleidyddion yn gwneud yr hyn a allant, bydd rhai'n gwneud mwy nag eraill, ac mae'n rhaid i'r dinasyddion hefyd edrych ar yr hyn y maent yn ei wneud a gofyn y cwestiynau go iawn pan fyddant yn mynd ati i brynu pethau at eu defnydd eu hunain. Y Gweinidog Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths. Lesley Griffiths AC: Diolch, Lywydd. Mae'n amlwg iawn o'r cynigion a'r gwelliannau heddiw fod pob un o'r prif bleidiau yn y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn cymeradwyo plant a phobl ifanc am y rôl y maent yn ei chwarae yn y ddadl ar y newid yn yr hinsawdd. Ni ddylai fod ganddynt unrhyw amheuaeth ynghylch y gwahaniaeth y maent wedi'i wneud eisoes, ac y byddant yn parhau i'w wneud. Rwyf fi a Gweinidogion eraill Cymru yn trafod materion newid hinsawdd yn rheolaidd gyda'r bobl ifanc yr ydym yn cyfarfod â hwy. Yn ddiweddar, derbyniais y magna carta newid hinsawdd, a gynhyrchwyd gan un disgybl ysgol gynradd, ac mae'n rhaid imi ddweud ei fod yn dangos dealltwriaeth graffach o'r problemau ac yn cynnwys set lawer mwy cynhwysfawr o fesurau na'r rhai a awgrymwyd wrthyf gan rai o Aelodau'r gwrthbleidiau yn y Cynulliad hwn. Ym mis Mawrth eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru 'Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel', sy'n nodi manylion ynglŷn â tharddiad yr holl allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru a'n cynlluniau i'w lleihau. Ar y diwrnod y lansiwyd y cynllun, cynhaliodd y Prif Weinidog drafodaeth bwrdd crwn gyda phlant a phobl ifanc i ateb eu cwestiynau am y cynllun a'r camau yr ydym yn eu cymryd. Credwn na allwn ddibynnu'n bennaf ar unigolion i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd ar eu pennau eu hunain. Nid yw hwn yn fater y gallwn fforddio gadael iddo gael ei benderfynu gan y farchnad rydd. Credwn fod yn rhaid i Lywodraeth chwarae rôl weithredol o ran gwneud gweithredu ar y cyd yn bosibl. Un enghraifft o hyn yw'r fenter eco-ysgolion lle mae miloedd o blant a phobl ifanc yn rhoi camau ar waith yn eu hysgolion bob wythnos sy'n cael effaith uniongyrchol ar fynd i'r afael â newid hinsawdd a materion amgylcheddol hanfodol eraill. Eleni rydym hefyd yn gweithio gyda Maint Cymru i ddarparu pum uwchgynhadledd newid hinsawdd ar ffurf cynadleddau Cynhadledd y Partïon y Cenhedloedd Unedig, a fydd yn cynnwys disgyblion o 80 o ysgolion uwchradd ledled Cymru. Mae mentrau fel hyn yn cryfhau lleisiau plant a phobl ifanc ac yn eu cynorthwyo i weithredu yn eu cymunedau. Rhaid inni gofio bod gennym gyfrifoldeb hefyd i gynrychioli'r plant a'r bobl ifanc nad ydynt yn dewis streicio. Dyna pam y mae gwelliant ein Llywodraeth i'r cynnig yn adlewyrchu galwad ganolog ymgyrch Fridays for Future ar bob gwleidydd ac arweinydd busnes i wrando ar yr hyn sydd gan blant a phobl ifanc i'w ddweud am newid hinsawdd. Un ffordd bwysig y gallwn ychwanegu mwy o bwysau at farn plant a phobl ifanc yng Nghymru—a chyfeiriodd Hefin David at hyn—yw drwy ein hymrwymiad i ostwng yr oedran pleidleisio yng Nghymru o 18 i 16 mewn pryd ar gyfer yr etholiadau nesaf i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn yn 2021. Dyma'r peth iawn i'w wneud, ond mae'n gwbl angenrheidiol hefyd er mwyn i blant a phobl ifanc gyflawni'r rôl sydd angen iddynt ei chwarae er mwyn creu Cymru carbon isel. Llyr Gruffydd i ymatab i'r ddadl. Llyr Gruffydd AC: A gaf fi ddiolch i bawb am gymryd rhan? Mae'n eironig fod Andrew R.T. Davies, mewn dadl gynharach, yn difrïo gwelliant 'dileu popeth' ac yna'n codi i siarad i gefnogi gwelliant 'dileu popeth' yn y ddadl hon, ond dyna ni. Mae Hefin David yn llygad ei le: rhwystredigaeth ac ofn—mae pobl ifanc yn ofni canlyniadau'r argyfwng hinsawdd, a rhestrodd eich etholwr rai pethau a fyddai'n digwydd mewn degawdau i ddod. Wel, wyddoch chi, maent yn digwydd nawr. Gwelsom yr hyn a ddigwyddodd ym Mozambique, gyda seiclonau Idai a Kenneth yn ddiweddar. Symudodd yr arfordir 15 milltir i mewn i'r tir, a chafodd dinas Beira ei dinistrio—cafodd 90 y cant ohoni ei difa'n llwyr, gyda miloedd wedi'u lladd a 0.5 miliwn wedi'u dadleoli. Mae'n digwydd heddiw; nid yw'n rhywbeth a allai ddigwydd yn y dyfodol. Mark Reckless, rwy'n credu fy mod yn cytuno â chi am y tro cyntaf erioed—mae streiciau'n arwydd o fethiant. Fe restroch chi'r gost o leihau allyriadau carbon, ond ni ddywedasoch ddim wrthym am y gost o fethu ymdrin, neu o geisio ymdrin â rhai o ganlyniadau trychinebus y digwyddiadau hinsawdd a wynebwn o ganlyniad i'r argyfwng hinsawdd. Nid wyf yn siŵr pam oedd Joyce Watson yn chwilio am ffrae gyda Phlaid Cymru, oherwydd fe gamliwioch chi ddau o'n polisïau, ond dyna ni; efallai y bydd yn rhaid inni fynd ar drywydd hynny yn nes ymlaen, oherwydd nid oes gennyf lawer o amser. Dywedodd Greta Thunberg, ac rwy'n dyfynnu: Gan fod ein harweinwyr yn ymddwyn fel plant, ac nid wyf i'n dweud dim—ei geiriau hi yw'r rhain— Gan fod ein harweinwyr yn ymddwyn fel plant, bydd yn rhaid i ni ysgwyddo'r cyfrifoldeb y dylent hwy fod wedi'i ysgwyddo ymhell yn ôl. A dyna'n union y maent yn ei wneud ddydd Gwener yma drwy gymryd rhan yn y streiciau ysgol hyn. Felly, gadewch i ni ei gwneud yn glir ein bod ni fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru gyda'n pobl ifanc ar y daith honno, a gadewch i ni gefnogi cynnig Plaid Cymru heddiw. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y bleidlais tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. 11. Dadl Plaid Cymru: Tâl ac amodau gweithwyr y GIG Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans, a gwelliannau 2, 3 a 4 yn enw Darren Millar. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol. Yr eitem nesaf yw dadl Plaid Cymru ar dâl ac amodau gweithwyr y gwasanaeth iechyd, a dwi'n galw ar Llyr Gruffydd i wneud y cynnig. Cynnig NDM7138 Rhun ap Iorwerth Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu at gynigion Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ymestyn sifftiau nyrsio heb dâl ar gyfer dros 4,000 o nyrsys a gweithwyr cymorth gofal iechyd. 2. Yn ofni colli ewyllys da ymysg staff sydd eisoes yn gweithio drwy eu cyfnodau egwyl neu sydd ar alwad ar eu wardiau neu eu hunedau. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu tâl ac amodau gweithwyr rheng flaen o fewn y GIG drwy sicrhau bod y cynnig atchweliadol hwn yn cael ei ddiddymu. Cynigiwyd y cynnig. Llyr Gruffydd AC: Diolch, Lywydd. Ddoe, daeth ymgynghoriad ar newidiadau i rotâu nyrsio ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr i ben. Mae'r argymhelliad, i bob golwg, i safoni a symleiddio cyfnodau egwyl nyrsys a throsglwyddiadau yn ceisio arbed arian i'r bwrdd iechyd mewn gwirionedd, ar adeg, wrth gwrs, pan fo'i gadeirydd yn cyfaddef ei fod yn cael trafferth cyrraedd targedau i leihau ei ddiffyg o £42 miliwn. Nawr, yn y cyd-destun hwn—ymgais daer i arbed arian—y lluniwyd y cynllun. A gallai'r ysfa daer honno esbonio pam y mae'r argymhelliad wedi arwain uwch-reolwyr yn y bwrdd i lunio'r syniad gwallgof hwn i arbed arian. Yn gryno, mae'n ymestyn sifftiau nyrsys hanner awr yn ychwanegol yn ddi-dâl. Byddai'n golygu y bydd disgwyl i nyrs sy'n gweithio sifft 12.5 awr ar hyn o bryd, sy'n cynnwys egwyl o hanner awr yn ddi-dâl, weithio'r un sifft a chael ei thalu am 11.5 awr yn unig. Rwy'n credu ei bod yn bwysig inni gydnabod bod llawer o nyrsys yn treulio'u cyfnodau egwyl ar eu wardiau neu eu hunedau ar hyn o bryd, a'u bod ar alwad i bob pwrpas mewn argyfwng. Nawr, ewyllys da staff gweithgar yn unig sydd i gyfrif am hynny, ac mae'r argymhelliad hwn yn ceisio manteisio ar yr ewyllys da hwnnw. Yr hyn y mae'r rheolwyr yn methu ei ddeall yw—[Torri ar draws.] Na, ni wnaf, mae arnaf ofn—mae angen i mi gael hyn—. Gallwch siarad yn y ddadl. Mae'n ddadl fer iawn. Yr hyn y mae rheolwyr yn methu deall yw bod yr argymhelliad yn bygwth tanseilio morâl ac ewyllys da nyrsys yn llwyr. Bydd y newidiadau'n golygu, i bob pwrpas, fod nyrsys amser llawn yn gorfod gweithio sifft ychwanegol y mis i gyflawni'r oriau di-dâl. Nawr, nid newidiadau bach yw'r rhain—os cânt eu gweithredu bydd yn effeithio ar dros 4,000 o nyrsys a gweithwyr cymorth gofal iechyd ar draws fy rhanbarth yng ngogledd Cymru. Mae nyrsys yr ydym wedi siarad â hwy'n ddienw yn dweud, os aiff y cynllun yn ei flaen, y byddant yn ystyried lleihau eu horiau, bydd rhai'n ystyried rhoi'r gorau iddi yn llwyr, dywed rhai y byddant yn treulio'u cyfnodau egwyl i ffwrdd o'u huned neu eu ward, a bydd rhai'n cymryd gwyliau blynyddol yn hytrach na gweithio sifftiau ychwanegol. Mae newidiadau tebyg wedi'u rhoi ar waith mewn ysbytai yn Lloegr, ond mae'n bosibl mai dyma un o'r adegau cyntaf, er ei bod yn bosibl bod Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg—efallai eu bod hwy wedi gwneud rhywbeth tebyg. Ond teimlaf yn gryf fod yn rhaid inni herio'r argymhellion hyn, ac fel cynrychiolydd o ogledd Cymru, mae'n amlwg fod lles ein nyrsys yng ngogledd Cymru yn agos at fy nghalon. Nawr, yn sail i'r argymhelliad y mae'r angen, yn ôl y gyfraith wrth gwrs, i sicrhau lefelau staffio diogel ar bob ward, gan leihau costau nyrsys asiantaeth ar yr un pryd, drwy sicrhau niferoedd cymwys o staff nyrsio a gweithwyr cymorth gofal iechyd ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Mae rheoli gwael hefyd yn golygu bod amrywiaeth enfawr o ran cyfnodau egwyl i staff, o ddim egwyl o gwbl i 75 munud o egwyl â thâl. Ni ddylai safoni'r rhain olygu gorfodi baich ychwanegol annheg ar nyrsys. Mae'r bwrdd iechyd wedi bod yn destun mesurau arbennig, wrth gwrs, oherwydd amrywiaeth o fethiannau clinigol ers 2015. Mae'n dechrau ar ei bumed flwyddyn o reolaeth uniongyrchol gan y Llywodraeth, ac eto nid yw'n dangos unrhyw arwydd ei fod yn ymdopi â heriau'n ymwneud â'r gweithlu sy'n sail i lawer o'i broblemau. Mae prinder dybryd o feddygon a nyrsys, fel y gwyddom, ac yn ôl y cyfrif diwethaf, roedd 500 o swyddi nyrsio gwag yn y gogledd—un o bob 10 o'r gweithlu. Felly, gallwch ddeall pam y mae'r staff sydd yno eisoes o dan bwysau, a pham y mae'r bwrdd iechyd yn awyddus i dorri ei fil nyrsys asiantaeth enfawr. Nawr, datgelodd ymateb rhyddid gwybodaeth i mi yr wythnos diwethaf fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar hyn o bryd yn gwario dros £1 miliwn y mis ar nyrsys asiantaeth yn unig. Yn wir, ar un adeg, roedd yn gwario £3 miliwn y mis ar feddygon locwm a staff asiantaeth. Nawr, mae'r nyrsys hyn yn llenwi bylchau, ond mae cyflogi staff asiantaeth yn costio mwy wrth gwrs, ac nid ydynt yn gallu cyflawni rhai o'r dyletswyddau y mae nyrsys staff yn eu gwneud fel mater o drefn. Felly, faint fydd yr argymhelliad hwn yn ei arbed? Wel, yn ôl y bwrdd iechyd ei hun, maent yn disgwyl arbed £25,000 y mis oddi ar eu bil nyrsys asiantaeth. Mae hynny oddeutu 2 y cant—2 y cant o'r bil misol. Rwy'n siŵr y bydd y bwrdd iechyd yn dadlau bod yn rhaid i chi gyfri'r ceiniogau pan fyddwch yn wynebu'r fath fynydd o ddyled, ac ni fuaswn yn anghytuno â hynny, ond ofnaf eu bod wedi colli golwg ar sut y mae hyn wedi cael ei dderbyn ar lefel y ward. Nid yw'r bwlch rhwng y bwrdd a'r ward erioed wedi bod yn fwy, o farnu wrth yr ymateb. Mae nyrsys pryderus wedi cysylltu â ni oherwydd bydd yr argymhelliad yn effeithio'n wael ar y bwrdd iechyd. Bydd colli ewyllys da ymhlith miloedd o nyrsys sydd eisoes yn gweithio o dan bwysau aruthrol yn gwneud pethau'n waeth, nid yn well. Nid dyma'r ffordd i drin staff medrus, profiadol ac arbenigol. Rwyf am i'r bwrdd iechyd ailystyried yr argymhelliad. Mae'n achosi pryder ymhlith staff nad oes angen straen pellach arnynt yn eu bywyd gwaith. Mae morâl y staff eisoes yn isel ac efallai mai dyma fydd ei diwedd hi. Efallai y bydd y bwrdd iechyd yn arbed £25,000 y mis, ond ni allwch roi pris ar ewyllys da dros 4,000 o nyrsys. Nawr, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog iechyd, y mae ei adran, wrth gwrs, yn goruchwylio Betsi Cadwaladr yn uniongyrchol, yn deall hyn. Gobeithio—. Wel, rwy'n deall bod ei gyd-Aelod, yr AS dros Crewe a Nantwich, Laura Smith, wedi gwrthwynebu newidiadau tebyg a orfodwyd ar nyrsys yn ysbyty Leighton yn ei hetholaeth yn hallt iawn. Felly, os nad yw'n gwrando ar Blaid Cymru, tybed a fyddai'n gwrando ar ei dadl hi. A yw'n gwrando ar yr undebau, fel Unite, a'r Coleg Nyrsio Brenhinol, sydd ill dau'n gwrthwynebu'r newidiadau hyn yn y modd cryfaf posibl? Buaswn yn ei annog i gamu i mewn a sicrhau y rhoddir y gorau i'r polisi hwn cyn iddo achosi problemau gwirioneddol gyda'r gweithlu, ac yn y pen draw, wrth gwrs, gyda'r GIG ar draws gogledd Cymru. A wnaiff wrando ar y dros 6,000 o bobl, gyda llawer ohonynt yn nyrsys a'u teuluoedd, sydd wedi llofnodi deisebau i roi'r gorau i'r newid hwn? Mae nyrsys a gweithwyr cymorth gofal iechyd yn rheng flaen y gwaith o ddarparu gwasanaeth gwych ledled y gogledd. Mae nyrsys yn gweithio'n aruthrol o galed ac nid oes angen mwy o bwysau arnynt gan y rheolwyr, sy'n gallu gadael eu swyddfeydd am 5 p.m, wrth gwrs, doed a ddêl Felly, a yw'r uwch-reolwyr yn meddwl o ddifrif y bydd y newid yn helpu i gadw a recriwtio staff? Fe orffennaf fy nghyfraniad agoriadol gyda dyfyniad gan nyrs staff a lofnododd ein deiseb ac a adawodd y neges hon ar yr hysbysfwrdd: Dyma'r hoelen olaf yn yr arch i nyrsys sy'n gweithio i Betsi Cadwaladr. Rydym eisoes yn gweithio ar ward sy'n brin o staff, felly rydym yn lwcus os ydym yn cael egwyl. Bydd hyn yn golygu bod llawer o nyrsys yn symud o'r proffesiwn nyrsio a byddaf yn un ohonynt. Rwyf wrth fy modd yn bod yn nyrs, ond nid wyf yn mynd i beryglu fy iechyd wrth i'r ymddiriedolaeth roi mwy o bwysau arnaf. Mae Betsi Cadwaladr yn dangos eu gwir liwiau yn fy marn i. Maent yn poeni mwy am arian na lles y claf na'r staff. Pe baent yn rhoi arian tuag at staff rheng flaen drwy sicrhau bod wardiau'n cael eu staffio'n ddiogel a pheidio â thalu cwmnïau i gynnig syniadau dwl, efallai y gallent arbed arian yn y pen draw. Ei geiriau hi oedd y rheini. Nawr, rwy'n annog y Cynulliad i gefnogi cynnig Plaid Cymru ac i gefnogi ein nyrsys y prynhawn yma. Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair. Diolch. Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol. A gaf fi ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol? Gwelliant 1—Rebecca Evans Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn gwerthfawrogi gweithlu’r GIG a’n trefniadau gwaith partneriaeth gymdeithasol. Yn disgwyl i holl gyrff y GIG weithio, ymgysylltu ac ymgynghori gyda’u staff, eu hundebau llafur a chyrff cynrychiadol eraill ar newidiadau gweithredol sy’n effeithio ar staff. Cynigiwyd gwelliant 1. Vaughan Gething AC: Yn ffurfiol. Diolch. Galwaf ar Angela Burns i gynnig gwelliannau 2, 3 a 4, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Gwelliant 2—Darren Millar Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn gresynu ymhellach bod nifer y diwrnodau gwaith a gollwyd o ganlyniad i straen a phroblemau'n ymwneud ag iechyd meddwl o fewn y bwrdd iechyd wedi cynyddu 20 y cant ers 2014. Gwelliant 3—Darren Millar Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le: Yn mynegi pryder na fydd y cynnig hwn o gymorth i forâl y staff ac y bydd yn gosod disgwyliadau ychwanegol ar nyrsys a gweithwyr gofal iechyd i aberthu eu cyfnodau egwyl cytundebol. Gwelliant 4—Darren Millar Ym mhwynt 3, dileu 'drwy sicrhau' a rhoi yn ei le: 'ac i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ymyrryd er mwyn sicrhau' Cynigiwyd gwelliannau 2, 3 a 4. Angela Burns AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliannau hynny'n ffurfiol. Ond rwy'n ofni bod fy nghyd-Aelod ar yr ochr arall i'r Siambr, Llyr Huws Gruffydd, wedi dweud yn eithriadol o huawdl bopeth yr oeddwn am ei ddweud. Oherwydd mae gennym GIG sydd o dan bwysau aruthrol. Mae gennym staff sy'n gwneud mwy nag sy'n ofynnol o ran dyletswydd. Maent yn gweithio oriau hwy ac nid ydynt yn mynd ar drywydd taliadau goramser, na fyddent yn aml iawn yn eu cael beth bynnag. Maent yn aros ac nid ydynt yn cael y cyfnodau egwyl y dylent eu cael, am fod yna bob amser rywun sydd angen ychydig o help, rhywun sydd angen ei godi, rhywun sydd angen eu bwydo, a moddion i'w roi, trosglwyddiad i'w wneud. Nid ydynt yn gofyn am yr arian ychwanegol; maent yn mynd ati i wneud y gwaith. Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi dweud yn glir iawn pe bai pob un nyrs yn y GIG yng Nghymru yn gweithio'r amser y mae i fod i'w weithio, byddai gennym brinder affwysol o nyrsys ledled Cymru—tua 3,500 i 4,000 o bersonél. Felly, pan fyddwch o dan bwysau aruthrol o'r fath—fel y dywedoch chi, Llyr—mae cael pobl yn potsian o gwmpas yr ymylon ac yn gwneud y mathau hynny o newidiadau yn gwneud i chi deimlo nad oes neb yn eich gwerthfawrogi. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n mynd yn groes i'r graen yw bod yr adolygiad seneddol yn wirioneddol glir ynglŷn â phwysigrwydd staff a chleifion yn y dyfodol yn y weledigaeth ar gyfer iechyd a'n bod yn mynd i fod yn GIG sy'n canolbwyntio llawer mwy ar bobl. Oherwydd fe ofynnaf hyn i chi, Aelodau—mae'r GIG, os nad yw'n ddim arall, yn fusnes pobl. Mae'n ymwneud yn llwyr â phobl—y bobl sy'n gleifion, y bobl sy'n gweithio ynddo, sy'n gwneud pobl yn iach, sy'n eu hanfon yn ôl allan i'r byd. Mae'n ymwneud â rhyngweithio rhwng pobl, mae'n ymwneud â chyfathrebu, mae'n ymwneud â medr, mae'n ymwneud ag un person yn helpu person arall neu'n rhan o fywyd person arall am ennyd fer iawn, ac mae'n rhaid i chi deimlo'n dda amdanoch eich hun er mwyn gwneud hynny. Ac rwyf am wneud cymhariaeth gyflym, ac rwy'n cyffesu hyn: ar y dyddiau pan nad wyf yn teimlo'n wych, pan fyddaf wedi blino, pan fyddaf wedi ymlâdd, pan fyddaf wedi cael llond bol, pan fyddaf yn darllen 450 o bapurau pwyllgor mewn cyfnod byr iawn o amser, rwy'n eithaf diamynedd gyda fy ngŵr, rwy'n eithaf diamynedd gyda fy mhlant, rwy'n eithaf, wyddoch chi, oherwydd fy mod yn teimlo o dan bwysau, rwy'n teimlo straen. Dyma sut y mae bodau dynol yn adweithio. Felly, beth ydym yn ei wneud i'r holl staff hyn yn y GIG sy'n gweithio'n ddyfal drosom? Rydym yn eu rhoi o dan fwy byth o bwysau, ond yn disgwyl iddynt fod yn hapus ac yn llawen, i wneud eu gwaith mor dda ag y gallant ei gwneud a chydag angerdd yn eu calon. Nawr, mae'n ymwneud ag arbed costau, ac mae angen i Betsi Cadwaladr docio peth ar ei gwariant, ond mae llefydd gwell i docio arnynt. A buaswn yn awgrymu bod PricewaterhouseCoopers, sydd wedi'u helpu i wneud yr ymarfer bach hwn, yn dda iawn yn ôl pob tebyg am edrych ar y ffigurau ac yn dda iawn am edrych ar y llyfrau, ond rwy'n eu herio i gerdded drwy'r wardiau hynny ynghanol nos a mynd i weld a gwneud beth y mae'r staff hyn yn ei wneud. Rydym yn cefnogi eich cynnig yn llwyr. Rydym wedi gwneud rhai gwelliannau, ond ymdrech i geisio'i dacluso a'i wneud yn gryfach oedd hynny, oherwydd un peth yr ydym yn galw amdano, Weinidog, yw i chi yn bersonol ymyrryd yn hyn yn uniongyrchol, i edrych yn hir ac yn fanwl, oherwydd rydych eisoes wedi dweud mewn dadleuon blaenorol heddiw eich bod yn ymateb ac yn gwneud i bethau fod yn gyfarwyddol am nad yw byrddau iechyd yn perfformio. Nid yw Betsi Cadwaladr yn perfformio, ac mae'r peth diweddaraf hwn yn mynd i gynhyrfu cymaint o bobl ac achosi i forâl—. Mae fy amser wedi dod i ben, ond rwyf am wneud un pwynt terfynol Mae absenoldeb salwch staff yn sgil problemau iechyd meddwl yn Betsi Cadwaladr wedi cynyddu o flwyddyn i flwyddyn, ac yn 2018-19—a ffigurau bach yw'r rhain, ac ni allwn gredu'r peth pan ddarllenais hwy—y dyddiau amser llawn a gollwyd, dros 72,000. Pe baech chi'n cael y dyddiau hynny yn ôl i Betsi Cadwaladr, yn ôl i'r GIG, byddai gennych GIG hollol wahanol. Dim ond gyda staff hapus ac iach sy'n teimlo eu bod yn cael eu gwobrwyo ac sy'n teimlo bod pobl yn ymroddedig iddynt y gallwch wneud hyn. Mandy Jones AC: Rwyf innau hefyd yn cymeradwyo'r hyn y mae Llyr ac Angela newydd ei ddweud. Yn aml yn y Siambr hon cyfeiriwn at 'ein gwasanaeth iechyd', 'ein staff gwasanaeth iechyd gweithgar' a chredaf fod hon yn ffordd o ddweud ein bod yn rhoi gwerth enfawr ar y gwasanaethau a gawn a'r bobl sy'n eu rhoi i ni. Mae'r gwasanaeth iechyd yn darparu gwasanaethau hanfodol—mae llawer o bobl yn dibynnu arnynt yn helaeth iawn ar adegau a phan fyddant yn fregus, yn sâl ac yn ofidus. Mae pawb ohonom yn gwybod bod nyrsio neu ofalu'n alwedigaeth nad yw pawb am ei gwneud ac nid yw pawb yn gallu nyrsio rhywun yn iach, cysuro'r rhai sydd wedi cael profedigaeth neu ymdopi ag argyfwng meddygol. Pan fyddwch yn rhoi eich calon a'ch enaid yn eich swydd, pan fydd yn alwedigaeth, gwyddom y byddwch yn rhoi mwy, yn gwneud mwy, yn ddi-wobr a heb gael eich cydnabod. Ond mae hynny'n iawn efallai pan fyddwch yn teimlo bod eich cleifion a'ch cyflogwr yn eich gwerthfawrogi. Mae bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn parhau i fod o dan fesurau arbennig. Golyga hyn nad yw lefel ansawdd y gwasanaeth sy'n cael ei brofi gan bobl ar draws gogledd Cymru gystal â'r hyn y maent yn ei gael mewn rhannau eraill o'r wlad. Er ei fod yn cael ei oruchwylio'n uniongyrchol gennych chi, Weinidog iechyd, mewn meysydd penodol, nid oes dyddiad gorffen yn y golwg ar gyfer rhoi'r gorau i'r mesurau hyn ac a gaf fi awgrymu bod y sefyllfa druenus hon yn fy arwain i feddwl bod angen mynd i'r afael â diffygion strwythurol yn y system gyfan? Nawr, mae'n ymddangos i mi mai cryfder unrhyw sefydliad yw ei bobl, ac o ystyried faint o negeseuon e-bost a gefais ar fater y bwrdd iechyd hwn, mae bellach yn y broses o erydu ewyllys da ei staff drwy geisio newid telerau ac amodau a gwneud i staff weithio un sifft ychwanegol y mis am ddim i bob pwrpas. Nid yw hyn yn iawn. Gwelaf eu bod yn sôn am safoni a rhesymoli patrymau sifftiau—wel, yn burion, ond nid ar draul staff sydd eisoes o dan bwysau, o dan ormod o straen ac sy'n gweithio y tu hwnt i'w gallu eu hunain. Daw un neu ddau o gwestiynau i'r meddwl, a buaswn yn ddiolchgar i gael eich barn ar hyn. Os yw'r bwrdd iechyd wedi bodoli ers 2009, pam mai yn 2019 y sylweddolodd fod angen i resymoli ddigwydd? Ac mae pawb ohonom yn gwybod pa mor sinigaidd y mae ymgyngoriadau'n gallu bod. A wnaiff y Gweinidog iechyd wneud popeth yn ei allu, os gwêl yn dda, i sicrhau bod yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn cael eu hystyried o ddifrif? Yn olaf, mae rhywun nad yw'r newidiadau arfaethedig hyn yn effeithio arnynt am eu bod wedi newid eu swydd wedi ysgrifennu ataf, ac rwy'n dyfynnu, 'Mae angen inni edrych ar ôl ein nyrsys a'n cynorthwywyr gofal iechyd, a dangos iddynt pa mor werthfawr ydynt mewn gwirionedd, ac atal y newidiadau hyn rhag cael eu rhoi ar waith'. Ni allwn fod wedi rhoi hynny'n well fy hun. Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething? Vaughan Gething AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau yn y ddadl. Fe ddechreuaf drwy egluro bod rotâu staff yn fater gweithredol ac yn gyfrifoldeb i sefydliadau unigol. Dylent sicrhau bod pob un o'u rotâu yn ystyried cydymffurfiaeth â Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016, wedi'u llunio i ddiwallu anghenion staff a'r gwasanaeth, ac yn gosod angen y claf yn ganolog yn y gwaith o reoli'r gweithlu. Rwy'n disgwyl i holl gyflogwyr y GIG gydweithio'n agos â'r undebau llafur ar ochr y staff ar y newidiadau arfaethedig, i ystyried yr holl sylwadau a phryderon ac ymateb yn briodol iddynt. Mae'r argymhelliad cyfredol sy'n destun ymgynghoriad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ceisio safoni patrymau sifftiau, cyfnodau trosglwyddo a chyfnodau egwyl ar draws pob is-adran, ac nid yw'r ymgynghoriad cyfan wedi dod i ben eto; maent yn dal i ymgysylltu ac ymgynghori ar yr argymhelliad. Mewn ymateb i gais gan bartneriaid undebau llafur, rwy'n deall bod y cyfnod ymgynghori wedi'i ymestyn er mwyn sicrhau digon o amser i'r holl staff y gallai'r argymhelliad effeithio arnynt ystyried yr wybodaeth a chymryd rhan yn yr ymgynghoriad. Deallaf hefyd fod cynrychiolwyr undebau llafur wedi mynegi pryderon am yr effaith bosibl, gan gynnwys y cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, y posibilrwydd o gynnydd yng nghostau gofal plant, a chostau teithio, golchi dillad a bwyd. Rwy'n disgwyl i reolwyr y bwrdd iechyd ystyried unrhyw effaith ar gydraddoldeb a'r holl adborth cyn gwneud unrhyw benderfyniad. Felly, nid yw'r cynnig yn adlewyrchu'r realiti nad yw prosesau ymgynghori lleol wedi'u cwblhau eto—maent yn mynd rhagddynt ac ni wnaed penderfyniad hyd yma. Mae'r cynnig hefyd yn cyfeirio at ddiogelu cyflogau ac amodau gwaith gweithwyr rheng flaen yn y GIG. Mae'r argymhellion ar gyfer y rotâu yn ymwneud â chynllunio sifftiau ac ni fyddent yn effeithio ar gyflog, telerau ac amodau cytundebol a nodwyd o dan yr 'Agenda ar gyfer Newid' y cytunwyd arni ar y cyd. Wrth wrthwynebu'r cynnig, rwyf hefyd wedi cynnig gwelliannau i ategu'r gwerth a roddwn ar weithlu'r GIG a threfniadau gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru, a'n bod yn parhau i ddisgwyl i holl gyrff y GIG weithio, ymgysylltu ac ymgynghori â'u staff, eu hundebau llafur a chyrff cynrychiadol eraill ar unrhyw newid gweithredol sy'n effeithio ar staff. Mae'r bartneriaeth gymdeithasol ac ymwneud undebau llafur yn drefniadau arferol yma yng Nghymru. Mae'n ddealladwy fod cymheiriaid undebau llafur yn Lloegr, lle mae'r dull o weithredu yn sylfaenol wahanol, yn eiddigeddus o'n trefniadau yng Nghymru. Rwy'n falch o ddweud bod ansawdd y data wrth gofnodi absenoldebau yn gwella, a bydd hyn yn helpu i nodi a mynd i'r afael â themâu a meysydd penodol i ganolbwyntio arnynt. Mae gwaith yn mynd rhagddo ledled Cymru, yn dilyn y cytundeb 'Agenda ar gyfer Newid', i leihau absenoldeb oherwydd salwch ym mhob bwrdd ac ymddiriedolaeth iechyd. Mae sefydliadau'r GIG yn ymwneud ag ystod o fentrau i gefnogi iechyd a lles corfforol ac emosiynol eu staff. Fel pob un o fy nghyd-Aelodau, rwyf hefyd yn pryderu am straen a materion sy'n ymwneud ag iechyd meddwl sy'n effeithio ar ein staff iechyd a gofal. Rhaid i gyflogwyr ystyried iechyd a lles eu gweithwyr yn llawn. Mewn gwirionedd—mae'r drafodaeth ar sut i leihau absenoldeb oherwydd salwch wedi cael ei datblygu ar y cyd gan yr undebau llafur a chan gyflogwyr, ac fe'i cefnogwyd gan adnoddau ychwanegol gan y Llywodraeth. Felly, ni fyddwn yn cefnogi'r gwelliannau a gynigiwyd gan Darren Millar. Fel y dywedais yn gynt, mae'r argymhellion hyn, yn gwbl briodol, yn amodol ar ymgysylltu ac ymgynghori â staff, undebau llafur a chyrff cynrychiadol. Rwyf am ei gwneud yn glir fy mod yn cadw budd gorau ein staff a'r cyhoedd a wasanaethwn mewn cof ym mhob penderfyniad a wnaf. Gwn fod hynny'n rhywbeth y byddai Aelodau eraill yn ei ddweud—eu bod hwythau'n cadw hynny mewn cof wrth wneud cyfraniadau yn y Siambr hon. Ond rwy'n disgwyl i gyflogwyr y GIG fabwysiadu ymagwedd debyg wrth wrando ar ein staff a'u cynrychiolwyr etholedig ar ochr yr undebau llafur a gweithio gyda hwy. Wrth gwrs, nid yw hynny'n golygu bod cyflogwyr ac undebau llafur yn cytuno ar bob argymhelliad a wneir. Er hynny, yng Nghymru, mae gennym hanes o ddod o hyd i ffordd o ddod i gytundeb ar y ffordd ymlaen. Rwy'n disgwyl i'r dull adeiladol ac aeddfed o weithredu yr ydym wedi'i feithrin, ei annog a'i ymgorffori drwy bartneriaeth gymdeithasol ganfod ffordd ymlaen yn yr achos hwn, ac wrth gwrs, byddaf yn parhau i fod â diddordeb yn y cynnydd ar hynny yn y mater hwn ar ôl i'r ymatebion i'r ymgynghoriad ddod i law. Yna bydd yn rhaid i'r bwrdd iechyd ystyried unrhyw argymhelliad a fydd yn dal i fod ganddynt ar y pwynt hwnnw, neu ei adolygu, ei drafod, a chytuno arno, gobeithio, yn y bartneriaeth yr ydym wedi'i meithrin, ac rwy'n falch o ddweud, wedi'i sicrhau yma yng Nghymru. Diolch. A gaf fi alw ar Dai Lloyd i ymateb i'r ddadl? Dai Lloyd AC: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae'r amser yn brin. Allaf fi longyfarch pawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl bwysig yma, yn benodol felly Llyr Gruffydd a hefyd Angela Burns, sydd wedi olrhain beth sydd o'n blaenau ni a'r her? Ac, wrth gwrs, galwedigaeth ydy nyrsio, ac mae hynny'n golygu bod pobl yn mynd y filltir ychwanegol yna dros eu cleifion. Weithiau, mae nyrsys, fel meddygon, yn gallu cael eu gweld gan weinyddwyr fel rhyw fath o soft touch, achos wnawn ni aros ymlaen beth bynnag mae'n gymryd achos mae'n claf ni fanna yn sâl. Mae eisiau dangos parch i'r agwedd yna bod nyrsio yn alwedigaeth, a dangos y parch angenrheidiol a chefnogi'r cynnig yma. Diolch yn fawr. Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Felly, gohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. Rydym yn awr wedi cyrraedd y cyfnod pleidleisio ar yr agenda, felly oni bai fod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, rwy'n mynd i symud ymlaen at y bleidlais. 12. Cyfnod Pleidleisio Y bleidlais gyntaf y prynhawn yma, felly, yw pleidlais ar y cynnig o dan Reol Sefydlog 16.5 i sefydlu pwyllgor. Felly, galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Elin Jones. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 35, un yn ymatal, 11 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig. NDM7136 - Cynnig o dan Reol Sefydlog 16.5 i sefydlu pwyllgor: O blaid: 35, Yn erbyn: 11, Ymatal: 1 Derbyniwyd y cynnigCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ansawdd aer, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os gwrthodir y cynnig, awn ati wedyn i bleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 14, neb yn ymatal, 33 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig. NDM7133 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 14, Yn erbyn: 33, Ymatal: 0 Gwrthodwyd y cynnigCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar welliant 1. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Felly, galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 26, neb yn ymatal, 21 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1. NDM7133 - Gwelliant 1: O blaid: 26, Yn erbyn: 21, Ymatal: 0 Derbyniwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Mae gwelliant 2 wedi'i ddad-ddethol. Cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd. Cynnig NDM7133 fel y'i diwygiwyd: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi bod lefelau annerbyniol o lygredd aer yn parhau mewn rhai ardaloedd o Gymru, y DU ac Ewrop. Yn gresynu at y ffaith bod rhai amcangyfrifon yn awgrymu bod dod i gysylltiad ag ansawdd aer gwael am dymor hir yn cyfrannu at farwolaeth cynifer â 36,000 o bobl yn y DU, a chynifer â 1,400 o bobl yng Nghymru. Yn nodi hefyd y gall dod i gysylltiad â llygredd aer yn y tymor byr wneud clefydau anadlol yn waeth, fod dod i gysylltiad â llygredd aer yn yr hirdymor yn cynyddu perygl afiachusrwydd a marwolaeth o ganser yr ysgyfaint a chyflyrau eraill, ac y gallwn ddisgwyl i effeithiau iechyd eraill ansawdd aer gwael ddod i’r amlwg wrth i’r ddealltwriaeth wyddonol wella. Yn croesawu camau cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru gan gynnwys cyflwyno terfynau cyflymder parhaol o 50mya;cyflwynoymgyrch y Diwrnod Aer Glân a datblygu Cynllun Aer Glân i Gymru. Yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i ddefnyddio pob cam deddfwriaethol ac anneddfwriaethol posibl er mwyn gwella ansawdd aer. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 25, neb yn ymatal, 20 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd. NDM7133 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 25, Yn erbyn: 20, Ymatal: 0 Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwydCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar ddadl Plaid Cymru ar gyfiawnder hinsawdd, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Unwaith eto, os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig wyth, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig. NDM7137 - Dadl Plaid Cymru - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 8, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0 Gwrthodwyd y cynnigCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar y gwelliannau. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 12, un yn ymatal, 34 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 1. NDM7137 - Gwelliant 1: O blaid: 12, Yn erbyn: 34, Ymatal: 1 Gwrthodwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 27, wyth yn ymatal, 13 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 2. NDM7137 - Gwelliant 2: O blaid: 27, Yn erbyn: 13, Ymatal: 8 Derbyniwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Galwaf am bleidlais ar welliant 3 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 30, roedd tri yn ymatal, 15 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 3. NDM7137 - Gwelliant 3: O blaid: 30, Yn erbyn: 15, Ymatal: 3 Derbyniwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd. Cynnig NDM7137 fel y'i diwygiwyd: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cefnogi galwad mudiad Fridays for Future ar gyfer holl wleidyddion ac arweinwyr busnes i wrando ar bobl ifanc oherwydd bod angen eu penderfynoldeb, eu syniadau a’u hymdrechion ar frys i sicrhau Cymru carbon isel. 2. Yn cymeradwyo'r rôl y mae myfyrwyr a phobl ifanc wedi'i chwarae yng Nghymru ac ar draws y byd o ran dod ag argyfwng yr hinsawdd i sylw llunwyr polisi a'r cyhoedd. 3. Yn croesawu’r ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i roi’r bleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 oed erbyn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2021, gan roi llais cryfach i’r bobl ifanc hynny ynghylch sut y mae Cymru’n wynebu’r her newid hinsawdd. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 26, roedd 15 yn ymatal, chwech yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd. NDM7137 - Dadl Plaid Cymru - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 26, Yn erbyn: 6, Ymatal: 15Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwydCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar ddadl Plaid Cymru ar dâl ac amodau gweithwyr y GIG. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth, ac unwaith eto, os gwrthodir y cynnig, pleidleisiwn ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig hwnnw. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 13, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig. NDM7138 - Dadl Plaid Cymru - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 13, Yn erbyn: 35, Ymatal: 0 Gwrthodwyd y cynnigCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Symudwn ymlaen i bleidleisio ar y gwelliannau. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Pleidleisiodd 27 o blaid gwelliant 1, neb yn ymatal, 21 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1. NDM7138 - Gwelliant 1: O blaid: 27, Yn erbyn: 21, Ymatal: 0 Derbyniwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol. Cafodd gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol. Galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd. Cynnig NDM7138 fel y'i diwygiwyd Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn gwerthfawrogi gweithlu’r GIG a’n trefniadau gwaith partneriaeth gymdeithasol. Yn disgwyl i holl gyrff y GIG weithio, ymgysylltu ac ymgynghori gyda’u staff, eu hundebau llafur a chyrff cynrychiadol eraill ar newidiadau gweithredol sy’n effeithio ar staff. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 33, tri yn ymatal, 11 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd. NDM7137 - Dadl Plaid Cymru - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 33, Yn erbyn: 11, Ymatal: 3Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwydCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer, felly os yw'r Aelodau'n gadael, a allwch wneud hynny'n gyflym ac yn ddistaw os gwelwch yn dda? 13. Dadl Fer: Hapus i Redeg Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Rhianon Passmore i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddi. Rhianon. Rhianon Passmore AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn awr yn fwy nag erioed efallai, rydym yn dechrau deall pwysigrwydd gweithgarwch corfforol i hybu lles meddyliol a chymdeithasol unigolyn. Heddiw, ledled Cymru, bydd bechgyn, merched, dynion a menywod o bob oed, pob cefndir a phob maint wedi manteisio ar y cyfle yn heulwen yr haf bach mihangel hwn yr ydym yn ei fwynhau i gymryd rhan mewn gweithgareddau elfennol fel cerdded, loncian a rhedeg, ac eto nid yw'n gyfyngedig i'r haf. Mewn llai na thair wythnos, bydd prifddinas Cymru yn cynnal hanner marathon mwyaf ond un y Deyrnas Unedig, a ddydd Sul, bydd Abertawe yn cynnal ras 10k Bae Abertawe. Ac eleni'n unig, gwelsom Athletau Cymru a'u partneriaid yn cynnal digwyddiadau rhedeg cymunedol a chymdeithasol proffil uchel ledled ein gwlad, yn amrywio o 10k Bae Caerdydd, 10k Casnewydd, hanner marathon Casnewydd a marathon Casnewydd, ras Porthcawl—a gallwn barhau. Cyfranogiad pobl mewn rhedeg torfol sy'n nodweddu'r digwyddiadau hyn, gyda chymaint o'r rhedwyr yn rhedeg nid yn unig drostynt eu hunain ond er mwyn codi arian ar gyfer elusennau ac achosion sy'n agos at galonnau eu teuluoedd. Mae'n rhedeg cymdeithasol a chymdeithasgar. Ac yn aml, byddwch yn gweld tyrfa fawr ar y strydoedd yn dod at ei gilydd i gymeradwyo ac i godi calonnau'r rhedwyr, oherwydd nid yw rhedeg yn hawdd, beth bynnag yw eich safon neu lefel eich ffitrwydd corfforol. Bydd y torfeydd yn annog y rhedwyr, a'r rhedwyr yn cymryd rhan am lawer iawn o resymau, ond hefyd yn rhannol er mwyn ymateb i'r her. Mae yna ddywediad adnabyddus, 'Rydych yn rhedeg eich ras eich hun', ac fel mewn bywyd, cawn ein herio i wella'n hunain i fod y gorau y gallwn fod, ac mae'r un peth yn wir am wledydd. Yng Nghymru, rydym yn herio ein hunain i fod y gorau y gallwn fod. Un o ddyffrynnoedd balch Gwent yw Islwyn, lle mae gennym ninnau hefyd draddodiad rhedeg cadarn. Mae clybiau rhedeg lleol fel clwb rhedwyr enwog Islwyn yn ganolog i'w bywyd cymunedol ac yn parhau i ymestyn allan at bobl newydd, gyda mentrau newydd i annog cyfranogiad ehangach. Ar hyn o bryd mae rhedwyr Islwyn yn cynnal prosiect o'r enw Future Flyers, sy'n targedu menywod i ddechrau rhedeg am y tro cyntaf. Mae rhedwyr Islwyn yn cyfarfod ddwywaith yr wythnos bob dydd Mawrth a dydd Iau ym Mhontllan-fraith—rhag ofn fod gan unrhyw un ddiddordeb—ac mae'r sesiynau'n rhad ac am ddim i gyfranogwyr o bob gallu ac mae croeso i bawb. Mae'r ffaith fod dros 50 o fenywod yn cymryd rhan mewn sesiynau bob wythnos yn tystio i ba mor gynhwysol yw'r clwb a'r rhedeg. Ddydd Sul diwethaf, cynhaliodd Clwb Rhedeg Islwyn ras y Scenic 7, ras ffordd saith milltir ar hyd ffordd goedwig Cwmcarn. Fe fyddwch wedi fy nghlywed yn dweud yn ddi-baid pa mor bwysig yw ailagor ffordd goedwig Cwmcarn yn llawn, nid yn unig ar gyfer Islwyn, ond ar gyfer Cymru ac yn rhyngwladol. Mae digwyddiadau fel un dydd Sul diwethaf yn dystiolaeth wirioneddol o'r ffordd y gallwn drawsnewid cymunedau'n gyfannol—digwyddiad torfol cyfranogol i'r teulu cyfan a gynhelir yn rhai o'r tirweddau naturiol mwyaf syfrdanol sydd gennym fel gwlad. Dewch i ymweld â ni. Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi hybu manteision gweithgarwch corfforol a rhedeg yn gyson i'r genhedlaeth nesaf yng Nghymru, ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld y filltir ddyddiol wedi'i lansio'n swyddogol yng Nghymru. Lansiwyd y fenter hon yn swyddogol yn Islwyn, yn Ysgol Gynradd Pontllan-fraith yn y Coed Duon gan y Gweinidog iechyd cyhoeddus ar y pryd, Rebecca Evans, a sylfaenydd y filltir ddyddiol, Elaine Wyllie. Mae'r fenter arloesol hon yn sicrhau bod plant oedran cynradd yn rhedeg, cerdded neu loncian am 15 munud bob dydd yn yr ysgol. Mae'r llawenydd a geir o redeg yn sicrhau ei fod yn gynhwysol, yn syml ac am ddim, heb fod angen unrhyw offer na gwaith paratoi. Yn Islwyn, mae'r rhestr o ysgolion sydd wedi ymrwymo i'r Filltir Ddyddiol yn cynnwys Pantside, Cefn Fforest, Pengam, Trelyn, Fleur de Lis, Bryn, Pontllan-fraith, Libanus, Cwm Gwyddon, Waunfawr, Tŷ Sign, Tŷ Isaf, a mwy i ddilyn. Yn ogystal, mae'n digwydd o fewn ardal Trecelyn yn lleoliadau gwarchod plant Hannah's Bananas, gan helpu'r cynnig cyfannol i ymgeiswyr gofal plant. Mae potensial gan y filltir ddyddiol i sicrhau nifer o fanteision y tu hwnt i wella ffitrwydd yn unig. Ac fel cerddoriaeth, ac yn debyg i hygyrchedd cerddorol, gall helpu plant i gymryd mwy o ran yn yr awyr agored, adeiladu hunan-barch a hyder yn ogystal â helpu i ddatblygu sgiliau gweithio mewn tîm. Nid yw Fitbit a chyfrif camau wedi'u cyfyngu i oedolion yn unig, ac felly, fel cyn-athrawes ac addysgwr, rwy'n falch o weld mwy a mwy o blant yn ymwybodol o'r angen i fod yn egnïol, yn enwedig gyda'r holl demtasiynau y maent yn eu hwynebu i aros yn llonydd o flaen sgriniau a myrdd o ddyfeisiau eraill bellach, a hynny am oriau lawer o bosibl. Felly, o'r filltir ddyddiol, athletau o fewn y cwricwlwm addysg gorfforol, i hyrwyddo ras lwyddiannus parc Penallta bob bore dydd Sadwrn, mae'n dda i fy etholwyr. Mae poblogrwydd syml a syfrdanol rasys parciau ledled y Deyrnas Unedig bellach yn lledu ar draws y byd. Mae'n ddigwyddiad y byddaf yn gweithio arno gyda fy nghymunedau lleol er mwyn cynnal y ras parc gyntaf yn Islwyn. Mae ychwanegu rasys parciau i rai iau ar ddydd Sul mewn rhai lleoliadau yn dystiolaeth bellach o'r ffordd y mae rhedeg yn rhywbeth i bawb. Mae llawer o rasys parciau yn ymgorffori'r rhaglen Couch to 5K sy'n dilyn cynllun y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru, gan annog pobl ar y daith o weithgarwch eisteddog i allu rhedeg 5K erbyn diwedd y rhaglen. Mae gan ein cyngor gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer rhedeg ar gaeau'r ysgol a leolir yn ysgol gynradd Rhiw Syr Dafydd yn Oakdale yn Islwyn, a datblygwyd y gwaith adeiladu ar y cyd ag ymgynghorydd trac a maes, gan gynnwys y corff llywodraethu chwaraeon, Athletau Cymru. Bydd y cyfleusterau chwaraeon newydd yn y cynnig hwn yn rhoi cyfle i 90 o ysgolion a'r gymuned ddefnyddio trac athletau a fydd yn helpu i gefnogi'r cynnydd yn y galw. A bydd yn gyfle pellach yn Islwyn i gefnogi'r ymgyrch i gynyddu cyfranogiad i gynnwys menywod a merched drwy ymyriadau wedi'u targedu, a thrwy weithio mewn partneriaeth gyda thîm datblygu chwaraeon yr awdurdod, Chwaraeon Caerffili, Chwaraeon Anabledd Cymru, a nifer o bartneriaid allweddol eraill. Ond y diffyg cyfleusterau fydd bob amser yn rhwystr i gyfranogiad elitaidd pellach, ac mewn degawd o gyni, pan fo'r Torïaid wedi ceisio gwasgu Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol i'r eithaf, pa gymorth ariannol pellach y gall, ac y bydd, Llywodraeth Cymru yn ei roi i gynorthwyo Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i sicrhau bod rhedwyr Islwyn yn y dyfodol yn cael y cyfleoedd y maent yn eu haeddu? Byddai trac rhedeg athletau newydd wedi'i leoli yn Islwyn yn cynnig y cyfleusterau y maent yn awchu amdanynt i ardal ehangach Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, hen ardaloedd a dderbyniai arian Amcan, a fy nghymunedau i—cyfleusterau sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, cyfleusterau sy'n addas i wasanaethu'r oddeutu 10 o glybiau rhedeg cymdeithasol yn yr ardal yn ogystal â'r gymuned ehangach o redwyr cymdeithasol. Ac yn wir, buaswn yn croesawu cyfle y tu hwnt i'r ddadl hon i drafod y mater a'r cyfleoedd sydd gan Lywodraeth Cymru i drawsnewid ardal Islwyn ar gyfer ei phobl gyda'r Dirprwy Weinidog. Ac rwy'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog a Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud popeth yn eu gallu i wneud i Islwyn redeg yn hapus, a rhaid inni ei wneud yn nod gyda'n gilydd i wneud Cymru yn wlad hapus ac iachach. Yn y byd rhedeg, ceir mynegiant o anogaeth sy'n dweud, 'Mae hi 'da ti'. Felly, Ddirprwy Weinidog, rwy'n gwybod ei bod hi 'da chi. Diolch. Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth i ymateb i'r ddadl? Dafydd Elis-Thomas. Dafydd Elis-Thomas AC: Diolch yn fawr, Rhianon. Mae'n bleser cael cyfle ar ddiwedd sesiwn heddiw i drafod mater sydd yn bleser personal i mi. Dwi'n parhau, os caf gychwyn ar nodyn personol, yn rhedwr, ddim mor gyflym, efallai, ag y dylwn i fod, ond yr amcan sydd gyda fi ydy cwblhau 5 cilomedr dair gwaith yr wythnos, ond nid gyda'i gilydd—ar ddyddiau ar wahân, dwi'n trio dweud. Felly, mae'r cyfle i mi gael dod mas, fel petai, fel un sydd yn parhau i redeg llwybrau yn y de ac yn y gogledd, yn dangos fy mod i fy hun yn gwbl gefnogol i'r hyn y mae Rhianon wedi'i ddweud. Yn sicr, fe fyddaf i'n barod iawn i gyfarfod â hi i drafod yr hyn y mae hi wedi'i osod gerbron ynglŷn ag anghenion Islwyn. Dafydd Elis-Thomas AC: Ond, beth sydd gen i i'w ddweud y prynhawn yma yw ymateb yn fwy cyffredinol ynglŷn â phwysigrwydd symud ac ymarfer corfforol, ac i droi'r ddadl fer yma, fel, yn wir, mae Rhianon wedi gwneud yn barod, yn rhyw fath o apêl ar i bawb ohonom ni yng Nghymru ddysgu gwers pwysigrwydd ymarfer corff yn rheolaidd a'r manteision i iechyd corfforol a meddyliol sy'n dod yn sgil hynny. Fel y dywedwyd, mae ymarfer yn gostwng y risg o ddioddef afiechydon, ac mae'n ffordd o reoli cyflyrau sydd gyda ni eisoes. Mae'r dystiolaeth yn amlwg ac mae pwysigrwydd gweithgaredd corfforol rheolaidd bob dydd yn glir. Pe bai ymarfer corff yn gyffur, fe fyddai'n cael ei ystyried yn rhyw fath o ffisig neu driniaeth wyrthiol—moddion gwyrthiol ar gyfer iechyd—gan fod modd iddo atal a helpu cymaint o afiechydon. Yn ogystal â bod yn dda ar gyfer iechyd yr unigolyn, fel y dywedaist ti, Rhianon, mae ymarfer corff hefyd yn ffordd o ddod ag unigolion at ei gilydd i fwynhau gweithgareddau ar y cyd. Mae o'n ffordd o gryfhau ysbryd cymunedol, a dyma'n union y mae'n ei wneud pan fydd yna gymaint o redwyr yn dod at ei gilydd, a dyna mae o'n ei wneud hefyd pan fydd rhedwyr unigol hyd yn oed yn pasio'i gilydd ar lwybrau yn ddyddiol, wrth redeg. Mae pobl yn dod i adnabod ei gilydd gan eu bod nhw'n rhannu ymarfer corfforol. Ac mae teimladau o unigrwydd ac o fod yn ynysig mewn cymdeithas yn deimladau, dŷn ni'n deall, sydd yn cynyddu ac mae cymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol yn gyhoeddus gyda'r wisg briodol, yn amlwg, a gyda'r esgidiau priodol—mae hynny'n bwysig iawn, yn enwedig pan fydd rhywun yn mynd yn hŷn—. Af i ddim i hysbysebu siop arbennig yng Nghaerdydd lle byddaf i'n mynd i adnewyddu fy esgidiau rhedeg, ond mae o'n beth pwysig iawn i ni gael esgidiau cyfforddus a diogel bob amser, ac mae'r ffordd dŷn ni'n gwisgo a'r ffordd dŷn ni'n paratoi ar gyfer rhedeg yn allweddol. Yn anffodus, mae'r sefyllfa rydym ni ynddi hi, yn ôl y wybodaeth ddiweddaraf sydd gyda ni fel Llywodraeth yn arolwg cenedlaethol Cymru, yn datgelu mai dim ond 53 y cant o oedolion—hynny yw, ychydig dros hanner oedolion Cymru—sydd yn dweud iddyn nhw wneud 150 o funudau o ymarfer corff yn yr wythnos flaenorol. Dwi ddim eisiau swnio fel rhyw bregethwr anghydffurfiol—er bod gen i bregethwr anghydffurfiol ardderchog yn y gynulleidfa'n gwrando arnaf i, a diolch yn fawr i ti—drwy ddweud ein bod ni'n condemnio hyn, ond mae o yn rhywbeth y dylai pobl ei ailystyried. A beth sydd yn arbennig o boenus ydy bod dynion yn fwy tebygol o ymarfer na menywod, bod pobl ddifreintiedig o ardaloedd llai breintiedig a phobl dros 75 oed yn llai tebygol o wneud unrhyw fath o ymarfer nag unrhyw ran arall o'r boblogaeth. Hynny yw, mae hwnna, mewn gwirionedd, yn groes i beth fyddai rhywun yn gobeithio amdano fo o ran gwerth ymarfer. Felly, mae codi graddfeydd gweithgaredd corfforol yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac mae gen i, fel Dirprwy Weinidog yn y swydd yma, gyfrifoldeb penodol ynglŷn â hyn ac mae o'n gyfirfoldeb yr ydw i'n ei gymryd o ddifrif. Rydyn ni wedi ymrwymo i godi lefelau gweithgarwch corfforol. Er mwyn cyflawni hynny, dŷn ni wedi sefydlu Partneriaeth Gweithgarwch Corfforol Cymru. Dyma un o'r cyfarfodydd mwyaf adeiladol dwi wedi bod ynddo, a dwi wedi bod yn y swydd yma bron i ddwy flynedd erbyn hyn, gan fod Iechyd Cyhoeddus Cymru, Chwaraeon Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru yn dod at ei gilydd, yn swyddogion a phenaethiaid, a swyddogion Llywodraeth Cymru, i ysgogi a chefnogi cydweithio o bob math. A dyma, dwi'n meddwl, ydy'r ffordd ymlaen yn y maes yma, sef bod y cyrff cyhoeddus sydd gyda ni yn gweithio drosom ni mewn gwahanol gyfeiriadau—Iechyd Cyhoeddus Cymru ar yr ochr iechyd, Chwaraeon Cymru o ran fy adran i, a Chyfoeth Naturiol Cymru o ran yr adran sydd yn gyfrifol ynglŷn â'r amgylchedd—yn dod at ei gilydd. Ac mi fydd yna, mae'n dda gen i gyhoeddi, gynhadledd genedlaethol yn y gwanwyn i'r rhanddeiliaid yma ddod at ei gilydd i ddatblygu cynllun gweithredu. Dafydd Elis-Thomas AC: Fel dwi wedi dweud yn aml iawn yn y lle hwn, dydw i ddim yn ffan o'r hyn a elwir yn 'strategaeth'. Dwi'n fwy o ffan o'r hyn mae rhywun yn ei alw yn 'gynlluniau gweithredol', a dyna pam mae'r bartneriaeth yma mor bwysig, yn gweithio ar nifer o flaenoriaethau i wella data a ffyrdd o newid ymddygiad drwy ddatblygu'r hyn dŷn ni'n ei alw'n 'arsyllfa gweithgarwch corfforol'. Mae hwnna wedyn yn datblygu gwaith cyfathrebu ac ymgyrchu ar y cyd, ac yn integreiddio ein rhaglenni mewn ysgolion, Campau'r Ddraig, rhwydwaith ysgolion iach Cymru ac ysgolion eco er mwyn i hyn i gyd fod yn gynnig cynhwysfawr o ymarfer corfforol i gefnogi'r cwricwlwm newydd. Dwi'n ddiolchgar iawn i'r pwyllgor yn y Cynulliad yma, y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. Yn dilyn eu hymchwiliad nhw i weithgarwch corfforol plant a phobl ifanc, dŷn ni'n gallu symud ymlaen gyda'r argymhellion a gafodd eu gwneud gan y pwyllgor, ac mi fydd y camau yma yn dod yn rhan annatod o gynllun gweithredol 'Pwysau iach, Cymru iach'. Ac mae hyn yn ategu'r gwaith o wella iechyd ar draws ein poblogaeth. Dwi'n falch iawn o glywed Rhianon yn sôn am hanes datblygu milltir y dydd, oherwydd dwi wedi cael y cyfle i fynd i sawl ysgol i weld milltir y dydd yn digwydd. Dwi am fod bach yn blwyfol a sôn yn arbennig am ysgol yn ardal hyfryd iawn o'r enw Llansantffraid Glan Conwy, ar waelod dyffryn Conwy lle dwi'n byw, a chael gweld y disgyblion yn gallu mwynhau rhedeg ar hyd cae ysgol a oedd ddim yn rhy wastad. Roedden nhw'n gallu rhedeg lan a rhedeg lawr, ac roedden nhw wirioneddol yn mwynhau eu hunain, ac roedden nhw'n deall beth oedden nhw'n ei wneud a pham oedden nhw'n ei wneud o. Mae 36 y cant o'n hysgolion, sef 450 ohonyn nhw, yn cymryd rhan yn y filltir y dydd. Felly, mae yna waith eto i wella yn y fan yna, ac mi fuaswn i'n annog hynny. Dŷn ni hefyd wedi ymrwymo i gynyddu nifer y plant sy'n beicio, yn cerdded neu yn mynd ar sgwter i'r ysgol. Rydym ni'n aildendro ar gyfer rhaglen teithio llesol i'r ysgol, ac mae'n rhaid imi ddweud, fel tad-cu i bedwar o blant ifanc o oed ysgol, er bod un ohonyn nhw wedi mynd i'r ysgol uwchradd yn ddiweddar iawn, mae o'n beth annifyr iawn gen i i weld y perygl gwirioneddol sydd tu fas i gymaint o ysgolion pan fydd pobl yn defnyddio ceir a'u gyrru nhw mor agos ag y medran nhw tuag at yr ysgol. Wnaf i ddim enwi ysgolion, ond dwi'n ei weld o'n digwydd yn y de ac yn y gogledd, a dyna pam mae damweiniau wedi digwydd—mae damweiniau difrifol wedi digwydd yn y sefyllfa yna. Felly, mae angen inni weithredu nodau Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, yn sicr gan gynnwys mwy o lwybrau diogel o lawer i ysgolion, er mwyn annog pobl i ddefnyddio'r llwybrau yna yn hytrach na defnyddio ceir rhieni neu deulu i bigo pobl lan o'r ysgol. Mae ein hysgolion ni'n rhan hanfodol, gyda rhan hanfodol i'w chwarae, yn annog plant a phobl ifanc i wneud mwy o weithgaredd corfforol, ac mae yna lot o waith wedi cael ei wneud, gan gynnwys darpariaeth yn y cwricwlwm newydd. Un o'r pedwar pwrpas ydy i ddysgwyr yn y cwricwlwm newydd ddatblygu yn unigolion iach a hyderus, ac mae hynna yn golygu cymryd mwy o weithgaredd corfforol, medru defnyddio gwybodaeth am effaith ymarfer corff a deiet ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl, a'r holl ddaioni a ddaw o hynny. Mae ymarfer corff a chwaraeon yn creu cyfleoedd hefyd i newid cymunedau, fel y dywedodd Rhianon, yn dod â phobl ynghyd at ei gilydd. A dyna pam rydym ni wedi bod yn gwario, fel Llywodraeth, yn barod yn y maes yma. Yn 2018-19, fe wnaethom ni gyfrannu dros £21 miliwn—£21.64 miliwn—i Chwaraeon Cymru o gyfanswm eu cyllideb o £43.24 miliwn. O'r swm hwn, mae £16 miliwn ar gyfer gweithredu ac ymarfer chwaraeon cymunedol. Mae hwnna'n neges glir iawn o beth yw blaenoriaeth y Llywodraeth yma. Mae cyrff llywodraethu cenedlaethol chwaraeon Cymru hefyd yn benderfynol o'n cefnogi ni wrth greu Cymru egnïol drwy eu gwaith ar chwaraeon cymunedol. A gaf i ganmol yn arbennig Athletau Cymru? Yn 2015, fe wnaethon nhw lansio rhaglen rhedeg cymdeithasol, Rhedeg Cymru. Dwi yn un sydd yn hapus yn gwisgo dillad glaw coch gyda 'Rhedeg Cymru' wedi ei ysgrifennu arno fo, yn dilyn cymryd rhan yn lansio'r gweithgaredd yna. Mae'r rhaglen wedi cael effaith aruthrol ers cychwyn. Mae yna, erbyn hyn, 331,000 o oedolion yn rhedeg yn rheolaidd ledled Cymru. Mae yna gynnydd wedi bod o 176,000 o oedolion yn 2009. Felly, mae yna gynnydd yn parhau i ddigwydd yn y niferoedd sydd yn rhedeg. Mae llwyddiant rhaglen Athletau Cymru yn seiliedig ar gyfleoedd rhedeg cyfeillgar, cefnogol a chynhwysol ar gyfer unigolion a grwpiau sydd am redeg. Rydyn ni am i bobl fwynhau gwell iechyd a lles drwy fwy o hamddena yn yr awyr agored a byw bywydau mwy egnïol. Roeddwn i'n mwynhau'n fawr clywed Rhianon yn cyfeirio at Gwmcarn. Mae o'n lle nodedig iawn, dwi'n meddwl. Dwi wedi bod yna sawl gwaith, yn enwedig ar ymweliad yn ddiweddar, a dwi'n edrych ymlaen at y diwrnod pan fydd y cyfan wedi gallu cael ei ailagor. Dwi'n siŵr y bydd yr ymarfer arbennig a welwn ni—pobl yn rhedeg yn yr ardal yna—yn rhan o hynny. Ond dwi hefyd yn cymeradwyo pobl efallai sydd ddim yn teimlo fel rhedeg, ond sydd yn gerddwyr cyflym a thalog, a dwi wedi cael cyfle i gerdded gyda cherddwyr Treorci ac eraill yn ystod y cyfnod yn y swydd yma. Ond i grynhoi bellach, mae'r holl gyllid rydyn ni wedi'i wario—cyhoeddiad a wnaed gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a finnau ym mis Mehefin—wedi tynnu sylw at 17 o brojectau cronfa iach ac egnïol sydd yn werth £5.4 miliwn. Dŷn ni hefyd yn cydweithio â'r adran iechyd ynglŷn â phapurau doctor, 'presgripsiynu' cymdeithasol, os mai dyna'r gair cywir—a dwi'n edrych ar y meddyg da dros y ffordd i mi yn fanna. Mae hyn yn cysylltu pobl ag asedau cymunedol, yn rhoi pŵer iddyn nhw reoli eu hiechyd a'u llesiant. Mae'r cynllun cenedlaethol i atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff wedi bod yn gynllun dŷn ni'n sicr yn meddwl y bydd yn cyfrannu tuag at heneiddio yn dda yng Nghymru. Diolch yn fawr i Rhianon am roi cyfle i mi ddod mas fel rhedwr, os rhedwr hŷn, rhesymol yn ei redeg, ac a gaf i ddiolch iddi hi am ei disgrifiad o bwysigrwydd rhedeg. Ac, felly, dewch i ni wneud hi'n rhan o ddyletswydd pob un ohonom ni fel Aelod Cynulliad ac aelod o'r Llywodraeth i redeg Cymru bob amser. Diolch yn fawr. Diolch yn fawr iawn, a daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch. Daeth y cyfarfod i ben am 18:14. QNR Cwestiynau i Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol Mohammad Asghar: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddenu digwyddiadau chwaraeon mawr i Gymru? Eluned Morgan: We are committed to building on Wales’s recent success in hosting major sporting and cultural events as well as developing home-grown events. In terms of major sports events, we work with partners in Wales, the UK and internationally to identify and pursue opportunities for attracting events to all of Wales. David Melding: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru? Eluned Morgan: The Welsh Government’s draft strategy has been developed in consultation with key partners and stakeholders working in the international space. This engagement has taken place over the past six months and included a social media campaign. The draft is currently out for public consultation and closes on 23 October. Jack Sargeant: Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hybu’r iaith Gymraeg ar draws y byd? Eluned Morgan: Mae Llywodraeth Cymru yn falch o hybu Cymru fel gwlad ddwyieithog, ac rydym yn defnyddio Blwyddyn Ryngwladol Ieithoedd Brodorol y Cenhedloedd Unedig fel platfform ar gyfer rhoi llwyfan newydd i’r Gymraeg yn rhyngwladol. Mae hyn yn elfen bwysig o’n strategaeth ryngwladol ddrafft, sy’n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd. Lynne Neagle: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth ryngwladol ddrafft Llywodraeth Cymru? Eluned Morgan: There is a clear demand for a refocused, strategic document communicating our approach to engagement with the rest of the world. I published a draft strategy for consultation in July and this will close on 23 October. Once the consultation closes, I intend to publish a final document in November. Cwestiynau i Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Twristiaeth Rhianon Passmore: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae cymunedau yn Islwyn yn elwa ar bolisïau gweithgarwch corfforol a gweithgareddau hamdden egnïol Llywodraeth Cymru? Yr Arglwydd / Lord Elis-Thomas: There are a range of projects benefiting communities in Islwyn, including 15 schools delivering the daily mile, four healthy and active fund projects working within communities, investment into active travel and safe routes to schools, sport development funding and four sites gaining the Green Flag Award scheme. Jenny Rathbone: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y consesiwn nofio am ddim diwygiedig? Yr Arglwydd / Lord Elis-Thomas: Following the comprehensive review of free swimming, I have now written to all Assembly Members with a full explanation of the revised initiative and its more targeted approach. Local authorities and delivery partners will be expected to focus on supporting young people and older citizens from more disadvantaged areas of Wales. Cwestiynau i Y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd Nick Ramsay: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru yn sgil adolygiad o wariant Llywodraeth y DU? Rebecca Evans: As set out in my written statement, the Welsh Government budget will be based on meeting the needs of the people of Wales and delivering the fairest possible settlement for Welsh public services. Delyth Jewell: Beth yw dadansoddiad Llywodraeth Cymru o sefyllfa gyllidol bresennol Cymru fel y caiff ei nodi yn Gwariant a Refeniw Llywodraeth Cymru 2019, a gyhoeddwyd gan Brifysgol Caerdydd? Rebecca Evans: The fiscal position set out in the report is unsurprising given the current state of the UK public finances, the progressive nature of the tax and benefit system, and the relatively high needs in Wales. Dawn Bowden: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau gwario Llywodraeth Cymru ym Merthyr Tudful a Rhymni? Rebecca Evans: We continue to invest in public services, businesses and communities in Merthyr Tydfil and Rhymney, including £225 million planned for improvements to Prince Charles Hospital, a further £42.5 million approved in principle for the second wave of the twenty-first century schools programme, and over £2 million through the social housing grant in 2019-20. Paul Davies: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau buddsoddi mewn seilwaith ar gyfer Preseli Sir Benfro? Rebecca Evans: Since we published the Wales infrastructure investment plan in 2012, the Welsh Government has funded infrastructure projects across Wales worth nearly £15 billion. Along with our future plans, our investments in Pembroke will include over £130 million as part of our twenty-first century schools programme, and £45 million for improvements to the A40. David Melding: Pa gamau sydd wedi'u cymryd i sicrhau bod adnoddau digonol yn cael eu darparu ar gyfer tîm gwrth-dwyll Llywodraeth Cymru? Rebecca Evans: The core counter-fraud team is relatively small, however, the head of counter-fraud has access to a wide range of staff with appropriate complementary specialist skills to call on to assist with investigations. The workload can vary significantly and this allows flexibility as needed. Mohammad Asghar: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith adolygiad o wariant diweddar Llywodraeth y DU ar gyllideb Cymru? Rebecca Evans: As I set out in the Chamber yesterday, I have written to the Presiding Officer and the Chair of the Finance Committee indicating my intention to bring forward the timetable for the 2020-21 budget, subject to their views.
uk-hansard-senedd-cy
senedd2019-09-18
2024-06-01T00:00:00
{ "year": "2019", "language": "cy", "license": "Open Parliament Licence - https://www.parliament.uk/site-information/copyright-parliament/open-parliament-licence/" }
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. Galw'r Aelodau i drefn. 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Vikki Howells. Gwisgoedd Ysgol Vikki Howells AC: 1. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi teuluoedd i dalu am wisgoedd ysgol? OAQ54194 Mark Drakeford AC: Llywydd, diwygiwyd ac ehangwyd cymorth ariannol yn 2018-19 i deuluoedd sydd fwyaf angen cymorthgyda'r costau sy'n gysylltiedig â'r diwrnod ysgol. Yn y flwyddyn ariannol bresennol, rydym ni wedi mwy na dyblu'r cyllid at y dibenion hyn i fwy na £5 miliwn. Vikki Howells AC: Diolch, Prif Weinidog. Mae'n wirioneddol ddefnyddiol y gellir defnyddio'r grant datblygu disgyblion-mynediad i ariannu pethau fel offer, cit chwaraeon, a hefyd cit ar gyfer gweithgareddau y tu allan i ysgolion hefyd, yn enwedig pan gofiwn fod incwm cartrefi £1,500 yn is erbyn hyn nag yr oedden nhw dair blynedd yn ôl oherwydd effaith barhaus agenda cyni cyllidol San Steffan. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chynghorau i hybu'r defnydd o'r grant, a sut ydych chi'n gweithio i godi ymwybyddiaeth o'r nifer o ffyrdd y gellir ei ddefnyddio? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, diolchaf i Vikki Howells am hynna, ac yn enwedig am wneud y pwynt bod cronfa'r grant datblygu disgyblion—mynediad yn cael ei hymestyn y tu hwnt i gwmpas ysgolion eu hunain, i glybiau ieuenctid, er enghraifft, fel cyllid ar gyfer cit ac offer. Ac mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn awyddus i hysbysebu'r gronfa. Ar 10 Mehefin, lansiwyd ymgyrch gyfathrebu integredig gennym, gyda'r nod o godi ymwybyddiaeth ymhlith rhieni a gofalwyr. Yn ystod y mis ers i'r ymgyrch honno ddechrau, tudalen wefan y grant datblygu disgyblion—mynediad yw'r bedwaredd dudalen fwyaf poblogaidd ar wefan gyfan Llywodraeth Cymru. Ac rydym ni eisiau gwneud mwy, gan weithio gydag awdurdodau lleol, i godi ymwybyddiaeth o'r grant. Gadewch i mi ddyfynnu dim ond un ateb a gawsom o ganlyniad i'r ymgyrch. Roedd gan riant a ddywedodd, Rwyf i newydd gael llythyr yn dweud wrthyf fod gan fy mhlentyn saith oed hawl i'r cymorth ar gyfer gwisg ysgol ym mlwyddyn 3 y mis Medi hwn. Rwyf i wedi bod yn poeni ers wythnosau am gost gwisg ysgol. Mae hyn yn lleddfu cymaint o bwysau ariannol i mi a'r gofid yr wyf i wedi bod yn ei ddioddef. Rydym ni eisiau i fwy o rieni gael gwybod am y cynllun a bod yn yr un sefyllfa â'r person yr wyf i newydd ei ddyfynnu i chi. Suzy Davies AC: Prynhawn da, Prif Weinidog. Yn y crynodeb o ymatebion i'r ymgynghoriad ar y gwisgoedd ysgol—gwelsom y crynodeb o ymatebion y mis diwethaf—un o'r cwestiynau oedd a oedd pobl yn cytuno y dylai cyrff llywodraethu ysgolion roi ystyriaeth i fforddiadwyedd pennu polisi gwisg ysgol. Cwestiwn synhwyrol iawn. Ond nid yw gwerth am arian a fforddiadwyedd yr un peth bob amser. Efallai fod dillad sy'n para'n hwy yn ddigon da i'w trosglwyddo i aelodau eraill o'r teulu, yn well i'r amgylchedd ac, yn aml iawn, yn dod o ffynonellau mwy moesegol hefyd. A allwch chi gadarnhau na fydd telerau'r grant yn peri anfantais i deuluoedd y mae eu plant yn mynd i ysgolion lle na wnaeth y llywodraethwyr ddim ond dewis yr opsiwn rhataf, ond yr opsiwn a oedd yn cynnig gwerth am arian? Mark Drakeford AC: Wel, rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig bod angen i ysgolion feddwl yn ofalus am yr holl bethau y gallan nhw eu gwneud i gadw costau gwisg ysgol i lawr. Ac nid mater syml o gost yw hynny, ond mae cost yn fater pwysig iawn i lawer o deuluoedd sy'n byw yng Nghymru. Bydd yr Aelodau'n cofio, Llywydd, bod swyddfa'r comisiynydd plant wedi cyhoeddi adroddiad ar gost y diwrnod ysgol yn gynharach eleni, ac mae rhai arsylwadau pwysig iawn yn hwnnw am bethau y gall ysgolion eu gwneud i sicrhau nad ydyn nhw'n disgwyl pethau gan rieni sy'n gwneud gallu rhieni i gyflwyno eu plant yn yr ysgol mewn ffordd nad yw'n achosi pryder ac anhawster i'r plant a'r rhieni, bod y pethau hynny'n cael eu harsylwi'n briodol. Rwy'n disgwyl i gyrff llywodraethu ysgolion feddwl am hynny yn ei gyfanrwydd, ac mae'r grant yr ydym ni wedi ei sefydlu yn caniatáu iddyn nhw wneud hynny. Leanne Wood AC: Roedd Plaid Cymru yn falch pan wnaeth eich Llywodraeth Lafur dro pedol y llynedd ar eich penderfyniad annoeth i gael gwared ar y grant gwisg ysgol. Mae'r grant datblygu disgyblion sydd wedi ei ddisodli bellach yn rhoi'r hawl i rieni â phlant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim wneud cais am y grant pan fydd eu plant yn y blynyddoedd derbyn, blwyddyn 3, blwyddyn 7 a blwyddyn 10. Nid wyf i'n synnu eich clywed chi'n dweud bod y wefan yn boblogaidd iawn, gan fod yr angen yn uchel iawn. Yn anffodus, fodd bynnag, nid yw'r cynllun yn ddigon oherwydd materion fel y ffaith bod costau gwisg ysgol llawn yn gallu bod yn unrhyw beth hyd at £250 mewn rhai achosion, a gall plant dyfu llawer rhwng yr oedrannau hynny pan fo cymorth ariannol ar gael. Wedyn mae gennym ni'r penderfyniad dadleuol gan eich Llywodraeth Lafur i ostwng y trothwy incwm ar gyfer hawl i gael prydau ysgol am ddim. Felly, Prif Weinidog, a ydych chi'n ymwybodol o'r rhwydweithiau sydd wedi eu sefydlu ar gyfryngau cymdeithasol ar gyfer rhoddion gwisg ysgol, i deuluoedd nad ydyn nhw'n gallu darparu dillad ar gyfer eu plant? Ac os nad yw hyn yn hoelio eich meddwl ar yr angen i ddatblygu strategaeth wrthdlodi i Gymru, beth allai fod ei angen i wneud hynny? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei haelioni wrth groesawu'r gwelliannau sy'n cael eu darparu i deuluoedd ledled Cymru. [Torri ar draws.] Nid yw'n fater o graffu, Llywydd, o gwbl; mae gan yr Aelod hawl i ofyn beth bynnag y mae'n dymuno ei ofyn. Y cwbl yr wyf i'n ei wneud yw tynnu ei sylw at y ffaith bod y cynllun yr ydym ni wedi ei ddatblygu yn cael ei groesawu gan rieni ledled Cymru, ac maen nhw'n ei groesawu mewn ysbryd llawer mwy hael nag a lwyddodd hi ei wneud y prynhawn yma. Rwyf i eisiau i'r cynllun fynd ymhellach; rwyf i eisiau i'r cynllun wneud mwy. Rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gallu dyblu nifer y blynyddoedd ysgol a wnaeth elwa arno eleni, ac rwy'n gweithio'n galed gyda chydweithwyr i weld beth arall y gallwn ni ei wneud. Rwyf i bob amser yn cael fy nrysu gan ei phwynt ynghylch prydau ysgol am ddim, o gofio bod y Llywodraeth hon wedi darparu £5 miliwn i ysgolion y llynedd, a £7 miliwn i ysgolion eleni, fel y gall miloedd yn fwy o blant yng Nghymru elwa ar brydau ysgol am ddim. Dyna'r gwir am yr hyn yr ydym ni'n ei wneud, ac mae obsesiwn yr aelod gyda beirniadu'r ffaith y bydd miloedd yn fwy o blant yng Nghymru yn elwa yn ymddangos i mi fel rhan o'r cyndynrwydd y mae hi wedi ei ddangos wrth fynd i'r afael â'r cwestiwn hwn y prynhawn yma. Wrth gwrs, rwy'n ymwybodol o fesurau sy'n digwydd mewn llawer o gymunedau i wneud yn siŵr bod modd ailddefnyddio ac ailgylchu gwisgoedd ysgol. Mae hynny'n gwbl briodol; rydym ni eisiau cael economi gylchol o ran ysgolion, fel yr ydym ni ym mhopeth arall sydd gennym ni yng Nghymru. Ein pwyslais yw cynllun cyflawni ar dlodi plant, yn y ffordd yr argymhellodd Comisiynydd Plant Cymru yn ei hadroddiad. A sicrhau gwelliannau ym mywydau teuluoedd sy'n galluogi plant i elwa sydd flaenllaw yng ngwaith cynllunio'r Llywodraeth hon. Gwasanaethau Cyhoeddus ym Merthyr Tudful a Rhymni Dawn Bowden AC: 2. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae cyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ym Merthyr Tudful a Rhymni? OAQ54203 Mark Drakeford AC: Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus ym Merthyr Tudful a Rhymni trwy gyfres o fesurau cyllideb: y grant cynnal refeniw blynyddol, y dull cyfunol o ymdrin ag ardrethi busnes, a grantiau penodol ar draws ystod o gyfrifoldebau. Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cyhoeddi pecyn o gymorth pellach i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn ddiweddar. Dawn Bowden AC: Diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae'n amlwg i mi fod Llywodraeth Cymru yn parhau i gyflawni ei haddewidion i'm hetholwyr, ac eto rydym ni hefyd yn gwybod y gellid cyflawni llawer mwy pe na fyddem ni wedi dioddef degawd o doriadau i'n cyllidebau gan y Torïaid. Ac eto, yn yr wythnosau diwethaf, rydym ni wedi clywed y rhai sy'n cystadlu i fod yn arweinydd nesaf y Torïaid yn awgrymu cyfres o ymrwymiadau gwario yn ymwneud â seilwaith, gwasanaethau cyhoeddus, plismona, a thoriadau treth i'r cyfoethog. A all y Prif Weinidog ddweud wrthym ni a oes unrhyw un o'r addewidion ariannu hyn o goeden arian hud y Torïaid wedi cael ei addo i Gymru eto? Ac onid yw'n eglur i bawb erbyn hyn mai mater o ddewis gwleidyddol oedd y toriadau hynny gan y Torïaid, ac mai dyna oedden nhw erioed, ac nid rheidrwydd economaidd? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd Dawn Bowden ar ddiwedd y cwestiwn yna. Dyma'r twyll mwyaf ym myd gwleidyddiaeth, yr honiad nad oes dewis arall, oherwydd mae dewis arall bob amser ym myd gwleidyddiaeth, ac roedd dewis arall ar gael i Lywodraethau yn ôl yn 2010. Dewisodd y Llywodraeth ar y pryd lwybr o gyni cyllidol. Addawyd i ni, fel y cofiwch, y byddai'r ucheldiroedd heulog yn cael eu dychwelyd i ni erbyn 2015. Dywedir wrthym ni erbyn hyn y bydd hi'n 2025—degawd cyfan yn ddiweddarach—cyn y byddwn ni'n gweld unrhyw fudd. Ac mae Dawn Bowden yn iawn hefyd, Llywydd, onid yw hi, ein bod ni wedi cael prosiect neo-ryddfrydiaeth 40 mlynedd i symud yr economi oddi wrth pobl sy'n gweithio, ac mae anghydraddoldeb wedi codi flwyddyn ar ôl blwyddyn o ganlyniad. Mae'n syfrdanol, mae'n gwbl syfrdanol, y dylai degawd o gyni cyllidol arwain at dorri trethi i'r cyfoethog. Ble mae'r synnwyr a addawyd i ni, ein bod ni yn rhan o hyn gyda'n gilydd, bod pawb yn cael eu gorfodi i rannu'r baich? Ar ddiwedd y cwbl, pan fydd y baich wedi cael ei rannu'n annheg iawn, rydym ni'n gweld y bydd y gwobrwyon yn cael eu rhannu yr un mor annheg hefyd. I ateb cwestiwn Dawn Bowden yn uniongyrchol, wrth gwrs, ni addawyd unrhyw arian i Gymru. Yn hytrach, yr hyn yr ydym ni wedi ei weld yw un o'r ddau ymgeisydd yn y ras am arweinyddiaeth y Torïaid yn dweud y bydd yr arian yr ydym ni'n ei gael yn cael ei reoli gan Lundain erbyn hyn, a chan y Blaid Geidwadol, yn hytrach na'r sefydliad hwn a'r bobl a wnaeth ethol y sefydliad hwn yma yng Nghymru. Mohammad Asghar (Oscar) AC: Prif Weinidog, defnyddiodd Cyngor Merthyr Tudful £560,000 o'i gronfeydd wrth gefn y llynedd i helpu i lenwi'r diffyg yn ei gyllideb, a achoswyd yn bennaf gan y pwysau aruthrol ar ei wasanaethau cymdeithasol o ganlyniad i helpu plant sy'n derbyn gofal. Cododd Swyddfa Archwilio Cymru bryderon ynghylch hyn a rhybuddiodd na ddylai'r awdurdod barhau i droi at ei gronfeydd wrth gefn. Prif Weinidog, a ydych chi'n difaru dweud wrth awdurdodau lleol pan oeddech chi'n Weinidog cyllid yn 2017—a'ch dyfyniad chi yw hwn nawr: Bydd angen i awdurdodau lleol edrych ar eu cronfeydd wrth gefn hefyd i weld a allan nhw wasgu rhywfaint o arian allan, ac a ydych chi'n derbyn erbyn hyn bod yr anawsterau presennol a wynebir gan gyngor Merthyr Tudful yn ganlyniad uniongyrchol i'ch toriadau i lywodraeth leol? A rhowch y gorau i feio Llundain, os gwelwch yn dda. Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, nid oes dim o'r hyn yr ydym ni newydd ei glywed yn gwrthsefyll archwiliad. Nid yw'r problemau sy'n bodoli mewn awdurdodau lleol yng Nghymru yn deillio o benderfyniadau a wnaed yn y Cynulliad Cenedlaethol hwn. Maen nhw'n ganlyniad i ostyngiad o flwyddyn i flwyddyn i'n cyllidebau sy'n cael eu gwneud gan ei Lywodraeth ef, gan y penderfyniadau bwriadol y mae ei Lywodraeth ef yn eu gwneud, ac nid yw'n syndod i neb weld y penderfyniadau hynny yn creu'r anawsterau y maen nhw'n eu creu i wasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru. Cafodd cyngor bwrdeistref Merthyr ymhlith godiadau ymhlith y mwyaf mewn cyllid o unrhyw gyngor yng Nghymru y llynedd. Mae'r Llywodraeth hon yn ymateb i'r cyngor a gafodd y cyngor hwnnw gan Swyddfa Archwilio Cymru. Mae'n gyngor difrifol iawn, Llywydd. Mae'n cyfeirio at anawsterau gwirioneddol y cyngor hwnnw o ran rheoli'r gwasanaethau y mae'n gyfrifol amdanynt. Byddwn yn defnyddio'r pwerau sydd gennym ni i roi mwy o gymorth iddyn nhw. Ond ni ddylai neb amau maint a dyfnder yr anawsterau y mae'r cyngor hwnnw'n eu hwynebu. Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies. Paul Davies AC: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarpariaeth masnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r gororau? Mark Drakeford AC: Mae masnachfraint Cymru a'r gororau yn parhau i gael ei darparu yn unol â'r cynlluniau y cytunwyd arnyn nhw eisoes—cynllun uchelgeisiol iawn ar gyfer gwella gwasanaethau rheilffyrdd yma yng Nghymru. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol o'r camau sydd eisoes wedi eu cymryd i wella'r gwasanaethau hynny. Ceir llawer mwy a fydd yn dilyn dros gyfnod y fasnachfraint. Paul Davies AC: Prif Weinidog, cefais e-bost yr wythnos diwethaf, ac rwy'n siŵr bod hynny'n swnio'n gyfarwydd gan arweinydd yr wrthblaid. Cefais e-bost oddi wrth Gill ac Antosh, sy'n rhedeg sefydliad gwely a brecwast yn fy etholaeth fy hun. Maen nhw wedi derbyn gohebiaeth gan ddau o'u gwesteion am eu taith ar y trên o Gasnewydd i Hwlffordd. Nawr, cafodd y gwesteion amser gwych yn cerdded ar hyd ein llwybr arfordirol ac fe wnaethon nhw fwynhau ein lletygarwch enwog yn sir Benfro yn fawr. Fodd bynnag, er iddyn nhw gadw seddi, disgrifiwyd eu taith ar y trên fel 'gwasgfa' a 'dan ei sang' gydag un o'r gwesteion, a oedd yn gwella yn ddiweddar o'r eryr, wedi ei gwasgu rhwng y troli arlwyo, teithwyr eraill a'r drws. Roedd hyn yn hynod o boenus iddi hi, i'r fath raddau fel ei bod yn teimlo fel canslo'r gwyliau gan ei bod hi'n teimlo na allai fynd ymlaen. Nawr, mae 75 y cant o'r gwesteion yn y sefydliad gwely a brecwast hwn yn dod o dramor, ac mae mwy na 60 y cant yn dibynnu ar gludiant cyhoeddus i gyrraedd sir Benfro. Ai dyma'r croeso i Gymru y dylai pobl fod yn ei gael ar adeg pryd y dylem ni fod yn rhoi hwb i nifer ein twristiaid? Ac a yw hi'n iawn y dylai gwesteion i'n gwlad gael eu trin mor wael? A beth yw eich neges—[Torri ar draws.] Gwn nad yw'r Aelodau Llafur eisiau clywed realiti ein gwasanaethau trên, ond beth yw eich neges i Gill ac Antosh? Beth yw eich neges i Gill ac Antosh ac i'r gweithredwyr a'r busnesau twristiaeth eraill sy'n dibynnu ar ymwelwyr yn dod i Gymru? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, rwyf i wedi hen arfer erbyn hyn â'r ffordd ddi-eironi y gofynnir cwestiynau yn y Cynulliad hwn i mi—cwestiynau gan arweinydd yr wrthblaid yn y fan yma am deithio ar reilffyrdd i'r gorllewin o Gaerdydd gan blaid a ganslodd trydaneiddio'r rheilffordd i orllewin Cymru. Onid oes ganddo unrhyw gywilydd o gwbl yn y cwestiynau a ofynnodd i mi, pan mai ei blaid ef fu'n gyfrifol am un o'r rhwystrau mwyaf i deithio ar y rheilffyrdd yn y rhan honno o Gymru yr ydym ni wedi eu dioddef yn ystod y Cynulliad cyfan hwn? Yr hyn a ddywedaf wrth y bobl sydd wedi anfon e-bost ato yw hyn: mae gan y Llywodraeth hon gynllun i ehangu capasiti ar y rheilffordd honno ac ar reilffyrdd eraill yng Nghymru. Dyna ganlyniad yr esgeulustod a achoswyd gan y fasnachfraint a lofnodwyd gan ei Lywodraeth ef gyda'r gweithredwr blaenorol. Nid yw hynny'n mynd i ddigwydd mewn chwe mis; mae'n mynd i ddigwydd dros oes y fasnachfraint. Mae cynlluniau uchelgeisiol ar waith fel y bydd capasiti ychwanegol i'r gorllewin o Gaerdydd i lawr i rannau eraill o Gymru. Byddem ni'n falch iawn pe gallem ni ei gyflwyno'n gynt, ond ceir cyfyngiadau o ran pa mor gyflym y gallwch gael trenau wedi eu danfon. Ceir cyfyngiadau ar gyllid o ganlyniad i benderfyniadau ei Lywodraeth ef hefyd. Ond, byddwn yn defnyddio grym y fasnachfraint honno i sicrhau'r gwelliannau hynny. Pryd y bydd ei Lywodraeth ef yn anrhydeddu ei haddewidion i Gymru? Nid wyf i'n gweld unrhyw un ohonyn nhw, Llywydd. Nid wyf i'n gweld unrhyw un o'r cyhoeddiadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol pan roedd yn canslo trydaneiddio ac yn cyflwyno cyfres o achosion busnes. Nid wyf i wedi gweld unrhyw un ohonyn nhw yn dwyn ffrwyth. Pryd fyddwn ni'n gweld hynny ar gyfer pobl yng ngorllewin Cymru? Paul Davies AC: Mae angen i'r Prif Weinidog ymdawelu, rwy'n meddwl. A rhag ofn nad ydych chi'n deall, Prif Weinidog, nid wyf i yma i amddiffyn Llywodraeth y Deyrnas Unedig; rwyf i yma i ddwyn eich Llywodraeth chi i gyfrif a gwneud yn siŵr eich bod chi'n cyflawni—[Torri ar draws.] Gormod o gyffro. Allwn ni ddim clywed yr hyn y mae arweinydd yr wrthblaid yn ei ddweud. Yn arbennig, ni all y Prif Weinidog glywed yr hyn y mae'n ei ddweud. Paul Davies AC: Rwyf i yma i ddwyn eich Llywodraeth chi i gyfrif, i wneud yn siŵr eich bod chi'n cyflawni dros bobl Cymru. Fodd bynnag, yn rhy aml yn y Siambr hon, rydym ni'n parhau i dynnu sylw at fethiannau eich Llywodraeth chi. Nawr, yn sgil tarfu yr hydref diwethaf a'r methiannau parhaus, mae ffydd y cyhoedd yng ngallu'r fasnachfraint newydd i gyflawni yn isel. Dim ond 72 y cant o gymudwyr oedd yn fodlon pan gawsant eu holi am eu boddhad cyffredinol o'u taith yn yr arolwg rheilffyrdd cenedlaethol diweddaraf. Nid yw hyn yn dda, Prif Weinidog, o ystyried ein bod ni'n gweld ailgyflwyno trên ar reilffordd cwm Rhymni nawr, a ddefnyddiwyd ddiwethaf yng Nghymru yn 2005, ar ôl bod mewn gwasanaeth cyn hynny ers y 1960au. Penderfynodd Trafnidiaeth Cymru hyrwyddo hyn drwy honni bod trên poblogaidd yn ôl gyda gwên. Prif Weinidog, nid yw hwn yn fater i wenu na chwerthin yn ei gylch. Mae cymudwyr yn rhwystredig ac wedi syrffedu â'r diffyg gweithredu ac aros i'r gwasanaeth gwell newydd gael ei gyflwyno. Beth mae eich Llywodraeth chi yn ei wneud i sicrhau bod gan y cyrff sy'n gyfrifol am ddarparu'r fasnachfraint newydd y gefnogaeth dechnegol, reoli ac ariannol sy'n angenrheidiol i sicrhau eu bod nhw'n gallu helpu i ddarparu gwasanaeth rheilffordd newydd o'r radd flaenaf yma yng Nghymru? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, mae'n braf gwybod bod arweinydd yr wrthblaid wedi rhoi'r gorau i geisio amddiffyn yr hyn na ellir ei amddiffyn. Bydd hynny'n arbed cryn amser i ni ar lawr y Cynulliad, mae'n siŵr. Mae Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda'r pwerau sydd gennym ni a'r cyllid sydd gennym ni. Byddai'n well gennym ni pe byddai gennym ni fwy o bwerau, byddai'n well gennym ni pe byddai gennym ni fwy o gyllid i fynd gydag ef, oherwydd wedyn byddem ni'n gallu darparu gwell trafnidiaeth gyhoeddus yma yng Nghymru. Peth braf i'w wybod pan fydd ei Lywodraeth ef yn penderfynu bod rheilffyrdd y Cymoedd yn mynd i gael eu trosglwyddo o'r diwedd, ar ôl misoedd o oedi ynghylch y mater hwnnw hefyd. Rydym ni'n defnyddio popeth; yr holl bwerau sydd gennym ni, Llywydd, rydym ni'n eu defnyddio i wella gwasanaethau i deithwyr, i adeiladu capasiti, i ddarparu'r fasnachfraint yr ydym ni wedi cytuno arni—un o'r masnachfreintiau mwyaf uchelgeisiol y cytunwyd arni yn unman yn y Deyrnas Unedig. Pan fydd arweinydd yr wrthblaid yn fy hysbysu bod boddhad y cyhoedd gyda'i berfformiad ef yn 72 y cant, byddaf yn fwy parod i wrando ar ei feirniadaethau o eraill sydd yn yr un sefyllfa. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price. Adam Price AC: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yn gynharach eleni, cyngor tref Machynlleth, lleoliad Senedd gyntaf Cymru, wrth gwrs, oedd y cyngor cyntaf yng Nghymru i ddatgan argyfwng hinsawdd, ac ychydig fisoedd yn ddiweddarach, fe wnaeth y Senedd hon a'ch Llywodraeth chi yr un peth. Ddau fis yn ôl, cyngor tref Machynlleth oedd y cyngor cyntaf yng Nghymru i ddatgan ei gefnogaeth i annibyniaeth. Rwy'n credu y gallwch chi weld lle'r wyf i'n mynd yn hyn o beth. Ar ôl eich sylwadau yr wythnos diwethaf yn difrïo gwladychiaeth a'ch datganiad ddoe nad oedd eich cefnogaeth i'r undeb yn ddiamod, a yw eich chwilfrydedd ynghylch annibyniaeth yn swyddogol? Mark Drakeford AC: Llywydd, gadewch i mi ei gwneud yn eglur i bobl yng Nghymru beth yw dewis y Siambr hon. Ar y naill law, mae gennych chi blaid sy'n blaid sydd braidd wedi ei diwygio nad yw wir yn cyd-fynd â datganoli, a dyna'r oeddwn i'n ei olygu pan ddisgrifiais araith y Prif Weinidog yng Nghaeredin fel bod yn 'wladychol' ei natur. Os yw hi'n credu mai'r ffordd i wella'r undeb yw cryfhau swyddi'r Ysgrifenyddion Gwladol a chwifio jac yr undeb yn fwy egnïol yng Nghymru, yna mae gen i ofn nad dyna sut yr wyf i'n gweld y Deyrnas Unedig yn y dyfodol. Yma, yn y blaid hon, rydym ni'n blaid ddatganoli. Rydym ni'n credu'n gryf mai dim ond pobl sy'n byw yng Nghymru ddylai wneud penderfyniadau sy'n cael eu gwneud am ddyfodol gwasanaethau sy'n berthnasol i Gymru. Ond rydym ni'n credu mewn Teyrnas Unedig lwyddiannus hefyd. Mae Plaid Cymru yn sefyll yn ddiamwys dros annibyniaeth. Dyna'r hyn y byddan nhw'n ei gynnig i bobl Cymru mewn unrhyw etholiad, uchelgais a phenderfyniad i dynnu Cymru allan o'r Deyrnas Unedig, ac mae popeth y maen nhw'n ei wneud a phopeth y maen nhw'n ei ddweud, fel y gwelsom ni ddoe, yn cael ei weld drwy'r lens honno. Rwy'n hapus iawn bod hynny'n wir, oherwydd nid wyf i'n meddwl am eiliad bod pobl Cymru o'r safbwynt hwnnw, ac yn sicr nid wyf innau. Adam Price AC: Felly, os gallaf i grynhoi eich ateb, rydym ni'n ddiamwys o blaid annibyniaeth, rydych chi'n amwys o'i blaid. Mae'n sefyllfa o efallai pendant gan y Prif Weinidog. Mark Drakeford AC: Sut y byddech chi'n crynhoi'r hyn a ddywedais yn y ffordd honno? Adam Price AC: Ond un maes polisi—[Torri ar draws.] Un maes polisi lle bu rhywfaint— [Torri ar draws.] Iawn. Gadewch i arweinydd Plaid Cymru gael ei glywed, os gwelwch yn dda. Adam Price AC: Rwy'n credu fy mod i wedi taro ar wendid yn y man yma efallai. Un maes polisi lle bu esblygiad yw Brexit. Heddiw, mae'r Blaid Lafur wedi cyhoeddi datganiad yn cadarnhau y byddai'n ymgyrchu dros aros pe byddai refferendwm yn cael ei galw gan Brif Weinidog Torïaidd, ond mae'n gadael yn agored y cwestiwn o ba un a fyddai'n gwneud yr un peth pe byddai Llafur mewn Llywodraeth. A ydych chi'n cefnogi'r safbwynt hwnnw, neu a allwch chi gadarnhau heddiw pe byddai Llywodraeth Lafur yn cyflwyno cytundeb wedi ei ail-gytuno i'r bobl, y byddech chi, y Blaid Lafur yng Nghymru a'ch Llywodraeth, yn dal i ymgyrchu dros aros beth bynnag y byddai Plaid Lafur y DU yn ei benderfynu? Mark Drakeford AC: Llywydd, mae Plaid Lafur Cymru o blaid gweld Cymru yn aros yn y Deyrnas Unedig—nid oes dim amwysedd ynglŷn â hynny—ac rydym ni o blaid gweld Cymru yn aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Rwyf i wedi dweud o'r blaen, fe'i dywedaf eto: os bydd cyfle i bobl yng Nghymru bleidleisio eto ar ba un a ddylem ni aros yn yr Undeb Ewropeaidd neu ei adael, byddwn yn ymgyrchu dros aros. Adam Price AC: Rwy'n credu mai dyna'r ail gwestiwn nad wyf i wedi cael ateb eglur iddo, ond mae'n codi'r cwestiwn os ydych chi'n hawlio bod yn blaid sy'n gyfan gwbl o blaid aros pam mai chi yw'r unig un nad yw'n sefyll er mwyn sicrhau bod cymaint â phosibl osiawns o drechu plaid sydd o blaid Brexit ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed. [Torri ar draws.] A gaf i droi'n olaf at ychydig o newyddion sydd wedi dod i'r amlwg yn ystod yr oriau diwethaf, sef y gorchymyn gweinyddu dros dro yn erbyn y cwmni sy'n gysylltiedig ag Afan Valley Adventure Resort? Mae'r barnwr yn yr achos hwnnw wedi dweud heddiw am y cwmni, Northern Powerhouse Developments, bod eu hymddygiad yn fodel busnes cwbl anonest ac yn gamddefnydd cywilyddus o freintiau masnachu atebolrwydd cyfyngedig. Byddaf yn ysgrifennu at y Swyddfa Twyll Difrifol heddiw i ofyn iddyn nhw gychwyn ymchwiliad ar unwaith. Ond yn y cyfamser, a all y Prif Weinidog ddweud, o gofio'r hyn a glywsom gan y barnwr, pam y mynegodd Llywodraeth Cymru gefnogaeth frwd i'r cwmni a'i brosiect ar sawl achlysur, gan gynnwys Gweinidog yr economi yn ymddangos yn ei fideos hyrwyddo? Mark Drakeford AC: Llywydd, rwy'n awyddus i gynorthwyo arweinydd Plaid Cymru, felly dywedaf wrtho eto yr hyn yr wyf i wedi ei ddweud wrtho ddwywaith erbyn hyn yn y gobaith y caiff gyfle i ddal i fyny. Yn gyntaf oll, mae'r Blaid Lafur yng Nghymru yn credu'n ddiamwys mai'r ffordd orau o sicrhau dyfodol Cymru yw trwy barhau i fod yn aelod o'r Deyrnas Unedig. Rydym ni o'r safbwynt hwnnw yn ddiamwys, yn yr un modd ag yr ydych chi'n ddiamwys o blaid tynnu Cymru allan o'r Deyrnas Unedig. Rydym ni'n ddiamwys o blaid gweld Cymru yn aros yn yr Undeb Ewropeaidd, a byddwn yn ymgyrchu i wneud hynny os cawn ni byth gyfle, yn union fel yr ydym ni'n ei ddweud ym Mrycheiniog a Maesyfed, lle'r ydym ni'n cyflwyno ymgeisydd gan fod pleidleiswyr Llafur ac aelodau Llafur ym Mrycheiniog a Maesyfed sy'n haeddu'r cyfle i bleidleisio dros ymgeisydd sy'n cynrychioli'r safbwyntiau hynny. Rwy'n deall ei fod ef wedi dilyn trywydd gwahanol ac na fydd gan y bobl hynny a fyddai fel arall wedi pleidleisio dros Blaid Cymru yn cael cyfle erbyn hyn i bleidleisio dros Blaid Cymru—penderfyniad syfrdanol, mae'n ymddangos i mi, i Blaid Cymru fel y'i gelwir, beidio â rhoi'r cyfle hwnnw i bobl a allai ddymuno ei chefnogi mewn etholiad yng Nghymru. Dyna ni. Bydd cefnogwyr ac aelodau'r Blaid Lafur yn cael y cyfle hwnnw, ac rwy'n falch iawn bod y cyfle hwnnw ganddyn nhw hefyd. O ran y cwmni y soniodd amdano, gadewch i mi roi'r sicrwydd hwn i'r Aelodau: ni roddwyd yr un geiniog o arian Cymru gan y Llywodraeth hon i'r cwmni hwnnw, a byddwn yn ddiolchgar pe byddai'r Aelod yn gwneud hynny'n eglur mewn unrhyw lythyr y mae'n bwriadu ei ysgrifennu. Arweinydd Plaid Brexit, Mark Reckless. Mark Reckless AC: Dywedodd yr ymgeisydd blaenllaw i fod yn Brif Weinidog nesaf y Deyrnas Unedig ddydd Sadwrn bod angen gwrthdroi'r penderfyniad i ganslo ffordd liniaru'r M4. Dywedodd hefyd, fel y dywedasoch yn gynharach, Prif Weinidog, y dylai fod dylanwad Ceidwadol cryf ar sut y caiff y gronfa ffyniant gyffredin ei gwario. Prif Weinidog, dywedasoch fod diffyg arian wedi eich atal rhag bwrw ymlaen â ffordd liniaru'r M4. A fyddech chi, felly, yn croesawu cynnig gan Lywodraeth y DU i'w ariannu drwy'r gronfa ffyniant gyffredin? [Chwerthin.] Mark Drakeford AC: Wel, yn gyntaf oll, Llywydd, gadewch i mi gywiro'r gwall. Pan ddywedodd y datganiad manwl a wneuthum ar lawr y Cynulliad hwn bod dau reswm pam yr oeddwn i wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen â ffordd liniaru'r M4, roedd un oherwydd yr effaith y byddai'n ei chael ar ein gallu i ariannu prosiectau hanfodol eraill yma yng Nghymru ac, yn ail ac ar wahân, oherwydd nad oeddwn i wedi fy argyhoeddi bod y niwed a fyddai'n cael ei wneud i'r ecoleg a'r amgylchedd yn y rhan honno o Gymru yn cael ei wrthbwyso'n ddigonol gan enillion economaidd i ganiatáu iddo ddigwydd. Felly, yn sicr ni fyddai arian ychwanegol ar ei ben ei hun yn datrys yr ail o'r rhesymau hynny. Fy neges i i'r ymgeisydd blaenllaw, fel yr ydych chi'n ei alw, i'r Blaid Geidwadol yw bod angen iddo ennill etholiad yng Nghymru ac yna bydd ganddo hawl i'n cyfarwyddo ar yr hyn y dylem ni ei wneud yn y fan yma. Nid yw ei blaid erioed wedi ennill etholiad yng Nghymru drwy gydol cyfnod y bleidlais gyffredinol, ac iddo fe ddod yma a'n cyfarwyddo ni ynglŷn â'r cyfrifoldebau sydd gennym ni a sut y dylem ni eu cyflawni, ac yna i gyhoeddi ei fod yn bwriadu ad-hawlio cyfrifoldebau sydd wedi eu sefydlu yma, nid i Lywodraeth y DU cofiwch, os darllenwch chi yr hyn a ddywedodd, ond i'r Blaid Geidwadol, wel rwy'n credu bod materion gwirioneddol o gyfreithlondeb democrataidd yn y modd y mynegwyd y pwyntiau hynny. Mark Reckless AC: Efallai, Prif Weinidog, y gallai sefyll ar sail maniffesto, gan addo darparu ffordd liniaru i'r M4 ac yna gwneud y gwrthwyneb, fel yr ydych chi'n ei wneud. Rydych chi'n gwrthwynebu'n gryf unrhyw swyddogaeth i Lywodraeth y DU, ac eto ni wnaethoch chi wrthwynebu erioed i swyddogaeth yr UE o ran sut y gwariwyd y symiau hyn. Dywedasoch wrthym yr wythnos diwethaf bod unoliaethwyr yn peryglu'r undeb, ar ôl i'r Swyddfa Dramor eich atal rhag defnyddio car ym Mrwsel. Onid yw'n wir mai'r bygythiad gwirioneddol—[Torri ar draws.] Onid yw'n wir mai'r bygythiad gwirioneddol i'r undeb yw'r 20 mlynedd yr ydym ni wedi eu cael o Lafur yn dyhuddo Plaid Cymru? Heddiw, maen nhw'n brolio oherwydd, ddoe, dywedasoch wrthyn nhw bod eich cefnogaeth—cefnogaeth y Blaid Lafur i'r undeb—yn destun adolygiad; nawr, rydych chi'n eu beirniadu nhw, nid am eu cefnogaeth i annibyniaeth, ond am y ffaith ei bod yn ddiamwys. Prif Weinidog, gan fod Cymru yn cefnogi'r DU ac wedi pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd, pam ydych chi fel Prif Weinidog yn gweithredu fel un gyda chenedlaetholwyr a Nicola Sturgeon? Mark Drakeford AC: Llywydd, nid wyf i'n gweld am eiliad sut y mae'n tanseilio'r undeb pan fo pobl yng Nghymru mewn etholiadau olynol wedi gallu dewis y gweinyddiaethau y maen nhw'n dymuno eu gweld yn gyfrifol am gyfrifoldebau datganoledig yma yng Nghymru. Dim ond gweithredu democratiaeth yw hynny, ac mae pobl wedi gwneud eu penderfyniadau, ac rydym ni'n cyrraedd yma o ganlyniad iddyn nhw. Nid oes dim yn hynny o gwbl sydd â'r effaith o danseilio'r Undeb. A dweud y gwir, rwyf i wedi credu erioed bod sefydliadau datganoledig cryf, wedi eu hethol yn ddemocrataidd gan bobl sy'n cael eu heffeithio gan y penderfyniadau y maen nhw'n eu gwneud, yn cryfhau'r undeb ac nad ydyn nhw yn ei danseilio. Rwy'n credu mai dyna fu hanes datganoli i yma yng Nghymru. O ran yr Undeb Ewropeaidd, mae'r Aelod yn gwybod beth yw ein safbwynt yn eglur. Rydym ni wedi adolygu ac adolygu'r dystiolaeth sy'n dweud wrthym ni os yw Cymru yn mynd i adael yr Undeb Ewropeaidd, ac yn enwedig os caiff ei rhwygo o'r Undeb Ewropeaidd yn y ffordd yr hoffai ei blaid ac yntau ei gweld, byddai'r economi yng Nghymru 8 y cant i 10 y cant yn llai nag ydyw heddiw gyda'r holl niwed y bydd hynny yn ei wneud. Rydym ni wedi gweld ffigurau yng Ngogledd Iwerddon ddoe sy'n awgrymu y gallai Gogledd Iwerddon fod mewn dirwasgiad eisoes. Ceir ffigurau sy'n dangos, pe byddem ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ar 31 Hydref, y gallai gweddill y Deyrnas Unedig fod mewn dirwasgiad cyn diwedd y flwyddyn galendr hon. Meddyliwch am y niwed y bydd hynny'n ei wneud i deuluoedd, i gymunedau ac i ddyfodol pobl yma yng Nghymru. Ni fyddwn yn sefyll o'r neilltu ac yn peidio â rhoi i bobl yng Nghymru y cyngor a'r ffeithiau yr ydym ni'n credu sy'n dangos iddyn nhw bod eu dyfodol yn cael ei sicrhau'n well drwy barhau i fod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd. Dyna'r gwirionedd yn ein barn ni a dyna pam na fyddwn ni'n cilio rhag mynegi hynny pryd bynnag y cawn y cyfle. Amseroedd Ymateb Ambiwlansys Russell George AC: 3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd ymateb ambiwlansys? OAQ54197 Mark Drakeford AC: Diolchaf i'r Aelod am hynna. Mae gwasanaeth ambiwlans Cymru wedi rhagori ar ei amser ymateb targed ar gyfer galwadau coch am 14 mis yn olynol erbyn hyn, gydag amser ymateb nodweddiadol o oddeutu pum munud a hanner. Rydym ni'n parhau i weithio'n agos gyda'r prif gomisiynydd ambiwlans, BILlau a gwasanaeth ambiwlans Cymru i sicrhau gwelliant pellach. Russell George AC: Diolch am eich ateb, Prif Weinidog. Yn yr wyth mlynedd ers i mi fod yn Aelod Cynulliad, yn ystod y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf y mae fy swyddfa a minnau wedi derbyn y pryderon mwyaf sylweddol ynghylch amseroedd ymateb araf ambiwlansys. Mewn llythyr ataf i y llynedd, cadarnhaodd prif weithredwr gwasanaeth ambiwlans Cymru i'm hetholwyr mai naw munud oedd amser trosglwyddiad ambiwlans cyfartalog ar gyfer Telford, 26 munud ar gyfer Amwythig, ac awr a dau funud ar gyfer Ysbyty Maelor Wrecsam. Nawr, yn amlwg, mae amseroedd trosglwyddo yn ffactor pwysig o ran amseroedd ymateb ambiwlansys. Nawr, rwyf i wedi derbyn rhai adroddiadau bod criwiau ambiwlans Cymru yn cael eu cadw dro ar ôl tro yn Amwythig a Telford am gyfnodau hwy o amser tra bod criwiau o Loegr yn cael eu rhyddhau ar ôl amser targed penodol gan fod gwasanaeth ambiwlans Lloegr yn trawsgodi tâl ar ysbytai am ofalu am eu cleifion y tu hwnt i'r amser hwn. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi ymchwilio i'r mater penodol hwn ac ystyried a ddylid, neu a ellid yn wir, rhoi mesurau o'r fath ar waith ar gyfer criwiau Cymru a chleifion Cymru. Mark Drakeford AC: Wel, diolchaf i'r Aelod am y pwynt yna. Bydd yn gwybod bod amseroedd ymateb ambiwlansys ym Mhowys ymhlith y gorau yng Nghymru yn gyffredinol. Y llynedd ym Mhowys, pedwar munud 37 eiliad oedd yr amser aros safonol ar gyfer galwad goch a galwadau oren oedd yr amseroedd ymateb gorau yng Nghymru gyfan. Ond mae'n gwneud pwynt pwysig am amseroedd trosglwyddo ac mae gwaith yn cael ei wneud yn bwrpasol iawn trwy'r prif gomisiynydd ambiwlans i wella amseroedd trosglwyddo yn yr ysbytai hynny yng Nghymru lle mae hynny wedi bod yn destun pryder. Nid oeddwn i'n ymwybodol o'r pwynt a godwyd gan yr Aelod am Amwythig a Telford. Wrth gwrs, bydd fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog iechyd, yn ymchwilio i hynny ac yn rhoi ateb iddo.FootnoteLink Gwybodaeth ychwanegol at y Cyfarfod Llawn (Saesneg yn unig) Caroline Jones AC: Prif Weinidog, y mis diwethaf, bu dros 10,000 o bobl yn aros mwy na 30 munud am ymateb ambiwlans i alwad oren. Bythefnos yn ôl, arhosodd cyfaill i mi, un o'm hetholwyr, bron i dair awr am ymateb brys yn dilyn amheuaeth o strôc. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi bod hyn yn annerbyniol. Prif Weinidog, pryd all pobl Cymru ddisgwyl gweld terfyn ar amseroedd aros o fwy na 30 munud am ymateb ambiwlans neu frys? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, 26 munud a 42 eiliad yw ymateb oren safonol Cymru gyfan mewn gwirionedd. Mae gennym ni gynllun yn dilyn adroddiad ar arosiadau oren. Gwnaeth naw argymhelliad penodol a cheir cynllun gweithredu erbyn hyn i fwrw ymlaen â phob un o'r argymhellion hynny. Ceir pwyslais arbennig ar gleifion strôc gan fod cleifion strôc yn dibynnu nid yn unig ar gyflymder yr ymateb ond maen nhw'n dibynnu ar natur yr ymateb a wneir yn yr ambiwlans ac yna gyda'r trosglwyddiad, yn seiliedig ar yr hyn y mae'r staff ambiwlans wedi gallu ei wneud, fel y gellir adeiladu ar hynny'n gyflym pan fydd cleifion yn cyrraedd pen eu taith. Felly, rwy'n cymryd o ddifrif y pwynt y mae'r Aelod wedi ei wneud ynghylch amseroedd aros pan fydd pobl wedi cael strôc, ond fe'i cydnabyddir yn yr adroddiad a gomisiynwyd ar alwadau oren, a cheir camau penodol sy'n cael eu datblygu i wneud yn siŵr bod dioddefwyr strôc yng Nghymru yn cael ymateb prydlon drwy'r gwasanaeth ambiwlans ond hefyd ymateb sydd wedi ei baratoi i ddarparu'r ymateb uniongyrchol y gwyddom ei fod yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i'w rhagolygon hirdymor o wella. Perfformiad Economaidd Cymru David J Rowlands AC: 4. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o berfformiad economaidd Cymru dros yr ugain mlynedd diwethaf? OAQ54217 Mark Drakeford AC: Llywydd, ymhlith y llwyddiannau o ran perfformiad economaidd ers datganoli mae gennym ni 300,000 yn fwy o bobl mewn gwaith nag yr oedd gennym ni ym 1999 a mwy o fentrau gweithredol yma yng Nghymru nag ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod hwnnw. David J Rowlands AC: Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb, ond o farnu yn erbyn yr holl baramedrau arferol—GYG, CMG neu gynhyrchiant—rydym ni'n gweld ei bod yn ymddangos nad yw Cymru'n perfformio cystal ag unrhyw ranbarth arall yn y DU ar wahân i ogledd-orllewin Lloegr. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno bod hyn yn mynd yn groes i'r uchelgeisiau a nodwyd yng nghynllun gweithredu economaidd 'Ffyniant i Bawb' y Llywodraeth? Mark Drakeford AC: Wel, mae gen i ofn nad yw'r haeriadau a wnaed gan yr Aelod yn wir, Llywydd. Yn ogystal â bod wedi gostwng diweithdra yn gynt na gweddill y Deyrnas Unedig, mae cyflogaeth yn codi'n gynt na gweddill y Deyrnas Unedig, ac mae cyfraddau anweithgarwch wedi gostwng mwy na gweddill y Deyrnas Unedig, cynhyrchiant Cymru ers 2011 fu'r twf cyflymaf o holl wledydd a rhanbarthau'r DU. Felly, nid wyf i'n derbyn yr haeriadau y mae'r Aelod yn eu gwneud, ond fe ddywedaf hyn wrtho: pe byddai cynlluniau ei blaid ef fyth yn dwyn ffrwyth a phe byddai'r wlad hon yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ar 31 Hydref, yna bydd yr holl enillion a wnaed yn ystod y cyfnod datganoli o dan fygythiad o'r newydd a hwnnw'n fygythiad sylweddol iawn. Darren Millar AC: Prif Weinidog, a gaf i longyfarch eich Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth am y gonestrwydd amheuthun a ddangosodd y mis diwethaf pan gyfaddefodd nad oedd gan eich Llywodraeth nac, yn wir, y Llywodraethau Llafur blaenorol unrhyw syniad o beth yr oedden nhw'n ei wneud o ran yr economi? Nawr, rwy'n deall ei fod wedi ymddiheuro ers hynny am y sylwadau hynny ac wedi eu hailfeddwl. Nid ef yw'r unig berson i gefnu ar sylwadau y mae wedi eu gwneud yn y gorffennol, a gwelsom rai ddoe yn y gogledd, ond y math yna o onestrwydd yr ydym ni'n ei hoffi gan ein gwleidyddion. Nawr, un o'r ardaloedd sydd wedi dioddef cryn dipyn dros y blynyddoedd diwethaf yw'r gogledd, ac un o'r rhesymau y mae'r economi yn y gogledd wedi dioddef yw oherwydd cefnffordd yr A55 a'i diffyg capasiti i allu symud traffig ar ei hyd, yn enwedig yn ystod ein cyfnodau gwyliau brig. A gaf i ofyn i'r Prif Weinidog a wnewch chi, o gofio'r ffaith eich bod wedi penderfynu peidio â gwario symiau sylweddol o arian ar ffordd liniaru'r M4 mwyach, ystyried buddsoddi yn ein prif wythïen allweddol yn y gogledd, yr A55, i sicrhau ei bod yn addas i'w diben ac yn gallu ymdopi â'r traffig cynyddol yr ydym ni'n ei weld yn y gogledd o ganlyniad i'r ffaith bod pobl yn cael eu denu i ymweld â ni ac i gyflawni busnes yno? Mark Drakeford AC: Llywydd, mae bob amser yn siomedig i mi pan fydd Aelod lleol yn bychanu cyflawniadau ei ran ef o Gymru. Mae gan y gogledd gyfraddau cyflogaeth uwch na Chymru gyfan a'r Deyrnas Unedig gyfan, mae ganddo gyfraddau diweithdra is na Chymru a'r Deyrnas Unedig gyfan ac mae ei economi mewn sawl ffordd yn economi sy'n ffynnu, o Airbus yn y gogledd-ddwyrain i'r ffigyrau twristiaeth calonogol iawn lle mae'r gogledd yn arwain Cymru eleni. Wrth gwrs, mae seilwaith yn bwysig; dyna pam y cynhaliwyd yr arolwg cydnerthedd o'r A55 gennym ac rydym ni'n gweithredu argymhellion hwnnw. Rydym ni'n parhau i fuddsoddi'n sylweddol mewn seilwaith trafnidiaeth yn y gogledd, boed hwnnw'n goridor sir y Fflint yn y gogledd-ddwyrain neu'r ffordd osgoi yng Nghaernarfon yn y gogledd-orllewin. Cymunedau Gwledig Joyce Watson AC: 5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020? OAQ54210 Mark Drakeford AC: Diolchaf i Joyce Watson am hynna, Llywydd. Mae'r rhaglen yn parhau i wneud cynnydd da gydag 80 y cant o gyllid y rhaglen datblygu gwledig eisoes wedi ei ddyrannu, gan ddarparu bron i £700 miliwn i brosiectau. Rydym ni'n disgwyl cyflawni ymrwymiad llawn y rhaglen erbyn diwedd 2020. Joyce Watson AC: Diolch. Gwn fod y cyllid hwnnw'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r gymuned yr wyf i'n ei gwasanaethu. Un o'r prosiectau hynny sy'n elwa ar y buddsoddiad yw Cysylltu Cymunedau yng Nghymru. Mae'n cael ei ddarparu drwy'r Gymdeithas Cludiant Cymunedol ac yn cael ei ariannu drwy'r rhaglen datblygu gwledig. O'r hyn yr wyf i'n ei ddeall, caiff y rhai sy'n darparu prosiectau wneud cais am gyllid i ddarparu'r atebion trafnidiaeth lleol iawn hynny. Mae'r Gymdeithas Cludiant Cymunedol wedi cysylltu â mi gan eu bod nhw wrthi'n ceisio ymestyn eu cynllun sgwter Wheels 2 Work yng ngogledd sir Benfro sy'n galluogi pobl sydd heb drafnidiaeth o gwbl i fynd ar sgwter a mynd i'r gwaith. Ond yr hyn y maen nhw wedi ei ddweud wrthyf yw bod y broses ei hun—nid y cais o reidrwydd, ond y broses ar gyfer ymdrin â'r cais hwnnw—bellach yn rhoi'r prosiect cyfan yn y fantol, gan fod y bobl hynny a oedd wedi ymrwymo'n wreiddiol i'w helpu bellach yn cerdded i ffwrdd oherwydd pa mor hwyr y mae'r arian hwnnw'n cael ei gyflwyno. Felly, fy nghwestiwn i chi, Prif Weinidog, yw: a yw Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gwybod am unrhyw oedi sy'n achosi i hyn ddigwydd? Ac a wnewch chi ddefnyddio eich cymwynasgarwch i o leiaf ymchwilio i'r hyn sy'n achosi'r rhwystr hwn i'r hyn sy'n gynllun da iawn ac sydd wedi bod yn gweithredu yn y gorffennol? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, hoffwn ddiolch i Joyce Watson am dynnu sylw at y gwaith arloesol sy'n cael ei wneud ym maes trafnidiaeth gymunedol, yn enwedig yn y de-orllewin. Ymgymerwyd â chyfres o fentrau yn y rhan honno o Gymru, sy'n caniatáu i ni adeiladu ar y rheini wrth i ni ddatblygu rhagor o syniadau ym maes trafnidiaeth gymunedol y gellir eu defnyddio mewn mannau eraill yn y wlad. Mae'n bwysig, onid yw, Llywydd, i atgoffa Aelodau bob amser mai arian cyhoeddus yw hwn sy'n cael ei fuddsoddi, bod yn rhaid rhoi cyfrif amdano'n briodol a bod gofynion, weithiau, y mae'n rhaid i ni eu mynnu gan bobl sy'n derbyn yr arian cyhoeddus hwnnw cyn y gellir rhyddhau'r arian hwnnw iddynt. Nid wyf i'n ymwybodol yn uniongyrchol o gynllun sgwter Wheels 2 Work, er ei fod yn swnio'n syniad diddorol iawn, ac os hoffai'r Aelod ysgrifennu ataf gyda rhagor o fanylion am yr oedi, fel y mae'r rhaglen yn ei weld, yna wrth gwrs byddaf yn hapus iawn i ymchwilio iddynt. Andrew RT Davies AC: Prif Weinidog, roeddech chi yn llygad eich lle i nodi mai arian cyhoeddus yw hwn, ac mae angen craffu i wneud yn siŵr ei fod yn sicrhau gwerth am arian, ond un cynllun sydd wedi achosi problemau gyda'r cynllun datblygu gwledig—ac rwyf i wedi ei godi gyda'r Gweinidog hefyd—yw'r cynllun grantiau coetir. Mae'n gynllun biwrocrataidd iawn. Mae gan bobl adegau penodol pryd y gallan nhw blannu yn ystod y tymor; nid yw'n rhywbeth lle gallwch chi blannu coed 12 mis y flwyddyn. A byddwn yn ddiolchgar, os oes gennych chi ddealltwriaeth o'r cynllun penodol hwnnw, pe byddech chi'n nodi pa un a ydych chi'n fodlon ar y cynnydd a wnaed o ran cael arian allan drwy'r drws, fel petai. Neu a oes angen adolygiad o'r cynllun hwn fel y gall y Llywodraeth gael yn ôl ar y trywydd iawn gyda'i tharged ei hun o 100,000 hectar o goetir i'w blannu yng Nghymru erbyn 2030? Mark Drakeford AC: Llywydd, rydym ni'n benderfynol iawn y byddwn yn cynyddu'r gyfradd o blannu coetir yng Nghymru. Rydym ni eisiau gwneud defnydd llawn o'r cynllun grant coetiroedd hwnnw, ac os oes aneffeithlonrwydd yn y modd y mae'n gweithredu, rydym ni'n awyddus dros ben i gael gwared ar hynny. Gadewch i mi godi calon yr Aelod am ychydig trwy ddweud, os oes unrhyw ymyl arian i Brexit, efallai mai hwnnw yw os bydd Deyrnas Unedig—ac 'os' yw hynny onid e—yn gadael yr Undeb Ewropeaidd a bod gweinyddu cyllid yn ein dwylo ein hunain, rydym ni'n cydnabod bod rhai ffyrdd y gallem ni weinyddu'r arian hwnnw a fyddai'n ei gwneud yn haws i arian adael Llywodraeth Cymru a chael ei ddefnyddio at y dibenion lle'r ydym ni'n bwriadu iddo wneud gwahaniaeth. Plant ag Anghenion Addysgol Arbennig Mohammad Asghar (Oscar) AC: 6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella canlyniadau addysgol plant ag anghenion addysgol arbennig? OAQ54212 Mark Drakeford AC: Llywydd, mae tegwch a chynhwysiant yn ganolog i'n cenhadaeth genedlaethol ar gyfer addysg. Rydym ni wedi ymrwymo i sicrhau bod pob dysgwr yn cael addysg o safon uchel ac yn gwireddu ei lawn botensial. Dyma ddiben Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 y Cynulliad hwn. Mohammad Asghar (Oscar) AC: Prif Weinidog, mae ffigurau Llywodraeth Cymru yn dangos bod plant ag anghenion addysgol arbennig yn cael eu gorgynrychioli'n sylweddol mewn gwaharddiadau parhaol a thros dro o ysgolion yng Nghymru. Roedd disgyblion ag AAA yn cynrychioli 60 y cant o'r holl waharddiadau parhaol o ysgolion a gynhelir yng Nghymru, er eu bod ddim ond yn 23 y cant o boblogaeth ysgolion. Mae'r ffigurau hyn yn awgrymu nad yw gwaharddiadau yn cael eu defnyddio fel dewis olaf ar gyfer plant sydd ag AAA, ond fel norm. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno bod angen brys i weddnewid sut y mae'r staff addysgol yn ymdrin â disgyblion ag anghenion addysgol arbennig sy'n aflonyddgar ac i weithio gydag ysgolion ac awdurdodau lleol i leihau nifer y gwaharddiadau yng Nghymru? Diolch. Mark Drakeford AC: Llywydd, rwyf i'n rhannu pryder yr Aelod, a gwn fod y Gweinidog addysg yn gwneud hynny hefyd, ynghylch gorgynrychiolaeth y disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol ymhlith gwaharddiadau o ysgolion. Dyna'n rhannol pam yr ydym ni'n buddsoddi £20 miliwn i baratoi'r system a'r staff ar gyfer y gyfundrefn newydd sy'n deillio o'r Ddeddf a roddwyd ar y llyfr statud yn y Siambr hon, a, thrwy wneud hynny, rydym ni'n sicr yn disgwyl gweld gostyngiad yn y ffigurau hynny o ran cyfran y gwaharddiadau o'r ysgol sy'n dod o blith disgyblion sydd â'r anghenion dysgu ychwanegol hynny. David Rees AC: Prif Weinidog, er fy mod i'n gwerthfawrogi'n fawr iawn y ddeddfwriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei chyflwyno i sicrhau bod teuluoedd yn gallu elwa ar y cymorth anghenion dysgu ychwanegol y dylen nhw fod yn ei gael, rydym ni'n dal i gael llawer o lythyrau gan etholwyr yn cyfleu'r heriau y maen nhw'n eu hwynebu yn feunyddiol o ran gallu sicrhau bod eu plant yn gallu cael gafael ar y cymorth hwnnw. Yr wythnos diwethaf, cefais etholwr a gysylltodd â mi i ddweud ei fod wedi cael diagnosis ar gyfer ei blentyn, ond yn cael anawsterau o ran cael yr awdurdod lleol i ddarparu'r cymorth a nodwyd yn y diagnosis. Nawr, un o'r pethau pwysig, felly, y mae angen i ni sicrhau, tra ein bod ni'n rhoi'r ddeddfwriaeth ar waith, yw ein bod ni'n gallu sicrhau a gorfodi bod y ddeddfwriaeth honno yn cael ei darparu gan awdurdodau lleol fel nad oes yn rhaid i deuluoedd wynebu mwyach yr heriau yr oedd y ddeddfwriaeth yno i'w newid. A wnewch chi edrych felly yn Llywodraeth Cymru i weld sut y gallwn ni sicrhau mewn gwirionedd bod awdurdodau lleol yn darparu'r cymorth sydd ei angen pan fydd plentyn yn cael diagnosis, yn cael nodi'r anghenion hynny ond, mewn sefyllfa fel hon—mae'n mynd i ysgol newydd ym mis Medi ac nid yw'n gwybod hyd yn hyn pa un a fydd y cymorth a roddwyd mewn datganiad yn cael ei roi iddo. Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, fel y mae David Rees yn gwybod, gwn y bydd y Ddeddf ei hun yn cael ei chyflwyno'n raddol o fis Medi eleni ymlaen, felly nid yw'r Ddeddf eto—Medi y flwyddyn nesaf, mae'n ddrwg gen i. Felly, nid yw'r Ddeddf yn cynnig y manteision y bwriedir iddi eu cynnig ac a gymeradwywyd ar lawr y Cynulliad hyd yma. Ceir cyflwyniad graddol gorfodol o'r Ddeddf o fis Medi 2020—dyna pam yr ydym ni'n uwchsgilio'r proffesiwn ymlaen llaw. Y pwynt, rwy'n credu, yr wyf i eisiau ei danlinellu yn yr hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud yw bod trefn bresennol, ac mae'n rhaid i awdurdodau lleol gydymffurfio â'r drefn bresennol honno. Mae ganddyn nhw ddyletswyddau cyfreithiol y mae'n rhaid iddyn nhw eu cyflawni, ac rydym ni wedi gofyn i'r pum arweinydd gweddnewid yr ydym ni wedi eu penodi i helpu i hwyluso'r llwybr at y drefn newydd i bwysleisio i awdurdodau lleol eu rhwymedigaethau parhaus i ddiwallu anghenion pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol o dan y system bresennol yn ystod yr holl gyfnod tan y bydd y drefn newydd yn dechrau cael effaith. Y Cynllun Arbed yng Nghanol De Cymru Neil McEvoy AC: 7. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu'r cynllun Arbed yng Nghanol De Cymru? OAQ54213 Mark Drakeford AC: Llywydd, yn ystod ei oes, hyd yn hyn, mae Arbed wedi darparu cynlluniau yng Nghanol De Cymru i fynd i'r afael â thlodi tanwydd sydd wedi bod o fudd i dros 3,000 o gartrefi. Mae naw cynllun yn cael eu datblygu ar gyfer eleni, ym mhob rhan o'r rhanbarth. Neil McEvoy AC: Prif Weinidog, ceir hen jôc am faint o bobl y mae'n ei gymryd i newid bwlb golau, ond yr hyn y dylai'r cwestiwn fod yw: beth mae'n ei gostio i'ch Llywodraeth Lafur Cymru chi newid bwlb golau yng Nghymru? Yr ateb yw hyd at £245 o dan gynllun Arbed Llafur, oherwydd dyna'r hyn y mae contractwyr wedi cael eu hannog i'w godi am fesurau goleuo 'ysgafn'—newid bylbiau golau i bob pwrpas. Ac ar gyfer mesurau dŵr, sy'n golygu'n syml sgriwio awyrydd ar dap, llai nag ychydig funudau o waith, mae'r pris hyd at £124. A ydych chi hefyd yn ymwybodol bod eich Llywodraeth chi, yn y frwydr yn erbyn y newid yn yr hinsawdd, yn talu Arbed i newid bwyleri a all fod yn newydd sbon fwy neu lai, a'u bod yn gosod bwyleri sy'n arbed llai o ynni? A'r contractwyr eu hunain sy'n dweud hynny wrthyf i. Mae hyn oherwydd, ar ôl i ardal gael ei nodi ar gyfer cymorth Arbed, mae pob tŷ yn yr ardal yn gymwys i wneud cais, heb unrhyw ddiwydrwydd dyladwy, waeth beth fo'r amgylchiadau. Felly, byddwn i'n dweud bod eich diwydrwydd dyladwy ar Arbed yn gywilyddus. Mae pobl yng Nghymru mewn trafferthion, yn wynebu costau o bob cwr, ac eto mae eich Llywodraeth yn talu £240 i newid un o'r rhain—hyd at £240, a £124 am awyrydd. A ydych chi'n cydnabod y ffigurau hyn? Sut y gallwch chi eu cyfiawnhau? Ac a wnewch chi lansio ymchwiliad nawr? Mark Drakeford AC: Llywydd, craffwyd yn helaeth ar gontract Arbed ar lawr y Cynulliad hwn. Heriwyd dyfarniad y contract gan Aelodau'r Cynulliad hwn. Trefnwyd cyfarfodydd a lluniwyd adroddiadau er mwyn rhoi hyder i Aelodau'r Cynulliad bod y contract wediei ddyfarnu'n briodol, ac y byddai'n parhau i ychwanegu at y 54,000 o gartrefi yng Nghymru sydd, o ganlyniad i'r cynllun Arbed, yn ffynnu erbyn hyn o ganlyniad iddo, a bydd 6,000 yn fwy o gartrefi yng Nghymru yn elwa ar Arbed 3. Dyna'r darlun mawr yn y fan yma. Mae teuluoedd a oedd yn byw mewn tlodi tanwydd nad ydyn nhw'n byw mewn tlodi tanwydd heddiw. Roedden nhw'n bobl a oedd yn byw o dan amodau annerbyniol. Maen nhw bellach yn byw mewn cartrefi sydd wedi eu hinsiwleiddio'n dda ac wedi eu cynhesu'n dda. Rwyf i'n credu bod hwnnw'n fater i ymfalchïo ynddo. Rwyf i'n deall nad yw'r Aelod yn gwneud hynny.FootnoteLink Gwybodaeth ychwanegol at y Cyfarfod Llawn (Saesneg yn unig) Banc Cymunedol i Gymru Hefin David AC: 8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y byddai banc cymunedol i Gymru o fudd i gymunedau yng Nghaerffili? OAQ54232 Mark Drakeford AC: Llywydd, mae cau banciau yn parhau i gael effaith niweidiol ar fynediad at wasanaethau bancio i unigolion, cymunedau a busnesau bach a chanolig eu maint ledled Cymru. Efallai y bydd gan fanciau cymunedol swyddogaeth bwysig o ran rhanbarthu a lleoleiddio llifau ariannol, a pharhau'r ddarpariaeth o wasanaethau bancio mewn cymunedau fel Caerffili. Hefin David AC: Ddydd Mercher yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Lloyds Banking Group eu bod yn cau eu cangen ym Margoed yn fy etholaeth i. Yn flaenorol, mae HSBC wedi tynnu allan, mae NatWest wedi cau eu cangen yn Ystrad Mynach, ac mae Barclays wedi cau eu cangen yn Nelson. Rydym ni'n gweld y banciau masnachol yn cefnu ar ardal ogleddol y cymoedd. Dim ond ychydig wythnosau yn ôl, cynhaliwyd gennym, gyda Llywodraeth Cymru, ym Margoed, gymhorthfa cyngor a chymorth busnes i gymuned Bargoed, nid yn unig i ddangos yr hyn y gall Bargoed ei wneud ond hefyd i gynorthwyo'r busnesau hynny sydd eisiau tyfu. Felly, mae hyn yn gwneud penderfyniad Lloyd's hyd yn oed yn fwy llym ac eironig. Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wrthi'n archwilio'r union fater hwn ar hyn o bryd, a banc cymunedol yn arbennig. Felly, gyda hynny mewn golwg, a allai amlinellu pa fudd a gaiff banc cymunedol yn benodol ar gyfer cymuned fel Bargoed? Hefyd, sut y caiff y budd cymunedol hwnnw ei ledaenu ar draws yr etholaeth? I fod yn eglur hefyd: a yw hwn yn bolisi Llywodraeth Cymru, sef cefnogi banc cymunedol? Mark Drakeford AC: Llywydd, mae'n sicr yn bolisi gan Lywodraeth Cymru i gefnogi datblygiad banc cymunedol i Gymru. Mae'r rhai sydd wedi ei hyrwyddo yn eglur iawn bod yn rhaid iddo fod yn fanc cymunedol. Yn yr ystyr hwnnw, mae'n rhaid i berchnogaeth arno berthyn i'r cymunedau hynny lle'r ydym ni'n gobeithio y bydd canghennau banc newydd yn agor. Mae Hefin David yn hollol gywir bod bancio confensiynol yn cefnu ar gymunedau ledled y wlad—250 neu fwy o ganghennau banc wedi cau ers 2015. Bydd banc cymunedol o'r math yr ydym ni'n ei gynllunio—. A bydd Hefin David ac Aelodau eraill sydd wedi cymryd diddordeb yn y pwnc hwn eisiau gwybod y bu ymweliad ddoe gan ddirprwyaeth o Gymru, yn cynnwys cynrychiolydd o'm swyddfa i, i Bicester, lle ceir uned arddangos sy'n dangos sut y gall yr holl dechnolegau ac offer defnyddwyr sydd eu hangen i gefnogi'r syniad newydd o fanc cymunedol fod yno i bobl fynd i'w gweld ar waith. Daethan nhw yn ôl o'r ymweliad hwnnw gyda ffydd o'r newydd y byddai'n bosibl cynllunio banc cymunedol i Gymru a fydd yn canolbwyntio ar ddinasyddion Cymru a BBaChau, nid ar gwsmeriaid corfforaethol mawr, a bydd yn canolbwyntio ar ddarparu'r gwasanaethau cynilo a benthyca hynny y mae dinasyddion unigol a busnesau bach yn dibynnu arnynt. Diolch i'r Prif Weinidog. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd, Rebecca Evans, i wneud ei datganiad. Rebecca Evans AC: Diolch, Llywydd. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon. Yn ddiweddarach y prynhawn yma, bydd y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn gwneud datganiad am 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir'. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig. Mohammad Asghar (Oscar) AC: Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â beth arall y gellir ei wneud i helpu ein cyn-filwyr yn y lluoedd arfog, sy'n dioddef o anhwylder straen wedi trawma, i ddychwelyd i'r gwaith? Yr wythnos diwethaf, roedd yn dristwch mawr imi ddarllen am achos fy etholwr, Mr Anthony Lock o Gasnewydd. Mae Mr Lock yn gyn-filwr gyda'r Cymry Brenhinol a anafwyd mewn dau ffrwydrad yn Affganistan, ac a dioddefodd o PTSD. Cafodd Mr Lock glod am ei arweinyddiaeth ragorol a'i ddewrder ac eto i gyd mae'n parhau'n ddi-waith er gwaethaf cyflwyno cannoedd o geisiadau am swyddi. Mae'n credu ei fod yn destun gwahaniaethu oherwydd ei fod yn dioddef o PTSD. Ymhellach, rwyf hefyd yn pryderu yr ymddengys fel nad yw staff mewn canolfannau gwaith yn ymwybodol o gynllun pencampwyr y lluoedd arfog o ran helpu cyn-filwyr i gael gwaith. A gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch beth arall y gellir ei wneud i helpu Anthony Lock a'r holl gyn-filwyr sy'n eu cael eu hunain mewn sefyllfa debyg fel y gallwn ni ad-dalu'r ddyled sydd arnom iddynt am eu gwasanaeth i'n cenedl a'u dewrder mawr? Diolch. Rebecca Evans AC: Mae Mohammad Asghar yn codi mater pwysig iawn. Rydym yn ymwybodol fod ein milwyr, gwrywaidd a benywaidd, yn gadael y lluoedd arfog â myrdd o sgiliau—y sgiliau arwain, er enghraifft, y soniodd Mohammad Asghar amdanyn nhw, a fyddai'n gwbl amhrisiadwy yn y gweithle. Gwn fod y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros lywodraeth leol, sydd â rhywfaint o oruchwyliaeth dros bencampwyr y lluoedd arfog mewn llywodraeth leol, yn angerddol iawn am y maes hwn. Mae ganddo ddiddordeb mewn ystyried sut y mae angen i sgiliau milwrol a sgiliau sifil gyfateb yn well fel y gall yr unigolion sy'n gadael y lluoedd arfog ddefnyddio'r sgiliau a'r cymwysterau a enillwyd yno mewn bywyd sifil er mwyn hwyluso'r mynediad i'r gweithle. Ond os bydd rhagor o wybodaeth i'w rhannu â chi, byddaf yn sicrhau bod y Gweinidog yn gwneud hynny. Leanne Wood AC: Mae gennyf i ddau fater iechyd pwysig yr hoffwn i eu codi gyda chi y prynhawn yma. Y mis diwethaf, lleisiais fy mhryderon nad yw'r Llywodraeth eto wedi agor y clinig rhyw a addawyd ganddi. Roedd disgwyl y byddai hynny'n digwydd ym mis Ebrill eleni, yn dilyn y cytundeb cyllideb rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth Lafur, ac roeddwn i'n falch o weld y cyhoeddiad hirddisgwyliedig ddoe y bydd gwasanaeth rhyw Cymru yn dechrau gweld cleifion ym mis Medi. Bydd hwn yn gam mawr i sicrhau bod ein dinasyddion trawsrywiol yn cael cynnig gofal iechyd o safon uchel a allai, o bosibl, achub bywydau yng Nghymru. Fodd bynnag, codwyd pryderon eisoes gyda mi ynglŷn â hyfywedd y gwasanaeth hwn, gyda'r posibilrwydd y bydd y gwasanaeth yn defnyddio seiciatryddion heb eu hyfforddi fel clinigwyr rhyw i lenwi'r bwlch adnoddau. Gyda dim ond wythnos i fynd tan y toriad, a dim cyfle cyn mis Medi i graffu ar y Gweinidog iechyd o ran y gwasanaeth newydd, mae angen sicrwydd arnom ar frys gan y Gweinidog hwnnw y bydd y clinig yn agor gydag adnoddau digonol a chlinigwyr wedi'u hyfforddi'n briodol a all ddarparu'r gofal iechyd y mae ei angen ar ei gleifion. Felly, a wnaiff y Gweinidog iechyd gyflwyno datganiad ysgrifenedig neu lafar, neu a wnaiff ysgrifennu ataf i yn amlinellu sut y bydd y Llywodraeth yn sicrhau bod y pryderon hyn yn cael sylw? Rwyf hefyd am godi mater sensitif sydd wedi cael ei ddwyn i'm sylw dros y penwythnos, gan fenyw yn y Rhondda a gollodd faban 13 wythnos i mewn i'w beichiogrwydd ar ôl damwain car. Byddai dweud bod hyn wedi bod yn brofiad trallodus iawn iddi hi a'i theulu yn dipyn o danddatganiad. Daeth y fenyw hon ataf i gan ei bod wedi gorfod ymladd, yng nghanol galar dwys, am yr hawl i gymryd perchnogaeth o weddillion ei baban fel y gallai drefnu'r angladd. Ar ôl cyfres o gamgymeriadau o ran ei gofal, dywed hi fod llawer o bwysau wedi'i roi arni yn yr ysbyty iddyn nhw gymryd cyfrifoldeb am weddillion y baban. Dywedodd hefyd na chynigiwyd gwasanaeth cwnsela na chymorth profedigaeth iddi yn ystod ei chyfnod cyntaf yn yr ysbyty. Ni chafodd unrhyw daflenni hyd yn oed pan adawodd ysbyty'r Tywysog Siarl am adref. Mae hi wedi cael cynnig y gwasanaethau hyn wedi hynny, er y bydd yn rhaid iddi deithio i glinig Beresford yng Nghasnewydd i gael y gwasanaethau hynny, ac nid yw hynny'n hawdd. Hoffwn i i'r Llywodraeth hon amlinellu pa bolisi ac arweiniad a geir ar gyfer ymddiriedolaethau ysbytai er mwyn sicrhau y bydd rhieni, fel y fenyw sydd wedi dod ataf i, yn cael eu trin â thosturi ac urddas llawn ar adegau o drychineb fel hyn. Rebecca Evans AC: Diolch am godi'r ddau fater pwysig hyn. Yn amlwg, mae profiadau eich etholwraig yn peri gofid mawr, ac ni ddylai neb orfod gadael yr ysbyty mewn sefyllfa debyg, heb y fath o gefnogaeth gofleidiol y byddai ei hangen arnyn nhw ar adeg fel honno. Mae'r Gweinidog Iechyd wedi clywed eich sylwadau a byddai'n ddiolchgar petaech chi'n ysgrifennu ato gan roi rhagor o fanylion am yr achos penodol hwn er mwyn inni allu edrych ar hynny. Roedd yr ail fater a godwyd gennych yn ymwneud â'r clinig rhyw. Darparwyd datganiad ysgrifenedig ddoe gan y Gweinidog iechyd am y clinig rhyw, sydd i fod agor yn yr hydref, ond mae'r arbenigwr eisoes yn ei le ac yn gweithio yn y gymuned. Mae'r Gweinidog iechyd yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd cael y cydbwysedd cywir rhwng seicoleg gyffredinol a chefnogaeth arbenigol. Ond os gallafeich cyfeirio at ddatganiad ddoe, ac os oes materion pellach yn deillio o hynny, rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog yn hapus i ateb unrhyw un o'ch cwestiynau.FootnoteLink Gwybodaeth ychwanegol at y Cyfarfod Llawn (Saesneg yn unig) David Rees AC: Trefnydd, yr wythnos diwethaf, yn amlwg, rydym yn gwbl ymwybodol o'r amgylchiadau trasig ar y rheilffordd ym Margam yn fy etholaeth i a'r bywydau a gollwyd gan ddau unigolyn. Rwy'n gwerthfawrogi bod y Dirprwy Weinidog wedi gwneud datganiad ddydd Mercher diwethaf am hynny, ac rwy'n deall yn iawn fod yn rhaid i'r ymchwiliad ddigwydd, a byddwn ni'n aros am y canlyniadau hynny. Ond mae Network Rail wedi cysylltu â mi i ddweud y byddan nhw, yfory, yn cynnal munud o dawelwch am 10 y bore, er parch i'r ddau unigolyn a gollodd eu bywydau. Ac efallai y gallai Llywodraeth Cymru ymuno yn y funud o dawelwch honno yfory i nodi'r bywydau a gollwyd a'r digwyddiad, ac i sicrhau ein bod yn dysgu o hyn ac na fydd unrhyw un sy'n mynd i weithio ar reilffordd yn y bore yn gorfod colli ei fywyd dim ond oherwydd ei fod yn gwneud ei waith. A'r ail bwynt—y sector dur; cawsom gyflwyniad heddiw ar ddyfodol y sector dur, a gynhaliwyd gan John Griffiths. Ac, yn amlwg, mae marc cwestiwn dros y goblygiadau byd-eang ar ddur. Rydym hefyd wedi gweld y newid yn arweinyddiaeth Tata yn Tata Europe yn ddiweddar, ac rydym hefyd yn deall y newidiadau byd-eang mewn dur yn dda iawn. Felly, pan gawn ni Brif Weinidog newydd, p'un bynnag fydd e, bydd yn Brif Weinidog newydd, ac yn ôl pob tebyg bydd Ysgrifennydd Gwladol newydd. Felly, a gaf i ofyn i Lywodraeth Cymru am ddatganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth? A gobeithio y bydd ef wedi cwrdd â'r Ysgrifennydd Gwladol newydd dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn yr haf i siarad am ddyfodol y diwydiant dur. Mae dur yn hanfodol i economi Cymru. Mae'n bwysig yn fy etholaeth i, fel y gwyddoch chi'n iawn. Ac nid yw colli busnes Dur Prydain, neu ansicrwydd busnes Dur Prydain, yn helpu sector dur y DU wrth inni symud ymlaen. Mae Brexit yn enghraifft arall o bwy a ŵyr beth sy'n mynd i ddigwydd. Felly, gobeithiaf y bydd y Gweinidog yn cynnal trafodaethau yn ystod toriad yr haf—a byddaf i'n fwy na pharod i gael datganiad yn ystod toriad yr haf—i drafod sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod ein sector dur ni, ein diwydiant dur ni, yn parhau'n gryf ac yn gystadleuol yn y blynyddoedd sydd i ddod. Rebecca Evans AC: Diolch i David Rees am godi'r materion hynny. O ran y cyntaf, fe wyddoch ein bod wedi cael ein syfrdanu'n fawr gan y newyddion fod dau aelod o dîm Network Rail wedi colli eu bywydau mewn damwain drasig. Fel y dywed David, nid oes unrhyw un yn mynd i'r gwaith ac yn disgwyl colli ei fywyd yn y ffordd honno. Mae'n hynod drasig. Gwn fod ymchwiliadau'n mynd rhagddynt ar hyn o bryd, ond byddaf yn sicr yn siarad â'r Llywydd ynghylch sut y gallai Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad ymuno'n fwyaf priodol â distawrwydd y funud honno am 10 o'r gloch yfory. O ran dur, yn ddiau, fe fydd rhai Gweinidogion newydd yn Llywodraeth y DU pan fydd y Prif Weinidog newydd yn ei le. Ac yn sicr, mae'n fwriad gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod materion sy'n effeithio ar Gymru, a materion sydd o bwys i Gymru, yn uchel iawn ar yr agenda, a'u bod yn dod i sylw'r Gweinidogion sy'n dod i mewn i Lywodraeth y DU. Byddaf yn gwneud ynsiŵr fod Gweinidog yr Economi yn amlygu pwysigrwydd y diwydiant dur i ni, ac rwy'nsiŵr y byddai'n naturiol yn gwneud hynny. Janet Finch-Saunders AC: A gaf i ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, ar y toriadau enfawr mewn cyllid y mae eich Llywodraeth chi wedi'u gorfodi ar ein parciau cenedlaethol? Mae'r parc cenedlaethol hynaf yng Nghymru bellach dan fygythiad. Mae Eryri yn gartref i dros 26,000, gan ddenu 6 miliwn o bobl yn flynyddol i fwynhau ei golygfeydd godidog ac atyniadau o'r radd flaenaf. Mae ein tirwedd unigryw yn atyniad byd-eang, ac mae angen ei rheoli'n ofalus er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy. Fodd bynnag, oherwydd y toriadau ar gyllid flwyddyn ar ôl blwyddyn—roedd ganddyn nhw ymhell dros £5.5 miliwn—y gyllideb bresennol, maen nhw'n bwriadu torri cyllideb yr awdurdod i ddim ond £4.4 miliwn. Felly, mae hyn yn mynd i arwain, heb unrhyw amheuaeth, at beidio atgyweirio llwybrau ar yr Wyddfa; cau pob un o'r tair canolfan wybodaeth; y bws Sherpa yn dod i ben, sy'n creu cyswllt amhrisiadwy rhwng y chwe phrif lwybr sy'n mynd i fyny'r Wyddfa, yn ogystal â'r prif feysydd parcio, pentrefi ac atyniadau twristiaid; cau toiledau cyhoeddus; colli staff; a chwestiynau difrifol am gadernid ariannol yr awdurdod. Fel y dylai fod yn glir ichi eisoes, mae cynllun ariannol Llywodraeth Cymru yn un o'r bygythiadau mwyaf a welwyd gan Barc Cenedlaethol Eryri erioed, a bydd difrod yn cael ei wneud i dwristiaeth ac, yn wir, i'r iaith Gymraeg. A wnewch chi, neu'r Gweinidog perthnasol, ddatganiad am gyllido Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri? A wnewch chi ymrwymo i ymchwilio i'r effaith ddinistriol y mae'r toriadau hyn, flwyddyn ar ôl blwyddyn, yn ei chael? Ac a wnewch chi hefyd esbonio sut y bydd Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd yn helpu ein parciau cenedlaethol yn ariannol i gyflawni eu blaenoriaethau eu hunain? Diolch. Rebecca Evans AC: Rwy'n ymwybodol o'r pwysau sydd ar y parciau cenedlaethol, rwy'n ymwybodol o'r pwysau sydd ar addysg, rwy'n ymwybodol o'r pwysau sydd ar iechyd, rwy'n ymwybodol o'r pwysau sydd ar lywodraeth leol. Ac, os ydym ni eisiau siarad am doriadau enfawr, fe allwn ni, oherwydd, wrth gymharu, mae cyllideb Llywodraeth Cymru 5 y cant yn is mewn termau real yn 2019-20 nag yr oedd yn 2010-11. Mae hyn yn cyfateb i £800 miliwn yn llai i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus, fel y rhai y mae Janet Finch-Saunders yn pryderu amdanyn nhw. Mae ein cyllideb refeniw 7 y cant yn is y pen nag yn 2010-11, felly mae hynny'n £350 yn llai i'w wario ar wasanaethau rheng flaen i bob unigolyn yng Nghymru. Pe bai ein cyllideb ni wedi tyfu'n unol ag economi'r DU ers 2010, byddai gennym £4 biliwn yn fwy i'w fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus yn 2019-20 na'r hyn a oedd ar gael inni yn ein cyllideb ddiwethaf. Nawr, mae'n iawn i'r Aelod ochneidio, ond mae'r bai am hyn yn gorwedd yn gyfan gwbl wrth ddrws Llywodraeth y DU a'i hagenda cyni. Os nad yw'r Aelodau'n hoff o gyni yna mae angen iddyn nhw godi'r mater â'u plaid. Dai Lloyd AC: Trefnydd, fel y clywsom yn gynharach, byddwch chi'n ymwybodol o ddigwyddiadau diweddar sydd wedi arwain at ansicrwydd i ddatblygiad man gwyliau antur yng Nghwm Afan gan y Northern Powerhouse Developments. Bwriad y datblygiad £200 miliwn hwn, a gafodd ganiatâd cynllunio gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot yn gynharach eleni, oedd creu cannoedd o swyddi, a byddai'n amlwg yn arwain at hwb sylweddol i'r economi leol yng Ngorllewin De Cymru. Fodd bynnag, mae adroddiadau yn y cyfryngau ar faterion busnes Gavin Woodhouse, y datblygwr arweiniol, ac achosion cyfreithiol, fel y clywsom ni'n gynharach, wedi golygu bod yr Uchel Lys wedi penderfynu ddydd Iau y dylid rhoi tri o fusnesau Gavin Woodhouse, gan gynnwys Cwm Afan Limited, dros dro yn nwylo'r gweinyddwr. Rwy'n ymwybodol nad yw Llywodraeth Cymru, hyd yn hyn, wedi darparu unrhyw arian i ddatblygu'r man gwyliau, ond mae Gweinidog yr economi wedi cefnogi'r cysyniad yn gyhoeddus, ac yn wir eisoes wedi ymweld â'r safle i drafod y cynlluniau gyda Mr Woodhouse. Felly, o ystyried yr ansicrwydd sydd ynghylch y datblygiad yn dilyn digwyddiadau'r pythefnos diwethaf, a wnaiff Gweinidog yr economi wneud datganiad i'r Siambr o ran y camau y mae wedi'u cymryd yn ystod y pythefnos diwethaf, pa drafodaethau y mae ei swyddogion wedi bod yn eu cael â'r cwmni, â'r gweinyddwyr—Duff a Phelps—â Chyngor Castell-nedd Port Talbot ac eraill? A beth yw ei farn gyfredol o ran y gallu i gyflawni'r cynllun wrth symud ymlaen? Rebecca Evans AC: Mae swyddogion a Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o'r ymchwiliad ac rydym yn amlwg yn monitro'r sefyllfa'n ofalus iawn. Felly, ar hyn o bryd, ni fyddem mewn sefyllfa i nodi'r camau nesaf, oherwydd bod yr ymchwiliad yn parhau. Ond nid ydym wedi addo nac wedi darparu unrhyw arian i Gavin Woodhouse neu Northern Powerhouse Development ar gyfer datblygu man gwyliau arfaethedig Antur Cwm Afan, fel yr oedd Dai Lloyd yn sylweddoli. Ac roedd y cynnig a wnaed i gefnogi cynnig Neuadd Caer Rhun yn cynnwys sba, bwyty a chyfleusterau cynadledda, ac roedd hynny'n amodol ar gynllun busnes llawn a diwydrwydd dyladwy. Mae'n amlwg y bydd unrhyw arian a ryddheir gan Lywodraeth Cymru yn destun gwaith monitro parhaus, ond nid oes unrhyw gyllid wedi'i ryddhau ar gyfer y prosiect hyd yn hyn. A phe bai'r sefyllfa honno'n newid, byddaf yn gwneud yn siŵr bod y Gweinidog yn darparu'r wybodaeth honno ichi. Alun Davies AC: Gweinidog, hoffwn i ofyn am ddatganiad a dadl. A gaf i ofyn am ddatganiad ar wasanaethau bysiau? Mae pob un ohonom ni'n ymwybodol o'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud o ran ymgynghori ar ddeddfwriaeth, a fydd, gobeithio, yn arwain at ail-reoleiddio gwasanaethau bysiau maes o law, ond rydym ni hefyd yn ymwybodol iawn, wrth gwrs, y bydd hyn yn cymryd peth amser. Ac mae argyfwng gwirioneddol yn wynebu gwasanaethau bysiau, yn enwedig yn fy etholaeth i, ym Mlaenau Gwent, lle mae pobl yn dweud wrthyf na allant gyrraedd gwasanaethau allweddol mwyach, boed hynny ar gyfer yr optegydd neu apwyntiad ysbyty. Ni allant gyrraedd y siopau, ni allant gyrraedd cyfleoedd hyfforddi neu swyddi lleol, gan nad yw'r gwasanaethau bws sy'n eu galluogi i fyw eu bywydau yn bodoli. Felly, mae argyfwng gwirioneddol ar hyn o bryd yn wynebu'r gwasanaethau bysiau, ac ni chredaf y gallwn aros am ddeddfwriaeth. Credaf fod angen inni ddod o hyd i ymateb i'r argyfwng hwnnw ar unwaith. Felly, byddwn i'n gwerthfawrogi datganiad gan y Llywodraeth ynglŷn â sut y gall y Llywodraeth gefnogi pobl leol i gael mynediad at y gwasanaethau hyn a chefnogi'r gwasanaethau bysiau lleol. Yr ail ddadl yr hoffwn i ofyn amdani, Gweinidog, yw ynghylch dileu'r Swyddfa Gymreig. Rwy'n credu bod llawer ohonom wedi gweld, yn ystod y blynyddoedd, sut mae'r Swyddfa Gymreig wedi rhwystro gofynion dilys Llywodraeth Cymru. Ac rydym wedi darllen, y bore yma, fod y Gweinidog Chwaraeon yn cael anawsterau eithriadol i sicrhau bod Cymru yn cael ei chynrychioli ar Gyngor Chwaraeon y DU. Mae hyn yn annerbyniol, Gweinidog. Mae'n annerbyniol bod y Swyddfa Gymreig yn parhau i greu anawsterau yn y berthynas rhwng Gweinidogion Cymru a Gweinidogion y DU. Mae'n annerbyniol bod gennym ni Swyddfa Gymreig sy'n eistedd rywle yn Whitehall yn cyhoeddi gorchmynion sy'n atal llywodraethu da yn y Deyrnas Unedig rhag digwydd. A gobeithio ei bod yn bryd nawr inni allu trafod y mater hwn yn amser y Llywodraeth, pasio cynnig a dweud wrth Theresa May, pan fydd yn adolygu datganoli—sut mae'n gwneud hynny heb ddweud wrth lywodraethau datganoledig, wn i ddim, ond dywedwch wrthi'n glir iawn fod y broblem fwyaf sy'n wynebu datganoli yng Nghymru yn eistedd o amgylch ei bwrdd Cabinet hi ei hunan. Rebecca Evans AC: Diolch, Alun Davies, am godi'r materion hynny. O ran y gwasanaethau bws, mae'n amlwg ei fod yn faes sy'n flaenoriaeth bwysig i Lywodraeth Cymru. Rydym ni'n dod at ddiwedd tymor y Cynulliad hwn nawr, felly byddwn ni'n ystyried paratoi ein rhaglen o ddatganiadau a'n dadleuon ar gyfer y tymor nesaf, gan fynd â ni drwy dymor yr Hydref. Yn sicr byddaf yn gwneud ynsiŵr fod cyd-Aelodau yn ystyried y ddau gais penodol hynny i'w cynnwys o bosib mewn dadl neu ddatganiad yn y dyfodol. Suzy Davies AC: Trefnydd, gobeithio y gallwch chi fy helpu i â hyn. Ar ôl sawl mis—yn ystod y profiad Pinewood, os caf i ei roi felly—yn aros am atebion i gwestiynau ysgrifenedig y Cynulliad a heb gael dim, mae'n ddrwg gennyf ddweud fod y sefyllfa wedi codi eto. Ar 24 Mai, cyflwynodd fy swyddfa gwestiwn yn gofyn i'r Prif Weinidog am absenoldeb straen a gymerir gan staff Llywodraeth Cymru, ac ar 3 Mehefin cefais i ateb yn dweud mai materion i'r Ysgrifennydd Parhaol yw'r rhain ac y cawn ateb llawn maes o law. Yn amlwg, mae amser yn symud ymlaen, felly tybed a allech chi fanteisio ar y cyfle hwn i dawelu fy meddwl y byddaf i'n cael ymateb erbyn diwedd yr wythnos—mae'n fis Gorffennaf erbyn hyn—ar gyfer cwestiwn a ofynnwyd ym mis Mai? Ac a allem ystyried o leiaf rhywfaint o sicrwydd gan Lywodraeth Cymru na fyddant yn cymryd mwy o amser i ateb cwestiynau ysgrifenedig y Cynulliad na chwestiynau rhyddid gwybodaeth, neu fel arall byddwch yn cael llawer o geisiadau Rhyddid Gwybodaeth. Ac efallai y gallech chi ein sicrhau hefyd nad y rheswm dros yr oedi yn yr achos hwn yw bod un o swyddogion Llywodraeth Cymru yn absennol oherwydd straen? Diolch. Rebecca Evans AC: Diolch. Yn sicr, byddaf yn cymryd y cyfrifoldeb yn bersonol i sicrhau eich bod yn cael ateb i'ch cwestiwn ynghylch absenoldeb straen. Yn amlwg, mae Llywodraeth Cymru yn ymdrechu i ymateb i gwestiynau ysgrifenedig mor gyflym ag y gallwn ni, ond yn aml mae lefel y manylder sydd ei angen yn rhai o'r ceisiadau hynny yn eithaf dwys. Ond, os oes gan yr Aelodau broblem fel yr un a ddisgrifiwyd gennych chi am ddiffygymateb prydlon, rwyf i bob amser yn hapus i geisio symud pethau yn eu blaen. Siân Gwenllian AC: Mae'r Llywodraeth yn Llundain ar fin cyhoeddi y bydd ysgolion Lloegr yn cael £3 biliwn yn ychwanegol. Felly, gawn ni ddatganiad, os gwelwch yn dda, yn egluro pa drafodaethau mae eich Llywodraeth chi a'r Gweinidog Addysg wedi bod yn eu cael efo'r Trysorlys yn Llundain ynglŷn â hyn—hynny yw, o safbwynt y Barnett consequential, wrth gwrs? Os ydy ysgolion Lloegr yn mynd i gael mwy o arian, yn sicr, mae angen mwy o arian ar ysgolion yng Nghymru, ac maen nhw angen gwybod hynny hefyd, cyn gynted â phosibl, er mwyn cynllunio ymlaen. Felly, gawn ni wybodaeth ar ryw ffurf—datganiad, llythyr, beth bynnag ydy o—yn dangos pa drafodaethau sydd wedi bod yn digwydd ar hyn, a beth yn union fydd y sefyllfa unwaith y daw'r cyhoeddiad o'r Trysorlys? Rebecca Evans AC: Nid ydym yn gwybod eto am fanylion unrhyw gyhoeddiad nac yn ffyddiog y bydd y cyhoeddiad yn dod. Ond pan ddaw hynny, byddwn ni'n awyddus iawn i sicrhau bod unrhyw gyllid ychwanegol yn cael ei roi ar waith yn y ffordd briodol, drwy fformiwla Barnett, drwy'r datganiad o bolisi ariannu, yr ydym ni wedi cytuno arno gyda Llywodraeth y DU. Bydd Siân Gwenllian yn ymwybodol, er enghraifft, o'r datganiad a roddais i'r wythnos diwethaf, a oedd yn dangos bod Llywodraeth y DU, er ei bod wedi gwneud penderfyniad ar bensiynau'r sector cyhoeddus, wedi methu ag ariannu Llywodraeth Cymru gyda'r swm llawn o arian yr oedd hynny am ei gostio i ni, gan ein gadael ni â thwll o £36 miliwn yr oedd yn rhaid i ni ei lenwi. Ac fe wnaethom ni hynny drwy ddargyfeirio arian oddi wrth bethau eraill y byddem ni'n dymuno gwario'r arian arnyn nhw. Felly, yn sicr, os oes arian ychwanegol ar gyfer addysg, mae angen sicrhau y bydd pob ceiniog sy'n ddyledus inni yn dod i Gymru, ac fe fyddwn ni'n gallu ystyried ein hymateb i hynny wedyn, o ran sut yr ydym ni am ddyrannu'r cyllid hwnnw. Ni all hon fod yn enghraifft arall o adran y DU yn llwyddo i ddod o hyd i arian ychwanegol yng nghrombil y soffa adrannol; mae angen dangos yn eglur ac yn dryloyw o ble mae'r arian yn dod, ac mae angen i Lywodraeth Cymru gael ei chyfran deg. Ond pan fydd gennyf i ragor o wybodaeth, fe fyddaf, wrth gwrs, yn cynnwys y manylion yn y ffordd arferol, o ran proses y gyllideb. Jenny Rathbone AC: Fe ddaeth cryn dipyn i'r cyfarfod gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn yr Oriel y prynhawn yma, ac fe roddodd y cadeirydd, Heather Hancock, fraslun o rai o'r mesurau y mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn eu cymryd i ddiogelu defnyddwyr a sicrhau diogelwch bwyd yng ngoleuni bygythiad Brexit 'dim cytundeb'. Tybed a fyddai modd inni gael datganiad gan y Gweinidog iechyd ar y ddeddfwriaeth bosibl a allai fod yn angenrheidiol, pe byddem ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd, ynglŷn â sut y gallwn wneud yn siŵr y gellir sicrhau hyder y defnyddwyr, diogelwch bwyd ac, yn wir, sicrwydd bod bwyd ar gael, o ganlyniad i'r bygythiad dirfodol posibl hwn i'n lles ni. Rebecca Evans AC: Diolch i chi, Jenny Rathbone. Mae'r Gweinidog iechyd yn dweud wrthyf fod llawer iawn o ddeddfwriaeth wedi cael ei gyflawni eisoes i sicrhau bod ein cyfraith ni'n gweithredu'n iawn ar ddydd Brexit, pe byddai hwnnw'n Brexit 'dim cytundeb'. Gwn fod yr Asiantaeth Safonau Bwyd wedi gwneud llawer o waith i'n paratoi ni ar gyfer Brexit 'dim cytundeb' posibl a hefyd i fapio'r heriau sy'n ein hwynebu ni, ond mae'r Gweinidog iechyd wedi dweud y byddai ef yn hapus i roi datganiad pellach yn yr hydref. Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair. Andrew RT Davies AC: Trefnydd, a gaf i ofyn am rywfaint o sicrwydd gennych chi? Rydych chi wedi pwysleisio beth fydd y gwaith cynllunio ar gyfer tymor nesaf y Cynulliad o ran datganiadau'r Llywodraeth a busnes y Llywodraeth. Cyflwynodd y Gweinidog dros faterion gwledig ymgynghoriad, a ddaeth i ben ym mis Mai, ynghylch gwerthu cŵn bach ac anifeiliaid dof gan drydydd person. Byddwn i'n ddiolchgar i gael deall sut wnaiff y Llywodraeth ymateb i'r ymgynghoriad hwnnw nawr, yr amserlen y bydd yn gweithio iddi, ac a fydd hynny drwy ryw fath o ddatganiad yn y Siambr, neu a fydd rhyw fath o ymateb ffurfiol yn cael ei roi ar wefan y Llywodraeth? Rwy'n gofyn y cwestiwn gan fod grŵp trawsbleidiol ar anifeiliaid anwes wedi cael ei lansio'r wythnos diwethaf, a chodwyd hyn gan lawer o'r cyfranogwyr er mwyn deall yn union sut y caiff y darn pwysig hwn o waith ei ddatblygu, o gofio, wrth gwrs, fod hyn wedi mynd trwy Senedd y DU ac ar y llyfr statud yn Senedd y DU. Rebecca Evans AC: Diolch. Mae yna lawer iawn o ddiddordeb yn yr agenda arbennig hon, ac rwy'n gwybod y bydd Gweinidog yr amgylchedd yn gallu dweud rhagor am hyn cyn diwedd y tymor, drwy ddatganiad ysgrifenedig yr wythnos nesaf, rwy'n credu. Diolch yn fawr iawn, Trefnydd. 3. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) Eitem 3 ar yr agenda yw datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru). Rwy'n galw ar y Gweinidog i wneud y datganiad—Lesley Griffiths. Lesley Griffiths AC: Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser gennyf gyflwyno'r Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) i'w ystyried gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae syrcasau teithiol wedi bod yn mynd o amgylch y Deyrnas Unedig ers dros ddwy ganrif. Mae nifer y syrcasau sy'n defnyddio anifeiliaid gwyllt, a nifer yr anifeiliaid gwyllt yn y syrcasau hynny, wedi lleihau'n ddirfawr dros y blynyddoedd diwethaf. Lesley Griffiths AC: Mae cymdeithas wedi newid ac nid yw'r galw yno mwyach. Mae anifeiliaid yn greaduriaid ymdeimladol ac nid yw'r rhan fwyaf ohonom ni'n credu erbyn hyn ei bod hi'n dderbyniol defnyddio anifeiliaid gwyllt yn y fath fodd. Bellach, nid oes ond dwy syrcas yn unig yn teithio'r DU gydag anifeiliaid gwyllt. Mae'r anifeiliaid gwyllt a gedwir yn cynnwys camelod, sebras a cheirw Llychlyn. Yn Lloegr y mae'r ddwy syrcas wedi eu lleoli ond maen nhw'n ymweld â Chymru yn rheolaidd. Bob tro y byddan nhw'n dod yma, ceir galwadau o'r newydd i wahardd yr arfer. Y llynedd, fe wnes i ymgynghori ar Fil drafft a oedd â'r amcan o fynd i'r afael â phryderon moesegol drwy wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol. Cafodd yr ymgynghoriad dros 6,500 o ymatebion gyda mwyafrif llethol yr ymatebwyr o blaid cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon. Diben deublyg sydd i'r Bil byr, pwysig hwn. Yn gyntaf oll, bydd yn gwahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol yng Nghymru, sy'n arfer o'r oes a fu nad oes lle iddo yn y gymdeithas gyfoes. Yn ail, bydd yn gwneud rhai newidiadau pwysig i'r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â thrwyddedu syrcasau. Mae'r Bil yn ei gwneud hi'n drosedd i weithredydd syrcas deithiol ddefnyddio anifail gwyllt, neu beri neu ganiatáu i rywun arall ei ddefnyddio, mewn syrcas deithiol. Bydd anifail gwyllt yn cael ei 'ddefnyddio' os yw'r anifail yn perfformio neu'n cael ei arddangos. Mae'r diffiniad hwn yn cynnwys, er enghraifft, rhoi anifail gwyllt yn fwriadol mewn sefyllfa sydd mewn unrhyw ffordd wedi ei bwriadu i hyrwyddo syrcas deithiol. Os canfyddir bod gweithredydd yn euog o drosedd, gall y llys bennu dirwy ddigyfyngiad. Yn y Bil, ystyr 'anifail gwyllt' yw anifail o rywogaeth nad oes neb fel arfer yn ei ddofi yn Ynysoedd Prydain. Mae'r diffiniad yn debyg i'r dehongliad o 'anifail gwyllt' yn Neddf TrwyddeduSŵau 1981. Mae hyn yn osgoi sefyllfa lle gellid ystyried un rhywogaeth yn 'wyllt' mewn sw ond yn 'ddof' pan gaiff ei chadw mewn syrcas. Mae i 'anifail' yr ystyr a roddir iddo gan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 ac mae'n berthnasol yn unig i anifeiliaid fertebraidd. Mae 'syrcas deithiol' yn golygu syrcas sy'n teithio o un lle i'r llall er mwyn rhoi adloniant yn y lleoedd hynny, er y bydd cyfnodau pan na fydd yn teithio o un lle i'r llall. O dan amgylchiadau arferol, fe ddylai'r diffiniadau hyn fod yn ddigonol ac maen nhw'n gydnaws â deddfwriaeth sefydledig arall ac ystyr y termau hyn yn ôl yr hyn sy'n cael ei ddeall yn gyffredinol. Eto i gyd, mae'n bosibl y bydd ansicrwydd neu safbwyntiau sy'n gwrthdaro pan ystyrir a yw math o anifail yn wyllt ai peidio, neu a yw'r math o sefydliad, perfformiad neu adloniant yn cael ei ystyried yn syrcas deithiol neu beidio. Mewn sefyllfaoedd o'r fath, os byddant yn codi, mae'r Bil yn cynnwys pwerau i wneud rheoliadau i bennu'r hyn a ystyrir yn anifail gwyllt neu beidio a'r hyn a ystyriryn syrcas deithiol neu beidio. Mae'r pwerau hyn i lunio is-ddeddfwriaeth yn ddewisol ac nid oes unrhyw gynlluniau i'w defnyddio nhw ar hyn o bryd. Er mai diben y Mesur yw gwahardd anifeiliaid gwyllt rhag cael eu defnyddio mewn syrcasau teithiol, efallai y bydd syrcasau'n dal i gadw anifeiliaid gwyllt ar yr amod nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio mewn perfformiadau neu'n cael eu harddangos fel rhan o'r syrcas deithiol. Mae'r Bil yn gwneud newidiadau i'r gyfundrefn drwyddedu ar gyfer syrcasau drwy ddileu'r eithriadau sydd gan syrcasau ar hyn o bryd ynglŷn â gofynion Deddf Trwyddedu Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976 a Deddf Trwyddedu Sŵau 1981. Bydd angen trwydded ar unrhyw syrcas, boed yn syrcas deithiol neu beidio, sy'n cadw anifeiliaid gwyllt peryglus ond heb eu defnyddio nhw, o dan ddeddf 1976, oni bai fod hynny wedi digwydd fel arall yn unol â darpariaethau Deddf 1981. Fe nodir y pwerau gorfodi yn yr Atodlen. Bydd y Bil, pe daw yn gyfraith, yn cael ei orfodi gan arolygwyr yr awdurdodau lleol. Rwy'n disgwyl mai prin fydd yr achosion o dorri'r darpariaethau yn y Bil, un ai drwy dorri'r gwaharddiad neu drwy rwystro arolygwr yn fwriadol wrth iddo gyflawni ei ddyletswydd. Bydd unrhyw drosedd yn gymharol hawdd ei chanfod, ac rwy'n disgwyl i syrcasau teithiol gydymffurfio â darpariaethau'r ddeddfwriaeth. Rwyf wedi esbonio diben y Bil, ac mae'n bwysig fy mod i hefyd yn eglur ynghylch yr hyn na fydd y Bil yn ei wneud. Ni fydd y Bil yn effeithio ar y defnydd o anifeiliaid dof mewn syrcasau teithiol, ac ni fydd yn atal anifeiliaid gwyllt rhag cael eu defnyddio ar gyfer adloniant mewn lleoliadau eraill chwaith. Er hynny, mae lles yr anifeiliaid hyn yn bwysig iawn i mi, a dyna pam y cyhoeddais yn ddiweddar fy mwriad i ymgynghori ar gynllun trwyddedu ar gyfer pob arddangosfa o anifeiliaid. Bydd y cynllun yn gyfle i osod safonau lles priodol a sicrhau bod anifeiliaid yn cael eu harddangos mewn ffordd barchus a chyfrifol. Rwy'n disgwyl lansio'r ymgynghoriad cyhoeddus cyn diwedd toriad yr haf. Nid yw mwyafrif y syrcasau teithiol yn defnyddio unrhyw anifeiliaid. Mae'r lleihad yn nifer yr anifeiliaid gwyllt sy'n cael eu cadw yn arwydd clir nad oes yna'r un awydd ag a fu ymhlith y cyhoedd am y math hwn o adloniant. Ni ellir cyfiawnhau cadw anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol ar gyfer adloniant yn unig. Ni fydd yr anifeiliaid hynny'n debygol o gael bywyd o ansawdd da, ond hefyd nid yw'n cyfrannu fawr ddim ychwaith at ein dealltwriaeth ni o anifeiliaid gwyllt na'u cadwraeth. Fe wnaeth Llywodraeth yr Alban wahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol yn 2018, ac fe gyflwynodd Llywodraeth y DU Fil yn ddiweddar i wneud yr un peth yn Lloegr. Mae'r Bil hwnnw wedi gwneud ei ffordd drwy Dŷ'r cyffredin a bydd yn symud yn gyflym drwy Dŷ'r Arglwyddi. Os nad oes gwaharddiad cyfatebol yng Nghymru, Cymru fyddai'r unig wlad ym Mhrydain Fawr lle gallai syrcasau teithiol barhau i ddefnyddio anifeiliaid gwyllt. Ni fyddai hyn yn dderbyniol. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag Aelodau a phwyllgorau'r Cynulliad i sicrhau bod y Bil yn cael ei basio ar y llyfr statud. Diolch. Mae yna nifer o siaradwyr yn y datganiad, ac rwy'n erfyn ar bawb i roi ychydig o ystyriaeth i hynny, a'r gobaith yw y caiff pawb gyfle i siarad. Andrew R.T. Davies. Andrew RT Davies AC: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Diolch i chi, Gweinidog, am gyflwyno'r darn pwysig hwn o ddeddfwriaeth, er mai darn bychan o ddeddfwriaeth ydyw o ystyried rhai o'r Deddfau y mae'r Llywodraeth a'r meincwyr cefn wedi eu cyflwyno cyn hyn. Ond mae'n un pwysig iawn. Fel y nodwch yn eich datganiad, mae'r 6,500 sydd wedi ymateb i'r ymgynghoriad am dystiolaeth yn dangos bod i hyn ran bwysig ym mlaenoriaethau llawer, ac rydym yn eich cefnogi chi'n llwyr yn yr ymdrechion y mae'r Llywodraeth yn ceisio eu cyflawni gyda'r darn hwn o ddeddfwriaeth, gan ei fod yn rhan o'n maniffesto ni yn ôl yn 2016. Dim ond un neu ddau o gwestiynau, os caf i. Rwyf ychydig yn bryderus am yr agwedd is-ddeddfwriaethol yr ydych chi'n tynnu sylw ati yn eich datganiad, a'r gallu i gael hynny fel pŵer dewisol. Rwy'n sylweddoli nad ydych chi, fel Gweinidog, yn rhagweld defnyddio'r pwerau hyn ar hyn o bryd. Ond, o ran diffiniad a dehongliadau eraill, ceir ystod eang o senarios y gallech chi feddwl amdanyn nhw lle gallai Gweinidog yn y dyfodol mewn amgylchedd arall ddewis ehangu cwmpas y Bil hwn o'r hyn yr ydych chi'n bwriadu ei gyflawni gyda'r Bil hwn fel Gweinidog ar hyn o bryd. Fel yr oeddech chi'n dweud, dim ond dwy syrcas sy'n teithio gydag anifeiliaid gwyllt ar hyn o bryd, ac rwy'n credu y byddai'r rhan fwyaf ohonom ni yn y Siambr hon, os nad pob un ohonom ni yn y Siambr hon, yn gallu deall hynny'n burion. Ond a wnewch chi egluro inni pam rydych chi o'r farn ei bod hi'n bwysig cynnwys y ddarpariaeth honno yn y Bil, oherwydd byddai'n well o lawer gennyf i weld cyfeirio'n ôl i'r Cynulliad, a'r Cyfarfod Llawn yn benodol, pe byddai newid o'r fath, yn arbennig o ran cwmpas y Bil, a phe byddai'r dehongliad ohono'n cael ei ystyried gan Weinidog yn y dyfodol? Rydych chi yn llygad eich lle pan ddywedwch y bydd Cymru, yn amlwg, yn ymuno â gweddill y Deyrnas Unedig yn y ffordd y maen nhw wedi deddfu yn y maes arbennig hwn—yr Alban, a Senedd y DU nawr, a'r Cynulliad. A wnewch chi roi syniad inni a yw hyn o fewn cwmpas y Biliau eraill a basiwyd yn seneddau erailly Deyrnas Unedig, neu a oes meysydd yr ydych chi wedi edrych arnyn nhw na chawsant eu cynnwys yn y Bil yng Nghymru neu, yn wir, lle'r ydych wedi cynyddu cwmpas y Bil yng Nghymru i gwmpasu llawer mwy na'r hyn yr edrychodd yr Alban arno o bosibl, neu'r hyn yr edrychodd Senedd y DU arno hefyd? Y cynllun trwyddedu yr oeddech chi'n sôn amdano yn eich datganiad ynglŷn ag anifeiliaid anwes—neu anifeiliaid dof, fe ddylwn i ddweud, mae'n ddrwg gen i—yr ydych chi'n bwriadu ei gyflwyno yn y dyfodol, a wnewch chi roi argoel inni o'r hyn yr ydych chi'n gobeithio ei gael yn sgil yr ymgynghoriad hwnnw, a'r meysydd y credwch fod angen eu cynnwys yn yr ymarfer penodol hwnnw na ellir ymdrin â nhw yn rhai o'r agweddau sydd gennych yn y ddeddfwriaeth ar hyn o bryd? Oherwydd mae hwnnw'n ddarn sylweddol iawn o waith, fe fyddwn i'nawgrymu, gan dreiddio i feysydd o bob math. Ac i gloi, byddwn i'n ddiolchgar pe byddech yn cadarnhau mai ymwneud â syrcasau teithiol ac anifeiliaid gwyllt y mae hyn, ac nad yw'n fwriad o gwbl gan y Llywodraeth i gynyddu cwmpas y Bil y tu hwnt i'r hyn yr ydych wedi ei ddweud heddiw. Oherwydd rwy'n sylweddoli, o safbwynt rhai, yn wir, fe ddylai'r darn hwn o ddeddfwriaeth gynnwys arddangos unrhyw fath o anifail, boed hwnnw'n anifail fferm neu'n anifail dof. Ond, yn ôl yr hyn a ddeallaf, ac yn sicr o'r sgyrsiau sydd wedi arwain at y Bil hwn heddiw, mae o fewn awdurdod y Llywodraeth yn gyfan gwbl i gwmpasu'r syrcasau teithiol ar hyn o bryd a'r anifeiliaid gwyllt sy'n perfformio, ac mae'r diffiniad o anifeiliaid gwyllt hefyd, yn ôl a ddeallaf, i'w ddeall yn gwbl glir. Diolch. Lesley Griffiths AC: Diolch i chi, Andrew R.T. Davies, am y sylwadau a'r cwestiynau hynny, ac rwy'n ddiolchgar am eich cefnogaeth chi a'ch plaid i'r Bil. Rwyf am fod yn glir iawn wrth ateb eich cwestiwn olaf: amcan y Bil hwn yw atal anifeiliaid gwyllt rhag cael eu defnyddio mewn syrcasau teithiol ar sail foesegol. Dyna yn bendant yw diben ac amcan y Bil. Roeddech chi'n holi am reoliadau, ac mae'n debyg bod hynny i ryw raddau yn cysylltu â'ch ail gwestiwn ynglŷn â'r Bil yn yr Alban a'r Bil sy'n mynd drwy Senedd y DU ar hyn o bryd. Mae ein Bil ni'n debyg iawn i'r Bil yn yr Alban. Un gwahaniaeth mawr yw'r ffaith fod gennym ni'r gallu i gyflwyno is-ddeddfwriaeth a rheoliadau. Un o'r rhesymau pam roeddwn i'n credu ei bod hi'n bwysig cael hynny yn y Bil oedd, er enghraifft, oherwydd gofynnwyd i mi, 'Pam na chawn ni restr o anifeiliaid gwyllt ar wyneb y Bil?' Fe fyddai honno'n rhestr faith iawn, iawn. Os edrychwch chi ar yr anifeiliaid gwyllt sy'n cael eu defnyddio yn y ddwy syrcas ar hyn o bryd, nid wyf i'n credu bod angen rhestr, ond rwyf i yn credu, gyda threigl amser, y gallai fod angen rhestru anifeiliaid eraill—anifeiliaid gwyllt eraill—ac felly fe ddylem ni gael y rheoliadau hynny ar waith. Felly, mae hwnnw'n wahaniaeth mawr rhyngom ni a Bil Llywodraeth y DU. Mae'r gallu hwnnw gan yr Alban. Roeddech chi'n gofyn am drwyddedu arddangosfeydd o anifeiliaid ac, fel y dywedais yn fy natganiad gwreiddiol, y llynedd fe es i ati i ymgynghori ar drwyddedu arddangosfeydd o anifeiliaid, a chysylltwyd hynny â'r broblem ynghylch gwahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol. Rwy'n awyddus i sicrhau ein bod ni'n llenwi'r bylchau i gyd a all fodoli o ran darnau eraill o ddeddfwriaeth. Felly, fel y dywedais i, ni fydd y Bil, er enghraifft, yn effeithio ar y defnydd o anifeiliaid dof mewn syrcasau teithiol, ac nid yw'n atal anifeiliaid gwyllt rhag cael eu defnyddio ychwaith ar gyfer adloniant mewn lleoliadau eraill, er enghraifft. Felly, mae lles yr anifeiliaid hyn yn bwysig iawn a dyna pam yr wyf wedi cyhoeddi fy mwriad i gyflwyno'r cynllun trwyddedu ar gyfer yr holl arddangosfeydd o anifeiliaid sy'n bodloni'r meini prawf penodol o dan y gyfraith. Byddaf yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus pellach cyn diwedd toriad yr haf. Yn sicr, mae nifer yr ymatebion a gawsom ni i'r ymgynghoriad gwreiddiol y llynedd, o'r lle y tarddodd y Bil hwn, yn dangos y teimlad sydd gan bobl o ran lles anifeiliaid yng Nghymru, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod y cynllun hwn gennym wrth symud ymlaen. Nid yw hyn yn cael ei wneud ar wahân; mae'n cael ei wneud ar y cyd â rhanddeiliaid ac asiantaethau gorfodi eraill ac wrth gydweithio â'm cymheiriaid yn Lloegr ac yn yr Alban. Bydd dull cyflawni'r cynllun yn cael effaith barhaol ar les anifeiliaid sy'n cael eu defnyddio mewn arddangosfeydd, ac roeddech chi'n sôn am rai enghreifftiau. Mae'n debyg nad ydym ni'n gwybod am nifer sylweddol o anifeiliaid sy'n mynd o amgylch ysgolion, er enghraifft, ac rydym ni'n eu gweld nhw mewn sioeau amaethyddol ac mewn lleoliadau eraill yn aml. Felly, credaf ei bod yn bwysig iawn inni gael y cynllun hwn. Ond rwy'n credu hefyd bod hyn yn bwysig o ran ein hagwedd barhaus ni a chenedlaethau'r dyfodol tuag at les anifeiliaid. Llyr Gruffydd AC: Gaf i ddiolch i’r Gweinidog am ei datganiad? Dwi’n croesawu’r datganiad—a dyw hwnna ddim yn rhywbeth dwi wedi bod yn ei ddweud yn aml iawn yn y misoedd diwethaf—ond mi oedd deddfwriaeth o’r fath, wrth gwrs, yn ymrwymiad ym maniffesto Plaid Cymru hefyd yn 2016, felly rŷm ni’n sicr yn cefnogi’r egwyddor i ddeddfu yn y maes yma. Mae e’n siomedig, neu mae’n rhwystredig efallai, ei bod hi wedi cymryd gymaint o amser i ni gyrraedd y pwynt yma lle mae’r Bil yn cael ei osod yr wythnos yma. Dwi’n gwybod fe gollon ni amser yn aros i Lywodraeth y Deyrnas Unedig weithredu yn y maes yma ac efallai bod yna wers i ni yn fanna hefyd: os ydym ni wir yn teimlo bod angen gweithredu mewn maes penodol, yna mae angen i ni edrych i wneud hynny ein hunain, fuaswn i’n dweud, yn y dyfodol. Gaf i ofyn—? Rŷch chi’n cyfeirio, o beth welaf i, at weithredu’r Ddeddf yma o 1 Rhagfyr 2020 ymlaen. Hynny yw, mae hynny’n golygu bod yna bosibilrwydd y bydd yna haf arall, felly, flwyddyn nesaf, o syrcasys teithiol ac anifeiliaid gwyllt yn ymweld â Chymru. Ple sydd gen i i’r Gweinidog i weld os oes unrhyw bosibilrwydd y gellid cyflymu’r broses honno, oherwydd byddwn i wrth fy modd yn gweld y ddeddfwriaeth yma yn cael ei phasio cyn hynny, fel ein bod ni’n gallu bod mewn sefyllfa lle’r haf yma yw’r haf olaf lle rŷm ni’n gweld y syrcasys yma yn teithio ac yn ymweld â Chymru. Dwi wedi cyfeirio at y ffaith, mewn egwyddor, ein bod ni’n gefnogol o’r hyn mae’r Llywodraeth yn ei wneud. Mae’n bosib, fel rŷm ni eisoes wedi clywed, efallai y bydd yna drafodaeth angenrheidiol o gwmpas y diffiniadau o wahanol dermau yn y ddeddfwriaeth a hefyd, efallai, pwerau, neu i ba raddau y mae pwerau’n cael eu rhoi i Weinidogion i ddehongli ac i amlinellu. Rheini, dwi'n weddol ymlaciedig ynglŷn â hynny ar hyn o bryd ond dwi yn tybio efallai mai yn fanna y bydd tipyn o'r drafodaeth yn digwydd. Llyr Gruffydd AC: Fe wnaethoch chi sôn am fylchau'n gynharach, ac un bwlch amlwg sydd wedi dod i'r amlwg yw y gallai syrcasau teithiol gael eu hailfrandio yn rhyw fath o arddangosfa anifeiliaid symudol. Rwy'n siŵr eich bod chi'n ymwybodol o hynny ac fe hoffwn i glywed eich bod chi am ymdrin â'r materion hynny drwy eich cynllun trwyddedu arfaethedig. Y peth arall yr hoffwn ei wybod, wrth gwrs, yw pryd yr ydych chi'n rhagweld y bydd y cynllun trwyddedu yn cael ei weithredu. Nid wyf i'n galw'n unig am weithredu'r ddeddfwriaeth hon yn gyflymach, ond hoffwn i sicrhau hefyd fod y cynllun trwyddedu yn cael ei gyflwyno cyn gynted â phosib. Rydych chi eisoes wedi cyffwrdd â hyn, mewn gwirionedd. Hynny yw, mae galwadau wedi bod, wrth gwrs, i wahardd gorfodi unrhyw anifail i berfformio, ac yn sicr nid wyf wedi cael fy narbwyllo ynglŷn â hynny. Ond rydych chi'n dweud yn eich datganiad bod anifeiliaid yn greaduriaid ymdeimladol. Felly, hoffwn i wybod pam rydych chi'n gwahaniaethu rhwng anifeiliaid gwyllt ac anifeiliaid eraill ac a yw'r ddeddfwriaeth hon yn gyfle, efallai, i ehangu'r cynnig hwnnw. Ac, yn olaf, wrth gwrs, rydych yn nodi, rwy'n credu mai yn y memorandwm esboniadol a gyhoeddwyd gyda'r Mesur yr oedd hynny, fod bron dwy ran o dair o'r ymatebion i ymgynghoriad blaenorol drwy ymgyrch ar-lein. Rwyf i wedi codi hyn mewn cyd-destunau eraill o'r blaen a hoffwn ofyn i chi a fyddech chi'n fodlon cyhoeddi faint—nid gwybodaeth am ymatebion unigol, ond pa ganran o'r holl ymatebion i'r ymgynghoriad blaenorol a ddaeth mewn gwirionedd o Gymru oherwydd credaf fod honno'n ystyriaeth bwysig i ni wrth ymdrin â'n holl ymgynghoriadau. Ac er y bydd rhesymau dilys iawn, mewn rhai amgylchiadau, dros ystyried ymatebion i ymgynghoriadau o wledydd eraill, hoffwn i ddeall faint o bwys yn y cyd-destun penodol hwn y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i'r ymatebion hynny o'r tu allan i Gymru. Ac, yn fy marn i, fel mater o arfer a threfn, rwy'n credu y dylai Llywodraeth Cymru fod yn sicrhau bod yr ystadegau hyn ar gael. Ni ddylai hon fod yn dasg feichus oherwydd rwy'n cymryd bod cronfa ddata yn rhywle gan eich bod chi'n cyfathrebu â'r rhai sydd wedi cyflwyno ymatebion i ymgynghoriadau. Felly, ni ddylai honno fod yn dasg rhy feichus. Lesley Griffiths AC: Diolch, Llŷr, am eich cefnogaeth chi i'r Bil, ac roeddwn i'n sicr yn croesawu'r sgwrs a gefais i gyda chi ac Andrew R.T. Davies cyn y datganiad hwn heddiw. O ran eich cwestiynau ynglŷn â'r amser y bydd hi'n ei gymryd i'r Bil ddod i rym, rwyf i'n rhagweld, gyda chefnogaeth, y bydd y Bil yn mynd rhagddo i gam lle y gallem ni gael Cydsyniad Brenhinol ym mis Mai. Fel y dywedais, bydd y Bil yn dod i rym ar 1 Rhagfyr 2020. Erbyn hynny, bydd disgwyl i'r ddwy syrcas sy'n teithio ar hyn o bryd ac yn defnyddio anifeiliaid gwyllt fod wedi cwblhau eu taith ac yna wedi dychwelyd i'w cartref dros y gaeaf. Yn sicr, rwy'n agored iawn i symud y dyddiad hwnnw ymlaen pe bai modd ac rwy'n credu y gellid cael cyfle i wneud hynny pe byddai Llywodraeth y DU yn cyflawni ei hymrwymiad i gyflwyno gwaharddiad yn Lloegr erbyn i'w rheoliadau trwyddedu nhw ddod i ben. Oherwydd, yn amlwg, Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am drwyddedu syrcasau, nid ni. Os byddan nhw'n gweithredu'r gwaharddiad cyn i'w rheoliadau trwyddedu ddod i ben ym mis Ionawr 2020, credaf y byddai'n bosib inni ddod â'r dyddiad hwnnw ymlaen. Felly, unwaith eto, unrhyw benderfyniad i wneud hynny, rwy'n hapus iawn i'w ystyried. O ran eich cwestiwn ynghylch bylchau, yn sicr, os meddyliwch chi am y peth, ceir llawer iawn mwy o anifeiliaid yn cael eu defnyddio mewn arddangosfeydd oanifeiliaid nag, yn amlwg, mewn syrcasau. Felly, dyna pam mae'r cynllun arddangosfeydd o anifeiliaid mor bwysig, ac fe soniais i yn fy ateb i Andrew R.T. Davies y byddaf i'n ymgynghori cyn diwedd toriad yr haf ac yn sicr byddwn i'n hoffi gweld y cynllun hwnnw'n cael ei roi ar waith, fe ddywedwn i, mor gynnar yn 2020 ag sy'n bosib. O ran, 'Pam mae'r drosedd hon yn berthnasol i anifeiliaid gwyllt yn unig ac nid i bob anifail?'—ac rwy'n ymwybodol o'r ddeiseb sydd wedi cael ei chychwyn yn ddiweddar—nid oes yr un gwrthwynebiad sylfaenol, moesegol i ddefnyddio anifeiliaid dof mewn syrcasau teithiol neu mewn lleoliadau tebyg. Mae'r ddadl foesegol dros waharddiad yn achos anifeiliaid gwyllt, rwy'n credu, yn gryf iawn; rwy'n credu bod y ddadl dros waharddiad ynachos anifeiliaid dof yn fwy amwys. Ac os meddyliwch chi am y peth, mae yna lawer o weithgareddau sy'n cynnwys anifeiliaid dof yn teithio at ddibenion cynnal perfformiadau neu arddangosfeydd heb fawr o fanteision ehangach amlwg, sy'n cael eu hystyried yn gwbl dderbyniol gan y gymdeithas yn gyffredinol. Yr esiampl sy'n cael ei rhoi i mi bob tro—ac rwy'n credu inni drafod hyn—yw neidio ceffylau, a chredaf y byddai'n anodd iawn dadlau na ddylid eu defnyddio nhw i wneud gweithgaredd tebyg mewn syrcas deithiol. Gofynnodd rhywun imi beth a fyddai'n digwydd yn achos syrcas sydd heb fod yn deithiol. Hyd y gwn i, roedd yna un syrcas fel hyn yn y DU, ac nid wyf i'n siŵr ei bod hi yno o hyd, ond unwaith eto, mae'n ymwneud â sicrhau nad oes yna unrhyw fylchau mewn unrhyw ddeddfwriaeth. Felly, yn sicr, y cyngor cyfreithiol a roddwyd i mi oedd y byddai'n rhaid i honno wedyn gael trwydded sw yn ôl pob tebyg, er enghraifft, ond ceir deddfwriaeth i ymdrin â phethau o'r fath. Roeddech chi'n fy holi i am y rhai a ymatebodd i'r ymgynghoriad, o ran y rhai a oedd yn dod o Gymru, ac yn sicr, byddwn i'n hapus iawn pe bai modd darparu'r wybodaeth honno. Serch hynny, mae'n rhaid imi ddweud mai rhywbeth tebyg i 97 y cant o'r ymatebwyr oedd yn awyddus i weld y Bil hwn yn cael ei gyflwyno, felly nid wyf yn credu y byddai angen ichi wybod faint o bwys a roddir ar hyn yn yr un ffordd ag a fyddai'n angenrheidiol mewn deddfwriaeth arall. Mike Hedges AC: Rwy'n croesawu datganiad y Gweinidog yn fawr. Bu'r ymgyrch yn un faith, ond rwyf i wedi rhoi cefnogaeth lawn iddi dros nifer o flynyddoedd er mwyn gwahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau. Mae gwaharddiad yn bodoli eisoes yn yr Alban. Yn 2006, sy'n amser maith yn ôl erbyn hyn, mewn ymgynghoriad cyhoeddus ledled y DU, roedd 94.5 y cant o'r rhai a ymatebodd o'r farn mai gwahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau fyddai'r ffordd orau o sicrhau lles anifeiliaid. Mae'r rhan fwyaf o'r ymatebwyr i'r Gweinidog wedi dweud hynny, 97 y cant, a'r llynedd roedd Cymru yn cefnogi'r gwaharddiad. Un peth y gallwn ni fod yn sicr ohono: mae'r cyhoedd ar ein hochr ni. Rwy'n croesawu'r gwaharddiad arfaethedig ar ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol; rwy'n credu bod ei amser wedi dod. Rydym yn byw yn yr unfed ganrif ar hugain, nid yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dau gwestiwn: pam mae'n fwriadcaniatáu i syrcas barhau i gadw anifeiliaid gwyllt ar yr amod na fyddan nhw'n eu harddangos neu'n eu defnyddio mewn perfformiadau? Yn fy marn i, dyna'r hyn sydd fel rheol yn cael ei ddisgrifio fel bwlch. A'r ail gwestiwn yw: a fydd defnyddio adar ysglyfaethus ar gyfer arddangosfeyddawyr agored yn parhau i gael ei ganiatáu? Lesley Griffiths AC: Diolch ichi, Mike Hedges, am y ddau gwestiwn hynny. Felly, gan ateb eich ail gwestiwn yn gyntaf: byddai adar ysglyfaethus wedyn yn cael eu cynnwys yn y cynllun trwyddedu arddangosfeydd anifeiliaid yr wyf yn ei gyflwyno'r flwyddyn nesaf, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus. O ran pam na allwn ni wahardd syrcasau rhag cadw anifeiliaid gwyllt na fydden nhw'n eu defnyddio nac yn eu harddangos, byddai hynny'n gofyn am golli perchnogaeth—byddai hynny'n golygu amddifadu o eiddo. Nid ydym o'r farn y byddai hynny er budd y cyhoedd a byddai'n anodd iawn ei gyfiawnhau. Pe byddai'r unigolyn hwnnw'n gofalu am yr anifail yn iawn, a phe na fyddai'r unigolyn hwnnw'n gofalu am yr anifail gwyllt hwnnw'n iawn, byddai hynny'n cael ei gynnwysdan ddeddfwriaeth arall. Mae'n amlwg yn anodd iawn, felly, i gyfiawnhau hynny. Vikki Howells AC: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Hoffwn i groesawu eich datganiad yn fawr, a gwn y bydd llawer iawn o'm hetholwyr yn ei groesawu hefyd. Mae fy nghwestiwn cyntaf yn ymwneud â'r gofynion ychwanegol sydd ar arolygwyr yr awdurdodau lleol. Rwy'n derbyn eich pwynt dilys iawn y bydd troseddau'n rhwydd eu canfod. Ond pa drafodaethau yr ydych chi wedi eu cael ynghylch capasiti arolygiaethau awdurdodau lleol, ac a oes yna unrhyw hyfforddiant a chymorth y gallai Llywodraeth Cymru eu rhoi? Er enghraifft, rwyf wedi cynnal trafodaeth ag un elusen lles anifeiliaid ynghylch creu arolygiaeth lles anifeiliaid ganolog. Felly, hoffwn glywed eich chi barn chi am hynny ac a ydych chi'n credu y byddai hynny'n ddefnyddiol. Yn ogystal â hynny, hoffwn drafod rhai syniadau newydd hefyd. Er enghraifft, bu llawer o sylw ar y cyfryngau cymdeithasol yn ddiweddar i Syrcas Roncalli, sef syrcas o'r Almaen sy'n defnyddio hologramau o anifeiliaid gwyllt yn rhan o'u sioe nhw. Mae hyn yn eu galluogi nhw i efelychu perfformiadau syrcas draddodiadol, ond golygfeydd mwy ffantasïol hefyd, a gwneud hynny ar gost sy'n llai o lawer na'r hyn sy'n gysylltiedig â chludo anifeiliaid byw. Nawr, hyd y gwn i, ni ddaethpwyd â hyn i'r DU eto, felly a fyddech chi'n croesawu defnyddio technoleg o'r fath, sy'n rhydd o unrhywgreulondeb, yma yng Nghymru? Ac yn olaf, mae'n ymddangos i mi y gallai'r cyhoeddusrwydd ynghylch cyflwyno'r Ddeddf hon fod yn gyfle da i Lywodraeth Cymru hyrwyddo'r nifer fawr o atyniadau twristaidd rhagorol sy'n seiliedig ar anifeiliaid yma yng Nghymru. Un enghraifft o hyn yw Fferm Folly lle gall pobl edrych ar anifeiliaid mewn cynefin lled naturiol yng nghyd-destun gwaith cadwraeth. Felly, byddai'n dda gennyf i gael gwybod pa drafodaethau yr ydych chi wedi eu cael neu y byddech chi'n ystyried eu cael gyda'ch cydweithwyr yn y Llywodraeth ynglŷn â hynny, ac wrth gwrs fe allai hynny roi hwb economaidd i Gymru, yn enwedig wrth i wyliau haf yr ysgolion agosáu. Lesley Griffiths AC: Diolch, Vikki Howells. O ran yr effaith ar awdurdodau lleol, wrth gwrs, cafwyd sgyrsiau gydag awdurdodau lleol. Pe byddai'r Bil yn dod yn gyfraith, caiff ei orfodi gan arolygwyr yr awdurdodau lleol, ac yn sicr roedden nhw'n rhan o'r ymgynghoriad a gawsom ni. Ni fydd yna fawr o effaith ar awdurdodau lleol. Credaf na fydd torri rheolau'n digwydd yn aml iawn, os o gwbl, ac rwy'n disgwyl i syrcasau teithiol gydymffurfio â'r gwaharddiad, oherwydd bydd yn amlwg iawn os na wnânt hynny. Yn sicr, os bydd Llywodraeth y DU yn cyflawni ei hymrwymiad i wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol yn Lloegr, ni fydd unman ar gael ym Mhrydain Fawr lle caiff anifeiliaid gwyllt eu defnyddio mewn syrcasau teithiol. Felly, yn sicr, ni fyddai unrhyw gostychwanegol yn ôl y trafodaethau a gafodd fy swyddogion i ag awdurdodau lleol, er enghraifft, ac fe fyddai hyn yn digwydd ar yr un pryd â'r gweithgareddau gorfodi presennol, sydd eisoes yn cael eu cynnal o ran y ddwy syrcas, un ohonyn nhw y gwnaethoch chi ei henwi. O ran yr hologramau, nid yw hwnnw'n rhywbeth yr wyf i wedi ei ystyried. Mae'n debyg ei bod yn dibynnu ar yr hyn y mae'r hologramau yn darlunio'r anifeiliaid yn ei wneud. Byddai gennyf ddiddordeb mawr i edrych ar hynny, ond yn sicr, mae'n rhywbeth y gallwn ni edrych arno wrth i'r Bil fynd drwy'r Cynulliad. Rwy'n credu eich bod yn iawn ynglŷn â hyrwyddo atyniadau i dwristiaid. Wrth gwrs, mae'r rhan fwyaf o'r atyniadau i dwristiaid—roeddech chi'n cyfeirio at Folly Farm—unwaith eto, yn cael eu rheoleiddio, bu deddfu ar eu cyfer, ac fe ddylem ni annog pobl i fynd i weld anifeiliaid o fewn pellter agos iawn. Siân Gwenllian AC: Dwi hefyd yn croesawu'r datganiad yma gan y Gweinidog ac yn croesawu'r Bil. Mae hi'n bechod ei fod o wedi cymryd cymaint o amser i'r Llywodraeth ei weithredu. Mae'n flwyddyn gyfan ers i'r cyn Brif Weinidog ddatgan y byddai'r Llywodraeth yn cefnogi gwahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasys sy'n teithio. Ond gwell hwyr na hwyrach. Dwi'n falch bod Cymru, o'r diwedd, yn dal i fyny efo'r Alban a Lloegr. Mae nifer o'r cwestiynau a oedd gen i wedi cael eu gofyn a'u hateb, ond fe wna i jest gloi drwy ddweud hyn: ni fyddai newid gwleidyddol fel hyn yn bosib heb ymgyrchwyr brwd, ac un ymgyrchydd sydd wedi bod yn allweddol yn hyn i gyd ydy Linda Joyce-Jones o Nantlle ger Caernarfon yn fy etholaeth i. Mae hi wedi bod yn ymgyrchu am y newid yn y ddeddfwriaeth ers blynyddoedd. Mi wnaeth hi gyflwyno deiseb i'r Cynulliad nôl yn Chwefror 2017 yn galw am waharddiad, ac mae hi wedi ein lobïo ni gyd, dwi'n meddwl. Pawb ohonom ni fan hyn, rydym ni wedi cyfarfod Linda ar ryw bwynt neu'i gilydd. Felly, a wnewch chi ymuno â mi i ddiolch iddi hi am ei gwaith a hefyd i'r ymgyrchwyr eraill sydd wedi gweithio mor galed am hyn? Mae'r ffaith bod yna 6,500 o ymatebion a'r mwyafrif mawr o blaid y ddeddfwriaeth yn dweud cyfrolau, dwi'n meddwl. Mae o'n arwydd clir o'r newid agwedd gyhoeddus, ac mae ymgyrchwyr fel Linda wedi llwyddo'n rhyfeddol i newid y farn honno. Mae angen inni eu llongyfarch a dwi'n gobeithio y gwnewch chi ymuno efo fi. Lesley Griffiths AC: Diolch, Siân Gwenllian. Rwy'n ymuno â chi i ddiolch i Linda Joyce-Jones a'r 6,500 o bobl eraill a wnaeth ymateb i'n hymgynghoriad ni. Rwy'n credu bod hynny'n dangos bod Cymru yn wlad sy'n hoff iawn o anifeiliaid. Rwy'n falch iawn ein bod ni wedi cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon yn y tymor Llywodraeth hwn, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chi ac aelodau eraill wrth i'r Bil fynd rhagddo. Caroline Jones AC: Diolch am eich datganiad, Gweinidog, ac am roi copi ymlaen llaw inni o'r Bil a'r memorandwm esboniadol. Mae'n hen bryd inni roi diwedd ar gamddefnyddio anifeiliaid gwyllt i blesio'r cyhoedd sy'n gwylio, a hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am gyflwyno deddfwriaeth i wneud hynny o ran syrcasau teithiol. Bydd Cymru cyn bo hir yn ymuno â'r rhestr gynyddol o wledydd sy'n gwahardd perfformiadau sy'n gorfodi anifeiliaid gwyllt i wneud campau ar gyfer adloniant. Yn wahanol i un o'r ymgeiswyr i fod yn Brif Weinidog nesaf arnom, Jeremy Hunt, sy'n dymuno cymryd amser oddi wrth negodi ein hymadawiad taclus â'r UE er mwyn codi'r gwaharddiad ar hela llwynogod, rwyf innau, fel un sy'n casáucam-fanteisio ar anifeiliaid a chreulondeb, yn croesawu'r ddeddfwriaeth hon. Fodd bynnag, rwy'n holi pam nad yw hyn wedi mynd un cam ymhellach, Gweinidog. Nid yw'r ddeddfwriaeth hon yn cynnwys anifeiliaid gwyllt a ddefnyddir ar gyfer adloniant mewn lleoliadau eraill, ac, fel y cyfryw, nid yw'n cynnwys rhai arddangosfeydd symudol o anifeiliaid. Fe ddywedaf i 'rai' oherwydd mae'n amlwg nad yw triniaeth rhai o'r anifeiliaid sy'n cael eu symud yn greulon nac yn ddideimlad. Felly, a wnewch chi amlinellu pam rydych chi wedi dewis cadw at syrcasau teithiol, a phryd y gallwn ni ddisgwyl gweld rhai mesurau i ddiogelu anifeiliaid gwyllt mewn rhai arddangosfeydd symudol? Gweinidog, a ydych chi'n cytuno y dylai lles anifeiliaid fod yn hollbwysig ac y dylid gwaharddcam-fanteisio ar anifeiliaid gwyllt er elw ariannol dan unrhyw amgylchiadau? Os felly, a wnewch chi ymhelaethu ar unrhyw gamau eraill y bydd eich Llywodraeth chi yn eu cymryd i ddiogelu anifeiliaid gwyllt a dof rhag cael eu defnyddio ar gyfer adloniant? Yn olaf, Gweinidog, pa drafodaethau yr ydych chi wedi eu cael gyda Gweinidogion y DU ynglŷn â chyfundrefnau trwyddedu mwy cadarn ar gyfer defnyddio anifeiliaid dof mewn sioeau teithiol? Oherwydd mae rhai anifeiliaid dof wedi marw oherwydd gwres enbyd ac ati, wrth deithio. Felly, rwy'n edrych ymlaen at weld y Bil yn mynd rhagddo'n gyflym drwy'r Cynulliad ac at y diwrnod pan na ellir manteisio ar anifeiliaid gwyllt ar dir a daear Cymru. Diolch yn fawr. Lesley Griffiths AC: Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau hynny. Rwy'n gobeithio fy mod i wedi ateb yn gryno iawn sut y bydd y cynllun newydd i drwyddedu arddangosfeydd anifeiliaid y byddaf yn ei gyflwyno'r flwyddyn nesaf, yn dilyn ymgynghoriad, yn sicrhau na fydd unrhyw fylchau, ac y bydd pob anifail yn cael ei ddal—maddeuwch y chwarae ar eiriau—yn hynny. Rwyf wedi cael trafodaethau gydag Arglwydd Gardiner sef Gweinidog Llywodraeth y DU o ran trwyddedau eraill i syrcasau ac, unwaith eto, mae hwnnw'n rhywbeth y gallwn ni edrych arno mewn darnau eraill o ddeddfwriaeth i sicrhau bod pob anifail yn dod dan ddeddfwriaeth a/neu reoliadau. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi ynglŷn â hela llwynogod. Mae'n warthus o beth, ac mae'r Llywodraeth hon yn gwrthwynebu hela llwynogod yn llwyr. Byddwn yn ymuno â rhestr gynyddol o wledydd, ac fel y dywedais i yn fy natganiad gwreiddiol, pe na fyddem yn cyflwyno'r Bil hwn, Cymru fyddai'r unig wlad ym Mhrydain Fawr i ganiatáu defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol, ac nid oeddwn i'n dymuno i Gymru fod yn hafan i syrcasau teithiol yn y ffordd honno. Joyce Watson AC: Rwy'n croesawu'r Bil, ac rydych chi yn llygad eich lle, ni ddylem fod yr unig wlad i ganiatáu i anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau gael eu harddangos fel adloniant i bobl, heb gredu bod hynny'n gyfeiliornus yn ei hanfod. Felly, rwy'n edrych ymlaen at weld y Bil yn dod yn ei flaen. Nid wyf am ofyn yr holl gwestiynau sydd wedi cael eu gofyn yn barod, ond mae gennyf ddiddordeb arbennig yn yr hyn a ystyrir yn wyllt a'r hyn nad yw'n wyllt, a sut y caiff hynny ei bennu. Yn fy marn i, credaf fod y rhan fwyaf o bobl yn ystyried anifeiliaid gwyllt fel rhai egsotig, ac eto i gyd mae gennym anifeiliaid brodorol sy'n amlwg yn wyllt, ac felly mae gennyf ddiddordeb mewn sut y bydd hynny'n symud yn ei flaen. O ran y cynllun trwyddedu, byddai'n dda gennyf gael gwybod hefyd sut y bydd hynny'n datblygu. Rydych yn mynd allan, fel y dywedasoch, i ymgynghoriad pellach. Y diben yw canfod yr hyn y dylid ei gynnwys yn y cynllun trwyddedu hwnnw. Rhoddaf un awgrym i chi: mae bridio'n digwydd ar hyn o bryd ar gyfer allforio anifeiliaid gwyllt, ac mae hynny'n digwydd i adar ysglyfaethus, ac maen nhw'n cael eu hallforio i'r dwyrain pell. Wel, yn hollol amlwg, nid ydyn nhw'n byw yn y dwyrain pell am resymau da iawn: nid oes unrhyw ffynhonnell bwyd yno ar eu cyfer, ac nid yw'r hinsawdd yn iawn iddyn nhw. Felly, yn y lle cyntaf, a ddylem ni fod yn trwyddedu'r broses o fridio anifeiliaid i'w hallforio i fynd ar y fath daith dan orfodaeth, ac yn ail, mewn amodau nad ydynt yn amlwg yn ffafriol i'w llesiant? Felly, hoffwn i ychwanegu hynny at eich cynllun trwyddedu. Hoffwn gael gwybod pa mor hir y byddai'r trwyddedau hynny'n para ar ôl i bobl eu cael nhw, a pha mor hawdd yw dirymu trwyddedau, pe byddech chi'n canfod bod pobl wedi bod yn euog o greulondeb eisoes. Rwy'n codi hynny oherwydd bod gennym ni rai sefydliadau sy'n bridio cŵn ar hyn o bryd, a chafwyd eu bod nhw'n euog o greulondeb, ac eto mae'r drwydded yn cael ei throsglwyddo i aelod arall o'r teulu os caiff ei dirymu. Ac os ydym yn sôn am drwyddedau a phobl o gymeriad da, dylem hefyd fod yn edrych ar y ddeddfwriaeth sy'n dilyn hynny, a'r cosbedigaethau sy'n dilyn. Ar hyn o bryd, mae'n debyg y gallwch fod mor greulon ag y mynnwch i anifail, ac ni chewch ddim mwy na chwe mis dan ddeddfwriaeth Cymru, ac eto i gyd gallech gael pum mlynedd pe byddem ni'n gwneud rhywbeth ynglŷn â hynny. Felly, rwy'n credu, pan fyddwn ni'n edrych ar drwyddedau, fod angen inni edrych ar y cosbedigaethau sy'n dilyn hefyd. Felly, dyna'r pethau yr hoffwn eu hychwanegu, yn dilyn yr holl gwestiynau a ofynnwyd eisoes. Lesley Griffiths AC: Diolch yn fawr, Joyce Watson. Rydych chi'n holi am ystyr neu ddiffiniad o anifail gwyllt. Mae'n debyg i'r dehongliad o anifail gwyllt yn Neddf Trwyddedu Sŵau 1981. Mae hyn yn osgoi'r sefyllfa lle gellid ystyried yr un rhywogaeth yn wyllt mewn sw ond wedyn yn ddof pan gânt eu cadw mewn syrcas. Felly, dyna'r diffiniad cyfreithiol yr ydym ni'n ei ddefnyddio. Ond rydych chi'n llygad eich lle. Yn fy nhrafodaeth ag Andrew R.T. Davies, cofiaf ein bod yn sôn am geirw, na fyddai pobl efallai'n meddwl eu bod yn anifeiliaid gwyllt ar unwaith, ond maen nhw. Rwy'n siŵr ein bod i gyd yn ymwybodol y defnyddir ceirw weithiau—yn amlwg adeg y Nadolig—mewn gwahanol ffyrdd, mewn canolfannau garddio neu mewn gorymdeithiau. Yna byddent yn cael eu cynnwys yn y cynllun trwyddedu arddangos anifeiliaid. Dyna pam ei bod mor bwysig rhoi'r cynllun hwnnw ar waith hefyd. Ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn yr ydych chi'n ei ddweud am adar ysglyfaethus. Mae angen inni sicrhau bod yr ymgynghoriad yn sôn am hynny'n benodol. Rydych yn holi ynghylch pa mor hir y mae trwyddedau'n para. Yn sicr, mae Deddf Anifeiliaid Perfformio (Rheoleiddio) 1925 yn ei gwneud hi'n ofynnol i unrhyw un sy'n hyfforddi neu'n arddangos anifeiliaid gofrestru gydag awdurdod lleol, ond mae'n gofrestriad oes. Felly, does dim gofyniad arolygu penodol. Fel y cyfryw, mae'n annhebygol y byddai safonau lles anifail yn cael eu hasesu na'u gwirio'n rheolaidd. Felly, dyma'r hyn a olygaf wrth ddweud bod angen inni sicrhau ein bod yn cau'r bylchau. Rwy'n credu bod hwn yn faes lle ceir man gwan sydd angen ei gywiro. Felly, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at yr ymgynghoriad ar y cynllun. Fel y dywedais yn fy ateb i Llŷr, rwy'n gobeithio ei gyflwyno yn gynnar y flwyddyn nesaf. Hefin David AC: Rwyf wedi sôn o'r blaen am ymweliad syrcas Mondao â'm hetholaeth i ychydig fisoedd yn ôl. Hoffwn ddweud wrth Siân Gwenllian fy mod wedidod i adnabod Linda Joyce-Jones am y tro cyntaf pan oeddwn yn gynghorydd sir a phan ymwelodd arddangosfa anifeiliaid gwyllt â'm ward cyngor i. Bryd hynny, ysgrifennais at Rebecca Evans, sef y Gweinidog cyfrifol ar y pryd, ac fe gawsom ni rywfaint o drafodaeth am hyn. Felly, mae'n wirioneddol dda gweld y ddeddfwriaeth hon yn cyrraedd y llyfr statud. Syrcas Thomas Chipperfield oedd honno, cyn i mi gael fy ethol yma. Diddymwyd eu trwydded syrcas yn Lloegr am nad oedd DEFRA yn hapus gydag amodau cadw rhai o'u hanifeiliaid, ond roedden nhw'n dal i allu arddangos yn Nhir-y-berth. Felly, bydd hyn yn cau pen y mwdwl ar y mater penodol hwnnw hefyd. Gwyddom fod y syrcasau yn ymweld gan eu bod yn gosod posteri'n anghyfreithlon. Nid ydynt yn cadw at reolau gosod posteri'n anghyfreithlon, felly, tybed i ba raddau maen nhw'n mynd i gadw at y gyfraith hon. Cafwyd dau ymweliad yn etholaeth Caerffili, yn Nhir-y-berth. A allwn ni gael sicrwydd y bydd y Ddeddf hon yn gwneud ynsiŵr na fydd trydydd ymweliad? Lesley Griffiths AC: Diolch. Roeddwn yn ymwybodol fod trwydded y syrcas y soniasoch chi amdani wedi cael ei diddymu. Fel y dywedais, nid oes gennym ni bwerau i drwyddedu syrcasau. Mater i Lywodraeth y DU yw hynny. Yn sicr, fel y crybwyllais yn fy ateb i Llŷr, bydd y Mesur hwn, gobeithio, gyda chefnogaeth y Cynulliad hwn, yn cael Cydsyniad Brenhinol ym mis Mai. Rwy'n fodlon iawn ystyried ei orfodi'n gynharach nag a ddywedwyd ar 1 Rhagfyr, ond mae'n rhaid i Lywodraeth y DU wneud hynny gyda'r gyfundrefn drwyddedu, fel yr eglurais. Ond, rwy'n fodlon iawn ystyried gwneud hynny. Diolch yn fawr iawn, Gweinidog. 4. Datganiad gan y Prif Weinidog: Partneriaeth Gymdeithasol Yr eitem nesaf yw datganiad gan y Prif Weinidog: partneriaeth gymdeithasol. Galwaf ar y Prif Weinidog, Mark Drakeford. Mark Drakeford AC: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwyf am wneud datganiad ynghylch cynlluniau Llywodraeth Cymru i ddatblygu a chryfhau partneriaeth gymdeithasol. Mae ein partneriaeth gyda’r undebau a chyflogwyr yn allweddol i'r ffordd rydyn ni'n gweithio fel Llywodraeth. Trwy gyd-drafod a chydweithio, rydym ni'n datrys problemau a chanfod atebion i'r heriau economaidda chymdeithasol sy'n wynebu Cymru ar hyn o bryd. Mae'r ffordd yma o weithio yn seiliedig ar egwyddorion cadarn. Mae'n ffordd o weithio sy'n effeithiol ac yn berthnasol iawn i'r amodau presennol. Mark Drakeford AC: Dirprwy Lywydd, drwy gydol y cyfnod datganoli, mae dull Cymru o ymgysylltu ag undebau llafur a chyflogwyr wedi cael ei benderfynu gan bartneriaeth. Yn wir, mae ein gallu i ymdopi ag argyfwng byd-eang 2008, a'r cyni a gyflwynwyd o ganlyniad i hynny, wedi'i briodoli i'n model o bartneriaeth gymdeithasol, a'r gydnabyddiaeth bod cydweithio teirochrog ystyrlon yn hanfodol i gyflawni canlyniadau blaengar ac atal gwrthdaro ac anghydfod. Degawd ers cwtogi di-baid ar wariant cyhoeddus, fodd bynnag, mae'r model presennol wedi cyrraedd terfynau ei effeithiolrwydd. Daeth hi'n bryd ei ddatblygu ymhellach er mwyn mynd i'r afael â'r heriau cymdeithasol ac economaidd y mae Cymru'n eu hwynebu heddiw. Bydd y datblygiadau newydd hyn yn adeiladu'n gadarn ar sylfeini partneriaeth gymdeithasol ym mhob agwedd ar ddeddfwriaeth, polisi a buddsoddi. O adfer bargeinio sectoraidd drwy'r panel cynghori amaethyddol, i gyflwyno'r cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol yn y gadwyn gyflenwi, rydym ni wedi gweithio'n greadigol i roi mwy o ddiogelwch a mwy o lais i bobl sy'n gweithio yng Nghymru. Yn gynharach yn ystod tymor y Cynulliad hwn, roeddwn yn falch o lywio Bil yr Undebau Llafur (Cymru) nodedig drwy'r Cynulliad Cenedlaethol hwn, sy'n wrthbwynt i ddeddfwriaeth y DU a luniwyd i gyfyngu ar hawliau gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus. Mae natur barhaus yr heriau a wynebwn ni yn hysbys iawn. Mae twf tlodi mewn gwaith, hunan-gyflogaeth ffug a chontractau dim oriau gorfodol yn cael effaith niweidiol ar iechyd a lles gormod o bobl yng Nghymru. Yn ogystal, mae'r arferion annheg hyn yn dwysáu'r anghydraddoldebau presennol yn ein cymdeithas, gan mai ar y rhai sydd â'r lleiaf o bŵer yn y gweithle y mae'r effaith fwyaf. A, Dirprwy Lywydd, maen nhw'n peri anfantais sylweddol i'r busnesau niferus hynny sy'n ymroddedig ac yn gyfrifol yn gymdeithasol ac sy'n eu cael eu hunain mewn perygl o fod ar faes cystadlu annheg gyda chyflogwyr llai egwyddorol. Ymhellach, mae'r heriau hyn sy'n ein hwynebu ni heddiw yn mabwysiadu ffurfiau newydd yn ein dyddiau ni. Mae dyfodiad awtomatiaeth a llwyfannau digidol wedi profi pa mor hawdd y gellir symud baich risg i weithwyr heb yr amddiffyniad a roddir gan gydberthnasau cyflogaeth confensiynol, a sut y gall busnesau bach ar y stryd fawr gael eu tanseilio gan sefydliadau rhyngwladol sy'n osgoi trethi ac yn gweithredu y tu hwnt i'n ffiniau. Beth, felly, Dirprwy Lywydd, ydym ni'n bwriadu ei wneud nawr? Wel, yn gyntaf, byddwn yn rhoi sylfaen statudol i bartneriaethau cymdeithasol drwy gyflwyno Bil yn nhymor y Cynulliad hwn. Bydd y Bil hwnnw'n ymgorffori'r model partneriaeth gymdeithasol anstatudol presennol ac yn sicrhau ei bod hi'n amlwg y gellir gorfodi'r cytundebau a wneir. Mae TUC Cymru wedi gwneud rhai cynigion penodol ynglŷn â'r ffordd orau o gyflawni hyn, a byddwn yn trafod y cynigion hyn gyda'r partneriaid cymdeithasol eraill dros y misoedd nesaf. Yn ail, byddwn yn defnyddio grym y pwrs cyhoeddus i sicrhau manteision cymdeithasol newydd drwy wella'r hyn a gawn ni gan y rheini sy'n cael arian cyhoeddus gennym ni drwy'r contract economaidd. Byddwn yn cynyddu'r arferion gorau a ddysgir drwy'r cynlluniau treialu Swyddi Gwell yn Nes Adref, a byddwn yn ymgorffori gwaith teg drwy gaffael cyhoeddus a thrwy fwrw ymlaen â'n hymagwedd newydd ac arloesol at yr economi sefydliadol. Yn drydydd, byddwn yn creu system effeithiol o fonitro a gorfodi. Mae nifer o gytundebau eisoes wedi'u gwneud mewn partneriaeth gymdeithasol, fel y cod dwy haen. Er bod gennym ni systemau ar waith i fonitro'r modd y cânt eu gweithredu, gwyddom y gellir gwella'r systemau hynny, ac nid oes gennym ni ddigon o ddulliau gorfodi pan gaiff y codau hynny eu torri. Yn bedwerydd, byddwn yn sefydlu peirianwaith newydd o lywodraeth i fod yn sail i waith partneriaid cymdeithasol. Byddwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn Gwaith Teg i sefydlu swyddfa ar gyfer gwaith teg. Mae'r cynlluniau ymarferol i sefydlu cyfarwyddiaeth o fewn y gwasanaeth sifil eisoes ar waith, gyda swydd pennaeth yr uned honno eisoes yn cael ei hysbysebu. Mark Drakeford AC: Ac yn bumed, byddwn yn deddfu Rhan 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol. Byddwn yn gwneud yr hyn sy'n ofynnol i weithredu'r ddyletswydd, gan gynnwys canllawiau newydd y bydd eu hangen i sicrhau bod y broses o'i gweithredu yn effeithiol ac yn rhoi ystyriaeth lawn i'r cyd-destun deddfwriaethol presennol yng Nghymru. Byddwn yn dwyn ynghyd y berthynas rhwng y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol a'r Bil partneriaeth gymdeithasol. Bydd y ddau yn helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb o wahanol safbwyntiau, a byddwn yn sicrhau eu bod yn ategu ei gilydd yn llawn. Beth, felly, Dirprwy Lywydd, fydd yr holl weithredoedd hyn yn ei gyflawni? Wel, yn gyntaf, fe'u cynlluniwyd i wrthdroi'r dirywiad mewn cydfargeinio. Mae'r Sefydliad Llafur Rhyngwladol, ymysg eraill, wedi egluro'n glir swyddogaeth cydfargeinio o ran lleihau anghydraddoldeb ac ymestyn diogelwch llafur. Rydym ni'n cefnogi'n llwyr yr egwyddorion a bennwyd gan y Sefydliad Llafur Rhyngwladol ar gydfargeinio a rhyddid i ymgysylltu, ac rydym ni'n dymuno gweld y manteision hyn yn cael eu hymestyn i fwy o bobl sy'n gweithio yma yng Nghymru. Yn ail, bydd y camau hyn yn sicrhau gwelliannau ymarferol yn y gweithle. Heddiw, mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cyhoeddi ymateb y Llywodraeth i argymhellion y Comisiwn Gwaith Teg. Mae'r Comisiwn wedi canolbwyntio'n uniongyrchol ar swyddogaeth undebau llafur yn y gweithle, a'r manteision y gall hyn eu cynnig i weithwyr. Bydd ein hagwedd at waith teg yn golygu dulliau newydd a chamau gweithredu newydd i wella ansawdd gwaith a'r gallu i elwa ar hawliau cyflogaeth. Yn drydydd, bydd y camau gweithredu hyn yn sicrhau gwell canlyniadau i gyflogwyr. Oherwydd gyda gweithlu ymroddgar, sy'n cael ei annog gan gyflogwyr sy'n buddsoddi mewn sgiliau a rheoli da ar bob lefel, gallwn adeiladu economi gryfach a chadarnach, gyda gwell cynhyrchiant, sy'n addas ar gyfer heriau'r dyfodol. Mae partneriaeth gymdeithasol, Dirprwy Lywydd, yn galluogi cyflogwyr i fod yn bartneriaid gweithredol o ran newid ein heconomi er gwell. Ac rydym ni'n ffodus o gael llawer o gyflogwyr yma yng Nghymru sydd wedi ymrwymo i wneud hynny'n union. Yn olaf, bydd y camau hyn yn dod â'r partneriaid cymdeithasol ynghyd mewn system sy'n syml, yn bwrpasol ac sydd â'r pwerau sydd eu hangen arni i droi cytundebau a wneir yn weithredoedd ar lawr gwlad. Drwy ddarparu'r dull o fonitro unrhyw gytundebau, byddwn yn sicrhau ymddiriedaeth a hyder bod y buddsoddiad y mae partneriaid yn ei wneud yn arwain at ganlyniadau diriaethol sy'n sicrhau manteision i bawb. Yfory, Dirprwy Lywydd, byddaf yn cadeirio cyfarfod sy'n dod ag aelodau'r Llywodraeth, gweithrediaeth Cyngor Partneriaeth y Gweithlu a'r grŵp strategaeth partneriaid cymdeithasol at ei gilydd. Bydd y cyngor partneriaeth gymdeithasol cysgodol hwn yn annog partneriaid cymdeithasol i drafod y pethau uniongyrchol y mae angen i ni eu gwneud i gyflawni'r ymrwymiadau a amlinellais y prynhawn yma. Bydd hynny'n cynnwys trafod protocol ar y cyd sy'n disgrifio'r disgwyliadau ar gyfer Llywodraeth Cymru, TUC Cymru a chyflogwyr o ran sut y bydd ein hymgysylltiad yn gweithio'n ymarferol. Nawr, Dirprwy Lywydd, ni fydd dim o hyn yn hawdd. Mae partneriaeth gymdeithasol yn groes i'r dulliau gwrthdrawiadol y mae'r Blaid Geidwadol yn eu ffafrio pryd bynnag maen nhw mewn Llywodraeth. Ond mae hefyd yn groes i'r agwedd gysurus o osgoi problemau hefyd. Er mwyn llwyddo i wneud bywyd gwaith yn decach, mae'n ofynnol i bob partner ganolbwyntio ar arloesi a negodi. Mae'n rhoi ymddiriedaeth, ymgysylltu a deialog wrth wraidd datrys problemau—y ffordd orau o fynd i'r afael â'r problemau yr ydym i gyd yn eu hwynebu yw, gyda'n gilydd. Mae'n ffordd, ar ben hynny, sydd â gwreiddiau dwfn yn hanes hir Cymru o gydweithredu a chyd-dynnu a'r hanes yr ydym ni wedi'i ysgrifennu yma mewn oes fyrrach o lawer o ddatganoli. Mae'n ddull gweithredu, Dirprwy Lywydd, y mae'r Llywodraeth hon yn benderfynol o'i gryfhau eto a'i wneud yn addas ar gyfer yr heriau y bydd y dyfodol yn eu cyflwyno. Paul Davies AC: A gaf fi ddiolch i chi, Prif Weinidog, am eich datganiad? Ac edrychaf ymlaen at graffu ymhellach ar fanylion eich cynigion yn ystod y misoedd nesaf. Fodd bynnag, rhaid imi ddweud, o'r cychwyn cyntaf, fy mod yn siomedig iawn eich bod wedi dewis gwleidyddoli'r datganiad hwn ac awgrymu bod y Ceidwadwyr, pryd bynnag y bônt mewn Llywodraeth, yn mynd ati mewn ysbryd o wrthdaro. Nid yw hynny'n gywir, oherwydd, a minnau'n Geidwadwr, cytunaf yn llwyr â chi y dylid ymdrin â'r materion hyn mewn ffordd gydweithredol. Credaf fy mod yn siarad, fodd bynnag, ar ran pob busnes sy'n siomedig â'r hyn a oedd gennych chi i'w ddweud heddiw sydd wedi ymgymryd â'r dull cydweithredol hwn, ac a fydd nawr, mae'n debyg, yn teimlo mwy o bwysau i gydymffurfio â'r cynlluniau hyn. Nawr, mae'r busnesau yr wyf wedi siarad â nhw'n credu bod y dull gwirfoddol hwn wedi gweithio dros y blynyddoedd, ac yn wir ei fod yn dal i weithio. Nawr, fel y gwyddoch chi, mae'r 'Cynllun Gwaith Da' eisoes yn ymrwymo i sicrhau y gall gweithwyr gael gwaith teg o safon, ac rwy'n deall y bydd deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno ar lefel y DU i roi'r hawl i weithwyr ofyn am gontractau mwy sefydlog. Nawr, yn eich datganiad heddiw, Prif Weinidog, rydych chi'n egluro bod y model presennol o bartneriaeth gymdeithasol wirfoddol wedi cyrraedd terfyn ei effeithiolrwydd. A ydych chi'n dweud bod y model hwn, felly, wedi methu, o gofio y bu hwn yn bolisi gan Lywodraethau olynol Llafur Cymru dros yr 20 mlynedd diwethaf? Rwy'n siŵr y byddai llywodraethau olynol Cymru yn anghytuno â chi ar hynny. Prif Weinidog, rwy'n siŵr y cytunwch chi â mi fod angen llawer mwy o waith ar y dull hwn, ac felly na ddylid ei ruthro drwy'r Senedd hon. Nawr, pa un a ydym yn hoffi hynny ai peidio, mae 43,000 o bobl yn cael eu cyflogi ar gontractau dim oriau ar hyn o bryd, ac, wrth gwrs, dylid ystyried effeithiau'r Ddeddf partneriaeth gymdeithasol yn ofalus drwy ymgynghoriad, yn fy marn i, fel y dylid ei wneud gyda phob agwedd ar effeithiau'r Ddeddf ar weithwyr a busnesau Cymru. Siawns mai dim ond ar ôl cwblhau ymgynghoriad cynhwysfawr ac adrodd yn ôl i'r Cynulliad y dylid penderfynu wedyn ar y dull gweithredu mwyaf priodol, yn hytrach na dim ond deddfu'n gyntaf ar Fil na fu ymgynghori arno eto gyda'r rhai y byddai'n effeithio arnynt fwyaf. A wnewch chi, felly, Prif Weinidog, ymrwymo i gynnal ymgynghoriad cynhwysfawr â'r holl randdeiliaid fel bod barn pawb yn cael ei hystyried mewn gwirionedd? Ac os nad ydych chi'n ymrwymo i hyn, beth fyddwch chi'n ei wneud er mwyn sicrhau bod undebau llafur yn gweithredu er budd eu haelodau, bod sefydliadau busnes yn gweithredu er budd eu haelodau, a bod llais y cyhoedd yn cael ei glywed yn uchel ac yn glir hefyd? Nawr, rwy'n gwerthfawrogi y bydd gan bobl farn wahanol am gontractau dim oriau a'r effaith y gall hyn ei chael ar bobl sy'n gweithio. A byddwch yn ymwybodol, Prif Weinidog, fod adolygiad Taylor o arferion gwaith modern yn dweud bod un rhan o bump o bobl ar gontractau dim oriau mewn addysg amser llawn. Ac, yn ôl pob golwg, nid yw 68 y cant o'r rhai sydd ar gontractau o'r fath eisiau mwy o oriau. Felly, mae'n hollbwysig, rwy'n credu, ein bod yn parhau i greu cyfle ar gyfer cyflogaeth hyblyg i'r rhai hynny sydd ei heisiau. A allwch chi amlinellu felly sut y bydd y Ddeddf partneriaeth gymdeithasol arfaethedig hon yn parhau i ganiatáu cyflogaeth hyblyg i'r rhai sy'n dibynnu ar gyflogaeth hyblyg, ond yn dal i ddiogelu hawliau gweithwyr ar yr un pryd? Byddwn yn ddiolchgar pe baech chi efallai'n ymhelaethu ar hyn, oherwydd rwy'n cytuno bod yn rhaid inni fynd i'r afael â chyflogwyr llai egwyddorol, ond rhaid inni hefyd sicrhau economi hyblyg yn y dyfodol hefyd. Prif Weinidog, yn natganiad ysgrifenedig y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol y bore yma, dywedwyd y bydd y gyfarwyddiaeth partneriaeth gymdeithasol a gwaith teg newydd yn swyddfa'r Prif Weinidog a Brexit. Fodd bynnag, mae'r adroddiad yn argymell na ddylai'r swyddfa gwaith teg fod mewn adran benodol. A fydd hyn yn golygu, felly, y bydd gennych chi, y Prif Weinidog, reolaeth uniongyrchol dros sefydlu a chyfeiriad y gyfarwyddiaeth honno? A sut fyddwch chi'n sicrhau y bydd yr adran newydd hon yn gweithredu ar draws y Llywodraeth gyfan, o gofio y bydd mewn gwirionedd oddi tanoch chi? Felly, gyda hynny, Dirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch i chi, Prif Weinidog, am eich datganiad y prynhawn yma? Rwyf i a'm cyd-Aelodau yn edrych ymlaen at graffu ar eich cynlluniau ymhellach dros yr wythnosau nesaf a thros y misoedd nesaf. Mark Drakeford AC: Diolch i Paul Davies am yr ymateb adeiladol yna i ddatganiad y prynhawn yma. Mae arnaf ofn, rwy'n credu, bod yr hanes yn siarad drosto'i hun. Pan oeddwn yn Weinidog iechyd yma yn y Cynulliad hwn, aeth meddygon ar streic yn y GIG yn Lloegr, aeth nyrsys ar streic, roedd ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, porthorion ar streic. Nid aeth yr un o'r galwedigaethau hynny ar streic yma yng Nghymru ac mae hynny oherwydd bod gennym ni agwedd wahanol. Nid damwain oedd y ffaith y bu'r gweision cyhoeddus a'r gweithwyr proffesiynol ymroddgar hynny ar draws y ffin ar streic, ond yma yng Nghymru fe wnaethom ni osgoi hynny. Mae hyn oherwydd bod gennym ni ddull partneriaeth gymdeithasol ac, ar draws y ffin, lle mae'r Blaid Geidwadol mewn grym, nid oes ganddyn nhw un. Roeddwn yn awyddus iawn, Dirprwy Lywydd, yn yr hyn a ddywedais i bwysleisio'r cyfraniadau y mae cyflogwyr yng Nghymru wedi'u gwneud i'r agenda partneriaeth gymdeithasol, o'r ffordd gadarnhaol y maen nhw'n mynd ynghylch pethau, a dyna'n sicr sut yr ydym ni'n bwriadu saernïo ein cynigion yma yng Nghymru. Pan ddywedais ein bod wedi cyrraedd terfynau ein trefniadau presennol, mae hynny oherwydd fy mod yn credu ein bod wedi gwneud y gorau ohonyn nhw, nid am nad ydyn nhw'n gweithio, ond am eu bod yn gweithio'n ddi-baid ac yn gweithio mor gyflym ag y gallan nhw o fewn y terfynaupresennol. Dyna pam ein bod eisiau cryfhau'r trefniadau presennol drwy eu hamgylchynu â grym statud. A phan fydd Paul Davies yn dweud, pa un a ydym yn hoffi hyn ai peidio, bod gennym ni gontractau dim oriau, nid oes angen i ni ar yr ochr hon i'r Siambr bwyso a mesur yn ofalus i wybod nad ydym ni'n hoffi contractau dim oriau, ond rydym ni wedi mynd i'r afael â hyn fel yr aethom ni i'r afael â gofal cymdeithasol a'r ddeddfwriaeth yr ydym ni wedi'i phasio yma yn y Cynulliad hwn. Yn hynny o beth, rydym ni wedi cydnabod bod yna resymau pam, fel y mae undebau llafur wedi cydnabod, y gellir trefnu cyfnod o 12 wythnos, cyfnod rhagarweiniol pan fydd rhywun yn penderfynu a ydyn nhw eisiau parhau yn y swydd honno, a phan fydd cyflogwyr yn mesur lefel y sgiliau a'r gallu sydd gan rywun—y gellir trefnu 12 wythnos ar sail dim oriau, ond yna mae'n rhaid cynnig contract cyfnod penodol o amser penodol i'r cyflogai. Gallant ddewis aros ar gontract dim oriau os mai dyna sy'n gweddu orau i'w hamgylchiadau, ond bod ganddyn nhw ddewis; nid ydyn nhw'n cael eu cadw ar sail contract dim oriau gorfodol. Ond yn fwy cyffredinol, wrth gwrs, rhoddaf ymrwymiad i'r Aelod y bydd ystyriaeth ofalus a chynhwysfawr o'r cynigion a gyflwynir gennym ni, y cânt eu datblygu mewn ysbryd o bartneriaeth gymdeithasol drwy sicrhau bod pawb sydd â diddordeb yn y cynigion yn cael cyfle i'w hystyried, i'w llunio, ac yna cânt eu trafod a bydd craffu arnynt ar lawr y Cynulliad Cenedlaethol. Ac, yn olaf, i sicrhau'r Aelod yn ogystal fod y penderfyniad i osod y gyfarwyddiaeth partneriaeth gymdeithasol a gwaith teg yn Swyddfa'r Prif Weinidog yn ymateb uniongyrchol i argymhelliad y Comisiwn Gwaith Teg na ddylai ei lleoli mewn adran benodol. Yn wir, fel y dywedodd Paul Davies, mae'n agenda drawsbynciol yn ei hanfod, ac mae rhoi'r swyddfa honno neu'r gyfarwyddiaeth honno yn fy swyddfa i yn ffordd o wneud y natur drawsbynciol honno'n eglur ac effeithiol. Adam Price AC: Rwy'n croesawu'r datganiad yma a'r fframwaith cyffredinol y mae'r Prif Weinidog wedi'i gyflwyno. Byddai diddordeb gyda fi i glywed gan y Prif Weinidog, wrth ddatblygu'r model yma o bartneriaeth gymdeithasol, pa fodelau yn weddill Ewrop neu ymhellach i ffwrdd mae'r Llywodraeth wedi edrych arnyn nhw. Wrth gwrs, dŷn ni yn glasurol yn gyfarwydd iawn â'r model o bartneriaeth gymdeithasol yn yr Almaen, er enghraifft, yn Sgandinafia, yn Iwerddon—tan y creisis ariannol o leiaf. Yr hyn sy'n ddiddorol, dwi'n credu, am yr enghreifftiau hynny, yw roedden nhw i gyd, wrth gwrs, wedi cyfrannu tuag at ffyniant economaidd. Mae yna ryw fath o is-destun weithiau yn y feirniadaeth o bartneriaeth gymdeithasol bod hi'n arwain at aneffeithlonrwydd. Wel, i'r gwrthwyneb, a dweud y gwir, yn yr achosion hynny. Ac i ba raddau fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried comisiynu ymchwil sydd yn edrych ar y cwestiwn yma ar lefel cwmnïoedd unigol o ran cynhyrchiant a llwyddiant economaidd cwmnïau unigol sy'n cydnabod undebau o'i gymharu â rhai sydd ddim? Achos mae yna wybodaeth academaidd yn fwy eang sy'n awgrymu hynny, a dwi'n meddwl y byddai fe yn ddefnyddiol, wrth i ni adeiladu'r fframwaith yma ar gyfer Cymru, i ni fedru dangos bod yna sail dystiolaethol i'r ddadl fod e'n dda ar lefel bottom line, os mynnwch chi, i gwmnïau, oherwydd mae'n creu gweithlu sydd â lefel uwch o foddhad—mae yna fwy o fuddsoddiad mewn hyfforddiant, llai o bobl yn absennol o'r gwaith ac ati. A jest un cwestiwn bach ynglŷn â'r amserlen: ydy'r Llywodraeth yn bwriadu cyflwyno'r ddeddfwriaeth a'r fframwaith yma o fewn y tymor hwn? Ac, yn olaf, un o'r beirniadaethau mwy teg, efallai, sy'n cael ei wneud o'r model o bartneriaeth gymdeithasol yn yr oes gyfoes yw a oes yna berygl, wrth ffocysu, wrth gwrs, ar gyflogwyr, undebau a llywodraeth, eich bod chi'n cwympo i mewn i fagl corporatist a'ch bod chi'n cau mas elfennau eraill o gymdeithas efallai sydd ddim yn cael eu hadlewyrchu yn y gweithdrefnau neu yn y strwythurau hynny? Ac oes yna le ar gyfer sicrhau bod y bartneriaeth yma yn hollgynhwysol, a'i bod yn edrych ar y cwestiwn o anghyfiawnder cymdeithasol yn y cyd-destun ehangaf posibl, nid jest yn y gweithle? Mark Drakeford AC: Diolch i Adam Price am ei gyfraniad y prynhawn yma. Roedd beth roedd Adam wedi’i ddweud yn wir. Wrth gwrs, beth rŷm ni'n ei awgrymu yma yng Nghymru yw pethau sy’n digwydd dros y môr mewn gwledydd eraill bob dydd. Roeddwn i’n siarad yng nghwestiynau’r Prif Weinidog y prynhawn yma am y community bank, ac, wrth gwrs, mae hwnna’n rhan o beth mae pobl eraill yn ei wneud bob dydd. So, beth rŷm ni’n ei wneud yw tynnu ar enghreifftiau eraill yn yr Almaen ac yng Ngwlad y Basg hefyd. Mae grŵp o bobl o Lywodraeth Gwlad y Basg yng Nghymru heddiw. Dwi'n mynd i gwrdd â nhw yfory, ac mae hynny'n digwydd ar ôl i fi a Gweinidogion eraill fynd i Wlad y Basg jest i glywed oddi wrthyn nhw sut maen nhw'n gwneud pethau, a thyfiant eu heconomi nhw a sut rŷm ni'n gallu dysgu o'r gwersi sydd ar gael o wledydd eraill. Wrth gwrs, roedd beth roedd Adam Price yn ei ddweud am ymchwil yn wir hefyd. Mae lot o ymchwil ar gael yn y maes. Cyfeiriais i at yr ILO, ac mae gwaith yn yr un maes gyda'r World Bank hefyd, ac mae lot o waith wedi mynd ymlaen yn y byd academaidd. Y cam cyntaf, dwi'n meddwl, yw i dynnu at ei gilydd y wybodaeth sydd gyda ni ar hyn o bryd, i rannu honno gyda'r partneriaethau a gweld os ydyn nhw'n meddwl bod bylchau yn yr ymchwil sydd gyda ni ar hyn o bryd, ac a oes achos i lenwi'r bylchau hynny. Dwi'n hapus i gadarnhau y bydd y Bil o flaen y Cynulliad yn y tymor hwn, a dwi'n edrych ymlaen at y broses o graffu'r Bil. Dwi wedi clywed beth ddywedodd Adam Price am y nifer o bobl wrth y bwrdd pan fydden ni'n creu system newydd, a bydd cyfle gyda fi yfory, yn y cyfarfod sydd gyda figyda'r undebau, a gyda'r cyflogwyr hefyd, i roi y pwynt hwn iddyn nhw hefyd. Dawn Bowden AC: Diolch, Prif Weinidog, am y datganiad. Ni fydd hi'n unrhyw syndod i chi fy mod i'n gwbl gefnogol i'ch ymrwymiad i wreiddio gweithio mewn partneriaethau cymdeithasol yma yng Nghymru drwy ddeddfwriaeth. Rwyf wedi gweld drosof fy hun fanteision partneriaeth gymdeithasol, er enghraifft, o ran rhoi'r cyflog byw i'r GIG yng Nghymru, ac, fel y bu ichi ei grybwyll yn gynharach wrth ymateb i Paul Davies, y modd yr oeddem yn gallu osgoi'r mathau o anghydfodau diwydiannol yn y fan yma a welsom ni yn Lloegr. Wrth gwrs, ni all unrhyw beth yn fy marn i sy'n annog pobl i ymuno ag undeb llafur fod yn ddim ond yn beth da, oherwydd gwyddom fod gweithleoedd undebol yn weithleoedd mwy diogel a'u bod yn weithleoedd sy'n talu'n well ac ni all deddfu i ehangu hynny fod yn ddim ond yn gadarnhaol hefyd. Heb os, mae partneriaethau cymdeithasol yn hanfodol i'n helpu i ymdrin â phroblemau'r pethau y sonioch chi amdanyn nhw yn eich datganiad, Prif Weinidog—gwaith ansicr a thlodi mewn gwaith—ond hefyd o ran wynebu'r newidiadau economaidd a chymdeithasol y gwyddom ni sydd o'n blaenau, y bydd llawer ohonyn nhw y tu hwnt i'n rheolaeth. Felly, fy nghwestiynau penodol i yw a ydych chi'n cytuno bod yn rhaid i'r Ddeddf partneriaeth gymdeithasol fod yn sylfaen gadarn ar gyfer natur a strwythur ein dull o weithio ar y cyd yng Nghymru, ac a wnewch chi gadarnhau eich bod yn disgwyl i'n cyd-Aelodau yn yr undebau llafur fod yn bartneriaid cyfartal, er mwyn mynd i'r afael â'r anghydbwysedd cymdeithasol presennol. Mark Drakeford AC: Diolch i Dawn Bowden am y cwestiynau yna. Pan ddywedais yn fy natganiad gwreiddiol fy mod yn dweud weithiau ar lwyfannau cyhoeddus nad yw partneriaethau cymdeithasol yn ffordd hawdd o wneud pethau, enw Dawn sy'n aml yn dod i'm meddwl, ar ôl gweithio gyda hi pan oeddwn yn Weinidog iechyd a hithau'n cynrychioli Unsain. Gallaf ddweud wrthych chi fod y cyfarfodydd hynny i'r gwrthwyneb o fod yn gysurus neu'n gydgynllwyniol, ond maen nhw'n gwneud y gwaith caled, a dyna'r hyn yr ydych chi'n disgwyl iddyn nhw ei wneud. Maen nhw'n fannau lle ceir sgyrsiau anodd lle na chaiff negeseuon fyth eu cyflwyno mewn ffyrdd amwys, ond mewn ffordd sydd â'r nod yn y pen draw o ddod i gytundeb, weithiau dros faterion heriol iawn, y gall pawb yn y pen draw ymrwymo iddo. Diolch iddi am y profiad blaenorol yna ac am y ffordd y mae'n cyfrannu at y Cynulliad hwn o'r profiad hwnnw. Wrth gwrs, mae adroddiad y Comisiwn Gwaith Teg yn tynnu ar waith y Gronfa Ariannol Ryngwladol, Banc y Byd, a'r Sefydliad Llafur Rhyngwladol. Maen nhw i gyd yn dweud yr un peth, sef bod cyd-fargeinio yn dda i weithwyr, i gyflogwyr ac i'r economi. Dyna pam ein bod ni eisiau gweld cyd-fargeinio'n cael ei hymestyn yma yng Nghymru. Mae cyd-fargeinio yn arwain at rannu'r economi'n decach rhwng gweithwyr ac eraill, ac mae economïau tecach yn gwneud yn well. Does dim syndod, nac oes, fod economïau mwy cyfartal yn gwneud yn well, oherwydd eu bod yn tynnu ar gronfa ehangach o ddoniau o ganlyniad i hynny. Dyna'r diben sy'n sail i'n Bil partneriaeth gymdeithasol: sicrhau y gellir elwa a gweithredu'n briodol ar gyfraniad pawb sy'n helpu i wneud Cymru'n lle mwy ffyniannus. Caiff strwythurau'r bartneriaeth eu diwygio i gefnogi hynny. Bydd y Bil yn diffinio natur y bartneriaeth gymdeithasol yma yng Nghymru. Ac, i ateb sylw olaf Dawn Bowden, wrth gwrs, mae pawb sy'n dod at y bwrdd yn dod yno'n bartneriaid cydradd, gyda phob un â rhywbeth gwahanol i'w gyfrannu, pob un â'r un gwerth yn y cyfraniad hwnnw. Mark Reckless AC: A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad a hefyd am y copi ymlaen llaw, a dweud hefyd pa mor braf yw gweld faint o'i ddatganiadau gweinidogol y mae'n aros ar eu cyfer? Nid yw'n rhywbeth yr wyf yn cofio ei weld yn San Steffan erioed. Mae gennyf i dri maes yr oeddwn i eisiau ei holi yn eu cylch yma. Mae'r cyfeiriadau—. Dechreuodd drwy ganmol ein model o bartneriaeth gymdeithasol a gwneud cryn dipyn o gyfeiriadau at undebau llafur a'r TUC, roeddwn yn credu bod llai o gyfeiriadau at fusnesau a'u sefydliadau cynrychioliadol—meddwl oeddwn i tybed a yw hynny'n rhywbeth y bydd yn ceisio ei unioni yn y dyfodol. Hefyd, yn fwy cyffredinol, a yw'n gweld swyddogaeth Llywodraeth Cymru fel hwylusydd ar gyfer yr undebau llafur a busnes, neu fel Llywodraeth Lafur yn bennaf, yn cefnogi'r undebau llafur yn y cyd-destun hwnnw? Pan fo'n sôn am sicrhau nwyddau cymdeithasol newydd drwy gynyddu'r gofyn ar y rhai sy'n cael arian cyhoeddus drwy'r contract economaidd, drwy gaffael cyhoeddus—y contract economaidd, a yw hynny'n rhywbeth sy'n berthnasol i gaffael cyhoeddus yn gyffredinol, neu i gyfran benodol ohono yn unig? A tybed beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i weld a oes unrhyw effaith ar werth am arian wrth fynd ar drywydd pethau fel hyn? Yn amlwg, weithiau, os na fydd rhywun yn gwneud y gwahanol bethau y byddai'n eu dymuno, ac rwy'n siŵr bod llawer o'r rhain yn nwyddau cymdeithasol y byddem yn eu cefnogi, a fydden nhw'n cael eu heithrio o'r contractau? A phe bai gennych chi lai o bobl yn gwneud cais am gontractau o fewn cwmpas hyn, a allai hynny gynyddu costau, o leiaf dros y tymor canolig? Yn olaf, wrth weithredu Rhan 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, dywed y Prif Weinidog: Byddwn yn dwyn ynghyd y berthynas rhwng y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol a'r Bil partneriaeth gymdeithasol. Tybed a ydyn nhw'n bethau gwahanol? A fydd y Bil partneriaeth gymdeithasol yn cychwyn y ddyletswydd neu, pan fo'n cyfeirio at y camau sy'n ofynnol i weithredu'r ddyletswydd hon, a ydyn nhw'n wahanol? A yw deddfwriaeth San Steffan yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru gychwyn arni lle nad yw Gweinidogion y DU yn cychwyn ar hyn yn Lloegr? Mae'n cyfeirio at Ran 1 o'r Ddeddf Cydraddoldeb, ond rwyf hefyd yn cofio yn ystod ei hynt, gyfeiriad at y ffaith y gellid dadlau bod hyn yn sosialaeth mewn un cymal. Ai dyna y mae hyn yn cyfeirio ato ac ai dyna pam mae'r Prif Weinidog yn arwain yn y maes hwn yn y modd y mae wedi'i gyhoeddi heddiw? Mark Drakeford AC: Diolch i Mark Reckless am y cwestiynau hynny. Ceisiais yn fy natganiad ymdrin â llawer agwedd, a cheisiais sicrhau fy mod yn rhoi sylw priodol i'r cyfraniad y mae busnesau, yn gyflogwyr y sector cyhoeddus a chyflogwyr y sector preifat, wedi'i wneud i ddatblygiad partneriaeth gymdeithasol yma yng Nghymru. Roedd hi'n braf iawn gweld y croeso a roddodd Cydffederasiwn Diwydiant Prydain a'r Ffederasiwn Busnesau Bach i adroddiad y Comisiwn Gwaith Teg, a'm barn i yw bod busnesau'n bartneriaid cydradd o gwmpas y bwrdd hwnnw. Ac maen nhw'n bartneriaid cydradd â'r Llywodraeth hefyd. Nid wyf yn gweld Llywodraeth fel hwylusydd yn y ffordd yr awgrymodd Mark Reckless; mae'r Llywodraeth yn bartner mewn trefniant teirochrog. Mae'r Llywodraeth yn rhan, mae undebau llafur yn rhan, mae cyflogwyr yn rhan, a deuwn ynghyd â'n cyfrifoldebau gwahanol a'n galluoedd gwahanol i weithredu i ganolbwyntio ar broblemau yr ydym ni'n eu rhannu ymysg ein gilydd a lle gallwn ni, drwy ddal sylw gyda'n gilydd, gael gwell deilliannau. Wrth gwrs, mae arnom ni eisiau mwy o adenillion ar y buddsoddiad a wneir gan drethdalwyr Cymru wrth adeiladu economi Cymru. Rydym ni'n awyddus iawn i ddal ati fel Llywodraeth i fuddsoddi yn economi Cymru, buddsoddi mewn sgiliau, buddsoddi mewn seilwaith, buddsoddi mewn cynorthwyo busnesau unigol, lle mae achos i wneud hynny. Ond, yn gyfnewid, mae'n briodol, pan fydd y trethdalwr yng Nghymru yn gwneud y cyfraniad hwnnw, ei fod yn gallu dweud wrth y rhai sy'n elwa ar y cyfraniad hwnnw ein bod, er enghraifft, yn disgwyl iddyn nhw ddarparu cyfleusterau iechyd galwedigaethol priodol i bobl sy'n gweithio iddyn nhw. Rydym ni'n disgwyl iddyn nhw fuddsoddi yn sgiliau parhaus y gweithlu hwnnw. Rydym ni'n disgwyl iddyn nhw ymateb i'r gri a glywir yn aml yn y Siambr hon i sicrhau bod iechyd meddwl a lles pobl sy'n gweithio yn y sectorau hynny yn cael gofal hefyd. Mae'r rhain i gyd yn nwyddau cyhoeddus, mae'r rhain i gyd yn amcanion, rwy'n credu, y mae cefnogaeth eang iddyn nhw drwy'r Siambr, lle caiff arian cyhoeddus Cymru'n ei wario, credwn fod gennym ni'r hawl i ofyn iddo gyflawni'r agendâu ehangach hynny hefyd. Pan na chaiff pethau eu cyflawni, a yw hynny'n golygu bod sefydliadau'n cael eu heithrio rhag gwneud cais am gontractau? Wel, mae'n dibynnu ar yr hyn sy'n mynd o'i le. Os na fydd cwmnïau'n gweithredu yn unol â'r gyfraith, drwy gosbrestru, er enghraifft, ni allant ddisgwyl y byddant yn cael contractau o bwrs y wlad. Pan fo cwmni'n gweithio'n galed i gyflawni agwedd ar gytundeb yr ydym ni wedi'i daro gyda nhw ond nad ydyn nhw wedi cyflawni hynny eto, er enghraifft, cael gwasanaeth iechyd galwedigaethol, wel, wrth gwrs, ni fyddai hynny'n eithrio cwmni rhag cymryd rhan na gwneud cais am gontract. Felly mae'n dibynnu ar natur y mater dan sylw. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod am ei ddisgrifiad o ran 1 o'r Ddeddf Cydraddoldeb fel 'sosialaeth mewn un cymal'; mae'n fy annog i wneud yn siŵr ein bod yn cyflwyno'r Ddeddf a'r Bil gerbron y Cynulliad. Rydym ni'n dal i weithio, i ateb cwestiwn penodol Mark Reckless, ynglŷn â'r ffordd orau i'w chychwyn. Efallai y bydd hynny'n digwydd drwy'r Bil, efallai y gallwn ni ei gwneud yn gyflymach, ond mae eich atgof o 'sosialaeth mewn un cymal' yn fy annog i'w chyflwyno gerbron y Cynulliad mor gyflym ag sy'n bosib. Alun Davies AC: Mae'r datganiad wedi disgrifio llawer o'r heriau yr ydym yn eu hwynebu ym Mlaenau Gwent, o gyflogau isel, gwaith ansicr i anawsterau y mae'r stryd fawr a chyflogwyr ac eraill yn eu hwynebu. Gobeithiaf mai'r hyn y gallwch chi ei wneud i fynd â hyn yn ei flaen yw mynd i'r afael â'r materion hynny sy'n ymwneud â thlodi mewn gwaith sy'n effeithio ar Flaenau Gwent. Yn rhy aml o lawer gwelwn ddatganiadau i'r wasg o wahanol fannau yn dweud wrthym am y gwaith sy'n cael ei greu heb ddisgrifio beth yw'r gwaith hwnnw byth, a'r effaith y mae'n ei gael ar deuluoedd a'r economi ehangach. Felly, gobeithiaf y byddwn yn gallu defnyddio'r datganiad hwn a'r darn hwn o ddeddfwriaeth i fynd i'r afael â materion megis tlodi mewn gwaith. Gobeithio hefyd, Prif Weinidog, wrth geisio disgrifio'r atebion, y byddwn yn chwilio am atebion cydweithredol ac ar y cyd hefyd. Rwy'n gwybod fod y Dirprwy Weinidog Lee Waters wedi rhoi pwyslais mawr ar yr economi leoliadol a'r ffordd yr ydym ni'n mynd ati i gydweithio i ymdrin â'r materion hyn yn ei waith, yn enwedig gyda thasglu'r Cymoedd. Rwy'n gefnogol iawn o hynny, ac rwy'n gobeithio felly y byddwn yn gallu defnyddio'r ddeddfwriaeth yma er mwyn rhoi mwy o bwyslais ar y datrysiadau cydweithredol. Prif Weinidog, byddwch hefyd yn ymwybodol bod Cytuniad Lisbon, wrth gwrs, yn cydnabod partneriaethau cymdeithasol yn yr Undeb Ewropeaidd, a defnyddiwyd hynny i hybu'r ffordd y mae'r Undeb Ewropeaidd wedi sicrhau bod partneriaid cymdeithasol bob amser yn cael eu cynrychioli wrth wneud penderfyniad ar draws yr Undeb. Gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru'n edrych ar Gytuniad Lisbon, ac yn edrych ar sut y gellir defnyddio hwnnw yn fodel ar gyfer cyflwyno partneriaethau cymdeithasol yng Nghymru heddiw. Gobeithio hefyd, Prif Weinidog, y byddwn yn gallu edrych ar hyn o ran y gronfa ffyniant gyffredin, fel bod partneriaethau cymdeithasol honno'n rhan annatod o hynny. Prif Weinidog, gallwn wneud y newidiadau cyfreithiol a gallwn newid y fframwaith statudol, ond byddwch, rwy'n siŵr, yn cytuno â mi bod newid gwirioneddol yn deillio o newid diwylliannol, a byddwn yn ddiolchgar pe byddech chi'n amlinellu sut yr ydych chi'n credu y gellir defnyddio'r newid statudol hwn—y newidiadau i sail gyfreithiol yr hyn a wnawn—i sbarduno newid diwylliannol drwy'n holl economi a'n sector cyhoeddus. Fy nghwestiwn olaf i chi yw hyn, Prif Weinidog: mewn llawer ffordd, yr hyn yr ydych chi'n ei ddisgrifio yw ymagwedd sosialaidd, Llafur Cymru at globaleiddio ac effaith globaleiddio ar ein heconomïau lleol. Rydym ni wedi gweld o senoffobia Plaid Brexit ac eraill bod ymatebion gwahanol iawn i effaith globaleiddio ar bobl a chymunedau. Drwy ein partneriaeth ag undebau llafur a thrwy weithio gyda'n gilydd ar sail gydweithredol, gobeithiaf y gallwn ni gyflawni'r newid yr ydych chi'n ei ddisgrifio, a diwygio radical drwy'r sector cyhoeddus i gyd. Mark Drakeford AC: Gadewch imi ddechrau drwy ddweud bod creu Cymru sy'n fwy cyfartal yn un o nodau sylfaenol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a bod ceisio cael cenedl fwy cyfartal wrth wraidd popeth y mae'r Llywodraeth hon yn ei wneud, a bydd hynny'n wir am y gwaith partneriaeth gymdeithasol hefyd, am yr union resymau a fynegwyd gan Alun Davies am ei etholaeth ei hun. Roeddwn yn falch iawn yn ddiweddar o gyfarfod â grŵp cydweithredol Aelodau'r Cynulliad yn y fan yma. Cafwyd cyfres o syniadau ymarferol iawn yn gyflym iawn o'r cyfarfod hwnnw, a bydd yn sicr yn ein helpu i ffurfio ein meddylfryd yn y dyfodol a bod yn rhan o'r agenda partneriaeth gymdeithasol ehangach honno. Nid yw'n syndod, Dirprwy Lywydd, pan aethom ati i sefydlu pwyllgor monitro rhaglenni Cymru gyfan ar gyfer cronfeydd Ewropeaidd yma yng Nghymru, sy'n cael ei gadeirio ar hyn o bryd gan Huw Irranca-Davies, fod yr ymdeimlad hwnnw o bartneriaeth gymdeithasol yn dod yn naturiol iawn i ni yma yng Nghymru. Mae pawb sydd â diddordeb mewn gwneud llwyddiant o gyllid Ewropeaidd o amgylch y bwrdd gyda'i gilydd, ac mae ein partneriaid o'r Undeb Ewropeaidd sydd wedi dod i weithio gyda ni, i arsylwi ar yr hyn a wnawn ni, i rannu eu profiadau nhw a'n rhai ni, maen nhw yr un mor gartrefol yn y ffordd honno o wneud pethau. Ac mae hynny oherwydd, fel y dywedodd Alun Davies, mae globaleiddio'n galw am ymateb lleol. Ac os ydych chi'n mynd i roi hyder i bobl fod ganddyn nhw le yn y byd hwn sydd wedi'i globaleiddio, bod eu dyfodol i raddau yn eu dwylo eu hunain, yna cryfhau hawliau gweithwyr, cryfhau amddiffyniadau cymdeithasol—maen nhw'n magu'r hyder sydd wedyn yn arwain at y newidiadau diwylliannol hynny. Ac rwy'n credu bod gennym ni lawer o hynny eisoes ar waith yn y profiad o bartneriaeth gymdeithasol yr ydym ni wedi'i feithrin yng Nghymru. Mae'r Bil a'r camau gweithredu eraill a amlinellais y prynhawn yma wedi eu cynllunio i ddatblygu hynny ymhellach, i roi hyder y gyfraith yn sail i hynny ac, yn hynny o beth, i saernïo ymatebion sy'n cael effaith fawr ar fywydau pobl yma yng Nghymru ac, yn bennaf oll, ym mywydau trigolion lleoedd fel Blaenau Gwent, lle mae'r angen am y mesurau diogelu cymdeithasol hynny a'r angen am y bartneriaeth gymdeithasol honno yn fwy pwysig nag erioed. Vikki Howells AC: Diolch, Prif Weinidog. Roeddwn yn falch iawn o groesawu eich datganiad heddiw ac yn enwedig y sôn am bolisïau fel y contract economaidd, Swyddi Gwell yn Nes Adref a'r economi sefydliadol. Mae pob un o'r rhain yn cynnig model gwahanol iawn ar gyfer datblygu economaidd a gallant wella amodau i weithwyr Cymru. Hoffwn adeiladu ar y sylwadau a wnaed gan fy nghyd-Aelod Alun Davies am yr angen am newid diwylliannol, ac ymddengys i mi mai un o'r newidiadau diwylliannol allweddol y mae arnom ni eu hangen er mwyn gwneud i'r bartneriaeth gymdeithasol hon weithio mewn gwirionedd yw cael mwy o weithwyr o Gymru i ymuno ag undebau llafur, a dywedaf hynny fel aelod balch iawn o ddau undeb rhagorol, y GMB ac USDAW. O edrych ar rai ystadegau, gallaf weld bod ychydig dros 30 y cant o weithwyr Cymru yn aelodau o undebau llafur ar hyn o bryd, a oedd yn ymddangos yn eithaf isel i mi ond mewn gwirionedd mae'n fwy na'r DU gyfan ac eithrio Gogledd Iwerddon, ac yn 2018 gwelwyd un o'r ymchwyddiadau mwyaf yng ngweithlu undebol Cymru, sy'n amlwg yn newyddion da. Ond yr hyn yr hoffwn i ei ofyn yw beth arall gall Llywodraeth Cymru ei wneud i annog aelodaeth o undebau llafur. Croesawaf hefyd eich cyfeiriad at gamau pellach i greu swyddfa ar gyfer gwaith teg, a byddai o ddiddordeb imi wybod pa fath o systemau fydd ar waith i'w alluogi i ysgogi newid ac i fynd i'r afael ag arferion gwaith annheg. Fel Aelodau Cynulliad eraill, derbyniais gopi o gerdyn sgorio archfarchnadoedd Oxfam yn ddiweddar, sy'n gwerthuso sut mae archfarchnadoedd yn mynd ati i roi terfyn ar ddioddefaint pobl yn eu cadwyni cyflenwi byd-eang. Gan fod eich datganiad yn canolbwyntio ar fynd i'r afael ag arferion gwaith sy'n camfanteisio, sut gellir cynnwys y pryderon ehangach hyn yn ein polisïau partneriaeth gymdeithasol er mwyn adlewyrchu ein rhwymedigaethau rhyngwladol? Yn olaf, ni chlywais sôn am Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn eich datganiad, felly hoffwn ofyn sut fydd honno'n rhan o flaenoriaethau uchelgeisiol Llywodraeth Cymru ynglŷn â phartneriaethau cymdeithasol. Mark Drakeford AC: Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr i Vikki Howells am y cwestiynau yna. Mae hi'n aelod o'r undeb llafur sy'n tyfu gyflymaf yn y Deyrnas Unedig os yw'n aelod o USDAW. Ac mae hynny'n bwysig iawn, onid yw, oherwydd rydym ni wedi arfer yng Nghymru cael dwyseddau uchel o aelodaeth o undebau llafur mewn gwasanaethau cyhoeddus ac mewn lleoliadau sector cyhoeddus, ond mae USDAW yn undeb llafur sy'n gweithredu yn y sector y soniodd hi amdano, yn y sector adwerthu, mewn siopau lle'r oedd adroddiad Oxfam yn canolbwyntio arnyn nhw. Rwyf wedi bod yn falch iawn, fel llawer o bobl eraill yma, i fod yn rhan o ymgyrchoedd y mae USDAW wedi'u cynnal, yn lleol mewn etholaethau ac yn genedlaethol, ac mae wedi llwyddo i fod yn undeb llafur sy'n tyfu oherwydd mae'n gweithredu mewn ffordd newydd. Mae'n dibynnu ar ddarbwyllo pobl ynghylch y manteision uniongyrchol a ddaw yn sgil aelodaeth o undeb llafur, ac yna'r manteision cyfunol a gânt o gydweithio. Rwy'n gwybod fod rhai gwersi pwysig ar gyfer y mudiad undebau llafur ehangach, y mae'r TUC yn genedlaethol wedi bod yn awyddus i elwa arnyn nhw. Ac, wrth gwrs, mae llawer o ffyrdd eraill y gallwn ni, fel Llywodraeth ac unigolion, gefnogi'r ymdrech honno. Rwy'n gwybod y bydd llawer o'm cyd-Aelodau yma wedi cymryd rhan yn yr ymgyrch gweithwyr ifanc, sy'n cael ei rhedeg gan Unsain, a oedd yma yn y Cynulliad wythnos neu ddwy yn ôl, ac sy'n ceisio gwneud yr un peth ar gyfer gweithwyr newydd—pobl ifanc sy'n dechrau gweithio mewn diwydiant a gwasanaethau cyhoeddus—ac eto i egluro wrthyn nhw ac i'w cyflwyno i fanteision ymaelodi ag undeb. O ran y gyfarwyddiaeth yr ydym ni'n ei sefydlu, roeddwn yn awyddus y dylai fod yn swyddfa'r Prif Weinidog am y rhesymau a amlinellais yn gynharach, sef y dylai fod ganddi ddigon o awdurdod y tu ôl iddi, ond y dylai weithredu hefyd â nifer sylweddol o weithwyr ar secondiad sy'n trosglwyddo i'r gwaith yn uniongyrchol o fudiad yr undebau llafur ac yn uniongyrchol o gyflogwyr hefyd. Os mai cyfarwyddiaeth ynghylch partneriaeth gymdeithasol yw hon, mae angen iddi weithredu ar sail partneriaeth gymdeithasol, ac mae hynny'n golygu bod Llywodraeth Cymru'n rhan o hynny, ond mae hefyd yn golygu cael cyfranogiad uniongyrchol gan bobl o'r byd ehangach hwnnw. Rydym ni eisoes yn siarad â TUC Cymru a sefydliadau cyflogwyr am y ffordd y maen nhw'n dod o hyd i'r bobl briodol i ddod i weithio gyda ni ar yr agenda hon. Ac, yn olaf, Dirprwy Lywydd, ni soniais am Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn y datganiad ei hun, ond fe wnes i sôn am sicrhau bod yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yn cydweddu â'r tirlun deddfwriaethol ehangach. Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol oedd gennyf dan sylw, ac roedd gennyf hynny mewn golwg yn y modd y bu imi ymateb i Alun Davies—mai wrth wraidd y Ddeddf, yn un o'i saith nod, mae creu Cymru fwy cyfartal. Dyna'r uchelgais sy'n gyrru partneriaeth gymdeithasol yma yng Nghymru ac sy'n sbarduno ein huchelgais i ddod â Bil gerbron i'w ystyried gan y Cynulliad hwn. Diolch yn fawr, Prif Weinidog. 5. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Ymateb Llywodraeth Cymru i'r Adolygiad Annibynnol o'r Cyflenwad Tai Fforddiadwy Yr eitem nesaf ar yr agenda yw datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar ymateb Llywodraeth Cymru i'r adolygiad annibynnol o'r cyflenwad tai fforddiadwy. Galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James. Julie James AC: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae hi wedi bod yn glir i mi ers imi gael fy mhenodi i'r portffolio hwn fod gennym ni awydd cyffredin ar draws y Siambr hon i weld cynnydd yn y ddarpariaeth o dai fforddiadwy. A, Dirprwy Lywydd, rwyf wedi bod yr un mor glir mai tai cymdeithasol yn benodol yw fy mlaenoriaeth i. Ni ellir gorbwysleisio'r effaith gadarnhaol y mae tai cymdeithasol o ansawdd da yn ei chael ar fywyd rhywun. Dyma pam y comisiynodd fy rhagflaenydd, Rebecca Evans, adolygiad annibynnol o'n trefniadau tai fforddiadwy y llynedd i edrych yn fanwl ar ein dull o weithredu ac awgrymu newidiadau a fyddai'n ein helpu i gyflawni mwy. Ar 1 Mai, cefais yr adroddiad terfynol o'r adolygiad o'r cyflenwad tai fforddiadwy. Gwnaeth yr adolygiad nifer o argymhellion ynghylch sut y gallwn ni sicrhau ein bod yn cynyddu nifer y tai fforddiadwy yr ydym yn eu darparu yng Nghymru heb gyfaddawdu o ran effeithlonrwydd ynni, ansawdd na fforddiadwyedd i denantiaid. Treuliodd y panel annibynnol, o dan gadeiryddiaeth Lynn Pamment, gryn dipyn o amser yn edrych ar bob agwedd ar gyflenwad tai fforddiadwy a heddiw rwy'n falch iawn o rannu ymateb cychwynnol y Llywodraeth i'r argymhellion â chi. Dyma'r cyntaf o gyfres o ymatebion i adolygiadau ac ymgynghoriadau sydd i fod i gael eu cyflwyno yn ystod y misoedd nesaf. Bydd gennyf fwy i'w ddweud maes o law am ddatgarboneiddio, materion cynllunio a rheoliadau adeiladu. Rwy'n ymwybodol iawn o'r angen i gysoni'r polisïau ym mhob un o'r meysydd hyn. Rwyf eisiau diolch, unwaith eto, i'r panel annibynnol am eu gwaith. Fe wnaeth y rhain ymgysylltu â'r sector tai drwyddo draw ac ag Aelodau'r Cynulliad. Gwerthfawrogir yn fawr yr amser a fuddsoddwyd ganddyn nhw yn yr adolygiad hwn, gan eu tynnu'n rheolaidd o'u swyddi dyddiol yn ystod y flwyddyn. Maen nhw wedi gwneud cyfraniad gwirioneddol a pharhaol i dai yng Nghymru, a chredaf y bydd hynny'n golygu goblygiadau cadarnhaol parhaus am flynyddoedd i ddod. Roedd hi'n bwysig iawn i mi nad oedd hwn yn adroddiad a oedd yn casglu llwch ar silff. Rwyf wedi bod yn awyddus, felly, i ymateb yn gyflym ac yn bendant. Rwyf eisiau i bob un ohonoch chi fod yn ymwybodol o fwriadau'r Llywodraeth, a dyna pam yr anfonais ymateb ysgrifenedig i bob argymhelliad atoch yn gynharach heddiw. Rwy'n falch o ddweud ein bod wedi derbyn, neu dderbyn mewn egwyddor, pob argymhelliad, gydag un eithriad o ran dyfodol Cymorth i Brynu. Nid ydym ni mewn sefyllfa i ymateb tan yr hydref, pan fyddwn ni'n ymwybodol o'r arian canlyniadol y byddwn yn ei gael gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Nid wyf yn bwriadu mynd drwy bob un o'r argymhellion heddiw. Rwyf eisiau, fodd bynnag, cynnig fy sylwadau ar rai o'r prif ganfyddiadau. Tynnodd y panel sylw at bwysigrwydd deall yr angen am dai a rhai o'r heriau y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu yn y maes hwn. Pwysleisiwyd y rhan gref y gallai ac y dylai Llywodraeth Cymru ei chwarae, a phwysigrwydd cryfhau'r cysylltiadau rhwng yr angen am dai a'r broses gynllunio. Rwy'n derbyn y feirniadaeth hon ac yn croesawu eu cefnogaeth i'r gwaith yr ydym ni wedi'i wneud ar asesu angen ar lefel genedlaethol a rhanbarthol. Mae eu hawgrym y dylid ymestyn y gwaith hwn i lefel leol nawr yn un yr wyf yn ei gefnogi ac yn bwriadu rhoi sylw iddo. Rwy'n gwybod mai pennu polisi rhenti oedd un o agweddau mwyaf heriol a dadleuol yr adolygiad, gyda safbwyntiau cryf a gwrthgyferbyniol yn cael eu mynegi o wahanol rannau o'r sector. Cytunaf â'r panel adolygu fod angen parhaus am bolisi rhent i roi sicrwydd i denantiaid a landlordiaid ac y dylai landlordiaid fod yn ystyried gwerth am arian ac arbedion effeithlonrwydd i gyfiawnhau codiadau rhent. O ganlyniad, cyn toriad yr haf, byddaf yn cyhoeddi beth fydd y polisi rhent pum mlynedd ar ôl imi gael yr holl ddata angenrheidiol. Byddaf yn sicrhau bod fy mhenderfyniad yn cydbwyso'r angen i landlordiaid gael sicrwydd ynghylch yr incwm rhentu y gallan nhw ei ddisgwyl, gyda sicrhau fforddiadwyedd i denantiaid. Maes arall o'r adolygiad rwy'n gwybod iddo ysgogi trafodaeth gref oedd natur yr arian grant sydd ar gael i bartneriaid a'r modd y dosberthir hyn. Mae'r panel wedi argymell dull newydd o weithredu, gan gefnu ar ein dull safonedig o ddyrannu grantiau i un o sicrwydd cyllid tymor hwy ac asesiad mwy cadarn o werth am arian. Er nad wyf yn cytuno â phob agwedd ar y dull gweithredu y mae'r panel wedi'i argymell yn ei adroddiad, rwy'n derbyn yr argymhelliad ar gyfer newid a mwy o hyblygrwydd. Nid oes angen swm y cymhorthdal a dderbyniant ar hyn o bryd ar rai cynlluniau, ac mae'n bosib nad yw eraill yn dod ymlaen am nad yw lefel y cymhorthdal yn ddigon i'w gwneud hi'n ymarferol. Mae tîm a fydd yn gweithio gydag awdurdodau lleol a chymdeithasau tai eisoes wedi'i sefydlu i ddatblygu dull gweithredu newydd. Yn y pen draw, bydd hyn yn ein galluogi ni i sicrhau bod ein buddsoddiad sylweddol mewn tai fforddiadwy yn cael ei ddefnyddio mor effeithiol â phosib yn y mannau lle mae ei angen fwyaf. Julie James AC: Un o'r ffyrdd allweddol a fyddai'n ein galluogi ni i gynyddu'r cyflenwad o dai cymdeithasol yw i awdurdodau lleol fynd yn ôl i adeiladu tai cyngor yn gyflym ac ar raddfa fwy. Bydd codi'r terfyn benthyca, y mae hi'n hen bryd ei wneud, yn gatalydd pwysig ar gyfer hyn, fel y bydd gallu cael grant gan Lywodraeth Cymru, sef yr hyn y mae'r panel adolygu yn ei argymell. Pan fo'n briodol, rwyf yn barod i ddarparu grantiau i awdurdodau uchelgeisiol, i'w defnyddio ochr yn ochr â'r hyblygrwydd y mae codi'r terfyn benthyca yn ei greu. Yn amlwg, mae manylder y trefniant hwn yn rhywbeth y byddaf eisiau cytuno arno gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae hwn yn gyfle enfawr i adeiladu mwy o dai fforddiadwy dros y degawd nesaf a thu hwnt. Gan weithio ar y cyd â phartneriaid i wneud y gorau o adnoddau cyfyngedig, rwyf eisiau gweld awdurdodau lleol yn manteisio ar y cyfle hwn. Rwy'n derbyn barn y panel y dylid gwneud mwy i ddefnyddio'r tir sydd ar gael ar draws y sector cyhoeddus yn fwy effeithiol ac yn gynt i gefnogi adeiladu tai. Cytunaf hefyd fod angen rhywfaint o adnoddau canolog i helpu awdurdodau lleol ac eraill yn y sector cyhoeddus i gyflwyno eu tir. Rwy'n derbyn yr egwyddor y dylai uned tir o ryw fath gefnogi'r defnydd mwy effeithiol o dir y sector cyhoeddus. Mae hwn yn fater y mae angen i'r sector cyhoeddus cyfan ei ystyried yn well. Mae angen i ni fod yn llawer mwy doeth yn y ffordd yr ydym ni'n defnyddio tir cyhoeddus i gefnogi ystod ehangach o amcanion yn hytrach na dim ond cael yr arian mwyaf amdano, ac rwyf eisiau gweld gwell cydweithio rhwng sefydliadau i helpu i gyflawni hyn. Ynghyd â'm cyd-Aelodau, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd a Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, mae hwn yn fater y bydd gennyf fwy i ddweud amdano dros y misoedd nesaf. O ystyried mai prif gylch gwaith y panel oedd ein cynghori ar sut i adeiladu mwy o gartrefi heb adnoddau ychwanegol, byddai wedi bod yn hawdd iddyn nhw argymell newidiadau a fyddai'n peryglu'r safonau yr ydym ni'n eu disgwyl ar hyn o bryd ar gyfer cartrefi fforddiadwy sy'n derbyn cymhorthdal gan y Llywodraeth. Fodd bynnag, roeddent yn cydnabod bod yr ansawdd a'r gofod sydd ar gael mewn cartref yn elfen hanfodol o'r effaith gadarnhaol y mae cartrefi newydd yn ei chael. Roeddent hefyd yn cydnabod yr hyblygrwydd y mae hyn yn ei gynnig, pe bai anghenion rhywun yn newid yn y dyfodol. Rwy'n eu canmol am hyn ac yn derbyn yr angen i symleiddio safonau a'u hymestyn i eiddo adran 106. Ein nod yw sicrhau y dylai cartrefi a gyflenwir drwy'r farchnad fod o ansawdd cyfartal â'r rhai yr ydym ni yn eu hariannu, beth bynnag fo'r goblygiadau o ran elw datblygwyr. Rwy'n derbyn yn llwyr yr angen i symud yn gyflym tuag at gartrefi di-garbon yn y sectorau fforddiadwy a'r farchnad arferol. Mae symud tuag at fod yn ddi-garbon yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon; mae angen inni gyflawni hyn cyn gynted ag y bo modd. Byddwn yn gweithio gyda chymdeithasau tai ac awdurdodau lleol yng Nghymru i benderfynu a allwn ni gyflawni targed 2021 a gynigir yn yr adolygiad. Ond yn y cyfamser, rydym yn parhau i gefnogi a datblygu dulliau newydd o ddarparu tai sy'n gwyro oddi wrth y dull traddodiadol o weithredu. Rwy'n falch iawn heddiw, mewn ymateb i'r adolygiad, o lansio ein strategaeth ar weithgynhyrchu oddi ar y safle, yr ydym ni wedi'i alw'n 'Ail-ddychmygu Tai Cymdeithasol yng Nghymru'. Bydd gweithgynhyrchu oddi ar y safle, dulliau modern o adeiladu, a gwneud mwy o ddefnydd o goed Cymru wrth wraidd ein cynlluniau di-garbon. Byddwn hefyd yn parhau i fuddsoddi yn y gwaith o ddarparu'r modelau newydd hyn drwy ein rhaglen dai arloesol. Byddaf yn cyhoeddi cam nesaf y datblygiad hwn yn yr hydref. Roedd yr adolygiad yn cydnabod yn briodol, o ystyried maint yr heriau yr ydym yn eu hwynebu, bod yn rhaid i ni graffu ar ein holl benderfyniadau ariannu a'u cyfiawnhau er mwyn sicrhau ein bod yn cael yr adenillion mwyaf ar y buddsoddiadau a wnawn. Mae hyn yn cynnwys ein buddsoddiad mewn cartrefi sy'n bodoli eisoes. Telir y lwfans gwaddol ac atgyweiriadau mawr gwerth £108 miliwn yn flynyddol i gymdeithasau tai trosglwyddo gwirfoddol ar raddfa fawr ac awdurdodau lleol sy'n cadw stoc. Rwy'n cytuno â'r panel adolygu, pan gaiff safon ansawdd tai Cymru ei fodloni yn 2020, ein blaenoriaeth yw ystyried sut y dylid defnyddio'r adnodd sylweddol hwn i gyflymu'r modd y caiff cartrefi sy'n bodoli eisoes eu datgarboneiddio. Wrth gwrs, dyma'r mater sy'n cael ei ystyried gan yr adolygiad ar wahân dan gadeiryddiaeth Chris Jofeh, yr wyf yn disgwyl argymhellion arno ar 18 Gorffennaf—dydd Iau nesaf. Hyd yn oed cyn cael yr adroddiad hwnnw, rwy'n glir bod hwn yn faes lle y mae angen inni wneud cynnydd ar frys. Credaf fod awdurdodau lleol a'r sefydliadau trosglwyddo stoc yn rhannu'r farn honno. Yn hytrach na chomisiynu adolygiad arall ar y mater hwn nawr, a fyddai'n oedi'r broses o symud ymlaen, bwriadaf sicrhau cytundeb diwygiedig gyda'r sefydliadau hynny yn ystod y flwyddyn nesaf a fyddai'n berthnasol i'r buddsoddiad hwn unwaith y byddwn ni wedi cyflawni ein safon ansawdd tai Cymru presennol. Wrth gwrs, mae comisiynu adolygiad annibynnol yn rhywbeth y byddwn yn barod i ddychwelyd ato yn ddiweddarach, os na fyddwn yn dod i gytundeb sy'n cyflawni ein huchelgeisiau datgarboneiddio. Mae'r adolygiad a gynhaliwyd gan Lynn Pamment a'i thîm wedi gwneud cyfraniad hynod gadarnhaol at y ffordd yr ydym ni'n llunio'r agenda tai ar gyfer y dyfodol. Yr hyn sy'n glir o'r adolygiad, a'n hymateb iddo, yw nad yw'r drefn bresennol yn ddewis. Gall newid fod yn heriol ac yn anghyfforddus, ond mae newid yn hanfodol os ydym ni'n mynd i gynyddu nifer y cartrefi yr ydym ni'n gwybod sydd eu hangen arnom ni. Nid y newidiadau yr wyf yn eu cynnig heddiw yw'r unig rai y mae angen inni eu gwneud er mwyn sicrhau cymunedau cynaliadwy. Gwn fod meysydd lle'r ydym ni'n anghytuno, ond credaf hefyd fod llawer mwy o feysydd sy'n ymwneud â thai lle mae consensws ar draws y Siambr hon. Gobeithio felly y byddwch yn croesawu fy ymateb i'r adolygiad o'r cyflenwad tai fforddiadwy. Rwy'n cydnabod yr angen am newid, a bod yn rhaid inni ymdrechu i gael mwy o'r adnoddau presennol, ond rhaid inni beidio â gwneud hyn ar draul y cartrefi o ansawdd da sydd eu hangen ar bobl, er mwyn inni adeiladu cymunedau y gallwn ni ymfalchïo ynddyn nhw. Mae hwn yn gyfle i newid y ffordd yr ydym ni'n darparu'r cartrefi sydd eu hangen arnom ni. Mae gwir angen tai cymdeithasol yng Nghymru a dyma'r adeg i gynyddu cyflymder a maint y ddarpariaeth honno. David Melding AC: Rwy'n croesawu'r ysbryd, yn enwedig tua'r diwedd, o ran yr angen i weithio gyda'n gilydd a chynyddu cyflymder a graddfa adeiladu cartrefi cymdeithasol. Ond hefyd, yn gyffredinol, rwy'n credu bod angen i ni edrych ar ein targedau a gosod uchelgais gwirioneddol ddifrifol ar gyfer y 2020au. Mae angen inni wneud hynny nawr er mwyn inni allu sicrhau bod yr holl ddulliau angenrheidiol ar waith er mwyn inni gael cynnydd yn y raddfa, wedyn, o ran adeiladu tai. Rwyf hefyd yn croesawu'r adolygiad. Credaf ei fod wedi gofyn rhai cwestiynau difrifol ac wedi rhoi rhai syniadau gwerthfawr. Mewn rhai meysydd eraill y mae'r Gweinidog wedi cyfeirio atyn nhw, yn enwedig datgarboneiddio ac adolygiad Chris Jofeh, credaf y bydd y rheini, yn briodol yn cael triniaeth ar wahân. A gaf fi hefyd ddiolch i'r Gweinidog am y rhybudd ymlaen llaw ac yn wir am y drafodaeth gychwynnol a gefais gyda Chris Jofeh ynghylch cyfeiriad tebygol yr adolygiad? Rwy'n credu bod hynny'n ddefnyddiol iawn ac yn enghraifft o lywodraeth agored dda. A gaf i symud, felly, yn fras at y meysydd lle y bydd cytundeb gwirioneddol, yn fy marn i? Rwyf eisiau dechrau, dim ond oherwydd fy ngweithgareddau ddoe, gyda gweithgynhyrchu oddi ar y safle. Roeddwn yn falch iawn o weld hyn yn cael ei bwysleisio o ran yr hyn y gallwn ni ei wneud gyda dulliau adeiladu modern. Yn wir, yn strategaeth dai'r Ceidwadwyr a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, fe wnaethom ni edrych ar hyn yn weddol benodol, gan gyfleu'r sylw sydd i hyn ar lawr gwlad, ac rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru yn pwysleisio hyn yn benodol o waith yr adolygiad. Yn wir, Gweinidog, a minnau'n dilyn yn ôl eich traed, a dweud y gwir, ddoe, ymwelais â ffatri dai fodiwlaidd Grŵp Wernick ym Margam, ac yna ymwelais â'r safle ym Mhen-y-bont ar Ogwr lle mae Cymdeithas Tai Cymoedd i'r Arfordir wedi defnyddio dulliau gweithgynhyrchu o'r fath i adeiladu cartrefi fforddiadwy. Euthum i mewn ac roeddwn yn rhyfeddu at gyflymder y ddarpariaeth a pha mor dda oedd y cartrefi tair ystafell wely hynny a welais, yn edrych. Maen hyn yn llawer mwy cyffredin mewn sawl rhan o Ewrop, ac ar hyn o bryd prin 2 y cant neu 3 y cant o'n datblygiadau tai ni sy'n cael eu codi fel hyn, felly credaf fod angen inni edrych ar hyn. Ac yn wir, ym mholisi'r Ceidwadwyr, rydym yn addo cynyddu'r math hwn o weithgynhyrchu oddi ar y safle i hyd at 20 y cant o'r tai sy'n cael eu codi erbyn 2030. Felly, gobeithiaf y byddwch chithau hefyd yn mynegi'r math hwnnw o uchelgais. Yn ail, o ran tir cyhoeddus, unwaith eto, rwy'n croesawu'r ffaith eich bod yn derbyn yr argymhellion yn yr adroddiad, yn enwedig o ran mapio tir gwag, ynghyd â'i statws o ran potensial datblygu. Roeddwn yn meddwl tybed, o ran tir y sector cyhoeddus, a allem ni fynd hyd yn oed ymhellach a chynnig gostyngiadau i ddatblygiadau sy'n darparu gwerth cymdeithasol cryf, y mae tai fforddiadwy, wrth gwrs, yn ei wneud. Yn ôl tystiolaeth a gyflwynwyd gan y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi i Bwyllgor Materion Economaidd Tŷ'r Arglwyddi, mae rhwng chwarter a thraean yr holl dir preswyl posib yn cael ei reoli gan y sector cyhoeddus ar hyn o bryd. Drwy flaenoriaethu gwerth cymdeithasol yn gyfnewid am ostyngiad, er enghraifft, gellir defnyddio tir cyhoeddus er budd cyhoeddus hirdymor a gallai'r math hwn o gynllun gael ei ymestyn i dai ar gyfer proffesiynau hanfodol megis nyrsys, tai ar gyfer pobl hŷn a datblygiadau tai fforddiadwy cyffredinol a chynlluniau tai cydweithredol ac ati. Mae llawer y gallwn ei wneud drwy'r ffordd yr ydym yn rhyddhau tir ac yn ei ddefnyddio fel cymhelliad ac fel adnodd gwirioneddol. Os edrychaf ar rent, rwy'n croesawu'r cylch pum mlynedd hwn. Mae'n rhywbeth y mae'r sector wedi bod yn galw amdano. Ac fel y dywedodd y Sefydliad Tai Siartredig, yn eu hymateb i'r datganiad hwn heddiw, mae arnom ni angen y cydbwysedd cywir sy'n darparu lefelau rhent fforddiadwy gan ganiatáu ar yr un pryd i sefydliadau tai barhau â'u datblygiadau a gynlluniwyd. Felly, edrychaf ymlaen at gael manylion gwirioneddol eich polisi rhenti pum mlynedd, ond credaf, unwaith eto, mai dyna'r dull gweithredu strategol cywir a fydd yn caniatáu inni ddatblygu atebion tymor hir. Yn olaf, o ran cartrefi cyngor a dileu'r terfyn benthyca—unwaith eto, credaf fod hwn yn ddatblygiad i'w groesawu'n fawr. Mae ei angen arnom ni ar hyn o bryd, bydd yn ein helpu i gynyddu nifer y cartrefi yr ydym yn eu hadeiladu, ond credaf fod angen inni bwysleisio y gall cynghorau hefyd weithio gyda chymdeithasau tai ac eraill i ddefnyddio'r dulliau hyblyg hyn, felly nid oes rhaid iddyn nhw o reidrwydd adeiladu a rheoli'r cartrefi eu hunain, er pan fyddan nhw eisiau gwneud hynny a'u bod yn dangos gwir werth ac, yn amlwg, cynlluniau mwy hyblyg a llai o faint nag, efallai, yr hyn a welsom ni yn y 1950au a'r 1960au—. Ond mae'n sicr yn rhan o'r cyfuniad y gallwn ei gael. Ac, yn olaf, hoffwn ddiolch ar goedd, fel y gwnaeth y Gweinidog, i'r panel ac i Lynn Pamment. Fel y dywedasoch chi yn gywir ddigon, mae'r bobl hyn wedi gwneud gwaith da iawn er lles y cyhoedd ac wedi rhoi o'u hamser wrth wneud hynny ac wedi aberthu, yn amlwg, o ran yr hyn y gallen nhw fod wedi'i wneud yn eu gyrfaoedd proffesiynol. Ond rydym yn wir groesawu eu cyfraniad. Julie James AC: Wel, diolch yn fawr iawn am y cyfraniad yna. Fel y dywedais, roeddwn eisiau pwysleisio fy mod yn credu bod llawer mwy, ar draws y Siambr, sy'n ein cysylltu ni â'n gilydd ar hyn, a meysydd bach iawn o anghytundeb nad ydyn nhw mewn gwirionedd mor bwysig o ran yr hyn yr ydym ni'n sôn amdano yma. O ran y cartrefi modiwlaidd, rwy'n frwd iawn dros y slogan 'Not prefab but ab fab'. Fe wnaeth y cartrefi modiwlar y soniasoch chi amdanyn nhw yn eich ymweliad argraff fawr arnaf—bûm i yno ychydig o'ch blaen chi—ac fe wnaethon nhw argraff arnaf am nifer o resymau: yn gyntaf, pa mor gyflym y cawsant eu hadeiladu, ond yn ail yr ôl troed carbon isel iawn, natur leol llawer o'r deunydd. Rwy'n credu ein bod yn pwysleisio'n gryf yn ein rhaglen dai arloesol nid yn unig y natur fodiwlaidd oddi ar y safle—felly, yn amlwg, mae pobl sy'n gweithio ar y cartrefi yn eu hadeiladu mewn ffatri mewn amgylchedd cynnes, nid ym mhob tywydd, nid ar uchder a phob math o faterion eraill. Mae'r diwydiant yn hoff o ddweud na fyddech chi'n adeiladu Ferrari mewn cae, felly pam adeiladu tŷ ynddo, ac rwy'n credu bod hynny'n gyfatebiaeth resymol. Ond hefyd, roeddwn eisiau pwysleisio'r ystod enfawr sydd ar gael o ran y cartrefi modiwlaidd, a'r gallu i adeiladu ar gyflymder a graddfa ddifrifol pan fo'r ffatrïoedd wedi'u sefydlu ac ar waith. Rwy'n awyddus iawn i sicrhau bod gennym ni ffatrïoedd lleol o amgylch Cymru, felly rydym yn defnyddio deunyddiau lleol, yn enwedig coed o Gymru, ac rydym yn eu helpu i gael yr ôl-troed carbon isaf posib, yn y gadwyn gyflenwi ac yna yn y tŷ wrth iddo gael ei adeiladu. Rydym ni hefyd yn awyddus iawn i bwysleisio, fel y rhai a welsoch chi ar eich ymweliad, mai cartrefi am oes yw'r rhain, eu bod yn hawdd eu haddasu y tu mewn, y gellir eu haddasu ar gyfer gwahanol gyfnodau bywyd ac ati, ac, yn wir, gallwch ychwanegu Dirprwy Lywydd, dri modiwl arall ar yr ochr pan fydd eich wyrion eisiau dod i aros, sy'n rhywbeth yr wyf yn gwybod y bydd gennych chi ddiddordeb mawr ynddo. Felly, ni allwn i gytuno mwy. O ran y tir cyhoeddus, rydym yn awyddus iawn i sicrhau ein bod yn cael y gwerth gorau yn yr ystyr gorau posib ar gyfer tir cyhoeddus, felly rydym yn edrych eto ar ein canllawiau rheoli asedau ar gyfer awdurdodau lleol a byrddau iechyd er mwyn gweld ein bod yn pwysleisio'r lles cymdeithasol sy'n deillio o ddefnyddio'r tir, nid dim ond yr arian parod y gellir ei gael o'r tir. Mae angen inni sicrhau'r cydbwysedd rhwng defnyddio'r arian cyfalaf a gawn ni ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol a'r gallu i ddefnyddio'r tir i adeiladu'r math priodol o dai, felly gweithio gyda'r uned tir cyhoeddus sy'n datblygu er mwyn cael y cydbwysedd gorau rhwng y rheini. Rwyf wedi bod yn gweithio'n galed iawn gyda Rebecca Evans a Ken Skates ar ddarn o waith sy'n edrych ar yr ymagwedd strategol honno ar draws Llywodraeth Cymru a gydag awdurdodau lleol ar yr hyn y gellir ei wneud i gyfuno tir sy'n eiddo i awdurdodau cyhoeddus ledled Cymru, yn enwedig yng nghyffiniau ardaloedd ar y ffin, i wneud yn siŵr y gallwn ni adeiladu'r mathau cywir o safleoedd. Ni allwn gytuno mwy ag ef ynghylch y math o hyblygrwydd y gellid ei gael o ran yr holl ddarnau hynny o dir. Nid ydym ni'n sôn am ystad un math o dai mewn unrhyw ffordd; rydym ni'n sôn am ystadau tai cymysg sy'n caniatáu i bobl symud o gwmpas yn yr un gymuned, gan ddibynnu ar ofynion eu bywyd ar y pryd. Byddant yn gymysgedd o bopeth o dai perchennog-meddiannydd llawn i gwmnïau cydweithredol i ecwiti cymysg i dai cymdeithasol ac ati. Fodd bynnag, fy marn i yw y dylai pob un o'r tai hynny edrych yr un fath, beth bynnag fo'r ddeiliadaeth, ac y dylen nhw gael y lle a'r safonau cywir a'r mathau cywir o inswleiddio a'r mathau cywir o niwtraliaeth garbon fel y gallwch chi symud yn ddidrafferth rhyngddyn nhw. Yn olaf, o ran y rhent, credaf i David Melding ddweud yn union yr hyn yr wyf yn ei gredu wrth ddweud ein bod yn croesawu'r sicrwydd, ond mae'n rhaid inni gael y lefel yn gywir. Felly, mae'n rhaid inni wneud yn siŵr ein bod yn cydbwyso fforddiadwyedd i'r tenant â'r gallu i gael y ffrwd incwm ar gyfer yr adeiladwyr er mwyn inni allu adeiladu tai'r dyfodol. Leanne Wood AC: Rydym ni ym Mhlaid Cymru yn croesawu argymhellion yr adolygiad o dai fforddiadwy, ac mae cryn orgyffwrdd rhwng eu cynigion a'n cynigion ni, a gyhoeddwyd gennym ni ym mis Chwefror eleni. Felly, rydym yn falch o weld bod y Llywodraeth yn derbyn yr argymhellion hefyd. Rydym yn arbennig o falch o'r argymhellion y dylid rhoi mwy o sylw i ofynion pobl ag anableddau, ac y dylai anghenion eraill fod yn rhan o asesiadau'r farchnad dai leol. Rydym hefyd yn falch o'r pwyslais ar godi safonau adeiladau newydd sydd â gofynion sylfaenol o ran lle, a hefyd yr argymhelliad i sicrhau bod cartrefi newydd yn agos at fod yn ddi-garbon erbyn 2021. Rydych chi fwy neu lai wedi derbyn yr holl argymhellion hyn, yn amodol ar yr adolygiad o reoliadau adeiladu. Rwyf hefyd yn ymwybodol—ac fe wnaethoch chi sôn am hyn yn eich datganiad—y byddwch yn cael adroddiad yn fuan gydag argymhellion ar gyfer datgarboneiddio'r stoc tai presennol, ac edrychaf ymlaen at glywed eich ymateb i'r adroddiad hwnnw. Hoffwn ofyn i chi, Gweinidog: a ydych chi'n derbyn, er mwyn cyflawni canlyniadau'r argymhellion hyn mewn difrif, y bydd angen newid sylfaenol yn y ffordd y mae'r system gynllunio'n gweithio? Yn amlwg, mae gan dai cymdeithasol ran i'w chwarae o ran darparu'r unedau newydd hyn, ac felly dylen nhw gymryd llawer mwy o ran yng ngham cynllunio'r cynllun datblygu lleol. Hefyd, hoffwn ofyn a ydych chi'n credu bod angen i gynllunio gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer gwasanaethu'r cymunedau newydd hyn chwarae rhan fwy canolog yn y datblygiadau lleol hyn. Nid ydym yn cyflawni dim drwy adeiladu cartrefi heb y cymunedau y mae arnom ni eu hangen i fynd gyda nhw. Hoffwn hefyd ofyn a ydych chi o'r farn bod y datblygiadau a welsom ni dros y degawd diwethaf wedi cymryd cam yn ôl. Faint o'r datblygiadau hyn sydd wedi cael eu nodweddu gan ddatblygwyr mawr yn defnyddio eu pŵer monopoli i fanteisio ar ddefnyddwyr gyda chartrefi prydles, ystadau'n heb eu gorffen ac yn anorffenedig am flynyddoedd, a'r holl addewidion a dorrwyd ynghylch tai fforddiadwy, cyfleusterau newydd drwy gytundebau adran 106 ac yn y blaen? Felly a wnewch chi weithredu â mwy o frys i atal y problemau hyn rhag nodweddu'r datblygiadau sy'n mynd drwy'r system gynllunio ar hyn o bryd, gan na fydd yr amserlen ar gyfer gweithredu argymhellion yr adroddiad hwn yn atal y datblygiadau presennol hynny hefyd rhag cael eu nodweddu gan y broblem hon? Ymhellach, byddwch yn ymwybodol bod rhai awdurdodau lleol yn adolygu ac yn diweddaru eu cynlluniau datblygu lleol. A wnewch chi gadarnhau y dylai'r awdurdodau lleol hynny fod yn gwneud y gwaith hwn nawr, yn seiliedig ar yr egwyddorion y byddwch yn eu ffurfioli yn yr amrywiol safonau a chanllawiau newydd y byddwch yn eu creu o ganlyniad i dderbyn yr adroddiad hwn? Yn olaf, mae'r panel yn argymell y dylai Cymorth i Brynu ganolbwyntio mwy ar brynwyr am y tro cyntaf ag eiddo o bris is. Mae eich ymateb yn dweud na allwch chi dderbyn na gwrthod yr argymhelliad nes eich bod yn gliriach ynghylch y sefyllfa ariannu ar gyfer hyn. Ond a gaf i ofyn a ydych yn derbyn yr egwyddor na ddylid ystyried bod cynllun sy'n rhoi cymhorthdal i gartrefi sy'n cael eu gwerthu am dros £200,000 i bobl sydd eisoes ar yr ysgol dai yn cyfrif tuag at darged ar gyfer tai fforddiadwy, gan fod y panel yn cytuno'n glir bod hyn ystumio'r ffeithiau? Julie James AC: Rwy'n fodlon dechrau gyda'r un olaf yna. Yr hyn nad ydym ni yn ei dderbyn yw manylion yr argymhellion Cymorth i Brynu. Nid wyf yn gwybod beth—neu pa un a oes cyllid canlyniadol, felly wn i ddim a allwn ni barhau ag ef o gwbl neu beth yw'r sefyllfa. Os ydym yn mynd i barhau, fodd bynnag, byddwn yn ei barhau ar ffurf wahanol iawn i'r ffurf a welwn ni ar hyn o bryd. Rydym ni wedi cael llawer o ganlyniadau anfwriadol gyda chyllid Cymorth i Brynu, y byddaf yn gobeithio rhoi terfyn arnyn nhw. Rwyf wedi cael cyfarfodydd hir gyda swyddogion amrywiol ac eraill ynglŷn â lle mae ein pwerau cyfreithiol, er enghraifft, yn cwmpasu cytundebau 106 safonedig, er mwyn i ni fabwysiadu ffyrdd fel un enghraifft. Mae nifer o rai eraill lle gallwn ni gynorthwyo gyda chymwysterau ar hygyrchedd ar gyfer y cynllun mewn rhai amgylchiadau ac ar safleoedd penodol. Felly, rwy'n awyddus iawn i wneud llawer o hynny. Dydw i ddim mewn sefyllfa i roi unrhyw fanylion, oherwydd dydw i ddim yn gwybod a fyddwn ni'n gallu gwneud unrhyw beth oherwydd efallai nad oes gennym ni arian. Felly, dyna'r unig waharddiad, ond gallaf eich sicrhau na fydd y cynllun yr un sydd gennym ni yn ei le ar hyn o bryd. I fynd drwy rai o'r lleill, cytunaf yn llwyr, fel y dywedais ar y dechrau, fod llawer o gonsensws yn y Siambr ynglŷn â'n sefyllfa bresennol ni. Mae'r papur yr ydych chi wedi ei gyflwyno yn cyd-fynd yn fras â'n papur ni heblaw am fanylion penodol, ac rwy'n siŵr hyd yn oed yn y fan honno y gallwn ni ddatrys y rhan fwyaf ohono. Cytunaf yn llwyr â'r sylw ynghylch anableddau. Un o'r pethau y byddwn yn awyddus iawn i'w wneud yw sicrhau, wrth inni gyflwyno tir cyhoeddus ar gyfer y mathau hyn o ddatblygiadau, fod tai cymdeithasol yn ganolog i hynny, ond bod yr holl ddeiliadaethau eraill yn y datblygiad hwnnw wrth iddo ddod ymlaen yn cyfateb i hynny, fel y gall pobl fel y dywedais wrth David Melding, symud o gwmpas yn yr un gymuned pan fyddant mewn gwahanol gyfnodau yn eu bywyd, heb orfod symud o'u cymuned er mwyn cael gallu byw mewn lle sy'n ystyriol o bobl anabl pan fyddant yn hen neu os oes rhywun ag anableddau yn eu teulu. Felly, rydym yn frwd iawn dros y cartrefi am oes hynny, fel y'u gelwir nhw, ac mae'r tai modiwlaidd, os cewch gyfle i ymweld ag unrhyw un ohonyn nhw, wedi'u hadeiladu i raddau helaeth yn y modd hwnnw, a chredaf eu bod yn drawiadol iawn. Felly, cytunaf yn llwyr â hynny i gyd. Rwy'n edrych yn fanwl ar y system gynllunio wrth i ni gyflwyno'r fframwaith datblygu cenedlaethol. Bu oedi oherwydd isetholiad Brycheiniog a Maesyfed. Byddaf yn ei lansio, gobeithio, yn yr Eisteddfod, yr wythnos ar ôl yr etholiad, ac yna byddwn yn cael yr ymgynghoriad. Yr holl ddiben ynglŷn â'r broses gynllunio yw y bydd hynny gennym ni wedyn a'r lefel strategol pan roddwn y fframwaith llywodraeth leol ar waith, felly bydd gennym ni'r holl lefelau lle mae anghenion tai, i'r lefel leol, a bydd yn caniatáu i'r cynlluniau datblygu lleol fod y cynlluniau lleol y dylent fod wedi bod yn y lle cyntaf. Ond nid ydym ni wedi cael pen uchaf y systemau cynllunio hynny. Mae'r system gynllunio wedi'i chynllunio i fod yn system gynllunio yn ei chyfanrwydd, nid ar un lefel yn unig. Yna, wrth i'r cynlluniau datblygu lleol gael eu hadolygu, roedd Leanne yn llygad ei lle bod angen inni wneud yn siŵr ein bod yn adolygu'n briodol y ffordd y mae manylion penodol y cynllun lleol yn gweithio o ran y seilwaith a'r hyn y mae'r awdurdodau lleol yn gallu ei wneud wedyn o ran rhoi gwahanol ymrwymiadau adran 106 ar waith ac ati, ac ar ei dir ei hun, gan sicrhau bod y broses gynllunio mor agored â phosib, fel bod pobl, pan fyddant yn bwriadu adeiladu ar y tir hwnnw, yn gwybod beth yw'r sefyllfa o ran cynllunio eisoes, ac na fydd gennym ni'r problemau sydd gennym ni ar hyn o bryd. Felly, rwy'n credu ar y cyfan fy mod yn cytuno â phopeth yr ydych chi wedi'i ddweud. Yr unig beth na soniasoch chi amdano, ond y soniaf innau amdano, yw bod gennym ni ddiddordeb mawr mewn edrych eto ar bwerau a gallu pobl i wneud pryniannau gorfodol hefyd, er mwyn inni allu adeiladu safleoedd yn y ffordd briodol. Gwyddom fod gallu anghyson ledled Cymru i wneud hynny, a byddwn yn adolygu'r broses gorchymyn prynu gorfodol i gyd-fynd â phroses y cynllun datblygu lleol. Dawn Bowden AC: Diolch yn fawr, Gweinidog. A gaf i ddweud fy mod yn falch iawn y bydd y pecyn o waith rydych yn ei gyhoeddi yn arwain at gyflwyno rhagor o gynlluniau wrth i Lywodraeth Cymru weithredu i ddarparu mwy o gartrefi i bobl Cymru, gan gynnwys, fel y gwelsom eisoes, y ddarpariaeth ehangach o dai di-garbon, mwy o adeiladu tai cyngor—ni all hynny ond fod yn beth da i ardaloedd fel fy ardal i ym Merthyr Tudful a Rhymni, yn enwedig os ydym ni, pan fydd gennym ni raglen adeiladu tai o'r fath, yn annog defnyddio adeiladwyr lleol fel y prif gontractwyr, oherwydd yn amlwg, bydd hynny'n helpu'r economi leol hefyd, a dyna i raddau helaeth iawn yw cyfeiriad y gwaith yn nhasglu'r Cymoedd, fel y gwyddoch chi. Gyda llaw, Gweinidog, a gaf fi hefyd groesawu eich cyhoeddiad diweddar ar ymestyn y cyfnodau rhybudd ar gyfer adran 21 yn y Ddeddf Tai? Gwn nad yw hynny'n rhan o'r datganiad hwn nac yn rhan o'r adolygiad hwn, ond, serch hynny, fel pecyn cyffredinol o ran mesurau tai yng Nghymru, rwy'n gobeithio y bydd hynny, yn y pen draw, yn arwain at ddiddymu adran 21 a gwella amodau ar gyfer y rhai mwyaf agored i niwed yn y sector tai. Fodd bynnag, i ddychwelyd at eich datganiad, a heb fod eisiau ailadrodd yr hyn y mae eraill wedi'i ddweud, neu'r hyn yr ydych chi eisoes wedi ymdrin ag ef, mae un agwedd ar yr adroddiad y byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed mwy amdano gennych chi, a dyna'r syniad o gorff hyd braich i weithredu fel canolbwynt i reoli tir y sector cyhoeddus. Byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed am unrhyw syniadau cychwynnol sydd gennych chi am gorff o'r fath. Yn amlwg, mae angen rhoi ystyriaeth ofalus i angen a diben y pwerau hynny, felly a wnewch chi ddweud wrthym ni pa fanteision y byddech chi'n disgwyl eu gweld yn deillio ohono, a sut y byddech yn ei weld yn gweithredu mewn cysylltiad â'r cytundeb dinas-ranbarth neu dasglu'r Cymoedd, neu hyd yn oed lywodraeth leol, ac yn arbennig unrhyw rai o'r cynlluniau cartrefi gwag sydd gan awdurdodau lleol ar hyn o bryd? Julie James AC: Diolch yn fawr iawn. Ynglŷn â'r un diwethaf, yr hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud—yn fy natganiad yn ddiweddar iawn ynglŷn â llywodraethau lleol yn gweithio'n rhanbarthol, dywedais ein bod yn cyflwyno cyfrwng newydd ar gyfer gweithio'n rhanbarthol i lywodraeth leol yn y Bil hwnnw, ac mae hynny'n rhywbeth a elwir yn gyd-bwyllgor statudol. Nid yw'r gair 'statudol' yn golygu gorfodol; y cyfan y mae'n ei olygu yw bod gan y pwyllgor endid cyfreithiol yn ei rinwedd ei hun—gall gyflogi ei staff yn uniongyrchol ac ati. Mae'n gyfrwng perffaith ar gyfer y math hwn o ddatblygu economaidd a defnydd tir oherwydd mae'n caniatáu i ni gronni'r adnoddau dynol prin sydd mewn gwirionedd wrth wraidd y broblem hon. Gan fod awdurdodau lleol wedi wynebu cyni yn ystod y naw mlynedd diwethaf, maen nhw wedi colli llawer o'r sgiliau dewisol a arferai fodoli yn yr awdurdod lleol o ran negodi cytundebau 106, sgiliau'r gorchymyn prynu gorfodol, y sgiliau rheoli tir—maen nhw wedi colli'r rheini o reidrwydd gan eu bod wedi canolbwyntio ar y dyletswyddau statudol mawr. Felly, bydd hyn yn eu galluogi nhw i gael eu cyflogi'n rhanbarthol a hefyd i ddal y tir yn rhanbarthol fel na fydd gennym ni broblemau o ran ffiniau. Rydym yn edrych ar ffyrdd y gallwn eu defnyddio i roi tir Llywodraeth Cymru yn rhan o hynny drwy gyfrwng rhyw fath o adran dir. Mae angen inni edrych ar y ddeddfwriaeth ar gyfer hynny, oherwydd bydd pawb sy'n cyflwyno eu tir eisiau rhywfaint o lais yn y ffordd y caiff y datblygiad ei wneud. Ond dyna holl fwriad y trefniant rhanbarthol hwnnw—er mwyn sicrhau bod gennym ni reolaeth ddemocrataidd dros yr hyn sydd, i bob diben, yn drefniant tir rhanbarthol, i gyflogi'r adnoddau dynol prin. Yr adnoddau dynol prin hynny yw gwir graidd hyn. Mae hefyd yn caniatáu inni siarad yn rhanbarthol am, er enghraifft, cymorth grant, gwahanol ffyrdd o ddyrannu gwahanol fathau o gymorth grant, yn dibynnu ar beth yw'r datblygiad ac ati. Ac rydym yn awyddus iawn i awdurdodau lleol symud oddi wrth werthu eu tir i ddatblygwyr yn unig er mwyn codi tai, a bod yn hytrach ag elfen o berchnogaeth yn y tir hwnnw a chael rhan o'r cynnydd yn y gwerth tir a gewch o ddatblygu'r tir, felly mae'r gwasanaeth cyhoeddus yn cadw gwerth y tir, y cynnydd hwnnw. Felly, mae'n ymwneud yn fawr â chadw'r mathau hynny o gynnydd mewn gwerth ar gyfer y dyfodol mewn datblygiad cymysg o'r math hwnnw. Rydych chi'n hollol gywir, Dawn, fod yr holl fater ynghylch yr economi sylfaenol yn greiddiol yn hyn o beth. Felly, rydym yn gobeithio defnyddio busnesau bach a chanolig pan fo'n bosib. Rydym yn awyddus i weld a fydd rhai awdurdodau lleol yn gwneud hynny â llafur uniongyrchol hefyd, pan fo hynny'r unig ffordd o wneud hynny. A byddwn yn ceisio defnyddio cyfrifon banc prosiect, sy'n nodwedd o gaffael yng Nghymru, er mwyn sicrhau ein bod yn llyfnhau'r llif arian i adeiladwyr bychain na fydden nhw efallai'n gallu darparu fel arall. Ond rwy'n awyddus iawn i wneud yn siŵr ein bod yn llunio cyfres o fesurau i sicrhau bod adeiladwyr bach yn gallu darparu—hyd yn oed os na allan nhw wneud safle cyfan, pa un a allan nhw wneud rhannau bach o'r safle hwnnw—er mwyn sicrhau ein bod yn cadw'r sgiliau yn yr economi y mae eu dirfawr angen arnom ni. Mike Hedges AC: A gaf i groesawu datganiad y Gweinidog? Mae gennym ni lawer o bobl sy'n ddigartref ac yn byw ar y stryd. Gweinidog, gwelsom nifer ohonyn nhw wrth adael Eglwys y Santes Fair ym mis Rhagfyr ar ôl bod i gyngerdd yr elusen i'r digartref, Crisis. Fodd bynnag, mae gennym ni lawer iawn mwy o bobl yn cysgu ar soffa, yn byw mewn llety gorlawn, ac eraill yn byw mewn cartrefi oer a llaith nad ydyn nhw'n ddiogel rhag y gwynt a'r glaw. Cytunaf â'r Gweinidog nad oes gennym ni ddigon o dai cymdeithasol. A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi fod arnom ni angen llawer mwy o dai cyngor wedi'u hadeiladu, ar lefel y 1950au a'r 1960au? Ac mae'n rhaid i ni gofio hefyd, yn y 1950au a'r 1960au, eu bod yn defnyddio concrit cyfnerthedig wedi ei rag-gastio er mwyn creu rhywfaint ohonyn nhw oddi ar y safle. Rydym ni hefyd yn gwybod, wrth gwrs, eu bod wedi cyflwyno safon Parker Morris, a oedd yn gosod safon uchel iawn ar gyfer tai cymdeithasol. A oes gan y Gweinidog ddiddordeb mewn gosod safon o'r fath eto, nid Parker Morris o reidrwydd, gan fod hwnnw'n perthyn i'w gyfnod, ond yn sicr y safon y mae'n rhaid i bob landlord cymdeithasol—cymdeithasau tai a chynghorau—ei chyrraedd wrth adeiladu? Gwelodd y 1950au a'r 1960au gynnydd mawr mewn codi tai cyngor hefyd. Yr hyn a wnaeth hynny oedd rhyddhau tai cost isel a oedd gynt yn cael eu rhentu'n breifat ar gyfer perchen-feddiannaeth. Y broblem i'n pobl ar gyflogau cymharol isel wrth brynu tŷ nawr yw bod yr holl dai hynny sy'n addas iddyn nhw, i gyd wedi'u bachu gan landlordiaid am £50,000, £60,000 mewn rhannau o'm hetholaeth, ac wedi'u gosod am rent o £400, £500 y mis. Chwedeg mil o bunnau, enillion o £6,000 y flwyddyn—yn ariannol, i'r rhai sy'n gwneud hyn, mae'n dda iawn. Ond yr hyn y mae'n ei wneud yw atal pobl, ar gyflogau cymharol arferol, a fyddai fel arall yn gallu prynu tŷ yn Hafod neu Glandŵr neu Blas-marl neu St Thomas ond nawr nid ydyn nhw'n gallu gwneud hynny bellach am fod landlordiaid yn eu bachu mewn niferoedd mawr. Felly, os cynyddwn ni dai cyngor, oni fydd hynny'n cynyddu perchen-feddiannaeth, gan y bydd y tai sydd yn cael eu rhentu'n breifat ar hyn o bryd yn dychwelyd i fod yn dai perchen-feddiannaeth? Os caf i orffen gyda hyn, rwy'n hanu o Blas-marl—mae wedi mynd drwy'r cyfnodau i gyd, ac mae'n debyg bod pobl eraill wedi byw mewn ardaloedd tebyg iawn. Yn y 1950au a'r 1960au, roedd bron pob un yn rhentu'n breifat. Yna, ar ddiwedd y 1960au, 1970au a'r 1980au daeth yn ardal berchen-feddiannaeth yn gyfan gwbl. Ac yna, o'r 1990au ymlaen, maen nhw wedi cael eu prynu gan landlordiaid—rhai ohonyn nhw'n byw filltiroedd i ffwrdd. Mae rhywun yn byw yn Basingstoke yn berchen ar chwe thŷ mewn un stryd. Mae hynny wedi dileu'r cyfle i bobl leol brynu. Felly, onid yr ateb yw cynyddu nifer y tai cyngor, sy'n sefyllfa lle mae pawb yn ennill o ran perchnogaeth breifat cost isel gan sicrhau hefyd bod gan bawb dŷ digon da? Julie James AC: Ni allwn i gytuno mwy. Yn amlwg, un o'r problemau gyda digartrefedd yw bod gennym ni gyfran sylweddol, os mynnwch chi, o bobl sy'n llithro i mewn i ddigartrefedd oherwydd bod gennym ni gyflenwad annigonol o dai a'i fod yn gylch dieflig. Yr hyn y mae angen inni ei wneud yw torri i mewn i'r cylch hwnnw a sicrhau bod y cyflenwad yn cynyddu'n gynt er mwyn lleihau nifer y bobl sy'n llithro i mewn i ddigartrefedd. I wneud hynny, rhaid inni adeiladu miloedd ar filoedd o dai cyngor, nid cannoedd—miloedd. Mae'n rhaid i ni adeiladu tua 4,500, sy'n cynnwys y rhai yr ydym ni wedi'u hadeiladu yn barod, dyna'r nifer absoliwt, dim ond i atal pobl rhag bod mewn llety dros dro. Mae hynny heb gyffwrdd â rhestrau aros na rhestrau aros pobl nad ydyn nhw'n trafferthu i fynd ar y rhestrau aros oherwydd eu bod yn gwybod nad oes ganddyn nhw unrhyw obaith o gael tŷ. Felly, rydym yn sôn am filoedd a miloedd, nid cannoedd a channoedd. Felly, cytunaf yn llwyr. Bydd gennym ni safon. Rwy'n dal i gofio fy mam-gu a'm modrybedd yn siarad drwy'r amser am ba mor wych oedd hi pan wnaethon nhw symud i'w tai cyngor cyntaf yn Abertawe. Roedd y safon bryd hynny wedi creu argraff fawr arnyn nhw ac mae'r tai hynny wedi sefyll prawf amser, oherwydd eu bod o safon uchel iawn hyd yn oed heddiw. Mae arnom ni eisiau adeiladu tai sy'n sefyll prawf amser, sy'n dal yn addas i fod yn gartrefi i'r dyfodol tua 80 neu 90 mlynedd yn ddiweddarach. Yn bendant, mae'r tai hynny wedi'u hôl-osod ar gyfer safonau inswleiddio uwch ac ati, ond, yn y bôn, mae'r tŷ yn dŷ cadarn, felly mae modd ei wella yn y ffordd honno. Dyna'r hyn y mae'n rhaid inni ei adeiladu ar gyfer y dyfodol; ni allwn i gytuno mwy. Mae problem fawr ynghylch a oes angen inni ymyrryd yn y farchnad ar gyfer tai buddsoddi. Rwyf yn edrych o ddifrif ar yr hyn y gallwn ni ei wneud i ganiatáu i awdurdodau lleol yng Nghymru brynu tai yn y farchnad honno eu hunain ar gyfer rhentu cymdeithasol, lle mae'n amlwg bod yna sector rhentu preifat mawr yn datblygu. Bydd Mike Hedges yn gwybod yng nghanol fy etholaeth fy hun, mae llawer iawn o dai sydd wedi gwneud yn union yr hyn a ddywedodd. Felly, rwy'n awyddus iawn yn hynny o beth. Rwyf eisiau pwysleisio ar hyn o bryd fod y Dirprwy Weinidog, Hannah Blythyn, wedi bod yn edrych yn fanwl iawn ar y grantiau troi tai'n gartrefi ac adfywio eiddo gwag yn benodol, o ran yr hyn y gallwn ei wneud i sicrhau bod rhai o'r rheini'n cael eu defnyddio unwaith eto. Ond mae'r farchnad yn ddiffygiol mewn rhai ardaloedd, ac mae angen inni edrych ar ffyrdd inni ymyrryd yn hynny; rwy'n cytuno'n llwyr ag ef. Caroline Jones AC: Diolch ichi am eich datganiad, Gweinidog. Croesawn yr adolygiad annibynnol hefyd. Mae prinder tai fforddiadwy o safon yn arwain at deuluoedd yn byw mewn cartrefi gorlawn neu mewn llety gwely a brecwast, ac unigolion mewn hosteli neu ar y stryd. Rwyf wedi gweld pobl yn cael eu carcharu am grwydradaeth yn dweud wrthyf nad oedden nhw’n edrych ymlaen at gael eu rhyddhau oherwydd eu bod yn cael gwely a phrydau poeth. Gall teuluoedd, fel y gwyddom, aros sawl blwyddyn am lety addas, a dyna pam y mae cyflawni targed Llywodraeth Cymru o 20,000 o gartrefi fforddiadwy newydd erbyn diwedd tymor y Cynulliad hwn mor bwysig. Yn anffodus, mae llai na hanner y tai fforddiadwy angenrheidiol wedi'u hadeiladu. Yn 2017-18, gwelwyd gostyngiad o 9 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Gobeithio y bydd argymhellion yr adolygiad annibynnol yn helpu i fynd i'r afael â'r diffygion ac yn helpu i roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru. Gweinidog, rwy'n falch bod eich Llywodraeth wedi derbyn y rhan fwyaf o argymhellion yr adolygiad. Nid yw'r cyflenwad wedi bodloni'r galw, a chroesawaf argymhellion yr adolygiad sy'n ymwneud ag asesiadau o'r farchnad dai leol. Gweinidog, a wnewch chi ymhelaethu ar eich rhesymau dros newid yr argymhelliad i gynnal adolygiad bob dwy flynedd i un bob tair blynedd? Siawns nad ydych chi'n cytuno ei bod hi'n hollbwysig cael gwybodaeth gywir a chyfredol yn y maes hwn. Rwy'n ddiolchgar eich bod yn derbyn bod angen mwy o fanylder o ran y broses asesiadau o’r farchnad dai lleol. Gweinidog, pa ran ydych chi'n rhagweld fydd gan fyrddau iechyd lleol ac adrannau gwasanaethau cymdeithasol wrth gasglu gwybodaeth am ofynion tai ar gyfer y rhai sydd ag anableddau, y rhai y mae angen rhyw lefel o ofal arnyn nhw a'r rhai sy'n bwriadu symud i gartref llai o faint ac efallai dod yn rhan o drefniant tai gwarchod? Mae llawer o achosion lle mae pobl hŷn wedi'u dal mewn tai tair a phedair ystafell wely, cartrefi a fyddai'n addas i deulu ifanc, ac eto ni allan nhw symud i gartref llai o faint gan nad adeiladwyd hanner digon o eiddo sy'n addas i bobl hŷn. Mae'n hawdd adeiladu cartrefi modiwlaidd. Yn olaf, Gweinidog, er fy mod yn croesawu'r pwyslais sy'n cael ei roi ar leihau ôl troed carbon cartrefi newydd, mae'n rhaid i ni sicrhau bod unrhyw ganllawiau newydd ar adeiladu yn ystyried ein hinsawdd newidiol. Rydych yn sôn am systemau gwresogi carbon isel, ond beth am oeri carbon isel? Sut bydd eich Llywodraeth yn sicrhau nad yw adeiladau newydd a phresennol yn cael eu hinswleiddio mor drwm fel eu bod yn gorboethi yn ystod misoedd yr haf, gyda'r tebygolrwydd cynyddol o dymereddau uchel? Croesawaf y cam cyntaf hwn i fynd i'r afael â'n hargyfwng tai ac edrychaf ymlaen at fesurau pellach i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy yng Nghymru—tai fforddiadwy y mae arnom eu hangen yn ddifrifol. Ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi i gyflawni'r nod hwn o ddarparu digon o dai fforddiadwy i bobl Cymru. Diolch yn fawr. Julie James AC: Diolch ichi am y cyfraniad yna. Gan ddechrau gyda'r targed ar gyfer tai fforddiadwy, hoffwn sicrhau'r Aelod y byddwn yn cyrraedd y targed o 20,000 o dai fforddiadwy yn nhymor y Cynulliad hwn. Mae a wnelo hyn, fodd bynnag, â dweud nad yw hynny'n ddigon a bod angen i ni adeiladu llawer iawn mwy, os oes modd, a sicrhau ein bod yn dechrau adeiladu ar raddfa fwy ac ar garlam. Nid oedd yn bosibl gwneud hyn pan oeddem yn gosod y targed hwnnw, oherwydd roedd y cap tai ar gyfer cyfrifon refeniw tai yn dal i fodoli mewn awdurdodau lleol. Rwy'n mynd i ddewis fy ngeiriau'n ofalus, Dirprwy Lywydd: rwy'n credu fy mod wedi cael y fraint—rwy'n credu fy mod yn mynd i ddefnyddio'r gair hwnnw—o edrych ar y canllawiau drafft ar gyfer y cyfrif refeniw tai yn ddiweddar iawn. Mae'n rhaid i mi ddweud, mae'n gelfyddyd gyfrin, y cyfrif refeniw tai, ac felly roedd y canllawiau—rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud eu bod yn fanwl. Felly, rwy'n edrych ymlaen at gael adborth gan drysoryddion ledled Cymru ynghylch sut y maen nhw'n ymateb i'n canllawiau newydd. Mae'r canllawiau newydd wedi'u cynllunio i fanteisio i'r eithaf ar hyblygrwydd mewn cyfrifon refeniw tai i alluogi awdurdodau lleol yn benodol i gyflymu'r broses o adeiladu tai cyngor newydd wrth iddyn nhw ryddhau arian er mwyn gwneud hynny. Ac atebais mewn ymateb i Dawn Bowden ynghylch y mater yn ymwneud â chyflwyno tir y sector cyhoeddus er mwyn gallu gwneud hynny hefyd. O ran yr angen a'r galw am dai, rwy'n derbyn argymhelliad y panel annibynnol o ran yr angen am dai. Maen nhw'n gywir i nodi bod llawer mwy o gysondeb ar lefel leol, ac y gall yr wybodaeth fod yn fwy manwl ac wedi ei chysylltu'n well â'r broses gynllunio yn hynny o beth. Rydym ni hefyd yn derbyn ei bod hi'n bwysig i Lywodraeth Cymru gasglu'r wybodaeth gan awdurdodau a dadansoddi'r ymatebion ein hunain. Nid wyf eisiau cyflwyno'r newidiadau hynny'n gyflym, fodd bynnag, oherwydd ei bod hi'n bosib ansefydlogi'r system os gwnawn ni hynny. Rydym ni eisiau cymryd amser mewn partneriaeth i edrych yn union ar sut y dylid rhoi'r newidiadau hynny ar waith, er fy mod yn dweud yn glir iawn ein bod ni'n newid y system; y cyfan yr ydym ni eisiau ei wneud yw edrych ar hyn gyda'n partneriaid i ganfod beth yn union fydd ffurf y system wedyn. Ac, fel y dywedais mewn ymateb i Leanne Wood, mae'n bwysig cael camau cyfan y cynllun yn eu lle ar lefel genedlaethol, strategol a lleol wrth i ni weithio drwy'r newidiadau i wneud hynny. Ond rwy'n glir iawn bod angen i ni gael y newidiadau hynny. O ran symud i gartref llai o faint, rwy'n credu ei bod yn hollol gywir nad ydym yn adeiladu digon o unedau o faint ystafell wely sengl neu un ystafell wely a hanner. Ond nid wyf eisiau i bobl gael eu twyllo gan y syniad ein bod ni'n credu y dylai pob teulu symud o'u cartref. Mae gan bobl wyrion ac wyresau ac maen nhw'n dymuno dod at ei gilydd fel teulu ac ati. Nid yw hi wastad yn ddelfrydol symud o dŷ mawr. Felly, yr hyn yr ydym ni eisiau ei wneud yw sicrhau bod pobl yn byw mewn tŷ sy'n addas iddyn nhw ac nad ydyn nhw'n cael eu gorfodi i symud o unrhyw gartref teuluol os nad ydyn nhw'n dymuno hynny. Ac nid wyf yn credu bod y dreth ystafell wely wedi bod yn ddim byd heblaw modd gwarthus sy'n, wel, yn fwrn ar bobl. Felly, nid wyf eisiau bod yn gysylltiedig ag unrhyw beth sy'n ymdebygu mewn unrhyw ffordd i hynny. Fodd bynnag, derbyniaf, rwy'n credu, y pwynt yr oedd yr Aelod yn ei wneud sef bod angen inni adeiladu mwy o unedau llai ar gyfer pobl sydd eisiau symud i gartref llai o faint, ac rydym yn sicr yn edrych ar y cyfuniad o unedau yn hynny o beth. O ran y pwyntiau am ddatgarboneiddio a wnaeth hi, nid wyf am ymateb. Mae'r demtasiwn i ymateb yn llethol, ond rwy'n mynd i'w wrthsefyll, oherwydd byddaf yn disgwyl i'r adroddiad ar ddatgarboneiddio gael ei gyflwyno. Mae'n cael ei gyhoeddi ddydd Iau nesaf, felly edrychaf ymlaen at ymateb i hwnnw maes o law. Jenny Rathbone AC: Diolch yn fawr am eich datganiad, ac rwy'n falch iawn o weld eich bod yn bwriadu cysoni'r fframwaith cynllunio, yr agenda datgarboneiddio a'r rheoliadau adeiladu. Mae hynny'n ymddangos i mi mewn gwirionedd fel y llwybr cywir y dylem ei ddilyn. Yn eich dyhead i ddefnyddio tir cyhoeddus gwag, rwyf eisiau sicrhau—. Mae'n gwestiwn ynghylch a fyddwch yn sicrhau bod lleoliadau'r tir hwn sydd ar gael ar gyfer cartrefi newydd hefyd yn cael eu cysoni â'n gofyniad i leihau allyriadau carbon o drafnidiaeth, a'n bod yn sicrhau ein bod yn adeiladu cartrefi dim ond lle ceir cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus da a chysylltiadau teithio gweithredol, oherwydd bydd rhai o'r cartrefi sydd wedi'u hadeiladu yn etholaeth fy nghyfaill, Julie Morgan, yn hunllef i'm hetholwyr o ran y cynnydd mewn traffig yn sgil yr adeiladu, oherwydd bod y cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus yn brin. Yng nghyfarfod bord gron y pwyllgor ar newid hinsawdd ynghylch y newid yn yr hinsawdd yr wythnos diwethaf, fe wnaethom ni edrych ar y gofynion ar gyfer cartrefi newydd, ac un o'r pwyntiau a bwysleisiwyd oedd pwysigrwydd nid yn unig cael cartrefi wedi'u hinswleiddio'n dda, ond cael cartrefi sy'n gynaliadwy am oes. Ar ôl treulio llawer o amser yn ddiweddar yn ward Cyncoed yn fy etholaeth, rwy'n rhyfeddu at y ffordd y mae cartrefi a gafodd eu hadeiladu rhwng 80 a 100 o flynyddoedd yn ôl wedi'u haddasu i ddiwallu anghenion pobl â symudedd sy'n dirywio—yn hawdd eu haddasu. Gallwch weld bod y bobl hyn wedi byw am gyfnod hir iawn yn y cartrefi hyn, ond maen nhw'n gallu parhau i wneud hynny oherwydd y gellir eu haddasu. A cheir costau enfawr o ran allyriadau carbon wrth adeiladu'r cytiau cwningod hyn sydd ond wedi'u cynllunio ar gyfer 30 o flynyddoedd, felly rwy'n synnu braidd at eich nod tymor hir o roi'r gorau i fanteisio i'r eithaf ar y proffidioldeb er gwaethaf rhwymedigaethau newid yn yr hinsawdd, ac rwy'n gobeithio y bydd ychydig yn fyrrach na hynny. Yn drydydd ac yn olaf, dim ond eisiau pwysleisio wyf i pa mor bwysig yw sicrhau ein bod yn adeiladu ar gyfer yr hinsawdd y byddwn yn ei gael yn y dyfodol. Rydym i gyd yn ymwybodol o'r gwres eithafol yn Ffrainc y mis diwethaf, ond dyma'r math o beth a allai ddigwydd yma. Ac rwyf eisiau tynnu eich sylw at waith ymchwil hynod bwysig a wnaethpwyd yn Geelong yn Awstralia, a ddangosodd fod eu strategaeth coedwigoedd trefol wedi'u galluogi i gynnal gostyngiad o 20 y cant yn nhymheredd y cartrefi hynny sy'n elwa ar y canopi trefol hwn, oherwydd y cysgod ond hefyd drwy'r defnydd o balmentydd lliw goleuach sy'n allwyro'r gwres; a ffyrdd gwyrdd, sy'n unol â'n dyheadau o ran cyflymder diofyn o 20 mya, sydd ag arwynebau hydraidd er mwyn caniatáu i ddŵr ymdreiddio i mewn ac i laswellt dyfu drwyddyn nhw—y rhain i gyd yn ogystal â choed ffrwythau, sydd, yn amlwg, yn ffynhonnell fwyd. Felly, byddwn i'n hapus iawn i anfon ymchwil Geelong atoch chi, sy'n rhywbeth y mae gwir angen i ni ei ddatblygu o ran adeiladu'r cartrefi y mae'n rhaid iddyn nhw fod yn gydnerth ar gyfer y dyfodol yr ydym ni'n ei wynebu. Julie James AC: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Diolch i'r Aelod am ei chyfraniad. Nid oes angen ichi anfon yr ymchwil ataf—rwy'n gyfarwydd ag ef yn barod. Rydym ni wedi bod yn edrych, yn rhan o'n gwaith adfywio gyda Hannah Blythyn, ar yr hyn y gallwn ei wneud er mwyn gwneud ein datblygiadau'n fwy gwyrdd yn union fel y gwnaethoch chi grybwyll. Mae Joyce Watson wedi sôn ers tro am yr angen am arwynebau hydraidd i amsugno dŵr ffo ac ati, ac rydym yn awyddus iawn i sicrhau ein bod yn cynllunio ym mhob un o'r meysydd hynny, yn rhannol am eu bod yn helpu'r hinsawdd, fel y nodwyd gennych chi'n briodol, ond mewn gwirionedd am eu bod yn fwy dymunol i fyw ynddyn nhw. Felly, yr holl fater yn ymwneud â chael gerddi cymunedol, perllannau cymunedol, mae'r Prif Weinidog yn frwd iawn dros yr enghraifft o goedwigoedd bach yn yr Iseldiroedd, lle rydych yn plannu ardal o faint cwrt tenis lawnt, rydych yn plannu coedwig gollddail fwy neu lai sy'n darparu llawer iawn o fioamrywiaeth, ond sy'n rhywbeth pleserus iawn hefyd mewn gwirionedd. Felly, rydym yn awyddus iawn i gynnwys y pethau hynny yn ein rhaglenni tai arloesol a'u profi. Rydym hefyd yn awyddus iawn i gynnwys y pwmp gwres o'r ddaear a'r holl bethau tebyg sydd gan bobl, ond hefyd y sgiliau i gyd-fynd â hynny, oherwydd rydym wedi cael rhywfaint o adborth gan rai o'n prosiectau tai arloesol sef nad oedd gan bobl a oedd eisiau byw yn y tai hynny—nid oes rhaid i neb fyw mewn prosiect tai arloesol os nad ydyn nhw'n dymuno hynny—y sgiliau i allu addasu eu hymddygiad eu hunain i rai o'r ffyrdd yr oedd y tai hynny'n gweithio. Felly, mae angen i ni wneud mwy o ymdrech i wneud yn siŵr bod pobl yn gallu addasu i'r newid sy'n angenrheidiol er mwyn byw ochr yn ochr â rhai o'r trefniadau newydd. Nawr, rwy'n cael fy nhynnu i fyd datgarboneiddio, Dirprwy Lywydd, felly fe ddof i'r diwedd yn y fan yma. Wrth ymateb i'r adroddiad y gwyddom ei fod yn dod yr wythnos nesaf, byddwn yn edrych ymhellach ar rai o'r pethau yr ydym ni eisiau eu gwneud mewn ymateb i'r adroddiad hwnnw. Ac yn olaf, Hefin David. Hefin David AC: A yw'r Gweinidog yn pryderu, beth bynnag a wnewch chi gyda Chymorth i Brynu, eich bod yn dal i roi arian cyhoeddus yng nghrafangau parasitig datblygwyr tai mawr, a allai werthu eu tai newydd rhy uchel eu pris yn rhatach? Julie James AC: Wel, mae'n iaith ddiddorol, mae hynny'n sicr. Rwy'n deall y farn y mae'n ei mynegi, ac, fel y dywedais wrth ymateb i Leanne Wood, byddwn yn sicr eisiau edrych yn ofalus iawn ar sut yr ydym ni'n gwario arian cyhoeddus a'r hyn yr ydym yn ei adeiladu ag ef. Felly, gwerthfawrogaf y farn a chytunaf â'r farn; nid wyf yn siŵr fy mod i'n cytuno'n llwyr â'r iaith. Ond, byddwn, byddwn ni'n edrych yn—. Rwyf eisiau bod yn siŵr ein bod yn helpu prynwyr am y tro cyntaf a fyddai fel arall yn bell o allu cael troed ar yr ysgol dai. Nid ydym yn sôn am berchen-feddianwyr yn unig ond am ryw fath o gynlluniau ecwiti cymysg ac ati i ganiatáu i bobl gael troedle. Rwy'n awyddus iawn i archwilio'r hyn y gallwn ei wneud i helpu pobl na fyddant yn gallu cael blaendal neu lawer o flaendal, er enghraifft, fel eich bod yn helpu pobl ymhellach i ffwrdd o'r farchnad. Rwy'n awyddus iawn i sicrhau bod gennym ni safonau gwell, ein bod yn adeiladu i'r un safon â thai cymdeithasol. Onid yw'n eironig bod gennym ni sefyllfa nawr lle mae tai cymdeithasol o safon well o lawer na thai'r sector preifat? Pwy fyddai wedi meddwl y byddwn i'n gallu sefyll yma a dweud hynny, ond dyna'r gwir amdani? Byddai'n well o lawer gan bobl fyw mewn tŷ cymdeithasol nag mewn un o'r tai preifat y mae'n eu crybwyll. Felly, rwy'n cytuno â'r farn yn llwyr. Byddwn yn edrych yn—. Os gallwn barhau â'r cynllun Cymorth i Brynu, sydd yn y fantol yn llwyr—nid oes gennyf syniad a fydd cynllun canlyniadol gan Lywodraeth y DU, ond os gallwn ni, yna byddwn yn sicr yn cynllunio llawer o'r enghreifftiau a gyflwynwyd ganddo. Diolch yn fawr iawn, Gweinidog. 6. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Ffermio Cynaliadwy a’n Tir Yr eitem nesaf ar yr agenda yw datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir'. A galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths. Lesley Griffiths AC: Diolch, Dirprwy Llywydd. Heddiw, rwyf wedi lansio 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir'. Mae'r ymgynghoriad hwn yn nodi fy nghynigion ar gyfer cymorth amaethyddol ar ôl Brexit. Mae 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir' yn nodi cynigion ac yn gofyn am safbwyntiau ar y cynllun ffermio cynaliadwy newydd a'r fframwaith polisi sy'n sail iddo. Mae hefyd yn nodi cynigion ar gyfer meysydd ehangach o gymorth i helpu'r cynllun i weithredu, gan gynnwys cyngor, cymorth a rheoleiddio yn y diwydiant. Yn ogystal â hyn, mae'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y trefniadau pontio ac yn egluro'r hyn a fydd yn digwydd ar ôl yr ymgynghoriad hwn, gan gynnwys sut y bydd asesiadau effaith yn cael eu paratoi. Y llynedd, cyhoeddwyd yr ymgynghoriad 'Brexit a'n Tir' gennym ni. Daeth dros 12,000 o ymatebion i law a chynhaliwyd gwaith ymgysylltu helaeth â ffermwyr a rhanddeiliaid eraill. Rydym ni wedi ystyried yn ofalus y safbwyntiau a gafodd eu mynegi yn ystod yr ymgynghoriad ac rydym ni wedi gwneud nifer o newidiadau i'n cynigion. Mae'r rhain yn cynnwys cydnabod yn benodol y rhyngweithio rhwng cynhyrchu bwyd a chanlyniadau amgylcheddol. Mae hyn yn bwysig. Rydym ni'n cynnig cefnogi'n uniongyrchol gyfraniad economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol ffermwyr, coedwigwyr a rheolwyr tir eraill. Mae newidiadau pwysig eraill sy'n ystyried y safbwyntiau a fynegir wedi'u nodi yn yr ymgynghoriad. Er y gall Llywodraeth Cymru gynnig polisi, dim ond ffermwyr, coedwigwyr a rheolwyr tir eraill sy'n gallu cyflawni newid gwirioneddol ar ein tir, ac mae angen i ni gefnogi eu hymdrechion. Rwy'n cynnig y dylai'r cymorth hwn gael ei gynllunio o amgylch egwyddor datblygu cynaliadwy, sydd wedi'i ymgorffori yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Dyma pam yr ydym ni wedi mabwysiadu rheoli tir yn gynaliadwy yn amcan polisi yn ein cynigion. Fy uchelgais gyffredinol yw bod â ffermydd cynaliadwy yn cynhyrchu nwyddau economaidd ac amgylcheddol mewn system gyfannol sy'n gwella lles ffermwyr, cymunedau a holl bobl Cymru. Mae rheoli tir yn gynaliadwy yn darparu fframwaith cadarn ar gyfer cymorth yn y dyfodol. Mae'n gosod cynhyrchu bwyd o ansawdd uchel ochr yn ochr â'r swyddogaeth y mae ein ffermwyr yn ei chyflawni wrth gynnal a gwella ein hamgylchedd naturiol a'n cymunedau gwledig. Mae'n adlewyrchu pwysigrwydd rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy ac yn darparu cyfleoedd i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd ac i gynnal a gwella bioamrywiaeth. Mae mabwysiadu'r amcan hwn yn gam pwysig tuag at weithredu er mwyn cyflawni ein hymrwymiadau i genedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Er mwyn hwyluso'r broses o gyflawni'r amcan polisi hwn, rwy'n cynnig un cynllun ffermio cynaliadwy. Bydd un cynllun yn caniatáu i ni gefnogi ffermwyr i gynnig cyfleoedd economaidd ac amgylcheddol ar yr un pryd. Mae'n ein helpu i ganfod sefyllfaoedd pan fo pawb ar eu hennill—pethau sy'n dda ar gyfer cynhyrchu bwyd a'r amgylchedd. Mae'r cynllun yn cynnig talu ffermwyr am y canlyniadau amgylcheddol a'r canlyniadau eraill y maen nhw'n eu darparu na werthfawrogir gan y farchnad. Mae'n bosibl cynhyrchu'r canlyniadau hyn ar y cyd â chynhyrchu bwyd drwy ddefnyddio arferion ffermio priodol. Er enghraifft, ar ffermydd, mae rheoli maetholion yn effeithiol a thargedu defnydd gwrtaith yn lleihau'r llygryddion sy'n gollwng i'n hawyr a'n cyrsiau dŵr, a bydd hynny'n gwella ansawdd yr aer a'r dŵr. Gallwn dalu am y canlyniadau amgylcheddol hyn. Byddai talu am ganlyniadau amgylcheddol a gyflwynir drwy arferion ffermio priodol yn sicrhau bod gan bob math o fferm y potensial i ymuno â'r cynllun os ydyn nhw'n dymuno. Mae hyn yn hanfodol bwysig oherwydd mae'n bosibl y bydd llawer o ffermwyr yn dibynnu ar y cynllun newydd i wneud elw, yn union fel y maen nhw'n ei wneud â'r cynllun taliad sylfaenol presennol. Bydd y taliadau hyn yn darparu llif incwm blynyddol ystyrlon a sefydlog i ffermwyr. Fodd bynnag, nid yw ffrwd incwm yn unig yn ddigon. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnig amrywiaeth o gymorth i fusnesau, gan gynnwys meithrin gallu a sgiliau busnes, buddsoddiad cyfalaf i wella cynaliadwyedd a throsglwyddo gwybodaeth. Bydd y pecyn cymorth hwn yn cynnal ac yn sicrhau y cyfraniad cymdeithasol pwysig y mae ffermwyr yn ei wneud i ffyniant cymunedau cefn gwlad drwy gadw ffermwyr ar y tir. Mae hyn yn arbennig o berthnasol o ran ymateb i her y newid yn yr hinsawdd. Ar 29 Ebrill, fe wnes i ddatgan bod argyfwng hinsawdd yng Nghymru. Bydd newid yn yr hinsawdd yn effeithio arnom ni i gyd ac nid yw ffermio yng Nghymru yn wahanol yn hynny o beth. Mae'n hollbwysig ein bod yn mynd i'r afael â chanlyniadau newid yn yr hinsawdd os ydym ni'n mynd i allu trosglwyddo ein diwydiant ffermio ffyniannus yng Nghymru i genedlaethau'r dyfodol. Mae ffermwyr, coedwigwyr a rheolwyr tir eraill mewn sefyllfa unigryw i ymateb i'r argyfwng yn yr hinsawdd. Er enghraifft, mae priddoedd Cymru yn storio 410,000,000 tunnell o garbon. Mae angen inni gynnal y stoc hon a gweithio i'w datblygu ymhellach. Bwriad y cynigion yn yr ymgynghoriad yw gwobrwyo ffermwyr sy'n rheoli eu tir yn y ffordd bwysig hon. Rwy'n edrych ymlaen at ymgysylltu â'r cyhoedd a rhanddeiliaid yn ystod y misoedd nesaf, yn enwedig yn y broses arfaethedig o gynllunio ar y cyd. Mae cynllunio ar y cyd yn gyfle i archwilio agweddau mwy ymarferol ar y cynllun arfaethedig. Bydd yn rhaid inni sicrhau bod y cynllun hwn yn hygyrch ac yn realistig i ffermwyr ei weithredu. Bydd eu barn nhw ar yr agweddau hyn yn hollbwysig. Caiff yr ymatebion i'r ddogfen ymgynghori a'r rhaglen gynllunio ar y cyd eu hystyried yn ofalus. Yna byddwn ni'n pennu ac yn nodi'r camau nesaf pan fyddwn wedi gallu ystyried yr holl ymatebion i'r ymgynghoriad yn llawn ac yng ngoleuni datblygiadau Brexit yn ystod y misoedd nesaf. Rydym ni'n parhau i alw ar Lywodraeth y DU i ddarparu rhagor o eglurder ar lefel y cyllid amaethyddol a ddychwelir i Gymru ar ôl Brexit. Mae Gweinidogion Cymru yn glir na ddylai gadael yr UE olygu unrhyw leihad yn yr arian sy'n dychwelyd i Gymru. Pab gaiff yr arian ei ddychwelyd, byddwn yn sicrhau bod arian yn cael ei gyfeirio at ffermio, coedwigaeth a chymorth arall i reoli tir, ac na chaiff ei wario mewn mannau eraill. Mae gwneud y polisi rheoli tir newydd yn realiti ymarferol wrth i'r DU adael y polisi amaethyddol cyffredin yn cynnig her, ond mae'n her sy'n wirioneddol werth ei chyflawni. Rydym ni'n cyflawni'r broses ymgynghori a dylunio yn araf ac yn ofalus, ac yn cynnwys cynifer o ffermwyr a rhanddeiliaid ehangach ag sy'n bosibl. Bydd hyn yn sicrhau bod gennym ni'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth orau sydd ar gael i wireddu ein cynigion ar gyfer datblygu cynaliadwy ym maes amaethyddiaeth. Daeth y Llywydd i’r Gadair. Andrew RT Davies AC: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Rwyf wedi dweud wrthych o'r blaen ac fe wnaf i ei ailadrodd eto, rwy'n credu bod gennych chi un o'r cyfleoedd mwyaf cyffrous yn y Llywodraeth i lunio polisi sydd, yn hanesyddol, wedi cael ei lunio gryn bellter o'r glannau hyn yn ystod y 45 i 50 o flynyddoedd diwethaf. Ni waeth beth yw barn pobl am Brexit—ac rwy'n gwerthfawrogi bod llawer o ddadleuon chwyrn wedi bod yn y Siambr hon—fel y dywedodd y Prif Weinidog wrth ymateb i fy nghwestiwn y prynhawn yma, am y tro cyntaf bydd yn bosibl i Weinidogion Llywodraeth Cymru gyfarwyddo'r gefnogaeth a'r polisi yn y maes penodol hwn a ledled yr economi wledig, ac mae hynny'n rhywbeth y dylid ei groesawu. Rwyf i hefyd yn croesawu—. Af i at ddiwedd eich datganiad, os caf i, lle y byddaf i'n dechrau. Rwy'n croesawu'r honiad gennych—a gallaf werthfawrogi'r Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn mwmian ar ei heistedd, gan gynnig sylwebaeth yn ôl ei dymuniad—ond rwy'n nodi yn y datganiad eich bod yn rhoi sicrwydd y bydd unrhyw arian a ddaw yn aros yn yr adran materion gwledig ac yn cael ei gyfeirio at goedwigaeth, amaethyddiaeth a mentrau eraill i gefnogi'r economi wledig. Rwy'n credu bod hynny'n honiad pwysig iawn i'w wneud yma oherwydd y bu pryderon y gallai peth o'r arian hwn, o bosibl, fynd at brosiectau eraill, ac rwy'n gwerthfawrogi, nid gan fainc y Llywodraeth, ond yn sicr gan sylwebyddion eraill yn y maes penodol hwn. Felly, rwy'n credu bod yr honiad hwnnw a roddwyd yn un pwysig iawn. Ond wedyn, symudaf ymlaen at y datganiad lle mae'n dweud bod angen i'r broses o gyflawni unrhyw un o'r polisïau hyn fod yn 'realistig i ffermwyr eu gweithredu'. Rwy'n sylwi nad yw'r datganiad yn sôn am yr hyn yr ydym ni wedi'i weld yn y dogfennau esboniadol am gynlluniau pwrpasol ar gyfer pob fferm unigol. Tybed sut, yn logistaidd, yr ydych chi'n mynd i allu cyflawni hynny. Mae'n rhaid i mi ddatgan buddiant: mae wedi'i nodi yng nghofrestr buddiannau'r Aelodau fy mod i'n ffermwr fy hun ac mae gen i rywfaint o brofiad o'r cynllun Tir Gofal a'r cynllun Glastir. Mae'r mathau hyn o gynlluniau yn gymhleth iawn, yn cymryd llawer iawn o amser i'w datblygu, ac mae'r ymarferion mapio a'r holl ddarnau eraill o wybodaeth y mae'n rhaid eu casglu er mwyn creu'r cynllun personol iawn hwnnw ar gyfer y busnes penodol hwnnw yn cymryd llawer o amser ac yn fiwrocrataidd. Felly, byddwn i'n ddiolchgar pe gallech chi amlygu yn eich ymateb i mi sut yr ydych chi'n gweld hynny'n cael ei roi ar waith yn (a) yr amserlen sydd gennych chi, a (b) yn y ffordd bwrpasol iawn yr ydych yn cyfeirio ati yn y dogfennau esboniadol yr ydych chi wedi'u cyhoeddi gyda'r datganiad hwn heddiw. Oherwydd, yn amlwg, mae hwnnw'n ymarfer enfawr y mae angen ei gyflawni. Gan symud ymlaen at yr hyn yr ydych chi wedi'i wneud nawr drwy ddod â'r ddwy ffrwd a gynigiwyd gennych chi'n wreiddiol yn 'Brexit a'n tir' a'u newid i fod yn un ffrwd o gymorth. Yn amlwg, yr hyn sydd wedi digwydd yn hanesyddol o dan y polisi amaethyddol cyffredin yw eich bod chi wedi bod â'r gefnogaeth uniongyrchol i amaethyddiaeth ac rydych chi wedi bod â'r cynllun datblygu gwledig—dwy ffrwd ar wahân. Byddwn i'n ddiolchgar o gael deall—oherwydd yr ydych chi'n sôn yn fras amdano yn eich datganiad am ddatblygu gallu ar gyfer sgiliau, datblygu modelau busnes eraill i gefnogi'r economi wledig—os na ragwelir y bydd prosiect tebyg i'r cynllun datblygu gwledig, sut yn union ydych chi'n mynd i sicrhau bod arian ar gael mewn prosiect sy'n addas i bawb, a allai, eto, gael ei symleiddio ar y naill law ond ar y llaw arall a allai fod yn hynod gymhleth hefyd os yw'n ceisio cael ei gynnal gan un cynllun trosfwaol? Rwy'n credu y byddem yn gwerthfawrogi esboniad manylach o'r modd y gallai hynny ddigwydd. Rwyf i wir yn croesawu'r pwyslais ar fwyd a chynhyrchu bwyd o safon. Mae gennym ni stori dda i'w hadrodd yma yng Nghymru ac, yn amlwg, nid oedd yr ymgynghoriad gwreiddiol wedi treulio llawer o amser yn sôn am gynhyrchiant posibl y diwydiant. Rwy'n credu bod hynny'n newid cywair i'w groesawu sydd wedi'i gyflwyno. Yr hyn yr ydym ni wedi'i ganfod ym mhwyllgor yr amgylchedd yw perygl neu amlygiad i niwed y sector tenantiaid, ac rwy'n credu bod angen i unrhyw gynllun a gyflwynir adlewyrchu'r sector tenantiaid yma yng Nghymru yn glir. Mae traean o dir Cymru o dan y drefn denantiaid, ac mae'n bwysig mai'r person sy'n darparu'r nwyddau cyhoeddus sy'n cael yr arian hwnnw, byddwn i'n ei awgrymu. Ceir llawer o syrfewyr clyfar a llawer o asiantau clyfar a fydd, mae'n siŵr, yn dod o hyd i un ffordd neu'r llall o ddatblygu cynllun yn seiliedig ar hyn. Ond gobeithiaf y gall y Gweinidog roi rhywfaint o gysur inni wrth ffurfio ei chynlluniau bod ei hadran a'i swyddogion yn ystyried sicrhau mai'r egwyddor yw mai'r sawl sy'n darparu'r elfen nwyddau cyhoeddus fydd yn derbyn y gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Mae'r asesiad modelu ac effaith yr ydych yn sôn amdano yma i'w groesawu, ond byddai'n dda ceisio deall yr amserlen yr ydych chi'n gweithio iddi, o ystyried yr amserlen dynn iawn rydyn ni'n sôn amdani. Yn ôl yr hyn a ddeallaf i, ychydig iawn o fodelu, os o gwbl, a wnaed ar lawer o'r cynigion hyn, a gwn i eto, os cyfeiriaf at fy mhrofiad ar bwyllgor yr amgylchedd sydd wedi ystyried hyn, bod hwnnw wedi bod yn destun pryder yr ydym ni wedi'i ystyried. Ar ddechrau'r datganiad, rydych chi'n sôn am gyfraniad ffermwyr, coedwigwyr a rheolwyr tir eraill. Byddwn i'n ddiolchgar o gael deall at bwy yr ydych chi'n cyfeirio wrth sôn am 'reolwyr tir eraill' oherwydd maen nhw yn y pen draw yn mynd i fod yn gymwys, rwy'n tybio, i gael cefnogaeth o dan hyn. Ar hyn o bryd, mae tua 16,000 neu 17,000 o dderbynyddion o dan y polisi amaethyddol cyffredin. Os na chawn ni feini prawf cymhwysedd yn y cynllun hwn, mae tystiolaeth yr ydym ni wedi'i chymryd yn awgrymu y gallech chi fod â chymaint â 40,000 i 45,000 o dderbynyddion o dan y cynllun. Yn logistaidd, mae hynny'n mynd i fod yn ymarfer rheoli enfawr, dim ond cyflwyno'r holl dderbynyddion newydd hynny. Ond hefyd, bydd pa bynnag gwantwm o arian a fydd ar gael yn cael ei daenu'n llawer teneuach ac efallai na fydd yn cyflawni'r nodau, yr amcanion a'r dyheadau yr ydych chi'n ceisio eu cyflawni. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn edrych ar y daith hon fel taith bositif a all, yn y pen draw, leihau a datrys rhai o'r problemau sydd wedi bod gennym o dan y polisi amaethyddol cyffredin. Os caiff ei weithredu'n gywir—ac, fel y dywedais i, mae'r cywair wedi newid yn y datganiad hwn, er mwyn adlewyrchu pwysigrwydd cynhyrchu bwyd, cynhyrchiant a sgiliau, a'r swyddogaeth hanfodol sydd gan amaethyddiaeth a ffermwyr wrth ddatblygu'r economi wledig—yna, fe allwn ni gael canlyniad llwyddiannus. Ac rwy'n croesawu'r newid yng nghywair y datganiad a'r nodiadau cysylltiedig sy'n cyd-fynd ag ef. Lesley Griffiths AC: Diolch, Andrew R.T. Davies, am y cwestiynau a'r sylwadau hynny. Rwy'n nodi eich sylwadau ynghylch bod y cywair yn newid i'w groesawu. Fe wnes i hyn yn glir iawn y llynedd, pan aethom ni i ymgynghoriad ar 'Brexit a'n tir', ei fod yn ymgynghoriad ystyrlon ac y byddem ni'n gwrando. Daeth dros 12,000 o ymatebion i law—nid oedd pob un yn ymateb unigol, ond rwy'n sicr wedi darllen llawer o'r ymatebion unigol a ddaeth i law—ac roedd cynhyrchu bwyd yn rhywbeth a oedd yn amlwg ac y dylid bod pwyslais ar gynhyrchu bwyd. Roedd bwyd yn rhan o'r ymgynghoriad 'Brexit a'n tir'; nid wyf yn credu bod 'Health and harmony' yn ei gynnwys o gwbl. Ac wrth gwrs, rwy'n cydnabod bod ffermwyr yn gynhyrchwyr bwyd. Fodd bynnag, rwy'n credu mai'r hyn sy'n wahanol iawn yn 'Ffermio Cynaliadwy a'n tir' yw'r cysylltiad rhwng cynhyrchu bwyd a chanlyniadau amgylcheddol, a chredaf ei bod yn bwysig iawn bod hynny yno. Rydych chi'n iawn, mae'n adeg gyffrous i allu bod â pholisi amaethyddol i Gymru. Fel y gwyddoch chi, roeddwn i'n teimlo'n angerddol dros aros, felly er bod hwn yn gyfle, byddai'n well gen i beidio â gorfod gwneud hynny. Fodd bynnag, rydym ni wedi bod yn glir iawn bod unrhyw gyllid sy'n dod gan Lywodraeth y DU—. Ac rydym ni'n disgwyl iddyn nhw gadw eu haddewid na fyddem ni'n colli ceiniog. Felly, ar hyn o bryd, rwy'n cael tua €330 miliwn sy'n glanio yn fy nghyllideb ac sy'n mynd yn uniongyrchol at ffermwyr a rheolwyr tir o fewn y polisi amaethyddol cyffredin. Felly, er imi eich clywed chi'n cyfeirio at yr hyn a ddywedodd gan Joyce Watson—. Ac mae hi'n gwneud pwynt da iawn, iawn: nid yw neilltuo dim byd yn rhoi rhyw lawer i chi. Mae'n wirioneddol bwysig ein bod ni'n cael rhywfaint o eglurder. Rwyf newydd lofnodi llythyr i'r Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn DEFRA—wyddoch chi, rydym ni'n ceisio cael eglurder ynghylch lefel y cyllid. Fel y gwyddoch chi, rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â fy nghymheiriaid yn y DU, ac rydym ni wedi gofyn i Weinidog o'r Trysorlys fod yn bresennol yn y cyfarfodydd hynny i gael rhywfaint o wybodaeth am yr arian yr ydym ni'n mynd i'w gael. Yn anffodus, hyd yma, ar wahân i un sgwrs ar y ffôn, nid ydym ni wedi gallu gwneud hynny. Fe wnaethoch chi gyfeirio at y cynlluniau pwrpasol ac rwy'n derbyn yn llwyr eich gwybodaeth chi o'r hyn y mae'n rhaid i chi ei gyflawni i fod yn rhan o'r cynlluniau hynny, felly rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n ei gwneud hi mor syml â phosibl. Credaf mai un o'r rhesymau pam y pleidleisiodd gymaint o ffermwyr dros adael yr Undeb Ewropeaidd—yr hyn y maen nhw'n yn ei ddweud wrthyf i yw mai'r fiwrocratiaeth a oedd yn ymwneud â'r PAC oedd y rheswm. Ac rwyf i wedi dweud sawl gwaith os byddwn ni'n ei wneud yn fwy cymhleth, byddwn ni wedi methu; mae'n bwysig iawn nad ydym ni'n gwneud hynny. Felly, nid oes unrhyw beth wedi'i benderfynu o ran â hynny. Mae'r ymgynghoriad a'r cynigion a fydd yn cael eu cynllunio ar y cyd a'r broses y byddwn ni'n ei dilyn, gan gyd-gynllunio'r cynllun gyda ffermwyr, oherwydd gyda nhw y bydd yn rhaid i ni weithio—bydd yn caniatáu inni gynllunio cynllun a fydd wedi cael ei symleiddio ar gyfer y cyfranogwyr. Rwyf i eisiau sicrhau bod unrhyw gynigion yn y dyfodol yn ymarferol ac y bydd modd eu cyflawni. Felly, mae'n uchelgeisiol, ac rwy'n credu y dylem ni fod yn uchelgeisiol, ond rwyf hefyd o'r farn bod yn rhaid i ni fod yn bragmatig. Rydym ni'n bwriadu i bob ffermwr allu rhoi camau gweithredu ar waith i sicrhau canlyniadau sy'n briodol i'w ffermydd, ac mae'n bwysig iawn bod gennym ni'r cynlluniau pwrpasol hynny, oherwydd nid yw'r un peth yn addas i bawb. Hyd y gwelaf i, mae pob fferm yn wahanol. Mae pob fferm yr wyf wedi'i hymweld â hi yn sicr yn wahanol, felly rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn. A bydd yr adolygiad o gynaliadwyedd ffermydd yn rhoi cyfle i'r cynghorydd a'r ffermwr gydweithio i benderfynu ar y camau gweithredu mwyaf priodol ar bob fferm. Gofynnwyd i mi, yn sicr gan y cyfryngau, sut yr oeddwn i'n rhagweld y byddai gennym ni ddigon o bobl i fynd i ymweld â phob fferm yng Nghymru. Ac yn amlwg, mae gennym ni Taliadau Gwledig Cymru, sydd wedi gwneud gwaith rhagorol yng nghyswllt taliadau a gweithio gyda ffermwyr, felly mae gennym rywbeth i'w ddatblygu. Felly, er fy mod i o'r farn ei fod yn uchelgeisiol, rwyf hefyd o'r farn ei fod yn gyraeddadwy ac y bydd y cynllun yn caniatáu i ni ddatblygu contractau syml wedi'u teilwra i'r ffermwr unigol a'i anghenion busnes. Rydych chi'n gwneud pwynt pwysig iawn ei bod yn angenrheidiol mai'r ffermwyr gweithredol sy'n cael eu gwobrwyo, ac yn amlwg, os ydym ni eisiau cael y canlyniadau amgylcheddol hyn, bydd bod â chynaliadwyedd fel sail sylfaenol i'r cynllun hwn, yn fy marn i, yn sicrhau hynny. O ran y ffermwyr tenant, rwy'n credu bod y ffermwyr sy'n denantiaid yn grŵp penodol yr wyf i'n awyddus i wneud rhagor drosto. Credaf ei bod weithiau'n anodd iawn iddyn nhw allu gwneud yr hyn yr ydym ni'n gofyn iddyn nhw ei wneud. Rwyf i yn sicr wedi gweithio gyda llawer o ffermwyr tenant a'r Gymdeithas Ffermwyr Tenant i sicrhau bod hynny'n digwydd. Yn amlwg, rydym ni'n ymgynghori ar hyn o bryd, felly bydd yr ymgynghori'n cyfrannu at hyn. O ran asesiadau effaith, unwaith eto, bydd yn broses barhaus wrth i'r cynigion gael eu llunio. Ni allwn ni wneud asesiadau effaith llawn nes y byddwn ni'n gwybod beth yw'r gyllideb, felly dyna un rheswm pam yr wyf i'n ceisio eglurder ynghylch y cyllidebau, ond bydd yna nifer o asesiadau effaith. Mae'n amlwg y bydd yna un ar y Gymraeg, fe fydd un ar ddiogelu cefn gwlad ac fe fydd rhai ar les economaidd. A byddwn ni hefyd yn ystyried yr effaith ar ein hadnoddau naturiol, ac mae hynny'n cynnwys bioamrywiaeth a threftadaeth. Llyr Gruffydd AC: Gaf i, ar y dechrau, gydnabod a diolch i'r Gweinidog bod y datganiad yma yn digwydd heddiw? Oherwydd, wrth gwrs, doedd hi ddim yn fwriad gan y Llywodraeth i wneud datganiad llafar yn ôl y datganiad busnes a gafodd ei gyhoeddi. Ond mi wnes i ofyn—gofynnwch a chwi a gewch—a dwi yn ddiolchgar ichi fod y datganiad yma yn digwydd, oherwydd, wrth gwrs, dyma yw un o'r materion mwyaf allweddol y mae'r Llywodraeth yma yn eu hwynebu ac yn eu cynnig o safbwynt dyfodol y sector amaethyddol a rheolaeth tir. Mae yna newid tôn, ond does yna ddim newid cyfeiriad o safbwynt ble mae'r Llywodraeth yn mynd ar hyn. Dwi'n dal i rannu consérn y sector na fydd o leiaf elfen o daliad sylfaenol ar gael i ffermwyr Cymru, yn yr un modd ag y bydd yna i brif gystadleuwyr Cymru yn Ewrop, yn yr Alban, Gogledd Iwerddon ac yn blaen. Dwi wedi gwneud y pwynt yma sawl gwaith. Mae angen sicrwydd, mae angen sefydlogrwydd ar y cyfnod pan rydym ni yn wynebu rhai o'r heriau mwyaf wynebodd y sector am genedlaethau yn sgil Brexit, a dwi'n teimlo y byddai edrych i fabwysiadu dynesiad rhywle fel yr Alban yn llawer gwell ar y foment yma. Ond dyna ni. Mi wnawn ni ymateb i'r hyn ŷch chi wedi ei gyhoeddi, ac mi edrychaf i ymlaen at fod yn rhan o'r broses honno, gorau y medraf i. Llyr Gruffydd AC: Felly, mae newid yn y naws, yma, yn sicr ond yn y bôn does dim newid cyfeiriad. Rwy'n credu ei bod yn deg i ddweud bod y Llywodraeth wedi cael ei gwthio i sefyllfa fwy cymodlon yn dilyn yr ymateb i ymgynghoriad 'Brexit a'n tir'. Mae'n dda gweld cyfeiriadau at gydweithio a chyd-gynllunio yn eich cyhoeddiad diweddaraf, ond mae'n anffodus, efallai, nad oedd y pwyslais yno o'r diwrnod cyntaf un. Mae hefyd yn braf eich gweld chi'n canolbwyntio nawr ar wobrwyo ffermwyr gweithgar, fel yr ydym wedi ei glywed eisoes, ac y bydd y cynllun hwn ar gael i ffermwyr tenant. Mae hefyd yn braf gweld cyfeiriadau cadarnhaol at y cap ar daliadau a thapro taliadau hefyd, a chydnabod, wrth gwrs, arbedion maint a fyddai, gobeithio, o fudd i ffermydd llai yng Nghymru. Nawr, pwysais arnoch chi ddwy neu dair wythnos yn ôl i ddweud sut yr oeddech chi'n credu y gallech chi gyflwyno cynigion mor bellgyrhaeddol heb unrhyw syniad o ran yr hyn y bydd Brexit yn ei roi i ni a beth fydd yr amgylchedd ar ôl Brexit o ran ein cysylltiadau masnachu—nid yn unig gyda marchnadoedd rhyngwladol ond, wrth gwrs, o fewn y DU, o bosibl, hefyd—mynediad i farchnadoedd, a ydym yn ddibynnol ar dariffau ac, wrth gwrs, faint o arian fydd ar gael i ni. Rwy'n credu ei bod yn eironig iawn bod eich ymgynghoriad yn gorffen ddiwrnod cyn Brexit, sef y diwrnod y bydd popeth yn newid, o bosibl. Dydw i ddim eisiau awgrymu ein bod ni'n gwastraffu ein hamser yma, ond os yw'r amodau'n newid, yna os ydych chi wedi ymgynghori ar gyfres benodol o gynigion, efallai bod angen i ni ailedrych ar rywfaint o'r rheiny. Felly, mae'n dda eich bod chi wedi ystyried hynny i raddau yma, oherwydd, oherwydd, fel yr ydych yn ei ddweud, dydych chi ddim yn ymgynghori ar amserlen benodol, oherwydd eich bod chi eisiau gweld beth fydd yn digwydd o ran Brexit. Dydych chi ddim yn ymgynghori o ran trefniadau pontio, oherwydd, yn amlwg, mae angen ichi ddeall yr hyn sy'n digwydd gyda Brexit ac, yn arbennig, o ran lefel y taliadau a allai fod ar gael, oherwydd, yn amlwg, mae angen ichi weld pa fath o gyllid sydd ar gael ar ôl Brexit. Hynny yw, os yw'n berthnasol i'r rheiny i gyd, yna siawns nad yw'n berthnasol i gwmpas ehangach yr ymgynghoriad hwn, hefyd. Gwnaethoch chi sôn yn gynharach am y modelu a'r asesiadau effaith y mae'r Llywodraeth yn bwriadu eu cynnal. A allwch chi gadarnhau a oes rhywfaint o'r gwaith hwnnw'n mynd i ddechrau cyn Brexit? Oherwydd os bydd, yna, unwaith eto, mae'r holl beth yn newid a gallai'r amgylchiadau fod yn gwbl wahanol ar ôl Brexit, yn enwedig yn yr ystyr economaidd y cyfeirioch chi ato yn eich ymateb blaenorol. Felly, does bosib na fyddai ymarfer modelu mwy ystyrlon yn ystyried sut y saif pethau ar ôl Brexit o ran yr economi a ffactorau eraill sy'n dylanwadu ar ddyfodol y sector yma. Nawr, rwy'n pryderu, ac rwy'n rhannu'r pryderon sydd wedi eu mynegi ynglŷn â gallu'r Llywodraeth i gyflawni'r cynigion hyn. Rwy'n gwybod eich bod chi'n cydnabod hynny, er nad wyf yn gwybod sut yn union yr ydych chi'n mynd i'r afael â hynny. Mae ymweld â phob fferm, i drafod, i gytuno a chyflawni contractau cynlluniau cymhleth yn mynd i gymryd llawer o adnoddau. Felly, rwyf eisiau deall o ble y daw'r adnodd hwnnw, oherwydd fe wnaethoch chi ddweud eich hun yr wythnos ddiwethaf nad oes syniad gennych chi o ran faint o gyllid y byddwch yn ei gael, os byddwch chi'n cael unrhyw arian o gwbl, hyd yn oed. Rwy'n credu bod Boris Johnson wedi ychwanegu at y pryder hwnnw'n ddiweddar pan ddywedodd ei fod yn credu y gallai o bosib wario rhywfaint ohono ei hun. Felly, mae cwestiynau mawr iawn ac mae'n ymddangos eich bod chi'n dal yn benderfynol o dorri'r gŵys hon. Nawr, mae'r datganiad yr ydych chi wedi'i gyhoeddi heddiw yn ymrwymo nad yw'r cyllid sy'n dychwelyd i Gymru yn cael ei wario mewn mannau eraill, ac rwy'n credu ei fod yn ddatganiad cadarnhaol, yn amlwg. Ond rwy'n awyddus i wybod—os bydd diffyg arian, yna a wnewch chi addo heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud iawn am y diffyg hwnnw? Rwy'n gofyn oherwydd gwnaeth y Llywodraeth hynny yr wythnos ddiwethaf, o ran cost pensiynau'r sector cyhoeddus, pan oedd Llywodraeth y DU yn ddiffygiol o ran yr hyn a ddarparwyd ganddi, a daeth yr arian o gronfa wrth gefn Llywodraeth Cymru. Felly, byddai diddordeb gennyf wybod a fyddai'r egwyddor honno yr un peth ar gyfer ffermwyr Cymru hefyd. Un pwynt arall hefyd—mae'n rhywbeth a godais yn eich datganiad blaenorol heddiw, ac mae'n egwyddor y gwnaethoch chi ei derbyn—a wnewch chi ymrwymo i gyhoeddi pa ganran o ymatebion i'r ymgynghoriad arfaethedig hwn a ddaw o Gymru, fel y gallwn ni fod yn glir mai dyma'r farn a gaiff ei mynegi gan bobl Cymru, ac nid eraill sydd o bosib yn dymuno dylanwadu ar y broses hon. Lesley Griffiths AC: Diolch, Llyr. Mae'n rhaid imi anghytuno â chi ar un neu ddau o bwyntiau. Rydych chi'n dweud fy mod i wedi cael fy ngwthio i newid cyfeiriad neu newid naws. Os cawn ni ymgynghoriad, unrhyw ymgynghoriad yr wyf i erioed wedi ei gynnal yn Weinidog ym mha bynnag bortffolio—mae'n rhaid iddo fod yn ystyrlon. Petawn i ddim yn gwrando, byddech chi'n cwyno. Os ydw i'n gwrando, rydych chi'n dweud fy mod i wedi fy ngwthio i wneud hynny. Allwch chi ddim ei chael hi bob ffordd. [Torri ar draws.] Wel, 'newid naws' yw'r ymadrodd a ddefnyddioch chi rwy'n credu, ac rwy'n ymrwymo'n llwyr i sicrhau bod yr ymgynghoriad hwn yn ystyrlon hefyd. Mae'n 16 o wythnosau: unwaith eto, ymgynghoriad hir dros yr haf. Gwnaethoch chi hefyd gwyno, rwy'n credu, am yr amserlen a'r ffaith ei bod yn gorffen ar 30 Hydref. I'r Aelodau hynny a oedd yn y Siambr pan oeddech chi'n credu fy mod i'n bwriadu gohirio'r ymgynghoriad hwn am bythefnos, byddan nhw wedi clywed eich dicter bryd hynny. Felly, unwaith eto, ni allwch ei chael hi bob ffordd. Ni allwn eistedd yn ôl ac aros i Brexit ddigwydd o'n cwmpas. Ym mha bynnag ffurf—os, yn wir, fel yr ydych yn ei ddweud, y byddwn yn gadael—mae'n rhaid inni fod yn barod. Felly, dyma'r rheswm pam—. Ymrwymais i fynd allan i ymgynghori o bosib yr adeg hon rai misoedd yn ôl, ac rwy'n credu mai dyma'r amser iawn i wneud hyn. Ynglŷn â rhai o'ch pwyntiau penodol, unwaith eto, mater arall nad wyf i wir yn ei ddeall yw ynghylch y cynllun y taliad sylfaenol. Rydym yn derbyn nad yw wedi amddiffyn ffermwyr yn y modd—.Nid oes rhaid ichi edrych ond ar yr ansefydlogrwydd, er enghraifft, a'r tywydd y llynedd, pan gawsom ni sychder. Yn sicr, ni fyddai cynllun y taliad sylfaenol yn ein helpu ni gyda'r argyfwng hinsawdd, ac rwy'n gwybod pa mor ymrwymedig yr ydych chi i weithio tuag at wrthdroi'r difrod sydd wedi'i wneud i'n hinsawdd. Felly, rwy'n synnu braidd eich bod chi'n ymagweddu yn y fath fodd o gwmpas cynllun y taliad sylfaenol. Yr hyn y bydd y cynllun hwn yn ei gynnig yw incwm sefydlog—incwm sefydlog am fwy na blwyddyn. Fe wnaethoch chi ofyn i mi a fyddem ni'n dechrau edrych ar yr asesiadau effaith cyn 30 Hydref. Rwy'n credu bod angen inni gymryd ein hamser i wneud hyn, felly yn fwy na thebyg, na fyddwn. Fodd bynnag, yr hyn y byddaf yn dechrau ei wneud cyn 30 Hydref yw edrych ar y cyd-gynllunio a sut y bydd y cyd-gynllunio'n datblygu. Y llynedd, efallai eich bod chi'n cofio—ac efallai yr aethoch chi i un eich hun—gweithiodd swyddogion yn agos iawn gyda ffermwyr, ond roedd yn fwy o sesiwn holi ac ateb. Bydd yn wahanol yn dilyn yr ymgynghoriad hwn. Mae'n mynd i ymwneud yn fwy o lawer â gweithdai ac efallai y bydd swyddogion yn ymweld â ffermydd ac yn gweithio gyda ffermwyr. Mae'n rhaid i'r ffermwyr gydweithio â'r cynlluniau hyn ac mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr eu bod ar y blaen pan fyddwn yn cydlunio. Felly, mae cydlunio yn air gwahanol, mae'n debyg, fel yr ydych chi'n ei ddweud, yn yr ymgynghoriad hwn, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gwneud hynny. Mae capasiti yn destun pryder; nid wyf yn cymryd arnaf nad yw'n destun pryder. Fodd bynnag, rwyf wedi cael sicrwydd y byddwn yn gallu gwneud hyn. Bydd yn cymryd amser, ond rwy'n credu bod gennym ychydig—. Un peth y mae ansicrwydd Brexit wedi'i wneud yw rhoi ychydig mwy o amser i ni, ac rwy'n benderfynol o beidio â brysio. Ni fydd pob ffermwr eisiau bod yn rhan o'r cynllun hwn, fel nad yw pob ffermwr yn rhan o gynllun y taliad sylfaenol nawr. Hoffwn i bob ffermwr gael ymweliad beth bynnag, ond dydw i ddim yn siŵr y bydd ffermwyr eisiau hynny. Ond mae hi mor braf ymweld â ffermydd a gweld faint o ganlyniadau amgylcheddol maen nhw'n eu cynhyrchu'n barod nad ydyn nhw'n cael tâl amdanyn nhw. Roeddwn ar fferm ddoe, lle y dywedodd y ffermwr wrthyf yn falch iawn fod y cae yr oeddwn yn sefyll ynddo—ei fod wedi cael asesiad arno, a bod rhwng 90 a 100 o dunelli o garbon wedi'u storio fesul hectar ar ei fferm. Nid yw'n cael ei dalu am hynny ar hyn o bryd, felly rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cynnig tâl am hynny. Yn sicr, ni allaf ymrwymo y bydd Llywodraeth Cymru yn llenwi unrhyw fwlch o ran cyllid. Yr hyn y byddaf yn ymrwymo iddo yw parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i sicrhau nad ydym yn colli ceiniog, fel yr addawyd inni, petaem ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd. Rwy'n fodlon iawn i edrych ar y ganran honno o ymatebion, oherwydd rwy'n credu y byddai hwn yn ymgynghoriad diddorol iawn i gael golwg arno. Joyce Watson AC: Rwy'n croesawu'r datganiad heddiw, ac yn amlwg ni fyddaf yn cytuno â phopeth y mae pawb wedi'i ddweud, ond rwyf yn cytuno â'ch datganiad. Rwy'n falch iawn ein bod ni bellach yn gwerthfawrogi'r amgylchedd yn y datganiad hwn, sy'n rhywbeth nad yw'r farchnad yn ei wneud. Rwy'n credu bod gwaith mawr y gellir ei wneud yma, ac rwyf eisiau ei gwneud yn glir nad oes amheuaeth bod y ffermwyr a'r cynhyrchwyr ar hyn o bryd yn cynhyrchu nwyddau o ansawdd da, boed yn fwyd neu'n eitemau eraill, ar eu ffermydd. A chaiff hynny ei hyrwyddo drwy sefydliadau fel Hybu Cig Cymru, er enghraifft, ac rwy'n credu os ydym ni'n symud tuag at gynllun newydd, mae cyfle gwirioneddol i sôn am hyrwyddo nwyddau o safon a reolir gan dir, nid hyrwyddo nwyddau o safon yn unig. Oherwydd rwy'n credu bod sgwrs gyfan yn newid nawr. Mae pobl eisiau gwybod am darddiad eu bwyd ac rydym ni'n dda iawn am wneud hynny, mae'n amlwg, ond maen nhw hefyd eisiau gwybod nid yn unig o ble mae'r bwyd wedi dod, ond maen nhw eisiau gwybod sut cafodd ei dyfu. Mae ganddyn nhw gryn ddiddordeb yn effaith y nwyddau a'r gwasanaethau hynny y maen nhw'n eu prynu ar yr hinsawdd, felly rwy'n credu bod angen i ni newid y sgwrs ynghylch hynny'n gyfan gwbl. Byddai honno'n stori newyddion wirioneddol dda i ffermwyr Cymru, oherwydd nid yw o reidrwydd yn wir nad yw hynny'n digwydd yn barod. Ond mae angen i ni newid y ffordd yr ydym ni'n gwerthu hynny, ac er mwyn gwneud hynny, rwy'n credu bod dod â phobl gyda ni yn hollbwysig, yn amlwg. Dyna ble yr wyf i'n cytuno â phawb yma, ac mae'n amlwg eich bod chi wedi cydnabod hynny yn y datganiad hwn. Ond rwy'n credu, wrth i ni ddod â'r bobl sydd eisoes yn ymwneud â ffermio neu reoli tir gyda ni, mae hefyd yn gyfle i gael trafodaethau ehangach a chydnabod arbenigedd nad yw ar hyn o bryd ar gael, ac a allai gynorthwyo wrth arwain pobl i'r dyfodol yn y ffordd y bydd angen gwneud hynny. Oherwydd ni ellir gwadu newid yn yr hinsawdd, er bod rhai wedi ceisio gwneud hynny. Rydym yn cael glaw trwm iawn ar hyn o bryd, ac rydym yn cael cyfnodau hir o sychder. Bydd hynny, yn ei dro, yn golygu y byddwn ni'n gorfod cyflenwi'r nwyddau hynny mewn ffordd gwbl wahanol. Mae glaw trwm iawn yn cael gwared ar y pridd ac yn ei erydu. Mae hefyd yn cael gwared ar lygryddion, a gwnaethoch chi sôn am hynny yma, ac rwy'n falch iawn o weld hynny. Ond os yr ydym yn edrych ar y cyfnodau hir hynny o sychder yr ydym yn ei gael ar hyn o bryd, a chyfnodau cynnes iawn, oni ddylem ni fod yn edrych ar y cyfle i dyfu rhywbeth gwahanol nad yw efallai wedi tyfu yma o'r blaen, ac efallai buddsoddi mewn rhai o'r cynlluniau hynny? Rwy'n credu bod angen i ni fod, fel yr ydych chi, yn flaengar yma. Gallwn ni edrych ar y posibiliadau a all weithio, a allai weithio, a bydd yn rhaid i ni ddysgu am yr hyn na fydd yn gweithio hefyd. Ond mae hynny wedi bod yn wir ym myd ffermio erioed, ac rwyf eisiau hyrwyddo yma—oherwydd rwy'n mynd i—fferm organig Caerhys yn sir Benfro, oherwydd arweiniodd y ffordd yn gynnar iawn pan nad oedd eraill yn gwneud, ac arallgyfeiriodd yn lle—. Yr unig ffordd y gallai fod wedi goroesi oedd cynyddu nifer y buchod a oedd ganddi ar y tir. Penderfynodd beidio, ac yn hytrach, trodd yn fferm organig. Felly, rwy'n credu bod rhai enghreifftiau da iawn o ran ble mae pethau wedi gweithio, ond y bygythiad mwyaf i hyn i gyd, ac rwy'n ei ailadrodd, yw San Steffan. Rydym wedi clywed rhai datganiadau pryderus iawn am arian yn cael ei gipio heddiw. Arian blaenorol yr UE a ddaeth yma ac sy'n eiddo i Gymru ydoedd. Rwy'n siŵr eich bod chi wedi cael sgyrsiau, ac rwy'n siŵr y byddwch yn eu cael nhw eto, ond ni allwn gael sefyllfa lle mae'r arian i gyda wedi'i ganoli yn San Steffan, ac mae San Steffan yn dweud wrthym ni yng Nghymru beth y cawn ni ei wneud oherwydd mai nhw sy'n rheoli sut y mae'r arian yn cael ei wario. Diolch. Lesley Griffiths AC: Fe ddechreuaf gyda'r pwynt olaf hwnnw a wnaeth Joyce Watson. Rwyf wedi'i wneud dro ar ôl tro ar ôl tro, a soniais mewn ateb cynharach—rydym ni eisiau bod Gweinidog o'r Trysorlys yn ein cyfarfodydd pedair ochrog. Dyna sy'n digwydd yng nghyfarfodydd pedair ochrog yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn gysylltiedig a rhan ynni fy mhortffolio, felly nid wyf yn gweld pam nad ydym ni'n gallu gwneud hyn gyda'r ochr amaethyddiaeth, pysgodfeydd a'r amgylchedd hefyd. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod yn cael yr eglurder hwnnw. Soniais i fy mod i wedi ysgrifennu eto—mae hwn mewn gwirionedd yn mynd at Robert Goodwill, a gadeiriodd y cyfarfod pedair ochrog diwethaf. Mae angen y sicrwydd hwnnw arnom ni oherwydd, fel rwy'n dweud, nid yw neilltuo dim byd yn rhoi rhyw llawer iawn inni. A chawsom ni addewid na fyddem ni'n colli ceiniog petaem ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac mae'n rhaid iddyn nhw ddal yn gadarn at yr addewid hwnnw. Rwy'n credu eich bod yn gwneud pwyntiau pwysig iawn ynghylch rheoli tir yn gynaliadwy a pham yr ydym ni'n gwneud hynny. Mae'n gysyniad sy'n cael ei gydnabod yn rhyngwladol, ac mae'n adlewyrchu defnyddio'n tir mewn ffordd sy'n sicrhau bod anghenion y genhedlaeth bresennol yn cael eu cydbwyso ag anghenion cenedlaethau'r dyfodol. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, mae ffermwyr yn deall hynny'n iawn. Maen nhw bob amser yn siarad am genedlaethau'r dyfodol a'r angen i ddiogelu'r tir. Ac roedd gan y fferm yr oeddwn i arni ddoe y dirwedd fwyaf anhygoel. Mae pobl yn dod i Gymru ar gyfer y dirwedd honno, ac maen nhw'n dod hefyd am y bwyd. Ac rydych chi'n gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â tharddiad—mae gan bobl lawer mwy o ddiddordeb mewn gwybod o le mae eu bwyd wedi dod a sut y mae'n cael ei dyfu. Felly, roedd y ffermwr yn dweud wrthyf i ddoe fod ei ŵyn yn bwyta llawer o feillion gyda'u glaswellt, ac mae hynny'n gwneud i'r cig flasu'n llawer gwell. Felly, yn amlwg, eisoes yn meddwl am yr holl bethau hyn. Ond nid yw'n cael ei wobrwyo am lawer o'r nwyddau cyhoeddus y mae'n eu darparu, ac mae'n bwysig iawn ein bod ni'n sicrhau'r canlyniadau amgylcheddol hynny a'i fod ef yn cael ei wobrwyo. Rydym ni wedi rhoi mwy o bwyslais ar fwyd a chynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy yn yr ymgynghoriad hwn. Gofynnodd un o'r undebau imi, sy'n credu bod bwyd yn nwydd cyhoeddus—nid yw, mae ganddo farchnad, ac nid yw'n deg i'r trethdalwr ein bod ni'n talu am rywbeth sydd â marchnad. Ond mae'n iawn ein bod yn gwobrwyo pethau nad oes marchnad ar eu cyfer, gan gynnwys ansawdd yr aer, ansawdd y dŵr, ansawdd y pridd, y gwaith rheoli maethynnau yr ydym ni wedi cyfeirio ato yn y datganiad hwn. Mark Isherwood AC: Bellach, ystyrir mai'r gylfinir yw'r flaenoriaeth bwysicaf o ran gwarchod adar yn y DU, a bydd perthnasedd hyn i'ch datganiad yn dod yn amlwg. Mae'r adroddiad partneriaeth 'Sefyllfa adar yng Nghymru 2018' yn dangos bod nifer y gylfinirod a gollwyd wedi bod yn fwy difrifol nag yng ngweddill y DU, ac mae mwy na thri chwarter poblogaeth y gylfinir wedi diflannu yn ystod y 25 mlynedd diwethaf, ac nid oes unrhyw awgrym bod y duedd hon yn sefydlogi. Ac mae Gylfinir Cymru, partneriaeth y gylfinir yng Nghymru, wedi clywed bod cynlluniau amaeth-amgylcheddol ar gyfer y gylfinir, er eu bod wedi bod ar waith am 40 o flynyddoedd, yn amlwg, heb weithio ar gyfer y rhywogaeth hon. Ddoe, roeddwn yn uwchgynhadledd y gylfinir yn Rhif 10 Stryd Downing, ynghyd â: Lewis Macdonald ASA—un o'ch cyd-Aelodau Llafur—hyrwyddwr rhywogaeth ar gyfer y gylfinir yn Senedd yr Alban; Jake Berry AS, hyrwyddwr rhywogaeth ar gyfer y gylfinir yn San Steffan; a'r cynghorydd arbenigol arweiniol ar gyfer adareg yn Cyfoeth Naturiol Cymru—efallai eich bod yn ymwybodol ei fod yn bresennol. Clywsom y bydd angen digon o adnoddau i gynghori, annog a chynorthwyo grwpiau o ffermwyr i ddod at ei gilydd i gyflawni, monitro a hyrwyddo'r gylfinir a bioamrywiaeth ar draws tirweddau, a bod angen deall y manteision lluosog ac aml-rywogaeth sy'n deillio o gryfder ecosystemau a safbwynt treftadaeth ddiwylliannol a naturiol y mae'n bosibl eu cyflawni drwy gamau i ddiogelu'r gylfinir. Felly, sut ydych chi'n ymateb i'r pwyntiau perthnasol canlynol i'ch datganiad a wnaed yn y cyfarfod bord gron a thrawsbleidiol mawr hwn: ein bod mewn cyfnod tyngedfennol i'r gylfinir, ac efallai bod gennym ni ond 15 mlynedd ar ôl; y dylem ni i gyd fod yn rhan o'r gwaith o gyd-gynllunio cynllun gyda phrofion a threialon; bod angen dull yn seiliedig ar anghenion ar gyfer taliadau i ffermwyr; dull gweithredu yn seiliedig ar ddull clyfar a mesuradwy; a bod angen cydgysylltu camau gweithredu gan weithio ar raddfa fawr a gyda'n gilydd gan gynnwys asiantaethau statudol a hynny ledled y DU? Ac rwy'n pwysleisio ei bod yn hanfodol bwysig bod Llywodraethau Cymru a'r Alban yn cael eu gwahodd i gymryd rhan lawn ar yr eiliad gyntaf y daw DEFRA neu Asiantaeth y DU yn rhan o hyn. A dof i ben drwy ddyfynnu geiriau'r amgylcheddwraig ac awdures Curlew Moon, Mary Colwell, a oedd yn bresennol, a ddywedodd, 'It's so shocking that Wales may truly have only 15 years left of the haunting call of the curlew—heartbreaking.' Mae yn dorcalonnus. Gallwn ni wneud rhywbeth yn ei gylch, ond nid yw'n ymwneud â'r gylfinir yn unig, mae'n ymwneud â'r cynlluniau cymorth i ffermwyr sy'n dilyn a'r llu o fuddion o ran cynhyrchu bwyd a rhywogaethau a all ddilyn. Sut y byddech chi'n ymateb i'r pwyntiau hynny a gafodd eu gwneud? Lesley Griffiths AC: Diolch ichi, Mark Isherwood. Roeddwn yn ymwybodol o'r uwchgynhadledd y cyfeiriasoch ati. Doeddwn i ddim yn ymwybodol eich bod yn bresennol, ond roeddwn i'n sicr yn ymwybodol ohoni. Rwy'n credu, mae'n debyg mai'r ffordd orau ymlaen fyddai—. Yn amlwg, ffermwyr—. Rwyf wedi bod ar sawl fferm lle—alla i ddim meddwl am y gylfinir, ond gwahanol fridiau o adar—maen nhw'n gwneud llawer o waith i wneud yn siŵr nad ydyn nhw'n mynd allan o fodolaeth. Gallaf feddwl am un neu ddwy fferm, yn enwedig ym Mharc Cenedlaethol Eryri, o ran gwahanol fathau o adar. Felly, efallai y byddai'n dda i gyflwyno ymateb i'r ymgynghoriad. Rwy'n siŵr y cewch chi rai ffermwyr a fyddai'n dod at ei gilydd fel grŵp i wneud hynny, oherwydd rwy'n siŵr—os ydych yn dweud ei bod yn 15 mlynedd, byddai hynny'n argyfwng o ran y gylfinir mewn unrhyw iaith. Byddwn yn hapus iawn i gael trafodaeth gyda chi y tu allan i'r Siambr ynglŷn â hynny hefyd. Dydw i ddim yn hollol siŵr sut mae'n cyd-fynd â'r ymgynghoriad, ond byddwn i'n sicr yn edrych ar unrhyw ymateb a pha un a ellid ei ystyriedyn ganlyniad amgylcheddol. Rwy'n siŵr y gellid. Dydyn ni ddim wedi llunio'r cynllun eto. Fel y dywedaf, mae hynny'n rhan o'r ymgynghoriad ystyrlon. Felly, rwy'n fodlon edrych ar hynny. Diolch i'r Gweinidog. 7. Rheoliadau Gwrthrychau Rhagnodedig ar gyfer Rhoi Twll mewn Rhan Bersonol o'r Corff (Cymru) 2019 Yr eitem nesaf, felly, yw'r Rheoliadau Gwrthrychau Rhagnodedig ar gyfer Rhoi Twll mewn Rhan Bersonol o'r Corff (Cymru) 2019, a dwi'n galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i wneud y cynnig—Vaughan Gething. Cynnig NDM7114 Rebecca Evans Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5 1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwrthrychau Rhagnodedig ar gyfer Rhoi Twll mewn Rhan Bersonol o’r Corff (Cymru) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mehefin 2019. Cynigiwyd y cynnig. Vaughan Gething AC: Diolch, Llywydd, rwy'n fodlon cynnig y cynnig sydd ger ein bron. Mae rhan 5 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yn rheoleiddio rhoi twll mewn rhannau personol arbennig o gorff plentyn a elwir yn dyllu personol. Ers 1 Chwefror 2018, mae'n drosedd i unigolyn yng Nghymru roi twll neu wneud trefniadau i roi twll mewn rhan bersonol o unrhyw unigolyn o dan 18 oed, oni bai ei fod yn digwydd fel rhan o weithdrefn feddygol. Mae'r gwaharddiad hwn yn cwmpasu pob gweithdrefn tyllu personol sy'n cynnwys gemwaith. Bydd y Rheoliadau a gyflwynir yma heddiw yn y cynnig hwn yn dod â thyllu personol sy'n cynnwys unrhyw wrthrych nad yw'n emwaith o fewn cwmpas y drosedd yn rhan 5 o'r Ddeddf. Effaith y Rheoliadau hyn fydd gwahardd tyllu personol sy'n cynnwys unrhyw wrthrych, boed yn emwaith ai peidio. Mae angen ymestyn cwmpas y drosedd i gynnwys tyllu personol gan ddefnyddio unrhyw wrthrych i ddiogelu plant yn llawn rhag gweithdrefnau tyllu personol. Gallai'r risgiau i iechyd sy'n gysylltiedig â thyllu'r corff â gwrthrychau nad ydynt yn emwaith, yn dibynnu ar y gwrthrych, fod yn fwy difrifol na thyllu â gemwaith. Gall gwrthrychau nad ydynt yn emwaith amrywio o ran maint, cyfrannedd a ffurf a gall hyn eu gwneud yn fwy anodd eu sterileiddio gan gynyddu'r risg o haint. Mae'r materion diogelwch ynghylch pobl ifanc yn cael eu rhoi mewn sefyllfaoedd a allai eu gwneud yn agored i niwed wrth gael gweithdrefn tyllu personol yr un mor berthnasol i dyllu drwy ddefnyddio gemwaith ag yw i dyllu drwy ddefnyddio gwrthrych arall. Bydd ymagwedd gyffredin tuag at dyllu personol ar gyfer gemwaith ac unrhyw wrthrych nad yw'n emwaith yn symleiddio'r sefyllfa i ymarferwyr a chleientiaid yn ddiwahân. Os cymeradwyir y rheoliadau hyn, byddant yn dod i rym ar 1 Awst 2019. Does dim siaradwyr yn y ddadl yma. Felly, dwi'n cymryd dyw y Gweinidog ddim angen ymateb. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 8. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) Sy'n dod â ni at y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau), a dwi'n galw ar y Gweinidog cyllid i wneud y cynnig yma—Rebecca Evans. Cynnig NDM7113 Rebecca Evans Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Cynigiwyd y cynnig. Rebecca Evans AC: Croesawaf y cyfle hwn i egluro cefndir y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol hwn. Rwy'n ddiolchgar i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau am ystyried y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol a chyflwyno adroddiad arno o fewn yr amserlenni tynn a oedd ynghlwm â hyn. Mae'r Pwyllgor o'r farn nad oes unrhyw beth i rwystro'r Cynulliad rhag cytuno ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol. Cyflwynodd Llywodraeth y DU y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestri) ar 12 Mehefin er mwyn ymdrin â nifer o newidiadau technegol i'r system ardrethi annomestig yng Nghymru a Lloegr. Yn dilyn cyhoeddiad fy rhagflaenydd ym mis Gorffennaf y llynedd, bydd darpariaethau yn y Bil sy'n berthnasol i Gymru yn dod â dyddiad yr ailbrisio ardrethi annomestig nesaf ymlaen o 2022 i 2021 ac yn addasu'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno rhestri arfaethedig o fis Medi i fis Rhagfyr yn y flwyddyn brisio flaenorol. Rwy'n credu bod y darpariaethau hyn yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Fodd bynnag, rwy'n fodlon i'r darpariaethau hyn gael eu gwneud mewn Bil sy'n cwmpasu Cymru a Lloegr, gan y bydd hyn yn sicrhau bod Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn cynnal yr ailbrisiad ar yr un pryd ac mewn ffordd gyson yn y ddwy wlad. Bil byr, technegol yw hwn i greu newid sy'n cael cefnogaeth eang busnesau a threthdalwyr eraill. Mae'r Cynulliad eisoes wedi cymeradwyo Gorchymyn i ddwyn ymlaen y dyddiad ailbrisio rhagflaenol, y dyddiad cyfeirio ar gyfer yr asesiadau prisio. Felly cynigiaf y cynnig a gofynnaf i'r Cynulliad gymeradwyo'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Unwaith eto, does gyda fi ddim siaradwyr yn y ddadl yma chwaith, ac felly dwi'n cymryd dyw'r Gweinidog ddim angen ymateb. Y cwestiwn felly yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yna hefyd. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 9. Dadl ar Gyllideb Atodol Gyntaf 2019-2020 Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar y gyllideb atodol gyntaf 2019-20. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid i wneud y cynnig—Rebecca Evans. Cynnig NDM7096 Rebecca Evans Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2019-20 aosodwydyn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth 18 Mehefin 2019. Cynigiwyd y cynnig. Rebecca Evans AC: Diolch, Llywydd. Cynigiaf y cynnig ar gyfer y gyllideb atodol gyntaf. Dyma'r cyfle cyntaf i ddiwygio cynlluniau cyllidebol ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol, a gyhoeddwyd ac a gymeradwywyd gan y Cynulliad ym mis Ionawr. Mae'r gyllideb atodol gyntaf yn aml yn eithaf cul ei chwmpas, ac nid yw eleni'n eithriad. Mae'n cysoni nifer o ddyraniadau o'n cronfeydd wrth gefn ac yn trosglwyddo rhwng portffolios. Mae'n cynnwys addasiadau i lefel gyffredinol yr adnoddau sydd ar gael i Gymru, gan adlewyrchu trosglwyddiadau a symiau canlyniadol a dderbyniwyd gan Lywodraeth y DU, ac mae'n adlewyrchu newidiadau mewn rhagolygon gwariant a reolir yn flynyddol yn unol â'r manylion diweddaraf a roddwyd i Drysorlys ei Mawrhydi. Er hynny, mae'n cynrychioli rhan bwysig o'r gyllideb a'r broses graffu. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am ei ystyriaeth o'r gyllideb hon a byddaf yn ymateb i'r Cadeirydd ar adroddiad y Pwyllgor maes o law. Mae cyllidebau atodol yn ystod y flwyddyn yn datblygu'r cynlluniau a nodwyd yn y gyllideb ddrafft a'r gyllideb derfynol. Fodd bynnag, mae cyllidebau atodol yn canolbwyntio mwy ar y pwysau a'r cyfleoedd sy'n codi yn ystod y flwyddyn. Ni fydd pob un wedi codi o ganlyniad i amcanion strategol Llywodraeth Cymru, ond gallant fod yn bethau sy'n gofyn am ymyriadau sy'n effeithio ar y gyllideb. Yn wir, mae'r dyraniad mwyaf o bell ffordd a wnaed yn y gyllideb atodol o £241 miliwn yn ymwneud â chwrdd â chostau ychwanegol cynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus. Ymddangosodd y costau o ganlyniad i benderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth y DU a roddodd bwysau ariannol ychwanegol ar ein gwasanaethau cyhoeddus sydd dan bwysau eisoes o fis Ebrill 2019. Ar 7 Mawrth, cyhoeddais y byddai arian ychwanegol yn cael ei ddarparu i sefydliadau yn y sector cyhoeddus y byddai'r newid yn effeithio arnynt. Ers hynny, mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd lefel y cyllid y bydd yn ei ddarparu yn llai na'r costau y bydd yn rhaid i sefydliadau sector cyhoeddus yng Nghymru eu talu. Rwyf wedi ysgrifennu ynghyd â'r gweinyddiaethau datganoledig eraill, at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys yn mynegi ein pryderon dwys nad yw'r cyllid arfaethedig yn talu'r holl gostau sy'n gysylltiedig â'r newidiadau y mae Llywodraeth y DU yn eu gosod ar eu cyfer eu hunain. Mae hyn yn annerbyniol ac mae'n tanseilio'r datganiad o bolisi ariannu a'r egwyddorion ar gyfer dyrannu cyllid yn y DU. Mae'r gyllideb hon yn cynnwys dyraniadau cyfalaf o £85 miliwn i roi hyder a sicrwydd i fusnesau yng Nghymru ar adeg pan fo'r ddau yn brin o ganlyniad i fethiant Llywodraeth y DU i roi terfyn ar ansicrwydd ynghylch Brexit. Mae'n ariannu ystod o brosiectau y gellir eu darparu'n gyflym yn ystod y flwyddyn, gan ddarparu manteision economaidd sy'n cyd-fynd â'n blaenoriaethau, a gall ysgogi galw economaidd ehangach ar adeg pan fo'i angen fwyaf. Caiff 50 miliwn o bunnau eu buddsoddi mewn rhaglenni tai cymdeithasol llywodraeth leol, gan ddarparu hyd at 650 o gartrefi ledled Cymru a gwneud cyfraniad sylweddol at ein blaenoriaeth allweddol o gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy o ansawdd da ledled Cymru. Dyrennir 20 miliwn o bunnau i gefnogi awdurdodau lleol, a byddwn yn cydweithio'n agos â nhw i drafod y defnydd gorau o arian i roi hwb economaidd i'r ardaloedd lleol. Bydd y £15 miliwn sy'n weddill yn cefnogi'r cynllun gweithredu economaidd drwy gronfa dyfodol yr economi a'r cyllid ychwanegol ar gyfer trafnidiaeth. Mae £11.4 miliwn wedi'i ddyrannu ar gyfer 2019-20 o gronfa bontio'r UE. Trwy'r gronfa, mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi ymyriadau sy'n ychwanegu gwerth ac sy'n ychwanegol at rwymedigaethau Llywodraeth y DU, yn unol â'n blaenoriaethau a nodwyd yn 'Diogelu Dyfodol Cymru', a bydd yn ein helpu i ganfod atebion Cymreig i broblemau Cymreig. Mae'r Gronfa wedi'i chynllunio i helpu busnesau, sefydliadau cyhoeddus a'r trydydd sector i baratoi ar gyfer Brexit. O ganlyniad i'r newidiadau yn y gyllideb atodol hon, mae'r gronfa refeniw wrth gefn yn £178 miliwn, gyda chronfeydd cyfalaf wrth gefn yn £100 miliwn ar gyfer cyfalaf cyffredinol a £191 miliwn ar gyfer cyfalaf trafodion ariannol. Dros y misoedd nesaf, byddaf, wrth gwrs, yn monitro ein sefyllfa ariannol yn ofalus ac yn parhau i archwilio, gyda chydweithwyr, yr achos dros ddyraniadau yn ystod y flwyddyn o'r cronfeydd wrth gefn. Bydd hyn yn ein galluogi i ymateb, lle bo angen, i bwysau pellach posibl ar y gyllideb a rheoli'r arian sy'n cael ei gario ymlaen drwy gronfa wrth gefn Cymru. Caiff unrhyw ddyraniadau pellach o'r cronfeydd wrth gefn eleni eu nodi yn yr ail gyllideb atodol. Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid unwaith eto am graffu ar y gyllideb atodol hon, a gofynnaf i'r Aelodau ei chefnogi. Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid i gyfrannu—Llyr Gruffydd. Llyr Gruffydd AC: Diolch, Llywydd.Mae'n bleser gen i siarad yn y ddadl yma, wrth gwrs, ar ran y Pwyllgor Cyllid, ac mi gafodd y pwyllgor gyfle i gyfarfod ar 27 Mehefin i drafod cyllideb atodol gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer eleni, 2019-20. Roedden ni'n falch iawn o allu cynnal y sesiwn honno, wrth gwrs, yn Aberystwyth, a hefyd yn falch o ddweud bod y Gweinidog wedi dod atom ni i'r cyfarfod hwnnw, a dwi'n diolch iddi hi am ddod i gynnal y sesiwn gyda ni yn Aberystwyth. Nawr, y prif bryder i ni fel pwyllgor am y gyllideb atodol yma yw gweithredoedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Mi wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig, wrth gwrs, fel rŷn ni wedi ei glywed, benderfyniad mewn perthynas â phensiynau sector cyhoeddus, ond dydyn nhw ddim yn ariannu'r penderfyniad hwn yn llawn yng Nghymru. Mae'r datganiad polisi ariannu yn nodi, lle mae penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn arwain at gostau ychwanegol, lle nad oes trefniadau eraill yn bodoli i addasu ar gyfer costau ychwanegol o'r fath, yna mi gaiff y costau ychwanegol hynny eu talu gan y Llywodraeth honno. Roedd hi'n amlwg i'r pwyllgor nad yw'r datganiad polisi ariannu wedi cael ei weithredu'n gywir yn yr achos hwn, ac fel pwyllgor byddwn ni hefyd yn ysgrifennu at Lywodraeth y Deyrnas Unedig i fynegi ein pryderon difrifol ni ynghylch y mater yma. Mae Llywodraeth Cymru, fel rŷn ni wedi ei glywed, wrth gwrs, wedi cytuno i wneud yn iawn am y diffyg cyllid ar gyfer cyrff sector cyhoeddus yng Nghymru eleni, ond mae'r pwyllgor, fel y gallwch chi ddychmygu, yn gofidio am y ffaith nad oes cadarnhad y bydd cyllid yn y dyfodol, ac mae angen sicrwydd felly gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar y mater hwn ar fyrder. Rhywbeth arall a oedd yn peri pryder i ni fel pwyllgor yw'r cyllid yn ymwneud â ffordd liniaru'r M4. Fe gadarnhaodd y Gweinidog y byddai'r Llywodraeth yn benthyca i gynyddu capasiti gwario, ond, gan na fydd ffordd liniaru'r M4 yn mynd yn ei blaen, doedd y Gweinidog ddim yn gallu cadarnhau at beth y byddai'r arian a godwyd drwy fenthyca yn cael ei ddefnyddio. Mae Aelodau am ddeall pa brojectau fydd yn cael eu hariannu a allai olygu y bydd angen i Lywodraeth Cymru gynyddu ei chapasiti gwario. Doedd hi chwaith ddim yn glir yn y dystiolaeth sut y byddai comisiwn yr M4 yn mynd rhagddo. Mae'r Llywodraeth wedi dweud wrthym ni mai comisiwn yr M4 fydd yn cael y 'cynnig cyntaf' ar gyllid a oedd i fod ar gael ar gyfer project y llwybr du, ond eto fe gawson ni ar ddeall bod yr £20 miliwn a gafodd ei ddyrannu ar gyfer ffordd liniaru bosib yr M4 bellach mewn cronfeydd wrth gefn. Does dim manylion yn y gyllideb atodol hon am sut y bydd y camau nesaf ynghylch yr M4 yn symud ymlaen. Mae'r pwyllgor wedi gofyn felly am fanylion am y cyllid y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei ddarparu ar gyfer comisiwn yr M4, ac am ragor o fanylion am y blaenoriaethau cyllido yn rhaglen gyfalaf 2019-20 y Llywodraeth yng ngoleuni, wrth gwrs, y penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen â phroject yr M4, yn enwedig o ran sut mae hyn wedi effeithio ar ei strategaeth fenthyca. Nawr, yn y Siambr hon ar 29 Ebrill, fe ddatganodd y Llywodraeth argyfwng hinsawdd. Eto, er gwaethaf y datganiad hwnnw, dydy'r gyllideb hon ddim yn nodi unrhyw newid ym mlaenoriaethau'r Llywodraeth. Dydyn ni ddim wedi gweld unrhyw dystiolaeth o sut mae'r datganiad o argyfwng wedi dylanwadu ar y broses o wneud penderfyniadau. Rŷn ni wedi gofyn am ragor o wybodaeth gan y Llywodraeth am sut y bydd cyllidebau yn y dyfodol yn cael eu cynllunio yng nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd hwnnw. Yn olaf, mae'r gyllideb atodol hon yn cael ei chyflwyno, wrth gwrs, yng nghyd-destun y ffaith nad oes cytundeb Brexit sydd wedi cael ei dderbyn. Ar y diwrnod y cafodd y gyllideb atodol ei gosod, fe gyhoeddodd y Gweinidog becyn buddsoddi cyfalaf gwerth cyfanswm o £85 miliwn, ac fe'i cyflwynwyd, wrth gwrs, yng nghyd-destun Brexit. Er ein bod ni’n croesawu'r buddsoddiad hwn, wrth gwrs, dyw hi ddim yn glir i ni sut mae'r arian hwn yn bodloni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran ei strategaeth Brexit, ac rydyn ni wedi gofyn am wybodaeth ychwanegol am hyn. Mae'r pecyn ariannu hwn, er enghraifft, yn dyrannu £20 miliwn i awdurdodau lleol, ond dyw hi ddim yn glir sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu i awdurdodau lleol ddefnyddio'r cyllid hwn, ac mi fyddem ni'n croesawu eglurder yn hyn o beth, fel y byddem ni'n ei groesawu e ar y materion eraill dwi wedi'u codi. Diolch. Nick Ramsay AC: Rwyf hefyd yn falch o gyfrannu at y ddadl y prynhawn yma ar y gyllideb atodol gyntaf, a minnau'n Weinidog Cyllid yr wrthblaid ar yr ochr hon i'r Siambr a hefyd yn aelod o'r Pwyllgor Cyllid. Ni fydd yn syndod i'r Gweinidog na fyddwn ni, yn ôl traddodiad y Ceidwadwyr Cymreig, yn cefnogi'r gyllideb atodol hon. Ar y sail na wnaethom ni gefnogi'r gyllideb wreiddiol y mae'n atodol iddi, byddwn yn ymatal. Nawr, fel y dywedodd y Gweinidog, mae nifer o newidiadau a throsglwyddiadau technegol ac ati yn y gyllideb hon, sydd i'w disgwyl. Wedi dweud hynny, mae rhai materion sy'n peri pryder ynglŷn â'r gyllideb hon, ac mae Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid wedi cyfeirio at lawer ohonyn nhw. Fel y dywedodd Llyr Gruffydd, roedd y pwyllgor yn arbennig o bryderus ynglŷn â'r diffyg eglurder ynghylch y gyllideb, yn enwedig o ran yr uchelgeisiau a'r cyllid ar gyfer comisiwn yr M4. Gwyddom fod yr £20 miliwn hwnnw a ddyrannwyd i lwybr du'r M4 bellach wedi'i drosglwyddo'n ôl, neu wedi'i drosglwyddo i gronfeydd wrth gefn. Ond nid yw hi'n glir sut yn union y bydd y comisiwn yn cael y dewis cyntaf o ran yr arian hwnnw. Mae'n debyg nad yw'r arian hwnnw wedi'i glustnodi. Efallai y gall y Gweinidog roi atebion inni i'r cwestiynau hynny. Ni chawsom yr holl atebion hynny y byddem wedi hoffi eu cael yn ystod ein sesiynau tystiolaeth. Nawr, o'r gorau, mae'r llwybr du wedi mynd i'r gwellt, ond siawns na ddylid cael fframwaith ariannol llawer cryfach ar hyn o bryd i roi rhwydd hynt i'r comisiwn argymell yr ateb gorau o blith y dewisiadau eraill, boed hynny ar ffurf trafnidiaeth gyhoeddus well, y metro neu ddatrysiad peirianyddol, fel twneli newydd ym Mryn-glas, adlinio'r briffordd ac ati neu, yn wir, yn fwy tebygol, cyfuniad o rai o'r dewisiadau hyn. Mae cwestiwn hefyd ynglŷn â benthyca. Nid dim ond cyfalaf sy'n cael ei ddefnyddio yn hyn o beth neu y bwriedir ei ddefnyddio. Yn ôl pob tebyg, mae benthyca yn mynd i barhau ar lefelau blaenorol angenrheidiol i ariannu'r llwybr du yn absenoldeb y ffordd ac yn absenoldeb unrhyw brosiectau diriaethol yn ei lle. Felly, efallai y gall y Gweinidog egluro'r sefyllfa yn hynny o beth o ran beth yw ei bwriadau gyda'r lefel honno o fenthyca. Yn sicr, nid oedd y Pwyllgor Cyllid yn teimlo ein bod wedi mynd at wraidd y peth. Am ba hyd fydd y comisiwn yn ei le? Pryd gaiff y camau nesaf, y sonnir amdanyn nhw, eu rhoi ar waith? Pryd gaiff y trefniadau ariannol eu rhoi ar waith ar gyfer hynny? Mae pobl y de-ddwyrain yn amlwg yn edrych at Lywodraeth Cymru nawr i ddarparu ateb i'r tagfeydd ar yr M4. Yn y cyfamser, byddai wedi bod yn braf gweld mwy o waith yn cael ei wneud yn niffyg y cynllun ffordd hwnnw, gan edrych ar gynlluniau posib eraill i liniaru tagfeydd yn ardal y de-ddwyrain—fy rhestr siopa i, fel y cyfeiriodd y Prif Weinidog ati unwaith: ffordd osgoi Cas-gwent, cyffordd newydd ar yr M48 o bosib, adnewyddu arwyneb y ffordd rhwng y Fenni a Rhaglan ar yr A40—. Rwyf wedi bod drwyddynt lawer gwaith o'r blaen. Ond mae cynlluniau posib eraill hefyd, y gwn i fod gan Aelodau eraill ddiddordeb ynddynt. Felly, ydym, rydym ni'n derbyn bod llawer o'r newidiadau hyn yn dechnegol ac yn angenrheidiol, ond credaf y gellid bod wedi cael ychydig mwy o gyfeiriad yn y gyllideb hon a thynnu sylw at y dyfodol. O ran y materion eraill yr ymdriniwyd â nhw ac y cyffyrddwyd â nhw gan yr adroddiad ar y gyllideb atodol a wnaed gan y Pwyllgor Cyllid, roeddem yn gyffredinol yn cefnogi'r cynnydd yng nghyllideb Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2019-20, cyllideb Comisiwn y Cynulliad ac Archwilydd Cyffredinol Cymru—y cynnydd mewn refeniw. Fel y dywedais ar ddechrau fy nghyfraniad, ni fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r gyllideb hon. Byddwn yn ymatal am y rhesymau a nodwyd gennyf o'r blaen. Rhun ap Iorwerth AC: Mi ddywedodd y Gweinidog mai sgôp digon cul sydd yna i gyllideb atodol fel arfer, ond dwi’n meddwl bod yna fwy, efallai, i'w ddweud am y gyllideb atodol na sydd yna am lawer ohonyn nhw. Mae yna lawer o ffactorau allanol o ran gweithredoedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig a rhai o weithredoedd, neu ddiffyg gweithredoedd, o bosib, Llywodraeth Cymru, y mae angen rhoi sylw iddyn nhw. O ran diffyg gweithredu, y cam gwleidyddol mawr sydd wedi digwydd ers cyhoeddi'r gyllideb ei hun, wrth gwrs, ydy bod y Cynulliad yma a Llywodraeth Cymru wedi datgan argyfwng hinsawdd. Roeddwn i'n edrych ar ddiffiniad 'emergency' yng ngeiriadur Rhydychen: Rhun ap Iorwerth AC: Sefyllfa ddifrifol, annisgwyl, ac yn aml yn beryglus yn gofyn am weithredu ar unwaith. Rhun ap Iorwerth AC: Mi fyddwn i, felly, wedi disgwyl a gobeithio gweld y gweithredu ar unwaith yn digwydd ar y datganiad argyfwng newid hinsawdd yna, ond dydy hynny ddim yn gyfle sydd wedi ei gymryd gan y Llywodraeth, ac mae hynny'n rhywbeth dwi'n gresynu yn ei gylch. Mae'r Prif Weinidog wedi dweud bod materion amgylcheddol yn ffactor yn y penderfyniad i beidio bwrw ymlaen â llwybr du'r M4. Dwi'n meddwl mai cyd-ddigwyddiad oedd hynny fwy nag ymateb go iawn i'r datganiad argyfwng hinsawdd. Ond, eto, beth sydd ddim yn y gyllideb atodol yma sydd yn fy nharo i fel bod yn fwyaf diddorol, a fy nghyd Aelodau ar y Pwyllgor Cyllid hefyd—hynny ydy, iawn, o ganlyniad, o bosib, i'r penderfyniad i beidio bwrw ymlaen â'r llwybr du, o bosib nad oes yna ymrwymiadau ariannol y mae'n rhaid i ni eu clywed gan Lywodraeth Cymru, ond siawns ei bod hi'n rhesymol ar y pwynt yma i ddisgwyl gweld yn y gyllideb atodol arwydd o sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb o ran gosod ei chyllideb, o ran beth fydd ei hagwedd hi tuag at ei lefelau benthyca hi a'r arian y bydd hi ei angen maes o law i dalu'r benthyciadau hynny yn ôl. Felly, unwaith eto, rhywbeth sydd ddim yn y gyllideb yma. O ran Brexit, rydw innau'n croesawu'r £85 miliwn yma sydd wedi cael ei neilltuo ar gyfer paratoadau Brexit. Fel y clywsom ni gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, rydw innau'n bryderus bod yna ddiffyg eglurder yn union o beth ydy strategaeth y Llywodraeth wrth wario'r arian yna, er bod yna nifer o benawdau wedi cael eu gosod. Ond, unwaith eto, mae'n rhaid rhoi sylw i'r hyn sy'n digwydd ar lefel y Deyrnas Unedig yma, ac mae'r cwestiwn a'r bygythiad o Brexit heb gytundeb yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni ei ystyried fel bod â goblygiadau cyllidol difrifol tu hwnt ar ei gyfer o. Mi fyddwn ni'n sicr mewn cyllidebau a chyllidebau atodol y dyfodol yn gorfod rhoi sylw mawr i hyn oherwydd y twll dŷn ni wedi tyllu i'n hunain iddo fo o ran Brexit. Sylw arall ynglŷn â gweithredoedd Llywodraeth Prydain: mae o'n rhywbeth y dylem ni fod yn bryderus iawn yn ei gylch o fod y £36 miliwn yn fyr yma wedi cael ei neilltuo ar gyfer ymateb i sefyllfa pensiynau sector gyhoeddus. Dwi'n bryderus mai dechrau patrwm ydy hyn ac mi ydw i'n gefnogol iawn ac yn mynd i fod yn gefnogol iawn i unrhyw gamau cadarn y gwelwn ni gan Lywodraeth Cymru i ymateb, o bosib ar y cyd efo llywodraethau a seneddau datganoledig eraill, i sicrhau nad dechrau patrwm ydy hyn gan Lywodraeth Prydain, sydd, i bob pwrpas, wedi trin ein Senedd genedlaethol ni fel adran o Lywodraeth yn Whitehall yn hyn o beth. Felly, i gloi, mi fyddwn ni'n ymatal ar y gyllideb yma, a hynny'n adlewyrchu'r ffaith bod y gyllideb atodol yma'n rhan o gytundeb ddwy flynedd. Cyllideb Llywodraeth Lafur ydy hon, ac mi fyddwn ni ar y meinciau yma'n dal y Llywodraeth Lafur i gyfrif arni hi, ond mi rydym ni'n credu, drwy ein cytundeb ni ar arian ychwanegol at yr economi sylfaenol, at addysg feithrin, at iechyd meddwl, at grant ffermwyr ifanc, at ofal diwedd oes, at fuddsoddi mewn celfyddyd a threftadaeth chwaraeon a thwristiaeth, ac yn y blaen, ac yn blaen, ein bod ni, drwy hynny, wedi gallu gwneud gwahaniaeth ar ran pobl Cymru o feinciau'r gwrthbleidiau yma yn y Cynulliad, ac yn edrych ymlaen, wrth reswm, at allu gwneud gwahaniaeth llawer mwy fel Llywodraeth yma. Mike Hedges AC: Rwyf am ddatgan yn glir nawr. Byddaf yn pleidleisio o blaid y gyllideb. Yn gefndir i'r gyllideb atodol hon mae cyni parhaus ac ansicrwydd Brexit. Gwyddom y dylem ni fod yn cael o leiaf £800 miliwn yn fwy y flwyddyn nag yr ydym ni'n ei gael ar hyn o bryd, sydd, drwy gyd-ddigwyddiad, yn cyfateb i faint y gyllideb atodol hon. Ond i'r Ceidwadwyr yn San Steffan, nid polisi economaidd yw cyni, ond ideoleg: dull deublyg o dorri a phreifateiddio. Mike Hedges AC: Ar hyn o bryd mae gennym ni sefyllfa lle mae gan Jeremy Corbyn fwy yn gyffredin o ran polisi, â llywodraethau Churchill, Eden a Macmillan yn syth ar ôl y rhyfel nag â Boris Johnson neu Jeremy Hunt wrth i Geidwadwyr San Steffan newid i fersiwn Brydeinig o'r Blaid Weriniaethol. O ran y gyllideb atodol gyntaf hon ar dai, rwy'n croesawu'r ffaith bod £50 miliwn ychwanegol wedi'i ddyrannu i gefnogi'r gwaith o ddarparu hyd at 650 o gartrefi fforddiadwy, er bod cost o £67,000 i bob cartref yn ymddangos i mi, o leiaf, braidd yn isel. Ond rwy'n croesawu'r datganiad canlynol gan y Gweinidog Cyllid yn y Pwyllgor Cyllid—i ddyfynnu: Felly, caiff yr arian ar gyfer tai fforddiadwy ei ddyrannu gan ddefnyddio'r fformiwla grant tai cymdeithasol safonol, sy'n golygu y bydd pob awdurdod lleol yn cael eu cyfran o'r arian ychwanegol, ac, unwaith eto, penderfynwyd bod yr arian hwn yn flaenoriaeth oherwydd roedd prosiectau y gellid eu dechrau yn ystod y flwyddyn, a byddem yn disgwyl cynlluniau o raglenni awdurdodau lleol. Ac yn benodol, y peth roeddwn i'n fwyaf balch ohono—yr ymateb i'r cwestiwn canlynol: A all awdurdodau lleol ddefnyddio'r arian hwn i adeiladu tai cyngor? Ymateb y Gweinidog Cyllid oedd: Gallant, a byddwn i'n hoffi iddyn nhw wneud hynny. Mae hyn yn rhywbeth yr wyf yn siŵr y caiff ei groesawu gan awdurdodau lleol a chan bob un ohonom ni sy'n credu mai dim ond drwy adeiladu tai cyngor y gellir datrys yr argyfwng tai presennol. A gaf i hefyd groesawu'r ffaith y caiff yr arian ychwanegol ar gyfer pensiynau a dderbynnir o San Steffan ei drosglwyddo i bortffolios Gweinidogol? Rwy'n ategu pryder pawb arall ei fod £36 miliwn yn llai nag yr oedd ei angen arnom ni, ac mae hynny'n peri imi ddeall yn rhannol amharodrwydd y Llywodraeth i gymryd pethau oddi ar San Steffan, lle, oni bai y trosglwyddir y swm o arian i'w cynnal a swm yr arian sydd ei angen, rydym ni ar ein colled yn rheolaidd o ran y rhain diolch i San Steffan. Ond cytunwyd, pan oedd Mark Drakeford yn Weinidog Cyllid, ar drefn apelio pryd, os oeddem yn credu ein bod wedi cael ein trin yn wael gan y Trysorlys, roedd yna weithdrefn apelio annibynnol ac nid dim ond mynd yn ôl i'r Trysorlys gan ddweud, 'Nid ydym yn fodlon' a byddan nhw'n dweud, 'Wel, hen dro; dyna'r sefyllfa' Mae gweithdrefn apelio annibynnol i fod yn ei lle, a byddwn yn gobeithio y byddai'r Llywodraeth yn defnyddio honno. Mae gwir angen cymorth o ran pensiwn athrawon. Hebddo, buasai argyfwng yn yr ysgolion. Gydag ef, mae problemau mewn ysgolion; hebddo, buasai argyfwng yn yr ysgolion. Ond cofiwch, mae'r flwyddyn ysgol a'r flwyddyn ariannol yn wahanol ac mae'r flwyddyn ysgol yn mynd, fel mae pawb yn gwybod, o fis Medi hyd at ganol mis Gorffennaf, ac mae'r flwyddyn ariannol yn mynd o fis Ebrill. Felly, mae angen cael arwydd gan y Llywodraeth y byddan nhw'n parhau i gefnogi hyn am weddill y flwyddyn ysgol, neu fel arall bydd problem gydag ysgolion o ran eu cyllidebau yn ystod y flwyddyn. Ac rwy'n credu bod nifer o bobl yma naill ai wedi bod, neu yn llywodraethwyr, ac yn ymwybodol iawn o'r problemau sy'n gallu digwydd yn ystod y flwyddyn os, ym mis Ebrill, na fydd yr arian a gafwyd eleni ar gael y flwyddyn nesaf, ac wedyn, yn sydyn iawn, mae gennych chi gyfle cyfyngedig i ddechrau gwneud arbedion yn y flwyddyn honno, ac mae'n achosi problemau ariannol enfawr. Rwy'n siomedig iawn yn bersonol am y methiant i gefnogi'r cynnydd mewn cyfraniadau pensiwn ar gyfer staff nad ydynt yn addysgu mewn ysgolion. Mae hynny'n gost arall a ddaeth i ran ysgolion, nad oes ganddyn nhw unrhyw reolaeth drosti. Weithiau, rydych chi yn credu eu bod yn cyflogi mwy o staff neu fod y cyflogwr yn negodi codiadau cyflog—'Wel, chi wnaeth hynny, talwch chi.' Ond mae hyn yn rhywbeth nad oedd ganddyn nhw unrhyw reolaeth o gwbl drosto, ac rwy'n siomedig nad yw Llywodraeth Cymru wedi gallu ymdrin â hynny oherwydd ei fod yn sylweddol is na chyflogau'r athrawon. Mae'n briodol talu cyfraniadau pensiwn gan y cyflogwr, ond mae £5,000, £10,000, £15,000 yr ysgol yn gwneud llawer o wahaniaeth. Felly, rwy'n poeni'n fawr am hynny. A gaf i yn olaf groesawu'r £20 miliwn ar gyfer cyfalaf llywodraeth leol? Gall awdurdodau lleol bob amser wario cyfalaf. Mae gennych chi ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, mae gennych chi gynnal a chadw cyfalaf, mae gennych chi ffyrdd. Gellir wastad defnyddio'r arian hwnnw. Ni allaf weld unrhyw newid i gyfalaf trafodion cyllid yn y gyllideb atodol hon. A gaf i ofyn a all y Gweinidog, rywbryd, adrodd yn ôl ynglŷn â sut y mae'n cael ei wario gyda phroffil o wariant ac ad-dalu, ac esboniad o'r strategaeth sylfaenol ar gyfer ei ddefnyddio? Rydym ni'n gwybod ar gyfer beth na allwn ni ei ddefnyddio. Efallai nad ydym yn deall ar gyfer beth yr ydym ni yn ei ddefnyddio. Ac mae dyfodol ceir trydan a'r defnydd cynyddol o ynni adnewyddadwy yn dibynnu ar welliannau mewn technoleg batri. Bydd pwy bynnag sy'n meistroli technoleg batri gwell o ran maint, hyd yr amser y cedwir y wefr, gan leihau'r ynni trydanol a gollir i ffurfiau eraill fel gwres, a chyflymder yr ailwefru, yn chwyldroi'r diwydiant ac, yn bwysicaf oll, yn creu diwydiant newydd ar gyfer ein hardal ni. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr arian sy'n cael ei wario ar dechnoleg batri yn gweithio ac mai ni fydd y lle y bydd pobl yn dod iddo i gael batris. Mark Reckless AC: Byddwn ni hefyd yn ymatal ar sylwedd y cynnig hwn ar y gyllideb atodol. Fodd bynnag, a gaf i ganmol y Llywodraeth am ei chyflwyniad gwell o lawer o'r gyllideb atodol? Rwy'n cofio dair blynedd yn ôl, yn fuan ar ôl imi gael fy ethol i'r Cynulliad, y gyllideb atodol gyntaf i mi ddod ar ei thraws. Roeddwn i wedi gobeithio y byddai fy mhrofiad, o ran edrych ar gyllidebau Llywodraeth y DU neu gyllidebau llywodraeth leol yn Lloegr neu gyllidebau sector preifat o ryw fath neu'i gilydd, o fudd imi ar gyfer y swydd o asesu a chwestiynu'r gyllideb atodol, ond nid oedd hynny'n wir o gwbl i'r graddau yr oeddwn i wedi ei obeithio. Ac, o gofio ar y pryd, roeddwn i ar y Pwyllgor Cyllid ac yn cadeirio'r pwyllgor ar y newid yn yr hinsawdd, yr elfen fwyaf rwy'n credu, neu yn sicr yr elfen fwyaf dadleuol o'r gyllideb oedd gweithredu llawer o faniffesto UKIP ym maes torri prosiectau newid hinsawdd. Rhoddwyd rhywfaint o'r arian hwnnw yn ôl wedyn yn yr ail gyllideb atodol, ond yr oedd yn sylweddol, ac nid oedd yn hawdd cwestiynu ar unwaith beth oedd yn digwydd. Rwy'n falch o weld nad y prif grwpiau gwariant yn unig sydd ar wefan Llywodraeth Cymru erbyn hyn, ond mae llinellau gwariant y gyllideb hefyd ar y wefan, er mwyn i bobl eu cwestiynu mewn ffordd gydlynol. Hefyd, rwy'n credu bod hon yn ddogfen dda iawn yr ydym ni wedi ei chysylltu â'r gyllideb. Cyfeirir ati ar ein system fel nodyn, ac fel dogfen mewn mannau eraill, rwy'n credu; yn yr atodiad caiff ei ddisgrifio fel nodyn esboniadol, a tybed a fyddai modd ei galw yn hynny yn y dyfodol, fel ein bod yn gwybod beth yr ydym ni'n cyfeirio ato a gallai hyn fod yn rhan reolaidd o'r broses, oherwydd roeddwn i'n ei gweld hi'n ddefnyddiol i ddeall y newidiadau amrywiol oddi mewn iddo. Y newidiadau mwyaf cyffrous, mewn rhyw ffordd, i mi, yw'r diffyg newidiadau ar yr ochr refeniw, ac rwy'n credu ei bod yn eithaf arwyddocaol mewn gwirionedd, oherwydd bod chwe mis wedi mynd heibio ers y gyllideb derfynol. Ac, os byddai popeth arall yn gyfartal, gallai rhywun fod wedi disgwyl rhywfaint o amrywio yn y rhagolygon ar gyfer cyfraddau treth incwm Cymru, y dreth trafodiadau tir a'r dreth gwarediadau tir, o gofio'r ansicrwydd ynghylch rhagweld y rheini. Ac nid wyf i'n siŵr ai'r rheswm nad ydym ni wedi gweld amrywio yw oherwydd nad ydym ni wedi sefydlu'n llawn y prosesau yr ydym yn eu gweld bellach yn y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol a fydd yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru i'w rhagweld, neu a ydyn nhw wedi'u hystyried yn fanwl, o ddifrif, a bod popeth yn union fel yr oedd y Gweinidog cyllid yn ei ddisgwyl, ond rwyf i'n cofio, rhwng y gyllideb ddrafft ar gyfer 2019-20 a'r gyllideb derfynol, y bu gostyngiad o £40 miliwn yn y rhagolwg o'r hyn yr oeddem ni'n mynd i'w gymryd o gyfraddau treth refeniw Cymru, felly sylweddol iawn. Ac, wrth gwrs, yn yr Alban, mae ganddyn nhw'r twll du hwn gwerth £1 biliwn y maen nhw'n ymdrin ag ef. Felly, pa mor hyderus ydym ni ynghylch y dim amrywiannau hynny? Rwy'n gweld ein bod ni wedi arbed £173,000 ar weinyddiaeth Cyllid a Thollau EM o'r ddwy dreth newydd hynny, ac o fod wedi gwasanaethu ar y pwyllgor ar gyfer y ddwy ac ystyried y ffigurau hynny a meddwl eu bod yn gymharol hael i Cyllid a Thollau EM o ran yr hyn y byddai'r gost, fy mhryder i oedd y byddai Cyllid a Thollau EM yn gwario'r arian hwnnw. Felly, mae'r ffaith eu bod wedi dod o hyd i arbedion ac wedi'u rhoi yn ôl i ni i'w groesawu. Mae gennym ni hefyd y cyllid gwerth £100,000 ar gyfer y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, ac rwy'n credu y bydd yn cael ei wario'n dda ac mae'n rhaid inni barhau i adolygu hynny'n ofalus. O ran y dyraniadau o gronfeydd cyfalaf cyffredinol, rydym yn dweud ym mhwynt 3.10 o'r ddogfen a ddangosais fod cyfanswm o £85 miliwn wedi'i ddyrannu o'r cronfeydd cyfalaf wrth gefn i ddarparu buddsoddiad ychwanegol mewn tai cymdeithasol a gwaith cynnal a chadw cefnffyrdd a thraffyrdd. Yn gyntaf, a gaf i ofyn, a yw'n annadleuol i ddisgrifio gwaith cynnal a chadw ffyrdd fel gwariant cyfalaf? A oes dadl y dylid ystyried hynny'n briodol fel adnodd refeniw, neu a yw'n dybiaeth sefydledig o fewn ein cyfrifyddu mai dyna'r ffordd y dylid ei drin? Mike Hedges AC: Cyfalaf cynnal a chadw. Mark Reckless AC: Diolch yn fawr iawn am yr ymyriad ar eich eistedd yna. Mae'n ymddangos ein bod ni'n aml yn ei chael yn haws ariannu pethau o gyllidebau cyfalaf sy'n trosglwyddo i refeniw nag i'r gwrthwyneb. Rwy'n credu y byddem ni'n buddsoddi arian yn dda. Fodd bynnag, o'r £85 miliwn hwnnw dim ond £5 miliwn, wrth ddarllen i lawr, sydd mewn gwirionedd yn mynd i linell wariant y gyllideb ar gyfer gweithrediadau rhwydwaith o ran cerbytffyrdd cefnffordd a thraffordd. Felly, fel y nodwyd yn gywir, mae cyllid sylweddol ar gyfer tai cymdeithasol, ond er gwaethaf y pennawd o fewn y £85 miliwn hwnnw, cyfran fach iawn yn unig sy'n mynd i'r cyllid ychwanegol ar gyfer cynnal a chadw cefnffyrdd a thraffyrdd. Yn olaf gen i, hoffwn i ofyn ychydig mwy am y pensiynau. Mae gennym, o fewn prif grŵp gwariant iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, gynnydd o £46 miliwn, i ddarparu ar gyfer y newidiadau hynny gan Lywodraeth y DU i gynlluniau pensiwn y gwasanaethau cyhoeddus. Darllenais y llythyr, Gweinidog cyllid, y gwnaethoch chi ei anfon at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynglŷn â'r rhain a'r ffaith nad oedd cynorthwywyr cymorth addysgu wedi'u cynnwys yn hyn oherwydd mai llywodraeth leol oedd hynny, ond bod athrawon wedi eu cynnwys. Felly, rwy'n dal i bendroni pam mae'r cynnydd ar gyfer addysg i ariannu hyn, os wyf i wedi deall yn iawn, ddim ond yn £0.5 miliwn, ond ar gyfer y gwasanaeth iechyd, mae'n £46 miliwn. Diolch. Alun Davies AC: Dim ond sylw byr yr hoffwn i ei wneud ar y ddadl hon y prynhawn yma. Mae'r pwyllgor, yn ei adroddiad, yn datgan ei fod wedi synnu nad yw Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau pellach i wireddu ei datganiad o argyfwng hinsawdd. Mae'n ddigon posibl, y tro hwn, y byddai'n afresymol disgwyl i Lywodraeth Cymru fod wedi ad-drefnu ei holl flaenoriaethau cyllidebol yn ystod yr wythnosau diwethaf, ond nid wyf i'n credu y byddai wedi bod yn afresymol disgwyl i Lywodraeth Cymru fod wedi cydnabod pwysigrwydd ei datganiadau ei hun. Mae hwn yn ddatganiad a wnaeth Llywodraeth Cymru ei hun, felly mae'n gwbl resymol y byddai rhywun yn disgwyl ac yn rhagweld y byddai Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ei blaenoriaethau ei hun yn cael eu hadlewyrchu yn ei chyllideb ei hun. Felly, rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth yr wyf yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i'w ystyried, ac rwy'n credu y bydd yn gwbl resymol pan fydd Llywodraeth Cymru yn dychwelyd i'r lle hwn gyda'i datganiad cyllideb nesaf y bydd yn gallu dangos yn glir iawn sut y mae ei datganiadau ei hun yn llywio ei meddylfryd ei hun, ei phenderfyniadau ei hun a'i strategaeth ariannol ei hun, ac rwy'n credu y dylai'r pwyllgor ac eraill fod yn glir iawn ynglŷn â hynny. Yr ail eitem yr hoffwn ei chodi y prynhawn yma, Llywydd, yw'r hyn sydd wedi'i godi gan bob Aelod, rwy'n credu, sy'n cymryd rhan yn y ddadl hon, hynny yw ynghylch pensiynau. Wrth gwrs, bu cytundeb clir rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ers cryn amser bod y datganiad o egwyddorion ariannu yn glir y bydd unrhyw benderfyniad a wneir gan weinyddiaeth y DU yn cael ei ariannu'n llwyr ac y bydd cytundeb arno gan a gyda gweinyddiaethau datganoledig. Mae'n amlwg nad yw hyn wedi digwydd yn yr enghraifft glir iawn hon, lle nad yw un o flociau adeiladu'r setliad wedi llywio polisi nac wedi llywio penderfyniadau Llywodraeth y DU. Mae'n siomedigaeth lwyr ac, a dweud y gwir, yn gwbl annerbyniol y dylid treulio cymaint o amser ac egni ac y dylid peri cymaint o anhawster yn ceisio datrys mater na ddylai erioed fod wedi codi yn y lle cyntaf. Rwy'n gweld bod y Prif Weinidog yn ei le ar gyfer y ddadl hon, ac efallai y byddai'n beth da pe byddai'n gallu dwyn y mater hwn i sylw Prif Weinidog y DU a bod yn gwbl glir, os yw hi'n dymuno cynnal adolygiad o ddatganoli, bod angen iddi adolygu datganoli yn ei gyfanrwydd a sicrhau bod ei Llywodraeth hi yn cyflawni ei hymrwymiadau, ei datganiadau a'i pholisïau. Mae'n gwbl annerbyniol bod Llywodraeth Cymru yn cael ei rhoi yn y sefyllfa hon, ac rwy'n gobeithio, Llywydd, y gall y lle hwn anfon neges glir iawn i Lywodraeth y DU ein bod yn disgwyl i'r holl gytundebau hyn gael eu cyflawni'n llwyr ac mewn modd amserol. Mae'r mater olaf o sylwedd yr wyf i'n dymuno ymdrin ag ef yn y cyfraniad hwn yn ymwneud â'r M4. Rydym ni wedi cael dadl sylweddol ynghylch yr M4 yn y lle hwn yn ystod yr wythnosau diwethaf, ac fe'i gwnaed yn gwbl glir i bob un ohonom sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon fod gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad clir i sicrhau y cyflwynir datrysiad i'r M4 mewn modd amserol. Mae'n destun cryn siom a phryder, felly, nad oedd y Gweinidog yn gallu ateb hyd yn oed y cwestiynau mwyaf sylfaenol ynghylch y gyllideb a oedd ar gael i'r comisiwn sy'n cael ei sefydlu. Er gwaethaf cwestiynau niferus ynghylch y mater, methodd y Gweinidog â rhoi sicrwydd i ni o gwbl fod unrhyw gyllideb o gwbl ar gyfer y gwaith hwn. Yn sicr, nid oedd unrhyw gyllideb yr oedd hi'n gallu ei nodi o flaen comisiwn yr arian sydd ei angen arno i wneud ei waith, nid wyf i'n credu bod ein meddyliau wedi eu tawelu ar y mater hwn ac rwyf i'n credu ein bod ni'n ei gwneud hi'n ofynnol i'r Llywodraeth symud yn gyflym iawn, iawn i ddangos bod ganddo'r cyllid i gyflawni ei ymrwymiadau. Y pwynt olaf yr hoffwn ei wneud yw hwn: yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym ni wedi datblygu ffordd o ddadlau a thrafod materion ariannol, er hynny, nid wyf i'n credu ein bod ni wedi symud yn ddigon pell nac yn ddigon cyflym. Er bod y gwaith papur yn cael argraff dda ar rai Aelodau, i mi, mae'n bwysig bod gennym broses ar waith sy'n ein galluogi i gyfrannu at ddadl, ystyried y materion hyn a dod i gasgliadau sy'n llywio penderfyniadau'r Llywodraeth. Siaradais yn y datganiad busnes rai wythnosau yn ôl, yn gofyn i'r Llywodraeth roi cyfle i ni gael dadl lawn ar ei blaenoriaethau cyllideb cyn cyflwyno'r gyllideb. Mae'r Llywodraeth wedi penderfynu peidio â derbyn y cais hwnnw a pheidio â symud ymlaen gydag ef. Rwyf i yn credu, felly, bod angen i ni edrych yn fanwl ar sut y caiff cyllidebau atodol eu cyflwyno er mwyn sicrhau ein bod ni'n cael y cyfle i holi'r Gweinidog, fel Senedd, yn llawn cyn cyflwyno'r mater hwn gerbron y pwyllgor a chyn y gofynnir i ni bleidleisio ar y materion hyn. Rwy'n gobeithio bod y rhain i gyd yn faterion y byddwn yn gallu rhoi sylw iddyn nhw yn ystod y 12 mis nesaf. Diolch. Y Gweinidog cyllid i ymateb i'r ddadl—Rebecca Evans. Rebecca Evans AC: Diolch, Llywydd. Mae'r gyllideb atodol gyntaf hon yn gymharol gyfyngedig ei natur, gan ei bod yn cynrychioli—os nad ydych chi'n cynnwys yr arian pensiynau—ychydig dros 0.5 y cant o gyllideb Llywodraeth Cymru. Serch hynny, mae'n rhan bwysig o broses y gyllideb, gan ganiatáu i'r Cynulliad adrodd ar newidiadau a chraffu arnyn nhw. Trof yn gyntaf at y mater a godwyd gan y rhan fwyaf o'r siaradwyr, sef mater y pensiynau a'r bwlch cyllid o £36 miliwn sydd i'w weld o ran yr arian a drosglwyddwyd o San Steffan. Fel y soniais yn fy natganiad ysgrifenedig i fy nghyd-Aelodau, rwyf i wedi ysgrifennu at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys yn mynegi pryderon mawr nad yw'r cyllid arfaethedig yn talu'r holl gostau sy'n gysylltiedig â'r newidiadau hynny. Fe wnes i hynny mewn partneriaeth â'r Alban a gydag Ysgrifennydd Parhaol Gogledd Iwerddon. Roeddem yn glir iawn bod y tryloywder a'r ymgysylltu a welwyd mewn cysylltiad â'r penderfyniad hwn ymhell o fod yn cydymffurfio â'r datganiad o bolisi ariannu a gytunwyd gan y gwledydd. Soniodd Mike Hedges am y drefn apelio sydd wedi'i hamlinellu. Wel, roeddem ni'n glir iawn yn ein llythyr y byddem yn mynd ati ar y cyd i ddefnyddio'r broses apelio honno i fynd â'r mater hwn ymhellach pe na fyddai cyfarfod yn cael ei gynnal yn fuan iawn i drafod y materion hyn gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys. Nid oes unrhyw ran o hyn yn agos at y math o berthynas a addawyd y byddai gennym gyda llywodraeth y DU o ran cyllid a thryloywder. Oherwydd hynny, ni allaf gadarnhau cyllid ar gyfer pensiynau yn y dyfodol, oherwydd bydd hynny'n cael ei drafod yn rhan o'r adolygiad cynhwysfawr o wariant. Codwyd materion ynghylch monitro'r rhagolygon treth ddatganoledig yn ystod y flwyddyn. Bydd Llywodraeth Cymru yn monitro'r wybodaeth am dderbynebau treth yn ystod y flwyddyn gan Awdurdod Cyllid Cymru er mwyn llywio ein barn ddatblygol o'r sefyllfa flwyddyn lawn debygol ar gyfer 2019-20, ac mae hynny'n ffurfio rhan o'n system rheolaeth ariannol gyffredinol yn ystod y flwyddyn. Ond, prin yw'r wybodaeth yn ystod y flwyddyn sydd ar gael ar hyn o bryd i lywio'r rhagolygon diwygiedig, a bydd y sefyllfa'n datblygu wrth i'r flwyddyn fynd rhagddi. Bydd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn cyhoeddi rhagolygon diwygiedig ar gyfer 2019-20, ar gyfer trethi datganoledig a threthi cysylltiedig y DU yn yr hydref. Yna, bydd effaith y diwygiadau hyn ar y refeniw treth a'r addasiad i'r grant bloc yn cael eu hystyried, a byddwch yn eu gweld yn cael eu hadlewyrchu yn yr ail gyllideb atodol yn ddiweddarach. Codwyd mater y twll du yn y dreth incwm yn yr Alban hefyd. Yn seiliedig ar ragolygon cyfredol, mae cyllidebau Llywodraeth yr Alban yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi gorbwysleisio'r sefyllfa net rhwng refeniw treth incwm datganoledig a'r addasiadau cysylltiedig i'r grant bloc. O ganlyniad i hyn, bydd taliadau cysoni yn ystod y blynyddoedd nesaf. Bu rhywfaint o ddiddordeb yn hyn yn ystod gwaith craffu'r pwyllgor, ac roeddwn i'n gallu dweud ein bod ni mewn sefyllfa wahanol i'r Alban gan fod pwerau gwahanol wedi'u datganoli i ni mewn cysylltiad â threth incwm. Felly, rydym ni'n llai agored mewn rhai ffyrdd, ac mae gennym y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn gwneud ein rhagolygon, fel y maen nhw'n ei wneud ledled Lloegr. Felly, ni ddylai fod gennym y gwahaniaeth hwnnw yn y fethodoleg sy'n gysylltiedig â'r rhagolygon hynny. Wedi dweud hynny, ni fyddwn i'n ceisio gorbwysleisio'r sefyllfa oherwydd, yn amlwg, byddem ni'n dymuno cadw llygad barcud arni. O ran yr M4, y sefyllfa yw bod £20 miliwn wedi ei glustnodi mewn cronfeydd wrth gefn eleni ar gyfer yr M4, pe byddai'r penderfyniad wedi'i wneud i wneud y gorchmynion, ac mae'r £20 miliwn hwnnw yn parhau i fod mewn cronfeydd wrth gefn bellach i'w ddefnyddio yn rhywle arall, o ran bodloni blaenoriaethau ein Llywodraeth. Felly, ni wneir unrhyw ddyraniadau ychwanegol yn y gyllideb atodol hon ar gyfer costau sy'n gysylltiedig â chamau yn y dyfodol. Fodd bynnag, yn ôl amcangyfrifon cyfredol, ar gyfer y mesurau carlam y mae'r Prif Weinidog wedi'u gosod i liniaru tagfeydd ar yr M4 o amgylch Casnewydd, gan gynnwys swyddogion traffig ychwanegol, mwy o wybodaeth fyw am amseroedd teithio ac ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o ymddygiad, bydd y gost rhwng £4 miliwn a £5 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf. Byddwn yn cadw golwg ar hyn, gan ddyrannu cyllid 2019-20 eto yn yr ail gyllideb atodol. Roeddwn i'n glir iawn yn y pwyllgor fod y Prif Weinidog wedi'i gwneud yn glir y bydd y comisiwn yn cael y cynnig cyntaf am yr arian a glustnodwyd yn flaenorol ar gyfer yr M4. Yn amlwg, mae'r comisiwn ar fin dechrau ar ei waith, felly nid oeddwn i'n gallu bod mewn sefyllfa yn y gyllideb atodol gyntaf i ddyrannu rhagor o gyllid, nac i fod yn gliriach o ran lle y gellid defnyddio'r cyllid yn y dyfodol o ran bodloni argymhellion y comisiwn hwnnw. Roedd cryn dipyn o ddiddordeb yn y ddadl ac wrth graffu ar waith y pwyllgor o ran Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a'r ffordd yr ydym ni'n sicrhau bod honno wedi ei hymwreiddio'n helaeth yn ein proses o bennu'r gyllideb. Wrth gwrs, mae'r cyllidebau drafft a therfynol yn nodi cynlluniau gwario'r Llywodraeth ar gyfer 2019-20 ac mae'r gyllideb atodol gyntaf yn datblygu ar y cynlluniau hynny ac ar gyflawni ein hymrwymiadau. Rhoddaf enghraifft i chi o'r cyllid ychwanegol ar gyfer cronfa dyfodol yr economi. Mae un o'r ffrydiau yn y gronfa honno'n ymwneud yn benodol â datgarboneiddio, a gwn y bu gan y Gweinidog gryn ddiddordeb yn hynny o ran ystyried sut y bydd yn defnyddio'r arian hwnnw. Felly, mae wrth galon ein meddylfryd i raddau helaeth. Rwyf eisoes wedi cwrdd â chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol o ran sut y byddwn yn gwella ein hystyriaeth o'r Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol wrth bennu cyllidebau yn y dyfodol, ac rydym yn gweithio ar ddatblygu trefn asesu'r daith sydd, unwaith eto, yn rhywbeth y gwn y bu gan y Pwyllgor Cyllid gryn ddiddordeb ynddo, ac mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo. Ac rwyf innau wedi cymryd diddordeb, unwaith eto, yn awgrymiadau'r comisiynydd am gyllid ychwanegol yr hoffai ei weld yn cael ei ddefnyddio yn 2020-21 ac rwy'n edrych ymlaen at gyfarfod â hi i drafod ei chynigion ymhellach a deall o ble y byddai'n awgrymu i'r cyllid ychwanegol hwnnw ddod o bob rhan o'r Llywodraeth o ran newid pwyslais blaenoriaethau a deall yn well beth fyddai'r arbedion carbon o bob un o'r mesurau a gynigir. Rwy'n edrych ymlaen at barhau â'r trafodaethau hynny â hi. Ond, dim ond gair i gloi, Llywydd, wrth edrych ymlaen, nododd Llywodraeth y DU yn flaenorol y byddai'n pennu cyllidebau am dair blynedd trwy adolygiad cynhwysfawr o wariant. Nid yw ein setliad refeniw presennol yn ymestyn y tu hwnt i eleni, er bod gennym ni gyllideb gyfalaf ar gyfer y flwyddyn nesaf. Ond mae'r gyllideb atodol hon yn gosod sylfaen gadarn ar gyfer y flwyddyn gyfredol. Mae cyllid cyhoeddus a thelerau ein setliad gan Lywodraeth y DU yn parhau'n ansicr a gallai olygu y bydd mwy o benderfyniadau cyllidebol anodd yn y dyfodol. Diolch. Y cwestiwn nawr yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Dwi'n gohirio'r bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. Rŷm ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn gofyn i fi ganu'r gloch, dwi'n cychwyn y bleidlais. 10. Cyfnod Pleidleisio Mae'r bleidlais hynny ar y ddadl ar y gyllideb atodol 2019-20. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, 18 yn ymatal a neb yn erbyn, felly derbyniwyd y cynnig. NDM7096 - Dadl ar Gyllideb Atodol Gyntaf 2019-2020 : O blaid: 27, Yn erbyn: 0, Ymatal: 18 Derbyniwyd y cynnigCliciwch i weld canlyniad y bleidlais A dyna ddiwedd ar ein trafodion heddiw. Daeth y cyfarfod i ben am 18:33. QNR Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru Jayne Bryant: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglenni cymunedau cydnerth yn y de-ddwyrain? Mark Drakeford: Welsh Government has a range of programmes and projects that contribute to building community resilience, not only in south-east Wales, but across Wales as a whole. These programmes touch on all aspects of life from health and wellbeing to improvements in transport and community infrastructure. Janet Finch-Saunders: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am lefelau staffio yn Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans GIG Cymru? Mark Drakeford: As at September 2018 the Welsh Ambulance Services NHS Trust employed a record level of staff. Overall full time equivalent staff numbers have increased by 11.2 per cent in the past five years; ambulance staff have increased by 7.8 per cent over the same period. Alun Davies: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am drafnidiaeth gyhoeddus ym Mlaenau Gwent? Mark Drakeford: We continue to invest in a modern and integrated public transport system in Blaenau Gwent including local bus services, active travel and the very popular Ebbw Vale rail line. Jenny Rathbone: Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wneud yr amgylchedd trefol yn wyrddach yng ngoleuni'r argyfwng hinsawdd sy'n datblygu? Mark Drakeford: The Welsh Government provides a range of initiatives which focus on the small things which can create local, accessible green spaces. Our £11 million Enabling Natural Resources and Wellbeing grant scheme supports projects that make improvements to natural resources in residential areas to deliver benefits to people, businesses and their communities.
uk-hansard-senedd-cy
senedd2019-07-09
2024-06-01T00:00:00
{ "year": "2019", "language": "cy", "license": "Open Parliament Licence - https://www.parliament.uk/site-information/copyright-parliament/open-parliament-licence/" }
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. Galw'r Aelodau i drefn. Cwestiwn Brys: Dyfarniad y Goruchaf Llys Dwi wedi derbyn cwestiwn brys, o dan Reol Sefydlog 12.67. Dwi'n galw ar Adam Price i ofyn y cwestiwn brys. Adam Price AC: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad yn dilyn dyfarniad y Goruchaf Llys fod addoediad Senedd y Deyrnas Unedig yn anghyfreithlon? (EAQ0006) Mark Drakeford AC: Llywydd, diolch. Roedd dyfarniad y Goruchaf Lys yn drawiadol. Roedd yn hollol glir ac unfrydol. Roedd yn dangos bod y Prif Weinidog wedi ceisio atal y Senedd yn San Steffan, wedi ceisio atal y Tŷ Cyffredin democrataidd rhag dal y Llywodraeth i gyfrif ar fater mwyaf pwysig yr oes. O ganlyniad i benderfyniad y llys, nid yw San Steffan wedi ei addoedi, a bydd yn rhaid i'r Prif Weinidog adrodd am ei gyngor anghyfreithlon. Roedd Llywodraeth Cymru yn hollol gywir i ymyrryd yn yr achos hwn er mwyn amddiffyn hawliau democrataidd pobl Cymru a'r Deyrnas Unedig. Adam Price AC: Prif Weinidog, mater o ddifrifol bwys, wrth gwrs, yw dyfarniad gan y Goruchaf Lys, yn datgan bod Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wedi ymddwyn yn anghyfreithlon. Mae dweud celwydd wrth y bobl, wrth y Senedd, wrth y Frenhines yn drindod o droseddau cyfansoddiadol difrifol. Beth sy'n hollol glir yw bod y Prif Weinidog y Deyrnas Gyfunol wedi cau drysau'r Senedd gydag afiaith yr unben ag yw e, ac rwy'n falch iawn bod fy mhlaid i wedi chwarae rhan ganolog yn yr achos sydd wedi dwyn y Prif Weinidog i gyfrif. Heddiw, fe welwyd gwir ystyr adennill reolaeth. Pan fo llais ein lladmeryddion yn cael ei dawelu, byddwn yn gweiddi'n uwch nag erioed. Pan fo ymgais i droi'r ddeddfwrfa yn atalfa, fe fyddwn ni'n ei throi hi'n angorfa ein democratiaeth ni. Pan fo Prif Weinidog yn ceisio anwybyddu cyfraith sydd yn dweud nad oes hawl gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, mae'n rhaid bod yna oblygiadau, beth bynnag mae Dominic Cummings wedi bod yn trydar yn y munudau diwethaf. Dydy Prif Weinidog sydd yn osgoi craffu, ymddwyn yn ddall i gyfraith a threfn, gan wneud hynny dan faner Brexit dinistriol, ddim yn gymwys i wneud y swydd. Yng ngoleuni gemau budr Boris Johnson, ydych chi'n cytuno gyda fi fod angen i'r Prif Weinidog nawr ymddiswyddo ar unwaith? Rwy'n sylwi na wnaethoch chi ateb y cwestiwn gerbron newyddiadurwyr funud yn ôl; a wnewch chi ateb e nawr? Ac er mwyn osgoi sefyllfa tebyg yn codi eto, ble mae Llywodraeth sydd yn dibrisio democratiaeth yn ceisio rhedeg yn rhemp, a wnewch chi sicrhau bod eich plaid chi yn San Steffan yn cefnogi aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn ddiamod, gan flaenoriaethu pleidlais y bobl nawr, cyn etholiad cyffredinol? Mark Drakeford AC: Diolch i Adam Price am y cwestiynau hynny. Dwi wedi dweud yn barod, Llywydd, nad ydw i'n gallu gweld un ffordd ble mae Boris Johnson yn gallu aros yn ei swydd ar ôl beth mae'r llys wedi'i ddweud heddiw. Mark Drakeford AC: Dyfarnodd y llys yn erbyn Prif Weinidog y DU yn unfryd ar bob un pwynt y dywedodd y Fonesig Hale oedd ger eu bron. Ailadroddodd, fel y mae'r rhai ohonoch chi sydd wedi gweld ei dyfarniad yn gwybod, bedwar cwestiwn ar wahân. A oedd cyngor Prif Weinidog y DU i'r Frenhines yn draddodadwy? Nawr, roedd y Llywodraeth wedi dadlau nad oedd, nad oedd dim yn y fan yma i'r llysoedd fod â diddordeb ynddo. A gwrthododd y llys hynny, gan ddweud bod y grym i addoedi, a ddefnyddiwyd fel yr oedd Prif Weinidog y DU wedi ei ddefnyddio, yn ymosodiad ar egwyddor sylfaenol ein cyfansoddiad. Gofynnodd y llys wedyn, os yw hynny'n draddodadwy, yna yn ôl pa safon y dylid barnu ei gyfreithlondeb? A dywedodd y llys fod dwy egwyddor sylfaenol yn y fantol yn y fan yma—sofraniaeth seneddol ac atebolrwydd seneddol, ac ar y ddau gyfrif hynny dyfarnodd y llys na ellid cefnogi gweithredoedd Prif Weinidog y DU. Os mai'r dyna'r safonau, yna a oedd y cyngor a roddodd Prif Weinidog y DU i'r llys yn gyfreithlon? Ac mae hyn mewn gwirionedd, rwy'n credu, yn mynd at union wraidd yr hyn a benderfynodd y Goruchaf Lys heddiw. Cyfeiriodd y Fonesig Hale yn uniongyrchol, Llywydd, at safbwynt y Cynulliad Cenedlaethol hwn a Senedd yr Alban—y ffaith fod popeth yr oeddem ni wedi ei wneud yma, fel y dywedodd ein CF mewn tystiolaeth i'r llys, o ran rhoi cydsyniadau i ddarnau o ddeddfwriaeth, yr oedd gennym ni ddisgwyliad dilys y byddent yn mynd yn eu blaenau wedyn i'w terfyn yn Nhŷ'r Cyffredin, roedd hynny i gyd wedi cael ei ysgubo o'r neilltu o ganlyniad i weithredoedd Prif Weinidog y DU. Mae'n amhosibl i ni ddod i'r casgliad, meddai'r Goruchaf Lys, bod unrhyw reswm, heb sôn am reswm da, dros addoedi'r Senedd. Mae'n dilyn bod y penderfyniad yn anghyfreithlon. Pan ganfyddir bod Prif Weinidog wedi gweithredu'n anghyfreithlon ac yn annemocrataidd, nid wyf i'n gweld sut y mae'r person hwnnw'n credu y gall barhau yn ei swydd yn gyfreithlon. Paul Davies AC: Prif Weinidog, gadewch i mi roi sicrwydd i chi ein bod ni, yn y Blaid Geidwadol, yn parchu rheolaeth y gyfraith a chanlyniad yr achos Goruchaf Lys heddiw. Ond gadewch i ni edrych ar wraidd y mater penodol hwn, aie? Crëwyd y cyfwng Brexit hwn —[Torri ar draws.]—y cyfwng Brexit hwn, a'r sefyllfa— Gadewch i arweinydd yr wrthblaid barhau â'i gwestiwn. [Torri ar draws.] Gadewch i arweinydd yr wrthblaid barhau â'i gwestiwn ac iddo gael ei glywed. Paul Davies AC: Crëwyd y cyfwng Brexit hwn, a'r sefyllfa yr ydym ni ynddi nawr, o ganlyniad i'r ffaith bod eich ASau Llafur chi wedi rhwystro—[Torri ar draws.]—ie, wedi rhwystro'r broses Brexit, yn groes i ewyllys pobl Cymru a Phrydain. [Torri ar draws.] Efallai eich bod chi'n anghytuno â'r hyn y mae arweinydd yr wrthblaid yn ei ddweud, ond mae'n haeddu cael ei glywed. Rwyf i eisiau ei glywed. Paul Davies AC: Diolch, Llywydd. Rydych chi'n gwybod yn iawn, Prif Weinidog, pe byddai eich cyd-Aelodau wedi pleidleisio o blaid Bil ymadael Llywodraeth flaenorol y DU, na fyddem ni'n cael y sgwrs hon. Byddem ni wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd erbyn hyn mewn modd trefnus. Ond gallwn weld yn awr, o ystyried safbwynt eich Llywodraeth eich hun, nad ydych chi'n parchu canlyniad y refferendwm, gan eich bod chi wedi ei gwneud yn eglur erbyn hyn eich bod chi eisiau aros yn yr Undeb Ewropeaidd, a dyna'i diwedd hi. Yn amlwg, Prif Weinidog, yr unig ffordd—yr unig ffordd—yr ydym ni'n mynd i ddianc o'r sefyllfa hon nawr yw cael etholiad cyffredinol cyn gynted a phosibl. Ac, fel y gwyddoch, ceisiodd Prif Weinidog y DU drefnu etholiad cyffredinol ychydig wythnosau yn ôl, ac roedd eich plaid chi, er iddi alw am un ers misoedd a blynyddoedd, mewn gwirionedd, yn ddigon digywilydd i bleidleisio yn ei erbyn. Dewch ymlaen, Prif Weinidog, beth ydych chi'n ei ofni? Felly, a wnaiff eich Llywodraeth gefnogi etholiad cyffredinol cyn gynted â phosibl nawr, oherwydd dyma'r unig ffordd y gallwn ni ddatrys y sefyllfa hon mewn gwirionedd? Mark Drakeford AC: Llywydd, mae arweinydd yr wrthblaid yn dechrau drwy ddweud bod ei blaid yn parchu rheolaeth y gyfraith. Y peth diwethaf i mi ei glywed cyn i mi ddod i lawr y Cynulliad y prynhawn yma oedd Prif Weinidog y DU yn ymosod ar benderfyniad y Goruchaf Lys, a oedd yn warthus yn fy marn i. [Torri ar draws.] Fe'i clywais ef fy hun—ymosododd ar benderfyniad y Goruchaf Lys. Dywedodd nad oedd yn cytuno â'r Goruchaf Lys, na allai weld sut yr oedden nhw wedi dod i'w casgliad. Nid wyf i'n credu bod hynny'n swnio lawer i mi fel parchu rheol y gyfraith. Yna dywedodd ei fod yn benderfynol y dylai'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd erbyn 31 Hydref, er gwaethaf y ffaith fod cyfraith wedi ei phasio yn Nhŷ'r Cyffredin yn ei atal rhag gwneud hynny. Ble mae'r parch at reolaeth y gyfraith yno? Mae wedi ymddangos i mi erioed, Llywydd—[Torri ar draws.]—mae wedi ymddangos i mi erioed, Llywydd, bod pobl sy'n penderfynu bod yn wneuthurwyr deddfau yn ildio'r hawl i fod yn dorwyr cyfraith. Ceir pobl eraill sy'n mynd â chyfraniadau eraill i'w trafod, ac mae ganddyn nhw ddewisiadau eraill i'w gwneud. Ond os cewch chi eich ethol i ddeddfwrfa, lle'r ydym ni'n llunio'r gyfraith, fel y mae'r gyfraith yn cael ei llunio yn Nhŷ'r Cyffredin, yna ni allwch ar yr un pryd hawlio'r hawl i dorri'r gyfraith yr ydych chi'n cyfrannu at ei llunio. Ac mae'n ymddangos i mi mai dyna'r safbwynt y mae'r Prif Weinidog hwn wedi bod yn barod i'w gymryd dro ar ôl tro. Dyna yw sylwedd yr hyn sy'n destun trafod heddiw. Byddai wedi—[Torri ar draws.] Rwy'n credu y byddai wedi gwasanaethu'r sefydliad hwn a phobl Cymru ychydig yn well pe byddai arweinydd yr wrthblaid wedi codi ar ei draed i esbonio wrthym sut y mae ei blaid ef yn mynd i esbonio iddyn nhw nawr sut y gwnaethon nhw roi pob un ohonom ni yn y sefyllfa hon. Sut, o ganlyniad i weithredoedd ei blaid ef, y rhwystrwyd y Senedd rhag craffu ar weithredoedd ei Lywodraeth, rhywbeth y mae'r Goruchaf Lys wedi dyfarnu heddiw ei fod yn anghyfreithlon. Ac onid oedd yn ddiddorol? Onid oeddech chi'n credu ei bod yn ddiddorol bod llywydd y Goruchaf Lys wedi gorfod mynd allan o'i ffordd i egluro bod popeth yr ydym ni wedi bod yn ei glywed gan aelodau ei blaid ynghylch sut y gallai Prif Weinidog y DU addoedi'r Senedd unwaith eto, y gallai osgoi unrhyw beth yr oedd y Goruchaf Lys wedi ei ddweud—. Bu'n rhaid iddi fynd allan o'i ffordd i egluro nad yw'r Senedd erioed wedi cael ei haddoedi a bod y ffordd honno o rwystro atebolrwydd democrataidd yn y wlad hon wedi cael ei hatal gan weithredoedd y Goruchaf Lys heddiw. Dyna oedd y pethau y dylai'r blaid gyferbyn fod wedi bod yn ymdrin â nhw y prynhawn yma, yn hytrach na cheisio tynnu sylw at rywbeth arall fel y gwnaeth ef. Y lol o awgrymu—cytundeb nad oedd ei blaid ef yn fodlon ei gefnogi. Ble'r oedd ei Jacob Rees-Mogg, y dyn a anfonwyd i Balmoral, fel y dywedodd Goruchaf Lys yr Alban, i ddweud anwiredd wrth y Frenhines? Ble oedd ef pan gynhaliwyd pleidlais ar gytundeb Mrs May? Ydw, rwy'n credu ei bod hi'n bryd—[Torri ar draws.] Rwy'n credu ei bod hi'n bryd i arweinydd yr wrthblaid yn y blaid hon edrych ar ei blaid ei hun a chynnig rhyw esboniad o'i gweithredoedd. Dyna'r hyn y dylai fod wedi ei wneud yn y fan yma y prynhawn yma. Mark Reckless AC: Mae'r Prif Weinidog yn ceryddu arweinydd yr wrthblaid ynghylch parch at reolaeth y gyfraith, ond rwy'n cofio, yr wythnos diwethaf, yr hyn a ddywedodd ef a'i Gwnsler Cyffredinol am ddyfarniad rhwymol yr Uchel Lys ar y pryd yn ein hawdurdodaeth ni, a phenderfynasant y byddai'n well ganddynt dderbyn dyfarniad y llys o awdurdodaeth arall. Yr hyn y byddwn yn ei ofyn i'r Aelodau ei ystyried—[Torri ar draws.]—os caf i barhau—wrth ymateb i'r dyfarniad hwn heddiw, rwy'n credu y byddai pob un ohonom ni'n ei weld yn llawer cryfach ac ehangach ei gwmpas nag y rhagwelwyd cyn y dyfarniad. Canlyneb hynny yw bod y Goruchaf Lys wedi mynd ymhellach nag yr oeddem ni'n ei ddisgwyl yng ngoleuni arferion cyfansoddiadol blaenorol. Ac rwy'n meddwl, o ran ystyried pa mor afresymol yw'r dyfarniad, y dylem ni ganolbwyntio ychydig ar baragraffau 49 a 50 y dyfarniad, sy'n gwneud y rhan fwyaf o gwaith trwm, lle dywed y llys, mae grym uchelfreiniol yn effeithiol dim ond i'r graddau y mae'n cael ei gydnabod gan y gyfraith gyffredin: fel y dywedwyd yn y Case of Proclamations, "nid oes gan y Brenin uchelfraint, ond yr hyn y mae cyfraith y wlad yn ei chaniatáu iddo". Mae grym uchelfreiniol wedi ei gyfyngu felly gan gyfraith statud a'r gyfraith gyffredin. Roedd Achos y Proclamasiynau yn ymwneud â'r Goron yn dadwneud deddf a basiwyd gan y Senedd, a'r hyn a ganfu'r gyfraith gyffredin bryd hynny oedd na allai'r weithrediaeth weithredu yn groes i'r gyfraith na dadwneud cyfreithiau pan oedd y ddeddfwrfa wedi cyfyngu'r uchelfraint trwy basio deddf. Nid yw hynny'n wir yn y fan yma. Mae'r Senedd wedi cael dros 400 o flynyddoedd ers hynny i gyfyngu'r uchelfraint a rheoli sut y gellid ei defnyddio. Mae wedi dewis peidio â gwneud hynny, ac eto mae'r Goruchaf Lys wedi gwneud hynny ei hun drwy'r egwyddorion y mae wedi eu dehongli heddiw. Yn yr un modd, yn nyfarniad blaenorol Miller, ar y cytuniad ar weithrediad yr Undeb Ewropeaidd, gwelsom fod y Senedd wedi cyfyngu'r defnydd o erthygl 49—cymal passerelle—ond ni chyfyngodd ar y defnydd o erthygl 50. Ac eto, aeth y llys yn groes i'r egwyddorion dehongli statudol blaenorol i orfodi ei gyfyngiadau ei hun ar erthygl 50. Un maes— [Torri ar draws.]. Rwy'n disgrifio sut mae ei ddyfarniad yn afresymol. Nid yw afresymol yr un fath ag anghywir. Rwy'n gyfreithiwr a byddwn yn ofalus cyn mynd i'r cyfeiriad y mae'r Aelod yn gweiddi i'w berwyl. Ym mharagraff 60 y dyfarniad, yn gwbl briodol, nid yw'r llys yn crwydro i feysydd gweithdrefn seneddol, ond mae'n rhagdybio bod y Senedd yn rheoli ei hamserlen ei hun. Ac eto nid yw'n gwneud hynny. Nid oes ganddi bwyllgor busnes y tŷ. Mae'r Llywodraeth yn neilltuo diwrnodau i'r gwrthbleidiau neu i bwyllgor busnes y meinciau cefn, ond y Llywodraeth sy'n rheoli'r agenda. Mae Rheolau Sefydlog yn dweud ei bod. Mae Rheolau Sefydlog yn dweud bod yn rhaid i bleidleisiau gael eu bwrw ar unwaith, a cheir dull i'r Senedd—Tŷ'r Cyffredin—ddiwygio hynny trwy gynnig gan y Pwyllgor Gweithdrefnau, ond ni wnaeth y Llefarydd hynny, oherwydd bod gan y Pwyllgor Gweithdrefnau fwyafrif a gefnogodd Brexit. Mae'n cael ei ethol gan y Tŷ. Felly, yn hytrach, anwybyddodd y Llefarydd y Rheolau Sefydlog, gan ddehongli rhywbeth ohonynt nad oedd yn bodoli a gwneud pethau yn y ffordd honno, yn groes i reolau Tŷ'r Cyffredin er mwyn symud y gyfraith yn ei blaen. Mae gennym ni ddyfarniad pwysig iawn heddiw. Cael a chael oedd hi i mi ei ddarllen ers ei gyhoeddi, ond rwy’n credu y dylai pob un ohonom gymryd mwy o amser i feddwl, ac rwy’n annog pobl i ymdrin â’r mater mewn ffordd bwyllog iawn oherwydd, er fy mod i'n parchu’r gyfraith, a byddwn yn gochel rhag beirniadu barnwyr, rwy’n ofni bod llawer iawn o bobl yn gweld hyn drwy brism 'gadael' ac 'aros'. Mark Drakeford AC: Llywydd, mae gen i ofn fy mod i wedi fy nrysu braidd gan gyfraniad yr Aelod. Mae'n dweud bod y Goruchaf Lys yn afresymol ac yna'n annog pob un ohonom ni i barchu rheol y gyfraith. Yr wythnos diwethaf, roedd yn brysur yn ceisio wfftio safbwyntiau'r llys uchaf yn yr Alban fel pe bai'n cyfrif am ddim byd o gwbl. Nid wyf i'n siŵr heddiw a yw wedi defnyddio'r un dull gyda'r Goruchaf Lys hefyd. Mae'r dyfarniad gennyf innau yma hefyd. Rwy'n cytuno â Mark Reckless y byddai'r Aelodau eisiau ei ddarllen. Mae'n ddyfarniad sydd wedi ei ddadlau yn eithriadol o eglur. Mae'r Aelod yn dweud bod y llys wedi mynd yn groes i arferion presennol. Gofynnwyd i'r llys ddyfarnu mewn sefyllfa lle'r oedd Prif Weinidog y DU, fel y mae'r dyfarniad yn ei egluro, wedi mynd yn groes i arferion presennol yn llwyr, ac ar draul rheolaeth y gyfraith a'n democratiaeth. Dyna'r casgliad y credaf y bydd unrhyw un sy'n dymuno astudio'rdyfarniad hwn yn dod iddo, a dyna pam mae ganddo'r difrifoldeb a'r pwys y dylem ni eu priodoli iddo. Carwyn Jones AC: Rydym ni'n wynebu y prynhawn yma yr argyfwng gwleidyddol dwysaf yr wyf i wedi ei weld yn ystod fy 20 mlynedd o wleidyddiaeth. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i wedi gweld o leiaf un AS Ceidwadol yn ymosod ar y Goruchaf Lys—David Davies. Dywedodd eu bod yn rhan o sefydliad sydd o blaid yr UE. Rydym ni i gyd, Prif Weinidog, yn destun dyfarniadau llys weithiau nad ydym yn eu hoffi, ond mae gennym ni lysoedd am reswm—maen nhw yno i wneud penderfyniadau. Gwrandewais yn astud ar yr hyn yr oedd gan arweinydd yr wrthblaid i'w ddweud, ac rwy'n gresynu bod yr hyn sy'n gwestiwn o ddemocratiaeth, yn gwestiwn o'r cyfansoddiad, yn gwestiwn o oruchafiaeth Senedd a etholwyd gan y bobl yn 2017, flwyddyn ar ôl y refferendwm—flwyddyn ar ôl y refferendwm—wedi cael ei leihau ganddo ef i bwynt oedd â'r nod o sgorio pwyntiau gwleidyddol. Mae e'n well na hynny. Mae e'n well na hynny; mae'n rhywun y mae gen i barch tuag ato, ond, mewn gwirionedd, nid yw hyn yn ymwneud â gwleidyddiaeth bleidiol. Prif Weinidog, mae'n berygl galwedigaethol i Weinidogion ganfod, pan eu bod yn gwneud penderfyniad didwyll, bod y llys wedyn yn dweud bod y penderfyniad yn anghyfreithlon. Nid yw hynny'n anarferol. Yr hyn sy'n anarferol yn yr achos hwn yw bod y Llys Sesiwn yng Nghaeredin wedi dweud bod y Senedd wedi cael ei gohirio at ddiben amhriodol. Mae 'amhriodol' yn gerydd hallt. Mae'r defnydd o'r gair 'amhriodol' yn gerydd hallt i Brif Weinidog y DU. Mae'n awgrymu anonestrwydd, ac mae'n awgrymu bod y Prif Weinidog wedi rhoi cyngor camarweiniol ac anghyfreithlon i'r Frenhines. Mae hwnnw'n gam nad oes yr un Prif Weinidog y DU wedi ei gymryd o'r blaen. Gyrrwyd coets a cheffylau drwy'r cyfansoddiad; nid yw'n addas i'w ddiben mwyach. Mae cyfansoddiad ysgrifenedig yn dibynnu ar bobl yn bod yn rhesymol a bod confensiynau yn cael eu parchu. Nid yw hynny wedi digwydd. Nid yw hynny wedi digwydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac mae'n rhoi'r Frenhines mewn sefyllfa annymunol. Os bydd y Prif Weinidog yn dod yn ôl at y Frenhines ac yn gofyn i addoedi'r Senedd unwaith eto, sut y gall y Frenhines fod yn sicr nad yw'r cyngor sy'n cael ei roi iddi gan y Prif Weinidog yn anghyfreithlon? Ac eto nid oes ganddi unrhyw ddisgresiwn o ran yr hyn y dylai ei wneud. Gall gael ei chamarwain gan gyngor anghyfreithlon gan Brif Weinidog unwaith eto ac ni all wneud dim. Mae honno'n sefyllfa annymunol i'r Frenhines fod ynddi. Prif Weinidog, o ystyried yr argyfwng sydd gennym ni, onid yw'n bryd cael synnwyr? Onid yw'n bryd cyfaddawdu? Onid yw'n bryd cymodi? Ac onid yw'n bryd cael Prif Weinidog newydd i'r DU? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, gwrandewais yn astud iawn ar yr hyn y mae'r cyn Brif Weinidog wedi ei ddweud, fel y credaf y dylai Aelodau eraill yn y Cynulliad hwn ei wneud, oherwydd ei swyddogaeth fel Cyfrin Gynghorwr, oherwydd ei fod wedi bod yn bresennol yn y fforymau hynny sydd wedi bod wrth wraidd y materion y bu'n rhaid i'r Goruchaf Lys ymdrin â nhw, ac, fel y dywedodd, canfu llys yr Alban nad oedd y cyngor a roddwyd yn y Cyfrin Gyngor yn gyngor wedi ei seilio ar ddidwylledd. Nawr, wrth gwrs, mae'r hyn y mae Carwyn Jones wedi ei ddweud yn iawn, rydym ni i gyd, rwy'n siŵr, yn gwneud penderfyniadau'n ddidwyll y mae'n ymddangos wedyn nad oeddent ar sylfeini mor gadarn ag yr oeddem ni'n ei feddwl. Mae'r mater yma'n un o ddidwylledd—y ffaith bod Prif Weinidog y DU, wrth roi ei gyngor, wedi dweud ei fod eisiau addoedi'r Senedd am un rheswm, er ei bod mewn gwirionedd yn eglur o benderfyniadau a wnaeth nad oedd hynny'n wir. Ac mae hynny wir yn mynd at wraidd y ffordd y mae ein cyfansoddiad yn gweithredu. Mae'n mynd at wraidd, Llywydd, ddywedwn i, y dadleuon y mae pobl ar wahanol ochrau o'r Siambr hon wedi eu gwneud am yr angen am gonfensiwn cyfansoddiadol ac am gyfansoddiad ysgrifenedig, a fyddai'n osgoi rhai o'r risgiau yr ydym ni wedi gweld Prif Weinidog presennol y DU yn gallu eu cymryd ac yn meddwl y byddai'n gallu gwneud hynny heb gosb, a heddiw mae wedi cael ei ddal. Ond ni ddylai fyth fod wedi cyrraedd y cam hwnnw a byddai gwahanol setliad cyfansoddiadol yn atal hynny rhag digwydd. Rwy'n cytuno â'i bwynt olaf; yn fy marn i, ers i mi glywed y dyfarniad a chlywed pa mor ddiamwys oedd llywydd y Goruchaf Lys wrth egluro ei chasgliad, canfuwyd bod y Prif Weinidog wedi ymddwyn yn anghyfreithlon ac mewn ffordd a gynlluniwyd yn fwriadol i wyrdroi ein democratiaeth. Sut y gall unrhyw un yn y sefyllfa honno feddwl y gallan nhw aros yn y swydd? David Melding AC: Rydym ni'n amlwg wedi cyrraedd trobwynt ac mae gennym ni ddyfarniad o 11-0—efallai fod 'eithafol' yn ffordd deg o ddisgrifio hynny. Ond, yn amlwg, yr hyn sydd wedi digwydd yw na ystyrir bellach bod pwerau uchelfreiniol y tu hwnt i reolaeth y gyfraith ac maen nhw'n destun adolygiad barnwrol. O gofio bod pwerau uchelfreiniol mor enfawr, o bosibl, ac nad ydynt yn addas, neu o leiaf yn flaenorol, i unrhyw adolygiad arall, a'n bod ni wedi gweld yn eglur yn y ffordd yr oedd y Goron yn ymwneud â hyn—nawr, mae'n wir y gallai'r Goron fod wedi atal gweithrediad yr uchelfraint gan Brif Weinidog y DU mewn canrifoedd a fu, ond, yn amlwg, yn ein hoes ddemocrataidd ni rydym ni wedi mynd ymhell y tu hwnt i hynny. Felly, o ystyried yr holl feysydd annelwig hynny o ran pa mor bell y gellir ymestyn pwerau uchelfreiniol, rydym ni wir angen yr egwyddor o adolygiad barnwrol, a chroesawaf yn gynnes y dyfarniad y bore yma. Mae wir yn sefydlu y tu hwnt i unrhyw amheuaeth ein democratiaeth a rheolaeth briodol y gyfraith. Mae'n amlwg bod angen cyfres fwy eglur o reolau ar gyfer addoedi, yn seiliedig ar gytundeb pob plaid. Mae'n ymwneud â phryd y caiff y Senedd eistedd, ac mae'n llawer mwy na gwaharddiad, oherwydd, yn ystod y cyfnod hwnnw, mae'n atal pob gweithgarwch Seneddol. Mae'n ymddangos i mi bod yr holl drafod yn dod i lawr i hyn: a ddylai'r Senedd eistedd yn ystod argyfwng cenedlaethol? Ac a ydym ni o ddifrif yn mynd i ddweud na ddylai? Gwn efallai y bydd llawer o bobl nad ydyn nhw'n cytuno â'r hyn y mae'r Senedd yn ei wneud gyda'r amser hwnnw, ond mae'n ymddangos i mi yn rhyfeddol y byddem ni'n credu ei bod hi'n addas na fyddai'r Senedd yn eistedd ar yr adeg honno o bwysigrwydd. Pe byddech chi'n derbyn hynny, y mwyaf eithafol fyddai, ym Mai 1940, y dylai Neville Chamberlain fod wedi addoedi'r Senedd fel y gallai'r Llywodraeth ganolbwyntio'n llawn ar y bygythiad allanol a milain yr oedd Prydain yn ei wynebu. Yn amlwg, byddai hynny wedi bod yn anghywir. Rydych chi angen sefydliad y Senedd a'r Goron, h.y. Llywodraeth a'r Senedd, yn gweithredu gyda'i gilydd. Mae annibyniaeth y farnwriaeth yn ganolog i reolaeth y gyfraith, ac mae hynny'n golygu bod yn rhaid i chi dderbyn y dyfarniad yn llwyr, yn enwedig pan fo mor bendant. Yn breifat, efallai nad ydych chi'n cytuno ag ef yn llawn, ond nid yw dod allan wedyn a chwestiynu dyfarniad, sut bynnag y byddwch chi'n ei wneud, a cheir ffyrdd cymhleth o ddweud eich bod chi'n anghytuno, nid yw o gymorth o gwbl. Byddwn yn dweud hyn, fodd bynnag, o gofio tôn rhai o'r trafodaethau, yn eu trafodion, roedd y barnwyr yn awyddus iawn i wahanu'r achos hwn oddi wrth fater Brexit, ac rwy'n credu y dylem ni wneud hynny hefyd. Mae'n dod ar yr adeg bwysig hon o'r cwestiwn o Brexit, ond mae hyn yn ymwneud â llawer mwy na Brexit, mae'n ymwneud ag ymarferoldeb cyfansoddiad Prydain. Mark Drakeford AC: Diolch i David Melding am hynna. Roedd yn dda clywed y pwyntiau hynny'n cael eu gwneud o feinciau'r Ceidwadwyr yn y fan yma y prynhawn yma. Mae David Melding yn iawn, roedd y rhwystrau a'r gwrthbwysau yn ein cyfansoddiad yn gweithio, ond roedden nhw'n gweithio ar y rhwystr olaf. Bu'n rhaid iddo fynd yr holl ffordd i'r Goruchaf Lys cyn i'r mesurau rhwystrau a gwrthbwysau weithredu yn y ffordd y dylen nhw wneud, a dyna pam mae rhai ohonom ni yn y fan yma yn credu bod honno'n ffordd rhy beryglus o redeg ein cyfansoddiad ac y dylem ni gynnwys mesurau diogelu newydd ynddo fel na fyddai Prif Weinidog byth yn cael ei demtio i wneud yr hyn a wnaeth Boris Johnson. Clywais Prif Weinidog y DU yn anghytuno â'r Goruchaf Lys, ac nid oeddwn i'n credu ei fod yn ei wneud yn arbennig o ofalus. Ei safbwynt syml oedd bod yr 11 o bobl hyn wedi cael popeth yn anghywir a, byddai, byddai'n ufuddhau i'r hyn a ddywedasant, ond roedd yn eithaf sicr ei fod ef yn iawn ac nad oedden nhw. Rwyf i wir yn credu bod hon yn ffordd mor anghywir i Brif Weinidog fod wedi ymateb yn y sefyllfa y canfu ei hun ynddi, os ydych chi'n credu yn rheol y gyfraith, oherwydd nid wyf i'n credu bod hynny'n helpu i'w chefnogi o gwbl. Ac, wrth gwrs, mae David Melding yn iawn, mae'r dyfarniad yn digwydd yng nghyd-destun Brexit, ond nid yw'n ymwneud â Brexit. Mae'n ymwneud â'r ffordd y caiff pwerau eu defnyddio yn ein cyfansoddiad, pa un a ydyn nhw'n cael eu defnyddio'n gyfreithlon a pha un a ydyn nhw'n cael eu defnyddio mewn ffordd sy'n gwrthsefyll craffu. Ac ar bob un o'r pwyntiau hynny, dyfarnodd y Goruchaf Lys yn unfrydol, 12 ustus y Goruchaf Lys yn eistedd gyda'i gilydd—11 ustus y Goruchaf Lys yn eistedd gyda'i gilydd—yn erbyn y Prif Weinidog. Alun Davies AC: Fel eraill, er bod hyn yn digwydd o fewn y cyd-destun yr ydym ni'n byw drwyddo ar hyn o bryd, rwy'n credu bod hyn yn ymwneud â grym ac mae hyn yn ymwneud â chyfansoddiad Prydain. Nid wyf i'n credu bod hyn yn ymwneud â Brexit, cymaint ag y byddai'n well gan lawer o bobl hynny. Rwy'n cytuno â'r hyn y mae llawer o bobl yn y fan yma wedi ei ddweud: mae hyn yn ymwneud â'r pwerau sydd ar gael i Brif Weinidog y DU, ond mae hefyd yn ymwneud ag ymddygiad Prif Weinidog y DU hefyd. Caf fy nhemtio i feddwl ei fod yn cymryd hen ddisgybl ysgol Eton i ddweud celwydd wrth Ei Mawrhydi y Frenhines; yn sicr, cawsom ni ein haddysgu yn well yn Ysgol Gyfun Tredegar ac ni fyddem ni byth wedi meddwl ymddwyn yn y fath fodd. Ac mae'n adlewyrchu'n wael ar yr wrthblaid yn y fan yma, ar y Blaid Geidwadol yn y wlad hon, nad ydyn nhw'n barod i sefyll yn gadarn wrth gyfansoddiad a chyfraith y wlad hon ond i amddiffyn Prif Weinidog diwerth. Mae hynny'n dweud cyfrolau. Ond mae angen i ni wneud mwy na dim ond condemnio ymddygiad gwael Prif Weinidog presennol y DU. Mae wedi ceisio gwyrdroi ein cyfansoddiad ac mae wedi ceisio gwyrdroi ein sefydliadau democrataidd. Mae David Melding yn hollol gywir, mae'n rhaid i bwerau uchelfreiniol fod yn destun adolygiad barnwrol, ond mae'n rhaid i bwerau uchelfreiniol fod yn destun atebolrwydd democrataidd hefyd ac nid atebolrwydd barnwrol yn unig. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi, nid yn unig bod yn rhaid i Brif Weinidog Prydain ymddiswyddo pan fydd yn dychwelyd i'r Deyrnas Unedig dros nos a chyn iddo wynebu Senedd y DU, ond ein bod ni angen cyfansoddiad nawr sy'n adlewyrchu sofraniaeth Seneddau yr ynysoedd hyn? Seneddau'r ynysoedd hyn. A'r hyn y mae hynny'n ei olygu yw nid confensiwn cyfansoddiadol syml, ond cytundeb gyda Senedd y Deyrnas Unedig, Senedd yr Alban a'r Senedd hon ar ein hawl i eistedd yn ddilyffethair gan y Weithrediaeth, i ddwyn y Weithrediaeth i gyfrif ac i sicrhau, fel Seneddau, ein bod ni'n gallu cynrychioli'r bobl heb ofn na ffafriaeth ac na allwn gael ein bwlio gan Brif Weinidog sy'n credu ei fod uwchlaw'r gyfraith. Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn y mae Alun Davies wedi ei ddweud, sef bod yr achos yn ymwneud â grym a chyfyngiadau ar y grym hwnnw a'r ffordd y caiff y grym hwnnw ei arfer. Ac wrth gwrs, mae'n iawn i ddweud bod y pwerau hynny, yn yr achos hwn, wedi cael eu harfer gan unigolyn, a bod unigolyn a'i weithredoedd yn ganolog i'r achos hwn. Mae'n ymwneud â gweithredoedd y person hwnnw, mae'n ymwneud â'r bobl anetholedig iddo eu casglu o'i gwmpas er mwyn ei gryfhau yn y camau y credai y gallai eu cymryd heb gael ei gosbi. A'r ffordd i'n hamddiffyn ni yn y dyfodol yn erbyn hynny yw trwy ddiwygio cyfansoddiadol ac, wrth gwrs, mae Alun Davies yn gwneud y pwynt sylfaenol bwysig hwnnw, sef, mewn Teyrnas Unedig ddatganoledig, mae hyn yn ymwneud â Seneddau, lluosog, nid dim ond y Senedd yn San Steffan. Ac rwyf i eisiau gweld y confensiwn cyfansoddiadol hwnnw yn ymwreiddio datganoli trwy gydnabod, 20 mlynedd ar ôl datganoli, bod sofraniaeth yn gysyniad gwasgaredig. Nid yw wedi ei chadw yn San Steffan ac yn cael ei dosbarthu i eraill i'w chymryd yn ôl pan nad ydyn nhw'n hoffi'r hyn yr ydym ni'n ei wneud â hi. Mae sofraniaeth wedi ei hymwreiddio yn y fan yma ar gyfer y pethau y mae gennym ni gyfrifoldeb amdanynt, ac mae wedi ei hymwreiddio mewn mannau eraill hefyd, ac yna'n cael ei rhannu'n ôl at ei gilydd eto at ddibenion cyffredin pan fyddwn ni'n penderfynu mai dyna'r ffordd i greu undod rhwng pobl ar draws y Deyrnas Unedig. Felly, dylai'r parch at Seneddau, nid y Senedd yn unig, fod wrth wraidd y synnwyr newydd hwnnw o sut y mae angen i'n cyfansoddiad weithredu, ac wedyn bydd mesurau cadw cydbwysedd eraill yn rhan ohono a fyddai wedi ein hatal rhag bod yn y sefyllfa yr ydym ni wedi canfod ein hunain ynddi heddiw. Dyna ddiwedd ar y cwestiwn brys. 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog Yr eitem gyntaf, felly, ar yr agenda, yn ôl y papur trefn, yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog. Mae'r cwestiwn cyntaf yn yr eitem yma gan Huw Irranca-Davies. Swyddi a Datblygu Economaidd yn Ogwr Huw Irranca-Davies AC: 1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu i gynnal swyddi a datblygu economaidd yn Ogwr? OAQ54381 Mark Drakeford AC: Llywydd, diolch i Huw Irranca-Davies am y cwestiwn yna. Mae Llywodraeth Cymru yn helpu i gefnogi swyddi a datblygiad economaidd ledled Cymru, gan gynnwys yn Ogwr, drwy ein cynllun gweithredu economaidd. Rhwng 2011 a 2019, gostyngodd y gyfradd diweithdra yn Ogwr gan 52 y cant, ac roedd hynny'n fwy na'r gostyngiad yng ngweddill Cymru a'r gostyngiad ledled y Deyrnas Unedig. Huw Irranca-Davies AC: Mae hynny'n newyddion i'w groesawu, Prif Weinidog. Croesawyd cyhoeddiad yr wythnos diwethaf—cadarnhad o fuddsoddiad Ineos yn sedd fy nghymydog ym Mhen-y-bont ar Ogwr—ledled Pen-y-bont ar Ogwr ac Ogwr a'r rhanbarth cyfan, gan ddangos unwaith eto bod Llywodraeth Cymru, yn wir, wedi camu i'r adwy i gefnogi ein sylfaen gweithgynhyrchu a swyddi. Er na all hyn ddisodli'n llwyr y 1,700 o swyddi, mae'n dangos ffydd yn yr ardal ac yn sgiliau'r gweithlu sy'n galonogol iawn. Ond a gaf i ofyn i'r Prif Weinidog am y buddsoddiad a'r cymorth ehangach a pharhaus gan Lywodraeth Cymru a'i hasiantaethau yn etholaeth Ogwr dros dair blynedd olaf tymor y Cynulliad hwn: faint o swyddi a lleoedd hyfforddi a grëwyd ac a gynhaliwyd, faint o fusnesau newydd, faint o grantiau cymorth busnes a benthyciadau a chyngor a ddarparwyd? Pe gallai'r Gweinidog roi blas i mi yn ei ymateb heddiw, byddwn yn ddiolchgar, er fy mod i'n hapus i gael y stori lawn mewn ateb mwy manwl wedyn. Ac a wnaiff ef gadarnhau bod llain M4 Pen-y-bont ar Ogwr ac Ogwr yn dal i fod yn gartref i rai o'r crynodiadau mwyaf o weithgynhyrchu yng Nghymru a rhai o'r gweithwyr mwyaf medrus? Mark Drakeford AC: Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Diolchaf iddo am yr hyn a ddywedodd ar y cychwyn am Ineos—penllanw trafodaethau hir a dwys a gynhaliwyd gan swyddogion yn Llywodraeth Cymru, dan arweiniad fy nghyd-Weinidog, Ken Skates. Roeddem ni'n falch iawn o allu dod â'r swyddi hynny i bobl yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr ac Ogwr, o gofio'r hyn sydd wedi digwydd yno yn gynharach eleni. Wrth gwrs, mae Huw Irranca-Davies yn iawn bod llain M4 Pen-y-bont ar Ogwr ac Ogwr yn dal i fod yn gartref i grynodiad mawr o weithgynhyrchu yng Nghymru—Invacare, Sony, er enghraifft—ac maen nhw yno oherwydd manteision bod â gweithlu hynod fedrus a brwdfrydig. Gofynnodd yr Aelod i mi, Llywydd, am stori lawn y pethau a wnaed i gefnogi'r economi a'r diwydiant gweithgynhyrchu yn y rhan honno o Gymru. Dyma dair enghraifft yn unig: ers 2015, mae Busnes Cymru wedi helpu i greu dros 200 o fentrau newydd yn yr ardal a gynrychiolir gan Huw Irranca-Davies a chan yr Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr. Ers 2016, mae Banc Datblygu Cymru wedi buddsoddi dros £9 miliwn mewn busnesau ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn unig. Ac, ers 2018, mae cronfa dyfodol yr economi wedi cymeradwyo prosiectau yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr ac Ogwr sydd werth dros £8 miliwn. Mae hynny i gyd yn dangos penderfyniad y Llywodraeth hon i barhau i fuddsoddi yn y lleoedd hynny a'r bobl hynny sydd wedi creu cymaint o lwyddiant ym maes gweithgynhyrchu ar lain yr M4 o amgylch Pen-y-bont ar Ogwr ac Ogwr yn y cyfnod diweddar. Suzy Davies AC: Hoffwn gydnabod gwaith ein dwy Lywodraeth mewn dod ag Ineos i gyrion fy rhanbarth i, ond er budd y rhanbarth cyfan a thu hwnt. Mae'r datblygiad economaidd y cyfeiriodd Huw Irranca-Davies ato, wrth gwrs, angen gweithlu sydd wedi ei baratoi'n dda sydd wedi cael y gorau o'u profiad yn yr ysgol a'r coleg. Tybed ai un o'r risgiau mwyaf i'r datblygiad economaidd parhaus hwnnw yr oedd yn sôn amdano, gan gynnwys Ogwr, fydd cyflogwyr traws-sector yn colli ffydd yng nghadernid ac atebolrwydd y system addysg. A ydych chi'n rhannu safbwyntiau Jeremy Corbyn bod arolygiaeth ysgolion annibynnol yn ddiangen? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, cafwyd rhai tybiaethau llawn dychymyg yn y cwestiwn hwnnw; llongyfarchaf yr Aelod. Pe byddai cymhwyster academaidd yn y maes hwnnw, byddai ar lefel uchel iawn. Edrychwch, y rheswm pam mae cyflogwyr yn mynd i Ben-y-bont ar Ogwr yw'r cymwysterau a'r sgiliau sydd gan y gweithlu eisoes. Mae cyfran yr oedolion o oedran gweithio ym Mhen-y-bont ar Ogwr sydd ag o leiaf dau gymhwyster safon uwch neu gyfatebol wedi cynyddu o flwyddyn i flwyddyn, a'r llynedd, 2018, cyrhaeddodd yr uchaf a fu erioed. Ac mae ein buddsoddiad mewn addysg, mewn prentisiaethau yma yng Nghymru, mewn sgiliau a chyflogadwyedd, yn rhoi hyder i ni ac yn rhoi hyder i gyflogwyr fuddsoddi yn yr ardal honno gan eu bod nhw'n gwybod y bydd ganddyn nhw weithlu yno sy'n barod ac yn fodlon gwneud y swyddi y gellir eu denu i'r ardal honno. Mae gennym ni system addysg wahanol iawn yma yng Nghymru. Mae addysg wedi ei ddatganoli—atgoffaf yr Aelodau o hynny. Nid oes gan penderfyniadau y mae pobl eraill yn eu gwneud am yr hyn sy'n iawn yn eu hardaloedd nhw unrhyw effaith uniongyrchol arnom ni. Rydym ni'n credu bod gennym ni drefn a system arolygu yma yng Nghymru sy'n gweithio i ysgolion, sy'n gweithio i fyfyrwyr, sy'n gweithio i rieni, ac rydym ni'n hapus iawn bod hynny ar waith gennym ni ac y gallwn barhau ag ef. Caroline Jones AC: Prif Weinidog, bydd y newyddion y bydd Ineos yn cynhyrchu prosiect Grenadier yn y rhanbarth yn rhyddhad i'w groesawu i'm hetholwyr yn Ogwr a rhanbarth Gorllewin De Cymru yn ehangach. Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni arallgyfeirio a diogelu ein marchnad swyddi ar gyfer y dyfodol os ydym ni'n mynd i newid ffawd economaidd Ogwr a'r rhanbarth ehangach. Prif Weinidog, sut y bydd eich Llywodraeth yn arfogi gweithlu'r presennol a'r dyfodol â'r sgiliau angenrheidiol i gystadlu mewn diwydiant 4.0? Diolch. Mark Drakeford AC: Llywydd, diolchaf i'r Aelod am yr hyn a ddywedodd am Ineos, ac rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd, bod dyfodol economi Cymru yn dibynnu ar arallgyfeirio, gan ymateb i'r heriau y gwyddom y byddan nhw yno ar gyfer swyddi yn y dyfodol, gan gynnwys awtomatiaeth. Mae gennym ni gytundebau gyda chyflogwyr ym mhob rhan o Gymru. Mae ein dull contract economaidd yn golygu ein bod ni'n ystyried hwn fel cyfrifoldeb a rennir, cyfrifoldeb a rennir rhwng y Llywodraeth, rhwng cyflogwyr a rhwng cyflogeion hefyd, ac mae'r gwaith y mae'r undebau llafur yng Nghymru wedi ei wneud o ran mapio rhai o'r cyfleoedd a fydd yn dod i swyddi yng Nghymru drwy awtomatiaeth ymhlith y cyfraniadau gorau y byddwch chi'n eu gweld i'r ymateb i arallgyfeirio y mae Caroline Jones wedi awgrymu sydd ei angen arnom ni. Ond nid yw'n gyfrifoldeb i unrhyw un partner—mae'n gyfrifoldeb i bawb; dyna pam mae gennym ni ddull partneriaeth gymdeithasol yma yng Nghymru. A, thrwy weithio gyda'n gilydd yn y ffordd honno, gallwn fod yn hyderus ein bod ni'n gallu wynebu'r heriau a'r cyfleoedd a fydd yn dod i economi Cymru o ganlyniad i newidiadau yr ydym ni i gyd yn gwybod sy'n digwydd yn y byd o'n cwmpas. Ysgolion Rhydd Carwyn Jones AC: 2. Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar ysgolion rhydd? OAQ54361 Mark Drakeford AC: Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i system addysg gynhwysfawr sy'n sicrhau bod pawb, waeth beth fo'u cefndir, yn cael y cyfle i wireddu eu potensial. Nid oes unrhyw dystiolaeth bod ysgolion rhydd wedi codi safonau yn Lloegr, ac mae Ymddiriedolaeth Sutton wedi canfod bod y polisi wedi methu â chyflawni ei ddiben. Carwyn Jones AC: Diolch, Prif Weinidog. A ydych chi'n cytuno â mi bod bwriad Prif Weinidog y DU, fel y dywedodd, i greu 30 o ysgolion rhydd ar draws y DU—efallai fod hwnnw'n sylw amhriodol—yn dangos ei anwybodaeth o ddatganoli, oherwydd, fel yr ydym ni i gyd yn ymwybodol yn y Siambr hon, mae addysg wedi ei datganoli? A wnaiff y Prif Weinidog barhau felly i roi sicrwydd i bobl Cymru na fyddwn ni'n gweld marchnadeiddio addysg yng Nghymru drwy sefydlu ysgolion rhydd? Mark Drakeford AC: Diolchaf i Carwyn Jones am y cwestiwn atodol yna, Llywydd. Rwy'n gobeithio ei fod yn iawn; rwy'n gobeithio ei fod yn fater syml nad oedd Prif Weinidog y DU yn deall datganoli. Byddai hynny'n un peth. Ond mae gen i bryder mawr efallai fod rhywfaint o fwriadoldeb y tu ôl i'r datganiad hwnnw. Bydd rhai Aelodau yn y fan yma yn cofio'r araith a wnaeth Michael Gove yng Nghaeredin yn ystod etholiad arweinyddiaeth y Ceidwadwyr, pan ddywedodd mai'r ffordd i gadarnhau'r Deyrnas Unedig oedd i Lywodraeth y DU sefydlu, mewn ardaloedd datganoledig, ysgolion ac ysbytai y byddai ganddyn nhw gyfrifoldeb amdanyn nhw. Roedd yn syniad, meddyliais, o oedd â'r nod o arwain at chwalu'r Deyrnas Unedig, a gadewch i ni obeithio pan gyfeiriodd Prif Weinidog y DU at 30 o ysgolion rhydd ledled y Deyrnas Unedig nad oedd yn adleisio'r syniad arbennig o anhapus hwnnw. Mae addysg wedi ei datganoli i Gymru; rydym ni wedi mynd ati'n bwrpasol, yn fwriadol, a thrwy gydol cyfnod datganoli wedi cefnu ar y syniad mai creu marchnad ym maes addysg yw'r ffordd orau i godi safonau. Mae'n bendant nad yw'n gwneud hynny. Y cwbl mae'n ei wneud yw sicrhau bod y rhai sydd â manteision eisoes yn dod yn fwy breintiedig fyth yn y dyfodol. Mae ein polisïau addysg wedi eu seilio erioed ar ein cred y dylai pob plentyn gael cyfle cyfartal i wneud y defnydd gorau posibl o'r holl dalentau y mae'r plentyn hwnnw'n meddu arnynt ac mai nid damwain o'r math o ysgol y mae'n mynd iddi a'r math o addysg y mae'n ei derbyn a ddylai bennu'r cyfleoedd hynny mewn bywyd. Dyna'r hyn y mae ysgolion rhydd yn ei wneud. Dyna pam na fyddwn ni'n eu cael nhw yng Nghymru. Darren Millar AC: Credaf ei bod hi braidd yn hyf, a dweud y gwir, i'r cyn-Brif Weinidog feirniadu'r polisïau addysg yn Lloegr pan ddarparodd y Llywodraeth, o dan ei arweinyddiaeth ef, y canlyniadau Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr gwaethaf a welodd y wlad hon erioed ac rydym ni'n dal i fod ar waelod tablau cynghrair y DU ym mhynciau Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth. Nawr, un o'r rhesymau am hynny—. Dywedasoch eich bod chi eisiau i bob person ifanc gael cyfle cyfartal: y gwir yw nad ydyn nhw'n cael cyfle cyfartal yma yng Nghymru, gan fod bwlch cyllid o £645 fesul disgybl, bob blwyddyn, yn ôl yr undebau, y mae angen mynd i'r afael ag ef. Nawr, yr un peth da, wrth gwrs, Prif Weinidog—yr un peth da—yw bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi hwb gwariant sylweddol ar gyfer addysg yn ddiweddar iawn, sy'n golygu, o ganlyniad i'r hwb gwariant hwnnw, y bydd gan Gymru £1.2 biliwn i'w wario ar addysg yn ychwanegol at y swm cyfredol dros y tair blynedd nesaf. A gaf i ofyn i chi: pa gamau fyddwch chi'n eu cymryd i gau'r bwlch cyllid hwnnw, ei ddileu'n llwyr, i roi chwarae teg fel y gall pobl ifanc yma gael y cyfle i ffynnu? Mark Drakeford AC: Llywydd, mae cyfraniad yr Aelod yn feinwe o honiadau hen ffasiwn, ac felly'n hynod gamarweiniol. Mae'r ffigur a ddyfynnodd o 2011. Byddech chi'n meddwl y byddai wedi diweddaru ychydig ar ei ffigurau ers hynny. Byddech chi'n meddwl efallai y byddai wedi darllen y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, a ddywedodd bod y bwlch rhwng cyllid yng Nghymru a Lloegr bron wedi cael ei ddileu, ac roedd hynny oherwydd toriadau, toriadau—[Torri ar draws.] Roedd y bwlch bron wedi ei ddileu oherwydd y toriadau a wnaed i gyllidebau addysg yn Lloegr. [Torri ar draws.] Wel, gallwch chi ddweud 'nonsens', Darren, os mynnwch chi, ond yr IFS a ddywedodd hynny, nid fi. [Torri ar draws.] Yr IFS—ac adroddwyd ganddynt eto ddoe. Syniad da, rwy'n meddwl, fyddai diweddaru eich ffigurau ac, efallai, eich dealltwriaeth. Pe byddem ni'n cael arian ar y raddfa yr ydych chi'n ei awgrymu—ac yn sicr nid oes unrhyw sicrwydd y byddwn ni'n ei gael; mae gennym ni setliad blwyddyn yma yng Nghymru, ac mae eich Llywodraeth chi wedi bod yn barod i gynnig tair blynedd yn Lloegr, ond nid i Gymru nac i'r Alban. Pe na bydden nhw wedi gwario rhywfaint o'r arian cyn i ni ei gael—£50 miliwn i lenwi'r bwlch yng nghyfraniadau pensiwn athrawon, a ddylai fod wedi dod gan Lywodraeth y DU ac y maen nhw wedi gwrthod, er gwaethaf rheolau'r fformiwla ariannu, ei roi i ni—a phe byddem ni'n cael yr arian hwnnw, Llywydd, ni fyddwn yn gwastraffu £140 miliwn ar ysgolion rhydd na agorodd erioed, neu a agorodd ac a gaeodd. Os cawn ni arian yma, byddwn yn ei fuddsoddi mewn ffordd a fydd yn cynorthwyo'r bobl ifanc hynny yn ein hysgolion a sicrhaodd y canlyniadau safon uwch a TGAU gorau erioed hynny ym mis Awst eleni. Dyna wirionedd y mater, ac nid yw ymgais yr Aelod, yn ôl ei arfer, i daflu rhyw gysgod ar gyflawniadau plant yng Nghymru yn gwneud unrhyw ddaioni iddyn nhw, ond nid yw'n gwneud dim daioni o gwbl i'w blaid. Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies. Paul Davies AC: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae Canghellor yr Wrthblaid, John McDonnell, wedi cyhoeddi y byddai'r wythnos waith gyfartalog yn y DU yn cael ei thorri i 32 awr o fewn 10 mlynedd o dan Lywodraeth Lafur y DU. A ydych chi fel Llywodraeth yn cefnogi'r polisi hwnnw? Mark Drakeford AC: Rwy'n credu ei fod yn bolisi rhagorol, Llywydd. Roeddwn i'n falch iawn o allu ei drafod gyda John McDonnell yn gynharach yr wythnos hon. Bydd gweithwyr yng Nghymru yn croesawu'r uchelgais hwnnw. Hoffent fod yn yr un sefyllfa â'u cymheiriaid mewn rhannau eraill o Ewrop a thrwy'r camau y byddwn ni'n eu cymryd mewn Llywodraeth i wella cynhyrchiant, iail-gydbwyso’r economi o blaid pobl sy'n gweithio, yna mae hwnnw'n uchelgais yr ydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn sicr yn ei gefnogi. Paul Davies AC: Wel, Prif Weinidog, o leiaf rydych chi'n cytuno â'ch plaid ar lefel y DU ar un polisi, beth bynnag, o ystyried eich bod chi'n anghytuno â hi ar fater Brexit. Nawr, Prif Weinidog, wrth ymateb i'r cyhoeddiad, fe'i gwnaed yn eglur gan gyfarwyddwr y CBI Carolyn Fairbairn, heb enillion cynhyrchiant, y byddai'n gwthio llawer o fusnesau i golledion. Ac nid busnesau yng Nghymru yn unig fyddai'n cael eu heffeithio gan hyn, nage? Rydym ni wedi trafod ers amser maith yr argyfwng recriwtio a achoswyd gan eich Llywodraeth Lafur yn ein GIG Cymru, a gwyddom fod y gwasanaeth iechyd eisoes yn ei chael hi'n anodd ymdopi â'r galw am feddygon, nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill. Prif Weinidog, a allwch chi ddweud wrthym ni faint o feddygon, nyrsys a staff allweddol eraill ychwanegol y bydd y GIG eu hangen i ymateb i'r pwysau ychwanegol y bydd y polisi hwn yn ei greu, o gofio eich bod chi wedi methu â recriwtio digon i ddiwallu'r anghenion presennol? Mark Drakeford AC: Llywydd, roeddwn i'n falch iawn o gyfarfod â Carolyn Fairbairn yn ystod yr haf ac i gytuno â hi ar ba mor agos yw barn y CBI a Llywodraeth Cymru o ran Brexit a'r economi. Cawsom drafodaeth ar fater cynhyrchiant yn y cyfarfod hwnnw gan gytuno bod polisi ei Lywodraeth ef o ran cadw llafur yn rhad wedi cael yr effaith o gadw lefelau cynhyrchiant i lawr yn y wlad hon. Mae'n anochel, onid yw? Os byddwch chi'n gwneud pobl yn rhad, yna nid yw busnesau'n buddsoddi yn y peiriannau a'r diwygiadau eraill hynny sy'n arwain at fwy o gynhyrchiant. Mae profiad Ffrainc yn dweud wrthym yn eglur, os byddwch chi'n lleihau oriau, rydych chi'n gwella cynhyrchiant. Dyna'r hyn yr ydym ni eisiau ei weld yn y wlad hon. Mae problemau recriwtio yn y gwasanaeth iechyd yn cael eu heffeithio'n waeth o lawer gan bolisïau ei blaid ef a'i Lywodraeth ef, lle nad yw pobl sy'n dod o rannau eraill o Ewrop i weithio yn ein GIG yn credu mwyach bod croeso iddyn nhw yn y wlad hon o dan ei Lywodraeth ef. Mae hwnnw'n fwy o fygythiad o lawer i gyflogaeth yn y GIG nag unrhyw beth sy'n dweud wrth bobl sy'n gweithio ynddo, 'Hoffem pe byddech chi'n gallu cael gwell cydbwysedd rhwng yr oriau yr ydych chi'n eu treulio yn y gwaith a'r oriau sydd gennych chi i'w treulio gyda'ch teulu', a dyna fydd Llywodraeth Lafur yn ei gyflawni i chi. Paul Davies AC: Atgoffaf y Prif Weinidog mai ef sy'n gyfrifol am bolisi iechyd yma yng Nghymru. Ac nid yw hyn yn ymwneud ag ysbytai yn unig, y polisi penodol hwn, ond mae hefyd yn ymwneud â'n hysgolion. Dangosodd papur a gyhoeddwyd gan Sefydliad Nuffield ac Athrofa Addysg UCL bod un o bob pedwar o athrawon yn gweithio mwy na 60 awr yr wythnos yn y DU. Rydym ni'n gwybod bod eich Llywodraeth chi wedi ei gwneud yn eglur nad oes ganddi unrhyw gynlluniau i gau ysgolion am ddiwrnod ychwanegol yr wythnos, sydd i bob pwrpas yn golygu y byddai'n rhaid i benaethiaid, o dan Lywodraeth Lafur y DU yn y dyfodol, gyflogi staff ychwanegol a newid eu rotas yn sylweddol er mwyn sicrhau wythnos waith lai. Prif Weinidog, pa goeden arian hudol sydd gan Lywodraeth Cymru i gyflawni'r amcan hwn mewn gwirionedd? A sut gwnewch chi ddenu athrawon i Gymru, o gofio bod eich Llywodraeth eich hun wedi methu ei thargedau ei hun ar gyfer athrawon uwchradd dan hyfforddiant newydd gan 40 y cant eisoes eleni? Mark Drakeford AC: Mae'r peth y tu hwnt i gredadwyedd, Llywydd. Nid oeddwn i'n gallu deall yn iawn. Dechreuodd arweinydd yr wrthblaid ar ei gwestiynau i mi yn cwyno mae'n ymddangos, ein bod ni'n mynd i ofyn i bobl weithio llai o oriau. Yna mae'n cwyno bod athrawon yn gweithio gormod o oriau. Wel, nid wyf i'n siŵr pa un sy'n well ganddo. Polisi'r Llywodraeth hon fydd gweithio gyda'r Llywodraeth Lafur nesaf yn y Deyrnas Unedig i helpu'r teuluoedd hynny i weithio llai o oriau, i helpu ein gweision cyhoeddus i allu gwneud yr ymdrechion y gwyddom eu bod nhw eisiau eu gwneud. Ac o ran y goeden arian hud, efallai yr hoffai roi'r map i mi a arweiniodd Boris Johnson at y goeden arian hud y mae wedi bod yn ei hysgwyd, oherwydd ar ôl degawd o ddweud wrthym ni nad oedd arian ar gael ar gyfer popeth, mae ei Lywodraeth wedi bod yn brysur yn ei rofio allan drwy'r drws fel pe na byddai yfory. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price. Adam Price AC: Diolch yn fawr, Llywydd. Gydag ystod cyflog o hyd at bron i £60,000, mae Llywodraeth Cymru wedi hysbysebu swydd arweinydd yr adolygiad tlodi plant yn ddiweddar. A all y Prif Weinidog esbonio beth yw'r dasg allweddol y cyfeirir ati ar frig y disgrifiad swydd? Mark Drakeford AC: Rydym ni'n chwilio am arweinydd adolygiad tlodi plant i helpu'r gwaith y mae fy nghydweithiwr, Julie James, wedi ei ddechrau. Rydym ni eisiau sicrhau bod yr holl gamau yr ydym ni'n eu cymryd ar draws y Llywodraeth yn gwneud y cyfraniad mwyaf posibl at ddatrys pla tlodi ym mywydau plant yng Nghymru a'r ffaith y bydd 50,000 yn fwy o blant yn byw mewn tlodi ar ddiwedd y degawd hwn nag oedd ar y dechrau, o ganlyniad i benderfyniadau bwriadol y Llywodraeth Geidwadol. Hoffwn i'r Llywodraeth hon gymryd yr holl gamau ymarferol o fewn ei gallu i archwilio'r polisïau a'r gweithdrefnau sydd gennym ni ar waith i sicrhau eu bod yn gwneud y mwyaf y gallant i gynorthwyo teuluoedd yn y sefyllfa honno, a dyna fyddwn ni'n dymuno i swyddog arweiniol ein cynorthwyo ni i'w gyflawni. Adam Price AC: Mae'r disgrifiad swydd yn darllen fel a ganlyn: tasg gyntaf yr ymgeisydd llwyddiannus fydd datblygu dealltwriaeth well o'r hyn sy'n digwydd ym mywydau plant sy'n byw mewn tlodi. Nawr, rwy'n dweud hyn gyda'r parch mwyaf, ond ar ôl 20 mlynedd o ddatganoli, siawns na ddylai eich Llywodraeth wybod yr ateb i'r cwestiwn hwnnw. Mae traean o'n plant—dros 200,000—yn byw mewn tlodi, mae 90,000 yn byw mewn tlodi difrifol a Chymru oedd yr unig wlad yn y DU lle bu cynnydd i dlodi plant y llynedd. Yn 2016, cafwyd gwared ar y targed gennych chi, fel Llywodraeth, o ddileu tlodi plant erbyn diwedd y degawd yr ydych chi newydd gyfeirio ato, a chawsoch wared ar Weinidog penodol a oedd yn gyfrifol am gyflawni'r targed hwnnw, gan symud i swyddogaeth gydgysylltu. Nawr, ar yr adeg honno, galwodd Comisiynydd Plant Cymru am gynllun cyflawni ar blant tebyg i'r un yn yr Alban, ond ni chafwyd adroddiad ar gynnydd hyd yn oed, ers hynny, oherwydd ni fu unrhyw gynnydd. Onid y tlodi mwyaf oll yw'r tlodi o ran uchelgais? Mark Drakeford AC: Llywydd, rwy'n siomedig nad yw'r Aelod yn credu bod cael gwell dealltwriaeth o dlodi a sut mae'n effeithio ar fywydau plant yng Nghymru heddiw yn rhywbeth y mae'n werth i Lywodraeth fynd ar ei drywydd. Rwy'n cofio eistedd gydag ef mewn trafodaethau pan roedd Plaid Cymru yn cynnig arsyllfa ym maes tlodi plant fel y byddai gennym ni'r union well dealltwriaeth honno ar gael i ni. Nid wyf i'n credu bod hwnnw'n uchelgais nad yw'n werth ei gael, oherwydd os oes gennym ni well dealltwriaeth, ac yn enwedig os oes gennym ni well dealltwriaeth drwy lygaid y plant eu hunain, yna byddwn yn gallu gwneud yr hyn sy'n rhywbeth y gwn ei fod yn cael ei rannu rhwng ein pleidiau. Rydym ni eisiau gwneud y gwahaniaeth mwyaf posibl ym mywydau plant yng Nghymru, ac yn enwedig rydym ni eisiau gwneud y gwahaniaeth hwnnw ym mywydau'r plant hynny lle mai arian yw'r rhwystr i'r plant hynny rhag cael y mathau o fywydau a phrofiadau yr ydym ni eisiau iddyn nhw eu cael. Nawr, darllenais adroddiad y comisiynydd plant a chefais gyfarfod â hi i'w drafod, gan fy mod i'n credu ei fod yn adroddiad rhagorol. Bu'n rhaid i mi ddweud sawl gwaith ar lawr y Cynulliad—gan holi'r rhai sy'n gwneud y ddadl i mi mai'r hyn y mae Llywodraeth Cymru ei angen yw strategaeth newydd ar dlodi plant, a dweud ei bod yn well gennyf i gyngor y comisiynydd plant, sef mai'r hyn sydd ei angen arnom ni yw cynllun cyflawni wedi ei ailwampio, sy'n ystyried y pethau ymarferol y gallwn ni eu gwneud. Mae fy nghyd-Aelod Rebecca Evans ac eraill wedi cyfarfod â'r Comisiynydd Plant ers hynny i ystyried y camau ymarferol hynny. Dyna pam yr ydym ni eisiau arweinydd i gymryd rhan yn hyn i gyd. Oherwydd yn y modd hwnnw, rydym ni'n defnyddio'r ysgogiadau sydd gennym ni yn ein dwylo i wneud y gwahaniaeth mwyaf. Adam Price AC: Rwy'n cofio pan benododd y Llywodraeth Lafur ddiwethaf yn San Steffan tsar tlodi naw mlynedd, a dweud y gwir, ar ôl dod i rym, a dywedais wrthynt yr hyn yr wyf i'n ei ddweud wrthych chi nawr: 'Ble ydych chi wedi bod?' a bod yn blaen. Mae Llywodraeth yr Alban wedi mabwysiadu targedau statudol rhwymol i leihau tlodi plant. Mae'n cyflymu ei chynllun cyflawni i ymrwymo i daliad plant o £10 yr wythnos y plentyn i deuluoedd sy'n derbyn credyd cynhwysol. Bydd pedwar can mil o blant yn yr Alban yn elwa a gallai 30,000 gael eu rhyddhau o dlodi ar unwaith. Mae uwch economegydd yr Alban yn Sefydliad Joseph Rowntree wedi canmol hyn fel esiampl o bolisi blaengar. Nawr, bydd Plaid Cymru mewn Llywodraeth yn 2021 yn ymrwymo i fynd hyd yn oed ymhellach, ond lle mae Llywodraeth y DU wedi gwneud toriadau, siawns nad oes angen i Lywodraeth Cymru gamu ymlaen. Mae'n syfrdanol, Prif Weinidog, mai dim ond nawr yr ydych chi'n deffro i effeithiau tlodi ar fywydau plant. Pryd fyddwn ni'n gweld buddsoddiad gwirioneddol a phryd y gwnewch chi osod targed uchelgeisiol fel nad yw plant yn mynd i'r ysgol yn llwglyd ac i'r gwely yn oer? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, mae'n lol, onid yw? Mae'r Aelod bob amser yn llwyddo i ddifetha pwynt difrifol y mae'n ei wneud gan nad yw'n gallu osgoi addurn rethregol ar y diwedd. Yn syml, ni fyddai'r syniad nad yw'r blaid hon a'r Llywodraeth hon wedi bod â diddordeb mewn tlodi plant dros holl gyfnod datganoli yn gwrthsefyll hyd yn oed ychydig eiliadau o archwilio. Pan benododd y Llywodraeth Lafur ei tsar tlodi, roedd tlodi plant yng Nghymru wedi bod yn gostwng ers degawd. A dyna hanes datganoli: y degawd gyntaf pan ostyngodd tlodi plant flwyddyn ar ôl blwyddyn—nid yn ddigon cyflym i lawer ohonom ni, ond yn gostwng bob blwyddyn—ac ail ddegawd pan fo mwy o blant, flwyddyn ar ôl blwyddyn, mewn tlodi oherwydd y camau y mae math gwahanol iawn o Lywodraeth â blaenoriaethau gwahanol iawn wedi eu cymryd. Dros yr holl gyfnod hwnnw, Llywydd, rydym ni wedi cymryd camau sy'n gadael arian ym mhocedi teuluoedd sydd ei angen fwyaf, boed hynny'n frecwast am ddim mewn ysgolion cynradd ar ddechrau'r cyfnod datganoli, neu ein cynllun newyn gwyliau, yr ydym ni wedi ei sefydlu yn ystod y tymor Cynulliad hwn ac y mae cydweithwyr o Lywodraeth yr Alban wedi bod yn awyddus iawn i siarad â ni amdano i weld sut y gall hynny ddylanwadu ar eu camau yn y maes hwnnw. Rwyf i eisiau dysgu gan yr Alban. Rwy'n credu mai dyna'r ffordd—. Nid cystadleuaeth rhwng pobl dda yn y fan yma a phobl ddrwg yn y fan acw yw datganoli. Mae datganoli yn ffordd i ni ddysgu oddi wrth ein gilydd. Mae llawer o bethau y mae'r Alban yn eu gwneud ym maes tlodi plant y byddwn yn siarad â nhw amdanynt ac y gallwn ddysgu oddi wrthynt yn y fan yma, ac mae llawer o bethau yr ydym ni'n eu gwneud yng Nghymru y mae cydweithwyr o'r Alban yn dod i Gymru i'w hastudio er mwyn hysbysu'r dasg a rennir yr wyf i'n credu sydd gan y Llywodraeth hon a Llywodraeth yr Alban, sef sut i ymdrin â'r ymosodiad ar fywydau pobl yn yr Alban a Chymru gan Lywodraeth Geidwadol nad oes ganddi ddiddordeb yn eu dyfodol, a gwneud popeth y gallwn ni ei wneud i sicrhau dyfodol gwahanol. Arweinydd Plaid Brexit, Mark Reckless. Mark Reckless AC: Edrychais ar sianel y senedd ar y teledu fore Sul, a mwynheais wrando ar araith y Prif Weinidog yn Bournemouth. Dim ond ar ôl gwrando ar ychydig mwy o'r gynhadledd Lafur y deuthum i weld ei gyfraniad fel uchafbwynt. Ond a gaf i ofyn iddo, er hynny—? Methodd yn ei ymdrechion i berswadio cyd-Aelodau i dorri eu haddewid i barchu canlyniad y refferendwm drwy ymgyrchu dros 'aros' nawr. Mae'n ymddangos mai dim ond ar ôl yr etholiad y mae eraill eisiau dweud hynny wrth bobl. Ond o gofio bod gobaith nawr y bydd y Blaid Lafur yn y DU yn ymgyrchu i adael yr Undeb Ewropeaidd ar sail gwell cytundeb, yn ôl pob sôn, ac eto yng Nghymru mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod Cymru yn aros yn yr UE, a yw hynny'n golygu ei fod yn cefnogi erbyn hyn, os oes angen, polisi Plaid Cymru o adael y DU er mwyn aros yn yr UE? Mark Drakeford AC: Llywydd, rwy'n falch bod yr Aelod wedi mwynhau fy araith yn Bournemouth. Roeddwn i'n bersonol yn siarad yn Brighton—[Chwerthin.] Felly, efallai mai rhyw gyfle arall wnaeth amlygu ei hun iddo. Mae polisi'r Llywodraeth hon ar Brexit yn gwbl eglur. Rydym ni'n falch iawn bod y Blaid Lafur ar lefel y DU wedi ymrwymo'n llwyr erbyn hyn i gael refferendwm ar fater Brexit, ac mae angen i bobl sydd eisiau cael yr ail gyfle hwnnw i bleidleisio ar adael yr Undeb Ewropeaidd os ydyn nhw'n mynd i sicrhau hynny, yna Llywodraeth Lafur yw'r unig ffordd y byddan nhw byth yn cael yr ail gyfle hwnnw. Pan ddaw'r cyfle hwnnw, bydd y Llywodraeth hon yn ymgyrchu, fel yr ydym ni wedi dweud y byddwn ni'n ei wneud ers misoedd lawer iawn erbyn hyn, i Gymru aros yn yr Undeb Ewropeaidd, oherwydd dyna'r ateb gorau i Gymru. Rydym ni eisiau Cymru ddatganoledig gref mewn Teyrnas Unedig gref a llwyddiannus y tu mewn i Undeb Ewropeaidd cryf a llwyddiannus. Rydym ni eisiau i'r Blaid Lafur yng Nghymru allu gwneud penderfyniadau am y pethau yr ydym ni'n gwybod orau amdanynt a'r pethau sydd bwysicaf i bobl yng Nghymru ond gan aros ym Mhlaid Lafur y DU. Mark Reckless AC: O gofio bod y Prif Weinidog wedi derbyn fy nghywiriad ar nifer barnwyr y Goruchaf Lys, rwy'n derbyn ei gywiriad daearyddol gyda'r un ewyllys da. A gaf i ei holi am wahaniaeth posibl arall rhwng polisi'r DU a pholisi Cymru? Yn ei gynhadledd heddiw, mae'n ymddangos bod symudiad mawr i newid polisi newid yn yr hinsawdd a chael polisi o sero net erbyn 2030—dim ond 11 mlynedd i ffwrdd yw hynny. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi y byddai hynny'n drychineb llwyr, yn arwain at chwalfa yn yr economi, hyd yn oed heb gynnig y grŵp ein bod ni'n talu iawndal am allyriadau hinsawdd y gorffennol, ac y byddai'n tanseilio unrhyw bosibilrwydd o weithio ar y cyd gydag unrhyw un arall ar y mater hwn? Mae'n sôn llawer am sero net erbyn 2050, ond a wnaiff ef gadarnhau hefyd nad sero net erbyn 2050 yw polisi Llywodraeth Cymru, ond gostyngiad o 90 y cant, gan fod y Pwyllgor Newid Hinsawdd wedi dweud nad oedd yn bosibl sicrhau sero net i Gymru? Ac a wnaiff ef fyfyrio unwaith eto ar fater yr M4, oherwydd fe wnaethom sôn yr wythnos diwethaf am yr hysbysiad o benderfyniad? Dywedais nad oedd ei hysbysiad o benderfyniad am yr M4 yn dweud dim byd o gwbl am y newid yn yr hinsawdd, a thorrodd y Prif Weinidog ar fy nhraws ddwywaith gan honni ei fod. Yn ffodus iddo ef, mae wedi ei gofnodi fel 'torri ar draws' yn unig yn ein cofnod. Ond a wnaiff ef fyfyrio unwaith eto na ddywedodd ddim am y newid yn yr hinsawdd yn yr hysbysiad o benderfyniad hwnnw, sef y ddogfen sy'n rhwymo mewn cyfraith, pan ddiystyrodd yr M4, ac fe wnaeth hynny am reswm da, oherwydddaeth yr arolygydd i'r casgliad y byddai'r cynllun, yn unigryw efallai, yn niwtral o ran carbon dros amser? Mark Drakeford AC: Llywydd, rwyf i eisiau i ni gael y targedau mwyaf uchelgeisiol, cyraeddadwy ar gyfer newid yn yr hinsawdd y gallwn ni eu rhoi ar waith. Ar gyfer hynny, rydym ni'n dibynnu ar y comisiwn ar y newid yn yr hinsawdd a'u cyngor nhw. Os bydd y cyd-destun ar draws y Deyrnas Unedig yn newid, os oes gennym ni wahanol Lywodraeth yn y Deyrnas Unedig yn dilyn gwahanol bolisïau yno, fel y fargen newydd werdd y mae fy mhlaid i wedi bod yn siarad amdani yr wythnos hon, yna, wrth gwrs, bydd angen ceisio'r cyngor gan y comisiwn ar y newid yn yr hinsawdd unwaith eto yn y cyd-destun newydd hwnnw. Ac rwyf i eisiau i ni, yng Nghymru, fod mor uchelgeisiol ag y gallwn ni fod, o fewn terfynau'r rhai sy'n gwybod fwyaf am y pwnc ac sy'n rhoi'r cyngor mwyaf awdurdodol i ni. Yn fy mhenderfyniad ar yr M4, i'w ailadrodd, gwahaniaethais rhwng costau ariannol ffordd liniaru'r M4, gan ddod i'r casgliad nad oedden nhw'n gynaliadwy ar ôl 10 mlynedd o gyni cyllidol, a'r materion amgylcheddol. A rhoddais sylw i'r materion amgylcheddol yno. Ac rwyf i wedi darllen yn fanwl yr hyn y mae adroddiad yr arolygydd yn ei ddweud am niwtraliaeth o ran carbon. Ac o'm cof—bydd yn rhaid i mi wirio, a byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod i ddweud wrtho os wyf i wedi ei gofio yn anghywir—gyda'r gyfres o dybiaethau a wnaeth yr arolygydd, dywedodd y byddai'r ffordd hon yn niwtral o ran carbon erbyn 2073. Nawr, os ydych chi'n meddwl bod hynny'n ddigon uchelgeisiol i ni, yna nid wyf i, yn sicr. Safbwynt y Llywodraeth ar Brexit Andrew RT Davies AC: 3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am safbwynt presennol Llywodraeth Cymru ar Brexit? OAQ54364 Mark Drakeford AC: Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Dylid datrys argyfwng Brexit trwy ddychwelyd y penderfyniad i'r bobl mewn ail refferendwm. Bydd Llywodraeth Cymru yn ymgyrchu'n galed i sicrhau ein dyfodol o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Andrew RT Davies AC: Diolch, Prif Weinidog, am yr ateb yna. Yn yr oes sydd ohoni, mae aros tan gwestiwn 3 i siarad am hyn braidd yn optimistaidd yn ôl pob tebyg. Ond, siawns mai'r un peth na wnaethoch chi ymateb iddo yn sylwadau arweinydd yr wrthblaid i chi yn y cwestiwn brys oedd y pwynt y gall pobl leisio eu barn, mae Prif Weinidog y DU eisiau iddyn nhw gael lleisio eu barn, drwy etholiad cyffredinol. A fyddwch chi'n rhoi ewyllys wleidyddol Llywodraeth Cymru y tu ôl i'r galwadau am etholiad cyffredinol, fel y gellir chwalu Senedd nad yw'n gallu dod i gytundeb a chynnull Senedd newydd i ddatrys y materion hyn? Mark Drakeford AC: Rwyf i bob amser eisiau cael etholiad cyffredinol pan fydd Plaid Geidwadol mewn grym, oherwydd mae hynny'n cynnig rhywfaint o obaith i bobl y gallai pethau fod yn wahanol ac y gallai pethau fod yn well. Andrew RT Davies AC: Wel gadewch i ni gael yr etholiad. Mark Drakeford AC: Ond, os ydych chi'n credu bod pawb arall yn mynd i ddawnsio i dôn Prif Weinidog y canfuwyd heddiw ei fod wedi gweithredu'n anghyfreithlon ac yn annemocrataidd, ac yn credu y bydd yn trefnu pethau fel ei fod yn digwydd ar adeg o'i ddewis ef ac sy'n gyfleus iddo ef, yna rydych chi wedi camddeall yn arw. Dydyn ni ddim yn credu y gellir ymddiried ym Mhrif Weinidog y DU yn y mater hwn. Rwy'n gobeithio y daw etholiad, ac rwy'n gobeithio y bydd yn dod yn gyflym iawn, ond bydd yn digwydd ar adeg pan fo'r Senedd yn dewis, nid yr adeg y byddai'r Prif Weinidog hwn yn ei gweld yn gyfleus iddo'i hun. Neil Hamilton AC: Yn ei drafodaethau blaenorol gydag arweinydd yr wrthblaid, roedd y Prif Weinidog yn llawn canmoliaeth o ddyfarniad y Goruchaf Lys. Ond a fyddai'n cytuno â mi mai'r hyn yr ydym ni wedi ei weld heddiw yw creu cyfraith newydd, y mae gan y Goruchaf Lys, wrth gwrs, y grym i'w wneud? Nid oes unrhyw amheuaeth bod pwerau uchelfreiniol yn cael eu rheoli gan y gyfraith gyffredin; bu hynny'n wir am 400 mlynedd, ac nid oes neb yn gwadu'r gosodiad cyffredinol hwnnw. Ond, yn y gorffennol, ystyriwyd erioed bod y defnydd o'r grym uchelfreiniol i orchymyn gohiriad, ac yn wir y cyfnod y mae'r gohiriad hwnnw yn ei bara, yn fater gwleidyddol yn ei hanfod. Ac mae'r ffaith bod y llysoedd wedi crwydro i'r maes gwleidyddol hwn yn creu rhai peryglon penodol, sy'n amlwg. Yn ei chrynodeb o'r dyfarniad, dywedodd y Farwnes Hale y bore yma, gohiriwyd democratiaeth seneddol am gyfnod hir o dan amgylchiadau cwbl eithriadol: y newid sylfaenol a oedd i fod i ddigwydd yng nghyfansoddiad y Deyrnas Unedig ar 31 Hydref. Mae gan y Senedd, a Thŷ'r Cyffredin yn arbennig fel cynrychiolwyr etholedig y bobl, yr hawl i lais yn y ffordd y mae'r newid hwnnw'n digwydd. Un hepgoriad amlwg o'r dyfarniad, wrth gwrs, yw unrhyw gyfeiriad at y refferendwm, a'r rhan sydd gan bobl Prydain i'w chwarae yn eu dyfodol. A phan ddywedodd bod gan y Senedd, Tŷ'r Cyffredin, fel cynrychiolwyr etholedig y bobl, lais, beth os nad ydyn nhw'n cynrychioli'r hyn y pleidleisiodd y bobl drosto ym mis Mehefin 2016, pan bleidleisiodd 17.4 miliwn o bobl i adael, a nawr mae Senedd sydd o blaid aros yn gwneud popeth o fewn ei gallu i rwystro'r hyn y pleidleisiodd y bobl drosto? Mark Drakeford AC: Wel, bydd yr Aelod, rwy'n siŵr, eisiau llongyfarch y Blaid Lafur ar ddatrys y mater hwn drwy roi'r penderfyniad hwnnw yn ôl yn nwylo'r bobl. Bydd ei holl broblemau gyda Thŷ'r Cyffredin yn diflannu, bydd pobl yn gallu pleidleisio ar hyn eto. Nawr rwy'n clywed yr Aelod yn gweiddi arnaf am o leiaf y deuddegfed gwaith y prynhawn yma, rwy'n credu, 'Beth am etholiad cyffredinol?' A dywedaf wrtho fy mod i'n credu mai'r ffordd orau o ymdrin â refferendwm yw drwy ail refferendwm. Gellir ennill etholiad cyffredinol ar sail 35 y cant o'r boblogaeth sy'n pleidleisio. Nid yw'n ymddangos i mi bod honno'n sail gadarn ar gyfer gwyrdroi nac ailystyried mater sydd, fel y mae'n dweud wrthyf i wythnos ar ôl wythnos, wedi ennyn y nifer fwyaf o bobl erioed i bleidleisio ar bwnc. Byddai'n well, rwy'n credu, i ni roi'r penderfyniad hwnnw yn ôl yn nwylo'r bobl, mewn ail gyfle. Bydd ef yn cael ei gyfle i ddadlau ei achos—gwn y bydd yn ei ddadlau pryd bynnag y caiff gyfle. Ond bydd gan eraill gyfle i ddadlau eu hachosion hwythau hefyd. Mae wedi bod yn annealladwy i mi erioed, Llywydd, pam mae gan Aelodau ar lawr y Cynulliad hwn gymaint o alergedd i'r syniad y gellid gofyn i bobl unwaith eto am eu barn ar y pwnc pwysicaf sy'n ein hwynebu. Mae fy mhlaid i wedi ymrwymo i hynny; rwy'n credu y dylai democratiaid ymrwymo i hynny. Rhun ap Iorwerth AC: Rwy'n credu bod pethau'n symud yn weddol gyflym mewn ymateb i ddyfarniad y Goruchaf Lys yn gynharach heddiw. Gwyddom fod Seneddwyr Democrataidd yn yr Unol Daleithiau yn dechrau camau uchelgyhuddo yn erbyn yr Arlywydd Trump ac rydym ni'n clywed bod Aelodau Seneddol y gwrthbleidiau yn ystyried dechrau prosesau uchelgyhuddo yn erbyn Boris Johnson, pe byddai'n gwrthod ymddiswyddo. Nawr, fel plaid, byddwn yn cefnogi hynny; deallir bod Aelodau eich plaid chithau hefyd yn barod i gefnogi'r camau hynny. A fyddai hwnnw'n gam yr hoffech ei weld yn digwydd, fel Prif Weinidog? Mark Drakeford AC: Llywydd, rwy'n credu bod gan yr Aelod fantais drosof i, mae'n debyg, o allu dilyn y digwyddiadau sy'n dod i'r amlwg o'r man lle mae'n eistedd yn y Siambr, tra fy mod i wedi bod yn sefyll yn y fan yma yn methu â gweld dim ers ymhell dros awr bellach. Bydd ef yn maddau i mi, rwy'n siŵr, os dywedaf fy mod i eisiau astudio'r syniadau hynny sy'n dod i'r amlwg cyn rhoi safbwynt arnyn nhw, heb gael unrhyw gyfle i'w gweld drosof fy hunan. Gwasanaethau Rheilffyrdd yn Islwyn Rhianon Passmore AC: 4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gwasanaethau rheilffyrdd yn Islwyn? OAQ54401 Mark Drakeford AC: Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Bydd Trafnidiaeth Cymru yn darparu gwasanaethau ychwanegol, gyda gwell cerbydau a gorsafoedd yn Islwyn, yn rhan o'n cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer metro de Cymru. Bydd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn gwneud datganiad ar faterion rheilffyrdd yng Nghymru, sydd wedi ei drefnu ar gyfer yr wythnos nesaf. Rhianon Passmore AC: Diolch, Prif Weinidog. Yn 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Lafur Cymru, yn rhan o'r contract rheilffyrdd Cymru a'r gororau newydd, wedi ei redeg gan Trafnidiaeth Cymru, y byddai cysylltiadau rheilffordd uniongyrchol rhwng Casnewydd a Glynebwy yn cael eu hailgyflwyno yn 2021. Ac mae hyn yn newyddion gwych i'm hetholwyr i yn Islwyn, yn Nhrecelyn, Crosskeys a Rhisga. Caewyd y cyswllt i deithwyr ym mis Ebrill 1962, yn dilyn adroddiad enwog Beeching. Felly, Prif Weinidog, beth yw'r cynnydd presennol ar y gwasanaeth bob awr rhwng Glynebwy, drwy Islwyn, i Gasnewydd, pryd y bydd yn dechrau, a, Phrif Weinidog—[Torri ar draws.] Clywaf sylwadau i'm chwith. Beth mae'r cyhoeddiad y bydd pob gorsaf reilffordd yn Islwyn yn derbyn cyfran o'r £194 miliwn o fuddsoddiad gan Trafnidiaeth Cymru, sy'n dangos ymrwymiad Llafur Cymru yn ei wneud i wella'n sylweddol y profiad i gymudwyr rheilffordd Islwyn? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, diolch i Rhianon Passmore am dynnu sylw, unwaith eto, at y gwelliannau sydd ar eu ffordd i ddinasyddion sy'n byw yn Islwyn, ac mae'r ffaith ein bod ni wedi ymrwymo i ddarparu cysylltiadau rheilffordd uniongyrchol rhwng Casnewydd a Glynebwy, yn rhan o fasnachfraint newydd Cymru a'r gororau, yn dangos, pan fydd y penderfyniadau hyn yn ein dwylo, ein bod ni'n gallu eu gwneud mewn ffordd sydd wedi ei chynllunio yng Nghymru ac sicrhau manteision i bobl Cymru. Bydd etholwyr yn Islwyn yn dechrau gweld cyflwyno trenau dosbarth 170 o fis Rhagfyr eleni. Mae'r achos busnes amlinellol ar gyfer rheilffordd Glynebwy ar y trydydd cam yn ei broses ddatblygu ac mae wedi ei hen ddatblygu. Ac o ran rhaglen gwella gorsafoedd gwerth £194 miliwn Trafnidiaeth Cymru, bydd yn golygu yn Islwyn, fel mewn mewn mannau eraill, y bydd Wi-fi am ddim, gwybodaeth newydd i deithwyr, gwell cyfleusterau cadw beiciau, glanhau trylwyr ym mhob gorsaf o dan reolaeth Trafnidiaeth Cymru, a bydd dinasyddion yn etholaeth yr Aelod yn Rhisga, Crosskeys a Threcelyn yn gweld yr holl fanteision hynny hefyd. Russell George AC: Prif Weinidog, mater sy'n codi pryder yw diffyg toiledau ar y trenau newydd sydd ar y gweill ar gyfer y rhwydwaith, sy'n gwasanaethu Islwyn a Chymoedd y De. Ac mae'n ymddangos mai'r cynnig sy'n cael ei wneud i bobl sy'n anabl, yn oedrannus neu sydd â chyflyrau meddygol yw dod oddi ar y trên i ddefnyddio toiled mewn gorsaf ac yna aros am y trên nesaf. Tybed a ydych chi'n credu bod y dull hwnnw'n dderbyniol. Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, rwyf i'n credu ei bod hi'n bwysig bod yn eglur am yr hyn yr ydym ni'n siarad amdano. Nid ydym ni'n sôn am gyffredinolrwydd trenau. Rydym ni'n sôn am drenau tram ac ar hyn o bryd, y cynnig yw cyflwyno trenau tram ar y rheilffyrdd hynny gan y byddan nhw'n darparu mynediad at lawer mwy o gymunedau nag y mae'r system bresennol yn gallu ei wneud. Bydd tramiau yn gallu mynd ar y ffordd, cyrraedd mannau na all y system bresennol eu cyrraedd a byddant yn cynyddu mynediad at y llinellau hynny, nid ei gyfyngu. Nawr, mae Trafnidiaeth Cymru wedi edrych ym mhob man o amgylch y byd i weld a oes modd caffael trenau tram newydd sydd â chyfleusterau toiled arnynt. Dim ond un lle yr ydym ni wedi gallu dod o hyd iddo yn unman yn y byd lle ceir toiled ar drên tram, ac mae'r rheini'n doiledau nad ydyn nhw'n caniatáu mynediad i bobl anabl, oherwydd os ydych chi'n gyrru trên tram, am resymau diogelwch, mae'n rhaid i'r gyrrwr allu cael llinellau golwg dirwystr o'r man lle mae'n gyrru'r trên yr holl ffordd i gefn y trên. Serch hynny, mae'r Gweinidog wedi gofyn i Trafnidiaeth Cymru barhau i weld a yw'n bosibl perswadio gweithgynhyrchydd, neu ddod o hyd i weithgynhyrchydd sy'n gallu darparu cyfleusterau toiled ar drenau tram mewn ffordd a fyddai'n osgoi'r anawsterau y mae'r Aelod wedi eu nodi. Yn y cyfamser, os edrychwch chi mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig, nid oes toiledau ar system tram Caeredin; nid— Ken Skates AC: Manceinion Fwyaf. Mark Drakeford AC: Manceinion Fwyaf. Sefais am 40 munud ddoe ar drên tanddaearol yn Llundain gyda miliynau o bobl eraill a does dim cyfleusterau toiled yno ychwaith. Yno, mae ganddyn nhw gyfleusterau toiled ar gael i chi mewn gorsafoedd a dyna'r hyn y byddwn ni'n ei wneud gyda'r trenau tram. Ond os gallwn ni ddod o hyd i ateb gwell, os gallwn ni ddod o hyd i gyflenwr sy'n gallu gwneud yr hyn yr hoffem ni ei wneud, yna dyna y gofynnwyd i Trafnidiaeth Cymru fynd ar ei drywydd. Bargeinion Dinesig yng Ngorllewin De Cymru Suzy Davies AC: 5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd y bargeinion dinesig yng Ngorllewin De Cymru? OAQ54398 Mark Drakeford AC: Diolchaf i'r Aelod am hynna. Cytunwyd i ryddhau £18 miliwn cychwynnol o gyllid bargen ddinesig gan Lywodraethau Cymru a'r DU ym mis Gorffennaf. Mae trefniadau manwl ar gyfer y ddau brosiect cyntaf yn mynd rhagddynt erbyn hyn. Rwyf i eisiau i weithrediad y fargen gyflymu, gan sicrhau twf economaidd ar draws y de-orllewin. Suzy Davies AC: Er fy mod i'n hapus iawn gyda'r ateb diwethaf yna, cwestiwn am y ddwy fargen oedd hwn mewn gwirionedd, gan fod pethau yn edrych yn dawel iawn ar gyfer ardal Pen-y-bont ar Ogwr yn fy rhanbarth i o safbwynt ochr Caerdydd. Roedd croeso mawr, wrth gwrs, i'r cyhoeddiad o'r Egin ac ardal ddigidol glannau Abertawe. Rwy'n deall gan y bwrdd y bydd yr arian yn cael ei ryddhau. Mae'r amser hwnnw'n agos iawn. Ond rwyf i hefyd yn deall na fydd yn cael ei ryddhau tan y bydd argymhellion adolygiad cyflym y ddwy Lywodraeth wedi eu cwblhau. Cwblhawyd yr adolygiad hwnnw ym mis Chwefror. Argymhellodd y dylid penodi'r hyn sy'n cael ei alw'n gyfarwyddwr rhaglen erbyn hyn. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cofio hynny. Ymddangosodd yr hysbyseb ar gyfer y swydd honno ar 20 Awst ac mae'n cau yr wythnos hon a dweud y gwir. Felly, rwy'n meddwl tybed beth mae 'agos iawn' yn ei olygu mewn gwirionedd. Mae'r rhaglen hon mor bwysig i'm rhanbarth i, Prif Weinidog. Mae'n chwarter y ffordd drwodd ar gyfer bargen bae Abertawe, a hyd yn oed ymhellach ymlaen o ran bargen Caerdydd. A oes unrhyw beth ar y cam hwn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gynyddu'r cyflymder hwnnw, fel y mae'n ymddangos bod y ddau ohonom ni ei eisiau? Mark Drakeford AC: Hoffwn gytuno â'r hyn a ddywedodd Suzy Davies. Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn awyddus iawn i allu rhoi yn nwylo'r fargen ddinesig ei hun y cyllid yr ydym ni wedi cytuno ddylai fod ar gael i ni. Roedd yr adolygiad annibynnol cyflym a gomisiynwyd ym mis Ionawr yn adolygiad ar y cyd a gomisiynwyd gan y ddwy Lywodraeth. Mae'n rheidrwydd arnom, rwy'n credu, i lynu wrth ei gasgliadau ac i sicrhau bod gan y fargen ddinesig bopeth sydd ei angen arni ar waith, gan gynnwys y cyfarwyddwr rhaglen hwnnw, fel y gall y ddwy Lywodraeth fod yn ffyddiog y bydd yr arian yr ydym ni'n ei ryddhau yn cael ei ddefnyddio'n effeithiol at y dibenion y byddwn yn ei ddarparu ar eu cyfer. Mae ein swyddogion yn gweithio'n galed gyda swyddogion y fargen ddinesig i geisio sicrhau bod yr holl ddarnau hynny o'r jig-so yno. Pan oeddwn i'n Weinidog cyllid, roeddwn i eisiau'r arian hwn o'n cyllideb ac yn nwylo'r fargen ddinesig gan ei fod yn achosi rhai problemau technegol yn y ffordd yr oeddem ni'n trin yr arian hwnnw yn ein cyfrifon. Rwy'n dal yn awyddus iawn ein bod ni'n gwneud yr hyn a allwn i gyflymu'r arian y cytunwyd arno erbyn hyn ar gyfer y ddau brosiect hynny, ond wedyn i gyflymu prosiectau eraill a all ddod o amgylch yr un trac, a gellir rhoi arian pellach, sydd wedi ei gytuno, ac yn aros, yn barod i gael ei ryddhau, at ddefnydd da ar draws rhanbarth y de-orllewin. Mike Hedges AC: Rwyf i wedi bod yn gefnogwr brwd o'r bargeinion dinesig o'r adeg pan feddyliwyd amdanyn nhw gyntaf. Rwy'n credu ym mhwysigrwydd y fargen ddinesig i'r de-orllewin. Rwy'n croesawu cefnogaeth Llywodraeth Cymru, a chyn i neb arall ddweud unrhyw beth, cefnogaeth Llywodraeth San Steffan, oherwydd nid oes ots gen i o ble y daw'r arian cyhyd â'i fod yn dod i mewn i'm hardal i. Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud yw bod y fargen ddinesig wedi dangos i ni bod angen polisi rhanbarthol yng Nghymru. A yw Prif Weinidog Cymru wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i fod â pholisi rhanbarthol yng Nghymru a all gefnogi ardaloedd fel rhanbarth y de-orllewin? Mark Drakeford AC: Diolchaf i'r Aelod am hynna, sy'n gwestiwn perthnasol iawn ar hyn o bryd o gofio'r gwaith y mae fy nghyd-Weinidog Ken Skates yn ei wneud ar ddull economaidd rhanbarthol, a bod gennym ni arweinwyr yn yr holl ardaloedd ar gyfer datblygiadau rhanbarthol erbyn hyn, yn gweithio gyda'r Gweinidog Cyllid a'r Gweinidog llywodraeth leol, yn creu'r olion traed newydd hynny, yn gwneud yr holl waith y mae ein cydweithiwr, Huw Irranca-Davies, yn ei wneud i arwain dull economaidd rhanbarthol newydd ar gyfer ariannu ar ôl Brexit. Mae angen i ni ddod â'r pethau hynny at ei gilydd, bod ag olion traed cyffredin ar eu cyfer, ac ychwanegu'r gwahanol elfennau hynny at ei gilydd mewn ffordd sy'n arwain at ddull gwirioneddol ranbarthol. Ac rwy'n llwyr gydnabod y gwaith y mae Mike Hedges wedi ei wneud i gefnogi bargen ddinesig Abertawe o'r cychwyn oherwydd yr effaith weddnewidiol y gall ei chael nid yn unig ar ddinas Abertawe, ond ar y rhanbarth cyfan y mae Abertawe yn helpu i'w harwain. Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn Mohammad Asghar (Oscar) AC: 6. Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran cyflawni amcanion strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru? OAQ54355 Mark Drakeford AC: Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae strategaethau olynol, ers 2003, wedi herio stereoteipiau traddodiadol o bobl hŷn ac wedi hybu diwylliant lle'r ydym ni'n gwerthfawrogi ac yn dathlu cyfraniad dinasyddion hŷn at bob agwedd ar fywyd yng Nghymru. Mohammad Asghar (Oscar) AC: Diolch yn fawr iawn am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae eich strategaeth ar gyfer pobl hŷn yn cydnabod bod cyfleoedd i bobl hŷn fwynhau a chymryd rhan yn eu cymuned yn dibynnu ar fynediad at drafnidiaeth. Mae'n nodi'n eglur mai un o'i ganlyniadau strategol yw galluogi pobl hŷn i gael mynediad at drafnidiaeth fforddiadwy a phriodol, sy'n eu cynorthwyo i chwarae rhan lawn mewn bywyd teuluol, cymdeithasol a chymunedol. A ydych chi'n derbyn, Prif Weinidog, bod eich cynnig i godi'r oedran cymhwyso ar gyfer tocyn bws am ddim yn gwrthdaro'n uniongyrchol â nodau eich strategaeth ar gyfer pobl hŷn? Ac a wnewch chi gytuno i gais Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru ac ailystyried y cynnig hwn, os gwelwch yn dda? Mark Drakeford AC: Wel, nid wyf i'n credu bod hwnna'n ddisgrifiad teg o'r hyn sydd wedi cael ei awgrymu ac sy'n dal i gael ei drafod a'i ddadlau. Ni fyddai unrhyw un sydd â thocyn bws rhatach, pe byddai'r gyfraith yn cael ei newid, yn colli ei hawl i'r tocyn hwnnw o dan unrhyw amgylchiadau. Mae'n rhaid i ni feddwl o leiaf am y ffordd y mae pethau o'n cwmpas yn newid, gan gynnwys y newidiadau sydd wedi eu gwneud i gymhwysedd i deithio ar fysiau am ddim ar draws ein ffin gan Lywodraeth yr Aelod ei hun. Pan gyflwynwyd tocynnau bws am ddim yn 2002, 60 oedd oedran pensiwn y wladwriaeth ar gyfer menywod a 65 ar gyfer dynion. Mae hynny wedi newid dros amser. Bydd oedran pensiwn y flwyddyn nesaf yn codi i 66. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw sicrhau bod y rhan hon o'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig yn cadw'n gyfredol â newidiadau eraill ym mywydau pobl hŷn, ac mae'n sgwrs yr ydym ni'n awyddus i barhau i'w chael gyda'r comisiynydd pobl hŷn ac eraill sy'n cynrychioli pobl hŷn yn Nghymru. Contractau Athrawon Cyflenwi David Rees AC: 7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y newidiadau i gontractau athrawon cyflenwi drwy asiantaethau ledled Cymru? OAQ54397 Mark Drakeford AC: Diolchaf i'r Aelod. Dyfarnwyd fframwaith newydd ar gyfer athrawon cyflenwi gan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ar 1 Awst a daeth yn weithredol ar 1 Medi. Ymhlith nodweddion eraill, mae'n sicrhau bod athrawon cyflenwi yn cael eu cefnogi'n briodol a bod cyfleoedd dysgu a datblygu proffesiynol ar gael iddyn nhw. David Rees AC: Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Roeddwn i'n aelod o'r pwyllgor PPIA yn y pedwerydd Cynulliad a gwnaed gwaith gennym ar waith llanw, ac un o'n hargymhellion mewn gwirionedd oedd dod ag ef yn ôl yn fewnol yn hytrach na chadw'r asiantaethau. Rwy'n sylweddoli bod Llywodraeth Cymru wedi dilyn gwahanol ddull ac wedi defnyddio'r GCC fel canllaw fframwaith. Rwy'n gwerthfawrogi'n fawr eich sylwadau ar y ffaith ei fod yno i sicrhau bod athrawon yn cael chwarae teg drwy'r broses asiantaeth. Rwyf i wedi gweld e-bost gan un o'r asiantaethau hynny, sydd wedi ennill rhai o'r fframweithiau hynny— 22 ohonynt, mewn gwirionedd, felly mae ar draws Cymru gyfan—sy'n dangos i ysgolion ffordd o fynd o gwmpas ac osgoi'r fframwaith ac yn annog ysgolion i feddwl am gyflogi athrawon allan o'r fframwaith, gan leihau'r gost ond hefyd lleihau telerau ac amodau'r athro neu athrawes unigol, ac, wrth gwrs, gwneud mwy o elw i'r asiantaeth honno. A wnewch chi edrych yn ofalus iawn ar yr holl asiantaethau hyn i sicrhau nad ydyn nhw yn osgoi'r fframwaith, eu taflu allan os ydyn nhw, yn gwbl briodol, a sicrhau bod athrawon yn cael y sylw a'r parch dyledus y maen nhw'n eu haeddu, a bod athrawon cyflenwi yn rhan o hynny? Mark Drakeford AC: Rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod ynglŷn â phwysigrwydd athrawon cyflenwi a'r ffaith eu bod nhw'n rhan hanfodol o'r gweithlu addysgu, ac, wrth gwrs, mae'r system newydd wedi ei chynllunio i gael ei monitro yn ofalus. Mae wedi bod yn weithredol ers tair wythnos yn unig, felly mae'r rhain yn gamau cynnar ac nid yw'n syndod mewn rhai ffyrdd nad yw'r llyfr rheolau llawn wedi ymsefydlu'n llwyr eto. Ond i fod yn hollol eglur, bydd GCC yn mynd ati i sicrhau cydymffurfiad llawn â'r telerau y rhoddwyd cwmnïau ar y fframwaith ar eu sail, a lle ceir unrhyw honiadau neu dystiolaeth o ddiffyg cydymffurfio yn erbyn y fframwaith, yna bydd y pethau hynny'n cael eu codi gyda'r asiantaethau, bydd rhybuddion yn cael eu cyflwyno ac, os yw'n amlwg yn y pen draw nad dim ond ymsefydlu yw hyn ond ymgais fwriadol i osgoi'r fframwaith y gwnaeth y cwmnïau hynny gais iddo gan lwyddo i gael eu rhoi ar y contract hwnnw, yna, wrth gwrs, byddant yn cael eu tynnu oddi arno. Cysgu Allan John Griffiths AC: 8. Pa gynnydd sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru i leihau nifer y bobl sy'n cysgu allan yng Nghymru? OAQ54400 Mark Drakeford AC: Diolchaf i John Griffiths am hynna. Mae un person sy'n cysgu ar y stryd yn un person yn ormod. Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu grŵp gweithredu, dan arweiniad prif weithredwr Crisis, i nodi cyfres o gamau i'w cymryd ar unwaith y gaeaf hwn i leihau cysgu ar y stryd, a disgwylir adroddiad y grŵp hwnnw ddechrau mis Hydref. John Griffiths AC: Prif Weinidog, adroddodd y Pwyllgor yr wyf i'n ei gadeirio—y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau—ar gysgu ar y stryd a gwnaeth argymhellion 18 mis yn ôl. Rydym ni'n parhau i graffu ar waith Llywodraeth Cymru o ran cynnydd, a chynhaliwyd digwyddiad gennym ni, yn wir,mewn gwirionedd, yr wythnos diwethaf a byddwn yn cynnal un arall yr wythnos hon. Cefais gyfarfod hefyd â chadeirydd y grŵp gweithredu. Ymhlith ein hargymhellion rwy'n credu bod llawer o faterion pwysig y mae'r grŵp gweithredu yn rhoi sylw iddynt, Prif Weinidog, a chredaf mai'r neges ganolog gan y pwyllgor yw ein bod ni eisiau gweld gwaith y grŵp gweithredu hwnnw a bod y gwelliannau angenrheidiol yn digwydd gyda brys a chyflymdra gwirioneddol, o gofio, fel y dywedwch, bod un person sy'n cysgu ar y stryd yn un person yn ormod, a'i fod, yn drychinebus, yn dal i fod yn broblem amlwg a difrifol iawn ar ein strydoedd. Mark Drakeford AC: Wel, a gaf i ddiolch i John Griffiths am hynny a diolch i'r Pwyllgor hefyd am eu gwaith? Darllenais yr adroddiad 'Bywyd ar y Strydoedd' pan gafodd ei gyhoeddi am y tro cyntaf, a theimlais ei fod yn gwneud cyfraniad gwirioneddol i'n dealltwriaeth o'r materion ac yn helpu i ddatblygu atebion. Yr egwyddorion a amlinellwyd yn yr adroddiad hwnnw, sef pwysigrwydd atal sylfaenol, yr angen i ailgartrefu'n gyflym pan fo digartrefedd yn digwydd, ac mai ein huchelgais allweddol yw y dylai digartrefedd yng Nghymru, lle mae'n digwydd, fod yn rhywbeth prin, am gyfnod byr ac na fydd yn digwydd eto; dyma bethau sydd wedi cael effaith wirioneddol ar ddull gweithredu polisi'r Llywodraeth byth ers hynny. Credaf y bydd y Gweinidog yn dod i'r Pwyllgor eto ar 17 Hydref. Bydd hynny, gobeithio, ar ôl i'r adroddiad gael ei gynhyrchu a bydd yn gyfle arall i'r Gweinidog a'r Pwyllgor drafod cynnydd tuag at ein huchelgeisiau cyffredin. Diolch i'r Prif Weinidog. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud ei datganiad. Rebecca Evans AC: Diolch, Llywydd. Nid oes newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, y gellir ei weld ymysg papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig. Darren Millar AC: Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar ddyfodol gwasanaeth GIG Cymru i gyn-filwyr? Mae'n cael ei werthfawrogi gan lawer o bobl, y gwasanaeth arbennig hwnnw, ac, wrth gwrs, mae cannoedd o gyn-filwyr wedi elwa ohono ers iddo gael ei sefydlu. Un o'r problemau gyda'r gwasanaeth hwnnw erioed, serch hynny, fu gallu'r gwasanaeth i ymdopi â'r gofynion arno. Buont yn ffodus iawn i sicrhau rhywfaint o gymorth grant i leihau rhai o'r amseroedd aros i bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth gan yr elusen Cymorth i Arwyr. Ond yn anffodus bydd cymorth grant yn dod i ben ymhen 12 mis ac yn amlwg, mae'r sefydliad, GIG Cymru i gyn-filwyr, yn awyddus iawn i wneud yn siŵr y gellir cael rhywfaint o barhad ar ôl hynny. Felly, tybed a gawn ni ddatganiad am yr hyn y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi capasiti'r gwasanaeth hwn y tu hwnt i gyfnod y grant, oherwydd rwy'n credu y byddai'n cael ei werthfawrogi'n fawr pe gallai Llywodraeth Cymru ychwanegu mwy o adnoddau. A gaf i hefyd ofyn am ddatganiad ar ddyfodol swyddogion cyswllt ysgolion yng Nghymru? Gwn fod Llywodraeth Cymru, yn y gorffennol, wedi darparu cyllid i gefnogi swyddogion cyswllt ysgolion drwy gyllid yr heddlu y mae'n ei ddarparu i heddluoedd. Ac, wrth gwrs, cafwyd elfen a ddaeth o ochr iechyd y cyllid er mwyn cefnogi'r gwaith ar gamddefnyddio sylweddau a wna'r swyddogion hynny. Nawr, yn amlwg, rydym i gyd yn gwybod yn ein hetholaethau ein hunain am waith gwerthfawr swyddogion cyswllt ysgolion, a deallaf mai tua £350,000 yw cost y rhain o gwmpas Cymru. Byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallai Llywodraeth Cymru gadarnhau, yn y gyllideb yn yr Hydref, y bydd yr arian hwnnw ar gael i alluogi'r swyddi pwysig hyn i barhau y tu hwnt i 1 Ebrill y flwyddyn nesaf. Rebecca Evans AC: Diolch yn fawr iawn. Byddaf yn cael sgwrs gyda'm cydweithiwr, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ynglŷn â'ch diddordeb, yn enwedig yng Ngwasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr a'r cymorth a roir iddo, ond hefyd y capasiti sydd ar gael o fewn y sefydliad hwnnw i ddiwallu anghenion cyn-filwyr. O ran swyddogion cyswllt ysgolion, gofynnwyd sut y gellid eu hadlewyrchu mewn unrhyw benderfyniadau ar y gyllideb a wneir, ai peidio. Yn amlwg, mae'n gynnar iawn yn ein hystyriaethau cyllidebol, ond rwy'n siŵr y bydd y swyddi hyn yn cael eu trafod gyda'r Gweinidogion perthnasol yn ystod y broses honno o bennu'r gyllideb. Leanne Wood AC: Rwyf eisiau codi'r problemau y mae etholwyr yn y Porth yn eu cael o ran signal ffonau symudol. Mae hyn o ganlyniad i'r tân o gwmpas mast ffôn symudol bron bythefnos yn ôl, ac nid oes signal ffôn symudol wedi bod mewn sawl ardal o gwmpas y dref ers hynny. Fel y gallwch ddychmygu, mae hyn yn achosi llawer iawn o anghyfleustra nid yn unig i unigolion, ond hefyd i fusnesau lleol. A oes unrhyw ganllawiau y gall y Llywodraeth eu rhoi i ddarparwyr ffonau symudol o ran yr arfer gorau iddynt ynglŷn ag adfer signal ffonau symudol cyn gynted â phosibl? Hefyd, a oes gan y Llywodraeth farn ynghylch pa mor hir y dylai gymryd cyn i iawndal ariannol gael ei sbarduno ar gyfer cwsmeriaid heb wasanaeth ffonau symudol? Dychrynais o weld bod ail fab y Frenhines wedi'i wahodd i fynd i gampws Prifysgol De Cymru. Er fy mod yn gredwr cadarn yn yr egwyddor fod rhywun yn ddieuog nes profir ei fod yn euog, mae'r aelod hwn o'r teulu Brenhinol wedi cael ei gyhuddo o rai troseddau difrifol iawn ac o gam-ddefnyddio ei statws. Nid ydym yn gwybod eto a fydd yn ateb y cyhuddiadau yn y llys ai peidio, ac mae llawer yn credu y bydd ei gysylltiadau â haenau uchaf y sefydliad Prydeinig yn ei gysgodi rhag y system gyfiawnder, hyd yn oed os oes achos cryf i'w ateb. Yr hyn a wyddom yw bod yr aelod hwn o'r teulu brenhinol wedi cadw ei gyfeillgarwch â phedoffiliaid drwg-enwog, Jeffrey Epstein, wedi iddo bledio'n euog i gaffael merch dan oed i buteindra. Dyma'r un Epstein y cafodd ei wraig, Sarah Ferguson, £15,000 ganddo i dalu cyflogai yr oedd arni ddyled iddo. Ymhellach, ni chafwyd unrhyw eglurhad o sut y daeth y tywysog hwn i fod mewn llun gyda'i fraich o amgylch gwasg merch 17 oed—menyw sy'n dweud iddi gael ei chaffael gan Epsteinyn ei arddegau i gael rhyw gydag ef. Yng ngoleuni #MeToo a Time's Up, dylai hyn fod yn ddigon i sicrhau nad yw'r dyn hwn yn cael ei groesawu i Brifysgol De Cymru tra bod honiadau mor ddifrifol amdano, heb unrhyw esboniad digonol. Ni ddylai'r cyhuddiadau olygu fod busnes yn parhau fel arfer. Tybed a ydych chi'n rhannu fy mhryderon ynghylch y niwed y gallai hyn ei achosi i enw da'r Brifysgol yn rhyngwladol. Pa bwysau y gall Llywodraeth Cymru ei roi i sicrhau nad yw gwesteion sydd yn y sefyllfa annymunol hon yn cael eu croesawu â breichiau agored i gampws sefydliadau dan ei gofal? Rebecca Evans AC: Llywydd, mae signal ffonau symudol, ac unrhyw iawndal, yn fater sydd heb ei ddatganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru, felly gallai hynny fod yn rhywbeth y byddai Leanne Wood yn dymuno'i godi gyda'r Gweinidog priodol yn Llywodraeth y DU. O ran yr ail fater, mae prifysgolion yng Nghymru yn sefydliadau annibynnol ac ymreolaethol, a mater i'r prifysgolion yw pwy iwahodd i'w campysau. Nid oes gan Lywodraeth Cymru lais mewn materion o'r fath. Vikki Howells AC: Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad heddiw, os caf. Yn gyntaf, ddydd Gwener diwethaf, cefais y pleser o ymweld â Fferyllfa Sheppards yn Abercynon i gael gwybod am y cynllun profi a thrin dolur gwddf newydd sy'n cael ei gynnal fel estyniad o'r cynllun anhwylderau cyffredin Dewis Fferyllfa. Mae'r cynllun arloesol hwn yn enghraifft arall o'r ffordd y gellir defnyddio fferyllfeydd cymunedol i ysgafnhau'r pwysau ar ein gwasanaethau meddygon teulu, ac fe'i cynigir ym mhob fferyllfa gymunedol yng Nghwm Cynon o fis Tachwedd ymlaen. Felly, a gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar sut mae'n cefnogi fferyllfeydd cymunedol a sut mae'n gweithio gyda nhw i'w hannog i gynnig gwasanaethau newydd, effeithiol fel y rhain, a fydd, wrth gwrs, yn arbennig o bwysig yn y misoedd nesaf wrth inni geisio lleddfu pwysau'r gaeaf? Yn ail, yr amser cinio hwn, cynhaliais ddigwyddiad galw heibio gydag UnLtd, sefydliad y DU ar gyfer entrepreneuriaid cymdeithasol, er mwyn iddynt allu dweud mwy wrth Aelodau'r Cynulliad am y gwaith a wnânt i ddod o hyd i entrepreneuriaid cymdeithasol yng Nghymru, eu hariannu a'u cefnogi—entrepreneuriaid cymdeithasol fel Janis Werrett o Anturiaethau Organig Cwm Cynon, lle mae ei gardd gymunedol, yn ogystal â hyrwyddo cynaliadwyedd, yn cynnig cyfleoedd addysgol a chyflogadwyedd. Gwn fod rhai trafodaethau eang iawn yn digwydd o fewn y sector, ond a oes modd cael datganiad gan Lywodraeth Cymru am y gwaith y mae'n ei wneud i roi cymorth i entrepreneuriaid cymdeithasol, a all, gyda'r cymorth cywir, gryfhau ein cymunedau a'n heconomi ar yr un pryd? Rebecca Evans AC: Diolch i Vikki am godi'r ddau fater pwysig hyn y prynhawn yma. O ran y cyntaf, gofynnaf i'r Gweinidog Iechyd ymchwilio i'r ffordd orau o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad ar y modd yr ydym yn cefnogi fferylliaeth gymunedol, yn enwedig ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Byddant yn chwarae rhan gwbl hanfodol yn helpu pobl i gael pigiadau ffliw, er enghraifft, ond hefyd mae llawer o bethau y gallant eu gwneud i helpu pobl i gadw'n iach ac fel y lle cyntaf i fynd iddo ar gyfer rhai cyflyrau. Felly, byddaf yn sicrhau bod diweddariad yn cael ei ddarparu ar hynny. O ran yr ail fater, diolch ichi am gynnal y digwyddiad amser cinio. Cefais y pleser o fod yno a chwrdd â mentrau cymdeithasol rhagorol sy'n gweithio yn Abertawe. Cwrddais â Phobl yn Siarad, Vibe Youth a hefyd miFuture. Rwy'n credu, drwy ddim ond siarad â'r tri sefydliad hynny, y cafwyd darlun cryf o'r ehangder o ran menter gymdeithasol a'r sector bywiog sydd gennym yng Nghymru, a gwn fod y Gweinidog Economi'n awyddus i barhau i'w ddatblygu a'i gefnogi. Mohammad Asghar (Oscar) AC: Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd ynghylch cynnal a chadw ysbytai yng Nghymru? Yn ôl adroddiad diweddar, mae'r saith Bwrdd Iechyd yng Nghymru yn wynebu bil o £260 miliwn o leiaf am waith atgyweirio ac adnewyddu brys, allan o gyfanswm bil atgyweirio o fwy na £500 miliwn. Mae'r bwrdd iechyd yn fy ardal i, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, yn un o'r ardaloedd sy'n perfformio'n well, mae angen dros £23 miliwn o atgyweiriadau brys, allan o gyfanswm o ddim ond £100 miliwn. Felly, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog ar y camau y bydd yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r mater difrifol hwn i atgyweirio ein hysbytai, i wella iechyd ein pobl, a'r ysbytai hefyd? Diolch. Rebecca Evans AC: Gallaf ddweud ar ran y Gweinidog Iechyd ein bod wedi ymrwymo dros £370 miliwn i fuddsoddi mewn prosiectau cyfalaf iechyd eleni, a £338 miliwn y flwyddyn nesaf. Mae hyn yn cynnwys dros £8 miliwn o wariant dewisol ym mhob un o'r ddwy flwyddyn ariannol hynny. Mae cyfrifoldeb ar fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd i sicrhau eu bod yn cynnal proffil risg cadarn o ofynion cynnal a chadw, a'u bod wedyn yn gallu blaenoriaethu'r gwaith o fewn hynny. Ond ynghyd â chynnal yr ystad iechyd bresennol ledled Cymru, rydym hefyd yn darparu cyllid i sefydliadau iechyd ar gyfer prosiectau seilwaith mawr a fydd yn ein galluogi i gyflawni'r weledigaeth a nodir yn y strategaeth Cymru Iachach. Mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys yr Ysbyty'r Brifysgol Grange newydd gwerth £350 miliwn, sy'n cael ei adeiladu yng Nghwmbrân ar hyn o bryd, a hefyd waith adnewyddu i ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful. Ynghyd â hyn, rydym hefyd wedi dyrannu dros £70 miliwn dros dair blynedd i gyflawni 19 o brosiectau gofal sylfaenol a chymunedol newydd ledled Cymru, sy'n allweddol ar gyfer cyflawni ein nod o ddarparu gofal yn agosach at y cartref. Bethan Sayed AC: Yr wythnos diwethaf, rhoddodd Llywodraeth Plaid Genedlaethol yr Alban sêl ei bendith i'r cyffur ffibrosis systig Orkambi, rhywbeth yr wyf fi ac eraill yn y Siambr hon, rwy'n siŵr, yn ei groesawu. Ond hefyd yr wythnos diwethaf, trydarodd Corbyn, ac rwy'n dyfynnu: 'Nid oes gan bobl â ffibrosis systig yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon fynediad o hyd at y cyffur sy'n newid bywyd #Orkambi... Rhaid i'r llywodraeth weithredu.' Wel, rwy'n gwybod nad yw'n deall datganoli'n dda iawn, ond pan ddywed 'y llywodraeth', yn amlwg, mae'n anghywir, oherwydd mae iechyd wedi ei ddatganoli. Nawr, hoffwn ddeall yr hyn y bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn ei wneud mewn cysylltiad ag Orkambi, o ystyried y ffaith bod rhai pobl yng Nghymru wedi dweud eu bod bellach yn ystyried symud i'r Alban os nad yw Orkambi ar gael yma. Yn syml iawn, ni allwn fyw mewn sefyllfa lle mae pobl yn cael eu hamddifadu o'r cyffur hwn sy'n achub bywydau. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud ar y mater penodol hwn? Rebecca Evans AC: Gwnaeth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddatganiad fis Awst am y meddyginiaethau sydd ar gael i drin ffibrosis systig, ac roedd yn glir y byddwn yn sicrhau y bydd yr holl feddyginiaethau a argymhellir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal a Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan ar gael o fewn 60 diwrnod i'w hargymhelliad cyntaf, a byddwn yn sicrhau bod pob meddyginiaeth ar gael lle mae eu costau yn adlewyrchu'n briodol eu buddiannau. Er mwyn penderfynu a yw hynny'n wir am Orkambi a Symkevi, mae'n ofynnol bod Vertex Pharmaceuticals yn ymgysylltu â'n proses arfarniadau meddygol ni sy'n cael ei chydnabod yn rhyngwladol. Ond ers 2016, rydym dro ar ôl tro wedi gwahodd Vertex Pharmaceuticals i ymgysylltu â ni yn y broses arfarnu honno, ac maent wedi ymrwymo i wneud hynny, ond hyd yn hyn, nid ydynt wedi gwneud hynny, ac mae Llywodraeth Cymru yn eu hannog yn gryf i wneud cyflwyniad ar frys. Huw Irranca-Davies AC: A fyddai modd i mi ofyn am ddatganiad neu ddadl ar dri mater pwysig, yn gyntaf ar fater gwrthsefyll ac ymateb i lifogydd? Unwaith eto, mae rhannau o Aberogwr a sawl rhan o Gymru wedi cael eu boddi dros nos, a dyma batrwm y gwelwn fwy a mwy ohono yn y blynyddoedd i ddod, diolch i'r newid yn yr hinsawdd a pha mor gyffredin yw arwynebau caled, anhydraidd yn ein cymunedau? Felly, byddai croeso i ddatganiad ddangos beth arall all Llywodraeth Cymru ei wneud i hyrwyddo draenio cynaliadwy, gwaith partneriaeth ar fforymau llifogydd, a hefyd, rhaid imi ddweud, gyfle i ganmol gwaith gweithwyr a chontractwyr cynghorau lleol, a hyd yn oed gynghorwyr lleol yn unigol, sydd wedi bod yn torchi eu llewys i helpu trigolion y mae erchyllterau llifogydd wedi effeithio arnynt heddiw. A gaf i ofyn hefyd am ddatganiad neu ddadl ar anemia dinistriol? Yn dilyn cynnal derbyniad yma yn y Senedd yn gynharach eleni, un yr oedd llawer o gyd-Aelodau'n bresennol ynddo, bûm mewn cyfarfod y penwythnos hwn o grŵp cymorth Pen-y-bont ar Ogwr ar anemia dinistriol i glywed am y problemau parhaus gyda diagnosis hwyr, profion annigonol, cyngor anghyson, a'r angen am hyfforddiant meddygon teulu ac arbenigwyr gofal iechyd, a'r diffyg canllawiau clinigol a mwy. Bydd yr effeithiau aruthrol ar yr unigolyn a'r costau enfawr i'r gymdeithas yn sgil anemia dinistriol na chafodd ei drin ac sydd heb ei reoli yn enfawr, o gofio bod gan hyd at 350,000 o bobl yng Nghymru lefelau isel o B12. Felly, a gawn ni ddadl neu ddatganiad i ymchwilio ymhellach i'r gwaith y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i arwain wrth fynd i'r afael ag anemia dinistriol yng Nghymru? Yn olaf, ymunodd y Prif Weinidog, y Gweinidog teithio llesol a llawer o Aelodau'r Cynulliad â'n grŵp teithio llesol trawsbleidiol yr wythnos diwethaf wrth inni arddangos, gyda chefnogaeth nextbike, Raleigh, ICE Trikes, Pedal Power a Chyngor Caerdydd, rai o'r e-feiciau newydd gorau a'r potensial ar gyfer trawsnewid teithio. Roedd hyn nid yn unig ar gyfer dinasoedd ond mewn ardaloedd gwledig hefyd, gan helpu pobl i symud o'u ceir a defnyddio dulliau teithio mwy cynaliadwy. Mae'n deg dweud bod Aelodau'r Cynulliad wedi cael tipyn o hwyl hefyd, gan wibio o amgylch y cwrt y tu allan i'r Senedd. Byddai dadl yn caniatáu inni archwilio'r ffyrdd y gallai Llywodraeth Cymru helpu ymhellach i hybu'r sector hwn sy'n tyfu'n gyflym, o leiaf drwy brynu'n gorfforaethol—a gwn y bydd y Llywydd yn gwrando—fel y gallai gweision sifil a Gweinidogion eu hunain elwa o'r drafnidiaeth drefol gyflym, ecogyfeillgar hon o amgylch Caerdydd, a hefyd iofyn i'r Gweinidogion a yw cronfa grant beiciau eCargo'r DU gyfan, sy'n cael ei chynnal gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni ar gyfer yr Adran Drafnidiaeth, ar gael yng Nghymru hefyd a sut y gall pobl gael mynediad i'r gronfa honno . Rebecca Evans AC: Diolch ichi am godi'r materion hynny. Roedd y digwyddiad a noddwyd gennych ar gyfer e-feiciau yn sicr yn edrych yn hwyl. Rwyf wedi gweld rhai o'r lluniau ac roeddwn yn meddwl ei fod yn ffordd wych o ddangos manteision e-feiciau a pha mor hygyrch y gallant fod a pha mor hyblyg y gallant fod hefyd. Gwn fod Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi gofyn i swyddogion edrych ar botensial e-feiciau a modelau trafnidiaeth tebyg a sut y gallant fod o fudd i deithio llesol fel rhan o'n strategaeth drafnidiaeth i Gymru, a gwn y byddai'n awyddus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am y darn arbennig hwnnw o waith.FootnoteLink Mae Gweinidog yr Amgylchedd wedi dweud y byddai'n hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y gwaith sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â llifogydd a'u hatal,FootnoteLink ond hefyd, fe gredaf, mae angen inni gydnabod y gwaith pwysig y mae aelodau lleol o'r gymuned yn ei wneud, y cynghorau cymuned, cynghorau tref a chynghorwyr, wrth ymateb i ddigwyddiadau o lifogydd, gan fod y gwaith a wnânt, yn anochel, bob amser yn eithriadol o bwysig i'r bobl hynny y mae llifogydd wedi effeithio arnynt. Yn ystod oes y Llywodraeth hon, byddwn yn buddsoddi dros £350 miliwn mewn rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol ar draws Cymru gyfan. Ar hyn o bryd, mae gennym ymgynghoriad ar strategaeth ddrafft newydd ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru. Mewn gwirionedd, dim ond yn ddiweddar iawn y mae hyn wedi gorffen a bydd y Gweinidog yn ystyried yr ymatebion hynny, gyda golwg ar gyhoeddi strategaeth newydd yn 2020. Felly, rwy'n siŵr y bydd hynny'n ennyn yr ymatebion priodol wrth inni symud tuag at hynny. A gwn y byddai'r Gweinidog Iechyd yn croesawu'r cyfle i roi datganiad ysgrifenedig i'r Aelodau am y gwaith presennol sy'n mynd rhagddo ar draws y GIG ar anemia dinistriol. Mae'n un o'r prif feysydd blaenoriaeth a phrif flaenoriaeth y grŵp trosolwg cenedlaethol iechyd gwaed, sy'n goruchwylio cynllun iechyd gwaed y GIG. Gwybodaeth ychwanegol at y Cyfarfod Llawn (Saesneg yn unig) Gwybodaeth ychwanegol at y Cyfarfod Llawn (Saesneg yn unig) Russell George AC: Hoffwn ofyn am ddatganiad ac amser gan y Llywodraeth i gwestiynu cynigion y Llywodraeth fel y cânt eu nodi yn y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft. Cyhoeddwyd y cynigion, wrth gwrs, yn ystod mis Awst, pan oedd Aelodau'r Cynulliad ar eu toriad haf ac nid oeddent yn gallu gofyn cwestiynau ar y pryd. Rwy'n gwerthfawrogi bod y Gweinidog wedi hwyluso digwyddiad galw heibio i ACau yr wythnos diwethaf, ac roeddwn yn bresennol yno, ac rwy'n cyfarfod â'r Gweinidog ar wahân i drafod y mater. Ond mae nifer o ACau sy'n cynrychioli etholaethau lle y byddai effaith sylweddol ar y meysydd hynny o ran cynigion fel y'n nodir yn adran ynni'rFframwaith Datblygu Cenedlaethol. Cafwyd llawer o sôn am ddemocratiaeth yn gynharach heddiw. Daeth miloedd o'm hetholwyr i'r Cynulliad hwn yn ôl yn 2011 i gynnig bod Llywodraeth Cymru yn cael gwared ar ganllawiau nodyn cyngor technegol 8 a oedd yn gweld ardaloedd o Gymru yn canolbwyntio'n fawr iawn ar ddatblygiadau gwynt ar raddfa fawr yn yr ardaloedd hynny. Mae'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn gwneud yr un peth yn union, heblaw ei fod yn mynd ymhellach eto i dderbyn newid mewn tirwedd. Mae miloedd o fusnesau twristiaeth yn ddibynnol ar dirweddau'r Canolbarth ac mae miloedd o bobl yn cael eu cyflogi yn y sector hwnnw. Mae hwn yn fater pwysig y dylid ei drafod mewn gwirionedd yn y Siambr hon, a gobeithiaf y bydd y Llywodraeth yn rhoi amser i wneud hynny. Rebecca Evans AC: Diolch, Russell George, am godi mater y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol y prynhawn yma. Gwn fod y Gweinidog Llywodraeth Leol yn awyddus iawn i glywed cynifer o leisiau ag y bo modd, a chael cymaint o ymgysylltu â phosibl ar y mater hwn. Drafft yw'r fframwaith ar hyn o bryd—ymgynghorir arno tan 20 Tachwedd—ond mae'r Gweinidog wedi nodi y byddai'n fodlon cyfarfod ag Aelodau Cynulliad unigol os oes ganddynt ddiddordeb penodol yn hyn, neu er mwyn hwyluso cyfle pellach i friffio gyda swyddogion a'r cyfle i gael trafodaethau yno. Nick Ramsay AC: Trefnydd, dros y penwythnos, cefais y pleser o ymweld â Gŵyl Fwyd y Fenni, sydd bellach yn ei unfed flwyddyn ar hugain. Mae'r ŵyl yn parhau i fynd o nerth i nerth, gyda chwmnïau lleol fel cwmni Arlwyo Sugarloaf yn chwarae rhan allweddol, yn ogystal â chwmnïau o fannau eraill hefyd. Cymerais ran hefyd yng ngorymdaith Love Zimbabwe i Affrica, ynghyd â'r maer, Tony Konieczny, ac eraill, sy'n dangos amrywiaeth a chyrhaeddiad yr ŵyl. A oes modd cael yr wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru, efallai datganiad, am gefnogaeth i wyliau bwyd fel rhannau gwerthfawr o'r economi leol, ond hefyd fel dull o gyfleu neges Cymru allan yno ar y llwyfan byd-eang a chysylltu â gwledydd ar draws y byd? Gan droi at adroddiad y Ffederasiwn Busnesau Bach, a grybwyllwyd gan arweinydd yr wrthblaid yn ei gwestiynau i'r Prif Weinidog yn gynharach, mae'r adroddiad hwnnw'n tynnu sylw at yr angen i fynd i'r afael â phroblemau seilwaith lleol i helpu busnesau bychain. Mae'n ddigon posibl bod yna eisoes ddatganiad, cyhoeddiad polisi, ar y gweill gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i'r adroddiad hwnnw. Tybed a a oes modd inni gael yr wybodaeth ddiweddaraf am sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cysylltu â busnesau lleol ledled Cymru i gael eu barn ar sut y gellid blaenoriaethu materion seilwaith yn lleol er mwyn helpu i wella economïau lleol. Ac yn drydydd ac yn olaf, mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, wedi datgan argyfwng hinsawdd, yr ydym wedi clywed llawer amdano yn y Siambr hon. Mae awdurdodau lleol ledled Cymru wedi bod yn dilyn eu hesiampl. Wrth gwrs, mae angen gweithredu, nid dim ond geiriau'n unig. Felly, tybed pa gefnogaeth ac anogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i'r awdurdodau lleol a'r sefydliadau hynny sydd y tu hwnt i'r Siambr hon sy'n ceisio gwneud eu rhan i geisio atal cynnydd mewn tymheredd byd-eang yn y dyfodol. Beth yr ydych yn ei wneud i'w cefnogi? Felly, efallai y gallem gael datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd am y camau sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod gweithredu'n digwydd ar lawr gwlad ac nid dim ond geiriau a fwriedir yn dda, ond sy'n ddim mwy na geiriau wedi'r cyfan. Rebecca Evans AC: Diolch yn fawr iawn, Nick Ramsay, a diolch ichi am dynnu sylw at bwysigrwydd gwyliau bwyd i gymunedau ac i fusnesau bach, yn enwedig, rwy'n credu, o fewn ein sector bwyd ar draws Cymru. Byddaf yn gofyn i'r Gweinidog ysgrifennu atoch gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am ein cefnogaeth i'r diwydiant bwyd, ond gyda golwg arbennig ar fynd i'r afael â'r diddordeb mewn dathlu cynnyrch lleol drwy wyliau neu waith arall hefyd.FootnoteLink O ran seilwaith lleol, gwn fod gan Weinidog yr Economi a Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ill dau ddiddordeb cryf o ran sut y gallwn ymgysylltu orau â busnesau bach. Mae'r gwaith yr ydym yn ei wneud ar yr economi sylfaenol, er enghraifft, yn seiliedig mewn gwirionedd ar weithio gyda busnesau ar lawr gwlad o fewn economïau lleol, ond byddaf yn gofyn iddynt archwilio a oes mwy y gallwn fod yn ei wneud yn y maes penodol hwnnw. Ac, ar argyfwng yr hinsawdd, pan gyhoeddodd y Gweinidog yr argyfwng yn yr hinsawdd, dywedodd ei bod am iddo fod yn gatalydd ar gyfer gweithredu, felly nid dim ond yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud—gallwn wneud llawer—ond ni allwn byth fynd i'r afael ag argyfwng hinsawdd ar ein pennau ein hunain. Ac roedd a wnelo â rhoi ysbrydoliaeth i gynghorau lleol, cynghorau cymuned, cynghorau tref ac yn y blaen i fod yn gwneud yn yr un modd mewn cymunedau, ond hefyd i ysbrydoli unigolion i ymchwilio i'r hyn y gallem ni fod yn ei wneud yn wahanol yn ein bywydau ni yng nghyd-destun argyfwng yr hinsawdd. Rwy'n gwybod ei fod yn rhywbeth sy'n wirioneddol ar feddwl yr holl gydweithwyr ar hyn o bryd o ran sut y gallwn sicrhau bod y polisïau yr ydym i gyd yn eu dilyn yn rhoi ystyriaeth i'r argyfwng hinsawdd. Ond byddaf yn ystyried gyda chydweithwyr y modd gorau i gael y trafodaethau hynny gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod y math o arweiniad yr ydym am ei ddarparu'n cael ei brofi ar y lefel leol honno. Gwybodaeth ychwanegol at y Cyfarfod Llawn (Saesneg yn unig) Yn olaf, Andrew R.T. Davies. Andrew RT Davies AC: Diolch ichi, Llywydd. Trefnydd, a oes modd i mi ofyn am ddau ddatganiad, os yw'n bosibl, os gwelwch yn dda—yr un cyntaf mewn cysylltiad â'r dystiolaeth a roddwyd i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ddoe gan y Cyfarwyddwr Cyffredinol, rwy'n credu, Andrew Slade, o adran economi Llywodraeth Cymru, o ran maes awyr Caerdydd? Soniodd am ddau fater pwysig iawn. Un ohonynt yw y byddai, yn sicr ar gyfer y dyfodol, yn dibynnu ar gyllid parhaus gan Lywodraeth Cymru oni bai fod rhai penderfyniadau polisi difrifol yn cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru i newid y ffordd y mae'r maes awyr yn cael ei gefnogi. Ac yn ail, tynnodd sylw at y ffaith fod trafodaethau'n digwydd i sicrhau bod mwy o fenthyciadau ar gael i'r maes awyr i barhau i'w ddatblygu. Nid oes neb yn gwadu'r gallu i fuddsoddi i greu mynediad newydd i'r farchnad ryngwladol—rydym i gyd yn cefnogi hynny— ond o ystyried bod mwy na £100 miliwn wedi mynd i faes awyr Caerdydd—y pris prynu a'r benthyciadau hyd yn hyn—credaf ei fod yn haeddu datganiad gan y Gweinidog ynghylch pa mor ddatblygedig yw'r trafodaethau hyn, yn gyntaf ynghylch sicrhau bod arian ychwanegol ar gael i'r maes awyr ac ar gyfer beth fyddai'r arian hwnnw, ac yn ail, beth fydd safbwynt polisi blaengar Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â chefnogi'r maes awyr yn y dyfodol, o gofio bod pob argoel yn y dystiolaeth a roddwyd i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ddoe wedi nodi y bydd yn rhaid i symiau sylweddol o arian barhau i fod ar gael i'r maes awyr? Nid yw'n ddigon da ein bod ni, fel Aelodau, wrth geisio'r wybodaeth honno, yn cael clywed, 'Gwybodaeth maes awyr Caerdydd yw hon; byddant yn sicrhau ei bod ar gael i chi', ac yna byddent yn cyfeirio at sensitifrwydd masnachol, cyfrinachedd masnachol. Nid yw hynny'n ddigon da, mae arnaf ofn, felly byddwn yn croesawu datganiad gan y Gweinidog. Yr ail fater, a oes modd cael datganiad ynglŷn ag unrhyw waith gan y Llywodraeth sy'n cael ei wneud gan yr adran addysg. Gwerthfawrogaf y cyhoeddiad yn Brighton am ysgolion annibynnol, a gallwn ddadlau a dadlau ynghylch teilyngdod neu beidio, fel y bo'r achos, o ysgolion annibynnol, ond mae nifer sylweddol o ysgolion annibynnol yn fy rhanbarth i, sef Ysgol Howell, er enghraifft, Coleg Sant Ioan, ysgol Westbourne, ysgol Kings Monkton— gallwn fynd ymlaen— a ledled Cymru, mae gennych Goleg Llanymddyfri, Coleg Crist, Ysgol St Michael ac Ysgol Trefynwy, er enghraifft, a phan fydd y Llywodraeth, pe bai'n Llywodraeth Lafur—Duw a'n gwaredo—yn ceisio cymryd rheolaeth dros asedau'r sefydliadau unigol hynny, mae hynny'n fater o bryder mawr. Nawr, rwyf wedi dweud nad wyf yn sôn am rinweddau ysgolion annibynnol, nid dyna sydd dan sylw; mae hyn yn ymwneud â safbwynt polisi Llywodraeth Cymru, yn enwedig pan fydd gennych gyflogwyr sylweddol mewn economïau lleol fel yr wyf newydd grybwyll nawr, a hefyd gyfleoedd cyflogaeth sydd, yn y bôn, drwy un polisi a wnaed gan Lywodraeth Lafur y DU— petai Llywodraeth Lafur—yn gallu dileu'r busnesau hynny. Mae'n bwysig deall pa swyddogaeth sydd gan Lywodraeth Cymru yn hyn o beth, os o gwbl. Oherwydd, er fy mod yn sylweddoli bod polisi addysg wedi'i ddatganoli, mae'r gyfraith ynghylch elusennau a pherchnogaeth a pherchnogaeth tir yn fwy cyffredinol yn fater a gadwyd yn ôl ar gyfer San Steffan ac mae'r rhain yn oblygiadau pwysig y mae angen gweithio drwyddynt. Rebecca Evans AC: O ran y mater cyntaf ynghylch Maes Awyr Caerdydd ac unrhyw gymorth posibl yn y dyfodol y byddai ei angen ar y maes awyr gan Lywodraeth Cymru, credaf, yn y lle cyntaf, y dylem adael i'r PAC wneud ei waith ac yna bydd PAC yn amlwg yn adrodd yn ôl a bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i hynny . Ond rwy'n siŵr y bydd digon o gyfleoedd i drafod cefnogaeth i'r maes awyr yn y dyfodol gyda Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth. Fel y dywedwch, o ran yr ail bwynt, yn sicr mae polisi addysg wedi'i ddatganoli i raddau helaeth iawn i Gymru, felly mae ein dull ni o weithredu, yn benodol o ran ysgolion annibynnol yn y tymor byr, o ran yr hyn y gallwn fod yn ei wneud yma yng Nghymru, yn edrych yn bendant ar eu rhyddhad ardrethi elusennol. Felly, byddwch yn ymwybodol fy mod wedi ymrwymo i ymgynghori ar gael gwared ar y rhyddhad ardrethi elusennol i ysgolion annibynnol er mwyn sicrhau eu bod yn gyson ag ysgolion eraill ledled Cymru, a dylem fod yn gallu cyflwyno'r ymgynghoriad hwnnw o fewn y 12 mis nesaf. Ond dyna pa mor bell y mae'r gwaith yn y maes penodol hwnnw wedi cyrraedd ar hyn o bryd. Ac yn olaf, Mark Isherwood. Mark Isherwood AC: Diolch, Llywydd. A gaf i alw am ddatganiad ar yr Ymddiriedolaeth Ffibrosis Systig yn gyntaf? Mewn ymateb i Bethan Sayed, fe wnaethoch gyfeirio at ddatganiad gan y Gweinidog ym mis Awst. Ond cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban y gallai pobl â ffibrosis systig gael mynediad i Orkambi a Symkevi fel rhan o gytundeb pum mlynedd gyda Vertex ar 12 Medi. Felly, mae pethau wedi symud ymlaen ac yn y cyd-destun hwnnw mae'r Ymddiriedolaeth Ffibrosis Systig wedi datgan ei bod yn ymddangos bod trafodaethau rhagarweiniol wedi'u cynnal rhwng Vertex a Chanolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru gyfan gan edrych ar y posibilrwydd o wneud cyflwyniadau wythnosau a misoedd yn ôl, ond nid yw'r cyflwyniadau data i Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru gyfan wedi'u cynnal, cyn belled ag y maent yn ymwybodol. Gyda'r newyddion o'r Alban, maen nhw n dweud ei bod yn siomedig iawn nad yw'r trafodaethau hyn wedi cyrraedd y cam hwn gydag awdurdodau yng Nghymru ac maen nhw'n annog Vertex i sicrhau eu bod yn dilyn y gweithdrefnau angenrheidiol i wneud i hyn ddigwydd. Ond maent hefyd yn dweud y byddai'n ddefnyddiol iawn pe gallem sicrhau y gall y Gweinidog yn y fan hon barhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad ar gynnydd ac edrych ar yr hyn y gall ei adran ei wneud i sicrhau bod hyn yn aros ar yr agenda ac nad yw pobl â ffibrosis systig yng Nghymru'n treulio gormod o amser heb gael gafael ar driniaethau y mae eu cymheiriaid yn yr Alban yn gallu manteisio arnynt. Felly, mae'r amserlen wedi symud ymlaen, ac yn y cyd-destun hwnnw teimlaf, ar draws y pleidiau, y byddem yn croesawu'r datganiad hwnnw. Yn ail, ac yn olaf, galwaf am ddatganiad ar y llinell gymorth caethwasiaeth fodern. Ar 7 Mai, gwnaeth Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a'r prif chwip, ddatganiad ar y llinell gymorth caethwasiaeth fodern, a gynhaliwyd gan Unseen. Fel y dywedodd, mae Unseen 'yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid gan gynnwys y DU a'r llywodraethau datganoledig... yn gweithio i feithrin gwell dealltwriaeth o sut mae caethwasiaeth fodern yn effeithio ar ein cymunedau a'n pobl fel bod modd cymryd camau effeithiol ac amserol i fynd i'r afael â'r broblem.' A dywedodd: 'Mae grŵp arweinyddiaeth gwrth-gaethwasiaeth Cymru yn gweithio'n agos gydag Unseen i helpu i hyrwyddo'r llinell gymorth, sy'n ceisio cynyddu lefelau adrodd ac wedyn yn arwain at nodi mwy o ddioddefwyr, eu hachub, a lle bo modd erlyn troseddwyr. ' Fodd bynnag, mynegwyd pryderon difrifol wrthyf am y sefydliad, Unseen, a'r llinell gymorth. Er iddo dderbyn £2 filiwn mewn dwy flynedd, mae'n ymddangos, heb gael cyllid ar frys, fod bygythiad gau'r llinell gymorth erbyn hyn. Yn wir, mae eu gwefan— rwyf wedi gwirio hyn y bore yma—yn dweud: 'ACHUBWCH LINELL GYMORTH CAETHWASIAETH FODERN Y DU. Heb gyllid brys bydd yn cau ar 30ain Tachwedd'. A hefyd, ddoe, yn y North Wales Chronicle, darllenwn fod y sefydliad masnachu mewn pobl wedi gweld cynnydd yn y nifer o ddioddefwyr posibl, gan gynnwys 70 o ddioddefwyr posibl a gofnodwyd gan Heddlu Gogledd Cymru yn y 12 mis hyd at fis Mehefin—dyna gynnydd sylweddol ar y 12 mis blaenorol. Ond mae hi wedi rhybuddio—neu maen nhw wedi rhybuddio—bod cyfran y bobl sy'n mynd i mewn i'r mecanwaith atgyfeirio cenedlaethol, ac sydd wedyn yn cael eu cydnabod fel rhai sydd wedi cael eu masnachu, wedi aros yn ei unfan. Dim ond tua 7 y cant o'r achosion yr ymchwiliwyd iddynt sy'n mynd ymlaen i Wasanaeth Erlyn y Goron, dim ond tua 1 y cant gaiff iawndal, a dywed, efallai yn fwyaf dychrynllyd, nad oes gan y Llywodraeth, y ddwy Lywodraeth, mae'n debyg, yng nghyd-destun datganiad y Gweinidog yn y gorffennol, ddim syniad beth sy'n digwydd i'r miloedd o ddioddefwyr pan fyddant yn gadael y mecanwaith atgyfeirio cenedlaethol. Mae hwn yn amryfusedd dychrynllyd. Unwaith eto, galwaf am ddatganiad brys yn y cyd-destun hwnnw, lle mae'r llinell gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn cyfrannu ati, ac yn dibynnu arni, ar fin cau. Rebecca Evans AC: Diolch. I'ch sicrhau chi bod y Gweinidog Iechyd yn eiddgar i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r holl Aelodau am faterion sy'n ymwneud â'r meddyginiaethau sydd ar gael ar gyfer trin ffibrosis systig, yn dilyn y datganiad a wnaeth ef y mis diwethaf, ac i fod yn glir unwaith eto ein bod ni'n annog Vertex Pharmaceuticals yn daer i ymgysylltu â phroses arfarnu Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan a gwneud y cyflwyniad hwnnw ar fyrder. Ond, cyn gynted ag y bydd rhagor i'w adrodd am hynny, rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog Iechyd yn awyddus iawn i wneud hynny. Mae'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip wedi clywed yr hyn a ddywedasoch am eich pryderon o ran llinell gymorth caethwasiaeth fodern, ac fe fydd hi'n siŵr o fynd ar ôl yr hyn yr ydych chi wedi ei ddweud.FootnoteLink Gwybodaeth ychwanegol at y Cyfarfod Llawn (Saesneg yn unig) Diolch i'r Trefnydd. Cynnig i Ddyrannu Cadeirydd Pwyllgor i Grŵp Plaid Y mater nesaf yw'r cynnig i ddyrannu Cadeirydd pwyllgor i grŵp plaid, a dwi'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol—Rebecca Evans. Cynnig NDM7146 Elin Jones Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.2A, yn cytuno mai'r grŵp gwleidyddol y caiff y cadeirydd pwyllgor ei ethol neu ei hethol ohono fydd fel a ganlyn: (i) Y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad—Llafur. Cynigiwyd y cynnig. Rebecca Evans AC: Yn ffurfiol. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Os na, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, felly. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 3. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Y Rhaglen Tai Arloesol—Blwyddyn 3 Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar y rhaglen tai arloesol yn ei thrydedd blwyddyn, a dwi'n galw ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i wneud ei datganiad—Julie James. Julie James AC: Diolch, Llywydd. Rwy'n falch iawn o allu briffio'r Aelodau ar drydedd flwyddyn y rhaglen tai arloesol. Ni allwn anwybyddu maint yr heriau sy'n ein hwynebu ni o ran tai. Nid ydym yn adeiladu digon o gartrefi, rydym yng nghanol argyfwng hinsawdd y mae'n rhaid i ni weithredu ynglŷn ag ef, mae ein poblogaeth yn heneiddio, ac mae sgiliau traddodiadol adeiladu tai yn prinhau. Mae'r rhaglen tai arloesol yn nodi ac yn arbrofi datrysiadau i'r problemau hyn. Mae'n ysgogi'r gwaith o gynllunio a darparu cartrefi newydd, fforddiadwy o ansawdd uchel drwy fodelau newydd ym maes tai, llwybrau cyflenwi newydd a thechnegau adeiladu newydd. Mae Cymru ar flaen y gad o ran arloesi ym maes tai, creadigrwydd a meddylfryd newydd. Sut wyf i'n gwybod hyn? Yn gyntaf, mae'r rhaglen wedi gweld gordanysgrifio enfawr. Mae hon yn drydedd flwyddyn sy'n torri record, gyda 52 o geisiadau i'r rhaglen gan gymysgedd o sefydliadau yn y sector cyhoeddus a phreifat. Rwyf wedi cael ceisiadau yn ystod y flwyddyn hon sy'n gwneud swm o dros £230,000,000. Daeth Joyce Watson i’r Gadair. Julie James AC: Yn ail, mae ansawdd y ceisiadau wedi bod yn drawiadol. Mae dewis pa gynlluniau i'w hargymell ar gyfer cyllid wedi peri cryn benbleth i'r panel annibynnol. Ac o'r diwedd, rwyf wedi cyfarfod â llawer o sefydliadau ledled Cymru ers imi lansio rhaglen y flwyddyn hon ym mis Chwefror, y mae pob un ohonyn nhw'n awyddus i gymryd rhan yn y rhaglen tai arloesol. Trawiadol iawn yn fy ngolwg i oedd eu medrau nhw, eu brwdfrydedd a'u mentergarwch pur i geisio gweithio gyda ni i weld pa fath o gartrefi y gallem ni ac y dylem ni fod yn eu codi. Yn wir, mae cymuned y rhaglen tai arloesol wedi tyfu eleni i gynnwys dros 300 o fusnesau. Mae digwyddiadau rhaglen tai arloesol rheolaidd wedi cael eu cynnal ledled Cymru i daenu'r hyn a gafodd ei ddysgu yn sgil blynyddoedd blaenorol y rhaglen. Bu'r digwyddiadau hyn yn boblogaidd tu hwnt, gan annog trafodaethau ysgogol a syniadau ffres, yn ogystal â grymuso ac ehangu rhwydweithiau proffesiynol a threfniadol ymysg pobl o'r un anian ar gyfer dod at ei gilydd i ystyried yr hyn sy'n bosibl. Mae cydweithrediad yn allweddol. Ni all sefydliad unigol ddatrys pob un o'r materion yr ydym ni'n eu hwynebu ar ei ben ei hun. Felly, mae meithrin cymuned y rhaglen tai arloesol wedi bod yn flaenoriaeth y flwyddyn hon, ac rwy'n falch iawn o weld y cydweithio sy'n dod i'r amlwg. Mae enghreifftiau yn cynnwys cyfuno adnoddau sefydliadol i ddiddymu tlodi tanwydd, adeiladu cartrefi di-garbon, ac arbrofi o ran dulliau newydd o adeiladu cartrefi, y gellir eu hôl-osod wedyn ar rai sy'n bodoli eisoes. Mae swm ac ansawdd y ceisiadau yn dangos bod pobl yn hysbys bod Cymru yn agored i fusnes, a bod y Llywodraeth hon yn croesawu sefydliadau blaengar sydd yn awyddus i helpu i fynd i'r afael â'r heriau sy'n ein hwynebu ni fel cenedl o ran tai. Mae'r Llywodraeth yn awyddus i weithio gyda'r rhain yn y farchnad a'r sectorau fforddiadwy i ddarparu'r cartrefi sydd eu hangen arnom ni. Rwy'n dymuno gweld tai yn cael eu hadeiladu yng Nghymru gan ddefnyddio'r dulliau newydd hyn, ac rwyf hefyd yn dymuno gweld y cadwyni cyflenwi a'r swyddi newydd sy'n dod yn sgil y dulliau newydd hyn yn cael eu creu yng Nghymru. Ac wrth gwrs, Llywydd dros dro, fe ddylwn i ddiolch i'm rhagflaenwyr, sef Rebecca Evans a Carl Sargeant. Roedd ganddyn nhw'r dewrder i greu'r rhaglen tai arloesol ar gyfer chwilio am ddulliau newydd o adeiladu tai fforddiadwy yng Nghymru. Mae ariannu arloesedd, yn ei hanfod, yn golygu risg. Roedd ganddyn nhw'r weledigaeth i gydnabod, er na fyddai pob cynllun a gafodd ei ariannu yn golygu datrysiad i'r dyfodol, mai dim ond trwy groesawu ac annog y sector i feddwl yn greadigol y byddem ni'n dod o hyd i ddulliau newydd graddadwy. Yn y drydedd flwyddyn hon, roeddwn i'n awyddus i wthio'r rhaglen ymhellach a gosod y safon yn uwch byth. Rwy'n dymuno gweld mwy o gartrefi fforddiadwy yn fwy cyflym. Felly, fe roddais i her i'r sector i gyflwyno cynlluniau a oedd yn uwchraddio'r cynlluniau profi yr oedd y Llywodraeth hon wedi buddsoddi ynddyn nhw yn y gorffennol. Fe ofynnais i am gynlluniau ar raddfa eang, ac mae'r sector wedi dod i'r adwy. Bydd maint cyfartalog y cynlluniau a ariennir yn treblu rhwng ail a thrydedd flwyddyn y rhaglen. Fe heriais i'r sector i roi cartrefi sydd bron yn ddi-garbon i mi, ac unwaith eto, maen nhw wedi ymateb yn rhagorol gyda nifer o gynlluniau sy'n ennill Tystysgrif Perfformiad Ynni lefel A o leiaf. Yn olaf, fe heriais i'r sector i gyflwyno cartrefi sydd wedi'u dylunio'n hyfryd, i helpu i greu cynefin hyfryd. Unwaith eto, maen nhw wedi cwrdd â'r her hon. Mae gan y rhaglen hon ddyluniadau hyfryd, ac rwy'n edrych ymlaen at ymweld â nhw pan fydd y cynlluniau wedi cael eu trawsnewid yn frics a morter, neu, yn gynyddol gyffredin, yn ddeunyddiau a dulliau adeiladu newydd sy'n gwireddu'r cynlluniau. Mae rhaglen tai arloesol wedi buddsoddi erbyn hyn mewn 55 o gynlluniau i adeiladu tai cymdeithasol a chartrefi fforddiadwy. Mae'r cynlluniau a gyhoeddais heddiw yn golygu bod £33 miliwn arall o gyllid yn cael ei fuddsoddi, sy'n golygu y bydd gwaith yn dechrau ar 600 o gartrefi newydd y flwyddyn hon—cartrefi newydd y mae angen dirfawr amdanyn nhw, i'r rheini sydd â'r angen mwyaf. Rwy'n falch iawn hefyd o weld cynlluniau yn cael eu cyflwyno o 19 ardal awdurdod lleol unigol ledled Cymru. Mae hyn yn dangos bod mwy o barodrwydd ac awydd i newid yn y sector yn y rhan fwyaf o ardaloedd Cymru. Rwy'n ymwybodol bob amser, er bod adeiladu mwy o gartrefi yn hanfodol, mai'r hyn sy'n bwysig yw'r dull o'u hadeiladu nhw. Nid mater o rifyddeg yn unig mo hyn. Mae'r rhaglen hon wedi ymrwymo i gefnogi busnesau bach a chanolig yng Nghymru, diwydiant pren Cymru, cadwyni cyflenwi lleol a ffynonellau o lafur lleol. Drwy'r buddsoddiad hwn, ein nod ni yw adeiladu cartrefi y bydd cenedlaethau'r dyfodol yn diolch o galon inni amdanyn nhw. Gyda golwg yn gadarn ar y dyfodol y mae'r ceisiadau i'r rhaglen tai arloesol yn cael eu llunio yn ôl ymrwymiadau i lesiant cenedlaethau'r dyfodol. Bydd rhestr lawn o gynigwyr llwyddiannus yn cael ei chyhoeddi cyn bo hir, ond fe roddaf ragflas ichi o'r rhai y byddaf i'n eu cefnogi wrth fwrw ymlaen. Bydd Cymdeithas Tai Clwyd Alyn yn cael ei hariannu i adeiladu 76 o gartrefi yn Rhuthun yn y Gogledd. Gallai'r rhain fod y cyntaf yn y DU i ddarparu carbon net sero oes gyfan, gydag ynni adnewyddadwy yn gwrthbwyso effaith carbon y cynhyrchu a'r adeiladu. Bydd gan gartrefi bympiau gwres ffynhonnell aer, pŵer solar a batris deallus, ac fe amcangyfrifir y bydd costau gwresogi a goleuo yn llai na £80 y flwyddyn i'r deiliaid. Fe fyddaf i'n ariannu dau safle a ddatblygir gan Gymdeithas Tai Sir Fynwy yng Nghas-gwent i lunio 17 eiddo ar gyfer pobl sy'n symud i gartrefi llai a phreswylwyr am y tro cyntaf y gallai eu teuluoedd nhw ehangu. Bydd gan y cartrefi gyfleoedd fel rhan o'u dyluniad i ychwanegu ystafell wely arall i greu hyblygrwydd gydol oes, fel y gall cartrefi dyfu ac addasu i bobl yn heneiddio a phoblogaethau sy'n newid. Rwy'n teimlo'n llawn cyffro ynghylch cynllun Cartrefi Conwy i ddarparu 32 o gartrefi di-garbon mewn dau safle gan ddefnyddio dull adeiladu Beattie Passive gyda'r tai fframiau pren yn cael eu hadeiladu oddi ar y safle. Mae'r cynllun hefyd yn dangos normaleiddio'r arloesedd a gefnogwyd yn flaenorol, i lefel na fydd angen cefnogaeth y rhaglen tai arloesol mewn cyfnod byr o amser. Nid wyf i'n credu y dylai deiliadaeth eiddo fod yn amlwg o'r tu allan i'r cartref, ac nid wyf i'n gweld unrhyw reswm pam na ddylai cymunedau fod yn wirioneddol gymysg. Rwy'n falch o ariannu Cyngor Caerdydd, yn ogystal â Sero Homes, i adeiladu 214 o gartrefi carbon isel, cymysgedd o dai cyngor a chartrefi i'w gwerthu ar y farchnad agored yn Nhredelerch—pob un wedi cael ei ddylunio yn hyfryd, wrth gwrs. Yn ogystal â chyllid cyfalaf, rwyf wedi neilltuo swm bychan o gyllid refeniw. Mae Yellow Sub Geo yn cynnig datblygu offeryn sgrinio dichonoldeb. Bydd hyn yn nodi ac yn blaenoriaethu'r potensial i ddefnyddio ffynonellau ynni a gwres carbon isel drwy'r holl amrywiaeth yn y dirwedd, y tywydd, y ddaeareg a'r hydroddaeareg sydd yng Nghymru. Bydd y dull hwn yn galluogi defnyddwyr i wneud penderfyniadau mwy hyddysg ynghylch defnyddio a phenderfynu ar ddewisiadau ynni carbon isel a gwres sydd ar gael mewn ardal arbennig. Bydd hwn yn offeryn sgriniodigidol, y gellir ei ddefnyddio drwy ryngwyneb defnyddiwr gwe, a fydd yn ffynhonnell agored ac yn rhad ac am ddim i'r defnyddwyr. Caiff ei gynnal gan endid nid-er-elw, sy'n golygu mai ei brif bwrpas yw ennyn newid cymdeithasol ac amgylcheddol. Creu cymunedau sy'n wirioneddol gymysg yw'r her i ni, gyda rhagor o gartrefi sy'n wirioneddol fforddiadwy. Ac mae angen gweithredu nawr os ydym eisiau ymdrin â'r hinsawdd a'r newidiadau yn y ddemograffeg sydd gyda ni eisoes. Mae'r drydedd flwyddyn hon o'r rhaglen tai arloesol yn dangos bod atebion i lawer o'r heriau hyn ar gael ar hyn o bryd. At hynny, mae'r ymateb hynod gadarnhaol i'r rhaglen gan gymdeithasau tai, awdurdodau lleol a busnesau bach a chanolig preifat yn dangos nad fi yw'r unig un sy'n barod i wneud pethau yn wahanol—nid wyf ar ben fy hun o ran bod yn barod i gymryd mwy o risgiau, a bod â'r ewyllys a'r uchelgais i adeiladu mwy ac adeiladu'n well. I'r perwyl hwn, rwyf wedi gofyn i swyddogion ailedrych ar y ceisiadau ar gyfer y rhaglen tai arloesol y flwyddyn hon, a gweithio ar draws portffolios Gweinidogol, i weld pa gymorth y gellir ei roi i geisiadau na chafodd gyllid gan y rhaglen tai arloesol y tro hwn, ond a fyddai'n gallu helpu'r Llywodraeth hon i gyflawni ein blaenoriaethau tai. Rwy'n bwriadu bod y cartrefi a gaiff eu hadeiladu yn sgil y rhaglen tai arloesol heddiw yn dod yn gartrefi arferol ar gyfer y rhai sy'n derbyn grant tai cymdeithasol, a ffynonellau eraill o gyllid gan y Llywodraeth, yn y dyfodol. Bydd y rhai y gellid eu hystyried yn ddulliau gwreiddiol ar hyn o bryd yn cael eu hystyried yn brif ffrwd. Byddwch yn dawel eich meddwl: bydd buddsoddi'r £33 miliwn hwn heddiw yn helpu i fwrw ymlaen â chartrefi o ansawdd uchel yn y dyfodol a'u prif ffrydio. Diolch. David Melding AC: Ers dechrau'r rhaglen hon, dair blynedd yn ôl, rwyf wedi bod yn awyddus i'w chymeradwyo; mae hwn yn ddull da o weithredu, yn fy marn i. Rwy'n credu ein bod ni'n nesáu at yr amser pan fydd eisiau inni asesu rhywfaint ar y prosiectau hynny sydd wedi cael cymorth hyd yn hyn, yn benodol i ystyried ymhle mae'r datblygiadau arloesol wedi cael eu normaleiddio, neu eu dwyn i'r farchnad, neu eu cynhyrchu ar raddfa fawr. Oherwydd, fel y dywedodd y Gweinidog, dyna'r amcan gwirioneddol yma. Ond, yn y datganiad, rwy'n croesawu'n arbennig y ffaith bod gormod o geisiadau—credaf fod hynny'n arwydd da iawn; ansawdd y ceisiadau; mynd o gwmpas ac ymweld â gwahanol gynlluniau tai a'r hyn sy'n digwydd yn y sector—rwy'n gallu gwerthfawrogi hynny'n fawr iawn; mwy o gynlluniau ar raddfa fawr; ac ansawdd y dylunio. Rwy'n falch bob amser pan fydd pobl yn defnyddio geiriau fel 'hyfryd' i ddisgrifio adeiladau, oherwydd rwy'n credu mai dyna'r hyn y mae'n rhaid i ni anelu ato. Mae gennyf i ddau bwynt pwysig i'w gwneud, serch hynny. Rwy'n ofidus nad ydym yn moderneiddio'n ddigon cyflym o ran adeiladu modiwlar. Er bod argraffu 3D yn brin o hyd, yn sicr nid yw adeiladu modiwlar yng ngweddill—wel, mewn rhannau eraill y DU, ac yn wir i raddau helaeth yng ngweddill y byd, ac nid yw'n arbennig o newydd ychwaith. Fe ddarllenais i erthygl ddoe fod Prydain yn allforio adeiladau modiwlar i Ogledd America mor gynnar â 1624—mae'n debyg eu bod nhw'n mynd i Jamestown, ac rwyf i'n gyfarwydd iawn â'r fan honno. Ond mae'r dull hwn, rwy'n credu, wedi dangos unwaith eto ei fod o ansawdd uchel, ac yn wirioneddol ragorol o ran cyflymder y cyflenwi, dim ond o ran adeiladu tai drwy'r dull hwn o'i gymharu â dulliau traddodiadol. Mewn rhai gwledydd, dyna'r safon gyffredin erbyn hyn. Yn Sweden, mae 84 y cant o dai sengl yn defnyddio elfennau o bren a weithgynhyrchwyd; mae hynny'n cymharu â dim ond 5 y cant yn y DU. Eto i gyd, mae'r mathau hyn o adeiladau yn well i'r amgylchedd, yn rhatach, yn amlygu llawer llai o ddiffygion, ac maen nhw'n addas hefyd i'r math o harddwch yr oedd y Gweinidog yn sôn amdano, ac maen nhw'n debyg i'r rhai a welwn yn aml mewn rhaglenni teledu fel Grand Designs. Felly, rwy'n credu bod hynny'n wirioneddol, wirioneddol bwysig. A hefyd, fe all y math hwn o dechnoleg dorri ar y biliau ynni, fel arfer, felly mae'n wych o beth. Yn ail, rwy'n awyddus i weld sut y gall y rhaglen hon uno nawr—neu o leiaf gael ei defnyddio i wella sgiliau ac addysg yn y diwydiant adeiladu. Canfu un dadansoddiad diweddar y byddai dulliau mwy modern o adeiladu yn helpu i gynyddu sgiliau ac addysg yn y diwydiant adeiladu, ac yn creu mwy o swyddi sy'n gofyn am sgiliau digidol, fel delweddu 3D a thechnolegwyr pensaernïol. Yn gynharach y mis hwn, darllenais am lansiad academi dai modiwlar gyntaf y DU, yn swydd Efrog, a grëwyd i hyfforddi pobl i weithgynhyrchu cartrefi mewn ffatrïoedd, mewn ymgais i atal yr argyfwng sgiliau adeiladu a thai yr ydym yn ei weld. Ac yn arbennig felly, os edrychwn ni ar broffil oedran pobl yn y diwydiant adeiladu, mae'n rhy uchel. Rydym yn gwerthfawrogi profiad y gweithwyr hŷn, wrth gwrs, ond mae'n rhaid gwneud y gwaith yn atyniadol i'r genhedlaeth milflwyddol, a chredaf fod arloesedd ac adeiladu modiwlar yn digwydd yn aml mewn ffatri lle mae yna ddigon o le a chysur i weithio, felly mae'n ddelfrydol yn y gaeaf. Mae pawb ar eu hennill. Rwy'n wir yn credu bod hon yn rhaglen dda, ac mae'n dangos yr hyn y gallwn ei gael allan o Lywodraeth pan fydd rhywbeth yn cael ei wneud yn iawn. Ond, fel ym mhob achos, mae yna ffordd o wella gwaith sydd wedi cael ei ddechrau'n dda, ac rwy'n cynnig yr awgrymiadau hynny. Julie James AC: Diolch yn fawr iawn i chi am hynny. Rydym yn cytuno i raddau helaeth, mewn gwirionedd. Ar y pwynt ynglŷn ag adeiladu modiwlar, ni allwn i gytuno mwy â chi. Rydym yn annog pobl i feddwl am Huf Haus yn hytrach na thai parod bob amser. Er, mewn gwirionedd, mae'r tai parod y mae pobl yn aml yn eu dilorni yn ddeniadol iawn yng ngolwg rhai, yn enwedig yn fy etholaeth i. Mae pobl yn dal i fyw mewn tai parod dros dro, sy'n gysurus iawn. Rwyf wedi gweld ffatrïoedd modiwlaidd bychan da iawn o gwmpas Cymru. Rydym yn eu cefnogi yn eu hymdrechion. Rwy'n awyddus iawn ein bod ni'n sicrhau bod y diwydiant hwn yn parhau'n addas at ddibenion Cymru gyda chadwyni cyflenwi a modelau i gyflenwi a darparu sy'n garbon isel, y cyfan o Gymru. Felly, gan hynny, rydym yn awyddus iawn i gael Cymru sy'n frith ohonyn nhw i wasanaethu'r cymunedau lle maen nhw'n adeiladu'r tai ac nid wedi cael eu canoli mewn ffatri enfawr. Rwy'n awyddus iawn bod yr adeiladwaith modiwlar, cyn belled ag y bo'n bosibl, yn niwtral o ran carbon a chyda chadwyni cyflenwi o Gymru. Felly, rwy'n hynod falch ein bod ni, yn y rhaglenni tai arloesol, wedi gallu cynnwys nifer fawr iawn o brosiectau sy'n cael eu hadeiladu o bren o Gymru, er enghraifft. Felly, mae'n sefyllfa y mae pawb yn gyfan gwbl ar eu hennill ynddi. Rydym yn y broses o brif-ffrydio rhyw gymaint o hyn ac, fel y dywedais yn fy natganiad, rwy'n falch iawn o uwchraddio rhai o'r pethau a wnaethom yn y gorffennol. Rwy'n wirioneddol eiddgar nad cynlluniau peilot fydd y rhain ond sail ar gyfer prif-ffrydio. Felly, roeddwn i'n awyddus iawn i bwysleisio bod rhywbeth wedi mynd drwy'r Rhaglen tai arloesol a'i fod wedi cyflawni'r hyn y bwriadodd ei gyflawni, ac rydym wedi monitro hynny ac wedi gwneud yn siŵr ei fod yn cyflawni hynny, ac fe ddaw yn gymwys am grantiau tai cymdeithasol a chymorth arall gan y Llywodraeth ar gyfer ei wthio i mewn i'r brif ffrwd. Felly, ni allwn i gytuno mwy. Ac wrth wneud y pethau hyn i gyd, rydym yn dymuno edrych weithiau ar y sector cyhoeddus yn cynorthwyo'r sector preifat i uwchsgilio. Felly, mae'r sail gyhoeddus hon i'r buddsoddiad hwn yn ystyried y sgiliau angenrheidiol hefyd. Rwy'n cytuno'n llwyr â phopeth yr ydych chi'n ei ddweud am adeiladu modiwlar mewn ffatri. Does dim rhaid ichi adeiladu'n uchel, does dim rhaid ichi adeiladu mewn tywydd mawr, ar y safle y digwydd y cydosod yn unig, ac yn y blaen. Y mater arall pwysig yw ei fod yn llawer cyflymach, ac felly mewn gwirionedd mae gennym gryn argyfwng ger ein bron ac mae hyn yn golygu y gallwn ni gynyddu nifer a maint y tai yr ydym yn eu hadeiladu. Ac yna'r peth olaf i'w bwysleisio, er gwaetha'r ffaith eu bod nhw'n fodiwlar ac wedi cael eu cydosod mewn ffatri ac ati, maen nhw'n bodloni'r holl safonau dylunio yr ydym yn eu hystyried yn hyfryd. Ac er mai goddrychol yw peth fel yna, ceir rhai pethau sy'n gyffredin i'r rhan fwyaf o fodau dynol wrth ystyried yr hyn yw tŷ da, ac rydym yn gwybod beth ydyn nhw, ac rydym yn awyddus iawn i sicrhau bod y rhaglen yn darparu'r rhain hefyd. Rwy'n dweud yn syml iawn ein bod ni'n annog adeiladwyr ledled Cymru, yn y sector cyhoeddus ac yn y sector preifat, i adeiladu cartrefi y bydden nhw eu hunain yn falch ohonynt ac yn hapus i fyw ynddynt. Leanne Wood AC: Mae'ngalonogol gweld cynnydd mewn tai cymdeithasol yn cael ei ariannu drwy hyn. Mae gen i nifer fechan o gwestiynau i'w gofyn i chi. Tybed a wnaiff y Gweinidog amlinellu sut mae'r cynlluniau hyn yn cydblethu â datblygiadau yn y sector preifat, fel y gallwn ni osgoi creu getos. Mae'r datganiad yn awgrymu hynny, ond nid yw'n rhoi manylion ehangach, megis newidiadau i gyfraith cynllunio, er enghraifft. Felly, pryd y cawn ni fwy o fanylion am hynny? Pa wersi a ddysgwyd yn nwy flynedd gyntaf y cynllun hwn y gellir eu cymhwyso i'r dyfodol? A'r unig gwestiwn arall sydd gennyf i yw: mae rhan olaf y datganiad yn awgrymu y bydd hyn yn dod yn gwbl arferol, felly a wnaiff y Gweinidog amlinellu'r camau ar gyfer hynny? Julie James AC: Siŵr iawn. Gan weithio tua'n ôl ar hynny, o ran camau, yr hyn yr ydym yn awyddus iawn i'w wneud yw sicrhau bod y dadansoddiad dros y tair blynedd, wrth inni fwrw ymlaen, yn cael ei fwydo'n ôl i'r rhaglen ac i'r brif ffrwd. Felly, fel y dywedais i'n gynharach, pan welwn ni fod rhywbeth wedi cael ei adeiladu, mae rhywun yn byw ynddo, ac mae wedi sefyll y prawf hwnnw, ac felly mae wedi cyflawni'r hyn y bwriadwyd ar ei gyfer—felly, er enghraifft, mae'n wirioneddol niwtral o ran carbon, mae'n golygu biliau ynni sy'n wirioneddol is i bobl, ac maen nhw'n mwynhau byw yno, rydym ni'n cael adborth gan y tenantiaid sy'n mynd i mewn—. Mae rhywfaint o'r dechnoleg yn arloesol iawn. Felly, gofynnwyd i denantiaid tai cymdeithasol sy'n mynd i mewn i'r rhaglenni hyn wirfoddoli a chael rhywfaint o hyfforddiant ar sut i ddefnyddio'r pwmp gwres ffynhonnell aer ac yn y blaen. Nid ddaw hyn trwy reddf; mae'n rhaid ichi ddysgu sut i ddefnyddio'r dechnoleg ac rydym ni'n cael adborth o ran y ffordd y maen nhw wedi canfod hynny. Pan lwyddwyd i gael yr wybodaeth honno'n gyflym, ac felly y bu hi gyda rhai cynlluniau, rydym wedi bwydo'r wybodaeth honno i mewn. A dyna'r hyn yr oeddwn i'n ei ddweud am annog pobl i ddod ymlaen ar gyfer uwchraddio'r hyn y gwnaethom ni eisoes a sicrhau ei fod yn gweithio ar raddfeydd mwy. Ac mae yna rai safleoedd gwych ar hyd y lle y mae pobl yn falch iawn i'ch tywys o gwmpas a dangos ichi sut mae pethau'n gweithio. Felly, rydym ni'n awyddus iawn i gael y model prawf-ac-adborth hwnnw, ac yna ei fwydo i mewn i'n model grant tai cymdeithasol ni. Ac wrth iddyn nhwgyflwyno cynllun o'r fath, rydym ninnau'n awyddus iawn i'w ariannu drwy'r cyllid prif ffrwd arferol ac nid drwy gyllid y cynllun ffrwd arloesedd. Felly, dyna'r peth cyntaf. O ran y sector preifat, mae bron hanner y ceisiadau—23 o'r 52 o geisiadau a fu'n llwyddiannus—yn rhai sector preifat. Felly, mae hyn ledled y sectorau i gyd. Yr hyn yr ydym ni'n golygu ei wneud yw datblygu safleoedd o ddeiliadaeth gymysg, oherwydd gwyddom fod safleoedd mewn deiliadaeth unigol o unrhyw fath—y rhai sy'n berchen-feddiannaeth yn unig neu'n dai cymdeithasol yn unig neu unrhyw 'yn unig' arall—nid ydyn nhw'n gweithio. Rydym ni'n dymuno cael stadau o ddeiliadaeth gymysg. Felly, yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw annog awdurdodau cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, i ddefnyddio eu tir i hwyluso'r mathau hyn o ddatblygiadau. Roedd 'Polisi Cynllunio Cymru' yn ei fersiwn ddiwethaf, yr oedd fy nghydweithwraig Lesley Griffiths yn gyfrifol amdano ychydig cyn inni newid swyddi, a'r fframwaith datblygu cenedlaethol newydd yn sail i hynny hefyd. Ac rydym yn annog cynghorau i drafod gyda phobl sy'n cyflwyno tir preifat o fewn y cynllun datblygu lleol i sicrhau bod yna ddeiliadaeth gymysg hefyd. Felly, fe gewch chi'r sgwrs o hyd o ran nifer y tai fforddiadwy y gallai datblygwr preifat eu cyflwyno, ond rydym yn annog y sector cyhoeddus i ddod gerbron a dweud, 'A oes ffordd arall o edrych ar yr amlen gyllid ar gyfer hyn fel y gallwn ni ysgogi cyfradd wahanol o ddeiliadaeth gymysg?' Ac yna'r peth olaf yw, ac ni allaf bwysleisio hyn ddigon—fe ddywedais i'n glir yn fy natganiad—na ddylech chi allu dweud o sefyll y tu allan i dŷ beth yw ffurf y ddeiliadaeth. Felly, maen nhw i gyd yn edrych yr un fath, pawb yn byw gyda'i gilydd mewn cymuned gymysg, mewn llecyn ac nid ar ystâd. Ac ni ellir gorbwysleisio hynny. Dyna pam mae'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn bwysig hefyd, oherwydd bod hynny'n gofyn am gynllunio'r seilwaith ymlaen llaw, fel ein bod yn gwybod ymhle mae'r ysgolion a'r meddygon teulu, a gwybod ymhle mae'r gwaith, gwybod ymhle mae llwybrau'r drafnidiaeth gyhoeddus, a gwybod bod yna lwybrau beicio a cherdded i'r ysgol a phopeth o'r fath. Felly, rydym yn datblygu safleoedd enghreifftiol o amgylch Cymru. Ymwelais ag un yng Nghasnewydd yr wythnos diwethaf, ac yna rydym yn mynd â phobl eraill yno a dweud wrthyn nhw, 'Edrychwch, dyma beth allwch chi ei wneud gyda'r mathau hyn o ffrydiau ariannu', er mwyn ei brif ffrydio. Mike Hedges AC: A gaf i groesawu'n fawr ddatganiad y Gweinidog? Mae'r Gweinidog wedi nodi'r pedair her allweddol: nid oes digon o adeiladu tai i ddiwallu'r angen; yr argyfwng newid hinsawdd; poblogaeth sy'n heneiddio; a dim digon o bobl wedi eu cymhwyso yn y crefftau adeiladu. Credaf ei bod yn anffodus ein bod ni mewn rhan o'r byd heddiw lle mae'r hyn yr ydym yn sôn amdano, sy'n fater allweddol, bron yn sicr yn cael ei daflu i'r cysgodion gan ddigwyddiadau eraill, er ei fod yn effeithio'n wirioneddol ar fywydau pobl a'r bobl yr wyf i'n eu cynrychioli. A gaf i ddweud mai ansawdd yw'r peth pwysicaf, ac mae'n bwysig dysgu gwersi o hanes? Mae'r Gweinidog, fel minnau, yn cofio'r tai dur, y sment uchel alwmina, a'r adeiladau anhraddodiadol eraill nad oedden nhw'n para 25 mlynedd. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig bod yr ansawdd yno er mwyn i'r tai barhau. Fe wyddom na fydd y sector preifat yn ateb y galw am dai. Pe bydden nhw'n gwneud felly, byddai'n effeithio ar brisiau tai ac elw'r cwmni, felly maen nhw'n hoffi cadw'r galw yn uchel ac ateb y galw yn rhannol yn unig i wneud yr elw mwyaf posibl. Nid beirniadaeth ohonynt yw hynny, ond dyna'r model busnes y mae adeiladu sector preifat yn y wlad hon yn ei ddefnyddio. Mae angen mwy o dai cymdeithasol arnom ni. A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi mai'r unig ffordd i ateb y galw yw i gynghorau adeiladu mwy o dai gan ddefnyddio crefftwyr lleol ar raddfa'r 1950au a'r 1960au, sef yr unig gyfnod ers yr ail ryfel byd ac un o blith ond dau yn unig yn holl hanes y wlad pan gafodd tai eu hadeiladu ar y raddfa angenrheidiol i gwrdd â'r galw amdanynt? Ac fe hoffwn i ofyn hefyd am dai cydweithredol. Rwy'n credu bod lle i dai cydweithredol. Rydym yn wan iawn yn y wlad hon, nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y Deyrnas Unedig, ac mae'n rhywbeth sydd, mewn sawl rhan arall o'r byd, yn gwbl arferol—rhannau o'r byd sy'n amrywio o Unol Daleithiau America a Chanada i Sweden. Felly, nid yw hyn oherwydd diffyg ewyllys gwleidyddol. Ac i unrhyw un sy'n gwylio rhaglenni teledu Americanaidd, pan fyddan nhw'n yn siarad am fynd i'r co-op, yr hyn y maen nhw'n ei olygu yw'r gymdeithas tai cydweithredol. Ac mae'n anffodus nad ymddengys bod gennym y meddylfryd hwnnw ledled y wlad hon. Felly beth arall y gellir ei wneud i gynyddu nifer y tai cydweithredol sydd ar gael ym Mhrydain? Julie James AC: Rwy'n cytuno'n llwyr â dadansoddiad Mike Hedges yn hyn o beth. Yn bendant mae angen inni sicrhau bod cynghorau yn adeiladu unwaith eto ar raddfa fawr ac yn gyflym. Rydym wedi bod yn glir iawn am hynny. Rydym wedi bod yn gweithio'n galed iawn gyda'r cynghorau ledled Cymru i newid y rheolau, gan fod y cap wedi cael ei godi erbyn hyn ar y cyfrifon refeniw tai, gydag awdurdodau sy'n dal stoc dai a rhai nad ydyn nhw'n dal stoc dai, i sicrhau eu bod nhw i gyd yn defnyddio eu benthyciadau yn ddigonol i gyrraedd y cyflymdra a'r raddfa y sonia ef amdanyn nhw. Cefais i fy magu yn un o'r tai dur, fel y mae ef yn gwybod. Ni allai fy mam-gu gredu ei bod hi'n cael byw mewn tŷ gyda chegin wedi'i gosod ac ystafell ymolchi fawr a braf a digon o le a chypyrddau i roi pethau ynddyn nhw ac ati. Ac er na wnaeth y cladin sefyll prawf amser, mae'r tai yno o hyd, maen nhw newydd gael eu hailorchuddio â deunyddiau mwy modern. Mae angen inni allu gwneud yr un peth. Ond, mae angen inni hefyd gael y mathau o gyfleoedd am dai cymysg a fodolai bryd hynny. Roeddem yn adeiladu digon o dai cymdeithasol ac roedd modd i bobl a oedd yn awyddus i gael tŷ cymdeithasol gael hynny. Ac felly roedd pobl o bob cefndir yn byw gyda'i gilydd fel cymuned wirioneddol ar yr ystâd y cefais i fy magu ynddi. Dyna'r hyn yr ydym ni'n dyheu am ei gael eto. Gwyddom y gallwn ni eu helpu nhw i gael y dyhead hwnnw'nôl drwy gyfrwng deiliadaeth gymysg. Ni allwn gytuno mwy gydag ef ynghylch tai cydweithredol a chwmnïau cydfuddiannol. Mae yna nifer o fodelau ar gael ac rydym ni'n ystyried yn fanwl iawn sut y gallwn ni gefnogi datblygiad y rhain drwy ddefnyddio'r grantiau a'r benthyciadau amrywiol sydd ar gael gennym. Nid wyf yn credu ei bod hi'n ormod i'w gyfaddef, Llywydd dros dro, y bu'n rhaid i mi gael gwers mewn cyfalaf trafodion ariannol a'r defnydd ohono gan gyfarwyddwr Trysorlys Cymru, gyda chymorth Rebecca, er mwyn deall yr holl fecanweithiau ariannu amrywiol sydd gennym ni ar gyfer cynhyrchu'r mathau o fodelau cydweithredol y mae ef yn sôn amdanyn nhw. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Y peth olaf yr hoffwn ei ddweud yw hyn. Rwy'n gwybod nad oedd ef yn gallu bod yn bresennol, ond roeddwn i'n bresennol ddydd Gwener diwethaf mewn datblygiad newydd sydd gan Gyngor Abertawe yn ei etholaeth ef—roedd y ddau ohonom ni yno pan dorrwyd y dywarchen am y tro cyntaf—ac mae'n gwbl anhygoel. Mae yna ddau bwll nofio o faint Olympaidd wedi cael eu claddu yn y ddaear i grynhoi dŵr sy'n llifo drosodd pan fydd glaw trwm, fel bod modd mynd i'r afael â llygredd mewn draeniau sydd wedi eu gorlwytho. Mae yno bympiau sy'n codi gwres o'r ddaear sydd wedi'u drilio'n fertigol. Mae hwn yn safle rhyfeddol—cwbl anhygoel—ac rydym yn gwybod y bydd y trigolion yn hapus iawn yno, a dyna un o'r pethau mawr eraill. Felly, rwyf i'n cytuno'n llwyr â'r holl bwyntiau a wnaed ganddo. Caroline Jones AC: Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Mae'n hollbwysig ymdrin â'r angen dirfawr yng Nghymru am dai, yn enwedig tai fforddiadwy, ac ar yr un pryd fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, a dyna pam mae cynlluniau fel y rhaglen tai arloesol mor bwysig. Mae diffyg tai'n effeithio ar lawer iawn o fywydau ac ar ein cymunedau ni. Felly, rwy'n croesawu'r diweddariad hwn ar gynllun y Rhaglen tai arloesol. Mae'r ffaith bod cymaint o gartrefi di-garbon neu garbon isel yn cael eu hadeiladu yn newyddion ardderchog. Mae ein gallu ni i liniaru'r newid yn yr hinsawdd yn dibynnu ar leihau'r ynni sy'n cael ei ddefnyddio i adeiladu cartrefi a chadw aelwyd. Felly, mae cynlluniau fel yr un yn Rhuthun nid yn unig yn ein helpu ni i fynd i'r afael ag argyfwng ein hinsawdd, ond mae hefyd yn helpu i leihau tlodi tanwydd. Fodd bynnag, er bod yr holl gynlluniau hyn i'w croesawu, mân lwch y cloriannau ydyn nhw o'u cymharu â'r heriau sy'n ein hwynebu ni. Mae angen degau o filoedd o gartrefi fforddiadwy newydd arnom. Mae'n ymddangos bod y cynlluniau hyn i gyd yn mynd i'r afael ag anghenion o ran ynni, ond nid mewn gwirionedd o ran nifer y tai sydd eu hangen. Ond, rwy'n cydnabod bod yn rhaid i ni ddechrau yn rhywle. Felly, Gweinidog, fe ddangosodd Prifysgol Caerdydd beth oedd tai positif o ran ynni gyda thŷ Solcer bedair neu bum mlynedd yn ôl. Faint o'r cynlluniau sy'n mynd drwy gynllun y Rhaglen tai arloesol sy'n adeiladu ar ganfyddiadau Tŷ Solcer? Mae gan dai modiwlaidd y potensial i fynd i'r afael â phrinder tai yn gyflym. Trwy ddefnyddio deunyddiau arloesol a wnaed o gynhyrchion wedi eu hailgylchu, mae ganddyn nhw'r potensial hyd yn oed i dynnu carbon o'n hatmosffer a defnyddio dim carbon tra bydd rhywun yn byw ynddyn nhw. Gweinidog, a yw'r Rhaglen tai arloesol yn rhoi unrhyw bwys ar gynlluniau tai modiwlaidd? Ac os na, a fyddech chi'n ystyried buddsoddi mewn prosiectau tai modiwlar yn y blynyddoedd i ddod? Mae modd codi tai modiwlar yn gyflymac fe allai hynny fod yn allweddol i fynd i'r afael â'n hargyfwng tai. Yn olaf, Gweinidog, os ydym am fynd i'r afael â digartrefedd, mae'n rhaid inni adeiladu tai i'r digartref. A oes unrhyw gynlluniau wedi cael eu cyflwyno sy'n ymdrin ag anghenion penodol cyn-aelodau o'r lluoedd arfog, sy'n ganran fawr o'r rhai sy'n eu cael eu hunain yn cysgu ar y stryd? Diolch yn fawr iawn. Julie James AC: Wel, gan ymdrin ag ychydig o'r materion dan sylw, mae adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd yn flaenorol yn rhan bendant o hyn. Ac felly mae deall yr hyn a adeiladwyd yn y gorffennol, sut a pham oedd hynny'n gweithio, ac a yw hynny'n raddadwy yn bwysig iawn hefyd. Felly er mai da o beth yw adeiladu un tŷ, mae gallu adeiladu 400 ohonyn nhw ar yr un pryd yn fater pwysig iawn i'r rhaglen. Ac fel y dywedais yn y datganiad, rydym wrthi'n uwchraddio rhai o'r pethau yr ydym ni'n gwybod eu bod nhw wedi gweithio. Mae ailgylchu yn fater o bwys mawr hefyd. Mae'r rhan fwyaf o'r tai hyn yn fodiwlar, mewn gwirionedd. Mae bron pob un o'r cynlluniau yn defnyddio pren o Gymru mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, ac rydym yn awyddus iawn i gael cadwyni cyflenwi byr fel ein bod yn lleihau ôl troed carbon yr adeilad yn ei gyfanrwydd, fel y dywedais i yn y datganiad. Rydym hefyd yn awyddus iawn i sicrhau bod yna gyn lleied â phosibl o wastraff adeiladu ac y caiff hwnnw ei ailddefnyddio a'i ailgylchu fel y bo'n briodol, ac nad ydym ni'n achosi problemau anfwriadol o ganlyniad i hynny. Ac yna, pan fyddwn ni wedi deall hynny, gallwn ei raddio eto i wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd. Mae'r holl broblem gyda sgiliau, a drafodais i gyda David Melding, yn ymwneud â throsglwyddo sgiliau, ein bod yn uwchsgilio pobl y dyfodol. Ac mae rhai o'r cynlluniau yn defnyddio'r bobl a fydd, yn y pen draw, yn denantiaid y tai i'w hadeiladu nhw. Felly, mewn gwirionedd, maen nhw'n adeiladu eu cartrefi eu hunain i bob pwrpas. Yn wir, mae cynllun ardderchog ar Ynys Môn yr oeddwn i'n falch iawn o'i weld yn gweithio fel hynny. Mae'r pethau hyn yn gyffrous iawn, ond rydych chi'n hollol iawn o ran y raddfa. Mae angen adeiladu tua 4,000 o dai bob blwyddyn i fynd i'r afael â'r broblem o bobl mewn llety dros dro. Nid yw problem digartrefedd yn ymwneud yn unig â'r pegwn eithaf o fod yn cysgu ar y stryd, mae'n ymwneud hefyd â'r bobl hynny sy'n llithro i ddigartrefedd. Felly dyna pam mae angen adeiladu 4,000 o gartrefi cymdeithasol y flwyddyn, er mwyn atal y cylch hwnnw. Felly mae'n hi'n dasg drom, ond rydym wedi adeiladu bron 1,000 y flwyddyn hon a dim ond ychydig gannoedd oedd gennym ni yn y flwyddyn flaenorol. Felly rydym yn codi stêm yn gyflym iawn. Rydym yn mynd cyn gynted ag y gallwn ni, gan sicrhau ein bod ni'n adeiladu'r hyn sy'n briodol ar gyfer y bobl briodol. Ac er y gallwchalw unrhyw grŵp arbennig o bobl yn grŵp, fe fydd pob un ohonyn nhw'n unigolion, ac fe fydd gan bob un ohonyn nhw wahanol ofynion. Mae angen adeiladu'r amrywiaeth o dai a deiliadaethau cymysg a fydd yn mynd i'r afael â'r holl anghenion hynny. Dawn Bowden AC: A gaf innau hefyd groesawu eich datganiad chi, Gweinidog? Fel y gwyddoch, mae'n debyg, yr wythnos diwethaf, fe groesewais i'r Prif Weinidog i'r etholaeth ac fe aethom ni i ymweld ag un o'r sefydliadau blaengar hynny yr oeddech chi'n cyfeirio atynt yn eich datganiad, sef Cartrefi Cymoedd Merthyr. Y nhw oedd y tenantiaid a'r gweithwyr cydfuddiannol cyntaf yng Nghymru ac, fel y gwyddoch, dyma un o'r rhai mwyaf yn y DU. Mae hon yn enghraifft ragorol o fenter gymdeithasol yn dod â buddiannau sylweddol i'r gymuned, gan gynnwys, wrth gwrs, ddatblygiad uned tai cydweithredol Taf Fechan yng Ngellideg. Eglurodd Cartrefi Cymoedd Merthyr botensial dulliau modiwlaidd o adeiladu i ni—a chlywsom lawer am hynny'r prynhawn yma—o ran adnewyddu eu stoc nhw ac o ran darparu unedau newydd i gynorthwyo gydag anghenion tai. Ac maen nhw eisoes wedi defnyddio'r cartrefi modiwlar yr ydym wedi siarad amdanynt i gynnig datrysiadau o ran tai fforddiadwy a chost isel. Ac rwy'n credu, yr wythnos nesaf, eich bod chi am ddod i'r cyfarfod i edrych ar eu cartrefi cynhwysydd modiwlar nhw, ac fe fyddaf i'n edrych ymlaen at hynny. Gyda llaw, credaf ei bod yn werth dweud hefyd ar y pwynt hwn eu bod nhw'n derbyn prentisiaid hefyd. Felly maen nhw'n datblygu sgiliau lleol yn yr ardal. Felly, Gweinidog, rwy'n gweithio ar y dybiaeth y byddwch chi'n edrych ar brofiad ac arloesedd sefydliadau fel Cartrefi Cymoedd Merthyr a'r math o waith arloesol y maen nhw wedi bod yn rhan ohono. Bydd cefnogi'r angen penodol hwnnw ar hyd a lled ein cymunedau ni yn y cymoedd yn rhan o'ch strategaeth dai ac fe fydd â'i le hefyd o fewn y strategaeth dai ar gyfer Tasglu'r Cymoedd, fel nad ydym yn ystyried hyn yn rhywbeth ar wahân i'r gwaith y mae Tasglu'r Cymoedd yn ei wneud. Ac fe fyddai'n benodol yn ceisio helpu i fynd i'r afael â'r angen mwyaf dyrys ond mwyaf cyffredin am dai, sef unedau tai unigol. Mae'r ddwy gymdeithas dai yn fy etholaeth i yn dweud wrthyf mai hynny ynddo'i hun yw'r her fwyaf sydd ganddyn nhw o ran diwallu'r angen am dai. Felly, y cwestiwn mewn gwirionedd yw sut y bydd hynny i gyd yn cyd-fynd â'i gilydd ac yn cyflawni'r amcanion penodol hynny. Julie James AC: Ie, mae hi'n hollol gywir, mae Cartrefi Cymoedd Merthyr wedi gwneud gwaith rhagorol mewn amryw o ffyrdd arloesol ac mae hynny'n dangos yn eglur nad y Rhaglen dai arloesol yw'r unig beth arloesol yr ydym ni'n ei ystyried, oherwydd maent wedi gwneud llawer o'r hyn a wnaethon nhw gyda grant tai cymdeithasol prif ffrwd ac yn y blaen. Felly mae llawer o bethau yn bosibl. Mae Dawn Bowden yn llygad ei lle, yr hyn yr ydym ni'n ystyried ei chael yw strategaeth gyffredinol sy'n amsugno'r arloesedd ac yn ei gwasgaru mor gyflym ag y gallwn ni. Gan hynny, mae llawer o'r trosglwyddo sgiliau yr ydych chi newydd sôn amdano, gan gael pobl i gymryd diddordeb yn y tai y maen nhw'n eu hadeiladu, oherwydd y gallen nhw eu hunain fod yn byw ynddyn nhw—mae llais y deiliad yn hynny i gyd yn bwysig iawn. Maen nhw wedi gwneud gwaith diddorol iawn yn ymwneud â chwmnïau cydfuddiannol a chydweithredol ac yn y blaen, ac mae gennyf ddiddordeb ymchwilio i hyn gyda nhw. Ond dyna ddangos mai dim ond un rhan o natur arloesol y ffordd yr ydym ni'n mynd i'r afael â'n strategaeth dai ni yw'r Rhaglen tai arloesol. Mae angen adeiladu pob math o gartrefi ar gyfer pob math o ddeiliadaeth, yn gyflym ac ar raddfa fawr, os ydym yn bwriadu ateb yr anghenion y gwyddom sydd gan ein poblogaeth ni. Roeddwn i'n falch tu hwnt i gyhoeddi yn fy natganiad un o'r rhaglenni tai arloesol, sy'n ymwneud â rhaglen adeiladu tai modiwlar sy'n caniatáu ichi ychwanegu ystafell wely. Mae angen mawr am gartrefi un ystafell wely—mae hynny'n hollol wir, ac mae angen adeiladu'r rhain ar frys ac ar raddfa fawr—ond mae amgylchiadau pobl yn newid. Efallai na fyddan nhw'n aros yn sengl am byth, ac efallai y bydd angen gofal arnyn nhw, efallai y bydd angen teulu neu ffrindiau arnyn nhw i ymweld ac ati. Felly nid tŷ un ystafell wely ar gyfer unigolyn ar ei ben ei hun o reidrwydd yw'r hyn y mae pobl ynchwilio amdano. Felly, mae ceisio adeiladu tai sy'n caniatáu i bobl allu byw yn y ffordd sy'n ddymunol iddyn nhw, a chael ffrind yn aros, a chael gofalwr, ŵyr neu wyres neu bartner y dyfodol o bosibl yn symud i mewn—rydym ni'n dymuno gweld cartrefi i bobl am eu hoes. Mae'r mathau hyn o dai modwlar sy'n caniatáu ichiychwanegu ystafell wely neu fodiwl arall iddo yn ardderchog, ac mae angen eu hystyried nhw i'r dyfodol. Joyce Watson AC: Ac yn olaf, Nick Ramsay. Nick Ramsay AC: Diolch, Cadeirydd. Gweinidog, rydych chi newydd sôn am y cynllun sy'n golygu y gellir ychwanegu ystafell wely. Credaf mai dyna'r cynllun yng Nghas-gwent, o'm cof i o'ch datganiad. Roeddwn i wrth fy modd o weld bod hynny wedi'i gynnwys—credaf y bydd Cymdeithas Tai Sir Fynwy yn cael cyllid i adeiladu 17 o gartrefi yng Nghas-gwent. Mae gallu ychwanegu ystafell wely, neu enghreifftiau eraill o'r hyn y mae Cymdeithas Tai Sir Fynwy yn ei wneud lle caiff tai eu diogelu ar gyfer y dyfodol fel y gallwch chi ychwanegu lifftiau hefyd fel y gall pobl aros yn y cartrefi wrth iddyn nhw heneiddio—rwy'n credu bod hynny'n agwedd bwysig iawn ar ddarparu cartrefi modern o'r math y mae Cymdeithas Tai Sir Fynwy yn cael cryn enw amdanynt. Felly, tybed beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau bod y math hwnnw o arfer yn rhan annatod o strategaethau cymdeithasau tai ledled Cymru, fel ein bod yn gweld y paratoi hwn ar gyfer y dyfodol, oherwydd credaf, dros amser, ei fod yn gwneud cynlluniau'n llawer mwy effeithlon os gall pobl aros yn y cartrefi hynny y maen nhw'n eu caru—os ydyn nhw'n gallu cael ystafell wely ychwanegol, yn gallu cael lifft, yn gallu addasu. Rwy'n credu mai dyna'r ffordd ymlaen, felly hoffwn weld hynny'n rhan o'r holl gynlluniau tai ledled Cymru, os oes modd. Julie James AC: Ie, rwy'n cydweld gant y cant. Un o'r rhesymau y mae yn y rhaglen yw oherwydd bod arnom ni eisiau rhoi prawf ar y cysyniad a sicrhau ei fod yn gweithio, ond, mewn gwirionedd, ymwelais â chynllun tebyg gyda Huw Irranca-Davies yn ei etholaeth yn ddiweddar, lle y dangoswyd inni gartref modiwlaidd y gallech chi ychwanegu ystafell wely arall ato, neu, yn wir, mewn gwirionedd, godi'r holl beth a'i roi i lawr yn rhywle arall, pe bai angen i chi wneud hynny. Treuliais gryn dipyn o'm plentyndod yng Nghanada, lle mae'n eithaf cyffredin gweld tŷ'n mynd ar hyd y ffordd, yn cael ei symud o un lle i'r llall, oherwydd eu bod i gyd yn fodiwlaidd. Felly, mae gwir angen inni ddysgu o dechnegau sy'n bodoli eisoes yn hynny o beth, ond, mewn gwirionedd, ynghylch pethau modern iawn hefyd, o ran effeithlonrwydd ynni ac ati. Ni allaf dystio fod y cartref yng Nghanada, 60 mlynedd ôl, pan oeddwn yn blentyn, mor ynni effeithlon â'r hyn yr hoffem ni ei gael heddiw, er, wyddoch chi, nid yw Canada yn enwog am ei thywydd tymherus, felly fe wnaethon nhw yn amlwg ddod trwy'r prawf hwnnw. Ond mae llawer o bethau y gallwn ni eu gwneud yn hyn o beth, ac mae a wnelo hyn â gwneud yn siŵr bod gennym ni'r hyn sy'n cael ei alw'n gartref am oes, fel, wrth i'ch amgylchiadau newid drwy gydol eich oes, y gallwch chi aros yn y cartref yr ydych chi'n ei garu ac yn y gymuned yr ydych chi'n rhan ohoni, ac mae angen inni hwyluso hynny lle bo'n bosib. Joyce Watson AC: Diolch. 4. Datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Rheilffordd i Gymru Joyce Watson AC: Rydym ni'n mynd i symud ymlaen nawr at eitem 4: datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth—rheilffordd i Gymru. Galwaf ar Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates. Ken Skates AC: Diolch. Hoffwn ddiolch am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am adolygiad Williams Llywodraeth y DU ynghylch rheilffyrdd, i ailddatgan ein disgwyliadau o ran datganoli a hefyd i egluro ein gweledigaeth ar gyfer y rheilffyrdd yng Nghymru a fydd yn diwallu anghenion cenedlaethau'r dyfodol, yr wyf i hefyd yn ei chyhoeddi heddiw. Mae ein gweledigaeth yn disgrifio'r manteision y bydd datganoli'r rheilffyrdd yn llawn yn eu cynnig, yn esbonio beth y byddem yn ei wneud yn wahanol gyda setliad datganoli priodol, ac yn cyflwyno dyfodol amgen i'r rheilffyrdd yng Nghymru. Ers lansio adolygiad rheilffordd Williams, yn dilyn methiannau clir a dybryd y model presennol o ddarpariaeth rheilffyrdd, rydym ni wedi amlinellu'n gyson ein disgwyliadau y dylai'r adolygiad gynnwys nifer o newidiadau. Un, dylai alluogi Cymru i fod yn berchen ar, rheoli a datblygu ein seilwaith ein hunain; dau, rhoi mwy o hyblygrwydd inni weithredu gwasanaethau o ansawdd uchel, rheolaidd ar draws y ffin, i fwy o gyrchfannau; i'n galluogi ni hefyd i ddewis o amrywiaeth o fodelau darparu gwasanaethau a seilwaith, gyda mwy o ran i'r sector cyhoeddus; a sicrhau bod y sefydliadau sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau i deithwyr a'r seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru—gan gynnwys cwmnïau trenau, Network Rail a'r Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd—yn atebol mewn modd priodol i Lywodraeth Cymru. Ken Skates AC: Ers i'r Cynulliad bleidleisio o fwyafrif llethol i gefnogi safbwynt Llywodraeth Cymru, rydym ni wedi cyflwyno ein hymateb terfynol i adolygiad Llywodraeth y DU. Roedd hyn yn egluro sut y byddem ni, gyda'r pwerau a'r cyfrifoldebau newydd hyn, yn datblygu ein rheilffyrdd yng Nghymru i ddiwallu ein hanghenion a'n hamcanion ein hunain, ac yn cyflawni ein rhwymedigaethau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae masnachfraint newydd Cymru a'r Gororau wedi caniatáu i Lywodraeth Cymru, drwy Trafnidiaeth Cymru, ddatblygu dull arloesol o weithredu a fydd yn sicrhau newidiadau sylweddol i deithwyr ledled ardal Cymru a'r Gororau. Drwy ddatganoli, fe wnaethom ni greu sefydliad a oedd yn goruchwylio proses gaffael a oedd yn rhoi ein hamcanion ein hunain yn ganolog iddi, yn datblygu sgiliau ac arbenigedd yng Nghymru, ac yn darparu model i sicrhau'r manteision ehangach mwyaf posib. Yn syml iawn, ni fyddai hyn wedi bod yn bosib pe bai Lywodraeth y DU wrth y llyw. Mae'r broses o drosglwyddo a thrawsnewid llinellau craidd y Cymoedd i Lywodraeth Cymru yn dangos sut y gall datganoli grym a gwasanaethau ddatblygu atebion pwrpasol arloesol i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth integredig. Mae'r gallu i neilltuo amser ac ymdrechu'n benodol i gyflawni canlyniadau sy'n diwallu anghenion lleol ac amcanion ehangach wedi arwain at fanteision ehangach o ran denu cyflogaeth, datblygu arbenigedd lleol, sicrhau manteision cymunedol, a hyrwyddo ein diwylliant ac iaith. Er enghraifft, bydd 22 o lysgenhadon Trafnidiaeth Cymru yn gweithio gyda chymunedau i gael gwared ar yr agweddau gwirioneddol a thybiedig hynny sy'n rhwystro pobl rhag defnyddio trafnidiaeth, i annog y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol ac i droi gorsafoedd trenau yn ganolfannau cymunedol bywiog. Ond mae angen inni fynd ymhellach, i ymgymryd â mwy o gyfrifoldeb a phwerau i weddnewid y rheilffordd ledled Cymru, i ddarparu seilwaith a gwasanaethau sy'n diwallu anghenion cenedlaethau'r dyfodol, ac i wella hygyrchedd ac atebolrwydd i gymunedau lleol, er mwyn sicrhau bod ganddyn nhw'r rheilffordd o safon uchel y maen nhw'n ei haeddu. Yn amlwg, dim ond drwy setliadau datganoli lle mae prosesau gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar flaenoriaethau cymunedol, rhanbarthol a chenedlaethol y gellir diwallu anghenion lleol amrywiol. Rydym ni'n cydnabod y gallai hi fod yn fuddiol fod rhai swyddogaethau, fel safonau diogelwch, amserlenni trawsffiniol a'r gallu i gludo nwyddau ar y rheilffyrdd, yn parhau i gael eu rheoli'n ganolog ar lefel Prydain Fawr. Fodd bynnag, mae'n rhaid i'r system hon gydnabod amrywiaeth setliad datganoli yn y DU a bod yn seiliedig ar lywodraethu, tryloywder a chynrychiolaeth briodol o du'r Llywodraethau cenedlaethol ac awdurdodau sydd â phwerau datganoledig. Rydym ni eisoes mewn sefyllfa gref i ymateb i'r heriau hyn. Yn Nhrafnidiaeth Cymru, mae gennym ni eisoes y strwythurau, yr arbenigedd a'r prosesau ar waith i ymgymryd â'r cyfrifoldebau a'r pwerau newydd hyn. Cafodd materion trawsffiniol eu datrys ar y cyd ac mewn ffordd gynhwysfawr gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU pan drosglwyddwyd cyfrifoldeb am fasnachfraint Cymru a'r Gororau. A heddiw cyhoeddwn ein gweledigaeth ar gyfer ein rheilffyrdd sy'n cyd-fynd â'n hamcanion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangach, ein blaenoriaethau trafnidiaeth, a'n hymrwymiad i genedlaethau'r dyfodol. Mae gennym ni batrymlun felly ar gyfer cyflawni'r elfennau sy'n weddill o ddatganoli, mae gennym ni gefnogaeth drawsbleidiol fel na welwyd o'r blaen, ac mae gennym ni weledigaeth uchelgeisiol a chyraeddadwy a fydd yn gwrthdroi'r degawdau o danfuddsoddi yn ein rheilffordd. Rydym ni'n agosáu at gyfnod tyngedfennol o ran esblygiad y rheilffyrdd ym Mhrydain Fawr, ac yn enwedig y cyfle i ddatblygu rhwydwaith sy'n diwallu'n well anghenion y bobl yng Nghymru sy'n ei ddefnyddio, a'r cymunedau sy'n dibynnu arno. Rwyf hefyd heddiw yn amlinellu egwyddorion Llywodraeth Cymru ar gyfer cysylltedd trafnidiaeth gyhoeddus yn y dyfodol a fydd yn cynnig newid sylweddol o ran amlder, integreiddiad ac amserau teithiau. Dim ond gyda'r setliad datganoli a chyllido priodol y gellir cyflawni'r rhain drwy raglen a ddatblygwyd yng Nghymru. Nawr, rwy'n croesawu'r trafod cadarnhaol a fu rhwng Llywodraeth Cymru a Keith Williams a'i dîm, sydd wedi dangos diddordeb mawr o ran sut yr aethom ni ati yng Nghymru i gaffael y fasnachfraint, integreiddio'r traciau a'r trenau, a'n hymagwedd tuag at yr heriau sy'n ein hwynebu o dan y setliad datganoli presennol. Mae gennyf bob rheswm i gredu bod ein hachos wedi cael gwrandawiad, ac y caiff rhagor o ddatganoli i Lywodraeth Cymru ei argymell. Rwyf bellach yn disgwyl i Lywodraeth y DU ystyried ein gofynion, bodloni ein disgwyliadau, a phennu trefn, amserlen a rhaglen glir ar gyfer datganoli ein rheilffyrdd yn llawn. Disgwyliaf i Lywodraeth y DU gyflawni ei hymrwymiad i gyhoeddi Papur Gwyn yr hydref hwn, ac rydym ni'n barod i weithio gyda nhw i'w weithredu. Mae ein rheilffordd yn hanfodol i rwydwaith trafnidiaeth effeithiol ac effeithlon a dylai fod yn un o'n hasedau mwyaf gwerthfawr yn gymdeithasol ac yn economaidd. Mae ganddi'r potensial i wneud cyfraniad sylweddol yng Nghymru at fywydau pobl, ein cymunedau, yr amgylchedd a'n heconomi. Bydd ei datblygu a'i hehangu yn barhaus yn cyfrannu at ein huchelgais i ddatblygu economi gryfach, fwy cynhwysol a thecach, ac i sicrhau ffyniant i bawb drwy gysylltu pobl, cymunedau a busnesau â swyddi, gwasanaethau a marchnadoedd. Joyce Watson AC: Mae gen i naw o bobl sy'n dymuno siarad, a'r un cyntaf fydd Russell George. Russell George AC: Diolch, Llywydd dros dro. A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad o ran y weledigaeth ar gyfer y rheilffyrdd yng Nghymru? Rwy'n cefnogi barn y Gweinidog ynglŷn â datganoli'r seilwaith rheilffyrdd—credaf ei bod hi'n bwysig dweud hynny. Roedd llawer o sôn, Gweinidog, yn eich datganiad am atebion arloesol, pwrpasol i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth integredig, gan drawsnewid y rheilffyrdd ledled Cymru a darparu'r rheilffordd o ansawdd uchel y mae pobl Cymru'n ei haeddu. Gallaf gytuno â hynny i gyd—mae pob un ohonyn nhw'n ddyheadau clodwiw, clodwiw iawn yn wir—ond ni allaf beidio â meddwl, os yw defnyddwyr y rheilffyrdd yn gwrando ar y datganiad hwn heddiw, byddant yn meddwl wrth eu hunain 'beth am nawr? Beth am gyflwr presennol y gwasanaeth rheilffordd? Rwy'n credu y byddan nhw'n falch o glywed y dyheadau, ond byddan nhw'n dal i ofyn y cwestiwn hwnnw. Yn eich datganiad, rydych chi'n cyfeirio at benodi 22 o lysgenhadon Trafnidiaeth Cymru i annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, ond nid yw pobl yn dewis defnyddio'r rhwydwaith rheilffyrdd nawr gan fod y rhwydwaith rheilffyrdd mor annibynadwy. Nid wyf yn dweud hynny'n fyrbwyll—gallaf roi digon o dystiolaeth am hynny o'r ohebiaeth a gefais yn ystod yr haf. A byddwn yn gwneud y sylw hefyd fod gan y Llywodraeth, wrth gwrs, lawer dull at ei defnydd yn barod o ran profiad teithwyr, sydd wedi bod yn gyson is na'r disgwyl yn ddiweddar—rydym ni wedi gweld canslo trenau, trenau hwyr, prinder staff, gorlenwi, problemau signalau, trenau rhy fach, a diffyg gwybodaeth o ansawdd pan gyfyd problemau. Rhwng mis Hydref a mis Gorffennaf, gwelsom mai dim ond 73 y cant o wasanaethau ar linell y Cambrian a gyrhaeddodd ar amser. Felly, rwy'n ceisio peidio â bod yn negyddol o ran yr hyn sy'n ddyheadau da a chadarnhaol gennych chi, ac rwy'n cytuno â chi—. Rydych chi'n dweud yn eich datganiad bod gan Trafnidiaeth Cymru y strwythur, yr arbenigedd a'r prosesau ar waith i ysgwyddo cyfrifoldebau a phwerau newydd, ond rwyf mewn difrif calon yn ei chael hi'n anodd credu'r datganiad hwnnw, oherwydd fy mod yn gweld nad oes fawr o dystiolaeth o hynny hyd yn hyn. Felly, hoffwn ofyn i chi, efallai, Gweinidog, a ydych chi'n teimlo bod angen unrhyw adnoddau ychwanegol er mwyn i Trafnidiaeth Cymru gyflawni ei swyddogaeth yn effeithiol ar hyn o bryd, ac yn sicr yn y dyfodol, o ran ymgymryd â'r cyfrifoldebau ychwanegol yr ydych chi wedi'u hamlinellu. Daeth y Llywydd i’r Gadair. Russell George AC: O ran honiad y Gweinidog y bu degawd o danfuddsoddi yn ein rhwydwaith rheilffyrdd, tybed a yw'r Gweinidog yn croesawu buddsoddiad Llywodraeth y DU o fwy na £2 biliwn yn llwybr Cymru rhwng 2019 a 2024, a fydd yn record o ran buddsoddi yn rheilffordd Cymru ac yn gynnydd o 28 y cant ar y cyfnod rheoli diwethaf. Byddwn yn ddiolchgar hefyd pe gallai'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drosglwyddo perchenogaeth rheilffyrdd y Cymoedd, manylion y setliad ariannol sy'n cyd-fynd â'r trosglwyddiad, ac amserlen ar gyfer adeiladu'r rhwydwaith newydd. A tybed a allai'r Gweinidog hefyd roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynigion Llywodraeth Cymru o ran datblygu gorsaf newydd, yn benodol pryd fyddwch yn disgwyl rhyddhau canlyniadau asesiad cam 2 ar gyfer gorsafoedd newydd yn swyddogol, y dyddiad dechrau disgwyliedig ar gyfer cam 3, a pha mor hir y rhagwelwch y bydd cam 3 yn para. I gloi, Llywydd, cytunaf ei bod hi'n bwysig i'r Senedd hon gael y cyfle i graffu ar yr holl benderfyniadau a wneir ynghylch polisi rheilffyrdd yng Nghymru, a dylid mynd â mwy o'r penderfyniadau a wneir ynglŷn â pholisi rheilffyrdd Cymru, rwy'n credu, yn nes at bobl Cymru. Ken Skates AC: Llywydd, a gaf i ddiolch i Russell George am ei gyfraniad, am ei gwestiynau? Rwy'n croesawu'n fawr y gefnogaeth drawsbleidiol sydd gan y Llywodraeth, yn ddiolchgar iawn, am ei safiad ar ddatganoli rheilffyrdd. Rwy'n credu bod yr Aelod yn cyflwyno achos pwysig dros integreiddio nid yn unig y cledrau a'r trenau, ond dulliau gwahanol o deithio hefyd, a dyna'n union beth yr ydym ni'n bwriadu ei wneud drwy ddatganoli rheilffyrdd i Gymru. Rwy'n credu bod yr Aelod yn iawn hefyd y bydd teithwyr ar hyn o bryd yn meddwl am y gwasanaethau y maen nhw'n eu defnyddio ar hyn o bryd. Nawr, rydym ni ar daith, taith £5 biliwn—mae Russell George yn gywir yn nodi heriau diweddar sydd, yn rhannol, wedi digwydd oherwydd tanfuddsoddi hanesyddol yn y rhwydwaith rheilffyrdd. Ac mae Russell wedi nodi'n gywir, er enghraifft, methiannau yn y signalau, sy'n ganlyniad i ddiffyg buddsoddi diweddar. Byddwn yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i wario rhagor o adnoddau ledled rhwydwaith llwybr Cymru. Fodd bynnag, hoffwn atgoffa'r Aelodau hefyd o'r adnoddau sylweddol iawn y mae Llywodraeth Cymru wedi'u buddsoddi yn y seilwaith rheilffyrdd yn ystod y blynyddoedd diwethaf—na fu'n gyfrifoldeb inni; rydym ni wedi gwneud hynny beth bynnag. Ac, yn ddiweddar, rwy'n credu bod Swyddfa Archwilio Cymru wedi gallu cyfrifo bod Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu oddeutu £362 miliwn at wariant cyhoeddus ehangach ar reilffyrdd Cymru. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi buddsoddi £226 miliwn mewn prosiectau gwella seilwaith rheilffyrdd, gan gynnwys defnyddio cronfeydd strwythurol yr Undeb Ewropeaidd. Bu hyn yn hanfodol bwysig, o gofio, yn ddiweddar—y cyfnod rheoli diweddar—nid ydym ni wedi gweld y gwariant angenrheidiol ar rwydwaith llwybrau Cymru. Mae'r Adran Drafnidiaeth, mae'n dda gennyf ddweud, wedi ymrwymo nawr i ddatblygu'r achosion canlynol i'r cam nesaf o'r broses sydd ganddyn nhw ar y gweill: maen nhw wedi penderfynu bod angen gwella cyflymder ar arfordir y gogledd, bod gwelliannau o ran cyflymder ar y llinell yn angenrheidiol rhwng Caerdydd ac Abertawe, a bod angen uwchraddio'r llinell liniaru rhwng Cyffordd Twnnel Hafren a Chaerdydd hefyd. Mae'n werth nodi, fodd bynnag, Llywydd, nad oedd dadl gref dros fwrw ymlaen i gynyddu cyflymder ar y rheilffordd rhwng Wrecsam a Bidston. Fodd bynnag, rwy'n falch iawn o ddweud y cytunwyd y bydd Network Rail yn ystyried a datblygu gwelliannau i'r llinell hon yng nghyd-destun cynllun ehangach sy'n ystyried dargludedd yr holl ffordd o Lerpwl i Wrecsam yn rhan o'r weledigaeth ar gyfer metro gogledd Cymru. Nawr, mae'r ymrwymiadau hyn i'w croesawu, Llywydd; mae'r ymrwymiadau hyn yn rhai i'w croesawu'n fawr. Ac mae'n amlwg bod yn rhaid bwrw ymlaen â'r rhain yn gyflym iawn ac ymgysylltu'n llawer gwell â Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid lleol. O ran heriau diweddar eraill a wynebwyd gennym ni ar y llwybr, bydd Aelodau'n cofio yn ystod yr hydref y llynedd heriau yn sgîl y ffaith ein bod wedi etifeddu fflyd heb amddiffyniad rhag llithriad olwynion. Mae systemau diogelu rhag llithriad olwynion, rwy'n falch o ddweud, bellach wedi eu cynnwys ar y trenau hynny nad oedd ganddynt y systemau o'r blaen. Mae'n rhan o fuddsoddiad £14 miliwn yn y fflyd bresennol tra caiff y trenau newydd hynny eu hadeiladu. Rwyf hefyd yn falch o ddweud bod gan Trafnidiaeth Cymru a Network Rail bartneriaeth ragorol a'u bod yn cyfathrebu'n wych, rhywbeth na fu wastad yn wir, rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud. Ac mae Network Rail, rwy'n falch o ddweud, wedi gwario tua £3 miliwn yn ymdrin â llystyfiant ar hyd y rheilffyrdd. Mae hynny'n gwbl hanfodol. Roedd llinellau penodol yng Nghymru yn wynebu heriau y llynedd oherwydd llystyfiant gormodol. Rwyf yn credu bod Trafnidiaeth Cymru wedi cynyddu gweithgarwch ac arbenigedd yn gyflym iawn, ond, wrth gwrs, wrth i swyddogaethau ychwanegol gael eu trosglwyddo i'r corff, bydd angen arbenigedd ac adnoddau dynol ychwanegol. Ar ddechrau'r daith 15 mlynedd, fe wnaethom ni ddweud y byddai Trafnidiaeth Cymru yn recriwtio ugeiniau o bobl newydd i swyddogaethau allweddol ac, hefyd, y byddai Trafnidiaeth Cymru yn gofyn am arbenigedd, yn ôl yr angen, i gyflawni swyddogaethau ychwanegol. Mae hynny'n rhywbeth sy'n parhau ac, wrth gwrs, os, a gobeithiwn, pan fydd datganoli cyfrifoldebau yn trosglwyddo i Lywodraeth Cymru, byddem yn disgwyl gweld Trafnidiaeth Cymru yn sicrhau arbenigedd ychwanegol. O ran trosglwyddo asedau llinell graidd y Cymoedd, wel, mae'r trosglwyddiad i fod i gael ei gwblhau'n fuan yn y misoedd sydd i ddod, ac mae'r amserlen ar gyfer adeiladu'r metro, mae'n dda gennyf ddweud, yn parhau yn unol â'r weledigaeth a amlinellwyd pan lansiwyd y cytundeb fasnachfraint gennym ni. Mae trenau'n cael eu hadeiladu a bydd gwasanaethau'n dechrau yn ôl y disgwyl ac fel yr amlinellwyd yn y ddogfen wreiddiol a gyhoeddwyd yn ystod hydref 2018. Mae heriau enfawr, wrth gwrs, ledled y DU yn y sector o ran caffael cerbydau ar hyn o bryd, ond rydym ni'n hyderus y byddwn ni'n gallu bodloni'r newidiadau i amserlen mis Rhagfyr gyda'r fflyd sydd gennym ni a chyda cerbydau y gellir dod â nhw ar y cledrau mewn pryd. O ran y gorsafoedd yr hoffem ni eu gweld yn cael eu datblygu, rwy'n falch o ddweud ein bod wedi nodi'r gorsafoedd hynny yn y ddogfen yr ydym ni wedi'i chyhoeddi, ond bydd angen i Lywodraeth y DU gytuno i'w hariannu. Un o'r problemau mawr a gawsom ni yn ddiweddar gyda chyllido seilwaith yn y DU yw bod Llyfr Gwyrdd y Trysorlys yn ei hanfod yn arwain at flaenoriaethu a chyfeirio buddsoddiad i'r ardaloedd hynny lle mae'r poblogaethau mwyaf dwys. Mae hynny'n golygu, ar y cyfan, de-ddwyrain Llundain. Rydym ni eisiau gweld model gwahanol yn cael ei fabwysiadu ledled y DU ac, yn sicr, yng Nghymru, rydym ni'n gwneud hynny'n union—yn ceisio buddsoddi yn fwy cyfartal ar draws pob rhanbarth er mwyn cydbwyso cyfleoedd am dwf a ffyniant a mynd i'r afael ag anghydbwysedd o ran cyfoeth a chyfleoedd gwaith. Rhun ap Iorwerth AC: Mi allwn i siarad, yn fan hyn, am yr heriau dŷn ni'n eu wynebu efo'r rheilffyrdd sydd gennym ni ar hyn o bryd, ac maen nhw'n heriau sylweddol a dwi'n gobeithio bod y Gweinidog yn ymwybodol ohonyn nhw. Hynny ydy, fydd pobl ddim yn amyneddgar am byth yn aros am y trenau newydd, lle mae'r amserlenni wedi bod yn llithro. Mae yna rwystredigaeth ynglŷn â diffyg toiledau ar drenau, mae yna rwystredigaeth ynglŷn ag arafwch cyflwyno dwyieithrwydd ar y trenau ac yn y blaen, ac mi wnawn ni barhau i ddal y Llywodraeth i gyfrif ar y materion hynny. Ond sôn ydyn ni heddiw yma am gynlluniau strategol, hirdymor i gryfhau ein hisadeiledd rheilffyrdd ni yng Nghymru. Dwi'n croesawu'n fawr yr hyn sydd yn yr adroddiad sydd o'm blaenau ni heddiw yn amlinellu gweledigaeth i gymryd rhagor o gyfrifoldeb am ddatblygu'r isadeiledd hwnnw. Dwi'n ei groesawu fo, wrth reswm, oherwydd ein bod ni fel plaid wedi bod yn galw am hyn ers blynyddoedd lawer. Mae o'n adlewyrchu'r hyn dŷn ni wedi bod yn ei ddweud, ac, wrth gwrs, fel dŷn ni wedi'i glywed gan y Gweinidog, mae'n adlewyrchu, bellach, y consensws sydd wedi datblygu o fewn y Cynulliad Cenedlaethol yma. Ond mi wyddwn ni, p'un ai efo trenau neu efo datganoli trethi teithwyr awyrennau, dydy consensws yn y lle yma ddim yn ddigon i berswadio Llywodraeth mewn lle arall i weithredu mewn ffordd sydd er budd Cymru. Fel nodyn ychwanegol, yr ateb i fi ac i nifer cynyddol o bobl yng Nghymru ydy ein bod ni'n cymryd cyfrifoldeb drwy fod yn wladwriaeth go iawn, sydd yn gosod ein cyfeiriad ein hunain fel gwlad annibynnol. Ond, yn sicr yn fan hyn, mae gennym ni gynllun ar gyfer yr hyn y dylai'r Llywodraeth ei wneud ar unwaith i ddatganoli cyfrifoldeb am y rheilffyrdd yng Nghymru a'r cyllid i fynd efo fo. Dŷn ni'n gwybod bod yna danfuddsoddi dybryd wedi bod yng Nghymru—yr 1 y cant o'r arian sydd ar gael i wella rhwydwaith Prydain yn cael ei wario yng Nghymru, tra bod 11 y cant o'r rheilffyrdd yma—hynny ydy, gwella rheilffyrdd, nid dim ond cynnal a chadw, sy'n gorfod digwydd, beth bynnag. Mae'n rhaid inni gael y gallu yna i fuddsoddi mewn ymestyn ein rheilffyrdd ni. Mae'n rhyfeddol. Dŷch chi'n edrych ar y map a dŷch chi'n gorfod atgoffa'ch hunain—efo ffyrdd, dŷn ni'n meddwl sut i wella'r ffyrdd rhwng de a gogledd. Does yna ddim un rheilffordd—mae'n syfrdanol, dal—does yna ddim rheilffordd yn rhedeg o ogledd i dde Cymru heb ei bod hi'n mynd ar draws y ffin. Ac mae yna fodd i'w wneud. Dwi yn falch o weld cyfeiriad yma at agor y coridor yna i lawr y gorllewin, at fuddsoddi, ie, o Amlwch drwodd i Fangor ac wedyn ar draws drwy Gaernarfon i lawr tuag at Aberystwyth, agor y llinell yna o Aberystwyth i Gaerfyrddin. Mae'n rhaid inni gael yr uchelgais yma. Ac ydy, mae pobl yn dweud, 'O, mae'r rhain yn fuddsoddiadau mawr,' ond edrychwch ar y buddsoddiad sy'n digwydd yn Lloegr ar hyn o bryd, lle mae gennych chi £56 biliwn yn mynd i HS2, £30 biliwn yn mynd i Crossrail 2, £70 biliwn yn mynd i Transport for the North. Pres mân ydy'r hyn dŷn ni'n sôn amdano fo er mwyn creu isadeiledd rheilffordd sy'n wirioneddol yn gallu ein huno ni fel gwlad. Felly, dwi'n croesawu'r ffaith bod y ddogfen yn cyfeirio at ailagor y gorllewin yna, o Amlwch i Abertawe, os liciwch chi, a buaswn i'n gwerthfawrogi sylwadau ychwanegol gan y Gweinidog ar hynny, achos, fel mae'r Llywodraeth yn ei ddweud yn y datganiad yma, dyma rhai o'n hasedau mwyaf gwerthfawr ni yn gymdeithasol ac yn economaidd. Os oes yna linell sydd yno sydd ddim yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd, mi ddylen ni fod yn gwneud popeth i wneud yn siŵr bod yr ased honno yn cael ei chwysu gymaint â phosib ar gyfer ein cymunedau ni.271 Yr unig gwestiwn arall—buaswn i'n gwerthfawrogi sylw ynglŷn â'r amserlen a fyddech chi'n ei rhagweld, Weinidog, ynglŷn â sut i symud hwn ymlaen o rŵan, gan gwmpasu adolygiad Williams. Pryd fyddech chi'n disgwyl ymateb gan Lywodraeth Prydain ac yn y blaen? Ken Skates AC: Diolch yn fawr iawn. Mae Rhun ap Iorwerth yn gwneud sawl sylw hollbwysig yn ei gyfraniad, yn bennaf yr angen i ystyried y symiau enfawr o arian sy'n cael eu buddsoddi dros y ffin—£150 biliwn—i wella'r seilwaith rheilffyrdd, a gallai dim ond ffracsiwn o'r arian hwnnw greu cyfleoedd enfawr. Mae'r Aelod yn sôn am y cysylltiadau gogledd-de sy'n bodoli ar hyn o bryd ac a allai fodoli. Nawr, mae'r gwasanaethau presennol rhwng y gogledd a'r de yn teithio dros y ffin; maen nhw'n adlewyrchu economi swyddogaethol ardal drawsffiniol gogledd Cymru a gogledd orllewin Lloegr ac economi weithredol y Canolbarth gyda gorllewin canolbarth Lloegr, ond ni ddylai hynny ein rhwystro rhag buddsoddi mewn seilwaith arall sydd yn cysylltu gogledd a de Cymru ymhellach i'r gorllewin, lle nad oes dwysedd twf y boblogaeth. Fy marn i yw y dylem ni fod yn nerthu'r rhanbarthau a grymuso'r rhanbarthau i fod yn fwy ffyniannus, ac mae hynny'n golygu buddsoddi yn yr ardaloedd hynny sy'n teimlo eu bod wedi'u hesgeuluso, ac sydd, mewn rhai achosion, wedi eu hesgeuluso yn wir wrth i ganolfannau trefol weld twf economaidd yn y cyfnod diweddar. Mae'r amserlen ar gyfer gwireddu ein gweledigaeth—ac rwyf yn diolch i'r Aelod am rannu a chefnogi ein gweledigaeth—yn dibynnu i raddau helaeth ar benderfyniadau Llywodraeth y DU ynglŷn â sut i ymateb i adolygiad Williams a'r amserlen sy'n seiliedig ar drosglwyddo pwerau a chyllidebau yn drefnus i Lywodraeth Cymru. Ond rwyf wedi dweud yn y ddogfen weledigaeth mai gweledigaeth 20 mlynedd yw hon ar gyfer gwella seilwaith a chynyddu gwasanaethau ac amlder gwasanaeth ar hyd llwybr Cymru. Rwy'n credu bod consensws yn y Siambr yma sy'n dechrau dylanwadu ar Siambr mewn lle arall. Rwy'n teimlo y bu newid barn yn ddiweddar yn San Steffan o ran y posibilrwydd o ddatganoli cyfrifoldebau a chyllid ar gyfer rheilffyrdd. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i wedi mwynhau sawl sgwrs gyda'r Ysgrifennydd Gwladol newydd dros drafnidiaeth, Grant Shapps, yn ddiweddar, yn ymwneud yn bennaf, wrth gwrs, â'r her a wynebwyd gan gwymp Thomas Cook, ond un sgwrs benodol ynghylch y posibilrwydd o ddatganoli cyfrifoldebau am reilffyrdd a datganoli setliad ariannu priodol. Bydd y sgwrs honno yn un o nifer a fydd yn digwydd yn y misoedd nesaf, wrth iddo benderfynu sut i ymateb i adolygiad Williams, ac wrth i mi barhau i bwyso am ddatganoli. Dywedais yn fy natganiad hefyd fy mod yn ffyddiog nawr y caiff ein cyflwyniad i adolygiad Williams ei ystyried yn ffafriol, ac rydym yn aros yn eiddgar iawn i'r adolygiad llawn gael ei gwblhau, ei gyflwyno i Lywodraeth y DU, ac am ymateb yn unol â hynny. Dywedodd Rhun ap Iorwerth, fel Russell George, yn gywir y bydd llawer o deithwyr yn ystyried y gwasanaethau sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd, a'r hyn y byddwn i'n ei ddweud yw ein bod ni nawr yn gwella gorsafoedd ledled rhwydwaith Cymru a'r Gororau. Erbyn y Nadolig, bydd 150 o orsafoedd ychwanegol wedi'u glanhau'n drylwyr. Rydym ni'n recriwtio'r llysgenhadon hynny, rydym ni'n creu mwy o gynlluniau partneriaeth cymunedol. Mae trenau'n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd, gan gynnwys yma yng Nghymru, yn CAF yng Nghasnewydd. Mae gwasanaeth Tro Holton nawr yn gweithredu rhwng Lerpwl a Wrecsam. Hoffwn wneud sylw bach iawn yn unig ynglŷn â thoiledau ar drenau tram. Yn ddiweddar, credaf y cyflëwydrhywfaint o wybodaeth gamarweiniol i Aelodau'r Siambr hon ac i'r cyhoedd yn gyffredinol ynghylch toiledau ar drenau. Bydd tair llinell yn ardal y metro lle bydd trenau tram yn gweithredu. Mae'r llinellau hynny'n llinellau lle'r ydym ni'n dymuno gweld ymestyn, hynny yw, gwasanaethau'n ymestyn i gymunedau eraill—i ganol trefi, er enghraifft. Ac am resymau amlwg, ni allwch chi redeg trenau fel 'Pacers' ar ffyrdd. Ni allwch chi wneud hynny. Ac felly, mae'n rhaid i chi chwilio am ateb sy'n eich galluogi i redeg cerbydau ar ffyrdd ac ar yr un pryd ar draciau rheilffordd presennol. Ni chewch chi yn un man ar y blaned hon, fel y dywedodd y Prif Weinidog yn gynharach, system metro lle mae toiledau hefyd yn y cerbyd. Mae'r unig un sy'n gwneud hynny yn yr Almaen, ond nid yw'r toiledau hynny'n gydnaws â deddfwriaeth yn y wlad hon sy'n ymwneud â phobl â symudedd cyfyngedig. Felly, yn lle hynny, fe wnaethom ni'r penderfyniad i fuddsoddi'n helaeth iawn yn wir—mae £15 miliwn eisoes yn cael ei wario ar orsafoedd yn ardal Cymru a'r Gororau, ar y metro yn bennaf—i sicrhau bod gennym ni fynediad gwell, heb risiau, yn 99 y cant o orsafoedd y metro, a thoiledau sy'n hygyrch i deithwyr anabl a'r rhai sydd â symudedd cyfyngedig. Mae'n golygu na fydd 95 y cant o deithwyr byth yn fwy na thua 10 munud i ffwrdd o doiled. Ac mae hynny'n hynod o bwysig i bendroni yn ei gylch, o ystyried y ddadl a gafwyd yn ddiweddar. Rwy'n credu hefyd i'r Aelod wneud sylw pwysig iawn ynghylch ymdrechu'n barhaus, rwy'n credu, i ddylanwadu ar Lywodraeth y DU i wneud y penderfyniad cywir ynglŷn â hyn. Byddaf yn rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau wrth gyrraedd camau priodol gydag adolygiad Williams, ond credaf y byddai'n ddefnyddiol ar yr adeg briodol i'r Siambr hon wneud cyflwyniad torfol arall, efallai pan fydd Llywodraeth y DU yn barod i ymateb i adolygiad Williams, fyddai'n dadlau, yn gynhwysfawr iawn, dros ddatganoli cyfrifoldebau a chyllid. David J Rowlands AC: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad? Rydych chi'n dweud yn eich datganiad mai eich gorchwyl gyntaf yw mynd i'r afael â'r diffyg buddsoddiad hanesyddol mewn gwella'r rheilffyrdd yng Nghymru. Rydym ni'n eich cefnogi yn llwyr yn eich ymdrechion yn hyn o beth. Mae Cymru wedi dioddef erioed o ddiffyg cyllid angenrheidiol i wella'r seilwaith rheilffyrdd, felly mae'n iawn inni geisio rheoli ein tynged ein hunain o ran ein holl seilwaith rheilffyrdd. Dylem fod yn rhydd i greu system reilffyrdd sy'n addas i'w diben i wasanaethu pobl Cymru. Ni allwn ni, wrth gwrs, sôn am y setliad datganoli a roddwyd i Gymru heb ei gymharu â'r hyn a roddwyd i'r Alban, ac nid yw datganoli'r rhwydwaith rheilffyrdd yn eithriad i hyn. Ni all hi fod yn iawn fod yr Alban wedi cael rheolaeth lwyr, ynghyd â'r cyllid angenrheidiol, ar gyfer ei holl rwydwaith rheilffyrdd, tra bod yn rhaid i Gymru fodloni â dull mor dameidiog gan Lywodraeth y DU.Gweinidog, rydych chi yn llygad eich lle'n dweud na allwn ni greu'r rhwydwaith rheilffyrdd a ragwelir yn y cynlluniau metro a gwella gorsafoedd rhanbarthol, heb sôn am ddatblygiadau'r coridorau strategol, heb i'r cymwyseddau a'r cyllid angenrheidiol gael eu datganoli'n llawn, ac rwy'n ffyddiog y gallwn ni wella'n sylweddol ar gostau datblygu drud eithriadol Network Rail. Mewn geiriau eraill, gwario arian yn llawer mwy effeithlon nag a wneir ar hyn o bryd. Rydym ni eisoes yn gweld y gwelliannau sy'n bosib gyda phwerau datganoledig gyda'r gwelliannau o dan fasnachfraint newydd y Gororau, ac rwy'n ffyddiog y gwelwn ni'r un gwelliannau ar reilffyrdd craidd y Cymoedd o dan y rhaglen ddatblygu a amlinellwyd gan Lywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru. A yw hi'n deg felly i rannau eraill o rwydwaith rheilffyrdd Cymru fod ar ei hôl hi am nad oes gan Lywodraeth Cymru y cymwyseddau a'r cyllid i wneud y gwelliannau angenrheidiol? Rydym ni yn y Blaid Brexit yn cydnabod bod seilwaith y rheilffyrdd yn hanfodol i ddatblygiad economi Cymru, a byddwn yn eich cefnogi'n llawn yn eich ymdrechion i sicrhau y caiff y rhwydwaith rheilffyrdd a'i gydrannau eu datganoli'n llawn i Gymru gydag, wrth gwrs, yr holl gyllid angenrheidiol sydd ei angen i gyflawni uchelgeisiau Cymru o ran rheilffyrdd. Ken Skates AC: A gaf i ddiolch i David Rowlands am ei gyfraniad a hefyd croesawu ei gefnogaeth i'n gweledigaeth a'n safbwynt ar ddatganoli cyfrifoldebau a chyllid ar gyfer y seilwaith rheilffyrdd? Credaf fod David Rowlands yn gwneud sylw pwysig bod arnom ni angen system drafnidiaeth sy'n addas i'r diben, ac mae'r rheilffyrdd yn rhan annatod o hynny. Rydym ni eisiau bod yn gydradd â'r Alban. Mae'n eithaf amlwg. Mae rhannau eraill o'r DU yn mwynhau'r gallu i weithredu gwasanaethau a buddsoddi mewn seilwaith yn y ffordd y byddem yn ei dymuno yma yng Nghymru. Rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud sylw pwysig am effeithlonrwydd gwariant a chanlyniadau buddsoddi. Un o'n rhwystredigaethau yn ystod y cyfnod diweddar oedd cost ormodol rhai gwelliannau i'r seilwaith rheilffyrdd a'r ffaith bod rhai prosiectau wedi methu o ran canlyniadau. Er enghraifft, gallwn dynnu sylw at y gwelliannau o ran y gwasanaethau rhwng y gogledd a'r de a'r gorwario ar gostau'r gwaith a wnaethpwyd yn yr ymdrech i leihau amseroedd teithio. Ni wnaeth yr amseroedd teithio hynny, gyda llaw, leihau cymaint ag a ragwelwyd yn wreiddiol. Hoffem gymryd rheolaeth o waith o'r fath ac rwy'n credu y byddai hi'n gwbl briodol wedyn inni fod yn llwyr atebol pe na bai unrhyw waith yn bodloni disgwyliadau'r cyhoedd. Ni ddylai unrhyw ran o Gymru lusgo y tu ôl i ran arall o Gymru oherwydd diffyg cyllid. Dyna pam yr ydym ni wedi bod yn glir iawn y dylid datganoli cyllid i gyd-fynd â datganoli cyfrifoldebau. Mae'r metro yn ne-ddwyrain Cymru yn cael buddsoddiad sylweddol yn rhan o'r cytundeb twf ar gyfer y rhanbarth. Ond, yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod, byddwn yn gweld gwelliannau mewn ardaloedd metro eraill ac yn y meysydd hynny lle nad oes cynlluniau metro wedi'u dyfeisio eto. Yn arbennig, gallaf gyfeirio at fuddsoddiadau sydd ar y gweill yn y gogledd ddwyrain, lle'r ydym ni'n gweld buddsoddi mawr yng nghynllun parcio a theithio ystad ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy, mewn gwelliannau ar gyfer cyfleoedd cynlluniau treialu bysiau ledled Cymru, a'r arian yr ydym ni'n ei wario yn y de orllewin i ddatblygu ymhellach y weledigaeth ar gyfer cynllun metro y de orllewin—ardal Bae Abertawe—. Ond, er mwyn cyflawni'r weledigaeth hon ac er mwyn cyflawni'r holl nodau ac amcanion a nodwyd yn y datganiad ysgrifenedig yr wyf wedi'i amlinellu heddiw, bydd angen buddsoddiad sylweddol. Ond nid yw'n fuddsoddiad na ddylem ei ddisgwyl, yn seiliedig ar ein poblogaeth a thanfuddsoddihanesyddol yn y seilwaith rheilffyrdd yn y cyfnod diweddar. Alun Davies AC: A gaf i ddweud, Gweinidog, fy mod i'n croesawu'n fawr y weledigaeth gyffredinol yr ydych chi wedi'i hamlinellu inni y prynhawn yma? Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud mai'r un peth sy'n uno pobl ar bob ochr y Siambr hon yw penderfyniad pendant bod pobl Cymru yn haeddu llawer gwell na'r hyn a gawsom ni o ran cyllid a phwerau dros reilffyrdd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Croesawaf yn fawr yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud a chroesawaf eich ffydd y daw adroddiad cadarnhaol yn sgil adolygiad Keith Williams yn ddiweddarach eleni. Byddwn yn ddiolchgar pe baech yn rhoi'r newyddion diweddaraf i ni ynglŷn â chynnydd ac amserlen ar gyfer cyhoeddi ei adolygiad ac yna unrhyw ddatganoli cyfrifoldebau yn sgil hynny. Nid wyf yn credu mai fi yw'r unig un sy'n teimlo rhwystredigaeth lwyr pan welaf y ffordd y mae Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU yn taflu arian at rai cymunedau gan lwgu cymunedau eraill o ran unrhyw fuddsoddiad o gwbl, ac yn sicr bu Cymru yn y sefyllfa honno flwyddyn ar ôl blwyddyn, waeth beth fo lliw'r Llywodraeth. Rwy'n credu bod llinell Cwm Ebwy, yr ydym ni eisoes wedi clywed pobl yn siarad amdani'r prynhawn yma, yn enghraifft o fethiant y setliad hwn. Rydych chi wedi ateb cwestiwn yn gynharach y prynhawn yma, Gweinidog, ynglŷn â'r cyfrifoldeb datganoli dros reilffyrdd y Cymoedd, ond wrth gwrs ni ystyrir rheilffordd Cwm Ebwy yn llinell graidd i'r Cymoedd er ei bod yn gwasanaethu poblogaeth sydd yr un fath i raddau helaeth â'r rheilffyrdd sy'n gwasanaethu Merthyr, Rhymni, Aberdâr neu Dreherbert. Mae hynny'n dangos y cymhlethdod a'r darnio y sonioch chi amdano yn eich datganiad ym mis Chwefror sy'n effeithio ar fywydau beunyddiol pobl heddiw. Nid sgwrs academaidd am ddamcaniaeth gyfansoddiadol yw hon, ond mae'n ymwneud â'r modd y gallwn ni fuddsoddi yn y seilwaith sy'n cynnal ein heconomi heddiw. I ni yng Nglynebwy ac i ni ym Mlaenau Gwent, mae'r blaenoriaethau'n glir ar gyfer llinell Cwm Ebwy. Rydym ni eisiau gweld y cerbydau newydd yr addawyd inni. Mae angen pedwar trên yr awr arnom ni. Nawr, rwy'n deall, Gweinidog, ac rydym ni wedi cael sgyrsiau am hyn yn y gorffennol, bod eich swyddogion yn dal i weithio ar hyn, a gobeithiaf y gallwch chi ddweud wrthym ni pryd y byddech yn disgwyl gweld dau drên ar y llinell, yn y lle cyntaf, ac yna pedwar trên yr awr yn y pen draw. Rydym ni wedi cael gwybod y gallwn ni ddisgwyl hynny yn 2024. Yn amlwg, mae hynny'n rhywbeth yr hoffwn i ei weld yn cael ei gyflwyno ynghynt os yw'n bosib. A'r sylw olaf yw hwnnw am Abertyleri. Byddai gorsaf yn Abertyleri yn cael effaith enfawr ar fywiogrwydd y dref honno ac ar allu pobl sy'n byw ym mhob rhan o Gwm Ebwy Fach i ddefnyddio'r rhwydwaith rheilffyrdd a'r system Metro newydd. Mae hynny'n rhywbeth sydd yn bwysig. Fe wnaethoch chi sôn yn gynharach am y modelau y mae'r Adran Drafnidiaeth yn eu defnyddio ar hyn o bryd yn Lloegr i benderfynu lle y caiff gorsafoedd newydd eu lleoli a lle i gynnig gwasanaethau newydd, ond wrth gwrs ni fydd y model hwnnw byth yn darparu gorsaf yn Abertyleri nac unrhyw le arall ym Mlaenau'r Cymoedd neu rwydwaith y Cymoedd gan nad yw'n bodloni'r maen prawf a bennir gan Lywodraeth y DU. Felly, mae angen model arnom ni a fydd yn cyflawni ar gyfer pobl Cymru ac a fydd yn cyflawni ar gyfer pobl yng Nghymoedd y De, yn enwedig yn yr achos hwn, o ran darparu gorsafoedd newydd, ond hefyd o ran gwneud gwelliannau eraill i'r seilwaith a chyflwyno gwasanaethau newydd. Mae'r cwestiwn olaf yr hoffwn i ei ofyn i chi o ran y materion penodol yn y de ddwyrain yn ymwneud â thrydaneiddio a gyriant. Nawr, dydw i ddim yn un o'r bobl hynny sy'n gwneud môr a mynydd ynghylch cael trenau trydan yn lle bynnag y mae eu hangen. Fodd bynnag, rydym ni yn gwybod eu bod yn cynnig profiad teithio llawer gwell ac rydym ni yn gwybod eu bod yn cael llawer mwy o effaith o ran newid yn yr hinsawdd a datgarboneiddio. Felly, mae arnaf i eisiau deall sut y gallech chi drydaneiddio lein Glyn Ebwy er mwyn sicrhau y gallwn ni fod yn rhan o'r system metro ac nid ar ei phwys.Llywydd, mae'r datganiad y prynhawn yma wedi rhoi cyfle i Aelodau drafod sut yr ydym ni eisiau bwrw ymlaen â hyn. Gobeithio y gallwn ni drafod y materion hyn yn fwy rheolaidd, ond rwyf hefyd yn gobeithio, drwy ddatganoli cyfrifoldeb a chyllidebau i Lywodraeth Cymru, y gallwn ni sicrhau bod gennym ni'r gallu yn y fan yma i fuddsoddi mewn rheilffyrdd ond hefyd i fuddsoddi mewn system drafnidiaeth amlfodd ac integredig sy'n cyflawni, naill ai drwy reilffordd neu fws neu dram, i bobl ar hyd a lled y wlad, a gallwn ddechrau gwireddu'r weledigaeth y mae'r Gweinidog wedi'i hamlinellu heddiw. Ken Skates AC: A gaf i ddiolch i Alun Davies am ei gyfraniad, ei gwestiynau a'r sylwadau pwysig a wnaeth? Os caf i ymdrin â'r mater o fuddsoddi a'r model a fabwysiadwyd gan Lywodraeth y DU drwy Lyfr Gwyrdd y Trysorlys, sef, yn y bôn, cyfrifiad sy'n seiliedig ar y gymhareb budd-cost a fydd wastad yn arwain at fuddsoddi yn yr ardaloedd hynny sydd eisoes yn gefnog a lle mae niferoedd mawr o bobl gyfoethog, oherwydd fe allwch chi wastad gyfrifo adenillion gwell os gallwch ddarparu ar gyfer y cymunedau hynny. Ac o ganlyniad, nid yw'n syndod bod pobl mewn cymunedau mwy difreintiedig, cymunedau sydd eisoes yn wynebu heriau difrifol, wedi teimlo eu bod wedi'u hesgeuluso yn y degawdau diwethaf. Fy marn i yw bod angen diwygio Llyfr Gwyrdd y Trysorlys, y gyfres honno o reolau sy'n penderfynu sut y caiff arian ei fuddsoddi gan Lywodraeth y DU, ac mae'n rhywbeth y byddwn yn ei groesawu'n fawr iawn. Mae'n rhywbeth sydd yn nwylo'r Gweinidogion presennol, mae'n rhywbeth a allai fod yn nwylo Llywodraeth yn y dyfodol, ond rwy'n credu bod angen gwneud hynny er mwyn ail-gydbwysoeconomi'r DU. Mae Alun Davies hefyd yn gwneud y sylw pwysig am swyddogaeth trenau trydan o ran gwella amseroedd teithiau. Mae trenau trydan yn cyflymu'n gynt ac felly gallant arwain at lai o amser aros mewn gorsafoedd, ond gallant hefyd arwain at amseroedd teithio byrrach rhwng gorsafoedd. Byddwn yn defnyddio trenau tri-dull a deuddull ar rwydwaith masnachfraint Cymru a'r Gororau. Efallai y byddwn yn defnyddio trenau hydrogen hefyd yn y dyfodol, a'm gobaith yw, wrth i ni ddarparu'r ganolfan ragoriaeth rheilffyrdd byd-eang yn y de, y byddwn yn gweld trenau hydrogen yn cael eu profi i'w cyflwyno'n dorfol yn y blynyddoedd i ddod. Rydym ni, yn wir, yn gweithio i ddarparu pedwar trên yr awr ar linell Cwm Ebwy erbyn 2024, ond fy ngobaith yw, os oes modd o gwbl y gallwn ni wneud hynny ynghynt, y gwnawn ni hynny ynghynt. Wrth gwrs, pe baem ni'n gallu cael y swm o arian y credwn y dylem ni fod yn gymwys i'w gael ar gyfer buddsoddi yn y seilwaith rheilffyrdd, byddem yn gweld gorsafoedd ychwanegol, gan gynnwys o bosib yn Abertyleri. Ond, ni fyddwn yn dymuno mabwysiadu'r un fformiwla ag y mae Llywodraeth y DU yn ei mabwysiadu. Rwyf eisiau mabwysiadu dull sy'n arwain at ddosbarthu cyfoeth yn decach, a chyfle i greu cyfoeth a ddosberthir yn decach ledled Cymru. O ran y ffaith nad yw llinell Glynebwy wedi ei dynodi'n rheilffordd graidd i'r Cymoedd, rwy'n credu nad yw'n gwneud unrhyw synnwyr i neb nad yw'n rhan o'r ased diffiniedig hwnnw yn y Cymoedd. Y rheswm, wrth gwrs, yw bod yn rhaid i wasanaethau redeg ar brif reilffordd de Cymru, nad yw wedi'i datganoli. Ond, mae peidio â chategoreiddio llinell Glynebwy fel rheilffordd graidd i'r Cymoedd, mae arnaf ofn, weithiau, yn rhoi'r argraff mai llinell gwasanaeth eilaidd ydyw. Nid yw hynny'n wir. Mae'n gwbl hanfodol i'n gweledigaeth ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus gwbl integredig ac mae'n bendant yn fwriad gennym i ddarparu gwasanaethau'r metro ar linell Glynebwy, ac, wrth wneud hynny, rwy'n credu, ei hailddiffinio yn rhan o ardal graidd llinellau'r Cymoedd, hyd yn oed os nad oes gennym ni gyfrifoldeb am yr elfen lawn o'r llinell y mae trenau'n ei defnyddio ar hyn o bryd. O ran amserlen adolygiad Williams, nid Llywodraeth Cymru sydd wedi gosod hon. Ychydig iawn o ddylanwad sydd gennym ni o ran pryd fydd Keith Williams yn cyflwyno adroddiad, a sut a phryd y bydd Llywodraeth y DU yn ymateb, ond byddaf yn rhoi gwybod i'r Aelodau am unrhyw gynnydd ac unrhyw ddatblygiadau. Os yw'n bosib, byddaf yn gwneud hynny cyn i Keith Williams neu Lywodraeth y DU wneud unrhyw gyhoeddiadau. Llywydd, roeddwn yn bwriadu dweud mewn ymateb i'r cyfrannwr cyntaf y bydd swyddogion Trafnidiaeth Cymru yma yfory, rhwng 11.00 y bore a 2.00 y pnawn i ateb unrhyw gwestiynau ynghylch gwasanaethau cyfredol. Hefin David AC: Rwy'n cytuno â Russell George, ac ychydig bach â Rhun ap Iorwerth. Rwy'n croesawu'r drafodaeth drawsffiniol hon. Mae dyfodol y rheilffordd yn edrych yn ddiogel, ond mae angen inni ystyried y sefyllfa bresennol hefyd. Hefin David AC: O gofio hynny, pa drafodaethau y mae'n eu cael â Trafnidiaeth Cymru o ran y rheilffordd rhwng Rhymni a Chaerdydd, oherwydd rydym ni wedi gweld rhai diffygion gyda'r cynnydd yn y misoedd diwethaf? Mae cwynion am seddau, yn enwedig, wedi cynyddu, ac mae hynny'n siomedig o gofio'r gwaith ychwanegol y mae Trafnidiaeth Cymru wedi'i wneud i wella'r sefyllfa o ran seddi. Pa drafodaethau y mae wedi eu cael ynglŷn â hynny? Hefyd, a all gadarnhau, er gwaethaf y ddadl heddiw, y bydd toiledau ar y rheilffordd rhwng Rhymni a Chaerdydd yn y system newydd? Ken Skates AC: A gaf i ddiolch i Hefin David am ei gwestiynau ac am ei gyfraniad heddiw? Gadewch imi fod yn gwbl glir ynghylch pa wasanaethau fydd yn dal â threnau â thoiledau, ac a fydd â thoiledau sy'n gydnaws â deddfwriaeth sy'n ymwneud â phobl sydd â symudedd cyfyngedig. O ran y rhwydwaith metro, bydd cyfleusterau tai bach yn dal i fod ar y gwasanaethau trên ar linell Rhymni, ar linell Maesteg, ar linell Glyn Ebwy ac ar linell Bro Morgannwg. Bydd trenau tram yn rhedeg ar dair llinell, fel y dywedais yn gynharach: byddant yn rhedeg ar linellau Treherbert, Merthyr ac Aberdâr. Gobeithio bod hynny'n ateb pob ymholiad ynghylch y mater hwn ynglŷn â thoiledau. O ran capasiti ar y fflyd bresennol, rydym yn gwneud ein gorau i ddarganfod ffyrdd o ymdrin â materion capasiti ledled y rhwydwaith, ond rydym yn cydnabod bod problem benodol yn ardal y metro, a dyna pam yr ydym ni'n gwneud pob ymdrech i ganfod cerbydau lle bynnag y gallwn ni ledled y DU i'w defnyddio yma yng Nghymru cyn gynted â phosib. Mae'r amser a neilltuwyd gan y Llywodraeth ar gyfer y datganiad hwn yn awr ar ben. Mae gen i nifer o siaradwyr sy'n dal eisiau siarad. Rhybudd rhag blaen, felly. Un cwestiwn o hyn ymlaen, a byddaf yn gweld a allaf alw'r holl siaradwyr sydd gennyf ar fy rhestr. John Griffiths, rhowch gynnig arni. John Griffiths AC: Diolch, Llywydd. Rwy'n croesawu'n fawr eich uchelgais a'ch ymrwymiad i roi Cymru mewn sefyllfa fwy grymus, Gweinidog, o ran penderfynu ar y seilwaith a'r gwasanaethau sydd gennym yma yng Nghymru. Gan mai dim ond un cwestiwn sydd gennyf, fe'i cyfyngaf felly i fater gorsaf reilffordd gerdded Magwyr, sydd, fel y gwyddoch chi, wedi cael llawer o gefnogaeth gan y gymuned leol, ac rwy'n credu ei bod yn cyd-fynd i raddau helaeth â'r hyn yr ydych chi'n sôn amdano o ran deall a diwallu anghenion lleol, ac â chynnwys budd cymunedol yn y datblygiad a fydd yn mynd rhagddo. Felly, dim ond tybio oeddwn i beth allech chi ei ddweud, Gweinidog, o ran y cynigion ar gyfer gorsaf gerdded Magwyr, a sut mae hynny'n cyd-fynd â'ch uchelgeisiau ar gyfer dyfodol rheilffyrdd yng Nghymru. Ken Skates AC: Mae'r Aelod yn gwneud sylw pwysig iawn, mewn gwirionedd, ynglŷn â sut yr ydym ni'n asesu ymhle y dylid buddsoddi arian ac, ar hyn o bryd, rhaid inni asesu hynny ar sail y fformiwla a'r meini prawf y mae Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU yn eu defnyddio. Yn y dyfodol, fel yr wyf wedi dweud, yn y ddogfen sydd wedi'i chyhoeddi heddiw ochr yn ochr â'r datganiad ysgrifenedig ac ochr yn ochr â'r datganiad llafar hwn, byddwn wedi dymuno mabwysiadu model gwahanol i bennu'r buddsoddiad mewn gorsafoedd ar draws y rhwydwaith, yn seiliedig ar rai o'r meini prawf unigryw yr ydym ni wedi'u datblygu yma yng Nghymru, gan gynnwys, er enghraifft, system arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth Cymru o ran arfarnu cyfleoedd buddsoddi. Rwy'n credu bod gan gynnig gorsaf gerdded Magwyr botensial enfawr a bod cefnogaeth enfawr i hynny ar draws y Siambr ac yn y gymuned. Ar hyn o bryd, mae'r model y mae Llywodraeth y DU wedi'i fabwysiadu ar gyfer buddsoddi mewn gorsafoedd yn ein cyfyngu, ond, wrth gwrs, pe baem yn datganoli'r cyfrifoldebau a'r cyllid, gallem fabwysiadu cyfres wahanol o feini prawf ar gyfer asesu rhaglenni. Yn wir, mae'n ddigon posib, pe bai adnodd o'r fath ar gael inni, y gallem ni gynnwys llawer mwy o brosiectau ar y rhestr yr wyf wedi'i chyhoeddi heddiw. Huw Irranca-Davies AC: Rwyf hefyd yn croesawu'r uchelgais yn hyn o beth. Dyna yw hanfod datganoli; mae ynglŷn â chymryd y pwerau hynny a'r cyllid i gyd-fynd â'r pwerau hynny i drawsnewid y rhwydwaith rheilffyrdd ymhellach, ac i gael pobl i newid eu ceir am fathau eraill o drafnidiaeth. A gaf i ofyn dim ond un cwestiwn, Llywydd—un cwestiwn yn unig? A gawn ni'r newyddion diweddaraf, os gwelwch yn dda, ynghylch y dyddiad ar gyfer cyflwyno'r gwasanaeth Sul ar linell Maesteg, rhan o'r trawsnewidiad presennol, a'r dyddiad ar gyfer yr astudiaeth a wnaethpwyd gan Network Rail ynglŷn â chynyddu amlder y gwasanaethau ar y llinell honno hefyd? Ken Skates AC: Diolch i Huw Irranca-Davies am ei ddau gwestiwn. [Chwerthin.] Yr hyn y byddaf i'n ei wneud yw, byddaf mewn gwirionedd yn gofyn i swyddogion Trafnidiaeth Cymru yfory i ddarparu'r wybodaeth honno—yr wybodaeth ddiweddaraf bosib—ynghylch newid yr amserlen a dyddiad cau'r astudiaeth, y mae'r Aelod wedi tynnu sylw atyn nhw. Jack Sargeant AC: Rwyf i hefyd yn croesawu'r gwaith y mae'r Gweinidog yn ei wneud yn y maes hwn, yn enwedig yn rhanbarth gogledd Cymru o ran y datblygiadau trawsffiniol, y datblygiadau ar Dro Halton a hefyd y gwelliannau ar ystad ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy. Gweinidog, a fyddech yn cytuno â mi y gall trafnidiaeth, fel y trafodais mewn cynhadledd yng Nglannau Dyfrdwy ddydd Gwener diwethaf, y gall yr amcanion datblygu cynaliadwy, megis atal, integreiddio, cydweithio a chymryd rhan, fod wrth wraidd uchelgais y Llywodraeth hefyd, nid yn unig ar gyfer ein rheilffyrdd ond ar gyfer ein holl rwydwaith trafnidiaeth integredig? Ken Skates AC: Byddwn, yn wir, ac yn fy ymateb i John Griffiths cyfeiriais at Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru, yr erfyn yr ydym ni'n ei fabwysiadu ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith. Mae'n ymwneud yn bennaf â seilwaith ffyrdd, ond gallai hefyd ymestyn y tu hwnt i ffyrdd i gynnwys pob math o seilwaith, gan gynnwys seilwaith cymdeithasol. Caiff hefyd ei ddefnyddio ar hyn o bryd wrth edrych ar ble yr ydym ni'n buddsoddi ein hadnodd gwerthfawr mewn seilwaith rheilffyrdd. Felly, oes, mae ystyriaeth i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ym mhroses Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru, ac mae'r broses honno eisoes wedi'i mabwysiadu ar gyfer rhai ystyriaethau seilwaith penodol, ond hoffwn weld hynny'n cael ei ymestyn ymhellach. A gaf i groesawu sylwadau Jack Sargeant ynghylch llinell Tro Halton? Rwy'n falch o ddweud bod y gwasanaethau ar Dro Halton wedi denu mwy o nawdd na'r hyn a ddisgwyliwyd yn wreiddiol. Rhianon Passmore AC: Rwyf i hefyd yn croesawu system drafnidiaeth integredig amlfoddol, uchelgeisiol ac ysbrydoledig i Gymru. Gweinidog, pa gyfleoedd y mae adolygiad rheilffordd Williams yn eu cynnig i Lywodraeth Cymru ysgwyddo cyfrifoldebau pellach dros greu gorsafoedd newydd ac ehangu gwasanaethau tram Cymru ar gyfer Cymru lanach, wyrddach? Ken Skates AC: Cyfleoedd enfawr. Pe bai gennym ni setliad a fyddai'n adlewyrchu ein hangen, yna, yn amlwg, yn seiliedig ar danariannu hanesyddol, byddai'r setliad hwnnw'n enfawr a byddai'n fodd inni allu buddsoddi, nid yn unig yn y seilwaith, ond hefyd o ran annog newid mewn arferion a allai arwain at newid sut mae pobl yn teithio hefyd. A boed hynny ar ffurf gorsafoedd newydd, rheilffyrdd newydd neu gynlluniau seilwaith cysylltiedig eraill megis cyfleusterau parcio a theithio, pe cai cyfrifoldebau eu datganoli gyda'r cyllid priodol, credaf y gallem ni greu newid sylweddol o ran cael pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn lle trafnidiaeth breifat. Cyflymder rhagorol yn y pum munud diwethaf. Diolch, bawb, am fod yn gryno. Diolch i'r Gweinidog. 5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol: Adeiladu ar record ailgylchu Cymru Dŷn ni'n dod i'r eitem nesaf, sef y datganiad gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol ar adeiladu ar record ailgylchu Cymru. Dwi'n galw ar y Dirprwy Weinidog i wneud ei datganiad. Hannah Blythyn. Hannah Blythyn AC: Diolch, Llywydd. Eleni yw ugeinfed pen-blwydd datganoli yng Nghymru ac mae wedi bod yn gyfle i ystyried y gwahaniaeth y mae datganoli wedi'i wneud. Mae'n briodol i ni ymfalchïo ein bod, yn ystod y ddau ddegawd diwethaf, wedi dod yn arweinydd byd-eang o ran ailgylchu. Yn 2017-18, fe wnaethom ni ailgylchu 62.7 y cant o wastraff trefol, ac rydym ni'n drydydd yn y byd o ran ailgylchu gwastraff cartrefi. Mae hon yn gamp anhygoel, ac ni fyddem ni yn y sefyllfa yr ydym ni ynddi heddiw heb waith caled ac ymroddiad dinasyddion a chymunedau ar hyd a lled y wlad. Ond nid mater o gyrraedd cyfraddau ailgylchu yn unig ydyw. Dyma'r peth iawn i'w wneud dros ein hamgylchedd, dros ein cymunedau, a dros ein heconomi. Rydym ni wedi dod yn bell, ond nid ydym yn hunanfodlon ac rwyf eisiau achub ar gyfle wythnos ailgylchu i nodi rhai o'r camau nesaf i adeiladu ar record ailgylchu Cymru. Mae ein huchelgais ar gyfer Cymru ddiwastraff yn gryfach nag erioed. Mae ailgylchu a chynyddu effeithlonrwydd adnoddau yn ganolog i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a'n hymateb i argyfwng yr hinsawdd. Mae hefyd yn allweddol i ddatgloi manteision economi carbon isel. Rwyf i'n falch o gael bwrw ymlaen â gwaith ar ailgylchu busnesau yr wythnos hon wrth gyhoeddi ein hymgynghoriad ar y rheoliadau arfaethedig newydd o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Bydd y Rheoliadau'n golygu bod yn rhaid i fusnesau wahanu deunyddiau allweddol er mwyn eu casglu a'u hanfon i gael eu hailgylchu, yn yr un modd ag yr ydym ni wedi bod yn ei wneud gartref ers blynyddoedd. Mae'r deunyddiau arfaethedig yn cynnwys plastig, metel, papur, gwydr a bwyd. Hefyd, mae'r ymgynghoriad yn cynnig gwahardd busnesau rhag gwaredu gwastraff i garthffosydd. Rwyf i wedi dweud o'r blaen ac fe'i dywedaf eto: mae'n gyfrifoldeb ar bob un ohonom ni i weithredu, o'r Llywodraeth i lawr gwlad a phopeth yn y canol. Mae'n ymwneud â phob un ohonom ni yn chwarae ein rhan, nid yn unig er budd yr amgylchedd, ond yr economi hefyd. Mae llawer o fusnesau eisoes yn gwneud eu rhan o ran rheoli gwastraff yn y modd hwn. Mae busnesau yn fwy nag unrhyw sector arall eisoes yn gwybod bod gwastraff,yn hytrach na bod yn faich, yn adnodd allweddol sy'n gallu creu incwm a dod â chyfleoedd masnachol yn ei sgil. Gall wneud cadwyni cyflenwi'n gryfach a drwy sicrhau bod adnoddau'n cael eu defnyddio'n hwy, gefnogi economi fwy cylchol lle mae mwy o werth ychwanegol yn cael ei gadw yma yng Nghymru. Mae hyn yn rhoi cyfle mawr i fusnesau ac awdurdodau lleol o ran gwerth y deunydd a gesglir a'r arbedion y gellir eu gwneud. Rydym ni wedi gwneud llawer o gynnydd o ran deunyddiau sy'n haws i'w hailgylchu, felly mae angen i ni fynd ati nawr i gasglu gwastraff sy'n anoddach i'w ailgylchu ar hyn o bryd. Dyna pam ein bod yn datblygu ein partneriaeth lwyddiannus ag awdurdodau lleol i sefydlu cyfleusterau newydd i ailgylchu cynhyrchion hylendid amsugnol megis clytiau. Rwyf i wedi cwrdd â llawer o bobl a chymunedau ledled y wlad ac rwyf wedi cael fy nghyffwrdd gan yr ymrwymiad, angerdd a brwdfrydedd ynghylch ailgylchu a mynd i'r afael â gwastraff. Nid oes unman gwell nag ysgolion am hyn, lle yr wyf wedi clywed enghreifftiau o bobl ifanc yn gweithredu o Ferndale i'r Rhyl. Mae menter ysgolion diwastraff sy'n cael ei threialu yn Sir Benfro a Chaerdydd yn dod â'r trydydd sector, awdurdodau lleol a Cadwch Gymru'n Daclus ynghyd. Mae'r fenter yn datblygu mentrau ailgylchu ymarferol mewn ysgolion, gan helpu i addysgu plant yn unol ag argymhellion adroddiad Donaldson. Ond mae rhagor i'w wneud o hyd i godi ymwybyddiaeth ac argyhoeddi pobl i ailgylchu mwy. Gwyddom ni fod mwy na hanner y deunydd sy'n parhau i fod yn rhan o wastraff gweddilliol yn hawdd i'w ailgylchu, a byddai cael hynny allan o finiau du ac i mewn i ailgylchu yn golygu bod Cymru'n cyrraedd cyfradd ailgylchu o fwy na 80 y cant. Byddai hyn nid yn unig yn lleihau cost gwasanaethau rheoli gwastraff, ond byddai hefyd o fudd sylweddol o ran carbon. I fynd i'r afael â hyn, byddaf i'n cyflwyno ymgyrch genedlaethol ar ailgylchu i gefnogi ymgyrchoedd lleol a rhanbarthol. Rwy'n cydnabod bod pryderon wedi'u mynegi'n ddiweddar ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd i'n gwastraff gweddilliol a'n deunyddiau hailgylchu ar ôl eu casglu. Yng Nghymru, rydym ni eisoes wedi cael ein cydnabod am lefelau tryloywder uchel, gyda gwefan Fy Ailgylchu Cymru yn caniatáu i bobl weld yr hyn sy'n digwydd i'n gwastraff—95 y cant ohono nad yw'n cael ei allforio. Mae buddsoddi mewn seilwaith ychwanegol yn allweddol i symud i beidio ag allforio 100 y cant o'r deunydd. Fel cenedl gyfrifol, mae'n hanfodol ein bod yn gwaredu'r gwastraff na ellir ei ailgylchu'n gywir. Am y rheswm hwn, rydym ni wedi buddsoddi yn y seilwaith i echdynnu trydan a gwres o'r deunydd hwn a'i waredu'n ddiogel i'r safonau amgylcheddol uchaf. Mae hyn yn sicrhau y gallwn ni dynnu'r budd mwyaf posibl o'r gwastraff hwn a'i atal rhag mynd yn broblem mewn man arall. Fodd bynnag, mae llosgi gwastraff ar gyfer gwres a phŵer yn gam trosiannol. Yr ateb yn y tymor hir yw symud oddi wrth ddeunyddiau fel plastigau defnydd untro a'r rhai sy'n deillio o danwydd ffosil. Mae gweithredu ar lygredd plastig yn uchel ar yr agenda a byddwn ni'n symud i wahardd cynhyrchion plastig untro, gan gynnwys ffyn bys cotwm, cyllyll a ffyrc, platiau, gwellt, troellwyr, ffyn balŵns a chwpanau. Ond ynghyd â gwaharddiad, rydym ni'n cymryd camau i sicrhau bod y cyfrifoldeb am gostau diwedd oes deunyddiau yn cael ei roi ar gynhyrchwyr ar sail egwyddor mai'r llygrwr sy'n talu. Rydym ni hefyd yn gweithio i gyflwyno cynllun dychwelyd ernes yng Nghymru ar opsiynau i drethu neu godi tâl ar rai cynhyrchion a gyda phartneriaid mewn awdurdodau lleol a'r sector preifat ar fentrau i ddatblygu mwy o gapasiti ailbrosesu plastig. Ein nod yw sicrhau ein bod yn gosod y sylfeini i fynd y tu hwnt i ailgylchu a dod â manteision ehangach i Gymru osymud i economi gylchol. Yn y modd hwn, mae gwneud pethau'n iawn o ran yr amgylchedd yn golygu eu gwneud yn iawn ar gyfer yr economi hefyd. Yn gynharach eleni, cyhoeddais ein cronfa economi gylchol £6.5 miliwn. Mae WRAP Cymru bellach wedi dyfarnu'r grantiau cyfalaf cyntaf o dan y gronfa. Mae'r grantiau hyn, sef cyfanswm o £355,000, yn mynd at dri gwneuthurwr o Gymru i fuddsoddi mewn offer i gynyddu faint o blastig a phapur sydd wedi'u hailgylchu sydd yn eu cynnyrch. Mae'n cael ei baru gan fuddsoddiad o dros £1.7 miliwn gan y busnesau eu hunain. Ddoe, lansiwyd ein hymgynghoriad i gynyddu ailgylchu busnesau, ac yn ddiweddarach eleni byddwn ni'n ymgynghori ar strategaeth gynhwysfawr ddiwastraff newydd—strategaeth a fydd yn adolygu ac yn ailgychwyn ein huchelgais a'n gweithredoedd ar gyfer Cymru ddiwastraff. Rwyf i eisiau i'r strategaeth newydd fynd y tu hwnt i ailgylchu drwy weithio i gyflawni ein hymrwymiad at ddatgarboneiddio ac economi gylchol wirioneddol. Mae hyn yn hollbwysig yng nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd sy'n ein hwynebu ac o ran datblygu diwydiannau gwyrdd a chyfleoedd y dyfodol. Rydym ni wedi ymrwymo'n llwyr i ddatblygu cofnod ailgylchu Cymru a ffordd Cymru o ymdrin â gwastraff: lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu ar gyfer dyfodol gwyrddach, cryfach a thecach. Daeth Suzy Davies i’r Gadair. Suzy Davies AC: Diolch. Andrew R.T. Davies. Andrew RT Davies AC: Diolch, Comisiynydd. Diolch, Dirprwy Weinidog, am eich datganiad y prynhawn yma. Mae'n gywir dweud y bu'r newid meddylfryd yr ydym ni wedi'i weld yng Nghymru yn ystod y 10 i 15 mlynedd diwethaf yn rhywbeth y gellir ei ddefnyddio gyda balchder fel esiampl i rannau eraill o'r byd, ond ni allwn adael i unrhyw gynnydd lithro nawr. Yn amlwg, mae angen gwneud cynnydd, ac mae'n werth nodi bod cyfraddau ailgylchu wedi gostwng—fymryn yn unig, rwy'n gwerthfawrogi, o tua 1.5 i 2 y cant—yn y cyfnod adrodd diwethaf y cyfeiriodd y Gweinidog ato, a chredaf mai'r hyn sy'n wirioneddol bwysig yw atebolrwydd a'r trywydd archwilio. Nid wyf yn dymuno swnio'n rhy debyg i was sifil, ond pan fydd pobl yn gweld delweddau o leoedd pell yn y byd megis Malaysia a mannau eraill, gyda chynnyrch ailgylchadwy sy'n dod, yn amlwg, o'r farchnad ddomestig ac, yn arbennig, o Gymru, mae hynny wir yn achosi pryder, byddwn i'n ei awgrymu, ac mae materion hygrededd yn codi ym meddyliau pobl am yr holl ymdrechion y maen nhw'n eu gwneud. Felly, byddwn i'n falch o ddeall yn union sut y gall y Gweinidog ychwanegu mwy o atebolrwydd at y llwybr archwilio, oherwydd bod hynny'n ffaith. Os cymeraf ddau awdurdod lleol yn unig: allforiodd Pen-y-bont ar Ogwr, er enghraifft, dros 1,000 tunnell o blastigau ailgylchadwy i leoliad amhenodol yn yr Almaen; ac allforiodd Rhondda Cynon Taf, er enghraifft, 707 tunelli o wastraff plastig i leoliad amhenodol ym Malaysia, a 172 tunnell arall o wastraff i leoliadau amhenodol yng Ngwlad Pwyl. Rwy'n gwerthfawrogi, o ran tunelli—o ystyried bod 132,000 tunnell o gynnyrch ailgylchadwy allan o gartrefi domestig mewn blwyddyn yn dod o Gymru—fod y niferoedd hyn yn gymharol fach, ond maen nhw yn peri amheuaeth ym meddyliau pobl, ac mae'n hanfodol ein bod yn gallu cael mesurau cadarn i sicrhau, pan fydd arfer gwael ar waith, y gallwn ni gael gwared ar hynny. Sylwaf yn natganiad y Gweinidog ei bod yn sôn am 95 y cant yn cael ei ddefnyddio'n ddomestig, neu ei ailgylchu, ddylwn i ddweud? Rwy'n cymryd eich bod yn sôn am farchnad y DU yn y fan honno yn hytrach na marchnad Cymru yn unig, oherwydd credaf ei bod yn bwysig gwahaniaethu rhwng y ddwy fel ein bod yn deall ein bod yn sôn am y DU yn ei chyfanrwydd. Felly, bydd unrhyw wybodaeth y gallwch chi ei rhoi am atebolrwydd a mwy o gadernid yn y broses archwilio i'w chroesawu. Mae'r ymgynghoriad sydd gan y Llywodraeth ar hyn o bryd yn ymwneud â'r gymuned fusnes a'r swyddogaeth bwysig y gallant ei chyflawni yn rhywbeth i'w groesawu. Ond mae'n rhaid i chi gael cefnogaeth busnes, ac rwyf yn gobeithio, yn amlwg, fod hwn yn ymgynghoriad dilys a fydd yn ystyried yr agweddau ymarferol y mae busnesau yn eu hwynebu ac, yn arbennig, rhai o'r costau ychwanegol y gallai fod yn rhaid eu talu yma yng Nghymru er mwyn cyrraedd nod yr wyf i'n credu ein bod ni i gyd yn ei ddilyn, ond yn y pen draw ni allwn roi busnesau mewn sefyllfa anghystadleuol. A hoffwn i geisio deall pam y ceir yr obsesiwn hwn ynglŷn â gwneud yn siŵr bod naill ai'r aelwyd neu'r busnesau yn gwahanu'r ailgylchu. Ymwelais i â CWM Environmental yn Sir Gaerfyrddin yn ddiweddar ac fe wnaethon nhw ddangos i mi'n glir y gallai eu systemau weithio'n fodlon iawn â deunyddiau ailgylchu cymysg, oherwydd eu bod yn gallu eu gwahanu ar y safle. Ac felly, gan gymryd ardal fy awdurdod lleol fy hun, ac rwy'n datgan buddiant fel Aelod—maen nhw newydd ddosbarthu bagiau oren, bagiau gwyn, bagiau glas, cynwysyddion plastig llwyd, a'r cyfan yn cyrraedd ar garreg ddrws pobl yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf i'w gweithredu o fewn yr ychydig fisoedd nesaf, heb sôn am y mater storio a lle y gall pobl gadw hynny i gyd, gallu pobl i ymdopi â newid arall yn y gyfundrefn ailgylchu a hynny o ailgylchu cymysg, a gyflwynwyd 12 mis yn unig yn ôl, sydd braidd yn heriol pan fydd y sector ailgylchu yn gallu gwneud hyn eu hunain. Rwy'n derbyn na allwch chi roi gwastraff bwyd gyda deunyddiau ailgylchu cyffredinol—mae hynny'n gwbl amlwg. Ond ailgylchu cyffredinol—mae'r dechnoleg ar gael i'w wneud a byddwn i'n awyddus i ddeall pam mae angen inni wneud gofynion mor benodol ar gartrefi ac, yn enwedig, ar fusnesau. Hoffwn i glywed hefyd beth yw barn y Gweinidog, yn arbennig, ar losgi, y mae ei hadroddiad yn cyfeirio ato, a gwastraff cartrefi yn mynd i gael ei losgi, fel ynni gwyrdd, oherwydd, yn amlwg, mae hi a minnau wedi dadlau a thrafod hyn ar draws y Siambr yma, ac mae cynigion yng Nghaerdydd ar hyn o bryd, a gwn mewn rhannau eraill o Gymru, i ddod â llosgyddion ar-lein. Felly, unwaith eto, hoffwn i ddeall sut, gan weithio gyda'r system gynllunio, y gellir ystyried barn preswylwyr, a phan godir pryderon, bod y pryderon hyn yn cael eu cymryd o ddifrif. Ond, yn gyffredinol, rydym ni i gyd eisiau ildio i economi lle, yn y pen draw, yr ydym ni'n edrych yn ôl ac yn dweud, 'ydych chi'n cofio pan oeddem ni i gyd yn gorfod ailgylchu?', oherwydd bydd gennym ni economi sydd wir yn cynhyrchu cynhyrchion nad oes angen eu hailgylchu oherwydd eu bod yn fioddiraddiadwy ac ati. Felly, da iawn chi am yr hyn yr ydych chi'n ceisio ei wneud, ond mae angen prosesau archwilio cryfach, mae angen system gynllunio gadarnach pan ddaw hi i losgi, ac yn anad dim, mae angen i chi gael cefnogaeth busnes yn yr ymgynghoriad, oherwydd, yn y pen draw, os bydd cost ychwanegol, gallai hynny fod yn anfantais gystadleuol i fusnesau yma yng Nghymru pan fyddant ar ôl troed y DU. Hannah Blythyn AC: Croesawaf y ffordd y gwnaethoch chi agor y cyfraniad yn y fan yna o ran sôn am y modd y mae'r meddylfryd wedi newid, ac rydym ni wedi gweld y newid diwylliannol hwnnw yng Nghymru, ond, ddegawd yn ôl efallai, ni fyddem ni wedi'i weld, ni fyddai'n ail natur, ac yn awr, i'r rhan fwyaf o bobl, mae'n ail natur i ddidoli eu gwastraff i'w gasglu. Rwy'n cofio cael fy syfrdanu pan ymwelais â chyfaill rhywle arall yn y DU, dyweder, a gwelais i bopeth, gan gynnwys gwastraff bwyd a chardbord, i gyd yn mynd i mewn i'r bin du, ac mae hynny'n ymddangos yn wrthun i ni nawr o ran sut y mae ein meddylfryd wedi newid a sut yr ydym ni'n ymdrin â phethau. Fe wnaethoch chig godi rhai pwyntiau allweddol iawn, a soniais i am lawer ohono yn y datganiad, ond o ran—. Rydych chi'n gywir am atebolrwydd a thryloywder, oherwydd nawr ein bod ni wedi cyrraedd y pwynt hwnnw, rydym ni eisiau annog rhagor o bobl i ailgylchu ac nid ydym ni eisiau iddyn nhw gael eu rhwystro gan unrhyw agwedd negyddol yn ei gylch. Felly, mae'n bwysig iawn bod hynny ar waith, ac fel y dywedais i, rydym ni wedi cael ein cydnabod am ein tryloywder yng Nghymru—mae'r 95 y cant o fewn y DU. Yn y pen draw, y peth gorau y gallwn ni ei wneud yw'r hyn yr ydym ni yn ei wneud nawr o ran datblygu'r seilwaith i sicrhau y gallwn ail-brosesu pethau yng Nghymru fel ein bod nid yn unig yn lleihau ein gwastraff ond yn lleihau'r angen i'w allforio i rywle arall. Rwyf i'n ymwybodol iawn o'r sylw y mae'r maes hwn wedi'i gael yn ddiweddar, ac rwyf wedi ysgrifennu at awdurdodau lleol i adolygu'r prosesau i weld sut y gallwn ni eu gwella. Hefyd, mae'n rhywbeth y gallwn ni ei ystyried efallai, hefyd, wrth i ni edrych yn fwy cynhwysfawr ar strategaeth newydd yn anelu at ddiwastraff, o ran sut y gallwn ni ystyried hynny fel rhan o hynny. O ran pryd—[Anhyglyw.]—sy'n mynd i leoliad, dyweder, yn yr Almaen, neu efallai yn yr Iseldiroedd, mae hynny'n bosibl oherwydd bod y farchnad yno i ailbrosesu a dyna'r hyn sydd angen i ni ei dyfu yma yng Nghymru, a dyna pam mae ein hymrwymiad i'r economi gylchol a'r seilwaith yn gymaint o flaenoriaeth i ni, wrth symud ymlaen. O ran llosgi—a, do, rydym ni wedi trafod hyn sawl gwaith yn y Siambr hon a'r tu allan—rwy'n deall safbwynt yr Aelod ar hyn. O ran y broses gynllunio, rwy'n credu ei fod o bosibl yn fater i'm cydweithiwr, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, sydd bellach yn eistedd yn y Siambr, a fydd wedi clywed hynny. Ond fel yr awgrymais yn fy natganiad, mae eisiau i ni gael gwared yn raddol ar wastraff gweddilliol sy'n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi, ac, mewn gwirionedd, mae defnyddio llosgi'n gyfnod trosiannol o'r hyn yr ydym ni yn ei ddymuno—i ddod at bwynt pan nad oes angen inni wneud hynny yn y dyfodol ac nid ydym ni'n defnyddio tanwydd ffosil ac rydym ni'n lleihau defnydd plastig untro. Felly, mae'n rhywbeth, mewn gwirionedd, sy'n rhan o'r strategaeth anelu at ddiwastraff. Mae'n debyg na chaiff ei alw'n hynny oherwydd rwyn credu bod eisiau strategaeth ddeinamig newydd arnom sy'n ystyried cyd-destun yr argyfwng yn yr hinsawdd a'r sefyllfa yr ydym ni ynddi ar hyn o bryd, ond mae'r rhain yn bethau yr wyf yn agored i'r Aelodau gyfrannu atynt yn rhan o'r broses hefyd. Dai Lloyd AC: A gaf i ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei datganiad a chroesawu llawer o waith sy'n cael ei wneud? Yn amlwg, mae ein cyfraddau ailgylchu i'w canmol, ond, yn amlwg, rydym ni mewn oes nawr lle y mae newid sylweddol—a'r argyfwng newid yn yr hinsawdd, yn gefndir i hyn oll, ac fe wnaeth Greta Thunberg ddoe osod heriau drwyddi draw. Felly, mae pethau'n dda, ond gallen nhw fod yn well. Yn benodol o ran y pwyntiau bod—. Rydych chi'n dweud yn eich datganiad bod angen i ni fuddsoddi mewn seilwaith ychwanegol er mwyn symud i 100 y cant o ddeunydd nad yw'n cael ei allforio. Ychydig wythnosau yn ôl, fe ddarganfuom ni hynny—oherwydd mae hyn yn fater i'r awdurdod lleol yn awr, ac yn amlwg, mae llawer o waith da wedi'i wneud gan bob un o'n hawdurdodau lleol. Ond yn ystod 2017-18, anfonodd Dinas a Sir Abertawe wastraff ailgylchadwy i wahanol rannau o'r byd, mae'n deg dweud, gan yr anfonodd 10,007 o dunelli i Loegr, 3,697 o dunelli i Dwrci, 1,816 tunnell i Tsieina, ac felly mae'n mynd yn ei blaen—Indonesia, India, Gwlad Pwyl. Ailgylchodd Dinas a Sir Abertawe 27,559 o dunelli yng Nghymru. Mae stori debyg gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot. Yn yr un flwyddyn, fe wnaethon nhw anfon dros 10,000 o dunelli o wastraff ailgylchadwy i Loegr, 2,000 tunnell i Indonesia, 1,700 tunnell i Bortiwgal a 974 o dunelli i Tsieina, gan ailgylchu 12,377 tunnell yng Nghymru. Ni wnaf ddiflasu'r Dirprwy Weinidog â'r ffigurau eraill ar gyfer yr awdurdodau lleol eraill yng Nghymru. Ond o ganlyniad i'r frawddeg yn y fan honno ynghylch yr angen i fuddsoddi mewn seilwaith ychwanegol, awgrymaf fod angen inni gefnogi ein hawdurdodau lleol yn llawer mwy brwd nag yr ydym ni i ddatblygu canolfannau ailgylchu yma yng Nghymru, ar lefel leol ac ar lefel ranbarthol, yn enwedig ar gyfer ailgylchu plastig. Felly, a gaf i ofyn yn benodol pa waith sydd ar y gweill yn y fan honno i gefnogi ein hawdurdodau lleol fel nad oes yn rhaid iddyn nhw anfon gwastraff ailgylchadwy i bob cwr o'r byd yn y ffigurau hyn a ddyfynnir yn unig? A hefyd, beth rydym ni yn ei wneud o ran deddfu i wahardd y plastigau na ellir eu hailgylchu ar hyn o bryd a defnyddio plastigau y gellir eu hailgylchu yn unig? Oherwydd rwy'n rhyfeddu bod awdurdodau lleol yng Nghymru yn anfon deunyddiau ailgylchadwy mor bell o amgylch y byd. Mae trigolion yn Abertawe, yn arbennig, yn gofyn, yn gwbl briodol pam mae miloedd o dunelli o'u deunydd ailgylchadwy yn cael ei anfon nid yn unig dros y ffin i Loegr, ond hefyd i leoedd pellach i ffwrdd, megis Twrci, Tsieina, India, Indonesia a Gwlad Pwyl. Yn sicr, nid yw hynny'n gynaliadwy. Beth am yr ôl troed carbon hwnnw? Mae angen inni greu'r canolfannau ailgylchu a'r swyddi sy'n cyd-fynd â nhw yma yng Nghymru. Hannah Blythyn AC: Nid wyf yn anghytuno â llawer o'r pwyntiau a wnaeth yr Aelod yn y fan yna o ran yr angen i ddatblygu'r seilwaith yma, ac, ar yr un pryd, mae hynny nid yn unig yn sicrhau'r budd amgylcheddol, mae'n lleihau ein hôl troed carbon, ond mae hefyd yn creu swyddi gwyrdd y dyfodol yn rhan o'r economi gylchol yng Nghymru. Fel y crybwyllais i'n gynharach, rydym ni wedi ysgrifennu at awdurdodau lleol i adolygu eu prosesau a gweld sut y gallwn ni gefnogi hynny orau hefyd. Ond o ran symud tuag at sicrhau bod gennym ni'r seilwaith hwnnw ar waith, yn enwedig o ran plastigau, mae gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau ein bod yn cael y buddsoddiad hwnnw yma a chael cwmnïau i fuddsoddi yma o ran datblygu'r seilwaith sydd ei angen arnom ni. Mewn gwirionedd, o ran yr ôl troed carbon o fynd—rhai o'r pethau—ar draws y byd, wel, gweithio ar lefel ranbarthol yw'r cyfeiriad yr ydym ni'n mynd iddo, oherwydd rydym ni eisiau gwneud yn siŵr nad ydym ni mewn gwirionedd—mae'n groes i reswm i gludo gwastraff neu ailgylchu dim ond hyd a lled y wlad hefyd. Felly, drwy'r bwrdd rheoli gwastraff, rwy'n gweithio'n agos iawn gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'i chynrychiolwyr, gan weithio mewn partneriaeth i sicrhau y gallwn ni wir ddatblygu'r seilwaith nid yn unig sydd ei angen arnom ni ar lefel Cymru, ac mae ei eisiau arnom, oherwydd mae arnom eisiau cyflawni'r amcanion hyn o ran yr argyfwng yn yr hinsawdd, a chynyddu ein cyfraddau ailgylchu hefyd, ond hefyd i gefnogi awdurdodau lleol o ran y manteision economaidd a all ddeillio o hynny iddynt hefyd. Felly, mae'r rhain yn bethau yr wyf yn fwy na pharod i ddiweddaru Aelodau amdanyn nhw wrth inni symud ymlaen, a gobeithio, dylem ni gael mwy o gyhoeddiadau cyn bo hir. Jenny Rathbone AC: Rwy'n croesawu'r adroddiad yn fawr oherwydd yr uchelgais y mae'n ei dangos, oherwydd nid yw'n ddigon i ni fod ond y trydydd gorau yn y byd. Mae angen inni symud i sefyllfa Cymru ddiwastraff. Fel rydym ni wedi gweld yn ystod y diwrnodau diwethaf, pobl ifanc yn mynd ar streic—maen nhw'n mynnu ein bod yn gwneud rhywbeth o ddifri i achub y byd rhag yr argyfwng hinsawdd. Felly, mae'n rhaid inni sicrhau bod ein holl ddinasyddion yn cyfrannu at ein nod yn y pen draw, sef Cymru ddiwastraff, ac mae'n rhaid i hynny gynnwys busnesau yn ogystal â phobl yn eu cartrefi. Tybed a wnewch chi longyfarch Ysgol Uwchradd Teilo Sant yng Nghaerdydd, sydd wedi cael gwared ar bob cynnig cludfwyd, ac, yn lle gwastraff plastig, gwastraff papur—wyddoch chi, lapio pethau i bobl fynd â nhw i ffwrdd gyda nhw—mae gan bob myfyriwr ddewis o fwyd cytbwys o ran maeth, ond mae'n rhaid iddyn nhw eu bwyta ar eu heistedd, gyda phlât a chyllell a fforc, sydd, yn amlwg, yn cael eu hailddefnyddio. Tybed a ydym ni—. Oni fyddai'n braf pe byddai pob un o arlwywyr yr ysgolion uwchradd yn dilyn esiampl Teilo Sant? Oherwydd mae'r tueddiad tuag at ddarparu bwyd sothach yn druenus iawn o sawl cyfeiriad, ond yn enwedig, o ran y ddadl heddiw, o ran faint o sbwriel sy'n cael ei ddefnyddio o ganlyniad. Ddydd Gwener diwethaf, roeddwn i allan gyda chasglwyr sbwriel Pentwyn, sy'n grŵp gwych o wirfoddolwyr yn fy etholaeth i, sy'n glanhau ein coedwigoedd a'n strydoedd o sbwriel wedi'u gollwng gan drigolion eraill, mae arnaf i ofn. Un o'r heriau yw pecynnau creision gwag; gwelais i un ohonyn nhw yn yr ystafell fwyta gynnau. Ac maen nhw'n broblem ddifrifol, oherwydd, hyd y gwn i, nid oes modd eu hailgylchu. A oes unrhyw ystyriaeth yn cael ei rhoi i dreth ar becynnau creision o gwbl, gan eu bod ym mhobman ar y strydoedd, a pham nad yw'r llygrwyr yn talu i'w glanhau? Yn yr un modd, byddai'n dda iawn gwybod, Dirprwy Weinidog, beth yw'r amserlen ar gyfer y cynllun ernes ar boteli a chaniau, oherwydd mae'n hanfodol ein bod yn gwneud yr ailgylchu ar y stepen ddrws hyn, oherwydd fel arall mae'n halogi'r holl ddeunyddiau ailgylchadwy eraill. Rwy'n cofio, pan oedd Bil yr amgylchedd yn mynd drwy'r pwyllgor yr arferwn i wasanaethu arno, fe wnaethom edrych yn fanwl ar y rhwymedigaethau—roeddem ni'n mynd i sicrhau bod busnesau yn ogystal â thrigolion yn cymryd rhan yn y busnes ailgylchu, oherwydd mae'n gwbl annerbyniol bod busnesau'n fflysio gwastraff bwyd i lawr y draen, fel yr wyf i wedi gweld wrth arolygu ysgolion, ag y mae i fflysio carthion cyw iâr i mewn i'r system dŵr gwastraff, oherwydd, yn amlwg, mae'n halogi; mae hynny'n gwneud gwaith dŵr Cymru yn anoddach o lawer. Gellir ailddefnyddio'r ddau beth hyn. Nid oes angen i ni—. Oherwydd, yn amlwg, mae unrhyw faw anifeiliaid yn ddefnydd da iawn o nitrogen i gyfoethogi ein tir. A gwastraff bwyd—clywais rai arbenigwyr yn Brighton yr wythnos hon yn sôn am ddefnyddio gwastraff bwyd: yn hytrach na'i losgi mewn treulwyr anaerobig, y dylem ni fod yn ystyried defnyddio gwastraff bwyd i'w roi i anifeiliaid fel dewis amgen i fewnforio soia a chorn o'r Amazon a llefydd eraill, gweithgaredd sy'n arbennig o niweidiol i'r hinsawdd. Felly, rwy'n sylweddoli bod materion dyrys i'w hystyried yn hyn o beth, ond roeddwn i'n dyfalu pa ystyriaeth y mae'r Llywodraeth yn ei rhoi i ailgylchu gwastraff bwyd i'w fwyta gan anifeiliaid fferm—fel yr arferai ddigwydd bob amser yn y gorffennol—yn hytrach na'i losgi. Hannah Blythyn AC: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Yn amlwg rwyf eisiau dechrau drwy gynnig fy llongyfarchiadau i Ysgol Teilo Sant am yr hyn sy'n swnio fel menter hollol wych, ac un sy'n deg iawn i'w chanmol a'i chydnabod am y gwaith y maen nhw wedi bod yn ei wneud. Mae cymaint o enghreifftiau o frwdfrydedd a syniadau o'r fath gan bobl ifanc mewn ysgolion uwchradd a chynradd ledled y wlad. Credaf ei bod yn bwysig iawn, wrth i ni symud ymlaen gyda'n gwaith, ein bod yn edrych ar y ffordd orau o rannu'r arfer gorau hwn, fel y gallwn ni ei weld yn cael ei efelychu mewn ysgolion mewn siroedd ledled Cymru. Credaf fod gan ysgolion, ysgolion eco ac ysgolion uwchradd ran i'w chwarae nid yn unig o ran codi ymwybyddiaeth ac addysgu pobl ifanc am bwysigrwydd ailgylchu a lleihau gwastraff, ond hefyd yr hyn y gallwn ni ei wneud yn ymarferol yn yr ysgolion eu hunain, sydd o fudd i'r amgylchedd ond gallai hefyd fod â manteision eraill i ysgolion o ran lleihau costau hefyd. O ran pecynnau lapio creision, mae'r Aelod wedi taro ar y pwynt sy'n arbennig o—y math hwnnw o ddeunydd lapio tenau ar gyfer melysion yw'r rhai sy'n eithaf anodd i'w hailgylchu ar hyn o bryd. Gwn fod yna rai cynlluniau sydd yn ailgylchu, yn enwedig pecynnau creision, oherwydd gwn am ysgol yn fy etholaeth i, nid nepell o'r fan lle rwy'n byw, sydd â'u cynllun ailgylchu eu hunain, ac yn eu hanfon at fusnes. Ond yn sicr, mae'n rhywbeth, o ran cyfrifoldeb y cynhyrchydd, i'w ystyried—beth yw'r modd gorau o gynnwys y pethau hynny sy'n anodd eu hailgylchu ar hyn o bryd ac sy'n anodd eu cyrraedd. O ran cynllun dychwelyd ernes, rydym ni'n gweithio arno nawr, ac yn wir, bydd ymgynghoriad arall o ran, union fanylion sut y byddai hynny'n gweithio'n ymarferol, gan weithio gyda'r holl randdeiliaid a'r holl bobl a fydd yn cymryd rhan, yn ogystal â'r grwpiau ymgyrchu a'r awdurdodau lleol hefyd. Rwyf i wedi dweud o'r cychwyn cyntaf mai'r hyn yr ydym ni eisiau ei sicrhau yw bod gennym ni system yng Nghymru sy'n gweithio—sy'n ategu'r hyn yr ydym ni eisoes yn ei wneud. Felly, sy'n ategu—. Fel rydym ni wedi'i ddweud, rydym ni wedi gweld newid mewn meddylfryd pobl sy'n didoli eu gwastraff yn y cartref i'w gasglu, felly y ffordd orau o wneud hynny—i bobl barhau â hynny, oherwydd yr hyn nad ydym ni ei eisiau yw i bobl feddwl wedyn, 'Wel, roeddwn i'n arfer gallu ei gael wedi ei gasglu gartref, a nawr mae'n rhaid i mi fynd i rywle arall, ac a wyf yn mynd yn y car, ac yna a yw hynny'n cynyddu fy ôl troed carbon hefyd?' Felly, mewn gwirionedd, i edrych arno'n holistaidd a'r holl elfennau ymarferol hynny, ac un ffordd o'i wneud efallai fyddai edrych ar sut y gallwn ddefnyddio technoleg ddigidol i'n helpu ni gyda hynny hefyd: a oes dulliau digidol y gallwn ni eu defnyddio, yn hytrach na thalebau materol ar gyfer pethau, fel rhan o hynny? Felly, rwy'n awyddus iawn i fynd i fanylion hynny wrth i ni fwrw ymlaen â'r gwaith hwnnw. Mae'n amlwg eich bod yn iawn o ran busnesau'n chwarae eu rhan—a chyrff cyhoeddus—o ran sut yr ydym ni'n gwahanu gwastraff. Roedd yn esgeulus imi beidio â sôn am hynny mewn ymateb i gwestiwn cyntaf Andrew R.T. Davies o ran sut yr ydym ni'n ennyn cefnogaeth busnesau. Credaf fod llawer o fusnesau eisoes yn gwneud eu hymdrechion eu hunain i wneud hyn, oherwydd eu bod yn cydnabod yr angen i wneud hyn, ac mae'n debyg bod rhyw fath o—wyddoch chi, maen nhw'n gwybod bod eu cleientiaid a'u defnyddwyr, mae'n debyg, eisiau ei gael hefyd, oherwydd cryfder barn y cyhoedd. Ond, yn sicr, mae angen inni weithio'n agos gyda busnesau a chael eu cefnogaeth. Yn debyg i'r ymgynghoriadau eraill i'r maes yr wyf wedi'i oruchwylio, megis y cynllun dychwelyd ernes a chyfrifoldeb estynedig y cynhyrchydd, rwy'n awyddus i gynnal sesiynau gyda rhanddeiliaid yn ogystal â symud ymlaen. Yn amlwg, bydd cyfnod pontio i ganiatáu i fusnesau gymryd y camau hynny, i wneud yr addasiadau sydd eu hangen arnyn nhw i allu bwrw ymlaen â hyn. Yn olaf, o ran y cwestiwn gwastraff bwyd, yn amlwg, mae'n rhywbeth y byddai angen ymchwilio ymhellach iddo, ond rwy'n gwybod hynny—. Er enghraifft, ymwelais i ddim yn rhy bell yn ôl â safle treulio anaerobig yn y gogledd—mewn gwirionedd lle y byddai fy ngwastraff bwyd fy hun yn mynd—ac mae swmp y gwastraff bwyd yno'n mynd i bweru trydan, ynni ar gyfer trydan. Roedden nhw'n sôn am, os oeddech chi'n byw o fewn pellter penodol i'r safle a'ch bod yn troi eich tegell ymlaen, mae'n debyg y byddai'n cael ei bweru gan ychydig o'ch gwastraff bwyd eich hun. Ond maen nhw hefyd yn defnyddio—maen nhw'n cymryd yr hylif fel gwrtaith organig hefyd, y mae ffermwyr lleol yn ei ddefnyddio yn yr ardal leol. Felly, mae pethau y gallwn ni eu gwneud—wyddoch chi, sut y gallwn ni ymgorffori'r ddau hefyd. Suzy Davies AC: Ac, yn olaf, Vikki Howells. Vikki Howells AC: Diolch. Hoffwn i ddiolch i chi, Dirprwy Weinidog, am eich datganiad heddiw. Roeddwn i'n falch iawn ichi gychwyn yr Wythnos Ailgylchu drwy ymweld â Bryn Pica yn fy etholaeth i, sydd—. Efallai bod gennyf ogwydd, ond credaf ei bod ar flaen y gad o ran ailgylchu yng Nghymru, gyda chynlluniau arloesol yno fel eu hailgylchu matresi—rwy'n credu mai nhw yw'r unig le yng Nghymru sy'n gwneud hynny—ailgylchu cewynnau, troi cewynnau'n belenni plastig y gellir eu defnyddio i wneud decin, treuliwr anaerobig, y ganolfan addysg, y credaf ichi ymweld â hi, a nifer o gynlluniau cyffrous ar gyfer y dyfodol hefyd. A hoffwn ategu'r sylwadau a wnaed gan Dai Lloyd ynglŷn â'r potensial inni, yma yng Nghymru, i wir fanteisio ar ailgylchu a defnyddio hwnnw i weddnewid ein heconomïau. Gwn fod llawer o gynigion diddorol ganddynt ym Mryn Pica, megis ailgylchu plastig caled, y gellid eu defnyddio i wir adfywio'r economi leol hefyd, ac i fanteisio ar yr ynni o'r treuliwr anaerobig. Gwn fod Llywodraeth Cymru wedi cynnal rhai trafodaethau ynghylch hyn, ond rwy'n chwilio am rywfaint o sicrwydd bod y trafodaethau hynny'n parhau a chael gwybod pa fath o enghreifftiau o arfer da y gallech fod wedi'u gweld ym Mryn Pica heddiw y gellid efallai eu cyflwyno ledled Cymru. Rwyf hefyd yn falch iawn bod eich datganiad yn cyfeirio at ailgylchu mewn ysgolion. Mae cynifer o blant ysgol lleol wedi cysylltu â mi ynglŷn â hyn. Mae'n fater y maen nhw'n teimlo mor angerddol amdano, a chefais drafodaethau gyda fy Aelod Senedd Ieuenctid lleol a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ynghylch sut y gallwn ni leihau'r defnydd o blastigau a deunydd nad oes modd ei ailgylchu mewn arlwyo mewn ysgolion. Ond, gyda Senedd Ieuenctid Cymru yn addo mynd i'r afael â gwastraff plastig, a ydych chi'n credu bod unrhyw gyfle i Lywodraeth Cymru weithio gyda Senedd Ieuenctid Cymru i geisio cyflawni'r nod hwn? A'r trydydd pwynt yr hoffwn i ei wneud yw bod busnesau cymdeithasol yn aml ar flaen y gad o ran yr agenda ailgylchu, yn enwedig o ran ailddefnyddio pethau, fel y 'Toogoodtowaste' arobryn yn RhCT, yr ymwelais ag ef dros yr haf, sy'n ailgylchu nwyddau cartref a nwyddau gwyn a chelfi. A hefyd lloriau Greenstream yn y Rhondda, a oedd yn bresennol yn nigwyddiad amser cinio UnLtd heddiw ac yn ailgylchu teils carped diwydiannol i'w defnyddio mewn tai cymdeithasol. Felly, pa waith ydych chi'n meddwl y gellid ei wneud i ledaenu'r arfer da o'r sector mentrau cymdeithasol i'r sector busnes ehangach? Hannah Blythyn AC: Diolch. Fe wnaf fy ngorau i gyfeirio at yr holl bwyntiau a gododd yr aelod. Yn amlwg, roeddwn yn falch iawn o allu ymweld â safle Bryn Pica heddiw. Fel y dywedwch, mae llawer o waith arloesol yn digwydd yn y fan honno, ac mae'r hyn sy'n digwydd yn fy nghalonogi'n fawr—nid felly'r tywydd a oedd yn fy nisgwyl pan gyrhaeddais yno'r bore yma, ond—. Ymwelais â nhw i agor y ganolfan addysg sydd newydd ei hailwampio gyda grŵp o blant ysgol lleol. Roedd yn wych gweld sut yr oedden nhw wedi dod â phopeth yn fyw, gydag arddangosiadau rhyngweithiol, y gall y plant gymryd rhan ynddyn nhw, sydd nid yn unig yn ymdrin â phethau ymarferol iawn ynghylch yr hyn sy'n digwydd yn Rhondda Cynon Taf yn lleol, fel eu bod yn gwybod beth sy'n cael ei ailgylchu a sut a ble, ond sydd hefyd yn edrych ar bethau ar lefel Cymru ac ar lefel fyd-eang hefyd, ac yn sôn am effaith ein hymddygiad a pham mae angen i ni newid pethau hefyd, ond ar yr un pryd, rhoi rhai atebion ymarferol iddyn nhw y gallan nhw fynd â nhw adref i blagio'u rhieni gyda nhw. Clywais—. Rwyf yn hoff iawn o straeon anecdotaidd am blant yn cywilyddio'r oedolion pan ddaw'n fater o wneud y peth iawn o ran ailgylchu a gwastraff. Roedd stori am, rwy'n credu, wyrion yn siarad am yr ymgyrch newid ymddygiad, ac roedd yna nain, mam a merch fach ac fe aethon nhw i siarad â nhw. Gofynnon nhw i'r nain a'r fam a oedden nhw'n ailgylchu, ac meddai'r ddwy, 'o ydym, ydym', ac yna dyma'r ferch fach yn edrych i fyny a dweud, 'na, dydych chi ddim'. Felly, rwy' credu, wyddoch chi, grym plant i, mewn gwirionedd—. Rydym ni wedi gweld pobl ifanc yn gweithredu, fel y crybwyllodd Jenny Rathbone, a chryfder hynny mewn gwirionedd, yn ein gwthio ni i weithredu, oherwydd mae gennym ni gyfrifoldeb a dyletswydd i wneud yr hyn a allwn ni i adael y blaned mewn cyflwr gwell o lawer ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Rydym ni'n manteisio ar ailgylchu i ddatblygu capasiti. Ynghylch pethau megis plastigau caled, gallaf sicrhau'r Aelod fod y gwaith hwnnw'n mynd rhagddo. Rwy'n gwybod fod gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol hefyd ddiddordeb mawr yn y modd y gallwn ni gefnogi gwaith yn y meysydd hynny, gan mai dyna'r hyn y mae angen inni ei wneud yn awr i gynyddu'r gallu hwnnw i ddatblygu economi sydd yn wirioneddol gylchol, ac o bosibl swyddi gwyrdd y dyfodol ar gyfer y plant ysgol y cyfarfûm â nhw heddiw hefyd. Felly, mae'n gwbl hanfodol fod y cyfan yn dod at ei gilydd. Ac, yn amlwg, ceir arferion da ym Mryn Pica a mannau eraill y gellir eu cyflwyno ledled Cymru. O ran y mentrau cymdeithasol, mae'n wirioneddol dda—yn wirioneddol dda—oherwydd bod llawer o'r safleoedd ailddefnyddio yr wyf wedi ymweld â nhw i gyd, yn gyffredinol, yn fentrau cymdeithasol, felly, unwaith eto, mae'n mynd yn ôl at y manteision ehangach hynny, sef nid yn unig ei fod yn gadarnhaol o ran yr amgylchedd, ond mae pobl yn mynd yno i wirfoddoli, yn dysgu sgiliau newydd ac, yn amlach na pheidio, yn cael swydd amser llawn o ganlyniad i hynny. Felly, yn amlwg mae'n rhaid i ailddefnyddio fod yn ganolog i unrhyw strategaeth dim gwastraff yn y dyfodol. Yn olaf, Senedd Ieuenctid Cymru—rwyf eisoes wedi cael fy holi gan un o Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru o ran gwastraff plastig a sbwriel, ac rwy'n disgwyl cael fy ngalw gerbron un o'u pwyllgorau rywbryd. Byddwn yn awyddus iawn i weithio gyda nhw yn y dyfodol, gan fod gan y genhedlaeth iau syniadau gwych ac, mewn gwirionedd, mae angen inni—fel y dywedais, mae angen inni wneud hynny, gweithredu ar eu rhan, felly gweithredu gyda nhw. Suzy Davies AC: Diolch yn fawr, Dirprwy Weinidog. 6. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cyflwyno'r Cynnig Gofal Plant i Gymru Suzy Davies AC: Yr eitem nesaf yw eitem 6, datganiad gan y Ddirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol—cyflwyno'r cynnig gofal plant i Gymru. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan. Julie Morgan AC: Diolch i chi, diolch Llywydd dros dro. A diolch yn fawr iawn am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am y cynnydd o ran cyflwyno ein cynnig gofal plant i Gymru. Bydd Aelodau'n ymwybodol, pan gafodd y Llywodraeth hon ei hethol, mai un o'r ymrwymiadau allweddol a wnaethom ni oedd darparu 30 awr o addysg gynnar a gofal plant i rieni plant tair a phedair oed sy'n gweithio, a hynny am 48 wythnos y flwyddyn ledled Cymru. Ac, wrth ddatblygu'r cynnig hwn, mae llawer o'r teuluoedd yr ydym ni wedi siarad â nhw wedi dweud wrthym ni am y pwysau sy'n eu hwynebu wrth geisio talu costau cynyddol y cartref, yn enwedig yn ystod y cyfnod hwn o gyni. I'r teuluoedd hyn, mae costau gofal plant yn effeithio'n uniongyrchol ar ba un a all y rhieni, ac yn enwedig y mamau, weithio neu beidio ac, os gallan nhw, ble maen nhw'n gweithio a pha fathau o swyddi y gallan nhw eu derbyn; mae'n dibynnu ar eu gallu i gael gofal plant. Julie Morgan AC: Felly, fe wnaethom ni ddechrau profi ein cynnig mewn rhannau o Gymru yn 2017. Gofynnwyd inni'n aml pam nad oedd y cynnig ar gael ym mhobman, a pham yr oeddem ni'n cyflwyno'r cynllun yn raddol. Gofynnwyd hynny yn arbennig imi yn fy etholaeth i yng Ngogledd Caerdydd, sef un o'r lleoedd olaf i fod yn rhan o'r cyflwyno. Roedd y dull gweithredu graddol yn bwysig er mwyn sicrhau bod y cynnig wedi'i brofi'n briodol ac yn gweithio fel yr oeddem ni wedi bwriadu. Rwy'n falch iawn y bu mor llwyddiannus, a hoffwn dalu teyrnged a mynegi fy niolch diffuant i'n partneriaid, i'r awdurdodau lleol ac i'r darparwyr gofal plant sydd wedi bod yn gwbl hanfodol i'r broses, ac sydd wedi ein helpu i gyflawni cymaint. Oherwydd y gwaith yr ydym ni wedi'i wneud gyda'n gilydd, yn profi gweinyddiaeth a hygyrchedd y cynnig gofal plant, mae'n bleser gennyf ddweud wrth Aelodau'r Cynulliad y bu ein cynnig ar gael ledled Cymru ers mis Ebrill, dros flwyddyn yn gynt na'r bwriad gwreiddiol. Ddiwedd mis Gorffennaf, roedd bron i 16,000 o blant tair a phedair oed yn gallu cael gofal plant a ariannwyd gan y Llywodraeth, ac roedd 29 y cant o'r rhain yn gwneud hynny drwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog. Pan werthuswyd y cynnig ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf o weithredu, dywedodd y rhan fwyaf o'r rhieni y gwelsant gynnydd gwirioneddol yn eu hincwm gwario oherwydd y cynnig. Mae rhiant nodweddiadol sydd â phlentyn yn elwa ar 20 awr o ofal plant yr wythnos yn cael yr hyn sy'n cyfateb i £90 ychwanegol yr wythnos yn ei boced—arian na fyddai ganddo fel arall. Dywedodd canran uchel o rieni wrthym hefyd fod y cynnig wedi rhoi mwy o hyblygrwydd iddyn nhw o ran y mathau o swyddi y gallen nhw eu gwneud, neu ei fod yn rhoi mwy o gyfleoedd hyfforddi iddyn nhw. Ac yn y flwyddyn gyntaf roedd 60 y cant o'r holl rieni a oedd yn defnyddio'r cynnig yn ennill swm cyfwerth neu lai nag enillion canolrifol y boblogaeth yng Nghymru, gan ddod â'r budd mwyaf i deuluoedd incwm isel a chanolig. Felly, rwy'n siwr y gwnewch chi ymuno â mi i dalu teyrnged i'r 2,000 o ddarparwyr gofal plant sy'n darparu'r cynnig ar hyn o bryd, ac i'n hawdurdodau lleol, sydd wedi chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o sicrhau bod teuluoedd yn gallu elwa ar y cymorth hwn. Mae hefyd yn bwysig cofio bod y sector gofal plant yn gyflogwr sylweddol yn ei hawl ei hun. Ledled Cymru, mae dros 3,600 o leoliadau gofal plant yn cyflogi tua 17,000 o bobl. Mae rhieni sy'n defnyddio gofal plant yn cyfrannu dros £1.2 biliwn at economi Cymru. Rydym yn cymryd camau i gefnogi'r sector mewn sawl ffordd, er enghraifft drwy'r rhyddhad ardrethi o 100 y cant, a thrwy weithio gyda rhanddeiliaid allweddol i broffesiynoli'r gweithlu gofal plant. Bydd y gyfres newydd o gymwysterau a gyflwynwyd yn gynharach y mis hwn yn cynnig llwybrau dilyniant gwell a chyfleoedd gyrfa ehangach, ac yn yr hydref byddwn yn arbrofi gyda dull cymorth busnes ar gyfer y sector i gefnogi twf hirdymor. O gofio ein llwyddiant hyd yma, rwy'n awyddus i edrych ar sut y gallwn ni ymestyn y cymorth hanfodol hwn. Felly, fel y nodwyd ym maniffesto arweinyddiaeth y Prif Weinidog, rydym ni bellach yn ystyried dichonoldeb ehangu'r cynnig i gefnogi rhieni mewn addysg a hyfforddiant, neu sydd ar drothwy dychwelyd i'r gwaith. Mae'r arlwy yn un o gyfres o raglenni sydd wedi'u hanelu at gefnogi rhieni, ac mae llawer ohonyn nhw hefyd yn cefnogi teuluoedd gyda chostau gofal plant. Fodd bynnag, mae wedi dod yn amlwg bod rhai bylchau rhwng y rhaglenni hyn. Roedd hwn yn faes o ddiddordeb arbennig i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg pan oedden nhw'n ystyried yr hyn yw Deddf Cyllido Gofal Plant (Cymru) 2019 erbyn hyn. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod yn edrych ar hyn, ac yn sicrhau ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi rhieni er mwyn iddyn nhw allu mynd i'r gwaith. Rwy'n disgwyl adroddiad ar yr adolygiad yn gynnar yn 2020. Rwyf hefyd yn falch o allu cyhoeddi y byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol ledled Cymru i ddatblygu trefniadau cyflawni hirdymor ar gyfer y cynnig, gan ddatblygu rhai o'r systemau a'r gwasanaethau sydd eisoes ar waith ganddyn nhw. Mae awdurdodau lleol wedi gwneud gwaith rhagorol yn gweinyddu'r cynnig, ac maen nhw mewn sefyllfa dda i barhau â'r gwaith pwysig hwn, yn enwedig o ystyried eu gwybodaeth leol a'r berthynas agos y maen nhw wedi'i meithrin dros nifer o flynyddoedd gyda darparwyr a rhieni yn eu hardaloedd. Gan weithio gydag awdurdodau lleol, rwy'n ffyddiog y gallwn ni ddarparu gwasanaeth cenedlaethol i weinyddu'r arlwy—gwasanaeth cenedlaethol sydd hefyd yn ychwanegu gwerth gwirioneddol yn lleol. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn croesawu'r swyddogaeth barhaus hon i awdurdodau lleol a byddwn yn gweithio gyda nhw ac eraill wrth inni ddatblygu cynigion manwl. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol ein bod wedi bwriadu gweithio gyda Chyllid a Thollau ei Mawrhydi ar ddull cenedlaethol o ymdrin â cheisiadau a gwiriadau cymhwysedd. Byddai hyn wedi golygu y byddem yn defnyddio eu platfform gwasanaethau gofal plant, sy'n gweinyddu'r cynnig 30 awr yn Lloegr a'r cynnig gofal plant di-dreth. Awgrymodd asesiad effaith darganfod a gwblhawyd cyn yr haf y gallai'r gost o ddatblygu ac yna rhedeg y gwasanaeth am bum mlynedd fod oddeutu £16 miliwn. O ystyried yr hyn a oedd yn gysylltiedig â hyn, nid yw'r costau hyn yn afresymol, ond maen nhw'n uwch na'r rhai a amlinellwyd yn yr asesiad effaith rheoleiddiol ar gyfer y Ddeddf. Yn rhannol, mae hyn oherwydd eu bod yn cynnwys rhai costau nad oedden nhw ar gael ar yr adeg y cwblhawyd yr asesiad effaith rheoleiddiol. Hefyd, o ystyried ein bod yn adolygu'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y cynnig, ac yng ngoleuni'r costau hyn, penderfynais y byddai'n fwy synhwyrol inni ohirio'r gwaith gyda Chyllid a Thollau ei Mawrhydi ar hyn o bryd. Fodd bynnag, hoffwn ddiolch iddyn nhw am yr amser a dreuliwyd ganddyn nhw gyda ni hyd yma wrth ystyried ein dewisiadau i gyd. Mae'r newid hwn wedi arwain at oedi wrth gyflwyno'r is-ddeddfwriaeth o dan y Ddeddf Cyllido Gofal Plant (Cymru). Rwyf eisiau gwneud yn siŵr bod deddfwriaeth yn diwallu anghenion y gwasanaeth yr ydym yn ei ddatblygu gydag awdurdodau lleol, ac rwy'n teimlo ei bod hi'n bwysig treulio'r amser sydd ei angen i wneud pethau'n iawn. Yn ystod y misoedd nesaf, byddwn yn parhau i fireinio'r cynnig ar sail ein profiad a thystiolaeth bellach o'n rhaglen werthuso barhaus. Llywydd dros dro, mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i fynd i'r afael ag achosion tlodi, ac yn enwedig tlodi mewn gwaith, ac mae ein cynnig gofal plant yn rhan allweddol o'r ymrwymiad hwnnw, gan helpu rhieni sy'n gweithio gyda'r costau hynny. Rwy'n falch iawn o'i lwyddiant hyd yma. Janet Finch-Saunders AC: Diolch i'r Dirprwy Weinidog am gyflwyno'r datganiad hwn. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn falch iawn, mewn gwirionedd, fod Llywodraeth Cymru bellach yn gweithredu polisi'r Ceidwadwyr Cymreig o ddarparu 30 awr yr wythnos o ofal plant a gyllidir gan y Llywodraeth i rieni sy'n gweithio, ac fe wnawn ni ymuno â chi i dalu teyrnged i'r 2,000 o ddarparwyr gofal plant sy'n cyflwyno'r cynnig ar hyn o bryd ac i'n hawdurdodau lleol sy'n gorfod gweithredu hyn. O ystyried eich datganiad, fodd bynnag, fe'm trawyd gan y diffyg sylw a roddwyd i'r sefyllfa y bu rhai darparwyr gwasanaethau eu hunain ynddi ac rwyf mewn ychydig o benbleth gan eich bod wedi disgrifio'r cynnig fel un mor llwyddiannus. Mae'r Gymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd yn rhybuddio bod y cynnig mewn gwirionedd yn rhoi straen ar feithrinfeydd wrth iddo gael ei gyflwyno ledled Cymru. Mewn gwirionedd, mae hyn yn dod yn hunllef i feithrinfeydd gan fod y gwasanaethau'n dweud eu bod yn cael trafferth recriwtio digon o staff cymwys i ateb y galw ychwanegol. Felly, rwy'n gobeithio nad oes gwahaniaeth gennych, mae gennyf bedwar cwestiwn. O gofio bod meithrinfeydd sy'n gweithredu'n briodol yn ganolog i lwyddiant y cynnig, a wnewch chi egluro beth allwch chi ei wneud ar unwaith i sicrhau bod mwy o bobl yn dewis hyfforddi i fod yn weithwyr meithrin a bod y rhai sydd eisoes yn y sector mewn gwirionedd yn dewis aros? Rydym ni'n gweld gormod o lawer yn gadael y proffesiwn hwn. Cwestiwn 2: ar ôl ystyried canlyniadau arolwg diweddar o 118 o leoliadau blynyddoedd cynnar sy'n gyfrifol am gyflogi dros 1,350 o aelodau staff a darparu lleoedd i fwy na 8,000 o blant, fe'm trawyd gan y ffaith mai dim ond tua 5 y cant o'r gweithlu sy'n ddynion. Felly, credaf fod potensial mawr i gynyddu nifer y dynion yn y proffesiwn ac i hyn fod yn un ffordd y gellid mynd i'r afael â'r broblem o ddiffyg staff. Felly, a wnewch chi egluro beth sy'n cael ei wneud i sicrhau y caiff y sector gofal plant ei ystyried i fod yn agored i ddynion a menywod? Cwestiwn 3: fel bob amser, mae cyllid yn ystyriaeth bwysig i unrhyw broffesiwn, ond yn yr achos hwn, mae llawer o'r 17,000 o bobl sy'n gweithio ym maes gofal plant ledled Cymru ar isafswm cyflog. Nawr, rwy'n gwybod bod llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddwch chi'n adolygu'r gyfradd yr ydych chi'n ei thalu am y cynnig gofal plant, gan gynnwys asesiad o effaith newidiadau i'r cyflog byw cenedlaethol. Felly, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith hwn ac egluro pa ystyriaeth yr ydych wedi'i rhoi i gysoni'r cyfraddau a delir drwy'r cyfnod sylfaen a'r cynnig gofal plant? Ac yn olaf, nid oeddwn yn synnu o ddarllen yn eich datganiad eich bod yn awr yn ystyried dichonoldeb ehangu'r arlwy i gefnogi rhieni mewn addysg a hyfforddiant neu sydd ar drothwy dychwelyd i'r gwaith, oherwydd rwy'n credu y byddwch yn ymwybodol, yn sicr, fy mod i fy hun a'm cydweithiwr Suzy Davies AC wedi codi pryderon ynghylch hyn o'r blaen. Rydym ni'n gwybod bod y sector yn cael trafferth gyda'r cynnig fel y mae, felly rwy'n glir nad yw Cymru eto wedi cyrraedd y pwynt lle mae modd ehangu cymhwysedd nawr. Y cwestiwn amlwg i mi, nawr, yw: a wnewch chi egluro erbyn pryd yr ydych chi'n disgwyl i gymhwysedd gael ei ehangu, a sut y bydd y sector yn darparu ar gyfer y cynnydd yn y galw y bydd hyn yn sicr yn ei achosi? Diolch. Julie Morgan AC: Hoffwn ddiolch i Janet Finch-Saunders am ei datganiadau a'i chwestiynau. Mae'n debyg pan rwy'n dweud ei fod yn llwyddiannus iawn, fy mod i'n seilio hynny ar y ffaith ei fod blwyddyn yn gynnar a bod 16,000 o blant yn elwa arno. Ac nid wyf yn credu y gallwn ni gwestiynu'r ffaith ei fod yn llwyddiant mawr. Cytunaf yn llwyr â hi fod meithrinfeydd yn ganolog i'r cynnig. Wrth imi fynd o amgylch y wlad yn ymweld â meithrinfeydd ac yn gweld beth fu'r effaith arnyn nhw, maen nhw wedi bod yn gadarnhaol yn ddieithriad gan eu bod nhw'n gweld ei fod yn gyfle gwych iddyn nhw, ac roedden nhw'n dweud eu bod wedi gallu cynyddu'r niferoedd a chynyddu'r staff. Ond, yn amlwg, rwy'n credu ei bod hi'n gwneud sylw pwysig iawn am y gweithlu, ac un o'r pethau yr ydym ni eisiau ei wneud yw annog y gweithlu i broffesiynoli'r gweithdy. Fel y dywedais, rydym yn annog cymwysterau ac rydym yn gweithio'n galed iawn i sicrhau bod y math hwn o waith yn cael ei weld fel gwaith deniadol ac fel swydd bwysig, oherwydd beth allai fod yn bwysicach na gofalu am blant bach iawn a'u magu? Felly, dyna'r hyn yr ydym ni eisiau ei wneud, ac rydym ni wedi cael ymgyrch—ymgyrch lwyddiannus, ymgyrch o'r enw Gofalwn—a gafodd ei rhedeg gan y Llywodraeth, sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn. Ac mewn gwirionedd, pan ymwelais â'r Alban ychydig wythnosau'n ôl, maen nhw mewn gwirionedd yn defnyddio'r ymgyrch honno i helpu i lywio eu hymgyrch nhw eu hunain. Felly, rydym yn edrych ar hynny. O ran y swm o arian a delir am y cynnig gofal plant, £4.50 yr awr yn ôl ein gwerthusiad diweddaraf, nid yw'r darparwyr gofal plant wedi mynegi unrhyw bryder mawr ynglŷn â hynny; yn wir, rwy'n credu, yn gyffredinol, eu bod yn derbyn hynny. Rwy'n ymwybodol bod y cynnig yn rhanbarthol yn Lloegr, a'i fod yn newid, ond yr hyn y byddwn yn ei wneud y flwyddyn nesaf yw adolygu hynny a byddwn yn edrych ar y swm. O ran pryd gaiff y cymhwyster ei ehangu, rydym yn bwriadu cael yr adroddiad adolygu hwn y flwyddyn nesaf, ac yna gobeithiwn allu ei ehangu bryd hynny. Diolch. Siân Gwenllian AC: Diolch yn fawr. Does dim dwywaith mi oedd y Ddeddf cyllido gofal plant yn un dadleuol iawn o’r cychwyn cyntaf am y rheswm nad oedd o ddim yn cynnwys pob plentyn. Doedd plant oedd â’u rhieni mewn hyfforddiant neu addysg neu’n ddi-waith ddim yn gymwys ar ei gyfer. Felly, mi bleidleisiodd Plaid Cymru yn ei erbyn o. Roedden ni’n teimlo ei fod hi’n hollol annheg bod teuluoedd sydd yn ennill hyd at £200,000 y flwyddyn yn gallu cael gofal plant am ddim tra bo’r plant tlotaf sy’n byw ar aelwydydd di-waith yn cael eu heithrio rhag mwynhau’r manteision amlwg ddaw o ofal plant ac addysg blynyddoedd cynnar. Ond, mi oedd y Gweinidog ar y pryd yn benderfynol o fwrw ymlaen efo cynnig cwbl ddiffygiol, a hynny er gwaethaf pryderon y comisiynydd plant a mudiadau plant, er gwaethaf pryderon y pwyllgor plant a phobl ifanc, er gwaethaf pryderon Plaid Cymru a leisiwyd droeon yn y Siambr yma. Felly, dyma’r Llywodraeth, yn yr haf, yn cyhoeddi ei bod hi wedi gwneud tro pedol, a dwi’n falch, o’r diwedd, fod y Llywodraeth hon yn cydnabod ei bod hi wedi gwneud llanast llwyr o’i hymgais gyntaf i gyflwyno ei chynnig gofal plant 30 awr. Ond mae’ch datganiad heddiw yn fy mhryderu. Rydych chi, erbyn hyn, yn ystyried ehangu’r cynnig er mwyn cefnogi rhieni mewn addysg a hyfforddiant. Cytuno'n llwyr. Mi ydych chi, yn anffodus, ddim yn mynd yn ddigon pell, achos rydych chi'n ystyried ei ehangu fo hefyd ar gyfer rhieni sydd ar fin dychwelyd i weithio. Felly, hyd yn oed o dan eich cynllun diwygiedig, bydd yna rai plant yn parhau i beidio â bod yn gymwys ar gyfer gofal plant, gan gynnwys rhai o blant mwyaf anghenus Cymru. Mae hwn yn gam gwag. Mi fyddai Plaid Cymru, mewn Llywodraeth, yn cynnig cyfle i bob plentyn gael manteisio ar ofal plant am ddim. A wnewch chi egluro, felly, beth ydy eich diffiniad chi o rieni sydd ar fin dychwelyd yn ôl i’r gwaith? A wnewch chi egluro pam nad ydych chi'n mynd i gynnwys pob plentyn wrth i chi ddiwygio'r cynnig? Pam nad ydych chi'n mynd i gynnwys aelwydydd lle mae’r rhieni yn ddi-waith? Pam eich bod chi'n gwahaniaethu yn erbyn rhai plant? Onid ydy pob plentyn yn haeddu cael y cychwyn gorau posib mewn bywyd? Gobeithio y medrwch chi egluro rhesymeg eich bwriad newydd, os gwelwch yn dda. Gan eich bod chi'n atal y gwaith efo'r Trysorlys, a wnewch chi egluro beth sydd wedi newid, felly, o ran agweddau llywodraeth leol? Ydych chi wedi cael barn Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar oblygiadau’r tro pedol yma? A ydyn nhw bellach yn credu—yn wahanol i beth oedden nhw'n ei gredu pan oedd y ddeddfwriaeth yn mynd drwy'r Senedd yma—nad ydy’r system ddim yn rhy fiwrocrataidd a chymhleth a’u bod nhw yn fodlon ei gweinyddu? Dwi ddim yn gwybod beth sydd wedi newid rhwng cyfnod y ddeddfwriaeth a'r cyfnod yma. Rydych chi'n dweud yn eich datganiad eich bod chi wrth eich bodd bod y cyfnod prawf wedi bod mor llwyddiannus. Ac rwyf innau yn clywed bod nifer fawr o deuluoedd yn fy ardal i yn cymryd mantais o’r cynllun. Ond, dwi'n ymwybodol bod hyn yn creu problemau cyllidebol i'r cynghorau, a dwi'n deall bod arian ychwanegol wedi cael ei ddyrannu i rai cynghorau sir, ond nad ydy hwnnw ddim yn ddigonol o bell ffordd i gwrdd â'r galw. Felly, a wnewch chi egluro sut rydych chi'n bwriadu cau'r bwlch rhwng y galw a’r arian sydd ar gael ar hyn o bryd, os gwelwch yn dda? Julie Morgan AC: Diolch yn fawr iawn i Siân Gwenllian am yr holl sylwadau a wnaeth, a derbyniaf ei sylw nad yw hyn yn cynnwys pob plentyn. Rwy'n falch iawn ein bod bellach yn adolygu ehangu'r cynnig i rieni sydd mewn addysg a hyfforddiant neu'n bwriadu dychwelyd i fyd addysg a hyfforddiant, ac rydym ni hefyd yn cynnwys cyrsiau rhagflas neu fynd i gyfweliadau yn rhan o hynny, felly rydym ni eisiau ei ymestyn mor bell â phosib. Rwy'n gwybod, pan edrychodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar hyn—roeddwn ar y Pwyllgor ar y pryd, felly rwy'n ymwybodol o'r pryder—un o'r argymhellion penodol ac un o'r meysydd roedd y Pwyllgor yn teimlo'n gryf amdano oedd addysg a hyfforddiant. Felly, rwy'n siŵr ei bod yn falch ein bod wedi ymateb i hynny a'n bod yn ei ymestyn i addysg a hyfforddiant. O ran y sefyllfa ariannol, yn amlwg, oherwydd y nifer fawr o blant sydd wedi eu derbyn flwyddyn yn gynnar, mae hynny'n golygu ein bod yn gwario mwy o arian eleni nag yr oeddem yn ei ddisgwyl. Felly, yn 2018-19, gwariwyd £19.6 miliwn ar ofal plant ac mae'r gyllideb ar gyfer 2019-20 yn £40 miliwn, a dylai hynny fod yn ddigon i gwmpasu'r flwyddyn nesaf, a bydd unrhyw arian ychwanegol sydd ei angen yn rhan o broses arferol y gyllideb yn ystod y flwyddyn, felly ni fydd yn rhaid i'r awdurdodau lleol boeni; byddant yn cael yr arian. O ran ei weinyddu a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, credaf fod awdurdodau lleol wedi ailfeddwl, gan fy mod yn credu, pan wnaethon nhw ymgymryd â hyn yn gyntaf, roeddent yn teimlo y byddai hyn yn orchwyl beichus ac y byddai yn anodd ei chyflawni, ac rwy'n credu eu bod wedi lleisio'r farn honno, ond maen nhw wedi newid eu meddwl ac maen nhw'n fodlon iawn i barhau â'r gorchwyl. A dyna'r adborth a gawn ni gan yr awdurdodau lleol—eu bod yn gadarnhaol iawn ynghylch gwneud hyn ac y byddent yn hoffi parhau i'w wneud. Ac yng ngoleuni'r ffaith, rwy'n credu, y cânt eu gweld fel y bobl fwyaf llwyddiannus i wneud hynny, oherwydd eu bod yn lleol, yn agos at y teuluoedd ac yn agos at y plant, rwy'n credu mai dyna'r ateb gorau. Felly, maen nhw wedi newid eu meddwl, ac maen nhw nawr yn llawer mwy cadarnhaol ynglŷn â gweinyddu'r cynllun. Mark Reckless AC: A gaf i longyfarch Llywodraeth Cymru am yr hyn y mae'n ei wneud gyda'r cynnig gofal plant? Rwyf wedi gwneud rhai sylwadau eithaf cryf am feysydd megis parchu canlyniad y refferendwm neu adeiladu ffordd liniaru i'r M4, lle nad yw'r Baid Lafur wedi dilyn ei maniffesto, ond o ran hyn rydych chi wedi—yn wir, cyflawni hyn flwyddyn yn gynnar. Rwy'n eich llongyfarch ar hynny. Sylwais hefyd fod y cynnig a oedd yn bodoli eisoes yn canolbwyntio llawer mwy ar ddarpariaeth y sector cyhoeddus drwy ysgolion yng Nghymru, o'i gymharu â'r hyn a oedd wedi datblygu yn Lloegr. Rwy'n nodi bod y ffordd yr ydych chi wedi cyflwyno hyn i'w weld yn deg i'r sectorau preifat a chyhoeddus, ac yn caniatáu iddyn nhw gystadlu neu, lle bo'n briodol, weithio gyda'i gilydd ar delerau cyfartal. Felly, unwaith eto, hoffwn roi clod i Lywodraeth Cymru yn hynny o beth. Fe wnaethoch chi ddweud eich bod yn falch iawn o ddweud wrth Aelodau'r Cynulliad bod y cynnig wedi bod ar gael drwy Gymru gyfan ers mis Ebrill. Ni allaf ond dyfalu pam nad ydych chi ond yn dweud wrthym amdano nawr. Pam na chawsom ni gyhoeddiad swyddogol ym mis Ebrill? Gobeithio nad oes gwahaniaeth ganddo fy mod i'n dweud, ond bu'n rhaid i mi ddibynnu ar y Gweinidog blaenorol, Huw Irranca-Davies, a phan ofynnais iddo, dywedodd, 'o na, rydym ni'n gwneud hyn. Mae'r cyfan yn digwydd ledled Cymru ym mis Ebrill', ac roedd hi'n ymddangos fel petai neb yn gwybod. Dydw i ddim yn deall pam rydych wedi bod yn cuddio'ch golau o dan lestr ar y mater hwn. Rwy'n credu fy mod wedi gofyn i Huw, a dywedodd Huw fy mod yn cael siarad am y peth ac nad oedd yn gyfrinachol, dim ond heb ei gyhoeddi, dyna'r cwbl. Y cyflwyno. Mae 60 y cant o'r holl rieni sy'n defnyddio'r cynnig yn ennill llai na'r incwm canolrifol; rwy'n credu bod hynny'n eithaf sylweddol. Yn aml, mae'n ymddangos bod gan bobl ryw syniad bod y rhai cefnog yn elwa'n anghymesur ar hyn. Tybed, Gweinidog, faint o hynny sy'n adlewyrchu problem garfan, ddemograffig o ran bod rhieni ifanc yn iau na'r oedran pan fo enillion ar eu hanterth yn eithaf aml. A hefyd, rwy'n credu bod angen i ni gydnabod bod newidiadau yn y system drethi a budd-daliadau ar lefel y DU wedi tueddu i gosbi'r grŵp hwn, o gymharu â phensiynwyr o leiaf, dros y degawd diwethaf. Mae'n dda gweld eich bod chi'n mabwysiadu rhai o syniadau' r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Rwy'n credu, yn enwedig pan fo rhieni yn astudio neu ar fin cael swydd, ei bod hi'n dda rhoi mwy o gefnogaeth. Tybed o ran dewis rhwng Cyllid a Thollau ei Mawrhydi ac awdurdodau lleol, yn gyntaf, Gweinidog, bu i chi a mi ac ychydig o gydweithwyr dethol dreulio cryn dipyn o amser ar bwyllgor Bil yn rhoi pwerau i Gyllid a Thollau ei Mawrhydi rannu data a gwneud y gwaith hwn. Meddwl wyf i, tybed a oedd ein gwaith ar hynny'n ofer, a faint, hefyd, sydd wedi'i wario eisoes ar y rhyngweithio hwnnw â Chyllid a Thollau ei Mawrhydi nad yw'n cael ei ddatblygu. Tybed hefyd beth yw'r goblygiadau o ran cymhwyso a gorfodi'r gofynion cymhwysedd. Efallai eich bod yn teimlo'n fwy cartrefol ynglŷn â'r gofynion cymhwysedd nag yr oeddech chi, ac nid yn poeni cymaint, ond mae'n ymddangos i mi fod Cyllid a Thollau ei Mawrhydi wedi cael y data hwn, ac ar gyfer ein gofal plant di-dreth mae'n rhaid i ni gadarnhau bob tri mis ein bod yn dal yn gymwys yn ôl meini prawf amrywiol. A oes gan yr awdurdodau lleol yr un gallu â Chyllid a Thollau ei Mawrhydi i wybod beth yw'r enillion ac i orfodi os nad yw pobl yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd mwyach? Yn olaf, a gaf i bwysleisio eto mor bwysig yw'r gofal plant di-dreth? Bydd llawer o rieni sy'n derbyn y cynnig hwn yn talu am ofal plant ychwanegol, ac ofnaf nad yw niferoedd mawr iawn ohonyn nhw'n elwa ar gynllun gofal plant di-dreth y DU. Credwn mai un peth cadarnhaol o weithio gyda Chyllid a Thollau ei Mawrhydi oedd y byddai pobl yn sefydlu cyfrif a byddai'r rhwystr rhag iddyn nhw elwa wedyn ar y gofal plant di-dreth hefyd yn llai. Mae hwnnw'n arian sy'n dod gan Lywodraeth y DU a fyddai'n dod i Gymru i gefnogi'r sector, i hybu incwm pobl y gallent ei wario wedyn yng Nghymru. Gofynnaf i'r Gweinidog: a allech chi fel Llywodraeth Cymru wneud mwy i hyrwyddo a gwneud pobl yn ymwybodol o'r ffaith bod y cynllun hwn ar gael, a phe bydden nhw'n sefydlu cyfrif gyda Chyllid a Thollau ei Mawrhydi, y cai swm ei ychwanegu at bob £8 a roddir ynddo ac y gallant wedyn dalu am werth £10 o ofal plant, ar ben y cynnig y maen nhw'n ei gael gan Lywodraeth Cymru? Julie Morgan AC: Diolch i Mark Reckless am y pwyntiau hynny, ac rwy'n falch ei fod yn cydnabod ein bod wedi dilyn ein maniffesto yma yng Nghymru a'n bod yn gweithio gyda'r sectorau cyhoeddus a phreifat. Un o'r materion sydd wedi codi yw'r anhawster, weithiau, pan fo'r lleoliad gofal ymhell o'r ysgol, ac felly rydym wedi annog cydleoli lle bo hynny'n bosibl. Rydym ni hefyd wedi rhoi grantiau i ddatblygu meithrinfeydd y sector preifat mewn ffordd sy'n eu gwneud yn fwy agored ac mewn gwell sefyllfa i gymryd mwy o blant. Felly, rydym ni wedi ceisio helpu gyda'r arian cyfalaf hefyd o ran helpu meithrinfeydd i ddatblygu. O ran y £60,000, rwy'n credu ei fod efallai'n gwneud pwynt dilys ynglŷn â rhieni ifanc, ond mae'n ddiddorol, yn ôl ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, mai dim ond 3.1 y cant o holl bobl Cymru sy'n ennill dros £60,000. Mark Reckless AC: Chwe deg y cant. Julie Morgan AC: Ie. Ac mae'r niferoedd sy'n ennill dros £80,000 neu dros £100,000 yn llai fyth, felly mewn gwirionedd nid oes llawer o bobl gyfoethog yng Nghymru o ran y niferoedd hynny. Felly, fe wnaethom ni dreulio llawer o amser ar y pwyllgor yn edrych ar fater Cyllid a Thollau ei Mawrhydi—amser maith—a hoffwn ddiolch i'r Aelodau hynny o'r pwyllgor a fu'n rhan o hynny, ac roeddwn yn rhan ohono hefyd, ond roedd yn broses o ddysgu. Yr hyn a welsom ni oedd, nid yn unig fod rhai costau nad oeddem yn eu rhagweld, ond hefyd bod y cyfnod o edrych ar sut y byddai'n gweithio gyda Chyllid a Thollau ei Mawrhydi yn dangos inni y gallai fod rhywfaint o anhyblygrwydd, er enghraifft, pe baem ni eisiau newid ein cynnig ac nad oedd ein cynnig yn cyd-fyndryw lawer, fel sy'n wir ar hyn o bryd, â'r arlwy yn Lloegr. Ac, wrth gwrs, mae ymestyn i addysg a hyfforddiant yn golygu bod yn rhaid ymdrin â hynny yn lleol beth bynnag. Hefyd, rydym ni eisoes wedi ymrwymo i dalu rhieni maeth a grwpiau eraill, y byddai'n rhaid ymdrin â nhw yn lleol beth bynnag. Felly, gwnaed y penderfyniad, mewn gwirionedd, y byddai'n well aros gyda'r awdurdodau lleol, yn enwedig gan fod yr awdurdodau lleol yn falch o fwrw ymlaen â'r gwaith. Felly, gwnaed y penderfyniad, ac nid oedd yr arian a wariwyd wrth wneud hynny yn wastraff oherwydd iddo gael ei ddefnyddio er mwyn gwneud penderfyniad mwy hirdymor, a bydd y gwaith a wnaethom ni gyda Chyllid a Thollau ei Mawrhydi o fudd mawr yn y tymor hir. Gofal plant di-dreth: oes, mae'n rhaid inni wneud popeth a allwn ni i'w hysbysebu, oherwydd mae'r nifer sy'n elwa o hynny yn druenus o isel. Jenny Rathbone AC: Diolch, Dirprwy Weinidog, am eich datganiad. Mae'n dda gwybod ein bod yn gwneud cynnydd cadarn o ran cyflwyno'r cynnig a oedd yn y maniffesto. Mae cydleoli yn hynod bwysig oherwydd fel arall mae perygl bod pobl yn gorfod cadw eu plentyn mewn meithrinfa nad yw'n cynnig yr addysg gynnar y mae gan bob plentyn tair a phedair oed yr hawl iddi hefyd. Felly mae gen i ddiddordeb arbennig mewn gweld, wrth i chi fireinio'r cynnig a phan rydych chi'n cynnal trafodaethau gydag awdurdodau lleol, pa mor fanwl ydych chi'n edrych ar ysgolion bro ac y dylai pob ysgol fod yn ysgol fro, oherwydd eu bod yn adeiladau cyhoeddus a ariennir gan y trethdalwr ar gyfer gwasanaethu'r gymuned, ac mae'n drueni os nad yw ysgolion yn cael eu defnyddio mwy na dim ond rhwng 9 y bore a 3.30 y pnawn. Ni fydd yn berthnasol i bob ysgol, oherwydd nid oes gan rai ysgolion y gallu i ymgymryd â mwy o weithgareddau, ond mae gan rai o'r ysgolion cynradd yn fy etholaeth i dir sylweddol ynghlwm wrth yr ysgol, ac mae hynny'n hollol wych, ond byddai'n berffaith bosib cyflwyno canolfan blynyddoedd cynnar ar y safleoedd hynny, sef tir y mae'r cyhoedd eisoes yn berchen arno, a byddai hynny'n cefnogi integreiddio'r gofal plant ag addysg feithrin sef yr hyn rwy'n sicr, yn y tymor hir, yr ydym ni i gyd eisiau ei weld yn rhywbeth y mae gan ein plant yr hawl iddo. Felly dim ond meddwl oeddwn i tybed pa drafodaethau sy'n mynd rhagddyn nhw wrth i chi gynnal yr adolygiad hwn i weld a allwn ni fwrw ymlaen â'r agenda honno. Julie Morgan AC: Diolch i Jenny Rathbone am y sylw yna. Ydw, rwy'n cytuno â hi ynglŷn ag ysgolion bro, ac rwy'n sicr yn cytuno ynglŷn â chyd-leoli. Dyma drafodaeth yr ydym ni wedi bod yn ei chael. Fel y mae hi'n dweud, ceir llawer o ysgolion lle gallech chi ddatblygu darpariaeth gofal plant ar y safle, neu lle gallwch chi helpu i ychwanegu at rywbeth sydd eisoes ar y safle, ac rydym ni wedi gwneud cryn dipyn o hynny'n barod gyda'r grantiau cyfalaf y soniais amdanyn nhw. Rydym ni wedi bod yn rhoi nifer fawr o grantiau cyfalaf, ac mae'r Gweinidog addysg yn ymwybodol iawn o hyn. Credaf mai un o'r manteision o gydleoli ar y safle, a allai fod yn feithrinfa wirfoddol neu annibynnol, yw bod hynny'n lleihau'r teithio rhwng y lleoliad gofal a'r ysgol, a chredaf fod hynny'n bwysig iawn, gan ein bod wedi siarad am ein hôl troed carbon, a hefyd, i'r plant, os oes rhaid i chi deithio'n rhy bell, rwy'n credu ei fod yn aflonyddu arnyn nhw. Felly, rwy'n credu ein bod ni wedi gwyntyllu hynny'n fanwl ac rwy'n credu ei bod yn gwneud sylw dilys iawn. Huw Irranca-Davies AC: Mae'n hyfryd cael y datganiad hwn a gweld hyn yn gwneud cynnydd mor dda, a hefyd gweld bod Llywodraeth Cymru yn wir yn gwrando ac yn addasu'r cynnig wrth symud ymlaen. Mae hynny'n arwydd o Lywodraeth dda, mae'n rhaid i mi ddweud. Ond dydw i ddim yn gwybod a fyddai hi'n cytuno â mi y byddai rhieni'r 16,000 o blant sy'n elwa ar hyn o bryd yn anghytuno â disgrifiad Siân Gwenllian funudau'n ôl sef 'llanast llwyr', a'r darparwyr, mae'n rhaid i mi ddweud, sydd wedi gweld manteision diriaethol hyn i'r plant o ran addysg y blynyddoedd cynnar, o ran cymdeithasoli a datblygu sgiliau cymdeithasol. Ond cynnig cyfyngedig ydoedd beth bynnag, wedi'i gyfyngu i'r disgrifiad ohono yn y maniffesto. Felly, rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru nawr mewn gwirionedd yn ystyried ei ymestyn, ond mae gennyf gwestiwn ynghylch hynny. Ceir cynlluniau sy'n bodoli eisoes o ran cymorth ar gyfer hyfforddiant ac addysg i rieni. Un peth y mae'n rhaid i ni ei osgoi yw defnydd gwastraffus o adnoddau, felly os ydym yn ystyried ymestyn y cynnig i hynny, a allwn ni wneud yn siŵr bod yna gyswllt; nad ydym ni mewn gwirionedd yn dyblygu'r hyn sy'n cael ei gynnig ar hyn o bryd? Byddai'n wych pe gallai'r Gweinidog Cyllid ddod o hyd i arian ychwanegol i wneud hyn, oherwydd roedd hi wastad yn uchelgais gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, pan ymddangosais ger ei fron, i wneud mwy. Felly, y tu hwnt i hynny, hoffwn ofyn i'r Gweinidog sut y mae'r trafodaethau yn mynd rhagddyn nhw yn y Llywodraeth ynghylch cynnig ehangach sydd y tu hwnt i'r arlwy gofal plant. Nawr, nid wyf yn disgwyl iddi gyflwyno glasbrint heddiw ar gyfer y ffordd ymlaen, ond gwyddom i gyd mai'r ffordd ddelfrydol ymlaen mewn gwirionedd yw cynnig blynyddoedd cynnar a gofal plant sy'n gyffredinol, yn gynhwysfawr ac mewn gwirionedd yn dechrau gyda nifer yr oriau sy'n briodol i oedran a chyda dysgu sy'n briodol i oedran yn flwydd oed, yn ddwy flwydd oed, ac ati. Mae'n mynd ymhell y tu hwnt i hyn—felly, nid dim ond i rieni mewn addysg neu hyfforddiant, ond ymhell bell y tu hwnt i hynny. Nawr, pan adawais y swydd, rwy'n gwybod roedd swyddogion yn gweithio'n galed iawn a bod y Cabinet wedi cymeradwyo papur a oedd yn mynd i ddatblygu rhywfaint o'r gwaith hwn, felly byddai'n ddiddorol gwybod a yw hynny'n dal i fynd rhagddo hyd yn oed os na allwn ni gael disgrifiad manwl heddiw, oherwydd, yn y pen draw, dyna'r ffordd ymlaen. O ran Cyllid a Thollau ei Mawrhydi, os yw awdurdodau lleol wedi newid eu barn am hyn, rwy'n credu bod hynny'n wych, ac rydym ni wastad wedi nodi tri dewis posib: y fersiwn a wnaed yng Nghymru, fersiwn Cyllid a Thollau ei Mawrhydi ac asiantaeth newydd—drud iawn. Mae gan ddull Cyllid a Thollau ei Mawrhydi, sy'n bwrpasol, fanteision o fod wedi ei fodelu ochr yn ochr â model y DU, ond yr anfanteision o fod wedi ei fodelu ar y cyd â model Lloegr, hefyd. Felly, os yw'r costau wedi mynd drwy'r to o ran y rheini, mae'n gwbl ddealladwy dychwelyd at awdurdodau lleol, yn enwedig os ydyn nhw wedi newid eu meddwl. Ond, a gaf i ofyn a fydd unrhyw ddiwygio o ran y gost i awdurdodau lleol? Oherwydd un o'r pryderon gwreiddiol oedd y gost a'r fiwrocratiaeth, a chyda'r fiwrocratiaeth honno daw cost. Nawr, tybiaf y bydd y Gweinidog yn ateb gan ddweud mai'r gwersi a ddysgwyd gennym ni gan rai o'r awdurdodau lleol hynny sydd bellach yn darparu'r gwaith trefnu a'r gwaith gweinyddu ar gyfer awdurdodau lleol eraill yw inni fod yn fwy cost effeithiol a'u bod nhw wedi dysgu sut i wneud hynny'n eithaf rhwydd. Rwy'n credu mai dyma'r sefyllfa, mewn gwirionedd, ym Mhowys, lle caiff y cynllun ei ddarparu gan awdurdod lleol gwahanol ar gyfer yr ardal gyfan. A yw hynny'n wir ac a gaiff costau eu diwygio? A'r peth olaf yr hoffwn ei ofyn, gan nad oedd yn y datganiad, yw beth yw'r sefyllfa o ran darpariaeth yn y Gymraeg? Rwy'n gwybod y bu trafodaeth dda yn fy ardal i ynglŷn â sicrhau y caiff y ddarpariaeth Gymraeg ei chynllunio'n dda a'n bod yn ei hehangu. Mae'n ddrwg gennyf, dywedais mai dyna oedd y cwestiwn olaf. Y cwestiwn olaf yw: Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr—yn draddodiadol, buont yn gor-ddarparu ar gyfer y blynyddoedd cynnar a'r cyfnod sylfaen gan gynnig oddeutu 25 awr neu hyd yn oed 30 awr y plentyn, sy'n llawer mwy hael nag awdurdodau lleol eraill. Rwy'n gwybod y bu ei swyddogion yn trafod gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ynghylch sut y gallwn ni osgoi cyflwyno hyn ac amharu mewn gwirionedd ar yr hyn a oedd yn dda iawn ac eisoes ar waith. Sut aeth y trafodaethau hynny? A yw'r trafodaethau hynny'n dal i fynd rhagddyn nhw gyda'i swyddogion a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr? Julie Morgan AC: Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Huw Irranca-Davies am y pwyntiau yna. Yn sicr, dydym ni ddim eisiau unrhyw ddyblygu a dyna pam, wrth ymestyn y cynnig i addysg a hyfforddiant, ein bod yn edrych ar y bylchau yn y system, oherwydd mae sawl ffordd o gael rhywfaint o gymorth ar gyfer gofal plant os ydych chi mewn addysg a hyfforddiant. Y peth olaf yr ydym ni eisiau ei wneud yw dyblygu pan fo gennym ni adnoddau prin iawn. Felly, rydym ni'n sicr yn edrych ar hynny. Byddai'n gwbl ddelfrydol cael cynnig cyffredinol a fyddai ar gael i bob plentyn, fel y cynnig Scandinafaidd, a chredaf, mae'n debyg, y byddai pawb yn y Siambr hon eisiau inni gyrraedd sefyllfa o'r fath. Pan oeddech chi yn y swydd, roedd y swyddogion yn edrych ar weledigaeth hirdymor. Rydym ni'n dal i edrych ar hynny. Rwy'n credu mai dyna'r math o beth yr hoffem ni ymgyrraedd ato ond, yn amlwg, mae gennym ni'r broblem o sut rydych chi'n talu am hynny, y mae pawb, yn amlwg, yn ymwybodol ohoni. Rwy'n credu eich bod yn hollol gywir; rwy'n credu bod yr awdurdodau lleol wedi dysgu sut i wneud hyn oherwydd, yn sicr, rwy'n gwybod eich bod yn ymwybodol eu bod yn gyndyn ar y dechrau, ond rwy'n credu ei bod hi'n gadarnhaol iawn bod arnyn nhw eisiau gwneud hynny nawr. Rwy'n credu y gwelson nhw'r manteision enfawr a fu, a'r 16,000 o blant a gafodd y manteision cadarnhaol hyn, a'u teuluoedd—rwy'n siŵr y gwelsoch chi i gyd y manteision hyn yn eich etholaethau—maen nhw wedi dweud na allant gredu eu bod nhw'n cael y gofal plant hwn am ddim. Felly, rwy'n credu'n wir y dylem ni groesawu hynny, gan ei fod yn gyfle gwych i deuluoedd. Y Gymraeg: mae 29 y cant o'r plant yn cael darpariaeth Gymraeg, neu ddarpariaeth ddwyieithog, ac rydym ni wedi gwneud ymdrech benodol i geisio estyn allan i sicrhau bod darpariaeth Gymraeg ar gael. Mae'n anoddach cael darparwyr iaith Gymraeg, a dyna'r hyn yr ydym ni hefyd yn ceisio gweithio arno hefyd oherwydd, yn amlwg, rydym ni wedi ymrwymo'n llwyr i uchelgeisiau Llywodraeth Cymru o ran cael mwy o siaradwyr Cymraeg. Ac o ran Pen-y-bont ar Ogwr, ydynt, mae'r trafodaethau'n dal i fynd rhagddyn nhw, ac rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu parhau â'r trafodaethau hynny nes i ni ddod i gasgliad a fydd yn bodloni'r Aelod. Daeth y Llywydd i’r Gadair. Diolch i'r Dirprwy Weinidog. 7. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Yr Adolygiad Annibynnol ar Ddatgarboneiddio Cartrefi Cymru Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar yr adolygiad annibynnol ar ddatgarboneiddio cartrefi Cymru. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad—Julie James. Julie James AC: Diolch, Llywydd. Rwyf eisiau dechrau drwy ddiolch i Chris Jofeh a'i grŵp annibynnol o randdeiliaid am gyflwyno'u hadroddiad deifiol, ond o bosib trawsnewidiol, 'Cartrefi Gwell, Cymru Well, Byd Gwell'. Yn yr adroddiad a gyhoeddwyd ar 18 Gorffennaf, ychydig iawn o bethau annisgwyl a geir am yr hyn y mae angen i ni ei wneud, y brys, y raddfa a'r costau, ond mae ei ddarllen yn ddigon i'ch sobri. Pan wnaethom ni ofyn i Chris arwain y grŵp hwn yn gynnar yn 2018 yr her oedd sut, yng nghyd-destun deddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol, y gallem ni leihau'r carbon a ddefnyddir mewn 1.4 miliwn o gartrefi gan 80 y cant mewn 30 mlynedd drwy raglen ôl-osod ar gyfer pob deiliadaeth. Ar ôl inni dderbyn cyngor Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd ym mis Mehefin, diwygiwyd y targed hwnnw i bob pwrpas i ofyn am ostyngiad o 95 y cant o leiaf, gydag uchelgais i sicrhau gostyngiad net di-garbon. Mae'r adroddiad gan y grŵp annibynnol yn nodi'r targed newydd hwn. Mae'n nodi'r elfennau rhyngberthynol hanfodol yn y rhaglen datgarboneiddio tai y mae angen i ni eu datblygu nawr, gan weithio gydag eraill. Nid ymdrech unigol yw hon. Nodwyd saith gofyniad: ymrwymiad strategol, targedau heriol, system i sicrhau canlyniadau o ansawdd, cymorth ariannol a mathau eraill o gymorth, casglu data, pwyso a mesur posibiliadau, a gweithio gyda phobl a chymunedau i sicrhau bod newid yn digwydd. Rwy'n cytuno â'r holl ofynion hyn, ac rwy'n siŵr, bod eraill yn y Siambr yn cytuno hefyd. Ond yr hyn y mae'r adroddiad yn ei egluro hefyd, yn fy marn i, yw nad rhestr o argymhellion yw hon y gallwn ni ddewis a dethol ohoni. Os ydym ni am ymateb mewn difrif i her newid yn yr hinsawdd, mae angen i ni werthfawrogi ehangder yr her sy'n ein hwynebu a'r ymateb integredig y mae'n rhaid i ni ei lunio nawr. Mae'n rhaid i ni gydnabod bod gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldebau yn y rhan fwyaf o'r meysydd polisi allweddol y mae'r adroddiad yn eu cwmpasu. Rhaid i'r Llywodraeth hon a Llywodraethau dilynol wneud eu gorau glas i wneud y newid sydd ei angen dros y 30 mlynedd nesaf, ond gadewch i ni beidio ag esgus y bydd hi'n rhwydd ac yn rhad. Mae yna gymaint o feysydd o ansicrwydd, a thri yn arbennig. Mae gennym ni ffordd bell i fynd o hyd o ran datblygu atebion technegol cynhwysfawr i ddatgarboneiddio ein stoc dai bresennol er mwyn cyrraedd y targedau yn yr adroddiad. Mae arnom ni angen data llawer gwell ynghylch cartrefi sy'n bodoli'n barod, a gweithredir ar hynny'n fuan. Mae angen i ni ddatblygu dealltwriaeth lawer gwell o gyfanswm costau ôl-osod. Nid ydym ni eto mewn sefyllfa i allu ymrwymo'r arian y bydd ei angen, ond gwyddom y bydd angen ymrwymiad a buddsoddiad gan bob rhan o gymdeithas, gan gynnwys deiliaid tai. Bydd angen i'n rhaglen adlewyrchu hynny. Ac yn drydydd, ni wyddom ni pa mor gyflym y bydd y gridiau nwy a thrydan cenedlaethol yn datgarboneiddio. Er mor bwysig yw cyflawni'r newid hwnnw, rhaid inni sicrhau hefyd y caiff ei gyflawni heb drosglwyddo'r costau hynny i deuluoedd sy'n lleiaf abl i'w fforddio. Ni allwn ni aros nes bydd yr holl atebion gennym ni nac ychwaith nes bydd yr adnoddau gennym ni. Nid wyf yn siŵr os oes unrhyw un â'r holl atebion ynglŷn â newid hinsawdd ar hyn o bryd. Yr hyn a wyddom ni yw bod diffyg gweithredu yn peri peryglon llawer mwy. Felly, er gwaethaf yr holl beryglon ac ansicrwydd, rwyf wedi penderfynu derbyn yr holl argymhellion yn yr adroddiad mewn egwyddor. Nid yw hyn oherwydd fy mod yn anghytuno â'r argymhellion, ond oherwydd ansicrwydd parhaus ynghylch y ffordd orau o'u cyflawni neu eu gweithredu a'r gwaith pellach sydd ei angen o fewn a thu allan i'r Llywodraeth er mwyn i ni fod mor glir â phosib ynghylch costau. Hoffwn ddim ond gwneud sylwadau byr ynghylch rhai o'r prif argymhellion. Mae argymhelliad 1 yn cynnwys yr angen am ymrwymiad gan bleidiau gwleidyddol eraill i gefnogi rhaglen 30 mlynedd. Rwy'n edrych ymlaen at glywed eich ymateb i hynny. Mae argymhelliad 2 yn gofyn i gartrefi cymdeithasol a'r rheini sy'n dioddef o dlodi tanwydd gyrraedd band A y Dystysgrif Perfformiad Ynni ymhen 10 mlynedd. Rwy'n deall y nod hwn yn llwyr ac yn cefnogi'r angen i wneud hynny, ond mae angen i mi wybod ar fyrder beth y mae hyn yn ei olygu mewn gwirionedd i gartrefi, y costau cysylltiedig, dylanwad datgarboneiddio'r grid, y bobl sy'n berchen ar y cartrefi ac, yn bwysig iawn, y trigolion. Mae fy swyddogion eisoes yn gweithio gyda landlordiaid cymdeithasol i ddechrau'r gwaith modelu ar gyfer cartrefi cymdeithasol. Byddwn yn disgwyl i hynny newid pwyslais Safon Ansawdd Tai Cymru ar ôl Rhagfyr 2020. Rwy'n rhagweld manteision eraill hefyd, gan gynnwys ystyried effeithiolrwydd dulliau cyfredol mewn rhaglenni fel Cartrefi Clyd, systemau cymorth priodol i berchenogion cartrefi sy'n gallu talu, a thargedu polisïau allweddol fel y strategaeth tlodi tanwydd newydd. Mae'n bwysig pwysleisio bod yr adroddiad a'i dystiolaeth ategol yn glir—ni all pob cartref gyrraedd band A y Dystysgrif Perfformiad Ynni ar hyn o bryd. Gallai cyflawni hynny erbyn 2030 gyflwyno costau yn y 2020au y gellir eu lleihau neu eu trosglwyddo yn y tymor hwy drwy fabwysiadu targed llai mympwyol. Efallai na fydd rhai cartrefi byth yn cyrraedd band A y Dystysgrif Perfformiad Ynni, ond rwy'n dweud 'ar hyn o bryd' yn fwriadol. Yn sgil y modelu ac yn seiliedig ar y dystiolaeth sy'n sail i'r adroddiad, rwy'n tybio y bydd angen i ni fynd ar drywydd atebion ôl-osod. Mae hyn yn golygu gwneud y gorau y gallwn ni i leihau'r galw am ynni a'r allyriadau mewn cymaint o gartrefi ag y gallwn ni, gan ddefnyddio atebion sy'n bodoli eisoes, ar sail 'lled-edifar'. Y nod yw diogelu cartrefi mewn modd sy'n gallu bod yn ddi-garbon, ac yn barod i fabwysiadu atebion a dulliau gweithredu yn y dyfodol pan fydd hynny'n ddichonadwy ac yn ddiogel. Bydd y profi a'r treialu y cyfeirir atynt yn yr adroddiad yn hanfodol. Bydd llawer o'r penderfyniadau hyn yn perthyn i dymor nesaf y Llywodraeth a sawl tymor ar ôl hynny. Am reswm da, ni chaniateir inni glymu dwylo ein holynwyr ac nid wyf yn cynnig gwneud hynny, ond rwy'n siŵr y bydd y rhan fwyaf o bobl yn y Siambr heddiw'n deall yr angen a'r brys i weithredu er gwaethaf lefel yr ansicrwydd. Felly, mae angen i ni ddechrau datblygu rhaglen newydd yn barod ar gyfer y tymor Cynulliad nesaf. Mae angen inni ddatblygu'r achos dros fuddsoddi nawr hyd yn oed os mai'r Llywodraeth nesaf fydd yn gwneud y penderfyniadau gwirioneddol ynglŷn â buddsoddi. Rwyf felly'n falch iawn o ddweud bod Chris Jofeh unwaith eto wedi cytuno i arwain y gwaith datblygu gyda rhanddeiliaid, gyda chefnogaeth swyddogion Llywodraeth Cymru. Byddaf yn sefydlu grŵp cyllid gwyrdd, fel yr argymhellwyd yn yr adroddiad, i edrych am atebion cyllid arloesol. Rydym yn gwneud cysylltiadau â'r gwaith ar dlodi tanwydd sydd ar y gweill ym mhortffolio Lesley Griffiths. Mae fy adran yn gweithio gyda chydweithwyr yn adran Kirsty Williams i fynd i'r afael ag anghenion sgiliau, a rhaid inni feithrin gweithlu medrus a hyfforddedig fel y gall ein cymunedau a'n busnesau bach a chanolig fanteisio ar y cyfleoedd enfawr a ddaw o werth 30 mlynedd o waith. Mae hyn yn cyd-fynd â'n gwaith ar economïau sylfaenol a chylchol. Mae ôl-osod o ran ynni yn ein cartrefi nid yn unig yn gyfle mawr i leihau ein hallyriadau carbon yn sylweddol a chyrraedd ein targedau, ond mae hefyd yn gyfle i fynd i'r afael â thlodi tanwydd, gwella cysur ac ansawdd mewn cartrefi, creu swyddi a hyrwyddo hyfforddiant, cadwyni cyflenwi a diwydiannau yng nghymunedau Cymru. Mae ynghylch gwneud Cymru'n ffyniannus, yn wyrdd ac yn gyfartal. Diolch. David Melding AC: Hoffwn ddechrau drwy groesawu'r datganiad hwn, mewn ffordd ryfedd iawn, mewn gwirionedd, oherwydd rwy'n nodi bod yr holl argymhellion wedi cael eu derbyn mewn egwyddor ac, fel arfer, mae hyn yn fy ngwneud yn eithaf blin, oherwydd rwy'n credu y dylech ddweud 'ie' neu 'na' os oes modd. Ond rwy'n credu, o gofio'r persbectif tymor hir y mae angen i ni ei fabwysiadu, a'r trylwyredd sydd ei angen er mwyn ymdrin ag adroddiad mor arloesol, rwy'n credu bod y ffaith y gallaf dderbyn hyn am y tro yn briodol wrth inni nawr edrych mewn difrif ar y dasg sy'n ein hwynebu a'r angen, yn wir, i feithrin consensws ar draws y pleidiau. Gwyddom fod effeithlonrwydd cyffredinol y stoc dai yn parhau'n isel yn y DU, yn sicr o gymharu â llawer o wledydd tebyg. Y gwir rhwystredig amdani, fodd bynnag, yw bod y dechnoleg eisoes yn bodoli i greu cartrefi sy'n garbon isel, sy'n gallu gwrthsefyll yr hinsawdd, sy'n well ar gyfer iechyd a'r amgylchedd naturiol, ac sydd â nodweddion dylunio gwych. Yn wir, buom yn siarad am lawer o'r materion hyn yn gynharach heddiw. Gwyddom hefyd, yn amlwg, fod ôl-osod yn llawer anoddach, ond mae angen inni gofio bod hynny'n rhan allweddol o'r hyn y mae angen inni ei wneud oherwydd bydd y rhan fwyaf o bobl yn 2050, neu 2040, pryd bynnag y gosodwn y targedau yn y pen draw, mewn cartrefi sydd eisoes yn bodoli heddiw—llawer ohonyn nhw yn 100 oed neu'n hŷn. Os gallaf gyfeirio at un neu ddau o'r pwyntiau penodol yn unig. O ran argymhelliad 1 yr adroddiad: fel y dywedais, rwy'n credu bod angen i ni gydweithio ar raglen hirdymor ar gyfer datgarboneiddio. Rwyf wastad o blaid pethau na ddylent fod yn fater o bleidgarwch mewn gwirionedd, sef bod gennym ni'r cyfleoedd hyn i weithio gyda'n gilydd. Felly, dydw i ddim yn gwybod beth sydd gennych mewn golwg, ond rwy'n gobeithio ei fod yn rhywbeth sy'n ein tynnu at ein gilydd fel y gallwn ni gyflwyno ein syniadau ni o ddifrif. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, roeddwn yn ddiolchgar iawn eich bod wedi caniatáu i mi siarad â Chris a chael gweld yr adroddiad cyn iddo gael ei gyhoeddi; nid yw hynny'n arferol mewn Llywodraeth, ac rwy'n ddiolchgar am hynny. Wn i ddim a yw 30 mlynedd yn rhy hir; rwy'n credu bod yr holl bethau hyn yn cyflymu ac efallai y bydd yn rhaid i ni ymateb i lawer mwy o alw cyhoeddus i ni fynd yn gyflymach. Ond mae'n rhywbeth, o leiaf, y gallwn adeiladu arno nawr, ac mae'r adroddiad hwn, rwy'n credu, yn ddarn helaeth a da o waith. O ran argymhelliad 2, yn enwedig ynglŷn â chartrefi cymdeithasol a'r rhai sy'n byw mewn tlodi tanwydd, a bod â tharged o 10 mlynedd: unwaith eto, rwyf yn credu bod hyn yn uchelgeisiol iawn a bod angen i ni ymchwilio'n fwy trwyadl i sut y byddwn ni'n cyflawni hyn. Ond dylai fod yn flaenoriaeth uchel; mae'n hollol briodol i nodi'r sector hwnnw. Yn un peth, mae gennym y rheolaeth fwyaf drosto, ac yna mae'r rhai sydd mewn tlodi tanwydd nad ydynt mewn cartrefi cymdeithasol bob amser, yn amlwg yn grŵp sy'n arbennig o agored i niwed, felly credaf fod hwnnw'n bwynt da. Rwy'n credu, o ran argymhelliad 5, bod angen i ni symud ymlaen a gwneud hyn yn syth, a hynny yw gwella ein casgliad data ac edrych ar ddyfnder y sylfaen ystadegol bresennol sydd gennym ni a'r hyn y gallwn fod yn ei wneud i wella ein penderfyniadau yn y dyfodol. Hoffwn orffen drwy ategu, mewn gwirionedd, diolch y Gweinidog i Chris Jofeh, sydd, rwy'n credu, wedi cynnal, fel y dywedais i, darn o waith sy'n cyd-fynd â her yr oes bresennol. Ac er mai eich ymateb yn 'Iawn, gadewch i ni weithio gyda'n gilydd nawr a gweld sut y byddwn yn symud ymlaen â'r argymhellion hyn cyn gynted â phosib', a'u llunio ychydig, am wn i—a dyna pam rydych chi wedi eu derbyn mewn egwyddor—ond, wyddoch chi, ni ddylai hyn fod yn dacteg oedi. Mae'n rhaid i chi ddangos sut y mae hyn yn mynd i ddigwydd yn gyflym ac, fel y dywedwch chi, rydych yn gwybod, ni allwn glymu dwylo olynydd, ond mae'n bwysig iawn ein bod yn gosod agenda yma gan nad wyf yn credu ei bod hi'n debygol y bydd Cynulliad yn y dyfodol yn ei wrthdroi. Yn wir, efallai y byddant yn edrych yn ôl arnom ac yn dweud, 'pam na wnaethom ni weithredu'n gyflymach?' Ond, fel y dywedais, rwy'n credu ei bod hi'n rheidrwydd arnom ni i gyd i weithio gyda'n gilydd ar hyn, felly rwy'n croesawu natur y ffordd y mae'r Gweinidog wedi mynd i'r afael â hyn. Julie James AC: Wel, rwy'n croesawu hynny'n fawr, David, a'r hyn yr ydym ni'n gobeithio ei wneud yw trin a thrafod yn gyflym iawn hyd a lled trafodaeth a fyddai'n gallu cael cymeradwyaeth bron pawb yn y Siambr, byddem yn gobeithio, o ran y ffordd ymlaen inni. Mae'r adroddiad yn rhoi llawer o fanylion am bosibiliadau, ond yr hyn y mae angen inni ei wneud yw archwilio pa mor real ydyn nhw a pha gonsensws sydd ynghylch rhai ohonyn nhw. Hynny yw, mae nifer o bethau sy'n rhwystredig, yr ydym ni—rwy'n cytuno'n llwyr ynglŷn â chasglu data, felly rydym ni wrthi'n ceisio cael pobl i wneud hynny mewn gwirionedd. Rwy'n falch iawn bod Chris wedi cytuno â ni y bydd yn parhau i weithio gyda ni i fwrw ymlaen â hynny. Mae gennym lond gwlad o bethau y gallwn eu gwneud yn gyflymach na'r targedau yma, ond mae angen i ni wneud yn siŵr bod consensws ynghylch hynny. Felly, byddaf yn gofyn i bobl ddod at ei gilydd a cheisio cytuno ar rywfaint o hynny. Nid wyf yn ceisio ei ohirio o gwbl. Yr hyn yr ydym ni'n ceisio'i ddweud yw, 'Edrychwch, mae'r adroddiad yn nodi cyfres o egwyddorion—rydym yn derbyn yr egwyddorion hynny. Yr hyn y mae angen inni ei wneud yn awr yw cytuno rhyngom beth y gallwn ni ei wneud nawr, yr hyn y mae angen inni ei wneud yn y tymor ychydig yn hwy' ac ati. A heb rwymo dwylo Llywodraethau Cymru yn y dyfodol, yr hyn y mae angen inni ei wneud yw gweld a allwn ni osod agenda sy'n ymddangos yn gytûn ac sy'n symud yn ddigon cyflym. Ond mae yna rai pethau y bydd angen i ni edrych arnyn nhw. Efallai y byddwn ni'n cael trafferth cytuno ac felly mae angen i ni feddwl amdanyn nhw. Un o'r pethau rwy'n rhwystredig iawn yn ei gylch yw, os ydych chi'n berchennog cartref, nid oes budd i'r farchnad ar hyn o bryd o gael eich tŷ i fand A y Dystysgrif Perfformiad Ynni. Felly, yn y farchnad, mae pobl yn gwibio heibio'r darn ar y diwedd sy'n dweud beth yw'r sgôr ynni, a gallech wario £40,000 i ôl-osod agweddau ynni ar dŷ tair llofft ac ni fyddwch yn cael y £40,000 yn ôl ar y pris. Felly, bydd angen inni edrych ar ddulliau'r Llywodraeth a allai symud y farchnad honno i'r cyfeiriad hwnnw, er enghraifft, ond nid oes arnom ni eisiau gwneud hynny nes ein bod wedi sicrhau bod gennym ni'r sgiliau a'r deunyddiau ac ati a fyddai'n debygol o fod o fudd i berchen-feddianwyr er mwyn iddyn nhw allu ôl-osod eu tai. Felly, mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn gwybod, er enghraifft, beth yw'r math o dŷ yng Nghymru lle mae hynny'n debygol a pha un a gawn ni'r sgiliau hynny a beth yw'r gadwyn gyflenwi ac ati. Felly, mae'n ymwneud â chael rhai o'r pethau ymarferol yn eu lle, ac rwy'n credu y gallwn ni, gan weithio gyda'n gilydd, gytuno ar raglen, ac y gallwn ni gytuno hefyd ar rai pethau na allwn ni gytuno arnynt, ac mae'r un mor ddefnyddiol i allu gwneud hynny a'u rhoi i un ochr i Lywodraeth yn y dyfodol gael golwg arnyn nhw. Felly, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gael grŵp at ei gilydd y gallwn ni ei ddefnyddio i lywio hynny. Llyr Gruffydd AC: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad ac ategu ei diolch hefyd i Chris Jofeh a'r grŵp annibynnol o randdeiliaid sydd wedi bod yn gweithio ar yr adroddiad? Rwyf i'n bryderus hefyd—pan ddywed y Llywodraeth ei bod yn derbyn rhywbeth mewn egwyddor, yna rydych chi'n meddwl, 'diawch, dyna ni, dyna dderbyn hynny', ac yna maen nhw'n rhyw gerdded ymaith ac yn ei drafod eto rai blynyddoedd yn y dyfodol. Felly, fe'm calonogir gan y ffaith eich bod yn mynnu—. Ac rwy'n deall bod rheswm ymarferol dros hynny hefyd, oherwydd rydych yn rhoi amodau o ran costau a'r atebion technegol sydd ar gael. Un peth y byddwn i'n annog y Llywodraeth yn ei gylch, ac mae'n un o fy nghasbethau, mewn gwirionedd: mae gwir angen inni ail-lunio ac ail-fframio’r drafodaeth ynghylch—wyddoch chi, a allwn ni fforddio rhoi'r newidiadau hyn ar waith, ynteu a allwn ni fforddio peidio â gwneud hynny? Oherwydd bydd talu am ddinistr newid yn yr hinsawdd yn llawer, llawer mwy sylweddol na buddsoddi mewn mesurau fel ôl-osod. Felly, rwy'n credu bod angen i ni ddefnyddio terminoleg wahanol weithiau, oherwydd bod ôl-osod i mi yn gynllun buddsoddi i arbed, a dylem fod yn siarad am sut yr ydym yn gwneud i'r buddsoddiadau hynny ddigwydd fel y gallwn ni gynilo nid yn unig yn ariannol yn y pen draw, ond, wrth gwrs, o ran y canlyniadau eraill y gwyddom y byddwn yn eu hwynebu yn sgil newid yn yr hinsawdd. Nid oes unrhyw gamau gweithredu clir yn deillio o'r datganiad hwn, ar wahân i gydnabyddiaeth bod angen gwneud rhagor o waith, a sefydlu grŵp cynghori, neu rai grwpiau cynghori. Felly, mae hynny'n dipyn o rwystredigaeth eto, ond unwaith eto rwy'n deall pam eich bod yn teimlo mai dyna sut y mae'n rhaid i chi fynd ati i wneud hynny. Dywedwch yn eich datganiad na allwn ni aros nes bod yr holl atebion gennym ni, ac mae hynny'n hollol wir. Y pethau ynglŷn â'r gwerthwyr ynni yn yr Almaen—mae'n llwybr i ddatgarboneiddio, ond does dim syniad ganddyn nhw sut y maen nhw'n mynd i gyflawni'r 20 neu'r 30 y cant olaf. Ond maen nhw'n gwybod bod ganddyn nhw ffydd yn eu gwyddonwyr a'u peirianwyr ac y byddan nhw'n canfod atebion a does dim rheswm o gwbl i ddechrau ar daith dim ond oherwydd na allwn ni weld y diwedd. Felly, rwy'n credu bod gwir angen inni gael yr hyder i symud ymlaen yn hynny o beth. Fe wnaethoch chi ofyn am gefnogaeth drawsbleidiol—wel, mae'n amlwg y byddwn yn rhoi hynny ichi, oherwydd roedd ymrwymiad yn ein maniffesto, o ran ôl-osod, i gyflwyno'r cynllun ôl-osod mwyaf a welodd Cymru erioed, ac roedd hwnnw'n ymrwymiad tymor hir i raddau helaeth. Yn amlwg, byddai angen i mi weld beth mewn gwirionedd yw'r cynigion, ond ni allaf ond dychmygu y byddai gan Blaid Cymru bryderon oherwydd efallai nad yw'n mynd yn ddigon pell nac yn symud yn ddigon cyflym. Felly, rwy'n fwy na pharod i sefyll ysgwydd wrth ysgwydd â chi ar y daith honno. Y mater arall i mi, wrth gwrs, yw'r tai sydd heb eu hadeiladu eto. Nid dim ond ôl-osod yw hyn, fel rwy'n gwybod eich bod yn cydnabod: rydym yn dal i adeiladu tai sy'n aneffeithlon o ran ynni, sy'n parhau â'r aneffeithlonrwydd hwnnw ac sy'n creu llwybr hyd yn oed serthach neu ôl-groniad cynyddol o gartrefi y bydd angen eu hôl-osod yn y dyfodol. Rwyf wedi rhygnu ymlaen ddigon am reoliadau Rhan L erbyn hyn, gan fod pawb yn gwybod y byddaf yn cyfeirio at yr ymgynghoriad 40 y cant neu 25 y cant o atgyfnerthu effeithlonrwydd ynni, a dewisodd y Llywodraeth, beth yw e', 8 neu 9 y cant yn ystod tymor y Cynulliad diwethaf, a oedd yn ddigalondid; roedd yn annigonol ac yn ddiffygiol o ran uchelgais. A gobeithio yr ymdrinnir â hynny yn fuan iawn, oherwydd y mae'n amlwg na allwn ni barhau fel yr ydym ni. Ond mae yna geisiadau cynllunio yn y system nawr a fydd yn amlwg yn creu'r broblem honno i genedlaethau'r dyfodol. Felly, a wnewch chi, roi ar gof a chadw y gall ystyriaethau amgylcheddol a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, mewn gwirionedd, gynnig sail gyfreithiol i bwyllgorau cynllunio wrthod ceisiadau y bydd neb yn debygol o ystyried eu cyflwyno hyd yn oed, efallai, mewn blwyddyn neu ddwy. Hoffwn glywed hynny gennych, os oes modd. Yn olaf, rydym hefyd yn ymwybodol, wrth gwrs, o gynlluniau blaenorol i inswleiddio waliau ceudod a gafodd eu cam-werthu, ac mae'n amlwg y byddai hynny'n tanseilio hyder, rwy'n credu, mewn rhaglen ôl-osod yn y dyfodol. Felly, a wnewch chi egluro, efallai, sut y dysgwyd gwersi a sut y byddai hynny'n cael ei adlewyrchu, efallai, yn eich ymagwedd tuag at gynlluniau ôl-osod yn y dyfodol, a sut y byddwch yn sicrhau y caiff y cynlluniau hynny eu cyflawni mewn ffordd sy'n addas ac o ansawdd uchel? Julie James AC: Diolch am hynny, Llyr. Rwy'n croesawu'n fawr yr ymrwymiad i weithio gyda ni ac rwy'n gobeithio cael, yn y cam cychwynnol, grŵp o bobl drawsbleidiol gyda'i gilydd—y llefarwyr efallai, neu pwy bynnag yw'r blaid sydd fwyaf abl i wneud y gwaith—dim ond i lunio hynny, mewn gwirionedd, fel y gallwn ni fwrw ymlaen ag ef ac yna gallwn benderfynu sut y gall y grŵp hwnnw ei gyfeirio. Ond, fel y dywedaf, mae Chris Jofeh wedi cytuno i weithio gyda ni i wneud hyn hefyd. Felly, rydym yn bendant eisiau cael rhywbeth y bydd llywodraethau'r dyfodol, o ba bynnag liw a llun, yn fodlon bwrw ymlaen ag ef. Mae arnom ni angen yr ymrwymiad hwnnw neu ni fyddwn ni byth yn ei roi ar waith. Felly, rwy'n croesawu hynny'n fawr. Rwyf finnau, fel chithau, yn rhwystredig ynglŷn ag adeiladu pethau sy'n mynd i achosi problem inni. Rydym ni ar fin adolygu Rhan L. Rwy'n gobeithio gallu cael consensws ar draws y Siambr ar lawer o'r pethau hyn, fel y gallwn ni fynd ymhellach nag y gallem ni pe na baem yn cytuno. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr y byddwn yn gallu ei roi gerbron pan fyddwn yn gwneud yr adolygiad hwnnw. Mae'n rhaid i ni wneud hynny am resymau diogelwch tân ac ati, ond mae pethau eraill y gallwn ni eu gwneud yn rhan o'r adolygiad, ac rwy'n gobeithio'n fawr y gallwn ni weithio trwy'r rheini oherwydd ei fod yn gonsensws ar draws y Siambr. Felly, cawn weld yn y man, ond byddwn yn dechrau ar hynny cyn bo hir. Felly, rwy'n gobeithio y bydd hynny'n digwydd. O ran pethau fel camgymeriadau a wnaethpwyd yn y gorffennol gyda waliau ceudod, y mae pob un ohonom ni'n ymwybodol ohonyn nhw, a chanlyniadau anfwriadol eraill—gyda rhai agweddau ar Safon Ansawdd Tai Cymru, rhoddwyd cladin ar dai nad ydynt yn anadlu mwyach ac sydd, wrth gwrs, â phroblemau gydag anwedd dŵr ac ati—yr hyn y mae angen inni allu ei wneud yw cael yr arbenigwyr at ei gilydd a gwneud yn siŵr ein bod yn dysgu o'r camgymeriadau hynny. Ni fyddwn yn gallu peidio â gwneud unrhyw gamgymeriadau pellach, ond mae angen inni ddysgu gwersi o'r rhai yr ydym yn ymwybodol ohonyn nhw. Rydym yn gwybod nad oes gennym ni ateb ar hyn o bryd ar gyfer rhai mathau o dai sydd gennym ni yng Nghymru. Felly, mae angen inni edrych ar hynny. Mae'n rhaid i ni hefyd fod yn ymwybodol, os mai'r unig ateb ar gyfer tŷ yw nad yw'n gallu cyrraedd y safon hon, mae angen i ni wneud penderfyniadau ar sail yr hyn a fyddai'n digwydd petaech yn dymchwel y tŷ hwnnw. A fyddem yn creu ôl-troed carbon gwaeth drwy ei ddymchwel yn hytrach na'i gael i gyrraedd y safon uchaf sy'n bosib iddo ei chyrraedd? Y math yna o bethau, ac mae llawer o bethau amgylcheddol a hanesyddol i'w trafod, am siâp dinasoedd a threfi pobl. Felly, mae cryn dipyn i'w ystyried yma, ond credaf y gallwn ni gytuno o ran beth yr hoffem ni ei weld ar y cyfan, ac fel y dywedais mewn ymateb i David Melding, gallwn hefyd gytuno ar yr hyn nad ydym yn cytuno arno a gallwn roi y rheini i un ochr a pharhau â'r pethau yr ydym ni yn cytuno'n gyffredinol arnyn nhw. Felly, rwy'n obeithiol y byddwn yn gallu gwneud hynny'n gyflym. Ac mae angen inni ystyried pethau fel a oes gennym ni—beth bynnag a ddywed y data wrthym—ganran o stoc na allant fynd y tu hwnt i fand C neu D y Dystysgrif Perfformiad Ynni, neu beth bynnag: beth wnawn i ynghylch hynny? Bydd yn rhaid i ni ystyried beth yw'r trefniadau ailgylchu. Mae dymchwel tŷ ynddo'i hun yn achosi carbon: beth sy'n digwydd i'r gwastraff a gewch chi yn sgil hynny ac ati? Felly, bydd yn rhaid inni wneud rhai penderfyniadau anodd ynghylch ble'r ydym ni arni. Ac yna'r un mwyaf ohonyn nhw i gyd yw gwneud y grid yn wyrdd. Felly, bydd yn rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd, y bydd yn rhaid i ni geisio bod mor unfrydol â phosib yn ei sgil oherwydd oni bai eich bod yn troi'r grid yn wyrdd bydd yr holl bethau eraill yn ddibwys. Felly, bydd yn rhaid i ni weithio'n galed iawn gyda'n gilydd ac wynebu penderfyniadau anodd, ond allwn i ddim cytuno mwy â'ch enghraifft o'r Almaen. Mae'n rhaid i ni wneud y pethau y gallwn ni eu gwneud ac mae'n rhaid i ni ariannu a chefnogi ein gwyddonwyr a'n peirianwyr i fynd â hynny gam ymhellach ac mae'n rhaid i ni ei wneud mor gyflym â phosib. Ni allwn ddisgwyl 30 mlynedd arall gyda hyn yn cynyddu o'n hamgylch. Felly, rwyf fi, yn bersonol, wedi credu yn yr argyfwng hinsawdd dros y 40 neu fwy o flynyddoedd diwethaf a throdd fy rhieni'n llysieuwr ym 1958 oherwydd eu bod yn credu bod argyfwng yn yr hinsawdd—mi wn nad llysieuaeth yw'r ateb i bopeth, gadewch i ni beidio â chodi'r ysgyfarnog honno, ond dim ond dweud yr wyf i fod pobl yn ceisio ymateb iddo mor bell yn ôl â chanol y ganrif ddiwethaf. Pa un a oedd yr ymateb yn gywir ai peidio, does dim ots—y pwynt yw eu bod yn ceisio ymateb. Felly, dim ond darlun sy'n cyflymu yw e, onid e? Felly, mae angen inni ymateb, mae angen inni weld beth mae cytundeb yn ei gylch, a bwrw ymlaen â hynny cyn gynted â phosib. Caroline Jones AC: Diolch ichi am eich datganiad, Gweinidog. Datgarboneiddio ein tai yw'r her fwyaf sy'n ein hwynebu, ac rwyf felly'n croesawu adroddiad y grŵp cynghori ar ddatgarboneiddio cartrefi yng Nghymru. Hoffwn innau hefyd ddiolch i'r grŵp am ei adroddiad eang ei gwmpas, sy'n helpu i amlygu'r heriau moel sy'n ein hwynebu i gyd. Rwy'n falch eich bod wedi derbyn argymhellion y grŵp cynghori, ond deallaf yn llwyr eich angen i fod yn ofalus ac rwy'n falch eich bod wedi pwysleisio pwysigrwydd casglu data ar gyfer cartrefi sy'n bodoli eisoes gan fod hynny'n hynod bwysig, ynghyd â chyfanswm costau'r prosiectau a gyflawnwyd. Felly, mae ein tasg yn enfawr, gan fod y mwyafrif helaeth o'n cartrefi yn dibynnu ar nwy naturiol ar gyfer gwresogi, ac fel yr ydych chi'n egluro yn eich datganiad, Gweinidog, ni fydd datgarboneiddio ein grid nwy cenedlaethol yn hawdd. Felly, yng ngoleuni hyn, a gaf i ofyn pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU a gwledydd eraill Prydain ynghylch y dull gorau o ddatgarboneiddio ein grid cenedlaethol? Mae gwaith wedi'i wneud i archwilio'r posibilrwydd o ddefnyddio hydrogen mewn gwresogi domestig a micro-gynlluniau gwres a phŵer cyfunedig yn lle nwy naturiol, felly a yw Llywodraeth Cymru yn ymchwilio i gyflwyno technolegau o'r fath o dan gynlluniau adnewyddu boeleri sydd â'r nod o wella effeithlonrwydd ynni a lleihau tlodi tanwydd? A'm rhan olaf yw, Gweinidog: mae gwaith ar y gweill yn Llundain i harneisio'r gwres gwastraff o'r grid trydan. Mae'r rhwydwaith o linellau pŵer foltedd uchel sy'n croesi'r ddinas yn cynhyrchu llawer o wres gwastraff ac mae'n rhaid oeri'r llinellau. Felly, mae Prifysgol South Bank Llundain am geisio dal hyd at 460 kW o bŵer thermol bob milltir a hanner. Bydd yr ynni gwres dros-ben hwn yn cael ei ddefnyddio mewn cynlluniau gwresogi cymunedol. Felly, a wnaiff eich Llywodraeth ymchwilio i ymarferoldeb cynlluniau o'r fath yng nghymunedau trefol Cymru? Diolch yn fawr. Julie James AC: Diolch am y sylwadau yna. Yr ateb syml iawn i'r ddau sylw olaf yw 'byddwn, wrth gwrs'. Ac un o'r rhesymau dros gael y rhaglen dai arloesol yw rhoi prawf ar rai o'r posibiliadau technegol, ac rydym yn awyddus iawn i weld beth y gellir ei wneud. Rwyf hefyd yn awyddus iawn yng Nghymru i gael atebion ynni cymunedol. Felly, rwyf wedi cael cyfarfodydd gyda'r grid. Nid wyf wedi cael cyfarfodydd â Gweinidogion y DU eto, ond mae'r portffolio ynni gan fy nghyd-Aelod Lesley Griffiths, felly bydd hi wedi bod yn symud hynny yn ei flaen. Rydym yn cydweithio'n agos iawn â phortffolio Lesley, ac mae tynnu hyn ynghyd yn rhan fawr o'r darlun o sut i fwrw ymlaen â hyn. Ond rwyf wedi cwrdd â'r grid ynghylch rhywfaint o hyn hefyd. Mae rhai datrysiadau arloesol y gallwn ni edrych arnyn nhw, ond rwyf hefyd yn awyddus iawn i ddod ag unrhyw farchnadoedd newydd neu gyfleoedd gwaith neu gadwyni cyflenwi i Gymru. Felly, rwy'n credu y bydd llawer o'r ateb i hyn yn ymwneud â phrosiectau ynni sy'n canolbwyntio ar y gymuned neu brosiectau ynni lleol neu wasgaredig, yn ogystal â'r hyn y gall y grid ei wneud. Felly, bydd angen inni weithio'n agos iawn gyda chyflenwyr y grid a'r cwmnïau ynni mawr, a bydd angen inni edrych yn ofalus iawn ar ba fathau o ynni rydym ni eisiau eu gweld ledled Cymru a'r hyn y mae'r cymunedau sy'n cynnal y prosiectau hynny yn ei gael o hyn yn ogystal â'r hyn y mae Cymru yn ei gael ohono'n ehangach. Ond mae gennym ni ddiddordeb mawr mewn unrhyw atebion technegol ac mae gennym ni nifer fawr o brifysgolion yma yng Nghymru yn gweithio ar nifer o'r rheini. Rydym ni hefyd yn ceisio gweld beth y gallwn ni ei wneud, a hoffwn gael consensws trawsbleidiol ar hyn, ynghylch cael cynllun at ei gilydd i brofi rhai o'r rheini yn rhan o'n cynlluniau ôl-osod wrth i ni symud ymlaen ac wrth i ni benderfynu beth i'w wneud ar ôl i ni gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru. Hoffwn ddim ond gwneud y sylw, pan wnaethom ni ddweud beth fyddem ni'n ei wneud â Safon Ansawdd Tai Cymru, roedd llawer o bobl yn credu na fyddem yn gallu gwneud hynny a'i fod yn darged anodd iawn yn wir, a dyma ni—rydym ni wedi gwneud hynny. Felly, mae'n ymwneud â chael uchelgais priodol hefyd. Mike Hedges AC: Rwy'n croesawu'r datganiad. Mae newid yn yr hinsawdd yn galw am weithredu. Mae gan yr atmosffer tua 21 y cant o ocsigen ar lefel y môr. Islaw 19.5 y cant, mae'r gallu i weithio yn lleihau; islaw 17 y cant, mae pethau'n mynd yn anodd, a phan fyddwch yn cyrraedd 15 y cant, mae pobl yn marw. Bydd cynnydd yn lefel y môr yn gorlifo dinasoedd ac ardaloedd arfordirol, bydd stormydd yn cryfhau—yn anochel felly, oherwydd bydd mwy o ynni ynddyn nhw o'r gwres ychwanegol. Mae'r rhan fwyaf o'r tai y byddwn yn byw ynddyn nhw yn 2030 a 2050, a hyd yn oed 2100, wedi'u hadeiladu eisoes ac mae pobl yn byw ynddyn nhw yn awr, os meddyliwch chi am faint o dai yn yr ardaloedd yr ydych yn eu cynrychioli a adeiladwyd cyn 1919—i roi rhyw syniad ynglŷn â pha mor hir y mae tai'n para. Bydd angen i ni ôl-osod. Mae hyn yn ddrutach ac yn fwy ymwthiol na chreu adeiladau newydd di-garbon, ond mae gwir angen i ni fynd am adeiladau newydd di-garbon. Mae angen i bob plaid wleidyddol gytuno i ddatgarboneiddio tai, pe na bai ond yn rhoi hyder i'r diwydiant na fydd newid mewn Llywodraeth yn arwain at newid mewn polisi. Rwy'n credu mai dyna fydd y peth pwysicaf: dangos y gallai'r Llywodraeth newid, ond bydd y polisi'n parhau. Yr hyn yr hoffwn i siarad amdano yw nid yn unig y tai, ond cyffiniau'r tai. Mae hi bron yn sicr na fyddwn yn gallu cael pob tŷ i fod yn ddi-garbon. Mae angen plannu mwy o goed a llwyni trefol. Mae coed yn amsugno carbon deuocsid a nwyon a allai fod yn niweidiol, fel sylffwr deuocsid a charbon monocsid o'r aer ac yn rhyddhau ocsigen. Gall un goeden fawr roi cyflenwad diwrnod o ocsigen i bedwar o bobl. Gall coeden amsugno cymaint â 48 pwys o garbon deuocsid y flwyddyn, a gall gymryd tunnell o garbon deuocsid erbyn iddi gyrraedd 40 oed. Felly, os na allwn ni ddatgarboneiddio'r tŷ, gallwn ddatgarboneiddio'r tŷ a'r cyffiniau, ac mae hynny'n golygu plannu coed a llwyni, ac, yn bwysicach na hynny, peidio â thorri coed a llwyni. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod yn edrych nid yn unig ar yr adeilad ond ar y cyffiniau hefyd. Ynghyd ag ôl-osod, a wnaiff y Gweinidog ymrwymo i gynyddu'n sylweddol nifer y coed trefol, llwyni a'r ffyrdd eraill o leihau faint o garbon deuocsid sydd yn yr atmosffer? Julie James AC: Ydw, rwy'n cytuno'n llwyr â chi. Mae'n rhaid i chi edrych ar dudalen flaen adroddiad Chris Jofeh, a'r glas sy'n newid i goch. Arwyddocâd hynny yw bod yna stribed ar gyfer pob blwyddyn y mae'r tymheredd yn cael ei gofnodi a'r gwahaniaeth llwyr rhwng y glas ar yr ochr chwith a'r coch llachar ar yr ochr dde ar glawr blaen yr adroddiad. Roeddwn wedi bwriadu dod ag ef gyda mi, Llywydd, ond, wrth gwrs, mae wedi bod yn ddiwrnod hir, felly rwyf wedi ei adael yn ofalus i fyny'r grisiau. Ond mae'n arwyddlun moel o gynhesu'r ddaear, ac nid oes dianc rhag y ffaith ei fod wedi newid yn sylweddol. Mae angen inni wneud popeth yn ein gallu i'w atal rhag mynd yn goch mwy llachar fyth, heb sôn am ei droi'n ôl yn las. Felly, allwn i ddim cytuno mwy â chi; rhaid inni'n bendant wthio'r polisi adeiladau newydd di-garbon mor gyflym ag y gallwn ni, ac adolygu rhan L, fel yr oeddwn yn ei ddweud mewn ymateb i gyfranwyr eraill. Ond mae'r prosiectau trefi gwyrddach a'r prosiectau coedwigoedd trefol a'r prosiectau perllannau cymunedol a phrosiectau gerddi cymunedol y mae eu hangen arnom ni i wneud ein cymunedau yn gymunedau go iawn—maen nhw'n cynnig manteision iechyd meddwl, maen nhw'n cynnig manteision cymdeithasol a chydlyniant cymunedol, ond fel yr ydych chi'n nodi'n gywir, yn fwy na dim arall, maen nhw'n dod ag ocsigen a modd o oeri, ac maen nhw'n cynnig cysgod, ac maen nhw'n dod â bioamrywiaeth, felly beth sydd yna na ellir ei hoffi? Felly, yn sicr, mae'n rhaid inni wthio'r math hwnnw o feddylfryd i mewn i'n system gynllunio ac i'r amgylchedd trefol. Felly, mae rheoli ystadau o amgylch ein tai yr un mor bwysig â'r tai eu hunain; rwy'n cytuno'n llwyr. Jenny Rathbone. Na, dydy hi ddim yma. Huw Irranca-Davies. Huw Irranca-Davies AC: Diolch. Rwy'n dirprwyo ar ran Jenny. Na, na—rydw i yma yn fy rhinwedd fy hun. Diolch, Llywydd. A gaf i, yn gyntaf, groesawu'r datganiad heddiw, ond hefyd naws a sylwedd yr ymatebion a gyflwynwyd gan gyd-Aelodau'r Cynulliad, ac ymateb y Gweinidog hefyd? Fe wnaethom ni gynnal yma yr wythnos diwethaf—roeddwn yn un o gyd-noddwyr digwyddiad mewn ymateb i'r argyfwng yn yr hinsawdd. Roedd yn ddigwyddiad diwrnod o hyd. Ymdriniwyd â sawl maes, gan gynnwys tai. Roedd Rhun ac eraill yno hefyd. Dau beth a ddaeth yn amlwg iawn yn y drafodaeth panel a ddaeth a'r diwrnod i ben, pryd y daeth Aelodau'r Cynulliad draw i drafod eu canfyddiadau gyda nhw, oedd yr angen am gonsensws trawsbleidiol gwirioneddol i fynd â rhai o'r materion hyn yn eu blaen, nid i rwymo llywodraethau'r dyfodol, ond mewn gwirionedd i osod trywydd clir a fyddai'n ein clymu ni i gyd gyda'n gilydd, ond yn ail, fel y gallem ni wneud penderfyniadau tymor hir, hyd yn oed gyda'r brys ynghylch hyn—rhai o'r pethau hyn sy'n mynd ymhell y tu hwnt i gylchoedd etholiadol y bydd yn rhaid i ni lynuwrthyn nhw'n dynn iawn yn wir. Felly, rwy'n croesawu'r datganiad a'r dull o'i weithredu yn fawr. Rwyf hefyd yn croesawu'r ffaith eich bod yn sefydlu'r grŵp cyllid gwyrdd. Mae elfen o uchelgais yn hyn sy'n dangos, er y gallai seneddau eraill ar hyn o bryd fod yn wynebu pob math o heriau ac anawsterau ac anhrefn i ryw raddau, yma yng Nghymru rydym ni'n ceisio mynd ati i ymateb i argyfwng gwirioneddol yn yr hinsawdd, sydd wedi bodoli ers cryn amser. Nawr, bydd rhai pobl yn dweud bod angen mynd ymhellach ac yn gyflymach, ac ati, ac ati, ac mae Llyr wedi gwneud hynny'n glir eisoes. Ond rwy'n croesawu sefydlu'r grŵp cyllid gwyrdd, oherwydd bydd yn rhaid i hwnnw weithio drwy beth o'r glo mân caled. Yn hynny o beth, a gaf i ofyn i'r Gweinidog: a yw hi wedi cael amser i ystyried a derbyn yr holl argymhellion sydd wedi'u cyflwyno mewn egwyddor? A yw hi wedi gwneud hyn yng ngoleuni hefyd unrhyw drafodaethau gyda, neu yn sgil unrhyw ddarllen ar gynllun 10 pwynt comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol? Roedd dau o'r pwyntiau hynny yn y cynllun 10 pwynt yn ymwneud yn benodol â thai ac adeiladau. Roedd un yn ymwneud ag ôl-osod, ac roedd yn rhoi cost i Lywodraeth Cymru o tua £300 miliwn, ond cyfanswm o £1 biliwn y flwyddyn. Felly, bydd yn rhaid i'r grŵp cyllid gwyrdd hwnnw weithio'n galed i gyflawni'r hyn y mae'r Gweinidog wedi'i ddweud, ond yn sicr yr uchelgais sydd gan gomisiynydd cenedlaethau’rdyfodol. Ac o ran cartrefi newydd—dylai pob cartref ac adeilad cyhoeddus newydd fod yn ddi-garbon o 2020, gan adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd o'r £90 miliwn diweddar drwy eich rhaglen tai arloesol, yr ydym ni wedi sôn amdani yn y fan yma. Felly, a edrychwyd ar hynny o ran derbyn yr argymhellion hyn mewn egwyddor? Ac a wnaiff hi dderbyn hefyd y bydd angen inni ailedrych ar y rhain eto, yng ngoleuni'r angen i gynyddu ein huchelgais yn gyson hefyd? Yn olaf, hoffwn adleisio pwynt Llyr o ran, os ydym yn mynd i yrru hyn ymlaen yn gyflym, yn enwedig o ran ôl-osod, mae gwir angen i ni wneud yn siŵr y caiff ei wneud yn iawn. Un o'r gwersi yr ydym ni wedi'u dysgu yw ei fod wedi cynhyrchu—. Pan fydd gennych strategaeth ddiwydiannol werdd uchelgeisiol iawn, lle mae pobl hwnt ac yma yn cynnig gwneud y gwaith o ôl-osod ac ati, bydd yna bobl dda iawn yn eu plith, ond weithiau bydd gennych bobl sy'n rhoi'r cyngor anghywir ac yn gosod y pethau anghywir. Mae yna ddyn yn Nhondu yn fy ardal i a fydd yn colli ei dŷ oherwydd hyn. Mae wedi costio tua £60,000 neu fwy yn barod o ran ei gartref ei hun, yn ogystal â chost mynd i'r llys ac ati. Mae hyn wedi dinistrio ef a'i deulu. Felly, er gwaetha'r holl enghreifftiau da sydd ar gael, ac mae yna lawer, mae angen i ni osgoi'r ansawdd gwael hwnnw gan weithwyr ffwrdd-a-hi, sy'n rhoi'r cyngor anghywir. O ran ôl-osod, sut ydym ni'n gwneud yn siŵr y bydd hynny'n digwydd yn ddigon cyflym a thrylwyr wrth inni fwrw ymlaen? Julie James AC: Felly, dim ond ar y pwynt olaf hwnnw, rydym ni wedi bod yn trafod gyda diwydiant a chynrychiolwyr diwydiant ryw fath o gynllun trwyddedu. Rydym ni'n awyddus iawn i weithio gyda Llywodraeth y DU ar hynny, fodd bynnag, gan fod llawer o bobl yn y math hwn o ddiwydiant drwyddi draw yn cael eu rheoleiddio'n llym ac maen nhw'n awyddus iawn i beidio â gorfod cydymffurfio â dwy gyfundrefn reoleiddio wahanol. Ond rydym ni'n awyddus iawn i ddechrau cynllun trwyddedu. Mae fy nghyd-Aelod Mike Hedges wedi cymryd rhan mewn cwpl o ddadleuon ar y cyfryngau cymdeithasol ynghylch a allwch chi alw eich hun yn fath penodol o fasnach heb unrhyw gymwysterau ac ati, a chredaf fod yn rhaid inni symud i sefyllfa lle nad oes modd i chi wneud hynny, oherwydd bod rhaid cyrraedd rhai safonau proffesiynol, ac mae hynny oherwydd pob math o resymau, nid ar gyfer ôl-osod yn unig: felly, ni allwch chi, wyddoch chi, gael rhywun yn curo ar eich drws ac yn cynnig trwsio eich to os na allwch chi wirio pa gymwysterau sydd ganddyn nhw i wneud hynny. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â hynny ac rydym ni yn archwilio, gydag awdurdodau lleol, ffyrdd y gallwn ni ddefnyddio eu rhestrau cymeradwy i roi sicrwydd i bobl am gontractwyr ac ati. Felly, rwyf wir yn derbyn hynny. Ond mae gennym ni sefyllfa yma lle nad oes gennym fawr ddim sgil yn y maes hwn beth bynnag, felly bydd yn rhaid i ni ei ddatblygu o'r newydd. Mae cyfleoedd enfawr yma. Rwy'n credu i fod Llyr ddweud, oni wnaeth ef, 'Peidiwch â meddwl am y gost; meddyliwch am y gost o beidio â'i wneud.' Wel, mae hynny'n hollol iawn. Ond hefyd mae costau cyfleoedd yma. Felly, gallwn ni wneud diwydiant o hyn a gallwn ni roi Cymru wrth ei ganol os ydym ni yn ei wneud yn ddigon cyflym ac yn y ffordd gywir. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Ond mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n dechrau yn y lle cywir gyda'r arbenigwyr cywir ac rydym ni'n dechrau lle y mae'n bosibl i ni wneud pethau ac rydym ni'n sicrhau bod yr ymchwil cywir ar ben ffordd ar gyfer rhywfaint o'r gweddill. Fel y dywedais, mae rhai penderfyniadau anodd i'w gwneud yma. Felly, ydym, rydym ni yn bendant yn sefydlu'r cyllid i wneud hynny; bydd yn rhaid i ni drosoli cyllid arall i wneud hynny. Fel y dywedais, bydd yn rhaid inni gymell perchenogion tai—pobl sy'n ddigon ffodus i allu prynu neu sydd eisoes yn berchen ar eu cartref yn llwyr, bydd angen inni eu cael nhw i wneud hynny hefyd. Mae'n debyg y bydd angen inni ymyrryd rhywfaint yn y farchnad i sicrhau bod pobl yn cael eu gwobrwyo am— wyddoch chi, os ydyn nhw wedi gwario cymaint â hynny o arian arno, bydd angen iddyn nhw ei gael yn ôl. Mae angen rhai cymhellion arnom ni yma, ac nid gostwng eich biliau ynni yn unig yw hyn, ond gwerth eich ased. Mae'n debyg mai dyma'r unig ased sydd gan y rhan fwyaf o bobl, felly bydd angen iddyn nhw gael hwnnw. Ac yna pan fyddwn yn gwneud y cynlluniau rhannu ecwiti y gwnaethom sôn amdanyn nhw yn gynharach yn y rhaglen tai arloesol —rhai o'r pethau yr oedd Dawn yn sôn amdanyn nhw yn gynharach yng Nghartrefi Cymoedd Merthyr—bydd angen inni sicrhau bod pobl yn cael eu cyfran nhw o hynny a'n bod yn gallu lledaenu'r sgiliau a'r arbenigedd. Ond fe allwch chi weld hyn fel cyfle enfawr. Nid oes rhaid i chi ei weld fel gofid a gwae, bobol bach. Os gwnawn ni hynny'n iawn, gallwn ni ysgogi diwydiant yn y fan yma sy'n rhoi cyflogaeth i'n cymunedau ac sydd wir yn cadw'r grym ynddyn nhw hefyd. Ond mae'n rhaid i ni wneud pethau'n iawn. Dyna pam nad oeddwn i yn petruso cyn dweud y byddwn i yn eu derbyn mewn egwyddor, ond mae angen i ni ddechrau yn rhywle ac yna adeiladu arno. Felly, rwy'n cymryd beth bynnag a ddywedir ganddo am hynny, ond nid ydym ni yn ceisio ei ddiystyru. Rydym ni yn ceisio dechrau yn y lle cywir er mwyn cael consensws i ddatblygu rhaglen yma. Diolch i'r Gweinidog, a diolch i'r Aelodau, gan fod hynny'n dod â'n trafodion ni am y dydd i ben. Daeth y cyfarfod i ben am 18:44. QNR Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru Vikki Howells: Sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro amseroedd aros orthodontig yng Nghwm Cynon? Mark Drakeford: Wales is the first country in the UK to introduce electronic dental referrals across all dental specialities, including orthodontics. This means the source, complexity and volume of referrals will be known by health boards. The e-referral system will improve the quality of referrals and reduce patient waiting times for treatment. Neil Hamilton: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sefyllfa gyfansoddiadol Cymru o fewn y Deyrnas Unedig? Mark Drakeford: The Welsh Government believes Wales’s interests are best served by being a part of the United Kingdom, and the United Kingdom is better and stronger for having Wales in it. David J. Rowlands: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r amserlen ar gyfer gwella lefelau ffyniant yng Nghymru? Mark Drakeford: Our economic action plan has been designed to support the delivery of a strong, resilient and dynamic economy. It is a plan to grow the economy inclusively and reduce inequality. It sets out how we will deliver prosperity for all people in Wales, including those living in poverty. Russell George: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft? Mark Drakeford: We have published the draft national development framework for consultation. It sets out our spatial planning policies for the next 20 years and will provide direction for growth and infrastructure investment.
uk-hansard-senedd-cy
senedd2019-09-24
2024-06-01T00:00:00
{ "year": "2019", "language": "cy", "license": "Open Parliament Licence - https://www.parliament.uk/site-information/copyright-parliament/open-parliament-licence/" }
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. Galw'r Aelodau i drefn. 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog. A'r cwestiwn cyntaf, Darren Millar. Seilwaith yng Ngogledd Cymru Darren Millar AC: 1. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i wella'r seilwaith yng ngogledd Cymru? OAQ51601 Carwyn Jones AC: Mae ein cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn nodi rhaglen uchelgeisiol o welliannau i ffyrdd, rheilffyrdd, bysiau a theithio llesol yn rhan o gynllun cytbwys a chynaliadwy ar gyfer buddsoddiad mewn trafnidiaeth ledled Cymru. Darren Millar AC: Diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog. Un peth y mae llawer o bobl yn y gogledd yn clochdar yn eu gylch yw'r gwahaniaeth rhwng y buddsoddiad yn y seilwaith trafnidiaeth yn y de a'r hyn a welir yn y gogledd. Rydych chi'n gwario £1.4 biliwn ar ffordd liniaru i'r M4, £400 miliwn yn fwy nag yr oeddech chi'n ei ddisgwylddim yn bell iawn ynôl. Cyhoeddwyd £180 miliwn gennych ar gyfer y prosiect metro canolog yng Nghaerdydd, ac mae hwnnw o fewn, wrth gwrs, pecyn gwerth £2 biliwn ar gyfer system metro de Cymru. Nawr, nid wyf i'n bychanu'r buddsoddiadau hynny, ond pryd mae'r gogledd yn mynd i gael ei gyfran deg? Mae gennym ni seilwaith eithriadol o wael ar yr A55, lle ceir tagfeydd rheolaidd, mae gennym ni broblemau gyda'n hamddiffynfeydd rhag llifogydd, ac mae mynediad at fand eang, yn enwedig mewn cymunedau gwledig, yn gwbl annerbyniol. Carwyn Jones AC: Wel, mae'r A55, wrth gwrs, yn llwybr strategol allweddol yn y gogledd. Y llynedd, cwblhawyd rhaglen £42 miliwn gennym i sicrhau bod twneli Conwy, Penmaen-bach a Phen-y-clip yn cyd-fynd â'r safonau presennol. Rydym ni hefyd yn buddsoddi tua £40 miliwn i uwchraddio cyffyrdd 15 a 16, a £200 miliwn yg nghoridor Glannau Dyfrdwy. Hefyd, cwblhawyd y cynllun draenio rhwng Abergwyngregyn â Thai'r Meibion dros yr haf, a chyhoeddwyd y gorchmyniondrafft a datganiad amgylcheddol ar brif gynllun gwella Abergwyngregyn i Dai'r Meibion yr A55 gennym. Nawr, mae gwaith arall yn y gogledd yn cynnwys cyflymu'r dyddiad cwblhau ar gyfer trydydd croesfan dros afon Menai, a allai agor yn 2022 erbyn hyn, a datblygu ffordd osgoi arfaethedig Caernarfon a Bontnewydd, sy'n cynrychioli mwy o fuddsoddiad o dros £125 miliwn yn y rhwydwaith—ac i'r ffyrdd yn unig mae hynny. Rhun ap Iorwerth AC: Rwy'n edrych ar fap o fy mlaen i yn y fan hyn o'r pwyntiau gwefru ceir trydan ar draws Prydain. Ac rydym yn gweld ar draws gogledd Cymru mor dila ydy'r ddarpariaeth o fannau pwyntiau gwefru cyflym. Rydw i'n edrych ymlaen am y chwyldro mewn defnydd o geir trydan, ond nid ydy'r chwyldro yna am allu digwydd heb fod y Llywodraeth wirioneddol yn dangos uchelgais ac yn rhoi strategaeth mewn lle er mwyn gwneud ynsiŵr ein bod ni'n paratoi'r isadeiledd ar gyfer y chwyldro yna. Lle mae'r arwyddion gan y Llywodraeth eich bod chi'n cymryd hyn o ddifrif? Carwyn Jones AC: Wel, rydym ni yn, wrth gwrs, ac mae'n rhaid sicrhau bod y strwythur yna. Un o'r problemau yw'r ffaith bod siẁd amrywiaethynglŷn â'r gwahanol ffyrdd y mae ceir yn gallu cael eu tsiarjo. Mae yna o leiaf dri gwahanol soced y gallaf i feddwl amdanyn nhw, fel un sy'n dreifo hybrid fy hunan. Beth sydd ei eisiau yw i'r cynhyrchwyr ystyried ym mha ffordd y gallwn ni sicrhau taw dim ond un modd o tsiarjosydd ar gael, a bydd hynny'n rhwyddach wedyn i Lywodraeth sicrhau ein bod ni'n gallu helpu i weld mwy o lefydd tsiarjoyn y pen draw. Ond mae'n wir i ddweud, wrth gwrs: beth sy'n dod yn gyntaf—ceir neu'r rhwydwaith? Rydym ni'n moyn sicrhau bod rhwydwaith ar draws Cymru, ac mae hwn yn rhywbeth sy'n cael ei ystyried gan y Gweinidog. Signal Ffonau Symudol Neil Hamilton AC: 2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am argaeledd signal ffonau symudol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ51634 Carwyn Jones AC: Rydym ni'n cydnabod pwysigrwydd cynyddol cyfathrebu symudol mewn ardaloedd gwledig. Ac mae ein cynllun gweithredu symudol yn nodi sut yr ydym ni'n bwriadu gweithio gyda'r diwydiant a'r rheoleiddiwr i wella cysylltedd symudol ledled y wlad. Neil Hamilton AC: Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna, a gwn fod y Llywodraeth yn rhoi blaenoriaeth uchel i wella cysylltedd yng nghefn gwlad. Ond rwy'n siŵr y byddai'n cytuno â mi bod llawer mwy i'w wneud o hyd. Ceir problem sylweddol o bosib gyda diffyg signal ffôn symudol o ran trafnidiaeth gyhoeddus. Mae etholwr wedi ysgrifennu ataf i o Lan-non yng Ngheredigion, sydd â phedwar bws yn unig i Aberaeron ar ddydd Sul, i ddweud ei fod yn aros am y bws 11:27 yn ddiweddar, ac na chyrhaeddodd. Ar y wefan, rydych chi'n cael eich annog, wrth gwrs, i edrych ar y wefan i ganfod newidiadau i amserlenni ac oediadau, ond ni allai wneud hynny, oherwydd— Gymaint ag y mae gen i ddiddordeb mewn amseroedd bysiau yn Llan-non, mae'r cwestiwn hwn am signal ffôn symudol. Neil Hamilton AC: Ydy, cywir. Ond mae pobl â ffonau symudol yn cael eu hannog i edrych ar y wefan i ganfod oediadau i'r gwasanaeth, naellid ei wneud yn yr achos penodol hwn gan nad oedd unrhyw signal ffôn symudol ar y safle bws lle'r oedd yn aros am y bws. Carwyn Jones AC: Wel, nid oes neb yn mynd i esgus bod signal ffôn symudol yn hollol gyffredinol, mewn llawer o rannau o Gymru. Rwy'n byw yng nghanol tref ac ni allaf gael signal ffôn symudol yn fy nhŷ i. Felly, rydym ni'n gwybod bod her i'r diwydiant—nid yw hyn wedi ei ddatganoli wrth gwrs—i wneud yn siŵr ei fod yn ymestyn cwmpas y signal, fel mewn gwledydd eraill erbyn hyn. Beth ydym ni'n ei wneud fel y Llywodraeth? Wel, mae'r cynllun gweithredu symudol wedi hen gychwyn, ac mae cynnydd da yn cael ei wneud. Rydym ni'n gweithio ar hyn o bryd i ddiffinio cymhwysedd ar gyfer cymorth ardrethi busnes ar gyfer safleoedd mastiau newydd, a gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi penodi Pwynt Arloesi i gynghori, ysgogi a chyd-drefnu gweithgarwch 5G yng Nghymru, gan gynnwys cyfleoedd i sicrhau cyllid o gronfa her profion a threialon Llywodraeth y DU. Angela Burns AC: Prynhawn da, Prif Weinidog. Byddwch yn gwybod bod adroddiad y Swyddfa Gyfathrebu wedi canfod na all 12 y cant o fas tir Cymru gael unrhyw signal ffôn symudol, ac o gofio, er enghraifft, yn y chwe mis diwethaf, y difrod storm ofnadwy yr ydym ni wedi ei gael a'r sefyllfaoedd brys, roeddwn i'n meddwl tybed a yw eich Llywodraeth wedi siarad â rhai o'r arloeswyr, neu a fyddai'n ystyried siarad â nhw—cwmnïau fel EE—am ddefnyddio technoleg drôn neu'r system helikite, sy'n gweithio oddi ar falŵn heliwm, a fydd yn cynnig signal ffôn symudol dros dro yn ystod cyfnodau brys. Wrth gwrs, nid yn unig y byddai'n helpu i gydgysylltu gwasanaethau brys ond yn gadael i bobl wybod eu bod nhw mewn sefyllfa enbyd neu eu bod nhw angen cymorth. Carwyn Jones AC: Mae'n sicr yn syniad diddorol. Fe'm hysbysir bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyfarfod â chynrychiolwyr y diwydiant er mwyn trafod hyn. Mae'n bwysig dros ben, lle mae gennym ni argyfyngau, bod rhwydwaith cyfathrebu digon cadarn ar waith er mwyn ymdrin â'r argyfyngau hynny. Fel rwy'n dweud, cynhaliwyd cyfarfod yn ddiweddar i drafod yr union bwynt hwnnw. Simon Thomas AC: Er eich bod chi’n sôn am ba mor bwysig yw argaeledd ffonau symudol, dim ond newydd gyrraedd Pen Llŷn a Mynydd Rhiw y mae 4G, er enghraifft.Mae rhai ardaloedd ar ei hôl hi yn ddifrifol yng nghefn gwlad Cymru. Un o’r pethau sy’n cael ei anghofio amdano yn aml iawn yw pa mor bwysig fydd y ffôn symudol ar gyfer awtomeiddio ar ffermydd a robotics. Mae’n dod nawr eich bod chi’n gallu rheoli peirianwaith ar fferm, a phethau megis teilwra a phethau felly, drwy system ffôn a signal ffôn—nid y ffôn symudol ei hunan ond y signal ffôn yna. A ydych chi’n mynd i wneud yn siŵr, felly, fod hynny ar gael wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd—bod y dechnoleg orau ar gael ym mhob rhan o Gymru, yn enwedig ar gyfer ein hamaethwyr ni? Carwyn Jones AC: Mae’n rhaid i ni sicrhau hynny. Un o’r pethau yr wyf i jyst wedi sylwi, mewn gwledydd eraill—. Er enghraifft, roeddwn i yn Uganda dair blynedd yn ôl, ac roedd y rhwydwaith ffonau symudol yno lawer yn well nag yn y Deyrnas Unedig—llawer yn well. Roeddwn i mewn ardaloedd gwledig iawn a oedd yn anodd eu cyrraedd ar yr hewl, ond pan oeddech chi’n cyrraedd yno, roedd pump bar o 4G. Pam? Wel, wrth gwrs, nid oedd buddsoddiad o gwbl o ran llinellau tir, felly dyna’i gyd sydd gan bobl yw ffonau symudol, a dyna lle mae’r buddsoddiad wedi mynd. Ond, mae’n rhaid inni sicrhau nad yw hynny yn esgus—bod yna rwydwaith o linellau yno’n barod, sydd wedi bod yno ers blynyddoedd mawr—rhag peidio â symud ymlaen gyda rhwydwaith cryfach ar gyfer ffonau symudol. Rŷm ni'n moyn gweld sefyllfa lle mae yna lot mwy o lefydd yng Nghyrmu yn gallu cael signal. Ar hyn o bryd, wrth gwrs, mae’n wir, mewn ardaloedd gwledig, ei bod hi'n anodd, ond hefyd mewn rhai ardaloedd trefol. Er enghraifft, mae pobl yn cwyno wrthyf fi—nid wyf i'n gwybod, nid wyf i'n byw yno—am ardal Pontcanna, er enghraifft. Nid oes signal ffôn o gwbl yng nghanol dinas Caerdydd. Felly, mae lot o waith i’w wneud mewn ardaloedd gwledig a hefyd mewn ardaloedd trefol. Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood. Leanne Wood AC: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae dogfennau a ddatgelwyd yn awgrymu bod Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda yn ystyried dyfodol ysbytai yn ei ardal. Nawr, dim ond rhyw dair blyneddsydd ers yr ad-drefnu diwethaf, a oedd i fod i gynnig ateb hirdymor a chynaliadwy, ac eto mae pobl yn wynebu mwy o gynigion bellach, gan gynnwys cau ysbytai. A oedd y Bwrdd Iechyd yn bod yn onest am ei ad-drefnu diwethaf? Carwyn Jones AC: Wel, gallai'r Bwrdd Iechyd ei hun ateb hynny. Nid wyf yn gweld unrhyw reswm pam nad oedden nhw'n bod yn onest. Ceir heriau bob amser. Mae'r arolwg seneddol, y mae'r holl bleidiau wedi ymrwymo iddo, wedi dweud y bydd penderfyniadau anodd yn y dyfodol. Nawr, fel Llywodraeth, nid oes gennym ni unrhyw farn ar hyn. Nid dyma ein polisi. Mae'r rhain yn ddewisiadau y mae'r bwrdd iechyd wedi bwrw ymlaen â nhw. Yr hyn sy'n hynod bwysig yw bod beth bynnag y mae'r bwrdd iechyd yn ei ystyried yn cael ei ddatblygu gydag ymgynghoriad cyhoeddus llawn. Leanne Wood AC: Wel, Prif Weinidog, mae'n rhaid i chi fod yn gyfrifol ac yn atebol am iechyd yn y pen draw. Mae iechyd yn gwbl ddatganoledig ac yn gyfrifol i chi. Nawr, mae'r bwrdd iechyd yn dweud eu bod nhw eisiau i bobl gael eu trin yn agosach i'w cartrefi ac yn y gymuned, ond nid yw'n ymddangos mai dyna y mae'r cynigion yn y ddogfen a ddatgelwyd yn ymwneud ag ef. Un agwedd a allai ategu gwasanaethau ysbyty presennol yw creu canolfannau cymunedol â gwelyau, neu'n fwy cywir efallai, 'Ni allaf gredu nad yw'n ysbyty cymuned'. Roedd cau ysbytai cymuned yn bolisi Llywodraeth Lafur ar un adeg, ac mae wedi arwain at leihau nifer y gwelyau, ac mae wedi bod yn gamgymeriad mawr. Ni ddylid defnyddio gwasanaethau cymunedol fel esgus i gau ysbytai cyffredinol dosbarth. Gyda defnydd o welyau ar draws y GIG yn uwch na'r lefel ddiogel o 85 y cant am y saith mlynedd diwethaf, a ydych chi'n derbyn bod y GIG angen mwy o welyau i'w alluogi i ymdopi â phwysau ychwanegol y gaeaf? Carwyn Jones AC: Rwy'n credu bod angen i ni ganolbwyntio nid yn unig ar y mater o welyau, ond ar y mater o gael pobl allan o'r ysbyty cyn gynted â phosibl. Mae hynny'n golygu, os edrychwch chi ar oedi wrth drosglwyddo gofal, bod ein ffigurau yn llawer gwell o fis i fis, ac wedi gwella'n fawr ers y llynedd. Nid ydym ni eisiau pobl yn aros yn yr ysbyty am gyfnod hwy nag sydd angen iddyn nhw fod yno. Ond, wrth gwrs, y pwynt arall y mae'n rhaid i ni ei ddeall yw ein bod ni angen GIG sy'n gynaliadwy. Ymrwymodd yr holl bleidiau i hynny yn rhan o'r adolygiad seneddol. Mae'n aruthrol o bwysig ein bod ni, wrth gwrs, yn cytuno â'r egwyddor y dylai pobl gael eu trin mor agos i gartref â phosibl, ond mae angen i ni wneud yn siŵr hefyd bod gwasanaethau yn gynaliadwy yn y dyfodol. Nawr, mae'r cynigion a wnaed gan Hywel Dda i Hywel Dda eu hystyried ar hyn o bryd, i gymryd rhan mewn ymgynghoriad cyhoeddus llawn. Mae'n wir dweud efallai y daw adeg pan fydd angen penderfyniad gan y Llywodraeth, ond nid yw'r adeg honno wedi cyrraedd eto. Leanne Wood AC: Y pwynt yw, Prif Weinidog, bod pobl angen system iechyd integredig a gwasanaethau cymunedol sy'n ategu ysbytai cyffredinol dosbarth, nid eu disodli. Mae pobl yn y gorllewin yn dal yn mynd i fod angen triniaeth frys. Bydd dal i fod angen llawdriniaeth arnynt, byddant yn dal i fod angen aros dros nos ac adrannau damweiniau ac achosion brys o fewn pellter rhesymol i'w cartrefi. Nawr, bydd llywodraeth Plaid Cymru yn cadw'r gwasanaethau hanfodol hyn ar gyfer ein cymunedau gwledig. Mae hynny'n golygu adran damweiniau ac achosion brys i Fronglais a Glangwili, a chadw Llwynhelyg ar agor. Nawr, mae Plaid Cymru wedi bod yn eich rhybuddio chi ers nifer o flynyddoedd erbyn hyn am yr angen i hyfforddi mwy o feddygon. A wnewch chi weithio gydag ysgol feddygol Abertawe ar ei chynigion i gynyddu nifer y meddygon yn ardal bwrdd iechyd Hywel Dda? A allwch chi sicrhau pobl allan yna, a'r Aelodau yma heddiw, na fyddwch chi'n cadarnhau unrhyw benderfyniad i gael gwared ar adrannau damweiniau ac achosion brys o Bronglais na Glangwili? A wnewch chi hefyd gadarnhau na fydd Llywodraeth Lafur yn cymeradwyo unrhyw benderfyniad i gau ysbyty Llwynhelyg na chael gwared ar wasanaethau damweiniau ac achosion brys o'r ysbyty hwnnw? Carwyn Jones AC: Mae'n ymddangos i mi ei bod hi'n ddibwrpas cael unrhyw fath o ymgynghoriad. Nawr, nid oes gennym ni unrhyw farn ar hyn ar hyn o bryd, ac mae rhesymau dros hynny. [Torri ar draws.] Mae Simon Thomas yn gwybod hyn yn iawn: y rheswm pam na allwn ni gynnig barn ar hyn o bryd yw oherwydd bod ymgynghoriad agored yn digwydd. Ni allwn ni ddod â'r ymgynghoriad i ben ar hyn o bryd. Ceir materion cyfreithiol sy'n gysylltiedig â hynny, i ddechrau. Mae'n wir i ddweud y daw adeg, neu efallai y daw adeg, pan fydd yn rhaid i Weinidogion wneud penderfyniad, a dyna'r adeg, heb os, y bydd Gweinidogion yn cael eu holi ynghylch pam y gwnaed y penderfyniad hwnnw. Ond ni allwch chi ar y naill llaw ddweud, 'Rydym ni wedi ymrwymo i adolygiad seneddol sy'n ystyried creu GIG sy'n gynaliadwy' ac yna dweud, 'Dyma fydd y dewisiadau—' [Torri ar draws.] Na, na, na. Ac yna dweud, 'Ceir rhai dewisiadau a fydd yn cael eu diystyru'n llwyr bob amser'. Nid dyna'r ffordd y mae'r pethau hyn yn gweithio. Yr wythnos diwethaf, roedd yr adolygiad seneddol yn cael ei gefnogi gan bob plaid yn y Siambr hon. Y cwestiwn yw: a yw'r pleidiau hynny'n cefnu ar yr adolygiad hwnnw nawr? Mae hwnnw'n gwestiwn y credaf bod angen ei ateb. Arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies. Andrew RT Davies AC: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a ydych chi'n dal i gredu na fydd y dewis du a ffefrir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer yr M4 yn costiounrhyw swm yn agosi£1 biliwn ac y bydd yn llawer is na'r ffigur a ragwelwyd gennych chi yn ôl yn 2015? Carwyn Jones AC: Wel, mae'r ffigur yn sicr wedi codi gan y bu mwy o oedi na'r disgwyl. Ond rydym ni'n bwriadu gwneud yn siŵr yr ymdrinnir â'r mater o dagfeydd ar yr M4. Tybed beth yw barn ei blaid ef. Andrew RT Davies AC: Prif Weinidog, cwestiynau i'r Prif Weinidog yw'r sesiwn hon, a dyna pam mai ni sy'n gofyn cwestiynau i chi ac yn chwilio am atebion gennych chi. Nid yw'n ymddangos ein bod ni'n cael llawer o atebion o wythnos i wythnos. Ond, yr wythnos diwethaf, ym Mhwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, nododd yr uwch was sifil a oedd yn ymdrin â hyn yn adran Ysgrifennydd y Cabinet fod cost y prosiect oddeutu £1.4 biliwn i £1.5 biliwn. Ond £1.3 biliwn i £1.4 biliwn yw'r ffigurau gwirioneddol a gyflwynwyd i'r ymchwiliad. Mae'r ffigurau hynny wedi eu cyflwyno i'r ymchwiliad, y ffigurau hynny. Dim ond dwy flynedd yn ôl, roeddech chi'n datgan nad oedd yn mynd i fod unrhyw beth yn agos at £1 biliwn ac y byddai gryn dipyn yn llai na'r ffigur hwnnw. Roedd cant a thrigain o weision sifil ar yr adeg honno, fel y dywedwyd wrthym gan y Gweinidog, ynghlwm i'r prosiect penodol hwn. Gofynnaf ichi eto: beth sydd wedi mynd o'i le? Mae hwn yn brosiect seilwaith allweddol y mae Llywodraeth Cymru yn herio i'w gyflawni. Mae costau'r prosiect, os oedd eich amcangyfrifon ar yr adeg honno i'w credu, wedi dyblu bron, ar sail ffigurau'r gwasanaeth sifil ei hun a gyflwynwyd ganddo i'r ymchwiliad ac a nodwyd hefyd gan Ysgrifennydd y Cabinet yn y pwyllgor hwnnw. Carwyn Jones AC: Wel, yn gyntaf oll, chwyddiant—mae hynny'n gwneud gwahaniaeth i'r ffigurau; ac, yn ail, mae Llywodraeth y DU yn codi TAW. Mae Llywodraeth y DU yn codi TAW. Dyma her iddo: pam na wnaiff ef fynd yn ôl at ei blaid a dweud, 'Peidiwch â chodi TAW ar y prosiect hwn'? Byddai hynny'n arbed cannoedd o filiynau o bunnoedd i ni. Andrew RT Davies AC: Mae hynna'n ofnadwy, Prif Weinidog. Hwn yw eich prosiect seilwaith mwyaf. Mae'r trafodaethau ynghylch TAW yn parhau. Heb TAW—a geiriau eich gwas sifil eich hun yn y pwyllgor hwnnw yw'r rhain—mae costau'r prosiect hwn oddeutu £1.3 biliwn i £1.4 biliwn. Dim ond dwy flynedd yn ôl, roeddech chi'n ceisio argyhoeddi pobl bod y prosiect hwn yn mynd i gostio £800 miliwn. Gofynnais i chi am gael gweld yr wybodaeth honno fel y gallem ni fod yn hyderus eich bod chi'n adeiladu prosiect ar sail cyllid cadarn. Mae hyni gyd wedi ei ddadwneud. A allwch chi ymrwymo heddiw bod terfyn uchaf lle mae'r prosiect hwn yn ddichonadwy, ac os nad oes y terfyn uchaf hwnnw, a fyddwch chi'n chwipio aelodau eich meinciau cefn ac yn cael cyfrifoldeb Cabinet i bleidleisio dros y prosiect hwn, beth bynnag fo'r gost? Carwyn Jones AC: Doedd e ddim yn gwybod am y TAW, oedd e? Roedd hwnnw'n un o'r materion sy'n newyddion iddo. Andrew RT Davies AC: Mae'r trafodaethau hynny'n parhau. Carwyn Jones AC: Rwy'n synnu nad yw arweinydd yr Wrthblaid yn ymwybodol o'r mater TAW, ac nad yw wedi dweud dim yn gyhoeddus i gefnogi Llywodraeth Cymru a threthdalwyr Cymru. Un peth yw dweud bod trafodaethau yn parhau, ond pam nad yw e'n sefyll ar ei draed ac yn dweud wrth y Blaid Geidwadol—Plaid Geidwadol a gymerodd gyllid oddi wrth trydaneiddio'r rheilffyrdd i'w wario y tu allan i Gymru; Plaid Geidwadol sy'n ceisio cynyddu pris prosiect yr M4; Plaid Geidwadol a honnodd ei bod yn lleihau'r tollau ar bont Hafren pan mai'r cwbl yr oedd yn ei wneud oedd cael gwared ar TAW nad oedd yn gallu ei godi'n gyfreithlon yn y lle cyntaf. Hynny yw, rydym ni'n sôn am sbinio, ond mae gennym ni dderfis chwyrlïol yma. Byddwn yn darparu prosiectau trafnidiaeth ar gyfer pobl Cymru yn nannedd gwrthwynebiad gan y Ceidwadwyr. Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton. Neil Hamilton AC: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae meddygon ymgynghorol ysbyty brys yng Nghymru wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog yn ddiweddar yn honni bod diogelwch yn cael ei beryglu i raddau annerbyniol. Mae Coleg Brenhinol meddygaeth frys wedi disgrifio unedau damweiniau ac achosion brys fel meysydd cad. Mae Dr Tim Rogerson, meddyg ymgynghorol ym maes meddygaeth frys yn Ysbyty Brenhinol Gwent, wedi dweud am y darlun ledled Cymru, Rydym ni ar ein gliniau cyn belled ag y mae gofal brys [yn y cwestiwn]. Mae gennym ni gleifion sy'n dod i adrannau achosion brys sydd eisoes yn llawn. Mae'r meddygon ymgynghorol wedi gofyn i'r Prif Weinidog adolygu fel mater o frys nifer y gwelyau sydd ar gael ar gyfer gofal acíwt, ac am gynnydd sylweddol i gyllid ar gyfer gofal cymdeithasol. A yw e'n mynd i gytuno i'r cais hwnnw? Carwyn Jones AC: Yn gyntaf oll, rwy'n ymwybodol o'r pwysau a fu ar staff brys, ac rwy'n diolch iddyn nhw am yr hyn y maen nhw wedi ei wneud. Mae wedi bod yn anodd iawn, o ystyried achosion o gynnydd sydyn i alw—cynnydd sydyn i alw na ellid ei ragweld ar ddiwrnodau penodol yn ystod cyfnod y gwyliau. Byddem ni wrth ein boddau—wrth ein boddau—gwario mwy ar iechyd a gofal cymdeithasol pe byddai Canghellor y Trysorlys yn gollwng y brêcs. Amlinellodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid dim ond yr wythnos diwethaf y gallem ni fod hyd at £4 biliwn yn well ein byd pe byddai tueddiadau blaenorol wedi cael eu dilyn. Mae hynny'n fuddsoddiad sylweddol y gallem ni ei wneud yn y gwasanaeth iechyd. Felly, ydym, rydym ni'n cytuno â'r meddygon ymgynghorol ein bod ni eisiau gwario mwy o arian ar iechyd a gofal cymdeithasol. O ble'r ydym ni'n mynd i'w gymryd? Ysgolion? Oherwydd dyna'r unig le y gallwn ni fynd. Cynyddu'r dreth gyngor? Oherwydd dyna fydd yn digwydd os byddwn ni'n cymryd arian oddi ar lywodraeth leol. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod Llywodraeth y DU—. Boris Johnson heddiw, yn dweud bod £100 miliwn yr wythnos ar gael ar gyfer y GIG yn Lloegr. Byddai hynny'n golygu £300 miliwn yn fwy ar gael yng Nghymru. Ar hynny, os dim byd arall, rwy'n cefnogi Boris Johnson. Neil Hamilton AC: Rwy'n falch iawn o glywed hynny, oherwydd o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, bydd mwy o arian i'w wario ar y gwasanaeth iechyd. [Torri ar draws.] Wrth ateb arweinydd Plaid Cymru—. Yr amseru sy'n bwysig. Wrth ateb arweinydd Plaid Cymru yn gynharach, dywedodd nad yw gwelyau'n bwysig mewn gwirionedd; pa mor gyflym yr ydych chi'n symud pobl allan ohonyn nhw sy'n bwysig. Ond y gwir amdani yw bu gostyngiad sylweddol iawn i nifer y gwelyau sydd ar gael mewn ysbytai ledled Cymru yn ystod y saith mlynedd diwethaf—tua 20 y cant i 25 y cant yn dibynnu ar y bwrdd iechyd—ond prin y mae cyfradd defnydd y gwelyau hynny wedi newid, ac mae'n uwch nag y bu, fel y nododd arweinydd Plaid Cymru, uwchlaw'r lefel ddiogel o 85 y cant ers saith mlynedd erbyn hyn. Yn sicr, o fewn y blaenoriaethau'r gwasanaeth iechyd y mae'r Prif Weinidog yn gyfrifol amdanynt, nid Boris Johnson, dylai fod rhyw fath o newid i sicrhau bod diogelwch mewn ysbytai yn cael ei gymryd o ddifrif gan y Llywodraeth hon. Carwyn Jones AC: Mater i fyrddau iechyd yw sicrhau bod ganddyn nhw ddigon o welyau ar gael. Nid yw'n iawn i ddweud fy mod i wedi dweud nad oedd gwelyau'n bwysig: dywedais mai dim ond rhan o'r darlun ydyn nhw. Os edrychwch chi, er enghraifft, yn Lloegr, lle mae gwariant ar ofal cymdeithasol wedi cael ei daro'n galed, mae Lloegr ynmedi'r hyn a heuodd erbyn hyn. Rydym ni wedi sicrhau drwy, er enghraifft, y gronfa gofal integredig, y gall mwy o bobl adael yr ysbyty pan fyddan nhw'n barod. Rydym ni'n gweld achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal yn gostwng, tra bod gofal cymdeithasol yn Lloegr, wrth gwrs, ar fin chwalu. Os nad ydych chi'n fy nghredu i, gwrandewch ar arweinwyr cynghorau—arweinwyr cynghorau Ceidwadol—yn Lloegr, sy'n dweud yn union hynny. Neil Hamilton AC: Mae'n ddrwg gennyf, nid oeddwn i'n ymwybodol bod y Prif Weinidog wedi gorffen gan fod cymaint o sŵn yn dod o rannau eraill y Siambr. Nid oedd holl bwynt fy nghwestiwn yn ymwneud â gofal cymdeithasol, ond â gwelyau mewn ysbytai a gofal ysbyty. Dywedodd y meddygon ymgynghorol a ysgrifennodd at y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf bod adrannau achosion brys yng Nghymru, mewn rhai ffyrdd, yn waeth nag yn Lloegr. Mae staff yn cyrraedd y gwaith i ganfod cleifion yn yr adran achosion brys a oedd yno y diwrnod cynt, ac mae sawl aelod o staff mewn dagrau gan eu bod yn teimlo na allant ddarparu'r gofal sydd ei angen ar gleifion. Mae'r meddygon ymgynghorol hefyd yn honni bod y ffigurau targed o bedair awr ar gyfer yr ysbytai sy'n perfformio orau yng Nghymru yn debyg i rai o'r ysbytai sy'n perfformio waethaf yn Lloegr. Yn sicr, mae hynny'n gondemniad o 20 mlynedd o Lywodraeth Lafur yng Nghymru. Carwyn Jones AC: Ceir marciau cwestiwn ynghylch ffigurau Lloegr i ddechrau. Nid yw hynny'n lleihau, wrth gwrs, y pwysau sydd wedi bod ar wasanaethau brys yng Nghymru, ac yn sicr nid wyf yn ceisio bychanu hynny mewn unrhyw ffordd o gwbl. Ond y cwestiwn yw hwn: a ddylech chi wahanu'r mater o iechyd a gofal cymdeithasol, fel y mae e'n ceisio ei wneud gyda'i drydydd cwestiwn? Yr ateb yw, 'Na, allwch chi ddim.' Mae'r ddau wedi eu hintegreiddio, mae'r ddau yr un fath, maen nhw'n integredig o ran y gwasanaeth y maen nhw'n ceisio ei ddarparu i bobl ac rydym ni wedi cyfrannu arian at hynny drwy'r gronfa gofal integredig, gan wneud yn siŵr y gall pobl adael yr ysbyty paneu bod yn gallu. Yr hyn a wnaeth Lloegr oedd ceisio gwario'r arian ar iechyd ac amddifadu gofal cymdeithasol o arian, gan gymryd oddi wrth gofal cymdeithasol a rhoi i iechyd i bob pwrpas, ac mae Lloegr yn dioddef effeithiau hynny erbyn hyn. Roeddem ni o'r farn erioed bod yn rhaid i iechyd a gofal cymdeithasol gael eu hystyriedfel un a body naill wedi ei gysylltu'n gryf â'r llall. Os edrychwn ni, er enghraifft, ychydig y tu hwnt i hynny at y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru); mae hwnnw'n ystyried dod â'r ddarpariaeth addysg ac iechyd ar gyfer pobl ifanc ynghyd hefyd. Felly, rydym ni wedi sicrhau, pan ddaw i wariant, bod gwariant yng Nghymru yn uwch fesul pen nag yn Lloegr ar iechyd a gofal cymdeithasol i wneud yn siŵr nad ydym ynsiomi ein pobl fel y mae'r Llywodraeth wedi ei wneud yn Lloegr. Systemau Talu heb Arian Parod ar gyfer Prydau Ysgol Joyce Watson AC: 3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am weithredu systemau talu heb arian parod ar gyfer prydau ysgol? OAQ51615 Carwyn Jones AC: Ceir llawer o fanteision i ysgolion sy'n defnyddio systemau talu heb ddefnyddio arian parod: helpu ysgolion i fodloni'r gofyniad i ddiogelu manylion adnabod dysgwyr, er enghraifft, sy'n derbyn prydau ysgol am ddim, ac atal y sefyllfa o blant yn colli eu harian cinio rhag codi. Joyce Watson AC: Ceir tystiolaeth, wrth gwrs, bod cysylltiad rhwng systemau talu heb ddefnyddio arian parod a niferoedd uwch yn manteisio ar brydau ysgol am ddim, a dyna pam yr wyf i wedi cefnogi ac ymgyrchu dros eu cyflwyno ym mhob ysgol yng Nghymru. Mae Powys wedi gwneud hynny, ac rwy'n credu bod hynny'n gwbl wych, ond mae gennym ni sefyllfa nawr lle na fydd plant y mae eu rhieni yn talu am ginio ac nad ydynt wedi ychwanegu arian at eu cardiau yn gallu cael unrhyw fwyd mwyach. Rwy'n deall safbwynt y Cyngor yn hyn o beth, ond ni all fod yn iawn, yn fy marn i,bod plentyn yn llwgu yn yr ysgol oherwydd bod rhywun, rywbryd wedi anghofio neu ddim yn gallu fforddio talu am yr arian cinio yr wythnos benodol honno. Rwy'n arbennig o awyddus i hyn gael ei ddatrys cyn cyflwyno credyd cynhwysol, sy'n mynd i ddigwydd ym Mhowys ym mis Mehefin. Rydym ni i gyd yn gwybod am yr oedi y mae pobl yn ei ddioddef cyn cael eu harian ac rwy'n bryderus dros ben y gallai olygu, yn y system hon, methiant llwyr i'r bobl hynny sy'n disgwyl i'r arian hwnnw fod ar gael ac i'w plant gael eu bwydo, ac na fydd yn digwydd. Gofynnaf gyda pharch i chi felly, Prif Weinidog, a allech chi gael gair gyda'ch dau Ysgrifennydd y Cabinet i geisio datrys hyn.Mae brys iddo gael ei wneud cyn mis Mehefin. Carwyn Jones AC: Gallaf. Rwy'n fwy na pharod i fynd ar drywydd hynny. Cyflwynodd ysgol fy mab fy hun daliadau heb ddefnyddio arian parod y tymor hwn, ac mae'n rhaid i mi ddweudbod hynny wedi osgoi gorfod chwilota am ddarnau punt bob wythnos, sef yr hyn a oedd yn tueddu i ddigwydd yn ein tŷ ni. Y pwynt pwysig yw hwn: nid wyf i'n credu y byddai'n iawn, os nad oes unrhyw gredyd yng nghyfrif plentyn, fel petai, na ddylai'r plentyn hwnnw gael pryd o fwyd o ganlyniad i hynny. Dylai fod system ar waith lle mae rhieni yn cael eu hatgoffa yn brydlon o'r balans ar y cyfrif hwnnw ac nid dod i wybod amdano pan na fydd unrhyw beth yn y cyfrif. Yn sicr, byddaf yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg fynd i'r afael â hyn ac ateb fy ffrind a'm cydweithiwr yn fwy manwl.FootnoteLink Gwybodaeth ychwanegol at y Cyfarfod Llawn (Saesneg yn unig) Russell George AC: O'r hyn addeallaf, Prif Weinidog, mae gwahanol awdurdodau lleol ledled Cymru yn defnyddio gwahanol ddulliau talu, sydd weithiau'n achosi problem pan fo plant yn newid ysgol.Tybed a ydych chi'n credu bod sail resymegol i safoni dulliau talu ar draws Cymru. Carwyn Jones AC: Rwy'n credu bod sail resymegol i hynny. Yn gyntaf oll, wrth gwrs, mae'n gwneud synnwyr cael system safonol ar draws ardal awdurdod addysg lleol. Wrth gwrs, mae gennym ni reolaeth leol o ysgolion, ond byddai'n ymddangos yn rhyfedd i rieni, pe byddai plentyn yn symud ysgolion rywsut y byddai problem wedyn gyda chael gwahanol gyfrif â gwahanol falans ynddo neu beidio â chael system heb arian parod. Rwy'n meddwl ei bod hi'n deg dweud y dylem ni symud tuag at system safonol yn y dyfodol. Canllawiau ar gyfer Gofal Parhaus i Blant a Phobl Ifanc Hefin David AC: 4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau i ddisodli Canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer Gofal Parhaus i Blant a Phobl Ifanc a gyhoeddwyd yn 2012? OAQ51636 Carwyn Jones AC: Gwnaf. Rydym ni'n sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen amlasiantaeth a fydd yn ymgynghori ar ganllawiau gofal parhaus diwygiedig ar gyfer plant a phobl ifanc, ac yn eu cynhyrchu, erbyn y gwanwyn y flwyddyn nesaf. Hefin David AC: Rwy'n falch iawn bod y grŵp gorchwyl a gorffen wedi cael ei sefydlu. Dyma'r ddogfen. Mae Aelodau Cynulliad etholaethol, ac Aelodau Cynulliad rhanbarthol rwy'n siŵr, yn cael llawer o bobl sy'n pryderu am y cyfnod pontio o fod yn blentyn i fod yn oedolyn i'r plant hynny sydd angen gofal iechyd parhaus. Mae'r ddogfen hon yn gyfrifol am ganllawiau i blant. Mae'r ddogfen hon, dogfen ar wahân, yn gyfrifol am ganllawiau ar fod yn oedolyn. Mae'r ddogfen i blant yn dweud y dylai cymhwysedd ar gyfer GIP oedolion yn 17 oed gael ei benderfynu gan dimau amlasiantaeth, amlddisgyblaeth, tra bod y ddogfen hon yn dweud y dylai'r un peth gael ei gymeradwyo gan fyrddau iechyd lleol. Felly, ceir anghysondebau amlwg rhwng y ddwy ddogfen, ac nid dyna'r unig un. Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn nid yn unig bod y canllawiau hyn yn cael eu hadolygu, ond hefyd y canllawiau hyn, ar y cyd, a bod rhanddeiliaid eraill y tu hwnt i'r byrddau iechyd yn cymryd rhan, gan gynnwys y comisiynydd plant. Carwyn Jones AC: Ie, rwy'n cytuno. Fy nealltwriaeth i yw bod gwasanaethau cynghorau iechyd cymunedol i oedolion—mae'n rhaid i'r cyfnod pontio i'r gwasanaethau hynny ddechrau pan fydd unigolyn yn 14 oed. Mae gan fyrddau iechyd lleol gyfrifoldeb i lunio polisi pontio lleol cadarn gydag asiantaethau partner. Mae hynny'n cynnwys awdurdodau lleol. Bydd rhai materion a fydd y tua allan i gwmpas y bwrdd iechyd lleol—er enghraifft, y cyfrifoldeb am ddiwallu unrhyw anghenion addysgol parhaus. Mae'r Aelod yn iawn i ddweud, wrth i ni geisio diwygio'r canllawiau ar gyfer pobl ifanc, ei bod hi'n aruthrol o bwysig, wrth i'r canllawiau hynny gael eu diwygio, yna bod cyfnod pontio di-dor i fod yn oedolyn, fel bod y math honno o broblem, pan na all pobl gael mynediad at wasanaethau yn yr un ffordd neu fod rhwystr na allant ei oresgyn, fel bod y rhwystrau hynny'n cael eu dileu. Shropdoc Russell George AC: 5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gwasanaethau a ddarperir i bobl Powys gan Shropdoc? OAQ51594 Carwyn Jones AC: Mae Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys yn comisiynu Shropdoc ar hyn o bryd i ddarparu gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau i bobl Powys. Russell George AC: Diolch, Prif Weinidog. Byddwch yn ymwybodol, wrth gwrs, nad oes gan Bowys ysbyty cyffredinol dosbarth, sy'n ei gwneud yn bwysicach fyth i'm hetholwyr bod gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau rhagorol. Caiff y gwasanaeth y tu allan i oriau presennol ei redeg gan Shropdoc, ac mae'r bwrdd iechyd wedi dweud ei fod eisiau rhoi terfyn ar y gwasanaeth hwnnw a'r contract gyda Shropdoc a'i ddisodli gyda'r gwasanaeth y tu allan i oriau 111 erbyn y gwanwyn hwn. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth yn fy meddwl fy hun na all y bwrdd iechyd nac unrhyw sefydliad arall ddarparu'r un lefel o gymorth y mae Shropdoc yn ei darparu ar hyn o bryd. Mae Shropdoc hefyd yn darparu gwasanaethau i feddygfeydd teulu, ac rwy'n credu bod risg sylweddol gwirioneddol yma y gallai rhai meddygfeydd teulu fynd i'r wal os nad yw'r gwasanaethau hynny ar gael mwyach. Mae'n ymddangos nad yw'r bwrdd iechyd wedi ymgynghori'n briodol ar y cynigion hyn nac wedi ymgynghori â meddygon teulu yn briodol. Felly, a gaf i ofyn: a yw Llywodraeth Cymru wedi arfer unrhyw ddylanwad dros y bwrdd iechyd i newid i fodel 111? A allwch chi roi unrhyw sicrwydd i'm hetholwyr na fyddai unrhyw newid yn niweidiol iddyn nhw? Ac, os na allwch chi roi'r sicrwydd hwnnw, a wnewch chi ymchwilio i'r sefyllfa hon ym Mhowys? Carwyn Jones AC: Wel, mae'r sefyllfa wedi codi gan fod Shropdoc ei hun wedi wynebu heriau ariannol yn ystod 2017. Mae'r heriau hynny yn parhau. O ganlyniad, mae'r bwrdd iechyd wedi bod yn gweithio gyda Shropdoc a grwpiau comisiynu clinigol Lloegr i'w cynorthwyo tra eu bod yn mynd i'r afael â'r heriau hynny. Rwy'n deall bod y bwrdd iechyd wedi sefydlu tasglu i asesu a darparu atebion amgen posibl ar gyfer y ddarpariaeth o wasanaethau y tu allan i oriau ym Mhowys. Mae'r tasglu hwnnw wedi datblygu cynlluniau tymor byr a chanolig. Mae'r contract presennol gyda Shropdoc yn dod i ben, rwy'n deall, yn y gwanwyn, felly ceir cyfle nawr i weithio ar fodelau newydd a gweithio gyda Shropdoc ei hun. Mae hon yn sefyllfa na ddewisiwyd gan y bwrdd iechyd, ond bu heriau a roddwyd o'u blaenau o ganlyniad i sefyllfa ariannol Shropdoc ei hun, yr ydym yn gobeithio y gellir eu datrys. Simon Thomas AC: Fel sydd newydd gael ei grybwyll, mae llawer o drigolion Powys yn ddibynnol ar wasanaethau sydd naill ai’n cael eu darparu o Loegr neu sydd wedi’u lleoli yn Lloegr. Gyda’r newyddion rwy’n clywed bod gohirio ynglŷn â phenderfyniad ar leoliad a newydd-deb yr ysbyty cyffredinolar gyfer gorllewin swydd Shropshire, lle bynnag y mae honno'n mynd i fod ac i gael ei lleoli—mae'r ddadl rhwng Telford a'r Amwythig ei hun, wrth gwrs, yn parhau ac nid oes arian gan Lywodraeth San Steffan eto i fuddsoddi yn hynny—pa drafodaethau a ydych chi yn eu cael fel Llywodraeth—achos mae e tu hwnt i'r bwrdd iechyd, i fod yn onest—gyda'r Llywodraeth yn Lloegr i wneud yn siŵr bod y gwasanaethau hynny'n parhau ac nad oes bwlch yn y gwasanaethau sy'n cael eu darparu ym Mhowys? Carwyn Jones AC: Wel, mae'r bwrdd iechyd wedi bod yn siarad gyda sir Amwythig a hefyd Telford a Wrekin er mwyn gweithio gyda nhw i ddatblygu gwasanaethau newydd, os taw hynny sydd yn gorfod digwydd, ac i weithio gyda nhw i weld ym mha ffordd y gallan nhw gefnogi Shropdoc i fod yn gynaliadwy yn y pendraw. So, mae'r trafodaethau hynny wedi cymryd lle rhwng y bwrdd iechyd a hefyd y cyrff yn Lloegr. Caroline Jones AC: Prif Weinidog, mae Shropdoc wedi darparu gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau i Bowys ers 22 mlynedd, ond, fel pob rhan o'r GIG, maen nhw hefyd wedi wynebu pwysau ariannol. Mae'r penderfyniad i beidio ag adnewyddu'r contract yn hynod siomedig, gan fod Shropdoc wedi darparu un o'r gwasanaethau y tu allan i oriau gorau yn y wlad gan ddarparu gwasanaeth o'r radd flaenaf i bobl Powys. Prif Weinidog, a allwch chi sicrhau'r Siambr hon nad oedd cymhelliad ariannol yn sail i'r penderfyniad i roi terfyn ar gontract Shropdoc ac a allwch chi sicrhau pobl Powys y bydd y gwasanaeth newydd gystal, os nad yn well, na'r gwasanaeth y tu allan i oriau a ddarparwyd gan Shropdoc? Carwyn Jones AC: Dyna rydym ni eisiau ei wneud, ond mae gan Shropdoc, cofiwch, ei broblemau ariannol ei hun, a dyna'r rheswm pam mae'r sefyllfa hon wedi codi. Un o'r pryderon hefyd yw y bydd y ddau grŵp comisiynu clinigol o Loegr sy'n comisiynu Shropdoc ar hyn o bryd yn aildendro yn ystod 2018 ac, wrth gwrs, mae'n bwysig bod y ddwy ochr i'r ffin yn gweithio gyda'i gilydd er mwyn comisiynu gwasanaethau newydd. Ond nid yw hon yn sefyllfa lle mae'r bwrdd iechyd wedi dewis bod mewn sefyllfa lle maen nhw eisiau cael gwared ar Shropdoc, os gallaf ei roi felly. Oherwydd heriau ariannol Shropdoc y mae'r sefyllfa wedi codi. Ond mae pawb eisiau bod mewn sefyllfa lle mae'r gwasanaeth o leiaf gystal â'r gwasanaeth sy'n bodoli ar hyn o bryd. Ddeallusrwydd Artiffisial ac Awtomeiddio Lee Waters AC: 6. A wnaiff y Prif Weinidog sefydlu uned i archwilio i sut y gall Cymru wneud defnydd o ddeallusrwydd artiffisial ac awtomeiddio? OAQ51639 Carwyn Jones AC: Wel, mae awtomeiddio, arloesi a digideiddio yn un o gonglfeini'r cynllun gweithredu economaidd, ac rydym ni'n canolbwyntio ein buddsoddiad i gynorthwyo busnesau i baratoi ar gyfer heriau yfory a diogelu ein heconomi a'n gweithlu ar gyfer y dyfodol. Lee Waters AC: Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n croesawu'r ffaith bod y cynllun gweithredu economaidd newydd yn cynnwys, fel un o'r meini prawf ar gyfer cynorthwyo busnesau newydd, addasu i awtomeiddio, ond mae goblygiadau awtomeiddio yn mynd ymhell y tu hwnt i hynny. Amcangyfrifir bod tua 700,000 o swyddi mewn perygl, ac maen nhw'n taro ar bob un portffolio. Felly, a wnewch chi ystyried nawr sut y gallwch chi gydgysylltu ymdrechion trwy sefydlu uned i archwilio cyfleoedd fel y gallwn ni gynorthwyo'r bobl sy'n mynd i gael eu heffeithio gan awtomeiddio ac i archwilio'r cyfleoedd i Gymru hefyd? Carwyn Jones AC: Ie, mae'n un anodd onid yw e? A fydd adeg yn dod pan fo awtomeiddio mor gynhwysfawr nad oes digon o bobl ag arian yn eu pocedi i brynu'r hyn y mae'r robotiaid yn ei wneud? Pryd mae'r adeg honno'n dod? Ni wyr neb; nid ydym ni wedi bod yn y sefyllfa o'r blaen. Ond mae'n gofyn cwestiwn pwysig: sut ydym ni'n ceisio ymdopi ac ymdrin â'r newidiadau a fydd yn dod yn y dyfodol a ffynnu yn eu sgil? Wel, rydym ni eisoes yn archwilio effaith technoleg a data ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus—er enghraifft, mae grŵp digidol a data yn cynnig fforwm ar gyfer rhannu arfer gorau yn hynny o beth. Mae'n rhan o'r cynllun gweithredu economaidd ac rydym ni'n ymgysylltu'n rheolaidd â busnesau a rhanddeiliaid i drafod effaith a chyfleoedd posibl technolegau digidol. Os edrychwn ni ar dechnoleg arloesol, wel, wrth gwrs, rydym ni eisoes yn ystyried cyfleoedd deallusrwydd artiffisial: agorodd M7 Managed Services, mewn partneriaeth â IBM, ganolfan cymhwysedd deallusrwydd artiffisial fis Rhagfyr diwethaf ac, wrth gwrs, mae'r ganolfan rhagoriaeth technoleg symudol a newydd ym Mhrifysgol De Cymru yn gweithio gyda busnesau i weld sut y gall busnesau elwa o heriau'r dyfodol, ymateb i'r heriau hynny, ac, wrth gwrs, parhau i ddarparu swyddi i bobl. Nick Ramsay AC: Prif Weinidog, rwy'n credu i Lee Waters wneud pwynt da iawn, ac rwy'n cytuno gyda'r rhan fwyaf o'ch ateb yno. Ddoe, bûm yn uwchgynhadledd twf Hafren yn y Celtic Manor. Ystyriodd yr uwchgynhadledd ffyrdd o ddatblygu economi'r de-ddwyrain, yn enwedig nawr yng ngoleuni'r gostyngiad cyntaf i dollau Pont Hafren, a'r penderfyniad i ddiddymu'r tollau yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Prif Weinidog, ceir teimlad aruthrol o optimistiaeth ynghylch rhai o'r newidiadau hyn sydd ar fin digwydd a cheir awydd gwirioneddol hefyd i'w ddefnyddio fel sbardun i ddatblygu economi uwch-dechnoleg yn y de-ddwyrain o'r ffin i Gaerdydd, a, gobeithio, ymhellach. O ran yr uned honno y cyfeiriwyd ati gan Lee Waters, a wnewch chi ystyried lleoli honno yn yr ardal honno o bosibl er mwyn sicrhau, pan fydd y newidiadau hyn yn digwydd i'r rhwydwaith ffyrdd a newidiadau i bont Hafren, er enghraifft, bod gwir—bod hyn yn cael ei ddefnyddio fel sbardun i wneud yn siŵr bod yr economi yn cael ei datblygu yn y dyfodol mewn ffordd sy'n datblygu'r sector uwch-dechnoleg a'r ardaloedd y cyfeiriodd Lee Waters atynt? Carwyn Jones AC: Wel, rydw i eisoes wedi crybwyll dwy enghraifft yn y fan yna o ganolfannau sydd wedi cael eu sefydlu i ymateb i heriau'r dyfodol a'u datrys, ac, wrth gwrs, bydd llawer o hyn yn cael ei lywio gan y sector addysg uwch, felly, bydd llawer o'r canolfannau hyn, yn y dyfodol, yn cael eu rhedeg ganddyn nhw. Ond nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl ein bod ni eisiau annog gweithio economaidd trawsffiniol. Mae'n digwydd ym mhobman arall yn y byd, felly pam na fyddai'n digwydd rhwng Cymru a Lloegr? Os bydd hynny'n arwain at ffyniant ar y cyd rhwng de-ddwyrain Cymru a de-orllewin Lloegr, yna da iawn. Un o'r problemau, wrth gwrs, yw nad oes gan dde-orllewin Lloegr gorff y gallwn siarad ag ef yn yr un modd ag y gallwn siarad â'r Alban neu Ogledd Iwerddon. Yn sicr, mae hwnnw'n fater y bydd angen ei ddatrys yn y dyfodol. Gareth Bennett AC: Ydy, mae'n dda bod y mater hwn yn cael sylw ar lefel lywodraethol. Fodd bynnag, ceir tystiolaeth ddiweddar bod cwmnïau fel Tesco yn colli llawer mwy o arian o ddwyn o siopau ers cyflwyno awtomeiddio ar ffurf peiriannau hunan-sganio. A oes achos nawr i Lywodraeth Cymru weithio gyda'r cwmnïau hynny i geisio symud oddi wrth awtomeiddio diangen a mynd yn ôl tuag at gyflogi pobl go iawn i wneud swyddi? Carwyn Jones AC: Wel, hynny yw—. Mewn gwirionedd, cynyddodd achosion o ddwyn o siopau pan gyflwynwyd hunanwasanaeth i archfarchnadoedd tua 17 mlynedd yn ôl, mae'n debyg. Maen nhw'n ei dderbyn yn rhan o—. Hynny yw, maen nhw'n amlwg yn ceisio dal lladron, ond maen nhw'n ei dderbyn yn rhan o'u modelau busnes. Rwy'n credu y dylai amrywiaeth o ddewisiadau fod ar gael i bobl. I rai pobl, maen nhw eisiau mynd drwy'r lôn dalu yn gorfforol, i eraill, maen nhw eisiau talu'n awtomatig ar y diwedd, i eraill, maen nhw eisiau mynd o gwmpas gyda sganiwr. Mae cael y dewisiadau hynny'n bwysig i bobl, yn enwedig ar adegau prysur pan fo gwasanaethau awtomatig yn cymryd llawer o bwysau oddi ar y gwasanaethau y mae pobl yn eu defnyddio pan fyddan nhw'n mynd drwy'r lôn dalu yn gorfforol. Credyd Cynhwysol Jane Hutt AC: 7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith cyflwyno credyd cynhwysol yng Nghymru? OAQ51608 Carwyn Jones AC: Rwy'n bryderus iawn am y problemau difrifol gyda chredyd cynhwysol, fel effaith y newidiadau ar dalu cymhorthdal tai, a'r effaith y maen nhw'n ei chael ar ôl-ddyledion rhent. Rydym ni wedi mynegi ein pryderon i Lywodraeth y DU, gan alw am atal y broses o gyflwyno credyd cynhwysol. Jane Hutt AC: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae pobl anabl a rhieni sengl a menywod wedi bod ymhlith y rheini sydd fwyaf ar eu colled o dan saith mlynedd o gynni cyllidol, yn ôl y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, gan sefyll i golli tua 10 y cant o'u hincwm erbyn 2022 oherwydd newidiadau i drethi a budd-daliadau ers 2010. Mae cyflwyno'r credyd cynhwysol diffygiol, gyda'i oediadau talu annerbyniol, fel yr ydych chi wedi dweud, wedi gwthio llawer o bobl i ddyled, ôl-ddyledion rhent ac i gael eu troi allan. Wrth gwrs, mae'r Aelod dros Torfaen, Lynne Neagle, wedi bwydo yn ôl ar brofiad Torfaen.Hefyd, mae pobl ifanc rhwng 18 a 21 oed ar eu colled hefyd yn sgil credyd cynhwysol, wrth i fudd-dal tai gael ei ddiddymu. Nid wyf i'n gwybod a yw'r Aelodau'n ymwybodol bod Cymdeithas y Plant wedi tynnu sylw at gynigion Llywodraeth y DU i gyflwyno trothwy enillion ar gyfer cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim o dan gredyd cynhwysol, gan gyfyngu prydau ysgol am ddim i deuluoedd ag enillion net o lai na £7,400 y flwyddyn.Gyda'r credyd cynhwysol yn debygol o gael ei gyflwyno'n llawn eleni ym Mro Morgannwg a rhannau eraill o Gymru, pa gymorth mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i'n gwasanaethau cyngor, fel Cyngor ar Bopeth Caerdydd a'r Fro, a fydd yn ysgwyddo'r baich o gynorthwyo pobl sy'n cael eu heffeithio'n andwyol gan gredyd cynhwysol? Carwyn Jones AC: Rydym ni wedi darparu £5.97 miliwn o gyllid grant ar gyfer eleni. Bydd y cyllid hwnnw'n parhau yn y flwyddyn ariannol nesaf. Mae ar gyfer tri phrosiect: gwasanaethau cyngor rheng flaen, Cyngor Da, Byw'n Dda, a phrosiectau rhannu canlyniadau Cymunedau yn Gyntaf. Maen nhw'n sicrhau mynediad am ddim ac annibynnol at gyngor lles cymdeithasol ledled Cymru ac, fel y dywedais, bydd hynny'n parhau i'r flwyddyn ariannol nesaf. Mohammad Asghar (Oscar) AC: Yn ei gyllideb fis Tachwedd diwethaf, cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys newidiadau i'r system credyd cynhwysol. Mae'r rhain yn cynnwys cael gwared ar y saith niwrnod aros cyn y gall hawlydd wneud cais am gredyd cynhwysol, gwelliant sylweddol i'r system taliadau ymlaen llaw, gan gynnwys cynyddu'r swm sydd ar gael, a newidiadau i gynorthwyo pobl â'u taliadau rhent wrth symud o fudd-dal tai.A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â phrif weithredwr y canolfannau Cyngor ar Bopeth a ddywedodd bod y newidiadau hyn yn gam i'w groesawu ac y byddan nhw'n gwneud gwahaniaeth sylweddol i bobl sy'n hawlio credyd cynhwysol yng Nghymru? Carwyn Jones AC: Wel, ni ddylid bod wedi gwneud smonach ohono yn y lle cyntaf, na ddylai? Dyna gyfaddefiad nad oedd yr hyn a roddwyd ar waith i gychwyn wedi ei ystyried yn ddigonol ac arweiniodd hynny at roi llawer o bobl mewn dyled. Mae gennym ni dystiolaeth gan gymdeithasau tai i Cyngor ar Bopeth sy'n dangos bod ôl-ddyledion rhent yn dal i fod yn broblem i bobl ar gredyd cynhwysol. Ceir materion eraill hefyd sy'n gysylltiedig â gweithredu credyd cynhwysol, fel diffyg ymwybyddiaeth ynghylch trefniadau talu amgen a mynediad at daliadau ymlaen llaw. Felly, mae'r problemau hynny yn parhau. Bethan Sayed AC: Prif Weinidog, bydd Llywodraeth yr Alban, yn rhan o Gomisiwn Smith, yn gweld mwy o bwerau eto dros les yn cael eu datganoli i'w Llywodraeth. Yn y gorffennol, mae eich Llywodraeth wedi dweud nad ydych chi eisiau cael pwerau dros les oherwydd y goblygiadau cost, ond, fel rydym ni wedi wedi ei ailadrodd dro ar ôl tro mewn dadleuon yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, fe'n harweiniwyd i ddeall y bydd y fframwaith cyllidol ar gyfer y pwerau hynny yn cael ei drosglwyddo i Lywodraeth yr Alban, ac felly bydd y gost o weinyddu'r budd-daliadau lles hynny gael ei throsglwyddo, ochr yn ochr â'r pwerau. A wnewch chi newid eich meddwl ynghylch hyn felly? Gallwn sefyll yma a chwyno am sut y bydd lles yn effeithio ar ein dinasyddion, ac rwy'n cytuno â chi am hynny, ond allwn ni gymryd cyfrifoldeb yma yng Nghymru am y pwerau lles hynny os ydym ni'n well am ei wneud na San Steffan? Carwyn Jones AC: Wel, yr ateb i'r cwestiwn yw ethol Llywodraeth Lafur yn San Steffan sydd wedi ymrwymo i degwch, i gyfiawnder cymdeithasol ac i gyfleoedd. Mae'n rhaid i ni fod yn ofalus iawn o ran gwahanu ein hunain oddi wrth y system les sy'n bodoli ar draws Prydain Fawr. Pam? Gan ein bod ni'n fuddiolwyr net. Yn y pen draw, os ydym ni'n cael ein hunain mewn sefyllfa lle mae'n rhaid i ni ariannu ein system les ein hunain, byddwn yn waeth ein byd o ran yr arian sydd ar gael. Bethan Sayed AC: Ond nid dyna ddywedais i. Carwyn Jones AC: Felly, mae'n rhaid i ni fod yn ofalus peidio â symud ar hyd y llwybr hwnnw a bod mewn sefyllfa lle'r ydym ni'n cymryd cyfrifoldeb am bwerau nad yw'r arian gennym ni i'w hariannu wedyn. Mater i ni yw hynny. Rydym ni'n gwybod bod gan Lywodraeth y DU hanes o gytuno i drosglwyddo pwerau heb drosglwyddo'r cyllid, a dyna'r cwestiwn y mae angen i ni ei ateb. Cynaliadwyedd Gwasanaethau Bysiau Jenny Rathbone AC: 8. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o gynaliadwyedd gwasanaethau bysiau presennol yng Nghymru? OAQ51635 Carwyn Jones AC: Rydym ni'n gweithio gyda'r diwydiant ac eraill i ddatblygu cynaliadwyedd hirdymor trwy ddatblygu rhwydweithiau integredig fel y metro yn y gogledd a'r de. Byddwn yn edrych, pan gaiff y pwerau eu datganoli, ar strwythur gwell a mwy cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau bysiau yng Nghymru. Jenny Rathbone AC: Mae fy etholwyr yn edrych ymlaen at y tramiau a systemau rheilffyrdd ysgafn a ddaw yn sgil y metro, ond yn y cyfamser mae pobl yn dibynnu ar fysiau i gael eu hunain i'r gwaith ac i'r ysgol. Bws Caerdydd yw'r gwasanaeth bws trefol ac mae'n nhw'n destun ymosodiadau bygythiol gan gwmnïau preifat sy'n dewis y llwybrau mwyaf proffidiol. Nid yw Deddf Trafnidiaeth 1985 yn caniatáu darparu croes-gymhorthdal i un llwybr o refeniw un arall, ac roeddwn i'n meddwl tybed beth yw cynlluniau'r Llywodraeth ar gyfer sicrhau cynaliadwyedd rhwydwaith o wasanaethau cynaliadwy ar gyfer ein holl ddinasyddion, yn enwedig y rheini nad oes ganddynt gar, a pha fodel darparu sydd ei angen arnom a pha ddeddfwriaeth y gallai fod ei hangen arnom. Carwyn Jones AC: Ni allwn barhau gyda system lle, oni bai fod cymhorthdal ar gyfer gwasanaethau, y gellir eu newid neu gael gwared arnynt yn ddirybudd bron. Rwy'n cofio, nid mor hir yn ôl, yng Ngheredigion, pan roddodd Arriva y gorau i ddarparu gwasanaethau bws yno yn fyr-rybudd iawn, ac yna fe'i gadawyd i weithredwyr preifat eraill gamu i mewn a llenwi'r bwlch. Nid yw honno'n ffordd gynaliadwy o redeg gwasanaethau bysiau. Ac nid yw'n iawn chwaith, mewn sawl rhan o Gymru, bod un darparwr yn unig, a bod y darparwr hwnnw'n ddarparwr preifat sy'n gallu codi yr hyn y mae'n dymuno, i bob bwrpas. Mae hwn yn un arall o'r anwireddau hynny a hysbysebwyd gan y Toraid yn y 1980au a thu hwnt: y gellir cael cystadleuaeth ym maes trafnidiaeth. Wel, i lawer o bobl yng Nghymru nid oes unrhyw gystadleuaeth pan ddaw i fysiau. Yn sicr nid oes cystadleuaeth pan ddaw i drenau. Mae pobl yn talu mwy nag y dylent am fonopolïau preifat. Ni all y sefyllfa honno barhau, a bydd Ysgrifennydd y Cabinet a minnau a'r Llywodraeth yn edrych ar ffyrdd o sicrhau, yn y dyfodol, bod gennym ni rwydwaith bysiau a gefnogir yn gyhoeddus, yn ariannol a chan bobl Cymru, ac nid un sy'n dameidiog lle mae'r prisiau'n rhy uchel. Paul Davies AC: Brif Weinidog, rydw i wedi derbyn sylwadau gan weithredwr bysiau lleol yn sir Benfro sydd wedi ehangu ei weithrediadau yn dilyn cau cwmni bysus arall yn y sir, ond, yn anffodus, mae’n ei chael hi’n anodd i uwchraddio ei seilwaith. Wrth gwrs, rydw i’n derbyn bod cyllidebau awdurdodau lleol yn dynn, ond, o ystyried y gwasanaeth pwysig y mae mwy a mwy o gwmnïau bysiau yn eu cynnig ar draws Cymru, a’r ffaith eu bod yn darparu swyddi yn lleol hefyd, pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig i gwmnïau bysiau fel hyn i ddiogelu eu hyfywedd yn y dyfodol ac, felly, sicrhau cynaliadwyedd gwasanaethau bysiau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig? Carwyn Jones AC: Faint o gwmnïauŷm ni wedi'u gweld dros y blynyddoedd sydd yn cwympo drosodd? Sawl un. Sawl un. Mae'n rhaid i ni ailystyried y strwythuro wasanaethau bysiau. Mae hynny'n meddwl, er enghraifft, a oes yna fodd i gael system ofranchises—nid yw e'n gweithio ar lefel awdurdodau lleol; maen nhw'n rhy fach, yn fy marn i, i hynny ddigwydd—er mwyn sicrhau bod cwmni yn gorfod sicrhau gwasanaeth ar y pris sydd wedi cael ei gytuno, a sicrhau bod y gwasanaeth hwnnw yn parhau dros y blynyddoedd. Mae'n rhaid i ni symud bant o'rstrwythur sydd gyda ni ar hyn o bryd, sef un lle, i'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru, mae un cwmni yn rhedeg gwasanaethau, ac mae hi lan iddyn nhw i redeg y gwasanaethau y maen nhw'n credu sy'n mynd i weithio, heb unrhyw fath o input na chaniatâd gan bobl leol. Mae'n rhaid i hynny newid. Mae'n rhaid i ni ystyried nad oes cystadleuaeth o gwbl yn y rhan fwyaf o Gymru ynglŷn â bysiau, a symud i system, felly, sy'n llawermwy cynaliadwy, a system sy'n sicrhau nad ydym ni'n gweld gwasanaethau jest yn cwympo wrth ei gilydd, yn aml iawn, fel rydym ni wedi gweld dros y blynyddoedd diwethaf. Llyr Gruffydd AC: A yw'r Prif Weinidog yn credu ei bod yn dderbyniol nad oes unrhyw fysiau yn ystod yr oriau prysur, o ystad ddiwydiannol Wrecsam—un o'r ystadau diwydiannol mwyaf yn Ewrop—i ganol tref Wrecsam? Mae miloedd o weithwyr mewn sefyllfa lle nad oes ganddyn nhw unrhyw wasanaeth trafnidiaeth. Mae'n rhaid ichi naill ai gadael y gwaith yn gynnar, neu mae'n rhaid i chi aros am awr i ddal y bws adref. Nawr, gallwch chi sôn cymaint ag y mynnoch am eich uwchgynadleddau bysiau achlysurol. Gallwch chi ddangos mapiau ffansi i ni o system drafnidiaeth metro gogledd Cymru, fel y'i gelwir, neu, wrth gwrs, gallwch chi ddweud wrthym eich bod o ddifrif am hyn. A yw hyn yn dderbyniol? Oherwydd mae pobl yn dweud wrthyf i nad yw'n dderbyniol. Rwy'n siŵr y byddai pawb yma yn credu nad yw'n dderbyniol. Pam mae Wrecsam yn dioddef gwasanaethau sy'n is na'r safon yn hyn o beth? A pham nad oes gan yr ystad ddiwydiannol fwyaf, neu un o'r ystadau diwydiannol mwyaf yn Ewrop, yr hyn sy'n wasanaeth sylfaenol? Carwyn Jones AC: Pam nad yw e'n codi'r mater gyda'r cynghorau? Y cynghorau sy'n gyfrifol am roi cymorthdal i wasanaethau bysiau. Ac mae e'n iawn; a ydw i'n credu bod hyn yn dderbyniol? [Torri ar draws.] A ydw i'n credu bod hyn yn dderbyniol? Nac ydw, dydw i ddim; rwy'n credu ei fod ef yn iawn. Ond y gwir yw, fel y gŵyr ef yn iawn, nid oes gennym reolaeth dros y bysiau eto. Nawr, does dim diben esgus—[Torri ar draws.] Nid yw arweinydd yr wrthblaid hyd yn oed yn gwybod, mae'n debyg, ar sail y sylw y mae ef newydd ei roi—nad oes gennym gyfrifoldeb dros y bysiau eto. Rwyf i eisiau gweld, ar gyfer pobl Wrecsam a'r rhai hynny sy'n cymudo i ystad ddiwydiannol Wrecsam, wasanaeth trafnidiaeth priodol, integredig, cynaliadwy, drwy fetro y gogledd-ddwyrain, gan ddefnyddio trenau, gan ddefnyddio bysiau, i sicrhau na fydd y sefyllfa y mae ef wedi ei disgrifio—nad yw'n dderbyniol—yn parhau yn y dyfodol fel sydd wedi digwydd, ar ôl 30 mlynedd o gamreoli trafnidiaeth gan y Torïaid. Diolch i'r Prif Weinidog. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw i'n galw ar arweinydd y tŷ, Julie James. Julie James AC: Diolch, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Dangosir busnes y tair wythnos nesaf yn y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd i'w cael ymhlith papurau'r cyfarfod, sydd ar gael i Aelodau yn electronig. Jane Hutt AC: Arweinydd y tŷ, mae Chwarae Teg wedi amlygu mai Gwlad yr Iâ yw'r wlad gyntaf yn y byd i orfodi'n gyfreithlon gyflog cyfartal i ddynion a menywod. A wnaiff arweinydd y tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio deddfwriaeth i helpu i fynd i'r afael â'r bwlch cyflog syfrdanol rhwng y rhywiau, sydd wedi ymestyn 23 y cant yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf yn ôl adroddiad yr wythnos hon, yn ogystal â sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi menter 'FairPlay Employer' Chwarae Teg? Julie James AC: Diolch ichi am hynny. Mae'n hollol wych gweld bod Gwlad yr Iâ yn wir wedi deddfu i sicrhau cyflog cyfartal. Wrth gwrs, mae Deddf cyflog cyfartal wedi bod ar waith yn y Deyrnas Unedig ers cryn amser, a gwyddom nad yw hynny wedi arwain at y cydraddoldeb cyflog yr hoffem ni ei weld. Yng Nghymru, rydym ni wedi cyflwyno deddfwriaeth i helpu i fynd i'r afael â'rbwlch cyflog rhwng y rhywiau yn y sector cyhoeddus. Wrth gwrs, yn anffodus, nid oes gennym y pŵer i wneud hynny yn y sector preifat. Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno rheoliadau ar lunio adroddiadau ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer cyflogwyr mawr yn y sectorau preifat a gwirfoddol ledled Prydain Fawr—sydd â 250 o weithwyr neu fwy, rwy'n deall—ac mewn gwirionedd, rydym yn archwilio ffyrdd y gallwn ni gael cytundeb gwirfoddol yma, mewn partneriaeth gymdeithasol â'n busnesau, i weld os gallwn ni ymestyn hynny yn is i lawr y strwythurau yng Nghymru, oherwydd mae nifer fawr o'r cwmnïau yng Nghymru yn fusnesau bach a chanolig, wrth gwrs. Rwyf i ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wedi bod yn archwilio ffyrdd o wneud hynny gan ddefnyddio ein pwerau caffael hefyd, ers cryn amser. Mae menter Chwarae Teg yn un diddorol iawn mewn gwirionedd. Rwy'n gadeirydd y bwrdd gwaith teg, ac rydym ni'n chwilio am ffyrdd o gyflwyno enghreifftiau tebyg. Byddwn yn gwneud argymhellion cyn hir ynghylch comisiwn gwaith teg yng Nghymru, a gwn y caiff cynigion Chwarae Teg eu hystyried yn ddifrifol iawn yno fel ffordd o ymestyn y gwasanaeth. Hoffwn i hefyd argymell rhaglenni megis y prosiect Cenedl Hyblyg 2, a gynhelir gan Chwarae Teg. Rwyf i'n bersonol wedi bod i weld yr effaith ar fenywod sy'n cymryd rhan yn y rhaglenni hynny. Rwy'n credu mai tua £3,000 yw'r codiad cyflog cyfartalog ar gyfer y menywod sydd wedi cwblhau'r rhaglen honno, sy'n wych, ac mae'n dangos yr hyn y gallwch chi ei gyflawni pan fyddwch chi'n cynyddu pwerau pobl i ddeall beth yw eu hawliau yn y gweithle. Ond does dim amheuaeth bod hynny'n broblem barhaus. Mae'r gwaith yr ydym yn ei wneud i sicrhau bod y sector cyhoeddus yma yng Nghymru yn arwain y ffordd, trwy esiampl a thrwy ein pŵer gwario, yn waith pwysig iawn, i weld beth arall y gallwn ni ei gyflawni yng Nghymru tra bod Llywodraeth y DU yn methu â gweithredu. Paul Davies AC: Arweinydd y tŷ, byddem yn ddiolchgar pe gallech chi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd gyflwyno dau ddatganiad, os gwelwch yn dda. Mae'r datganiad cyntaf yn ymwneud â chynigion newid gwasanaeth newydd Bwrdd Iechyd Hywel Dda, sydd wedi codi eisoes yn y Siambr hon y prynhawn yma. Nawr, gallai rhai o'r cynigion hyn achosi i wasanaethau gael eu canoli ymhellach i ffwrdd o sir Benfro, a gallai rhai o'r cynigion hyn hyd yn oed arwain at gau Ysbyty Llwynhelyg yn gyfan gwbl yn y dyfodol. Bydd Aelodau'n gwybod fy mod i wedi codi'r mater hwn yn gyson yn y gorffennol, gan dynnu sylw at effeithiau canoli gwasanaethau ar adrannau eraill, sydd, yn eu tro, yn eu rhoi nhw mewn sefyllfa waeth yn y dyfodol. Yn wir, rwyf wedi cael fy nghyhuddo'n aml o godi bwganod, ac mae'n ymddangos mai dyna sy'n digwydd yma heddiw eto wrth godi sgil-effeithiau canoli gwasanaethau ar ysbytai yn y gorllewin. Mae'n ymddangos bod y pryderon hynny yn gyflym ddod yn realiti, gan gofio bod rhai o'r dewisiadau a ystyriwyd gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda yn golygu y byddai ysbyty Llwynhelyg yn cael ei gau yn gyfan gwbl. Nawr, ni ddylid hyd yn oed ystyried cau'r ysbyty, yn fy marn i, a bydd gwneud hynny yn gwbl annerbyniol i'r bobl yr wyf i'n eu cynrychioli. Mae'n bwysig nawr inni glywed gan Lywodraeth Cymru beth yw ei safbwynt ar y mater difrifol hwn. Gwrandewais yn ofalus ar atebion y Prif Weinidog yn gynharach, a oedd yn awgrymu nad oes gan Lywodraeth Cymru farn o gwbl. Llywodraeth Cymru, yn sicr, sy'n gyfrifol am wasanaethau iechyd yng Nghymru, ac rwy'n bryderus iawn bod y Llywodraeth yn gwrthod ymateb i wasanaethau iechyd yn y gorllewin. Yn ystod etholiad diwethaf y Cynulliad, nid oedd cau ysbyty Llwynhelyg yn rhan o bolisi'r blaid sy'n llywodraethu. Felly, mae ond yn rhesymol bod y Llywodraeth bellach yn dweud wrth y bobl yr wyf i'n eu cynrychioli beth yw ei barn ar ddyfodol ysbyty Llwynhelyg. Felly, a wnewch chi annog Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd i gyflwyno datganiad brys ynglŷn â dyfodol darpariaeth gwasanaethau iechyd yn y gorllewin, ac yn arbennig yn sir Benfro, cyn gynted ag y bo modd? Oherwydd dylai Llywodraeth Cymru nodi ei safbwynt ar y mater difrifol hwn. Yn ail, a gaf i hefyd ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd am ddatganiad ar strategaeth recriwtio Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithwyr meddygol proffesiynol yn y gorllewin? Mae Meddygfa St Clement yn Neyland, yn fy etholaeth i, wedi cyflwyno cais i'r bwrdd iechyd lleol i gau'r feddygfa, yn rhannol, yn sgil prinder staff, gan amlygu unwaith eto pam mae angen gwneud mwy i ddenu gweithwyr meddygol proffesiynol i swyddi yn y gorllewin. Mae hwn yn fater difrifol iawn i'r bobl yr wyf i'n eu cynrychioli, gan gofio ein bod wedi gweld problemau eraill wrthrecriwtio meddygon teulu yn Wdig, yng ngogledd fy etholaeth. Felly, a wnewch chi bwyso ar Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd i gyflwyno datganiad yn amlinellu strategaeth recriwtio Llywodraeth Cymru ar gyfer yr ardal os gwelwch yn dda—[Torri ar draws.]—fel nad yw meddygfeydd eraill fel hyn yn cau, o ganlyniad i brinder staff, yn y dyfodol? Llywydd, gallaf glywed rhai Aelodau Llafur yn chwerthin am y materion ddifrifol iawn hyn. [Torri ar draws.] Dylai fod cywilydd arnyn nhw. Julie James AC: Diolch i chi am y ddau gwestiwn yna, a oedd yn debycach i areithiau. Rwy'n credu mai dyna oedd yr Aelodau Llafur yn gwneud sylwadau yn ei gylch. [Torri ar draws.] O ran yr un cyntaf, fe wnaethoch chi ofyn cwestiwn i'r Prif Weinidog, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yma i glywed eich datganiad neu gwestiwn eto i mi, ond mae'n amlwg bod proses briodol ar gyfer bwrw ymlaen â'r ymgynghoriad. Rwy'n synnu bod yr Aelod yn credu y dylwn ni fod â barn ar yr ymgynghoriad ar hyn o bryd, cyn diwedd yr ymgynghoriad. Rydym yn ystyried ymgynghoriadau yn hynod ddifrifol. Ar ôl i'r ymgynghoriad ddod i ben a'n bod wedi dilyn proses briodol i edrych ar ganlyniadau'r ymgynghoriad, rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyflwyno canlyniadau'r ymgynghoriad ac ymateb y Llywodraeth i'r ymgynghoriad hwnnw ar yr adeg honno. O ran eich ail bwynt, fe wnaethoch chi sôn am hynny yn gynharach ac rydych chi wedi sôn amdano eto nawr. Dydw i ddim yn credu mai cwestiwn oedd ef mewn gwirionedd. Clywodd Ysgrifennydd y Cabinet y pwyntiau a wnaethoch chi, fel y gwnaeth pawb arall. Simon Thomas AC: A gaf i ddechrau gan ofyn am ddiweddariad ar ddiogelwch ffyrdd, yn benodol ar yr A487? Efallai bod arweinydd y tŷ yn cofio, tua phythefnos yn ôl, roedd damwain angheuol rhwng Gellilydan a Maentwrog, pan fu farw baban a'i modryb mewn car. Mae cydymdeimladau gen i tuag at y teulu a'r gymuned leol, sydd yn galaru dros y ddamwain honno. Ond yn benodol, o edrych ar y ffigyrau, mae yna 26 o ddamweiniau wedi bod ar yr un darn o hewl, sef, i'r rhai sy'n ei nabod e, y troadau yn mynd lawr y bryn rhwng Gellilydan a Maentwrog. Mae 26 wedi bod mewn blwyddyn yn unig—yn y flwyddyn lawn ddiweddaraf. Felly, er mwyn osgoi'r posibiliadau, neu o leiaf lleihau'r posibiliadau, o ddamweiniau difrifol ar y darn yna o'r hewl, rydw i'n gofyn am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet ar edrych i mewn i ddiogelwch y ffordd. Yn benodol, mae'r bobl leol yn gofyn am ostwng y cyflymder dros dro tra eu bod nhw'n edrych i mewn i ffordd arall o wneud y ffordd yn fwy diogel. Mae'n werth cofio bod rhannau eraill o'r ffordd yma rhwng de a gogledd Cymru wedi'u gwneud yn fwy saff yn ddiweddar drwy fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, ond mae'r darn yma yn aros fel roedd e yn nyddiau'r goetsh, a dweud y gwir, ac mae angen edrych, yn sicr, ar ddiogelwch y ffordd yna. Simon Thomas AC: Yr ail bwynt yr hoffwn ei wneudyw diolch ar goedd i'r llawer o bobla wnaeth weithio yn ystod y penwythnos. Cawsom lifogydd, unwaith eto, ynllawer o rannau oorllewin Cymru. Cafodd Ceredigion yn arbennig ei effeithio'n wael. Yn sicr nid oedd modd i mi fy hunan gwblhau taith ddydd Sul, oherwydd cefaisfy nhroi'n ôl gan yr heddlu, a gwn fodproblemau llifogydd difrifol yn Ninbych y Pysgod, hefyd, ar y ffordd ddwyreiniol allan o'r dref. Mae'r pethau hyn yn digwydd. Mae gennym broblemau mawr â dŵr wyneb yng Nghymru, ond weithiau gellir ymdrin â'r problemau hyn drwy well peirianneg a gwell dealltwriaeth o sut i wneud ychydigo beirianneg meddal wrth i niymdopi â llifogydd. Felly, wrth i ni ddiolch i bobl am eu gwaith caled—staff a swyddogion y cyngor a'r heddlu hefyd—byddai'n dda, yn fy marn i, efallai nid ar unwaith, ond o fewn yr ychydig wythnosau nesaf, i gael cyfle i fyfyrio fel Cynulliad, naill ai drwy ddatganiad neu drwy ddadl, ar yr hyn yr ydym ni'n ei wneud i ddelio â llifogydd, ac atal rhai o effeithiau'r newid yn yr hinsawdd yn rhan o hynny, a beth yn benodol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i cynllunio ar gyfer helpu rhai cymunedau i nodi problemau a cheisio mynd i'r afael â nhw. Julie James AC: O ran yr A487, hoffwn hefyd estyn ein cydymdeimladau i'r teulu. Cydymdeimlwn yn fawr â phob un a gafodd eu heffeithio gan y digwyddiad traffig ofnadwy hwn. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn teimlo'n gryf iawn am ei ymrwymiad i wella diogelwch ar y ffyrdd ac i leihau nifer y bobl sy'n cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd Cymru. Nid wyf wedi cael cyfle eto i drafod ag ef ynghylch gostwng y terfynau cyflymder. Byddem yn ddiolchgar iawn pe byddai'r Aelod yn ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet yn awgrymu hynny yn benodol. Rwy'n siŵr y bydd yn cymrydhynny o ddifri, gan fy mod i'n gwybod ei fod wedi cydymdeimlo â theuluoedd y rhai y mae'r digwyddiad hwn wedi effeithio arnynt. Roedd yn ddigwyddiad difrifol iawn. O ran llifogydd, yn wir roedd ynalifogydd. Roedd yn arllwys y glaw, rwy'n siŵr y byddem oll yn cytuno, ddydd Sul, ac roedd llifogydd ym mhobman. Torrodd y llifogydd ar draws fy nhaith i hefyd. Unwaith eto, rwy'n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd ac Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth yn ystyried hynny'n ddifrifol iawn, a byddwn ni'n ystyried ffordd o ddod â hynny i lawr y Cynulliad, oherwydd mae'n fater difrifol iawn i nifer fawr ohonom yng Nghymru. Jenny Rathbone AC: Arweinydd y tŷ, rydym wedi clywed bod y Prif Weinidog yn awyddus iawn i sicrhau bod gennym wasanaeth bysiau cynaliadwy, a gefnogir gan y cyhoedd yng Nghymru, ond rydym wedi clywed hefyd, mewn nifer o rannau oGymru, gan gynnwys Caerdydd, fod y system bysiau bresennol yn dirywio'n gynyddol. Cwblhaodd y Llywodraeth ei hymgynghoriad bysiau yn ôl ym mis Mai. Rwy'n sylweddoli eich bod chi'n aros i Lywodraeth y DU drosglwyddo'r pwerau sydd eu hangen arnom ni i gomisiynu gwasanaethau trafnidiaeth yng Nghymru, ond yn y cyfamser, a yw'n bosibl cael dadl ynghylch modelau posibl ar gyfer y system bysiau yn y dyfodol, boed hynny drwy greu masnachfraint ar gyfer cymunedau cyfan neu drwy systemau o ddarparu gwasanaethau bysiau a gefnogir yn gyhoeddus neu'n gymunedol? Julie James AC: Mae'r Aelod yn hollol iawn; daeth ein hymgynghoriad i ben ar 31 Mai y llynedd. Roedd yn hwnnwnifer o gynigion amlinellol i wella sut y caiffgwasanaethau bysiau lleol eu cynllunio a'u darparu. Roedd saith deg pump y cant o'r ymatebwyr i'r ymgynghoriad hwnnw yn dweud eu bod nhw'nhoffi i'ndiwygiadau alluogi awdurdodau lleol i gyflwyno rhyw fath o fasnachfreintiau bysiau yn eu hardaloedd er mwyn diwallu anghenion lleol yn well. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus arall, y tro hwn ar y cynigion manwl a ddaeth yn sgil yr ymgynghoriad cyntaf, ynghyd â rhai eraill, gan gynnwys rhai o'r pethau y mae'r Aelod newydd eu codi. A chredaf mai ei fwriad yw cyhoeddi'r ymgynghoriad cyhoeddus hwnnw yn y Siambr bryd hynny. Felly, rwy'n siŵr y bydd hynny'n cael ei gyflwyno. Mae'n werth atgoffa ein hunain, fel y nododd y Prif Weinidog yn gynharach hefyd, fod gan awdurdodau lleol amryw o bwerau eisoes i gael mwy o ddylanwad ar y gwasanaethau bysiau. Er enghraifft, gallant greucynlluniau tocynnau; yn fy awdurdod lleol, mae tocynnau o-un-pen-i'r-llall wedi bod yn broblem fawr, ac mae hynny wedi bod yn llwyddiannus mewn rhannau o Abertawe a'r Gŵyr. Hefyd, mae cytundebau gwirfoddol y gellir eu gwneud â gweithredwyr bysiau i gydgysylltu buddsoddiad mewn cynlluniau gwahanol, ac i lunio cynlluniau partneriaeth ansawdd bysiau y gellir eu gorfodi'n statudol. Felly, nid ydym ni heb unrhyw bwerau ar lefel yr awdurdod lleol, ond fe fyddwn ni'n ymgynghori ar bwerau ychwanegol, wrth iddyn nhw gael eu trosglwyddo i ni maes o law. Mohammad Asghar (Oscar) AC: Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ar yr hyn y mae'n ei wneud i sicrhau cysylltiadau agosach rhwng de-ddwyrain Cymru a Bryste a gorllewin Lloegr? Ddoe, cynhaliodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, uwchgynhadledd twf Hafren yng Nghasnewydd ar sut y gallwn ni ddatblygu cysylltiadau economaidd, gan adeiladu ar ostwng y tollau ar bont Hafren, cyn iddyn nhw gael eu diddymu. A gaf i ofyn am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet yn cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddatblygu cysylltiadau er mwyn gwella safonau byw a'r rhagolygon am swyddi yn y de-ddwyrain? Ac mae'r cais am ail ddatganiad, gan yr un Gweinidog, byddwn yn ddiolchgar pe byddech yn gofyn—mae Trafnidiaeth Cymru wedi gwneud rhai cynlluniau, ond roedd un sefydliad pwysig iawn o'r enw Defnyddwyr Bysiau Cymru nad oedd wedi'i gynnwys yn yr ymgynghoriad hyd yn oed.Mae gan y sefydliad hwnnw safbwyntiau mewn gwirionedd, mae ganddo bryderon, mae ganddo strategaethau, ac mae ganddo faterion technegol i'w trafod. A llynedd, fe wnaethon nhw gyflwyno mwy na 430 o gwynion, ac maen nhw i gyd wedi cael sylw—y rhan fwyaf ohonynt. Felly, mae eu cyfraniad yn hanfodol iawn ar gyfer ein defnyddwyr bysiau, yn enwedig ar gyfer ein dinasyddion hŷn, a phobl anabl. Felly, byddem yn ddiolchgar iawn pe byddech yn gofyn i'r Gweinidog wneud datganiad ar Ddefnyddwyr Bysiau Cymru yn y Siambr hon, os gwelwch yn dda. Julie James AC: Wel, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cael cyfres helaeth o gyfarfodydd ynghylch ardal Hafren, a diddymu'r tollau ac ati. Gwn fod ganddo nifer fawr o faterionyn mynd rhagddynt yr ardal benodol honno. Nid oeddwn yn ymwybodol o'r pwynt am ymgynghori â Defnyddwyr Bysiau Cymru. Rwyf yn awgrymu i'r Aelod ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet gan dynnu sylw at y mater hwnnw. Nid wyf yn credu ei fod yn fater ar gyfer datganiad yn y Tŷ, ond rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymateb i ymholiad ynghylch, os ydynt wedi eu hepgor o'r ymgynghoriad, pam y digwyddodd hynny ac ati. Yn anffodus, nid wyf yn gwybod yr ateb penodol i hynny. Fel y dywedais mewn ymateb i Jenny Rathbone, bydd ymgynghori ymhellach ynghylch y sefyllfa o ran bysiau, a bydd hynny'n rhan o'r rhwydwaith trafnidiaeth integredig, ac, yn amlwg, mae yn effeithio ar y rhwydwaith trafnidiaeth integredig hefyd. Ac rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi ystyriaeth i hynny wrth iddo gyflwyno ymgynghoriad ar agweddau penodol o'r rhwydwaith bysiau. Bethan Sayed AC: Cawsom ddatganiad ysgrifenedig yn ystod yr ychydig ddiwrnodau diwethaf ar gaffael dur, ac rwy'n croesawu hynny. Ond roeddwn i'n meddwl tybed a allem ni gael datganiad ysgrifenedig neu lafar ar elfennau eraill y cytundeb â Phlaid Cymru a wnaethom o ran y diwydiant dur, yn benodol ar gyllid ar gyfer gwaith pŵer? Rwy'n awyddus i wybod beth yw'r sefyllfa ynglŷn â hyn. Yn ystod yr wythnos diwethaf, rydym wedi gweld materion o ran problemau â chyngor pensiwn, ac roeddwn i am fod yn sicr, a sicrhau bod y gweithwyr yn sicr, nad yw'r newidiadau yn eu pensiynau yn ofer. Ac felly, diweddariad ary gwaith pŵer, a chroesawir hefyd yr wybodaeth ddiweddaraf am ymchwil a datblygu. Fy ail gais yw gofyn am ddiweddariad ar ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar geiswyr lloches a ffoaduriaid. Yfory, rwy'n cynnal digwyddiad yn y Senedd ar bwncCymru fel noddfa i geiswyr lloches a ffoaduriaid, ac yn yr adroddiad hwnnw fe wnaethom ni argymell bod Cymru'n dod yn genedl noddfa. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a allem ni gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd yr adroddiad hwnnw, gan ystyried bod llawer o ddiddordeb yn hyn gan y sector hwnnw, a llawer o frwdfrydedd, mewn gwirionedd, gan geiswyr lloches a ffoaduriaid ledled Cymru. Julie James AC: Rwyf am ateb y cwestiynau gan ddechrauâ'r olaf yn gyntaf, gan fod yr un hwnnw ynrhan o'm cyfrifoldeb portffolio. Fe wnes i gyfarfod â nifer o'r grwpiau dan sylw yn yr adroddiad hwnnw yn ddiweddar. Rwy'n gobeithio picio i mewn i'ch digwyddiad yfory, ac rydym yn edrych yn ffafriol iawn ar hynny, a byddaf yn adrodd yn fuan ar ein hymateb i'r adroddiad hwnnw. Cawsom gyfarfod da iawn â nifer fawr o'r grwpiau, sefydliadau ymbarél ac ati. Felly, byddaf yn cyflwyno ymateb ar hynny cyn bo hir. Byddaf yn galw heibio i weld digwyddiad coffa Holocost Julie Morgan ar risiau'r Senedd ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr yfory hefyd, ond rwy'n gobeithio mynd i'r ddau ddigwyddiad. Mae'n wych gweld dau ddigwyddiad mawr o'r fath yn y Senedd yfory. O ran y gwaith ymchwil a datblygu dur, ma'r trafodaethau hynny ar y gweill. Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyflwyno—a bod yn onest, dwi ddim yn siŵr os bydd yn ddatganiad neu'n ddadl—ond byddwn yn cyflwyno rhywbeth cyn bo hir i ddiweddaru Aelodau ar hynny a beth yw ein sefyllfa, a phwysigrwydd hynny i'r gweithwyr. Yn sicr, mae David Rees bob amser yn fy holi i ynghylch pa gyfeiriad yr ydym yn mynd â hynny, a'r Aelod hefyd, felly byddwn yn gwneud hynny'n fuan iawn hefyd. Mick Antoniw AC: Fel y byddwch yn ymwybodol, arweinydd y tŷ, mae Brexit ar ddechrau cyfnod arbennig o ddwys. Mae Nigel Farage wedi bod yn galw am ail refferendwm. Mae arweinydd UKIP yn y Cynulliad, hyd yn oed, wedi dweud ar y radio os bydd y ffeithiau'n newid, y bydd yn rhaid i chi bleidleisio eto, er rwy'n credu yr oedd yn cyfeirio at arweinyddiaeth UKIP. Ond o gofio'r cyfnod yr ydym ar fin mynd iddo nawr, a fyddai'n briodol i Lywodraeth Cymru gael, er enghraifft, datganiadau bob pythefnos ar gyflwr presennol Brexit? Mae'n bwysig iawn ein bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf a bod trafodaeth barhaus yn cael ei chynnal gan fod pethau'n datblygu'n gyflym iawn, iawn, ac mae'r materion hyn yn hanfodol bwysig i'r Cynulliad hwn ac i'r DU yn ei chyfanrwydd. Julie James AC: Ie, mae'r Aelod yn llygad ei le—mae'n eithriadol o bwysig. Rwyf i fy hun mewn sefyllfa braidd yn anghyfforddus gan fy mod i'n cytuno â Nigel Farage, ond dyna ni—nid yw hynny'n sefyllfa y byddwch chi'n dymuno bod ynddi yn aml. Mae Llywodraeth Cymru yn eithriadol o awyddus i adeiladu ar ein gwaith ardderchog, yn fy marn i, o ran rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am ddatblygiadau diweddaraf Brexit. Ers canlyniad y refferendwm, rydym wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn rhagweithiol i'r Cynulliad, er enghraifft, drwy ddatganiadau ysgrifenedig a llafar, yn dilyn cyfarfodydd y Cyd-bwyllgor y Gweinidogion, a digwyddiadau arwyddocaol neu ddatblygiadau. Er enghraifft, cawsom dri datganiad ysgrifenedig yn ystod yr wythnos cyfarfod diwethaf ym mis Rhagfyr ar wahanol agweddau ar bolisi a thrafodiadau'r Undeb Ewropeaidd—ar y cytundeb cam 1, ar gyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar 12 Rhagfyr ac ar lansio ein dogfen bolisi ranbarthol. Hefyd, mae'r Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wedi bod yn adrodd yn ôl yn rheolaidd ar y cynnydd, i system bwyllgor y Cynulliad. Wrth inni symud ymlaen at gam nesaf y trafodaethau, byddwn yn parhau i adeiladu ar y dulliau sefydledig hyn o ddiweddaru'r Cynulliad. Fodd bynnag, bydd yr Aelod yn gwybod bod angen inni weld cynigion pendant mewn gwirionedd gan Lywodraeth y DU ar lefel ymgysylltiadLlywodraeth Cymru yn ystod yr ail gam o drafodaethau cyn i ni allu amlinellu yn fanwl sut y gallwn sicrhau bod cyfres o drefniadau sy'n addas at eudiben ar waith, lle gellir adrodd y datblygiadau diweddaraf a'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru ar y ddwy lefel. Ac rydym wedi gwneud yr achos i Lywodraeth y DU y dylai'r model ar gyfer yr ail gam ddilyn y strwythur sydd gan y DU eisoes wrth gyflawni busnes yr UE ar hyn o bryd, yn seiliedig ar yr egwyddor y bydd Llywodraeth y DU yn cynnwys y gweinyddiaethau datganoledig yn llawn wrth ddatblygu safbwyntiau polisi y DU ar faterion yr UE, fel y gallwn sicrhau bod ySenedd yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf yn briodol. Nick Ramsay AC: Arweinydd y tŷ, soniais yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog fy mod i wedi mynd i uwchgynhadledd twf Hafren yn y Celtic Manor, sy'n edrych ar ffyrdd o adeiladu ar newidiadau megis diddymu tollau Pont Hafren yn ddiweddarach yn y flwyddyn. A fyddai'n bosibl cael datganiad gan Lywodraeth Cymru ar sut yr ydych chi hefyd yn bwriadu, fel Llywodraeth, i weithio i ddatblygu economi'r de-ddwyrain yng ngoleuni'r newidiadau hyn, a hefyd edrych ar y materion trawsffiniol a grybwyllodd y Prif Weinidog? Mae'n bwysig, yn fy marn i, ein bod yn gwneud cymaint ag y gallwn yng ngoleuni'r newidiadau hyn i ddatblygu economi'r rhan hon o Gymru sy'n symud i ochr arall y ffin. Yn ail, ar hyn o bryd rwyf yn noddi arddangosfa o gwiltiau coffa'r Rhyfel Byd cyntaf yn adeilad y Pierhead; efallai bod rhai ohonoch chi wedi'u gweld nhw eisoes. Mae yna ddau ohonynt; maen nhw'n anhygoel. Cawson nhw eu creu, eu gwnïo a'u brodio gan blant ysgol o bum ysgol yn fy etholaeth, ac maen nhw wir yn werth eu gweld. Cawson nhw eu creu i ddathlu 100 mlynedd ers diwedd y rhyfel byd cyntaf, ac yr ydym bellach—nid yw'n teimlo fel amser maith ers inni goffáu dechrau'r rhyfel mawr—bellach rydym yn coffáu y diwedd. Felly, rwy'n apelio ar yrAelodau Cynulliad, os nad ydyn nhw wedi bod eto, i fynd i weld rhai o'r cwiltiau hyn am weddill yr wythnos hon, ond hefyd os gallai Llywodraeth Cymru egluro'n union sut yr ydych chi am i ni ddathlu diwedd y rhyfel mawr. Yn amlwg, roedd yn rhan sylweddol a phwysig iawn o'n hanes ac yn rhyfel lle gollodd llawero bobl Cymru eu bywydau, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig inni gael rhywfaint o arweiniad o ran pa gyfeiriad yr ydym ni'n ei ddilyn ar gyfer dathlu diwedd y rhyfel hwnnw. Julie James AC: Ie, dau bwynt pwysig iawn. O ran ardal twf Hafren, fel y dywedais wrth Mohammad Asghar yn gynharach, ceir nifer o gyfarfodydd ynghylch hyn—mae'n bwynt pwysig iawn. Gwn fod gan Ysgrifennydd y Cabinet nifer o faterion heb eu datrys yno, a'i bod mewn trafodaethau ar hyn o bryd. Bydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad wrth i'r trafodaethau hynny fynd rhagddynt. Os oes gan yr Aelod unrhyw beth penodol iawn a ddaeth yn sgil y gynhadledd yr aeth iddi,byddai'n ddefnyddiol iawn i wybod beth yw'r pwyntiau penodol hynny er mwyn gallu ymdrin â nhw. O ran y cwiltiau coffa, rwy'n gobeithio mynd i'w gweld nhw hefyd. Credaf fod hynny'n fenter wych iawn, ac rwy'n canmol yr Aelod am ei noddi. Nid wyf wedi gallu mynd draw i'w gweld eto ond rwyf wir yn gobeithio y caf y cyfle i fynd. Mae'n ffordd dda iawn o wneud hynny. Byddwn yn cyflwyno rhai digwyddiadau coffa ac ati maes o law, oherwydd mae'r Aelod yn llygad ei le—bu llawer iawn o Gymry yn ymladd yn ddewr, a rhai wedi aberthu eu bywydau, wrth gwrs, yn y rhyfel mawr. Mae'n bwysig iawn inni goffáu'r bobl hynny, ond hefyd ein bod yn addysgu ein pobl ifanc am effeithiau rhyfel byd-eang o'r fath a'r goblygiadau, gartref a thramor, o'r fath bethau. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod am godi'r mater pwysig yna. Vikki Howells AC: Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru ar y strategaeth cynhwysiant ariannol i Gymru? Cefais adroddiad defnyddiol iawn yn ddiweddar gan fy nghanolfan Cyngor ar Bopeth leol am yr effeithiau ar gymuned Aberpennar yn sgil cau banc olaf y dref. Gan fod Aberdâr hefyd wedi gweld yr effaith gyda thri banc mawr yn cau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf—gan gynnwys y Banc Cydweithredol, a gyhoeddodd yr wythnos diwethaf y bydd yn cau—credaf fod hwn yn gyfle da inni fyfyrio ar y strategaeth, gan fod llawer o gymunedau eraill, fe wn, yn gweld yn union yr un peth yn digwydd. Ond mae hefyd yn caniatáu inni ystyried yr ymyriadau sy'n fwyaf priodol i sicrhau y gall holl aelodau ein cymuned ddefnyddio'r gwasanaethau bancio hynny a oedd yn arfer bod ar gael iddynt ar y stryd fawr leol. Julie James AC: Mae'r Aelod yn codi pwynt hynod bwysig. Rydym yn hyrwyddo cynhwysiant ariannol ac mae'n flaenoriaeth allweddol i raddau helaeth iawn gan Lywodraeth Cymru, ac, wrth gwrs, roedd gan Bethan Jenkins ran fawr wrth gyflwyno'r mater hwnnw hefyd. Rydym yn gweithio'n galed iawn gyda sefydliadau partner drwy gyfrwng y grŵp llywio cynhwysiant ariannol i ddatblygu ystod eang o gamau gweithredu yn y cynllun cyflawni a byddwn yn adrodd yn ôl ar gynnydd yn ystod y misoedd nesaf. O ran cau banciau, mae'r Aelod yn llygad ei lle. Rydym i gyd wedi bod yn trafod cau banciau yn ein hetholaethau a'n rhanbarthau etholaethol ein hunain, ac mae nifer mawr ohonom wedi codi'rproblemau gyda rheolwyr banc lleol pan fo banciau wedi'u clustnodi i'w cau. Mae rhai o'r ymatebion a gewch am y cymunedau yr effeithir arnyn nhw ac ati yn wirioneddol siomedig. Mae'n werth nodi bod gwasanaeth cownteri Swyddfa'r Post yn darparu gwasanaethau bancio mewn rhai ardaloedd, mae hynny'n sicr yn wir yn fy etholaeth i fy hun ac yn y ddwy arall, etholaethau Dwyrain Abertawe a Gŵyr, ac rydymwedi cael rhai cyfarfodydd sydd wedi bod yn ddefnyddiol iawn ynghylch sut i ymdrin â hynny. Ond rydym yn parhau i fod yn siomedig iawn ynglŷn â'r mater. Un o'r pethau yr ydym yn eu gwneud hefyd yw ceisio sicrhau bod ein cynllun cynhwysiant digidol yn cynnwys bancio ar-lein, yn enwedig ar gyfer pobl hŷn a allai fod wedi eu heithrio o'r gwasanaethau ar-lein sydd yn cael eu defnyddio i gymryd lle gwasanaethau'r stryd fawr i raddau helaeth. Nid wyf i'n awgrymu am funudbod hwn yn newid cywir, a gwn fod yr Aelod wedi pwyso'n galed i gadw rhai o'r banciau yn agored yn ei hardal, fel yr ydym ni i gyd wedi gwneud. Ond mae'n bwysig, lle mae cwtogi ar y gwasanaethau, fod pobl yn cael eu hyfforddi i ddefnyddio'r dechnoleg sy'n caniatáu iddyn nhw barhau i fancio o'u cartrefi, os mai dyna'r broblem, er nad yw hynny'n helpu busnesau bach sy'n awyddus i allu bancio arian parod ac ati, sy'n broblem enfawr. Mae problem hefyd o ran gwneud i ffwrdd â pheiriannau ATM. Nid wyf yn gwybod a yw'r Aelod yn ymwybodol ohoni. Mae problem yn codi o ranfaint o arian a delir i bobli gynnal peiriant ATM a sut mae'n cael ei leoli. Felly mae'n rhaid inni edrych ar hynny hefydi weld a allwnni wneud unrhyw beth i helpu, oran y darpariaeth o beiriannau ATM. Mae ynanifer o fannau ledled Cymru erbyn hyn lle mae'n rhaid ichi deithio'n bell er mwyn cael arian parod, a phroblem fawr yw honno. Felly, rwy'n diolch i'r Aelod am dynnu sylw at y pwynt pwysig hwnnw. Rydym ni'n cael trafodaeth ar sut y gallwn leddfu rhai o effeithiau cau'r banciau. Darren Millar AC: A gaf i alw am ddau ddatganiad gan arweinydd y tŷ, y cyntaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar berfformiad adrannau achosion brys ledled Cymru? Mae'r ffigurau diweddaraf, wrth gwrs, yn sobor o wael, yn wir ichi. Yn anffodus, unwaith yn rhagor, y bwrdd iechyd a gaiff ei redeg ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru sy'n perfformio waethaf o'r holl fyrddau iechyd yng Nghymru yn erbyn y targed pedair awr. Mewn gwirionedd, dim ond pedair siawns o bob 10 sydd gennych o fynd i mewn ac allan o'r adran honno dros y targed pedair awr. Yn amlwg, mae hyn yn annerbyniol i'r cannoedd o gleifion yn fy etholaeth i ac mewn mannau eraill o'r gogledd sy'n gorfod dioddef y cyfnodau hirfaith hynny mewn adrannau achosion brys prysur iawn. Felly, rwy'n credu ei bod yn angenrheidiol inni gael datganiad ar berfformiad adrannau achosion brys, yn arbennig o ystyried y sefyllfa, yr argyfwng, sy'n amlwg yn datblygu mewn rhai o'n hysbytai. A gaf i hefyd alw am ddatganiad, gennych chi, mae'n debyg, fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am gymunedau ffydd? Yn amlwg, clywaiseich sylwadau ynglŷn â Diwrnod Cofio'r Holocost. Cefais y fraint o fod yn bresennol mewn digwyddiad yn Llandudno i goffáu'r Holocost dros y penwythnos a gwrando ar Dr Martin Stern, un a wnaeth oroesi'r Holocost. Roedd ganddo stori rymus ac ysgytiol iawn i'w rhannu wrth iddo draddodi ei brofiadau yn ystod yr Holocost a phrofiadau rhai o blith ei deulu. Yn amlwg, mae goroeswyr yr Holocost yn lleihau yn eu nifer. Rwy'n arbennig o awyddus i wybod, Ysgrifennydd y Cabinet, pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hysbysu cymaint o bobl ifanc â phosibl am yr hanesion uniongyrchol hynny gan oroeswyr yr Holocost tra bod gennym bobl gyda ni o hyd sydd yn gallu dweud eu hanesion yn uniongyrchol wrthym. Gwn fod y Llywodraeth wedi gwneud gwaith da ar hyn yn y gorffennol ac wedi cefnogi pobl ifanc i ymweld â mannau fel Auschwitz a chymryd rhan mewn digwyddiadau i goffáu'r Holocost. Ond nid oes dim byd yn debyg i gyfarfodâ rhywun sydd wedi goroesi'r Holocost a gwrando ar ei hanesion yn uniongyrchol i drawsnewid ffordd o feddwl pobl am yr Holocost ac i ymdrin â'r broblem gynyddol sydd gennym drwy'r byd gyda'r rhai sy'n gwadu'r Holocost. Julie James AC: O ran y datganiad iechyd, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyflwynodatganiad ar y GIG dros gyfnod y gaeaf, ac rwy'n siŵr y bydd yn cynnwys rhai o'r materion yr ydych chiwedi eu codi. Mae'n nodio ei ben i ddangos y bydd yn gwneud hynny, felly bydd yn gwneud hynny yn yr ychydig wythnosau nesaf. O ran cymunedau ffydd a mater coffáu'r Holocost, rwy'n cytuno'n llwyr gyda'r Aelod nad oes dim byd tebyg i gael yr hanes yn uniongyrchol, ond mewn gwirionedd weithiau, yn fy etholaeth i fy hunan, er enghraifft, mae merch un o'r rhai a wnaeth oroesi'r Holocost—a roddodd dystiolaeth rymus ei hunan lawer tro, ond yn drist iawn sydd wedi ymadael â ni oddi ar hynny—yn ddadleuwraig daer iawn, os hoffech, dros yr hyn yr aeth ei mam drwyddo ac wedi ei magu, yn amlwg iawn, gyda'r wybodaeth honno. Felly, mae ffyrdd ar gael o drosglwyddo'r wybodaeth. Ond cytunaf yn llwyr â chi ei bod yn hanfodol inni wneud yn siŵr fod pawb yn deall yr hyn a ddigwyddodd a pham y digwyddodd hynny a sut y mae'n rhaid inni wneud yn siŵr na fydd hynny'n digwydd byth eto. Nid wyf i wedi ystyried cyflwyno datganiad, ond fe wnaf i ystyried yr hyn y gallwn ni ei wneud i sicrhau ein bod yn myfyrio'n wastadol ar hynny. Mae yna nifer o weithgareddau yn yr arfaeth, a byddwn yn hapus iawn i ddiweddaru'r Senedd, naill ai drwy ddatganiad neuddull arall, pan fyddwn ni wedi cael trefn arnyn nhw. Julie Morgan AC: Arweinydd y tŷ, dau fater oedd gennyf i i'w codi. Yr wythnos diwethaf, helpais i lansio comic o'r enw Anturiaethau Ada ym Myd Gwyddoniaeth i blant pump a chwe blwydd oed er mwyn annog mwy ohonyn nhw, yn enwedig merched, i astudio gwyddoniaeth—pwnc sy'n agos at galon Ysgrifennydd y Cabinet, mi wn. Daeth y syniad hwn gan un o'm hetholwyr, Dr Edward Gomez, sydd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd. A fyddai'n bosibl inni gael datganiad am yr hyn y gellir ei wneud i lenwi'r bwlch a geir yng Nghymru o ran nifer y bobl ifanc sydd yn mynd ymlaen i astudio pynciau STEM, yn arbennig i lefel A, gan fod lleihad mawr yn digwydd ar ôl TGAU yn nifer y rhai sy'n dilyn gyrfaoedd sy'n seiliedig ar wyddoniaeth? Dyna oedd y cyntaf. Yr ail yw hwn. Ddydd Sadwrn, cynhaliais ddigwyddiad yn fy etholaeth i annog pobl i ddechrau seiclo wrth fynd ar deithiau beunyddiol, teithiau byr. Cawsom ymateb hollol wych gan y gymuned. Daeth llawer o faterion i'r amlwg, fel llwybrau beicio di-gar a lle i gael cawod ar ôl cyrraedd y gwaith. Wrth gwrs, yng Nghaerdydd, mae gennym ni ddau gyflogwr mawr yn symud i ganol Caerdydd—Cyllid a Thollau EM a'r BBC. Gobeithio y bydd llawer o'u staff yn seiclo i'r gwaith. Gan hynnny, a gawn ni ddatganiad am yr hyn y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i annog cyflogwyr i hybu seiclo i'r gwaith a darparu cyfleusterau ar gyfer beicwyr, fel lle i gadw beiciau a chael cawod? Julie James AC: O ran y cwestiwn cyntaf a ofynnodd Julie Morgan, rwyf innau hefyd wedi cyfarfod â Dr Edward Gomez, ac mae e'n astroffisegwr brwdfrydig iawn. Mae'r llyfrau comic yn rhagorol a byddaf yn trafod gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg sut y gallwn wneud defnydd gwell o gyfleusterau o'r fath, naill ai yn bersonol neu drwy Hwb, sydd bellach yn ymestyn allan i tua 70 y cant o ysgolion Cymru. Cefais gyfarfod brwdfrydig iawn gydag ef ynghylch sut y gallem ddatblyguhynny, ac maen nhw'n adnoddau gwych yn wir. Mae'r Aelod yn llygad ei lle: mae'n rhaid inni gael ffordd o ddenu mwy o blant i gael diddordeb mewn gyrfa o'r fath ym myd gwyddoniaeth, yn enwedig merched. Mae gennym amrywiaeth o bethau ar waith, ond mae gan Dr Gomez y gallu arbennig i danio brwdfrydedd plant iau a gwneud pwnc cymhleth iawn yn gwbl dryloyw ac yn wirioneddol ddiddorol. Felly, roeddwn i o'r farn fod ei ddull ef o wneud hynny'n wirioneddol ardderchog a bydd yn sicr yn dwyn hynny'n ei flaen gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Rwy'n dal i gadeirio Bwrdd menywod yn STEM ar gyfer Llywodraeth Cymru, felly byddaf yn edrych ar y mater yno o ran sut mae modd ennyn diddordeb merched mewn rhai o'r pynciau gwyddoniaeth sy'n fwy damcaniaethol hefyd. Mae e'n ddyn diddorol iawn i'r rhai ohonoch chi sydd efallai heb gwrdd ag ef; mae ganddo sgwrs ddiddorol. O ran y teithio llesol, mae hynny'n bwysig iawn mewn gwirionedd. Mae'r holl fater ynghylch seiclo yn fodd o deithio yn hytrach na defnydd hamdden yn eithriadol o bwysig. Mae'r Aelod yn codi pwyntiau da iawn am barodrwydd y sefydliadau mwy o faint hynny o ran cyfleusterau i gadw beiciau yn ddiogel a hefyd gyfleusterau newid ac ati a bod yn barod i'r gwaith. Rydym yn gweithio'n galed iawn gydag awdurdodau lleol ledled Cymru i wella teithio llesol drwy gyllid buddsoddi cyfalaf. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth yn gwneud cyhoeddiad maes o law am ganlyniad rhai o'r trafodaethau hynny a'r buddsoddiad hwnnw, gyda'r union bwynt y mae'r Aelod yn ei godi dan sylw. Nid oes a wnelo hyn â seiclo am hwyl; mae'n ymwneud â beicio fel modd o deithio o un lle i'r llall mewn ffordd iach a chynaliadwy. Ac mae'n arbennig o bwysig yn ein dinasoedd mawr ein bod yn annog hynny o ran y ddadl ansawdd aer yr ydym wedi bod yn ei chael yn ddiweddar hefyd. Roeddwn am godi un pwynt arall, sef bod problem wirioneddol ynghylch anabledd ar gyfer beicio hefyd. Mae sefydliad gwych yn fy etholaeth i fy hunan, os gwnaiff y Llywydd faddau i mi, o'r enw BikeAbility. Mae'n gyfleuster ardderchog iawn ar gyfer pobl ag anableddau corfforol a fydd hefyd yn gallu bod yn egnïol ar eu beiciau, ac mae'n bwysig fod cyflogwyr yn rhoi ystyriaeth i hyn hefyd wrth ddylunio'r cynlluniau hyn. Suzy Davies AC: Arweinydd y tŷ, byddwch fwy na thebyg wedi clywed rhai o'r sylwadau yn y cyfryngau heddiw am bryderon Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru am brofiad pobl sy'n byw mewn cartrefi gofal, rai blynyddoedd wedi iddi wneud ei hargymhellion gwreiddiol. Er ei bod hi'n gwneud rhai sylwadau cadarnhaol iawn am y ddeddfwriaeth a gyflwynwyd ers hynny, yn ogystal â'r arolwg seneddol ar iechyd a gofal cymdeithasol, roedd hi'n dweud bod rhai pethau sylfaenol iawn fel rheoli ymataliaeth ac—ni allaf gofio beth arall oedd ganddi, erbyn hyn—atal codymau, yn mynd ar goll. Tybed a oes modd inni gael diweddariad ar gynnydd gan y Llywodraeth yn erbyn yr argymhellion, gan ganolbwyntio'n benodol ar y pethau sy'n mynd ar goll. Diolch. Julie James AC: Mae'r Gweinidog yn bresennol i glywed hyn. Fe'i clywaisar Radio Wales y bore yma gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru—fe gawson nhw ddadl dda ar y pwnc. Mae'n rhoi arwydd i mi y byddwn ni'n cyflwyno rhywbeth i ymateb i hynnyo fewn 28 diwrnod. Neil McEvoy AC: Arweinydd y Siambr, ar 22 Mawrth 2016, ar ôl yr ymosodiad terfysgol erchyll ym Mrwsel, dywedodd y Prif Weinidog y byddai'n hoffi mynegi ei gydymdeimlad a'i gydsafiad â phobl Gwlad Belg. Aeth yn ei flaen i ddweud ei bod yn rhaid gwrthwynebu pla terfysgaeth ym mhobman a'i bod yn rhaid inni wrthsefyll y bygythiad i'n ffordd o fyw. Rwy'n codi'r datganiad hwnnw heddiw oherwydd ei fod yn dangos yn eglur gynsail i'r Llywodraeth wrth fynd i'r afael â materion tramor. Hoffwn gael datganiad gan y Llywodraeth ar yr ymosodiad ciaidd yn erbyn y Cwrdiaid ac eraill yn Afrin yng ngogledd Syria. Mae'r Cwrdiaid wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i ymladd yn erbyn y bygythiad o derfysgaeth y maen nhw'n ei wynebu yn Syria, ac maen nhw wedi dangos, dro ar ôl tro, eu bod yn gynghreiriad i Gymru yn y dwyrain canol, ac yneu cannoedd, roeddent y tu allan i'r Cynulliad heddiw. Mae gan y Cwrdiaid hawl i fyw mewn heddwch a'r Cynulliad hwn yw llais etholedig pobl Cymru. A wnaiffef ddatganiad gan y Llywodraeth i gondemnio terfysgaeth gwladwriaeth Twrci yn Syria a Cwrdistan, ac a fyddwch chi'n pwyso ar Lywodraeth y DU i wneud popeth o fewn ei gallu i roi terfyn ar y trais yn ddiplomataidd? Julie James AC: Mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn, ond mae'n ymwybodol iawnnad yw materion tramor wedi cael eu datganoli i ni. Gwnaeth y Prif Weinidog ddatganiad o'i gydymdeimlad â phobl gwlad Belg ac rwy'n siŵr y buasai'n gwneud rhywbeth tebyg ibob un drwy'r byd yr effeithir arno gan derfysgaeth. Mae'r Aelod wedi gwneud ei bwynt yn huawdl iawn, ac rwy'nsiŵr fod y Cynulliad wedi'i glywed. Dawn Bowden AC: Arweinydd y tŷ, yr wythnos diwethaf, ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i'r cwestiwn brys ynghylch cwymp Carillion. Byddai llawer o'r Aelodau yn y Siambr hon yn adleisio'r ffordd angerddol y pwysleisiodd Ysgrifennydd y Cabinet y gwendid ym mholisi caffael Llywodraeth y DU sydd wedi cyfrannu at y llanastr presennol y bydd yn rhaid i'r sector cyhoeddus erbyn hyn, i raddau helaeth, ymdrin ag ef. A gaf i ofyn i arweinydd y tŷ a fyddai modd i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wneud datganiad manylach ar y gwersi sydd i'w dysgu o ansolfedd Carillion, yn enwedig y gwersi y gallwn eu dysgu yma yng Nghymru ynglŷn â'r modd yr ydym yn caffael gwasanaethau, a'r cyfleoedd a allai fodoli ar gyfer adfer rhywfaint o reolaeth ddemocrataidd drwy gyfrwng sefydliadau llafur uniongyrchol neu drwy fodelau cydweithredol o weithio? A gaf i hefyd ofyn y bydd methiant Carillion yn cael ei archwilio er mwyn inni ddysgu mwy am risgiau gweithgareddau caffael ar raddfa mor fawra sut y gallai hynny ein harwain i fyfyrio ar y gwaith caffael yr ydym yn ymgymryd ag ef ar hyn o bryd? Credaf y byddai'r Cynulliad cyfan yn elwa ar drafod datganiad o'r fath, ac efallai y byddai hynny'n arwain at gonsensws newydd ar y ffordd ymlaen fel y gall busnesau Cymru a threthdalwyr Cymru elwa fel ei gilydd. Julie James AC: Wel, diolch ichi am y pwynt pwysig iawn hwnnw. Yn wir, fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet ei bwyntiau yn angerddol iawn am y rheswm pam nad ydym yn rhoi gwaith y gwasanaethau cyhoeddus allan i gwmnïau eraill ac effaith rhoicontractau allanoli'r sector preifat—yr effeithiau anfwriadol all ddod yn sgil hynny.Yn ffodus, yma yng Nghymru, nid effeithiwyd arnom ni gan Carillion fel sydd wedi digwydd mewn mannau eraill yn y gwasanaethau cyhoeddus. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn cynnal adolygiad o brosesau caffael ledled Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd, ac rwy'n siŵr y bydd yn adrodd hynny'n ôl i'r Cynulliad ac yn dwyn y materion hyn i gyfrif yn rhan o hynny. David Rees AC: Arweinydd y Tŷ, tua 12 mis yn ôl, dywedoddYsgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar y pryd ei fod mewn gwirionedd yn tynnucyllid Cymunedau yn Gyntaf oddi wrth NSA Afan oherwydd adroddiad archwilio yr oedd wedi ei dderbyn. Aeth ymlaen i ddweud y byddai ymchwiliad ariannol pellach yn cael ei gynnal. Nid ydym hyd yma wedi clywed unrhyw beth ers y dyddiad hwnnw, ac rwy'n deall bod hynny bellach wedi cael ei drosglwyddo i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid. A gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn nodi pa gynnydd a wnaed o ran yr ymchwiliad hwnnw, oherwydd mae gan NSA Afan, yn amlwg, lawer o weithgareddau yn digwydd yn fy etholaeth i a llawer o ganolfannau cymunedol a fyddai'n cael trafferth pe byddai anawsterau gan NSA Afan? A'r ail bwynt, fe'i codwyd yn y Siambr hon o'r blaen—am gyflwr y parth llifogydd ar y safle lle bydd carchar Baglan yn cael ei adeiladu. Y penwythnos hwn, fel y nododd Simon Thomas, cafwyd glaw trwm. Rydym wedi gweld llifogydd ym mhob cwr, gan gynnwys ar y safle arbennig hwnnw. Nawr, nid yw hynny'n unig oherwydd y glaw trwm a gafwyd ar un diwrnod; mae'n dangos bod y lefelau dŵr a bod y lefel trwythiad yn uchel, ac, fel y cyfryw, mae angen mynd i'r afael â nhw. Nawr, rydym yn deall bod y parth llifogydd wedi ei symud o C2 i C1 oherwydd ailasesiad gan Gyfoeth Naturiol Cymru—rwy'n deall hynny—ond, yn seiliedig ar ddigwyddiadau'r penwythnos, mae'n amlwg fod angenasesiad arall. Galwyd am hynny o'r blaen. A gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd i ddweud sut y mae ailasesiadau yn cael eu gwneud a phryd y cânt eu hailwneud oherwyddamgylchiadau? Julie James AC: O ran y pwynt cyntaf, rwy'n deall bod hynny bellach gerbron yr heddlu, ac felly ni fyddwn ni'n gwneud sylwadau pellach ar hynny. Credaf fod yr Aelod yn ymgymryd â hynny cyn hir yn ei etholaeth ei hunan. Rwy'n siŵr y bydd yn gallu ein hysbysuam hynt y cyfarfod hwnnw, a byddwn yn gallu gwneud yn siŵr bod y mater yn gwneud cynnydd. O ran y llifogydd a'r asesiad o hynny, yn ffodus roedd Ysgrifennydd y Cabinet yn bresennol i glywed eich pwynt ar hynny, ac rwy'n siŵr y bydd yn rhoi rhoiystyriaeth iddo yn ei thrafodaethauynghylch ailasesiad o berygl llifogydd. Mae llifogydd wedi codi sawl gwaith yn y Siambr hon heddiw, ac mae'n fater sy'n agos at ein calonnau, felly rwy'n sicr y bydd yn ystyried hynny dros yr ychydig wythnosau nesaf. Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair. Diolch yn fawr iawn ichi. 3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynnydd o ran y Gronfa Triniaethau Newydd Eitem 3 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: cynnydd ar y gronfa driniaeth newydd. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gyflwyno'r datganiad—Vaughan Gething. Vaughan Gething AC: Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Y llynedd, lansiais gronfa driniaeth newydd Llywodraeth Cymru sy'n werth £80 miliwn. Roedd hyn, wrth gwrs, yn un o'r addewidion allweddol i bobl Cymru yn ystod etholiad diwethaf y Cynulliad. Mae fy natganiad heddiw yn tynnu sylw at sutmae'r gronfa driniaeth newydd wedi sicrhau bod meddyginiaethau newydd ar gael yn gyflymach ac yn fwy cyson. Mae hyn yn dynodi blwyddyn weithredol lawn gyntaf cronfa lwyddiannus iawn. Mae'r buddsoddiad newydd sylweddol hwn yn GIG Cymru yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cleifion yn cael y triniaethau diweddaraf a argymhellir yn gyflym, ni waeth ym mhle y maen nhw'n byw yng Nghymru. Egwyddor sylfaenol y gronfa driniaeth newydd yw fod yn rhaid i'r holl feddyginiaethau a argymhellir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Gofal, neu NICE, a Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru gyfan, neu AWMSG, fod ar gael i gleifion, lle y bo'n glinigol briodol, heb fod yn hwyrach na deufis o gyhoeddiad yr argymhelliad. Mae hyn yn cynrychioli gostyngiad o draean i amserlen ofynnol y gweithrediad. Mae argymhelliad cadarnhaol gan NICE neu AWMSG yn cadarnhau bod y feddyginiaeth wedi pasio prawf trylwyr clinigol a chost-effeithiolrwydd fel ei gilydd: mae manteision clinigol y feddyginiaeth yn cydbwyso â'r gost y bydd y gwneuthurwr yn ei godi ar y GIG. Mae hyn yn sicrhau gwerth da am arian i'r cyhoedd ac, wrth gwrs, i'n GIG. Mae'r gronfa driniaeth newydd yn rhoi £16 miliwn y flwyddyn i fyrddau iechyd yng Nghymruer mwyn cefnogi'r ddarpariaeth gyflymach a mwy cyson honno. Hyd yma, rhoddwyd £28 miliwn i fyrddau iechyd ac i Ymddiriedolaeth GIG Felindre i gefnogi'r gwaith o gyflwynodros 80 o feddyginiaethau newydd. Vaughan Gething AC: Wrth gwrs, cymeradwywyd y meddyginiaethau hyngan NICE neu AWMSG i drin amrywiaeth eang o glefydau. Mae'r rhestr a chwmpas y meysydd therapiwtigyn rhy hir i mi eu rhestru yma, ond mae'n cynnwys meddyginiaethau ar gyfer amrywiaeth eang o driniaethau, gan gynnwys arthritis, sglerosis ymledol, epilepsi, asthma a chyflyrau prin fel clefyd Fabry. Mae ychydig dros 40 y cant o'r meddyginiaethau a argymhellir yn trin mathau amrywiol o ganser. Nodwyd bod 30 o'r meddyginiaethau a argymhellwyd wrth arfarnu yn cynnig dewis o driniaeth newydd, fwy effeithiol i gleifion, neu'n mynd i'r afael ag angen clinigol nas diwallwyd. Roedd hyn yn cynnwys triniaethau newydd ar gyfer canser, clefyd difrifol sy'n bygwth y golwg, anhwylderau genetig sy'n bygwth bywyd a chlefyd cronig yr ysgyfaint. Mae'r rhain yn dangos ehangder a chwmpas y gronfa driniaeth newydd. Maen nhw hefyd yn amlygu'r pwysigrwydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi ar sicrhau bod yr holl feddyginiaethau a argymhellir ar gyfer pob cyflwr ar gael yn gyflym. Nid hwnnw yw'r dull a ddefnyddir ar draws y ffin yn Lloegr. Mae'r holl glefydau neu gyflyrau yr wyf newydd sôn amdanyn nhw yn cael effaith wirioneddol ar ansawdd bywyd yr unigolyn a'i anwyliaid. Dyna pam, yng Nghymru, rydym yn sicrhau bod y gronfa driniaeth newydd yn trin pob clefyd yn gyfartal ac nid yw'n blaenoriaethu cyllid ar gyfer un clefyd yn hytrach na'r llall. Cyhoeddir y rhestr lawn o'r meddyginiaethau a argymhellirar wefan AWMSG ac mae'r ddolenwedi ei darparu i'r Aelodau. Disgwyliaf y bydd cydymffurfiaeth lawn yn cael ei chynnal gydol cyfnod pum mlynedd y Gronfa. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i'r holl feddyginiaethau a argymhellir fod ar gael heb fod yn hwyrach na dau fis ar ôl cyhoeddi argymhelliad AWMSG neu NICE. Pan adroddais ar y cynnydd cychwynnol ym mis Gorffennaf, rhoddais wybod bod rhywfaint o amrywiad wedi bodo ranargaeledd rhai o'r meddyginiaethau a argymhellwyd yn ystod ychydig fisoedd cyntaf y Gronfa. Ers y materion cynnar hynny ynghylch amrywiad, rwy'n falch o adrodd bod ein GIG wedi gwneud cynnydd cyflym a llawer mwy cyson. Cyn cyflwyno'r gronfa driniaeth newydd, roedd disgwyl i fyrddau iechyd sicrhau bod y meddyginiaethau a argymhellwyd ar gael heb fod yn hwyrach na thri mis neu 90 diwrnod o gyhoeddiad penderfyniad NICE neu AWMSG. Yn y chwe mis cyntaf o lansio'r gronfa driniaeth newydd, rydym wedi gostwng yr amser a gymerir i feddyginiaethau fod ar gael 81 y cant. Mewn termau real, golygai hynny mai'r amser cyfartalog a gymerwyd gan fyrddau iechyd ledled Cymru i ddarparu meddyginiaethau oedd 17 diwrnod yn ystod chwe mis cyntaf y gronfa driniaeth newydd. Rydym wedi gweld gwelliannau pellach hyd yn oed yn ystod ail gyfnod chwe mis y Gronfa. Mae'r amser a gymerir i sicrhau bod meddyginiaeth ar gael bellach wedi gostwng i 10 diwrnod ar gyfartaledd ledled Cymru. Mae hynny'n cynrychioli gostyngiad o bron 90 y cant ledled Cymru. Bellach dylai meddyginiaeth fod ar gael i'w rhagnodi o fewn cyfnod o ddau fis lle bo hynny'n briodol yn glinigol. Ein nod yw sicrhau bod y meddyginiaethau hyn ar gael cyn gynted â phosibl. Rwy'n falch o nodi bod bron 83 y cant o feddyginiaethau a argymhellwydwedi bod ar gael ar draws Cymru o fewn 30 diwrnod. Wrth gwrs, rwy'n croesawu ymdrech a chyflawniad ein GIGwrth wireddu ein hymrwymiad i gleifion ledled Cymru. Mae prif weithredwyr a chadeiryddion y byrddau iechyd yn eglur mai'r disgwyliad yw y byddan nhw'n parhau i ddarparu'n gyson a pharhaus gydymffurfiaeth lawn â gofynion y gronfa driniaeth newydd. Nid yw dinasyddion Cymru yn haeddu llai na hyn. Byddaf, wrth gwrs, yn parhau i graffu ar berfformiad y byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau o ran cyflawni eu rhwymedigaethau o dan y gronfa driniaeth ac yndal prif weithredwyr a chadeiryddion i gyfrif am eu cyflawniad. Mae sicrhau bod meddyginiaethau newydd ar gael i gleifion yn gofyn am gynllunio manwl o ran seilwaith a llwybr gofal, a gall hynny fod yn heriol yn ariannol, ynarbennig yn y 12 mis cyntaf. Nod y gronfa driniaeth newydd yw cefnogi byrddau iechyd wrth baratoi cynlluniau cynaliadwy ar gyfer cyflwyno meddyginiaethau newydd. Mae diogelwch, wrth gwrs, yn ystyriaeth hollbwysig wrth gyflwyno pob meddyginiaeth newydd. Gall hynny olygu newidiadau angenrheidiol i'r ffordd y mae gwasanaethau clinigol yn gweithredu: er enghraifft, efallai y bydd angen rhagor o fonitroar gleifion neu eu monitro'n wahanol; efallai y bydd angen profi cleifion, er enghraifft, ar gyfer eu haddasrwydd clinigol. Mae'n hanfodol deall holl ofynion cyflwyno meddyginiaeth yn ddiogel ac yn effeithiol ar gam cynnar, ac mae'nn ganolog i sicrhau argaeledd cyflym a pharhaus. Ers imi lansio'r gronfa ym mis Ionawr y llynedd, rwyf wedi siarad yn gyson am yr angen i'r diwydiant gweithgynhyrchu fferyllol a GIG Cymru gydweithio'n agosach ar yr agenda hon. Mae Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain Cymru yn parhau i fod yn gefnogol o'n dull ni o weithredu'r agenda feddyginiaethau ac yn benodol, egwyddorion ein cronfa driniaeth newydd. Croesawaf y gwaith y maen nhw'n ei wneud gyda rhanddeiliaid GIG Cymru i wella lefel ac amseriad yr wybodaeth a ddarperir gan weithgynhyrchwyr am feddyginiaethau newydd. Mae atgyfnerthu'r rhagolygon ariannol a'r seilwaith cynllunio yn gwneud synnwyr perffaith i bawb. Bydd y diwydiant yn elwa pan gaiff ei gynhyrchion eu mabwysiadu'n gyflym, ac yn bwysicaf oll, bydd cleifion yn elwa o'u cael yn gyflymach. Mae sefydlu'r gronfa driniaeth newydd yn amcan penodol yn strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru, 'Ffyniant i bawb'. Yn y flwyddyn lawn gyntaf y bu'r gronfa driniaeth newydd ar waith, rydym wedi llwyddo i leihau'n sylweddol yr amser a gymerir i sicrhau bod meddyginiaethau ar gael hyd at 85 y cant. Gwnaethom addewid i bobl Cymruy byddai ein cronfa driniaeth newydd yn sicrhau y byddai meddyginiaethau newydd, aall newid bywydau ar gyfer pobl cyflwr, ar gael yn gyflymach ac yn fwy cyson. Rydym wedi cadw at ein haddewid, ac mae pob rhan o Gymru nawr yn gweld y budd. Angela Burns AC: Ysgrifennydd y Cabinet, diolch yn fawr iawn ichi am eich datganiad. Rwy'n falch iawn o weld bod y gronfa driniaeth newydd yngwneud cystal. Mae rhaid ei bod ynerchyll i fod yn rhywun sy'n dioddef ogyflwr ofnadwy y mae taer angen triniaethau arloesol a radical ar ei gyfer, a gorfod poeni a yw ar gael i chi neu beidio drwy eich bwrdd iechyd. Ymddengys bod hyn yn llenwi'r bwlch yn y broses gynllunio, ac rwy'n ei wirioneddol groesawu. Mae gennyf ychydig o gwestiynau, a byddwn yn gofyn ichi yn yr ysbryd, efallai, y gallwch fynd ar eu trywyddrywbryd eto a sicrhau ein bod yn cael y gorau posibl o'r gronfa hon. Rwy'n nodi bod adroddiadau gan Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru gyfan a'r gronfa driniaeth newydd yn dangos, yn ystod y 12 mis diwethaf, fod nifer y meddyginiaethau a argymhellir wedi disgyn o 24 gydag wyth meddyginiaeth wedi'u disodli yn 2016, i 21 o feddyginiaethau gyda dwy wedi'u disodli yn 2017. Ysgrifennydd y Cabinet, a allech chi amlinellu'r rhesymau dros hyn? Ai'r rheswm yw bod nifer y meddyginiaethau yn y gronfa driniaeth newydd yn llai er mwyn sicrhau bod meddyginiaethau ar gael yn gyflymach? Neu, a yw'n fwy oherwydd, unwaith y byddan nhw yn y system, fod y feddyginiaeth honno'n dod oddi ar y llyfrau ac, yn sgil hynny, fod yna obaith disgwyliedig y bydd y rheini sy'n ymgeisio am driniaethau o'r gronfa yn edwino i niferoedd llai o lawer? Ai dyma'r feddylfryd y tu ôl i wneud gronfa driniaeth newydd wirioneddol yn rhaglen bum mlynedd? Ysgrifennydd y Cabinet, yr ydych yn dweud yn eich datganiad bod £16 miliwn y flwyddyn yn cefnogimeddyginiaethau sydd i fodar gael yn gyflymach ac yn fwy cyson. Byddai'n ddiddorol, er hynny, i weld data'r cleifion ac argaeledd, i benderfynu pa mor eang y mae byrddau iechyd yn defnyddio'r meddyginiaethau newydd sydd ar gael. Yr wybodaeth fwyaf sylfaenol a roddwyd y tro diwethaf ar ddata argaeledd oedd nad oedd pob Bwrdd Iechyd yn cymryd yr 17 o feddyginiaethau—17 oedd y rhif bryd hynny—sydd ar gael o'r newydd, ond o ran cyrraedd y claf nid oedd manylion i'w cael. Credaf y byddai hynny'n helpu gyda'n dealltwriaeth ni o ransicrhau bod y meddyginiaethau ar gael yn gyson i bawb ledled Cymru, ni waeth ble maen nhw'n digwydd byw yn ein gwlad. Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, o ystyried yr ymrwymiad i ragweld trwyddedu a mabwysiadu triniaethau arloesol, a ydych yn hyderus y bydd byrddau iechyd yn gallu edrych tua'r gorwel yn effeithiol, a thrwy hynny wella cynlluniau seilwaith fel y bydd modd manteisio i'r eithaf ar ddatblygiadau arloesol newydd, ac y bydd cymorth priodol a gwasanaethau hefyd yn eu lle? Nodais hynny yn eich sylwadau am yr ABPI. Eto i gyd, er enghraifft, mae achos dan sylw yn ymwneud â chyffuriau newydd i drin hepatitis C, sydd bellach ar gael drwy'r gronfa driniaeth newydd—fe'i croesawyd yn fawr iawn gan gleifion a lobïwyr fel ei gilydd. Serch hynny, o gofio mai dileu hepatitis C oedd y nod, ac o ystyried nad oes unrhyw strategaeth hepatitis C ar waith, a dim ond canllawiau newydd ar gael, a ddylid mabwysiadu dulliau arloesol, fel—rwy'n gobeithio fy mod wedi ynganu hyn yn iawn—glecaprevir, yn rhan o'r fath strategaeth? Oherwydd—mae hyn ynghlwm wrth fy nghwestiwn cynharach am argaeledd meddyginiaethau i gleifion—mae'n anodd iawn cyrraedd rhai pobl, ond gyda'r cyffuriau newydd hyn, gallwn wneud cynnydd syfrdanol i wella ansawdd bywydau pobl. Ond nid mater o gyffur yn unig yw hi yn achos rhywbeth fel y cyffur hep C; mewn gwirionedd mae angen y gwasanaethau cymorth, cwnsela, allgymorth a newidiadau i ffordd o fyw er mwyn gwneud y gwahaniaeth sylweddol hwnnw. Rhan o hynny'n unig yw'r cyffur. Felly, tybed a wnewch chi roi ychydig sylwadau ar hynny hefyd, diolch. Vaughan Gething AC: Gwnaf. Ar y pwynt diwethaf yna am ddileu hepatitis C, nid wyf i'n credu mewn gwirionedd ei fod yn ymwneud â'r cyffuriau sydd ar gael.Rydym yn hynod ffodus yng Nghymru fod gennym strategaeth genedlaethol, ac o fewn y gymuned glinigol, mae'r grŵp o glinigwyr yn falch iawn o gael dull gweithredu cenedlaethol. Dim ond oherwydd bod y ganolfan yng Nghaerdydd—. Mae'n ddull gwirioneddol genedlaethol y mae pobl yn buddsoddi ynddo, ac i fod yn deg, mae clinigwyr ar draws y ffin o'r farn ein bod ni'n iawn hefyd. Nid ydych yn clywed hynny'nyn aml, ond mewn gwirionedd, mae pobl yn Lloegr yn edrych ar yr hyn yr ydym wedi'i wneud, sut yr ydym wedi gwneud hynny a pham—ac yn wir, ni fu cynnydd arwyddocaol mewn costau. Ond nid yw'r pwynt am ddileu yn ymwneud â'r cyffuriau sydd ar gael yn awr. Mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â chyrraedd y bobl sy'n fwy anodd eu cyrraedd ac nad ydyn nhw bob amser yn defnyddio'r gwasanaethau. Felly, rydym yn cydnabod mai'rbobl sy'n dal i ddioddef o hepatitis C yw'r bobl hynny sy'n llai tebygol o ddefnyddio'r gwasanaethau iechyd fel y cyfryw. Mewn gwirionedd mae a wnelo hyn â'r allgymorth, yn hytrach na'r arloesi a'r cyffuriau newydd. Rwy'n falch o glywed eich bod yn croesawu eindull ni o ymdrin âmeddyginiaethau cymeradwy, sy'n ddull a arweinir gan dystiolaeth. Nid oes unrhyw gwtogi ar feddyginiaethau newydd y mae'r gronfa driniaeth newydd yn eu darparu neu'n eu hawgrymu mewn gwirionedd. Yn wir, mae'n ymwneud â sut a phryd y caiff meddyginiaethau eu datblygu. Felly, mae a wnelo â'r datblygiad dan arweiniad y diwydiant. Rwy'n mynd i ymdrinnesaf â'ch pwynt chi am edrych tua'r gorwel. Dyna rai o'r pethau'r ydym—. Mewn gwirionedd rydym wedi llwyddo i sicrhau gwelliant o ran cysylltiadau ymarferol. Rydw i wedi cyfarfodag ABPI Cymru i gael sgwrs gyda nhw am ddull gweithredu'r diwydiant ac, fel yr eglurais, mae'n rhaid inni weld ymgysylltu gwell â'r system gofal iechyd yng Nghymru. Felly, mewn gwirionedd, mae sgyrsiau gwell wedi digwydd â'r diwydiant am sicrhau gwybodaeth gynharacham y meddyginiaethau hynny y mae'n debygol—neu'n fwy tebygol—y byddant yn dod i'rfarchnad ac ynmynd i broses arfarnu,a bydd cyfle cynharach i fyrddau iechyd gynllunio ar gyfer potensial eu gweithredu. Yn wir, dyna un o'r pwyntiau y mae'r ABPI eu hunain yn eu gwneud yn eu datganiad i'r wasg heddiw, sy'n croesawu'r gronfa, y sefydliad ac, yn wir, y pwynt penodol hwnnw am allu cydweithio yn aeddfetach gyda'r gwasanaeth iechyd. Unwaith eto, mae'n tynnu sylw at y ffaith o gael dull gweithredu a arweinir gan dystiolaeth, ac yna'n cyfeirio'n benodol at y ffaith bod y gronfa hon yn cwmpasu pob cyflwr, yn hytrach na dim ond un parsel o amodau yn cael eu cynnwys o fewn cyllideb a bod meddyginiaethau ar gael yn gyflymach ac yn fwy cyson. Gallaf ddweud wrthych pa mor eang yw'r defnydd: diben y gronfa driniaeth newydd yw bod y triniaethau ar gael llemaen nhw'n glinigol briodol, ac yna mae'n fater o benderfyniad priodol a wneir rhwng y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol a'r claf am yr hyn sydd ar gael. Felly, o'r 82 o feddyginiaethau sydd ar gael, fy nealltwriaeth i yw bod tua 4,000 o bobl yng Nghymru wedi llwyddo i'w cael yn gyflymach. Felly, rwy'n hapus iawn i ddod yn ôl i'r Siambr neu i'r pwyllgor yn y dyfodol i drafod nifer y meddyginiaethau ac ehangder a chyrhaeddiad y gronfa driniaeth newydd. Wrth inni gael mwy o ddata, rwy'n hapus iawn i'r data hynny fodar gael i'r Aelodau a'r cyhoedd. Rhun ap Iorwerth AC: Yn gyntaf, dylid croesawu unrhyw dystiolaeth fod pobl yn ei chael hi'n haws erbyn hyn i gael cyffuriau y mae ganddyn nhw'r hawl iddynt, ond dyma ychydig o gefndir: efallai y cofiwch chi, yn 2014, fod Plaid Cymru wedi cyhoeddi polisi o geisio cael cronfa driniaeth newydd a'i bwriad yn benodoloedd ariannu cyffuriau a gafwyd drwy geisiadau cyllido cleifion unigol. Rwy'n falch iawn ein bod gam ymlaen bellach, o ganlyniad i gytundeb rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru ar ddileu eithriadoldeb. Rwy'n falch bod hynny wedi digwydd. Yna, yn 2016, cyhoeddodd Llafur ei chronfa driniaeth newydd, a oedd y wahanol. Roeddem ni o'r farn—ac mae'n bwysig inni nodi hyn—na ddylai fod angencronfa i gymell byrddau iechyd lleol i wneud y pethau y dylen nhw eu gwneud beth bynnag dan y gyfraith, ni waeth pa mor dderbyniol fo'r cronfeydd ychwanegol. Felly, y cwestiwn cyntaf i chi yw hyn: yn y cyfryngau y bore yma, fe adroddwyd, yn flaenorol, fod swyddogion yn awgrymu y gallai gymryd mwy na 100 niwrnod i gyflwyno meddyginiaeth gymeradwy. A yw hynny'n gyfaddefiad fod y canllawiau gweinidogol cynharach, sef y dylai triniaethau fod ar gael o fewn tri mis i'w cymeradwyo, yn cael eu hanwybyddu? Ac, oes, mae arian yn dod drwy'r gronfa driniaeth newydd i fyrddau iechyd lleol ar gyfer talu am driniaethau ychwanegol, ond mae'n werth inni ofyn hyn hefyd: a ydych chi'n credu bod perygl, yn sgil y polisi hwn, y bydd byrddau iechyd lleol yn disgwyl cael arian ychwanegol i weithredu'r cyfarwyddiadau gweinidogol eraill y dylennhw fod yn glynu atynt beth bynnag o dan y gyfraith? Gan symud ymlaen at yr hyn yr oeddech yn cyfeirio atyn nhw fel cynlluniau cynaliadwy ar gyfer cyflwyno meddyginiaethau newydd, efallai y gwnewch chi ymhelaethu ychydig ar hynny; sef, sut yr ydych am sicrhau bod y cynllunio hwn yn digwydd, ac nad yw cleifion yn cael eu gadael yn y sefyllfa lle nad yw'r cyffur ar gael iddynt yn y dyfodol? Ac yn olaf —mae hwn yn bwynt yr wyf wedi'i godi sawl tro yn y gorffennol—nid meddyginiaethau yn unig sy'n gwella canlyniadau i gleifion. Gall technolegau iechyd eraill a newidiadau syml i ganllawiau ar sut iddefnyddio meddyginiaethau wneud gwahaniaeth i gleifion. Gall hyd yn oed godi ymwybyddiaeth o gyflwr arwain at ganlyniadau gwell, a cheir rhwystrau yma i'r defnydd oarfer gorau ledled y GIG; er enghraifft, y diffyg amserar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus. A yw hyn yn rhywbeth y byddech ynmynd i'r afael ag ef hefyd? Vaughan Gething AC: Byddaf yn ymdrin â'ch pwynt olaf yn gyntaf. Yn ddiweddar, lansiais Dechnoleg Iechyd Cymru, sydd yn ffordd o edrych ar feddyginiaethau nad ydynt yn gyffuriau ar gyfer edrych ar dechnoleg o fewn y gwasanaeth iechyd ac ar gyfer ei fabwysiadu'n gyflymach. Mae gennym wahanol ffyrdd o geisio gwneud hynnyyn y gorffennol—mae'r rhaglen effeithlonrwydd trwy dechnoleg wedi bod ynllwyddiannuso fod ag amrywiaeth o bethau ar fyrder a graddau ledled ein gwasanaeth. Mae mwy o hynny i ddod yn y dull gweithredu bras. Ond ffordd yw Technoleg Iechyd Cymru o arfarnu technoleg newydd a rhoi dealltwriaeth inni o'r hyn y dylem ei wneud wedyn, a sut y dylem geisio gweldhynny'n cael ei ddarparuledled y gwasanaeth. Bydd gennyf ragor i'w ddweud ar Dechnoleg Iechyd Cymru gan y bydd gennym fwy o amser i ddeall pam ei fod wedi dod i fodolaeth, ac yna ei effaith ledled y system iechyd a gofal yn ei chyfanrwydd. Wrth gwrs, dyna un o'r heriau a osodwyd i ni gan yr arolwg seneddol, ar sut yr ydym yn darparu rhagor o arloesi ar gyflymder ac ar raddfa eang. Mae rhywbeth yn y fan hon am y gronfa driniaeth newydd, ac mae'n werth atgoffa pob un ohonom mai busnes yw gwleidyddiaeth lle dylai fod gennym rai egwyddorion a rhai gwerthoedd a daliadau, ond hefyd, yn y pen draw, mae'n fusnes ymarferol. Nid wyf yn ymddiheuro o gwbl am gydnabod y man lle'r oeddem ni, pan nad oedd rhai meddyginiaethau a argymhellwyd yn cael eu cyflwyno mor gyflym nac mor gyson ag y dylent. Gallem fod wedi dweud naill ai, 'Byddwn yn mynd ar ôl ybyrddau iechyd ac yn ceisiodisgyblu pobl, ac yn mynd ar eu holau nhw', neu, 'Sut mae gwneud yn siŵr ein bod y meddyginiaethau hyn ar gael yn gyflymach?' Rydym wedipenderfynu gwneud nifer o bethau mewn gwirionedd, ac mae'r gronfa driniaeth newydd yn amlwg yn rhan o hynny. Mae hefyd wedi bod yn rhan o newid yn y ffordd y mae'r byrddau iechyd yn cynllunio ar gyfer cyflwyno meddyginiaethau newydd. Rhan o'r rheswm y cawson nhw anhawster oedd y gallui wneud dewis ariannol yn y flwyddyn gyntaf o gyflwyno triniaeth newydd. Mewn gwirionedd, ar ôl y flwyddyn gyntaf honno, mae'n llawer haws wedyn i barhau i gyflawni o fewn y fframwaith cyllidebol. Felly, mae hyn yn cydnabod y man cyfyng sy'n bodoli wrth ddechrau sicrhau bod meddyginiaeth newydd ar gael, a pham hefyd—mae'r pwynt a godais wrth ymateb i Angela Burns am y berthynas well gyda'r diwydiant ei hun yn bwysig iawn i ni hefyd. Mae pob un o'r pethau hynny'n cyfrif yn yr hyn yr ydym wedi'i wneud, ac rwy'n falch iawn fod yr addewid a wnaethom i'r bobl wedi'i chadw. Roedd hon yn addewid maniffesto a wnaeth fy mhlaid i, a da o bethyw ein bod yn gallu dweud bod yna adegau pan mae'r gwleidyddion yn gwireddu eu haddewidion. Ac, yn wir, cadwyd at ein haddewid yn ein cytundeb gyda Phlaid Cymru, ond hefyd yr ymgysylltiad trawsbleidiol, ar geisiadau cyllido cleifion unigol. Felly, rydym yn gwneud cynnydd gwirioneddol yn y meysydd hyn, ac rwy'n gobeithio, gyda diwygiadau ehangach yn ygwasanaethau iechyd a'r cyfleoedd i wneud gwahaniaeth, y gallwn ni barhau i ddefnyddio'r dull aeddfed hwnnw o wleidyddawrth wneud hynny. Caroline Jones AC: Diolch ichi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y dywedais i pan wnaethoch chi ei chyhoeddi, mae'r gronfa driniaeth newydd yn ychwanegiad i'r GIG sydd i'w groesawu'n fawr iawn gan ei bod yn gallu cyflymu'r triniaethau hanfodol sydd ar gael i bob claf, ac nid dim ond pobl sy'n dioddef diagnosis o ganser. Rwy'n croesawu'r newyddion bod rhai meddyginiaethau wedi cymryd 17 diwrnod yn unig i fod ar gael o dan y gronfa driniaeth newydd, ac mae hyn yn newyddion gwych i gleifion. Er hynny, fel gyda chynlluniau o'r fath, mae'r cythraul yn y manylion. Nid yw'r cyflawni byth yn cyfateb i'r dylunio. Nid yw pob bwrdd iechyd lleol mor effeithlon â'i gilydd wrth gyflwyno triniaethau newydd, ac rwy'n croesawu'r camau a gymerwyd gennych i fonitro cydymffurfiaeth. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ein diweddaru ar sut y mae pob bwrdd iechyd lleol yn cydymffurfio â'r gofyniad i roi triniaethau o fewn yr amserlenni gofynnol? Croesawaf y ffaith fod 82 o gyffuriau newydd ar gael bellach o dan y cynllun, yn trin popeth o arthritis i acromegali. Mae'n rhaid imi gyfaddef y bu raid i mi fynd i chwilio am ystyr y cyflwr hwnnw, ond newyddion gwych yw bod pobl sy'n dioddef o'r anhwylder gwanychol hormonaidd hwn bellach yn gallu cael eu trin yng Nghymru. Mae hyn yn amlygu'r gwelliant enfawr yn y gronfa driniaeth newydd o'i chymharu â'r gronfa cyffuriau canser yn Lloegr. Gall y cynllun hwn fod o fudd i bob claf yng Nghymru, yn ogystal â'r rhai sy'n dioddef o ganser. Byddwn yn ddiolchgar, Ysgrifennydd y Cabinet, pe gallech amlinellu nifer y cleifion sydd wedi elwa ar y gronfa yn ystod y 12 mis diwethaf. Wrth gwrs, mae'r gronfa driniaeth newydd ond yncefnogi’r gwaith o gyflwyno triniaethau newydd am y 12 mis cyntaf. Rhaid i'r byrddau iechyd ddarparu ar gyfer y driniaeth barhaus o fewn eu cyllidebau presennol. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ar sut y mae byrddau iechyd yn cynllunio i ddarparu ar gyfer y gwariant ychwanegol ar y triniaethau newydd hyn yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf? Croesawaf hefyd y newyddion bod eich Llywodraeth yn parhau i weithio gyda'r diwydiant fferyllol a'ch bod yn gweithio gydag ABPI Cymru ar y gronfa driniaeth newydd. Byddwn yn ddiolchgar, Ysgrifennydd y Cabinet, pe gallech amlinellu'r hyn sy'n cael ei wneud i wella'r gwaith osganio'r gorwel o fewn y GIG fel ein bod yn fwy parod i fanteisio i'r eithaf ar driniaethau yn y dyfodol. Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, cronfa driniaeth yw hon, ac er fy mod yn croesawu 82 o feddyginiaethau newydd yn fawr iawn, nid yw'r gronfa'n gyfyngedig i ymyriadau fferyllol. Felly, a gawn ni edrych ymlaen at weld y gronfa yn cael ei defnyddio i gyflwyno ymyriadau therapiwtig newydd yn y 12 mis nesaf? Croesawaf eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, a'r newyddion y gall cleifion yng Nghymru dderbyn triniaethau gwell yn gynharach, weithiau ddyddiau'n unigar ôl eu cymeradwyo. Edrychaf ymlaen at weithio gyda chi dros y 12 mis nesaf i sicrhau bod y triniaethau newydd hyn ar gael i bob claf sydd eu hangen, ble bynnag yng Nghymru y maent yn byw. Diolch yn fawr. Vaughan Gething AC: Diolch am y gyfres o bwyntiau a chwestiynau. Fe geisiaf fod mor fyr â phosibl, gan gynnwys y pwyntiau hynny yr wyf yn credu fy mod i wedi ceisio eu hateb yn y cwestiynau blaenorol. Rwy’n croesau’r gydnabyddiaeth gan y tair plaid arall yn y Siambr bod y gronfa triniaeth newydd wedi cyflawni gwelliant sylweddol o ran mynediad. Yn y chwe mis cyntaf roedd yr amser ar gyfartaledd yn 17 diwrnod—dim ond i nodi, yn yr ail chwe mis, ei fod wedi dod i lawr i 10 diwrnod ar gyfartaledd i ddarparu triniaethau newydd. Fel y dywedais wrth Angela Burns, rydym yn meddwl bod yr 82 meddyginiaeth a ddarparwyd o ganlyniad i ddyfodiad y gronfa triniaethau newydd o fudd i tua 4,000 o gleifion, a nodais hefyd mewn ymateb i Rhun ap Iorwerth fod hyn, a dweud y gwir, yn fater o ddeall yr her yr oeddem yn gwybod ei bod yn bodoli yn y 12 mis cyntaf o gynllunio meddyginiaethau newydd a’u darparu, ac, ers hynny, bod gan fyrddau iechyd hanes llawer gwell o reoli o fewn eu cyllideb adnoddau ar gyfer cyffuriau. Fe’i gwnes yn glir yn fy ymateb i Angela Burns—o leiaf ceisiais i—bod sganio'r gorwel wedi gwella ac mae datganiad Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain ei hun wedi cydnabod hynny, ac mae hynny'n waith i barhau i adeiladu arno hefyd; dydw i ddim yn meddwl bod y gwaith hwnnw wedi’i orffen. Yn ogystal â hynny, fe'i gwnes yn glir i Rhun ap Iorwerth bod Technoleg Iechyd Cymru yno i’n helpu i ddeall sut i fanteisio ar driniaethau newydd nad ydynt yn feddyginiaethau hefyd. Ond, o ran eich pwynt ynghylch cydymffurfio, ceir system fonitro fisol. Mae fy swyddogion, ynghyd â Chanolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan, yn monitro pa mor gyflym mae byrddau iechyd yn rhoi triniaethau newydd ar eu ffurflen, a fydd yn golygu eu bod ar gael i glinigwyr eu rhagnodi. Mae hwnnw'n faes y byddwn yn parhau i edrych arno i weld a yw’r cydymffurfiad hwnnw’n cael ei gynnal drwy’r gronfa i gyd. Mae hwnnw’n ddisgwyliad clir iawn gennyf fi a’r Llywodraeth o’r gronfa triniaethau newydd—nid yw yma i gyflawni yn ystod ei blwyddyn gyntaf yn unig; mae yma i gyflawni drwy gydol tymor y Llywodraeth hon. Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. 4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth: Trafnidiaeth Cymru Symudwn ymlaen at ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynglŷn â Thrafnidiaeth Cymru, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates. Ken Skates AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n croesawu’r cyfle hwn heddiw i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am nifer o ddatblygiadau gyda Thrafnidiaeth Cymru. Sefydlwyd Trafnidiaeth Cymru yn 2015 fel cwmni perchnogaeth lwyr, dielw i ddarparu cymorth ac arbenigedd i Lywodraeth Cymru mewn cysylltiad â phrosiectau trafnidiaeth yng Nghymru. Fy nyhead i, fodd bynnag, ar gyfer Trafnidiaeth Cymru yw y dylai ddatblygu a chymryd amrywiaeth lawer ehangach o swyddogaethau trafnidiaeth, yn debyg o ran ei natur i weithrediadau Transport for London. Yn draddodiadol, mae gwahanol fathau o drafnidiaeth wedi cael eu hystyried ar wahân, â pholisïau ar wahân, cyllid ar wahân a darparwyr ar wahân. Er bod hyn yn adlewyrchu, o bosibl, sut mae'r diwydiant yn gweithredu, nid yw'n adlewyrchu’r ffordd y mae pobl yn meddwl am eu teithiau. Wrth gynllunio sut i gymudo i'r gwaith neu fynd ar daith hir, mae pobl yn meddwl am gost, cyfleustra a chymhlethdod y daith gyfan o ddrws i ddrws. I gynnal a gwella gwasanaethau mewn byd sy'n newid, lle mae’r blaenoriaethau’n heriol, mae angen ystyried trefniadau cyflawni arloesol ar gyfer swyddogaethau trafnidiaeth, gan gynnwys rhai a allai gynhyrchu ffrydiau incwm allanol. Mae 'Symud Cymru Ymlaen', 'Ffyniant i Bawb' a'r cynllun gweithredu economaidd yn nodi bod angen sbarduno newid sylweddol yn y ffordd yr ydym yn deall, y ffordd yr ydym yn cynllunio, a'r ffordd yr ydym yn defnyddio trafnidiaeth ac yn buddsoddi ynddo yma yng Nghymru. Ynghyd â’r gwell setliad datganoledig a gynigiwyd drwy Ddeddf Cymru 2017, bydd Llywodraeth Cymru yn sefydlu fframwaith i ddarparu gwasanaethau trafnidiaeth a all wella ansawdd y rhwydwaith, amlder, dibynadwyedd a phrydlondeb, a darparu trafnidiaeth gyhoeddus fwy integredig â llai o allyriadau carbon. Drwy ddefnyddio'r pwerau newydd ar gyfer y rheilffyrdd sydd hefyd yn cael eu datganoli, mae nawr yn haws nag erioed inni sicrhau bod pobl yn ganolog i bolisïau trafnidiaeth yma yng Nghymru, fel y gallwn ddarparu system drafnidiaeth ddiogel, effeithlon, cost-effeithiol a chynaliadwy er budd y wlad gyfan. Mae’r cynllun gweithredu economaidd yn ymrwymo y bydd Trafnidiaeth Cymru yn gweithio gyda thimau rhanbarthol newydd Llywodraeth Cymru, yr awdurdodau trafnidiaeth ranbarthol newydd, a phartneriaid i greu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig, sy'n cynnwys y rhwydweithiau rheilffyrdd a bysiau. Gan ddilyn model llwyddiannus caffael Maes Awyr Caerdydd, ein nod yw y bydd mwy o’r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn eiddo i Drafnidiaeth Cymru, neu’n cael ei weithredu ganddynt, yn uniongyrchol. Ken Skates AC: Am y tro cyntaf, rydym wedi ymrwymo i raglen pum mlynedd o arian cyfalaf i drafnidiaeth drwy Trafnidiaeth Cymru ar gyfer cynnal a chadw trafnidiaeth a phrosiectau newydd. Bydd hyn yn sicrhau y cyflawnir y prosiectau hyn yn y modd mwyaf effeithlon ac effeithiol, a’r prif darged fydd cynyddu effeithlonrwydd 15 y cant i 20 y cant ar draws y portffolio buddsoddi pum mlynedd ar gyfer prosiectau newydd, sy'n golygu y gallwn wneud i’n cyllid gyflawni mwy fyth. Bydd hyn hefyd yn galluogi’r gadwyn gyflenwi adeiladu i fuddsoddi'n hyderus yn y dyfodol o ran cyfalaf a sgiliau. At hynny, lle bynnag y gellir gwneud achos busnes derbyniol, mae’r cynllun gweithredu economaidd yn ymrwymo y bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio cyfnerthu’r trefniadau cyflenwi presennol yn uniongyrchol i mewn i Trafnidiaeth Cymru. O ran gwasanaeth rheilffordd newydd Cymru a'r gororau, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol gyda Llywodraeth y DU ers yr haf diwethaf. Mae'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth a mi wedi trafod y ffordd ymlaen a dod i gytundeb ar nifer o faterion ac rwy’n falch bod swyddogion yn gwneud cynnydd da. Y prif fater yma oedd goblygiad ariannol cyd-destun datganoli cymhleth ar gyfer y rheilffyrdd. Mae trafodaethau rhwng swyddogion, gan gynnwys o Drysorlys ei Mawrhydi, yn parhau ac mae'r broses o drosglwyddo ased graidd rheilffordd y Cymoedd wedi dechrau. O ganlyniad i’r rhaglen weithgarwch y cytunwyd arni, mae’r broses gaffael ar gyfer y gwasanaeth newydd wedi parhau’n gyflym ac yn unol â'n cynlluniau. Gadawodd Trenau Arriva Cymru y broses gynnig yn ôl ym mis Hydref. Fel y nodwyd ar y pryd, nid yw'n anghyffredin i gynigwyr am brosiectau mawr dynnu’n ôl yn ystod y broses dendro ac roedd Arriva yn glir eu bod wedi tynnu'n ôl am eu rhesymau masnachol eu hunain. Mae’r mater Carillion diweddar wedi cael ei drafod yn y Siambr hon a chyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ar 17 Ionawr. Roedd Trafnidiaeth Cymru wedi derbyn tri chynnig i weithredu a datblygu gwasanaeth rheilffyrdd a metro nesaf Cymru a'r gororau ar 21 Rhagfyr y llynedd. Byddant yn parhau i werthuso’r cynigion hyn dros y misoedd nesaf. Erbyn diwedd mis Mai eleni, bydd ein proses yn dod i ben drwy ddyfarnu'r contract cyntaf ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd sydd wedi’i wneud yma yng Nghymru. Mae hyn yn dilyn gwerthuso dwys a thrafodaethau ar ôl tendro, dan arweiniad Trafnidiaeth Cymru, i sicrhau bod y contract yn cynnwys y gwasanaeth o safon a’r ymrwymiadau a gynigiwyd yn y tendr terfynol. Mae Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru yn barod i gyflawni erbyn y dyddiadau hyn, gan ganiatáu amser priodol i bontio i weithredwr newydd a ffordd newydd o weithredu drwy Trafnidiaeth Cymru ym mis Hydref. Fodd bynnag, mae'n rhaid cofio, nes i’r pwerau gael eu trosglwyddo’n llawn, bydd angen cymeradwyaeth amserol Llywodraeth y DU i ganiatáu inni gyrraedd y cam cynigydd a ffefrir ac i ddyfarnu'r contract. Bwriad Llywodraeth y DU yw gosod Gorchymyn yn Senedd y DU cyn bo hir i drosglwyddo swyddogaethau rheilffyrdd i Weinidogion Cymru, ac, fel dewis wrth gefn, rydym hefyd wedi cytuno ar ddull gweithredu i roi rhagor o gytundebau cyfrwng cyfreithiol ar waith i'n galluogi i ddyfarnu, rheoli a darparu gwasanaeth rheilffordd nesaf Cymru a'r gororau. Mae'n dal i fod yn hanfodol bod Llywodraeth y DU yn gweithio’n gyflym gyda ni i gyflawni’r rhaglen y cytunwyd arni. Bydd Trafnidiaeth Cymru yn dechrau cyn bo hir ar y broses o benodi partneriaid cyflawni seilwaith a fydd yn gweithio gyda’r gweithredwr a’r partner datblygu i gyflawni mewn meysydd fel gwella gorsafoedd, trydaneiddio a signalau ar gyfer metro de Cymru. Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio'n agos gyda Busnes Cymru i sicrhau bod cyfleoedd ar gael i fentrau bach a chanolig lleol ac i fentrau trydydd sector. Maent eisoes wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau ymwybyddiaeth â chynulleidfaoedd mawr i ymwneud yn benodol â chaffael partneriaid cyflawn seilwaith, yn fwyaf diweddar yn Wrecsam yn gynharach y mis hwn. Mae hyn yn un enghraifft o sut y mae Trafnidiaeth Cymru yn dechrau cyfnod newydd o symudiadau fel y gallant fynd ati'n rhagweithiol i reoli'r gwasanaeth rheilffordd newydd a’r gwahanol gynlluniau metro. Mae James Price wedi cael swydd fel prif swyddog gweithredol; mae ganddo dros 15 mlynedd o brofiad o weithredu a chyflawni ar lefel uwch. Hefyd, yn ddiweddar rydym wedi penodi Martin Dorchester a Nick Gregg yn gyfarwyddwyr anweithredol annibynnol ar y tîm, fel ymateb i argymhellion a wnaethpwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Mae Martin Dorchester yn swyddog gweithredol profiadol; mae wedi bod yn Brif Weithredwr grŵp ar un o'r cwmnïau logisteg mwyaf yn yr Alban, ac mae Nick Gregg wedi cael ei benodi’n Gadeirydd bwrdd Trafnidiaeth Cymru, am gyfnod cychwynnol o 12 mis. Mae gan Nick y sgiliau sydd eu hangen i fod yn Gadeirydd llwyddiannus iawn, ac mae’n dod â llawer o brofiad busnes i'r bwrdd. Cyn bo hir bydd Trafnidiaeth Cymru yn hysbysebu am ddau gyfarwyddwyr anweithredol annibynnol arall i ymuno â’r bwrdd, a bydd hyn yn sicrhau amrywiaeth o brofiadau a safbwyntiau wrth wneud penderfyniadau. Rwy’n gwybod bod angen gwneud yn siŵr y gall Trafnidiaeth Cymru gyflawni'n effeithiol dros Gymru gyfan, ac, ar ôl fy nghyhoeddiad y mis diwethaf am y bwriad i sefydlu uned fusnes i Drafnidiaeth Cymru yn y gogledd, bellach, rwyf wedi cyfarwyddo Trafnidiaeth Cymru i ddwyn cynigion gerbron ar gyfer swyddfa yn y gogledd, ac rwy’n disgwyl i hyn gael ei wneud yn gyflym hefyd. Yn y cyfamser, yn y de, mae cynnydd da yn cael ei wneud tuag at adeiladu swyddfeydd Trafnidiaeth Cymru ym Mhontypridd, dan arweiniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf—rydym yn parhau i weithio'n agos iawn â nhw. Wrth edrych ymlaen, cyn gynted ag y bydd y partner gweithredu a datblygu newydd wedi'i benodi, byddwn yn mynd i gyfnod o baratoi’r gwasanaeth newydd. Bydd Trafnidiaeth Cymru yn gweithio gyda'r cynigydd llwyddiannus i helpu i sicrhau pontio di-dor o'r fasnachfraint bresennol i'r trefniadau newydd, er budd teithwyr a staff. Ni ddylai’r cyhoedd sy'n teithio weld dim tarfu ar wasanaethau ym mis Hydref pan mae’r partner gweithredu a datblygu newydd yn dechrau. Wedyn, dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf, bydd Trafnidiaeth Cymru yn gweithio gyda'r partner gweithredu a datblygu i weddnewid y rhwydwaith trafnidiaeth, gan sicrhau bod teithwyr yn ganolog i’w cynlluniau. Russell George AC: A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad y prynhawn yma? Wrth gwrs, mae Trafnidiaeth Cymru ar hyn o bryd yn rheoli’r broses o gaffael masnachfraint rheilffyrdd newydd Cymru a’r gororau. Goruchwylio’r broses o ddyfarnu’r contract hwn, byddwn yn dadlau, yw’r prosiect trafnidiaeth pwysicaf y mae Llywodraeth Cymru wedi’i reoli hyd yma. Wrth symud ymlaen, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi amlinellu cynllun uchelgeisiol i ehangu gwaith Trafnidiaeth Cymru, fel yr amlinellodd yn 'Ffyniant i Bawb', y cynllun gweithredu economaidd. Nawr, byddwn yn cefnogi ehangu Trafnidiaeth Cymru, dros amser. Rwy’n meddwl bod angen gofyn rhai cwestiynau difrifol ar unwaith ynghylch lefel bresennol y capasiti sydd ar gael i Trafnidiaeth Cymru. Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â hyn, ond heb y capasiti a'r sgiliau cywir, mae Trafnidiaeth Cymru wrth gwrs mewn perygl gwirioneddol a difrifol o beidio â gallu rheoli eu cylch gwaith presennol yn effeithiol, nac unrhyw swyddogaeth estynedig. Felly, ar y wedd honno, a gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet efallai amlinellu ychydig o'r capasiti staffio, faint o gyflogeion amser llawn presennol y mae Trafnidiaeth Cymru yn eu cyflogi ar hyn o bryd, faint o’r unigolion hyn sydd â chontractau amser llawn ar hyn o bryd, a faint o ymgynghorwyr allanol sy’n gweithio i Trafnidiaeth Cymru ac sy'n cael eu cyflogi ganddynt? Tybed a wnewch chi hefyd ymhelaethu ar eich cynlluniau ar gyfer gweithlu Trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol? Pa amserlenni sydd gennych yn gysylltiedig â staff ychwanegol yn ymuno â Trafnidiaeth Cymru, ac a ydych yn disgwyl i’r ehangu hwn ddigwydd yn ystod y misoedd sydd i ddod hefyd? Rydych chi hefyd wedi dweud bod Cadeirydd Trafnidiaeth Cymru, Nick Gregg, wedi'i benodi am gyfnod cychwynnol o 12 mis. A allwch chi ymrwymo i wrandawiad cyn penodi, cyn i Mr Gregg, neu unrhyw ymgeisydd arall, gael ei wneud yn gadeirydd parhaol Trafnidiaeth Cymru, efallai drwy un o bwyllgorau’r Cynulliad hwn? Ac yn olaf, mae hyder y cyhoedd, wrth gwrs, yn Trafnidiaeth Cymru yn gwbl hanfodol os yw'r sefydliad yn mynd i lwyddo yn y dyfodol. Nawr, ychydig cyn ichi sefyll i roi eich datganiad, fe wnes i chwilio ar Google am 'Trafnidiaeth Cymru', a sylwi bod manylion cyswllt uniongyrchol nawr ar wefan y Llywodraeth ar gyfer Trafnidiaeth Cymru; doedd hyn ddim yno o'r blaen. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi efallai roi manylion a rhoi cadarnhad bod gan Trafnidiaeth Cymru nawr swyddogaeth sy’n wynebu’r cyhoedd, nad oedd ganddynt o'r blaen. Efallai y gallech chi gadarnhau hefyd a yw cyswllt i Aelodau'r Cynulliad drwoch chi, neu a all Aelodau'r Cynulliad gysylltu â staff Trafnidiaeth Cymru yn uniongyrchol a chwrdd â nhw yn uniongyrchol, yn hytrach, wrth gwrs, na mynd drwoch chi. Ken Skates AC: A gaf i ddiolch i Russell George am ei sylwadau ac am ei gwestiynau? Fe wnaf roi sylw i’r cwestiwn olaf yn gyntaf. A dweud y gwir, rwyf wedi gofyn heddiw i swyddogion Trafnidiaeth Cymru gynnig sesiwn briffio i Aelodau'r Cynulliad a sesiwn ymgyfarwyddo hefyd fel y gallwch gysylltu’n uniongyrchol ag unigolion sy'n gyfrifol am wahanol feysydd cyflawni yn y sefydliad. Mae nawr yn wynebu'r cyhoedd, mae ganddo’r logo, mae elfen staffio Trafnidiaeth Cymru’n cael ei hadeiladu, a darperir cynllun cyfan Trafnidiaeth Cymru gyda'r bwriad o gynnig ystwythder a hyblygrwydd llawn i uwchraddio neu, yn wir, israddio i ddiwallu anghenion prosiectau. Dylai fod gweithlu Trafnidiaeth Cymru yn seiliedig ar y galw, a bydd hyn yn cynnwys recriwtio’r sgiliau sydd eu hangen yn y farchnad yn gyflym, yn sydyn, a bydd yn adnodd anhygoel i Lywodraeth Cymru allu galw arno. Mae’r ffordd yr ydym wedi ffurfweddu Trafnidiaeth Cymru yn rhoi cyfle i Weinidogion Cymru gymryd dull pwrpasol wrth drosglwyddo rheolaeth a risg gan ddibynnu ar y prosiect penodol, yr arbenigedd penodol sydd ei angen, yr amserlenni, a hefyd y canlyniad a ddymunir. Rwy’n sicr yn croesawu cefnogaeth yr Aelod i’r syniad o ehangu swyddogaeth a chylch gwaith Trafnidiaeth Cymru yn y blynyddoedd i ddod. A dweud y gwir, mae achos busnes yn cael ei ddatblygu nawr i benderfynu pa gyfleoedd y gallai Trafnidiaeth Cymru eu cynnig i Weinidogion Cymru o ran darparu seilwaith a gwasanaethau trafnidiaeth, gan gynnwys buddiannau costau i drethdalwyr ein gwlad. Gallai hyn gynnwys gwasanaethau bysiau, gallai gynnwys gwasanaethau rheilffyrdd, adeiladu trafnidiaeth gyfalaf a gwelliannau ar gyfer cerdded a beicio. Gallai gynnwys prosiectau cyfalaf ar gyfer rheilffyrdd ac, wrth gwrs, ar gyfer ffyrdd hefyd. Gallai hefyd, fodd bynnag, gynnwys brandio a marchnata gwasanaethau, a gwn o fy amser ar y meinciau cefn fod hyn yn sicr yn rhywbeth y byddai teithwyr yn ei werthfawrogi. Mae llu o ddarparwyr gwasanaethau trafnidiaeth, ac mae gan bob un ei logo, ei wefan a’i dudalennau gwybodaeth ei hun. Gallai Trafnidiaeth Cymru gynnig un brand ac un pwynt cyswllt ac adnoddau, ac rwy’n meddwl y byddai hynny'n rhywbeth y byddai teithwyr ar hyd a lled Cymru’n ei groesawu. O ran y contract am y fasnachfraint, mae'n enfawr, fel y dywed yr Aelod. Hwn yw’r prosiect caffael mwyaf y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ers datganoli, ac mae angen tîm da o swyddogion gweithredol medrus. Mae gan James Price brofiad a deallusrwydd aruthrol, a chaiff ei gefnogi gan fwrdd sy'n fedrus ac yn brofiadol. Mae'r Aelod yn iawn; penodwyd Nicholas Gregg am un flwyddyn i ddechrau er mwyn caniatáu amser i gwblhau’r broses o recriwtio cadeirydd newydd mewn modd amserol. Nawr, er nad yw penodiadau i fwrdd Trafnidiaeth Cymru yn benodiadau cyhoeddus sydd wedi’u rheoleiddio o dan y cod llywodraethu, o ystyried proffil Trafnidiaeth Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu y byddai'n briodol i’r broses a’r deunyddiau recriwtio gydymffurfio â chod llywodraethu penodiadau cyhoeddus. Adam Price AC: Rwy’n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad. Ynddo, dywedasoch chi fod Llywodraeth y DU yn bwriadu gosod gorchymyn i drosglwyddo swyddogaethau masnachfreinio rheilffyrdd i Weinidogion Cymru yn fuan. A wnewch chi ddweud ychydig am—pa mor fuan yw buan? A’r dewis wrth gefn yr ydych chi'n cyfeirio ato os na chaiff y swyddogaethau hynny eu trosglwyddo—o dan ba amgylchiadau y gallwch chi ragweld hwnnw’n gorfod cael ei ddefnyddio? Ai o dan amgylchiad lle na allwch ddod i gytundeb terfynol ar rai o'r materion yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw yn eich datganiad lle mae gwaith yn mynd rhagddo, ac, yn wir, rhai o'r materion pellach a gafodd sylw yn y llythyr gan Ysgrifennydd trafnidiaeth y DU atoch chi ym mis Awst? A wnewch chi roi ychydig mwy o oleuni ar ba mor bell yr ydych chi o ddod i gytundeb? Gwnaethoch chi ddweud eich bod wedi dod i gytundeb ar y ffordd ymlaen, sy’n gallu golygu nifer o bethau, ond yn benodol, a ydych chi wedi dod i gytundeb â Llywodraeth y DU ynghylch pwy fydd yn gyfrifol am y gweithredwr dewis olaf adran 30? A ydych wedi dod i gytundeb ar y cwantwm o arian yr oeddech yn sôn amdano yn eich datganiad, y bu rhywfaint o anghytuno â Llywodraeth y DU amdano, neu sut y gellir cyfrifo’r ffigur hwnnw? A ydych chi wedi dod i gytundeb ar brotocol ar gyfer sut y bydd Llywodraeth Cymru yn arfer pwerau dros orsafoedd rheilffordd Lloegr a wasanaethir gan y fasnachfraint? Yn olaf, soniasoch chi am y ffaith mai eich dyhead yw y bydd Trafnidiaeth Cymru yn gyfrifol am gymaint â phosibl o’r seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus fel corff sector cyhoeddus. A wnewch chi ddweud pa sylwadau penodol y mae Llywodraeth Cymru wedi’u gwneud i ddiwygio Deddf Rheilffyrdd 1993, sydd wedi'i diwygio yn achos yr Alban, i roi pwerau iddyn nhw i gael gweithredwr masnachfraint sector cyhoeddus, i bob diben? Nid yw hynny wedi digwydd yng Nghymru. A ydych chi wedi gwneud sylwadau penodol am hynny i Lywodraeth y DU? Ken Skates AC: A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau a dweud i ddechrau ein bod wedi bod yn gwbl gyson wrth alw am wneud gwelliannau i’r Ddeddf rheilffyrdd? Rwy’n credu bod hynny hefyd yn rhan o faniffesto Plaid Lafur y DU a fyddai'n ein galluogi i weld cyrff cyhoeddus yn ymgeisio am gyfleoedd masnachfraint presennol a chyfleoedd masnachfraint yn y dyfodol hefyd. Gwrthodwyd y galw cyson hwnnw gan y Llywodraeth, ond rydym yn parhau i bwyso am ddiwygio’r Ddeddf. Cynhaliwyd trafodaethau adeiladol am ystod gyfan o fesurau y mae angen cytuno arnynt cyn gosod y Gorchymyn swyddogaethau. Mae Llywodraeth y DU wedi gohirio darparu’r Gorchymyn hwnnw—cyflwyno’r Gorchymyn hwnnw—mewn modd amserol, ond rydym wedi cael sicrwydd y bydd hynny'n digwydd erbyn mis Mai, yn dilyn y cytundebau y dylid eu cwblhau fis nesaf ynglŷn â chyllid y fasnachfraint, a hefyd ynglŷn â throsglwyddo pŵer dros yr asedau. Bydd hyn yn cynnwys amrywiaeth eang o gytundebau sydd cyn hyn wedi bod yn ein rhwystro rhag gwneud cynnydd, ond fel y dywedais i, mae cynnydd amserol yn cael ei wneud erbyn hyn. O ran gwasanaethau trawsffiniol, mae hyn yn rhywbeth yr wyf yn arbennig o awyddus i sicrhau y gallwn ei ddatrys yn gyfeillgar, ac rwyf i a’r Ysgrifennydd Gwladol wedi gallu cytuno ar ffyrdd a fydd yn sicrhau bod teithwyr ar ochr Lloegr y ffin yn cael eu trin yn gyfartal ac yn cael profiad cyfartal o ran eu teithiau ar y trenau yn y fasnachfraint nesaf, fel na fydd neb o dan anfantais o dan y fasnachfraint nesaf. Mae hyn yn rhywbeth sy'n arbennig o berthnasol o ystyried yr holl deithiau trên sy'n dod i mewn ac allan o Gymru ar draws y ffin. Byddwn i'n hapus i gyflwyno, ar ôl diwedd y trafodaethau â Llywodraeth y DU ym mis Chwefror, y materion fforddiadwyedd a gyflwynir o ganlyniad i’r trafodaethau sy'n digwydd. Rydym wedi ymgysylltu â Thrysorlys y DU, rydym hefyd wedi ymgysylltu ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ein trafodaethau, ac rwy’n ffyddiog y byddwn, erbyn diwedd mis Chwefror, wedi cwblhau’r trafodaethau hynny mewn modd boddhaol. Mick Antoniw AC: Ysgrifennydd y Cabinet, diolch am y datganiad—gobeithio, y cyntaf o lawer mwy. Mae Trafnidiaeth Cymru, wrth gwrs, yn brysur iawn nid yn unig â’r fasnachfraint rheilffyrdd ond hefyd â’r metro; yn wir, mae nhw'n cyd-fynd â’i gilydd i raddau helaeth. A gaf i yn gyntaf groesawu lleoli Trafnidiaeth Cymru ym Mhontypridd? Mae’r bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a chyngor Rhondda Cynon Taf eisoes yn gatalydd arwyddocaol i adfywio'r ardal. Ceir hefyd y cynigion a allai arwain at swyddi, hyfforddiant a phrentisiaethau o ran cynnal a chadw cerbydau mewn mannau fel Ffynnon Taf, a hefyd y gwaith o ddatblygu prentisiaethau a chyllid Llywodraeth Cymru ar eu cyfer yng Ngholeg y Cymoedd mewn cysylltiad â pheirianneg rheilffyrdd. Ond a gaf i ddweud o’ch adroddiad bod nifer o bethau yr hoffwn ichi eu hystyried sy’n peri pryder imi, i ryw raddau? Un yw’r arian cyfalaf pum mlynedd y cyfeirir ato. Pe gallech, efallai, roi ychydig mwy o fanylion am hynny, oherwydd yn amlwg mae hwn yn destun pryder sylweddol. Yn ail, yr arbedion effeithlonrwydd 15 i 20 y cant—beth yn union mae hynny'n ei olygu. Rydym yn gwybod, pan mae’r Torïaid yn sôn am arbedion effeithlonrwydd, eu bod yn sôn am doriadau. Beth yn union yw ystyr arbedion effeithlonrwydd 15 i 20 y cant? Yn sicr, mae Chris Grayling wedi dweud wrthym yn y bôn nid yn unig na fyddwn yn cael trydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd a'r rheilffordd i Abertawe, ond y dylem fod yn falch iawn nad ydym yn cael hynny gan y bydd mewn gwirionedd yn llawer gwell heb drydaneiddio. Beth yw goblygiadau hynny o ran y cynllunio a'r rhaglen cyfalaf pum mlynedd oherwydd y materion sy’n ymwneud â threnau a’r mathau o gerbydau trên a fydd gennym? Fy mhedwerydd pwynt, a dweud y gwir, yw hyn: rhan hanfodol o hyn oll yw ymestyn y rheilffyrdd, ymestyn i ardaloedd, torri gafael haearnaidd traffig, galluogi datblygiad trafnidiaeth gyhoeddus a phobl i deithio ar draws, o gwmpas, drwy’r Cymoedd i ble bynnag y bo heb fynd ar y ffyrdd. Wrth gwrs, rwyf wedi sôn wrthych lawer gwaith am y rheilffordd o Creigiau i Lantrisant a’i phwysigrwydd, ac eto ychydig iawn o eglurder sydd gennym o hyd ynghylch ble y gallai hynny ffitio o fewn y rhaglen gyfalaf, ac yn wir a fydd yn y cyfnod hwn, a fydd yn y cyfnod nesaf neu beth bynnag. Rwy’n meddwl mai’r pwynt yw bod diddordeb cynyddol ym mhwysigrwydd hyn oll i ddatblygu economi a chymdeithas y de, cyn belled ag y mae fy etholaeth i dan sylw—Taf Elái. Ond mae angen llawer mwy o eglurder. Pryd y byddwn yn gallu cael yr eglurder hwnnw a’r math o fanylder yr hoffai pobl ei weld? Ken Skates AC: A gaf i ddiolch i Mick Antoniw am ei gwestiynau amrywiol ac am y ffaith ei fod wedi croesawu lleoli pencadlys Trafnidiaeth Cymru ym Mhontypridd? Mae'r Aelod yn llygad ei le; mae potensial enfawr i bencadlys Trafnidiaeth Cymru weithredu fel catalydd i adfywio Pontypridd. Fel y gwnaeth ymyriadau ym Merthyr, rwy’n gweld lleoli Trafnidiaeth Cymru ym Mhontypridd fel ychydig o fagnet i dynnu busnesau eraill a buddsoddiadau eraill i mewn i'r gymuned. Rwy’n falch ein bod yn gwneud cynnydd da iawn gyda'r awdurdod lleol; rhaid imi eu llongyfarch am eu ffordd ragweithiol o weithio gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill wrth ddatblygu'r safle hwn. Does dim amheuaeth, er mwyn datblygu economi, bod yn rhaid ichi sefydlu’r seilwaith cywir. Hefyd, mae angen i’r sgiliau cywir fod ar gael yn ogystal â’r math cywir o gefnogaeth ranbarthol ar gyfer datblygu economaidd. Drwy'r cynllun gweithredu economaidd, drwy greu Trafnidiaeth Cymru, drwy fuddsoddiad digyffelyb mewn trafnidiaeth a drwy gynllun cyflogadwyedd a gyflawnir gan gyd-Aelodau yn y Llywodraeth, rwy’n siŵr ac rwy’n ffyddiog ein bod yn rhoi sylw i’r tri angen allweddol hynny yn yr economi. O ran y gyllideb bum mlynedd, rwy’n fwy na pharod i rannu ag Aelodau yr adroddiad annibynnol a gomisiynwyd gan Lywodraeth y DU yn 2011, a edrychodd ar hyn. Daeth i'r casgliad bod creu sicrwydd cyllid dros gyfnod o bum mlynedd a datblygu cynlluniau tymor hir ar gyfer ffyrdd drwy ymrwymiad cyllideb pum mlynedd, yn rhywbeth a allai gyflawni arbedion 15 i 20 y cant. Felly, mae troi at gyllideb bum mlynedd yn gwneud synnwyr, ond mae hefyd yn gam mawr. Ni wnaiff ddigwydd dros nos, ac mae angen inni fod yn glir mai dim ond ar gynlluniau newydd y bydd arbedion yn bosibl, ac nid ar rai a gontractiwyd eisoes. Nawr, o ran y swm gwirioneddol y gellid ei arbed, gan gymryd y ffigurau cyllideb drafft a gyhoeddwyd ar gyfer 2018-19 ar gyfer cyfalaf trafnidiaeth dros y tair blynedd nesaf fel cyfartaledd gwariant blynyddol, dros gyfnod o 10 mlynedd gallai hynny fod oddeutu £630 miliwn—arbediad enfawr a all wedyn arwain at fwy o fuddsoddi i wella ein seilwaith trafnidiaeth a darparu gwasanaethau. Ond, fel y dywedaf, rwy’n fwy na pharod i allu darparu’r adroddiad hwnnw i Aelodau fel y gallant graffu ar sut yn union y gellir cyflawni arbedion mor fawr. O ran trydaneiddio, wel, gwnaethpwyd yr achos o blaid trydaneiddio hyd at Abertawe ar y cyd â’r achos o blaid trydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd. Digwyddodd yn ôl pan oedd David Cameron yn Brif Weinidog yn 2014, ac o dan delerau'r cytundeb hwn byddai Llywodraeth y DU yn ariannu cost lawn trydaneiddio'r rheilffordd hyd at Abertawe, yn darparu £125 miliwn ar gyfer cynllun trydaneiddio a moderneiddio rheilffyrdd y Cymoedd ac, yn gyfnewid am hynny, byddai Llywodraeth Cymru yn cymryd cyfrifoldeb am gynlluniau rheilffyrdd y Cymoedd. Nawr, roedd y cytundeb yn rhoi’r gallu i Lywodraeth Cymru i optimeiddio cynllun moderneiddio rheilffyrdd y Cymoedd yn unol â Llyfr Gwyrdd y Trysorlys. Ar y pryd, aseswyd bod y buddsoddiad i drydaneiddio’r brif reilffordd gan ddefnyddio fflyd trenau trydan i gyd yn opsiwn mwy cost-effeithiol na chaffael fflyd gymysg o drenau trydan a deufodd. Roedd y fflyd o drenau trydan i gyd hefyd, wrth gwrs, yn darparu manteision amgylcheddol sylweddol. Nid fy unig bryder ynghylch peidio â thrydaneiddio prosiect y brif reilffordd hyd at Abertawe yw y bydd yn gadael teithwyr o bosibl yn waeth eu byd nag y gellid bod wedi’i ddisgwyl gyda thrydaneiddio; mae hefyd yn peri risg i enw da Abertawe ei hun. Mae llawer o economïau mwyaf blaengar y byd yn cymryd yn ganiataol y bydd eu gwasanaethau rheilffyrdd wedi’u trydaneiddio, ac, eto, mae hyn yn rhywbeth a gaiff ei wrthod ar hyd de Cymru. Rydym nawr yn canolbwyntio, fel Llywodraeth, ar sicrhau bod y cynlluniau a amlinellodd yr Ysgrifennydd Gwladol, ac yr ymrwymodd iddynt, yn cael eu datblygu yn sgil canslo’r trydaneiddio, a’u bod yn cael eu datblygu mewn modd amserol. Maent yn cynnwys, wrth gwrs, gwella amseroedd teithio rhwng Caerdydd ac Abertawe, a hefyd rhwng de Cymru, Bryste a Llundain. Mae'n cynnwys rhoi ymrwymiadau i ardal Abertawe o ran gwella rheilffyrdd a gorsafoedd, yn ogystal â gwella amseroedd teithio a chysylltiadau ar draws gogledd Cymru. Rydym yn disgwyl i Lywodraeth DU, ar ôl canslo trydaneiddio prif reilffordd y de, beidio â chanslo dim ymrwymiadau y mae'r Llywodraeth wedi cytuno â nhw ers hynny. David J Rowlands AC: A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad cynhwysfawr a llawn? Rwy'n cymryd y cyfle hwn i gydnabod y bydd mis Mai eleni yn sicr yn ddyddiad hanesyddol, pan ddyfernir y contract cyntaf erioed â label 'gwnaethpwyd yng Nghymru' arno. Mae eich gweledigaeth, Ysgrifennydd y Cabinet, y dylai Trafnidiaeth Cymru ymgymryd â swyddogaeth debyg i Transport for London yn un a gefnogaf yn llwyr. Mae model Transport for London yn cael ei ystyried yn esiampl o ffordd effeithlon a chost-effeithiol o ddarparu system drafnidiaeth fodern. Mae'n gysur gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet yn barod i edrych ar arfer gorau lle bynnag y mae'n digwydd, a’i roi ar waith. Mae un cwestiwn yn codi yn dilyn dyfarnu'r contract rheilffyrdd, sef: Pa fath o oedi y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ragweld cyn penodi’r gweithredwr a’r partner datblygu, ac i ddilyn hynny, y partneriaid datblygu seilwaith a fydd gweithio gyda’r partner gweithredu a datblygu i sicrhau bod y seilwaith yn cael ei uwchraddio a’i wella’n sylweddol, fel y bydd ei angen i ddarparu’r system drafnidiaeth a ragwelwyd yng nghynlluniau Llywodraeth Cymru? Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn sôn am ddefnyddio busnesau bach a chanolig lleol i ddarparu cymaint o'r gwasanaethau a'r seilwaith â phosibl ac rwy’n croesawu’r ffaith bod ymgynghoriad wedi’i ddechrau gyda chwmnïau sydd am gymryd rhan yn y broses. Ond a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn ffyddiog bod y sgiliau a'r cymwyseddau gofynnol yn bresennol yn y diwydiant lleol? Fel y cyfeiriodd Adam Price ato yn gynharach, rydych chi wedi dweud bod trafodaethau’n parhau gyda Llywodraeth y DU am drosglwyddo pwerau llawn i Gymru, ac rwy’n siŵr y gwnaiff pob aelod yn y Siambr hon ymuno â mi i alw ar yr Adran Drafnidiaeth i hwyluso’r trosglwyddiad hwn fel mater o'r brys mwyaf. Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, braf iawn yw gweld eich ymagwedd gyfannol tuag at ddarparu’r system drafnidiaeth gwbl integredig y mae ei hangen yn daer ar Gymru. Ken Skates AC: A gaf i ddiolch i David Rowlands am ei sylwadau a'i gwestiynau? Mae David yn llygad ei le: yn fuan iawn byddwn yn gweld stamp 'gwnaethpwyd yng Nghymru' ar geir Aston Martin, byddwn yn gweld stamp 'gwnaethpwyd yng Nghymru' ar geir TVR, byddwn yn gweld stamp 'gwnaethpwyd yng Nghymru' ar y rhwydwaith rheilffyrdd, ac o bosibl, yn y tymor hwy, ar rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus cwbl integredig ar draws ein gwlad. Ni fydd dim oedi cyn penodi’r partner gweithredu a datblygu, ac mae cynghorwyr Busnes Cymru eisoes yn gweithio gyda phartner cyflenwi seilwaith posibl i sicrhau bod gan gwmnïau bach a chanolig, ar hyd a lled Cymru, y gallu, y capasiti a'r sgiliau i allu sicrhau prosiectau pwysig ac, mewn llawer o achosion, prosiectau hanfodol fel rhan o'r fasnachfraint nesaf. Mae hon yn rhaglen anferth o ran y gwariant cyfalaf a gaiff ei fuddsoddi ym metro’r de ac a gaiff ei fuddsoddi hefyd ar draws rhwydwaith Cymru a'r gororau, ac wrth gwrs yn natblygiad metro’r gogledd-ddwyrain. Rwy’n benderfynol o wneud yn siŵr bod cynghorwyr Busnes Cymru yn gwneud mwy na rhoi cymorth ynglŷn â sut i ennill contractau, ond eu bod hefyd yn rhoi cefnogaeth i sicrhau bod busnesau bach yn cyflogi’r bobl iawn â’r sgiliau iawn i allu cyflawni prosiectau a fydd yn trawsnewid y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus. Mae'n gwbl hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda busnesau, gyda rhanddeiliaid, gyda’r partner gweithredu a datblygu, ac rwyf hefyd yn credu gyda llywodraeth leol ar lefel ranbarthol, i ddatblygu rhwydwaith trafnidiaeth ac i ddatblygu system drafnidiaeth integredig sydd o fudd nid yn unig i unigolion, ond hefyd i fusnesau ar hyd a lled Cymru. Diolch. Rydym ni wedi cael siaradwyr o bob un o'r pleidiau nawr, felly, i’r set nesaf o siaradwyr, a gaf i ofyn ichi am gyflwyniad byr iawn i'ch un cwestiwn? Diolch. John Griffiths. John Griffiths AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, byddwch yn gwybod bod llawer o broblemau â’r gwasanaethau rheilffyrdd o amgylch Casnewydd. Mae cymudwyr yn aml ar drenau gorlawn iawn yn teithio i Fryste, er enghraifft. Mae gofyn i bobl sefyll mewn toiledau i ganiatáu i fwy o bobl ddod ymlaen, pobl yn llewygu, pobl yn cael eu gadael ar y platfform, problemau â dibynadwyedd ac, yn wir, â fforddiadwyedd—mae prisiau wedi codi’n sylweddol, rwy’n meddwl, tua thraean dros 10 mlynedd, heb welliant cymesur i ansawdd y gwasanaeth. Yn ddealladwy, mae pobl yn aml yn flin iawn, os nad yn digalonni. Mae grwpiau fel grŵp gweithredu twnnel Hafren a’r bobl sy'n ymgyrchu am orsaf ym Magwyr wedi cynnal arolygon sy’n dangos yn glir pa mor anfodlon yw teithwyr a diffyg ansawdd y gwasanaethau y maent yn eu profi. Felly, yn y cyd-destun hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n gwybod bod llawer o bobl yn gobeithio’n fawr y bydd masnachfraint newydd Cymru a'r gororau yn cynnwys y gwasanaethau trawsffiniol hynny, er enghraifft i Fryste. Hoffent glywed gennych y byddwch yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i gynnwys y gwasanaethau hynny yn y fasnachfraint, a hoffent hefyd glywed gennych, os caiff y rheini eu cynnwys, y bydd y problemau hyn â gorlenwi, dibynadwyedd a fforddiadwyedd yn cael sylw effeithiol o fewn masnachfraint newydd Cymru a'r gororau. Ken Skates AC: A gaf i ddiolch i John Griffiths am ei sylwadau a’i gwestiynau? Roedd yn esgeulus imi beidio â dweud hefyd y bydd gennym cyn bo hir stamp 'gwnaethpwyd yng Nghymru' ar drenau CAF, fel y mae gennym stamp 'gwnaethpwyd yng Nghymru' ar adenydd Airbus, ar gynhyrchion Raytheon. Bydd gennym 'gwnaethpwyd yng Nghymru' wedi’i stampio ar drenau, awyrennau a cheir ar gyfer y farchnad fyd-eang yn fuan iawn. Rwy’n meddwl bod hynny'n bwysig o ran datblygu hunaniaeth i Gymru fel man sy’n cymryd gweithgynhyrchu gwerth uchel o ddifrif. Mae'n annerbyniol bod gorlenwi i'r fath raddau ag yr ydym yn ei weld ar hyn o bryd ar y rhwydwaith trenau. Mae'n gwbl ofnadwy, yn ystod oriau brig yn enwedig, ar lawer o wasanaethau—ar y rhai y soniodd John Griffiths amdanyn nhw, ond hefyd ar wasanaethau yr wyf yn siŵr bod llawer o Aelodau yn y Siambr hon yn eu defnyddio’n dyddiol neu’n wythnosol. Yn ystod y fasnachfraint nesaf, ein safbwynt penderfynol yw sicrhau bod ansawdd yn gwella, bod prydlondeb yn gwella, bod amlder teithiau trenau’n gwella, bod capasiti, yn sicr, yn gwella’n glir, a bod datrysiadau technolegol hefyd yn gwella. Yn wir, rydym yn cymell ac yn annog yr ymgeiswyr i ddefnyddio technolegau newydd i sicrhau bod teithwyr mor gysurus â phosibl. O ran y gwasanaethau trawsffiniol hynny y soniodd John Griffiths amdanyn nhw, nodais yn ddiweddar fod yr Ysgrifennydd Gwladol yn credu y gallai Llywodraeth Cymru gymryd mwy o reolaeth dros y gwasanaethau trawsffiniol penodol hynny. Mae'n rhywbeth yr ydym wedi bod yn gofyn amdano, ac mae'n rhywbeth y byddem yn sicr yn ei groesawu yn y tymor byr, y tymor canolig a’r tymor hwy, wrth inni geisio gwella, yn amlwg, gwasanaethau rheilffyrdd ledled Cymru ac ar sail drawsffiniol. Mark Isherwood AC: Yn eich datganiad, rydych chi'n dweud y bydd Trafnidiaeth Cymru yn gweithio gyda thimau rhanbarthol newydd Llywodraeth Cymru, awdurdodau trafnidiaeth rhanbarthol newydd a phartneriaid i greu rhwydwaith trafnidiaeth integredig. Yn y cyd-destun hwn, byddwch yn ymwybodol o'r cais bargen twf o'r gogledd a gyflwynwyd mewn rhai dyddiau cyn y Nadolig, ac y dylai’r trafodaethau ddechrau gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn gynnar eleni. Beth, felly, yw’r amserlen ddisgwyliedig ar gyfer y trafodaethau hynny? O ystyried eich cyfarwyddyd, yn eich datganiad, i Drafnidiaeth Cymru gyflwyno cynigion ar gyfer swyddfa yn y gogledd, sut yr ydych yn ymateb i wahoddiad y cais twf i Lywodraeth Cymru i gefnogi ffurfio corff trafnidiaeth rhanbarthol i ymgymryd â chynllunio a phrosiectau trafnidiaeth strategol yn y gogledd, ar sail rhanbarth cyfan, a phwerau wedi’u dirprwyo i'r corff gan awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i ganiatáu iddo weithredu mewn capasiti gweithredol, â chronfa trafnidiaeth ranbarthol o £150 miliwn dros 10 mlynedd, gan gynnwys y £50 miliwn presennol gan Lywodraeth Cymru i ymrwymiad metro’r gogledd? A wnewch chi hefyd ddweud wrthyf i pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi cael sgwrs â Defnyddwyr Bysiau Cymru ynghylch integreiddio rheilffyrdd a bysiau? Beth mae Trafnidiaeth Cymru yn ei wneud i gynrychioli teithwyr bws, yn ogystal ag ymgysylltu â darparwyr yn y sector? Yn amlwg, byddwch yn gwybod bod D Jones a'i fab, gweithredwyr bysiau yn Acrefair, wedi rhoi'r gorau i weithredu cyn y Nadolig, yn dilyn tranc Bysiau GHA yn 2016. Codwyd pryderon gan Llyr yn gynharach ynghylch yr effaith ar barc busnes neu ddiwydiannol Wrecsam, a’r ffaith na allai gweithwyr gyrraedd adref rhwng 5 a 6 y nos. Sut, felly, yr ydych yn ymateb i bryder a godwyd gyda mi, gyda chi yn ysgrifenedig, gan yr aelod arweiniol ar gyfer trafnidiaeth yn Wrecsam, ond hefyd gan gynrychiolwyr Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr Cymru, Defnyddwyr Bysiau Cymru, Traveline Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau yr wythnos diwethaf, na fyddai dim camau gweithredu na chanlyniadau pendant yn dod allan o'r uwchgynhadledd bysiau ym mis Ionawr 2016 a’r gweithdai a ddilynodd hynny? Ac, yn olaf, cwestiwn gan un o drigolion Sir y Fflint ac etholwr sy'n teithio’n drawsffiniol, ac yng nghyd-destun darpariaeth drawsffiniol: pa gamau yr ydych yn cynnig eu cymryd lle mae’r unig gyswllt rhwng cytref integredig Glannau Dyfrdwy a Glannau Mersi yw 'cefnffordd lôn sengl, heb oleuadau, â ffordd yr A550 wedi’i blocio neu’n dagfa bob dydd' wrth i bobl o'r gogledd deithio rhwng Glannau Dyfrdwy, Sir y Fflint, yn y gogledd a Chilgwri a Glannau Mersi? Diolch. Roedd sawl cwestiwn yn y fan yna, er imi ofyn am un yn unig nawr, ond pa ots. Ken Skates AC: Oedd, nifer sylweddol o gwestiynau, ond gwnaf i geisio ateb pob un ohonyn nhw. Yn gyntaf oll, o ran y cais twf, wrth gwrs byddwn yn craffu ar bob un o'r cynigion yn ystod y cyfnod trafod. Byddwn yn sicr yn croesawu, fel y dywedais yn fy natganiad, creu awdurdodau trafnidiaeth rhanbarthol i sicrhau bod gennym drafnidiaeth integredig wedi'i chynllunio’n rhanbarthol ac—yn achos y gogledd—yn drawsffiniol. Rydym eisoes wedi sefydlu grŵp llywio’r gogledd a metro’r gogledd-ddwyrain ac maen nhw'n datblygu rhaglen waith i lunio pecyn o ymyriadau sy'n adlewyrchu gwelliannau nid yn unig yn lleol ond hefyd yn rhanbarthol. Bydd y rhaglen hefyd yn cynnwys gwelliannau trawsffiniol a bydd y pwyslais ar greu canolfannau trafnidiaeth integredig ar safleoedd cyflogaeth allweddol ledled y gogledd ac, wrth gwrs, ledled ardal Mersi a Dyfrdwy. Mae'n fater o well cysylltiadau, nid yn unig yn y canolfannau, ond hefyd i fynd atyn nhw, oddi wrthyn nhw a rhyngddyn nhw. O ran Defnyddwyr Bysiau Cymru, rwy’n synnu bod yr Aelod yn dweud hynny, o gofio ein bod yn cael deialog reolaidd gyda nhw ac o gofio bod gennym ymgynghoriad yn digwydd ar hyn o bryd ar drafnidiaeth bysiau, a’n bod wedi cynnal dau ymgynghoriad yn y 12 mis diwethaf. Bydd ymgynghoriad arall yn digwydd y gwanwyn hwn ynghylch y cynigion manwl ar gyfer deddfwriaeth y dyfodol ac rwy'n sicr yn edrych ymlaen at weld Defnyddwyr Bysiau Cymru yn cyfrannu at yr ymgynghoriad hwnnw. O ran pa mor fregus yw'r gwasanaethau bws lleol, rhaid i'r Aelod, siawns, gydnabod bod y dadreoleiddio yn 1986 yn rheswm mawr dros hyn, ac, wrth gwrs, mae'n gwbl hanfodol bod awdurdodau lleol yn cymryd eu swyddogaeth a'u cyfrifoldeb o ddifrif. Yn anffodus, mae'n ymddangos bod Cyngor Wrecsam, o dan reolaeth annibynwyr a'r Ceidwadwyr, credaf, wedi gostwng eu cefnogaeth i wasanaethau bysiau anfasnachol, rwy'n credu, i sero; mae hynny’n wrthgyferbyniad llwyr i’r £25 miliwn yr ydym ni, Llywodraeth Lafur Cymru, wedi ei gynnal dros lawer o flynyddoedd. Yn ogystal â hynny, fe wnes i ddarparu £300,000 i’r rhanbarth, i’r gogledd-ddwyrain, i allu ymdrin â chwymp GHA a pha mor fregus yw'r rhwydwaith bysiau lleol. Mae gofyn i’r tri awdurdod lleol hynny—Sir Ddinbych, Wrecsam a Sir y Fflint—weithio gyda'i gilydd i sicrhau bod gwasanaethau bysiau’n cael cefnogaeth gan awdurdodau lleol, ar y cyd ac yn unigol, i sicrhau eu bod yn gwasanaethu cymunedau. Ac o ran yr uwchgynhadledd a gynhaliwyd y llynedd, un o brif fanteision yr uwchgynhadledd honno oedd—roedd yn rhan o’r cynllun pum pwynt—cyflwyno cwmnïau bysiau, yn enwedig y cwmnïau bysiau bach a bregus hynny, i gynghorwyr a gwasanaethau cymorth Busnes Cymru. O ganlyniad, mae nifer o gwmnïau wedi cael cyngor ymarferol ynghylch sut i oroesi'r storm o galedi a bregusrwydd yn y system ddadreoleiddiedig. Ond, yn fwy hirdymor, rhaid rhoi sylw i’r system ddadreoledig honno, a bydd hynny’n digwydd, drwy ddeddfwriaeth, a byddwn yn ymgynghori am hynny yn y misoedd nesaf. Roeddwn yn synnu o glywed, hefyd, beirniadaeth ynghylch diffyg buddsoddiad mewn ffyrdd trawsffiniol yn y gogledd-ddwyrain, o ystyried ein bod wedi ymrwymo dros £200 miliwn i goridor Sir y Fflint, sy'n cynnig un o'r llwybrau pwysicaf. Caiff ei uwchraddio’n sylweddol i liniaru tagfeydd rhwng Sir y Fflint a Chilgwri. Jenny Rathbone AC: Beth sy'n bod ar Lywodraeth y DU sy'n ei gwneud mor anodd iddyn nhw wneud penderfyniadau amserol ynglŷn â Chymru? Nid wyf yn disgwyl ichi ateb hynny, ond, wyddoch chi, mae Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru yn barod am hyn, ond nid yw Llywodraeth y DU wedi trosglwyddo'r pwerau i'n galluogi i ddyfarnu statws cynigydd a ffefrir, cytuno ar y contract, a dal i allu trosglwyddo gwasanaeth newydd yn ddi-dor erbyn mis Hydref. Mae gennyf ddiddordeb yn y ffaith eich bod yn sôn am wella gorsafoedd, trydaneiddio a signalau ar gyfer metro’r de, ond rwyf fi’n fwy awyddus i glywed am dramiau, rheilffyrdd ysgafn a thocynnau integredig; mae’n ymddangos i mi mai’r rheini yw’r materion allweddol, yn hytrach na mynd i ormod o ffwdan ynglŷn â thrydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd. Mae angen atebion llawer mwy effeithiol arnom er mwyn cynhyrchu’r canlyniadau sydd eu hangen. Tybed a allech ddweud am hynny. Ken Skates AC: Ydw, rwyf wedi bod â llawer o ddiddordeb yng nghynlluniau Mersey Travel a’r ffordd y maen nhw'n integreiddio tocynnau ac yn sicrhau ffordd dryloyw a chadarn iawn o dalu am wasanaethau. Bydd Trafnidiaeth Cymru yn gyfrifol am sicrhau tocynnau integredig a thrafnidiaeth fforddiadwy a hygyrch i bawb, a chyfundrefn brisiau sydd hefyd yn deg. Byddwn yn cytuno â’r cwestiwn rhethregol ac â sail y cwestiwn rhethregol. Mae’n ymddangos bod Llywodraeth y DU wir yn ei chael yn anodd cefnogi llawer o rannau o Gymru o ran seilwaith rheilffyrdd. Dim ond tuag 1 i 1.5 y cant o fuddsoddiad yr ydym wedi’i gael yn y llwybr Cymru a'r gororau yn ystod tymor blaenorol y Cynulliad, ac mae hynny er ei fod yn fwy na 5 y cant o holl rwydwaith y DU. Rydym hefyd wedi gweld Llywodraeth y DU yn methu, hyd yma, â chefnogi morlyn Abertawe, trydaneiddio, a rhaid imi ddweud fy mod yn falch nad nhw sy’n gyfrifol am Glwb Pêl-droed Dinas Abertawe, oherwydd pe baen nhw, dydw i ddim yn meddwl y byddai unrhyw obaith iddyn nhw aros yn yr uwch gynghrair. Diolch. Lee Waters. Lee Waters AC: Diolch, Dirprwy Lywydd, ac o barch tuag atoch chi, byddaf yn gryno a gofyn un cwestiwn yn unig. Rwy’n falch o weld yn y datganiad eich bod yn dweud y bydd Trafnidiaeth Cymru yn edrych ar y daith gyfan o ddrws i ddrws. Rwy'n cymryd felly fod hynny'n cynnwys teithio llesol fel y cysylltiadau allweddol hynny ar ddau ben y daith. A allwch chi gadarnhau mai dyna yw'r bwriad, oherwydd nid oes sôn amdano yn y datganiad? Ac os felly, a fyddwch chi'n gwneud yn siŵr bod y sgiliau a’r capasiti o fewn Trafnidiaeth Cymru yn bodoli i allu gweithredu ar deithio llesol, oherwydd mae hynny’n amlwg ar goll ar lefel llywodraeth ganolog a lleol ar hyn o bryd? Diolch. Ken Skates AC: Ie. A gaf i ddiolch i Lee Waters am ei gwestiwn a dweud, byddai, o bosibl, byddai teithio llesol o fewn cwmpas Trafnidiaeth Cymru, ond byddai angen sgiliau ychwanegol hefyd i wneud yn siŵr bod datrysiadau teithio llesol yn addas at y diben a hefyd yn ystyried natur o ddrws i ddrws llawer o’r teithiau y mae pobl yn eu gwneud? Vikki Howells AC: Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n croesawu eich sylwadau bod pobl yn ganolog i gyflawni polisi trafnidiaeth. Yn fy etholaeth i, ceir dadl ynghylch pa un a cysylltiadau bws neu trên fyddai’n gwasanaethu un gymuned leol orau o dan unrhyw gynllun metro yn y dyfodol. Pa fecanweithiau a fydd wedi’u cynnwys er mwyn ymgynghori â chymunedau, fel y gellir llunio gwasanaethau i fodloni anghenion a gofynion pobl leol? Ken Skates AC: Wel, mae’r cynigwyr i gyd wedi cael eu gwahodd i gynnig yr atebion gorau, nid dim ond o ran gwerth am arian, ond yr atebion gorau o ran gallu cysylltu cymunedau a chysylltu canolfannau cyflogaeth. Gallai’r atebion gyfuno gwahanol fathau o deithio, ond mae'n hanfodol, wrth i’r broses o gynllunio’r metro gychwyn, bod cymunedau a rhanddeiliaid yn rhan o ddull partneriaeth, fel bod yr atebion a ddewisir yn y pen draw yn rhai sy'n cael eu cefnogi gan y bobl a fydd yn defnyddio'r gwasanaethau yn y pen draw. Diolch yn fawr iawn. Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. 5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Y Diwydiant Bwyd a Diod Symudwn ymlaen at eitem 5, sef datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ynglŷn â'r diwydiant bwyd a diod, a galwaf ar Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet, i gyflwyno'r datganiad. Lesley Griffiths AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae ein diwydiant bwyd a diod yng Nghymru yn parhau i fynd o nerth i nerth. Ers y tro diwethaf imi annerch y cyfarfod llawn, ym mis Tachwedd 2016, mae trosiant gwerthiant y diwydiant wedi cynyddu'n sylweddol o £6.1 biliwn i £6.9 biliwn. Rydym ni ar drothwy'r targed o £7 biliwn yn 'Tuag at Dwf Cynaliadwy', y cynllun gweithredu bwyd a diod a bennwyd yn 2014, i'w gyrraedd erbyn 2020. Mae hyn yn gynnydd aruthrol. Mae'n adlewyrchu'r gwaith caled a'r ymdrech gan fusnesau ledled Cymru, yn fawr ac yn fach. Mae'n ganlyniad strategaeth flaengar a chamau pendant i'w chyflawni. Mae'n ganlyniad sy'n seiliedig ar bartneriaeth, gweithio'n uniongyrchol gyda busnesau, ein canolfannau technoleg bwyd arbenigol, a bwrdd diwydiant bwyd a diod Cymru. Dros y 12 mis diwethaf, bu llawer o lwyddiannau. BlasCymru/TasteWales oedd digwyddiad masnach ryngwladol cyntaf Cymru. Rhoddodd Gymru ar y map o ran ein dyhead i fod yn genedl bwyd. Rhagwelir y bydd gwerth y busnes a gynhyrchwyd yn cyrraedd dros £22 miliwn. BlasCymru/TasteWales fydd ein harddangosfa arbennig i ddod â Chymru i'r byd, a hefyd y byd i Gymru, ac mae'r digwyddiad nesaf wedi'i drefnu ar gyfer mis Mawrth 2019. Fis Tachwedd diwethaf, cynhaliwyd dathliad o'n henillwyr yn y gwobrau Great Taste a'n cynhyrchion ag enwau bwyd gwarchodedig. Unwaith eto, mae'r diwydiant wedi gwneud yn hynod o dda, a chafwyd 165 o enillwyr Great Taste yng ngwobrau y DU yn 2017. Mae ein cyfanswm o gynhyrchion ag enwau bwyd gwarchodedig wedi cynyddu i 14, ac enilloddchwech y statws Ewropeaidd hwn yn 2017. Mae enwau bwyd gwarchodedig yn gydnabyddiaeth fyd-eang o ddilysrwydd a gwreiddioldeb. Gyda'i gilydd, mae'r enillwyr hyn yn datblygu ein henw da a'n brand, gan ein rhoi ar lwyfan byd-eang. Mae ein llwyddiannau yn seiliedig ar gymorth a chyfeiriad penodol, sy'n creu hyder ac sy'n fodd i fusnesau wneud mwy. Mae ein pecynnau cymorth busnes wedi buddsoddi mewn arloesi, mewn marchnata ac yn ein pobl. Mae'r buddsoddiad a gymeradwywyd drwy'r cynllun buddsoddi mewn busnesau bwyd bellach yn agos i £30 miliwn, a hynny wedi'i gymeradwyo ar gyfer 34 o fusnesau sy'n ehangu. Mae Project Helix yn annog diwylliant o arloesi ac entrepreneuriaeth, a, gyda buddsoddiad o £21 miliwn, mae cymorth ymarferol yn darparu cynhyrchion a phrosesau newydd i ddiwallu'r galw yn y farchnad ac i sicrhau'r gwerth gorau. Mae ein rhaglen clwstwr busnes yn seiliedig ar ryw chwe chlwstwr a grŵp diddordeb arbennig allweddol, sy'n cynnwys 410 o fusnesau sy'n cymryd rhan weithredol ym meysydd busnes pwysig y cynllun gweithredu bwyd a diod. Fel grwpiau diddordeb cyffredin, mae clystyrau yn fodd grymus o ysgogi twf, cynnig cyfleoedd newydd, ychwanegu gwerth a chreu cadwyni cyflenwi cryfach. Fodd bynnag, rydym ni'n son am fwy na dim ond rhifau. Mae bwyd yn ymwneud â phobl—eu hiechyd a'u lles. Ar lawr gwlad, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi darparu £0.5 miliwn i gefnogi menter gwrth-newyn yn ystod y gwyliau ysgol ar gyfer ysgolion cynradd. Ar lefel strategol, mae gwaith yn dechrau ar strategaeth gordewdra ar gyfer Cymru. Wrth gwrs, mae Brexit yn dal i fod yn her enfawr. Rhaid inni groesawu newid mewn meddylfryd, prosesau a strwythurau. Mae Brexit yn achosi ansicrwydd ynghylch yr hyn a ddaw yn y blynyddoedd nesaf, ac mae'r ansicrwydd hynny'n peri pryder. Mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi pryderon mawr ynglŷn â safbwynt Llywodraeth y DU. Bydd y penderfyniadau anghywir a bargen Brexit wael yn cael effaith hirdymor a phellgyrhaeddol. Rwyf yn wynebu'r her ac yn ymateb drwy gynyddu cyflymder a dwysedd ymdrech a chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Rwyf wedi dyrannu buddsoddiad ychwanegol o £2.8 miliwn ar gyfer rhaglen parodrwydd sector sy'n addas ar gyfer y farchnad, a gwaith paratoi hanfodol ar gyfer cyflawni mentrau newydd ac ehangu mentrau cymorth sydd eisoes ar waith. Bydd y buddsoddiad newydd hwn yn cefnogi ac yn helpu i ddiogelu'r cynllun gweithredu bwyd a diod ac yn cefnogi'r sgiliau sydd eu hangen ar ein pobl. Yn yr hydref es i Buddsoddi mewn Sgiliau, Buddsoddi mewn Twf, y gynhadledd sgiliau bwyd a diod gyntaf yng Nghymru. Gwrandewais ar yr hyn yr oedd y diwydiant yn ei ddweud wrthyf, ac mae'n glir: mae bylchau sgiliau sylweddol, a allai wneud Brexit yn waeth yn sgil yr ansicrwydd y mae ein gweithwyr mudol gwerthfawr o'r UE yn ei wynebu. Mae fy neges yn glir iddyn nhw: rydym yn gwerthfawrogi eich cyfraniad ac rydym ni yn dymuno i chi aros yng Nghymru. Cyhoeddais yr angen i ddatblygu cynllun cyflogadwyedd a sgiliau ar gyfer y diwydiant, a bydd y bwrdd yn gwahodd trafodaeth ar fesurau drafft mewn cynhadledd ddilynol fis nesaf. Mae presenoldeb rhyngwladol cryf yn ganolog i hyrwyddo'n hunain ac i wireddu ein gweledigaeth o roi Cymru mewn sefyllfa lle mae hi'n genedl fwyd sy'n gallu cyflenwi y DU a marchnadoedd rhyngwladol. Yn Anuga, ffair fasnach bwyd a diod fyd-eang Cologne, cyhoeddais £1.5 miliwn ychwanegol ar gyfer ein hasiantaeth partner cig coch Hybu Cig Cymru i sicrhau rhaglen datblygu allforio well, yn benodol ar gyfer mynediad i farchnadoedd newydd ac amddiffyn y sefyllfa bresennol. Er bod allforio wedi cynyddu i £436 miliwn yn 2016, ein marchnad bwysicaf yw'r DU, lle'r ydym ni'n masnachu'r lefel uchaf o gynnyrch. Yn sgil Brexit mae angen ad-drefnu cadwyni cyflenwi'r diwydiant bwyd yn sylweddol. Byddwn yn adeiladu ar gyfleoedd mewnforio ac yn ceisio cyflenwi cynhyrchion bwyd a diod Cymru yn lle. Rydym yn gweithio gyda manwerthwyr a busnesau gwasanaeth bwyd, Consortiwm Manwerthu Cymru a bwrdd diwydiant bwyd a diod Cymru i gyflawni hyn Ni fu erioed mwy o ddiddordeb yn ein bwyd a diod rhagorol o Gymru. Caiff ansawdd, gwasanaeth a gwreiddioldeb yr hyn y mae Cymru yn ei gynnig ei gydnabod ledled y byd. Rydym ni'n gwybod bod diddordeb defnyddwyr mewn cynnyrch Cymreig yn cynyddu ar draws y DU, ac mae pobl yn gweld gwerth cynhenid Cymreictod. Byddwn yn adeiladu ar y gwerthoedd hyn i gefnogi brand Cymru. Rydym ni hanner ffordd tuag at gyflawni 'Tuag at Dwf Cynaliadwy', ein cynllun gweithredu cynyddol lwyddiannus hyd at 2020, ac rydym yn agos at gyrraedd ein prif darged. Mae diwydiant bwyd a diod Cymru yn ased enfawr. Mae'n cyfrannu fwyfwy at ein heconomi ac yn awr yn cael ei gydnabod yn briodol yn sector sylfaenol gyda statws blaenoriaeth yn 'Ffyniant i Bawb', yng nghynllun gweithredu newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer yr economi. Mae'n cynhyrchu cyfoeth ac yn cryfhau'r economi yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. Mae'n creu swyddi a gyrfaoedd lle mae sgiliau yn bwysig. Mae'n ychwanegu gwerth at ein cynnyrch amaethyddol ac yn sicrhau bri ar gyfer ein cenedl, gydag amlygrwydd cynyddol ac enw da ledled y byd. Drwy roi pwyslais parhaus ar yr hyn sy'n gweithio, a thrwy barodrwydd mewnol ac allanol ar gyfer Brexit, byddwn yn gwbl addas ar gyfer y farchnad, gyda'r strwythurau diwydiant gorau o ran perfformiad. Rwyf yn ffyddiog iawn y byddwn yn parhau i lwyddo, a, gydag arweiniad a chefnogaeth sgiliau da, yn gwneud y gorau o Brexit ac yn cyflawni ar gyfer Cymru. Diolch,Paul Davies. Paul Davies AC: Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd, a gaf iddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad y prynhawn yma? Mae'r datganiad hwn yn arbennig o amserol oherwyddy bore 'ma cynhaliais frecwast ffermdy blynyddol Undeb Amaethwyr Cymru yn y Pierhead, a roddodd gyfle gwych iAelodau flasu brecwast Cymreig sylweddol a thrafod rhai o'r cyfleoedd a'r heriau sy'n wynebu sector bwyd a diod Cymru. Nawr, rydym ni ar yr ochr hon o'r Siambr yn rhannuuchelgaisYsgrifennydd y Cabinet i dyfu'r sector wrth 30 y cant erbyn 2020, ac mae'n braf gweld yn natganiad heddiw fod y sector yn parhau i dyfu. Wrth gwrs, mae hynnyhefyd yn golygu, fel y mae Prydain yn paratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd, ei bod hi'n gwbl hanfodol bod llywodraethau ar bob lefel yn cydweithio i flaenoriaethu ein diwydiant bwyd a diod a sicrhau bod ein marchnad ddomestig yn dal yn gryf. Rwy'n sylweddoli y bu Llywodraeth Cymru yn adolygu ei chefnogaeth allforio i fusnesau bwyd a diod Cymru, ond efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet roi ychydig mwy o fanylion i ni ynglŷn â gwaith Llywodraeth Cymru yn y maes hwn, yn y tymor byr ac yn fwy hirdymor, fel y gallwn ni ddeall yn well amcanion strategol y Llywodraeth. Mae'n hollbwysig bod cynhyrchwyr yng Nghymru yn cyrraedd marchnadoedd newydd, ac mae'r datganiad heddiw yn cyfeirio at BlasCymru, sydd wedi bod yn llwyddiant. Fodd bynnag, byddwn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet roi ychydig mwy o fanylion ynglŷn â sut mae BlasCymru wedi nodi datblygiadau technolegol yn y diwydiant bwyd a diod a phontio busnesau Cymru â sefydliadau academaidd a darparwyr ymchwil gyda'i gilydd. Nawr, rwy'n siŵry byddai pob aelod yn cytuno ei bod hi'n bwysig y gellid ac y dylid gwneudmwy i hyrwyddo cynnyrch o Gymru, nid yn unig dramor, ond yma gartref hefyd, gan maiein marchnad fwyaf pwysig yw'rDU. Yn wir, mae ymchwil a gynhaliwyd gan Bwyd a Diod Cymru yn dangos bod gwerth Cymreictod yn cynyddu ac y byddai'n well gan fwy a mwy o bobl ledled Cymru brynu mwy o gynnyrch Cymreig, ond maent yn cael eu rhwystro gan argaeledd. Yng ngoleuni'r adroddiad 'Gwerth Cymreictod'diweddar, a allai Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau pa ymagweddau newydd sy'ncael eu hystyried i sicrhau y gwneir cynnyrch o Gymru ar gael yn haws i ddefnyddwyr cartref? A allai hi ddweud wrthym ni hefyd pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gydag archfarchnadoedd a manwerthwyr ynglŷn â ffyrdd y gallan nhw helpu i hybu cynnyrch Cymru yn fwy lleol? Nawr, un o gamau gweithredu allweddol y cynllun gweithredu bwyd a diod ywmynd i'r afael â bylchau sgiliau ar draws y gadwyn gyflenwi bwyd drwy ddyfeisio ac adolygu'r rhaglen gyfredol hyfforddiant a sgiliau. Nawr, mae datganiad heddiw yn cyfeirio at gynllun cyflogadwyedd a sgiliau ar gyfer y diwydiant, a sylwaf y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwahodd trafodaeth ynglŷn â mesurau drafft mewn cynhadledd ddilynol y mis nesaf. Fel y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol eisoes, rwyf ers amser wedi cefnogi'r angen i ddangos canlyniadau mesuradwy yn y maes hwn, felly efallai y gwnaiff ymrwymo yn awr i gyhoeddi'r ystadegau creu gwaith ochr yn ochr â chyhoeddi'r cynllun penodol hwn. Erbyn hyn, mae'n hanfodol bod pob rhan o Gymru yn cael arian ar gyfer prosiectau bwyd a diod, ac nad ywarian yn cael ei groni mewn rhannau penodol o Gymru—rhaid i brosiectau a chynhyrchwyr o bob cwr o Gymru deimlo eu bod yn cael eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru. Felly, gan hynny, a wnaiffYsgrifennydd y Cabinet ymrwymo i gyhoeddi faint o arian Llywodraeth Cymru a ddyrannwyd i'r diwydiant bwyd a diod fesul awdurdod lleol, fel y gall Aelodau fod yn hyderus bod yr holl ffrydiau ariannu yn dryloyw a bod pob rhan o Gymru yn cael ei chyfran deg o unrhyw gyllid Llywodraeth Cymru? Rwy'n falch bod y datganiad heddiw yn cydnabod bod strategaeth fwyd gref yn rhan annatod o amcanion iechyd cyhoeddus Llywodraeth Cymru, a bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi darparu arian ychwanegol yn y maes penodol hwn. Mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn datblygu diwylliant bwyta ffordd o fyw a bwyta'n iach mewn ysgolion, gan gynnwys prosiectau sy'n ymwneud â thyfu, paratoi a choginio bwyd, yn ogystal â dysgu am gydbwyso deiet ac ymarfer corff. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym ni ychydig mwy am yr ymdrechion a wnaed i gyflawni'r amcan penodol hwn, fel y gallwn ddeall cynnydd Llywodraeth Cymru yn well yn y maes hwn. Ac, yn olaf, Ddirprwy Lywydd, rwy'n falch iawn bod y cynllun bwyd a diod wedi cynnig y dylid datblygu cymdeithas gŵyl fwyd, a gobeithiaf y bydd Ysgrifennydd y Cabinet wrth ymateb yn amlinellu mwy am y camau penodol ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â gwaith y gymdeithas gŵyl fwyd. Felly, wrth gloi, a gaf iunwaith eto ddiolch iYsgrifennydd y Cabinet am ei datganiad? Edrychaf ymlaen at glywed mwy am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddiogelu cynaliadwyedd sector bwyd a diod Cymru yn y tymor byr a'r tymor hwy. Diolch i chi. Lesley Griffiths AC: Diolch, Paul Davies, am y gyfres o gwestiynau, ac roeddwn yn falch iawn o siarad ym mrecwast Undeb Amaethwyr Cymru y bore yma yr oedd Paul yn cyfeirio ato, a noddwyd ganddo. Yn anffodus, ni chefais ddim brecwast, ond yn aml mae hynny'n broblempan ewch i'r digwyddiadau hyn ac rydych chi'n cael eich rhuthro heibio'r bwyd. Ond roedd yn braf iawn gweld cynifer o bobl yn mwynhau cynnyrch Cymreig ar ei orau, ac yn cysylltu ein sector amaethyddol gyda'n bwyd a diod, y collir y cysylltiad weithiau yn anffodus, rwy'n credu. Rydych chi'n hollol iawn bod y targed uchelgeisiol iawn hwnnw—. Cofiaf eistedd yn yCabinet pan gyhoeddodd rhagflaenydd fy rhagflaenydd, Alun Davies, y targed hwn o gynyddu ein diwydiant bwyd a diod i £7 biliwn erbyn 2020 a meddwl na fyddem ni byth yn cyflawni hynny, felly i gyflawni—. Rwy'n siŵr pan ymddengys data 2017 y byddwn yn sicr wedi cyflawni hynny, ond mae cyrraedd £6.9 biliwn erbyn 2016 yn gyflawniad aruthrol, ac, fel y dywedaf, mae'n ganlyniad gwaith caled cymaint o'n busnesau. Fe wnaethoch chi gyfeirio at gymorth allforio ac, yn sicr, mae heriau Brexit yn golygu bod angen inni edrych ar farchnadoedd newydd, a dyna pam ein bod ni wedi rhoi arian sylweddol i'r rhaglenni allforio, er enghraifft, er mwyn annog ein cwmnïau i'w ystyried. Roeddwn yn dymuno rhoi rhai ffigurau diweddar ynglŷn ag allforio, oherwydd mae'n dangos bod allforion bwyd a diod Cymru wedi cynyddu bron 20 y cant, o £264 miliwn yn 2015 i £337 miliwn yn—. Mae'n ddrwg gennyf, 2015, ac mae hynny hyd at 2016-17. Aiff saith deg dau y cant o allforion i'r Undeb Ewropeaidd, felly fe allwch chi weld faint o ansicrwydd sy'ncael ei greu a pham bod angen inni edrych am farchnadoedd newydd. Mae hynny'ncymharu mewn gwirionedd â 9.5 y cant ar gyfer y DU gyfan, felly fe allwch chi weld pa mor llwyddiannus yr ydym ni yng Nghymru. A soniais fy mod i wedi rhoi cyllid pellach o £1.5 miliwn i Hybu Cig Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Hydref yn Anuga yn Cologne i ddatblygu rhaglen datblygu allforio well. Yn sicr, fy nhrafodaeth gyntaf âHCC yw fy modwedi dweudwrthyn nhw am fod mor uchelgeisiol â phosib i gyflawni hynny, ond byddai'n wych pe gallan nhw ragori ar hynny, a gobeithiaf y byddant. Fe wnaethoch chi gyfeirio at Blas Cymru. Roedd hwnnw'n yn llwyddiant mawr ac, unwaith eto, fy rhagflaenydd, Carl Sargeant, ei syniad ef oedd dod â'r byd i Gymru, a chredaf ei fod wedi rhagori ar ein disgwyliadau. Gwn ein bod, hyd yma, wedi cael cynnydd o £7 miliwn o fusnes ychwanegol ohono ond, unwaith eto, y gobaith yw y gallem ni gael hyd at £22 miliwn o bosib. Byddwnwedi hoffi gwneud un bob blwyddyn, ond mae'n ddigwyddiad enfawr felly rydym ni'n mynd i'w gynnal yn awr ym misMawrth y flwyddyn nesaf. Unwaith eto, bydd yn ddigwyddiad llawer mwy. Fe wnaethoch chi sôn am werth Cymreictod ac rwy'n credu bod hwnnw'nbwynt perthnasol iawn. Yn sicr, rwyf wedi cael trafodaethau gyda nifer o archfarchnadoedd, ac, os ewch chi i rywle fel Morrisons er enghraifft, rydych chi'n gweld Blas Cymru o'ch etholaeth eich hun, ac rydych chi'n gweld pobl yn chwilio am y label hwnnw. Credaf fod angen inni edrych arein holl archfarchnadoedd i wneud yn siŵr eu bod yn cynyddu'r brand. Ac, fel y dywedaf, rwyf wedi cael trafodaethau gyda—ni allaf feddwl am unrhyw archfarchnad nad wyf wedi cael trafodaeth gyda nhw ac maen nhw'n sicr yn teimlo'n fwy parod a galluogi gymryd ein cynnyrch. Mae sgiliau yn amlwg yn fater pwysig iawn, a soniais am y gynhadledd a gynhaliodd bwrdd diwydiant Bwyd a Diod Cymru yma yng Nghaerdydd ym mis Hydref. Mae'run nesaf yn Llandudno, rwy'n credu, y mis nesaf—yn sicr yn y Gogledd. Dywedwyd wrthyf am y bylchau. Mae'n destun pryder, os nad ydym ni'n gallu cael mewnfudwyr o'r UE yn gweithio yn y ffordd y maen nhw'n ei wneud ar hyn o bryd, ni fydd ybylchau hynny'n cael eu llenwi. Felly, mae'n hollol briodol bod angen inni sicrhau bod ein busnesau wedi'u harfogi'n llawn gyda'r sgiliau a'r cymorth hyfforddiant priodol. Fe wnaethoch chi ofyn i mi a fyddwnyn cyhoeddi ystadegau creu swyddi. Yn sicr, os yw'r rheinigennyf i, byddwn yn hapus iawn i wneud hynny. Hwyrach y bydd ar sail Cymru gyfan ond byddaf yn sicr yn amcanu at wneud hynny.FootnoteLink Mae arian yn bwysig iawn ac rydych chi'n iawn, ni allwn ni ond rhoi arian i wahanol gornelio Gymru yn unig. Ond, yn sicr—wyddoch chi, rwy'n teithio ledled Cymru. Roeddwn i yn y Gogledd—ymwelais â dau gwmni bwyd ddydd Iau diwethaf. Un ohonyn nhw oedd Siwgr a Sbeis—bydd llawer o Aelodau yn ymwybodol o'u cacennau, ac maen nhw wedi cael rhywfaint o arian gennym ni. Yna, ddoe, roeddwn i lawr yn y gorllewin yn ymweld â chwmnïau. Felly, credaf yn sicr ei fod yno. Unwaith eto, nid wyf yn siŵr a ydym ni'n cadw'r wybodaeth honno ar sail awdurdod lleol ond, yn sicr, os ydym ni yn ei chadw hi ar sail rhanbarth, byddwn yn hapus iawn i wneud hynny. Mae iechyd cyhoeddus yn amlwg yn bwysig iawn a byddwch yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn llunio strategaeth gordewdra. Credaf bellach y caiff hi ei chyhoeddi'r flwyddyn nesaf, yn 2019, ac, yn amlwg, os gallwn ni helpu ein plant i fwyta yn iach heddiw, yn amlwg rydym ni'n creu oedolion iach. Credaf felly, ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n ymdrin ag iechyd y cyhoedd. Mae gwyliau bwyd, unwaith eto, rwy'n credu yn llwyddiant mawr ac rwyfwedi bod yn ffodus i fynychu llawer ledled Cymru. Yr undiwethaf a fynychais rwy'n credu oeddyn Llangollen yn etholaeth Ken Skates, ond gwn ein bodwedi sicrhau unwaith eto bod cyllid yn cael ei ledaenu ar draws Cymru. Gwybodaeth ychwanegol at y Cyfarfod Llawn (Saesneg yn unig) Simon Thomas AC: A gaf i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei datganiad a nodi, gyda diolchiadau i bawb a dweud y gwir, fod y diwydiant wedi llwyddo yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a bod y cynnydd yn dal yno tuag at y targed sydd yn y cynllun bwyd a diod? Hoffwn i ddechrau drwy ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet ble mae hi bellach, wrth ystyried gadael yr Undeb Ewropeaidd, ynglŷn â brandio bwyd o Gymru, yn benodol o safbwynt gwreiddiad bwyd, fel petai, lles anifeiliaid a'r safonau amgylcheddol yn ogystal. Roedd y datganiad ganddi hi yn sôn am PGI yn benodol ac rŷm ni'n gwybod pa mor llwyddiannus mae hynny wedi bod yn codi tyfiant allforio cig oen er enghraifft ers ennill y statws yna. Mae'n bwysig—bydd hi'n cytuno mae'n siŵr—i gadw'r statws, ond hefyd mae'n bwysig bod bwyd o Gymru yn cael ei gydnabod fel bwyd o Gymru wrth i ni ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn hytrach na chael ei orchuddio â jac yr undeb neu gael ei gydnabod fel bwyd o rywle annelwig iawn o'r enw Prydain. Mae cadw'r brand yna yn bwysig, felly beth ydy hi'n ei wneud yn benodol ynglŷn â hynny? Yn benodol, er ei bod hi'n dweud ei bod hi'n trafod gydag archfarchnadoedd, a ydy hi'n trafod y pwynt yma gydag archfarchnadoedd—ar ôl Brexit, bod brandio Cymreig nid yn unig yn aros ond bod yr archfarchnadoedd yn coleddu hynny ac yn hyrwyddo hynny? Er bod llwyddiannau megis y digwyddiadau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi cyfeirio atynt, rydw i'n un o'r bobl sydd yn gresynu ein bod ni wedi colli gwobrau penodol Gwir Flas neu rywbeth tebyg—gwobrau a oedd yn cydnabod bwyd o Gymru ac yn dathlu hwnnw ac yn ffordd o ddysgu oddi wrth ein gilydd. Rydw i hefyd yn gofyn a oes bwriad gan yr Ysgrifennydd Cabinet i ailystyried yr agwedd yna ar farchnata a brandio, eto yn wyneb yr heriadau sy'n ein hwynebu ni. Fe soniodd yr Ysgrifennydd Cabinet yn benodol yn yr adroddiad am gynllun Helix. Mae hwn yn gynllun, rwy’n deall, ar gyfer blaengarwch yn y maes. Byddwn i’n gwerthfawrogi pe bai yna enghraifft y medrwch chi ei roi i ni o’r math o ddigwyddiad neu’r math o flaengarwch sy’n cael ei hyrwyddo a’i gefnogi gan y cynllun yma. Mae’n dros £20 miliwn, ac fe fyddwn i’n licio gweld at beth mae hynny’n mynd erbyn hyn. A allaf i jest roi cwpwl o bethau at ei gilydd? Mae’r arian ychwanegol ar gyfer Hybu Cig Cymru, ac mae’r ffaith fod y gyllideb derfynol yn cynnwys arian ar gyfer cronfa i ymateb i Brexit. Rwyf jest eisiau deall a oes gan yr Ysgrifennydd Cabinet ddigon o adnoddau nawr i ddelio â Brexit, i ddelio â'r heriadau sydd ynghlwm wrth hynny, ac i helpu busnesau, yn benodol y busnesau sy’n allforio, i ddelio â chyfraddau llog sy’n amrywiol iawn, ac i ddelio â phosibiliadau o broblemau wrth adael yr undeb tollau ac ati. A ydy hi’n hyderus bod digon o adnoddau wedi’u neilltuo yn hynny o beth? Beth yn benodol mae hi’n gofyn i Hybu Cig Cymru ei wneud erbyn hyn? Achos mae gan Hybu Cig Cymru swyddogaethau pwysig iawn, wrth gwrs, yn hyrwyddo’r holl sector bwyd, gan gynnwys cig oen o’r mynyddoedd a chig oen llai o faint o’r mynyddoedd. Rwyf jest eisiau bennu gyda chwestiwn ynglŷn â llaeth mewn ysgolion, achos bydd yr Ysgrifennydd Cabinet wedi gweld bod rhai yn cwestiynu parhad y cynllun llaeth mewn ysgolion. Mae’n ffordd dda o gynefino plant ysgol â chynnyrch gorau Cymru, ac mae’n llesol ac yn iachus iddyn nhw yn ogystal. Mae wedi cael ei gefnogi gan arian o Ewrop ac arian Llywodraeth Cymru, ond wrth ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, mae eisiau gofyn o ba le mae’r gefnogaeth yn dod ac a fydd y Llywodraeth yn parhau i gefnogi'r cynllun llaeth mewn ysgolion. Rwy’n gobeithio eich bod chi’n gallu rhoi sicrwydd i ni y bydd hynny yn parhau, beth bynnag yw’r penderfyniad wrth adael yr Undeb Ewropeaidd. Lesley Griffiths AC: Diolch i Simon Thomas am ei restr o gwestiynau ac am groesawu'r cynnydd sylweddol yr ydym ni wedi ei wneud. Credaf eich bod yn codi pwynt pwysig iawn ynghylch tîm Cymru, brand Cymru a sicrhau bod pobl yn deall o ble y daw'r bwyd. Yn sicr, rwyf yn cael trafodaethau ynglŷn â labelu. Byddwch yn ymwybodol, hyd yn oed mewn cynnyrch, y gallech chi gael rhai cynhwysion wedi eu mewnforio hefyd, felly mae'n bwysig iawn bod labelu yn glir iawn a bod pobl yn deall yr hyn a wnaethant. Gwelais enghraifft wirioneddol annymunol yn un o'r ffeiriau haf y llynedd pan gredai gwraig ei bod hi wedi prynu cig moch a oedd o Gymru,ond mewn gwirionedd doedd o ddim. Wyddoch chi,roedd y ddraig arno, ond oddi tano roedd o'n dweud nad oedd rhan ohono i gyd oGymru, ac roedd hi'n hynod o flin am y peth ac fe ddaeth hi ataf i a dweud wrthyf i pa morflin yr oedd hi. Felly, credaf ei bod hi'n hanfodol ein bod ni'n cael hyn yn iawn. Ac efallai mai dyna un o'r cyfleoedd a gawn ni wrth ymadael ag Ewrop. Fe wnaethoch chi sôn am enwau bwyd wedi'u hamddiffyn, a soniais yn fy sylwadau agoriadol fod y teulu PFNyn tyfu'n gyflym. Rwyf wedi bod yn falch iawn bod hyd yn oed y rhai nad oedden nhw yn yr arfaeth—mae'r UE yn eu trin yn union fel y byddent wedi gwneud pe na baem ni'n gadael yr UE, felly credaf ei bod hi'n dda iawn. Maen nhw'n bwyntiau gwerthu gwych. Yn sicr mae'rcynhyrchwyr hynny yr wyf i wedi siarad â nhw yn meddwl ei fod yn fantais ac yn bwynt gwerthu unigryw iawn. Eto, credaf ei bod hi'n bwysig iawn, ar ôl i ni adael yr UE, ein bod ni'n ceisio gweithiogydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig i sicrhau bod yr EU yn anrhydeddu unrhyw gynlluniau ar y gweill hyd ateu cwblhau. Hefyd, cwmnïau a chynhyrchwyr bwyd sydd â PFNar hyn o bryd, rwy'n credu y dymunant gadw hynny. Yn sicr, ceir enghreifftiau o wledydd y tu allan i'r UE sydd wedicofrestru cynhyrchion, felly nid wyf yn gweld fod hynny o reidrwydd yn rhwystr. Felly, credaf fodcynsail cryf i drafodein rhan barhaus yn y cynllun, ac mae'r rheini'n drafodaethau sydd ar y gweill. Fe wnaethoch chi sôn hefyd am archfarchnadoedd a sicrhau eu bod yn parhau i werthu cynnyrch Cymreig. Un llwyddiant mawr, rwy'n meddwl, oedd Asda yn gwerthu cig oen Cymru. Unwaith eto, fe wnaethon nhw arbrofi gyda hynny mewn rhai archfarchnadoedd, ond maen nhw'n bwriadu cynyddu'r nifer hwnnw, a chredaf y bydd hynny'n fuddiol, yn amlwg, ar gyfer cig oen Cymru. Yn sicr roedd Blas Cymru yn llwyddiannus iawn. Gwn fodychydig o bobl wedi dweud wrthyf i nad oedden nhw'n hapus fody gwobrau Gwir Flas wedi dod i ben. Rhaid imi ddweud bod y rhan fwyaf o gwmnïau yr wyf yn siarad â nhw wrth eu boddau gyda gwobrau Great Taste y DU, ond mae'n rhywbeth yr wyf i'n hapus iawn i'w ystyried yn y dyfodol—cael ein gwobrau ein hunain. Fe wnaethoch chi ofyn ynglŷn â Phrosiect Helics. Caiff hynny ei gyflawni gan y tair canolfan fwyd rhagoriaeth, fel y gwyddoch chi, y ganolfan diwydiant bwyd ZERO2FIVE ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, Canolfan Bwyd Cymru yn Horeb yng Ngheredigion a'r Ganolfan Dechnoleg Bwyd yng Ngholeg Menai yn Llangefni. Nod Helics yw ysgogi'r arloesi hwnnw a chefnogi datblygu cynnyrch newydd sydd o fudd, yn amlwg, i bob un o'n cwmnïau bwyd a diod, gan gydweithio i ddiwallu eu hanghenion. Felly, mae'r gwaith hwnnw'n parhau. Fe'i lansiwyd ynBlas Cymru ym mis Mawrth ac fe gafodd£21.2 miliwn o gyllid Cynllun Datblygu Gwledig. Yr hyn ymae'n ei wneud ywgweithio gyda chwmnïau sy'n ymwneud â dros 400 o fusnesau bwyd a diod, ac mae'r ffigur hwnnw'n cynyddu bob dydd. Rwy'n hapus iawn i ysgrifennu at yr Aelod os yr hoffai enghraifft benodol o beth mae'r prosiect yn ei wneud, ond disgwylir, dros oes y cynllun, iddo gynhyrchu tua £100 miliwn i economi Cymru a hefyd ddiogelu miloedd o swyddi. Fe wnaethoch chi sôn am y cyllid a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog—cronfa bontio yr UE i helpu ein busnesau. Yn ein cyfarfod bord gron Brexit ddoe yn Aberystwyth, roedd croeso brwd iddo. Mae llawer o'n cwmnïau yn bryderus iawn ynglŷn â gwneud yn siŵr eu bod yn gynaliadwy ac, yn sicr, bydd y £50 miliwn—ac rwy'n edrych ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid—dyna'r cyllid cychwynnol, ac rydym ni'n gobeithio y bydd mwy. Rydych chi'n gofyn aoes gen i ddigon o arian. Mae'n amlwg nad oesgennych chi fyth ddigon o arian, nag oes? Ond rwy'n siŵrbodYsgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wedi clywed fy mhle. Ond, yn sicr, credaf y byddy cyllid mewn gwirionedd yn helpucwmnïau i baratoi ar gyfer Brexit, ac maen nhw'n dweud wrthym ni mai dyna beth y maen nhw'n ei ddymuno. Felly, byddwn yn aros i weld, yn amlwg, ar y diwedd, os bydd angen mwy arnom. Fe wnaethoch chi holi ynglŷn â Hybu Cig Cymru, a soniais am y cyllid ychwanegol a gyhoeddais ar eu cyfer. Maen nhw'n mynd i ddatblygu a chyflwyno rhaglen ddatblygu allforio well ar gyfer cig coch Cymru. Credaf ei bod hi'n bwysig iawn inni geisio cynyddu gwerthiant. Mae'n amlwg y bydd gwerthiant allforio yn elfen allweddol o hynny, a soniais fy mod i wedi dweud wrthyn nhw i fod mor uchelgeisiol â phosib yn y cyfarfod, ac os gallantragori arno, byddai hynny'n fuddiol, yn amlwg, i bawb. Ni allaf weld adeg pan na fyddwn ni'n cyflwyno llaeth mewn ysgolion, ac, yn sicr, mae'rffermwyr yn dweud wrthyf ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n parhau i wneud hynny. Nid wyf wedi cael trafodaethau penodol, ond byddaf yn gwneud yn siŵr y byddaf ynrhoi hynny ar yr agenda. Mike Hedges AC: Rwy'n croesawu'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n credu y dylem ni i gyd groesawu, ers mis Tachwedd 2016, fodtrosiant gwerthianty diwydiant wedi cynyddu o £6.1 biliwn i £6.9 biliwn, ac rwy'n credu y dylai pob un ohonom ni fod yn falch iawn ein bod ni'n sefyll ar drothwy'r targed £7 biliwn tuag at dwf cynaliadwy yn y cynllun gweithredu bwyd a diod, a bennwydyn 2014, i'w gyrraedd erbyn 2020—ac ymddengys y byddwn yn ei gyflawni'n gynnar. Fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol, mae'r Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn cynnal ymchwiliad i fwyd a diod yng Nghymru ar hyn o bryd. Yn rhan o hynny, roeddwn yn siarad â chynhyrchwyr o Gymru yn Sioe Frenhinol Cymru a'r Eisteddfod Genedlaethol. Cefais fy nghyfareddu gan ba mor hawdd oedd hi, meddai'r cwmnïau wrthyf, i gael yr archfarchnadoedd i hyrwyddo eu cynnyrch Cymreig yng Nghymru gyfan. Erbyn hyn, meddent, yr anhawster oedd cael eu cynnyrch ar draws y ffin. Roedd hyn yn cynnwys cwmnïau a oedd yn seiliedig yn Sir y Fflint sy'n ei chael hi'n haws cael archfarchnad i roi eu cynnyrch yn eu hadran Gymreigyn Abertawe nag i'w roi yng Nghaer achaeladran Gymreigyng Nghaer. A soniwyd am hyn wrth Ysgrifennydd y Cabinet, ac os nad, a all Ysgrifennydd y Cabinet, efallai, siarad â rhai pobl sy'n prosesu bwyd yng Nghymru i weld a yw honno'nbroblem gyffredinol? Fel y gŵyr pobl, mae gennyf ddiddordeb mawr mewn rhannau o Ewrop megis Aarhus. Mae gan Aarhus dri phrosesyddbwyd mawr: Arla, Lurpak a Castello. Beth fyddwn i'n ei weld pe byddwn yn mynd iarchfarchnad yn Nenmarc—beth fyddai'n cyfateb i hynny yng Nghymru? Credaf, os mai dim yw'rateb, y credaf mai dyna ydyw ynfwy na thebyg, mai dyna mewn gwirionedd yw ein her, ynte? Un o'r meysydd twf mewn bwyd a diod fumicro fragdai, megis West by Threea Boss yn Nwyrain Abertawe, yn ogystal â bragdai annibynnol bach sy'n tyfu fel Tomos Watkin, hefyd yn Nwyrain Abertawe, a Tiny Rebel yng Nghasnewydd. Pa gefnogaeth mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i'r diwydiant hwn, sydd mewn gwirionedd wedi bod yn ddiwydiant twf yn economi Cymru dros y 10 mlynedd diwethaf? Lesley Griffiths AC: Diolch i Mike Hedges am y cwestiynau hynny. Rwy'n gwbl argyhoeddedig y byddwn yn sicr yn cyrraedd y targed hwnnw o £7 biliwn pan fydd data 2017 gennym, ac yna bydd yn rhaid i ni benderfynu ble'r ydym yn gosod y targed nesaf. Fe wnaethoch chi gyfeirio yn benodol at Gaer, ac, yn amlwg, mae fy etholaeth i yn ffinio â Swydd Gaer—[Torri ar draws.] Rwy'n dyfalu mai dyna pam yr ydych chi wedi sôn amdano. Ni allaf feddwl am unrhyw un mewn gwirionedd sydd wedi sôn wrthyf i am hynny. Roeddwn yn eithaf siomedig i ganfod, pan ddeuthum i'r swydd, nad oedd gennym ni, mewn gwirionedd, yr ystadegau ar gyfer cynnyrch yr ydym ni'n ei allforio i Loegr—yn niffyg gair gwell—ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae angen inni ei ystyried, oherwydd yn sicr mae angen inni sicrhau ein bod yn gweldcynnydd yn ein cynnyrch bwyd a diod o Gymru sy'n mynd i Loegr. Rwy'n ymwybodol iawn o'r Pwyllgor y mae Mike Hedges yn ei gadeirio, ac o'radolygiad, ac rwy'n wirioneddol edrych ymlaen at dderbyn yr adroddiad.FootnoteLink Mae'r agenda bwyd a diod yn eang iawn, ond mae'n gwbl hanfodol bwysig i Gymru, a dyna pam yr oeddwn i mor falch o'i gweld yn flaenoriaeth a'i bod wedi dod yn sector sy'n sylfaen ar gyfer ein heconomi. Yn sicr, rwyf wedi cael llawer o drafodaethau gyda'm cyd-Aelod, Ken Skates, ynghylch twristiaeth bwyd, er enghraifft. Ceir bylchau yno y gallwn ni ymdrin â nhw yn y dyfodol. O ran micro fragdai, yn sicr, rwyf wedi bod yn ffodus i ymweld â rhai fy hun. Rwyf wedi ymweld â Tiny Rebel yng Nghasnewydd, ac fe wnaethon nhw ddweud wrthyf—. Mae'n gwmni gwych wedi'i ddechrau gan gwpl ifanc, arloesol iawn, ac fe wnaethon nhw ddweud wrthyf yn sicr eu bod nid yn unig yn ddiolchgar am y cymorth a gawsant—nid dim ond cymorth ariannol, ond y cyngor busnes gan swyddogion—ac eto, mae'n wych eu gweld yn mynd o nerth i nerth. Gwybodaeth ychwanegol at y Cyfarfod Llawn (Saesneg yn unig) Neil Hamilton AC: Rwyf innau, hefyd, yn croesawu'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n stori newyddion da, ac rwy'ncroesawu ymdrechion y Llywodraeth i gynyddu cwmpas brandio Cymrua hefyd y cwmpas ar gyfer allforio ein cynhyrchion. DisgrifioddYsgrifennydd y Cabinet ei hun i mi un tro fel rhywun gwydr hanner llawn yn hytrach na rhywun gwydr hanner gwag, ac rwy'n falch o glywed, felly, y tinc cadarnhaol sydd i'w datganiad—ar ôl y cyfeiriad defodol at ansicrwydd Brexit ac ati—ond serch hynny, yn edrych ymlaen at adeiladu ar gyfleoedd mewnforio sy'n ceisio cystadlu â chynhyrchion bwyd a diod Cymru, oherwydd bydd gennym ni gyfle i fanteisio ar y rhyddid newydd a fydd gennym ni ar ôl Brexit. Ym mhob sector brono gynnyrch amaethyddol yn y DU—nid wyf wedi gallu dod o hyd i ystadegau Cymru a chyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet eiliad yn ôl at yr angen i fireinio sylfaen ystadegol ein gwybodaeth ynglŷn â chynhyrchu a gwerthiannauCymru—ond yn y DU yn ei chyfanrwydd, rydym ni mewn diffyg sylweddol ym mhob maes o gynhyrchu amaethyddol bron a bod, ac mewn rhai achosion yn sylweddol felly. Mewnforion cynhyrchion llaeth ac wyau, er enghraifft—. Mae'n ddrwg gennyf, byddai'n well i mi wisgofy sbectol. Mae £2.8 miliwn mewn mewnforion o'i gymharu â £1.2 miliwn o allforion. Ac mewn cig, unwaith eto, mae'n £6.1 miliwn—. Na, mae'n ddrwg gennyf—. Nid wyf yn gwisgofy sbectol, felly ni allaf ddarllen popeth. Ond beth bynnag, y canlyniad yw ein bod yn allforio llawer llai nag yr ydym yn ei fewnforio. Felly, mae hyn yn rhoi'r cyfle inni fanteisio ar y gwerthiannau ychwanegol. Rydym ni mewn sefyllfa ffodus lle mae poblogaeth y byd yn dal i dyfu'n gyflym, ac yn y rhannau hynny o'r byd—y gwledydd mwyaf poblog, fel Tsieina ac India—maen nhw hefyd yn dod ynllawer mwy cyfoethog bob blwyddyn, felly mae hynny'n golygu y byddant yn datblygu chwaeth foethus. Felly, mae'n rhaid i'rdyfodol ar gyfer cynnyrch ac allforion Cymru fod yn y sector moethus ac o ansawdd, sy'n newyddion da i ni, oherwydd rydym ni'n cynhyrchu bwyd o'r safon uchaf, ac felly dim ond cwestiwn o farchnata yn yr economi fyd-eang ydyw. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed i'r marchnadoedd ar gyfer cig oen, lle y gwyddom ni y bydd gennym ni broblem sylweddol os nad oes cytundeb masnach synhwyrol gyda'r UE. Ac er bod y rhan fwyaf o'n mewnforion o Seland newydd, nid o rannau eraill o'r byd, mae gennym ni ddiffyg masnach hyd yn oed mewn cig oen. Felly, mae digonedd o gyfleoedd i ni bledio'rachos dros fwy o allforion. Ac wrth ystyried bod gwerth allforion, fel y dywedwyd yma, yn£436 miliwn yn 2016, mewn economi sy'n werth tua £60 biliwn, mae hynny'n dal yn swm bach iawn o arian. Felly, rhaid bod posibiliadau enfawr, rwy'n credu, ar gyfer ffermwyr a chynhyrchwyr a phroseswyr bwyd Cymru i fanteisio ar economi'r byd sy'n cynyddu aceconomi fyd-eang sy'n dod yn fwy a mwy ffyniannus. Felly, credaf fod pob plaid yn y siambr hon yn dymuno'n dda i'rLlywodraeth yn yr ymdrechion y mae'ndechrau arnynt, er bod y byd bob amser yn ansicr, ni waeth beth ywein trefniadau masnachu, ac yn sicr maeffermwyr wedi gweld, yn y 30 neu 40 mlynedddiwethaf, ansicrwydd enfawr hyd yn oed o fewn yr UE. Credaf fod pob rheswm dros fod yn gadarnhaol bod ein brand, y brand Cymreig, yn cael ei gydnabod bellach ar draws y byd, a hyd yn oed er bod llawer mwy i'w wneud, mae llawer i fod yn gadarnhaol yn ei gylch Lesley Griffiths AC: Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny, ac rwy'n dal i lwyddoi gadw fy agwedd gwydr hanner llawn er gwaethaf yr holl ansicrwydd. Dywedwch fy mod yn sôn yn ddefodol am ansicrwydd Brexit, ond rwy'nsiŵr, yn eich sgyrsiau, wrth i chi fynd o amgylch eich rhanbarth chi, rhaid bod cynhyrchwyr amaethyddol y sector bwyd a diod yn dweud wrthych chi, oni chawn y Brexit mwyaf meddal, ceir llawer iawn o ansicrwydd. Yr un peth am y diwydiant bwyd a diod sydd wedi fy nharo yw'r ymdeimlad hwnnw o egni ac uchelgais sydd ganddo, ac mae hynny wedi ei gyplysu â diddordeb pobl yn ein cynnyrch, sydd wedi golygu ein bod wedi gallu cyrraedd ein targed yn llawer cynharach nag a gynlluniwyd. Ac rydych chi'n iawn, mae cymaint o gyfleoedd, ac rwy'n ei chael hi'n hawdd gwerthu, os mynnwch chi—. Lle bynnag yr af, mae gan bobl ddiddordeb mawr mewn bwyd o Gymru. Fe wnaethoch chi sôn am gig oen yn arbennig, ac rydym ni'n adnabyddus am ein cig oen, nid oes unrhyw amheuaeth am hynny, ond credaf, hyd yn oed dros y flwyddyn ddiwethaf, mae pobl yn dechrau dysgu mwy am ein cynnyrch. Fe wnaethoch chi holi ynglŷn ag allforion a chyfeirio at allforion a sut y gallem ni fodyn gwneud llawer mwy, ac nid wyf yn anghytuno â hynny. Credaf fod ein presenoldeb mewn lleoedd fel Anuga yn Gulfood yn Dubai, yn SIAL ym Mharis, yn hanfodol bwysig. Rhain yw ddigwyddiadau bwyd a diod mwyaf y byd ac rydym wedi cefnogi presenoldeb Cymreig sylweddol yn y digwyddiadau hyn er mwyn sicrhau y cânt y cyfle i gael y fasnachychwanegol honnoo dramor. Unwaith eto, Hybu Cig Cymru—mae'n bwysig iawn, fel sefydliad, eu bod yno, yn chwifio'r faner ar ranbwyd a diod Cymru. Rydym ni'n gwybod bod diwydiant cig coch Cymru yn arbennig o ddibynnol ar y marchnadoedd allforio i allu cyflawni'r prisiau premiwmhynny, felly mae galw tramor mawr yn cynyddu'rprisiau wrth giât y fferm ac yn helpu i sicrhau cydbwysedd rhwng y cyflenwad a'r galw, ac mae hynny wedynyn sicrhau mwy o elw ar gyfer y cadwyni cyflenwi. Ceir cyfleoedd, wrth inni ddod allan o Ewrop, wrth gwrs, ac mae'n hollbwysig inni eu cael, ond ar hyn o bryd mae gennym ni fynediad digyfyngiad at 500 miliwn o gwsmeriaid posib, ac mae Brexit yn peryglu hynny—ni allwn ni ddianc rhag hynny. Felly, mae'r rhyddid hwnnw o'r rhwystrau gwahaniaethu ar sail tariff a dimtariff yn golygu bod ein cynhyrchwyr yn gallu allforio i wledydd eraill yr UE yn llawer haws. Ond rwy'ngwneud popeth y gallafi gynorthwyo cwmnïau i gyrraedd marchnadoedd newydd, ac yn amlwg, yn fy holl drafodaethau, yn arbennig gyda Llywodraeth y DU, ni allaf ailadrodd yn ddigon aml sut y mae bargen fasnach synhwyrol mor bwysig ar gyfer ein diwydiant bwyd a diod. Joyce Watson AC: Hoffwn groesawu'r adroddiad heddiw. Mae'n weddol amlwg bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r diwydiant bwyd a diod bob ffordd y gall hi gan hybu'r cynnyrch, y gweithgynhyrchu a chefnogi staff. Ond rwyf eisiau gofyn i chi yn arbennig, Ysgrifennydd y Cabinet, a allem ni wneud llawer mwy i hyrwyddo cynnyrch bwyd Cymru ac ar yr un pryd cael llai o wastraff mewn bagiau plastig untro. Credaf fod chwantmawr—chwarae ar eiriau bwriadol—am leihau gwastraff mewncynhyrchu bwyd. A chredaf mai dyma'r adeg ac rwy'n credu bod gwir angen inni achub ar y cyfle. Mae mentrau ar waith i hyrwyddo Cymru fel gwlad lle'r ydym ni eisiau lleihau gwastraff, ac mae un o'r rhai sy'n dod i'r amlwg yn eithaf trawiadol, ac mae hynny yn Aber-porth yng Ngheredigion, lle maent yn eithaf penderfynol o leihau'r holl blastig yn eu cynhyrchion bwyd, oherwydd mae'r gwastraff plastig untro yn deillio gan amlaf o'r diwydiant bwyd. Gofynnais ichi, yr wythnos diwethaf oedd hi, rwy'n credu, gwestiwn ynglŷn â'r cyfleoedd y gallem ni fanteisio arnyn nhw, oherwydd nid ywJapan yn mynd i gymryd y swm enfawr o wastraff mwyach—credaf ei fod yn fwy na 4,000 tunnell y flwyddyn o Gymru mewn deunydd ailgylchadwy. Felly, gwelaf od cyfle lle gallai Cymru nid yn unig arwain y ffordd, fel y mae hi gydagailgylchu, ond hefyd o ran manteisio ar hynny fel cyfle i gysylltu hynny gyda, fel rwy'n dweud, ymdrech wirioneddol i leihau plastig untro yn y diwydiant bwyd. Credaf y byddai o fantais enfawr i bawb pe gallech chi, rywsut, pan rydych chi'n rhoi'r arian i hybu cynhyrchu bwyd, hefyd, ar yr un pryd, gynnig rhai cymhellion i hybu llai o ddeunydd pacio yn y dyfodol. Oherwydd nid ydym yn allforiopopeth yr ydym yn ei gynhyrchu; rydym yn defnyddio symiau sylweddol yma yng Nghymru. Rwyf yn wirioneddol gredu bod hwn yn gyfle y dylem ni fanteisio arni ar unwaith. Credaf, pan rydym ni'n darllen am—rwy'n siŵr fod pobl yma wedi—yr ymgyrch 'cael gwared ar y gwelltyn', sy'n ymwneud â chael gwared arwellt plastig—. Mae hynny'n deillio ac yn tarddu o fachgen naw mlwydd oed o'r Unol Daleithiau yn ymgyrchu dros hynny. Credaf y byddai hi'n dda iawn pe byddem ni i gyd yn dilyn yr esiampl honno. Yn olaf, credaf y byddai hi'n fanteisiol pe gallech chi ddylanwadu mewn unrhyw fodd ar archfarchnadoedd, lle maen nhw'n gwerthu cynnyrch Cymru, i beidio â rhoi'r bagiau plastig untrocynnyrch ffres gerllaw, ond efallai i ystyried cynnig bagiau papur y gallaipobl roicynnyrch ffres ynddyn nhw, os ydyn nhw'n teimlo bod rhaid iddyn nhw, gan felly, ar unwaith, helpu i roi'r ddau beth hynny gyda'i gilydd. Lesley Griffiths AC: Diolch i Joyce Watson am ei chwestiynau perthnasol iawn ynghylch y defnydd o blastig a deunydd pacio.Credaf eich bod yn iawn, dyma'r amser. Credaf fod gan bobl wir ddiddordeb yn hyn, ac, yn amlwg, gyda fy nghyd-Aelod, Hannah Blythyn, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, byddwn yn cyflwyno strategaeth wastraff ar gyfer Cymru, fydd yn rhoi sylw i leihau gwastraff bwyd yn ogystal, oherwydd credaf fod hynny hefyd—. Ar hyn o bryd, nid wyf yn credu bod pobl yn sylweddoli faint o fwyd sy'n cael ei daflu, a chredaf fod cyfle gennym ni yma i leihau faint o fwyd a wastraffwn. Credaf fod yn rhaid inni. Mae pobl yn ei chael hi'n anodd yn ariannol, maellawer o gyfleoedd i leihau ac atal gwastraff ac arbed arian. Mae gwaith wedi dechrau i ystyried sut y gellir lleihau gwastraff deunydd pacio bwyd, ac rydym ni'n gwybod bod plastig, yn benodol, yn broblem fawr. Credaf fod angen inni gael y drafodaeth honno gyda'r archfarchnadoedd—gwn yn union beth a olygwch chi am fagiau plastig untro ochr yn ochr â chynnyrch—i geisio lleihau'r nifer sy'n cael eu defnyddio. Mae'r fenter gwellt plastig morsyml, ond mae'n bwysig. Pan oeddwn i yn Dubai yn Gulfood y llynedd, ymwelais â ffatri oedd yn gwneud gwellt plastig. Roedd yn erchyll gweld y niferoedd a gânt eu cynhyrchu, ac roedd yn hollol anghredadwy. Felly, gallai pethau bach fel newid o blastig i bapur—oherwydd rydym ni'n gwybod fod pobl yn awyddus iddefnyddio gwellt—gallai arbed cymaint. Felly, fel y dywedaf, mae hon yn agwedd o waith a gaiff ei datblygugan y Gweinidog dros yr Amgylchedd, a byddaf yn amlwg yn cefnogi hi gyda hynny. Rwy'n hapus iawn i gael sgwrs gyda hi i geisio lleihau gwastraff bwyd yn ogystal, oherwydd credaf ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n gwneud y ddau, ochr yn ochr. David Melding AC: Gweinidog, yn dilyn y cwestiwn a ofynnodd Joyce Watson i chi yn gynharach, a fydd Prosiect Helics yn caelei ddefnyddio i roi adnoddaui weithgynhyrchwyr bwyd bach a chanolig fel y gallan nhw newid rhai o'u prosesau? Gan fod y rhan fwyaf o'r enghreifftiau y mae pobl wedi sôn amdanynt hyd yma yn bethau y mae cwmnïau felCoca-Cola, Waitrose, Wetherspoon, Iceland,McDonald's wedi eu gwneud—cwmnïau mawr iawn gyda'r adnoddau sydd eu hangen i newid rhai o'r prosesau a'r trefniadau ar gyfer eu deunydd pacio yn weddol gyflym. Rwy'ncytuno— fe allem ni farchnata Cymru fel rhywle eco-gyfeillgar iawn o ran ei chynhyrchion bwyd a diod, ond credaf y bydd angen help ar rai yn y sector busnesau bach a chanolig, fellymaes allweddol ar gyfer Prosiect Helics, byddwn yn ei ddweud. Lesley Griffiths AC: Rwy'n credu bod hwnna'n awgrym da iawn, alla i ddim gweld pam na allen nhw. Fe soniais i o'r blaen mai eu cenhadaeth yw ysgogi arloesedd a chefnogi datblygiadau prosiect newydd a fyddai o fudd i'n cwmnïau bwyd a diod, felly dwi ddim yn gweld pam na allai hynny fod yn rhan ohono. Rydym ni wedi arwain y ffordd o ran ailgylchu; pam na allwn ni arwain y ffordd mewn gwneud hynny? Mae'n arbennig ar gyfer busnesau bach a chanolig, felly un o'r pethau y maen nhw'n ei wneud yw ymateb, er enghraifft, i ymholiadau technegol, felly rwy'n credu y gallai hyn weddu i'r dim. Jenny Rathbone AC: Wrth gwrs, y rhybudd mwyaf ar blastigau yw ein bod ni erbyn hyn yn gweld plastig yn ein pysgod o ganlyniad i lygredd y moroedd. Rwy'n falch iawn eich bod wedi crybwyll bod bwyd yn ymwneud â phobl, eu hiechyd a'u lles, ac nid â chywion ieir wedi'u llygru yn cael eu golchi gyda chlorin neu foch wedi eu pesgi'n artiffisial a gwartheg wedi eu tewhau nes bod eu cefnau'n torri. Rwy'n cymeradwyo'n llwyr y cynlluniau gwyliau bwyd a hwyl sydd ar waith i fynd i'r afael â diffyg maeth ymhlith plant, ac rwy'n edrych ymlaen at fwy o fanylion am eich strategaeth ar ordewdra. Mae'r ardystiad Bwyd am Oes sy'n cael ei gynnig gan Gymdeithas y Pridd yn arbennig o berthnasol i'r bwyd yr ydym ni'n ei weini yn ein hysgolion. Mae nhw angen cyflenwyr bwyd lleol i wneud hynny weithio, felly pan ein bod ni'n buddsoddi mewn sgiliau, mae angen i ni wybod ble yng Nghymru y gallwch chi ddilyn cyrsiau garddwriaeth, gan fod gennym ni ddigon o gig—mae gennym ni gryn waddol yn hynny o beth—ac mewn cynhyrchion llaeth a chaws, ond mae angen amrywio ein deiet er budd ein hiechyd a'n lles. Ble yng Nghymru y gallwch chi brynu cennin Cymreig—y symbol hwnnw o'n gwlad? Efallai na allwch chi ateb hynny heddiw, ond byddai gennyf ddiddordeb gwirioneddol mewn cael yr ateb. Lesley Griffiths AC: Wel, gallaf ddweud yn bendant bod Morrisons yn eu gwerthu, oherwydd yn rhan o gynllun BlasCymru—. O Sir Benfro, Puffin Produce—maen nhw'n gwerthu cennin Cymreig, ac rwy'n gwybod yn sicr bod Morrisons yn un o'r archfarchnadoedd sy'n eu cymryd. Ond rwy'n credu eich bod chi'n iawn, mae'n bwysig bod pobl yn gwybod ble i gael gafael ar hyfforddiant sgiliau garddwriaethol, a gwn yn sicr—. Mewn gwirionedd, yn etholaeth Gweinidog yr Amgylchedd, mae coleg yno sy'n ei gynnig. Felly, mae'n ymwneud â chael y cydbwysedd hwnnw. Ond, unwaith eto, rwyf wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sydd eisiau dechrau ym maes garddwriaeth, yn sicr yn fy etholaeth fy hun, felly rwy'n credu bod yn rhaid i'r sgiliau hynny fod yno, ac yn rhan o'r gynhadledd sgiliau yr ydym ni'n ei chynnal a'r trafodaethau â chwmnïau yw gwneud yn siŵr bod bob math o sgil y maen nhw ei angen ar gael iddyn nhw. Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. 6. Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 Yr eitem nesaf ar yr agenda yw Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) 2018, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i gyflwyno'r cynnig hwnnw—Mark Drakeford. Cynnig NDM6629Julie James Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5 1. 1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft aosodwydyn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Rhagfyr 2017. Cynigiwyd y cynnig. Mark Drakeford AC: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rydw i'n falch o gyflwyno Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018. Mark Drakeford AC: A gaf i roi ar y cofnod fy niolch i'r Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am eu gwaith yn ystyried y rheoliadau hyn? Cânt eu gwneud o dan adrannau 17, 54 a 93 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017, ac mae'r ddau yn ymwneud â gweinyddu'r dreth honno. Mae'r rheoliadau yn cwmpasu dau brif faes. Mae rhan 2 yn nodi'r gofynion ychwanegol i'r rhai hynny sydd yn y Ddeddf y mae'n rhaid eu bodloni er mwyn i ronynnau gwastraff mân fod yn gymwys ar gyfer y gyfradd dreth is. Darnau bach o ddeunydd sy'n cael eu cynhyrchu gan broses trin gwastraff sy'n cynnwys triniaeth fecanyddol yw gronynnau gwastraff mân. Mae gofynion sydd wedi'u cynnwys yn y rheoliadau yn cynnwys cynnal prawf colled wrth danio ar ronynnau gwastraff mân, yn ogystal â'r trefniadau ar gyfer gwneud hynny. Maen nhw'n rhoi pwerau i alluogi Awdurdod Refeniw Cymru i nodi manylion y gofynion hyn mewn hysbysiad y gellir ei orfodi yn gyfreithiol, ac os caiff y rheoliadau hyn eu cymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol y prynhawn yma, byddan nhw'n helpu gweithredwyr tirlenwi i benderfynu ar y swm cywir o dreth daladwy. Mae rhan 3 yn nodi credyd ansolfedd cwsmeriaid. Mae hyn yn rhoi hawl i gredyd treth i weithredwyr safleoedd tirlenwi pan fo eu cwsmeriaid yn mynd yn fethdalwyr cyn talu'r gweithredwr am gynnal gwarediad trethadwy. Bydd aelodau'r Pwyllgor Cyllid yn cofio, o'u hystyriaethau, fod hwn yn fater dadleuol iawn yn ystod hynt y Ddeddf, gyda gwahanol ymatebwyr i'r ymgynghoriad yn hyrwyddo agweddau gwahanol iawn: rhai yn dadlau o blaid diddymu'r credyd treth yn llwyr, ac eraill o blaid lefel hael iawn o gadwraeth. Fel y mae hi, mae'r rheoliadau sydd gerbron y Cynulliad heddiw yn dilyn yn fras y dull a fabwysiadwyd yn yr Alban. Maen nhw'n cadw credyd treth yn y maes hwn, ond yn cyfyngu'r amodau sy'n arwain at yr hawl. Dim ond pan fo cwsmeriaid y gweithredwr yn mynd yn fethdalwyr y mae'r credyd ar gael o dan y rheoliadau hyn. Prif nod y rheoliadau yw diogelu refeniw, ac yna darparu sefydlogrwydd i weithredwyr. Mark Drakeford AC: Gofynnaf i Aelodau gefnogi’r rheoliadau y prynhawn yma. Daeth y Llywydd i’r Gadair. Simon Thomas. Simon Thomas AC: Diolch, Llywydd, ond nid oes gen i sylwadau pellach gan fod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi ateb popeth a oedd wedi cael ei godi gan y Pwyllgor Cyllid, a gan bobl eraill. Waw. Jane Hutt. Jane Hutt AC: Llywydd, rwy'n croesawu'r Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) 2018 hyn, a chefnogaf Ysgrifennydd y Cabinet yn ddiamod, fel aelod erbyn hyn o'r Pwyllgor Cyllid. Rwy'n falch iawn o weld y dreth gyntaf mewn 800 mlynedd, nid ar y llyfr statud yn unig, ond yn barod i'w gweithredu o fis Ebrill 2018. Rwy'n falch fy mod i wedi gallu chwarae fy rhan fel Gweinidog i baratoi'r ffordd ar gyfer y diwrnod newydd hwn i Gymru, gan gyflwyno Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru), a gafodd Gydsyniad Brenhinol yn 2016. Ond ar gyfer y cofnod, ym mlwyddyn canmlwyddiant hawl menywod i bleidleisio, rwy'n ymwybodol o'r rhan y mae menywod wedi ei chwarae yn y Cynulliad hwn—yn y Llywodraeth fel Gweinidogion cyllid, Edwina Hart a Sue Essex, cyn fy nhymor i o chwe blynedd yn y swydd, ac yn y Cynulliad, Jocelyn Davies, fel cyn-Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, a wnaeth y gwaith craffu ar y Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru). Rwy'n falch iawn bod Awdurdod Cyllid Cymru, a fydd yn casglu'r dreth trafodiadau tir a'r dreth hon, yn cael ei gadeirio gan fenyw, Kathryn Bishop. Yn 1918, cafodd menywod hawl rhannol i bleidlais, a dyna pryd y chwalwyd y Gynghrair Menywod dros Wrthwynebu Trethi, a oedd â'r slogan, 'Dim pleidlais, dim trethi', gan fod menywod wedi cael yr hawl i bleidleisio o'r diwedd. Felly, gadewch i ni ddathlu'r diwrnod hanesyddol hwn, yn ysbryd Hywel Dda, i hyrwyddo cydraddoldeb ym mhob agwedd ar ddatganoli, gan gynnwys darparu a rheoli ein trethi newydd yng Nghymru. Galwaf ar yr Ysgrifennydd Cabinet i ymateb i'r ddadl. Mark Drakeford AC: Diolch, Llywydd. A gaf i ddweud wrth Jane Hutt fy mod i'n cytuno'n llwyr â hi ar y rhan sylweddol iawn y mae Aelodau'r Cynulliad hwn sy'n fenywod wedi'i chwarae wrth ddatblygu'r cyfrifoldebau newydd hyn? Bydd ganddi ddiddordeb mewn gwybod, gan y gofynnwyd y cwestiwn hwn i mi gerbron y Pwyllgor Cyllid yn ddiweddar iawn, bod, yn Awdurdod Refeniw Cymru, dros hanner y penodiadau a wnaethpwyd i'r awdurdod bellach yn fenywod, a bod menywod yn cael eu cynrychioli ar bob lefel o gyfrifoldeb o fewn y corff newydd hwn, gan barhau felly y gwaith y mae hi ac eraill wedi ei arloesi yn y maes hwn. A gaf i ddiolch i Simon Thomas am gydnabod fy mod wedi gallu ymateb i'r pwyntiau yr oedd gan y Pwyllgor Cyllid ddiddordeb ynddynt? Er eu bod yn dechnegol eu natur, Llywydd, nod y rheoliadau yw darparu casgliad o ofynion sy'n gyson, clir a theg y gall trethdalwyr eu dilyn er mwyn nodi pryd y bydd y gyfradd dreth is yn gymwys ar gyfer cymysgeddau o fân ddeunyddiau, a hefyd wrth benderfynu ar eu hawl i gredyd ansolfedd cwsmeriaid. Gobeithio y bydd yr Aelodau yn teimlo y gallan nhw eu cefnogi y prynhawn yma. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 7. Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2018 Yr eitem nesaf yw’r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2018. Rydw i'n galw ar Weinidog yr Amgylchedd i wneud y cynnig. Hannah Blythyn. Cynnig NDM6628Julie James Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5 1.Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft aosodwydyn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Rhagfyr 2017. Cynigiwyd y cynnig. Hannah Blythyn AC: Diolch, Llywydd. Edrychaf ymlaen at drafod y rheoliadau hyn, a fydd yn gwneud cyfraniad pwysig i wella ansawdd aer a lleihau llygredd diwydiannol. Hannah Blythyn AC: Yn y ddadl ar ansawdd aer ar 5 Rhagfyr, amlinellais ystod o gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau gwelliannau i ansawdd yr aer yng Nghymru. Yn ystod y ddadl hon, eglurais y camau hanfodol ar gyfer iechyd a lles ein cymunedau a'n hamgylchedd. Bydd Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2018 yn gweithredu'r gyfarwyddeb gweithfeydd hylosgi canolig, gan helpu i fynd i'r afael â'r her ansawdd aer drwy ymestyn a chryfhau ein rheolaethau presennol ar allyriadau sylweddau llygru i'r atmosffer o weithfeydd hylosgi. Defnyddir gweithfeydd hylosgi canolig â chapasiti rhwng 1MW thermol a 50MW thermol ar gyfer amrywiaeth eang o weithrediadau. Mae'r rhain yn cynnwys cynhyrchu gwres ar gyfer adeiladau mawr megis swyddfeydd, gwestai, ysbytai ac ysgolion, a darparu gwres a stêm ar gyfer prosesau diwydiannol a chynhyrchu trydan. Bydd Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2018 yn rhoi grym i derfynau uchaf y Gyfarwyddeb ar allyriadau nitradau ocsid, sylffwr deuocsid a gronynnau i'r atmosffer o weithfeydd hylosgi canolig. Mae'r rhain yn llygryddion atmosfferig allweddol. Mae gweithfeydd â capasiti thermol dros 20MW eisoes yn destun rheolaethau amgylcheddol o dan ein cyfundrefn trwyddedu amgylcheddol, gan gynnwys y gofyniad bod y technegau gorau sydd ar gael yn cael eu rhoi ar waith i atal llygredd ac na achosir llygredd sylweddol. Mae'r rheolaethau hyn yn parhau i fod ar waith ochr yn ochr â'r gofynion a weithredir o'r newydd drwy'r Gyfarwyddeb gweithfeydd hylosgi canolig. Bydd y rheoliadau hefyd yn cyflwyno rheolaethau ychwanegol wedi eu targedu i fynd i'r afael â llygredd o weithfeydd hylosgi sy'n is na 50MW thermol a ddefnyddir i gynhyrchu trydan. Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym ni wedi gweld twf sylweddol yn niferoedd y gweithfeydd hylosgi sy'n llosgi diesel i gynhyrchu trydan yn ystod cyfnodau byr o alw uchel. Gall y gweithfeydd hyn gynhyrchu dros chwe gwaith mwy o nitrogenau ocsid na'r dewisiadau amgen sy'n llosgi nwy. Mae angen y rheolaethau a gaiff eu cyflwyno gan y rheoliadau er mwyn sicrhau nad yw'r gweithfeydd cynhyrchu trydan hyn yn effeithio ar ansawdd yr aer ac iechyd y cyhoedd. Bydd y rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr gweithfeydd sy'n weithredol gael trwydded amgylcheddol gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Bydd y trwyddedau yn nodi'r gofynion gweithredu manwl sydd eu hangen i sicrhau bod ansawdd yr aer yn cael ei ddiogelu, gan gynnwys gwerthoedd terfyn ar gyfer allyriadau llygryddion allweddol, gofynion monitro a rhwymedigaethau adrodd. Bydd y gofynion hyn yn cael eu gweinyddu a'u gorfodi gan Cyfoeth Naturiol Cymru am oes pob trwydded, ac ysgwyddir costau sy'n gysylltiedig â chyflwyno trwydded a gwirio cydymffurfiad gan y gweithredwr o dan y darpariaethau adennill costau presennol ar gyfer trwyddedu amgylcheddol. Gofynnaf am eich cefnogaeth heddiw ar gyfer gweithredu Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2018. Bydd rhwymedigaethau'r gyfarwyddeb, a gyflwynir gan y rheoliadau hyn, ynghyd â'r rheolaethau ychwanegol wedi eu targedu ar weithfeydd sy'n cynhyrchu trydan, yn gwneud cyfraniad pwysig at wella ansawdd aer ac iechyd y cyhoedd yn unol â nodau llesiant Llywodraeth Cymru a'r strategaeth genedlaethol, 'Ffyniant i Bawb'. Simon Thomas AC: Diolch i'r Gweinidog am egluro'r angen ar gyfer y rheoliadau hyn. Rydym ni yn cefnogi'r hyn y mae'r Gweinidog yn ei wneud, a chyfres o reoliadau ar y cyd rhwng Cymru a Lloegr yw'r rhain, wrth gwrs, mewn ymateb i gyfarwyddeb yr UE. Mae gennyf i un neu ddau gwestiwn, os caf i. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau, mewn gwirionedd, er ein bod ni'n croesawu hyn, bod y rheoliadau hyn mewn gwirionedd yn cael eu trosi yn hwyr, a'r tu hwnt i'r amserlen a nodwyd gan yr UE, sydd, yn fy marn i, yn sefyllfa anffodus, a hoffwn i ddeall sut y digwyddodd hyn? Yr ail bwynt yr hoffwn ei wneud yw eu bod, fel y deallaf y rheoliadau hyn, bellach yn cynnwys rhai o weithfeydd pŵer y cyfeiriodd y Gweinidog atyn nhw, nad oedden nhw wedi'u cynnwys o dan gyfarwyddebau fel hyn yn y gorffennol. Mae hwn yn gam pwysig iawn o ran cynnal ansawdd aer da a gwell ansawdd aer yng Nghymru. Rydym ni'n gwybod y goblygiadau i iechyd y cyhoedd oherwydd yr ansawdd aer gwael sydd gennym mewn llawer o fannau yng Nghymru. Mae'r broses drwyddedu, fodd bynnag, o'r hyn rwy'n ei ddeall, hefyd yn caniatáu i'r gweithfeydd hŷn, felly, mewn gwirionedd, y rhai sy'n llygru fwyaf, gael mwy o amser i wella'n ddigonol. A hoffwn i ddeall sut yr ydym ni'n mynd i ddefnyddio'r wybodaeth orau yr ydym ni'n ei chael a gwaith gorau Cyfoeth Naturiol Cymru i geisio cyflymu'r broses honno mewn gwirionedd. Oherwydd mae'n ymddangos i mi, bron fel y dylem ni ei wneud y ffordd arall, yn hytrach na rhoi mwy o amser i'r gweithfeydd hŷn. Efallai fod materion yn y fan yma yn ymwneud â chostau ac effeithiolrwydd, ond dyma'r rhai sydd mewn gwirionedd yn cyfrannu at yr argyfwng iechyd cyhoeddus sydd gennym ni yng Nghymru ar hyn o bryd. Galwaf ar y Gweinidog i ymateb i'r ddadl. Hannah Blythyn. Hannah Blythyn AC: A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gyfraniad yn y ddadl hon? Roedd eich cwestiwn cyntaf yn ymwneud â throsi'r gyfarwyddeb gweithfeydd hylosgi canolig yn hwyr. Mae'r oedi o ran trosi wedi ei achosi gan yr oedi wrth gwblhau elfennau o'r rheoliadau sy'n ymwneud â chydadwaith â rheolaethau amgylcheddol diwydiannol presennol. Ar ôl i'r rheoliadau gael eu cwblhau roedd yn rhaid iddyn nhw fynd drwy gyfnod tri mis o hysbysu i'r Comisiwn Ewropeaidd, ac nid oedd yn bosibl symud ymlaen â'r rheoliadau yn y cyfnod hwnnw. Daeth y cyfnod hysbysu i ben ar 8 Rhagfyr, a chyflwynwyd y rheoliadau gerbron y Cynulliad y diwrnod gwaith canlynol gennym ni, sef 11 Rhagfyr. Cafodd y rheoliadau eu cyflwyno yn y Senedd ar yr un diwrnod. Rwy'n siŵr na fydd yr oedi o ran y trosi yn effeithio ar gyflwyno gofynion y gyfarwyddeb yn brydlon, ac mae'n rhaid cymhwyso'r cyntaf ohonyn nhw erbyn 20 Rhagfyr eleni. O ran y dull cyflwyno graddol ar gyfer rhai o'r gweithfeydd hŷn, sef nifer fawr o'r gweithfeydd hylosgi hyn yr effeithir arnynt—hyd at 30,000 yng Nghymru a Lloegr—mewn llawer o achosion ni fydd gweithredwyr y gweithfeydd hyn wedi dod ar draws y gyfundrefn trwyddedu amgylcheddol, felly mae angen codi ymwybyddiaeth a rhoi amser i'r trwyddedu hwnnw ddigwydd. Bydd y cyfnod cyflwyno graddol, gobeithir, hefyd yn helpu i annog cwmnïau i fuddsoddi mewn technoleg newydd, lanach yn hytrach nag ôl-ffitio hen weithfeydd gyda chyfarpar lleihau llygredd. Diolch unwaith eto am eich cyfraniad. Mae hwn yn welliant technegol iawn yn y ddadl heddiw, ond mae'n un pwysig gan ei fod yn ein helpu ni i weithio tuag at ein huchelgeisiau o fynd i'r afael ag ansawdd aer gwael yng Nghymru. Diolch yn fawr. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 8. Dadl: Adolygiad Thurley o Amgueddfa Cymru Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar adolygiad Thurley o Amgueddfa Cymru, ac rwy'n galw ar y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon i wneud y cynnig. Dafydd Elis-Thomas. Cynnig NDM6627 Julie James Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cyhoeddi’r adolygiad o Amgueddfa Cymru—National Museum Wales. 2. Yn croesawu agwedd gadarnhaol yr adroddiad at safon yr Amgueddfa Genedlaethol ac ansawdd y gwaith a wneir gan y staff. 3. Yn cydnabod y materion a godwyd a bod rhaid i Amgueddfa Cymru a Llywodraeth Cymru weithio mewn partneriaeth i fynd i’r afael â’r argymhellion yn yr adroddiad. Cynigiwyd y cynnig. Dafydd Elis-Thomas AC: Diolch yn fawr, Llywydd. Mae hi'n fraint ac yn bleser arbennig i mi i agor trafodaeth ar fater o fewn fy nghyfrifoldebau diwylliannol, ac wrth wneud hynny, defnyddio amser y Llywodraeth yn y Cynulliad i ddathlu datblygiad ein sefydliadau diwylliannol pwysig, a hefyd i roi cyfle i Aelodau Cynulliad ac i'r cyhoedd, yn dilyn cyhoeddi yr adroddiad, i drafod ei gynnwys ymhellach, a helpu ni yn y broses, felLlywodraeth, o gydweithio â'r amgueddfa yn cryfhau ein sefydliadau cenedlaethol. Mae sefydliadau cenedlaethol sy'n ymwneud â threftadaeth a hanes yn sefydliadau ble mae, heb siarad yn rhy genedlaetholgar na rhamantaidd, curiad y galon i'w glywed, oherwydd y mae'r sefydliadau yma yn cynnig profiad arbennig i ymwelwyr â Chymru, ac yn cynnig ymdeimlad o falchder mewn lle i gymunedau Cymru. Maen nhw'n sefydliadau sydd yn gallu bod yn ddefnyddiol iawn i groesawu newydd-ddyfodiaid i esbonio hanes a dyheadau pobl Cymru dros y canrifoedd, a hefyd i gynnig ar yr un pryd brofiadau o hanes a thystiolaeth i bawb o bob cenhedlaeth. Mae gan Amgueddfa Cymru, fel y gwyddoch chi, saith o leoliadau ledled Cymru, ac mae'r sefydliadau yma yn rhan allweddol o'r gwaith o ddarparu profiadau diwylliannol ar garreg drws pobl bron, fel petai, a'r gwaith o ddarparu profiadau sydd ar yr un pryd yn gofalu am dreftadaeth. Ar wahân i bedwar ymweliad â Llandudno, y lle rwyf wedi treulio'r rhan fwyaf o amser ynddo fo o ran un lleoliad ers imi gael y swydd yma yw Sain Ffagan, ac mae'r cyfle i ailymweld â'r lle yna yn weddol aml yn ddiweddar wedi helpu imi sylweddoli gymaint o ddatblygiad ac ailddatblygiad sydd wedi ei wneud, gan gefnogi buddsoddiad o dros £7 miliwn gan Lywodraeth Cymru. Fe ges i argraff gref iawn o'r cyfleusterau newydd yna, ac mae'n amlwg bod yna hanes hir o waith caled a chwbl ymroddedig gan bawb o'r uned adeiladau hanesyddol grefftus iawn sydd yno, drwodd i'r cyfarwyddwr cyffredinola'r holl staff sydd mor frwd. Ond, wrth gwrs, fe fu yna yn hanes y sefydliad yna, fel ym mhob sefydliad, broblemau ac mae yna o hyd heriadau. Mewn ymateb i heriadau ac ar gais gan Amgueddfa Cymru ei hun, comisiynodd fy rhagflaenydd, yr Ysgrifennydd Cabinet dros Economi a Seilwaith, Ken Skates, yr adolygiad annibynnol yma rydym yn ei drafod heddiw yn 2016. A'r awydd oedd i geisio darganfod ffordd y gallai Llywodraeth Cymru a'r amgueddfa gydweithio yn fwy effeithiol. Rwy'n ddiolchgar i Dr Simon Thurley—rwy'n gyfarwydd â'i waith o yn English Heritage ers blynyddoedd. Rwy'n ddiolchgar iawn iddo am y cyfrifoldeb gymerodd o am yr adolygiad, a'r modd darllenadwy y cafodd o ei ysgrifennu—yn wir, anarferol o ddarllenadwy yn fy mhrofiad i o ddarllen adroddiadau cyhoeddus, hyd yn oed ym maes diwylliant.Mae'r adroddiad wedi llwyddo i bwyso a mesur y cryfderau a'r gwendidau, i nodi'r problemau, i ystyried cyfleoedd a chyflwyno syniadau i ni am sut y gall yr amgueddfa symud ymlaen mewn nifer o'r meysydd yma. Fel y gwelwch chi o ddarllen yr adroddiad, mae yna 17 o argymhellion. Nid wyf am drafod pob un yn unigol, ond mi groesawaf sylwadau fan hyn ar lafar neu yn uniongyrchol eto. Dafydd Elis-Thomas AC: Rydw i’n credu bod yna dri phrif faes o argymhellion ac fe geisiaf i gyfeirio at y rhain yn eu tro. Maen nhw’n cynnwys yr angen i'r amgueddfa greu mwy o incwm er mwyn gwella cynaliadwyedd a lleihau’r ddibyniaeth sylweddol iawn ar arian cyhoeddus, datblygu a gwella cysylltiadau, yn enwedig gyda Llywodraeth Cymru, a datblygu’r cynnig dehongli yn yr amgueddfeydd ar draws y sefydliad cyfan. Mae sawl argymhelliad yn nodi bod angen i Amgueddfa Cymru weithio’n wahanol er mwyn manteisio’n llawn ar ei photensial i greu incwm. Rydw i’n deall nad ydy’n hawdd i sefydliad mawr a chymhleth newid ei fodel busnes, ond mae'n bwysig fod hynny yn digwydd, ac, yn y trafodaethau sylweddol rydw i wedi'u cael yn barod efo Amgueddfa Cymru, mae'n amlwg fod yna barodrwydd i dderbyn a chofleidio'r angen am newid. Yn ogystal â hynny, mae’r amgueddfa bellach yn rhan o bartneriaeth Cymru Hanesyddol. Rwy'n sicr yn gwerthfawrogi y cydweithrediad rhwng gwahanol agweddau o waith treftadaeth, yn arbennig gwaith Cadw, sydd yn parhau—fel y byddwch chi'n cofio o ddatganiad blaenorol y gwnes i yma—yn rhan o'r Llywodraeth o hyd, er gyda mwy o annibyniaeth ar gyfer ei waith a'i reolaeth. Felly, rydw i'n edrych ymlaen at weld datblygiad pellach yn y bartneriaeth a chydweithio closiach rhwng y sefydliadau ym mhartneriaethCymru Hanesyddol. Rydw i hefyd yn gwerthfawrogi parodrwydd yr undebau i gymryd rhan yn y trafodaethau, a'r sicrwydd y medraf i ei roi yma'n gyhoeddus bod safbwyntiau staff yn rhan hanfodol o’r broses o wneud penderfyniadau. Mae gan Amgueddfa Cymru gyfle da i ystyried y gwelliant rhagorol a wnaed gan Cadw o ran creu incwm, ac i ddysgu gwersi perthnasol. Er bod angen talu i gael mynediad i lawer o safleoedd Cadw, mae'r adroddiad yma'n cyfeirio at sefydliadau cenedlaethol eraill yn y Deyrnas Unedig sy’n cynnig mynediad am ddim i’w horielau parhaol ond hefyd yn codi tâl i weld arddangosfeydd arbennig a chael gwasanaethau ychwanegol.Felly, fe garwn i bwysleisio fod Amgueddfa Cymru yn ystyried cyfleoedd eraill hefyd, gan gynnwys gwasanaethau parcio ceir a bysiau, gwella’r cynnig arlwyo, edrych ar yr oriau agor ac ystyried a fyddai’n bosibl i rai safleoedd agor ar adegau penodol. Mae'r argymhelliad sydd wedi cael ei wneud yn yr adroddiad yma hefyd, yn allweddol iawn, yn argymell penodi cyfarwyddwr masnachol profiadol. Mae’r Amgueddfa yn ei thrafodaethau, yn sicr efo fi, wedi derbyn y syniad yna yn llawen, oherwydd y byddai'r sgiliau a fyddai'n cael eu cynnig gan benodiad fel yna yn hyrwyddo newid a gwelliant ar draws y sefydliad. A gaf i gyfeirio yma eto at lwyddiant arbennig Sain Ffagan? Mae'r amgueddfa wedi codi dros £30 miliwn i roi’r prosiectau newydd yn Sain Ffagan ar waith. Mae’r rhan fwyaf o’r cyllid yma wedi dod o Gronfa Dreftadaeth y Loteri a Llywodraeth Cymru, ond mae gweddill yr arian—sy’n swm sylweddol—wedi’i godi diolch i waith dygn ymddiriedolwyr a staff yr amgueddfa. Mae’r arian yma wedi dod o ffynonellau amrywiol, sy’n dangos bod yr amgueddfa yn gallu dod o hyd i gyfleoedd a sicrhau cyllid ar gyfer prosiectau. Er bod y broses hon wedi llwyddo, mae’n bwysig fy mod i'n cydnabod yma heddiw ei bod hi wedi cymryd cryn amser ac ymdrech a fy mod i'n gwerthfawrogi hynny. Fe fydd angen sicrhau cydbwysedd o hyd rhwng ein polisi hynod lwyddiannus, sydd wedi’i hen ymsefydlu, o gynnig mynediad am ddim a’r angen i fod yn fwy masnachol. Rydw i'n awyddus i glywed barn Aelodau ynglŷn â sut y gallwn ni sicrhau'r cydbwysedd yna. Mae'r ail gyfres o argymhellion y cyfeiriais i atyn nhw gan Dr Simon Thurley yn ymwneud â chysylltiadau, yn enwedig y cysylltiad rhwng Llywodraeth Cymru â'r amgueddfa. Mae'r adroddiad yn codi pryderon ynglŷn â’r hyn y mae’n ei ystyried yn lefel ddiangen o reolaeth. Rydw i'n deall y pryderon yna, ac, fel un sydd wedi ymwneud â nifer o sefydliadau cyhoeddus dros y blynyddoedd, rydw i’n meddwl ei bod hi yn bwysig ar yr un pryd i gael prosesau craffu llymach ar sefydliadau ac ar wariant, yn ogystal ag i sicrhau bod modd, wrth wneud hynny hefyd, edrych ar sefydliadau eraill o fewn y Deyrnas Unedig sydd yn fodlon manteisio ar bosibiliadau o greu incwm ychwanegol. Nid oes gwrthwynebiad mewn egwyddor i’r incwm ychwanegol yma gael ei greu, cyhyd â bod hynny’n gallu eistedd gydag egwyddor sylfaenol mynediad di-dâl yn gyffredinol i’r sefydliadau. Rydw i’n gobeithio felly y bydd yr argymhellion yma yn cael eu hystyried ymhellach ac rydw i’n edrych ymlaen at y drafodaeth lawnach ar hynny yn y fan yma. Ond fe garwn i ddweud un peth cyn i mi gloi'r sylwadau agoriadol yma. Mae yna gyfeiriadau wedi cael eu gwneud yn yr adroddiad, a oedd yn ddarllen poenus iawn i mi, ynglŷn â thorri lawr mewn perthynas rhwng timau uwch reoli a’r undebau’n cynrychioli'r gweithlu. Yn amlwg, nid yw hwn yn sefyllfa iach i unrhyw gorff cyhoeddus nag yn wir i gwmni masnachol na phartneriaeth fod ynddi hi. Ond nid ydw i am wneud unrhyw sylwadau penodol ar faterion rheolaeth yma heddiw. Ni fyddai hynny’n briodol. Rydw i’n parchu’r egwyddor hyd braich mewn sefydliadau diwylliannol ac rydw i’n meddwl bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gadw’r pellter hwnnw er mwyn gallu bod yn effeithiol yn y gwaith o graffu ar gyrff cyhoeddus yr ydym ni’n eu cyllido.Rwy’n annog cydweithrediad, gan gynnwys gwasanaethau cyflafareddi gan Acas ac eraill os oes angen, a hefyd yn y sefyllfa yna gobeithio y gallwn ni hyderu na fyddwn ni’n syrthio i hanes eto a fydd yn ailadrodd anghytundeb a methu cyd-ddeall. Mae’r trydydd maes yr ydw i wedi cyfeirio ato yn y sylwadau agoriadol yma yn cyfleu’n arbennig y pwysigrwydd o ddatblygu cynnig arbennig yr amgueddfeydd. Rydw i'n ddiolchgar iawn am y sylwadau manwl a gofalus sydd wedi cael eu gwneud ar yr holl leoliadau, ond yn arbennig ar Amgueddfa Lechi Cymru, amgueddfa sydd yn annwyl iawn yn fy nhyb i, wrth gwrs, oherwydd y cysylltiad teuluol â’r diwydiant, a hefyd Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, y ces i’r pleser pur o ymweld â hi yng Nghaerllion ddoe. Eto, mae enghraifft Sain Ffagan o’m mlaen i, ac mae hynny’n dangos sut y gall yr amgueddfeydd llai yma fanteisio ar brofiad Sain Ffagan a phrofiad Cadw i ddatblygu eu cynnig, gan ddangos yn glir nad corff sydd yn aros yn llonydd yw amgueddfa ond corff sydd yn parhau i dyfu fel y mae’r ddealltwriaeth o hanes y genedl yn tyfu. Fel rydw i’n dweud, rydw i wedi cyfarfod swyddogion yr amgueddfa sawl tro i drafod yr adroddiad yma a’r argymhellion, ac rwy’n parhau i edrych ymlaen at gydweithio gyda nhw, ac rydw i’n awyddus prynhawn yma, ac ar ôl heddiw hefyd, i glywed eich cyfraniad chi fel y Cynulliad Cenedlaethol sydd â chyfrifoldeb dros ein sefydliadau cenedlaethol yn y broses o’i diwygio nhw. Diolch yn fawr i chi am eich gwrandawiad. Suzy Davies AC: A gaf i ddiolch i’r Gweinidog am ddod â’r adolygiad i’r Siambr heddiw? Suzy Davies AC: Mae'n adolygiad eithaf bachog, rwy'n credu, er bod angen ystyried ei argymhellion, rwy'n credu, ochr yn ochr â chasgliadau'r grŵp dan gadeiryddiaeth Justin Albert ynglŷn â ffurf bosibl Cymru Hanesyddol ac, wrth gwrs, eich penderfyniad diweddar y byddai Cadw yn parhau yn gyfan gwbl o fewn y Llywodraeth. Hoffwn siarad yn fyr iawn am yrhan honno o'r adroddiad sy'n cyfeirio at yr anghydfod diwydiannol a effeithiodd ar weithgareddau yn ystod hanes diweddar yr amgueddfa. Nid wyf eisiau pendroni'n ormodol yn ei gylch, ond rwy'n tueddu i gytuno nad yw hwn yn fater i'r Llywodraeth ymyrryd yn uniongyrchol ag ef, o ran cysylltiadau diwydiannol corff anllywodraethol. Ond credaf ei bod hi'n briodol i'r ddwy ochr hysbysu'r Aelodau Cynulliad o'u barn, gan fod pawb sy'n ymwneud â hyn yn etholwr i rywun, ac fe allwn ni, eu cynrychiolwyr, ddwyn sylw at y safbwyntiau hynny i'r graddau y maen nhw'n dwyn pwysau. Ond nid yw hynny yn gyfystyr â'r Weithrediaeth yn ymyrryd a dylanwadu arnynt. Ni allaf ddweud mewn gwirionedd ayw Dr Thurley wedi cynrychioli'r berthynas rhwng staff, rheolwyr a hyd yn oed y Llywodraeth yn ddigonol neu yn gywir. Ond ni chredaf ei bod yn ddewisrhwng naill ai yr angen i foderneiddio'r amgueddfa genedlaethol mewn modd realistig neu roi'r gydnabyddiaeth briodol i arbenigedd, ymrwymiad a hyblygrwydd staff ar y llall. Mae'r ffaith bod hyn wedi codi yn enghraifft o thema sydd wedi deillio o'r trafodaethau am yr amgueddfa yn y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf. A'r mater hwnnw yw swyddogaeth y Llywodraeth a'i pherthynas ag annibyniaeth yr amgueddfa. O ran manylder y craffu diweddar, nid yn lleiaf yn yr adroddiad hwn, roedd yn rhaid i'r amgueddfa wynebu beirniadaeth am ei gallu i reoli pryderon y gweithlu yn briodol, ac, wrth gwrs, reoli'r newidiadau yn ei hamgylchiadau ariannol a'r cymorth ariannol y mae'n ei gael. Nawr, o'm rhan ify hun, mae a wnelo hynny â bylchau mewn sgiliau rheoli y gellirac y mae'n rhaid rhoi sylw iddyn nhw, ac nid yw'n rheswm i'r Llywodraeth ymyrryd yn llechwraidd ag annibynniaeth yr amgueddfa. Roedd y posibilrwydd hwnnw ar y gorwel o gyfuno swyddogaethau masnachol gyda Llywodraeth Cymru yn brosiect llwyddiannus iawn o ran bod yn gyfrwng i'r amgueddfa allu gweld a dechrau cynllunio i oresgyn ei diffygion, yn enwedig yng nghyswllt ei gweithgareddau masnachol, a manteisio ar y gweithgareddau masnachol posib hynny sydd wrth wraidd adolygiad Thurley, wedi'r cyfan. Nawr, does gennyf ddim problem o gwbl gyda'r amgueddfa yn cydweithio gyda Cadw i wella cyfleoedd masnachol, neu, yn wir, unrhyw gyfleoedd eraill, ond dim ond un berthynas yw honno a fydd yn gwella ei rhagolygon. Ac rwyf eisiau bod yn glir, gan ein bod wedi cael cadarnhad y bydd Cadw yn parhau'n gyfan gwbl o fewn y Llywodraeth, na allaf weld fy mhlaid yn cefnogi unrhyw integreiddio agosach rhwng y ddau gorff. Er y dylai pob un gydweithio er budd y naill a'r llall—. Mewn gwirionedd, mae Cadw a Croeso Cymru wedi cael eu crybwyll yn yr adolygiad hwn ac yn adroddiad Justin Albert. Un peth yw hynny, ond rwy'n wirioneddol gredu bod angen i'r Llywodraeth gadw hyd braich oddi wrth unrhyw beth sy'n rhoi'r arlliw lleiaf o ymyrraeth weithredol, neu hyd yn oed o'r elfennau hynny o strategaeth yr amgueddfa nad ydyn nhw'n berthnasol i'r llythyr cylch gwaith neu i'r ffrydiau gwaith ar y cyd. Roedd yr adolygiad yn afieithus iawn ynglŷn â chynnig presennol yr amgueddfa a hyd yn oed yn fwy afieithus ynghylch y cynnig posib, a chredaf y byddai'n anodd anghytuno â hynny. Ers ei deffroad sydyn, mae'r amgueddfa eisoes wedi codi £10.3 miliwn drwy incwm a enillir—bron ddwywaith gymaint ag unrhyw sefydliad diwylliannol cenedlaethol arall—a thorri'r ddibyniaeth ar incwm Llywodraeth i ddwy ran o dair mewn dim ond blwyddyn, fellymae modd iddi wneud hynny. Ac mae hi bellach yn chwilio'n eiddgar am gyfarwyddwr masnachol, er efallai yr hoffai roi ystyriaeth eto i arbenigedd ynglŷn â chysylltiadau staff. Gweinidog, rwyf bob amser braidd yn amheus ynghylch gwneud cymariaethauâ sefydliadau yn Llundain pan rydym yn sôn am ariannu ein cynigion o ran ein diwylliant a'n treftadaeth. Ond gobeithio y bydd y cyfarwyddwr masnachol newydd yn ystyried hyd yn oed y syniadau mwyaf dadleuol a gyflwynwyd gan Thurley, dim ond i gnoi cil drostyn nhw ac i ystyried mewn difrif a oes unrhyw beth y gall Cymru ei ddysgu oddi wrthynt. Byddwn yn dweud, o du'r Ceidwadwyr Cymreig, ein bod ni'n cefnogi'r egwyddor gyffredinol o ganiatáu mynediad am ddim i gasgliadau craidd, ond rydym hefyd yn cefnogi'r egwyddor o godi tâl am weld arddangosfeydd neilltuol os yw'r amgueddfa yn dewis gwneud hynny, gan fod tystiolaeth yn dangos bod y ddwy ffordd yn gweithio i ddenu ymwelwyr, a chredaf y gellir goresgyn rhai agweddauar hynny drwy gael hyblygrwydd mewn cynlluniau codi tâl, er enghraifft. Ond dylai'r penderfyniad i godi tâl fod yn un i'r amgueddfa ac nid i'r Llywodraeth, ac ni ddylai'r naill gorff na'r llall ddefnyddio hynny i ddadlau am doriadau neu am arian ychwanegol o'r pwrs cyhoeddus. Gweinidog, rydych wedi dweud llawer iawn ynglŷn â'r hyn sy'n drawiadol am yr amgueddfa eisoes. Roeddwn i eisiau gwneud sylw ynghylch rhywbeth y dywedodd Dr Thurley am newidiadau i rai o'r safleoedd a lle y gellid gwneud gwahaniaeth, nid yn unig i incwm posib yr amgueddfa, ond cydlyniad y stori, ac rwy'n credu bod honno'n stori y mae angen i'r amgueddfa benderfynu arni, ac nid y Llywodraeth, ac nid, yn wir, Thurley. Dyma pam mae annibyniaeth fasnachol yn hanfodol i'r amgueddfa a'i gallu i osod mwy o flaenoriaethau iddi hi ei hun. Nid yw hynny'n lleihau pwysigrwydd llythyr cylch gwaith y Llywodraeth a'i blaenoriaethau, ac, wrth gwrs, y cyllid, sy'n ddibynol, i raddau, ar fodloni'r blaenoriaethau hynny. Ond mae angen iddi fod yn rhydd i chwyddo ei chyllid y tu hwnt i'r berthynas â'r Llywodraeth heb y risg mai toriadau i gefnogaeth gyhoeddus yw'r prif reswm dros bennu blaenoriaethau. Diolch. Dai Lloyd AC: Mae'n bleser gen i hefyd i gymryd rhan yn y ddadl bwysig yma ar adolygiad Thurley. Fel y mae Suzy wedi cyfeirio, wrth gwrs, mae hyn yn adeiladu ar adolygiadau blaenorol, ac, wrth gwrs, y hanes trwblus, braidd, dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Nawr, wrth gwrs, rydym ni yn falch iawn o amgueddfa Cymru. Sefydlwyd Amgueddfa Genedlaethol Cymru gan siarter frenhinol nôl yn 1907. Hyrwyddo addysg y cyhoedd oedd bwriad y siarter ac mae’n wir i ddweud bod yr amgueddfa wedi cyflawni hynny, yn glodwiw, dros y blynyddoedd. Addysgu’r byd am Gymru ac addysgu’r Cymry am yr hen wlad oedd un o’r gosodiadau gwreiddiol o 1912. Hynny yw, addysgu’r byd am Gymru ac addysgu pobl Cymru am eu gwlad eu hunain. Mae pobl yn dal i ddarganfodpethau am eu gwlad eu hunain—pobl sydd wedi byw yma erioed yn dweud, 'Wel, jiw,I never knew that.' Dyna beth ydy pwysigrwydd ymweld â gwahanol safleoedd amgueddfa genedlaethol Cymru. Mae yna ffeithiau hanesyddol ac ati sy'n parhau i'ch synnu chi am yr hen wlad yma. Yn y dyddiau du yna cyn datganoli, roedd yr amgueddfa genedlaethol yn biler o ysbrydoliaeth ac o Gymreictod cadarn ac yn oleuni llachar yn cynrychioli Cymru pan nad oedd strwythurau tebyg i fynegi ein cenedligrwydd, ein hanes a'n traddodiadau, a rhoi asgwrn cefn i bob cenedlaetholwr o fri. Dyna bwysigrwydd annibyniaeth yr amgueddfa genedlaethol: i ddweud stori Cymru heb gael ei handwyo gan unrhyw ddylanwadau o'r tu allan, ac felly'n annibynnol, gyfan gwbl, o unrhyw Lywodraeth. Fel rydym ni wedi clywed, rydym ni wedi cael yr holl drafodaethau ynglŷn â Cymru Hanesyddol, gyda'r bwriad gwreiddiol gan yr Ysgrifennydd Cabinet o geisio uno ein sefydliadau celfyddydol. Gwych o beth bod y syniad gwirion, hurt yna wedi mynd o'r agenda erbyn hyn, ond byddai cadarnhad nad oes bwriad i uno'n sefydliadau cenedlaethol celfyddydol yn arwydd clir, eto, fod Llywodraeth Cymru yn cymryd annibyniaeth y sector o ddifrif. A throi at elfen arall, mae ariannu yn allweddol bwysig. Ers 2012, bu toriadau sylweddol yng nghyllid Amgueddfa Cymru o tua 11 y cant. Esgorodd hyn ar ddadl rhwng yr amgueddfa ac undebau—rydym ni wedi clywed amdani hi droeon—ynglŷn â chyflogau, tâl, telerau, a bu streicio. Bu yn amser anodd, du. Nid ydym ni eisio mynd nôl i fanna chwaith, ond, yn rhannol, roedd hynny achos toriadau ariannol. Rydym ni wedi clywed hefyd am y llwyddiannau masnachol diweddar gan yr amgueddfa a hefyd dylid cydnabod cytundeb rhwng y Llywodraeth yma a Phlaid Cymru y bydd yr amgueddfa yn derbyn hwb ariannol ar gyfer y ddwy flynedd nesaf. Byddai'n dda derbyn sicrwydd gan y Gweinidog y prynhawn yma am sicrwydd ariannol i'r dyfodol ar ôl hynny i Amgueddfa Cymru. Mae adroddiad Thurley yn taro nodyn cadarnhaol, fel mae Suzy wedi cyfeirio ato, gyda chanmoliaeth i safon yr amgueddfa genedlaethol ac ansawdd ac ymroddiad y gwaith a wneir gan y staff. Ond, wrth gwrs, mae yna rhai llefydd i wella hefyd, fel sydd wedi cael ei nodi, ac mae'r rheini hefyd yn yr adroddiad. Mae'r adroddiad yn cydnabod bod Amgueddfa Cymru yn un o amgueddfeydd mawr Prydain. Nid mater cul, Cymreig yn unig sydd gyda ni yn fan hyn, achos, ac rydw i'n dyfynnu o'r adroddiad, 'Yn eichasgliadau, yn arbenigedd a gwybodaeth ei staff, yn ei chefnogaeth i ddatblygiad cymdeithasol a chymunedol ac yn ei chyfraniad i wybodaeth am hanes a diwylliant Cymru, mae wedi cyflawni’n eithriadol.' 'Clywch, clywch', ddywedwn i. Mae Amgueddfa Cymru yn parhau i ysbrydoli cenedlaetholwyr heddiw, ac yn sefyll yn gadarn dros Gymru. Diolch yn fawr. Mike Hedges AC: Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn yr hyn sydd yn fy marn i yn ddadl bwysig iawn heddiw.Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad drwy wneud tri datganiad nad ydyn nhw, yn fy marn i, yn ddadleuol: mae amgueddfeydd yn asedau pwysig i'n cymunedau; mae amgueddfeydd cenedlaethol yn bwysig iawn i bob gwlad, ac nid yw Cymru'n eithriad; i'w gwneud yn llwyddiannus, mae angen inni gael staff ymroddgar sydd ar gyflogau da ac sydd wedi ymrwymo i wasanaeth Amgueddfa Cymru. Rydym wedi trafod pwy ddylai ei rheoli, ond a gaf i ofyn y cwestiwn hwn? Nid wyf yn gwybod beth yw dosbarthiad OCS amgueddfeydd Cymru.Byddwn yn disgwyl eu gweld wedi eu rhestru o dan reolaeth Llywodraeth Cymru. Cywirwch fi ar bob cyfrif os mynnwch chi. Credaf petai nhw'n fusnesau, y byddent yn cael eu disgrifio'n is-gwmnïau sy'n eiddo llwyr i Lywodraeth Cymru. [Torri ar draws.] Fe wnaf i dderbyn ymyriad. Dafydd Elis-Thomas AC: Holl ddiben strwythur yr amgueddfa, fel y clywsom ni yn gynharach, yw bod ei hanes yn seiliedig i raddau helaeth ar ei hannibyniaeth ei hunan, wedi ei warantu yn achos y— [Torri ar draws.] Wedi ei warantu gan y siarter frenhinol pan gafodd ei sefydlu. Mae hynny'n hanfodol er mwyn cynnal ei strwythur annibynnol, yn union fel mae cyngor y celfyddydau yn cadw strwythur annibynnol drwy'r model hwnnw, ac rwy'n cytuno'n llwyr ar y model hwnnw ar gyfer y dyfodol. Mike Hedges AC: Credaf fod peth dryswch yma rhwng y ddau ohonom. Roeddwn i'n siarad mewn termau ariannol. Gofynnaf y cwestiwn hwn: petai Llywodraeth Cymru yn terfynu'r cyllid yfory, a fyddai'r amgueddfeydd yn parhau, neu a fydden nhw'n cael eu gorfodi i gau eu drysau? Os ydyn nhw'n dibynnu'n llwyr, neu'ndibynnu’n sylweddol, ar Lywodraeth Cymru yn weithredol, mae'r OCS rwy'n siŵr yn eu dosbarthu'n gyrff o dan reolaeth Llywodraeth Cymru. Un o'r pethau yr wyf wedi dadlau yn eu herbyn drwy gydol fy amser yn y Cynulliad yw contractau camfanteisiol: contractau dim oriau, contractau hyblyg oriau bychain, oriau blynyddol, staff asiantaeth—nid oes diwedd ar ffyrddo drin pobl yn wael. Rwy'n credu hefyd y dylid talu'r cyflog byw i bawb. Mae staff yr amgueddfa yn haeddu peidio â bod ar drugaredd yr arferion cyflogaeth hyn. Rwy'n falch bod Mr Thurley yn cydnabod ansawdd uchel safleoedd yr amgueddfa ac effaith llawer ohonyn nhw ar eu cymunedau, o ran presenoldeb amgueddfa yn yr ardal a darparu ffynhonnell reolaidd o waith mewn ardaloedd lle mae gwaith yn aml yn brin. Mae mynediad am ddim i amgueddfeydd wedi bod yn bolisi hirhoedlog gan y Blaid Lafur yng Nghymru. Peidiwch ag eithrio pobl rhag dysgu am eu hanes oherwydd pris. O ran codi tâl, nid wyf yn gwrthwynebu codi tâl am arddangosfeydd penodol, gydag amodau bod yn rhaid i unrhyw beth sy'n ymwneud â Chymru fod yn rhad ac am ddim. Nid wyf yn credu y dylai pobl Cymru orfod talu i weld eu hanes eu hunain. Hefyd, ni ddylai fod yn ffordd lechwraidd o godi tâl am fynd i mewn i'r amgueddfa. Credaf fod yr adroddiad yn gywir yn yr adran olaf sy'n rhoi sylw i'r angen am sefydlogrwydd ariannol i'r amgueddfa ac eglurder ynglŷn â'i sefyllfa ariannu dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Yn ychwanegol at y meysydd a amlinellwyd, rwyf hefyd yn ychwanegu bod yr amgueddfa yn dal wrthi'n trafod cynnig tâl 2017-19 gyda'r undebau llafur. Mae angen i unrhyw setliad ariannol ystyried y costau sy'n gysylltiedig â hyn a sicrhau cyfnod o sefydlogrwydd i'r sefydliad yn y dyfodol. Mae'r amgueddfa mewn adeg dyngedfennol lle gall symud ymlaen gyda model wedi'i ariannu'n dda sy'n ceisio trafod â'i staff a'u hundebau llafur cydnabyddedig, a darparu gwasanaeth o'r radd flaenaf gan bobl broffesiynol a brwdfrydig, sy'n gallu cyflawni ar gyfer cymunedau a phobl Cymru. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae grŵp llywio Cymru Hanesyddol wedi datblygu syniadau a rhaglenni y mae'n gobeithio y byddant yn adeiladu ac yn datblygu model o'r fath, sy'n cynnwys yr undebau llafur cydnabyddedig yn y broses. Credaf y dylid ystyried unrhyw argymhellion gan y grŵp hwn ac na ddylai'r adroddiad fod yn faen tramgwydd i'r gwaith. Credaf ei bod yn bwysig, ac rwy'n mawr obeithio, er lles dyfodol y staff a'r sector diwylliannol yng Nghymru, fod Llywodraeth Cymru a rheolwyr yr amgueddfa yn ystyried y dewis hwnnw fel ffordd o'i ddatblygu. Os caf i ddychwelyd at yr hyn yr oeddwn i'n sôn yn gynharach amdano ynglŷn â'r agwedd ariannol, hwyrach fod gennych chi pa reolau bynnag sydd gennych chi, a pha siarteri bynnag sydd gennych chi, ond o ble mae'r arian yn dod? Mae yna lawer o sefydliadau ledled Cymru—maen nhw eisiau arian gan y sector cyhoeddus, ond maen nhw eisiau rhedeg eu sefydliadau fel petaen nhw'n rhan o'r sector preifat. Dyna un o'r pethau—[Torri ar draws.] Os gwelwch yn dda, ie. Suzy Davies AC: Credaf mai rhan o bwrpas adolygiad Thurley oedd gweld sut y gallai'r sector amgueddfeydd—wel, yn sicr sector yr amgueddfa genedlaethol yn ei chyfanrwydd—godi mwy o incwm fel y byddai'r cydbwysedd hwnnw rhwng cyllid cyhoeddus a chyllid nad yw'n gyllid y Llywodraeth yn newid. Mike Hedges AC: Nid oes gennyf broblem gyda sefydliadau yn codi arian. Y pwynt rwy'n ceisio'i gyfleu—ac rwy'n amlwg yn methu â gwneud hyny—yw bod y sefydliadau hyn yn gyfan gwbl ddibynnol ar arian y Llywodraeth. Os yw'r Llywodraeth yn diddymu'r arian hwn, mae'r sefydliadau hyn yn cau. Mae hynny'n allweddol i hyn. Felly, ni allant smalio eu bod nhw'n sefydliadau sector preifat er eu budd eu hunain. Maen nhw'n dibynnu ar arian y Llywodraeth, maen nhw'n dibynnu ar y sector cyhoeddus, maen nhw'n dibynnu ar arian gan drethdalwyr Cymru, ac, fel y cyfryw, fe ddylen nhw fod yn atebol iddynt. Gareth Bennett AC: Diolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r ddadl heddiw. Nid wyf eto wedi cael unrhyw gyswllt ffurfiol gyda'r Gweinidog newydd, naill ai yn y Siambr nac mewn Pwyllgor, felly hoffwn ei groesawu i'w swydd newydd yn swyddogol. Credaf ein bod ni i gyd yn teimlo, yn sicr yn yr adran hon o'r Siambr—ac wrth hynny rwy'n golygu seddi UKIP—ei fod yn argoeli'n addawol iawn, ac rwy'n credu y gallai fod yn ychwanegiad gwerthfawr i dîm gweinidogol y Llywodraeth. Rwyf yn sicr yn rhagweld dyfodol disglair iddo yn y Llywodraeth. Ymlaen i faterion heddiw. Rwyf wedi clywed yr hyn a ddywedodd y cyfranwyr eraill, ond rwyf eisiau mynd ychydig ymhellach nag adolygiad Thurley a chyflwyno syniad mwy dadleuol. Rwy'n sylweddoli y bu gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad i'r egwyddor o fynediad am ddim i rwydwaith yr amgueddfa genedlaethol. Nid wyf eisiau cyfyngu ar fynediad pobl yn ormodol i'r amgueddfeydd hyn, ond credaffod modd ystyried ymestyn yr egwyddor hon rywychydig fel y gall Amgueddfa Cymru gynhyrchu rhywfaint o incwm a gweithredu'n fwy effeithiol. Ni fyddai tâl sefydlog o £1 i oedolyn gael mynediad i amgueddfa, gyda'r plant yn mynd am ddim, yn rhwystr, rwy'n credu, i rieni sy'n ystyried ymweld ag amgueddfa yn rhan o ddiwrnod allan i'r teulu. Wrth gwrs, gellid dadlau, wedyn,beth fydd yn atal i'r tâl hwn o £1 gynyddu a chynyddu nes iddo fod yn grocbris. Wel, oherwydd bod amgueddfeydd yn gyfleusterau cyhoeddus—ac y byddant yn dal i gael eu hariannu'n gyhoeddus yn bennaf,a grant Llywodraeth Cymru yn dal i fod yn brif ffynhonnell incwm—yna, siawns y gallai'r Llywodraeth lunio telerau y gallai'r tâl gynyddu bob blwyddyn dim ond yn unol â'r mynegai prisiau defnyddwyr, y mesur chwyddiant sy'n tueddu i gynyddu ar gyfradd is na'r mynegai prisiau manwerthu. Ceir hefyd y mater o arddangosfeydd arbennig. Bydd denu llawer o'r arddangosfeydd hyn i Gymru yn golygu cryn ymdrech o ran amser a chost, felly teimlaf y dylai Amgueddfa Cymru allu ceisio adennill rhywfaint o'r gost hon drwy godi tâl ychwanegol am fynediad i'r arddangosfeydd hyn, neu o leiaf i rai penodol. Rwy'n gwerthfawrogi'r hyn a ddywedodd Suzy yn gynharach—nad oedd hi eisiau edrych ar yr hyn sy'n digwydd yn Llundain— Suzy Davies AC: Wel, nid dyna yn union a ddywedais i. Gareth Bennett AC: Iawn, mae'n ddrwg gennyf. Efallai fy mod i wedi symleiddio'r hyn a ddywedasoch chi. Beth bynnag, rwy'n mynd i sôn am yr hyn sy'n digwydd yn Llundain. Nid oes tâl i fynd i mewn i Amgueddfa Victoria ac Albert, ond mae mynediad i arddangosfeydd arbennig—ac mae yna wastad nifer o arddangosfeydd arbennig yn y V&A—ar hyn o bryd yn amrywio o £8 i £19. Nawr, mae'n rhaid inni gofio bod mynediad i arddangosfeydd cyffredinol y V&A yn rhad ac am ddim. Felly, efallai fod yn rhaid iddyn nhw godi symiau pur sylweddol ar gyfer yr arddangosfeydd arbennig, o leiaf yn rhannol, i allu caniatáu mynediad am ddim i weddill yr amgueddfa. Nawr, pe byddai gennych chi'r tâl sylfaenol hwnnw o £1, hwyrach na fyddai'n rhaid ichi wneud hynny. Fe allech chi fod â model ariannol gwahanol ac fe allech chi o bosib godi £5 ar gyfer yr arddangosfeydd arbennig. Fe allech chi godi arian mewn ffyrdd eraill hefyd. Mae'r amgueddfa yn Sain Ffagan, a byddaf yn parhau i'w galw yn amgueddfa werin genedlaethol Cymru, wedi'i hadnewyddu'n ddiweddar— Lee Waters AC: Pam? Gareth Bennett AC: Wel, af ymlaen at hynny wedyn, Lee. Dywedaf wrthych wedyn. Fe'i hadnewyddwyd yn ddiweddar i gynnwys prif adeilad newydd, gweithdy crefft a chyfleusterau eraill. Mae'r adeilad newydd yn cynnwys caffi estynedig, mannau gweithgareddau a digwyddiadau, y gellir llogi rhai ohonyn nhw i grwpiau, a siop anrhegion fwy o faint. Bydd hyn, gobeithio, yn helpu amgueddfa Sain Ffagan i godi mwy o arian, ac mae felly yn ddatblygiad i'w groesawu ac yn un y gallai amgueddfeydd eraill ei efelychu o dan ymbarél Amgueddfa Cymru. Nawr, i ateb cwestiwn Lee, soniais am hen enw amgueddfa Sain Ffagan,sef yr enw yr adwaenwn hi yn ystod fy mebyd. Ers hynny cafodd ei galw yn 'the Museum of Welsh Life', a bellach, gwelaf mai ei henw yw 'St Fagans National Museum of History'— nid yw'r un ohonyn nhw mor hudolus â'r enw gwreiddiol, yn fy marn i. A gaf i felly apelio ar yr amgueddfeydd i gadw eu henwau hudolus, gwreiddiol? Oherwydd sylwais hefyd— Lee Waters AC: Fel y Ffrynt Cenedlaethol. Gareth Bennett AC: Na, nid hynny. Mae'r amgueddfa forol, fel y'i gelwid, bellach yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Cyn hir, fe welwn ni'r Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru yn newid ei enw i'r 'Amgueddfa Diwydiant Cenedlaethol' neu ryw deitl diddychymyg tebyg. Rwy'n pendroni weithiau tybed pwy sy'n dyfeisio'r enwau newydd hyn. Bob tro rydych chi'n newid enw, rydych chi'n colli cwsmeriaid posib oherwydd rydych chi'n newid brand adnabyddus. Rwy'n credu bod achos masnachol cryf dros gadw at yr enw sydd eisoes yn gyfarwydd i lawer o bobl. Fodd bynnag, gallwch weld nad wyf yn arbenigwr yn y maes hwn. [Torri ar draws.] Wel, ydw. Dylai cyfarwyddwr masnachol neu rywun cyffelyb, yn sicr, fod yn gyfrifol am oruchwylio penderfyniadau o'r fath. Gwelaf fod adolygiad Thurley yn galw ar Amgueddfa Cymru i benodi cyfarwyddwr masnachol, ac rwy'n cefnogi'r alwad honno'n llwyr. Diolch yn fawr iawn. Julie Morgan AC: Pleser o'r mwyaf yw cymryd rhan yn y ddadl bwysig iawn hon. Y peth cyntaf yr hoffwn i ei ddweud, mewn gwirionedd, yw fy mod i'n falch bod hyn yn gymhelliant inni sôn am Amgueddfa Cymru oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn i ni fel cenedl ac mae angen inni adrodd ein hanes i'n plant yma yng Nghymru yn ogystal ag i ymwelwyr sy'n dod yma. Ac rwy'n cytuno y dylai Cymru ddweud ei stori i'r byd o ran sut mae cenedl fach wedi cael effaith mor enfawr, yn arbennig o ran y chwyldro diwydiannol. Mae'r adroddiad hwn gan Simon Thurley yn cydnabod bod Amgueddfa Cymru yn un o'r amgueddfeydd pwysicaf yn y DU, ac rwy'n arbennig o falch ei fod yn canmol arbenigedd a gwybodaeth y staff sy'n gweithio yno. Credaf fod y profiad sydd gennym ni o'r staff, a'r staff rheng flaen yn benodol, y bobl sy'n eich croesawu pan fyddwch chi'n mynd yno, a sgiliau'r crefftwyr, y bobl sy'n hollti'r llechi, a'r holl grefftwyr yn Sain Ffagan — credaf ei bod yn wirioneddol wych iddyn nhw gael eu cydnabod. Mae'r adroddiad hefyd yn canmol y cynnydd yn nifer y bobl sy'n ymweld â'r amgueddfa genedlaethol yng Nghaerdydd, a gynyddodd 34 y cant rhwng 2010 a 2015, i bron 0.5 miliwn y flwyddyn. Yn amlwg, o ran hyfywedd masnachol, mae'n amlwg bod yr adroddiad yn rhoi llawer o bwyslais ar hynny, ac mae rhai o'i argymhellion yn gwneud synnwyr i mi, megis gofyn i ymwelwyr am gyfraniadau. Nid yw cyfraniad o 20 ceiniog yr un yn anfforddiadwy, ac mae'r adroddiad yn dweud bod hyn wedi codi £300,000 y flwyddyn. Nid wyf yn gweld unrhyw broblemau o gwbl gyda gofyn am gyfraniad bach, ac yn amlwg, weithiau mae amgueddfeydd eraill yn llawer mwy di-flewyn-ar-dafod yn gofyn am arian. Nid wyf yn gweld problem o ran codi tâl am arddangosfeydd arbennig, a chredaf y byddai'n dderbyniol cael cynllun aelodau, a fyddai hefyd yn helpu i godi arian. Credaf y dylid ymchwilio i'r posibiliadau hyn, ond mae'n gwbl hanfodol ein bod ni'n cadw'r mynediad am ddim. Mae'n un o lwyddiannau mawr y Cynulliad hwn, a Llywodraeth Cymru, fod mynediad am ddim fel y gall pawb, faint bynnag o fodd sydd ganddyn nhw, elwa o'r amgueddfeydd. A chredaf fod y cynnydd enfawr hwn mewn niferoedd yn uniongyrchol gysylltiedig â natur agored yr amgueddfa—y ffaith y gall pobl fynd yno heb orfod poeni am dalu. Felly, nid wyf yn credu y dylai fod unrhyw rwystr, ac nid wyf yn cefnogi cynnig Gareth Bennett o £1 i fynd i mewn. Rwy'n credu bod rhaid iddo fod yn rhad ac am ddim. Roeddwn i eisiau sôn am y berthynas yn yr amgueddfa. Credaf fod hon yn adeg dyngedfennol. Dyma gyfle i wella'r berthynas rhwng yr undebau a'r rheolwyr. Mae'r adroddiad yn gywir wrth ddweud y bu cryn sylw cyhoeddus i'r anawsterau yn y berthynas rhwng staff a rheolwyr, a chan fy mod i'n gadeirydd grŵp trawsbleidiol Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol, rwy'n ymwybodol iawn o'r holl anawsterau hyn. Mae'r adroddiad hwn yn bwrw golwg ar rai o'r problemau hynny, ond yr hyn nad yw yn ei ddweud yw mai'r rheswm am y problemau oedd bod yr amgueddfeydd yn ceisio torri cyflogau staff oedd ar y cyflogau lleiaf, tra bod cyflogau'r uwch reolwyr yn cael eu cynyddu. Yn ystod y cyfnod anodd hwn, fe wnaeth Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol mewn gwirionedd roi pleidlais i'w aelodau bedair gwaith, ac roeddwn i, ynghyd ag aelodau eraill o'r Cynulliad hwn, yno yn siarad mewn ralïau i gefnogi staff. Ac mae'n bwysig dweud y gwnaeth Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd helpu i gyfryngu a datrys yr anghydfod hwn. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod—. Er fy mod i'n cefnogi'r syniad o annibyniaeth y cyrff, pan na allan nhw reoli pethau'n iawn, credaf ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn gallu troi at Lywodraeth Cymru. Dim ond eisiau sôn yr wyf i am rai o'r problemau yn yr amgueddfa. Ceir contractau dim oriau y mae Mike Hedges wedi eu crybwyll eisoes. Mae'n annerbyniol cael y contractau dim oriau hyn, ac, yn sicr, dylai fod cytundeb ffurfiol ynglŷn â sut y defnyddir nhw, os dylid eu defnyddio o gwbl. Credaf y dylid cyfyngu ar y defnydd o gontractau cyfnod penodol. Dyma gyfle gwirioneddol nawr, ar sail yr adroddiad hwn, i adfer perthnasau da yn yr amgueddfa, oherwydd credaf fod pob un ohonom ni'n teimlo bod y staff yn allweddol i lwyddiant yr amgueddfa, a siawns y dylai eu telerau ac amodau a'u cyflogau fod yn gydnaws ag adrannau Llywodraeth Cymru. Yn sicr, dylai staff gael eu rhyddhau i wneud gwaith undeb llafur. Rwy'n falch iawn fody Gweinidog wedi dweud bod barn staff yn hollbwysig. Soniodd hefyd y byddai rhai amgueddfeydd, efallai, yn cau ar gyfer rhai cyfnodau o'r flwyddyn. Wel, yn amlwg, bydd hynny'n gwneud i'r aelodau staff sy'n gweithio'n barhaol yn yr amgueddfeydd hynny bob awr o'r flwyddyn—bydd eu calonnau'n suddo pan fyddan nhw'n darllen hynny. Felly, rwy'n credu bod angen ystyried y materion hyn pan wneir cynigion ynghylch sut y mae hyn yn mynd i effeithio ar staff, a gwnewch yn siŵr eu bod nhw'n rhan o'r sgwrs, fel bod y berthynas yn un dda. Felly, credaf fod hwn yn gyfle gwych i roi cynnig arni o'r newydd. Gadewch inni gydnabod y cyfraniad enfawr y mae'r staff yn ei wneud, a gwneud yn siŵr eu bod nhw'n rhan o'r sgwrs hon. Galwaf ar y Gweinidog i ymateb i'r ddadl. Dafydd Elis-Thomas AC: Diolch yn fawr, Llywydd, ac a gaf i ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhanyn y ddadl, ac am y croeso cyffredinol sydd wedi cael ei roi i'r argymhellion? Fe gawsom ni sylwadau agoriadol gan Suzy Jenkins a oedd yn pwysleisio ei bod hi'n—Suzy Jenkins? Suzy Davies. Mae'n rhaid fy mod i'n meddwl am rywun arall, Suzy Davies. Fe gawsom ni sylwadau am bwysigrwydd Aelodau Cynulliad yn mynegi barn, a dyna oedd pwynt cynnal y ddadl yma heddiw ac rydw i'n ddiolchgar am hynny. Rydw i'n ddiolchgar am y gefnogaeth a roddwyd i annibyniaeth a'r pwysigrwydd o dyfu capasiti o fewn y sefydliad. Rydw i'n hyderus, a buaswn i ddim yn dweud hyn heblaw ei fod o ar sail y trafodaethau rydw i wedi eu cael ac rydw i'n mynd i'w cael eto. Fel y pwysleisiwyd yn barod, mae annibyniaeth yr amgueddfa yn bwysig, ond hefyd, fel y dywedodd Julie Morgan, mae dylanwad y Llywodraeth fel awdurdod a chorff cyhoeddus sydd â chyfrifoldeb cenedlaethol am yr amgueddfa yn rhan o'r cyfrifoldeb yna sydd gyda ni fel Llywodraeth a Chynulliad. Felly, mae'r ddwy elfen yna yn gorfod cydweithio â'i gilydd. Mater o gael pwysigrwydd y gwahaniaeth rhyngddyn nhw'n glir yw'r hyn sydd yn bwysig. Medraf roi sicrwydd iddi hefyd y byddaf yn ceisio cyd-ddrafftio'r llythyr cylch gorchwyl fel y gallwn ni drafod â'n gilydd sut rydym ni am osod y rhaglen am y blynyddoedd sydd i ddod. Mae hynny'n cynnwys, wrth gwrs, y rhaglen gyllidol. Rydym ni'n cael ein cyfyngu gan y drefn gyllidol bresennol o San Steffan ynglŷn â pha mor bell y gallwn ni fynd mewn blynyddoedd i baratoi sicrwydd. Ond yr amcan ydy ceisio sicrhau hynny. Rydw i'n ddiolchgar hefyd i Dai Lloyd am ei ddarlith hanesyddol addas iawn ynglŷn â datblygiad yr amgueddfa ac am y pwyslais ar y rôl addysgol. A gaf i ei sicrhau o nad oes unrhyw fwriad gan y Gweinidog hwn i uno sefydliadau cenedlaethol? Mae annibyniaeth ddiwylliannol, os nad annibyniaeth lwyr gyfansoddiadol i'r genedl sydd yn berchen ar yr amgueddfa, yn rhan hanfodol o agenda'r Gweinidog diwylliant. Mae natur ddatganoledig yr amgueddfa yng Nghymru hefyd yn rhan hanfodol o'i diddordeb hi a'i gwahaniaeth hi, fel rydw i wedi gweld wrth ymweld â'r sefydliadau yma yn ddiweddar. Rydw i yn cydnabod pwysigrwydd y cytundeb a wnaed â Phlaid Cymru. Roedd hyn yn rhan o'r drafodaeth roeddwn i'n ei chael â swyddogion yr amgueddfa, a'r bwriad ydy y byddwn ni'n parhau yn yr ysbryd yna o gytundeb dros y blynyddoedd nesaf ynglŷn â'r cyllid. Diolch yn fawr i Mike Hedges, sydd bob amser yn gallu dweud gwirionedd gyda difyrrwch. Dafydd Elis-Thomas AC: Rwy'n ddiolchgar iawn i Mike am roi gwersi inni mewn gweinyddiaeth gyhoeddus a hynny mewn ffordd mor ddeniadol a diddorol, ac mae hynny i fod yn air o ganmoliaeth. Rydym yn sicr yn anelu at sefydlogrwydd ariannol ac, yn wir, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dweud ein bod yn ceisio sicrhau gallu ariannol priodol, ac mae'n rhaid i hynny gynnwys diwallu'r angen am gydnabyddiaeth ariannol effeithiol. Byddwn yn dweud, o ran egwyddor, fy mod i'n cytuno â tharged mwy hirdymor o gael cyfatebiaeth rhwng cyflog ac amodau y bobl sy'n gweithio i ni yn y sector amgueddfeydd a'r rhai sy'n gweithio i ni mewn meysydd eraill o'n gwasanaethau cyhoeddus. Mae hynny'n rhywbeth y mae angen inni roi sylw iddo. Rwy'n ddiolchgar iawn i Gareth Bennett am ei sylwadau hael, a gallaf ei sicrhau nad oes unrhyw fwriad i ddechrau codi tâl ar oedolion ac nid codi tâl ar ddinasyddion iau. Mae angen inni ystyried teuluoedd sy'n ymweld â'r amgueddfa yn uned gyfan. O ran enwau, roedd 'Welsh folk museum' wastad yn fy atgoffa i o rywbeth mwy gwerinol na hyd yn oed yr enw 'amgueddfa werin', er y gwelaf, wrth imi deithio o amgylch y rhan honno o orllewin Caerdydd, mai'n araf deg y bydd yr arwyddion brown yn arddel yr enw diweddaraf. Heb os, bydd hynny'n digwydd yn y dyfodol. A gaf i nawr ddiolch yn gyhoeddus i Julie Morgan am ei swyddogaeth, yr wyf bellach wedi dysgu mwy amdani, yn sicrhau gwell perthynas gyda'r Llywodraeth a gwell perthynas rhwng y Cynulliad hwn, drwy ei grŵp trawsbleidiol PCS, a'r undebau llafur, ac, yn wir, gyda rheolwyr amgueddfeydd pan oedd yr anawsterau yr ydym ni i gyd wedi cyfeirio atyn nhw yn bodoli? Yn wir, fy nymuniad i, cymaint â'i un hithau, yw nad ydym yn gweld hynny'n cael eiailadrodd. Fel y dywedaf, rydym yn ceisio sicrhau bod lefel gyson o gyllid ar gyfer y dyfodol, ac rwy'n sicr y bydd graddau'r gefnogaeth a welir yn y ddadl hon heddiw yn cryfhau ein perthynas â'r amgueddfa. Dafydd Elis-Thomas AC: Diolch yn fawr i chi gyd am eich cyfraniadau. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig. Derbyniwyd y cynnigyn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Gan hynny, nid oes yna bleidlais ar ddiwedd y cyfarfod yma, a dyna ddiwedd ein trafodion am y dydd. Daeth y cyfarfod i ben am 17:55. QNR Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru Mark Isherwood: Sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro cymorth sy'n canolbwyntio ar y plentyn i blant ag anghenion dysgu ychwanegol? Mark Drakeford: Local authorities are responsible for the provision and monitoring of child-centred support for children with additional learning needs. The recently passed Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Bill places learners’ needs, views, wishes and feelings at the heart of the planning process. Dai Lloyd: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd yng Nghymru? Mark Drakeford: Addressing the causes and detrimental effects of loneliness and isolation are matters of national importance. I would like to thank the Health, Social Care and Sport Committee for its valuable inquiry report. I can confirm we are committed to bringing forward a cross-Government and national approach to tackle these issues. Julie Morgan: Beth y mae'r Prif Weinidog yn ei wneud i annog plant i astudio pynciau STEM? Mark Drakeford: STEM skills are vital for our children’s future success. We have set out our approach to encourage engagement in STEM subjects in our STEM in education delivery plan. Actions include curriculum and qualifications reform, support for teaching professionals, and measures to enhance girls’ take up of STEM subjects. Jayne Bryant: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyfraddau marw-enedigaethau yng Nghymru? Mark Drakeford: Stillbirth is a devastating event for any family. The causes of stillbirth are multi-faceted, some factors remain unknown. Stillbirth rates in Wales have remained fairly static in recent years; therefore a stillbirth sub group of the maternity network is leading a national multi-factored programme dedicated to reducing the incidence. David Melding: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y bydd Llywodraeth Cymru yn lliniaru effaith cyfyngiadau Tsieina ar fewnforio gwastraff tramor? Mark Drakeford: Wales’s approach to high quality recycling means it is better placed than many other nations to deal with the consequences of China’s restrictions. We are working with local authorities and other partners to develop the circular economy, including the greater recycling of plastics in Wales. Paul Davies: Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau iechyd lleol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda? Mark Drakeford: We will continue to work with Hywel Dda university health board to provide the people of Pembrokeshire with health services that deliver the best possible outcomes for patients. We will be guided by the best and most up to date clinical evidence and advice to deliver high quality care. Adam Price: Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o allu'r Deyrnas Gyfunol, ac felly Cymru, i fod yn rhan o'r farchnad sengl ar ôl Brexit. Mark Drakeford: Rŷm ni o blaid parhau i fod â rhan lawn yn y farchnad sengl ar ôl Brexit. Gellid cyflawni hynny naill ai drwy fod yn rhan o EFTA/EEA neu drwy ‘bartneriaeth ddofn ac arbennig’. I gyflawni hynny, mae’n debyg y bydd angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ailystyried rhai o’r ‘llinellau coch’ y soniwyd amdanynt yn araith y Prif Weinidog yn Lancaster House.
uk-hansard-senedd-cy
senedd2018-01-23
2024-06-01T00:00:00
{ "year": "2018", "language": "cy", "license": "Open Parliament Licence - https://www.parliament.uk/site-information/copyright-parliament/open-parliament-licence/" }
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma, felly, fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Siân Gwenllian. Trafnidiaeth Gyhoeddus Siân Gwenllian AC: 1. Pa gamau mae’r Llywodraeth yn eu cymryd i gefnogi pobl yn Arfon sy’n ddibynnol ar drafnidiaeth gyhoeddus? OQ59390 Mark Drakeford AC: Llywydd, diolch i Siân Gwenllian am y cwestiwn. Gan weithio gyda chyngor Gwynedd, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi yn sylweddol i gynnal a gwella gwasanaethau bws i bobl Arfon. Mae trenau CAF newydd yn rhedeg ar linellau’r gogledd yn barod. Bydd comisiwn trafnidiaeth gogledd Cymru yn cynnig rhagor o ffyrdd o wella pan fydd yn adrodd yn yr hydref. Siân Gwenllian AC: Diolch am yr ateb. Mae etholwyr mewn nifer o gymunedau yn Arfon yn gwbl ddibynnol ar wasanaeth bysiau er mwyn cyrraedd eu gwaith, ac maen nhw'n pryderu'n arw am yr holl ansicrwydd o gwmpas dyfodol gwasanaethau bysiau. Mae rhai cymunedau yn mynd o un argyfwng i'r llall ac yn brwydro'n galed i gynnal lefel o wasanaeth sy'n annigonol yn y lle cyntaf. Mae yna etholwyr yn Gerlan, Llys y Gwynt, Tal-y-bont, Deiniolen, Rhosgadfan, Llanllyfni, Nebo, ac yn blaen, mewn perig o gael eu hynysu yn llwyr ar adegau pwysig o'r dydd. Mae'r undeb Unite yn galw arnoch chi fel Llywodraeth i drefnu uwchgynhadledd frys i drafod yr argyfwng bysiau, i gynnwys yr holl randdeiliaid allweddol. A wnewch chi gydnabod difrifoldeb y sefyllfa, ac a wnewch chi, plîs, drefnu uwchgynhadledd ar frys? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, diolch yn fawr i Siân Gwenllian am y pwyntiau yna. Y broblem i bobl sy'n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus yw bod llawer o bobl eraill heb ddychwelyd i'r bws na'r trên ar ôl pandemig COVID. Mae trethdalwyr, drwy Lywodraeth Cymru, wedi talu miliynau o bunnoedd yn ychwanegol i gefnogi trafnidiaeth gyhoeddus, ond mae'r arian sy'n cael ei gymryd mewn prisiau tocynnau yn dal i fod yn sylweddol i lawr, ac mae yna realiti newydd mae'n rhaid i ni ei wynebu. Mae'r Dirprwy Weinidog wedi cwrdd yn barod, yr wythnos diwethaf, gyda phobl yn y maes—y cwmnïau sy'n rhedeg y cwmnïau bws, aelodau'r awdurdodau lleol ac y blaen, ac, wrth gwrs, rŷn ni'n dal i siarad gyda'r undebau. Ac mae'r Dirprwy Weinidog wedi clywed beth mae'r Aelod wedi dweud y prynhawn yma am uwchgynhadledd. Os yw hynny'n ddefnyddiol, wrth gwrs, rŷn ni'n barod i siarad gyda phobl mewn fforwm fel yna. Ond mae trafodaethau yn dal i fynd ymlaen i gynllunio gwasanaethau bws y dyfodol yn y cyd-destun newydd. Sam Rowlands MS: Rwy'n cefnogi Siân Gwenllian yn codi'r mater pwysig hwn heddiw. A, Prif Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch chi'n cydnabod hefyd bod y gogledd, yn ystod misoedd yr haf, yn dod â nifer enfawr o ymwelwyr i mewn, sy'n sicr yn rhoi hwb i'n cymunedau drwy greu swyddi a ffyniant. Yn wir, mae eich ffigurau eich hun yn dangos bod ymweliadau dydd twristiaeth â'r gogledd tua 22.7 miliwn bob blwyddyn. Ac un o'r pethau sydd wir ei angen arnom ni yn ystod y tymor brig hwnnw yw mwy o ddarpariaeth o drafnidiaeth gyhoeddus. I mi, mae'n annerbyniol bod rhannau o'r gogledd, wrth groesawu'r ymwelwyr niferus hynny, yn gorfod gweithio gyda system trafnidiaeth gyhoeddus sgerbwd. Nid yw'n deg ar y bobl sy'n byw yno, yn ogystal â'r ymwelwyr sy'n dod i fwynhau ein rhan ni o'r byd. Felly, Prif Weinidog, tybed sut gwnewch chi sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus briodol yn ystod misoedd yr haf yn y gogledd wrth i ni groesawu mwy o bobl yn ystod yr haf i ddod? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, rydym ni'n gwneud hynny trwy barhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau bysiau ar draws y gogledd, ac yn ardal Arfon, lle ceir dadl gref dros wneud hynny. Felly, rydyn ni'n parhau i ariannu gwasanaeth bysiau allweddol T2 TrawsCymru, sy'n cysylltu Bangor, Caernarfon, Porthmadog, Dolgellau ac Aberystwyth. Disgwylir i'r gwasanaeth gael ei ail-dendro eleni, gyda chontract newydd ar gyfer gwell gwasanaethau yn cychwyn ym mis Medi. Ac yng nghyd-destun uniongyrchol twristiaeth, gwn y bydd yr Aelod yn falch o groesawu'r cyllid a ddarparwyd yn rhan o raglen metro gogledd Cymru—arian a ddarparwyd i Gyngor Gwynedd i'w caniatáu i wella rhwydwaith bysiau poblogaidd Sherpa'r Wyddfa ar draws parc cenedlaethol Eryri. Y canlyniad, ymhell o fod yn wasanaeth sgerbwd, yw bod bysiau mwy hygyrch bellach yn gweithredu ar draws yr ardal saith diwrnod yr wythnos, gan gysylltu prif drefi ac atyniadau i ymwelwyr, ac mae hynny'n newid sylweddol i'r ddarpariaeth ar gyfer trigolion ac ymwelwyr hefyd. Carolyn Thomas AS: Prif Weinidog, a fyddech chi'n cytuno bod Llywodraeth Dorïaidd y DU yn cyfarwyddo dirywiad wedi'i reoli o'r rheilffyrdd yng Nghymru, tra bod Llywodraeth Cymru yn ceisio gwella gwasanaethau? Ar ôl methu â buddsoddi mewn gwella ein rhwydwaith na rhoi cyllid canlyniadol i ni, maen nhw bellach yn gwneud perfformiadau yn waeth trwy orfodi Network Rail i gynllunio dirywiad pum mlynedd yn weithredol, gyda mwy o doriadau termau real i gyllid, o 2024 tan 2027, sy'n bryder enfawr. Gallai gymryd 10 i 15 mlynedd i'r rhwydwaith rheilffyrdd adfer yn sgil yr anffawd hon. Mark Drakeford AC: Diolch i Carolyn Thomas am y cwestiwn atodol pwysig iawn yna, oherwydd bydd yn sicr o effeithio ar bobl yn Arfon sy'n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus, oherwydd mae Llywodraeth y DU, ar ôl methu â buddsoddi i wella ein rhwydwaith rheilffyrdd dros flynyddoedd lawer, bellach yn cynllunio'n weithredol i waethygu perfformiad y rhwydwaith rheilffyrdd sydd o dan ei rheolaeth ei hun. Mae cynlluniau rheoli asedau Network Rail ar gyfer y cyfnod pum mlynedd nesaf yn cynnig i Gymru yr ail setliad cyllid gwaethaf o unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Bydd gostyngiad mewn termau arian parod, heb sôn am ostyngiad mewn termau real, mewn cyfnod o chwyddiant rhemp—bydd gostyngiad mewn termau arian parod i'r cyllid sydd ar gael i Network Rail yng Nghymru dros y pum mlynedd o 2024 tan 2029. Mae cynllun Network Rail ei hun yn cyfeirio at gynnydd i fethiannau seilwaith yng Nghymru ac asedau sy'n dirywio, a fydd yn achosi i wasanaethau fod yn llai dibynadwy ac yn llai tebygol o redeg yn brydlon. Dyna mae Llywodraeth y DU yn bwriadu iddo ddigwydd yng Nghymru, ac mae Carolyn Thomas yn llygad ei lle i dynnu sylw ato fel cyd-destun hanfodol y mae'n rhaid i ymdrechion Llywodraeth Cymru i gefnogi trafnidiaeth gyhoeddus yma ddigwydd ynddo. Prentisiaethau yn y Sector Adeiladu Llyr Gruffydd AC: 2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddyfodol y ddarpariaeth o brentisiaethau yn y sector adeiladu? OQ59414 Mark Drakeford AC: Llywydd, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda chyflogwyr a darparwyr dan gontract i gynyddu’r ddarpariaeth i brentisiaid ar draws y sector adeiladu. Rydym hefyd wedi ymrwymo i sicrhau bod prentisiaid yn cael eu hyfforddi i’r safon uchaf bosibl. Llyr Gruffydd AC: Diolch am hynny. Mae'n dda clywed eich bod chi wedi ymrwymo i weithio gyda darparwyr a chwmnïau preifat sy'n cynnig y cyfleon yma, oherwydd mae rhai o'r rheini wedi cysylltu â fi, yn siomedig eithriadol nad yw hi bellach yn bosib cynnig prentisiaeth lefel 2 i rai sydd eisiau dilyn gyrfa mewn peirianneg sifil. Nawr, mae'r safon mynediad, wrth gwrs, i wneud prentisiaeth lefel 3 yn gofyn am TGAU C a D, lle, wrth gwrs, o dan lefel 2, doedd dim yr un gofyniad. Nawr, canlyniad hynny yw ei fod e yn cau allan nifer o bobl a fyddai wedi mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd llewyrchus yn y sector yma. Mae e hefyd yn rhoi tipyn mwy o faich ar y darparwyr, y cwmnïau adeiladu a'r cwmnïau peirianneg sifil sydd yn darparu'r cyfleoedd yma, ac mae rhai ohonyn nhw'n dweud wrthyf i na fyddan nhw efallai, o ganlyniad, yn awyddus i barhau. Felly, gaf i ofyn i'r Llywodraeth ailystyried y penderfyniad yma, oherwydd efallai ar yr wyneb ei fod e'n edrych yn gam synhwyrol, ond, ar lefel ymarferol, mae e yn mynd i gael effaith negyddol? Mark Drakeford AC: Llywydd, dwi wedi clywed y pryderon sydd gan rai cwmnïau yn y gogledd, ond rŷn ni wedi diwygio cymwysterau dan arweiniad cyflogwyr yn y sector. Nhw sydd wedi awgrymu'r system newydd sydd gyda ni, ac maen nhw wedi gwneud hynny achos eu bod nhw'n meddwl y bydd y system newydd yn helpu i recriwtio prentisiaid sy'n gallu cwblhau eu hyfforddiant yn llwyddiannus ac sy'n dod â'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i weithio yn y sector. Dyna fwriad y system newydd—i helpu'r sector gyda'r bobl sy'n dod mas o'r colegau, sy'n cwblhau'r prentisiaethau, gyda'r sgiliau maen nhw'n gallu eu defnyddio yn llwyddiannus. A'r broblem i recriwtio pobl ar lefel 2 yw bod tystiolaeth yn dangos nad ydyn nhw, ar y cyfan, yn gwneud popeth mae'n rhaid iddyn nhw ei wneud i fod yn llwyddiannus yn y sector. Ond mae'r bobl yn y colegau a'r bobl yn y system yn y gogledd wedi clywed pryderon rhai cyflogwyr yn yn gogledd, ac mae'r Construction Industry Training Board—y bwrdd sy'n tynnu pobl at ei gilydd—yn mynd i siarad â'r cwmnïau i weld a oes rhywbeth rŷn ni'n gallu ei wneud i ymateb i'r problemau maen nhw'n meddwl y maen nhw'n wynebu. Paul Davies AC: Prif Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi bod angen i ni gynyddu lefel y prentisiaethau yn y sector adeiladu ym mhob rhan o Gymru, ac rwy'n obeithiol y bydd y cyhoeddiad diweddar am borthladdoedd rhydd, sy'n enghraifft wych o Lywodraethau yn cydweithio er budd pennaf Cymru, yn rhoi rhywfaint o fomentwm i ddarparu mwy o gyfleoedd yn fy etholaeth i ac, yn wir, ar draws y gorllewin. Felly, a allwch chi roi gwybod i ni pa drafodaethau sy'n cael eu cynnal gyda rhanddeiliaid i sicrhau y bydd prentisiaethau ac, yn wir, gyrsiau sgiliau galwedigaethol eraill ar gael yn rhan o'r rhaglen porthladdoedd rhydd yng Nghymru? Mark Drakeford AC: A gaf i ddiolch i Paul Davies am y cwestiwn a'i groesawu yn ôl i'w le yma yn y Siambr y prynhawn yma? Hoffwn gytuno ag ef am y gwaith sydd wedi cael ei wneud yn y rhaglen porthladdoedd rhydd, lle cytunwyd ar system o wneud penderfyniadau ar y cyd gwirioneddol rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, ac a arweiniodd, ychydig cyn toriad y Pasg, at gyhoeddi dau borthladd rhydd yng Nghymru. Nawr, roeddwn yn ddigon ffodus i fod yng ngholeg Penfro ddydd Iau yr wythnos diwethaf ac i gymryd rhan yn agoriad y cyfleuster peirianneg ac adeiladu newydd sydd ganddyn nhw yn y coleg, ac roedd yr holl sgwrs yn y digwyddiad hwnnw ymhlith pobl ifanc ac awdurdodau'r coleg a'r cyflogwyr a oedd yno am y cyfleoedd newydd a fydd yn bodoli yn y dyfodol i economi sir Benfro ac i bobl ifanc sy'n cael eu magu yn yr ardal honno. A chefais fy nghalonogi'n fawr o glywed nid yn unig am y cyfleusterau o'r radd flaenaf sydd bellach ar gael ar gyfer pobl ifanc yn y coleg, ond am y ffordd y mae cwricwla yn cael eu haddasu i wneud yn siŵr y bydd y sgiliau sy'n cael eu dysgu mewn diwydiannau traddodiadol yn paratoi'r bobl ifanc hynny ar gyfer y cyfleoedd newydd a fydd yno ym maes ynni adnewyddadwy drwy effaith y porthladdoedd rhydd ac ati. Ac roeddwn i'n ddigon ffodus, Llywydd, ar ôl y cyfarfod yn y coleg, i gael mynd ymlaen i gyfarfod â chyflogwyr ar wahân, ac i ymweld â'r porthladd yn Aberdaugleddau ac i glywed gan awdurdodau'r porthladd hefyd am y ffordd y mae pobl yn cydweithio i geisio cyflawni'r union nodau a'r uchelgeisiau y mae Paul Davies wedi eu mynegi y prynhawn yma. Hefin David AC: Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i groesawu dros 20 o Wcreiniaid Caerffili sydd yn yr oriel heddiw, ac maen nhw, wrth gwrs, wedi cael eu dadleoli gan y rhyfel ofnadwy yn Wcráin ac mae croeso mawr iddyn nhw yma heddiw. Hoffwn ddilyn yr un trywydd â chwestiwn Llyr Gruffydd, yn enwedig ynghylch prentisiaethau. Rwyf i newydd gael y fraint o gwblhau adroddiad i Lywodraeth Cymru, ar gais y Prif Weinidog a'r Gweinidog addysg, yr wyf i'n ei gyflwyno yr wythnos hon, ac un o'r pethau yr wyf i wedi gallu eu gwneud yw siarad gyda phobl ar draws y sector trydyddol. Ac un o'r pethau sydd wedi dod yn amlwg yw bod y sector yn eithaf tameidiog, a gwn y bydd gan y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil ran i'w chwarae yn y gwaith o ddatrys hynny. Tybed a fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno. Ac edrychaf ymlaen yn y dyfodol wedyn at gyflwyno argymhellion pellach i'r Llywodraeth a fyddai'n helpu i ddatrys rhai o'r problemau a godwyd gan Llyr ac Aelodau eraill ar draws y Siambr hon. Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, a gaf innau hefyd groesawu ymwelwyr â'r Senedd y prynhawn yma? Ac a gaf i ddiolch i'r Aelod am y gwaith y mae newydd ei gwblhau, a gomisiynwyd gan y Gweinidog addysg i edrych ar y system fel y mae'n gweithredu ar hyn o bryd. Gwn faint o amser y mae'r Aelod wedi ei dreulio allan yno yn siarad â phobl sy'n darparu hyfforddiant a chyflogwyr sy'n dibynnu ar y sgiliau sy'n cael eu creu o ganlyniad i hynny. Roeddwn i'n falch iawn o glywed bod gan yr adroddiad gyfres o argymhellion ymarferol sy'n dangos lle y gellir cyflawni gwelliannau yn fwyaf rhwydd yn y sector. Edrychaf ymlaen at ddarllen yr adroddiad fy hun. Rwy'n credu fy mod i'n gwybod bod gan yr Aelod gyfarfod gyda swyddogion Llywodraeth Cymru yn ddiweddarach y prynhawn yma fel y gallwn ni ddechrau, cyn gynted â phosibl, gymryd y buddion ymarferol o'r gwaith y mae wedi bod yn ei wneud. Yn yr ysbryd o groesawu pobl i'r oriel gyhoeddus y prynhawn yma, os caf i hefyd groesawu llefarydd a chlerc Senedd Tasmania i'n horiel gyhoeddus y prynhawn yma ac i'n Senedd yma yng Nghymru. Rwy'n gweld llawer o bobl ifanc yma yn yr oriel hefyd—croeso i chi i gyd. Rwy'n meddwl ei bod yn ddigon posibl fod Ysgol Comins Coch o Aberystwyth yn yr oriel, felly rwy'n eich croesawu chi yn arbennig. Diolch am roi'r cyfle hwnnw i mi. Rwyf i wedi addo i lefarydd Senedd Tasmania ein bod ni'n ymddwyn yn dda iawn yn y Senedd hon. Rwyf i ar fin galw arweinwyr y pleidiau gwleidyddol, felly gobeithio y gwnewch chi ein dangos i ni ar ein hymddygiad gorau. Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau I ffwrdd â ni—arweinydd yr wrthblaid, y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies. Andrew RT Davies AC: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, daeth cadeirydd Cymdeithas Feddygol Prydain allan dros y penwythnos a dweud nad yw'r GIG yng Nghymru yn gweithio. Byddai hynny'n achosi pryder dwys ymhlith pobl ble bynnag y maen nhw'n dibynnu ar y gwasanaeth iechyd i gyflawni ledled Cymru. Cyfeiriodd at dair enghraifft, un yn amseroedd ymateb ambiwlansys, yn ail, yr arosiadau mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, ac yn drydydd, pobl nad ydyn nhw'n symud i fyny'r rhestrau aros, a fyddai'n meincnodi pa mor llwyddiannus yw'r GIG yma yng Nghymru. Yn anffodus, mae'n rhaid i bobl fynd dramor i gael y triniaethau hynny. A ydych chi'n cytuno â chadeirydd y BMA nad yw'r GIG yng Nghymru yn gweithio o ran y mesurau hynny? Mark Drakeford AC: Nid wyf i'n cytuno â'r hyn a ddywedodd cadeirydd y BMA o ran nad yw GIG Cymru yn gweithio. Wrth gwrs, rwy'n cytuno bod rhannau o'n GIG o dan y straen mwyaf enfawr oherwydd nifer y bobl sydd angen cael mynediad at y gwasanaethau hynny. Ond mae GIG Cymru, Llywydd, ar gyfer poblogaeth o 3 miliwn o bobl, yn ymdrin â 2 filiwn o gysylltiadau bob un mis gan bobl yma yng Nghymru. Nid wyf i'n credu y gallai system sydd â 2 filiwn o gysylltiadau â phoblogaeth Cymru bob un mis, mewn unrhyw ystyr deg, gael ei disgrifio fel system sy'n methu. Andrew RT Davies AC: Roedd y pwyntiau a gyflwynais i chi, Prif Weinidog, yn ymwneud â meysydd penodol o'r GIG y gwnaeth cadeirydd y BMA eu hamlygu fel rhai nad ydyn nhw'n gweithio a phobl ddim yn gweld y canlyniadau sydd eu hangen arnyn nhw pan fyddan nhw'n ymgysylltu â'r GIG. Siawns na ddylai fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon wneud yn siŵr bod yr amseroedd ymateb hynny yn gwella, a phryd y mae pobl angen mynediad at y GIG, y gallan nhw ei gael yn amserol. A ydych chi'n cytuno â mi bod angen i hynny fod yn flaenoriaeth allweddol, ac mai'r hyn nad yw'n flaenoriaeth i'r Llywodraeth yw ceisio talu'r £1,600 i bobl sydd heb gael statws sefydlog yn y wlad hon a gweithredu fel ffactor atyniadol i lenwi pocedi smyglwyr pobl yr ochr arall i'r sianel? Mark Drakeford AC: Yn gyntaf oll, Llywydd, rwy'n cytuno, wrth gwrs, bod mynediad at y GIG i bobl mewn argyfwng, neu i bobl sy'n aros am ofal a gynlluniwyd, yn flaenoriaeth bwysig iawn i'r Llywodraeth hon. Dangosodd y ffigurau a gyhoeddwyd yn ystod y toriad bod nifer y bobl sy'n aros am driniaeth yn GIG Cymru yn parhau i ostwng, bod arosiadau hir yn gostwng, a bod perfformiad ein hadrannau brys yn rhagori ar berfformiad adrannau yn Lloegr am y seithfed mis yn olynol. Felly, rwy'n cytuno ag ef ynglŷn â'r flaenoriaeth ac rwy'n credu bod tystiolaeth o'r system yn ymateb. O ran y sylwadau a wnaeth arweinydd yr wrthblaid am ein cynllun treialu incwm sylfaenol cyffredinol, gadewch i mi fod yn eglur gyda'r Aelodau: cynllun treialu yw hwn sydd â'r nod o helpu rhai o'r plant a'r bobl ifanc mwyaf agored i niwed yn ein cymuned. Dyna yw pwrpas y cynllun treialu. Plant yw'r rhain sy'n dod allan o ofal awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru. Yn eu plith, ceir nifer fach iawn o bobl ifanc sydd yng ngofal awdurdod lleol oherwydd eu bod wedi dod i Gymru o rai o'r llefydd mwyaf rhyfelgar ar wyneb y blaned. Maen nhw'n cyrraedd gyda neb a gyda dim. Plant ar eu pen eu hunain ydyn nhw. Maen nhw'n derbyn gofal gan ein hawdurdodau lleol, a phan fyddan nhw'n gadael gofal yr awdurdod lleol, mae hon yn Llywodraeth—ac yn gyffredinol, Llywydd, mae hon wedi bod yn Senedd—sy'n dymuno gweld popeth yn cael ei wneud i roi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i'r plant hynny. Dyna'r hyn yr ydym ni'n sôn amdano: dyfodol plant agored i niwed. Rwyf i wedi meddwl dros 20 mlynedd bod hwnnw'n uchelgais cyffredin ar draws y Siambr hon, ac rwy'n gobeithio y bydd yn parhau felly yn y dyfodol. Andrew RT Davies AC: Yn sicr, bydd yn gyffredin ar draws y Siambr hon, Prif Weinidog, oherwydd ni ddylem ni fod yn drysu'r ddau fater; dylem ni fod yn gwneud popeth o fewn ein gallu—[Torri ar draws.] Dylem ni fod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gynorthwyo'r rhai sydd angen cymorth a'r wladwriaeth i ymyrryd i'w cynorthwyo. Ond yr hyn na allwn ni ei gael—[Torri ar draws.] Rwyf i angen clywed Andrew R.T. Davies, ac mae'r Prif Weinidog angen ei glywed. Os caf i ychydig o dawelwch. Andrew RT Davies AC: Rwy'n gallu clywed y Dirprwy Weinidog trafnidiaeth yn mwmian, ond mae wedi dweud lawer gwaith nad yw'n gwybod beth mae'n ei wneud, ac ar y mater penodol hwn byddwn yn cytuno hefyd nad yw'n gwybod beth mae'n ei wneud. Ni all fod yn iawn ei bod hi'n bosibl y gallai mesurau a roddir ar waith weithredu fel atyniad a fyddai'n llenwi pocedi'r bobl ofnadwy hynny sy'n manteisio ar bobl agored i niwed ar yr ochr arall i'r sianel. Roedd fy mhwynt i chi ynghylch y blaenoriaethau sydd gan y Llywodraeth pan fo gennych chi gadeirydd y BMA yn tynnu sylw at y ffaith nad yw'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn gweithio, ac eto mae gennych chi dri Gweinidog yn gofyn am bwerau i roi arian i bobl nad ydyn nhw wedi cael statws wedi'i gadarnhau. Siawns nad dyna lle ddylai'ch blaenoriaethau chi fod, ac nid wyf i'n ymddiheuro o gwbl am ymhelaethu ar hynny a gwneud yn siŵr bod arian Llywodraeth Cymru yn cael ei wario ar flaenoriaethau'r bobl yma yng Nghymru. Mark Drakeford AC: Llywydd, mae arweinydd yr wrthblaid yn dweud wrthyf i na ddylwn i ddrysu dau fater, pan fo wedi fy ngwahodd i wneud yr union beth a dychwelyd at y thema honno yn ei gyfraniad olaf. Mae'n amlwg yn nonsens dychmygu bod rhyw blentyn druan mewn rhan ryfelgar o'r byd yn meddwl y bydd yn cychwyn ar y teithiau rhyfeddol o beryglus y mae pobl yn eu gwneud, i ddod i Gymru, oherwydd bod llond dwrn bach o blant ar eu mantais oherwydd ein cynllun yma. Pan ysgrifennodd Gweinidogion at Lywodraeth y DU, y cwbl y gwnaethom ni ei ofyn yw iddyn nhw weithredu eu cyfrifoldebau am gymorth cyfreithiol mewn ffordd nad oedd yn rhoi'r bobl ifanc hynny o dan fwy o anfantais fyth. Mae'n siom eithriadol i mi nad oedden nhw'n barod i wneud hynny, ond mae'n fwy cywilyddus fyth i wneud y plant hynny yn wrthrych ymgais wleidyddol noeth i wneud hwn yn fater chwiban ci arall ar gyfer y mathau o bleidleiswyr y mae'r Aelod yn anffodus yn ceisio apelio atyn nhw. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price. Adam Price AC: A gaf i ddweud, ar ran fy mhlaid, fy mod i'n meddwl bod dangos ymrwymiad i dosturi tuag at bobl ifanc agored i niwed sy'n ffoi rhag rhyfel a gorthrwm, yn dod yma—? Wyddoch chi, nid yw datganiad o genedl noddfa ynddo'i hun yn ddigon. Mae'n rhaid i ni ei ymarfer mewn gwirionedd, a dylai hynny fod yn flaenoriaeth i ni, oherwydd mae'n ganolog i werthoedd gorau ein cenedl. A gaf i droi, Prif Weinidog, at fater arall? Ar 28 Chwefror, yn gynharach eleni, wrth gyfeirio at Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, fe wnaethoch chi ddweud: 'Daethpwyd i'r penderfyniad, ac mae'n benderfyniad gan Weinidogion, i dynnu'r bwrdd allan o fesurau arbennig oherwydd i ni gael ein cynghori mai dyna ddylem ni ei wneud gan yr archwilydd cyffredinol, gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a chan swyddogion Llywodraeth Cymru'. A ydych chi'n cadw at y datganiad hwnnw? Mark Drakeford AC: Rwyf i yn cadw ato, Llywydd, gan ei fod yn ymgais i nodi'r broses a ddefnyddir i naill ai uwchgyfeirio sefydliadau yn GIG Cymru o ran ymyrraeth neu eu hisgyfeirio. Rwyf i wedi ysgrifennu, Llywydd, atoch chi i gynorthwyo'r Aelodau i wneud y broses honno yn eglur.FootnoteLink Rwy'n gwybod eich bod chi'n bwriadu sicrhau bod y llythyr hwnnw ar gael i'r holl Aelodau. Rwy'n hapus iawn i'w grynhoi eto heddiw fel na ellir bod unrhyw amheuaeth ym meddyliau'r Aelodau ynghylch y ffordd y mae'r system yn gweithredu. Ceir tri cham ar wahân iddi. Mae'n dechrau gyda chyfarfod tair ochrog sy'n cynnwys swyddfa'r archwilydd cyffredinol, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, ac uwch-swyddogion Llywodraeth Cymru. Maen nhw'n trafod pa un a oes angen ymyrraeth ychwanegol ar sefydliad ai peidio neu a oes modd tynnu ymyrraeth yn ôl. Mewn ail gam sydd ar wahân, daw'r cyngor a roddir i Weinidogion gan weision sifil. Maen nhw'n manteisio ar y drafodaeth dair ochrog a gynhelir ar y cam cyntaf, ac maen nhw'n cynnwys ystyriaethau eraill hefyd. Y trydydd cam a'r olaf yw'r penderfyniadau gweinidogol. Dyna sut mae'r broses yn gweithredu. Dyna'r oeddwn i'n ceisio ei gyfleu pan atebais y cwestiwn hwnnw ddiwethaf, trwy fod yn eglur bod Gweinidogion yn penderfynu a bod cyngor yn dod gan weision sifil. Rwy'n hapus iawn i sicrhau bod hwnnw ar gael i'r Aelodau fel na all unrhyw ddryswch fodoli yn y dyfodol.FootnoteLink Llythyr gan y Prif Weinidog ar 24 Ebrill 2023. Llythyr gan y Prif Weinidog 26 Ebrill 2023. Adam Price AC: Yn dilyn y penderfyniad i dynnu Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig, ysgrifennodd yr archwilydd cyffredinol at Lywodraeth Cymru ar 26 Tachwedd 2020 i ddweud ei fod yn 'annefnyddiol i'r gweinidog awgrymu ei fod wedi derbyn cyngor uniongyrchol gennyf i neu fy staff am statws uwchgyfeirio'r bwrdd iechyd'. Yn ei lythyr, mae'r archwilydd cyffredinol yn dweud bod nodiadau diwygiedig y drafodaeth dair ochrog yn ei gwneud yn eglur na ddigwyddodd hynny, ond yn anffodus ni wnaeth yr eglurder hwnnw drosglwyddo i'r datganiad gan y gweinidog nac yn wir y drafodaeth Cyfarfod Llawn a'i dilynodd. Mae'r archwilydd cyffredinol yn dweud, pe baen nhw wedi cael digon o gyfle ymlaen llaw, y bydden nhw wedi gofyn i'r datganiad gan y gweinidog gael ei ddiwygio. Pam na chafodd datganiad llafar neu ysgrifenedig ei wneud i'r Senedd i gywiro'r cofnod ar ôl derbyn y llythyr hwn? Mark Drakeford AC: Llywydd, nid oedd unrhyw gofnod i'w gywiro gan y bydd y Gweinidog wedi gweithredu ar sail y system yr wyf i wedi ei chyflwyno i'r Aelodau y prynhawn yma. Mae pob penderfyniad, pa un a i wneud mwy neu i wneud llai, yn dilyn y broses tri cham honno. Rwyf i wedi ei gyflwyno ar gyfer yr Aelodau. Nid wyf i'n meddwl y gallaf i helpu'r Aelod ymhellach ar y mater hwnnw. Adam Price AC: Rhoddodd eich datganiad, Prif Weinidog, a datganiad eich cyd-Weinidog ar y pryd, yr argraff bod barn a rannwyd gan bawb o amgylch y bwrdd tair ochrog, ond mae'r archwilydd cyffredinol yn dweud wrthym ni, i'r gwrthwyneb, yng nghyfarfod y grŵp tair ochrog ar 13 Tachwedd 2020—ac rwy'n dyfynnu nawr— 'y mynegwyd gwahanol safbwyntiau ynghylch a ddylai'r bwrdd iechyd aros mewn mesurau arbennig'. A wnewch chi gyhoeddi nodiadau'r cyfarfod hwnnw? A allwch chi gadarnhau bod Gweinidogion wedi cael gwybod am lythyr yr archwilydd cyffredinol? Ac a allwch chi hefyd gadarnhau bod yr archwilydd cyffredinol wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ar sawl achlysur arall i godi pryderon tebyg? Mark Drakeford AC: Llywydd, yr hyn y gallaf ei ddweud wrth yr Aelodau yw hyn: nid yw'n syndod, wrth gwrs, bod gwahanol safbwyntiau yn cael eu mynegi mewn cyfarfod o'r fath—dyna pam mae cyfarfod yn cael ei alw, er mwyn gwneud yn siŵr bod y gwahanol safbwyntiau hynny i gyd ar gael. Ond nid yw'r cyngor sy'n mynd i Weinidogion—gadewch i mi fod yn eglur gyda'r Aelodau eto—yn dod yn uniongyrchol o'r cyfarfod tair ochrog, mae'n dod ar ail gam a cham ar wahân gan weision sifil. Dyna'r cyngor y mae Gweinidogion yn ei weld, dyna'r cyngor y mae Gweinidogion yn ei ddefnyddio, ond yn y pen draw Gweinidogion, ar y trydydd cam hwnnw, sy'n gwneud y penderfyniad. Dyna ddigwyddodd yn 2020, dyna sy'n digwydd bob tro mae'r system dair ochrog yn dod at ei gilydd. Mae'n gwneud hynny ddwywaith y flwyddyn. Mae'r system yn gweithredu fel yr wyf i newydd esbonio. Nid wyf i'n credu y gallwn i fod yn fwy eglur. Gwerth Ychwanegol Gros Cymru Mike Hedges AC: 3. Sut mae Llywodraeth Cymru yn helpu i gynyddu gwerth ychwanegol gros Cymru? OQ59379 Mark Drakeford AC: Mae gwerth ychwanegol gros yn fesur o allbwn economaidd cenedl. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi twf economaidd trwy fuddsoddi mewn sgiliau a seilwaith. O'i gymryd ar ei ben ei hun, fodd bynnag, mae gwerth ychwanegol gros yn ganllaw amherffaith i iechyd unrhyw economi. Mike Hedges AC: Diolch i'r Prif Weinidog am hynna. Mae'n ganllaw amherffaith, ond mae'n ganllaw, ac rwy'n meddwl bod gan yr economïau mwyaf llwyddiannus werth ychwanegol gros uchel. Er bod gan y rhan fwyaf o economïau yn Ewrop, Asia a Gogledd America dwristiaeth, amaethyddiaeth a'r economi sylfaenol yn rhan o'u heconomi, mae gan y rhai llwyddiannus—y rhai yr ydym ni'n gobeithio eu hefelychu—gyfran uwch o'u gweithlu ym meysydd technoleg gwybodaeth a chyfathrebu, gwyddorau bywyd, gweithgynhyrchu uwch a gwasanaethau proffesiynol na'r hyn sydd gennym ni yng Nghymru. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i weithio gyda phrifysgolion ac eraill i gynyddu'r gwaith o hyrwyddo cyflogaeth â thâl uwch a sgiliau uwch yng Nghymru? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, wrth gwrs, rwy'n cytuno bod gwerth ychwanegol gros yn un mesur pwysig o berfformiad economi, a gwn y bydd Mike Hedges wedi sylwi yn y ffigurau diweddaraf sydd ar gael bod Cymru yn gwneud yn well nag unrhyw wlad arall yn y DU o ran cynyddu gwerth ychwanegol gros. Tyfodd gwerth ychwanegol gros y pen yn y cyfnod rhwng 2017 a 2020 3.5 y cant yng Nghymru, 2.6 y cant yn Lloegr a 2.2 y cant yn yr Alban. Rwy'n credu eich bod chi'n gweld yn y ffigurau hynny effaith y strategaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei dilyn. Fel y dywedais, ein strategaeth hanfodol yw buddsoddi mewn pobl. Gan feddwl am y cwestiwn a gawsom yn gynharach y prynhawn yma gan Llyr Gruffydd, byddwch yn sicr o weld, er enghraifft, yn Airbus, yn rhan yr Aelod o'r gogledd, bod prentisiaethau gradd yn rhan mor annatod o'r ffordd y mae'r cwmni hwnnw yn cael llwyddiant mor eithriadol. Ond, rydych chi'n ei weld hefyd yn y diwydiannau creadigol; twf o 40 y cant yn nifer y bobl sy'n gweithio yn y sector yn ystod y degawd diwethaf, ac mae hynny'n adlewyrchiad pendant o'r buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru, drwy ein darparwyr addysg, wedi ei wneud mewn cynyddu sgiliau'r sector, gan ddenu cwmnïau i ddod yma a gwneud eu cynyrchiadau yng Nghymru. Ar yr un pryd, rydyn ni'n buddsoddi mewn cyfleusterau—y ganolfan gweithgynhyrchu uwch yn y gogledd a'r ganolfan ragoriaeth fyd-eang ar gyfer rheilffyrdd yma yn y de, y ddau'n fuddsoddiadau a fydd yn arwain at y math o weithlu â sgiliau ychwanegol y cyfeiriodd Mike Hedges atyn nhw, ond â'r seilwaith a'r offer sy'n galluogi'r sgiliau hynny i gynyddu cynhyrchiant mewn ffordd sy'n arwain at well gwerth ychwanegol gros. Ac wrth gwrs, rydyn ni'n parhau, Llywydd, i fuddsoddi ochr yn ochr â chwmnïau sy'n dod â'r synnwyr hwnnw o ennill cynhyrchiant i economi Cymru. Cyfarfu Gweinidog yr Economi yn ddiweddar, er enghraifft, yn yr Unol Daleithiau gyda KLA i drafod eu hehangiad gwerth $100 miliwn o'u cyfleuster yng Nghasnewydd, ac roeddwn i'n falch iawn o fod gyda Mike Hedges yn Abertawe ym mis Rhagfyr gyda Veeqo, cwmni lle y clywodd ef a minnau gan y bobl ifanc y maen nhw wedi eu denu i weithio yn y diwydiant hwnnw am y ffordd mai'r buddsoddiad mewn sgiliau, offer a chyfleoedd sydd wedi eu denu nhw yn ôl i Gymru, gan sicrhau'r cynnydd hwnnw mewn swyddi â sgiliau a chyflogau uchel sy'n arwain at y gwelliant i werth ychwanegol gros a oedd yn ganolog i'r cwestiwn hwn. Peter Fox AS: Diolch i Mike Hedges am godi'r pwynt pwysig hwn a rhannu'r broblem gyda gwerth ychwanegol gros yng Nghymru. Mae gennym ni 5 y cant o'r boblogaeth a 3.4 y cant o gyfoeth y DU, ac ers 1999, er gwaethaf yr hyn y mae'r Prif Weinidog newydd ei rannu, ni sydd wedi bod â'r gwerth ychwanegol gros isaf yn y Deyrnas Unedig. Rydym ni'n gwybod bod sawl rheswm ynghylch hynny, ac mae'n galonogol clywed rhai o'r pethau da sy'n digwydd erbyn hyn, ond mae angen i ni weld camau mwy pendant i wella cynhyrchiant a thwf, gan hybu cyflogau a chyflogaeth. Prif Weinidog, tybed a allech chi roi rhai enghreifftiau i ni o dargedau ystyrlon y mae eich Llywodraeth yn eu gosod er mwyn gwneud yn siŵr bod Cymru ar y trywydd iawn i wireddu ei photensial llawnaf. Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, rwy'n cytuno, ar y pwynt hwn, yn sicr, gyda Peter Fox, bod cynhyrchiant, a pharadocs cynhyrchiant segur, yn ganolog i'r her a wynebwyd gan economi'r DU. Os ydym ni'n mynd i weld, fel y byddem ni'n sicr eisiau ei weld, economi sy'n tyfu—cacen sy'n tyfu fel y gallwch chi rannu enillion twf—yna mae'n rhaid i well cynhyrchiant fod yn ganolog i hynny. Mae cynhyrchiant wedi arafu yn economi'r DU ers degawd erbyn hyn. Rwy'n credu mai'r peth sy'n gwahaniaethu'r economïau hynny mewn rhannau eraill o Ewrop lle mae twf yn parhau yw'r buddsoddiad yn y cyfarpar, y peiriannau a'r seilwaith sy'n caniatáu i weithwyr medrus iawn wneud eu cyfraniad mwyaf at y twf economaidd hwnnw. Pam y mae'n wir ei bod hi'n cymryd pum diwrnod i weithiwr gynhyrchu yr hyn y gall gweithiwr yn Ffrainc ei gynhyrchu mewn pedwar? Nid yw oherwydd bod y bobl yn wahanol, ac nid wyf i'n credu ei fod, ar y cyfan, oherwydd bod y lefelau sgiliau yn wahanol. Rwy'n credu mai'r ffaith yw bod gan bobl mewn mannau eraill set fwy modern o offer, o beiriannau, o fuddsoddiad gan ddiwydiant ar gael iddyn nhw, a dyna fyddai'n caniatáu ailddechrau twf cynhyrchiant y tu mewn i economi'r DU. Bydd yr Aelod yn canfod yn ein cenhadaeth economaidd yr uchelgeisiau hynny yr ydym ni wedi eu cyflwyno ar gyfer manteisio ar y manteision cymharol sydd gennym ni yma yng Nghymru mewn llawer o sectorau: lled-ddargludyddion, seiberddiogelwch, gwyddorau bywyd, y diwydiannau creadigol, ynni adnewyddadwy a gweithgynhyrchu uwch. Mae gennym ni yng Nghymru gymaint sydd o'n plaid wrth greu economi'r dyfodol. Mae angen i ni, gan weithio gydag eraill, gan gynnwys Llywodraeth y DU, greu'r amodau lle gall y bobl sy'n gweithio yn y diwydiannau hynny wneud y cyfraniad mwyaf y gallan nhw at y math o economi dwf y byddem ni eisiau ei gweld yn y dyfodol. Luke Fletcher AS: Un sector o'r economi sy'n cyfrannu'n enfawr at werth ychwanegol gros Cymru yw'r sector lletygarwch. Rwy'n siŵr bod y Prif Weinidog yn falch bod yr ymgyrch i ddod â Chyngres ac Expo Worldchefs i Gymru wedi bod yn llwyddiant, a bydd Cymru ar lwyfan coginio'r byd ym mis Mai 2026 ar ôl Singapore. A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i longyfarch y tîm sydd y tu ôl i'r ymgyrch, ond, yn bwysicach, a wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried cefnogi'r digwyddiad trwy ddatgan 2026 yn flwyddyn bwyd a diod Cymru, gan hyrwyddo ein sector bwyd a diod i'r byd ac, mae'n siŵr, yn y tymor hir, gwella gwerth ychwanegol gros? Mark Drakeford AC: Mae sector bwyd a diod Cymru yn llwyddiant mawr arall yn economi Cymru, gan ragori o bell ar y targedau a bennwyd ar ei gyfer gan fy nghyd-Weinidog Lesley Griffiths pan nododd lwybr twf i'r diwydiant hwnnw gyntaf. Mae'n newyddion da iawn ein bod ni wedi denu'r gystadleuaeth honno yma i Gymru. Cawsom flas cynnar arni gyda chogyddion yn—mae'n ddrwg gen i, nid yw pawb yn sylwi ar y pethau hyn. [Chwerthin.] Cawsom synnwyr cynnar o hynny pan gawsom ni gogyddion o bedwar ban byd yng Nghasnewydd y llynedd. Rwy'n edrych ymlaen at 2026, ac mae'r Gweinidog sy'n gyfrifol mewn trafodaethau gweithredol gyda chydweithwyr yn y sector bwyd a diod ynghylch sut y gall Llywodraeth Cymru wneud ein cyfraniad i fanteisio i'r eithaf ar y cyfle a fydd yn dod yn sgil hynny. Y Gwasanaeth Datblygu Hunaniaeth Rhywedd Altaf Hussain AS: 4. Pa drafodaethau diweddar y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn ag ad-drefnu'r gwasanaeth datblygu hunaniaeth rhywedd? OQ59400 Mark Drakeford AC: Llywydd, mae'r cyfrifoldeb hwn yn nwylo Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru ac fe'i cyflawnir drwy ei aelodaeth o fwrdd rhaglen GIG Lloegr ar gyfer gwasanaethau dysfforia rhywedd. Altaf Hussain AS: Diolch, Prif Weinidog. Roedd cwymp gwasanaeth rhywedd y Tavistock i blant wir yn ofnadwy. Fel y dywedodd Dr Hilary Cass wrth gynnal adolygiad o'r gwasanaeth datblygu hunaniaeth rhywedd, nid oedd yn opsiwn hirdymor na hyfyw. Diolch byth, cytunodd GIG Lloegr bod y gwasanaeth yn anniogel a chau'r gwasanaeth i lawr i gael ei ddisodli gan ddwy ganolfan ranbarthol sy'n darparu gwasanaethau i gleifion Cymru a Lloegr. Prif Weinidog, mae newyddiadurwr y BBC ac awdur y llyfr gwych am Tavistock, Hannah Barnes, wedi datgelu bod dau o'r uwch feddygon o Tavistock bellach yn gyfrifol am hyfforddiant uniongyrchol carfannau o staff yn y canolfannau newydd. Ar un cyfnod, ystyriwyd cynnwys cyfarwyddwr y gwasanaeth datblygu hunaniaeth rhywedd ar y panel cyfweld ar gyfer y swyddi newydd. A ydych chi'n meddwl bod hyn yn dderbyniol, o ystyried canfyddiadau adolygiad Cass, a pha gamau fydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod y gwasanaeth datblygu hunaniaeth rhywedd wedi ei ailgyfansoddi yn ddiogel i gleifion Cymru? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, gadewch i mi ddweud yn gyntaf oll bod Llywodraeth Cymru eisiau gweld yr hyn a ddywedodd adolygiad Cass: gwasanaethau sy'n ddiogel ac yn effeithiol, a'n huchelgais yw dod â mwy o'r gwasanaethau hynny yn agosach at adref. Nid cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw'r busnes o bwy sy'n eistedd ar baneli cyfweld yn GIG Lloegr, ac mewn gwirionedd, ni allaf gael fy nhynnu i mewn i'r drafodaeth a nododd yr Aelod. Yr hyn yr ydym ni'n ei wybod yw bod atgyfeiriadau pobl ifanc i wasanaethau o'r fath wedi tyfu yn gyflym iawn dros y degawd diwethaf. Ddeng mlynedd yn ôl, cafwyd saith atgyfeiriad o Gymru i wasanaethau hunaniaeth rhywedd. Yn y flwyddyn ddiwethaf y mae ffigurau ar gael ar ei chyfer, degawd yn ddiweddarach, 159 o blant oedd y ffigur hwnnw. Rwy'n deall yn llwyr pam na ellid disgwyl i un gwasanaeth ymdrin â chynnydd i faint y galw o'r math hwnnw, gan fod y cynnydd hwnnw i'r galw yn cael ei adlewyrchu nid yn unig yng Nghymru ond mewn mannau eraill hefyd. Yn y tymor byr, bydd pobl ifanc o Gymru yn cael eu hatgyfeirio i un o'r ddwy ganolfan newydd a fydd yn cael eu sefydlu, ond y nod, fel yr wyf i'n ei deall, yw symud i hyd at wyth canolfan ranbarthol ar gyfer y gwasanaeth hwn. Byddwn eisiau gweld, fel yr ydym ni wedi ei weld yn llwyddiannus mewn gwasanaethau rhywedd i oedolion, mwy o'r llwybr yn cael ei symud mor agos at gartref i'r bobl ifanc hynny â phosibl. Byddwn yn aros am ganlyniad adolygiad Cass—nid yw wedi'i gwblhau o hyd—ac yna, byddwn yn gweithio gydag eraill i wneud yn siŵr bod gwasanaethau ar gael i bobl ifanc sy'n cwestiynu eu hunaniaeth rhywedd sy'n ddiogel, yn effeithiol, ac yn cael eu llunio gan lais y bobl ifanc hynny, a gwasanaeth nad yw'n achosi stigma ac nad yw'n dibynnu ar lwybr meddygol hirfaith yn unig chwaith. Darllenais yn ofalus y cyfraniad a wnaeth yr Aelod mewn dadl gynharach ar y mater hwn, ac roedd llawer iawn yn yr hyn yr oedd ganddo i'w ddweud yr oeddwn i'n cytuno ag ef. A gobeithio y bydd yn bosibl yng Nghymru i barhau i gydweithio i wneud yn siŵr ein bod ni'n darparu gwasanaeth ar gyfer pobl ifanc sy'n bodloni'r meini prawf a nodir yn adolygiad Cass a'r ysbryd y byddem ni'n dymuno i bobl ifanc gael eu trin ag ef yma yng Nghymru. Mesuryddion Rhagdalu Jenny Rathbone AC: 5. Beth yw asesiad Llywodraeth Cymru o gynnig diweddaraf Ofgem i ganiatáu i gwmnïau ynni ailddechrau gorfodi aelwydydd i ddefnyddio fesuryddion rhagdalu? OQ59415 Mark Drakeford AC: Mae'r newidiadau hyn yn wirfoddol ac yn sicr dydyn nhw ddim yn mynd yn ddigon pell. Ein barn ni yw y dylid gwahardd gosod mesuryddion rhagdalu yn orfodol yn llwyr. Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn cyfarfod ag Ofgem yfory a bydd yn gwneud y ddadl dros weithredu pellach i ddiogelu aelwydydd yng Nghymru. Jenny Rathbone AC: Diolch, Prif Weinidog. Nid yw'r dystiolaeth a ddarparwyd gan Cyngor ar Bopeth Cymru yn ddeunydd darllen calonogol. Rydyn ni'n clywed am aelwydydd sy'n cael eu bygwth gyda mesuryddion rhagdalu, hyd yn oed yn ystod y moratoriwm honedig ar osod gorfodol; cwsmeriaid yn cael eu bygwth gyda mesuryddion rhagdalu, er eu bod nhw ar restr y cyflenwyr ynni o gofrestrau gwasanaeth blaenoriaeth, sy'n golygu eu bod nhw'n unigolyn agored i niwed; mae gennym ni weddw â mesurydd clyfar a newidiwyd i fesurydd rhagdalu heb ei chaniatâd, i grafu yn ôl dyled nad oedd hi hyd yn oed yn sylweddoli ei bod ganddi; ac mae gennym ni unigolyn sy'n gadael gofal â phlentyn sâl, a gafodd rybudd o ddeuddydd o newid trwy un neges destun—dim trafodaeth am fod yn agored i niwed, nac unrhyw drafodaeth am gynllun ad-dalu ar gyfer dyled o £5,000 nad oedd hi'n sylweddoli ei bod hi wedi ei chronni. Beth yw pwynt cod gwirfoddol pan fo cyflenwyr eisoes yn ei dorri cyn iddo hyd yn oed ddechrau? Nid yw datgysylltu cyflenwad ynni i aelwydydd sydd ar fesuryddion talu wrth ddefnyddio byth yn digwydd heb i orchymyn llys fod ar waith, ac mae gennym ni'r cyflenwyr hyn yn gwneud elw enfawr ac yn defnyddio mesuryddion clyfar a mesuryddion rhagdalu i ddatgysylltu gwres a golau o aelwydydd a'r unig drosedd y maen nhw'n euog ohoni yw tlodi. Gan fod Ofgem yn deigr papur heb ddannedd, pa bwerau sydd gan Lywodraeth Cymru i orfodi cod ymarfer statudol, yn debyg i'r un y mae cwmnïau dŵr yn cydymffurfio ag ef? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, rwy'n difaru'r ffaith nad oes gan Lywodraeth Cymru bwerau i'w gwneud yn ofynnol bod y camau y mae Jenny Rathbone wedi'u nodi yn cael eu gweithredu, oherwydd bod polisi ynni yn fater a gedwir yn ôl a gallan nhw ond cael eu gweithredu gan Weinidogion y DU. Mae'r achosion y mae Jenny Rathbone wedi'u hamlinellu yn dangos natur anfoddhaol barhaus y cynigion y mae Ofgem wedi'u cyhoeddi. Nawr, mae Jonathan Brearley, prif weithredwr Ofgem, yn dweud wrthym ni mai eu huchelgais nhw yw symud mor gyflym â phosibl i gael y cod hwnnw wedi'i droi o god gwirfoddol i ofyniad statudol ar y diwydiant, lle y byddai trwydded, wedi'i chyhoeddi gan Ofgem, yn dibynnu ar gydymffurfio â'r cod. Wel, hoffwn i weld y cod yn cael ei gryfhau, ac yn sicr rwyf i eisiau'i weld yn orfodol yn hytrach nag yn wirfoddol. A, Llywydd, gwnaeth yr Aelod bwynt pwysig iawn arall, sy'n cael ei anwybyddu'n aml, rwy'n credu, yn y ddadl am fesuryddion rhagdalu: pan fydd mesurydd rhagdalu yn cael ei osod drwy rym yn nhŷ rhywun, nid yw'n ymwneud â thalu am y trydan y mae'r aelwyd honno'n ei ddefnyddio yn unig, mae'n ymwneud ag adennill dyled. Felly, yr hyn sy'n digwydd yw bod y mesurydd yn cael ei osod fel bod hyd yn oed y bobl dlotaf yn y wlad yn cael llai o drydan fyth am eu harian na neb arall. Ac yn sicr, nad honno yw'r ffordd iawn o fynd ati. Rydyn ni wedi argymell—ac, ar y pwynt hwn, mae Ofgem yn cytuno â ni—system tariff cymdeithasol yn y diwydiant ynni. Hoffwn ni petai Gweinidogion Llywodraeth y DU yn dod at y bwrdd i wneud yn siŵr y gallai hynny ddigwydd. Prinder Staff o fewn y Gwasanaeth Iechyd Mabon ap Gwynfor AS: 6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am brinder staff o fewn y gwasanaeth iechyd? OQ59410 Mark Drakeford AC: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn, Llywydd. Mae mwy o staff yn gweithio yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru nag ar unrhyw adeg arall yn ei hanes—hanes sy’n ymestyn dros 75 o flynyddoedd. Pan fydd prinder staff, mae’r byrddau iechyd yn cynnal ymgyrchoedd recriwtio bywiog, yn lleol ac yn rhyngwladol. Mae hyn yn cynnwys recriwtio’r nifer mwyaf erioed o staff sy’n cwblhau eu hyfforddiant bob blwyddyn yng Nghymru. Mabon ap Gwynfor AS: Llywydd, nôl yn 2013, croesawodd y Gweinidog Iechyd ar y pryd, ein Prif Weinidog presennol, fuddsoddiad o £5 miliwn i ysbyty cymunedol Tywyn. Wrth gyhoeddi'r buddsoddiad, dywedodd: 'Bydd cynnydd yn nifer y gwelyau ac integreiddio nifer o wasanaethau yma yn galluogi mwy o bobl i gael gofal yn agosach at eu cartrefi mewn amgylchedd sy'n addas i'r diben.' Degawd yn ddiweddarach ac mae pethau wedi cymryd tro trawiadol er gwaeth. Mae'r uned famolaeth wedi'i chau, mae'r uned mân anafiadau wedi'i chau, a dim ond pythefnos yn ôl, a heb rybudd, cafodd y ward cleifion mewnol ei chau—ym mhob achos, dros dro, y maen nhw'n ei ddweud wrthym ni. Dyma'r union wasanaethau a gafodd eu hyrwyddo gan y Prif Weinidog nôl yn 2013. Mae'r gyfres hon o unedau'n cau yn bennaf o ganlyniad i fethiant i gadw a recriwtio staff, yn enwedig nyrsys. Mae'r hyn yr ydym ni'n ei weld yn Nhywyn yn cael ei ailadrodd mewn mannau eraill. Er mwyn ailagor y ward cleifion mewnol, mae angen pedair nyrs ar fandiau 6 a 7, a phedair arall i ailagor yr uned mân anafiadau. Felly, pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i gynorthwyo'r bwrdd iechyd i recriwtio nyrsys i Dywyn a'r gogledd fel y gall fy etholwyr i gael gofal yn nes at adref ac mewn amgylchedd sy'n addas i''r diben? Mark Drakeford AC: Llywydd, wel rwy'n ymwybodol, wrth gwrs, o'r datblygiadau yn ysbyty cymunedol Tywyn. Yr hyn y mae'r bwrdd iechyd wedi'i wneud, ar gyfer y tri mis nesaf, yw canolbwyntio ei adnoddau staff sydd ar gael yn Nolgellau fel bod modd cael gwasanaeth yn yr ardal honno. Yn ôl fy nealltwriaeth i, ar 12 Ebrill, pan gafodd y penderfyniad ei wneud, roedd wyth claf mewn gwelyau cleifion mewnol yn Nhywyn, pedwar ohonyn nhw i fod i gael eu rhyddhau adref, ac roedd pedwar o bobl i'w symud i Ddolgellau i gael eu gofal parhaus. Nawr mae gan y bwrdd iechyd gynllun i ailagor gwasanaethau yn Nhywyn. Mae hynny'n cynnwys recriwtio brwd, yn lleol ond hefyd, fel y dywedais i yn fy ateb gwreiddiol, yn rhyngwladol—400 o nyrsys wedi'u recriwtio i Gymru y llynedd o ffynonellau rhyngwladol, gyda chynllun i recriwtio 400 arall yn y flwyddyn bresennol. Mae'r bwrdd iechyd hefyd yn gweithio gyda'i bartneriaid ar fodel newydd o wasanaeth ar gyfer Tywyn, model newydd arloesol a fydd yn defnyddio staff sy'n gweithio yn y gymuned ar hyn o bryd yn ogystal â staff sydd wedi'u lleoli yn yr ysbyty, gyda'r un nod ar y cyd—mae'n nod ar y cyd, yr Aelod, rwy'n gwybod, ond yn sicr y bwrdd iechyd hefyd—i adfer y gwasanaeth sydd wedi'i dynnu'n ôl dros dro yn yr ysbyty. Jane Dodds AS: Prynhawn da, Prif Weinidog. Roeddwn i eisiau sôn am brinder deintyddion yn ein gwasanaethau GIG unwaith eto, ac mae hynny ar draws Cymru. Roeddwn i'n falch iawn o ddarllen bod y Llywodraeth wedi derbyn argymhellion y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn enwedig o ran therapyddion deintyddol a hylenyddion deintyddol yn gallu agor ac, yn wir, cau triniaethau, ac nad oes unrhyw rwystr rheoleiddiol rhag i hynny digwydd, a fyddai wrth gwrs yn cynyddu'r cyfleoedd i gael mwy o bobl i'n deintyddion GIG. Felly, byddwn i'n falch o glywed gennych chi ynghylch eich cynlluniau i sicrhau bod mwy o bobl yng Nghymru'n gallu cael y cyfle i fanteisio ar ddeintyddiaeth y GIG gan ddefnyddio'r argymhelliad hwn gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Diolch yn fawr iawn. Mark Drakeford AC: Diolch yn fawr i Jane Dodds. Mark Drakeford AC: Diolch iddi hi am roi'r cyfle i mi ailadrodd thema eto yr wyf i wedi ceisio'i datblygu ar lawr y Senedd dros gyfnod estynedig o ran deintyddiaeth, a dyna bwysigrwydd arallgyfeirio'r proffesiwn hwnnw. Deintyddion eu hunain yw'r adnodd mwyaf medrus a drud sydd gennym ni yn y maes hwnnw. Ni ddylai unrhyw ddeintydd fod yn treulio ei amser fel mater o drefn yn cyflawni gweithgarwch y gallai rhywun arall yn y proffesiwn hwnnw sydd wedi'i ryddfrydoli ei gyflawni yr un mor llwyddiannus yn glinigol. Mae angen yr oruchwyliaeth, wrth gwrs, gan ddeintydd sydd wedi cymhwyso'n llawn. Mae angen bod rhywun ar y safle rhag ofn y bydd archwiliad neu lenwad syml, er enghraifft, mewn gwirionedd yn fwy cymhleth na'r hyn a ragwelwyd yn wreiddiol. Ond rydyn ni'n gwybod y gall y rhan fwyaf o weithdrefnau deintyddiaeth gael eu cyflawni yr un mor llwyddiannus gan bobl â chymwysterau mewn therapi deintyddol a hylendid deintyddol. Dyna pam mae gennym ni nifer sylweddol o leoedd therapi deintyddol newydd ym Mhrifysgol Caerdydd, gan ddyblu nifer y myfyrwyr yno, ac rydyn ni hefyd wedi dyblu'r nifer—sori, hefyd mae gennym ni raglen hylendid deintyddol newydd ym Mhrifysgol Bangor. Drwy sicrhau ein bod ni'n hyfforddi'r amrywiaeth ehangach honno o weithwyr proffesiynol, gan weithio o dan gwmpas deintydd cymwysedig, byddwn ni'n cynyddu hygyrchedd deintyddiaeth y GIG ar draws Cymru. A bod yn onest, mae'r proffesiwn wedi bod yn araf yn croesawu'r agenda hon. Maen nhw ymhell y tu ôl i'r hyn y mae eu cydweithwyr ym maes gofal sylfaenol eisoes wedi'i gyflawni, ac mae angen i ni wneud yn siŵr bod Llywodraeth Cymru'n ysgogi ein huchelgais i weld, fel y dywedais i, weithlu sydd wedi'i rhyddfrydoli lle gallwn ni wneud mwy i sicrhau bod pobl yng Nghymru sy'n ceisio manteisio ar ddeintyddiaeth y GIG yn gallu gwneud hynny. Llety Gwyliau Joel James MS: 7. A wnaiff y Prif Weinidog nodi'r rhesymeg a'r dystiolaeth a ddefnyddir i bennu lleiafswm cyfnod rhentu o 182 diwrnod ar gyfer llety gwyliau i gael ei ddosbarthu fel llety hunan-arlwyo annomestig? OQ59385 Mark Drakeford AC: Llywydd, y rhesymeg dros y trefniadau newydd yw sicrhau bod perchnogion eiddo yn gwneud cyfraniad teg i'w cymunedau lleol. Mae'r dystiolaeth y cafodd ei defnyddio wedi bod ar gael ers dros 12 mis. Cafodd ei chyhoeddi ochr yn ochr â chanlyniad ein hymgynghoriad ar y mater hwn ym mis Mawrth 2022. Joel James MS: Diolch. Ni wnes i glywed hynny i gyd, oherwydd y system sain, ond, fel y byddwch chi'n ymwybodol, mae cryn bryder a dryswch ymhlith y farchnad llety hunanarlwyo annomestig yng Nghymru ynghylch cefnogaeth Llywodraeth Cymru i darged o ddefnydd 182 diwrnod o leiaf, gan mai dim ond cyfnod o 105 diwrnod o leiaf oedd y diwydiant ei hun wedi'i argymell, gan gredu ei fod yn cyd-fynd yn well â'r farchnad, o ystyried y tymor cyfyngedig yng Nghymru. Wrth siarad â chynrychiolwyr y sector twristiaeth, maen nhw'n credu na fydd y rhan fwyaf o'r llety hunan-arlwyo yr effeithir arnynt mewn ardaloedd â nifer fawr o ail gartrefi, ond byddant mewn ardaloedd gwledig lle mae perchnogion a busnesau, fel ffermydd, yn ceisio arallgyfeirio'u ffrydiau incwm er mwyn goroesi. Felly mae'n ymddangos y byddai'r polisi hwn yn annhebygol o gael unrhyw effaith sylweddol ar leihau nifer yr ail gartrefi, ond yn hytrach, fe fyddai'n cosbi busnesau sy'n ceisio ennill bywoliaeth yn unig. Os oes rhaid iddyn nhw, neu os oes pwysau mawr arnyn nhw, mae perchnogion yr eiddo hyn hefyd yn eithaf rhydd i rentu eu llety am swm enwol i ffrindiau neu deulu i gyflawni'r targed o 182 diwrnod o leiaf ac felly'n gymwys ar gyfer ardrethi busnes gan osgoi'r taliadau'r dreth gyngor ychwanegol, rwy'n dychmygu nad hwn oedd y canlyniad yr oeddech chi wedi'i ragweld. Felly, yn fy meddwl i, Prif Weinidog, a gyda chwilfrydedd gwirioneddol, pam ydych chi mor gefnogol i'r ddeddfwriaeth wael hon na fydd yn amlwg iawn yn cyflawni ei nodau datganedig? Diolch. Mark Drakeford AC: Wel, wrth gwrs rwy'n cefnogi'r rheoliadau a gafodd eu trafod ar lawr y Senedd hon ar gynnig i ddirymu, a chafodd y cynnig hwnnw ei drechu, felly rwy'n cyflawni polisi'r Senedd etholedig yma yng Nghymru. Nid ydw i'n cytuno â'r Aelod; rwy'n credu y caiff y polisi nifer o lwyddiannau pwysig iawn. I ddechrau, nid ydw i mor besimistaidd â'r Aelod ynghylch cyflwr y sector. Dangosodd yr arolwg galwedigaethau twristiaeth fod defnydd cyfartalog o eiddo hunanarlwyo yng Nghymru yn fwy na 50 y cant dros y tair blynedd cyn y pandemig. Mae llawer o weithredwyr ym mhob rhan o Gymru eisoes yn bodloni'r meini prawf newydd. Lle nad yw busnesau'n bodloni'r meini prawf newydd, bydd cymhelliant nawr ar gyfer cynyddu defnydd yr eiddo nad yw'n cael eu defnyddio'n ddigonol. Bydd hefyd yn cael effaith ar gystadleuaeth annheg, lle mae gosod achlysurol neu dros dro yn cael effaith ar fusnesau dilys, ac rwy'n credu y gallai'r Aelod fod wedi colli'r ffaith bod y Gweinidog wedi gwrando ar y ddadl, wedi gwneud newidiadau i sut y mae eiddo, megis ar ffermydd, nad oes modd ei osod drwy gydol y flwyddyn oherwydd cyfyngiadau cynllunio, yn cael ei drin. Mae hwn yn bolisi sydd wedi'i gynllunio i sicrhau bod busnesau dilys yn gallu manteisio ar ryddhad ardrethi busnesau bach. Nid yw pobl nad ydyn nhw'n cyrraedd y trothwy yn mynd i'r wal; yn syml, mae'n rhaid iddyn nhw dalu'r dreth gyngor, fel pawb arall, ac mae hynny'n ymddangos i mi'n deg i bawb sy'n ymwneud â'r sector hwn. Ac yn olaf, cwestiwn 8, Rhys ab Owen. Pensiynau Cyn-weithwyr Allied Steel and Wire Rhys ab Owen AS: 8. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael ynghylch effaith cynllun cymorth ariannol Llywodraeth y DU ar gyn-weithwyr Allied Steel and Wire yng Nghaerdydd a'u pensiynau? OQ59393 Mark Drakeford AC: Llywydd, rwyf i wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth y DU i wella'r cynllun cymorth ariannol a chynyddu ei chymorth ariannol a'i gwmpas. Mae hwn yn fater a gedwir yn ôl, ac rwy'n siomedig bod Llywodraeth y DU yn methu â sicrhau'r cyfiawnder pensiynau y mae'r gweithwyr hyn yn ei haeddu. Rhys ab Owen AS: Diolch yn fawr am eich ateb, Prif Weinidog, ac am eich cefnogaeth i'r gweithwyr. Rhys ab Owen AS: Mae 22 mlynedd wedi mynd heibio ers i'r cyn-weithwyr gael eu hamddifadu o'r pensiynau a oedd wedi'u hawdurdodi iddyn nhw. Roedd 140,000 o ddioddefwyr pensiwn yn y cynllun cymorth ariannol. Yn anffodus, mae 25,000 eisoes wedi marw. Bu farw llawer, fel Johnny Jones, cyn-weithiwr ASW a fu farw yn gynharach eleni, yn poeni na fyddai ei bartner yn gallu goroesi ar bensiwn llawer llai na'r hyn yr oedd wedi talu amdano'n ffyddiog yn ystod ei fywyd gwaith. Fel y gwyddoch chi, y prif fater yw nad yw'r pensiwn nawr, yn wahanol i'r cynllun gwreiddiol, wedi'i ddiogelu rhag chwyddiant, sy'n golygu eu bod yn derbyn tua thraean o'r hyn yr oedden nhw wedi'i ddisgwyl yn wreiddiol ac wedi cynllunio ar ei gyfer. Mae'r ymgyrchwyr yn feirniadol iawn o'r diffyg ymgysylltu â Llywodraeth bresennol y DU. Ysgrifennodd nifer ohonyn nhw at arweinydd yr wrthblaid fis Medi diwethaf, ond nid ydyn nhw eto wedi derbyn ateb. A yw'r Prif Weinidog wedi codi'r mater hwn gyda Syr Keir Starmer, ac a all warantu rhywfaint o chwarae teg i weithwyr ASW o dan Lywodraeth Lafur y dyfodol? Diolch yn fawr. Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, wrth gwrs fy mod i'n ymwybodol iawn o'r ymgyrch barhaus. Bydd llawer o Aelodau yma wedi derbyn y bwletin diweddaraf y mae John Benson, yr ymgyrchydd hirdymor hwnnw ar ran gweithwyr ASW, wedi anfon at yr holl Aelodau yma. Ac mae'n gwneud y pwynt, fel y mae wedi gwneud hynny'n aml, nad rhodd yw'r pensiynau hyn; maen nhw'n gyflogau gohiriedig. Cafodd y cyfraniadau eu gwneud yn ddidwyll gan weithwyr ASW, gan ddisgwyl y bydden nhw'n ddiogel ar ôl ymddeol. Wrth ateb fy llythyr diwethaf, dywedodd Gweinidog y DU yn yr Adran Gwaith a Phensiynau wrthyf i fod y Llywodraeth yn fodlon â'r drefn bresennol i ddiogelu pensiynau. Wel, nid ydw i'n credu bod Aelodau yn y Siambr hon yn fodlon, pan fyddwch chi'n clywed am yr achosion y mae ein cyd-Aelod wedi'u hamlinellu y prynhawn yma. Rwy'n atgoffa'r Aelodau mai Llywodraeth Lafur a gyflwynodd y cynllun cymorth ariannol yn y lle cyntaf yn 2004, a'r gronfa diogelu pensiynau yn 2005. Ac rwy'n siŵr, ynghyd â rhestr hir iawn o bethau eraill y bydd angen eu cywiro gan y Llywodraeth Lafur nesaf, bydd tynged gweithwyr ASW, ac eraill tebyg iddyn nhw, ym meddyliau fy nghyd-weithwyr yn San Steffan wrth iddyn nhw baratoi, fel yr wyf i'n gobeithio y byddan nhw, ar gyfer Llywodraethu. Diolch i'r Prif Weinidog. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny. Lesley Griffiths. Lesley Griffiths AC: Diolch, Llywydd. Mae tri newid i'r busnes yr wythnos hon. Yn gyntaf, mae'r datganiad ar ffyniant bro affyniant gyffredin wedi cael ei symud yn ddiweddarach ar agenda heddiw. Yn ail, bydd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud datganiad ar arferion mabwysiadu hanesyddol. Ac yn olaf, mae'r amser sydd wedi'i ddyrannu i Orchymyn (Hepgor) Contractau Adeiladu (Cymru) 2023 wedi'i leihau i bum munud. Mae busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad busnes a'r cyhoeddiad, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i Aelodau yn electronig. Sam Rowlands MS: Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Weinidog y Gogledd o ran dyrchafiad Wrecsam i'r gynghrair bêl-droed, a'r mesurau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu i sicrhau bod yr ardal gyfan yn cael hwb ar draws chwaraeon, twristiaeth a'r economi, wrth gwrs. Gweinidog, rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno bod Clwb Pêl-droed Cymdeithas Wrecsam yn haeddu llongyfarchiadau mawr ar eu llwyddiant gwych yn ennill teitl y penwythnos diwethaf. Mae'r chwaraewyr a'r staff, wrth gwrs, yn ysgrifennu pennod newydd yn hanes y clwb, ond nid ar y cae yn unig mae Wrecsam yn cymryd y camau hynny ymlaen; nid yn unig y mae buddsoddiad trawsnewidiol a chefnogaeth Ryan Reynolds a Rob McElhenney wedi rhoi'r tîm yn ôl yn y gynghrair bêl-droed, ond maen nhw wedi adfywio dinas Wrecsam a'r gogledd yn gyffredinol. Byddwch chi'n gwybod, Gweinidog, drwy wrando o amgylch y stadiwm yn unig, bod y canolbwyntio byd-eang yn ddigynsail—ymwelwyr o bob cwr o'r byd yn ymweld â'r ddinas fel erioed o'r blaen, yn enwedig o'r Unol Daleithiau a Chanada. Ac mae'r holl ymwelwyr hyn o dramor yn chwarae rhan hynod gadarnhaol y mae mawr ei hangen yn creu swyddi a'r twf economaidd a fydd yn dilyn yn y gadwyn gyflenwi. Yn sicr, rwy'n gobeithio fel chi, y manteisir yn frwd ar y cyfle yma ar gyfer pobl dda Wrecsam a'r gogledd. Felly, datganiad, Gweinidog, gennych chi am y gwaith da yr wyf i'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau'r hwb i chwaraeon, y gogledd a thwristiaeth. Lesley Griffiths AC: Ble i ddechrau? Yn sicr nid pedwar o'r gloch y bore ddydd Sul. [Chwerthin.] Rydych chi'n codi pwynt pwysig iawn, yn amlwg. Ni allaf i ddianc heb ddweud rhywbeth gwych iawn am fy nhîm pêl-droed gwych o Wrecsam. Mae hi'n 15 mlynedd ers i mi fod draw yn Henffordd pan aethom ni allan o'r gynghrair, ac mae dychwelyd ar ôl 15 mlynedd yn gamp anhygoel. Mae Phil Parkinson wedi gwneud rhywbeth yr oedd ychydig iawn o reolwyr o'i flaen yn gallu ei wneud. Ond rwy'n credu eich bod chi'n gwneud pwynt pwysig iawn am yr effaith economaidd ar fy etholaeth, ac, yn amlwg, fel Aelod y Senedd dros Wrecsam, rwy'n ofalus iawn i rannu'r ddau beth. Yn amlwg, mae'r diddordeb byd-eang yn anhygoel. Nid oes modd ei brynu, nac oes? Ac mae bod â'r cyd-gadeiryddion sydd gennym ni, rwy'n credu, yn dangos y gefnogaeth—i mi, dyna beth yw diben pêl-droed. Ac mae'r ymrwymiad maen nhw'n ei ddangos i'r clwb yn eithriadol, o na byddai mwy o glybiau pêl-droed yn cael eu rhedeg felly. Ac, yn sicr, rydyn ni wedi cael ein perchnogion gwael iawn yn Wrecsam, ac rwy'n credu bod Wrecsam nawr yn ymhyfrydu'n haeddiannol yng nghlod a bri yr holl beth. Ond, rwy'n meddwl bod Llywodraeth Cymru wedi dangos ymrwymiad mawr i Borth Wrecsam yn amlwg—wrth gwrs, mae stadiwm y Cae Ras yn rhan o'r porth hwnnw—drwy roi £25 miliwn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ac maen nhw'n amlwg yn ystyried sut byddan nhw'n rhannu'r £25 miliwn hwnnw. Cefin Campbell MS: Gaf i ddatganiad ynghylch ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sefydlu banc cymunedol? Yn anffodus, dros yr wythnosau diwethaf, mae sawl tref yn fy rhanbarth i wedi cael ergyd wrth iddyn nhw glywed y newyddion bod eu banciau yn cau. Er enghraifft, mae'r banc olaf yn Llandeilo yn cau ym mis Mehefin. Ym mis Awst, mae banc Lloyds yn y Tymbl yn cau, sy'n golygu na fydd dim un banc ar agor yng nghwm Gwendraeth gyfan. Ac yn Ystradgynlais, sy'n gwasanaethau rhyw boblogaeth o 8,000 o bobl, mae'r banc yna'n cau—yr un olaf—ym mis Medi eleni. Nawr, does dim amheuaeth bod ein ffordd ni o fancio wedi newid; dŷn ni i gyd—wel, y rhan fwyaf ohonom ni—yn bancio ar-lein erbyn hyn. Ond mae pobl oedrannus, pobl fregus, pobl sy'n berchnogion busnesau bach, mudiadau, ac yn y blaen, yn moyn gweld mwy o wasanaethau wyneb yn wyneb. Felly, ydych chi'n gallu rhoi diweddariad i fi ar y sefyllfa o ran sefydlu banc cymunedol Cymru—banc Cambria—ac oes yna ymrwymiad i sefydlu canghennau ohono fe yn rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru? Diolch yn fawr. Lesley Griffiths AC: Diolch. Efallai fod yr Aelod yn ymwybodol o'r datganiad ysgrifenedig y gwnaeth Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, ei gyflwyno yn ôl ym mis Chwefror eleni, pan ymrwymodd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau o'r Senedd cyn toriad yr haf. Nid oes gennyf i unrhyw fanylion ar hynny, ond gallaf i sicrhau Aelodau y byddaf i'n sicrhau bod y Gweinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni cyn toriad yr haf. Huw Irranca-Davies AC: Rydyn ni'n mynd i fynd o uchafbwyntiau llwyddiant Wrecsam i siart gyflawni wahanol iawn, yn anffodus, yr oedd fy etholaeth i yn rhan ohoni dros gyfnod y toriad. Mae'n siart bryderus iawn, yn seiliedig ar ddata wedi'i ddarparu gan Dŵr Cymru, sydd ar gael i'r cyhoedd, ond a gafodd ei allosod wedyn gan Surfers Against Sewage, ac eraill, a edrychodd ar y nifer o ollyngiadau i afonydd ar draws y DU, gan gynnwys yma yng Nghymru, a hefyd gwnaethon nhw allosod wedyn beth oedd y gollyngiadau hynny'n ei olygu o ran nifer o ddyddiau, nifer o oriau. Rydyn ni'n sôn am un ollyngfa garthffosiaeth gyfunol lle y gwnaethon nhw allosod y gallai fod dros 320 diwrnod o garthion amrwd yn dod i mewn i un o'n hafonydd. Nawr, mae gennym ni rai o'r afonydd harddaf a bioamrywiol yn fy etholaeth i—afonydd Ewenni, Llynfi, Afon Ogwr, ac afonydd Garw Fechan—yn dod i mewn i, pob un yn llifo i mewn i Afon Ogwr, wrth iddi fynd allan i'r môr yn Aberogwr. Rwyf i wedi cyfarfod â Dŵr Cymru y bore yma, rydw i'n mynd i gyfarfod â nhw wedyn, ynghyd â Chris Elmore AS, i drafod hyn yn fanwl, a hynny ynghylch pob un biblinell. Ond un o'r heriau yma yw ei fod wedi cael ei adrodd ar wefan Top of the Poops yma—[Torri ar draws.] Ie, yn wir. Mae wedi cael ei adrodd fel ffaith, union allosodiad y data, ac nid ydw i'n glir fy hun a yw'r data hwnnw'n hollol ddibynadwy ai peidio. Felly, tybed, a gawn ni ddatganiad sydd wir yn egluro, nid yn unig y data sydd ar gael yn gyhoeddus, ond beth mae hynny'n ei olygu o ran oriau a dyddiau o ollyngiadau mewn afonydd unigol? Oherwydd fel arall, mae'r cyhoedd yn mynd i ddrysu'n lân. Ond y ffaith syml yw: mae angen i ni ddatrys hyn hefyd. Lesley Griffiths AC: Diolch. Rwy'n credu eich bod chi'n gwneud y peth hollol iawn trwy gyfarfod â Dŵr Cymru. A byddwch yn gwybod bod y Gweinidog Newid Hinsawdd yn gwneud llawer iawn o waith yn y maes hwn, ac mae ganddo dasglu. Felly, o ran eich cais penodol am y datganiad, rydyn ni'n cynnig datganiad ysgrifenedig ar waith y tasglu—mae'n debyg y bydd tua diwedd y tymor hwn, ychydig cyn toriad yr haf, oherwydd byddai hynny 12 mis ar ôl cyhoeddi'r cynllun gweithredu gorlifoedd storm. Felly, mae'n debyg mai dyna fyddai'r amser gorau bryd hynny i ymdrin â'ch ymholiad, ond yn sicr, gwnaf i sicrhau fy mod i'n tynnu sylw'r Gweinidog Newid Hinsawdd at hwn. Fel y dywedais i, rwy'n siŵr y gall ei gynnwys yn y datganiad arfaethedig hwnnw, cyn toriad yr haf. Natasha Asghar AS: Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd am fesurau diogelwch ar fysiau? Y rheswm am hyn yw oherwydd roedd etholwr i mi, 82 oed, yn teithio ar fws i'r Coed Duon yn ddiweddar pan yr oedd rhaid i'r gyrrwr gyflawni stop argyfwng oherwydd bod gyrrwr arall yn gyrru'n wael. Roedd fy etholwr yn eistedd ar y sedd ddwbl gyntaf ar flaen y bws, ac fe gafodd ei thaflu allan o'i sedd o ganlyniad i'r stop argyfwng. Gwnaeth hi lithro ar hyd y llawr cyn bwrw ei phen ar flaen y bws, gan dorri asgwrn yn ei gwddf. Mae hi'n gwella gartref ar hyn o bryd, ar ôl aros yn Ysbyty'r Faenor am wyth diwrnod. Mae pawb oedd yn rhan o'r digwyddiad, gan gynnwys fy etholwr, yn credu mai stop argyfwng oedd y cam cywir ar ran y gyrrwr. Fodd bynnag, mae'r digwyddiad hwn wedi tynnu sylw at bryder mawr am ddiogelwch gyda'r ddwy sedd ddwbl gyntaf ar flaen y bws. Felly, byddwn i'n gwerthfawrogi pe bai'r Dirprwy Weinidog yn gallu gwneud datganiad ynghylch sut mae'n gweithio gyda gweithredwyr bysiau i sicrhau bod mesurau diogelwch yn cael eu rhoi ar waith i atal achosion ofnadwy fel hyn rhag digwydd yn y dyfodol. Diolch yn fawr iawn. Lesley Griffiths AC: Diolch. Mae'n ddrwg iawn gennyf i glywed am eich etholwr ac rwy'n gobeithio ei bod hi'n gwella'n iawn gartref. Ac, rwy'n credu, yn amlwg, bod y profiad a gafodd hi yn rhywbeth rwy'n sicr bod y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn ymwybodol ohono, ond yn sicr, gwnaf i ofyn iddo os yw'n gwneud unrhyw waith gyda gwasanaethau bws. Roeddwn i ar fws yng Nghaerdydd neithiwr, ac roedd nifer o bobl yn sefyll, ac roeddwn i'n ymwybodol iawn, wrth i'r bws arafu, nad oedd pobl efallai yn y mannau mwyaf diogel. Felly, rwy'n siŵr ei fod yn rhywbeth mae gwasanaethau bws yn ei ystyried yn ofalus. Ken Skates AC: Trefnydd, byddwn i hefyd yn croesawu datganiad gan y Llywodraeth yn ymwneud â llwyddiant Clwb Pêl-droed Wrecsam dros y penwythnos. Roedd hi'n gêm ryfeddol. Rwy'n gwybod eich bod chi'n bresennol. Roeddwn i'n bresennol. Miloedd lawer—. Gwnaeth dros 10,000 o gefnogwyr ymddwyn yn berffaith bob amser, ac yn yr un modd y chwaraewyr, a dylai clod arbennig fynd i ymddiriedolaeth bêl-droed Wrecsam. Trefnydd, ychydig iawn o bwerau sydd gennym ni o ran creu unrhyw wyliau banc i gydnabod llwyddiant Clwb Pêl-droed Wrecsam, ond efallai gallem ni sicrhau eu bod yn derbyn gwobr Dewi Sant y flwyddyn nesaf i nodi'r llwyddiant. A byddwn i'n croesawu diweddariad chwarterol ar gynnydd Porth Wrecsam, y mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £25 miliwn ynddo, yn ogystal ag unrhyw syniad o sut y gall Llywodraeth Cymru gefnogi Wrecsam i ddathlu dyrchafiad ei thîm pêl-droed gwych. Lesley Griffiths AC: Diolch, Ken. Rwy'n gwybod eich bod chi hefyd yn bresennol. Nid ydw i'n gwybod a ydych chi wedi cael y briff fel AS yr ydw i wedi'i gael heddiw, i ddweud na fu unrhyw arestiadau o gwbl. Felly rwy'n credu bod Heddlu Gogledd Cymru'n falch iawn o hynny, ac yn sicr, rwy'n falch iawn o hynny, ac rwy'n siŵr y bydd Ken hefyd, achos pan fo gennych chi 10,000 o bobl roedd yn llawenydd pur ac mae'n wych nad oedd unrhyw drafferth yn dilyn hynny. Rwy'n credu ei bod hi'n dda hefyd i dalu teyrnged i Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam, er fy mod i'n datgan buddiant, yr oeddwn i'n gyfarwyddwr ar y bwrdd cyn cael fy ethol i'r lle hwn. Oherwydd heb yr ymddiriedaeth honno ni fyddem ni wedi cael clwb pêl-droed; mae'n amlwg iawn. Ac mae'r dathliadau sy'n digwydd nawr, rwy'n credu, yn cydnabod y cefnogwyr hynny sy'n cynnig eu hunain ymlaen fel rhan o'r ymddiriedolaeth. Rwy'n credu bod y pwynt yr ydych chi'n ei wneud ynglŷn â gwobrau Dewi Sant—. Dim ond nos Iau ddiwethaf, roeddwn i'n falch iawn o fod yno gyda chyd-Weinidogion eraill i gefnogi'r Prif Weinidog yn ei seremoni gwobrau Dewi Sant blynyddol. Ac yn sicr mae gwobr chwaraeon bob blwyddyn, ac i fod yn blwmp ac yn blaen, yn sicr, byddaf i'n cynnig Clwb Pêl-droed Wrecsam ar gyfer y wobr honno. Mae'r pwynt am Borth Wrecsam yn bwysig iawn, oherwydd nid y clwb pêl-droed yn unig sy'n bwysig; mae'n ymwneud â chael gemau rhyngwladol yn ôl i Wrecsam. Byddem ni wrth ein bodd yn gweld ein tîm pêl-droed cenedlaethol, sydd, wrth gwrs, wedi gwneud mor dda. A gaf i gyfarch rhywun yn sydyn? Cafodd Merched Clwb Pêl-droed Wrecsam hefyd eu dyrchafu dair wythnos yn ôl. Rwy'n teimlo er mwyn cydbwysedd, y dylwn i ddweud bod timau pêl-droed eraill ar gael. [Chwerthin.] Lesley Griffiths AC: Yn amlwg. Ac efallai y gwnaf i wneud sylw ar Dref Aberystwyth ddydd Sadwrn, yn sicrhau eu bod yn osgoi cael eu diraddio o uwch gynghrair Cymru hefyd. Llongyfarchiadau mawr iddyn nhw. Nawr, pa dîm pêl-droed hoffech chi sôn amdano, Janet Finch-Saunders? Janet Finch-Saunders AC: Blackburn Rovers. [Chwerthin.] Janet. Janet Finch-Saunders AC: Diolch, Llywydd. Da iawn. Janet Finch-Saunders AC: Hoffwn i gael datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar ddyfodol y gwasanaeth rheilffordd uniongyrchol rhwng Llandudno a Maes Awyr Manceinion. Bydd nifer y teithiau dros nos sy'n cael eu gwneud i'n tref ogoneddus yn cynyddu o 440,289 yn 2018 i 561,339. Fodd bynnag, er mwyn cyflawni hyn mae angen i ni o leiaf gynnal y ddarpariaeth bresennol. Mae Llandudno yn ganolfan dwristiaeth fawr iawn yn y gogledd, ac fe gawsom ni—rwy'n credu, yr wythnos diwethaf—rhwng naw a 10 trên y dydd yn mynd yn uniongyrchol o Landudno ei hun i Fanceinion. Mae'r cyhoeddiad hwn wedi'i wneud nawr, sef y bydd yn rhaid i chi gael trên o Landudno i Gyffordd Llandudno ac yna o Gyffordd Llandudno i Fanceinion. Mae'n nonsens ein bod ni'n gweld gwasanaethau sydd wedi cael eu gweithredu gan y Dirprwy Weinidog trafnidiaeth hwn yn diflannu. Felly, mae'n debyg, mewn gwirionedd, bod angen i ni ofyn i ni'n hunain, y rhai sy'n cynrychioli'r gogledd, beth mae Llandudno wedi'i wneud o'i le o ran—. Dylem ni fod yn chwilio am fwy o ddarpariaeth trenau, yn sicr nid llai, ac yn sicr nid un lle mae gennyf i drigolion yn cyrraedd ein tref sy'n mynd i gael trafferth a dweud y gwir nawr, wrth orfod dal trên ychwanegol. Diolch. Lesley Griffiths AC: Diolch i chi. Wel, rwy'n cytuno yn llwyr fod Llandudno yn gyrchfan bwysig i dwristiaid yn y gogledd. Bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd, ac felly'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, yn cael cwestiynau wythnos nesaf. Efallai y byddai hi'n werth codi hyn yn uniongyrchol gyda'r Dirprwy Weinidog. Ond un maes yr wyf yn gwybod bod y Dirprwy Weinidog yn ceisio bwrw'r maen iddo yw cael mwy o seilwaith rheilffyrdd yn y gogledd, er mwyn i ni wella perfformiad y rheilffyrdd nid yn unig yn y gogledd ond ledled Cymru gyfan. Jane Dodds AS: Prynhawn da, Trefnydd. Dim ond i gadw ein golygon ar filgwn, fel y gwyddoch chi, fe gawsom ni ddadl fywiog iawn yn y fan hon ynghylch gwahardd rasio milgwn, ac rwy'n ymwybodol eich bod chi'n bwriadu ymgynghori ar y mater penodol hwnnw. Felly, meddwl oeddwn i tybed, yn rhinwedd eich swydd fel y Gweinidog materion gwledig, a allech chi roi diweddariad i ni ynglŷn â'r amserlenni sy'n gysylltiedig â'r ymgynghoriad a'r camau nesaf. Diolch i chi. Diolch yn fawr iawn. Lesley Griffiths AC: Diolch i chi. Nid oes gennyf i unrhyw wybodaeth arall eto ers i mi fod yn siarad yn y ddadl honno. Yr hyn a wnes i ymrwymo iddo bryd hynny, ac rwy'n ymrwymo iddo o hyd, yw mynd allan i ymgynghoriad eleni. Laura Anne Jones AC: Gweinidog busnes, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol. Yn ddiweddar mae Llywodraeth y DU wedi dadorchuddio polisi newydd sy'n ceisio rhoi terfyn ar ddigartrefedd cyn-filwyr yn y DU. Diolch i'r Gwir Anrhydeddus Johnny Mercer AS, maen nhw wedi gwarantu arian i ariannu rhaglen newydd i roi diwedd ar hyn yn ein cymdeithas a sicrhau bod ein cyn-filwyr mwyaf agored i niwed yn cael gofal priodol. Fe hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog i amlinellu sut mae'r Llywodraeth Cymru hon yn gweithio gyda Chomisiynydd y Cyn-filwyr a Llywodraeth y DU i sicrhau mai Cymru yw'r wlad orau i fod yn gyn-filwr ynddi. Mae'r rhai sydd wedi rhoi gwasanaeth i'n gwlad yn haeddu ein cefnogaeth, ac rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno, Gweinidog, ei bod hi'n hanfodol bwysig bod Llywodraethau datganoledig yn gweithio gyda Llywodraeth y DU yn hyn o beth. Lesley Griffiths AC: Diolch i chi. Wel, rwy'n credu ein bod ni eisoes ar flaen y gad, mewn gwirionedd, yng Nghymru yn hynny o beth, ac rwy'n credu ein bod ni'n cynnig rhaglen i bob cyn-filwr o ran hynny eisoes. Gareth Davies AS: A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn ag ysbyty cymunedol gogledd sir Ddinbych yn y Rhyl, neu'r diffyg ysbyty cymunedol i ogledd sir Ddinbych yn y dref honno, gan ei fod yn rhan o Ysbyty Brenhinol Alexandra? Fe gefais i'r pleser o ymweld yno dros doriad y Pasg yr wythnos diwethaf, yn fy etholaeth i. Fe gefais i fynd o amgylch yr ysbyty a gweld yr angen sydd yno am adeiladu cyfleusterau newydd. Ac yn rhan o'r cynlluniau, ddegawd yn ôl erbyn hyn, y maen nhw wedi bod yn aros amdanyn nhw hefyd yw rhywfaint o waith adfer, oherwydd mae'r ysbyty yn dyddio i ddiwedd y 1800au ac mae rhan ohono wedi cychwyn dadfeilio, yn enwedig felly'r islawr. Felly, roedd rhywfaint o'r arian hwnnw a neilltuwyd ar gyfer ysbyty cymunedol gogledd sir Ddinbych yn cael ei wario ar y gwaith atgyweirio a'r gwaith pwysig o adfer hen adeilad i'w hen ogoniant, os hoffech chi. A'r gwir amdani yw ein bod ni wedi bod yn aros cymaint o amser i hyn ddigwydd. Roeddem ni mewn sefyllfa, yn ôl yn 2018-19, lle roeddem ni'n credu bod hynny ar ddigwydd. Fe gawsom ni weld y cynlluniau, ac fe welais innau nhw pan oeddwn i ar bwyllgor craffu partneriaeth yng Nghyngor Sir Ddinbych, ac eto mae fy etholwyr i yn Y Rhyl a Phrestatyn yn dal i aros am weld rhaw yn y ddaear a dydyn nhw ddim wedi gweld unrhyw dystiolaeth weladwy o unrhyw gynnydd yn yr ystyr honno. Felly, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog iechyd, yn manylu ar ba drafodaethau y cafodd hi gydag aelodau newydd y bwrdd ac, yn wir, gadeirydd newydd y bwrdd, a rhai o'r swyddogion gweithredol wrth wireddu'r syniad hwn er mwyn fy etholwyr i? Diolch i chi. Lesley Griffiths AC: Diolch i chi. Wel, rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Senedd yn rheolaidd o ran ei chyfarfodydd hi gyda'r cadeirydd newydd ac aelodau annibynnol y bwrdd. Ac yn sicr, fe fyddaf i'n gofyn iddi hi a oes unrhyw beth i'w gael yn ychwanegol i'n diweddaru ar yr hyn sydd i ddod yn lle Ysbyty Brenhinol Alex, os gellir gwneud hynny ar yr un pryd. Diolch i'r Trefnydd am y datganiad yna. 3. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rhaglen Lifogydd 2023-24 Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar raglen lifogydd 2023-24. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad—Julie James. Julie James AC: Diolch, Llywydd. Rwy'n falch iawn o gyhoeddi cyhoeddiad y rhaglen i reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol ar gyfer 2023-24. Mae'r rhaglen newydd o waith yn arddangos ein hymrwymiad ni i liniaru llifogydd a pherygl erydu arfordirol yng Nghymru. Rydym ni'n parhau i ddarparu'r cyfraddau uchaf erioed o gyllid i'n hawdurdodau ni sy'n ddiwyd yn rheoli risg er gwaethaf y pwysau anhygoel ar adnoddau'r sector cyhoeddus ar hyn o bryd. Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair. Julie James AC: Yn ein rhaglen lywodraethu, fe wnaethom ni osod nod uchelgeisiol i ni ein hunain i gynnig mwy o ddiogelwch rhag llifogydd i fwy na 45,000 o gartrefi yng Nghymru. Fe wnaethom ni ailadrodd yr ymrwymiad hwn yn ein cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru, pan wnaethom ni addo: 'Buddsoddi mwy mewn rheoli a lliniaru llifogydd a chynllunio i ymateb i berygl cynyddol llifogydd.' Ac nid oes unrhyw amheuaeth: mae angen y buddsoddiad hwn. Mae'r adroddiadau diweddar gan y Panel Rhyngwladol ar Newid Hinsawdd a Phwyllgor Newid Hinsawdd y DU wedi ailddatgan yr angen am fuddsoddiad parhaus mewn lliniaru, addasu a gwydnwch i ymateb i heriau cynhesu byd-eang. Ar ddechrau cyfnod y Llywodraeth hon, fe wnaethom ni ymrwymo i ddyraniad tair blynedd o £214 miliwn. Y llynedd, darparwyd dros £71 miliwn o gyllid i awdurdodau rheoli risg, sef ein gwariant mwyaf erioed, ar raglen llifogydd, ar y pryd. Eleni, fe aethom ymhellach eto ac fe fyddwn ni'n darparu mwy na £75 miliwn. Addawodd y Llywodraeth hon lefelau parhaus o fuddsoddiad. Rydym ni'n cadw'r addewid hwnnw, a mwy na hynny. Yn anffodus, rhoddodd y gaeaf hwn enghraifft arall i ni o ba mor bwysig yw'r buddsoddiad parhaus hwn. Er na chawsom ni unrhyw storm ag enw arni yn effeithio ar Gymru'r gaeaf hwn, fe welsom ni gartrefi a chymunedau yn cael eu heffeithio gan lifogydd, serch hynny. Roedd y glaw trwm ar ddechrau mis Ionawr yn golygu bod rhai lleoliadau wedi gweld chwe wythnos o law mewn dim ond pythefnos. Mae newid hinsawdd yn achosi i'n tywydd fod yn fwy eithafol. Yn y dyfodol, mae'n rhaid i ni fod yn barod i wynebu hyrddiau hwy o law trwm yn fwy rheolaidd. Yn anffodus, profodd dros 80 o dai lifogydd ynghyd â thrafferthion trafnidiaeth sylweddol ar gyfer rhwydweithiau'r ffyrdd a'r rheilffyrdd yma. Rwy'n gwybod pa mor echrydus yw hi i gymunedau sy'n profi'r llifogydd ac, yn wir, mae fy meddyliau a'm cydymdeimlad gyda nhw wrth iddyn nhw lywio drwy ôl-effeithiau hynny. Fe wyddom ni y byddai effaith llifogydd wedi bod yn waeth oni bai am ein rhwydwaith ni o amddiffynfeydd a gwaith diflino ein hawdurdodau rheoli risg. Dyna pam rydym ni'n parhau i ddarparu'r cyfraddau uchaf erioed o fuddsoddiad, i roi'r modd i'n hawdurdodau rheoli risg i adeiladu a chynnal y seilwaith yr ydym ni'n dibynnu arno i gadw ein cymunedau ni'n ddiogel rhag yr heriau a achosir gan newid hinsawdd. A, Dirprwy Lywydd, fe ddaw canlyniadau yn sgil ein buddsoddiad parhaus. Er enghraifft, mae ein hawdurdodau lleol gweithgar wedi cwblhau cynlluniau yn Llansannan, Y Fali, Aberdyfi a Phorthcawl, i enwi dim ond ychydig. Mae hyn dros ben nifer o weithiau bychain a ddarparwyd gan yr awdurdodau lleol ledled Cymru. Rydym ni'n amcangyfrif bod gwaith yr awdurdodau lleol, yn y flwyddyn ddiwethaf, wedi bod o fudd i dros 10,000 o dai, gan leihau'r risg i gartrefi a chymunedau boed yn bentrefi neu ddinasoedd, gan roi buddiannau ehangach i'r economi leol ar yr un pryd. Yn y cyfamser, mae CNC hefyd wedi bod yn darparu cynlluniau ledled Cymru. Maen nhw wedi cwblhau cynllun gwerth £7 miliwn i ddiogelu'r gronfa yn Llyn Tegid ger y Bala, gan gynnal amddiffyniad rhag llifogydd i fwy na 800 eiddo. Cafodd mwy o waith diogelwch o ran cronfeydd dŵr ei gwblhau yn y Bont-faen ac yn Wydden ac fe fydd hwnnw'n rhoi amddiffyniad i 300 eiddo i gyd gyda'i gilydd. Mae CNC wedi cwblhau gwaith yn Llanfair Talhaearn hefyd, gan leihau'r risg o lifogydd i 33 eiddo mewn cymuned a gafodd ei ddinistrio gan lifogydd ym mis Chwefror 2020. Mae rhaglen graidd CNC wedi rhoi amddiffyniad rhag llifogydd i dros 1,000 o dai hefyd. Eleni, fe gyflawnwyd gwaith i gryfhau amddiffynfeydd presennol ledled Cymru, gan fod o fudd i leoedd fel Trefynwy, Gwynllŵg a Dinbych-y-pysgod. Ac mae hi'n bwysig cofio nad yw ein buddsoddiad wedi ei gyfyngu i brosiectau adeiladu. Mae gan CNC gyfrifoldeb i rybuddio a hysbysu, a dyna pam maen nhw'n parhau i fuddsoddi mewn systemau modelu, telemetreg a rhybuddion llifogydd. At hynny, mae CNC yn parhau i ddatblygu prosiectau'r dyfodol mewn lleoedd fel Aberteifi a Phorthmadog, a strategaeth risg llifogydd ar gyfer Afon Taf. Fe fydd y gwersi a ddysgwyd gan storm Dennis yn 2020 yn dylanwadu yn fawr ar y strategaeth honno, ac fe fydd yn ein helpu ni i gynllunio a nodi unrhyw waith a fydd ei angen yn y dyfodol. Mae'r gwaith hwn yn hanfodol hefyd i'n helpu ni i ddeall a chyfathrebu'r risgiau i'n cymunedau ni, gan eu gwneud nhw'n llawer mwy gwydn a pharod. A'r math hwn, Dirprwy Lywydd, o gynllunio at y dyfodol sy'n hanfodol ar gyfer darparu rhaglen llifogydd effeithiol a chyflawni ein hymrwymiad i ddarparu mwy o ddiogelwch rhag llifogydd i fwy na 45,000 o gartrefi. Felly, rwy'n falch ein bod ni'n gallu rhoi, eleni, dros £75 miliwn i awdurdodau rheoli risg i leihau'r perygl sydd oherwydd llifogydd ac i'r arfordiroedd ar draws Cymru. O'r £75 miliwn hwnnw, mae £34 miliwn o gyllid cyfalaf wedi cael ei ddyrannu i'n hawdurdodau rheoli risg, ac fe gaiff hwnnw ei ddefnyddio i ddatblygu ac adeiladu cynlluniau rheoli perygl llifogydd ledled Cymru. Er enghraifft, eleni, fe fydd y gwaith adeiladu yn dechrau o ddifrif ar gynlluniau CNC ar raddfa fawr yn Rhydaman a Llyswyry yng Nghasnewydd. Fe fydd y cynllun yn Rhydaman yn cynnig mwy o ddiogelwch rhag llifogydd i 200 o dai. Yn y cyfamser, fe fydd y cynllun yn Llyswyry yn lleihau'r risg i dros 800 o dai, gan ei wneud yn un o'r cynlluniau mwyaf a adeiladwyd gan CNC erioed. Yn ogystal â hynny, rydym ni'n rhoi £10 miliwn hefyd i awdurdodau lleol ar gyfer datblygu ac adeiladu cynlluniau newydd, gan gynnwys bron i £1.5 miliwn ar gyfer ddarparu mesurau gwytnwch tai rhag llifogydd i gymuned Dinas Powys, a gafodd ei dinistrio gan lifogydd yn 2020. Rwy'n falch hefyd o weld y galw parhaus am ein grantiau gwaith ar raddfa fechan ni, gyda £3.7 miliwn o gyllid yn cael ei roi i awdurdodau lleol er mwyn darparu datrysiadau i broblemau llifogydd lleol llai. Ac, yn unol â'n rhaglen ar gyfer ymrwymiad y Llywodraeth i ddarparu gwaith rheoli llifogydd sy'n seiliedig ar fyd natur ym mhob un o brif ddalgylchoedd afonydd, rydym ni'n parhau i ymgorffori rheolaeth llifogydd naturiol yn rhan graidd o'r gwaith yr ydym ni'n ei gyflawni. Rydym ni wedi dod â'n rhaglen beilot rheoli llifogydd naturiol tair blynedd i ben, a osododd gannoedd o fesurau naturiol yn eu lle dros 15 prosiect ledled Cymru. Er enghraifft, gosododd Cyngor Sir Powys 250 o argaeau sy'n gollwng dŵr ym mlaenau afon Tefeidiad yn unig. Mae rheoli llifogydd naturiol hefyd yn cael ei gynnwys yn ein rhaglen graidd ni ac, eleni, roedd 22 o brosiectau cyfalaf yn cynnwys mesurau rheoli llifogydd naturiol yn eu cynigion nhw. I gefnogi'r gwaith hwn ymhellach yn y byrdymor, rydym ni wedi agor rhaglen fuddsoddi newydd hefyd. Fe fydd y cynllun peilot buddsoddi hwn i gefn gwlad yn annog ac yn cefnogi rheoli llifogydd naturiol ymhellach dros y ddwy flynedd nesaf. Fe fydd yr hyn a fyddwn ni'n ei ddysgu o'r rhaglen hon yn cefnogi datblygu'r cynllun ffermio cynaliadwy hefyd. Ond, Dirprwy Lywydd, nid prosiectau newydd yn unig sy'n bwysig. Eleni, rydym ni am roi dros £41 miliwn mewn cyllid refeniw, sy'n gynnydd cyffredinol o bron i £5 miliwn. Fe fydd awdurdodau rheoli risg yn defnyddio'r cronfeydd hyn i gynnal ein rhwydwaith sylweddol ni o amddiffynfeydd rhag llifogydd a pharhau â'u gwaith o godi ymwybyddiaeth, ymchwilio i lifogydd, rhybudd a hysbysu, a thalu costau staff. O'r refeniw hwn, fe fydd CNC yn cael £24.5 miliwn, cynnydd o £2 filiwn, tra bydd cyfanswm y dyraniad refeniw sydd ar gael i awdurdodau lleol yn codi i dros £5 miliwn hefyd. Mae hwn yn gam sylweddol i gyllid refeniw. Mae'n dilyn galwad ddiweddar gan ein pwyllgor llifogydd ac erydu arfordirol ar gyfer aneddiadau refeniw yn y tymor hwy, ac fe fydd yn galluogi dull mwy hirdymor o gynnal a chadw asedau llifogydd, staffio a'r holl waith arall sy'n cael ei ariannu gan refeniw. Dirprwy Lywydd, bydd dadansoddiad llawn a map eleni o raglen rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan. Yn ogystal â hynny, rydym ni'n llunio map rhyngweithiol ar ein gwefan, MapDataCymru, pe byddai'r cyhoedd ac Aelodau'r Senedd yn dymuno craffu yn fanylach ar y rhaglen. Unwaith eto, rydym ni'n rhoi'r cyfraddau mwyaf erioed o gyllid i'n hawdurdodau rheoli risg wrth i ni barhau i ymdrechu i gadw ein cymunedau ni'n ddiogel rhag y perygl cynyddol oherwydd newid hinsawdd. Diolch. Janet Finch-Saunders AC: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Rwy'n credu mai da o beth bob amser yw dechrau gyda'r hyn sy'n gadarnhaol—mewn gwirionedd, mae sawl peth cadarnhaol yma. Rydym ni'n croesawu sawl pwynt heddiw, gan gynnwys y ffaith eich bod chi am ddarparu £75 miliwn o gyllid i awdurdodau rheoli risg, bod 22 o brosiectau cyfalaf yn cynnwys mesurau naturiol i reoli llifogydd yn eu cynigion nhw a'ch bod chi'n buddsoddi i helpu gyda'r sefyllfa o ran staffio. Fe wyddom ni, ym mis Rhagfyr, fod Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cyhoeddi adroddiad a oedd yn canfod bod prinder staff mor ddifrifol mewn awdurdodau lleol fel bod un awdurdod yn methu â chyflwyno ceisiadau am arian ar gyfer cynlluniau rheoli risg llifogydd nac am arian refeniw oherwydd bod ganddyn nhw swyddi gwag a oedd heb eu llenwi. Fel mae'r archwilydd wedi canfod, yn y byrdymor, diffyg gweithlu yw'r broblem fwyaf sy'n wynebu'r sector llifogydd. Roedd adolygiad y pwyllgor llifogydd ac erydu arfordirol o adnoddau yn egluro canlyniadau gweithlu annigonol, ac mae'r rhain yn cynnwys diffyg ymgysylltiad digonol ac ystyrlon â chymunedau; diffyg amser i awdurdodau rheoli risg gydweithio yn effeithiol â'i gilydd ac â sectorau eraill; cynnydd araf yn natblygiad sylfaen dystiolaeth o ran manteision y datrysiadau sydd ar sail naturiol, dulliau sy'n seiliedig ar ddalgylch a sut i addasu wrth ymateb i newid hinsawdd; a diffyg arloesedd a gweithio mewn partneriaeth i greu lles cymdeithasol ac economaidd ehangach, a sicrhau cyllid allanol ychwanegol ar gyfer cynlluniau rheoli risg llifogydd. Os ydych chi'n meddwl am y peth, mewn gwirionedd, economi ffals yw i awdurdod lleol beidio â llenwi'r swydd wag honno, oherwydd peth o'r arian y bydden nhw'n methu â manteisio arno. Nawr, rwy'n credu bod y sector llifogydd yng Nghymru yn deall ei wendidau ei hun, ond mae ganddyn nhw brinder adnoddau dynol i ddatrys y problemau hyn. Cwestiwn 1, Gweinidog: rydych chi wedi egluro y bydd tua £41 miliwn yn cael ei roi mewn cyllid refeniw ac y gellir ei ddefnyddio i dalu costau staff. Felly, pa gamau ydych chi'n eu cymryd i sicrhau bod cyfleoedd yn bodoli ledled Cymru i unigolion gaffael y sgiliau y mae cymaint o angen amdanyn nhw ar ein hawdurdodau ni, oherwydd, pan welwch chi swyddi yn wag a heb eu llenwi, yn aml iawn nid yw sgiliau yn bresennol mewn maes arbennig? Fe wyddom ni fod un awdurdod wedi methu â gwneud cais am arian oherwydd swydd sy'n wag, felly a ydych chi wedi cysylltu gyda phob awdurdod rheoli risg yng Nghymru eich hun i sicrhau bod y swyddi hyn i gyd yn llawn er mwyn gallu gwneud ceisiadau pwysig? Yn ôl adolygiad a gyhoeddwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd yn rhan o raglen ymchwil ar y cyd rhwng Cymru a Lloegr, nid oes cyfeiriad strategol na dylanwad gan grwpiau llifogydd rhanbarthol yng Nghymru dros benderfyniadau rhanbarthol ehangach fel datblygu economaidd. Roedd yr adolygiad yn canfod bod yr aelodaeth heb aelodau o staff uwch ac yn aml nid oedd aelodau presennol yn gallu gwneud ymrwymiad corfforaethol. Ar ben hynny, nid oes fforwm ledled Cymru ar gyfer uwch arweinwyr i drafod rheoli risg llifogydd ac ysgogi newid strategol. Rydych chi wedi tynnu sylw at bwysigrwydd cynllunio i'r dyfodol ar gyfer darparu rhaglen llifogydd effeithiol, ond pa gamau fyddwch chi'n eu cymryd i sicrhau perchnogaeth uwch o reoli risg llifogydd ar draws yr awdurdodau rheoli risg ac nad yw llifogydd yn cael eu trin mewn rhai ardaloedd fel blaenoriaeth is? Fe wyddom ni fod yna ddarnau ar lan cyrsiau dŵr lle nad yw'r tirfeddiannwr torlannol yn hysbys i'r Gofrestrfa Tir, hyd yn oed. Fe welais i sefyllfa yn fy etholaeth i lle nad oedd y tirfeddianwyr torlannol eu hunain yn gwybod mai nhw oedd y tirfeddianwyr torlannol. Pan oedd gennym ni broblem arbennig mewn ardal, roedd y tirfeddiannwr ar un ochr yn ddigon hapus i wneud ei ran, ond wedyn roedd nifer fawr o berchnogion tai nad oedden nhw'n gwybod eu bod nhw'n dirfeddianwyr torlannol, ac roedd y rhain yn gofyn, 'Beth yw tirfeddiannwr torlannol?' Felly, sut allwn ni egluro hyn mewn gwirionedd, sef mai nhw sy'n gyfrifol am gyfran o'r tir ar lan yr afon? Yn bryderus iawn, nid oes gan 61 y cant o rentwyr incwm isel yswiriant cynnwys cartref, ac ni fyddai 73 y cant o rentwyr incwm isel yn gallu talu bil annisgwyl o £500. Gweinidog, ni allwn ni orfodi pobl i dalu am yswiriant cartref, ond a oes yna obaith y gallech chi redeg, wn i ddim, ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol neu rywbeth o'r fath, oherwydd fe wn i ond yn rhy dda fod llawer gormod o etholwyr wedi colli pob dim yn y gorffennol, a phob tro mae hi'n glawio nawr maen nhw'n byw mewn ofn? Diolch i chi. Julie James AC: Diolch i chi, Janet. Un o'r pethau rwyf i newydd ei gyhoeddi yw ein bod ni'n hapus iawn i grantiau gael eu defnyddio ar gyfer adnoddau staffio. Nid wyf i'n rhy siŵr beth rydych chi'n ei olygu pan ddywedwch chi nad oes cyfle i 'ddod at ein gilydd', oherwydd, yn sicr, mae Rebecca Evans a minnau'n cwrdd ag arweinwyr pob awdurdod lleol yng Nghymru yn rheolaidd iawn. Mae gennym agenda o bynciau treigl, ac yn sicr mae newid hinsawdd, y gallu i wrthsefyll newid hinsawdd, addasu i'r hinsawdd yn rhai o'r pynciau hynny. Felly, rwy'n credu bod fforwm ar gael i godi hynny, ac mae croeso mawr i unrhyw arweinydd awdurdod lleol neu brif weithredwr sy'n dod i'r cyfarfodydd hynny wneud felly. Mae gennym ni swyddogion yn cyfarfod hefyd gyda swyddogion yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn ogystal â gyda phob awdurdod lleol. Felly, mae arnaf i ofn fy mod yn anghytuno â hynny. Rwyf i o'r farn bod pob cyfle ar gael i bobl sydd â materion o'r fath yna i'w codi. Mae yna brinder sgiliau, yn ddiamau, ac rydym ni'n gweithio yn galed iawn i geisio sicrhau bod y rhaglenni hyfforddi cywir gennym ni yn eu lle; unwaith eto, mae cyllid drwy'r awdurdodau lleol yn ddefnyddiol iawn yn hynny o beth. Yn gyffredin â llawer o'r proffesiynau yn y sector cyhoeddus, mae agenda cyni wedi bod ag effaith fawr arnyn nhw, rwy'n ofni, felly mae'r rhaglenni hyfforddi a oedd yn arfer cael eu rhoi ar waith mewn awdurdodau lleol wedi cael eu heffeithio gan hynny, ac rydym ni'n gweithio yn galed iawn gyda nhw i geisio rhoi'r rhaglenni hyfforddi hynny ar waith unwaith eto. Mae nifer o gynlluniau grantiau bychain ar gael hefyd i berchnogion torlannol ac eraill fanteisio arnyn nhw, a hefyd, wrth gwrs, rydym ni'n disgwyl i'r awdurdod rheoli risg perthnasol ystyried nifer y tai y gellir eu hamddiffyn gan unrhyw waith neu gynllun llifogydd naturiol penodol dan sylw. Os oes gennych chi fater penodol, efallai y gwnewch chi ysgrifennu ataf i a dweud wrthyf i ym mha le y mae hwnnw, ac fe allwn ni gael golwg arno. Rwy'n glir iawn o ran bod hon yn rhaglen sydd wedi cael ei gwella yn sylweddol iawn, ac fe fydd yn rhoi llawer iawn mwy i awdurdodau lleol weithio gydag ef o ran gwydnwch a chynllunio dros y flwyddyn nesaf. Rwy'n eiddgar iawn i hynny weithio, oherwydd, fel chi, rwyf i wedi cwrdd â nifer fawr o bobl sydd wedi cael eu heffeithio gan lifogydd, ac mae'n beth cwbl ddinistriol. Felly, rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gallu diogelu dros 10,000 o dai, ac fe fyddwn ni'n parhau i wneud hynny gyda'r rhaglen hon. Delyth Jewell AC: Diolch, Gweinidog, am y datganiad hwn. Mae hyn mor bwysig, ond fe ddaw hi'n fwy hanfodol fyth i ni fynd i'r afael â'r peryglon i'n cymunedau a achosir gan newid hinsawdd wrth i'r frwydr fyd-eang yr ydym ni ynddi o ran yr argyfwng hinsawdd ddwysáu. Fe fydd y camau yr ydym ni'n eu cymryd nawr yn penderfynu pa mor ddiogel yw ein cymunedau ni yn y blynyddoedd i ddod. Mae'r rhaglen llifogydd hon yn gyfle sylweddol i ni newid pethau, amddiffyn, a blaenoriaethu diogelwch pobl a gwytnwch cynefinoedd yn y ffordd yr ydym ni'n byw. Felly, rwy'n cymeradwyo Llywodraeth Cymru am ei hymdrechion parhaus i fynd i'r afael â'r mater hwn ac am barhau i ddyrannu arian sylweddol tuag at y rhaglen llifogydd. Fel roeddech chi'n dweud, roedd llawer o'r gwaith parhaus i fynd i'r afael ag effaith llifogydd yn bosibl drwy'r cytundeb cydweithio. Rwy'n awyddus i weld ein bod ni'n parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod yr adnoddau gan Gymru i ymateb i'r heriau sy'n wynebu'r cymunedau yr ydym ni'n eu cynrychioli, ond ar y pwynt hwn, yn ogystal â chanmol Llywodraeth Cymru, rwyf i am gymeradwyo'r tîm y tu ôl i'r cytundeb cydweithio yn hyn i gyd, oherwydd nid oes llawer o faterion y gallaf i feddwl amdanyn nhw sy'n bwysicach na hyn i'n cymunedau ni, yn enwedig o ran y bobl sy'n cael eu heffeithio fwyaf. Mae yna un agwedd yr hoffwn i bwyso arnoch chi'n arbennig i ddechrau, os gwelwch yn dda, Gweinidog. Pan ydym ni'n siarad am lifogydd, yn aml siarad yr ydym ni am adeiladau, am seilwaith, ffyrdd yn cau, pontydd na ellir eu croesi. Mae'r pethau hynny'n hynod bwysig—mae'r difrod sy'n cael ei wneud gan ddŵr i gartrefi pobl yn cael cymaint o effaith—ond nid yw hynny'n adrodd y stori i gyd. Oherwydd bod y staeniau mwyaf ystyfnig sy'n cael eu gadael pan fydd y dyfroedd yn cilio yn gallu bod yn rhai seicolegol. Fe all breuddwydion pobl fod yn llawn dŵr; mae'r syniadau hyn o ran yr hyn a fydd yn digwydd y tro nesaf y bydd hi'n glawio yn drwm yn creu panig iddyn nhw. Rwy'n poeni yn arbennig am y gost emosiynol ar blant sydd wedi gweld llifogydd yn eu cartrefi nhw. Rwy'n gwybod ein bod ni wedi siarad am hyn o'r blaen pan godais i hyn yn y Senedd. Oherwydd ledled Cymru fe geir plant sy'n teimlo yn wirioneddol ofnus bob tro mae hi'n glawio drwm, achos maen nhw wedi bod drwy ryw fath o drawma. Rwy'n pwyso ar y Llywodraeth i ddweud mwy wrthym ni, os gwelwch yn dda, o ran sut y gellir sicrhau bod y cyhoedd â hyder yn y mesurau i atal llifogydd. Sut bydd y rhaglen llifogydd yn sicrhau bod cymunedau yn rhan o'r broses o gynllunio a gweithredu'r mesurau hyn i liniaru risgiau llifogydd, ond o ran sicrhau bod yr ymdeimlad hwn o ddiogelwch ganddyn nhw hefyd? Felly, pe gallech chi ddweud mwy wrthym ynglŷn â hynny, fe fyddwn i'n ddiolchgar iawn, os gwelwch yn dda. At hynny, mae nifer o'm hetholwyr—ac, am wn i, etholwyr mewn rhanbarthau ledled Cymru—wedi codi pryderon ynglŷn ag arolygu mesurau atal llifogydd fel ceuffosydd, i sicrhau monitro effeithiol. Fe hoffwn ofyn i chi sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu mynd i'r afael â'r pryderon hynny, os gwelwch yn dda. Yn olaf, fe all codi amddiffyniadau rhag llifogydd fod yn achosi llawer o allyriadau carbon. Mae'n beth hanfodol, wrth gwrs—gan fy mod i'n gwybod eich bod chi wedi tynnu sylw at hyn hefyd—bod cyllid yn cael ei wario ar amddiffynfeydd llifogydd gwyrdd hefyd. Wrth i ni addasu'r ffordd yr ydym ni'n gweithio ac yn byw ynddi, fe fydd yn rhaid i effaith amgylcheddol popeth a wnawn ni fod yn ystyriaeth ganolog, felly sut mae'r Llywodraeth yn ystyried hyn o ran atal llifogydd, os gwelwch yn dda? Sut fyddwch chi'n sicrhau bod y rhaglen llifogydd yn cynnwys cyllid ar gyfer y mesurau atal ac amddiffyn gwyrdd wrth ymdrin â hyn o beth? Mae'r rhaglen llifogydd hon yn rhoi cyfle tyngedfennol i newid pethau. Rwyf i am ailadrodd, os gwelwch yn dda, yr angen mawr am ystyriaeth sylweddol i effaith seicolegol llifogydd ar gymunedau ac unigolion, i fynd i'r afael â phryderon am wyliadwriaeth mesurau atal llifogydd, a buddsoddi mewn mesurau amddiffyn gwyrdd hefyd. Mae hwn yn ddarn sylweddol o waith, ac rwyf i wir yn cymeradwyo'r ffaith bod hwn wedi dod, unwaith eto, drwy Lywodraeth Cymru oherwydd y cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru. Dyma un o'r pethau hynny a fydd, rwy'n gobeithio, yn newid ac yn gwella bywydau pobl ac yn grymuso gwydnwch ein cymunedau, felly rwyf i wir yn canmol yr hyn sy'n digwydd. Julie James AC: Diolch, Delyth. Rwy'n credu ei bod yn rhaglen i fod yn wirioneddol falch ohoni ac mae wedi bod yn rhagorol inni weithio gyda'n gilydd i roi'r rhaglen honno ar waith. Rydym ni wedi gweithio hefyd yn agos iawn gydag awdurdodau lleol, awdurdodau rheoli risg ledled Cymru, a gyda CNC, i roi'r rhaglen ar waith, ac yn amlwg, mae hi'n seiliedig ar farn arbenigol ynglŷn â lle mae'r angen mwyaf am y cynlluniau a'r mannau y byddan nhw â'r effaith fwyaf. Rydym ni'n ymroddedig iawn, ac yn wir, rwy'n falch iawn fy mod wedi cyhoeddi'r cynllun peilot buddsoddiad i gefn gwlad, a fydd yn annog ac yn cefnogi rheolaeth naturiol o lifogydd dros y ddwy flynedd nesaf. Fe fyddwn ni'n gallu bwydo'r hyn a ddysgwn ni o hynny i mewn i'r cynllun ffermio cynaliadwy hefyd, felly fe fyddwn ni'n gallu lledaenu'r hyn a ddysgwn ni mewn gwirionedd. Rydych chi wedi fy nghlywed i'n pregethu am hyn o'r blaen, ond fe wnaf i hynny unwaith eto: mae'r cynllun llifogydd naturiol ar flaen afon Tawe wedi bod yn llwyr drawsnewidiol. Nid yn unig fod hwnnw'n amddiffyn Abertawe—yn etholaeth Mike Hedges y mae ef—a gwaelod cwm Tawe i gyd rhag llifogydd, a'r holl fannau poblog iawn sydd ar lan afon Tawe yno, gyda busnesau yn ogystal â chartrefi; mewn gwirionedd, mae cynnydd anferthol wedi bod o ran bioamrywiaeth. Mae'n hyfryd, os ewch chi i'w weld. Os ewch chi i'w weld pan fo llifogydd, mae'n fwy anhygoel fyth. Cors yw hi, yn y bôn, lle brwynog, gwlyptir, ac mae ganddi'r nifer fwyaf rhyfeddol o adar o bob math arni hi, yn ogystal â'i bod yn caniatáu i'r afon ollwng ei glannau mewn ffordd lawer fwy naturiol, gan ddiogelu'r holl anheddau a'r datblygiadau ar dir i lawr yr afon. Felly, fe allwch chi wir weld hynny ar waith yno. Dyna yw ystyr rheolaeth llifogydd naturiol. Ond mae hyn hefyd yn ymwneud â chywiro rhai o gamgymeriadau'r gorffennol. Yn y gorffennol, rydym ni wedi ceisio rheoli afon trwy roi mesurau caled ar hyd ei glannau, ac mewn gwirionedd mae hynny'n gwneud i'r dŵr lifo yn gyflymach, ac mae'n dwyn cryn dipyn o'r bioamrywiaeth i ffwrdd, sy'n dibynnu ar welyau graean, afonydd troellog, ac yn y blaen, i fod yn wirioneddol fuddiol. Fe allai'r afonydd troellog hynny ymledu ychydig y tu draw i'w glannau arferol, ond nid ydyn nhw'n gwneud gyda llifeiriant aruthrol o ddŵr sydd wedi cael eu sianelu yn fwriadol i ardal lai o ran arwynebedd. Mewn rhai ardaloedd yng Nghymru, rydym ni'n ailsefydlu afonydd troellog mewn gwirionedd, pan fu ceuffosydd arnyn nhw o'r blaen, am yr union reswm hwnnw: rydych chi'n taro ergyd ddwbl gyda'r hyn a wnewch chi. Bu'n rhaid i ni weithio yn agos iawn gyda'r tirfeddianwyr ar bob ochr i'r afonydd hynny—ffermwyr gan fwyaf. Mae hwn yn gynllun gwych—fe ddylech chi fynd i lawr i'w weld ef. Mae un ohonyn nhw yng Nghaerfyrddin, lle mae rhannau troellog yr afon wedi cael eu rhoi yn eu holau, unwaith eto, mae hynny wedi arwain at gynnydd enfawr mewn bioamrywiaeth. Mewn gwirionedd mae wedi caniatáu hefyd i anifeiliaid yfed mewn ffordd na allen nhw o'r blaen o afon â cheuffos, ar adegau o sychder. Ac, wrth gwrs, maen nhw wedi cael gwahanol gyfraddau o blannu coed a phethau eraill. Mewn rhai mannau, mae hi'n bwysig fod yna goed, mewn mannau eraill mae hi'n bwysig eu bod nhw'n cysgodi'r afon. Felly, mae hyn yn cael ei anelu yn benodol iawn. Mae'r rhaglenni hyn wir yn gweithio, ond maen nhw'n bethau i'r hirdymor, onid ydyn nhw, ac maen nhw'n darparu pethau eraill hefyd. Gan droi at y mater ynghylch trawma pobl sydd wedi cael profiad o lifogydd, rwyf innau mewn gwirionedd wedi gweld hynny drosof fy hun yn uniongyrchol nifer o weithiau. Yn aml iawn, hyd yn oed os yw'r llifogydd wedi cael eu datrys, fe welwch chi farciau o hyd y tu allan i dai a siediau lle cyrhaeddodd lefel y dŵr. Mewn gwirionedd, fe ymwelodd y Dirprwy Lywydd a minnau ag un yn ei etholaeth ef—llifogydd dŵr mwynglawdd oedd hynny—lle'r oedd y marciau ar y waliau yn erchyll, onid oedden nhw, mewn gwirionedd, yn uwch na'ch pen chi, heb sôn am f'un i. Roeddech chi'n edrych i fyny a phrin y gallech chi gredu bod y dŵr yn cyrraedd y lefel honno. Effeithiwyd y bobl yno'n fawr iawn gan hyn, ond mewn gwirionedd, yn ddiddorol, ychydig iawn ohonyn nhw a wnaeth ofyn am ymadael. Yr hyn yr oedden nhw'n wir awyddus amdano oedd cymorth i'r gymuned allu dod at ei gilydd a mynd yn fwy gwydn. Roedden nhw'n dymuno cael cwnsela i rai o'r plant oedd yn cael hunllefau. Ac yna, yn benodol iawn, roedden nhw'n awyddus i fod ag amddiffyniadau. Roedden nhw'n dymuno gallu rhoi sicrwydd i'w plant na fyddai hynny'n digwydd eto. Mae cynllun peirianneg mawr a chynhwysfawr iawn—ychydig yn wahanol yn yr achos hwnnw, oherwydd llifogydd pwll glo oedd hyn—wedi cael ei roi ar waith yno i wneud hynny a rhoi sicrwydd i'r bobl yno eu bod nhw'n ddiogel. Ac yna, fe geir llawer o'r materion eraill a gyhoeddais i heddiw, o ran rhybuddion llifogydd a gwydnwch CNC, yn ymwneud â sicrhau nad yw pobl yn teimlo yn ddiobaith yn wyneb bygythiad, ond mewn gwirionedd eu bod nhw'n deall yr hyn y gallan nhw eu hunain ei wneud i'w hamddiffyn eu hunain yn y ffordd orau, a'u heiddo nhw, yn wir, eu bywydau nhw a'u plant. Yn fy marn i, os rhowch chi'r gallu i bobl fel hyn, fod hynny'n gwneud iddyn nhw deimlo yn llawer llai diymadferth ac yn llawer llai tebygol o ddioddef poen meddwl. Mae hynny'n rhan fawr o'r rhaglen hon sef rhoi'r gallu i bobl yn yr ystyr bod ganddyn nhw rywbeth y gallan nhw eu hunain ei wneud i'w hamddiffyn eu hunain. Rhaglen hyfforddiant a gwydnwch yw hon, oherwydd fe fydd y math yna o wydnwch ac addasiadau yn mynd yn fwy angenrheidiol fyth wrth i ni wynebu'r argyfwng hinsawdd hwn. Mike Hedges AC: Dirprwy Lywydd, rwy'n croesawu datganiad heddiw yn fawr iawn. Oni bai ein bod ni'n canfod ffordd o newid y tywydd fel ein bod yn cael llai o law trwm, yna fe fydd problem llifogydd yn parhau. Mae cynhesu byd-eang wedi arwain at newid yn y tywydd yng Nghymru, o fod yn law mân cyson, ac rwy'n siŵr eich bod chi a'r Gweinidog yn cofio o ddyddiau ieuenctid, i'r hyn sydd gennym ni nawr, sef cyfnodau hir o sychder, a ddilynir gan law trwm iawn, sy'n achosi llifogydd. Roedd glaw trwm ar ddechrau Ionawr yn golygu bod rhai lleoliadau wedi gweld gwerth chwe wythnos o law mewn dim ond pythefnos. Nid yw hynny'n gynaliadwy. Fe geir barn mai'r cyfan y mae angen i chi ei wneud yw codi waliau uwch fyth eto. Nid wyf i'n cytuno â'r farn honno, ac rwy'n credu nad ydych chithau'r Gweinidog yn cytuno â hi ychwaith. Mae gennyf i dri awgrym. Y cyntaf yw y dylid gofyn am ganiatâd cynllunio i gynnwys gerddi sydd â tharmac a deunydd arall nad yw'n amsugno. Mae llawer o'r problemau a gawn ni gyda llifogydd yn deillio o'r ffaith fod llawer o'r dŵr a arferai dreiddio i'r ddaear yn rhedeg oddi ar y ddaear erbyn hyn ac yn llifo i rywle arall. Yn ail, fe ddylid plannu mwy o goed a llwyni ar y bryniau a'r mynyddoedd. Ac yn drydydd, fod gorlifdir yn cael ei greu, fel sydd gennym ni yn Ynysforgan yn Abertawe, i ganiatáu i ddŵr lifo i rywle, ac fe soniodd y Gweinidog am hyn ychydig funudau yn ôl, a bod yr afonydd yn cael eu gwneud yn fwy troellog, neu beth bynnag yw'r gair cywir, fel maen nhw wedi gwneud hefyd gydag Afon Tawe yn Ynystawe ac Ynysforgan. O gofio adeg pan oeddem ni'n gweld rhywun yn gorfod cael cwch i ddod allan o lawr cyntaf tŷ ar Heol y Parc, mae sefyllfa gennym ni nawr lle nad oes llifogydd yn digwydd yno. Dyna waith da iawn, wir. Mae'n rhaid i'r dŵr fynd i rywle, ac mae'n well iddo lifo i ddarn o dir lle mae'n gallu bod o gymorth o ran bioamrywiaeth yn hytrach na llifo i mewn i dai pobl. Julie James AC: Ie wir, Mike. Rwy'n cytuno yn llwyr â hynny i gyd, ac fe glywsoch chi fi'n canmol rhinweddau Afon Tawe, ac rwy'n gwybod eich bod wedi fy nghlywed i'n gwneud hynny nifer o weithiau. Mewn gwirionedd, fe geir gwaharddiad o ran palmantu'r ardd ffrynt, ond nid yn aml iawn y caiff hwnnw ei orfodi. Fe wyddoch chi fod ein cydweithiwr ni, Joyce Watson, wedi bod yn hyrwyddo hyn ers blynyddoedd lawer. Rwy'n ddigon hapus i ysgrifennu yn ôl allan eto—rwyf i wedi gwneud hynny nifer o weithiau—i awdurdodau cynllunio, i'w hatgoffa na ddylech chi balmantu eich gardd ffrynt mewn gwirionedd, ar gyfer parcio neu at ddibenion eraill, heb ganiatâd. Ac mae'r rheswm y dylech chi geisio caniatâd yw'r union beth yr ydych chi'n sôn—bod hynny'n cynyddu llif y dŵr fwyfwy, mewn gwirionedd, ac mae pobl yn aml yn palmantu dros y clwt o dir lle dylai'r dŵr sy'n llifo i lawr o'r to hydreiddio i mewn iddo i socian i ffwrdd, ac felly mae'r dŵr yn llifo dros yr iard ac i mewn i'r gwteri. Rydych chi'n gweld hynny, mewn gwirionedd, yn aml iawn mewn rhannau o Abertawe yn fy etholaeth i, ac rwy'n gwybod bod Joyce wedi siarad am hyn droeon yn ei hetholaeth hithau, ac fe fydd unrhyw un sy'n byw mewn ardal sydd â strydoedd teras ac mae lle i barcio yn brin yn gweld pobl yn gwneud hynny lle gallan nhw, ac mae hynny wir yn cynyddu rhediad y dŵr. Mae hynny'n digwydd ac yn amlwg iawn i'w weld, felly, felly fe fyddwn i'n hapus iawn i ysgrifennu yn ôl allan at awdurdodau cynllunio, gan eu hatgoffa nhw y gallan nhw gymryd camau gorfodi. A'r peth arall i'w ddweud yw bod digon o ddewisiadau amgen ar gael. Mewn gwirionedd, fe allech chi wneud lle yn yr ardal flaen, fel gelwid hi yn fy ieuenctid, i'r tai teras hynny, ar gyfer parcio heb wneud y darn yn anhydraidd i ddŵr. Mae digon o arwynebau eraill ar gael sy'n caniatáu i ddŵr ddraenio trwyddo, ac mae hynny'n bwysig iawn. Mewn gwirionedd, mae'r gwasanaethau hynny'n caniatáu, felly, creu hafan ar gyfer bywyd gwyllt, ac ni allwch ddod o hyd i unrhyw fath o hafan ar arwynebau caled. Felly, fe fyddaf i'n gwneud hynny hefyd, Mike. Ac wedyn, fe siaradais i eisoes am yr aildroelli, fel gelwir hynny. Mae gennym ni bedair afon yn mynd drwy'r broses honno ar hyn o bryd, am yr union resymau yr ydych chi'n sôn amdanyn nhw. Ac yna'r peth olaf i'w ddweud yw bod gennym ni gwpl o brosiectau yng Nghymru lle—rydw i wedi anghofio'r hyn y caiff y rhain eu galw—rhoddwyd cors mawn ucheldirol yn ei hôl unwaith eto ym mlaen yr afon, ac mewn gwirionedd, mae hynny'n rhyfeddol o amsugnol hefyd. Felly, fe fydd y math cywir o blannu ar hyd yr afon, ac yn enwedig yn ei tharddle, yn amsugno llawer iawn o ddŵr, a fydd yn atal y llifogydd wedyn. Ond y gwir trist amdani yw ein bod ni'n edrych ar batrwm hinsawdd a fydd yn wahanol iawn. Roedd yr haf diwethaf hwn yn enghraifft dda iawn, lle sychodd y tir yn llwyr, ac yna pan fydd hi'n glawio ni all y tir amsugno'r dŵr, felly mae'n rhedeg i ffwrdd mewn llifeiriant cryfach fyth. Bydd llawer o bobl yn gorfod newid llawer o arferion ar draws llawer, llawer o wahanol sectorau yn ein cymdeithas ni ar gyfer darparu at hynny. Samuel Kurtz MS: Diolch i chi, Gweinidog, am ddatganiad cadarnhaol iawn mewn rhai agweddau, a chalondid i'r lleoliadau hynny y gwnaethoch chi eu crybwyll yn eich datganiad. Yn anffodus, ni chafwyd cymaint o galondid i'r cei yng Nghaerfyrddin a rhannau eraill o dref Caerfyrddin, nad ydyn nhw'n cael eu crybwyll yn eich datganiad chi heddiw. Dim ond yn y mis diwethaf, fe aeth Afon Tywi dros ei glannau unwaith eto, ac roedd y perchnogion busnes a'r staff hynny'n cael eu dal yn pryderu wrth holi a fyddai'r afon yn llifo i mewn i'w hadeiladau nhw. Nawr, mae cyfarfodydd wedi bod gyda CNC, bu cyfarfodydd gyda Chyngor Sir Gâr, a wnewch chi ddweud wrthyf i a chynnig rhywfaint o dawelwch meddwl i berchnogion y busnesau hynny sydd ar y cei beth arall y gellir ei wneud, beth arall y gallan nhw ei wneud, i gyflwyno achos dros yr angen am amddiffynfeydd llifogydd, naill ai ar lan y cei ei hun neu ymhellach i fyny'r afon yn nyffryn Tywi ei hun? Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Julie James AC: Gwnaf, yn sicr. Diolch am hynna. Fe geir nifer o gynlluniau yng Nghaerfyrddin. Fe fyddwn i'n awgrymu eich bod chi'n edrych ar y wefan i weld pob un ohonyn nhw. Mae gennyf i restr yn y fan yma, ond rwy'n ceisio eu darllen nhw wysg fy ochr, yn anffodus. Y ffordd y mae hynny'n gweithio, yn y bôn, yw bod yr awdurdod rheoli risg yn cyflwyno ei gynlluniau sy'n flaenoriaeth i'w ardal, yr hyn y gall ei reoli'r flwyddyn honno, o ran capasiti ac o ran angen, am wn i—yr angen mwyaf. Ac rydym ni'n cymryd cyngor yr awdurdod rheoli risg i raddau helaeth iawn o ran yr hyn yr ydyn ni'n ei orlifo. Sgwrs yw honno rhwng fy swyddogion i, CNC, a'r awdurdod lleol. Felly, os oes gennych chi fusnesau yn yr amgylchiadau hynny ac nad yw'r cynllun wedi cael ei gynnwys hyd yn hyn, yna rwy'n awgrymu eu bod nhw mewn gwirionedd yn lobïo eu cyngor lleol ynghylch yr angen i gyflymu eu cynllun penodol nhw a faint o eiddo y byddai hynny'n ei amddiffyn. Mae hynny ar sail cost a nifer yr adeiladau a fyddai'n cael eu hamddiffyn am y gost, i bob pwrpas. Hynny yw, mae hi ychydig yn fwy cymhleth na hynny, ond dyna fyddwn i'n awgrymu i chi ei wneud, a dyna sut mae'r cynllun yn gweithio. Yr awdurdodau rheoli risg sy'n dwyn y cynlluniau yn eu blaenau. Yn olaf, Heledd Fychan. Heledd Fychan AS: Diolch, Gweinidog, am y cyhoeddiad pwysig hwn heddiw. Rwy'n falch iawn fod ein dwy blaid ni wedi gallu gweithio gyda'i gilydd, ac rwy'n gwybod bod etholwyr wrth eu boddau y bydd gwerth dros £14 miliwn o waith yn cael ei wneud yng Nghanol De Cymru, ac mae llawer o bobl wedi cysylltu â mi eisoes. Er enghraifft, mae hyn yn rhyddhad mawr i'r cynghorwyr yn Ninas Powys o ran gweld y cyllid hwnnw'n cael ei ddyrannu. Un cwestiwn sydd gen i yn ymwneud â'r strategaeth risg llifogydd ar gyfer afon Taf yn benodol, sy'n amlwg yn ei dyddiau cynnar iawn, ond sôn yr ydym ni am rai o'r cymunedau sydd wedi cael gwybod eu bod mewn perygl o farw yn eu cartrefi pe byddai llifogydd o'r fath yn digwydd eto. Yn amlwg, mae croeso i'r gwaith hwn ddechrau nawr, ond dim ond tair blynedd sydd ers y noson ddinistriol honno ym mis Chwefror 2020. Yr hyn y maen nhw'n poeni amdano yw eu bod nhw wedi cael gwybod bod yna broses ac y gallai honno gymryd hyd at saith mlynedd hyd y bydd unrhyw ddatrysiad. Felly, sut ydym ni am gefnogi'r rhain? Oherwydd gallen, fe allen nhw fod yn wydn mewn rhai cymunedau; fe geir pethau y gallen nhw eu gwneud a lliniaru'r risg. Ond, pan fo rhywun yn dweud wrthych chi y gallech chi farw yn eich cartref pe byddem ni'n gweld llifogydd o'r fath unwaith eto, sut ydym ni am eu cefnogi nhw, ac a oes yna ffordd o sicrhau bod prosesau, o ran modelu ac yn y blaen, yn gallu digwydd yn gyflymach yn yr achosion hynny lle maen nhw wedi cael gwybod am risg benodol, fel nad oes raid i ni ddilyn proses mor haearnaidd bob amser pan fo Cyfoeth Naturiol Cymru, hyd yn oed, yn gwybod na ellir achub y cartrefi hynny, yn y pen draw? Julie James AC: Ie. Felly, mae'n ddrwg iawn gen i glywed bod pobl yn cael gwybod pethau mor frawychus. Rwy'n hapus iawn—gadewch i ni siarad amdano all-lein, oherwydd rydw i wir yn meddwl bod angen i ni roi sylw i hynny. Mewn gwirionedd, dylai cymunedau ar y lefel honno o risg fod yn cael asesiadau unigol am yr hyn y dylen nhw ei wneud yn achos tywydd garw, felly gadewch i ni siarad am hynny ar wahân, oherwydd nid yw hynny'n dderbyniol. Diolch i'r Gweinidog. 4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Diweddariad ar Weithredu Cynllun y Gweithlu Cymraeg mewn Addysg Eitem 4 y prynhawn yma yw datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: diweddariad ar weithredu cynllun y gweithlu Cymraeg mewn addysg. Galwaf ar y Gweinidog—Jeremy Miles. Jeremy Miles AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae bron blwyddyn ers cyhoeddi cynllun y gweithlu Cymraeg mewn addysg, a heddiw, rwyf am roi diweddariad ar rai o’r camau sydd wedi’u cymryd hyd yma, a’r camau sydd i’w cymryd yn y flwyddyn nesaf. Bydd Aelodau'n cofio y bydd y cynllun yn cael ei gyflawni ochr yn ochr gyda chynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg awdurdodau lleol, ac mae'n nodi'r camau rŷn ni'n eu cymryd gyda'n partneriaid i gynyddu nifer yr athrawon sy'n gallu addysgu Cymraeg fel pwnc, neu'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hefyd yn ystyried sut y gallwn ni ddatblygu sgiliau Cymraeg ein gweithlu addysg a sicrhau bod ein harweinwyr yn meddu ar yr wybodaeth a'r sgiliau i ddatblygu'r Gymraeg yn eu hysgolion. Mae cyflawni'r cynllun hwn yn hanfodol os ydyn ni am wireddu'n gweledigaeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg, a'r uchelgais a gafodd ei nodi'n ddiweddar yn y Papur Gwyn ar gyfer y Bil Addysg Gymraeg. Er bod angen amser i roi llawer o'r camau hyn ar waith, mae Llywodraeth Cymru a'n partneriaid wedi bwrw ati i gychwyn, heb oedi.Er mwyn cynyddu nifer yr athrawon sy'n gallu addysgu Cymraeg a phynciau eraill drwy gyfrwng y Gymraeg, rŷn ni wedi newid gofyniad mynediad rhaglenni addysg gychwynnol i athrawon o radd B i radd C ar gyfer TGAU mathemateg a Chymraeg neu Saesneg. Rŷn ni wedi ariannu 20 lle arall i athrawon cynradd sydd am newid i fod yn athrawon uwchradd drwy’r cynllun pontio. Cyn y Pasg, agorais i ail gylch y grant ar gyfer datblygu capasiti'r gweithlu cyfrwng Cymraeg, ac mae cyfanswm o £800,000 yn y gronfa. Mae hyn yn helpu ysgolion i ddatblygu ffyrdd arloesol o ddatrys rhai o'r heriau recriwtio. Mae’r Brifysgol Agored wedi ymestyn ei llwybrau addysgu ar sail cyflogaeth, er mwyn cynnwys dylunio a thechnoleg a chyfrifiadureg o fis Medi 2023 ymlaen. Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi sefydlu 'Cadw Cyswllt' sy’n hyrwyddo cyfleoedd i fyfyrwyr yn Lloegr ddychwelyd i Gymru i baratoi i addysgu. Bydd y coleg yn dechrau cynllun mentora i fyfyrwyr israddedig yn fuan hefyd. Bydd y myfyrwyr hyn yn cael eu cefnogi gan athrawon newydd gymhwyso i fynd i addysgu. Rŷn ni hefyd wedi comisiynu Cyngor y Gweithlu Addysg i gynnal ymarfer cwmpasu, i ystyried llwybrau i addysgu ôl-16. Rwy’n edrych ymlaen at weld yr adroddiad hwnnw maes o law. Jeremy Miles AC: Dirprwy Lywydd, fel yr amlinellir, rydym yn datblygu amrywiaeth o ymyriadau i geisio cynyddu nifer yr athrawon. Fodd bynnag, os ydym am gynyddu cyfanswm nifer yr athrawon, mae angen gweithredu er mwyn cynyddu'r nifer sy'n cael eu hyfforddi, yn ogystal ag annog athrawon i aros o fewn y proffesiwn. Felly, heddiw, rwy'n falch o gyhoeddi bwrsariaeth cadw athrawon Cymraeg mewn addysg. Bydd y bwrsari o £5,000 ar gael i athrawon a enillodd statws athro cymwysedig o fis Awst 2020 ymlaen, ac sydd wedi cwblhau tair blynedd o ddysgu'r Gymraeg neu drwy gyfrwng y Gymraeg yn y cyfnod uwchradd. Bydd y bwrsari ar gael tan hydref 2028 i ddechrau, fel bod gennym ddata i ddeall a fydd darparu bwrsariaeth cadw yn annog athrawon i ymuno â'r proffesiwn ac i aros yn y proffesiwn. Gan droi at nodau eraill y cynllun. Mae mwy o waith i'w wneud i gynyddu nifer y cynorthwywyr addysgu a'r gweithwyr cymorth sy'n gallu gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg, yn enwedig i gefnogi ein dysgwyr mwyaf agored i niwed. Ond, rydym wedi gallu bwrw ymlaen â rhai camau, gan gynnwys cynllun peilot i roi blwyddyn ar leoliad i ddysgwyr sy'n gadael yr ysgol i ddod yn gynorthwywyr dysgu mewn clwstwr o dair ysgol gynradd yn Nhorfaen. Rydym wedi ariannu nifer o brosiectau i gynyddu nifer y cynorthwywyr addysgu drwy'r grant capasiti a lansiwyd gennyf y llynedd. Rwyf hefyd yn falch fod Cyngor Gwynedd yn bwriadu treialu swyddi amser llawn gyda rhai oriau yn gynorthwywyr dysgu a rhai oriau yn cefnogi gwasanaethau eraill, er enghraifft, gofal cymdeithasol, gofal plant neu gynlluniau chwarae dros wyliau'r haf. Y nod yw creu cynnig ffafriol, gan gynnig swydd drwy gydol y flwyddyn a 37 awr yr wythnos, gan apelio at weithwyr sydd â'r sgiliau iaith perthnasol. Byddwn yn penodi arweinydd gweithredu Cymraeg cenedlaethol i gefnogi datblygiad darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol cyfrwng Cymraeg a dysgu proffesiynol. Rydym yn parhau i gefnogi athrawon mewn ysgolion cyfrwng Saesneg i ddatblygu eu gallu i ddefnyddio ac addysgu'r iaith drwy'r cynllun sabothol. Rydym hefyd wedi ariannu swyddog cenedlaethol i weithio ar draws y consortia rhanbarthol, i ddatblygu rhaglenni cenedlaethol o ddysgu proffesiynol i gefnogi ymarferwyr. Mae'r gwaith hwn yn ei ddyddiau cynnar o hyd ar hyn o bryd, ond mae'n dod â'r cyfoeth o arbenigedd sydd gennym ledled Cymru at ei gilydd. Byddwch yn cofio y gall ymarferwyr addysg gael mynediad i gyrsiau drwy'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol am ddim ers mis Medi. Yn ddiweddar, rwyf wedi cytuno ar gyllid i'r ganolfan benodi swyddog cenedlaethol i weithio gyda'r consortia rhanbarthol, awdurdodau lleol a darparwyr cynlluniau sabothol, i ddarparu rhaglen gydlynol i ymarferwyr ddysgu Cymraeg. Jeremy Miles AC: Ochr yn ochr â'r gwaith yma, mae dau sefydliad arall yn rhan hanfodol o ddatblygu ein gweithlu. Rwyf wedi cytuno ar fwy o gyllid i’r Gymdeithas Ysgolion dros Addysg Gymraeg, CYDAG, i gefnogi ein hysgolion cyfrwng Cymraeg. Rwyf hefyd wedi cytuno i ariannu arweinydd iaith Gymraeg yn yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol i helpu gyda'n cynlluniau ni i gynyddu’r capasiti yn ein gweithlu a chefnogi pob arweinydd i gynllunio datblygiad y Gymraeg yn strategol yn eu hysgolion. Yr wythnos hon, byddwn ni’n cyhoeddi adnodd drafft a fydd yn helpu'r arweinwyr i werthuso eu taith i ddatblygu'r Gymraeg yn eu hysgolion. I gyflawni'r cynllun yn llwyddiannus, rhaid inni barhau gyda'r dull partneriaeth yma. Rydw i wedi sefydlu grŵp gweithredu allanol, sy’n cynnwys yr holl sefydliadau sydd wedi cyfrannu at yrru'r cynllun yn ei flaen. Diolch yn fawr i aelodau'r grŵp, y sefydliadau rydych chi’n eu cynrychioli, ac i'r cadeirydd annibynnol, Dr Rhodri Llwyd Morgan, am eich holl gefnogaeth a'ch gwaith caled hyd yn hyn. Mae llawer eto i'w wneud, ond, gyda'n gilydd, mae gen i ffydd y gallwn ni gael effaith go iawn, ac rwy’n edrych ymlaen at barhau i gydweithio i gyflawni'r cynllun a symud tuag at ein huchelgais, Cymraeg 2050. Laura Anne Jones AC: Diolch yn fawr am eich datganiad, Gweinidog. Rydym yn croesawu'r datganiad hwn heddiw yn fawr, mewn gwirionedd, er fy mod yn credu y gallai hyd yn oed fynd ymhellach eto, gan ei bod yn amlwg o ddata'r cyfrifiad diwethaf bod y Llywodraeth hon wedi bod yn mynd ar yn ôl o ran y Gymraeg ac, ar ôl 25 mlynedd mewn Llywodraeth, mae'n braf gweld y camau brys hyn yn cael eu cymryd nawr. Er fy mod yn cefnogi nodau a chyhoeddiadau'r datganiad yn llwyr heddiw, fel y bu'n rhaid ei wneud, os yw'r Llywodraeth hon wirioneddol o ddifrif am gael yr 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg hynny, mae gennyf rai cwestiynau am agweddau ymarferol a gwirioneddau hynny. Rydych wedi cynnwys llawer o'r pryderon roeddwn wedi eu hysgrifennu y bore 'ma, ac awgrymiadau, yn y datganiad hwn, sydd i'w groesawu'n fawr. Fel y dywedoch chi, bydd y coleg hefyd yn dechrau cynllun mentora cyn bo hir i'r myfyrwyr israddedig gael eu cefnogi gan athrawon sydd newydd gymhwyso i fynd i faes addysgu, sy'n swnio'n wych, ond beth fydd y cymhelliant ar gyfer athrawon sydd newydd raddio ymuno â'r cynllun ac ychwanegu at eu llwyth gwaith sydd eisoes yn drwm? Mae gen i rai pryderon ynghylch hyn gan fod niferoedd yn broblem o bosibl heb gymhelliad i ymuno â'r cynllun mentora. Yn ail, mae Llywodraeth Cymru'n dymuno cyrraedd y targed o 3,100 o athrawon cynradd sy'n gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2021; rydych chi ond wedi cyrraedd 2,871. Eich nod oedd cyrraedd targed o 600 o athrawon ysgol uwchradd a oedd yn dysgu Cymraeg fel pwnc, ond dim ond 391 oedd gennych erbyn hynny. Mae methu â chyrraedd y targedau hyn yn gondemniad niweidiol o fethiannau'r Gymraeg ym myd addysg gan y Llywodraeth Lafur hon hyd yma. Heb os, mae argyfwng recriwtio a chadw athrawon yng Nghymru ar hyn o bryd. Felly, sut gallwch chi fod yn sicr nad bwriad y targedau hyn rydych wedi'u cyhoeddi heddiw—sydd i'w croesawu—yw cael sylw yn y penawdau ac y byddwch yn eu cyrraedd y tro hwn? Ac a fyddwch yn barod, Gweinidog, i ddod yn ôl i'r Siambr hon yn fwy rheolaidd a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am hynny? Ac yn olaf, yn ôl y disgwyl, prin iawn yw'r athrawon Cymraeg eu hiaith yn y rhannau o Gymru sydd â'r nifer lleiaf o Gymry Cymraeg. Os yw'r ardaloedd hyn am ategu eu poblogaeth Gymraeg, yna mae'n hanfodol bod yr athrawon hyn sy'n siarad Cymraeg yn cael eu cymell i fyw a gweithio yn y cymunedau hynny. Ac oni bai fy mod i wedi ei golli yn y cynllun, sut mae'r cynllun hwn yn gwneud hynny mewn gwirionedd? Ac os nad yw'n cael ei gynnwys, a ydych chi'n cytuno bod angen ei gynnwys? Felly, Gweinidog, sut ydych chi a'r cynllun hwn yn mynd i gymell athrawon sy'n siarad Cymraeg i fyw a gweithio yn y cymunedau hynny lle mae llai o siaradwyr Cymraeg? Diolch. Jeremy Miles AC: Diolch i Laura Anne Jones am ei chwestiynau yn gysylltiedig â fy natganiad. Mae hi'n iawn i ddweud bod heriau o ran gwneud yn siŵr bod gennym y niferoedd o athrawon sy'n gallu addysgu'r Gymraeg ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd hi hefyd yn gwybod bod heriau ehangach o ran recriwtio athrawon, nid yn unig yn y DU mewn gwirionedd, ond yn rhyngwladol. Mae'r cynllun, wrth gwrs, yn gynllun a gyhoeddais y llynedd, yn hytrach na chynllun newydd heddiw, a bydd hi'n cofio, o'r drafodaeth a gawsom bryd hynny, bod fy agwedd ato wedi tueddu i fod yn bragmatig iawn. Felly, rydym wedi cydweithio ar nifer o bethau, gan gynnwys y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sydd wedi bod yn gweithio ar y cynllun mentora, fel y cyfeiriodd ati yn ei chwestiwn. Ac rwy'n credu bod pob un ohonom yn cytuno bod angen canolbwyntio ar yr elfennau hynny o'r cynllun y mae tystiolaeth yn dweud wrthym sy'n gweithio orau. Felly, os oes agweddau nad ydynt yn gweithio, byddwn yn rhoi'r gorau i'w gwneud nhw, ac os oes agweddau sy'n arbennig o lwyddiannus, gwnawn ni fwy o hynny. Felly, i raddau helaeth, ysbryd o gyflwyno ymarferol sydd wedi ysgogi gwaith pawb, ac rwy'n credu ei fod yn—. O fy safbwynt fy hun, mae dulliau creadigol iawn y mae'r cynllun yn eu gosod. Rwy'n credu ein bod wedi cyrraedd y cam lle mae'r her mor fawr bod angen i ni edrych arno o'r newydd. Fe welwch chi o fy natganiad fy mod wedi newid y cymwysterau sydd eu hangen i fynd i faes addysgu ac ati. Felly, mae'n debyg y byddai rhywfaint o hynny wedi bod yn fwy heriol mewn cyd-destun arall, ond, oherwydd yr heriau sy'n ein hwynebu, rydym wedi bod yn awyddus i fod mor greadigol â phosibl. Dydw i ddim yn cyhoeddi unrhyw dargedau newydd heddiw, ond mae'r pwynt mae'r Aelod yn ei wneud mewn perthynas â'r heriau lleol neu broffil recriwtio lleol yn gwbl gywir. Nid yw'n—. Byddwn i'n mynd ymhellach, a dweud y gwir; nid yw'n benodol hyd yn oed yn syml i'r ardaloedd hynny lle nad oes dwysedd o siaradwyr Cymraeg. Mewn gwirionedd—. Mae'n ddarlun cymhleth ledled Cymru, mewn gwirionedd. Ychydig iawn o ardaloedd lle byddech yn dweud yn hyderus nad oes problem o gwbl. Fodd bynnag, mae'n bwysig iawn ein bod yn gweithio gydag awdurdodau—ac ar lefel ysgol hefyd a dweud y gwir, ond yn sicr gydag awdurdodau lleol—i ddeall proffil eu hardal leol. A bydd hi'n cofio o'r drafodaeth yn y Siambr hon y llynedd mai fy mwriad yw cyhoeddi, bob dwy flynedd, dargedau diwygiedig, ffigurau perfformiad diwygiedig, ac y bydd hynny'n cael ei wneud ar sail leol. Felly, y flwyddyn nesaf fydd yr amser ar gyfer cyhoeddi hynny, dwy flynedd ers sefydlu'r cynllun, ac rydym wrthi'n gweithio gyda grŵp o awdurdodau lleol ar hyn o bryd i ddeall y data a'r ffordd orau o gofnodi'r data, fel y gallwn gael cyd-berchnogaeth o'r her, os mynnwch chi. Ond rwy'n glir iawn: os oes dulliau arbennig o greadigol y mae ysgolion am allu eu dysgu'n lleol, dylid eu galluogi i ystyried y rheini, hyd yn oed pan fydd yn rhaid i ni feddwl yn greadigol am sut i'w cyflawni. Ac mewn gwirionedd, bwriad y cyllid o £800,000, y soniais amdano yn fy natganiad, yw cefnogi rhai o'r dulliau arloesol hynny. Ac mae dulliau da wedi bod o ran ysgolion yn cydweithio, er enghraifft, a dylid annog hynny. Heledd Fychan AS: Diolch, Weinidog, am y datganiad heddiw. Yn amlwg, mae yna nifer iawn o bethau i'w croesawu fan hyn, ac, yn sicr, mae hon yn mynd i fod yn her i ni o ran yr uchelgais cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr, 'Cymraeg 2050', ond dwi'n falch o weld bod yna arian ar gael er mwyn gallu treialu hefyd. Dwi'n falch hefyd o'r pwyslais o ran cynorthwywyr dosbarth, oherwydd, yn aml, rydym ni'n sôn am athrawon, ond maen nhw'n chwarae rôl mor allweddol o fewn ein sefydliadau addysgol ni, felly, dwi'n falch o weld y pwyslais hwnnw. Ond, yn amlwg, bydd hi'n ddifyr gweld beth sy'n dod allan o'r treialon hynny, fel ein bod ni, gobeithio felly, efo modelau er mwyn i ardaloedd eraill fedru cael y budd. Yn amlwg, mae yna her hefyd o ran cadw athrawon, ynghyd â recriwtio. Wrth i fi fynd o gwmpas ysgolion yr wythnos diwethaf, mi oedd prifathrawon yn dweud wrthyf fi mai un o'r heriau mwyaf y maen nhw'n ei gael ydy recriwtio ar y funud, a bod pobl efallai eisiau gweithio'n fwy hyblyg, ac felly, mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn benodol, fod angen i ni fod yn sicrhau bod pethau fel hyn ar gael. Mi fydd hi'n ddifyr gweld pa effaith y mae hynny'n ei gael, a dwi'n siŵr y byddwch chi'n monitro'n agos iawn sut y mae'r cynlluniau yma'n gweithio, ac o ran y bwrsari, a faint o bobl fydd, gobeithio, yn cael eu denu felly oherwydd bod yr arian hwn ar gael. Yn amlwg, tra bod y cynllun gweithlu Cymraeg mewn addysg, a gyhoeddwyd bron i flwyddyn yn ôl, yn gam yn y cyfeiriad cywir, yn sicr, o ran gwireddu targedau presennol y Llywodraeth ar gyfer y gweithlu addysg, fel rydyn ni wedi sôn amryw o weithiau, rydyn ni'n gwybod ein bod ni ddim yn cyrraedd y targed hwnnw o 550 ar y funud, ei fod o ar tua 250, a bod hynny, felly, yn heriol dros ben. Mae gwireddu uchelgais, wrth gwrs, y Papur Gwyn rŵan, sydd hyd yn oed yn fwy uchelgeisiol—mi fydd hi'n ddifyr gwybod beth ydy'r targedau o ran hynny. Oherwydd, os ydyn ni'n methu cyrraedd y 550 sydd eu hangen, pa gynlluniau ychwanegol sy'n cael eu datblygu i wireddu uchelgais y Bil hwnnw? Ac ydy'r Gweinidog yn gallu'n diweddaru ni o ran y niferoedd sy'n hyfforddi eleni, sef yn y flwyddyn academaidd bresennol, 2022-23, i ddysgu yn y sector Cymraeg, a sut mae'r niferoedd yn edrych ar gyfer y cwrs hyfforddi athrawon fydd yn cychwyn ym mis Medi 2023? Mae'r Cyngor Gweithlu Addysg wedi cyhoeddi targed o 30 y cant ar ddarparwyr, ac yn dweud: 'Mae’n ddisgwyliad gan Lywodraeth Cymru i bartneriaethau AGA weithio tuag at sicrhau bod 30% o'r myfyrwyr a dderbynnir yn paratoi i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.' Ond i ba raddau y mae'r darparwyr yn bwrw'r targed hwnnw ar hyn o bryd, a beth ydy'r cymhelliad iddyn nhw gyrraedd y targed, a beth sy'n digwydd iddyn nhw os ydy'n nhw'n methu'r targed flwyddyn ar ôl blwyddyn? Oherwydd, yn sicr, rydyn ni'n gallu cael y targedau hyn, ond os rydyn ni eisiau—a dwi'n gwybod ein bod ni eisiau—cyrraedd y targed yna o filiwn o siaradwyr Cymraeg, yna mae'r rhain yn heriau rydyn ni angen cael datrysiadau iddyn nhw. Ac a gaf i ofyn hefyd, o ran y cyfrifoldebau, maen nhw'n disgyn rŵan drwy wahanol—wel, ar wasgar buasech chi'n gallu ei ddweud, efo'r Llywodraeth, y cyngor gweithlu, darparwyr hyfforddiant cychwynnol, er enghraifft, y prifysgolion, awdurdodau lleol, y coleg Cymraeg, y ganolfan dysgu Cymraeg: ydy hyn yn arwain at ryw fath o strategaeth sy'n eithaf darniog ar adegau, neu ai'r bwriad ydy bod yna rywun efo'r cyfrifoldeb i arwain ar hyn? Lot o gwestiynau, mae arnaf i ofn, Weinidog. Dwi'n meddwl bod yna nifer o bethau i'w croesawu, ond, yn amlwg, bydd yn rhaid i ni weld beth sy'n gweithio, beth sydd ddim, ac, yn sicr, rydyn ni eisiau cael y neges yna allan bod yna broffesiwn sy'n werth chweil, a bod yna gyfraniad pwysig sy'n cael ei wneud gan athrawon a chynorthwywyr dosbarth sy'n dysgu ledled Cymru rŵan. Ond, yn sicr, rydyn ni eisiau cadw'r proffesiwn yn un atyniadol, ac mae yna gamau i'w croesawu yn y fan hyn. Jeremy Miles AC: Diolch i'r Aelod am y cwestiynau—cwestiynau teg, oll. O ran y bwrsari, fel y gwnes i ei ddweud yn y datganiad, y cynllun yw cynnal y bwrsari am bum mlynedd a gweld beth sy'n digwydd ar lawr gwlad. Os bydd e'n effeithiol, fe wnawn ni barhau, wrth gwrs, ond mae'n bwysig ein bod ni'n gweld beth sy'n gweithio'n ymarferol, felly dyna'r cynllun o ran hwnnw. Mi wnaf i ysgrifennu at yr Aelod, os caf i, ynglŷn â'r ffigurau sy'n dod eleni, ond mae'r trend wedi bod yn gadarnhaol dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ond mi wnaf i ysgrifennu â'r manylder i'r Aelod yn hynny o beth, a chyhoeddi'r llythyr. O ran cwestiynau ynglŷn â'r uchelgais yn y Bil sy'n cael ei ddisgrifio yn y Papur Gwyn, a sut y gallwn ni fynd i'r afael â hynny, roedd amryw o'r cwestiynau a oedd gan yr Aelod yn ymwneud â beth yw impact y Bil a beth yw'r cyfle sy'n y Bil i fynd i'r afael â hyn. Un o'r pethau rwy'n credu sy'n bwysig i ni ei wneud, ac sydd ar waith ar hyn o bryd, yw deall yn well beth yw proffil sgiliau'r gweithlu presennol. Felly, wrth gwrs mae mwy o bobl yn medru siarad y Gymraeg nag sydd yn dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn ein hysgolion ni—mae pawb yn adnabod athrawon sy'n siarad Cymraeg ond yn dysgu pynciau mewn ysgolion Saesneg. Felly, mae'r gwaith hwnnw o ddeall y dosbarthiad, os hoffwch chi, o ble mae'r sgiliau a ble mae'r gweithlu, yn bwysig yng nghyd-destun gwireddu'r Bil newydd ac annog y rheini, efallai gydag ychydig yn fwy o hyder ac ychydig yn fwy o hyfforddiant, ychydig efallai o wersi, a fyddai'n gallu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg neu ddysgu'r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, hyd yn oed. Felly, mae'r gwaith hwnnw'n bwysig ac mae hynny'n digwydd eisoes. O ran rôl y partneriaethau, rŷn ni wrthi, ar hyn o bryd—. Rŷn ni wedi gorffen y gwaith, fel mae'n digwydd; rŷn ni ar fin gwneud datganiad ynglŷn â gwerthuso sut mae'r partneriaethau yn cael eu trwyddedu, os hoffwch chi, i ddarparu'r gwaith maen nhw'n ei wneud, ac un o'r pethau rŷn ni wedi bod yn gweithio arnyn nhw yw sicrhau bod y ddarpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg yn gryfach. Felly, bydd honno'n elfen amlycach. Bydd datganiad yn dod maes o law am hynny yn gyffredinol. Ond, o ran rôl y partneriaethau, rôl y consortia, rôl Estyn, rôl y cyrff addysgiadol a thu hwnt, mae hynny'n dod ynghlwm, os hoffwch chi, yn y Bil arfaethedig sydd gyda ni ar y gweill ar y cyd, drwy'r cynllun cenedlaethol, fydd yn gyfle—mae hyn yn cael ei ddisgrifio yn y Papur Gwyn, fel mae'r Aelod yn gwybod—bydd yn gyfle i ddisgrifio cyfrifoldebau pob aelod, pob rhan, o'r system, os hoffwch chi, a bod hynny'n dod ynghyd mewn cynllun cenedlaetholbydd Gweinidogion yn ei gyhoeddi. Bydd y cynllun hwnnw hefyd yn gosod ffigurau ar gyfer recriwtio—targedau recriwtio—hefyd. Felly, bydd y cwbl yn dod ynghlwm yn hwnnw. Mae'r pwynt yn deilwng. Mae cyfrifoldeb mewn amryw rannau o'r system ar hyn o bryd. Mae gwaith y grŵp allanol wedi corlannu lot o'r bobl sydd yn gweithio yn y maes, ac mae hynny wedi bod yn ddefnyddiol iawn. Rwy'n bwriadu cwrdd â nhw ym mis Mehefin. Felly, dyna sut mae'r Bil yn mynd i'r afael â rhai o'r heriau yma hefyd.FootnoteLink Gwybodaeth ychwanegol at y Cyfarfod Llawn Yn olaf, Samuel Kurtz. Samuel Kurtz MS: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae llawer i'w groesawu yn y datganiad yma heddiw, Weinidog, ond byddwch yn ymwybodol o'r pryderon ynglŷn â recriwtio athrawon, yn enwedig o ran sicrhau bod ein gweithlu addysgol o gefndir mor amrywiol â phosibl. Yn aml, mae athrawon cyfrwng Cymraeg yn addysgu yn yr un ysgol y buont yn ddisgybl ynddi, yn yr un pentref, gyda chydweithwyr mewn sefyllfaoedd tebyg iawn, ac, er bod hyn yn beth da mewn rhai ffyrdd, mae'n golygu weithiau bod diffyg amrywiaeth gwirioneddol yn y gweithlu. O ystyried hyn, sut mae Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau bod ein hathrawon o gefndir amrywiol? Diolch, Dirprwy Lywydd. Jeremy Miles AC: Mae gyda ni mwy nag un cymhelliad ariannol i ddenu pobl i mewn i'r sector, er enghraifft o gymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, ond hefyd rhai eraill, ac mae'n bosib cyfuno'r cymhellion hynny gyda'r cymhellion sydd ar gael ar gyfer dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Ond rwy'n gwybod bod ganddo fe ddiddordeb penodol mewn beth rŷn ni'n gallu ei wneud i ddenu pobl nôl i Gymru i weithio yma efallai sydd wedi bod yn astudio dramor neu astudio yn Lloegr. A dyna ran o'r gwaith mae'r coleg Cymraeg yn ei wneud ar ein rhan ni i greu perthynas, os hoffwch chi, gyda'r rheini sydd wedi bod yn astudio efallai dros y ffin, a'u hannog nhw i ddod nôl. Ond mae'r cymhelliad roeddwn i'n sôn amdano fe heddiw yn y datganiad, sydd ar gael i gynnal pobl yn y proffesiwn, ar gael i'r rheini sydd wedi'u hyfforddi yng Nghymru ac sydd efallai wedyn yn gymwys ar gyfer Iaith Athrawon Yfory fel cymhelliad, ond mae hefyd yn gymwys ar gyfer rheini efallai sydd wedi hyfforddi tu allan i Gymru lle mae'r cyngor gweithlu wedi cydnabod y QTS sydd ganddyn nhw. Efallai eu bod nhw ddim wedi'u hyfforddi drwy gyfrwng y Gymraeg, ond eu bod nhw bellach yn gweithio yng Nghymru ac yn dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg—mae'r rheini hefyd yn gymwys ar gyfer y cymhelliad. Felly, gobeithio bod hynny'n rhoi rhywfaint o sicrwydd i'r Aelod. Diolch, Weinidog. 5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Strategaeth Ddiagnostig Genedlaethol Symudwn ymlaen i eitem 5, datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar strategaeth ddiagnostig genedlaethol, a galwaf ar y Gweinidog, Eluned Morgan. Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Profion neu weithdrefnau sy'n cael eu defnyddio i nodi clefyd neu gyflwr claf yw diagnosteg. Mae darganfod beth sy'n bod ar glaf yn hanfodol er mwyn eu trin. Gall diagnosis prydlon achub bywydau, arbed amser ac arian, a gall wella canlyniadau cleifion. Mae gan ddiagnosteg ran bwysig hefyd i'w chwarae mewn iechyd ataliol drwy ganfod clefydau a salwch cyn i symptomau mawr ddatblygu. Mae diagnosteg yn aml yn cael eu hisrannu'n gategorïau eang sy'n adlewyrchu eu nodweddion cyffredin. Mae enghreifftiau'n cynnwys delweddu, megis pelydrau-x, sganiau CT, MRI a PET; patholeg, megis dadansoddi gwaed, wrin neu biopsïau meinwe; ac endosgopi. O tua 660,000 o bobl ar restrau aros yn y GIG yng Nghymru, rhagwelir y bydd angen o leiaf un prawf diagnostig ar gyfer tua 85 y cant i helpu i lywio eu rheolaeth glinigol, gyda thua 30,000 yn aros am brofion a nodwyd. O'r herwydd, mae blaenoriaethu diagnosteg fel elfen allweddol o'n system iechyd yn hanfodol i ddarparu gofal priodol i'n poblogaeth. Rydym ni’n gwybod bod diagnosteg yn chwarae rhan bwysig wrth nodi cyflyrau meddygol yng Nghymru, a dyna pam, yn wahanol i Loegr, ein bod ni’n cynnwys arosiadau diagnostig yn ein ffigurau rhestrau aros, ac mae’r rhain yn cyfrif am tua 6 y cant o'n niferoedd ar restr aros cyffredinol. Mae'n bwysig nodi, er heddiw ein bod ni’n cyhoeddi strategaeth ar gyfer diagnosteg, mae gennym ni eisoes nifer o gynlluniau datblygedig da sydd eisoes yn cyflawni ar gyfer rhai mathau o arbenigeddau diagnostig. Mae gennym ni raglenni cenedlaethol ar gyfer delweddu, patholeg, endosgopi, gwyddor gofal iechyd a genomeg sy'n cwmpasu'r rhan fwyaf o dechnegau diagnostig ar y cyd. Mae'r rhain wedi bod yn darparu arweiniad ac adnoddau i ddatblygu'r meysydd allweddol hyn, megis cynnal offer cyfredol a hyfforddiant y gweithlu proffesiynol sydd ei angen i gynnal y profion hyn. Dros y bedair blynedd ddiwethaf, rydym ni wedi buddsoddi dros £55 miliwn ar gyfer offer ac i ddarparu diweddariadau ac offer newydd, ac ers 2016, rydyn ni wedi cynyddu nifer yr histopatholegwyr o 14 y cant, staff radioleg glinigol o 16 y cant, ac mae lleoedd hyfforddi radiograffydd diagnostig wedi cynyddu o 34 y cant. Ond rydym ni’n hynod ymwybodol o'r effaith a achoswyd gan y pandemig a'r angen i fynd ymhellach i helpu i adfer y gwasanaethau hanfodol hyn a sicrhau bod unrhyw ymyrraeth newydd yn gosod sylfaen i'n gweledigaeth o'r hyn y byddwn ni ei angen yn y blynyddoedd i ddod. Rhaid i mi ddweud yn glir nad yw cymhlethdod a maint y mater hwn yn ddibwys. Er mwyn darparu gwasanaethau diogel ac effeithiol bydd angen cydbwysedd gofalus rhwng buddsoddi mewn offer, seilwaith a chyfleusterau, niferoedd digonol o bersonél sydd â chymwysterau priodol, a manteisio i’r eithaf ar ein hadnoddau drwy ailgynllunio llwybrau clinigol. Gyda hyn mewn golwg rydym ni heddiw yn ymrwymo i strategaeth sy'n dwyn ynghyd ein huchelgeisiau hanesyddol o dan un strwythur llywodraethu i ddatblygu cynnydd cyflym, llawn effaith. Ym mis Ebrill 2022, fe wnes i lansio'r cynllun trawsnewid a moderneiddio gofal oedd wedi'i gynllunio a lleihau rhestrau aros y GIG ar gyfer y GIG yng Nghymru. Mae'r cynllun hwn yn amlinellu amcanion adfer a thrawsnewid ar gyfer gofal wedi'i gynllunio yng Nghymru, i leihau amseroedd aros a symud tuag at wasanaethau dewisol a diagnostig cynaliadwy erbyn 2026. Heddiw rwy'n cyhoeddi'r strategaeth adfer a thrawsnewid diagnosteg newydd, a oedd yn un o brif amcanion y cynllun a lansiwyd y llynedd. Ei nod yw gwella mynediad at brofion diagnostig, gwella canlyniadau cleifion, a chefnogi'r gwaith o ddatblygu ein gweithlu diagnostig ar draws GIG Cymru. Mae'r strategaeth hon yn nodi sut y byddwn yn creu capasiti ychwanegol, symud i ddull cyfunol ar gyfer profion diagnostig, ac yn darparu arweinyddiaeth trwy raglen diagnosteg genedlaethol. Bydd prynu yn ddiweddar hen adeiladau British Airways yn Llantrisant, gerllaw Ysbyty Brenhinol Morgannwg, yn galluogi Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg i ddatblygu gwasanaeth rhanbarthol ar gyfer y de-ddwyrain i ddarparu diagnosteg i ffwrdd o leoliadau traddodiadol ysbytai, cynyddu mynediad i gleifion, dod â rhestrau aros i lawr, a sicrhau bod gan ein hysbytai y capasiti i helpu'r rhai sydd angen gofal brys. Rydym ni hefyd yn archwilio’r opsiwn o ddefnyddio'r safle i ddarparu ar gyfer uned endosgopi rhanbarthol, gyda dwy theatr y gellir eu defnyddio fel academi hyfforddi sgiliau clinigol. Mae'r strategaeth yn amlinellu dull cyfun o alinio ymyriadau ar unwaith â rhagfynegiadau galw yn y dyfodol er mwyn hwyluso trawsnewid cynaliadwy yn y tymor hir. Eluned Morgan AC: Er mwyn sicrhau trawsnewid, mae’r strategaeth yn rhoi pwyslais mawr ar y gweithlu diagnostig aml-broffesiynol yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru—er enghraifft, y 7,080 o wyddonwyr gofal iechyd sy'n fedrus wrth ddatblygu, treialu a gwerthuso technegau a ffyrdd newydd o weithio. Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru, HEIW, yn datblygu cynllun gweithlu diagnostig i lywio'r llif hyfforddi. Bydd hyn yn cynnwys rolau ymarferwyr uwch fel gwyddonwyr biofeddygol a radiograffwyr sy'n adrodd, a chefnogaeth i rolau newydd, fel gwyddonwyr clinigol ymgynghorol, a fydd yn rhan annatod o'r gwaith o ailgynllunio'r gwasanaethau. Wrth i gyfleuster genomeg newydd o'r radd flaenaf gael ei ddatblygu ym mharc gwyddorau bywyd Cardiff Edge, bydd sefydliadau partner sy'n darparu gwasanaethau ac ymchwil yn dod at ei gilydd yn gorfforol. Bydd hyn hefyd yn rhoi seilwaith a fydd yn helpu i greu amgylchedd sy'n hybu arloesi ac yn darparu cyfleoedd i gydweithio â diwydiant. Yn y maes delweddu, mae capasiti'r offer sganio digidol sefydlog positron emission tomography, neu PET, yn cael ei ymestyn. Bydd hyn yn caniatáu i ni gynnal mwy o sganiau ar lefel fwy cywir a dibynadwy na'r offer sganio analog a symudol sydd ar gael ar hyn o bryd. Yn y gogledd, rŷn ni wedi cyflwyno patholeg gellog ddigidol. Mae hyn yn cyflymu'r amser adrodd ac yn lleihau'r amser y mae'n ei gymryd i roi diagnosis o lymffoma. Mae'r hyblygrwydd sy'n dod gyda gweithio'n ddigidol wedi helpu inni recriwtio patholegwyr ymgynghorol ac mae naw o rai ychwanegol yn gweithio ar draws bwrdd Betsi Cadwaladr erbyn hyn. Bydd y rhaglen trawsnewid diagnosteg yn datblygu cynllun gweithredu sy'n adeiladu ar y mentrau hyn er mwyn dylunio gwasanaethau gwell a fydd yn gwella canlyniadau iechyd cleifion, gan leihau anghydraddoldeb ledled Cymru. Bydd yn dod â'r holl raglenni diagnosteg cenedlaethol at ei gilydd o dan un weledigaeth strategol glir, gydag arweiniad gan fwrdd diagnosteg cenedlaethol sy'n cael ei arwain gan glinigwyr mewn partneriaeth â byrddau iechyd. Drwy hynny, byddwn yn gwneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd ar gael ac yn rhoi ffocws ar y cyd ar flaenoriaethau allweddol, gan fynd i'r afael ag uchelgeisiau y soniwyd amdanyn nhw o'r blaen. Mae hyn yn cynnwys mynd ati i greu modelau cenedlaethol a rhanbarthol ar gyfer gwasanaethau bregus fel patholeg i yrru llif cleifion a sicrhau bod gwasanaethau i wella diogelwch cleifion yn cael eu hachredu'n llawn. Yn olaf, rŷn ni'n cyflymu'r trawsnewid mewn modelau gwasanaethau diagnostig er mwyn gwella ac arloesi yn y ffordd rŷn ni'n trin cleifion, gan gefnogi ac annog cydweithio rhwng cyrff y gwasanaeth iechyd, y Llywodraeth, y byd academaidd, y trydydd sector a diwydiant. Heddiw, mae treial newydd yn cael ei lansio sy'n gwerthuso manteision defnyddio technoleg diagnostig biopsi hylif ar gyfer pobl sydd, o bosibl, â chanser yr ysgyfaint. Bydd yr astudiaeth, sy'n cynnwys mwy na 1,200 o gleifion, yn ystyried sut y mae defnyddio prawf gwaed sy'n llaiinvasive yn gallu lleihau'r amser rhwng diagnosis a thriniaeth. I gloi, dwi'n cydnabod bod cael profion diagnostig yn brydlon yn hanfodol i ganlyniadau cleifion, a dyna pam rŷn ni'n lansio'r strategaeth hon heddiw. Bydd y strategaeth yn creu gwasanaethau diagnostig modern a chynaliadwy yn yr NHS ac yn gwella iechyd a lles pobl yng Nghymru. Diolch yn fawr. Russell George AC: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad heddiw a'r copi ymlaen llaw, wrth gwrs, hefyd? Bydd unrhyw beth all helpu i wella gwasanaethau diagnostig ac, yn y pen draw, dod ag amseroedd aros i lawr yn sicr yn cael eu cefnogi gennyf i a'r Ceidwadwyr Cymreig. Rwy’n credu, o ran dod ag amseroedd aros i lawr, mae'n rhaid i hyn fod, wrth gwrs, y brif flaenoriaeth i'r Llywodraeth. Weithiau, rwy’n meddwl bod y Llywodraeth, dros y ddwy flynedd ddiwethaf, wedi canolbwyntio ar feysydd eraill nad ydw i'n credu y dylid bod wedi eu blaenoriaethu fel y cawsant eu blaenoriaethu. Dyma ddylai fod y brif flaenoriaeth i'r Llywodraeth, felly, yn yr ystyr hwnnw, byddwn i wedi hoffi i hyn fod wedi dod ychydig yn gynt, wrth gwrs. Felly, diolch am eich cynllun, a gyhoeddwyd yr wythnos hon, Gweinidog. Cwpl o'r pethau wnes i eu nodi: o ran data—mor bwysig. Yn y pwyllgor iechyd, rydyn ni'n clywed gan dystion yn gyson am y diffyg data—y diffyg data sydd ar gael—ac mae data mor bwysig er mwyn llywio penderfyniadau a pholisi'r Llywodraeth. Rwy’n ei weld yn cael ei grybwyll nifer o weithiau yn y ddogfen, ac mae'n debyg mai'r cwestiwn yw: ydych chi'n awgrymu, efallai, nad yw'r data, a chael y data hwnnw, wedi bod ar gael o'r blaen fel y dylai fod? Ai dyna pam mae'n ffurfio blaenoriaeth yn eich cynllun? Mae llawer y gallaf gytuno arno yn y cynllun. Mae rhai pethau rwyf i’n meddwl amdanyn nhw, 'Iawn.' Mae un pwynt yn fan hyn, mae hyn yn y naw thema ffocws: 'Defnyddio ymchwil i ofyn cwestiynau pwysig a gwella canlyniadau.' Felly, mae agwedd yma ynglŷn â bod yna ddatganiadau syml iawn, amlwg iawn yn y cynllun, ac rydw i’n cwestiynu: pam maen nhw yno os ydyn nhw mor syml? Ai oherwydd nad yw Llywodraeth yn gwneud y pethau hyn ar hyn o bryd? Mae pwynt yma am, 'gael mwy o bartneriaethau dibynadwy'. Wrth gwrs, mae hynny'n wych, i gael partneriaethau mwy dibynadwy. Onid yw Llywodraeth Cymru wedi cael digon o bartneriaethau dibynadwy o'r blaen? Dyma'r cynllun trawsnewid ar gyfer y ddwy flynedd nesaf, felly tybed a allwn ni ddisgwyl unrhyw beth mwy manwl, cynllun manylach yn cael ei gyflwyno o ganlyniad, neu, dim ond i egluro, ai dyma'r cynllun cyffredinol a fydd yn eistedd o'n blaenau ac na ddylem ddisgwyl unrhyw fanylion pellach mewn amser? Yr hyn, wrth gwrs, oedd yn bryder mawr i ni i gyd yw y bu gostyngiad o 40,000 yn nerbyniadau ysbytai canser yn ystod cyfnod y pandemig. Yn wir, cafodd 1.3 miliwn o apwyntiadau a dros 50,000 o lawdriniaethau eu canslo rhwng Ebrill 2020 a Medi 2021. Rydym ni’n deall pam, wrth gwrs, ac rydym ni’n deall pam y cafodd llawer o wasanaethau diagnostig eu hoedi a'u stopio. Rydyn ni'n deall pam. Roedd hynny'n digwydd ar draws y DU ac ar draws y byd, ond tybed, Gweinidog, os oes unrhyw synnwyr gennych chi o ba wersi y gellid eu dysgu o ran pandemigau'r dyfodol, efallai. Cwestiwn mawr, am wn i, ond rhai safbwyntiau ac ystyriaethau cynnar y gallai fod gennych chi yn hynny o beth. Faint yn rhagor o apwyntiadau sy'n cael eu colli ar hyn o bryd? Sawl apwyntiad sy'n cael eu colli nawr? Rwyf i wedi clywed cymaint o bobl—. Un o'r problemau mwyaf yn fy mag post i, fel y bydd i'r rhan fwyaf o Aelodau, yw pobl sy'n ei chael hi'n anodd cael mynd at feddyg teulu yn brydlon. Nawr, o ystyried bod y rhan fwyaf o'r apwyntiadau cyntaf i gleifion allanol yn cael eu sbarduno mewn ymateb i gais gan feddyg teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol arall mewn gofal sylfaenol a chymunedol i helpu gyda diagnosteg, a yw'n deg dweud bod yr anallu hwn i weld meddyg yn tyfu’n oedi sylweddol i'r llwybr diagnostig? Rwy'n sylwi yn eich cynllun eich bod chi'n siarad am fwy o arbenigwyr diagnostig. Mae hynny'n dda, ond nid yw hynny’n mynd i helpu, wrth gwrs, os nad oes modd i bobl gael eu cyfeirio atyn nhw gan eu meddyg teulu. Felly sut mae Llywodraeth Cymru'n sicrhau bod gennym ni fwy o feddygon teulu i weld mwy o gleifion mewn modd mwy amserol er mwyn datrys y mater rwyf i newydd ei amlinellu? Byddwn i'n awgrymu cymryd golwg, wrth gwrs, ar gynllun mynediad meddygon teulu y Ceidwadwyr Cymreig. Rwy'n falch o weld llawer o sôn am hybiau diagnostig yn eich cynllun, Gweinidog. Rydym ni wedi clywed llawer o ganlyniadau eithaf cadarnhaol o ran yr hybiau diagnostig. Maen nhw'n gwneud llawer o synnwyr, rwy'n falch o'u gweld yn y cynllun ac efallai y gallai'r Gweinidog amlinellu ble rydyn ni gyda hynny. Rwy’n credu bod ganddom ni bump yn ardaloedd y saith bwrdd iechyd, ond faint yn fwy allwn ni ddisgwyl eu gweld ac erbyn pryd y dylem ni eu disgwyl nhw? Ond rwy’n sylwi arnyn nhw yn y cynllun, sy'n dda i weld. Yn olaf, dim ond i godi ap y GIG, rydyn ni wedi cael ychydig o wybodaeth, rwy'n credu, mewn datganiad ysgrifenedig yr wythnos diwethaf ar hynny. Fe wnaethon ni alw am hynny, fel Ceidwadwyr Cymreig, fel rhan o'n bwndel technoleg GIG. Rwy'n credu bod hyn yn bwysig iawn hefyd, ond, o ran eich datganiad heddiw a gwasanaethau diagnostig, a allwch chi roi ymdeimlad i ni a fydd y systemau diagnostig yn manteisio ar yr ap ac yn caniatáu i gleifion gael mynediad at gofnodion a diweddariadau drwyddo o ran eu taith diagnosteg, yn ogystal? Diolch. Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr, Russell. Diolch. Hoffwn i ei gwneud hi'n hollol glir nad ydyn ni wedi bod yn eistedd o gwmpas yn troi’n bodiau am y ddwy flynedd ddiwethaf ers i'r pandemig ddechrau. Mae hon yn strategaeth sy'n dod â llwyth o raglenni cenedlaethol at ei gilydd sydd wedi bod ar y gweill ac sydd eisoes ar y gweill, gan gynnwys delweddu, genomeg, patholeg, gofal iechyd mewn gwyddoniaeth ac endosgopi. Felly, beth rydyn ni'n ceisio ei wneud, drwy dynnu'r rhain i gyd at ei gilydd—ac fe wnaethoch chi ofyn am ddata. Os ydym ni’n integreiddio'r data sy'n berthnasol i'r holl wahanol lwybrau hynny ar un platfform, yna rydych chi'n cael arbedion maint gwell, rydych chi'n cael gwahanol ddiagnosisau yn gallu cael eu cymharu â'i gilydd, gan sicrhau bod y rheiny'n cael eu hanfon i lawr y llwybr priodol. Felly, mae data'n bwysig, ond mae rhoi'r data hwnnw ar un llwybr er gwaethaf bod yr holl gynlluniau cenedlaethol hyn ar waith yn mynd i fod yn newid allweddol yn y dyfodol. Dyma'r cynllun cyffredinol, ond y gwaith manwl o ran sicrhau bod hyn yn cael ei gyflawni—. Dydw i ddim yn bwriadu dod â hynny yn ôl i'r Senedd dro ar ôl tro, oherwydd rydw i wedi penodi bwrdd diagnostig cenedlaethol, sy'n mynd i gael ei arwain gan ddirprwy brif swyddog gweithredol y GIG yng Nghymru, gan ddod â'r arbenigwyr hynny o'r gwahanol feysydd arbenigol, i wneud yn siŵr ein bod ni’n glynu ac yn cyflawni'r cynllun hwn, oherwydd ei fod, fel rydych chi’n ei ddweud, yn hanfodol i gyflawni'r gostyngiadau hynny yn yr amseroedd aros. Fe wnaethoch chi sôn bod rhesymau da dros ganslo cymaint o lawdriniaethau yn ystod pandemig COVID; rydym ni'n dal ar gyfnod o ddal i fyny. Un o'r pethau rydyn ni'n ceisio ei wneud yma yw nid dim ond ad-drefnu gwasanaethau, trwy, er enghraifft, symleiddio'r llwybrau, gwneud yn siŵr, pan fo hynny'n briodol, fod pobl yn mynd yn syth i gael eu profi, gan sicrhau bod gennym ni ganolfannau rhanbarthol. Ac ydych, rydych chi'n siarad llawer am eich hybiau, ac mae hwb yma yn dod yn Llantrisant. Holl bwynt hyn yw y gallwn ni eu cadw draw o'r canolfannau brys, fel y bydd y gwaith brys yn cario ymlaen ac na fyddwn yn atal y diagnosteg sy'n digwydd. Dydi hi ddim yn hawdd gwneud hynny. Os nad oes gennych chi sylfaen poblogaeth enfawr mewn dinasoedd mawr, fel maen nhw'n ei wneud mewn rhannau o Loegr—. Mae gennym ni ddwy ganolfan boblogaeth fawr yng Nghaerdydd ac Abertawe, lle mae gennych chi fwy nag un ysbyty mewn ardal benodol, lle gallwch chi wahanu gwaith ar wahân i waith brys. Ond dyna pam y bydd y canolfannau diagnostig annibynnol newydd hyn, rwy'n meddwl, yn ddefnyddiol. O ran cael gafael, wrth gwrs, rydych chi wedi bod yn clywed, rwy'n siŵr, am y materion mewn perthynas â chael gafael ar feddyg teulu yn Lloegr. Rydyn ni wedi newid y contractau yma yng Nghymru. Mae'r rheiny wedi bod yn wirfoddol, er enghraifft, hyd at fis Ebrill, o ran y dagfa 8 y bore. Mae hynny bellach yn rhan ac yn ddisgwyliad o'r cytundeb newydd a ddechreuodd ym mis Ebrill, felly yn amlwg, byddwn yn dymuno plismona hwnnw i wneud yn siŵr bod pobl yn gweithredu hynny'n llawn ac yn parchu'r contractau hynny. Mae canolfannau diagnostig cyflym, rwy'n meddwl, ym mhob bwrdd iechyd—efallai nid Powys—eisoes, felly mae'r hyn rydyn ni'n siarad amdano yma yn gynnig gwahanol, ond wrth gwrs, bydd hynny i gyd yn cael ei fwydo i'r strategaeth gyffredinol hon. O ran yr apiau—a byddwch chi’n gweld ein bod ni'n symud ymlaen â hynny—yr hyn sy'n debygol o ddigwydd gyda'r apiau yw y byddwn ni'n parhau i adeiladu ar yr ap, bydd pethau'n cael eu newid wrth i ni symud ymlaen gyda'r ap. Mae llwyfan lle gallwn ni barhau i ychwanegu pethau. Bydd disgwyl i gleifion allu gweld eu cofnodion. Yn sicr fe fyddan nhw'n gallu gweld, gobeithio, cofnodion meddygon teulu. I ba raddau y byddan nhw'n gallu gweld cofnodion gofal eilaidd, bydd yn rhaid i ni weithio hynny i gyd allan. Yn amlwg, mae yna lawer o faterion gwybodaeth a phreifatrwydd y mae'n rhaid i ni hefyd sicrhau ein bod ni’n eu datrys hefyd. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch i'r Gweinidog am y datganiad. Heb os, mae’r Gweinidog yn iawn i bwysleisio’r angen am ddiagnosis cynnar. Y cynharaf ydy'r diagnosis, y mwya'r gobaith o gael triniaeth lwyddiannus. Mae o'n arbed bywydau; mae o'n codi safonau bywydau hefyd. Fel y dywedodd y Gweinidog, mae'r rhyw hanner miliwn o bobl sydd ar restrau aros yn barod yn mynd i fod angen rhyw fath o brawf diagnosis, ac mae yna fwy a mwy yn cael eu hychwanegu at y rhestr yna bob dydd. Mae'n rhaid cofio hefyd, os ydyn ni'n edrych ar y ffigurau aros diweddaraf, mi oedd y niferoedd yn aros am therapeutics a diganostics wedi cynyddu. Felly, mae’n amlwg bod yna waith i’w wneud er mwyn cynyddu capasiti, er mwyn gallu cynnig diagnosis cynnar i fwy o bobl. Dwi'n falch bod strategaeth newydd wedi cael ei datblygu; dwi'n croesawu'r cyhoeddiad hwnnw. Mae eisiau gofyn, wrth gwrs, pam nad oedd strategaeth bwrpasol cyn hyn, ond mi edrychwn ni ymlaen rŵan. Mae’r amcanion sy'n cael eu gosod yn rhai y gallwn ni i gyd eu croesawu—yr angen i gynyddu capasiti a darparu arweiniad clir yn genedlaethol ar ddelifro profion diagnostig ac ati. Mae rhyw dri chwestiwn gen i. O ystyried nad ychwanegu at fomentwm dod â'r rhestri diagnostics i lawr ydyn ni—mae'r ffigurau wedi bod yn codi yn ddiweddar—sut mae'r Gweinidog yn mynd i weithio efo'r byrddau iechyd i gynllunio twf mewn capasiti rŵan mewn ffordd sydd yn mynd i arwain at ganlyniadau buan ar gyfer cleifion? Yn ail, mi fyddwn i'n licio clywed mwy gan y Gweinidog ynglŷn â'r gwaith sy'n mynd i fynd i mewn i ddatblygu'r gweithlu cynaliadwy sydd ei angen er mwyn delifro strategaeth o'r math yma. Heb weithlu, does yna ddim cynllun diagnostics na chynllun unrhyw beth arall o fewn y gwasanaeth iechyd. Felly, mi fyddwn i'n gwerthfawrogi mwy o fanylion ar hynny. Ac yn olaf, dwi'n eiddgar i gael darlun ychydig bach cliriach gan y Gweinidog nag yr ydyn ni wedi ei gael yn barod ar sut mae gwasanaethau diagnostig yn mynd i gael eu datblygu mewn ffordd sy'n eu gwneud nhw'n hygyrch i bobl lle bynnag maen nhw yng Nghymru. Dwi'n ymwybodol o bryderon yng ngogledd Ceredigion, er enghraifft, ac yn ehangach ar draws y canolbarth, bod canolfan ddiagnostig frys Hywel Dda, er enghraifft, lawr yn Llanelli, tipyn o bellter oddi wrthyn nhw. Mae'n rhaid meddwl yn ofalus am ddyraniad daearyddol y ddarpariaeth sy'n mynd i gael ei datblygu gan y strategaeth yma. Mi fyddwn i'n croesawu sylwadau gan y Gweinidog a all roi rhywfaint o obaith i'r bobl hynny sydd mewn ardaloedd sy'n teimlo bod gwasanaethau yn mynd i gael eu datblygu ymhell ohonyn nhw bod y Gweinidog o leiaf yn ymwybodol o'r pryderon hynny. Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr. Rŷn ni'n ymwybodol iawn bod lot fawr o bobl yn aros i gael triniaeth ar yr NHS, ac mae'n wir bod mwy o bobl yn dod ar y rhestri aros, ond wrth gwrs mae mwy ohonyn nhw'n gadael y rhestri aros ar hyn o bryd. Felly, mae hwnna o leiaf yn mynd yn y cyfeiriad cywir. Pam dydyn ni ddim wedi gwneud hyn cyn hyn? Wel, achos ein bod ni wedi bod yn canolbwyntio ar y rhaglenni unigol yna—yr imaging, genomics, pathology, endoscopy. Felly, dyw e ddim fel bod dim gwaith wedi bod yn cael ei wneud. Mae lot o'r rheini eisoes wedi cael eu gwneud, ond beth rŷn ni'n ei wneud fan hyn yw dod â'r holl beth ynghyd. Fel rŷch chi'n dweud, beth sy'n bwysig yw ein bod ni'n cynllunio'r twf gyda'i gilydd fel bod pethau ddim yn cael eu gweld fel pethau unigol yn y dyfodol, ond eu bod nhw'n gallu bwydo oddi wrth ei gilydd. I sicrhau bod y twf yna yn cael ei wneud yn y ffordd iawn, bydd yna gynrychiolwyr ar y bwrdd fydd yn ymwneud â'r strategaeth yma. Bydd yna gynrychiolaeth o'r categories gwahanol, o ran yr arbenigwyr, ond hefyd o'r byrddau iechyd. A bydd yna ddisgwyliad iddyn nhw gydweithio, achos yn amlwg rŷn ni mewn cyfnod o brinder, rŷn ni mewn cyfnod lle bydd hi'n anodd i ni gael mwy na thri o'r sefydliadau yma. Felly, fe fydd angen inni gael cydnabyddiaeth y bydd angen help, efallai, i bobl i ffeindio'u ffordd i'r canolfannau yma, achos bydd hi ddim yn bosibl inni gael canolfan ym mhob rhan o Gymru. O ran y canolfannau arbenigol yma, dwi'n meddwl ein bod ni mewn sefyllfa nawr lle dwi'n meddwl bod pobl yn barod i deithio tipyn bach ymhellach os bydd e'n cyflymu yr amser mae'n cymryd i gael eu hymyrraeth meddygol nhw. O ran cynllun y gweithlu, eisoes mae HEIW yn gweithio ar hwn, ac felly mae hwn yn rhan annatod o'r strategaeth, a byddwn ni'n disgwyl gweld hynny maes o law. Jenny Rathbone AC: Diolch yn fawr iawn am eich datganiad, Gweinidog. Rwy'n croesawu'n gryf y defnydd da hwn o adnoddau prin. Mae'r rhain yn ddarnau drud iawn o offer, ac felly mae sicrhau eu bod nhw ar gael yn rhanbarthol yn ymddangos i mi yn ffordd gwbl resymegol o wneud pethau. Tybed a allech chi gadarnhau a fydd y gwasanaeth rhanbarthol hwn ar gyfer Cwm Taf Morgannwg, Aneurin Bevan a Chaerdydd a'r Fro, neu a yw'n cynnwys Bae Abertawe hefyd? Beth yw eich cynnig ynghylch hynny? Mae'n ymddangos i mi ei fod yn bwysig iawn, iawn i gleifion wybod a oes ganddyn nhw broblem ddifrifol ai peidio, oherwydd os nad oes ganddyn nhw yna gallan nhw roi'r gorau i boeni, ac os oes ganddyn nhw, yna gallwn ni ddarganfod yn gyflym beth allwn ni ei wneud i'w ddatrys. Allech chi esbonio'r amserlen o ran pryd ydych chi'n meddwl y bydd Cwm Taf Morgannwg, y gwasanaeth rhanbarthol yn Llantrisant, yn gallu mynd yn fyw, oherwydd rwy'n gwerthfawrogi bod yn rhaid i chi newid yr adeilad yr ydych chi newydd ei gaffael, a hefyd pryd ydych chi'n meddwl y byddwch chi'n gwybod a allwch chi gael yr arian at ei gilydd ar gyfer uned endosgopi rhanbarthol ar yr un safle? Yn olaf, yn unol â'r cwestiwn gan Rhun ap Iorwerth, a fydd cludiant ar gael i fy etholwyr sydd heb fynediad at gar? Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr, Jenny. Rwy'n credu mai un o'r pethau mwyaf cyffrous am y rhaglen hon mewn gwirionedd yw'r gallu i ni edrych i'r dyfodol, lle gall pethau newid yn eithaf cyflym yn y maes hwn. Un o'r pethau rydw i wedi bod yn wirioneddol bryderus amdano—. Fel y gwnaethoch chi sôn, mae'r offer hwn yn ddrud iawn, felly'r peth olaf rydw i eisiau ei wneud yw buddsoddi mewn llawer iawn o offer cyfalaf ac y byddwn ni’n ei weld yn dod yn ased nad yw’n cael ei ddefnyddio ymhen ychydig flynyddoedd. Ddydd Iau diwethaf, es i ar ymweliad ag ysbyty athrofaol Caerdydd, lle mae rhai menywod athrylithgar yn gweithio ar brofion biopsi hylifol. Yr hyn sy'n digwydd yw eu bod nhw’n cymryd sampl o'ch gwaed a gallan nhw ddadansoddi hynny drwy genomeg a dweud a oes gennych chi ganser a dweud pa fath o ganser, ac yna gallan nhw addasu pa fath o feddyginiaeth maen nhw’n ei roi i chi mewn ymateb i'r union ganser sydd gennych chi. Felly, rydyn ni'n mynd i mewn i dechnoleg fanwl go iawn yma. Yn amlwg, mae hynny'n llawer llai o ymyrraeth na defnyddio offer enfawr lle mae'n rhaid i chi fynd i mewn i beiriannau a phob math o bethau. Rwy'n awyddus iawn i sicrhau, beth bynnag rydyn ni'n ei wneud, ein bod ni'n cadw un llygad ar y dyfodol a beth fydd orau yn glinigol i'r cyhoedd. O ran y gwasanaethau rhanbarthol, rydym ni’n disgwyl y bydd un Cwm Taf yn gwasanaethu ôl troed de-ddwyrain Cymru, felly bydd hynny'n cynnwys Caerdydd a Chwm Taf ac Aneurin Bevan. Rydyn ni'n cynnig un arall, felly, ar gyfer y gorllewin, ac yn amlwg fe fydd un arall yn y gogledd. Dyna'r math o ffurfweddiad. Rwy'n credu ei bod yn hanfodol ein bod ni’n deall bod yn rhaid i chi wneud llawer iawn o brofion i ddod o hyd i'r 5 y cant o bobl a allai fod yn dioddef. Er mwyn dod o hyd i'r 5 y cant o bobl a allai fod â chanser, mae'n rhaid i chi brofi'r 95 y cant arall o bobl. Mae hyn yn llawer o brofion, ac yn amlwg tra byddwch chi'n aros mae hynny'n amser gwirioneddol bryderus a gofidus. Os allwn ni leihau'r galw ar y gwasanaeth, er enghraifft, drwy ddefnyddio profion gwaed yn lle profion drud, yna yn amlwg byddai hynny'n ffordd dda o symud ymlaen. Ond mae'r wyddoniaeth yn dal i ddatblygu yn y maes hwnnw. Felly, mae'n rhaid i ni fod yn ymwybodol efallai y bydd angen i ni symud cyfeiriad yn gyflym wrth i'r wyddoniaeth ddatblygu. O ran Cwm Taf Morgannwg, rwy’n gobeithio y byddwn ni'n cyrraedd rhywle erbyn diwedd eleni, sydd yn uchelgeisiol iawn, iawn. Dyna lle hoffwn i fod. Bydd y rhan endosgopi ohono, rwy'n credu, yn dod yn hwyrach, ond yn sicr, ar y diagnosteg ehangach, rwy'n eu gwthio'n galed iawn i weld pa mor gyflym y gallwn ni gael hynny yn ei le, yn ddelfrydol erbyn diwedd eleni. Bydd her o ran trafnidiaeth. Rydych chi'n gwybod pa mor brin o arian nid yn unig yw trafnidiaeth gyhoeddus ar hyn o bryd, ond hefyd y gwasanaeth iechyd, felly mae gen i ofn na fyddaf i'n gallu gwneud ymrwymiad o ran hynny. Ac yn olaf, Altaf Hussain. Altaf Hussain AS: Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, mae datblygiadau newydd fel y biopsïau hylifol a amlygwyd gennych chi yn newyddion i'w groesawu. Mae unrhyw beth y gallwn ni ei wneud i leihau poen a dioddefaint tra ar yr un pryd leihau arosiadau diagnostig i'w gymeradwyo. Ydych chi'n pryderu y byddwn ni'n gweld pocedi o ragoriaeth unwaith eto ond y bydd y realiti yn y rhan fwyaf o'r byrddau iechyd yn parhau i fod yn aros'n hir am ddiagnostig? Rydym ni wedi trafod yn y gorffennol arloesedd fel FibroScan, sy'n cael ei alw'n drawsnewidiol ym maes gofal yr afu, ond eto nid yw'r argaeledd yn gyffredinol. Pa gamau rydych chi'n eu cymryd i sicrhau bod yr holl dechnegau diagnostig arloesol hyn ar gael i bob claf o Gymru sydd eu hangen? Er enghraifft, mae delweddu cyseiniant magnetig gwrthgyferbyniol deinamig wedi chwyldroi diagnosisau canser y prostad, ond nid yw ar gael i bawb. Yn olaf, Gweinidog, yr wythnos diwethaf, dywedodd bwrdd iechyd Bae Abertawe wrthyf i am eu cynlluniau i ehangu profion gwaed o wasanaeth tair wythnos i un pedwar diwrnod o hyd. Eu hamser aros cyfartalog am ganlyniadau ar draws yr holl safleoedd yw 13 diwrnod gwaith. Ydych chi'n meddwl bod hyn yn dderbyniol, a pha gamau allwch chi eu cymryd i gyflymu'r broses? Diolch yn fawr. Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr. Rydych chi'n hollol iawn; mae pocedi o ragoriaeth bob amser, ac nid yw hynny o reidrwydd yn beth drwg, oherwydd os oes gennych chi bocedi o ragoriaeth gallwch chi ddenu gweithwyr allweddol ac arbenigol i'r lleoedd hynny. Felly, dydw i ddim yn mynd i ymddiheuro am ddatblygu tair canolfan ddiagnostig ranbarthol yr ydw i'n gobeithio y byddan nhw'n denu rhai gweithwyr rhagorol i'r cyfleusterau hynny. Yr hyn sy'n rhaid i ni ei wneud, serch hynny, yw sicrhau bod y bwrdd a fydd yn monitro hyn yn deall eu cyfrifoldeb i fonitro, i wneud yn siŵr nad oes rhwystr daearyddol i'r bobl hynny, ac nad yw'n gwahaniaethu i bob pwrpas ar sail daearyddiaeth. Ond mae rhai byrddau yn perfformio'n well na'i gilydd, ac rwy'n credu mai rhan o fy swyddogaeth i yw parhau i roi pwysau arnyn nhw. O ran y gwasanaeth gwaed, nid yw tridiau'r wythnos yn ddigon da, a dweud y gwir. Rwyf eisiau saith diwrnod yr wythnos yn y maes hwn. Rwyf eisiau saith diwrnod yr wythnos. Os ydyn ni'n gwario arian ar gyfarpar drud, rwyf eisiau ei weld yn cael ei ddefnyddio 24 awr y dydd. A'r cyfyngiad, rwy'n disgwyl, o ran pobl a niferoedd y bobl—felly dyna pam mae'n rhaid i ni gael yr agwedd hyfforddi yma ar y strategaeth yn hollol gywir. Ond, mewn gwirionedd, rwy'n credu y gallwn ni fod ychydig yn greadigol hefyd. Felly, er enghraifft, wrth i ni ddigideiddio rhai o'r canlyniadau hyn, does dim rheswm pam na allwn ni anfon y canlyniadau, fel sydd eisoes yn cael ei wneud, i'w monitro a'u dadansoddi dros nos i Awstralia, sy'n effro, a gallan nhw ei anfon yn ôl. Felly, mae hynny eisoes yn cael ei wneud. Yr hyn hoffwn i ei weld yw llawer mwy o hynny, felly creadigrwydd yn cael ei ddefnyddio fel nad ydym ni'n gwneud pethau yn yr un ffordd â'r hyn yr ydym ni wastad wedi ei wneud. Felly, nid yw tridiau'r wythnos yn agos at fod yn ddigon da i mi, na. Diolch i'r Gweinidog. 6. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Ffyniant Cyffredin a Ffyniant Bro Eitem 6 yw'r datganiad gan Weinidog yr Economi: ffyniant cyffredin a ffyniant bro. Galwaf ar Weinidog yr Economi—Vaughan Gething. Vaughan Gething AC: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau heddiw ynghylch ein dealltwriaeth bresennol o gronfeydd ffyniant cyffredin a ffyniant bro Llywodraeth y DU, a'u heffaith ar yr economi a sgiliau yng Nghymru. Ers blynyddoedd lawer, mae cyd-Weinidogion a minnau wedi rhybuddio am y perygl i'n heconomi wrth i Lywodraeth y DU fwrw ymlaen i ddefnyddio dull gweithredu'r cronfeydd disodli cyllid yr UE sy'n golygu bod Cymru ar ei cholled, sy'n wfftio anghenion ein rhanddeiliaid, ac sy'n diystyru tirwedd economaidd a luniwyd gan dros 20 mlynedd o ddatganoli. A gadewch i ni atgoffa'n hunain bod datganoli wedi'i gymeradwyo mewn dau refferendwm yng Nghymru a sawl etholiad democrataidd. Dirprwy Lywydd, gyda gofid mawr y gwelwn nawr ganlyniadau yr oeddem wedi rhybuddio amdanyn nhw bellach yn gweithredu ar draws ein heconomi. Gyda chyllid i ddisodli cyllid yr UE fel y mae, nid yn unig y mae'r gronfa ffyniant gyffredin yn gadael Cymru dros £1.1 biliwn yn waeth ei byd o'i gymharu â chronfeydd strwythurol a gwledig yr UE, ond mae Llywodraeth y DU wedi bwrw ymlaen â dull sy'n osgoi Llywodraeth Cymru a gwaith chraffu gan y Senedd; nid yw'n cynnwys sectorau a phartneriaid twf allweddol gan gynnwys prifysgolion, colegau a'r sector gwirfoddol; mae'n atal prosiectau strategol ag effaith sylweddol; ac mae'n rhoi gofynion annerbyniol ar ein hawdurdodau lleol. Mae'r cronfeydd disodli yn llai, yn llai hyblyg ac yn gulach o ran cwmpas na chyllid yr UE yr oedden nhw'n honni eu bod yn cymryd ei le. Yn y rownd bresennol o raglenni yr UE, buddsoddwyd £380 miliwn mewn ymchwil, datblygu ac arloesi. Roedd hynny'n cefnogi ehangu cyfleusterau ymchwil a chydweithrediadau mawr rhwng busnes a'r byd academaidd. Nid oes gan y gronfa ffyniant gyffredin hyd yn oed linyn ymchwil, datblygu ac arloesi o fewn ei blaenoriaethau buddsoddi. Mae hyn yn arwain yn uniongyrchol at golli swyddi ar raddfa enfawr a chau prosiectau allweddol mewn meysydd fel datgarboneiddio, ynni adnewyddadwy a sgiliau diwydiannol. Mae tua 1,000 o swyddi ar fin cael eu colli ar draws prifysgolion Cymru a chyfleoedd ymchwil, datblygu ac arloesi ar raddfa fawr i fusnesau yng Nghymru o ganlyniad uniongyrchol i ddewisiadau Llywodraethau'r DU. Ar ben hyn, rydym yn gweld colli swyddi yn y trydydd sector a chau rhaglenni cyflogadwyedd cymunedol ledled Cymru a oedd yn darparu arbenigedd go iawn wrth helpu pobl agored i niwed i symud ymlaen i gyflogaeth a hyfforddiant. Dirprwy Lywydd, dyma'r canlyniadau i Gymru oherwydd bod gan Gymru lai o lais dros lai o arian, canlyniadau addewidion maniffesto toredig gan Lywodraeth bresennol y DU. Vaughan Gething AC: Gwrthodwyd i Lywodraeth Cymru gael unrhyw fynediad i'r gronfa ffyniant gyffredin ar gyfer rhaglenni cenedlaethol a oedd yn cael eu hariannu yn flaenorol gan yr UE, fel Busnes Cymru, prentisiaethau a Banc Datblygu Cymru. Mae hynny wedi golygu dewisiadau eithriadol o anodd i'n cyllideb, o ystyried y pwysau sydd eisoes arni a realiti gostyngiad mewn termau real yng nghyllideb Llywodraeth Cymru. Gellid bod wedi osgoi hyn i gyd pe bai Llywodraeth y DU wedi parchu datganoli a chaniatáu i ni reoli cyllid disodli llawn drwy ein fframwaith ar gyfer buddsoddiad rhanbarthol yng Nghymru. Cyd-gynhyrchwyd y model hwnnw gyda rhanddeiliaid yma yng Nghymru a'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd at yr union ddiben hwn. Cefnogwyd y cynllun gan ymgynghoriad cyhoeddus a'i oruchwylio gan grŵp llywio cynrychioladol, dan gadeiryddiaeth Huw Irranca-Davies. Nid yw'r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud, drwy ddefnyddio'r pwerau yn Neddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, yn ymestyn datganoli, fel y mae rhai wedi honni'n ddoniol iawn; nid oedd gan awdurdodau lleol unrhyw rôl na barn ar ddyluniad y gronfa. Yn syml, maen nhw wedi cael y gwaith o weinyddu'n lleol yn erbyn cefndir o anhrefn a therfynau amser cynllunio a gwario amhosib. Dim ond ym mis Ionawr 2023 y derbyniwyd y cyllid ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022-23, ac fe wnaeth Llywodraeth y DU ddal £15 miliwn o'r dyraniad hwnnw yn ôl oherwydd y problemau cyflenwi cwbl ragweladwy gyda'u cynllun rhifedd oedolion, Lluosi. Nid yn unig mae Lluosi wedi'i ddylunio'n wael, mae'n ymosodiad annerbyniol arall eto ar ein setliad datganoli. Mae'n rhy gul o ran pwyslais ac mae'n peryglu dyblygu'r ddarpariaeth yma yng Nghymru. Mae'n brigdorri cronfeydd disodli cyllid y UE i gefnogi agenda Llywodraeth y DU, wedi'i chynllunio a'i chyflawni yn Whitehall, mewn maes sydd yn amlwg wedi'i datganoli. Ac wrth gwrs, mae'n ein hamddifadu ni o gyllid i gefnogi blaenoriaethau strategol fel Busnes Cymru, SMART Cymru a'n rhaglen brentisiaethau. Rydym yn arbennig o bryderus bod Llywodraeth y DU wedi creu dull anghydlynol ar gyfer pobl a busnesau sydd eisiau mynediad i'r gronfa ffyniant gyffredin. Mae rhai prosiectau a grantiau ar gael mewn rhai rhannau o Gymru ond nid eraill, heb unrhyw resymeg i esbonio hynny. Mae hyn, eto, yn ganlyniad i ddull gweithredu wedi'i chawlio sy'n darnio'r dirwedd ariannu yma yng Nghymru. Mae'n torri'n deilchion ffyrdd sefydledig o weithio rhanbarthol ac yn trosglwyddo cyfrifoldeb i awdurdodau lleol i ymdrin â'r canlyniadau. Mae'r darlun o ran y gronfa ffyniant bro gystadleuol yr un mor ddigalonus. Mae awdurdodau lleol, sydd eisoes dan straen aruthrol yn gweithredu'r gronfa ffyniant gyffredin, wedi treulio llawer iawn o'u hamser i ddatblygu ceisiadau am brosiectau, y mwyafrif helaeth ohonynt wedi'u gwrthod gan Lywodraeth y DU. O'r 43 cais yn rownd olaf y gronfa ffyniant bro, dim ond 11 gafodd eu cymeradwyo. Ac nid yw pump o awdurdodau lleol yng Nghymru: sir y Fflint, Merthyr Tudful, sir Fynwy, Casnewydd a Bro Morgannwg, wedi derbyn unrhyw beth o gwbl o ddwy rownd gyntaf y gronfa ffyniant bro. Fel y gronfa ffyniant gyffredin, mae hwn yn gynllun arall lle mae oedi'n rhemp ac sydd wedi rhoi pwysau ychwanegol ar lywodraeth leol a chynyddu costau yn ystod cyfnod o chwyddiant cynyddol. Gyda dim ond 20 y cant o'r gronfa ffyniant bro yn weddill ar gyfer rownd derfynol y flwyddyn nesaf a phob prosiect cyfalaf yn gorfod cael ei gwblhau erbyn diwedd 2024, mae'r potensial ar gyfer yr hyn sydd ar ôl yn y gronfa hon yn gyfyngedig ar y gorau. Nid yw'r cronfeydd ffyniant bro a ffyniant cyffredin yn gronfeydd amlflwydd fel oedd rhaglenni'r UE. Mae'r dyraniadau blynyddol y mae dull Llywodraeth y DU yn eu cynnig yn arwain at amserlenni gwario tymor byr a risg o wariant diwedd blwyddyn gwael neu arian ddim yn cael ei wario o gwbl. Yn hytrach na diogelwch rhaglenni amlflwydd a oedd ar gael o'r blaen, mae gennym y sicrwydd cyfyngedig a'r cyllid rhannol a ddarparwyd gan y setliad adolygu gwariant am dair blynedd. Yn anffodus, oherwydd oedi a chamreoli gan Lywodraeth y DU, dim ond tua 18 mis o gyflawni gwirioneddol fydd yn digwydd yn y pen draw. Rwy'n trafod ar lefel ranbarthol yr effaith y mae'r cronfeydd hyn bellach yn ei chael ar y tasgau ehangach y mae ein rhanbarthau economaidd yn eu dilyn. Mae cynghorwyr ar draws y sbectrwm gwleidyddol wedi mynegi rhwystredigaethau sylweddol ynghylch y cyfleoedd coll y mae'r dewisiadau hyn yn y DU yn eu cyflwyno. Rwy'n awyddus i weithio gyda phob rhanbarth i ddeall realiti'r darlun presennol, i edrych ar sut y gallwn weithio gyda'n gilydd i geisio goresgyn y difrod lle bo hynny'n bosib, ac i gefnogi blaenoriaethau cyffredin. Dirprwy Lywydd, rydym wedi gweld beth sy'n digwydd pan fydd Llywodraeth y DU yn gwthio ei hun i feysydd datganoledig heb gydsyniad neu unrhyw fath o bartneriaeth ystyrlon. Dylid gwneud cymariaethau â'r ffordd y buom yn gweithio'n bragmataidd gyda'n gilydd ar sefydlu dau borthladd rhydd i Gymru a ddylai helpu i wasanaethu fel enghraifft gadarnhaol ar gyfer gwaith rhyng-lywodraethol yn y dyfodol. Ni allwn ni ddadwneud canlyniadau addewidion toredig a'r dull gweithredu y mae Llywodraeth y DU wedi'i fabwysiadu o ran y cronfeydd hyn. Fodd bynnag, gallwn amlinellu gweledigaeth ar gyfer oes nesaf datblygiad rhanbarthol yng Nghymru sy'n atgyweirio'r difrod ac yn harneisio ein gwaith parhaus gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd i integreiddio arferion gorau rhyngwladol o fewn datblygiad rhanbarthol Cymru. Yn hytrach na dull bach, tymor byr Llywodraeth y DU, mae'n hanfodol ein bod yn creu dull gweithredu mwy llewyrchus a chynhwysol ar gyfer yr economi gyda swyddi gwell, cydweithio â llywodraeth leol, busnesau, prifysgolion, a chymunedau lleol. Byddwn ni'n blaenoriaethu arloesi, entrepreneuriaeth, datgarboneiddio a datblygu sgiliau ar gyfer y dyfodol. Mae ein model yn edrych yn debycach o lawer i'r dulliau llwyddiannus a weithredwyd mewn cenhedloedd eraill ac yn wahanol iawn i ddull y DU sydd wedi ennyn beirniadaeth gyson gan leisiau annibynnol, gan gynnwys pwyllgorau dethol Tŷ'r Cyffredin a'r Sefydliad Llywodraeth. Dirprwy Lywydd, wrth i'r rhybuddion hyn ddwyn ffrwyth ac rydym yn gweld y pris y mae Cymru'n ei dalu gyda swyddi, prosiectau a chyfleoedd coll, rydym yn galw eto ar Lywodraeth y DU i ddod â'r ddadl hon i ben, i ddychwelyd y cyllid a'r pwerau gwneud penderfyniadau i le maen nhw'n perthyn: yn Llywodraeth Cymru ac yn y Senedd hon. Dyna fydd ein galwad o hyd ar ran pobl Cymru. Fe'i gadawaf hi'n y fan yna. Rwy'n hapus i gymryd cwestiynau a sylwadau gan Aelodau, Dirprwy Lywydd. Paul Davies AC: Fel y bydd Aelodau'n ymwybodol, mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn cynnal ymchwiliad i gyllid datblygu rhanbarthol ar ôl ymadael â'r UE, gan adeiladu ar ymchwiliad diweddar y Pwyllgor Cyllid. Mewn gwirionedd, rydym wedi cau ein hymgynghoriad ar y pwnc penodol hwn yn ddiweddar, ac felly, bydd y datganiad hwn yn sicr yn cyfrannu at yr ymchwiliad hwnnw, ac edrychaf ymlaen at groesawu'r Gweinidog i'r pwyllgor maes o law. Wrth gwrs, dydw i ddim am achub y blaen ar ganlyniadau'r ymchwiliad hwnnw, ond o ystyried bod y Gweinidog wedi cyflwyno'r datganiad hwn heddiw, mae'n gyfle da i gael ymateb y Gweinidog i rai cwestiynau ar ffyniant bro ac, yn wir, y gronfa ffyniant gyffredin. Nawr, mae'r Gweinidog yn gwybod fy marn i, os yw'r arian i'w ddarparu'n effeithiol, yna mae cydweithio yn gwbl hanfodol. Rydym wedi gweld y manteision y gall cysylltiadau rhyng-lywodraethol effeithiol eu cynnig. Mae'r datganiad heddiw yn tynnu sylw at y rhaglen porthladd rhydd fel enghraifft, ac felly rwy'n obeithiol y gellid canfod ffordd fwy adeiladol ymlaen yn y dyfodol. Mae'r datganiad heddiw yn dweud wrthym fod Llywodraeth Cymru eisoes wedi gweithio'n ddwys gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a phartneriaid eraill i greu'r model cryfaf posib i Gymru o ran rhaglen fuddsoddi ar ôl ymadael â'r UE, a byddai'n ddefnyddiol i bob Aelod pe bai Llywodraeth Cymru'n gallu dweud mwy wrthym am y gwaith hwn a darparu'r wybodaeth honno er mwyn i ni allu gweld hynny drosomein hunain. Nawr, mae'r Gweinidog yn dweud wrthym fod tua 1,000 o swyddi ar fin cael eu colli ar draws prifysgolion Cymru, cwtogi cyfleoedd ymchwil a datblygu, colli swyddi yn y trydydd sector a chau rhaglenni cyflogadwyedd cymunedol ledled Cymru o ganlyniad i'r gronfa ffyniant gyffredin, ac mae'n hanfodol ein bod yn gallu gweld tystiolaeth yr honiadau hyn; felly, efallai y bydd y Gweinidog yn cytuno i gyhoeddi unrhyw asesiadau effaith economaidd y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud o'r gronfa ffyniant gyffredin fel y gall pawb weld yn union pa effaith y mae Llywodraeth Cymru yn credu bod y gronfa wedi'i chael ar dwf economaidd a swyddi yma yng Nghymru. Mae'r datganiad heddiw hefyd yn dweud wrthym y bydd y gronfa ffyniant gyffredin yn golygu penderfyniadau anodd i Busnes Cymru, prentisiaethau a'r banc datblygu, ac efallai y gall ddweud wrthym yn union beth mae'n ei olygu o ran y penderfyniadau anodd hynny a'r hyn mae'n ei olygu i gyllideb Cymru. Nawr, mae'r Gweinidog yn cyfeirio at waith y fforwm strategol ar gyfer buddsoddi rhanbarthol, sy'n cael ei gadeirio gan yr Aelod dros Ogwr. Fel rwy'n ei ddeall, mae'r cyfarfodydd hyn wedi rhoi llwyfan i lywodraeth leol a sectorau eraill gyfnewid gwybodaeth am gynnydd y gronfa ffyniant gyffredin, felly byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog ddweud ychydig mwy wrthym am waith y fforwm eleni a'r canlyniadau sydd wedi dod o unrhyw un o'i gyfarfodydd. Mae'r fforwm strategol ar gyfer buddsoddi rhanbarthol yn ffordd ddefnyddiol o ddod â llywodraeth leol ynghyd i rannu gwybodaeth am rai o'r heriau a'r cyfleoedd y mae'r gronfa ffyniant gyffredin yn eu cynnig, ac rwy'n awyddus i ddarganfod mwy am rai o'r gwersi y gellid eu dysgu ar gyfer y dyfodol er mwyn sicrhau bod yr arian yn cael yr effaith fwyaf posibl. Nawr, mae'r datganiad heddiw yn cyfeirio at y rhaglen Lluosi, ac un o'r themâu y bydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn ymchwilio yn ei ymchwiliad yw'r rhwystrau a'r cyfleoedd posibl mewn cysylltiad â chyflwyno'r rhaglen hon. Rwy'n deall bod trafodaethau parhaus wedi bod gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â'r angen am hyblygrwydd gyda chyllid ar gyfer y rhaglen Lluosi, ac yn sicr mae angen i ni sicrhau nad yw arian yn cael ei danwario. Felly, efallai y gallai'r Gweinidog roi diweddariad i ni ar y trafodaethau penodol y mae wedi'u cael gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU, yn ogystal ag unrhyw farn a gafodd gan awdurdodau lleol, ar y rhaglen Lluosi. Gan symud ymlaen, Dirprwy Lywydd, i'r agenda ffyniant bro, rwy'n cytuno bod awdurdodau lleol wedi gweithio'n galed i ddatblygu ceisiadau, ac rwy'n falch o weld buddsoddiad yn cyrraedd rhannau helaeth o Gymru. Fel y dywedais o'r blaen, dylai'r agenda ffyniant bro gael ei harwain yn lleol, gydag awdurdodau lleol yn chwarae rhan uniongyrchol wrth gyflawni'r buddsoddiad hwnnw. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol o'r ymchwiliad diweddar 'Levelling Up Locally' gan y Gymdeithas Llywodraeth Leol yn Lloegr, sy'n cynnig rhai syniadau ar sut i greu'r amodau ar gyfer ffyniant bro lleol, yn ogystal â phontio'r bwlch rhwng blaenoriaethau lleol a chenedlaethol. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai ddweud wrthym beth yw barn Llywodraeth Cymru ar y canfyddiadau hynny a sut mae'n teimlo y gall yr adroddiad hwnnw gyfrannu at wella'r rhaglen ffyniant bro. Felly, wrth gloi, Dirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad a dweud fy mod yn edrych ymlaen at drafod y materion hyn ymhellach gydag ef a'i swyddogion fel rhan o ymchwiliad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig i gyllid datblygu rhanbarthol ar ôl ymadael â'r UE? Diolch. Vaughan Gething AC: Diolch i'r Aelod am ei sylwadau a'i gwestiynau. Mae'n dda croesawu Paul Davies yn ôl i'r Siambr, ac edrychaf ymlaen at ymgysylltu ag ef yn y Siambr ac, yn wir, yn y pwyllgor. Rwy'n edrych ymlaen yn benodol at ymchwiliad y pwyllgor, lle gallwn roi mwy o fanylion yn gysylltiedig â nifer o'r cwestiynau y mae wedi'u gofyn, ond fe roddaf rai ymatebion cychwynnol heddiw. Does dim modd gwadu bod llai o arian ar gael yn y gronfa ffyniant gyffredin, a oedd fod i gymryd lle—. Ac, wrth gwrs, cawsom addewid na fyddai'r arian disodli yn golygu y byddai Cymru ar ei cholled un geiniog. Wel, mewn gwirionedd, mae Cymru wedi colli 110 biliwn o geiniogau oherwydd y brad pan fo'n dod at gyllid disodli. Rwy'n deall hefyd bod rhai sylwebwyr ar yr ymylon yn dal i fod—nid Paul Davies, i fod yn deg, ond sylwebwyr ar yr ymylon—yn gwneud honiadau anonest yn ddigywilydd bod mwy o arian ar gael, neu fod yr un arian ar gael, pan nad yw hynny'n wir yn amlwg. Mae rhai pobl hyd yn oed wedi cyhuddo Gweinidogion Llafur Cymru o ddweud celwydd yn y Senedd bob tro yr ydym yn atgoffa pobl o'r realiti ymarferol. Rwy'n dweud hyn oherwydd mai'r her wrth ddod o hyd i ffordd adeiladol ymlaen yw y dylai'r lleisiau y mae Paul Davies yn eu cyflwyno i'r ddadl hon, a'r ffordd rwy'n siŵr y cawn ni drafodaeth y pwyllgor, ganiatáu llwyfan ar gyfer tystiolaeth a realiti i reoli'r trafodaethau a gawn, a'r ffordd wirioneddol adeiladol ymlaen yr wyf eisiau ei gweld. Bydd hynny'n cynnwys rhannu gyda'r pwyllgor rai o'r pwyntiau ynghylch gwaith y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd y maen nhw'n ei wneud gyda ni. Rwy'n credu y byddai honno'n ffordd ddefnyddiol o roi diweddariad, drwy'r pwyllgor, i Aelodau. Yr hyn na allwn ac na fyddwn ni'n ei wneud yw cerdded i ffwrdd o'r lleisiau hynny sy'n gwneud honiadau disail, ac ni fyddwn yn dathlu'r ffaith bod rhywfaint o arian wedi'i gyhoeddi ond sy'n dal i arwain at golled sylweddol gyffredinol i Gymru. A dyna'r sefyllfa. Fe ddof yn ôl at rai o'r pwyntiau a wnaeth yr Aelod am y dystiolaeth ar gyfer yr honiadau yr wyf wedi eu gwneud. Pan ddaw at 1,000 o swyddi'n cael eu colli o'r sector addysg uwch, roedd Paul Boyle yn ddiymwad o glir ynghylch hyn yn ei sylwadau, a wnaed ar 24 Ionawr eleni. Cyfeiriodd at y 1,000 o swyddi, gan siarad ar ran y sector AU, sy'n cael eu colli. Mae enghreifftiau penodol yng Nghaerdydd, yn Abertawe, yn Wrecsam. Ym mhob prifysgol bron, mae pobl na fydd yn cael eu cyflogi yn y sector mwyach oni bai bod yna newid cyflym, a dydw i ddim yn credu, o gyllideb y gwanwyn, ein bod ni'n mynd i weld y math o gamau gweithredu y dylem ni eu gweld gan Lywodraeth y DU. Pan ddaw i feysydd eraill, yn y sector gwirfoddol, mae Chwarae Teg yn diswyddo hanner eu staff oherwydd y ffordd y mae cronfeydd disodli cyllid yr UE wedi cael eu darparu. O ran y rhaglenni cyflogadwyedd cymunedol, mae'r sector gwirfoddol, sy'n cael ei gydlynu drwy Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, wedi darparu dros 23,000 o gyfleoedd gwaith a hyfforddiant i bobl dan anfantais ers 2015. Mae'r rhaglenni hynny wedi cau. Felly, os ydych chi eisiau mesur effaith economaidd ehangach, byddwn i'n fwy na pharod i weld hynny'n cael ei wneud gyda'r pwyllgor i ddeall maint y golled sydd wedi digwydd. Nid yw hyn yn ymwneud ag arian yn unig wrth gwrs, ond dyluniad y rhaglenni, oherwydd mae'n fwriadol yn osgoi, mewn gwirionedd, prosiectau adeiladol a strategol. Bydd Paul Davies yn gwybod, o'i rôl yn craffu yn y Senedd, bod pwyllgorau'r Senedd, ac, yn wir, pwyllgorau Tŷ'r Cyffredin, i gyd wedi gwneud sylw, yn oesoedd amrywiol rhaglenni Ewropeaidd ac arian Ewropeaidd yr ydym ni a rhanbarthau eraill o'r DU wedi'u cael, ein bod wedi symud o fod â phrosiectau llai, llai strategol i rai lle mae gennych chi nifer llai o brosiectau mwy a strategol gyda mwy o enillion. Y dull o weithredu yr ydym yn ei weld yn y gronfa ffyniant gyffredin a'r gronfa ffyniant bro yw mynd yn ôl i ffordd sydd â phrosiectau llawer llai, canlyniadau llawer llai ac sy'n ddefnydd gwael yn strategol o'r arian hwnnw. Rwy'n credu y gwelwch chi hynny yn y pwyllgor mae Huw Irranca-Davies yn ei gadeirio, ac rwy'n fwy na hapus, eto, i weithio drwy'r pwyllgor a drwy Aelodau'r Senedd i dynnu sylw at y gwaith sy'n cael ei wneud yno fel bod Aelodau yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn yr ydym ni'n ei wneud. Fe orffennaf i gyda Lluosi. Mae Lluosi yn ymyrraeth letchwith ar y cyfan nad yw'n gwneud unrhyw synnwyr go iawn o gwbl mewn gwirionedd. Nid yn unig y mae rhifedd oedolion yn amlwg wedi'i ddatganoli, mae'n faes lle nad yw wedi bod yn bosib gwario'r arian arno, ac nid yw Llywodraeth y DU wedi trosglwyddo'r arian hyd yn oed. Bob tro y maen nhw'n addo gwneud penderfyniadau—. Roedd hyn i fod yn hydref y llynedd; ni wnaethon nhw benderfyniadau ar Lluosi tan fis Ionawr, yna roedden nhw'n dal arian yn ôl am eu bod yn gwybod nad oedd modd ei wario. Mae natur flynyddol y gronfa honno'n broblem wirioneddol, nid yn unig, fel yr amlygais yn y datganiad, oherwydd mae hi bron yn sicr na allwch chi wario'r holl arian yn iawn o fewn y flwyddyn neu rydych chi'n ei anfon yn ôl i'r Trysorlys yn y pen draw, ac nid dyna'r bwriad y tu ôl i'r arian hwn, ond hyd yn oed y cynllun cychwynnol, i gael y cyllid tair blynedd—ni fydd tair blynedd lawn o gyllid ar gyfer cyflawni. Ni allwch chi ddisgwyl i ddarparwyr baratoi i gyflawni rhaglenni rhifedd newydd i oedolion heb gael unrhyw sicrwydd ynglŷn â phryd y bydd yr arian yn cael ei ddarparu, heb ystyried sut y bydd wedyn yn cael ei wario a sut mae hynny'n gweithio yn erbyn cwmnïau sy'n gweithio ar gyfer eu dysgwyr eu hunain. Felly, mae gennych chi raglen y mae ei dyluniad yn milwrio yn erbyn ei gweithrediad effeithiol. Pe bai sgwrs wedi bod ynghylch sut y gallem wella sgiliau sylfaenol ar gyfer oedolion, rhifedd a llythrennedd, gallem fod wedi cynllunio rhywbeth a fyddai wedi gweithio a gwneud defnydd da o'r arian, a dyna'r cyfle sydd wedi ei golli. Fe orffennaf i yn y fan yna, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n siŵr y bydd mwy o gyfle i gyfrannu gyda manylion adeiladol at ymchwiliad y pwyllgor. Luke Fletcher AS: Rwy'n ymuno â'r Gweinidog i groesawu fy nghyd-Aelod ac Aelod cyfatebol yn y blaid Dorïaidd yn ôl. Rwy'n arbennig o falch o'i weld yn ôl yn y Siambr, ac rwy'n edrych ymlaen yn arbennig at weithio gydag ef ar ymchwiliad y pwyllgor i'r union bwnc hwn, pan wy'n credu y byddwn yn gallu turio drwy'r manylion a chael llawer o'r atebion i'r cwestiynau yr ydym yn eu codi heddiw. Ond fe fyddwn i'n dechrau drwy ddweud ein bod yn gwybod ers cryn amser y bydd trefniadau cyllido Llywodraeth y DU ar ôl Brexit a weithredwyd yn anhrefnus iawn ac a ohiriwyd cyhyd yn gadael Cymru dros £1.1 biliwn yn dlotach, o gymharu â'i safle yn yr UE. Nawr, bydd hyn yn dod yn fwy amlwg fyth dros y misoedd nesaf wrth i fynediad Cymru at gronfeydd gwaddol yr UE ddod i ben ac rydym yn cael ein gadael i gasglu'r briwsion a daflwyd o fwrdd San Steffan. Yn ystod rownd 2 o'r gronfa ffyniant bro roedd cyfran is fyth o geisiadau llwyddiannus gan Gymru nag yn rownd 1, gyda dim ond 11 o 43 o geisiadau yng Nghymru yn derbyn cyllid. Felly, mae hynny'n golygu mai dim ond 26 y cant o gyfanswm yr arian y gwnaeth awdurdodau lleol Cymru geisio amdano a gymeradwywyd. O safbwynt ehangach, dylai'r £4.8 biliwn a neilltuwyd gan Lywodraeth y DU ar gyfer y gronfa ffyniant bro gael ei weld yng nghyd-destun y toriadau gwerth £10 biliwn i bŵer gwariant awdurdodau lleol ers 2010, sy'n ganlyniad uniongyrchol i agenda gyni'r Torïaid. Mae'r ffaith bod y trefniadau hyn, y mae llawer ohonynt yn gorgyffwrdd â meysydd cymhwysedddatganoledig, wedi'u cynllunio'n unochrog gan Lywodraeth y DU, gyda'r nesaf peth i ddim mewnbwn gan Lywodraeth Cymru, yn dangos unwaith eto bod cymryd rheolaeth yn ôl mewn gwirionedd yn golygu canoli rheolaeth. Wrth wneud hynny, maen nhw'n amharchu'r setliad datganoli, maen nhw'n amharchu dymuniadau democrataidd Cymru. Fel sy'n digwydd yn aml gyda'r Llywodraeth Dorïaidd allan o gysylltiad ac allan o reolaeth, nid yw ei rhethreg fombastig mewn unrhyw ffordd yn cyd-fynd â'i hanes o gyflawni gwirioneddol. Yn yr achos hwn, tanlinellir gwagedd ei huchelgais o ran ffyniant bro yn arbennig gan y ffaith ei bod yn parhau i warafun cyfran deg o gyllid canlyniadol Barnett o brosiect HS2 i Gymru, er gwaethaf y ffaith na fydd yr un llath o drac yn cael ei adeiladu yng Nghymru. Rydym wedi cael ein hamddifadu o gyllid canlyniadol prosiect Northern Powerhouse Rail. Mae hynny'n £1 biliwn arall ar ben y £5 biliwn o HS2. Dychmygwch beth allem ni ei wneud â'r arian hwnnw. Mae'r ffaith fod y Torïaida band teyrnged Torïaidd Keir Starmer wedi gwrthod ymrwymo i ddarparu cyfran deg i Gymru yn adrodd cyfrolau am y difaterwch llwyr yn San Steffan. Ac eto, mae'n fwy o brawf—os oedd angen mwy—nad yw San Steffan, ni waeth beth yw'r blaid mewn grym, yn gweithio i Gymru ac na fydd byth. Gan ddychwelyd at awdurdodau lleol, Gweinidog, pa waith mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud i gefnogi awdurdodau lleol yn eu ceisiadau ac i helpu cydlynu ceisiadau? Fel rydych chi wedi nodi, mae nifer o awdurdodau lleol sydd eto i dderbyn cefnogaeth o'r gronfa ffyniant bro, fel y'i gelwir am ryw reswm, a sut y bydd y Llywodraeth hefyd yn sicrhau na fydd yn ailadrodd camgymeriadau Llywodraeth y DU? Mae rôl i'r strategaeth arloesi yma, ond mae'n dal yn aneglur sut, yn benodol, y bydd ei llwyddiant yn cael ei fonitro. Vaughan Gething AC: Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Rwyf eisiau gwneud pwynt am gronfeydd gwaddol, gan i Luke Fletcher sôn amdanyn nhw. Un o'r heriau o ran deall yr hyn sydd wedi'i hawlio ynghylch cronfeydd disodli yw bod gweinidogion Ceidwadol yn Llywodraeth y DU wedi ceisio honni y gallan nhw ddebydu yr arian rydyn ni wedi'i gael yn barod. Wel, nid dyna sut mae cronfeydd disodli cyllid yr UE wedi gweithio; byddem ni wedi cael mynediad i'r arian hwnnw yn y fan a'r lle, ac rydym ni yn dal ar ein colled. Rydym ar ein colled yn llwyr, a dyna pam yr ydym yn cyrraedd y ffigur £1.1 biliwn, ar yr un sail ag y mae Llywodraeth y DU yn cyfrifo'r materion hyn, ac mae'n cynnwys, wrth gwrs, golledion sylweddol i'r gefnogaeth i'r economi wledig. Ynghylch Barnett a'r pwyntiau a wnaed, byddwn i'n croesawu Llywodraeth oedd yn dilyn y rheolau ac yn rhoi'r gorau i esgus bod rhai prosiectau yn brosiectau Cymru a Lloegr pan nad ydyn nhw o gwbl. Byddwn i'n croesawu Llywodraeth a fyddai'n edrych eto mewn gwirionedd ar ein terfynau benthyca ein hunain i gadw i fyny â realiti mewn gwirionedd. A dydw i ddim yn cytuno â phresgripsiwn Luke Fletcher; dydw i ddim yn derbyn ei ddisgrifiad o'r ffordd mae mainc flaen yr wrthblaid a Phlaid Lafur y DU wedi edrych ar y materion hyn. Yn bwysicach fyth, wrth gwrs, nid yw pobl Cymru yn cytuno â Luke Fletcher chwaith. Bydd bobl yn cael dewis—rwy'n gobeithio cyn gynted â phosib—ynghylch dyfodol Llywodraeth y DU mewn etholiad cyffredinol. Ond ar y pwynt yna, gawn ni weld sut mae pobl Cymru'n pleidleisio. Rwy'n edrych ymlaen at Lywodraeth y gallwn weithio gyda hi, a chyhoeddiad diweddar Keir Starmer, pe bai'n Brif Weinidog, y byddai'r pwerau gwneud penderfyniadau dros gronfeydd yr UE yn dychwelyd i le y dylen nhw fod, a lle roedden nhw wedi bod am fwy nag 20 mlynedd tan i'r Torïaid ddwyn y pwerau hynny oddi ar Gymru. Yna, fe fyddem ni'n cael cyfle i wneud y dewisiadau hynny yn y Llywodraeth ac fe fyddai'r Senedd yn craffu'n llawn ac yn gywir ar hynny. Datganoli sy'n gweithio mewn Teyrnas Unedig gref yw'r hyn yr wyf i eisiau ei weld a dyna mae pobl Cymru eisiau ei weld. Mewn gwirionedd, rydw i'n siarad â chi o Frwsel, lle rydyn ni'n ymdrin â chanlyniadau ymarferol ymadael â'r Undeb Ewropeaidd; dydw i ddim yn credu bod yna awydd yng Nghymru i adael undeb y DU. O ran y strategaeth arloesi, mae gwaith adeiladol yn cael ei wneud gyda'r sector, ac yn wir gyda Phlaid Cymru drwy'r cytundeb cydweithio. O ran mesur llwyddiant y strategaeth arloesi, dyna ran o'r gwaith rydyn ni nawr yn ei ddatblygu. Ac fe sylwch chi o'r strategaeth ei hun, yn y gwaith rydw i wedi bod yn ei wneud gydag arweinydd Plaid Cymru, ein bod ni mewn gwirionedd yn edrych ar sut rydyn ni'n dylunio ac yn cyflawni sut fydd hynny'n edrych ar gyfer pob un o'r ymgyrchoedd sydd gennym ni, a byddwn ni hefyd yn darparu adroddiad yn ôl mewn blwyddyn, yna tair blynedd a phum mlynedd y strategaeth arloesi. Bydd y flwyddyn gyntaf, rwy'n credu, yn arbennig o bwysig, oherwydd bydd yn nodi sut mae pethau wedi tawelu, nawr ei fod wedi cael ei dorri'n deilchion a'i daflu i'r awyr gan nifer o ddewisiadau Llywodraeth y DU. Yna, rwy'n credu y byddwn ni hefyd wedyn yn dechrau gweld rhai o effeithiau sut bydd pobl ar draws y dirwedd arloesi—dyna AU, AB ac yn wir y byd academaidd a thu hwnt—yn dod i arfer â'r hyn rydyn ni'n ceisio ei wneud gyda dull mwy cenhadol. Rwy'n fwy na pharod i barhau i rannu sut mae hynny'n edrych, nid yn unig gydag Aelodau dynodedig yn y cytundeb cydweithio, ond hefyd i roi diweddariad i'r Siambr wrth i ni wneud mwy o waith ar hynny, oherwydd rwyf eisiau iddo gael ei weld yn glir, ei ddeall, a bod yn dryloyw. Mike Hedges AC: Mae'r gronfa ffyniant gyffredin, fel y mae Luke Fletcher newydd ei chrybwyll, yn ein gadael £1.1 biliwn yn dlotach, o'i chymharu â chronfeydd strwythurol a gwledig yr Undeb Ewropeaidd. Yn y rownd bresennol o raglenni'r Undeb Ewropeaidd, buddsoddwyd £380 miliwn mewn ymchwil, datblygu ac arloesedd, a gefnogodd ehangu cyfleusterau ymchwil a chydweithio mawr rhwng busnes a'r byd academaidd. Nid oes gan y gronfa ffyniant gyffredin hyd yn oed ymchwil, datblygu ac arloesi ymhlith ei blaenoriaethau buddsoddi. Mae angen i'r gronfa ffyniant bro a'r gronfa ffyniant gyffredin gynyddu'r gwerth ychwanegol gros a'r cyflog canolig yng Nghymru. Mae ymchwil a datblygu yn allweddol i ffyniant bro. Rwy'n sôn am y ddau Gaergrawnt, Cambridge Massachusetts a Chaergrawnt yn Lloegr, ac mae'r ddau ohonynt yn gwneud yn anhygoel o dda oherwydd bod ganddynt y buddsoddiad hwnnw yn y rhain. Edrychwch ar economïau llwyddiannus y byd, ac mae ymchwil ac arloesedd yn allweddol. Y ffordd arall y gallai Llywodraeth San Steffan helpu ffyniant bro yw trwy adleoli swyddi'r gwasanaeth sifil. Dyma a wnaeth Llywodraeth Lafur 1964-70. A oes unrhyw drafodaeth wedi bod gyda Llywodraeth San Steffan am adleoli swyddi ychwanegol yn y gwasanaeth sifil i Gymru? Yn olaf, a yw'r Gweinidog yn cytuno bod yr addewid 'dim ceiniog yn llai' wedi'i dorri? Vaughan Gething AC: Iawn, diolch. O ran swyddi'r gwasanaeth sifil, does dim math o drafodaeth synhwyrol wedi bod gyda Llywodraeth y DU ar ystod eang o bynciau, ac mae hynny'n cynnwys adleoli swyddi'r gwasanaeth sifil. Rydym wedi gweld rhai swyddi yn y gwasanaeth sifil yn dod mewn i Gymru, ond yn fras maen nhw wedi bod mewn meysydd i geisio cystadlu â Llywodraeth y DU. Un enghraifft yw rhywfaint o'r gwaith ar Fasnach a Buddsoddi. Rwy'n credu ei bod yn hen ystryw fwriadol i herian pobl, i'r cais cynllunio ar gyfer swyddfa newydd yng Nghaerdydd fod â baner yr undeb enfawr arni, ond mewn gwirionedd yr her yw, mewn termau ymarferol, rydyn ni eisiau cael tirwedd sy'n gweithio i fusnesau. Mae cymorth ar gael gan Lywodraeth y DU ar gyfer allforwyr, mae cymorth ar gael i allforwyr gan Lywodraeth Cymru. Rydym wedi cael cynadleddau llwyddiannus iawn yn ddiweddar i allforwyr, un yn y de ac un yn y gogledd, gyda dros 100 o bell ffordd yn bresennol, llawer o fusnesau yno. Rydym yn mynd ati i geisio sicrhau bod y cynnig yn un agored, a byddwn yn cyfeirio pobl, boed hynny at Lywodraeth y DU neu at Lywodraeth Cymru, i gael cefnogaeth. Nid dyna'r ffordd y bu adrannau Llywodraeth y DU yn ymddwyn bob tro. Mae'n faes lle gallem elwa ar gydnabyddiaeth bragmatigo sut y gallwn helpu i gefnogi busnesau yn hytrach na'r dull presennol, sydd weithiau'n gystadleuol pan nad oes angen iddo fod felly. O ran ymchwil, datblygu ac arloesi, rwy'n cytuno'n llwyr â Mike Hedges. Mae'n un o'r rhesymau pam y mae'r prif addewid i gynyddu cyllid ymchwil a datblygu y tu allan i dde-ddwyrain Lloegr 40 y cant yn her. Mae wedi'i ganolbwyntio gymaint yn y rhan honno o'r DU ar hyn o bryd, byddai cynnydd o 40 y cant i Gymru yn golygu dim ond £9 miliwn ychwanegol o wariant erbyn 2030. O ystyried ein bod wedi buddsoddi dros £50 miliwn bob blwyddyn, ac rydych chi'n iawn, £380 miliwn dros saith mlynedd, o gronfeydd yr UE mewn ymchwil, datblygu ac arloesi, mae angen i ni weld buddsoddiad llawer mwy a mwy sylweddol mewn cronfeydd ymchwil, datblygu ac arloesi yng Nghymru. Dyna un o brif amcanion y strategaeth arloesi, a dyna pam rydw i'n cytuno ar gynllun gweithredu ar y cyd ag Innovate UK, er mwyn ceisio darparu mwy o arian ar gyfer ymchwil, datblygu ac arloesi yng Nghymru. Ac, o'r diwedd, mae'n gwbl amlwg bod yr addewid 'dim ceiniog yn llai' wedi ei dorri. Fel y dywedais, mae £1.1 biliwn yn gyfystyr â, os yw fy mathemateg yn iawn, ac rwy'n gweld y Gweinidog cyllid ar y sgrin—nid un geiniog yw hynny, mae hynny'n 110 biliwn o geiniogau y mae Cymru'n eu colli dros y cyfnod hwn. Sam Rowlands MS: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad y prynhawn yma. Fe wnes i nodi'n benodol yn eich datganiad, Gweinidog, y sylw ynghylch Cymru'n cael llai o lais ynghylch sut mae arian yn cael ei wario o ganlyniad i weithredoedd yma. Ond wrth gwrs, nid yw hyn yn hollol gywir, nag yw, oherwydd er efallai y bydd gan Lywodraeth Cymru lai o lais, mae gan bobl Cymru gyfle i gael hyd yn oed mwy o lais ynghylch sut mae'r arian yma'n cael ei wario, oherwydd wrth gwrs cynghorwyr wedi eu hethol yn lleol fydd nawr yn gwneud penderfyniadau ar ran eu cymunedau. Mewn gwirionedd, mae mwy o bobl yn cael dweud eu dweud, nid llai o bobl. Ac rydw i eisiau gallu ymddiried yn y cynghorau a'r cynghorwyr hynny i wneud y penderfyniadau cywir ar gyfer ein cymunedau. Felly, gyda hyn mewn golwg, Gweinidog, nid wyf yn credu eich bod wedi ateb cwestiwn Luke Fletcher yn gynharach, pan ofynnodd pa gefnogaeth y byddwch yn ei darparu i gynghorau i helpu i sicrhau bod yr arian hwn yn cael ei wario yn y ffordd orau bosibl. Felly, byddwn i'n ddiolchgar petaech chi'n gallu ateb hynny. Ond hefyd sut fyddech chi'n gweld rôl cyrff rhanbarthol yng Nghymru, boed yn gyd-bwyllgorau corfforaethol neu'n gyrff eraill, wrth iddynt weithio gyda chynghorau i ddarparu cefnogaeth unwaith eto i gyflawni'r prosiectau pwysig hyn? Diolch yn fawr iawn. Vaughan Gething AC: Diolch am y cwestiynau ar ddau faes eang. Fe ddechreuaf gyda'r un olaf, ac ymddiheuriadau am beidio ag ateb cwestiwn Luke Fletcher yn llawn, o ran y gefnogaeth i gynghorau. Dyna roeddwn i'n cyfeirio ato yn fy natganiad. Rwyf eisiau gweithio gydag awdurdodau lleol, yn enwedig yn eu rhanbarthau, nawr ein bod wedi cael dwy rownd o'r gronfa ffyniant bro ac mae'r gronfa ffyniant gyffredin wedi cyflawni rhai dyraniadau mewn gwirionedd, er mwyn deall lle mae bylchau—ac mae bylchau mewn gwahanol rannau o Gymru yn amlwg—lle mae dyblygu posibl, a sut rydym mewn gwirionedd yn ceisio rheoli'r ffordd y mae'r cronfeydd hynny sydd wedi'u torri'n deilchion yn y ffordd sy'n achosi'r niwed lleiaf ac mewn gwirionedd manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sy'n bodoli. Mae hynny'n ymarfer ymarferol y mae angen iddo ddigwydd. Dim ond oherwydd y ffordd y mae'r arian wedi'i reoli a'i gyflawni y mae angen iddo ddigwydd. Mae hynny'n mynd yn ôl at eich pwynt cyntaf sef a oes gan Gymru lai o lais dros lai o arian. Nid yw'n gwbl wir nad oes gan Gymru lai o lais dros lai o arian. Nid yw eich ymgais ddewr ond gwirion i geisio dweud oherwydd bod yr awdurdodau lleol bellach yn gweinyddu'r arian bod mwy o lais, yn dal dŵr mewn gwirionedd. Peidiwch â derbyn fy ngair i yn unig am hyn; derbyniwch air CLlLC a'u barn ar yr hyn sy'n digwydd gyda chronfeydd ffyniant bro. Os edrychwch chi ar y gogledd, nid yw'r rhanbarth rydych chi'n ei gynrychioli, sir y Fflint, wedi cael yr un geiniog o'r gronfa ffyniant bro. Os edrychwch chi ar y gronfa ffyniant gyffredin, mae'r ffordd y mae wedi'i chyflawni mewn gwirionedd yn gosod beichiau ychwanegol ar awdurdodau lleol ac yn eu gwneud nhw y cig yn y frechdan pan fo rhannau eraill o sectorau allweddol, gan gynnwys ymchwil, gan gynnwys y trydydd sector, ar eu colled ac yna dywedir wrthynt gan ystod o gynrychiolwyr Llywodraeth y DU, 'Ewch i weld eich awdurdod lleol; mae'r arian ganddyn nhw nawr.' Mae'n frwydr annheg lle mae yna ymgais ddewr a bwriadol heb os gan Lywodraeth y DU i gyfeirio pobl at awdurdodau lleol oherwydd yr heriau a'r problemau y maen nhw wedi'u creu. Llywodraeth y DU sydd wedi penderfynu ar y fframwaith i gyd: y fformiwla ariannu, y fframwaith, natur flynyddol y peth, y dewisiadau gwael sy'n sicr o gael eu gwneud, diffyg cyfeiriad strategol—y cyfan wedi'u penderfynu gan Lywodraeth y DU. Yn hytrach na dychwelyd pwerau i Gymru, mae pwerau wedi cael eu cymryd oddi ar Gymru a'u defnyddio yn Whitehall, a nawr mae disgwyl i awdurdodau lleol ysgwyddo'r cyfrifoldeb. Byddwn i wedi meddwl, fel cyn-arweinydd mewn awdurdod lleol, y byddai gennych lawer mwy o ddiddordeb mewn cefnogi eich cyn-gydweithwyr mewn llywodraeth leol, yn hytrach na cheisio dweud eu bod, rhywsut, bellach mewn cyfnod newydd dewr yn cyflawni llai o lais dros lai o arian. Vikki Howells AC: Diolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad ac am eich gonestrwydd wrth esbonio i bobl Cymru sut mae trefniadau chwerthinllyd cronfa ffyniant gyffredin a chronfa ffyniant bro Llywodraeth y DU wedi siomi ein cymunedau. Fel y gwyddoch chi, mae'r rhain yn feysydd polisi yr wyf wedi bod yn cadw llygad barcud arnyn nhw yn rhinwedd fy swydd fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar gymunedau diwydiannol, lle rydym wedi cymryd tystiolaeth gref yn aml o'r Gynghrair Cymunedau Diwydiannol ynghylch y niwed y mae'r cronfeydd carbwl hyn yn ei achosi ledled Cymru. Gweinidog, rydych chi wedi nodi prif ffigurau'r difrod sy'n cael ei wneud i'n sector ymchwil, datblygu ac arloesi hanfodol, ond a allech chi ehangu ymhellach ar y goblygiadau hirdymor yr ydym yn debygol o'u hwynebu, i'r sector addysg uwch oherwydd i Lywodraeth y DU wrthod rhoi cyllid disodli cronfeydd yr UE i ymchwil, datblygu ac arloesi? Yn ail, pa asesiad ydych chi wedi'i wneud o'r difrod economaidd a achoswyd gan y ffaith, yn wahanol i ffrydiau ariannu'r UE, nad yw'r cronfeydd hyn yn amlflwydd eu natur, rhywbeth y mae'r Gynghrair Cymunedau Diwydiannol a'r Athro Steve Fothergill wedi rhybuddio Llywodraeth y DU dro ar ôl tro ei fod yn niweidiol i'r gwaith o gyflawni prosiectau llwyddiannus? Yn olaf, Gweinidog, roeddwn i'n falch iawn o glywed arweinydd Llafur y DU, Keir Starmer, yn addo yng nghynhadledd ddiweddar Llafur Cymru y bydd Llywodraeth Lafur nesaf y DU yn adfer y pwerau economaidd coll hyn i Gymru. A wnewch chi ymuno â mi i groesawu'r cyhoeddiad cadarnhaol iawn hwn? Vaughan Gething AC: Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Rwy'n cytuno'n llwyr fod pobl yng Nghymru wedi cael eu siomi gan ddull gweithredu'r Llywodraeth Geidwadol. Y Llywodraeth Geidwadol, nid yr undeb, sy'n siomi pobl, yn fy marn i. Rwy'n credu bod y grŵp trawsbleidiol ar gymunedau diwydiannol wedi bod yn wirioneddol adeiladol wrth dynnu sylw at nid yn unig rai o'r heriau, ond hefyd wrth ddychmygu sut y gallai atebion mewn byd gwell edrych, ac yn arbennig rwy'n talu teyrnged i'r ffordd y mae Vikki Howells wedi siarad gyda swyddogion cyfatebol yn Senedd y DU, a cheisio sicrhau bod sgwrs gydgysylltiedig ynghylch beth y gallai a dylai ffurf a gwedd 'gwell' fod. Yr anhawster gydag ymchwil addysg uwch yw y gall y golled fod yn barhaol. Mae'r bobl hyn yn symudol ac mae galw amdanynt, ac mewn gwirionedd does dim sicrwydd y byddan nhw'n aros yn y DU, heb sôn am aros yng Nghymru. Mae pobl eraill sy'n chwilio am bobl â sgiliau a thalent, ac efallai byddan nhw'n diflannu. Yr her yw nid colli'r swyddi hynny yn y sector yn unig, yr arian sydd ganddyn nhw a'r gwario mewn cymunedau lleol; mae hefyd yn ymwneud â'r hyn a allai ddigwydd o bosib wedyn pan fydd pobl yn gwneud dewisiadau eraill o ran datblygu busnes a lleoliad. Mae pobl yn aml yn chwilio am feysydd ar gyfer ymchwil, datblygu ac arloesi, fel y nododd Mike Hedges. Pan fyddwch chi'n colli talp sylweddol o hynny, mae'n gwneud y prifysgolion o bosib yn llai deniadol, ac o bosib yn golygu bod cyfleoedd ar gyfer datblygu economaidd yn llai deniadol hefyd. Rydym yn ceisio nofio yn erbyn y llif hwnnw a'r dewis bwriadol hwnnw gan Lywodraeth y DU. Y newyddion da yw bod gennym gryfderau allweddol y gallwn fanteisio arnyn nhw: gweithgynhyrchu uwch, y sector technoleg ariannol, lled-ddargludyddion hefyd a mwy—wrth gwrs, ynni adnewyddadwy. Byddai wedi bod cymaint gwell ac yn haws pe na bai ni wedi colli'r 1,000 o swyddi sy'n siŵr o adael Cymru yn fy marn i. Ac ar gyllid amlflwydd, rwy'n credu eich bod chi'n hollol iawn. Un o fy mhrif feirniadaethau erioed yw hyd yn oed gyda swm llai o arian os yw'n amlflwydd rydych chi'n mynd i gael mwy o fudd ohono. Bron bob amser mae angen treulio amser yn dylunio rhywbeth, i weithio gyda phartneriaid, i ddeall sut y bydd yn cael ei gyflawni, i wneud yn siŵr eich bod yn gallu deall sut mae'r sicrwydd yn digwydd ac yna i fwrw ymlaen a'i gyflawni. Os oes rhaid i chi wneud hynny i gyd o fewn blwyddyn, mae eich ffrâm amser i wneud rhywbeth strategol yn llawer byrrach, yn llawer llai tebygol o gael ei wario'n dda, ac mae rhan ohonof i hyd yn oed yn fwy rhwystredig oherwydd, o safbwynt Llywodraeth y DU, mae'n rhywbeth bach i'w weithredu ond byddai'n gwella'r gwerth am arian y bydd y rhaglen honno'n ei chyflawni. Rwy'n ffyddiog pe byddai Llywodraeth Cymru'n dewis peidio mabwysiadu dull gwario amlflwydd pryd y byddai'n bosib gwneud hynny, y byddem ni'n cael ein beirniadu'n gadarn gan y pwyllgorau pwnc ac, yn wir, cynrychiolwyr cyfrifon cyhoeddus a fyddai'n edrych ar y gwerth am arian, a byddwn i'n galw eto ar Lywodraeth y DU, os dim byd arall, i edrych eto ar natur amlflwydd y cronfeydd hyn. Ac, wrth gwrs, rwy'n sicr yn croesawu datganiad diweddar Keir Starmer. Dyma'r math o bartneriaeth sydd ei hangen arnom rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU a allai, ac a ddylai sicrhau dyfodol gwell i bobl ym mhob cwr o'n gwlad. Ac, yn olaf, Carolyn Thomas. Carolyn Thomas AS: Gweinidog, bûm yn ymweld â phrosiect gwerth £38 miliwn a ariannwyd gan yr UE o'r enw TRAC, a ddarparwyd gan Goleg Llandrillo, a oedd yn cefnogi pobl ifanc sy'n datgysylltu o addysg ac sydd mewn perygl o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Yn anffodus, dyma enghraifft o brosiect rhanbarthol gwerthfawr a ddaeth i ben ar ôl Brexit. Roeddwn i'n gobeithio y byddai'n parhau o dan ffrydiau ariannu newydd ac rwyf wedi bod yn cadw golwg arno. Ac yn ddiweddar darllenais ddatganiad i'r wasg bod awdurdodau lleol yn y gogledd wedi cael dyraniad o arian ffyniant cyffredin dros gyfnod o dair blynedd ac roedden nhw'n gofyn am geisiadau. Mae'n debyg, er hyn, bod y meini prawf yn gymhleth ac mae'n rhaid gwario arian unrhyw brosiectau erbyn diwedd y flwyddyn nesaf. Felly, nid prosiect tair blynedd mohono. O brofiad yn y gorffennol o wneud cais am grantiau a'u darparu, gan gynnwys gwneud ymchwil, costau, ymgynghoriadau cyhoeddus, astudiaethau dichonoldeb, cyflogi a chyflawni, mae hyn yn mynd i gymryd amser ac ni fydd cynaliadwyedd wedi'i gynnwys ynddo os yw am flwyddyn yn unig. Ac fe ddywedodd sir y Fflint eu bod wedi dileu ceisiadau am gyllid ffyniant bro o gynllun y cyngor nawr, ar ôl ceisio ddwy waith ac wedi methu. Roedd angen llawer o adnoddau prin sylweddol, a'r adborth gan Lywodraeth y DU oedd bod y ceisiadau'n dda iawn, ond ei bod yn rhy gystadleuol. Felly, Gweinidog, ydych chi'n cytuno nad dyma'r ffordd orau o sicrhau gwerth am arian, a bod angen i Lywodraeth y DU wneud llawer mwy i gefnogi prosiectau, fel TRAC, dros y tymor hir? Diolch. Vaughan Gething AC: Ydw, rwy'n cytuno'n llwyr fod hyn yn ffordd wael iawn o geisio sicrhau twf economaidd cynaliadwy, ac nid yw natur flynyddol y dewisiadau cyllido yn gwneud unrhyw synnwyr o gwbl os ydych chi eisiau cyflawni gwerth da am arian. Mae'n bwynt nad dim ond fi sy'n ei wneud; mae'n bwynt sydd wedi cael ei wneud gan bwyllgorau dethol Tŷ'r Cyffredin, er enghraifft. Ac, wrth gwrs, mae'n bwysig yn hyn o beth i gofio mai grwpiau trawsbleidiol yw'r rhain gyda mwyafrif o aelodau meinciau cefn y Ceidwadwyr arnyn nhw; eu bod nhw eu hunain yn cydnabod ei fod yn ffordd wael o wario arian. Ac mae'r pwynt bod y meini prawf yn gymhleth hefyd yn rhan o'r anhawster yr ydym yn ei wynebu. Ond nid dyna'r unig beth. Ond, yn rhywfaint o'r feirniadaeth am yr hyn sydd wedi digwydd gyda'r gronfa ffyniant bro, nododd y pwyllgor cyfrifon cyhoeddus ym mis Mehefin y llynedd, yn y ffordd y cafodd dewisiadau eu gwneud gan Weinidogion y DU, fe wnaeth Gweinidogion gwblhau'r egwyddorion ar gyfer dyfarnu arian dim ond ar ôl iddyn nhw wybod pwy oedd y cynigwyr ar y rhestr fer a'u sgorau. Nawr, dydy hynny ddim yn edrych fel ffordd wrthrychol o gyflawni ffyniant bro. Mae'n edrych yn debyg o hynny bod gan Lywodraeth y DU Weinidogion yn penderfynu ar enillwyr ar feini prawf nad ydyn nhw'n wrthrychol nac yn deg ac yn sicr nid ydynt yn strategol. Byddwn i wir yn hoffi bod â pherthynas wahanol gydag unrhyw arlliw o Lywodraeth y DU: un sy'n seiliedig ar dystiolaeth, un sy'n seiliedig ar realiti pragmatig ac adeiladol rhwng ein dwy Lywodraeth i geisio gwneud gwahaniaeth gyda holl bobl Cymru ac ar eu cyfer. Yn syml, nid yw hynny'n bosib gyda'r dull gweithredu presennol gan Lywodraeth y DU. Byddwn yn croesawu dull gwahanol o weithredu, hyd yn oed i'r un presennol, os na, mae'n ddigon posibl y bydd yn rhaid i ni aros tan fod etholiad cyffredinol yn rhoi cyfle i bobl Cymru a'r DU newid cwrs ar lefel y DU. Diolch i'r Gweinidog. 7. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Arferion Mabwysiadu Hanesyddol Eitem 7 heddiw yw'r datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ar arferion mabwysiadu hanesyddol. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog, Julie Morgan. Julie Morgan AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o allu gwneud datganiad i'r Aelodau heddiw am arferion mabwysiadu hanesyddol yng Nghymru. Daw hyn yn dilyn ymchwiliad y Cyd-bwyllgor ar Hawliau Dynol i brofiadau menywod di-briod a'u plant a fabwysiadwyd yn ystod y 1950au, y 1960au a'r 1970au. Edrychodd y pwyllgor a oedd prosesau mabwysiadu yn parchu hawliau dynol, fel rydyn ni'n eu deall nawr, y mamau a'r plant yr effeithiwyd arnyn nhw. Archwiliodd hefyd ganlyniadau parhaol yr arferion hyn ar eu bywydau. Rwy'n falch iawn bod mamau, plant sy'n oedolion ac eraill a effeithiwyd gan arferion hanesyddol, yn ymuno â ni yn yr oriel heddiw. Yn gynharach eleni, yn y Sgwrs Fawr ar Fabwysiadu yng Nghymru, cynigiais fy ymddiheuriadau fy hun am yr hyn a ddigwyddodd gan gydnabod yr effaith gydol oes y cafodd mabwysiadu gorfodol ar fywydau llawer o bobl. Mae arferion mabwysiadu gorfodol yn rhagddyddio datganoli yng Nghymru, ond maen nhw'n parhau i effeithio ar y rhai a'u profodd—rhieni, plant ac aelodau ehangach o'r teulu. I lawer, mae'r teimladau o golled, galar, dicter a phoen yn parhau. Ar yr adeg pan ddigwyddodd yr achosion mabwysiadu hyn, roedd llawer o'r menywod yn ifanc, yn agored i niwed ac yn profi argyfyngau personol. Nid oedden nhw bob amser yn cael gwybod am unrhyw hawliau cyfreithiol i ofalu am eu plentyn eu hunain nac yn cael y cymorth yr oedd ei angen arnynt i wneud hynny. Gwnaed i rai deimlo'n annigonol, yn anfoesol ac nad oeddyn nhw'n haeddu cael magu eu babanod eu hunain. Cyflwynwyd mabwysiadu fel yr unig opsiwn oherwydd diffyg cefnogaeth ariannol a chefnogaeth arall, a'r stigma a oedd yn gysylltiedig â genedigaeth siawns a mamolaeth heb fod wedi priodi. Hyd yn oed nawr, mae nifer o'r rhai yr effeithiwyd arnyn nhw yn ei chael hi'n anodd iawn siarad am y torcalon gydol oes y maen nhw wedi ei gadw i'w hunain rhag ofn iddyn nhw gael eu barnu o hyd. Mae'r loes a ddioddefwyd gan yr arferion hanesyddol hyn yn ymestyn y tu hwnt i berthynas y fam enedigol â'i phlentyn. Mae rhai plant a gafodd eu mabwysiadu o dan yr amgylchiadau hyn wedi dioddef oes o ansicrwydd a phryder, er i'w rhieni mabwysiadol eu caru a gofalu amdanynt. Mae gan rai deimlad parhaus fod rhan ohonyn nhw ar goll ac yn parhau i gwestiynu pam na wnaeth eu rhieni genedigol edrych ar eu holau a'u magu eu hunain. Mae'r galar sy'n gysylltiedig â pheidio â gwybod pwy ydyn nhw'n gyffredin ymhlith y plant hyn ac yn ymwneud â cholli hunaniaeth, diffyg gwybodaeth am eu gwreiddiau, o'r ddau riant genedigol, ac i lawer, gan gynnwys plant rhieni o leiafrifoedd ethnig, colli eu cefndir diwylliannol ac ethnig ehangach. Er bod trawma mabwysiadu gorfodol wedi'i gofnodi'n dda o safbwynt mam a phlentyn, mae'r effaith ar y tad yn aml yn cael ei anghofio. Yn gyffredinol, diystyrwyd tadau geni a'u beio am lygru merched diniwed. Ychydig iawn o lais a oedd ganddyn nhw yn yr hyn a fyddai'n digwydd i'r babi ar ôl cael ei eni, gan eu gadael yn teimlo'n ddiymadferth ac yn methu cefnogi eu partneriaid. Yn aml iawn, maen nhw'n dod yn gymeriadau anghofiedig y cafodd eu lleisiau eu hanwybyddu. Rwyf felly eisiau cydnabod profiadau tadau o ran yr arferion hanesyddol hyn hefyd. Roedd yr arferion hyn yn anegwyddorol, yn anfoesol ac efallai mewn rhai achosion wedi bod yn anghyfreithlon, ac rwyf eisiau cofnodi heddiw fy nghydymdeimlad dwys â phawb yr effeithiwyd arnyn nhw gan fabwysiadu gorfodol hanesyddol. Beth bynnag yw pwysau cymdeithasol neu normau cymdeithasol y dydd, ni ddylai arferion annynol o'r fath fyth fod yn rhan dderbyniol o'n cymdeithas yng Nghymru. Mae'r niwed a wnaed i'r unigolion hyn yn fawr, ond fel Llywodraeth, mae'n ddyletswydd arnom i roi bob cyfle iddyn nhw fyw gweddill eu bywydau mor rhydd o drawma a gwewyr â phosib. Ni allwn newid yr hyn sydd wedi digwydd, ond gallaf roi sicrwydd bod deddfwriaeth ac arferion mabwysiadu wedi'u gwella'n sylweddol ers hynny. Caiff mabwysiadu bellach dim ond ei ystyried pan fydd pob opsiwn arall wedi'i archwilio'n llawn. Mae gwasanaethau wedi'u cynllunio i helpu teuluoedd geni i aros gyda'i gilydd pryd bynnag y bydd hynny'n bosib, a phan nad yw'n bosib, mae mabwysiadu yn rhoi diogelwch, sefydlogrwydd a'r cyfle i ffynnu i blant. Hoffwn hefyd gydnabod a rhoi ar y cofnod y cyfraniad pwysig y mae rhieni mabwysiadol yn parhau i'w wneud ar ran plant trwy eu derbyn nhw i'w cartrefi ac i'w calonnau. Rydyn ni, Llywodraeth Cymru, yn ddiolchgar iawn iddyn nhw am roi'r cariad a'r cymorth y mae pob plentyn ei angen. Diolch. Fel Llywodraeth, rydyn ni'n gwrando ar brofiadau a straeon pobl er mwyn sicrhau bod y gefnogaeth gywir a'r cwnsela proffesiynol i'r rhai yr effeithir arnyn nhw ar gael yn rhwydd. Mae'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol wedi datblygu tudalen we yn benodol ar gyfer y rhai hynny a effeithiwyd gan fabwysiadu hanesyddol. Mae hon yn darparu llu o wybodaeth sy'n ymwneud â chefnogaeth mabwysiadu a chwnsela, mynediad at gofnodion a gwasanaethau cyfryngol. Bydd hefyd yn gallu cyfeirio unigolion at wasanaethau eraill, gan gynnwys grwpiau cymorth cymheiriaid ac eiriolaeth, gwasanaethau cymorth ôl-fabwysiadu a ariennir gan Lywodraeth Cymru a darparwyr gwasanaethau eraill nad ydynt yn rhan o'r Llywodraeth. Mae fy swyddogion eisoes wedi dechrau gweithio ochr yn ochr â'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol i ystyried y materion a amlinellir yn adroddiad y cyd-bwyllgor a datblygu gwasanaethau cymorth a fydd yn mynd i'r afael ag anghenion penodol y rhai yr effeithiwyd arnyn nhw gan yr arferion hyn. Yn ddiweddar rydym wedi cynnal digwyddiad ymgynghori sy'n cynnwys rhieni biolegol a effeithiwyd gan arferion mabwysiadu hanesyddol. Roedd hwn yn darparu lle diogel i wrando a chlywed barn ac i lywio datblygiad ein gwasanaeth. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â'r mamau hyn wrth i ni ddatblygu ein gwasanaethau. Mae swyddogion a'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol wedi dechrau cwmpasu'r newidiadau rheoleiddio y gellid eu cyflwyno yng Nghymru i gefnogi'r materion sy'n ymwneud â'r prinder cwnselwyr sy'n gallu darparu cymorth ôl-fabwysiadu ochr yn ochr ag ystyried ein gwasanaethau cyfryngol. Rydym hefyd wedi ymrwymo i archwilio'n llawn gyda'r rhai yr effeithiwyd arnynt yr heriau allweddol y maen nhw'n eu hwynebu o ran cofnodion mabwysiadu. Ar hyn o bryd, rydym yn cwmpasu sut olwg allai fod ar well wasanaeth mynediad cenedlaethol i gofnodion i'r rhai yr effeithiwyd arnyn nhw gan yr arferion hanesyddol hyn yng Nghymru. Wrth i ni wynebu heriau'r dyfodol, byddwn yn cofio gwersi gwahanu teuluol ac yn parhau i ddiogelu hawliau sylfaenol plant a phwysigrwydd eu hawl i gael gofal gan riant. Dyna pam, fel rhan o'n gwaith i ddiwygio gwasanaethau plant yng Nghymru yn sylweddol, rydym wedi ymrwymo i barhau i ddatblygu gwasanaethau a all gefnogi teuluoedd sy'n agored i niwed i aros gyda'i gilydd. Hoffwn gyfleu fy nghydymdeimlad ac edifeirwch dwysaf i bawb yr effeithiwyd arnyn nhw. Oherwydd bod cymdeithas wedi eich methu chi, rydych chi wedi gorfod dioddef arferion hanesyddol arswydus iawn yng Nghymru, ac am hyn, mae'n wirioneddol flin gan Lywodraeth Cymru. Gareth Davies AS: A gaf i ddiolch i chi, yn gyntaf, Dirprwy Weinidog, am gyflwyno'r datganiad heddiw ar arferion mabwysiadu hanesyddol, sy'n dilyn ymchwiliad y Cyd-bwyllgor ar Hawliau Dynol i brofiad menywod di-briod a'u plant a fabwysiadwyd yn ystod y 1950au, y 1960au a'r 1970au? Fel yr ydych yn sôn yn eich datganiad, Gweinidog, roedd llawer o arferion mabwysiadu hanesyddol yn anegwyddorol, yn anfoesol ac, mewn llawer o achosion, yn anghyfreithlon. Yn ogystal â hyn, mae'r arferion hyn yn parhau i effeithio ar lawer a'u profodd, a hefyd, i lawer, mae'r teimladau o golled, galar, dicter a phoen yn parhau. Roedd hon wir yn sefyllfa gwbl erchyll—un na ddylai fod wedi digwydd ac na ddylai fyth ddigwydd eto. Yng ngoleuni hyn, Gweinidog, ar yr ochr hon o'r Siambr, fe hoffai grŵp Senedd y Ceidwadwyr Cymreig uniaethu â'r ymddiheuriad sydd wedi ei wneud gan Lywodraeth Cymru heddiw. Bydd llawer o bobl yn gallu cydymdeimlo â'r effaith ddinistriol y gwnaeth y mabwysiadu gorfodol hyn ei hachosi. A gan fy mod yn dad i ddau o blant fy hun, byddai'n boen na fyddai byth yn dod i ben. Dirprwy Weinidog, os caf i, hoffwn godi ambell gwestiwn gyda chi ynglŷn â'ch datganiad heddiw. Fe ddywedoch chi, Dirprwy Weinidog, nad oedd llawer a fu'n rhan o'r arferion mabwysiadu hyn bob amser yn cael gwybod am unrhyw hawliau cyfreithiol i ofalu am eu plant eu hunain nac yn cael yr help yr oedd ei angen iddyn nhw i wneud hynny. Wrth gwrs, mae hyn yn hynod bryderus, Dirprwy Weinidog, felly a gaf i ofyn pa waith sy'n cael ei wneud bellach i sicrhau bod pawb sy'n cysylltu ag arferion mabwysiadu yn cael gwybod am eu hawliau cyfreithiol? Yn ail, Dirprwy Weinidog, rydych chi'n dweud bod rhai plant a gafodd eu mabwysiadu yn yr amgylchiadau hyn wedi dioddef oes o ansicrwydd a phryder, er eu bod yn cael eu caru ac yn cael gofal gan eu rhieni mabwysiadol. Yng ngoleuni hyn, Gweinidog, pa waith pellach sy'n cael ei wneud i sicrhau bod y rhai yr effeithiwyd arnyn nhw yn cael cefnogaeth lawn? Ac yn olaf, Dirprwy Weinidog, fe wnaethoch chi sôn bod digwyddiad ymgynghori wedi'i gynnal yn ddiweddar, yn cynnwys rhieni geni yr effeithiwyd arnyn nhw gan arferion mabwysiadu hanesyddol. A gaf i groesawu'r ymgynghoriad hwn a gofyn a oes unrhyw asesiad cychwynnol wedi'i wneud o'r ymgynghoriad cychwynnol hwn, ac a fydd rhagor yn cael ei wneud yn y dyfodol agos? Ac i ailadrodd yr hyn a nodais ar ddechrau fy ymateb, hoffwn ddiolch i chi am gyflwyno'r datganiad heddiw ac rwyf yn ailadrodd ein cefnogaeth i'ch gweithredoedd y prynhawn yma. Diolch. Julie Morgan AC: Diolch yn fawr i'r Aelod am ei gyfraniad. Diolch am gysylltu eich hun gyda'r ymddiheuriad rwyf wedi ei roi ar ran Llywodraeth Cymru heddiw. Gwerthfawrogir hynny'n fawr. Yn amlwg, fe godoch chi rai pwyntiau pwysig iawn. Rydym yn gweithio i sicrhau bod plant sy'n cael eu mabwysiadu nawr a mamau plant sy'n cael eu mabwysiadu, rhieni plant sy'n cael eu mabwysiadu, yn gwbl ymwybodol o'u hawliau cyfreithiol ac yn cael y cyfle i gael y cymorth a'r cyngor proffesiynol sydd ei angen arnynt. Mae mabwysiadu, fel y dywedais i yn fy araith, bellach yn cael ei ystyried fel y dewis olaf, a gwneir pob ymdrech i gadw plant gyda'u teuluoedd ac i roi cefnogaeth iddyn nhw gartref. Dyna pam mae gennym ni'r rhaglen, fel y gwyddoch chi, o geisio trawsnewid gwasanaethau plant yn sylweddol, sy'n rhoi cymaint o gefnogaeth i geisio cadw plant yn eu teuluoedd ac yn eu cymunedau. Mae'r pwynt am blant mabwysiedig yn aml yn profi ansicrwydd a phryder yn rhywbeth sydd wedi'i gofnodi'n dda, ac rydyn ni'n rhoi adnoddau ar gyfer cymorth ar ôl mabwysiadu. Mae cryn dipyn o gymorth ar ôl mabwysiadu bellach yn digwydd yng Nghymru. Yn wir, rwy'n credu yn y baromedr, lle mae wedi'i restru sut mae gwahanol rannau o'r DU yn rheoli eu gwasanaethau, mae Cymru'n sgorio'n uchel iawn o ran y gefnogaeth y mae'n ei rhoi i deuluoedd yng Nghymru. Felly, mae gennym wasanaethau ôl-fabwysiadu yn benodol sy'n ymdrin â'r trawma. Oherwydd rwy'n credu yn y gorffennol roedden ni'n meddwl bod gennych chi orchymyn mabwysiadu a dyna ni ac mae pawb yn byw'n hapus am byth ar ôl hynny, ond yn amlwg dydy hynny ddim yn wir. Yn y bôn, mae'n oes, mewn gwirionedd, o ddod i delerau â'r trawma a allai fod wedi digwydd o'r blaen ac o ymdopi â'r teimladau sydd wedi arwain at beidio â gwybod, weithiau, beth oedd eich gwreiddiau, a hefyd y straen sydd wedi'i adael gyda'r mamau a'r bobl eraill oedd yn rhan o hynny na chafodd eu babanod eu rhoi i'w mabwysiadu ond fe'u cymerwyd. Ac yna, yn olaf, yr ymgynghoriad. Rydym wedi sefydlu grŵp ymgynghori, sy'n cynnwys pobl sydd â phrofiad bywyd o'r arferion hyn. Gobeithiwn y bydd hyn yn ffurfio grŵp parhaol y gallwn weithio gydag ef fel y bydd ein hymatebion yn cael eu paratoi at yr hyn a ddymunir a'r hyn sydd ei angen. Rydyn ni eisiau bod yn sicr ein bod ni'n dod â phobl sy'n ymwybodol o'r hyn ddigwyddodd iddyn nhw mewn gwirionedd a'r effaith y mae wedi'i chael ar eu bywydau er mwyn i ni allu ymateb yn y ffordd gryfaf bosib. Diolch yn fawr am y gefnogaeth. Heledd Fychan AS: Diolch i'r Dirprwy Weinidog am y datganiad hynod o bwysig yma. Mae hyn yn rhywbeth sydd yn gwneud inni adlewyrchu pam ei bod hi'n bwysig bod gennym ni ein Senedd ein hunan yma yng Nghymru, a'n bod ni'n gallu unioni rhai o gamweithredau'r gorffennol a rhoi'r ymddiheuriad pwysig yna—geiriau bach a hawdd i'w dweud, ond mor anodd weithiau bod pobl yn gorfod brwydro mor galed. Rydyn ni'n gwybod bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn parhau o'r farn nad oes angen y math yma o ymddiheuriad, ond mae'n bwysig ein bod ni yn cydnabod beth sydd wedi digwydd yn y gorffennol. Hoffwn i gysylltu fy hunan a Phlaid Cymru gyda'r ymddiheuriad a'ch sylwadau chi heddiw. Mae hwn yn ddatganiad a moment bwysig. Dwi'n gobeithio hefyd y bydd o'n rhoi cysur i'r rheini sydd yn dioddef trawma a dioddefaint parhaus. Dydy o ddim yn mynd i unioni beth ddigwyddodd, dydy o ddim yn mynd i gael gwared â'r trawma hwnnw, ond yn sicr mae cael y gydnabyddiaeth yna eu bod nhw'n haeddu ymddiheuriad yn beth pwysig iawn, a dwi'n falch o weld hyn yn digwydd yma yn ein Senedd genedlaethol ni. Yn sicr, mi oedd hi'n foment bwysig hefyd gweld yr Alban yn gwneud hyn, ac mae yna nifer o wersi i'w dysgu. Mi fyddwn ni i gyd, dwi'n siŵr,wedi cyfarfod â phobl sydd wedi dioddef oherwydd y polisi creulon hwn, a chreulon oedd o—yn greulon i bawb oedd ynghlwm. Ac mae'n bwysig iawn bod pethau yn wahanol, rŵan, a chael y sicrwydd gan y Dirprwy Weinidog bod pethau yn wahanol erbyn hyn ac ein bod ni wedi dysgu'r gwersi hynny. Ond yn sicr, mae hi'n rhywbeth parhaus inni fod yn cadw golwg arno fo a sicrhau, felly, bod yr holl gefnogaeth angenrheidiol ar gael i unrhyw deulu neu unigolyn sydd yn y sefyllfa anodd honno. Yr un peth fyddwn i'n hoffi gweld—. Roeddwn i'n gweld yn eich datganiad chi, a hoffwn eglurder, jest o ran y cymorth fydd ar gael, rŵan, oherwydd, yn amlwg, mi all glywed yr ymddiheuriad godi crachen a chodi'r holl deimladau yma i nifer o bobl. Mi oeddech chi'n cyfeirio at gwnsela. Mi oedd Llywodraeth yr Alban wedi datgan £145,000 yn benodol ar gyfer rhoddi cymorth arbenigol a chwnsela ar gyfer y rhai sydd wedi eu heffeithio. Felly, a gaf i ofyn a oes yna arian penodol er mwyn cefnogi hyn, neu sut ydych chi'n bwriadu sicrhau bod y cymorth hwnnw ar gael? Oherwydd, yn amlwg, mi fydd yna nifer o bobl yn gwylio'r datganiad hwn heddiw, ac mi fyddai'n dda cael y sicrwydd o ran sut maen nhw'n mynd i allu cael gafael ar y gefnogaeth yna. Felly, dyna fy unig gwestiwn, ond diolch i chi am hyn. Fel dwi'n dweud, mae'n foment bwysig i'n Senedd ni, a dwi'n falch iawn o weld Llywodraeth Cymru yn gwneud hyn heddiw. Julie Morgan AC: Diolch yn fawr iawn am y cyfraniad yna ac am gysylltu Plaid Cymru gyda'r ymddiheuriad. Rwy'n ddiolchgar iawn am hynny, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod wedi ein huno ar draws y Senedd i gyd wrth gefnogi'r ymddiheuriad hwn, ac rydym yn gobeithio y bydd yr ymddiheuriad hwn ynddo'i hun yn dod â rhywfaint o ryddhad i'r bobl yr ydw i'n gwybod eu bod wedi ymgyrchu cyhyd er mwyn cael ymddiheuriad, ac mae'n dda bod gennym ni ddatganoli a gallwn wneud y penderfyniad hwnnw yma, a'n bod ni wedi penderfynu bod yn rhaid i ni ymddiheuro'n ffurfiol i'r bobl sydd wedi rhoi gwybod i ni beth mae wedi ei olygu iddyn nhw'r holl flynyddoedd hyn—yr arferion hanesyddol hyn a oedd mor wael. Rwy'n credu bod Heledd Fychan yn gwbl gywir wrth ddweud mai polisi creulon oedd hwn, a dylem ni gydnabod hynny nawr. Ac mae'n wahanol nawr—rydyn ni wedi dysgu gwersi—ond mae'n rhaid i ni gadw llygad ar hynny a gweld yn union beth sy'n digwydd, a gobeithio bod hynny wedi ei adeiladu i'r system gennym er mwyn cynnal yr oruchwyliaeth honno. O ran yr hyn y byddwn ni'n gallu ei ddarparu, mae prinder cwnselwyr, ac rydyn ni'n edrych ar ffyrdd o newid y rheoliadau efallai er mwyn gallu sicrhau bod mwy o gwnselwyr ar gael, ond rydyn ni'n gwneud hyn i gyd mewn ymgynghoriad â'r grŵp yr ydym wedi'i sefydlu. Felly, dydw i ddim wir yn gallu dweud y byddwn ni'n gwneud rhywbeth penodol neu'n gwario swm penodol o arian, oherwydd rydyn ni eisiau ei wneud yn gydgynhyrchiol gyda phobl sydd wedi cael y profiad bywyd mewn gwirionedd. Fel y dywedais i mewn ymateb i'r cwestiwn cynharach, mae gan Gymru hanes da o ran cefnogaeth ôl-fabwysiadu erbyn hyn, oherwydd ein bod wedi rhoi adnoddau sylweddol ynddi, felly mae gennym lefydd i gyfeirio pobl, ond rydym yn gobeithio, drwy wneud yr ymddiheuriad cyhoeddus hwn, drwy ei wneud mor gyhoeddus ag y gallwn, y bydd yn cyrraedd y bobl hynny nad ydyn nhw wedi bod yn yr ymgyrchoedd mewn gwirionedd ond sydd wedi bod â'r gyfrinach hon ers blynyddoedd a blynyddoedd, ac wedi methu â chael y cyfle i'w fynegi. Felly, rwy'n gobeithio ein bod ni'n mynd i gyrraedd rhai o'r bobl hynny, ac yn amlwg, bydd yn rhaid i ni ymateb i unrhyw gais a gawn mewn gwirionedd. Rwy'n credu bod yr ymddiheuriad ynddo'i hun yn bwysig iawn, ond rwy'n gwybod ei fod yn arwain at yr angen i wneud pethau eraill. Daeth y Llywydd i’r Gadair. Jenny Rathbone AC: Diolch yn fawr iawn am eich arweiniad ar y mater hwn. [Torri ar draws.] Diolch yn fawr iawn am eich arweiniad ar y mater poenus iawn hwn. Wrth fyfyrio pan oeddwn i'n fenyw ifanc yn y 1960au a'r 1970au, gallaf ddweud yn wirioneddol nad oeddwn i'n gwybod am hyn. Roeddwn i'n fenyw radical a oedd yn camymddwyn yn fawr, a phe bawn wedi gwybod, byddwn i wedi gwneud rhywbeth am y peth. Yn hytrach, roeddwn i'n ymgyrchu dros hawl menywod i ddewis. Doedd dim dewis gan y menywod hyn, ac mae'n sicr bod yr arferion hyn yn anegwyddorol, yn anfoesol a—bron yn sicr—yn atal eu hawliau dynol. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni ofyn i ni'n hunain sut mai'r sefydliadau hyn sydd wedi atal yr wybodaeth hon rhag cyrraedd y cyhoedd yn ehangach ers rhyw 30 mlynedd—dim ond yn y 1980au a'r 1990au y dechreuodd y materion hyn gael eu trafod yn gyhoeddus—. A beth oedd y rhai a oedd yn gweld y cyfan a oedd yn mynd ymlaen yn ei wneud? Pam na wnaethon nhw godi eu lleisiau? Mae'r rhain yn bethau y mae'n rhaid i ni eu gofyn i ni'n hunain yn sicr. O ran y lliniaru yr ydych chi'n ymdrechu i unioni o ran y niwed a wnaed i'r menywod hyn—mamau a thadau—yn ogystal â'u plant, mae'n ymddangos bod angen brys i bobl gwrdd â'u rhieni cyn iddyn nhw farw. Ac, felly, mae'n hanfodol ein bod yn cyflymu'r broses o alluogi pobl i weld eu cofnodion a rhoi pob cymorth iddyn nhw geisio olrhain eu perthnasau. Felly, fe glywais i chi'n dweud eich bod chi'n meddwl newid y rheoliadau—haleliwia, gadewch i ni wneud hynny, oherwydd mae'n rhaid i'r bobl hyn gael rhywfaint o gyfiawnder, cau pen y mwdwl ar yr hyn sy'n ddigwyddiad ofnadwy a fydd wedi amharu ar eu bywydau i gyd. Julie Morgan AC: Diolch i Jenny Rathbone am y cyfraniadau yna. Y Cyd-bwyllgor ar Hawliau Dynol—os ydych chi'n darllen eu hadroddiad, mae'n rhoi rhywfaint o hanes yr hyn sydd wedi digwydd, a sut y digwyddodd, felly mae hynny'n werth ei ddarllen yn wir. Rydym yn dechrau edrych a allem fod â ffordd Cymru gyfan o gael mynediad at gofnodion, oherwydd rydyn ni'n clywed rhai straeon digon gofidus am anhawster cael mynediad at gofnodion, o sut mae'n aml yn cymryd amser hir iddyn nhw, ac nad yw'r gefnogaeth bob amser yno pan fo pobl yn cael mynediad at y cofnodion hynny mewn gwirionedd.Felly, rydyn ni'n sicr yn edrych ar hynny. A gydag arferion mabwysiadu newydd, rydyn ni'n ceisio sicrhau bod pobl ifanc a phlant sydd wedi'u mabwysiadu yn gallu, os yw'n bosibl o gwbl, os ydyn nhw'n cael eu mabwysiadu, i gadw cysylltiad â'u teuluoedd cyntaf, oherwydd wedi siarad â llawer o bobl ifanc sydd wedi'u mabwysiadu a'u hadnabod, maen nhw eisiau bod â'r cysylltiad hwnnw. Ac os ydyn ni'n gallu ei adeiladu mewn ffordd fwy naturiol, reit o'r dechrau, os nad yw'n bosib i'r plant fyw gartref gyda'u teuluoedd, a mabwysiadu yw'r opsiwn gorau, os gallwn ni gynnwys mabwysiadu gyda chysylltiad â'u teuluoedd cyntaf, rwy'n credu mai dyna beth rydyn ni'n symud tuag ato. Ac rwy'n credu bod hyn yn eithaf cyffredin mewn rhai gwledydd eraill—yn llawer mwy cyffredin nag y mae yma. Oherwydd, rydyn ni eisiau symud i ffwrdd o sefyllfa lle mae popeth yn cael ei wneud yn gyfrinachol, a phan fo'n bosib, rydyn ni eisiau i'r cyswllt hwnnw fod yno, fel nad oes gennym ni sefyllfa lle mae pobl yn ceisio cysylltu â'u rhieni a methu eu cyrraedd. Felly, rwy'n credu bod llawer o bethau ymarferol y gallwn ni eu gwneud a fydd yn ei gwneud yn llawer haws i bobl yn y sefyllfa hon, ac rydyn ni wedi ymrwymo'n llwyr yn Llywodraeth Cymru i wneud popeth posibl i leddfu'r gofid llwyr sydd wedi'i achosi gan yr arferion hyn a ddigwyddodd rai blynyddoedd yn ôl. Jane Dodds AS: Hoffwn dalu teyrnged i'r bobl hynny yr effeithiwyd arnyn nhw gan yr arfer hollol wrthun hwn. Rwy'n talu teyrnged i'r pwyll a'r urddas rydych chi i gyd wedi ei gyfrannu i'r ddadl hon a'r drafodaeth hon, ac rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn sefyll yma'n ostyngedig, mewn gwirionedd, yn llawn parch atoch chi, ond hefyd, mewn cywilydd o'r hyn a ddigwyddodd yn y gorffennol. Fel arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, ac fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar blant, rwy'n cysylltu fy hun gyda'r ymddiheuriad, ac rwy'n diolch am hynny. Gallaf weld pa mor bwysig yw hi i'r Llywodraeth hon, gyda'r Prif Weinidog yma yn y Siambr, a llawer o aelodau'r Cabinet hefyd, yn cysylltu eu hunain gyda Llywodraeth Cymru a safbwynt pobl Cymru ar ymddiheuro i'r bobl hynny yr effeithiwyd arnynt. Ni allaf ddychmygu'r erchyllterau yr aethoch drwyddynt, a diolch i chi am ddod â hyn i'n sylw. A diolch i chi, fel goroeswyr hyn, mae angen ein hatgoffa'n gyson o'r hyn sydd wedi digwydd yn y gorffennol, a sut y gallwn ei wella ar gyfer y dyfodol. Diolch yn fawr iawn. Julie Morgan AC: Diolch yn fawr iawn, Jane, am gysylltu'r Democratiaid Rhyddfrydol gyda'r ymddiheuriad hwn. Felly, mae hynny'n golygu bod yr holl bleidiau yn y Siambr yn gadarn y tu ôl i'r ymddiheuriad hwn. Felly, rwy'n credu mai dim ond dechrau'r gwaith yr ydyn ni'n mynd i'w wneud ar y mater hwn yw hyn, ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod o'r diwedd yn cydnabod yr hyn a ddigwyddodd i'r menywod ifanc hynny gymaint o flynyddoedd yn ôl, ac nad ydym yn anghofio hynny, nad ydym yn anghofio'r gofid ofnadwy yr aethant drwyddo o ran rhoi genedigaeth i fabi, eisiau ei gadw, a'i weld yn cael ei gymryd oddi arnoch chi a hynny yn cael ei dderbyn fel sefyllfa arferol ar y pryd. Rhaid i ni byth, byth adael i unrhyw beth fel yna ddigwydd eto, ac rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru'n gallu ymddiheuro heddiw ac ymrwymo i wneud popeth posibl yn y dyfodol i helpu. Ac yn olaf, Joyce Watson. Joyce Watson AC: Diolch, Llywydd. Rydw i, fel Jane, eisiau mynegi fy edmygedd o'r dewrder y mae'r menywod sydd wedi cyflwyno hyn wedi ei ddangos, oherwydd dydy hynny ddim yn hawdd, ac roedd yn angenrheidiol—dyna'r broblem. Pan fyddwn ni'n sôn am y 1950au, 1960au a'r 1970au, dydyn ni ddim wir yn sôn am gyfnod sydd mor bell yn ôl. Cafodd fy mhlant i eu geni yn y 1970au, ac roeddwn i'n fam ifanc fy hun, ac ni allaf ddychmygu'r boen a'r torcalon yr oedd y menywod hynny'n ei ddioddef. Roedd gen i ffrind wnaeth ddioddef hynny, ac ni wnaeth hi byth ddod drosto, byth, a doedd hi ddim yn gwybod ble roedd ei phlentyn a sut oedd y plentyn. Roedd ei rhieni—ei rhieni—yn credu eu bod nhw'n gwneud y peth iawn, oherwydd y byddai'r stigma y byddai hi wedi ei brofi, felly roedden nhw'n ei gredu, yn fwy na cholli ei phlentyn. Wrth gwrs, roedden nhw'n anghywir, ond fe wnaethon nhw hynny am y rhesymau cywir. Fe ddywedodd hi ei stori wrthyf ddegawdau lawer yn ôl am garu ei mab, am wau pethau er mwyn iddyn nhw fynd gydag e, am brynu teganau, ac am yr archoll enfawr, y golled, pan adawodd y plentyn hwnnw'r ystafell am y tro olaf. Fe wnaeth hi fyw gyda hynny. Felly, roeddwn i'n gwybod amdano, mewn gwirionedd, ers y 1980au. Felly, dydw i ddim yn credu bod cymdeithas wedi gwasanaethu unrhyw un yn dda yn y fan yma achos nid y mamau a'r tadau yn unig, sydd wedi cael eu crybwyll, oedd hyn ond y teulu cyfan, y teulu a gafodd eu gorfodi, mewn ffordd, i wneud yr hyn yr oedden nhw'n meddwl oedd y peth iawn i'w merched a'r holl stigma a oedd yn mynd gyda hynny. Ac, wrth gwrs, roedd y wladwriaeth yn rhan o hyn. Gallai'r wladwriaeth fod wedi helpu; gallen nhw fod wedi cefnogi'n ariannol pe bydden nhw wedi dewis gwneud hynny yn lle stigmateiddio menywod ifanc—weithiau, nid bob amser yn fenywod ifanc, ond dim ond menywod nad oedd yn briod, nad oedd yn ffitio'r norm. Felly, rwy'n eich cymeradwyo chi heddiw, a bydd pawb yma yn eich cefnogi, wrth roi'r ymddiheuriad hwnnw. Mae'r hyn y gallwn ni ei wneud, wrth symud ymlaen, i'r menywod hynny a'u plant—a bydd wyrion nawr hefyd—yn hynod bwysig. Julie Morgan AC: Diolch, Joyce, am y geiriau yna. Rwy'n credu bod Joyce yn ein hatgoffa nad oedd hyn yn bell yn ôl, mewn gwirionedd, pan ddigwyddodd hyn. Roeddech chi'n sôn am y 1980au, felly dydy e ddim yn bell iawn yn ôl o gwbl. A hefyd i'n hatgoffa ni fod yna wyrion ac wyresau, felly mae yna doreth gyfan o bobl yr effeithiwyd arnynnhw gan hyn, a bydd yr effeithiau'n mynd ymlaen am gyfnod hir. Felly, unwaith eto, diolch yn fawr iawn am y gefnogaeth a roddwyd yma yn y Senedd heddiw, a diolch, yn anad dim, i'r bobl hynny, y mae rhai ohonyn nhw yma gyda ni yn yr oriel heddiw, am ymgyrchu a dwyn hyn i'n sylw ni, y cyhoedd, y Llywodraeth, ac unwaith eto, mae'n flin iawn gan Lywodraeth Cymru. [Cymeradwyo.] Diolch yn fawr iawn i'r Dirprwy Weinidog. 8. Gorchymyn Contractau Adeiladu (Eithrio) (Cymru) 2023 Yr eitem nesaf, felly, bydd y Gorchymyn Contractau Adeiladu (Eithrio) (Cymru) 2023. Dwi'n galw ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i wneud y cynnig yma. Julie James. Cynnig NDM8244 Lesley Griffiths Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Contractau Adeiladu (Eithrio) (Cymru) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mawrth 2023. Cynigiwyd y cynnig. Julie James AC: Diolch, Llywydd. Bwriad y Gorchymyn hwn yw cael gwared ar y risg o gwmnïau dŵr yn talu am gamau gwaith anorffenedig ac i bobl sy'n talu biliau dŵr, sy'n ariannu cwmnïau dŵr, orfod talu am hyn drwy eu biliau dŵr. Ei ddiben yw caniatáu i brosiectau caffael uniongyrchol, neu DPCs, a reoleiddir gan Ofwat, rheoleiddiwr economaidd y diwydiant dŵr, fod y tu allan i rai o ofynion Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996. Bydd yr eithriad yn berthnasol i gytundebau rhwng cwmnïau dŵr a chwmnïau penodol sy'n gwneud cais am gontractau ac sy'n ennill contractau o dan y mecanwaith caffael uniongyrchol, fel prosiectau seilwaith ar raddfa fawr. Ar hyn o bryd, dim ond un cytundeb o'r fath sy'n cael ei gynnig i Gymru, sef gwaith trin dŵr newydd. Bydd prosiectau a thaliadau DPC yn cael eu strwythuro mewn ffordd debyg i fodel buddsoddi cydfuddiannol Llywodraeth Cymru. Mae cwmnïau dŵr yn prynu gwasanaeth gan y contractwr, sy'n cynnwys dylunio, adeiladu a chyllid ased. Yn unol â'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol a modelau cyllid prosiect eraill, ni fydd y contractwr fel rheol yn derbyn taliad tan fod gwaith adeiladu'r prosiect i gyd, neu ran ohono, wedi'i gwblhau ac yn gallu darparu gwasanaeth. Gall hyn gynnwys taliad ar ddiwedd y gwaith o adeiladu'r prosiect yn unig a hefyd taliadau fesul tipyn pan fydd rhannau o brosiectau yn cael eu cwblhau, gan ddarparu gwasanaeth. Bydd efelychu'r Gorchymyn eithrio ar gyfer y model buddsoddi cydfuddiannol a modelau cyllid prosiect yn caniatáu i'r cwmni dŵr deilwra ei delerau talu DPC i'w brosiect i sicrhau'r gwerth gorau am arian i'r cwsmer. Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i daliad gael ei wneud am waith adeiladu wrth iddo fynd rhagddo ac nid ar ôl ei gwblhau. Mae'n berthnasol i'r cytundeb rhwng y darparwr a benodwyd yn gystadleuol a'r cwmni dŵr. Ni all y strwythur prosiect caffael uniongyrchol weithredu oni bai fod eithriad o weithredu'r agweddau hyn ar y Ddeddf adeiladu. Diben gwneud y Gorchymyn hwn yw caniatáu talu ar ôl cwblhau a darparu gwaith y cytunwyd arno, yn hytrach na gwaith nad yw'n arwain at ddarpariaeth. Mae hyn yn cael gwared ar y risg o gwmnïau dŵr yn talu am gamau gwaith sydd heb eu gorffen ac i dalwyr biliau dŵr, sy'n ariannu cwmnïau dŵr, orfod talu am hyn drwy eu biliau dŵr. Diolch. Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies. Huw Irranca-Davies AC: Diolch, Llywydd. Fe wnaethom ni ystyried y Gorchymyn drafft hwn ar 27 Mawrth, a arweiniodd at rywfaint o ohebiaeth ychwanegol gyda'r Gweinidog, ac rydym yn diolch iddi am yr ymateb a gawsom. Mae ein hadroddiad ar y Gorchymyn drafft yn cynnwys un pwynt adrodd ar sail rhagoriaeth yn unig, ac mae'r pwynt adrodd ar sail rhagoriaeth yn eithaf manwl, a bydd yr Aelodau yn falch o'm clywed i'n dweud y gallan nhw ddod o hyd i'r manylion hynny yn ein hadroddiad, yn hytrach na'u darllen ar lafar. Felly, y prynhawn yma, fe wnaf i ei grynhoi yn unig trwy ddweud nad oedd yn eglur i ni yr adeg y gall taliadau gan gwmnïau dŵr gael eu gwneud o dan gontract perthnasol. Gwnaeth yr ymateb cychwynnol a gawsom gan Lywodraeth Cymru gryn dipyn i ychwanegu eglurder pellach, ond ni wnaeth ddatrys ein pryderon yn llwyr. Ac yn benodol, roedd yn dal yn aneglur i ni sut mae erthygl 3(1)(d) y Gorchymyn drafft yn cyd-fynd â'r amod Ofwat, fel y'i disgrifiwyd ym mharagraff 4.9 o'r memorandwm esboniadol, sy'n awgrymu mai dim ond ar ôl i brosiect adeiladu gael ei gwblhau y gellir talu. Mae ymateb y Gweinidog yn nodi bod canllawiau Ofwat yn rhagweld y gallai fod angen gwahanol ddulliau talu ar gyfer gwahanol brosiectau ac mai bwriad erthygl 3(1)(d) yw darparu digon o fanylion i gontractau perthnasol gael eu nodi, ond i ganiatáu rhywfaint o hyblygrwydd hefyd o ran trefniadau talu. Nawr, yn ein barn ni, ceir diffyg eglurder o hyd yn y memorandwm esboniadol o ran yr hyblygrwydd hwn ynghylch amseriad taliadau. Fodd bynnag, os yw Ofwat a'r diwydiant yn fodlon bod hyn yn ddigon eglur, yna ni fyddem yn gwneud unrhyw sylw pellach. Diolch yn fawr. Y Gweinidog i ymateb. Julie James AC: Diolch, Llywydd. Dim ond i ddweud, fel y gwnaethom ni ei nodi i'r pwyllgor, bydd gan bartïon sy'n ymgymryd â chaffaeliadau DPC wybodaeth lawn am y telerau, gan gynnwys y bydd taliad yncychwyn dim ond ar ôl i'r gwaith adeiladu gael ei gwblhau. Felly, y pwynt, mewn gwirionedd, yw nad ydym ni'n credu y byddai'r cwmni o dan unrhyw anfantais, a beth bynnag, Llywydd, dim ond un sydd yng Nghymru ar hyn o bryd. Felly, rydym ni'n argymell bod yr Aelodau yn pleidleisio dros y Gorchymyn. Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn o dan Reol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 9. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) Yr eitem nesaf yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol). Galw ar Weinidog y Cyfansoddiad i wneud y cynnig yma. Mick Antoniw. Cynnig NDM8243 Mick Antoniw Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Cynigiwyd y cynnig. Mick Antoniw AC: Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynnig. Ac rwy'n ddiolchgar am waith y pwyllgor deddfwriaeth, cyfiawnder a'r cyfansoddiad a phwyllgor yr economi, masnach, a materion gwledig ar y mater hwn, ac am yr adroddiadau y maen nhw wedi eu cyhoeddi. Rwy'n falch bod mwyafrifoedd ar y ddau bwyllgor yn cytuno yn fras gyda'r safbwynt a gyflwynwyd gan y Llywodraeth yn y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol. Mae'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ac adroddiadau'r pwyllgorau yn ei gwneud yn eglur pam ddylai'r Senedd hon fod yn bryderus ynghylch goblygiadau'r Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol), oherwydd cynnwys sawl gwasanaeth cyhoeddus datganoledig o fewn ei gwmpas, a hefyd oherwydd pwerau Harri'r Wythfed ysgubol sy'n rhoi'r cyfle i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau yn y dyfodol a allai arwain at oblygiadau sylweddol i Gymru, i ddeddfwriaeth sy'n cael ei phasio gan y Senedd hon ac i'n gwasanaethau cyhoeddus. Mick Antoniw AC: Nid yw'n gyfrinach bod Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu'r Bil hwn. Mae'r Bil hwn yn ymosodiad ar hawliau gweithwyr ac undebau llafur. Roedd hi'n 123 o flynyddoedd yn ôl pan wnaeth gweithwyr rheilffordd ym Mhontypridd weithredu'n ddiwydiannol a oedd yn anghyfreithlon yn ôl Tŷ'r Arglwyddi. Ac arweiniodd hyn at Ddeddf Anghydfodau Llafur 1911, a sefydlodd yn y gyfraith yr hawl i weithredu'n ddiwydiannol. Mae'n hawl sydd wedi'i hymgorffori ar draws y byd rhydd ac yn gonglfaen i gonfensiynau rhyngwladol a chyfraith ryngwladol a hawliau dynol. Mae'r Bil hwn yn ceisio gwrthdroi dros 100 mlynedd o gynnydd. Llywydd, pan edrychwch chi ar draws y byd a thrwy hanes, y Llywodraethau hynny sy'n sefyll yn erbyn democratiaeth sy'n cyfyngu ar hawliau undebau llafur, ac ni all fod unrhyw gyfiawnhad dros drin ymosodiad ar yr hawliau hyn y brwydrwyd mor galed amdanyn nhw fel stỳnt wleidyddol gyfleus. Fe wnaeth cyflwyno Deddf Undebau Llafur y DU arwain at alwadau gan y sefydliad llafur rhyngwladol i'r ddeddfwriaeth honno gael ei hadolygu. Ac mae'n hurt nawr bod Gweinidogion y DU yn dadlau bod eu dull newydd o weithredu yn ceisio ein rhoi yn yr un sefyllfa â chenhedloedd eraill. Bydd yr Aelodau hefyd wedi gweld bod Llywodraeth yr Unol Daleithiau wedi ei gwneud hi'n eglur, mewn ffordd gyhoeddus iawn, na fyddai'n dilyn cyfarwyddiadau a gyflwynwyd yn y Bil streiciau, gan ddangos unwaith yn rhagor sut mae ymosodiadau ar hawliau gweithwyr yn niweidio ein henw da byd-eang. Llywydd, mae'r Bil hwn yn gwneud darpariaethau a fydd yn cael effaith niweidiol ar ddatganoli a'r ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus Cymru. Mae'r rhain yn wasanaethau sy'n cael eu goruchwylio ar sail mandadau a ddarperir gan bobl Cymru, ac mae'n sarhad ar ddatganoli y dylai Gweinidogion y DU geisio arfer pwerau a fydd yn effeithio ar y gwasanaethau hyn heb unrhyw fandad etholiadol na chydsyniad y Senedd hon. Felly, galwaf ar holl Aelodau'r Senedd hon i sefyll dros ddemocratiaeth ac i wrthod eu cydsyniad i'r Bil atchweliadol a dadunol hwn. Nid yw'n ymwneud â'r maes cysylltiadau diwydiannol neilltuedig yn unig, mae hefyd yn ymwneud â'r ffordd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu, ac mae'n tanseilio yn sylfaenol partneriaeth gymdeithasol Llywodraeth Cymru, sydd wedi gweithio mor dda rhwng busnesau, undebau llafur a'r Llywodraeth. Mae'r cysyniad o lefelau gwasanaeth gofynnol, hyd y gellir eu hystyried yn syniad cydlynol sy'n dal y Bil hwn at ei gilydd, wedi'i seilio ar syniad mai Llywodraeth y DU yn unig ddylai bennu lefelau gwasanaethau, gan gynnwys mewn meysydd sydd wedi'u datganoli i'r Senedd ac yn cael eu goruchwylio gan Weinidogion Cymru. Mae hyd yn oed Llywodraeth y DU yn cyfaddef anghydlyniad y dull hwn. Yn ei dogfennau ymgynghori ei hun, mae Llywodraeth y DU yn cyfaddef bod gwasanaethau yn cael eu rhedeg yn wahanol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban a'u bod yn gyfrifoldeb i Lywodraethau Cymru a'r Alban yn briodol, ac eto ni wnaeth Llywodraeth y DU ymgynghori â ni cyn i'r Bil gael ei gyflwyno yn San Steffan. Ar draws yr holl wasanaethau datganoledig sydd o fewn cwmpas y Bil hwn, mae gan Gymru ei dulliau strategol a gweithredol ei hun, ac ni ellir ysgaru'r rhain oddi wrth y darpariaethau yn y Bil, sy'n ymyrryd yn uniongyrchol â datganoli ac a fydd yn tanseilio'r model y mae Llywodraeth Cymru wedi ei fabwysiadu gyda chyflogwyr ac undebau llafur ar draws y gwasanaethau hynny. Nid yw Gweinidogion y DU, sy'n gwybod dim am y modd y mae gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yn cael eu rhedeg yng Nghymru, nad ydyn nhw'n atebol yn ddemocrataidd am eu darpariaeth, ac nad oes ganddyn nhw unrhyw wybodaeth uniongyrchol am amgylchiadau lleol, mewn unrhyw sefyllfa i benderfynu ar lefelau gwasanaeth gofynnol yng Nghymru. Ac mae'r canlyniadau ohonyn nhw'n ymddwyn fel hyn nid yn unig yn anghywir ond yn hynod beryglus. Gadewch i ni ystyried gwasanaethau tân ac achub, dim ond un o nifer o enghreifftiau y gallai Gweinidogion eu rhoi. Byddai unrhyw ymgais i sefydlu lefel gwasanaeth ofynnol yn gofyn am wybodaeth leol fanwl am danau a risgiau eraill. Byddai'n gofyn am wybodaeth am leoliadau a chyfleusterau, fel purfeydd olew, porthladdoedd, adeiladau preswyl tal, lle mae'r peryglon ar eu huchaf. Byddai'n gofyn am wybodaeth am natur cyfansoddiad ac argaeledd presennol criwiau, offer ac asedau arbenigol sydd ar gael i ymateb, a gwybodaeth am sut mae'r risgiau hyn yn amrywio yn ystod y flwyddyn oherwydd ffactorau tymhorol. Nid yw'n bosibl cyffredinoli am yr holl ffactorau hyn, nac i awgrymu pennu lefelau gwasanaeth gofynnol yn seiliedig ar ganran or-syml o staff diffodd tân, ac mae'n haerllugrwydd peryglus i feddwl y gall y ffactorau cymhleth hyn gael eu cynllunio'n ganolog yn Whitehall rywsut. Mae hwn yn Fil sy'n cael ei ruthro drwy Senedd San Steffan, a dyna pam mae gennym ni Fil fframwaith sy'n cynnwys pwerau Harri'r Wythfed i Weinidogion Llywodraeth y DU—pwerau iddyn nhw wneud bron iawn unrhyw beth y mynnon nhw. Fe ddywedaf i hynna eto: pwerau iddyn nhw wneud bron iawn unrhyw beth y mynnon nhw. Mae'r rhain yn bwerau annerbyniol, gwrth-ddemocrataidd a didostur, na allwn ac na ddylem ni gydsynio iddyn nhw—nid pan fo cymaint o'n gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yn cael eu cwmpasu gan y Bil hwn. Gadewch i mi ddweud hefyd, yn groes i'r gwyrdroad a'r chwedloniaeth sy'n cael eu disgrifio gan Lywodraeth y DU bod y pwerau hyn yn cyfateb i rai gwledydd diwydiannol eraill, mewn ymgais ofer i geisio cyfreithloni'r ddeddfwriaeth hon, byddaf ond yn dweud hyn—mae'n gwbl anwir. Mae'n gwbl anwir. Mae'r pwerau hyn yn mynd ymhell y tu hwnt i ddeddfwriaeth Ewropeaidd a rhyngwladol arall, ac rwy'n galw ar holl Aelodau'r Senedd i wrthod eu cydsyniad, ac rwy'n galw ar Lywodraeth y DU i gymryd sylw o'r ddadl hon, i gymryd sylw o'r teimladau cryf a fynegwyd, ac i weithredu yn unol â hynny. Diolch, Llywydd. Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies. Huw Irranca-Davies AC: Diolch, Llywydd. Bydd y Cwnsler Cyffredinol ac Aelodau'r Senedd yn gwybod mai swyddogaeth ein pwyllgor yw edrych ar yr agweddau cyfansoddiadol a chyfreithiol ar hyn, a rhoi'r materion gwleidyddol neu bolisi yr wyf i'n siŵr y bydd Aelodau eraill yn eu trafod o'r neilltu. Felly, Llywydd, fe wnaethom ni adrodd ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol hwn ar 30 Mawrth. Fe wnaethom ni ddod i un casgliad ac gwnaed un argymhelliad gennym. Fe wnaethom ni nodi asesiad Llywodraeth Cymru o'r darpariaethau yn y Bil sydd angen cydsyniad y Senedd, fel y nodir yn y memorandwm. Roedd mwyafrif o'r pwyllgor yn cytuno â Llywodraeth Cymru, ac yn wir y cyngor cyfreithiol a roddwyd gerbron y pwyllgor, bod cymalau 1 i 3 y Bil, a pharagraffau 1 a 2 Rhan 1 yr Atodlen i'r Bil angen cydsyniad y Senedd yn wir, eu bod nhw'n rhan o feysydd cymhwysedd y Senedd. Roedd mwyafrif o'r pwyllgor hefyd o'r farn bod cymalau 4 i 6 o'r Bil hefyd angen cydsyniad y Senedd. Mewn gwirionedd, mae hynny'n groes i farn Llywodraeth Cymru. Roeddem ni o'r farn hon oherwydd bod y cymalau hyn yn darparu ar gyfer y graddau, dechreuad a'r teitl byr sy'n ymwneud â'r holl ddarpariaethau yn y Bil, y bydd angen cydsyniad ar rai ohonyn nhw lle maen nhw'n ymwneud â materion datganoledig—yn wir, y materion hynny y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi eu crybwyll, sef iechyd ac addysg, pethau fel tân ac achub, ac yn wir rhai gwasanaethau trafnidiaeth. Mae pob aelod yn cytuno â Llywodraeth Cymru nad oes angen cydsyniad y Senedd ar gyfer paragraffau 3 i 10 yn Rhan 2 yr Atodlen. Felly, mae ein casgliad unigol yn yr adroddiad yn adlewyrchu'r safbwynt ar gydsyniad yr wyf i newydd ei amlinellu. Mae Cymal 3 y Bil yn rhoi grym rheoleiddio i'r Ysgrifennydd Gwladol i wneud gwelliannau canlyniadol pellach sy'n deillio o'r Bil. Cyfeiriodd y Cwnsler Cyffredinol at hyn yn ei sylwadau agoriadol. Gall rheoliadau sy'n gwneud darpariaeth ganlyniadol ddiwygio, ddiddymu neu ddirymu deddfiad a basiwyd naill ai cyn y Ddeddf neu'n ddiweddarach yn yr un sesiwn o'r Senedd â'r Bil. Felly, trwy wneud hyn, mae cymal 3(5) yn caniatáu i'r Ysgrifennydd Gwladol ddiwygio Deddf neu Fesur Senedd Cymru. Fodd bynnag, byddai'r grym yn cael ei arfer heb unrhyw swyddogaeth ar gyfer y Senedd hon. Nid ydym o'r farn bod hyn yn dderbyniol. Hwn eto yw safbwynt mwyafrifol y pwyllgor. Mae ein hadroddiad hefyd yn nodi bod Llywodraeth y DU yn credu bod y darpariaethau yn y Bil yn ymwneud â phwerau wedi'u cadw'n ôl yn unig, ac nad yw wedi gofyn am gydsyniad y Senedd. O ystyried y farn hon, fe wnaethom ni argymell y dylai'r Cwnsler Cyffredinol, cyn y drafodaeth ar gynnig heddiw, egluro felly pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd i ddatrys y gwahaniaeth barn sydd ganddi â Llywodraeth y DU ar y mater hwn. Awgrymodd ein hargymhelliad y dylai ymateb y Cwnsler Cyffredinol gynnwys sut mae'r gweithdrefnau datrys anghydfod rhyng-lywodraethol newydd a gytunwyd ym mis Ionawr 2022, yn dilyn adolygiad, yn cael eu defnyddio, ac, o ganlyniad, pa gamau pellach, os o gwbl, y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd. Cawsom ymateb i'n hargymhelliad ddoe a nodwn y sylwadau a wnaed gan y Cwnsler Cyffredinol, gan gynnwys cyfnewid gohebiaeth â Llywodraeth y DU, a diolchwn iddo am hynny. Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Joel James MS: Rwy'n credu bod safbwyntiau'r Siambr hon yn eglur iawn o ran y Bil hwn ac wedi cael eu mynegi gan bob plaid mewn dadleuon blaenorol. Fodd bynnag, nid wyf i wedi cael fy mherswadio o hyd gan unrhyw un o'r dadleuon a gyflwynwyd ganddyn nhw, ac rwy'n dal i gredu bod y Bil streiciau lefelau gwasanaeth gofynnol nid yn unig yn iawn i bobl y Deyrnas Unedig, ond hefyd yn iawn i bobl Cymru, gan ddiogelu gwasanaethau hanfodol yn ystod cyfnodau o anghydfod diwydiannol sy'n cynorthwyo ein pobl fwyaf agored i niwed. Wedi dweud hynny, o ran cymhwysedd deddfwriaethol, hyd y gwelaf i, mae'r Bil yn amlwg yn gwneud newidiadau o ran rheoleiddio hawliau a dyletswyddau cyflogaeth a chysylltiadau diwydiannol, ac nid oesamheuaeth nad yw hyn yn rhan o gymhwysedd deddfwriaethol Llywodraeth Cymru. Ni fydd y Ddeddf hon yn effeithio ar bolisïau datganoledig addysg, iechyd na thrafnidiaeth. Rydych chi wedi datgan eich safbwynt, Gweinidog, bod angen cydsyniad i'r graddau bod cymal 1 yn cyflwyno Atodlen sy'n caniatáu i reoliadau gael eu gwneud yngnghategorïau gwasanaethau iechyd, gwasanaethau addysg a gwasanaethau tân ac achub. Ond, ac mae'n rhaid i chi gytuno, mae'r Llywodraeth hon eisoes yn cydymffurfio â'r rheoliadau yn y meysydd hyn o dan gyfreithiau presennol y DU, fel Deddf yr Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992, felly mae eich pwynt yma yn hollol ddi-sylwedd mewn gwirionedd. Yn fy marn i, gallech chi ond defnyddio'r ddadl hon os nad oedd unrhyw rannau o'r gwasanaethau iechyd, addysg, tân ac achub neu drafnidiaeth yn cydymffurfio ag unrhyw ddeddfau'r DU, ac nid felly y mae hi. Fodd bynnag, mae angen i ni ddod o hyd i'r pwyntiau yr ydym ni'n cytuno arnyn nhw, ac rwy'n credu y gallwn ni i gyd gefnogi'r syniad ei bod hi'n anghywir mai pobl agored i niwed, yn enwedig plant, yw'r rhai sydd fwyaf agored i golli gwasanaeth yn ystod anghydfodau diwydiannol. Mae angen i ni gydnabod yr angen am system fwy cadarn ar waith a fydd yn golygu nad yw plant yn colli eu haddysg a'r gwasanaethau cymorth sy'ncydblethu â hi, ac nad yw pobl sydd angen triniaeth feddygol yn cael eu gadael yn aros ar restrau aros sy'n ymestyn yn barhaus yng Nghymru. Ethos y Llywodraeth hon yw annog newid ymddygiad cadarnhaol, ond yn syml, ni fydd hyn yn cael ei gyflawni os nad yw pobl yn gwbl hyderus y gallan nhw ddibynnu bod ysgolion ar agor, bod apwyntiadau hir-ddisgwyliedig yn cael eu darparu a bod trafnidiaeth gyhoeddus yn ddibynadwy. Y gwir amdani yw na wnaiff pobl dderbyn unrhyw beth ond dibynadwyedd llwyr. Felly, tan y bydd gennych chi'r dibynadwyedd hwn, ni fyddwch chi byth yn cael y newidiadau ymddygiad y mae'r Llywodraeth Cymru hon yn dymuno eu cael. Rydym ni i gyd yn cytuno y bydd anghydfodau diwydiannol yn digwydd, ac rydym ni i gyd yn cytuno bod tynnu llafur yn ôl yn hawl sylfaenol wrth geisio sicrhau amodau gwaith tecach a mwy diogel. Yn wir, rwy'n eithriadol o falch o record fy mhlaid wleidyddol yn y maes hwn. Nid yn unig y mae ein diwygiadau wedi democrateiddio undebau llafur drwy sicrhau bod pob aelod yn cael pleidlais, rydym ni hefyd wedi cyfreithloni undebau llafur yn y gyfraith ac rydym ni wedi gwahardd gweithrediad undebau caeedig. Rydym ni hyd yn oed wedi cyflwyno diwygiadau llafur arloesol, fel sicrhau bod gweithwyr a chyflogwyr yn gyfartal yn y gyfraith mewn contractau llafur, bod gweithwyr yn cael contractau cyflogaeth a gwyliau â thâl, a bod y gweithwyr hynny ag anableddau yn cael eu diogelu yn llawn ac na ellir byth gwahaniaethu yn eu herbyn ym maes cyflogaeth. Yn amlwg, rydym ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i amddiffyn a gwella hawliau gweithwyr. Felly, rwy'n awyddus i wybod, Gweinidog, pam eich bod chi'n credu ei bod hi'n dderbyniol y gall pobl golli eu swyddi neu orfod defnyddio eu hawl werthfawr i wyliau, y brwydrwyd mor galed i'w chael, oherwydd na allan nhw gyrraedd y gwaith yn ystod streic trafnidiaeth gyhoeddus, neu y gall plant sydd wedi bod drwy bandemig COVID golli mwy o addysg fyth gan fod eu hysgol ar gau. Yr hyn sy'n ddiddorol yw bod y system hon, ar y cyfan, ar waith gennym ni eisoes, gan y gellir cytuno ar lefelau gwasanaeth gofynnol gwirfoddol cyn streiciau. Ond, fel y bydd y Gweinidog yn gwybod, nid yw'r rhain yn cael eu defnyddio'n helaeth ar draws sectorau allweddol, a lle maen nhw yn cael eu defnyddio gall eu defnydd fod yn anghyson yn aml, a dyna pam mae'n iawn defnyddio deddfwriaeth i'w gorfodi. Dyma pam mae angen y Bil hwn arnom ni. Trwy gyflwyno lefelau gwasanaeth gofynnol trwy reoleiddio, nid ydym yn cymryd unrhyw beth oddi wrth weithwyr sy'n streicio—mae gweithwyr yn dal i allu parhau i arfer eu hawl sylfaenol i streicio—a gallwn helpu i liniaru effaith gweithredu diwydiannol ar y rhai nad ydyn nhw'n rhan uniongyrchol o'r anghydfod. Dyna pam mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn annog pawb yma i gefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Peredur Owen Griffiths AS: Ni fydd yn syndod i unrhyw un yn y Siambr hon y byddaf i'n gwrthwynebu'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn ar ran Plaid Cymru. Gan roi o'r neilltu cynnwys y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol penodol hwn, rydym ni'n gwrthwynebu'n sylfaenol yr egwyddor o San Steffan yn ymyrryd mewn datganoli. Dim eithriadau, dylid gwneud pob penderfyniad sy'n ymwneud â meysydd cymhwysedd sydd wedi eu datganoli yn y lle hwn, yn unol â dymuniadau democrataidd y bobl yng Nghymru. Dyma'r ddiweddaraf mewn cyfres faith o enghreifftiau o San Steffan yn ystwytho'i chyhyrau gwrth-ddatganoli, ac am enghraifft ffiaidd y maen nhw wedi ei chynhyrchu y tro hwn. Mae'r Bil didostur hwn wedi cael ei ddrafftio gyda'r unig fwriad o danseilio hawliau hirsefydledig gweithwyr a'r undebau llafur sy'n eu cynrychioli. Trwy fygwth gweithwyr sectorau allweddol gyda diswyddiad os byddan nhw'n methu â chydymffurfio â hysbysiadau gwaith, mae'r Torïaid yn dangos eu dirmyg llwyr tuag at yr union bobl a glodforwyd ganddyn nhw fel arwyr drwy gydol pandemig COVID. Mae gweithwyr allweddol eisiau parch, maen nhw eisiau cyflog teg, nid camau gwag gan Lywodraeth ddideimlad. Mae gan y DU rai o'r cyfreithiau llafur mwyaf cyfyngol yn Ewrop eisoes. Ar adeg pan fo gweithwyr llawn amser drwy'r sector cyhoeddus cyfan yn ei chael hi'n anodd fforddio byw oherwydd cyflogau segur a chwyddiant esgynnol, mae'r hawl i streicio yn bwysicach nag erioed. Gyda'r Undeb Addysg Genedlaethol yn cyfrifo y bu gostyngiad o 23 y cant mewn termau real i gyflogau i athrawon ers 2010, a gostyngiad o 27 y cant i staff cymorth dros yr un cyfnod, yr hawl i streicio yw'r erfyn olaf a'r unig erfyn fel rheol. Er gwaethaf yr hyn y byddai llawer ym mhapurau newydd Llundain yn eich arwain i gredu, mae'r gweithredu diwydiannol a welwyd gan grwpiau amrywiol o weithwyr yn rhesymol, yn gymesur ac yn gyfreithlon. Mae Plaid Cymru yn sefyll mewn undod gyda phob un gweithiwr sy'n strecio am gyflog teg ac amodau gwaith diogel, ond beth am y ddeddfwriaeth ei hun? Dywedodd y pwyllgor polisi rheoleiddio, sy'n grŵp annibynnol o fusnesau ac arbenigwyr academaidd a chyfreithiol, a gynullwyd gan y Llywodraeth, bod y Bil hwn yn wan a ddim yn addas i'r diben. Awgrymwyd ganddyn nhw hefyd bod rhai ffynonellau a oedd yn sail i'r dadansoddiad a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth y DU yn ddegawd oed. Hefyd, mae nifer o ysgolheigion cyfreithiol wedi tynnu sylw at y ffaith fod y Bil hwn yn mynd yn groes i erthygl 8 Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol 1966, y mae'r DU wedi ei lofnodi, gan gadarnhau hawl pawb i ffurfio undebau llafur ac ymuno ag undeb llafur o'u dewis. Mae'r Bil hefyd yn amlwg yn tynnu'n gwbl groes i amcanion gwaith teg Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) yma yng Nghymru, sy'n mynd i'r afael yn briodol â'r angen am gyfranogiad agosach undebau llafur ym mhenderfyniadau'r Llywodraeth. Digon yw dweud bod y Llywodraeth Dorïaidd hon wedi mynd i drafferth fawr i bardduo enw da San Steffan am ddeddfwriaeth grefftus dros y blynyddoedd diwethaf. Trwy wrthod y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, gall Aelodau'r Senedd roi neges eglur i Sunak a'i griw na fydd gennym ni unrhyw beth i'w wneud â'u dulliau gwael, eilradd a byrbwyll o lywodraethu. Diolch yn fawr. Carolyn Thomas AS: Pan fo amodau gwaith mor wael y dyddiau hyn, gyda phobl yn gorfod gweithio patrymau shifft ofnadwy, oriau hwy, anghymdeithasol nad ydyn nhw'n cyd-fynd â theuluoedd neu ofal plant, am yr un faint o arian neu, mewn termau real, llai oherwydd pwysau chwyddiant, yr unig rym sydd gan weithwyr yw gwneud safiad mewn undod a streicio. Bydd y mesurau didostur y mae'r Bil hwn yn ceisio eu gorfodi yn golygu y gallai gweithwyr gael eu diswyddo am weithredu a gytunwyd mewn pleidlais ddemocrataidd. Byddai undebau llafur yn cael eu gorfodi i sicrhau nad yw aelodau sy'n pleidleisio dros weithredu diwydiannol yn cymryd rhan yn y gweithredu hwnnw, gan ofyn iddyn nhw danseilio eu streic a gytunwyd yn ddemocrataidd eu hunain ac i groesi'r llinell biced—sy'n mynd yn sylfaenol groes i hawliau gweithwyr. Mae'r TUC hefyd wedi rhybuddio bod y Bil yn wrthgynhyrchiol. Rydym ni i gyd yn gwybod bod gwasanaethau cyhoeddus eisoes yn ei chael hi'n anodd recriwtio, a bydd y risg sylweddol o ddiswyddo gweithwyr sy'n codi llais am eu cyflog ac amodau yn gwneud dim i ddatrys prinder staffio. Rwy'n credu'n gryf na ddylai'r Bil hwn fod yn berthnasol i wasanaethau cyhoeddus datganoledig. Nid yw Gweinidogion Llywodraeth y DU yn gyfrifol am wasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru, ac ni ddylid rhoi'r hawl iddyn nhw orfodi lefelau gwasanaeth gofynnol arnyn nhw. Byddai'n niweidio cysylltiadau diwydiannol yng Nghymru ac yn ei gwneud hi'n anoddach darparu gwasanaethau cyhoeddus, sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd. Am y rhesymau hyn y byddwn i'n annog pob Aelod i bleidleisio yn erbyn y cynnig hwn ac amddiffyn hawliau gweithwyr yng Nghymru. Diolch. Rhys ab Owen AS: Mae'r Bil hwn yn enghraifft arall o ddeddfu gwael gan San Steffan. Ar wyneb y Bil, nid yw'n eglur sut y byddai'n cael ei weithredu, ac dylem ni wastad fod ar eingwyliadwriaeth pan fo Gweinidogion yn gofyn trwy Fil am bwerau i ddiwygio Deddfau Seneddol y dyfodol. Mae Llywodraeth y DU yn dweud nad yw'n brysio'r Bil hwn, ond os yw hynny'n gywir, pam mae'r pwerau ysgubol hyn yn angenrheidiol? Mae Llywodraeth y DU wedi derbyn nad ydyn nhw'n gwybod pa newidiadau y bydd angen iddi eu gwneud ar ôl pasio'r Bil hwn. Dyna pam mae Gweinidogion yn cael pwerau mor eang i ddiwygio, diddymu neu ddirymu darpariaethau sy'n cael eu gwneud o dan ddeddfwriaeth sylfaenol y gorffennol neu'r dyfodol, gan gynnwys Deddfau yma yn y Senedd. Pa ddiben sydd i ni yma yn y Senedd, neu Aelodau San Steffan, neu'r arglwyddi, graffu ar ddarnau o ddeddfwriaeth yn y dyfodol, dim ond iddyn nhw gael eu diwygio, eu diddymu neu eu dirymu gan un o Weinidogion y DU? Siawns na allwn ni i gyd gytuno bod hyn yn ddeddfu ofnadwy ac yn tanseilio datganoli yng Nghymru. Un rhan allweddol o'r Bil, fel yr ydym ni wedi ei glywed eisoes, yw'r lefelau gwasanaeth gofynnol, ond nid ydym ni'n cael ein hysbysu o gwbl yn y Bil beth fydd y lefel gwasanaeth gofynnol ar gyfer pob gwasanaeth. A dweud y gwir, nid ydym ni hyd yn oed yn gwybod pa wasanaethau fydd yn cael eu cynnwys. Ceir categorïau cyffredinol, fel iechyd ac addysg—eang iawn—felly dydyn ni ddim yn gwybod pa feysydd fydd yn cael eu cynnwys yn y Bil hwn. Hefyd, does gen i ddim syniad sut y bydd yn gweithio yn ymarferol. A fydd gwahanol lefelau gwasanaeth ar gyfer gwahanol ddiwrnodau, er enghraifft, penwythnosau neu wyliau banc? Mae'r Bil yn cymryd amddiffyniadau oddi wrth weithwyr sydd â'r hawl i streicio ar hyn o bryd. Mae'n dweud hynny yn eglur yn nodiadau esboniadol Llywodraeth y DU, ac rwy'n dyfynnu: 'nid oes unrhyw amddiffyniad awtomatig rhag diswyddiad annheg i gyflogai a nodir mewn hysbysiad gwaith dilys ond sy'n cymryd rhan yn y streic'. Felly, ni fydd pobl sydd wedi'u diogelu ar hyn o bryd yn cael eu diogelu o dan y Bil hwn. Caiff yr hysbysiad gwaith ei benderfynu drwy'r lefel wasanaeth ofynnol, ac fel yr wyf i wedi ei nodi, nid yw honno wedi ei phenderfynu eto ac mae'n amwys iawn. A fyddai Llywodraeth Cymru yn gwrthod gweithredu darpariaethau'r Bil yn erbyn cyflogeion yn y sector cyhoeddus datganoledig? Oherwydd mae'r penderfyniad i gyhoeddi gorchmynion gwaith yn nwylo'r cyflogwyr. Gallai ymdrech ar y cyd yng Nghymru wneud y Bil hwn yn gwbl anymarferol yng Nghymru. Mae'r syniad hefyd y bydd yn rhaid i undebau llafur blismona'r hysbysiadau gwaith yn eu rhoi mewn sefyllfa hurt ac anghynaladwy. Byddai'n golygu y byddai'n ofynnol i undeb sicrhau bod rhai o'i aelodau yn croesi'r llinell biced ar ddyddiau streic, ac y byddai undeb nad yw'n cymryd camau rhesymol i sicrhau hyn yn wynebu achos llys. Eto, gan ddilyn y patrwm o aneglurder, nid yw'r camau rhesymol y bydd angen i undeb llafur eu cymryd yn cael eu hesbonio yn y ddeddfwriaeth na'r nodiadau esboniadol. Diben y Bil hwn ar y dechrau—neu'r Bil rhagflaenol—oedd amddiffyn diogelwch y cyhoedd. Ac eto mae diogelwch y cyhoedd wedi cael ei ddileu'n llwyr o wyneb y Bil hwn. Fel y dywedais yn y Senedd yn y gorffennol, gallai Ysgrifennydd Gwladol sy'n eistedd yn Whitehall atal streic oherwydd yr effaith y mae'n credu y bydd y streic yn ei chael ar y cyfnod brig yng Nghaerdydd, neu gallai atal streic oherwydd y gallai o bosibl arwain at ganslo apwyntiad ysbyty, neu gallai o bosibl arwain at darfu ar ddosbarthiadau. Yn y bôn, i bob pwrpas, gallai Ysgrifennydd Gwladol sy'n eistedd yn Whitehall atal pob streic yma yng Nghymru yn y dyfodol. Mae hyn fel y dyddiau cyn datganoli, pan oedd y Torïaid yn meddwl mai San Steffan a Whitehall oedd yn gwybod orau i Gymru. Pam mae'r Aelodau gyferbyn yn credu mai dyna'r ffordd orau o lywodraethu pobl Cymru heddiw yn 2023? Rwy'n anghytuno â Llywodraeth y DU bod y Bil hwn yn gydnaws ag erthygl 11 y confensiwn hawliau dynol. Mae hon yn enghraifft arall o ddeddfu gwael gan Lywodraeth y DU ac yn erydiad pellach o hawliau dynol yn y wlad hon. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn annheg, yn anghyfiawn, ac yn annemocrataidd, a dyna pam y dylem ni fel Senedd wrthod cydsyniad. Diolch yn fawr. Y Cwnsler Cyffredinol i ymateb i'r ddadl. Mick Antoniw. Mick Antoniw AC: Diolch, Llywydd. I mi, y rheswm pam rwyf i'n credu y cyflwynwyd y ddeddfwriaeth hon yw oherwydd anallu llwyr Llywodraeth y DU a'i hanallu llwyr i ymgysylltu â gweithwyr sector cyhoeddus. Dyna pam mae'r Bil hwn gennym ni—mae bron yn anallu i gael bargeinio ar y cyd priodol, ymgysylltu priodol, ymgynghori priodol a thrafodaethau priodol. Ac mae'n rhaid i chi ofyn pam mae angen y Bil hwn arnom ni yng Nghymru pan fo gennym ni drefniadau eisoes—perthynas dda â'n busnesau a chyda'n hundebau llafur yn ein trefniadau partneriaeth gymdeithasol. Felly, mae'n rhaid ei gweld hefyd, rwy'n credu, o fewn agenda sydd hefyd yn ymwneud â chyfyngu ar hawliau sifil. Rydym ni eisoes wedi cael deddfwriaeth sy'n cyfyngu ar yr hawl i brotestio. Rydym ni eisoes wedi cael deddfwriaeth sy'n cyfyngu ar yr hawl i bleidleisio, a byddwn yn sylwi arrywfaint o hyn yn ystod yr etholiadau llywodraeth leol. Rydym ni eisoes wedi cael deddfwriaeth sy'n cyfyngu ar hawliau undebau llafur. Mae gennym ni gynigion i gyfyngu ar adolygiadau barnwrol ac i gyfyngu ar reolaeth y gyfraith. Ac rydym ni bellach yn siarad am Fil mewnfudo yn y dyfodol, lle mae'r Llywodraeth yn dweud y bydd yn ystyried cynnwys y gallu i fynd yn groes i'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol. Mae hyn yn rhan annatod o agenda sy'n ymwneud â chyfyngu ar hawliau a rhyddid sifil. Mae'n gynnyrch Llywodraeth gynyddol awdurdodaidd ac annemocrataidd sydd y tu hwnt i'w hamser, ac rwy'n falch bod yr wrthblaid Lafur—y Llywodraeth Lafur nesaf, na all ddod yn rhy fuan—eisoes wedi ymrwymo y bydd yn diddymu'r ddeddfwriaeth hon. Hoffwn wneud dau sylw o ran yr ymatebion a wnaed i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Rwy'n cytuno'n llwyr gyda llawer o'r pwyntiau a wnaed. Ac, wrth gwrs, codwyd hyn—codwyd y materion hyn ar lefel ryng-weinidogol, rhan o'r cynigion rhyng-lywodraethol. Maen nhw wedi cael eu codi yn gyson mewn gohebiaeth, ac mewn gwirionedd, ceir gwelliannau yn San Steffan a gyflwynwyd sy'n ceisio eithrio Llywodraeth ddatganoledig o'r ddeddfwriaeth hon. Y cwbl y gallaf i ei ddweud sy'n siomedig am eich pwyllgor, mae gen i ofn, Huw, yw ar rywbeth sydd mor sylfaenol—am hawliau sylfaenol—nad oedd modd cael safbwynt unfrydol, ac rwy'n credu bod hynny'n siomedig. O ran y sylwadau a wnaed, yr ymatebion a wnaed—mewn gwirionedd, y sylwadau gwangalon, ac yn fy marn i, gwan ac anobeithiol braidd a wnaed gan yr wrthblaid—. Ac mae'n ddiddorol, onid yw, mai dim ond un person a geisiodd yn wangalon iawn sefyll o blaid hyn mewn Llywodraeth wan dros ben, gan ddweud bod gennym ni system eisoes a bod gennym ni reidrwydd eisoes i gyflwyno deddfwriaeth, pan, mewn gwirionedd, nad oes unrhyw sail dystiolaethol i hynny. Mae gen i ofn eich bod chi'n cydnabod eich hunain wendid safbwynt Llywodraeth y DU—pa mor anghywir yw'r ddeddfwriaeth hon. Ac mae'n siom fawr fod gennym ni Blaid Geidwadol yng Nghymru nad yw, ar rywbeth sy'n ymwneud â hawliau sifil sylfaenol, yn barod nac yn gallu sefyll dros bobl Cymru. Peredur, o ran y sylwadau a wnaethoch chi, a ydych chi'n gwybod o bwy yr oeddech chi'n fy atgoffa? Pan fyddwch chi'n clywed gwleidyddion Ceidwadol yn sôn am y ffordd y maen nhw'n edmygu Thatcher ac yn y blaen, a ydych chi'n cofio geiriau Thatcher ei hun? Gweithwyr, y glowyr, oedd y 'gelyn mewnol'. A gadewch i ni ei wynebu, y nyrsys, y meddygon iau, y gweithwyr sector cyhoeddus, cyn belled ag y mae'r Llywodraeth hon yn y cwestiwn, yw'r gelyn mewnol. Ac rydym ni'n clywed hynny ac rydym ni'n gweld hynny ar bob cam penodol. Llywydd, i gloi, ni allwn gydsynio i'r Bil hwn ac rwy'n argymell yn gryf i'r Senedd ei wrthwynebu'n llwyr. Gan roi o'r neilltu sut y mae Llywodraeth y DU wedi camdrafod y Bil hwn a'i ddiffyg unrhyw barch at gonfensiwn Sewel, roedd Rhys yn hollol gywir: mae hwn yn Fil sydd wedi'i ddylunio'n wael ac wedi'i lunio'n wael. Mae'n Fil sy'n cael ei orfodi ar Gymru, Bil sy'n gwneud darpariaethau o ran yr hyn sy'n faterion datganoledig eglur iawn, Bil sy'n tresmasu ar swyddogaethau Gweinidogion Cymru, mae'n tarfu'n helaeth ar ein gwasanaethau cyhoeddus mewn ffyrdd na fyddai unrhyw Lywodraeth gyfrifol yn gallu eu cefnogi, ac felly rwy'n gofyn i Aelodau wrthod cydsyniad ar gyfer y Bil hwn. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, bydd yna bleidlais ar y cynnig yma ac, oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, fe fyddwn ni'n symud yn syth i'r bleidlais. 10. Cyfnod Pleidleisio Felly, y bleidlais gyntaf a'r unig bleidlais y prynhawn yma yw'r bleidlais ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol). Dwi'n galw am bleidlais, felly, ar y cynnig yma, a gyflwynwyd yn enw Mick Antoniw. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod. Eitem 9—cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol): O blaid: 15, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0 Gwrthodwyd y cynnigCliciwch i weld canlyniad y bleidlais A dyna ddiwedd ar ein gwaith ni am y dydd heddiw. Diolch yn fawr i chi i gyd. Daeth y cyfarfod i ben am 18:05. QNR Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru Sam Rowlands: Pa gyngor a gafodd Llywodraeth Cymru gan Archwilio Cymru ynglŷn â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gadael mesurau arbennig yn 2020? Mark Drakeford: As I have set out in my letter to the Llywydd, the NHS Wales escalation process does not provide advice directly to Ministers from Audit Wales. Ministers are advised by civil servants, drawing on tripartite discussion with Audit Wales and Health Inspectorate Wales. Carolyn Thomas: Sut y mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod cydweithio rhwng yr holl randdeiliaid yn rhan annatod o'r cynllun gweithredu newydd y gytunwyd arno yn yr uwchgynhadledd llygredd afonydd ddiweddaraf? Mark Drakeford: Co-operation has been secured by bringing together the different sectors to develop the plan. All parties must work to identify and implement sustainable solutions to reduce pollution in our rivers and to address the current planning constraints. We all have a role to play in addressing these challenges. Russell George: Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar gefnogaeth i ddigwyddiadau fel Game Fair sy'n gysylltiedig â saethu anifeiliaid byw? Mark Drakeford: Whilst the control of certain pest species is sometimes necessary for wildlife management purposes, the Welsh Government does not support funding activities, such as game fair, that are linked to the shooting of live quarry as a leisure activity. Joyce Watson: Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i hybu twristiaeth yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? Mark Drakeford: Our strategy, 'Welcome to Wales: Priorities for the Visitor Economy 2020-25', sets out our vision and ambition for the sector and outlines how we will encourage increased spend in our economy, spread benefits to all parts and tackle seasonality by positioning Wales as a destination you can visit all year round.
uk-hansard-senedd-cy
senedd2023-04-25
2024-06-01T00:00:00
{ "year": "2023", "language": "cy", "license": "Open Parliament Licence - https://www.parliament.uk/site-information/copyright-parliament/open-parliament-licence/" }
Cyfarfu’r Cynulliad am 10:00 gyda’r Dirprwy Lywydd (Ann Jones) yn y Gadair. Iawn. Felly, rydym yn galw'r Cyfarfod Llawn hwn i ddod ynghyd. 1. Cynnig i atal Rheolau Sefydlog A'r eitem gyntaf ar yr agenda yw'r cynnig i atal Rheolau Sefydlog, a galwaf ar y Prif Weinidog i gynnig y cynnig hwnnw. Mark Drakeford. Cynnig NNDM7315 Rebecca Evans Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8: 1. Yn atal Rheol Sefydlog 12.56(i) a (ii) sy’n ei gwneud yn ofynnol i: a) Prif Weinidog Cymru ateb cwestiynau llafar unwaith, am hyd at 60 munud, ym mhob wythnos y bydd y Cynulliad yn cynnal Cyfarfod Llawn; a b) bob un o Weinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol ateb cwestiynau llafar ynglŷn â’u cyfrifoldebau, o leiaf unwaith, am hyd at 45 munud, ym mhob pedair wythnos y bydd y Cynulliad yn cynnal cyfarfod llawn, fel nad yw’n ofynnol i'r Prif Weinidog, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd ateb cwestiynau llafar yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 24 Mawrth 2020. 2. Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i), 12.22(i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM7316, y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Coronafeirws, gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 24 Mawrth 2020. Cynigiwyd y cynnig. Mark Drakeford AC: Yn ffurfiol. Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw atal Rheolau Sefydlog. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, rydym ni wedi atal Rheolau Sefydlog. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog Symudwn ymlaen at yr eitem nesaf, sef cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiynau wedi eu trosglwyddo i'w hateb yn ysgrifenedig. 3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Prif Weinidog—datganiad a chyhoeddiad busnes. Mark Drakeford AC: Dirprwy Lywydd, bu newidiadau i agenda heddiw. Ar ôl i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a minnau wneud datganiadau, byddwn yn trafod y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil coronafeirws. Bydd pob datganiad arfaethedig arall yn cael ei gyhoeddi ar ffurf datganiad ysgrifenedig. Mae'r ddadl ar egwyddorion cyffredinol a'r penderfyniad ariannol ar gyfer y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) wedi ei thynnu'n ôl o agenda heddiw. Yn olaf, fel yr eitem olaf o fusnes heddiw, byddwn yn pleidleisio ar newidiadau i Reolau Sefydlog. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, y gellir ei weld ymhlith y papurau sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig. Diolch yn fawr iawn. Nid oes gennyf unrhyw siaradwyr ar y datganiad busnes, ac felly symudwn ymlaen. 6. Cwestiynau Amserol Fel y dywedodd y Prif Weinidog, mae eitemau 4, 5 a 6 wedi eu—. Wel, mae 4 a 5 wedi eu trosglwyddo ar gyfer atebion ysgrifenedig, ac eitem 6—nid oes unrhyw gwestiynau amserol. 7. Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (COVID-19) Felly, Prif Weinidog—datganiad gan y Prif Weinidog ar coronafeirws. Mark Drakeford AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae Cymru yn wynebu yr argyfwng iechyd mwyaf difrifol ers canrif. Mae'n rhaid inni weithredu er mwyn gwarchod ein cymunedau, amddiffyn y gwasanaeth iechyd, ac achub bywydau. Mae'r camau rydym wedi eu cymryd yn barod yn gwneud gwahaniaeth, ond mae'n rhaid inni wneud mwy. Felly— Mae'n ddrwg gen i, Prif Weinidog, nid oedd y cyfieithiad yn gweithio bryd hynny. Mae'n gweithio nawr. Mae'n ddrwg gen i. Mark Drakeford AC: Fe ddechreuaf. Diolch. Mark Drakeford AC: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae Cymru yn wynebu yr argyfwng iechyd mwyaf difrifol ers canrif. Mae'n rhaid inni weithredu er mwyn gwarchod ein cymunedau, amddiffyn y gwasanaeth iechyd, ac achub bywydau. Mae'r camau rydym wedi eu cymryd yn barod yn gwneud gwahaniaeth, ond mae'n rhaid inni wneud mwy. Felly, ddoe, cytunodd pedwar Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gyflwyno mesurau llym newydd. Mae'r mesurau hyn yn angenrheidiol er mwyn arafu lawr y feirws ac amddiffyn pawb, yn enwedig y bobl fwyaf bregus. Mae'n rhaid inni i gyd newid ein ffordd o fyw. Mae'n rhaid i bob rhan o gymdeithas ymateb er lles pawb. Mae Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio'n llwyr ar y sialens yma. Byddwn yn dal ati i gydweithio'n agos gyda'n partneriaid i ymateb i'r argyfwng ac i warchod pobl Cymru. Mark Drakeford AC: Dirprwy Lywydd, mae wythnos wedi mynd heibio ers i mi ateb cwestiynau yn y Senedd ddiwethaf, ac roedd llawer o'r cwestiynau hynny yn ymwneud â coronafeirws. Yn ystod y saith diwrnod diwethaf, mae'r cyngor gwyddonol wedi bod yn eglur. Mae cyflymder lledaeniad y feirws wedi cyflymu'n sylweddol ar draws y Deyrnas Unedig. Heddiw, mae'n rhaid i mi adrodd bod 16 o bobl a gafodd ddiagnosis o coronafeirws wedi marw yng Nghymru, a chadarnhawyd mwy na 400 o achosion. Mae'r ffigurau hyn yn cynyddu bob dydd, a byddan nhw'n parhau i gynyddu yn ystod y dyddiau a'r wythnosau nesaf. Dirprwy Lywydd, mae coronafeirws yn feirws sy'n hawdd ei drosglwyddo, ac nad oes gennym ni fawr o amddiffyniad naturiol yn ei erbyn. I'r rhan fwyaf o bobl, bydd yn salwch ysgafn, ond, fel y gwyddom, ac fel y mae'r ffigurau yr wyf i newydd eu hamlinellu yn ei ddangos, mae rhai grwpiau o bobl mewn mwy o berygl o ddatblygu salwch difrifol a hyd yn oed angheuol os cânt eu hamlygu i'r feirws. Mae'r galw am ein gwasanaethau GIG eisoes yn sylweddol a gallai fynd yn drech na ni. Dyna pam y gofynnir i bob un ohonom ni gymryd cyfres o gamau na welwyd eu tebyg o'r blaen i newid y ffordd yr ydym ni'n byw ein bywydau, oherwydd dyna'r cyfle gorau sydd gennym ni i arafu lledaeniad y feirws. Ac mae arafu'r cyflymder yn ein galluogi i ddiogelu ein GIG ac i achub bywydau. Mark Drakeford AC: Nawr, Dirprwy Lywydd, trwy gydol y cyfnod hwn, mae COBRA wedi cyfarfod yn rheolaidd ac wedi cael cyngor gan bedwar prif swyddog meddygol y DU a chan y grŵp gwyddonol ar gyfer argyfyngau. Wrth i'r cyngor hwnnw esblygu, rydym ni wedi tynhau'n raddol y mesurau y mae angen i ni eu cymryd. Ers cyfarfod diwethaf y Senedd, rydym ni wedi cau ysgolion, cau tafarndai, clybiau, bariau a bwytai. Ddoe, cymerodd Llywodraeth Cymru fesurau i gau meysydd carafanau, safleoedd gwersylla, mannau poblogaidd i dwristiaid a mannau prydferth i atgyfnerthu'r canllawiau ynghylch pobl ddim ynymgynnull mewn niferoedd mawr a chadw eu pellter oddi wrth ei gilydd. Cyhoeddwyd gennym hefyd bod awdurdodau lleol yn gorfodi'r cam o gau tafarndai a bariau yn llym, gyda'r perygl y byddai trwyddedigion yn colli eu trwyddedau pe bydden nhw'n cael eu dal yn anwybyddu'r gwaharddiad. Ychydig oriau yn ddiweddarach, ddiwedd prynhawn ddoe, cyfarfu COBRA eto i ystyried mesurau llymach fyth. Fel y byddwch wedi gweld o'r datganiadau a gyhoeddwyd gennyf i, Prif Weinidog y DU, a Phrif Weinidogion yr Alban a Gogledd Iwerddon, mae'r hyn a oedd yn gyngor yn flaenorol yn ofyniad erbyn hyn. Am y tair wythnos nesaf o leiaf, bydd holl siopau'r stryd fawr a mannau cymunedol ar gau. Bydd siopau bwyd, gwasanaethau GIG lleol, fferyllfeydd, banciau a swyddfeydd post a gorsafoedd petrol yn parhau i fod ar agor, ond ni chaniateir unrhyw gynulliad o fwy na dau o bobl yn gyhoeddus. Mae'n rhaid i ni aros gartref, gan adael am resymau cyfyngedig iawn yn unig. A dyma'r pedwar rheswm: yn gyntaf, siopa am angenrheidiau sylfaenol—er enghraifft, bwyd a moddion—ond mae angen i'r teithiau hyn fod mor anaml ag y gallwn ni eu gwneud. Yn ail, caniateir un math o ymarfer corff bob dydd, er enghraifft, rhedeg, mynd am dro, neu feicio—ar eich pen eich hun neu gydag aelodau o'ch aelwyd. Yn drydydd, rydym ni'n cael gadael ein cartrefi ar gyfer unrhyw angen meddygol, neu i ddarparu gofal neu i helpu person agored i niwed. Ac, yn olaf, cawn deithio i'r gwaith ac yn ôl, ond dim ond pan nad oes unrhyw ffordd o gwbl y gellir gwneud hyn o gartref. Nawr, Dirprwy Lywydd, mae'r rhain yn fesurau eithriadol. Ond, fel y dywedais, maen nhw'n angenrheidiol i leihau lledaeniad coronafeirws ac i ganiatáu i'r GIG achub bywydau. Wrth i bob un ohonom ni ddilyn y rheolau newydd hyn, byddan nhw'n lleihau ein cysylltiad o ddydd i ddydd gyda phobl eraill a chyflymder a throsglwyddiad y feirws. Mae'r rhain yn rheolau i bawb—nid oes yr un ohonom ni'n eithriad. Mae bywydau pob un ohonom ni wedi newid, ac mae hynny'n cynnwys y ffordd y bydd y Senedd hon yn gweithio. Daeth y mesurau yr wyf i wedi eu hamlinellu yn y fan yma i rym am hanner nos neithiwr. Byddan nhw'n para am dair wythnos, pan fyddan nhw'n cael eu hadolygu. Bydd Llywodraeth y DU yn rhoi'r pwerau angenrheidiol i'r heddlu orfodi'r mesurau hyn, ond, wrth gwrs, rwy'n gobeithio'n fawr iawn na fyddwn ni'n cyrraedd y pwynt hwnnw. Mae ymateb i'r pandemig hwn yn waith i Lywodraeth Cymru gyfan. Neithiwr, rhoddodd y Gweinidog addysg ganllawiau ychwanegol i rieni ac ysgolion yng ngoleuni'r gofynion newydd hyn. Mae Gweinidog yr economi wedi cyflwyno cyngor i fusnesau, ac mae Gweinidog yr amgylchedd yn cael trafodaethau dyddiol gyda'r diwydiannau bwyd a ffermio. Mae'r Cabinet cyfan yn canolbwyntio ar yr argyfwng iechyd cyhoeddus sydd o'n blaenau. Heddiw, byddai Gweinidogion wedi darparu datganiadau llafar yma am y gwaith y maen nhw'n ei wneud, a byddwn yn sicrhau, wrth gwrs, bod y datganiadau hynny ar gael i Aelodau yn y fan yma ac i'r cyhoedd. Mae'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn gallu gweithio mor agos gyda'n partneriaid mewn llywodraeth leol, gyda'r undebau llafur, gyda'r sector gwirfoddol, gyda chyflogwyr a busnesau, yn hanfodol i'r ffordd yr ydym ni'n ymateb i'r pandemig hwn, ac yn gryfder gwirioneddol o'r ffordd yr ydym ni'n gallu gwneud pethau yma yng Nghymru. Dirprwy Lywydd, a gaf i gloi drwy ddiolch i bawb am eu cymorth ac am eu cefnogaeth wrth i ni wynebu'r argyfwng iechyd cyhoeddus hwn gyda'n gilydd? Mae hwn yn gyfnod pryderus iawn i deuluoedd a chymunedau ledled ein gwlad, a gwn y bydd gan bobl lawer iawn o gwestiynau, yn enwedig ar ôl y cyhoeddiad neithiwr, a byddwn yn gwneud ein gorau i ymateb i bob un ohonyn nhw. Rydym ni wedi gofyn llawer iawn gan y cyhoedd, ond yn enwedig ein staff iechyd a gofal cymdeithasol, ein gwasanaethau cyhoeddus a'r bobl niferus hynny sydd wedi dod ymlaen i wirfoddoli. Mae'r ymateb yng Nghymru wedi bod yn wirioneddol eithriadol. Ac i bob un o'r rheini, dywedaf eto, diolch yn fawr iawn—diolch o galon i chi gyd. Diolch. Paul Davies. Paul Davies AC: Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf i ddiolch i chi, Prif Weinidog, am eich datganiad y bore yma? Ac a gaf i hefyd ddiolch i chi am y sesiynau briffio rheolaidd yr ydych chi wedi eu darparu i mi dros yr wythnosau diwethaf yn ystod y cyfnod digynsail hwn? Fel yr wyf i wedi ei ddweud o'r blaen, mae'n rhaid i ni roi ein gwahaniaethau gwleidyddol o'r neilltu fel ein bod ni'n gallu gweithio gyda'n gilydd i frwydro'r feirws hwn. A gaf i hefyd achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb sy'n helpu i'n cadw ni'n ddiogel yn ystod yr argyfwng hwn ac i atgoffa pobl i aros gartref er mwyn achub bywydau ac i amddiffyn ein GIG? Wrth i fygythiad y coronafeirws barhau i dyfu, mae'n gwbl hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn ail-flaenoriaethu ei chyllid ar frys nawr, i sicrhau bod ei hadnoddau yn cael eu gwario'n effeithiol yn ystod yr argyfwng hwn. A allwch chi gadarnhau felly, Prif Weinidog, bod Llywodraeth Cymru yn ail-flaenoriaethu ei chyllid ar frys? Ac efallai y caf i hyd yn oed awgrymu y dylech chi ystyried cyhoeddi cyllideb frys wrth symud ymlaen, fel y gellir ail-ganolbwyntio cyllid y Llywodraeth ar wasanaethau hanfodol. Oherwydd, fel y gwyddoch, dros y penwythnos, mae nifer o awdurdodau lleol wedi gofyn am gymorth ariannol ychwanegol i frwydro'r feirws hwn. Nawr, wrth i ledaeniad y feirws barhau i ddatblygu, mae'n hanfodol bod yr holl gyllid yn cael ei roi ar gael i sefydliadau a chynlluniau sy'n cynorthwyo unigolion a busnesau sy'n cael eu heffeithio gan yr argyfwng. Felly, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn edrych ar y dyraniadau cyllid y mae'n eu rhoi i sefydliadau trydydd sector a, phan fo angen hynny, ei bod yn dargyfeirio cyllid oddi wrth gyrff nad ydyn nhw ar y rheng flaen o ran darparu gwasanaethau allweddol ar yr adeg benodol hon, oherwydd bydd hyn yn dangos bod Llywodraeth Cymru wedi targedu pob un geiniog y gall ei thargedu i gynorthwyo'r rhai sy'n cael eu heffeithio gan COVID-19, yn hytrach na pharhau i ariannu cynlluniau nad ydyn nhw er lles y cyhoedd ar hyn o bryd. Ac a allwch chi gadarnhau felly, Prif Weinidog, y bydd pob un o Weinidogion Llywodraeth Cymru yn asesu eu ffrydiau ariannu ar frys ac yn dargyfeirio'r holl adnoddau sydd ar gael i fynd i'r afael â'r argyfwng coronafeirws a'i effaith ar Gymru? Ac a allwch chi ddweud wrthym ni hefyd y bydd unrhyw arian a ddosberthir i sefydliadau trydydd sector yn cael ei ddosbarthu i'r rhai sy'n darparu gwasanaethau allweddol yn unig ar hyn o bryd? Nawr, ar hyn o bryd, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i gynorthwyo'r bobl hynny sy'n gweithio i frwydro yn erbyn y coronafeirws, gan gynnwys sicrhau eu bod nhw'n gallu cael gafael ar nwyddau a gwasanaethau hanfodol, fel gofal plant. Nawr, ddydd Iau diwethaf, darparodd Llywodraeth y DU ganllawiau cynhwysfawr ar bwy yw ein gweithwyr allweddol, a chyhoeddodd Llywodraeth Cymru lythyr hefyd i ysgolion yn gofyn iddyn nhw nodi plant pobl sy'n rhan o'r ymateb uniongyrchol i'r argyfwng coronafeirws. Fodd bynnag, rwy'n deall bod rhai awdurdodau lleol wedi anwybyddu hyn a'u bod yn hytrach wedi dewis cyfyngu eu darpariaeth ysgolion i'r rhai ym meysydd iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau brys, yn groes i'r canllawiau a gyhoeddwyd. Felly, a ydych chi'n rhannu fy marn i, Prif Weinidog, ein bod ni angen cymaint o gymorth â phosibl i bawb sy'n gweithio gyda ni i frwydro yn erbyn COVID-19, a bod angen i ni sicrhau bod eglurder yn y negeseuon a roddir i'r cyhoedd? Ac, o dan yr amgylchiadau hynny, pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gydag awdurdodau lleol ac arweinyddion ysgolion ynghylch sicrhau eu bod nhw'n gwneud darpariaeth ysgol a gofal plant i'r rhai sy'n gweithio i fynd i'r afael â'r argyfwng a chynorthwyo'r rhai sy'n cael eu heffeithio gan coronafeirws? Ac a allwch chi ddweud wrthym ni hefyd pa waith cynllunio y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud ar sut y gellir cynorthwyo gweithwyr allweddol yn y tymor canolig a'r hirdymor fel y gallan nhw fod yn ffyddiog y bydd y ddarpariaeth honno'n parhau i fod ar gael tra byddan nhw'n gweithio i fynd i'r afael â'r feirws a chynorthwyo'r rhai sy'n cael eu heffeithio. Nawr, wrth gwrs, fel yr ydych chi newydd ei ddweud, Prif Weinidog, mae hwn yn gyfnod digynsail a dylem ni i gyd fod yn ddiolchgar iawn i staff y GIG sy'n gweithio'n galed ac sydd ar y rheng flaen yn gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod cleifion yn cael y driniaeth iechyd a'r cymorth sydd eu hangen arnyn nhw. Mae'n gwbl hanfodol bod y staff hynny hefyd yn cymryd pob rhagofal posibl i gadw eu hunain yn ddiogel. Pan allwn ni, mae'n rhaid i ni ystyried recriwtio gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod parhad gwasanaeth yn parhau, ac rwy'n falch bod llawer o weithwyr iechyd proffesiynol bellach wedi ateb y galwadau i ddychwelyd i gynorthwyo'r GIG yn ystod yr argyfwng hwn. O dan yr amgylchiadau, Prif Weinidog, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd ar unwaith i sicrhau bod y gweithwyr iechyd proffesiynol hyn sydd wedi ymddeol ac, yn wir, y rhai sydd wedi gadael i ddilyn gyrfaoedd eraill ac sydd bellach yn dychwelyd yn gallu dychwelyd mor gyflym ac mor effeithlon â phosibl? Nawr, rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi y bydd fferyllfeydd hefyd yn chwarae rhan bwysig iawn yn yr wythnosau nesaf i gynorthwyo cymunedau, a byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi ddweud wrthym ni pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o swyddogaeth fferyllwyr cymunedol ar yr adeg hon, a sut y gellir defnyddio eu cyngor arbenigol? A pha drafodaethau sydd wedi eu cynnal gyda byrddau iechyd lleol i lacio rheolau, er enghraifft, ynghylch materion fel cyflwyno presgripsiynau, a phresgripsiynau amlroddadwy yn enwedig, i'r rhai hynny nad ydyn nhw'n gallu mynd i feddygfa yn bersonol erbyn hyn i gasglu eu presgripsiynau? Mae miloedd o fusnesau ledled Cymru yn pryderu yn naturiol am yr effaith y mae'r feirws yn ei chael ar eu busnes ar hyn o bryd ac y gallai barhau i'w chael ar eu busnes. Wrth gwrs, rydym ni i gyd wedi cael gohebiaeth gan fusnesau a'r hunangyflogedig sy'n dweud wrthym ni eu bod nhw'n cael trafferth yn deall yn well sut y gall Llywodraeth Cymru helpu eu busnes ac, yn hollbwysig, sut i gael gafael ar y cymorth hwnnw cyn gynted â phosibl. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni pa waith monitro y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o waith Busnes Cymru i sicrhau ei fod yn cael y cymorth priodol i fusnesau yng Nghymru yn brydlon? Pa gymorth penodol sy'n cael ei roi ar gael i'r busnesau hynny nad ydyn nhw'n talu ardrethi busnes ar hyn o bryd ond sydd angen cymorth o hyd i sicrhau parhad eu busnesau? Nawr, gofynnais i chi yr wythnos diwethaf am gyflenwadau a phrinder bwyd, ac wrth i'r feirws barhau i ledaenu mae sgil-effeithiau ar y gallu i gael cyflenwadau hanfodol i'r rhai sydd eu hangen nhw. Rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru yn cyfarfod yr wythnos diwethaf gyda chynrychiolwyr y trydydd sector ac awdurdodau lleol i drafod y ffordd orau o gael cyflenwadau i'r rhai mwyaf agored i niwed, ond ceir pryderon dilys iawn o hyd ymhlith elusennau lleol ledled Cymru sy'n cynorthwyo cymunedau i gael cyflenwadau bwyd i bobl. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni, felly, pa fesurau newydd y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod y rhai sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau yn cael y cyflenwadau sydd eu hangen arnyn nhw mewn gwirionedd? Pa drafodaethau y mae Gweinidogion y Llywodraeth wedi eu cael gyda manwerthwyr am y rhan y gallen nhw ei chwarae o ran darparu cyflenwadau hanfodol i elusennau lleol a sefydliadau cymunedol? Felly, gan ddweud hynny, Dirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch unwaith eto i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad y bore yma? Edrychaf ymlaen at gael diweddariadau pellach ganddo ac, yn wir, gan Lywodraeth Cymru yn y dyddiau nesaf ac yn yr wythnosau i ddod. Mark Drakeford AC: Diolchaf i arweinydd yr wrthblaid am y cwestiynau yna, ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwyntiau cychwynnol a wnaeth. Mae Llywodraethau o argyhoeddiadau gwleidyddol gwahanol iawn ledled y Deyrnas Unedig yn gweithio'n agos iawn gyda'i gilydd yn ddyddiol ar dasg gyffredin. Cyn belled ag y mae cyllid yn y cwestiwn, ein bwriad ar hyn o bryd yw cyflwyno cyllideb atodol i ailalinio cyllidebau Llywodraeth Cymru gyda'r blaenoriaethau newydd a brys. Rydym ni'n gwneud yr union beth a awgrymodd Paul Davies wrth gwestiynu pob cyllideb sydd gan bob Gweinidog i weld beth y gellid ei ryddhau o'r cynlluniau a oedd ar waith yn flaenorol er mwyn gallu ariannu blaenoriaethau newydd a mwy brys. Bydd y Gweinidog cyllid yn cyfarfod â Gweinidog pob portffolio yfory er mwyn clywed ganddyn nhw faint o arian y maen nhw'n gallu ei ryddhau i wneud yn siŵr bod hynny'n cael ei wneud yn y ffordd fwyaf trwyadl bosibl. Oherwydd mae gennym ni ddwy flaenoriaeth a dwy flaenoriaeth yn unig, Dirprwy Lywydd: un ohonyn nhw yw cynorthwyo ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yn yr ymdrechion y byddan nhw'n eu gwneud, a'r ail yw cynorthwyo busnesau a phobl mewn cyflogaeth, fel y bydd gan bobl, pan fyddan nhw'n dod allan yr ochr arall i'r coronafeirws, ddyfodol a swyddi i fynd iddyn nhw a gobaith o'u blaenau. Rydym ni'n gweithio'n agos gyda'r trydydd sector, wrth gwrs, ac maen nhw eu hunain yn ail-flaenoriaethu eu cyllidebau. Rydym ni'n ddiolchgar iawn i Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, sydd wedi twrio yn ei gronfeydd ei hun fel y gall gynnig arian ar unwaith i allu cynorthwyo sefydliadau trydydd sector i wneud y pethau ychwanegol y maen nhw'n awyddus i'w gwneud ac yn gallu eu gwneud. Rydym ni'n gweithio'n agos iawn gydag awdurdodau lleol, fel yr awgrymodd Paul Davies, mewn cysylltiad dyddiol ag arweinyddion allweddol awdurdodau lleol. Roedd pryder dros y penwythnos, Dirprwy Lywydd, y byddai nifer y rhieni a fyddai'n dod â phlant i'r ddarpariaeth newydd ddydd Llun yn fwy na'r uchafswm o 20 y cant o blant y gallwn ni ei ganiatáu yn y cyfleusterau hynny, neu fel arall byddai y fantais epidemiolegol o gymryd y camau hynny yn cael ei gwanhau. Roedd rhai awdurdodau lleol a benderfynodd fabwysiadu dull rhagofalus ar ddechrau'r wythnos i wneud yn siŵr na fyddai hynny'n digwydd. Yn ymarferol, ni chododd yr anawsterau hynny. Roedd y niferoedd ar ben isaf yr hyn y gellid bod wedi ei ragweld ddoe, a gwn y bydd yr awdurdodau lleol hynny yn ailgymhwyso eu cynlluniau bellach. Byddwn yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol hynny fel bod gennym ni drefniadau tymor canolig ar waith fel bod gweithwyr allweddol yn gwybod nid yn unig sut y byddan nhw'n llwyddo i fynd drwy'r wythnos neu ddwy nesaf ond sut y byddan nhw'n ymdopi y tu hwnt i'r Pasg hefyd. Dirprwy Lywydd, rwy'n mynd—rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n deall—i adael cwestiynau iechyd i'm cydweithiwr fel y gallaf ymateb i gynifer o gwestiynau eraill â phosibl. Ond dim ond i roi sicrwydd i Paul Davies, mae'r Bil y byddwn ni'n ei drafod yn ddiweddarach at ddibenion CCD yn rhoi gallu newydd i Lywodraeth Cymru gyflymu'r broses o ddychwelyd i'r gweithle i staff proffesiynol iechyd, a gofal cymdeithasol yn wir, sydd wedi ymddeol. Rydym ni wedi gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth y DU o ran cymorth i fusnesau. Ac rydym ni, wrth gwrs, yn monitro'r gofynion ar Busnes Cymru. Maen nhw wedi codi'n aruthrol dros yr wythnos ddiwethaf, fel y gallwch chi ddychmygu. Nifer y galwadau i'r llinell gymorth, nifer yr ymweliadau â'r wefan, ymhell y tu hwnt i'r hyn a fyddai'n cael eiragweld fel rheol. Bu'n rhaid i ni symud 21 o staff ychwanegol i'r llinell gymorth i allu ymdopi â nifer y galwadau, ac mae ein gallu i ymateb iddyn nhw yn cael ei fonitro bob dydd. Yn olaf, o ran y materion busnes bwyd a godwyd gan Paul Davies, mae llythyrau'n dechrau mynd allan heddiw at y bobl hynny yn y grŵp y mae angen eu hamddiffyn rhag effaith coronafeirws drwy aros yn eu cartrefi eu hunain nid am dair wythnos ond am hyd at dri mis. Mae honno'n is-adran lai o boblogaeth Cymru, a bydd y llythyrau hynny'n rhoi cyngor i bobl, yn gyntaf ynghylch pam mae eu cyflwr meddygol yn ei gwneud yn ofynnol iddyn nhw gymryd y camau hynny, ond hefyd y ffynonellau cymorth a fydd ar gael iddyn nhw tra byddan nhw wedi eu hynysu yn y modd hwnnw, ac mae hynny'n cynnwys cymorth gan y manwerthwyr bwyd hefyd. A gaf i orffen drwy ddweud hyn, ac mae'n cyfeirio at bwynt a wnaeth Paul Davies am fferyllfeydd hefyd? Rwy'n deall yn llwyr y pwysau aruthrol y mae pawb yn ei deimlo, bod pobl o dan bwysau a'u bod yn ymddwyn, weithiau, mewn ymateb i'r pwysau hynny, ond nid oes unrhyw esgus o gwbl i bobl sy'n ymweld â fferyllfa gymunedol neu fanwerthwr bwyd i gyfeirio'r rhwystredigaeth honno at bobl y rheng flaen sydd yno i'w helpu. Rydym ni wedi gweld rhai enghreifftiau—maen nhw'n enghreifftiau prin, ac nid ydym ni eisiau eu gorliwio o gwbl—ond rydym ni wedi gweld enghreifftiau o hynny, ac nid ydyn nhw'n dderbyniol mewn gwirionedd. Hyd yn oed yn y cyfnod anodd dros ben hwn, ni fyddwn yn derbyn hynny yma yng Nghymru. Diolch. Siân Gwenllian. Siân Gwenllian AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r mesurau a gyhoeddwyd ddoe yn rhai digynsail ond hanfodol er mwyn ceisio atal coronafeirws rhag lledu ymhellach. Mae unrhyw gamau sydd yn mynd i sicrhau na fydd pwysau ychwanegol ar y gwasanaeth iechyd i'w croesawu yn y cyfnod argyfyngus yma. Nid gwyliau cenedlaethol ydy hwn, ond argyfwng cenedlaethol, ac mae gan bob un ohonon ni gyfrifoldeb i gydymffurfio â'r mesurau newydd er lles ni ein hunain a'r bobl o'n cwmpas ni. Siân Gwenllian AC: Gaf i droi at y cwestiynau pwysig sydd yn codi? I ddechrau, y canllawiau newydd a gyhoeddwyd ddoe yn dweud na ddylid teithio oni bai i gyflawni gwaith hanfodol neu pan nad oes modd gweithio o adref. Mae hyn felly'n golygu y bydd nifer sydd yn gweithio ar eu liwt eu hunain yn parhau i deithio a gweithio, yn yr un modd gweithwyr yn y diwydiannau adeiladu, trwsio ceir a degau o alwedigaethau eraill. Dwi yn credu ein bod ni angen eglurder ar hyn, ac yn sicr mae angen eglurder ar frys ynglŷn â'r diwydiant adeiladu. Wrth inni siarad, dwi'n gweld lluniau o giwiau yn ffurfio y tu allan i gwmnïau a llefydd sy'n gwerthu defnyddiau adeiladu i'r cyhoedd ac i adeiladwyr. Mae adeiladwyr yn troi i fyny i'w gwaith heddiw, am nad ydyn nhw'n gallu gwneud y math yna o waith o gartref, wrth gwrs. Mi fydd nifer o'r cwmnïau adeiladu yn amharod i anfon eu gweithwyr adref oni bai bod gorchymyn gan y Llywodraeth i gau safleoedd adeiladu. O gael y cyfarwyddyd hwnnw, mi fyddan nhw wedyn yn gymwys i dderbyn y cymorth gan y Llywodraeth a fyddai'n talu 80 y cant o gyflogau'r gweithwyr. Fe ellir, er enghraifft, roi gorchymyn i gau'r ffreutur ar safleoedd adeiladu, a fyddai i bob pwrpas yn golygu y byddai'n rhaid cau'r safle yn gyfan gwbl. Mewn sector lle mae iechyd a diogelwch yn flaenoriaeth, mi fydd y gweithwyr yma yn gweithio yn agos at ei gilydd, ac mae'n gwbl annerbyniol gofyn i weithwyr beryglu eu hiechyd a iechyd eu cydweithwyr. Byddwn i'n ddiolchgar iawn os oes gennych chi eglurder ar y pwyntiau yna. Yng nghyhoeddiad y Prif Weinidog, doedd dim cyfeiriad o gwbl at gymorth ychwanegol i'r hunan-gyflogedig, gweithwyr llawrydda'r rheini ar gytundebau dim oriau. Yn absenoldeb unrhyw fanylion pellach, wnewch chi fel Llywodraeth—fel Llywodraeth Cymru—ymrwymo i dalu incwm sylfaenol i weithwyr yn y categorïauyma? Dyma'r peth egwyddorol i'w wneud, ac o'i roi fo ar waith, fe gewch chi ein cefnogaeth ni yn llwyr. Dwi'n cefnogi'ch datganiad ddoe, a oedd yn golygu bod yn rhaid i feysydd carafanau gau ynghyd ag atyniadau i dwristiaid. Pa fesurau sydd mewn lle i sicrhau bod pobl yn ufuddhau i'r cyfarwyddyd i beidio â theithio? I droi at bryder arall sydd wedi cael ei godi efo mi gan nifer dros y dyddiau diwethaf: y ffaith nad ydy gweithwyr NHS a hyd yn oed mwy o bobl yn y sector gofal yn y gymuned efo'r offer sydd eu hangen i'w diogelu nhw yn bersonol a diogelu'r bobl y maen nhw'n mynd atyn nhw. Mae hyn yn achos pryder mawr ac yn annerbyniol. Pryd gawn ni sicrwydd y bydd pawb yn gallu cael gafael ar gyfarpar addas? Ydych chi wedi archwilio i'r posibilrwydd o ddefnyddio offer y fyddin ar gyfer y gwaith yma? I droi at fyd addysg—maddeuwch imi, dwi'n gwybod nad eich maes chi'n benodol ydy o, ond mae yna gwestiynau yn codi yn fan hyn hefyd—a cychwyn efo plant sy'n derbyn prydau ysgol am ddim, rydych chi wedi dweud y byddan nhw'n parhau i gael bwyd, ond sut? Mae hynny'n gallu amrywio o ysgol i ysgol yn ôl fy nealltwriaeth i. Ydych chi'n cytuno efo fi mai rhoi talebau—vouchers —i'w gwario mewn siopau lleol ydy'r ffordd fwyaf teg o weithredu, o ran dileu'r stigma o blant yn gorfod nôl pecynnau bwyd o'r ysgol? Mi fyddai vouchers hefyd yn lleihau teithio di-angen. Rydych chi'n dweud yn y cyfarwyddiadau gan yr adran addysg: 'Os yw un rhiant yn weithiwr critigol ond y llall ddim, yna dylai'r rhiant sy ddim yn weithiwr critigol ddarparu trefniadau diogel eraill yn y cartref lle bo'n bosibl.' Y geiriau 'lle bo'n bosibl' yna: beth yw ystyr 'lle bo'n bosibl'? Mae hwn yn creu dryswch ac aneglurder i bobl. Ac o ran y dysgu, y plant a disgyblion sydd eisiau parhau i ddysgu yn y cyfnod hwn, mae yna lawer o weithgaredd yn gallu digwydd drwy'r we, ac rydym ni'n ddiolchgar iawn i'r athrawon sydd wrthi yn darparu hwnnw. Ond wrth gwrs, nid pob plentyn, nid pob disgybl sydd efo laptop unigol eu hunain. Maen nhw'n gorfod rhannu. Petai o wedi digwydd yn ein tŷ ni, er enghraifft, efo pedwar o blant a finnau yn gweithio o adref, fe fyddai fo yn anodd iawn i bawb gael chwarae teg efo un laptop. A dim bob cartref sydd efo band eang, wrth gwrs; dim bob cartref sydd efo cysylltiad i'r we. Felly, ydych chi'n cytuno efo Plaid Cymru y dylai pob plentyn sydd heb laptop gael un a phob cartref gael cysylltiad â'r we? A wnewch chi weithio efo Openreach i ddileu problem band eang araf mewn ardaloedd gwledig? Mae yna rai plant sydd ddim yn gallu mynd ar y we o gwbl oherwydd problemau band eang. Mae yna bryder penodol am y sector addysg blynyddoedd cynnar a gofal plant. Fedrwch chi warantu y bydd cefnogaeth ariannol yn parhau ar gyfer pob math o leoliad a darparwr? Mae angen eglurder ar hynny. Mi fydd hi'n adeg o gyfarwyddo efo newidiadau pellgyrhaeddol i fywyd bob dydd. I nifer, mae hi hefyd yn gyfnod o ansicrwydd ariannol, ond i bob un ohonom ni, mae'r angen i gadw'r firws i ffwrdd yn flaenoriaeth, ac mi wnawn ni weithio yn adeiladol efo chi yn yr ymdrech fawr hon. Diolch. Mark Drakeford AC: Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr i Siân Gwenllian am y cwestiynau ac am y ffordd y mae hi a phobl eraill yn ei phlaid hi wedi cydweithio yn adeiladol gyda ni yn y cyfnod argyfwng sydd o'n blaen ni. Dwi'n cytuno yn llwyr â hi—dyna'r neges y mae'n bwysig i ni ei rhoi i bobl: pan nad yw pobl yn y gwaith, nid gŵyl banc yw e. Rŷn ni'n wynebu argyfwng yn iechyd cyhoeddus, ac mae'n bwysig i bobl ymateb i'r argyfwng yn y ffordd y maen nhw'n mynd at bethau bob dydd yn eu bywydau nhw. Mae nifer o gwestiynau gan Siân. Ar bobl sy'n hunan-gyflogedig, rŷn ni'n disgwyl cael rhywbeth o Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Dŷn ni ddim yn siŵr os rŷn ni'n mynd i glywed heddiw neu yn ystod yr wythnos, ond lan iddyn nhw yw e. Does dim cyllid gyda ni. Roedd Paul Davies yn sôn am y galw am y cyllid sydd gyda ni am wasanaethau cyhoeddus a phethau pwysig. Does dim digon o arian yn ein cyllid ni i roi cynllun yn ei le. Rŷn ni'n edrych ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ac rŷn ni wedi clywed oddi wrthyn nhw—maen nhw'n gweithio yn galed yn y Trysorlys i dreial i gynllunio mwy o help i bobl yn y sefyllfa yna. O ran beth oeddwn i'n ei ddweud ddoe am caravans, yn y rheoliadau a lofnodais i amboutu 9.30 neithiwr, yn y rheoliadau yna mae mesurau yn eu lle, pwerau i awdurdodau lleol gydweithio gyda'r heddlu i fynd ar ôl y sefyllfa newydd. Rŷn ni wedi cydweithio yn agos gyda'r bobl yn y sector hefyd, ac maen nhw'n awyddus i fynd ar ôl beth rŷn ni wedi'i ddweud a chydweithio gyda ni. Bydd Vaughan Gething yn gallu ymateb ar y cwestiynau ar PPE, ond jest i ddweud, Dirprwy Lywydd, rhoddais i awdurdod i weision sifil ddoe i fynd at y Ministry of Defence yn swyddogol ac i greu cytundeb newydd rhyngom ni a'r fyddin yma yng Nghymru i gael yr help, y cymorth y maen nhw'n gallu ei roi, ac maen nhw'n awyddus i'w roi i ni hefyd. Cymorth yn y maes cynllunio: mae lot o bethau lle maen nhw'n gallu gwneud i'n helpu ni yn logistics, fel maen nhw'n ei ddweud,ond pobl eraill. Yn y maes addysg, y ffordd orau i fi o ddelio â free school meals yw i roi arian i'r teulu drwy'r child benefit. Mark Drakeford AC: Felly, dyma fudd-dal cynhwysol sy'n mynd i bob plentyn, yn sicr pob plentyn a fydd â hawl i gael prydau ysgol am ddim. Rwy'n deall ei bod yn ddigon posibl y bydd gan dalebau ran i'w chwarae, ond y dewis yr wyf i'n ei ffafrio yw bod y teuluoedd hynny'n cael arian fel y gallan nhw roi bwyd o flaen eu plant tra nad yw'r system ysgolion yn gweithredu'n arferol, ac rydym ni wedi awgrymu hynny i gyd i Lywodraeth y DU ddoe. Yn y cyfamser, rydym ni'n clytio a thrwsio, am y tro, i geisio sicrhau, pan mai talebau yw'r ateb cywir, y gallwn ni wneud hynny, i gynorthwyo economïau lleol yn y ffordd yr awgrymodd Siân, a phan nad yw hynny'n bosibl, i wneud yn siŵr bod bwyd y gall y plant gael gafael arno o leiaf. A hyd yn oed o dan y trefniadau newydd, llym iawn sy'n cael eu rhoi ar waith o heddiw ymlaen, yng Nghymru, bydd plant yn dal i gael mynd i'r ysgol a chasglu bwyd os mai dyna'r trefniant sydd ar waith yno. O ran y pwynt a wnaeth Siân, wrth gwrs, mae athrawon yn gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr bod adnoddau ar gael ar-lein, ond ni fydd hynny'n ddigon i bawb, a gwn fod cynlluniau—. Mae'r Gweinidog Addysg yn gweithio gyda'r sector i ganfod ffyrdd eraill y gall y bobl ifanc hynny nad yw honno'n ffordd ymarferol o gynnal eu haddysg, bod ffyrdd eraill y gellir eu cynorthwyo drwyddynt hefyd. Mark Drakeford AC: Yn y sector rhentu, jest i ddweud, rŷn ni'n cymryd y pwerau yn y Bil sydd o flaen y Senedd heddiw i helpu pobl yn y sector preifat. Mae cytundeb gyda ni nawr gyda'r sector cyhoeddus, gyda'r housing associations a'r awdurdodau lleol hefyd i helpu pobl dros y cyfnod nesaf. Roeddem ni wedi cyhoeddi ddydd Gwener £10 miliwn yn fwy o arian i helpu awdurdodau lleol gyda gwasanaethau i bobl heb dŷ o gwbl, ac mae mwy rydym eisiau ac yn gallu ei wneud hefyd. Dawn Bowden AC: Prif Weinidog, a gaf i yn gyntaf gofnodi fy niolch i bob un o'n gweithwyr allweddol sy'n cadw ein gwasanaethau brys a rheng flaen i fynd, ond hefyd cofnodi fy niolch i chi ac i'ch Gweinidogion am y modd yr ydych chi wedi bod yn ymdrin â'r sefyllfaddigynsail hon y mae'r wlad yn canfod ei hun ynddi? Mae'r diweddariadau a'r wybodaeth reolaidd, ynghyd â theilwra i anghenion penodol Cymru, wedi eu croesawu'n fawr ac wedi bod o gymorth i mi gynghori fy etholwyr mewn cyfnod sydd wedi peri pryder a gofid mawr i lawer o bobl. Ac a gaf i hefyd ddweud fy mod i'n eich cefnogi'n llwyr yn y mesurau ychwanegol a gyhoeddwyd neithiwr, sydd yn fater o anghenraid cenedlaethol ar hyn o bryd? Gofynnwyd nifer o gwestiynau i chi eisoes ac maen nhw wedi cael sylw, ond roeddwn i eisiau codi dau fater penodol gyda chi. Yn gyntaf, o ran diogelwch personol. Rwy'n siŵr nad fi yw'r unig un sy'n dal i ddychryn o weld ymddygiad pobl mewn archfarchnadoedd ledled y wlad. Nawr, o'r fan lle'r wyf i'n byw ym Merthyr, rwy'n gallu gweld archfarchnad fawr Tesco, ac rwy'n gweld, bob bore, torfeydd enfawr yn mynd i mewn i'r archfarchnad honno ac yn dod allan gyda throlïau yn llawn nwyddau na fyddan nhw byth, a bod yn onest, yn gallu eu defnyddio mewn dim ond ychydig ddyddiau. Ac ar wahân i ymddygiad gwrthgymdeithasol pentyrru stoc—sy'n atal pobl eraill rhag cael nwyddau hanfodol ar adeg pan na ddylai fod unrhyw brinder—fy mhrif bryder i yw'r bygythiad i ddiogelwch y cyhoedd y mae pobl yn siopa mewn niferoedd o'r fath yn ei achosi. Nawr, yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall gan ffrindiau sydd gen i yn byw yn Ffrainc, nid yw hyn yn digwydd yno. Yn Ffrainc, dim ond un person fesul troli sy'n cael mynd i mewn i'r siop. Mae pawb sy'n dod i mewn i'r siop yn cael cynnig hylif golchi dwylo wrth iddyn nhw fynd i mewn ac wrth adael. Mae systemau unffordd ar waith, a mesurau ymbellhau amlwg yn y siopau. Nid yw pobl yn mynd mewn heidiau, nid ydyn nhw'n pentyrru ac yn ymarfer prynu panig, ac nid oes neb yn mynd yn brin. Felly, fy nghwestiwn i yw: a oes rhywbeth y gallwn ni ei ddysgu o'r ffordd y maen nhw'n rheoli hyn yn Ffrainc? Ac a ydym ni mewn sefyllfa erbyn hyn lle mae angen cyflwyno rhyw fath o gyfyngiad, i gynorthwyo diogelwch y cyhoedd ond hefyd i sicrhau y gall pawb gael eu cyfran deg o nwyddau hanfodol? Yn ail, mater addysg yw hwn, Prif Weinidog, felly mae'n bosibl na fyddwch chi'n gallu ateb hyn, ondcysylltodd etholwr gofidus iawn â mi i ddweud, gan ei bod hi bellach ar gontract dim oriau ac nad oes ganddi waith ar hyn o bryd, ei bod hi wedi gwneud cais am gredyd cynhwysol, ond fel y gwyddom, bydd yn rhaid iddi aros nifer o wythnosau cyn i hwnnw ddod trwodd. Yn y cyfamser, mae ganddi ddau o blant yn yr ysgol, nad ydyn nhw wedi bod yn gymwys hyd yn hyn—gan ei bod hi wedi bod yn ennill tan nawr—nad ydyn nhw wedi bod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, felly er y caiff hi wneud cais yn awr iddyn nhw gael prydau ysgol am ddim oherwydd y newid i'w hamgylchiadau, mae'r broses yn cymryd amser, ac mae'r awdurdod lleol, er nad yw'n ddigydymdeimlad ac yn gwybod y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu arian ychwanegol i ymdrin â'r trefniadau presennol ar gyfer prydau ysgol am ddim, yn ansicr a fydd arian ychwanegol yn cyrraedd ar gyfer ychwanegu rhagor o brydau ysgol am ddim brys at eu niferoedd. Felly, fy nghwestiynau yw: a ydym ni'n gwybod pa drefniadau y mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn eu rhoi ar waith i gyflymu taliadau credyd cynhwysol, fel nad oes yn rhaid i bobl fel fy etholwr i aros am bum wythnos am arian sy'n ddyledus iddyn nhw yn y sefyllfa hon; ac a fydd arian ychwanegol ar gael i awdurdodau lleol iganiatáu iddyn nhw gyflymu ceisiadau pobl i gael prydau ysgol am ddim a hefyd i dalu am y prydau ychwanegol y byddai angen eu rhoi ar gael? Mark Drakeford AC: Dirprwy Lywydd, diolchaf i Dawn Bowden am y cwestiynau yna. Diolch am yr hyn a ddywedodd ar y cychwyn am y llif gwybodaeth gan Lywodraeth Cymru. Nid yw Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa wahanol i unrhyw sefydliad arall; mae gennym ni niferoedd sylweddol o bobl nad ydyn nhw'n gweithio oherwydd salwch neu hunan-ynysu ac rydym ni'n sefydlu polisi gweithio o gartref llym iawn, felly weithiau, mae'r gwaith o gael yr wybodaeth honno allan yn disgyn ar ychydig iawn o ysgwyddau ac mae pobl yn gweithio'n galed iawn, a gwn ein bod ni weithiau'n gorfod gweithio hyd yn oed yn galetach i ddal i fyny oherwydd bod y sefyllfa yn newid yn gyflym, ond rwy'n ddiolchgar i Dawn am yr hyn a ddywedodd am ddefnyddioldeb hynny. O ran archfarchnadoedd a diogelwch, rwy'n sicr bod pethau y gallwn ni eu dysgu oddi wrth leoedd eraill. Mae archfarchnadoedd yn recriwtio staff diogelwch ychwanegol, mae rhai archfarchnadoedd eisoes wedi sefydlu system unffordd o amgylch y siop. Siaradasom ddoe â Llywodraethau eraill y DU am fesurau y gallem ni eu rhoi ar waith, a cheir pwerau y gallem ni eu defnyddio yng Nghymru pe byddai'r sefyllfa'n gwneud hynny yn ofynnol. Diflannodd gwerth biliwn o bunnoedd o fwyd y tu hwnt i'r gwerthiant arferol oddi ar silffoedd ledled y Deyrnas Unedig yr wythnos diwethaf ac mae bellach yn eistedd yng nghypyrddau bwyd pobl, ac mae'n rhaid mai'r cyngor i bobl yw dechrau ei fwyta, oherwydd nid oes angen parhau i ychwanegu ato. Mae'r sector yn gwbl eglur: mae digon o fwyd yn y system. Nid y cyflenwad yw'r broblem. Y broblem yw'r ffordd y mae pobl—yn ddealladwy, nid wyf i'n bod yn feirniadol o bobl—y ffordd y mae pobl wedi ymateb i'r pryder y maen nhw'n ei deimlo. Ond os gall pobl gadw'r ddysgl yn fwy gwastad, gall archfarchnadoedd wneud y pethau y maen nhw'n dweud y gallan nhw eu gwneud, yna hyd yn hyn, rydym ni'n credu y gellir sefydlogi'r sefyllfa ac nid oes angen i bobl boeni na fydd digon o fwyd yn y system: mae'r bwyd yno. O ran credyd cynhwysol, mae'r Adran Gwaith a Phensiynau, rwy'n gwybod, wedi cael ei heffeithio'n wael iawn gan bobl yn hunan-ynysu a phobl yn sâl. Mae ganddyn nhw gynnydd enfawr i nifer y bobl sydd allan o waith ac angen gwneud hawliadau, a llai o bobl i ymateb iddyn nhw. Fe'n hysbyswyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn yr Adran Gwaith a Phensiynau ddoe eu bod nhw'n gweithio i gael gwared ar rywfaint o'r cymhlethdod yn y system i'w gwneud yn haws ac yn gyflymach. Rwy'n apelio eto i Lywodraeth y DU gefnu ar y cyfnod aros o bum wythnos am gredyd cynhwysol. Dyna'r rhwystr unigol mwyaf sy'n wynebu pobl; y ffaith y bydd yn rhaid i chi ddal i aros am bum wythnos, hyd yn oed pan eich bod chi wedi llwyddo i frwydro eich ffordd drwy'r system, ac nid yw pobl yn yr argyfwng presennol mewn sefyllfa i wneud hynny. Felly dywedaf eto, fel y dywedais ddoe wrth yr Ysgrifennydd Gwladol, 'Rwy'n erfyn arnoch chi i newid y rheol honno.' O ran prydau ysgol am ddim, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £7 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer awdurdodau lleol ddydd Gwener i'w helpu i ymdopi â'r nifer gynyddol o fyfyrwyr sy'n dod drwy'r drws gyda phrydau ysgol am ddim. Gadewch i mi fod yn eglur gydag awdurdodau lleol: mae prydau ysgol am ddim yn hawl. Os yw plentyn yn bodloni'r rheolau, mae'r plentyn yn cael pryd ysgol am ddim, ac nid oes unrhyw allu i ddogni lle mae'n rhaid i awdurdodau lleol ddewis rhwng plant yn y sefyllfa honno. Wrth gwrs, rwy'n deall pryderon awdurdodau lleol sy'n wynebu biliau y maen nhw'n poeni am sut y gallen nhw eu talu—dyna pam y cyhoeddwyd y £7 miliwn ychwanegol gennym ni—ond y plentyn yw'r peth pwysicaf yn y sefyllfa honno. Os oes gan blentyn hawl erbyn hyn i gael cinio ysgol am ddim lle nad oedd ganddo tan yn ddiweddar, mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr ei fod yn ei gael. Caroline Jones AC: Diolch am eich datganiad, Prif Weinidog, a hefyd am yr holl wybodaeth yr ydych chi wedi ei rhoi i mi. Hoffwn hefyd gydymdeimlo â theulu a chyfeillion y rhai sydd wedi colli'r frwydr yn erbyn y clefyd ofnadwy hwn. Rwyf eisiau diolch ar fy rhan fy hun ac ar ran fy mhlaid i bawb sy'n peryglu eu bywydau er mwyn ein gwarchod rhag pandemig y coronafeirws. Pwy a feddyliodd ychydig wythnosau yn ôl y byddem yn wynebu'r bygythiad ofnadwy hwn i fywyd ac yn rhoi rhwystrau ar ein cymdeithas gyfan? Cymerodd ychydig o fisoedd i'r coronafeirws newydd hwn heintio 100,000 o bobl ac ychydig wythnosau i heintio'r 100,000 nesaf o bobl, ac ychydig o ddyddiau i ledaenu i'r 100,000 nesaf. Nid ydym yn gwybod llawer iawn am y feirws SARS-CoV-2, ond rydym ni yn gwybod ei fod yn hynod heintus ac yn farwol iawn, ac yn llawer mwy marwol na ffliw tymhorol sy'n lladd bron i 0.5 biliwn ledled y byd bob blwyddyn, ac mae gennym ni frechlyn ar gyfer y ffliw. Ar hyn o bryd, nid oes gennym ni driniaethau na brechlynnau ar gael ar gyfer y coronafeirws, a dyna pam fy mod i'n rhyfeddu bod pobl yn dal i anwybyddu'r holl rybuddion a'r holl gyngor meddygol. Felly, oni bai ein bod yn atal y lledaeniad, gallai COVID-19 ladd degau o filoedd o bobl yng Nghymru. Prif Weinidog, y cyngor gan bob un o'r pedair Llywodraeth yw aros gartref a mynd yn anaml i siopa am eitemau hanfodol, i ddiwallu unrhyw anghenion meddygol neu ofal, neu i deithio i'r gwaith lle bo hynny'n gwbl angenrheidiol. Prif Weinidog, mae llawer o ddryswch ynghylch gwaith hanfodol. Mae'n rhaid i'r canllawiau sy'n ymwneud â manwerthu, hamdden a lletygarwch fod yn glir iawn, ond mae llawer mwy o ddryswch o sectorau eraill. Mae gennyf etholwyr sy'n gosod ffenestri, er enghraifft, aseswyr hawliadau yswiriant a phobl sy'n gweithio mewn canolfannau galw sydd i gyd yn ddryslyd ynghylch a ddylen nhw fynd i'r gwaith. Felly, a all Llywodraeth Cymru roi canllawiau clir yng Nghymru o ran yr hyn sy'n cael ei ystyried yn waith hanfodol? Nid gormodiaith yw dweud bod bywydau yn dibynnu ar bob un ohonom ni yn gwneud y peth iawn ac oni fyddwn yn cymryd camau pendant nawr, gallai'r pandemig hwn fynd yn hollol remp, a byddwn i gyd yn colli anwyliaid a phobl yr ydym yn eu hadnabod i'r lladdwr anweledig hwn. Rydym ni hefyd yn rhoi straen aruthrol ar y rhai ar reng flaen y frwydr i reoli'r coronafeirws. Staff ein GIG—y meddygon, y nyrsys a'r rhai sy'n gweithio bob awr o'r dydd a'r nos—i achub y rheini sydd â phroblemau anadlu dybryd. Mae angen i bobl ddeall nad yw COVID-19 yn debyg i'r ffliw, ac er na ddylai pobl ddychryn, dylid eu gwneud yn fwy ymwybodol gyda manylion graffig am ddifrifoldeb y clefyd. Mae angen iddyn nhw wneud fel y cyfarwyddir: aros gartref os gallwch chi a chadw draw o bobl eraill. Mae angen i bob un ohonom ni wneud ein rhan i ysgafnhau'r baich ar y rhai sydd ar flaen y gad yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws. Prif Weinidog, beth yn rhagor allwn ni ei wneud i gynorthwyo meddygon a nyrsys, ar wahân i bob un ohonom ni gadw at y cyngor? Oni ddylem ni sicrhau y danfonir bwyd a hanfodion eraill at yr holl staff rheng flaen fel nad oes yn rhaid iddyn nhw frwydro mewn archfarchnadoedd ar ôl treulio 24 i 48 awr yn brwydro yn erbyn y coronafeirws? Yn gwbl briodol, rydym ni'n canmol ein gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol am yr hyn y maen nhw'n ei wneud i'n cadw ni'n ddiogel yn ystod yr argyfwng iechyd cyhoeddus hwn, ond rhaid inni hefyd ddiolch i'r gweithwyr siopau, y gyrwyr cyflenwi a'r llu o fusnesau sydd hefyd yn sicrhau bod hanfodion bywyd yn dal ar gael i ni. Ond ni ddylem ni anghofio eich swyddogion a'r rheini ym mhob rhan o'r Llywodraeth sy'n gweithio nos a dydd i roi'r mesurau cymorth ar waith, felly diolch am hyn. Mae'n rhaid dyfeisio polisïau yn y fan a'r lle wrth inni ymateb i sefyllfa sy'n newid yn gyson, ac mae'n hawdd beirniadu ond mae polisïau a wneir dan amgylchiadau o'r fath yn sicr o fod â phroblemau. Ni allwn ni osgoi diffygion, mae'n rhaid i ni sicrhau nad oes neb a dim busnes yn diffygio o'u herwydd. Caf fy llethu'n gyson gan alwadau gan berchenogion busnesau ynghylch eu dyfodol a'r trafferthion ariannol y maen nhw ynddyn nhw, y gwyddom na welon nhw rywbeth fel hyn erioed o'r blaen, ond mae'n bwysig rhoi tawelwch meddwl iddyn nhw ynglŷn â hyn. Croesawaf y penderfyniad i ad-dalu tocynnau tymhorol i bobl yr effeithiwyd arnyn nhw gan y feirws a'r newyddion y caiff staff y GIG deithio am ddim ar drafnidiaeth gyhoeddus. Fodd bynnag, wrth i wasanaethau gael eu lleihau, yn enwedig ar drenau, mae'r gwasanaethau'n mynd yn orlawn, sy'n golygu bod pobl mewn mwy o berygl o ddal COVID-19. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi sicrhau bod gan wasanaethau trên Trafnidiaeth Cymru gerbydau ychwanegol i ganiatáu digon o le ar gyfer ymbellhau cymdeithasol, yn enwedig os yw staff y GIG am barhau i ddefnyddio'r gwasanaethau hyn? Yn anffodus, nid yw pob aelod o staff yn gallu gweithio o gartref, felly er y gellir lleihau'r galw ar gludiant cyhoeddus, ni ellir ei ddileu'n llwyr. Hyd at ychydig wythnosau'n ôl, roeddem yn annog pobl yn frwd i adael eu ceir a dal y trên neu'r bws. Nawr, cyngor y Llywodraeth yw osgoi trafnidiaeth gyhoeddus. Prif Weinidog, beth yn ychwanegol allwch chi ei wneud i sicrhau diogelwch y rhai nad oes ganddyn nhw ddewis ond dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus? Mae gwasanaethau wedi'u lleihau ledled Cymru, ond 'does bosib na ddylem ni wneud beth bynnag a allwn ni i leihau gorlenwi, hyd yn oed os yw hynny'n golygu mwy o wasanaethau. Gyda sectorau mawr o economi Cymru yn methu â gweithredu, a hynny'n gwbl briodol tra byddwn yn ymladd y feirws hwn, mae hyn yn gadael llawer o gyfleusterau a charfanau o'r gweithlu yn segur. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i ddod o hyd i ffyrdd eraill o ddefnyddio'r sectorau hyn i gynorthwyo yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws? Er enghraifft, a fyddwch yn annog bragwyr i gynhyrchu jel alcohol, ac a fydd y Llywodraeth yn cael gwared ar unrhyw rwymedigaethau treth ar gyfer cam o'r fath? A ydych chi wedi ystyried y rhan y gall y sector lletygarwch ei chwarae o ran cefnogi gweithwyr allweddol? Ategaf hefyd gais y Prif Weinidog ynghylch gorfod aros pum wythnos am gredyd cynhwysol. Diolch, unwaith eto, Prif Weinidog. Os weithiwn ni gyda'n gilydd gan gadw pellter iach, gallwn guro'r clefyd hwn a dychwelyd i fyw yn ôl ein harfer yn y dyfodol gweddol agos. Diolch. Mark Drakeford AC: Dirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch i Caroline Jones am hynna? Credaf iddi wneud sylw pwysig yn y dechrau am ba mor gyflym y mae ein bywyd ni wedi cael ei newid mewn ychydig wythnosau, ac nid yw'n syndod bod llawer o'n cyd-ddinasyddion yn ddryslyd o ganlyniad, a gwn fod niferoedd mawr ohonyn nhw yn troi at eu Haelodau yn y Senedd i chwilio am atebion. Pe cawn i ofyn dim ond un peth i'r Aelodau, sef i droi at y cyngor yr ydym ni wedi'i gyhoeddi'n barod i weld a yw'r atebion yn y fan yna. Os nad yw'r atebion ar gael, yna, wrth gwrs, dylai'r Aelodau gysylltu â'r Gweinidog perthnasol a gofyn am ragor o gyngor, ond gan ein bod yn rhoi cyngor drwy'r amser, credaf ei bod yn eithaf tebygol y bydd atebion i rai o'r cwestiynau hynny eisoes ac mai'r cyfan sydd angen ei wneud yw edrych amdanyn nhw fel y gall pobl gael yr wybodaeth orau. Dirprwy Lywydd, rwyf eisiau dweud eto: bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael achos ysgafn iawn o'r salwch hwn. Y broblem yw, er nad oes symptomau gennych chi, gallech fod yn trosglwyddo'r feirws i rywun sydd yn llawer iawn mwy agored i niwed. Felly, y rheswm yr ydym ni'n gofyn i bobl aros gartref yw nid oherwydd ein bod yn credu y bydd llawer o bobl yn ddifrifol wael, ond oherwydd drwy aros gartref nid ydych yn peri'r risg honno i eraill a gallwn arafu lledaeniad y clefyd. Mae llawer o enghreifftiau o sefydliadau ledled Cymru yn cynnig cymorth, gyda gweithwyr iechyd ac yn y sector gofal cymdeithasol hefyd. A gaf i ganmol y nifer fawr o aelodau o'r sector lletygarwch sydd wedi cynnig llety i weithwyr allweddol, fel nad oes yn rhaid iddyn nhw deithio pellteroedd i fynd adref ond yn gallu aros yn agos i'w lle gwaith, neu sy'n cysylltu â'r Llywodraeth i ddweud, 'Rydym ni wedi arfer â gweini bwyd. Rydym ni'n gwybod sut beth yw gofalu am bobl. Byddem yn barod i ddefnyddio'r sgiliau a'r galluoedd hynny at wasanaeth darparwyr gofal cymdeithasol yn y gymdogaeth hon, i'w helpu os nad yw eu staff ar gael'? Ac rydym ni'n gwneud ein gorau i fod yn ganolwyr rhwng y cynigion hynny a'r bobl yr ydym ni'n gwybod sydd ei angen. A gaf i ddweud bod Caroline Jones wedi gwneud rhai sylwadau pwysig iawn am drafnidiaeth? Ac rydym yn parhau i drafod gyda Trafnidiaeth Cymru ynglŷn â chael y cydbwysedd yn iawn, a thrafodais hyn ddoe gyda Maer Llundain, lle wynebir materion tebyg mewn cysylltiad â gorlenwi tiwbiau. Mae gwasanaethau tiwbiau wedi gostwng i hanner yr hyn yr oedden nhw fel arfer, ac effaith hynny yw bod pobl yn agosach at ei gilydd yn y tiwbiau sy'n rhedeg, ac rydym yn ceisio dysgu gwersi gyda'n gilydd ledled y Deyrnas Unedig, mewn trafodaethau cyson â Thrafnidiaeth Cymru a chwmnïau bysiau, gan geisio cael y cydbwysedd cywir. Mae llai o deithwyr ar y bysiau a'r trenau, ond, serch hynny, mae arnom ni angen gwasanaethau digonol fel nad yw pobl yn gorfod bod yn rhy agos at eraill gan eu bod yn gorfod defnyddio'r gwasanaethau hynny sy'n rhedeg yn llai aml. Diolch. Fe welwch chi fod y cloc yn y darn coch, ond fe wnaf ymestyn hyn. Fodd bynnag, a gaf i ofyn yn garedig am un peth? Rydym ni wedi cael y pedwar prif siaradwr o'r pedair plaid sydd yma. A gaf i ofyn, os yw eich cwestiwn wedi'i ofyn, a wnewch chi beidio â'i ofyn, ac a wnewch chi geisio bod—byddaf yn ymestyn, fel y dywedaf, ond a wnewch chi geisio bod yn gryno? Felly, os gwelwch yn dda, dim areithiau hir cyn ichi ofyn eich cwestiynau. Yna, mae cyfle i glywed y datganiad gan Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedyn, fel y mae'r Prif Weinidog wedi dweud—os yw eich sylw yn ymwneud ag iechyd, a wnewch chi aros, ac fe wnaf yn siŵr fy mod yn gwneud fy ngorau i'ch galw bryd hynny? A chredaf —. Fel y dywedaf, byddaf yn ymestyn hyn, ond mae gan y Prif Weinidog bethau eraill ar y gweill sy'n golygu y bydd yn rhaid iddo adael a cheisio eu gwneud. Felly, gyda'r cerydd cwrtais yna—Alun Davies. Alun Davies AC: Roedd hynny'n garedig iawn, Dirprwy Lywydd. Prif Weinidog, credaf yr hoffai llawer ohonom ni adleisio'r diolchiadau o bob rhan o'r Siambr y bore yma i'r holl bobl hynny sy'n gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac mewn rhannau eraill o'r sector cyhoeddus, yn sicrhau ein bod i gyd yn ddiogel ac y caiff ein teuluoedd eu cadw'n ddiogel, a hefyd i chi a'ch tîm o Weinidogion a swyddogion sydd wedi bod yn gweithio'n galed i sicrhau bod gan y gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus hynny yr adnoddau y mae eu hangen arnyn nhw i wneud eu gwaith. O ran cyflawni'r polisi hwn, mae angen nifer o bethau gwahanol arnom ni. Mae angen i'r gyfraith fod yn ei lle a hynny mewn modd priodol, a byddwn yn gwneud hynny yn ddiweddarach heddiw. Mae angen yr adnoddau arnom ni i fod ar gael i bobl, a gwn fod Gweinidogion yn gwneud ymdrech fawr i sicrhau bod hynny'n digwydd. Ond mae angen i bobl deimlo hefyd y gallan nhw amddiffyn eu teulu drwy sicrhau eu bod yn dilyn y cyfarwyddiadau a'r cyngor gan y Llywodraeth, ond y gallan nhw hefyd fforddio gwneud hynny. Rwyf wedi cael negeseuon lu dros y dyddiau diwethaf gan etholwyr y dywedwyd wrthyn nhw gan eu rheolwyr a'u penaethiaid bod yn rhaid iddyn nhw fynd i'w gwaith, bod eu gwaith yn hanfodol, beth bynnag y mae'n digwydd bod. Mae angen eglurder er mwyn i bobl deimlo y gallan nhw ddweud wrth eu cyflogwyr nad ydyn nhw'n teimlo y gallan nhw wneud hynny. Ac mae angen i ni sicrhau bod cyflogwyr sy'n trin eu gweithlu felly yn cael gwybod yn glir iawn, iawn nad yw hynny'n dderbyniol mwyach. Felly, rwyf yn credu bod angen dadansoddiad clir iawn o'r hyn sy'n hanfodol a'r hyn nad yw'n hanfodol. Mae Aelodau eisoes wedi crybwyll y mater o bobl hunangyflogedig. Mae nifer o bobl hunangyflogedig yn fy etholaeth i ym Mlaenau Gwent sy'n arswydo rhag y rhagolygon am yr wythnosau nesaf a cholli eu hincwm i gyd. Mae angen inni allu sicrhau y caiff pobl hunangyflogedig eu hamddiffyn yn yr un ffordd â phobl sydd mewn gwaith cyflog. Mae llawer o athrawon cyflenwi wedi cysylltu â mi hefyd sy'n pryderu am y sefyllfa y maen nhw'n ei hwynebu wrth gau ysgolion. Yn yr un modd, Prif Weinidog, wrth gwrs, ni chaiff llawer o fentrau cymdeithasol eu cwmpasu gan y cymorth a roddir i fusnesau, ac mae llawer o fentrau cymdeithasol yn fy etholaeth i, p'un a ydyn nhw'n fentrau cymdeithasol sy'n darparu gwasanaethau i etholwyr neu yn fentrau cymdeithasol fel clybiau gweithwyr a chanolfannau cymunedol, yn wynebu anawsterau dybryd iawn, a byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi amlinellu sut y gall Llywodraeth Cymru roi cymorth i'r bobl hynny, yr elusennau hynny a mudiadau trydydd sector ar hyn o bryd. Rydych chi eisoes y bore yma wedi ateb cwestiynau am gymorth i lywodraeth leol, a chredaf fod croeso cynnes iawn ledled y wlad i'r £7 miliwn a roddwyd er mwyn sicrhau bod digon o arian ar gael ar gyfer prydau ysgol am ddim. A bydd llawer ohonom yn ailadrodd y geiriau a ddywedoch chi yn gynharach fod prydau ysgol am ddim yn hawl, a'u bod yn rhywbeth y dylai pob plentyn sy'n gymwys elwa arnyn nhw. Ond mae problemau hefyd ynglŷn â'r adnoddau sydd gan lywodraeth leol. Mae fy awdurdod lleol i wedi dweud eu bod yn ei chael hi'n anodd cael gafael ar ddigon o gyfarpar diogelu personol, ac mae hynny'n rhywbeth sy'n poeni pob un ohonom ni yn fy marn i. Ond byddai modd helpu'r holl awdurdodau lleol, wrth gwrs, pe bai'r llywodraeth yn gwneud rhai pethau, fel cyflwyno taliadau'r grant cynnal refeniw ar unwaith i sicrhau bod llai o ddibyniaeth ar incwm y dreth gyngor, a hynny ar adeg pan fo llawer o bobl efallai yn ei chael hi'n anodd yn hynny o beth, a hefyd i gael cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, lle gall pobl sydd wedi colli eu hincwm dros y misoedd nesaf deimlo eu bod wedi'u diogelu mewn rhyw ffordd, fel bod ystod o gymorth ar gael i awdurdodau lleol, i'w galluogi i ymateb i'r heriau y maen nhw'n eu hwynebu. Ac wrth gwrs, bydd rhai o'r bobl sydd fwyaf agored i niwed yn cael cymorth gan lywodraeth leol. Ac mae'n un o'r pethau sy'n fy mhoeni—ein bod wedi dweud wrth lawer o grwpiau sy'n agored i niwed, boed nhw'n bobl dros eu 70au, neu yn bobl sydd â chyflyrau iechyd hirsefydlog neu waelodol, y dylen nhw aros gartref. Mae hynny'n anodd, wrth gwrs, os na allan nhw gael bwyd wedi ei ddanfon o'r archfarchnad, neu os mai'r archfarchnadoedd—yn yr un modd ag y mae Dawn Bowden eisoes wedi ei amlinellu— yw'r fan lle mae'r torfeydd mwyaf yn crynhoi heddiw. Mae angen gweithredu ar frys i fynd i'r afael â'r mater ynghylch archfarchnadoedd ar hyn o bryd. Ac, o ran gwybodaeth—fe wnaethoch chi ymateb i hyn yn gynharach—rwy'n pryderu'n ynghylch gallu'r BBC, a darlledwyr eraill, i fynegi'n effeithiol yr hyn sy'n digwydd drwy'r Deyrnas Unedig gyfan. Rwyf wedi gwrando ar nifer o ddarllediadau gwahanol, lle mae'r BBC, yn arbennig, wedi darlledu gwybodaeth sydd yn gwbl ac yn hollol anghywir, oherwydd ei fod yn canolbwyntio ar Loegr yn unig ac nid ar y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd. Mae hwn yn fater y cefais fy sicrhau gan y cyfarwyddwr cyffredinol presennol, pan oeddwn yn Weinidog â chyfrifoldeb dros bolisi darlledu, y byddai'n mynd i'r afael ag ef. Nid yw wedi mynd i'r afael ag ef, ac mae wedi methu â mynd i'r afael ag ef. Ac mae hynny'n rhywbeth sydd, yn yr argyfwng hwn, yn troi'n dipyn o argyfwng. Yn olaf—ac i drethu'ch amynedd, Dirprwy Lywydd—rwyf wedi cael cwestiwn gan Jenny Rathbone, sy'n methu bod yma heddiw, gan ei bod hi'n hunanynysu, am bobl ddigartref yng nghanol Caerdydd. Mae yna nifer o bobl sy'n ddigartref yng nghanol y ddinas, ac mae hi'n bryderus iawn ynghylch eu diogelu nhw ar yr adeg hon hefyd. Rwy'n ddiolchgar. Mark Drakeford AC: A gaf i ddiolch i Alun Davies am y sylwadau hynny? Ac a gaf fi ddiolch iddo'n arbennig am y ffordd, dros y penwythnos, y gallodd roi gwybodaeth i mi, i'n helpu ni gyda'r penderfyniadau yr oeddem yn eu gwneud, ac i'w profi yn erbyn rhai o'r amgylchiadau ar lawr gwlad mewn rhannau o Gymru? Wrth gwrs, rhaid i gyflogwyr gadw at y rheolau. Gwelsom enghraifft yn gynharach heddiw o gwmni chwaraeon, mae'n debyg, yn credu ei fod yn wasanaeth hanfodol; rwy'n credu ei fod wedi ei berswadio yn y cyfamser nad yw hynny'n wir. Ond mae'r rheolau'n glir, ac ni ddylai unrhyw gyflogwr roi pwysau ar rywun nad yw'n weithiwr allweddol i ymddwyn fel petai yn un. Cytunaf yn llwyr â'r sylw a wnaeth Alun Davies am yr hunan-gyflogedig. Mae'n annheg bod rhai pobl yn cael y diogelwch y mae Llywodraeth y DU wedi'i gynnig—ac rwy'n croesawu'n llwyr yr hyn a wnaeth y Canghellor yr wythnos diwethaf, drwy roi cymhorthdal cyflog i bobl sydd wedi'u cyflogi ond nad ydyn nhw'n gweithio am y tro. Mae arnom ni angen i'r hunangyflogedig gael math tebyg o warant. Mae ein cyd-Aelod, Jane Hutt, yn gweithio'n glos iawn gyda'r trydydd sector, a chyda mentrau cymdeithasol hefyd, i ddysgu am y problemau sy'n wynebu'r sector hwnnw, ac i weld pa gymorth arall y gallem ni ei gynnig iddyn nhw. Cytunaf â'r hyn a ddywedodd yr Aelod dros Flaenau Gwent am bwysigrwydd llywodraeth leol, wrth gwrs. Mae'r grant cynnal refeniw ar gael—gall awdurdodau lleol ddibynnu ar hynny wrth drefnu eu harian. Yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud yw gweithio gyda nhw i symleiddio'r gyfundrefn grantiau'n sylweddol, fel ei bod yn haws i awdurdodau lleol symud arian rhwng gwahanol ffynonellau grant, ac i fod yn llai caeth nag y byddem fel arfer o ran defnyddio arian at ddibenion penodol, lle mae anghenion mwy brys na'r dibenion hynny. Ac rwy'n credu y bydd y penderfyniad a wnaeth y Cynulliad hwn ddegawd yn ôl, i gynnal system budd-dal y dreth gyngor yma yng Nghymru, yn sylfaen dda i ni. Ac eto, nid yw'n gynllun goddefol—mae elfen o hawl iddo. Os yw eich incwm yn hyn a hyn, a'ch bod yn cyrraedd y trothwy, byddwch yn cael help gyda'r dreth gyngor yma yng Nghymru. Rwy'n pendroni dros y sylw a wnaeth Alun Davies am yr her o gyfathrebu, ac mae'n her, a chredaf fod darlledwyr lleol yn ymateb i'r her honno'n eithaf da y rhan fwyaf o'r amser. Pan ydych chi'n gwrnado ar ddarlledwr cenedlaethol ac yn ei glywed yn cyfeiliorni am y cyfrifoldebau, fel maen nhw wedi eu dosbarthu ar hyn o bryd ar draws y Deyrnas Unedig, rwy'n gwneud fy ngorau i beidio â gadael i fy mhwysedd gwaed godi. Ond, weithiau, maen nhw'n gwneud cawlachllwyr o bethau, ac, felly, yn camarwain pobl sy'n eu clywed nhw, fel ei bod yn anodd peidio â theimlo'n ddig yn ei gylch. Yn olaf, o ran sylw Jenny, mae Caerdydd yn wynebu heriau penodol iawn o ran ei phoblogaeth ddigartref yn y cyd-destun hwn. Dyna pam y gwnaethom ni gyhoeddi'r £10 miliwn yn gynnar i'w cynorthwyo i wneud hynny. Gwn fod gan yr awdurdod lleol gynlluniau; maen nhw wedi dynodi adeiladau newydd y maen nhw'n gobeithio y gallan nhw eu defnyddio'n gyflym i helpu'r boblogaeth honno. Ond, o ystyried natur y feirws, pa mor agored i niwed yw'r boblogaeth a'r anhawster sy'n bodoli weithiau i ddarparu cymorth mewn ffordd y gallan nhw dderbyn y cymorth hwnnw, rwy'n gwybod bod pob awdurdod lleol yn gwneud ei orau i ymateb i amgylchiadau cymhleth a beichus iawn. Diolch. Rwy'n mynd i orffen y datganiad hwn erbyn 11:15, felly rwy'n credu y gallaf gynnwys pedwar siaradwr arall, fwy na thebyg, er tegwch i'r Prif Weinidog ac i'r siaradwyr hynny. Felly, y bobl rwy'n bwriadu eu galw fydd Russell George, Neil McEvoy, Neil Hamilton a Hefin David. Y rhai ohonoch chi sydd ar y rhestr i siarad, gwnaf fy ngorau i'ch rhoi ar ben y rhestr ar y datganiad nesaf, neu hyd yn oed ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Felly, Russell George. Russell George AC: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Byddaf mor gyflym ag y gallaf yn holi fy nghwestiynau. Ac a gaf i yn gyntaf ddweud, Prif Weinidog, fy mod yn hapus iawn i weithio'n adeiladol iawn gyda'ch Gweinidogion cyllid a busnes ac economi mewn ffordd adeiladol i helpu i gefnogi economi busnes Cymru? Ac rwy'n mawr obeithio bod eich cyd-Aelodau yn gwrando—rwy'n siŵr eu bod—ar y materion yr wyf yn eu codi heddiw, oherwydd os na allwch chi ateb y cwestiynau a mynd i'r afael â nhw, yr wyf yn deall ac yn derbyn yn llwyr, yna gobeithiaf y gallan nhw roi sylw i'r rhain, efallai mewn datganiad ysgrifenedig. Fe wnaethoch chi gyfeirio at Busnes Cymru fel siop un stop yr wythnos diwethaf, ac roeddwn yn falch iawn o glywed eich ateb i Paul Davies yn gynharach fod 21 o staff ychwanegol wedi'u rhoi ar y llinell ffôn honno bellach. A gaf i ofyn, Prif Weinidog, o ran y wefan, a ydych yn gwbl sicr mai dyna'r wybodaeth ddiweddaraf? Sylweddolaf y bydd rhywfaint o oedi wrth roi gwybodaeth Llywodraeth y DU arni, efallai, ond a ydych chi'n sicr o hynny? Oherwydd, os yw hynny'n hen, mewn unrhyw ffordd, mae hynny'n rhoi pwysau, wrth gwrs, ar y llinell ffôn ac ar swyddfeydd Aelodau'r Cynulliad, ac ati. Felly, byddai cadarnhad o hynny yn cael ei werthfawrogi. Ac a gaf i ofyn hefyd, o ran y grantiau sydd ar gael i fusnesau bach? Grant £10,000 i fusnesau sydd â gwerth ardrethol o dan £12,000 ac yna £25,000 rhwng £12,000 a £51,000 yn fras; a gaf i ofyn pwy sy'n gweinyddu hynny, pryd y maen nhw yn ei weinyddu a sut y maen nhw yn ei weinyddu? Ai'r awdurdodau lleol sy'n gwneud? Rwy'n tybio hynny, ond efallai y gallech chi roi rhywfaint o eglurder ynghylch hynny. Ddoe, byddai llawer o fusnesau wedi cael cais am ardrethi busnes. Rwy'n siŵr y byddai'n ddefnyddiol pe baech chi'n dweud ar goedd y byddant, yn aml, wedi eu dosbarthu cyn i'r penderfyniadau hyn gael eu gwneud, a bydd hynny'n cynnig rhywfaint o dawelwch meddwl i fusnesau. Ond mae mwy o fanylion am hynny, megis, er enghraifft, safleoedd sydd wedi bod yn wag am chwe mis neu 12 mis. A fydd yn rhaid iddyn nhw dalu'r dreth? Byddai rhywfaint o eglurder ynghylch hynny, efallai, yn ddefnyddiol. Hefyd, o ran ardrethi busnes, y rhyddhad, ac o ran y grantiau sydd ar gael, beth sy'n cyfrif fel busnes adwerthu neu fusnes hamdden neu letygarwch? Gwnaeth eich Gweinidog Cyllid ddatganiad yr wythnos diwethaf. A yw hynny'n cynnwys llety gwely a brecwast neu dai llety neu westai, er enghraifft? Felly, sut gall busnes ddarganfod ym mha ddosbarthiad y mae ynddo, o ran p'un a yw'n fusnes manwerthu ai peidio? Rwy'n siŵr bod hynny'n amrywio, ond pe gellid rhoi manylion gwefan ynghylch hynny, byddai'n ddefnyddiol iawn. Ac, ar hyn o bryd, dim ond i safleoedd busnes sydd â gwerth ardrethol o £51,000 y mae rhyddhad cymorth busnes yn berthnasol. Dydw i ddim yn meddwl bod hynny'n ddigon o bell ffordd. Credaf o ddifrif fod angen i hynny fod yn uwch, oherwydd ceir llawer o fusnesau bach a busnesau sy'n cael eu rhedeg gan deuluoedd sydd â gwerth ardrethol o dros £51,000. Felly, efallai y gallech chi roi sylw i'r mater hwnnw. Efallai y gwnaiff y Gweinidog busnes neu gyllid roi sylw i hynny yn y datganiad yn ddiweddarach heddiw, ond pe gellid mynd i'r afael â hynny—. Hefyd, o ran yr hyn sy'n 'fusnes hanfodol', rwy'n siŵr bod pob Aelod Cynulliad o bob rhan o'r Siambr hon wedi cael negeseuon e-bost yn eu mewnflychau yn gofyn am gyngor. Credaf fod busnesau eisiau dilyn cyngor y Llywodraeth, ac maen nhw eisiau eglurder gennym ni, felly mae'r dehongliad hwnnw—sylweddolaf y gellid darllen datganiad, ond credaf fod angen rhestr, yn benodol, o beth yw busnes hanfodol. Er enghraifft, a yw busnes gweithgynhyrchu yn un? Mae'n dibynnu beth mae'n ei weithgynhyrchu. Ydy gweithiwr adeiladu sy'n gweithio ar ei ben ei hun, er enghraifft yn un? A hefyd, a gaf i ofyn a oes gennych chi unrhyw fanylion ynghylch sut y caiff cynllun Llywodraeth y DU o ran y cynllun cadw swyddi ei ariannu? Sut y caiff hynny ei weinyddu, a sut y caiff hynny ei gyflwyno? Rwy'n sylweddoli nad yw hynny yn gyfrifoldeb i chi yn llwyr, ond byddai manylion am hynny o gymorth. Hefyd, o ran cyngor a chraffu ar Weinidogion, ond mwy o ran cyngor, a fyddech yn fodlon bod Aelodau'r Cynulliad yn cael sgyrsiau ffôn gyda Gweinidogion, efallai gyda gweision sifil ar ffurf cynadledda, oherwydd credaf fod angen inni gael cyngor—nid craffu, ond cyngor. A hefyd, a wnewch chi ystyried rhoi rhifau ffôn gweision sifil yn uniongyrchol i Aelodau'r Cynulliad yn yr amser penodol hwn, i dynnu'r pwysau oddi ar Weinidogion i gael atebion i gwestiynau y gwyddom sy'n dod ger ein bron? Yn olaf, ynghylch mater cysylltiedig, aeth cwmni Laura Ashley yn fy etholaeth i i ddwylo'r gweinyddwyr yr wythnos diwethaf. Fel arfer, byddai hyn yn bennawd newyddion blaenllaw, ond yn amlwg nid yw, mae pethau pwysicach, ond, mae rhwng 500 a 600 o bobl wedi eu cyflogi yn y Drenewydd a'r ardal. Yn amlwg, mae llawer o deuluoedd yn cael eu cyflogi gan Laura Ashley gyda'i gilydd—cyflogir y teulu cyfan weithiau—a tybedpa drafodaethau ydych chi efallai wedi'u cael gyda'r cwmni. A ydych chi wedi bod yn rhan o'r broses, a yw Llywodraeth Cymru wedi bod yn gysylltiedig â dod o hyd i brynwr? A pha gymorth fydd ar gael i'r staff hynny yr effeithir arnyn nhw? Diolch yn fawr, Llywydd. Mark Drakeford AC: Fe wnaf i wirio'r pwynt am wefan Busnes Cymru. Wrth gwrs, rydym yn gwneud ein gorau i'w chadw'n gyfredol. Mae nifer enfawr—miloedd ar filoedd—wedi ymweld â hi dros yr wythnos ddiwethaf, ac mae'n un o'r prif ffyrdd i ni gael gwybodaeth at bobl. Felly, byddaf yn gwneud yn siŵr ei bod yn—. Wel, dof â hyn i sylw Ken Skates a fydd yn gwneud hynny. Sut yr ydym yn cael yr arian i gwmnïau, mae'r trefniadau gweinyddu'n dal i gael eu cwblhau. Rwy'n gwybod ei fod yn rhwystredig, ond mae'n rhaid i mi ailadrodd, mewn ffordd, y sylw a wneuthum yr wythnos diwethaf sef, er ein bod mor awyddus ag y gallwn ni fod i gael yr arian i bobl, yn y pen draw, arian cyhoeddus ydyw, ac ni allwch chi ysgrifennu siec i bobl am £25,000 dim ond oherwydd iddyn nhw ofyn am hynny. Felly, mae'n rhaid cael rhywfaint o weinyddiaeth sylfaenol er mwyn inni allu bod yn siŵr, pan fydd hyn ar ben, y gallwn ni roi cyfrif priodol am y ffordd y cafodd yr arian ei ddosbarthu. Wrth gwrs, mae Russell George yn iawn, mae digwyddiadau wedi dod ar draws y ceisiadau ardrethi busnes sydd wedi glanio ar fatiau pobl, nid ydynt yn berthnasol bellach a bydd pobl yn gwybod hynny. Nid wyf yn sicr a oes gennyf yr un ffigurau ag yntau am y £51,000 yng Nghymru, a nifer y busnesau sydd mewn gwirionedd yn uwch na hynny, ac rydym yn rhoi rhywfaint o arian rhyddhad ardrethi dewisol ychwanegol i awdurdodau lleol fel y bydd busnesau nad ydynt yn cydymffurfio'n union â'r rheolau arferol, fel y gall bobl sy'n adnabod yr ardal ac sy'n deall pam y gallai fod angen help ar y busnes hwnnw, wneud y penderfyniad hwnnw. Siaradaf â'm cyd-Weinidogion yn y Cabinet, ac mae Russell George yn llygad ei le; bydd fy nghydweithwyr yn y Cabinet yn gwrando ar y trafodion ac mae cyfarfod yn y Cabinet ar ôl i'r sesiwn hon ddod i ben, felly byddaf yn holi ynghylch y ffordd orau i Aelodau'r Cynulliad gael cyngor. Yn olaf, a gaf i fynegi ein cydymdeimlad llwyr â gweithwyr Laura Ashley? Fel y dywedodd Russell George, ar unrhyw adeg arall byddem yn treulio llawer o'n hamser yn siarad am hynny, ac mae Llywodraeth Cymru yn ymwneud yn agos iawn â'r sefyllfa honno, yn enwedig mewn cysylltiad â phrynwr arall, a'r hyn y gallai prynwr o'r fath fod eisiau ei wneud â'r busnes hwnnw a sut y byddai'n effeithio ar gyflogaeth yn y Drenewydd, yn benodol. Felly, rydym yn canolbwyntio ar y dyfodol ac yn ceisio gwneud yn siŵr, lle mae cyfleoedd, bod y busnes hwnnw'n parhau ar ffurf wahanol, ac o dan drefniadau gwahanol, a byddwn yn gwneud ein gorau i gefnogi hynny ac i gyflawni hynny ar gyfer pobl y rhan honno o Gymru. Diolch. Neil McEvoy. Neil McEvoy AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch am eich datganiad, Prif Weinidog, a gobeithiaf fod eich teulu a'ch anwyliaid i gyd yn iawn. Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi bod yn glir iawn, ac maen nhw'n dweud mai'r hyn y mae angen i ni ei wneud yw profi, profi, profi. Dywedant fod angen inni brofi pob achos posib o'r coronafeirws gan eu bod yn dweud wrthym fod methu â phrofi fel ceisio diffodd tân â mwgwd dros ein llygaid. Nawr, rwyf wedi bod yn eistedd wedi fy ynysu am bythefnos ac, yn y pen draw, llwyddais i gael prawf gan gwmni preifat ac roedd yn dangos nad yw'r coronafeirws arna i. Mae fy nhad newydd gael llawdriniaeth ar y galon, felly roedd fy mam yn hynod falch o glywed hynny, gyda'r pryder y byddwn i efallai wedi trosglwyddo rhywbeth. Erbyn hyn, mae llawer o deuluoedd yn y sefyllfa hon. Felly, credaf y dylai profion fod ar gael yn rhwydd i bob achos tybiedig, yn enwedig i weithwyr allweddol, ac yn enwedig i weithwyr allweddol y mae eu teulu'n amlygu symptomau ac, o ganlyniad, y mae gweithwyr y GIG ar hyn o bryd yn ynysu eu hunain oherwydd na ellir profi aelodau o'u teulu. Os gallwn ni brofi, yna gallwn gael yr economi yn ôl ar ei thraed, cadw'r gwasanaethau rheng flaen i fynd a diogelu pobl yn y GIG, sy'n bobl ddewr iawn, iawn, yn rhoi eu diogelwch eu hunain yn y fantol, yn gwneud gwaith arwrol dros bob un ohonom ni yn y fan yma. Dywed Sefydliad Iechyd y Byd fod profi'n rhan sylfaenol o ymladd y pandemig oherwydd mae angen inni wybod ble mae'r feirws os ydym ni am ei ymladd. Gall y pecynnau profi fod ar gael yn hawdd, ond maen nhw'n dal yn rhai anodd iawn i gael gafael arnyn nhw. Does dim rhaid iddi fod fel yna. Felly, beth fyddwch yn ei wneud i sicrhau bod yr holl achosion tybiedig o'r coronafeirws yn cael eu profi? Oherwydd dyma y mae Sefydliad Iechyd y Byd yn galw amdano. Felly, fy rhan gyntaf o'r cyfraniad yw: a fyddwch chi'n gwrando ar Sefydliad Iechyd y Byd ac yn dilyn cyngor ac yn gweithredu i sicrhau bod pob achos tybiedig yn cael ei brofi? Yn ail, rwyf eisiau codi'r mater o bobl sydd wedi'u dal dramor. Rwyf wedi derbyn negeseuon gan bobl, wrth i mi eistedd yn y fan yma, yn Awstralia. Mae etholwyr yn y Gambia, mae etholwyr yn dal i fod ym Mheriw, ac mae'n ymddangos bod syrthni o ran Llywodraeth y DU. Felly, beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud? A wnaiff Llywodraeth Cymru ysgwyddo'r cyfrifoldeb a chefnogi ein pobl sy'n gaeth dramor? Mae rhai pobl yn brin o feddyginiaeth hefyd. Bydd angen meddyginiaeth arnyn nhw yn fuan iawn, gan nad oedden nhw'n bwriadu aros mor hir. Felly, o ran y rhai sydd wedi'u dal dramor, beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud dan yr amgylchiadau? Diolch yn fawr. Mark Drakeford AC: Dirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei ddymuniadau da personol ar y dechrau, ac mae'n dda iawn gwybod bod ei brawf ei hun wedi bod yn negyddol a'i fod yn gallu bod yma y bore yma. Ynghylch y busnes o brofi, wrth gwrs rydym ni'n ymwybodol o gyngor Sefydliad Iechyd y Byd, ond caiff y cyngor hwnnw ei gyfryngu ar ein cyfer gan y pedwar prif swyddog meddygol a chan y grŵp ymgynghorol gwyddonol, oherwydd mae Sefydliad Iechyd y Byd, mae'n gorff byd-eang, mae ei gyngor yn berthnasol i nifer helaeth o wledydd ac mae'n rhaid ei ddehongli wedyn yn y cyd-destun lleol. Ac rydym yn profi hynny'n rheolaidd gyda'r bobl sy'n ein cynghori. Maen nhw'n gwbl ymwybodol o gyngor Sefydliad Iechyd y Byd ac maen nhw'n gwneud yn siŵr eu bod nhw'n rhoi'r cyngor gorau i ni o ran sut y gall yr hyn y mae Sefydliad Iechyd y Byd yn ei ddweud weithio yn y cyd-destun lleol. Bydd fy nghyd-Aelod Vaughan Gething yn dweud mwy, rwy'n siŵr, pan fydd yn ateb cwestiynau, am y cynnydd cyflym yn nifer y profion y byddwn yn gallu eu cynnal yma yng Nghymru, ac, yn arbennig, ynghylch sylw a wnaeth Neil McEvoy, sut y gallwn ni wneud yn siŵr bod y bobl hynny sydd ar y rheng flaen ac na allan nhw weithio oherwydd eu bod yn ynysu eu hunain—sut y gallwn ni gyflymu eu dychweliad i'r gweithle. Rwy'n ymwybodol iawn o'r sylwadau a wnaeth yr Aelod am bobl sydd dramor. Rwy'n siŵr y bydd pob un ohonom ni'n clywed gan deuluoedd yn ein hetholaethau sydd yn y sefyllfa honno. Yn ôl a ddeallaf, mae'r sefyllfa ym Mheriw wedi'i datrys a phobl yn cael eu cludo adref. Yr hyn yr ydym ni, y Llywodraeth, yn ei wneud, yw sicrhau bod y Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn ymwybodol o amgylchiadau dinasyddion Cymru ac yn gwybod amdanyn nhw. Nid oes gennym ni, Llywodraeth Cymru, fodd sy'n caniatáu inni negodi'n uniongyrchol â llywodraethau tramor eraill—dim ond â sefydliad gwladwriaethol y byddant yn ymdrin. Ond gwnawn yn siŵrein bod yn casglu gwybodaeth y mae Aelodau yn ei throsglwyddo i ni ac yna'n eiriol ar ran dinasyddion Cymru gyda'r rhai sydd â'r gallu i wneud y penderfyniadau hynny a'u gwneud mewn ffordd sy'n rhoi'r cymorth sydd ei ddirfawr angen ar bobl sydd wedi'u dal mewn mannau eraill. Neil Hamilton AC: A gaf i ganmol Llywodraeth Cymru hefyd am ei rhan adeiladol yn y glymblaid genedlaethol hon a ffurfiwyd i ymdopi â chlefyd y coronafeirws, ac yn y pen draw, ei drechu? Wrth ateb Dawn Bowden yn gynharach, anogodd y Prif Weinidog bobl i roi'r gorau i brynu ac i ddechrau bwyta. A gaf i hefyd ei annog i roi neges arall ar led: dechreuwch dyfu? Mae gennym ni ddiffyg enfawr yn y wlad hon o ran tyfu ffrwythau a llysiau. Rydym yn mewnforio llawer o dramor y gallem eu tyfu yn dda iawn ein hunain, ac, yn nhywydd godidog y gwanwyn, dyma'r cyfle perffaith i bobl ymarfer corff nid drwy redeg y tu allan i'w hardaloedd eu hunain, ond mewn gwirionedd yn yr ardd ei hun. Rwyf wedi bod yn palu'r ardd dros y penwythnos, ac rwy'n teimlo'n llawer gwell ar ôl gwneud hynny. Rwy'n credu y gallai hyn fod, mewn sawl ffordd, yn fuddiol i'r wlad, nid yn unig ar gyfer ei hiechyd corfforol, ond hefyd ei hiechyd ysbrydol hefyd. Yn ystod yr wythnosau nesaf, pan fydd pobl yn gaeth yn eu cartrefi am gyfnod hwy o lawer nag y maen nhw wedi arfer ag ef, gallai hyn fod yn ffordd ddefnyddiol iawn o ddiddori eu hunain ac osgoi rhai o'r agweddau gwaethaf ar unigedd cymdeithasol. Mark Drakeford AC: Mae Neil Hamilton yn gwneud sylw pwysig am iechyd meddwl a lles, ac rydym yn pryderu'n fawr am yr agwedd honno o'r cyngor yr ydym yn gofyn i bobl ei ddilyn nawr, a dyna pam y mae pobl yn cael eu hannog i ymarfer corff bob dydd. Mae gennyf uchelgais, Dirprwy Lywydd, i ddefnyddio fy un cyfle i ymarfer corff i seiclo i'm rhandir. Rwyf wedi bod yn edrych ar fy mhacedi o hadau i weld beth yw'r llysiau sy'n tyfu gyflymaf, oherwydd, er ei fod yn dda i mi, a fy mod i'n ei fwynhau'n fawr, ni fyddaf yn gallu dibynnu ar hynny fel ffynhonnell fwyd dros yr wythnosau i ddod. Ond mae'r sylw mae Neil Hamilton yn ei wneud am bobl sy'n defnyddio'r cyfleoedd sydd ganddyn nhw, lle maen nhw ar gael iddyn nhw, i wneud pethau sy'n therapiwtig i chi o ran llesiant yn sylw da. Diolch. Yn olaf, Hefin David. Hefin David AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf eisiau diolch i bobl Caerffili am y cwestiynau y maen nhw wedi'u hanfon ataf ar fy nhudalen Facebook, ac mae llawer iawn o'r cwestiynau y maen nhw wedi'u gofyn wedi'u hateb, ond rwyf eisiau canolbwyntio'n benodol ar y rhai nad ydyn nhw wedi eu hateb. Yn gyntaf, rwyf wedi cael fy holi am leoliadau addysg a chymorth i blant ag anghenion dysgu ychwanegol. I'r plant hynny sydd ag anghenion dysgu arbennig o anodd y mae angen cymorth ychwanegol arnynt, gallai datganiad y Gweinidog addysg fod wedi rhoi ychydig mwy o gig ar yr asgwrn. Felly, a gawn ni ragor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i blant ag anghenion dysgu ychwanegol? O ran plant gweithwyr allweddol, rwyf wedi cael cwestiwn penodol gan breswylydd sy'n dweud: os yw'r ddau riant yn weithwyr allweddol gyda phlant o dan oedran ysgol, a all y plentyn gael ei gludo at berthynas nad yw'n agored i niwed i ddarparu gofal plant, neu a all y perthynas deithio i dŷ i gefnogi'r gweithwyr allweddol hynny i ddarparu gofal plant os na allan nhw fynd â'u plentyn i leoliad gofal plant, er enghraifft? Mae'r cwestiwn arall a gefais yn un gan breswylydd sy'n rhedeg tudalen Facebook o'r enw Cymorth Coronafeirws Caerffili. Mae hi wedi bod yn wirfoddolwr gwych, ac mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gronfa ddata o wirfoddolwyr sydd wedi bod yn dymuno helpu'r bobl hynny yn y gymuned nad ydynt yn cael unrhyw gymorth teuluol, am nad oes ganddyn nhw deulu, na chan gymdogion, oherwydd efallai eu bod yn ynysig. Mae'r gwirfoddolwyr hynny'n dal i fod eisiau gwirfoddoli. O gofio bod gan Gyngor Caerffili y gronfa ddata honno, sut allan nhw wirfoddoli, os o gwbl? Rwyf wedi cael cwestiynau am y trenau a'r ffaith fod y trenau'n orlawn ddoe. Rwy'n amau y bydd gorlenwi'n lleihau, ond un mater yw nad yw gweithwyr gofal iechyd sy'n teithio i Ysbyty'r Waun yn gallu cyrraedd yno am 8 o'r gloch, gan fod y trenau cyntaf yn teithio ar reilffordd Rhymni o 08:15, ac roedd problem ynghylch hynny. Mae nifer o bobl wedi codi cwestiwn ynglŷn â chael MOTer mwyn cadw eu ceir ar y ffordd, ac rwy'n deall bod gan fodurdai yr hawl i aros ar agor. A oes gan bobl yr hawl i ddefnyddio'r modurdai i gael eu MOTer mwyn gallu teithio? Yn olaf, rwyf wedi cael cwestiwn am newyddiaduraeth gymunedol. Mae'r Caerphilly Observer yn derbyn £24,000 gan Gronfa newyddiaduraeth gymunedol Llywodraeth Cymru. Mae newyddiaduraeth leol a chymunedol yn hynod o bwysig. A wnewch chi sicrhau y caiff unrhyw gyllid refeniw a gaiff ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ei ddosbarthu'n deg ac yn gyfartal rhwng y rhwydwaith newyddion cymunedol annibynnol lleol a pherthnasol o sefydliadau gweisg newyddiadurwyr cymunedol yng Nghymru? Ac a ellir dosbarthu'r hyn o arian sy'n weddill yn y gronfa yn gyflym nawr i gefnogi'r sefydliadau newyddiaduraeth hynny, gan ei bod yn segur ar hyn o bryd a neb yn medru ei defnyddio. Mark Drakeford AC: Dirprwy Lywydd, diolch i Hefin David am y cwestiynau yna. Byddaf yn codi'r pwyntiau olaf am newyddiaduraeth gymunedol gyda'r Gweinidog sy'n gyfrifol. Fy nealltwriaeth i ynghylch pobl sydd angen mynd â cheir i garejys yw eu bod yn gallu gwneud hynny. Felly, ni ddylai pobl yrru ceir nad ydyn nhw yn ddiogel na rhai heb MOT. Y cwestiwn penodol ynglŷn â phan fo dau o bobl yn weithwyr allweddol a bod ganddyn nhw blentyn y gall rhywun arall ofalu amdano—rwy'n credu eu bod wedi'u cynnwys yn y rheolau, ac y caniateir i'r plentyn hwnnw gael ei gludo at y sawl a fydd yn gofalu amdano. Mae hynny o fewn y cyhoeddiad ddoe. O ran gwirfoddolwyr, wrth gwrs byddwn eisiau i bobl barhau i wirfoddoli. Un o'r rhesymau pam y caiff pobl adael eu cartrefi yw er mwyn helpu rhywun sy'n agored i niwed, a byddwn yn dibynnu ar wirfoddolwyr, yn enwedig i helpu'r bobl hynny y mae angen eu hynysu am wythnosau lawer, i'n helpu ni gyda'r ymdrech honno, ac rwy'n credu bod awdurdodau lleol yn gwneud gwaith gwych wrth weithredu fel canolwyr rhwng y rhai sydd angen y cymorth a'r bobl hynny, y bobl hael iawn hynny mewn niferoedd mawr, sy'n cynnig cymorth. Yn olaf, o ran plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, mae fy nghyd-Aelod Kirsty Williams yn dal i drafod gydag awdurdodau lleol ynghylch ysgolion arbennig. Os oes gan blant salwch corfforol neu gyflwr corfforol sy'n eu gwneud yn agored i niwed, dylent aros gartref, ond gwyddom nad yw ysgolion arbennig a phlant ag anghenion ychwanegol bob amser yn bobl sydd â phroblemau corfforol, a'r ysgol yn aml yw'r graig gadarn y trefnir eu bywyd o'i hamgylch a rhythm y diwrnod ysgol yw'r hyn sy'n rhoi synnwyr o drefn yn eu bywyd. Rydym ni'n siarad â'n cydweithwyr yn yr awdurdodau lleol i sicrhau bod y plant hynny sydd angen y math hwnnw o gymorth yn parhau i'w gael. Diolch yn fawr iawn, Prif Weinidog. Diolch. 8. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Coronafeirws (COVID-19) Symudwn yn awr at eitem 8, sef datganiad y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y coronafeirws, COVID-19. Y Gweinidog Iechyd. Vaughan Gething AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rydym eisoes wedi clywed y Prif Weinidog yn amlinellu'r ystod o fesurau eithriadol y mae pedair Llywodraeth y DU wedi'u cymryd yn ystod y dyddiau diwethaf—mesurau a fu'n angenrheidiol i ymateb i ddifrifoldeb y sefyllfa hon, gan fod hwn yn argyfwng iechyd cyhoeddus. Fy mhrif flaenoriaeth o hyd yw lleihau niwed uniongyrchol ac anuniongyrchol y coronafeirws, amddiffyn cymunedau a diogelu pobl agored i niwed, darparu gofal i gleifion, gofalu am fudd a lles ein gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, a sicrhau bod ein system iechyd a gofal cymdeithasol mor barod ag y gall fod, wedi'i chyfarparu ac mor gydnerth ag y gall fod ar gyfer yr wythnosau i ddod. Yn y pen draw, diben clir popeth a wnaf yw achub cymaint o fywydau â phosib. Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, rydym ni wedi gweld cynnydd parhaus yn nifer yr achosion o'r coronafeirws a gadarnhawyd yng Nghymru. Yn anffodus, rydym ni wedi cael rhagor o farwolaethau, ac mae'n wir ddrwg gennyf fod unrhyw deulu wedi colli rhywun annwyl a hoffwn estyn fy nghydymdeimlad diffuant at bawb y mae hyn wedi effeithio arnyn nhw eisoes. Rwy'n deall bod pobl yn poeni. Rwyf innau hefyd. Rwy'n deall bod pobl yn ceisio amddiffyn eu hunain a'u teuluoedd. Rwyf innau hefyd. Mae rhai pobl yn dewis cadw stôr o eitemau hanfodol neu'n ynysu eu hunain mewn ardaloedd mwy diarffordd i ffwrdd o'u cartref arferol. Rwy'n gofyn i bobl yn y cyfnod ansicr hwn i beidio â chynhyrfu, i fod yn feddylgar, i feddwl am eich teuluoedd, ac i feddwl am eraill hefyd. Mae'r holl gamau yr wyf yn eu cymryd gyda chyd-Aelodau yn Llywodraeth Cymru wedi'u cynllunio i'ch diogelu chi a'ch teuluoedd. Rwy'n cydnabod bod temtasiwn i brynu bwyd neu gynnyrch ychwanegol i ofalu am eich anwyliaid. Ond mae digon o fwyd i bawb os gwnawn ni siopa fel arfer heb gronni yn ormodol. Er fy mod yn deall y pryder sy'n arwain at gronni yn ormodol, mae'n brifo'r rhai mwyaf agored i niwed a'r bobl sydd â'r lleiaf o fodd. Mae hefyd yn brifo pobl na allan nhw o reidrwydd gyrraedd siopau'n gynnar. Fel y gwyddom ni, pobl yn ein gwasanaethau brys, ein gweithlu gofal cymdeithasol ac yn ein GIG yw'r rhain yn aml—yr union bobl yr ydym yn dibynnu arnyn nhw yn awr yn fwy nag erioed. Yn yr un modd, rydym yn cynllunio ein gwasanaethau iechyd yn seiliedig ar le mae pobl yn byw. Mae'n hynod bwysig i chi a'ch GIG eich bod yn mynd adref ac yn aros gartref. Vaughan Gething AC: Bydd yr wythnosau i ddod yn heriol a bydd y galwadau ar ein system iechyd a gofal yn parhau i gynyddu. Dyna pam y gweithredais ar fyrder i sicrhau bod ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol mor barod ag y gallant fod ar gyfer yr hyn sydd o'n blaenau. Ein hymateb i'r argyfwng hwn oedd adeiladu ar ein cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, i gryfhau'r strwythurau sydd ar waith, ac i gyflwyno mwy o fesurau'n gyflym i gryfhau ein cydnerthedd. Er enghraifft: mae 111 a Galw Iechyd Cymru ar-lein wedi bod yn allweddol i ddarparu cyngor; mae datrysiadau digidol yn cael eu cyflwyno'n gyflym, megis y gallu i ddarparu ymgynghoriadau fideo ym maes gofal sylfaenol ac fel dewis arall yn lle apwyntiadau cleifion allanol; mae cryfhau'r byrddau partneriaeth rhanbarthol wedi eu rhoi mewn sefyllfa i ddarparu ymatebion iechyd a gofal cymdeithasol integredig i gymunedau lleol; mae sefydlu Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn ein helpu i fynd i'r afael ag anghenion sylweddol y gweithlu. Rwyf hefyd wedi gwneud penderfyniadau mwy anodd fel ein bod yn barod i ofalu am niferoedd ychwanegol o bobl sâl iawn i wneud yn siŵr ein bod yn gallu achub mwy o fywydau. Drwy leihau triniaethau dewisol nad ydynt yn rhai brys dros dro 10 diwrnod yn ôl, mae byrddau iechyd wedi cael amser i baratoi mewn ffordd fwy cynlluniedig a phwyllog. Mewn gwahanol ysbytai, gweithredwyd ar frys i gynyddu capasiti gofal critigol ac i adleoli a hyfforddi staff yn barod ar gyfer y galw cynyddol y disgwyliwn ei weld. Ddoe, roedd tua 45 y cant o'r lleoedd mewn unedau gofal critigol yn cael eu defnyddio. Mae tua 15 y cant o'r cleifion naill ai'n achosion posibl o COVID-19 neu'n achosion sydd wedi'u cadarnhau. Mae gennym ni gynlluniau ar waith i ddyblu nifer y gwelyau gofal critigol yng Nghymru ar unwaith i ychydig dros 300. Mae gwaith helaeth yn cael ei wneud i gynyddu nifer y gwelyau â pheiriannau anadlu a all gael eu darparu yng Nghymru, gan gynnwys prynu dros 600 o beiriannau anadlu ychwanegol, ac rydym yn parhau i edrych ar ddewisiadau eraill ar frys. Penderfynais drefnu yr wythnos diwethaf fod rhannau o ysbyty newydd Ysbyty Athrofaol y Grange ger Cwmbrân yn agor yn gynt na'r bwriad. Bydd hyn yn darparu 350 o welyau ysbyty ychwanegol erbyn diwedd mis Ebrill. Mae trafodaethau brys hefyd yn mynd rhagddynt gyda'r sector ysbytai preifat yng Nghymru i sicrhau capasiti ychwanegol. Rwyf wedi cytuno i lacio trefniadau contract a monitro dros dro ar gyfer gweithwyr gofal sylfaenol er mwyn sicrhau diogelwch cleifion a staff. O fewn hynny, mae fferyllfeydd cymunedol yn parhau i fod yn y rheng flaen, a byddant hyd yn oed yn fwy pwysig o ran helpu i gefnogi grwpiau o bobl agored i niwed sydd wedi cael eu cynghori i hunanynysu am wythnosau i ddod. Rwy'n gwybod y bu pryder eithaf dealladwy ynghylch pa mor hawdd oedd hi i gael gafael ar gyfarpar diogelu personol. Rwyf wedi gweithredu i wella'r trefniadau yng Nghymru ar gyfer diogelu ein staff iechyd a gofal rheng flaen sy'n gofalu am achosion posib o COVID-19 neu achosion sydd wedi'u cadarnhau. Rwyf wedi awdurdodi ymgyrch sylweddol i ddarparu cyfarpar diogelu personol i'r saith bwrdd iechyd, gwasanaeth ambiwlans Cymru a Felindre. Er y dylai unrhyw un sy'n amau fod y coronafeirws arno aros gartref ac na ddylai ymweld â lleoliad gofal sylfaenol, fel mesur o ddiogelwch, mae cyfarpar diogelu personol wedi'u cyflenwi i bob clinig meddyg teulu, gwasanaethau y tu allan i oriau a fferyllfeydd. Mae gan wasanaethau gofal cymdeithasol ran hanfodol yn ein hymateb i COVID-19, ac rwyf wedi awdurdodi rhyddhau cyfarpar diogelu personol hefyd i'w defnyddio gan ddarparwyr gofal cymdeithasol. Mae cyflenwadau sylweddol wedi cyrraedd ddoe, ac fe gaiff llawer iawn eu danfon heddiw. Trof yn awr at ein gweithlu. Rydym ni i gyd yn cydnabod y bydd pawb sy'n gweithio i ddarparu ein gwasanaethau rheng flaen eisoes dan bwysau aruthrol, ac ni chredaf fod digon o eiriau i fynegi fy niolch i'n staff iechyd a gofal cymdeithasol sy'n parhau i weithio'n ddiflino i ofalu am bobl ym mhob un o'n cymunedau. Gwyddom y bydd pethau'n gwaethygu cyn iddyn nhw wella. Dyna pam yr ydym ni'n gweithredu ymhellach mewn modd na welwyd erioed o'r blaen i gefnogi ein gweithlu presennol. Gofynnir i bobl sydd wedi gadael neu wedi ymddeol o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn ystod y tair blynedd diwethaf ailgofrestru gyda'u cyrff proffesiynol perthnasol neu, ym maes gofal cymdeithasol, i gysylltu â'u hawdurdod lleol. Rydym ni hefyd yn chwilio am ffyrdd o ddefnyddio sgiliau myfyrwyr sy'n awyddus i gyfrannu. Mae myfyrwyr meddygol ar eu blwyddyn olaf, myfyrwyr nyrsio a myfyrwyr gwaith cymdeithasol yn cael cynnig y cyfle i ymgymryd â swyddi dros dro ar gyflog llawn i roi hwb pellach i'r rheng flaen. Bydd y rhai sy'n ymuno yn cael cyfnod sefydlu a hyfforddiant llawn a phriodol. Mae'n hanfodol bwysig ein bod ni i gyd yn gwneud popeth o fewn ein gallu i atal lledaeniad y coronafeirws: i olchi ein dwylo yn rheolaidd, i leihau cyswllt cymdeithasol, i gadw at y cyngor ar ymbellhau cymdeithasol, ac i aros gartref os ydych chi'n arbennig o agored i niwed. Rydym ni'n ysgrifennu at bobl agored i niwed y mae eu cyflyrau iechyd presennol yn golygu y gallan nhw fod yn sâl iawn gyda'r coronafeirws. Rydym yn gofyn i'r bobl hyn gymryd mesurau llymach fyth i amddiffyn eu hunain rhag y feirws hwn. Rydym yn gweithio gyda meddygon teulu, awdurdodau lleol a'r sector gwirfoddol i wneud yn siŵr bod y bobl hyn yn gallu elwa ar yr holl wasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw i'w cefnogi yn ystod yr wythnosau anodd sydd i ddod. Mae'r sefyllfa yr ydym yn ei hwynebu yn un ddigynsail. Bydd yr wythnosau nesaf yn fwy heriol na'r hyn yr ydym ni wedi'i weld yn ystod 20 mlynedd o gael Llywodraeth yng Nghymru. Os gwelwch yn dda, gofalwch am eich hunain a gofalwch am eich gilydd. Suzy Davies AC: A gaf i ddiolch i chi, Gweinidog, yn arbennig? Mae wedi bod yn gyfnod anodd iawn i chi eich hun, eich cyd-Aelodau yn y fan yma, a hefyd i'ch cydweithwyr mewn Llywodraethau eraill. Rwy'n credu, yn anarferol i aelod o'r wrthblaid, efallai, eich bod yn bendant yn haeddu ein diolch y tro hwn. A gaf i ymuno â chi hefyd i ddiolch i'n staff rheng flaen? Ond nid y rhai o fewn y gwasanaeth iechyd yn unig, ond y rhai sy'n cefnogi'r staff hynny. Felly, eu teuluoedd eu hunain, y garejys sy'n darparu'r MOTs i'r nyrsys y mae angen iddyn nhw yrru i'r gwaith, er enghraifft, ac i bawb sy'n ymbellhau'n gymdeithasol, sy'n deall bod hyn yn ymwneud ag achub bywydau—nid yn unig eu bywyd eu hunain, ond bywyd pobl o'u cwmpas hefyd. Efallai ei bod hi'n werth atgyfnerthu'r pwynt nad yw manwerthwyr nad ydyn nhw'n rhan o'r categorïau y soniwyd amdanyn nhw ychydig yn gynharach yn gallu mynnu bod eu gweithlu yn mynd i'r gwaith pan fo'r Llywodraeth eisoes wedi dweud wrthyn nhw fod angen i'r gweithwyr hynny aros gartref. Ond efallai y caf i ofyn ychydig o gwestiynau penodol i chi. Dechreuaf gyda'r gwelyau, os caf i, oherwydd fe wnaethoch chi ddweud ar Sharp End neithiwr eich bod, rhwng y cyfleuster yng Ngwent a rhywfaint o gapasiti preifat, wedi dynodi 500 o leoedd gwelyau ychwanegol—efallai fod hynny wedi cynyddu ychydig heddiw—a'ch bod yn ffyddiog y gallen nhw gael eu staffio drwy ddefnyddio rhai o'r nyrsys ychwanegol, meddygon dan hyfforddiant ac ati y gwnaethoch chi gyfeirio atyn nhw hefyd. Ond yn Hywel Dda yn unig—ac rwy'n cyfeirio at fwrdd iechyd bychan yn fwriadol yn y fan yma—maen nhw eisoes wedi cyfrifo y bydd angen 1,600 o welyau ychwanegol arnyn nhw i ateb y galw mwyaf ym mis Mai neu fis Mehefin. Felly, tybed a allwch chi ddweud wrthym ni beth fydd y diffyg mewn gwelyau ledled Cymru a gyfrifwyd ar gyfer y cyfnod mwyaf hwnnw o alw? Rwy'n sylweddoli na allwch chi fod yn fanwl gywir. Ymhle ydych chi'n bwriadu creu'r capasiti ychwanegol? Ydych chi'n ffyddiog y byddwch yn cael digon o ymateb i'ch galwad am nyrsys dan hyfforddiant, meddygon dan hyfforddiant, meddygon wedi ymddeol yn ddiweddar ac ati, i staffio'r gwelyau hynny'n ddigonol? Ar hynny'n benodol, a ydych chi'n edrych ar y gweithwyr gofal iechyd cysylltiedig hefyd—eich ffisiotherapyddion, eich therapyddion galwedigaethol, eich podiatryddion, ac ati—i helpu llenwi rhai o'r bylchau sgiliau hyn? Ac os felly, rwy'n sylweddoli eich bod wedi dweud y caiff bawb gyfnod sefydlu ac y byddan nhw'n cael eu hyfforddi'n llawn, ond mewn beth yn union? Pa fath o sgiliau fydd ar goll ac ymhle fyddan nhw ar goll? Efallai y gallwch chi roi syniad inni hefyd o faint o weithwyr gofal iechyd cysylltiedig sydd wedi dod ymlaen yn ogystal â'r meddygon dan hyfforddiant, y nyrsys a'r nyrsys a'r meddygon sydd wedi ymddeol. A ydych chi mewn sefyllfa eto i roi unrhyw arwydd inni ynghylch y niferoedd sy'n cynnig eu hunain? Profi: unwaith eto, fe wnaethoch chi ddweud ar Sharp End neithiwr eich bod yn awyddus i gyflwyno profion y tu hwnt i'r GIG i ofal cymdeithasol, yr heddlu ac eraill—ac rwy'n sylweddoli nad yw hynny ar fin digwydd, ond y caiff ei wneud—gan ddweud eich bod yn cynyddu'r capasiti yn sylweddol. Ar hyn o bryd, y pryder yw nad yw pob un o'n staff yn y GIG yn cael eu profi. Felly, a allwch chi roi syniad i ni o bwy o fewn staff y GIG sy'n cael eu profi ac ymhle y maen nhw'n cael eu profi? A yw hyn yn digwydd ar y safle y maen nhw'n gweithio ynddo, neu a oes gofyn iddyn nhw fynd i rywle arall? Os felly, ble mae'r safleoedd hynny? Pwy sy'n gwneud y profion? Oherwydd os ydym yn cynyddu capasiti, bydd arnom ni angen yr unigolion i swabio, ond bydd hefyd angen technegwyr labordy ychwanegol neu unigolion priodol eraill i gynnal y profion. Efallai y gwnewch chi ddweud wrthym ni ymhle y caiff y gwaith labordy hwnnw ei gynnal. Ai yn Ysbyty'r Waun yn unig, ynteu a ofynnir i leoliadau eraill yn y brifysgol neilltuo amser yn eu labordai i wneud y gwaith hwnnw? Yna, peiriannau anadlu. Rwy'n credu eich bod wedi sôn bod 600 o beiriannau anadlu yn y system. Efallai y gallwch chi gadarnhau hynny; wnes i ddim clywed yn iawn. Unwaith eto, fe ddywedoch chi neithiwr fod gennych chi gapasiti o 75 y cant, neu gapasiti wedi'i asesu, ar y ffordd. Ond eto, i ddyfynnu un o'r byrddau iechyd lleol llai, Hywel Dda, maen nhw'n cyfrifo bod angen tua 200 o beiriannau anadlu arnyn nhw. Maen nhw wedi llwyddo, rhwng eu stoc eu hunain a rhai o ysbytai preifat gerllaw a phrifysgolion—mae ganddyn nhw tua 80. Mae hynny ymhell o fod yn 75 y cant, heb sôn am 100 y cant. A allwch roi rhyw syniad inni pryd y bydd y peiriannau anadlu newydd yn cyrraedd Cymru? Fe wnaethoch chi sôn fod y DU yn ei chyfanrwydd yn cronni a rhannu adnoddau, felly byddai'n eithaf defnyddiol gwybod lle mae Cymru yn y ciw. Gwn fod hynny'n ffordd braidd yn anffodus o eirio'r peth, ond mae'n debyg y bydd rhai rhannau o Gymru'n cael y peiriannau anadlu hyn ychydig yn hwyrach nag eraill, felly, pe gallech chi roi syniad inni o bryd y bydd rhywfaint o'r cyfarpar yn cyrraedd. Dillad diogelu, rydych chi wedi sôn am hyn. Unwaith eto, dim ond hyn a hyn sydd ar gael ar hyn o bryd, ac er fy mod yn deall yn llwyr eich bod yn cael gafael ar fwy, a allwch chi roi syniad i ni ynghylch sut yr ydych chi'n blaenoriaethu o ran i ble mae'r rhain yn mynd ar hyn o bryd? Gan eich bod wedi sôn am yr holl staff rheng flaen ychydig yn gynharach, rwy'n credu, ond hyd yn oed mewn ysbyty unigol bydd rhai meysydd penodol sydd efallai â mwy o flaenoriaethau nag eraill—adrannau damweiniau ac achosion brys er enghraifft. Sut fyddai'r rheini yn cymharu â, wn i ddim, wardiau canser neu famolaeth neu debyg? Yn amlwg, mae llawdriniaethau dewisol wedi cael eu canslo, felly nid oes angen i chi sôn am hynny, ond mewn ysbyty beth yw'r flaenoriaeth? Ac yna, yn olaf: adfer. Bydd yn digwydd ryw ddiwrnod, dim ond i dawelu meddyliau pawb. Beth ydych chi wedi'i ddweud wrth y byrddau iechyd lleol ar hyn o bryd ynghylch dod â thimau ynghyd i baratoi ar gyfer adfer? Oherwydd dydym ni ddim yn sôn am ohirio popeth chwe mis yn unig. Bydd hon yn broses enfawr o ddal i fyny oni fydd hi? Gobeithio, o fewn blwyddyn. A ydych chi'n gofyn iddyn nhw ddod at ei gilydd i sefydlu timau didoledig i ddechrau blaengynllunio? Unwaith eto, ailadroddaf y cwestiwn hwnnw ar gyfer adran iechyd Llywodraeth Cymru—er fy mod yn tybio ei fod yn berthnasol i bob adran, mewn gwirionedd—ynghylch a oes gennych chi grŵp o bobl, hyd yn oed un bychan, sy'n ymroi i flaengynllunio a sut y byddwn yn adfer pan fydd y gwaethaf o hyn ar ben? Diolch yn fawr iawn. Vaughan Gething AC: Diolch am y cwestiynau. Ceisiaf ymdrin mor gyflym ag y gallaf â'r cwestiynau fel y'u gofynnwyd. O ran nifer y gwelyau, mae'r 350 o welyau sy'n cael eu rhyddhau yn Ysbyty Athrofaol y Grange, ynghyd â thua 150 yr ydym yn disgwyl cael cytundeb yn eu cylch gan y sector preifat, yn rhoi 500 o welyau ychwanegol. Cyfleusterau cam-i-lawr ydyn nhw mewn gwirionedd; nid oes gan y sector preifat gapasiti ar gyfer gofal dwys. Ond mae'r sylw a wnaeth cyfarwyddwr meddygol Hywel Dda heddiw wrth ddisgrifio'r hyn y maen nhw'n ei wneud ynghyd â'r awdurdod lleol, yn addasu rhai o adeiladau awdurdodau lleol, a'r cynnig a wnaed gan y Scarlets i ddefnyddio rhai o'u hadeiladau hwythau hefyd, yn ymwneud unwaith eto â llif, i wneud yn siŵr bod pobl yn gallu mynd allan i'r cyfleuster cam-i-lawr hefyd. Felly, rydym ni'n credu y byddwn ni'n gallu cael digon o bobl i ddod i wneud hynny. Nawr, mae'r amrywiaeth o bobl, gan gynnwys proffesiynau perthynol i iechyd, sydd yng nghanol eu hastudiaethau israddedig, yn bobl yr ydym yn credu y gallwn ni eu cyflogi mewn mathau o swyddogaethau cefnogi gofal iechyd, i gael pobl i weithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol cofrestredig. Byddant yn cael eu talu'n iawn am eu gwaith; ni fyddwn ni'n gofyn iddyn nhw ddod i wneud hynny am ddim. Rwyf wedi gweld sïon ar led mewn rhai rhannau o ddrysfa'r cyfryngau cymdeithasol sy'n awgrymu ein bod ni'n ceisio cael pobl i wneud hyn am ddim. Nid ydym yn cynnig hynny. Mae'n amlwg bod hynny'n golygu—a'r sylwadau a roddodd y Prif Weinidog yn gynharach ynglŷn â'r aildrefnu ar y gyllideb—pwysau ariannol ychwanegol sylweddol i sicrhau bod gweithlu ar gael sy'n gallu gwneud hynny, yn union fel y pwysau i gael mwy o gyfarpar diogelu personol i'r gwasanaeth, a'r peiriannau anadlu ychwanegol y byddwn ni'n ceisio eu prynu'n unigol, ond hefyd yn rhan o gyflenwad y DU. Felly, ydw, rwy'n credu y gallwn ni ddod o hyd i ddigon o staff, ond mae'n rhaid i mi ailadrodd y rhybudd a roddais o'r blaen sef y bydd y ffordd yr ydym yn gofalu am bobl yn wahanol; nid dim ond addasu cyfleusterau nad ydynt fel arfer yn edrych fel ysbytai i greu mathau o gyfleusterau iechyd a gofal, ond yn yr un modd, y ffordd y mae staff yn gallu gofalu am bobl a'u trin. Y math o gymarebau yr ydym wedi arfer eu gweld ac yn disgwyl eu gweld ar adegau arferol—wel, efallai y bydd yn rhaid i ni i gyd oddef ffordd wahanol o ofalu am bobl os ydym yn mynd i allu blaenoriaethu pobl sydd â'r angen mwyaf, ond hefyd nifer y bobl a all fod mewn uned adfer gan symud allan o'r lleoliad anghenion sylweddol iawn hwnnw ar adeg briodol. Felly, mae 5,000 o lythyrau eisoes wedi eu hanfon at bobl sydd wedi gadael y gofrestr yn ddiweddar, ac mae nifer o'r rheini yn dod yn ôl i mewn. Byddaf yn falch o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau pan fyddwn mewn sefyllfa synhwyrol i wneud hynny ynghylch nifer y bobl sydd wedi cytuno neu wedi dweud y byddent yn hoffi dychwelyd i'r gofrestr. O ran profion ychwanegol, nodwyd y blaenoriaethau yn natganiad y prif swyddog meddygol yr wythnos diwethaf ochr yn ochr â fy natganiad i ynghylch profion. Fel y dywedais, dylai profion ychwanegol sylweddol y dylem allu eu cyflawni o fewn yr wythnos neu fwy nesaf olygu bod mwy o bobl yn y gwasanaeth iechyd a gweithwyr allweddol eraill—. Ac, fel y dywedais, cafwyd llawer o sylwadau am ofal cymdeithasol a'r heddlu yn arbennig—i wneud yn siŵr bod modd profi'r bobl hynny a'u cael yn ôl i'r gweithle os yw'r prawf yn rhoi'r canlyniad cywir. O ran rhywfaint o'r capasiti hwnnw, yn ogystal ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, rydym ni hefyd yn siarad â'r sector prifysgolion, sydd wedi bod yn gadarnhaol iawn yn cyflwyno cynnig o gymorth, ond hefyd, mewn negodiadau ledled y DU, rwyf wedi cymeradwyo'r hyn a ddylai fod yn gytundeb y gallwn ni ei gadarnhau yn fuan gydag un neu ddau o ddarparwyr mawr yn y sector preifat a fydd yn rhoi, nid yn unig mwy o gapasiti ond hefyd cydnerthedd a chadernid o ran cynnal profion. Ac o fewn hynny, mae rhai trefniadau ar gyfer Cymru yn unig, ond mae yna hefyd rai trefniadau ar gyfer y DU gyfan i atgyfnerthu'r trefniadau profi hynny. Mae hynny'n mynd â ni at eich sylw am beiriannau anadlu. Mae gennym ni tua 600 o rai ychwanegol. Mae mwy ar y ffordd. Mae cronfa'r DU yn gronfa ar gyfer y DU yng ngwir ystyr y gair; ni ddylai olygu 'un genedl yn gyntaf a bydd eraill yn cael rhai os bydd unrhyw rai ar ôl', ac mae hynny'n wirioneddol bwysig gan ein bod yn ceisio cydweithio a gweithio'n effeithiol i ddiwallu anghenion ledled y Deyrnas Unedig. Ac mae'n werth nodi y gall yr anghenion hynny fod yn wahanol mewn gwahanol genhedloedd a gallant fod yn wahanol ar adegau gwahanol. Rydym ni'n gweld y ffigurau yn Llundain, er enghraifft, felly maen nhw'n debygol o gael yr ergyd fwyaf gyntaf, ond ni fydd hi wastad yn wir fod Llundain yn cael blaenoriaeth dros rannau eraill o Loegr, heb sôn am y gwahanol genhedloedd o fewn y Deyrnas Unedig. Felly, mae'n bwysig bod hynny'n cael ei weld o fewn y cyd-destun hwnnw. O ran cyfarpar diogelu personol, mae'n werth nodi'r ffaith bod angen cyfarpar gwahanol mewn gwahanol leoliadau, ac, unwaith eto, mae'r prif swyddog meddygol wedi cyhoeddi rhywfaint o arweiniad ynghyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghylch y defnydd o Gyfarpar diogelu personol a beth yw'r cyfarpar priodol ar gyfer pobl. Dylai bod mwy o sicrwydd, fodd bynnag, oherwydd fe wn i ei fod yn bryder y mae Aelodau ar draws y Siambr a'r tu allan wedi dweud eu bod yn ei glywed yn lleol. Felly, byddaf yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig arall heddiw i nodi'r hyn yr ydym yn ei wneud, yr hyn y disgwyliwn ei wneud, ac os bydd pryderon a chwynion unigol, nodi i le y gall pobl fynd gyda'r pryderon a'r cwynion hynny er mwyn iddyn nhw gael sylw'n gyflym, oherwydd rwy'n sicr nad wyf eisiau i'n staff rheng flaen deimlo naill ai nad oes cyfarpar diogelu personol priodol ar gael neu nad oes mwy ar ei ffordd, oherwydd dyna'n union yr ydym yn ceisio'i gyflawni, ac mae hynny'n cynnwys ailstocio'r cyflenwadau sydd gennym ni ar hyn o bryd. O ran adfer, y gwir plaen yw nad wyf wedi gofyn ac nid wyf yn disgwyl i fyrddau iechyd fod â thimau o bobl yn paratoi nawr ar gyfer adfer gan nad yw'r ymdrech sydd ei hangen arnom ni i baratoi ar gyfer yr hyn sy'n dod, yn fy marn i, yn caniatáu inni wneud hynny. Wrth inni symud ymlaen, ac wrth inni, gobeithio, ddechrau gweld gostyngiad yn nifer yr achosion, gostyngiad yn nifer y bobl y mae angen y gofal mwyaf sylweddol arnyn nhw, byddwn wedyn yn gallu barnu faint o ymdrech fydd ei hangen ar gyfer adfer a deall sut beth fydd y normalrwydd newydd. Oherwydd os cawn achos sylweddol, bydd yn effeithio ar yr hyn y byddwn yn ei drafod ac yn dadlau fel arfer ynghylch perfformiad y GIG, a'r cwestiynau treiddgar a heriol a ofynnwn i'n gilydd. Ym mhob gwlad yn y DU, gwelwn na fyddwn yn dychwelyd i'r cyfnod hwnnw yn gyflym iawn, ac mae angen rhywfaint o onestrwydd o fewn y gwasanaeth iechyd ynglŷn â hynny, ond hefyd ymhlith y cyhoedd, ynghylch pa mor hir y bydd hi'n cymryd i ni ddod yn ôl ar ein traed a rhoi ein hunain mewn sefyllfa lle byddwn yn deall sut y bydd y gwasanaeth iechyd gwladol yn parhau i wasanaethu pobl yn y cyfnod normal yr ydym i gyd yn gobeithio ac yn disgwyl ei weld cyn hir. Helen Mary Jones AC: Hoffwn ddiolch yn fawr i'r Gweinidog am ei ddatganiad a dweud pa mor falch yr ydym ni i gyd rwy'n siŵr o'i weld yn ôl yn y rheng flaen. Gwn ei fod yn gweithio'n galed iawn pan oedd yn hunanynysu, ond mae'n dda iawn ei weld yma. Mae'n rhaid y bu yn gyfnod pryderus iawn iddo ef a'i deulu ac rwy'n falch iawn o'i weld yma gyda ni heddiw. Hoffwn ategu'r sylwadau a wnaeth pobl eraill, am y rheini, fel y dywedodd y Gweinidog, sydd eisoes wedi colli anwyliaid i'r feirws hwn, ac am y gwaith gwych y mae ein staff iechyd a gofal—a chredaf fod yn rhaid inni wneud yn siŵr ein bod yn cofio sôn amdanyn nhw hefyd, oherwydd ar wahân i unrhyw beth arall, maen nhw'n gwneud gwaith pwysig iawn i atal pobl rhag mynd mor sâl nes bod angen iddyn nhw fynd i'r ysbyty. Felly, hoffwn ategu'n fawr y sylwadau y mae Aelodau eraill wedi'u gwneud am y gwaith ardderchog y mae ein staff iechyd a gofal yn ei wneud. Rwyf eisiau cyfeirio at rai materion y mae'r Gweinidog eisoes wedi sôn amdanyn nhw, a rhoi ychydig mwy o sylw i'r rheini efallai, ac yna mae ambell beth arall yr hoffwn i ei grybwyll os bydd y Dirprwy Lywydd yn caniatáu hynny. Yn gyntaf oll, dim ond i egluro ychydig yn fwy am y peiriannau anadlu. Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei atebion i Suzy Davies. Felly, mae gennym ni 600 o awyryddion. A yw'r rheini gennym ni nawr ynteu a ydyn nhw wedi cael eu harchebu? A yw'r Gweinidog yn disgwyl iddyn nhw fod yn ddigonol? Rwy'n gwybod ei bod hi'n anodd dweud oherwydd nad ydym yn gwybod eto beth yw patrwm y clefyd. Pryd y gallwn ni ddisgwyl bod mewn sefyllfa lle y gall fod yn ffyddiog bod gennym ni ddigon o'r rhain i ddiwallu'r anghenion sy'n debygol o godi? Os gallaf gyfeirio'n ôl eto at welyau gofal critigol, ac, unwaith eto, soniodd am hyn yn ei ddatganiad, mae'n dweud bod angen inni ddyblu nifer y gwelyau gofal critigol. A allai roi i ni—? Rwy'n gwybod ei bod hi'n amhosib bod yn benodol am y pethau hyn, Dirprwy Lywydd, mewn cyfnod o argyfwng, ond byddai o gymorth i bobl, rwy'n credu, pe gallem ni gael syniad pryd rydym ni'n disgwyl cael y gwelyau gofal critigol hynny yn barod i'w defnyddio. Helen Mary Jones AC: Os caf i ddychwelyd yn fyr at y profi. Clywais yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog am ddehongliad, dehongliad y DU neu Gymru o gyngor Sefydliad Iechyd y Byd, ond byddai o gymorth i mi pe bawn yn gallu deall ychydig mwy ynghylch sut y mae'r cyngor hwnnw'n wahanol ar gyfer Cymru a'r DU. Oherwydd mae'n bennawd, onid yw? Mae'r cyhoedd yn clywed Sefydliad Iechyd y Byd yn dweud, 'Profwch, profwch, profwch'; rydym ni'n gwneud penderfyniadau i wneud pethau'n wahanol yn y fan yma. A chredaf y byddai o gymorth, nid nawr, efallai, ond os yw'r Gweinidog eisiau ysgrifennu atom, fel y gallwn ni roi esboniad i'n hetholwyr ynglŷn â pham nad ydym yn dilyn cyngor Sefydliad Iechyd y Byd. Rydym yn gwybod y bu yn llwyddiannus iawn, er enghraifft, mae gwneud hynny wedi bod yn llwyddiannus iawn yn yr Almaen. Ac a gaf fi ofyn i'r Gweinidog, eto—? Mae wedi sôn ein bod ni'n cyrraedd sefyllfa lle byddwn ni'n gallu profi gweithwyr gofal iechyd allweddol. A gaf i godi'r mater gydag ef eto, y gwn fod fy nghyd-Aelod Rhun ap Iorwerth ac eraill wedi'i godi, ynghylch profion ar gyfer teuluoedd gweithwyr allweddol? Rwy'n ymwybodol yn y rhanbarth yr wyf yn ei chynrychioli o sefyllfaoedd lle mae gennych chi ddau riant, sydd ill dau'n gweithio mewn rhannau o'r gwasanaeth iechyd, sy'n aros gartref oherwydd eu bod yn ofni bod gan eu plant rai symptomau. Felly, gobeithio y bydd y Gweinidog yn ystyried—. Yn amlwg, mae'n rhaid inni ddechrau gyda'r staff, rwy'n derbyn hynny'n llwyr, ond a allwn ni ystyried cynnwys—. Mae'n sefyllfa annymunol iawn i'r teulu, ond mae'n wastraff ofnadwy ar adnoddau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol pan fo dau weithiwr proffesiynol â chymwysterau uchel yn gorfod aros gartref pan efallai nad oes dim byd o'i le arnyn nhw, nac ar eu teulu. Gwn y bydd y Gweinidog yn rhannu fy mhryder ynglŷn ag iechyd a lles corfforol, ac iechyd a lles emosiynol pobl sy'n hunanynysu am gyfnodau hir. A'r pwynt penodol yr wyf eisiau ei godi gydag ef—mae fy nghyd-Aelod Leanne Wood wedi gofyn imi sôn am hyn—yw sefyllfa teuluoedd a all fod yn agored i gam-drin domestig. Gwyddom i gyd, er enghraifft, yn anffodus, pan fydd teuluoedd gyda'i gilydd am gyfnodau hir, y gall y sefyllfaoedd hyn waethygu. Felly, hoffwn ofyn i'r Gweinidog heddiw a wnaiff gynnal rhagor o drafodaethau gyda'r Dirprwy Weinidog sydd â chyfrifoldeb uniongyrchol dros y materion hyn, er mwyn sicrhau ein bod yn gweithio'n adeiladol gyda'r sector i roi mesurau ar waith. Dywedwyd wrthyf, er enghraifft, gan rai gwirfoddolwyr yn y sector y gallem ni ddefnyddio safleoedd gwely a brecwast gwag, gallem ddefnyddio hosteli gwag ar gyfer llety brys i bobl sy'n ffoi rhag cam-drin domestig. Oherwydd mae'n rhaid inni dderbyn—ac rydym ni wedi gweld, ysywaeth, mewn gwledydd eraill fod y sefyllfaoedd hynny wedi cynyddu. Roeddwn yn ddiolchgar iawn am yr hyn a ddywedodd y Gweinidog am fferylliaeth gymunedol. Bydd yn ymwybodol bod rhai aelodau staff ar y rheng flaen yn cael profiadau eithaf erchyll, gyda phobl— fel y dywedodd y Prif Weinidog—yn mynd yn ddiamynedd, yn mynd yn ymosodol. Ac mae'n sôn bod angen i ni barchu swyddogaeth y fferyllydd cymunedol yn llawn. Tybed beth fyddai ei farn am—ac mae hwn yn benderfyniad anodd—ond mae fferyllwyr cymunedol wedi dweud wrthyf eu bod yn cael ychydig o drafferth o ran dosbarthu nwyddau, ac os oes gan bobl aelod iach yn y teulu sy'n gallu mynd allan a chasglu, byddent yn falch pe bai pobl yn cael cyngor i wneud hynny. Ond rwy'n deall efallai fod gan y Gweinidog a'r gweddill ohonom ni bryderon ynglŷn â throsglwyddo pellach yn hynny o beth, ond byddai'n ddefnyddiol gwybod beth fyddai Cyngor y Gweinidog o dan yr amgylchiadau hynny. Roedd gennyf i rai cwestiynau i'w gofyn am gyfarpar diogelu personol. Mae'r Gweinidog wedi cynnig datganiad ysgrifenedig inni, ac nid wyf eisiau peri oedi i'r Siambr drwy ofyn y rheini yn fanwl, ond rwy'n gobeithio y bydd y datganiad hwnnw'n rhoi sylw i'r materion dosbarthu. Mae perchnogion cartrefi gofal yn dweud wrthyf fod y cyfarpar diogelu yn cyrraedd Caerdydd ac yn cyrraedd Abertawe, ond nid yw'n mynd i'r ardaloedd gwledig, ac nid yw'n mynd i'r Cymoedd, yn enwedig o ystyried y sector gofal yn hytrach na'r sector iechyd. Gall hyn fod yn achos o bobl yn codi pryderon mewn sefyllfa sy'n newid yn gyflym iawn, fel y crybwyllodd y Gweinidog, ac efallai yr ymdriniwyd â hyn eisoes, ac rwy'n gobeithio'n fawr y gall dawelu ein meddyliau. Soniodd y Prif Weinidog, wrth ymateb i gwestiynau, am rai o'r sgiliau a fydd gan bobl sydd wedi gweithio ym maes lletygarwch, o ran glanweithdra, darparu bwyd, darparu cymorth sylfaenol. Tybed a yw'r Gweinidog wedi trafod gyda'r byrddau iechyd lleol a chyda darparwyr gofal i weld pa ddefnydd y gallent ei wneud o'r sgiliau hynny, ac yn wir, o ran rhai lleoliadau lletygarwch ar gyfer pobl pan fyddant mewn cyfnod cam-i-lawr, pryd yn y bôn yr hyn sydd ei angen arnyn nhw yw gofal a chymorth—pryd nad oes angen cymorth meddygol aciwt arnyn nhw. Ac rwy'n ddiolchgar iddo am sôn am Barc y Scarlets. Roeddem yn falch iawn y buont mor barod i weithio gyda'r bwrdd iechyd lleol a'r awdurdod lleol. Ac mae hefyd yn sôn yn ei ddatganiad am drafodaethau gyda lleoliadau ysbytai preifat. Tybed a allwn ni gael rhywfaint o arweiniad ynghylch pryd y gallai'r rhain gael eu cwblhau, gan fod hon yn amlwg yn sefyllfa ddwys. Dau bwynt byr i orffen, un y gall y Gweinidog dybio o bosib ei fod braidd yn anghonfensiynol. Mae osteopathiaid wedi cysylltu â mi yn fy rhanbarth, ac mae'n amlwg na fyddant yn rhoi triniaeth i'w cleientiaid preifat. Gwyddom mai triniaeth yw osteopathi. Nid ydym yn ei ddarparu drwy'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ond mae'n driniaeth sydd â sail wyddonol gref. Roedd rhai o'r osteopathiaid hynny yn holi a fyddai'n bosib iddyn nhw wirfoddoli efallai i ddod i'r ysbytai i roi cymorth i staff. Dywedant fod llawer o'u cleientiaid preifat mewn gwirionedd yn staff y GIG sydd â phroblemau o ganlyniad i godi pethau. Felly, hoffwn daflu'r syniad yna i bair y Gweinidog i weld a oes grwpiau eraill o bobl sy'n gweithio mewn meysydd gofal nad ydyn nhw yn y sector cyhoeddus, ond sydd efallai'n meddu ar sgiliau y gallan nhw eu cynnig ar hyn o bryd. Ac, yn olaf, o ran sefydliadau'r trydydd sector, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi fod rhai o'n cyrff trydydd sector yn hanfodol, o ran y gofal y maen nhw'n ei ddarparu a'r cyngor a'r cymorth y gallan nhw eu darparu. Bydd wedi gweld yr elusennau canser, er enghraifft, yn dod at ei gilydd. Tybed pa sicrwydd all y Gweinidog ei gynnig i'r sector hwnnw y caiff ei ddyfodol hirdymor ei ddiogelu. Clywais yr hyn a ddywedodd Paul Davies wrth y Prif Weinidog yn gynharach ynglŷn â'r angen i ariannu gwasanaethau rheng flaen ar hyn o bryd, ond wrth gwrs bydd angen y sefydliadau hynny arnom ni pan fydd yr argyfwng hwn ar ben, ac os cawn ein hunain mewn sefyllfa—. Ac, wrth gwrs, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru newid ei blaenoriaethau cyllidebol, ni fyddai neb yn amau hynny am eiliad, ond os cawn ni ein hunain yn y sefyllfa pan ddaw'r cyfnod adfer a ninnau wedi colli rhai o'r sefydliadau allweddol hynny yn y trydydd sector, oherwydd nad yw eu cyllid yn gynaliadwy, rwy'n gobeithio y byddai'r Gweinidog yn cytuno â mi y byddem ni wedyn yn gorfod ailadeiladu'r rhwydwaith hwnnw. Felly, unwaith eto, rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am ei ddatganiad. Yn falch iawn o'i weld yma heddiw, ac rwy'n gobeithio y gall ymateb i rai o'r sylwadau penodol yr wyf wedi'u gwneud. Vaughan Gething AC: Diolch am y sylwadau a'r dymuniadau da. O ran peiriannau anadlu, mae'r 600 yn cynnwys darpariaeth sydd gennym ni a thua 200 sydd ar eu ffordd. O ran y cwestiwn a fydd y nifer y byddwn yn gallu eu caffael, yn ein barn ni, yn ddigon, wel mae hynny'n dibynnu ar sut fydd yr haint yn datblygu. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn wrth inni geisio bod yn onest gyda'n gilydd nad ydym yn darparu ffigurau i roi rhywfaint o sicrwydd ffug. Rwy'n credu y byddai'n anghywir ceisio pennu amserlen fympwyol ar gyfer diwedd hyn neu osod terfyn uchaf ar nifer y bobl yr effeithir arnyn nhw'n ddifrifol. Bydd angen i ni barhau i ddeall yr her ac i geisio ymateb i'r her sy'n effeithio arnom ni a'r wlad i gyd. Felly, bydd angen i ni gaffael mwy, a byddwn ni'n gwybod beth sy'n ddigon wrth i ni agosáu at y digwyddiad. Ond ni ddylai unrhyw Aelod yma nac unrhyw aelod o'r cyhoedd gamddeall a chredu bod yna unrhyw beth heblaw ymdrech sylweddol rhwng y pedair Llywodraeth i wneud yn siŵr bod ein gwasanaethau iechyd a gofal wedi cael y cyfarpar priodol i ymdrin â'r her. O ran dyblu gwelyau gofal critigol, fy nealltwriaeth i yw y bydd y gwaith i wneud hynny'n cael ei wneud ar unwaith. Ac rwy'n siŵr y bydd Aelodau wedi gweld, er enghraifft, yr eitem ragorol a wnaeth Channel 4 News ar y gwaith ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i ddangos y gwaith y maen nhw wedi'i wneud eisoes i ddyblu eu cyfleusterau gofal critigol ar sawl un o'u safleoedd, a dyna'r gwaith yr oedden nhw'n gallu ei wneud gan fod yr holl driniaethau dewisol wedi eu gohirio. A phe byddem ni wedi cael wythnos arall o driniaethau dewisol, ni fyddai wedi bod yn fater o bobl yn dod i mewn yr wythnos honno yn unig, ond y ffaith bod pobl mewn gwelyau mewn ysbyty yn gwella am gyfnod wedyn mewn nifer o achosion, ac ni fyddai ein staff wedi gallu gwneud y gwaith paratoi hwnnw. Felly, rwy'n falch bod y cam i ohirio'r triniaethau hynny wedi golygu ein bod bellach wedi paratoi'n well o lawer ar gyfer yr hyn yr ydym yn gwybod sydd ar y gorwel. Ac o ran gwybod beth sydd ar y gorwel, rwy'n cydnabod eu bod yn gwestiynau cwbl ddilys gan Aelodau o bob plaid i'w holi, oherwydd mae Aelodau Llafur yn y fan yma ac eraill sydd wedi holi ynghylch y gwahaniaeth rhwng y prif gyngor gan Sefydliad Iechyd y Byd ynghylch profion a beth yr ydym ni'n ei wneud yn y fan yma. Ac mae'r cyngor yr ydym yn ei gael yn uniongyrchol gan ein prif gynghorydd gwyddonol ar iechyd a chan ein prif swyddog meddygol, sy'n gweithio gyda'i gydweithwyr yn nhair cenedl arall y DU, yn ymwneud â'r ffordd yr ydym yn defnyddio'r adnodd sydd gennym ni ar hyn o bryd. Oherwydd pe bawn i'n dweud mai ein huchelgais yw darparu profion cymunedol ar raddfa eang nawr, mewn gwirionedd nid oes gennym ni'r gallu i wneud hynny, a phe bawn yn ceisio gosod amcan cwbl amhosib, ni fyddem yn defnyddio'r adnodd sydd gennym mewn ffordd synhwyrol nac effeithiol, a dyna pam fod y profion yn cael eu targedu fel y maen nhw. Ond dyna pam, fel y dywedais, o'r penwythnos ymlaen, wrth i ni ehangu ein gallu i brofi, y byddwn yn gallu profi mwy o grwpiau o bobl a byddwn yn gallu profi grŵp llawer ehangach o bobl wedi hynny. Felly, mae'r profion yn offeryn i'n helpu ni i ddeall beth sy'n digwydd o ran yr achosion. Mae hefyd yn offeryn i'n helpu i drin pobl ac yn hollbwysig i gael staff yn ôl i'r gwaith, gan fod eich sylw am deuluoedd a phrofion yn bwysig, oherwydd y nod o gael y staff hynny yn y grwpiau hynny yw er mwyn eu rhyddhau i ddychwelyd i'r gwaith, ac mae hynny'n sicr o olygu bod yn rhaid i chi brofi digon o bobl o fewn yr uned deuluol i wneud yn siŵr y gallwch chi gael y sicrwydd hwnnw er mwyn iddyn nhw ddychwelyd. Ond, wrth gwrs, nid profi yw'r unig fater. Ni fyddem ni yma heddiw yn y ffurf hon sydd wedi ei chwtogi'n sylweddol, gyda nid yn unig y canllawiau, ond y gofynion am gadw pellter cymdeithasol, pe baem ni'n credu mai profi oedd yr unig fesur. Ni fyddem yn sôn am beiriannau anadlu ac am gyfarpar diogelu personol. Felly, mae ynglŷn ag ystod eang o fesurau gwahanol y mae'n rhaid i ni eu defnyddio. Byddwn wrth fy modd petai un ateb i ddatrys hyn, ond nid oes un ateb yn unig. Ac o ran trais a cham-drin domestig, rwy'n cydnabod y pryder y mae'r Aelod wedi sôn amdano. Maen nhw wedi bod yn nodweddion rheolaidd yn ein sgyrsiau yng nghyfarfodydd y Llywodraeth, i wneud yn siŵr nad yw pobl yn cael eu dal mewn perthynas dreisgar, mewn cartref treisgar, ac i sicrhau fod pobl yn cael eu cefnogi o hyd. O ran fferylliaeth gymunedol, rwyf wedi cyhoeddi ystod o fesurau i geisio cefnogi fferyllfeydd cymunedol, y newidiadau i oriau a gyhoeddais ar y penwythnos, y sylwadau yr wyf wedi'u gwneud am gyflenwi cyfarpar diogelu personol hefyd, ond hefyd y sylw y byddaf yn ei ailadrodd eto yn ddiweddarach heddiw, os yw pobl yn gofyn am gael eu meddyginiaeth oherwydd bod yn rhaid iddyn nhw hunanynysu, i'r rhan fwyaf o bobl mae'n bosib i unigolyn y gellir ymddiried ynddo ymgymryd â'r gwaith hwnnw ar eu rhan—nid yw'n golygu bod angen iddo fynd i'r cartref i wneud hynny. Er enghraifft, es i i siopa dros fy mam ar y penwythnos. Gwelais hi ar Sul y Mamau, ond gwelais hi ar ôl imi adael ei siopa wrth ei drws cefn a siaradais â hi drwy ffenest y gegin a oedd wedi cau. Nawr, dydw i ddim yn sant—mae fy chwaer-yng-nghyfraith yn siopa dros fy mam fel arfer—ond mae modd mynd a gwneud pethau sy'n golygu nad oes angen i'r unigolyn hwnnw fynd allan, ac, yn yr un modd, nad oes rhaid i chi alw ar wasanaethau danfon nwyddau. Yn achos rhai pobl, fodd bynnag, ni fydd ganddyn nhw bobl yn y sefyllfa honno ac wedyn bydd angen iddyn nhw ddibynnu ar wasanaeth cyflenwi gan fferyllfa gymunedol. Felly, mae ein gwasanaethau cymunedol yn wynebu heriau sylweddol, felly hefyd ein rhwydwaith fferylliaeth gymunedol. O ran cyfarpar diogelu personol mewn lleoliadau gofal, hoffwn ddweud fy mod wedi cynnwys ychydig o hyn yn fy natganiad, a bydd mwy heddiw, ond mae'n bwysig iawn, yn y cyfnod anodd a wynebwn, na fyddwn yn credu bod rhywbeth yn well mewn rhan arall o'r wlad, oherwydd eu bod nhw yn ei gael yn gyntaf ac ni ddylen nhw ei gael. Rwyf wedi siarad â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac â'u prif lefarwyr ar ofal cymdeithasol, a holl aelodau'r cabinet gofal cymdeithasol pan ddechreuodd y sefyllfa hon. A phan siaradais â nhw ar ddechrau'r wythnos hon, roedden nhw'n pryderu am roi cyfarpar diogelu personol i'r maes gofal cymdeithasol, ac roedd hynny ar draws y wlad i gyd. Nid oedd fel petai Caerdydd yn meddwl bod popeth yn fendigedig, diolch yn fawr—roedd pob un ohonyn nhw yn awyddus i sicrhau bod nwyddau ar eu ffordd ac yn cael eu darparu. Felly, nid oes un rhan o'r wlad yn cael mantais gan achosi anfantais i ran arall, a gobeithio, erbyn diwedd heddiw, y bydd cyflenwadau digonol mewn lleoliadau gofal cymdeithasol. Ac o ran y cytundeb sector preifat, y 350 o welyau ychwanegol, deallaf fod hynny ar fin digwydd, ac wedyn dylai fod yn bosib defnyddio'r capasiti hwnnw. Dydw i ddim yn siŵr ynghylch sefyllfa gwasanaethau osteopathi. Rwy'n siŵr y bydd gan y prif swyddog meddygol farn, a chyfarwyddwyr meddygol hefyd ynghylch pa mor ddefnyddiol fydd hynny i'n staff. Ac o ran y trydydd sector—nid yn unig yn y dyfodol, ond mae'r trydydd sector yn wirioneddol bwysig i ni nawr. Mae'r gwaith yr ydym yn gorfod ei wneud i amddiffyn pobl sy'n agored i niwed yn golygu bod angen i awdurdodau lleol a'r trydydd sector gydweithio. Mae'r rhwydweithiau o wirfoddolwyr y maen nhw'n helpu i'w cydlynu yn hynod o bwysig i gefnogi'n ymarferol niferoedd mawr iawn o bobl yr ydym ni wedi eu cynghori i ynysu, ac mae hynny'n anodd. Felly, byddan nhw'n bwysig yn y dyfodol, byddant, ond mewn gwirionedd maen nhw'n hanfodol bwysig yn ein hymdrech i frwydro yn erbyn COVID-19 nawr. Joyce Watson AC: Y peth cyntaf, fel llawer un arall yma, yr wyf eisiau ei wneud heddiw yw diolch i'r holl staff sy'n parhau i fynd i'w gwaith ledled y GIG, ar draws y sector gofal ac ar draws yr asiantaethau cyflenwi i gael pethau i'r lle y mae eu hangen arnom ni a phan mae eu hangen arnom ni ar yr adeg dyngedfennol hon. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod y bobl hynny'n deall, os nad ydyn nhw'n deall yn barod, ein bod i gyd yn eu gwerthfawrogi hefyd. Yn sgil darparu gwybodaeth a nwyddau, rwyf am ddechrau gofyn rhai o'm cwestiynau. Y cwestiwn cyntaf, mae'n debyg, y gofynnir i'r rhan fwyaf ohonom ni yn aml yw ble i fynd i gael cyngor da. Rydym ni wedi gweld digon o arbenigwyr yn ymddangos ar y rhyngrwyd yn dweud pethau sy'n eithaf peryglus, a dweud y gwir, gan fod y cyngor yn sylfaenol anghywir ar hyn o bryd. Felly, rwy'n credu ei fod yn ymwneud ag ailadrodd ble i fynd am gyngor da—cyngor dibynadwy—a sicrhau ei fod ar gael. O ran cyflenwadau, unwaith eto, os ceisiwch chi brynu rhywbeth syml fel paracetamol, sef yr hyn a wnes i ddoe, efallai y gofynnir i chi dalu £3 amdano. Nid yw hynny'n dderbyniol mewn gwirionedd. Ac, unwaith eto, mae'n ymwneud â chael y cyflenwadau hynny y bydd ar bobl eu hangen ar gyfer eu gofal meddygol o ddydd i ddydd i'r fferyllfeydd cymunedol hynny y bydd pob un ohonom ni yn dibynnu arnynt, ond hefyd gofyn i archfarchnadoedd sy'n cyflenwi i gyfyngu ar y cyflenwad, rhywbeth y mae rhai ohonyn nhw yn ei wneud, cyfyngu ar beth y mae pobl yn ei brynu. Rwyf hefyd wedi cael gwybodaeth, ac mae'n eithaf amlwg os ydych chi'n edrych ar archfarchnadoedd, am fformiwla babanod yn diflannu oddi ar y silffoedd. Mae hyn yn ddifrifol. Mae angen bwydo babanod, ac eto rwyf wedi clywed straeon am bobl yn prynu llaeth fformiwla fel modd o roi llaeth sych yn eu te a'u coffi. Mae hynny'n sefyllfa echrydus. Felly, unwaith eto, mae'n apêl, mewn gwirionedd, i bobl ystyried bod y geiriau 'fformiwla' a 'babanod' yn mynd gyda'i gilydd am reswm da iawn, iawn. Byddwn i'n gofyn, unwaith eto, am daliadau cyfleustodau. Rwy'n gwybod y gall ymddangos yn rhyfedd fy mod i yn gofyn i chi, ond os na all pobl fwydo eu hunain ac os na allan nhw gadw eu hunain yn gynnes, byddant yn mynd yn eithaf sâl yn fuan. Rhai o'r bobl hynny sydd â mesuryddion talu o flaen llaw sydd fwyaf agored i niwed yn yr achos cyntaf. A gofynnaf eto—er fy mod yn sôn am bobl yn cael y tanwydd iawn—yn fy ardal i yn arbennig, mae llawer o bobl nad oes ganddyn nhw gyflenwad nwy, maen nhw'n dibynnu ar gyflenwadau olew, maen nhw'n dibynnu ar nwy petrolewm hylifedig. Mae'n ddrutach. Mae'r bobl hynny'n tueddu i fod yn fwy ynysig oherwydd lle maen nhw'n byw ac maen nhw'n tueddu i fod yn fwy oedrannus mewn rhai achosion. Nid wyf yn gwybod a ydych chi wedi cael unrhyw sgyrsiau i helpu gyda'r cyflenwadau hynny, ond os cymerwn ni olew, er enghraifft, mae'n rhaid i chi brynu hwnnw mewn swmp yn gyffredinol, ac mae hynny'n gost enfawr i bobl ar adeg pan fydd eu harian yn mynd yn brin iawn. Felly, unwaith eto, mae'n ymwneud â sicrhau fod teuluoedd yn gallu byw'n effeithiol drwy gynhesu eu cartrefi a bwydo eu hunain hefyd. Rhaid imi holi ynglŷn â gweithio ym maes iechyd trawsffiniol, yn enwedig ym Mhowys. Rwy'n gwybod y bydd eraill yn holi am feysydd eraill. Yn sicr, hoffwn gael diweddariad—mae llawer o bobl sy'n byw yn ardal Powys wedi cysylltu â mi—ynghylch sut y mae hynny'n gweithio iddyn nhw a pha mor ffyddiog ydym ni y bydd y bobl hynny ym Mhowys y mae angen gofal iechyd arnyn nhw yn gallu cael gafael arno. Yn olaf, hoffwn dalu teyrnged ichi am eich diweddariadau dyddiol. Maen nhw wedi bod yn glir. Ond rwyf hefyd eisiau diolch i bobl am eu cydweithrediad, oherwydd os na chawn y mwyafrif helaeth o bobl yn cydweithredu â'r cyfyngiadau llym hynny yr ydym yn gofyn iddyn nhw eu gosod arnyn nhw eu hunain, ni fyddwn, a bod yn onest, byth yn gallu ymdopi â'r feirws hwn. Nid wyf ond yn gobeithio y bydd pobl yn parhau felly, oherwydd fel y dywedodd rhywun gynnau, nid gwyliau mo hyn. Mae'n debyg bod hwn yn gyfnod lle bydd y rhai ohonom ni sy'n dod drwyddo—a gobeithio daw pob un ohonom ni drwyddo—yn edrych yn ôl ac yn rhyfeddu at y cyfnod hwn ac at ymddygiad pobl hefyd. Diolch yn fawr iawn. Vaughan Gething AC: Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau cyson. Unwaith eto, hoffwn ailadrodd pwynt Joyce am ein staff ac, wrth gwrs, mae gan Joyce Watson aelodau yn ei theulu ei hun sy'n darparu gwasanaeth iechyd a gofal, a byddant yn deall yr ymroddiad y mae angen iddynt ei ddarparu a'r ffaith bod ein staff yn gwybod eu bod yn rhoi eu hunain mewn sefyllfaoedd peryglus. Maen nhw'n gwybod, wrth drin pobl sy'n sâl gyda chyflwr sy'n lledaenu'n weddol gyflym drwy boblogaeth y DU, fod her wirioneddol yn eu hwynebu hwythau hefyd. Maen nhw'n parhau i wneud hynny, ond yn ddealladwy maen nhw eisiau'r offer er mwyn gwneud eu gwaith, ac maen nhw eisiau cefnogaeth y cyhoedd er mwyn iddyn nhw allu gwneud eu gwaith hefyd. Mae eich sylw ynglŷn â chael gwybodaeth o ffynonellau priodol yn bwysig, fel nad yw pobl yn rhoi baich diangen ar ein gwasanaethau iechyd a gofal gan eu bod yn poeni neu'n gwneud pethau amhriodol oherwydd y buont yn edrych ar rannau rhyfedd o'r rhyngrwyd neu faterion sy'n deillio o'r cyfryngau cymdeithasol. Felly, Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, datganiadau gan y Prif Swyddog Meddygol—maen nhw'n ffynonellau o gyngor y gellir ymddiried ynddynt er mwyn i bobl ddysgu am beth sy'n digwydd yng Nghymru ac i ble i fynd i gael cyngor a chymorth. Pan ddaw'n fater o gydlynu cymorth lleol, bydd awdurdodau lleol yn gweithredu fel canolwyr gyda swyddogaeth gydgysylltu i sicrhau fod cymorth a chyngor yn cael eu rhoi, a byddant, wrth gwrs, yn gweithio gyda'r trydydd sector. Fel yr wyf wedi dweud ac fel y dywedodd y Prif Weinidog, rydym yn cael sgyrsiau gyda'r fyddin ynghylch y cymorth posib y gallan nhw ei ddarparu yn yr ymdrech, gan fod nifer sylweddol o bobl agored i niwed yng Nghymru y bydd angen eu cefnogi. O ran eich sylw am orelwa, mae'n sylw da. P'un a yw'n paracetamol, Calpol neu nwyddau arferol eraill, mae'n warthus gweld rhai pobl yn cymryd mantais fasnachol sylweddol, yn aml o'r bobl sydd fwyaf agored i niwed drwy godi prisiau'n sylweddol pan nad oes problem cyflenwi, dim ond cyfle masnachol. Yn union fel y digwyddodd heddiw, rhoddwyd Sports Direct yn ei le yn gyflym, mae'n bwysig bod pobl eraill yn rhoi gwybod am ymddygiad o'r fath. Credaf y dylai pobl sy'n gwneud hynny nawr i wneud elw cyflym ystyried y ffaith bod cof da iawn gan y rhan fwyaf o aelodau'r cyhoedd pan ddaw'n fater o fanteisio arnyn nhw mewn ffordd mor dryloyw. O ran eich sylw am gyfyngiadau ar nwyddau, ac mae'r sylw a wnewch chi am fwyd babanod yn un priodol iawn, nid oes angen o gwbl ichi gronni cyflenwad chwe mis, a beth y mae hynny'n ei wneud i bobl sy'n dibynnu ar y cynnyrch hwnnw, ac nad oes ganddyn nhw'r modd i fynd allan a phrynu swmp enfawr ymlaen llaw—. Mae archfarchnadoedd eu hunain eisoes yn mynd ati'n wirfoddol i gyfyngu ar gyflenwi a gwerthu amrywiaeth o eitemau. Un o'r pethau y mae llywodraethau ledled y DU wedi cytuno arno yw llacio rhai o'r rheolau cystadlu arferol sy'n rhwystro archfarchnadoedd rhag siarad â'i gilydd i gytuno ar beth i'w wneud. Mae amrywiaeth o feysydd lle, mewn gwirionedd, mae'n synhwyrol i'r archfarchnadoedd gydlynu'r hyn y maen nhw'n ei wneud, ac, mewn gwirionedd, rydym yn chwilio am safbwynt mwy cyson o ran y cyfyngiad gwirfoddol a gaiff ei blismona gan archfarchnadoedd ar nifer o eitemau, ond os na ddigwydd hyn, fel awgrymodd y Prif Weinidog, efallai y bydd yn rhaid inni ymyrryd a defnyddio pwerau y credwn sydd gennym ar gael i ni. Ond byddai'n well o lawer gennyf weld dull o reoli nad yw'n golygu rhagor o gamau cyfreithiol gan y Llywodraeth ac, yn yr un modd, byddai'n well o lawer gennyf weld lefel o ymddygiad a chydweithrediad cyhoeddus sy'n golygu nad oes angen gweithredu o gwbl. O ran taliadau cyfleustodau, mae hynny'n sylw y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ac yn ymwybodol iawn ohono o ran sut y mae cwmnïau cyfleustodau yn ymddwyn. Mae'r rhan fwyaf o'r rhai mwy yn ymddwyn mewn ffordd gymharol dda. Mae eich sylw ynglŷn â phobl nad ydyn nhw ar y grid ar gyfer tanwydd a phŵer yn un y byddaf yn ei godi gyda chyd-Weinidogion, ond gwn ei fod yn fater gwirioneddol ac yn union fel yr ydych yn ei ddisgrifio. Yn aml, mae'r rhain yn bobl sy'n fwy ynysig yn gorfforol ac yn aml, ond nid bob amser, yn bobl hŷn, o bosib mewn categorïau mewn perygl hefyd. O ran gofal ac iechyd trawsffiniol, dylai'r trefniant arferol fod yn berthnasol. Felly, os yw eich gofal iechyd eilaidd arferol dros y ffin yn Lloegr, yna dyna lle y dylai eich darpariaeth fod, os oes angen gofal dwys arnoch chi, er enghraifft, yn union fel petai'r trefniant fel arall. Nid yw'n fuddiol i neb gael naill ai ymagwedd 'dim ond i Gymru', neu yn wir ymagwedd 'dim ond i Loegr' lle caiff trefniadau trawsffiniol eu terfynu'n fwriadol mewn ffordd nad yw'n ymwneud â darparu'r math cywir o wasanaeth y dylai'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ym mhob un o'r pedair cenedl ei ddarparu ar gyfer pobl sydd ag angen gwirioneddol. O ran eich sylw am gydweithrediad y cyhoedd, cytunaf fod hynny'n allweddol, gan nad ydym ond wedi cymryd y camau sylweddol a wnaethom o fewn y 24 awr diwethaf gan fod y rhan fwyaf o aelodau'r cyhoedd yn cydweithredu wrth ddilyn y cyngor a'r arweiniad, ond nid digon ohonyn nhw. Felly, rydym ni wedi gorfod ymyrryd a chymryd camau eithriadol a gaiff eu hategu gan bwerau'r heddlu o fewn yr wythnos hon, ac mae mesurau eraill y gallem eu cymryd, ond byddai'n well o lawer gennyf fod mewn sefyllfa lle nad oes angen i lywodraethau gymryd mwy o gamau cyfreithiol cyfyngol a bod y cyhoedd yn deall y bydd eu hymddygiad yn allweddol i'r ffordd y mae'r coronafeirws yn lledaenu ac yn cael ei atal yn y pen draw, ac, yn y pen draw hefyd, nad ydynt yn gwneud hynny i wneud bywyd y Llywodraeth yn haws, maen nhw'n ei wneud er eu lles eu hunain a lles eu cymunedau eu hunain, a'r bobl hynny y mae'n debyg na fyddan nhw byth yn eu cyfarfod fel arall. Caroline Jones AC: Diolch ichi am eich datganiad, Gweinidog, ac mae'n dda eich gweld yn ôl yma gyda ni a chlywed bod eich teulu'n ddiogel ac yn iach. Hefyd, unwaith eto, ar ran fy mhlaid a minnau, rwy'n cydymdeimlo â phawb sydd wedi colli anwyliaid oherwydd y clefyd hwn. Caroline Jones AC: Hoffwn ddiolch i'n staff gwych yn y GIG a phawb sy'n ymwneud â'r gwaith ac yn helpu i gyfyngu ar ledaeniad y clefyd ofnadwy hwn. Rhaid i ni fel unigolion wneud popeth a allwn ni, oherwydd mae gan bob un ohonom ni ran i'w chwarae yn hyn. Gweinidog, mae gennych fy nghefnogaeth barhaus i a'm plaid yn ystod y cyfnod anodd hwn, ac mae gennyf ychydig o gwestiynau yr hoffwn eu gofyn. Rwyf wedi gweld adroddiadau bod meddygon teulu locwm yn gwrthod sifftiau oherwydd diffyg yswiriant salwch a thaliad hefyd os ydych yn marw wrth eich swydd. Dywedodd tua hanner y meddygon locwm a ymatebodd i arolwg Cymdeithas Genedlaethol y Meddygon Teulu Sesiynol eu bod yn cyfyngu ar bryd y byddent ar gael yn ystod y pandemig presennol; mae tri chwarter y rhai a gymerodd ran yn yr arolwg yn y categori mewn perygl oherwydd eu bod naill ai dros 70 neu wedi bod â chyflyrau iechyd sylfaenol eu hunain. Gweinidog, mae'r pandemig presennol yn golygu bod staff locwm yn bwysicach nag erioed. Nid yw problemau iechyd eraill yn diflannu oherwydd ein bod ni'n ymdrin ag achosion o feirws marwol. Pa sicrwydd gall Llywodraeth Cymru ei roi i feddygon teulu locwm, ac i bob meddyg teulu sy'n gweithio yng Nghymru, mewn gwirionedd, y byddant yn derbyn gofal yn ystod yr argyfwng hwn, ac a wnewch chi sicrhau bod meddygon teulu yn cael tâl a thaliad hefyd os ydynt yn marw wrth eu swydd? Gweinidog, mae dros hanner yr achosion o'r coronafeirws yng Nghymru wedi bod ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan. A yw Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi edrych ar y rhesymau pam fod gan y bwrdd iechyd hwn lawer mwy o achosion nag unrhyw fwrdd iechyd lleol arall? Pa fesurau ychwanegol sy'n cael eu darparu i'r bwrdd iechyd a'r awdurdodau lleol yn y rhanbarth i ymdopi â llwyth achosion bron i deirgwaith yn uwch na'r bwrdd iechyd lleol uchaf nesaf, ac 14 gwaith yn uwch na'r bwrdd iechyd sydd â'r boblogaeth fwyaf, sef Betsi Cadwaladr? Roeddwn hefyd yn bryderus o gael e-bost y bore yma oddi wrth swyddog carchar yn y sector cyhoeddus, yr honnir iddo gael gwybod, er iddo gael llawdriniaeth ddargyfeiriol bedwarplyg ar y galon a'i fod yn dioddef o ddiabetes, nad yw yn y categori agored i niwed, a'u bod hefyd yn benderfynol o gadw'r gampfa ar agor yn y carchar. Tybed a allem ni roi canllawiau cryfach os bydd angen, i'r gwasanaeth carchardai, a darparu hefyd, mewn unrhyw fodd y gallwn ni, drwy'r fyddin efallai, gymorth i sicrhau bod y carchardai yn gynaliadwy. Gweinidog, diolch byth, bod mwyafrif helaeth o'r rhai dros 70 yn dilyn cyngor y Llywodraeth ac yn ynysu eu hunain yn gymdeithasol. Fodd bynnag, mae llawer o bobl hŷn yn cael eu gorfodi i adael diogelwch y cartref i dalu biliau, gan nad oes ganddynt gyfrifon banc traddodiadol neu wasanaeth bancio ar-lein. Gan mai'r grŵp oedran hwn yw'r categori sy'n wynebu'r risg fwyaf, pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda chyd-Aelodau, gyda Llywodraethau Cymru a'r DU, ynghylch ffyrdd o sicrhau bod ein hetholwyr mwyaf agored i niwed yn gallu goroesi'r pandemig hwn yn niogelwch eu cartrefi? Croesawaf yr hyn y mae Cyngor Caerdydd yn ei wneud i agor cyfleusterau parcio am ddim i feddygon a nyrsys sy'n gweithio yn y Bwrdd Iechyd. Gweinidog, a yw eich Llywodraeth yn gweithio gydag awdurdodau lleol eraill ledled Cymru i sicrhau bod digon o leoedd parcio am ddim i staff y GIG yn ystod y pandemig hwn? Ymelwa, unwaith eto—fel y soniodd Joyce Watson yn gynharach—ar nwyddau: a yw hynny'n fater i'r adran safonau masnach, Gweinidog? Oherwydd mae ymelwa drwy godi prisiau ar yr adeg hon yn dro sâl iawn. Yn olaf, Gweinidog, mynegwyd nifer o bryderon wrthyf ynghylch pa mor anodd yw hi i'r sector gofal cymdeithasol gael gafael ar nwyddau—pryderon nid yn unig am gyfarpar diogelu personol, sydd, gobeithio, yn cael eu datrys, ond hefyd am brinder eitemau hanfodol eraill, fel padiau anymataliaeth. Gweinidog, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod gan gartrefi gofal ledled Cymru stoc ddigonol o eitemau hanfodol? Gweinidog, hoffwn ddiolch ar goedd i'ch swyddogion sy'n gweithio nos a dydd i sicrhau bod gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn rhedeg yn esmwyth. Mae'n gyfnod heriol i bob un ohonom ni, ond rwy'n sicr y byddwn yn goroesi ac yn gryfach o'i herwydd. Ond nawr mae'n amser i fyfyrio, i helpu eraill yn y ffyrdd cyfyngedig y gallwn ni. Nid yw'n amser i hunanoldeb a thrachwant, ond yn amser i ddeall anghenion pobl eraill, ac i geisio, os gallwn, i wneud y baich yn llai i'r rhai sy'n llai ffodus na ni. Cadwch yn ddiogel, bawb. Diolch. Vaughan Gething AC: Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. O ran eich sylwadau agoriadol ynghylch nid yn unig staff locwm, ond yn fwy cyffredinol, o ran y rhai sydd efallai mewn categorïau mewn perygl, roedd yn un o bryderon Cymdeithas Feddygol Prydain ynghylch gofyn i bobl ddychwelyd i'r maes: efallai eu bod yn bobl yn y categorïau mewn perygl mwyaf, naill ai oherwydd oedran neu gyflwr iechyd sylfaenol. Ond efallai y byddant yn gallu ymgymryd ag amrywiaeth o waith o bell. Dyna pam y penderfynais gyflwyno'r cyfle i gynnal ymgynghoriadau fideo—nid oes angen iddyn nhw fod mewn cysylltiad wyneb yn wyneb, ond gallant barhau i ddarparu cyngor o bell. Felly, mae'n ymwneud â sut yr ydym yn gwneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd gennym ni o ran y bobl ym mhob rhan o'r system. Byddwch yn sylwi bod y Bil hefyd yn rhoi estyniad i'r ddarpariaeth ar gyfer indemniad er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu dychwelyd i'r gwaith heb boeni am y risg iddyn nhw os aiff pethau o chwith. O ran eich pwynt am farwolaeth yn y gwaith—credaf fod hwn yn bwynt arbenigol penodol, mwy gweithredol nag y byddwn yn ei ddisgwyl, ond fy nealltwriaeth i, fy atgof fy hun, yw ei fod, yn gyffredinol, yn tueddu i fod yn fudd o gynllun pensiwn, ac mae staff locwm yn dewis peidio â bod yn rhan o'r cynllun pensiwn. Felly, ni fyddwn i eisiau ceisio rhoi ateb i hynny. Byddai'n rhaid i mi fynd i ofyn am gyngor ynghylch hynny, pa fath o rwystr yw hynny, a pha un a oes pethau eraill y gallem eu gwneud mewn gwirionedd i annog mwy o feddygon locwm i barhau i ymarfer mewn ffordd sy'n ddiogel iddyn nhw ac i gleifion. O ran Gwent, nid wyf yn disgwyl i'r sefyllfa bresennol sydd yn dangos bod mwy o achosion yng Ngwent fod y sefyllfa derfynol. Rwyf yn credu, pan edrychwch chi ar y ffaith bod clefyd y coronafeirws yn cylchredeg yn y gymuned mewn rhannau sylweddol o Gymru, fe welwch chi fod ffigurau mewn rhannau eraill o Gymru, ac yn wir mewn rhannau eraill o'r DU, yn dal i gynyddu. Er hynny, rwy'n pryderu am effaith bosibl y coronafeirws ar ein cymunedau lleiaf cefnog. Mae Cymru, fel cenedl, o'i chymharu â Lloegr, o safbwynt iechyd, yn hŷn, yn dlotach ac yn salach. Felly, mae'r risg yn un amlwg. Nawr, bydd hynny'n amlygu ei hun mewn gwahanol rannau o Gymru yn wahanol, yn union fel y gwnaiff yn Lloegr, lle mae ganddyn nhw gymunedau sy'n debyg iawn i'r rhai sydd gennym ni yma yng Nghymru. Felly, mae hynny'n bryder gwirioneddol, ond nid wyf yn credu y bydd y ganran yr ydym yn ei gweld ar hyn o bryd mewn cysylltiad â Gwent a gweddill y wlad yn aros fel y mae yn awr. Ein tasg yw gwneud yn siŵr bod pob rhan o'r wlad yn cael ei chefnogi'n briodol, ac nid ydym ni eisiau gweld unrhyw un rhan yn cael ei llethu o gwbl. O ran eich sylwadau am garchardai, fel y gwyddoch, nid yw carchardai wedi'u datganoli, ac nid wyf mewn sefyllfa i ddechrau ymgymryd â chyfrifoldebau newydd ar hyn o bryd i geisio ymdrin â materion mewn carchardai. Ond un sylw yr wyf wedi ei wneud yng nghyfarfodydd rheolaidd COBRA yr wyf wedi bod yn eu mynychu gyda'r Prif Weinidog, ac yn wir mewn is-grwpiau COBRA, yw'r sylw bod llawer o'r swyddogaethau sydd heb eu datganoli yn cael effaith uniongyrchol. Er enghraifft, pe bai Llywodraeth y DU yn penderfynu ymgymryd â rhaglen rhyddhau yn gynnar, i leihau'r pwysau sydd ar garcharorion sydd mewn categorïau risg isel, wel mae gan nifer o'r carcharorion hynny gyflyrau iechyd sylfaenol sylweddol, ac mae'n ddigon posib y gallent fod y bobl a fyddai'n agored i niwed yn awtomatig ac y byddai angen cefnogaeth sylweddol arnyn nhw. Byddai angen inni wybod hynny ymlaen llaw er mwyn rhoi iddyn nhw y gefnogaeth y byddai ei hangen arnyn nhw. Mae gennym ni hefyd, ym Mrynbuga, nifer o garcharorion hŷn beth bynnag, a bydd rhai o'r rheini yn ddigon hen i fod yn y categori mewn perygl gan eu bod dros 70. Felly, mae unrhyw ddewisiadau a wneir ynghylch y carchardai, o ran dewisiadau ynglŷn â beth sy'n digwydd gyda charchardai sy'n rhyddhau'n gynnar neu fel arall, yn cael effaith uniongyrchol ar wasanaethau datganoledig. Ac, o ran eich sylw am y rhai dros 70, mae'r cymorth hwnnw'n cael ei gydlynu a'i arwain, fel y dywedais, gan lywodraeth leol, ac rwy'n ddiolchgar iawn am waith y Cynghorydd Andrew Morgan, arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a hefyd y Cynghorydd Huw David, y prif lefarydd ar iechyd a gofal cymdeithasol. Maen nhw wedi bod yn agored ac yn barod i helpu a chefnogi, ac felly hefyd eu cydweithwyr ar draws y sbectrwm gwleidyddol o fewn llywodraeth leol. Mae angen i ni ailadrodd yr esiampl—y rheswm pam ein bod ni'n gofyn i bobl aros gartref yw i helpu i'w hamddiffyn nhw. Felly, nid yw oherwydd ein bod yn credu bod gan bobl dros 70 y clefyd coronafeirws a'u bod yn ei roi i bobl eraill—ond mewn gwirionedd oherwydd eu bod yn fwy agored i niwed ac yn fwy tebygol o ddioddef niwed gwirioneddol. Dyna pam ein bod ni wedi rhoi'r cyngor hwnnw, ac mae'r Llywodraeth yn arwain drwy esiampl—nid ein bod ni i gyd dim ond wedi cytuno fel Senedd gyfan i gael sesiwn lai heddiw, ond byddwch yn gwybod, ar ôl i'r cyngor hwnnw gael ei roi, bod aelodau o'r Llywodraeth sydd yn y categori hwnnw wedi gweithio o gartref ers hynny. Nid ydych chi wedi eu gweld yn y Siambr, nid ydynt yn dod i mewn i adeiladau Llywodraeth Cymru i weithio, mae'n rhaid iddyn nhw weithio o bell, ac mae'n bwysig iawn nad ydym ni ddim ond yn gofyn i bobl eraill ddilyn yr esiampl honno, ond ein bod yn ei dilyn ein hunain hefyd. O ran parcio am ddim, rydym, wrth gwrs, yn ffodus o gael parcio am ddim ar draws ein hystadau ysbytai yma yng Nghymru, ond rwy'n falch bod Cyngor Caerdydd wedi sicrhau bod lleoedd parcio ychwanegol ar gael i staff y GIG er mwyn iddyn nhw allu cyrraedd y gwaith, a bod y gwasanaeth parcio a theithio arferol, trefniadau a allai fod wedi eu hatal rhag cyrraedd y gwaith mor brydlon â phosib wedi cael eu newid yn benodol ar gyfer gweithwyr y GIG, ond, wrth gwrs, mae'n ffaith, gan fod llai o bobl yn symud o gwmpas, fod llifoedd traffig yn wahanol iawn ac yn llawer cyflymach, fel y canfûm ar sawl achlysur yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf. Ac, o ran eich sylw am gyflenwadau cartrefi gofal, ceir sgwrs reolaidd rhwng swyddogion a llywodraeth leol a hefyd sefydliad mwyaf darparwyr y sector annibynnol ynglŷn â sut y mae stociau'n cael eu caffael a beth y mae hynny'n ei olygu iddyn nhw, felly rwy'n ffyddiog bod perthynas adeiladol yn bodoli a bod trefniadau i bobl godi pryderon os oes ganddyn nhw rai. Diolch. Yn olaf, Mick Antoniw. Mick Antoniw AC: Gweinidog, yn gyntaf, diolch i chi am yr holl atebion manwl a'r holl nodiadau cyngor rheolaidd ac ati, sydd o gymorth sylweddol i bob un ohonom ni, fe gredaf, sy'n ateb llawer, llawer o gwestiynau gan aelodau'r gymuned ar yr adeg arbennig o anodd hon. Ac mae'n gyfnod anodd a phryderus iawn, felly hoffwn ganmol ar goedd, rwy'n credu, y staff yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, sydd, drwy gydol y cyfnod hwn, drwy gerddoriaeth a dawns, wedi cynhyrchu fideos, sydd wedi lledaenu fel tân gwyllt, bron, yn cyfleu negeseuon diogelwch. Nid yn unig y mae'n codi morâl y staff yn yr ysbyty, ond hefyd credaf mai dyma'r ffordd fwyaf rhagorol o gyfleu'r negeseuon diogelwch hynny, ac, os nad yw pobl wedi eu gweld, credaf y dylen nhw efallai gael golwg arnyn nhw a'u rhannu, oherwydd eu bod yn wirioneddol drawiadol—ac mae'n drawiadol bod y staff wedi llwyddo i roi o'u hamser eu hunain yn yr ysbytai i gynhyrchu'r rhain ac i esbonio i'r cyhoedd beth y maen nhw'n ei wneud. A gaf i ofyn ychydig o gwestiynau byr? Yn gyntaf—ac mae'n ymwneud â phrofi, oherwydd rwyf wedi cael meddygon teulu yn ardal Cwm Taf yn codi'r mater ynghylch aelodau o'r teulu â pheswch ac ati, sydd wedi golygu bod rhai staff allweddol yn gorfod aros adref, ac y bu anawsterau o ran gallu manteisio ar y gwasanaeth profi, nid oedd rhif y llinell gymorth ar gael ac ati. Tybed pa fonitro sy'n digwydd i sicrhau bod y problemau penodol hynny bellach wedi'u datrys, oherwydd gallant arwain at oedi sylweddol o ran dychwelyd i'r gwaith ymhlith staff meddygol allweddol. Ac mae'r ail bwynt yn ymwneud â gwirfoddoli. Fel y gwelsom ni adeg y llifogydd, yn sicr yn ardal Rhondda Cynon Taf, daeth llawer, llawer o bobl ymlaen i helpu eu cymdogion a'u cyd-ddyn, a'r hyn sydd wedi bod yn bwysig iawn nawr, fe gredaf, yw bod gennym ni lawer o bobl yn dod ymlaen i wirfoddoli. Mae Rhondda Cynon Taf, wrth gwrs, wedi sefydlu system ar gyfer cofrestru gwirfoddolwyr, oherwydd gall gwirfoddoli ynddo'i hun fod yn beryg oherwydd natur y coronafeirws, felly mae gwirfoddoli cyfrifol, mae'n ymddangos i mi, yn hollol allweddol. Ac oherwydd y gallai hyn orgyffwrdd â meysydd gofal cymdeithasol ac ati, tybed beth sy'n cael ei wneud i ledaenu'r arferion gorau sydd i'w gweld mewn rhai awdurdodau lleol ledled Cymru, ac i sicrhau bod canllawiau priodol ar gael ar gyfer gwirfoddoli diogel. Vaughan Gething AC: Diolch. Dechreuaf gyda'r un olaf, am wirfoddoli cyfrifol. Rydym ni wedi gweld llu o bobl sy'n barod i helpu i drefnu gweithgarwch yn eu cymuned eu hunain. Credaf fod swyddogaeth drefniadol awdurdodau lleol yn hynod o bwysig yn hyn o beth, ac yn sicr drwy brofiad cynghorau Rhondda Cynon Taf, a phrofiadau cynghorau eraill o lifogydd, mae'r ymdrech a wnaed ganddyn nhw eu hunain, yn rhoi sylfaen dda ar gyfer gwneud hynny nawr am gyfnod hirach o lawer. Ond rydym yn ceisio dysgu am yr hyn sydd yn gweithio, ac, o weld cyn-Weinidog llywodraeth leol yn y Siambr, mae'n deg dweud y ceir adegau pan nad yw pobl mor awyddus i ddysgu a mabwysiadu'r hyn sydd yn gweithio'n dda mewn rhan arall o Gymru, ond yn llawer hapusach i fod yn wahanol gan wneud pethau yn eu ffordd eu hunain. Mae hwn yn gyfnod lle dylid rhoi'r pethau hynny o'r neilltu, i ddeall beth sy'n gweithio'n dda ac i allu ei rannu a'i fabwysiadu'n gyflym ym mhob rhan o'r wlad lle bydd yn fuddiol—nid mewn llywodraeth leol yn unig; mae hynny hefyd wedi bod yn wir ar adegau amrywiol yn y gwasanaeth iechyd, lle na fu rhai byrddau iechyd bob amser yn barod i fabwysiadu arferion da mewn rhannau eraill o'r gwasanaeth. Does dim amser i hynny, a does dim amynedd ar gyfer hynny nawr. Ac, fel rwy'n dweud, rwy'n credu, ar draws sbectrwm gwleidyddol llywodraeth leol, y bu cydweithio gwirioneddol ac mae wedi bod yn rhan drawiadol iawn o'r ymateb. O ran profion, mae'r capasiti eisoes ar gynnydd ac, fel y nodais yn fy natganiad yr wythnos diwethaf, yn y briff i'r wasg dros y penwythnos, ac yn gynharach yn fy natganiad heddiw, mae'r cynnydd sylweddol mewn profion sydd ar ddod yn y dyfodol agos iawn yn caniatáu inni brofi mwy o bobl. A'r sylwadau yr ydych yn eu gwneud am feddygon teulu a'u teuluoedd—mae'n rhan o'r sylw ehangach hwnnw eisoes sef po fwyaf yw'r capasiti sydd gennym ni, y cyflymaf y gellir profi pobl i'w cael yn ôl i'r gweithle. Ond mae rhai o staff y GIG eisoes yn cael eu profi am eu bod yn ynysu eu hunain, a bydd pobl yn dychwelyd am eu bod eisoes wedi cael profion yn unol â'r canllawiau a roddwyd gan y Prif Swyddog Meddygol tua diwedd yr wythnos diwethaf. Yn olaf, o ran y sylw calonogol iawn a wnaethoch chi ynglŷn â gwaith staff Ysbyty Brenhinol Morgannwg, ac nid ar draws Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn unig, ond ar draws y gwasanaeth iechyd drwyddo draw. Ar hap, gwelais ddolen i fideo o nyrsys yn Nhreforys y bore yma yn canu 'I'll Be There'. Nawr, mewn cyfnod arferol gyda meicroffon a chyfle i ganu cân fel honna, byddech yn cael trafferth i'm llusgo i ffwrdd—[Torri ar draws.] Mae'n gyfnod eithriadol, ond efallai nid mor eithriadol â hynny. [Chwerthin.] Mewn gwirionedd, mae gweld yr hyn y mae staff y gwasanaeth iechyd yn ei wneud drostynt eu hunain, ar gyfer eu morâl a'u lles eu hunain, ond hefyd i ddeall bod effaith ar eu cydweithwyr ac ar y cyhoedd hefyd, yn atgyfnerthu pa mor anhygoel o ffodus yr ydym ni i gael ymrwymiad a thosturi ein GIG a'n gweithlu ehangach. Fel y dywedais yn gynharach, bydd eu hangen arnom ni nawr yn fwy nag erioed. Diolch yn fawr, Gweinidog iechyd. 13. Statement by the Minister for International Relations and Welsh Language: Coronavirus (COVID-19) Mae eitem 9, eitem 10, eitem 11, eitem 12 ac eitem 13 ar yr agenda, sydd i gyd yn ddatganiadau gan Weinidogion y Cabinet, i gyd wedi eu hatgyfeirio ar gyfer datganiadau ysgrifenedig. 14. Dadl: Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Coronafeirws Felly, symudwn yn awr at y ddadl ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil y coronafeirws, a galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig y cynnig hwnnw, Vaughan Gething. Cynnig NNDM7316 Vaughan Gething Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Coronafeirws i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Cynigiwyd y cynnig. Vaughan Gething AC: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig yn ffurfiol y cydsyniad deddfwriaethol sydd ger ein bron heddiw. Rwy'n argymell bod y Senedd yn rhoi cydsyniad deddfwriaethol i'r Bil coronafeirws sydd gerbron Senedd y DU. Rwy'n gofyn i'r Aelodau gytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau Bil y coronafeirws, i'r graddau y maen nhw'n dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Fel y bydd yr Aelodau yn ymwybodol, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru, ynghyd â'r tair Llywodraeth genedlaethol arall ledled y DU, ein cynllun gweithredu ar y cyd ar gyfer coronafeirws ar 3 Mawrth. Roedd hwn yn nodi mesurau arfaethedig a oedd yn ofynnol i ymateb i'r achos COVID-19. Mae fy swyddogion yn Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos gyda chymheiriaid ledled y DU i ddatblygu'r gyfres o fesurau sydd wedi eu nodi yn y cynllun hwnnw. Nod y mesurau sy'n cael eu cynnig, yw bod yn rhesymol, yn gymesur ac yn seiliedig ar y cyngor a'r dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf. Mae'r cynllun gweithredu yn nodi'r hyn yr ydym ni'n ei wybod am y feirws a'r clefyd y mae'n ei achosi. Mae'n manylu ar yr hyn yr ydym ni'n bwriadu ei wneud nesaf, yn dibynnu ar yr trywydd y bydd yr achosion o coronafeirws yn ei gymryd. Mae'r cynllun hefyd yn cynnwys gwybodaeth am y strategaeth pedwar cam: cyfyngu, oedi, ymchwil a lliniaru. Rydym ni ar hyn o bryd yn y cyfnod oedi, sy'n golygu ein bod ni wedi cymryd y penderfyniad anodd i gau pob ysgol ledled Cymru o 20 Mawrth ymlaen. Fel y mae'r Aelodau yn gwybod, maen nhw ar hyn o bryd yn cael eu troi at bwrpas arall i ganiatáu i weithwyr critigol barhau i ddychwelyd i'r gwaith. Rydym ni eisiau arafu lledaeniad y feirws, a dyna pam mae'r cyfyngiadau llymach newydd a gafodd eu cyhoeddi ddoe mor bwysig. Rydym ni'n ei gwneud yn ofynnol i bobl aros gartref a dim ond mynd allan os yw hynny'n gwbl angenrheidiol ar gyfer prynu bwyd a hanfodion eraill. Ni ddylai digwyddiadau cymdeithasol a chyfarfodydd sy'n cynnwys mwy na dau o bobl gael eu cynnal yn gyhoeddus. Er hynny, bydd gwasanaethau lleol y GIG, gan gynnwys meddygon teulu a fferyllfeydd, yn aros ar agor, er y bydd yr Aelodau yn ymwybodol nad oes llawer o feddygon teulu yn gwneud cyswllt wyneb yn wyneb erbyn hyn, bydd pob siop ar y stryd fawr ar gau heblaw'r rhai sy'n gwerthu bwyd, banciau a swyddfeydd post. Mae'n gyfrifoldeb ar bob un ohonom ni i gydymffurfio ac mae'n rhaid i ni wneud hyn er mwyn achub bywydau a diogelu ein gwasanaeth iechyd gwladol. Rydym ni hefyd wedi gofyn i rai grwpiau poblogaeth—y rhai dros 70 oed, y rhai sydd â chyflyrau iechyd isorweddol, a menywod beichiog—ynysu eu hunain er mwyn amddiffyn eu hunain am o leiaf y 12 wythnos nesaf. I'r rhai sy'n dangos symptomau peswch parhaus newydd neu dymheredd uchel, rydym ni wedi gofyn iddyn nhw ynysu eu hunain gyda'r bobl y maen nhw'n byw gyda hwy. Mae'r cynllun hefyd yn manylu ar y newidiadau i'r ddeddfwriaeth a allai fod yn angenrheidiol er mwyn rhoi i gyrff cyhoeddus ledled y DU yr arfau a'r pwerau y mae eu hangen arnom i ymateb yn effeithiol i'r argyfwng hwn. Dyna pam yr ydym ni'n trafod y cynnig heddiw. Pwrpas y Bil coronafeirws yw galluogi pob un o'r pedair Llywodraeth ledled y DU i ymateb i sefyllfa argyfwng ac i reoli effeithiau pandemig COVID-19. Bwriad y pwerau sy'n cael eu cymryd yw diogelu bywyd ac iechyd cyhoeddus y genedl. Gallai pandemig difrifol heintio tua 80 y cant o'r boblogaeth, gan arwain at lai o weithlu, mwy o bwysau ar wasanaethau iechyd a phrosesau rheoli marwolaethau. Mae'r Bil yn cynnwys mesurau dros dro sydd wedi eu llunio naill ai i ddiwygio deddfwriaeth bresennol neu i gyflwyno pwerau statudol newydd sydd wedi eu llunio i liniaru'r effeithiau hynny. Mae'r Bil hwn yn sicrhau bod gan yr asiantaethau a'r gwasanaethau dan sylw—ysgolion, ysbytai, yr heddlu a mwy—yr arfau a'r pwerau sydd eu hangen arnyn nhw. Fodd bynnag, mae gan bob un o bedair gwlad y Deyrnas Unedig ein cyfres ein hunain o gyfreithiau. Felly, mae'r arfau a'r pwerau hyn yn amrywio i raddau amrywiol ym mhob ardal. Mae'r Bil, felly, yn darparu ystod o arfau a phwerau sy'n ofynnol i sicrhau cysondeb o ran canlyniadau ledled y DU. Vaughan Gething AC: Mae gan y Bil bum prif faes gweithredu i gefnogi'r ymateb ledled y DU a Llywodraethau cenedlaethol datganoledig. Yn gyntaf, bydd yn helpu i gynyddu'r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol sydd ar gael. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy, er enghraifft, dileu rhwystrau i alluogi staff y GIG a gweithwyr cymdeithasol sydd wedi ymddeol yn ddiweddar i ddychwelyd i'r gwaith. Yn ail, bydd yn ysgafnhau'r baich ar staff rheng flaen. Bydd y cynigion yn y Bil yn symleiddio gwaith papur a gofynion gweinyddol er mwyn helpu i ryddhau cleifion yn gyflymach. Mae angen i ni ryddhau gwelyau ysbyty i'r rhai sy'n sâl iawn i helpu clinigwyr i ganolbwyntio ar ofal rheng flaen. Bydd hefyd yn gwneud newidiadau i ddyletswyddau gofal cymdeithasol cynghorau. Bydd hyn yn eu galluogi i flaenoriaethu pobl sydd â'r anghenion gofal mwyaf a gwneud y defnydd gorau o'r gweithlu gofal cymdeithasol i oedolion. Nod y drydedd cyfres o gynigion yw cyfyngu'r feirws a'i arafu drwy leihau unrhyw gysylltiad cymdeithasol diangen. Mae'r pwerau hyn yn canolbwyntio ar gyfyngu digwyddiadau a chrynoadau a chryfhau pwerau cwarantîn yr heddlu a swyddogion mewnfudo. Bydd hyn yn cynnwys y pŵer i gadw pobl yn gaeth a'u rhoi mewn cyfleusterau ynysu priodol os yw hynny'n angenrheidiol i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Mae rheoli, gyda pharch ac urddas, y rhai sydd wedi marw bob amser yn bwysig iawn ond yn arbennig o amlwg ar hyn o bryd. Bydd y camau yr ydym ni'n eu cymryd i ymateb i'r pandemig hwn yn achub bywydau. Fodd bynnag, yn anffodus, fel yr ydym ni wedi ei weld eisoes, bydd pobl yn colli anwyliaid o ganlyniad i'r clefyd hwn. Bydd y Bil yn helpu'r system rheoli marwolaethau i ymdrin â'r galw cynyddol am ei gwasanaethau. Bydd yn galluogi cofrestru marwolaethau pan na fydd pobl o bosibl yn gallu bod yn bresennol yn swyddfa'r cofrestrydd yn bersonol. Bydd yn ymestyn y rhestr o bersonau a gaiff gofrestru ac mae'n bosibl y bydd amserau gweithredu amlosgfeydd hefyd yn cael eu hymestyn. Nod y gyfres olaf o fesurau yw cefnogi pobl yn gyffredinol drwy ganiatáu iddyn nhw hawlio tâl salwch statudol o'r diwrnod cyntaf un, hyd yn oed os ydyn nhw'n hunan-ynysu heb symptomau. Mae'r mesurauhefyd yn ceisio cefnogi'r diwydiant bwyd i gynnal cyflenwadau. Mae rhai o'r newidiadau y mae'r Bil hwn yn eu cynnig yn ymdrin â lleddfu'r baich ar staff rheng flaen y GIG a gofal cymdeithasol i oedolion. Bydd rhai o'r mesurau yn helpu staff i ddychwelyd i'r gwaith ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd rhai yn helpu pobl mewn cymunedau i ofalu amdanyn nhw eu hunain, eu teuluoedd, eu hanwyliaid a'r gymuned ehangach. Bydd yr Aelodau hefyd yn ymwybodol bod Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws) (Cymru) 2020 wedi eu gosod ar 17 Mawrth a'u bod wedi dod i rym y diwrnod wedyn. Mae'r rheoliadau hyn yn cyfateb i reoliadau a gafodd eu gwneud yn Lloegr i leihau'r risgiau iechyd cyhoeddus sy'n deillio o drosglwyddo coronafeirws. Cafodd Rheoliadau Cymru eu gwneud o dan weithdrefn frys sydd wedi ei nodi yn Neddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984. Bydd y Bil coronafeirws, pan ddaw i rym, yn dirymu Rheoliadau Cymru a Lloegr ac yn eu disodli drwy ddarpariaethau tebyg. Mae'r rheoliadau ar waith felly fel mesur dros dro tan i'r Bil ddod i rym. Ond un rhan yn unig yw'r Bil hwn o'r ateb cyffredinol. Nid yw pob un o'r arfau na'r pwerau sydd eu hangen i fynd i'r afael â phandemig COVID-19 wedi eu cynnwys yn y Bil. Mae rhai eisoes yn bodoli mewn statud. Mae rhai yn bodoli mewn rhai rhannau o'r DU ond nid mewn eraill. Nod y Bil hwn yw sicrhau bod modd cyflawni'r camau i fynd i'r afael â'r bygythiad hwn yn effeithiol ar draws pedair gwlad y DU. Y nod yw i'r Bil gyrraedd y llyfr statud yr wythnos hon. Fodd bynnag, bwriedir i'r darpariaethau sy'n ymwneud â thâl salwch statudol gael effaith ôl-weithredol, gan fynd yn ôl i 13 Mawrth. Mae Llywodraeth Cymru, ynghyd â'r tair Llywodraeth genedlaethol arall yn y DU, wedi penderfynu adolygu deddfwriaeth a'i diwygio lle bo angen. Fy nod i yw sicrhau bod yr ymateb yng Nghymru yn gyson ac yn effeithiol. Mae'r rhain yn fesurau eithriadol ar gyfer y cyfnod eithriadol yr ydym ni'n ei wynebu. Bydd y ddeddfwriaeth yn gyfyngedig o ran amser am ddwy flynedd, ac ni fydd pob un o'r mesurau hynny yn dod i rym ar unwaith. Mae'r Bil yn caniatáu i bedair Llywodraeth y DU gychwyn y pwerau newydd hyn pan fo'u hangen. Mae'n bosibl cychwyn llawer o'r mesurau yn y Bil yn ôl yr angen, ac yr rwyf i'n cydnabod yr angen i gydbwyso fy nyletswydd i ddiogelu iechyd y cyhoedd yn erbyn fy nyletswydd i barchu hawliau unigol. Yn hollbwysig, mae'r Bil yn darparu i bob un o'r pedair Llywodraeth yn y DU roi terfyn ar bwerau pan nad oes eu hangen mwyach, a bydd y penderfyniad hwnnw'n seiliedig ar gyngor prif swyddogion meddygol y pedair gwlad. Mae'r Bil yn ddewis tryloyw i ystyried ein setliad datganoli mewn ffordd sy'n galluogi Gweinidogion Cymru i gymryd camau cyflym pan a lle bo angen hynny. Rydym ni'n canfod ein hunain mewn cyfnod digynsail yng nghanol argyfwng iechyd cyhoeddus. Rwy'n gwybod y byddaf i'n parhau i wynebu eich craffu, fel y dylwn i ei wneud. Fodd bynnag, gofynnaf i'r Aelodau a'r cyhoedd am eich ymddiriedaeth a'ch cefnogaeth barhaus i gymryd y pwerau newydd hyn. Rwy'n gofyn am y gefnogaeth honno i gymryd camau i achub cymaint o fywydau â phosibl yma yng Nghymru. Rwy'n gofyn i'r Aelodau gefnogi'r cynnig sydd ger ein bron. Diolch. A gaf i alw yn awr ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad? Mick Antoniw. Mick Antoniw AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddechrau drwy ddweud fy mod iwedicyflwyno adroddiad ar y mater hwn i'r Pwyllgor y bore yma? Oherwydd cyfyngiadau amser, nid yw'r Pwyllgor wedi gallu ystyried manylion y Bil. Rwyf i wedi gallu edrych drwy'r Bil, ac rwy'n adrodd, mewn gwirionedd, fel Cadeirydd y pwyllgor yn y swyddogaeth honno. A gaf i ddweud yn gyntaf, wrth gymryd pwerau argyfwng, bod o hyd a phob amser angen i gynnal ewyllys da a chydsyniad y boblogaeth yn gyffredinol? Mae pwerau brys, i ryw raddau, yn ddibynnol ar hynny'n digwydd mewn gwirionedd. Ac un o'r pryderon yr wyf yn credu y byddai gen i, oni bai bod rhai o'r materion sy'n ymwneud â thlodi a allai godi yn cael eu datrys, y gallai'r rheini fod yn her i weithredu a defnyddio pwerau argyfwng—er enghraifft, y rhai sy'n dibynnu ar fanciau bwyd, y rhai sy'n cael anhawster cael gafael ar incwm i fyw arno. Ac, os ydym ni'n gwbl onest yn ei gylch, nid yw £94 tâl salwch statudol yn ddigon i deulu fyw arno am wythnos. Mae'r rheini'n faterion a fydd, gobeithio, yn cynnwys datganiadau ychwanegol gan Lywodraeth y DU, ond maen nhw yn bethau y mae wir rhaid mynd i'r afael â nhw. Mae pwerau argyfwng, a'r Llywodraeth yn cymryd pwerau argyfwng, yn eithriad. Mae pwerau brys yn cael eu cymryd lle mae bygythiad gwirioneddol i ddiogelwch neu i fywyd. Nid wyf i'n credu y gall unrhyw un ohonom ni amau, o dan yr amgylchiadau presennol, bod yr amgylchiadau yn eithriadol, a bod bygythiad gwirioneddol, a bod angen cymryd pwerau er mwyn diogelu bywyd. Mae hynny'n golygu atal rhai hawliau unigol a chyfunol, a'r prosesau barnwrol a chyfreithiol sydd fel arfer yn bodoli i roi'r amddiffyniadau hynny. Felly, o fewn y cyd-destun hwnnw mae'r pwerau brys hyn yn cael eu ceisioyn briodol. O ran arfer pwerau, nid yw'r Senedd yn diflannu, ac nid yw'r Senedd hon yn pylu i'r cefndir, oherwydd y Senedd sy'n trosglwyddo rhai o'i phwerau am gyfnod i'r Weithrediaeth i weithredu. Mae'n bwysig iawn, felly, bod rhai rhwystrau a gwrthbwysau yn parhau. Felly, rwyf yn croesawu'n fawr y consesiwn a wnaed gan y Senedd i adnewyddu'r pwerau penodol hynny bob chwe mis. Rwy'n sylwi bod Pwyllgor Tŷ'r Arglwyddi a ystyriodd y Bil hwn wedi codi'r un pwynt mewn gwirionedd, gan awgrymu y byddai blwyddyn yn briodol. Rwy'n gwybod bod y gwrthbleidiau i'r Llywodraeth wedi cyflwyno chwe mis, a bod hynny wedi ei dderbyn. Ac rwy'n credu mai chwe mis yw'r cyfnod priodol i ymarfer y Senedd i ystyried a oes angen ymestyn y pwerau hynny ymhen chwe mis. A gaf fi ddweud hefyd fy mod i'n croesawu cymal 83, sy'n ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU roi adroddiadau bob dau fis ar feysydd nad ydyn nhw wedi eu datganoli? Y rheswm yr wyf i'n pwysleisio'r pwynt penodol hwnnw yw oherwydd, o ran y pwerau sydd wedi eu rhoi i Weinidogion Cymru, nid oes gofyniad adrodd tebyg, nid oes gofyniad cyfreithiol tebyg. Felly, yr hyn yr wyf i'n ei ofyn gan y Llywodraeth yw bod ymrwymiad y bydd yr un darpariaethau adrodd sy'n bodoli ar gyfer Llywodraeth y DU yn cael eu derbyn gan Lywodraeth Cymru, ac y byddwn ni'n cael yr adroddiadau bob dau fis hynny ynghylch arfer y pwerau hynny. Y pwynt arall yr wyf i am ei godi sy'n bwysig, yn fy marn i, yw, os yw'r Senedd yn mynd i fod yn ystyried y Bil yn ei gyfanrwydd ac yn arfer y pwerau hynny bob chwe mis, yna mae angen cynnal adolygiad o fewn y Cynulliad, naill ai gan bwyllgor neu o fewn y Cynulliad fel pwyllgor yn ei rinwedd ei hun, efallai hyd yn oed bob pum mis, fel y bydd adroddiadau llawn am weithrediad y Bil pan ystyrir y mater hwn ar lefel Llywodraeth y DU o ran nid yn unig y ffordd yr ydym ni wedi arfer y pwerau sydd wedi eu rhoi i Weinidogion Llywodraeth Cymru, ond hefyd effaith y pwerau Llywodraeth y DU hynny eu hunain ar Gymru. Dylai ein pryder fod nid yn unig gyda'r meysydd sydd wedi eu datganoli, ond hefyd effaith pwerau brys ar bobl Cymru a'r ffordd y mae hynny'n rhyngweithio. Felly, rwy'n credu, o fewn y cyd-destun hwnnw, dyna'r pwyntiau cyfansoddiadol sydd yn fy marn i yn ymdrin â rhai o'r pryderon a allai fodoli o ran unrhyw Lywodraeth yn cymryd pwerau argyfwng. Rwy'n credu ei bod hi'n iawn bod y pwerau hyn yn cael eu cymryd. Nid yw'n fwriad gennyf i fynd drwy fanylion y rheini; mae'r rheini wedi'u hamlinellu gan y Gweinidog. Dim ond y bydd rhwystrau a gwrthbwysau yn cael eu cynnal, nid yn unig ar lefel Llywodraeth y DU, ond hefyd gan y Cynulliad hwn: a byddwn ni'n adolygu'r rheini, byddwn ni'n eu hadolygu'n rheolaidd ac yn cyflwyno adroddiadau rheolaidd ar y broses o arfer y pwerau eithriadol hynny sydd wedi eu rhoi i Weinidogion Llywodraeth Cymru. Paul Davies AC: Rwy'n falch o gael cymryd rhan yn y ddadl hynod bwysig hon y prynhawn yma. Mae'r pwerau sydd yn y Bil hwn, o dan yr amgylchiadau, o gofio ein bod ni mewn cyfnod eithriadol, yn gwbl briodol a byddan nhw, gobeithio, yn rhoi arfau ychwanegol i Lywodraeth Cymru a fydd yn helpu i baratoi'r Llywodraeth yn well ar gyfer yr wythnosau a misoedd i ddod. Mae'n rhaid cyfaddef bod rhai darpariaethau yn y Bil hwn a fydd yn ymddangos yn eithafol i lawer o bobl ac a allai gyfyngu ar ryddid pobl ac, fel un a ddaeth i wleidyddiaeth i hyrwyddo rhyddid yr unigolyn, rwyf innau hefyd yn gweld rhai o'r mesurau yn ddidostur, ond o gofio difrifoldeb y sefyllfa, mae'n bwysig cael y pwerau brys hyn fel dewis olaf. Ond mae'n werth pwysleisio, fel y dywedodd y Gweinidog, mai dros dro y mae'r pwerau hyn yn cael eu cyflwyno. Dirprwy Lywydd, os caf i nawr droi at rai o'r manylion yn y Bil hwn. Mae'n cynnwys cymalau pwysig yn ymwneud â chofrestru brys nyrsys a gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol eraill o dan Atodlen 1 i'r Bil. A gobeithio y bydd y cymalau hyn yn helpu i ymdrin ag unrhyw gynnydd sylweddol yn nifer y rhai y mae angen gofal meddygol arnyn nhw, yn ogystal â mynd i'r afael ag unrhyw brinder yn lefel y staff cymeradwy sy'n gallu helpu ar hyn o bryd. Mae'n gwbl briodol bod cofrestriadau brys yn digwydd yn gyflym a bod ein gweithlu yn y GIG mor barod â phosibl drwy gydol y cyfnod hwn. Fodd bynnag, mae hefyd yn bwysig bod mesurau diogelu priodol ar waith i sicrhau bod y rhai sy'n trin pobl yn glinigol ddiogel i gyflawni eu swyddogaethau. Felly, efallai, wrth ymateb i'r ddadl heddiw, y gall y Gweinidog ddweud ychydig mwy wrthym ni am y rhwystrau a'r gwrthbwysau a fydd ar waith yma yng Nghymru i sicrhau bod unrhyw un sy'n cynghori neu'n trin cleifion drwy gydol y cyfnod hwn mor alluog â phosibl i wneud hynny. Er mwyn ysgafnhau'r baich ar staff rheng flaen, nodaf fod y Bil hefyd yn cynnwys cymalau yn ymwneud ag absenoldeb gwirfoddoli mewn argyfwng ac iawndal ar gyfer gwirfoddolwyr brys o dan Atodlen 6 y Bil. Mae hyn hefyd yn hollbwysig gan y bydd yn helpu i gael cymaint â phosibl o wirfoddolwyr sy'n gallu llenwi bylchau mewn capasiti a thrwy hynny helpu i ddiogelu gwasanaethau hanfodol. Er enghraifft, rydym ni'n gwybod bod posibilrwydd cryf y bydd gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion yn wynebu cynnydd yn y galw a llai o allu i ymdrin â chyfraddau uwch o absenoldeb staff. Felly, mae'n ddealladwy y dylai awdurdodau lleol allu blaenoriaethu gofal er mwyn diogelu bywyd a chyrraedd penderfyniadau cyflym heb ddilyn asesiadau cydymffurfiad llawn Deddf Gofal 2014. Ar yr un pryd, mae'r Bil yn cyflwyno math newydd o absenoldeb statudol di-dâl, yn ogystal â phwerau i sefydlu cynlluniau digolledu, sy'n gwbl briodol i wneud iawn am y golled o ran enillion a threuliau gwirfoddolwyr. Un o amcanion allweddol y Bil yw cyfyngu ac arafu'r feirws, ac felly mae'n hanfodol bod gan Lywodraeth Cymru y pwerau ar waith i gyflawni'r amcan hwn yn effeithiol. Mae cymal 49 yn darparu ar gyfer pwerau sy'n ymwneud ag unigolion a allai fod yn heintus o dan Atodlen 20, ac rwy'n gwerthfawrogi y gall y cymal hwn ymddangos yn ddidostur i rai pobl ond, yng sgil cyhoeddiadau ddoe, mae'n bwysig y bydd swyddogion yr heddlu a mewnfudo erbyn hyn yn gallu cyfarwyddo unigolion i aros gartref neu eu cadw mewn lleoliadau addas ar gyfer sgrinio ac asesu. Gobeithio y bydd y mesurau hyn yn mynd rywfaint o'r ffordd i lenwi'r bylchau presennol mewn pwerau i sicrhau sgrinio ac ynysu pobl a allai fod wedi eu heintio neu wedi eu halogi â'r feirws ac i sicrhau y gall cwnstabliaid orfodi mesurau diogelu iechyd pan fo hynny'n angenrheidiol. Wrth gwrs, mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn gweithio ar y dybiaeth y bydd y mwyafrif helaeth o bobl ym Mhrydain yn cydymffurfio â chyngor swyddogol iechyd y cyhoedd, ac o ganlyniad, dim ond ceisio sicrhau y gall mesurau cymesur gael eu gorfodi pan ac os yw hynny'n angenrheidiol y mae'r cymal hwn yn ei wneud. Ac mae'n rhaid i mi ddweud bod yr hyn a welsom ni dros y penwythnos mewn rhai lleoedd, pan oedd rhai pobl ddim ond yn diystyru cyngor ac yn teithio i gyrchfannau gwyliau mewn rhai rhannau o Gymru, yn gwbl anghyfrifol, a dyna pam y mae angen y pwerau hyn er mwyn atal hyn rhag digwydd yn y lle cyntaf. Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau ddoe i gau meysydd carafanau a mannau sy'n boblogaidd gan dwristiaid. Dirprwy Lywydd, mae gan bob un ohonom ni ran mewn sicrhau bod ein hetholwyr yn ymwybodol o'r canllawiau diweddaraf a'u bod yn cael cymaint o wybodaeth â phosibl. Er fy mod i'n gwerthfawrogi bod Llywodraethau Cymru a'r DU wedi ymdrechu'n daer i gynghori'r cyhoedd ar y camau i'w cymryd os ydyn nhw'n teimlo bod ganddyn nhw symptomau'r feirws, mae pobl yn dal i gysylltu â'u Haelodau Cynulliad i gael cyngor a chymorth. Fel y dywedodd Joyce Watson yn gynharach, mae rhai yn camhysbysu pobl ar-lein, felly efallai y gallai'r Gweinidog ddweud ychydig mwy wrthym ni ynghylch yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i ehangu cyrhaeddiad ei negeseuon fel nad ydym ni mewn sefyllfa lle mae pobl yn cael eu cadw neu eu hynysu drwy orfodaeth. Mae rhai pryderon difrifol iawn hefyd ynghylch y modd y mae'r rhai sydd wedi marw yn cael ei reoli gyda pharch ac urddas. Rwy'n gwerthfawrogi bod hwn yn fater arbennig o sensitif, ond er hynny, mae'n bwysig sicrhau bod y prosesau gweinyddol sy'n ymwneud â chofrestru genedigaethau, marwolaethau a marw-enedigaethau yn gallu gweithredu'n effeithiol yn ystod cyfnod yr achosion. Dirprwy Lywydd, mae sawl maes arall yn y Bil a fydd o bwysigrwydd sylweddol i bobl Cymru, ac rwy'n gobeithio bod Llywodraeth Cymru yn ystyried sut orau i weithio gyda'r darpariaethau yn y Bil hwn. Er bod rhai darpariaethau yn y Bil yn ymddangos yn ddidostur, mae'n rhaid i ni gofio ein bod mewn amseroedd digynsail, ac oherwydd hynny, maen nhw'n galw am gamau na welwyd eu tebyg o'r blaen. Bydd fy nghyd-Aelodau a minnau, wrth gwrs, yn cefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn ac yn parhau i wneud yr hyn a allwn i gefnogi Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i amddiffyn pobl Cymru a lliniaru lledaeniad y feirws dinistriol hwn. Diolch. Helen Mary Jones AC: Rwy'n falch o godi i gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon. Yn ei gyfraniad i'r ddadl hon, defnyddiodd Paul Davies y gair 'ddidostur' ddwywaith, ac mae hwn yn fesur didostur; allwn ni ddim esgus ei fod yn ddim byd arall. Rwy'n siŵr na fydd y rhan fwyaf ohonom ni yn y Siambr hon yn cefnogi'r Bil â chalon ysgafn. Byddem ni wedi bod wrth ein boddau yn gweld ein cyd-ddinasyddion yn cydymffurfio â'r hyn y gofynnwyd iddyn nhw ei wneud ac y'i cynghorwyd nhw i'w wneud, ond yn anffodus, fe wyddom bod lleiafrif—ac rwy'n credu mai lleiafrif bach o bobl ydyn nhw—nad oedden nhw'n barod i dderbyn y cyngor clir iawn hwn, ac mae hynny'n golygu bod yn rhaid cael pwerau i amddiffyn y boblogaeth rhag y clefyd digynsail hwn. Nid ydym ni'n gwybod, fel y dywedodd y Gweinidog yn gynharach, yr hyn mae'n mynd i'w wneud a sut y bydd yn effeithio arnom ni, ac felly fe fydd Plaid Cymru, gyda chalon eithaf trwm mewn sawl ffordd, yn cefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Yn fy nghyfraniad, Dirprwy Lywydd, hoffwn i adleisio rhai o'r pryderon sydd wedi eu codi eisoes, yn enwedig gan Mick Antoniw. Nid ynghylch pa un a ddylai'r pwerau fodoli, ond sut y gall y pwerau hynny gael eu defnyddio a sut y gallai'r lle hwn gymryd rhan, oherwydd fel y mae'r Gweinidog wedi ei ddweud, nid yw cymryd y pwerau hyn—rhai o'r pwerau hyn—yn golygu eu defnyddio o reidrwydd; efallai na fydd angen hynny. Ond mae rhai meysydd, ac rwy'n siŵr y bydd llawer o Aelodau eraill y Senedd wedi cael sylwadau, er enghraifft, gan bobl anabl sydd wir yn pryderu, os bydd gofynion, gofynion y maen nhw wedi brwydro'n hir drostyn nhw, y maen nhw wedi cymryd blynyddoedd lawer i ymgyrchu dros yr hawl i gael cefnogaeth, yn cael eu dileu, y byddan nhw'n colli pecynnau gofal ac y byddai hynny'n eu gwneud yn agored i niwed. Byddwn i'n dadlau y byddai hynny mewn gwirionedd yn eu gwneud yn agored i fynd i mewn i'r system ysbyty yn y pen draw, sef y peth olaf y byddem ni'n ei ddymuno wrth gwrs. A bydd y Gweinidog hefyd yn ymwybodol bod pryderon ynghylch cael gwared ar rai amddiffyniadau ar gyfer cleifion iechyd meddwl. Rwy'n gwybod na fydd Llywodraeth Cymru yn debygol o ddefnyddio'r pwerau hynny, ond rwyf yn deall pam mae etholwyr wedi bod yn ysgrifennu ataf i ac at lawer ohonom ni, ac ynglŷn â hawliau plant anabl i gael mynediad at addysg—y pethau hynny i gyd—bod yr ofnau hynny yn rhai gwirioneddol. Hoffwn i ofyn i'r Gweinidog heddiw, ac nid wyf i'n gwybod a fyddai'n gallu ymrwymo i hyn, sef os bydd Llywodraeth Cymru yn cyrraedd y pwynt lle mae'n teimlo bod yn rhaid iddi ddefnyddio rhai o'r pwerau hynny, yn ogystal ag efallai adrodd fel y mae Mick Antoniw wedi ei awgrymu, a fyddai'n bosibl—byddwn ni'n cyfarfod yn y lle hwn ar ryw ffurf neu'i gilydd—pe byddai'n bosibl i'r Gweinidog ddod â datganiad gerbron y Senedd fach neu beth bynnag y byddwn ni erbyn hynny, i egluro pam y mae'n ystyried ysgafnhau'r gofynion ar lywodraeth leol ynghylch gofal cymdeithasol, er enghraifft, fel y gallwn ni godi pryderon etholwyr gydag ef. A gall ef ymateb i'r rheini, ac rwy'n siŵr yn ymateb i'r rheini mewn ffordd a fyddai'n rhoi tawelwch meddwl. Dywedodd y Gweinidog yn ei ddatganiad ei fod yn deall yn llwyr—ac rwy'n falch iawn o'i glywed yn dweud hyn, ac nid yw'n syndod i mi o gwbl—yr hawl i gydbwyso parch at hawliau unigolion â'r hyn sy'n angenrheidiol i'r gymuned yn ei chyfanrwydd. Ac yn hynny o beth, rwy'n tynnu ei sylw—efallai ei fod wedi ei weld eisoes—at y datganiad a gafodd ei ryddhau heddiw gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy'n darparu fframwaith defnyddiol iawn ar gyfer ystyried y modd y gellid gwneud rhywfaint o'r cydbwyso hwnnw yn y cyfnod cwbl ddigynsail hwn. Cyfeiriaf yn fyr at daliadau salwch statudol. Wrth gwrs, bydd pob un ohonom ni yn croesawu'r ffaith fod hyn ar gael, ond fel y dywedodd Mick Antoniw, ni all pobl fyw ar hynny. Yn sicr, ni allan nhw fyw arno yn hir iawn, ac rwy'n credu ein bod yn siomedig. Rwy'n deall y cafodd gwelliannau eu codi, ond ni chawsant eu trafod, a fyddai wedi rhoi rhywfaint o amddiffyniad, yn y ddeddfwriaeth hon, i'r gweithwyr unigol hynny, pobl hunangyflogedig a gweithwyr llawrydd. Rwyf i wedi clywed yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi ei ddweud—a gobeithio eu bod nhw'n iawn—y byddwn ni'n cael pecyn gan Lywodraeth y DU, oherwydd dyna, wrth gwrs, yw'r lefel cywir i'r pecyn hwnnw ddod ohono. Ond os nad yw'n dod ac nad yw'n dod yn gyflym, byddwn i'n annog Gweinidogion Cymru i ystyried yr hyn y gallan nhw ei wneud yn y tymor byr. Rydym ni wedi bod yn gwneud rhywfaint o ymchwil ein hunain, gyda chefnogaeth arbenigwyr yn y maes, yn ymwneud â'r posibilrwydd o gael incwm sylfaenol dros dro a fyddai'n cefnogi'r bobl hynny, ac os byddwn ni'n canfod ein hunain mewn sefyllfa lle na fydd Llywodraeth y DU yn fodlon gweithredu, byddem yn amlwg yn fwy na hapus i rannu hynny a gweld a oes unrhyw ddichonoldeb. Wyddoch chi, mae pethau eraill nad yw'r ddeddfwriaeth yn eu gwneud, yn ôl yr hyn yr wyf i'n ei ddeall, a bydd y Gweinidog yn fy nghywiro i os wyf i'n anghywir. Nid yw, er enghraifft, yn galluogi'r Llywodraeth, ar unrhyw lefel, i gamu i mewn ac ymdrin â chyflogwyr gwael. Rwyf i'n cael negeseuon wrth i ni eistedd yn y fan yma gan bobl sydd o dan bwysau i fynd i weithio mewn sefyllfaoedd lle nad wyf i'n credu y byddai unrhyw un yn yr ystafell hon yn teimlo bod eu gwaith yn hanfodol i'r gymuned. Cododd Siân Gwenllian y mater yn gynharach ynglŷn â gweithwyr adeiladu. Nid wyf i'n weithiwr adeiladu ond dyna yw gwaith fy mrawd mawr, ac rwy'n gwybod sut fath o leoedd yw safleoedd adeiladu. Nid yw'n bosibl, ar safle adeiladu, i fod yn adeiladu adeiladau na'u hatgyweirio a chynnal pellter cymdeithasol priodol. Yn syml, ni ddylid ei wneud. Oni bai bod y bobl hynny'n adeiladu cyfleusterau hanfodol neu'n gwneud atgyweiriadau hanfodol efallai i gartrefi pobl hŷn na fydden nhw'n ddiogel i aros yn eu cartrefi, oni bai bod hynny'n cael ei wneud, ond gweithwyr adeiladu—. Rwyf i wedi cael sawl e-bost y bore yma gan bobl yn fy rhanbarth i yn dweud, 'Nid wyf i eisiau bod yn y gwaith; nid wyf i'n teimlo'n ddiogel yn y gwaith; nid wyf i'n teimlo bod fy ngwaith yn hanfodol, ond mae fy mhennaeth yn dweud wrthyf, oni bai fy mod yn dod i weithio, y byddaf yn colli fy ngwaith.' Rydym ni'n gwybod bod y sector hwnnw'n eithaf bregus, mewn gwirionedd, nad yw hawliau cyflogaeth pobl yn aml yn gryf iawn, ac mae'n siom i mi nad yw'r ddeddfwriaeth hon yn rhoi cyfle i Lywodraethau gamu i'r adwy. Unwaith eto, mae'r mwyafrif helaeth o gyflogwyr yn mynd i fod yn gyfrifol, maen nhw'n mynd i gefnogi eu staff, maen nhw'n mynd i annog eu staff i aros gartref. Rydym ni wedi gweld pethau dymunol iawn. Mae Timpson's, er enghraifft, sydd nid yn unig wedi dweud wrth bawb fod staff i aros gartref ac y byddan nhw'n cael eu talu'n llawn, ond maen nhw'n rhoi cymorth ac amddiffyniad ychwanegol iddyn nhw hefyd. Rwy'n gallu gweld bod y Dirprwy Lywydd yn dweud wrthyf bod yn rhaid i mi ddirwyn hyn i ben, ac fe wnaf i hynny. Y pwynt olaf yr wyf i eisiau ei wneud yng nghyd-destun y ddeddfwriaeth yw bod hyn yn rhoi pwerau o ran ynysu, o ran cadw pellter cymdeithasol, ond rwy'n credu os yw'r pwerau hynny am gael eu defnyddio, mae'n rhaid i bobl gael eglurder, ac yn arbennig heddiw yr hyn sydd yn ein hwynebu yw nad yw'n glir beth sy'n waith hanfodol a beth nad yw'n waith hanfodol. Nid wyf i'n gwybod, Dirprwy Lywydd, i ba raddau y bydd hynny o fewn gallu Llywodraeth Cymru i gael mwy o eglurder ynghylch hynny, ond allwn ni ddim gofyn i bobl ymddwyn yn gyfrifol ac wedyn peidio â dweud wrthyn nhw sut mae ymddygiad cyfrifol yn edrych mewn gwirionedd. Dawn Bowden AC: Ar gyfer fy nghyfraniad i, rwyf i eisiau rhoi sylw personol iawn ar hyn yn hytrach nag un cyfreithiol neu hyd yn oed un gwleidyddol, o ran yr hyn yr ydym ni'n ei ystyried heddiw. Rwy'n meddwl yn ôl nawr ynghylch pryd y gwnes i sefyll i gael fy ethol i'r Senedd hon yn 2016 ac, mewn gwirionedd, y cyfan yr oeddwn i'n gobeithio amdano oedd y byddai fy mhrofiadau bywyd yn dod â rhywbeth i'r sefydliad hwn ac y gallwn i wneud fy rhan fach i wneud bywyd i fy etholwyr—y byddwn i yn ddiweddarach yn cael fy ethol i'w cynrychioli—dim ond yr ychydig bach hwnnw yn well. Ni wnaeth groesi fy meddwl unwaith y byddwn i, lai na phedair blynedd yn ddiweddarach, yn y Siambr hon yn trafod deddfwriaeth a fyddai'n rhoi pwerau brys i'n Llywodraeth yn wyneb argyfwng iechyd cyhoeddus. Ond dyma ni. Ac mae pa mor cyflym y mae hyn wedi symud wedi bod yn dra brawychus. Roeddwn i'n meddwl pryd y clywais sôn am y coronafeirws yn gyntaf, ac roedd darllediadau newyddion cyffredinol am y digwyddiadau yn Tsieina—nad oedd hynny'n ein taro mewn gwirionedd fel rheswm dros ganolbwyntio o'r newydd ar ein busnes ni yma. Ac yna rwy'n cofio i mi fod mewn digwyddiad cymdeithasol ym mis Ionawr, ac roedd llawer ohonom ni yno—llawer o ffrindiau gyda'n gilydd—ac roeddem ni'n cellwair ychydig am y feirws a pha un a fyddai angen i ni i gyd gael mygydau, oherwydd roedd nifer ohonom ni yn yr ystafell, gan fy nghynnwys i, a oedd yn dioddef o beswch a thisian arferol ein hannwyd y gaeaf. Fe wnaeth pob un ohonom ni chwerthin yn ei gylch; nid oeddem ni'n ei gymryd o ddifrif o gwbl. Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud nad oes yr un ohonom ni'n chwerthin nawr. Ddydd Gwener yr wythnos diwethaf, penderfynais i gau fy swyddfa ym Merthyr Tudful, fel rhagofal ar gyfer fy etholwyr, sy'n ymweld â'm swyddfa mewn niferoedd eithaf sylweddol, ond hefyd i ddiogelu fy staff yr wyf i'n eu cyflogi i weithio yn y swyddfa honno. Wrth i mi gloi'r swyddfa nos Wener, gan fynd â'r holl fân bethau y byddai eu hangen arnaf i i weithio gartref gyda mi, cefais fy nharo, yn sydyn, gan anferthedd yr hyn yr ydym ni'n ei wynebu— gadael y swyddfa honno heb wybod pryd yr oeddem ni'n mynd i ddychwelyd, ac yna, pan gyrhaeddais i fy nghartref, sylweddoli na allwn i hyd yn oed drefnu siopa ar-lein ar gyfer fy mam 81 oed, sy'n byw ar ei phen ei hun rai milltiroedd i ffwrdd oddi wrthyf i, oherwydd bod yr holl slotiau wedi eu cymryd am wythnosau i ddod, ac, yn olaf, teimlo'n emosiynol iawn nad oes gennyf i syniad pryd fydda i'n gallu rhoi cwtsh i fy ŵyr chwe mis oed eto, na phryd y bydda i'n mynd i allu gweld fy meibion a'u partneriaid neu fy mam neu fy nheulu neu fy nheulu-yng-nghyfraith a'm ffrindiau, a gwybod bod rhai o'r rheini mewn categorïau agored i niwed, a heb wybod beth fydd yr wythnosau nesaf yn ddod gyda nhw. Fel y dywedais i yn gynharach yn fy nghyfraniad i ddatganiad y Prif Weinidog, o lle yr wyf i'n byw, gallaf weld maes parcio Tesco ym Merthyr Tudful, ac rwyf i wedi gwylio mewn syndod, a chryn anesmwythyd, y torfeydd yn mynd i mewn ac allan, gan anwybyddu cyngor ar gadw pellter cymdeithasol, ymarfer prynu panig a phentyrru stoc. Mae'r holl bethau hyn yn dweud wrthyf i fod yn rhaid i ni wneud rhagor. Mae'n rhaid i ni nawr roi pwerau i'r Llywodraeth i orfodi ymddygiad y mae rhai pobl, yn anffodus, yn gwrthod cydymffurfio ag ef o'u gwirfodd. Mae'r cyngor wedi ei gyhoeddi, ac mae hynny wedi ei wneud am reswm: i geisio achub bywydau. Felly, rwyf i'n cefnogi rhoi'r pwerau hyn i'n Llywodraeth, yr arfau y bydd eu hangen arnyn nhw i wneud y gwaith yn gyflym, i weithredu er mwyn ceisio helpu i ddod â'r argyfwng hwn i ben, ac rwy'n diolch iddyn nhw am bopeth y maen nhw wedi ei wneud hyd yn hyn, am y penderfyniadau anodd sydd i'w gwneud o dan yr amgylchiadau mwyaf anodd. Nid oes gennyf i eiriau digonol ychwaith i ddiolch i'r rhai hynny yn y rheng flaen sy'n darparu ymateb brys. Ni allaf i ddychmygu'r pwysau sydd arnyn nhw ar hyn o bryd, wrth geisio ymdopi, ond fe wnawn nhw, ac maen nhw'n cyflawni ar ein rhan fel y maen nhw'n ei wneud bob amser. Nid wyf i bellach eisiau clywed cyfeiriadau hiraethus at ysbryd y rhyfel. Nid ydym ni mewn rhyfel, ond yr ydym ni ym mrwydr ein bywydau. Nid ydym ni'n osgoi bomiau o awyrennau, ond rydym ni'n osgoi ein gilydd, oherwydd ni yw'r bomiau yn awr. Dirprwy Lywydd, rydym ni'n gwneud hyn oherwydd ein bod ni i gyd yn gobeithio mynd yn ôl i normalrwydd yn fuan. Rydym ni i gyd eisiau gallu gafael am ein hanwyliaid unwaith eto a gweld ein ffrindiau. Gallai ein gwerthfawrogiad o bleserau syml o'r fath hyd yn oed gynyddu'n sylweddol wrth i ni edrych yn ôl ar y cyfnod hwn. I wneud hynny, er mai mesur dros dro yw hwn, rwy'n barod i wneud y penderfyniad anoddaf y dylai unrhyw un ei wneud mewn democratiaeth, penderfyniad nad oeddwn i erioed wedi ei ystyried yn 2016. Ond byddaf felly yn cefnogi'r mesurau hyn a fydd yn rhoi i'n Llywodraeth y pwerau y gallai fod eu hangen arni i ddod â'r argyfwng hwn i ben cyn gynted â phosibl, ond gan wybod hefyd ei bod yn ddigon posibl na fydd dod â'r argyfwng hwn i ben yn digwydd yn y dyfodol agos. Caroline Jones AC: Mae'r pwerau hyn yn wirioneddol ddidostur, ac, ydyn, maen nhw'n gyrru ias i lawr yr asgwrn cefn. Mae'r pwerau sy'n cael eu caniatáu i Weinidogion y Llywodraeth ym mhob un o'r pedair gwlad yn effeithio ar ryddid sifil pob un ohonom ni, ac ni allai'r rhan fwyaf o bobl fod yn ddim ond pryderus. Ac o dan amgylchiadau arferol, ni fyddwn i hyd yn oed yn ystyried trosglwyddo pwerau o'r fath. Yn anffodus, nid yw'r rhain yn amseroedd arferol, oherwydd, mewn ychydig wythnosau, mae'r coronafeirws wedi lledaenu o amgylch y byd, gan beri risg ddifrifol i iechyd pob un ohonom ni. Mae Llywodraethau wedi eu gorfodi i wneud pethau'n gyflymach nag arfer wrth iddyn nhw geisio lleihau'r effaith y mae'r clefyd hwn yn ei chael ar eu poblogaethau. Yma yn y DU mae pob un o'r pedair gwlad gartref wedi gweithio gyda'i gilydd ar ddull gweithredu unedig, dull gweithredu sydd wedi ei gynllunio i gyfyngu ar effaith COVID-19, wrth i'r gymuned wyddonol geisio gwellhad drwy frechlynnau a therapi posibl. Yn anffodus, nid yw rhai pobl wedi bod yn dilyn cyngor iechyd y cyhoedd, ac felly mae angen cymryd camau mwy pendant. Heddiw, gofynnir i ni roi cydsyniad deddfwriaethol i Fil sy'n rhoi pwerau digynsail i Lywodraethau i gyfyngu ar ein rhyddid sylfaenol a gosod terfynau ar ein hawliau sifil. Fel arfer, ni fyddwn i na fy mhlaid yn caniatáu trosglwyddo pwerau o'r fath, ond rydym ni mewn sefyllfa ddigynsail, oherwydd bod gennym ni elyn anweledig, un nad yw'n parchu ffiniau. Mae pawb mewn perygl—nid pobl oedrannus neu fregus yn unig, oherwydd mae pobl ifanc hefyd wedi marw. Oni bai ein bod ni'n cymryd camau eithafol a phendant, bydd degau o filoedd o bobl yn marw. Dyma'r gwir plaen sy'n ein hwynebu. Felly, rwy'n derbyn bod y pwerau hyn yn angenrheidiol er mwyn ein diogelu rhag COVID-19. A pheidiwch ag amau am funud, mae'r coronafeirws hwn yn hynod heintus ac yn farwol iawn. Rydym ni wedi ceisio gofyn a hyd yn oed dwyn perswâd ar y cyhoedd i wneud y peth iawn, ac er bod y mwyafrif helaeth yn gwrando ar y cyngor iechyd cyhoeddus, mae gormod o lawer yn anwybyddu'r rhybuddion. Yr unig ddewis arall yw i'r wladwriaeth orfodi cydymffurfiad. Allwn ni ddim caniatáu i weithredoedd lleiafrif ein rhoi ni i gyd mewn perygl. Felly, rwy'n falch bod Llywodraeth y DU wedi gwrando ar reswm a bod y Bil yn destun adolygiad bob chwe mis, oherwydd mae'r pwerau hyn yn agored i'w camddefnyddio gan y wladwriaeth, ac felly mae'n hanfodol ein bod ni'n sicrhau bod y pwerau hyn yn bodoli ddim ond am gyhyd â'u bod yn angenrheidiol. Mae gennyf i bryderon o hyd ynghylch cymal 76, sy'n rhoi'r pŵer i'r pedair Llywodraeth newid y dyddiad dod i ben, ac rwy'n gofyn felly i Lywodraeth Cymru gytuno i geisio caniatâd y Siambr hon cyn galw'r pŵer hwn i rym. Mae'n hanfodol bod y pwerau hyn mewn grym am y cyfnod byrraf posibl. Fe wnaf gefnogi, gyda chalon drom, y cynnig cydsyniad deddfwriaethol sydd ger ein bron heddiw. Cefais i fy ethol i gefnogi fy etholwyr, ac, yn anffodus, y ffordd orau o wneud hynny yw gosod cyfyngiadau ar ryddid y mae pob un ohonom ni fel arfer yn ei gymryd yn ganiataol. Mae angen i ni achub bywydau a diogelu ein cymunedau, ac rwy'n gobeithio y bydd y cyhoedd yng Nghymru yn gwrando ar y rhybuddion, yn gwrando ar y cyngor ac yn gweithredu er lles pawb. Dyma'r ffordd orau o atal lledaeniad y coronafeirws, a pho gynted y byddwn ni'n gwneud hynny, y cynharaf y gall bob un ohonom ni ddychwelyd i'n bywydau arferol. Diolch yn fawr. Alun Davies AC: Rwy'n credu bod pob un ohonom, wrth ystyried y materion hyn, yn ystyried ein gwerthoedd, ein swyddi, yn y Siambr hon, ond hefyd ein cyfrifoldebau tuag at ein teuluoedd a'r bobl yr ydym yn eu caru. Mae llawer ohonom wedi bod yn gwylio'r teledu dros yr wythnosau diwethaf ac wedi gweld yr hyn sy'n digwydd i gyfeillion ar draws y dŵr yn yr Eidal a Sbaen a mannau eraill, wedi gweld dioddefaint pobl sydd wedi dal i feirws hwn, ac wedi gweld yr hyn y mae wedi'i wneud i gymunedau a gwledydd cyfan. Mae llawer ohonom ni—siaradodd Dawn Bowden yn rymus iawn am y rhesymau dros sefyll i gael ei hethol i'r lle hwn—eisiau yr un peth yn y bôn. Rydym eisiau gofalu am ein cymunedau, ac rydym eisiau cael y gorau i'n cymunedau. Credaf fod arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies, wedi dweud yr union beth hwnnw yn ei sylwadau agoriadol. Felly, wrth ystyried y Bil hwn, rwy'n sicr yn ystyried y sefyllfa yr ydym yn ei hwynebu, ond hefyd sut yr ydym yn cyfrannu at ddatrys y mater hwn. Ac rwy'n gofyn tri chwestiwn i mi fy hun. A yw'r pwerau'n bodoli i ymdrin â hyn? A yw'r pwerau hyn yn briodol? A sut y caiff y broses o arfer y pwerau hyn ei goruchwylio? Rwy'n credu bod cytundeb cyffredinol nad yw'r pwerau gennym, ac nad oes gan y Llywodraeth y pwerau sy'n ofynnol eu cael i ymdrin â'r sefyllfa yr ydym yn ei hwynebu. Gwelodd pob un ohonom y lluniau dros y penwythnos o bobl yn esgus ei bod yn ŵyl banc neu'n esgus ei bod yn ddiwrnod i ffwrdd. Ac rwy'n credu bod pob un ohonom wedi ein dychryn gan hynny. Gwelais adroddiadau yn fy etholaethau ify hun, lle'r oedd tafarnau ar agor i orffen y gasgen. Yn wir, mae'r hyn y maen nhw'n ei wneud yn peryglu nid yn unig y bobl yno, ond pob un ohonom yn ein cymunedau. Ac mae hefyd yn amlwg bod diffyg eglurder o ran lle mae'r pwerau, a sut mae pwerau'n cael eu gorfodi. Felly, mae'n amlwg i mi fod angen y pwerau hyn yn y Bil hwn, ac mae'r Llywodraeth eu hangen i ddarparu'r math o raglen y mae'n rhaid iddi ei darparu dros yr wythnosau nesaf. Ac yna mae'n rhaid inni ofyn i ni'n hunain: a yw'r pwerau'n briodol? Ac mae'n rhaid imi ddweud, rwy'n glir yn fy meddwl fy hun bod y pwerau'n briodol. Ond nid yw'r rhain yn fesurau y buaswn i wedi eu cefnogi yn y gorffennol. Mae'r rhain yn fesurau sydd, i fod yn onest, yn ffiaidd. Ac o dan unrhyw amgylchiadau eraill nid yn unig y byddwn i'n gwrthod eu cefnogi nhw, ond byddwn yn brwydro â'm holl nerth yn eu herbyn. Maen nhw'n fesurau, Dirprwy Lywydd, a dweud y gwir, y byddwn wedi pleidleisio yn eu herbyn dim ond rhai wythnosau'n ôl. Mae twf yr achosion yr ydym yn eu gweld, ac yr wyf i wedi gweld yn fy rhan i o'r byd yn ardal bwrdd iechyd Aneurin Bevan, lle mae mwy o achosion nag unrhyw ran arall o Gymru—. Rwyf wedi gweld ac rwyf wedi teimlo'r ofn y mae hynny'n ei greu yn ein cymunedau. Felly, mae'n briodol inni gael y pwerau hyn er mwyn diogelu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, i gryfhau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, i gryfhau'r gwasanaethau cyhoeddus sy'n sicrhau'r amddiffyniad sydd ei angen arnom, ond hefyd i sicrhau bod pobl yn ymddwyn yn gyfrifol. Ac felly, sut yr ydym yn goruchwylio'r pwerau hynny? O'm rhan i, rwy'n gobeithio y bydd Gweinidogion yn cyflwyno adroddiadau i'r fan hon pryd bynnag y defnyddir y pwerau hyn. Gobeithio y bydd y Gweinidogion, ac rwy'n disgwyl i'r Gweinidogion ddod i'r lle hwn i egluro pam y mae'r pwerau hyn yn cael eu defnyddio, am ba hyd y'u defnyddir, beth yw amcan y pwerau, a phryd y maen nhw'n disgwyl i'r pwerau hyn gael eu dileu. Nid yw'n iawn ac nid yw'n briodol mewn democratiaeth fod y pwerau hyn ar y llyfr statud. Mae angen i'r pwerau hyn fod yn gyfyngedig, ac rwy'n ddiolchgar iawn i weld bod y Gweinidogion yma yn croesawu cyfyngiadau'r pwerau hynny. Rwy'n ddiolchgar i weld adolygiad bob chwe mis, ac rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd ein cyd-Aelod Mick Antoniw am adrodd yn rheolaidd. Ond mae'n rhaid cael atebolrwydd a throsolwg a goruchwyliaeth seneddol briodol drwy gydol y cyfnod hwn, ac mae angen i bob un ohonom gymryd hynny o ddifrif. Ond mae hefyd angen inni edrych yn glir ar ba bwerau sy'n bodoli. Nid wyf yn argyhoeddedig bod digon o bwerau ar hyn o bryd i reoleiddio gweithredoedd yr archfarchnadoedd a gweithredoedd pobl yn yr archfarchnadoedd. Byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed yr hyn sydd gan y Gweinidog i'w ddweud am hynny. Rwy'n pryderu'n wirioneddol am rai o'r mesurau hyn a'r hyn a wnânt i hawliau pobl sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl ar hyn o bryd, a chredaf fod angen inni oruchwylio hynny'n briodol. Ond wrth gloi, ac wrth gefnogi'r Llywodraeth heddiw, rwyf am ddweud hyn, Dirprwy Lywydd: yr hyn sydd wedi fy synnu i dros yr ychydig wythnosau diwethaf yw nad oes gennym ddigon o ddeddfwriaeth argyfyngau sifil posibl sy'n ymarferol ac y gall y Llywodraeth ei defnyddio pan fyddan nhw'n wynebu argyfwng. Nid yw'n ddigon da nad yw'r llyfr statud yn cynnwys deddfwriaeth frys sy'n ddigonol i ymdrin ag argyfwng. Byddwn yn gobeithio, pan fyddwn wedi ymdrin â'r mater hwn, y byddwn eto wedyn yn gallu edrych ar y llyfr statud yn ei gyfanrwydd a sicrhau bod gan Lywodraethau, dan oruchwyliaeth a chyda chydsyniad, y pwerau y maen nhw eu hangen, heb fynd drwy'r broses hon, oherwydd nid oes craffu gwirioneddol yn digwydd ar y ddeddfwriaeth hon, naill ai yma nac yng Nghaeredin nac yn Belfast nac yn San Steffan. Mae'n cael ei ruthro drwodd mewn wythnos, mewn ychydig ddyddiau. Mae'r cyfyngiadau llymaf ar ein rhyddid i weithredu a'n rhyddid fel dinasyddion yn cael eu rhuthro drwy bedair Senedd mewn tri diwrnod. Felly mae angen innigael ar y llyfr statud ddeddfwriaeth sydd wedi ei hystyried, sy'n gadarn ac sy'n rhoi'r gallu i Weinidogion a Llywodraethau weithredu lle bo angen, ond gweithredu mewn ffordd sydd ag atebolrwydd democrataidd, goruchwyliaeth a rhesymau clir yn ei hanfod. Nid yw hynny gennym ar hyn o bryd. Alun Davies AC: Rwy'n cefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol, rwy'n cefnogi'r pwerau, rwy'n cefnogi'r defnydd o'r pwerau hyn, ac rwy'n gobeithio y byddwn, ar ddiwedd y cyfnod ofnadwy hwn o amser yr ydym yn byw drwyddo, wedi dysgu rhai gwersi ac y byddwn yn gallu adolygu lle'r ydym yn sefyll fel Senedd a'r pwerau sydd gan Weinidogion i'n cadw ni'n ddiogel. Diolch. Suzy Davies AC: Alun, mae'n rhaid imi ddweud, tan yr ychydig frawddegau diwethaf, roeddwn yn gwbl gytuno gyda chi, oherwydd un o'r pwyntiau rwy'n credu sy'n werth ei wneud yn y ddadl hon yw—ac mae wedi'i wneud eisoes; mae'r gair 'llym' wedi ei ddefnyddio fwy nag unwaith—nad ydym ni fel Sbaen; nid oes gennym y pwerau llym hyn ar ein llyfrau statud, pa bynnag mor dda y'u hystyrir. A dweud y gwir, ni fyddwn i'n cefnogi hynny. Er mor simsan ac anfoddhaol y mae'r broses bresennol wedi bod, ni fyddwn i'n cefnogi cael y pwerau Ffranco-aidd ar ein llyfrau statud yn dragywydd, er fy mod yn gallu deall dadl Alun Davies. Rwy'n cytuno â phopeth arall a ddywedodd, sydd ychydig yn anarferol, ond man y man inni dderbyn hynny. Ond tybed—hynny yw, rwy'n cytuno â'r pwynt a godwyd gan Dawn; os ydym yn mynd i gael Llywodraethau yn cael y pŵer i'm rhwystro i rhag gweld fy nhad neu fy meibion, mae'n rhaid ichi brofi'n wirioneddol bod angen y pwerau hynny arnoch—yr union bwynt yr oedd Alun Davies yn ei wneud hefyd. Felly, efallai y gallwn fynd â chi drwy rai o'r manylion, gan gyfeirio nôl at beth ddywedodd Helen Mary, am y cydbwysedd hwn rhwng ein hawliau dynol ni a'r angen am y pwerau hyn. Yn benodol, rwy'n credu bod cymal 9 a chymal 14 o ddiddordeb penodol i mi. Cymal 9 yw'r gostyngiad yn nifer y meddygon y mae eu hangen i ganiatáu i rywun â phroblemau iechyd meddwl gael ei anfon i ysbyty iechyd meddwl. Yn bersonol, dydw i ddim yn gweld pam na allwch chi ddod o hyd i ddau feddyg yn y sefyllfaoedd eithafol hynny, ni fydd llawer ohonyn nhw'n codi. Ond os ydym yn y sefyllfa honno, efallai y gallem fod yn adolygu'r penderfyniad yn amlach na'r hyn y mae'r ddeddfwriaeth yn ei ganiatáu. Nid oes unrhyw beth yn eich rhwystro rhag gwneud hynny a gwneud yr union ddatganiadau yr oedd Alun Davies yn sôn amdanynt os oes eu hangen. Cymal 14: asesu anghenion nid yn unig bobl anabl, ond gofalwyr a gofalwyr cyflogedig yn benodol. Mae gennym sefyllfa nawr gyda'r ddeddfwriaeth lle y gallech fod yn gymwys i gael asesiad, ond nid oes rheidrwydd i gwrdd â'r anghenion sy'n cael eu hasesu. Ond dan yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd gan Helen Mary o 'bethau'n iawn am nawr, ond efallai y byddwn yn cyrraedd uchafbwynt lle nad oes digon o staff i wneud asesiadau', beth yw eich barn chi am ragdybio bod y dadleuon a gyflwynwyd naill ai gan ofalwr neu rywun y gofelir amdano, bod yr hyn maen nhw'n ei ddweud yn gywir? Rhoi'r hyn sydd ei angen arnyn nhw os yw'n bosibl gwneud hynny ac yna adolygu eu haeriadau'n ddiweddarach yn y broses pan fydd gennym weithlu yn ôl yn y drefn arferol. Ni fyddwn fel arfer yn cefnogi credu pobl heb y broses asesu briodol, ond yn yr amgylchiadau hyn, nid wyf yn credu bod pobl yn mynd i gymryd mantais; maen nhw'n mynd i fod yn gofyn pan fyddan nhw mewn sefyllfa anobeithiol. Cymalau 35 a 36: Roeddwn i eisiau gofyn, oherwydd mae pwerau yma i atal gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, ac rwy'n deall hynny'n llwyr. Mae'n dal i fod gennym gyn-athrawon yn ein poblogaeth a gafodd eu dileu o'r gofrestr am reswm da ac rwy'n gobeithio na fydd yr unigolion hynny'n cael dod yn ôl i mewn i'r gweithlu, beth bynnag fo'r llacio a ystyrir yma. Unwaith eto, pwynt Helen Mary ar waith 'hanfodol': beth mae gwaith hanfodol yn ei olygu? Beth mae'n ei olygu? Mae cyfleoedd mewn cwmnïau unigol neu fusnesau bach i hyn olygu 'mae angen rhai o'r staff ac nid oes angen rhai o'r staff'. Felly, yr enghraifft a roddwyd i mi y bore yma: 'Rwy'n gweithio i gwmni nwy bach. Os bydd rhywun yn dweud bod ganddo nwy yn gollwng, a ydw i'n cael mynd allan a thrwsio hynny mwyach?' I fynd yn ôl at y pwynt ar adeiladu, mae cwmni garddio wedi cysylltu â mi yn dweud, 'Wel, fe allwn ni weithio o bellter. Rwy'n deall nad yw gwelyau blodau yn arbennig o bwysig, ond os bydd rhywun yn fy ffonio ac yn dweud bod coeden ar fin syrthio ar ei ben, a ydw i'n cael mynd allan a gwneud gwaith ar y goeden?' Byddai angen y math hwnnw o arweiniad. Gan nad oeddwn yn gallu gofyn mewn cwestiwn am rentu o'r blaen, a allwch gadarnhau i mi fod y sefyllfa yn Lloegr ac yng Nghymru ynghylch ymestyn yr hysbysiad sy'n ofynnol ar gyfer achosion meddiannu yn cael ei fframio yn y ffordd honno ar gyfer Lloegr a Chymru, fel nad oes gennym ddadfeddiannu? Rwy'n sylweddoli bod pawb yn derbyn yr egwyddor, ond mae angen egluro bod Cymru a Lloegr yn union yr un peth. Os nad ydyn nhw, mae hynny'n iawn, ond byddai esboniad yn eithaf defnyddiol. Ac yna, rwy'n credu, y cwestiwn olaf gennyf i ar—. Do, fe gododd Hefin David y cwestiwn am MOTs yn gynharach. Nid yw ef yma ar hyn o bryd, ond gall garejys aros ar agor i wneud MOTs. Gan fod y gweithlu ar y cyfan yn mynd yn llai, oherwydd bod pobl naill ai'n hunan-ynysu neu'n mynd yn sâl, yn anffodus, a ydych yn rhagweld—ac rwy'n sylweddoli mai cwestiwn i'r DU yw hwn, mewn gwirionedd, ond fe ofynnir hyn i chi yng nghyfarfodydd COBRA—y byddwn byth mewn sefyllfa lle mae gofynion cyfreithiol yn debygol o gael eu hatal ymhellach, fel gydag archwiliadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, a hynny am y rheswm syml nad oes gennym ddigon o bobl i'w gorfodi. Ac o dan yr amgylchiadau hynny, beth fyddwn yn gofyn i'r bobl a fyddai fel arfer yn ddarostyngedig i'r gofynion cyfreithiol hynny ei wneud? Diolch o galon ichi. Siân Gwenllian AC: Gaf i ddweud i ddechrau fy mod i'n uniaethu yn llwyr efo'r hyn ddywedodd Dawn Bowden? Mae'n bwysig ein bod ni yn rhannu ein gofidiau ac mae'n bwysig ein bod ni yn mynegi yr emosiwn rydyn ni yn teimlo. Mae hynny mor bwysig ar adeg fel hyn. Felly, dwi'n diolch i chi am rannu rhai o'ch gofidiau chi, ond mi wnawn ni ddod drwy hyn. Mi wnawn ni ddod drwy hyn efo'n gilydd—mae hynny yn bosibl. Rydyn ni fel plaid wedi bod yn gweithio yn adeiladol efo Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru ar y ddeddfwriaeth yma i sicrhau bod gan y Llywodraeth y pwerau i'n cadw ni'n saff. Mi ddylai'r ddeddfwriaeth yma arwain at fwy o staff yn y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol. Mi ddylai wneud gwirfoddoli yn haws, rhoi stop ar griwiau o bobl yn ymgynnull, galluogi mwy o gefnogaeth i fusnesau, a rhoi urddas i'r rhai fydd yn colli anwyliaid. Ond, wrth gwrs, fel mae eraill wedi dweud, mae'n bwysig mai dim ond os ydy hi'n hollol angenrheidiol y dylid defnyddio'r pwerau yma, ac mae angen craffu llawn hefyd ar y defnydd ohonynt. Mi rydw i'n cydfynd yn llwyr efo'r pryder ynglŷn â'r ddwy flynedd, ac mae fy nghydweithwyr i yn San Steffan wedi bod yn galw am yr adolygiad chwe mis yma. Dwi yn credu bod asesu effaith y pwerau sydd yn y mesur ar Gymru—boed nhw'n bwerau sydd gennym ni yma yng Nghymru neu'n bwerau sydd tu hwnt i'n gallu ni yma fel Senedd—mae'n bwysig i ni fod yn asesu effaith unrhyw bwerau ddaw i rym a bod yna, fel mae Alun Davies yn ei ddweud, adroddiadau cyson a chyfle i ni'n fan hyn i fod yn gallu craffu mewn ffordd hollol adeiladol i wneud yn siŵr bod popeth yn digwydd yn briodol. Mae'n bwysig nodi, dwi'n meddwl, bod y cymalau sydd yn y mesur sy'n ymwneud â materion datganoledig yn golygu y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu penderfynu peidio â defnyddio'r cymalau am y materion datganoledig hynny. Hynny yw, penderfynu peidio rhoi switsh ymlaen, fel petai. Dwi yn meddwl bod hynna'n bwysig. Mae o'n dangos parch i'n Senedd ni fan hyn. Jest yn sydyn, rhai o'r materion sydd yn fy mhryderu i. Gofal cymdeithasol: drwy lacio'r gofynion ar lywodraeth leol o ran gofal cymdeithasol, mae perygl y bydd hyn yn arwain at lefel annerbyniol o ofal a allai arwain at farwolaethau diangen. Mae eisiau bod yn ofalus iawn mai dim ond os bydd y pwysau yn mynd yn hollol eithafol y byddwn ni'n defnyddio'r rheini. Gwiriadau DBS: dw'n cytuno'n llwyr efo beth roedd Suzy Davies yn ei ddweud. Mae angen gofal efo prysuro'r gwiriadau er mwyn galluogi mwy o wirfoddolwyr i helpu—dwi'n deall hynny'n iawn—ond mae'n rhaid i ni gofio beth ydy pwrpas y gwiriadau, sef amddiffyn y bobl a'r plant mwyaf bregus yn ein plith ni. Efo ysgolion, dwi'n cytuno, wrth gwrs, bod angen i ysgolion aros ar agor, ond mae o'n gallu rhoi straen mawr ar yr athrawon, ac mae gan yr undebau athrawon bryderon am iechyd eu haelodau nhw er, wrth gwrs, mae'r ddarpariaeth ar gyfer plant gweithwyr allweddol yn gwbl hanfodol. Iechyd meddwl: fe fydd y mesur yn caniatáunewidiadau pellgyrhaeddol i ddeddfwriaeth iechyd meddwl, a fydd yn gallu golygu bod pobl yn cael eu cadw mewn ysbyty neu sefydliad am gyfnodau llawer iawn hirach na'r presennol. I gloi, Dirprwy Lywydd: menywod. Menywod, merched sydd, ar y cyfan, yn gofalu am blant a pherthnasau hŷn hyd heddiw; dydy hynny ddim wedi newid. Mi fydd y gwaith di-dâl yma yn cynyddu yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf yma, ac mae angen parchu y gwaith yna.Dylai menywod, gan gynnwys y rhai sy'n feichiog ac ar absenoldeb mamolaeth ddim cael eu rhoi dan anfantais yn eu gyrfaoedd drwy ddilyn y canllawiau. Rydych chi'n gwybod bod gan ein plaid ni hanes hir ac anrhydeddus o gefnogi ac hyrwyddo hawliau ein pobl ni. Ond, dros dro, mae angen y ddeddfwriaeth yma. Does dim dewis, ac, felly, wrth gwrs, byddwn ni ddim yn gwrthwynebu'r cynnig sydd gerbron heddiw. Diolch. Joyce Watson AC: Gweinidog, rwy'n credu fy mod yn siarad yr un iaith â phawb yma pan ddywedaf byth, byth, yn ein dychymyg mwyaf eithafol y byddai unrhyw un ohonom sy'n eistedd yma heddiw yn dychmygu y byddem yma a bod gofyn inni bwyso botwm a fydd yn gweithredu deddfwriaeth eithaf didostur a'i gorfodi ar bobl yn eu cartrefi ac yn eu bywydau bob dydd. Ni ddaethom yma i wneud hynny. Ond yr hyn y daethom yma i'w wneud—rwy'n weddol sicr—yw amddiffyn pobl, ceisio eu cadw'n ddiogel, a gwneud popeth y teimlwn sy'n rhesymol ac sydd ei angen ac y gellir ei gyfiawnhau i'r perwyl hwnnw. Rydym yn y lle mwyaf anarferol a digyffelyb y gallem erioed, erioed fod wedi ei ddychmygu. Ac oherwydd hynny y byddaf yn cefnogi, fel y bydd pawb arall yma heddiw—. Dydw i ddim yn hawlio buddugoliaeth bersonol yma, achos does dim buddugoliaeth yn hyn i gyd; mae hyn yn gwbl angenrheidiol. Mae'n fodd i gyflawni. A'r unig reswm, am wn i, y byddaf yn cefnogi hyn heddiw yw oherwydd bod amser yn gyfyngedig. Mae'r pwerau brys hyn yn gyfyngedig o ran amser. Byddan nhw'n cael eu hadolygu, ac rwy'n siŵr y bydd adroddiadau amdanynt pan cânt eu defnyddio. Rydym yn gobeithio na fydd yn rhaid inni ddefnyddio pob un o'r pwerau sydd wedi'u hysgrifennu yma heddiw, ond roedd yr ymddygiad, fel y mae llawer wedi'i ddweud o'm blaen, y penwythnos diwethaf yn wirioneddol syfrdanol. Mae'n amlwg nad oedd rhai pobl yn deall—rwy'n siŵr o hynny—beth yr oedden nhw'n ei wneud, ac roedd pawb wedi penderfynu gwneud yr un peth. Pan ddywedwyd wrthyn nhw i fynd allan a chael awyr iach, roedd pawb wedi mynd i'r un lle. Felly, rydym yn gwybod nawr na fydd hynny'n gallu digwydd o dan y dyfarniad hwn. Ond rwy'n credu bod ambell i beth y mae angen inni edrych arno. Rydym yn gofyn i bobl eraill—. Rydym yn pasio'r ddeddfwriaeth, ond rydym yn gofyn i bobl eraill orfodi'r ddeddfwriaeth honno os yw hynny'n wir, ac rwy'n credu bod dyletswydd arnom i wneud yn siŵr bod y bobl hynny a fydd yn gorfodi'r ddeddfwriaeth, ac, weithiau, gyda phoblogaeth elyniaethus, yn gorfod gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu hamddiffyn a rhaid i ni wneud yn siŵr eu bod yn cael eu diogelu drwy bolisïau yswiriant, drwy unrhyw gêr amddiffynnol sydd ei angen arnynt a rhywfaint o arweiniad clir hefyd, oherwydd bydd rhai pobl yn y rheng flaen erbyn hyn. Rydym wedi clywed llawer o sôn am y rheng flaen, ond mae'r rheng flaen yn newid drwy'r amser. Ie, staff y GIG yw'r rheng flaen os oes angen gofal meddygol arnoch, ond y gweithwyr archfarchnad yw'r rheng flaen os oes angen bwyd arnoch; y gyrwyr lorïau os ydych angen y bwyd hwnnw i gyrraedd y man lle'r ydym yn mynd i'w gasglu. Felly, y rheng flaen bellach yw unrhyw un a phawb sy'n gweithio i gadw'r wlad hon yn rhedeg ar yr adeg benodol hon. Mae rhai o'r pwerau hefyd yma i amddiffyn busnesau, ac rwyf wedi cael e-bost tra'r ydym wedi bod yn eistedd yma am fusnes y gofynnwyd iddo dalu rhent, ond nid oes ganddo unrhyw fusnes, ac mae'r unigolyn y maen nhw'n ddyledus iddo hefyd yn fusnes bach. Felly, mae angen inni ofalu am bobl o'r ddwy ochr a deall, pan fyddwn ni'n gosod rhywfaint o ddeddfwriaeth er mwyn helpu un ochr, nad yw'n cael effaith negyddol ar y lleill. Rwy'n siŵr y bydd pawb yma yn pleidleisio dros hyn gyda chalon drom. Rydym yn gobeithio y byddwn yn gallu cymryd y pwerau hynny i ffwrdd yn gyflym iawn a rhoi eu rhyddid, ond yn bwysicach fyth, eu dyfodol yn ôl i'r bobl. Diolch. Neil McEvoy. Neil McEvoy AC: Diolch, Dirprwy Llywydd. Dirprwy Lywydd, mewn gwirionedd—mae treiglad yno. Mae'n fesur eithafol. Mae gennyf lawer o bryderon. Rwy'n pryderu y gall cynghorau, fel y crybwyllwyd, israddio gofal i'r henoed a phobl anabl wrth i'r Ddeddf Gofal gael ei hatal. Rwy'n pryderu am y defnydd o dechnoleg bell mewn achosion llys o ran tegwch treial. Rwy'n pryderu am sut y gall pobl gael eu cadw. Mae'n fesur eithafol, ond rydym yn byw mewn cyfnod eithafol—digynsail. Rwy'n credu, fel y mae pawb wedi'i ddweud, bod agweddau ar y Bil nad wyf yn eu hoffi yn sicr a bod gennyf bryderon mawr amdanyn nhw. Mae gennyf bryderon mawr ynghylch tynnu rhyddid oddi ar bobl am unrhyw gyfnod o amser. Hawliau unigol yw conglfaen yr hyn y dylem fod yn ymwneud ag ef, ond ceir hawliau cymunedol hefyd. Pan welsom y torfeydd ar y penwythnos, pobl allan yn yr awyr agored, yn ei drin fel pe bai'n ŵyl banc, roedd yn rhaid gwneud rhywbeth. Mae'n drueni, rwy'n credu, na chafodd pethau eu gwneud ymlaen llaw, pan ellid fod wedi cymryd rhai camau ynghynt. Rwy'n falch o glywed y gellir atal agweddau Cymreig ar y Bil yma, o'r Senedd hon. Hoffwn gael ychydig mwy o fanylion am hynny. Rwy'n anghyfforddus iawn gyda llinell amser o ddwy flynedd. Mae chwe mis yn well o lawer, ond rwyf am ymhelaethu ar y manylion am yr hyn y mae ei angen ar ôl y chwe mis. A yw'n fwyafrif syml? A yw'n ddwy ran o dair? Credaf fod pryderon wedi'u codi ynghylch pobl sy'n dioddef cam-drin domestig yn eu cartrefi. Mae yna hefyd fater plant mewn gofal yn cael llai o oruchwyliaeth nawr. Rwy'n poeni am y nifer o bethau sy'n cael eu cynnal ar-lein, yn enwedig addysg. Mae yna fwlch yn y gyfraith nad oes angen i hi gael gwasanaeth gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd i diwtora ar-lein, ac rwy'n credu bod hwnnw'n fwlch enfawr y gallai'r Bil hwn fynd i'r afael ag ef, mewn gwirionedd. Yn y pen draw, nid wyf yn credu bod gennym unrhyw ddewis yma ond pleidleisio dros y Mesur hwn. Ni allwn ei ddiwygio oddi yma. Dim ond apêl, mewn gwirionedd, at bobl sy'n gwylio ar y teledu: rydym i gyd yn yr un peth gyda'n gilydd. Efallai nad ydym yn sylweddoli hynny eto, ond pan fydd pobl yn mynd allan ac yn pwyso'r botwm i groesi'r ffordd, os ydyn nhw'n heintus, yna bydd y person nesaf yn cael y feirws hwnnw. Y cyfan sydd raid iddyn nhw ei wneud yw cyffwrdd â'u hwyneb ac maent yn amlyncu'r feirws, drwy'r trwyn, y geg neu'r llygaid. Mae'n anodd iawn peidio â chyffwrdd â'ch wyneb ar brydiau. Rwy'n mynd i orffen drwy ddweud fy mod yn credu y dylem mewn gwirionedd fod yn profi pob achos posib. Clywaf nad oes gennym y capasiti ar hyn o bryd, ond credaf fod yn rhaid i'r Llywodraeth hon roi blaenoriaeth i feithrin capasiti, a hynny cyn gynted â phosib, oherwydd mae'r pecynnau profi hyn ar gael. Maen nhw ar gael i'r Llywodraeth hon os caiff yr archebion eu gwneud, oherwydd ni fyddwn yn dychwelyd i ryw fath o normalrwydd yn gyflym iawn oni bai ein bod yn nodi pwy sydd â'r feirws, ble mae'r feirws, ac y gallwn ei ynysu yn y ffordd honno. Mae hwn yn gyfnod anghyffredin, ond byddaf yn gorffen drwy annog y Llywodraeth i feithrin capasiti ar unwaith i brofi pob un achos o'r coronafeirws. Diolch yn fawr. Diolch. A gaf i alw ar y Gweinidog Iechyd a gwasanaethau cymdeithasol i ymateb i'r ddadl? Vaughan Gething AC: Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl. Byddaf yn ceisio rhedeg drwy ystod eang o'r pwyntiau a godwyd yn fy ymateb, wrth gwrs. Ailadroddodd nifer o Aelodau bwyntiau, neu adeiladu ar rai, a wnaed yn gynharach. Hoffwn ddiolch i Mick, ac yn wir i'r holl aelodau a siaradodd, am roi arwydd o'u cefnogaeth i'r cynnig sydd ger ein bron. Gofynnodd Mick yn benodol, fel y gwnaeth Alun Davies a Siân Gwenllian ac amryw o bobl eraill, am y gofyniad o ran adrodd sydd yn y Bil. Rwy'n credu ei bod bellach yng nghymal 99 yn dilyn gwelliannau a wnaed ddoe, ynghyd ag adolygiad chwe mis yr wyf yn credu sydd yng Nghymal 98 nawr, ac felly rwy'n hapus i roi addewid ar gofnod y bydd Llywodraeth Cymru yn adrodd i'r Cynulliad hwn ar y defnydd o bwerau yn rheolaidd. Yn ymarferol, rwy'n credu mewn gwirionedd y byddwn yn gwneud datganiadau cyhoeddus am y defnydd o bwerau bob tro yr ydym yn eu defnyddio, ond wedyn rydym eisiau casglu ynghyd mewn un lle adroddiad ar yr hyn sydd wedi'i wneud dros gyfnod o amser. Rwy'n hapus i roi'r addewid hwnnw. Vaughan Gething AC: Yr un nodyn o rybudd a roddwn ynghylch rhai ymatebion eraill a roddwyd i'r Aelodau eraill yw, yn gyntaf oll, mai mater i'r sefydliad hwn wedyn yw penderfynu sut y mae'n bwriadu defnyddio'r adroddiad hwnnw o ran craffu neu fel arall. A'r ail bwynt yw, o ran y modd y mae'r sefydliad yn gweithredu, nid yn unig o ran lleihau niferoedd, ond bydd angen i bob un ohonom gofio y gallwn fod mewn sefyllfa wahanol o bosib ymhen tri mis, chwe mis neu naw mis , a bod yn ymwybodol na allwn roi sicrwydd pendant a chyflym am yr hyn a fydd yn sicr yn digwydd. Ond, yn sicr, o safbwynt y Llywodraeth, yr adrodd a gafwyd, rwy'n fwy na pharod i'w ddarparu. Yn sylwadau Paul Davies, ynglŷn â'r pwyntiau am y trefniadau diogelu, bydd rheoleiddwyr proffesiynol yn dal i fod yn eu lle, ond bydd yn rhaid i'r safonau y maen nhw'n eu cymhwyso fod yn gysylltiedig â'r gallu i ymarfer ar yr adeg honno. Felly, dri mis yn ôl, byddech wedi disgwyl rhywbeth gwahanol i'r hyn y gallech ei ddisgwyl ynghanol epidemig pan fydd gallu uned therapi dwys efallai'n llawn, er enghraifft. Ond nid yw hynny'n golygu, er enghraifft, y bydd y gofynion disgwyliedig ynghylch uniondeb, ynghylch ymddygiad gyda chydweithwyr—bydd y pethau hynny yn dal i fod ar waith. Mae gan wely Uned Gofal Dwys sydd wedi'i staffio'n llawn ar hyn o bryd naw o nyrsys o'i amgylch. Efallai y byddwn mewn sefyllfa wahanol os bydd yr achos yn cyrraedd unrhyw beth tebyg i'r potensial gwaethaf. O ran eich pwynt ynghylch cyrhaeddiad cyfathrebu Llywodraeth Cymru, ceir sgyrsiau rheolaidd gyda darlledwyr ond hefyd y cyfryngau lleol, ac rwy'n credu eu bod nhw'n ffynhonnell bwysig iawn o wybodaeth. Er nad oes llawer o bobl yn prynu papur lleol bellach, mae llawer o bobl yn edrych ar wefannau lleol i gael eu newyddion, ac mae pob aelod sydd ag etholaeth neu ranbarth yn eithaf obsesiynol am eu gwefan leol fwyaf poblogaidd, p'un a oedd yn arfer bod yn bapur newydd ai peidio. Maen nhw'n ffynonellau gwybodaeth y mae pobl yn mynd iddyn nhw'n rheolaidd, felly rydym ni'n bendant yn ystyried sut rydym yn ceisio cael gwybodaeth iddyn nhw. Eto, yn ddibynadwy ac yn gyson ac mor glir â phosib. A chredaf ar ddiwedd hyn y bydd llawer mwy o bobl yn gwybod pwy yw Prif Swyddog Meddygol Cymru nag oedd yn gwybod chwe mis yn ôl, oherwydd bydd Dr Frank Atherton yn ymddangos yn rheolaidd yn cyfathrebu â'r cyhoedd oherwydd ei fod yn ffigur y ym mae llawer yn ymddiried ynddo. Nid yw yma i geisio cael ei ethol ar unrhyw adeg yn y dyfodol. Mae'n gynghorydd meddygol annibynnol i Lywodraeth Cymru, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ei fod ef a'i dri chyd-weithiwr yn chwarae rhan flaenllaw nid yn unig wrth gynghori'r Llywodraeth, ond yn yr ymarfer cyfathrebu cyhoeddus hwnnw. A gwn eich bod wedi sôn am bwyntiau, fel y gwnaeth yr Aelodau eraill, am ymddygiad dros y penwythnos, yn enwedig mewn parciau carafanau a mannau prydferth, ond yn fwy na hynny, gwelsom dorfeydd ar Ynys y Barri a lleoedd eraill hefyd. Felly, mae hynny'n egluro rhan o'r rheswm pam y gwnaethom gymryd y camau eithriadol ddoe pan gyhoeddodd y Prif Weinidog rai cyfyngiadau, ac wedyn nododd y pedair Llywodraeth ragor o gyfyngiadau eto. Byddai'r pwerau yn y Bil hwn yn caniatáu inni gymryd camau pellach yn y dyfodol a chaniatáu i'r mesurau yr ydym eisoes wedi'u cymryd o dan rai o bwerau Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 i roi'r rheini ar sail wahanol, oherwydd bod y gofynion adolygu ar eu cyfer yn wahanol. Credaf ei bod yn werth codi'r pwynt hwn—er nad yw'n ymwneud yn gyfan gwbl â'r Bil—ond mae'n ymwneud â'r bobl hynny sydd wedi symud o'u cartref eu hunain a'r neges 'dychwelwch adref ac arhoswch adref'. Rydym ar fin anfon degau o filoedd o lythyrau yng Nghymru at ddinasyddion sy'n agored i niwed, i'w cynghori ynglŷn â pham eu bod yn y grŵp hwnnw a'r cymorth a ddylai fod ar gael iddynt a pham rydym yn gofyn iddynt aros gartref am o leiaf dri mis. Mae llythyrau tebyg yn mynd allan at bobl yn Lloegr a chenhedloedd eraill y DU. Os yw'r bobl hynny wedi gadael eu cartref arferol, lle maent wedi'u cofrestru gyda'u gwasanaeth iechyd—p'un a ydyn nhw wedi mynd o Gaerffili neu Gaint i Ddinbych-y-pysgod, nid yw'n gwneud gwahaniaeth mewn gwirionedd—nid ydyn nhw yn eu cartref arferol, nid ydyn nhw'n mynd i gael y cyngor neu'r arweiniad hwnnw, ac ni fyddan nhw mewn sefyllfa i ddiogelu eu hiechyd eu hunain i ddiogelu eu hunain. Felly, mewn gwirionedd, nid yw'n ymwneud â'r pwysau ar rannau o'r DU gyfan yn unig, oherwydd roedd problemau tebyg yng Nghernyw ac yn ucheldiroedd ac ynysoedd yr Alban hefyd, a dywedodd Prif Weinidog Gogledd Iwerddon ddoe eu bod wedi cael problemau tebyg hefyd. Ond mewn gwirionedd sefydlwyd pob un o'r ardaloedd hynny ar gyfer darpariaeth mân anafiadau; ni chawsant eu sefydlu ar gyfer y pwysau ychwanegol sydd i'w disgwyl yn yr wythnosau nesaf, hyd yn oed os byddwn ni'n llwyddo i sefydlogi uchafbwynt yr achosion. Helen Mary Jones, roeddwn yn ddiolchgar am yr amrywiaeth o sylwadau a wnaethoch chi. Rwy'n credu, o ran rhai o'r cwestiynau, os ydym yn ystyried defnyddio'r pwerau i ysgafnhau trefniadau cymorth gofal cymdeithasol, bydd yn cael ei gwmpasu gan y ddyletswydd adrodd. Byddem yn sicr am adrodd ar yr hyn yr ydym yn ei wneud a pham. Efallai na fyddwn yn gallu gwneud hynny'n rhagolygol, oherwydd efallai y bydd angen inni ddefnyddio pwerau gyda'r fath gyflymder, i fod yn effeithiol, lle y bydd yn rhaid inni ddefnyddio'r pwerau a dweud wrth y Senedd ein bod wedi gwneud hynny, yn hytrach na dweud, 'Yr wythnos nesaf, byddwn yn gwneud rhywbeth.' Ar adeg arferol gallwch wneud hynny, ond mae nawr yn unrhyw beth ond adeg arferol. O ran y pwyntiau a wnaed gan ystod o Aelodau ar dâl salwch statudol, rydym yn cydnabod y sylwadau hynny a byddwch wedi clywed y Prif Weinidog yn galw am yr incwm sylfaenol cyffredinol. Nid yn aml y bydd y Prif Weinidog yn cytuno gyda Gweriniaethwyr yr Unol Daleithiau ar ymateb polisi, ond mae yna Weriniaethwyr yn yr UDA sy'n galw am, i bob pwrpas, incwm sylfaenol cyffredinol hefyd. Mae'n dangos y cyfnod eithriadol yr ydym yn byw ynddo a'r gydnabyddiaeth, os na fyddwn yn darparu'r modd i bobl, y gall eu hymddygiad gael ei yrru gan yr angen i dalu eu biliau a byddan nhw'n gweithredu yn y fath fodd fel y bydd yr argyfwng iechyd cyhoeddus yn gwaethygu, nid gwella. Dydw i ddim yn credu bod y Prif Weinidog a Mitt Romney ar fin rhannu llwyfan yn fuan. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir yn ein galwad ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig am gymorth pellach i bobl hunan-gyflogedig. Deallwn fod y Canghellor ar fin gwneud cyhoeddiad yn ystod y diwrnod neu ddau nesaf ynglŷn â hynny. Gorau po gyntaf. Ond, o fewn Llywodraeth Cymru, mae Ken Skates eisoes yn arwain gwaith ar beth arall y gallwn ni ei wneud yng Nghymru gyda'r ysgogiadau a'r gallu sydd ar gael i ni. O ran adeiladu, eto, nid yw yn y Bil, ond os caiff y pwerau eu rhoi i ni, yna byddem yn sicr ar sail gadarnach i wneud ymyriadau pellach, os bydd eu hangen. Ond rwy'n cydnabod, fel y gwna'r Prif Weinidog a Gweinidogion eraill yn wir, y pwyntiau a wnaed am y diwydiant adeiladu. Yn sicr, nid yw bob amser yn bosib gweithio ar safle adeiladu a phellhau eich hun yn gymdeithasol. Roedd fy mrawd hŷn yn gweithio yn y diwydiant adeiladu ac mae fy nhad-yng-nghyfraith yn gweithio yn y diwydiant adeiladu hefyd. Mae Llywodraethau eraill yn rhannu'r un pryder. Rwyf yn deall, fodd bynnag, y byddai angen i'r gwaith hanfodol o ran diogelwch barhau ac, yn yr un modd, y gwaith sy'n hanfodol i'r frwydr yn erbyn COVID-19. Felly fydden ni ddim am weld y gwaith sy'n cael ei wneud i drawsnewid canolfannau hamdden yn Sir Gaerfyrddin yn dod i ben. Mae angen i'r gwaith hwnnw fynd yn ei flaen fel y gallwn ni ymladd y clefyd ac achub cynifer o fywydau ag y bo modd. Ond rwy'n cydnabod y pwyntiau ynglŷn â'r ffaith bod hwn yn sector bregus o ran hawliau gweithwyr. Yn aml, mae'n rhaid i bobl fod yn hunangyflogedig lle maen nhw mewn gwirionedd o dan reolaeth uniongyrchol mewn ffordd y mae'r rhan fwyaf o gyflogeion yn teimlo eu bod hefyd. Gwnaeth cyfraniad Dawn Bowden argraff arbennig arnaf, y coronafeirws ac—fel y soniodd Suzy Davies, yn wir—am yr amharu ar ein bywydau teuluol ni ein hunain yn ogystal â'r rhesymau pam mae'r Aelodau'n gyndyn i gefnogi'r pwerau newydd hyn. Nid wyf i nac unrhyw Weinidog arall yn y Llywodraeth hon yn awyddus iawn i ofyn i'r Aelodau basio'r cynnig hwn, ond y gwir amdani yw nad yw hyn yn hawdd, nid yw'n syml, ac nid ydym yn sicr pryd y bydd hyn yn dod i ben. Credaf fod pwynt wedi'i godi hefyd gan Alun Davies na fyddai ef wedi pleidleisio o blaid y mesurau hyn ychydig wythnosau'n ôl. O ran yr archfarchnadoedd, credwn fod gennym rai pwerau i ymyrryd er mwyn rheoleiddio ymddygiad a phrynu nawr, ond bydd y Bil yn rhoi sylfaen gryfach a chadarnach inni wneud hynny, os oes angen. Alun Davies AC: A allaf bwyso arnoch ynghylch yr archfarchnadoedd? Rwy'n credu bod llawer ohonom yn bryderus am weithwyr hefyd. Mae nifer o bobl wedi cysylltu â mi yn eithaf siomedig, dros nos, sydd wedi cael gwybod bod yn rhaid iddyn nhw fynd i'r gwaith. Mae'n amlwg nad yw eu gwaith yn hanfodol mewn unrhyw ffordd realistig ar hyn o bryd. A oes pwerau, neu a oes pwerau yn bodoli, i alluogi naill ai'r Llywodraeth hon neu Lywodraeth y Deyrnas Unedig i weithredu a diogelu'r gweithwyr hynny rhag gweithredoedd yn y dyfodol gan gyflogwyr diegwyddor? Vaughan Gething AC: Wel, os ydych chi'n sôn am ychwanegiadau pellach at hawliau gweithwyr, efallai y bydd hynny'n anodd. Fodd bynnag, mae'n bosib bod gennym—yn enwedig os caiff y Bil hwn ei basio ac y daw'n Ddeddf—bwerau pellach a chliriach i gau ymgymeriadau ychwanegol, a byddai hynny'n rhoi rhai o'r amddiffyniadau i'r aelodau hynny. Mae'r enghraifft Sports Direct a'r sylwebaeth sy'n cylchredeg o amgylch y gadwyn Wetherspoon a'r neges y maen nhw wedi'i rhoi i'w hundeb llafur a'u gweithwyr yn enghreifftiau da o'r union beth nad ydym eisiau ei weld. Felly, oes, mae yna bwerau sydd ar eu ffordd yn y Bil hwn a fydd yn rhoi sylfaen gadarnach i ni. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu ac yn gwneud yr hyn sy'n briodol yn ein barn ni bryd hynny. Byddai'n well gennym gael safbwynt cytûn pedair gwlad ar bron popeth yr ydym yn ei wneud, ond lle'r ydym yn credu bod angen gweithredu, yna byddwn yn gwneud hynny beth bynnag. Felly yr oedd y camau a gymeron ni ar garafanau a mannau prydferth, er enghraifft, ddoe, cyn i Lywodraeth y DU wneud cyhoeddiadau ac, yn wir, cyn yr Alban a Gogledd Iwerddon, oherwydd bod gennym y pwerau sydd ar gael i ni nad oes ganddyn nhw ar hyn o bryd hefyd. O ran amrywiaeth o'r sylwadau a wnaed gan Suzy Davies ar y prinder gweithlu o ran asesiadau iechyd meddwl, mae'n bwysig cydnabod efallai na fydd gennym gyflenwad parod o feddygon ar ryw adeg yn y dyfodol ac, mewn gwirionedd, efallai nad ydym yn diogelu'n briodol y bobl sydd angen bod mewn lle gwahanol i gael gofal os nad ydym yn newid, neu os nad oes gennym y gallu i newid, y ffordd y darperir yr asesiadau hynny. O ran gwaith hanfodol, rwy'n cydnabod y bydd angen inni ystrywio'r canllawiau—bu cwestiynau yn ei gylch—i ddarparu atebion ac i gael atebion cyson i bobl mewn busnesau ac yn y gweithlu. Gallaf gadarnhau hefyd fod y warchodaeth rhag dadfeddiannu yn cynnwys Cymru hefyd—mae Julie James wedi bod yn glir iawn am hynny ac rwy'n glir iawn ynglŷn â hynny fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am y Bil o'r safbwynt hwn—ac mae'n bosib, wrth gwrs, y bydd yna fesurau pellach. O ran pwyntiau Joyce am bobl ar y rheng flaen, rwy'n credu ei bod yn werth eich atgoffa bod y Bil hwn yn ymwneud ag amddiffyn pobl yn y rheng flaen. Rydym yn meddwl am y rheng flaen mewn ffordd wahanol nawr—pobl sy'n gyrru lorïau dosbarthu, pobl sy'n gweithio ym maes manwerthu bwyd, maen nhw yn bendant ar y rheng flaen, lawn cymaint ag y mae'r fferyllwyr cymunedol a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol hefyd. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cwestiynau ac am eu cefnogaeth i allu'r lle hwn i gytuno y dylid pasio'r Bil hwn i roi'r pŵer i Weinidogion Cymru ddiogelu'r cyhoedd. Gyda hynny, fe wnaf i gloi a gofyn i'r Aelodau gefnogi'n ffurfiol y cynnig cydsyniad deddfwriaethol sydd ger ein bron. Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw bod y cynnig yn cael ei gytuno. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 16. Cynnig i gymeradwyo'r penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) Mae eitem 15 ac eitem 16 ar ein hagenda wedi'u tynnu'n ôl. 17. Cynnig i atal Rheolau Sefydlog Mae eitem 17 yn gynnig i atal y Rheolau Sefydlog. Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i gynnig y cynnig. Cynnig NNDM7317 Elin Jones Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8: Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) a'r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i’r eitem fusnes nesaf gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth, 24 Mawrth 2020. Cynigiwyd y cynnig. Siân Gwenllian AC: Cynnig. Iawn diolch. Y cynnig yw atal y Rheolau Sefydlog. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig, eto yn unol â'r Rheolau Sefydlog. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 18. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog Mae eitem 18 yn gynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog ac, unwaith eto, galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i gynnig y cynnig. Unrhyw aelod? Cynnig NNDM7318 Elin Jones Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Busnes y Cynulliad a Gweithdrefnau Argyfwng' aosodwydyn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Mawrth 2020. 2. Yn cymeradwyo'r cynnig i: (i) ddiwygio’r Rheolau Sefydlog er mwyn ychwanegu Rheol Sefydlog 34 newydd, fel y nodir yn Atodiad A o adroddiad y Pwyllgor Busnes; a (ii) yn dirymu Rheolau Sefydlog 6.24A-H a 12.1A-C a dderbyniwyd ar 18 Mawrth 2020. 3. Yn nodi bod y newidiadau hyn yn rhai dros dro, ac y byddant yn peidio â chael effaith pan gaiff y Cynulliad hwn ei ddiddymu, neu pan fydd y Cynulliad yn penderfynu felly, pa un bynnag sydd gyntaf. Cynigiwyd y cynnig. Siân Gwenllian AC: Cynnig. Diolch. Felly, y cynnig yw diwygio'r Rheolau Sefydlog. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Daw hynny â ni at ddiwedd trafodion heddiw, ond a gaf i ddiolch i chi am eich amynedd? Nid oes gennym restr wirioneddol ac roeddem yn ychwanegu pobl ac yn tynnu pobl allan, felly diolch yn fawr iawn a gobeithio y byddwn ni i gyd yn aros yn ddiogel. Diolch. Daeth y cyfarfod i ben am 13:47. QNR Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru Suzy Davies: Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch rhoi cymorth i landlordiaid a thenantiaid ym mhob sector yng ngoleuni'r achosion o coronafeirws? Mark Drakeford: The Welsh Government is working closely with the sector to secure the help needed. I welcome the undertakings from both local authorities and Community Housing Cymru that social tenants will not be evicted for financial hardship during the outbreak. I also welcome the advice of the Residential Landlords Association. John Griffiths: Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda llywodraeth leol yng Nghymru i ymateb i'r achosion o coronafeirws? Mark Drakeford: We work closely with the political and officer leadership in Welsh local government to assist them in the enormous effort local authorities are making to assist individuals and communities in the current crisis. Janet Finch-Saunders: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am recriwtio staff yn y sector gofal cymdeithasol? Mark Drakeford: The Welsh Government recognises the importance of attraction, recruitment and retention of vital workers into social care. The WeCare.Wales campaign, commissioned and launched in March last year, attracted many thousands of new people to learn of the rewards that a social care career can bring. Carwyn Jones: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effaith coronafeirws ar arholiadau ysgolion yng Nghymru eleni? Mark Drakeford: Due to these exceptional circumstances, on 18 March, the Minister for Education announced that the summer exam series would not go ahead. Learners due to sit their GCSEs and A-levels this summer will be awarded a fair grade to recognise their work, drawing on all available information. Dai Lloyd: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiogelu data yn y GIG? Mark Drakeford: Sharing information safely is a cornerstone of modern healthcare in Wales. Data in the NHS is protected, whether on paper or in a digital format. A new NHS Wales information governance statement has been issued in response to the extraordinary circumstances we face. The statement has been endorsed by the Information Commissioner's Office. Mick Antoniw: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cymorth sydd ar gael i fusnesau a chyflogeion yn ystod y pandemig coronafeirws? Mark Drakeford: We recognise the incredibly difficult and uncertain circumstances that businesses are experiencing and are absolutely committed to providing the support and assurance the business community needs. Following the initial package of £200 million support announced on 17 March, we have now extended this and will be providing almost £1.4 billion of support for businesses. Gareth Bennett: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r economi yng Nghanol De Cymru? Mark Drakeford: We are doing everything we can to protect businesses and jobs throughout Wales during this unprecedented time, including an extra £1.4 billion of financial support. Neil McEvoy: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i brofi ac olrhain achosion o coronafeirws, fel y mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi galw am ei wneud? Mark Drakeford: The Minister for Health and Social Services issued written statements on 18 and 20 March on testing. Dawn Bowden: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarpariaethau ar gyfer pobl ddigartref yn ystod yr argyfwng coronafeirws? Mark Drakeford: We have made additional funding of up to £10 million available to local authorities to enable them to support those without a home so they can be protected, supported, and isolated if necessary during the crisis. This funding reflects the intensive support needed in the sector and the vulnerability of this group. David Rees: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi banciau bwyd yn ystod yr argyfwng coronafeirws? Mark Drakeford: This financial year we have provided £2 million through the European transition fund to support resilience for emergency food organisations and promote food security. The coronavirus crisis presents new problems for food banks and we are currently considering how we can best support them. Joyce Watson: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r risg o gynnydd mewn trais domestig yn ystod y cyfnod o ynysu oherwydd yr achosion o coronafeirws? Mark Drakeford: Our Live Fear Free helpline and website will continue to offer support 24/7 throughout the pandemic. We have been working closely with our national advisers and key partners to identify vulnerabilities, mitigations and contingencies to ensure victims and survivors are safe during these exceptional circumstances.
uk-hansard-senedd-cy
senedd2020-03-24
2024-06-01T00:00:00
{ "year": "2020", "language": "cy", "license": "Open Parliament Licence - https://www.parliament.uk/site-information/copyright-parliament/open-parliament-licence/" }
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. Datganiad gan y Llywydd Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn y Siambr ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, lle bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda chi. Dwi eisiau atgoffa'r Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod yma, ac yr un mor berthnasol i Aelodau yn y Siambr ag i'r rhai sy'n ymuno drwy gyswllt fideo. 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog Dyma ni, felly, yn cyrraedd yr eitem gyntaf, sef y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Rhun ap Iorwerth. Argaeledd Tai yn Ynys Môn Rhun ap Iorwerth AC: 1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am argaeledd tai yn y farchnad leol yn Ynys Môn? OQ56522 Mark Drakeford AC: Llywydd, diolch yn fawr. Mae pwysau sylweddol o ran nifer y tai sydd ar gael yn Ynys Môn. Yn ogystal â’r camau sydd ar waith yn barod—Cymorth i Brynu, swyddogion galluogi tai gwledig, a’r gronfa safleoedd segur, er enghraifft—byddwn ni’n cyflwyno cynigion newydd i helpu pobl o gymunedau lleol i gael tai, gan gynnwys cymunedau yn Ynys Môn. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch yn fawr i chi, ac a gaf i eich llongyfarch ar eich ailethol yn Brif Weinidog? A dwi'n meddwl ei bod hi'n briodol iawn bod y cwestiwn cyntaf yn y tymor seneddol newydd yma yn ymwneud â mater sy'n gymaint o argyfwng ac yn un mae pobl yn mynnu gweld gweithredu arno fo. Un cyfraniad cwbl amlwg at yr argyfwng tai ydy'r twf cwbl ddireolaeth yn y farchnad am ail gartrefi. Dwi'n ei weld o bob dydd. Dwi'n ei weld o yn fy mhentref fy hun. Dwi'n ei weld o mewn pentrefi glan môr yn enwedig. Dwi'n ei weld o yn strydoedd gwag a ffenestri tywyll y gaeaf, yn rhwystredigaeth pobl ifanc yn methu fforddio cael cartref yn eu cymuned. Dwi'n ei weld o yn y cynnydd o 16 y cant mewn pris eiddo ar Ynys Môn yn y flwyddyn ddiwethaf. Mae pethau'n mynd yn waeth bob dydd. Ac a gaf i wahaniaethu'n glir rhwng perchnogaeth ail gartrefi a thwristiaeth? Mae twristiaeth gynhenid, wedi'i pherchnogi'n lleol, yn arf economaidd pwysig, ond dydy perchnogaeth ail gartrefi ddireolaeth yn helpu dim. Oes, mae angen gwell swyddi efo cyflogau uwch. Oes, mae eisiau adeiladu llawer mwy o dai gwirioneddol fforddiadwy i'w prynu a'u rhentu, ond mae'n rhaid i'ch Llywodraeth chi yn y Senedd yma weithredu ar frys i ddefnyddio pob arf cynllunio a threthiant, ac ati, i geisio dod â rhyw fath o reolaeth ar y farchnad dai, ac i roi rhyw fath o obaith, rhyw fath o siawns i bobl yn ein cymunedau ni. Dwi ac eraill wedi gofyn am weithredu ers blynyddoedd. A gaf i ofyn i chi reit ar ddechrau'r tymor yma i roi ymrwymiad llwyr a chlir, neu mi fydd hi'n rhy hwyr? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, diolch yn fawr i Rhun ap Iorwerth am y cwestiwn yna. Bydd yr Aelod yn gwybod bod hwn—ail gartrefi—yn fater rydw i wedi cynnig gweithio yn drawsbleidiol arno'n benodol. Ysgrifennais at arweinydd Plaid Cymru yr wythnos diwethaf yn cadarnhau bod y Llywodraeth yn barod i ystyried nifer o faterion yn y ffordd honno, a dwi'n edrych ymlaen at y sgwrs rŷn ni'n mynd i'w chael cyn diwedd y prynhawn. Rydw i wedi gweld cynllun pum pwynt Plaid Cymru, a dwi'n siŵr bod syniadau yn y cynllun yna y byddwn ni'n gallu gweithio arnyn nhw gyda'n gilydd. Dwi'n cytuno gyda beth ddywedodd Rhun ap Iorwerth. Mae'n rhaid i ni ddefnyddio nifer o'r pethau sydd gyda ni ym maes trethi, ym maes cynllunio, a rhai pethau eraill—eu tynnu nhw gyda'i gilydd i drio gwneud gwahaniaeth yn y sefyllfa mae e wedi ei hesbonio y prynhawn yma, ac i'w wneud e, os gallwn ni, trwy gydweithio â'n gilydd. Sam Rowlands MS: Diolch, Prif Weinidog, am eich ymatebion hyd yn hyn i'r pwyntiau pwysig a godwyd gan Rhun. Yn sicr, mae pwysau ychwanegol ar y farchnad dai oherwydd perchnogaeth ail gartrefi, ond, efallai fod perygl o gael ein gweld yn chwarae'r crwth a Rhufain yn llosgi os mai dyna fydd y prif bwyslais mewn ffordd i gefnogi'r maes gwaith pwysig hwn, mae'n debyg mai'r peth pwysicaf i gefnogi hyn fyddai gweld mwy o gartrefi yn cael eu hadeiladu mewn gwirionedd. Felly, er enghraifft, mae asesiad eich Llywodraeth eich hun o angen yn y gogledd yn dweud y dylid adeiladu 1,600 o gartrefi bob blwyddyn am yr 20 mlynedd nesaf. Ar hyn o bryd, dim ond 1,200 o gartrefi y flwyddyn sy'n cael eu hadeiladu. Yn amlwg felly, mae problem yn yr amgylchedd o ran buddsoddi mewn adeiladu cartrefi. Felly, beth fyddwch chi'n bwriadu ei wneud i wella'r amgylchedd hwnnw, i weld mwy o fuddsoddiad, mwy o gartrefi i'w hadeiladu, ac felly mwy o bobl yn cael cyfle i gael gafael ar yr eiddo hynny? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, nid wyf i'n anghytuno bod cyd-destun ehangach y mae'n rhaid ystyried cwestiwn Rhun ap Iorwerth oddi mewn iddo. Ond roedd yn gofyn yn benodol iawn am y cyfresi hynny o amgylchiadau lle mae perchnogaeth ail gartref mewn perygl o yrru pobl allan o'r cymunedau lleol hynny oherwydd bod prisiau eiddo yn mynd yn rhy ddrud iddyn nhw allu eu prynu oherwydd bod pobl o bellach i ffwrdd sydd â phocedi dyfnach yn gallu gwneud cais. Felly, er bod cyd-destun ehangach, nid dyna oedd pwyslais y cwestiwn a ofynnwyd i mi. O ran y cwestiwn ehangach ynghylch adeiladu mwy o gartrefi, mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i adeiladu 20,000 o gartrefi carbon isel at ddibenion rhentu cymdeithasol. Yr hyn na fyddwn ni'n ei wneud, Llywydd, yw ni fyddwn yn rhwygo'r amddiffyniadau y mae'r system gynllunio yn eu cynnig i unigolion a chymunedau lleol, fel y cynigir gan ei blaid ef yn Lloegr. Mae'r rhain yn amddiffyniadau pwysig a byddwn yn awyddus i'w gweld yn cael eu parhau yma yng Nghymru. Felly, er ein bod yn adeiladu mwy o dai, sy'n angenrheidiol yn y ffordd y mae cyfrifiadau Llywodraeth Cymru wedi'u nodi, rydym yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n cydbwyso'n briodol yr angen am dai newydd a'r amddiffyniadau sydd gan gymunedau lleol yn briodol, er mwyn sicrhau y gellir diogelu eu dyfodol hwythau hefyd. Carolyn Thomas AS: Gwn fod y sefyllfa dai yn anodd i drigolion Ynys Môn. Mae wedi bod yn amlwg i mi drwy negeseuon e-bost fod angen mwy o dai fforddiadwy ar breswylwyr—felly, yn yr un modd. Prif Weinidog, rwy'n cymeradwyo Llywodraeth Cymru am gyrraedd ei tharged uchelgeisiol o 20,000 o dai fforddiadwy—dim ond y tymor diwethaf oedd hynny—ac am ymrwymo i adeiladu 20,000 o gartrefi carbon isel eraill y tymor hwn. Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi darparu cyllid trawsnewidiol hefyd ar gyfer tai cymdeithasol i awdurdodau lleol, fel sir y Fflint, lle'r wyf i'n aelod. Ac rydym ni'n bwriadu adeiladu 500 o dai fforddiadwy yn sir y Fflint, gan ganiatáu iddyn nhw adeiladu cartrefi fforddiadwy wrth greu swyddi a phrentisiaethau i bobl leol hefyd—felly mae'n creu swyddi hefyd. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r cynlluniau sydd gan ei Lywodraeth Lafur newydd yng Nghymru ar gyfer adeiladu cartrefi, trwy awdurdodau lleol, er mwyn helpu i fynd i'r afael â phrinder tai yn yr ardaloedd hyn lle mae pobl yn ei chael hi'n anodd fforddio cartref? Diolch. Mark Drakeford AC: Lywydd, a gaf i longyfarch yr Aelod ar gael ei hethol i'r Siambr, ac ar ei chyfraniad cyntaf hwn at ein dadleuon, a chyfraniad pwysig ydoedd hefyd? Oherwydd mae ein huchelgais i adeiladu 20,000 o gartrefi ar gyfer rhentu cymdeithasol yn dibynnu ar gapasiti newydd i'n cydweithwyr mewn awdurdodau lleol i adeiladu tai i'w rhentu yn y cymunedau hynny, lle mae'r stociau hynny, yn rhy aml o lawer, wedi'u lleihau gan bolisïau a hyrwyddir gan bleidiau eraill. Ac mae cynlluniau uchelgeisiol mewn nifer o rannau o Gymru i awdurdodau lleol chwarae eu rhan. A bydd y Llywodraeth hon yn sicr, trwy gyllid, ond hefyd trwy'r partneriaethau y byddwn yn eu creu, drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac eraill, yn ceisio sicrhau'r cyfraniad mwyaf y gall awdurdodau lleol ym mhob rhan o Gymru ei wneud i sicrhau bod tai fforddiadwy ar gael i'w rhentu i'r poblogaethau lleol hynny—pobl sy'n gweld eu dyfodol yn y cymunedau hynny ac sy'n awyddus i wybod bod ganddyn nhw dai y gallan nhw ddibynnu arnyn nhw, a fydd yno yn y tymor hir ac a fydd yn caniatáu iddyn nhw chwarae'r rhan y maen nhw'n dymuno ei chwarae wrth adeiladu dyfodol iddyn nhw eu hunain ac i'w cymunedau ehangach. Blaenoriaethau Economaidd John Griffiths AC: 2. Beth yw blaenoriaethau economaidd uniongyrchol Llywodraeth Cymru ar gyfer tymor y Senedd hon? OQ56527 Mark Drakeford AC: Lywydd, diolchaf i John Griffiths am hynna. Ymhlith ein blaenoriaethau pwysicaf mae parhau â'r gefnogaeth i fusnesau tra bod yr argyfwng coronafeirws yn parhau a gweithredu ein gwarant pobl ifanc o gynnig o waith, addysg neu hyfforddiant i bawb sydd o dan 25 oed yng Nghymru. John Griffiths AC: Prif Weinidog, mae canol ein dinasoedd a'n trefi yn bwysig iawn ar gyfer gweithgarwch economaidd a swyddi, ac yn bwysig iawn mewn ffyrdd eraill, fel lleoedd i bobl gyfarfod, o ran yr ymdeimlad hwnnw o falchder lleol ac, yn wir, ymdeimlad o les. Yng Nghasnewydd, fel mewn lleoedd eraill ledled y DU, rydym yn wynebu llawer o heriau yn sgil newidiadau mewn arferion siopa manwerthu i ddigwydd ar-lein. Yn ddiweddar, mae Debenhams wedi cau. Ond mae llawer o waith da yn cael ei wneud: prosiect mawr i ailwampio marchnad Casnewydd, gwesty newydd mawr a llawer o bethau eraill hefyd. Mae'r gwaith da hwnnw, Prif Weinidog, o ganlyniad i waith partneriaeth cryf rhwng Cyngor Dinas Casnewydd, Llywodraeth Cymru, busnesau ac eraill, ac mae wedi arwain at lawer o ddatblygiadau preswyl newydd, darpariaeth gwasanaethau a darpariaeth hamdden yng nghanol y ddinas. Ond, wrth gwrs, rydym yn wynebu heriau newydd erbyn hyn yn sgil y pandemig a'r newid parhaus ym maes manwerthu. Felly, Prif Weinidog, tybed a wnewch chi roi sicrwydd heddiw y bydd y gwaith partneriaeth cryf—cryf iawn—hwnnw rhwng Llywodraeth Cymru, Cyngor Dinas Casnewydd a phartneriaid eraill yn parhau ac yn cynnal y newid hwnnw yr ydym wedi ei weld eisoes, a sicrhau bod canol dinas Casnewydd yn addas i ateb heriau'r dyfodol. Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, a gaf i ddiolch i John Griffiths am hynna? Mae e'n cyfeirio at her polisi cyhoeddus wirioneddol ein cyfnod ni. Roedd dyfodol manwerthu ar ein strydoedd mawr eisoes yn un heriol cyn y coronafeirws, ac mae hynny'n sicr wedi ychwanegu at yr heriau y mae'r sector hwnnw'n eu hwynebu. Ond mae John Griffiths yn iawn, Llywydd, mai'r hyn y mae hynny'n ei olygu yw bod yn rhaid i ni ail-ddychmygu’rdyfodol, nid ceisio ail-greu'r gorffennol yn y presennol, a bydd hynny'n golygu ystod ehangach o weithgareddau a fydd yn dod â phobl i ganol trefi a chymunedau a dinasoedd, gan gynnwys defnydd preswyl o'r canol trefi hynny, math gwahanol o weithgareddau manwerthu a gweithgareddau eraill hefyd. Yn ystod mis Ebrill, fe wnes i lwyddo i ymweld â chanol dinas Casnewydd gyda Mr Griffiths, ac fe wnaethom gyfarfod â busnesau yno a oedd wedi agor yn ystod y pandemig ac a oedd yn dangos ei bod hi'n dal i fod yn bosibl i'r busnesau hynny lwyddo, gan ddefnyddio'r buddsoddiadau y mae Llywodraeth Cymru a gweithredwyr lleol eraill wedi'u gwneud i ail-greu canol dinas Casnewydd, boed hynny'n fuddsoddiad yn y farchnad, yn y llyfrgell, yn y ganolfan hamdden neu yng ngwesty'r Chartist Tower, y cyfeiriodd John Griffiths ato. Ond mae hefyd yn cynnwys y brifysgol, gan sicrhau bod bywyd yng nghanol y ddinas honno a fydd yn denu mwy o bobl iddi. Ac, i ateb ei gwestiwn sylfaenol ynghylch pa un a fydd y dull partneriaeth yr ydym wedi ei ddefnyddio i ailddatblygu canol trefi dros y pum mlynedd diwethaf yn parhau yn y tymor hwn, yna, bydd, yn sicr dyna'r ffordd y byddwn yn blaenoriaethu gwaith adfywio dinasoedd a threfi: partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, busnesau eu hunain a phartneriaid mawr eraill yn y sector cyhoeddus sy'n gallu gwneud y gwahaniaeth hwnnw a sicrhau bod gan y canolfannau hynny fywyd a fydd yn denu pobl iddyn nhw yn y dyfodol. Joel James. Joel James MS: Diolch, Llywydd, ac a gaf i achub ar y cyfle hwn i'ch llongyfarch ar eich ailethol ac, yn yr un modd, i'r Prif Weinidog. Prif Weinidog, y llynedd, cafodd Stryd Fawr Treorci ei henwi yr orau yn y DU a chafodd ei chanmol am ei siopau annibynnol a'i hysbryd cymunedol. Fodd bynnag, mae'n peri siom nad yw'r llwyddiant hwnnw wedi'i wasgaru'n gyfartal ar draws Canol De Cymru. Yn ddiweddar, cafodd Tonypandy a'r Porth eu henwi ymhlith yr 20 tref fwyaf agored i niwed economaidd yn y DU. Yn anffodus, mae'r pandemig wedi gwaethygu'r anghydraddoldebau presennol hyn hyd yn oed ac wedi tynnu sylw at yr angen am gynllun beiddgar, uchelgeisiol i helpu'r stryd fawr i godi yn ôl ar ei thraed ac i ddarparu swyddi lleol da i bobl leol. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi fod angen i ni roi hwb i fusnesau bach er mwyn cefnogi'r stryd fawr ledled Cymru, trwy sefydlu parthau sy'n rhydd o ardrethi busnes, a diwygio ardrethi busnes fel nad ydyn nhw'n dreth hen ffasiwn ar dwf mwyach? Diolch. Mark Drakeford AC: Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna ac am ei agoriad hael iddo. Yn ystod mis Ebrill, fe lwyddais i ymweld â strydoedd mawr Treorci a Thonypandy. Siaradais â llawer o fusnesau yno, Llywydd, ac mae gwersi y gall gwahanol gymunedau eu dysgu oddi wrth ei gilydd lle mae llwyddiant wedi ei gyflawni ac yna cymhwyso rhai o'r gwersi hynny mewn mannau eraill. Ac roedd yn wych cael y cyfle i fod yno gyda fy nghyd-Aelod Buffy Williams a chael y sgyrsiau hynny. Nawr, mae busnesau yng Nghymru, Llywydd, yn gwybod bod ganddyn nhw wyliau rhyddhad ardrethi i fusnesau bach o 12 mis am y flwyddyn gyfan i ddod ac mae hynny'n wahaniaeth llym i'r hyn a fydd yn digwydd dros ein ffin, wrth gwrs, lle bydd yn rhaid i'r busnesau hynny ddechrau talu ardrethi unwaith eto hanner ffordd drwy'r flwyddyn ariannol hon. Rwy'n cytuno bod angen ailystyried y system gyfan o ran sut yr ydym yn codi trethi lleol, ond nid yw hynny'n ddadl yn erbyn codi trethi lleol. Mae busnesau'n elwa ar yr holl wasanaethau cyhoeddus sy'n caniatáu iddyn nhw fasnachu'n llwyddiannus, boed hynny'n adeiladu ffyrdd a phalmentydd sy'n arwain eu cwsmeriaid atyn nhw, boed hynny'n sicrhau pan fydd eu gweithwyr yn sâl eu bod yn gallu defnyddio'r gwasanaeth iechyd gwladol, neu boed hynny drwy'r buddsoddiad mawr yr ydym ni'n ei wneud mewn addysg a sgiliau i sicrhau bod gweithlu ar gael ar gyfer y dyfodol. Mae busnesau'n elwa ar hynny i gyd ac mae'n iawn eu bod nhw'n cyfrannu at yr amodau sy'n caniatáu iddyn nhw lwyddo. Mae'r modd yr ydym yn gwneud hynny, rwy'n cytuno, yn fater gwahanol, ac mae nifer o syniadau mewn gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig y byddwn yn awyddus i'w hystyried wrth i ni feddwl am ffyrdd y gallwn wneud y system honno'n fwy effeithiol ar gyfer y dyfodol. Cefin Campbell. Cefin Campbell MS: Diolch yn fawr iawn, Madam Llywydd, a llongyfarchiadau i chi ar gael eich ethol a llongyfarchiadau i'r Prif Weinidog yn yr un modd. Fy nghwestiwn i yw hwn: a fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno â fi fod heriau economaidd arbennig yn wynebu cymunedau gwledig Cymru sydd angen mynd i'r afael â nhw fel mater o frys? Fe fydd e, wrth gwrs, yn ymwybodol bod lefelau incwm y pen a lefelau sgiliau yn yr ardaloedd hyn yn is na chyfartaledd Cymru, ac mae'n hysbys iddo hefyd fod yr argyfwng ail gartrefi—fel rŷn ni wedi clywed yn barod gan Rhun ap Iorwerth—a'r diffyg tai fforddiadwy ynghyd â diffyg swyddi o ansawdd yn arwain at allfudo gan bobl ifanc, sy'n cael effaith niweidiol ar ddemograffeg a'r ffabrig cymdeithasol. Ac mae effaith hyn wrth gwrs yn niweidiol iawn i'r iaith Gymraeg mewn ardaloedd lle mae'r Gymraeg yn para i fod yn iaith fyw. Felly, ydy'r Prif Weinidog yn barod i dderbyn bod angen i'r Llywodraeth roi blaenoriaeth i ddatblygu strategaeth a chynllun gweithredu penodol i adfywio ein hardaloedd gwledig, lle mae'r holl elfennau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol yn gallu dod at ei gilydd mewn ffordd integredig a holistaidd? Achos, ar ôl 22 o flynyddoedd, does yna ddim ffocws penodol, mor bell â dwi'n gwybod, Brif Weinidog, wedi cael ei roi i'n hardaloedd gwledig ni. Ydy e'n cytuno bod angen i hyn newid? Mark Drakeford AC: Diolch yn fawr i Mr Campbell am y cwestiwn yna, ac, wrth gwrs, mae'r cyd-destun yn heriol i bob cwr o Gymru ar ôl y pandemig. Mae lot o her yn yr ardaloedd gwledig, fel y mae Cefin Campbell wedi sôn amdani, ond mae'n heriol, dwi'n gallu dweud wrtho fe, yng Nglan yr Afon yn fy etholaeth i yng nghanol y ddinas. Mae'r heriau yn wahanol, ond mae'r heriau yna ym mhob man. Dwi ddim cweit yn cytuno ag e, dros y cyfnod o ddatganoli i gyd, nad ydym wedi canolbwyntio ar bethau gwledig. Roedd y Llywydd ei hun yn Weinidog dros gefn gwlad yn Llywodraeth Cymru'n Un, ac, yn y tymor diwethaf, roeddem ni'n defnyddio adroddiad gan Rhodri Glyn Thomas ar sut y gallwn ni ddefnyddio'r iaith Gymraeg fel rhywbeth sy'n gallu hybu datblygiad economaidd yn y gorllewin. So, rŷn ni wedi gwneud nifer o bethau pwysig. Wrth gwrs, mae yna fwy rŷn ni'n gallu ei wneud, a dwi'n edrych ymlaen at drafod gydag Aelodau ar lawr y Senedd syniadau i helpu cefn gwlad Cymru, cymunedau gwledig a chymunedau eraill sy'n wynebu dyfodol sy'n heriol pan fyddwn ni'n treial dod mas o'r cyfnod anodd diwethaf. Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies. Andrew RT Davies AC: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, rwyf wedi arfer â chael fy nghyfran deg o benawdau negyddol yn y Western Mail, ond yr wythnos diwethaf cyhoeddodd y Western Mail bennawd a oedd yn dweud bod busnesau wedi cael cyllell yn eu cefnau gan Drakeford. Aeth ymlaen ar y tu mewn i ddweud eu bod yn teimlo eu bod wedi cael eu dyrnu yn eu boliau gan Lywodraeth bresennol Cymru. Ydych chi'n credu bod hynny'n adlewyrchiad teg o'r cymorth yr ydych chi wedi ei roi i fusnesau ers i'r pandemig ddechrau? Mark Drakeford AC: Wel, roedd y pennawd yn ddyfyniad o ddatganiadau i'r wasg a gyhoeddwyd gan ei blaid ef. [Chwerthin.] Efallai y dylai ddarllen ei ddatganiadau ei hun i'r wasg cyn iddo ddarllen y Western Mail, Llywydd. Mae fy rhoi i mewn pennawd yn y papur newydd a ysbrydolwyd gan ei blaid ef ei hun fel pe byddai hyn rywsut yn sylw teg, wel, yn wir, nid yw hynny'n ddechrau da, nac ydyw, i'w gwestiwn cyntaf ar y llawr yn y fan yma. A yw'n sylw teg? Wrth gwrs nad ydyw. Andrew RT Davies AC: Mae'n sylw teg iawn oherwydd, mewn gwirionedd, daeth y sylw hwnnw gan berchennog busnes yn y gogledd, Prif Weinidog; nid oedd yn sylw o ddatganiad i'r wasg gan y Ceidwadwyr— Mark Drakeford AC: Rwyf i wedi gweld y datganiad i'r wasg. Andrew RT Davies AC: —ond rydym ni wedi rhoi sylwadau ynghylch y diffyg cymorth yr ydych chi wedi ei roi ar y bwrdd i fusnesau ar hyd a lled Cymru. Pam nad ydych chi wedi rhoi cymorth ar gyfer grantiau cychwyn busnes i sicrhau y gall busnesau ail-gyfalafu eu hunain? Rydym ni'n gwybod bod gennych chi £140 miliwn heb ei ddyrannu o hyd o'r £200 miliwn a nodwyd gennych yn ystod ymgyrch yr etholiad. Onid yw'n adlewyrchiad teg bod angen ail-gyfalafu busnesau? A phan eich bod yn cael sylwadau fel yna, nid sylwadau gwleidyddion yw hynny—perchnogion busnes eu hunain yw hynny yn dweud eu bod yn teimlo eu bod wedi eu siomi gan Lywodraeth Cymru. Felly, a wnewch chi heddiw amlinellu'r hyn y byddwch yn ei wneud gyda'r £140 miliwn ychwanegol sydd ar gael gennych chi yng nghyllideb Llywodraeth Cymru i gefnogi busnesau yma yng Nghymru? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, mae cwestiwn mwy synhwyrol yn y cyfraniad yna, ond gadewch i mi roi ychydig o ffeithiau ar y cofnod yn gyntaf. Yma yng Nghymru rydym ni wedi dyrannu £2.3 biliwn mewn grantiau coronafeirws a rhyddhad i fusnesau yng Nghymru. Beth ydym ni wedi ei gael gan ei Lywodraeth ef yn San Steffan ar gyfer ariannu'r £2.3 biliwn hwnnw? Rydym ni wedi cael £1.9 biliwn mewn symiau canlyniadol busnes. Os mai ei gynnig o ddifrif o'i sefyllfa eisteddog yw y dylem ni fod wedi defnyddio arian a roddwyd i ni ar gyfer gofal coronafeirws i gleifion i roi—[Torri ar draws.] Llywydd, rwy'n clywed arweinydd yr wrthblaid yn dweud wrthyf ein bod ni wedi cael £6 biliwn gan Lywodraeth y DU, fel petai hynny i gyd ar gael i fusnesau. Ai ei gynnig o ddifrif yw y dylem ni fod wedi defnyddio'r arian a roddwyd i ni at ddibenion profi, olrhain, diogelu, at ddibenion brechu, at ddibenion dal i fyny yn ein hysgolion—y dylai hynny i gyd fod wedi ei ddefnyddio ar gyfer cymorth busnes yng Nghymru? Os mai dyna ydyw, gadewch iddo ddweud hynny. Ei fod yn ddewis y gallai ef fod wedi ei gynnig. Fodd bynnag, nid wyf i'n tybio ei fod o gwbl. Rydym ni wedi cael £1.9 biliwn mewn symiau canlyniadol, ac rydym ni wedi darparu £2.3 biliwn—£400 miliwn yn fwy—i fusnesau yng Nghymru nag y bydden nhw wedi ei gael pe bydden nhw wedi bod yr ochr arall i'r ffin. Nawr, mae ei gwestiwn ynglŷn â sut yr ydym ni'n defnyddio'r arian sy'n dal i fod wedi ei neilltuo yn un pwysig, ac mae fy nghyd-Aelod Vaughan Gething, mi wn, yn gweithio gyda'i swyddogion i gynllunio'r defnydd gorau o'r arian hwnnw ochr yn ochr â busnesau sydd wedi teimlo'r effaith fwyaf ac yn enwedig y busnesau hynny y bydd cyfyngiadau coronafeirws yn parhau i effeithio fwyaf arnyn nhw. Mae'n rhaid i ni symud ymlaen o gyfnod pan oedd angen cymorth ar bron bob busnes i ganolbwyntio'r cymorth hwnnw ar y rhai hynny y mae amgylchiadau yn golygu nad ydyn nhw'n gallu ailddechrau gweithredu'n llawn. Dyna'r sgwrs yr ydym ni'n ei chael. Dyna sut y byddwn ni'n ail-grynhoi'r cyllid hwnnw. Rwy'n awyddus iddo fynd i ble y bydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf. Andrew RT Davies AC: Rwy'n sylweddoli bod y Prif Weinidog yn dymuno defnyddio tactegau dargyfeiriol dro ar ôl tro, ond mae'n ffaith bod y sylwadau a gyflwynais i chi yn sylwadau gan berchnogion busnes eu hunain sy'n teimlo eu bod wedi cael eu dyrnu yn eu boliau neu gael cyllell yn eu cefnau gan y Llywodraeth bresennol, sef eich Llywodraeth chi, Prif Weinidog. Mae'n ffaith bod yr arian hwnnw gennych chi heb ei ddyrannu yn y gyllideb, ac mae angen yr arian hwnnw ar fusnesau nawr. Nid oes angen iddyn nhw aros mis arall, chwe wythnos arall. Busnesau eu hunain yw'r rhain sy'n dweud bod angen yr arian arnyn nhw nawr, oherwydd bod angen iddyn nhw ail-gyfalafuar ôl bod yn y rhan o'r Deyrnas Unedig a oedd wedi cau am y cyfnod hwyaf, oherwydd fe wnaethom ni gau cyn i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig wneud hynny. Ond maes pwysig arall o'r economi i gael cysur gan Lywodraeth Cymru a dealltwriaeth o'r rheolau a'r rheoliadau yw'r sector lletygarwch a'r sector digwyddiadau, yn bwysig. Ac rwy'n gwerthfawrogi bod angen cydbwyso gofalus iawn yn hyn o beth, gan ein bod ni'n gwybod bod yr amrywiolyn Indiaidd yn cael gafael mewn rhannau o'r Deyrnas Unedig ac, yn wir, yma yng Nghymru. Ond beth yw barn y Prif Weinidog ar y rheoliadau y bydd yn rhaid i'r sectorau digwyddiadau yn arbennig ymdrin â nhw wrth symud ymlaen, pan ein bod yn gwybod bod gan rannau eraill o'r Deyrnas Unedig ddyddiad, sef 21 Mehefin? Rwy'n sylweddoli y gallai'r dyddiad hwnnw symud, Prif Weinidog; rwy'n sylweddoli y gallai'r dyddiad hwnnw symud. Ond rwy'n nodi heddiw fod rheolwr y Celtic Manor—[Torri ar draws.]—mae rheolwr y Celtic Manor yn dweud nad ydyn nhw'n gallu denu busnesau i Gymru oherwydd y rheolau presennol sy'n bodoli. Felly, ydych chi'n gallu cynnig unrhyw ddarlun i ni o'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu i bethau weithio ddiwedd yr haf a dechrau'r hydref, gyda'r cyfyngiadau y mae'n rhaid i'r sector digwyddiadau a'r sector lletygarwch eu gweithredu yma yng Nghymru? Mark Drakeford AC: Llywydd, byddaf yn ymdrin â rhan gyntaf cwestiwn yr Aelod yn gyntaf. Felly, un o'r penderfyniadau cyntaf a wnes i wrth ailddechrau yn y swydd hon ar ôl yr etholiad oedd rhyddhau £66 miliwn o'r £200 miliwn hwnnw i fynd yn uniongyrchol i fusnesau yng Nghymru. Erbyn diwedd yr ail ddiwrnod ar ôl agor y gronfa honno, roedd bron i 2,000 o geisiadau wedi eu derbyn am £10.1 miliwn, ac, erbyn heddiw, mae dyfarniadau eisoes wedi eu cynnig i'r cyntaf o'r busnesau hynny a wnaeth gais, a bydd yr arian hwnnw gyda nhw erbyn dechrau'r wythnos nesaf. Bwriad yr arian hwnnw yw cefnogi'r busnesau hynny trwy fis Mai a thrwy fis Mehefin hefyd, ac ar yr adeg honno byddwn yn gallu cytuno, trwy drafodaethau gyda'r sectorau, ar y ffordd orau o ddefnyddio rhywfaint o'r arian a fydd yn weddill bryd hynny. Felly, hoffwn i fod yn glir gyda'r Aelodau nad oes unrhyw fusnes nad yw'n gallu hawlio cymorth. Mae busnesau eisoes yn hawlio cymorth o'r £66 miliwn. Mae penderfyniadau i ddyfarnu cyllid eisoes wedi eu gwneud, ac mae'r arian ar ei ffordd iddyn nhw. Mae'n bwynt pwysig iawn y mae'r Aelod yn ei godi ynghylch lletygarwch a'r sector digwyddiadau, a hoffwn pe gallwn i roi ateb mwy pendant iddyn nhw nag y gallaf ei wneud. Rydym ni wedi symud i gyfyngiadau lefel 2. Bydd y Cabinet yn ystyried, yr wythnos hon a'r wythnos nesaf, a yw hi'n ddigon diogel yng Nghymru i symud i gyfyngiadau lefel 1 ai peidio, a byddai hynny'n rhoi mwy o ryddid i'r sectorau lletygarwch a digwyddiadau i allu ailgychwyn eu busnesau. Wrth gwrs, dyna'r hyn yr ydym ni eisiau ei weld yn digwydd. Rydym ni eisiau bod mewn sefyllfa ddigon cryf i'r sectorau hynny allu ailagor yn ddiogel a gallu denu cwsmeriaid yn ôl atyn nhw. Rwy'n gwybod, yn y cwestiwn nesaf, Llywydd, y byddwn ni'n sôn am ddigwyddiadau arbrofol yr ydym yn eu cynnal i ddysgu gwersi ynghylch y modd gorau o allu gwneud hynny. Ond mae'r cyd-destun yr ydym yn gwneud y penderfyniadau hynny ynddo yn un gwirioneddol heriol. Mae amrywiolyn India o'r coronafeirws eisoes yng Nghymru, fel y cydnabu arweinydd yr wrthblaid. Dros ein ffin, mae bellach yn lledaenu yn y gymuned. Mae'n dyblu bob pump i saith diwrnod yn y cymunedau hynny. Rydym ni'n gwybod ei fod yn fwy trosglwyddadwy. Rydym ni'n gwybod bod y brechlyn yn llai effeithiol wrth ymdrin ag ef. Cyhoeddodd Ysbyty Brenhinol Bolton apêl ddoe gan ei brif weithredwr i gleifion beidio â mynd yno, oherwydd y pwysau sydd ar yr ysbyty oherwydd yr achosion o goronafeirws yn y ddinas honno: wyth o bobl mewn gofal critigol yn yr un ysbyty hwnnw yn Lloegr—mwy na dwywaith nifer y bobl mewn gofal critigol yng Nghymru gyfan. Mae'n rhaid i ni symud ymlaen yn ofalus iawn, gan edrych ar y cyd-destun hwnnw, gan weld unrhyw effaith a allai fod yng Nghymru, ac yna gwneud penderfyniadau sydd mor ddefnyddiol i'r sector ag y gallwn eu gwneud, heb wneud yr hyn y mae'r sector ei hun wedi ei ofyn i ni drwy'r holl beth: peidio â chanfod ein hunain mewn sefyllfa lle mae'n rhaid i ni gau'r sector unwaith eto ar ôl ei agor. Fel y dywedodd arweinydd yr wrthblaid, mae'n gyfres o arfarniadau y mae angen ei cydbwyso'n fanwl, a byddwn yn parhau i wneud yr arfarniadau hynny yn ystod yr wythnos nesaf wrth i ragor o ddata ddod i law am yr hyn sy'n digwydd dros ein ffin a'r niferoedd yr ydym yn eu gweld yma yng Nghymru erbyn hyn. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price. Adam Price AC: Diolch, Llywydd. Pleidleisiodd pobl Cymru y mis hwn gan fwy na 2:1 dros bleidiau a safodd ar lwyfan i roi mwy o bwerau i'r Senedd. Ymateb San Steffan i'r mandad hwn hyd yma fu nid yn unig ei anwybyddu ond ceisio ei wrthdroi. Mae ganddyn nhw gynllun i Gymru; ond nid yw'n ein cynnwys ni. Osgoi'r Senedd o ran disodli cronfeydd yr Undeb Ewropeaidd; ailfrandio Trafnidiaeth Cymru yn 'Great British Railways'; Cymru i gael porthladd rhydd, pa un a ydym ni eisiau hynny ai peidio, ac efallai hyd yn oed dwnnel yn y môr Celtaidd, wedi ei grybwyll heb ymgynghori a chael ei adeiladu, yn ôl pob tebyg, yn yr un modd â ffordd liniaru'r M4, heb ein cydsyniad ni. Os byddwch yn ychwanegu Bil y farchnad fewnol, cytundeb masnach Awstralia, a chanolfan Llywodraeth y DU wedi ei llunio yn ôl pob golwg fel rhyw gadarnle imperialaidd at y rhestr, onid yw'n ymddangos fwyfwy fel diddymu yn llechwraidd? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, mae'n rhaid i mi gytuno ag arweinydd Plaid Cymru fod y rhestr o gyhuddiadau yn erbyn Llywodraeth bresennol y DU yn un hir a difrifol. Y cynllun honedig i Gymru—cynllun a wnaed ar gyfer Cymru heb Gymru: heb unrhyw sgwrs â Llywodraeth Cymru wrth ei lunio; dim gwahoddiad hyd yn oed i unrhyw sgwrs gyda'r Ysgrifennydd Gwladol cyn ei gyhoeddi, na hyd yn oed wahoddiad i'w lansiad. Mae'n rhaid i mi ddweud, roedd yn fwriadol, roedd yn herfeiddiola dyna'r hyn y bwriadwyd iddo fod. Nawr, dywedaf wrth yr Aelodau ar feinciau'r Ceidwadwyr yn y fan yma, os ydym ni o ddifrif ynglŷn â dyfodol y Deyrnas Unedig—ac rwyf i yn sicr o ddifrif ynglŷn â'r pwnc hwnnw—ni allwn ffurfio dyfodol iddi os yw Llywodraeth y DU yn credu mai'r ffordd o wireddu'r dyfodol hwnnw yw trwy geisio gwyrdroi y setliadau y cytunwyd arnyn nhw mewn dau refferendwm yma yng Nghymru. Ac eto, bob dydd—bob dydd—dyna maen nhw'n ei wneud. Ac wrth iddyn nhw wneud hynny, bydd pobl sy'n credu mewn gwahanu Cymru oddi wrth y Deyrnas Unedig yn dod o hyd i'r dadleuon y mae arweinydd Plaid Cymru wedi eu gwneud eisoes y prynhawn yma. Adam Price AC: [Anghlywadwy.]—enghraifft arall. Mae ymosodiad diweddaraf San Steffan ar ddemocratiaeth Cymru yn ymwneud â bonws o £500 i staff iechyd a gofal yng Nghymru. Heb fod yn fodlon ar ei drethu, mae'n ymddangos erbyn hyn fod San Steffan yn ei ddefnyddio fel esgus i dorri budd-daliadau pobl. Felly, yn hytrach na chael bonws i ddweud diolch, bydd llawer o weithwyr yn cael eu cosbi trwy ddidyniad o hyd at 63 y cant yn eu credyd cynhwysol. Wrth gwrs, pe byddem ni yn rheoli ein polisi lles a threth ein hunain yn y fan yma, ni fyddai hyn yn digwydd o gwbl. Nawr, fe wnaethoch chi ailadrodd yn ddiweddar, Prif Weinidog, eich gwrthwynebiad personol i ddatganoli treth a budd-daliadau mewn ffordd gyfanwerthol, oherwydd, i chi, maen nhw'n rhan o'r glud sy'n dal y Deyrnas Unedig gyda'i gilydd. Efallai, serch hynny, y gallech chi hyd yn oed gyfaddef erbyn hyn fod y glud hwnnw yn mynd yn gwbl ansefydlog. Beth yw barn gyfunol Llywodraeth newydd Cymru ar ddatganoli lles? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, bydd yn rhaid i mi awgrymu'n garedig i arweinydd Plaid Cymru fod yr etholiad ar ben, a chafodd y syniad o annibyniaeth ei brofi'n drylwyr iawn yn yr etholiad hwn ac fe wnaeth pobl yng Nghymru eu penderfyniad ar y mater hwnnw. Felly, polisi fy mhlaid i ar y system fudd-daliadau yw y dylem ni archwilio o ddifrif, fel y gwnaeth John Griffiths ar ein rhan wrth arwain y pwyllgor llywodraeth leol yn y Senedd ddiwethaf, ddatganoli gweinyddu rhannau o'r system fudd-daliadau. Ond dylai'r system fudd-daliadau ei hun fod yn beiriant ailddosbarthu ar draws y Deyrnas Unedig gyfan. Nid yw'r ffaith ei bod o dan reolaeth dros dro plaid nad yw'n ei ystyried yn y ffordd honno yn feirniadaeth o'r potensial y bu gan y system honno erioed i symud arian oddi wrth y rhai sydd â mwy nag sydd ei angen arnyn nhw i'r rhai y mae arnyn nhw angen mwy ohono i gynnal ffordd o fyw gyffredin. Rwy'n credu bod hynny'n dal i fod yn un o'r pethau sydd â'r potensial i ddal y Deyrnas Unedig at ei gilydd. Rwy'n gresynu'n fawr ein bod ni wedi methu â dwyn perswâd ar Lywodraeth y DU i beidio â threthu'r cyfandaliad yr ydym ni wedi gallu ei ddarparu i weithwyr gofal cymdeithasol. Ac mae'r ffaith ei fod yn cael ei ddefnyddio fel tystiolaeth o incwm ar gyfer y system fudd-daliadau yn ergyd fwy fyth i'r bobl hynny sy'n gweithio bob dydd yn y sector hwnnw i ennill bywoliaeth ac yn gweld bellach fod yr arian a roddwyd iddyn nhw gan Lywodraeth Cymru yn cael ei dynnu oddi arnyn nhw gan Lywodraeth y DU drwy gredyd cynhwysol. Adam Price AC: Efallai fod yr etholiad ar ben, Prif Weinidog, ond mae gwaddol chwerw tlodi dwfn ac anghydraddoldeb yn ein cymunedau, sy'n cael ei roi i ni gan y Deyrnas Unedig hynod anghyfartal hon, mae hynny'n parhau. Y 31 y cant o'n plant yng Nghymru sy'n byw mewn tlodi: sut gallwch chi ddadlau bod yr undeb wedi bod yn rym er lles dilyffethair iddyn nhw? Cyferbynnwch hynny â Seland Newydd: yn ystod yr wythnos ddiwethaf, pasiwyd cyllideb llesiant radical gan y Llywodraeth yno a fydd yn lleihau tlodi plant eleni i hanner y lefel yng Nghymru. Llywodraeth Lafur yw honno, ond mewn gwlad annibynnol sydd â'r pŵer i ddewis ei dyfodol ei hun. Nawr, rydych chi fel Llywodraeth wedi addo arwain sgwrs ddinesig genedlaethol newydd ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru. A fydd hi'n sgwrs wirioneddol agored—yn agored i bosibiliadau annibyniaeth ac, ie, yr heriau hefyd? Yn agored iddo o leiaf fel cynllun B, os bydd Cymru'n dweud 'ie' i ffederaliaeth radical, ond mae San Steffan yn parhau i ddweud 'na' wrth Gymru. Nawr, byddai honno'n sgwrs y byddwn i a'm plaid yn falch o ymuno â hi. Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at allu datblygu cynlluniau ar gyfer y sgwrs ddinesig honno. Rwy'n awyddus i wneud hynny gyda phleidiau ar draws y Siambr gyfan sydd â diddordeb o ddifrif yn nyfodol y Deyrnas Unedig a lle Cymru ynddi. Nid wyf am ddiffinio unrhyw syniadau o'r sgwrs honno oherwydd, os yw'n sgwrs ddinesig, bydd gan ddinasyddion y gallu i wneud y cyfraniad hwnnw. Bydd yr holl bosibiliadau hynny yn gallu cael eu trafod oddi mewn iddi. Hoffwn i ddweud unwaith eto, Llywydd, ein bod ni wedi cael etholiad lle nad oedd modd i'r dewis fod yn gliriach. Roedd pleidiau a oedd yn credu y dylid diddymu'r sefydliad cyfan hwn, ac y dylid trosglwyddo'r gwaith o lywodraethu Cymru yn ôl i San Steffan. Ni wnaethon nhw lwyddo i gael cefnogaeth i gael eu cynrychioli yn y fan yma. Roedd plaid a oedd yn credu y dylid tynnu Cymru allan o'r Deyrnas Unedig. Os bydd unrhyw blaid yn sefyll ar y cynnig hwnnw ac yn ennill etholiad, yna mae ganddi fandad i fynd ar drywydd hynny. Ond, tan y bydd hi wedi ennill etholiad, ni all ddisgwyl i ganolbwynt y drafodaeth ynghylch ein dyfodol gael ei lusgo i gynnig a fethodd ag ennyn cefnogaeth digon o bobl yng Nghymru i roi mwyafrif iddi yma ar lawr y Senedd. Digwyddiadau Prawf Peilot Llyr Gruffydd AC: 3. Pa wersi mae Llywodraeth Cymru wedi eu dysgu o'r digwyddiadau prawf peilot er mwyn datblygu prosesau a chanllawiau a fydd yn caniatáu i ddigwyddiadau ddychwelyd yn ddiogel yng Nghymru? OQ56529 Mark Drakeford AC: Llywydd, diolch i Llyr Gruffydd am y cwestiwn. Mae cynnydd da yn cael ei wneud gyda’r rhaglen digwyddiadau peilot, ac mae pum digwyddiad wedi cael eu cynnal yn barod. Bydd yr wybodaeth sy’n dod i’r amlwg, er enghraifft o ran cynnal profion COVID ar gyfer digwyddiadau, yn cael ei defnyddio i baratoi ar gyfer yr adolygiad 21 diwrnod nesaf. Byddwn ni’n ystyried y posibilrwydd o ddatblygu dull fesul cam o ailagor digwyddiadau. Llyr Gruffydd AC: Roedd hi'n dda, wrth gwrs, gweld torfeydd yng ngemau Abertawe a Chasnewydd yn ddiweddar—a Wrecsam, gobeithio, cyn bo hir. Ond, tra eich bod chi wedi blaenoriaethu timau pêl-droed sy'n chwarae yng nghynghreiriau Lloegr, dwi eisiau gwybod pam eich bod chi wedi anwybyddu'r timau sy'n chwarae yn ein prif gynghrair genedlaethol ni yma yng Nghymru. Dyw'r clybiau yn y pyramid Seisnig ddim yn gynrychioladol o drwch y gêm ddomestig, a byddai peilota digwyddiadau yn y Cymru Premier, er enghraifft, wedi bod yn llawer mwy perthnasol i weddill y clybiau ar lawr gwlad ar hyd a lled Cymru. Ac, onid yw hi'n ffars bod cefnogwyr y Cymru Premier nawr yn gorfod stwffio i mewn i dafarndai i wylio gemau, neu yn wir eu gwylio nhw o'r clubhouse sy'n ffinio â'r cae, yn lle gwneud hynny o'r eisteddleoedd yn yr awyr agored gydag ymbellhau cymdeithasol? Dyw hi ddim yn rhy hwyr, wrth gwrs, i newid hynny. Felly, a wnewch chi ailystyried caniatáu rhywfaint o gefnogwyr i fynychu'r gêm derfynol, dyngedfennol olaf o'r tymor rhwng Caernarfon a'r Drenewydd ddydd Sadwrn yma—y gêm fwyaf, wrth gwrs, yn hanes clwb pêl-droed Caernarfon? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, a allaf i ddweud 'pob lwc' i Wrecsam, i ddechrau, ar ddydd Sadwrn? Rwy'n gobeithio y bydd Wrecsam yn ymuno ag Abertawe a Chasnewydd yn y llwyddiant y maen nhw wedi ei gael yn barod. Pethau ymarferol oedden nhw, Llywydd, pan oeddem ni'n gwneud y dewis o ran ble oedd y digwyddiadau peilot yn gallu cael eu rhedeg. Mae lot fawr o waith y tu ôl i'r peilot. Mae'n amhosibl jest i ddweud, 'O, gallwch chi ddweud, ar ddydd Sadwrn, fod rhywbeth arall yn gallu digwydd.' Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhan o bob peilot. Mae'r awdurdodau lleol yn rhan o bob peilot. Beth bynnag rŷm ni’n ei ddefnyddio ar gyfer peilot, mae'r grŵp lleol yn rhan o'r peilot hefyd. So, doedd hi jest ddim yn ymarferol i wneud peilot ym mhob man ac am bob peth, ac i'w gwneud nhw yn ddiogel. Dyna pam rŷm ni wedi cael rhestr o bum digwyddiad a dyna pam rŷm ni'n mynd i ddysgu gwersi i weld a allwn ni wneud mwy yn y dyfodol, ond gwneud hynny mewn ffordd sy'n ddiogel i'r bobl sy'n troi lan i weld beth sy'n mynd ymlaen ac yn llwyddiannus i'r bobl sy'n rhedeg y digwyddiadau hefyd. Janet Finch-Saunders. Janet Finch-Saunders AC: Diolch, Llywydd. Llongyfarchiadau i chi a'n Prif Weinidog—i'r ddau ohonoch chi—ar eich swyddogaethau newydd, wel, cyfredol. Mae'n braf bod yn ôl yma ar lawr y Siambr ac, yn wir, fel Aelod etholedig o'r Senedd hon, a diolch i bobl Aberconwy am roi i mi yr hyn sy'n fraint enfawr. Nawr, er bod y digwyddiadau prawf arbrofol i ddatblygu prosesau a chanllawiau i'w croesawu, mae eich canllawiau Llywodraeth Cymru cyfredol eich hun ar gyfer sector y celfyddydau yn cynnwys prif bwynt sy'n gwrth-ddweud ei hun. Mae'r union eiriad yn peri penbleth i un o'n gwyliau cerddoriaeth blaenllaw yn Aberconwy, a fydd, gobeithio, yn digwydd yn fuan mewn eglwys leol. Felly, gofynnaf i chi, Prif Weinidog: pam mae eich canllawiau, o'r enw 'Ymarfer, perfformio a chymryd rhan yn y celfyddydau perfformio', yn caniatáu i offerynnau chwyth gael eu chwarae dan do, ond mae'r canllawiau ar ailagor addoldai yn gwahardd defnyddio'r offerynnau chwyth hynny? Mae eich cynllunio wedi taro nodyn gwag gyda'n digwyddiadau ar raddfa fwy yn yr awyr agored hefyd. Yn wir, mae Adam Newton, Tough Runner UK, wedi cyfeirio at Lywodraeth Cymru gan ddweud mai dim ond hanner cynllun sydd ganddi. Felly, a wnewch chi roi map ffordd ar waith ar gyfer digwyddiadau ar raddfa fwy i ailddechrau ac i hyn gynnwys amrywiaeth ehangach o leoliadau, gan ddod â rhywfaint o normalrwydd yn ôl i'n traddodiadau hirsefydlog? Diolch. Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, fel yr eglurais mewn ateb i gwestiwn cynharach, os byddwn yn gallu—ac 'os' ydyw, onid yw e—os gallwn ni symud i lefel rybudd 1 ar ddiwedd yr adolygiad tair wythnos hwn, yna bydd hynny'n cyflwyno posibiliadau newydd i ddigwyddiadau ailddechrau dan do ac yn yr awyr agored ledled Cymru. Pan fydd hynny'n digwydd, bydd yn dal i fod rhaid iddyn nhw o reidrwydd gadw at yr amddiffyniadau sydd gennym ni yn erbyn y coronafeirws yn ailddechrau. A dyna ble mae'r canllawiau yn dechrau bob amser, a dyna ble mae'r Llywodraeth hon wedi arddel safbwynt gwahanol i'r Aelod yn aml, rwy'n credu. Ein man cychwyn bob amser yw: sut y gallwn ni gadw pobl yn ddiogel yn y digwyddiadau hyn? Sut y gallwn ni sicrhau eu bod yn cael eu cynnal mewn ffordd nad yw'n creu risgiau y gellir eu hosgoi o ddechrau lledaenu'r coronafeirws unwaith eto? Dyna pam y darperir y canllawiau; dyna pam mae'n gwahaniaethu rhwng yr hyn y gellir ei wneud mewn un cyd-destun ac mewn un arall. Maen nhw bob amser yn cael eu llunio'n ofalus, maen nhw bob amser wedi eu seilio ar y cyngor gorau sydd gennym. Ac er y gallai ymddangos—[Torri ar draws.] Er y gallai ymddangos yn anghyson ar brydiau, y rheswm am hynny yw y bydd y cyd-destun yn wahanol mewn ffordd sy'n arwain at y cyngor gwahanol hwnnw. Pan fo pobl yn gofyn i ni egluro yn fanylach pam mae angen y cyfyngiadau, yna wrth gwrs rydym yn ceisio gwneud hynny, ond nid yw'r cyfyngiadau byth yn wrthnysig yn fwriadol, ac maen nhw bob amser yn dechrau gyda'r cwestiwn hwnnw: beth y gellir ei wneud yn ddiogel yn y fan yma yn y cyd-destun y mae'r coronafeirws yn ei osod i ni ar unrhyw un adeg? Fy ngobaith, a gwn ei fod yr un gobaith ag sydd gan yr Aelod, yw bod amgylchiadau'n parhau i wella, ac wrth iddyn nhw barhau i wella, bryd hynny bydd modd adfer mwy o ran digwyddiadau yn yr awyr agored, a pherfformiadau, canu, offerynnau cerdd dan do hefyd. Ond y ffactor cyfyngol bob amser yn anorfod yw gwneud pethau mewn ffordd nad yw'n rhoi Cymru a phobl mewn perygl. Jack Sargeant AC: Prif Weinidog, mae'n dda cael bod yn ôl, a gan ein bod yn sôn am Uwch Gynghrair Cymru, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn yn awr, fel llysgennad clwb mwyaf balch yng Nghymru, i gofnodi fy llongyfarchiadau i'r Nomadiaid am gadw'r teitl yng Nghymru. Prif Weinidog, byddwn i'n ddiolchgar pe gallech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr am y cynlluniau profi ac olrhain arbrofol sy'n cael eu cynnal ym mhum rhan y gogledd, ac a wnewch chi amlinellu manylion penodol y cymorth ychwanegol sy'n cael ei roi i'r rhai hynny sy'n hunanynysu. Mark Drakeford AC: Wel, diolch i Jack Sargeant am hynna. Mae e'n iawn, wrth gwrs: mae mwy nag un math o gynllun arbrofol yn cael ei gynnal yn y gogledd ar hyn o bryd. A llongyfarchiadau, wrth gwrs, i bobl dda Cei Connah ar lwyddiant y Nomadiaid y tymor hwn. Y cynlluniau arbrofol, Llywydd, y mae Jack Sargeant yn cyfeirio atyn nhw yw'r cynlluniau arbrofol yr ydym yn eu cynnal i ddarparu cymorth ychwanegol y tu hwnt i'r taliad hunanynysu o £500 yr ydym yn ei wneud i'r bobl yr ydym yn gofyn iddyn nhw hunanynysu, er mwyn diogelu eu hunain a diogelu eraill, a phan nad oes ganddyn nhw ddigon o incwm i hynny fod yn bosibl. Nawr, yr hyn yr ydym wedi ei ddysgu, o'r gwaith sydd wedi ei wneud eisoes yn ardal Cwm Taf, yw bod mathau eraill o gymorth y gallwch eu hychwanegu at yr arian sy'n gwneud gwahaniaeth i allu pobl i hunanynysu yn y modd yr hoffem ni iddyn nhw ei wneud. Weithiau mae hynny'n gymorth ar unwaith, gyda bwyd a thlodi tanwydd; weithiau mae'n gymorth gyda materion tymor hwy fel cymorth iechyd meddwl ac allgáu digidol. Bydd pum cynllun arbrofol ar draws y gogledd. Mae'r un yng Nghaergybi eisoes wedi dechrau—rwy'n siŵr y bydd yr Aelod lleol yn gwybod ei fod yn gweithredu o'r swyddfa Cyngor ar Bopeth yng Nghaergybi—ac ar 7 Mehefin a 14 Mehefin, bydd cynlluniau arbrofol eraill yn dechrau. Maen nhw wedi eu cynllunio i gynnig rhagor o gymorth i bobl, i sicrhau bod y rhai y mae hunanynysu yn fwy o her iddyn nhw nag eraill yn cael, yn ogystal â'r arian y gallwn ni ei ddarparu, cymorth ychwanegol hefyd i wneud y profiad hwnnw yn haws ei reoli iddyn nhw. Rydym ni'n dysgu llawer o'r cynlluniau arbrofol, ac yna'r pethau sy'n llwyddiannus ac sy'n gwneud gwahaniaeth—y bwriad fydd gwneud mwy o hynny ar sail ddaearyddol ehangach. Cymorth i Fusnesau Russell George AC: 4. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i fusnesau y mae cyfyngiadau COVID-19 wedi effeithio arnynt? OQ56520 Mark Drakeford AC: Rydym ni wedi ymrwymo dros £2 filiwn i gefnogi busnesau, ac mae dros £1.9 miliwn o'r £2 filiwn hynny eisoes wedi eu cyrraedd. Agorodd y pecyn diweddaraf i geisiadau ddydd Llun. Bydd rhagor o gyllid yn dilyn i helpu busnesau i ddatblygu, cynnal a thyfu. Russell George AC: Prif Weinidog, y pecyn diweddaraf yr ydych chi'n cyfeirio ato oedd cymorth yr oedd busnesau yn gallu ei weld am y tro cyntaf pan agorodd y gwiriwr cymhwysedd ddydd Llun diwethaf a gadawyd busnesau wedi eu siomi ac wedi cael cam. Nid wyf i'n credu ei bod yn iawn diystyru barn busnesau, fel y gwnaethoch chi, yn fy marn i, wrth arweinydd yr wrthblaid yn gynharach heddiw. Yr hyn sy'n peri mwy o rwystredigaeth i fusnesau yw pan fyddan nhw'n clywed Llywodraeth Cymru yn ailadrodd y frawddeg hon dro ar ôl tro eu bod yn cynnig y cymorth busnes gorau o unrhyw un o wledydd y DU, oherwydd y realiti yw bod y cynnig yn llawer mwy hael yn yr Alban a Lloegr o ran cymorth busnes o dan y cyhoeddiadau presennol yr ydych wedi eu gwneud. Rydym yn gwybod y bydd campfeydd yn Lloegr yn cael £18,000 i ailagor, ac yng Nghymru mai dim ond hyd at £5,000 yw'r swm. Mae'r sector lletygarwch yn Lloegr yn cael grantiau ailagor; yng Nghymru, mae gennym ni dafarndai a sefydliadau bwyta eraill nad ydyn nhw'n cael hawlio oherwydd bod y meini prawf yn rhy llym. Ac wrth sôn am y meini prawf, mae rhestr hir o feini prawf i'w bodloni, fel darparu tystiolaeth bod gostyngiad o 60 y cant neu fwy mewn masnach—mewn trosiant—dros y 12 mis diwethaf, ond mae llawer o fusnesau nad ydyn nhw'n gallu gwneud hynny gan nad oes ganddyn nhw'r cyfrifon hynny wedi eu paratoi hyd yma. Ni allwch chi droi'r cloc yn ôl yn llawn o ran y cymorth busnes a oedd ar goll ym mis Ebrill yng Nghymru, ond fe allwch chi fynd i'r afael â'r bylchau mewn cyhoeddiadau yn y dyfodol a'u llenwi. Felly, a gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog, ailedrych ar y cynlluniau cymorth busnes, sicrhau eu bod yn debyg i gymorth mewn mannau eraill yn y DU, a sicrhau yn benodol nad yw'r meini prawf mor llym ac anhyblyg, a bod busnesau'n gallu cael gafael ar gyllid mewn modd teg a phriodol? Mark Drakeford AC: Nid wyf i'n diystyru barn busnesau, ond rwyf i yn diystyru ymdrechion propaganda Plaid Geidwadol Cymru, a dyma ymdrech arall arni unwaith eto yn awr. Yn sicr, ni fyddaf i—[Torri ar draws.] Yn sicr, ni fyddaf i'n rhoi addewid i chi y byddwn yn cyd-weddu â'r hyn sy'n digwydd mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig, oherwydd byddai hynny'n golygu y byddai miloedd ar filoedd o bunnoedd na fyddai ar gael i fusnesau Cymru mwyach. Yng Nghymru, bydd busnes lletygarwch sydd â 10 o weithwyr ac sydd â gwerth ardrethol o £25,000 wedi bod yn gymwys i gael mwy na £52,000 ers mis Rhagfyr; byddai busnes cyfatebol yn Lloegr wedi cael £26,000. Felly, pe byddwn yn cyd-weddu â'r cynnig yn Lloegr, fel y mae'r Aelod yn gofyn i mi ei wneud, byddwn yn rhoi £26,000 i'r busnes hwnnw. Mae e'n dweud wrthyf i y bydd campfeydd yn cael £18,000; pa ganran o fusnesau yn Lloegr y mae e'n ei gredu sy'n cael £18,000? Nid wyf yn credu ei fod yn gwybod. Dau y cant ydyw. Dau y cant o fusnesau sy'n cael £18,000, ac mae 98 y cant o fusnesau nad ydyn nhw'n cael dim byd tebyg i hynny. Wrth wneud cymariaethau, nid oes pwynt i'r Aelod ddewis a dethol y ffigurau ac yna eu cymhwyso mewn ffordd na fyddai'n gweithredu yn y byd go iawn. Yn sicr, nid wyf i'n cytuno ag ef ynglŷn â'r meini prawf. Rydym ni'n dyrannu symiau anferth o arian cyhoeddus—anferth. Mae miliynau ar filiynau o bunnoedd o arian cyhoeddus yn mynd i fusnesau, fel yr oeddem ni'n awyddus i'w wneud. Ond ei blaid ef fyddai'r gyntaf i gwyno pe na byddem ni'n gwneud hynny mewn modd a allai ddangos bod y busnesau hynny yn rhai go iawn, bod ganddyn nhw hawl i'r cymorth hwnnw a bod yr arian cyhoeddus yn cael ei wario mewn ffordd yr oedd modd ei gyfiawnhau. Dyna ddiben y meini prawf. Nid yw'n fwriad iddynt ei gwneud yn anodd i fusnesau gael y cymorth y maen nhw'n dymuno ei gael; maen nhw yno i sicrhau, yma yng Nghymru, pan fydd busnesau'n cael arian gan y trethdalwr, bod yr arian hwnnw yn mynd i'r lle iawn ac yn mynd mewn modd y gellir ei gyfiawnhau. Luke Fletcher AS: Fel yr wyf wedi ei ddweud o'r blaen, rwy'n gwybod bod llawer o fusnesau sy'n ddiolchgar am y cymorth y maen nhw wedi ei gael hyd yma, ond nawr rwy'n credu bod angen rhywfaint o gydnabyddiaeth gan Lywodraeth Cymru o'r gost y mae busnesau yn ei hwynebu wrth iddyn nhw ailagor. Rwy'n dod yn ôl at y sector lletygarwch yn arbennig yn y fan yma, o gofio'r holl flynyddoedd a dreuliais i yn y sector. Er enghraifft, mae ailstocio nwyddau darfodus a dod â staff yn ôl o ffyrlo yn anodd, yn enwedig pan fo llawer o'r busnesau hyn yn dibynnu ar dywydd braf i agor. Rydym ni'n gwybod bod nifer o gwmnïau wedi rhoi'r gorau i gyfleoedd i ailagor yn yr awyr agored cyn bod ailagor dan do wedi'i ganiatáu, a hyd yn oed wedyn, ni all busnesau ddefnyddio'r holl le sydd ganddyn nhw dan do ac maen nhw'n ei chael hi'n anodd masnachu yn yr awyr agored mewn tywydd gwael. Yn y pen draw, bu bwlch mewn cyllid. Fe wnaeth busnesau roi'r gorau i gynlluniau oherwydd y tywydd, ac nid ydyn nhw'n gallu gweithredu'n llawn. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle y mae Gweinidog yr Economi wedi ei roi i gyfarfod ag ef a llefarwyr eraill y gwrthbleidiau i drafod hyn ymhen pythefnos, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio'n adeiladol ar hyn, ond mae angen dybryd am hyblygrwydd o ran cyllid yn awr er mwyn helpu i wrthbwyso'r risgiau y mae busnesau'n parhau i'w hwynebu. Felly, a gaf i ychwanegu fy llais at alwadau llawer o bobl eraill a phwyso ar y Prif Weinidog, a Gweinidog yr Economi drwyddo ef, i weithredu ar hyn ar frys? Oherwydd mae busnesau angen sicrwydd nawr ac nid ymhen pythefnos. Ac rwy'n eithaf sicr fy mod i'n gallu siarad dros Blaid Cymru pan ddywedaf ein bod ni'n awyddus i ddechrau gweithredu ar hyn nawr. Mark Drakeford AC: Rwy'n cydnabod y pwyntiau y mae'r Aelod yn eu gwneud ynglŷn â'r heriau y mae busnesau yn eu hwynebu pan fyddan nhw'n ailddechrau masnachu, boed hynny'n fater ailstocio, boed hynny'n dywydd, ond mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymorth i fusnesau ar bob cam o'r ffordd. Rwyf wedi clywed honiadau yn gynharach nad oedd unrhyw gymorth ar gael i fusnesau yn ystod mis Ebrill, er enghraifft. Ar ddiwedd mis Mawrth ac ar ddechrau mis Ebrill, fe wnaethom ni dalu mwy na £147 miliwn i fusnesau mewn grantiau ardrethi annomestig. Ym mis Ebrill a dechrau mis Mai, aeth swm ychwanegol o dros £24 miliwn i fusnesau drwy'r gronfa cydnerthedd economaidd, ac erbyn hyn mae £66 miliwn arall ar gael i helpu'r busnesau hynny yn ystod gweddill y mis hwn a thrwy fis nesaf hefyd. Roeddwn i eisiau gwneud yr hyn y mae Mr Fletcher wedi ei awgrymu; roeddwn i eisiau cyrraedd y busnesau hynny lle mae'r amodau masnachu yn fwyaf heriol a lle mae'r cyfyngiadau anochel yn dal i fodoli er mwyn ymdrin â chyfyngiadau coronafeirws yn cyfyngu ar yr hyn y cânt ei wneud. Dyna pam y byddwn ni'n cael y trafodaethau gyda phleidiau eraill, ond gyda busnesau a sefydliadau busnes eu hunain, i sicrhau y gellir targedu gweddill y £200 miliwn yr ydym wedi ei neilltuo eisoes yn y ffordd honno fel bod y rhai yr effeithir arnyn nhw fwyaf ac sy'n parhau i deimlo effaith amodau masnachu yn gallu cael y cymorth mwyaf posibl y gallwn ni ei gynnig. Sarah Murphy. Sarah Murphy AS: Diolch, Llywydd, a llongyfarchiadau i chi a David ar gael eich ethol yn Llywydd a Dirprwy Lywydd. Prif Weinidog, yn ystod yr ymgyrch etholiadol, cysylltodd busnesau ledled Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl â mi i ddiolch am y ffordd yr ydych chi a'ch Llywodraeth wedi ymdrin â phandemig y coronafeirws drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf, yn enwedig i gydnabod y cymorth ariannol sydd wedi ei roi ar waith i fusnesau y bu'n rhaid iddyn nhw gau drwy'r gronfa cydnerthedd economaidd bwrpasol ar gyfer Cymru yn unig, sydd wedi arbed dros 160,000 o swyddi. A ydych chi'n cytuno â mi, pe byddai eich Llywodraeth wedi dilyn ymagwedd Lloegr drwy gydol y cyfyngiadau symud, fel y mae'r Ceidwadwyr wedi awgrymu mor aml, y byddai busnesau Cymru wedi eu gadael yn waeth eu byd ac y byddai mwy o swyddi wedi cael eu colli? Mark Drakeford AC: Diolchaf i Sarah Murphy am y cwestiwn yna ac rwy'n ei llongyfarch ar gael ei hethol ac am siarad yn y Siambr am y tro cyntaf. Fe wnes i gyfarfod â llawer o fusnesau gyda hi yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr a wnaeth ymdrech arbennig i ddweud wrthym gymaint yr oedden nhw'n gwerthfawrogi'r cymorth yr oedden nhw wedi ei gael gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru hefyd. Mae'n hawdd iawn i rai o'r Aelodau yn y Siambr fod yn uwchseinydd i leisiau'r bobl hynny sy'n teimlo bod ganddyn nhw gŵyn, ond mae mwyafrif llethol y busnesau yng Nghymru sydd wedi cael cymorth gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn cydnabod y cymorth y maen nhw wedi ei gael. Efallai nad yw'n gwneud popeth maen nhw'n ei ddymuno, yn sicr nid yw'n dileu'r holl heriau y maen nhw'n eu hwynebu, ond maen nhw wedi gwerthfawrogi'r cymorth sydd wedi bod ar gael, pa mor gyflym y mae wedi bod ar gael a'r ffordd y mae wedi caniatáu iddyn nhw gynllunio llwybr trwy'r pandemig ac erbyn hyn, gobeithio, y tu hwnt iddo. Rwy'n credu bod y profiad y mae'r Aelod yn cyfeirio ato yn llawer mwy nodweddiadol o'r ffordd y mae busnesau yng Nghymru wedi ymateb na rhai o'r cwynion yr ydym ni wedi eu clywed yn gynharach y prynhawn yma. Adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru Rhys ab Owen AS: Dwi wedi datgan budd ynglŷn â'r cwestiwn hwn. Rhys ab Owen AS: 5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr amserlen ar gyfer gweithredu argymhellion adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru? OQ56523 Mark Drakeford AC: Diolch yn fawr i Rhys am y cwestiwn. Mark Drakeford AC: Pan nad yw gweithredu argymhellion y comisiwn yn dibynnu ar Lywodraeth y DU, mae cynnydd eisoes wedi ei wneud, er enghraifft trwy greu cyngor cyfreithiol Cymru. Bydd pwyllgor cyfiawnder y Cabinet yn cael ei ailsefydlu i fynd ar drywydd yr achos a wnaed gan y comisiwn dros ddatganoli plismona a chyfiawnder i Gymru. Rhys ab Owen AS: Diolch yn fawr ichi am eich ateb, Prif Weinidog. Dwi'n gobeithio y bydd modd inni weld amserlen fwy pendant am sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu implementeiddio'r argymhellion yn ymwneud â Llywodraeth Cymru. Pan ddes i fan hyn fel bachgen ysgol yn 1999 i agoriad y Cynulliad, byddwn i byth wedi dychmygu y byddwn i'n sefyll yn Senedd Cymru yn holi cwestiwn. Rydyn ni'n ddiolchgar iawn, onid ydyn ni, i nifer o griw 1999—nifer ohonynt o bob plaid wedi gadael ar ôl y Senedd diwethaf—am y seiliau cadarn y maen nhw wedi'u gosod i ni. Dwi'n falch bod un o'r criw sy'n weddill o 1999 yn bwrw'r gwaith ymlaen gyda diwygio'r Senedd. Ond cam pwysig ymlaen, Prif Weinidog, yw sicrhau bod cyfiawnder a phlismona yn cael eu datganoli i Gymru. Dwi'n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am gamu i'r adwy, yn dilyn toriadau llym y Blaid Geidwadol yn San Steffan, ac am y cyfraniad anferthol maen nhw'n ei wneud i'r system gyfiawnder—mae hyd at 40 y cant o wariant ar y system gyfiawnder yn dod o fan hyn. Ond, mae hynny'n creu problem, problem y gwnaeth yr Arglwydd Thomas ei chodi yn yr adroddiad, a hynny yw problem craffu. Does dim digon o graffu yn digwydd am y gwariant sylweddol sy'n dod o Lywodraeth Cymru. Sut byddech chi, fel Llywodraeth, yn hyrwyddo craffu pellach ar y gwariant sylweddol yna sy'n gwneud impact mawr ar fywydau cymaint o bobl yng Nghymru? Diolch yn fawr. Mark Drakeford AC: Diolch yn fawr i Rhys ab Owen am ei gwestiwn cyntaf ers iddo fe gael ei ethol. Hoffwn gydnabod hefyd arbenigedd penodol Rhys ab Owen yn y maes hwn ar ôl y gwaith roedd e wedi'i wneud i helpu greu adroddiad comisiwn Thomas fel rhan o'r tîm ysgrifenyddiaeth. Mae safbwynt Llywodraeth Cymru yn glir. Rydym ni'n credu y dylid datganoli cyfiawnder. I ni, nid yw'n fater mwyach o ofyn a ddylai hynny ddigwydd, ond sut a phryd. Yn y maes craffu, dwi wedi gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol arwain yn y maes yma. Fe fydd yn cadeirio is-bwyllgor y Cabinet ar adroddiad Thomas ac ar gyfiawnder, a bydd cyfleon dwi'n siŵr i Aelodau ofyn cwestiynau iddo fe am yr amserlen, am y gwaith rydyn ni'n ei wneud yn fewnol yng Nghymru o ran yr argymhellion yn yr adroddiad sydd yn ein dwylo ni, ond hefyd i ofyn cwestiynau am y gwaith rydyn ni'n mynd i'w wneud i drio tynnu Llywodraeth y Deyrnas Unedig i mewn unwaith eto i'r sgwrs ar yr adroddiad—adroddiad a oedd wedi gwneud yr achos dros ddatganoli yn y maes cyfiawnder mor glir i ni i gyd. Adfer ar ôl COVID-19 ym Mlaenau Gwent Alun Davies AC: 6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo'r adferiad o COVID-19 ym Mlaenau Gwent? OQ56514 Mark Drakeford AC: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Byddwn yn defnyddio ein holl ymdrechion a'n hegni i greu Cymru gryfach, decach a gwyrddach, lle nad oes neb yn cael ei ddal yn ôl na'i adael ar ôl. Bydd newid yn yr hinsawdd, swyddi gwyrdd ac adferiad o'r pandemig hir ac ofnadwy wrth wraidd ein rhaglen lywodraethu newydd. Alun Davies AC: Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am hynna, ac yn ddiolchgar am y ffordd y mae wedi arwain ymateb Llywodraeth Cymru i COVID dros y flwyddyn ddiwethaf. Ac mae llawer o agweddau ar adfer o COVID y mae'r Prif Weinidog wedi eu disgrifio eisoes. Ond, heddiw, hoffwn ganolbwyntio unwaith eto ar ddyfodol canol ein trefi. Prif Weinidog, siaradodd John Griffiths yn gynharach heddiw am ddyfodol Casnewydd a'n dinasoedd, ond mae ein trefi'n wynebu her wahanol iawn i her ein dinasoedd. A hoffwn i glywed gennych, os yw'n bosibl, sut y byddwch chi'n gallu mynd i'r afael â'r sefyllfa ar hyn o bryd o ran cefnogi busnesau a pherswadio pobl i ddefnyddio'u canol trefi lleol. Ond, yna, yn ail, yn y tymor hwy, roedd canol trefi, fel yr ydych eisoes wedi ei ddweud y prynhawn yma, dan bwysau ymhell cyn COVID, ac rydym wedi gweld trefi fel Abertyleri neu Lynebwy, Tredegar neu Frynmawr, yn dioddef dros nifer o flynyddoedd. Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i weithio yn y tymor hwy, yn ogystal â'r presennol, i greu dadeni ar gyfer ein trefi a chanol ein trefi? Mark Drakeford AC: Llywydd, diolchaf i Alun Davies am y cwestiwn pwysig yna. Bydd yn gwybod bod rhaglen Trawsnewid Trefi'r Llywodraeth hon wedi darparu gwerth £110 miliwn o fuddsoddiad yn nhrefi Cymru yn y 12 mis diwethaf yn unig. Atgyfnerthir hynny gan yr egwyddor 'canol trefi yn gyntaf' a fabwysiadodd y Cabinet yn ystod y tymor diwethaf, gan ei gwneud yn glir, pan fydd buddsoddiadau mawr o'r pwrs cyhoeddus, boed hynny mewn addysg, iechyd neu wasanaethau cyhoeddus yn cael eu hystyried, mai canol trefi ddylai fod yr ystyriaeth gyntaf ar gyfer pob penderfyniad wrth leoli gweithleoedd a gwasanaethau. Ac mae rhai enghreifftiau da iawn o hynny yn etholaeth yr Aelod ei hun. Pwysigrwydd fferyllfeydd cymunedol—maen nhw ar y stryd fawr ym mhob tref ledled Cymru, ac yn cael eu cefnogi'n sylweddol gan y Llywodraeth hon yng Nghymru, gan ddenu pobl i ganol trefi, gan ddarparu siop ddenu y gall eraill dyfu o'i chwmpas. Rydym wedi rhoi llawer o arian yn ddiweddar i ganolfannau ailgylchu yng nghanol trefi. Mae'r gronfa economi gylchol wedi cefnogi datblygiad siop ailddefnyddio newydd yng Nglynebwy ei hun, ac mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent wedi darparu'r cyfeiriadur atgyweirio ar-lein cyntaf erioed yng Nghymru, gan dynnu sylw at gyfleoedd sy'n bodoli mewn trefi yn y fwrdeistref i bobl ailddefnyddio ac ailgyfarparu eu hunain ar gyfer eu defnyddio yn y dyfodol. Rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gallu darparu dros £200,000 i gefnogi gwasanaeth Wi-Fi canol tref am ddim, yng Nglynebwy, ym Mrynmawr, yn Abertyleri ac ym Mlaenau, gan fod hynny'n enghraifft o'r buddsoddiad tymor hwy y cyfeiriodd Alun Davies ato. Mae angen i ni sicrhau bod y seilwaith yno ar y stryd fawr er mwyn i weithrediadau masnachol allu gweithredu o dan amgylchiadau cyfoes, a gallwch weld hynny yn digwydd eisoes yn y trefi hynny yn etholaeth yr Aelod. Ac, yn olaf, gwn ei fod wedi cymryd diddordeb personol brwd yng nghynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer canolfannau cydweithio y tu hwnt i'r dinasoedd. Bydd llawer o drigolion ei etholaeth ef yn teithio i'r gwaith y tu hwnt i ffiniau'r fwrdeistref. Nawr, rydym yn buddsoddi £100,000 i greu canolfan gydweithio ym Mharc Bryn Bach yn Nhredegar, a dim ond un enghraifft yw hynny o'r canolfannau cydweithio yr ydym yn eu creu ar draws cymunedau'r Cymoedd fel y bydd pobl yn gallu gweithio o bell, parhau i weithio gartref am ran o'r wythnos, ac yna, ar adegau eraill, dod i ganolfan lle gallan nhw gwrdd â phobl eraill, defnyddio cyfleusterau a rennir, gwario eu harian yn y canol trefi ac yn y mannau lle maen nhw'n byw ac yn gweithio, ac unwaith eto mae hynny'n rhan o gynllun tymor hwy sydd gan y Llywodraeth hon ar gyfer ail-greu y canol trefi hynny fel bod swyddi gwell ar gael, yn nes adref a bod pobl yn gallu byw a gweithio yn y cymunedau sydd bwysicaf iddyn nhw. Gweithio Gartref Mike Hedges AC: 7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fanteision economaidd gweithio gartref? OQ56515 Mark Drakeford AC: Diolch i Mike Hedges am hynna, Llywydd. Mae manteision economaidd i fusnesau ac unigolion, gan gynnwys costau is ar gyfer teithio a gorbenion. Gall gweithio o bell yn fwy ddenu mwy o ymwelwyr i ganol trefi lleol hefyd. Dyna pam yr ydym yn treialu canolfannau gwaith lleol ledled Cymru, fel yr ydym newydd ei drafod. Mae manteision pwysig eraill yn cynnwys lleihau allyriadau carbon a gwella cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Mike Hedges AC: Roeddwn i hefyd yn mynd i ddweud, mantais arall yw lleihau tagfeydd traffig ar draffyrdd. Ond mae pobl yn gweithio mewn swyddfeydd oherwydd, pan oedd popeth ar bapur, roedd yn rhaid iddyn nhw wneud hynny er mwyn cael gafael ar ddata a diweddaru ffeiliau. Bu symudiad tuag at weithio gartref, gyda'r niferoedd yn cynyddu'n araf ymhell cyn y cynnydd mawr yn ystod y cyfyngiadau symud. Mae naw o bob 10 o weithwyr a oedd yn gweithio gartref yn ystod y cyfyngiadau symud yn dymuno parhau i weithio gartref i ryw raddau, ac mae tua un o bob dau weithiwr yn dymuno gweithio gartref yn aml neu drwy'r amser. Mae gan weithio gartref fanteision i gyflogwyr, fel yr ydych wedi eu hamlinellu, ac i weithwyr, ond mae yn effeithio ar drefi mwy a chanol dinasoedd trwy leihau nifer yr ymwelwyr â nhw. Y cwestiwn yr oeddwn i eisiau ei ofyn oedd: a ddylid bod lwfans gweithio gartref ar gael i dalu costau pobl sy'n gweithio gartref, pan fo'n rhaid iddyn nhw dalu am drydan a nwy a phethau eraill drwy'r dydd? Mark Drakeford AC: Llywydd, bydd yr Aelodau yn y Siambr hon—. Bydd yr Aelodau a oedd yma yn y Senedd ddiwethaf yn gwybod bod ein staff ein hunain mewn etholaethau, drwy waith y Comisiwn, wedi gallu hawlio lwfans gweithio gartref yn ystod y pandemig. Ac mae'r mater hwnnw wedi ei drafod yng nghyngor y bartneriaeth gymdeithasol, ac rwy'n gwybod y bydd ar agenda cyfarfodydd y cyngor yn y dyfodol hefyd. Ai dyma'r ateb cywir o dan yr holl amgylchiadau? Rwy'n credu bod hynny i'w drafod yn fwy agored, ond mae'n amlwg ei fod wedi ei gydnabod mewn rhai cyd-destunau eisoes, gan gynnwys yma yn y Senedd. A bydd yn drafodaeth bwysig, oherwydd, fel y gŵyr Mike Hedges, mae gan Lywodraeth Cymru uchelgais hirdymor i 30 y cant o staff fod yn gweithio o bell ar unrhyw adeg, ac mae'n rhaid i ni greu'r amodau ar gyfer gwneud hynny'n llwyddiannus. Finally, cwestiwn 8, Jayne Bryant. Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru Jayne Bryant AC: 8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru? OQ56526 Mark Drakeford AC: Llywydd, rydym ni wedi penodi Simon Gibson CBE yn gadeirydd bwrdd cyflawni Burns. Bydd yn goruchwylio datblygiad y 58 o argymhellion Burns gan yr uned a sefydlwyd at y diben hwnnw yn Trafnidiaeth Cymru. Mae cyllideb o dros £4 miliwn eisoes wedi ei chymeradwyo ar gyfer y gwaith hwnnw, er mwyn sicrhau y gallwn ddatblygu argymhellion y comisiwn. Jayne Bryant AC: Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Mae comisiwn Burns wedi nodi gwelliannau cyffrous y gellir eu cyflawni i'r system drafnidiaeth yng Nghasnewydd a'r cyffiniau—system drafnidiaeth gyhoeddus y mae Casnewydd yn ei haeddu, a wnaed yn bosibl drwy fuddsoddiad blaengar a strategol gan Lywodraeth Cymru. Gyda'r uned gyflawni ar waith, mae'n rhaid cynnal y pwyslais a'r cyflymder gan sicrhau ein bod yn gweld canlyniadau gwirioneddol yng Nghasnewydd. Fodd bynnag, mae rhannau allweddol o'r cynllun hwn yn cynnwys uwchraddio seilwaith y rhwydwaith rheilffyrdd, maes y mae Llywodraeth y DU yn gyfrifol amdano. Dros y blynyddoedd diwethaf, dim ond 2 y cant o gyllidebau gwella Network Rail y mae Cymru wedi ei gael, er bod ganddi tua 10 y cant o rwydwaith rheilffyrdd y DU. Mae Llywodraeth y DU yn brolio o ran buddsoddi, ond anaml y bydd yn cyflawni. A wnaiff y Prif Weinidog barhau i'w hannog i roi ei harian ar ei gair, a sicrhau'r buddsoddiad rheilffyrdd sydd ei angen ar Gymru ac y mae'n ei haeddu? Mark Drakeford AC: Diolch i Jayne Bryant am hynna ac rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd am y buddsoddiadau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu gwneud eisoes—y £70 miliwn i sicrhau gwasanaethau ychwanegol, gwasanaethau rheilffyrdd, rhwng Glynebwy a Chasnewydd. Ac rwy'n falch iawn o weld bod cytundeb wedi ei wneud erbyn hyn i ymestyn bysiau fflecsi ar alw i gyflenwi rhwydwaith cyfan bysiau lleol dinas Casnewydd. Ac mae hynny wedi ei ariannu gan refeniw a chyfalaf a ddarperir mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Casnewydd. A bydd hynny'n chwarae rhan bwysig wrth ddarparu'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus lleol hwnnw y cyfeiriodd Jayne Bryant ato. Ond fel y gŵyr hi, prif argymhelliad adolygiad Burns oedd buddsoddi'n briodol yn y brif reilffordd, i greu posibiliadau cymudo newydd a fyddai'n gwasanaethu'r bobl, nid yn unig o Gasnewydd, ond o Gaerdydd a thu hwnt. Nawr, cyhoeddodd adolygiad Hendy—yr adolygiad o gysylltedd yr undeb, a sefydlwyd gan y Prif Weinidog—ei adroddiad interim ar 10 Mawrth. Cyfeiriodd at lwyddiant datganoli trafnidiaeth, ac ymysg ei argymhellion cyntaf mae argymhelliad bod Llywodraeth y DU yn derbyn yr argymhelliad hwnnw o adolygiad Burns, ac yn darparu'r buddsoddiad sydd ei angen i wneud y rhwydwaith rheilffyrdd hwnnw yn ffordd effeithiol o symud pobl ar draws y de. Nawr, rwy'n cyfeirio pwynt difrifol at arweinydd yr wrthblaid, sef os yw Llywodraeth y DU eisiau dangos ei hymrwymiad i gysylltedd yr undeb yn wirioneddol, yna dyma syniad sy'n barod iddi ei defnyddio—syniad a ddatblygwyd yn fanwl gan gomisiwn Burns, a gymeradwywyd yn adolygiad Hendy ac sy'n barod i'w weithredu. Os yw Llywodraeth y DU o ddifrif ynghylch buddsoddi ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig, i ddarparu cysylltedd ar draws yr undeb, ac nid oes gen i unrhyw reswm i ddweud fel arall, o gofio mai'r Prif Weinidog sefydlodd adolygiad Hendy, pan fydd Hendy yn gwneud ei argymhellion terfynol yn yr haf, y bydd hon yn foment fawr i weld a yw Llywodraeth y DU yn mynd i wneud mwy, fel y dywedodd Jayne Bryant, na dim ond siarad, ond rhoi'r buddsoddiad i sicrhau bod pobl y de yn cael eu gwasanaethu gan fuddsoddiad y DU yn y ffordd y mae adolygiadau Burns a Hendy bellach wedi ei nodi. Diolch i'r Prif Weinidog. 2. Cynnig o dan Reol Sefydlog 9.1 i gytuno ag argymhelliad Prif Weinidog Cymru i'w Mawrhydi ynglyn â pherson i'w benodi'n Gwnsler Cyffredinol Y cynnig nesaf, felly, yw'r cynnig o dan Reol Sefydlog 9.1 i gytuno ag argymhelliad y Prif Weinidog i'w Mawrhydi ynglŷn â pherson i'w benodi'n Gwnsler Cyffredinol. Dwi'n galw ar y Prif Weinidog i wneud y cynnig yn ffurfiol. Cynnig NDM7688 Mark Drakeford Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 9.1, yn cytuno â'r argymhelliad gan Brif Weinidog Cymru i Ei Mawrhydi benodi Mick Antoniw AS yn Gwnsler Cyffredinol. Cynigiwyd y cynnig. Mark Drakeford AC: Wel, mae'n bleser i'w wneud ef, Llywydd, ond dwi'n ei wneud e'n ffurfiol. Mick Antoniw. Mick Antoniw AC: Diolch, Llywydd, a diolch i'r Prif Weinidog am fy enwebu. Hoffwn i dalu teyrnged i Jeremy Miles a oedd yn y rôl hon o'm blaen i. Diolch iddo ef am ei waith caled i hybu a datblygu awdurdodaeth gyfreithiol i Gymruac amddiffyn statws cyfansoddiadol y Senedd hon ar ran pobl Cymru. Dros y blynyddoedd diwethaf, ers Brexit ac o ganlyniad i'r pandemig, mae pobl wedi dod i sylweddoli a deall yn well pa mor bwysig yw gwaith y Senedd hon. Mick Antoniw AC: Mae'r pandemig, Llywydd, wedi tynnu sylw penodol at y dylanwad a'r effaith y mae'r cyfreithiau a wneir yma, yn y Senedd hon, yn eu cael ar fywydau pob dydd pobl Cymru. Mae effaith lawn y setliad datganoli wedi ei chydnabod yma yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig. Mae'r Senedd hon a'r cyfrifoldebau deddfwriaethol yr ydym ni yma i'w harfer wedi eu hamlygu ym meddyliau poblogaeth Cymru. Edrychaf ymlaen at chwarae fy rhan i helpu'r Senedd a Llywodraeth Cymru i ymateb i'r heriau a'r anawsterau y byddwn yn eu hwynebu dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf. Byddaf, fel arfer, yn gweithio i amddiffyn a chryfhau uniondeb ein swyddogaeth gyfansoddiadol fel Senedd i bobl Cymru, ein democratiaeth Gymreig a rheolaeth y gyfraith. Diolch, Llywydd. Y Prif Weinidog eisiau ymateb? O bosib ddim. Nac ydy, ac felly dwi'n gofyn y cwestiwn: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, ac felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Yr eitem nesaf yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad—Lesley Griffiths. Lesley Griffiths AC: Diolch, Llywydd. Mae dau newid i'r agenda heddiw: bydd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn gwneud datganiad ar adnewyddu a diwygio: cefnogi llesiant a dilyniant dysgwyr. Yn ail, rwyf wedi ymestyn hyd y ddadl ar Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2021 i 30 munud. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi ei nodi ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymysg papurau'r cyfarfod sydd ar gael yn electronig i'r Aelodau. Darren Millar AC: A gaf i longyfarch y Trefnydd ar ei phenodiad i Gabinet Llywodraeth Cymru ac ar ei swyddogaeth weinidogol arall hefyd ar gyfer materion gwledig a'r gogledd? A gaf i alw am ddau ddatganiad gan Lywodraeth Cymru heddiw, os gwelwch yn dda? Mae'r cyntaf yn ymwneud â gofal newyddenedigol yng Nghymru. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol iawn o'r ffaith y bu effaith sylweddol ar drefniadau ymweld â chyfleusterau gofal newyddenedigol ledled y wlad o ganlyniad i bandemig COVID-19, ond mae'r elusen ar gyfer babanod a anwyd yn gynnar ac yn sâl, Bliss, wedi codi pryderon ynghylch y trefniadau i ymweld â'r rhain, sy'n eithrio tadau babanod bach a sâl yn bennaf. Tybed pa gamau y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd drwy gyhoeddi canllawiau cenedlaethol mwy diweddar, gan fod y gyfradd frechu bellach wedi bod mor llwyddiannus ac rydym wedi gweld gostyngiad sylweddol yn nifer yr achosion o COVID. Felly, a gawn ni'r wybodaeth ddiweddaraf am y trefniadau ar gyfer ymweld â'r canolfannau gofal newyddenedigol penodol hynny ledled y wlad? Yn ail, a gawn ni ddatganiad arall gan y Gweinidog iechyd, y tro hwn ynglŷn â chael apwyntiadau meddyg teulu wyneb yn wyneb? Rwy'n cael gohebiaeth gynyddol o bob rhan o'r etholaeth oddi wrth bobl sy'n awyddus iawn i drefnu apwyntiad wyneb yn wyneb gyda'u meddyg teulu ac sy'n teimlo'n fwyfwy rhwystredig oherwydd y system brysbennu galw yn gyntaf sy'n gweithredu ar draws y gogledd a rhannau eraill o'r wlad. Nawr, gallaf werthfawrogi, yn amlwg, yr angen i ddiogelu'r trefniadau rheoli heintiau yn ein meddygfeydd, ond mae hyn nawr yn mynd yn fater dadleuol mewn llawer o gymunedau a tybed a ellir cyhoeddi canllawiau newydd sy'n caniatáu i drefn apwyntiadau wyneb yn wyneb ddychwelyd yn raddol, trefn fwy arferol i ddychwelyd i'n meddygfeydd ledled y wlad. Diolch. Lesley Griffiths AC: Diolch, Darren Millar, am eich geiriau caredig ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi ar y Pwyllgor Busnes. Fe wnaethoch chi godi dau bwynt pwysig iawn, a gwn y bu'n gyfnod arbennig o anodd a phryderus i rieni a theuluoedd babanod yr oedd angen gofal newyddenedigol arnyn nhw. Yn amlwg, mae gan fyrddau iechyd hyblygrwydd o fewn y canllawiau presennol ynghylch ymweliadau ac rwy'n siŵr y bydd pob bwrdd iechyd yn edrych, fel y dywedwch chi, pan fydd y sefyllfa'n gwella, ar ehangu'r amseroedd ymweld yn yr ardaloedd hynny. O ran eich ail gwestiwn ynghylch mynediad at feddygon teulu, rydym yn gwybod bod pobl, yn bennaf, yn cael ymgynghoriadau dros y ffôn a dulliau technolegol eraill. Ond rwy'n gwybod bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol newydd, Eluned Morgan, wrthi'n gweithio gyda meddygon teulu eu hunain a rhanddeiliaid eraill i weld pryd y bydd hynny'n bosibl. Ac eto, mae rhywfaint o hyblygrwydd ynghylch hynny. Gwn am rai practisau meddygon teulu yn fy etholaeth fy hun lle mae'r ymweliadau wyneb yn wyneb hynny'n digwydd ar hyn o bryd. Sioned Williams MS: Trefnydd, dangosodd adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf gan glymblaid End Child Poverty fod rhannau o Gymru wedi gweld cynnydd dramatig mewn tlodi plant yn ystod y pum mlynedd diwethaf a bod gan Gymru bellach y gyfradd dlodi plant waethaf o holl genhedloedd y Deyrnas Gyfunol, gyda 31 y cant o blant yn byw o dan y llinell dlodi. Mae sefyllfa tlodi plant yng Nghymru yn sgandal cenedlaethol. Yn anffodus, nid yw tlodi plant yn rhywbeth newydd ac mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ceisio mynd i'r afael â'r mater ond wedi methu. Mae elusennau a sefydliadau eraill yn galw ar Lywodraeth newydd Cymru i flaenoriaethu lleihau tlodi plant, gyda cherrig milltir mesuradwy clir a thargedau uchelgeisiol. A wnaiff y Trefnydd ymrwymo heddiw i neilltuo amser yn yr amserlen seneddol ar y cyfle cynharaf i roi cyfle i ni i gyd fel Senedd drafod a chraffu ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi plant? A gaf i hefyd erfyn ar y Trefnydd yn yr un modd i neilltuo amser i'r Senedd roi sylw i effaith amddifadedd ar ein pobl ifanc, rhywbeth y mae'r heddlu yn cytuno sydd angen ei flaenoriaethu wrth ystyried, yn enwedig, digwyddiadau yr wythnos diwethaf yn ardal Mayhill, Abertawe? Lesley Griffiths AC: Diolch am y cwestiwn yna ac, yn amlwg, bydd tlodi plant a lliniaru tlodi plant a phob math o dlodi yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru. Byddaf yn sicr yn siarad â'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, i weld pa gynlluniau sydd ganddi o ran mynd i'r afael â phob math o dlodi yn ogystal â thlodi plant a, phan fo'n briodol, rwy'n siŵr y bydd yn cyflwyno datganiad. Mike Hedges AC: Rwy'n gofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf am y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar ddedfrydau hwy am greulondeb i anifeiliaid. Cytunodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn unfrydol i'w gefnogi yn ystod y Senedd ddiwethaf, ond, yn anffodus, roedd yn rhy agos at y diwedd iddo gael ei weithredu. A wnaiff y Trefnydd roi dyddiad ar gyfer ei gyflwyno gerbron y Senedd i ni, oherwydd fy mod i ar ddeall bod gennych gefnogaeth unfrydol ar draws pleidiau ac o fewn pleidiau i'r ddeddfwriaeth hon, a fydd yn golygu y gellir cynyddu yn sylweddol iawn ddedfrydau pobl sy'n cyflawni troseddau creulondeb i anifeiliaid? Lesley Griffiths AC: Diolch, Mike Hedges, ac, yn amlwg, rwy'n ymwybodol iawn o'r gefnogaeth drawsbleidiol a gafwyd i'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol. Ond, yn anffodus, bwrodd Llywodraeth y DU ymlaen â'r Bil Lles Anifeiliaid (Dedfrydu), er gwaethaf y diffyg cyfle i'r Senedd roi caniatâd, oherwydd yr etholiad, ac yr oedd yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad, pan nad oeddwn i'n credu y byddai'r memorandwm yn cael ei gyflwyno bryd hynny. Nid oeddem yn credu y byddai'r Bil yn cael ei brosesu mor gyflym â hynny, felly fe wnes i ysgrifennu at Lywodraeth y DU ar unwaith i fynegi fy mhryder ynglŷn â hyn. Rwy'n credu ei bod yn enghraifft arall o amarch Llywodraeth y DU tuag at gonfensiwn Sewel. Byddaf yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig—efallai y prynhawn yma, ond yn sicr gobeithio erbyn yfory—a byddaf i hefyd yn ysgrifennu at Lywodraeth y DU eto. Yr hyn yr wyf i'n dymuno ei ddarparu yw manylion i'r Aelodau ynghylch sut y digwyddodd hyn a pha gamau y gwnaethom ni Lywodraeth Cymru eu cymryd i'w osgoi. Mark Isherwood AC: Galwaf am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar ei safbwynt presennol ynghylch coridor yr A55, yr A494, a'r A548 yn sir y Fflint. Cyhoeddodd Llywodraeth Lafur Cymru yn 2017 ei bod wedi penderfynu ar ddewis llwybr coch sir y Fflint i'r A55 yn Llaneurgain. Yn dilyn hynny codais bryderon etholwyr ynglŷn â hyn gyda chyn-Weinidog yr economi droeon, gan dynnu sylw at faterion gan gynnwys effaith amgylcheddol ar gynefinoedd, dolydd a choetir hynafol. Fis Medi diwethaf, dywedodd, 'Rydym yn disgwyl cynnal rhai ymchwiliadau amgylcheddol ar hyd y llwybr a ffefrir yn hydref 2020.' Fis Hydref diwethaf dywedodd, 'Rydym yn parhau â'r cam datblygu nesaf i wella coridor sir y Fflint ac ar hyn o bryd rydym yn caffael cynllunydd i ddatblygu cynigion y cynllunydd yn fanylach.' Fis Rhagfyr diwethaf, dywedodd wrthyf yn y Siambr hon mai'r llwybr hwn oedd yr un mwyaf addas ar gyfer yr her yr ydym yn ei hwynebu yn yr ardal benodol honno o Gymru. Fodd bynnag, yn ystod yr etholiad diweddar, dywedodd yr Aelod lleol—sy'n Aelod o Lywodraeth Cymru ei hun—ei bod yn gwrthwynebu'r llwybr a deellir wedyn i'r Prif Weinidog ddweud y byddai'n adolygu hyn. O ganlyniad galwaf am ddatganiad. Lesley Griffiths AC: Mae'n amlwg bod y Gweinidog newydd yn edrych ar y mater hwn ac yn sicr byddaf yn gofyn iddi gyflwyno datganiad pan fydd ganddi'r holl wybodaeth berthnasol. Peredur Owen Griffiths AS: Yn gyntaf, buaswn i'n licio diolch yn fawr i chi i gyd am y cyfle i siarad prynhawn yma, a llongyfarchiadau yn wir i'r Aelodau i gyd am gael eu hethol. Buaswn i hefyd yn licio diolch i'm hetholwyr am ddangos eu ffydd ynof fi i'w cynrychioli nhw fel Aelod rhanbarthol. Peredur Owen Griffiths AS: Mae pandemig y coronafeirws wedi ysgogi gwerthfawrogiad o'r newydd ynom ni o'n mannau gwyrdd, pwysigrwydd a harddwch Cymru a'r awyr agored yng Nghymru, a'r angen am adferiad gwyrdd. Fodd bynnag, fis Mehefin diwethaf, pan welsom fannau gwerthu bwyd brys drwy ffenest y car yn ailagor, cafodd ein mannau gwyrdd eu difetha gan sbwriel. Mae taflu sbwriel yn broblem hollbresennol ledled Cymru, yn enwedig yn y de-ddwyrain, ac mae fy etholwyr i yn awyddus i fynd i'r afael â'r argyfwng sbwriel sy'n cynyddu'n barhaus. Un ateb posibl i'r argyfwng fyddai ei gwneud yn orfodol i fannau gwerthu bwyd brys drwy ffenest y car argraffu rhifau ceir ar eu pecynnau bwyd fel y gellir olrhain sbwriel er mwyn annog pobl i beidio â thaflu sbwriel. Mae'n rhaid i adferiad COVID yn y de-ddwyrain fod yn adferiad gwyrdd. Felly, hoffwn gael datganiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch ei chynlluniau ar gyfer mynd i'r afael â'r argyfwng sbwriel, ac a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried mabwysiadu'r dull hwn i annog pobl i beidio â thaflu sbwriel? Diolch yn fawr. Lesley Griffiths AC: Diolch, a chroeso. Un o'r pethau olaf a wnes i cyn yr etholiad yn fy mhortffolio blaenorol oedd lansio ymgynghoriad ynghylch tipio anghyfreithlon a thaflu sbwriel. Rwy'n cytuno â chi yn llwyr—mae'n beth ofnadwy ein bod, yn anffodus, wedi gweld cynnydd, yn enwedig dros y 12 mis diwethaf, ac mae'r Llywodraeth hon wedi ei gwneud yn glir iawn bod yn rhaid iddo fod yn adferiad gwyrdd wrth i ni ddod allan o COVID. Ni allwn barhau i wneud yr un pethau yn wahanol; mae'n rhaid i ni wneud pethau gwahanol, a bydd rhan o hynny yn yr adferiad gwyrdd ac yn wir yr adferiad glas. Felly, rwy'n siŵr, pan fydd y Gweinidog—ni allaf gofio pryd y daw'r ymgynghoriad i ben, ond nid yw wedi cau eto—yn cael cyfle i edrych ar yr ymatebion, y bydd yn cyflwyno gwybodaeth berthnasol i'r holl Aelodau bryd hynny. Vikki Howells AC: Hoffwn eich llongyfarch, Trefnydd, ar eich swyddogaeth newydd hefyd. Trefnydd, ddechrau mis Ebrill, cyhoeddodd Pwyllgor Dethol Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Tŷ'r Cyffredin ei adroddiad ar gynllun pensiwn y glowyr, ac roedd ei ganfyddiadau'n llwm. Dyfynnaf: 'Mae'n hollol amlwg...bod Llywodraeth y DU wedi elwa heb hawl ar drefniadau'r cynllun ac mae'n anniffynadwy i'r Llywodraeth barhau i ddadlau bod y trefniadau'n parhau'n deg.' Ni ddylai llywodraethau fod yn elwa ar bensiynau glowyr. Roedd yr adroddiad yn glir fod yr elwa hwn ar draul glowyr a'u teuluoedd, y mae llawer ohonyn nhw'n ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd. A gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar ei hymateb i'r adroddiad hwn, sy'n effeithio ar gynifer o fy etholwyr i yng Nghwm Cynon? A wnewch chi hefyd ofyn i'ch cyd-Weinidogion godi hyn gyda Gweinidogion y DU fel y gallwn gael cyfiawnder i'r rhai hynny yr effeithir arnyn nhw? Lesley Griffiths AC: Diolch, Vikki Howells, am godi'r pwynt pwysig iawn hwn. Rydym yn ymwybodol iawn o ymgyrch hirsefydlog Undeb Cenedlaethol y Glowyr ynghylch hyn ac, yn amlwg, mae Llywodraethau blaenorol Cymru wedi ei gwneud yn glir iawn i Lywodraeth y DU eu bod yn cefnogi safbwynt yr UCG. Y pwyllgor yr ydych chi'n cyfeirio ato, rwy'n credu ei bod yn galonogol iawn gweld ei fod wedi dod i'r un casgliadau ag a wnaeth Llywodraeth Cymru. Nid yw'n fater sydd wedi'i ddatganoli, ac mae'n amlwg nad oes gennym ni'r pwerau i wireddu eu hargymhellion. Fodd bynnag, mae gennym ymrwymiad i waith teg. Byddwch yn ymwybodol iawn ei bod yn egwyddor sylfaenol y dylai gweithwyr gael tâl teg am eu gwaith, ac rwyf i'n credu bod hynny'n cynnwys pensiwn teg. Felly, byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU ar y mater hwn a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Senedd drwy ddatganiadau ysgrifenedig. Natasha Asghar AS: Gweinidog, a gaf i alw am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ar y penderfyniad i ganiatáu i feddygon ragnodi pils dros y ffôn neu drwy fideo i alluogi merched a menywod i erthylu gartref? Rwy'n siŵr bod llawer o'r Aelodau wedi clywed gan bobl sy'n pryderu bod dileu unrhyw oruchwyliaeth feddygol uniongyrchol sy'n goruchwylio'r defnydd o'r pils erthylu hyn gartref yn codi nifer o faterion diogelwch o ran y fam, gan beryglu ei hiechyd a'i diogelwch, a'r pryder y gallai arwain at roi mwy o bwysau ar y GIG, sef yr union ganlyniad y mae'r polisi'n ceisio'i osgoi yn y pen draw. Dywedodd y Gweinidog iechyd blaenorol mai cymeradwyaeth dros dro oedd hyn, yn sgil coronafeirws, a fyddai'n dod i ben ar y diwrnod y daw darpariaethau dros dro Deddf Coronafeirws 2020 i ben, neu ar ddiwedd y cyfnod o ddwy flynedd, gan ddechrau ar y diwrnod y cafodd ei gwneud, neu ba un bynnag yw'r cynharaf. Wrth i'r cyfyngiadau coronafeirws gael eu llacio, ac o gofio'r angen i leddfu'r pwysau ar staff rheng flaen y GIG, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ynghylch a fydd y polisi dros dro hwn o ganiatáu i fenywod gael gwasanaethau terfynu beichiogrwydd gartref yn barhaol ai peidio? Diolch. Lesley Griffiths AC: Diolch, a diolch am y cwestiwn yna. Fel y dywedwch, sefyllfa dros dro ydoedd a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol blaenorol, ac rwy'n siŵr, pan fydd y Gweinidog newydd wedi cael amser i'w hystyried—ac fe wnaethoch chi roi dwy enghraifft pryd y byddai'n dod i ben; nid wyf i'n credu ein bod ni wedi cyrraedd yr un o'r ddau eto—yna bydd yn cyflwyno rhagor o wybodaeth. Mabon ap Gwynfor. Mabon ap Gwynfor AS: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Llongyfarchiadau i chi, gyda llaw, ar eich etholiad i'r rôl, a llongyfarchiadau i chi, Drefnydd, ar eich apwyntiad i'r rôl bwysig yma yn y Cabinet. Gaf i ddweud i gychwyn faint o anrhydedd ydy fy mod i yma yn eich plith chi fel Aelod o'r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd? Diolch i bobl ac etholwyr Dwyfor Meirionnydd am roi eu ffydd ynof fi. Gaf i hefyd gymryd y cyfle yma i nodi pa mor chwith ydy meddwl am y Senedd yma heb bresenoldeb fy rhagflaenydd, Dafydd Elis-Thomas? Diolch iddo fo am ei gyfraniad aruthrol i fywyd cyhoeddus Cymru ac, yn wir, i dwf y Senedd. Roeddwn i'n falch iawn o glywed y Prif Weinidog yn dweud yn y Siambr yr wythnos diwethaf nad oedd am weld Gweinidogion y Llywodraeth yn dod i'r Siambr gan wadu cyfrifoldeb am benderfyniadau a phethau sy'n cael eu gwneud oherwydd bod y cyfrifoldeb yna wedi cael ei drosglwyddo i gorff allanol. Gobeithio, felly, y bydd yr un peth yn wir am y gwasanaeth iechyd, ac yn yr ysbryd hynny, felly, a wnaiff y Llywodraeth sicrhau bod adroddiad Robin Holden i fewn i wasanaethau iechyd meddwl bwrdd iechyd gogledd Cymru yn cael ei gyhoeddi'n llawn? Ac a wnaiff y Gweinidog roi diweddariad i ni ar y camau sydd wedi cael eu cymryd i wella a chryfhau gwasanaethau iechyd meddwl gogledd Cymru ers iddyn nhw gael eu tynnu allan o fesurau arbennig yn ôl yn yr hydref? Diolch. Lesley Griffiths AC: Diolch a chroeso, Mabon. Fel y gwyddoch, mae gennym Weinidog penodol, neu Ddirprwy Weinidog, dros iechyd meddwl a lles, ac mae Lynne Neagle newydd ddod i'r rôl honno ac, yn amlwg, bydd yr adroddiad hwnnw ar ei desg, yn ei hambwrdd. Rwy'n siŵr, ar yr adeg briodol, y bydd yr adroddiad naill ai'n cael ei gyhoeddi neu bydd datganiad i gyd-fynd ag ef, oherwydd, fel y dywedwch, mae'n fater difrifol iawn y mae'r Llywodraeth Cymru hon yn ei gymryd o ddifrif, a byddwn yn amlwg yn sicrhau bod pob Aelod yn cael ei hysbysu. Hefin David AC: Maniffesto Llafur Cymru—. A ddylwn i groesawu'r Gweinidog i'w swydd yn Drefnydd yn gyntaf a'i llongyfarch hefyd? Dywedodd maniffesto Llafur Cymru, 'Byddwn yn gweithredu'r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd, i drawsnewid y profiadau a'r canlyniadau i blant a phobl ifanc.' Er mwyn i hynny fod yn llwyddiannus, rwy'n credu y bydd yn brawf enfawr ar Lywodraeth Cymru. Mae'n rhaid ei ariannu'n llawn ac mae'n rhaid iddo hefyd gysylltu'n ddi-dor addysg, gofal cymdeithasol ac iechyd gyda'i gilydd, ac rwy'n credu bod hynny ynddo'i hun yn her ac ni ddylem fod mewn sefyllfa lle mai addysg yn unig sy'n ysgwyddo'r baich a ddaw, a faint o waith a ddaw, yn sgil cyflwyno'r Ddeddf. Felly, a gawn ni ddatganiad cyn toriad yr haf gan y Gweinidog iechyd i roi gwybod i ni sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflawni'r addewid maniffesto hwnnw, ac i'n galluogi i graffu'n briodol ar gynlluniau cynnar Llywodraeth Cymru? Lesley Griffiths AC: Diolch i Hefin David am ei eiriau caredig, a gwn fod hwn yn fater sy'n agos iawn at ei galon. Mae gwaith sylweddol wedi ei wneud, fel y gŵyr yr Aelod, rwy'n siŵr, i baratoi ar gyfer gweithredu'r Ddeddf. Mae arweinwyr trawsnewid, er enghraifft, wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda rhanddeiliaid allweddol a phartneriaid cyflawni fel bod y system newydd yn barod ar gyfer y bobl sy'n mynd i'w chyflawni. Mae canllaw i'r flwyddyn gyntaf o weithredu yn cael ei gwblhau ar hyn o bryd. Bwriedir cyhoeddi hynny yn ystod yr wythnosau nesaf, ac yna bydd gwybodaeth ychwanegol i rieni a'u teuluoedd. Ac yna bydd gwaith yn parhau o ran blwyddyn 2 a blwyddyn 3 y gweithredu, gyda chanllawiau gweithredu ychwanegol i ddilyn. Janet Finch-Saunders AC: Llongyfarchiadau i chi ar eich swyddogaeth yn Drefnydd. Nawr, fel y gwyddoch chi, mae'r sector twristiaeth wedi dioddef yn fawr dros y 14 mis diwethaf, yn enwedig yn fy etholaeth i, sef Aberconwy, ac mae'n wirioneddol wych, mewn gwirionedd, yrru ar hyd promenâd Llandudno nawr a mynd trwy'r dyffryn a gweld gwestai'n dechrau ailagor yn araf. Fodd bynnag, maen nhw'n dal i fod o dan anfantais fawr yma yng Nghymru o'u cymharu â'r rhai dros y ffin yn Lloegr. Yma, mae gwestai wedi'u cyfyngu gan y rheol 2m, yn Lloegr mae'n 1m neu fwy, felly mae hynny yn effeithio ar faint sy'n cael cadw bwrdd mewn bwytai—mae'n rhaid iddyn nhw gadw at hanner y niferoedd yno. Nawr, mae gennym ni'r gwaharddiad afresymol ar berfformiadau byw mewn gwestai. Nid yw rhai o fy etholwyr i sydd, yn wir, yn cael eu cyflogi fel diddanwyr yn y sector hwn wedi gweithio ers tua 16 mis bellach, ac rydym ni hefyd yn clywed am westai yn colli cwsmeriaid i Loegr—teithiau bws ac ati. Maen nhw eisiau adloniant yn eu gwesty. Felly, a wnewch chi gyflwyno datganiad, Trefnydd, yn sicrhau y bydd ein rheoliadau yn gyson cyn gynted â phosibl er mwyn i westywyr yn Aberconwy allu gweithio i'r rheol 1m neu fwy, a hefyd y cawn ni fynd yn ôl at gael adloniant byw yn ein gwestai? Diolch, Llywydd. Lesley Griffiths AC: Diolch, Janet Finch-Saunders, am eich geiriau caredig ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chithau hefyd. O ran—. Nid wyf i'n ei gweld hi'n sefyllfa annheg i ni. Yn amlwg, mae gan Loegr reoliadau gwahanol i'r hyn sydd gennym ni yng Nghymru ynghylch coronafeirws. Weithiau maen nhw yr un fath, weithiau maen nhw'n wahanol, ac, yn amlwg, gan fy mod i'n cynrychioli etholaeth ar y ffin, rwy'n ymwybodol iawn bod pobl yn teimlo nad ydyn nhw'n cael eu trin yn yr un modd, ond nid yw hynny'n wir. A byddwch chi wedi clywed y Prif Weinidog yn ateb yn helaeth ynghylch lletygarwch a sectorau eraill mewn cysylltiad â choronafeirws. Yr wythnos nesaf, bydd adolygiad arall o'r rheoliadau. Bydd popeth yn cael ei ystyried, ond, fel y dywedodd y Prif Weinidog, y flaenoriaeth yw cadw pobl ac, yn amlwg, busnesau yng Nghymru yn ddiogel. Unwaith eto, rydym ni wedi cefnogi busnesau yn y ffordd a amlinellwyd gan y Prif Weinidog, ac mae'n dda gweld lleoedd yn agor nawr a phobl mewn bwytai ac ati. Ond rwy'n credu bod yn rhaid i ni bob amser ystyried diogelwch a diogelu cymaint o fywydau â phosibl, sef y rheswm sylfaenol dros y cyfyngiadau yr ydym wedi eu gweithredu erioed. Delyth Jewell AC: Trefnydd, croeso i'ch rôl newydd. Delyth Jewell AC: Hoffwn i ofyn am ddatganiad ar ddiogelwch tomenni glo yng nghymoedd y de. Yn gynharach eleni, adroddwyd bod bron i 300 o domenni glo yng Nghymru wedi eu dosbarthu fel rhai â risg uchel, a bod y nifer mwyaf, mewn unrhyw ardal awdurdod lleol, yng Nghaerffili, yn fy rhanbarth i. Nawr, rwy'n sylweddoli y bydd llawer o'r rhain ar dir preifat—nid ydyn nhw i gyd o dan reolaeth awdurdodau lleol—ond mae rhai etholwyr wedi cysylltu â mi yn gofyn a oes modd i'r wybodaeth am leoliad y safleoedd hyn fod ar gael yn haws i'r cyhoedd. Felly, gofynnaf am eglurder ynglŷn â hynny, ond, yn bwysicach, hoffwn i wybod pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd nawr, sut y mae hyn wedi datblygu ers yr etholiad, a pha gamau yr ydych yn eu mynnu o du Llywodraeth y DU, oherwydd siawns na ddylen nhw fod yn talu i wneud y tomenni hyn yn ddiogel. Ni arhosodd elw cloddio yn y cymoedd hyn, ac eto rydym ni wedi talu pris mor uchel am gloddio glo. Trefnydd, rwy'n cynrychioli ardal sydd wedi ei handwyo gan alar oherwydd tomenni glo, ac ers tirlithriad Tylorstown y llynedd, yn y rhanbarth cyfagos, gwn fod pobl sy'n byw ger y tomenni hyn yn mynd mor ofnus bob tro y bydd glaw trwm, fel sydd wedi digwydd yn ystod yr wythnosau diwethaf. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, fel y gallwn ni leddfu pryderon pobl, fel y gallwn ni fod yn agored, ond, yn bwysicaf oll, er mwyn gwybod pa gamau fydd yn cael eu cymryd i leddfu pryderon pobl? Diolch yn fawr iawn. Lesley Griffiths AC: [Anghlywadwy.]—Delyth Jewell. Fel y gwyddoch, gwnaed llawer iawn o waith yng nghyswllt diogelwch tomenni glo ers i ni gael y tirlithriad hwnnw yn Tylorstown ym mis Chwefror 2020. Cynullodd y Prif Weinidog fforwm diogelwch tomenni glo, ac mae'n amlwg bod Llywodraeth y DU—Ysgrifennydd Gwladol Cymru—wedi eistedd ar y fforwm hwnnw, oherwydd, fel y dywedwch, Llywodraeth y DU sy'n—. Etifeddiaeth yw hon; mae hyn yn rhagflaenu datganoli. Ac mae'n amlwg bod angen i Lywodraeth y DU ddarparu cyllid sylweddol, oherwydd, fel y dywedwch, gyda phob mis sy'n mynd heibio, mae'r bil hwnnw yn cynyddu yn fwy ac yn fwy. Felly, mae'n bwysig iawn. Un o'r pethau a ddaeth i'r amlwg yn gyflym iawn oedd nad oeddem yn gwybod ble'r oedd yr holl domenni glo hynny a phwy oedd yn berchen arnyn nhw. Felly, mae llawer iawn o waith wedi ei wneud i gael cofrestr, oherwydd, fel y dywedwch, mae llawer ohonyn nhw mewn perchnogaeth breifat. Mae llawer ohonyn nhw ym mherchnogaeth yr awdurdod lleol, ond rwy'n credu bod y rhan fwyaf ohonyn nhw mewn perchnogaeth breifat. Felly, mae hwn yn waith sydd wedi ei wneud. Mae llinell gymorth ar gael. Gwnaeth Llywodraeth Cymru yn siŵr fod llinell gymorth ar gael i bobl a oedd yn pryderu, a byddaf yn sicrhau bod y rhif ffôn ar gyfer y llinell gymorth yna yn mynd at bob Aelod, oherwydd, yn amlwg, mae gennym ni Aelodau newydd nad ydyn nhw efallai'n ymwybodol ohono. Ond mae hwn yn ddarn o waith sy'n parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, gan weithio gyda Llywodraeth y DU ac, yn amlwg, awdurdodau lleol. Alun Davies AC: Hoffwn i ofyn am ddatganiad brys ar unrhyw gytundeb masnach rydd bosibl ag Awstralia. Fe wnaethom ni glywed y newyddion dros y penwythnos fod Llywodraeth Geidwadol y DU yn troi ei chefn ar y Gymru wledig ac yn troi ei chefn ar y diwydiant amaethyddol. Rydym wedi clywed gan y ddau undeb ffermio am yr effaith andwyol bosibl ar ffermio ledled ein gwlad ar sail cytundeb masnach rydd a fydd o fudd i gyllidwyr y Torïaid yn Ninas Llundain ac a fydd yn aberthu amaethyddiaeth Cymru i dalu am hynny. Mae'n bwysig nid yn unig i ucheldir Cymru, nid yn unig i'r Gymru wledig, ond i'n hunaniaeth genedlaethol ni ein hunain ein bod yn gallu trafod a dadlau y materion hyn yn y Senedd hon a sicrhau bod lleisiau'r Senedd hon yn cael eu clywed—ein bod ni eisiau cefnogi ein ffermwyr a'n bod ni eisiau cefnogi ein diwydiant defaid hyd yn oed os yw'r Llywodraeth Geidwadol yn troi ei chefn arnyn nhw, ac mae angen datganiad brys ar hynny, neu gyfle i drafod y materion hyn. Hoffwn i ofyn hefyd am ddatganiad ar yrru oddi ar y ffordd a'i effaith ar gymunedau yng Nghymru. Efallai fod yr Aelodau a'r Gweinidog wedi gweld yr adroddiadau ar y BBC ddoe o Fynydd Carn-y-Cefn yng Nglynebwy, lle mae porwyr wedi bod yn trafod sut mae gyrru oddi ar y ffordd yn effeithio arnyn nhw, yn effeithio ar ein hamgylchedd lleol ym Mlaenau Gwent, ond mae hefyd yn cael effaith wirioneddol ar gymunedau'r fwrdeistref hefyd. Mae hyn yn rhywbeth sydd wedi bod yn digwydd ers rhai blynyddoedd, ac mae gyrwyr oddi ar y ffordd, wrth chwalu ffensys, wrth ddinistrio ein hamgylchedd, yn cael effaith wirioneddol ar ein bwrdeistref ac ar amgylchedd Blaenau'r Cymoedd. Ond rwy'n cydnabod ei fod hefyd yn broblem mewn mannau eraill yn y wlad. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu gwneud datganiad ar hyn a dod â gwahanol asiantaethau at ei gilydd er mwyn mynd i'r afael â'r mater hwn. Lesley Griffiths AC: Diolch. Ar hyn o bryd, nid ydym yn gwybod union fanylion cynnig Llywodraeth y DU i Awstralia. Fel chithau, rwyf i wedi gweld llawer o ddyfalu yn y wasg, ond, yn sicr, mae swyddogion Llywodraeth Cymru o fewn fy mhortffolio fy hun ac o fewn portffolio'r economi wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth y DU i egluro'n glir iawn ein barn bod yn rhaid gwneud popeth i gefnogi ein sector amaethyddol, ac mae hynny'n cynnwys y cwotâu a'r tariffau ar gyfer amaethyddiaeth. Fe wnes i gyfarfod ag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yr wythnos diwethaf, ynghyd â Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, i glywed yr hyn yr oedden nhw'n ei ddweud, oherwydd bod ganddyn nhw farn gref iawn amdano hefyd, yn amlwg. Rwy'n credu bod angen i ni barhau i gael y trafodaethau hynny gyda Llywodraeth y DU. Mae ein swyddogion hefyd yn cyfarfod yn rheolaidd â'r Adran Masnach Ryngwladol yn ogystal â swyddogion Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig. Rwy'n credu bod angen i ni gael yr wybodaeth ddiweddaraf, ond yn sicr nid ydym yn cael llawer o'r wybodaeth yr wyf, yn anffodus, wedi ei darllen yn y wasg. Mae'r trafodaethau gydag Awstralia yn parhau. Darllenais hefyd, rwy'n credu mai Liz Truss yw hi, fod yr Ysgrifennydd masnach ryngwladol yn gobeithio eu cwblhau erbyn mis nesaf, felly mae angen dod i ryw fath o gasgliad. Ond hyd nes y byddwn yn gwybod yr union fanylion rydym yn parhau i weithio'n agos iawn, ac rwy'n sicr yn ceisio cael rhywfaint o wybodaeth gan Ysgrifennydd Gwladol DEFRA fel mater o frys. O ran eich ail bwynt, o ran gyrru oddi ar y ffordd, byddaf yn sicrhau bod y Gweinidog wedi clywed yr hyn a ddywedoch chi, oherwydd fy mod i'n credu ei bod yn bwysig iawn bod asiantaethau'n gweithio gyda'i gilydd, ond gofynnaf iddi ysgrifennu at yr Aelod. Diolch i'r Trefnydd. Rŷn ni allan o amser ar yr eitem yma. Fe fyddwn ni nawr yn cymryd toriad byr ar gyfer caniatáu newidiadau yn y Siambr. Fe wnaiff y gloch ganu dwy funud cyn i ni ailddechrau. Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:11. Ailymgynullodd y Senedd am 15:22, gyda'r Dirprwy Lywydd (David Rees) yn y Gadair. 4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Adnewyddu a diwygio: Cefnogi lles a chynnydd dysgwyr Croeso nôl. Yr eitem nesaf ar yr agenda yw'r datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar adnewyddu a diwygio, cefnogi lles a chynnydd dysgwyr. Galwaf ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles. Jeremy Miles AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, mae'r flaenoriaeth sydd angen sylw ar frys yn glir: sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn gwneud cynnydd tuag at gyflawni eu potensial llawn, er gwaethaf y pandemig. Fe fydd pob penderfyniad y byddaf i'n ei wneud fel Gweinidog yn cael ei lywio gan anghenion dysgwyr a'u lles nhw, gyda ffocws ar leihau anghydraddoldebau addysgol a sicrhau'r canlyniadau gorau i bawb. Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod, yn amlwg, yn un bwysig iawn yn ein hysgolion ni, ein lleoliadau dysgu ni, ein colegau a'n prifysgolion ac yn dangos pa mor bwysig ydyn nhw i'n plant a'n pobl ifanc. Mae ymarferwyr addysg wedi ymateb yn arwrol i heriau'r pandemig, gan arddangos hyblygrwydd, ymrwymiad a gwydnwch trawiadol. Dwi am ddiolch iddyn nhw am eu hymroddiad, eu dyfeisgarwch a'u hymateb cyflym. Mae dysgwyr hefyd wedi gorfod addasu, gan ddysgu a gweithio drwy ddulliau gwahanol iawn. Ond mewn gwirionedd, er gwaethaf hyn oll, mae'r pandemig wedi cael effaith arwyddocaol ar ein pobl ifanc, ar y proffesiwn addysg sy'n eu cefnogi, ac ar eu teuluoedd. Mae llawer o'n plant a'n staff wedi’i chael yn anoddach rheoli eu hiechyd meddwl a'u perthynas gydag eraill, ac mae wedi amlygu'r anghydraddoldebau di-ildio sy'n dal i fodoli mewn rhannau o'n system addysgol, bylchau o ran cyrhaeddiad ac mewn mynediad digidol na ddylai'r un ohonom eu derbyn. Mae'n rhaid inni sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl. Fe fydd hyn yn galw am ymdrech aruthrol gan bob rhan o'r Llywodraeth a'r system addysg er mwyn mynd i'r afael ag effeithiau uniongyrchol a thymor hirach COVID ar addysg. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rŷm ni wedi cymryd camau breision o ran cefnogi disgyblion o gefndiroedd difreintiedig. Mae'n rhaid inni adeiladu ar hyn. Allwn ni ddim caniatáu i’r pandemig gyfyngu ar uchelgais pobl ifanc o dan unrhyw amgylchiadau. Fel Gweinidog a fydd yn gweithio gyda'r proffesiwn, fe fydd pob polisi a phenderfyniad yn cael ei wneud yng ngoleuni pa un ai yw'n cefnogi ein dysgwyr mwyaf difreintiedig. Ein nod ni yw sicrhau bod pob dysgwr yn gwneud cynnydd tuag at gyflawni eu potensial llawn, dim ots lle maen nhw arni ar hyn o bryd. Ac nid mater yw hyn o ddweud wrth ddysgwyr eu bod nhw 'ar ei hôl hi' neu dreulio oriau yn gweithio ar daflenni gwaith a phrofion. Allwn ni ddim seilio ein hadferiad yn dilyn y pandemig ar fodel o'r hyn sy'n ddiffygiol. Yn hytrach, mae angen inni aildanio brwdfrydedd dros ddysgu a gwneud yn siŵr bod dysgwyr—yn enwedig dysgwyr sydd wedi cael eu heffeithio fwyaf—yn teimlo eu bod nhw'n cael eu cefnogi bob cam o'r ffordd. Fe fyddwn ni'n rhoi dysgwyr gyntaf felly, gan gefnogi eu hiechyd a'u lles, eu lefelau cymhelliant a'u hyder, a gwneud yn siŵr eu bod nhw'n parhau i ddatblygu'r sgiliau allweddol sy'n eu galluogi i ddysgu. Dyma'r seiliau y bydd ein dysgwyr yn adeiladu arnyn nhw i wneud y cynnydd sydd ei angen. Mae'r pecynnau cymorth rŷn ni'n eu datblygu yn cael eu dylunio i fynd i'r afael â'r heriau unigryw sy'n wynebu gwahanol ddysgwyr. Mae pob dysgwr wedi bod drwy ei brofiad ei hun o gyfnod COVID, ac fe fydd natur ein cefnogaeth yn adlewyrchu hyn. Bydd ein cefnogaeth yn canolbwyntio ar helpu dysgwyr ôl-16 i symud ymlaen i gamau nesaf eu taith, darparu'r seiliau sy'n galluogi ein dysgwyr mwyaf agored i niwed a difreintiedig i gyflawni eu potensial, a chefnogi datblygiad hollbwysig ymhlith dysgwyr blynyddoedd cynnar. A bydd y dysgwyr ieuengaf hynny'n cael eu cefnogi gan y £13 miliwn ychwanegol rwy'n ei gyhoeddi heddiw ar gyfer ysgolion a lleoliadau nas cynhelir, i'w helpu i ddarparu capasiti addysgu ychwanegol i gefnogi anghenion unigryw ein dysgwyr yn y blynyddoedd cynnar. Mae cyfleoedd rhyngweithio ystyrlon o ansawdd yn hanfodol, ac mae galluogi cymarebau gwell o ran ymarferwyr a dysgwyr yn helpu i ddarparu'r cyfleoedd chwarae addysgol, gweithredol, a dysgu drwy brofiadau gyda chymorth ymarferydd, sy'n ofynnol ar gyfer ein dysgwyr ieuengaf. Bu heriau penodol i'n dysgwyr ieuengaf sy'n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg lle nad yw'r Gymraeg yn cael ei siarad gartref. Mae athrawon mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg wedi gweithio'n eithriadol o galed yn ystod y pandemig i gefnogi cynnydd dysgwyr yn y Gymraeg, ac yn bwysicach, eu cariad at ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Byddwn ni'n parhau i gefnogi'r athrawon a'r dysgwyr hynny, gan adeiladu ar gefnogaeth y rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau, sydd wedi helpu i gynyddu capasiti ac i ddod â dulliau newydd ac arloesol o ddiwallu anghenion ieithyddol ysgolion. Jeremy Miles AC: Nid oes gennyf i unrhyw amheuaeth bod gan ein cwricwlwm newydd y potensial i drawsnewid dysgu, ond dim ond os ydym ni'n cefnogi ein hathrawon ni i'w wneud yn llwyddiant. Rhaid i ni wella a diwygio, ac rwy'n benderfynol ein bod yn adeiladu ar y pwyslais ar les a hyblygrwydd a welwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a sicrhau ei fod yn cyd-fynd yn agos â'r cwricwlwm newydd. Mae ein system addysg wedi dangos cadernid a hyblygrwydd rhyfeddol, ac mae'n rhaid i ni ddysgu o hynny. Rwy'n bwriadu cymryd camau ar unwaith i gefnogi'r proffesiwn a rhoi lle iddyn nhw ganolbwyntio ar yr hyn y maen nhw'n ei wneud orau: addysgu. Mae hynny'n golygu ymdrin â biwrocratiaeth ddiangen, ymddiried yn eu barn broffesiynol a chefnogi eu lles. Rwyf eisiau i'r system gyfan ddysgu o'r hyn sydd wedi gweithio yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a pharhau i gynyddu gallu i wella. Dyna pam yr wyf i hefyd yn cyhoeddi £6.25 miliwn i helpu athrawon mewn ysgolion i ehangu eu gallu a'u medrusrwydd i gefnogi lles dysgwyr o fewn addysgu, hyrwyddo arfer gorau a rhannu hynny ar draws ysgolion, fel ein bod ni'n helpu ysgolion i feithrin cadernid rhag COVID ac ehangu'r newidiadau cadarnhaol i ffyrdd o weithio. Daw hyn â'n buddsoddiad ni i dros £150 miliwn mewn cymorth addysgu mewn ysgolion a cholegau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Byddaf i'n gweithio mewn partneriaeth â'r proffesiwn, ein partneriaid addysg, undebau llafur a rhanddeiliaid eraill, i sicrhau ein bod ni'n cyd-fynd â'r blaenoriaethau cyffredin hyn ac yn symud tuag atyn nhw gyda'n gilydd. Byddaf i'n gwrando ar leisiau ein dysgwyr, gan adeiladu ar waith gwerthfawr arolygon 'Coronafeirws a Fi' Comisiynydd Plant Cymru, fel bod gan ein plant a'n pobl ifanc lais yn y polisïau sy'n effeithio fwyaf arnyn nhw. Mae ein partneriaid eisoes wedi ein helpu ni i ddiffinio'r egwyddorion llywodraethu yr wyf i wedi'u nodi heddiw ar gyfer ein cynlluniau adnewyddu a diwygio. Yn ystod yr wythnosau nesaf, byddaf i'n cyhoeddi cynllun manwl sy'n adlewyrchu'r egwyddorion hynny ac sy'n adeiladu ar y 1,800 o staff addysgu llawn amser ychwanegol a gafodd eu recriwtio yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac yn eu cefnogi. Bydd y cynllun hefyd yn disgrifio sut y byddwn ni'n gweithio gyda'n partneriaid i alluogi dysgwyr i symud ymlaen yn hyderus drwy eu haddysg. Ac yn olaf, byddaf i'n nodi sut y byddwn ni'n gwerthuso'r camau yr ydym ni'n eu cynnig, a sut y byddwn ni'n dangos bod ein cynlluniau'n llwyddo, o ran cefnogi ein dysgwyr a'n hathrawon ac adnewyddu'r sector addysg i symud ymlaen at ddiwygio. Dirprwy Lywydd, bydd y flwyddyn nesaf hon yn hanfodol er mwyn sicrhau y gallwn ni gyflawni ein huchelgeisiau mawr ni ar gyfer dysgwyr yng Nghymru. Mae'n ddyletswydd arnom ni i beidio â chaniatáu i'r pandemig bylu dyheadau na chulhau gorwelion ein plant a'n pobl ifanc. Mae'r penderfyniadau yr ydym ni'n eu gwneud yma nawr yn hanfodol i sicrhau bod pob dysgwr unigol yn cael ei gefnogi i fod y gorau y gall fod. Nid yw COVID-19 wedi diflannu, ac fel Llywodraeth byddwn ni'n parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i ymateb i'r pandemig. Ond nawr yw'r amser i gefnogi ein hymarferwyr a'n dysgwyr ni i wneud y cynnydd sydd ei angen arnyn nhw, i adeiladu ar y cynnydd yr ydym ni wedi'i wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac i edrych ymlaen ac i fanteisio ar y cyfleoedd sydd o'n blaenau ar gyfer addysg yng Nghymru. Cyn i mi alw'r siaradwr nesaf, a gaf i atgoffa'r Aelodau, yr hen a'r newydd, mai diben datganiadau yw gofyn cwestiynau ac nid gwneud areithiau hir? Mae hynny ar gyfer dadleuon, a fydd yn dod yn ddiweddarach yn y Senedd; rwy'n siŵr y bydd pawb yn cymryd rhan yn hynny. Felly, er bod pum munud wedi'u neilltuo i lefarwyr y prif bleidiau, mae gan bawb arall un funud. Cadwch at hynny a gofynnwch gwestiynau. Ac i'r Gweinidogion, a gaf i eu hatgoffa i fod yn gryno yn eu hatebion hefyd? Laura Anne Jones AC: Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Yn gyntaf, a gaf i'ch llongyfarch ar eich penodiad yn Weinidog addysg? Mae'n swydd mor hanfodol bwysig; mae gennych chi ddyfodol ein plant yng Nghymru yn eich dwylo chi nawr. Ac i'r diben hwn, yn ogystal â chraffu arnoch chi a'ch dwyn i gyfrif, byddwn ni'r Ceidwadwyr Cymreig yn ceisio gweithio gyda chi mewn unrhyw ffordd y gallwn ni, mewn modd adeiladol, oherwydd mae'n bwysig nawr ein bod ni'n gwneud pethau'n gywir o ran addysg a dyfodol ein plant, ar ôl popeth y maen nhw wedi bod drwyddo yn y pandemig yn ystod y flwyddyn a hanner diwethaf—mae'n gwbl hanfodol ein bod ni'n gwneud pethau'n gywir, ac mae'n hanfodol ein bod ni'n gweithio gyda'n gilydd ar draws y Siambr er mwyn gwneud hyn. Mae angen i ni sicrhau bod ein plant yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd, eu bod yn cael y system addysg deg, gyfartal a blaengar y maen nhw'n ei haeddu, a'u bod yn cael y gefnogaeth a'r cyfleoedd i symud ymlaen i'w bywydau yn y dyfodol. Hoffwn i hefyd, fel yr oeddech chi wedi'i amlinellu yn eich datganiad, ddiolch yn gyflym, os caf i, Dirprwy Lywydd, i'r holl staff addysgol sydd wedi gofalu am ein plant drwy gydol y pandemig hwn gyda'r holl ffyrdd newydd o weithio, a gweithio gartref. Fel rhiant i blentyn 11 oed, gwelais drosof fi fy hun yr anawsterau yn sgil hynny, cyrraedd ein plant, a darparu'r addysg honno hefyd. Felly, pob clod iddyn nhw. Gwnaethon nhw waith mor wych o dan amgylchiadau mor anodd. Hefyd, hoffwn i sôn am y pandemig a'r effaith a gafodd hwnnw. Roedd yn enfawr. Roedd yn amlwg yn effeithio ar bawb, ond collodd ein pobl ifanc gymaint o gyfnodau o'u bywyd, a rhoi'r gorau i gymaint i amddiffyn y rhai sy'n agored i niwed yn ein cymdeithas, ac maen nhw wedi colli rhywfaint o addysg oherwydd hynny, ond hefyd agwedd gymdeithasol ysgol, y gwelwn ni nawr sydd, fel yr ydych chi wedi ei amlinellu yn eich datganiad, yn hanfodol, ac yn rhan hanfodol bwysig o daith system addysg ein plant. Felly, roeddwn i eisiau sicrhau ein bod ni'n canolbwyntio'n wirioneddol ar hynny. Ynghylch y datganiad, o ran cyllid, wrth gwrs, rydym ni'n croesawu eich datganiad, a chroesawn ni fwy o arian yn dod i'r system addysg. Mae'n hanfodol nawr ein bod ni nid yn unig yn llenwi bylchau gydag arian, ond ein bod ni wir yn ystyried sut y gallwn ni gefnogi ein plant ni yn y tymor hir, a'n hathrawon ni yn y tymor hir nawr, a chadw'r cyllid hwnnw'n fyw cyhyd ag sy'n angenrheidiol i'w helpu nhw i ddod yn ôl ar eu traed—disgyblion ac athrawon. Rydym ni'n croesawu'r cyllid, ond yn benodol, Gweinidog, a wnewch chi amlinellu sut y caiff y cyllid hwnnw ei ddefnyddio? A yw'n mynd i gael ei ddefnyddio ar gyfer athrawon newydd, neu a yw, fel yn y cylch ariannu diwethaf, yn mynd i gael ei ddefnyddio ar gyfer cynorthwywyr addysgu newydd? Yn amlwg, mae gwahaniaeth mawr rhwng y ddau, ac rydym ni wedi gweld nifer yr athrawon yn gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Felly, byddai'n dda cynyddu nifer yr athrawon sydd gennym ni. Byddwn i'n gwerthfawrogi eglurder ar hynny. Hefyd, o ran graddau asesu athrawon, mae angen i ni ystyried y presennol, a dyna sydd bwysicaf yn ein hysgolion ar hyn o bryd. Mae gennym ni lawer iawn o bwysau yn cael ei roi ar ein hysgolion a'n hathrawon i gyflawni hyn yn gywir, ac mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i sicrhau bod y graddau asesu athrawon yn deg ac yn gywir, ond mae'r pwysau y maen nhw'n ei roi ar wneud yr asesiadau ac ati, a phopeth sy'n gysylltiedig â hynny i gyrraedd y pwynt hwnnw nawr, yn enfawr. Rwy'n gwybod eich bod chi wedi ymweld ag ysgol yn fy rhanbarth i yn ddiweddar, Ysgol Gyfun Trefynwy, ac rwy'n gwybod bod y pennaeth yno yn pryderu'n fawr ynghylch y niferoedd y mae'n rhaid iddo ymdrin â nhw—gorfod darparu 30,000 o raddau asesu athrawon a'r cyfan sy'n gysylltiedig â hynny. Roeddwn i eisiau gwybod pa fathau o gynlluniau sydd gennych chi ar waith i gefnogi ein hathrawon yn hynny o beth. A hefyd, a ydych chi'n credu bod y pwysau hynny, felly, os ydych chi'n ystyried ceisio cyflwyno'r cwricwlwm newydd hwn, yn ôl yr amserlen sydd gennym ni—a ydych chi'n credu bod y pwysau hynny'n arwain pobl oddi ar y trywydd iawn yr adeg hon pryd y dylen nhw fod yn defnyddio'r amser i baratoi ar gyfer cyflwyno'r cwricwlwm newydd hwnnw, o fewn yr amserlenni sydd gennym ni? Felly tybed a wnewch chi ateb rhai o'r cwestiynau hynny. Hefyd, o ran addysg cyfrwng Cymraeg, mae eich datganiad yn cydnabod bod heriau penodol wedi bod i'r dysgwyr iau sy'n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg, lle nad oedd y Gymraeg yn cael ei siarad gartref. Mae hwn yn fater yr oedd Estyn wedi'i godi'n ddiweddar wrth ymgysylltu'n ddiweddar â'n hysgolion, ac roedd llawer o ysgolion yn teimlo, at ei gilydd, fod rhywfaint o golli tir ym medrau iaith ein disgyblion. Felly, mae angen, Gweinidog, ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi, cymorth wedi'i dargedu'n fwy ar gyfer y dysgwyr penodol hyn. Byddai gennyf i ddiddordeb mewn clywed yr hyn sydd gennych chi i'w ddweud ynghylch hynny. A hefyd, o ran iechyd meddwl, mae'n rhaid i iechyd meddwl fod— A gaf i atgoffa'r Aelod ei bod hi nawr wedi cael y pum munud? Byddaf i'n efelychu fy rhagflaenydd drwy sicrhau bod pobl yn cadw at yr amser. Laura Anne Jones AC: Iawn. Mae'n ddrwg gennyf. Dof at y terfyn. Yn amlwg, mae'n rhaid i iechyd meddwl fod yn flaenoriaeth lwyr, ond yn eich datganiad chi nid oeddech chi mewn gwirionedd wedi ymdrin ag iechyd meddwl ein hathrawon a sut y byddan nhw'n cael eu cefnogi. Felly, byddwn i'n gwerthfawrogi eich sylwadau ar hynny. Diolch, Gweinidog. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Jeremy Miles AC: Diolch am eich geiriau yn fy llongyfarch, ac am wneud eich sylwadau yn y fath gywair. Yn sicr, byddaf i eisiau gweithio'n adeiladol gyda'r holl bleidiau yn y Siambr hon i gyflawni dros ein plant a'n pobl ifanc, ledled Cymru. Rwy'n credu, os byddwn ni'n canolbwyntio ar les a dilyniant dysgwyr, gan gefnogi lles y proffesiwn, yn y ffordd y cyfeiriodd yr Aelod ato ar ddiwedd ei chwestiwn, y byddwn ni'n dod o hyd i ddigon o dir cyffredin. Ar ddiwedd y Senedd ddiwethaf, gwnaethom ni gynnal ymarfer helaeth, fel y mae'r Aelod yn ei wybod, o ran edrych ar effaith COVID ar draws pob agwedd ar ein cymdeithas. Roedd yn amlwg iawn bryd hynny, fel y gwnaethom ni ei drafod yn y Siambr hon ar ddiwedd y Senedd ddiwethaf, y byddai ein plant a'n pobl ifanc yn ysgwyddo baich sylweddol o ran ymdrin â COVID oni bai ein bod yn cymryd camau penodol i ymyrryd. Dyna sy'n ysgogi'r datganiad yr wyf i wedi'i wneud heddiw. Rwy'n cytuno â'r Aelod bod gweledigaeth hirdymor ac ymrwymiad hirdymor yn gwbl hanfodol. Rwy'n credu mai dyna'r cymhelliant y tu ôl i nifer o'r ymyriadau yr ydym ni wedi'u gwneud hyd yn hyn, sy'n canolbwyntio ar allu dysgwyr i ddysgu, ond mewn ffordd sy'n cefnogi eu lles ehangach, sy'n rhoi iddyn nhw y sgiliau y mae eu hangen arnyn nhw, neu i ailddysgu'r sgiliau nad oedden nhw efallai wedi gallu eu harfer yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, fel bod eu hymgysylltiad â'u dysgu gystal ag y gall fod. Rwy'n credu y bydd angen dull pwrpasol iawn o ymdrin â dysgwyr, oherwydd nid yw profiad pob dysgwr o'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yr un fath. O ran y cyllid yr oedd yr Aelod wedi gofyn i mi amdano, bydd yn cofio'r cyhoeddiad gwerth £72 miliwn o fuddsoddiad ar ddiwedd tymor diwethaf y Senedd, a oedd wedi'i fwriadu yn bennaf i gefnogi ein cyllid ar gyfer y rhaglen recriwtio, adfer a chodi safonau sy'n canolbwyntio'n benodol ar ddysgwyr agored i niwed a dysgwyr difreintiedig, ac yn ogystal â hynny, cyllid o £33 miliwn i gefnogi addysgu ôl-16 mewn colegau addysg bellach a dosbarthiadau chweched dosbarth awdurdodau lleol. A bydd hwnnw, ynghyd â'r cyllid heddiw, yn cael eu defnyddio i gefnogi dysgwyr yn y dyfodol, yn y cyfnod i ddod. O ran y cyllid newydd, mae'n cyflawni dau ddiben. Yn gyntaf, gwella'r cymarebau ar gyfer dysgwyr blynyddoedd cynnar. Rydym ni'n ymwybodol bod meithrin cydberthnasau, dysgu drwy chwarae, yn gwbl hanfodol yn y blynyddoedd cynnar, ac felly mae'r cymarebau'n bwysig iawn. Felly, mae'r cyllid wedi'i gynllunio i wella'r cymarebau hynny, ac yna hefyd i ddarparu adnoddau fel y gall athrawon gefnogi lles dysgwyr drwy ddysgu, a bod yr arferion gorau hynny'n cael eu rhannu ymhlith ein hysgolion. Felly, mae ganddo'r ddau ddiben hynny. Gofynnodd yr Aelod rai cwestiynau penodol iawn ynghylch y gwaith o ran graddau wedi'u pennu gan y ganolfan ar gyfer yr asesiadau yr haf hwn. Rwyf i'n cydnabod yn llwyr fod athrawon yn chwarae rhan gwbl hanfodol wrth gyflawni hynny. Gwnaethom ni ddysgu hynny o'r haf diwethaf—pa mor bwysig yw ymddiried ym marn athrawon wrth gyflawni'r canlyniadau i'n dysgwyr. Rwy'n cydnabod bod hynny'n golygu eu bod yn rheoli blaenoriaethau sy'n cystadlu â'i gilydd yn eu bywyd gwaith. Rydym ni wedi ceisio cefnogi hynny drwy ddarparu adnoddau a deunyddiau, drwy ddarparu rhywfaint o hyblygrwydd ychwanegol, yn enwedig o ran asesu a chymedroli diwedd cyfnod mewn blynyddoedd nad ydyn nhw'n arwain at gymwysterau, a darparu rhywfaint o arian ychwanegol fel y gall ysgolion greu rhywfaint o gapasiti ychwanegol yn eu darpariaeth. O ran y cwricwlwm, nid wyf i eisiau colli'r momentwm sy'n bodoli yn y system tuag at weithredu'r cwricwlwm. Mae brwdfrydedd mawr, rwy'n credu, a'r hyn rwy'n credu yr ydym ni wedi'i ddysgu o COVID yw bod angen i ddysgwyr allu addasu a bod yn fentrus ac ymateb i fyd sy'n newid o'u cwmpas—a'r canolbwyntio hollbwysig hwnnw ar les dysgwyr. Dyna'n union yw'r rhinweddau y mae eu hangen arnom ni yn ein system ysgolion er mwyn ffynnu ym myd y cwricwlwm newydd. Felly, rwy'n awyddus ein bod ni'n symud ymlaen, a'n bod ni'n adeiladu ar yr hyn yr ydym ni wedi'i ddysgu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac ymgorffori hynny yn y cwricwlwm newydd. Yn olaf, Dirprwy Lywydd, ar fater iechyd meddwl, rwy'n credu bod mater lles dysgwyr a gweithwyr proffesiynol wrth wraidd hyn. Cafodd y fframwaith ysgol gyfan ei gyhoeddi ar ddiwedd tymor diwethaf y Senedd. Rydym ni wedi cyhoeddi cyllid sylweddol i ddatblygu hynny yn nhymor y Senedd hon, ac mae'n parhau i fod yn ymrwymiad sylfaenol ar fy rhan i i gyflawni hynny yn ein hysgolion. Siân Gwenllian AC: Llongyfarchiadau mawr ichi ar eich penodiad. Dwi'n edrych ymlaen at gydweithio efo chi, Jeremy. Byddwch chi'n gwybod y byddaf i'n craffu ar eich gwaith chi'n fanwl, yn herio pan fydd angen, a hynny er mwyn gwella profiadau plant a phobl ifanc Cymru a'r rhai hynny sydd yn eu cefnogi nhw. Gobeithio y byddwch chi'n barod i gyfarfod yn rheolaidd. Roedd gwneud hynny efo eich rhagflaenydd yn werthfawr iawn. Diolch ichi am eich datganiad y prynhawn yma. Mae yna lawer o waith i'w wneud i ddelio ag effeithiau'r pandemig, fel rydych chi'n ei ddweud, ond, yn anffodus, dydy COVID ddim wedi mynd, ac mae yna risg o drydedd don, a hynny'n gynyddol debygol. Gallai hynny, wrth gwrs, arwain at amharu pellach ar addysg. Yn anffodus, mae yna fylchau yn y data a'r wybodaeth o ran yr amrywiolyn India mewn ysgolion. Rydym ni wedi clywed undebau athrawon yn Lloegr yn pryderu'n fawr am ddiffyg tryloywder gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig o ran effaith a lledaeniad yr amrywiolyn mewn lleoliadau addysgol. Os ydym ni i weld yr amrywiolyn yn dechrau lledaenu yng Nghymru, mae angen inni ei ddeall o, cyn iddo fo ddod yn broblem ac amharu ar addysg eto. Felly, fy nghwestiwn cyntaf i chi prynhawn yma ydy: a ydy Llywodraeth Cymru wedi gweld data ar ledaeniad yr amrywiolyn India ac effaith hynny, neu effaith tebygol hynny, ar ysgolion yng Nghymru? Mae ysgolion wedi gorfod cau eu drysau mewn ardaloedd o Loegr yn ddiweddar, ac mae hyn wedi dechrau digwydd yng Nghymru hefyd, yn anffodus. Ddydd Llun, fe welwyd 335 o ddysgwyr yn ysgol West Park ym Mhorthcawl yn gorfod hunanynysu, ac mae yna beryg go iawn y gwelwn ni aflonyddwch tebyg i'r hyn a brofwyd dros y cyfnodau clo diwethaf. Felly, hoffwn i wybod beth ydy cynlluniau Llywodraeth Cymru i liniaru ar effeithiau hunanynysu a cholledion dysgu ar gynnydd a lles dysgwyr Cymru. Rydym ni yn gobeithio na fydd hyn ddim yn digwydd, ond mae'n rhaid cael sicrwydd fod gennych chi gynlluniau penodol yn ymwneud â chysylltedd, yn ymwneud â phrinder offer, gofod, amgylchiadau addas sy'n angenrheidiol i ddysgu. A gobeithio bod yna gyfle y prynhawn yma i chi amlinellu yn union beth ydy'r cynllun yna. Yn eich datganiad chi rydych chi'n gosod gweledigaeth o gefnogi plant a phobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig, a dwi'n cytuno yn llwyr efo chi ar hynny. Mae tlodi plant yn parhau i gyfyngu ar gynnydd a lles ein dysgwyr ni ac yn niweidio pob agwedd ar ddatblygiad plant yma yng Nghymru, o bosib yn fwy nag unrhyw ffactor arall. Dwi yn mynd i droi at fanteision pryd bwyd ysgol am ddim i bawb. Rydym ni'n gwybod y gall pryd maethlon rheolaidd wella perfformiad plentyn yn yr ysgol ac iechyd y plentyn yn gyffredinol, ond rydym ni hefyd yn gwybod bod hanner y plant sydd mewn tlodi yng Nghymru yn colli allan ar brydau ysgol am ddim—dros 70,000 o blant. Mae'r pandemig, wrth gwrs, wedi gwaethygu tlodi, gan gynnwys tlodi plant, ac felly'n effeithio ymhellach ar les ac addysg ein pobl ifanc ni. Felly, fy nghwestiwn olaf i brynhawn yma ydy: a wnewch chi wneud y peth cyfiawn, sef ehangu cymhwysedd prydau ysgol am ddim i blant o deuluoedd sy'n derbyn credyd cynhwysol? Pryd fyddwch chi'n amlinellu eich amserlen chi ar gyfer cyflawni hyn? Diolch. Jeremy Miles AC: Diolch i Siân Gwenllian am ei chwestiynau a diolch am y cynnig i gydweithio. Rwy'n sicr yn frwd fy hunan i gydweithio ac yn bwriadu danfon gwahoddiad i lefarwyr y gwrthbleidiau ar y maes addysg a'r Gymraeg i gwrdd yn rheolaidd er mwyn i ni allu datblygu patrwm o gyfathrebu agored ynglŷn â'r sialensiau rŷn ni'n sicr i gyd eisiau cydweithio arnyn nhw er mwyn eu datrys. O ran dyfodol patrwm lledaeniad yr amrywiolyn a'r pandemig yn fwy cyffredinol, wrth gwrs, does dim un ohonom ni'n gallu darogan yn sicr beth a ddaw o'n blaenau ni yn y misoedd nesaf. Beth rŷn ni'n gallu gwneud yma yng Nghymru yw edrych ar batrwm lledaeniad yr amrywiolyn yn Lloegr ar hyn o bryd a dysgu gwersi o'r hyn rŷn ni'n gweld yn fanna a'r data sy'n dod ac sy'n deillio o'r trosglwyddiad fanna. Felly, mae gennym ni gyfle i edrych ac i ddysgu o'u profiad nhw gan eu bod nhw'n gweld y lledaeniad yn mynd rhagddo cyn iddo ddigwydd yma yng Nghymru. Ac, wrth gwrs, mae impact hynny ar sut y mae'r ysgolion yn gweithredu yn greiddiol. Wrth gwrs, bydd yr Aelod yn gwybod bod y cyngor rŷn ni'n ei gael wrth yr incident management teams yn gyffredinol yn dangos mai lledaeniad cymdeithasol sydd y tu cefn i'r achlysuron o'r trosglwyddiad a'r impact yn yr ystafell ddosbarth, a dyna'r patrwm rŷn ni dal yn ei weld. Ond, wrth gwrs, bydd cynlluniau wrth gefn gyda ni. Rwyf eisoes wedi trafod gyda rhai o'r undebau dysgu ynglŷn â rhoi rhyw elfen o ddarlun o'r hyn fydd yr ysgol yn edrych fel yn yr hydref, ond mae dealltwriaeth glir, rwy'n credu, ei fod yn anodd darogan yn sicr beth yw patrwm y pethau yma. Ond yr ymrwymiad rydw i'n ei roi yw i gydweithio gyda'r proffesiwn a chyda'r awdurdodau lleol fel ein bod ni'n edrych yn dryloyw ar y sialensiau sydd o'n blaenau ni ac fel bod gyda ni gynlluniau wrth gefn sydd yn addas ar gyfer hynny. Byddem yn sicr yn moyn darparu cefnogaeth, fel yr oedd Siân Gwenllian yn dweud, i ddisgyblion sydd yn gorfod hunan-ynysu—darpariaeth ar-lein, darpariaeth ddigidol ac yn ehangach na hynny hefyd. O ran prydiau bwyd yn yr ysgol, rwyf eisoes yn edrych gyda swyddogion ar yr opsiynau y gallwn ni edrych arnyn nhw. Yn y flwyddyn hon, mae yna £23 miliwn o gyllideb wedi'i neilltuo ar gyfer prydiau bwyd am ddim a'r cynllun SHEP dros yr haf—y school holiday enrichment programme—bydd y mwyaf eang byddwn ni wedi'i redeg. Ond rwy'n derbyn fod ymrwymiad gyda ni yn ein maniffesto ni i edrych ar y cymwysterau ar gyfer prydiau bwyd am ddim a rŷn ni'n sicr yn mynd i fwrw ymlaen gyda hynny. Rhianon Passmore AC: Gweinidog Addysg y Cabinet—a gaf i hefyd ddechrau drwy eich llongyfarch chi ar gael eich penodi yn Weinidog y Gymraeg ac Addysg? Rwy'n gwybod na fydd gan blant Islwyn a Chymru well hyrwyddwr a diolch i chi am eich datganiad llawn gwybodaeth heddiw. Mae ysgolion Islwyn, plant, staff, teuluoedd a llywodraethwyr wedi gwneud popeth o fewn eu gallu a mwy i gynnal dysgu a chadernid yn ystod y pandemig digynsail hwn. Ac mae croeso cynnes iawn i'r cyhoeddiad heddiw y bydd £13 miliwn ychwanegol yn cael ei ddarparu i gefnogi anghenion unigryw dysgwyr y blynyddoedd cynnar, ynghyd â £6.25 miliwn ychwanegol i helpu ysgolion i feithrin cadernid drwy COVID. Gweinidog, a wnewch chi ymuno â mi i ddathlu ymdrechion anferth ysgolion ledled Islwyn, ac yn enwedig Ysgol Gynradd Trinant a'u pennaeth, Mrs Sian James, am eu gwaith arloesol iawn fel rhan o gymuned FareShare Cymru? Ac a wnewch chi, yn rhinwedd eich swyddogaeth yn Weinidog addysg yn gyntaf, dderbyn gwahoddiad i ymweld ag Islwyn—yn gynnar yn eich cyfnod yn y swydd—i ymweld ag Ysgol Gynradd Trinant a gweld drosoch chi eich hun y gwaith rhagorol hwnnw y maen nhw'n ei wneud i sicrhau bod pob plentyn yn symud ymlaen i gyrraedd y potensial llawn hwnnw? A hefyd, a wnewch chi ymuno â mi i groesawu portffolios gweinidogol llesiant a'r celfyddydau a gweithio cydgysylltiedig i hyrwyddo potensial a lles disgyblion ac, yn amlwg, yn arbennig nawr, wrth i Lywodraeth Cymru geisio cyflwyno addewid maniffesto cerddoriaeth Cymru, cyflawni potensial pobl ifanc a chydraddoldeb wrth fanteisio ar gyfleoedd addysgol yn seiliedig ar y gallu i chwarae yn hytrach na'r gallu i dalu? Jeremy Miles AC: Diolch i Rhianon Passmore am hynna ac am barhau i hyrwyddo anghenion a buddiannau pobl ifanc ledled Cymru, yn ogystal ag yn ei hetholaeth ei hun, sef Islwyn. Rwy'n ymuno â hi i longyfarch y gweithlu addysg yn yr ysgol y soniodd hi amdani ac ar draws Islwyn, yn wir, ledled Cymru, am yr ymdrechion eithriadol y maen nhw wedi'u dangos yn ystod y 12 i 15 mis diwethaf, sydd, yn amlwg, wedi bod yn eithriadol o heriol. Ond rwy'n credu bod athrawon a'r gweithlu addysg yn fwy cyffredinol wedi dangos arloesedd mawr, tosturi mawr a chreadigrwydd mawr wrth sicrhau bod profiad dysgwyr y gorau y gall fod o dan yr amgylchiadau eithriadol o heriol hynny, a byddaf i'n ddiolchgar iawn o dderbyn gwahoddiad os caf i un i ymweld â'r ysgol. Daeth hi i ben drwy siarad am y maes yr wyf i'n gwybod sydd wedi bod yn anhygoel o agos at ei chalon hi ac un y mae hi wedi bod yn gweithio'n galed iawn i sicrhau y gallwn ni i gyd wneud cynnydd arno, ac mae hynny'n ymwneud â darparu cerddoriaeth yn yr ysgol. Mae hi a fi wedi siarad ychydig am hyn droeon gan fod y ddau ohonom ni wedi elwa ar hynny, yn fawr iawn, yn ein cyfnod yn yr ysgol. Bydd hi'n ymwybodol o'r ymrwymiad sydd gennym ni i gyflwyno gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol. Braint fy nghyd-Aelod Dawn Bowden fydd bwrw ymlaen â hynny, ond rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda hi. Rwy'n credu bod yr Aelod yn cyfarfod â hi'n fuan iawn, a byddaf i'n cyfarfod â fy nghyd-Aelod yn fuan iawn ar ôl hynny i'w chefnogi hi a'i gwaith yn bwrw ymlaen â hynny. Darren Millar AC: Gweinidog, un o'r ffactorau pwysig wrth helpu plant ifanc i adfer o'r pandemig yw'r amgylchedd dysgu. Mae hefyd yn bwysig iawn, wrth gwrs, i'w lles a lles staff. Ond mae llawer o bobl ifanc a'u rhieni wedi codi pryderon gyda mi ynglŷn â'r gofyniad parhaus i wisgo masgiau wyneb a gorchuddion wyneb mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru. O gofio bod newid sylweddol wedi digwydd dros y ffin yn Lloegr ac nad yw'r gofyniad hwnnw yno nawr, pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i edrych ar y gofyniad penodol hwn eto, yn enwedig o gofio bod pryderon wedi'u codi gan y comisiynydd plant ynglŷn â'r effaith y gall gorchuddion wyneb eu cael ar les pobl ifanc o ran yr anghysur y gall pobl ei brofi, y brechau a'r cyflyrau croen y mae pobl yn eu cael, a'r ffaith, wrth gwrs, y gall y rhai sy'n gwisgo sbectol yn aml ei chael hi'n anodd gweld drwy'r sbectol honno oherwydd y stêm sy'n cael ei greu? Rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y mae angen edrych arno. Jeremy Miles AC: Diolch i Darren Millar am y cwestiwn pwysig yna. Y pwynt yn ei gwestiwn sy'n fy nharo i'n hanfodol, rwy'n credu, yw gwrando ar leisiau plant a phobl ifanc y mae hyn yn effeithio arnyn nhw, a gwnes i gyfarfod â'r comisiynydd plant yn ddiweddar, ac, yn amlwg, dyma un o'r materion yr oeddem ni wedi'u trafod. Rhoddodd grŵp ffocws diweddar o ddysgwyr a gafodd ei gynnal ar ein rhan gan Plant yng Nghymru eu barn o ran gwisgo masgiau wyneb neu orchuddion wyneb, ac roedd y safbwyntiau'n gymysg, rwy'n credu, ac mae rhywfaint ohonyn nhw'n adlewyrchu'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddisgrifio, ac roedd rhai ohonyn nhw'n adlewyrchu pryderon ynghylch y ffaith eu bod eisiau parhau i'w gwisgo. Felly, rwy'n credu ei fod yn ddarlun cymysg. O ran y gymhariaeth â Lloegr, fel y mae'r Aelod, yn ymwybodol, rydym ni'n ystyried y cwestiynau hyn yn y cylch tair wythnos yr ydym ni wedi'i osod. Mae angen i'r Llywodraeth ystyried pob ymyriad ar y sail honno; dyna'r hyn y mae'r gyfraith yn ei dweud wrthym ni i'w wneud, a dyna a wnawn ni. Er ein bod ni'n gwybod bod nifer y trosglwyddiadau yng Nghymru yn well nag y maen nhw wedi bod ers amser maith a'u bod mewn lle da, rydym ni hefyd yn ymwybodol o effaith yr amrywiolyn sy'n peri pryder yr ydym ni wedi bod yn sôn amdano'n gynharach yn y sesiwn hon. Ac felly, mae'n rhaid i ni edrych ar y darlun, rwy'n credu, yn ei gyfanrwydd. Ond y sicrwydd y gallaf i ei roi i'r Aelod yw ein bod ni yn edrych arno yn ei gyfanrwydd, rydym ni'n ymwybodol o'r effeithiau anffafriol a gaiff hyn yn ogystal â'r effaith ragofalus a gaiff, a byddwn ni'n gweithio gyda'r grŵp cynghori technegol a'u harbenigedd, y cyngor iechyd cyhoeddus yr ydym ni'n ei gael, i sicrhau bod y penderfyniadau yr ydym ni'n eu gwneud yn y maes hwn yn gadarn a'u bod, yn ein barn ni, yn adlewyrchu'r asesiad risg fel y mae. Fel y dywedais i, mae'n rhywbeth yr ydym ni'n ei adolygu'n gyson, a byddwn ni'n gweithio gyda'r proffesiwn, awdurdodau lleol ac yn gwrando ar leisiau pobl ifanc wrth wneud y penderfyniadau hynny. Vikki Howells. Vikki Howells AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Llongyfarchiadau i chi ar eich penodiad, a llongyfarchiadau i chi, Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg, hefyd. Diolch i chi am eich datganiad heddiw, a bydd athrawon, myfyrwyr a rhieni ledled Cymru yn croesawu ei gynnwys a'i gywair, rwy'n siŵr. Ac fel cyn-athrawes, rwy'n gwybod yn iawn am y baich y mae biwrocratiaeth yn ei roi ar ein staff addysgu, a sut y mae'r baich hwnnw'n amharu ar yr amser y gall ein hathrawon ei dreulio ar baratoi a chyflwyno gwersi o safon, yn ogystal ag effeithio ar yr amser sy'n cael ei dreulio yn cynnig gofal bugeiliol hanfodol a chymorth i'w myfyrwyr hefyd. Felly, ar ran athrawon ym mhobman, a gaf i ddiolch i chi, Gweinidog, am gydnabod biwrocratiaeth yn eich datganiad cyntaf oll fel Gweinidog addysg ac am ymrwymo i fynd i'r afael â biwrocratiaeth ddiangen o fewn y proffesiwn hefyd? Rwy'n gwbl argyhoeddedig bod gwneud hynny'n allweddol i godi nid yn unig calon ymhlith y proffesiwn, ond hefyd codi safonau'n gyffredinol drwy ryddhau athrawon i addysgu. Felly, a gaf i ofyn, Gweinidog, pa sgyrsiau yr ydych chi wedi'u cael, neu'n bwriadu eu cael, gydag undebau'r athrawon ynglŷn â'r ffordd orau o nodi a dileu'r haenau hyn o fiwrocratiaeth, a pha enghreifftiau o arfer gorau y gallech chi fod yn eu hystyried o wledydd eraill ledled y byd ynglŷn â sut y gellir gwneud hyn? Yn gysylltiedig â hyn, rydych chi yn llygad eich lle'n tynnu sylw at y ffaith bod ein system addysg wedi dangos cadernid a hyblygrwydd rhyfeddol yn ystod y pandemig a bod yn rhaid i ni ddysgu o hyn. Gweinidog, sut ydych chi'n bwriadu dwyn ynghyd yr arferion gorau a ddaeth i'r amlwg yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, eu cyflwyno ledled Cymru ac, yn hollbwysig, eu hymgorffori yn arferion addysgu a dysgu sefydledig? Yn olaf, Gweinidog, yr wyf i'n falch o weld— Mae'r Aelod wedi cael tri chwestiwn ac rydym ni wedi mynd dros amser, felly rwy'n credu y gwnawn ni ofyn y cwestiynau. Vikki Howells AC: Diolch. Jeremy Miles AC: Diolch i Vikki Howells am y cwestiynau y mae hi wedi'u gofyn. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod bod angen i ni ystyried o'r newydd cwestiwn y fiwrocratiaeth neu rai o'r beichiau o ran gweinyddu yr ydym ni'n eu rhoi ar y proffesiwn ac ystyried hynny'n greadigol a gweld beth y gallwn ni ei dynnu o ran y fiwrocratiaeth ddiangen honno, os hoffech chi. Mae yna grŵp rheoli llwyth gwaith a lleihau biwrocratiaeth, sydd wedi'i sefydlu o fewn Llywodraeth Cymru i ystyried y materion hyn, o ganlyniad i'r pandemig ond hefyd yn yr hirdymor yn y ffordd yr oedd ei chwestiwn hi'n ei ragweld. Rwy'n credu ei bod yn bwysig i ni sicrhau ein bod ni'n gwrando ar ein gweithwyr proffesiynol, ac mae'r grŵp ei hun yn cynnwys aelodau o undebau llafur athrawon, awdurdodau lleol ac ymarferwyr, a'u gwaith nhw fydd yn helpu i lywio ein huchelgais yn y maes hwn. Y pwynt arall yr wyf i eisiau ei wneud yw fy mod i'n credu ei bod yn hynod bwysig i ni ystyried arfer gorau lle bynnag y gallwn ni ddod o hyd iddo, boed hynny mewn rhannau eraill o'r DU neu ymhellach i ffwrdd, ac mae'n sicr yn un o fy uchelgeisiau i ein bod ni'n parhau i wneud hynny wrth i ni ddatblygu'r gwaith hwn. Ac yn olaf, Sam Rowlands. Sam Rowlands MS: Diolch, Dirprwy Lywydd, a llongyfarchiadau i chi, Gweinidog, ar eich penodiad, a diolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma. Hoffwn i yn gyntaf ymuno â chi i ddiolch i'n gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio'n galed a hefyd i'n dysgwyr am eu holl ymdrechion yn ystod y 14, 15 mis diwethaf, o dan amgylchiadau anodd iawn. Mae eich datganiad chi'n ymwneud yn benodol â lles a chefnogaeth dysgwyr a'u cynnydd hefyd, ac mae'n amlwg mai rhan sylweddol o'r cynnydd hwnnw yn ystod pum mlynedd nesaf tymor y Senedd hon yw gweithredu'r cwricwlwm newydd. Mae nifer o bobl sydd â phryderon ynglŷn â'r cyllid i gyflwyno'r cwricwlwm newydd hwnnw sydd ar y gorwel wedi cysylltu â mi. Felly, y cwestiwn yw: pa gyllid ychwanegol y byddwch chi'n ei ddarparu i ysgolion ac i addysgwyr i sicrhau bod y cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno yn y ffordd orau posibl? Jeremy Miles AC: Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Wel, byddwn ni'n sicrhau bod ein hysgolion ni'n cael eu hariannu er mwyn gallu parhau â'r gwaith da y maen nhw'n ei wneud nawr ac i allu cyflwyno'r cwricwlwm mewn ffordd sydd o fudd i ddysgwyr ledled Cymru. Fel y gwnes i sôn yn fy ateb i'r cwestiwn cynharach, rwy'n credu ein bod ni wedi dysgu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf pa mor bwysig yw hi ein bod ni'n sicrhau bod lles ein dysgwyr wrth wraidd popeth yr ydym ni'n ei wneud a hefyd bod gan ein dysgwyr ni yr adnoddau i fod yn hyblyg ac i ymateb i newidiadau yn y byd o'u cwmpas. Felly, byddwn ni eisiau sicrhau ein bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu ni i sicrhau bod cyflwyno'r cwricwlwm yn digwydd yn esmwyth ac yn effeithiol ac er budd ein dysgwyr ledled Cymru. Daeth y Llywydd i’r Gadair. 5. Rheoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2021 Yr eitem nesaf yw Rheoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2021. Rwy'n galw ar y Gweinidog materion gwledig i gynnig y cynnig. Lesley Griffiths. Cynnig NDM7694 Lesley Griffiths Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Mawrth 2021. Cynigiwyd y cynnig. Lesley Griffiths AC: Diolch, Llywydd, ac rwy'n cynnig y cynnig. Diolch am y cyfle i egluro'n gryno gefndir Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2021. Gwnaed y rheoliadau hyn gan ddefnyddio'r weithdrefn gadarnhaol a wnaed o dan bwerau a roddwyd i Weinidogion Cymru gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. Fe'u gwnaed ar 22 Mawrth, a'u gosod gerbron y Senedd ar 24 Mawrth, a daethant i rym ar 31 Mawrth. Oherwydd yr angen brys i ddiwygio'r dyddiad 1 Ebrill 2021, roedd angen gwneud y rheoliadau hyn a'u gweithredu cyn eu cymeradwyo drwy benderfyniad gan y Senedd. Er mwyn i'r rheoliadau hyn barhau i fod mewn grym, gofynnir am gymeradwyaeth y Senedd heddiw. Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 5 i Reoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 i newid y dyddiad y mae gofynion pontio hysbysu ymlaen llaw ar gyfer mewnforio i Gymru cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid yn gymwys o 1 Ebrill 2021 i 31 Gorffennaf 2021. Y rheswm dros y newid yn y dyddiad yw, yn dilyn adolygiad gan swyddogion o'r cynllun gweithredu ar gyfer rheolaethau mewnforio, y gwnaed penderfyniad ym mhwyllgor gweinidogol gweithrediadau ymadael Llywodraeth y DU i ohirio cyflwyno gwiriadau dogfennol a chorfforol. Y rheswm dros hyn yw, ers diwedd y cyfnod pontio, mae busnesau ac awdurdodau cymwys wedi gorfod addasu a bodloni gofynion newydd helaeth wrth symud nwyddau o dan y berthynas fasnachu newydd â'r UE. Gan fod y gweinyddiaethau eraill yn cytuno i ymestyn y cyfnod pontio, gwnaed newidiadau ar lefel Prydain i gadw cyfraith yr UE gan Lywodraeth y DU, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru. Er mwyn cyd-fynd â'r newidiadau i gyfraith a deddfwriaeth yr UE a gedwir yn yr Alban a Lloegr, mae'r rheoliadau hyn felly hefyd yn diwygio'r dyddiad 1 Ebrill 2021 i 31 Gorffennaf 2021 yn Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011. Ni chodwyd unrhyw bwyntiau o ran y rheoliadau hyn yn y nodyn cyngor cyfreithiol a baratowyd gan gynghorwyr cyfreithiol y Senedd ac a osodwyd gerbron y Senedd ar 24 Mai. Diolch. Does gyda fi ddim—does neb wedi datgan eu bod nhw eisiau siarad, ac felly does dim angen ymateb. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, ac felly rŷn ni'n derbyn y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai bod Aelod yn gwrthwynebu, caiff y pump cynnig o dan eitemau 6 i 10 eu grwpio i'w trafod, ond gyda phleidleisiau ar wahân. Does yna ddim gwrthwynebiad i hynny. Dwi ddim yn gweld gwrthwynebiad. 6., 7., 8., 9. & 10. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2021, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2021, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2021, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2021 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) 2021 Ac felly mi wnaf i alw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i wneud y cynigion yma. Eluned Morgan. Cynnig NDM7690 Lesley Griffiths Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Mawrth 2021. Cynnig NDM7689 Lesley Griffiths Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Ebrill 2021. Cynnig NDM7691 Lesley Griffiths Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Ebrill 2021. Cynnig NDM7692 Lesley Griffiths Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Mai 2021. Cynnig NDM7693 Lesley Griffiths Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mai 2021. Cynigiwyd y cynigion. Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr, Llywydd. Dwi'n cynnig y cynnig sydd ger ein bron—y cynigion sydd ger ein bron. Fe gyhoeddwyd cynllun rheoli coronafeirws ar 14 Rhagfyr 2020. Mae'n nodi pedair lefel rhybudd sy'n cyd-fynd â lefel y risg, gan gynnwys y mesurau angenrheidiol ar bob lefel i reoli lledaeniad y feirws. Daeth Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 i rym ar 20 Rhagfyr y llynedd. Roedd rhain yn sefydlu'r fframwaith ddeddfwriaethol ar gyfer y system lefelau rhybudd ac yn rhoi Cymru ar lefel rhybudd 4, y lefel uchaf o gyfyngiadau. Ym mis Mawrth, lluniwyd cynllun newydd i reoli'r coronafeirws, oedd wedi'i ddiweddaru i gymryd i mewn i ystyriaeth y rhaglen frechu a'r amrywiolyn o Gaint. Roedd y cynllun yma yn nodi sut y bydden ni'n symud i lawr trwy'r lefelau rhybudd yn ofalus, fesul cam, ac yn cymryd camau gofalus wrth lacio'r cyfyngiadau. Eluned Morgan AC: Roedd Llywodraeth Cymru yn gyson glir o ran sut yr oeddem ni yn mynd i lacio cyfyngiadau yn dilyn y cyfnod clo a'n prif flaenoriaeth bob amser oedd galluogi plant i ddychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb. Cymeradwyodd y Senedd ddiwethaf ddiwygiadau blaenorol i'r rheoliadau a ddechreuodd y symudiad gofalus, cam wrth gam i lefel rhybudd 3. Parhaodd rheoliadau diwygio rhifau 6, 7, 8 a 9, sydd ger ein bron heddiw, y symudiad cynyddrannol hwn i lefel rhybudd 3 a gwblhawyd ar 3 Mai. Mae'r rhain wedi golygu llacio'n sylweddol ar y cyfyngiadau ar bobl a busnesau ledled Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys dileu'r gofynion 'aros yn lleol', yn darparu ar gyfer pob manwerthwr a champfa i ailagor, a'i gwneud yn bosibl i aelwydydd estynedig gael eu ffurfio rhwng unrhyw ddwy aelwyd. Mae'r gwelliannau parhaus yn y sefyllfa iechyd cyhoeddus yn golygu y gallwn ni symud rhwng y lefelau rhybudd mewn camau unigol ar hyn o bryd. Roedd rheoliadau diwygio Rhif 10 yn symud Cymru yn uniongyrchol i lefel rhybudd 2 o 17 Mai. Roedd hyn yn cynnwys caniatáu i hyd at chwech o bobl o wahanol aelwydydd gyfarfod dan do mewn tafarndai, caffis a bwytai. Nawr, mae'n amlwg bod angen parhau i fonitro'n agos adroddiadau cynyddol yn Lloegr am achosion o'r amrywiolyn Indiaidd, fel y'i gelwir. Bydd yr amodau iechyd cyhoeddus, gan gynnwys y cyngor diweddaraf o ran yr amrywiolyn newydd pryderus hwn, yn penderfynu a allwn ni symud i lefel rhybudd 1 ar ôl yr adolygiad nesaf o'r cyfyngiadau, a fydd yn cael ei gyhoeddi erbyn 3 Mehefin. Nawr, byddai unrhyw symudiad i lefel rhybudd 1 yn bennaf yn cynyddu maint y cynulliadau a ganiateir. Byddai hyn yn cynnwys darparu ar gyfer y rheol chwech, er mwyn galluogi mwy o gymysgu dan do yng nghartrefi ein gilydd. Mae'r holl reoliadau diwygio i'r cyfyngiadau coronafeirws wedi bod yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol am resymau brys. Gwnaed rheoliadau diwygio Rhif 9 tra roedd y Senedd wedi'i diddymu ar gyfer yr etholiadau, ac fe'u gosodwyd cyn gynted â phosibl ar ôl ffurfio'r Senedd newydd. Nawr, rydym yn ymwybodol iawn bod y cyfyngiadau sydd ar waith yn aml wedi bod yn heriol iawn i deuluoedd a busnesau, ac rwy'n ddiolchgar iawn i bobl Cymru am eu holl waith caled, sy'n golygu mai ni sydd â'r cyfraddau coronafeirws isaf yn y Deyrnas Unedig gyfan ar hyn o bryd. Ynghyd â hyn, mae ein rhaglen frechu yn parhau i wneud cynnydd rhyfeddol. Mae'r amodau hyn wedi ein galluogi i lacio'r cyfyngiadau mewn modd gofalus. Nawr, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i adolygu'r rheoliadau hyn yn ofalus, dan arweiniad cyngor gwyddonol a meddygol, er mwyn sicrhau ein bod yn cadw Cymru'n ddiogel. Diolch, Llywydd. Russell George AC: A gaf i ddiolch yn gyntaf i'r Gweinidog am ei chyflwyniad i'r rheoliadau heddiw, ac a gaf i longyfarch y Gweinidog yn ddiffuant iawn ar ei phenodiad newydd hefyd? Byddwn ni yn y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r rheoliadau y prynhawn yma, oherwydd, yn fy marn i, ac ym marn y Ceidwadwyr Cymreig, dyma'r dull cywir o ran llacio'r cyfyngiadau ar yr economi ac agor cymdeithas eto. Hoffwn wneud ychydig o bwyntiau y gallwch chi, gobeithio, Gweinidog, eu hystyried ar adeg eich adolygiad nesaf hefyd. Y rhain yw—. Yn gyntaf oll, mae'n ymwneud â chymorth i fusnesau, ac rwy'n gobeithio y gallaf dawelu rhai o'r trafodaethau yn gynharach heddiw, yn gyntaf oll drwy ddweud fy mod yn credu bod busnesau'n hynod ddiolchgar am gefnogaeth Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn ystod y pandemig, ac rwy'n credu eu bod yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth honno. Rwy'n credu bod y cylch diweddaraf o gyfyngiadau—mae'n ddrwg gennyf, y cylch diweddaraf o gymorth busnes—o ran y gwiriwr cymhwysedd a ryddhawyd ddydd Llun diwethaf, wedi peri pryder i lawer o fusnesau. Yn syml—. Mae rhai o'r meini prawf yn rhy anhyblyg. Nawr, rwy'n deall bod yn rhaid i ni fod â'r meini prawf hynny—arian cyhoeddus yw hwn sy'n cael ei wario—ond rwy'n cwestiynu'r cydbwysedd yn hynny o beth, ac rwy'n gobeithio y gall hyn gael ei ystyried gennych chi a'ch cyd-Aelodau ar adeg yr adolygiad nesaf. Mae hefyd yn bwysig cofio nad yw llawer o fusnesau'n gallu ailagor o hyd, hyd yn oed o ystyried y llacio ar y cyfyngiadau ar hyn o bryd. Rwy'n meddwl am y sector lletygarwch yn arbennig, llawer o fwytai, tafarndai a chaffis, dim ond oherwydd na allan nhw gynnig yr elfen pellter cymdeithasol honno ac na allan nhw agor yn yr awyr agored. Felly, rwy'n meddwl yn benodol amdanyn nhw, ac nid ydyn nhw hyd yn oed wedi gallu adfer eu colledion ers y llynedd. Felly, rwy'n credu bod y rhain yn ystyriaethau pwysig ar adeg dyddiad yr adolygiad nesaf. Hefyd, pe gallwn godi pwynt hefyd am byllau nofio sydd wedi'i godi gennyf i ac eraill, Gweinidog, ac rwy'n credu y gallai fod wedi'i godi gyda chi hefyd. Er bod y cyfyngiadau wedi'u llacio, nid yw llawer o byllau nofio'n gallu agor oherwydd y cyfyngiadau—nid yw cyfyngiadau cadw pellter cymdeithasol yn caniatáu i hynny ddigwydd; nid yw'n gost-effeithiol iddyn nhw agor. Nawr, rwy'n gwerthfawrogi bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno rhywfaint o gyllid yn hynny o beth, ond efallai y byddwn i yn gofyn iddi ail-edrych ar y cyllid hwnnw a'r cyfyngiadau hefyd i weld a ellir agor mwy o byllau nofio, oherwydd fy ofn i fyddai, os na fydd hynny'n newid, yna ni fydd rhai o'r pyllau nofio hyn byth yn ailagor eto, ac wrth gwrs rydym i gyd yn gwybod beth yw sgil-effeithiau hynny o ran meddyliau Llywodraeth Cymru ac yn wir fy meddyliau i fy hun o ran pwysigrwydd pyllau nofio wrth i ni symud ymlaen hefyd, a phobl yn gallu mynd i'r pyllau nofio hynny. Gweinidog, rwy'n eithaf balch clywed yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud o ran dyddiad yr adolygiad nesaf o ran aelwydydd yn cymysgu dan do. Rwy'n credu bod hyn i'w groesawu'n fawr. Fe wnaethoch chi eich hun, Gweinidog, dynnu sylw at y ffaith bod gennym gyfraddau heintio is yma yng Nghymru ac mae'r rhaglen frechu'n mynd rhagddi'n dda. Felly mae hynny'n rhoi cyfle i ni, rwy'n credu, ac yn rhoi'r cyfle i chi fel Llywodraeth Cymru, ail-feddwl am aelwydydd yn cymysgu dan do. Rydych chi wedi cyfeirio at hynny, ac rwy'n falch iawn o hynny ac rwy'n croesawu hynny'n fawr. Ac yn sicr rwy'n credu bod y cyhoedd yn meddwl am y ffaith y gallwch chi fynd i fwyty, gall chwech o bobl gyfarfod—chwe aelwyd wahanol—ac eto ni allwch chi gyfarfod yng nghartref rhywun. Rwy'n credu bod cwestiynau ynghylch hynny, ac rwy'n credu i mi hefyd fod llawer o bobl nad ydyn nhw'n gallu mynd allan i fwyty a chwrdd â ffrindiau neu deulu, ac felly nid ydyn nhw'n cwrdd â'r bobl hynny, yn wahanol i eraill sy'n gallu gwneud hynny, ac rwy'n credu bod problemau iechyd meddwl o ran pobl yn gallu cyfarfod. Gwyddom mewn rhannau eraill o'r wlad y gall pobl gofleidio a chwrdd hefyd, felly rwy'n gobeithio, Gweinidog, ar adeg eich dyddiad adolygu nesaf, y byddwn yn clywed mwy o ran aelwydyddyn cymysgu dan do. Ond, wrth gwrs, rwyf hefyd yn ymwybodol o'r amrywiolyn dan do—mae'n ddrwg gennyf, yr amrywiolyn Indiaidd—hefyd, a bydd hyn yn effeithio ar eich ystyriaethau hefyd. Felly, rwy'n gobeithio, Gweinidog, yn eich sylwadau cloi, efallai y byddwch yn gallu siarad ychydig am ganiatáucymysgu aelwydydd, a hefyd eich ystyriaethau yn hynny o beth o ran yr amrywiolyn Indiaidd hefyd. Ac yn olaf, tybed pa gynnydd sydd wedi'i wneud ar y pasbortau brechu drwy ap y GIG, fel yr amlinellwyd gan y Prif Weinidog ychydig wythnosau'n ôl. Gobeithio yn eich sylwadau cloi efallai y gallech chi sôn am hynny hefyd. Diolch, Llywydd. Rhun ap Iorwerth AC: A gaf innau gymryd y cyfle yma i longyfarch y Gweinidog ar ei phenodiad? Dwi'n edrych ymlaen at weithio yn agos efo hi i geisio dylanwadu gorau y gallaf i ar rai o'r penderfyniadau mawr sydd ar ôl i'w gwneud, wrth gwrs, wrth i'r pandemig barhau. Mae wedi bod yn ddiddorol gwrando ar rai o sylwadau Dominic Cummings heddiw, onid ydy, yn dweud bod Llywodraeth Prydain wedi gwneud camgymeriadau trychinebus wrth ddelio â'r pandemig. Mae'n bwysig cofio bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio ar lefel pedair gwlad ar lawer o'r penderfyniadau hynny, felly mae'n bwysig cofio ar y pwynt yma bod yna wersi i'w dysgu o hyd i drio gwneud y penderfyniadau gorau. I droi'n syth at y rheoliadau o'n blaenau ni, rydym ni'n eu cefnogi nhw i gyd, ond mae yna sawl sylw sydd angen ei wneud, dwi'n meddwl. Mae diwygiadau 6 a 7 yn mynd â ni nôl yn bell iawn i ddiwedd Mawrth, dechrau Ebrill. Mae 8 a 9 yn dod â ni ymlaen rai wythnosau, ond mae'n bwysig ein bod ni'n nodi yma bod y rhain yn ddiwygiadau a gafodd eu cyhoeddi yn anterth cyfnod etholiad, efo'r newidiadau yn dod i rym mor ddiweddar â thri diwrnod cyn yr etholiad. A does dim angen i fi dreulio llawer o amser yn trafod arwyddocâd hynny—prin y gallai unrhyw un o unrhyw blaid wleidyddol wadu'r potensial i gyhoeddiadau felly, wrth gwrs, ddylanwadu ar brosesau democrataidd. Ond mae hi yn bwysig crybwyll hyn, achos pe baem ni rywsut yn canfod ein hunain mewn sefyllfa debyg eto, mae eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni'n dysgu pob mathau o wersi o'n profiad ni dros y flwyddyn ddiwethaf, ac mae hynny'n cynnwys gwersi democrataidd hefyd, yn ogystal â gwersi mwy ymarferol ar sut i ddelio efo pandemig. Diwygiad 10 wedyn—hwn yn fwy cyfoes. Hyd yn oed wedyn, rydym ni'n sôn am reoliadau sydd bron yn bythefnos oed, ac mi wnaf i apêl yn fan hyn, yn gynnar yn y tymor seneddol newydd, ar y Llywodraeth, mewn cydweithrediad efo'r Pwyllgor Busnes, i chwilio am bob ffordd i allu (1) gwneud cyhoeddiadau yn y Senedd er mwyn gallu eu trafod nhw yn syth, a (2) i gyflymu'r amserlen ar gyfer trafod newidiadau a diwygiadau a rheoliadau o bwys. Faint o weithiau ydym ni wedi trafod rheoliadau sydd eisoes wedi dod i ben cyn iddyn nhw ddod o flaen y Senedd i gael eu cymeradwyo i'w cyflwyno yn y lle cyntaf? Mae yna nifer o bwyntiau eraill dwi jest am eu gwneud rŵan. Dwi am eu rhoi nhw mewn llythyr i chi, Weinidog, hefyd, er mwyn cael ymateb llawnach, ond a hithau wedi cymryd misoedd lawer i'r Llywodraeth ateb rhai ymholiadau yn y flwyddyn ddiwethaf—bron flwyddyn gyfan yn achos un ymholiad, a dweud y gwir—dwi am fynd drwyddyn nhw yn fan hyn jest i'w rhoi nhw ar y cofnod ac i chi gael eu clywed nhw yn uniongyrchol. O ran lle rydym ni arni yn gyffredinol, rydym ni i gyd yn falch, wrth gwrs, ein bod ni mewn lle positif o ran niferoedd yr achosion a bod y broses frechu yn symud ymlaen yn dda. Mae fy niolch i'n fawr, wrth gwrs, i bawb sy'n rhan o'r broses honno. Dwi yn gofyn i chi chwilio yn ddyfal am ffyrdd o godi mwy o gyfyngiadau mor fuan â phosib, ond wrth gwrs, dim ond pan mae'n ddiogel i wneud hynny, ac rydym ni'n gwybod bod angen bod ar ein gwyliadwriaeth o hyd, yn enwedig o ystyried y twf yn yr amrywiolyn o India. Felly, dwi am wybod, yn y cyd-destun hwnnw, pa fath o gamau fydd yn cael eu rhoi mewn lle i ymateb i unrhyw dwf sydyn, ac yn wir i drio atal y drydedd don. A fydd yna raglenni brechu dwys, cyfyngiadau lleol, cyfyngiadau teithio i ac o ardaloedd haint uchel, er enghraifft? A hefyd, efo'r dystiolaeth yn glir mai drwy'r awyr y mae'r feirws yn lledaenu yn bennaf, mi hoffwn i wybod pa gamau sy'n cael eu cymryd i ymateb i'r dystiolaeth yna, yn cynnwys rhoi masgiau FFP3 i weithwyr iechyd a gofal sydd mewn cyswllt efo cleifion COVID, a hefyd mi leiciwn i adroddiad yn benodol ar y potensial o gyflwyno camau diheintio yn defnyddio golau uwch-fioled UVC, a allai fod mor werthfawr mewn lleoliadau fel ysgolion, er enghraifft. Mae yna nifer o bwyntiau eraill y gwnaf eu rhoi, fel dwi'n dweud, mewn llythyr. Mi ydyn ni angen gwybod, er enghraifft, pa gamau fydd yna i ganiatáu pethau fel parkruns i ddigwydd yn fuan—digwyddiadau chwaraeon sydd mor llesol ar gyfer y corff a'r meddwl. Mi wnaf i apêl yn fan hyn ar y funud olaf i chi ganiatáu cefnogwyr i wylio Caernarfon yn erbyn y Drenewydd, ddydd Sadwrn yma. Mae modd gwneud y pethau yma yn ddiogel. Gwnewch bopeth y gallwch chi. Mi fydd yna lythyrau gan Heledd Fychan a gan Luke Fletcher ar faterion economaidd ar ben y materion iechyd yma, ond yn fy mriff i, yn sicr dwi angen gwybod llawer mwy gan y Llywodraeth ynglŷn â chamau i fynd i'r afael â long COVID, sydd yn gymaint o boen i bobl. Mae'n rhestr hir. I gloi, dwi'n nodi mai dyma wrth gwrs y tro cyntaf i fi allu codi rhai o'r materion yma yn y Senedd newydd ers cyn y cyfnod diddymu, ond fel dwi'n dweud, dwi ddim yn disgwyl atebion llawn rŵan. Mi ddaw'r rheini yn ysgrifenedig yn fuan iawn, gobeithio. Ond mae hi'n fesur, onid ydy hi, o'r gwaith sydd o'ch blaen chi, fel Gweinidog newydd—dwi'n dymuno'n dda i chi—ac mae'n fesur hefyd o'r gwaith sydd o'n blaenau ni fel Senedd i'ch dal chi a'r Llywodraeth i gyfrif. John Griffiths AC: Byddwn i'n ddiolchgar am eglurhad o'r rheoliadau, Gweinidog, yn ysgrifenedig o bosibl maes o law. Codwyd materion gyda mi gan Harriers Casnewydd ynglŷn ag athletau ieuenctid ac a ganiateir cyfarfodydd cynghrair datblygu ieuenctid o fewn y rheoliadau, a hefyd a yw rhieni yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfodydd hynny. Mae Harriers Casnewydd yn defnyddio stadiwm awyr agored, a byddwn i'n ddiolchgar am eglurhad cyn gynted ag y bo modd—fel y dywedais i, efallai'n ysgrifenedig—ar y materion hynny. Hoffwn hefyd gefnogi Rhun ap Iorwerth o ran parkruns. Maen nhw'n ddigwyddiadau iechyd cyhoeddus gwych ac yn sicr mae ganddyn nhw y manteision hynny i bobl o ran eu hiechyd a'u lles corfforol a meddyliol, ac maen nhw i fod i ailddechrau, yn ôl yr hyn a ddeallaf, ddechrau mis Mehefin yn Lloegr. Byddai'n dda cael syniad gan Lywodraeth Cymru ynghylch pryd y maen nhw'n debygol o allu ailddechrau yma yng Nghymru. Diolch yn fawr. James Evans MS: Gweinidog, hoffwn eich llongyfarch a'ch croesawu i'ch swydd. Rwy'n eich adnabod chi a gweithiais yn agos iawn gyda chi pan oeddwn yn aelod o Gyngor Sir Powys, ac edrychaf ymlaen at weithio'n agos gyda chi nawr. Gweinidog, rwyf i a'm plaid yn croesawu'r ffaith bod rheoliadau COVID yma yng Nghymru yn parhau i gael eu llacio. Gyda niferoedd COVID-19 ar eu hisaf erioed, mae holl wledydd y Deyrnas Unedig wedi symud i ffwrdd o'r cyfyngiadau symud a thuag at ailagor ein heconomi wrth i ni adfer o bandemig y coronafeirws. Mae pobl Cymru, ac yn fy etholaeth i, sef Brycheiniog a Sir Faesyfed, wedi aberthu'n aruthrol er mwyn sicrhau bod niwed COVID yn gyfyngedig gymaint â phosibl i ddiogelu ein cymunedau a'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Treuliwyd misoedd yn ystod y cyfyngiadau symud, heb weld anwyliaid, ac heb allu byw y bywydau yr oedden nhw wedi gweithio mor galed i'w hadeiladu. Diolch byth, oherwydd bod rhaglen frechu Llywodraeth y DU yn cael ei chyflwyno'n llwyddiannus ar draws y pedair gwlad, rydym ni'n gweld hawliau pobl yn cael eu hadfer, ac mae'n rhaid i mi ganmol GIG Cymru a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, fy mwrdd iechyd fy hun, am gyflwyno'r rhaglen frechu yn wych, sydd wedi ein galluogi i fod yn y sefyllfa yr ydym ynddi ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae'n rhaid i Lywodraethau o bob lliw fod yn ofalus iawn cyn ceisio cymryd y rhyddid hwn oddi ar bobl y wlad hon eto. Roeddwn i'n falch o glywed fy nghyd-AS Russell George yn codi'r pwyntiau'n gynharach am ailagor y sector lletygarwch. Mae'n hanfodol bod ein busnesau bellach yn cael y rhyddid sydd ei angen arnyn nhw i fasnachu'n llwyddiannus. Bydd gormod o reoliadau yn rhwystro'r busnesau hyn rhag gallu cyflawni'r gwerthiant a'r fasnach y mae eu hangen arnyn nhw er mwyn creu cyfoeth a thalu trethi y mae angen hanfodol arnom i ariannu ein gwasanaethau cyhoeddus a'n GIG. Un maes sy'n peri pryder mawr i mi—a llawer o bobl ar hyn o bryd—yw cyflwr iechyd meddwl y genedl. Mae llawer o bobl wedi dioddef o unigedd dros y flwyddyn ddiwethaf, a'r cyfyngiadau symud yn chwarae rhan bwysig yn y dirywiad yn iechyd corfforol a meddyliol pobl, ac mae'r rhan fwyaf o'r bobl hynny wedi'u gadael i ddioddef yn dawel heb unrhyw gefnogaeth, neu oedi mawr yn yr ôl-groniadau yn y gefnogaeth i'r bobl hynny sydd wedi bod yn ddigon dewr i ofyn am gymorth. Roedd cyfraddau hunanladdiad yng Nghymru yn codi hyd yn oed cyn y pandemig ac maen nhw wedi parhau i wneud hynny. Dynion yw 75 y cant o ddioddefwyr hunanladdiad yng Nghymru. Er fy mod yn siŵr bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd cryn amser i ystyried y cynnydd posibl mewn hunanladdiad cyn iddyn nhw gyflwyno eu rheoliadau COVID y llynedd, tybed a allai'r Gweinidog amlinellu sut y mae hi a'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant yn bwriadu mynd i'r afael â'r broblem enfawr hon yng Nghymru. Mae eich Llywodraeth wedi addo cynyddu'r gefnogaeth i'r rhai sy'n dioddef o salwch sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl, ond siawns na fyddai Llywodraeth Cymru wedi ystyried yr effaith ar iechyd meddwl pobl cyn iddyn nhw gyflwyno rheoliadau COVID yn gynnar y llynedd, ac y byddai'r cynghorwyr meddygol a gwyddonol wedi dweud hyn, y byddai cynnydd enfawr pe byddai'r cyfyngiadau symud yn parhau i gael eu gorfodi. Felly, a wnewch chi ddweud wrthyf, Gweinidog, pa gymorth ychwanegol sydd wedi'i roi ar hyn o bryd i gefnogi'r rhai hynny sy'n dioddef o salwch meddwl? Ac yn olaf, Gweinidog, yn eich sylwadau cloi, efallai y gallwch chi amlinellu sut y byddwch chi a'ch Llywodraeth yn sicrhau, pe byddem ni byth yn dod ag unrhyw reoliadau newydd yn ôl, y byddai iechyd meddwl pobl yn brif flaenoriaeth, gan y gallai unrhyw benderfyniadau ar gyfyngiadau symud a chyfnod atal byr yn y dyfodol wneud yr argyfwng iechyd meddwl presennol yng Nghymru yn waeth. Diolch, Llywydd. Huw Irranca-Davies AC: A gaf i gytuno â'r pwyntiau sydd newydd gael eu gwneud am iechyd meddwl? Heb amheuaeth, mae llawer o'r sefydliadau yn fy etholaeth i wedi dod allan o hyn yn araf ac yn dod yn ôl yn araf i gyfarfod â'i gilydd, er, mae'n rhaid i mi ddweud, yn ofalus, oherwydd nid yw rhai ohonyn nhw, yn enwedig y rheini sydd ag aelodau sy'n agored i niwed eu hunain, eisiau dod yn ôl wyneb yn wyneb ar frys, maen nhw eisiau ei wneud yn ddiogel iawn, iawn. Ond rwy'n siŵr y byddwn ni yn wir yn gweld sgil-effeithiau hynny a byddwn i'n croesawu ymateb y Llywodraeth ar hynny. Ond mae gennyf un cwestiwn penodol ac mae'n ymwneud â pherfformiadau byw. Rwy'n diolch i swyddogion a chynghorwyr y Gweinidog am ymgysylltu â mi dros y pythefnos diwethaf yn helaeth, hyd syrffed, bob yn ail ddiwrnod mae'n debyg, i geisio cael eglurder ar bwynt syml iawn, sef a ganiateir perfformiadau byw o gwbl ar hyn o bryd mewn lleoliadau sydd wedi eu trwyddedu neu heb eu trwyddedu. Os yw pobl yn cario peint o gwrw neu win mewn lleoliad sydd wedi'i drwyddedu, ond gyda gitarydd yn eistedd yn y gornel, yn canu yn dawel, yn dawelach na lefel codi lleisiau pawb—. Mae'n rhaid i mi ddweud, roeddwn i allan nos Sadwrn diwethaf mewn tafarn, y dafarn leol, tafarn dda iawn, yn cael peint, a'r tu ôl i mi yr oedd grŵp a oedd yn llawer mwy swnllyd nag unrhyw fand roc, byddwn i'n dweud. [Chwerthin.] Ond mae gwir angen eglurder arnom ni. Ar hyn o bryd, a ganiateir perfformiad byw, o unrhyw fath, mewn lleoliadau sydd â thrwydded? Ac os na, ar ba adeg fydd hynny? Ai ar lefel rhybudd 1, er enghraifft? Byddai'r eglurder hwnnw o gymorth mawr. Er eu bod eisiau perfformio nawr, os dywedir wrthyn nhw nad yw ar hyn o bryd ond y bydd pan y gallwn ni symud i lefel rhybudd 1, bydd hynny'n arwydd clir iddyn nhw y gall pethau ddychwelyd ar ryw adeg, os byddwn yn parhau gyda'r cynnydd yr ydym wedi'i wneud. Ac yn olaf, Llywydd, a gaf i ganmol y dull sydd wedi'i ddefnyddio yma yng Nghymru? Gallaf ddweud wrth y Gweinidog, er gwaethaf grwgnach, er gwaethaf cwynion—yn ddealladwy, weithiau—fod y rhan fwyaf o'm hetholwyr a'm busnesau eisiau i ni symud ymlaen mewn modd sy'n sefydlog, yn ofalus, yn fwriadol ac yn seiliedig ar dystiolaeth, fel nad oes yn rhaid i ni ddychwelyd i'r sefyllfa yr oeddem ni ynddi o'r blaen, fel y gallwn barhau i aros ar agor a bydd y llacio yn parhau nes ein bod yn ôl i fod mor agos ag y gallwn fod at normalrwydd. Gareth Davies AS: Gweinidog, un o drychinebau mwyaf y pandemig fu'r effaith y mae wedi'i chael ar y rhai sy'n byw yn ein cartrefi gofal. Maen nhw wedi'u gwahanu oddi wrth eu teuluoedd, yn methu â cofleidio eu hwyrion, heb allu cael cyswllt corfforol ag anwyliaid. Mae hyn wedi bod yn arbennig o anodd i'r rhai sy'n dioddef o ddementia, yn aml dydyn nhw ddim yn gallu deall pam mae eu teuluoedd wedi cefnu arnyn nhw. Roedd yr unigrwydd a'r arwahanrwydd nid yn unig yn anodd iawn i breswylwyr y cartrefi gofal, ond roedd eu teuluoedd hefyd wedi dioddef yn ofnadwy. Gweinidog, mae bron pob preswylydd a staff cartrefi gofal wedi'u brechu'n llawn erbyn hyn, ac mae'r boblogaeth ehangach o oedolion yn dechrau cael eu hail ddosau. Ni fydd yn hir cyn y bydd y boblogaeth wedi'i hamddiffyn rhag salwch difrifol a marwolaeth o ganlyniad i bandemig COVID-19. Gyda hynny mewn golwg, pryd gallwn ni ddileu'r terfyn dau berson ar ymweliadau â chartrefi gofal? Pryd gall preswylwyr cartrefi gofal chwarae gyda'u hwyrion neu gofleidio eu hanwyliaid? Mae angen atebion i'r cwestiynau hyn ar ein hetholwyr yn Nyffryn Clwyd, a ninnau hefyd. Deallaf, ar y dechrau, y bu angen pasio'r rheoliadau hyn yn gyflym. Fodd bynnag, nid yw hyn yn wir bellach. Nid yw'r sefydliad hwn yma i gymeradwyo penderfyniadau Llywodraeth Cymru; rydym ni yma i graffu. Gobeithio y gallwch chi fynd i'r afael â'r materion hyn cyn yr adolygiad nesaf, a rhoi gobaith i'r rheini sydd mewn gofal hirdymor. Diolch yn fawr iawn. Y Gweinidog i ymateb i'r ddadl yna. Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr, a diolch am y sylwadau yna. Yn gyntaf i gyd, a gaf i ymateb i Russell George? Eluned Morgan AC: Llongyfarchiadau ar eich swydd newydd fel Gweinidog iechyd yr wrthblaid. Deallaf y byddwn yn siarad â'n gilydd yn aml yn y dyfodol, felly rwy'n edrych ymlaen at hynny. O ran cymorth i fusnesau, yn sicr rwy'n credu y dylem fod yn falch iawn o'r ffaith ein bod wedi llwyddo i gael dros £1.9 biliwn mewn i gyfrifon busnes dros y 12 mis diwethaf. Felly, mae llawer o hyn wedi'i gyflawni gan awdurdodau lleol—tua £1 biliwn o'r arian hwnnw. Rydym ni'n ymwybodol iawn bod y cyfyngiadau'n dal i effeithio ar lawer o fusnesau. Felly, er gwaethaf y ffaith bod lletygarwch ar agor, er enghraifft, wrth gwrs mae'n rhaid iddyn nhw gadw at y rheolau yr ydym ni wedi'u nodi'n glir iawn mewn canllawiau. Wrth gwrs, rydym ni wedi bod yn gweithio gyda busnesau i ystyried sut beth ddylai'r pecyn hwnnw o fesurau fod. Felly, er eu bod ar agor, dylid cael rhywfaint o gefnogaeth iddyn nhw o hyd. Felly, mae honno'n ddeialog barhaus, a chlywsoch chi y Prif Weinidog yn dweud heddiw mai'r peth cyntaf a wnaeth ar ôl cael ei ailethol oedd rhyddhau'r cyllid ychwanegol hwnnw, £200 miliwn ohono wedi'i glustnodi'n benodol ar gyfer cymorth busnes, ac £16 miliwn o hynny eisoes wedi dechrau cael ei ryddhau. O ran pyllau nofio, wrth gwrs maen nhw wedi gallu ailagor yn barod. Rwy'n credu bod hyn yn wirioneddol bwysig o ran iechyd ac iechyd meddwl. Ond, wrth gwrs, mae gwahanol awdurdodau lleol yn delio â'r pethau hyn mewn gwahanol ffyrdd. Felly, rydym wedi rhoi'r pŵer iddyn nhw ailagor ac, wrth gwrs, byddwn ni'n eu hannog i sicrhau y gall pobl ddefnyddio'r cyfleuster hwnnw. Wrth gwrs, mae rheswm pam ein bod ni'n gwneud pethau'n araf o ran cymysgu dan do. Rydym ni'n gwybod bod y feirws yn lledaenu'n haws y tu mewn. Efallai ei bod yn swnio'n rhyfedd eich bod yn gallu cymysgu mewn tafarn yn haws nag y gallwch gymysgu mewn cartref, ond maen nhw'n wahanol iawn, oherwydd mae un yn amgylchedd rheoledig ond dydy'r llall ddim. Rydym ni i gyd yn gwybod ein bod yn llai gofalus pan fyddwn yng nghartref rhywun arall. Felly, mae rheswm dros hynny. Ond, wrth gwrs, byddwn ni'n edrych ar hyn yn ystod yr adolygiad nesaf. Yna, ar y pasbort brechu, wrth gwrs rydym ni wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i weld a allwn ni ddefnyddio'r ap y maen nhw'n ei ddatblygu. Mae rhai materion technegol yr ydym ni'n dal i geisio'u datrys, yn yr un modd â'r Alban a Gogledd Iwerddon. Rydym ni'n gobeithio y bydd hyn yn cael ei ddatrys erbyn diwedd mis Mehefin. Yn y cyfamser, wrth gwrs, rydym ni wedi'i gwneud yn gwbl glir nad ydym eisiau i bobl deithio, os yw'n bosibl—yn sicr dramor. Dyna yw ein safbwynt fel Llywodraeth Cymru. Ond, rydym ni'n cydnabod y gallai fod yn hanfodol i rai pobl deithio. Dyna pam, ddydd Llun, y cyhoeddais ddatganiad a oedd yn cynnwys rhif ffôn y gall pobl ei ffonio i gael pasbort papur dros dro, i bob pwrpas, i ddangos eu bod wedi cael y brechlyn. Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr, Rhun, a dwi'n edrych ymlaen at gydweithio gyda chi ar sut rŷm ni'n symud ymlaen o ran y pandemig, ond hefyd ar ôl y pandemig. Bydd lot fawr o waith gyda ni i'w wneud o ran dal i fyny. Dwi eisiau ymrwymo i sicrhau ein bod ni yn gwneud cyhoeddiadau yn y Senedd, pan fo hynny'n bosibl. Dwi'n awyddus iawn i fod yn dryloyw. Dwi'n meddwl ein bod ni'n gwneud polisïau gwell os ŷn ni’n dryloyw ac os ŷn ni’n cael y sialens yna. Felly, yn amlwg, dwi’n gobeithio nawr, ar ôl inni ddod mas o’r etholiad—yn amlwg roedd yn anodd inni bryd hynny. Ond mae hefyd angen inni ystyried, yn ystod y cyfnod yma, y bydd adegau pan fydd yn dal angen inni symud yn rili gyflym. Ac, wrth gwrs, bydd rhaid inni ddiddymu’r cyfyngiadau pan nad oes eu hangen nhw yn gyflym hefyd. Felly, mae’r sefyllfa’n gweithio y ddwy ffordd. Fe fydd yna drydedd don, Rhun; rŷn ni’n ymwybodol iawn y bydd y drydedd don yn dod. Y cwestiwn yw: pa mor fawr fydd y don yna? Ac o ran yr amrywiolyn newydd, ŷn ni wedi gwneud lot o waith o ran paratoi. Rŷn ni’n ymwybodol o’r ffaith ei bod hi'n debygol y byddwn ni yn gweld cynnydd yma yng Nghymru, a dyna pam ŷn ni wedi rhoi mesurau mewn lle i alluogi grwpiau lleol i wneud y surge testing yma a’r surge vaccinations os bydd angen. Rŷn ni’n dal ar lefel eithaf isel ar hyn o bryd—57 o achosion yma yng Nghymru ar hyn o bryd—ond wrth gwrs byddaf i’n hapus hefyd i ymateb i lot mwy o’r sylwadau roeddech chi wedi eu gwneud mewn manylder. Eluned Morgan AC: John Griffiths, diolch yn fawr. Rydym yn awyddus iawn i bobl ifanc yn arbennig ddychwelyd i weithgareddau awyr agored. Mae yna ganllawiau eisoes o ran gweithgareddau wedi'u trefnu, o ran sut y gall rhieni wylio plant yn ddiogel. Rwy'n awyddus iawn ein bod ni fel Cabinet yn ystyried y mater parkruns. Wrth gwrs, bydd hynny'n rhywbeth y byddwn ni'n ei ystyried o ran yr adolygiad 21 diwrnod. Rydym ni, wrth gwrs, wedi cynnal y cynlluniau treialu awyr agored bach hyn; mae angen i ni adolygu'r cynlluniau treialu hynny. Dyna bwrpas cynllun treialu—gweld beth oedd y canlyniad. Os byddan nhw'n cyflawni yr hyn yr oeddem ni'n gobeithio y bydden nhw'n ei gyflawni, yna yn amlwg byddem ni'n hoffi gweld beth y gallwn ni ei wneud i lacio'r cyfyngiadau hynny ymhellach. James Evans, croeso i'r Senedd. Hoffwn ymuno â chi i ddiolch i'r timau sydd wedi gwneud gwaith cwbl ryfeddol ledled Cymru o ran y rhaglen frechu. Rwy'n credu bod hyn yn arwydd o waith tîm: Llywodraeth Cymru gyda'r awdurdodau lleol, gyda'r byrddau iechyd, gyda'r gefnogaeth filwrol, ac, wrth gwrs, llawer iawn o wirfoddolwyr, ac mae'n dystiolaeth gwirioneddol o'u gwaith gwych nhw ein bod ni yn y sefyllfa yr ydym ynddi heddiw. Rydym ni'n awyddus iawn, wrth gwrs, i sicrhau y gall busnesau agor cyn gynted â phosibl. Ac nid er mwyn y busnesau'n unig y mae hyn; mewn gwirionedd, aethoch chi ymlaen i sôn am iechyd meddwl. Fel y cyn Weinidog yn y swyddogaeth honno, mae perthynas rhwng y pethau hyn. Os na all pobl agor eu busnesau, maen nhw'n mynd i fod yn bryderus. Wyddoch chi, mae canlyniad economaidd iddyn nhw. Felly, mae llawer o niwed y mae angen i ni ei ystyried yma. Nid mater meddygol yn unig ydyw, yn y fan yma; nid mater iechyd yn unig ydyw. Mae llawer iawn o niwed arall, ac, wrth gwrs, rydym yn ystyried y niwed hwnnw bob tro y byddwn ni'n gwneud y penderfyniadau hyn o ran yr hyn yr ydym ni'n mynd i'w llacio a sut yr ydym ni'n mynd i'w llacio. O ran yr hyn yr ydym ni wedi'i roi ar waith, byddwch chi eisoes wedi gweld ym maniffesto Llafur ein bod wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn gweld mwy o gymorth iechyd meddwl, sydd, gadewch i ni beidio ag anghofio, wedi'i neilltuo—£780 miliwn o bunnoedd o arian wedi'i neilltuo'n benodol ar gyfer cymorth iechyd meddwl. Ond mae arnom ni eisiau i fwy o'r arian hwnnw fynd i gymorth haen 0, haen 1—ymyrraeth gynnar iawn yw hynny. Gadewch i ni gael y gefnogaeth iddyn nhw'n gyflym. Dyna beth yr ydym ni'n awyddus iawn i'w wneud, ond hefyd i ddeall bod 80 y cant o broblemau iechyd meddwl yn dechrau pan fydd pobl yn blant a phobl ifanc, ac mae arnom angen mwy o'r arian i fynd yno. Felly, rydym yn rhoi cyfarwyddiadau nawr i'r byrddau iechyd er mwyn iddyn nhw ddeall mai dyna'r ffordd yr hoffem i bethau symud yn y dyfodol. Ac rydym wedi rhoi £40 miliwn o gyllid ychwanegol, wrth gwrs, i fynd i'r afael â'r mater hwn. Felly, mae'r mater iechyd meddwl yn sicr ar frig maniffesto Llafur. Wrth gwrs, Huw, ar berfformiadau byw, rwy'n gwybod eich bod chi wedi bod yn ymgysylltu ar hyn, sy'n wych, ac mae'n un o'r pwyntiau sydd ar fy agenda. Felly, rydym ni'n cymryd hynny o ddifrif, Huw. Clywais gerddoriaeth fyw yn ddiweddar iawn yn eglwys gadeiriol Tyddewi, felly mae yn bosibl. Mae angen i ni edrych ar beth yw'r rhesymau a beth yw'r amodau. Rwy'n gwybod ein bod ni'n gwneud llawer o waith. Rydym ni'n Gymry, er mwyn popeth; rydym ni'n dwlu ar ganu. Rydym ni i gyd eisiau clywed canu eto, felly mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu gwneud hynny mewn ffordd ddiogel. Felly, mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod wedi gwneud yr holl baratoadau i wneud yn siŵr, pan fyddwn ni'n dychwelyd at ganu, y gallwn ni ei wneud gydag awch a brwdfrydedd, fel yr ydym ni yn hoffi ei wneud fel cenedl. Ac yn olaf, o ran cartrefi gofal, rwy'n siŵr y byddwch chi'n falch o glywed ein bod wedi diweddaru ein canllawiau ddydd Llun ar gyfer cartrefi gofal, sydd bellach yn golygu nad oes raid i chi fod â dau berson y bu'n rhaid eu cofrestru ymlaen llaw i fynd i mewn i gartrefi gofal. Gall unrhyw un fynd i mewn i gartrefi gofal yn awr. Mae'r cyfyngiad hwnnw wedi'i ddileu. Wrth gwrs, mae'n rhaid iddyn nhw gydymffurfio â'r canllawiau, ond mae'r ffaith bod gennym 98 y cant o bobl yn ein cartrefi gofal sydd bellach wedi cael y brechlyn cyntaf, a 92 y cant sydd wedi cael y ddau frechlyn, yn golygu bod lefel o ddiogelwch yno nad oedd yno ar ddechrau'r pandemig. Felly, rydym ni'n gyfforddus â hynny, mae'n rhaid i ni yn awr sicrhau bod y cartrefi gofal eu hunain yn gyfforddus â'r sefyllfa honno. Eluned Morgan AC: Felly, diolch yn fawr, a gobeithio y bydd pobl yn cytuno â'r syniadau newydd yma. Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 6? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yna yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Y cwestiwn nesaf yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 7? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna'n cael ei dderbyn. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Y cwestiwn nesaf yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 8? A oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig o dan eitem 8. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 9? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly rŷn ni'n derbyn y cynnig. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 10? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly rŷn ni'n derbyn y cynnig hynny hefyd. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Dyna ni, felly, o ran y cynigion ar y rheoliadau coronafeirws. Cynnig i atal Rheolau Sefydlog Y cynnig nesaf yw i atal Rheol Sefydlog 12.10(ii) a Rheol Sefydlog 12.20(i) dros dro i alluogi dadl ar eitemau 11 ac 12. Dwi'n galw ar y Trefydd i wneud y cynnig hynny'n ffurfiol. Cynnig NDM7698 Elin Jones Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8: Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(ii) a Rheol Sefydlog 12.20(i), er mwyn caniatáu i NDM7696 a NDM7697 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher, 26 Mai 2021. Cynigiwyd y cynnig. Lesley Griffiths AC: Yn ffurfiol. Y cwestiwn yw: a ddylid atal y Rheolau Sefydlog dros dro? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, ac felly fe rydym ni'n atal y Rheolau Sefydlog ac yn derbyn y cynnig i wneud hynny. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 11. Cynnig o dan Reol Sefydlog 16.1 i sefydlu Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth Dros Dro Y cynnig, felly, o dan Rheol Sefydlog 16.1, yw i sefydlu Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth Dros Dro. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y cynnig hynny'n ffurfiol. Cynnig NDM7697 Elin Jones Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1: Yn sefydlu Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth Dros Dro i gyflawni swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol a nodir yn Rheol Sefydlog 21. Cynigiwyd y cynnig. Lesley Griffiths AC: Yn ffurfiol. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly rŷn ni'n derbyn y cynnig hynny. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 12. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.2T mewn perthynas â'r Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth Dros Dro Y cynnig nesaf, o dan Reol Sefydlog 17.2T mewn perthynas â'r Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth Dros Dro. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y cynnig yn ffurfiol. Cynnig NDM7696 Elin Jones Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.2T, yn penderfynu na fydd Rheolau Sefydlog 17.2A i 17.2S (ethol cadeiryddion pwyllgorau) yn gymwys mewn perthynas â’r Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth Dros Dro. Cynigiwyd y cynnig. Lesley Griffiths AC: Yn ffurfiol. Y cwestiwn felly yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly rŷn ni'n derbyn y cynnig yna hefyd. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 13. Cynnig i ethol Aelodau i'r Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth Dros Dro Y cynnig nesaf yw i ethol Aelodau i'r Pwyllgor Isdeddfwriaeth Dros Dro. Dwi'n galw y Trefnydd i wneud y cynnig hynny hefyd yn ffurfiol. Cynnig NDM7695 Elin Jones Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol: 1. Jack Sargeant (Llafur Cymru), Mark Isherwood (Ceidwadwyr Cymreig), a Rhys ab Owen (Plaid Cymru) fel aelodau o’r Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth Dros Dro. 2. Y Dirprwy Lywydd yn Gadeirydd y Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth Dros Dro. Cynigiwyd y cynnig. Lesley Griffiths AC: Yn ffurfiol. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, ac fe dderbynnir y cynnig hynny. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Dyna ddod â ni at ddiwedd—. Ie, dyna'r ddiwedd. Ac rwy'n addo i chi y bydd ychydig yn fwy cyffrous na'r pum munud diwethaf. [Chwerthin.] Diolch yn fawr, felly. Hwyl. Daeth y cyfarfod i ben am 16:38. QNR Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru Hefin David: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cyfyngiadau coronafeirws sydd mewn grym yn etholaeth Caerffili? Mark Drakeford: The whole of Wales moved to alert level 2 on 17 May. This represented a significant easing of restrictions that allows large parts of the hospitality and entertainment sector to reopen. Luke Fletcher: A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddaraiad ar gau'r groesfan reilffordd ym Mhencoed? Mark Drakeford: Cau’r groesfan reilffordd ym Mhen-coed yw’r bwriad o hyd. Bydd cam 3 yr arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth Cymru (opsiwn un dyluniad) yn cael ei ddatblygu yn ystod y flwyddyn. Fel rhan o’r gwaith hwn, bydd y cynllun a’r costau terfynol ar gyfer codi pont newydd yn lle pont Penprysg, a phont droed newydd heb stepiau yn lle’r hen un, yn cael eu pennu. Peter Fox: Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi adferiad economaidd yn etholaeth Mynwy? Mark Drakeford: Transforming Towns grant funding is continuing to support economic recovery across the Monmouthshire constituency. Over £2.5 million has been allocated to Monmouthshire County Council since 2018 to bring forward regeneration projects, which has included numerous projects in the town centres of Monmouth, Abergavenny, Chepstow and Usk. Paul Davies: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth i fusnesau yn sir Benfro? Mark Drakeford: Businesses in Pembrokeshire continue to benefit from all the different programmes made available by the Welsh Government. The restrictions business fund alone has, to date, provided 6,813 grants in Pembrokeshire, supporting businesses in the county with more than £23.7 million.
uk-hansard-senedd-cy
senedd2021-05-26
2024-06-01T00:00:00
{ "year": "2021", "language": "cy", "license": "Open Parliament Licence - https://www.parliament.uk/site-information/copyright-parliament/open-parliament-licence/" }
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. Galw'r Aelodau i drefn. 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Addysg, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Dai Lloyd. Pobl Ifanc Byddar mewn Addysg Dai Lloyd AC: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gefnogaeth a roddir i bobl ifanc byddar mewn addysg er mwyn gwella eu siawns o gyflogaeth? OAQ55258 Kirsty Williams AC: Mae ein diwygiadau addysg wedi’u cynllunio i sicrhau bod pob dysgwr ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i gael mynediad at y cwricwlwm, a chredaf y bydd hyn yn helpu i roi’r sgiliau sydd eu hangen ar bobl ifanc byddar i gyflawni eu potensial llawn. Dai Lloyd AC: Diolch am eich ateb, Weinidog. Heb os, fe fyddwch yn ymwybodol o adroddiad y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar, 'Byddar yn Gweithio ym Mhobman', sy'n ceisio sicrhau bod mwy o bobl ifanc byddar yn gwneud gwaith a swyddi sy'n eu hysbrydoli. Yn anffodus, mae llawer o bobl ifanc byddar yn credu bod eu hopsiynau o ran gyrfaoedd yn gyfyngedig. Gyda'r gefnogaeth gywir, fodd bynnag, gwyddom y gall pobl fyddar weithio ym mhobman, serch hynny, maent ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith na'u cyfoedion sy’n gallu clywed. Mewn ymateb i'r ymgyrch Byddar yn Gweithio ym Mhobman, pa gamau pellach rydych yn barod i'w cymryd i sicrhau gwell cymorth gyrfaoedd, mwy o brofiad gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli, a herio’r disgwyliadau o ran yr hyn y gall pobl ifanc byddar ei gyflawni? Kirsty Williams AC: Wel, rydych yn llygad eich lle, Dai, yn yr ystyr na ddylem fyth roi unrhyw gyfyngiadau ar unrhyw un o'n plant a'n pobl ifanc am fod gennym syniadau anghywir ynghylch yr hyn y gallant ei gyflawni. Yn amlwg, dyna sydd wrth wraidd ein rhaglen anghenion dysgu ychwanegol, er mwyn sicrhau bod pob plentyn ag anghenion dysgu ychwanegol yn gadael ein system addysg gyda'r cymwysterau, y sgiliau a'r profiad y bydd eu hangen arnynt i fwrw ati gydag addysg bellach, neu i'r byd gwaith. Rwy'n ymwybodol o adroddiad diweddar bwrdd cynghori ieuenctid y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar ar brofiadau pobl ifanc o gyngor gyrfaoedd ledled y DU. Yma yng Nghymru, rydym yn cymryd rhan weithredol mewn proses i ddiwygio ein cymorth gyrfaoedd, ac rwy’n awyddus iawn i weithio gyda’r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar Cymru er mwyn bod yn rhan o hynny. Mae ein fframwaith gyrfaoedd a’r byd gwaith cyfredol yn nodi’r angen i ddarparwyr dysgu leihau rhwystrau amgylcheddol a chymdeithasol i gynhwysiant, ac rydym yn parhau â hynny fel rhan o'n gwaith yn diwygio ein gwybodaeth a’n cyngor gyrfaoedd. Yn amlwg, ni ddylid atal unrhyw unigolyn ifanc rhag ymgymryd â phrentisiaethau y gallent elwa ohonynt, ac o ganlyniad i'ch cwestiwn, byddaf yn ymrwymo i weithio gydag adran Ken Skates i oruchwylio ein rhaglen brentisiaethau, i weld pa gamau eraill y gall y Llywodraeth eu cymryd i fynd i'r afael â'r materion hyn. Mike Hedges AC: A gaf fi gychwyn drwy ddweud bod fy chwaer yn fyddar iawn? Felly, rwy’n datgan buddiant. Ond os ydych yn fyddar, rydych yn llai tebygol o fod mewn gwaith cyflogedig; os ydych mewn gwaith cyflogedig, rydych yn debygol o fod ar gyflog isel, ac mae'n debygol na fydd gennych lawer o gymwysterau, os o gwbl. Yr un peth a fyddai’n gwella hyn yw gwella sefyllfa Iaith Arwyddion Prydain, gan ei thrin a’i gwneud yn bwnc TGAU fel y Gymraeg a’r Saesneg, oherwydd i’r gymuned fyddar, Iaith Arwyddion Prydain yw eu hiaith gyntaf. Ac mae angen inni sicrhau bod plant eraill yn ymwybodol o hanfodion Iaith Arwyddion Prydain hefyd er mwyn cyfathrebu â hwy. Rydym wedi cael deiseb o Abertawe sy’n hyrwyddo Iaith Arwyddion Prydain, ac mae llawer o ohebiaeth yn digwydd ynghylch Iaith Arwyddion Prydain. Ond y gwir amdani yw, oni bai ein bod yn cefnogi Iaith Arwyddion Prydain, ac yn cefnogi’r gwaith o’i haddysgu, ac yn cefnogi plant â hi, bydd plant yn waeth eu byd o hyd. Kirsty Williams AC: Diolch, Mike, yn gyntaf oll, am eich cwestiynau, ond am eich eiriolaeth barhaus ar ran y gymuned sy'n siarad Iaith Arwyddion Prydain. Rydym yn gweithio gydag athrawon Iaith Arwyddion Prydain, a rhanddeiliaid eraill sydd â phrofiad ac arbenigedd mewn Iaith Arwyddion Prydain, i ddatblygu canllawiau cwricwlwm ar gyfer Iaith Arwyddion Prydain i blant sy'n ei defnyddio fel cyfrwng addysg, a/neu fel eu hiaith gyntaf, a chanllawiau i'r ysgolion sy'n ei chyflwyno fel trydedd iaith neu iaith ddilynol, yn ychwanegol at y Gymraeg a’r Saesneg. Bydd y canllawiau hyn ar gael cyn i ysgolion ddechrau rhoi’r cwricwlwm newydd ar waith, a gwn fod diddordeb mewn ysgolion i sicrhau y gallant ddarparu Iaith Arwyddion Prydain yn eu cwricwlwm newydd. Rydym yn cydnabod yr angen i wneud mwy i ddatblygu dull cydgysylltiedig o hyrwyddo a chefnogi Iaith Arwyddion Prydain, ac rydym yn ystyried siarter genedlaethol ar gyfer darparu gwasanaethau ac adnoddau ar gyfer plant a phobl ifanc byddar a'u teuluoedd. Addysgu Hanes Cymru David Melding AC: 2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y deunyddiau a'r adnoddau sydd ar gael i addysgu hanes Cymru mewn ysgolion? OAQ55267 Kirsty Williams AC: Diolch, David. Mae cannoedd o adnoddau addysgu, sy'n ymwneud yn benodol â hanes Cymru, ar gael i athrawon eu defnyddio ar ein platfform ar-lein, Hwb. Mae Cadw, Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a chymdeithasau hanes lleol wedi cynhyrchu adnoddau, a chawsant eu cynnwys yn adolygiad diweddar Cymdeithas Ddysgedig Cymru o adnoddau o'r fath. David Melding AC: Weinidog, mae hwnnw'n ateb calonogol. Ac ar hyn o bryd, pan fyddwn yn ymdrin â'r coronafeirws, credaf ei bod yn bwysig sylweddoli y gall digwyddiadau hanesyddol fod yn addysgiadol, fel epidemig ffliw Sbaen, a elwid yn 'Ffliw Sbaen' am nad oedd Sbaen o dan gyfyngiadau newyddiadurol, gan nad oeddent yn cymryd rhan yn y rhyfel byd cyntaf. A chlywais yr Athro Syr Deian Hopkin yn dweud ar raglen Sunday Supplement fod David Lloyd George yn ddifrifol wael yn ystod y ffliw pandemig hwnnw. Ac mae hynny'n rhywbeth nad oeddwn yn ymwybodol ohono. Rwyf wedi gweld beddau llawer o filwyr mewn gwahanol leoedd yng Nghymru, sy'n dweud bod rhyw filwr neu sarsiant wedi marw yn 1919. A chafodd llawer o'r rheini, wrth gwrs, eu hachosi gan y ffliw pandemig. A bydd pobl yn awyddus i astudio ein cyfnod presennol rhyw ddydd hefyd, a dyna pam fod cadw cofnodion, ac adnoddau, a'r holl bethau hyn mor bwysig. Kirsty Williams AC: Yn wir. Mae'n ddiddorol eich bod yn codi'r cwestiwn atodol hwn. Rwyf wedi cynghori fy nhair merch i gadw dyddiadur o'r cyfnod hwn, fel y gallant, mewn blynyddoedd i ddod, pan fydd popeth yn normal eto yn y wlad hon, fel y byd—fel y bydd—gallant fyfyrio ar eu profiadau fel pobl ifanc, a'u meddyliau ynglŷn â sut rydym ni, fel oedolion, yn ymateb. Felly mae'n awgrym diddorol, ac efallai y bydd yn adnodd pwysig i Hwb yn y dyfodol. Ond o ran mater ehangach y cwricwlwm newydd, fel y gŵyr pawb, mae'r cwricwlwm newydd yn ymbellhau oddi wrth nodi rhestrau o gynnwys a phynciau i'w haddysgu. Ond wrth gwrs, mae adnoddau o ansawdd da yn hanfodol i'r broses honno, a dyna pam y gwnaethom gomisiynu Cymdeithas Ddysgedig Cymru i fapio'r adnoddau presennol sydd ar gael y gellir eu defnyddio i gefnogi'r dimensiwn Cymreig a'r persbectif rhyngwladol yn ein cwricwlwm newydd. Mae Dr Sarah Morse, o Gymdeithas Ddysgedig Cymru, wedi nodi nad oes prinder adnoddau. Mae rhestr hirfaith ar gael eisoes, ond lle rydym wedi nodi bylchau, byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid i fynd i'r afael â'r bylchau hynny. Mike Hedges AC: Credaf fod David Melding wedi codi pwynt pwysig iawn, gan fod llawer gormod o ddigwyddiadau cyfoes, a fydd yn cael sylw fel hanes yn y dyfodol, yn fyrhoedlog—maent yn cael eu cofnodi'n ddigidol, a byddant yn diflannu. Credaf fod hynny'n rhywbeth y mae angen i bob un ohonom bryderu yn ei gylch. Ond hoffwn godi dau beth. Yn aml, mae dwy ran o hanes Cymru yn cael eu hanwybyddu. Yn gyntaf, ymdrechion y dosbarth gweithiol yn y ddeunawfed ganrif, y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif. Ac yn ail, anaml iawn y bu Cymru yn un deyrnas yn dilyn ymadawiad y Rhufeiniaid yn y bumed ganrif—esblygodd i fod yn gyfres o deyrnasoedd. A wnaiff y Gweinidog gefnogi addysgu, a darparu adnoddau ar hanes y dosbarth gweithiol yng Nghymru, a'r teyrnasoedd gwych a fu'n bodoli o fewn ffiniau'r hyn a elwir bellach yn Gymru? Kirsty Williams AC: Fel y dywedais yn fy ateb i David Melding, nid yw'r Gymdeithas Ddysgedig wedi nodi bod diffyg adnoddau yn her i ddarparu ein cwricwlwm newydd. Ond lle ceir bylchau mewn adnoddau, byddwn yn ceisio gweithio gyda phartïon â buddiant, o bob math—hyd yn oed chi, efallai, Mike—i allu datblygu adnoddau i lenwi'r bylchau hynny. Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Suzy Davies. Suzy Davies AC: Diolch yn fawr, Lywydd. Yn gyntaf, Weinidog, a gaf fi ddiolch i chi am y datganiad a wnaethoch cyn inni ddod i'r Cyfarfod Llawn heddiw? Rwy'n siŵr y byddwch yn cael cwestiynau ynglŷn â chau ysgolion, ond bydd fy nghwestiynau'n canolbwyntio ar addysg ôl-16. Fodd bynnag, mae'n anochel fod hynny'n golygu dechrau gyda chwestiwn am y rheini sy'n astudio ar gyfer arholiadau allweddol yn 16, 17 a 18 oed, yn ogystal â myfyrwyr TAR, sy'n gorfod cwblhau eu lleoliadau mewn ysgolion er mwyn cymhwyso. Ac efallai y bydd eich ateb hefyd yn berthnasol i fyfyrwyr gofal plant, sydd ar leoliadau efallai, os nad mewn ysgol, yna o leiaf ar safle sy'n cael ei rannu ag ysgol. Os yw'r ysgolion yn mynd i gau, neu gau'n rhannol, credaf y bydd yr amserlen hon ar gyfer paratoi myfyrwyr ar gyfer eu hasesiadau a'u harholiadau terfynol yn cael ei heffeithio'n sylweddol. Rydym yn cyrraedd adeg o'r flwyddyn, yn enwedig ar gyfer TGAU, pan fo asesiadau dan reolaeth ar gyfer TGAU ar fin cael eu cynnal. Mae i hyn oblygiadau uniongyrchol i ddisgyblion ac athrawon—p'un a ydynt yn absennol ai peidio. A hyd yn oed gydag athrawon cyflenwi, am wn i ei bod hi'n bosibl secondio athrawon cymwys yn ôl i'r ystafelloedd dosbarth o leoliadau eraill. Mae gan hyn oblygiadau hefyd i fyrddau arholi a Cymwysterau Cymru o ran marcio a chymedroli canlyniadau. Felly, pa opsiynau rydych yn eu hystyried ar hyn o bryd ar gyfer arholiadau sydd i gael eu sefyll y tymor nesaf? Gyda phwy rydych chi'n siarad am hyn? A phryd, yn realistig, y gallwn ddisgwyl penderfyniad ynglŷn â'r hyn a allai ddigwydd naill ai ynghylch gohirio neu raddau a ragwelir, neu unrhyw ddewisiadau amgen eraill? Kirsty Williams AC: A gaf fi ddiolch i Suzy Davies am ei chwestiwn? Rwy'n gwerthfawrogi'n fawr fod hyn yn peri straen a phryder, yn enwedig i'r bobl ifanc sydd wedi bod yn gweithio mor galed i baratoi ar gyfer arholiadau allanol, yn ogystal â'r athrawon a fu'n gweithio ochr yn ochr â hwy. Y bore yma, cyfarfûm â Cymwysterau Cymru a CBAC i gael cyngor ar y mater hwn. Rwyf hefyd mewn cysylltiad agos â Gavin Williamson. Siaradais ag ef ddoe, ac rwyf wedi siarad ag ef eto y bore yma ynglŷn â’i ystyriaethau mewn perthynas ag arholiadau, a neithiwr, siaradais â John Swinney, y Gweinidog addysg yn yr Alban. Mae'r tri ohonom yn ymrafael â'r un problemau, ac rwy'n gobeithio wneud cyhoeddiad mewn perthynas â'r arholiadau yn y dyfodol agos iawn. Suzy Davies AC: Wel, diolch am hynny, ac am gadarnhau bod yr holl wledydd yn cydweithio ar hyn. Credaf fod hynny'n sicr yn gwneud synnwyr, yn enwedig wrth inni sôn am arholiadau sy’n cael eu sefyll—ym mlwyddyn 13, ynte—er mwyn camu ymlaen i addysg bellach neu addysg uwch lle mae mwy o gystadleuaeth, gan nad am Gymru'n unig rydym yn siarad. Fodd bynnag, ar y pwnc hwnnw, mae gennyf gryn ddiddordeb ym mha sgyrsiau rydych wedi'u cael gydag addysg bellach ac addysg uwch a rhai lleoliadau dysgu seiliedig ar waith, ond yn enwedig gydag addysg uwch—pa fath o arweiniad rydych wedi'i gael gan y dirprwy brifathrawon a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ynglŷn â sut y byddant yn ymdrin â gofynion mynediad ar gyfer tymor yr hydref mewn ffordd sy'n deg â charfannau mewn blynyddoedd blaenorol, o ran y safonau ar gyfer y gofynion mynediad hynny. Tybed hefyd a allech ddweud ychydig wrthym ynglŷn ag a ydych wedi siarad â dirprwy brifathrawon a'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr am eu hagwedd tuag at gyllid myfyrwyr sy'n mynd i gael eu hamddifadu o gyfle i astudio dan oruchwyliaeth—ac rwy'n golygu astudio dan oruchwyliaeth—yn sgil penderfyniadau prifysgolion unigol i gau. Kirsty Williams AC: Yn gyntaf oll, a gaf fi ddweud y bydd unrhyw benderfyniad a wnaf o ran yr arholiadau yn seiliedig ar egwyddor tegwch a chwarae teg i bobl ifanc? Nid eu bai hwy yw eu bod yn y sefyllfa hon. Ni ddylai’r sefyllfa gyfyngu nac effeithio'n negyddol ar eu hymdrechion, ac rydym am sicrhau ein bod yn eu trin yn deg ac yn gyfiawn, ond mewn ffordd drylwyr hefyd, fel y gallant fod â hyder yn y system yn y dyfodol. Mae trafodaethau wedi’u cynnal, yn ôl yr hyn a ddeallaf, rhwng pob un o fersiynau’r DU o Cymwysterau Cymru, a thrafodaethau agos gydag UCAS, yn ogystal ag Universities UK, ynglŷn â sut y gallwn reoli'r sefyllfa hon gyda'n gilydd. Yn amlwg, gallai hyn effeithio ar brifysgolion a’u gwaith recriwtio i raglenni sy'n dechrau yn yr hydref. Felly, mae dull cydgysylltiedig ar waith rhwng y cyrff arholi unigol, y cyrff rheoleiddio, Gweinidogion, yn ogystal â phrifysgolion ac UCAS eu hunain. Suzy Davies AC: Wel, diolch am eich ateb. Byddaf i, ynghyd â llefarwyr eraill yma, rwy’n credu, yn cysylltu ag aelodau o'r sector addysg uwch i edrych ychydig ymhellach na hynny eto, yn enwedig ar sut y bydd rhai benthyciadau i fyfyrwyr yn cael eu heffeithio gan y ffaith y bydd rhai myfyrwyr yn colli o leiaf un tymor o'u rhaglen astudio yn y bôn, a chredaf fod cwestiwn o degwch yno hefyd. Ond i gloi, ac mae yn yr un gofod mewn gwirionedd, mae bron i flwyddyn hyd nes y daw’r Cynulliad hwn i ben, ac mae dau ddarn o ddeddfwriaeth bwysig ar y gweill gennych yn eich portffolio, ac os ydym am weithio ar y cynsail gan y Llywodraeth hon, rwy'n rhagweld mai Biliau fframwaith fydd y ddau ohonynt i raddau helaeth, a bydd angen craffu’n llawn arnynt, ar drylwyredd datblygiad polisi ac ar fanylion ansawdd cynnwys tebygol unrhyw reoliadau a ddefnyddir wedi i’r ddeddfwriaeth sylfaenol gael ei chyflwyno er mwyn ei chwblhau. Ac rwyf am fod yn onest, ni allaf weld fy hun yn cefnogi unrhyw gwtogi neu gyfyngu ar yr amser sydd ei angen i'r ddeddfwrfa hon gyflawni ei phrif bwrpas, sef craffu’n drylwyr ar ddeddfwriaeth. Nawr, mae pawb ohonom ar drugaredd llai o gapasiti, o ganlyniad i'r coronafeirws. Mae deddfwriaeth i roi’r cwricwlwm newydd ar waith yn ddibynnol ar amser, ac mae eisoes wedi'i gohirio am resymau rydym yn eu deall, ond mae angen inni roi ein sylw a’n cefnogaeth lawn iddi o hyd o ran tystiolaeth brofedig er mwyn ennyn hyder. Ac rwy'n amau'n fawr y gallwn roi'r sylw hwnnw iddi os bydd gofyn inni roi sylw cyfartal hefyd i'r ddeddfwriaeth gymhleth iawn, sy'n newid y broses o reoleiddio addysg bellach ac addysg uwch yn sylfaenol, gyda holl oblygiadau hynny o ran safonau. Felly, nid yw addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yn ddibwys, ond nid ydynt mor ddibynnol ar amser. Ac ar y sail fy mod yn amau nad ydych yn bwriadu gohirio’r Bil hwnnw tan Senedd nesaf Cymru, a allwch warantu, yn gyntaf, na fyddwch yn gofyn am gyfyngu ar yr amserlenni ar gyfer craffu ar y ddau Fil er gwaethaf y coronafeirws, ac yn ail, pe bai’r Senedd hon yn penderfynu na all ddarparu ar gyfer craffu priodol oherwydd y coronafeirws, y byddwch yn ystyried peidio â bwrw ymlaen â'r Bil addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yn y pumed Cynulliad? Kirsty Williams AC: Roeddwn ar fai, Lywydd, am beidio â rhoi sylw i gwestiynau Suzy Davies mewn perthynas â’r cwmni benthyciadau i fyfyrwyr. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r cwmni benthyciadau i fyfyrwyr i sicrhau bod cynghorwyr ar gael i ymateb i fyfyrwyr a phrifysgolion sy'n awyddus i gael sicrwydd mewn perthynas â'u hastudiaethau a'u cyllid. Dylwn ddweud yn glir hefyd fod prifysgolion yn gwneud eu gorau glas i newid i system lle gallant barhau i ddarparu addysg i'w myfyrwyr, gan ystyried darlithoedd o bell a materion felly. Felly, maent yn gweithio'n galed iawn ym mhob rhan o'r sector i allu darparu cymaint o barhad â phosibl i fyfyrwyr. O ran yr amserlen, mewn rhai ffyrdd, rwyf ar drugaredd y Rheolau Sefydlog yn y Siambr hon. Mae fy neddfwriaeth—nid fy neddfwriaeth i, ond y—[Anghlywadwy.]—mae'r ddeddfwriaeth gyda'r Llywydd ar hyn o bryd, yn mynd drwy'r prosesau arferol a gyflawnir gennym cyn ei chyflwyno'n ffurfiol yma yn y Siambr hon. Ac rwy'n siŵr fod pob un ohonom yn awyddus i weithio gyda'n gilydd, os gallwn, i gyflawni'r hyn sy'n bwysig iawn ac yn arwyddocaol—deddfwriaeth radical iawn, mewn gwirionedd, a fydd, rwy'n credu, yn darparu mwy o gydlyniant, mawr ei angen yn fy marn i, i'n sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol, ac rwy'n gobeithio y gall pob un ohonom weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod hynny'n digwydd. Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian. Siân Gwenllian AC: Diolch yn fawr iawn. Gaf innau hefyd groesawu'r cyhoeddiad rydych chi wedi'i wneud am 1 o'r gloch heddiw y bydd ysgolion rŵan yn cau ar gyfer darpariaeth statudol? Ond rydyn ni wrth gwrs angen eglurder ar fyrder a chanllawiau clir gennych chi ar gyfer yr ysgolion ynglŷn â beth fydd y diffiniad rŵan o ysgol—beth fydd rôl ein hysgolion ni wrth inni symud ymlaen? Bydd dim angen iddyn nhw wneud y ddarpariaeth statudol ond mae ganddyn nhw rôl allweddol i sicrhau bod ein gweithwyr allweddol ni yn y gwasanaethau cyhoeddus, yn cynnwys y gwasanaeth iechyd, wrth gwrs, yn medru parhau i gael cefnogaeth ar gyfer eu plant a hefyd y plant mwyaf bregus a'r plant sydd yn cael cinio am ddim. Mae angen y canllawiau clir yna. Gair am yr arholiadau; mae Suzy wedi cyfeirio at hyn: dwi'n credu rŵan fod yr amser wedi dod i ddweud yn hollol, hollol glir: cewch wared ar yr arholidadau—gohiriwch nhw, o ran y GCSE a lefel-A, efo'r bwriad o'u cynnal nhw eto neu addasu'r anghenion. Rydych chi wedi sôn am hynny—er enghraifft, defnyddio amcan graddau ar gyfer mynediad i brifysgol. Mae'r amser wedi dod rŵan, dwi'n credu, i symud y pwysau sydd ynghlwm â hynny a'r gwaith mae'r athrawon yn teimlo maen nhw'n gorfod gwneud ynghlwm ag arholiadau. Os ydy'r pwysau yna'n symud oddi wrthyn nhw, mae hi wedyn yn bosib i'r ysgolion fedru rhoi'r gefnogaeth i'r lle mae o angen bod—y ffocws lle mae o angen bod a lle rydych chi a fi yn cytuno y dylai fod. Felly, hoffwn ni jest ofyn ychydig o gwestiynau ynglŷn â hynny. Beth fydd diffiniad newydd 'ysgol'? Sut mae'r ysgolion yn mynd i sicrhau eu bod nhw'n cyrraedd at y plant mwyaf bregus er mwyn rhoi'r gefnogaeth yma iddyn nhw? Beth ydy'r canllawiau i'r ysgolion sydd wedi cau yn barod? Rydyn ni'n gwybod bod yna nifer fawr wedi cau yn barod—oes disgwyl iddyn nhw ailagor yn eu rôl newydd? Ac, wrth gwrs, materion diogelwch plant—sut mae hynny'n mynd i ddod i mewn rŵan i'r diffiniad newydd o ysgol? Kirsty Williams AC: Lywydd, fel y nododd yr Aelod, yn gwbl gywir, am 1 o’r gloch y prynhawn yma, cyhoeddais ein bod yn cael gwyliau’r Pasg yn gynt i ysgolion yng Nghymru, sy’n golygu y bydd ysgolion yn cau o ran darpariaeth statudol ddydd Gwener, 20 Mawrth. O'r wythnos nesaf ymlaen, bydd gan ysgolion bwrpas newydd, yn wir—pwrpas nad yw'n annhebyg i'r un a ddisgrifiodd Siân Gwenllian. Pwrpas i sicrhau bod ein plant mwyaf agored i niwed yn cael eu cefnogi yn ystod y cyfnod anodd hwn, gyda phwyslais arbennig ar y plant a fyddai fel arfer yn cael prydau ysgol am ddim yn ogystal â'n plant ag anghenion dysgu ychwanegol, gan fod mynychu'r ysgol yn rhan bwysig o'r gwaith o gadw eu lles cystal ag y gall fod. Mae'n rhaid inni hefyd gofio anghenion y rhieni sydd ar y rheng flaen yn y frwydr yn erbyn yr argyfwng iechyd cyhoeddus hwn, ac yn wir, mae hynny'n cynnwys meddygon a nyrsys, ond mae'r rhestr honno o bobl ar y rheng flaen yn y frwydr i gynnal y wlad yn mynd ymhell y tu hwnt i'r gweithwyr meddygol proffesiynol ymroddedig sy'n gweithio yn ein hysbytai. Felly, er enghraifft, gweithwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr gofal cartref, yn ogystal â gweithwyr eraill sy'n sicrhau bod bwyd yn ein harchfarchnadoedd a bod ein gwasanaethau lleol sylfaenol yn parhau i gael eu cynnal. Rydym eisoes yn gweithio—cyfarfu'r Prif Weinidog, cyd-Aelodau o'r Cabinet a minnau ag arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru eto y bore yma i archwilio gydag ef pa ddarpariaethau y byddwn yn eu rhoi ar waith. Wrth gwrs, nid yw hyn yn rhywbeth sy'n hollol newydd i ni. Byddwn yn adeiladu ar sylfeini cryf a phrofiadau cadarnhaol iawn rhai o'n cynlluniau Bwyd a Hwyl, y mae awdurdodau lleol wedi hen arfer eu cynnal, a byddwn yn nodi, gyda'n cydweithwyr mewn llywodraeth leol, safleoedd a phersonél allweddol a all ein helpu i sicrhau y gellir mynd i'r afael ag anghenion y plant mwyaf agored i niwed ac anghenion y gweithwyr rydym am iddynt fod yno ar y rheng flaen dros yr wythnosau nesaf. Siân Gwenllian AC: Diolch yn fawr iawn. Rydym ni, wrth gwrs yn ddiolchgar—hynod ddiolchgar—i'r athrawon a'r staff ategol yn ein hysgolion ni yn y cyfnod yma. Maen nhw hefyd yn weithwyr allweddol, onid ydynt, ac o ran eu rôl nhw, mae disgwyl iddyn nhw newid wrth symud ymlaen, os ydyn nhw'n gallu, ac mae rhywun yn gwerthfawrogi'r hyblygrwydd yna sydd yn mynd i fod ei angen rŵan. Felly, a fedraf i ofyn ichi, ynglŷn â'r athrawon a'r cymorthyddion dysgu? Beth fydd eu rôl nhw yn y trefniadau newydd yma rŵan? Os ydy'r diffiniad o ysgol yn newid ond rydych chi'n dal i ddisgwyl iddyn nhw fod ar agor gymaint ag y maen nhw'n medru, beth fydd rôl yr athrawon? A oes yna rôl i athrawon llanw yn y trefniadau newydd yma? Mi fyddwch chi'n gwybod y byddan nhw'n awyddus iawn, rhai ohonyn nhw, i barhau i weithio oherwydd eu bod nhw'n gweithio i asiantaethau ac efallai yn mynd i fod heb bres beth bynnag. Felly, mae yna rôl benodol yn fanna. Beth hefyd am bobl sydd â chymwysterau dysgu ond sydd, ar hyn o bryd, ddim yn yr ysgolion? Efallai eu bod nhw'n gweithio yn y consortia neu mewn mannau eraill. Rydych chi wedi sôn yn fras am hynny. Felly, a fedrwch chi ymhelaethu ychydig bach ar hynny, os gwelwch yn dda? Kirsty Williams AC: Yn wir, mae gweithwyr addysg proffesiynol wedi bod ar y rheng flaen ac yn ein hamddiffyn wrth i'r wlad hon wynebu'r epidemig hwn, a hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch iddynt, pob un ohonynt, am yr hyn y maent wedi bod yn ei wneud, yn aml mewn amgylchiadau anodd iawn. Hyd yn oed pan fyddant wedi bod yn poeni, efallai, am eu hanwyliaid eu hunain, mae eu disgyblion wedi bod yn hollbwysig iddynt ac maent wedi bod yn gwbl ymroddedig wrth geisio darparu profiad mor normal â phosibl i'n plant a'n pobl ifanc yn y cyfnod cythryblus hwn. Ac fel y dywedais, maent wedi bod yn gwneud hynny o dan bwysau enfawr, ac rwy'n ddiolchgar iawn iddynt am hynny. Wrth gwrs, bydd rôl barhaus i'n hathrawon a'n cynorthwywyr addysgu ei chwarae, ac rydym mewn cysylltiad dyddiol—fy adran i—gydag undebau'r athrawon i drafod y ffordd orau o fwrw ymlaen â phethau. Cyfarfûm ddoe â Chyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol i drafod rôl gweithwyr ieuenctid yn y senario hon. Fel y dywedais, cyfarfûm yn gynharach ag arweinydd CLlLC i edrych ar y llu o staff proffesiynol sydd gennym yn ein hawdurdodau lleol sydd â'r sgiliau a'r ddawn i allu ein cynorthwyo wrth inni symud ymlaen. Byddaf yn rhoi diweddariad i'r Aelodau wrth i'r cynlluniau hynny ddatblygu, ond mae rôl i bawb sydd â'r cymwysterau, y sgiliau a'r wybodaeth briodol i weithio gyda'n plant ar yr adeg hon. Siân Gwenllian AC: Diolch. Dwi jest yn mynd i fynd yn ôl at gwpwl o bethau sydd ddim wedi cael eu hateb—dwi wedi'u gofyn nhw'n barod, ac mae'n ddrwg gen i, dwi wedi gofyn lot o gwestiynau, dwi'n gwybod. Felly, dwi'n meddwl bod hwn yn bwysig: beth ydy'r canllawiau i'r ysgolion sydd wedi cau yn barod? Rydyn ni'n gwybod bod yna restr o ysgolion sydd wedi anfon at y rhieni yn dweud, 'Rydyn ni wedi cau' yr wythnos yma. A oes disgwyl iddyn nhw ailagor yn eu rôl newydd nhw? Ac wedyn, o ran rôl newydd yr ysgol, beth fydd—? Sut byddwch chi'n delio efo materion cymhleth diogelwch plant, i wneud yn siŵr bod y plant fydd yn dal yn mynd i'r ysgol yn parhau i fod yn ddiogel os nad ydy'r ysgolion yma'n cael eu diffinio fel 'sefydliadau addysgol' ar hyn o bryd? Kirsty Williams AC: Mae'n rhaid imi ddweud yn gwbl glir wrth yr Aelodaunad wyf yn rhagweld, ar ddiwedd y toriad estynedig hwn dros y Pasg, y byddwn mewn sefyllfa i fynd yn ôl i'r ysgol fel arfer. Ni allaf roi unrhyw warantau ac ni ddylai unrhyw un ddisgwyl hynny. Felly, ni fyddwn yn disgwyl, ac nid wyf yn rhagweld, y bydd pob ysgol ar agor. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid llywodraeth leol i nodi rhai safleoedd lle gellir trefnu a chynnig y gwasanaethau hyn, ond nid wyf yn disgwyl y bydd pob ysgol yn agor ac yn gweithredu fel arfer ar ôl toriad y Pasg. Yn amlwg, byddwn yn adolygu'r sefyllfa honno'n gyson, ond byddwn yn ceisio gweithio gydag awdurdodau lleol i reoli ein hadnoddau yn y ffordd fwyafpragmatig wrth inni wynebu'r pwysau digynsail hwn. Coronafeirws Janet Finch-Saunders AC: 3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyngor a roddir i athrawon am coronafeirws? OAQ55254 Andrew RT Davies AC: 7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y canllawiau diweddaraf ar gyfer ysgolion yng Nghanol De Cymru yng ngoleuni'r achosion o coronafeirws? OAQ55248 Kirsty Williams AC: Lywydd, deallaf eich bod wedi caniatáu i gwestiynau 3 a 7 gael eu grwpio. Mae Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi canllawiau i ysgolion ynghylch addysg a lleoliadau addysgol eraill ar y coronafeirws, a bydd yr Aelod yn ymwybodol o'r datganiad a wneuthum am 1 o’r gloch y prynhawn yma. Janet Finch-Saunders AC: Diolch. Ac unwaith eto, hoffwn gofnodi fy niolch i bawb sy'n ymwneud â'r ysgolion a'r athrawon. Fel y nodwch, yn gwbl gywir, mae'n gyfnod pryderus iawn i bawb. Yn yr amser byr—. Roedd fy nghwestiynau'n hollol wahanol, ond gan fod pethau'n newid bob munud a bob awr, gofynnwyd i mi eisoes—. Mae rhai athrawon yn mynegi pryderon ynghylch terfynau amser ar gyfer gwaith cwrs, gan mai'r bwriad oedd iddo gael ei gyflwyno erbyn y Pasg, ac mae gan rai disgyblion 30 y cant o'r gwaith ar ôl i'w gwblhau, yn enwedig mewn perthynas â grwpiau arholiadau blynyddoedd 11 a 13, felly beth yw eich cyfarwyddiadau a'ch arweiniad yn hynny o beth? A fydd CBAC a'r Cyd-Gyngor Cymwysterau yn cyhoeddi datganiad o gwbl? A phryder arall yw addysgu ar-lein—mae rhai pobl bellach, gyda dysgu gartref, yn credu y bydd llawer o hyn yn digwydd ar-lein. Wel, fel y gwyddoch, mewn llawer o gymunedau gwledig, nid oes ganddynt gyfleusterau band eang, felly pa fesurau y byddwch yn eu rhoi ar waith i sicrhau bod rhyw fath o gydraddoldeb yn y disgwyliadau o ran ble—? Yn sicr, o ran fy etholwyr fy hun, mae band eang rhai ohonynt—wel, nid oes ganddynt fand eang cyflym iawn, felly bydd cymhlethdodau ynghlwm wrth hynny. Diolch. Kirsty Williams AC: A gaf fi gydymdeimlo â'r Aelod? Mae'n llygad ei lle wrth ddweud bod hon yn sefyllfa sy'n newid yn gyflym—mewn gwirionedd, mae munudau'n teimlo'n hir ar hyn o bryd, heb sôn am oriau a dyddiau, felly rwy'n cydymdeimlo â'r Aelod. Mae'n llygad ei lle, bydd materion sy'n ymwneud ag asesu—asesiadau ffurfiol ac arholiadau yn hollbwysig i'n haddysgwyr uwchradd, a dyna pam, fel y dywedais wrth ateb eich cyd-Aelod, Suzy Davies, y byddaf yn ceisio gwneud cyhoeddiad cyn gynted â phosibl yn dilyn fy nghyfarfod â Cymwysterau Cymru a CBAC y bore yma. O ran dysgu ar-lein, mae hi'n gwbl gywir. Mewn gwirionedd, mae buddsoddiad y Llywodraeth hon yn Hwb a datblygiad yr Hwb wedi sicrhau ein bod yn gallu darparu cymaint ag sy'n bosibl o ddysgu ar-lein, yn ogystal â'r ffaith bod gan bob plentyn yng Nghymru, drwy Hwb, fynediad at Microsoft Office a meddalwedd o'r fath, fel ein holl weithwyr addysg proffesiynol. Felly, gallant gael hwnnw—gallant ddefnyddio'r feddalwedd honno yn rhad ac am ddim gartref. Ond mae hi'n gwbl gywir, mae'n rhaid inni gofio tegwch yn y sefyllfa hon, er fy mod yn gobeithio y bydd yn cytuno â mi nad ydym yn mynd i wneud popeth yn berffaith gan ein bod yn wynebu amgylchiadau mor eithriadol. Ond fe fydd yn ymwybodol ein bod wedi bod yn gweithio'n agos gydag ysgolion cyn gwneud y penderfyniad hwn, ac mae ysgolion lle rwy'n gwybod—lle maent hwy'n gwybod—y gallai mynediad at y rhyngrwyd fod yn anodd i'w plant wedi cynhyrchu pecynnau dysgu gartref ar ffurf copïau caled, ac maent yn eu hanfon adref gyda'r plant. Felly, mae'r athrawon sy'n gwybod y gallai hyn fod yn broblem eisoes wedi bod yn rhagweld ac yn edrych ar wahanol ffyrdd y gallant gefnogi addysg plant yn y dyfodol. Andrew RT Davies AC: Rwy'n gwerthfawrogi'r atebion rydych chi wedi'u rhoi hyd yma, Weinidog, ac mae'n sefyllfa sy'n newid yn gyflym iawn. Un cwestiwn a fydd wedi'i ofyn sawl gwaith heddiw yw'r un am agor ysgolion. Rydych eisoes wedi ateb y cwestiwn hwnnw gyda'ch cyhoeddiad cyn y cwestiynau. Rwy'n sylweddoli eich bod wedi rhoi amserlenni hyd at bwynt, dyweder, yn y dyfodol agos, ac nid wyf yn edrych am ddiwrnod, nid wyf yn edrych am wythnos, gan fy mod yn derbyn bod hynny'n anodd ar hyn o bryd, ond a ydym yn debygol o gael unrhyw wybodaeth bellach ynghylch arholiadau erbyn diwedd yr wythnos, neu a ddylem ddisgwyl tan yr wythnos nesaf i gael mwy o wybodaeth am hynny? Oherwydd ni chredaf ei bod yn rhagdybiaeth afresymol y bydd llawer o etholwyr yn dod atom—fel y dywedais, nid wyf yn edrych am yr union ddyddiau, oriau neu funudau pan ddaw'r datganiad, ond os gallwn roi naratifau eang ynglŷn â pha bryd y gallai'r wybodaeth hon fod ar gael, credaf y byddai hynny o gymorth, o leiaf, ar hyn o bryd. Felly, a ddylem ddisgwyl mwy o wybodaeth yr wythnos nesaf, neu a allem gael rhywbeth erbyn diwedd yr wythnos? Kirsty Williams AC: Andrew, rwy’n sylweddoli pa mor heriol fydd y cyhoeddiadau ar gael toriad y Pasg yn gynt i fyfyrwyr, i athrawon ac i rieni, a dywedaf hynny fel rhiant i blant sydd ym mlwyddyn 13 ac ym mlwyddyn 11. Felly, gwn pa mor hollbwysig yw hyn a pha mor bryderus yw plant. Buaswn yn siomedig iawn pe na allem wneud penderfyniad pellach cyn diwedd yr wythnos, gan y bydd angen inni roi'r prosesau sydd ynghlwm wrth y penderfyniad hwnnw ar waith. Tynnwyd cwestiwn 4 [OAQ55262] yn ôl. Felly, cwestiwn 5, Hefin David. Safonau Ysgolion Hefin David AC: 5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am safonau ysgolion yng Nghymru? OAQ55257 Kirsty Williams AC: Cenhadaeth ein cenedl yng Nghymru yw codi safonau ar gyfer pob un o'n plant. Roeddwn yn falch o ddarllen yn adroddiad blynyddol Estyn 2018-19 fod safonau'n dda neu'n well yn y rhan fwyaf o ysgolion Cymru. Fodd bynnag, mae'n amlwg iawn i mi fod angen gwneud gwelliannau, yn enwedig yn ein sector uwchradd. Hefin David AC: Pan gyflwynais y cwestiwn yr wythnos diwethaf, fy mwriad oedd dathlu'r gwelliannau yn y safonau, yn enwedig yn Ysgol Babanod Hendre, Ysgol Cae'r Drindod, Ysgol Gynradd Nant-y-Parc, Ysgol Gymunedol Sant Cenydd, ac yn fwyaf diweddar, Cylch Meithrin Tonyfelin. Mae croeso mawr i'r gwelliannau hyn, ond mae pethau'n newid gydag ysgolion, fel y gwelsom gyda'r drafodaeth a gawsom heddiw a'r cyhoeddiad a wnaethoch. Felly, a gaf fi ofyn sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried effaith yr hyn sydd wedi digwydd dros yr wythnosau diwethaf ar system gategoreiddio ysgolion Llywodraeth Cymru, ac unrhyw arolygiadau yn y dyfodol, yn enwedig gyda rhieni sydd wedi cadw eu plant o'r ysgol, er na chawsant eu cynghori i wneud hynny, ac athrawon sydd efallai wedi bod yn hunanynysu ac yn methu mynychu? Sut y gallwn fod yn sicr na fydd hynny'n cael effaith hirdymor ar gategoreiddio ysgolion ac ar safonau mewn ysgolion ledled Cymru? Kirsty Williams AC: Wel, yn gyntaf, hoffwn ymuno â chi i ddathlu llwyddiannau'r ysgolion y sonioch chi amdanynt. Fel y gwyddoch, mae gennyf feddwl mawr o Ysgol Cae'r Drindod yn enwedig, sy'n un o'n hysgolion arbennig rhagorol, nid yn unig yn eich ardal chi, ond ledled Cymru. Hoffwn ddweud yn gwbl glir wrth ein gweithwyr addysg proffesiynol nad ydym yn gweithredu mewn cyfnod arferol. Fe fyddwch yn gwybod, ar ôl trafodaethau dros y penwythnos gydag Estyn, fod pob arolwg wedi’i ohirio. Rydym hefyd wedi gohirio holl waith ein cynghorwyr herio o'r consortia rhanbarthol ar ddechrau'r wythnos hon i gael gwared ar y pwysau hwnnw ar ysgolion. Hoffwn ddweud yn gwbl glir, er ein bod wedi parhau i gofnodi data presenoldeb, rydym wedi gwneud hynny i sicrhau bod gennym wybodaeth fyw am yr hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad, ac ni fydd y data hwnnw'n cael ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw fath o fesurau atebolrwydd neu berfformiad. Nid ydym yn gweithredu mewn cyfnod arferol, ac ni fyddai’n deg i’n hysgolion pe baem yn parhau i weithredu ein cyfundrefnau atebolrwydd arferol ar hyn o bryd. Hoffwn roi sicrwydd i'r proffesiwn fy mod i'n deall hynny, mae Estyn yn deall hynny, ac mae'r consortia rhanbarthol a'r awdurdodau addysg lleol yn deall hynny. Mae'r holl reolau'n amherthnasol. Os gallwn fod mewn sefyllfa i ailagor ysgolion, er enghraifft, ni fyddem yn disgwyl iddynt gynnal profion—yr asesiadau sy'n dal i gael eu cynnal ar bapur, er enghraifft. Ond mae'n debyg nad yw hynny'n berthnasol bellach. Ond hoffwn roi sicrwydd i ysgolion na fyddwn yn defnyddio ein dulliau arferol ar yr adeg hon, gan ein bod mewn amgylchiadau eithriadol. Hyfforddiant Parhaus i Athrawon Angela Burns AC: 6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu hyfforddiant parhaus i athrawon sy'n gweithio yng Nghymru? OAQ55270 Kirsty Williams AC: Mae dysgu proffesiynol yn hanfodol i sicrhau bod gan bob aelod o staff—staff ysgolion—sgiliau i gyflawni ein diwygiadau addysg yng Nghymru. Rydym yn disgwyl trawsnewidiad llwyr yn y ffordd y mae ein haddysgwyr yn meddwl am ddysgu proffesiynol yng ngoleuni'r cwricwlwm newydd, yn enwedig. Fel y gallwch ddychmygu, yn gynharach yr wythnos hon, bu'n rhaid inni dynnu ein cynnig dysgu proffesiynol yn ôl. Nid oedd yn briodol ar y pryd, pan oeddem angen i'r holl bersonél fod yn yr ystafell ddosbarth a pheidio â mynychu digwyddiadau dysgu proffesiynol. Angela Burns AC: Na, ac rwy'n deall hynny'n iawn. Mewn gwirionedd, bûm yn meddwl tynnu'r cwestiwn hwn yn ôl; rwyf wedi tynnu rhai eraill yn ôl heddiw gan y credaf mai'r peth pwysicaf sy'n digwydd ar hyn o bryd, yn amlwg, yw'r coronafeirws. Ond cedwais yr un hwn gan y gwn, wrth i'r toriad barhau ac wrth inni ddod at yr haf, y byddwch yn edrych ar ddatblygiad athrawon o fis Medi ymlaen, ac mae'r cwestiwn, mewn gwirionedd, yn ymwneud â chefnogi ein hathrawon a rhoi'r gallu iddynt drin plant anodd, plant â phroblemau ymddygiad. Tybed—nid nawr, ond yn y dyfodol—. Mae penaethiaid ac athrawon yn fy etholaeth wedi mynegi llawer o bryderon am nad yw'r athrawon wedi cael eu hyfforddi sut i drin plant aflonyddgar ac ymosodol iawn mewn ysgolion cynradd. Nid ydynt am eu gwahardd o'r ysgol—nid yw hynny'n helpu unrhyw un—ond mae angen mwy o gadernid, mwy o sgiliau ymdopi, mwy o hyfforddiant ar yr athrawon eu hunain, a tybed a wnewch chi roi sylw i hynny? Ac a wnewch chi faddau i mi—neu fod yn amyneddgar â mi—ond pan fyddwch yn gwneud eich datganiad yr wythnos nesaf, a gaf fi ofyn ichi ystyried rhoi diweddariad inni, os yw'r ysgolion yn mynd i fod ar gau am gyfnod hwy o amser na'r Pasg yn unig efallai, p'un a fyddem yn gallu defnyddio cyfleusterau ysgolion ar gyfer plant gweithwyr gofal iechyd pwysig iawn ar y rheng flaen, gweithwyr gofal cymdeithasol, neu beth y gallem ei wneud? Oherwydd os ydym yn eu tynnu allan o'n gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, ein fferyllwyr, ein heddlu, rydym mewn trafferth mawr. Diolch. Kirsty Williams AC: Wel, mae'r Aelod yn llygad ei lle; mae angen inni nodi a chefnogi athrawon gyda'u holl anghenion datblygu proffesiynol. Os caf dorri'r rheolau ychydig y prynhawn yma hefyd, fel yr ymddengys bod pob un ohonom yn ei wneud, cododd Siân Gwenllian fater addysg gychwynnol i athrawon a'r myfyrwyr a fydd ar leoliad. Bydd yr Aelodau yma'n ymwybodol fod angen i fyfyrwyr AGA gwblhau nifer penodol o oriau i ennill eu cymhwyster. Rwyf wedi cadarnhau gyda'n holl ddarparwyr AGA fod y rheolau arferol hynny wedi'u hatal. Mae'r mwyafrif helaeth o oriau eisoes wedi'u cwblhau, ac nid wyf yn barod i golli'r myfyrwyr talentog hynny sy'n dod yn rhan o'n gweithlu ar gorn ychydig oriau ychwanegol yn ein hysgolion. Felly, rwyf am roi sicrwydd iddynt na fyddant ar eu colled am na allant gwblhau eu lleoliadau gwaith mewn ysgolion. Mae arnom eu hangen yn ein gweithlu addysgu ac ni fyddwn yn peryglu'r sefyllfa honno. Mae'r Aelod yn llygad ei lle—mae'n ddrwg gennyf os nad wyf wedi dweud hynny'n glir eisoes—pan fyddwn yn meddwl am ail-bwrpasuein hystâd ysgolion, byddwn yn sicr yn ystyried darparu cyfleoedd i'r bobl hynny rydym angen iddynt barhau i weithio, yn yr ystyr ehangaf posibl, i allu manteisio ar gyfleoedd i'w plant fynychu gweithgareddau ystyrlon, pwrpasol, mewn adeilad ysgol yn ôl pob tebyg. Byddwn yn gweithio'n agos iawn gyda'r awdurdodau lleol i nodi'r lleoedd gorau i wneud hynny. Byddwn yn pwyso ar ein holl adnoddau proffesiynol—athrawon, gweithwyr ieuenctid, gweithwyr datblygu chwaraeon, ymarferwyr celfyddydol—i sicrhau bod yr amser hwnnw'n hwyl, yn ystyrlon ac yn ddefnyddiol ac y gall roi gwir hyder i rieni fel y gallant wneud yr hyn sydd angen iddynt ei wneud, a bobl bach, rydym angen iddynt barhau i wneud yr hyn y maent yn ei wneud a pheidio â gorfod meddwl am bwy sy'n gofalu am eu plant a beth y mae eu plant yn ei wneud. Mae hynny'n gwbl—. Dyna un o'r rhesymau pam ein bod wedi cadw ysgolion ar agor cyhyd ag y gwnaethom, gan eu wedi bod yn chwarae'r rôl hanfodol honno. Ni allwn ddweud hyn yn rhy aml. Rydym mor ddiolchgar. Gwyddom fod ein gweithwyr gofal iechyd ar y rheng flaen, ond mae ein hathrawon wedi bod yn chwarae eu rhan hefyd i gefnogi'r ymdrech genedlaethol hon. Pwysigrwydd Perthnasau Iach Vikki Howells AC: 8. A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r ffordd y caiff disgyblion o oedran ysgol gorfodol yng Nghwm Cynon eu haddysgu ynghylch pwysigrwydd perthnasau iach? OAQ55240 Kirsty Williams AC: Mae gan addysg cydberthynas a rhywioldeb o ansawdd uchel ran bwysig i'w chwarae yn cynorthwyo dysgwyr i nodi ac i ddeall beth yw perthynas iach a diogel. Dyna pam y bydd addysg cydberthynas a rhywioldeb yn rhan orfodol o'n cwricwlwm newydd. Vikki Howells AC: Diolch am eich ateb, Weinidog, ac rwy'n eich canmol am wneud hynny'n rhan orfodol o'r cwricwlwm. Yn ddiweddar, cefais y pleser o gyfarfod â Hafan Cymru i drafod prosiect Sbectrwm a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Gwnaeth argraff fawr arnaf, gyda’r cynnwys sy’n briodol i oedran ar berthnasoedd iach a cham-drin domestig y maent yn ei gynnig i ysgolion Cymru, ac yn hollbwysig, yn rhad ac am ddim hefyd, sy’n beth prin y dyddiau hyn. Pan fydd ein hysgolion yn ailymgynnull ar ôl i epidemig y coronafeirws ddod i ben, rwy'n siŵr y bydd angen mwy o gefnogaeth nag erioed ar ein disgyblion yn y meysydd hyn. Felly, sut y mae Llywodraeth Cymru yn annog ysgolion yng Nghymru i fanteisio ar y sesiynau y mae Sbectrwm yn eu cynnig? Kirsty Williams AC: A gaf fi, ynghyd â Vikki, gymeradwyo'r gwaith hwn a phrosiect Sbectrwm? Yn eithaf aml yn y Siambr hon, rydym yn trafod mater trais domestig a'n hymateb i drais domestig. Un o'r pethau mwyaf effeithiol y gallwn eu gwneud yw sicrhau bod pob un o'n plant, ni waeth pwy ydynt, o ble maent yn dod, yn deall sut beth yw perthynas iach, yn deall eu cyfrifoldebau mewn perthynas, ond hefyd yn deall eu hawliau mewn perthynas a sut i herio ymddygiad a sut i geisio cymorth os yw hynny'n briodol. Yn y pen draw, dyna sut y gobeithiaf y gallwn fynd i'r afael â malltod trais domestig—drwy addysgu pob un o'n plant a'n pobl ifanc yn well. Rydych yn llygad eich lle; mae nifer o ffyrdd y gallwn hyrwyddo'r prosiect a'r ffaith bod yr adnoddau hyn a'r hyfforddiant hwn yn rhad ac am ddim, ac rwy'n fwy na pharod i rannu rhai o'r rheini â Vikki pan fyddwn yn ôl wrthi, ar waith fel arfer, a gallwn sicrhau bod ein hysgolion a'n plant yn ôl i'r arfer cyn gynted ag y gallwn. Cwestiwn 9, yn olaf—Mark Isherwood. Rhwystrau rhag Mynediad i Ddisgyblion Anabl mewn Ysgolion Mark Isherwood AC: 9. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn dileu rhwystrau rhag mynediad i ddisgyblion anabl mewn ysgolion? OAQ55247 Kirsty Williams AC: Diolch, Mark. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau system addysg gynhwysol, lle mae pob un o'n dysgwyr yn cael eu cefnogi'n effeithiol i oresgyn rhwystrau rhag dysgu. Bydd ein diwygiadau uchelgeisiol i anghenion dysgu ychwanegol yn llywio gwelliannau ac yn codi ymwybyddiaeth o ADY i sicrhau y gall pob un o'n dysgwyr gyflawni eu potensial llawn. Mark Isherwood AC: Mae dwy flynedd bellach, rwy'n credu, ers i'r comisiynydd plant gynhyrchu ei hadroddiad dilynol ar hygyrchedd i ddefnyddwyr cadair olwyn mewn ysgolion yng Nghymru, 'Bywydau Llawn: Mynediad Cyfartal', a nodai nifer o feysydd i'w gwella, gyda rhai ohonynt yn ddyletswyddau llym o dan Deddf Cydraddoldeb 2010, a rhai nad oeddent. Daeth i'r casgliad, er enghraifft, fod 'gor-ddibyniaeth... ar ysgolion unigol i gynllunio ar gyfer anghenion disgyblion ag anableddau corfforol' ac mai un yn unig o'r 22 cyngor yng Nghymru a ofynnodd am farn pobl ifanc wrth ddrafftio eu strategaeth hygyrchedd. Ymhlith y pethau y dywedodd fod angen iddynt ddigwydd oedd ymgynghori â phlant a phobl ifanc a'u teuluoedd, sy'n ddyletswydd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, ac mae'n rhaid i hynny ffurfio rhan o'r strategaethau a chynlluniau hygyrchedd i wneud y rhain yn ystyrlon ac i gynnal hawliau plant ledled Cymru. Felly, dylai pob awdurdod lleol ac ysgol ymgynghori â phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd wrth baratoi eu strategaeth neu gynllun. Sut rydych chi'n ymateb felly i sefyllfa y tynnwyd fy sylw ati, lle dywedodd awdurdod addysg lleol, ar ôl mynychu safle ysgol, wrth rieni defnyddiwr cadair olwyn ifanc nad oeddent yn barod i dalu am yr addasiadau angenrheidiol ar gyfer y safle, a bod y disgybl yn mynd i gael ei symud i ysgol arall cyn trafod anghenion y plentyn gyda'r rhieni? Yn ffodus, roedd y rhieni'n deall y gyfraith, eu hawliau datganoledig a heb eu datganoli, ac maent bellach yn ymgysylltu, ond dim ond am eu bod wedi brwydro i wneud hynny, ac maent yn trafod addasiadau amgen arfaethedig. Sut, felly, ddwy flynedd ar ôl yr adroddiad allweddol hwnnw, y gallwch neu y byddwch yn ail-ymgysylltuag awdurdodau addysg lleol, gan fod rhai ohonynt yn dal i weithredu'r arferion hynafol a gwahaniaethol hyn? Kirsty Williams AC: Wel, Mark, fel y dywedoch chi, mae'n gwbl deg fod gan awdurdodau lleol gyfrifoldeb statudol am baratoi strategaeth hygyrchedd ar gyfer eu hystâd addysg gyfan, ac mae gan ysgolion eu hunain gyfrifoldeb statudol tebyg. Mae'n rhaid i'r strategaethau a'r cynlluniau hyn gael eu paratoi, eu gweithredu, eu hadolygu a'u hadnewyddu bob tair blynedd, ac mae'n hynod—mae'r sefyllfa rydych newydd ei disgrifio wedi fy mrawychu. Nid yw'n dderbyniol ogwbl yn fy marn i. Wrth gwrs, un o'r ffyrdd rydym yn mynd i'r afael â hyn fel Llywodraeth Cymru yw drwy ein rhaglen adeiladu ysgolion a cholegau yr unfed ganrif ar hugain, lle rydym yn rhoi ystyriaeth hollbwysig i hygyrchedd mewn perthynas â'r hyn rydym am ei gyflawni yn ein hystâd addysg. Ond mae gan ysgolion gyfrifoldebau cyfreithiol eisoes, mae gan awdurdodau addysg lleol gyfrifoldebau cyfreithiol eisoes, ac rwyf bob amser yn fwy na pharod i ymchwilio i'r achosion rydych newydd dynnu sylw atynt ac i herio ymddygiad awdurdodau lleol os nad ydynt yn glynu at y cyfrifoldebau hynny. Diolch i'r Gweinidog. 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Caroline Jones. Cefnogaeth i'r Diwydiant Twristiaeth Caroline Jones AC: 1. Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu i'r diwydiant twristiaeth i liniaru'r effaith y gallai coronafeirws ei chael yng Nghymru? OAQ55252 Eluned Morgan AC: Mae hon yn sefyllfa sy'n datblygu. Hoffwn roi sicrwydd i'r sector ein bod yn monitro effaith y coronafeirws ar dwristiaeth yn barhaus ac yn gweithio gyda chyd-Aelodau ar draws Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i roi camau priodol ar waith mewn ymateb i'r sefyllfa sy'n datblygu. Caroline Jones AC: Diolch, Weinidog. Pan gyflwynais y cwestiwn hwn yr wythnos diwethaf, pwy allai fod wedi dychmygu y byddai'r tymor twristiaeth yn cael ei ganslo i bob pwrpas cyn iddo ddechrau hyd yn oed? Weinidog, gobeithio y bydd y mesurau rydym yn eu cymryd i atal lledaeniad y coronafeirws yn golygu y gall bywyd ddychwelyd i ryw fath o normalrwydd ymhen mis neu ddau. Yn y cyfamser, mae'r effaith y mae'r pandemig hwn yn ei chael ar fusnesau twristiaeth a'r rheini sy'n gweithio ym maes twristiaeth yn ddwys. Mae angen i ni sicrhau bod pob busnes, mawr a bach, yn goroesi'r argyfwng hwn. Bydd gwaharddiadau ar deithio rhyngwladol yn golygu mwy o wyliau gartref ar ôl i'r DU lacio'r cyfyngiadau presennol. Fodd bynnag, oni bai fod y sector yn cael yr help sydd ei angen arno yn y tymor byr, ni fydd gennym sector erbyn yr haf. Weinidog, pa fesurau eraill rydych wedi'u trafod gyda swyddogion cyfatebol ledled y DU? A ydych wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i'r syniad o asiantaethau Llywodraeth yn defnyddio llety gwyliau ar osod, gwestai a llety gwely a brecwast i ddarparu llochesi i bobl ddigartref, neu fel llety dros dro i weithwyr allweddol? Mae hon yn sefyllfa ddigynsail ac mae angen inni geisio dod o hyd i atebion digynsail ar ei chyfer. Eluned Morgan AC: Diolch, Caroline Jones. Credaf eich bod yn llygad eich lle yn tanlinellu difrifoldeb y sefyllfa i'r sector penodol hwn. Gwyddom fod oddeutu 11,700 o fentrau twristiaeth yng Nghymru, a'u bod yn cyflogi oddeutu 135,000 o bobl. Felly, mae'n enfawr, ac rydym yn llwyr o ddifrif yn ei gylch. Yn sicr, rydym yn gobeithio y bydd rhai o'r mesurau rydym eisoes wedi'u rhoi ar waith yn helpu rhai ohonynt. Rydym yn darparu £200 miliwn i sicrhau y bydd y rheini sydd â gwerth ardrethol o £51,000 neu lai yn cael rhyddhad ardrethi busnes o 100 y cant. Ond bydd £100 miliwn yn ychwanegol yn cael ei ddarparu, ac mae hynny'n rhywbeth sy'n cael ei drafod ar hyn o bryd, ac yn sicr, ceir gwir ymwybyddiaeth a dealltwriaeth fod hwn yn sector sydd angen help ar unwaith. Suzy Davies AC: A gaf fi ddechrau drwy ofyn i chi ddiolch i swyddogion y Dirprwy Weinidog ar fy rhan ac ar ran y grŵp trawsbleidiol ar dwristiaeth, gan eu bod bellach wedi rhoi rhywfaint o ganllawiau ar y wefan? Ar y pwynt diwethaf, serch hynny, rwy’n derbyn mai ddoe yn unig y rhoddodd y Canghellor fanylion ychwanegol ynglŷn â'r cyllid a oedd ar gael i Gymru, ond hyd yn oed cyn hynny, roedd yr Alban wedi cyhoeddi rhyddhad ardrethi busnes o 75 y cant ar gyfer busnesau manwerthu, lletygarwch a hamdden sydd â gwerth ardrethol o £69,000 neu lai o 1 Ebrill ymlaen. Mae hynny ychydig yn fwy o gymorth i'r busnesau sydd dros y trothwy o £51,000, fel y byddem yn ei weld yma yng Nghymru. Rwy'n derbyn bod gostyngiad o £5,000 yn yr ardrethi busnes ar gyfer busnesau sy'n werth dros £51,000, ond mewn gwirionedd, mae'n debyg fod y gostyngiad o 75 y cant yn well iddynt. Os ystyriwch fod rhai o'r rhain yn fusnesau gwirioneddol leol yn hytrach na chadwyni cenedlaethol mawr, ac yn cyflogi mwy o bobl hefyd, buaswn yn ddiolchgar pe baech chi neu'r Dirprwy Weinidog yn barod i ddefnyddio'r ddadl honno ddydd Iau, pan fydd y defnydd o'r £100 miliwn y cyfeiriwch ato yn cael ei drafod. Ond dyma fy nghwestiwn: rydym ar ddechrau'r prif dymor twristiaeth pan fo'r busnesau hyn, mawr neu fach, yn ystyried cyflogi eu staff tymhorol. Os ydym am osgoi ffrwydrad o gontractau dim oriau, tybed a allech rannu eich syniadau cyfredol ynghylch cefnogi'r gyflogres dymhorol, yn ogystal â rhoi syniad, efallai, o ba mor fuan y bydd gweithredwyr twristiaeth yn gwybod sut y mae'r rhyddhad ardrethi y cyfeirioch chi ato eisoes yn mynd i weithredu o ran cyflymder, gan fod hynny'n amlwg yn bwysig iawn iddynt ar hyn o bryd. Diolch. Eluned Morgan AC: Diolch. Yn sicr, rydym yn hynod o ymwybodol mai'r busnesau bach a chanolig sydd dan fygythiad sylweddol yma, ac efallai eu bod yn amharod i fenthyca. Mae cyfleoedd ar gael iddynt fenthyca drwy Fanc Datblygu Cymru, ond yn amlwg, mae rhai ohonynt yn gyndyn o wneud hynny. Felly, yr hyn a wyddom yn awr yw y byddwn yn cael cyllid canlyniadol yn sgil cyhoeddiad y Canghellor o £1.16 biliwn, ac rydym yn gobeithio y bydd rhywfaint ohono'n cael ei gyfeirio'n benodol tuag at y sector manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth. Rydym yn teimlo y dylai'r Canghellor fod wedi mynd ychydig ymhellach nag y gwnaeth o bosibl o ran tanysgrifennu cyflogau gweithwyr sy'n cael eu diswyddo. Felly, mae rhai ohonynt eisoes wedi cael eu contractio. Rwy'n deall eich pwynt y byddai rhai ohonynt wedi bod ar fin cael eu cyflogi, ond ar hyn o bryd, rwy'n credu ein bod yn teimlo bod yn rhaid i'r Canghellor wneud mwy o lawer o ran diogelu a thanysgrifennu cyflogau'r gweithwyr sy'n debygol o gael eu diswyddo oni bai fod rhywbeth yn newid yn sylweddol. Tynnwyd cwestiwn 2 [OAQ55267] yn ôl. Cwestiwn 3, Nick Ramsay. Mentrau Gefeillio Trefi Rhyngwladol Nick Ramsay AC: 3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi mentrau gefeillio trefi rhyngwladol ledled Cymru? OAQ55268 Eluned Morgan AC: Nid oes gan Lywodraeth Cymru rôl ffurfiol yn y broses ar gyfer gefeillio trefi, dinasoedd a rhanbarthau, ond rydym yn cydnabod budd trefniadau gefeillio trefi a'r hyn y gallant ei gynnig. Rwyf wedi ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am drefniadau gefeillio, ond o ystyried y sefyllfa bresennol, nid wyf yn disgwyl ymateb ar y mater yn fuan. Nick Ramsay AC: Diolch am eich ateb, Weinidog. Yn amlwg, cyflwynwyd y cwestiwn hwn cyn i ddifrifoldeb y sefyllfa bresennol ddatblygu. Mae'n debyg y byddwch yn ymwybodol fod y freuddwyd o efeillio'r Fenni yn fy etholaeth â thref Chinamhora yn Zimbabwe wedi newid o fod yn freuddwyd i fod yn realiti sy'n datblygu'n gyflym, wrth i sawl cyfarfod gael eu cynnal yn ddiweddar. Mae hyn yn wych ar gyfer cysylltiadau Cymru-Affrica. Rydych wedi bod yn rhan o'r broses o'r dechrau, gyda maer y Fenni a minnau, a hefyd Dave a Martha Holman o Love Zimbabwe, felly rydych yn ymwybodol o'r hyn sydd wedi bod yn digwydd yno. Sut rydych yn cefnogi cysylltiadau cymdeithasau gefeillio ledled Cymru, ac yn benodol rhwng trefi yng Nghymru a threfi mewn rhannau eraill o'r byd y tu allan i'r UE? Ac ar yr adeg hon, pan welwn sefyllfa sy'n datblygu'n gyflym gyda'r coronafeirws, ac i ble yr aiff hynny â ni, sut y gwelwch y bydd datblygu gefeilldrefi yn ffordd werthfawr yn y dyfodol i drefi ledled y byd gyfathrebu a rhannu arferion gorau ar adegau o argyfwng byd-eang? Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr iawn. A gaf fi ddweud pa mor falch yr oeddwn wrth weld y cysylltiad hwnnw rhwng y Fenni a Chinamhora yn Zimbabwe? Yn sicr, mae arweinyddiaeth ysbrydoledig Martha a David wedi bod yn anhygoel. Credaf ei fod yn rhywbeth yr hoffem ei annog o safbwynt Llywodraeth Cymru, ond fel y dywedaf, mae hyn yn rhywbeth y dylid ei arwain ar lefel llywodraeth leol i raddau helaeth. Yr hyn rydym wedi bod yn ei wneud mewn perthynas â Chymru ac Affrica yw bod prosiectau wedi'u sefydlu sawl blwyddyn yn ôl, pan sefydlwyd diwrnod tlodi'r byd y Cenhedloedd Unedig i gyflawni nodau datblygu'r mileniwm. Dyna pryd y cawsom y rhaglen flaenllaw, cysylltiadau cymunedol Cymru o Blaid Affrica, a dyna pryd y cychwynnodd y mentrau mewn lleoedd fel Pontypridd gyda Mbale. Os edrychwch ar sut y mae'r prosiect hwnnw wedi datblygu dros y blynyddoedd, mae'n rhywbeth y mae'r gymuned wedi mynd i'r afael ag ef eu hunain. Rwy'n credu mai dyna'r math o fodel yr hoffem ei weld yn y dyfodol. Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf—Darren Millar. Darren Millar AC: Diolch, Lywydd. Weinidog, a gaf fi ofyn i chi faint o bobl o Gymru sy'n methu dod adre o dramor ar hyn o bryd o ganlyniad i argyfwng y coronafeirws? Eluned Morgan AC: Nid oes gennym yr union ffigurau o ran nifer y bobl sy'n methu dod adre o dramor ar hyn o bryd. Yn amlwg, mae'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn arwain ar hynny, ond yn amlwg, rydym yn annog pobl i ddod adref ar unwaith os yw'n bosibl iddynt wneud hynny. Dyna'r cyngor a gafwyd gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad. Darren Millar AC: Yn amlwg, mae hwn yn gyfnod pryderus iawn i rai o'r bobl sy'n methu dod adre o dramor ar hyn o bryd, ac yn arbennig i'w teuluoedd a fydd yn poeni'n fawr am eu lles. Felly, a gaf fi eich annog i barhau i weithio gyda Llywodraeth y DU er mwyn cefnogi'r unigolion hynny a allai fod angen cymorth i gyrraedd adref? Un o'r grwpiau eraill o bobl y bydd Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn uniongyrchol gyfrifol amdanynt yw gweithwyr Llywodraeth Cymru sydd dramor ar hyn o bryd—a llawer ohonynt mewn gwledydd sydd wedi teimlo effeithiau cryfaf problem COVID-19. Tybed a allech ddarparu rhywfaint o wybodaeth ynglŷn â pha gamau rydych yn eu cymryd fel Llywodraeth Cymru i ddiogelu'r gweithwyr hynny, pa ymgysylltiad a gawsoch â'u teuluoedd, ac a oes trefniadau iddynt gael eu dychwelyd i Gymru yn y dyfodol agos? Eluned Morgan AC: Rydym mewn cysylltiad cyson, yn amlwg, â'r 21 swyddfa sydd gan Lywodraeth Cymru ym mhob rhan o'r byd. Mae'r cynrychiolwyr sydd wedi'u lleoli yn y tair dinas yn Tsieina wedi bod yn gweithio gartref ers amser hir bellach. Mae'r rhan fwyaf o'n swyddfeydd wedi'u lleoli yn adrannau'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad, felly, ynghyd â Llywodraeth y DU, yn amlwg, maent yn dilyn eu cyngor hwy, ond rydym yn cyfathrebu'n gyson â hwy. Mewn gwirionedd, roedd grŵp ohonynt i fod i ddod yn ôl yr wythnos diwethaf i gael math o ôl-drafodaeth flynyddol; yn amlwg, cafodd honno ei chanslo. Ond mae'r cyfathrebu hwnnw'n rhywbeth sy'n mynd rhagddo'n barhaus, ac yn amlwg, mae lles ein staff ein hunain yn rhywbeth sy'n bwysig iawn i ni. Darren Millar AC: Yn amlwg, Weinidog, rydym yn cydymdeimlo â hwy ar hyn o bryd mewn amgylchiadau a allai fod yn heriol iawn yn yr ardaloedd lleol y maent wedi'u haseinio iddynt. Weinidog, yn y strategaeth ryngwladol, yn amlwg, fe nodoch fod gan Gymru lawer o gysylltiadau pwysig, o ran masnach, â llawer o wahanol genhedloedd a rhanbarthau ledled y byd, gan gynnwys ein partneriaid pwysicaf ar garreg ein drws yn yr Undeb Ewropeaidd, Gogledd America, ac yn wir, yn Asia—gan gynnwys dwyrain Asia, sydd wrth gwrs wedi dioddef baich y coronafeirws. Credaf ei bod yn deg dweud ein bod mewn cyfnod ansicr iawn yn economaidd, ac mae'n ddigon posibl y bydd y cysylltiadau hynny'n dod dan fwy o straen o gofio effaith llawer o'r cyfyngiadau sydd bellach yn effeithio ar fusnesau ym mhob rhan o'r byd. Nawr, mae'r busnesau sy'n dibynnu'n fawr ar fasnach allforio a mewnforio yn debygol o gael eu heffeithio'n fwy o lawer na llawer o fusnesau eraill yng Nghymru. Tybed pa drafodaethau y gallech fod wedi'u cael gyda'ch cyd-Aelodau yn y Cabinet ac yn uniongyrchol gyda'r busnesau mewnforio-allforio hynny i benderfynu pa gefnogaeth y gallai fod ei hangen arnynt wrth symud ymlaen? Oherwydd o gofio bod gennych rywfaint o hyblygrwydd yn awr o ganlyniad i adnoddau ychwanegol gan Lywodraeth y DU i gefnogi busnesau, credaf fod angen gwell dealltwriaeth o'r effaith ar y mewnforwyr a'r allforwyr hynny oherwydd natur eu gwaith ar sail fyd-eang. Eluned Morgan AC: Diolch. Rydych yn llygad eich lle yn nodi pwysigrwydd masnach. Mae masnach yn cyfrannu oddeutu 22 y cant o'r cynnyrch domestig gros i economi Cymru, felly mae'n rhywbeth y mae'n rhaid inni fod yn gyfan gwbl o ddifrif yn ei gylch. Yn amlwg, rydym yn arbennig o bryderus am y negodiadau masnach a ddylai fod ar y gweill gyda'r Undeb Ewropeaidd mewn perthynas â Brexit, gan wybod bod y terfyn amser hwnnw ar y ffordd. Wrth gwrs, byddem yn dadlau y dylid ei ohirio, yn ôl pob tebyg, o dan yr amgylchiadau. Roedd negodiadau masnach i fod i gychwyn yr wythnos nesaf gyda’r Unol Daleithiau, ac yn amlwg, mae bellach yn amhosibl i’r negodwyr masnach hynny gyrraedd yr Unol Daleithiau er mwyn cychwyn y negodiadau hynny. Felly, credaf fod yn rhaid inni fod ychydig yn fwy creadigol yn y ffordd rydym yn mynd ati i wneud y pethau hyn. Yn sicr, mewn perthynas â mewnforio ac allforio, mae cadwyni cyflenwi ar gyfer economi Cymru yn gwbl hanfodol, ac yn sicr, mae hwn yn faes rydym yn cadw llygad arno. Oherwydd yn amlwg, os na all pobl ddod â'r cydrannau sydd eu hangen arnynt i mewn, bydd hynny'n peri problemau mawr, ac yn y pen draw, gallai hynny orfodi ffatrïoedd i gau. Llefarydd Plaid Cymru, Dai Lloyd. Dai Lloyd AC: Diolch yn fawr, Llywydd. Wrth gwrs, gyda chwmwl du enfawr coronavirus, yn naturiol, mae'r rheolau yn newid i gyd. Ac wrth basio—yn dilyn cwestiwn Nick Ramsay, wrth gwrs—mae dinas Abertawe wedi'i gefeillio efo dinas yn China ers rhai blynyddoedd, dinas o'r enw Wuhan. Rôn i'n arfer cael her yn trio esbonio i bobl lle'r oedd Wuhan, ond ddim rhagor. Ond wrth gwrs, mae'r her hon o'r coronafeirws yn ymestyn ar draws holl adrannau'r Llywodraeth—wrth gwrs, mae yna adrannau allweddol, yn naturiol—gan gynnwys yn benodol eich adran chi, felly. Yn enwedig o ddilyn y cwestiynau ar fasnach ac arbenigedd eich adran chi ar fasnach, allaf i ofyn pa drafodaethau rydych chi'n eu cael ar argaeledd rhyngwladol masnach feddygol? Hynny yw, cyfarpar meddygol yn yr argyfwng meddygol yma sydd gyda ni rŵan. Hynny yw, dwi'n sôn am anadlyddion peiriannol—ventilators—ac ati, a chyfarpar arbenigol rhyngwladol eraill sydd eu hangen ar y wlad yma yn y sefyllfa argyfyngus sydd ohoni. Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr. Wrth gwrs, mae'n ddiddorol iawn i glywed bod Abertawe wedi'i gefeillio gyda Wuhan. Dyna uno'r rhesymau pam dwi wedi ysgrifennu at y llywodraethau lleol i ffeindio mas yn union pwy sydd wedi gefeillio gyda phwy. O ran masnach, chi'n eithaf iawn i danlinellu pwysigrwydd trio gweld lle gallwn ni gael y cyfarpar yma. Beth mae'n rhaid i ni nodi, wrth gwrs, yw bod y gwledydd yma i gyd yn awyddus i gadw eu ventilatorseu hunain; dyna pam mae'r Llywodraeth ym Mhrydain, a ni yma yng Nghymru hefyd, yn ceisio annog busnesau, yn arbennig y rheini sy'n beirianwyr, i weld os allan nhw addasu beth maen nhw'n ei gynhyrchu fel eu bod nhw yn creu ventilators ar gyfer y drychineb yma sydd o'n blaenau ni. Dai Lloyd AC: Diolch yn fawr am hynna. Ac, wrth gwrs, yn dilyn o hynny, ie, dŷn ni mewn sefyllfa argyfyngus ar hyn o bryd, ond mae'r sefyllfa argyfyngus yma yn beryg o bara am rai wythnosau, os nad misoedd. Ac, wrth gwrs, fel y cyfeiriodd Darren Millar, mae gyda ni bobl o Gymru sydd mewn gwahanol wledydd ar draws y byd rŵan yn dilyn eu gwahanol fusnesau, hyd yn oed yn cynrychioli'r wlad yma. Felly, a allaf ofyn i chi pa drafodaethau ydych chi'n eu cael fel Gweinidog, ac fel adran, ynglŷn â chefnogi'r bobl yma, yn ychwanegol i'r gefnogaeth arferol felly, achos, wrth gwrs, byddan nhw'n teimlo'n ynysig nawr achos mae cyfyngiadau ar deithiau rhyngwladol ac ati? Felly, sut ydych chi'n cynnal—? Ar ben y gwaith sy'n mynd ymlaen yn arferol, ond mewn sefyllfa o argyfwng rŵan, pan fo'r cysylltiadau arferol wedi mynd, pa waith cynnal ychwanegol sydd gyda chi yn edrych ar ôl pobl o Gymru sydd allan o Gymru ar hyn o bryd? Eluned Morgan AC: Un o'r pethau rŷn ni wedi gwneud, wrth gwrs, yw i sicrhau bod y bobl yna sydd yn gweithio drostyn ni dramor, eu bod nhw ddim yn mynd mewn i gysylltiad gyda gormod o bobl. Mae lot o weithgareddau oedd ar y gweill wedi cael eu canslo; lot o export missions, mae'r rheini i gyd, wrth gwrs, wedi'u canslo; pobl oedd i fod i ddod mewn i Gymru, y rheini hefyd wedi'u canslo. Ac, felly, rŷn ni yn ceisio sicrhau eu bod nhw yn cadw'n saff. Wrth gwrs, maen nhw yn gyffredinol yn cydweithredu gyda'r tîm Prydeinig sydd yna. Felly, dŷn nhw ddim yn gweithredu fel unigolion fel y cyfryw, felly maen nhw yn dilyn y cyfarwyddyd, nid yn unig sy'n dod gennym ni, ond y cyfarwyddyd sy'n dod gan Lywodraeth Prydain. Ond dwi yn meddwl—. Dwi'n cael cyfarfod y prynhawn yma gyda'r person sydd â chyfrifoldeb dros gydweithredu ac edrych ar sut rŷn ni'n gweithredu dramor. Dai Lloyd AC: Diolch am hynna, Weinidog. Ac, wrth gwrs, dŷn ni wedi clywed cyhoeddiad Canghellor y Trysorlys yn Llundain yr wythnos yma ynglŷn â'r arian ychwanegol sydd ar gael. Ac, wrth gwrs, yn amlwg, mae yna effaith enfawr yn mynd i fod o achos yr holl gyfyngu ar gysylltiadau, yr holl gyfyngu ar gyfarfodydd, cyfyngu ar deithio, yn ogystal â chyfyngu ar deithio rhyngwladol—yr holl effaith enbydus yna ar fywyd celfyddydol Cymru yn benodol. Dŷn ni wedi gweld beth sydd wedi digwydd i'r Urdd, a chanslo Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd tan y flwyddyn nesaf, a chau'r gwersylloedd, ac ati. Felly, yn nhermau ariannol rŵan, achos, ar ddiwedd y dydd, mae'n rhaid i ni siarad am bethau fel yna hefyd, yn sgil cyhoeddiad Canghellor y Trysorlys, pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael i drefnu mesurau lliniarol gogyfer y sector gelfyddydol yma yng Nghymru? Eluned Morgan AC: Wel, rŷn ni wedi bod mewn trafodaethau gyda'r sector gelfyddydol, ac, wrth gwrs, y sector sy'n gyfrifol ammajor events. Ac mae lot fawr o arian yn dod mewn i'r wlad oherwydd major events. Wrth gwrs, dwi wedi bod yn cael trafodaethau eithaf manwl gyda chynrychiolwyr yr Urdd dros y penwythnos, ond mae pob math o weithgareddau eraill a mudiadau eraill sydd yn yr un sefyllfa â nhw. Yn sicr, rŷn ni wedi gweld bod y Big Retreat wedi cael ei ganslo, bod y Machynlleth Comedy Festival wedi'i ganslo, Tafwyl hefyd, ac mae bwrdd Llangollen yn cwrdd heno. Felly, mae yna lot fawr o fudiadau sydd yn mynd i gael eu heffeithio gan hyn, ac felly, rŷn ni mewn trafodaethau gyda nhw i weld os oes rhywbeth gallwn ni ei wneud, ond, wrth gwrs, mae hi'n amser argyfyngus i bawb, a beth mae'n rhaid i ni ei wneud yw gweld beth yw'n blaenoriaethau ni, wrth gwrs. Cymru a'r Byd John Griffiths AC: 4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gryfhau'r cysylltiadau a'r berthynas rhwng Cymru a'r byd? OAQ55260 Eluned Morgan AC: Ym mis Ionawr, cyhoeddais strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru, sy'n nodi'n glir y camau y byddwn yn eu cymryd yn ystod y pum mlynedd nesaf, nid yn unig i gryfhau ein cysylltiadau rhyngwladol, ond i godi ein proffil, tyfu'r economi, a sefydlu Cymru fel cenedl gyfrifol yn fyd-eang. John Griffiths AC: Weinidog, rwy'n meddwl bod yr argyfwng coronafeirws presennol yn dangos unwaith eto pa mor gydgysylltiedig yw'r byd modern o ran cyfathrebu, o ran masnach, o ran y ffordd y mae pawb ohonom yn cydweithio, ac i raddau helaeth buaswn yn dweud, sut rydym naill ai'n ffynnu neu'n dioddef gyda'n gilydd. Ac yn y cyd-destun hwnnw, rwy'n meddwl bod datblygu rhyngwladol yn bwysig iawn ac yn werth chweil, a hynny mewn termau moesol yn wir, yn ogystal ag ymarferol. Ac rwy'n credu bod y rhaglen Cymru o Blaid Affrica yn enghraifft dda o Gymru a Llywodraeth Cymru yn deall hynny, ac yn gweithredu yn unol â'r gofynion hynny. A gwn pan euthum i Mbale yn Uganda, er enghraifft, gwelais weithgareddau PONT yno, yn cefnogi'r sector iechyd lleol, yn adeiladu clinigau iechyd, yn eu helpu i ddatblygu, a chysylltu â llywodraeth leol a'r sector gwirfoddol yn y rhan honno o Uganda yn effeithiol iawn. Felly, rwy'n credu, pan fyddwn yn edrych ar y gwersi sydd i'w dysgu maes o law, o ran yr argyfwng coronafeirws presennol, buaswn yn gobeithio, Weinidog, y byddai'n cryfhau ein gwaith a'n cydweithrediad ag Affrica is-Sahara, gan gydnabod ein cydgysylltiad a'r budd i bawb a gawn o'r cysylltiadau cryf hynny. Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr iawn. Ac rwy'n meddwl eich bod yn llygad eich lle: os bu erioed dystiolaeth ein bod yn fyd cydgysylltiedig, dyma hi. A chredaf fod unrhyw un sy'n credu y gallant ynysu eu hunain yn y gymdeithas fyd-eang hon yn amlwg yn camgymryd yn awr. O ran Uganda'n unig, a'r sefyllfa gydag Affrica, rydym wrth gwrs yn bryderus iawn ynglŷn â phryd a sut y mae'r coronafeirws yn mynd i effeithio ar y rhan honno o'r byd, oherwydd yn amlwg mae eu darpariaethau iechyd yn llawer gwannach yn y gwledydd hynny. Mae'n digwydd bod gennym rywun a oedd yn mynd i fynd allan i Mbale, ac fel mater o drefn, fe wnaethant hunanynysu am 14 diwrnod rhag ofn wrth gwrs gan fod hynny'n rhywbeth nad oeddent am fod yn gyfrifol amdano. Felly, rydym yn rhoi camau pendant iawn ar waith i sicrhau bod unrhyw gysylltiadau sydd gennym—. Wrth gwrs, rydym wedi rhoi'r gorau i'r holl deithio ar ran y sefydliadau sy'n mynd o Gymru i Affrica ar hyn o bryd. Andrew RT Davies AC: Weinidog, yn amlwg rwy'n derbyn yn llwyr nad yw cysylltiadau rhyngwladol yn fater sydd wedi'i ddatganoli, ac mai'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad sy'n arwain ar y materion penodol hyn, ond yr hyn sy'n wirioneddol bwysig i Gymry dramor yw deall a allwn ni mewn unrhyw ffordd chwarae ein rôl yn rheoli gwybodaeth y gallem ei chael gan ein hetholwyr. Ac rwy'n datgan buddiant: mae gennyf fab dramor, sydd i fod i ddychwelyd ddiwedd y mis hwn, ynghyd â fy nai. Mae hynny'n ystyriaeth arbennig o heriol ar hyn o bryd, hynny yw, yn enwedig gan fod y cwmni hedfan yn gwrthod aildrefnu. Felly, a yw'n well inni gyfeirio etholwyr at ein Haelodau Seneddol yn y gymdogaeth, neu a oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gyfryngau yn y Swyddfa Dramor a Chymanwlad y gallwn ni, fel Aelodau Cynulliad, chwarae ein rhan i drosglwyddo'r wybodaeth honno iddynt? Y peth olaf y dylem ei wneud yw drysu sefyllfa sydd eisoes yn ddryslyd a dyrys iawn. Eluned Morgan AC: Rwy'n credu mewn perthynas â hyn, gan mai'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad sy'n arwain o ran dod â phobl adref, buaswn yn awgrymu y dylent fynd yn uniongyrchol i'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad. Tynnwyd cwestiwn 5 [OAQ55259] yn ôl. Cwestiwn 6, Helen Mary Jones. Effaith Coronafeirws ar Ddigwyddiadau Diwylliannol Helen Mary Jones AC: 6. Pa asesiad sydd wedi'i wneud o effaith coronafeirws ar ddigwyddiadau diwylliannol, yn enwedig digwyddiadau Cymraeg fel Eisteddfod yr Urdd? OAQ55272 Eluned Morgan AC: Rydyn ni'n monitro effaith y feirws corona ar y sector digwyddiadau yn agos iawn, ac yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gymryd camau priodol mewn ymateb i sefyllfa sy'n dal i ddatblygu. Rydyn ni hefyd, wrth gwrs, yn cadw mewn cysylltiad agos â mudiadau fel yr Urdd. Helen Mary Jones AC: Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei hateb, ac mae'n amlwg ei bod yn ddyddiau cynnar eto. Ond buaswn yn ddiolchgar pe bai'n gallu rhoi rhywfaint o sicrwydd pellach ei bod hi'n deall yn llawn yr effaith ariannol ar yr Urdd—a chan edrych ymlaen o bosibl at yr Eisteddfod Genedlaethol yn yr haf hefyd, er na fydd raid, gobethio—a gwyddom fod maint yr elw y mae'r sefydliadau yn gweithredu arno'n eithaf cul beth bynnag, ac mae colli'r gallu i wneud rhywfaint o elw o redeg y canolfannau ac o'r eisteddfod yn ergyd fawr i'r Urdd. Felly, a wnaiff y Gweinidog ein sicrhau y bydd yn cadw'r mater dan ystyriaeth agos iawn, ac na fydd yn diystyru cynnig cymorth ariannol uniongyrchol, os mai dyna'r unig ffordd y gallwn sicrhau bod y sefydliad pwysig hwn—? Rwy'n credu y gallwn i gyd fod yn falch iawn mai gennym ni y mae'r sefydliad ieuenctid mwyaf o ran aelodaeth yn Ewrop, sef yr Urdd. Mae'n amhrisiadwy, nid yn unig oherwydd yr iaith, ond oherwydd yr holl gyfleoedd y mae'n eu rhoi i bobl ifanc a byddai'n drasiedi lwyr pe caniateid i'r sefyllfa ofnadwy hon ddod â'r traddodiad rhyfeddol hwnnw i ben. Eluned Morgan AC: Wel, dwi yn cytuno bod yn rhaid inni edrych, nid yn unig ar y tymor byr, ond beth sy'n mynd i ddod allan yn y pen draw. Ac mae'r Urdd, wrth gwrs, yn un o gyflogwyr mwyaf y trydydd sector yng Nghymru. Mae'n cyflogi tua 320 o bobl; yn cyfrannu tua £31 miliwn i'r economi yng Nghymru; ac, wrth gwrs, yn un o gyflogwyr mwyaf cefn gwlad ac mae hwnna hefyd yn bwysig. Mae 10,000 o wirfoddolwyr ac mae'n bosibl efallai i ni weld sut gallwn ni ddefnyddio y rheini i'n helpu ni. Rŷch chi'n ymwybodol, wrth gwrs, fod Llangrannog eisoes wedi cau; bod Glan-llyn a Chaerdydd hefyd wedi cau neu yn mynd i gau erbyn diwedd yr wythnos yma. Maen nhw'n mynd i ganslo'r eisteddfodau lleol a rhanbarthol; maen nhw'n mynd i ohirio eisteddfod yr Urdd yn Ninbych am flwyddyn; maen nhw wedi canslo y cystadlaethau chwaraeon a hefyd y gweithgareddau cymunedol. Felly, wrth gwrs, mae'n gyfnod pryderus iawn. Dwi wedi cael sgyrsiau eithaf dwfn gyda'r Urdd ynglŷn ag a oes yna fodd inni helpu y rheini ac, wrth gwrs, dwi yn trafod hynny gyda Gweinidogion eraill. Mae'r Eisteddfod Genedlaethol, wrth gwrs. Mae llawer iawn o fudiadau yn yr un math o sefyllfa. Mae'r trafodaethau yna yn parhau. Ond, wrth gwrs, fe fydd hi ddim yn bosibl i helpu pob un, ac felly, mae'n rhaid inni edrych ar beth fydd y ffordd orau i ni helpu ac efallai ceisio rhoi y rhain mewn suspension am damaid bach, a dyna beth efallai yw'r ffordd orau. Ond rydyn ni yn cael trafodaethau dwys gyda'r cwmniau yma. Darren Millar AC: Diolch am eich ymateb, Weinidog. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cefnogi sefydliadau fel yr Urdd. Byddai fy etholaeth i wedi elwa o'r ffaith y bwriedid cynnal yr eisteddfod yr Urdd benodol hon yn Ninbych, sydd ychydig y tu allan i Orllewin Clwyd, ond sydd, er hynny, yn effeithio'n sylweddol ar fusnesau twristiaeth lleol yn benodol. Tybed pa becyn cymorth y gallech ei adeiladu o amgylch y cymunedau a oedd yn edrych ymlaen at allu croesawu pobl o bob cwr o Gymru, ac yn rhyngwladol yn wir, i ddigwyddiadau fel eisteddfod yr Urdd, oherwydd, yn amlwg, maent yn mynd i fod dan anfantais sylweddol o ganlyniad. Bydd llawer ohonynt wedi cael archebion, ac mae'n rhaid iddynt eu canslo yn awr, er y byddant wedi gorfod talu am rai pethau eisoes. Felly, pan fydd gennych ddigwyddiad arwyddocaol fel hwn wedi'i ganslo, a oes cymorth penodol y gallech ei gynnig er mwyn digolledu'r rhai sydd eisoes wedi talu symiau sylweddol er mwyn paratoi ar eu cyfer? Eluned Morgan AC: Wel, rwy'n meddwl, o dan amgylchiadau arferol, mae'n debyg mai'r ateb fyddai, 'Ydym, byddem yn ystyried creu pecyn.' Mae'r rhain yn amgylchiadau eithafol ac felly, rydym yn ymateb o ddydd i ddydd i'r sefyllfa. Rwy'n credu mai'r flaenoriaeth yw gweld sut y gallwn gefnogi'r bobl sy'n gweithio i'r Urdd ar hyn o bryd. A oes unrhyw ffordd o ddiogelu eu swyddi ac edrych tua'r dyfodol? Y peth allweddol, fel rwy'n dweud, yw inni weld sut y gallwn gadw'r sefydliadau gwych hyn i sicrhau y gallant ffynnu yn y dyfodol. Gwn y bydd gan y Llywydd ddiddordeb hefyd mewn gwybod beth sy'n debygol o ddigwydd gyda'r Eisteddfod Genedlaethol. Mae'r rhain i gyd yn drafodaethau sydd ar y gweill ar hyn o bryd. Mae cwmpas hyn yn enfawr. Rydych yn meddwl am yr holl sefydliadau eraill—gŵyl y Gelli, gŵyl Llangollen. Mae yna nifer enfawr o ddigwyddiadau, ac yn amlwg mae'r rhan fwyaf o'r digwyddiadau hynny bellach wedi'u canslo. Felly, mae yna oblygiadau difrifol. Nid wyf yn credu, ar hyn o bryd, y gallwn gynnig pecyn estynedig i'r cymunedau a oedd yn disgwyl i hynny ddigwydd, mae arnaf ofn. Tynnwyd cwestiwn 7 [OAQ55263], 8 [OAQ55271] a 9 yn ôl. Felly, cwestiwn 10, Vikki Howells. Ni ofynnwyd cwestiwn 9 [OAQ55249]. Hyrwyddo'r Amgylchedd Hanesyddol Vikki Howells AC: 10. A wnaiff Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei gwaith i ddiogelu a hyrwyddo'r amgylchedd hanesyddol yng Nghymru? OAQ55241 Eluned Morgan AC: Mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo cymeriad a gwerth unigryw ein hamgylchedd hanesyddol i bobl Cymru a'r byd. Mae Cadw yn nodi asedau hanesyddol o bwys cenedlaethol, yn rhoi amddiffyniad cyfreithiol iddynt ac yn gweithio gyda chyrff cyhoeddus a pherchnogion preifat i sicrhau eu bod yn cael eu rheoli'n gynaliadwy. Yn amlwg, mae blaenoriaethau'r sector hwn yn cael eu hadolygu yng ngoleuni coronafeirws. Vikki Howells AC: Diolch ichi am eich ateb, Weinidog. Rwy'n credu'n gryf fod gennym un o'r sectorau treftadaeth gorau yn y byd yma yng Nghymru, o ran ei arwyddocâd diwylliannol a'i fanteision i economi Cymru hefyd. Felly, a allech amlinellu ychydig ymhellach imi, os gwelwch yn dda, y math o arweiniad rydych chi wedi bod yn ei roi i'r sector hwnnw i'w tywys drwy'r argyfwng coronafeirws? Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair. Eluned Morgan AC: Diolch. Wel, gallaf ddweud bod pob safle Cadw—y 24 ohonynt—wedi cau erbyn hyn. Mae'r amgueddfeydd sy'n gyfrifoldeb i Llywodraeth Cymru hefyd ar gau. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru hefyd wedi cau ei drysau ac wrth gwrs, rydym mewn cysylltiad rheolaidd â hwy. Rydym hefyd mewn cysylltiad rheolaidd â Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru a chymdeithasau. Ac wrth gwrs, mae'n rhaid i'r rheini wneud penderfyniadau drostynt eu hunain, ond os ydynt yn dilyn canllawiau'r DU, sydd wedi'u gosod—na ddylai pobl ymgasglu mewn niferoedd mawr—yna, yn amlwg, mae angen iddynt ystyried hynny hefyd. Twristiaeth yng Ngogledd Cymru Mark Isherwood AC: 11. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi twristiaeth yng Ngogledd Cymru? OAQ55246 Eluned Morgan AC: O ystyried yr amgylchiadau presennol, mae ein twristiaeth yn wynebu cyfnod anodd iawn. Mae hon yn sefyllfa sy'n datblygu ac rwyf am sicrhau'r sector ein bod yn monitro effaith coronafeirws ar dwristiaeth yn barhaus ac yn gweithio gyda chyd-Aelodau ar draws y Llywodraeth ar ba gymorth y gallwn ei gynnig. Mark Isherwood AC: Yn ddiweddar, cefais y pleser o ailedrych ar brosiect peirianneg mawr Rheilffordd Llangollen yng ngorsaf ganolog Corwen, a gaiff effaith aruthrol ar hybu twristiaeth yn y rhanbarth, er mwyn gweld drosof fy hun y cynnydd y maent wedi'i wneud. Rwyf bob amser yn rhyfeddu at yr hyn y mae grŵp o wirfoddolwyr ag oedran cyfartalog o 68, sy'n gweithio ar sail ran-amser, yn gallu ei gyflawni. Flwyddyn yn ôl, wrth siarad yma, gelwais am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru am gefnogaeth i'n rheilffyrdd treftadaeth safonol. Rydym yn gwybod ac yn cymeradwyo'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi rheilffyrdd treftadaeth cul, ond roeddem am weld sut y gellid bwrw ymlaen â'r ymdrech wirfoddol fawr hon, a darparu prosiectau treftadaeth, a chynnig llawer i dwristiaeth ac economïau ehangach hefyd mewn ardaloedd sy'n aml angen llawer o symbyliad. Felly, sut yr ymatebwch i'r cwestiwn neu'r pwynt a godwyd gyda mi yn ystod fy ymweliad diweddar fod angen i Lywodraeth Cymru symud ymlaen o edrych ar hyn mewn perthynas â rheilffyrdd treftadaeth cul a safonol ar wahân ac uno'r sector rheilffyrdd treftadaeth yng ngogledd Cymru ac ar draws Cymru er budd twristiaeth ac economïau lleol fel ei gilydd? Ac wrth gwrs, o ystyried eich sylwadau agoriadol, mae hyn hyd yn oed yn fwy allweddol yn yr amgylchedd presennol. Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr iawn. Rwy'n siŵr y byddai gennych ddiddordeb mewn clywed bod tad Gweinidog yr economi yn arfer gweithio yn y lle roeddech yn sôn amdano, felly mae hynny'n ddiddorol iawn. Gwn fod y dwristiaeth a nifer y twristiaid sy'n cael eu denu gan ein rheilffyrdd cul, ac fel y dywedwch, ein rheilffyrdd safonol, yn dod â chyllid sylweddol i economi Cymru. Felly, mae hynny'n rhywbeth rydym yn ei drysori. Mae'r brwdfrydedd dros y sector hwn yn werth ei weld mewn gwirionedd, yn enwedig nifer y gwirfoddolwyr sy'n rhoi o'u hamser. Felly, ni allaf ddweud wrthych a yw hynny—. Mae'n ymddangos yn syniad da rhoi'r rheilffyrdd cul a'r rhai safonol at ei gilydd mewn pecyn hyrwyddo. Efallai fod rhywfaint o sensitifrwydd ynglŷn â hynny, ond mae hynny'n rhywbeth y gallwn ei ystyried efallai ar ôl i'r argyfwng hwn dawelu. Diolch yn fawr, Weinidog. 3. Cwestiynau Amserol Eitem 3 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r cwestiynau amserol ac mae'r cwestiwn amserol y prynhawn yma i'w ofyn gan Alun Davies a'i ateb gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru. Alun Davies. Cefnogaeth i Fusnes Alun Davies AC: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad mewn ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth y DU ar gymorth i fusnesau a'r economi a wnaed ar 17 Mawrth 2020? 408 Ken Skates AC: Gwnaf wrth gwrs. Roeddwn yn croesawu cyhoeddiad y Canghellor, ond mae'n amlwg fod angen gwneud mwy yn y dyddiau nesaf, yn enwedig i gefnogi busnesau gyda chostau cyflogau a chymorth ariannol i weithwyr sydd wedi cael eu diswyddo. Nawr, bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud cyhoeddiad yn ddiweddarach y prynhawn yma ynglŷn â rhoi grantiau i fusnesau bach sy'n cyfateb i'r hyn a roddir yn Lloegr yn ogystal â darparu rhyddhad ardrethi busnes i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch. Fodd bynnag, Ddirprwy Lywydd, mae diffyg sylweddol o gannoedd o filiynau o bunnoedd rhwng y swm canlyniadol Barnett a gawsom a'r gost o roi arian sy'n cyfateb i bob agwedd ar becyn y Canghellor i fusnesau yn Lloegr, a disgwyliwn i Lywodraeth y DU lenwi'r bwlch hwn. Alun Davies AC: Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw, ac rwy'n meddwl bod pob un ohonom yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi deffro i'r argyfwng sy'n wynebu llawer o bobl ledled y wlad. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol fod dros ddegawd yn awr ers inni achub crwyn y banciau—nawr mae'n bryd cefnogi ein pobl. Mae llawer ohonom yn teimlo bod y Canghellor, yn ei ddatganiad ddoe, wedi methu mewn tair ffordd. Yn gyntaf, nid oedd datganiad y Canghellor yn edrych ar yr effaith y mae hyn yn ei chael ar bobl a theuluoedd. Mae llawer o bobl sy'n hunangyflogedig ac sy'n rhedeg busnesau bach wedi cysylltu â mi, ac mae pob un ohonynt yn ofni oherwydd y feirws sy'n cylchredeg yn ein cymuned, ond hefyd yn ofnus oherwydd mae'n bosibl iawn y byddant yn colli eu swyddi ac yn colli eu busnesau. Mae'n ddyletswydd ar unrhyw Lywodraeth i ymateb yn llawn i'r argyfwng sy'n wynebu pobl yn ein cymunedau heddiw, ac nid yw'r Llywodraeth yn y Deyrnas Unedig wedi cydnabod yr effaith hon ar fusnesau bach a phobl hunangyflogedig. Hefyd, Ddirprwy Lywydd, mae wedi methu cydnabod pwysigrwydd busnesau bach i economi Cymru. Mae wedi methu cydnabod pwysigrwydd y busnesau hyn i'n heconomi ehangach ac i'n cymunedau. Mae'r Gweinidog eisoes wedi dweud yn ei ateb na fydd Barnett yn gweithio. Rhaid ei bod yn bryd rhoi Barnett o'r neilltu yn awr a chael fformiwla newydd sy'n seiliedig ar anghenion i ddarparu'r gefnogaeth lawn y mae Cymru ei hangen ac yn ei haeddu. Yn olaf, Weinidog, a gaf fi ofyn i chi am y ffordd y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gweithio ar hyn o bryd? Mae hwn yn argyfwng ledled y Deyrnas Unedig ac ar draws y byd, ond mae'n ymddangos mai un wlad yn unig yn y Deyrnas Unedig sydd o ddiddordeb i'r Deyrnas Unedig ac nid y pedair gwlad. Rwy'n ymwybodol fod Gweinidogion Cymru wedi cynnig cyfarfodydd preifat i Lywodraeth y Deyrnas Unedig a chyfleoedd i weithio gyda'n gilydd i ddarparu'r cymorth sydd ei angen ar bob busnes ledled y DU. Onid yw'n bryd i'r DU lywodraethu dros y Deyrnas Unedig gyfan a sicrhau bod y DU gyfan yn cael y gefnogaeth y mae busnesau, yr hunangyflogedig a'n cymunedau ei hangen ac yn ei haeddu? Ken Skates AC: A gaf fi ddiolch i Alun Davies am ei gwestiynau? Ffurfiwyd y sefydliad hwn i fynd i'r afael â phroblemau Cymreig, ond wrth gwrs, rydym yn byw mewn cyfnod eithriadol. Mae coronafeirws yn broblem fyd-eang ac mae'n galw am ymateb byd-eang ac am ymateb cryf iawn gan y DU hefyd. Mae'n galw am ymateb lle mae'r pedair gwlad yn cyfrannu at yr atebion, ac roeddwn yn falch y bore yma o gymryd rhan yn yr hyn y gobeithiaf y bydd yn gylch wythnosol o drafodaethau pedairochrog â'm cymheiriaid ledled y DU, gan gynnwys Gweinidogion yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol. Rhaid imi ddweud nifer o bethau am y cyhoeddiad a wnaethpwyd ddoe. Mae angen gwneud llawer mwy. Dywedwyd wrthym y bore yma y bydd datganiadau pellach yn cael eu gwneud. Gwn fod y Prif Weinidog wedi gwneud datganiad y prynhawn yma ynglŷn â phobl sy'n rhentu eiddo a oedd, tan heddiw, yn eithriadol o bryderus am y sefyllfa y byddent yn ei hwynebu. Rwy'n gobeithio y rhoddir mwy o gefnogaeth i bobl sy'n wynebu cyflogau is o lawer neu a fydd yn colli eu cyflogau'n gyfan gwbl. I'r perwyl hwn, siaradais â'r Ysgrifennydd Gwladol ddoe yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, ac fel rhan o'r trafodaethau pedairochrog heddiw, codasom y posibilrwydd y byddai Llywodraeth y DU yn cyflwyno cynllun cymhorthdal cyflog. Ni fyddai hyn yn ddigynsail. Rydym wedi ei weld yn cael ei fabwysiadu mewn llawer o wledydd eraill ledled y byd, a dywedwyd wrthyf y byddai'r union gynnig hwnnw'n cael ei ystyried. Rwy'n gobeithio y gwneir cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU yn y dyddiau nesaf. Bydd yn rhaid cynnig pecyn ariannol enfawr o gymorth ochr yn ochr ag ef wrth gwrs. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, yn y 24 awr ddiwethaf, wedi dweud bod yn rhaid i'r Llywodraeth weithredu mewn modd diamwys, ac mae hynny'n golygu, yn hytrach na gwario tua 1.5 y cant o'r cynnyrch domestig gros i gryfhau'r economi, y dylid buddsoddi rhywbeth tebycach i 5 y cant ynddi, a dyna'n union rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn ei ystyried wrth iddi ddyfeisio—fel rwy'n gobeithio y bydd yn ei wneud—polisi ymyraethol cryf mewn perthynas â chymorth cyflogau. O ran y £330 biliwn a gyhoeddwyd, roedd hwnnw'n canolbwyntio i raddau helaeth ar fusnesau a allai fforddio benthyca, ond gwyddom fod yna lawer o fusnesau nad ydynt yn y sefyllfa honno ar hyn o bryd ac mae angen cymorth arnynt ar unwaith. Nawr, rwyf wedi gofyn am eglurder ynglŷn â beth y gallai'r bwlch yn y cynigion ar gyfer Lloegr fod. Mae £20 biliwn wedi'i ddyrannu i'r set honno o gynigion, ond nid ydym yn hollol siŵr a ellir fforddio'r cynigion yn llawn gyda'r £20 biliwn a ddyrannwydar eu cyfer. Fy nealltwriaeth i yw na fydd grantiau yn Lloegr ar gael tan fis Ebrill. Awdurdodau lleol fydd yn eu gweinyddu. Rydym yn edrych yma yng Nghymru ar sut y gallwn gael arian drwy'r drws yn gynt, oherwydd mae taer angen cefnogi busnesau bach a chanolig eu maint, a busnesau mwy o faint hefyd yn wir, a hynny ar unwaith. Russell George AC: A gaf fi ddiolch i chi am eich ateb cytbwys, rwy'n meddwl, i Alun Davies? A chwestiwn Alun Davies—rwy'n siomedig iawn gyda thôn ei ymagwedd oherwydd, fel y dywedais ddoe, Weinidog, rwyf am weithio gyda chi a'r Llywodraeth, gan graffu ond hefyd mewn ffordd gytbwys a chyda chydweithrediad, ar yr adeg hon nas gwelwyd ei thebyg o'r blaen. Cawsom y Canghellor ddoe, yn ychwanegol at gyllideb yr wythnos diwethaf, yn cyhoeddi £330 biliwn, swm digynsail, gydag arian canlyniadol Barnett o £1.1 biliwn, gyda mwy o arian—mwy o arian—yn dod yn ôl yr angen hefyd. Felly, gadewch i ni gadw hynny yn y cyd-destun a fwriadwyd. [Torri ar draws.] Os gwelwch yn dda— Parhewch. Russell George AC: Ond rwyf mor rhwystredig nad ydym yn gweithio ar sail consensws, Ddirprwy Lywydd. Dewch, gadewch inni ddod at ein gilydd ar yr adeg hon. Rwy'n mynd i geisio mynd drwy fy nghwestiynau mewn ffordd bwyllog. Ddoe, Weinidog, cyhoeddodd y Llywodraeth fesurau ychwanegol ar gyfer cymorth i fusnesau. Fe ddywedoch chi y byddwch yn gwneud cyhoeddiad yn ddiweddarach heddiw, rwy'n credu, ac rwy'n croesawu hynny'n fawr iawn gan fy mod yn credu bod angen i hynny fod mor gyflym ag sy'n bosibl. Rwy'n sylweddoli bod swyddogion yn mynd i orfod gweithio drwy'r symiau canlyniadol a'r manylion hynny, ond yn sicr cyhoeddodd Llywodraeth y DU ar gyfer Lloegr, ni waeth beth yw'r gwerth ardrethol, fod pob busnes—boed yn dafarndai, yn lleoliadau cerddoriaeth neu'n theatrau neu'n fwytai—yn cael rhyddhad ardrethi o 1 Ebrill yn gyfan gwbl. A buaswn yn gobeithio, wrth gwrs, y gall Llywodraeth Cymru wneud yr un peth yma yng Nghymru cyn gynted â phosibl, a chredaf ei bod yn bwysig fod hynny'n digwydd yn gyflym oherwydd os na fydd yn digwydd, bydd ein mewnflychau'n llenwi, a bydd pwysau ychwanegol yn cael ei roi ar Busnes Cymru gyda busnesau'n gofyn y cwestiynau. Felly, mae'n bwysig iawn fod hynny'n digwydd cyn gynted ag y bo modd. Wrth gwrs, mae'r grant a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ar gael—nid benthyciad ond grant sydd ar gael i fusnesau, i fyny o £3,000 i £10,000, ac mae'n amlwg y bydd lle yno i Lywodraeth Cymru gyflwyno ei chynllun ei hun. Unwaith eto, rwy'n croesawu'n fawr y ffaith eich bod yn gallu gwneud hynny, ac os ydych chi'n gallu gwneud hynny'n gynt nag y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud yn Lloegr ar gyfer busnesau Cymru, mae hynny'n wych ac fe gewch fy nghefnogaeth lwyr yn hynny hefyd. O ran Busnes Cymru, fe sonioch chi ddoe mai dyna yw'r siop un stop, ac rwy'n croesawu hynny'n fawr, ac fe ddywedoch chi fod ganddo gapasiti, neu ei fod wedi dynodi hynny. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod wedi bod yn cyfeirio busnesau at y llinell honno ac maent wedi dod yn ôl ataf i ddweud eu bod wedi bod yn ceisio mynd trwodd ers dau ddiwrnod. Rwyf wedi ceisio cysylltu â Busnes Cymru fy hun—roeddwn mewn ciw am 30 munud ac ar y pwynt hwnnw rhoddais y gorau iddi. Nid beirniadaeth yw hynny, dim ond rhoi gwybod i chi beth sy'n digwydd yn y cyfnod digyffelyb hwn, a hefyd, nid wyf yn credu bod yr opsiynau a oedd ar gael yn berthnasol i'r argyfwng presennol a wynebwn. Nid oedd unrhyw sôn am y sefyllfa bresennol. Opsiwn 1, wyddoch chi, yw 'A ydych chi eisiau dechrau busnes newydd? Pwyswch 1.' Pwysais y pumed opsiwn, sef 'arall', felly credaf fod angen edrych ar hynny er mwyn sicrhau bod busnesau'n mynd drwodd i siarad â rhywun cyn gynted â phosibl, gymaint ag y gellir. O ran ardrethi busnes, mae'n gwestiwn hefyd a yw awdurdodau lleol wedi anfon biliau allan ai peidio. Ond wrth gwrs, os gellir atal hynny neu os gellir dweud wrth fusnesau yn gyffredinol, 'Ni fyddwch yn talu ardrethi busnes', bydd hynny eto'n lleihau'r pwysau. Mater gweinyddol yw hwn i awdurdodau lleol, lle gellid arbed llawer o adnoddau ac amser os gallwn weithio drwy rai o'r problemau hyn cyn gynted â phosibl cyn dechrau'r flwyddyn ariannol newydd. Ac yn olaf, mae Banc Busnes Prydain hefyd yn darparu cyllid, a hoffwn gael rhywfaint o eglurder, os oes modd—os nad yn awr, drwy ddatganiad, efallai, i'r Aelodau—fod banc datblygu Prydain, er enghraifft, yn darparu cyllid i'r DU gyfan ar gyfer cymorth i fusnesau, a sut y mae hynny'n cydgysylltu â Banc Datblygu Cymru? A all busnesau Cymru fynd drwy'r ddau fanc? A chyda'r swm canlyniadol hwnnw, sut y mae hynny'n gweithio o ran y ffaith nad yw rhai agweddau ar gymorth busnes yn dod drwy Lywodraeth Cymru, ond eu bod yn dod drwy ddulliau eraill hefyd? Byddai'n ddefnyddiol deall hynny er mwyn inni allu rhoi'r wybodaeth gywir i fusnesau. Rwy'n dal i fod yn ymrwymedig i weithio gyda chi ar sail amhleidiol i helpu busnesau ledled Cymru, Weinidog. Ken Skates AC: A gaf fi ddiolch i Russell George am ei gwestiynau? Mae wedi crybwyll nifer o feysydd a phynciau y prynhawn yma. Yn gyntaf oll, a gaf fi ddweud ynglŷn â Busnes Cymru—mae'n amlwg fod Busnes Cymru yn cael eu llethu gan alwadau ar hyn o bryd? Cefais wybod y bore yma fod staff ychwanegol wedi'u symud o'u swyddi arferol, eu swyddogaethau arferol, er mwyn ateb y nifer enfawr o alwadau a wneir i'r gwasanaeth penodol hwnnw. Crybwyllais y negeseuon llais a chyfeirio pobl drwy'r system negeseuon llais. Mae hynny'n cael sylw wrth inni siarad. Buaswn yn awgrymu y dylai busnesau, fel cam cyntaf, ymweld â'r wefan a'r wybodaeth a ddarperir arni. Hefyd, mae modd logio galwad yn ôl os na all busnesau aros mwy na phump, 10 neu'n wir, 30 munud, ac rwy'n cydnabod—rwy'n cydnabod—fod pwysau aruthrol yno gyda Busnes Cymru. Rydym yn edrych ar bob cyfle i gryfhau ymhellach nifer y bobl sy'n cynghori busnesau o fewn Busnes Cymru. O ran hysbysiadau ardrethi busnes, os gellir eu hatal, mae'n amlwg y bydd hynny'n digwydd, ond os na ellir eu hatal a'u bod eisoes wedi cael eu hanfon, bydd hysbysiadau pellach yn mynd allan i roi gwybod i fusnesau na fydd ganddynt ddim i'w dalu. O ran y £330 biliwn a gyhoeddwyd, benthyciadau'n unig ydyw ar hyn o bryd ac rydym angen swm ychwanegol o arian—swm sylweddol iawn yn wir—i fod ar gael i dalu am gostau sefydlog busnesau wrth iddynt geisio brwydro drwy'r cyfnod hwn neu os byddant yn penderfynu gaeafgysgu wrth iddynt roi'r gorau i weithredu am gyfnod dros dro. Dylid defnyddio'r arian hwnnw i sicrhau bod incwm ar gael i bobl y mae coronafeirws yn effeithio arnynt ac sydd mewn gwaith ond hefyd i gadw'r gweithwyr gwerthfawr hynny ar lyfrau'r busnesau yr effeithir arnynt. Mae'n gwbl hanfodol fod camau'n cael eu cymryd yn hynny o beth. Gwn fod y Gweinidog Cyllid yn siarad y prynhawn yma â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, a bydd Rebecca Evans yn cyflwyno achos grymus iawn dros y bwlch y soniais fod angen ei lenwi. Mae'n gwbl hanfodol os ydym am gyflwyno'n union yr un lefel o gymorth o ran ardrethi annomestig ar gyfer y sectorau a gyhoeddwyd gan y Canghellor ddoe. Mae costau enfawr yn gysylltiedig â chefnogi archfarchnadoedd cadwyn, siopau cadwyn a gwestai cadwyn, ond o leiaf, rydym yn edrych ar y cyfle i ddarparu cymorth yn ôl disgresiwn i gynghorau, gan gydnabod mewn sawl rhan o Gymru fod busnesau mawr annibynnol, fel y gwestai hynny a geir mewn llawer o'n cymunedau, yn gallu rhoi cefnogaeth amhrisiadwy i'r gadwyn gyflenwi. Helen Mary Jones AC: Diolch i'r Gweinidog am ei ateb i gwestiwn Alun Davies. Credaf ei bod yn sicr yn wir, oherwydd strwythur ein heconomi, y bydd arnom angen lefel uwch o gymorth i fusnesau o bosibl, ac fe'm calonogir gan yr hyn a ddywed y Gweinidog, ei fod yn cael peth ymateb cadarnhaol gan Lywodraeth y DU i gydnabod hynny. Rwy'n siŵr y gallwn gael pob ffydd yn y Gweinidog cyllid y bydd yn cyflwyno'r achos hwnnw'n rymus tu hwnt, oherwydd mae gennym strwythur gwahanol iawn. Rydym yn dibynnu mwy ar dwristiaeth, er enghraifft, mewn rhai cymunedau. Mae'n dal i fod gennym—diolch byth—fwy o gapasiti gweithgynhyrchu na llawer o rannau eraill o'r DU, ond unwaith eto, mae'n bosibl fod y busnesau hynny dan fygythiad. Ac mae gennym hefyd—a dyma fy nghwestiwn cyntaf i'r Gweinidog—lawer iawn o ficrofusnesau, fel roedd fy nghyd-Aelod, Leanne Wood, yn sôn ddoe, llawer iawn o bobl sy'n sefydliadau un person neu'n sefydliadauun neu ddau o bobl. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, wrth inni symud ymlaen, fod yna fodd o drosglwyddo unrhyw becyn cymorth busnes iddynt yn rhwydd ac yn effeithiol iawn. Nid yw'r ffaith y gellir cael tâl salwch yn gynharach yn mynd i ddatrys y broblem i bobl sy'n hunanynysu nid oherwydd eu bod hwy'n sâl ond oherwydd bod rhywun arall yn sâl, ac yn sicr nid yw'n mynd i ddatrys y broblem i rywun nad yw'n hunanynysu ond nad ydynt yn cael unrhyw fusnes, er enghraifft, os ydynt yn adeiladwyr ac y byddent fel arfer yn mynd i mewn i gartrefi pobl ac nid ydynt yn cael unrhyw fusnes. Felly, hoffwn glywed ychydig mwy gan y Gweinidog heddiw ynglŷn â beth yw ei argymhellion i sicrhau y gall y microfusnesau hynny gael cymorth. Roeddwn yn mynd i nodi'r pwyntiau ynglŷn â mynediad at y llinell gymorth y mae Russell George eisoes wedi'u crybwyll, ond nid oes angen ailadrodd hynny. Ond rwy'n credu ei bod yn arbennig—. I'r busnesau hynny mae'n arbennig o bwysig fod mynediad at gymorth yn hawdd a bod gwybodaeth yn hawdd ei chael, oherwydd nid oes ganddynt adrannau gweinyddol mawr i'w cefnogi gyda hynny. Fe'm calonogwyd wrth glywed yr hyn a ddywedodd y Gweinidog am ryddhad ardrethi i rai o'n busnesau twristiaeth mwy o faint. Rwy'n meddwl am sefydliadau fel Gwesty'r Harbourmaster yn fy rhanbarth i ac etholaeth y Llywydd, sy'n fusnes annibynnol Cymreig, ond fel y dywedodd y Gweinidog, mae'n gwbl hanfodol yn y gadwyn gyflenwi yn yr ardal honno. Mae'n fusnes cyrchfan y daw pobl i'r dref honno i ymweld ag ef, i aros ynddo, i ddefnyddio'r bwyty ardderchog, a gwyddom fod gennym gannoedd o'r rheini ar hyd a lled Cymru. Felly, os caf ofyn i'r Gweinidog gadw'r rhyddhad ardrethi busnes dan ystyriaeth ac edrych eto i weld a oes modd inni wahaniaethu, o bosibl, rhwng y busnesau sydd mewn perchnogaeth leol y byddem am roi cymhorthdal iddynt, os mynnwch, a'r cadwyni mawr y byddem neu na fyddem eisiau eu cefnogi. Oherwydd yn sicr nid wyf yn credu y byddai unrhyw fwriad ar ran y Gweinidog i'r busnesau hynny beidio â chael eu cefnogi. Ac yn olaf, Ddirprwy Lywydd—rwy'n cymryd nad oes angen dweud hyn—yn y darlun hwn sy'n symud yn gyflym iawn, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i bawb ohonom am yr hyn sy'n digwydd ynghylch yr ymateb gan Lywodraeth San Steffan. Gobeithio y bydd cyd-Aelodau ar y meinciau gyferbyn hefyd yn cefnogi unrhyw sylwadau sy'n cael eu cyflwyno i Weinidogion ar ben arall yr M4, oherwydd rwy'n siŵr eu bod yn deall strwythur gwahanol ein busnes. Ond po fwyaf y caiff pawb ohonom ei wybod ynglŷn â beth sy'n digwydd, y mwyaf y gallwn rannu'r wybodaeth honno gydag etholwyr pryderus, a'r mwyaf y gallwn weithredu fel Tîm Cymru cyn belled ag y bo modd. Gŵyr y Gweinidog y byddwn ni ar y meinciau hyn a gweddill y gwrthbleidiau bob amser yn craffu'n drwyadl ar ei waith, ond yn yr amgylchiadau hyn, byddwn am weithio gyda'n gilydd lle gallwn wneud hynny. Ken Skates AC: Wel, a gaf fi ddiolch i Helen Mary Jones? Roedd hi'n anhygoel o adeiladol a chymwynasgar ddoe, ac mae hi felly heddiw hefyd. Er nad wyf am ychwanegu at faich fy swyddogion, yng ngoleuni'r hyn a awgrymodd Helen Mary Jones, credaf y byddai'n ddefnyddiol i mi ddarparu datganiad ysgrifenedig wythnosol ynghylch ein hymwneud â Llywodraeth y DU a'r gwledydd datganoledig eraill, a'r diweddaraf ynghylch ymyriadau'n ymwneud â'r economi, a byddaf yn ceisio gwneud hynny. O ran y pwyntiau a godwyd ynghylch unig fasnachwyr a microfusnesau, fel y dywedais, yn ddiweddarach heddiw, rydym yn disgwyl gallu cyhoeddi y byddwn yn cynnig grantiau o £10,000 i bob busnes bach. Bydd hynny'n cynnwys unig fasnachwyr. Os nad oes gan unig fasnachwyr a microfusnesau safleoedd, bydd angen iddynt ddibynnu ar gynllun cymhorthdal cyflog. Dyna pam rwy'n credu ei bod mor bwysig, cyn gynted ag y bo modd, i Lywodraeth y DU allu datblygu cynllun cymhorthdal cyflog teg ar gyfer busnesau o bob maint er mwyn sicrhau y gall busnesau naill ai aeafgysgu neu ymladd drwy'r argyfwng penodol hwn. Ac yna, yn drydydd, cododd Helen Mary Jones y pwynt pwysig ynglŷn â pha mor arwyddocaol y gall gwestai annibynnol fod i lawer o'n cymunedau—siopau mawr annibynnol hefyd mewn sawl rhan o Gymru. Buaswn yn dweud y gallai rhyddhad ardrethi yn ôl disgresiwn fod ar gael i gefnogi nifer ohonynt, ond os ydym o ddifrif yn dymuno rhoi'r hyn y mae Llywodraeth y DU wedi ei gynnig i Loegr, ac os ydym am sicrhau bod cynifer o fusnesau ag y bo modd yn elwa o hyn, mae angen i Lywodraeth y DU lenwi'r bwlch enfawr o gannoedd o filiynau o bunnau. Diolch. Joyce Watson. Joyce Watson AC: Weinidog, rwy'n falch iawn fod y cwestiwn hwn wedi'i gyflwyno—a diolch i Alun Davies am wneud hynny—i roi cyfle i ni, a chyfle i chi, gynrychioli ein hardaloedd. Mae economi Canolbarth a Gorllewin Cymru yn dibynnu'n helaeth ar dwristiaeth a busnesau bach, ond mae gan hynny, yn ei dro, ganran uchel o weithlu rhan-amser a dim oriau i'w gefnogi. Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad am gymorth Llywodraeth y DU i'r graddau y mae wedi mynd, ond rwy'n bryderus, ac rydych wedi'i ailadrodd yma sawl gwaith, ei fod wedi'i anelu at y busnesau mwy o faint ac nad yw o anghenraid yn mynd i gefnogi'r llu o fusnesau bach a chanolig sydd gennym yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. Ond yr hyn rwyf am ganolbwyntio arno go iawn heddiw yw'r gweithlu, ac yn enwedig tâl salwch statudol. A fyddech cystal â dweud wrthyf pa drafodaethau a gawsoch gyda'ch swyddog cyfatebol yn y DU i sicrhau bod y gweithwyr rhan-amser a dim oriau nad ydynt yn gymwys ar hyn o bryd ar gyfer tâl salwch statudol yn cael y cymorth hwnnw? Ac a wnewch chi bwyso ar Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU i'w dalu'n gyflym i'r rhai sy'n sâl neu sy'n gorfod hunanynysu ar gyfradd sy'n cyfateb i'r cyflog byw go iawn? Bydd hynny, yn ei dro, yn helpu'r teuluoedd a'r unigolion i oroesi'r argyfwng hwn, oherwydd mae'n sicr yn argyfwng iddynt, ac nid hwy a'i creodd. Ac rwy'n gobeithio y byddwch yn annog Llywodraeth y DU i gael gwared ar yr angen i aros am bum wythnos i gael credyd cynhwysol. Cefais fy nghalonogi wrth glywed o feinciau'r Torïaid yma eu bod am weithio gyda ni a'n cefnogi, a gobeithio y byddant yn dechrau ysgrifennu at y Gweinidogion yn eu Llywodraeth i ofyn iddynt am y tâl salwch statudol hwnnw, ac edrychaf ymlaen at gael copïau o'r llythyrau hynny. Fe wyddom fod y Pasg yn dod. Fe wyddom, yn anffodus, na fydd o anghenraid yn ddathliad hapus fel roeddem i gyd yn ei obeithio, ond serch hynny, rwy'n siŵr y gwnaiff pawb yma ymuno â mi i obeithio y caiff pawb Basg mor ddigynnwrf ac mor dda ag y gallant ei gael. Ken Skates AC: A gaf fi ddiolch i Joyce Watson am ei chwestiynau, ac am hyrwyddo'r angen i gefnogi pobl a busnesau yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, ac yn wir, ledled y wlad? Codwyd cwestiwn tâl salwch statudol heddiw mewn cyfarfod pedairochrog. Fe'i codwyd gan y Prif Weinidog hefyd yn ei lythyr at y Canghellor dyddiedig 17 Mawrth, a gwn ei fod wedi'i ddosbarthu i'r Aelodau. Gobeithiwn y bydd y Llywodraeth yn cymryd camau yn y modd y mae'r Aelod wedi'i amlinellu. Rwy'n credu ei bod yn bwysig, Ddirprwy Lywydd, fy mod yn rhoi sylw i anawsterau eraill y mae unigolion a busnesau bach yn eu hwynebu ar hyn o bryd, yn enwedig yn y rhanbarth y mae'r Aelod yn ei gynrychioli. Mae'r rheini'n cynnwys y costau sefydlog a all fod yn symiau enfawr, gan gynnwys costau cyfleustodau. Rwy'n galw ar gwmnïau cyfleustodau i gyflwyno cynnig sylweddol i unigolion a busnesau o ran gwyliau talu, gan adlewyrchu'r hyn y mae banciau wedi'i wneud yn gyfrifol o ran cynnig gwyliau ad-dalu morgais. Rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol i bawb gyfrannu at yr ymdrech i weld pobl a busnesau yn dod drwy'r cyfnod hynod anodd hwn. Ac mae hynny'n cynnwys cwmnïau cyfleustodau yn gwneud yr hyn y gallant ei wneud hefyd. Un pwynt olaf, Ddirprwy Lywydd, ac mae'n ymwneud â chwestiwn a ofynnwyd gan Russell George. Roeddwn i fod i gyfarfod â banc datblygu Prydain yn gynharach yr wythnos hon. Yn anffodus, oherwydd yr argyfwng, ni fu modd iddynt gyfarfod. Mae trafodaeth gyda hwy yn cael ei rhoi yn fy nyddiadur, a byddaf yn adrodd yn ôl i'r Aelodau cyn gynted ag y gallaf. Andrew RT Davies AC: Ni allaf weld, Weinidog, sut y gallai Llywodraeth Cymru fod wedi disgrifio'r pecyn ariannol a roddwyd yn ei le hyd yn hyn fel un 'hollol annigonol'. Ar draws y Siambr hon ddoe, safodd Aelodau ysgwydd wrth ysgwydd yn wyneb y feirws sy'n ein hwynebu. Mae £430 biliwn wedi'i chwistrellu i mewn i'r economi ac yn mynd i gael ei chwistrellu i'r economi—15 y cant o'r cynnyrch domestig gros, dyna ydyw. Nid 1.5 y cant, nid 5 y cant, ond 15 y cant o'r cynnyrch domestig gros. A dim ond—[Torri ar draws.] Ddoe ddiwethaf, nodais ddau beth i chi, Weinidog: (1), yn eich datganiad, ni wnaethoch dynnu sylw at y £100 biliwn o fenthyca ychwanegol roedd y Canghellor wedi'i chwistrellu i'r gyllideb yr wythnos diwethaf, ac roedd y Llywodraeth yn sefyll wrth 80 y cant o'r benthyciadau a gafodd eu tanysgrifennu gan y £100 biliwn hwnnw. Yn ail, gofynnais i chi'n benodol ynglŷn ag adnoddau Busnes Cymru—a fyddent yn gallu ymdrin ag ymholiadau. Nid beirniadaeth oedd hynny ond ymgais i gael sicrwydd o ystyried y don o ymholiadau—a hynny'n briodol—a fydd yn dod o'r byd busnes. Heddiw, rydym wedi clywed gan fy llefarydd yma a ddywedodd fod negeseuon ar y system yn dal i fethu mynd i'r afael â'r pryderon hyn, ac mae pobl yn rhwystredig, a dweud y lleiaf, ac yn ddig ar y gwaethaf. A allwch roi sicrwydd inni fod yr adnoddau'n cael eu darparu? Rydych wedi cyfeirio at y ffaith honno, ond a allwch roi syniad inni faint yn fwy o adnoddau a ryddhawyd i Busnes Cymru o ran nifer y gweithredwyr a fydd ar gael a'r math o wybodaeth y byddant yn gallu ei rhoi i fusnesau sy'n holi, a hynny'n gyfiawn, lle mae angen iddynt fynd i ofyn am yr help hwn? Rwy'n sylweddoli ein bod mewn argyfwng, ond os ydych yn cyfeirio pobl i rywle, mae angen inni eu cyfeirio i'r cyfeiriad iawn er mwyn iddynt gael y cymorth y gallant ei gael. Pan fyddwch yn rhyddhau'r datganiadau i'r wasg, rwy'n erfyn arnoch i sicrhau bod y datganiadau'n gywir. Roedd y datganiad i'r wasg a aeth allan am gymorth ariannol Llywodraeth y DU neithiwr yn gwbl anghywir gan Lywodraeth Cymru. Ken Skates AC: Y rheswm pam rwy'n credu ei fod wedi'i ddisgrifio fel cymorth 'hollol annigonol' yw oherwydd bod bwlch o gannoedd o filiynau o bunnau. Mae'n ffaith na ellir ei gwadu. Ac nid wyf yn golygu hyn fel beirniadaeth; mae'n ddigon posibl mai'r rheswm oedd na wnaeth Llywodraeth y DU ymgysylltu â ni i gynllunio'r ymyrraeth. Rwy'n gobeithio y bydd hynny'n cael sylw wrth inni weithio drwy'r argyfwng, oherwydd rwy'n awyddus i gydweithio â Llywodraeth y DU hefyd, fel y credaf fy mod wedi gwneud dros flynyddoedd lawer. Ond y rheswm pam y mae'n annigonol yw oherwydd bod siâp economi Cymru'n wahanol i un Lloegr, ac ni chafodd hynny ei gydnabod yn fformiwla Barnett, fel y mae Alun Davies eisoes wedi nodi. Mae angen mynd i'r afael â hynny ar frys, oherwydd yr hyn na allwn ei gael—. Edrychwch, rhowch y wleidyddiaeth o'r neilltu—yr hyn na allwn ei gael yw cyhoeddiad yn Lloegr ynglŷn â chynlluniau na ellir eu fforddio o fewn cwmpas penodol, a bod gofyn inni wneud yn union yr un peth yma heb yr arian i'w wneud mewn gwirionedd. Dyna'r her a wynebwn os na chydnabyddir y gwahaniaeth rhwng economïau Cymru a Lloegr. Ac yn wir, mae'r Alban a Gogledd Iwerddon yn wynebu problemau hefyd, nid ni'n unig. Dyma oedd diben y drafodaeth heddiw, a rhaid imi ddweud bod y drafodaeth honno'n golegaidd iawn. Credaf i'r her gael ei chydnabod gan gydweithwyr yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol. Nawr, yr hyn y mae angen inni ei wneud yw sicrhau bod yr her honno'n cael sylw, a bod yr adnodd digonol y galwn amdano'n dod i Gymru fel y gallwn gefnogi busnesau Cymru yn yr un modd. Oherwydd yr hyn rwyf wedi bod yn ei ddweud wrth fusnesau, a'r hyn y mae busnesau wedi bod yn ei ddweud wrthyf fi yw, os gallwn osgoi ymwahanu o gwbl, yna gadewch i ni osgoi ymwahanu. P'un a ydych wedi'ch lleoli yn Llundain neu Landaf, rydych am wybod yn y termau cliriaf pa gefnogaeth sydd ar gael, a dylai fod yn gyson yn fy marn i. Dyna pam rwy'n benderfynol o wneud yn siŵr, fel y Gweinidog Cyllid ac eraill, fod Llywodraeth y DU yn gweithio gyda ni i fynd i'r afael â'r diffygion yn y trefniadau ariannol presennol. Rwy'n derbyn y pwynt hefyd am argaeledd adnoddau dynol o fewn Busnes Cymru. Mae'r rhain yn adegau eithriadol ac rydym yn ceisio llywio cynifer o aelodau staff â phosibl at wasanaethau rheng flaen. Byddaf yn rhoi diweddariadau pellach i'r Aelodau mewn perthynas â gwasanaeth Busnes Cymru, oherwydd yn fy marn i, bydd yn rhaid inni dynnu adnoddau dynol ychwanegol i mewn yn awr o asiantaethau eraill i gefnogi Busnes Cymru, a hynny oherwydd y galw eithriadol am gymorth. Rwyf hefyd yn benderfynol o sicrhau bod llywodraeth leol yn cynorthwyo Busnes Cymru drwy gynnig gwasanaeth cynghori di-dor a chyson sy'n llywio busnesau ac yn cyfeirio busnesau os oes angen at asiantaethau a gwasanaethau cymorth Llywodraeth y DU hefyd. Oherwydd yr hyn y mae busnes ei eisiau yn fwy nag unrhyw beth arall yw gwybodaeth a negeseuon clir, syml a chyson y gellir cael gafael arnynt drwy un pwynt cyswllt, a dyna'n union y ceisiwn ei gyflawni gyda Busnes Cymru. Lynne Neagle AC: Mae'n sicr yn wir fod y rhain yn adegau sy'n peri pryder gwirioneddol i deuluoedd nad oes yr un ohonom wedi gweld ei debyg erioed yn ystod ein hoes. Edrychaf ymlaen yn fawr at glywed manylion y datganiad y dywedoch chi y byddwch yn ei gyhoeddi yn ddiweddarach. Roeddwn am ofyn yn benodol, fodd bynnag, am y sector modurol. Fel y gwyddoch, mae gennyf lawer o bobl wedi'u cyflogi yn y sector modurol yn Nhorfaen. Mae cryn nifer o gwmnïau ar draws y byd modurol wedi rhoi'r gorau i weithio yn y bôn, ac mae hynny'n bryder enfawr i'r cyflogwyr mawr yn Nhorfaen. A gaf fi ofyn pa drafodaethau a gawsoch gyda'r sector modurol ac a wnewch chi edrych yn benodol iawn ar eu hanghenion? Yn amlwg, nid pobl sy'n gallu gweithio o gartref yw'r rhain. Maent yn ddiwydiannau cystadleuol iawn, ac os ydym yn eu colli mae risg sylweddol iawn na fydd modd dod â hynny'n ôl o ymyl y dibyn. Felly, a gaf fi ofyn i chi pa fesurau penodol rydych yn edrych arnynt i roi sylw i bryderon yr holl aelodau o staff sy'n gweithio yn y sector modurol yn Nhorfaen? Ken Skates AC: A gaf fi ddiolch i Lynne Neagle am ei chwestiwn? Buaswn yn cytuno'n llwyr â hi. Nid wyf erioed wedi profi cyfnod mor ddifrifol ac ansicr i deuluoedd a busnesau ym mhob cwr o'n gwlad, ac ym mhob cwr o'r byd yn wir. Mae'n dangos pam fod angen inni fachu ar bob cyfle i weithio mor agos â phosibl fel Llywodraethau, fel pleidiau gwleidyddol hefyd, i oresgyn yr heriau sy'n ein hwynebu. Mae Lynne Neagle yn nodi un rhan benodol o'r economi sy'n wynebu anawsterau difrifol iawn ar hyn o bryd: y sector modurol. Roedd eisoes yn wynebu heriau o ganlyniad i'r newid cyflymach tuag at allyriadau sero a dyfodiad cerbydau hunan-yrru. Mae hyn yn awr, ac ar ben ansicrwydd Brexit wrth gwrs, yn her aruthrol y bydd yn anodd ei goresgyn, ond rwy'n credu bod y sector yn gryf ac yn gadarn ac y bydd yn ei oresgyn, ond bydd arno angen cymorth. Bydd llawer o'r Aelodau wedi gweld y newyddion yn ystod y 24 awr diwethaf ynglŷn â'r penderfyniad a wnaed gan Toyota, sy'n debyg iawn i'r rhai a nodwyd gan Lynne Neagle yn ei chwestiwn. Daw hyn yn sgil y penderfyniad a wnaed ynghylch gweithgarwch Vauxhall yn y DU, ac mae 400 neu fwy o bobl yn byw yng Nghymru sy'n cael eu cyflogi ar safle Ellesmere Port. Felly, bydd nifer helaeth o bobl yng ngweithlu Cymru yn cael eu heffeithio gan benderfyniadau a wneir yn y sector modurol. Rydym yn trafod yn feunyddiol â fforwm modurol Cymru, sef corff cynrychioliadol y sector modurol, a'r neges a gawn ganddynt yw na all y sector modurol, fel llawer o'r sectorau busnes yn economi Cymru, barhau os oes angen iddynt gael llawer iawn o bobl yn gweithio o adref. Rhaid i chi fod ar y safle yn gwneud pethau, ac felly efallai mai gaeafgysgu yw'r unig ddewis. Er mwyn sicrhau bod busnesau'n dod allan o gyfnod o aeafgysgu cyn gynted â phosibl a chael pobl yn ôl i'r gwaith, yn hytrach na methu yn ystod y cyfnod hwn, mae angen cynllun cymhorthdal cyflog. Ac nid ar gyfer y busnesau eu hunain yn unig y mae ei angen, mae ei angen hefyd ar unigolion i allu gwarantu eu lles drwy'r cyfnod hwn. Diolch yn fawr, Weinidog. 4. Cynnig i atal Reolau Sefydlog Yr eitem nesaf yw cynnig i atal Rheolau Sefydlog 11.16 a 12.20 er mwyn caniatáu i'r eitemau busnes nesaf gael eu trafod. Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig—Lywydd. Cynnig NNDM7309 Elin Jones Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8: Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM7310, NNDM7311, NNDM7312 and NNDM7313 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ar ddydd Mercher, 18 Mawrth 2020. Cynigiwyd y cynnig. Ffurfiol. Y cynnig yw atal y Rheolau Sefydlog. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbyniwyd y cynnig hwnnw yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 5. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog Eitem 5 ar yr agenda yw'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: newidiadau sy'n deillio o newid enw'r sefydliad. Galwaf eto ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig—Lywydd. Cynnig NNDM7310 Elin Jones Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Newidiadau sy’n deillio o newid enw’r sefydliad’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mawrth 2020. 2. Yn cymeradwyo’r cynnig i diwygiadau i’r Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad A i Adroddiad y Pwyllgor Busnes. 3. Yn nodi y bydd y newidiadau yn dod i rym ar 6 Mai 2020. Cynigiwyd y cynnig. Ffurfiol. Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 6. Cynnig i newid enw y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y cynulliad i y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd Eitem 6 yw'r cynnig i newid enw y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad i y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd. Unwaith eto, galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig—Lywydd. Cynnig NNDM7311 Elin Jones Cynnig bodCynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3: 1. Yn cytuno i newid enw a chylch gwaith Y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad i y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd. 2. Yn nodi y bydd y newidiad yn dod i rym ar 6 Mai 2020. Cynigiwyd y cynnig. Ffurfiol. Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbyniwyd y cynnig, eto yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 7. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog Eitem 7 yw cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog: newidiadau sy'n ymwneud â busnes y Cynulliad mewn amgylchiadau eithriadol. Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig—Lywydd. Cynnig NNDM7312 Elin Jones Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Diwygio’r Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog Dros Dro mewn ymateb i Coronafeirws (Covid-19)' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mawrth 2020. 2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio’r Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad A o adroddiad y Pwyllgor Busnes. 3. Yn nodi bod y newidiadau hyn yn rhai dros dro, ac y byddant yn peidio â chael effaith pan gaiff y Cynulliad hwn ei ddiddymu. Cynigiwyd y cynnig. Yn ffurfiol, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig yr hyn sydd o'n blaenau ni nawr. Mae'r newidiadau hyn i'r Rheolau Sefydlog yn angenrheidiol er mwyn galluogi'r Cynulliad i barhau â'n gwaith hyd gorau ein gallu mewn amgylchiadau digynsail. Yn gyntaf, felly, y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â chyfarfod yn gyhoeddus. Byddwn yn parhau i ddarlledu'r Cyfarfod Llawn i'r cyhoedd yn unol â Rheol Sefydlog 12.1, ond mae'r newid i'r Rheol sydd o'n blaenau ni yn golygu nad oes angen i'r galeri aros ar agor am resymau iechyd a diogelwch cyhoeddus. Pe bai'r sefyllfa eithriadol yn codi lle nad oedd modd darlledu hefyd, byddai'r Cyfarfod Llawn yn medru mynd yn ei flaen heb hynny. Yn ail, mae'r Pwyllgor Busnes hefyd wedi cytuno i newid y Rheolau Sefydlog er mwyn galluogi Cadeirydd dros dro i gadeirio Cyfarfod Llawn gyda holl bwerau'r Llywydd pan na all y Llywydd na'r Dirprwy ddod i'r Cynulliad. Mae yma hefyd ddarpariaeth i ethol Llywydd dros dro dynodedig i weithredu pe na bai'r Llywydd na'r Dirprwy Lywydd mewn lle i weithredu o gwbl. Os bydd y Rheolau Sefydlog yma'n cael eu cymeradwyo mewn munud, yna mi fydda i'n gofyn i'r Cynulliad Cenedlaethol ethol David Melding i'r ddwy rôl yma. Er gwybodaeth hefyd, leiciwn i ddiweddaru ac ychwanegu ambell i fater o ddiddordeb i'r Aelodau sy'n deillio allan o gyfarfod brys o'r Pwyllgor Busnes y bore yma. Cytunwyd y bydd y Cyfarfod Llawn yn cwrdd ar un diwrnod yn unig yr wythnos nesaf, sef dydd Mercher, gyda sesiwn lawn yn y bore a sesiwn yn y prynhawn. Bydd hyn yn galluogi i gwestiynau i'r Prif Weinidog fynd yn eu blaen fel arfer, ac i Weinidogion gael gwneud datganiadau er mwyn ein diweddaru ar effeithiau diweddaraf y coronafeirws yn eu meysydd polisi, a hefyd unrhyw faterion deddfu. Bydd hyn hefyd yn cyfyngu ar yr amser y bydd yn rhaid i Aelodau a staff ei dreulio yn y Senedd yma. Yn olaf, mae'r Pwyllgor Busnes yn trafod ffyrdd i alluogi'r Cynulliad i gwrdd ac i barhau â'n gwaith dros gyfnod y toriad a thu hwnt, er mwyn sicrhau bod y Llywodraeth yn gallu diweddaru'r Aelodau ar faterion coronafeirws, a bod y gwrthbleidiau'n cael y cyfle i graffu mewn modd amserol a phriodol, ac wrth gwrs Aelodau'r meinciau cefn yn yr un modd. Mae'r rhain yn faterion ac yn gyfnod eithriadol, a dwi'n gobeithio y bydd y Cynulliad yn cefnogi'r newidiadau i'r Rheolau Sefydlog yma, sy'n mynd i adlewyrchu hynny a'n galluogi ni i gario ymlaen â'n gwaith yn y modd mwyaf priodol ar yr amser yma. [Torri ar draws.] Ie, wrth gwrs. Andrew RT Davies AC: Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n deall yn iawn y rhesymeg a'r ddadl rydych yn eu cyflwyno, ond mewn cwestiynau busnes ddoe, fe wneuthum bwyso ar arweinydd y tŷ ynglŷn â gofyn am ddatganiad gan Weinidog yr amgylchedd ar faterion amaethyddol a chyfyngiadau yn y sector amaethyddol. Nawr ein bod ni wedi cael ein cyfyngu i un diwrnod—rwy'n deall y gallai'r datganiad hwnnw gael ei gyflwyno ddydd Mercher, ond clywais Weinidog yr economi'n dweud y byddai'n barod i ddarparu datganiadau ysgrifenedig i'r Aelodau, gan eu diweddaru'n gyson. A gaf fi, drwoch chi, ofyn am gefnogaeth i sicrhau bod yr Aelodau'n cael y wybodaeth ddiweddaraf gan bob Gweinidog yn eu portffolios yn rheolaidd ar sefyllfa sy'n newid yn gyflym ac sydd â goblygiadau dramatig i'r meysydd sy'n peri pryder i'n hetholwyr? Y busnes a gyflwynwyd ar gyfer dydd Mawrth nesaf—mae'n cynnwys amryw o ddatganiadau ac os cofiaf yn iawn, mae datganiad gan Weinidog yr amgylchedd yn un o'r rheini yng nghyd-destun coronafeirws—caiff yr holl ddatganiadau hynny eu cynnal a byddant yn digwydd ar y dydd Mercher. Felly, ni fydd dim wedi newid o'r datganiad busnes rydych wedi cyfeirio ato. Rydych wedi cael cyfle i godi rhai materion ychwanegol yno; nid ydynt yn faterion uniongyrchol i mi fel Llywydd, ond yn ffodus, mae rheolwr busnes y Llywodraeth a'r Trefnydd wedi clywed y pwynt. Felly, rwy'n annog Aelodau i gefnogi y cynigion yma, y newidiadau i'n Rheolau Sefydlog. Hefin David AC: A wnewch chi dderbyn ymyriad cyn ichi eistedd? Fe ddalioch chi fi mewn pryd, mewn amgylchiadau eithriadol. Nid wyf ar frys i eistedd. Hefin David AC: Rydych yn gwybod y rheolau'n well na fi. O ran y pwyllgorau, mae gennym Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yfory lle mae'r Gweinidog addysg yn rhoi tystiolaeth, ac rwy'n ystyried hynny'n ddefnyddiol iawn. Beth yw'r cynlluniau mwy hirdymor ar gyfer pwyllgorau? Nid wyf yn credu eich bod wedi sôn am bwyllgorau yn eich datganiad. Mae'r Pwyllgor Busnes yn edrych ar amrywiaeth o opsiynau y byddwn yn eu hystyried dros y dyddiau nesaf er mwyn sicrhau bod gwaith craffu parhaus ar y Llywodraeth a busnes parhaus y Llywodraeth yn gallu parhau yng nghyd-destun coronafeirws. Mae'r Pwyllgor Busnes eisoes wedi penderfynu mai materion yn ymwneud â coronafeirws sy'n allweddol bellach i'r Llywodraeth ac i'r Cynulliad wrth inni graffu ar weithredoedd y Llywodraeth. Alun Davies AC: A wnewch chi dderbyn ymyriad ar y mater hwnnw? Gwnaf. Alun Davies AC: Lywydd, rwy'n ddiolchgar i chi, ac rwy'n gwybod fy mod yn profi amynedd pawb yn hyn o beth. Mae'r mater a drafodwyd gennym o dan y cwestiwn amserol yn fater sydd o bwys mawr i'r cyhoedd, gan ei fod yn ymwneud â'r adnoddau a sut y caiff yr adnoddau eu dyrannu i Lywodraeth Cymru a sut y mae Llywodraeth Cymru yn rheoli'r adnoddau hynny ar adeg o argyfwng. Mae'n hanfodol sicrhau bod ein pwyllgorau'n gallu cyfarfod lle bynnag y bo modd er mwyn sicrhau y ceir craffu ar y materion hyn, hyd yn oed mewn sefyllfa o argyfwng, fel y gallwn warantu a dweud wrth bobl y wlad hon ein bod yn sicrhau ac yn gwneud popeth a allwn i sicrhau eu bod hwy a fy etholwyr i'n cael eu trin yn yr un ffordd ag etholwyr Canghellor y Trysorlys. Felly, mae'r pwynt y mae fy nghyd-Aelod wedi'i wneud am bwyllgorau yn un pwysig iawn, ac yn un y credaf y gallai fod cefnogaeth eang iddo ar draws y Siambr. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni daro'r cydbwysedd cywir yma. Mae nifer o Gadeiryddion pwyllgor yma ar hyn o bryd. Y penderfyniad oedd mai materion yn ymwneud â'r coronafeirws yw'r materion a ddylai gael ein sylw cyntaf dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Byddwn yn meddwl ymhellach, gan ystyried y ddau gyfraniad yma ar waith pwyllgorau. Bydd y Pwyllgor Busnes yn edrych ar y mecanwaith cywir ar gyfer busnes yr wythnos nesaf, ond yn arbennig drwy gyfnod y gwyliau a thu hwnt, er mwyn galluogi'r Llywodraeth i gael ei dwyn i gyfrif ac i aelodau'r meinciau cefn a'r gwrthbleidiau allu craffu ar benderfyniadau'r Llywodraeth. Rwyf wedi cael trafodaethau gyda'r Llywodraeth; mae'r Llywodraeth am inni graffu ar ei phenderfyniadau ac mae'n awyddus i'r broses ddemocrataidd alluogi hynny i ddigwydd. Felly, diolch am y pwyntiau a wnaethoch. Nid wyf wedi eistedd eto, ond gwnaf hynny yn awr, a gobeithio eich bod yn cefnogi'r newidiadau i'r Rheolau Sefydlog. Diolch. Nid oes gennyf unrhyw siaradwyr yn y ddadl. Felly, y cynnig yw diwygio'r Rheolau Sefydlog. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 8. Cynnig i ethol Gadeirydd Dros Dro a Llywydd Dros Dro dynodedig Eitem 8 ar yr agenda yw'r cynnig i ethol Cadeirydd dros dro a Llywydd dros dro dynodedig, a galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig i ethol David Melding i'r rolau hynny—Lywydd. Cynnig NNDM7313 Elin Jones Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn unol â Rheol Sefydlog 6.24D, yn ethol David Melding yn Gadeirydd Dros Dro o dan y telerau a bennir o dan Reol Sefydlog 6.24E. 2. Yn unol â Rheol Sefydlog 6.24A, yn ethol David Melding yn Llywydd Dros Dro dynodedig. Cynigiwyd y cynnig. Yn ffurfiol. Y cynnig yw ethol Cadeirydd dros dro a Llywydd dros dro dynodedig: David Melding. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Mae pob busnes arall wedi cael ei ohirio neu ei atal. Felly, daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Daeth y cyfarfod i ben am 15:30. QNR Cwestiynau i Y Gweinidog Addysg Caroline Jones: Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y system addysg yn arfogi pobl ifanc â sgiliau bywyd angenrheidiol? Kirsty Williams: With the four purposes at its heart, our new curriculum will provide learners with the life skills necessary to be healthy, ethical and engaged citizens. The curriculum's integral skills will help equip them to meet life challenges, adapt to change and apply new learning and skills throughout their lives.
uk-hansard-senedd-cy
senedd2020-03-18
2024-06-01T00:00:00
{ "year": "2020", "language": "cy", "license": "Open Parliament Licence - https://www.parliament.uk/site-information/copyright-parliament/open-parliament-licence/" }
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. Galw’r Cynulliad Cenedlaethol i drefn. 1. Datganiad gan y Llywydd Ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru, hoffwn fynegi ein cydymdeimlad diffuant i deulu, ffrindiau a chydweithwyr Jo Cox, Aelod Seneddol, a fu farw mewn modd mor greulon yr wythnos diwethaf. Cafodd Jo Cox ei lladd wrth gyflawni ei dyletswyddau cyhoeddus—wrth wasanaethu ei hetholwyr yn ffyddlon fel Aelod Seneddol a gafodd ei hethol yn ddemocrataidd.Rydym wedi teimlo sioc a thristwch y golled hon ledled y Deyrnas Unedig, ac roedd y niferoedd a ddaeth i’r wylnos a gynhaliwyd y tu allan i adeilad y Senedd yma er cof amdani yn dyst i hynny. Teimlir y golled hon yn fawr. Mae'n drasiedi bersonol i’r rhai a oedd yn ei hadnabod ac yn ei charu, ond mae hefyd yn ymosodiad ar ein bywyd democrataidd. Byddwn yn parhau i gynnal y gwerthoedd yr oedd Jo yn eu harddel—tosturi, goddefgarwch a pharch—er cof amdani.Cyn i mi ofyn am ddatganiadau gan arweinyddion y pleidiau, ac wrth i ni sefyll i anrhydeddu bywyd Jo Cox, gadewch i ni wneud hynny drwy gofio geiriau Ifor ap Glyn, yn y gerdd a ddarllenwyd yn y Siambr hon ond bythefnos yn ôl,‘diolchwn nad oes tyllau bwledi /ym mhileri’r tŷ hwn, / dim ond cwmwl tystion / wrth ein cefn ym mhob plwraliaeth barn.’Dewch i ni gofio, felly, Jo Cox, Aelod Seneddol. Safodd Aelodau’r Cynulliad am funud o dawelwch. Diolch. Rwyf yn awr yn gwahodd arweinwyr y pleidiau, ac eraill, i ddweud ychydig o eiriau, gan ddechrau gyda’r Prif Weinidog, Carwyn Jones. Carwyn Jones AC: Diolch, Lywydd.Fe wnaeth Jo Cox, neu Jo Leadbeater, neu Jo fach, fel y bydd llawer yng Nghymru yn ei chofio hi, fyw bywyd llawn a gwych.Roedd llawer ohonom yn Llafur Cymru yn gyfarwydd â hi pan oedd hi'n gweithio i Glenys Kinnock, a dyna pryd y datblygodd ei brwdfrydedd dros ddatblygu rhyngwladol a chyfiawnder cymdeithasol.Nid oes fawr o amheuaeth bod yr ymosodiad ar Jo Cox yn wleidyddol ei natur.Roedd yn ymosodiad anfaddeuol a chreulon, nid yn unig ar wleidydd benywaidd, yn gwneud ei gwaith, ond yn erbyn popeth yr oedd hi'n ei gynrychioli. Ond nid gwleidyddiaeth y dylem fod yn myfyrio arno heddiw, ond y person.Roedd ganddi lawer iawn o ffrindiau yng Nghymru, ac roedd pawb yn gwybod bod ei gyrfa wleidyddol yn mynd i fod yn rhywbeth arbennig, nid oherwydd ei huchelgais, ond oherwydd ei phenderfyniad ffyrnig, ei gwedduster, a'i hawydd sylfaenol pendant i gyflawni pethau.Roedd hynny'n golygu cynnig llaw cyfeillgarwch ar draws y rhaniad gwleidyddol.Byddai Jo wedi bod yn dathlu ei phen-blwydd yn 42 yfory, a bydd digwyddiadau ar draws y byd, lle y bydd pobl yn ailadrodd yr ymadrodd hwnnw sydd eisoes wedi dod yn fantra,rydym yn llawer mwy unedig ac mae gennym lawer mwy yn gyffredin ... na'r pethau sy'n ein gwahanu.Lywydd, cafodd bywyd Jo ei dorri'n fyr, ond yr oedd yn fywyd a gafodd ei fyw yn llawn, ac yn fywyd a oedd wedi rhoi ysbrydoliaeth i ni.Ac ar yr ysbrydoliaeth honno y mae'n rhaid i ni ganolbwyntio heddiw ac yn y dyfodol, ac nid dim ond ar y digwyddiadau trychinebus a ddigwyddodd ddydd Iau diwethaf. Rwy’n galw yn awr ar arweinydd yr wrthblaid, Leanne Wood. Leanne Wood AC: Diolch, Lywydd.Wnes i erioed gwrdd â Jo Cox, ond rwy'n siŵr nad fi yw'r unig sy'n uniaethu ag agweddau ar yr hyn yr ydym wedi ei glywed amdani, ac â pheth o'r wleidyddiaeth yr oedd hi'n ei chynrychioli.Yn hytrach na defnyddio fy ngeiriau i heddiw, byddai'n well gennyf ddefnyddio ei rhai hi.Yn ei haraith gyntaf yn San Steffan, dywedodd Jo Cox AS,Mae ein cymunedau wedi eu gwella yn helaeth gan fewnfudo, boed hynny gan Gatholigion Gwyddelig ar draws yr etholaeth neu Fwslimiaid o Gujarat yn India neu o Bacistan, yn bennaf o Kashmir.Wrth i ni werthfawrogi ein hamrywiaeth, yr hyn sy'n peri syndod i mi dro ar ôl tro wrth i mi deithio o amgylch yr etholaeth yw ein bod yn llawer mwy unedig a bod gennym lawer mwy yn gyffredin â'n gilydd na'r pethau sy'n ein gwahanu.'Nawr, nid yw wedi ei brofi y tu hwnt i bob amheuaeth resymol pa un a gafodd ei lladd oherwydd y credoau hyn, ond mae'n ymddangos i mi mai'r deyrnged fwyaf addas y gallwn ei thalu i'r wraig hon yw cofio ei geiriau ac, er cof amdani, i bob un ohonom ni weithio dros gymdeithas a gwleidyddiaeth lle nad oes casineb. Galwaf nawr ar arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies. Andrew RT Davies AC: Diolch i chi, Lywydd.Nid wyf yn cymryd arnaf fy mod yn adnabod Jo Cox, ond mae digwyddiadau dydd Iau diwethaf wedi syfrdanu pob un ohonom.Ymwelodd drwg pur â Jo Cox a'i theulu yr wythnos diwethaf, a'i hetholaeth, pan oedd hi wrth ei gwaith mewn swydd yr oedd hi'n teimlo'n angerddol amdani, ac yr wyf yn meddwl ei bod wedi dweud, yn ei geiriau ei hun, mai hon oedd y swydd yr oedd hi'n credu ei bod hi wedi ei pharatoi amdani ar hyd ei hoes, sef cyflawni llwyddiant i'r cymunedau yr oedd hi'n eu cynrychioli a'r achosion a oedd yn agos at ei chalon.Ac yn sicr fe aeth hi â'r achosion hynny yr holl ffordd i galon grym yn y Senedd a'r Llywodraeth, a gweithiodd ar draws y rhaniad gwleidyddol, gan brofi pan fo gwleidyddion yn gweithio gyda'i gilydd, rydym mewn gwirionedd yn cyflawni llawer mwy.Un peth y mae'n rhaid i ni ei gofio yw bod teulu heddiw nad yw'n teimlo cynhesrwydd a chariad mam na gwraig ychwaith, a nhw yw'r rhai sydd wedi cael y golled fwyaf yn hyn i gyd, ond rydym ni fel cymdeithas yn llawer tlotach o golli unigolyn fel Jo Cox, ac ni ddylem fyth adael i'r fflam a oleuodd hi ddiffodd, a dylem sefyll yn gadarn dros y credoau a'r achosion y brwydrodd hi drostynt a gwneud yn siŵr na fydd y drwg a ymwelodd â'r wlad hon, ei hetholaeth, a'i theulu yr wythnos diwethaf, yn ennill. Galwaf nawr ar arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton. Neil Hamilton AC: Hoffwn gysylltu fy hun a'm plaid â phopeth a ddywedwyd yma heddiw.Fel Andrew Davies, nid oeddwn yn adnabod Jo Cox; roedd hi'n amlwg yn berson rhyfeddol iawn ar drothwy yr hyn rwy'n siŵr y byddai wedi bod yn yrfa wleidyddol lwyddiannus iawn.Ni fyddai effaith ei marwolaeth drasig wedi arwain at y cyhoeddusrwydd enfawr yr ydym wedi ei weld, oni bai am natur ei phersonoliaeth, ac er nad oeddwn yn ei hadnabod, roeddwn i yn adnabod yr Aelod Seneddol diwethaf i gael ei lofruddio, Ian Gow, yn dda iawn, iawn, felly rwyf yn deall, o brofiad personol, yr effaith ar y rhai a oedd yn ei hadnabod.Dywedodd Rachel Reeves ddoe yn Nhŷ'r Cyffredin yr hyn y mae Andrew Davies newydd ein hatgoffa ohono, fod hon yn drasiedi bersonol hefyd.Er y bydd Batley a Spen yn cael Aelod Seneddol newydd, ni fydd y plant druan hynny yn cael mam newydd, a dylai hynny yn sicr effeithio ar bob un ohonom.A dylem fynd allan, mi gredaf, yn ein gwahanol bleidiau ac yn ein ffyrdd gwahanol, yn yr ysbryd y gwnaeth Jo Cox fyw ei bywyd ac yn ymladd ei gwleidyddiaeth—gyda thrugaredd a pharch, ac, yn anad dim, parch at y ddynoliaeth gyfan. Rwyf yn credu y bydd hi, drwy ei marwolaeth, yn cyflawni llawer mwy nag y bydd unrhyw un ohonom ni yn ei gyflawni yn ein bywydau. Ac yn olaf, Hannah Blythyn. Hannah Blythyn AC: Diolch.Jo Cox AS—gweithredydd angerddol, a dyngarwraig ddiwyro, ymgyrchydd egnïol a ffeminist ymrwymedig, ffrind, merch, chwaer, gwraig, mam, ac yn falch o fod yr AS dros Batley a Spen, y gymuned yn Swydd Efrog lle y magwyd hi.Roedd Jo Cox yn un ohonom ni, ac rydym ni i gyd wedi cael ein hysgwyd, ein cynhyrfu a'n digaloni i'r carn gan lofruddiaeth Jo.Ond diwrnod i gofio'r cyfraniad hynod arwyddocaol a gwerthfawr a wnaeth Jo Cox yn ei hamser llawer rhy fyr gyda ni yw heddiw.Roeddwn yn ddigon ffodus i gwrdd â Jo er mai dim ond am gyfnod byr drwy Rwydwaith Menywod Llafur, felly cyn teyrnged heddiw, gofynnais am arweiniad gan y rhai a oedd yn adnabod Jo yn llawer iawn gwell na fi. Cyflawnodd Jo gymaint cyn mynd i mewn i Dŷ'r Cyffredin ychydig dros flwyddyn yn ôl, gydag Oxfam, yn Senedd Ewrop, a thrwy annog menywod Llafur i mewn i wleidyddiaeth.Jo oedd cadeirydd Rwydwaith Menywod Llafur o 2010 i 2014, yn rhan o dîm o fenywod gydag uchelgeisiau mawr i ddatblygu'r sefydliad i gefnogi a dod â merched Llafur o bob cefndir i mewn i'r parti ac i fywyd cyhoeddus.Roedd y canolbwyntio a'r penderfyniad a gyflwynodd Jo i Rwydwaith Menywod Llafur i fwrw ymlaen a chael pethau wedi'u gwneud mewn gwirionedd yn ganolbwyntio a phenderfyniad a oedd yn amlwg ym mhopeth yr oedd hi'n ei wneud.Ysgrifennodd ffrind a chydweithiwr i Jo yn ystod y dyddiau diwethaf sut yr oedd Jo yn cefnogi ac yn grymuso menywod eraill drwy, ‘Hanner eich dal ar eich traed a hanner eich gwthio ymlaen'.Mae'r cynghreiriau a adeiladodd Jo a'r hyn a gyflawnodd yn ei 13 mis fel AS yn dyst nid yn unig i ddycnwch a dyfnder y profiad yr oedd hi'n ei roi i'r materion yr oedd hi'n canolbwyntio arnynt a'r achosion yr oedd hi'n eu hyrwyddo, ond hefyd i'w phersonoliaeth.Mae cyfeillion wedi dweud pa mor benderfynol o gadarnhaol a faint o fwndel o egni oedd Jo—grym natur a oedd yn mwynhau bywyd i'r eithaf.Maent wedi ysgrifennu sut, wrth fyfyrio ar fywyd Jo, nid yn unig yr hyn a wnaeth hi sy'n bwysig, ond y modd y gwnaeth hi ef: pŵer gweithredu cyffredin ac nid dim ond credu yn ei delfrydau, ond eu byw a gwneud rhywbeth i'w symud ymlaen bob un dydd.I mi, roedd Jo Cox yn ymgnawdoli popeth y dylai gwleidydd fod, ac, wrth i ni ddathlu bywyd Jo, gadewch i ni fynd yn ein blaenau gan adael i'w geiriau hi lunio ein gweithredoedd: mae gennym lawer mwy yn gyffredin â'n gilydd na'r hyn sy'n ein gwahanu.Diolch.Diolch yn fawr, Jo Cox AS. Diolch i chi i gyd. 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg. Rydym nawr yn symud at yr eitem gyntaf ar ein hagenda heddiw, sef cwestiynau i’r Prif Weinidog. Mae’r cwestiwn cyntaf gan Vikki Howells. <p>Cyfraddau Canfod Canser</p> Vikki Howells AC: 1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cyfraddau canfod canser? OAQ(5)0064(FM) Carwyn Jones AC: Byddwn yn parhau â'n rhaglenni sgrinio’r boblogaeth ar gyfer canser y fron, ceg y groth a'r coluddyn, yn ogystal â gwella ein cymorth i feddygon teulu i adnabod symptomau yn well a gwella'r mynediad at brofion. Vikki Howells AC: Diolch yn fawr, Brif Weinidog.Roedd hi’n Wythnos Ymwybyddiaeth o Sgrinio Serfigol yr wythnos diwethaf, sef prosiect ar draws Ewrop gyfan i godi ymwybyddiaeth o swyddogaeth sgrinio i fynd i'r afael â chanser ceg y groth.Er bod cyfraddau marwolaeth yn gostwng ar gyfer canser ceg y groth, roedd gostyngiad bach hefyd i’r nifer a gafodd eu sgrinio, ac rwy'n arbennig o bryderus bod un o bob tri o bobl 25 i 29 oed nad ydynt yn mynychu eu profion ceg y groth. Sut all Llywodraeth Cymru annog mwy o fenywod o bob oed, ond menywod iau yn arbennig, i fynychu'r profion sgrinio a allai achub eu bywydau? Carwyn Jones AC: Wel, mae tîm ymgysylltu sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda thimau iechyd cyhoeddus lleol, byrddau iechyd a chlystyrau gofal sylfaenol i ystyried y nifer sy'n cael profion sgrinio serfigol ym mhob rhanbarth ac mae wedi cynllunio gweithgareddau penodol i wella niferoedd, gan gynnwys gweithgarwch cyfryngau cymdeithasol.Bu pwyslais penodol ar y grwpiau ym mhob rhanbarth lle mae’r niferoedd sy’n cael eu sgrinio ar eu hisaf. Rhun ap Iorwerth AC: Nid yw’n anarferol i feddyg teulu fethu â sylwi ar symptomau o ganser ar yr ymweliad cyntaf. Ond, os yw diagnosis yn dod yn y pen draw yn dilyn ail neu drydydd ymweliad, a yw’r Prif Weinidog yn cytuno y dylai’r cloc ddechrau tician, o ran pa bryd y dylai’r driniaeth ddigwydd, o bryd yr oedd yr ymweliad cyntaf, achos triniaeth gyflym i’r claf sydd bwysicaf, nid taro targedau’r Llywodraeth? Carwyn Jones AC: Wel, y claf, wrth gwrs, sy’n bwysig ynglŷn â beth sy’n digwydd fan hyn. Ond, a gaf i ddweud, ynglŷn â phrofion diagnostig, er enghraifft, rydym wedi gweld gwellhad sylweddol yn y flwyddyn ddiwethaf? Mae’r ffigurau o Ebrill 2016, er enghraifft, 23 y cant yn is nag Ebrill y llynedd, a 40 y cant yn is na’r pwynt uchaf ym mis Gorffennaf y llynedd. Beth sy’n bwysig, wrth gwrs, yw bod y profion yn cael eu delio â nhw a bod canlyniadau yn dod yn ôl cyn gynted â phosibl. Angela Burns AC: Brif Weinidog, mae plant ifanc rhwng dim a 14 oed yn llawer mwy tebygol—neu, yn wir, ddwywaith yn fwy tebygol—o gael diagnosis trwy gyflwyniad brys ar gyfer canser.Hoffwn i chi ystyried yr elusen plant CLIC Sargent a'i galwad y dylai cynllun cyflawni ar ganser Cymru ar ei newydd wedd, y bwriedir ei gyflwyno yn ddiweddarach eleni, wella hyfforddiant cychwynnol a pharhaus ym maes iechyd plant a phobl ifanc ar gyfer gweithwyr gofal sylfaenol proffesiynol, ac y dylai adrodd ar lefel y mynediad sydd gan feddygfeydd teulu at arbenigedd iechyd pediatrig a phobl ifanc, i roi sylw i’r mater hwn yn benodol.Nid yw bod rhwng dim a 14 mlwydd oed a pheidio â darganfod bod gennych chi ganser tan i chi gael eich rhuthro i adran damweiniau ac achosion brys yn ffordd dderbyniol ymlaen.Credaf fod angen i'ch Llywodraeth ystyried sut y gall fynd i'r afael â'r sefyllfa honno. Carwyn Jones AC: Oes, mae llawer o fathau o ganser, wrth gwrs, yn dod i’r amlwg mewn adrannau damweiniau ac achosion brys. Mae pobl yn byw gyda’r symptomau, heb wybod beth yw'r symptomau.Gyda phlant, rwy’n amau—er nad oes gen i gymwysterau meddygol—y dybiaeth bob amser fydd mai rhywbeth arall yw’r broblem.Mae'n anodd i feddygon teulu wneud diagnosis o ganser yn gynnar.Er hynny, yn rhan o ailwampio’r cynllun cyflawni ar ganser, byddwn yn edrych ar yr hyn y gellir ei wneud er mwyn cynorthwyo meddygon teulu a gweithwyr gofal sylfaenol proffesiynol eraill i wella eu gallu i ganfod canser, pan fo hynny'n bosibl, cyn gynted â phosibl. Caroline Jones AC: Brif Weinidog, fel rhywun sydd wedi goroesi canser, gallaf ddweud wrthych o brofiad uniongyrchol bod diagnosis cynnar yn allweddol i oroesi. Mae meddygon teulu yn y rheng flaen yn y frwydr yn erbyn canser, ac maen nhw’n hollbwysig ar gyfer diagnosis cynnar. Brif Weinidog, canfu Cancer Research UK fod amrywiaeth enfawr o ran mynediad uniongyrchol meddygon teulu at brofion diagnostig yng Nghymru.Beth fydd eich Llywodraeth yn ei wneud dros y pum mlynedd nesaf i sicrhau bod gan bob meddyg teulu fynediad at brofion diagnostig hollbwysig?Diolch. Carwyn Jones AC: Rwy'n credu fy mod i wedi ateb y cwestiwn hwn wrth ymateb i'r cwestiwn a ofynnwyd gan yr Aelod dros Ynys Môn—sef bod lleihau amseroedd aros diagnostig yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon.Gwelwn o'r ffigurau a grybwyllais yn gynharach bod amseroedd aros diagnostig yn lleihau yn gyflym iawn yng Nghymru. <p>Arolwg Staff Cyfoeth Naturiol Cymru</p> Bethan Sayed AC: 2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr arolwg diweddaraf o staff Cyfoeth Naturiol Cymru? OAQ(5)0059(FM) Carwyn Jones AC: Gwnaf.Mae'n ffeil fawr, fel y gall yr Aelod weld.Rwy’n ymwybodol o ganlyniadau'r arolwg staff.Mater yw hwn, wrth gwrs, i fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru fel corff hyd braich, ond mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyfarfod â chadeirydd a phrif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae hi wedi amlinellu ei siom at y ffigurau a phwysleisiodd bwysigrwydd ymgysylltiad priodol â staff. Bethan Sayed AC: Diolch am yr ateb, Brif Weinidog.Mae canlyniadau'r arolwg yn dangos yn eglur bod problem gyda'r uwch reolwyr, ac mae'n llawer gwaeth na'r llynedd.Rwyf wedi cael etholwyr sydd wedi cysylltu â mi nad ydynt yn dymuno cael eu henwi, ac maen nhw'n ofnus am y sylwadau y maen nhw wedi eu hanfon ataf, gan ddweud eu bod wedi cael cyfarfod Skype gyda'r cyfarwyddwyr a'u harweinwyr yr wythnos diwethaf—ac roedd hyn yn cynnwys dadansoddiad mwy trylwyr o ganlyniadau’r arolwg—a oedd yn darllen yn llawer gwaeth na'r rhai a gyhoeddwyd.Rwy'n meddwl mai’r teimlad o'r cyfarfod hwnnw oedd bod y problemau gyda’r rheolwyr is, ac y dylent fynd i ffwrdd a cheisio ei ddatrys eu hunain, er eu bod yn ei weld yn fwy fel rhywbeth y mae angen ei ddatrys o’r brig.Brif Weinidog, a allwch chi ddweud wrthyf sut y bydd hyn yn cael ei wneud, o gofio ei fod yn sefydliad, fel y dywedwch, sydd ar hyd braich oddi wrthych chi eich hun? Sut gwnewch chi gyflawni'r arbedion o £158 miliwn dros 10 mlynedd pan, fel yr wyf yn ei glywed gan staff yno, bod prosesau a chontractau sydd ar waith erbyn hyn yn costio mwy na phan oedden nhw’n cael eu cyflawni gan y sefydliad etifeddiaeth? Carwyn Jones AC: Cyfrifoldebau’r cadeirydd a'r prif weithredwr yw gwneud yn siŵr bod staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Rwy’n sylwi o'r arolwg bod staff, yn gyffredinol, yn fwy bodlon nag yr oeddent y llynedd. Ond, mae'n iawn i ddweud, pan fyddwn yn ymchwilio’n fwy trylwyr i mewn i’r ffigurau hynny o ran tybiaethau’r rheolwyr, er enghraifft, datblygiad gyrfaol a dealltwriaeth o gyfeiriad y sefydliad, nad oedd y ffigurau cystal. Fel y soniais yn gynharach, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyfarfod â'r cadeirydd a'r prif weithredwr. Fe’i gwnaed yn eglur iddyn nhw bod yn rhaid iddyn nhw sbarduno newid cadarnhaol o'r brig, a gwneud yn siŵr bod pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi yn fwy yn y sefydliad. Paul Davies AC: Brif Weinidog, yn ôl yr arolwg, mae’n destun pryder mawr bod staff yn Cyfoeth Naturiol Cymru yn teimlo eu bod nhw ddim yn cael mynediad i gyfleoedd dysgu a datblygiad personol pan fydd angen arnynt. Wrth gwrs, mae’n bwysig bod pobl yn cael y cyfleoedd hyn. O ystyried bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn atebol i’ch Llywodraeth chi, sut mae’r Llywodraeth yn sicrhau bod staff yn y sefydliad hwn yn cael mynediad at gyfleoedd hyfforddi a dysgu i gefnogi eu datblygiad proffesiynol? Carwyn Jones AC: Er taw corff sydd ddim yn rhan o’r Llywodraeth yw Cyfoeth Naturiol Cymru, mae gan yr Ysgrifennydd ddiddordeb clir ynglŷn â sicrhau bod y corff yn gweithredu fel y dylai. I wneud hynny, bydd y Gweinidog eisiau gweld bod y ffigurau hyn yn gwella, ac yn gweld bod yna dystiolaeth bod llwybrau i ddatblygu gyrfaoedd unigolion yn cael eu datblygu, ac ar gael i bobl pan mae eu heisiau. Gareth Bennett AC: Mae’r Aelod Plaid Cymru gyferbyn yn iawn i dynnu sylw’r Prif Weinidog at yr arolwg staff diweddar yng Nghyfoeth Naturiol Cymru. Mae'r canlyniadau yn siomedig ac yn peri pryder.A yw anfodlonrwydd y staff yn adlewyrchiad mewn unrhyw ffordd ar ba mor dda y mae’r corff hwn yn gwasanaethu'r cyhoedd? Carwyn Jones AC: Nac ydy, nid wyf yn credu bod hynny’n wir.Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwneud gwaith da o ran rheoli ein hadnodd coedwigaeth, a gwneud yn siŵr bod cyngor yn cael ei roi ar gael i fusnesau er mwyn lliniaru eu heffaith amgylcheddol, ac wrth gwrs o ran rheoli ein cefn gwlad er lles ein pobl. <p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p> Galwaf nawr ar arweinwyr y pleidiau i holi’r Prif Weinidog, ac yn gyntaf yr wythnos yma mae arweinydd yr wrthblaid, Leanne Wood. Leanne Wood AC: Cyn i mi ddechrau fy nghwestiynau heddiw, Brif Weinidog, hoffwn roi ar goedd ein llongyfarchiadau i dîm pêl-droed Cymru a'r cefnogwyr a'n gwnaeth ni mor falch yn Ffrainc neithiwr. Gallwn barhau ar y trywydd hwnnw, ond rwy'n mynd i symud ymlaen at fy nghwestiynau nawr.Brif Weinidog, rydych chi a minnau wedi croesi cleddyfau ar sawl achlysur ynghylch y gwasanaeth iechyd gwladol. Neithiwr, cynheliais gyfarfod cyhoeddus gorlawn yn Nhreorci yn y Rhondda, cymuned sydd ar fin colli ei meddygfa deulu gan fod y bwrdd iechyd yn dweud wrthyf fod prinder meddygon, yr ydym ni i gyd yn gwybod amdano. Heb fynd ar drywydd dadleuon ynghylch faint o feddygon sydd eu hangen arnom, a wnewch chi gadarnhau, os byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ddydd Iau, y bydd y GIG yng Nghymru yn ei chael yn anoddach fyth recriwtio meddygon o dramor nag y bu hyd yn hyn? Carwyn Jones AC: Wel, a gaf i yn gyntaf oll fynegi fy siom braidd at y ffaith fod arweinydd yr wrthblaid wedi achub y blaen arnaf i pan ddaw i longyfarch tîm pêl-droed Cymru? Canlyniad ardderchog neithiwr. Roedd Ysgrifennydd y Cabinet, Ken Skates, yno—mae'n edrych yn dda ar ôl noson o’r fath a welsom. Mae hyn yn hynod o bwysig i Gymru o ran ein proffil ledled y byd a'r ffaith fod llai a llai o bobl a fydd yn dweud, 'Cymru? Ble mae fanno?’ Rwy'n credu bod hynny'n hynod o bwysig. Ond mae arweinydd yr wrthblaid yn codi pwynt hynod bwysig, sef, 'Pa neges ydym ni’n ei chyfleu i feddygon a gweithwyr gofal sylfaenol proffesiynol eraill os byddwn yn gadael yr UE?' Rydym ni’n gwybod, er enghraifft, y dywedir bod pobl sy'n dod yma sy’n fewnfudwyr yn rhoi pwysau ar y GIG. Nid wyf yn derbyn hynny; maen nhw’n ifanc yn bennaf, maen nhw’n gweithio ac anaml y byddant yn gweld meddyg. Y gwir yw eu bod yn cyfrannu, yn enwedig y gweithwyr proffesiynol hynny sy'n gweithio yn y GIG, at helpu i ofalu am bobl sâl yng Nghymru. Effaith pleidlais i adael fyddai anfon y neges i weithwyr meddygol proffesiynol, 'Peidiwch â dod yma. Gallwch fynd i unrhyw le arall yn Ewrop, ond peidiwch â meddwl eich bod yn dod yma', a bydd hynny’n ei gwneud yn llawer mwy anodd i ddenu’r arbenigedd meddygol sydd ei angen arnom i mewn i Gymru. Leanne Wood AC: Diolch i chi am eich ateb, Brif Weinidog.Byddwch yn ymwybodol fod Plaid Cymru, dros flynyddoedd lawer erbyn hyn, wedi hyrwyddo cymhellion i ddenu meddygon i Gymru.Un ffactor pwysig, os ydym ni’n mynd i ddenu pobl i ddod i fyw a gweithio yma fel meddygon teulu wrth i ni hyfforddi mwy o feddygon, yw cyflwr yr economi.Faint yn fwy anodd ydych chi’n asesu y bydd hi i ddenu meddygon teulu i’r ardaloedd hynny lle mae swyddi yn anodd eu llenwi os bydd yr economi’n gwaethygu fel y rhagwelir y bydd yn ei wneud os ceir pleidlais i adael ddydd Iau? Carwyn Jones AC: Wel, os ydych chi’n feddyg cymwysedig yn yr Undeb Ewropeaidd ac y dywedir wrthych, 'Gallwch deithio i 27 o wledydd eraill heb fod angen fisa, neu ddod i'r DU ond mae angen fisa arnoch chi', nid oes angen athrylith i weithio allan ei bod yn llawer haws mynd i'r gwledydd eraill.Felly, bydd y DU yn troi’n lle mwy anodd i recriwtio staff meddygol i mewn iddo.Ond, bydd, wrth gwrs, bydd effaith ar yr economi.Rwyf wedi treulio llawer o fy amser yn siarad â busnesau, yn denu buddsoddiad i Gymru, ac mae'r ffigurau diweithdra yn dystiolaeth o sut y mae hynny wedi gweithio.Byddai hwn yn glwyf a achosid gennym ni ein hunain.Ni fyddem yn gallu cynnig yr un math o sicrwydd i fusnesau fel y byddai Iwerddon, neu fel y byddai Ffrainc, neu fel y byddai’r Almaen, gan na fyddem yn gallu dweud am flynyddoedd pa fath o fynediad at y farchnad Ewropeaidd y gallai busnesau ei fwynhau pe byddent wedi’u lleoli yng Nghymru, ac mae hynny'n wael i fusnes yng Nghymru. Leanne Wood AC: Nid wyf yn anghytuno â chi yn hynny o beth, Brif Weinidog.Efallai’n wir y byddwn yn anghytuno am ddyfodol y GIG yng Nghymru a’r hyn sydd angen digwydd i’w ddiogelu, ond yr hyn yr ydym ni yn cytuno arno yw ein cyd-wrthwynebiad i breifateiddio.Nawr, tybed a ydych chi’n credu ei bod yn fwy neu'n llai tebygol y bydd y GIG yn cael ei agor ar gyfer preifateiddio os bydd pleidlais i adael.Rydym ni’n gwybod bod gwleidyddion asgell dde ar draws nifer o bleidiau yn San Steffan yn awyddus i ymuno â TTIP, partneriaeth masnach a buddsoddi’r Iwerydd, a fydd, wrth gwrs, yn ei gwneud yn haws i werthu gwasanaethau cyhoeddus i'w ffrindiau.A ydych chi’n credu bod gennym ni well cyfle o osgoi'r niwed a allai gael ei achosi i'n GIG gan TTIP trwy ymuno ac aros gyda gwledydd eraill sy'n gallu ei wrthsefyll? Carwyn Jones AC: Wel, y gwir amdani yw bod yr UE a'r Unol Daleithiau yn flociau masnachu mawr.Mae'r DU yn llawer, llawer llai.Mae'n dod i lawr i faint o ddylanwad sydd gennych chi yn y farchnad yn y pen draw.Mae hi a minnau yn yr un sefyllfa—ni fyddem ni eisiau gweld unrhyw fath o breifateiddio yn y GIG. A dweud y gwir, rwy’n gweld yr unigolion yn yr ymgyrch i adael—Boris Johnson, Michael Gove, Nigel Farage—ac nid wyf yn ymddiried ynddyn nhw gyda dyfodol ein GIG. Nid wyf yn ymddiried ynddyn nhw gyda dyfodol GIG a ariennir yn gyhoeddus, sydd ar gael yn gyhoeddus, ac, o’m safbwynt i, rwy'n falch bod y gwasanaeth iechyd wedi ei ddatganoli fel na allant gael eu dwylo ar y GIG yng Nghymru. Mae hynny'n hynod bwysig.Ond, na, bydd hi a minnau, rwy’n siŵr, yn rhannu cryn amheuaeth bod y bobl sy'n arwain yr ymgyrch honno wedi cael eu darbwyllo’n sydyn o rinweddau grym y wladwriaeth i sicrhau lles ei phobl. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies. Andrew RT Davies AC: Diolch i chi, Lywydd. Rwyf innau hefyd yn uniaethu â sylwadau arweinydd yr wrthblaid a'r Prif Weinidog ar y fuddugoliaeth neithiwr. Achosodd broblemau yn fy swyddfa i gan fod gen i sawl aelod allan yno, ac nid yw mynd mewn fan wersylla am wythnos yn hysbyseb gwych, gyda phum cefnogwr pêl-droed, a nawr bydd yn rhaid iddyn nhw ymestyn eu hamser ar gyfer y gêm nesaf a, gobeithio, parhad drwy'r bencampwriaeth. Ond, llongyfarchiadau mawr i gefnogwyr Cymru ar y ffordd y maen nhw wedi ymddwyn, a llongyfarchiadau mwy fyth i dîm Cymru ar y ffordd y gwnaethon nhw chwarae neithiwr.Brif Weinidog, mae'n hanfodol ein bod yn gwneud gwelliannau i wasanaethau awtistiaeth yma yng Nghymru. Roedd hi’n Ddiwrnod Balchder Awtistig ddydd Sadwrn diwethaf, ac, yn 2009, pasiodd Llywodraeth San Steffan Ddeddf i wella gwasanaethau awtistiaeth yn Lloegr. Rhan o'n maniffesto oedd cyflwyno Deddf yn ystod y tymor Cynulliad hwn i geisio cyflawni’r gwelliannau hyn yng Nghymru, fel y byddai byrddau iechyd a chyrff cyhoeddus eraill yn gwybod yn union yr ymrwymiadau y byddai'n rhaid iddyn nhw eu gwneud i'r 34,000 sydd wedi cael y diagnosis hwn ac sy’n brwydro i gael y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt yma yng Nghymru. A wnewch chi ymrwymo eich Llywodraeth i gyflwyno Deddf i gefnogi gwasanaethau awtistiaeth yma yng Nghymru, yn debyg i'r un a gyflwynwyd yn 2009 yn San Steffan? Carwyn Jones AC: Wel, mae'n rhywbeth yr ydym ni’n rhoi ystyriaeth ymarferol iddo.Nid wyf yn dweud y byddwn yn ailadrodd yr hyn a ddigwyddodd yn San Steffan.Rwy’n credu bod angen ei ystyried ar wahân i ddeddfwriaeth arall, ond, yn sicr, mae'n rhywbeth yr ydym ni’n barod i’w drafod gyda phleidiau eraill er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau sydd gennym ar gyfer awtistiaeth y gorau y gallant fod. Andrew RT Davies AC: Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog.Hoffwn dalu teyrnged i’m cydweithiwr Mark Isherwood sydd wedi hyrwyddo’r achos ynghylch gwasanaethau awtistiaeth yma yng Nghymru am lawer iawn o flynyddoedd.Er bod y trafodaethau hynny’n parhau, ac yn sicr ni wnaethoch chi ddiystyru’r cyfle i gyflwyno deddfwriaeth, pa—[Torri ar draws.] Ewch ymlaen.[Chwerthin.] Andrew RT Davies AC: Pa welliannau allwn ni eu gweld, tra bod y trafodaethau hynny’n cael eu cynnal, ynghylch y fframwaith deddfwriaeth?Oherwydd ceir 34,000 o bobl yng Nghymru sydd wedi cael diagnosis ac mae'r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol yn dweud bod gwasanaethau i'w cefnogi yn 'ddarniog' yma yng Nghymru. Felly, beth allwn ni ei ddisgwyl yn y cyfamser, pan fyddwn ni, gobeithio, yn dod i gytundeb i gyflwyno deddfwriaeth i ymgorffori hawliau pobl sydd wedi cael diagnosis i ddisgwyl y ddarpariaeth o wasanaethau yma yng Nghymru? Carwyn Jones AC: Yr her gyntaf, wrth gwrs, yw cael diagnosis, a gall hynny gymryd cryn amser. Oherwydd bod awtistiaeth, fel y mae’r Aelod yn gwybod, yn bodoli ar sbectrwm, ceir rhai elfennau o awtistiaeth nad yw’n rhwydd cael diagnosis ohonynt, a'r diagnosis yw’r cam cyntaf. Mae wedi gofyn am y rhai sydd wedi cael diagnosis. Wel, rydym ni’n ceisio sicrhau, wrth gwrs, cysondeb ar draws Cymru—dyna pam yr ydym ni wedi clustnodi gwariant ar iechyd meddwl i wneud yn siŵr bod mwy o wasanaethau ar gael. Dyna pam, wrth gwrs, yr ydym ni wedi darparu mwy o arian ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed, gan fod y galw ar CAMHS yn sylweddol a chydnabuwyd gennym fod angen bodloni’r galw hwnnw. Rydym ni’n disgwyl i bob bwrdd iechyd lleol ddarparu gwasanaeth cyson i gefnogi nid yn unig y rhai sy'n cael diagnosis o awtistiaeth, ond y rhai, wrth gwrs, sy'n gofalu amdanyn nhw hefyd. Andrew RT Davies AC: Rydych chi wedi cyflwyno CAMHS i'r trywydd holi—hoffwn symud i’r maes hwnnw, os caf.Bu cynnydd enfawr i’r atgyfeiriadau i CAMHS mewn gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc yn enwedig—tua 120 y cant ers 2010.Mae'r amseroedd aros yn y maes penodol hwn yn ddychrynllyd, a dweud y lleiaf, gydag un o bob wyth o bobl sy'n cael eu hatgyfeirio yn aros mwy na 40 wythnos, pan mai 14 wythnos yw targed amser atgyfeirio Llywodraeth Cymru ei hun.Pa gamau wnaiff Llywodraeth Cymru, Llywodraeth newydd Cymru, eu cymryd i roi sylw i’r amseroedd aros hirfaith hyn, sydd, fel y dywedais, wedi arwain at un o bob wyth o bobl ifanc yn aros mwy na 40 wythnos am y cymorth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt, pan fo Llywodraeth Cymru wedi torri’r arian i CAMHS gan bron i 7 y cant yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf? Carwyn Jones AC: Wel, na, nid yw hynny'n gywir.Mae arian ychwanegol wedi mynd i mewn i CAMHS. Dioddefodd CAMHS, mewn rhai ffyrdd, oherwydd ei lwyddiant ei hunan ar y cychwyn.Ar ôl iddi ddod yn hysbys bod y gwasanaeth ar gael, roedd hi’n llawer haws i feddygon teulu atgyfeirio i CAMHS, ac, yn wir, mae'n iawn i ddweud bod galw wedi mynd yn eithaf uchel.Gwnaethom gymryd camau wedyn, wrth gwrs, i sicrhau bod y cyllid ar gael er mwyn gallu ateb y galw hwnnw, ac rwy’n sicr yn disgwyl gweld amseroedd aros yn lleihau dros amser, wrth i’r arian lifo drwy'r system. Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton. Neil Hamilton AC: Diolch yn fawr iawn, Lywydd.Mae canlyniad neithiwr yn dangos y gall gwledydd bach gystadlu yn erbyn rhai llawer mwy yn y byd a llwyddo, os byddant yn mynd i’r afael â thasg yn yr ysbryd cywir.Rwy'n siŵr y bydd Ken Skates o fantais i Gymru pryd bynnag y bydd yn chwarae o gwmpas y byd, os gall ef gyflawni canlyniadau tebyg i neithiwr.Ond, gan ddychwelyd at y cwestiwn a ofynnwyd gan arweinydd yr wrthblaid, nid oes unrhyw reswm, onid oes, pam ddylai system mewnfudo yn seiliedig ar bwyntiau, fel y ceir yn Awstralia, gyfyngu mewn unrhyw ffordd ar nifer y meddygon sy'n dod i'r DU, ond gallai ein galluogi i gyfyngu ar y rhai nad ydynt yn dod i gael swyddi, sy'n cystadlu ag eraill.Tybed a yw’n cytuno â'r hyn yr adroddwyd bod Len McCluskey, cyfrannwr ariannol mwyaf y Blaid Lafur, wedi ei ddweud yn y papurau heddiw, sef bod agor ffiniau i wledydd dwyrain Ewrop yn 2004 wedi arwain atarbrawf enfawr ar draul gweithwyr cyffredin,ac mae wedi arwain atpwysau cyson ar safonau byw ac ymgais systematig i gadw cyflogau’n isel a thorri costau darpariaeth gymdeithasol ar gyfer pobl sy'n gweithio. Carwyn Jones AC: Nid wyf wedi gweld y sylwadau hynny.Ar y cychwyn, roedd yn ymddangos ei fod yn cefnogi annibyniaeth i Gymru, gan siarad am wledydd bychain.Rwy'n siŵr y bydd yn egluro ei safbwynt yn ddiweddarach.Nid wyf yn credu hynny, a byddaf yn esbonio pam: y rheswm pam mae pobl yn ddig ar hyn o bryd yw oherwydd eu bod yn teimlo nad yw eu swyddi yn ddiogel.Maen nhw’n cofio’r dyddiau pan oedd swyddi ar gael, pan roedd ganddyn nhw gontractau hirdymor, pan oedd pensiynau ar y diwedd, pan oedd cydnabyddiaeth gref o undeb llafur.Cymerwyd yr hawliau hynny oddi arnynt yn gyson dros flynyddoedd lawer iawn, a'r hyn yr ydym ni’n ei weld nawr yw gormod o bobl mewn swyddi lle mae'r cyflogau’n is, lle ceir cytundebau dros dro, lle ceir contractau dim oriau a lle nad oes cydnabyddiaeth undeb llafur ar gael iddynt.Rydym ni’n gweld hynny, wrth gwrs, yn cael ei grynhoi yn ystod yr wythnosau diwethaf gyda Mike Ashley—dyna’r math o ddyfodol nad ydym ni eisiau ei weld ar y meinciau hyn, nid o bell ffordd.Dyna sy’n sbarduno dicter pobl.Ond, y gwir yw y bydd y lefelau mewnfudo yn parhau i fod yr un fath ag y maent dros yr ychydig flynyddoedd nesaf o leiaf, beth bynnag sy'n digwydd.Nid yw'n fater o fewnfudwyr yn achosi'r broblem; mae'n fater o ffaith nad yw'r gyfraith yn ddigon cryf, ac nid yw’r gydnabyddiaeth o undebau llafur yn ddigon cryf i wneud yn siŵr bod gan bobl y swyddi diogel sydd eu hangen arnynt.Nid wyf yn amau ​​o gwbl nad yw’r bobl hynny sy'n dadlau y dylem ni adael yr UE yn mynd i ddweud yn sydyn, 'Gadewch i ni fynd yn ôl i’r dyddiau pan oedd cydnabyddiaeth o undebau llafur yn gryf, pan oedd gennym ni gyflogau uwch, pan oedd gennym ni gontractau hirdymor, pan nad oedd gennym ni gontractau dim oriau, pan oedd gan bobl bensiynau ar ddiwedd eu swyddi.'Nid wyf un gweld dim o hynny yn dod oddi wrth yr ymgyrch i adael. Neil Hamilton AC: Ymddengys bod y Prif Weinidog yn gwadu bod ychwanegu dinas o faint Caerdydd at ein poblogaeth genedlaethol bob blwyddyn yn cael unrhyw effaith ar gyflogau.Mae'n rhaid i mi ddweud wrtho fod Banc Lloegr yn anghytuno â hynny.Mewn adroddiad a gyhoeddwyd ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf, dywedodd Banc Lloegr fod cynnydd o 10 y cant mewn mewnfudo yn arwain at ostyngiad o 2 y cant i gyflogau ar gyfer pobl heb sgiliau a lled-fedrus.Felly, er efallai fod popeth yn iawn i’r dosbarthiadau proffesiynol a phobl sydd eisiau glanhawyr a garddwyr ac yn y blaen gael mewnfudo diderfyn, mae hyn yn newyddion drwg iawn yn wir i’r rhai ar waelod y raddfa incwm. Carwyn Jones AC: Dylai edrych ar ei feinciau ei hun pan ddaw i gyflogi’r rhai hynny o ddwyrain Ewrop, oni ddylai?Hynny yw, y gwir yw, ar y naill law, mae ei blaid ef yn dweud, 'Wel, wrth gwrs, mae’n rhaid i chi atal pobl rhag dod i mewn', ac ar y llaw arall, yn hapus iawn i gyflogi pobl pan fyddan nhw yma.Y gwir yw, o boblogaeth o 3 miliwn yng Nghymru, bod gennym ni 47,000 o bobl sy'n wladolion un o wladwriaethau eraill yr UE—mae'n ganran fach iawn.Mae llawer o'r bobl hynny mewn swyddi medrus: maen nhw’n gweithio ym maes meddygaeth, maen nhw’n gweithio ym maes nyrsio, maen nhw’n gweithio ym maes deintyddiaeth. Gallaf ddangos iddo, os hoffai, yn fy etholaeth fy hun, y bobl hyn a'r gwasanaeth y maen nhw’n ei gyfrannu.Y pwynt yw hyn: os ydych chi’n feddyg ac yn dymuno mynd â'ch sgiliau o gwmpas Ewrop, rydych chi’n llawer mwy tebygol o fynd i rywle lle nad oes rhwystrau nag i wlad lle mae'n rhaid i chi lenwi ffurflenni i weithio.Mae'n natur ddynol syml.Po fwyaf y rhwystrau yr ydym ni’n eu rhoi o flaen gweithwyr medrus, y lleiaf tebygol y maen nhw o ddod yma. Neil Hamilton AC: Wel, rwy'n meddwl bod pen y Prif Weinidog yn y cymylau yn hynny o beth, ac mae nifer fawr o gyn-bleidleiswyr Llafur o'r un farn.Ond nid yw’n ymwneud yn unig â mewnfudo yn rhoi pwysau ar safonau byw pobl gyffredin.Ceir llawer o ffyrdd eraill y mae'r UE yn gwneud hyn hefyd—cost y polisi amaethyddol cyffredin, er enghraifft, sydd yn ôl pob tebyg yn ychwanegu hyd at £500 y flwyddyn at gyllidebau cartrefi pobl gyffredin; £500 y flwyddyn ar gyfer trethi gwyrdd ac ardollau newid yn yr hinsawdd eraill; ac, oherwydd y tariffau y mae’r UE yn eu gorfodi ar fewnforio dillad o rannau eraill o'r byd, mae’r swm cyfartalog y mae pobl yn ei wario ar ddillad, mewn cartref cyffredin, tua £150 y flwyddyn yn fwy nag y byddai fel arall.Felly, mewn cymaint o ffyrdd, mae'r UE yn erbyn buddiannau pobl gyffredin, y rhai sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Carwyn Jones AC: Tybed a glywodd arweinydd y Ceidwadwyr hynna, o ran y polisi amaethyddol cyffredin.Dyna ddiwedd ar ei warantau—mae ef newydd glywed gan UKIP eu bod nhw eisiau cael gwared ar y polisi amaethyddol cyffredin.Mae hynny'n golygu, wrth gwrs, cael gwared ar gymorthdaliadau.Mae'n golygu caniatáu mwy o gig oen Seland Newydd am bris rhatach—dyna mae'n ei olygu—mae’n golygu cymryd amddiffyniadau ein ffermwyr oddi wrthynt, cymryd y cymorthdaliadau a gânt oddi wrthynt.Dyna mae’n ei olygu wrth ddweud hynny.Nid yw wedi ystyried yn fanwl yr hyn a ddywedodd— [Torri ar draws.]Mae'n teimlo embaras nawr, arweinydd y Ceidwadwyr, o fod ar yr un ochr—nid wyf yn synnu ei fod yn teimlo embaras am fod ar yr un ochr ag UKIP ar hyn.Byddai’r hyn y mae newydd ei gynnig, arweinydd UKIP, yn golygu y byddai ffermwyr yn colli arian, ni fyddent yn gallu allforio am bris rhesymol i'r farchnad Ewropeaidd, byddai cig oen Seland Newydd yn dod i mewn yn rhatach gan na fyddai unrhyw dariffau oherwydd masnach rydd, a byddai ar ben ar ein ffermwyr. Nawr rydym ni’n gwybod y gwir am yr hyn y mae’r dde yn ei ddweud—eu bod nhw eisiau gwneud yn siŵr bod ein ffermwyr yn colli'r amddiffyniad y mae Ewrop yn ei gynnig. <p>Safonau Gofal ym Maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol</p> Lynne Neagle AC: 3. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella safonau gofal ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru? OAQ(5)0072(FM) Carwyn Jones AC: Rydym ni’n mynnu’r safonau uchaf o ofal i bobl Cymru.Rydym ni wedi cyflwyno fframweithiau canlyniadau a safonau trylwyr, trefniadau rheoli perfformiad effeithiol, yn ogystal â threfnau rheoleiddio ac arolygu cadarn, sy'n sbarduno gwelliant ac ansawdd mewn gwasanaethau. Lynne Neagle AC: Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Yn dilyn cyhoeddiad diweddar yr arolwg hanfodion gofal a gynhaliwyd ym mhob ysbyty ledled Cymru, datgelwyd bod boddhad cyffredinol cleifion â'r GIG yn dal i fod yn hynod o uchel, wrth i 98 y cant o gleifion gofnodi y gwnaed iddynt deimlo'n ddiogel a 99 y cant yn dweud eu bod wedi cael eu trin gydag urddas a pharch. Mae'r canfyddiadau cadarnhaol hyn yn newyddion i'w croesawu ac yn dyst i’r gwaith o ansawdd uchel sy’n ganolog i’r GIG yng Nghymru, a bwysleisiwyd gan adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn gynharach eleni. A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i groesawu’r canlyniadau hyn, sy’n dangos nad yw Llafur Cymru wedi simsanu yn ein hymdrechion i wynebu’r heriau sydd o’n blaenau yn y GIG? A fyddech chi’n cytuno â mi ei bod yn hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn parhau i adeiladu ar hyn ac yn parhau i fod yn ymrwymedig i ragoriaeth mewn gofal ar draws y GIG yng Nghymru? Carwyn Jones AC: Wel, a gaf i ddiolch i'r Aelod am y cwestiwn yna?Rwy’n cytuno’n llwyr: rydym ni’n dal i fod wedi ymrwymo i ofal rhagorol, o ansawdd uchel ledled Cymru.Fel yr ydym ni wedi ei ddweud o'r blaen, mae adroddiad yr OECD yn cadarnhau nad oes yr un system ar draws y DU yn perfformio’n well nag un arall.Er bod llawer i fod yn fodlon ag ef yn yr adroddiad hwnnw, mae gwaith i'w wneud mewn rhai meysydd o hyd—mae cymaint â hynny’n eglur.Ni allwn fod yn fodlon 100 y cant.Rydym ni’n disgwyl i fyrddau iechyd wneud yn siŵr eu bod yn gwireddu eu potensial fel sefydliadau sy’n gallu darparu'r gwasanaethau y mae pobl yn eu disgwyl. Janet Finch-Saunders AC: Brif Weinidog, mae cysondeb wedi’i integreiddio a chydweithredu i ddarparu gwasanaethau yn nodau allweddol Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ac eto, y gwir amdani yng Nghymru, yma, yw bod 34 y cant o gleifion yn aros ymhell dros chwe wythnos i ddychwelyd adref o wely GIG.Rwy’n gwybod yn uniongyrchol, o faterion gwaith achos sydd wedi codi, ac o brofiad personol diweddar yn wir, bod y cyswllt cyfathrebu rhwng yr ymarferwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn wael iawn mewn gwirionedd ac yn aml yn arwain at oedi a diffyg darpariaeth o wasanaethau ar gyfer pan fydd pobl yn dychwelyd adref, yn aml yn agored iawn i niwed.Mae dull cydgysylltiedig o ran therapi galwedigaethol, ffisiotherapi a gofal nyrs ardal yn hanfodol, ond anaml iawn y maent ar gael yn gydgysylltiedig.Drwy eich gwerthusiad tair blynedd o’r Ddeddf hon, sut gwnewch chi fynd i'r afael â'r rhwystrau hyn er mwyn cyflawni’r addewidion sydd wedi’u cynnwys yn Neddf eich Llywodraeth, i'w gwneud yn ystyrlon ac yn berthnasol i’r union bobl hynny sydd wir yn dibynnu arni? Carwyn Jones AC: Wel, gwelsom lefel yr oediadau’n gostwng 7.6 y cant ym mis Ebrill, ac adroddwyd gostyngiad pellach o 2.6 y cant ym mis Mai. Gostyngodd nifer y cleifion a gadwyd mewn gwelyau acíwt ym mis Mai hefyd: gostyngiad o 7 y cant o’r mis blaenorol.Bu gostyngiad sylweddol i nifer y cleifion sy'n aros i adael cyfleusterau iechyd meddwl: gostyngiad o 20 y cant.Bydd darpariaethau yn y Ddeddf—Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), hynny yw—yn sicrhau llawer mwy o weithio ar y cyd rhwng gwasanaethau iechyd a chymdeithasol, yr wyf yn siŵr yr hoffai pob ochr ei weld.Bydd y partneriaethau rhanbarthol, a arweinir gan fyrddau iechyd, yn sicrhau y bydd yn rhaid i lai a llai o bobl aros yn hwy nag y dylent cyn y gallant adael yr ysbyty. <p>Teithwyr Rheilffyrdd yn Islwyn</p> Rhianon Passmore AC: 4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran sicrhau gwell cysylltiad i deithwyr rheilffyrdd yn Islwyn? OAQ(5)0066(FM) Carwyn Jones AC: Rydym ni’n ariannu gwelliannau i reilffordd Glynebwy, a ailagorwyd gennym, wrth gwrs, a fydd yn caniatáu i wasanaethau ychwanegol gael eu cyflwyno yn y dyfodol, gan wella gorsafoedd ac, wrth gwrs, gwella cysylltedd bws. Rhianon Passmore AC: Iawn. Diolch i chi am yr ateb yna.Mae'r cynllun i ailgyflwyno gwasanaethau teithwyr yn ôl i reilffordd Glynebwy rhwng Glynebwy a Chaerdydd, gan gynnwys gorsafoedd yn Rhisga a Phontymister, Crosskeys a Threcelyn, wedi bod yn llwyddiant ysgubol gyda'r cyhoedd.Ariannwyd rhan fawr gan gyllid strwythurol yr UE; h.y. ni fyddai wedi digwydd pe byddai wedi cael ei adael i doriadau’r Torïaid sydd wedi digwydd yng Nghymru.A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn symud ymlaen ac yn hwyluso'r broses y gall y cymunedau yr wyf yn eu cynrychioli, sy’n cael eu gwasanaethu gan reilffordd Glynebwy, ei defnyddio i gael mynediad at ddinas fawr Casnewydd cyn gynted â phosibl, er mwyn sicrhau cysylltedd hanfodol ar gyfer swyddi, marchnadoedd ac adfywio cymunedol?A wnaiff ef hefyd gynnig sylwadau ar bwysigrwydd arian yr UE mewn prosiectau seilwaith hanfodol o'r fath ar gyfer y dyfodol? Carwyn Jones AC: Wel, mae'n iawn i ddweud na fyddai rheilffordd Glynebwy wedi cael ei hailagor heb gyllid Ewropeaidd.Ni all y metro fynd yn ei flaen heb arian Ewropeaidd.Ceir rhai sy'n dweud y bydd yr arian yn cael ei gyfateb geiniog am geiniog gan Whitehall.Rwy’n credu mai byw yng ngwlad y tylwyth teg yw hynny, a bod yn gwbl onest â chi.Rwyf wedi treulio blynyddoedd lawer yn y Siambr hon yn ymladd Whitehall am gyllid, gan sicrhau bod gennym ni sail cyllid gwaelodol briodol, gan sicrhau bod fformiwla Barnett yn cael ei adolygu, ac nid yw'r canlyniadau wedi bod yn rhai hapus i Gymru.Nid wyf yn credu am un eiliad bach y bydd yr arian yr ydym ni’n ei gael gan Ewrop ar hyn o bryd yn cael ei drosglwyddo i ni, yn uniongyrchol, heb i Whitehall gymryd cyfran.Fe’i gwelsom gyda’r budd-dal treth gyngor: fe’i datganolwyd i ni, ond dim ond 90 y cant o’r gyllideb a roddwyd i ni.Ceir hanes yma.Rydym ni’n gwybod y bydd yr arian hwn yn dod i Gymru.Rydym ni’n buddsoddi £40 miliwn i wella amlder gwasanaethau a chyflymder rheilffyrdd, a bydd y buddsoddiad hwnnw yn galluogi gwasanaethau i Gasnewydd, a fydd yn cael eu hystyried wrth i ni gaffael y fasnachfraint Cymru a'r gororau nesaf a cham nesaf metro de Cymru, os bydd yr arian Ewropeaidd ar gael. Steffan Lewis AC: Un datblygiad hanfodol i drafnidiaeth ar gyfer pobl yn Islwyn ac ar draws y rhanbarth ehangach, wrth gwrs, fyddai creu system fetro lawn yn rhan o bolisi economaidd a chymdeithasol ehangach, ond pa sicrwydd all y Prif Weinidog ei roi i mi y bydd y nod o ledaenu cread swyddi ar draws ranbarth y de-ddwyrain, fel bod cymunedau yno’n troi yn ardaloedd twf ynddynt eu hunain yn hytrach na bod yn fawr mwy na chymunedau cymudo i’r brifddinas? Carwyn Jones AC: I mi, mae'n gweithio’r ddwy ffordd.Mae'n iawn i ddweud bod miloedd o bobl yn cymudo i Gaerdydd bob dydd.Mae hynny’n mynd i barhau, ond mae hefyd yn bwysig ein bod yn cysylltu cymunedau i ddod â buddsoddiad i fyny o'r M4 hefyd.Felly, mae'n gweithio'r ddwy ffordd, nid yn unig cysylltedd ffisegol, ond band eang hefyd, gan ein bod ni’n gwybod bod band eang, yn yr unfed ganrif ar hugain, yn cyfateb i reilffyrdd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac mae'n hynod o bwysig gwneud yn siŵr bod cymunedau wedi'u cysylltu â band eang fel nad yw'n gwneud gwahaniaeth, os oes gennych chi fusnes digidol, er enghraifft, ym mhle yr ydych chi wedi eich lleoli: nid oes rhaid i chi fod yng Nghaerdydd, gallwch fod mewn unrhyw gymuned ledled Cymru.Mae'r ddau beth, i mi, yn cyd-fynd.Ac ydy, mae'n golygu ei bod yn haws i bobl gael mynediad at rai swyddi yng Nghaerdydd, gwir, ond mae hefyd yn haws dod â buddsoddiad i fyny o'r ardaloedd traddodiadol o gwmpas yr M4. Mohammad Asghar (Oscar) AC: Brif Weinidog, honnodd gŵr busnes yn ddiweddar bod problemau traffig yn cael effaith niweidiol ar fusnesau yng Nghasnewydd.Un o'r rhesymau a roddodd am y cynnydd hwn mewn traffig cynyddol oedd y ffaith fod y trên rheilffordd y cymoedd o Drecelyn, lle mae'n byw, yn osgoi Casnewydd.Weinidog, yn 2007 a 2008, gwnaed addewidion yn y Siambr hon gan y Gweinidog dros yr economi ar y pryd, cyn Cwpan Ryder, y byddai’r cysylltiad trên rhwng Casnewydd a rheilffordd y cymoedd a Chaerdydd yn cael ei wneud, ond ni ddigwyddodd hynny—felly, yn y bôn, addewidion parhaus gan eich Llywodraeth, ond mae cysylltedd y brif reilffordd o reilffordd y cymoedd i Gasnewydd yn cael ei osgoi trwy Pye Corner.Pa gamau all Llywodraeth Cymru eu cymryd nawr, cyn i brosiect metro de Cymru gael ei gwblhau, i wella cysylltedd rhwng Islwyn a Chasnewydd? Carwyn Jones AC: Rwy'n credu fy mod wedi ateb y cwestiwn yna gan yr Aelod—dywedais yn gynharach y bydd y buddsoddiad yr ydym ni’n ei wneud yn galluogi gwasanaethau i Gasnewydd.Ystyriwyd hynny gennym yn rhan o'r broses gaffael ar gyfer y fasnachfraint nesaf. Mark Reckless. [Torri ar draws.] Cwestiwn 5, Nick Ramsay. <p>Datganoli Trethi</p> Nick Ramsay AC: 5. A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch datganoli trethi? OAQ(5)0063(FM) Carwyn Jones AC: Rwyf wedi ei gwneud yn eglur y byddaf yn cefnogi datganoli pwerau trethi pellach dim ond os bydd fframwaith cyllidol teg.Mae trafodaethau ar y gweill ac rwy’n disgwyl i Lywodraeth y DU gadw ei gair a chytuno bargen gyllido deg a chryf. Nick Ramsay AC: Mae’n dod yn hawdd darogan fy sylwadau— rydych chi wedi rhagweld fy nghwestiwn atodol, Brif Weinidog.Soniasoch wrth ateb y cwestiwn diwethaf am yr heriau sy'n ein hwynebu o ran cael cyllid digonol gan y Trysorlys.Yn sicr, ar ôl datganoli trethi, mae'n mynd i fod yn hanfodol bod y fframwaith ariannol ar waith fel nad yw unrhyw ddidyniadau dilynol o’r grant bloc yn mynd i gynnig bargen wael i Gymru mewn gwirionedd.A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am eich trafodaethau ynghylch cynnydd tuag at fframwaith cyllidol? Carwyn Jones AC: Rwyf wedi ei gwneud yn eglur iawn, pan ddaw i Fil Cymru, ei bod yn gwbl hanfodol na ddylai'r pwerau gael eu datganoli heb ganiatâd y Cynulliad hwn.Y rheswm pam yr wyf yn dweud hynny yw y dylid cael cytundeb ar y fframwaith cyllidol.Os yw'n ddigon da i’r Alban, mae'n ddigon da i Gymru, ac nid yw’n ddigon da i ddweud wrth Cymru—iddi gael fframwaith cyllidol wedi ei orfodi arni, pan fo trafodaeth a chytundeb gwirioneddol rhwng Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y DU.Rydym ni’n disgwyl i Gymru gael yr un driniaeth. Mike Hedges AC: Wrth gwrs, mae'n gambl enfawr datganoli treth incwm heb reolaeth dros bolisi macro-economaidd na heb ddiogelu incwm.Caiff treth incwm Cymru ei heffeithio gan benderfyniadau yn San Steffan.Rydym ni’n gwybod y bu gostyngiad o £440 miliwn rhwng 2007-08 a 2009-10, ac nid oedd dim o hynny’n gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno, os caiff trethi eu datganoli, bod angen cymysgedd o drethi cylchol a gwrth-gylchol arnom, ac, os caiff treth incwm ei datganoli, bod angen i ni gael ein diogelu rhag lleihad mewn derbyniadau treth o dreth incwm yng Nghymru a achosir gan benderfyniadau San Steffan? Carwyn Jones AC: Mae’r Aelod yn iawn, ac mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr—byddwn yn gwneud yn siŵr—bod hyn yn rhan o'r penderfyniadau o ran y fframwaith cyllidol, y bydd, yn fy marn i, angen ei gytuno gyda Llywodraeth y DU. Yr hyn sy'n hanfodol, yn fy marn i, yw bod gennym ni gytundeb a fydd yn sail i’n trefniadau ariannu ar gyfer yr hirdymor, ac mae hynny'n golygu, wrth gwrs, cyflwyno’r mesurau diogelwch y mae’r Aelod wedi eu codi, yn gwbl gywir, yn enwedig pan ddaw i ddatganoli treth incwm yn rhannol, fel nad yw Cymru ar ei cholled. Rydym ni’n awyddus i gael system drethi deg, ond nid un sy'n tanseilio’r system ariannu a fu gennym ni hyd yn hyn, er ei bod yn ddiffygiol, trwy fformiwla Barnett. Felly, mae'n hynod bwysig, ac mae'n wir y bydd hyn yn rhan o'r trafodaethau a fydd yn parhau. Adam Price AC: A ydy’r Prif Weinidog yn gallu egluro’r dryswch sydd yna ar hyn o bryd ynglŷn â’r dreth teithwyr awyr? Ar 9 Mehefin yr oedd Jim O’Neill ar ran y Trysorlys yn Llundain wedi cadarnhau bod yr adolygiad ynglŷn â datganoli’r dreth i Gymru yn parhau, ac wedyn, ychydig o ddyddiau wedyn, roedd Guto Bebb o Swyddfa Cymru ar ei draed yn Nhŷ’r Cyffredin yn dweud bod y penderfyniad wedi cael ei wneud i beidio. P’un yw e? A ydy’r Prif Weinidog yn synnu bod y Ceidwadwyr Cymreig fel petaent yn fwy bodlon gwrando ar faes awyr ym Mryste, sydd wedi ei berchen gan gronfa bensiwn o Ontario, nag ydyn nhw ar Senedd pobl Cymru fan hyn? Carwyn Jones AC: Nid wyf yn gallu anghytuno â hynny. Rŷm ni wedi bod yn dadlau ers amser y dylai’r dreth hon gael ei datganoli. Mae wedi cael ei datganoli i’r Alban.Mae’r adolygiad y mae’r Aelod yn sôn amdano yn adolygiad i mewn i feysydd awyr Lloegr, ac nid Caerdydd, i weld beth fydd effaith datganoli’r pwerau i’r Alban ar feysydd awyr Lloegr. So, felly, nid yw Cymru yn rhan o’r ‘equation’ yn fan hyn. Wel, nid oes synnwyr o gwbl pam ddylai’r dreth hon gael ei datganoli i’r Alban ac nid i Gymru. Gwnaeth Guto Bebb sôn bod hyn yn rhywbeth na allai gytuno ag ef o achos y ffaith na fyddai unrhyw fath o les i’r gogledd. Wel, mae yna les i’r gogledd. Mae yna les i feysydd awyr fel Penarlâg, fel y Fali, lle byddai cyfle i ddatblygu awyrennau, i ddatblygu gwasanaethau, i sicrhau bod mwy o awyrennau yn dod mewn i’w meysydd awyr nhw. So, felly, na—mae’n amhosibl i fi esbonio beth yw safbwynt Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar hwn, ond, unwaith eto, mae rhywbeth yn cael ei ddatganoli i’r Alban ond nid i Gymru, ac mae hynny, o egwyddor, yn annheg. Mark Reckless AC: Amcangyfrifwyd yn ddiweddar, ar sail annibynnol, y byddai'r diffyg yng nghyllideb Cymru, tua £14.6 biliwn, neu 25 y cant o CMC—tua 100 gwaith yn fwy nag amcangyfrifon unrhyw drosglwyddiad i’r UE neu o'r UE. Dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn gweld yr Alban fel y model, ond onid yw'n rhannu fy mhryder i, os, yn yr hirdymor, y byddwn yn parhau i ddilyn y trywydd datganoli treth, yn enwedig heb refferendwm, y gallai’r trosglwyddiad parhaus hwnnw gael ei beryglu? Carwyn Jones AC: Wel, ni chlywais ef yn argymell refferendwm yn yr Alban ar gyfer trosglwyddo pwerau llawer mwy yn yr Alban, ond dyma fy marn i: mae angen ailystyried system dreth y DU gyda system, er enghraifft, lle ceir elfen o'r system drethi sy'n darparu'r modd i ailddosbarthu arian ar draws y DU i le mae ei angen, gan sicrhau atebolrwydd lleol ar yr un pryd. Mae gennym ni rywbeth tebyg ar ffurf y dreth gyngor. Mae gennym ni rywbeth tebyg ar ffurf cynghorau cymuned. Mae'n eithaf arferol yn y rhan fwyaf o wledydd i gael elfen o dreth incwm a godir yn lleol. Ni ddylem ofni hynny yng Nghymru. Ond, yn sicr, ni fyddwn yn cefnogi cael system drethi gwbl hunangynhwysol yng Nghymru. Nid wyf yn meddwl y byddai hynny er budd ariannol Cymru. <p>Cyfraddau Cyflogaeth</p> Jenny Rathbone AC: 6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cyfraddau cyflogaeth diweddaraf yng Nghymru o’u cymharu â gweddill y DU? OAQ(5)0067(FM) Carwyn Jones AC: Mae'r gyfradd gyflogaeth sy’n gwella yng Nghymru yn parhau i berfformio'n well na holl genhedloedd eraill y DU. Rydym ar y blaen i'r Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon, gyda'r gyfradd gyflogaeth sy’n tyfu gyflymaf a'r gyfradd ddiweithdra sy’n dirywio gyflymaf yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Jenny Rathbone AC: Wel, mae ein hanes yn amlwg yn rhagorol, ac mae colegau fel Coleg Caerdydd a'r Fro sy'n darparu addysg bellach ragorol mewn amrywiaeth o bynciau yn sicrhau bod gan bobl y sgiliau sydd eu hangen arnynt i gael gwaith.Pa waith ydym ni’n ei wneud i sicrhau ein bod yn datblygu'r sgiliau y mae cyflogwyr yn mynd i fod eu hangen yn y dyfodol fel nad ydym yn gorfod dibynnu ar ddenu pobl o wledydd eraill a allai fod yn llawer tlotach na ni? Carwyn Jones AC: Wel, un enghraifft, wrth gwrs, yw Twf Swyddi Cymru.Mae wedi bod yn hynod lwyddiannus, gyda chyfradd lwyddiant o dros 80 y cant o ran pobl ifanc yn mynd ymlaen i gyflogaeth, neu i gynlluniau addysg bellach neu uwch, wedi’u hariannu gan arian Ewropeaidd, ac, wrth gwrs, mae’n gynllun sydd wedi helpu cymaint o bobl ifanc i gael gwaith.Dechreuad y cynllun hwnnw oedd i ni siarad â busnesau bach a chanolig eu maint a ddywedodd wrthym eu bod eisiau cyflogi pobl, ond na allent ddod o hyd i’r amser na'r arian i wneud hynny.Caniataodd Twf Swyddi Cymru iddyn nhw wneud hynny, a cheir llawer iawn o bobl ifanc mewn cyflogaeth oherwydd y cynllun hwnnw erbyn hyn, ac maen nhw’n meddu ar y sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer y dyfodol. Adam Price AC: Rwy'n meddwl bod y ffaith bod diweithdra yng Nghymru yn is na chyfartaledd y DU erbyn hyn yn drobwynt pwysig.Mae wedi digwydd sawl gwaith dros y 30 mlynedd, ond yn rhy anaml yn anffodus.O ystyried hynny a'r gyfradd cyflogaeth nawr, mae'r gwahaniaeth yn fach iawn, a fyddai'n derbyn, pan fyddwn yn cymharu hynny â’r ffaith, yn gyffredinol, gyda’n GYC y pen, bod bwlch o 30 y cant, nad swyddi, fel y cyfryw, yw’r broblem sylfaenol yn economi Cymru, ond ansawdd y swyddi?Problem cynhyrchiant sydd gennym ni.A oes angen i ni newid ein strategaeth economaidd i ganolbwyntio ar hynny? Carwyn Jones AC: Ceir elfennau o—.Ceir problemau o ran cynhyrchiant yn y DU gyfan ac nid yw Cymru'n eithriad yn hynny o beth. Mae gennym ni etifeddiaeth o'r 1980au a'r 1990au o bolisi economaidd a gafodd wared ar swyddi a oedd yn talu'n dda a chyflwyno swyddi a oedd ymhlith y rhai â’r tâl isaf yng ngorllewin Ewrop ar y pryd yn eu lle.Nid dyna'r polisi economaidd y byddai unrhyw un—ef na minnau—eisiau ei weld yn y dyfodol.Rydym ni’n gweld mwy a mwy o fuddsoddiad yn dod i mewn i Gymru trwy swyddi o ansawdd da.Rydym ni wedi gweld, er enghraifft, cwmnïau fel Aston Martin, fel TVR, fel CGI—mae'r rhain yn swyddi medrus sy’n talu'n dda.Yr her i ni yw sicrhau bod ein pobl yn meddu ar y sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwr er mwyn i'r cyflogwr hwnnw ffynnu yng Nghymru.Yn gynyddol, mae hynny'n digwydd.Felly, byddwn yn disgwyl gweld GYC yn cynyddu yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf, o ystyried y ffaith bod ansawdd y swyddi yr ydym ni'n eu denu nawr, a’r arian y maent yn ei dalu, yn mynd i’r cyfeiriad cywir.Nid ydym yn economi cyflog isel, yn economi sgiliau isel mwyach.Dyna sut y cyflwynwyd Cymru yn y 1980au a dechrau'r 1990au.Byth eto. Russell George AC: Mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi yn y gorffennol naw sector busnes blaenoriaeth ar gyfer twf yng Nghymru.Mae gweithluoedd pump o'r sectorau hynny—twristiaeth, bwyd a diod, adeiladu, gwyddor bywyd a diwydiannau creadigol—wedi lleihau yn ystod y chwarter diwethaf.Tybed a allai'r Prif Weinidog amlinellu'r rhesymau dros hynny. Carwyn Jones AC: Rwy'n rhybuddio’r Aelod i beidio ag edrych ar chwarter fel cyfnod arbennig o gynrychioliadol.Mae'n well edrych ar y duedd tymor hwy.Felly, er enghraifft, os edrychwn ni ar gyfraddau diweithdra a chyflogaeth yng Nghymru, rydym ni’n gweld tuedd sydd wedi bod ar waith am fwy na blwyddyn o ddiweithdra yn gostwng.Ni allwch chi gymryd chwarter a dweud, 'Wel, mae hynna’n nodweddiadol o'r economi o ran y duedd.'O ran yr hyn a welwn yng Nghymru, rydym ni’n gweld diweithdra nawr, fel y dywedais, sy’n is nag yn yr Alban, yn is nag yn Lloegr, yn is nag yng Ngogledd Iwerddon.Mae yr un fath gyda diweithdra ymhlith pobl ifanc.Roeddwn i yn y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yr wythnos diwethaf ac, unwaith eto, gwelsom fod diweithdra ymhlith pobl ifanc yng Nghymru yn is nag yn yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon.Mae bron mor isel â Jersey, sy’n anarferol iawn i ni yn hanesyddol.Mae hynny'n arwydd bod y polisi gweithredol yr ydym ni wedi ei ddilyn i hyrwyddo Cymru ledled y byd ac i ddenu buddsoddiad a swyddi o bedwar ban byd yn gweithio.Pa un a fydd hynny’n dal i fod yn wir ar ôl dydd Iau, bydd yn rhaid i ni aros i weld. <p>Aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd</p> Mick Antoniw AC: 7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y diogelwch a roddir i weithwyr Cymru o ganlyniad i’n haelodaeth o’r DU? OAQ(5)0070(FM) Carwyn Jones AC: Ers canol y 1970au, mae'r UE wedi chwarae rhan bwysig o ran diogelu pobl sy'n gweithio.Mae pob gweithiwr yn cael ei ddiogelu gan ystod o hawliau sy'n ymwneud ag iechyd a diogelwch yn y gwaith, cyfle cyfartal i ddynion a menywod, amddiffyniad rhag gwahaniaethu ac, wrth gwrs, cysoni amodau gwaith ledled Ewrop, nid nad oes gan un wlad fantais dros un arall dim ond oherwydd bod ei harferion iechyd a diogelwch yn israddol. Mick Antoniw AC: Brif Weinidog, ym 1975, fe wnaethom ni ymuno â'r UE. Ym 1977, cyflwynodd yr UE gyfarwyddeb i ddiogelu gweithwyr sy'n trosglwyddo o un ymgymeriad i un arall, a ddaeth, ym 1981, yn Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981, sydd wedi rhoi diogelwch i gannoedd o filoedd o weithwyr yng Nghymru dros y sawl degawd hynny. Yn wir, pan ddaeth i’r amlwg nad oedd Llywodraeth Dorïaidd yn gweithredu’r gyfarwyddeb yn briodol, llwyddodd Unsain, undeb y sector cyhoeddus, i fynd i Lys Cyfiawnder Ewrop a chael gorchymyn i roi'r diogelwch priodol hwnnw i’r cannoedd o filoedd o weithwyr hynny. Pan ddaw i ddiogelu hawliau gweithwyr, pwy fyddech chi'n ymddiried ynddynt fwyaf: yr Undeb Ewropeaidd, Michael Gove, Nigel Farage ynteu Boris Johnson? [Chwerthin.] Carwyn Jones AC: Nid y tri olaf, os caf i ddweud hynny.Mae’r bobl hyn o draddodiad sy'n mynnu y dylai fod mwy o hyblygrwydd, fel y maen nhw’n ei weld, yn y farchnad lafur, sy'n golygu ei bod yn haws diswyddo pobl, gwneud trefniadau gweithio dros dro, contractau dim oriau. Felly, na, nid wyf yn rhannu unrhyw fath o ffydd y byddant yno i amddiffyn hawliau gweithwyr.Rydym ni’n gwybod, yn enwedig oddi wrth yr economegwyr sy'n cefnogi'r ymgyrch i adael, eu bod yn gweld dyfodol y DU fel un lle nad oes bron dim hawliau i bobl sy'n gweithio, lle nad yw materion fel iechyd a diogelwch yn cael eu hystyried â’r un gofal ag y maen nhw nawr, a lle mae rheoliadau amgylcheddol yn cael eu rhoi o’r neilltu yn bennaf.Felly, rydym ni’n mynd yn ôl i’r dyddiau yn y 1980au pan gafodd Prydain ei diraddio’n sylweddol yn amgylcheddol. Nid dyna’r dyfodol yr ydym ni ei eisiau.Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod gennym ni amgylchedd—amgylchedd gwaith ac amgylchedd ffisegol—y mae pobl eisiau ei fwynhau a’i barchu. Michelle Brown AC: Brif Weinidog, pwy ydych chi'n credu gyfrannodd fwy at ddiogelu gweithwyr yn y DU? Ai mudiadau’r undebau llafur a’r blaid Lafur, neu ai’r UE? Ac a yw ymrwymiad eich Llywodraeth i aros yn yr UE yn gyfaddefiad bod Llafur yn annhebygol o ffurfio Llywodraeth yn y DU fyth eto? Carwyn Jones AC: Wel, rwyf i'n bennaeth ar Lywodraeth yma, felly nac ydy, rwy’n derbyn yn llwyr y gallwn ni ffurfio Llywodraeth yma yng Nghymru ac, yn wir, yn y DU. Ond, nid naill ai/neu yw'r cwestiwn, gan fod yr undebau llafur wedi bod yn gweithio gyda'u cydweithwyr ar draws gweddill Ewrop er mwyn sicrhau bod safonau cyffredin o hawliau i weithwyr ar draws holl wledydd Ewrop.A dyna’n sicr sut y dylai fod, oherwydd mae hynny'n golygu bod amddiffyniad i weithwyr ar draws yr UE, mae'n golygu nad oes gan un wlad fantais dros un arall oherwydd bod ganddi safonau is o ran iechyd a diogelwch, ac mae’n rhaid bod hynny, does bosib, er lles pawb.Nid wyf yn ymddiried yn etifeddion Margaret Thatcher i amddiffyn hawliau gweithwyr, a bod yn gwbl onest. Yn y pen draw, dylai pobl ofyn i'w hunain ar ochr pwy oedd y bobl hyn yn streic y glowyr—yr ochr anghywir.Y rhai ohonom ni a welodd ddinistrio ein cymunedau yng Nghymru gan Lywodraeth Geidwadol, dyna ddaeth â llawer ohonom i fyd gwleidyddiaeth: i sicrhau na fyddai’r math hwnnw o fandaliaeth economaidd fyth yn digwydd eto. <p>Prif Weinidogion Gwledydd Datganoledig y DU</p> Dafydd Elis-Thomas AC: 8. Pa bryd bydd y Prif Weinidog yn cwrdd â Phrif Weinidogion gwledydd datganoledig eraill y DU? OAQ(5)0069(FM)[W] Carwyn Jones AC: Fe gwrddais i â Phrif Weinidog yr Alban a Phrif Weinidog a dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon yn y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yng Nglasgow ddydd Gwener diwethaf. Yn bresennol hefyd roedd y Taoiseach, ynghyd â Gweinidogion o Lywodraeth y Deyrnas Unedig a’r tiriogaethau dibynnol ar y Goron. Dafydd Elis-Thomas AC: Diolch yn fawr i’r Prif Weinidog am ei ateb. A gafodd o drafodaeth â nhw ynglŷn â’r refferendwm ar aelodaeth y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd, ac yn arbennig ar y cwestiwn ar ba sicrwydd y mae Prif Weinidogion eraill y Deyrnas Unedig, yn ogystal â chi, wedi ei gael ynglŷn â’r hyn a fydd yn digwydd os bydd cyllid yn diflannu o Gymru ac o’r gwledydd datganoledig eraill oherwydd penderfyniad i dynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd? Carwyn Jones AC: Roedd yna ddau, rwy’n credu, a oedd o blaid tynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd: cynrychiolydd o’r Deyrnas Unedig fel y mae ar hyn o bryd a Phrif Weinidog Gogledd Iwerddon, sydd wedi dweud hyn yn gyhoeddus. Ynglŷn ag Ynys Manaw, Jersey a Guernsey, mae yna bryder mawr ganddyn nhw ynglŷn â beth y mae hwn yn ei feddwl iddyn nhw. O ran Ynys Manaw, er enghraifft, mae yna undeb economaidd ganddyn nhw â’r Deyrnas Unedig sy’n meddwl bod un ganddyn nhw â’r Undeb Ewropeaidd. Pe bai’r Deyrnas Unedig yn gadael, beth fyddai hynny’n ei feddwl i Ynys Manaw? Felly, bydd yn rhaid inni drafod beth fydd y sefyllfa ar ôl dydd Iau, os dyna beth yw’r canlyniad. Ond, hefyd, mae rhai pethau y mae’n rhaid i ni eu trafod yn fewnol. Er enghraifft, gyda physgodfeydd, nid oes pysgodfeydd sy’n cael eu rheoli ar lefel y Deyrnas Unedig. Byddai’n rhaid i ni drafod gyda’n gilydd pwy fyddai’n cael mynediad at ddŵr Cymru, Lloegr, a’r Alban. So, byddem ni i gyd yn gorfod trafod gyda’n gilydd pa fath o gytundebau unigol a fyddai gennym gyda’r awdurdodaethau eraill. Felly, mae yna sawl peth byddai’n rhaid inni eu trafod os dyna fydd yn digwydd ar ddydd Iau, sydd yn mynd i hala lot fawr o amser. So, roedd yna bryder mawr, nid dim ond ynglŷn ag Iwerddon, nid dim ond ynglŷn â ni a’r Alban, ond ynglŷn ag Ynys Manaw, Jersey a Guernsey hefyd. Darren Millar AC: Brif Weinidog, rwy’n sylwi mai un o'r eitemau ar yr agenda ar gyfer cyfarfod y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig oedd y gefnogaeth sydd ei hangen ar ofalwyr ledled Cymru ac, yn enwedig, bod gofalwyr ifanc a hŷn yn cael eu hystyried.A allwch chi ddweud wrthyf: a wnaed unrhyw gynnydd ar gytundeb trawslywodraethol, o ran dull o ddarparu hawliau gwarantedig o seibiant i ofalwyr?Mae hyn yn rhywbeth a gynigiwyd gan fy mhlaid i, wrth gwrs, yn ein maniffesto cyn etholiadau Cynulliad Cymru.Pan fyddwch chi’n siarad â gofalwyr, mae un peth y maen nhw i gyd yn gofyn amdano, sef seibiant ar adegau i adennill eu hegni. Carwyn Jones AC: Rwy’n gwerthfawrogi hynny, wrth gwrs, ac mae'r rhain yn faterion yr ydym ni’n eu hystyried.Gofynnodd yn benodol am y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig; nid yw'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn penderfynu ar bolisi cyffredin, ond mae'n lle defnyddiol i ddeall yr hyn y mae eraill yn ei wneud.Mae'n fath o Gomisiwn Ewropeaidd bach—bydd yn cael ei ddiddymu yr wythnos nesaf, gewch chi weld, nawr fy mod i wedi dweud hynna.Mae'n gorff lle gall Llywodraethau ddod at ei gilydd i ddeall yr hyn sy'n cael ei wneud mewn gweinyddiaethau eraill a dysgu.Mae'n rhaid i ni weld beth sy'n gweithio mewn gwledydd eraill, yn enwedig os oes ganddynt ddemograffig tebyg i ni.Felly, dyna’r hyn y mae’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn ei wneud, ond roedd yn ddiddorol clywed yr hyn sy'n cael ei wneud yn y gwledydd eraill o ran gwella hawliau gofalwyr. Diolch, Brif Weinidog. 3. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Yr ail eitem ar yr agenda yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rwy’n galw ar Jane Hutt. Jane Hutt AC: Diolch, Lywydd.Rwyf wedi gwneud dau newid i fusnes yr wythnos hon: mae busnes heddiw bellach hefyd yn cynnwys datganiadau llafar ar yr ymchwiliad lleol cyhoeddus ynglŷn â’r M4 yng Nghasnewydd, a darlledu yng Nghymru.Ac mae busnes y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir ar y datganiad a’r cyhoeddiad busnes, sydd ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig. Mike Hedges. Mike Hedges AC: Na. Jeremy Miles. Jeremy Miles AC: Diolch i arweinydd y tŷ am ei datganiad.Mae llwyddiant Llywodraeth Cymru wrth gyflwyno band eang cyflym iawn drwy Cyflymu Cymru i'w groesawu fel buddsoddiad allweddol mewn seilwaith modern hanfodol.Fodd bynnag, er gwaethaf lefelau uchel iawn y ddarpariaeth, mae manteision band eang cyflym iawn yn ddeuaidd, os mynnwch chi —naill ai y mae gennych neu ddim.Felly, a wnaiff y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth gyflwyno datganiad yn nodi sut y mae'r Llywodraeth yn helpu’r rhai na fydd yn elwa ar Cyflymu Cymru a'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau y bydd gan bob eiddo yng Nghymru fand eang cyflym a dibynadwy? Jane Hutt AC: Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw, oherwydd mae’n rhoi cyfle i mi i gadarnhau bod gwaith ar y gweill i benderfynu pa mor gyflym y gallwn gael band eang cyflym iawn i gymaint â phosibl o'r ychydig y cant olaf o gartrefi a busnesau nad oes ganddynt fand eang cyflym iawn a phenderfynu beth fyddai’r ffordd orau o wneud hynny.Wrth gwrs, bydd yr atebion yn y pen draw yn dibynnu i raddau helaeth iawn ar y lleoliad ac amgylchiadau'r eiddo dan sylw.Credaf fod pob un ohonom yn y Siambr hon yn gwybod am yr amgylchiadau hynny, wrth inni fonitro cynnydd.Ond hyd nes y byddwn yn gwybod ymhle y mae’r ychydig y cant terfynol o eiddo, nid oes modd dweud beth fydd yr atebion penodol, ond wrth gwrs, y bwriad yw gwneud yn siŵr ein bod yn cyflawni hyn. Simon Thomas AC: Weinidog Busnes, diolch ichi am eich datganiad.Wrth gwrs, mae wedi bod yn wythnos drist i bob un ohonom fel gwleidyddion etholedig lle gwelsom un ohonom yn cael ei saethu ar y stryd wrth wneud ei gwaith bob dydd i helpu pobl. Yn awr, mae holl Aelodau’r Cynulliad wedi cael gwybod sut y gallwn wella ein diogelwch ein hunain a sut y gallwn ystyried hynny, ac rwyf yn siŵr y bydd llawer un yn trafod â'u heddlu lleol.Ond tybed a yw’r Llywodraeth yn ystyried hefyd sut mae ymdrin â'r ffrwd o gasineb a gwenwyn sy'n cronni ar gymaint o gyfryngau cymdeithasol.Mae'r bygythiad o drais, ymosodiadau rhywiol a niwed ar Twitter a Facebook yn dod yn ddigwyddiadau dyddiol i’r rhai hynny sydd yn llygad y cyhoedd, ac mae menywod yn benodol yn wynebu gwreig-gasineb cas iawn ar y cyfryngau cymdeithasol.Oni ddylid trin y bygythiadau hyn yn union yr un ffordd a phe baent yn cael eu gwneud wyneb yn wyneb?Felly, pan fydd y Llywodraeth yn cwrdd nesaf —fel y gwn ei bod yn gwneud yn rheolaidd —â phedwar comisiynydd yr heddlu a throseddu a phedwar prif gwnstabl yr heddlu, os gwelwch yn dda a gaiff y mater hwn ei drafod?Ac a gawn ni, felly, ddatganiad cyn gynted ag y bo'n ymarferol gan y Llywodraeth yn amlinellu sut y bydd yr heddluoedd yng Nghymru’n cydweithio i ddiwreiddio casineb o’n plith?Ar fater perthnasol, gwelaf fod gennym dri datganiad i ddod gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, sydd fel petai’n dymuno’i gadw ei hun yn brysur, ond nid ydym eto wedi cael un gan yr Ysgrifennydd addysg.Pryd, felly, y gallwn ddisgwyl y wybodaeth ddiweddaraf ganddi am hynt y cwricwlwm newydd yn yr ysgolion arloesi, ac, yn enwedig, yn y cyd-destun hwn, wybodaeth ynglŷn â sut y mae'r elfen grefyddol, foesegol ac athronyddol newydd yn cael ei datblygu?Dyna lle mae mynd i'r afael â chasineb a rhagfarn o'r fath—yn yr ystafell ddosbarth.Yn olaf, ar nodyn hapusach, rwyf yn siŵr ein bod i gyd yn gweiddi 'Olé' wrth i Gymru ddilyn eu llwybr rhyfeddol drwy'r pencampwriaethau Ewropeaidd neithiwr.A all y Gweinidog gadarnhau unrhyw fwriad gan y Llywodraeth i ddefnyddio'r Senedd i ddweud 'diolch yn fawr' yn briodol i Chris Coleman a'i dîm ar ôl iddynt wneud cystal dros ein cenedl, gyda llawer mwy i ddod, rwyf yn siŵr?Rwyf hefyd am roi ar gofnod ein diolch am ymddygiad canmoladwy’r cefnogwyr sy’n diddanu'r cyhoedd yn Ffrainc.Mae’r Senedd yn ystod y pythefnos diwethaf wedi bod yn llawn tristwch, coffadwriaeth, ac undod; gwyddom y gall hefyd fod yn lle ac yn fforwm ar gyfer dathlu a llawenydd cenedlaethol.Rwyf yn gobeithio y cawn y cyfle hwnnw. Jane Hutt AC: Diolch yn fawr iawn, Simon Thomas.Credaf yr hoffem hefyd, rwyf yn siŵr, ddiolch am ymateb cyflym yr heddlu, sydd wedi cysylltu â phob un ohonom rwyf yn siŵr, ond hefyd am ymateb cyflym y Llywydd a'i swyddogion o ran y cyfleoedd gyda'r heddlu i gael sesiynau i holl Aelodau'r Cynulliad ac i sicrhau ein bod yn ddiogel a’n bod yn gallu parhau i gynrychioli ein hetholwyr yn y ffordd yr ydym yn credu sydd fwyaf priodol.Yn wir, mae llawer ohonom wedi cynnal cymorthfeydd dros y penwythnos, ac wedi cael nid yn unig gefnogaeth a gwyliadwriaeth gan yr heddlu, ond hefyd gefnogaeth gref iawn gan ein hetholwyr yr ydym yn barod ac ar gael i’w cyfarfod, ond mae’n rhaid inni ddysgu’r gwersi trasig hynny o ran yr hyn a ddigwyddodd mor ddramatig, mor ddifrifol ac mor greulon ddydd Iau diwethaf i Jo Cox.Felly, ynglŷn â’ch pwyntiau am y ffrwd o gasineb a gwenwyn, credaf ein bod mewn gwirionedd wedi ymateb iddynt yr wythnos diwethaf, oni wnaethom, o ran ein munud o dawelwch a’n hymateb i'r saethu yn Orlando hefyd?Ymatebais bryd hynny hefyd o ran y ffaith bod angen monitro, adlewyrchu a chryfhau mewn sawl ffordd ein polisïau o ran mynd i'r afael â throseddau casineb, wrth gwrs.Rydych yn canolbwyntio ar y cyfryngau cymdeithasol, a chredaf fod rhai ohonom yn y Siambr hon eisoes wedi profi effaith hynny dros yr wythnos ddiwethaf, a chredaf fod angen edrych ar hyn yn ofalus iawn fel Cynulliad, a hefyd yn y Llywodraeth.Gwn mai dyna lle y bydd y Gweinidog dros gymunedau a phlant yn bwrw ymlaen â hyn o ran cwrdd â chomisiynwyr yr heddlu a throseddu.A bydd yn gwneud datganiad heddiw ynglŷn â hynt darn pwysig iawn o ddeddfwriaeth o ran y ffordd yr ydym yn mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.Dyma ddimensiwn cyfan y mae angen inni ganolbwyntio arno, yn enwedig o ran y ffyrdd y gallai effeithio'n negyddol ar fenywod.Mae eich pwyntiau ynglŷn â gwneud yn siŵr ein bod i gyd yn atebol ac ar gael fel Gweinidogion i'r Cynulliad hwn yn bwysig iawn.Wrth gwrs, byddwch wedi gweld y datganiad ysgrifenedig ynglŷn â diwygio’r cwricwlwm gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ac wrth gwrs roedd hi’n hapus iawn i gyflwyno’r datganiad ysgrifenedig hwnnw mor gyflym a phrydlon â phosibl yn ei swydd newydd.Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gweld cyfleoedd, a gwn y bydd y Llywydd yn chwilio am y cyfleoedd hynny hefyd, i glodfori’r buddugoliaethau mawr hyd yma, a’r fuddugoliaeth derfynol, yr ydym i gyd yn edrych ymlaen ati, i Gymru, wrth inni ddymuno’n dda i’n tîm ddydd Sadwrn ym Mharis.Credaf hefyd, o ran pêl-droed, fod pob lleoliad Cadw ar agor am ddim y dydd Sul hwn; mae'n ddydd Sul dathlu o ganlyniad i’n llwyddiant hyd yma.Wrth gwrs, yn ogystal â thristwch a gwylnosau, rydym wedi gallu clodfori ein llwyddiant ym myd y campau ar lawer achlysur yma yn y Senedd, ac rwyf yn siŵr y byddwn yn parhau i wneud hynny gan ganolbwyntio ar bêl-droed yn benodol. Joyce Watson AC: Weinidog, byddwch chi’n ymwybodol fod adroddiad diweddar gan y BBC wedi canfod bod 3,000 o blant ar eu pen eu hunain wedi cyrraedd y DU y llynedd yn ceisio lloches, ac roeddent yn aml yn ffoi rhag rhyfel ac erledigaeth.Canfu'r adroddiad fod o leiaf 891 o’r plant hynny ar eu pen eu hunain a oedd yn ceisio lloches wedi diflannu ar ôl cyrraedd y DU yn ystod y tair blynedd diwethaf—421 o'r rheini yn dal ar goll, ac ofnir bod llawer o'r rhai hynny sydd ar goll wedi cael eu masnachu gan droseddwyr i weithio mewn puteindai, i gynorthwyo mewn ffatrïoedd canabis, ac i weithio mewn cartrefi preifat. Mae ymgyrchwyr dros ffoaduriaid yn dweud nad yw anghenion plant sy’n cael eu masnachu, neu'r rhai sydd mewn perygl o gael eu masnachu, yn aml yn cael eu diwallu ar ôl cyrraedd y DU, ac nad oes gan awdurdodau yr adnoddau i’w hamddiffyn a’u diogelu’n ddigonol.Roedd penodi’r cydlynydd gwrth-gaethwasiaeth yma yng Nghymru yn benodiad allweddol a ddangosodd ein hymrwymiad i ddarparu ar gyfer y plant hyn.Yr hyn yr wyf yn awr yn ei geisio yw sicrwydd bod awdurdodau lleol Cymru ac asiantaethau eraill sydd yn amlwg â chyfrifoldeb dros blant ar eu pen eu hunain sy'n ceisio lloches yma yng Nghymru yn cymryd camau angenrheidiol i gyflawni’r rhwymedigaethau hynny ac i amddiffyn y plant hyn sy’n hynod agored i niwed rhag mynd i ddwylo troseddwyr a gangiau. Jane Hutt AC: Mae Joyce Watson wedi codi cwestiwn pwysig iawn, a chwestiwn sydd, wrth gwrs, yn effeithio arnom ni yng Nghymru.Gwn fod awdurdodau lleol yn ymwybodol iawn, ac wrth gwrs, mae cydlynu a chefnogaeth gan y cydlynydd gwrth-gaethwasiaeth, ac, yn wir, gan Lywodraeth Cymru hefyd, o ran cyfrifoldeb gweinidogol.Ond rydym yn gwybod, yng Nghymru, fod y gefnogaeth i’r plant hynny sydd ar eu pen eu hunain a’r croeso sydd iddynt, a'r ffyrdd yr ydym yn brwydro yn erbyn masnachu pobl, yn bwysig ac yn derbyn sylw. Andrew RT Davies AC: A gaf i uniaethu â’r safbwyntiau a godwyd gan yr Aelod rhanbarthol dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru?Mae bron â bod yn annirnadwy, ac ystyried y niferoedd hyn, fod mwy na 400 o’r plant a nodwyd yn yr adroddiad hwn wedi mynd ar goll ac na ellir dod o hyd iddynt.Mae’n ddyletswydd ar yr holl awdurdodau i ystyried y protocolau sydd ar waith ganddynt ac i wneud yn siŵr fod rwyd ​​ddiogelwch ar gael a’r atebolrwydd hwnnw pan fydd plant ifanc, ac, yn wir, unrhyw un, yn cael eu rhoi mewn gofal, ac na chânt eu colli yn y system.Mae angen atebion, yn amlwg, i rai o'r straeon erchyll y mae’r adroddiad hwn yn ymdrin â hwy—ac fe nododd yr Aelod hynny—nid yn unig gan y Llywodraeth hon, ond gan Lywodraethau yn unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig sydd â dyletswydd a chyfrifoldeb.Rwyf yn crefu ar y Gweinidog i ofyn i'r Gweinidog sy'n gyfrifol am hyn i gyflwyno datganiad er mwyn rhoi sicrwydd y gallwn weithredu’r mesurau diogelu yma yng Nghymru, a'i fod ef neu hi yn hyderus bod y mesurau diogelu hynny mor gadarn ag y mae angen iddynt fod.Hoffwn hefyd ofyn am ddatganiad—mae stori heddiw, yn amlwg, ynglŷn â chostau teithio’r Prif Weinidog i’r pencampwriaethau Ewropeaidd.Cytunaf yn llwyr— cytunaf yn llwyr—ei bod yn iawn bod Gweinidogion y Llywodraeth yn teithio i ddigwyddiadau i gynrychioli’r Llywodraeth a hefyd i gynrychioli’r wlad, p’un a ydynt yn ddigwyddiadau chwaraeon neu’n ddigwyddiadau rhyngwladol o unrhyw arwyddocâd.Ond credaf fod cwestiwn ynglŷn â sut y caiff y gwasanaethau hynny eu caffael, gwerth am arian y gwasanaethau hynny, a'r protocol y mae Llywodraeth Cymru’n ei ddefnyddio i brynu’r gwasanaethau teithio hynny.A byddwn yn ddiolchgar pe gallai Llywodraeth Cymru wneud datganiad yn amlinellu p’un a oes protocol yn ei le o ran prynu gwasanaethau teithio ar gyfer unrhyw swyddogaeth a wneir gan Weinidogion y Llywodraeth, yr ymarfer gwerth am arian sy'n cael ei gynnal, ac yn anad dim, lle bo modd, p’un a yw’r gwasanaethau hynny’n cael eu cyrchu drwy weithredwyr yma yng Nghymru, neu ai meysydd awyr neu borthladdoedd Cymru sy’n cael eu defnyddio. Fel y deallaf, yn yr achos hwn, mae'r awyren yn dod o Gymru, gan weithredwr yn Hwlffordd, ond nid dyna'r cwestiwn yr wyf yn ei ofyn: gofyn ydw i sut y gallwn fod yn sicr mai dyma’r gwerth gorau am arian a bod protocol yn ei le, oherwydd nid ydym yn sôn am symiau di-nod o arian—yn yr achos hwn, credaf ein bod yn sôn am bron i £10,000. Jane Hutt AC: Credaf fod croeso mawr i’ch ymateb cyntaf i gwestiwn pwysig iawn Joyce Watson i mi am y datganiad busnes hwn, ymateb dyngar iawn.Ac, wrth gwrs, byddwn yn edrych ar sut y gallwn ni, fel Llywodraeth, ystyried ymateb i'r adroddiad hwnnw gan y BBC ac edrych ar y ffyrdd y gallwn ni fonitro'r cymorth y gallwn ei roi i’r plant hynny sydd ar eu pennau eu hunain yma yng Nghymru.Mor siomedig oedd eich ail gwestiwn, byddwn i’n dweud, am y datganiad hwn—hynny yw, onid yw pobl Cymru am i'r Prif Weinidog fod yno?Maent am iddo fod yno.Roeddent eisiau iddo, ac roeddent yn disgwyl iddo, fynd i’r gêm.Ac, wrth gwrs, er mwyn galluogi iddo wneud hynny, a galluogi iddo deithio i Glasgow yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw—rydym wedi clywed heddiw am bwysigrwydd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig mewn atebion i gwestiynau i'r Prif Weinidog. Wyddoch chi, mae'n rhaid i chi ymddiried yn eich Llywodraeth—ac mae pobl Cymru yn sicr yn gwneud hynny—ein bod yn defnyddio'r gwasanaethau priodol er mwyn galluogi i’n Prif Weinidog ac i Gymru gael eu cynrychioli, boed yn Lille ddydd Iau ac yn Glasgow yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw mewn cyfarfod o’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig. David Rees AC: Y Gweinidog Busnes, yn gyntaf oll a allaf gytuno â Simon Thomas a chefnogi ei alwad ynglŷn â rhoi sylw i gamddefnyddio cyfryngau cymdeithasol?Mae'n ymddangos i mi fod rhai pobl yn credu yn anghywir fod yr anhysbysrwydd y mae’r cyfryngau cymdeithasol yn ei gynnig iddynt, neu’r ffaith eu bod yn eistedd yn y tŷ ar eu pennau eu hunain, yn rhoi caniatâd iddynt aflonyddu, bygwth a dychryn unigolion drwy’r cyfryngau cymdeithasol, ac mae angen inni fynd i'r afael â'r mater hwnnw yn glir iawn fel Llywodraeth.Fy mhrif bwynt yw bod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith y prynhawn yma yn rhoi datganiad ynglŷn â’r M4 o amgylch Casnewydd.Mae gennym broblemau ar yr M4 ymhellach i'r gorllewin a chafwyd achos lle y gwnaeth ei ragflaenydd dreialu cau cyffordd 41 ar sail rhan amser, ac yna gwrando ar y lleisiau cryf ym Mhort Talbot a chanslo’r treial cau rhan-amser hwnnw.Ond nid ydym wedi cael ateb terfynol o ran hynny ac mae ansicrwydd o hyd.Mae Port Talbot yn dref lle nad oes angen ansicrwydd.Rydym gennym eisoes ansicrwydd o ran dyfodol y gwaith dur; mae angen eglurder arnom ynglŷn â’r rhan honno o'r M4 ym Mhort Talbot. A gawn ni ddatganiad am sefyllfa’r M4 ym Mhort Talbot, ac yn enwedig y gyffordd honno? Jane Hutt AC: Diolch i chi, David Rees, am ategu’r sylwadau ynglŷn â chyfryngau cymdeithasol a'r cam-drin ac aflonyddu, ac, yn wir, y ffyrdd y gall hynny danseilio a bygwth cymaint o bobl, gan gynnwys menywod yn enwedig, fel y dywedwyd yn gynharach gan Simon Thomas.Ynglŷn â’ch ail bwynt am gyffordd 41, rydym wedi trafod y newidiadau a’r datblygiadau hynny yn rheolaidd yn y Siambr hon—ac mae’r dewisiadau, wrth gwrs, wedi’u hystyried, ac rwy'n gwybod y bydd Ysgrifennydd y Cabinet eisiau rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y cynnydd a'r penderfyniadau sydd wedi’u gwneud. Bethan Sayed AC: A gaf i ofyn am ddatganiad neu ddadl yn amser y Llywodraeth ar ddarpariaeth ôl-addysg i bobl rhwng 19 a 25 oed sydd ag awtistiaeth yn benodol?Nid wyf yn arbennig o awyddus i fanylu ar waith achos etholwyr yma, ond rwyf yn teimlo bod yn rhaid i mi wneud yn gryno am ei bod wedi cyrraedd y pwynt lle'r oedd y famgu yn fy swyddfa ar ddydd Gwener, yn beichio crio am ei bod yn ceisio cadw ei hŵyr yn ysgol arbennig Maes-y-Coed am flwyddyn arall, un flwyddyn, hyd nes bydd cytundeb rhwng bwrdd iechyd prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a'r adran addysg ynglŷn â dyfodol hirdymor ei hŵyr.Mae ei hŵyr wedi ei effeithio’n fawr iawn, iawn—yn ddifrifol—gan awtistiaeth, a'r gwir amdani yw nad yw'r cyngor ar hyn o bryd yn cymeradwyo amgylchiadau eithriadol i ganiatáu i’w hŵyr aros yn yr ysgol honno: rhywle y mae ei hŵyr yn ddiogel.Felly, hoffwn ddatganiad am y ddarpariaeth ôl-addysg honno, darpariaeth 19-25, ond hefyd hoffwn ddeall pa ganllawiau yr ydych chi fel Llywodraeth yn eu rhoi ynglŷn â’r amgylchiadau eithriadol hynny.A bod yn onest, rydym wedi cael wythnos anodd iawn, iawn, gyda marwolaeth AS, a wnaeth llawer o waith ar gyfer awtistiaeth mewn gwirionedd, yn ôl yr hyn yr wyf wedi ei ddarllen, ac nid wyf am gael pobl yn dod i mewn i’m swyddfa yn beichio crio am fod eu hŵyr am gael ei daflu allan ar y strydoedd heb unrhyw ddarpariaeth o gwbl.Felly, er fy mod i'n siŵr y byddwch yn dweud y caf ddatganiad gan y Gweinidog maes o law, mae hwn yn fater brys.Felly, hoffwn ddatganiad brys ar hyn, os wnewch chi hynny, ysgrifennydd busnes, neu Weinidog busnes.Hoffwn hefyd ategu pryderon David Rees ynglŷn â chyffordd 41.Rwy’n credu y bu cwestiwn yr wythnos diwethaf ac nid oedd amser i ateb y cwestiwn penodol hwnnw, ond mae angen i ni wybod, o ran y mesurau lliniaru—. Ar hyn o bryd, mae'r cyngor yn dweud na fyddant yn cael gwared ar y mesurau lliniaru hynny o gwmpas Port Talbot hyd oni fydd penderfyniad terfynol ar gyffordd 41.Felly, byddwn yn annog yr Ysgrifennydd newydd dros yr economi i ysgrifennu at Aelodau'r Cynulliad yn yr ardal honno, neu i gwrdd â nhw, er mwyn i ni allu dod i benderfyniad terfynol. Jane Hutt AC: Diolch i chi, Bethan Jenkins.Rydych chi wedi codi achos pwysig yn eich etholaeth, ac rwy'n siŵr y byddwch hefyd yn bwrw ymlaen â hynny, gan godi’r achos gyda'r awdurdodau lleol.Y cyfnod ôl-19, wrth gwrs, y cam nesaf, yw’r cyfnod trosiannol sydd mor bwysig o ran yr amrywiaeth o wasanaethau y mae angen i ni eu darparu ar gyfer pobl ifanc ag awtistiaeth.Felly, mae hyn yn berthnasol iawn, yn wir, i'r trafodaethau a’r ymgynghoriadau sydd ar y gweill yn ogystal.A rhoddir sylw i’r mater.Diolch hefyd am ychwanegu eich llais wrth godi cwestiynau am gyffordd 41.Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn hapus iawn i ddod a chyfarfod â’r Aelodau i drafod y dewisiadau. Huw Irranca-Davies AC: Mae ymroddiad y Llywodraeth hon yng Nghymru a’r Llywodraeth Lafur flaenorol tuag at metro de Cymru yn glodwiw, ac mae'n dangos gwir feiddgarwch o ran gweledigaeth ar gyfer datblygiad economaidd ac ar gyfer gwir gysylltedd. Ond, a allaf ofyn i'r rheolwr busnes am ddatganiad neu ddadl ynglŷn â phwysigrwydd cynigion metro’r de i bob rhan o dde Cymru, gan gynnwys y cymoedd mwy gorllewinol, canol Morgannwg, fel y Garw a'r Llynfi a'r Ogwr, ond hefyd ardal ehangach Pen-y-bont ar Ogwr ac Ogwr?Byddai hyn yn ein galluogi i archwilio sut y gall y cymunedau hyn wirioneddol elwa ar y cynigion cyffrous i wireddu'r potensial economaidd ac o ran teithio i'r gwaith yn y cymunedau hyn yn ogystal ag yn y cymoedd canolog a dwyreiniol, ac i sicrhau, dros amser a thros gyfnodau olynol y cynnig hwn, y gallwn sicrhau bod bysiau cyflym a rheilffyrdd ysgafn, tocynnau fforddiadwy i bawb ac amserlenni cydamseru yn cyrraedd pob rhan o’r de, nid dim ond y prif wythiennau.Ac yn olaf, a fyddai'r rheolwr busnes yn cytuno â mi y gallai’r broses o gyflwyno hwn a chynigion trafnidiaeth mawr eraill yng Nghymru gael ei niweidio’n ddifrifol os ydym yn gadael yr Undeb Ewropeaidd? Jane Hutt AC: Diolch i chi, Huw Irranca-Davies.Gwn y gofynnwyd cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet yr wythnos diwethaf ynglŷn â’r metro, sy’n cwmpasu’r de-ddwyrain a thuag at y gorllewin ac, wrth gwrs, sy’n rhan amlwg iawn hefyd o ddatblygiadau’r dinas-ranbarthau a’r cynigion nid yn unig o’r de-ddwyrain, ond hefyd o Abertawe a bae Abertawe.Rwy'n gwybod y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn rhoi diweddariad cliriach i'r Aelodau ar hyn.Atebwyd eich ail bwynt yn glir iawn gan y Prif Weinidog yn gynharach y prynhawn yma.Ni allai’r metro barhau heb gyllid Ewropeaidd y mae’r Comisiwn wedi dweud sydd ar gyfer trafnidiaeth integredig, a dyna sy'n berthnasol a dyna maent am wario'r arian arno a'r hyn rydym am iddynt wario'r arian arno drwy aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Darren Millar AC: A allaf alw am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, arweinydd y tŷ—y cyntaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon ynglŷn â throi rheolyddion calon i ffwrdd tuag at ddiwedd bywyd?Tynnwyd hyn i’m sylw gan achos trist Patricia Hastings o Landrillo-yn-Rhos a fu farw o ganlyniad i ddementia fasgwlaidd yn gynharach eleni.Yn anffodus, roedd aelodau o’i theulu yn gorfod ei gweld yn wynebu diffyg urddas o gael rheoliadur calon a berodd iddi ddioddef yn hirach ar ddiwedd ei hoes gan ei fod yn gweithredu pan oedd y broses naturiol o farwolaeth yn digwydd.Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn ymwybodol bod canllaw wedi ei gyhoeddi gan y Gymdeithas Cardiofasgwlar Prydeinig ar y cyd â'r Cyngor Cenedlaethol ar gyfer Gofal Lliniarol.Cyhoeddwyd hwn ym mis Mawrth 2015, ac eto nid yw wedi ei ystyried yn llawn gan Lywodraeth Cymru i’w weithredu yma yng Nghymru.Mae hyn 12 mis yn ddiweddarach.Gallai hyn fod wedi rhoi rhywfaint o urddas i Patricia Hastings ar ddiwedd ei bywyd ac rwy'n siŵr bod llawer o bobl eraill yn wynebu sefyllfaoedd tebyg iddi a phrofiad trist iawn ei theulu.Felly, byddwn yn gwerthfawrogi pe bai modd i mi ofyn am ddatganiad ar hynny.Yn ail, a allaf hefyd alw am ddatganiad gan y Gweinidog dros Gymunedau a Phlant ar ddiwrnod coffa brwydr y Somme, a gynhelir wrth gwrs ar 1 Gorffennaf eleni?Collodd degau o filoedd o filwyr Cymreig eu bywydau yng nghanol erchyllterau ofnadwy’r rhyfela a welwyd yn y frwydr benodol honno.Bu farw dros filiwn o bobl i gyd, a chredaf fod angen i ni wybod beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud—pa un a oes unrhyw weithgareddau sy'n cael eu noddi— a sut yr ydym ni fel Aelodau’r Cynulliad yn ein hetholaethau yn gallu helpu i hyrwyddo’r gweithgareddau hynny fel teyrnged addas i goffáu’r arwyr hyn a fu farw yn y digwyddiadau erchyll hynny.Diolch. Jane Hutt AC: Diolch i chi, Darren Millar.Rydych yn codi mater moesegol sensitif iawn yn ogystal ag enghraifft glinigol o'r achos, ac rwy'n siŵr eich bod wedi codi’r pwynt, nid yn unig gyda'r bwrdd iechyd ond gydag Ysgrifennydd y Cabinet hefyd, ond mae'n rhywbeth, wrth gwrs, y bydd Llywodraeth Cymru yn awyddus i ymateb iddo o ran y canllawiau diweddaraf.Ynglŷn â’ch ail gwestiwn, mae nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal wrth gwrs.Bydd gwasanaeth yn eglwys gadeiriol Llandaf, bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal yma yng Nghymru i anrhydeddu ac i gofio—teyrngedau addas i'r rhai a gollodd eu bywydau ym mrwydr y Somme. Julie Morgan AC: Mae gennyf ddau bwynt yr oeddwn am eu codi.Yr wythnos diwethaf, roeddwn yn falch o gynnal digwyddiad yma yn y Senedd yn ymwneud â gwaith cofrestrfa mêr esgyrn Cymru ac i nodi’r milfed rhoddwr cyfatebol gan y gofrestrfa yng Nghymru, sydd wedi'i lleoli o fewn ymddiriedolaeth Felindre yn fy etholaeth.Dyma gyflawniad gwbl aruthrol, ac mae'r rhoddwyr cyfatebol ledled y byd i gyd, ac roeddwn yn meddwl tybed a oedd unrhyw ffordd y gallai Ysgrifennydd y Cabinet wneud datganiad yn tynnu sylw at gyflawniadau’r rhoddwyr hyn, nad ydynt yn hysbys iawn o gwbl.Dyna’r pwynt cyntaf yr oeddwn eisiau ei wneud.Yna, o ran yr ail bwynt, rydym wedi dymuno’n dda i dîm Cymru y prynhawn yma, a hoffwn ychwanegu fy llongyfarchiadau innau a dymuno’n dda i bob aelod o'r tîm. Ond, a allaf dynnu sylw arbennig at lwyddiannau'r sgoriwr uchaf yn y bencampwriaeth hyd yn hyn?Cafodd ei eni a'i fagu yng Ngogledd Caerdydd, aeth i Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd ac mae ei deulu yn dal i fyw yn yr Eglwys Newydd.Gareth Bale ydyw, wrth gwrs.Felly, hoffwn hefyd ofyn beth all y Cynulliad ei wneud i gydnabod cyflawniad pawb yn y tîm. Jane Hutt AC: Diolch yn fawr iawn, Julie Morgan, yr Aelod dros Ogledd Caerdydd.O ran eich pwynt cyntaf, roedd hi'n bwysig iawn eich bod wedi cael y cyfle i dynnu sylw at waith cofrestrfa mêr esgyrn Cymru.Mae'r digwyddiadau hyn yn y Senedd yn codi ymwybyddiaeth ac yr oedd, fel yr ydych yn dweud, yn dathlu casglu’r milfed rhoddwr cyfatebol.Hoffwn longyfarch Gwasanaeth Gwaed Cymru ochr yn ochr â Julie.Ond hefyd dylid llongyfarch y gwirfoddolwyr—y bobl sy'n gwirfoddoli i roi mêr esgyrn.Mae'n ymwneud â sut y gallwn ni recriwtio rhagor o bobl.Credaf fod Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod bod hyn yn fater lle y mae angen recriwtio ar lefel fwy lleol yn ogystal ag ar lefel genedlaethol.Mae angen i ni estyn allan at gymunedau, ac rwy'n siŵr mai dyna oedd y neges a ddaeth i’r amlwg yn eich digwyddiad.Felly, gall Aelodau'r Cynulliad hefyd gyfrannu wrth helpu i ledaenu’r neges ym mhobman.Byddem yn gobeithio ac yn disgwyl i Julie Morgan o Ogledd Caerdydd achub ar y cyfle i ganmol ei hetholwr, Gareth Bale, ac i gydnabod ei gyflawniadau enfawr ef ac, wrth gwrs, y tîm cyfan.Ef yw’r sgoriwr uchaf ac yn sicr ef yw seren y gêm a'r twrnamaint.Mae cael ei weld eto yn rhoi cyffro i chi ac i ni i gyd, yn ogystal â'i deulu.Mae'n gyn-ddisgybl yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd, a dyna beth yw esiampl dda. Felly, rwy'n siŵr y byddwn yn dathlu ac yn ei longyfarch yn bersonol maes o law. Diolch i’r Gweinidog. 4. 3. Cynnig i Dderbyn Argymhelliad y Prif Weinidog ar gyfer Ei Mawrhydi i Benodi Cwnsler Cyffredinol Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r cynnig i dderbyn argymhelliad y Prif Weinidog ar gyfer Ei Mawrhydi i benodi Cwnsler Cyffredinol. Rwy’n galw ar y Prif Weinidog i wneud y cynnig. Cynnig NDM6025 Carwyn JonesCynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 9.1, yn cytuno â'r argymhelliad gan Brif Weinidog Cymru i Ei Mawrhydi benodi Mick Antoniw AC yn Gwnsler Cyffredinol. Cynigiwyd y cynnig. Carwyn Jones AC: Diolch, Lywydd. A gaf i felly symud y cynnig yn ffurfiol? Gareth Bennett AC: Nid wyf yn cynnig sylw ar allu’r Aelod Llafur i gyflawni swydd y Cwnsler Cyffredinol.Rwy'n siŵr ei fod, mewn nifer o ffyrdd, yn ymgeisydd cymwys iawn. Fy unig bwynt yw hyn: mae’r Aelod eisoes yn ystod y pumed Cynulliad wedi tynnu sylw ddwywaith at ei awydd mawr i gynnal ymchwiliad cyhoeddus o ran y digwyddiadau yn Orgreave yn ystod streic y glowyr 32 mlynedd yn ôl.[Torri ar draws.]Digon teg.Os bydd yr Aelod yn dod yn Gwnsler Cyffredinol, a fydd yn parhau i bwyso am yr ymchwiliad hwn, ac, os bydd yn gwneud hynny, a fydd hyn yn arwain at unrhyw wrthdaro buddiannau posibl? Nid oes gennyf unrhyw siaradwyr eraill. A yw’r Prif Weinidog eisiau ateb y ddadl? Carwyn Jones AC: Yr ateb yw 'na', oherwydd, wrth gwrs, fel Cwnsler Cyffredinol, ni fyddai’r Aelod yn cymryd rhan mewn unrhyw broses gyfreithiol yn ymwneud ag Orgreave.Mae hynny'n fater i Lywodraeth y DU ac nid i Lywodraeth Cymru. Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw wrthwynebiad? Os na, fe dderbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. [Cymeradwyaeth.] Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 5. 4. Datganiad: Yr Ymchwiliad Lleol Cyhoeddus i’r M4 yng Nghasnewydd Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith—yr ymchwiliad lleol cyhoeddus i’r M4 yng Nghasnewydd. Rwy’n galw ar Ken Skates i wneud y datganiad. Ken Skates AC: Diolch, Lywydd. Heddiw, rwy’n rhoi diweddariad i'r Aelodau ynglŷn â phrosiect coridor yr M4 o amgylch Casnewydd. Mae datrysiad i'r problemau hirsefydlog ar yr M4 o amgylch Casnewydd wedi ei nodi. Mae'n cynnwys darn newydd o draffordd i'r de, y cyfeirir ato'n aml fel 'y llwybr du', yn ogystal â mesurau ategol gan gynnwys ailddosbarthu'r M4 bresennol o amgylch Casnewydd. Byddai hyn yn ategu'r metro i ddarparu system drafnidiaeth integredig effeithlon yn y de. Mae ffordd liniaru'r M4 a'r metro yn hynod bwysig i'n gweledigaeth o system drafnidiaeth gwbl integredig. Rydym wedi cynnal arddangosfeydd i helpu pobl leol i ddeall y cynlluniau tir a materion fel newidiadau i ffyrdd ymyl, yn ogystal ag amlinellu’r asesiadau economaidd ehangach a’r cynigion lliniaru amgylcheddol. Gwnaethom gyhoeddi’r Gorchmynion statudol drafft, gwybodaeth amgylcheddol ac adroddiadau cysylltiedig am y prosiect ym mis Mawrth, gan roi cyfle i bawb gofrestru eu gwrthwynebiad, eu sylwadau neu eu cefnogaeth i'r prosiect. Mae'r holl ymatebion wedi eu hadolygu’n ofalus. Mae'n rhaid imi ystyried materion pwysig yn ofalus cyn gwneud penderfyniad terfynol ynghylch a ddylid bwrw ymlaen â'r gwaith adeiladu.Rwy’n ymwybodol o bwysigrwydd sicrhau bod y broses hon yn gwbl dryloyw ac o’i chynnal gyda chyfranogiad yr ystod amrywiol o randdeiliaid. Rwyf felly wedi penderfynu y dylid cynnal ymchwiliad lleol cyhoeddus. Bydd arolygydd annibynnol yn adolygu'r angen am y cynllun ac yn ystyried yr holl ffactorau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd. Bydd yn clywed tystiolaeth ac yn archwilio'r arbenigwyr technegol yn ogystal â chlywed gan gefnogwyr a gwrthwynebwyr. Ystyrir yr achos busnes a gyhoeddwyd yng ngoleuni lefelau traffig ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, er mwyn sicrhau y byddai'r buddsoddiad yn rhoi gwerth am arian. Archwilir yr opsiynau a ystyriwyd yn hanesyddol, ynghyd â phob llwybr amgen a gynigiwyd gan wrthwynebwyr, gan gynnwys y 'llwybr glas' y soniwyd amdano’n aml. Bydd hyn yn brawf cadarn o rinweddau'r dewisiadau amgen a awgrymwyd a bydd yn rhoi barn annibynnol ynghylch pa un ai’r cynllun arfaethedig sy’n cynnig y datrysiad mwyaf cynaliadwy yn yr hirdymor. Gwneir hyn i gyd mewn fforwm cyhoeddus, gan ganiatáu craffu agored a thryloyw, cyn i'r arolygwr roi adborth hanfodol fel sail i benderfyniad terfynol ynghylch pa un a ddylid bwrw ymlaen i adeiladu.Bydd yr ymchwiliad yn dechrau yr hydref hwn yn Sefydliad Lysaght yng Nghasnewydd, a chynhelir cyfarfod cyn-ymchwiliad ar 18 Gorffennaf. Mae disgwyl i'r ymchwiliad ei hun bara am tua phum mis, ac wedi hynny bydd yr arolygydd yn llunio adroddiad ac argymhellion imi. Pe byddai Gweinidogion Cymru yn penderfynu bwrw ymlaen â'r cynllun, ar ôl ystyried adroddiad ac argymhellion yr arolygydd yn fanwl, gallai'r rhan newydd o’r M4 fod ar agor erbyn hydref 2021. Llefarydd yr wrthblaid, Dai Lloyd. Dai Lloyd AC: A allaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi ac isadeiledd am ei ddatganiad ac, yn wir, croesawu ei ddatganiad yn llawn? Nawr, y prynhawn yma—nid dyma’r adeg i fod yn mynd a thraethu a dadlau ynglŷn â pha ffordd sydd orau, achos, wrth gwrs, mae’r Gweinidog wedi amlinellu ffordd ymlaen ar y mater dyrys yma sydd wedi bod yn rhygnu ymlaen ers blynyddoedd lawer. Achos y gwir ydy: mae angen ateb. Nid wyf yn credu bod gwneud dim yn opsiwn i’r bobl leol na holl fusnesau de Cymru hefyd. Felly, rwy’n croesawu’r bwriad i edrych ar yr ystod eang o ddewisiadau sydd gerbron mewn adolygiad hollol annibynnol. Ac mi fuaswn i’n taflu i mewn i’r pair hefyd y syniad: beth am gael gwared â gorfod talu am groesi pont Hafren pan rydym ni wrthi, gan ein bod ni’n mynd i edrych ar bob opsiwn? Buaswn i’n ychwanegu hwnnw fel opsiwn sydd hefyd yn achosi prysurdeb a thagfeydd yn lleol.Fel rwyf wedi dweud eisoes, nid wyf i’n credu bod gwneud dim yn opsiwn, ac rwy’n canmol y ffordd ymlaen yn fan hyn, yn enwedig drwy fod yn cyfranogi o brofiad nifer fawr o bobl—rheini sydd o blaid pa bynnag ffordd a’r rheini hefyd sydd yn eu herbyn nhw. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol, wrth gwrs, o amheuon nifer fawr o bobl ynglŷn â sgil-effeithiau amgylcheddol, ac ati, y gwahanol ddewisiadau. Nawr, wrth gwrs, mae ei Lywodraeth e o blaid un ffordd arbennig, y ffordd ddu. Rydym ni ar y meinciau fan hyn o blaid ffordd arall, y ffordd las. Wedyn, o gael yr ymchwiliad hollol annibynnol yma sydd yn mynd i edrych ar yr holl opsiynau, fel rydych chi wedi ei ddweud, pa sicrwydd allwch chi ei roi inni fod yr un math o bwysau, manylder a thryloywder yn mynd i gael ei roi pan rydych chi’n cysidro’r ffordd las, er enghraifft, ochr yn ochr â’r ffordd ddu? A ŷch chi’n mynd i drin yr holl ddewisiadau yr un fath, gyda’r un pwysau, i osgoi unrhyw feirniadaeth, felly, eich bod chi’n ffafrio, a dal i ffafrio, a thrio dylanwadu ar, yr ymchwiliad annibynnol yma i ddod allan o blaid y ffordd ddu? Chwilio rydw i am sicrwydd, pan rydych chi’n dweud bod yr holl ystod eang o ddewisiadau yn mynd i gael ei archwilio mewn manylder, fod hynny’n mynd i ddigwydd mewn realiti. Diolch yn fawr. Ken Skates AC: Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Aelod am ei gyfraniad a dweud fy mod innau’n rhannu ei farn nad yw gwneud dim byd yn opsiwn. Fodd bynnag, bydd yr arolygydd yn edrych ar yr opsiwn o wneud dim byd ac, yn wir, ar effaith hynny, wrth symud ymlaen.O ran tollau pont Hafren, wel, bydd rhan arall o'r ymchwiliad yn craffu ar y gwaith modelu traffig sy'n digwydd, gan gynnwys edrych ar beth fydd effaith debygol lleihau neu, yn wir, ddiddymu tollau pont Hafren ar dagfeydd ac ar ddefnyddio traffordd yr M4.I sôn yn gryno am yr hanes, oherwydd rwy’n credu nad yw ond yn deg o ran y llwybr glas ein bod yn ystyried am eiliad y ffaith fod gwaith ar yr M4 wedi bod yn destun dadleuon a thrafodaethau ers 25 mlynedd erbyn hyn. Mae'n bryd inni archwilio'n drwyadl, mewn ffordd annibynnol, dryloyw, yr holl opsiynau. Nawr, o ran y llwybr glas, mae astudiaethau strategol wedi dangos na fydd y llwybr penodol hwnnw’n darparu llawer o ryddhad o gwbl i'r M4, ac y byddai’n arwain at broblemau parhaus ar y draffordd, a hefyd yn gwaethygu problemau ar ffyrdd lleol. Mae tri amrywiad ar y llwybr glas wedi eu hystyried cyn hyn, ac amcangyfrifwyd y byddent yn costio rhwng £600 miliwn ac £800 miliwn, gan ddibynnu ar y cwmpas—llawer uwch nag amcangyfrif y cynigydd ac yn cynnig gwerth isel iawn am arian, o ystyried y diffyg manteision. Fodd bynnag, rwy’n ymwybodol o'r diddordeb parhaus yn y dewis arall hwn, ac felly, i roi sylw i hyn, mae dadansoddiad newydd o'r llwybr glas yn cael ei wneud a chaiff ei gyhoeddi cyn yr ymchwiliad. Bydd hyn yn edrych eto ar gwmpas, cost a modelu traffig ac yn galluogi pobl i gyflwyno eu barn i arolygydd yr ymchwiliad. John Griffiths AC: O ran y llwybrau posibl, rwy’n meddwl ei bod yn glir, ym marn llawer o bobl, ac yn sicr yn fy marn i, bod y llwybr glas, byddwn yn dadlau, yn amhosibl am lawer o resymau; rhai’n ymwneud ag ymarferoldeb, ac eraill yn ymwneud â’r canolfannau poblogaeth y byddai'n teithio drwyddynt. Rydych wedi cyfeirio at rai o'r materion eisoes. Cyn belled ag y mae’r llwybr du yn y cwestiwn, wrth gwrs, ceir materion amgylcheddol o bwys, yn ogystal â materion yn ymwneud â’r model rhagweld a darparu o adeiladu ffyrdd. Felly, gyda'r math hwnnw o gefndir, Ysgrifennydd, a allwch chi fy sicrhau y bydd yr ymchwiliad hwn yn gallu edrych ar y system metro yn nhermau ei heffaith debygol ar draffig ar yr M4 a'i gallu i gyflawni newid moddol? Yn amlwg, pe byddai gennym gyfleusterau parcio a theithio effeithiol wedi’u lleoli’n dda—rwy’n meddwl bod llawer o bobl yn sôn am ostyngiad o oddeutu 20 y cant mewn niferoedd traffig ar yr M4 o ganlyniad i newid moddol oherwydd y system metro. Ceir ffyrdd eraill o gyflawni newid moddol hefyd, wrth gwrs, a ffyrdd o reoli traffig yn well. Felly, tybed a allwch chi fy sicrhau, wrth i’r arolygydd edrych ar niferoedd a lefelau traffig tebygol yn y dyfodol, fel y cyfeiriasoch ato yn eich datganiad, y gall hefyd edrych ar y metro a ffyrdd eraill o gyflawni newid moddol o ran y niferoedd a’r lefelau traffig hynny sy'n debygol.Yn olaf, tybed a allwch chi ddweud ychydig bach am y cyfleuster benthyca cynnar gwerth £500 miliwn. Rwy’n sylweddoli bod gan y Prif Weinidog, yn amlwg, ran allweddol i’w chwarae yn y materion hyn hefyd, Ysgrifennydd, ond rwy’n meddwl ei bod yn hanfodol, os ydych yn ffurfio barn wybodus am y ffordd orau ymlaen o ran y problemau traffig ar yr M4, ar ôl yr ymchwiliad hwn ac ystyriaeth bellach, y dylai'r cyfleuster benthyca cynnar hwn fod ar gael ar gyfer beth bynnag y mae Llywodraeth Cymru yn ei benderfynu yw’r ffordd orau ymlaen. Nid dyna’r sefyllfa ar hyn o bryd, a byddwn yn dadlau, yn unol â datganoli a'r agenda Respect, y dylai fod ar gael ar gyfer beth bynnag y mae Llywodraeth Cymru yn ei benderfynu yw’r datrysiad gorau. A fyddech chi'n cefnogi hynny? Ken Skates AC: A gaf i ddiolch i'r Aelod a dweud hefyd fy mod yn cydnabod ei eiriolaeth bwerus o blaid teithio llesol dros nifer o flynyddoedd? Nawr, o ran newid moddol, un elfen hanfodol ar yr ymchwiliad yw gallu mynd i wraidd yr holl ddata a'r llif traffig a ragwelir. Mae prosiect yr M4 yn cael ei ddatblygu, fel yr wyf eisoes wedi’i ddweud, ynghyd â'n cynlluniau ar gyfer y metro a thrydaneiddio. Gyda’i gilydd, gallant ddarparu system drafnidiaeth gynaliadwy ac integredig yn y tymor hir. Byddant hefyd yn elwa ar gyfleusterau parcio a theithio a gynllunir yn ogystal â chynlluniau parcio a beicio. Er enghraifft, mae cyffyrdd newydd yr M4 yn cael eu cynllunio i gyd-daro â mesurau trafnidiaeth gyhoeddus presennol ac arfaethedig, fel gorsafoedd trenau a chyfleusterau parcio a theithio. Dylwn ganolbwyntio ar rai o'r data sydd eisoes wedi eu cyhoeddi, sydd yn wir yn dangos cryn wrthgyferbyniad rhwng gwneud dim byd ac adeiladu ffordd liniaru. Roedd adroddiad ynglŷn â phrosiect yr M4 ‘Golwg Gyffredinol ar Drafnidiaeth Gyhoeddus' yn nodi, hyd yn oed pe byddai cynnydd o 100 y cant mewn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar draws ardal Casnewydd, byddai hyn yn arwain at ostyngiad o lai na 5 y cant mewn llif traffig ar yr M4 o amgylch Casnewydd. Wedi dweud hynny, mae teithio llesol yn mynd i fod yn hanfodol bwysig i reoli traffig ac i reoli tagfeydd yn y dyfodol yn ein trefi ac yn ein dinasoedd ledled Cymru. Felly, rwy'n awyddus iawn i weithio gyda Sustrans er mwyn gwneud y gorau o botensial yr M4 i greu cyfleoedd parcio a beicio i gymudwyr er mwyn gwneud yn siŵr bod Cymru’n dod yn genedl fwy iach a heini.O ran rhai o'r materion amgylcheddol y mae’r Aelod wedi sôn amdanynt, ar y llwybr du a ffefrir y mae’r Llywodraeth wedi’i gynnig, mae dros hanner y llwybr ar dir llwyd. Mae angen llai na 2 y cant o arwynebedd SoDdGA lefelau Gwent, a byddai’r effeithiau wedi eu lliniaru. Lywydd, gallaf ddweud heddiw ein bod wedi nodi £45 miliwn o fewn y prosiect, a gaiff ei wario ar fesurau amgylcheddol, nid yn unig i liniaru effaith y llwybr du arfaethedig, ond, yn wir, i wella'r amgylchedd. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George. Russell George AC: Diolch, Lywydd. A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad? Wrth gwrs, fy marn i a barn y Ceidwadwyr Cymreig yw y dylai fod cloddwyr yn y ddaear yn ddi-oed, ac wrth gwrs rwy’n cytuno'n llwyr â barn pobl eraill nad yw gwneud dim yn opsiwn. Nawr, mae miliynau o bunnoedd wedi'u gwario eisoes ar yr ymgynghoriad cyhoeddus a'r arddangosfeydd. Soniasoch yn eich datganiad bod yr ymatebion i gyd wedi cael eu hadolygu’n ofalus, ond nid yw'n dweud yn eich datganiad beth yw eich barn am yr ymatebion hynny. Nid oes unrhyw sôn am hynny. Tybed a allech chi efallai amlinellu sut y mae’r ymatebion hynny wedi dylanwadu ar eich barn cyn ichi wneud y datganiad heddiw.Mae'n rhaid i’r pryderon amgylcheddol, wrth gwrs, ynglŷn â’r llwybr du yn arbennig, godi pryderon ar draws y Siambr. Nid wyf am ailadrodd y rheini heddiw, ond rai wythnosau’n ôl yn unig, lleisiodd 10 elusen eu pryderon yn gyhoeddus i Lywodraeth Cymru ynghylch ei llwybr a ffefrir, gan honni y byddai'r prosiect yn cynrychioli dinistr ecolegol ar raddfa nas gwelwyd o'r blaen, ac wrth gwrs mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd wedi gwrthwynebu mewn ffyrdd tebyg. Nawr, o ystyried y pryderon hynny, ynghyd â’r mewnbwn cyhoeddus diweddar ynghylch y gorchmynion drafft a datganiadau amgylcheddol, tybed beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i leddfu’r pryderon hynny cyn yr ymchwiliad cyhoeddus?Nawr, dywedasoch yn eich datganiad y byddwch yn ystyried yn ofalus ac yn gwneud penderfyniad terfynol ynghylch pa un a fyddwch yn bwrw ymlaen â'r gwaith adeiladu. A gaf i ofyn am rywfaint o eglurder ar hynny? A fydd y Llywodraeth yn mynd i mewn i'r ymchwiliad cyhoeddus gyda'i swyddogion a'i thîm cyfreithiol ar sail hyrwyddo'r llwybr du fel y llwybr gorau a'r llwybr a ffefrir, neu a fydd ei hymagwedd at yr ymchwiliad cyhoeddus yn niwtral, fel yr awgrymwyd efallai? O ran yr ymchwiliad cyhoeddus ei hun, rydych wedi dweud y bydd yn para am oddeutu pum mis. Nawr, rwyf eisiau i’r ymchwiliad cyhoeddus hwnnw fod mor gynhwysfawr â phosibl, ond rwy’n meddwl tybed a fydd pum mis yn achosi oedi cyn dechrau’r gwaith. Felly, tybed a oes gennych safbwyntiau ynghylch ai dyna'r amser y dylai’r ymchwiliad cyhoeddus ei gymryd, pa un a fyddai llai o amser yn fwy priodol, ac ai, mewn gwirionedd, eich penderfyniad chi ynteu penderfyniad yr arolygydd yw hwnnw.Rydych hefyd wedi manylu ym mhle y caiff yr ymchwiliad cyhoeddus ei gynnal, y lleoliad. Nawr, wrth gwrs, bydd yn cwmpasu rhan fawr o’r de a tybed a fyddech yn cytuno i’w ymestyn, efallai, pe byddai’r alwad yn dod—i gynnal cyfarfodydd yr ymchwiliad cyhoeddus mewn lleoliadau eraill heblaw’r lleoliad yr ydych wedi’i nodi.Nawr, cymeraf hyn hefyd: soniasoch hefyd y bydd yr ymchwiliad cyhoeddus yn para am bum mis. Tybed a allwch chi ddweud wrthyf pa mor hir y bydd yn ei gymryd i'r arolygydd, rhwng diwedd yr ymchwiliad cyhoeddus a’r adeg y bydd yn cyflwyno adroddiad i chi. Pa mor hir yr ydych chi'n rhagweld y bydd yr amser hwnnw? Ai eich penderfyniad chi yw pa mor hir y bydd hynny’n ei gymryd, ynteu a oes amser penodedig? Pa mor hir y bydd yn ei gymryd i chi ar ôl i’r adroddiad hwnnw gyrraedd eich desg i wneud y penderfyniad terfynol?Rydych wedi crybwyll hefyd y byddai'r prosiect yn cael ei ategu gan y metro, ac mae hynny'n galonogol i’w glywed. Cyn hyn, efallai nad ydynt wedi bod yn gweithio gyda'i gilydd fel y dylent fod wedi ei wneud. Yn amlwg, bydd y metro’n naturiol yn effeithio ar lif traffig ar y ddwy ochr—ar ffordd liniaru'r M4 ac i'r gwrthwyneb. A fydd yr ymchwiliad cyhoeddus, felly, yn ystyried y berthynas rhwng y ddau brosiect? Yn olaf, a gaf i ddweud hefyd bod pryder o’r gogledd, y canolbarth a’r gorllewin am swm yr arian a fyddai'n cael ei wario ar y llwybr du posibl, felly a gaf i ofyn i chi efallai amlinellu sut yr ydych yn disgwyl i'r ymchwiliad cyhoeddus ystyried gwerth am arian y llwybr a ffefrir gennych? Ken Skates AC: A gaf i ddiolch i Russell George am ei gwestiynau a dweud, o ran, yn gyntaf oll, yr ymgynghoriad sydd wedi ei gynnal, y byddwn yn hapus iawn i gyhoeddi data ynglŷn â'r ymatebion? Yn gryno, bydd yr ymchwiliad yn edrych ar yr ymatebion i'r ymgynghoriad a'r arddangosfeydd a gynhaliwyd rhwng mis Medi 2015 a mis Mawrth 2016. Yn gryno, arweiniodd yr ymgynghoriad at gyfanswm o 192 o gyflwyniadau gan gefnogwyr, o'i gymharu â 267 o wrthwynebiadau pwrpasol. Ond os edrychwch chi ar y niferoedd sy'n deillio oddi mewn i Gymru, a ddaeth gan drigolion Cymru, roedd nifer y cefnogwyr yn 143 o'i gymharu â 118 o wrthwynebiadau. Gwnaf gyhoeddi’r data hyn. Daeth y gwrthwynebiadau mwyaf, o ran niferoedd, gan ymgyrchoedd a drefnwyd gan gynnwys y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar a Choed Cadw. Dyna pam yr wyf yn awyddus i gyfarfod â’r grwpiau bywyd gwyllt hynny cyn gynted ag y bo modd i drafod ystod o brosiectau lliniaru yr hoffai grwpiau bywyd gwyllt eu gweld yn cael eu cyflwyno fel rhan o brosiect ffordd liniaru'r M4.O ran yr amserlen yr ydym yn edrych arni, tri i bum mis yw ein hamcangyfrif ar gyfer y cyfnod gwirioneddol o allu cynnal yr ymchwiliad. Pe byddai’r arolygydd yn dymuno cymryd llai na phum mis, a bod pedwar mis neu dri mis yn ddigonol, penderfyniad yr arolygydd annibynnol fyddai hynny. Yn yr un modd, ni fyddai gennyf i unrhyw wrthwynebiad i'r arolygydd gynnal cyfarfodydd y tu allan i ganol Casnewydd, pe byddai’r arolygydd yn dymuno gwneud hynny. Mae hyn yn nwylo'r arolygydd annibynnol i raddau helaeth a hoffwn i’r arolygydd hwnnw gael pob cyfle i gysylltu ac i drafod y prosiect pwysig iawn hwn â’r bobl y bydd yn effeithio arnynt.O ran y gogledd, o ran y canolbarth ac o ran y gorllewin, mae'n gwbl hanfodol bod yr M4 a'r metro yn y de-ddwyrain, ac yn wir y metro ar draws y de, yn ffurfio rhan o gynllun seilwaith cenedlaethol ac, am y rheswm hwnnw, rwy'n awyddus iawn i fwrw ymlaen â gwaith. Rydym eisoes wedi dechrau yn y Drenewydd â'r ffordd osgoi o amgylch y Drenewydd, ond rwy'n awyddus iawn i fwrw ymlaen â gwaith ledled Cymru sydd o fudd i bobl ym mhob cymuned ym mhob rhan o'r wlad, boed hynny’n ddatblygu achos busnes o blaid trydedd croesfan dros y Fenai, ffordd osgoi Caernarfon, neu uwchraddio’r A55 a'r A494 yn sylweddol a fydd yn dod i gyfanswm o dros £200 miliwn, ac wrth gwrs yr A40 hefyd. Hoffwn sicrhau nad yw'r M4 a'r metro yn cael eu gweld fel rhywbeth ar wahân ond fel rhan o gynllun trafnidiaeth cwbl genedlaethol ac integredig. Yn wir, cynllun a fydd yn cynnwys teithio a theithio integredig yn union dros y ffin. Bydd hynny'n arbennig o arwyddocaol i gynigion metro’r gogledd-ddwyrain.Os caf sôn yn gryno am yr ymchwiliad ei hun—gofynnodd yr Aelod am yr amserlen. Cyhoeddwyd gorchmynion statudol drafft a datganiad amgylcheddol ym mis Mawrth eleni. Fy mwriad yw cychwyn yr ymchwiliad lleol cyhoeddus yn ystod hydref eleni a byddwn yn gobeithio, erbyn haf y flwyddyn nesaf, cyn belled â’n bod wedi cael adroddiad yr arolygydd, y gellir gwneud penderfyniad ynglŷn â pha un a ddylid gwneud y gorchmynion a bwrw ymlaen â'r gwaith adeiladu. Byddai gwanwyn 2018 yn nodi dechrau'r gwaith ar y draffordd a byddwn yn gobeithio, erbyn hydref 2021, y byddai'r gwaith wedi’i gwblhau a'r ffordd liniaru yn cael ei hagor.Byddwn yn symud ymlaen at yr ymchwiliad lleol cyhoeddus â barn gadarn mai’r llwybr du yw'r dewis a ffefrir. Fodd bynnag, mae’r ymchwiliad lleol cyhoeddus yn debyg iawn i lys. Bydd arolygydd annibynnol yn clywed tystiolaeth gennym ni, Llywodraeth Cymru a'n harbenigwyr technegol, yn ogystal â gan wrthwynebwyr a gan gefnogwyr. Bydd yr arolygydd yn edrych ar yr holl opsiynau eraill a awgrymwyd gan wrthwynebwyr, gan gynnwys y llwybr glas, fel yr wyf eisoes wedi’i ddweud, ac yna bydd yr arolygydd yn gwneud argymhelliad i Weinidogion ynglŷn â pha un a ddylid symud ymlaen i adeiladu.Dylwn nodi hefyd mai’r Arolygiaeth Gynllunio sy’n penodi’r arolygydd annibynnol; nid yw'n benodiad gan Lywodraeth Cymru. Ac, yn yr ymchwiliad, byddai'r arolygydd annibynnol yn ystyried ystod eang o gwestiynau, gan gynnwys a oes angen y cynllun; y tir y cynigir ei brynu’n orfodol; y cynigion ar gyfer newidiadau i ffyrdd ymyl; ac ailddosbarthu'r M4 bresennol. Bydd yr arolygydd yn ystyried arolygon amgylcheddol a gynhaliwyd; effeithiau amgylcheddol posibl ar draws amrywiaeth eang o faterion, gan gynnwys rhai ecolegol ac archeolegol a materion yn ymwneud â sŵn ac effaith weledol; yn ogystal â'r mesurau lliniaru sy'n cael eu cynnig. Bydd yr arolygydd hefyd yn ystyried yr effaith ar randdeiliaid yr effeithir arnynt, fel Associated British Ports, Tata ac, wrth gwrs, trigolion. A bydd yr arolygydd yn ystyried sut i ddefnyddio polisïau Llywodraeth Cymru mewn penderfyniadau—a gwn fod Aelodau wedi ei godi yn y gorffennol—fel defnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Lywydd, bydd yr arolygydd hefyd yn craffu ar y galw traffig sy’n gysylltiedig â’r cynllun a’r gwaith modelu traffig a gynhaliwyd arno. Yn olaf, bydd yr arolygydd yn ystyried dewisiadau eraill a gynigiwyd gan wrthwynebwyr, hyd yn oed os ydynt wedi cael eu hystyried a'u gwrthod eisoes. Er enghraifft, bydd yr arolygydd yn ystyried llwybrau eraill, lledu ffyrdd presennol, gwario mwy ar drafnidiaeth gyhoeddus ac, wrth gwrs, gwneud dim byd. Llefarydd UKIP, David Rowlands. David J Rowlands AC: Diolch yn fawr, Lywydd. Hoffwn ddiolch yn gyntaf i'r Gweinidog am ei ddatganiad clir a chynhwysfawr am y prosiect pwysig iawn hwn. Mae awdurdod porthladdoedd Casnewydd wedi gwneud sylwadau ynglŷn â’r llwybr du a'i effaith anffafriol ar eu gweithrediadau. A oes ganddo unrhyw newidiadau posibl i'r llwybr a allai gymryd eu pryderon i ystyriaeth cyn i’r ymchwiliad cyhoeddus ddigwydd? A hefyd, o gofio bod, efallai, tri chwarter yr holl allforion o Iwerddon i'r UE neu'r DU yn teithio ar hyd y llwybr hwn, a wnaiff ef archwilio’r posibilrwydd y gallai Llywodraeth Iwerddon dalu rhan o'r gost? Ken Skates AC: A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn ac am ei gyfraniad a’i sylwadau caredig? Wrth gwrs, bydd yr arolygydd annibynnol yn ystyried pryderon y porthladd yn llawn, a bydd yr arolygydd annibynnol, yn ei dro, yn gallu craffu ar rai o'r honiadau ac, yn wir, ar yr holl bryderon—nid dim ond y rhai y mae’r porthladd wedi gallu eu cyflwyno, ond rhai gan fusnesau a thrigolion yn y rhan honno o Gymru. O ran dyrannu cost y prosiect i Lywodraeth Iwerddon, nid wyf yn argyhoeddedig y byddai hynny'n cael ymateb arbennig o dda nac y gellid gwneud hynny, ond gwnaf godi'r mater hwn gyda swyddogion a gwirio pa un a fyddai hynny'n bosibl. Jenny Rathbone AC: Mae'n ddiddorol clywed y ddadl gan David Rowlands, sy’n ddadl o blaid aros yn yr UE, oherwydd, wrth gwrs, os ydym yn ystyried bod yr M4 yn rhwydwaith traws-Ewropeaidd, efallai y gallem gael rhywfaint o gyfraniad gan y Gwyddelod mewn rhyw ffordd. Ond, beth bynnag, gan roi hynny o'r neilltu, rwy’n croesawu'n fawr y trylwyredd, y tryloywder a'r gofal y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i ddangos wrth ymwneud â’r penderfyniad mawr iawn, iawn hwn, gan sicrhau ein bod yn cael gwerth am arian a bod gennym y gallu i ad-dalu unrhyw symiau y byddai angen inni eu benthyca. Rwy'n meddwl bod y byd wedi symud ymlaen yn ystod y 25 mlynedd diwethaf ers inni ddechrau sôn am yr M4, ac nawr mae gennym y prosiect metro ar y bwrdd, ac felly rwy'n arbennig o falch bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cynnwys y metro a'r effaith a gaiff—os, wrth gwrs, y bydd yn digwydd o ganlyniad inni aros yn yr UE, rwy'n meddwl bod hynny'n hynod o bwysig fel ffordd o weld pa un yw'r ffordd orau ymlaen a fydd mewn gwirionedd yn llwyddo i leddfu tagfeydd a lleihau unrhyw rwystrau i ddatblygu economaidd. Roeddwn am ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet pa un a fyddwch yn ystyried y dull gweithredu system gyfan y mae Bryste yn ei ddefnyddio i reoli trafnidiaeth integredig, gan ddefnyddio eitem yr ydym i gyd yn ei chludo gyda ni y rhan fwyaf o'r amser, sef y ffôn symudol, sy'n allyrru signal i ddangos yn union pryd y mae pobl yn gadael eu cartrefi i deithio i'r gwaith, i deithio i'r ysgol, a sut y gellir defnyddio hynny i fapio cynlluniau teithio integredig ein holl ddinasyddion yng ngoleuni'r niferoedd cynyddol sy'n mynd i fod yn byw yn rhanbarth cyfalaf Caerdydd. Ken Skates AC: Hoffwn ddiolch i Jenny Rathbone am ei diddordeb brwd yn y pwnc hwn a dweud, yn gyntaf oll, bod teithio heb docynnau’n goddiweddyd tocynnau integredig yn eithaf cyflym a’i fod, yn sicr, yn rhywbeth yr ydym yn ei ystyried fel rhan annatod o ddatblygiad y metro. Rwyf hefyd wedi codi hyn yn ddiweddar ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru o ran y potensial i allu cael gwared ar rywfaint o'r tagfeydd yn y gorsafoedd toll ar groesfan Hafren—gallu defnyddio technoleg llif rhydd.Nawr, mae’r Aelod yn gywir i ddweud fy mod yn ymdrin â hyn yn ofalus, ond nid yw hyn yn fater o ba un a wyf fi neu Lywodraeth Cymru yn dymuno cael llwybr penodol, mater o angen ydyw, a fy marn i yw bod arnom angen ateb i'r tagfeydd a welwn ar yr M4, a fy marn i yw mai'r opsiwn gorau yw'r llwybr du. Mae ei angen arnom oherwydd, bob dydd, mae 100,000 o deithiau yn cael eu gwneud ar yr M4 a, gyda'r llwybr du, gallem roi 10 munud am bob un o'r teithiau hynny yn ôl i'r economi, yn ôl i bobl Cymru. Mae hynny’n gyfystyr ag arbed cyfanswm o tua 694 diwrnod o fywydau pobl rhag bod yn eistedd ar yr M4. Mae’n rhaid bod hynny’n dda i gynhyrchiant economaidd; mae'n rhaid ei fod yn dda i deuluoedd ac i unigolion.Rydym yn gwybod hefyd bod ad-dalu costau’r llwybr arfaethedig oddeutu 3:1. Mae hynny’n dda iawn i economi Cymru, yn enwedig wrth i chi ystyried y bydd llawer o'r cwmnïau a fydd yn cyflawni’r prosiectau hyn wedi’u lleoli yng Nghymru. Rydym yn gwybod hefyd y byddai gweithwyr lleol yn llenwi swyddogaethau yn rhan o'r gwaith a fyddai'n cael ei gyflawni, ac y bydd 20 y cant o gyfanswm costau llafur cyflogi hyfforddeion sy’n newydd-ddyfodiaid a phrentisiaethau yn rhoi gobaith a chyfleoedd i lawer o bobl, nid dim ond yn y de, ond o bob cwr o Gymru.Dros gyfnod y gwaith adeiladu, byddai 3,000 o swyddi yn cael eu llenwi ac mae hynny’n gyfwerth â chyflogi tua 700 o bobl ar y cynllun bob mis. Felly, nid yn unig y bydd y ffordd liniaru yn gallu cyflawni, yn ein barn ni, manteision economaidd sylweddol yn ystod y cyfnod adeiladu, ond yn y tymor hir, bydd ffordd liniaru'r M4 yn gallu creu safleoedd cyflogaeth â’r gallu i ddarparu ar gyfer tua 15,000 o swyddi, a byddwn yn awyddus iawn i weithio gyda'r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth i sicrhau nid yn unig bod gennym y seilwaith cywir ar waith i wasanaethu datblygiad economaidd ac economi ffyniannus yng Nghymru, ond bod gennym hefyd y sgiliau cywir ar gael i'r bobl er mwyn iddynt allu manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd iddynt eu hunain a'u teuluoedd. Adam Price AC: A gaf i ddychwelyd at y mater a gododd John Griffiths ynglŷn ag effaith y metro arfaethedig yn y de-ddwyrain ar lefelau traffig yn y dyfodol yn y rhanbarth? Mae'r gwaith o adeiladu system drafnidiaeth debyg ar gyfer Bordeaux, y bydd cefnogwyr Cymru wedi gallu ei gweld â’u llygaid eu hunain yn ddiweddar, wrth gwrs, mewn gwirionedd wedi gostwng lefelau traffig 40 y cant er 2005. Nawr, pe byddem hyd yn oed yn gallu cyflawni hanner hynny yn y de-ddwyrain, byddai'n tanseilio’n sylweddol y rhesymeg y mae'r Llywodraeth wedi’i chyflwyno o ran y llwybr du a ffefrir ganddi. Felly, a gawn ni asesiad annibynnol o effaith y metro ar lefelau traffig yn y dyfodol? Ac a all yr Ysgrifennydd hefyd esbonio'r berthynas rhwng yr ymchwiliad y mae wedi'i amlinellu a phroses gyfochrog Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n gorfod rhoi trwydded, wrth gwrs, o dan y gyfarwyddeb cynefinoedd—oherwydd bod rhywogaethau a warchodir gan Ewrop yn bresennol—er mwyn i’r datblygiad hwn fynd rhagddo? Maent wedi dweud yn eu gwrthwynebiad eu hunain nad ydynt yn argyhoeddedig bod yr amodau angenrheidiol ar gyfer y drwydded honno wedi’u bodloni ar hyn o bryd. Os nad yw hynny'n newid, a all ef gadarnhau, beth bynnag y bydd yr ymchwiliad yn ei ddweud, na fydd yn gallu rhoi caniatâd i fwrw ymlaen â’r llwybr du? Ken Skates AC: A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau, a dweud yn gyntaf oll bod y metro a'r M4 yn brosiectau cyflenwol? Rydym yn gwybod bod y rhaglen metro wedi'i chynllunio i allu cludo pobl rhwng y Cymoedd a rhwng canolfannau trefol mawr fel Caerdydd, a bod yr M4 yn darparu ar gyfer pobl sy'n dod i mewn ac allan o Gymru ac yn teithio i gyfeiriad dwyrain-gorllewin. Mae un yn ddatrysiad fertigol, ac un yn ddatrysiad llorweddol; gyda'i gilydd, maent yn ffurfio pecyn a fydd yn sicrhau ffyniant economaidd i’r genedl gyfan.Nawr, o ran dewisiadau eraill, er enghraifft, rydym yn gwybod y bydd trydaneiddio’r brif reilffordd yn darparu gostyngiad o lai nag 1 y cant ar draws yr M4 ar amseroedd teithio brig, ac felly ni allwn ddibynnu ar ddatrysiadau rheilffyrdd a metro yn unig i liniaru'r tagfeydd presennol sydd ar yr M4. Ond lle yr arolygydd annibynnol fydd craffu a chynnal yr asesiad o gynigion yr M4, gan gynnwys y llif teithio a ragwelir yn y blynyddoedd i ddod. Mae'n waith yr ydym wedi ei wneud, ond lle yr arolygydd annibynnol yw sicrhau y creffir yn llawn ar y gwaith hwnnw ar sail annibynnol.Ac o ran y gwaith amgylcheddol—wel, y gwaith datblygu—un o'r rhesymau pam y bu gennym amlen wariant i ddatblygu'r rhaglen hon yw oherwydd bod gwaith datblygu wedi bod yn hanfodol i gydymffurfio â deddfwriaeth amgylcheddol y DU ac Ewrop, megis y rheoliadau asesu effeithiau amgylcheddol a'r gyfarwyddeb cynefinoedd—yn gwbl hanfodol. Ac roedd yn rhaid gwneud hynny i ddilyn proses statudol Deddf Priffyrdd 1980 a Deddf Caffael Tir 1981. Mark Reckless AC: Cefais fy nharo’n arbennig gan ddau gyfiawnhad wrth ddarllen papurau cefnogi Llywodraeth Cymru ar gyfer y llwybr du. Yn gyntaf, ei fod eisoes yn rhwydwaith traws-Ewropeaidd, ac roedd y papurau hynny yn dweud bod angen ffordd newydd er mwyn iddo fodloni’r safonau gofynnol. Felly, onid yw hynny, felly, yn un o gostau aelodaeth o'r UE? Yn ail, gallai ailddosbarthu'r M4 bresennol yn y modd hwnnw ganiatáu inni ei defnyddio i hyrwyddo'r nod o gynyddu cerdded a beicio. A yw hynny'n gredadwy, o ystyried natur y ffordd? Yn olaf, dywedodd y Prif Weinidog yn flaenorol y gellid parhau â thollau uchel ar bontydd Hafren er mwyn ariannu'r llwybr du. Ai dyna yw safbwynt Llywodraeth Cymru o hyd? Ken Skates AC: Wel, a gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn, a dweud, ydy, mae’n rhwydwaith traws-Ewropeaidd? Ni fyddwn yn ystyried y byddai dod â’r ffordd hon i sefyllfa lle y gallwn wireddu gobeithion ac uchelgeisiau pobl Cymru yn gost ddiangen, gan y byddai gennym ffordd nid yn unig y gallwn ei defnyddio mewn modd, yn anffodus, na allwn ddefnyddio’r un bresennol—ni allwch ddibynnu ar deithio’n ddidrafferth ac yn gyflym ar ei hyd—ond hefyd, o ran ein cyswllt â phartneriaid Ewropeaidd, mae angen rhwydwaith mawr traws-Ewropeaidd arnom, i sicrhau y gall ein hallforion fynd allan o'r wlad, boed hynny i Iwerddon neu i dir mawr Ewrop, ac rwy'n meddwl bod hynny'n gwbl hanfodol. Felly, byddwn yn ystyried bod angen y gwario hwnnw, nid ar y sail o allu parhau, os mynnwch chi, i roi’r label o statws rhwydwaith traws-Ewropeaidd iddi, ond i sicrhau ei bod wir yn cyflawni ffyniant economaidd i bobl Cymru.O ran ei ymholiadau a’i gwestiynau eraill, mater i Lywodraeth y DU yw'r costau tollffyrdd, wrth gwrs, ac rwyf wedi bod yn trafod y mater â’r Ysgrifennydd Gwladol. Mae ein sgyrsiau wedi ymwneud â’r posibilrwydd o ddileu neu leihau’r tollau. Hyd nes y byddwn yn gwybod beth fydd y penderfyniad ar hynny, ni fyddwn mewn sefyllfa i allu dyrannu taliadau i unrhyw brosiect, heb sôn am adeiladu’r M4. Lee Waters AC: Weinidog, rwy’n croesawu’r ffaith eich bod yn mynd i edrych o'r newydd ar y nifer o opsiynau sydd ar gael ar gyfer y tagfeydd ar yr M4. A wnewch chi hefyd edrych ar y ffordd y mae’r penderfyniadau hyn yn cael eu cyfrifo? Oherwydd, yng ngoleuni Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a'r targed uwch ar gyfer allyriadau hinsawdd, mae angen inni ystyried holl gostau a buddiannau unrhyw opsiwn. Roeddwn yn bryderus o’ch clywed yn sôn am y manteision arbed amser sy'n ffurfio sail y cymarebau cost a budd a ddefnyddir i ategu'r cynlluniau hyn. Er enghraifft, mae'r fformiwla gyfredol yn rhoi mantais i deithiau car, a’r amser a arbedir ar y rheini i'r economi, yn hytrach, er enghraifft, na theithiau ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae'r economegwyr o’r farn bod teithwyr bysiau yn werth llai i'n heconomi na theithwyr car, ac maent yn defnyddio’r ffigurau i gyfiawnhau arbedion costau ar y sail honno. Felly, yn rhan o'r ysbryd o edrych o'r newydd ar yr opsiynau, a wnewch chi hefyd ystyried y fformiwlâu a ddefnyddir, a ddefnyddir yn aml i gyfiawnhau’r penderfyniadau hyn? Ken Skates AC: A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn, ac, unwaith eto, am ei ddiddordeb brwd yn y pwnc pwysig iawn hwn? Ac, oes, mae gennyf feddwl agored o ran sut yr ydym yn modelu unrhyw fath o hafaliad a fformiwla economaidd, a byddwn yn fwy na pharod i edrych ar sut y gallwn ddeall unrhyw fodelau a gyflwynir ar gyfer prosiectau seilwaith, a chraffu arnynt, yn well. Rwy'n fwy na pharod i wneud hynny. Llyr Gruffydd AC: Wel, fel sydd wedi cael ei grybwyll yn barod, wrth gwrs, rŷm ni nawr yn sylweddoli bod Llywodraeth Cymru yn atebol i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), Deddf a oedd yn arwain y byd yn ôl y Llywodraeth ddiwethaf, a Deddf, felly, a ddylai fod yn arwain at newid sydd yn arwain y byd. Ac mae nifer ohonom ni yn methu deall sut, o dan ddyletswyddau’r Ddeddf honno, efallai, y byddai’r llwybr du wedi dod mor bell ag y mae e, mewn gwirionedd, heb gael ei daflu allan. Ond, dyna ni, mater o farn yw hynny.Dau gwestiwn sydd gen i yn benodol. Yn gyntaf, gan fod y dyletswyddau yma yn awr ar Lywodraeth Cymru i edrych, wrth gwrs, ar bob penderfyniad yng nghyd-destun datblygu cynaliadwy, ac i gydbwyso y gwahanol elfennau yn ystyrlon, a allwch chi roi blas i ni o sut fydd yr ymchwiliad cyhoeddus hwn yn wahanol nawr o dan y dyletswyddau newydd yma, o’i gymharu ag unrhyw ymarferiad tebyg, efallai rai blynyddoedd yn ôl, jest i ni gael deall y gwahaniaeth ymarferol y mae Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn ei wneud i’r modd y mae Llywodraeth Cymru yn gwneud ei phenderfyniadau?Ac, yn ail, mi sonioch chi yn flaenorol eich bod chi wedi gofyn am waith i gael ei wneud i edrych eto ar y llwybr glas. A allwch chi ymhelaethu ar beth yn union ŷch chi wedi gofyn amdano fe, ac a allwch chi fod yn fwy manwl, efallai, ynglŷn ag union sgôp y gwaith yr ŷch chi wedi gofyn amdano fe? Ken Skates AC: Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau, a dweud ein bod yn falch iawn o'n deddfwriaeth i ddiogelu lles a rhagolygon cenedlaethau'r dyfodol. Ac wrth gwrs, o fewn y ddeddfwriaeth, ceir amcan hanfodol o sicrhau bod gennym dwf cynaliadwy, economaidd o fewn ein gwlad; bod gennym gymunedau mwy cyfartal, a chymdeithas fwy cyfartal. Er mwyn gwneud hynny, mae'n rhaid inni sicrhau bod swyddi gwell ar gael yn nes at adref, a lle nad yw’r swyddi hynny’n llythrennol yn nes at adref, bod pobl yn gallu eu cyrraedd yn gynt. Rwy'n gwbl ymwybodol o'r dyletswyddau o dan y Ddeddf lles i wella lles cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, ac yn wir les diwylliannol Cymru, a byddaf yn ystyried y dyletswyddau hyn wrth wneud y penderfyniad am y prosiect M4, fel y byddaf ar benderfyniadau sy’n ymwneud â’r metro a’n rhwydweithiau trafnidiaeth ehangach ledled Cymru, boed hynny ar yr A55, yr A494, yr A483, neu'r A5—ein holl rwydwaith cefnffyrdd, a’n holl seilwaith trafnidiaeth.Cafodd adroddiad ei gyhoeddi ym mis Mawrth, a oedd yn ystyried sut y mae prosiect yr M4 yn cyd-fynd ag amcanion y Ddeddf lles, a byddai prosiect yr M4 yn creu cyfleoedd i wella, fel y dywedaf, ffyniant economaidd y rhanbarth, yn ogystal â helpu i greu cymuned iachach a mwy cydlynol. Mae effeithiau posibl y cynllun wedi’u cydbwyso â chyfleoedd sy'n cyd-fynd â’r nodau lles cyn belled ag y maent wedi’u datblygu ar hyn o bryd, ac, felly, ystyrir bod y cynllun yn cyd-fynd ag egwyddorion datblygu cynaliadwy Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, wedi dweud hynny, bydd yr ymchwiliad yn adolygu cydymffurfiad y cynigion â Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Ac, o ran y gwaith manwl pellach ar y llwybr glas, byddwn yn fwy na hapus i gyhoeddi’r hyn y mae’r gwaith hwnnw'n ei olygu er mwyn i bob Aelod allu craffu ar hwnnw hefyd. Ac yn olaf, Jayne Bryant. Jayne Bryant AC: Diolch, Lywydd. A gaf i groesawu datganiad Ysgrifennydd y Cabinet am gam nesaf ffordd liniaru arfaethedig yr M4? Mae'n bwnc sy'n ennyn safbwyntiau cryf fel yr ydym i gyd wedi’i glywed heddiw, ac nid wyf yn amau ​​didwylledd y safbwyntiau hynny am eiliad. Rwy'n falch bod yr ymchwiliad cyhoeddus wedi cael ei gyhoeddi yn gynnar yn y pumed Cynulliad, oherwydd hoffwn annog yn gryf bod y cyhoedd yn ymgysylltu gymaint â phosibl â'r broses. A allai Ysgrifennydd y Cabinet fy sicrhau y cymerir pob cam rhesymol i roi cyhoeddusrwydd eang i’r ymchwiliad, ac y sicrheir ei fod ar gael yn rhwydd i bawb sydd â budd? Mae angen inni glywed ac ystyried yr ystod eang o farn y cyhoedd.Fel un sy’n defnyddio'r M4 yn rheolaidd, ac un o drigolion Casnewydd, rwy’n gwybod beth yw'r gwirionedd ar gyfer fy nghymuned ac rwy’n deall pwysigrwydd hyn i Gymru. Y darn o’r ffordd rhwng cyffordd 24 a chyffordd 29 yw’r rhan â’r traffig trymaf yng Nghymru. Gallai llawer sy'n dod i mewn dros bont Hafren golli’r arwydd 'Croeso' a chael eu croesawu yn hytrach gan rai sy'n dweud 'Ciwiau o’ch blaen'. Nid yw ein traffordd bresennol o gwmpas twneli Brynglas yn addas i'w diben, ac rwy'n siŵr pe byddem yn gofyn i lawer o bobl gysylltu geiriau â thwneli Brynglas, byddai'r rhan fwyaf yn dweud ‘ciwiau’, 'tagfa' ac 'anhrefn traffig'. Yn sicr, nid dyna sut yr hoffwn i i Gasnewydd gael ei hadnabod, ac yn bendant nid dyna sut yr hoffwn i i’r brif ffordd i mewn i Gymru gael ei hadnabod. Mae realiti’r sefyllfa hon yn golygu bod ffordd liniaru i'r M4 yn hanfodol, ac rwy’n credu y dylai'r ddanhadlen fod wedi ei gwasgu flynyddoedd lawer yn ôl. Rwy'n falch, yn natganiad yr Ysgrifennydd Cabinet, y caiff dewisiadau eraill eu hystyried, ond hefyd y caiff y dewis o wneud dim byd hefyd ei ystyried.Felly, hoffwn ddweud i derfynu na wnaiff y broblem ddiflannu os ydym yn claddu ein pennau. Nid yw diffyg gweithredu yn opsiwn. Ni all Casnewydd gynnal dyfodol o dagfeydd traffig cythreulig a llygredd, ac ni all Cymru barhau â’r rhwystr hwn yn ein prif wythïen economaidd. Ken Skates AC: Hoffwn ddiolch i'r Aelod a dweud fy mod yn cytuno’n llwyr â hi. O ran sicrhau bod pobl yn cael cyfle i gyfrannu at yr ymchwiliad, rwy’n meddwl yn ôl pob tebyg bod llawer o bobl wedi blino braidd o glywed gwleidyddion mewn unrhyw amgylchedd yn dadlau am rinweddau unrhyw brosiect penodol, ac yr hoffent allu cyfrannu at y drafodaeth eu hunain, gan wybod bod arolygydd annibynnol yn goruchwylio'r broses honno. Felly, rwy'n awyddus iawn, fel yr Aelod, i sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn cymryd rhan yn yr ymchwiliad hwn, ac, o'm rhan i, byddaf yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru’n ei hyrwyddo gymaint ag y bo modd ac yn annog pobl a sefydliadau a grwpiau, a'r holl randdeiliaid i gyfrannu, pa un a ydynt yn ei wrthwynebu, yn niwtral, ynteu’n ei gefnogi.O ran effaith yr M4 o amgylch Casnewydd ar y wlad, mae’r Aelod yn iawn i ddweud bod hon yn ddanhadlen sydd wedi cael ei hosgoi ers cryn amser. Mae'r broblem wedi bod yno nid yn unig am y blynyddoedd diwethaf, ond am y degawdau diwethaf ac mae'n bryd inni roi sylw iddi, gwasgu’r ddanhadlen a datrys y broblem. Mae'r M4 yn wythïen allweddol i mewn ac allan o'r wlad i dros 70 y cant o boblogaeth Cymru ac, yn wir, mae'n hanfodol i’n lles economaidd hefyd. Mae'n hanfodol ein bod yn ymdrin â'r tagfeydd a welwn yng Nghasnewydd a'r cyffiniau a sicrhau bod gennym rwydwaith traffyrdd modern ar gyfer y de sy'n addas ar gyfer y dyfodol. Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet. 6. 5. Datganiad: Cynnydd o ran Gweithredu Deddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 Rŷm ni’n symud ymlaen i’r eitem nesaf, sef datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar gynnydd o ran gweithredu Deddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant, i wneud y datganiad. Carl Sargeant AC: Diolch, Lywydd. Mae'n fraint imi gael ymgymryd unwaith eto â’r agenda bwysig hon i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Rwy’n falch mai fi oedd y Gweinidog â chyfrifoldeb am ddatblygiad cynnar y Bil, a bu fy nghydweithwyr Lesley Griffiths a Leighton Andrews yn llwyddiannus wrth barhau â’r cyfrifoldeb hwnnw.Ym mis Mehefin 2014, cafodd Llywodraeth Cymru achrediad Rhuban Gwyn ac mae sawl cennad Rhuban Gwyn yn y Cabinet, ac rwy’n falch o fod wedi bod yn un ers blynyddoedd lawer. Diben y Ddeddf yw gwella camau atal, diogelu a chefnogi i bobl sydd wedi'u heffeithio gan drais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac rydym yn gwneud cynnydd da o ran ei gweithredu. I wella ymyrraeth gynnar, mae'n hanfodol bod gweithlu’r sector cyhoeddus yn gallu nodi cam-drin a darparu cymorth a chefnogaeth i ddioddefwyr.Ym mis Mawrth, cyhoeddwyd y fframwaith hyfforddi cenedlaethol. Mae'n nodi gofynion hyfforddi ar gyfer pob swyddogaeth o fewn y gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys hyfforddiant codi ymwybyddiaeth i’r holl staff, helpu gweithwyr proffesiynol i ymdrin â datgeliadau am gam-drin, a sicrhau bod hyfforddiant cyson ar gael i weithwyr proffesiynol arbenigol. Rhan allweddol o'r fframwaith yw'r pecyn e-ddysgu a gyhoeddwyd fis Medi diwethaf. Bydd yr e-ddysgu yn codi ymwybyddiaeth tua 0.25 miliwn o weithwyr gwasanaeth cyhoeddus Cymru dros y ddwy flynedd nesaf.Rydym hefyd wedi cyflwyno 'gofyn a gweithredu'. Mae hyn yn gofyn i weithwyr proffesiynol fel ymwelwyr iechyd a swyddogion tai adnabod symptomau cam-drin a gofyn i gleientiaid a ydynt yn cael eu cam-drin. Mae'n ofynnol iddynt gynnig atgyfeiriadau, ymyraethau a chymorth arbenigol gan ddibynnu ar yr hyn sydd ei angen. Mae hwn yn brosiect pum mlynedd a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac mae’n cael ei gael ei dreialu mewn dwy ran o Gymru. Rydym wedi cael adborth cadarnhaol iawn ar y prosiect hwn.I'n helpu mewn gwirionedd i atal trais yn erbyn menywod yn y dyfodol, mae'n rhaid inni ganolbwyntio ar blant, i wneud yn siŵr eu bod yn deall beth yw perthynas iach a sut i adnabod symptomau perthynas nad yw’n iach. Hyd yn hyn rydym wedi cyhoeddi canllaw ymagwedd addysg gyfan at arfer da, a gynhyrchwyd gan Gymorth i Fenywod Cymru, a chanllaw codi ymwybyddiaeth i lywodraethwyr ysgol a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2016. Rydym hefyd wedi cynnal cynhadledd addysg genedlaethol ar y cyd.Bydd canllawiau statudol ar addysg yn gwneud i awdurdodau lleol ddynodi aelod o staff ar gyfer hyrwyddo materion trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol mewn ysgolion a lleoliadau eraill. Ein nod yw cyhoeddi'r rhain erbyn diwedd y flwyddyn. Rydym hefyd wedi comisiynu Cymorth i Fenywod Cymru i ddatblygu pecyn o ddeunyddiau arfer gorau i ymwneud â'r materion hyn, i'w defnyddio mewn lleoliadau addysg ledled Cymru. Bydd y rhain hefyd yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir.Mae angen i wasanaethau cyhoeddus weithio gyda'i gilydd i amddiffyn pobl sy'n profi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol rhag dioddef unrhyw niwed pellach, ac amddiffyn unrhyw aelod o'r teulu a phlant.Yn 2015-16 cafodd ein cyllideb ar gyfer dileu trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ei chynyddu i £5.4 miliwn ac nid yw wedi ei newid ar gyfer 2016-17. Rydym hefyd wedi cymryd camau sylweddol i leihau nifer yr achosion o anffurfio organau cenhedlu benywod, priodasau dan orfod a thrais yn seiliedig ar anrhydedd, ac i amddiffyn y dioddefwyr.Ar gyfer y dyfodol, rydym yn gwybod mai rhan fawr o ymdrin â thrais yn erbyn menywod fydd ymdrin â drwgweithredwyr. Rydym yn gweithio gyda'r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol a'r cynghorydd cenedlaethol ar ganllawiau ar ddrwgweithredwyr. Rydym hefyd yn gweithio gyda dioddefwyr a goroeswyr i'n helpu i lunio ein hymagwedd barhaus.Rydym yn parhau i gefnogi'r wefan Byw Heb Ofn, sy'n darparu adnodd cynhwysfawr ar gyfer dioddefwyr, goroeswyr, teuluoedd a ffrindiau a gweithwyr proffesiynol. Mae'r wefan yn cefnogi gwaith y llinell gymorth o ran darparu cyngor a chyfeirio.Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno nifer o ymgyrchoedd uchel eu proffil i godi ymwybyddiaeth a newid agweddau yn y flwyddyn ddiwethaf. Mae hyn yn cynnwys ymgyrch arobryn Croesi’r Llinell, sy'n ymdrin â cham-drin emosiynol. Cafodd yr ymgyrch hon wobrau aur ac arian yng ngwobrau’r Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus fis Hydref diwethaf. Rwy’n bwriadu adeiladu ar y llwyddiant yn 2016-17.Rydym hefyd wedi gwneud cynnydd sylweddol, ond mae llawer mwy i'w wneud. Byddwn yn ymgynghori ar y strategaeth genedlaethol, gan gynnwys mesurau perfformiad a chynnydd, a fydd yn sail i fframwaith ar gyfer darparu gwasanaethau ar lefel ranbarthol. Ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda'r cynghorydd cenedlaethol, Rhian Bowen-Davies, ar ôl cwrdd â hi yr wythnos diwethaf, a gyda sefydliadau’r sector cyhoeddus a mudiadau'r trydydd sector, a gyda dioddefwyr a goroeswyr i barhau â'r gwaith rhagorol sydd wedi’i wneud hyd yn hyn i gyflawni ein gweithgareddau i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod. Llefarydd Plaid Cymru, Sian Gwenllian. Siân Gwenllian AC: Diolch yn fawr iawn, a diolch am y diweddariad yna. Wrth gwrs, rydych chi’n cydnabod fan hyn bod y grant canolog wedi cael ei gynyddu, ond, wrth gwrs, mae llawer o gyllid ar gyfer y maes yma, ar gyfer cymorth i ferched, ar gyfer y llochesu, yn dod drwy’r awdurdodau lleol, ac mae’r awdurdodau lleol wedi gwynebu toriadau ariannol flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae rhai o’r gwasanaethau yma yn dioddef o doriadau sy’n amrywio o rhwng 3 y cant ac 20 y cant, ac mae yna ambell i enghraifft o doriadau o hyd at 70 y cant yn y gwasanaeth cymorth i ferched mewn rhai rhannau o Gymru, yn anffodus. Mae hyn yn arwain at sefyllfa enbydus ar adegau, ac, yn ystod 2015, mi oedd yn rhaid i Gymorth i Ferched wrthod gwasanaeth i 284 o ferched oherwydd nad oedd yna lle yn y llochesu a dim arian ar gyfer cynnal y gwasanaeth. Sut, felly, ydych chi’n bwriadu gweithredu’r fframwaith yn y maes yma yn wyneb y ffasiwn ddiffyg adnoddau a chyllid, a beth ydy strategaeth ariannol y Llywodraeth? A gaf i jest droi at ddau fater arall hefyd? Mae Plaid Cymru wedi bod yn pwysleisio addysg berthynas iach a’r angen i fod yn cynnal hynny ac yn lledaenu hynny fel agwedd gyfan tuag at y broblem ddwys yma. Sut ydych chi’n mynd i fod, rŵan, yn monitro gweithredu’r canllawiau sydd wedi cael eu cyhoeddi i wneud yn siŵr bod y maen yn mynd i’r wal yn y maes yna? Rwy’n sylwi nad ydych chi ddim yn sôn am un agwedd bwysig iawn yn y maes yma, sef y mater o wahardd taro plant, a phenderfyniad y Llywodraeth yn y Cynulliad diwethaf oedd peidio â chynnwys dileu’r amddiffyniad cosb resymol, oedd yn drueni mawr oherwydd fe fyddai wedi rhoi gwarchodaeth gyfartal i blant o fewn y gyfraith. Mae yna arwydd, bellach, bod eich Llywodraeth chi yn barod i ailystyried y mater yma, diolch i bwysau gan fy mhlaid i, felly buaswn i’n hoffi gwybod beth ydy’r camau a beth ydy’r amserlen ar gyfer gwneud hyn, achos mae o’n fater sydd yn hollbwysig ar gyfer ein plant ni yn y dyfodol. Carl Sargeant AC: Diolch i'r Aelod am ei chyfraniad. Dylai hi fod yn ymwybodol mai hwn yw'r ail dro imi fod yn y portffolio hwn ac rwyf wedi gweithio gyda llawer o grwpiau i gynyddu'r cyfleoedd sydd gennym, gan weithio gyda'r Llywodraeth i sicrhau ein bod yn ymdrin â'r materion hyn. Croesawaf y cyfle i weithio gyda'r Aelod mewn ffordd fwy adeiladol yn y dyfodol hefyd. Rwy'n credu y byddai o gymorth fodd bynnag i’r Aelod edrych yn fwy manwl ar rai o'r materion y mae’n eu codi gyda mi heddiw. Wrth gwrs, fe wnes i ddweud wrth yr Aelod ein bod ni, yn 2015-16, wedi cynyddu'r gyllideb ar gyfer ymdrin â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i £5.4 miliwn. Nid yw hynny wedi’i newid ar gyfer 2016-17. Mae’r Aelod yn iawn i godi'r mater o ymyrraeth gan awdurdodau lleol, ond mae cynifer o chwaraewyr eraill hefyd, a'r mater ynglŷn â’r grant Cefnogi Pobl ynglŷn â llochesau yn arbennig—rydym yn gweithio gyda Cefnogi Pobl, sy'n dyroddi swm sylweddol o arian i fudiadau trydydd sector ac yn wir i gymdeithasau tai hefyd, sydd hefyd yn bartneriaid yn hyn. Rwyf eisoes wedi siarad â thri o'r pedwar comisiynydd heddlu a throseddu ledled Cymru, ac rwy’n gwybod eu bod hwythau’n awyddus iawn i ymuno â ni i ymdrin â rhai o'r materion y mae'r Aelod yn eu codi.Hefyd, efallai fod yr Aelod wedi defnyddio iaith anffodus braidd o ran yr amddiffyniad cosb resymol. Bydd y Llywodraeth hon yn deddfu ar amddiffyniad cosb resymol yn ystod tymor y Llywodraeth hon, a fi fydd yn mynd â’r ddeddfwriaeth honno drwodd. Rwy'n edrych ymlaen at gefnogaeth yr Aelod wrth inni symud ymlaen. Mae yna lawer o eitemau cymhleth wrth ymdrin â'r materion hyn, a rhai o'r blaenoriaethau y mae fy nhîm i eisoes wedi dechrau gweithio arnynt, ac y byddaf yn ymwneud â hwy gyda chydweithwyr ar draws y Llywodraeth, yw pethau fel profiadau niweidiol plentyndod, neu ACEs yn gryno, sy’n cael effaith enfawr ar y ffordd y mae pobl yn tyfu'n oedolion ac effeithiau hynny. Rydym hefyd yn gweld rhai rhaglenni gwych eisoes ar waith ar ffurf arbrofol ledled Cymru—mae’r rhaglen IRIS, a ddechreuodd ym Mryste, bellach yn cael ei chyflwyno ar draws llawer o feddygfeydd teulu Caerdydd, lle’r ydym yn gweld atgyfeiriadau tro cyntaf yn cynyddu'n sylweddol, o ddydd i ddydd, sy'n ymddangos yn drasig, ond mewn gwirionedd mae'n newyddion gwych ein bod yn gweld bod gan bobl y gallu a'r hyder i gael cymorth yn y sefyllfa drasig y maent yn canfod eu hunain ynddi. Mae gennym wasanaethau dan arweiniad iechyd IDVA yn cael eu cyflwyno ledled Cymru, a hefyd y mater yn ymwneud â rhaglen drwgweithredwyr sy'n cael ei chynnal yn Essex a Sussex, ac mae comisiynydd heddlu a throseddu de Cymru yn edrych ar y rhaglen ‘Drive’, a ddylai fod, unwaith eto, yn rhywbeth y dylem feddwl amdani—sut yr ydym yn gwneud yn siŵr bod y rhaglenni hyn yn gyson ledled Cymru? Joyce Watson AC: Unwaith eto, rwy’n falch o’ch croesawu yn ôl i swyddogaeth, Weinidog—neu Ysgrifennydd—y gwn eich bod yn teimlo’n angerddol ynglŷn â hi. Mae angerdd yn chwarae rhan, wrth gwrs, ar y ddwy ochr i’r ddadl hon. Hoffwn dynnu eich sylw at angerdd i wneud rhywbeth cadarnhaol am hyn, a hoffwn, yma, ganmol gwaith ysgol Coedcae yn Llanelli, o ble y daeth y disgyblion yma i gyflwyno eu cynllun gweithredu a’u dealltwriaeth yn eu hymgyrch Rhuban Gwyn ddwy flynedd yn ôl. Roeddent wedi creu drama—hynny yw, roedd y disgyblion wedi creu drama lle’r oeddent yn chwarae’r prif rannau yn y ddrama honno ac yn trafod yr holl oblygiadau sy’n gysylltiedig â phob agwedd ar gam-drin domestig a thrais yn y cartref. Daeth y Gweinidog addysg ar y pryd, Huw Lewis, draw i'r ysgol, ac rwy'n eich gwahodd chi, Weinidog, gan obeithio y gwnewch achub ar y cyfle i ddod draw hefyd, oherwydd mae’n enghraifft wirioneddol o waith grŵp a arweinir gan gyfoedion o fewn ysgol ac mae'n bendant yn fodel o arfer gorau.Ar y llaw arall, cynhaliais arolwg o fyfyrwyr ddwy flynedd yn ôl, gan ofyn nifer fechan iawn o gwestiynau sylfaenol am, 'Ydych chi erioed wedi gweld neu a ydych chi erioed wedi bod yn dyst, a sut ydych chi'n teimlo am wahanol lefelau o drais?' Cefais fy syfrdanu a fy siomi pan ddywedodd 50 y cant o'r rhai a ymatebodd eu bod, ac roedd 50 y cant—ac nid oedd o bwys mewn gwirionedd a oeddent yn wrywod neu'n fenywod—yn meddwl ei bod yn eithaf derbyniol i wryw daro ei gariad neu ei bartner drwy roi slap syml iddi. Dyna oedd yr atebion a gefais. Felly, pan ein bod yn dweud bod angen i ni edrych ar hyn a deddfu, mae hynny’n gywir, ond yr hyn sy’n gwbl angenrheidiol—a dyma lle’r wyf yn llwyr gefnogi’r gwaith gyda phobl ifanc a phlant—yw newid agweddau. Oherwydd mae yma angen uniongyrchol am newid agwedd a ddaeth allan o fy arolwg, ac roedd yn gwbl syfrdanol imi.Wrth gwrs, yr hyn yr ydym yn sôn amdano mewn gwirionedd wrth sôn am newid calonnau a meddyliau—rydym yn sôn am yr agenda parch, bod pobl wir yn parchu ei gilydd, beth bynnag yw eu hoed, beth bynnag yw eu rhywedd. Ac mae hynny'n dod â mi'n daclus, rwy’n meddwl, at faes nad yw yn ôl pob tebyg yn cael llawer iawn o sylw, sef maes perthnasoedd o'r un rhyw. Mae'n beth gwych erbyn hyn y gall pobl gael perthynas o'r un rhyw yn agored heb ddim ofn dial gan y gymdeithas ehangach, ond nid wyf mor argyhoeddedig bod y cyplau hynny’n teimlo’r un rhyddid i ddod ymlaen a mynegi, ac a oes pobl wedi’u hyfforddi mewn gwirionedd i helpu’r cyplau hynny, pan eu bod yn profi cam-drin domestig.Yn olaf, hoffwn wybod, Weinidog, beth yr ydych chi'n mynd i'w wneud am fonitro cynnydd. Mae'n wych ein bod yn arwain y byd yn y maes hwn, ond mae angen inni fonitro’r cynnydd i sicrhau bod yr hyn yr ydym yn ceisio arwain arno yn cael ei ddarparu mewn gwirionedd. Mae'n wych ein bod yn gosod hyrwyddwyr yma ac acw, ond beth yn union y maen nhw'n ei wneud? A fyddwn ni'n gwybod beth y maent yn ei wneud, ac i bwy y maent yn atebol, ac am beth y maent yn atebol amdano mewn gwirionedd?Hefyd, clywais y stori nawr am ostyngiadau 70 y cant gan un awdurdod yn y gyllideb y maent yn ei rhoi i Gymorth i Fenywod. Rwy'n meddwl bod hynny'n warthus. Penderfyniad gwleidyddol yw hwnnw, ac mae angen iddynt ystyried hynny o fewn eu hawdurdod lleol eu hunain. Ond mae'r Bil tai mewn gwirionedd yn caniatáu rhyddhau rhai o'r lleoedd hynny. Unwaith eto, o ran yr un peth am fonitro cynnydd, a ydych chi wedi edrych ar ba un a oes unrhyw un o'r cymdeithasau tai neu’r awdurdodau lleol yn bwrw ymlaen â'r ddarpariaeth sydd ganddynt bellach yn y Bil tai sy’n dweud wrthynt mewn gwirionedd y cânt, pan fo’n ddiogel, symud y drwgweithredwr, nid y dioddefwr? Carl Sargeant AC: Diolch i'r Aelod am ei chyfraniad. Unwaith eto, Joyce Watson, diolch i chi am eich cyfraniad i'r rhaglen hon hefyd—mae eich gwaith chi wedi cael cydnabyddiaeth ryngwladol. Felly, drwy weithio gyda'n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth mawr yn hyn o beth, fel y mae llawer o bobl eraill yn y maes yn ei wneud hefyd.Mae'r Aelod yn codi rhai pwyntiau diddorol iawn. Rwy’n ymwybodol o'r ysgol yn Llanelli a’r ddrama a gyflwynwyd ganddynt, oherwydd, er eich bod wedi gwahodd Huw Lewis i fod yn bresennol, rwy’n teimlo fy mod yn cofio cael rhywfaint o ymyrraeth hefyd yn y broses honno. Hoffwn longyfarch y bobl ifanc, sy’n adeiladu ar berthnasau iach, oherwydd dyna beth yr wyf i'n ei gredu. Mae'r portffolio cymunedau wedi ei wella gan ei fod nawr yn cynnwys cyfrifoldeb penodol dros blant a phobl ifanc, oherwydd rwyf yn credu, os gallwn wneud rhai ymyraethau cynnar ar berthnasoedd iach ar oedran ifanc, mae'n paratoi pobl am y tymor hir mewn bywyd. Rwy'n hynod o falch o allu gweithio gyda fy nghyd-Ysgrifenyddion Cabinet o ran sut y gallwn weithio ar y cyd ar yr un agenda hon o les yn ein cymunedau, gan ddechrau â phobl ifanc.Mae’r mater y mae’r Aelod yn ei godi ynglŷn â thai, yn benodol, yn faes arall y mae gen i ddiddordeb mawr ynddo. Mae’r ffordd y gall y sector tai gefnogi'r union fater hwn wedi cael argraff dda iawn arnaf erioed. Rwy’n cofio, yn ôl yn y portffolio flynyddoedd lawer yn ôl pan ofynnais i i'r cymdeithasau tai gyflwyno polisïau seiliedig ar waith a pholisïau seiliedig ar gleientiaid ar gyfer trais domestig, bod bron bob un ohonynt wedi gwneud hynny. Roedd un ychydig yn heriol, ond, wedi inni siarad am arian, gwnaethant benderfynu mai syniad doeth yn ôl pob tebyg fyddai symud i mewn i'r gofod hwnnw am y rhesymau cywir. Nawr, mae gan yr holl gymdeithasau tai ledled Cymru bolisïau sy'n seiliedig ar waith yn ymwneud â thrais yn y cartref, ac ar gyfer eu cleientiaid hefyd. Felly, maen nhw'n gallu dylanwadu a gwneud rhagor o waith. Mae'r rhaglen 'gofyn a gweithredu' y maent yn cymryd rhan ynddi yn rhywbeth sydd, unwaith eto, yn parhau i fod yn unigryw i Gymru mewn lleoliad byd-eang. Felly, rydym yn gwneud peth gwaith clyfar iawn.O ran perthynas o'r un rhyw: rwy’n rhannu eich pryder, ac yn benodol, gwelsom y digwyddiadau trasig a ddigwyddodd yn Orlando yr wythnos diwethaf—yn dweud nad ydym o hyd, nad yw pobl o hyd, yn derbyn yr hyn sy'n hollol naturiol i’r hyn a welwn mewn bywyd bob dydd, a sut yr ydym yn sicrhau bod gwasanaethau’n cyd-fynd â'i gilydd i gefnogi pobl sy'n dewis byw mewn perthynas cwpl o'r un rhyw? Mewn gwirionedd, nid dim ond mater o berthnasoedd priodasol yw trais yn y cartref: mae'n dadau a meibion, mamau a merched, a chymysgedd gyfan o'r modd y mae’r digwyddiadau hyn yn digwydd. Mae'n rhaid inni fod yn glyfar iawn yn y ffordd yr ydym yn edrych a sut yr ydym yn cefnogi pobl yn eu rhaglenni datgelu.Rwy'n awyddus iawn i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud cynnydd ar hyn. Rwy'n credu bod rhai pobl yn y sector—rhai o fy swyddogion i, hyd yn oed—a oedd yn meddwl, 'O na, mae e'n ôl'. Wel, rwyf yn ôl a gadewch inni obeithio y gallwn weithio gyda'n gilydd i wneud yn siŵr y gallwn wneud newidiadau gwirioneddol—gwneud rhywbeth yn angerddol er lles a diogelwch pobl ar draws ein cymunedau. Byddwn yn gwneud hynny drwy weithio gyda'r strategaeth genedlaethol, yr ymgynghorydd cenedlaethol a dangosyddion cenedlaethol, a gweithio gyda'r egwyddorion y gwnaethom eu rhoi gosod yn y Llywodraeth y tymor diwethaf am Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, gan wneud yn siŵr y gallwn gynllunio ar gyfer y dyfodol, gan weithio gyda'n pobl ifanc, ac annog ac addysgu pobl am berthnasoedd iach. Mae hynny'n rhywbeth y gwn, o weithio gyda chi a llawer yn y Siambr hon, y gallwn ei gyflawni. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Mark Isherwood. Mark Isherwood AC: Diolch. Rwy’n meddwl, pan oedd y portffolio hwn gennych ddiwethaf, mai gennyf i oedd portffolio’r wrthblaid, ac rwy'n dal i fod y llefarydd ar ran fy mhlaid ar y mater hwn. A gaf i ddechrau drwy roi clod i bobl nad ydynt yma: Jocelyn Davies, a arweiniodd ar hyn dros Blaid Cymru yn y Cynulliad diwethaf, a Peter Black, dros y Democratiaid Rhyddfrydol, a weithiodd gyda mi i gryfhau'r Bil gyda'r Gweinidog, yn enwedig ar y diwedd? Bydd y rhai ohonoch a oedd yma yn cofio yn yr wythnosau olaf hynny, yn enwedig yr wythnos olaf, faint o straen oedd ar bethau, oherwydd ein bod ni fel aelodau'r pwyllgor a fu'n craffu arno yng Nghyfnod 1 wedi dweud y dylai'r Gweinidog ddiwygio'r Bil i ddarparu ar gyfer rhaglenni addysg priodol i oedrannau yn orfodol drwy’r ysgol gyfan ar berthnasoedd iach, ac roedd hi’n Gyfnod 3 a ninnau’n dal i fod heb lwyddo i wneud hynny. Cyflwynodd y Gweinidog rai consesiynau a alluogodd y Bil i fynd drwodd gyda chefnogaeth unfrydol yng Nghyfnod 4.Heddiw, gwnaethoch gyfeirio at y dull addysg gyfan, y canllaw arfer da, y gynhadledd addysg genedlaethol, a chanllawiau statudol ar addysg i wneud i awdurdodau lleol ddynodi aelod o staff at ddiben hyrwyddo trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a materion trais rhywiol mewn ysgolion a lleoliadau eraill. Yng Nghyfnod 3 a 4 roedd y Gweinidog wedi dweud y byddai’r canllawiau statudol wedyn yn darparu neu'n cynnwys darpariaethau ar gyfer dulliau megis sut y gall ysgolion fwrw ymlaen ag ymagwedd ysgol gyfan drwy benodi hyrwyddwyr staff, disgyblion a llywodraethwyr, ac nad oes eu hangen felly. A allwch chi gadarnhau felly y bydd hyn yn gwneud i awdurdodau lleol gyflwyno’r hyrwyddwr staff hwnnw? Ond hefyd, a allech chi efallai ymateb i’r hepgoriad yma, neu ei ddatblygu, o ran plant a llywodraethwyr, y cyfeiriodd eich rhagflaenydd atynt hefyd yn y cyd-destun hwn?Cyfeiriasoch at ddatblygu pecyn o arfer gorau i’w ddefnyddio mewn lleoliadau addysg ledled Cymru. Dywedodd y Gweinidog yng Nghyfnod 4, a dyfynnaf:gofynnodd Mark Isherwood yn benodol am sut yr ydym yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y cwricwlwm ac am weithredu adolygiad Donaldson,ac rydych chi'n cynnig datblygu addysg perthynas iach o fewn y cwricwlwm a ddilynir gan bob ysgol. Dywedodd eich rhagflaenyddmae hynny'n sicr yn rhywbeth yr hoffwn fod yn adrodd arno.Felly, tybed a allech chi ychwanegu sylwadau yng nghyd-destun argymhellion adolygiad Donaldson.Rydych yn dweud, ar gyfer y dyfodol, ein bod yn gwybod mai rhan fawr o ymdrin â thrais yn erbyn menywod fydd ymdrin â drwgweithredwyr, a’n bod yn gweithio gyda'r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol a'r cynghorydd cenedlaethol ar ganllawiau ar ddrwgweithredwyr. Wel, unwaith eto yng Nghyfnod 4, dywedodd y Gweinidog blaenorol:gallaf hefyd addo i Mark Isherwood, o ystyried ei bwysau parhaus drwy gydol y broses hon ar bwysigrwydd rhaglenni drwgweithredwyr, y byddwn, wrth gwrs, yn adrodd ar y rheini hefyd, lle maent yn gweithredu, gan gadw mewn cof bod yr ymchwil yn y maes hwn yn dal i gael ei ddatblygu a bod angen inni sicrhau ein bod yn rhoi rhaglenni ar waith sy'n gweithio mewn gwirionedd.'Yn fy nghyfraniadau rwyf wedi cyfeirio, er enghraifft, at waith Relate Cymru a’u rhaglen drwgweithredwyr wirfoddol, a ganfu bod 90 y cant o'r partneriaid y maent yn eu holi, weithiau ar ôl diwedd y rhaglen, yn dweud bod trais a brawychu gan eu partner wedi stopio’n gyfan gwbl. Rwyf wedi cyfeirio hefyd at wybodaeth ac arbenigedd sefydliad sy’n agos at eich calon chi, sef yr uned diogelwch cam-drin domestig ar Lannau Dyfrdwy. Tybed a allwch chi roi sylwadau ynglŷn â pha un a allech, neu sut y gallech, ymestyn eich gwaith â hyn i gynnwys sefydliadau felly, er mwyn gallu manteisio ar yr arbenigedd rheng flaen sydd eisoes ganddynt hwy a'u sefydliadau partner.Roedd yr adroddiad pwyllgor Cyfnod 1 yn y Cynulliad diwethaf yn argymell y dylai'r ddeddfwriaeth sicrhau bod gwasanaethau wedi’u teilwra i briod anghenion penodol dynion a menywod. Dyfynnais ar y pryd yr uned diogelwch cam-drin domestig yn Sir y Fflint, a oedd wedi rhoi llyfryn imi, llyfryn fforwm iechyd dynion, a oedd yn dweud ei bod yn bwysig cydnabod bod dynion yn dioddef trais yn y cartref fel dioddefwyr ac fel drwgweithredwyr, a chyfeiriais at adroddiad 'Hidden in Plain Sight' Barnardos ar gamfanteisio'n rhywiol ar fechgyn a dynion ifanc. Dywedasant fod hyn yn dechrau ymdrin â'r bwlch a grëwyd gan y pwyslais ar ddioddefwyr benywaidd heb roi llawer o sylw i wrywod. Wel, bu galw am ddulliau rhyw-benodol ar gyfer menywod, wrth gwrs, ond hefyd ar gyfer dynion.Yng Nghyfnod 4 dywedais y byddwn yn ceisio gweld sut yr oedd y Gweinidog yn datblygu ei addewidion yn hyn o beth. A allech chi roi sylwadau am yr addewidion a wnaeth eich rhagflaenydd yn hyn o beth, ac am sut y gallech edrych ar hyn yn y dyfodol?Fy mhwynt olaf: ar y cam hwnnw nodais hefyd bryder nad oedd y newid enw o gynghorydd 'gweinidogol' i 'genedlaethol' yn ôl pob golwg yn ddim mwy na hynny—newid enw. Mae’r Gweinidog wedi cydnabod cyn hyn yr hyn y cyfeiriodd atynt fel anghysondebau o fewn y Bil a grëwyd gan y newid enw, gan ddatgan ei fwriad i egluro’r rhain. Unwaith eto, a allech chi gadarnhau pa un a ydych chi wedi ymdrin â’r anghysondebau hynny, neu sut y byddwch yn gwneud hynny? Diolch. Carl Sargeant AC: Diolch i Mark Isherwood am ei gwestiwn. Ni allaf roi sylwadau am benderfyniadau’r cyn- Weinidog a'i dystiolaeth yng nghyfnod y pwyllgor. Yr hyn y gallaf ei wneud yn sicr yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau, sef yr hyn yr wyf yn gobeithio ei wneud heddiw, o ran sut yr ydym ni'n bwrw ymlaen â'r Bil a'r cysyniadau y tu ôl i hynny a'i weithredu, a chredaf fod hynny’n rhan bwysig iawn o hynny. Mae’r Aelod yn iawn i sôn am ganllawiau statudol. Efallai y byddai’r Gweinidog blaenorol wedi dweud ei fod yn gallu ysgogi newid; fy nhybiaeth fydd y bydd yn ysgogi newid, a byddaf yn gwneud yn siŵr bod hynny’n glir iawn mewn canllawiau statudol a gyhoeddir ynglŷn â’r hyfforddiant ar gyfer rhai aelodau staff a llywodraethwyr byrddau.Rwyf eisoes wedi dechrau trafodaethau cynnar gyda Kirsty Williams ynghylch adolygiad Donaldson a’r argymhellion ynglŷn â hwnnw, oherwydd fy marn i yw nad yw perthynas iach ac addysgu perthynas iach yn ddewisol ar gyfer ysgolion. Dylem fod yn gwneud hyn o oed cynnar iawn. Rwyf wedi cyfarfod, ac rwy’n siŵr bod yr Aelod hefyd wedi cyfarfod, â llawer o ysgolion mewn ardaloedd cefnog—gadewch inni ddweud—nad ydynt yn credu bod problem â thrais yn y cartref yn eu cymuned o gwbl. Wel, mae'n lol llwyr. Mae trais yn y cartref yn gyffredin yn ein holl gymunedau. Nid yw'n seiliedig ar ddosbarth a gall ddigwydd i unrhyw un. Dyna pam, rwy’n meddwl, nad yw perthynas iach ar draws y sector cyfan, ein holl ysgolion, yn ddewisol. Rwy'n ddiolchgar iawn am y gwaith, eisoes, y mae Kirsty Williams yn ein helpu i’w ddatblygu o ran hyfforddiant. Byddaf yn dod yn ôl i'r Siambr â mwy o fanylion pan fydd gennym hynny.Rhaglenni drwgweithredwyr—mae’n ddyddiau cynnar ar gyfer hyn. Mae gennyf dystiolaeth i weld sut y maent yn effeithiol. Ond mae gwaith Alun Michael, gyda chomisiynwyr heddlu eraill o Loegr, a dweud y gwir, wedi gwneud argraff dda iawn arnaf; mae tri awdurdod heddlu yno yn ymarfer yr ymgyrch 'Drive', fel y'i gelwir, gan weithio gyda thramgwyddwyr ar gyfraddau achosion uchel iawn. Maent eisoes yn gweld cynnydd gwych lle nad yw drwgweithredwyr weithiau’n sylweddoli eu bod mewn gwirionedd yn cael effaith ar eu partneriaid mewn unrhyw ffordd.Mae Mark Isherwood yn codi pwynt pwysig iawn, sydd eto’n agos at fy nghalon. Mae'n fater o siarad â phobl sydd wedi profi hyn mewn gwirionedd. Anghofiwch y—rwy’n meddwl y dylem ddefnyddio gwaith academyddion a'r gwasanaeth sifil, sy’n gwybod llawer am hyn; ond y bobl go iawn sy'n gwybod am hyn yw'r bobl y mae hynny wedi effeithio arnynt. Pobl fel ffrind da i mi, Rachel Court, neu Rachel Williams, a saethwyd yng Nghasnewydd gan ei chyn ŵr, ac a gollodd wedyn, o fewn wythnosau, ei mab ei hun hefyd. Gall hi ddweud stori ddramatig iawn wrthych ynghylch sut yr effeithiodd hyn arni hi a'i theulu. Nawr, mae hi'n teimlo ei bod ar genhadaeth fel goroeswr i helpu pobl i ymdrin â'r materion hyn. Hoffwn wrando ar bobl fel Rachel fel y gallwn ddatblygu polisi Llywodraeth a fydd yn wirioneddol ystyrlon i bobl go iawn. Huw Irranca-Davies AC: Rwy’n croesawu datganiad yr Ysgrifennydd Cabinet a'i ymrwymiad clir i fwrw ymlaen â’r ddeddfwriaeth arloesol a luniwyd yng Nghymru, ac adeiladu arni, a gyflwynwyd gan ei ragflaenwyr Lesley Griffiths a Leighton Andrews. Mae'r cynlluniau manwl a nodir yn y datganiad yn dangos ymrwymiad gwirioneddol i symud ymlaen a throi deddfwriaeth feiddgar yn weithredu beiddgar a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn ein cymunedau ac i fywydau llawer o bobl sy'n dod i gysylltiad â thrais yn y cartref.Hoffwn ofyn i’r Gweinidog sut y mae hyn yn rhyngweithio â deddfwriaeth arall Cymru a Lloegr a gyflwynwyd yn Senedd y DU, yn enwedig y trosedd diweddar o dan Ddeddf Troseddau Difrifol 2015, Cymru a Lloegr, o ymddygiad cymhellol a rheolaethol. Cafodd groeso mawr gan ei fod yn cydnabod, mewn modd du a gwyn pendant, pa mor gyffredin a distrywiol yw’r math hwn o gam-drin sy’n aml yn gudd ac yn anoddach ei ganfod. Fel y mae'r Athro Evan Stark o brifysgol Rutgers, ymgyrchydd ar y mater hwn ers amser maith, wedi’i ddweud:Rheolaeth gymhellol yw’r cyd-destun mwyaf cyffredin ar gyfer cam-drin menywod, a’r mwyaf peryglus hefyd.Yn y gorffennol, mae'r gyfraith wedi ymddangos yn annigonol pan gaiff swyddogion yr heddlu eu galw i ddigwyddiadau o gam-drin domestig, yn anad dim oherwydd, yn rhy aml, dim ond gweithred gorfforol sy’n achosi anaf gwirioneddol neu ddifrod troseddol a fyddai'n arwain at arestio. Mae trosedd ymddygiad cymhellol, y trosedd newydd hwn, yn caniatáu i asiantaethau gorfodi nodi patrwm o ymddygiad camdriniol a gweithredu arno pan fo dioddefwyr yn dioddef ymddygiad rheolaethol, diraddiol a cham-drin emosiynol a gwneud hyn cyn iddo droi’n drais corfforol gwirioneddol. Ond, bydd angen set sgiliau newydd ar gyfer hyn, ar swyddogion yr heddlu ac asiantaethau eraill i ganfod yr ymddygiad hwn ac i gasglu'r dystiolaeth sydd ei hangen ar gyfer erlyniad ac euogfarn. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet sicrhau, yng ngoleuni'r fframwaith hyfforddiant cenedlaethol sydd i’w groesawu, y cynllun arbrofol Gofyn i Mi, a chymaint o waith da sydd nawr yn digwydd ar sail aml-asiantaeth, y gallwn hyrwyddo defnydd llwyddiannus o'r pwerau newydd hyn ar ymddygiad cymhellol a rheolaethol ac ychwanegu at waith pobl fel comisiynydd heddlu de Cymru Alun Michael—rwyf yn deall ei fod wedi cyfarfod ag Ysgrifennydd y Cabinet yn ddiweddar iawn—sy’n gweithio gyda phartneriaid ar lawr gwlad mewn seminarau, mewn gweithdai ac mewn mannau eraill i ddatblygu ymwybyddiaeth o'r pwerau newydd hyn a dealltwriaeth o sut i ddefnyddio’r pwerau newydd hyn a’u rhoi ar waith? Carl Sargeant AC: Diolch i'r Aelod am ei sylwadau. Bydd pobl sy'n fy adnabod yn deall yn iawn bod rhai pethau sy'n fy nghyffroi am y cyfle hwn i wneud gwahaniaeth; dyma’r maes lle rwy'n wirioneddol angerddol am wneud gwahaniaeth, oherwydd dyma'r gwahaniaeth rhwng byw a marw. I lawer o bobl sydd wedi dioddef yr ail o’r rhain yn drasig, mae'n un ffordd o ddianc rhag trais yn y cartref, ond mae'n drasiedi iddynt hwy ac i’w teuluoedd a'u ffrindiau.Bydd y mater ynglŷn â’r strategaeth genedlaethol yn un pwysig. Mae'n ymwneud â chyflawni—a ydym ni'n gwneud hyn yn iawn ac a allwn ni gyflawni ar bob un o'r materion y mae'r Aelod yn eu codi: y rheolaeth gymhellol, camfanteisio’n rhywiol ar blant, rheolaeth gorfforol, ar lafar, gymhellol, ac ariannol—mae’r rhain i gyd yn dylanwadu ar bobl ac mae’n rhaid inni wneud yn siŵr y gallwn, gyda'n gilydd, ddod o hyd i atebion i hynny. Mae Llywodraethau yn gwneud llawer o bethau, ac nid ydynt bob amser yn cael y pethau hyn yn iawn, ond mae rhai pobl allan yna sy'n arbenigwyr yn y maes, a'r hyn y mae’n rhaid inni ei wneud yw agor y drysau i sicrhau ein bod yn dod â’r bobl hyn at ei gilydd, gweithio gyda chynghorwyr cenedlaethol a gweithio gyda grŵp cynghori. Rwy'n ystyried adnewyddu'r grŵp cynghori, oherwydd pan oeddem yn datblygu'r darn arloesol hwn o ddeddfwriaeth, a gafodd gydnabyddiaeth ledled y byd, gwnaethom wrando ar bobl a deall ei wir ystyr ar gyfer cyflawni. Dyna'r hyn yr wyf yn bwriadu ei wneud wrth inni symud ymlaen i roi’r Ddeddf hon ar waith. Mae'n ddechrau gwych, ond mae cymaint mwy o waith y gallwn ei wneud ar y cyd. Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet. 7. 6. Datganiad: Darlledu yng Nghymru Rydym yn symud ymlaen at yr eitem nesaf, sef y datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ar ddarlledu yng Nghymru, ac rwy’n galw ar y Gweinidog, Alun Davies. Alun Davies AC: Mae hwn yn gyfnod hollbwysig i ddarlledu yng Nghymru. Yn ystod yr wythnosau a’r misoedd i ddod, mae yna benderfyniadau allweddol i’w gwneud mewn perthynas â darlledu a’r trefniadau rheoleiddio. Bydd Llywodraeth Cymru, felly, yn sefydlu fforwm cyfryngau annibynnol newydd i Gymru. Roedd hyn yn un o argymhellion y pwyllgor cymunedau yn ei adroddiad ar yr adolygiad o siarter y BBC cyn yr etholiad. Byddaf yn rhoi mwy o fanylion am y fforwm newydd maes o law. Heddiw hoffwn i ganolbwyntio’n bennaf ar fater o gryn frys, sef yr adolygiad o siarter y BBC, ond byddaf i hefyd yn cyfeirio’n fyr at faterion darlledu allweddol eraill.Llywydd, through our memorandum of understanding with the United Kingdom Government and with the BBC, the Welsh Government has been, and will continue to be, fully involved in the charter review process. A draft charter is likely to be published over the summer and a Plenary debate will be held immediately after the summer recess. I intend to meet with the Secretary of State for Culture, Media and Sport before the summer recess to discuss this and other broadcasting issues. On 12 May, the UK Government published a White Paper on the BBC charter. On the same day, Lord Hall, the BBC’s director general, wrote to the First Minister to set out a progress report on the BBC’s provision in the devolved nations, to which the First Minister has responded this week. In general terms, we are pleased that the Secretary of State for Culture, Media and Sport has taken on board a number of the issues we have raised, both in our detailed response to the Green Paper consultation and in discussions between officials and Ministers throughout the charter review process. Further details are needed on a number of proposals outlined in the White Paper, although some of these are addressed in the director general’s letter to the First Minister.It is encouraging, Llywydd, that the BBC intends to protect spending in the nations relative to other areas and is now committing to allocate additional funding for its dedicated services in the nations. However, clarity is urgently needed about what this actually means in terms of financial support and what practical impact this will have on the breadth of services the BBC provides for Wales. We do not see the development of Cardiff as an important centre for network productions as any sort of justification for reducing the BBC’s investment in other services. Additional resources should be earmarked for high-quality programming such as drama, which will enhance English-language programming for Welsh audiences. The Welsh Government has previously called for the BBC to invest significant, additional funding into Welsh programming. We welcome Tony Hall’s recognition that the portrayal of Wales and the other devolved nations must improve and that the BBC intends to set portrayal objectives for commissioners. All the public service broadcasters must recognise that proper representation of the full diversity of the UK has to include better representation of the diverse cultures of its nations and regions, and that includes Wales. We also support the intention to have a drama commissioning editor responsible for each nation. It is vital that this individual will be based in Wales and that commissioning decisions for Wales are actually made here as well. More should be done to ensure fairer distribution of production activity away from London and into the nations and regions of the United Kingdom. We recognise that some improvements have been made, but, nevertheless, too many decisions continue to be made inside the M25.Fundamentally, within the BBC a change of culture is needed. We recognise the key role played by the BBC as a provider of news coverage about Wales and for the people of Wales. The BBC remains the most significant provider of both non-network television news and current affairs programming in Wales. We acknowledge and recognise that the BBC has been the main driver of the improvements in coverage of devolved political issues in Wales. However, Wales continues to be under-represented, even when stories are relevant across the whole of the UK. Examples of poor and inadequate reporting include the recent contractual dispute between the UK Government and junior doctors in England, and, in my opinion, network coverage of the recent Assembly election was also inadequate. We recognise the fact that Wales will be represented on the BBC’s new unitary board—we pressed hard for this. We look forward to receiving further details about the proposal to create a sub-committee of the board for each nation. We also welcome the intention to create a service licence for Wales, which reflects our own call for a compact for Wales in the new charter. The service licence must clearly define what Wales needs and what the BBC has a duty to deliver in the next charter period. It is disappointing that there is no detail about how Ofcom will develop and deliver this new service licence. We were clear that a full review of the BBC’s public purposes was urgently needed, as a basis for a new charter contract. If that review had been undertaken, we would be in a better position to set out the requirements of a fit-for-purpose service licence for Wales.Lywydd, rydym ni hefyd yn croesawu’r cyfeiriad yn y Papur Gwyn at sicrhau annibyniaeth S4C. Mae’n hollbwysig bod S4C yn cael digon o gyllid, yn ogystal ag annibyniaeth o ran golygu a rheoli. Rydym ni hefyd yn croesawu bwriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gynnal adolygiad cynhwysfawr o S4C, rhywbeth rydym ni wedi bod yn pwyso’n barhaus amdano ac a addawyd yn 2010 yn wreiddiol. Ond fe ddylai hyn gael ei wneud ochr yn ochr â’r adolygiad o siarter y BBC yn hytrach na wedyn. Fe ddylai hefyd fod yn rhan o adolygiad ehangach, mwy sylfaenol o anghenion y maes darlledu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Rydym ni’n disgwyl cymryd rhan lawn yn yr adolygiad o S4C, gan gynnwys y broses o ddatblygu’r cylch gorchwyl.Ensuring plurality of English language television in Wales is vital, in news and also general programming aimed at Welsh viewers. ITV Cymru Wales therefore has a vital role to play as an alternative to the BBC for news and non-news programming. We do not view the existing level of provision on the channel 3 licence as appropriate, or even adequate. Provision should be increased, especially considering ITV’s healthy financial position. If Channel 4 receives public resources, then it should be required to produce at least a population share of network commissions in the nations and regions. We were disappointed that Ofcom did not agree with our view that Channel 4’s quota for out-of-London productions should be implemented by 2016 rather than 2020. Channel 4’s record in commissioning content from Wales has historically been negligible; its spend in Wales remains below 1 per cent of its total content spend and the broadcaster has no commissioning staff based in Wales. I am pleased that there is cross-party consensus on the majority of broadcasting issues. This was reflected by the committee report on the charter review a few months ago, by the letter sent last week from Assembly Members to Tony Hall, and also in the report by the Welsh Affairs Committee of the House of Commons, which was published last week. Llywydd, as a Government we will continue to ensure that the interests of the Welsh people are recognised and addressed as the draft charter is developed. We will also stress that the commitments that the BBC has now made to improve services to Wales and other nations should be mandated for in the charter itself. Bethan Sayed AC: Diolch ichi, Weinidog, am eich datganiad.Er y byddwch efallai’n falch o wybod na fyddaf yn eich cysgodi o hyn ymlaen, o ystyried y gwaith yr wyf wedi ei wneud gyda chi a phobl eraill cyn hyn, credaf ei bod yn ddyletswydd arnaf i siarad heddiw am y gwaith yr ydym wedi'i wneud a hefyd y gwaith y mae angen inni ei wneud.Oherwydd, wrth gwrs, roeddech yn eistedd ar y pwyllgor gyda ni o’r blaen, yn y Cynulliad diwethaf, ac mae llawer o argymhellion yr adroddiad hwnnw yn eich datganiad, rwyf yn falch o weld, ac yn dod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru yn hynny o beth.Er enghraifft, byddai’n dda gennyf wybod, roeddech yn sôn eich bod yn mynd i roi manylion inni ynglŷn â’r fforwm darlledu annibynnol, ond hoffwn wybod sut yr ydych yn bwriadu gweld aelodaeth y pwyllgor, oherwydd, wrth gwrs, bu’n rhaid i’r Sefydliad Materion Cymreig wneud cais rhyddid gwybodaeth i Lywodraeth Cymru i gael gwybod beth oedd wedi digwydd i'r panel cynghori.Nid ydym am fod yn y sefyllfa honno eto; rydym am gael grŵp annibynnol cadarn a chryf o bobl, nid y rhai arferol yn unig ond pobl sydd efallai'n gallu rhoi persbectif newydd i'r cyfryngau yng Nghymru, fel y gall y grŵp hwnnw roi gwybodaeth i chi ac i Aelodau'r Cynulliad, ac er mwyn gallu gwella’r gwaith craffu hwnnw o ganlyniad.Felly, hoffwn gael ychydig mwy o fanylion ynghylch sut y bydd yn adrodd, sut y byddant yn cael eu dewis ar gyfer y grŵp hwn a sut y caiff eu gwaith ei roi iddynt yn y dyfodol.Nodwn y byddwch yn cwrdd ag Ysgrifennydd Gwladol y DU dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.Rwyf yn siŵr y byddwch yn cyflwyno achos iddo o ran y sefyllfa ariannol sydd ei hangen er mwyn gwella’r cymorth ariannol i’r ddarpariaeth cyfrwng Saesneg yng Nghymru, fel yr eglurwyd gan Aelodau'r Cynulliad ym mhob rhan o’r Siambr hon yn ddiweddar mewn llythyr at Tony Hall.Felly, a wnewch chi egluro beth yn union y byddwch yn ei ddweud, ac a fyddwch yn pwyso am y cyllid ychwanegol blynyddol hwnnw o £300 miliwn i’r BBC yng Nghymru?Fy nghwestiwn arall oedd hyn: rwyf yn cytuno’n llwyr â’r ffaith eich bod yn galw am olygydd comisiynu drama sydd wedi’i leoli yng Nghymru, ond hoffwn weld y math hwnnw o rwydwaith neu dîm ar gyfer y broses gomisiynu yn dod i Gymru hefyd, oherwydd, fel y byddwch yn gwybod ar ôl eistedd ar y pwyllgor, clywsom gan Equity fod actorion yn dal i orfod mynd i Lundain am glyweliadau ar gyfer rhaglenni sy'n cael eu gwneud yng Nghymru.Mae'n hurt eu bod i gyd yn ymgynnull ar drenau sy’n mynd i Lundain pan allent—yr actorion—fod yn cael y clyweliadau hynny yma yng Nghymru.Felly, mae angen nid yn unig y gwaith comisiynu drama yma yng Nghymru ond mae angen y timau cynhyrchu sydd ynghlwm wrth y prosesau hynny hefyd.Nodaf yn eich adroddiad—eich datganiad, mae’n ddrwg gennyf—y dylid cynyddu darpariaeth ITV Cymru Wales, yn enwedig o ystyried ei sefyllfa ariannol iach.Tybed beth arall y gallwch ei ddweud wrthym am sut neu ym mha ffordd y dylai’r ddarpariaeth honno gynyddu.Bydd yn rhaid imi ddatgan buddiant mewn perthynas â Channel 4 gan fod fy mrawd yn newyddiadurwr ar raglen newyddion Channel 4, ond credaf ei bod yn ddyletswydd arnom i gyd fel Aelodau Cynulliad i geisio eu hannog i weld bod rhinwedd mewn straeon yma yng Nghymru, sydd wedi eu lleoli yng Nghymru, yn hytrach, efallai, na chanolbwyntio ar Loegr fel y maent yn ei wneud yn aml iawn.Ni fydd ef yn hapus iawn fy mod yn dweud hynny—mae'n ddrwg gen i.[Chwerthin.]Hefyd, hoffwn glywed eich barn am strwythurau pwyllgorau’r Cynulliad.Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn clywed gan Weinidog y Llywodraeth, oherwydd sut ydych chi'n gweld eich swyddogaeth, felly, o ran bod yn atebol i’r sefydliad hwn o safbwynt y cyfryngau yng Nghymru, oherwydd rydym yn awyddus i ddangos, hyd yn oed os nad oes gennym bwerau dros ddarlledu, ein bod wedi dangos bod gennym y statws a'r gefnogaeth i allu dwyn amrywiol ddarlledwyr i gyfrif.Ac mae fy nghwestiwn olaf ynghylch S4C. Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn ailadrodd y dylai gadw ei hannibyniaeth, a sicrhau bod hynny bob amser yn rhan o unrhyw drafodaeth yr ydych yn ei chael â’r sianel fel Gweinidog. Alun Davies AC: Diolch yn fawr iawn, a diolch ichi am eich geiriau caredig ar ddechrau eich sylwadau.A gaf i ddweud, Bethan, fy mod wedi mwynhau’r sgyrsiau a gawsom yn y pwyllgor yn gynharach eleni, a'r llynedd hefyd? Credaf ein bod bob amser wedi canfod bod llawer o gonsensws mewn gwahanol rannau o'r Siambr hon ar ddarlledu ac ar y cyfryngau yn gyffredinol, a sut y byddai’r lle hwn yn hoffi mynd i'r afael â'r materion hynny.Cofiaf pan oeddwn yn gadeirydd y Pwyllgor Darlledu mewn Cynulliad blaenorol fod llawer iawn o gonsensws ymysg, rwyf yn credu, y pedwar neu bump ohonom ar y pwyllgor hwnnw ynglŷn â’r ffordd ymlaen, a pharhaodd y consensws hwnnw hyd at yr adroddiad a gyhoeddwyd gan Christine Chapman ychydig cyn ein hetholiad diwethaf.A gaf i ddweud hyn?Rwyf yn croesawu’n fawr iawn y cynigion i sefydlu pwyllgor yn y lle hwn i ymchwilio i'r materion hyn, i’m dwyn i fel Gweinidog i gyfrif, ond hefyd y darlledwyr, ac i sicrhau bod y dadleuon a'r trafodaethau, sydd yn rhy aml yn digwydd y tu ôl i ddrysau caeedig, yn cael eu cynnal yn gyhoeddus.Mae angen inni sicrhau bod cydbwysedd priodol rhwng yr hyn a allai gael ei ystyried, neu a fyddai’n cael ei ystyried, yn bwysau gormodol gan y Llywodraeth ar ddarlledwyr i weithredu mewn ffordd benodol, a sefydliad democrataidd yn dwyn y darlledwyr hynny i gyfrif.Felly, credaf fod swyddogaeth bwysig iawn i’r lle hwn o ran y lefel honno o atebolrwydd.Nid wyf erioed wedi ei chael yn anodd sicrhau bod darlledwyr, o fewn strwythurau cyffredinol y Deyrnas Unedig, lle nad yw darlledu wedi'i ddatganoli, yn cydnabod y dylent fod yn atebol i Seneddau’r Deyrnas Unedig o ran materion portreadu a materion sy’n ymwneud â chynnwys, oherwydd y materion diwylliannol ehangach y cyfeirir atynt yno a hefyd faterion ehangach y Deyrnas Unedig lle mae gan y Senedd hon a Seneddau eraill hawl a buddiant priodol. Felly, gobeithiaf y byddaf fel Gweinidog, pan fyddaf yn mynd ar drywydd y rhaglen lywodraethu, nid yn unig yn cael fy nal i gyfrif gan bwyllgorau'r lle hwn, ond hefyd y byddwn yn gweithio mewn modd mwy cydlynol wrth sicrhau bod pobl eraill yn atebol am yr hyn y maent yn ei ddarparu i Gymru.O ran y fforwm cyfryngau annibynnol—ac rwyf yn dweud ei fod yn fforwm cyfryngau yn hytrach na dim ond yn fforwm darlledu—mae'n bwysig bod gennym leisiau annibynnol sy'n siarad ag awdurdod, ar sail gwybodaeth, ac sy’n siarad yn agored am y cyngor y maent yn ei ddarparu i mi fel Gweinidog.Rwyf yn gwahodd pob Aelod y prynhawn yma i ysgrifennu ataf gydag unrhyw syniadau sydd ganddynt ar gyfer sut y byddai’r fforwm hwnnw’n gweithredu ac efallai hyd yn oed y bobl yr hoffent eu gweld yn rhan ohono—wn i ddim, mater i chi yw hynny. Ond, yn sicr, fy mwriad i yw y bydd hyn yn gweithredu mewn ffordd gwbl agored a thryloyw.Nid yw’n fwriad i hwn fod yn fforwm sy’n osgoi penderfyniadau anodd neu’n fforwm sy'n rhoi cyngor a fydd ddim ond yn cael ei weld gan y Gweinidog yn amodol ar gais rhyddid gwybodaeth. Nid wyf am ddilyn y trywydd hwnnw.Yr hyn yr wyf am ei weld yw trafodaeth fwy agored, a thryloyw sy’n seiliedig ar wybodaeth ynghylch dyfodol y cyfryngau yng Nghymru.Un o'r pethau yr ydym wedi ei weld, lle y bo llawer ohonom wedi bod yn trafod rhan y cyfryngau mewn digwyddiadau diweddar ac yn enwedig o ran y refferendwm sy’n digwydd yn nes ymlaen yr wythnos hon—credaf fod swyddogaeth gwbl sylfaenol i’r cyfryngau mewn cymdeithas fodern, agored, gwybodus a democrataidd.Mae hynny'n golygu fod gennym gyfrifoldeb, fel gwleidyddion ac fel cynrychiolwyr etholiadol, ond bod gan y rhai hynny sydd â grym drwy'r cyfryngau gyfrifoldebau hefyd, ac mae angen iddynt gydnabod bod angen iddynt fod yn atebol am eu gweithredoedd a’r penderfyniadau a wneir ganddynt.Edrychaf ymlaen at fy nghyfarfod â John Whittingdale, yr Ysgrifennydd Gwladol.Byddaf yn nodi’r pwyntiau yr ydych wedi'u hamlinellu, ac wrth gwrdd â’r BBC hefyd.Credaf fod angen i'r BBC gydnabod mai un peth yw dweud ei bod yn awyddus i gynyddu'r ddarpariaeth Saesneg yng Nghymru, ond y mae'n rhaid cyflawni hynny gyda'r cyllid sy'n sicrhau bod y rhaglenni yn cael eu darparu a bod gwerthoedd cynhyrchu yn cael eu gwella ac nid eu cwtogi o ganlyniad i’r penderfyniadau ariannol hynny.Credaf y byddwn yn mynd ychydig ymhellach nag yr ydych efallai wedi’i awgrymu o ran rhai o'r newidiadau strwythurol sydd eu hangen ar y BBC. Yn amlwg, materion i'r BBC yw’r rhain, ac nid i wleidyddion, ond hoffwn i BBC Cymru gael lefelau o awdurdod ac atebolrwydd sy'n golygu y gellir gwneud penderfyniadau ynghylch ffurf gwasanaethau'r BBC yng Nghymru a gwasanaethu Cymru.Mae hynny’n fwy na dim ond penderfynu pa raglen sy’n cystadlu â 'Coronation Street'; mae'n effeithio ar ffurf yr amserlen ond hefyd ar yr amserlen ei hun.Dyna'r math o benderfyniad rheoli yr hoffwn ei weld, ond hoffwn hefyd weld newid diwylliant o fewn y BBC, a chredaf fod hynny’n gwbl hanfodol.Soniasoch am ITV, Channel 4 ac S4C. Mae'r pwyntiau a wnawn am y BBC yr un mor wir ar gyfer pob darlledwr gwasanaeth cyhoeddus, ac mae'n destun siom arbennig—.Mae eich brawd, wrth gwrs, yn newyddiadurwr ardderchog, uchel ei barch, sy’n gweithio i Channel 4, ond nid ydym yn gweld llawer arno yng Nghymru, yn anffodus, a hoffem weld mwy arno yng Nghymru.Mae Channel 4 yn cynhyrchu darllediadau newyddion rhagorol, nad oes lle rheolaidd iddynt yn aml ar ddarlledu prif ffrwd, yn enwedig ar yr agenda ryngwladol a materion datblygu o ran materion datblygu byd-eang.Ond nid yw hynny'n golygu nad oes ganddi gyfrifoldeb i drethdalwyr y Deyrnas Unedig a Chymru. Lee Waters AC: Weinidog, a gaf i groesawu'n gynnes naws a chynnwys eich datganiad?Credaf ei bod yn hen bryd i ni fel Cynulliad Cenedlaethol ymateb yn fwy cyhyrog o lawer i'r ffordd y mae'r darlledwyr yn trin Cymru.Gwn fod sôn wedi bod yn sicr yn y blynyddoedd ers datganoli, pan fo cyfarwyddwyr cyffredinol yn mynd i gwrdd â Llywodraeth yr Alban, eu bod yn cael eu rhoi drwy’r felin a phan fyddant yn dod i gwrdd â Gweinidogion Cymru eu bod yn cael paned o de ac ymateb cwrtais.Credaf ein bod wedi gweld mai canlyniad hynny yw bod gofynion yr Alban yn cael eu cymryd yn llawer mwy o ddifrif na’n rhai ni.Roeddwn yn falch iawn yr wythnos diwethaf pan ysgrifennodd dwy ran o dair o Aelodau'r Cynulliad lythyr at Tony Hall yn gofyn am ragor o fanylion ynglŷn â’r ymrwymiadau yr oedd wedi eu gwneud.Rwyf yn croesawu’n fawr hefyd eich ymrwymiad i sefydlu fforwm cyfryngau annibynnol newydd ac edrychaf ymlaen at glywed manylion hynny.Yn fy swydd flaenorol fel cyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig roeddwn yn rhan o grŵp polisi’r cyfryngau a oedd, mae'n rhaid imi gyfaddef, yn rhan o’r broses o gyflwyno ceisiadau rhyddid gwybodaeth i gael gwybod beth oedd yn digwydd yn Llywodraeth Cymru.Mae'r Sefydliad Materion Cymreig yn felin drafod annibynnol fach iawn, ac wedi gorfod ysgwyddo’r baich o dynnu sylw at y maes pwysig iawn hwn, a hoffwn weld prifysgolion Cymru’n gwneud llawer mwy yn hynny o beth oherwydd maent yn gwneud gwaith yn y maes hwn, ond nid yw'n drefnus ac nid yw'n canolbwyntio'n briodol ar fuddion ymarferol.Felly, rwyf yn gobeithio y byddwch yn cynnwys holl weinidogion prifysgolion Cymru yn llawn yn y fforwm hwnnw.Soniasoch am y llythyr a anfonodd Tony Hall at y Prif Weinidog, lle y dywedodd y byddai'n diogelu gwariant ar gyfer Cymru yn gymharol ag ardaloedd eraill.Wrth gwrs, nid yw hynny'n rhoi ystyriaeth i’r ffaith y cafwyd toriad, yn y 10 mlynedd diwethaf, o 25 y cant yng ngwariant y BBC yng Nghymru a gostyngiad o 25 y cant mewn oriau teledu Saesneg.Dylwn ddweud bod y ffigur hwn yn ymwneud â gwariant ar raglenni Saesneg, lle y bu toriad o chwarter.Felly, rwyf yn croesawu’r ffaith y bydd yn diogelu’r gwariant ar gyfer Cymru, ac, wrth gwrs, rhaid inni gydnabod bod y BBC wedi cael ei rhoi trwy'r felin gan y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan ac yn wynebu toriadau sylweddol.Ond nid yw’n ddigon da diogelu cyllideb sydd eisoes wedi ei chwtogi, ac mae ei lythyr yn llawn ymrwymiad polisi ac rydym wedi clywed ymrwymiadau polisi gan y BBC o'r blaen.Yr hyn sydd ei angen arnom yw ffyrdd o amlygu hyn yn weithredol sy'n gwneud gwahaniaeth i'w chynulleidfaoedd, y mae wedi cydnabod yn llawn nad ydynt wedi eu gwasanaethu'n dda yn y blynyddoedd diwethaf gan y BBC.Yn olaf, a chrybwyll pwynt a wnaed gan Bethan Jenkins ac a wnaed gennych chithau ynglŷn â chynhyrchu drama yng Nghymru, rydym yn croesawu, fel y dywedasoch, y ffaith bod gwaith cynhyrchu drama wedi ei symud i Gymru, ac mae ein heconomi greadigol wedi elwa o hynny, ond mae’n hollbwysig hefyd portreadu Cymru mewn rhaglenni drama i'r Deyrnas Unedig gyfan ac nid yw cynhyrchu rhaglenni rhwydwaith yng Nghymru wedi gwella hynny.Dywed Tony Hall yn ei lythyr at y Prif Weinidog ei fod yn ystyried penodi comisiynydd drama i Gymru, i weithio fel rhan o'r tîm comisiynu i geisio meithrin a datblygu talent oherwydd bod angen amser i ddatblygu’r comisiynau hyn.Fodd bynnag, oni bai bod cyllidebau yn dod law yn llaw â hynny, gallai fod yn sefyllfa lle mae’r sawl sy’n comisiynu i’r BBC yng Nghaerdydd yn cael ei wrthod drwy'r amser.Felly, mae angen inni roi pwysau arno i wneud yn siŵr bod yr ymrwymiadau polisi lefel uchel hyn yn cael eu hadlewyrchu hefyd mewn penderfyniadau ynglŷn â gwario.Diolch. Alun Davies AC: Diolch yn fawr iawn.Rwyf yn ddiolchgar, hefyd, am eich sylwadau caredig iawn.Nid wyf fel arfer yn gysylltiedig ag ymateb cyhyrog mewn unrhyw faes polisi.Rwyf fel arfer yn cael fy nghysylltu â phaned o de a chacen, ond rwyf yn sicr yn gobeithio y byddwn yn gallu cael sgwrs â'r BBC sy’n ddeallus ac yn seiliedig ar barch at yr ymrwymiadau yn ei siarter a’i chenhadaeth, ond parch hefyd at bobl sy'n talu ffi'r drwydded yng Nghymru ac ymrwymiad y BBC i'r Deyrnas Unedig gyfan.Mewn sawl ffordd, yn amlwg, fel Senedd yn y lle hwn, rydym yn sôn am y materion hyn o safbwynt Cymru, ond fy nyletswydd i yw sicrhau bod y BBC yn cynrychioli’r Deyrnas Unedig gyfan ac yn ddarlledwr Prydeinig, ac nid dim ond yn ddarlledwr ar gyfer y dosbarth canol yn ardal yr M25.Dywedaf hynny’n glir iawn, oherwydd er ein bod yn pryderu yma ynglŷn â’r portread o Gymru a gwariant yng Nghymru, gallai llawer o'r materion y byddwn yn eu codi yma gael eu codi gan bobl sy’n talu ffi'r drwydded mewn mannau eraill, yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon hefyd. Dyna pam yr wyf yn dweud dro ar ôl tro fod angen i’r BBC, weithiau, gydnabod bod yn rhaid wrth newid diwylliant yn y BBC, nid dim ond symud cyfleusterau y tu allan i Lundain, ond symud meddyliau allan o Lundain, hefyd, ac rwyf yn gobeithio y bydd hynny’n digwydd ac y bydd cydnabyddiaeth i hynny.Roedd y gwaith a wnaethoch, Lee, gyda'r Sefydliad Materion Cymreig, yn torri tir newydd a chredaf ei fod wedi cyfrannu'n aruthrol at y gwaith y cyfeiriodd Bethan ato—y gwaith a wnaethom fel pwyllgor—a’i fod hefyd wedi ein galluogi i gael y mathau o sgyrsiau yr oeddem yn gallu eu cael yn y pwyllgor hwnnw.Rwyf yn gobeithio y byddai fforwm cyfryngau y gallem ei greu yn y Llywodraeth yn cyflawni swyddogaeth debyg ac yn gwneud cyfraniad tebyg i’r ddadl y mae angen inni ei chael yn y dyfodol yng Nghymru.Nid oes cyfyngiad, os mynnwch, ar y math o bobl y byddem yn hoffi eu cael yn y fforwm hwnnw, ac, yn sicr, rwyf yn cytuno â chi fod y prifysgolion yn rhan bwysig o hyn a bod angen iddynt fod yn rhan bwysig o’r sgwrs a’r drafodaeth hon yn y dyfodol.Mae'r pwyntiau—rwyf am ddirwyn i ben ar ôl y sylw hwn—a wnewch am wariant yn gwbl sylfaenol i gyflawni'r hyn yr hoffem ei weld.Mae'n destun dathlu bod gennym Borth y Rhath gyferbyn â ni yma ym Mae Caerdydd, ein bod yn gweld drama’n cael ei chynhyrchu yma yng Nghymru, wedi’i hariannu gan y BBC ac wedi’i chefnogi gan y BBC. Fodd bynnag—fodd bynnag—fel rhan gyfansoddol o'r Deyrnas Unedig, mae'n gwbl annerbyniol nad yw'r BBC yn portreadu bywyd yng Nghymru gyfoes fel rhan o'i hamserlen, flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn.Mae'n gwbl annerbyniol.Mae'r BBC wedi cydnabod bod hynny’n annerbyniol, a mater i’r BBC yn awr yw unioni hynny. Er mwyn gwneud hynny, mae’n rhaid i’r BBC sicrhau bod cyllid ar gael i wneud hynny a bod cyllid yng Nghymru i wneud rhaglenni ar gyfer y gynulleidfa yng Nghymru, ond hefyd fod penderfyniadau’n cael eu gwneud a bod arian ar gael i wneud rhaglenni yng Nghymru ar gyfer cynulleidfaoedd y DU yn ogystal.Yr hyn yr ydym am ei weld yw bod y BBC yn cyflawni ei swyddogaeth fel darlledwr Prydeinig ac un sy'n cynrychioli ac yn cydnabod bywyd ym mhob rhan o’r ynysoedd hyn heddiw. Russell George AC: A gaf innau hefyd ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad, a hefyd ei groesawu’n ffurfiol i'w swydd newydd a dweud fy mod yn edrych ymlaen at weithio gydag ef eto?Yn awr, rwyf innau, fel chithau Weinidog, yn croesawu Papur Gwyn Llywodraeth y DU, sy'n rhoi i'r BBC sefydlogrwydd hirdymor ac ymrwymiad penodol, wrth gwrs, i ddarparu llais cryfach i Gymru, yng Nghymru a thrwy ragor o gyfleoedd i bortreadu Cymru ledled y DU—gwn ichi gyfeirio at hyn yn eich ateb diwethaf—ond yn arbennig, wrth gwrs, yn narpariaeth newyddion y DU.Gwn y byddai sgandal cronfa buddsoddi mewn adfywio Cymru, er enghraifft, wedi bod yn y penawdau ledled y DU pe byddai wedi digwydd yn Lloegr, a chredaf fod perfformiad y gwledydd datganoledig, weithiau, fel petai’n osgoi sylw cenedlaethol.Credaf y dylem o leiaf ddisgwyl y bydd bwrdd unedol newydd y BBC yn cynnwys cynrychiolaeth o Gymru ac y bydd y bartneriaeth sy’n parhau rhwng y BBC ac S4C yn cael ei diogelu ar ôl ymagwedd unedig, rwyf yn meddwl, gan y Cynulliad hwn o ran cefnogi'r darlledwr Cymraeg.Caiff S4C ei hariannu’n bennaf, wrth gwrs, drwy arian cyhoeddus, ond mae'n uchelgais ganddi—.Mae ganddi uchelgais, mae’n dymuno gwella, a byddai gennyf ddiddordeb, felly, mewn clywed gan y Gweinidog pa gamau y mae'n bwriadu eu cymryd i sicrhau bod S4C yn cael ei hannog a'i chefnogi’n llawn i ddod o hyd i ffrydiau incwm ychwanegol fel ei bod yn cyfrannu at ei dyfodol ariannol hirdymor, ac yn gallu gwneud hynny.Mae cynnwys amcanion portreadu yn y Papur Gwyn ym mhob un o feysydd comisiynu’r rhwydwaith ac ymrwymiad i gynyddu buddsoddiad mewn rhaglenni teledu Saesneg yn addawol.Dylwn ddweud fy mod yn cytuno â'r Gweinidog y bydd angen yn awr rhoi rhywfaint o gig ar yr asgwrn ac amlinellu sut y mae troi hyn yn ymrwymiadau ariannol pendant o ran rhaglenni ar gyfer Cymru, yn ogystal â rhaglenni’r rhwydwaith.Fel yr awgryma’r Gweinidog, a hynny’n ddigon priodol yn fy marn i, er gwaethaf goruchafiaeth y BBC yng Nghymru, ni ellir ei thrin ar ei phen ei hun.Yn gwbl wahanol i’r sefyllfa yn yr Alban, lle mae gwasanaeth ITV wedi cynyddu ei allbwn yn benodol ar gyfer yr Alban, mae perfformiad ac amcanion rhaglennu ITV Cymru Wales wedi gostwng 40 y cant ers 2009, ac nid oes fawr o arwydd y bydd cynnydd yn y dyfodol rhagweladwy.Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog efallai amlinellu pa drafodaethau y mae wedi eu cael â'r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, y Swyddfa Gyfathrebu ac eraill i ddiffinio ymrwymiadau comisiynu gwell i Gymru gan ddarlledwyr eraill, gan gynnwys y BBC ac ITV, y ddau â rhan i’w chwarae o safbwynt darparu’r lluosogrwydd y mae ei angen yn ddirfawr mewn tirlun cyfryngau lle mae’r BBC, wrth gwrs, yn cael y lle amlycaf.Yn olaf, tybed a allai'r Gweinidog amlinellu sut y mae'n bwriadu sicrhau ei bod yn ofynnol i bob darlledwr gwasanaeth cyhoeddus, a'r rheoleiddiwr, adrodd a rhoi tystiolaeth i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar faterion datganoledig yn ystod y pumed Cynulliad.Mae’r pwys y bydd Llywodraeth y DU a chydweithwyr seneddol sy'n dal i fod yn bennaf gyfrifol am ddarlledu yn ei roi ar adroddiadau o’r sesiynau tystiolaeth hynny yr un mor bwysig, wrth gwrs, gan ei fod yn faes nad yw wedi ei ddatganoli.A gaf i ofyn, efallai, pa gynnydd sydd wedi'i wneud ar brotocolau i sicrhau bod pwys dyledus yn cael ei roi i argymhellion y lle hwn i Lywodraeth y DU ynghylch y materion hynny lle y bo swyddogaethau darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn effeithio ar faterion datganoledig ac yn treiddio i’r meysydd hynny? Alun Davies AC: Diolch.Rwyf yn ddiolchgar iawn i lefarydd y Ceidwadwyr am ei sylwadau caredig.Edrychaf ymlaen at ein sgyrsiau ynglŷn â hyn dros y cyfnod sydd i ddod ac, ar faterion eraill hefyd rwyf yn siŵr.Rwyf am ddechrau, os caf, drwy ateb eich cwestiwn olaf yn gyntaf.Bydd yr Aelod yn gwybod bod memorandwm cyd-ddealltwriaeth ar waith rhwng Llywodraeth Cymru a'r BBC a’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon a fydd yn disgrifio llawer o'r prosesau a’r llinellau atebolrwydd y mae wedi'u hamlinellu.Ond byddai'n well gennyf ganolbwyntio nid yn gymaint ar y llinellau caled, y mae ef wedi eu disgrifio, ond ar ddadl a thrafodaeth sy’n llawer cyfoethocach nag yr ydym efallai wedi eu cael yn y gorffennol am natur darlledu a’r cyfryngau a sut y mae hynny’n effeithio ar fywydau pobl yma yng Nghymru ac mewn mannau eraill.Mae yn llygad ei le wrth ddisgrifio darlledu fel pwnc nad yw wedi ei ddatganoli, ond mae llawer o'r materion y mae darlledu’n effeithio arnynt, wrth gwrs, wedi'u datganoli.Rwyf bob amser wedi ystyried darlledu yn fwy o gyfrifoldeb i’w rannu, lle y dylai, ac y byddai, llawer o'r rheoleiddio economaidd ddigwydd, a dyna fyddai orau yn amlwg, naill ai yn y Deyrnas Unedig neu, mewn rhai achosion, ar lefel Ewropeaidd.Ond, mae llawer o'r materion diwylliannol y mae darlledu’n effeithio arnynt, a’r materion democrataidd y mae darlledu’n effeithio arnynt, yma yn y lle hwn yn gwbl briodol.Felly, mae bob amser wedi bod yn faes lle y mae buddiant i’w rannu. Mae’r Aelod hefyd yn ymwybodol bod i ddarlledu amlygrwydd gwleidyddol llawer mwy yng Nghymru nag mewn llawer o rannau eraill o’r Deyrnas Unedig am resymau hanesyddol a diwylliannol clir ac amlwg iawn.Felly, bydd pobl yng Nghymru’n disgwyl i’r lle hwn gymryd rhan lawn a gweithredol yn y ddadl dros ddarlledu.Rydym wedi rhoi ar waith y strwythurau a fydd yn ein galluogi i wneud hynny.Rwyf yn disgwyl y bydd y BBC, darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus eraill ac Ofcom yn chwarae rhan lawn yn y llinellau atebolrwydd hynny, a fydd yn llinellau caled, sydd wedi'u nodi mewn polisi ac weithiau yn y gyfraith, ond ar yr un pryd, byddant am gymryd rhan mewn trafodaeth lawer ehangach am natur y cyfryngau yn ein cymdeithas wrth iddynt esblygu.Mae un o'r dadleuon hynny’n ymwneud â’r gwerthoedd newyddion y cyfeiriodd yr Aelod atynt yn ei sylwadau agoriadol.Rwyf wedi ei chael yn anodd derbyn weithiau fod y gwerthoedd newyddion a ddylai ysgogi ac arwain penderfyniadau yn y BBC bob amser yn cynrychioli’r hyn sydd o bwys i bobl ledled y Deyrnas Unedig.Mae’r penderfyniadau a wneir yn y lle hwn yn benderfyniadau sy'n effeithio ar lawer rhan o fywydau pobl yng Nghymru ac eto anaml iawn y mae trafodion y lle hwn yn cael sylw gan raglenni rhwydwaith a newyddion rhwydwaith y DU gan y BBC. Credaf fod hynny'n fethiant sylweddol a chredaf fod hynny’n fethiant parhaus, ac rwyf yn falch bod y BBC ar adegau wedi cydnabod y methiant hwnnw.Yr hyn sydd ei angen yw strwythurau i sicrhau nad yw hyn yn digwydd, ond hefyd y newid diwylliannol a fydd yn galluogi'r BBC i gyflawni ei rhwymedigaethau a'i chenhadaeth yn well yn y dyfodol.Rwyf yn gobeithio mai dyna y byddwn yn ei gyflawni trwy’r ddadl yr ydym yn ei chael trwy’r broses hon i adnewyddu’r siarter.Soniodd llefarydd y Ceidwadwyr, Lywydd, am y bartneriaeth rhwng y BBC ac S4C. Gwn fod hyn yn cael ei ystyried yn rhy aml yn fygythiad i S4C. Nid felly yr wyf i’n gweld pethau.Credaf y gall partneriaeth rhwng dau o'n darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus allweddol ddod â manteision mawr i bobl yng Nghymru, a gallai sicrhau ein bod yn cynyddu’r buddsoddiad sy’n digwydd yn y gwaith o greu cynnwys Cymraeg, a galluogi’r cynnwys Cymraeg hwnnw i gyrraedd gwylwyr a defnyddwyr yng Nghymru ac mewn mannau eraill.Rwyf am weld S4C yn cadw ei hannibyniaeth—ei hannibyniaeth weithredol, ei hannibyniaeth olygyddol.Fodd bynnag, nid yw hynny'n golygu bod yn rhaid bod gagendor mawr iawn rhwng buddiannau S4C a buddiannau’r BBC, a byddem yn disgwyl ac yn rhagweld y byddai’r ddau ddarlledwr yn gweithio'n agos gyda'i gilydd.Mae trefniant y bartneriaeth bresennol sydd ar waith yn rhywbeth sy’n llwyddo, yn fy marn i, ac yn ein galluogi i ddarparu cynnwys o ansawdd uchel, ond i wneud hynny ar gost sy’n rhesymol i bobl sy’n talu ffi'r drwydded ac a fydd yn cynnal S4C i mewn i'r dyfodol.Yr hyn yr wyf am ei weld yw sicrhau bod gennym strwythurau ar waith ar hyn o bryd sy'n sicrhau bod S4C yn gallu cynhyrchu rhaglenni yn unol â’r gwerthoedd cynhyrchu uchaf, ac nid wyf wedi fy argyhoeddi bod Llywodraeth bresennol y DU wedi ymrwymo i hynny.Rwyf am weld Llywodraeth bresennol y DU yn symud oddi wrth y sefyllfa yr oedd ynddi ychydig flynyddoedd yn ôl, lle'r oedd, a dweud y gwir, yn bwlio S4C. Mae angen inni sicrhau bod y BBC, wrth wneud penderfyniadau ynghylch ariannu S4C, yn gwneud penderfyniadau sy'n galluogi S4C i barhau i gynhyrchu rhaglenni Cymraeg o safon uchel.Rwyf yn gobeithio y bydd yr ymrwymiadau ariannol yr wyf wedi eu disgrifio wrth ateb cwestiynau eraill hefyd yn darparu’r math o sicrwydd yr ydych yn ei geisio. Galwaf yn awr ar dri Aelod arall, cyhyd ag y bo’r cwestiynau a'r atebion yn gryno.Rhianon Passmore. Rhianon Passmore AC: Diolch ichi, Lywydd.Yn gyntaf, hoffwn innau hefyd roi fy nghefnogaeth i'r datganiad ac i’r Gweinidog am ei waith cryf yn hyn o beth.Edrychaf ymlaen at y cyfle i gael mwy o oruchwyliaeth a mandad i’r Senedd o ran ein gwaith craffu ehangach ar gyfryngau Cymru, ac rwyf yn croesawu’r cyfle hwnnw’n fawr iawn.Rwyf hefyd yn croesawu'r ddadl a addawyd yn y Cyfarfod Llawn ar y siarter ddrafft a'r drwydded gwasanaeth newydd i Gymru sydd wedi ei haddo, ac, fel cyn aelod o gyngor darlledu Cymru y BBC yn ystod yr adolygiad diwethaf o’r siarter, a Hutton, roeddwn yn falch o fod yn rhan o’r broses o gomisiynu 'Doctor Who', ymysg llawer o raglenni eraill, ac mae'r rhaglenni etifeddiaeth a ddilynodd wedi cadarnhau yn sicr iawn yr agenda o ran drama o safon uchel yng Nghymru i farchnad fyd-eang.Fodd bynnag, mae drama o safon uchel o'r fath, bron fel dur, yn rhywbeth y byddwn yn strategol yn parhau i’w ledaenu, rwyf yn sicr, yng Nghymru, gyda rhaglenni dwyieithog ag apêl gyffredinol fel 'Y Gwyll/Hinterland'.Felly, a yw’r Gweinidog yn cytuno â mi fod yn rhaid inni barhau i weithio i gryfhau'r siarter ddrafft mewn nifer o feysydd—a byddaf yn gryno—i ddatblygu ymhellach apêl gyffredinol rhaglenni a’u dosbarthiad wedi hynny yn y rhanbarthau ac yn fyd-eang, bod angen comisiynydd-olygydd drama ar Gymru sydd â grym a chyllid i gyd-fynd â hynny, y bydd yn parhau i lobïo ar i’r BBC beidio â lleihau ei buddsoddiad mewn gwasanaethau lleol, a hefyd, fel y dywedodd sawl un yn y Siambr heddiw, fod yn rhaid gwella’r ffordd y caiff Cymru ei phortreadu, fel y mae llawer wedi dweud, ein bod yn bodoli mewn gwirionedd o fewn y DU, ein bod yn genedl o dalentau, celfyddydau, cerddoriaeth, llenyddiaeth a chomedi rhagorol, cymunedau anhygoel, tirweddau gwych, yn ogystal â phêl-droed anhygoel, ac nad yw Cymru yn llawn twyllwyr budd-daliadau a phobl sy’n byw ar eraill, fel y caiff ei phortreadu yn genedlaethol, a hefyd, y gellir gwella’n fawr y sylw cyffredinol i gynnwys gwleidyddol, digwyddiadau ac ymgyrchoedd—ac mae wedi sôn am refferendwm yr UE?Rwyf yn sefyll yma heddiw, fel y mae llawer un arall yn ei wneud, yn gwisgo rhosyn gwyn er cof am fam i ddau o blant a gwraig, ymgyrchydd dros gydlyniant cymdeithasol, ac mae hwyliau’r wlad yn cael eu gosod mewn tirlun gwleidyddol garw, ac mae’n troi fwyfwy’n un lle y mae rhaniadau, diffyg cydlyniant, a throseddau casineb hiliol.Felly, mae gan y cyfryngau swyddogaeth hollbwysig yma, ac nid wyf yn deall sut y mae copi union o bropaganda Natsïaidd yn dderbyniol i’w ddarlledu’n gyhoeddus, yn enwedig pan fo’r siarter yn cael ei hadolygu, ac yn cael ei ddangos o gwmpas y lle.Pryd y trodd mandad cydbwysedd gwleidyddol gwasanaeth cyhoeddus y BBC ac Ofcom yn un mor or-ofalus?Ai cyfreithwyr gor-bwerus sydd i gyfrif, gofynnaf i mi fy hun?Felly, rwyf yn siŵr bod y Gweinidog yn benderfynol, ar ôl Leveson, y bydd mandad unrhyw siarter gwasanaeth cyhoeddus yn y dyfodol yn adennill unrhyw rym y mae canfyddiad iddo gael ei golli ac y bydd ein newyddiadurwyr yn parhau i ymchwilio a chwilio am y gwir. Oherwydd mae gan y cyfryngau swyddogaeth allweddol ac rwyf i, yn bendant, yn dymuno parhau i weld darllediadau gwleidyddol o ansawdd uchel yng Nghymru yn cryfhau a datblygu ac yn dod yn hygyrch i holl bobl Cymru. Ni chefais gwestiwn cryno yn hollol, ond rwyf yn gobeithio am ateb cryno yn awr gan y Gweinidog. Alun Davies AC: Lywydd, rydych yn garedig iawn.Rwyf am weld newyddiaduraeth ymchwiliol o ansawdd uchel sy'n cael ei hariannu'n dda.Credaf fod gwaith Michael Crick ar Channel 4 yn ddiweddar dros yr ychydig fisoedd diwethaf yn enghraifft wych o sut y gall newyddiaduraeth ymchwiliol ddwyn gwleidyddion i gyfrif.Dyna swyddogaeth, rwyf yn gobeithio, cyfryngau cryf, effeithiol ac annibynnol yn ein cymdeithas, sef dwyn y Llywodraeth i gyfrif a dwyn cynrychiolwyr gwleidyddol i gyfrif.Rhaid i hynny gael ei warantu yn unrhyw siarter neu yn unrhyw system newydd o reoleiddio.O ran y ffordd yr awn ati o ran polisi, yn amlwg, rwyf yn cytuno â'r pwyntiau y mae’r Aelod wedi eu gwneud am gynhyrchu drama o safon uchel—cynhyrchu yng Nghymru ac o Gymru—a bod angen inni sicrhau bod gennym siarter sy'n cydnabod lle Cymru a bod cytundeb gwasanaeth yng Nghymru ar gyfer Cymru a fydd yn sicrhau ein bod yn cael ein gweld ar y sgriniau, fel y dylem. Rhun ap Iorwerth AC: Dim ond ychydig o eiriau gen i a chwestiwn, y ddau fel un a fu’n gyflogai i’r BBC am 20 mlynedd, a hynny i atgoffa am yr hyn y dylai’n darlledwyr ni fod yn ei gynnig i wylwyr yng Nghymru. Mae S4C, wrth gwrs, yn gwneud dwy job o waith, mewn ffordd. Un, mae’n darlledu yn y Gymraeg i gynulleidfa sydd eisiau rhaglenni yn y Gymraeg. Ond, drwy wneud hynny, mae’n darlledu am Gymru i bobl Cymru, a dyna sydd ar goll, wrth gwrs, yn y Saesneg. Mi gawsom ni o ar ddamwain ar un adeg yn y blynyddoedd olaf analog, drwy BBC Choice a BBC 2W, lle’r oedd dwy BBC2 yn cyd-redeg. Rwy’n cofio, fel darlledwr ifanc, cael cymryd rhan mewn rhaglenni a oedd yn llenwi’r oriau brig am Gymru. Rwy’n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu rhoi ymrwymiad i wthio yn y dyfodol i gyrraedd yn ôl i’r sefyllfa yna lle gallem ni gael dwy sianel, un Gymraeg ac un Saesneg, ar gyfer cynulleidfaoedd Cymru.Rwy’n ategu’r hyn a ddywedwyd ynglŷn â’r diwydiant ffilm a drama yng Nghymru. Rydym ni wedi bod yn llwyddiannus iawn yn datblygu’r diwydiant drama yng Nghymru, ond ddim yn llwyddiannus iawn yn datblygu diwydiant drama Cymreig. Rwy’n gobeithio y bydd y Gweinidog yn cytuno mai dyna ddylai fod y cam nesaf ymlaen. Mi wnaf innau groesawu ymrwymiad gan y Gweinidog i wthio ar y BBC yn Llundain yn ganolog am agwedd newydd tuag at beth yn union ydy ei swyddogaeth hi yng Nghymru ac am y gyllideb i sicrhau y gall yr uchelgais honno gael ei gwireddu. Alun Davies AC: Diolch yn fawr. Rwy’n cytuno â’r pwyntiau mae’r Aelod wedi’u gwneud. Mae’r pwynt gwreiddiol a wnaeth yn ystod y drafodaeth yn bwynt hynod o bwysig achos nid ydym, pan ydym yn sôn amboutu darlledu o Gymru ac yng Nghymru, yn sôn amboutu adrodd i bobl Cymru beth sy’n digwydd yng Nghymru; rydym yn sôn amboutu edrych ar y byd trwy lygaid Cymreig. Mae hynny’n gwbl wahanol ac yn wahanol iawn i edrych ar y byd trwy lygaid Llundain. Mae hynny’n bwysig iawn—bod ein llais yn cael ei glywed a’n bod ni’n edrych ar y byd ac yn cael trafod y byd fel rydym yn ei weld ef. Rwy’n mawr obeithio y byddwn yn gallu gwneud hynny a gwneud yn fwy o hynny yn ystod y blynyddoedd nesaf.Rwy’n credu bod hynny’n bwysig—nid jest i ni yng Nghymru, ond mae’n bwysig i Brydain. Mae’n bwysig bod pobl yn Llundain ac yn Lloegr yn gweld sut rydym ni’n byw ac yn gweld sut rydym ni’n edrych ar y byd, a bod y fath o awyrgylch ac amgylchedd darlledu yn y dyfodol yn un sy’n adlewyrchu diwylliant y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd. Rydw i eisiau gweld mwy o newyddion annibynnol, ffres sy’n edrych ar beth sy’n digwydd fan hyn ac wedyn yn sicrhau bod mwy o drafodaeth yn ein cymdeithas ni ac yn ein cymunedau ni amboutu’r materion pwysig sy’n ein hwynebu ni. Ac, yn olaf, Julie Morgan. Julie Morgan AC: Diolch yn fawr iawn.Dim ond ychydig o bwyntiau cyflym.Roeddwn yn falch o lofnodi llythyr Lee Waters, ac rwyf yn gobeithio y bydd hynny'n arwain at ganlyniad.Mae 'Casualty' yn cael ei ffilmio ar ystâd Gabalfa yr wythnos nesaf, felly mae pawb yn hynod falch am hynny, ond rwyf am ategu’r pwyntiau y mae pobl wedi eu gwneud, sef y gellid ei ffilmio yn unrhyw le o ran portreadu unrhyw beth, mewn gwirionedd, am fywyd Cymru a sut y mae Cymru’n cael ei gweld.Wrth gwrs, mae hwn yn bwynt sy’n cael ei wneud yn gryf yn adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig sydd newydd ei gyhoeddi.Felly, nid wyf yn gwybod a oes ganddo sylw ynghylch a oes rhywbeth y gallwn ni ei wneud am hynny.Dyna oedd y pwynt cyntaf.Yn ail, rwyf am godi pwynt ynghylch sut y mae pobl mewn gwirionedd yn cael eu newyddion yng Nghymru.Credaf fod y BBC yn tybio, onid yw, ei bod yn cyrraedd tua 60 y cant o’r bobl yng Nghymru gyda Radio Cymru, Radio Wales a’r holl raglenni newyddion eraill.Beth am y 40 y cant arall, a'r hyn y gallwn ei wneud i'w cyrraedd fel eu bod hwythau’n cael rhywfaint o newyddion materion cyfoes o Gymru, a fydd yn helpu, a dweud y gwir, i wneud y cyhoedd yng Nghymru’n fwy gwybodus ar gyfer yr etholiadau ac ar gyfer y refferendwm a bod gennym faterion sy’n ymwneud yn benodol â Chymru? Alun Davies AC: Rwyf yn ddiolchgar i'r Aelod am ei phwyntiau.Mae’n briodol iddi gyfeirio at Bwyllgor Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin a’r adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf.Credaf ei fod yn dangos dyfnder, yn ogystal ag ehangder, y consensws, nid yn unig yn y Siambr hon, ond mewn mannau eraill, o ran llawer o'r heriau sy'n ein hwynebu.Mae'r pwynt am 'Casualty' yn un da, ac mae'n bwynt tebyg, wrth gwrs, gyda 'Doctor Who' ac eraill, lle mae gennych ddrama o ansawdd uchel sy'n cael ei gwneud yng Nghymru, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn ei groesawu ac yn awyddus iawn i’w weld yn parhau, ond nid yw'n cyfateb i bortreadu Cymru fel gwlad, fel cenedl, ac fel cymuned.Nid yw’n ormod—.Credaf fod y dyddiau lle gallwn ddweud ein bod am gael y ddau wedi mynd; mae angen i ni gael.Fel rhan gyfansoddol o'r Deyrnas Unedig, ni ddylai fod angen, hyd yn oed, inni wneud y pwyntiau hyn yn y ffordd yr ydym yn eu gwneud dro ar ôl tro. Mae gan y BBC ddyletswydd i gynrychioli'r Deyrnas Unedig fel y mae’r Deyrnas Unedig heddiw, ac mae hynny'n golygu y dylai’r sgriniau adlewyrchu’r bywydau yr ydym yn eu byw, ac mae hynny'n golygu gweld Gabalfa neu y Coed Duon neu Dredegar neu Lanelli neu— [Torri ar draws.]Neu Grangetown, ie, neu hyd yn oed Ynys Môn.A heb fod eisiau mynd o amgylch y Siambr—gwn y bydd Mike Hedges yn gwneud pwynt ynghylch 'Match of the Day'.Ond mae'n bwynt pwysig fod ein bywydau’n cael eu hadlewyrchu gan ein darlledwr cyhoeddus, a dyna’r hyn yr ydym yn disgwyl ei weld.Mae’r pwynt am yr amgylchedd newyddion yn hynod o bwysig.Rwyf am orffen ar y pwynt hwn, heb drethu eich amynedd ymhellach, Lywydd.Mae'r ffordd y mae pobl yn derbyn eu newyddion yn newid, ac yn newid yn gyflym.Rydym i gyd yn gwybod bod y cyfryngau cymdeithasol a Facebook yn dylanwadu ar yr amgylchedd newyddion lawn cymaint ag y mae’r bwletin am 10 o'r gloch, ac mae angen inni gydnabod hynny.Mae'n sicr yn un o'r rhesymau pam y mae gennym fforwm cyfryngau ac nid dim ond fforwm darlledu, ac mae'n un o'r pethau y mae angen inni ei ystyried.Ond mae gan bob darlledwr gyfrifoldeb llwyr i sicrhau, yn yr amser yr ydym yn ei wynebu ar hyn o bryd—rydym yn wynebu penderfyniad enfawr ddydd Iau—fod y bobl a fydd yn pleidleisio ddydd Iau yn wybodus ac nad ydynt wedi cael eu camarwain ynghylch y materion y maent yn eu trafod ac yn pleidleisio arnynt, ac mae hynny'n rhywbeth yr hoffwn ei weld yn y cyfnod sy’n arwain at etholiad seneddol nesaf Cymru hefyd.Diolch. Diolch i’r Gweinidog. 8. 7. Datganiad: Arolwg Iechyd Cymru The next item on the agenda is the statement by the Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport on the Welsh health survey. I call on the Cabinet Secretary, Vaughan Gething, to make the statement. Vaughan Gething AC: Diolch i chi, Lywydd.Mae arolwg iechyd Cymru yn rhoi trosolwg i ni o gyflwr iechyd y genedl.Mae'n cynnwys statws iechyd, y defnydd o wasanaethau iechyd ac ymddygiad sy'n gysylltiedig ag iechyd.Rwy’n gwneud datganiad heddiw ar y prif negeseuon, ond ceir mwy o ddysgu a dadansoddiad o'r arolwg yn ddiweddarach yn y flwyddyn.Mae arolwg iechyd Cymru 2015, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yn dangos i ni fod 19 y cant o oedolion yn ysmygu ar hyn o bryd. Mae hynny i lawr o 26 y cant yn 2003 i 2004. Mae’r lleihad sylweddol hwn yn golygu ein bod wedi rhagori ar nod Llywodraeth Cymru i leihau cyfraddau ysmygu i 20 y cant erbyn 2016. Rydym yn awr ar y trywydd iawn i gyrraedd y targed uchelgeisiol o leihau lefelau ysmygu i 16 y cant erbyn 2020-ac nid oeddem wedi meddwl y byddem yn cyrraedd yno bob amser. Mae'r cynnydd hwn yn dyst i ymdrechion ystod o weithwyr proffesiynol sydd wedi gweithio i annog pobl ifanc yn enwedig rhag dechrau ysmygu, a’r cyngor a'r gefnogaeth a roddir i ysmygwyr sydd am roi'r gorau iddi. Rwy'n falch o gydnabod bod pobl Cymru wedi croesawu’r newid yn y diwylliant fel mai amgylcheddau di-fwg yw'r norm bellach.Mae'n bwysig ein bod yn cynnal ac yn gwella ein hymdrechion.Rydym yn gwybod bod ysmygu'n lladd ac yn achosi niwed.Mae angen inni weithredu fel nad yw pobl ifanc yn dechrau ysmygu a bod ysmygwyr sydd am roi'r gorau iddi yn cael y cymorth gorau sydd ar gael.Gyda hyn mewn golwg, rydym ar hyn o bryd yn adolygu'r cynllun gweithredu ar reoli tybaco i sicrhau ein bod yn parhau i wneud popeth o fewn eich gallu i leihau lefelau ysmygu ymhellach yng Nghymru.Mae gennym, am y tro cyntaf, wybodaeth benodol am y nifer o ddefnyddwyr e-sigaréts yng Nghymru. Pymtheg y cant o oedolion sydd wedi rhoi cynnig ar ddefnyddio e-sigaréts; gyda 6 y cant yn ddefnyddwyr presennol, ac mae 59 y cant o ddefnyddwyr presennol hefyd yn ysmygwyr ar hyn o bryd. Mae'r ffigurau hyn yn debyg i'r canfyddiadau o arolygon mewn mannau eraill yn y DU, a byddwn yn parhau i adolygu’r dystiolaeth ar ddefnyddio e-sigaréts.Er nad yw lefelau yfed alcohol wedi gostwng eleni, maent yn aros ar y lefelau isaf ers i’r cwestiynau hyn gael eu cyflwyno yn 2008.At ei gilydd, mae yfed alcohol ymhlith oedolion iau wedi gostwng, ond bu cynnydd bychan o ran oedolion hŷn.Mae mynd i'r afael â chamddefnyddio alcohol yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a bydd ein camau gweithredu yn cael eu nodi yn y cynllun cyflawni newydd ar gamddefnyddio sylweddau.Bydd y camau gweithredu yn cynnwys ffocws cryf ar fynd i'r afael â'r niwed sy'n gysylltiedig ag ymddygiadau yfed peryglus, yn enwedig ymhlith oedolion hŷn.Rydym yn disgwyl cyhoeddi’r cynllun hwnnw cyn toriad yr haf.Mae ein camau gweithredu i leihau'r niwed a achosir gan alcohol yn cael eu hategu gan ganllawiau prif swyddogion meddygol newydd y DU, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr eleni.Mae'r rhain yn cynnwys un terfyn risg isel o 14 uned yr wythnos ar gyfer dynion a menywod, ac yn ei gwneud yn glir bod yfed unrhyw lefel o alcohol yn cynyddu'r perygl o ystod o ganserau a chlefydau eraill.Mae'r canllawiau newydd hefyd yn atgyfnerthu'r neges nad oes lefel ddiogel o alcohol i'w yfed yn ystod beichiogrwydd.Byddwn yn parhau i ddadlau o blaid yr achos dros gyflwyno isafbris uned ar gyfer alcohol yng Nghymru.Byddai camau o'r fath yn targedu’r yfwyr trymaf yn benodol i atal niwed a achosir gan yfed gormod o alcohol, ac ar yr un pryd yn lleihau'r effaith ar yfwyr cymedrol.Mae'r arolwg hefyd yn rhoi syniad o’r gyfran o'r boblogaeth sydd naill ai'n rhy drwm neu'n ordew.Tynnodd y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd Cyhoeddus sylw yr wythnos diwethaf at y cynnydd araf ond cyson yn nifer yr oedolion a gaiff eu hystyried yn rhy drwm neu'n ordew ers cychwyn yr arolwg yn 2003-04.Yn ystod y cyfnod hwn o 11 mlynedd, mae'r gyfran o oedolion a gaiff eu hystyried yn rhy drwm neu'n ordew wedi codi o 54 y cant i 59 y cant, ac mae gordewdra yn unig wedi cynyddu o 18 y cant i 24 y cant.Mae lefelau hefyd yn cynyddu yn sgil amddifadedd ac maent ar eu huchaf ymhlith pobl ganol oed.Yn syml, rydym yn gwybod mai’r rheswm pam mae pobl dros bwysau ac yn ordew yw’r anghydbwysedd rhwng calorïau a fwyteir a’r calorïau a ddefnyddir.Felly nid yw'n syndod bod y data hefyd yn dangos nad yw lefelau gweithgarwch corfforol yn gwella, a dim ond un rhan o dair o oedolion sy’n dweud eu bod yn bwyta eu pum dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd. Mae hwn yn ddangosydd a ddefnyddir yn eang o ran deiet iach a chytbwys.Mae gwella lles pobl yng Nghymru, a'u galluogi i fwyta'n well a symud mwy yn ymrwymiad maniffesto allweddol i ni, ac mae fy mhortffolio yn dwyn ynghyd nifer o gydrannau i symud yr agenda hon yn ei blaen.Yn ganolog i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a ddaeth i rym yn ddiweddar, mae’r bwriad i wella iechyd, lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.I gyflawni dyheadau’r Ddeddf, bydd yn rhaid i ni fod yn gymdeithas lle mae lles corfforol a meddyliol yn cael eu hyrwyddo i’r eithaf ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol yn cael eu deall.Mae cynyddu lefelau gweithgarwch corfforol a gwella ein deiet yn elfennau allweddol er mwyn cyflawni'r dyheadau yn y Ddeddf.Penodwyd cyfarwyddwr gweithgarwch corfforol cenedlaethol ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Chwaraeon Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddatblygu argymhellion i wella lefelau gweithgarwch corfforol.Ynghyd â gwaith ar addysg a newid ymddygiad, rydym hefyd yn ceisio dylanwadu ar yr amgylchedd bwyd.Rydym yn ehangu safonau maeth mewn mwy o leoliadau, ac rydym ar hyn o bryd yn eu datblygu ar gyfer cartrefi gofal a lleoliadau blynyddoedd cynnar.Bydd angen i ni hefyd weithio gyda'r diwydiant bwyd ar lefel Cymru a'r DU.Mae angen i ni sicrhau bod cynhyrchion iachach ar gael ac annog y defnydd o gynllun Llywodraeth y DU i labelu maeth ar flaen pecynnau a hyrwyddo a marchnata cyfrifol.Roedd fy rhagflaenydd, wrth gwrs, yn pwyso am gamau gweithredu cryfach gan Lywodraeth y DU ar siwgr ac yn pwyso am atgyfnerthu’r cyfyngiad ar hysbysebu bwydydd afiach i blant.Roeddem yn falch o glywed y cyhoeddiad gan y DU am ardoll ar siwgr.Fodd bynnag, ni fydd yr ardoll ynddo’i hun yn datrys yr holl heriau sy’n ein hwynebu o ran y defnydd o siwgr.Er fy mod wrth gwrs wedi fy nghalonogi o weld gostyngiad yn nifer yr oedolion sy'n ysmygu yng Nghymru, ar y cyfan mae'n amlwg bod llawer ohonom yn parhau i fwyta ac yfed gormod ac nid ydym yn gwneud digon o ymarfer corff.Mae cefnogi ac annog pobl i gymryd camau bach i wella eu ffordd o fyw a lleihau'r risg o salwch y gellir ei atal yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.Fodd bynnag, nid yw hyn yn rhywbeth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud ar ei phen ei hun.Mae'n gofyn am weithredu ar y cyd gan amrywiaeth eang o sefydliadau o'r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol ac, wrth gwrs, gan yr unigolion eu hunain. Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair. Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Diolch am y datganiad. Mae hwn yn arolwg pwysig iawn. Rwy’n gwerthfawrogi, wrth gwrs, mai dim ond penawdau rydym ni’n eu trafod heddiw ac rwy’n edrych ymlaen am ddadansoddiad mwy cyflawn maes o law. Mae yna arwyddion cadarnhaol yma ar y ganran sy’n ysmygu, er enghraifft efo gostyngiad yn parhau ond, wrth gwrs, efo llawer iawn o ffordd i fynd. Rwyf yn cefnogi camau pellach gan y Llywodraeth yn y maes yma wrth geisio bwrw targedau mwy uchelgeisiol, ond fel un a wnaeth bleidleisio yn erbyn y Mesur iechyd cyhoeddus oherwydd yr elfen e-sigarennau, mi fuaswn i’n annog y Llywodraeth i weld e-sigarennau fel arf bwysig yn erbyn ysmygu. Rwyf yn falch bod y Llywodraeth yn cadw meddwl agored, fel y clywsom ni gan y Gweinidog heddiw. Mae yna rywfaint o oleuni yma o ran gorddefnydd o alcohol hefyd. Ond, os caf i droi rŵan at yr elfennau negyddol yn yr adroddiad yma.If we turn to the big negative coming out of this survey, that’s the statistics on obesity. The alarm bells haven’t exactly just started to sound on obesity, they’re now ringing at a volume that should certainly be deafening enough to force governments to run not for cover but in pursuit of urgent action. It is a national scandal, it’s a catastrophic situation that I think we can all agree is threatening the well-being of current and future generations. I note the steps outlined by the Minister, including the appointment of a national physical activity director. I do regret, however, that obesity amongst children isn’t specifically addressed or addressed in detail today in this statement. It’s clear that we have an obesity epidemic in Wales among children that needs to be addressed urgently in terms of policy and resource. Does the Minister share my appetite to seek new ways of substantially increasing funding in this area?On urgency, I wonder what lessons have been learnt from smoking-cessation strategies, because I don’t think we can afford to let the fight against obesity happen along similar timescales to the measures to reduce smoking, which have taken decades to take effect. On the power of taxation, tobacco, along with alcohol, of course—heavily taxed. And though it did take some time, I’m glad that Labour did finally switch from rubbishing to supporting our calls for a levy on sugary drinks. Can I ask how the Minister now plans to work with the UK Government for early introduction of the levy that the UK Government has promised to pursue? The Minister may know that the Parliamentary Office of Science and Technology published a report today on sugar and obesity. It calls for limiting sugar intake. It calls—yet another body—for the introduction of a levy. It also highlights similarities in approaches by the food industry and the tobacco industry to delay the introduction of regulation. So, can I ask finally if the Cabinet Secretary would comment on steps he would like to take, or is taking, to deal with these efforts to frustrate Government action? Vaughan Gething AC: Diolch i'r Aelod am ei gyfres o sylwadau a chwestiynau a’r dechrau cadarnhaol ar y cyfan, ac rwyf innau hefyd yn edrych ymlaen at weld mwy o ddysgu o'r arolwg wrth i ragor o waith dadansoddi gael ei wneud i helpu i lywio ein sefyllfa a lle’r ydym eisiau bod.Rwy’n dechrau gyda'ch pwynt am e-sigaréts.Dim ond i ailadrodd ein bod yn parhau i adolygu'r dystiolaeth ar ddefnyddio e-sigarét, o ran pa mor gyffredin ydynt a'r ffordd y cânt eu defnyddio, eu heffaith botensial ar bobl ifanc a'r modd y maent yn cael eu marchnata, a'r cyflasynnau, ond yn enwedig yr effaith y mae defnyddio e-sigaréts yn ei chael.Rydym wedi clywed nifer o adroddiadau am effaith y defnydd o e-sigaréts, â'r datganiad eu bod yn 20 y cant yn llai niweidiol na thybaco. Ond wrth gwrs nid yw hynny'n golygu eu bod yn rhydd o niwed.Felly, mae angen deall i beth y cânt eu defnyddio, pam eu bod mor gyffredin, a beth yw’r effaith.Nid ydym yn deall eto beth fydd y defnydd tymor hir ohonynt, ond byddwn yn parhau i edrych ar y dystiolaeth ac yn cael ein harwain gan dystiolaeth ar y mater hwn.Byddaf yn ymdrin â'ch pwyntiau am fwyd, maeth a siwgr gyda'i gilydd, os caf. Dim ond i addasu ychydig ar y sefyllfa ar hyn o bryd, nid ein bod yn dilorni’r syniad o ardoll ar siwgr; ond yn hytrach y syniad ynghylch sut y gellid ei neilltuo. Nid ydym erioed wedi bod o blaid neilltuo’r defnydd o’r ardoll ar siwgr yn y modd y cafodd ei gyflwyno i ddechrau, ond ni fu unrhyw anghytundeb erioed rhwng ein dwy blaid y gellid ac y dylid ystyried ardoll ar gynnyrch cynnwys siwgr uchel. Yr hyn sydd gennym yn awr yw ardoll ar siwgr mewn diodydd, ond nid yw'n ystyried pob rhan arall o fwyd yn ogystal â hynny. Rhan o'r gweithredu y mae fy rhagflaenydd wedi annog Llywodraeth y DU i ymgymryd ag ef yw gwneud mwy i hyrwyddo dewisiadau heblaw siwgr, yr ydym yn ei hyrwyddo ein hunain yng Nghymru, ond hefyd mae angen edrych eto ar reoleiddio ar gyfer siwgr mewn mwy na diodydd byrlymog yn unig.Mae hyn yn mynd yn ôl at y pwynt nad yw bwyd, maeth a llawer o'r pwerau rheoleiddio dros fwyd a maeth a safonau maeth wedi'u datganoli.Mae cydbwysedd rhwng yr hyn y gallwn ac na allwn ei wneud, a dyna pam mae angen inni weithio gyda Llywodraeth y DU o hyd.Gallaf gadarnhau bod sgyrsiau parhaus rhwng y Llywodraethau ynghylch cyflwyno'r ardoll a gynigiwyd a sut y gallai neu efallai na fydd yn gweithio, ac y bydd y gwaith yn cael ei ddatblygu rhwng fy adran i a hefyd adran yr Ysgrifennydd Cyllid a Llywodraeth Leol hefyd.Rwy’n gobeithio y gallwn ddod yn ôl a dweud mwy wrth Aelodau'r Cynulliad pan fyddwn wedi cael sgyrsiau mwy adeiladol, a’n bod yn gallu dweud rhywbeth mwy wrthych na'r ffaith ein bod yn siarad ar y pwynt hwn.Rwyf am ymdrin â'ch pwynt ynghylch gordewdra. Rydym wedi cydnabod ers amser fel gwlad bod gordewdra yn her sylweddol—yr effaith ar ganlyniadau iechyd cyhoeddus ar ystod eang o ddangosyddion afiechyd a chyflwr iechyd a'r effaith a gaiff ar fywydau pobl o ddydd i ddydd, a’r realiti ei bod yn fwy cyffredin mewn cymunedau lle ceir mwy o amddifadedd nag mewn eraill. Felly, nid oes lle i fod yn hunanfodlon. Rhan o'r anhawster yw ei fod yn mynd yn ôl i'r pwynt o sut yr ydym yn defnyddio’r canlyniadau hyn i ddeall beth sydd angen i ni wneud mwy ohono, a sut yr ydym yn gweithio’n fwy llwyddiannus ochr yn ochr â'r cyhoedd i'w hannog i wneud dewisiadau drostynt eu hunain, ond ein bod yn gwneud hynny mewn modd nad yw’n ymddangos ein bod yn pregethu wrth y cyhoedd neu’n eu maldodi ac yn dweud wrthynt beth mae'n rhaid iddynt ei wneud. Mae'n rhaid i ni wneud dewisiadau iachach yn ddewisiadau haws. Os edrychwn ar blant, er enghraifft, mae ychydig dros un o bob pedwar plentyn naill ai'n rhy drwm neu'n ordew. Dyna ein dealltwriaeth o'r rhaglen mesur plant, sy'n golygu bod tua 73 y cant ar bwysau iach. Ond ein problem ni yw nad ydym wedi gweld y math o golli pwysau mewn plant dros bwysau a gordew yr ydym am ei weld, ac i fynd i’r afael â hynny mae angen inni weld beth sy'n digwydd i blant cyn iddynt fynd i’r ysgol, yn ystod yr ysgol a thu allan yr ysgol hefyd. Mae angen newid diwylliant yn gyffredinol ar draws cymdeithas ac o fewn teuluoedd—felly dealltwriaeth o beth yw effaith deiet afiach ar blentyn ac effaith peidio â gwneud digon o ymarfer corff ar blentyn. Felly, mae ystod o wahanol bethau i ni eu gwneud. Ond gan fod y darlun yn gymhleth, nid yw hynny'n golygu na ddylem ddymuno gwneud rhywbeth am y peth ac na fyddwn yn dymuno gwneud rhywbeth am y peth. Fel y dywedais ar ddiwedd fy natganiad cychwynnol: mae hyn yn ymwneud â'r cyhoedd, cyrff gwirfoddol, y sector cyhoeddus a'r sector preifat ac unigolion eu hunain yn deall ac yn atgyfnerthu'r hyn y gallent ac y dylent ei wneud, a sut yr ydym ni yn gwneud y dewisiadau hynny’n haws iddynt, a bod pobl yn gallu gweld ar unwaith yr effeithiau gwell ar iechyd o fod ar bwysau iachach. Llefarydd y Ceidwadwyr, Angela Burns. Angela Burns AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd.Weinidog, hoffwn ddiolch i chi am y datganiad hwn.Rwyf innau hefyd yn croesawu’n fawr iawn rywfaint o'r newyddion yn y datganiad hwn.Rwyf wrth fy modd o weld bod ysmygu yn bendant wedi gostwng o 26 y cant i 19 y cant o oedolion.Mae'n ddiddorol nodi bod hynny'n cyd-fynd yn llwyr â nifer y bobl sy'n defnyddio e-sigaréts.Rwyf wrth fy modd o glywed y sylwadau a wnaethoch wrth Rhun ap Iorwerth, oherwydd gobeithio, gydag Ysgrifennydd Cabinet newydd yn ei le, y gallwn gael golwg newydd ar fater defnyddio e-sigaréts, oherwydd, os yw'n helpu pobl i roi'r gorau i ysmygu, mae'n sicr yn werth ei ystyried yn hytrach na'r gwrthwynebiad ystyfnig braidd a roddwyd iddo y tro diwethaf.Gan droi drosodd at weddill y datganiad, hoffwn godi yn arbennig y mater o ordewdra i siarad am ddiabetes. Roeddwn wedi synnu’n fawr, mewn gwirionedd, o ddarllen yn arolwg iechyd Cymru eu bod yn dweud mai dim ond ychydig o gynnydd oedd mewn diabetes. Nid yw hyn yn cyd-fynd â llawer o'r rhethreg a glywn gan wahanol sefydliadau yn dweud bod diabetes ar gynnydd yng Nghymru. Tybed, Weinidog, a fyddech yn ystyried archwilio’r ffigurau hynny’n fanwl ac efallai gweld a allwn gael gwybod faint o'r bobl hynny sydd â diabetes math 1 o’i gymharu â math 2, oherwydd, fel y gwyddoch chi a minnau, mae math 2 yn rhywbeth y mae modd cael help i gael gwared arno drwy ddilyn deiet gwell, mwy o ymarfer corff a rhagor o gyngor a chymorth, yn wahanol i fath 1.Yma hefyd o ran y gydberthynas â phobl ifanc yn ordew, codais hyn ar eich datganiad yr wythnos ddiwethaf am y gostyngiad yn nifer yr oriau sydd ar gael i chwaraeon mewn ysgolion. Mae angen inni gydnabod, unwaith eto, yn yr arolwg hwn mae'n dweud, mewn gwirionedd, rhwng 2004, pan ddechreuodd yr arolwg, a'r llynedd, 2015, bod yr ymarfer corff y mae pobl ifanc dan 16 oed yn ei wneud wedi gostwng, yn hytrach na chynyddu. Felly, mae’n ymddangos ein bod yn symud tuag yn ôl. Felly, hoffwn ofyn, Weinidog, beth yr ydych chi’n mynd i fod yn gallu ei wneud i gysylltu â'ch cydweithiwr ym maes addysg ynghylch sut mae sicrhau bod pobl ifanc, yn enwedig yr ifanc iawn, yn tyfu i fyny gyda’r arfer iach hwn o ymarfer corff da a fydd yn helpu i fynd i’r afael â’r maes penodol hwn? Nid oes modd gwneud hyn ar wahân; mae angen inni gael safbwynt integredig. Dyna pam fy mod yn meddwl tybed: ai dyna’r rheswm eich bod wedi penodi cyfarwyddwr gweithgarwch corfforol cenedlaethol? A yw hon yn swydd newydd gydag arian newydd, neu a oes rhywun eisoes yn gwneud y swydd hon ac yn mynd i fod yn cymryd y cyfrifoldeb hwn? Oherwydd, unwaith eto, er fy mod yn cytuno â byrdwn eich dadl yma, byddwn wedi meddwl, unwaith eto, bod hon yn rôl addysgiadol, a'r hyn sydd angen ei wneud, o fewn addysg, yw sicrhau bod pobl ifanc a phlant yn mynd ati i ddysgu a deall beth yw bwyd da, fforddiadwyedd, sgiliau coginio, gweithgarwch corfforol, ymdopi â’r bwlio a'r embaras y mae menywod ifanc, yn enwedig, yn eu hwynebu pan fyddant yn ceisio cymryd rhan mewn chwaraeon. A fyddai cyfarwyddwr gweithgarwch corfforol cenedlaethol yn edrych ar hyn i gyd? Ac, unwaith eto, pan fyddwn yn edrych ar feysydd o amddifadedd cymdeithasol—y rheini yw’r bobl sy'n ei chael hi’n anodd cael cyfleoedd i gymryd rhan mewn chwaraeon—tlodi, ac yn y blaen. Felly, unwaith eto, byddwn wedi meddwl y byddai hynny wedi cael ei drefnu ym mhob un o'r gwahanol raglenni cymdeithasol sydd gennym, yn hytrach na chreu swydd hollol newydd. Yn fyr, oni ddylai fod yn rhan annatod o bolisi'r Llywodraeth, yn hytrach na chael un tsar, neu a ydych yn credu y bydd y tsar hwnnw yn gallu cael effaith, a sut y byddwch yn mesur y tsar?Roeddwn i'n meddwl ei fod yn ddiddorol iawn gweld, eto o fewn arolwg iechyd Cymru, eu bod yn y bôn yn dweud bod ein holl blant yn eithaf iach.Eto i gyd, nid yw hynny'n cyd-fynd yn hollol â’r adroddiad plant, pobl ifanc ac addysg ar y rhaglen Cynllun Gwên yn y Cynulliad diwethaf, lle canfuwyd bod gan tua 41 y cant o blant pum mlwydd oed yng Nghymru brofiad sylweddol o bydredd dannedd, mae tua 8,000 o blant wedi gorfod cael anesthetig er mwyn tynnu dannedd lluosog wedi pydru, a byddwch chi a minnau yn gwybod, mewn gwirionedd, mai drwy eich ceg yr ydych yn cael cymaint o afiechydon, cymaint o heintiau, a bod dannedd drwg mewn gwirionedd yn golygu y byddwch fel oedolyn yn agored i afiechyd.Felly, hoffwn wybod beth y gallech fod yn ei wneud gyda'r rhaglen Cynllun Gwên a beth y gallech fod yn ei wneud—oherwydd mae hyn, os mynnwch, yn borth i mewn i iechyd da.Mae cael dannedd da yn cyfateb i iechyd da, ac rwy'n synnu'n fawr nad yw'n cael ei nodi yn yr arolwg iechyd.Gan y byddwch yn ailgyfansoddi’r arolwg iechyd hwn, tybed a fyddech yn ystyried a ddylech fod yn gofyn cwestiynau ar yr ochr ddeintyddiaeth iddo.Yn olaf, hoffwn wneud sylw ar y ffaith eich bod yn bwriadu ail-lansio'r arolwg cyfan hwn-arolygon iechyd yn y dyfodol. Rydych yn dweud mai hwn yw'r arolwg iechyd Cymru diwethaf o'r fath yn y fformat hwn, a byddwn yn hoffi gwybod yn y fformat newydda fyddwch yn cael cwestiynau tebyg iawn fel y gallwn barhau i gynllunio llwybr, neu a fyddwch chi'n dechrau o’r dechrau gyda set newydd gyfan, fel na allwn gael cymariaethau blwyddyn ar ôl blwyddyn? Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i ni gael gwybod hynny, oherwydd, yn y pen draw, yn ein rôl graffu, drwy allu craffu ar eich perfformiad, flwyddyn ar ôl blwyddyn, y gallwn gael darlun o effaith y polisïau a gyflwynwyd gan eich Llywodraeth. I fod yn onest, Ysgrifennydd y Cabinet, mae gan eich Llywodraeth hanes o gael gwared ag ystadegau cymharol anghyfleus, a hoffwn i wybod, wrth symud ymlaen, a fydd yn dal yn bosibl cael y mesur cymharol hwnnw. Diolch. Vaughan Gething AC: Diolch i chi am y gyfres o gwestiynau.Hoffwn gydnabod y newyddion da ar ysmygu, yn arbennig, er nad yw'n deg i ddweud ei fod yn syml yn gydberthynas uniongyrchol â defnyddio e-sigaréts.Fel y dywedais yn gynharach, rhan o'r broblem yw bod mwy a mwy o bobl ifanc yn tyfu i fod yn oedolion nad ydynt yn ysmygu, ac mae hynny’n cael effaith wirioneddol ar gyffredinolrwydd ysmygu—newid diwylliannol sydd i’w groesawu sy'n digwydd, er nad wyf yn teimlo’n hunanfodlon ynghylch y cyfraddau na chyffredinolrwydd ysmygu ymysg pobl ifanc.O ran gordewdra a diabetes, a'r berthynas rhwng y ddau, rydym, wrth gwrs, yn siarad am ordewdra a'i berthynas, yn benodol, â diabetes math 2, yn hytrach na math 1. Dyna yw’r twf sylweddol yr ydym wedi’i weld. Er gwaetha’r ffaith ei bod yn ymddangos bod y gyfradd twf wedi lefelu yn y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, mae hynny’n dal yn gadael problem enfawr, oherwydd rydym yn gwybod po fwyaf o bobl sydd gennym yn byw gyda diabetes math 2, y mwyaf tebygol y maent o alw ar y gwasanaeth iechyd, i fyw drwy gyfnodau o salwch a phob un o'r cymhlethdodau sylweddol sy'n cyd-fynd â diabetes. Cawsom Wythnos Diabetes genedlaethol yr wythnos diwethaf, ac nid wyf yn meddwl y gallwn byth flino ailadrodd nad yw'n gyflwr dibwys. Ymwelais â'r tîm yn Ysbyty Gwynedd gan edrych ar y gwaith y maent yn ei wneud—gwaith trawiadol iawn—yn Betsi Cadwaladr i gael llawdriniaeth yn hytrach na cholli rhannau o’r corff. Mae'n gyffrous gweld y lluniau o'r hyn sydd wedi digwydd gyda llawdriniaeth. Os mai’r dewis arall oedd colli rhan o’r corff, mae hynny’n cael effaith fawr ar ddisgwyliad oes rhywun yn ogystal ag ansawdd ei fywyd a'i allu i weithio a symud o gwmpas yn gymdeithasol. Rydych yn gwybod, y realiti yw bod pobl yn colli eu golwg, maent yn colli rhannau o’u corff o ganlyniad i ddiabetes. Mae'n gyflwr gwirioneddol ddifrifol, a dyna lle daw'r prif bryder am yr effaith ar ansawdd bywyd pobl, gallu pobl i weithio ac i fyw, ac mewn gwirionedd yn y gost y mae'n ei gynhyrchu ar gyfer gwasanaethau iechyd. Eisoes, mae tua 10 y cant o wariant y GIG, rydym yn meddwl, yn cael ei wario ar feysydd sy'n gysylltiedig â diabetes.O ran eich pwyntiau yn gyffredinol am chwaraeon ysgol a gweithgarwch corfforol, a'r cysylltiadau rhwng ein gwaith ni a gwaith y portffolio plant a chymunedau ac, wrth gwrs, yr Ysgrifennydd Addysg, rydym yn cydnabod bod cysylltiadau amlwg ac uniongyrchol iawn rhwng sut yr ydym yn annog ac yn ei gwneud yn hawdd i blant fod yn egnïol yn gorfforol ac, unwaith eto, sut yr ydym yn meddwl am natur y gweithgarwch hwnnw.Felly, nid ydym yn meddwl yn unig am chwaraeon, er mor bwysig yw hynny fel rhan o'r darlun, ond mae gweithgarwch corfforol yn mynd llawer pellach ac yn llawer ehangach na hynny.Dyna'r sgwrs yr ydym yn ei chael, wrth i ni fynd trwy ddiwygio'r cwricwlwm hefyd, er mwyn deall sut y gallai fod yn edrych a sut yr ydym yn credu y dylai edrych, ac yna sut yr ydym yn mesur pwyntiau priodol i ddeall a yw ein plant yn fwy egnïol yn gorfforol.Ond mae'n mynd yn ôl eto at y pwynt a wneuthum ar y dechrau mewn ymateb i Rhun ap Iorwerth: mae hyn yn ymwneud â'r hyn y gallai ac y dylai’r Llywodraeth ei wneud, yn ei holl ffurfiau, yn ogystal â'r hyn y bydd unigolion yn ei wneud hefyd.Felly, nid yw’n ymwneud â’r plant yn unig ond hefyd y teuluoedd, a’r pwysigrwydd y maent yn ei roi ar weithgarwch corfforol ac, unwaith eto, pa mor hawdd yr ydym yn ei wneud iddynt gymryd rhan yn y gweithgarwch.Mae swydd newydd y cyfarwyddwr gweithgarwch corfforol yn swydd ar y cyd, fel y dywedais yn gynharach, ond mae'n mynd at graidd nid yn unig yr hyn y mae'r Llywodraeth am ei weld, ond mewn gwirionedd mae Chwaraeon Cymru yn cydnabod nad yw’r rhan honno o'u cenhadaeth yn ymwneud yn unig â chwaraeon elitaidd.Mae o leiaf tair o bedair prif ran eu cenhadaeth yn fras yn sôn am gyfranogiad ac, os mynnwch, y cysylltiad â meysydd iechyd cyhoeddus o weithgarwch.Dyna beth y mae'n ymwneud ag e: gweithgarwch ar lawr gwlad, nid yn unig chwaraeon elitaidd.Rwy'n meddwl fod Chwaraeon Cymru yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf wedi bod yn barod i fod yn fwy agored am y ffaith fod hynny’n rhan o'u cenhadaeth a sut y dylid eu barnu nhw hefyd.Felly, mae'r swydd hon yn ymwneud â cheisio dwyn ynghyd yr hyn y gallem ac y dylem ei wneud ar draws gwahanol ganghennau’r Llywodraeth. Chwaraeon Cymru, fel corff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad, ac yna sicrhau ein bod wedyn yn cael rhywfaint o dargedau a cherrig milltir ystyrlon.Felly, byddwch yn gweld rhywbeth a fydd yn dod yn ôl i geisio rhoi syniad i chi ac Aelodau eraill o beth yw’r sefyllfa nawr a beth yr ydym yn dymuno ei wneud mewn gwahanol rannau o’r Llywodraeth, a'n partneriaid hefyd.Dylwn hefyd ddweud, ar eich pwynt am gymunedau difreintiedig, mae gennym ystod o raglenni penodol, o StreetGames i Gymunedau yn Gyntaf, ond mae hefyd rhywbeth yma am gyrff llywodraethu prif ffrwd, er enghraifft, y pêl-droed ar hyn o bryd. Cymdeithas Bêl-droed Cymru—y gamp gyda’r cyfranogiad mwyaf yng Nghymru. Mae'n gêm weddol hawdd i'w chwarae; nid oes angen llawer o offer arnoch chi. Felly, mae'n ymwneud â meddwl am y ffordd yr ydym yn defnyddio chwaraeon, a’r chwaraeon hygyrch, i geisio cael pobl i ddangos diddordeb mewn gweithgarwch. Nid yw hynny bob amser yn ymwneud â gweithgareddau cynghreiriau, mae'n ymwneud â’r neges ehangach honno bod chwaraeon yn weithgarwch corfforol a hamdden yn rhan o'r hyn yr ydym am ei weld. Rhaid i hynny fynd i mewn i gymunedau o amddifadedd. Rwy’n amau mewn gwirionedd fod gan rai o'n prif chwaraeon stori well i’w dweud nag y gallant ei chyflwyno. Rwy'n edrych ymlaen at holi, gyda fy nghydweithiwr, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd, er mwyn deall beth sy’n digwydd mewn gwirionedd ac a ydynt yn bodloni eu cenadaethau eu hunain hefyd.Yn olaf, rwy’n derbyn eich pwynt am y Cynllun Gwên, ond, mewn gwirionedd, mae wedi bod yn un o'r rhaglenni hynny sy’n gallu dweud bod y bwlch wedi cau rhwng cymunedau lle mae mwy o amddifadedd ac eraill.Nid yw hynny'n dweud ei fod yn berffaith, felly rydym yn awyddus i ddeall beth mae angen i ni wneud mwy ohono yn y dyfodol.Yn olaf, ar eich pwynt am yr arolwg newydd, bydd arolwg newydd yn rhan o'r arolwg cenedlaethol newydd—ffordd fwy cydlynol o ymgymryd â'r wybodaeth hon mewn un darn yn hytrach na thri neu bedwar o arolygon mawr. Rydym yn dal i ddisgwyl data o ansawdd uchel sy'n ddefnyddiol i’r Llywodraeth, wrth ddeall yr hyn yr ydym yn ei wneud a'r hyn yr ydym am ei wneud, ond gallai fod yn fater i’r cyhoedd ac Aelodau'r lle hwn i ddeall yr effaith yr ydym yn ei chael ac i helpu'r broses o graffu. Yn sicr nid oes dyhead i geisio cuddio'r hyn yr ydym yn ei wneud. Mae'n syml yn ffordd o sicrhau bod gennym ddata priodol ac o ansawdd uchel. Os oes rheswm dros newid y ffordd y mae’r data hynny yn cael eu cyflwyno, dylem fod yn agored ynghylch y rheswm dros wneud hynny. Nid oes unrhyw awydd i geisio osgoi cymharedd, ond gall fod ein bod yn casglu gwahanol fathau o ddata sy'n fwy perthnasol. Os mai dyna beth yr ydym yn mynd i'w wneud, mae angen inni fod yn onest am y peth ac egluro mai dyna beth yr ydym yn mynd i'w wneud. Ond byddwn yn dal i ddisgwyl y bydd gennych ddigon o bethau i’n holi ni yn eu cylch ac i graffu arnom yn eu cylch. Does gen i ddim amheuaeth am hynny. Yn olaf, am y datganiad hwn, llefarydd UKIP, Caroline Jones. Caroline Jones AC: Diolch, Lywydd, a diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet.Mae'r data arolwg iechyd Cymru unwaith eto yn tynnu sylw at yr angen i wella negeseuon iechyd cyhoeddus.Wrth gwrs, nid yw’r heriau o lefelau gordewdra cynyddol yn unigryw i Gymru.Fodd bynnag, mae'n gwbl syfrdanol i ddysgu bod bron 60 y cant o oedolion Cymru dros eu pwysau neu'n ordew.Ysgrifennydd y Cabinet, gyda llawer o ysgolion yn gwerthu eu meysydd chwarae, pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o’r effaith y bydd hyn yn ei chael ar gyfraddau gweithgarwch corfforol ymhlith pobl ifanc?Mae gennym lawer o raglenni lle'r ydym yn annog plant i chwarae, plant i fod yn weithgar a phlant i gerdded mwy, ond mae'n rhaid i ni roi’r cyfleusterau iddynt.O ran ysmygu, mae'n newyddion da bod nifer yr ysmygwyr yn parhau i ostwng.Roeddwn yn falch o weld bod yr arolwg, am y tro cyntaf, wedi cynnwys data ar e-sigaréts, a bod Llywodraeth Cymru o'r diwedd yn rhoi sylw i’r dystiolaeth.Mae e-sigaréts yn un o'r cymhorthion mwyaf effeithiol ar gyfer rhoi'r gorau i ysmygu ym mlwch arfau’r ysmygwr.Ysgrifennydd y Cabinet, gyda thranc arolwg iechyd Cymru, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gasglu tystiolaeth am y defnydd o e-sigaréts? Rydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn siomedig bod arolwg iechyd Cymru wedi cael ei derfynu gan Lywodraeth Cymru.Mae ein gwrthwynebiadau yn ymwneud â’r hyn sy’n ei ddisodli, sef arolwg cenedlaethol Cymru.Nid ydym yn credu, gyda'i maint sampl llai, y bydd y data mor gadarn.Roedd arolwg iechyd Cymru, drwy gydol pob blwyddyn, yn cofnodi barn tua 15,000 o oedolion a 3,000 o blant, gyda lleiafswm o 600 o oedolion o bob awdurdod lleol yng Nghymru.Bydd arolwg cenedlaethol Cymru ond yn cael barn tua 12,000 o oedolion yn unig.Mae'r arolwg yn cael ei gynnal yn bennaf yn ystod yr haf, ac mae'n ymddangos nad oes unrhyw isafsymiau penodol ar gyfer casglu data gan bob awdurdod lleol.Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi ein sicrhau ni y bydd y data a gesglir ar iechyd yn y dyfodol, mor fanwl a chadarn ag a gasglwyd yn arolwg iechyd Cymru?Ysgrifennydd y Cabinet, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn casglu barn pobl ifanc, sydd â hawl, fel sydd gennym ni, i ddweud eu dweud ar ein GIG ni?Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad yn 2014 i geisio barn defnyddwyr arolwg iechyd Cymru.Roedd y mwyafrif helaeth o'r ymatebwyr yn gefnogol i'r arolwg.Yn wir, roedd yr unig feirniadaeth a gafwyd yn ymwneud â phrydlondeb rhyddhau'r data.Gyda'r pwyntiau hyn mewn golwg, a allwch chi roi’r rheswm diweddaraf inni pam y gwnaed y penderfyniad i roi terfyn ar yr arolwg?Diolch.Diolch yn fawr. Vaughan Gething AC: Diolch i chi am y pwyntiau a'r cwestiynau penodol hynny.O ran gwerthu meysydd chwarae ysgolion, mae’r Llywodraeth hon yn un sy'n buddsoddi yn seilwaith ein hystadau ysgol, ac rydw i wedi ymweld â nifer eang o ardaloedd lle'r ydym mewn gwirionedd yn gweld gwelliant yng ngallu pobl i ddefnyddio mannau awyr agored yn benodol ar gyfer gweithgarwch corfforol a hamdden. Does dim esgus i’w roi am ddiffyg gweithgarwch corfforol ymysg plant oedran ysgol yn nhermau meysydd chwarae ysgolion ar hyn o bryd.Rwyf wir yn meddwl bod angen i ni ganolbwyntio ar yr hyn y gallwn ei wneud yn gadarnhaol yn y ffordd y mae’r cwricwlwm yn gweithio a'r ffordd y mae teuluoedd yn gweithio ar gyfer ysgolion, ac â’r neges ehangach sydd gennym am bwysigrwydd gweithgarwch corfforol a hamdden, a chydnabod nad yw’n broblem i ysgolion yn unig.Ar y cyfan, mae’n broblem fod y rhan fwyaf o'r gwersi hyn am fywyd yn cael eu dysgu y tu allan i'r ysgol, ac mae'n ymwneud â’r gweithio hwnnw ochr yn ochr â'r teulu i ddeall effaith, effaith gadarnhaol, gweithgarwch corfforol a hamdden.Rydw i wedi ymdrin â'r mater am e-sigaréts ac rydw i wedi bod yn glir iawn: byddwn yn dal i adolygu’r dystiolaeth, ac fel y dywedais yn gynharach, byddwch wedi sylwi yn fy natganiadau mai ychydig dan chwech o bob 10 defnyddiwr e-sigaréts sydd yn ysmygwyr hefyd. Felly, mae angen inni ddeall, os oes perthynas rhwng e-sigaréts â rhoi'r gorau iddi, ac os nad oes, mae angen inni ddeall hefyd beth yw’r effaith hirdymor ar iechyd pobl o ddefnyddio e-sigaréts. Mae hynny'n rhan, rwy’n meddwl, o’r hyn y mae hyd yn oed y rhai a oedd yn gwrthwynebu mesurau'r Bil iechyd cyhoeddus blaenorol ar e-sigaréts yn pryderu amdano: y ffordd y cafwyd tystiolaeth eithaf clir bod rhai gweithgynhyrchwyr e-sigaréts yn targedu pobl ifanc yn y ffordd yr aethpwyd ati i farchnata’r cyflasau. Mae materion real a difrifol i ni eu hystyried yma, felly gadewch i ni beidio ag esgus na ddylem wneud hynny. Ond fel y dywedais yn gynharach, byddwn yn ystyried y dystiolaeth ar y defnydd o e-sigaréts a'u heffaith.O ran yr arolwg cenedlaethol a dod ag arolwg iechyd Cymru i ben yn benodol, rydym yn cymryd barn ar gael ffordd fwy effeithlon o gynnal gwybodaeth a deall yr hyn y mae'r cyhoedd yn ei feddwl ac yn ei wneud.Nid wyf yn meddwl y gallech chi ddisgrifio arolwg cenedlaethol gyda gwybodaeth fanwl am fwy na 12,000 o oedolion fel rhywbeth nad yw’n gadarn ac o ansawdd uchel.Yn sicr ein disgwyliad yw y bydd gennym arolwg cenedlaethol cadarn ac o ansawdd uchel.Os cewch gyfle byth—dwi ddim yn gwybod ai cyfle yw'r gair iawn—ond, os cewch gyfle byth i siarad ag un o ystadegwyr Llywodraeth Cymru, rwy’n credu y byddwch yn gweld bod ganddynt ddiddordeb mawr yn ansawdd eu data a gallant siarad â chi yn hirfaith.Byddwn yn hapus iawn i drefnu i chi gael sesiwn hir iawn gydag un o ystadegwyr Llywodraeth Cymru fel y gallant fynegi eu barn am yr arolwg cenedlaethol os ydych wir yn poeni am ei effaith a'i ddefnyddioldeb ar gyfer deall ymddygiadau iechyd yn y gorffennol a'r hyn y mae'n ei ddweud wrthym am ddyfodol ein gwasanaethau cyhoeddus. Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. 9. 8. Datganiad: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am ‘Tuag at Dwf Cynaliadwy: Cynllun Gweithredu ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod 2014-2020’ Yr eitem nesaf ar yr agenda yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, o'r enw, 'Diweddariad ar "Tuag at Dwf Cynaliadwy: Cynllun Gweithredu ar gyfer Diwydiant Bwyd a Diod 2014-2020”.Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet Lesley Griffiths i gynnig y datganiad. Lesley Griffiths AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd.Mae'r cynllun gweithredu bwyd a diod yn cyflwyno ein strategaeth bwyd yng Nghymru.Fe’i cyhoeddwyd ymhell o flaen Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac mae'n cyflawni ar bob un o'r saith o nodau lles.Mae 48 cam gweithredu’r cynllun yn cwmpasu pum blaenoriaeth, gan gynnwys bwrdd arweinyddiaeth o arweinwyr diwydiant a sector; tarddiad cryf ar gyfer bwyd a diod Cymru; mwy o hyfforddiant, uwchsgilio ac arloesedd; twf cynaliadwy ar gyfer busnesau a masnach; a ffocws ar ddiogelwch a diogelu’r cyflenwad bwyd.Mae bwrdd diwydiant Bwyd a Diod Cymru, dan gadeiryddiaeth Andy Richardson, yn bwrw ymlaen â ffrydiau gwaith gan gynnwys busnes a buddsoddiad, cwsmeriaid a marchnadoedd, a phobl a sgiliau.Bydd y gwaith hwn yn fy hysbysu o'r camau gweithredu pellach sydd eu hangen ar gyfer twf parhaus.Mae twf y sector bwyd yn cyfrannu at y nod o greu Cymru lewyrchus.Mae’r diwydiant hwn yn un sylweddol iawn yn economi Cymru.Mae gan y gadwyn fwyd o'r fferm i'r fforc drosiant o dros £15.5 biliwn ac mae'n cyflogi dros 220,000 o bobl a dyma gyflogwr mwyaf Cymru.Mae'r cynllun gweithredu yn gosod targed uchelgeisiol i dyfu trosiant y sector bwyd a ffermio o 30 y cant i £7 biliwn y flwyddyn ac i gyflawni hyn erbyn 2020.Ddwy flynedd yn ddiweddarach ac mae'r twf wedi rhagori ar y disgwyliadau ar 17 y cant i £6.1 biliwn ac mae eisoes yn fwy na hanner ffordd tuag at darged 2020.Felly, sut mae’r twf hwn yn edrych?Yn 2014-15, cyfrannodd ein rhaglen dwf yn uniongyrchol at dros £10 miliwn mewn twf gwerthiant a chreu 550 o swyddi.Mae cymorth busnes yn cynnwys Cymru-Iwerddon, rhaglen clystyrau a ariennir gan Ewrop, a gefnogir gan Ifor Ffowcs-Williams, pennaeth dadansoddi a chlystyrau’r UE.Mae'r rhaglen eisoes wedi ymgysylltu â bron hanner y gwneuthurwyr bwyd yng Nghymru. Mae clystyrau presennol yn cynnwys cynnyrch premiwm, busnesau twf uchel, arloesi mewn cynhyrchion maethol iachach, a chlwstwr penodol i fwyd môr.Rwyf hefyd yn falch o gyhoeddi y byddwn yn lansio clwstwr allforio yn ddiweddarach eleni.Bydd datblygiadau pellach o farchnadoedd allforio yn parhau i fod yn hanfodol wrth ymdrechu tuag at weledigaeth y cynllun.Mae'r diwydiant yn cynhyrchu dros £260 miliwn o allforion, gyda bron 90 y cant o’r rheini i'r Undeb Ewropeaidd.Mae hyn yn gynnydd o dros 102 y cant ers 2005.Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae ein rhaglenni digwyddiadau allforio a masnach wedi helpu busnesau Cymru i gyflawni dros £7 miliwn o werthiannau newydd, ac mae dros £15 miliwn o ragolygon yn cael eu datblygu.Mae'r gefnogaeth a gynigiwn i gynhyrchwyr bwyd yn cynnwys cyngor pwrpasol, arddangos, cymorth i fynychu digwyddiadau masnach, teithiau allforio ymroddedig i dargedu marchnadoedd, a chyfarfodydd busnes wedi’u hwyluso. Mae busnesau mewn rhannau eraill o'r DU yn awr yn edrych ar Gymru fel enghraifft o arfer gorau.Mae buddsoddiad tramor uniongyrchol yn gwneud cyfraniad pwysig i dwf.Rydym yn targedu yn ein dull ni o weithredu, gan ei bod yn ofynnol i’r diwydiant bwyd a diod adeiladu perthynas dros amser.Llwyddiant nodedig yn y cyfnod diweddar yw Calbee, y gwneuthurwr bwyd byrbryd Siapaneaidd a sefydlwyd yng Nglannau Dyfrdwy yn 2015, a grëodd hyd at 100 o swyddi.Mae Calbee yr union fath o gwmni yr ydym yn falch o’i helpu.Mae'n arloesol; yn cynhyrchu byrbrydau iach, sy’n seiliedig ar lysiau, i ateb y galw cynyddol gan ddefnyddwyr am fyrbrydau.Mae gan y diwydiant bwyd gyfrifoldeb i greu Cymru iachach.Mae deiet a maeth yn benderfynyddion pwysig o hyd oes ac ansawdd bywyd.Pwysleisiodd ein cynhadledd bwyd at y dyfodol y cyfrifoldeb a rennir ar draws y gadwyn fwyd i gefnogi bwyta'n iachach.Rhaid i wneuthurwyr edrych i ailffurfio cynnyrch tra mae'n rhaid i adwerthwyr a gwasanaeth bwyd ddarparu labeli clir sy’n llawn gwybodaeth ac annog dewisiadau iach.Rydym yn gweithio gyda'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (NPS) drwy ei fforwm categori bwyd i ffactoreiddio meini prawf bwyta'n iach i mewn i'r broses dendro.Mae saith deg tri o gyrff cyhoeddus yn awr wedi ymrwymo i ddefnyddio NPS mewn meysydd gwariant cyffredin ac ailadroddadwy.Byddaf yn parhau i noddi Arloesi Bwyd Cymru, sy'n darparu cyfleusterau ac arbenigedd ymchwil a datblygu ar gyfer gweithgynhyrchwyr bwyd, gan gynnwys gweithgynhyrchu cynhyrchion iachach.Yn y flwyddyn ddiwethaf, roedd £12 miliwn o dwf ychwanegol mewn busnesau yng Nghymru yn deillio o ddatblygu cynnyrch a phroses newydd.Gall tlodi bwyd fod oherwydd diffyg fforddiadwyedd neu fynediad cyfyngedig i alluogi dewisiadau iach. Rydym yn cefnogi llawer o fentrau i fynd i'r afael â thlodi bwyd—rhai sydd wedi hen sefydlu megis tyfu cymunedol a chwmnïau cydweithredol bwyd cymunedol. Mae'r gynghrair tlodi bwyd newydd yn gydgyfarfod o sefydliadau yn y sector cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector ac mae’n datblygu gwaith i fynd i'r afael â newyn gwyliau mewn plant ysgol, a gafodd ei dreialu gan Fwyd Caerdydd y llynedd. Bydd y gynghrair hefyd yn ymchwilio i sut i wella'r nifer sy'n cael prydau ysgol am ddim a bydd yn gweithio gyda manwerthwyr i fod yn bartner iddynt i fynd i'r afael â mentrau tlodi bwyd.Rydym yn darparu cefnogaeth sylweddol i fusnesau bwyd er mwyn eu galluogi i fod yn gyfrifol yn fyd-eang. Mae'r gwasanaeth Cymru Effeithlon yn helpu busnesau i gyflawni effeithlonrwydd o ran defnydd dŵr ac ynni a chyflawni rheoli gwastraff mwy effeithiol.Rydym yn llofnodwyr i Courtauld 2025, sef cytundeb gwirfoddol uchelgeisiol sy'n dod â sefydliadau a busnesau ynghyd ar draws y system fwyd i dorri allyriadau gwastraff a nwy tŷ gwydr sy'n gysylltiedig â bwyd a diod gan o leiaf un rhan o bump erbyn 2025.Rydym yn annog busnesau i fod yn llofnodwyr.Mae cyfrifoldeb byd-eang yn ymestyn i ddyluniad ein cynlluniau grant.Mae'r cynllun buddsoddi mewn busnesau bwyd yn cynnwys mesurau cynaliadwyedd yn ei broses sgrinio ceisiadau.Mae'r rownd gyntaf wedi nodi £197 miliwn o fuddsoddiad ac 1,333 o gyfleoedd gwaith newydd posibl.Mae cyfraniad y diwydiant bwyd i gymunedau cydlynol yn gwbl amlwg yn ein cefnogaeth i wyliau bwyd.Dywedodd gwerthusiad annibynnol yn 2015, gyda'i gilydd, yr amcangyfrifir eu bod yn cefnogi 417 o swyddi yn economi Cymru ac yn dod â £25 miliwn net ychwanegol y flwyddyn drwy fasnachu, ond hefyd trwy fusnes a gynhyrchir yn yr economïau lleol o amgylch gwyliau.Mae diogelu’r cyflenwad bwyd a diogelwch bwyd yn flaenoriaethau yn y cynllun ac yn holl bwysig tuag at greu Cymru wydn.Rydym yn gweithio'n agos gyda'r Asiantaeth Safonau Bwyd i wella diogelwch bwyd.Mae'r cynllun sgoriau hylendid bwyd wedi bod yn llwyddiant aruthrol mewn codi safonau mewn sefydliadau arlwyo ac yn esiampl i genhedloedd eraill.Mae gwytnwch diwydiant bwyd a diod Cymru yn y sector preifat yn bennaf ac mae cynlluniau wrth gefn wedi'u datblygu'n dda ar waith.Mae bwyd yn un o'r sectorau allweddol a gynrychiolir ar ein grŵp llywio gwytnwch mewnol.Rydym yn cymryd rhan yn y rhaglen diogelwch bwyd byd-eang ac yn y grŵp cyswllt mewn argyfwng yn y gadwyn fwyd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, sy'n asesu risgiau i gyflenwad bwyd ac yn lliniaru bygythiadau.Mae digwyddiadau bwyd yn gyfrwng gwych i hyrwyddo ein diwylliant bywiog a’r iaith Gymraeg sy’n ffynnu.Mae hunaniaeth Bwyd a Diod Cymru bellach yn cael ei gydnabod yn dda yn rhyngwladol ac yn cael ei barchu yn eang.Lansiwyd ein gwefan y llynedd i gyfathrebu a hysbysu diwydiant, rhanddeiliaid a'r cyhoedd am ein cenedl fwyd Cymru ac rydym wedi cofnodi bod dros 5,000 wedi gweld y dudalen a 1,500 o ddilynwyr Twitter.Rydym wrthi'n gweithio gyda nifer o gynhyrchwyr Cymru o ansawdd i sicrhau llawer mwy o gynhyrchion enw bwyd wedi’i amddiffyn ac mae Cymru yn dod yn gyfystyr â threftadaeth bwyd gyfoethog.Ddirprwy Lywydd, rwyf wedi cyflwyno ciplun heddiw o'r hyn a gyflawnwyd gan y cynllun gweithredu bwyd a diod.Mae'r cynllun yn ymwneud â llawer mwy na bwyd; mae'n ymwneud â chyflawni ein haddewidion i genedlaethau'r dyfodol. Diolch.Galwaf ar lefarydd Plaid Cymru, Simon Thomas. Simon Thomas AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei datganiad. Rwy’n teimlo’n hyderus wrth ymateb i’r datganiad yma, achos dyma’r sector o’r economi rwy’n gwneud y cyfraniad personol mwyaf iddi hi, sef bwyd a diod, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at ddathlu gyda’r NFU, yma yn y Cynulliad yfory, y bwyd o Gymru, a dathlu hefyd gyda CAMRA, ar ddiwedd y Cynulliad yfory, y ddiod o Gymru. Felly, rwy’n awyddus iawn i weld bod y sector yma, sydd wedi tyfu, fel y mae’r Gweinidog wedi dweud yn ei datganiad, dros y ddwy flynedd diwethaf, yn parhau i dyfu ac yn parhau i dyfu fwyfwy hefyd.A gaf i ddechrau, felly, gyda chwestiwn ynglŷn â pherthynas y datganiad heddiw ar y sector yma gyda’n haelodaeth ni o’r Undeb Ewropeaidd? Rydym i gyd yn gyfarwydd, wrth gwrs, â’r ffaith bod pethau megis PGI ar gig oen Cymru yn helpu i hyrwyddo y cig hwnnw ac, wrth gwrs, mae dros 90 y cant o gynnyrch cig a llaeth Cymru sy’n cael ei allforio yn cael ei allforio i’r Undeb Ewropeaidd, sy’n dangos i mi fod hwn yn faes hollbwysig i ni barhau i fod yn aelodau ohono. Hoffwn ofyn i’r Ysgrifennydd pa asesiad sydd wedi cael ei wneud o’r berthynas â’r Undeb Ewropeaidd a thwf yn y sector yma. Ac os caf yn fanna jest ofyn un peth penodol iddi hi, efallai na fydd hi’n gallu ateb heddiw, ond os gall hi edrych am yr hyn sydd wedi digwydd i gais 'Carmarthen ham', cig moch hallt o Gaerfyrddin, ar gyfer dyfarniad PGI, achos rwy’n deall bod y cais yna ar hyn o bryd yn dal i hongian, fel 'Carmarthen ham' a dweud y gwir, ac mae eisiau symud ymlaen i wella hynny.A gaf i droi at yr ail beth rwyf eisiau ei godi gyda’r Ysgrifennydd Cabinet, sef yr hyn rydym yn ei wneud ynglŷn â gwastraff bwyd? Fe soniodd yr Ysgrifennydd Cabinet am gytundeb Courtauld 2025. Dyma ymrwymiad sydd heb unrhyw ddyletswydd o gwbl i leihau gwastraff bwyd gan fusnesau a gan y sector cynhyrchu bwyd. Rwy’n siomedig iawn nad yw Llywodraeth San Steffan wedi mynd ati i ddeddfu, a dweud y gwir, fel ein cyfeillion ni yn Ffrainc, i gyfyngu ar wastraff bwyd ac i sicrhau bod dros 1 miliwn o dunelli o fwyd bob blwyddyn sy’n cael ei wastraffu, ond sydd yn addas i gael ei fwyta, yn cael ei gyfeirio at bobl sydd angen y bwyd yna. Ac yn y byd rydym i gyd yn byw ynddo, lle mae ein cymunedau ni yn llawn o fanciau bwyd, mae’n dal yn gywilydd ein bod ni’n gwastraffu cymaint o fwyd. Ac felly er fy mod i’n derbyn mai unig opsiwn Llywodraeth Cymru yw i fod yn rhan o Courtauld 2025, byddwn yn hoffi clywed gan yr Ysgrifennydd Cabinet fod y Lywodraeth hon yn awyddus i ddeddfu fel maen nhw wedi ei wneud yn Ffrainc, i roi dyletswydd ar fasnachwyr bwyd mawr a chynhyrchwyr bwyd i leihau gwastraff bwyd, i ailgylchu gwastraff bwyd ac i roi unrhyw fwyd sydd dros ben sydd yn addas ar gyfer ei fwyta i’w ddosbarthu ymysg y bobl hynny sydd angen bwyd. A thra’n bod ni’n sôn am bobl sydd angen bwyd, a gaf i droi at ran arall o’r datganiad sef yr un am fwyta’n iach? Mae’n siomedig i ddeall bod bwyta ffrwythau a llysiau ffres yn unol a’r canllawiau, sef pump y diwrnod—er bod y rheini wedi codi, rwy’n meddwl, i saith y diwrnod nawr yn ôl rhai—. Ond, beth bynnag, rydym yn stryglo i hyd yn oed gyrraedd pump y diwrnod yma yng Nghymru, ac rydym wedi lleihau o 36 y cant o’r boblogaeth i 32 y cant o’r boblogaeth. Felly, rydym yn mynd tua’n ôl ynglŷn â chael pobl i fwyta mwy o fwyd iach, ac mae hynny yn gyswllt yn ôl, wrth gwrs, i’r datganiad a gawsom ni gan yr Ysgrifennydd iechyd gynnau fach. Roedd Plaid Cymru yn ystod yr ymgyrch ddiwethaf wedi cynnig bod modd gwneud ffrwythau am ddim—rhoi powlenni o ffrwythau am ddim ym mhob ysgol a phob dosbarth ysgol yng Nghymru. A ydych chi’n meddwl bod hynny yn syniad da, ac oes modd cyflawni hynny gan ddefnyddio yn arbennig ffrwythau ffres o Gymru? Mae gennym mi fefus neu syfi hyfryd ar hyn o bryd. Fe fydd gellyg ac afalau hyfryd o Gymru, ac mae modd cyflwyno hynny i’n hysgolion ni. Y maes arall rwyf eisiau troi ato yw un o ddiogelwch bwyd. Roeddech yn sôn am ddiogelwch bwyd yn y datganiad. Mae’r ffigur diweddaraf yn dangos mai dim ond 46 y cant o fwyd sy’n cael ei fwyta ym Mhrydain sy’n cael ei gynhyrchu ym Mhrydain, ac rydym wedi colli a llithro nôl yn sylweddol tu fewn i gynhyrchu bwyd yn lleol, a thu fewn i Gymru a Phrydain ar gyfer bwyta fan hyn. Nawr, mae rhai yn dadlau, wrth gwrs, mewn Undeb Ewropeaidd a marchnad sengl a byd rhyngwladol fod mewnforio bwyd ac ati yn mynd i fod yn ran bwysig o hynny. Rwy’n derbyn hynny yn llwyr, wrth gwrs, ond byddwn yn licio gweld ei bod yn fwriad gan y Llywodraeth i gynyddu faint o fwyd sy’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru sy’n cael ei fwyta yng Nghymru, bod hwnnw yn amcan da ar gyfer ein ffermwyr ni, amcan da ar gyfer yr amgylchedd ac yn amcan da ar gyfer bwyta’n iach yn ogystal. Ac roeddwn yn siomedig iawn i glywed arweinydd UKIP gynnau fach wrth ofyn cwestiwn i’r Prif Weinidog yn awgrymu bod modd symud ymaith yn llwyr oddi wrth gymorth i ffermwyr yng Nghymru a mewnforio bwyd yn tsiêp, yn hytrach na chynhyrchu ein bwyd ni yn iachus ac yn dda i’r amgylchedd fan hyn yng Nghymru. Y pwynt olaf rwyf eisiau ei godi, Ddirprwy Lywydd—diolch am eich amynedd—yw un ynglŷn â sut rydym yn defnyddio bwyd i roi argraff dda o’r wlad hon—o’r genedl felly. Rŷm ni’n gwybod bod pêl-droed yn gwneud hynny yn ddiweddar iawn, ond rwy’n meddwl bod gan fwyd hefyd rôl hynod o bwysig i chwarae yn fan hyn.A gaf i ofyn i chi, a ydych chi o’r farn, fel y Gweinidog newydd sy’n edrych ar y maes yma, ein bod ni’n dathlu digon y bwyd a’r ddiod wych sydd gyda ni yng Nghymru? Rŷch chi’n sôn am yr ‘identity’ newydd yma i fwyd a diod o Gymru. Nid ydw i’n meddwl bod hynny wedi cydio—pan fod gan farf Joe Ledley mwy o ddilynwyr ar Trydar nag sydd gan fwyd a diod o Gymru, mae eisiau bach mwy o waith, rwy’n meddwl, i hybu hyn a hefyd i ddathlu. Mae yna—a byddwch chi’n rhan ohonyn nhw, mae’n siŵr, Weinidog—gannoedd o ffeiriau bwyd a digwyddiadau bwyd yn digwydd dros y misoedd nesaf ar hyd a lled Cymru. Rwy’n edrych ymlaen i fynd i Aberaeron i’r ffair bysgod, mae’r ffair bwyd môr Aberdaugleddau, Llambed—mae rhai ym mhob rhan o Gymru. Ond a ydym ni’n cydblethu’r rhain yn ddigon gyda marchnad ffermwyr hefyd a, rili, a ydych chi’n hapus gyda’r ffordd rŷm ni’n gwerthu bwyd Cymru y tu mewn i Gymru a thu hwnt hefyd? Rwy’n meddwl bod angen bach mwy o waith ar hyn. Fe gollwyd brand arbennig o gryf yn y gorffennol ac nid ydw i’n meddwl ein bod ni cweit wedi adennill y tir hwnnw. Lesley Griffiths AC: Diolch i Simon Thomas am ei gwestiynau a’i sylwadau.Rwy'n falch o weld nad yw eich jôcs wedi gwella ers datganiad llafar yr wythnos diwethaf, ond rwy’n edrych ymlaen at ddathlu digwyddiadau’r NFU a CAMRA i'w cynnal yma yfory.O ran ham Caerfyrddin, dwi'n disgwyl sawl eitem o fwyd i dderbyn y PGI yn ddiweddarach eleni.Ni allaf roi dyddiad pendant ichi ond rwy'n obeithiol iawn y bydd yn digwydd yn ddiweddarach eleni.Mewn perthynas â'r UE, yn amlwg bu’n rhaid gwneud gwaith cyn pleidlais ddydd Iau ond rwy'n hyderus iawn yn bersonol na fydd yn rhaid inni edrych y ffordd honno yn nes ymlaen.Ond rydym yn gwybod pe byddem yn cael Brexit y byddai'n cael effaith enfawr ar y diwydiant bwyd a diod.Y farchnad sengl yw maes masnach rydd mwyaf y byd yn nhermau cynnyrch domestig gros a phartner masnachu mwyaf y DU a Chymru.Rydym yn gwybod bod busnesau yn yr UE yn mwynhau marchnad gartref o ychydig dros 500 miliwn o bobl, ac mae gan hynny’r gallu i werthu nwyddau a gwasanaethau heb dariffau neu gyfyngiadau masnach eraill ac â safonau diogelwch cyffredin.Ac, fel y nodwyd gennych, dyma'r farchnad fwyaf ar gyfer allforion o Gymru.Felly, rydym yn gwybod pa niwed a fyddai'n ei gwneud i sector bwyd a diod Cymru.Soniasoch am Courtauld 2025 a’ch siom nad oedd Llywodraeth y DU wedi deddfu yn y maes hwn fel Ffrainc, ac rwy'n awyddus iawn i gael golwg ar yr hyn y mae Ffrainc wedi ei wneud.Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau'r effaith amgylcheddol gyda busnesau bwyd a hefyd wastraff bwyd.Mae rhywfaint o ymchwil a gyhoeddwyd yn gynharach eleni yn dangos bod 1.9 miliwn tunnell o fwyd yn cael ei wastraffu yng nghadwyn cyflenwi bwyd y DU bob blwyddyn.Mae hynny’n swm uchel iawn.Yn ffodus, mae tua 47,000 o dunelli o hynny yn cael ei ailddosbarthu i bobl sydd ei angen, ac mae hynny’n cyfateb i tua 90 miliwn o brydau bwyd y flwyddyn.Ond rwy’n awyddus iawn i wneud yr hyn a allwn i leihau'r gwastraff, a chyfarfûm â'r ASB y bore yma ac, rwy’n meddwl, mai un agwedd lle y gallem wella pethau rwy'n credu yw bod pobl yn mynd yn ddryslyd iawn gyda dyddiad ar ei orau cyn, defnyddio erbyn a gwerthu erbyn—chi’n gwybod, mae gennym yr holl bethau gwahanol hyn ar fwyd ac rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn bod pobl yn deall beth mae’r holl bethau gwahanol hyn yn ei olygu.Codasoch fater am fwyta'n iach ac, yn sicr, pan oeddwn yn gwrando ar ddatganiad Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer iechyd daeth nifer o bethau i’r amlwg lle mae gorgyffwrdd yn digwydd gyda fy mhortffolio i o gwmpas gordewdra ac, rydych yn llygad eich lle, dylem fod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i annog pobl i fwyta o leiaf pum dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd.Mae eich awgrym o gwmpas powlenni ffrwythau mewn ysgolion yn swnio'n dra synhwyrol ac am wn i, fel popeth, mae'n fwy na thebyg yn fater o gost.Ond byddwn yn hapus iawn i gael trafodaeth ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg mewn cysylltiad â hynny.Soniasoch am ddiogelwch bwyd ac mae pwysau cynyddol byd-eang ar y cyflenwad bwyd. Ond rwy’n credu bod Cymru mewn sefyllfa dda iawn i ymateb i heriau newid yn yr hinsawdd, er enghraifft.Rwy'n meddwl bod y diwydiant da byw yng Nghymru yn dominyddu gan fod daearyddiaeth a hinsawdd Cymru yn addas iawn i systemau sy'n seiliedig ar laswellt ac mae rheolaeth gynaliadwy ar ein hadnoddau naturiol yn hanfodol i lwyddiant dyfodol ein heconomi a chreu dyfodol i'n holl gymunedau.Rwy’n meddwl y bydd pêl-droed, mewn gwirionedd, yn cael effaith ar sector bwyd Cymru. Rydym yn gweld Cymru ar lwyfan na fydd llawer o bobl o bosibl wedi gweld Cymru arno o’r blaen, gyda'r pêl-droed, a bydd mwy o bobl yn gwybod ble mae Cymru, ac ni allwn ond adeiladu ar hynny. Felly, rwy’n meddwl y byddai'n gyfle da iawn dros y misoedd nesaf. Fel y dywedwch, byddwn yn cael llawer o sioeau a gwyliau haf, ac rwy'n siŵr y bydd ein llwybrau'n croesi mewn llawer ohonynt, ond rwy’n credu ei fod yn gyfle da iawn. Gallwn bob amser wneud mwy i ddathlu. Rwy’n meddwl ein bod yn gwneud llawer iawn i ddathlu ein sector bwyd a diod rhagorol, ond, wrth gwrs, gallwn bob amser wneud mwy, ac rwy'n awyddus iawn i wneud hynny. Iawn, diolch.Llefarydd y Ceidwadwyr, Paul Davies. Paul Davies AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad heddiw a dymuno’r gorau iddi yn ei rôl newydd? Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda hi yn adeiladol lle bynnag y gallaf i helpu i wneud ein cymunedau gwledig yn fwy ffyniannus a chynaliadwy yn y dyfodol. Fel yr Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, rwyf innau hefyd yn ôl pob tebyg yn gwneud cyfraniad sylweddol i'r sector hwn—gormod efallai.O ran y cynllun gweithredu ar gyfer y diwydiant bwyd a diod, er fy mod yn derbyn y bu rhywfaint o gynnydd, mae digon o waith i'w wneud o ran y broses o gaffael bwyd a diod ar gyfer contractau sector cyhoeddus.Rwy’n sylweddoli, y llynedd, bod y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi dwyn caffael bwyd o fewn ei gwmpas a bod 73 o gyrff cyhoeddus bellach yn ymrwymedig i ddefnyddio'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol.Fodd bynnag, a all Ysgrifennydd y Cabinet fod yn fwy penodol a dweud wrthym sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gweithdrefnau dethol cyflenwyr cadarn ar waith ar gyfer contractau bwyd ar draws Cymru er mwyn sicrhau nad yw ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd Cymru yn colli allan ar y contractau pwysig iawn hyn?Mae maes allweddol o'r cynllun gweithredu hwn yn gysylltiedig ag addysg, hyfforddiant a sgiliau ar gyfer y sector bwyd a diod, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn ei groesawu'n fawr iawn.Rwy'n falch o weld o ddiweddariad y llynedd bod bagloriaeth Cymru wedi cael ei hadolygu i gynnwys modiwlau bwyd a diod, a byddwn i'n croesawu diweddariad ar y cynnydd hwnnw.Fodd bynnag, credaf fod angen gwneud mwy ar lefel iau i ddysgu plant a phobl ifanc o ble y mae eu bwyd yn dod.Cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet yn gynharach at hybu bwyta'n iach yn gyffredinol, felly a all hi ddweud wrthym pa drafodaethau y mae hi wedi'u cael gyda'i chydweithiwr Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg am godi proffil bwyd ac amaethyddiaeth o fewn y system addysg, efallai drwy'r cwricwlwm neu drwy gynlluniau gwirfoddol a lleoliadau gwaith?Yn y crynodeb o ymatebion i'r cynllun gweithredu hwn, mynegwyd pryderon am yr anhawster o ran deall pa hyfforddiant sydd ar gael a sut i gael gafael arno.Yn benodol, teimlai ymatebwyr nad oedd y Llywodraeth yn gydgysylltiedig yn ei dull, yn benodol gyda'r Adran Addysg a Sgiliau a hefyd gyda chyrff sy'n bartneriaid, gan gynnwys cynghorau sgiliau sector.Yng ngoleuni hyn, efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym pa welliannau penodol sydd wedi'u gwneud ers lansio'r cynllun gweithredu mewn cysylltiad â'r pryderon penodol hyn.Os ydym yn dymuno gweld ein diwydiant bwyd a diod yn ffynnu, yna mae datblygu gweithlu medrus yn hanfodol, a rhaid i Lywodraeth Cymru feithrin cysylltiadau cryfach â busnesau a darparwyr addysg i ddiwallu’r bwlch sgiliau yn y diwydiant. Byddwn yn ddiolchgar pe byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn ymrwymo i efallai gyhoeddi ystadegau creu swyddi a ffigurau cyfleoedd cyflogaeth gyda phob diweddariad blynyddol fel y gall Aelodau wir graffu ar gamau gweithredu Llywodraeth Cymru yn y maes penodol hwn.Rwy’n sylweddoli bod cynllun gweithredu twristiaeth bwyd ar wahân i Gymru 2015-20, ac rwy’n llwyr gefnogi pwysigrwydd twristiaeth bwyd yng Nghymru a'r angen am strategaeth ar wahân.Fodd bynnag, a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym sut y mae hi'n sicrhau bod strategaethau eraill, fel y cynllun gweithredu twristiaeth bwyd a'r strategaeth gaffael bwyd, mewn gwirionedd yn cydgysylltu â pholisïau eraill Llywodraeth Cymru a'u bod yn gydgysylltiedig mewn gwirionedd?Fel y dywedodd yr Aelod dros y Canolbarth a’r Gorllewin yn gynharach, mae gwyliau bwyd yn chwarae rhan bwysig mewn hyrwyddo ein diwydiant bwyd a diod, felly mae'n bwysig eu bod yn cael cymaint o gefnogaeth ag y bo modd. Awgrymwyd i mi fod yr arian y mae bob gŵyl fwyd yn ei gael gan Lywodraeth Cymru yn cael ei gapio ar ffigur penodol. A allai Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau a yw hyn yn wir? Siawns y dylai arian gael ei ddarparu i’r gwyliau hyn ar sail achos ac mae'n hanfodol bod hyblygrwydd yn y broses ariannu er mwyn sicrhau bod gwyliau yn cael eu cefnogi'n briodol. Mae marchnadoedd ffermwyr hefyd yn chwarae rhan bwysig mewn arddangos bwyd a diod Cymru ac, yn benodol, drwy helpu cynhyrchwyr llai i hyrwyddo cynnyrch rhanbarthol. Mae marchnadoedd ffermwyr gwych ledled Cymru—cryn dipyn ohonynt yn fy etholaeth i fy hun—felly a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym sut y mae'r strategaeth hon yn cefnogi’r marchnadoedd ffermwyr penodol hynny?Ddirprwy Lywydd, wrth wraidd unrhyw gynllun gweithredu ar gyfer y diwydiant bwyd a diod rhaid cael strategaeth allforio gref, ac rwy’n gwerthfawrogi bod Llywodraeth Cymru yn lansio clwstwr allforio yn ddiweddarach eleni.Fodd bynnag, a wnaiff hi ddweud wrthym ychydig mwy am sut mae Llywodraeth Cymru yn nodi cyfleoedd busnes marchnadoedd cartref a rhyngwladol?Fel y mae’r cynllun yn datgan, mae datblygu'r farchnad allforio yn cael ei hyrwyddo gan adrannau Llywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd, a Llywodraethau ar bob lefel yn gweithio gyda'i gilydd.Rwy’n sylweddoli bod Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan yn y rhaglen diogelwch bwyd byd-eang ac yn y grŵp cyswllt mewn argyfwng yn y gadwyn fwyd DEFRA, fodd bynnag, a all hi ddweud wrthym pa ganlyniadau sydd wedi cael eu gwireddu o ran diogelu’r cyflenwad bwyd a diogelwch bwyd i gynhyrchwyr Cymru? Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch i'r Gweinidog, unwaith eto, am ei datganiad?Edrychaf ymlaen at weld rhai o'r themâu yn y cynllun hwn yn cael eu datblygu ymhellach i helpu diwydiant bwyd a diod Cymru i ffynnu yn y dyfodol. Lesley Griffiths AC: Diolch i Paul Davies am ei gwestiynau a’i sylwadau, ac rwyf innau, hefyd, yn edrych ymlaen yn fawr iawn at weithio gydag ef yn y maes pwysig iawn hwn. Gofynasoch am y broses o gaffael cynhyrchion a chynnyrch Cymru yn y sector cyhoeddus, ac, fel y dywedais, rydym wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, a gafodd, fel y gwyddoch, ei sefydlu yn ôl yn 2013, rwy’n meddwl, a gwnaeth hwnnw ddwyn ynghyd y broses o gaffael gwariant cyffredin ac ailadroddus ar draws y sector cyhoeddus ar sail unwaith ar gyfer Cymru. Sefydlodd yr NPS fforwm categori bwyd i ddatblygu strategaeth fwyd, a fydd yn llywio'r broses o ddod â chaffael bwyd o fewn ei gwmpas trwy gydol 2016. Mae'r isadran bwyd yn eistedd ar fforwm categori bwyd yr NPS, ac rydym wrthi'n gweithio â'r NPS a rhanddeiliaid allweddol.Rydym bellach wedi cael nifer o eitemau newydd sy'n cael eu caffael yn ystod y flwyddyn: brechdanau wedi’u paratoi, llenwadau brechdanau a darpariaeth bwffe, er enghraifft, a phrydau plât wedi’u rhewi. Rydym yn gwneud yn siŵr ein bod yn gweithio—y gwasanaeth iechyd gydag awdurdodau lleol—i wneud yn siŵr ein bod yn y sefyllfa orau i ddefnyddio cynnyrch Cymru.Yr hyn y mae'r NPS yn anelu ato, yn y lle cyntaf, yw gosod contractau am gyfnod o ddwy flynedd, yna mae’r opsiwn i gael estyniad un flwyddyn, ac rydym yn awr yn dechrau datblygu’r dogfennau tendro.Bydd y fforwm categori bwyd yn datblygu'r ddogfennaeth hon wrth i ni symud ymlaen, ac mae fy swyddogion yn cymryd rhan lawn yn y broses hon ac yn gweithio gyda’r NPS i nodi cyflenwyr addas yng Nghymru i roi’r cyfle iddynt i gynnig am y fframweithiau.Codasoch y pwynt am addysg, hyfforddiant, sgiliau ac arloesedd, ac mae hynny'n eithriadol o bwysig. Rwy'n credu mai’r hyn y mae angen i ni ei sicrhau yw bod gennym weithlu medrus iawn a galluog wrth symud ymlaen, ac mae hynny’n ymwneud â datblygu partneriaethau allweddol o fewn y gadwyn gyflenwi sgiliau. Mae hynny'n golygu ymgysylltu ag addysg uwchradd ac addysg uwch, ac rwyf wedi cael rhai trafodaethau anffurfiol gyda'r Gweinidog Addysg. Rwy'n awyddus iawn i weld pobl ifanc yn cael eu dwyn i mewn i ddangos iddynt beth y gellir ei gynnig fel gyrfa o fewn y sector bwyd a diod, a soniasoch am y gwaith sydd wedi ei wneud o fewn y fagloriaeth Cymru ddiwygiedig, lle’r ydym wedi nodi ffyrdd o gyflwyno modiwlau bwyd, er enghraifft. Rydym hefyd wedi gweithio gyda'r cynghorau sgiliau sector i gefnogi datblygiad llysgenhadon gyrfa yn y diwydiant bwyd, fel y gallwn hyrwyddo cyfoeth o gyfleoedd sydd—fel y dywedais, dyma gyflogwr mwyaf Cymru: 222,000 o bobl os ydych yn cynnwys adwerthu a bwytai a phob agwedd ar fwyd a diod. Felly, dyma’r cyflogwr mwyaf sydd gennym ar draws Cymru. Yr hyn y mae’r cynghorau sgiliau sector wedi ei wneud yw datblygu paneli sgiliau diwydiannol yn y sector llaeth, mewn sgiliau technegol a sgiliau gweithgynhyrchu, a bydd hynny wedyn yn llywio'r gwaith o ddatblygu sgiliau diwydiannol a fydd yn ofynnol o fewn addysg a hyfforddiant.Codasoch gwestiwn am dwristiaeth bwyd, ac, yn amlwg, mae gennym y cynllun gweithredu ar dwristiaeth bwyd. Mae hwnnw’n canolbwyntio ar bwysigrwydd bwyd a diod o Gymru yn nhermau profiad yr ymwelwyr, a dylai bwyd a diod, rwy’n credu, fod yn arwyddlun o ddiwylliant Cymru a chael enw da yn rhyngwladol am ansawdd a dilysrwydd sydd wir yn adlewyrchu a hyrwyddo gwerthoedd cadarnhaol iawn o darddiad Cymreig. Credaf fod rhai enghreifftiau rhagorol y gallaf eu rhoi i chi o gydweithio rhwng twristiaeth a'r diwydiant bwyd ar draws Cymru, yn cynnwys busnesau megis Bwyty Dylan’s ym Mhorthaethwy, sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth ennill y wobr efydd yn y gwobrau twristiaeth cenedlaethol diweddar yn y categori 'bwyta allan’.Mae bwyd a thwristiaeth, rwy’n meddwl, yn arbennig o bwysig yng Nghymru oherwydd pwysigrwydd economaidd y ddau sector.Mae'n wir yn darparu rhan hanfodol o'r cynnig twristiaeth y credaf sydd gennym yma yng Nghymru, oherwydd ei fod yn cynnig, yn fy marn i y pwynt cyswllt mwyaf cyffredin ag ymwelwyr fwy na thebyg.O ran allforion, soniasoch am raglen allforio well Hybu Cig Cymru.Yr hyn yr ydym ei eisiau yma, ac rydym wedi nodi hynny o fewn cynllun gweithredu strategol cig coch Cymru, yw ein bod am weld y diwydiant yn ceisio cynyddu gwerthiant. Bydd gwerthiant allforio yn amlwg yn elfen allweddol i hynny.Cefais rai sgyrsiau yn gynharach heddiw gyda rhywun sy’n berchen ar ladd-dy, ynghylch gwerthiant cig coch a'r sector cig coch yn benodol, oherwydd gwyddom fod allforion yn gwbl hanfodol i ffermio a'r diwydiant prosesu yng Nghymru.Maent yn cyfrif, yn fras, am un rhan o dair o'r holl gynhyrchu.Felly, mae cynyddu enillion i ddiwydiant trwy uchafu allforion yn wirioneddol bwysig yng Nghymru.Rwy'n falch iawn o weld bod rhaglen fuddsoddi tair blynedd Llywodraeth Cymru mewn cefnogi allforion a datblygu marchnadoedd newydd ar gyfer cig oen a chig eidion Cymreig o safon eisoes wedi cynhyrchu adenillion gwych.O ran gwyliau bwyd, rwy’n cytuno y dylid cael rhywfaint o hyblygrwydd yn eu cylch. Mae gen i gyllideb anhyblyg iawn, yn anffodus. Hoffwn i gael mwy o arian, ond rwy’n meddwl eich bod yn iawn: mae'n ymwneud â sicrhau nad y gwyliau bwyd mawr yn unig sy'n cael yr arian; mae'n ymwneud â’r marchnadoedd ffermwyr bach hynny. Rwy’n cofio, pan gefais fy ethol y tro cyntaf, yn ôl yn 2007, rywun yn dod ataf i geisio sefydlu marchnad ffermwyr ac nid oedd arian ar gael. Felly, mae'n rhywbeth yr wyf wedi dweud wrth swyddogion y byddwn i'n awyddus iawn i’w weld, hyd yn oed os mai dim ond pot bach o arian ydyw, fel bod modd rhoi'r math hwnnw o ddechrau iddynt wrth ddatblygu, oherwydd gwyddom y gallai marchnad ffermwyr wella profiad canol y dref yn wirioneddol, ac rydym yn edrych ar sut y gallwn ni adfywio canol ein trefi. Felly, rwy’n meddwl ei bod yn bwysig cael yr hyblygrwydd hwnnw. Iawn. Diolch.Nid oes unrhyw aelodau o’r meinciau cefn wedi siarad, felly rwy’n bwriadu galw ar dri aelod o'r meinciau cefn, ond, unwaith eto, gofynnaf am gwestiynau cryno ac atebion cryno.Felly, Jeremy Miles. Jeremy Miles AC: Diolch, Lywydd.Diolch i'r Ysgrifennydd am ei datganiad.Mae'n sector mor bwysig i ni yng Nghymru, felly mae'n wych clywed am y twf cyflym yn y sector.I'r rhai hynny ohonom sy'n mwynhau bwyd, mae’r dadeni cynhyrchu bwyd lleol yng Nghymru yn fater o lawenydd mawr, hyd yn oed os yw'n arwain at dwf cyflym o fath sydd ychydig yn llai derbyniol efallai.[Chwerthin.]Rydych chi wedi siarad am sgiliau yn eithaf helaeth, ond mae gennyf un pwynt penodol i’w ddatblygu ar hynny.Yn amlwg, roedd llenwi'r bwlch sgiliau yn flaenoriaeth bwysig yn y cynllun gweithredu, ac mae dwy gydran i hynny: denu gweithwyr medrus, yr ydych chi wedi siarad amdano, ond hefyd ddatblygu sgiliau'r gweithwyr presennol yn y gweithlu.Gan fod llawer o fusnesau yn y sector hwn yn fach ac, yn wir, yn ficrofusnesau ac yn ficro-gyflogwyr, byddant yn wynebu heriau penodol wrth ddarparu hyfforddiant a datblygiad proffesiynol i'w gweithlu.Felly, a fydd Llywodraeth Cymru yn cymryd camau penodol, gan gofio proffil cyflogwyr yn y sector, i gefnogi cyflogwyr bach a micro o ran hyfforddi a datblygu sgiliau eu gweithlu? Lesley Griffiths AC: Diolch i chi, Jeremy Miles, am y cwestiwn hwnnw. Rwy’n meddwl eich bod yn codi pwynt pwysig iawn ynghylch sicrhau ein bod yn creu dulliau arloesol, ac efallai newydd, i annog hyfforddiant y diwydiant ar gyfer busnesau bach a chanolig. Yr hyn yr ydym yn mynd i’w wneud yw cael dull clwstwr, ac rydym eisoes yn treialu hyn gyda busnesau bwyd i gefnogi twf busnesau. Mae uwchsgilio a hyfforddi yn gwbl sylfaenol os ydym yn mynd i weld y twf, ac mae clystyrau hefyd yn nodi ac yn mynd i'r afael ag anghenion hyfforddi yn y ffordd fwyaf cost-effeithiol bosibl. Rydym yn cael rhai cynlluniau peilot mewn bwydydd cain, NutriWales a'r sector bwyd môr, effaith ac allforio, lle mae nifer o fusnesau yn ymwneud yn uniongyrchol â’r datblygu sgiliau hwnnw. Fel Llywodraeth, mae gennym eisoes nifer o raglenni sgiliau allweddol, ond mae'n ymwneud ag adeiladu ar hynny. Rydym hefyd wedi bod yn gallu defnyddio Twf Swyddi Cymru yn llwyddiannus iawn yn y maes hwn, ac mae hynny wedi helpu cyflogwyr i gyflogi gweithwyr ychwanegol. Mae hynny'n amlwg wedi rhoi cyfleoedd profiad gwaith gwerthfawr i bobl ar draws Cymru rhwng 16 a 24 oed. Julie Morgan AC: Rwy’n croesawu'r camau gweithredu ar dlodi bwyd yn arbennig, ac rwy’n falch ei bod hi wedi crybwyll y fenter a gymerwyd yng Nghaerdydd gan Bwyd Caerdydd—y fenter gwyliau ysgol.Un o'r pethau yr wyf yn poeni’n fawr amdano yw gwastraff. Cynhaliais ddadl fer ar wastraff yn ystod y Cynulliad diwethaf, a chafwyd llawer iawn o ddiddordeb gan y cyhoedd. O ganlyniad, cefais ryw fath o sesiynau hyfforddi yn fy etholaeth.Yn amlwg, nid dim ond y cyhoedd sy’n gwastraffu bwyd, ond sefydliadau fel Tesco yn benodol—credaf fod faint o fwyd y mae’n ei wastraffu wedi mynd i fyny 4 y cant yn y flwyddyn hyd at fis Ebrill 2016.Felly, roeddwn yn meddwl tybed a oedd unrhyw beth y gellid ei wneud i gymell busnesau i beidio â gwastraffu bwyd.Rwy’n gwybod eich bod yn mynd i adolygu'r holl wobrau bwyd—rwy'n credu bod hynny'n rhan o'ch cynllun gweithredu—roeddwn yn meddwl tybed pe gallech gynnwys yn unrhyw un o'r gwobrau bwyd y gwneuthurwyr sy'n atal gwastraff.Y mater arall, fel rhan o'r ddadl hon, yw fy mod wedi cynnal cyfarfodydd â WRAP Cymru a sefydliadau eraill, a mater arall sy’n bwysig iawn yn fy marn i ar gyfer bwyd yw deunydd pacio bwyd.Rwy'n gwybod ein bod eisiau cael y brand Cymreig ar y pecyn, ond a oes unrhyw beth y gellir ei wneud i geisio lleihau faint o ddeunydd pacio sy'n cael ei ddefnyddio ond gan barhau i gadw nod adnabod y brand Cymreig o hyd? Lesley Griffiths AC: Diolch i chi, Julie Morgan, am y pwyntiau hynny.Rwy'n credu nad yw’n ymwneud â gwastraff bwyd yn unig; soniais yn fy ateb i Simon Thomas am y llwyth enfawr o wastraff bwyd sy’n bodoli, er bod rhywfaint yn cael ei ailddosbarthu, ac yn amlwg mae rhywfaint yn mynd ar gyfer bwydydd anifeiliaid. Mae hyn hefyd yn ymwneud ag annog busnesau i ddefnyddio adnoddau yn llawer mwy effeithlon nag y maent yn ei wneud ar hyn o bryd. Dydw i ddim yn hollol siŵr am gymell sefydliadau mawr fel Tesco, ond rwy’n credu ei fod yn wirioneddol bwysig ein bod yn gweithio gyda nhw i ddangos, os ydynt yn defnyddio adnoddau yn effeithlon, bod llawer o fanteision i’w busnes eu hunain, bod manteision i Gymru, ac wrth gwrs fod manteision i'r unigolion sy'n byw yng Nghymru.Mae'n ymwneud ag arbed ynni yng Nghymru a bod yn llawer mwy cynaliadwy ac felly’n creu llawer llai o wastraff.Roedd gen i ddiddordeb mawr yn y cynllun peilot yng Nghaerdydd y llynedd am y newyn gwyliau.Roedd gen i un yn fy etholaeth fy hun, a oedd yn cael ei redeg gan eglwys. O ystyried y nifer o blant sy'n derbyn prydau ysgol am ddim, beth sy'n digwydd yn ystod gwyliau'r ysgol?Mae'n gynllun llwyddiannus iawn sydd wedi'i redeg am tua blwyddyn yn awr, yn Wrecsam, ac rwy'n siŵr bod enghreifftiau ledled Cymru.Ond, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gweithio, unwaith eto, gyda chwmnïau mawr, efallai archfarchnadoedd mawr, i weld a allwn rywsut ailddosbarthu’r bwyd hwnnw yn y ffordd honno.Soniais yn gynharach fy mod wedi cyfarfod â'r ASB y bore yma, ac roedd hynny’n rhywbeth y buom yn ei drafod, oherwydd bod yr ASB yn teimlo, efallai, bod rhai o'r archfarchnadoedd mawr ychydig yn ofnus o roi bwyd sydd, o bosibl, yn hen, neu heibio ei ddyddiad ‘gwerthu erbyn’ neu ‘ddefnyddio erbyn’. Felly, unwaith eto, rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cael hynny’n iawn, yn cael y labelu hwnnw yn iawn, a’r hyn y mae'n ei olygu.Er enghraifft, os mai 'defnyddio erbyn' sydd ar y label, eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau yn ofalus, gan ei fod yn tueddu i fod ar gyfer bwyd sy'n mynd yn ddrwg yn gyflym, ond os oes 'ar ei orau cyn' ar y label, mae hynny’n tueddu i fod ar gyfer bwydydd sydd wedi’u rhewi, wedi'u sychu, neu fwydydd tun, ac nid yw hynny’n ymwneud â diogelwch mewn gwirionedd, mae'n ymwneud yn fwy ag ansawdd, ac mae modd ei ddefnyddio wedi'r dyddiad.Felly, rwy'n credu bod llawer mwy y gallwn ei wneud.Mae gen i ddiddordeb mawr yn y gwaith ymchwil a ddaeth allan o WRAP yng nghyswllt hynny, ond rwy’n meddwl ein bod yn bendant eisiau gweld, wrth inni fynd drwy'r cynllun gweithredu, y gostyngiad hwnnw mewn gwastraff bwyd. Iawn, diolch.Ac yn olaf, Nick Ramsay. Nick Ramsay AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd.A gaf i ddiolch i'r Ysgrifennydd am ei datganiad y prynhawn yma ac am gynnig y cynllun gweithredu?Os caf i, fe’ch holaf chi am ddau bwynt yn unig.Yn gyntaf oll, mae hyn fwy na thebyg yn gyfle da i ymuno â Simon Thomas wrth dynnu sylw at y digwyddiad CAMRA yn y Cynulliad nos yfory—digwyddiad poblogaidd bob amser; ni allaf ddychmygu pam.Rwy’n gwybod eich bod yn mynd i fod yn siarad yn y digwyddiad hwnnw, Weinidog, felly diolch ichi am hynny.Mae cwrw go iawn wedi bod yn llwyddiant ysgubol.Roedd yn edrych fel ei fod ar y ffordd allan 30 neu 40 mlynedd yn ôl, ond mae wedi’i wrthdroi.Sut mae eich cynllun gweithredu chi yn mynd i sicrhau y gellir gwrthdroi mathau eraill o fwyd a diod nad ydynt wedi bod yn gwneud cystal yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf hefyd?Mae'n hawdd iawn cyflwyno cynlluniau gweithredu a siarad am y pethau hyn, ond pa newidiadau cadarnhaol go iawn fydd hynny’n ei wneud?Yn ail, rydych chi'n iawn i ddyfynnu Cymru fel enghraifft bosibl o arfer gorau. Unwaith eto, sut y mae hynny’n mynd i gael ei gyflawni? Soniasoch am y gwyliau bwyd. Mae gennyf i, wrth gwrs, yn fy ardal i Ŵyl Fwyd wych y Fenni. Roedd y Gweinidog emeritws, Alun Davies, draw acw, mewn bywyd gweinidogol blaenorol, yn arfer mwynhau’r ŵyl yn fawr. Rwy'n siŵr y byddwch chi yn ymuno â mi—ac ef hefyd, mae'n debyg—yn yr ŵyl hon yn nes ymlaen yn y flwyddyn. Beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau bod arferion gorau yn cael eu lledaenu o wyliau bwyd? Rydym yn siarad am Ŵyl Fwyd y Fenni yn awr fel stori lwyddiant, ond fe aeth drwy rai cyfnodau anodd hefyd. Mae gwyliau bwyd eraill, yn fawr a bach, a marchnadoedd ffermwyr, yn ceisio sefydlu ar draws Cymru ac yn ceisio gwella. Byddai'n hawdd iawn pe byddai arfer gorau yn cael ei ledaenu o un ardal i'r llall fel bod modd i wyliau sy’n datblygu osgoi gwneud yr un camgymeriadau â gwyliau blaenorol. Lesley Griffiths AC: Diolch.Ie, dwi'n gwybod bod yr Aelod yn noddi'r digwyddiad CAMRA, ac rwy’n edrych ymlaen at fynd yno a siarad yno nos yfory.Rydych chi'n hollol iawn am gwrw.Bûm i mewn gŵyl seidr a chwrw, ac rwy’n credu mai dyna oedd fy ymrwymiad cyntaf yn y portffolio hwn.Fel rhywun nad yw fel arfer yn yfed cwrw, roeddwn i wedi fy synnu o weld faint o fathau gwahanol o gwrw oedd yno.Ceisiais arllwys un, ond ddim yn dda iawn yn anffodus.Rwy’n meddwl eich bod yn iawn: mae'n ymwneud ag edrych ar y sectorau o fewn y sector bwyd a diod yn ei gyfanrwydd nad ydynt yn gwneud cystal, ond nid wyf yn meddwl bod cwrw yn faes nad yw’n gwneud cystal.Rwy'n credu ein bod wedi rhoi cefnogaeth iddynt, ac rydym yn gweld nifer o ficrofragdai yn ymddangos ledled Cymru.O ran arfer gorau, byddwch wedi fy nghlywed yn siarad yn fy holl bortffolios gweinidogol am yr angen am arferion gorau.Rwy'n credu ei fod yn deithiwr anhygoel.Mae pobl yn dweud nad yw'n teithio’n dda; rwy’n anghytuno, gan ei fod yn rhywbeth y gallwch ei ddwyn.Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fynd i'r gwyliau bwyd dros y misoedd nesaf, gan ddechrau, yn amlwg, gyda Sioe Frenhinol Cymru, sef y sioe wledig orau sydd gennym yn y DU, yn fy marn i, ac yna mynd i'r gwyliau bwyd, dysgu fy hun, gwrando ar y bobl sy'n cynnal y gwyliau hyn a gweld beth y gallwn ni ei gymryd.Os oes gŵyl fwyd sy'n teimlo y gallai elwa o brofiadau gŵyl fwyd arall, byddwn yn hapus iawn i sicrhau bod swyddogion yn cyfleu hynny.Yng Nghymru, mae gennym gymaint o gynnyrch yn awr sydd â statws gwarchodedig Ewropeaidd, ac mae gennym ragor eto yn dod i’r amlwg. Soniais, mewn ateb i Simon Thomas, am ham Caerfyrddin, ac mae gennym tua 10 o geisiadau yn y DU, naw ohonynt yn dod o Gymru. Felly, mae hynny'n dangos ein bod mewn gwirionedd yn cyflawni'n well na'r disgwyl. Diolch yn fawr iawn, a daw hynny â’n trafodion i ben am heddiw. Daeth y cyfarfod i ben am 18:11. QNR Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru Nathan Gill: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bŵer gwynt yng Ngogledd Cymru? Mark Drakeford: Climate change is perhaps the biggest threat to our future generations, and the Welsh Government is committed to reducing net Welsh emissions by at least 80 per cent by 2050. Renewable energy sources such as wind power have a critical part to play in achieving this. Suzy Davies: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am brosiect arfaethedig Metro De Cymru? Mark Drakeford: The Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure will be updating the Assembly on this subject, as well as the Wales and borders franchise on 12 July. Paul Davies: Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella economi Sir Benfro? Mark Drakeford: My priority is to continue to take a broad range of actions to improve the economy, grow prosperity and deliver greater financial security for businesses and individuals in Pembrokeshire and across Wales. Joyce Watson: Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer llywyddiaeth y DU o'r UE y flwyddyn nesaf? Mark Drakeford: Our priorities for the UK’s presidency will be linked to the new programme for government. Areas such as strengthening the single market, jobs and growth and structural funds are long-standing European priorities for us alongside other key areas such as agriculture, fisheries, sustainable development and support for research and innovation. Andrew R.T. Davies: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygu economi Canol De Cymru? Mark Drakeford: Our priority is to build on our pro-business approach, to grow prosperity, support jobs and deliver greater financial security for businesses and individuals. Neil Hamilton: Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella cyflymder band eang yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? Mark Drakeford: Superfast Cymru is providing access to superfast broadband to communities across mid and west Wales. The average broadband speed for those premises given access as part of the project across the region is 63.61 Mbps.
uk-hansard-senedd-cy
senedd2016-06-21
2024-06-01T00:00:00
{ "year": "2016", "language": "cy", "license": "Open Parliament Licence - https://www.parliament.uk/site-information/copyright-parliament/open-parliament-licence/" }
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg Y Llywydd / The Llywydd: Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Delyth Jewell. Darpariaeth Addysg Gymraeg yn y Cymoedd Delyth Jewell AC: 1. Pa drafodaethau mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cynnal gyda Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynglŷn â chynnydd darpariaeth addysg Gymraeg yn y Cymoedd? OQ61017 Jeremy Miles AC: Rwyf wedi cwrdd gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ac mae hi’n gefnogol i’r gwaith gwych sydd eisoes wedi digwydd drwy gynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg, ac mae’n awyddus i adeiladu ar y gwaith da hwn. Bydd cynghorau lleol yn cyflwyno eu hadroddiadau blynyddol i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ddiwedd mis Gorffennaf. Delyth Jewell AC: Diolch am hwnna. Os ydym ni am gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, bydd y Cymoedd yn hollbwysig, ond rydyn ni'n dal i aros am newyddion am yr ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg arfaethedig ar gyfer ardal Bedwas, Tretomas a Machen, ac ymddengys bod cyngor Merthyr yn bwrw ymlaen gydag adnabod safle ar gyfer ysgol gynradd Gymraeg newydd heb gymryd i ystyriaeth y gwaith rhagorol sydd wedi'i wneud yn ddiweddar yn ardal y Gurnos gyda darpariaeth blynyddoedd cynnar. Jest dwy esiampl ydy'r rhain o'r heriau sydd yn wynebu rhieni lleol sydd yn ysu am ddanfon eu plant i ysgolion Cymraeg. A fyddech chi, gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn fodlon cwrdd â fi a chynrychiolwyr Rhieni dros Addysg Gymraeg lleol i drafod pa gefnogaeth y gall y Llywodraeth ei rhoi i awdurdodau lleol ar draws y de-ddwyrain i wneud yn siŵr fod gan bawb y dewis i ddanfon eu plant i ysgolion Cymraeg? Jeremy Miles AC: Wel, diolch i’r Aelod am y cwestiwn pellach hwnnw. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn siomedig nad oedd blodyn yn cael ei gynnig fel rhan o'r cwestiwn. [Chwerthin.] Ond mae’r pwynt y mae’r Aelod yn ei wneud yn gwbl deilwng ac mae’r cynnydd a’r brwdfrydedd dros addysg cyfrwng Cymraeg yn y Cymoedd yn rhywbeth sydd yn bleser i’w weld. Mae gan bob un o'r cynghorau, yn cynnwys y ddau wnaeth yr Aelod sôn amdanyn nhw, gynlluniau strategol sydd yn uchelgeisiol ac sydd, fel y mae hi'n sôn, yn cynnwys ymrwymiadau i agor ysgolion cynradd newydd. Mae'n bwysig bod hyn yn digwydd mewn ffordd sydd yn edrych ar yr impact ehangach o ran argaeledd daearyddol, ond hefyd o ran datblygiadau o ran lle mae pobl yn byw ac ati, fel bod pwrpas y cynlluniau strategol yn cael ei gyflawni yn y fersiwn fwyaf uchelgeisiol posibl o hynny. Byddwn yn hapus iawn i gwrdd gyda'r Aelod i drafod hyn ymhellach. Byddwn i jest yn dweud mai'r ddau ddatblygiad rwy’n credu sydd yn galonogol iawn, ac rwy’n gobeithio y byddan nhw'n dwyn ffrwyth yn y pen draw, yw datblygiad pencampwyr hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg yn y de-ddwyrain, sydd yn gwneud gwaith da i sicrhau bod pobl yn deall beth yw manteision a buddiannau addysg cyfrwng Cymraeg ar yr un llaw, ac, ar y llaw arall, y brwdfrydedd rŷn ni'n ei weld yn y de-ddwyrain, fel yr ydym yn ei weld ar draws Cymru, o ran y buddsoddiad mewn trochi hwyr. Mae'r ddau ddatblygiad yna, dwi'n credu, yn gyffrous iawn yn ei rhanbarth hi. Ond byddwn i'n hapus iawn i gwrdd â hi a gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Joel James AS: Ysgrifennydd y Cabinet, er mwyn gwneud dysgu a siarad Cymraeg yn rhan annatod o'n cymunedau, rwy'n credu bod angen budd economaidd clir sydd wedi’i hysbysebu’n dda i siarad Cymraeg. Dim ond drwy hyn y bydd pobl yn buddsoddi ac yn gwneud pob ymdrech i annog eu plant i siarad Cymraeg. Mae cynlluniau graddedigion a phrentisiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn gyfle gwych i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o weithwyr i gofleidio'r Gymraeg fel sgìl a all eu helpu yn eu bywydau gwaith, yn enwedig mewn meysydd allweddol megis gwasanaethau cyhoeddus, mewn gofal iechyd ac mewn darpariaeth addysg, yn enwedig addysg y blynyddoedd cynnar. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog creu a defnydd o gynlluniau graddedigion a phrentisiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg, a pha adnoddau ariannol a glustnodwyd gennych ar gyfer hyn? Diolch. Jeremy Miles AC: Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Cytunaf â’r pwynt ei bod yn bwysig inni sicrhau bod yr ystod lawn o gyfleoedd addysgol ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg i’n pobl ifanc gan gynnwys dysgu seiliedig ar waith, prentisiaethau a darpariaeth fwy cyffredinol nag ar y cam addysg bellach. Credaf fod gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn dechrau dwyn ffrwyth go iawn o ran y cynnydd mewn argaeledd. Mae llawer iawn o waith i'w wneud o hyd—mae cryn dipyn o ffordd i fynd cyn bod y ddarpariaeth eang y byddai pob un ohonom yn dymuno'i gweld ar gael ym mhob rhan o Gymru. Mae rhai o'r heriau hynny wedi eu deall yn dda ac maent yn ymwneud â'r gweithlu, ond mae rhai ohonynt yn aml yn ymwneud â disgwyliad. Ac rwy'n llawn edmygedd o waith Coleg Llandrillo Menai, y buont yn siarad â mi amdano yn yr Eisteddfod y llynedd, lle gwnaethant ddatblygu mecanwaith a rhaglen i aelodau unigol o staff nodi’r cyfleoedd hyn a dod â phobl atynt mewn ffordd wirioneddol ragweithiol, a oedd yn fy nharo fel ffordd gynhyrchiol iawn o fynd ati. Gyda llaw, hoffwn ddweud—gwn nad dyma oedd prif bwynt ei gwestiwn—nad wyf yn siŵr mai’r ffordd y byddwn yn annog mwy a mwy o bobl i ddysgu Cymraeg yw drwy sôn am reidrwydd economaidd hynny yn unig. Mae elfen bwysig i hynny, ond credaf mai’r hyn rydym yn ei ddysgu yw bod perthynas pobl â’r iaith yn llawer mwy na fel trafodiad. Nid wyf yn awgrymu ei fod yn gwneud y pwynt hwnnw, ond mae yna ymdeimlad o gynhesrwydd a chroeso tuag at yr iaith sy'n mynd y tu hwnt i'r hyn sydd o fudd economaidd unigol penodol i ddysgwr. Ond mae’n bwysig sicrhau, fel y dywed, fod y cyfleoedd hynny ar gael, gan ein bod am i fwy o bobl weithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn ein gweithleoedd. Data Arolwg y Llafurlu Mark Drakeford AC: 2. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o ddibynadwyedd data arolwg llafurlu'r Swyddfa Ystadegau Gwladol mewn perthynas â Chymru? OQ61009 Jeremy Miles AC: Mae Llywodraeth Cymru wedi codi consỳrn am ansawdd data yr arolwg o ran data dros Gymru am gyfnod. Mae'r ONS wedi cyflwyno gwelliannau dros y misoedd diweddar, ond dylid defnyddio data wrth ochr trends mewn mesurau eraill er mwyn cael darlun eglur o’r farchnad lafur yng Nghymru. Mark Drakeford AC: Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. Mae'r problemau gyda'r data wedi parhau nawr am fisoedd, ac rydyn ni newydd glywed oddi wrth yr ONS na fydd y system newydd y maen nhw'n mynd i'w rhoi yn ei lle yna tan fis Medi nesaf. Ac mae hwnna'n creu problemau mawr i'r Llywodraeth wrth drio cynllunio polisïau i helpu'r economi yma yng Nghymru am y dyfodol. Mark Drakeford AC: Onid yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno mai’r hyn sy'n gyfrifol am yr anawsterau hyn yw effaith cyni ar y Swyddfa Ystadegau Gwladol ei hun, sefydliad a chanddo enw da iawn, sy’n chwarae rhan bwysig iawn yn seilwaith gwasanaethau cyhoeddus de-ddwyrain Cymru, ond sydd wedi dioddef toriadau cyson gan Lywodraeth y DU? Onid enghraifft arall eto fyth yw hyn o Lywodraeth y DU yn gwario swllt er ennill ceiniog wrth adael yr economi gyfan heb y data sydd ei angen arni i wneud penderfyniadau synhwyrol ar gyfer y dyfodol? Jeremy Miles AC: Gaf i jest cytuno â beth ddywedodd yr Aelod ar gychwyn ei gwestiwn? Yn y cyfnod sydd ohoni, mae'n rhaid i ni sicrhau, fel Llywodraeth, fel y mae dyletswydd ar bob llywodraeth, ein bod ni'n deall yn union beth yw impact ac effaith yr holl bethau rŷn ni'n ceisio gwneud, fel bod yr arian cyhoeddus prin sydd gyda ni yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol a'n bod ni'n deall hynny. Jeremy Miles AC: Credaf fod yr Aelod yn llygad ei le wrth ddweud, os edrychwch ar y sefyllfa y mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi bod ynddi dros y blynyddoedd diwethaf, yn y ddwy flynedd ddiwethaf, fod ei chyllid wedi gostwng, ac mae’n wynebu gostyngiad pellach, mewn termau nominal, yn ei chyllideb rhwng y flwyddyn ariannol ddiwethaf a’r un rydym ynddi bellach. Felly, credaf fod y rhain yn amgylchiadau heriol y mae’n rhaid i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol weithio ynddynt, ac rydym yn disgwyl iddi ddiwallu anghenion Cymru, fel y gall gefnogi’r gwaith a wnawn fel Llywodraeth. Fel y dywed yr Aelod, mae wedi bod yn cynnal rhaglen drawsnewid. Edrychwn ymlaen at y setiau data newydd a fydd ar gael, gan eu bod mor hanfodol. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos iawn ac ar y cyd â’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, a bydd yr Aelodau wedi gweld yr hyn y mae’r prif ystadegydd wedi’i ddweud ynglŷn ag ansawdd y data yn ddiweddar. Ond ni chredaf fod angen dweud y byddai Swyddfa Ystadegau Gwladol sydd wedi’i hariannu’n briodol ac sydd â mynediad at y mathau o adnoddau y byddem yn dymuno iddi gael mynediad atynt yn gallu cyflawni’n well y cyfrifoldebau y gwn fod y prif ystadegydd yn awyddus iddynt allu eu cyflawni hefyd. Peter Fox AS: Yn union fel yr Aelod dros Orllewin Caerdydd, rwy’n deall pa mor ddibynadwy yw data ystadegol a pha mor hanfodol ydyw ar gyfer llunio polisïau. Amlinellodd cyn Weinidog yr Economi, sydd bellach yn Brif Weinidog, yn 2021 rwy'n credu, fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymwneud â'r gwaith o wella data'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer Cymru. Felly, mae bron i dair blynedd wedi bod ers y gwaith disgwyliedig hwnnw, ac ymddengys bod pryderon dwys am y data o hyd, ac rydych chi wedi cyfeirio at rywfaint o'r gwaith sy'n mynd rhagddo, Ysgrifennydd y Cabinet. Ond o ystyried yr ateb cynharach, a allwch chi rannu pa gynnydd pellach a wnaed dros y tair blynedd diwethaf gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod data dibynadwy gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer Cymru? Jeremy Miles AC: Wel, mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, ond mae hon yn her sydd, fel y dywed y cyn Brif Weinidog, yn deillio o bwysau ar adnoddau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, ac rwy’n siŵr y byddai gan bob un ohonom lawer iawn o gydymdeimlad â hynny. Ond mae angen i’r data hwnnw fod yn gyfredol ac yn ddibynadwy, ac rwy'n croesawu'r camau y mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi’u cymryd ac wedi gallu eu cymryd. Felly, yn ystod y chwe mis diwethaf, mae wedi ailddechrau cynnal cyfweliadau wyneb yn wyneb. Mae wedi gallu cynyddu ei chyfraddau ailgysylltu. Un o’r materion sydd wrth wraidd hyn yw’r gyfradd gysylltu a’r gallu i sicrhau ymgysylltiad â hi. Mae wedi ailgyflwyno samplau manylach o'r arolwg o'r llafurlu o ddechrau’r flwyddyn hon, ac mae wedi adfer y rhan fwyaf o’i hystadegau, ond mae’n cydnabod bod heriau parhaus o hyd, a’i chyngor bellach yw y dylem fod yn ofalus wrth ddehongli newidiadau tymor byr yn y data, yn enwedig pan edrychwn ar ddadansoddiadau manylach, a fyddai’n berthnasol i genedl o faint Cymru. Mae hynny hyd yn oed yn llai dibynadwy na’r darlun ar gyfer y DU gyfan, am resymau y byddwn yn eu deall. Felly, eu hargymhelliad yw ein bod yn parhau i ddefnyddio'r ystod lawn—yr ystod ehangach—o ffynonellau data'r farchnad lafur pan fyddwn yn ffurfio barn ar farchnad lafur y DU. Ac efallai y bydd yr Aelod yn gwybod, os edrychwch ar ddata Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi, nifer y swyddi newydd, ac ystod o ddata arall, fod y tueddiadau yng Nghymru, yn adlewyrchu tueddiadau'r DU yn agosach nag y byddai data arolwg diwethaf y gweithlu yn ei awgrymu. Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau Y Llywydd / The Llywydd: Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Samuel Kurtz. Samuel Kurtz AS: Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, yr wythnos diwethaf, fe wnaethoch annerch digwyddiad a noddais yma yn y Senedd ar gyfer RenewableUK Cymru, a hoffwn ddiolch i chi am hynny. Helpodd y digwyddiad i dynnu sylw at y cyfleoedd ynni adnewyddadwy anhygoel sydd gan Gymru, gan ddod ynghyd â busnesau, sefydliadau a rhanddeiliaid sy’n rhannu’r nod cyffredin hwnnw. Yr hyn a amlygodd y digwyddiad hefyd oedd y rhwystrau posibl ar hyn o bryd a fyddai'n ein hatal rhag cyflawni a gwireddu’r cyfleoedd ynni adnewyddadwy hyn, sydd, i fusnesau ar draws clwstwr diwydiannol de Cymru, er enghraifft, nid yn unig yn gyfleoedd, ond yn anghenraid. Mae fy nghynnig i chi i weithio ar y cyd ar ddarpariaeth ynni adnewyddadwy yn parhau i fod yn un diffuant. Er ein bod yn deall yr angen i symud ymlaen tuag at ynni adnewyddadwy o safbwynt amgylcheddol, gallwn hefyd bwysleisio pwysigrwydd cyfleoedd cyflogaeth wrth inni wireddu ein potensial ynni. Ond o ystyried bod y Cenhedloedd Unedig wedi dweud mai 2023 oedd y flwyddyn â'r lefelau uchaf o wrthdaro ers yr ail ryfel byd, a bod yr Ysgrifennydd amddiffyn, Grant Shapps, wedi dweud ein bod yn newid o fyd ôl-ryfel i fyd cyn-ryfel, mae diogeledd ein hynni yn prysur gynyddu o ran blaenoriaeth. Felly, a yw eich Llywodraeth o ddifrif ynghylch diogeledd ynni, o ystyried y cynnydd mewn tensiynau byd-eang, ac os ydyw, sut mae hynny'n cael ei deimlo wrth gyflawni prosiectau ynni ar ac oddi ar arfordir Cymru? Jeremy Miles AC: Wel, diolch i’r Aelod am y gwahoddiad a roddodd imi siarad yng nghynhadledd RenewableUK yn ddiweddar, ac roeddwn yn teimlo bod lefel fawr o optimistiaeth yn y drafodaeth y noson honno ymhlith y cyfranogwyr, ac ymdeimlad o ymgysylltu ymarferol â’r hyn rydym am ei wneud fel Llywodraeth, a thrafodaeth onest iawn am sut y gallem weithio hyd yn oed yn well gyda’n gilydd, sef y math o berthynas yr ydych am ei chael pan fo cyfle mor fawr ar y gorwel. Rwy’n credu ei bod hefyd yn bwysig, gyda llaw, o safbwynt amgylcheddol, ein bod yn cyflawni ein nodau hinsawdd, ac yn hollbwysig, yn gwneud hynny mewn ffordd sy’n dangos i bobl fod yr uchelgais hwnnw’n darparu cyfleoedd yn ogystal â’r angen, efallai, am newidiadau llai poblogaidd. A chredaf fod y darlun cyflawn hwnnw’n gwbl hanfodol, felly dyna pam ein bod mor ymrwymedig i sicrhau ein bod yn gwneud popeth a allwn i wireddu’r cyfle sydd ar y gorwel i ni. Rwy'n credu ei fod yn llygad ei le yn dweud, oni bai yr eir i'r afael â nhw, y byddem yn wynebu heriau wrth geisio cyflawni'r uchelgais sydd gennym. Ac mae rhai heriau yn ein dwylo ni i fynd i'r afael â nhw, a rhai yn nwylo Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â nhw, a chredaf fod angen inni edrych ar y darlun cyflawn. Felly, o'n safbwynt ni, rydym yn canolbwyntio ar sicrhau bod gennym y sgiliau sero net a'r llif talent i allu cyflawni'r ystod o rolau y mae'r sector yn dibynnu arnom i'w cyflawni. Ac mae yna arferion da iawn i'w cael, gyda llaw—fel y bydd wedi nodi y noson o'r blaen—lle mae datblygwyr yn gweithio'n uniongyrchol gyda cholegau addysg bellach yn llwyddiannus iawn, gan gynnwys yn ei ran ef o Gymru, ar nodi'r rolau, y sgiliau sydd eu hangen arnynt, ac felly, y ddarpariaeth y mae angen iddi fod ar gael yn lleol. Felly, mae sgiliau, mae cynllunio, mae'r gwaith o fapio'r gadwyn gyflenwi, sydd ar y gweill gennym, fel bod gennym ddealltwriaeth fanwl o gryfderau a meysydd i'w gwella, ac yna, yn hollbwysig, ffordd gydgysylltiedig o weithio ar draws y Llywodraeth, fel bod ffocws cyffredin ar hyn. Ac edrychwn at Lywodraeth y DU i wella ei buddsoddiad yn y grid, i fwrw ymlaen â hynny gyda mwy o frys ac i greu sefydlogrwydd polisi mwy hirdymor. Os gall pob un ohonom chwarae ein rhan yn y ffordd honno, credaf fod cyfle gwirioneddol i Gymru fanteisio ar y dyfodol sydd gan ynni adnewyddadwy i'w gynnig. Samuel Kurtz AS: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n bwysig sôn am ynni a'r economi gyda'i gilydd, oherwydd pwysigrwydd y naill ar gyfer y llall. Mae economi gref yn talu am ein gwasanaethau cyhoeddus. Mae economi gref yn un sydd â digon o swyddi o ansawdd da sy’n talu’n dda. Mae’r sector ynni, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i grybwyll, yn yr ystyr draddodiadol ac o ran ynni adnewyddadwy, yn ffynhonnell o swyddi o ansawdd da sy'n talu'n dda. Ond ni all llywodraethau greu'r swyddi. Yr hyn y gallant ei wneud yw creu’r amgylchedd cywir i’r swyddi hynny gael eu creu. Yr hyn sy'n allweddol i hynny, fel yr amlinellodd Ysgrifennydd y Cabinet, yw sgiliau a sicrhau bod y rhai sy’n ymgymryd ag addysg, hyfforddiant a phrentisiaethau yn meddu ar y sgiliau cywir fel y gallant gyflawni nid yn unig nawr, ond ar brosiectau'r dyfodol hefyd. Rwyf wedi codi hyn o'r blaen, ond rwy'n wirioneddol awyddus i drafod y mater ymhellach. Fel cyn-Weinidog addysg ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi ac ynni erbyn hyn, dylai fod gennych ddealltwriaeth gadarn o ba sgiliau y bydd eu hangen ar weithluoedd yn y dyfodol i lwyddo a ffynnu. Rydych chi wedi sôn am fapio’r gadwyn gyflenwi, ond a ydych chi wedi cynnal ymarfer mapio i ddeall yn iawn o ble y daw’r galw am sgiliau, ym mha ddiwydiannau’n benodol, ac os felly, a ydych chi'n fodlon ar y rhagamcanion presennol sydd gennym ein bod yn datblygu digon o sgiliau yma yng Nghymru i gyflawni ein huchelgeisiau yn y dyfodol? Jeremy Miles AC: Gwn y bydd wedi gweld a darllen y cynllun gweithredu sgiliau sero net a bod y cynllun hwnnw wedi bod yn destun ymgynghoriad. Rwy'n disgwyl gallu cyhoeddi’r ymatebion iddo yn yr wythnosau nesaf, yn fuan iawn, fel y gall hynny roi’r sicrwydd y mae’n ei geisio, yn gwbl rhesymol. Un o’r heriau yn y cyswllt hwn yw pa mor gyflym y mae technolegau’n newid, a sicrhau bod cyflogwyr mewn sefyllfa lle gallant ddeall effaith hynny ar eu gweithle, ac mae hynny, yn gwbl ddealladwy, yn heriol mewn amgylchedd sy’n newid yn gyflym. Ond rhoddais enghraifft i chi yn gynharach o arfer da llwyddiannus iawn, fel y mae'n digwydd, rhwng RWE a choleg yn eich rhan chi o'r byd ac yn y gogledd, lle bu cysylltiad clir iawn rhwng ymrwymiad y datblygwr i geisio sicrhau bod pobl sy’n gweithio ar y prosiectau yn dod o’r farchnad lafur leol, ac yna, gweithio gyda’r coleg lleol i ddweud, 'Dyma’r sgiliau sydd eu hangen arnom, dyma’r cymwysterau sydd eu hangen arnom' a hynny wedyn yn arwain at lefel integredig iawn o ddarpariaeth. Felly, credaf fod hwnnw'n fodel llwyddiannus. Ond fel y dywed, mae'n hollbwysig gwybod beth yw anghenion yr economi yn y dyfodol nid heddiw, ond hefyd ymhen pum mlynedd, ac efallai y tu hwnt i hynny hyd yn oed. Ac rwy’n siŵr y caiff gysur o'r ymatebion i’r ymgynghoriad ar y cynllun gweithredu sero net pan gaiff ei gyhoeddi cyn bo hir. Samuel Kurtz AS: Yr wythnos diwethaf, yn eich datganiad, fe gyhoeddoch chi yr hyn rydych chi'n bwriadu ei wneud i weddnewid economi Cymru gyda’r ysgogiadau sydd gennych yma yng Nghymru. Ond ar yr un pryd, mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati'n weithredol i fygu economi Cymru: mae methu cyflwyno'r un lefel o ardrethi busnes yma yng Nghymru yn amharu ar ein strydoedd mawr a mentrau bach a chanolig; mae’r polisi 182 noson ar gyfer llety gwyliau wedi’i ddodrefnu yn effeithio ar fusnesau twristiaeth a lletygarwch ledled Cymru; a gallai'r cynllun ffermio cynaliadwy gostio 5,500 o swyddi ac arwain at ergyd o £199 miliwn i economi Cymru. Mewn gwirionedd, mae polisïau Llafur Cymru mor ddrwg, yn 2023, fel bod y cyflog cyfartalog yng Ngogledd Iwerddon yn uwch nag yng Nghymru, ac nid oedd ganddynt Lywodraeth weithredol, hyd yn oed. Nid yw Llafur Cymru yn ddim mwy na Llywodraeth Jekyll a Hyde—maent yn dweud y pethau iawn, ond yn y pen draw, eu polisïau nhw sy’n cadw Cymru’n dlotach. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, sut rydych chi'n mynd i wrthdroi tuedd y 25 mlynedd diwethaf, a gwella economi Cymru? Jeremy Miles AC: Fel Ceidwadwr, gwn fod ganddo fwy o wybodaeth nag sydd gennyf i, mae'n debyg, am Lywodraeth anweithredol, oherwydd edrychwn ar yr hyn sy’n digwydd dros y ffin, ac mae’n anhrefn bob dydd. Bydd rhai pobl yn y Siambr yn gresynu at y datganiad nesaf. Nid yw Cymru’n wlad annibynnol, ac mae’r hyn a welwn yn ganlyniad 14 mlynedd o gamreoli gan y Ceidwadwyr yn San Steffan. Yr hyn a ddymunwn yw Llywodraeth yno sy'n gallu gweithio gyda ni yma yng Nghymru ar ein blaenoriaethau i gefnogi’r economi, buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy, fel rydym newydd ei drafod, a chael strategaeth ddiwydiannol, am y tro cyntaf ers 14 mlynedd, sy'n rhoi lles y genedl yn gyntaf. Mae’n hen bryd inni gael Llywodraeth felly, ac nid gan ei blaid ef y cawn hynny. Y Llywydd / The Llywydd: Llefarydd Plaid Cymru, Luke Fletcher. Luke Fletcher AS: Diolch, Lywydd. Gan gadw at y thema o edrych ar eich datganiad yr wythnos diwethaf, un o’r blaenoriaethau a nodwyd gennych, Ysgrifennydd y Cabinet, oedd gwella cynhyrchiant. Mae hynny i'w groesawu'n fawr, fel y dywedais ar y pryd, ond sut y gwnawn ni hynny? Jeremy Miles AC: Cyd-destun y blaenoriaethau a amlinellais yr wythnos diwethaf oedd hyn: mae gennym uchelgeisiau fel Llywodraeth, sydd wedi’u nodi yn ein cenhadaeth economaidd, ac maent yn ymwneud â sicrhau pontio teg i ddyfodol cynaliadwy, rhoi cyfleoedd i bobl ifanc, buddsoddi yn y sgiliau a'r arloesedd y gwyddom fod angen inni ei wneud er mwyn gwireddu ein huchelgais ar gyfer yr economi, a gweithio gyda’n partneriaid ym mhob rhan o Gymru ar nifer fwy penodol o flaenoriaethau sy’n gweithio ar ran eu rhanbarthau a'r genedl. Felly, dyna'r cyd-destun eang. Yr hyn roeddwn yn ei amlinellu'r wythnos diwethaf oedd y lens y byddaf yn ei defnyddio mewn perthynas â blaenoriaethau a gwireddu’r weledigaeth Lafur ehangach honno. Mae cynhyrchiant yn bwysig yn hynny o beth, gan y gwyddom fod cydberthynas gref rhwng cynhyrchiant a lefelau cyflog yn y rhan fwyaf o economïau. Fel Llywodraeth ddatganoledig, nid yw pob ysgogiad yn ein dwylo ni i allu dylanwadu ar hynny. Fel gwlad wledig iawn, gwyddom fod hynny'n peri heriau o safbwynt cynhyrchiant. Ond mae pethau y gallwn eu gwneud ac sydd yn ein dwylo ni, hyd yn oed yn wyneb polisi macro-economaidd sy'n gwneud popeth yn ei allu i danseilio hynny, fel sydd gennym ar lefel Llywodraeth y DU. Y ddau beth y siaradwn amdanynt fel arfer yw buddsoddi mewn sgiliau, sy’n hollbwysig, a buddsoddi mewn seilwaith, y gwyddom ei fod yn helpu i greu economi fwy cynhyrchiol. Ond gwyddom hefyd, os byddwn yn buddsoddi mewn arloesi, os ydym yn cefnogi cyflogeion mewn busnesau i feddwl am ffyrdd newydd o gyflawni'r hyn y maent yn ei gyflawni—arloesi ar lefel cyflogai—y gallwn helpu i gryfhau arweinyddiaeth yn rhai o'n busnesau. Efallai fod rhai o’n busnesau llai yn ei chael hi’n fwy heriol i allu darparu’r math hwnnw o gymorth a hyfforddiant i’w huwch swyddogion. Beth y gallwn ei wneud i gefnogi’r busnesau hynny sy’n masnachu ag eraill i ddatblygu gwell sgiliau digidol? Felly, mae pethau penodol y gallwn eu gwneud, a dyna oedd ffocws fy natganiad yr wythnos diwethaf, gan edrych ar yr holl ysgogiadau sydd gennym—drwy Busnes Cymru, y banc datblygu, a'r ymyriadau eraill sydd gennym, drwy'r lens gynhyrchiant honno—gan wybod, yn y tymor hir, mai dyna fydd yn ein helpu i godi cyflogau gweithlu Cymru, sy'n rhywbeth y mae pob un ohonom yn dymuno ei weld. Luke Fletcher AS: Mae'n dda clywed pwyslais yn eich ymateb ar arloesi a arweinir gan gyflogeion. Y rheswm pam y penderfynais edrych ar gynhyrchiant heddiw yw am fod angen cydnabod, onid oes, fod y byd gwaith wedi newid. Weithiau, gall ceisio gwella cynhyrchiant arwain yn anfwriadol at effaith andwyol ar y gweithlu ei hun. Beth a olygaf wrth hynny? Wel, i ddefnyddio enghraifft or-syml ac anghynnil iawn, pe baech am wella cynhyrchiant yn gyflym iawn, mewn ffordd effeithiol iawn, gellid dadlau, byddech yn awtomeiddio popeth, oni fyddech? Nid wyf yn awgrymu, wrth gwrs, mai dyna bolisi'r Llywodraeth, ond mae'n creu delwedd esboniadol hawdd iawn o wrthdynnu posibl o ran gwella cynhyrchiant. Felly, mewn gwirionedd, pan fyddwn yn edrych ar gynnydd mewn cynhyrchiant, mae angen inni edrych hefyd ar sut y rhoddwn bolisïau ar waith wedyn i sicrhau ein bod yn lliniaru unrhyw effaith negyddol bosibl y gallai cynnydd mewn cynhyrchiant ei chael ar y gweithlu. Felly, yng ngoleuni hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, pa fath o bolisïau y byddech chi'n eu rhoi ar waith i sicrhau ein bod yn lliniaru'r effeithiau hynny? Oherwydd mae'n rhaid inni sicrhau bod unrhyw enillion mewn cynhyrchiant yn cael eu teimlo ar draws y gweithlu, nid gan y rheini ar y brig yn unig. Jeremy Miles AC: Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Byddwn yn cymeradwyo popeth a ddywedodd yr Aelod yn ei gwestiwn, a dweud y gwir. Nid ymarfer mantolen mo hyn; mae a wnelo â phobl, dyna sydd wrth wraidd y peth. Pam ein bod yn cael y drafodaeth hon? Oherwydd ein bod am wella bywoliaeth a bywydau unigolion, teuluoedd a chymunedau ledled Cymru a thu hwnt. Dyna sydd wrth wraidd hyn. Mae her ym mhob rhan o’r DU o ran cynhyrchiant a’r economi. Dyna pam ein bod wedi gweld cyflogau'n aros yr un fath mewn sectorau ledled y DU. Dyna pam fy mod yn rhoi ffocws ar hyn. Ac nid yw'n ffocws unigryw. Gallech ddweud bod tensiwn rhwng rhai polisïau os edrychwch ar gynhyrchiant ar y naill law a’r mesurau y gallech eu cyflwyno, fel rydym yn awyddus i'w wneud, i leihau anweithgarwch economaidd. Mae rhywfaint o densiwn rhwng rhai o’r rheini. Credaf fod yn rhaid ichi gael darlun cyfannol, ond gobeithio y byddwch yn cydnabod bod rhai o'r pwyntiau a wneuthum yn gynharach yn ymwneud â chynorthwyo gweithwyr i gael bywoliaeth well o ran yr ymyriadau cynhyrchiant. Rwy'n cytuno'n llwyr â’r Aelod, lle gwelwn gwmnïau’n defnyddio mwy o dechnoleg, ac yn newid prosesau busnes, mai'r hyn y mae angen i ni ei weld yw sicrwydd fod yr unigolion a oedd efallai’n arfer gwneud y swyddi sydd weithiau’n cael eu hawtomeiddio yn cael eu cefnogi i wella eu sgiliau, ac felly i gael swydd sy'n talu'n well. Gwelais enghraifft dda o hynny yn Sony ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ddiweddar. Fe wnaethant ddisgrifio i mi y broses a oedd ganddynt i gynyddu lefel sgiliau eu gweithlu, a dyna’r math o ddull gweithredu yr hoffem ei weld, fel bod gweithwyr unigol a’u teuluoedd yn elwa o hyn. Y Sector Ynni Adnewyddadwy yng Ngogledd Cymru Carolyn Thomas AS: 3. Pa gynlluniau sydd gan yr Ysgrifennydd Cabinet i gefnogi twf y sector ynni adnewyddadwy yng Ngogledd Cymru? OQ60998 Jeremy Miles AC: Mae’r fframwaith economaidd rhanbarthol, cynlluniau ynni lleol a rhanbarthol a bargen twf gogledd Cymru yn cydnabod ac yn cefnogi’r cyfleoedd ar gyfer y sector ynni adnewyddadwy ar draws y gogledd. Wrth inni barhau â'n dull cydweithredol, bydd hyn yn sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o'r buddion economaidd a chymunedol yn y rhanbarth. Carolyn Thomas AS: Diolch. Roeddwn yn falch iawn o ymweld â’r uned beirianneg newydd yng Ngholeg Llandrillo yn y Rhyl a chyfarfod â’n prentisiaid a noddir gan RWE gydag Ysgrifennydd y Cabinet. Mae gogledd Cymru yn lle delfrydol ar gyfer ynni adnewyddadwy gwynt, tonnau a solar. Gyda'i gilydd, gallant ddarparu cyflenwad sylfaenol digonol o ynni. Rwy’n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi y dylai ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yn lleol fod o fudd i drigolion hefyd drwy ostyngiad yn eu biliau ynni. Byddai hynny'n wych. Gall morgloddiau llanw ddarparu ynni cyson hefyd, a gweithredu fel amddiffynfa rhag llifogydd, sy’n broblem enfawr yng ngogledd Cymru. Byddent yn cael eu croesawu’n fawr gan drigolion sydd wedi bod yn poeni am lifogydd yn ystod llanw uchel a thywydd stormus yn ddiweddar. Bu bron i reilffordd gogledd Cymru gael ei gorchuddio hefyd gan y llanw uchel diweddar. A yw morglawdd llanw ar gyfer y gogledd yn rhywbeth y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn awyddus i'w archwilio wrth symud ymlaen? Jeremy Miles AC: Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i Carolyn Thomas am y cyfle i ymweld â’r coleg gyda hi. Roedd yn wirioneddol galonogol siarad â’r prentisiaid a oedd yn datblygu sgiliau mewn sectorau y gwyddent y byddent yno drwy gydol eu bywyd gwaith—ei fod yn sector a fyddai’n cael mwy a mwy o fuddsoddiad a mwy a mwy o gyfleoedd i’r bobl ifanc hynny, ac mewn rhan o Gymru sy'n ddifreintiedig iawn. Felly, credaf fod gweld y cyfleoedd hynny ar garreg y drws yn wirioneddol bwysig. Ar gwestiwn morglawdd llanw, mae Cymru yn genedl arfordirol felly mae angen inni fanteisio’n llawn ar ein hasedau naturiol. Cafwyd cyfarfodydd adolygu rheolaidd gyda thri enillydd yr her môr-lynnoedd llanw. Y rheswm am hynny yw er mwyn sicrhau bod perfformiad yn cael ei fonitro, y cytunir ar gerrig milltir a’u bod yn cael eu bodloni, a bod canfyddiadau’r broses ymchwil yn cael eu hadrodd a’u cyfathrebu’n briodol. Diben yr her, fel y gŵyr, yw cefnogi ymchwil a fydd yn lleihau neu’n dileu rhwystrau i ddatblygiad môr-lynnoedd llanw neu ymchwil a all ein helpu i feintioli budd posibl ar gyfer datblygiad morlyn llanw. Ond rwy'n rhannu'r cyffro ynghylch y potensial sydd gennym yng ngogledd Cymru, fel mewn rhannau eraill o Gymru, i wneud hyn yn rhan hollbwysig o’n heconomi. Janet Finch-Saunders AC: Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed o 70 y cant o ynni adnewyddadwy erbyn 2030. Fodd bynnag, os ydym am gyflawni hyn, mae angen inni wneud mwy. Yn y gogledd, mae gennym hanes cyfoethog o ynni adnewyddadwy, yn enwedig y defnydd o orsafoedd ynni dŵr, sy’n gallu cynhyrchu 2,100 MW, ac mae hynny’n ddigon i gyflenwi bron i draean o’r 1.5 miliwn o gartrefi yng Nghymru. Fodd bynnag, mae angen rhoi camau pellach ar waith. Gyda'r gyllideb ynni glân wedi'i thorri oddeutu 70 y cant eleni, mae cymell buddsoddiad preifat mewn prosiectau yn hanfodol. Mae rhwystrau biwrocrataidd diddiwedd ac ardrethi busnes uchel yn llesteirio ffermwyr sydd wedi sefydlu’r cynlluniau ynni dŵr hyn yn flaenorol ar sail yr addewid y byddai rhyddhad ardrethi busnes ar gael. Wrth i dechnoleg wella, gan ddiddymu'r angen am gronfeydd dŵr neu argaeau mawr, prosiectau preifat llai yw’r cam nesaf ar gyfer ynni dŵr yng Nghymru, a dywedodd y Gweinidog ynni blaenorol fod arnom angen cymysgedd o wahanol dechnolegau ar gyfer y dyfodol yn ei barn hi. Roedd argymhelliad 14 yn yr archwiliad dwfn yn nodi'n glir y dylid rhoi cymorth i gynlluniau cymunedol a datblygwyr preifat. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd i sicrhau y gall unigolion preifat ddatblygu cynlluniau ynni dŵr lleol ar eu tir eu hunain yn rhydd rhag y fiwrocratiaeth gyfyngol ddiddiwedd hon? Ac efallai y byddai rhywfaint o gymorth gan Lywodraeth Cymru yn addas hefyd. Jeremy Miles AC: Nid wyf yn siŵr a fyddwn yn derbyn y ffordd y mae’r Aelod yn disgrifio'r sefyllfa. Mae’r targedau sydd gennym yn uchelgeisiol. Rydym am allu cynhyrchu’r hyn sy’n cyfateb i’n holl ddefnydd o drydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035, ac erbyn yr un pryd, hoffem pe bai o leiaf 1.5 GW o gapasiti ynni adnewyddadwy mewn perchnogaeth leol. Rydym wedi ailosod y targed hwnnw i'w wneud yn fwy uchelgeisiol, o ystyried ein bod yn cyrraedd y targed blaenorol arall cyn pryd. Rwy'n credu bod angen cymysgedd. Rwy'n credu bod yr Aelod yn iawn i ddweud bod angen cymysgedd. Ac edrychaf ymlaen at weld y gwaith y gwn y bydd Ynni Cymru, a sefydlwyd yn sgil y cydweithio â Phlaid Cymru fel rhan o’n cytundeb cydweithio, yn gallu ei wneud i gefnogi mentrau ynni cymunedol ac i sicrhau bod gennym ynni lleol fel rhan sylfaenol o’r cymysgedd yn y dyfodol. A soniodd am bwysau cyllidebol. Mae gan Ynni Cymru gyllideb gyfalaf o £10 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, ac edrychaf ymlaen at weld y cynlluniau cyffrous a fydd ganddynt i gefnogi twf yn y rhan hon o’r sector. Cefnogi'r Economi yng Ngorllewin Cymru Paul Davies AC: 4. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r economi yng ngorllewin Cymru? OQ60992 Jeremy Miles AC: Yn unol â'r blaenoriaethau a nodir yn y genhadaeth economaidd, rydym yn cefnogi ystod o weithgareddau gyda'r nod o gefnogi'r economi yng ngorllewin Cymru, gan gynnwys cefnogaeth i fusnes, datblygu sgiliau, a seilwaith cyfathrebu—y cyfan gyda'r nod o gynyddu ffyniant a chynhyrchiant. Paul Davies AC: Rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw. Nawr, un ffordd o gefnogi'r economi yng ngorllewin Cymru yw buddsoddi yng nghanol trefi, fel Aberdaugleddau yn fy etholaeth i, sydd angen buddsoddiad a chymorth yn ddybryd. Wrth gwrs, dylai'r nod o adfywio strydoedd mawr a chanol trefi olygu eu datblygu fel canolfannau datblygu economaidd. Rhaid inni sicrhau, yn achos Aberdaugleddau, nad yw canol y dref yn cael ei esgeuluso tra bo rhannau eraill, fel y ddyfrffordd a'r marina, yn parhau i ddatblygu. Felly, a allwch chi ddweud wrthym beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i adfywio canol trefi fel Aberdaugleddau? Ac a allwch chi ddweud wrthym hefyd pa drafodaethau rydych chi'n eu cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai, Llywodraeth Leol a Chynllunio ynghylch adfywio canol trefi a chefnogi'r economi yng ngorllewin Cymru? Jeremy Miles AC: Wel, rwy'n credu bod y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud yn un da. Wrth inni edrych ar rai o'r prosiectau a'r datblygiadau seilwaith mwy o faint, mae'n bwysig ein bod hefyd yn sicrhau ein bod yn cefnogi ein trefi i barhau i fod yn fywiog ac yn lleoedd lle mae pobl eisiau bod ac eisiau mynd iddynt. Mae ein hegwyddor 'canol y dref yn gyntaf' mewn cynllunio ac mewn datblygu yn fwy eang yn mynd at wraidd hynny. Sut y gallwn ni sicrhau ein bod yn lleoli asedau yng nghanol trefi fel y gallwn ddenu'r ymwelwyr sydd eu hangen er mwyn i fusnesau lleol o bob math allu ffynnu? Mae hon yn drafodaeth barhaus, un rwy'n ei chael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol, ac rwyf wedi ei chael gyda hi mewn rolau Cabinet blaenorol hefyd. Gwn ei bod yn rhannu fy uchelgais i sicrhau bod ein trefi ledled Cymru yn fywiog, fel sbardun allweddol i economïau lleol, a chydnabyddiaeth glir fod yn rhaid i'r gwaith a wnawn fel Llywodraeth gael ei wneud law yn llaw ag awdurdodau lleol. Cefin Campbell AS: Rŷn ni'n gwybod bod y cyfnod diweddar yma wedi bod yn anodd i fusnesau cefn gwlad, yn arbennig ein tafarnau ni. Maen nhw wedi gweld cost trethi busnes yn codi, cost ynni, bwyd, diod ac yn y blaen, a dyw'r cwsmeriaid ddim wedi dod nôl fel oedden nhw cyn y pandemig. Ac o ganlyniad, rŷn ni wedi colli gormod o dafarnau sydd wrth wraidd ein cymunedau gwledig. Rwy'n falch iawn, wrth gwrs, fy mod i'n cynrychioli rhanbarth lle mae yna nifer o enghreifftiau o gymuned yn dod at ei gilydd i godi arian i brynu tafarnau a'u rhedeg nhw, wedyn, fel mentrau cymdeithasol a hybiau cymunedol. Wythnos diwethaf, fues i draw yn cefnogi ymgyrch i brynu'r Angel Inn, tafarn yr Angel, yn Salem ger Llandeilo. Nawr, petai'r grŵp yma yn yr Alban, mi fydden nhw wedi cael rhyw fath o first refusal i brynu'r ased cymunedol yma o dan gynllun community right to buy. Nawr, yng Nghymru, dyw'r hawliau yna ddim yn bodoli, ac mae'n golygu bod yr ymgyrchwyr yma yn gorfod cystadlu ar y farchnad agored. Nawr, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo i sefydlu comisiwn ar berchnogaeth gymunedol ac edrych ar ddeddfwriaeth i gefnogi community right to buy. Gaf i ofyn i chi beth yw'r diweddariad ar y cynlluniau yna? Jeremy Miles AC: Wel, fe wnaf i basio hynny ymlaen i'r Gweinidog sydd yn gyfrifol yn uniongyrchol am hynny, ond o fewn y gwaith rwyf i wedi gallu gwneud fel Gweinidog y Gymraeg, mae'r gronfa Perthyn wedi gwneud gwahaniaeth mawr ac wedi galluogi tafarndai i gael eu prynu yn y ffordd mae'r Aelod yn sôn amdani, a'u datblygu fel llefydd cymunedol i bobl. Lle bydden nhw wedi eu cau, maen nhw wedi cael eu hail-adfywio yn ganolfannau diwylliannol, cymdeithasol bywiog iawn. Felly, mae hynny yn rhan bwysig, dwi’n credu, o’r mix hwnnw, sut rŷn ni’n cefnogi cymunedau cefn gwlad, cefnogi cymunedau lle mae’r Gymraeg yn iaith fwyafrifol, ac mae hynny’n rhan bwysig o’r gwaith rŷn ni’n gallu ei wneud fel Llywodraeth. Sectorau Diwylliannol, Celfyddydol a Threftadaeth Heledd Fychan AS: 5. Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o faint ac effaith economaidd sectorau diwylliannol, celfyddydol a threftadaeth ein cenedl? OQ61021 Jeremy Miles AC: Mae gwerth sylweddol iawn i’r sectorau hynny. Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu adolygiad o'r sector diwylliannol er mwyn sicrhau ein bod ni'n deall yn well y sail tystiolaeth sydd gyda ni er mwyn gwerthuso impact economaidd, ac wedi dod o hyd i gapiau yn y dystiolaeth sydd gyda ni, ac rŷn ni'n bwrw ati ar hyn o bryd i'w llenwi. Heledd Fychan AS: Diolch yn fawr iawn am yr ateb hwnnw. Mae’n gadarnhaol dros ben, oherwydd mae wedi bod yn siomedig, yn ystod y trafodaethau sydd wedi bod ynglŷn â chyllidebau Llywodraeth, clywed rhai Gweinidogion, efallai’r Prif Weinidog newydd, yn sôn ynglŷn â’r dewisiadau anodd, wrth gwrs, sydd gan y Llywodraeth, ond ddim i weld yn gwerthfawrogi gwerth a budd economaidd y sectorau eithriadol o bwysig hyn, nid yn unig fel cyflogwyr, ond o ran twristiaeth ddiwylliannol ac ati. Felly, a gaf i ofyn, o ran y gwaith hwnnw, yn amlwg dŷn ni yn disgwyl cyn bo hir strategaeth ddiwylliant newydd hefyd, fydd gobeithio yn gallu edrych ar yr ochr economaidd, ond sut wedyn ydych chi’n mynd i sicrhau, wrth drafod cyllidebau blynyddoedd i ddod, ein bod ni hefyd yn edrych ar werth economaidd yr arian sydd yn dod nôl i Gymru wrth wneud penderfyniadau ynglŷn â chyllido, yn hytrach na rhoi cyllideb yn erbyn cyllideb, heb feddwl wedyn am yr effaith economaidd? Jeremy Miles AC: Wel, rwy’n gwybod bod hyn yn flaenoriaeth hefyd i Ysgrifennydd y Cabinet dros ddiwylliant. Mae blaenoriaeth i gefnogi’r amgueddfa yn rhan o hynny. Yn fy marn i, mae lles a buddiannau diwylliannol y genedl yn glwm gyda buddiant a ffyniant economaidd y genedl mewn llawer o ffyrdd, felly mae wir yn bwysig ein bod ni’n cydnabod ac yn deall efallai’n well nag ydyn ni beth yn union yw impact economaidd y gweithgaredd dŷn ni’n ei ariannu. Felly, mae cyngor y celfyddydau wedi gwneud gwaith yn y maes hwn yn y gorffennol. Mae Cadw wedi gwneud gwaith yn y maes hwn, ac mae’r gwaith a wnaethpwyd y llynedd yn mynd i sicrhau bod gyda ni well dealltwriaeth. Dyw e ddim yn ddealltwriaeth gyflawn, mae’n rhaid dweud, ond mae e’n well dealltwriaeth nag sydd wedi bod yn y gorffennol. Felly, wrth edrych ar y blaenoriaethau strategol ar gyfer diwylliant dros y bum mlynedd nesaf, bydd gyda ni well sail i wneud yr asesiadau hollbwysig hynny. Ac mae e yn bwysig ein bod ni’n gwneud hynny, fel mae’r Aelod yn dweud, fel ein bod ni’n deall gwerth yr holl fuddsoddiadau rŷn ni’n gallu eu gwneud, a’n bod ni’n cael y darlun cyflawn, fel ein bod ni’n sicrhau ffyniant economaidd a ffyniant diwylliannol ar yr un llaw. Gareth Davies AS: Mae gennyf ddiddordeb mewn gwybod beth fydd effaith economaidd penderfyniad Llywodraeth Cymru i dorri cyllid i amgueddfa genedlaethol Cymru ar yr un pryd â blaenoriaethu eu huchelgais rhyfedd i ddad-drefedigaethu celf gyhoeddus. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn nodi bod yn rhaid dad-drefedigaethu celf gyhoeddus a dylai ddathlu cyflawniadau ein cymdeithas amrywiol neu fentro cael ei symud. Ar wahân i'r ffaith nad yw'r mater yn flaenoriaeth i'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru, nid yw'n ffordd aeddfed o fynd i'r afael â hanes, mae arnaf ofn. Gallwn ddathlu cyflawniadau ein cymdeithas amrywiol heb ddefnyddio beiro Tipp-Ex Orwellaidd ar waith celf cyhoeddus nad yw'n ffasiynol. Roedd llawer yn drist o glywed prif weithredwr Amgueddfa Cymru ar BBC Radio Wales yn dweud wrth wrandawyr fod yr amgueddfa'n wynebu—[Torri ar draws.] Y Llywydd / The Llywydd: Hoffwn yn fawr glywed beth sydd gan yr Aelod i'w ddweud. Gareth Davies AS: Diolch yn fawr iawn. Mae'n wynebu gostyngiad o £4.5 miliwn yn ei chyllideb gan Lywodraeth Cymru ac mae ei dyfodol bellach mewn perygl. Mae eicon diwylliannol amhrisiadwy yng Nghymru sydd wedi cyfoethogi bywydau ar draws cenedlaethau bellach yn wynebu gorfod cau ei drysau i'r cyhoedd oherwydd toriadau yn y gyllideb. Felly, er mwyn osgoi edrych fel Llywodraeth Philistaidd, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu'r cyllid angenrheidiol fel y bydd cenedlaethau'r dyfodol yn elwa o'r un cyfoeth diwylliannol ac artistig ag yr ydym mor ffodus o'i gael yma yng Nghymru? A gallaf weld y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb uniongyrchol yn chwerthin am ben fy sylwadau, ond rwy'n siŵr na fyddai'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru sy'n mwynhau'r hanes diwylliannol cyfoethog sydd gennym yn y wlad hon yn ei ystyried yn ddoniol. Jeremy Miles AC: Wel, mae gennyf drueni dros y sosialydd George Orwell druan yn troi yn ei fedd wrth feddwl ei fod yn cael ei ddefnyddio i gefnogi'r cyfraniad hwnnw. Rwy'n credu bod ymateb y cyhoedd i'r amgueddfa yng Nghymru yn cael ei ddangos orau yn yr arolwg golwg ar amgueddfeydd a nododd fod effaith economaidd ymweliadau ag amgueddfeydd yng Nghymru oddeutu £134 miliwn, sy'n awgrymu i mi fod aelodau'r cyhoedd eisiau mynd i'r amgueddfeydd yr ydym yn argymell iddynt ymweld â nhw. Hoffwn anghytuno â'r pwynt a wnaeth mewn perthynas â'r amgueddfa genedlaethol. Nid oes unrhyw gynlluniau i gau'r amgueddfa. Rydym yn gweithio gyda'r amgueddfa i ddatblygu cynllun i fynd i'r afael â'r materion cynnal a chadw yng Nghaerdydd yn benodol, ac rydym wedi ymateb ar bob achlysur y daeth ceisiadau i law am arian cyfalaf ychwanegol gan Amgueddfa Cymru. Felly, yn ogystal â'i grant cyfalaf o tua £5 miliwn o gymorth y llynedd, fe wnaethom ddarparu swm ychwanegol o £2 filiwn i helpu i fynd i'r afael â rhai o'r materion cynnal a chadw hirdymor ac ar gyfer ailddatblygu'r amgueddfa lechi hefyd. Felly, yn wyneb polisi cyni sydd wedi arwain at doriadau sylweddol yn ein cyllideb o San Steffan, yma mae gennym Lywodraeth sy'n dal i wneud popeth yn ei gallu i weithio gyda'r sector i gefnogi'r sector, gan gynnwys mewn cyfnod heriol iawn. Anghenion Ieithyddol Plant ac Oedolion yn Arfon Sian Gwenllian AC: 6. Sut mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn gweithio gyda Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i sicrhau bod trefniadau hyfforddiant deintyddiaeth yng Nghymru yn cynhyrchu gweithlu sy’n diwallu anghenion ieithyddol plant ac oedolion yn Arfon? OQ61015 Jeremy Miles AC: Mae cynllun Deintyddion Yfory wedi’i lansio rhwng y Coleg Cymraeg Cenedlaethol â Phrifysgol Caerdydd i gefnogi siaradwyr Cymraeg gyda’u cais i’r ysgol deintyddiaeth. Bydd y coleg hefyd yn cefnogi’r brifysgol i gynnig profiadau dysgu cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr. Byddaf i'n gweithio’n agos, felly, gyda’r Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar hyn. Sian Gwenllian AC: Yr wythnos diwethaf yn y Senedd fe wnes i sôn am y diffyg dybryd o ddeintyddion sydd ar gael ar gyfer gofal NHS yn Arfon. Mae’r sgìlo allu rhoi gwasanaeth yn y Gymraeg yn rhan hanfodol ar gyfer y gweithlu deintyddol mewn ardal fel Arfon, lle mae’r Gymraeg yn brif iaith i lawer ohonom ni. Mae data mae’r Ysgrifennydd Cabinet iechyd wedi’i ddarparu i mi yn cadarnhau mai lleiafrif y myfyrwyr sy’n astudio yn yr unig ysgol ddeintyddol yng Nghymru ar hyn o bryd, sef ym Mhrifysgol Caerdydd, sydd yn aros yng Nghymru i barhau efo’u hyfforddiant deintyddol sylfaenol ar ôl graddio. Mae hi hefyd wedi cadarnhau wrthyf i fod yna drafodaethau yn digwydd i gynyddu lleoedd hyfforddi deintyddiaeth, a hynny mewn ymateb i argymhelliad pwyllgor iechyd y Senedd y dylai’r Llywodraeth archwilio opsiynau i sefydlu ysgol ddeintyddol yn y gogledd. Ydych chi’n cytuno bod y cyfleoedd cyfyngedig sydd i astudio deintyddiaeth yng Nghymru ar hyn o bryd, a diffyg effeithiolrwydd y cyfleoedd hynny, o ystyried nad ydyn nhw’n aros yma mewn niferoedd digonol, yn golygu ein bod ni'n colli’r cyfle i wreiddio’r Gymraeg ar hyd y llwybr sydd yn arwain at gymhwyso fel deintydd? Ydych chi'n cytuno, felly, y byddai creu ysgol ddeintyddol ym Mangor yn rhoi’r cyfle i ni, fel yn achos yr ysgol feddygol, i wreiddio’r Gymraeg ac anghenion yr ardal leol yn rhan naturiol o’r hyfforddiant? Pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael hefo Eluned Morgan i bwyso’r achos ieithyddol dros sefydlu ysgol o’r fath ym Mangor, a chadarnhau Bangor fel canolfan rhagoriaeth hyfforddiant iechyd a gofal? Jeremy Miles AC: Yn fy nhrafodaeth fwyaf diweddar gyda fy nghydweithiwr, gwnaeth y Gweinidog sôn wrthyf i fod y brifysgol yng Nghaerdydd wedi gwneud ymrwymiad i gynyddu, dros y tair blynedd nesaf, y rhifau sydd yn dod o Gymru i tua 40 y cant o'r cohort. Fel rwy'n credu gwnaeth hi sôn yn y Siambr, byddai hyn yn gynnydd sylweddol, oherwydd mae e'n debygol y byddai pobl eisiau parhau i fod yn ddeintyddion yma yng Nghymru. Mae'r coleg Cymraeg yn gweithio hefyd gyda'r brifysgol yng Nghaerdydd i ddarparu grant sbarduno ym maes deintyddiaeth yn benodol i gynnig profiadau dysgu cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr. Bydd yr ysgol ddeintyddiaeth yno yn cynnal, yn ychwanegol i hynny, gyfres o ddigwyddiadau lle bydd darpar fyfyrwyr yn elwa o gwrdd â staff ac ati ac yn derbyn gwybodaeth am y broses ymgeisio. Mae'r cynllun hefyd yn gwarantu cyfweliad i siaradwyr Cymraeg ar gyfer mynediad mis Medi 2025 yn yr ysgol ddeintyddiaeth, felly rŷn ni'n gobeithio ac yn ffyddiog bydd hynny'n helpu i fynd i'r afael gyda'r her. Buddion Cymunedol Prosiectau Cynhyrchu Ynni Peredur Owen Griffiths AS: 7. Beth yw disgwyliadau'r Ysgrifennydd Cabinet o gwmnïau o ran darparu buddion cymunedol diriaethol mewn perthynas â phrosiectau cynhyrchu ynni? OQ61023 Jeremy Miles AC: Mae cyfranogiad cymunedol yn hanfodol i'n polisi ynni ac rwy'n disgwyl i bob prosiect newydd gael o leiaf elfen o berchnogaeth leol. Fy amcan yw cadw budd cymdeithasol ac economaidd ar gyfer prosiectau adnewyddadwy i gefnogi pontio teg i system ynni sero net. Peredur Owen Griffiths AS: Diolch yn fawr am yr ateb yna. Peredur Owen Griffiths AS: Gwelwyd bod manteision cymunedol real a diriaethol yn hanfodol er mwyn denu cefnogaeth trigolion lleol i gynlluniau ynni adnewyddadwy. Gall y cynlluniau budd-daliadau hyn fynd ymhellach, ond o leiaf maent yn cael eu cynnig. Yn anffodus, o ran cynlluniau gwaith glo, ni welir buddion cymunedol yn unman. Mae yna enghraifft arbennig o wael yn fy rhanbarth i o gymuned yn cael ei cham-drin yn llwyr gan berchnogion pwll glo brig Ffos-y-fran, sydd wedi gadael trychineb amgylcheddol ar eu holau ar ôl gwneud llawer iawn o elw dros bron i ddau ddegawd o sŵn a llwch i drigolion lleol. Mae cynllun gwaith glo arall yn fy rhanbarth ar safle hen lofa Bedwas yn addo adfer, a gwella'r tir mewn rhai achosion, ar ôl codi miloedd o dunelli o lo. Fodd bynnag, nid yw'n ymddangos bod unrhyw sôn am fudd cymunedol diriaethol eto. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n cytuno â mi, pryd bynnag yr echdynnir adnoddau naturiol, ar ba ffurf bynnag, y dylid cael iawndal i drefi a phentrefi cyfagos ar ffurf budd cymunedol diriaethol sy'n cael effaith hir a pharhaol? Jeremy Miles AC: Wel, rwy'n credu bod y ddau ohonom eisiau gweld ecosystem ynni nad yw'n echdynnol yn yr ystyr honno ac sy'n adnewyddadwy yn yr ystyr wirioneddol ac yn manteisio'n llawn ar yr adnoddau ynni adnewyddadwy y gallwn eu brolio fel cenedl. Rwy'n credu mai dyna'r uchelgais y mae'r ddau ohonom yn ei rannu, yn ôl pob tebyg. Ac rwy'n gwybod y bydd yn croesawu lansiad Ynni Cymru, y credaf y bydd yn gwneud cyfraniad sylweddol at newid y dirwedd i'r cyfeiriad hwnnw. Mae eisoes wedi ymrwymo gwerth bron i £1 filiwn o grantiau adnoddau, a fydd yn helpu grwpiau cymunedol yn uniongyrchol i gymryd rhan mewn cynlluniau ac i gyflymu'r prosiectau sydd gennym ar y gorwel. Felly, rwy'n rhannu ei uchelgais i sicrhau bod y gymuned, mewn unrhyw ardal lle ceir cynhyrchiant, neu drawsyrru yn wir, yn gallu tynnu sylw at fudd iddynt hwy, sy'n dda i'r prosiect ond hefyd yn dda i'n cymunedau. Y Comisiwn Gwaith Teg Joyce Watson AC: 8. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Llywodraeth Cymru wrth weithredu argymhellion y Comisiwn Gwaith Teg? OQ61003 Hannah Blythyn AC: Mae'r Llywodraeth hon yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddefnyddio'r holl ysgogiadau sydd gennym i wreiddio gwaith teg yng Nghymru. Cyhoeddasom ein hadroddiad cynnydd diweddaraf ar 16 Ebrill. Mae'r adroddiad yn dangos bod yr holl argymhellion â blaenoriaeth wedi'u rhoi ar waith a bod y mwyafrif helaeth o'r argymhellion sy'n weddill wedi'u gwireddu neu yn y broses o gael eu gweithredu. Joyce Watson AC: Diolch am y diweddariad hwnnw. Er gwaethaf yr heriau sy'n ein hwynebu, mae'n dda gweld bod cynnydd yn cael ei wneud ar yr argymhellion niferus yn adroddiad y Comisiwn Gwaith Teg. Rwy'n arbennig o falch o weld y gwaith sy'n cael ei wneud yma gan Lywodraeth Lafur Cymru ar hyrwyddo rôl gadarnhaol undebau llafur yn y gweithle a thu hwnt. Mae hyn mewn cyferbyniad llwyr â'r Llywodraeth Dorïaidd bresennol sydd, dro ar ôl tro, wedi ymosod ar undebau llafur ac wedi ceisio dileu'r hawliau yr ymladdwyd yn galed i'w cael i weithwyr. Heddiw yw Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr, sy'n coffáu'r brwydrau a'r enillion a welodd y mudiad llafur. Felly, Weinidog, a fyddech chi'n cytuno â mi fod angen ethol Llywodraeth Lafur yn yr etholiad cyffredinol a gweithredu cytundeb newydd trawsnewidiol Llafur yn y DU ar gyfer gweithwyr? Hannah Blythyn AC: Diolch ichi am godi'r pwyntiau pwysig hynny. Hannah Blythyn AC: Dylwn ddechrau drwy ddatgan diddordeb. Rwy'n undebwr llafur balch ac rwyf wedi treulio'r rhan orau o fy mywyd gwaith yn dadlau dros fargen well yn y gweithle. Mae'n iawn ac yn addas, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr, ein bod yn ystyried ac yn cydnabod y rôl y mae undebau llafur wedi'i chwarae nid yn unig i wneud gwaith yn well, ond yn llunio cymdeithas decach hefyd. Ond gwyddom fod y gwaith hwnnw, yn anffodus, ymhell o fod wedi'i wneud ac nid oes angen edrych ymhellach na Llywodraeth Dorïaidd flinedig a gwenwynig y DU a'r gyfres o ymosodiadau ideolegol y mae wedi'u gwneud ar undebau llafur, a'r Ddeddf Streiciau (Isafswm Lefelau Gwasanaeth) 2023 wrth-ddemocrataidd a gwrth-weithwyr niweidiol. Rydym yn cymharu hyn â'r hyn a wnawn ni yma yng Nghymru gyda Llywodraeth Lafur Cymru sydd wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol ac sydd wedi deddfu i wneud hynny'n rhan o'n DNA datganoledig. Er bod y ddeddfwriaeth honno'n arwyddocaol, mae'n ymwneud â mwy na deddfwriaeth yn unig. Mae ein hundebau a'r prosiect peilot byd gwaith yn addysgu'r genhedlaeth nesaf o weithwyr, cyflogwyr ac entrepreneuriaid am eu hawliau a'u cyfrifoldebau yn y gweithle. Ond rydych chi'n iawn, gallem wneud cymaint mwy pe bai gennym sylfaen decach o hawliau ac amddiffyniadau cyflogaeth. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr fod angen Llywodraeth Lafur arnom yn y DU a gweithredu bargen newydd ar gyfer gweithwyr yn llawn; byddai'r ddau beth yn grymuso gweithwyr, yn ogystal â'n ffordd Gymreig o weithio mewn partneriaeth gymdeithasol. Y Llywydd / The Llywydd: Diolch i'r Gweinidog a'r Ysgrifennydd Cabinet, felly, am y sesiwn yna. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol Y Llywydd / The Llywydd: Eitem 2 sydd nesaf—cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yw hwn. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Mark Drakeford. Amrywiaethu'r Gweithlu Deintyddol Mark Drakeford AC: 1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar yr ymdrechion i amrywiaethu'r gweithlu deintyddol? OQ61008 Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod o'r farn ers tro y dylai gweithwyr iechyd proffesiynol geisio gweithio ar frig eu trwydded, gan ganiatáu i eraill sydd â chymwysterau priodol ymyrryd lle bo hynny'n briodol. Tan yn ddiweddar, roedd mater rheoleiddio yn atal therapyddion deintyddol cymwysedig, hylenwyr a thechnegwyr deintyddol clinigol rhag dechrau a chwblhau cyrsiau triniaeth ddeintyddol y GIG. Mae'r mater hwn bellach wedi'i ddatrys, gan alluogi gweithwyr deintyddol proffesiynol i chwarae rhan lawn yn darparu gofal GIG, a fydd yn gwneud gwahaniaeth i amrywiaeth y gweithlu deintyddol. Mark Drakeford AC: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet. Lywydd, os meddyliwn am ymarfer cyffredinol y dyddiau hyn, cyfeiriwn fwy a mwy at y tîm clinigol ehangach, y bobl eraill sydd â sgiliau clinigol a all fod yn rhan o ymdrech i ddarparu gofal sylfaenol mewn cymunedau—nyrsys practis, ffisiotherapyddion ac yn y blaen. Pam mae'r maes deintyddol wedi bod mor araf i fabwysiadu'r un ymagwedd? Wel, yn rhannol oherwydd cyfyngiadau rheoleiddiol, fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet; rwy'n ei llongyfarch ar unioni hynny. Ond mae angen iddo hefyd gael ei ategu gan ymdrech i hyfforddi mwy o bobl sy'n gallu cyflawni gwaith mwy cyffredinol ym maes deintyddiaeth. Yn sicr, nid yw'n wir fod deintyddion yng Nghymru yn gweithredu ar frig eu trwydded glinigol; yn llawer rhy aml, maent yn cyflawni triniaethau cyffredinol nad oes angen sgiliau deintydd wedi'i hyfforddi'n llawn i'w gwneud. Felly, fy nghwestiwn i Ysgrifennydd y Cabinet yw: beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod cyflenwad digonol o aelodau eraill o'r tîm clinigol hwnnw'n cael eu hyfforddi? Sut y gallwn ni ddefnyddio hynny i fynd i'r afael â'r ffaith bod gan y proffesiwn deintyddol fonopoli ar gyflenwad yn rhy aml ac mae'n defnyddio hynny i gyfyngu ar y cyflenwad o ddeintyddiaeth y GIG er mwyn hyrwyddo'r cyfle i fanteisio ar ymarfer preifat mwy proffidiol? Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr. Gwn fod y cyn Brif Weinidog wedi arwain y ffordd, pan oedd yn Weinidog iechyd, ar sicrhau ein bod yn defnyddio'r tîm cyfan o amgylch gofal sylfaenol, yn sicr o ran gwasanaethau meddygol cyffredinol, ac rwy'n ddiolchgar ichi am hynny. Ond rydych chi'n hollol gywir, nid ydym wedi gweld y patrwm hwnnw'n datblygu yn yr un ffordd yn union mewn deintyddiaeth, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn benderfynol o fynd i'r afael ag ef. Fel yr awgrymais yn fy ateb, roedd yna broblem lle roedd mater technegol yn atal therapyddion deintyddol, er enghraifft, rhag dechrau a chwblhau cyrsiau triniaeth GIG. Mae hynny bellach wedi newid, felly mae cyfle nawr o leiaf i'r drws hwnnw gael ei agor. Felly, y broblem wedyn yw: lle mae'r therapyddion deintyddol hyn? Pwy ydynt? Sut mae eu hyfforddi? Roedd hyn yn un o'r pethau y canolbwyntiais arno'n gynnar iawn yn fy nghyfnod yn y swydd, oherwydd os ydym eisiau edrych ar y model yn sylfaenol, roeddwn yn sylweddoli na allwch chi wneud hynny heb ddarparu'r rhifau mewn gwirionedd. Os ydych chi'n gwrthdroi'r triongl, mae angen ichi sicrhau bod gennych chi ddigon o bobl yn hyfforddi. Felly, yn sicr, roedd yn gyfarwyddyd a roddais i Addysg a Gwella Iechyd Cymru ychydig flynyddoedd yn ôl, ac yn sicr, gallaf eich sicrhau ein bod wedi dyblu nifer y therapyddion deintyddol sy'n cael eu hyfforddi ers 2023. Felly, mae pethau'n gwella, ond mae gennym ffordd bell i fynd. Rwyf hefyd yn falch iawn hefyd fod y graddedigion cyntaf i gymhwyso o raglen hylendid deintyddol Prifysgol Bangor yn dechrau gweithio. Mae'n debyg mai'r her nesaf i ni yw sicrhau—yn amlwg, mae angen inni gynyddu'r niferoedd hynny, a gwneud yn siŵr hefyd, pan fyddant wedi'u hyfforddi, nad ydynt yn mynd i'r sector preifat. Mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid inni ddod o hyd i ateb iddo hefyd. Janet Finch-Saunders AC: Mae'n rhaid imi ddweud bod gennyf barch mawr at y cyn-Brif Weinidog, ond rwy'n ei hystyried yn eironig ei fod bellach yn gofyn cwestiwn i'w Weinidog iechyd blaenorol ar faes polisi lle mae Llafur Cymru wedi methu'n druenus yn ystod eich cyfnod chi yn y swydd. Nawr, blaenoriaethau'r bobl yw i'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru ddarparu mwy o ddeintyddion yng Nghymru. Fodd bynnag, dan oruchwyliaeth Llywodraeth flaenorol Cymru, gwelwyd dirywiad cyflym yng ngwasanaethau deintyddol y GIG—60 y cant o ostyngiad yn y ddarpariaeth, oherwydd eich contractau newydd. Nid ydynt wedi gwneud unrhyw beth i fynd i'r afael â'r realiti yn Aberconwy fod gennym system dair haen erbyn hyn: pobl sy'n gallu cael triniaeth breifat, pobl sy'n gallu cael triniaeth y GIG a phobl sy'n methu cael mynediad at y naill na'r llall. Mae'n warth llwyr, a dyna'r rheswm dros fy sylw am yr eironi. Ychydig wythnosau sydd wedi bod ers ichi adael y swydd, Brif Weinidog, ac rydych chi'n gofyn cwestiwn y dylech chi wybod yr ateb iddo. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gomisiynu gwaith i fodelu'r hyn y byddai ei angen arnoch chi, fel Llywodraeth Cymru, i ddarparu gwasanaethau GIG llawn i bawb sy'n byw yng Nghymru? Diolch yn fawr. Eluned Morgan AC: Nid ydym wedi gwneud unrhyw gyfrinach o'r ffaith bod yr heriau sy'n ymwneud â deintyddiaeth yn rhai go iawn, a thrwy newid y contract, rydym wedi ceisio mynd i'r afael â rhai o'r materion hynny, yn enwedig i bobl nad ydynt wedi gallu cael mynediad at ddeintyddiaeth y GIG ers amser maith. Ac rwy'n falch o ddweud, erbyn heddiw, fod tua 300,000 o gleifion GIG newydd wedi gallu cael mynediad at y gwasanaethau GIG hynny. Rydych chi'n hollol gywir; rwyf wedi comisiynu gwaith i edrych ar sut mae hyn yn edrych dros y tymor hir—cynllun 10 mlynedd—oherwydd ni allwch greu deintyddion dros nos, ni allwch greu therapyddion deintyddol hyd yn oed dros nos, ond hefyd mae'n rhaid ichi ystyried pethau fel y ffaith bod y boblogaeth yn newid. Mae'r boblogaeth yng ngorllewin Cymru, er enghraifft, yn debygol o fod ychydig yn hŷn ac efallai fod angen math gwahanol o ymateb deintyddol i'r rhai mewn rhannau eraill o'r wlad. Felly, mae'r holl bethau hynny'n bethau y gwyddom fod angen mynd i'r afael â nhw. Ein her bresennol, wrth gwrs, yw cyllid. Felly, rydym yn gwybod beth sydd angen ei wneud, ond yn amlwg, rydym wedi ein cyfyngu'n ariannol gan y ffaith bod eich Llywodraeth chi yn y DU wedi chwalu'r economi ac wedi rhoi bargen wael inni o ran arian ar gyfer iechyd. Camau i Atal Clefydau drwy Hyrwyddo Byw'n Iach Mike Hedges AC: 2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i atal clefydau drwy hyrwyddo byw'n iach? OQ60995 Eluned Morgan AC: Rydym yn defnyddio amrywiaeth o strategaethau i gefnogi pobl yng Nghymru i fyw bywydau iach. Mae peidio ag ysmygu, bod yn gorfforol egnïol lle bo hynny'n bosibl a chario pwysau iach i gyd yn gamau cadarnhaol y gallwn eu cymryd i atal clefydau y gellir eu hosgoi, fel diabetes math 2. Mike Hedges AC: Diolch i'r Gweinidog am yr ymateb hwnnw. Mae cysylltiad agos rhwng ffordd o fyw ac iechyd, a gall y dewisiadau a wneir am ddeiet, gweithgarwch, cwsg ac ysmygu effeithio ar iechyd a lles. Gall ffordd iach o fyw leihau'r risg o lawer o glefydau, gwella ansawdd bywyd a hyrwyddo adferiad. Mae llawer o bobl angen gwella'u ffordd o fyw, gyda gordewdra'n un o brif achosion diabetes math 2, clefyd coronaidd y galon, rhai mathau o ganser, fel canser y fron a chanser y coluddyn, a strôc. Felly, gyda'i ddull ataliol cynnar, gall presgripsiynu cymdeithasol helpu i leddfu'r baich ar wasanaethau arbenigol rheng flaen. Pa gynnydd sy'n cael ei wneud ar gynyddu presgripsiynu cymdeithasol, fel ein bod yn gwella ffitrwydd ac iechyd pobl, yn hytrach na'u bod yn ymweld â meddygon, yn ymweld ag adrannau damweiniau ac achosion brys, am eu bod yn ddifrifol wael? Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu bod angen inni fod yn ofalus iawn. Efallai ein bod weithiau'n gor-feddygoli rhai o'r materion sy'n dod trwy ein meddygfeydd, a dyna pam y credaf fod cyfle gwirioneddol yn sgil presgripsiynu cymdeithasol. Nid yw hyn yn rhywbeth newydd wrth gwrs; mae'n rhywbeth sydd wedi bod yn digwydd ledled Cymru, ond mewn pocedi. Ac un o'r materion yr oedd y cyn Weinidog llesiant yn sicr yn awyddus i fynd i'r afael â nhw, a gwn fod y Gweinidog iechyd meddwl newydd yn awyddus i edrych arno hefyd, yw gwneud yn siŵr, pan gaiff pobl eu hatgyfeirio mewn perthynas â phresgripsiynu cymdeithasol, fod yna ansawdd ynghlwm wrth hynny, fel bod meddygon teulu yn gallu—. Mae'r rhain, yn aml iawn, yn bobl fregus; mae angen ichi gael rhywfaint o sicrwydd o'i gwmpas. Felly, rwy'n credu bod cyfleoedd go iawn i'w cael yn sgil presgripsiynu cymdeithasol. Cafwyd ymgynghoriad ar y fframwaith hwnnw bellach, felly rydym yn bwrw ymlaen mewn perthynas â'r cyfleoedd sy'n gysylltiedig â phresgripsiynu cymdeithasol. Ond rydych chi'n llygad eich lle, yn enwedig o ran y ffordd yr ewch ati i newid ffordd o fyw pobl. Mae'n anodd iawn, mae'n bersonol iawn. Beth sy'n ysgogi pobl? Ac rwy'n gobeithio y bydd pobl yn manteisio ar y cyfleoedd, nid yn unig drwy bresgripsiynu cymdeithasol, ond hefyd drwy edrych ar y gefnogaeth sydd gennym y gellir ei theilwra'n effeithiol i'r unigolyn. Felly, Pwysau Iach Byw'n Iach, er enghraifft, gall pobl fynd ar y wefan honno a chael cefnogaeth wedi'i theilwra'n deg a fydd yn eu helpu, er enghraifft yn eu hymdrechion i golli pwysau. Gareth Davies AS: Gyda iechyd ataliol wedi cael ei godi, hoffwn fanteisio ar y cyfle i sôn am atal canser y coluddyn yng Nghymru. Canser y coluddyn yw'r pedwerydd canser mwyaf cyffredin a'r ail laddwr canser mwyaf yng Nghymru. Mae cynnydd da wedi bod o ran profi am syndrom Lynch yng Nghymru, sef cyflwr sy'n gysylltiedig â rhagdueddiad genetig i ganser y coluddyn, ond mae tua 30 y cant o achosion canser y coluddyn yn y DU yn gysylltiedig â diffyg ffeibr yn y deiet, mae 11 y cant yn gysylltiedig â gordewdra, a 7 y cant yn gysylltiedig â thybaco. Bydd cyfuniad o'r ymddygiadau hyn yn cynyddu eich perygl o ddatblygu'r clefyd yn sylweddol. Felly, a allai Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i godi ymwybyddiaeth o'r ffactorau risg ymddygiadol sy'n gysylltiedig â chanser y coluddyn? Diolch. Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr. Wel, un o'r pethau rwy'n falch iawn ohono yw'r ffaith ein bod bellach wedi gostwng yr oedran y mae sgrinio'n dechrau mewn perthynas â chanser y coluddyn, ac mae hynny eisoes yn gwneud gwahaniaeth. Ac mae pobl yn awyddus iawn i gymryd rhan yn hynny. Mae rhan o'r broblem serch hynny, os edrychwch chi ar y gwahaniaethau a'r canlyniadau o ran pobl sydd â chanser—unrhyw fath o ganser—yn ymwneud â'r gwahaniaeth rhwng yr ardaloedd tlotach a'r ardaloedd cyfoethocach, ac mae'n rhaid inni wneud mwy i gael ein hardaloedd tlotach yn rhan o hyn. Felly, mae'n gwbl hanfodol fod gennym gamau wedi'u targedu i sicrhau bod pobl yn yr ardaloedd tlotach yn dychwelyd y profion sgrinio hynny. Yn sicr, rwy'n credu bod yn rhaid i hynny fod yn rhan o'r hyn a wnawn, ond rydych chi'n hollol gywir: cyn hynny, mae'n rhaid inni wneud gwaith atal, ac yn sicr rwy'n gobeithio, gyda'r math o gefnogaeth Pwysau Iach Byw'n Iach y gallwn ei rhoi ar waith, y bydd pobl yn cydnabod yr hyn y mae angen iddynt ei wneud i gynnal ffordd o fyw iach. Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau Y Llywydd / The Llywydd: Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Sam Rowlands. Sam Rowlands AS: Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, dyma fy nghyfle cyntaf i'ch holi yn fy rôl newydd fel llefarydd iechyd yr wrthblaid ac rwy'n sicr yn edrych ymlaen at ein trafodaethau yn y Siambr hon. Rwy'n edrych ymlaen at weithio'n adeiladol gyda chi ar feysydd ac ar faterion lle gallaf wneud hynny, ond hefyd rwy'n bwriadu eich dwyn i gyfrif, a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, ar feysydd y mae angen eu gwella. Mae un maes o'r fath yr wyf eisiau ei grybwyll yma heddiw yn ymwneud ag adrannau damweiniau ac achosion brys. Ddoe, cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro rybudd brys ynglŷn â'r uned frys yn Ysbyty Athrofaol Cymru—yr ysbyty mwyaf yng Nghymru—a hynny ar yr un diwrnod, ddoe, ag yr oedd gennym bedair awr wedi'u neilltuo i drafod cael 36 yn fwy o wleidyddion yn y Siambr hon ar gost o ddegau o filiynau o bunnoedd. Felly, a ydych chi'n credu bod gennych chi'r blaenoriaethau cywir? Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr iawn. Yn gyntaf oll, a gaf i groesawu Sam i'ch rôl newydd fel llefarydd y Ceidwadwyr? A chyn inni barhau â'r drafodaeth, hoffwn dalu teyrnged hefyd i Russell George, y bûm yn gweithio gydag ef dros nifer o flynyddoedd. Hoffwn dalu teyrnged i chi am y ffordd y gwnaethoch chi gyflawni'r rôl honno, Russell, a diolch am y math o berthynas y gwnaethom—. Fe wnaethoch chi fy nwyn i gyfrif; fe wnaethoch chi fy nghadw ar flaenau fy nhraed, ond fe lwyddasom i sicrhau ein bod ni'n parhau'r ddeialog. Rwy'n gwybod bod fy nhasg yn heriol, ond mae gennyf fyddin fach i fy nghefnogi, ac nid wyf yn tanbrisio'r math o waith y mae'n rhaid i lefarwyry gwrthbleidiau, gan gynnwys Plaid Cymru, ei wneud heb y math o gefnogaeth y gallaf ddibynnu arni. Felly, diolch i chi hefyd am ymgymryd â'r dasg anodd hon. Mewn perthynas ag adrannau damweiniau ac achosion brys, rwy'n credu y dylwn nodi bod perfformiad mewn adrannau damweiniau ac achosion brys mawr, wrth gwrs, yn heriol ar hyn o bryd. Mae gennym broblemau go iawn mewn perthynas ag oedi wrth drosglwyddo gofal—mae hynny bob amser yn rhan o'r rheswm pam fod oedi—ond mae'n debyg ei bod yn werth nodi hefyd bod perfformiad mewn adrannau damweiniau ac achosion brys wedi bod yn well yng Nghymru nag yn Lloegr mewn wyth o'r deuddeg mis diwethaf yn erbyn y targed pedair awr. Sam Rowlands AS: Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet, a diolch hefyd am gydnabod rhai o'r heriau sy'n bodoli yn ein hadrannau damweiniau ac achosion brys ar hyn o bryd. Ond mae hyn yn ymwneud â chael y blaenoriaethau cywir a chael Llywodraeth sy'n canolbwyntio ar ymdrin â'r meysydd sy'n peri pryder i bobl Cymru. Ac ysgrifennodd un person o'r fath ataf yr wythnos diwethaf, aelod o'r cyhoedd, sydd, yn anffodus, â chanser angheuol, eisiau mynegi ei brofiadau mewn ysbyty yng ngogledd Cymru, lle aethant i adran ddamweiniau ac achosion brys gyda llythyr gan ei feddyg teulu i sicrhau gwely ar ward i drin anhwylder, ond gwrthododd yr ysbyty hyn a'i roi yn yr ystafell aros yr adran ddamweiniau ac achosion brys, lle bu'n aros am 11 awr. Erbyn hanner nos, dywedwyd wrthynt y byddai'n well iddynt fynd adref. Felly, daethant yn ôl drannoeth a chael profiad tebyg iawn, gyda phobl yn aros mwy na 12 awr. Yn anffodus, nid yw hwn yn achlysur untro, ac mae llawer gormod o bobl yn cael y profiadau hyn yn ystafelloedd aros ein hadrannau damweiniau ac achosion brys. Felly, er mwyn ein meddygon a'n nyrsys, sy'n gorfod gweithio drwy hyn, ac yn sicr er mwyn y cleifion, sy'n gorfod dioddef y cyflyrau hyn, tybed a allech chi amlinellu pa gynllun sydd gennych i fynd i'r afael â'r arosiadau gormodol hyn mewn adrannau damweiniau ac achosion brys? Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr. Mae gennym strategaeth gyfan yn ymwneud â hyn. Fe'i gelwir yn rhaglenchwe nod. Mae'n rhaglen gynhwysfawr iawn, ac mae wedi gwneud gwahaniaeth enfawr yn barod. Felly, rwy'n gwybod efallai na fydd yn teimlo felly, ond os ydych chi'n meddwl am bethau fel y system 111, a oedd yn golygu bod 90,000 o bobl wedi cael eu dargyfeirio rhag mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys mewn un mis yn unig, ym mis Chwefror, mae hynny'n rhoi rhyw fath o syniad i chi o fentrau newydd sydd wedi'u cyflwyno. Hefyd, mae gennym ganolfannau gofal sylfaenol brys wedi'u cyflwyno; mae gennym ganolfannau gofal argyfwng yr un diwrnod wedi'u cyflwyno. Ac wrth gwrs, os ydych chi'n sôn am flaenoriaethau, rwyf wedi'i gwneud hi'n glir iawn mai un o fy mlaenoriaethau allweddol yw lleihau'r rhestrau. Rwy'n gwneud llawer iawn o waith yn ceisio ymchwilio'n fanwl lle mae'r problemau. Rwyf wedi siarad â Betsi y bore yma am rai o'r materion anodd iawn y maent yn eu hwynebu mewn meysydd penodol. Wrth gwrs, rhan o'r broblem yw'r oedi wrth drosglwyddo gofal. Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda llywodraeth leol i weld a allwn weithio gyda'n gilydd ar hynny, gan ei fod yn gyfrifoldeb ar y cyd. Ond mae yna ormod o bobl yn ein hysbytai sy'n barod i gael eu rhyddhau ond na ellir eu rhyddhau, ac mae hynny'n her i ni, ond mae hefyd yn her i lywodraeth leol. Ac yn sicr, mae gweithio law yn llaw â chynghorau'n gwbl hanfodol, a dyna a wnawn, yn sicr drwy fisoedd y gaeaf, ar sail bythefnosol. Sam Rowlands AS: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am amlinellu'r heriau sydd i'w canfod wrth ddrws cefn yr ysbyty, fel petai, o ran y gallu i ryddhau cleifion. Rwy'n sicr yn barod i weithio gyda chi i weld pa ddulliau y gellir eu rhoi ar waith i wella hynny. Oherwydd rydym i gyd eisiau gweld system ddamweiniau ac achosion brys well yma yng Nghymru ac rydym i gyd eisiau gweld y rhestrau aros a'r amseroedd aros yn lleihau. Ond fe wnaethoch chi gyfeirio at eich cynllun, ac mae'n amlwg fod yn rhaid monitro a goruchwylio'r cynllun a'i weithredu mewn modd cadarn. Cyflwynodd arweinydd y Ceidwadwyr yma, Andrew R.T. Davies, gwestiwn i chi yn ddiweddar, yn gofyn beth yw'r tri phrif reswm pam fod pobl wedi mynychu adrannau damweiniau ac achosion brys yng Nghymru yn ystod y flwyddyn galendr hon. Yn sicr, mae gwybod y rhesymau'n eich galluogi i ddeall cadernid y cynllun rydych wedi dweud ei fod ar waith. Ond yn eich ateb, yn anffodus, Ysgrifennydd y Cabinet, fe ddywedoch chi nad oedd gennych y wybodaeth hon. Felly, tybed a allwch chi fod yn hyderus ynghylch cadernid eich cynllun i ymdrin ag arosiadau mewn adrannau damweiniau ac achosion brys pan nad oes gennych chi'r hyn rwy'n ei ystyried yn wybodaeth eithaf sylfaenol am beth yw'r prif resymau pam fod pobl yn mynychu ystafelloedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys. Eluned Morgan AC: Wel, wrth gwrs, byddwn yn disgwyl i'r byrddau iechyd eu hunain fod yn cadw'r wybodaeth honno. Ond yr hyn sydd gennym nawr yw Gweithrediaeth GIG Cymru, sy'n edrych yn agos iawn ar y manylder hwnnw. Ac mae'r rhaglen chwe nod y cyfeiriais ati yn enghraifft o ddull cenedlaethol, lle mae disgwyl cyflawni ar lefel leol. Rydym wedi dyrannu £25 miliwn i mewn i hwnnw, ac mae'n gwneud gwahaniaeth sylweddol. Felly, yn amlwg, un o'r pethau eraill y buom yn ymwneud â nhw yw ceisio cyflwyno pethau fel rhaglen yr Athro Shepherd o adnabod ymddygiad treisgar, er enghraifft—lle mae hynny'n digwydd, sut rydym yn gweithio gyda'r heddlu ac awdurdodau eraill i nodi pan fo'r problemau'n dod i mewn i adrannau damweiniau ac achosion brys. Mae'n ymwneud â mwy na thrais yn unig; mae rhywfaint ohono'n ymwneud â phobl oedrannus yn baglu ac yn cwympo. Yr wythnos diwethaf, mynychais gynhadledd sy'n edrych ar y gwasanaeth cyswllt toresgyrn, a oedd yn ddiddorol iawn. Beth y gallwn ni ei wneud i ymyrryd i atal pobl rhag torri coes neu dorri asgwrn? Mae llawer iawn o waith sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn mynd i mewn i hynny. Rydym wedi dyrannu £1 filiwn ar gyfer hynny, er mwyn ceisio atal pobl rhag gorfod mynd i'r ysbyty. Felly, mae'r cyfan yn ceisio gwthio pethau i'r gofod atal, sy'n eithaf anodd pan ydych yng nghanol gwres y funud gyda'r adrannau brys, a'r rhestrau aros. Y Llywydd / The Llywydd: Llefarydd Plaid Cymru, Sioned Williams. Sioned Williams AS: Diolch, Llywydd. Croeso i'ch rôl newydd chi, Weinidog. Hoffwn godi gyda chi y pryder mawr sydd yna am nifer y canolfannau dydd sy'n cau ledled Cymru. Mae'r canolfannau hyn wedi bod yn fwy nag adeiladau i gymaint o bobl sydd angen cefnogaeth yn y gymuned. Maen nhw'n ganolbwynt i fywydau pobl, yn cynnig pwynt cyswllt hollbwysig, yn cynnig gweithgareddau, cwmni, a chyfle i chwerthin, ac yn helpu lleddfu'r pwysau ar ofalwyr di-dâl. Mae Age Cymru wedi canfod bod nifer o awdurdodau lleol heb ailagor canolfannau ers y pandemig, er bod yr oedi cyn cael mynediad i wasanaethau gofal cymdeithasol wedi golygu bod angen y canolfannau hyn yn fwy nag erioed. Mae'r cyfyngiadau ar gyllidebau awdurdodau lleol yn golygu eu bod nhw'n torri gwasanaethau dydd, gydag o leiaf un awdurdod yng Nghymru yn awgrymu y byddan nhw'n cau pob canolfan, ac un arall yn dweud ei bod nhw'n mynd i haneru’r gyllideb ar gyfer rhoi seibiant i ofalwyr. Yn sgil hyn, ydych chi'n cytuno bod angen mwy o ffocws, ac nid llai, ar ymyrraeth gynnar a gwaith ataliol a chefnogi yn y gymuned y mae gwasanaethau dydd yn rhan ganolog ohono? A pha ddata sy'n cael ei gasglu gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y rhai sydd angen cefnogaeth yn y gymuned yn ei dderbyn, yn wyneb cau canolfannau dydd? Dawn Bowden AC: Wel, a gaf i ddiolch i Sioned Williams am y cwestiwn hwnnw? Edrychaf ymlaen yn fawr at weithio gyda chi yn eich portffolio. Rwy'n credu fy mod i'n ymdrin â rhai agweddau arno gyda Mabon hefyd, felly rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda Mabon, oherwydd, rwy'n credu bod yna faterion ar draws fy mhortffolio sy'n peri pryder cyffredin i bob un ohonom, ac rwy'n gobeithio y gallwn weithio gyda'n gilydd, nid yn unig gyda Phlaid Cymru, ond hefyd gyda'r Ceidwadwyr. Mae gennym lawer o ymrwymiadau rhaglen lywodraethu ac ymrwymiadau'r cytundeb cydweithio ar draws y portffolio, yn enwedig mewn perthynas â gwell canlyniadau i blant, y gwn eu bod o ddiddordeb arbennig i chi, felly rwy'n edrych ymlaen yn fawr at hynny. Ond mae'r pwyntiau a wnewch yn amlwg yn bwysig iawn. Mater i awdurdodau lleol yw gweithrediad canolfannau dydd wrth gwrs, ac fe wyddom, yn sicr, fod cyllid awdurdodau lleol wedi bod dan bwysau aruthrol, er ein bod wedi ceisio blaenoriaethu eu cyllid, ynghyd â chyllid i'r GIG, o fewn y cyfyngiadau cyllidebol sy'n ein hwynebu. Mae holl gyllidebau awdurdodau lleol, fel y gwyddoch, o fewn y grant cynnal ardrethi, felly nid ydynt wedi'u neilltuo ar gyfer unrhyw wasanaeth penodol. Felly, mater i'r awdurdod lleol eu hunain—nid ydynt wedi cael eu neilltuo—yw penderfynu a ydynt yn dewis blaenoriaethu gofal cymdeithasol ac yn y blaen. Ond gallaf fod yn glir iawn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd a minnau yn sicr yn blaenoriaethu oedi wrth drosglwyddo gofal, ac rwy'n credu bod hynny'n cyd-fynd â'ch cwestiwn. Byddwch wedi gweld, er enghraifft, dros y penwythnos, yr wythnos diwethaf, yn yr ardal rwy'n ei chynrychioli—ardal bwrdd iechyd Cwm Taf—mae bwrdd iechyd Cwm Taf wedi'i gwneud yn glir iawn i awdurdod lleol Rhondda Cynon Taf fod tua 300 o bobl mewn gwelyau mewn ysbytai yn ardal Cwm Taf—mae hynny'n cyfateb i un ysbyty cyffredinol—na ddylent fod yno. Ac fe wyddom fod hon yn broblem ers llawer gormod o amser. Cyfarfûm ag arweinwyr llesiant a gofal cymdeithasol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yr wythnos diwethaf, a soniais am yr angen i ni fwrw ymlaen â'r agenda hon o leihau'r amseroedd aros i ryddhau pobl nad oes angen iddynt fod yn yr ysbyty mwyach. Ac mae canolfannau gofal dydd a darpariaeth gofal cymdeithasol yn gwbl allweddol i hynny. Felly, y cyfan y gallaf ei ddweud wrthych yw fy mod yn cael y sgyrsiau hynny gydag awdurdodau lleol. Mae'n sicr yn flaenoriaeth yr wyf fi ac Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn ei rhannu wrth symud ymlaen ar y llwybrau gofal, ac rydym yn parhau i gael deialog mor adeiladol ag y gallwn gydag awdurdodau lleol ynglŷn â sut y gallwn gyflawni'r amcanion hynny ar y cyd o fewn cyfyngiadau eu cyllidebau nhw, a chyfyngiadau ein cyllideb ni. Sioned Williams AS: Diolch yn fawr. Ie, y pwynt yw bod y gwasanaethau dydd yna yn chwarae rhan mor bwysig yn y gwaith ataliol yna rhag bod pobl yn gorfod cael mynediad at wasanaethau iechyd a gofal yn y lle cyntaf, a lleddfu'r pwysau. Mae nifer o bobl wedi gofyn i Age Cymru am gymorth yn sgil y ffaith nad ydyn nhw wedi cael gwybod o flaen llaw y byddai'n rhaid iddyn nhw dalu am ofal cymdeithasol. Maen nhw wedi tynnu sylw at achosion lle mae pobl hŷn wedi gorfod talu yn sylweddol yn fwy na'r hyn mae'r ddeddfwriaeth yn ei ganiatáu. Ac, yn eu harolwg blynyddol, dywedodd 34 y cant eu bod yn ei ffeindio fe'n anodd neu'n hynod anodd i ddeall trefniadau codi tâl am ofal. Gan fod y drefn taliadau wedi bod mewn lle ers peth amser, pa waith sy'n cael ei wneud i sicrhau bod y broses yn glir ac yn deg? Ac, wrth gwrs, mae'r Llywodraeth yn ymgynghori ar hyn o bryd ar ddiwygio'r rheoliadau a'r cod ymarfer sy'n rheoli'r hyn mae awdurdodau lleol yn gallu ei godi, ac, yn benodol, ar godi'r uchafswm wythnosol nawr i £120—rhywbeth y gwnaeth y Llywodraeth addo peidio â gwneud, wrth gwrs. Nawr eich bod chi yn y portffolio yma, a ydych chi'n credu, Weinidog, ei bod hi'n deg gofyn i ofalwyr a phobl hŷn, a phobl anabl, rhai sydd yn teimlo'r pwysau ariannol ac emosiynol fwyaf yn ein cymdeithas, i dalu mwy am eu gofal, o ystyried nad yw hyn, yn ei gyfanrwydd, yn swm anferthol o arian i'r Llywodraeth ei ganfod? Dawn Bowden AC: Diolch i chi am y cwestiwn pellach hwnnw, sy'n bwysig iawn unwaith eto wrth edrych ar y ffordd y mae gofal cymdeithasol yn cael ei ddarparu ar hyn o bryd. Unwaith eto, mewn cydweithrediad â Phlaid Cymru, rydym yn symud tuag at wasanaeth gofal cenedlaethol maes o law. Mae'n rhaglen 10 mlynedd, ac efallai y bydd yn cymryd peth amser i ni ei chyflawni. Ond mae gennym amcan a rennir yn hynny o beth ac wrth sicrhau bod y ddarpariaeth honno ar gael i'r union bobl yr ydych newydd sôn amdanynt. Byddwn eisiau bod yn sicr fod pobl yn deall yn glir iawn beth mae'n rhaid iddynt dalu amdano a'r hyn nad oes rhaid iddynt dalu amdano. Ac os gwelaf nad yw hynny'n digwydd, byddwn yn sicr eisiau cael y sgwrs honno gyda swyddogion i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cynhyrchu canllawiau clir a dealladwy iawn. Rwy'n gwybod, o fy mhrofiad fy hun— Sioned Williams AS: [Anghlywadwy.] Dawn Bowden AC: —ie, yn hollol. Rwy'n gwybod yn iawn, Sioned, o fy mhrofiad fy hun, pan oedd fy nhad yn mynd drwy'r system cyn iddo farw. A rhywun fel fi yw hyn, sydd â syniad o sut mae'r system yn gweithio, mae'n debyg. Ac roeddwn i'n ei chael hi'n anodd iawn siarad â'r bobl gywir, ar yr adeg gywir, gyda'r wybodaeth gywir, yn cael fy nhrosglwyddo o bant i bentan, ac mae hynny'n straen fawr ar unigolion a'u teuluoedd. Felly, mae angen inni wneud y system yn fwy tryloyw. Mae angen inni sicrhau—rydych chi'n iawn—fod gan y staff eu hunain yr holl wybodaeth y maent ei hangen, ac os nad yw hynny'n digwydd, byddwn eisiau sicrhau bod hynny'n digwydd, a sicrhau bod y broses yn dod yn gliriach ac yn symlach ac yn fwy unedig i bobl ei llywio. Ar yr ymgynghoriad ar ofal cartref yn benodol, nid yw hwnnw wedi cau eto; mae'n parhau tan fis Mai. Mae hwn yn rhywbeth y mae awdurdodau lleol wedi bod yn gofyn amdano. Rwy'n tueddu i gytuno â'ch dadansoddiad nad yw'r hyn sy'n cael ei awgrymu, o ran codi'r cap, yn swm enfawr o arian, ond mae awdurdodau lleol yn dweud eu bod ei angen. Ond mae yna broses gadarn iawn o fewn hynny, sy'n sicrhau na ddylai pobl na allant fforddio talu mwy na'r lefel uchaf bresennol orfod talu. Nawr, hoffwn sicrhau, yn sicr, fod hynny'n aros, ac os yw hynny'n golygu bod yn rhaid inni adolygu'r rheolau hynny i sicrhau nad oes neb yn syrthio drwy'r bylchau, rwy'n gwbl sicr y dylem wneud hynny, oherwydd ni ddylid gwrthod gofal i unrhyw un am na allant ei fforddio. Rhestrau Aros y GIG Natasha Asghar AS: 3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am gynnydd Llywodraeth Cymru wrth fynd i'r afael â rhestrau aros y GIG? OQ61025 Eluned Morgan AC: Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod chwech o saith bwrdd iechyd wedi cyrraedd y targed i sicrhau bod 97 y cant o'r holl arosiadau yn llai na 104 wythnos. Mae nifer y llwybrau sy'n aros am fwy na dwy flynedd wedi gostwng eto am y trydydd mis ar hugain yn olynol. Mae'r amser aros cyfartalog oddeutu 21 wythnos erbyn hyn. Natasha Asghar AS: Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn ddiweddar, siaradais â Together for Short Lives a Tŷ Hafan am y gefnogaeth hanfodol y maent yn ei darparu i blant sydd â salwch sy'n newid bywyd, yn ogystal â'u teuluoedd. Mae'r gofal hwn yn canolbwyntio'n bennaf ar ofal lliniarol ac mae'n darparu seibiant a chymorth amhrisiadwy i deuluoedd ar rai o'r adegau anoddaf posibl. Mae Tŷ Hafan a Together for Short Lives wedi amlinellu eu hangen am gyllid pellach i ddarparu ar gyfer hwb mawr ei angen yn nifer y nyrsys plant cymunedol, ac maent wedi galw o'r blaen am gyllid i dalu am 21 y cant o'u costau, er mai dim ond rhwng 5 y cant a 10 y cant y maent yn ei gael gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd i dalu am y gwasanaeth hanfodol hwn. Mae hyn yn ddealladwy yn effeithio ar nifer y cleifion y gall y sefydliadau hyn eu cyrraedd. Ar hyn o bryd, un o bob 10 plentyn yng Nghymru sy'n cael y gofal critigol y maent hwy a'u teuluoedd ei angen a'i eisiau'n daer. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gallwch ddeall, mae hyn yn cael effaith ganlyniadol ar ein GIG, sy'n golygu y bydd naw o bob deg o'r plant hyn felly yn cael eu rhoi ar restr aros. Felly, gyda hyn mewn golwg, Ysgrifennydd y Cabinet, pa gynlluniau sydd gennych i wella mynediad at ofal yn y gymuned i blant sy'n ddifrifol wael ledled Cymru, a fydd hefyd yn lleddfu'r pwysau ar restrau aros y GIG? Diolch. Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr, Natasha, ac rydych chi'n hollol iawn mai hwn, mwy na thebyg, yw'r maes anoddaf ohonynt i gyd ac rwyf wedi ymrwymo'n llwyr i fynd i'r afael ag ef. Dyna pam, yn ystod y mis diwethaf, rwyf wedi rhoi £4 miliwn ychwanegol i hosbisau yng Nghymru. Gadewch inni beidio ag anghofio, mewn hosbisau, fod y rhan fwyaf o'r gwaith yn cael ei wneud yn y gymuned. Yn sicr, ar ymweliad â Hosbis Dewi Sant gyda fy nghyd-Aelod Jayne Bryant ychydig fisoedd yn ôl, sylweddolais faint o'r gwaith hwnnw sy'n cael ei wneud yn y gymuned. Fe wnaethom ni gydnabod, er bod llawer o'r arbenigwyr sy'n gweithio yn y maes hwn—a gallwch ddychmygu'r math o arbenigedd sydd ei angen arnoch yn y rôl honno, ac mae'n rhaid ichi fod yn berson eithaf cadarn i allu gweithio yn y maes hynod heriol hwnnw—. Un o'r heriau oedd ein bod, mewn gwirionedd, wedi rhoi codiad cyflog i'r rhai sy'n gweithio yn y GIG, ond nid oeddem wedi rhoi codiad cyflog cymesur i'r rhai sy'n gweithio mewn hosbisau. Felly, rydym yn gobeithio y bydd y £4 miliwn yn mynd rywfaint o'r ffordd tuag at fynd i'r afael â hynny. Cyfarfûm â'r hosbisau hynny ychydig wythnosau'n ôl, a gwn eu bod yn ddiolchgar iawn am y cyllid ychwanegol hwnnw. Mabon ap Gwynfor AS: Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet mewn cyfweliad gydag asiantaeth newyddion PA yn ddiweddar, 'Yr hyn y buom yn ceisio ei wneud yw canolbwyntio ar y rhai sydd wedi bod yn aros hiraf.' A ddylai fod yn canolbwyntio ar y rhai sydd wedi bod yn aros hiraf neu a ddylai fod yn canolbwyntio ar y rhai sydd â'r angen mwyaf? Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr. Y gwir amdani yw, rydym wedi bod—. Os edrychwch chi ar y niferoedd cyffredinol sydd angen cefnogaeth, rydym yn siarad am gannoedd o filoedd o bobl. Felly, sut rydych chi'n blaenoriaethu'r rheini? Rydych chi'n hollol iawn—mae'n rhaid inni edrych ar yr achosion mwyaf difrifol. Y cwestiwn i mi yw, os ydych chi'n ceisio cydbwyso ac os edrychwch chi ar yr arbenigwyr sy'n dweud pa ganran, fwy neu lai, sydd yn y categori brys, mae'r rhan fwyaf o fyrddau iechyd yn categoreiddio llawer gormod fel achosion brys, sy'n golygu bod y bobl sy'n aros am yr amser hiraf, gydag achosion eithaf cymhleth weithiau, yn cael eu rhoi ar restrau 'byth', ac nid yw honno'n sefyllfa dderbyniol, a dyna pam mai un o'r pethau y bûm yn eu gwneud yw treulio llawer iawn o amser yn mynd ar drywydd y bobl sydd wedi bod ar restrau aros hir iawn, annerbyniol o hir, yn aros mewn poen. Wrth gwrs, mae achosion brys bob amser yn mynd i flaen y ciw, ond mae gormod ohonynt yn neidio'r ciw ar draul y bobl sydd wedi bod ar y rhestrau aros am amser hir iawn. Deintyddiaeth yng Nghanlbarth a Gorllewin Cymru Cefin Campbell AS: 4. Pa waith cynllunio gweithlu, hyfforddiant, a datblygu y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ar gyfer deintyddiaeth yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ61018 Eluned Morgan AC: Byrddau iechyd unigol sy'n gyfrifol am gynllunio'r gweithlu, ar sail anghenion a gofynion penodol eu poblogaeth. Maen nhw’n gwneud hyn drwy eu cynlluniau tymor canolig integredig, sy’n cael eu cyflwyno i Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Mae’r cynlluniau hyn yn llywio cynllun comisiynu addysg a hyfforddiant Cymru. Cefin Campbell AS: Diolch yn fawr iawn. Fel rydyn ni wedi clywed nifer o weithiau yn y Siambr yn barod heddiw, mae yna brinder deintyddion, prinder deintyddion sy'n siarad Cymraeg, yn ein canolbarth ni'n dau ac yn ehangach hefyd. Dwi'n falch i glywed bod gosod cyfundrefn hyfforddiant briodol yn hollbwysig er mwyn sicrhau'r genhedlaeth nesaf o ddeintyddion. Felly, fe wnes i synnu wrth glywed yn ddiweddar iawn am ferch ifanc o Geredigion oedd wedi cael ei gwrthod a ddim wedi cael ei derbyn ar gwrs deintyddiaeth yng Nghaerdydd, a ddim hyd yn oed wedi cael cynnig cyfweliad. Roedd disgwyl iddi gyrraedd y graddau disgwyliedig i fynd mewn i'r ysgol ddeintyddiaeth. Erbyn hyn, mae hi bellach yn ystyried astudio y tu fas i Gymru. Dyw'r stori hon ddim yn newydd. Nôl yn 2019, dangosodd adroddiad ar ddeintyddiaeth yng Nghymru gan y pwyllgor iechyd yn y Senedd yma fod angen system recriwtio mwy effeithiol i sicrhau cynnydd yng nghyfraddau myfyrwyr o Gymru sydd yn astudio deintyddiaeth—y rhai sydd yn dod o Gymru. Felly, gan ystyried profiad yr etholwraig dwi wedi cyfeirio ati, gaf i ofyn beth mae'r Llywodraeth yn bwriadu gwneud er mwyn mynd i'r afael â'r argymhelliad penodol yna, a sut fedrwch chi fynd ati i sicrhau bod cenhedlaeth newydd o ddeintyddion y dyfodol yn hanu o Gymru, gan gynnwys rhai sy'n siarad Cymraeg? Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr. Rŷch chi'n iawn—dwi'n meddwl bod problem wedi bod yn y maes yma. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu tu 74 lle yn ysgol deintyddiaeth Caerdydd, ac mae ceisiadau a llefydd wedi cynyddu 23 y cant ers 2023. Ond mae wirioneddol yn siomedig faint o fyfyrwyr o Gymru sy'n cael lle ar y cwrs. Mae'r ysgol feddygaeth wedi gwneud camau anhygoel i wella'r sefyllfa, ac rŷch chi wedi gweld gwahaniaeth yn y niferoedd sy'n dod o Gymru. Nawr, dwi'n gwybod bod yr ysgol deintyddiaeth yn rhoi cyfweliadau i bob ymgeisydd o Gymru sy'n cwrdd â gofynion academaidd a safonau'r cwrs, ond hefyd y rhai sydd wedi cymryd rhan yng nghyrsiau ehangu cyfranogiad a sawl cwrs arall. Ond y ffaith yw efallai fod hwnna'n anodd i rywun sydd yn y gorllewin, i gael mynediad at y cyrsiau hynny. Felly, rŷn ni wedi gwneud hwn yn glir nawr—ces i gyfarfod yn ddiweddar gyda'r ysgol deintyddiaeth ar ôl i mi gael sgwrs gyda'r Gweinidog sy'n gyfrifol am Gymraeg, achos dwi yn meddwl bod hyn yn broblem. Dwi'n falch dros ben eu bod nhw wedi cydnabod bod yna broblem yma, ac maen nhw wedi gwneud ymrwymiad i gynyddu'r niferoedd i tua 40 y cant o fyfyrwyr ar y cwrs yn ystod y tair blynedd nesaf. Os yw hwnna'n digwydd, bydd hwnna'n chwyldro, ac felly, yn amlwg, mae'n rhaid i ni gadw golwg ar hynny. Dwi wedi cytuno i fynd i gwrs y maen nhw'n cynnal yn ysgol Glantaf, lle maen nhw'n dod â lot o blant o ysgolion gwahanol sy'n medru'r Gymraeg sydd â diddordeb i fynd i mewn i feddygaeth a deintyddiaeth jest i wneud yn siŵr eu bod nhw'n deall bod yna lwybr yma iddyn nhw. Ac, wrth gwrs, rŷch chi'n ymwybodol hefyd fod yna grant ychwanegol o £7,000 i annog pobl sydd ar y cwrs yna i wneud eu hyfforddiant nhw yng nghefn gwlad Nghymru. Russell George AC: Weinidog, rwy'n credu bod y sefyllfa o ran mynediad at ddeintyddion y GIG yn eithaf enbyd 12 mis yn ôl, ac rwyf wedi clywed yr hyn rydych chi wedi'i ddweud heddiw mewn ymateb i gwestiynau eraill, ond mae'r sefyllfa hyd yn oed yn fwy enbyd heddiw. Yr wythnos hon, roedd gennyf etholwr yn y Trallwng yn methu cael mynediad at ddeintydd y GIG. Maent bedwar deintydd GIG yn fyr yn y Trallwng. Yn y Drenewydd, y dref fwyaf yn fy etholaeth i, symudodd deintydd amser llawn olaf y GIG dros y ffin i Loegr yr wythnos diwethaf. Erbyn hyn, nid oes unrhyw ddeintydd amser llawn yn y Drenewydd, y dref fwyaf yn fy etholaeth. Felly, mae'r sefyllfa'n enbyd. Nawr, rwyf wedi clywed rhai o'r pethau a ddywedwyd heddiw yn y Siambr, a fy mhryder i yw eich bod yn parhau i gael cwestiynau gan Aelodau'r Senedd o bob plaid yma am y sefyllfa, ond beth sy'n mynd i ddigwydd? Beth y gellir ei wneud? Nawr, rwyf wedi clywed eich ymateb i gwestiwn Janet Finch-Saunders heddiw, ac rwy'n croesawu'r grant ariannol sydd ar gael er mwyn perswadio pobl i gael eu recriwtio, a'r cynnig gwledig. Rwy'n croesawu hynny, ond fel y dywedoch chi'ch hun—ac rwy'n cytuno â chi—ni allwch gonsurio deintyddion newydd dros nos. Felly, yn ogystal â hynny, rwy'n credu bod dau beth arall y mae angen eu gwneud. Mae angen inni ailedrych ar gontract y GIG, oherwydd mae'n amlwg nad yw'n gweithio. Pe bai'n gweithio, ni fyddem yn y sefyllfa yr ydym ynddi. Mae angen inni atal deintyddion rhag symud o'r GIG i'r sector preifat a symud dros y ffin. Ac rydym hefyd angen cynnig i ddenu deintyddion profiadol i ddod i Gymru, yn enwedig y Gymru wledig hefyd—felly, deintyddion profiadol sy'n gweithio mewn mannau eraill yn y DU, ac mae angen cymhelliant ariannol ar gyfer hynny. Ond yn y pen draw, pryd rydych chi'n meddwl y bydd fy etholwyr, pobl sy'n byw mewn trefi fel y Drenewydd a'r Trallwng, yn gallu cael mynediad at ddeintydd y GIG yn y dref lle maent yn byw? Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr. Fel y gwyddoch, rydym wedi gwneud llawer iawn o waith i geisio newid y contract yn barod. Mae'n ddiddorol iawn fod Lloegr yn edrych ar newid y model sydd ganddynt oherwydd eu bod yn cydnabod bod rhaid gwneud rhywbeth yno. Felly, mae gennym y 300,000 o apwyntiadau GIG newydd wedi'u cyflawni. Rydym yn y broses o drafod contract newydd gyda deintyddion y GIG. Mae'n anodd iawn oherwydd, mewn gwirionedd, mae ganddynt ddewis—gallant fynd i weithio yn y sector preifat, ac yn aml iawn, nid oes gennym ni'r arian i gystadlu. Maent yn cael llawer mwy o ddiogelwch os ydynt yn gweithio yn y GIG, ac maent yn cael pensiynau a llawer o fudd-daliadau eraill, ond mae'n rhaid iddynt gydbwyso hynny yn erbyn yr hyn y gallant ei gael yn y sector preifat. Felly, mae'n anodd iawn i ni wneud hynny, ar adeg o gyfyngiadau ariannol tynn. Ac wrth gwrs, mae'n llawer mwy costus i rywun gael eu trin gan y GIG yn Lloegr o'i gymharu â Chymru, er ein bod wedi gorfod codi prisiau yn ddiweddar. Ac wrth gwrs, maent wedi cyhoeddi heddiw y bydd tâl o £9.90 am unrhyw bresgripsiwn yn Lloegr. Wrth gwrs, mae hynny'n rhad ac am ddim i bobl yng Nghymru, ac rwy'n falch o hynny. Gwella'r Ddarpariaeth Gofal Iechyd yng Ngorllewin De Cymru Tom Giffard AS: 5. Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella'r ddarpariaeth gofal iechyd yng Ngorllewin De Cymru? OQ61026 Eluned Morgan AC: Rydym yn cydnabod yr angen i wella darpariaeth gofal iechyd ledled Cymru, ac rydym yn gweithio gyda byrddau iechyd i gyflawni hyn drwy 'Cymru Iachach', ein cynllun 10 mlynedd ar gyfer iechyd a gofal. Tom Giffard AS: Diolch yn fawr. Ysgrifennydd y Cabinet, yn gynharach y mis hwn, cyhoeddodd Ysbyty Treforys yn Abertawe rybudd du arall fyth oherwydd galw eithriadol. Nid dyma'r tro cyntaf i Ysbyty Treforys orfod cyhoeddi hysbysiad o'r fath. Yn wir, bu naw gwahanol ddigwyddiad rhybudd du yn ystod y 12 mis diwethaf yn Nhreforys. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y dylid cyhoeddi rhybudd du, ond mae'r amlder a welwn yn Nhreforys yn awgrymu eu bod yn unrhyw beth ond eithriadol. Mae'n amlwg eu bod yn ei chael hi'n anodd ateb galw uchel parhaus, a gŵyr pob un ohonom pam. Mae'n digwydd am mai Llywodraeth Lafur Cymru yw’r unig un yn y DU i dorri cyllideb y GIG nid unwaith, nid ddwywaith, ond deirgwaith i gyd. Felly, onid yw'n glir i bawb fod penderfyniad Llywodraeth Lafur Cymru i flaenoriaethu prosiectau porthi balchder fel terfynau cyflymder 20 mya a rhagor o wleidyddion yn cael effaith ddiriaethol ar ein GIG ac ar y rhai sy'n dibynnu arno fwyaf? Eluned Morgan AC: Rydych yn llygad eich lle—mae'r galw ar y gwasanaeth yn anhygoel. Un o'r pethau awelsom yw cynnydd enfawr yn nifer yr atgyfeiriadau i'r GIG. Yn 2019, roedd yn 1 filiwn y flwyddyn; yn 2023, 1.2 miliwn y flwyddyn. Mae hwnnw’n gynnydd sylweddol yn nifer y bobl. Nifer y bobl a gafodd brawf am ganser yn 2019 oedd 8,000. Heddiw, mae'n 14,000. Dyna gynnydd o 75 y cant. Felly, wrth gwrs, mae’r pwysau ar ein gwasanaethau'n cynyddu. Mae rhywfaint o hynny'n beth da yn yr ystyr, os ydych chi'n archwilio pobl, rydych chi'n fwy tebygol o ddal canser yn gynnar, ac mae hynny'n beth da i'r claf. Wrth gwrs, mae angen mynd i’r afael â’r heriau hynny yn Abertawe. Mae rhywfaint o hynny'n ymwneud ag oedi wrth drosglwyddo gofal, felly mae angen gweithio’n llawer agosach gydag awdurdodau lleol. Ond credaf ei bod braidd yn hunanfoddhaol i edrych ar y wleidyddiaeth ffantasïol y soniwch chi amdani, Tom. Y gwir amdani yw mai eich Llywodraeth chi a chwalodd yr economi ac sydd wedi ein gadael mewn sefyllfa lle rydym yn buddsoddi llawer llai mewn iechyd o gymharu â gweddill Ewrop. Gofal i Bobl ag Anableddau Dysgu Hefin David AC: 6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod pobl ag anableddau dysgu'n cael gofal priodol yn y gymuned? OQ61013 Jayne Bryant AC: Diolch. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau, lle bynnag y bo modd, fod pobl ag anableddau dysgu yn cael gofal gartref yn hytrach nag mewn ysbyty. Mater i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol yw penderfynu ar y ffordd orau o ofalu am bobl ar sail eu hanghenion clinigol a gofal unigol. Hefin David AC: Diolch a chroeso, Weinidog. Hefin David AC: Cyfarfûm y llynedd â chynrychiolwyr ymgyrch Bywydau Wedi'u Dwyn, a gwn fod Sioned Williams yn y brotest yr wythnos diwethaf ar y grisiau. Ymunais â hi hefyd i siarad ag oedolion ifanc sydd wedi cael eu cadw mewn gofal am lawer gormod o amser. Maent wedi lansio deiseb o'r enw 'Stopio cadw plant, pobl ifanc ac oedolion ag anableddau dysgu ac awtistiaeth mewn ysbytai'. Unwaith eto, rwyf bob amser yn meddwl am fy merch fy hun, sy'n naw oed eleni. Ymhen 10 mlynedd, a allai hi fod yn wynebu'r un amgylchiadau ochr yn ochr â chymaint o rieni a ddaeth i'r brotest yr wythnos diwethaf? Rwyf hefyd wedi cyfarfod ag etholwyr i mi y mae eu mab awtistig ar hyn o bryd yn glaf mewnol yn yr uned iechyd meddwl mewn ysbyty lleol, ond a gafodd ei gadw rhwng mis Tachwedd 2023 a mis Ebrill 2024 mewn carchar, lle nododd staff a seicolegwyr pa mor dda yr ymatebai i strwythur a threfn bywyd yn y carchar. Rwyf wedi cyfarfod â'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i ofyn am sylw ac ymchwiliad i'r materion hyn. Ni waeth pa mor dda yr addasodd i'r carchar, nid wyf yn credu y dylai fod wedi bod yno yn y lle cyntaf. Byddai unrhyw un arall ar remánd wedi bod ar fechnïaeth. Mae llwyth o faterion o dan yr wyneb y credaf fod Llywodraeth Cymru yn anymwybodol ohonynt am nad yw'r system cyfiawnder troseddol wedi'i datganoli. Felly, a gawn ni gyfarfod, a gawn ni siarad—a hoffwn estyn gwahoddiad hefyd i Mark Isherwood, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar awtistiaeth—a chael trafodaeth am hyn? Gwn fod Sioned yn cyfarfod â chi. Yn anffodus, rwyf mewn pwyllgor y diwrnod hwnnw yn gofyn cwestiynau i'r Gweinidog addysg, ond byddwn yn gwerthfawrogi cyfle i gyfarfod â chi a thrafod hyn. Jayne Bryant AC: Diolch, Hefin. Hoffwn ddiolch i Hefin am godi’r mater pwysig hwn ac am dynnu sylw at achos ei etholwyr. Fel y dywedodd Hefin, rwy’n ymwybodol ei fod wedi cyfarfod ag ymgyrchwyr o ymgyrch Bywydau Wedi’u Dwyn. Hoffwn achub ar y cyfle hwn hefyd i dalu teyrnged i fy rhagflaenydd, Julie Morgan, am ei gwaith yn y maes hwn. Hoffwn roi sicrwydd i'r Aelod fy mod i a Llywodraeth Cymru yn rhannu uchelgais ymgyrch Bywydau Wedi’u Dwyn. Rydym wedi ymrwymo i leihau nifer y bobl ag anabledd dysgu y gofelir amdanynt mewn ysbyty. Erys yr egwyddor allweddol, cyn belled ag y bo’n ymarferol, y dylid gofalu am unigolion gartref, neu mor agos at eu cartrefi â phosibl, ac nad yw gwely ysbyty yn gartref. Yn wir, mae hwn yn gam gweithredu penodol yng nghynllun gweithredu strategol anabledd dysgu Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd yn 2022. Byddaf yn cyfarfod â chynrychiolwyr ymgyrch Bywydau Wedi’u Dwyn yr wythnos nesaf, gyda Sioned Williams, ac rwy’n awyddus i glywed yn uniongyrchol ganddynt. Ac wrth gwrs, er na allaf ymwneud ag achosion unigol, rwy'n fwy na pharod i gyfarfod â Hefin i drafod y materion ehangach a godwyd. Rwy'n credu bod fy swyddfa eisoes wedi cysylltu â’ch swyddfa chi, Hefin, a bod dyddiadau’n cael eu trafod ar gyfer cyfarfod o’r fath. Gwn fod gwahoddiad i'r cyfarfod hwnnw wedi’i roi i Mark Isherwood hefyd, oherwydd y gwaith y mae’n ei wneud a’i ddiddordeb yn y maes hwn. Os oes Aelodau eraill, rhowch wybod i mi. Altaf Hussain AS: Sioned, diolch yn fawr iawn am godi'r mater hwn yn barod. Ddoe, bûm mewn sesiwn friffio a drefnwyd gan Anabledd Cymru ynghylch y taliadau uwch am ofal a chymorth dibreswyl. Cefais sioc o glywed, er gwaethaf sicrwydd i’r gwrthwyneb, fod llawer o’r bobl dlotaf yng Nghymru yn gorfod talu’r taliadau hyn ac yn aml yn wynebu’r dewis rhwng talu am ofal cymdeithasol a bwyd. Bydd unrhyw godiad i daliadau, heb os, yn gorfodi mwy o bobl i'r sefyllfa hon. Gyda hyn mewn golwg, Weinidog, a wnewch chi roi’r gorau i’r cynlluniau hyn, neu o leiaf adolygu’r cyfrifiadau isafswm incwm? Jayne Bryant AC: Diolch am eich cwestiwn, Altaf. Fy nghyd-Aelod Dawn Bowden sy'n gyfrifol am ofal cymdeithasol, felly yn sicr, rwy'n fwy na pharod i drafod y materion hyn gyda Dawn, ac rwy'n siŵr y bydd hi'n cysylltu â chi hefyd. Cymorth Iechyd Meddwl Ar-lein Rhianon Passmore AC: 7. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i gynyddu cymorth iechyd meddwl ar-lein i bobl Islwyn? OQ61022 Jayne Bryant AC: Diolch. Byddwn yn parhau i ddarparu cyllid parhaus i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd meddwl mewn ymateb i anghenion lleol. Mae hyn yn cynnwys darparu cymorth ar-lein. Rydym hefyd yn ariannu cymorth iechyd meddwl ar-lein a thros y ffôn yn genedlaethol, sydd ar gael ledled Cymru. Rhianon Passmore AC: Weinidog, a gaf i achub ar y cyfle hwn i’ch croesawu, fel cydweithiwr agos, i’ch rôl newydd ar ran pobl Islwyn? Mae SilverCloud yn brosiect sy’n cynnig rhaglenni rhyngweithiol wedi’u cynllunio i addysgu sgiliau ymarferol ar gyfer ymdopi â materion iechyd meddwl mân i gymedrol. Mae’r gwasanaeth yn agored i unrhyw un dros 16 oed yng Nghymru, a gellir cael mynediad ato am ddim drwy unrhyw wasanaeth digidol. Mae'n torri tir newydd ac yn arloesol. Ers ei gynllun peilot ym Mhowys yn 2018, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, mae SilverCloud wedi helpu a chefnogi oddeutu 30,000 o bobl, ac mae bellach yn cael ei ddefnyddio yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i gefnogi pobl Gwent. Weinidog, mae hwn yn ddatblygiad i’w groesawu, sy'n helpu i ateb y galw cynyddol am therapi drwy gyfres gyfannol o raglenni hunangymorth ar-lein, yn seiliedig ar therapi gwybyddol ymddygiadol. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o allu a chapasiti gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol i gefnogi a goruchwylio ei ddefnydd, gwirio dealltwriaeth a monitro cynnydd neu ddiffyg cynnydd y cyfranogwyr? Oherwydd er bod mwy o bobl yn cael mynediad at gymorth iechyd meddwl cychwynnol, y pryder posibl amlwg yw y byddai angen ymyrraeth bwrpasol a llwybrau at therapi wyneb yn wyneb dwyster uwch ar y rheini sydd â phroblemau mwy difrifol yn ystod neu’n syth ar ôl eu cyswllt â SilverCloud. Pa dystiolaeth a sicrwydd y gallwch eu rhoi i mi fod prosesau rheoli ansawdd ac asesiadau o’r fath yn cael eu cynnal? Jayne Bryant AC: Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn, Rhianon, ac am eich geiriau caredig o groeso—fe'u gwerthfawrogir yn fawr iawn. Fel y dywedoch chi, mae therapi gwybyddol ymddygiadol wedi bod yn ddatblygiad cadarnhaol iawn yn y maes hwn. Nod darparu mynediad at therapi gwybyddol ymddygiadol ar-lein yw atal uwchgyfeirio at gymorth mwy arbenigol. Er ei bod yn rhaglen ar-lein, fe’i cefnogir gan dîm o glinigwyr ym Mwrdd Iechyd Powys a all helpu i nodi a oes angen cymorth gwahanol neu fwy arbenigol ar unigolion sy’n cael mynediad at y cymorth drwy’r holiadur sgrinio a’r broses gofrestru. Mae ystod o wybodaeth hefyd yn cael ei chofnodi am ganlyniadau a phrofiadau, ac mae'r rhain yn cael eu hadolygu'n rheolaidd i sicrhau bod cymorth yn diwallu'r angen. Mae bwrdd iechyd Powys, sy’n arwain y rhaglen ar gyfer GIG Cymru, yn gweithio ar hyn o bryd gyda chyd-bwyllgor comisiynu'r GIG a gweithrediaeth y GIG i ddatblygu model therapi gwybyddol ymddygiadol ar-lein ar gyfer y dyfodol i sicrhau bod anghenion yn cael eu diwallu a dull gweithredu mwy safonol ar waith ledled Cymru. Fel rydych chi wedi sôn, mae oddeutu 30,000 o bobl wedi cofrestru â'r gwasanaeth, gydag oddeutu 30 y cant o ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae’r gwasanaeth therapi gwybyddol ymddygiadol ar-lein yn un o nifer o wasanaethau iechyd meddwl hawdd eu cyrchu y mae Llywodraeth Cymru yn eu hariannu’n genedlaethol. Mae hyn yn cynnwys ein llinell wrando a chyngor CALL a llinell gymorth anhwylderau bwyta Beat, ac mae hyn yn rhan o’n dull o wella mynediad at gymorth. Hoffwn achub ar y cyfle hwn hefyd i dynnu sylw at y ffaith bod preswylwyr yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn benodol hefyd yn gallu cael mynediad am ddim at hunangymorth iechyd meddwl a llesiant meddyliol drwy wefan Melo. Mae'r wefan hon yn darparu mynediad at wybodaeth ynglŷn â sut i ofalu am eich iechyd meddwl a'ch llesiant meddyliol, yn ogystal â chyfeirio at wasanaethau eraill os oes angen cymorth. Felly, roeddwn yn awyddus i dynnu sylw at y maes penodol hwnnw. Y Llywydd / The Llywydd: Ac yn olaf, cwestiwn 8—Rhun ap Iorwerth. Canolfan Gofal Iechyd Amlddisgyblaethol Newydd yng Nghaergybi Rhun ap Iorwerth AC: 8. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i ddatblygu canolfan gofal iechyd amlddisgyblaethol newydd yng Nghaergybi? OQ61010 Eluned Morgan AC: Dwi yn ymwybodol am y cynnig i ddatblygu canolfan iechyd a lles newydd yng Nghaergybi. Mae trafodaethau yn mynd ymlaen rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a'r bwrdd iechyd. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch yn fawr iawn am yr ymateb yna. Mae hi bron i bum mlynedd bellach ers i feddygfeydd Longford Road a Cambria orfod cael eu cymryd drosodd gan y bwrdd iechyd yn uniongyrchol. Mi unwyd y ddwy feddygfa yn dilyn hynny, ond mae'r gwasanaeth sydd wedi bod mewn bodolaeth yng Nghaergybi ers hynny wedi bod yn fregus tu hwnt. Yn ddiweddar, mi glywsom ni'r meddygon yn codi pryderon ynglŷn â chynaliadwyedd staffio yno. Mi enillon ni'r frwydr a chael yr adduned bod yna feddygfa amlddisgyblaethol newydd yn mynd i gael ei datblygu yng Nghaergybi, ond yn anffodus mae pethau wedi mynd yn dawel—does yna ddim diweddariadau wedi bod. Mae pobl Caergybi yn haeddu hyn; maen nhw angen y gwasanaeth hwn. A gaf i annog a gofyn am ymrwymiad clir gan y Gweinidog y bydd hi'n mynd ar ôl y bwrdd iechyd i sicrhau bod y mater yma'n cael ei ddilyn i fyny, a hynny'n fuan? Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr. Fel rŷch chi'n ymwybodol, roedd proposal wedi dod i Lywodraeth Cymru trwy pathfinder project y cronfa gyfalaf integreiddio ac ailgydbwyso yn 2022. Roedd angen lot mwy o waith arno, felly roedd rhaid i'r bwrdd iechyd wneud mwy o feasibility study ynglŷn ag opsiynau. Dwi yn meddwl bod hwn yn rhan o ddatblygiad lle rŷn ni eisiau gweld lot mwy o ffocws ar prevention ac ymyrraeth yn gynnar. Dwi yn gobeithio y bydd blaenoriaeth yn cael ei wneud trwy brosesau'r bwrdd partneriaeth rhanbarthol, a bydd rhaid iddyn nhw benderfynu beth sy'n cael blaenoriaeth tu fewn i'r bwrdd iechyd. Dwi'n gwybod bod y bwrdd iechyd yn gobeithio y bydd application am business case development fees yn dod trwy'r IRCF erbyn mis Medi. Y Llywydd / The Llywydd: Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. Dyna ddiwedd ar y cwestiynau yna. 3. Cwestiynau Amserol Y Llywydd / The Llywydd: Y cwestiwn amserol sydd nesaf. Mae'r cwestiwn ymai'w ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi ac i'w ofyn gan Heledd Fychan. Everest Heledd Fychan AS: 1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad yn ymateb i'r newyddion bod dros 100 o swyddi gyda chwmni Everest mewn perygl o'u colli yn Rhondda Cynon Taf? TQ1062 Jeremy Miles AC: Diolch am y cwestiwn. Rwy'n ymwybodol iawn o'r effaith fydd hyn yn ei gael ar staff a’r gymuned ehangach yn Nhreherbert. Mae fy swyddogion yn gweithio gyda phartneriaid, yn cynnwys cyngor Rhondda Cynon Taf, y Department for Work and Pensions a Gyrfa Cymru i gefnogi’r gweithwyr sy'n cael eu heffeithio drwy’r broses hon. Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair. Heledd Fychan AS: Diolch yn fawr, Ysgrifennydd Cabinet. Yn amlwg, yn dod mor fuan wedi colli bron i 500 o swyddi yn ôl ym mis Hydref efo UK Windows and Doors, mae hyn yn newydd trychinebus i'r ardal. Yn amlwg, mae rhai o'r bobl oedd wedi’u cyflogi gan Everest wedi ffeindio cyflogaeth yn dilyn colli swyddi, ac am yr eilwaith yn wynebu dyfodol ansicr. Mae nifer o bobl hefyd gollodd eu swyddi yn ôl ym mis Hydref dal heb ffeindio swydd amgen, felly does yna ddim swyddi sydd yn talu cystal na chwaith yn yr ardal hon. Yn amlwg, fe fuodd yna gysylltiad rhwng Llywodraeth Cymru a'r cwmni hwn rhai blynyddoedd yn ôl pan fuodd y cwmni mewn trafferth. Gaf i ofyn, felly, pa gysylltiad diweddar sydd wedi bod gyda'r cwmni er mwyn gweld a oedd posib achub y swyddi hyn? Hefyd, o ystyried bod UK Windows and Doors ac Everest wedi arwain at ddiswyddiadau mor sylweddol, pa asesiad sy'n cael ei wneud o sefyllfa cwmnïau eraill yn Rhondda Cynon Taf? A pha waith mae’ch swyddogion chi’n ei wneud i sicrhau ein bod ni ddim yn mynd i gael sioc arall fel hyn, gyda chynifer o swyddi yn cael eu colli, a’n bod ni'n gweithio er mwyn sicrhau pob swydd sydd yna’n bresennol, ond hefyd i greu swyddi mewn ardal sydd dirfawr angen buddsoddiad a swyddi sy'n mynd i gadw pobl yn yr ardal, er mwyn rhoi yr hwb economaidd i ardal lle mae lefel difreintiedig mor uchel, a lle mae'n rhaid inni gael datrysiadau? Jeremy Miles AC: Well, fel mae'r Aelod yn dweud, mae'r gweithlu yno, yn Everest, yn un rŷn ni wedi ei gefnogi yn y gorffennol pan oedd y cwmni o dan bwysau. Ein ffocws ni nawr yw gwneud popeth y gallwn ni i ddod o hyd i gyfleoedd gwahanol iddyn nhw, ble bynnag mae angen gwneud hynny. Rŷn ni wedi siarad gyda'r cyngor ac, fel roeddwn i'n dweud, gyda'r cyrff eraill er mwyn sicrhau ein bod ni'n cydweithio. Mae rhaglen ReAct wedi'i chychwyn i gefnogi’r unigolion sydd yn colli eu swyddi. Rwyf wedi siarad fy hunan gyda'r cynghorydd lleol, gyda Buffy Williams fel yr Aelod ar gyfer y Rhondda, ac mae fy swyddogion i hefyd wedi bod mewn cysylltiad gyda'r cwmni pan oedd e’n amlwg bod her yn codi, felly buon nhw mewn cysylltiad yn syth ar ôl inni ddarganfod bod risg. O ran beth sydd yn digwydd yn yr economi ehangach, y drafferth yn aml yw dyw’r her ddim yn dod yn amlwg i ni fel Llywodraeth tan ei bod hi’n agos at fod yn rhy hwyr. Dyna sut mae pethau, yn aml, yn gweithio, yn anffodus. Ond rŷn ni yn gweithio’r gyda'r corporate joint committee a gyda'r cyngor i sicrhau bod y rhanbarth a dêl y rhanbarth yn ffocysu ar gynllun penodol ar gyfer y Rhondda, gan gadw mewn golwg y ffaith ein bod ni ddim yn gwybod beth a ddaw yn y dyfodol. Mae'r northern Valleys initiative, sydd yn gynllun sydd gan y rhanbarth, a'r gronfa sites and premises—mae cyfleoedd iddyn nhw hefyd i fod yn edrych am gyfleoedd yn y Cymoedd, yn y Rhondda yn benodol, ac yn ehangach na hynny hefyd. Felly, dyna’r sefyllfa o’n safbwynt ni ar hyn o bryd. Joel James AS: Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ddechrau drwy adleisio'r hyn a ddywedodd Heledd o ran pa mor ofidus wyf i ar ran gweithwyr safle Everest, gyda chymaint o bobl wedi cael eu diswyddo, fel yr adroddwyd? Rwy’n sylweddoli bod yn rhaid bod hwn yn gyfnod pryderus iddynt hwy a’u teuluoedd, ac rwy'n gobeithio y gallant ddod o hyd i waith yn gyflym. Yn anffodus, ymddengys y byddwn bob amser yn wynebu materion fel hyn wrth i’n heconomi addasu i ddatblygiadau technolegol a datgarboneiddio. Mae diwydiannau’n newid, ac mae ein heconomi yn gorfod ymdopi â stormydd sy’n deillio o ddylanwadau byd-eang y tu hwnt i’n rheolaeth. Yn y pen draw, mae angen inni allu darparu sgiliau i weithwyr sy’n eu galluogi i fod yn wydn yn y farchnad swyddi, ac i allu dod o hyd i waith yn gyflym pan fo amgylchiadau fel hyn yn codi. Gyda hyn mewn golwg, Ysgrifennydd y Cabinet, pa ymdrechion y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i sicrhau bod y bobl sydd wedi colli eu swyddi ar safle Everest yn Nhreherbert yn cael gwybod am y cymorth a'r gefnogaeth sydd ar gael iddynt, i wneud cais am swyddi newydd neu i gael mynediad at hyfforddiant ychwanegol i ailsgilio, a pha gamau y mae’r Llywodraeth yn eu cymryd i feithrin y gwytnwch hwnnw ymhlith gweithwyr yn y farchnad swyddi? Diolch. Jeremy Miles AC: Diolch i Joel James am ei gwestiwn pellach. Wel, fel y dywedodd Heledd Fychan, mae hwn yn brofiad y mae rhai gweithwyr wedi’i gael yn ddiweddar iawn hefyd, felly credaf ei fod yn peri gofid arbennig i bobl sydd wedi cael eu diswyddo unwaith ac sydd, o fewn ychydig fisoedd, yn yr un sefyllfa unwaith eto. Gwn fod llawer o bobl a oedd wedi'u cyflogi yn Everest yn y sefyllfa honno. Yr hyn a wnawn yw sicrhau bod rhaglen ReAct, a luniwyd er mwyn darparu sgiliau a chymorth i bobl sy’n wynebu colli eu swyddi, bellach ar waith ac yn cefnogi unigolion yr effeithiwyd yn ddifrifol arnynt. Mae fy swyddogion yn gweithio’n agos gyda’r cyngor, y gwn eu bod, pan fo'r math hwn o ddigwyddiad wedi codi yn y gorffennol, wedi bod yn rhagweithiol iawn yn sicrhau eu bod yn dod â’r holl ffynonellau cymorth perthnasol ynghyd yn y ffordd amlasiantaethol honno. Felly, byddwn yn gweithio ochr yn ochr â nhw yn y cyswllt hwnnw, i'w wneud mor hygyrch â phosibl i'r gweithwyr yr effeithir arnynt. Ac fel y soniais yn gynharach, mae fy swyddogion hefyd wedi bod mewn cysylltiad â'r cwmni i dynnu sylw at y cymorth y gall Llywodraeth Cymru ei roi. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Diolch i Ysgrifennyddy Cabinet. 4. Datganiadau 90 Eiliad Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Eitem 4 heddiw yw'r datganiadau 90 eiliad. Dim ond un datganiad sydd heddiw, gan Heledd Fychan. Heledd Fychan AS: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Mae'r wythnos hon yn Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl Mamau. Thema eleni yw 'ailddarganfod eich hun'. Nid yw’r daith i fod yn fam bob amser yn un hawdd, ac mae gormod o famau newydd yn cael eu gadael ar eu pen eu hunain ac yn ansicr ble i droi am gymorth. Bydd hyd at un o bob pum mam newydd yn dioddef o anhwylderau iechyd meddwl fel iselder ôl-enedigol, ac mae llai na 15 y cant o fenywod yn cael triniaeth. Dyma pam yr hoffwn roi eiliad heddiw i dynnu sylw at y gwaith rhyfeddol sy'n cael ei wneud gan Katy a'i thîm yn Mothers Matter. Sefydlwyd Mothers Matter gan Katy yn ystod y cyfyngiadau symud ac mae'n sefydliad iechyd meddwl a llesiant meddyliol amenedigol a arweinir gan y gymuned yn fy rhanbarth i, yn Nhonypandy, sy'n ymroddedig i gefnogi mamau, tadau a’u teuluoedd cyn, yn ystod ac ar ôl genedigaeth. Maent yn darparu cefnogaeth ddiwyro i ddarpar rieni a rhieni newydd drwy gydol y cyfnodau cynnar hanfodol yn natblygiad eu plentyn, hyd at bum mlwydd oed. Yn ddiweddar, cefais gyfle i ymweld â Katy a’i thîm yn eu canolfan rianta newydd, y gyntaf o’i bath yng Nghymru. Mae’r ganolfan yn darparu hanfodion fel cewynnau, llaeth a dillad i deuluoedd, gan gynnig cymorth i rieni mewn cyfnodau anodd yn ariannol. Yn ogystal, maent yn cynnig ystod o wasanaethau am ddim, fel cymorth cartref yn y gymuned, cwnsela unigol, grwpiau cymunedol, hybiau llesiant, grwpiau cyfeillio a dosbarthiadau addysgol. Mae'r holl wasanaethau hyn wedi'u llunio'n ofalus i fynd i'r afael â heriau iechyd meddwl amenedigol ymhlith rhieni newydd. Cafodd llawer ohonoch gyfle i ddysgu mwy am Mothers Matter a’u prosiect colli babi newydd ddoe. Ond i unrhyw riant newydd sy'n ei chael hi'n anodd, cofiwch nad ydych chi ar eich pen eich hun. Mae cymorth ar gael, ac fel y mae tystiolaeth y rheini sydd wedi'u cefnogi gan sefydliadau fel Mothers Matter yn ei ddangos, fe all pethau wella gyda’r cymorth cywir, ac mae goleuni ym mhen draw'r twnnel. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Diolch, Heledd. Fe wneuthum gyfarfod â nhw ddoe amser cinio. 5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau, 'Gaeaf cynhesach: P-06-1326 Dylai’r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru' Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Eitem 5 yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau, 'Gaeaf cynhesach: P-06-1326 Dylai’r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Jack Sargeant. Cynnig NDM8559 Jack Sargeant Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau, ‘Gaeaf cynhesach: P-06-1326 Dylai’r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Tachwedd 2023. Cynigiwyd y cynnig. Jack Sargeant AC: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Ddiwedd y llynedd, cyhoeddodd y Pwyllgor Deisebau adroddiad o'r enw 'Gaeaf Cynhesach'. Fe wnaeth yr adroddiad gyfres o argymhellion i’r Llywodraeth a rhanddeiliaid eraill i sicrhau na fyddai ac na allai cwmnïau ynni ailadrodd gweithredoedd y gaeaf blaenorol, lle cafodd miloedd o gwsmeriaid agored i niwed eu trin yn warthus—pobl yn gwthio'u ffordd i mewn i'w cartrefi a'u gorfodi i ddefnyddio dull o dalu nad oeddent wedi gofyn amdano. Roedd rhai o’r cwsmeriaid hyn, Ddirprwy Lywydd, yn defnyddio offer meddygol gartref; roedd gan rai ohonynt gyflyrau cronig; roedd gan rai ohonynt blant ifanc iawn a theuluoedd ifanc. 'Gosod anwirfoddol' yw term y diwydiant ar gyfer gosod mesurydd rhagdalu heb gydsyniad y defnyddiwr. Gellir gwneud hyn drwy warant gan y llysoedd, neu drwy newid mesurydd deallus o bell i'r modd rhagdalu. Ysgogwyd y pwyllgor i wneud y gwaith hwn gan ddeiseb a gyflwynwyd gan Climate Cymru, ac rydym yn ddiolchgar iddynt am ymgysylltu â’n proses. Rydym hefyd yn ddiolchgar i bawb a ddarparodd dystiolaeth ar gyfer ein gwaith, gan gynnwys ymgyrchwyr y trydydd sector, un o’r newyddiadurwyr a wnaeth gymaint i ddatgelu’r sgandal, Dean Kirby, a chynrychiolwyr y cwmnïau ynni a’u rheoleiddiwr, Ofgem. Ddirprwy Lywydd, hoffwn hefyd gofnodi ein diolch fel pwyllgor i’r cadeirydd a’r tîm cyfan yn Gwirfoddolwyr Cymunedol Sblot yng Nghaerdydd am ganiatáu inni lansio ein hadroddiad yn un o’u sesiynau cyngor ar ynni. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru ac i Ofgem am ddarparu ymatebion ystyriol i argymhellion y pwyllgor. Ein gobaith wrth ymgymryd â’r gwaith hwn a chynhyrchu ein hadroddiad oedd sicrhau mai i’r bobl y mae dyletswydd gyntaf cwmnïau ynni a rheoleiddiwr y diwydiant, Ofgem, nid i elw enfawr cyflenwyr ynni. Jack Sargeant AC: Ddirprwy Lywydd, rwy’n falch o ddweud, ers inni ddechrau ar ein gwaith, fod rhai newidiadau wedi bod, ac er yr hoffwn yn fawr iawn weld mwy o newidiadau, mae’n bwysig cydnabod y rheini sydd wedi’u gwneud. Mae Ofgem wedi cyflwyno’r cod ymddygiad gorfodol yr oeddem am ei weld, a gallai fod wedi bod yn fwy hael, ond o leiaf mae’n rhoi rhywfaint o amddiffyniad i ddefnyddwyr. Ond wrth inni siarad yma heddiw, wrth inni gynnal y ddadl hon, gwyddom fod saith cyflenwr ynni eisoes wedi cael caniatâd i ailddechrau gosod mesuryddion rhagdalu yn anwirfoddol yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig. Ac er gwaethaf y cod ymddygiad gorfodol newydd, gallai pobl sy'n agored i niwed yng Nghymru ddal i gael mesurydd rhagdalu gorfodol wedi'i osod yn eu cartref y gaeaf hwn, am ddim rheswm heblaw nad ydynt yn bodloni'r meini prawf llym ar gyfer eithrio. Yr hyn sy’n hanfodol nawr yw bod y rheoleiddiwr ynni, Ofgem, yn parhau i fonitro’r cod ymarfer, ac yn bwysicach, yn gwneud newidiadau os nad yw pethau’n gweithio. Mae oddeutu 200,000 o aelwydydd yng Nghymru yn defnyddio mesuryddion rhagdalu ar gyfer eu prif gyflenwad nwy a’u prif gyflenwad trydan, a chyda dyledion ynni ledled Prydain ar y lefelau uchaf erioed, mae perygl i’r nifer honno godi hyd yn oed yn uwch. Nawr, er bod y cap ar brisiau ynni wedi gostwng ym mis Ebrill eleni, mae'n bell o fod yn ddiwedd ar yr argyfwng costau ynni. Mae prisiau ynni'n dal i fod 49 y cant yn uwch nag yr oeddent cyn i'r argyfwng ddechrau. Mae dyledion ynni ar y lefelau uchaf erioed. Mae tlodi o ran tanwydd yng Nghymru—ac mewn rhai achosion, Ddirprwy Lywydd, tlodi eithafol o ran tanwydd—wedi dod yn norm i lawer o aelwydydd incwm isel. Mae’r wers o’r sgandal hon yn glir: ni ddylem ymddiried yn y cyflenwyr i farcio eu gwaith cartref eu hunain. Dylai Llywodraeth y DU a’r rheoleiddiwr, Ofgem, fod wedi gweithredu'n gynt pan ddaeth hyd a lled y sgandal yn amlwg i lawer. Mae'r ffordd y mae cyflenwyr yn trin eu cwsmeriaid agored i niwed yn anghywir, ac fe siapiodd y ffordd y gwnaethant ymddwyn yn ystod sgandal y mesuryddion rhagdalu. Yn ystod tystiolaeth i’r pwyllgor, dyma a ddywedodd prif weithredwr un cyflenwr ynni wrth roi tystiolaeth: 'Rwy'n credu bod problem wirioneddol gennym yn y DU o hyd gyda phobl sy'n gallu talu am eu hynni ond sy'n penderfynu nad ydynt am dalu. A phe baem yn byw mewn cymdeithas lle mae pobl yn gwbl onest a lle na fyddai angen inni gael y ddadl hon, mae'n debyg na fyddem yn y sefyllfa hon. Ond mae'n broblem wirioneddol. Bob dydd, mae gennym filoedd o bobl sy'n penderfynu y byddai'n well ganddynt fynd ar wyliau yn hytrach na thalu am eu hynni, neu flaenoriaethu rhywbeth arall.' Ddirprwy Lywydd, cefais fy syfrdanu gan y datganiad hwn gan brif weithredwr y cyflenwr penodol hwn. I mi, nid yw'n enghraifft o rywun sy’n rhedeg sefydliad sy’n deall anghenion cwsmeriaid agored i niwed yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig. Edrychaf ymlaen at glywed y ddadl heddiw, ond mae un peth yn amlwg i mi, sef bod mwy y bydd angen ei wneud yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod i sicrhau nad yw Ofgem a'r cyflenwyr ynni'n llusgo'u traed. A bydd angen i bob un ohonom yn y Siambr gynnal y pwysau gwleidyddol sy'n sicrhau nad yw anghenion defnyddwyr agored i niwed yng Nghymru yn cael eu hanghofio yn y rhuthr i wneud miliynau o bunnoedd o elw. Rwy’n ddiolchgar am yr amser, Ddirprwy Lywydd; rwy’n ddiolchgar i aelodau’r pwyllgor hefyd. Edrychaf ymlaen at y ddadl heddiw. Diolch. Joel James AS: Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, Jack Sargeant, am agor dadl mor bwysig a phawb a gymerodd ran yn y sesiynau tystiolaeth. Rwy'n credu bod pob Aelod ar draws y Siambr hon yn cydnabod y materion cymhleth sy'n bodoli mewn perthynas â biliau cyfleustodau a bod hyn yn cael ei gymhlethu drwy osod mesuryddion rhagdalu. Er bod yna aelwydydd a grwpiau sy'n arbennig o agored i niwed ac angen cymorth i dalu eu biliau, mae yna hefyd aelwydydd ac unigolion sy'n gallu fforddio eu biliau trydan a nwy yn ddigonol, sydd, am ryw reswm neu'i gilydd, yn dewis peidio â'u talu ac yn hytrach, yn mynd i ddyled fawr. Er efallai nad yw hyn yn ymddangos yn broblem i rai, oherwydd eu bod o'r farn y gall cwmnïau cyfleustodau oddef colli incwm o'r fath yn hawdd, yr hyn y mae'n ei olygu mewn gwirionedd yw bod y golled honno'n cael ei throsglwyddo ymlaen i dalwyr biliau eraill, sy'n sybsideiddio'r rhai sy'n gwrthod talu. Felly, mae'n dal i fod angen mesuryddion rhagdalu ac mewn rhai achosion, mae'n dal i fod angen i fesuryddion rhagdalu fod yn orfodol. Ceir tystiolaeth y gall mesuryddion rhagdalu fod yn ffordd effeithiol o helpu i reoli cyllidebau aelwydydd, yn enwedig i'r rhai sy'n byw mewn llety a rennir neu lety rhent dros dro, am ei fod yn lleihau'r gwaith o weinyddu sefydlu cyfrifon newydd am gyfnodau byr. Ond fel y gwyddom i gyd, un o'r prif broblemau gyda hyn a chyda mesuryddion rhagdalu yw eu bod yn draddodiadol, fel y clywsom, yn codi tariff llawer uwch na debyd uniongyrchol. Felly, rwy'n falch o weld bod Llywodraeth y DU, o fis Gorffennaf y llynedd, wedi gorfodi camau i ddileu premiymau mesuryddion rhagdalu gan gwmnïau ynni, ac rwy'n credu bod hwn yn gam mawr ymlaen tuag at hyrwyddo system decach a mwy cyfiawn. Er hynny, Ddirprwy Lywydd, fel y mae'r adroddiad yn nodi, rwy'n credu bod angen dealltwriaeth fwy trylwyr o fregusrwydd unigolyn cyn gosod mesuryddion rhagdalu. Rwy'n gwybod bod cwmnïau cyfleustodau yn gwbl ymwybodol o anghenion cwsmeriaid agored i niwed ac wedi gwneud ymdrechion sylweddol i ddeall bregusrwydd a rhoi gwasanaethau ar waith i helpu i ddiwallu'r anghenion hynny. Fodd bynnag, roedd gosod mesuryddion anwirfoddol yn ystod cyfnod o bwysau chwyddiant enfawr yn sgil pandemig COVID a'r rhyfel yn Wcráin yn sylfaenol anghywir, oherwydd eu bod yn gwbl ymwybodol y byddai llawer o'u cwsmeriaid wedi bod yn agored i niwed ac yn cael trafferth talu. Ar gyfartaledd, Ddirprwy Lywydd, mae'n cymryd tua dwy flynedd cyn i bobl sy'n wynebu anhawster ariannol ofyn am gymorth. Ac yn ystod y cyfnod hwn, maent yn aml yn gwneud penderfyniadau ariannol gwaeth mewn anobaith, a gall hyn effeithio ar eu hiechyd meddyliol a chorfforol. Rydym hefyd yn gwybod y gall bregusrwydd fod yn sefyllfa dros dro, lle mae pobl yn agored i niwed am gyfnodau byr, megis ar ôl profedigaeth neu golli swydd. Ac felly, rwy'n credu'n gryf y dylem ymdrechu i leihau, ac yn wir i ddileu'r stigma y gall pobl ei deimlo yn sgil eu bregusrwydd, ac mae angen mwy o ymwybyddiaeth o sut y gallant gael gafael ar gymorth. O safbwynt personol, credaf fod cryn rinwedd mewn gweld cwmnïau ynni'n datblygu system a all ddiystyru mesuryddion rhagdalu ar adegau o fregusrwydd a chyflenwi trydan a nwy i gwsmeriaid, fel aelwydydd â phlant neu bobl oedrannus, yn ystod tywydd oer a misoedd y gaeaf. A byddai hyn, yn y pen draw, yn annhebygol o gostio cymaint â hynny i gwmnïau cyfleustodau. Hoffwn wybod a yw cwmnïau wedi ystyried yr opsiwn hwnnw ai peidio, oherwydd gallai fod o fudd i lawer o bobl yng Nghymru. Rwy'n falch o weld bod y Llywodraeth wedi derbyn holl argymhellion yr adroddiad naill ai'n llawn neu mewn egwyddor, a chredaf ei bod yn iawn fod y cwmnïau cyfleustodau ac Ofgem yn cael eu gwthio'n barhaus ar y mater hwn, oherwydd, mewn gwirionedd, nid yw'n fater y credaf y bydd byth yn diflannu. Bydd gennym bob amser bobl sydd â'r anghenion hyn yn ein gwlad. Yn olaf, hoffwn sôn am argymhelliad 3, un rwy'n ei gefnogi'n llawn. Un o'r prif bethau y mae pobl agored i niwed yn eu hwynebu yw gorfod ailadrodd eu profiadau a'u hamgylchiadau i sawl sefydliad, a byddai o fudd mawr iddynt hwy a'r darparwyr cyfleustodau pe bai ond yn rhaid iddynt esbonio'r sefyllfa un waith. Rwy'n deall bod cwmnïau dŵr wedi gwneud cryn dipyn o waith ar rannu cofrestrau â blaenoriaeth a bod treialon llwyddiannus wedi bod rhwng cwmnïau dŵr a darparwyr ynni ar gyfer rhannu'r data hwn. Rwyf hefyd yn ymwybodol, fodd bynnag, fod cyfyngiadau ynghlwm wrth reoleiddio diogelu data cyffredinol a rhannu data ac wrth gwrs, wrth ddiogelu'r wybodaeth honno rhag cael ei chamddefnyddio. Ond rwy'n credu mai dyma'r ffordd ymlaen serch hynny i helpu'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas ac rwy'n falch o weld Llywodraeth Cymru yn cydnabod hyn, a byddwn yn falch o weld mwy o ymdrech gan y Llywodraeth i wthio am hyn gan gwmnïau sy'n gweithredu yng Nghymru. Diolch. Peredur Owen Griffiths AS: Diolch i'r deisebwyr am ddod â hwn gerbron a diolch i bawb a wnaeth gyfrannu tuag at yr adroddiad, a diolch hefyd i Jack Sargeant, fel Cadeirydd y pwyllgor, am gadw hwn ar yr agenda a gwneud yn siŵr ein bod ni'n dilyn drwodd ar hyn. So, diolch yn fawr i'r rheini. Peredur Owen Griffiths AS: Fel aelod o'r Pwyllgor Deisebau, mae'n rhaid imi ddweud mai dyma un o'r eitemau pwysicaf sydd wedi dod ger bron y pwyllgor. Roedd casglu tystiolaeth ar gyfer yr adroddiad yn eithaf brawychus, oherwydd po ddyfnaf yr ymchwiliwch i sgandal mesuryddion rhagdalu gorfodol, y mwyaf brawychus y bydd. Er enghraifft, syfrdanwyd y pwyllgor gan y terfyn oedran uchaf ac isaf a oedd yn atal mesurydd rhagdalu rhag cael ei osod. Er bod Sefydliad Iechyd y Byd yn diffinio cleifion fel rhai oedrannus os ydynt dros 65 oed, mae'r cod ymarfer ar fesuryddion rhagdalu wedi barnu mai 75 a hŷn yw'r terfyn oedran lle na chaniateir i chi osod un. Gall teuluoedd sydd â phlant cyn oed ysgol dros ddwy oed hefyd gael mesurydd wedi'i osod yn erbyn eu hewyllys. Mae hynny'n amlwg yn anghywir. Ond ni waeth beth yw'r oedran, ni ddylid gorfodi pobl i wneud penderfyniad rhwng gwresogi a bwyta yng Nghymru'r unfed ganrif ar hugain. Yn anffodus, dyna sy'n digwydd mewn llawer, a mwyafrif efallai hyd yn oed, o'r cymunedau yr ydym yn eu cynrychioli yn y Senedd. Mae'n anghyfiawnder ac yn sgandal genedlaethol. Dylai aelwydydd fod yn cael mwy o gefnogaeth gan Lywodraeth San Steffan a Llywodraeth Cymru ar y mater hwn. Gyda hynny mewn golwg, ac o gofio bod pris ynni yn dal i fod yn llawer uwch na chyn yr argyfwng, rwyf am wybod beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella'r lefelau uchel o ddyled ynni. Rwyf hefyd eisiau gwybod sut y bydd yr adroddiad hwn, ochr yn ochr â chanfyddiadau adroddiad grŵp arbenigol Cymru ar yr argyfwng costau byw, yn dylanwadu ar waith Ysgrifennydd y Cabinet. Diolch yn fawr. Rhianon Passmore AC: A gaf i ddiolch hefyd i'r Pwyllgor Deisebau am ddod â'r adroddiad pwysig hwn i lawr y Siambr heddiw? Rwyf hefyd am gofnodi fy ngwerthfawrogiad i Gadeirydd y pwyllgor, Jack Sargeant, am ei arweinyddiaeth yn y maes hollbwysig hwn—mater o fywyd a marwolaeth i rai. Arweiniodd ymchwiliad cudd The Times i gwmni a ddefnyddiwyd gan Nwy Prydain i fynd ar drywydd dyledion at siocdonnau ledled y Deyrnas Unedig. Canfu fod Nwy Prydain yn anfon casglwyr dyledion yn rheolaidd, i dorri i mewn yn llythrennol i gartrefi cwsmeriaid, a gosod mesuryddion rhagdalu drwy orfodaeth, hyd yn oed pan oedd yn hysbys fod ganddynt fregusrwydd eithafol a rhyngblethol. Canfu'r ymchwiliad fod asiantau wedi cael eu hanfon i mewn gan Nwy Prydain i osod mesurydd yn orfodol yng nghartref mam ifanc gyda babi pedair wythnos oed. Roedd ei biliau wedi codi saith gwaith drosodd yn ystod yr argyfwng costau byw. Am weithred sefydliadol symbolaidd a bwlïaidd. Fel mae rhagair y Cadeirydd yn nodi, gall cael mynediad at wres a golau fod yn fater o fywyd a marwolaeth, felly rwy'n croesawu ymateb Llywodraeth Lafur Cymru ac Ofgem i'r adroddiad hwn, lle mae'r ddau sefydliad mewn egwyddor yn derbyn pob argymhelliad o adroddiad y Pwyllgor Deisebau, er bod Ofgem wedi bod yn araf i ymateb ac mae llawer mwy i'w wneud o hyd. Mae'r cod ymarfer newydd ar gyfer gosod mesuryddion rhagdalu yn anwirfoddol yn dal i fod yn newydd, a bydd angen diwydrwydd dyladwy a gwneud asesiad o'i effeithiolrwydd. Mae gan Ofgem lawer i'w wneud hefyd, gan yr amcangyfrifir mai dim ond 1,502 o bobl sydd wedi cael iawndal, er bod dros 150,000 o osodiadau yn cael eu hasesu gan gwmnïau ynni. Felly, Weinidog, pa gamau neu sylwadau y gall Llywodraeth Cymru eu gwneud i sicrhau nad asiantaethau casglu dyledion sydd i benderfynu a yw aelwyd yn agored i niwed, fod Ofgem yn monitro effaith y cod ymarfer newydd, ac ystyried gostwng yr oedran ar gyfer y categori peidio â gosod o 75 i 65 oed, a chyflwyno tariff cymdeithasol ar gyfer ynni? Cefndir y sgandal Brydeinig hon oedd yr argyfwng costau byw dinistriol, wrth i berchennog Nwy Prydain gyhoeddi £3 biliwn o elw blynyddol uwch nag erioed yn 2023. Mae Centrica, perchennog Nwy Prydain, yn gwmni FTSE 100 a welodd elw a addaswyd o £3 biliwn—yr uchaf yn ei hanes hyd yma. O dan reolaeth Llywodraeth Dorïaidd y DU yn San Steffan, mae cewri cyfalafol yn boddi mewn elw, ar draul aelodau tlotaf a mwyaf bregus cymdeithas. Felly, y ffordd gyflymaf a mwyaf diffiniol o ddod â newid radical i aelwydydd Cymru yn y maes hwn yw ethol Llywodraeth Lafur newydd yn y DU pan ddaw'r etholiad cyffredinol, Llywodraeth Lafur sy'n blaenoriaethu pobl dros elw. Diolch. Sioned Williams AS: Rwy'n falch o gael y cyfle i gyfrannu i'r ddadl hon, achos mae tlodi tanwydd wedi bod yn un o brif feysydd ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol rwy'n aelod ohono. Ac fel llefarydd Plaid Cymru ar gyfiawnder cymdeithasol, mae'r modd y mae prisiau uchel tanwydd ac arferion annheg, sydd, yng ngeiriau'r adroddiad, yn destun sgandal, wedi cyfrannu at lefelau ac effaith tlodi a'r argyfwng costau byw wedi bod yn bryder rwyf wedi ei godi'n rheolaidd yn y Senedd. A dwi ddim yn ymddiheuro am ailadrodd unwaith eto yr hyn sy'n rhoi cyd-destun i'r adroddiad yma, achos mae'r sefyllfa yn creu poen meddwl enbyd, caledi annerbyniol, ac yn achosi salwch a marwolaeth diangen. Mae'n gwbl anghynaliadwy a chywilyddus mewn gwladwriaeth sydd gyda'r mwyaf cyfoethog yn y byd. Fel y clywon ni, mae tlodi tanwydd wedi cynyddu yng Nghymru ac yn parhau ar lefel argyfyngus o uchel, gan gynnwys 98 y cant o aelwydydd incwm isel, gyda'r biliau ynni yn dal i fod bron 50 y cant yn uwch nag oedden nhw cyn yr argyfwng ynni, ac unrhyw ostyngiad yn y cap ar brisiau wedi ei ddileu'n llwyr gan y cynnydd aruthrol mewn dyled ynni. Yn ôl Ofgem, mae'r dyled ar filiau ynni wedi mwy na dyblu dros y tair blynedd diwethaf, a gan nad yw'r nifer o aelwydydd wedi cynyddu yn yr un modd, mae'n amlwg bod y dyled hwnnw, felly, yn awr hyd yn oed yn ddyfnach. Ac mae'r darlun yng Nghymru yn dduach, o gofio bod y de a'r gogledd yn y tair uchaf o ran y rhanbarthau drutaf ar gyfer ynni, a'r taliadau sefydlog ar eu lefelau uchaf erioed. Ac, wrth gwrs, mae adroddiad y pwyllgor yn gosod mas y sefyllfa yn gwbl blaen—hynny yw, sut mae arferion y cwmnïau ynni wrth ymdrin â chwsmeriaid bregus sydd yn dioddef o dlodi tanwydd yn gwaethygu'r sefyllfa. Mae nifer o'r argymhellion yn yr adroddiad, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd y llynedd, yn cyd-fynd â chasgliadau'r grŵp arbenigol ar yr argyfwng costau byw, a gyhoeddwyd nôl ym Medi'r llynedd, a oedd yn gofyn am fesurau brys gan Lywodraeth Cymru a San Steffan i leddfu'r argyfwng economaidd ac annhegwch oedd yn wynebu gormod o bobl Cymru. Roedd y grŵp arbenigol yn galw am bwysau gan y ddwy Lywodraeth ar gwmnïau ynni i sicrhau camau i'w cefnogi, a gweithredu ar yr arferion annheg a gwahaniaethau rhanbarthol. Mae misoedd lawer, felly, ers cyhoeddi'r ddau set o argymhellion hyn, a miloedd o bobl, yn anffodus, wedi dioddef drwy fisoedd oer y gaeaf rhwng hynny a nawr. Bu hefyd, fel y clywon ni, rai datblygiadau ers hynny o ran y cod ymarfer statudol newydd ynghylch gosod mesuryddion rhagdalu anwirfoddol, a fyddai'n rhan o'r amodau trwyddedu ar gyfer cyflenwyr. Ond mae'n glir bod angen gostwng y nifer o fesuryddion rhagdalu sy'n cael eu defnyddio, ac, i wneud hynny, rhaid mynd i'r afael â lefelau dyled a'r hyn sy'n arwain at i bobl fod yn y fath ddyled yn y lle cyntaf. Allwn ni ddim parhau i weld sefyllfa lle mae lefel a dyfnder y dyled hwn yn arwain at bobl yn gorfod mynd heb ynni hanfodol, ac felly'r modd o gadw'n dwym, yn lân, ac yn medru coginio bwyd. Nod cynllun Llywodraeth Cymru 'Trechu tlodi tanwydd 2021 i 2035' yw sicrhau bod nifer yr aelwydydd yng Nghymru sy'n byw mewn tlodi tanwydd yn gostwng i 5 y cant erbyn 2035. Mae hynny ond ychydig dros 10 mlynedd i ffwrdd. O gofio'r ffigurau yna yr adroddais i ar ddechrau fy nghyfraniad, mae'n amlwg bod angen gwaith mawr a brys i sicrhau cynnydd. Mae mesur cynnydd yn hanfodol os ydym am gyrraedd y nod, ond er gwaethaf y ffaith bod gan Lywodraeth Cymru rwymedigaeth statudol i osod y targedau interim yn y cynllun, ac er gwaethaf y galwadau gan nifer o bwyllgorau'r Senedd hon i wneud hynny, nid yw Llywodraeth Cymru wedi gweithredu. Felly, hoffwn ofyn, Weinidog: pryd y bydd y targedau interim hyn yn cael eu gosod? A heb y cerrig milltir, beth sy'n gyrru'r gwaith hanfodol sydd ei angen i fynd i'r afael â'n hargyfwng tlodi tanwydd, a sut ydym ni'n mesur beth sy'n effeithiol? Hoffwn hefyd glywed beth ymhellach mae'r Llywodraeth yn ei wneud i fynd i'r afael â'r lefelau uchel o ddyled ynni ar draws Cymru. Pryd cawn ni ddiweddariad ar waith y rhaglen Cartrefi Clyd newydd er enghraifft? Pa ymrwymiadau sydd wedi cael eu rhoi hefyd gan y Blaid Lafur yn San Steffan i sicrhau diwedd ar y taliadau sefydlog annhegy mae aelwydydd Cymru yn eu hwynebu? Diolch. Jane Dodds AS: Ni fyddwn yn dweud ei bod yn bleser cymryd rhan yn y ddadl hon, ond mae'n fraint gallu siarad ar y mater hwn. Ac rwy'n cymeradwyo Climate Cymru ac eraill am gyflwyno'r ddeiseb bwysig hon, yn ogystal â'r 'uwch-arwr tlodi tanwydd' fel y byddwn i'n ei alw, Jack Sargeant, sy'n parhau i hyrwyddo'r mater penodol hwn. Diolch yn fawr i chi. Fe wyddom fod yr argyfwng hwn yn effeithio'n anghymesur ar ein dinasyddion mwyaf agored i niwed—y rhai mewn tai cymdeithasol, cartrefi â phlant a'r henoed. Yn frawychus, mae Cyngor ar Bopeth yn dweud bod traean o ddefnyddwyr mesuryddion rhagdalu Cymru wedi wynebu datgysylltiad y llynedd oherwydd costau atodol anfforddiadwy, gydag 13 y cant yn mynd dros wythnos heb gyflenwad ynni hanfodol. Felly, mae gorfodi mesuryddion rhagdalu heb fesurau diogelu yn amlwg yn torri amddiffyniadau i ddefnyddwyr ac nid yw'n diogelu ein pobl fwyaf bregus a'r rhai yr ydym yn gyfrifol amdanynt. Gyda chwe chyflenwr yn gorfodi rhagdaliad eleni, mae'n rhaid gwneud mwy i sicrhau bod llai yn wynebu datgysylltiad posibl oherwydd dyled. Rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru, felly, yn derbyn y rhan fwyaf o'r argymhellion a ddaeth o adroddiad y pwyllgor, gan gynnwys cefnogi tariff cymdeithasol hanfodol ar gyfer rhai sy'n agored i niwed a gwella cymorthfeydd cynghori, ond mae angen gweithredu mwy mentrus o hyd. Mewn cydweithrediad â Llywodraeth y DU ac Ofgem, mae gwir angen gweithredu deddfwriaeth cyfreithiol rwymol, gan wahardd pob newid i fesurydd na chafwyd cydsyniad iddo a gosod mesuryddion rhagdalu, boed drwy warant neu drwy drosglwyddo i fesuryddion deallus heb gydsyniad y defnyddiwr. Yn yr un modd, er bod cyflwyno egwyddor fregusrwydd a chod ymarfer gorfodol gan Ofgem yn gamau cadarnhaol, mae eu hymateb i'r Pwyllgor Deisebau yn brin iawn o fanylion am y mecanweithiau gorfodi hynny a goruchwyliaeth i amddiffyn ein grwpiau mwyaf agored i niwed y tu hwnt i feini prawf cul Ofgem. Mae dibynnu ar hunanreolaeth cyflenwyr yn gwbl annerbyniol, gan fod ganddynt gymhellion ariannol sy'n gwrthdaro â diogelwch cadarn i ddefnyddwyr. Yn ogystal, mae caniatáu i asiantaethau casglu dyledion gynnal asesiadau bregusrwydd cychwynnol yn annerbyniol hefyd. Nid ydynt wedi cael yr hyfforddiant angenrheidiol ac nid ydynt yn ddigon diduedd i werthuso bregusrwydd yn iawn. Byddwn yn croesawu sylwadau gan Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â sut y byddwch yn gweithio gydag Ofgem i sicrhau bod y mesurau cadarn hyn ar waith. Ond y pwynt ehangach, a godwyd gan fy nghyd-Aelod ar y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, a Rhianon Passmore hefyd, yw sut yr awn i'r afael â phroblem tlodi o ran tanwydd. Mae'n bla ar draws Cymru gyfan. Mae tua 98 y cant o'r bobl yng Nghymru sy'n byw mewn cartrefi incwm isel yn ei chael hi'n anodd. Mae cymunedau gwledig, fel fy un i yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, yn cael eu heffeithio'n anghymesur, gan eu bod yn dioddef cyfraddau tlodi tanwydd ac ynni sy'n llawer uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol. Ac er fy mod yn croesawu lansiad hirddisgwyliedig y rhaglen Cartrefi Clyd, y soniodd Sioned amdani hefyd, mae flwyddyn gyfan yn hwyrach na'r disgwyl. Ac mae'r cynllun presennol i wella 1,600 eiddo y flwyddyn yn unig dros gyfnod o saith mlynedd yn gwbl annerbyniol. Mae rhai o fy staff wedi cyfrif pa mor hir y byddai hynny'n ei gymryd i fynd i'r afael â phob cartref sy'n dlawd o ran tanwydd yng Nghymru. Mae'n 130 o flynyddoedd. Bydd yn dal yno ar ein holau ni i gyd. Mae'n rhaid inni wneud mwy yn gyflymach. Gyda'r adroddiad blynyddol diwethaf ar gyfer Nyth yn dangos bod inswleiddio yn llai na 7 y cant o'r holl fesurau effeithlonrwydd ynni a osodwyd, mae cwestiynau difrifol i'w gofyn am faint a chyflymder y newid. Er mwyn gwneud tlodi tanwydd yn rhywbeth sy'n perthyn i'r gorffennol a chyrraedd ei thargedau ar gyfer 2035, mae angen i Lywodraeth Cymru roi camau brys ac ymosodol ar waith i gyflymu'r rhaglen. Felly, i orffen, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa fesurau penodol a sylweddol a gaiff eu cymryd i gyflymu'r rhaglen Cartrefi Clyd a sicrhau ei bod yn cyrraedd y rhai sydd ei hangen fwyaf? Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: A galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, Lesley Griffiths. Lesley Griffiths AC: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. A hoffwn ddiolch yn fawr iawn i aelodau'r Pwyllgor Deisebau am eu hadroddiad ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru ac am y cyfle i siarad ar ran y Llywodraeth y prynhawn yma. Gwnaeth yr adroddiad sawl argymhelliad pwysig yn unol â'n safbwyntiau polisi a'n camau gweithredu yn y maes pwysig hwn. Roedd ein hymateb i argymhellion y pwyllgor yn amlinellu'r holl waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn y maes hwn, gan gynnwys lle nad oes gennym bwerau datganoledig, lle rydym yn parhau i ddwyn ein pryderon i sylw Llywodraeth y DU. Lesley Griffiths AC: Fe wnaeth Llywodraeth Cymru godi pryderon am y system ragdalu a'r ffaith ei bod yn gwneud cam â'r bobl fwyaf bregus mewn cymdeithas cyn i'r sgandal dorri yn gynnar yn 2023. Ysgrifennodd fy rhagflaenydd, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip, Jane Hutt, at gyflenwyr ym mis Tachwedd 2022 a chael sicrwydd ynglŷn â'r gefnogaeth y byddent yn ei rhoi i aelwydydd yng Nghymru yn ystod gaeaf 2022-23. Fodd bynnag, er gwaethaf y sicrwydd hwnnw, gwelsom i gyd adroddiadau brawychus am gasglwyr dyledion yn torri i mewn i gartrefi i osod mesuryddion rhagdalu drwy orfodaeth. Dilynwyd hyn gan waharddiad hunanosodedig, a chyflwynodd Ofgem god ymarfer gwirfoddol. Rwy'n falch fod Ofgem wedi derbyn ein galwad i wneud ei god ymarfer gwirfoddol yn rhan orfodol o'r drwydded gyflenwi. Bellach, gall torri'r cod arwain at gamau gorfodi a dirwyon. Mae'n hanfodol fod deiliaid tai cymwys yn cael eu diogelu. Mae'r cod newydd yn gam i'w groesawu tuag at ddarparu gwell mesurau diogelu ar gyfer yr aelwydydd mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Rwy'n falch fod Ofgem wedi ymgysylltu ag amrywiaeth o randdeiliaid wrth ddatblygu'r cod hwn. Rydym yn disgwyl i Ofgem fonitro cydymffurfiaeth cyflenwyr â'r gwiriadau bregusrwydd ac i weld a yw'r rheolau newydd yn mynd yn ddigon pell i ddiogelu'r rhai mwyaf anghenus. Mae sawl Aelod y prynhawn yma wedi sôn am Ofgem, ac rwyf wedi ysgrifennu at gadeirydd Ofgem heddiw, yn gofyn iddo sicrhau bod y rheolau newydd yn cael eu gweithredu'n effeithiol. Rwyf am gael cyfarfod cynnar gyda nhw. Mae yna bethau eraill sydd angen eu trafod gydag Ofgem, ac mae'r Aelodau wedi cyfeirio at y rheini hefyd. Un o'r pryderon i mi yw taliadau sefydlog. Mae yna alwad hefyd am y tariff cymdeithasol. Felly, rwy'n credu bod llawer iawn o waith y mae angen i ni ei wneud fel Llywodraeth gydag Ofgem. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gadw llygad barcud ar y sefyllfa, er mwyn sicrhau nad ydym yn gweld ailadrodd effaith ddinistriol gosod mesuryddion rhagdalu gorfodol ar ein haelwydydd bregus. Rwy'n gwybod y bydd yr Aelodau'n gwylio'n agos iawn hefyd. Gyda'r arfer o osod mesuryddion rhagdalu yn orfodol yn ailddechrau, rwy'n falch o weld adroddiad y Pwyllgor Deisebau yn argymell camau gweithredu yn unol â safbwyntiau polisi a chamau gweithredu Llywodraeth Cymru. Rwy'n credu ei bod yn werth ailadrodd y pwynt, unwaith eto, fod llawer o Aelodau wedi dweud y prynhawn yma, fod cwsmeriaid rhagdalu fel arfer ymhlith y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Mae'n rhaid inni sicrhau bod mesurau diogelu ar waith i'w gwarchod, a bod cydymffurfiaeth â'r mesurau diogelu hynny. Rydym wedi galw ers tro am gyflwyno tariff cymdeithasol, a fyddai'n ffordd ychwanegol o ddiogelu'r bobl dlotaf. Fe wnaeth y Canghellor ymrwymiad ym mis Tachwedd 2022 i ddatblygu dull newydd o amddiffyn defnyddwyr erbyn mis Ebrill 2024, ac eto rydym yn gwybod na chymerwyd camau o'r fath. Mae hyn yn rhwystredig iawn ac mae wedi golygu bod aelwydydd bregus bellach wedi gorfod dioddef dau aeaf anodd gyda chostau ynni uchel iawn ers i'r ymrwymiad gael ei wneud. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf fodd bynnag, ni fu Llywodraeth Cymru'n segur. Roedd cyngor diduedd am ddim ar gael i bob deiliad tŷ drwy gynllun Nyth ein rhaglen Cartrefi Clyd, ac fe wnaethom fynd ati i gyfeirio'n weithredol at wasanaeth cynghori Nyth drwy'r ymgyrch 'Yma i helpu gyda chostau byw' y gaeaf diwethaf. Mae ein gwefan Gweithredu ar Newid Hinsawdd yn cynnwys cyngor ar y defnydd o ynni yn y cartref a bydd ein rhaglen Cartrefi Clyd Nyth newydd a lansiwyd yn ddiweddar yn parhau i gynnig cyngor arbed ynni am ddim i bob aelwyd. Ers mis Mehefin 2022, rydym wedi dyrannu bron i £4.5 miliwn o gyllid i'r Sefydliad Banc Tanwydd i gefnogi aelwydydd cymwys sy'n rhagdalu am eu tanwydd ac sydd mewn perygl o gael eu datgysylltu. Mae ein cronfa cymorth dewisol wedi cefnogi dros 210,000 o unigolion gyda gwerth dros £28.9 miliwn o grantiau ers mis Ebrill diwethaf. Mae hynny'n cynnwys dros £16 miliwn mewn taliadau arian parod i gefnogi unigolion a theuluoedd sy'n fregus yn ariannol gyda chostau byw sylfaenol fel bwyd, nwy a thrydan. Mae ein cynllun Cartrefi Clyd Nyth newydd yn darparu cefnogaeth barhaol i aelwydydd tlawd o ran tanwydd. Rydym am weld cyflenwyr ynni yn cefnogi eu cwsmeriaid sy'n ei chael hi'n anodd, nid gorfodi mynediad. Mae'n bwysig i aelwydydd sydd mewn dyled ynni gysylltu â'u cyflenwyr ynni cyn gynted â phosibl. Drwy ymgysylltu'n gynnar, gall cyflenwyr a chwsmeriaid gytuno ar gynllun ad-dalu fforddiadwy i osgoi cyrraedd pwynt lle caiff mesuryddion rhagdalu eu gosod yn anwirfoddol. Pan fo camau gorfodi'n briodol, rydym am sicrhau bod pawb sy'n profi camau o'r fath yn cael eu trin yn deg a'u bod yn cael eu hamddiffyn rhag arferion gwael. Gallaf sicrhau'r Aelodau y byddaf yn parhau i bwyso am gamau gweithredu sy'n cyflawni hyn. Rwy'n ymwybodol nad yw Ofgem yn rheoleiddio asiantaethau casglu dyledion, ond mae'n bwysig ei fod yn annog cyflenwyr i ddefnyddio asiantaethau casglu dyledion awdurdodedig ac asiantau achrededig. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn galw ar gyflenwyr ynni i ddefnyddio asiantau sydd wedi'u hachredu gan y Bwrdd Ymddygiad Gorfodi yn unig. Credwn fod cael trefn gasglu dyledion achrededig yn cryfhau'r amddiffyniad sydd ar gael i'n cwsmeriaid rhagdalu. Mae hyn yn arbennig o bwysig gan y gall cyflenwyr ynni ailddechrau'r arfer o osod mesuryddion rhagdalu yn orfodol bellach, o dan y cod ymarfer sydd newydd gael ei fandadu. Mae gan Lywodraeth Cymru rôl i'w chwarae o hyd yn cefnogi aelwydydd bregus, ac fel y mae'r Pwyllgor Deisebau wedi dangos, rydym i gyd eisiau cyflawni'r un canlyniad: diogelu bywydau a llesiant ein haelwydydd mwyaf agored i niwed. Diolch. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: A galwaf arJack Sargeant i ymateb i'r ddadl. Jack Sargeant AC: Diolch yn fawr. Lywydd, roeddwn yn falch iawn o gyflwyno'r adroddiad hwn a'i argymhellion i'r Senedd ac i Lywodraeth Cymru, ac roeddwn yn falch o'r gwaith a wnaeth cyd-aelodau'r pwyllgor ar yr adroddiad pwysig hwn. Fel y dywedodd Jane Dodds, roedd hyn i gyd yn ymwneud ag amddiffyn y bobl fwyaf bregus a gynrychiolwn yn ein cymdeithas, ac mae'n bwysig gwneud hynny. Rwy'n ddiolchgar am ymateb Ysgrifennydd y Cabinet y prynhawn yma, ond rwy'n credu y dylwn gofnodi diolch y pwyllgor i'ch rhagflaenydd, Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn y weinyddiaeth flaenorol, a hyrwyddodd y materion hyn ac a ymatebodd yn y ffordd y gwnaethoch chi i'r adroddiad. Heddiw, nododd Ysgrifennydd y Cabinet fod yr argymhellion yn cyd-fynd â safbwyntiau polisi Llywodraeth Cymru, ac roedd yn dda iawn clywed eich bod wedi ysgrifennu at Ofgem i ofyn am gyfarfod cynnar gyda'r cadeirydd a'r tîm gweithredol yno, yn enwedig ynghylch taliadau sefydlog, y gwn eu bod o ddiddordeb i lawer. Ar y diwrnod y cyhoeddwyd yr adroddiad hwn, fe wnaeth Sioned Williams a minnau holi Ofgem ynghylch y mater hwnnw yn y grŵp trawsbleidiol dan arweiniad Mark Isherwood. Rwy'n credu, unwaith eto, fod mater ymrwymo i dariff cymdeithasol yn un sy'n bwysig i'r Senedd hon, ac rydym yn falch o hynny, a'ch sylwadau ar y casglwyr dyledion. Fel y dywedais yn fy nghyfraniad agoriadol, rwy'n credu na ddylai cyflenwyr ynni na chasglwyr dyledion allu marcio eu gwaith cartref eu hunain, ac mae achrediad y Bwrdd Ymddygiad Gorfodiyn allweddol i hynny. Lywydd, os caf grybwyll meddyliau Joel James, a gynigiodd gyfraniad da drwy gydol y ddadl ac yn sicr y prynhawn yma, lle nododd fod y premiwm rhagdalu wedi'i ddileu ac mae hynny i'w groesawu wrth gwrs. Ond unwaith eto, soniodd am yr angen am ddealltwriaeth bellach o'r hyn yw bregusrwydd cyn gosod. Soniodd Peredur Owen Griffiths yn gwbl briodol, fel y gwnaeth eraill, am y gwahaniaeth rhwng diffiniad Ofgem a diffiniad Sefydliad Iechyd y Byd o fregusrwydd, sy'n eithaf syfrdanol. Mae un yn dweud 75 oed a hŷn, mae un yn dweud 65 oed a hŷn. Mae gwahaniaeth sylweddol yno, ac nid yw'n gyfyngedig i hynny. Dywedodd Peredur Owen Griffiths hefyd na ddylem orfod dewis rhwng gwresogi neu fwyta, ond fel y nododd Rhianon Passmore, symudodd y ddadl heibio i hynny yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Symudodd tuag at fywyd a marwolaeth yn ogystal â chael effaith real bob dydd ar ein hetholwyr. Soniodd Rhianon Passmore yn ei chyfraniad am iawndal, lle mae nifer o bobl sydd wedi cael eu gorfodi i dderbyn mesuryddion rhagdalu yn ystod y sgandal hon heb gael yr iawndal a addawyd. Dylai'r Senedd hon a Llywodraeth Cymru ddwyn Ofgem a Llywodraeth y DU i gyfrif am hynny. Unwaith eto, nododd Aelodau nad hwn yw'r unig adroddiad pwyllgor. Mae gweithgorau eraill, mae pwyllgorau eraill yn gwneud gwaith pwysig ar dlodi o ran tanwydd, unwaith eto er mwyn diogelu'r trigolion mwyaf agored i niwed a gynrychiolir gennym. Fe soniaf am sylwadau Jane Dodds ynghylch Ofgem sy'n gyfreithiol rwymol. Lywydd, os caniatewch imi gefnu ar fy rôl fel Cadeirydd am eiliad a siarad yn bersonol, rwy'n cytuno â Jane Dodds ynghylch y syniad hwnnw. Mae'n rhywbeth y mae angen ei gryfhau, yn sicr. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrthym eu bod nhw, Llywodraeth Cymru, wedi ysgrifennu at Ofgem a chyflenwyr ynni cyn i'r sgandal hon ddigwydd, oherwydd eu bod yn sylweddoli mai dyma'r ffordd yr oedd pethau'n mynd. Ond cafodd Ofgem eu dal gan sgandal The Times, fel y nododd Rhianon Passmore. Ni ddylai hynny fod wedi digwydd, dylent fod wedi gweld yr arwyddion yr oeddem ni yn y Siambr hon ac eraill wedi eu rhybuddio yn eu cylch. Lywydd, wrth orffen, rwyf am ddiolch eto i'r rhai a gyflwynodd dystiolaeth i'r pwyllgor hwn. Rwyf am ddiolch i fy nhîm clercio, a roddodd gymorth mawr gyda'r adroddiad hwn. Ac os caf ddweud, Lywydd, mae angen i bawb ohonom yn y Siambr hon gofio'r hyn a ddigwyddodd yn ystod y sgandal mesuryddion rhagdalu yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Ni ddylai fod wedi digwydd, ac ni allwn adael iddo ddigwydd eto. Bydd angen i bob un ohonom fod yn wyliadwrus er mwyn sicrhau bod cyflenwyr ynni, sy'n gwneud yr elw gwerth miliynau o bunnoedd hyn, yn diogelu ac yn gweithio ar ran pobl y Deyrnas Unedig a Chymru. Diolch. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnig y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Adolygiad Cass Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 2 yn enw Heledd Fychan. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Eitem 6 heddiw yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar adolygiad Cass. Galwaf ar Laura Anne Jones i wneud y cynnig. Cynnig NDM8563 Darren Millar Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi'r adolygiad Cass a gomisiynwyd gan GIG Lloegr i wneud argymhellion ar sut i wella gwasanaethau hunaniaeth rhywedd y GIG, a dynnodd sylw at y ffaith y dylid bod yn ofalus iawn wrth ragnodi meddyginiaethau atal y glasoed a hormonau i bobl ifanc o dan 18 oed oherwydd diffyg ymchwil o ansawdd uchel i'w heffeithiau tymor hir. 2. Yn croesawu'r ffaith, oherwydd bod GIG Lloegr yn atal meddyginiaethau atal y glasoed, fod hyn wedi golygu nad oes llwybr i bobl ifanc o dan 18 oed yng Nghymru gael meddyginiaethau atal y glasoed. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) mabwysiadu argymhellion adolygiad Cass; a b) sicrhau bod plant a'u rhieni yn cael eu cefnogi gyda chanllawiau synnwyr cyffredin, sy'n seiliedig ar ffeithiau. Cynigiwyd y cynnig. Laura Anne Jones AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i fy mhlaid am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw, ac rwy'n gwneud ein cynnig yn enw Darren Millar. Mae'n warthus, mewn gwirionedd, yn dilyn pythefnos o ofyn am ddatganiad llawn i'r Siambr hon a chael y ceisiadau hynny wedi eu gwrthod gan y Llywodraeth, yn ogystal â chael cwestiwn amserol wedi'i wrthod, er gwaethaf pwysau canfyddiadau adolygiad Cass, parhaodd y Llywodraeth Lafur Cymru i gladdu eu pennau yn y tywod yn enw ideoleg. Bu'n rhaid i'r Ceidwadwyr Cymreig gyflwyno dadl heddiw, Ddirprwy Lywydd, er mwyn gorfodi Llywodraeth Cymru i roi datganiad llawn i ni o'r diwedd ac ymrwymiad, gobeithio, i adolygu ei pholisïau a'i chynlluniau yng ngoleuni canfyddiadau'r adroddiad pwysig gan Dr Cass, a ganfu fod gofal rhywedd y GIG i blant wedi bod yn seiliedig ar dystiolaeth wan. Mae gan bob un ohonom ddyletswydd i ddiogelu iechyd a lles pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru, ac fel mam, rwyf i, yn un, o ddifrif ynghylch y cyfrifoldeb hwnnw. Dyna pam ei bod mor hanfodol trafod hyn heddiw a bod y Llywodraeth yn gweithredu. Nid yw hyn yn ymwneud â sgorio pwyntiau gwleidyddol na rhyfeloedd diwylliant—rwy'n gweld hwnnw'n ymateb hynod siomedig a gwan i bwysigrwydd trafod y rhai sy'n aml yn fwy agored i niwed na ni ein hunain efallai. Mae'n ddyletswydd arnom i gymryd y cyfrifoldeb hwn a pheidio â chwarae gemau ag ef. Cafodd adolygiad Cass i wasanaethau hunaniaeth rhywedd GIG Lloegr ar gyfer plant a phobl ifanc ei gyhoeddi fis diwethaf. Daeth i'r casgliad fod plant sy'n ddryslyd ynglŷn â'u rhywedd wedi cael cam yn sgil diffyg ymchwil a thystiolaeth. Canfu ymchwil a gynhaliwyd gan Brifysgol Efrog a gyflawnwyd ochr yn ochr â'r adroddiad fod tystiolaeth o effaith meddyginiaeth atal y glasoed a thriniaethau hormonau yn ddifrifol o brin, a chanfuwyd nad oedd mwyafrif y canllawiau clinigol wedi dilyn safonau rhyngwladol. Fel y dywedais o'r blaen yn y Siambr hon, y tro cyntaf imi dynnu sylw at fy mhryderon gwreiddiol am adolygiad Cass oedd pan welsom yr adroddiad interim, ond yn anffodus, syrthiodd hwnnw ar glustiau byddar. Fe wnaethom alw am adolygiad penodol i Gymru, ac eto mae'r Llywodraeth hon wedi bwrw ymlaen ar ei llwybr ideolegol ac wedi penderfynu gwneud dim. Yna rhyddhawyd adroddiad terfynol Dr Cass, y mae ei ganlyniad wedi troi pennau ac ysgwyd rhai sefydliadau i'w craidd. Mae'n bwysig parhau i ailadrodd bod y canfyddiadau hyn yn hynod arwyddocaol i Gymru yn ogystal â Lloegr, ac mae'r Llywodraeth hon yn gwbl ymwybodol o hynny. Mae ein llwybrau rhywedd yng Nghymru, fel y gwyddoch, yn dod i ben yn Lloegr, dan reolaeth GIG Lloegr a GIG Cymru, dan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, a'r unig wahaniaeth yw bod Llywodraeth y DU wedi cynnal dadl a chyflwyno datganiad ar hyn ac wedi cymryd camau pendant eisoes i ddiogelu plant a phobl ifanc. Mae'n hanfodol fod pob plentyn sy'n cael trafferth gyda dysfforia rhywedd yn cael mynediad at y driniaeth gywir a thriniaeth ddiogel. Yn ôl yn 2009, ychydig iawn o bobl a fyddai wedi clywed am hunaniaeth rhywedd hyd yn oed, a byddai llai fyth yn gwybod bod gwasanaeth iechyd Cymru wedi dechrau gwneud atgyfeiriadau at wasanaeth datblygu hunaniaeth rhywedd y GIG yn Lloegr, a leolir yn Tavistock—sy'n enwog nawr am yr holl resymau anghywir—sef yr unig glinig rhywedd arbenigol i bobl ifanc yng Nghymru a Lloegr. Cafodd 9,000 o gleifion ifanc driniaeth yn y gwasanaeth sydd bellach wedi cau. Datgelodd ymchwiliad gan gwmni cyfryngau Cymreig y gallai 230 o bobl o Gymru a gafodd driniaeth yno gael eu hargymell i gymryd rhan yn yr astudiaeth o'r canlyniadau hirdymor i gleifion sy'n derbyn gofal rhywedd ar oedran mor ifanc. Hoffwn glywed mwy o fanylion gan y Llywodraeth ar hyn heddiw. Yn 2009, cafodd yr ymddiriedolaeth lai na 60 o atgyfeiriadau ar gyfer plant a phobl ifanc o bob rhan o Gymru a Lloegr, ond cynyddodd y galw'n fawr, ac erbyn 2022, roedd mwy na 5,000 o blant a phobl ifanc yn cael eu hatgyfeirio at glinigau hunaniaeth rhywedd a oedd wedi ymddangos ledled Lloegr. Beth oedd yn digwydd? O ble y deuai'r galw? Pam fod tri chwarter yr atgyfeiriadau hyn yn fenywod? Pam fod cynifer o blant? Ers blynyddoedd, mae rhieni, athrawon, clinigwyr, grwpiau hawliau menywod ac eraill yn y DU wedi ymgyrchu i ofyn y cwestiynau hyn a mwy. Yng Nghymru, roeddent yn aml yn cael eu tawelu—roedd gweithwyr proffesiynol a rhieni fel ei gilydd yn cael clywed bod eu hofnau'n ddi-sail, yn rhagfarnllyd a hyd yn oed yn atgas. Fe wnaeth Llywodraeth Cymru anwybyddu pryderon a gwreiddio'r egwyddorion hyn yn eu cynlluniau swyddogol a'u cwricwlwm ysgol eu hunain. Diolch i waith grwpiau fel Merched Cymru, rydym bellach yn gweld yr effaith yng Nghymru. Mae yna blant sydd wedi dechrau ar y daith i newid eu rhywedd mewn ysgolion heb gydsyniad rhieni, ac mae hyn yn dal i ddigwydd mewn ysgolion yng Nghymru heddiw. Diolch i adolygiad Cass, mae gennym atebion clir i'r cwestiynau a ofynnwyd ers blynyddoedd lawer, ac mae'n bryd bellach i lunwyr polisi ymateb. Mae'r adroddiad 398 tudalen yn tynnu sylw at beryglon presgripsiynu meddyginiaethau atal y glasoed heb eu trin ac na ellir eu gwrthdroi i bobl ifanc. Canfu'r adroddiad nad yw gweithwyr gofal iechyd proffesiynol wedi gofyn y cwestiynau cywir; yn hytrach, maent wedi ceisio lledaenu ideoleg wleidyddol beryglus ar draul diogelu a thystiolaeth, yn hytrach na lleddfu gofid seicolegol, sef yr hyn y dylem i gyd fod eisiau ei gyflawni. Mae'n dod i'r casgliad ei bod yn amlwg fod methiannau sylweddol wedi bod yn ein gwasanaethau gofal iechyd i ddiogelu'r cleifion mwyaf agored i niwed. Mae adolygiad Cass hefyd yn rhybuddio athrawon i beidio â gwneud penderfyniadau cynamserol sy'n glinigol i bob pwrpas am y plant y maent i fod i'w diogelu. Mae'n glir yn ei ganfyddiadau fod trawsnewid cymdeithasol mewn ysgolion yn rhagflaenydd i ymyrraeth feddygol na ellir ei gwrthdroi, ac eto yma yng Nghymru mae ymagwedd gadarnhaol tuag at ddysfforia rhywedd yn cael ei blethu drwy god a chanllawiau addysg cydberthynas a rhywioldeb gorfodol Llywodraeth Cymru ei hun. Felly, beth sydd angen digwydd? Yn gyntaf, mewn ysgolion, mae Llywodraeth y DU yn datblygu ei chanllawiau trawsryweddol ei hun, a bydd yn ystyried y canfyddiadau diweddaraf hyn nawr. Rwy'n annog Llywodraeth Cymru i dynnu ei chanllawiau ei hun ar gyfer ysgolion yn ôl ar unwaith a chynnal adolygiad ohonynt. Rhaid i'r Llywodraeth hon hefyd dynnu elfennau perthnasol gorfodol o'r cwricwlwm cydberthynas a rhywioldeb ar rywedd a hunaniaeth rhywedd yn ôl i'w hadolygu. Yn yr un modd, rhaid cyfarwyddo ysgolion yng Nghymru i gynnal adolygiad brys o ddeunyddiau, gweithgareddau a pholisïau sy'n berthnasol i addysg cydberthynas a rhywioldeb a chanllawiau ar gyfer disgyblion trawsryweddol; rhaid iddynt fod yn ganllawiau cywir. Rhaid inni sicrhau bod plant a'u rhieni'n cael eu cefnogi gan ganllawiau sy'n seiliedig ar ffeithiau a synnwyr cyffredin, fel y mae ein cynnig yn galw amdano. O ran iechyd, mae GIG Lloegr hefyd wedi gwneud penderfyniad pwysig i atal presgripsiynu rheolaidd ar gyfer meddyginiaethau atal y glasoed i blant â dysfforia rhywedd. Cyhoeddodd y byddai hefyd yn atal pobl ifanc dan 18 oed rhag cael mynediad at wasanaethau rhywedd oedolion ac mae wedi galw am adolygiad brys o bolisi clinigol ar hormonau trawsrywiol. Mae Llywodraeth yr Alban wedi cyhoeddi saib ar feddyginiaethau atal y glasoed i blant. Mae'r ddau beth yn digwydd ar unwaith ac yn ddi-oed. Eich tro chi nawr, Lywodraeth Cymru, er nad wyf am ddal fy ngwynt, oherwydd mae eich gwelliant yn dileu popeth ac ond yn nodi, heb unrhyw gamau gweithredu i'w gweld o gwbl, sy'n gywilyddus, oherwydd mae pobl Cymru eisiau gweld gweithredu ar hyn. Rhaid i GIG Cymru gynnal adolygiad ar unwaith, fel y gelwir amdano ym mhwynt 4 ein cynnig. Yn drydydd, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ystyried opsiynau ar gyfer datblygu gwasanaeth i bobl ifanc yng Nghymru yn ei chynllun gweithredu LHDTC+, a lansiwyd ym mis Chwefror 2023. Rwyf wedi clywed gan gyd-Aelodau, gweithwyr proffesiynol a rhieni ledled Cymru sy'n pryderu'n fawr ynglŷn ag ymrwymiad o'r fath i ehangu'r gwasanaeth rhywedd i oedolion, rhywbeth a oedd y tu allan i gwmpas adolygiad Cass ar gyfer GIG Lloegr, sy'n peri pryder, a hoffem wybod, ar y meinciau hyn, beth mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud ynglŷn â hynny i ddiogelu'r bobl hyn. Hefyd, mae pryderon ynghylch datblygu'r gwasanaeth i bobl ifanc dan 18 oed. Byddai gwneud hynny nawr, yng ngoleuni adolygiad Cass, yn anghyfrifol, yn enwedig heb newid cyfeiriad sylweddol gan y Llywodraeth hon. Mae'n amlwg fod angen adolygu cynllun gweithredu LHDTC+ y Llywodraeth hon, ac mae'r Senedd hon angen amserlen ar gyfer hyn. Ymateb Llywodraeth Cymru hyd yma distawrwydd llwyr. Beth rydych chi'n ei ofni? Mae'n rhaid ichi weithredu ar hyn. Mae hon yn sgandal genedlaethol sy'n datblygu o'n blaenau. Dim ond un peth sydd wrth wraidd comisiwn Cass: datblygu pobl ifanc i ffynnu a chyflawni eu huchelgeisiau. Mae pob plentyn a pherson ifanc yn haeddu hynny. Yr athrawon, y rhieni— Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Mae angen ichi ddod i ben nawr. Rydych wedi defnyddio eich dyraniad agor a chloi, ac nid oes amser ar gyfer eich Aelod sy'n cloi. Laura Anne Jones AC: Mae'n ddrwg gennyf. Mae'r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd—. Gallwn siarad am yr hanner awr gyfan, ond ni wnaf. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Nid oes gennych amser, mae'n ddrwg gennyf. Laura Anne Jones AC: Mae'r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd yn Llywodraeth y DU wedi addo gweithredu effeithiol ar frys. Dywedodd y bydd hi'n gweithio'n agos gyda GIG Lloegr i gael gwared ar yr ideoleg sydd wedi achosi cymaint o niwed diangen. Fy nghwestiwn i yw a fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud hynny. Mae gan bawb yn y Siambr hon gyfrifoldeb i ddiogelu— Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Laura, mae angen ichi orffen, os gwelwch yn dda. Laura Anne Jones AC: —ac amddiffyn plant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae'r plant hyn yn haeddu gwell, ac rwy'n gobeithio y gall pawb gefnogi ein cynnig heddiw. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Os caf nodi'r pwynt, mae'r Aelod wedi defnyddio'r holl amser a ddyrannwyd i'r grŵp Ceidwadol ar gyfer yr eitem benodol hon. Byddaf yn rhoi munud o amser ychwanegol i'r Aelod sy'n cloi, ond os gwelwch yn dda, pan fyddwch chi'n llunio dadleuon 30 munud, mae gennych amser wedi'i ddyrannu ac mae'n rhaid ichi rannu hwnnw rhwng agor a chloi. Mae'n bwysig cofio hynny, os gwelwch yn dda. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Gwelliant 1—Jane Hutt Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi cyhoeddi adolygiad Cass. 2. Yn nodi bod y GIG yng Nghymru yn comisiynu gwasanaethau hunaniaeth rhywedd i blant a phobl ifanc 17 oed ac iau gan y GIG yn Lloegr. 3. Yn nodi bod y GIG yn Lloegr wedi dod i'r casgliad nad oes digon o dystiolaeth i gefnogi diogelwch nac effeithiolrwydd clinigol hormonau atal y glasoed ar gyfer trin dysfforia rhywedd mewn plant a phobl ifanc ar hyn o bryd. 4. Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddatblygu'r canllawiau trawsrywedd ar gyfer ysgolion, gan ystyried adolygiad Cass a barn rhanddeiliaid. Cynigiwyd gwelliant 1. Eluned Morgan AC: Yn ffurfiol. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Galwaf ar Sioned Williams i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Gwelliant 2—Heledd Fychan Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at absenoldeb gwasanaethau hunaniaeth rhywedd arbenigol cynhwysfawr yng Nghymru. Yn credu bod pob unigolyn, beth bynnag fo'u hunaniaeth rhywedd, yn haeddu parch, dealltwriaeth a mynediad at wasanaethau cymorth a gofal iechyd priodol. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu gwasanaeth hunaniaeth rhywedd i bobl ifanc yng Nghymru. Cynigiwyd gwelliant 2. Sioned Williams AS: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Y flaenoriaeth i Blaid Cymru wrth drafod y mater hwn—ac fe ddylai fod i ni i gyd—yw bod lles ein plant a'n pobl ifanc, eu barn a'u profiadau, yn gwbl greiddiol ac yn ganolbwynt i'w gofal, ac unrhyw newid i'r gofal hwnnw. Rydym ni fel plaid yn cydsefyll yn gadarn gyda phobl draws o bob oed sydd wedi dioddef yn enbyd dros y blynyddoedd diwethaf yn sgil cael eu defnyddio gan rai gwleidyddion a sylwebwyr fel arf mewn rhyfel diwylliant, a does dim gwadu hynny. Mae'n gwbl warthus ac yn gwbl annerbyniol. Mae ein gwelliant ni yn tynnu sylw at y ffaith bod angen gwell cefnogaeth ar bobl ifanc yng Nghymru o ran gwasanaethau hunaniaeth rhywedd arbenigol, ac rŷn ni'n galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu gwasanaeth hunaniaeth rhywedd i bobl ifanc yng Nghymru. Mae'r adolygiad ei hun yn nodi bod angen gwell dealltwriaeth o'r gofal a'r gefnogaeth sydd eu hangen ar bobl ifanc, ac yn tynnu sylw at ddiffyg mynediad cyfartal pobl ifanc dros Gymru i wasanaethau rhywedd. Yng Nghymru, mae absenoldeb gwasanaethau rhywedd arbenigol ar gyfer ein pobl ifanc yn rhwystr i gymorth amserol a phriodol i bobl ifanc, a heb y mynediad hwnnw, mae'r unigolion hyn mewn perygl o brofi niwed corfforol a seicolegol. Ac nid mater o fynd i'r afael ag anghenion uniongyrchol yn unig yw sefydlu'r fath wasanaeth; mae'n fuddsoddiad yn llesiant a gwytnwch ein hieuenctid, ac felly ein cymunedau, i'r dyfodol. Trwy ddarparu cymorth amserol a phriodol, gallwn rymuso pobl ifanc i lywio eu taith hunaniaeth rhywedd gyda hyder a chyda urddas. At hynny, mae gwasanaeth hunaniaeth rhywedd penodol ar gyfer pobl ifanc yn cyd-fynd ag ymrwymiad ein cenedl i gydraddoldeb a hawliau dynol. Mae'n anfon neges bwerus bod pob unigolyn, waeth beth fo'i hunaniaeth o ran rhywedd, yn haeddu parch, dealltwriaeth a mynediad at wasanaethau cymorth a gofal iechyd. Ein gôl ni oll ddylai fod helpu ein pobl ifanc i ffynnu. Rhaid i bob cynrychiolydd warchod rhag creu rhagfarn yn eu herbyn, ond yn hytrach meithrin diwylliant a chymdeithas sy'n amlygu agweddau cynhwysol, goddefgar a thrugarog ac sy'n dathlu ac yn annog amrywiaeth. Mae Plaid Cymru yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth, ond hoffwn godi y pwyntiau penodol canlynol. Mae yna achosion o bobl ifanc yng Nghymru yn hunan-niweidio yn sgil methu cael y gofal maen nhw ei angen a'r gefnogaeth sydd angen arnyn nhw i drawsnewid. Felly, sut bydd y Llywodraeth yn sicrhau bod y bobl ifanc yma a'u teuluoedd nawr yn cael eu cefnogi—y rhai sy'n aros i gael mynediad i wasanaethau, y rhai sydd wrthi yn derbyn gwasanaethau a'r rhai sydd wedi gweld eu mynediad at rai triniaethau yn cael ei atal? Sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau nad yw'r adolygiad yn cael ei gamddefnyddio fel arf yn erbyn y gymuned draws, a phryd yn union bydd y canllawiau i ysgolion y sonnir amdanynt yn y gwelliant yn cyrraedd athrawon? Mae hwn yn fater rwyf wedi codi sawl tro yn y Siambr, ac mae'n fater brys er mwyn sicrhau bod ein staff ysgol— Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Sioned, rhaid i ti orffen, os gwelwch yn dda. Sioned Williams AS: —yn teimlo'n hyderus ac wedi eu hymgrymuso i gefnogi disgyblion, yn enwedig yn wyneb yr ymateb tocsig ac adweithiol ac weithiau camarweiniol sydd wedi datblygu yn sgil cyhoeddi'r adroddiad. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gytuno gyda fi mai trwy gefnogi ein pobl ifanc drwy'n hysgolion, a thrwy sicrhau mynediad i wasanaethau o safon uchel yn brydlon ac yn eu gwlad eu hunain, y gallwn warchod hawliau ac urddas pawb yn gydradd a chyrraedd nod ein dwy blaid— Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Nawr, plis, Sioned. Sioned Williams AS: —o fod y genedl fwyaf cyfeillgar i'r gymuned LHDTC+ yn Ewrop? Diolch. Jenny Rathbone AC: 'Rydym mewn oes lle gall deimlo fel pe baem dan ymosodiad, a bod ein hawliau mewn perygl o gael eu colli: boed hynny o gwmpas y byd neu'n anffodus, ychydig yn nes adref, gyda Llywodraeth Geidwadol bresennol y DU yn mynd ar drywydd safbwynt ymddangosiadol anflaengar ar hawliau LHDTC+. Mae yna ymdeimlad o hanes yn ailadrodd ei hun, o iaith ddifenwol, ofn ac aralleiddio wedi'i dargedu at y gymuned draws...pethau y mae llawer ohonom ond yn rhy gyfarwydd â nhw.' Dyna mae Hannah Blythyn yn ei ddweud yn ei rhagair i'r cynllun gweithredu LHDT. Nid Laura Anne Jones yw'r unig un sy'n mabwysiadu agwedd feseianaidd at unrhyw beth sy'n ymwneud â hunaniaeth rhywedd, ac mae'n ddrwg gennyf, rydych chi wedi methu deall mai mynd ar drywydd rhyfel diwylliant o'r math hwn yw'r hyn sy'n gwneud rhai clinigwyr yn ofnus rhag gweithio gyda phobl sy'n cwestiynu eu rhywedd. Nid yw ymdrin â'r mater hwn fel pe na bai'n bodoli o unrhyw ddefnydd o gwbl. Laura Anne Jones AC: A gaf i ddweud— Jenny Rathbone AC: Rwy'n credu eich bod chi newydd gael cyfraniad hir. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: I fod yn glir, nid ydych chi'n derbyn ymyriad. Jenny Rathbone AC: Nac ydw. Laura Anne Jones AC: Ond fe soniodd amdanaf, felly mae hynny'n— Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Nid yw'n derbyn ymyriad. Laura Anne Jones AC: Nid dyna'r peth cwrtais i'w wneud. Jenny Rathbone AC: Rydych chi wedi cael eich cyfle, Laura Anne. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Laura, nid yw'n derbyn ymyriad. Jenny Rathbone AC: Fe ddywedodd Cass: 'Mae ein dealltwriaeth bresennol o effeithiau hirdymor ymyriadau hormonau yn gyfyngedig ac mae angen eu deall yn well.' Gall hynny fod yn wir, ond mae'r dybiaeth y dylai hynny drosi'n waharddiad ar unwaith ar feddyginiaethau atal y glasoed, a groesawyd gan y cynnig Torïaidd, gryn bellter o fod yn seiliedig ar dystiolaeth glinigol gadarn. Mae ystod eang o farn glinigol ac academaidd ryngwladol yn cwestiynu'r safbwynt hwnnw. Os yw'r dystiolaeth yn wan, efallai y bydd angen inni oedi'r gwasanaeth, fel yn yr Alban, inni gael edrych arno ymhellach. Ond i blentyn sy'n teimlo ei fod wedi cael ei eni yn y corff anghywir, mae'n anochel fod gorfod mynd drwy'r glasoed yn gwaethygu eu dysfforia rhywedd. Golygodd cau'r gwasanaeth datblygu hunaniaeth rhywedd cenedlaethol yn Llundain fod y gwasanaeth a gomisiynwyd gan Gymru i bobl dan 18 oed wedi dod i ben yn sydyn. Roedd Cass wedi tybio y byddai'n arwain at ddatblygu cyfres o wasanaethau rhanbarthol a lleol. Nid yw hynny wedi digwydd—a gellir gweld cysylltiad â'r synau rhyfel diwylliant sy'n dod o gyfeiriad Llywodraeth y DU a mannau eraill. Ni allwn dderbyn dull 'ar gyfer Cymru, gweler Lloegr'. Mae angen inni ddatblygu ein gwasanaeth hunaniaeth rhywedd plant a phobl ifanc ein hunain yn gyflym fel y rhagwelwyd yn y cynllun gweithredu LHDTC, gan adeiladu ar ein gwasanaeth rhywedd Cymreig i oedolion sydd wedi hen ennill ei blwyf, ac a fu'n weithredol dros y pum mlynedd diwethaf. Mae'r grŵp cyfeirio clinigol yn rhybuddio bod: 'plant a phobl ifanc yn aros am gyfnodau hir i gael mynediad at y gwasanaeth datblygu hunaniaeth rhywedd, ac yn yr amser hwnnw gallai rhai fod mewn perygl sylweddol. Erbyn iddynt gael eu gweld, efallai fod eu gofid wedi gwaethygu, a'u hiechyd meddwl wedi dirywio.' Ni all hyn barhau. Rhaid inni weithredu'n briodol i ddarparu'r gwasanaeth sydd ei angen ar blant a phobl ifanc i allu ffynnu. Sam Rowlands AS: Mae'n gwbl briodol fod y ddadl hon yn cael ei chynnal yn y Senedd yma heddiw, oherwydd er bod adroddiad adolygiad Cass wedi'i gyflwyno i GIG Lloegr, mae'n cael effaith enfawr arnom yma yng Nghymru, oherwydd dros y blynyddoedd mae cannoedd o blant o Gymru, a gynrychiolir gennym, wedi cael eu hanfon i Loegr, i'r gwasanaeth datblygu hunaniaeth rhywedd, a elwir hefyd yn glinig Tavistock. Er enghraifft, yn 2022 anfonwyd dros 150 o blant yno. Ac yn ystod eu hamser yno, gwyddom fod y gwasanaeth datblygu hunaniaeth rhywedd yn rhoi meddyginiaethauatal y glasoed i bobl ifanc agored i niwed, ac fel y canfu adolygiad Cass, roedd y dystiolaeth i gefnogi meddyginiaethau atal y glasoed yn 'rhyfeddol o wan', yn eu geiriau nhw. Nid oes digon yn hysbys am effeithiau mwy hirdymor meddyginiaethau atal y glasoed i blant a phobl ifanc i allu gwybod a ydynt yn ddiogel ai peidio. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, nid wyf yn mynd i dderbyn, Jenny Rathbone. Fe wnaethoch chi wrthod fy nghyd-Aelod. Daw hyn ar ôl rhaglen ymchwil systematig, annibynnol Prifysgol Efrog, fel rhan o'r adolygiad, sef y gwaith mwyaf a mwyaf cynhwysfawr a wnaed ar y mater, ac rwy'n credu y dylid bod o ddifrif yn ei gylch. Felly, yn blwmp ac yn blaen, roedd y plant hynny'n destun ymyrraeth feddygol gyda chanlyniadau anhysbys, a nhw yw'r plant a gynrychiolir gennym o un diwrnod i'r llall. Yn sicr, ni fyddwn am i fy mhlant i gael eu hanfon i amgylchedd gyda'r fath ansicrwydd ac arbrofi, felly ni allaf gyfiawnhau hyn ar gyfer plant eraill yng Nghymru. Roedd, ac mae'r plant hyn ymhlith y mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, ac maent yn cael cam gan system a chan oedolion drwy gyfres o ganlyniadau anhysbys, sydd i mi yn gwbl annerbyniol. Yr hyn sydd ei angen ar blant yn y sefyllfa hon yw gofal priodol a chymorth iechyd ac nid arbrofi meddygol gyda'r fath effeithiau hirdymor anhysbys. Ac mae gofal priodol hefyd yn golygu nad yw rhieni'n cael eu gwthio i'r cyrion mewn penderfyniadau. Yn fy marn i, mae'n beryglus iawn ac yn amheus pan fydd oedolion yn y sefyllfaoedd hyn yn ceisio dileu cyfranogiad rhieni o fywydau eu plant. Gadewch inni gofio mai rhieni yw prif ofalwyr y plant, ac mae angen iddynt gael rhan yn hyn, a bod yn wybodus ac i fod yn wneuthurwyr penderfyniadau mewn unrhyw ymyrraeth feddygol. Felly, mae cefnogaeth ac addysg i rieni yr un mor bwysig ag ar gyfer y plant y maent yn gofalu amdanynt. Felly, rwy'n gofyn i ni yn yr ystafell hon heddiw, a ydym yn cytuno ag adroddiad Cass fod plant â dysfforia rhywedd yn haeddu llawer gwell na'r ffordd y cânt eu trin ar hyn o bryd ai peidio? Ac a yw'r plant hyn yn haeddu ymyriadau priodol sy'n seiliedig ar dystiolaeth, neu a ddylid parhau i roi cyffuriau iddynt sydd ag effeithiau hirdymor anhysbys? Efallai mai un o fy etholwyr a ysgrifennodd ataf yr wythnos hon a ddisgrifiodd hyn orau: 'Mae plant sy'n ddryslyd ynglŷn â'u rhywedd angen gofal yn seiliedig ar dystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio a beth sydd orau i'r plentyn yn y tymor hir. Mae angen i ofal fod yn seiliedig ar ffeithiau yn hytrach nag ideoleg ac emosiynau, a gofal nad yw'n achosi niwed iddynt neu'n atal eu hanghenion, sy'n aml yn gymhleth, rhag cael eu harchwilio.' Dylem anfon neges heddiw a fydd yn dilyn y wyddoniaeth ac a fydd yn rhoi diogelwch a llesiant plant yn gyntaf drwyddi draw. Diolch yn fawr iawn. Rhianon Passmore AC: Rwy'n mynd i siarad am y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt, sy'n nodi bod 'y GIG yn Lloegr wedi dod i'r casgliad nad oes digon o dystiolaeth i gefnogi diogelwch nac effeithiolrwydd clinigol hormonau atal y glasoed ar gyfer trin dysfforia rhywedd mewn plant a phobl ifanc ar hyn o bryd.' Mae Dr Hilary Cass yn ei hadolygiad o wasanaethau hunaniaeth rhywedd i blant yn nodi: 'Nid yw pegynnua mygu dadl yn gwneud dim i helpu'r bobl ifanc sy'n cael eu dal yng nghanol trafodaeth gymdeithasol stormus', ac maent angen ac yn haeddu gwell. Mae angen inni ddileu'r gwenwyn yn y ddadl hon a'r modd y caiff ei gwleidyddoli. Nid yw'n helpu neb, ac yn sicr nid yw'n help o gwbl i'r holl bobl ifanc sy'n wynebu'r pethau hyn. Dylai'r Siambr hon fod yn fan lle gellir mynegi pob safbwynt rhesymol, ac ni ddylid canslo neb mewn democratiaeth am ddatgan safbwynt a arddelir yn onest ac nad yw'n rhagfarnllyd. Rwy'n ffeminist frwd ac yn hyrwyddo hawliau menywod—rwyf wedi gwneud hynny ar hyd fy oes—ac yn hyrwyddo cydraddoldeb a chyfiawnder i bawb. Ac mae'n adlewyrchu'n wael ar ein democratiaeth a'n holl bobl pan nad ydym yn gallu rhannu safbwyntiau gonest y bydd dinasyddion cyffredin sy'n byw eu bywydau o ddydd i ddydd heddiw yn eu rhannu. Fel y dywedodd arweinydd Plaid Lafur y DU, Keir Starmer ddoe, mae'r Blaid Lafur wedi hyrwyddo hawliau menywod ers amser maith iawn. Mae'n bwysig pwysleisio mewn cyd-destun Cymreig fod GIG Cymru yn comisiynu gwasanaethau hunaniaeth rhywedd, fel y dywedwyd, ar gyfer plant a phobl ifanc 17 oed ac iau gan GIG Lloegr. Dywed Dr Cass fod meddygon a allai fod fel arall wedi trin pobl ifanc sy'n cwestiynu eu hunaniaeth rhywedd ar gyfer iselder neu anhwylderau ar y sbectrwm awtistig wedi teimlo bod gorfodaeth arnynt i'w cyfeirio at y gwasanaeth datblygu hunaniaeth rhywedd sy'n cael ei redeg gan Ymddiriedolaeth Sefydliad GIG Tavistock and Portman, ac sydd bellach wedi'i gau. Canfu Dr Cass nad oedd tystiolaeth dda dros gefnogi'r arfer clinigol cyffredinol o bresgripsiynu hormonau i bobl dan 18 oed i atal y glasoed neu drawsnewid i'r rhyw arall. Archwiliodd ymchwilwyr ym Mhrifysgol Efrog yr holl dystiolaeth sydd ar gael—yr holl dystiolaeth sydd ar gael—ar sut i drin plant sy'n cwestiynu eu hunaniaeth rhywedd. Daethant i'r casgliad fod tystiolaeth i gefnogi ymyrraeth feddygol yn gwbl annigonol, gan ei gwneud yn amhosibl gwybod a yw'n gwella iechyd meddwl neu gorfforol. Mae adolygiad Cass wedi'i ymchwilio'n dda ac mae'n seiliedig ar dystiolaeth. Felly, Ddirprwy Lywydd, mae'n rhaid i bawb ohonom yn y Siambr hon ddangos arweinyddiaeth ac empathi tuag at eraill a deall yn llawn fod troi materion mor gymhleth a chynhennus yn erthyglau ffydd mewn rhyw fath o ryfel diwylliant, sydd mor aml yn cael ei fwydo gan ryfelwyr bysellfwrdd ar-lein, yn anghywir, ac mae hynny'n gwneud cam â phawb. Diolch. Adam Price AC: Mae'n hanfodol bwysig ein bod yn tynnu'r gwenwyn allan o'r ddadl hon ac yn rhoi'r tosturi yn ôl i mewn. Mae'n rhaid i hynny fod yn ganolog i'r ffordd yr ydym yn ei drafod, a'r drafodaeth y mae'n rhaid inni ei chael gyda'r gymuned drawsryweddol, yn allweddol, ac yn cynnwys pobl ifanc draws. Bu ymgais—. Nid wyf yn amau proffesiynoldeb a chywirdeb Dr Hilary Cass am un funud, ond fe fu ymgais i arfogi'r adroddiad hwn, ac i honni'n hollol wallus ei fod yn cynrychioli rhyw fath o fuddugoliaeth a chyfiawnhad mewn rhyfel diwylliant? Mae hynny'n gwneud cam enfawr â phobl ifanc drawsryweddol. Mae Dr Cass ei hun wedi gofyn am barch, dealltwriaeth a thosturi, yn enwedig i bobl ifanc drawsryweddol, yn y ffordd yr awn ati i ymdrin â hyn, ac mae hynny wedi cael ei anwybyddu ac mae'n rhaid iddo ddod i ben. Ac rwy'n dweud hyn hefyd: mae'r cam-drin a'r bygythiadau y mae Dr Hilary Cass wedi'u hwynebu yn anghywir, ac felly hefyd y cam-drin a'r bygythiadau a gyfeiriwyd tuag at bobl sy'n feirniadol neu sydd â chwestiynau dilys am adolygiad Cass. Felly, gadewch inni ddod â hynny i ben a chael trafodaeth briodol, barchus, ddeallus a thosturiol. Rwy'n credu bod llawer o bethau yn yr adroddiad y byddai pobl yn y gymuned drawsryweddol yn cytuno â nhw. Mae'r rhestrau aros yn rhy hir. Ers faint y bu pobl yn y gymuned LHDTC+ yn tynnu sylw at hynny? Mae angen i'r gwasanaethau fod yn lleol, wedi'u darparu'n lleol—yn bendant, ac mae angen inni adeiladu'r sylfaen dystiolaeth. Mae pobl yn y gymuned drawsryweddol wedi bod yn gofyn am hynny ers blynyddoedd, felly gadewch inni adeiladu'r dystiolaeth honno i ddeall beth sy'n gweithio mewn gwirionedd. Dyna a wnawn. Fe'i gelwir yn ddull gwyddonol, felly mae'n rhaid iddo fod yn ganolog i hyn. Nid wyf yn glinigwr ac nid wyf yn berson traws, felly ni allaf siarad gydag awdurdod am y naill neu'r llall o'r pethau hynny, ond rwy'n ddyn hoyw a oedd yn fyw yn yr 1980au, a phan glywaf bobl yn dweud nad oes y fath beth â hunaniaeth draws, mae'n anwiredd, neu nad yw ond yn ganlyniad camdriniaeth, trawma, afiechyd meddwl neu beth bynnag, rwy'n cofio sut brofiad oedd tyfu i fyny'n llanc hoyw yn ei arddegau. Dywedwyd wrthyf mai chwiw ydoedd. Dim ond chwiw dros dro. Yna rhestrwyd cyfunrywioldeb fel anhwylder meddwl gan Gymdeithas Seiciatrig America. Dywedwyd wrthyf fod pobl ddrwg, rheibus yn plagio meddyliau pobl ifanc agored i niwed a hawdd gwneud argraff arnynt, gan hyrwyddo ffordd o fyw neu agenda gyfunrywiol, ac y byddai'r rhai ohonom sy'n ildio iddi yn difaru yn ddiweddarach mewn bywyd. A ydych chi'n gweld? A ydych chi'n gweld y tebygrwydd? Felly, mae'n apêl go iawn. Gadewch inni roi tosturi a pharch a dealltwriaeth yn ôl lle maent i fod, yn ganolog i'r ddadl hon, a meddwl yn enwedig am y bobl ifanc drawsryweddol hyn. Maent yn lleiafrif gorthrymedig— Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Adam, mae angen ichi orffen, os gwelwch yn dda. Adam Price AC: —ac maent yn haeddu cefnogaeth pawb ohonom. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Eluned Morgan. Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwyf am ganolbwyntio fy sylwadau yn y ddadl heddiw ar nodi'r gwaith yr ydym yn rhan ohono i wella gwasanaethau hunaniaeth rhywedd i blant a phobl ifanc yng Nghymru, yn unol â'r cynllun gweithredu LHDTC+ ac adolygiad Cass. Mae adolygiad Cass yn allweddol i gyflawni'r ymrwymiad hwn ac yn hollbwysig, mae adolygiad Cass, yr wyf wedi'i ddarllen ac yr wyf yn ei groesawu, yn sicrhau ein bod yn mabwysiadu ymagwedd sy'n seiliedig ar dystiolaeth tuag at sut a phryd y dylid gwneud ymyriadau. Ac rwy'n cytuno ag Adam Price, ei awgrym fod angen inni gael parch, dealltwriaeth a thosturi tuag at y materion a drafodwn yn yr adroddiad hwn. Hoffwn ddiolch i Dr Hilary Cass a phawb a gymerodd ran yn yr adolygiad o wasanaethau hunaniaeth rhywedd i blant a phobl ifanc, a oedd, wrth gwrs, yn canolbwyntio ar wasanaethau a ddarperir yn Lloegr. Roedd hwn yn adolygiad trylwyr ac wedi'i ymchwilio'n dda a gynlluniwyd i sicrhau bod plant a phobl ifanc sy'n cwestiynu eu hunaniaeth rhywedd neu sy'n profi anghydweddiad rhywedd yn derbyn gofal o safon uchel sy'n diwallu eu hanghenion ac sy'n ddiogel, yn gyfannol, ac yn hollbwysig, yn seiliedig ar dystiolaeth. Oherwydd y nifer gyfyngedig o blant a phobl ifanc sydd angen atgyfeiriadau at y gwasanaethau arbenigol iawn hyn yng Nghymru, fel llawer o wasanaethau iechyd eraill sydd wedi'u personoli'n helaeth, mae gwasanaethau hunaniaeth rhywedd arbenigol yn cael eu darparu gan GIG Lloegr. Rwy'n falch o ddweud bod ein llwybr atgyfeirio yng Nghymru at y gwasanaethau hynny yn Lloegr eisoes yn cyd-fynd ag un o argymhellion craidd Cass, gan ei fod yn cynnwys asesiad gan y gwasanaeth iechyd meddwl plant a'r glasoed cyn gwneud atgyfeiriad. Hefyd, mae GIG Cymru wedi bod yn gweithio gyda GIG Lloegr yn rhan o'r rhaglen drawsnewid ar gyfer gwasanaethau rhywedd i sicrhau ein bod yn cyd-fynd ag argymhellion Cass, yn rhan o'r newidiadau y mae GIG Lloegr yn eu gwneud i wasanaethau hunaniaeth rhywedd i blant a phobl ifanc. Bydd y trefniadau hyn yn sicrhau diogelwch ac ansawdd gwasanaethau i ddiogelu pobl ifanc yng Nghymru, y mae'n rhaid inni eu rhoi ar y blaen yn ein hystyriaethau. Mae'r rhaglen drawsnewid wedi sefydlu dau wasanaeth rhywedd plant a phobl ifanc newydd yn dilyn cyhoeddi adolygiad interim Cass ym mis Chwefror 2022. Fe wnaethant agor fis diwethaf, a byddant yn derbyn atgyfeiriadau gan bobl ifanc o Gymru. Bydd y rhestr aros yn cael ei rheoli gan y gwasanaeth cymorth atgyfeirio cenedlaethol— Jenny Rathbone AC: A wnewch chi dderbyn ymyriad? Eluned Morgan AC: Os nad oes ots gennych, na wnaf, rwy'n mynd i barhau. Mae'r bwrdd goruchwylio cenedlaethol ar gyfer ymchwil dysfforia rhywedd plant a phobl ifanc hefyd wedi'i sefydlu a chaiff ei gadeirio gan Syr Simon Wessely i gefnogi ymchwil ehangach i wasanaethau rhywedd plant. Mae cyd-bwyllgor comisiynu newydd GIG Cymru yn gweithio gyda'r rhaglen drawsnewid wrth iddi symud at gamau nesaf y cynllun cyflawni. Mae hyn yn cynnwys cefnogi'r gwasanaethau rhywedd plant a phobl ifanc sydd newydd eu hagor yn Llundain a gogledd-orllewin Lloegr, a chyflymu gwaith i ddatblygu gwasanaethau rhanbarthol ychwanegol ac ystyried sut y gellir eu dwyn yn nes adref i bobl ifanc yng Nghymru. Mae hyn yn cyflawni ein hymrwymiad i adolygu'r llwybr i blant yng Nghymru gael mynediad at wasanaethau hunaniaeth rhywedd. Mae adolygiad Cass yn cynnwys argymhellion ar gyfer hyfforddiant proffesiynol a fframwaith cymhwysedd i'w ddatblygu, nid yn unig ar gyfer staff arbenigol y GIG sy'n gweithio mewn gwasanaethau hunaniaeth rhywedd, ond i glinigwyr mewn gofal eilaidd, sylfaenol a chymunedol. Mae cyd-bwyllgor comisiynu GIG Cymru eisoes yn gweithio gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru i fwrw ymlaen â hyn. Ddirprwy Lywydd, rwyf am droi nawr at feddyginiaethau atal y glasoed. Daeth adolygiad Cass i'r casgliad nad oes digon o dystiolaeth i gefnogi diogelwch neu effeithiolrwydd clinigol hormonau atal y glasoed wrth drin dysfforia rhywedd i sicrhau bod y driniaeth ar gael fel mater o drefn. Nid ydynt ar gael fel opsiwn triniaeth gomisiynu reolaidd ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru sy'n cael eu hatgyfeirio drwy ein llwybr gwasanaethau hunaniaeth rhywedd, ond mae GIG Lloegr yn bwriadu agor astudiaeth i'r defnydd o feddyginiaethau atal y glasoed ym mis Rhagfyr i gasglu rhagor o dystiolaeth i lywio penderfyniadau clinigol yn y dyfodol. Mae'n bosibl y bydd pobl ifanc sy'n cael eu hatgyfeirio at y gwasanaethau o Gymru i Loegr yn gymwys i gymryd rhan yn yr astudiaeth hon. Un o argymhellion adolygiad Cass, a oedd yn edrych yn benodol ar wasanaethau i blant a phobl ifanc, oedd ystyried sut mae ymyriadau'n effeithio ar ganlyniadau. Er mwyn i hynny ddigwydd, mae angen monitro'r effaith hirdymor drwy olrhain i wasanaethau rhywedd oedolion. Mae'r gwasanaeth rhywedd Cymreig, sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd ond sydd hefyd ag is-glinig yng ngogledd Cymru, yn darparu gwasanaethau i bobl sy'n 18 oed a hŷn. Comisiynir y gwasanaeth hwn gan gyd-bwyllgor comisiynu GIG Cymru, ac rwyf wedi ei gyfarwyddo i ystyried argymhellion adroddiad Cass a sicrhau bod y gwasanaethau oedolion hyn yn casglu data perthnasol mewn modd cyson a chynhwysfawr i gefnogi dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth o weithredu ar y mater hwn. Er mai prif ffocws adolygiad Cass oedd gwasanaethau clinigol, mae'n cynnwys rhai argymhellion pwysig ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus eraill, y byddwn yn eu hystyried yn ofalus yng Nghymru. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi bod yn gweithio ar ganllawiau cenedlaethol i gefnogi cwestiynu rhywedd a dysgwyr traws. Mae hi wedi penderfynu rhoi mwy o amser i ddatblygu'r canllawiau hyn er mwyn ystyried yn llawn a chael ei llywio gan y dystiolaeth orau sydd ar gael, gan gynnwys canfyddiadau adolygiad Cass a barn rhanddeiliaid. Rwy'n gwybod mai sicrhau lles dysgwyr yw ei blaenoriaeth allweddol. Byddwn yn cyhoeddi'r canllawiau pwysig hyn i gefnogi ysgolion yn unol â'n hymrwymiad i sicrhau addysg gynhwysol LHDTC+. Mae'r cynllun gweithredu LHDTC+ i Gymru yn nodi ein hymrwymiad i amddiffyn urddas pobl draws ac anneuaidd a chyflawni ein nod o wneud Cymru y genedl fwyaf cyfeillgar i LHDTC + yn Ewrop. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Weinidog, mae angen ichi ddod i ben nawr, os gwelwch yn dda. Eluned Morgan AC: Yn olaf, rwy'n credu ei bod yn bwysig cofio geiriau Dr Cass ei hun: 'Mae'r synau o'n cwmpas a'r ddadl gyhoeddus gynyddol wenwynig, ideolegol a phegynol wedi gwneud gwaith yr Adolygiad yn llawer anos ac nid yw'n gwneud dim i wasanaethu'r plant a'r bobl ifanc a allai fod yn agored i straen lleiafrifol sylweddol eisoes.' 'Mae cymdeithas dosturiol a charedig yn cofio bod plant, pobl ifanc, teuluoedd, gofalwyr a chlinigwyr go iawn y tu ôl i'rpenawdau.' Lywydd, mae adroddiad Cass yn adolygiad pwysig, ac mae'n rhaid inni fod o ddifrif yn ei gylch. Rydym am sicrhau ein bod yn darparu cefnogaeth briodol a sensitif i'r holl bobl ifanc sydd yn y canol yn y gwasanaethau. Mae'n hanfodol ein bod yn gweithredu fel cymdeithas garedig— Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Ysgrifennydd y Cabinet, mae angen ichi orffen. Eluned Morgan AC: —wrth ymdrin â'r materion sensitif hyn. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Galwaf ar Gareth Davies i ymateb i'r ddadl. Gareth Davies AS: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Nid oes gennyf lawer o amser, ond hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad a roddwyd gennych i'r Senedd y prynhawn yma, ond mae wedi dod o ganlyniad i ddadl wrthblaid i gael datganiad gan y Llywodraeth ar y mater pwysig hwn. Mae fy nghyd-Aelod, Laura Anne Jones, wedi codi hyn yn Siambr y Senedd ar ddau neu dri achlysur, rwy'n credu, heb ymateb pendant gan y Llywodraeth. Nid yw'n ffordd dda o lywodraethu, Weinidog, os yw'n cymryd dadl wrthblaid i gael datganiad gan y Llywodraeth ar fater mor bwysig sy'n effeithio ar fywydau plant yma yng Nghymru, a gobeithio, gyda chyfraniadau Laura Anne Jones a Sam Rowlands y prynhawn yma, y bydd yn ddigon i ennyn cefnogaeth i'n cynnig, heb ei ddiwygio, yn y bleidlais heno. Diolch. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohirir y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Rhoddion ymgyrch arweinyddiaeth a chod y Gweinidogion Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 2 yn enw Heledd Fychan. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Eitem 7 yw heddiw yw ail ddadl y Ceidwadwyr Cymreig heddiw, rhoddion ymgyrch arweinyddiaeth a chod y Gweinidog—Ministers—Gweinidogion. Thank you. Gweinidogion. Diolch yn fawr. A galwaf ar Andrew R.T. Davies i wneud y cynnig. Cynnig NDM8562 Darren Millar Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod pryder y cyhoedd ynghylch y posibilrwydd bod cod gweinidogol Llywodraeth Cymru wedi'i dorri mewn perthynas â rhoddion a dderbyniwyd gan y Prif Weinidog. 2. Yn nodi bod y Prif Weinidog wedi derbyn rhodd o £200,000 tuag at ei ymgyrch arweinyddiaeth Llafur Cymru gan y Dauson Environmental Group Limited yn dilyn benthyciad o £400,000 i'r cwmni gan Fanc Datblygu Cymru, a throseddau yn ymwneud â'r amgylchedd. 3. Yn galw ar y Prif Weinidog i benodi cynghorydd annibynnol i'r cod gweinidogol i ymchwilio i unrhyw wrthdaro buddiannau a allai fodoli mewn perthynas â'r rhodd, gan gyfeirio'n benodol at bwyntiau i a ii o baragraff 1.3 o'r cod gweinidogol. Cynigiwyd y cynnig. Andrew R.T. Davies AC: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Roeddwn i'n meddwl eich bod chi'n disgwyl imi gyfieithu yn y fan honno, Ddirprwy Lywydd. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Rwyf bob amser yn troi atoch am help, Andrew. Andrew R.T. Davies AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A oes angen inni aros i'r Prif Weinidog ddod, oherwydd, yn amlwg, mae'r ddadl am y Prif Weinidog? Neu a oes Gweinidog arall yn ymateb? Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Nid yw'n ymateb i'r ddadl. Andrew R.T. Davies AC: O. O, iawn. Mae hynny'n siomedig. Iawn, nid yw'r Prif Weinidog wedi dod i ddadl ynghylch yr ymddygiad sy'n gysylltiedig â chod y Gweinidogion, ac ar y datganiad o gyfrifoldebau gweinidogol, ef sy'n gyfrifol am god y Gweinidogion. Felly, rwy'n credu bod hynny'n siomedig, a dweud y lleiaf, nad yw wedi dod i'r ddadl y prynhawn yma. Mae'r ddadl a gyflwynwyd gennym y prynhawn yma yn gymharol syml. Mae'n dweud 'cydnabod', 'nodi', ac yn galw am ganlyniad. Mae'n galw am gydnabod pryder y cyhoedd ynghylch y camau sydd wedi digwydd yn gysylltiedig â'r rhoddion i'r Prif Weinidog. Nid wyf yn credu y gall unrhyw un anghytuno â hynny, gyda'r lefel o ddiddordeb cyhoeddus a ddangoswyd yn yr agwedd benodol hon. Ac yn briodol felly. Bydd dadl yn ddiweddarach y prynhawn yma ynghylch y ddadl honno yn ei chyfanrwydd a faint o arian a gyflwynwyd yn y rhodd honno, ac fel y clywsom yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog ddoe, fe wnaed rhoddion ychwanegol sylweddol i ymgyrch y Prif Weinidog gan gwmni tacsis ac eraill, pob un wedi'i ddatgan yn gywir a phob un wedi'i nodi a heb dorri rheolau. Rwyf eisiau bod yn hollol glir ynglŷn â hynny—ni thorrwyd unrhyw reolau. Ond mae'r canfyddiad—y canfyddiad—o arian mor sylweddol yn dod i ymgyrch i arwain Cymru fel Prif Weinidog Cymru wedi achosi cryn anniddigrwydd cyhoeddus yn ogystal ag anesmwythyd gwleidyddol sylweddol ymhlith y Blaid Lafur a phleidiau gwleidyddol eraill. Rwyf am ddarllen drwy'r enwau: mae Beth Winters, Aelod Seneddol Cwm Cynon; Andrew Morgan, arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; Jeremy Miles, Gweinidog yr Economi, i gyd wedi dweud na fyddent hwy wedi derbyn y rhodd honno. Ac yn ystod yr ymgyrch ei hun, nododd yr Aelod Seneddol dros Lanelli, Nia Griffiths, ar gyfweliad ar raglen Gymraeg, pe bai hi wedi gwybod am y rhodd hon, y byddai'n ddigon posibl y byddai wedi newid ei phleidlais. Dyna'r effaith y gallai hyn fod wedi'i chael ar etholiad mor ddifrifol a'r canlyniad i arwain y wlad drwy fod yn Brif Weinidog Cymru. Felly, mae'n ddiamheuol fod yna ddicter wedi'i nodi ymhlith y cyhoedd a gwleidyddion fel ei gilydd ar y mater penodol hwn. Wedyn, mae'n mynd rhagddo i amlygu'r broblem. Ac mae'r broblem yn eithaf clir—mae'n ymwneud â'r rhodd sylweddol, fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol, gan Dauson, y cwmni ailgylchu, sy'n cael ei arwain gan Mr Neal ac sy'n eiddo i Mr Neal. Profwyd bod gan Mr Neal ddwy euogfarn droseddol am droseddau amgylcheddol ar wastadeddau Gwent. Mae hynny wedi'i gofnodi. Ac mae yna faterion eraill sy'n peri pryder, ac sydd wedi cael sylw, megis y benthyciad gan Fanc Datblygu Cymru, benthyciwr pan fetha popeth arall, gallwn ychwanegu. Unwaith eto, nid wyf yn awgrymu bod unrhyw beth camweddus wedi'i wneud yma, ond pan fyddwch yn yr un flwyddyn ariannol yn sôn am gwmni'n cael £400,000 gan fenthyciwr pan fetha popeth arall ac yna'n gwneud cyfraniad o £200,000, hanner y swm hwnnw, i unigolyn—nid i blaid, nid i grŵp, ond i unigolyn ac ymgyrch yr unigolyn i gael swydd—mae hynny'n sicr yn fater o bryder i bawb sy'n ymwneud â bywyd cyhoeddus. Byddwn yn gobeithio y byddai consensws ynglŷn â hynny o amgylch y Siambr hon. Yna, yn lle bod gwleidyddion yn gwneud yr honiadau hyn a'r cyhoedd yn dangos anesmwythder, ceir yr unioniad yn y pen draw y gallwch ddefnyddio cod y Gweinidogion a'r cynsail a osododd Carwyn Jones yn ôl yn 2017 o benodi person annibynnol i gynghori ar yr hyn a allai fod yn doriad canfyddedig neu wirioneddol o'r cod gweinidogol hwnnw. Ac mae cod y Gweinidogion yn eithaf clir ar y pwynt a nodwn, lle mae'n dweud 'Ni ddylai'r Gweinidogion dderbyn unrhyw rodd neu letygarwch a allai...neu a allai, yn rhesymol, roi’r argraff'—. Nawr, rwy'n credu y byddai person rhesymol yn dweud y gallai £200,000, £25,000, gael ei ystyried yn rhesymol fel rhywbeth sy'n sicrhau dylanwad. Mae'r person rhesymol hwnnw'n haeddu ateb, a'r ffordd o gael yr ateb hwnnw fyddai penodi person annibynnol i edrych ar y mater, cynghori'r Prif Weinidog ar ba gamau y dylid eu cymryd, yn hytrach na'r drefn bresennol, lle caiff cyfeiriad o dan god y Gweinidogion ei farnu a'i benderfynu gan y Prif Weinidog ei hun, sy'n destun y gŵyn a'r cyhuddiad. Nid wyf yn credu y gallai unrhyw berson rhesymol anghytuno â'r tri phwynt a wneuthum a'r tri phwynt sydd yn y cynnig ger bron y Senedd heno. Ac rydym yn ceisio rhoi ateb ar y bwrdd i'w gywiro. Felly, rwy'n gobeithio y bydd pob Aelod yn pleidleisio dros y cynnig hwn. Mae'n ddrwg gennyf fod y Llywodraeth wedi cynnig gwelliant 'dileu popeth', ond rwy'n deall pam eu bod wedi gwneud hynny. Ond yr hyn rydym ni'n ceisio ei wneud yw tawelu pryder y cyhoedd, mynd i'r afael â'r rheswm dros y pryder hwnnw a rhoi ateb ar waith o ran cod y Gweinidogion. Pwy ar y ddaear a allai anghytuno â hynny? Beth sydd i'w guddio? Rwy'n annog y Senedd i gefnogi cynnig y Ceidwadwyr Cymreig sydd ger ein bron heno. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Galwaf ar y Trefnydd i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn ei henw hi. Gwelliant 1—Jane Hutt Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn cymryd Cod y Gweinidogion, a'r cyfrifoldebau y mae'n eu gosod ar Weinidogion Cymru, o ddifrif. 2. Yn nodi bod y penderfyniadau a wneir gan Fanc Datblygu Cymru ynghylch benthyca a buddsoddi yn cael eu gwneud yn gwbl annibynnol ar Lywodraeth Cymru. Cynigiwyd gwelliant 1. Jane Hutt AC: Yn ffurfiol. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: A galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Gwelliant 2—Heledd Fychan Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu: a) nad yw'r Prif Weinidog wedi dychwelyd y rhodd i Dauson Environmental; a b) nad yw'r Blaid Lafur wedi ymrwymo i ddychwelyd unrhyw rodd sydd yn weddill gan Dauson Environmental. Cynigiwyd gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Wythnos nesaf, rydyn ni'n dathlu 25 mlynedd ers sefydlu ein Senedd ein hunain—cyfle i wneud pethau yn wahanol yma yng Nghymru, i wneud pethau'n well. Ac oherwydd y cyd-destun hwnnw, dwi, fel cymaint o bobl eraill, yn teimlo dicter a rhwystredigaeth am y llanast ynglŷn â'r rhoddion i ymgyrch arweinyddiaeth y Prif Weinidog. Mae'n adlais, onid ydy hi, o'r sgandalau sydd wedi bod mor nodweddiadol yn San Steffan dros y blynyddoedd diwethaf. A'r mwyaf rydych chi'n tyrchu yn fan hyn, y mwyaf o gwestiynau sy'n dod i'r amlwg. Mae o'n difrïo ein democratiaeth ni, ac yn dadrithio etholwyr. Rhun ap Iorwerth AC: Nawr, mae agwedd 'dim i'w weld yma' y Prif Weinidog ar y gorau yn hunanfodlon, ac ar y gwaethaf yn ddirmygus, tuag at y bobl yr ydym yma i'w gwasanaethu. A bydd pobl yn ffurfio'u barn eu hunain am ei absenoldeb yma y prynhawn yma. Felly, mae'r hyn y mae Plaid Cymru yn ei ofyn heddiw yn syml a chaiff ei adlewyrchu yn ein gwelliant i'r cynnig. A wnaiff y Prif Weinidog ddychwelyd y £200,000 a gafodd gan y llygrydd amgylcheddol a gafwyd yn euog, Dauson Environmental Group Ltd? Ac os oes unrhyw arian heb ei wario o'r rhodd honno, a wnaiff y Blaid Lafur ddychwelyd yr arian hwnnw? Dau gwestiwn sylfaenol, sy'n deillio o ddwy egwyddor sylfaenol: uniondeb a dyletswydd—rhaid i uniondeb fod yn llinyn cyson yn ein gwleidyddiaeth drwyddi draw os ydym am ennill ymddiriedaeth pleidleiswyr—a dyletswydd oherwydd bod gan Brif Weinidog ddyletswydd i arwain drwy esiampl, i arfer doethineb bob amser. Nawr, fel mae'r cynnig sydd ger ein bron heddiw yn nodi, mae cod y Gweinidogion yn glir: 'Rhaid i'r Gweinidogion sicrhau nad oes unrhyw wrthdaro, nac unrhyw argraff bod gwrthdaro, rhwng eu dyletswyddau cyhoeddus a'u buddiannau preifat' ac 'Ni ddylai'r Gweinidogion dderbyn unrhyw rodd neu letygarwch a allai godi amheuon am ddoethineb eu barn neu a allai eu rhoi o dan rwymedigaeth amhriodol neu a allai, yn rhesymol, roi’r argraff honno.' Nawr, ysgrifennais at yr Ysgrifennydd Parhaol, yn gofyn am adolygiad. Dywedwyd wrthyf nad oedd gwneud hynny yn rhan o'i gylch gorchwyl. Ond gall y Prif Weinidog alw ymchwiliad annibynnol, ac rwy'n credu bod yr achos dros adolygiad allanol a chwbl annibynnol yn glir, ac rydym yn cefnogi'r prif gynnig. A pofwyaf y mae'r Prif Weinidog yn dadlau yn erbyn hyn, y mwyaf y mae ei ddoethineb yn cael ei gwestiynu, a chredwn y byddai ein gwelliannau'n cryfhau'r galwadau am weithredu. Nawr, fe wyddom fod Aelodau Llafur hefyd, yma ac yn San Steffan ac mewn llywodraeth leol, wedi mynegi eu braw yn gyhoeddus ac yn breifat ynglŷn â phenderfyniad y Prif Weinidog i dderbyn y rhodd a'r modd y gwnaeth ymdrin â'r mater wedyn. Felly, hoffwn annog pawb sydd o'r farn honno i gefnogi'r cynnig a'r gwelliannau fel arwydd ein bod yn benderfynol o ennill ymddiriedaeth etholwyr Cymru, boed yn Brif Weinidog neu'r gweddill ohonom yn y Siambr hon. Daeth y Llywydd i’r Gadair. Hefin David AC: Rwy'n credu y byddwn i'n cael fy nisgrifio fel person rhesymol, rwy'n gobeithio, ac mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn anghytuno â phopeth y mae Andrew R.T. Davies wedi'i ddweud. Nid wyf yn mynd i geisio rhoi unrhyw wres i mewn i'r cyfraniad hwn o leiaf. Fe roddaf rai enghreifftiau yn y cyfraniad nesaf o beth o'r rhagrith sy'n bodoli, ond am y tro cyntaf, rydym yn gofyn i wleidydd sydd wedi ufuddhau i'r holl reolau—sy'n amlwg wedi ufuddhau i'r holl reolau—gael ei ymchwilio, a chredaf fod hynny'n gwbl hurt. Cyfeiriwyd at god ymddygiad y Gweinidogion; cafodd sylw gan y Prif Weinidog blaenorol, a gychwynnodd ymchwiliad annibynnol, ac ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw dramgwydd. Felly, nid wyf yn gwybod beth arall y gellir ei wneud ynglŷn â hynny. Ond mae'r gweddill wedyn yn dod yn oddrychol ac yn dod yn farn oddrychol iawn sydd eisoes wedi cael sylw gan y Prif Weinidog blaenorol. Rwyf wedi gofyn rhai cwestiynau i mi fy hun ac wedi ymchwilio i'r rhain fy hun; roeddwn yn ofalus iawn i wneud hynny. Yn gyntaf oll: a oedd y rhodd wedi'i chofrestru'n briodol? Yn bendant ac yn ddiamwys, oedd. Darren Millar AC: Rwy'n ddiolchgar i chi am dderbyn yr ymyriad. Rwyf am holi: a wnaethoch chi ddweud bod y Prif Weinidog blaenorol wedi ymchwilio i'r mater hwn? Hefin David AC: Do. Darren Millar AC: Wel, nid oedd yr holl wybodaeth yn y parth cyhoeddus, ar gael ar gyfer craffu cyhoeddus, cyn i'r Prif Weinidog blaenorol ymchwilio i faterion, gan gynnwys yr euogfarnau sy'n gysylltiedig â'r cwmni hwn a'r cysylltiadau â'r cwmni tacsis— Hefin David AC: A ydych chi'n gwneud araith neu ymyriad? Darren Millar AC: Rwy'n gofyn i chi; mae'n gwestiwn go iawn. Hefin David AC: O'r gorau. A gaf i ymateb? Felly, rydych chi wedi cymryd 20 eiliad o fy amser yn barod— Darren Millar AC: Naddo. Hefin David AC: —mae'n annhebygol y caf i hynny yn ôl. [Torri ar draws.] Y materion— Y Llywydd / The Llywydd: Rydych chi wedi bod yn hael iawn, Hefin. Dylai Aelodau sy'n derbyn ymyriadau ystyried hynny bob amser. Hefin David AC: Y materion yr aeth y Prif Weinidog i'r afael â nhw, roedd y rhan fwyaf ohono eisoes allan yno. Rwy'n meddwl bod y syniad—[Torri ar draws.] Rhowch gyfle i mi. Y syniad o po fwyaf y cloddiwch, y mwyaf y gwnewch chi ei ddarganfod; mewn gwirionedd, po fwyaf y cloddiwch, y lleiaf y gwnewch chi ei ddarganfod. Ond rwyf wedi rhoi sylw i'r materion sydd wedi codi ers hynny yn y cwestiynau canlynol. A oedd cyfle i Vaughan Gething ddylanwadu ar unrhyw benderfyniad cynllunio dilynol? Yn bendant iawn, na, oherwydd nid yw'r Gweinidog sy'n gwneud y penderfyniad cynllunio yn gwneud y penderfyniad hwnnw ar ran Llywodraeth Cymru; maent yn gwneud penderfyniad lled-farnwrol i ymyrryd mewn anghydfod cynllunio y mae'r arolygydd wedi ymchwilio iddo, felly mae'r cwestiwn hwnnw wedi ei ateb. A fyddai Vaughan Gething wedi ceisio dylanwadu ar Fanc Datblygu Cymru ar sail eu benthyciad i'r cwmni? Efallai mai dyna a olygwch wrth yr hyn sydd wedi datblygu ers hynny. Wel, ddim o gwbl, oherwydd fe ofynnais iddynt yn y pwyllgor, ac roedd Paul Davies yno. Fe'u gwelodd yn ateb y cwestiwn. Yn yr wyth mlynedd y mae Giles Thorley wedi bod yn brif weithredwr Banc Datblygu Cymru, nid oes unrhyw Weinidog erioed wedi ceisio dylanwadu ar fenthyciad, a dywedodd wrth gytuno â mi y byddai'n annirnadwy. [Torri ar draws.] Na, mae’nrhaid i mi—. Mae fy amser ar ben; dim ond tair munud sydd gennyf. Yn y ddadl nesaf efallai. Byddai'n annirnadwy y byddai unrhyw Weinidog, gan gynnwys y Prif Weinidog, hyd yn oed yn ceisio gwneud hynny. A geisiodd wneud hynny? Yn bendant iawn, naddo. Felly, mae'r holl dystiolaeth, yr holl dystiolaeth yr ydym wedi sôn amdani wedi cael sylw. Beth rydym ni'n ceisio ymchwilio iddo nawr? Nid wyf yn credu ein bod yn ceisio ymchwilio i unrhyw beth. Yr hyn y mae'r Ceidwadwyr yn ceisio ei wneud yw cadw'r stori i redeg, ac mae Andrew R.T. Davies yn dweud yn yr erthygl yn y Western Mail —rwy'n darllen ei erthyglau—ei fod am symud ymlaen. Os yw am symud ymlaen, gall ddechrau gofyn cwestiynau am y pethau sy'n bwysig i ni: costau byw, plant mewn gofal. Dyma'r mathau o bethau y gallai ddechrau gofyn amdanynt yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog yn hytrach na rhygnu ymlaen am rywbeth nad oes iddo unrhyw sylwedd. Tom Giffard AS: Ddoe, awgrymodd y Prif Weinidog nad oedd y cyhoedd yn pryderu am ei roddion gan lygrydd a gafwyd yn euog. Mae'n gwybod nad yw hynny'n wir, ac eto mae'n parhau i fychanu'r mater. A phan ofynnodd un o brif newyddiadurwyr y BBC, Teleri Glyn Jones, iddo am y rhoddion hynny, awgrymodd yn drahaus nad oedd hi rywsut yn newyddiadurwraig ddifrifol. Sylw y mae'n dal i fod heb ymddiheuro yn ei gylch. Ond diolch byth, mae llawer o gyd-Aelodau eraill ar y meinciau y tu ôl iddo—pe bai yn ei sedd—yn y Blaid Lafur nad ydynt yn cytuno ag ef, naill ai ynglŷn â'i roddion neu ei barch at y proffesiwn newyddiadurol, oherwydd maent wedi bod yn gyflym i fynd i'r wasg i roi gwybod iddynt am eu hanfodlonrwydd ynglŷn â'r ffordd yr ymdriniodd ef â'r sgandal. Dyma beth a ddywedodd rhai ohonoch: 'Mae derbyn symiau mor enfawr o arian o ffynhonnell y mae ei chyfarwyddwr wedi'i gael yn euog o dorri cyfreithiau ein Llywodraeth ein hunain yn anghywir.' Alun Davies oedd hwnnw. Roedd y rhodd yn 'gwbl anghyfiawn ac yn anghywir', Lee Waters. 'Ni fyddwn i wedi ei derbyn,' Jeremy Miles. 'Mae'n maeddu ein henw da ni i gyd', meddai AS Llafur dienw. Yn amlwg, roedd un ohonoch yn gyndyn i roi eich enw wrth hynny. Dyma beth a ddywedodd aelodau eraill o'r Blaid Lafur: 'Pe bawn i yn y sefyllfa honno, ni fyddwn wedi ei dderbyn oherwydd y ffordd y câi ei weld', ac 'Mae'n debyg y byddwn i wedi dweud na a chwilio am arian yn rhywle arall.' Andrew Morgan, arweinydd cyngor Rhondda Cynon Taf, y Blaid Lafur, a ddywedodd hynny. 'Mae hyn yn niweidio delwedd Llafur Cymru ac mae'n niweidio delwedd datganoli hefyd.' Leighton Andrews, cyn-Weinidog Llafur. Dyma uwch ffigwr dienw arall o'r Blaid Lafur yn siarad â Nation.Cymru: 'Mae'r penderfyniad nad oedd derbyn y rhoddion yn torri cod y Gweinidogion yn syfrdanol. Y rhesymeg yw bod Vaughan wedi derbyn yr arian yn ei rôl fel AS yn hytrach na fel Gweinidog. Mae hyn yn gwbl amherthnasol.' Ac un arall: 'Nid wyf yn mynd i ddod ar raglen deledu i amddiffyn Vaughan Gething. Ni ddylai fod wedi derbyn yr arian. Dylai fod wedi dychwelyd yr arian yn syth. Ac fe dderbyniodd yr arian gan rywun sy'n euog o droseddau amgylcheddol ac mae pob math o gwestiynau difrifol angen eu hateb—ac mae angen ymchwiliad annibynnol arnom.' Aelod Seneddol Llafur Cymru, Beth Winter. Gallwn fynd ymlaen ac ymlaen ac ymlaen. Ond y pwynt yw fy mod i'n cytuno â Beth. Gyda'r fath anesmwythyd yn ei blaid ei hun, rwy'n deall pam nad yw wedi dod heddiw, ac rwyf hefyd yn deall pam ei fod wedi dewis lansio ymchwiliad mewnol o fewn y Blaid Lafur. Ond fel y mae llawer o'i gyd-Aelodau ei hun yn cydnabod, mae hyn yn ymwneud â mwy na'r Blaid Lafur yn unig, mae'n ymwneud â'r wlad. Dywedodd y Prif Weinidog ychydig wythnosau yn ôl yn y Siambr hon, 'fy mhenaethiaid yw'r etholwyr ac aelodau o deulu Llafur Cymru.' Mae'n anghywir. Ei benaethiaid yw pobl Cymru. Mae ganddo gyfrifoldeb iddynt hwy i sicrhau ei fod mor dryloyw ag y gall fod. Mae lansio ymchwiliad annibynnol yn caniatáu iddo brofi i'r bobl y mae'n eu gwasanaethu, os nad yw wedi gwneud unrhyw beth o'i le mewn gwirionedd, y gall brofi hynny. Rwy'n gwybod bod ei blaid ei hun yn gwybod hynny hefyd yn y bôn. Felly, rwy'n annog Aelodau Llafur yn enwedig: sefwch yn ddewr dros eich egwyddorion. Gadewch i bobl wybod bod yr hyn a ddywedwch wrth y wasg, yr hyn a ddywedwch ar Twitter neu mewn briffiau dienw hyd yn oed, wedi ei ategu gan eich gweithredoedd. Dyna pam y gobeithiaf y bydd pob Aelod, o bob ochr i'r Siambr, yn cefnogi ein cynnig heddiw. Jane Dodds AS: Neithiwr, fe wnaethom siarad a chafwyd cefnogaeth drawsbleidiol ar y camau y dylem i gyd fod yn eu cymryd i adfer ymddiriedaeth mewn gwleidyddion. Mae'r bennod gyfan hon wedi taflu cysgod tywyll dros ddemocratiaeth Cymru. Nid yw'r achos hwn, er mor ddifrifol ydyw, ond yn symptom o'r clefyd mwy sy'n effeithio ar ein democratiaeth yn fy marn i, sef cynnydd llechwraidd 'arian mawr' mewn gwleidyddiaeth. Os nad ydym yn ofalus, byddwn yn union fel yr Unol Daleithiau. Mae'n system sy'n grymuso'r dosbarth rhoddwyr elît, tra bo'n cau lleisiau pobl gyffredin allan. Mae'n ystumio democratiaeth. Dyna pam y dylai'r nod ehangach gynnwys dileu 'arian mawr' o'n gwleidyddiaeth unwaith ac am byth yma yng Nghymru. Mae'r ateb yn syml, yn y ddadl hon ac yn yr un nesaf, a phe bai'r Prif Weinidog yma, byddwn yn dweud hyn: 'Rhowch yr arian yn ôl. Gadewch inni roi diwedd ar hyn nawr.' Diolch yn fawr iawn. Y Llywydd / The Llywydd: Y Trefnydd i gyfrannu i'r ddadl. Jane Hutt. Jane Hutt AC: Diolch, Llywydd. Wedi gwrando'n ofalus, dwi ddim wedi clywed dim byd newydd heddiw. Rydyn ni wedi ateb y pwyntiau hyn o'r blaen. Llywydd, mae'r Aelodau wedi clywed y ffeithiau gan y Prif Weinidog ei hun yn y Siambr ac yn y Senedd. Jane Hutt AC: Rwyf am ddweud wrth yr Aelodau yma heddiw fy mod i'n ymateb— Janet Finch-Saunders AC: A wnewch chi dderbyn ymyriad? Jane Hutt AC: Na wnaf, ddim ar y cam hwn. Mae'r amser yn fyr ac mae gennyf lawer i'w ddweud. Rwyf am ddweud, mewn ymateb i'r cynnig, fod y Prif Weinidog a phob un ohonom yn y Cabinet hwn wedi ymrwymo i gynnal cod y Gweinidogion. Ac mae'n gwbl briodol fod pwy bynnag sydd mewn Llywodraeth yng Nghymru yn gwneud datganiad clir a chyhoeddus o'r safonau ymddygiad sy'n ddisgwyliedig ganddynt a'u bod yn sicrhau eu bod yn cadw at y safonau hynny, ac ar ben hynny, pan godir cwestiynau, fod y pryderon hynny'n cael eu hystyried yn ofalus a'n bod yn ymateb iddynt yn briodol. Un o'r pethau cyntaf a wnaeth y Prif Weinidog yn ei gyfarfod cyntaf yn y Cabinet—ac mae'n bwysig rhannu hyn—oedd pwysleisio pwysigrwydd cod y Gweinidogion a'i ddisgwyliad y dylai ei Lywodraeth lynu at y safonau uchaf, fel yr amlinellir gan y cod. Rydym o ddifrif ynghylch cod y Gweinidogion a'r cyfrifoldebau y mae'n eu gosod ar Weinidogion Cymru. Lywydd, nid oes unrhyw gysylltiad rhwng y rhodd a wnaed i ymgyrch y Prif Weinidog dros arweinyddiaeth y Blaid Lafur ac unrhyw benderfyniad ar fenthyciad a wnaed gan Fanc Datblygu Cymru. Mae'r banc datblygu'n darparu benthyciadau masnachol a buddsoddiadau ecwiti i fusnesau sydd wedi'u lleoli yng Nghymru, ac mae'r penderfyniadau y mae'n eu gwneud yn gwbl annibynnol ar Lywodraeth Cymru. Mae'r ddogfen fframwaith rhwng Llywodraeth Cymru a'r banc datblygu yn nodi sut mae'r berthynas rhwng y Llywodraeth a'r banc yn cael ei rheoli a'i gweithredu, ac mae'n nodi'n benodol na fydd Gweinidogion Cymru na swyddogion Llywodraeth Cymru yn cymryd unrhyw ran mewn materion gweithredol o ddydd i ddydd, materion masnachol na phenderfyniadau ar draws grŵp y banc datblygu. Ac nid oedd gan y Prif Weinidog, yn ei rôl flaenorol yn y Cabinet, unrhyw ran yn y benthyciad hwn ac nid yw'n iawn gwneud neu awgrymu cysylltiad o'r fath pan nad yw'r ffeithiau'n ategu hynny. Fel y dywedodd Hefin David, mewn sesiwn graffu ddiweddar, cadarnhaodd Banc Datblygu Cymru nad yw Gweinidogion yn chwarae rhan yn y penderfyniadau hyn. Mae'r Aelodau'n ymwybodol, ac mae wedi cael ei nodi unwaith eto heddiw fod y cyn-Brif Weinidog wedi ystyried a fyddai derbyn y rhodd hon yn gyfystyr â thorri cod y Gweinidogion pan dderbyniodd lythyr ynglŷn â hyn, a chymerodd gyngor arno a dywedwyd wrtho nad oedd yn torri'r cod. Derbyniodd y cyngor hwn a dilynwyd y broses briodol ar gyfer ystyried achosion honedig o dorri cod y Gweinidogion. Jane Hutt AC: Yn olaf, Llywydd, wrth ymateb i'r cynnig a'r gwelliant, dwi'n dweud unwaith eto bod ein penderfyniadau yn bodloni'r rheolau ac nid yw rheolau'r cod wedi cael eu torri. Mae camau diogelu yn bodoli i gadw busnes etholaethol ar wahân i fusnes gweinidogol. Mae hyn yn gyson gyda gofynion y Comisiwn Etholiadol ac felly ni fyddai ymchwiliad annibynnol yn briodol. Jane Hutt AC: A gaf i ddweud yn olaf fy mod i'n falch, hefyd, fod arweinydd yr wrthblaid eisiau symud ymlaen? Rydym ni'n symud ymlaen fel Llywodraeth Cymru—[Torri ar draws.] Rydym ni'n symud ymlaen fel Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu pobl Cymru— Y Llywydd / The Llywydd: A ydych chi'n derbyn ymyriad, Weinidog? Jane Hutt AC: Fe wnaf dderbyn ymyriad. Andrew R.T. Davies AC: Rwy'n ddiolchgar i arweinydd y tŷ. Mae'r cyfrifoldeb portffolio hwn yn gadarn gyda'r Prif Weinidog. Mae wedi dewis peidio â dod i'r ddadl hon heddiw i ymateb i'r pwyntiau a roddwyd iddo. Nid oedd llawer o'r wybodaeth a nodwyd gennych yn eich ateb i'r ddadl hon ar gael i'r Prif Weinidog blaenorol, megis y benthyciad a wnaed gan Fanc Datblygu Cymru. A allwch chi egluro pam nad yw'r Prif Weinidog wedi dod i siarad ar fater sydd yn ei bortffolio gweinidogol, oherwydd rwy'n credu, fel mater o gwrteisi, fod y Senedd yn haeddu'r ymateb hwnnw gennych chi heddiw? Jane Hutt AC: Mae hefyd yn briodol iawn fy mod i, fel Trefnydd, yn siarad ac yn ymateb yn y ddadl a gyflwynwyd gennych chi heddiw. Ac rwyf am ailadrodd y pwynt a wneuthum fy mod yn falch fod arweinydd yr wrthblaid eisiau symud ymlaen. Rwy'n credu bod y Senedd gyfan ddoe—. A gadewch inni gofio, rydym yn symud ymlaen fel Senedd i ddiwygio'r Senedd. Ond mae Llywodraeth Cymru a'r Prif Weinidog, sy'n mynd i Mumbai—ac rwy'n credu bod hynny wedi cael croeso ar draws y Siambr hon—gyda Gweinidog yr economi, yn mynd i'r afael â'r heriau y mae pobl Port Talbot a de Cymru, a llawer pellach i ffwrdd, yn eu hwynebu gyda'r hyn sy'n digwydd i gynhyrchiant dur yn sgil penderfyniad diweddar Tata. Llywodraeth Cymru sy'n mynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu pobl Cymru. Ond rwyf hefyd yn falch mai'r Senedd sy'n wynebu'r heriau hyn wrth inni symud ymlaen i ddiwygio'r Senedd ar gyfer democratiaeth fwy cynrychioliadol yma yng Nghymru. Rwy'n credu mai dyna'r hyn yr awn i'r afael ag ef gyda'n gilydd yn y Senedd hon. Ond rwy'n falch fy mod i wedi cael cyfle i gywiro pethau ac i ailadrodd y ffeithiau yma heddiw, a'r ffeithiau a ddylai ein harwain wrth inni fynd ati i wneud penderfyniadau a phleidleisio. Rwy'n cynnig ein gwelliant. Y Llywydd / The Llywydd: Samuel Kurtz nawr i ymateb i'r ddadl. Samuel Kurtz AS: Y ffaith amdani yw nad yw’r Prif Weinidog wedi ymuno â ni ar gyfer dadl ar rywbeth sy'n rhan o'i gyfrifoldeb ef, a chredaf fod yr anfodlonrwydd a’r distawrwydd ar y meinciau Llafur yn siarad cyfrolau am y teimladau o fewn y Blaid Lafur ar hyn o bryd. Wrth agor y ddadl hon, soniodd Andrew R.T. Davies am 'gydnabod', 'nodi' a 'galw'—tri phwynt ein cynnig, y credaf iddo eu cyfleu'n hynod huawdl. Mynegodd ei siom hefyd nad oedd y Prif Weinidog yma, a gresynoddat y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynnig 'dileu popeth'. Soniodd Rhun ap Iorwerth am y dicter a’r rhwystredigaeth a deimlir mewn perthynas â hyn, a dywedodd y gallai agwedd ‘dim i’w weld yma’ y Prif Weinidog naill ai gael ei hystyried yn hunanfodlon ar y gorau neu’n ddirmygus ar y gwaethaf. Ar ôl cael ei gyflwyno i amddiffyn y Prif Weinidog yn ei absenoldeb— Hefin David AC: Ni wnaeth unrhyw un fy nghyflwyno. Samuel Kurtz AS: Rydych yn unigolyn cymwynasgar iawn, felly. Ond ar y pwynt rydych newydd ei godi, ac a wnaed gan Andrew R.T. Davies mewn ymyriad ar y Trefnydd, nid oedd yr holl wybodaeth ar gael i’r Prif Weinidog blaenorol pan gynhaliwyd yr ymchwiliad cychwynnol. Mae'r stori'n symud yn ei blaen am fod mwy o wybodaeth yn dod i'r amlwg. Os yw am atal y stori rhag symud yn ei blaen, os yw’r Trefnydd am atal y stori rhag symud yn ei blaen ac os yw’r meinciau Llafur am atal y stori rhag symud yn ei blaen, y cyfan sy’n rhaid i’r Prif Weinidog ei wneud yw derbyn eincynnig. Darren Millar AC: A wnewch chi dderbyn ymyriad? Samuel Kurtz AS: Fe wnaf dderbyn ymyriad. Darren Millar AC: Un o’r pethau nad oedd ar gael i’r cyhoedd pan gynhaliodd y Prif Weinidog blaenorol ei adolygiad i weld a gafodd cod y Gweinidogion ei dorri oedd y ffaith bod rhodd o £200,000 wedi’i gwneud gan gwmni a oedd wedi derbyn benthyciad sylweddol gan Fanc Datblygu Cymru fel benthyciwr pan fetha popeth arall. Nid oedd honno’n wybodaeth a oedd yn hysbys i’r cyhoedd bryd hynny. Yn amlwg, os oes canfyddiad o ddylanwad posibl, mae hwnnw'n fater y mae'r cod yn cyfeirio ato. O ystyried bod honno’n wybodaeth newydd, ac o ystyried bod rhagor o wybodaeth wedi dod i'r amlwg ynglŷn â chysylltiadau eraill â’r cwmni tacsis, er enghraifft, y gwnaethom eu trafod yn y Siambr ddoe, onid ydych chi'n cytuno bod angen edrych ar hynny hefyd? Samuel Kurtz AS: Wel, ni fydd yn fawr o syndod i'r Siambr fy mod yn cytuno â chi ar y pwyntiau hynny, Darren Millar—pan fo gwybodaeth newydd yn dod i'r amlwg, dylid rhoi ystyriaeth ddifrifol i'r wybodaeth honno, ac felly, mae'n rhaid cynnal ymchwiliad. Rhestrodd Tom Giffard yr Aelodau Llafur sydd wedi dangos eu hanfodlonrwydd â’r hyn sydd wedi digwydd yma, a soniodd Jane Dodds am y cysgod tywyll y mae hyn wedi’i daflu dros wleidyddiaeth Cymru. Mae’n gwbl amlwg fod angen ymchwiliad annibynnol brys arnom. Ac er bod y Prif Weinidog yn dweud ei fod wedi gweithredu yn unol â llythyren y rheol, mae'r rhodd hon a phopeth amdani yn amheus braidd. Felly, gadewch inni atgoffa ein hunain o sut mae'r sefyllfa'n edrych i'r cyhoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Derbyniodd Vaughan Gething rodd o £200,000 gan rywun a gafwyd yn euog o droseddau amgylcheddol i ymladd etholiad arweinyddiaeth hynod o dynn, ac fe'i henillodd yn y pen draw o drwch blewyn. Roedd busnesau a oedd yn eiddo i’r un unigolyn a gafwyd yn euog wedi benthyca £400,000 yn flaenorol gan Fanc Datblygu Cymru o dan oruchwyliaeth Gweinidog yr economi ar y pryd. I drigolion etholaeth Paul Davies, mae haen ychwanegol yma hefyd, gan fod tomen sbwriel Withyhedge, sy’n achosi aer budr, llygredig, yn cael ei gweithredu gan yr unigolyn a gafwyd yn euog a roddodd y £200,000 i Vaughan Gething. Mae ein cynnig yn glir, fel y mae cod y Gweinidogion: nid oes ond yn rhaid i weithred ymddangos fel pe bai gwrthdrawiad buddiannau, neu ymddangos fel pe bai’n rhoi Aelod o dan rwymedigaeth amhriodol. Mae'r saga gyfan hon—y rhodd, y benthyciad, y diffyg doethineb a ddangoswyd gan y Prif Weinidog gan ei fod yn gwybod am yr euogfarn pan dderbyniodd y rhodd—yn union fel tomen sbwriel Withyhedge: mae'n drewi. Felly, os nad oes unrhyw beth i’w guddio, pam pleidleisio yn erbyn ein cynnig? Os nad oes unrhyw beth i'w guddio, byddech yn croesawu'r cyfle i gael eich rhyddhau o fai. Os nad oes unrhyw beth i’w guddio, ymunwch â ni a phleidleisiwch gyda’r Ceidwadwyr Cymreig y prynhawn yma. Y Llywydd / The Llywydd: Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly mi wnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. 8. Dadl Plaid Cymru: Uchafswm ar roddion gwleidyddol Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt. Y Llywydd / The Llywydd: Eitem 8 sydd nesaf, dadl Plaid Cymru ar uchafswm ar roddion gwleidyddol. Rhun ap Iorwerth sy'n gwneud y cynnig yma. Cynnig NDM8561 Heledd Fychan Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi cyfraniad o £200,000 a wnaed i'r Prif Weinidog yn ystod etholiad arweinyddiaeth Llafur Cymru, a'i ddatganiad ar Gofrestr Buddiannau'r Aelod. 2. Yn credu nad yw'r cyhoedd yn cymeradwyo derbyn y rhodd hon. 3. Yn cytuno y dylid gosod uchafswm blynyddol ar y rhoddion gwleidyddol y gall unrhyw Aelod unigol o'r Senedd eu derbyn gan unrhyw unigolyn neu endid. 4. Yn galw ar y Pwyllgor Busnes a'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad i gyflwyno cynigion ar gyfer newidiadau i Reolau Sefydlog y Senedd a Chod Ymddygiad yr Aelodau a fyddai'n rhoi'r uchafswm ar waith. Cynigiwyd y cynnig. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Rydym ninnau'n nodi pa mor rhyfeddol ydy hi bod y Prif Weinidog ei hun ddim yma i wrando ar y dadleuon yma y prynhawn yma. Rhun ap Iorwerth AC: Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru yw £225,000, felly gallwch naill ai brynu tŷ am hynny neu gallwch ddefnyddio swm tebyg i adeiladu eich achos dros fod yn arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru—etholiad mewnol plaid; mae'r swm yn syfrdanol. Nid ydym wedi gweld unrhyw beth o'r fath yng ngwleidyddiaeth Cymru. Mae £200,000 nid yn unig yn fwy na’r hyn y byddai’r cyhoedd yn ei ystyried yn dderbyniol, mae hefyd yn llawer mwy na'r rhoddion a roddwyd i ymgeiswyr llwyddiannus ac aflwyddiannus diweddar ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Lafur yng Nghymru. Enillodd Carwyn Jones a Mark Drakeford eu cystadleuaeth ar ôl cael rhwng £10,000 a £20,000. Gallaf ddweud wrthych, ym Mhlaid Cymru, mai’r cap ar gyfer etholiad o’r fath yw £5,000. Daeth rhoddion i ymgyrch Jeremy Miles, er yn swm sylweddol, i gyfanswm o lai na thraean o'r hyn a gafodd Vaughan Gething gan un rhoddwr. Gallwn gymryd i sicrwydd y gallai arian o’r fath gael effaith sylweddol ar y canlyniad, ac nid yn unig pwy a ddaeth yn arweinydd Llafur yng Nghymru, ond yn y pen draw, pwy a ddaeth yn Brif Weinidog. Ydy, mae Llafur wedi cyfaddef bod angen gofyn cwestiynau, ond bydd yr adolygiad yn cael ei gynnal gan gyn-arweinydd Llafur yng Nghymru, y byddech yn disgwyl iddo wyro efallai tuag at gynnal disgyblaeth y blaid, yn hytrach na siglo’r cwch. Mae cynnig Plaid Cymru heddiw yn galw am gap ar roddion gwleidyddol i unigolion. Mae Carwyn Jones wedi dweud y bydd ei adolygiad mewnol yn ystyried hynny. Felly, mae'n rhaid imi ddweud ei bod mor siomedig fod Llafur yma heddiw'n ceisio dileu ein cynnig yn ei gyfanrwydd, gan wrthod unrhyw gap yn llwyr yn ôl pob golwg, heb hyd yn oed awgrymu, yn eu gwelliant, eu bod yn barod i archwilio'r syniad. Nid oes unrhyw beth yng ngwelliant y Llywodraeth yn rhoi'r gydnabyddiaeth leiaf hyd yn oed i’r ffaith bod rhoddion o gannoedd o filoedd o bunnoedd yn broblematig mewn unrhyw ffordd. Wrth amddiffyn y rhodd ddoe, dywedodd y Prif Weinidog yn llithrig ei dafod nad oedd y mater yn flaenoriaeth i bobl Cymru, a’i haeriad ef oedd eu bod yn poeni mwy am yr argyfwng costau byw. Efallai na all sgwario’r cylch hwnnw, ond yn ystod yr ymgyrch, fe wnaeth Lee Waters hynny pan ddywedodd, yn gwbl briodol: 'Mae'n ddrwg gennyf, ond mae £200,000 ar etholiad mewnol mewn argyfwng costau byw yn gwbl anghyfiawnadwy.' Rwy'n cytuno. Rwy'n ategu'r teimladau hynny. Ac mae'n rhaid inni gwestiynu cyfeiriad llunio polisi yn y dyfodol, a dweud y gwir, os na all Prif Weinidog Llafur gydnabod bod derbyn cannoedd o filoedd o bunnoedd at ei ddibenion ei hun, pan fo cymaint o bobl yn ei chael hi'n anodd cael deupen llinyn ynghyd, yn bwrw amheuaeth ar ei antenau gwleidyddol. Rhun ap Iorwerth AC: Mae'r bennod yma'n codi pryderon ehangach am iechyd sylfaenol ein democratiaeth ni. Mae yna beryg o rywbeth gwenwynig yn digwydd i ddemocratiaeth yn y fan hyn, Llywydd. Mae diffyg rheoleiddio cyllid mewn gwleidyddiaeth yn broblem. Mae'n wir rhaid inni ochel rhag i wleidyddiaeth allu dod yn gêm yng Nghymru i gael ei chwarae gan y rheini sydd eisiau prynu dylanwad yn unig, neu i greu y ddelwedd bod ffafrau gwleidyddol yn cael eu prynu. Hyd yn oed os ydy'r unigolion eu hunain, fel mae'r Prif Weinidog yn yr achos yma yn dweud ei fod o, yn benderfynol o sicrhau bod yna ddim gwrthdaro buddiannau'n digwydd go iawn, mae'r argraff mor, mor bwysig. Mae Canada, Ffrainc, Iwerddon, Estonia a Slofenia—yn ôl peth o'r gwaith ymchwil rydyn ni wedi'i wneud dros yr wythnosau diwethaf—i gyd yn enghreifftiau o wledydd sydd wedi rhoi mesurau ar waith i gyfyngu ar y rhoddion y gall unigolion eu derbyn. Maen nhw i gyd yn systemau gwahanol wedi'u teilwra i'w hanghenion gwleidyddol eu hunain. Ac mae gyda ni gyfle yma yng Nghymru i gynllunio a chytuno ar y rheolau sy'n gweddu orau i'n democratiaeth ni. Mae hi o fewn gallu'r Senedd i gyflwyno cynigion ar gyfer newidiadau i Reolau Sefydlog y Senedd, a chod ymddygiad yr Aelodau, a fyddai'n rhoi cap ar waith. Wrth wneud hynny, mi ddylen ni gydgynllunio'r system efo'r rhai hynny rydyn ni'n gofyn iddyn nhw ymddiried ynddon ni: y cyhoedd. Efo cefnogaeth y cyhoedd, mi allwn ni gytuno ar gap sy'n caniatáu ar gyfer y lefelau angenrheidiol o weithgarwch gwleidyddol, a chytuno ar lefel mae'r cyhoedd hefyd yn ei ystyried yn rhesymol. Os ydych chi'n cytuno na ddylai arian, neu ddiffyg arian, fod yn rhwystr i bobl fynd i mewn i wleidyddiaeth, os ydych chi'n cytuno na ddylai arian, neu ddiffyg arian, amharu ar allu rhywun i naill ai datblygu platfform polisi neu ddylanwadu ar ei lwybr drwy'r rhengoedd gwleidyddol, ac os ydych chi'n cytuno nad oes modd cyfiawnhau rhodd o £200,000 i ymgyrch unigolyn i fod yn Brif Weinidog, dwi'n eich annog chi i gefnogi'r cynnig heddiw. Y Llywydd / The Llywydd: Yn gyntaf, mae angen imi ofyn i’r Trefnydd gynnig gwelliant 1 yn ffurfiol. Gwelliant 1—Jane Hutt Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod gan Aelodau o'r Senedd gyfrifoldeb i ddatgan buddiannau ar Gofrestr Buddiannau'r Aelodau a nodi datganiadau o'r fath lle bo'n berthnasol mewn cyfraniadau ysgrifenedig a llafar i Fusnes y Senedd. 2. Yn nodi ei bod yn ofynnol i Aelodau hefyd wirio bod rhoddion o £500 neu fwy wedi’u gwneud gan roddwyr a ganiateir, yn ogystal â rhoi gwybod i’r Comisiwn Etholiadol am fanylion llawn y rhoddion hynny sydd dros £2230. 3. Yn cydnabod bod pleidiau gwleidyddol, a'u cyrff llywodraethu cyfansoddol, yn gyfrifol am bennu a monitro cydymffurfedd â rheolau sy'n mynd y tu hwnt i'r gofynion cyfreithiol presennol. 4. Yn galw ar y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i barhau i sicrhau bod yr holl Aelodau yn bodloni'r safonau ymddygiad uchaf. Cynigiwyd gwelliant 1. Jane Hutt AC: Yn ffurfiol. Andrew R.T. Davies AC: Rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu at ddadl arall ar fater sydd wedi dal dychymyg llawer o bobl y tu hwnt i’r lle hwn yn ogystal â llawer o amser y Cyfarfod Llawn ac amser dadl hefyd. Rwyf am gofnodi am yr eildro y prynhawn yma fy siom nad yw’r Prif Weinidog yma i ymateb i’r ddadl bwysig hon, gan ei bod yn amlwg yn ddadl arall sy’n rhan o’i bortffolio o gyfrifoldebau. Gwahoddais y Trefnydd yn y ddadl flaenorol i nodi pam nad yw wedi dod yma, ac efallai fod rheswm cwbl ddilys pam nad yw yma, ond o leiaf byddwch yn ddigon cwrtais i ymateb i’r cwestiwn hwnnw fel y gallwn fod yn sicr fod y rheswm mor bwysig fel na all mor gwrtais â dod i ymateb i'r pwyntiau a gyflwynwyd iddo heddiw. Rwy'n gobeithio y byddai’r Aelodau, hyd yn oed wrth siarad o blaid y Prif Weinidog, yn cytuno bod hon yn ddadl bwysig, felly hefyd y ddadl flaenorol, ac y dylai’r Prif Weinidog fod yma yn ymateb iddi o ystyried ei bod yn rhan o'i gyfrifoldeb gweinidogol. Dywedais yn fy nghyfraniad blaenorol fod y cyhoedd, yn gywir ddigon, yn bryderus ac yn poeni am y newyddion—. Mae Hefin David, yr Aelod dros Gaerffili, yn pwyntio at yr oriel fel pe na bai unrhyw un yno. Mewn gwirionedd, mae tri yn fwy o bobl yno nag a oedd ar gyfer y ddadl ar ddiwygio'r Senedd ddoe, pan ddywedwyd wrthym ein bod yn sôn am ddeddfwriaeth hanesyddol, ac nid oedd unrhyw un yno. O, mae'n ddrwg gennyf—ni welais y bobl sy'n eistedd draw yn y fan acw. Mae pump o bobl yn yr oriel gyhoeddus heddiw. Mae'n fwy na thebyg fod wfftio'r mater mewn ffordd mor anystyriol a dweud nad yw'r cyhoedd yn poeni yn dangos diffyg cysylltiad y Prif Weinidog presennol, ac anallu ei gefnogwyr i amgyffred yr hyn sy'n digwydd ym meddyliau'r pleidleiswyr mewn perthynas â hyn. [Torri ar draws.] Rwy'n falch o dderbyn yr ymyriad. Hefin David AC: Yr hyn rwy'n ei chael hi'n anodd ei dderbyn am beth o hyn yw'r rhagrith. Derbyniodd eich plaid £10 miliwn gan rywun a ddywedodd eu bod yn mynd i saethu pobl ddu. Roedd arnynt eisiau saethu menywod du. Sut ydych chi'n teimlo ynglŷn â hynny? Andrew R.T. Davies AC: Ni ddylai unrhyw un sy’n gwneud y sylwadau hynny fyth fod yn agos at blaid wleidyddol na derbyn y rhoddion hynny. Rwy'n cytuno â’r pwynt rydych chi newydd ei wneud. Ond rydym yn dadlau mater yma sy'n ymwneud ag unigolyn, oherwydd fel y dywedais yn fy araith yn y ddadl flaenorol, ni roddwyd yr arian hwn i blaid wleidyddol. Rhoddwyd yr arian hwn i unigolyn i sicrhau rôl a fyddai yn y pen draw yn sicrhau ei le fel arweinydd y wlad y mae’n byw ynddi ac y mae’n falch o’i chynrychioli, fel pob un ohonom. Dyna’r pwynt rydym yn sôn amdano yma, ac mae'n ymwneud â doethineb—doethineb yr unigolyn sy'n Brif Weinidog bellach wrth dderbyn y rhodd sylweddol hon gan wybod bod dwy euogfarn droseddol wedi'i gwneud yn erbyn yr unigolyn a'i rhoddodd a'r cwmni y mae’n berchen arno, a'i fod hefyd wedi cael benthyciad o £400,000 gan Fanc Datblygu Cymru ac wedi rhoi cyfraniad o £200,000 i’r ymgyrch arweinyddiaeth yn yr un flwyddyn. Ac fel y dywedais yn y cwestiynau i’r Prif Weinidog ddoe, os darllenwch gyfrifon blynyddol y cwmni hwn, maent yn nodi mai un o’r manteision y mae’r cwmni yn eu gweld wrth symud ymlaen yw deddfwriaeth, a deddfwriaeth i wella rhagolygon y cwmni hwnnw. Nid fy ngeiriau i mohonynt—maent yn y cyfrifon sydd wedi'u ffeilio yn Nhŷ'r Cwmnïau, sy'n nodi'r hyn y mae'r cwmni am ei gyflawni. Felly, mae'r cwmni wedi rhoi £200,000 mewn pot y mae'n ei nodi fel llwybr posibl at allu dylanwadu ar ddeddfwriaeth sy'n llywodraethu rhagolygon a phroffidioldeb y cwmni hwnnw. Mae hynny yno. Mae hynny yn eu geiriau eu hunain. Ni allwch ddiystyru hynny. Ac fel y gwelsom yn y cwestiynau i’r Prif Weinidog ddoe, codwyd gwastadeddau Gwent gan John Griffiths, a gwelsom bryd hynny Julie Morgan o Ogledd Caerdydd yn tynnu sylw at y cwmni tacsis a roddodd gyfraniad sylweddol hefyd o £25,000. Faint o bethau na all y Prif Weinidog siarad amdanynt gan fod ganddo’r gwrthdaro buddiannau hwn, oherwydd lefel y rhoddion a'r ffaith ei fod wedi derbyn arian i sicrhau ei rôl fel y Prif Weinidog? Dyna’r ddadl, a dyna’r drafodaeth. Mae'n ymwneud â doethineb ac ateb, felly, i'w roi ar waith i ddod o hyd i'r farn annibynnol honno a fydd naill ai'n dweud, 'Na, nid oes gwrthdaro buddiannau yma o ran cod y Gweinidogion, ac nid oes unrhyw ganfyddiad o dorri'r cod hwnnw'—. Oherwydd mae’n bwysig fod y cod yn cyfeirio at ganfyddiad. Mae yno mewn geiriau, fe’i darllenwyd wrth grynhoi’r ddadl ddiwethaf ac yn fy sylwadau agoriadol, ac ni ymatebodd y Trefnydd i’r pwynt hwnnw o gwbl, dim ond ailadrodd llawer o'r dadleuon a gyflwynwyd gan y Llywodraeth nad ydynt, a dweud y gwir, wedi distewi'r beirniaid mewn perthynas â'r pwynt penodol hwn. Ac nid yw llawer o'r beirniaid hynny'n gwisgo rhosedau glas, nid ydynt yn gwisgo rhosedau melyn, nid ydynt yn gwisgo rhosedau gwyrdd—maent yn gwisgo rhosedau coch, ac mae hynny'n wahaniaeth pwysig yn y mater hwn, sy'n rhywbeth rwy'n ei edmygu yn y Blaid Lafur, sef y ddisgyblaeth a’r cyfrifoldeb cyfunol y byddwch bob amser yn ei ysgwyddo i sicrhau eich bod yn parhau i fod mewn Llywodraeth. Ond yma, gallwch weld yn glir fod camweddau wedi'u gwneud wrth dderbyn y rhodd hon sydd wedi cael effaith ar eich rhagolygon. Ac rwyf wedi fy syfrdanu eto gyda'r cynnig hwn fod y Llywodraeth wedi cynnig gwelliant 'dileu popeth' ar ei gyfer. Byddwn yn ymatal ar y cynnig hwn gan y credwn fod mwy o waith i’w wneud ar y cap ar roddion. Nid ydym yn credu ei bod yn anghywir i ystyried cap, ond a oes gan gwmpas y ddadl heddiw'r gallu i gyfleu’r holl deimladau sydd eu hangen i ddeall beth yw cyfarwyddyd a chwmpas y gwaith y bydd y Pwyllgor Busnes a’r pwyllgor safonau yn ei wneud? Ac felly dyna pam y bydd y Ceidwadwyr yn ymatal ar y cynnig, ond byddem yn barod i barhau i weithio gyda Phlaid Cymru ac unrhyw bleidiau eraill, fel y gall y Senedd fwrw ymlaen â'r gwaith hwn gyda dealltwriaeth gliriach o gylch gorchwyl y cyfarwyddyd, fel ein bod yn sicrhau nod ar ei gyfer yn hytrach na'i fod yn diflannu i lawr twll cwningen ac nad ydym yn cael yr ateb yr hoffai pob un ohonom ei weld. Hefin David AC: Mae Andrew R.T. Davies wedi gwneud yr un araith ddwywaith nawr, ac nid yw’n gwella o'i hailadrodd. Mae angen imi ymateb i bwynt Sam Kurtz. Dywedodd Banc Datblygu Cymru fod y benthyciad—roedd yn yr un pwyllgor â minnau, felly dylai fod wedi ei gofio—yr arian, wedi’i ddyrannu at y diben penodol y'i benthycwyd ac na ellid ei wario ar unrhyw fater arall gan fod trywydd archwilio. [Torri ar draws.] Wel, ni allwch ganfod rhywbeth y profwyd eisoes nad yw'n wir; nid oes canfyddiad. Felly, hoffwn fynd i'r afael â dau fater: sêl bendith y cyhoedd a'r cap blynyddol, gan y credaf eu bod yn faterion difrifol y mae angen mynd i'r afael â nhw, ac rwyf am gloi gyda fy marn arnynt. A gwn y bydd fy nghyd-Aelod, Vikki Howells, fel cadeirydd y pwyllgor safonau, yn rhoi sylw i bwynt olaf y cynnig. Sêl bendith y cyhoedd—wel, credaf mai’r broblem sydd gennym yw os ydym yn dechrau edrych ar y pethau hyn drwy’r lens hon, fe fyddwch yn condemnio'r Senedd gyfan ac yn niweidio enw da’r Senedd ar draws y grwpiau gwleidyddol, oherwydd yn 2019, rhoddwyd £140,000 i Blaid Cymru gan Julian Dunkerton, cyd-sylfaenydd Superdry, ac yn 2022, bu’n rhaid i’r cwmni hwnnw dalu £96,208 i weithiwr benywaidd ar ôl eu cael yn euog o ddiswyddo annheg a gwahaniaethu ar sail oed. Nawr, y peth am hynny, busnesau—mae ganddynt y mathau hyn o hanes. A ydym wedyn yn dweud 'na' wrth bob rhodd? [Torri ar draws.] Nid wyf yn derbyn ymyriad. Rhun ap Iorwerth AC: [Anghlywadwy.] Hefin David AC: Dof yn ôl at hynny mewn eiliad— Rhun ap Iorwerth AC: [Anghlywadwy.]—i ymateb. Hefin David AC: Credaf fod angen tynnu sylw at hyn. Er eglurder, nid wyf yn eich beirniadu yn ei gylch. Nid wyf yn beirniadu. Yr hyn rwy'n ei ddweud yw—. [Torri ar draws.] Dwy eiliad. Gadewch imi orffen yr hyn rwy'n ei ddweud. Mae angen i hyn ddangos yr anghysondebau y disgwylir i wahanol Aelodau mewn gwahanol bleidiau gydymffurfio â nhw. Rhun ap Iorwerth AC: Os ydych yn derbyn ymyriad. Rwy’n ddiolchgar ichi am dderbyn ymyriad. Rydych yn tynnu sylw at un rhodd benodol. Mae'n rhaid imi nodi nifer o bethau: (a) rhodd i'r blaid oedd honno yn hytrach na rhodd i unigolyn, sef yr hyn rydym yn sôn amdano heddiw, ac mae'n rhodd lawer llai, gyda llaw, o gymharu â rhoddion a chyfraniadau a roddwyd i'r Blaid Lafur. Derbyniwyd y rhodd honno dair blynedd cyn i bryderon gael eu codi am hawliau cyflogaeth. Hefin David AC: Nid oes angen ichi amddiffyn eich hun. Rhun ap Iorwerth AC: Derbyniodd y Prif Weinidog y rhodd hon—tair gwaith y swm a dderbyniwyd gan Blaid Cymru, ar ôl i euogfarnau am droseddau amgylcheddol gael eu nodi. Mae hefyd yn dweud bod y cwestiynau ynghylch rhoddwr Plaid Cymru— Hefin David AC: Mae hwn yn fwy nag ymyriad nawr. Y Llywydd / The Llywydd: [Anghlywadwy.]—ymyriad. Hefin David AC: Araith yw hon. [Torri ar draws.] Na, araith yw hon. Y Llywydd / The Llywydd: [Anghlywadwy.] Rhun ap Iorwerth AC: Ond mae hyn yn hollbwysig— Hefin David AC: Rwy'n barod, Lywydd, i—. Beth bynnag y mae'n anhapus yn ei gylch yn yr hyn a ddywedais— Y Llywydd / The Llywydd: Na, na. Gadewch i Rhun orffen yn gyflym. Rhun ap Iorwerth AC: Fe wnaf, yn gyflym. Ac mae hyn yn ymwneud yn benodol â hawliau cyflogaeth. Derbyniodd y Prif Weinidog hefyd £25,000 gan gwmni tacsis Veezu sydd wedi bod yn destun cwynion am hawliau cyflogaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Hefin David AC: Iawn. Felly, yn gyntaf oll, rwy'n barod i dderbyn beth bynnag y mae'n ei ddweud, ond nid dyna destun y cynnig; testun y cynnig yw cap ar roddion. Nid yw'n destun—. Nid yw'n sôn, mewn gwirionedd, am y materion sy'n cael eu codi—[Torri ar draws.] Y Llywydd / The Llywydd: Gadewch i'r— Hefin David AC: Iawn, gadewch inni sôn am roddion unigol felly. Ar 10 Mawrth 2014, derbyniodd Plaid Cymru Ynys Môn £121,891.43—[Torri ar draws]. Na. Derbyniodd £121,891.43 gan unigolyn—Plaid Cymru Ynys Môn. Roedd hynny ychydig fisoedd ar ôl i Rhun ap Iorwerth gael ei ethol, ym mis Awst, i Siambr y Senedd hon. Mae ar wefan y Comisiwn Etholiadol, ac unwaith eto, nid wyf yn beirniadu hynny—[Torri ar draws.] Ond cyfanswm y rhodd i'r blaid mewn un etholaeth—[Torri ar draws.] Cyfanswm y rhodd i'r blaid mewn un etholaeth—[Torri ar draws.] Y Llywydd / The Llywydd: Mater i'r Aelod yw derbyn ymyriad ai peidio. Hefin David AC: Nid wyf yn derbyn ymyriad. [Torri ar draws.] Nid wyf yn derbyn ymyriad. [Torri ar draws.] Felly, cyfanswm y rhodd i'r blaid mewn un etholaeth— Y Llywydd / The Llywydd: Eisteddwch, Rhun ap Iorwerth. Hefin David AC: —oedd £141,584.92 gan un rhoddwr. Nawr, gallaf ddweud wrthych mai oddeutu £3,000 neu £,4000 sydd yn y banc gan y blaid yn etholaeth Caerffili—rwy'n siŵr y bydd Delyth yn falch o glywed. Ond roedd y blaid yn Ynys Môn yn derbyn rhodd o £141,000 gan y Comisiwn Etholiadol. Nawr, pam, felly, na ddywedodd Rhun ap Iorwerth, yn 2013, pan oedd yr arian hwn yn y banc gan y blaid yn ei etholaeth, y dylai fod cap ar roddion bryd hynny? Mae'n gwestiwn diddorol. [Torri ar draws.] Na. Oherwydd yr hyn rwy'n ei ddweud—. Nid wyf yn derbyn ymyriad, nac ydw. Nid wyf am gael fy nistewi, Lywydd. Lywydd, mae'r ddwy ochr yn gweiddi arnaf am wneud pwyntiau rhesymol mewn dadl. [Torri ar draws.] Y Llywydd / The Llywydd: [Anghlywadwy.]—cael eich distewi gan unrhyw un heblaw fi. Parhewch, Hefin David. Hefin David AC: Diolch, Lywydd. Y Llywydd / The Llywydd: Gallwch eistedd nawr, Rhun ap Iorwerth. Hefin David AC: Felly, rydym yn gofyn, 'Pam na chododd y cap ar roddion bryd hynny?' Mae’n gwestiwn rhesymol i’w ofyn, ac nid wyf yn ei feirniadu am hynny. Os yw'r blaid yn eich etholaeth yn derbyn y math hwnnw o arian, mae hynny'n berffaith iawn, ond peidiwch â bod yn rhagrithiol. Gadewch inni gofio bod ffugsancteiddrwydd yn gefnder agos i ragrith, ac os ydych yn ffugsanctaidd, yn hwyr neu'n hwyrach, rydych yn mynd i fod yn rhagrithiol, fel y mae Plaid Cymru wedi ei wneud heddiw, yn anffodus. [Torri ar draws.] Na, mae fy amser wedi dod i ben. Felly, yr hyn y byddwn yn ei ddweud yw nad wyf yn cytuno â'r syniad o bleidiau gwleidyddol yn cael eu hariannu'n gyhoeddus—cael y trethdalwr i ariannu pleidiau gwleidyddol; ni chredaf fod hynny'n iawn. Ond wedi dweud hynny, mae Plaid Cymru yn gwneud pwynt diddorol yn eu cynnig. Nid wyf am ei gefnogi, gan y credaf y byddai angen ichi edrych arno’n llawer mwy manwl cyn ichi ofyn i drethdalwyr ariannu pleidiau gwleidyddol, ac ymgeiswyr unigol yn wir. Ond rwy'n credu bod angen inni gydnabod y rhagrith ar bob ochr i'r Siambr, y ddwy ochr i'r Siambr, yma heddiw, ac os llwyddwch i osgoi ffugsancteiddrwydd, gallwch osgoi hynny. Os ydym yn malio am ein democratiaeth heddiw, nawr yw'r amser i symud ymlaen. Adam Price AC: Rwy'n credu bod hwnnw’n gyfraniad gwael iawn gan fy nghyd-Gomisiynydd y Senedd. Rwy'n gobeithio nad oes ots ganddo fy mod yn dweud hynny ar y dechrau. Edrychwch, mae arian mewn gwleidyddiaeth, pryderon yn ei gylch—mae wedi bod yn un o ysgogiadau'rhyn y buom yn sôn amdano ddoe, y lleihad mewn ymddiriedaeth mewn democratiaeth ac mewn gwleidyddion, mewn gwleidyddiaeth. Rydym wedi bod yn imiwn rhagddo yng Nghymru ar y cyfan, gan nad oes llawer o bobl â phocedi dwfn wedi bod yn awyddus i fuddsoddi mewn gwleidyddiaeth. Mae’r broblem honno gennym nawr, o ganlyniad i’r hyn sydd wedi digwydd, a chredaf ei bod yn bwysig inni gael trafodaeth aeddfed ynglŷn â sut y gwnawn ddatrys y broblem honno. Cyfeiriwyd at lefelau cymeradwyaeth, oni wnaed, yng nghyd-destun yr hyn rydym yn sôn amdano. Edrychwch, rhowch y gorau i'r dadleuon hyn rhwng pleidiau gwleidyddol yr ydym newydd eu clywed, iawn? Gadewch inni ddyrchafu'r drafodaeth i'r hyn sy'n wirioneddol bwysig. Nid oes diddordeb gennyf yn y lefelau cymeradwyaeth i wleidyddion unigol na hyd yn oed pleidiau yn y tymor byr, y tymor canolig na'r tymor hir; rwy’n bryderus iawn am gymeradwyaeth y cyhoedd i’r sefydliad hwn ac i’n democratiaeth yng Nghymru. Ac edrychwch, yn wrthrychol, credaf ei bod yn anodd iawn gwadu y bydd yr ymddiriedaeth honno yn ein gwleidyddiaeth wedi cael ergyd, o ganlyniad i'r rhodd hon a phopeth o'i chwmpas. Rwy'n ceisio bod yn wrthrychol a chamu'n ôl yma. Rwy'n credu bod hynny'n sicr yn wir. Yr hyn y mae’r cynnig hwn yn ceisio ei wneud yw dod o hyd i ateb i hynny, onid e? Nid oes gennym bŵer i ddeddfu mewn perthynas â rhoddion i ymgyrchoedd, rhoddion gwleidyddol; mae hwnnw'n fater a gedwir yn ôl i San Steffan. Ond mae gennym bŵer dros ein Rheolau Sefydlog ein hunain a'n cod ymddygiad, sef yr hyn y mae'r cynnig hwn yn ei awgrymu: ein bod yn cyflwyno cap mewn perthynas â hynny. Oherwydd bydd rhai pobl, mewn etholiad agos, o'r farn fod arweinyddiaeth y Llywodraeth, y rôl uchaf, swydd y Prif Weinidog, wedi'i phrynu o ganlyniad i rodd. Rhoddir rhoddion gwleidyddol am un o ddau reswm. Mewn un achos, mae gennych unigolion cyfoethog a chanddynt hanes gwirioneddol—. Hynny yw, mae ganddynt hanes o ymgysylltiad gwleidyddol, maent yn credu'n gryf mewn achos penodol, plaid wleidyddol—dyna un achos. Yr achos arall yw, yn sydyn, o unman, maent yn arwyddo siec, ac rydych chi wedyn yn pendroni, 'Pam y gwnes i arwyddo'r siec honno?' A oes unrhyw un yn gwybod pam fod David Neal wedi rhoi'r arian hwn i Vaughan Gething? Oherwydd yn sicr, nid wyf i'n gwybod, ac rwy'n credu y bydd llawer o bobl yn gofyn y cwestiwn hwnnw. Mae'n rhaid inni ymateb i'r sefyllfa hon gyda'n gilydd, ar draws y pleidiau, a'r ffordd y gwnawn hynny yw drwy osod cap ar yr hyn sy'n dderbyniol i Aelodau'r Senedd ei dderbyn. Rwy’n siomedig nad yw’r Ceidwadwyr yn gallu cefnogi'r cynnig nawr, ond rwy'n gobeithio, mewn trafodaethau pellach, y gallant wneud hynny. Yn sicr, ar feinciau Llafur—anghofiwch yr hyn sydd wedi digwydd am funud, a meddyliwch am y dyfodol. Meddyliwch am y dyfodol. Rydych yn dweud eich bod am symud ymlaen. Wel, meddyliwch am symud ymlaen, iawn? Meddyliwch am gael rheolau, fel y gallwn fynd allan yno a gall pob un ohonom fod yn falch o'r rheolau sydd gennym dros ein democratiaeth yng Nghymru. Cynigiodd y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus gap ar roddion i unigolion—y math o gapiau sydd, fel y dywedodd Rhun, yn bodoli mewn llawer iawn o wledydd. Yn Iwerddon, rwy'n credu ei fod mor isel—beth ydyw? Oddeutu €250—ychydig gannoedd o ewros. Edrychwch, gallwn wneud hynny yng Nghymru ar ran ein Senedd. Dyna y galwai'r Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus amdano 13 mlynedd yn ôl, a chafodd ei atal yn San Steffan. Mae gennym bŵer i osod safon wahanol yma ar gyfer ein democratiaeth gan na ddylai unrhyw un fod o dan yr argraff fod arian yn siarad, fod arian yn gallu rheoli dyfodol ein gwleidyddiaeth, ein democratiaeth. Mae er budd pob un ohonom, pob plaid a gynrychiolir yma, pob un ohonom sy’n credu yn ein democratiaeth, i wneud yr hyn y mae’r cynnig hwn yn ei ddweud: gosod safon ar gyfer ein democratiaeth yng Nghymru sy’n dweud na ddylai arian, mynediad at arian, fyth chwarae unrhyw ran yn nyfodol ein gwlad; rydym yn gwneud pethau'n wahanol yma yn seiliedig ar egwyddor un unigolyn, un bleidlais, nid maint llyfr siec i bennu ein dyfodol gwleidyddol. Vikki Howells AC: Hoffwn ddweud yn glir y byddaf yn siarad y prynhawn yma yn rhinwedd fy swydd, a dim ond yn rhinwedd fy swydd, fel Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, a byddaf yn rhoi sylw i’r pwyntiau yn y cynnig, sy’n cyfeirio’n benodol at y pwyllgor hwnnw. Fel Cadeirydd y pwyllgor safonau, rwy'n croesawu unrhyw ddadl am atebolrwydd Aelodau; mae’n ffordd bwysig o atgoffa pob Aelod o’u cyfrifoldeb i gofrestru a datgan buddiannau cofrestradwy a pherthnasol er mwyn sicrhau’r tryloywder a’r hyder mwyaf yn y Senedd hon. Mae'r gofrestr o fuddiannau yn allweddol er mwyn galluogi'r cyhoedd i weld buddiannau'r Aelodau. Mae'r canllawiau ar gofrestru, datgan a chofnodi buddiannau ariannol a buddiannau eraill yn nodi'n gwbl glir nad yw'r gofynion hyn yn ddewisol nac yn wirfoddol. Mae Rheol Sefydlog 2 yn nodi’r gofynion i Aelodau gofrestru a datgan buddiannau, ac mae gan yr atodiad i’r Rheol Sefydlog honno 10 categori o fuddiannau cofrestradwy. Mae gofyniad hefyd i gofrestru buddiannau perthnasol o dan Reolau Sefydlog 13.8A a 17.24A. Mae cwmpas y gofyniad hwn yn ehangach na'r gofynion o dan Reol Sefydlog 2. Ac mae gonestrwydd yn hanfodol i bob un ohonom wrth benderfynu a oes angen datganiad o dan y Rheol Sefydlog hon ai peidio. Mae'r pwyllgor yn gyfrifol am sicrhau bod y gofrestr yn cael ei chadw a'i bod yn hygyrch. Rydym wedi adolygu’r gofynion ar Aelodau o bryd i’w gilydd, a byddwn yn parhau i sicrhau y cynhelir adolygiadau rheolaidd o’r gofrestr a’r broses gofrestru. Yr haf diwethaf, yn rhan o’r broses adolygu hon, cynhaliodd y pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus ar gofrestru a datgan buddiannau. Cododd y dystiolaeth a gasglwyd gennym o’r ymgynghoriad hwn nifer o faterion yr ydym yn y broses o fynd i'r afael â nhw. Mae’r rhain yn cynnwys, er enghraifft, yr angen i Aelodau ychwanegu amcangyfrif o werth ar gyfer rhoddion a lletygarwch, yn ogystal â chyflwyno categori amrywiol newydd i ganiatáu i Aelodau gofrestru materion a allai fod o ddiddordeb i’r cyhoedd, ond nad oes lle priodol iddynt mewn mannau eraill ar y gofrestr. Lluniwyd yr ymgynghoriad hwn yn rhannol gan faterion a gafodd eu dwyn i sylw'r pwyllgor gan Aelodau ar gofrestru a datgan buddiannau. Amlygodd yr ymatebion a ddaeth i law yr angen am rai newidiadau i ba fuddiannau sy'n cael eu cofrestru a'r wybodaeth y mae angen ei darparu a'i chyhoeddi er mwyn sicrhau'r tryloywder mwyaf posibl. Byddwn yn edrych yn ofalus ar arferion gorau mewn mannau eraill i sicrhau bod cofrestr y Senedd mor dryloyw â rhai Seneddau tebyg, os nad yn fwy felly. Felly, bydd y pwyllgor yn cyflwyno cynigion i ddiwygio’r gofynion cofrestru fel y’u nodir yn y Rheolau Sefydlog ar gyfer y seithfed Senedd. Ochr yn ochr â chyfrifoldebau’r pwyllgor a’r Senedd, mae gan y Comisiwn Etholiadol rôl bwysig hefyd yn rheoleiddio rhoddion a benthyciadau i bleidiau gwleidyddol a gwleidyddion. Ar hyn o bryd, mae angen lefelau gwahanol o fanylion ar y Senedd a’r Comisiwn Etholiadol wrth gofrestru’r un rhoddion, felly byddwn yn ceisio sicrhau cysondeb yn hyn o beth yn y dyfodol. Mae’r pwyllgor bob amser yn fwy na pharod i ystyried unrhyw fewnbwn gan Aelodau neu eraill yn ein gwaith ar y gofrestr o fuddiannau, felly hoffwn annog yr Aelodau i barhau i ymgysylltu â’r pwyllgor wrth i’n gwaith ar y mater hwn fynd rhagddo. Diolch. Heledd Fychan AS: Hoffwn ddiolch yn arbennig i chi, Adam, am droi’r ddadl yn ôl at yr hyn sy’n bwysig yma, ac adlewyrchu hefyd, wrth wrando, ar y ddadl flaenorol a’r ddadl hon, ar rai o’r dadleuon rydym wedi bod yn eu cael, i edrych ar ddiwygio’r Senedd, am y rhwystrau i gyfranogiad, pam nad yw pobl yn sefyll etholiadau ar hyn o bryd, a pham nad ydym yn adlewyrchu’r boblogaeth gyfan. Ac arian yw'r rheswm am rywfaint o hynny, oherwydd faint o bobl a all fforddio cymryd gwyliau di-dâl? Faint ohonom a aeth i ddyled wrth sefyll etholiad, a dechrau yma gyda chyfrif banc yn y coch? Oherwydd dyna'r realiti i rai pobl yma, ac i lawer o'r rhai na lwyddodd i gael eu hethol yma. Ac rwy'n angerddol am sicrhau na ddylai arian byth fod yn rhwystr i unrhyw un feddwl na allent fod yma. Ond ni ddylai arian ychwaith fod yn rhwystr i unrhyw un sydd am fod yn Brif Weinidog ein gwlad. Dylai pob plentyn yng Nghymru sy’n ymweld â’r fan hon, pan awn i ysgolion, allu credu y gallent hwythau hefyd fod yn Brif Weinidog rhyw ddiwrnod. Mae hynny'n rhywbeth rydym yn ei ddweud wrthynt. Ond os ydynt yn edrych ar y rhoddion yma—ac mae gan lawer ohonynt ddiddordeb yn hyn, maent wedi clywed amdano, yn union fel y gwnaethant gyda'r terfyn 20 mya—. I feddwl nad ydym yn sôn am £200,000, mewn gwirionedd, rydym yn sôn am £321,600 mewn arian parod, £24,200 mewn ffyrdd eraill, ar gyfer un ymgyrch arweinyddiaeth—mae hynny'n anodd iawn ei gyfiawnhau. Pan fyddwn yn mynd o amgylch ein hetholaethau a’n rhanbarthau, rydym yn gweld y materion y mae’r Prif Weinidog am i ni eu trafod, megis costau byw, ond sut y gallwn ddweud ein bod yn mynd i’r afael â rhai pethau ond yn gweithredu mewn ffordd wahanol? A chredaf mai dyna yw craidd y mater—fod rhywbeth wedi digwydd lle gallwn drafod a dorrwyd unrhyw reolau, ond mae'n rhaid cwestiynu doethineb y Prif Weinidog presennol, a dyna pam nad yw'r cwestiwn hwn yn mynd i ddiflannu, a pham fod angen inni gymryd camau i adfer ymddiriedaeth. Mae arnom angen adolygiad cyhoeddus o gyllid ymgyrchoedd, a dylai fod yn atebol i bobl Cymru, nid aelodaeth y Blaid Lafur. Rydym yn galw heddiw, felly, ar y Senedd i wneud mwy, er mwyn sicrhau na ellir prynu ein democratiaeth, fel y dywedwyd. Gwyddom faint o niwed y gall cyllid ymgyrchoedd amheus ei wneud i'n sefydliadau democrataidd. Mae wedi dod i amlygrwydd clir yn ystod yr wythnosau diwethaf. Ac fel y clywsom eisoes, mae llawer o enghreifftiau rhyngwladol o arferion gorau y gallem geisio eu hefelychu wrth inni geisio atal unrhyw danseilio pellach ar uniondeb democratiaeth Cymru. Onid yw’n briodol ein bod yn cael y ddadl hon ar adeg o ddiwygio’r Senedd lle rydym yn sôn am wneud ein hunain yn fwy atebol, yn fwy cynrychioliadol? Wel, beth am sicrhau ein bod yn hollol wahanol o ran rhoddion hefyd? Rydym yn galw am gap ar y rhoddion gwleidyddol y gall unrhyw Aelod unigol o'r Senedd eu derbyn gan unrhyw unigolyn neu endid, ac ni welaf unrhyw reswm pam na ddylai’r cynnig hwn ennyn cefnogaeth pob un ohonom yn y Siambr hon. Gwn fod Aelodau ar draws y Senedd, gan gynnwys ar y meinciau Llafur, yn pryderu'n fawr ynglŷn â diffyg doethineb y Prif Weinidog yn ogystal â'r effaith y mae’r bennod druenus hon wedi’i chael ar ffydd y bobl a gynrychiolwn. Mae wedi tanseilio hyder y cyhoedd yn ein democratiaeth. Ac felly, carwn eich gwahodd i ymuno â ni ar y llwybr i adfer yr hyder hwnnw. Mae’n siomedig nad yw’r Prif Weinidog yma. Mae’n siomedig fod y Prif Weinidog, yn ôl pob golwg, yn diystyru’r pryderon a godwyd, yn hytrach nag ymateb yn uniongyrchol iddynt: £321,600 mewn arian parod, £24,200 mewn ffyrdd eraill—a ydym o ddifrif yn credu bod hynny’n dderbyniol er mwyn dod yn Brif Weinidog? Nid wyf i'n credu hynny, yn sicr, ac nid oes unrhyw un rwy'n eu cynrychioli yr wyf wedi siarad â nhw am y mater yn credu hynny ychwaith—ac mae gan bobl farn gref, credwch fi, ym marchnad Pontypridd, ar y mater hwn. Felly, gadewch inni sicrhau nad yw hyn byth yn digwydd eto. Ond erys y cwestiynau, ac rwy'n credu bod yn rhaid i’r Prif Weinidog dalu’r arian hwnnw yn ôl, oherwydd, os ydym am symud ymlaen, dyna’r unig ffordd y gellir adfer ymddiriedaeth go iawn. Ac ni all barhau i ddiystyru hyn. Mae hwn yn fater difrifol, a dylai fod yma i ateb, a dylai dalu'r arian yn ôl. Lee Waters AC: Rwyf wedi'i chael hi'n anodd prosesu fy nheimladau am y materion ger ein bron heddiw, ac mae hon yn araith y byddai’n well gennyf fod wedi’i hosgoi. Pan gyhoeddwyd y newyddion am y rhodd, dywedais yn syth fy mod yn credu ei bod yn gyfeiliornus ac na ellid ei chyfiawnhau—mae hynny wedi'i gofnodi—ac nid yw fy marn wedi newid. Mae £200,000 yn swm syfrdanol o arian, na welwyd ei debyg yng ngwleidyddiaeth Cymru, a thros bedair gwaith yn fwy na’r cap gwario o £45,000 a osodwyd gan y Blaid Lafur i sicrhau cystadleuaeth deg. A chefais fy syfrdanu’n fawr iddo ddod gan gwmni gwastraff sydd ag euogfarn am wneud niwed i wastadeddau Gwent, ar adeg pan oedd rhai ohonom yn brwydro’n galed i warchod yr ardal sensitif hon. O ddifrif, fe wnaeth fy syfrdanu. Nawr, mae’r Prif Weinidog wedi dweud bod y rhoddion i’w ymgyrch wedi’u gwirio a’u ffeilio’n gywir gyda’r Comisiwn Etholiadol a’u datgan i’r Senedd ac nad oes achos i’w ateb. Ond ni chredaf mai'r hyn sydd dan sylw yw a oedd y gwaith papur yn gywir; y mater dan sylw yw a oedd ei ddoethineb yn gywir. Nawr, rwy'n croesawu penodi Carwyn Jones i edrych ar y rheolau ar gyfer etholiadau yn y dyfodol, ac mae’r awgrym yng nghynnig Plaid Cymru o gap gwariant i bob un ohonom yn haeddu ystyriaeth, ond byddai cytuno iddo heddiw yn rhagfarnu’r adolygiad. Ac rwy'n amau efallai y bydd yn dweud rhywbeth tebyg yn y pen draw, ond hoffwn roi amser i'r broses honno brofi'r dadleuon yn iawn ac ystyried y canlyniadau anfwriadol. Felly, ni fyddaf yn cefnogi cynnig Plaid Cymru. Byddaf yn cefnogi’r Llywodraeth. Ond rwy'n gobeithio y bydd y Prif Weinidog yn myfyrio ar fy mhryderon ac yn eu cymryd yn yr ysbryd y'u bwriedir. Mae cynnig y Ceidwadwyr, fel y dywedodd Hefin David yn gywir ddigon, yn seiliedig ar ragosodiad ffug. Fel cyn-Weinidog yn adran yr economi, gwn fod penderfyniadau ar fenthyciadau gan y banc datblygu yn cael eu gwneud ar sail hyd braich, er mwyn osgoi gwrthdaro buddiannau. Felly, mae’r Prif Weinidog yn hollol iawn yn hynny o beth. A byddai gan y Torïaid, os caf ddweud, fwy o hygrededd pe baent wedi codi eu llais pan gafodd y ddau Ysgrifennydd Cartref diwethaf, y Canghellor, a hyd yn oed cyn-Brif Weinidog y DU, Boris Johnson, nid yn unig eu cyhuddo o dorri cod y Gweinidogion ond eu dyfarnu o fod wedi torri cod y Gweinidogion. Ond beth a oedd gan Rishi Sunak a’r Ceidwadwyr Cymreig i’w ddweud am hynny? Dim o gwbl. Felly, gall pob un ohonom weld drwy eu safonau dwbl, ond y rheswm pam fy mod siarad y prynhawn yma yw am ein bod i fod yn well na hynny. Y pwynt am ddatganoli, y lle hwn—Senedd a grëwyd gennym o’r newydd—yw ein bod yn gosod safonau uwch. Bum mlynedd ar hugain yn ôl, roeddem yn sôn am ddatganoli fel dechrau gwleidyddiaeth newydd, ond ymddengys bod llai o enw da gan wleidyddiaeth a gwleidyddion nag erioed. Mae’r Prif Weinidog wedi dweud nad yw’n credu bod ei lefelau cymeradwyaeth wedi’u heffeithio gan y ddadl, ac mae'n rhaid imi ddweud bod hynny wedi fy synnu a fy mhoeni. Nid i ba raddau y mae'r arolygon barn yn cadarnhau hynny yw'r pwynt. Yn sicr, nid y cwestiwn yw beth y gall unrhyw un ohonom osgoi cael ein cosbi am ei wneud; y cwestiwn yw beth sy'n iawn. A'r ffaith bod rhai pleidleiswyr yn ddi-hid—dyna ddylai ein poeni. Ymhell o fod yn gymeradwyaeth, ofnaf ei fod yn awgrymu bod pob un ohonom wedi ein paentio â'r un brwsh. Ac mae pob un ohonom yn ei glywed: 'Rydych i gyd yr un peth,' 'Rydych yn ei wneud er eich lles eich hun,' 'Rydych yn ceisio eich mantais ei hun.' Nid yn unig fod hynny'n dorcalonnus i lawer ohonom sy’n ystyried gwleidyddiaeth yn wasanaeth cyhoeddus diffuant, yn aberth, mae hefyd yn beryglus i wead ein democratiaeth ar adeg pan fo'r ddemocratiaeth honno eisoes dan straen aruthrol. Mae academyddion yn ei alw'n 'ddinistrio'r norm'. Pan fydd safonau ymddygiad cyffredin—normau—yn cael eu tanseilio, maent yn dweud bod disgwyliadau'n gostwng, ac mae hynny’n gosod y sylfaen ar gyfer set newydd o safonau gwannach. Dyna pam fod angen inni fynd i'r afael â'r sefyllfa hon, ac rwy'n anghyfforddus iawn ynglŷn â'r ffordd y disgwylir imi i bob pwrpas gymeradwyo rhywbeth y credaf ei fod anghywir, ac nid wyf wedi codi fy llais ers i'r newyddion am y rhodd ddod i'r amlwg 10 wythnos yn ôl, gan fy mod am roi amser i’r mater gael ei ddatrys, ond nid yw hynny wedi digwydd. Felly, er eglurder: i mi, nid mater o hyder yw hwn, ond mater o gydwybod. Edrychwn at ein harweinwyr i fodelu'r ymddygiad rydym am ei weld, i adlewyrchu ein cenedl ac i osod esiampl. Mae'n gyfrifoldeb aruthrol, ac mae'n arbennig o bwysig mewn democratiaeth mor ifanc â'n democratiaeth ni. Mae cod y Gweinidogion yn nodi, 'ar y Gweinidogion eu hunain y mae’r cyfrifoldeb o hyd am lynu wrth y Cod ac am y penderfyniadau a wnânt.' Nid oes angen canolwr annibynnol i'w gynnal; mae'n god anrhydedd. Nid yw cod y Gweinidogion yn gontract cyfreithiol ychwaith. Nid y prawf yw sut i ddod o hyd i fwlch ynddo; mae'n god moesol. Nawr, gellir unioni'r sefyllfa hon. Rwy'n gobeithio y caiff ei hunioni. Ond y cam cyntaf i ddatrys unrhyw broblem yw cydnabod bod yna broblem. Ac ni fyddai'n arwydd o wendid i ddweud mai camgymeriad oedd derbyn y rhodd, a chan fod yr holl ffeithiau'n hysbys nawr, ei rhoi yn ôl. Gellir gwneud hynny o hyd, a dylid gwneud hynny yn fy marn i, ac weithiau, gwneud y peth iawn yw'r peth anoddaf, ond anaml y byddwch yn difaru gwneud hynny yn y pen draw. Diolch. Delyth Jewell AC: Gant a hanner o filltiroedd o'r fan hon, mae palas ger afon Tafwys lle nad yw'r drewdod yn dod o'r dŵr budr yn unig. Yn San Steffan, mae'r pydredd wedi treiddio i'r waliau, gan lenwi'r lle â diwylliant llwgr a madreddog. Nid ydym am i’n Senedd gael ei difwynoâ sgandalau fel y rheini sy’n gyffredin yn San Steffan. Holl bwynt datganoli yw y gallwn ac y dylem wneud pethau’n wahanol yng Nghymru, y gallwn ac y dylem ddisgwyl gwell ar gyfer democratiaeth Cymru. Dylai mwy na thraffordd wahanu’r Senedd hon oddi wrth y palas pydredig hwnnw, man yr amlenni brown, arian am anrhydeddau, lobïwyr anghyfreithlon, man lle sefydlodd y Llywodraeth lwybr llwgr, yng nghanol argyfwng iechyd cyhoeddus, i bwysigion allu gwneud eu ffrindiau cyfoethog yn gyfoethocach, man lle gellir prynu polisi a gwerthu dylanwad i'r cynigydd uchaf, man—yng ngeiriau un o gyn-Weinidogion y Cabinet—sy'n wag o uniondeb. Ni ddylem geisio dilyn eu hesiampl, oherwydd gadewch inni atgoffa ein hunain o'r diwylliant y mae'n rhaid inni wahanu ein hunain oddi wrtho. Rhoddodd Frank Hester o leiaf £10 miliwn i’r Blaid Geidwadol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae ei gwmni technoleg gofal iechyd TPP wedi cael mwy na £400 miliwn gan y GIG a chyrff eraill y Llywodraeth ers 2016. Mae wedi elwa o £135 miliwn o gontractau gyda'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol mewn llai na phedair blynedd. Ym mis Mawrth eleni, cafodd yr Heddlu Metropolitanaidd eu hysbysu gan gyn-Aelod o feinciau blaen Llafur, Diane Abbott, ynghylch sylwadau roedd Hester wedi’u gwneud am Abbott, ei bod yn gwneud iddo gasáu pob menyw ddu. Enillodd Malik Karim, sydd wedi rhoi £1.6 miliwn i’r Ceidwadwyr ers 2014, ac sy’n gyn-drysorydd y blaid, ddau gontract mawr gwerth £1.5 miliwn a £175,000 drwy ei gwmni cyllid Fenchurch Advisory yn 2023 i gynghori Swyddfa’r Post. Mae'r rhain oll yn enghreifftiau y mae'n rhaid inni wahanu ein hunain oddi wrthynt. Roedd rhoddwr Torïaidd arall, Simon Blagden, yn rhan o dîm arwain Fujitsu ar yr adeg pan oedd gweithwyr post yn cael eu dyfarnu'n euog ar gam o gyfrifo ffug a thwyll gan Swyddfa'r Post oherwydd eu meddalwedd diffygiol. Cafodd Blagden ei wneud yn gadeirydd Building Digital UK, asiantaeth y Llywodraeth sy’n gyfrifol am ddarparu band eang cyflymach yn 2022, dair blynedd ar ôl y canfod mai meddalwedd ei hen gwmni a oedd ar fai yn yr hyn a drodd yn sgandal Horizon. Ers 2005, mae Blagden a chwmnïau y mae ganddo gysylltiad agos â nhw wedi rhoi £376,000 i'r un blaid. Yn ystod pandemig COVID, cafodd Meller Designs Ltd dan arweiniad y cyfrannwrTorïaidd David Meller, sydd wedi cyfrannu dros £300,000 i'r Blaid Geidwadol ers 2009—[Torri ar draws.] Beth sydd gan hyn i'w wneud—? Rwy’n nodi pam fod angen inni wahanu ein hunain oddi wrth hyn. Fe dderbyniaf yr ymyriad, gwnaf. Janet Finch-Saunders AC: Mae’r ddadl hon i gyd yn dangos—. Fe ddefnyddioch chi'r gair 'pantomeim' ddoe, ac rwy'n—. O, na, Heledd a wnaeth hynny, mewn gwirionedd. Mae’n debyg mai’r ddadl hon yw un o’r dadleuon gwaethaf imi eistedd drwyddynt erioed. Pan fo'r Prif Weinidog yn penderfynu peidio â bod yma hyd yn oed, mae hynny’n sarhad ar y Siambr hon ac ar bobl Cymru. Felly, onid ydych—? Dywedwch y gwir wrthyf nawr. Sut y gall unrhyw un amddiffyn yr anamddiffynadwy yn y Siambr hon, yn y sefydliad hwn— Delyth Jewell AC: Janet, nid wyf yn ceisio amddiffyn hynny mewn unrhyw ffordd. Janet Finch-Saunders AC: —yn y Senedd hon. Nid yw hyn yn ddim i'w wneud â Senedd neu Lywodraeth y DU. Mae hyn yn ymwneud â'r Senedd hon, ydy neu nac ydy? Delyth Jewell AC: Janet, ni fyddwn yn amddiffyn yr hyn rydych chi'n ei drafod yma, ond rwy'n nodi pam y dylai'r Senedd hon fod yn wahanol, a dylem fod yn wahanol i'r hyn sy'n digwydd yn San Steffan, gan fod y rhestr—. Nid wyf am barhau â’r enghreifftiau, ond gallwn fynd ymlaen ac ymlaen ac ymlaen. Roedd llawer ohonynt yn ganlyniad i'r llwybr i bwysigion, fel y'i gelwir, ar gyfer contractauCOVID, a roddodd fynediad at gontractau allweddol i'r rhoddwyr breintiedig hynny. Talodd y cyhoedd grocbris am y nwyddau a'r gwasanaethau hynny; yn rhy aml, roeddent yn ddiffygiol neu'n aneffeithiol. Nid yw Plaid Lafur y DU yn ddi-fai ychwaith. Derbyniodd Canghellor yr wrthblaid, Rachel Reeves, rodd gan yr Arglwydd Donoughue, amheuwr hinsawdd amlwg, ddyddiau yn unig cyn i’w phlaid yn San Steffan roi'r gorau i'w hymrwymiad i wario £28 biliwn ar ynni gwyrdd. Lywydd, dyma'r union fath o bydredd y dylem droi ein cefnau arno, nid ei gofleidio. Dylai’r math o wleidyddiaeth y dylem ei chynnig yng Nghymru fod yn wahanol, yn well, gan y dylai’r Senedd hon fod yn well na hynny. Mae'n rhaid i'r Senedd hon fod yn well. Ni allwn ganiatáu i’n gwleidyddiaeth ddilyn yr un llwybr â San Steffan; ni ddaw unrhyw ddaioni o hynny. Jack Sargeant AC: Os caf, hoffwn ganolbwyntio yn fy nghyfraniad ar bwysigrwydd ystyried canlyniadau anfwriadol cynigion pan gânt eu cyflwyno yn y Senedd hon. Fel y clywsom eisoes mewn llawer o gyfraniadau, mae holl bleidiau’r Siambr hon wedi cael rhoddion llawer mwy na’r rhodd benodol sydd dan sylw y prynhawn yma. Yn y ddadl hon, credaf fod yn rhaid inni ystyried beth fyddai’r canlyniadau i roddion a ddarperir gan ein hundebau llafur yn benodol, a Lywydd, rwy’n falch o gofnodi fy natganiad o fuddiant fel aelod o Undeb Unite ac Undeb Community. Rhoddion unigol yw’r rheini a ddarperir ar ran miloedd o weithwyr ledled Cymru ar sail ddemocrataidd, ac mae’r rhoddion hynny eisoes yn destun rheoleiddio llym. Felly, rwy’n rhannu pryderon yr undebau llafur, y rhai y siaradais â nhw, wrth ystyried sut y byddai cynigion fel y rhai a grybwyllwyd yn y cynnig y prynhawn yma gan Blaid Cymru yn gweithio’n ymarferol. Fel y dywedwyd eisoes, ac fel rwyf i wedi'i ddweud, mae pob plaid wedi cael rhoddion ac wedi derbyn rhoddion unigol llawer mwy, na fyddent wedi eu cynnwys o dan y cap a gynigir yn y cynnig gan Blaid Cymru, felly mae'n rhaid inni ystyried hyn hefyd wrth bleidleisio ar y cynnig y prynhawn yma. Lywydd, rydym wedi clywed llawer o drafod heddiw, ac mae'n drafodaeth bwysig i'w chael, heb os, ond rwy'n siomedig gyda rhai Aelodau sy'n ceisio ymosod ar uniondeb y Prif Weinidog ar sail ensyniadau. Fel llawer o rai eraill yn y Siambr hon, mae gan y Prif Weinidog hanes blaenorol o ymladd dros gyfiawnder cymdeithasol ac ymladd dros hawliau gweithwyr, ac mae llywodraethu rhoddion gwleidyddol yn bwnc y dylid ei gynllunio mewn modd meddylgar a difrifol, nid drwy ymosodiadau gwleidyddol gan rai yn y Siambr. Dywedaf hyn fel rhywun sy’n hoffi ymosodiadau gwleidyddol lawn cymaint ag unrhyw un arall yn y Siambr hon. Rwyf wedi bod yn myfyrio drwy gydol y ddadl hon ar y cyfraniad a wnaeth Adam Price, cyfraniad gwerthfawr i’r ddadl, fel y cawn yn aml gan Adam. Dywedodd Adam yn ei gyfraniad ei fod yn ceisio dod o hyd i ateb i'r materion sy'n gysylltiedig â rhoddion. Rwy'n deall rhagosodiad yr hyn y mae Adam yn ceisio ei wneud; ni chredaf fod y cynnig hwn yn dod o hyd i'r ateb rydych chi'n chwilio amdano. Dyna fy marn i, dyna farn llawer o'r aelodau o undebau llafur y siaradais â nhw, ac mae'n rhaid inni edrych ar y canlyniadau anfwriadol hynny. Rwyf am ildio, gan imi enwi'r Aelod. Adam Price AC: Gadewch inni fod yn glir, o ran y cynnig, nid ydym yn cael y ddadl ehangach honno, y deallaf iddi arwain y Blaid Lafur i wrthwynebu cap ar roddion unigol yn San Steffan am y rhesymau a amlinellwyd ganddo. Yr hyn y soniwn amdano yma yw rhoddion i Aelodau unigol, onid e? Nid i bleidiau gwleidyddol. A fyddai’n derbyn bod gwahaniaeth yno a fyddai’n dal i ganiatáu’r math o gyfraniadau y cyfeiria atynt gan undebau llafur i bleidiau gwleidyddol, ond a fyddai’n cyflwyno cap ar roddion unigol i Aelodau unigol, er mwyn osgoi’r math o broblemau rydym yn sôn amdanynt? Jack Sargeant AC: Rwy’n deall i ble y mae’r Aelod yn mynd gyda’r ddadl. Yr hyn y byddwn yn ei ddweud am y ddadl yw nad wyf yn credu bod y gwahaniaeth hwnnw wedi bod yn ddigon pendant i’r aelodau o'r undebau llafur y siaradaisâ nhw am y ddadl hon. Ni chredaf fod y cynnig yn dod o hyd i'r ateb rydych chi'n chwilio amdano, a gallaf ddeall pam, efallai, y gallech fod yn chwilio amdano. Ond nid yw'n dod o hyd i'r ateb hwnnw yno. Mae angen cynnal y sgwrs ar lefel wahanol a chyda mwy yn cymryd rhan. Felly, ni fyddaf yn cefnogi’r cynnig sydd ger ein bron heddiw. Credaf ei bod yn bwysig gwahaniaethu a myfyrio ar y ffeithiau mewn sgwrs ddifrifol, mewn modd difrifol a grymus, yn hytrach nag ymosodiadau gwleidyddol gan rai—nid pawb, ond rhai—heddiw ac yn y gorffennol. Ac rwy'n gobeithio y gallwn fyfyrio ar hynny, Lywydd. Diolch. Gareth Davies AS: Nid oeddwn wedi bwriadu siarad, ond fe'm hysbrydolwyd, yn rhyfedd ddigon, gan sylwadau agoriadol arweinydd Plaid Cymru, pan ddywedodd mai pris tŷ cyfartalog yng Nghymru yw £225,000. Pan fyddwch yn cynrychioli etholaeth fel Dyffryn Clwyd, lle mae gennyf etholwyr sy’n byw yng ngwesty Westminster yn y Rhyl; mae'r cyflog cyfartalog yn sir Ddinbych oddeutu £20,000 y flwyddyn, sy'n sylweddol is na'r isafswm cyflog cyfartalog cenedlaethol; mae gennyf etholwyr sy'n dal i fyw gyda'u rhieni yn 30 oed, sy'n methu cael troed ar yr ysgol dai; mae gennyf yr ysbyty sy'n perfformio waethaf yn y bwrdd iechyd sy'n perfformio waethaf yng Nghymru; ac rwy’n cynrychioli cymunedau tebyg i rai o Aelodau’r Blaid Lafur, a pha neges y mae hynny’n ei rhoi i deuluoedd incwm isel, sy’n gweithio’n galed i gadw to uwch eu pennau, os ydynt yn ddigon lwcus i allu gwneud hynny? Mae ganddynt amseroedd aros hirfaith, maent yn cael trafferth gweld meddyg, deintydd, a gallai’r holl arian y soniodd arweinydd Plaid Cymru amdano unioni rhai o’r problemau hynny. Byddai’n sicr yn prynu tŷ yn Nyffryn Clwyd; byddai'n cael tŷ eithaf da i chi a dweud y gwir, £200,000. Byddai'n mynd â chi'n eithaf pell yn y Rhyl mewn gwirionedd, gan fod tŷ pâr tair ystafell wely yn costio oddeutu £150,000 i £175,000 mewn rhai ardaloedd, felly mae'n debyg y byddech yn cael ychydig o newid o hynny hefyd. Felly, i ble y mae'n arwain o ran sosialaeth, hefyd, sy'n rhywbeth rydym yn sôn amdano? Oherwydd rydym yn clywed drwy’r amser gan Aelodau’r Blaid Lafur, yn sôn am dlodi, sy’n wych, sy’n iawn—nid wyf yn diraddio hynny o gwbl—ond beth mae hynny’n ei olygu o ran sosialaeth? Ar beth mae'r Blaid Lafur wedi'i hadeiladu? Ar beth mae sosialaeth wedi'i hadeiladu? Mae wedi'i hadeiladu ar degwch, mae wedi'i hadeiladu ar gydraddoldeb, mae wedi'i hadeiladu ar gynhwysiant— Janet Finch-Saunders AC: Roedd yn arfer bod. Gareth Davies AS: Wel, roedd yn arfer bod, Janet, oedd. Roedd yn sicr yn arfer bod. Ond pa neges y mae hynny'n ei rhoi i'ch pleidleiswyr, y gall £200,000 brynu sedd i chi wrth fwrdd y Cabinet a'r swydd fwyaf dylanwadol, fwyaf pwerus yn y wlad? [Torri ar draws.] Ie, iawn, yn sicr. Llyr Gruffydd AC: Hynny yw, rydych chi'n llygad eich lle yn eich beirniadaeth, ond dychmygwch beth y gallech ei brynu gydag arian Torïaidd. [Chwerthin.] Gareth Davies AS: Pa fath o ffigurau rydych chi'n sôn amdanynt? Wel, unwaith eto, dyma'r—[Torri ar draws.] Y Llywydd / The Llywydd: Gadewch i’r Aelod barhau. Rwy'n credu bod ei Aelodau ei hun yn tarfu arno ar y pwynt hwn. Parhewch, Gareth. Gareth Davies AS: Diolch, Lywydd. Unwaith eto, Plaid Cymru sy'n sôn am— Tom Giffard AS: A wnewch chi dderbyn ymyriad? Gareth Davies AS: Gwnaf, fe wnaf. Iawn. Tom Giffard AS: Credaf fod y cwestiwn yma, Gareth, yn ymwneud â'r arian, fel rydych chi wedi sôn, ond credaf ei fod hefyd yn ymwneud â doethineb y Prif Weinidog yn yr achos hwn. Dywedodd y Prif Weinidog, yn gynharach heddiw, darllenais yn y Daily Express, ei fod yn ymwybodol o'r euogfarn pan dderbyniodd y rhodd honno. Felly, rhaid cwestiynu ei ddoethineb, a’r un doethineb sy’n cael ei ddefnyddio bob dydd yn ei rôl fel Prif Weinidog. Onid oherwydd hynny y dylem boeni? Gareth Davies AS: Yn sicr. Ac mae'n codi mater uniondeb. Fe wnaethoch bwynt da, Tom. Ond af yn ôl at egwyddor sosialaeth y clywn amdani mor aml gan Aelodau Llafur a'r Llywodraeth: beth mae hynny'n ei olygu i gydraddoldeb, beth mae hynny'n ei olygu i degwch, fod £200,000 yn gallu prynu sedd i chi wrth fwrdd y Cabinet a'r swydd fwyaf pwerus yn y wlad? Nid yw'n anfon neges dda at bobl Cymru, a fy etholwyr, sy'n ei chael hi'n wirioneddol anodd. Mae fy mewnflwch yn llawn o hynny; gallwch ddod i'w weld unrhyw bryd y dymunwch. Pa neges y mae'n ei hanfon at bobl Cymru, y gall £200,000 sicrhau'r swydd fwyaf pwerus yn y wlad i chi? Y Llywydd / The Llywydd: Y Trefnydd nawr i gyfrannu i'r ddadl. Jane Hutt. Jane Hutt AC: Diolch yn fawr, Llywydd. Mewn ymateb i'r ddadl yma, Llywydd, mae wedi bod yn dda trafod safonau heddiw. Mae craffu mewn ffordd agored ac adeiladol yn cael ei groesawu. Jane Hutt AC: Felly, Lywydd, fel y mae’r Prif Weinidog wedi’i nodi dro ar ôl tro, cydymffurfiwyd â’r holl reolau perthnasol, ac mae hynny wedi’i gydnabod eto y prynhawn yma. Hoffwn gofnodi ei bod yn bwysig datgan eto fod tîm priodoldeb a moeseg Llywodraeth Cymru wedi ystyried ac ymateb i gwestiynau a godwyd gan Aelodau, ac wedi nodi'n glir na wnaed unrhyw beth camweddus. Ac yn yr un modd â phob Gweinidog sydd â buddiannau cofrestredig, bydd y Prif Weinidog yn ymatal rhag unrhyw weithgarwch sy'n peri unrhyw wrthdaro buddiannau yn y ffordd arferol. Lywydd, mae'r amddiffyniadau a ddarperir o fewn ein system bresennol yn bwysig. Cânt eu cadarnhau’n rhagweithiol gan Weinidogion, ac mae hynny wedi’i gydnabod yn y ddadl hon. Mabon ap Gwynfor AS: A wnewch chi ildio? Jane Hutt AC: Mabon. Mabon ap Gwynfor AS: Rydych chi'n dweud na wnaed unrhyw beth camweddus, ac rwy'n derbyn, yn ôl y rheolau, na wnaed unrhyw beth camweddus. Mae eich cyd-Aelodau wedi dweud na fyddent wedi derbyn yr arian; mae Jeremy Miles, er enghraifft, wedi dweud hynny. A fyddech chi wedi derbyn yr arian? Jane Hutt AC: O ran ymateb i'r ddadl hon, Mabon, yr wyf yn ei wneud fel Trefnydd, roeddwn yn mynd i ddweud, a chredaf y byddech yn croesawu hyn, Mabon, fy mod yn falch iawn fod y ddadl hon wedi trafod eich cynnig yn adeiladol. Dyna fyddech yn ei ddisgwyl, a dyna mae Adam Price wedi gofyn i ni ei wneud: ein bod ni, heddiw, yn adeiladol—a dyna rwy'n ei wneud mewn ymateb i'ch ymyriad chi hefyd. Mae’r ddadl hon wedi bod yn gadarn ac yn barchus. Cawn weld beth—. Hynny yw, mae'r bobl sy’n ein gwylio yn cydnabod bod yn rhaid inni fod yn barchus a chadarn wrth drafod cynnig Plaid Cymru. Credaf fod peth o’r ymgysylltu gan Aelodau wedi bod yn ddefnyddiol iawn hefyd. Hoffwn ddiolch i Jack Sargeant, er enghraifft, am ei gyfraniad ef, gan ei fod cydnabod y rhan bwysig—y rhan annatod—y mae undebau llafur yn ei chwarae ym mudiad Llafur Cymru. A gawn ni fyfyrio ar hynny am eiliad, gyd-Aelodau? Sefydlwyd y Blaid Lafur, wrth gwrs, gan y mudiad undebau llafur. Mae'n destun balchder fod y blaid yn cael ei chefnogi gan gyfraniad cyfunol gweithwyr siop, gweithwyr dur, staff cyngor a gweithwyr iechyd, ymhlith eraill. Mae undebau llafur yn cael eu rheoleiddio'n llym, ond mae eich Llywodraeth chi'n gosod cyfyngiadau enfawr arnynt—deddfwriaeth wrth-weithwyr hefyd, gan eich Llywodraeth chi. Ond hefyd, mae’r cyfyngiadau hynny nid yn unig ar faterion fel gweithrediad mewnol undebau, ond yn ymwneud â chyllid gwleidyddol. Rwy'n credu, Jack, ei bod hi'n bwysig ichi gydnabod, ac fe wnaethoch ddatgan y ffaith, eich bod wedi cael adborth gan undebau llafur eu bod yn darparu cyllid yn seiliedig ar gyfraniad cyfunol miloedd o weithwyr ar ffurf rhoddion i Aelodau, nad ydynt bob amser yn cael eu darparu i Aelod unigol o'r Senedd, ond maent yn aml yn cael eu cyflwyno yn y ffordd honno, ac nid oes unrhyw reswm pam na ddylai hynny ddigwydd. Ond y rheolau sy'n darparu ar gyfer tryloywder sy'n bwysig ar y pwynt hwnnw. Lywydd, dylai unrhyw ddiwygio—ac unwaith eto, mae hyn yn ymwneud â thrafod y cynnig hwn yn barchus y prynhawn yma—dylai unrhyw ddiwygio sy'n ymwneud â chap gael ei ystyried yn ofalus iawn, a dylai pob plaid feddwl yn iawn amdano heddiw. Rwy'n croesawu'r ffaith i hyn gael ei gydnabod gan arweinydd yr wrthblaid heddiw. Felly, rydych wedi agor dadl, ac mae wedi cael ei thrafod yn barchus y prynhawn yma. Fel y nodwyd gennym yn ein gwelliant i’r cynnig, credwn fod y rheolau presennol ar gyfer tryloywder, ar gyfer datgan, a lle bo angen, ar gyfer hysbysu am roddion yn gweithio’n dda iawn wrth sicrhau gonestrwydd a chyfle i graffu yn y maes hwn. Ein barn ni yw bod y gofynion presennol yn ddigon i fod yn rhwymol ar bob plaid yn y Senedd, ac uwchlaw’r rheini, mai cyfrifoldeb pob plaid yw penderfynu ar y trefniadau ar gyfer ei busnes ei hun. Felly, cyfeiriaf at yr adolygiad y mae’r Prif Weinidog wedi’i sefydlu, fel arweinydd Llafur Cymru. Mewn gwirionedd, ar ôl ennill yr etholiad i ddod yn arweinydd Llafur Cymru, sefydlodd y Prif Weinidog yr adolygiad o drefniadau gornestau arweinyddiaeth mewnol. Cytunwyd arno gan bwyllgor gweithredol Cymru, a etholwyd yn ddemocrataidd gan y blaid, a bydd yn cael ei gadeirio gan ein cyn-Brif Weinidog, Carwyn Jones. A gaf i ddweud y bydd yr adolygiad hwnnw'n cynnwys cyllid ymgyrchoedd a hyd yr ornest, ymhlith materion eraill? Credaf ei bod yn iawn fod pleidiau—ac mae hyn yn wers i bob un ohonom—yn gweithio i greu’r trefniadau mewnol gorau posibl ar gyfer arweinyddiaeth eu pleidiau, a dyna’r gwaith y mae fy mhlaid i, ein plaid ni, yn ei wneud yn y ffordd gydgynghorol a democrataidd honno. O ran ymateb i’r ddadl heddiw, credwn mai’r adolygiad hwn yw’r ffordd gywir ymlaen, ac mae wedi’i gytuno gyda strwythurau democrataidd— Alun Davies AC: A wnewch chi dderbyn ymyriad? Jane Hutt AC: —y Blaid Lafur. Alun Davies AC: Rwy'n ddiolchgar i chi am hynny. Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am sefydlu'r adolygiad hwn—rwy'n credu ei fod yn bwysig. Mae Carwyn Jones sy'n ei arwain eisoes wedi dweud ei fod yn mynd i ymchwilio i gap ar roddion, ac rwy'n meddwl ein bod yn edrych ymlaen at weld lle mae'n cyrraedd gyda hynny. A ydych chi hefyd yn cytuno—oherwydd rwy'n credu bod y pwyntiau a wnaeth Lee Waters yn ei araith yn bwysig iawn—y dylem hefyd gyflwyno prawf person addas a phriodol y gellir derbyn rhoddion ganddynt? Jane Hutt AC: Rwy'n ddiolchgar i Alun Davies am wneud yr ymyriad hwnnw heddiw, oherwydd credaf mai dyna'n union pam y gall y ddadl hon fod yn barchus a gall hefyd gyfrannu at y trafodaethau a'r adolygiad a fydd yn cael ei gynnal. Fel y dywedais—ac mae'n mynd yn ôl i'r hyn a ddywedodd Andrew R.T. Davies, mewn gwirionedd—mae hyn yn ymwneud ag ystyried pethau'n fanwl; mae'n ymwneud â diwygiadau wedi'u hystyried yn fanwl y credaf fod angen i bawb ohonom eu hystyried. Yn olaf, Lywydd, hoffwn ddweud fy mod i eisiau cymeradwyo gwaith ein pwyllgor safonau trawsbleidiol, ac rwyf eisiau croesawu a diolch i Gadeirydd y pwyllgor safonau heddiw, Vikki Howells. Gadewch inni edrych ar y pwyllgor safonau hwn. Fe wnaethom siarad y prynhawn yma am y ffaith ein bod ni eisiau symud ymlaen—rydym eisiau symud ymlaen—ac rwy'n meddwl y bydd y pwyllgor safonau yn helpu—[Torri ar draws.] Gadewch inni gofio'r hyn a ddywedodd Vikki Howells heddiw. Cydnabu fod gwaith y pwyllgor safonau yn rhan hanfodol o'r gwaith o gynnal safonau ymddygiad uchel ein Haelodau o'r Senedd drwy weithredu pan geir awgrymiadau na chydymffurfiwyd â'r safonau hynny. Rwy'n cydymdeimlo â phwynt Heledd Fychan, ar ôl cael trafodaeth gadarn a chadarnhaol iawn ym mhwyllgor Bil diwygio'r Senedd y bore yma, ynglŷn â sut y gallwn sicrhau ein bod yn symud ymlaen gyda diwygio'r Senedd, fel y byddwn yn ei wneud yr wythnos nesaf, rwy'n siŵr, i sicrhau hefyd ein bod yn estyn allan at bobl amrywiol Cymru yr ydym am iddynt ddod i ymuno â ni, a'u bod nhw'n gallu parchu ac ymddiried yn y ffordd yr ydym yn ymddwyn. Mae hynny'n hanfodol i waith y pwyllgor safonau. Felly, yn olaf, Lywydd, hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl y prynhawn yma. Mae'n ymwneud â symud ymlaen. Mae'n ymwneud â chydnabod y gallwn drafod y materion hyn gyda pharch, a hefyd gyda pharch fod ein Prif Weinidog yma heddiw yn arwain y Llywodraeth hon—[Torri ar draws.]—mynd i Mumbai yr wythnos nesaf ar ran y miloedd o bobl yn ein diwydiant cynhyrchu dur sy'n disgwyl hynny gan Brif Weinidog ar Lywodraeth Lafur Cymru. Y Llywydd / The Llywydd: Ni allaf glywed y Trefnydd. Tawelwch, os gwelwch yn dda. Jane Hutt AC: Ac rwy'n credu y bydd y Senedd, erbyn yr wythnos nesaf, gobeithio, hefyd yn symud ymlaen at Gyfnod 4 o ddiwygio'r Senedd, i wneud yn siŵr y gallwn ymestyn mandad democrataidd y Senedd hon yn effeithiol, a datganoli 25 mlynedd yn ddiweddarach. Mae llawer y gallwn ei ddathlu yr wythnos nesaf. Y Llywydd / The Llywydd: Rhun ap Iorwerth i ymateb i'r ddadl. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig, yn ei bresenoldeb nawr—fe wnaeth gyrraedd tuag at gamau olaf y ddwy ddadl hon—fy mod yn mynegi wrth y Prif Weinidog y siom go iawn nad oedd yma i glywed, ac yn wir i ymateb i'r dadleuon hyn heddiw. Rwy'n croesawu ymyriad wrth gwrs, os yw'n dymuno gwneud datganiad ar unrhyw adeg yn ystod fy sylwadau y prynhawn yma. Rydym newydd glywed mwy o alwadau, fel y gwnaethom dros y dyddiau a'r wythnosau diwethaf, i symud ymlaen. Rwy'n ofni na allwn symud ymlaen cyn belled â bod cymaint o gwestiynau'n parhau heb eu hateb, ac nid yw'r ffaith nad yw'r Prif Weinidog ei hun yn credu bod cwestiynau ar ôl heb eu hateb yn fy modloni, ac nid wyf yn credu ei fod yn bodloni'r mwyafrif helaeth o bobl Cymru. Os caf, hoffwn gyferbynnu cyfraniadau dau Aelod ar feinciau'r Blaid Lafur. Yn gyntaf, yr Aelod dros Gaerffili. Roeddem yn siarad ddoe, onid oeddem, yn y drafodaeth ar y Bil diwygio, am gamarwain pobl mewn gwleidyddiaeth. Rhaid gofyn a oedd Hefin David, wrth amddiffyn y Prif Weinidog, wedi sylweddoli bod y cynnig heddiw yn ymwneud â chapio rhoddion i unigolion ac nid pleidiau gwleidyddol, neu a oedd yn cyfuno'r ddau beth yn fwriadol. Cyfeiriodd hyd yn oed at un rhoddwr i Blaid Cymru a gafwyd yn euog o fater yn ymwneud â hawliau gweithwyr dair blynedd ar ôl i'r rhodd honno gael ei gwneud, pan dderbyniodd y Prif Weinidog arian gan un cwmni, Veezu, sydd wedi bod yn destun heriau'n ymwneud â hawliau cyflogaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Felly, byddwch yn ofalus iawn wrth wneud y mathau hynny o honiadau. Hefin David AC: A wnewch chi dderbyn ymyriad? Rhun ap Iorwerth AC: Nawr, neu ar ôl i mi ddweud fy ychydig frawddegau nesaf? Ac aeth ymlaen wedyn i wneud ensyniadau ynghylch taliad i fy mhlaid yn yr etholaeth—nid i mi, i fy mhlaid yn yr etholaeth—yn 2013. Yn sicr, ni ellir ystyried bod rhai rhoddion, Hefin David, wedi eu gwneud er mwyn ceisio ennill dylanwad gwleidyddol. Gadawodd y diweddar Mr Parry y swm hwnnw yn ei ewyllys, ac nid ydym yn siarad yma am atal taliadau rhag cael eu gwneud i bleidiau gwleidyddol, gan gynnwys eich un chi, mewn ewyllysiau. Rydym yn sôn am daliadau i unigolion, nid pleidiau gwleidyddol, ac rwy'n eich atgoffa, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, fod eich plaid wedi derbyn £9 miliwn, rwy'n credu, mewn taliadau, i'w roi yn ei gyd-destun. Hefin David AC: Rwy'n credu y dylwn ddweud nad oeddwn yn eich beirniadu. Roeddwn ond yn tynnu sylw at y ffaith bod rhywfaint o ffugsancteiddrwydd a rhagrith yn eich plaid. Fe dderbynioch chi, neu eich plaid yn yr etholaeth—sef yr hyn a ddywedais—£141,584.92 gan un rhoddwr. Nid oes dim o'i le ar hynny. Rwy'n dychmygu iddo gael ei ddefnyddio yn yr ymgyrch i'ch ailethol yn 2016, felly peidiwch â chamddehongli'r hyn rwy'n ei ddweud. Rwy'n eich cefnogi mewn gwirionedd. Rhun ap Iorwerth AC: Ni chlywais hynny'n dda, ond nid wyf yn meddwl bod hynny'n bwysig. Gadawaf i chi fyfyrio a oes cymhariaeth deg i'w gwneud rhwng swm—[Torri ar draws.]—wedi ei adael i blaid wleidyddol mewn ewyllys— Y Llywydd / The Llywydd: Gadewch i Rhun ap Iorwerth orffen y pwynt y mae'n ceisio ei egluro. Diolch yn fawr, Rhun ap Iorwerth. Diolch yn fawr. Rhun ap Iorwerth AC: Gadawaf i'r Aelod farnu a yw'n gymhariaeth deg rhwng swm o arian a adawyd mewn ewyllys i blaid wleidyddol gan rywun sy'n credu mewn democratiaeth a thaliad o £200,000 i ymgeisydd am arweinyddiaeth y Blaid Lafur yng Nghymru gan gwmni a gafwyd yn euog o droseddau amgylcheddol, a oedd yn disgwyl i'r Llywodraeth wneud penderfyniad ynghylch fferm solar, ac ati, ac ati. Rwy'n derbyn yn llwyr yr hyn y mae'r Prif Weinidog yn ei ddweud o ran bod wedi cofrestru popeth yn iawn, ac na all ddefnyddio ei ddylanwad, ond gadewch inni gofio beth mae cod y Gweinidogion yn ei ddweud ynglŷn ag a ellid gwneud dyfarniad rhesymol y gallai fod gwrthdaro rhwng penderfyniad a wneir ar sail bersonol ac yn rhinwedd ei waith. Rwy'n credu bod y trothwy wedi'i ganfod, ac rwyf wedi dweud hynny ar sawl achlysur. Mae arnaf ofn fod y sylwadau a wnaed gan Aelod Caerffili yn adlewyrchu'n wael arno heddiw. Rwy'n cyferbynnu ei sylwadau â'r sylwadau a wnaed—y sylwadau gonest iawn a wnaed—gan yr Aelod dros Lanelli. Dywedodd Lee Waters yn gryno iawn, wrth sôn am yr enw drwg sydd i wleidyddiaeth fel y mae, na ddylai byth ymwneud ag i ba raddau y gallwn osgoi beirniadaeth; mae'n ymwneud ag a yw'n iawn. Ac yng nghyd-destun y taliadau hyn i arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru a'r Prif Weinidog, credaf fod pobl wedi dod i gasgliad ynglŷn ag a yw'n iawn ai peidio. Dywedodd Lee Waters nad oedd yn gallu cefnogi'r cynnig heddiw oherwydd ei fod yn ofni ei fod yn rhagfarnu canlyniadau adolygiad mewnol gan y Blaid Lafur. Dywedais yn fy sylwadau i ddechrau fy mod yn difaru'r ffaith na fanteisiodd Llafur ar y cyfle, wrth ddileu ein cynnig yn ei gyfanrwydd, i ddweud bod yna groeso i ymagwedd o'r fath a allai arwain at ymchwiliad i sut y gellid rhoi system o'r fath ar waith, ac rwy'n credu bod hynny'n adlewyrchu'n wael hefyd ar y Llywodraeth heddiw. Rhun ap Iorwerth AC: Yn syml iawn, dydy'r penderfyniad i dderbyn rhoddion o'r maint yma, heb sôn am ffynhonnell yr arian, dydy'r ffaith bod o'n cael ei ganiatáu o dan y diffyg rheolau presennol ddim yn eistedd yn gyfforddus efo pobl Cymru. Mae o'n creu argraff, hyd yn oed os ydy pob rheol yn cael ei pharchu, fod dylanwad yn gallu cael ei brynu. Rhun ap Iorwerth AC: Rwy'n gwahodd y Ceidwadwyr i ailystyried eu penderfyniad i ymatal. Ar hyn, nid oes penderfyniad yn cael ei wneud ynglŷn â beth ddylai'r cap fod, pa fodel y dylid ei gyflwyno ar gyfer y cap hwnnw. Hoffwn ofyn iddynt ystyried a yw ymatal yn adlewyrchu'n wael arnynt hwy, o ystyried y dadleuon ynghylch y Blaid Geidwadol a rhoddion gwleidyddol. Felly, rwy'n apelio arnoch i gefnogi'r cynnig. Mae arnaf ofn fod y bennod hon yn adlewyrchu'n ofnadwy ar y Prif Weinidog ei hun a'i ddoethineb, ond gallwn wneud safiad yma heddiw i amddiffyn uniondeb ein democratiaeth yn ei chyfanrwydd. Y Llywydd / The Llywydd: Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad ac, felly, fe wnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. 9. Cyfnod Pleidleisio Y Llywydd / The Llywydd: Rŷm ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac oni bai bod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, byddwn yn symud yn syth i'r bleidlais gyntaf. Mae'r gyfres gyntaf o bleidleisiau ar eitem 6, dadl y Ceidwadwyr ar adolygiad Cass, a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig yn gyntaf heb ei ddiwygio, yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod. Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Adolygiad Cass. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 14, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0 Gwrthodwyd y cynnigCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Y Llywydd / The Llywydd: Gwelliant 1 fydd nesaf. Pleidlais, felly, ar welliant 1 yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, neb yn ymatal, 14 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant yna wedi ei gymeradwyo. Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Adolygiad Cass. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 38, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0 Derbyniwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Y Llywydd / The Llywydd: Gwelliant 2 sydd nesaf, yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 41 yn erbyn. Mae gwelliant 2 wedi ei wrthod. Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Adolygiad Cass. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 11, Yn erbyn: 41, Ymatal: 0 Gwrthodwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Y Llywydd / The Llywydd: Yn olaf, felly, ar yr eitem yma, y cynnig wedi ei ddiwygio gan welliant 1. Cynnig NDM8563 fel y'i diwygiwyd: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi cyhoeddi adolygiad Cass. 2. Yn nodi bod y GIG yng Nghymru yn comisiynu gwasanaethau hunaniaeth rhywedd i blant a phobl ifanc 17 oed ac iau gan y GIG yn Lloegr. 3. Yn nodi bod y GIG yn Lloegr wedi dod i'r casgliad nad oes digon o dystiolaeth i gefnogi diogelwch nac effeithiolrwydd clinigol hormonau atal y glasoed ar gyfer trin dysfforia rhywedd mewn plant a phobl ifanc ar hyn o bryd. 4. Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddatblygu'r canllawiau trawsrywedd ar gyfer ysgolion, gan ystyried adolygiad Cass a barn rhanddeiliaid. Y Llywydd / The Llywydd: Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 52, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi ei dderbyn. Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Adolygiad Cass. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 52, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0 Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwydCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Y Llywydd / The Llywydd: Eitem 7 fydd y pleidleisiau nesaf. Dadl y Ceidwadwyr yw hon ar roddion ymgyrch arweinyddiaeth a chod y Gweinidogion. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei wrthod. Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Rhoddion ymgyrch arweinyddiaeth a chod y gweinidogion. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 25, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0 Gwrthodwyd y cynnigCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Y Llywydd / The Llywydd: Gwelliant 1 sydd nesaf. Pleidlais ar welliant 1, yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Mae gwelliant 1 wedi ei dderbyn. Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Rhoddion ymgyrch arweinyddiaeth a chod y gweinidogion. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 27, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0 Derbyniwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Y Llywydd / The Llywydd: Gwelliant 2, yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Mae'r gwelliant yna wedi'i wrthod. Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Rhoddion ymgyrch arweinyddiaeth a chod y gweinidogion. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 25, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0 Gwrthodwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Y Llywydd / The Llywydd: Mae'r bleidlais olaf ar y eitem yma ar y cynnig wedi'i ddiwygio gan welliant 1. Cynnig NDM8562 fel y'i diwygiwyd: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn cymryd Cod y Gweinidogion, a'r cyfrifoldebau y mae'n eu gosod ar Weinidogion Cymru, o ddifrif. 2. Yn nodi bod y penderfyniadau a wneir gan Fanc Datblygu Cymru ynghylch benthyca a buddsoddi yn cael eu gwneud yn gwbl annibynnol ar Lywodraeth Cymru. Y Llywydd / The Llywydd: Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, neb yn ymatal, 24 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn. Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Rhoddion ymgyrch arweinyddiaeth a chod y gweinidogion. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 28, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0 Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwydCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Y Llywydd / The Llywydd: Mae'r pleidleisiau nesaf ar eitem 8, dadl Plaid Cymru ar uchafswm ar roddion gwleidyddol. Dwi'n galw am bleidlais yn gyntaf ar y cynnig heb ei ddiwygio, yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, 14 yn ymatal, 27 yn erbyn, felly mae'r cynnig wedi ei wrthod. Eitem 8. Dadl Plaid Cymru - Uchafswm ar roddion gwleidyddol. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 11, Yn erbyn: 27, Ymatal: 14 Gwrthodwyd y cynnigCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Y Llywydd / The Llywydd: Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, 24 yn ymatal, 1 yn erbyn, felly mae'r gwelliant yna wedi ei gymeradwyo. Eitem 8. Dadl Plaid Cymru - Uchafswm ar roddion gwleidyddol. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 27, Yn erbyn: 1, Ymatal: 24 Derbyniwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Y Llywydd / The Llywydd: Mae'r bleidlais olaf ar y cynnig wedi ei ddiwygio. Cynnig NDM8561 fel y'i diwygiwyd: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod gan Aelodau o'r Senedd gyfrifoldeb i ddatgan buddiannau ar Gofrestr Buddiannau'r Aelodau a nodi datganiadau o'r fath lle bo'n berthnasol mewn cyfraniadau ysgrifenedig a llafar i Fusnes y Senedd. 2. Yn nodi ei bod yn ofynnol i Aelodau hefyd wirio bod rhoddion o £500 neu fwy wedi’u gwneud gan roddwyr a ganiateir, yn ogystal â rhoi gwybod i’r Comisiwn Etholiadol am fanylion llawn y rhoddion hynny sydd dros £2230. 3. Yn cydnabod bod pleidiau gwleidyddol, a'u cyrff llywodraethu cyfansoddol, yn gyfrifol am bennu a monitro cydymffurfedd â rheolau sy'n mynd y tu hwnt i'r gofynion cyfreithiol presennol. 4. Yn galw ar y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i barhau i sicrhau bod yr holl Aelodau yn bodloni'r safonau ymddygiad uchaf. Y Llywydd / The Llywydd: Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, 25 yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn. Eitem 8. Dadl Plaid Cymru - Uchafswm ar roddion gwleidyddol. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 27, Yn erbyn: 0, Ymatal: 25 Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwydCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Y Llywydd / The Llywydd: Dyna ddiwedd ar y pleidleisio am heddiw, ond nid dyna ddiwedd ar ein trafodion ni. Fe fydd y ddadl fer nesaf. 10. Dadl Fer: Gaza—Ymateb Cymreig Y Llywydd / The Llywydd: Symudwn ni i'r ddadl fer nawr. Rwy'n gofyn i'r Aelodau sy'n gadael i adael yn dawel. Peredur Owen Griffiths sy'n cyflwyno y ddadl fer ar Gaza, ymateb Cymreig. Peredur Owen Griffiths AS: Diolch yn fawr, Lywydd. Pan ddaeth fy enw i fyny ar gyfer y ddadl fer hon, mae bob amser yn fraint, oherwydd rydych chi'n cael hyd at 15 munud i siarad am rywbeth sy'n bwysig i chi. Rwy'n cael rhoi peth o fy amser i Aelodau eraill siarad, am hyd at funud yr un, a heno mae ceisiadau niferus wedi dod. Ond rwyf wedi mynd ar sail y cyntaf i'r felin, a chytunais i roi munud yr un i Rhun ap Iorwerth, Sioned Williams, Mabon ap Gwynfor, Jenny Rathbone a John Griffiths. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymateb i'r ddadl wedyn ar ran y Llywodraeth, ac nid oes pleidlais ar ddadleuon byr. Felly, fel y dywedais, mae'n gyfle gwych i siarad ar bwnc sy'n bwysig i mi. Roeddwn i'n gwybod fy mod eisiau siarad am Gaza, a nodi ein hymateb Cymreig yn arbennig. Fe wnaethom ymateb bron ar unwaith, gyda datganiadau gan holl arweinwyr y pleidiau yn y Siambr hon ar 10 Hydref, yn condemnio ymosodiad Hamas ar 7 Hydref ac yn galw am ryddhau'r gwystlon. Aeth Plaid Cymru ymhellach a galw am gadoediad yn ôl bryd hynny. Mae'n anodd credu bod bron i chwe mis wedi mynd heibio ers 8 Tachwedd, pan gynhaliwyd y bleidlais hanesyddol honno yn y Senedd i alw am gadoediad ar unwaith yn Gaza. Diolch i gefnogaeth Jane Dodds a rhai o aelodau meinciau cefn Llafur, derbyniwyd pleidlais y Senedd o blaid y cynnig am gadoediad ar unwaith a gyflwynwyd gan Blaid Cymru. Cafodd Plaid Cymru ei beirniadu rywfaint gan rai am y weithred hon, gyda rhai pobl yn dweud y dylem ganolbwyntio ar faterion yng Nghymru. Mae dau beth i'w ddweud am hynny. Yn gyntaf, mae gan Blaid Cymru draddodiad balch o sefyll ar lwyfan y byd a chodi ein lleisiau pan fo angen. Yn ail, mae yna ddinasyddion o Gymru wedi cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan ddigwyddiadau yn Gaza. Yn gynharach y mis hwn, clywsom gan Gillian a Pete Brisley o Ben-y-bont ar Ogwr a gollodd eu merch a'u hwyresau yn yr ymosodiad gan Hamas ar 7 Hydref, a mynychais weddïau gyda dyn ym mosg Dar-ul-Isra sydd wedi colli dros 20 aelod o'i deulu agos yn rhyfel Israel ar Gaza. Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair. Peredur Owen Griffiths AS: Ein gwaith ni yn y lle hwn yw cynrychioli pawb yng Nghymru, a dyna mae Plaid Cymru yn ei wneud. Er fy mod yn falch ein bod wedi chwarae ein rhan yn condemnio'r hyn a oedd eisoes yn sefyllfa enbyd i bobl Gaza ddechrau mis Tachwedd, mae'r bomio, y newyn a'r lladd wedi parhau'n ddi-baid. Yn ôl Al Jazeera, mae 1,139 o bobl wedi marw yn Israel a 34,979 o Balesteiniaid wedi eu lladd ers 7 Hydref. Mewn gwirionedd, mae'r nifer a fu farw yn debygol o fod yn llawer uwch, wrth i fwy a mwy o gyrff gael eu tynnu allan o'r rwbel a darganfod beddau torfol mewn dau safle claddu gwahanol y tu allan i ysbytai Nasser ac Al-Shifa, lle daethpwyd o hyd i 390 o gyrff. Mae'n ddinistr a gofid ar raddfa annirnadwy. A dweud y gwir, mae'n anodd siarad amdano, ac mae'n anodd ei wylio. Ond mae'n rhaid siarad amdano. Mae'n rhaid inni dystio i'r hyn sy'n digwydd. Ac mae llawer wedi teimlo eu bod wedi cael eu galw i weithredu. Rwy'n gweld pobl yn yr oriel sydd wedi bod yn gwneud hynny. Yng Nghymru, mae'r ymateb gan nifer fawr o bobl i'r erchyllterau hyn wedi bod yn glir: 'Nid yn fy enw i'. Mae pobl wedi mynychu ralïau a gwylnosau, mae pobl wedi gorymdeithio, mae pobl wedi codi arian ar gyfer ymdrechion cymorth, ac mae pobl wedi boicotio cwmnïau sydd â chysylltiadau â lluoedd arfog Israel. Yn union fel cynnig cadoediad y Senedd, maent yn anfon neges glir gan bobl Cymru nad ydym yn cefnogi ymosodiad milwrol parhaus Israel yn erbyn sifiliaid yn Gaza. Nid yw gwylio a gwneud dim yn opsiwn pan fydd canlyniadau cyrch Israel ar Gaza mor ddifrifol. Rwyf wedi bod ar orymdeithiau a ralïau, ac mewn digwyddiadau codi arian. Rwyf wedi gweld angerdd pobl sydd ond eisiau gwell o'r byd hwn. A yw ein Llywodraeth yn teimlo'r un angerdd a phenderfyniad? Yn anffodus, nid yw i'w weld yn gwneud hynny. Cefais fy synnu yr wythnos diwethaf pan ddywedodd y Prif Weinidog wrthyf 'Safbwynt Llywodraeth Cymru ers cryn amser yw y dylai fod cadoediad ar unwaith.' Roedd hynny'n newyddion i mi. Roedd hefyd yn newyddion i fy nghyd-Aelodau, ac roedd yn newyddion i'r ymgyrchwyr gwrth-ryfel rwy'n cysylltu â nhw, oherwydd pan ddaeth cynnig cadoediad Plaid Cymru ger bron y Senedd, fe wnaeth holl Weinidogion y Llywodraeth ymatal. Rwy'n dal i aros am eglurhad gan y Prif Weinidog ynglŷn â pha bryd y newidiodd y safbwynt hwnnw, a sut y cafodd ei gyfathrebu. Mae'n peri pryder nad oedd neb yn gwybod dim am y peth. Cefais e-bost gan aelod o Grŵp Asiantaethau Tramor Cymru a ddywedodd eu bod wedi anfon llythyr at y cyn-Brif Weinidog, Mark Drakeford, ym mis Chwefror. Roedd y llythyr yn nodi penderfyniad Llywodraeth y DU i atal cyllid i Asiantaeth Cymorth a Gwaith y Cenhedloedd Unedig, sy'n dal i fod heb ei adfer. Gan nad yw Grŵp Asiantaethau Tramor Cymru wedi cael ymateb i'r llythyr eto, fe wnaethant ei ail-anfonat y Prif Weinidog newydd yr wythnos diwethaf yn dilyn ei sylwadau fod Llywodraeth Cymru yn cefnogi cadoediad ar unwaith. Efallai y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn egluro hyn yn ei hymateb ac yn annog y Prif Weinidog i ateb y llythyr. Wrth edrych ar ymateb unigryw Gymreig i'r sefyllfa yn Gaza, cefais fy nenu at wefan Cyngor Rhyng-ffydd Cymru. Ar y wefan, ers mis Mawrth eleni, cyhoeddodd Cyngor Mwslimaidd Cymru, gyda Chyngor Cynrychioli Iddewon De Cymru, dan nawdd Cyngor Rhyng-ffydd Cymru, ymrwymiad i ddeialog a galwad am heddwch yn y dwyrain canol. Mae'r weithred syml hon yn unigryw ym Mhrydain ac yn dyst i agwedd Cymru tuag at gysylltiadau rhyng-ffydd. Dyma un o'r rhesymau pam rwy'n falch o allu siarad am ymateb Cymreig—un nad yw'n chwilio am raniadau ond yn hytrach, am gydweithio ar gyfer meithrin cyd-ddealltwriaeth ac ymrwymiad ar y cyd i heddwch a dynoliaeth. Ddirprwy Lywydd a chyd-Aelodau, rwy'n siŵr y gallwn i gyd ganmol y ffordd Gymreig hon o wneud pethau. Ar ôl mwy na chwe mis ers dechrau ymosodiad Israel, mae'n hen bryd cael sancsiynau. Mae'n hen bryd atal anfon arfau. Mae'n hen bryd dadfuddsoddi o gwmnïau a chynlluniau pensiwn sy'n cynnal y gwrthdaro hwn. Mae'r rhanbarth cyfan ar drothwy rhyfel sy'n llawer mwy na'r hyn a welwn ar hyn o bryd. Rhaid rhoi diwedd arno cyn iddo fynd ymhellach. Mae'n ddyletswydd ar y gymuned ryngwladol i adlewyrchu barn y bobl y maent yn eu gwasanaethu a dweud digon yw digon. Gall Cymru chwarae ei rhan yn yr ymdrech honno. Rwy'n galw ar y Llywodraeth Lafur hon i fod yn glir ac yn benderfynol yn ei gwrthwynebiad i'r ymosodiad parhaus yn Gaza. Mae hynny'n dechrau gyda galwad glir am gadoediad parhaol ar unwaith a fydd yn caniatáu i'r ymdrech ddyngarol enfawr ddigwydd. Mae angen i hyn ddigwydd er mwyn pobl Gaza, mae angen i hyn ddigwydd er mwyn y gwystlon sy'n dal i gael eu cadw'n gaeth, ac mae angen iddo ddigwydd yn enw heddwch a dynoliaeth. Diolch yn fawr. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch, Peredur, am gyflwyno y ddadl yma heddiw ac am ganiatáui fi gael gwneud cyfraniad byr hefyd. Y perygl bob amser ydy bod treigl amser yn gwneud i bobl golli ffocws, i ymgynefino efo rhywbeth sy'n digwydd draw fan acw, waeth pa mor erchyll ydy hynny. Rhun ap Iorwerth AC: Ni allwn adael i'r byd anghofio erchyllterau'r rhyfel hwn. Ni allwn anghofio'r rhai a laddwyd ac a gymerwyd yn wystlon ar 7 Hydref, ac rydym yn mynnu eu bod yn cael eu rhyddhau. Ac ni ddylem byth anghofio'r degau o filoedd a laddwyd ac sy'n dal i gael eu lladd yn Gaza, y cannoedd o filoedd o Balesteiniaid sy'n wynebu amddifadrwydd llwyr, diffyg maeth a digartrefedd. Rhaid inni ail-bwysleisio ein condemniad o'r rhai sy'n gyfrifol, mynnu diwedd ar yr erchyllterau, cadoediad, sancsiynau, cynnydd enfawr mewn cymorth dyngarol. Rwy'n falch fod cymaint o bobl yng Nghymru wedi ymateb. Fe all, ac mae'n rhaid i'n Senedd barhau i godi llais fel rhan o gymuned fyd-eang sy'n sefyll dros oddefgarwch a heddwch. John Griffiths AC: Rhaid i ddynoliaeth fod yn drech yn Israel a Phalesteina. Mae fy etholwyr yn dweud wrthyf eu bod eisiau cadoediad parhaol ar unwaith, rhyddhau gwystlon, lefelau priodol o gymorth dyngarol, a dechrau ateb gwleidyddol a fydd yn para. Mae António Guterres, Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig wedi siarad yn rymus iawn yn ystod y cyfnod ofnadwy hwn. Mae wedi dweud, 'Mae'r rhain yn adegau mewn hanes pan fo'n rhaid gweithredu.' Rwy'n falch iawn fod pobl yng Nghymru wedi gorymdeithio, wedi mynd i ralïau, wedi protestio—ac rwyf wedi bod yn freintiedig iawn i fod yn rhan o hynny—i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed dros ddynoliaeth a heddwch. Rwy'n credu nawr a thrwy gydol yr argyfwng ofnadwy hwn ei bod hi mor bwysig fod cynrychiolwyr gwleidyddol ac arweinwyr gwleidyddol ar bob lefel wedi codi llais a lleisio'u barn—wedi siarad o blaid cadoediad uniongyrchol a pharhaol, y lefelau priodol o gymorth dyngarol, rhyddhau gwystlon a dechrau'r datrysiad gwleidyddol. Dyna'r Gymru rwyf eisiau bod yn rhan ohoni, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n credu bod yn rhaid inni gryfhau'r lleisiau hynny nawr, ar yr adeg dyngedfennol hon, ar ran y nifer fawr sydd wedi'u dal yn y gyflafan ofnadwy hon. Sioned Williams AS: Mae mwy na 34,000 o bobl wedi cael eu lladd yn Gaza ac yn ôl y Cenhedloedd Unedig, credir bod 72 y cant yn fenywod a phlant. Fel menyw, seneddwr ac fel cynrychiolydd ar ran menywod Cymru yn y lle hwn, mae gennyf ddyletswydd foesol i ddefnyddio fy llais i gondemnio marwolaethau a dioddefaint y menywod a'r plant diniwed hynny. Ni all Llywodraeth Cymru siarad am bwysigrwydd iechyd mamau, urddas mislif, lles plant a hawl a phwysigrwydd addysg heb wneud safiad a defnyddio pob platfform a phob owns o ddylanwad i feirniadu triniaeth echrydus, anghyfiawn ac anghyfreithlon plant a menywod yn Gaza. Er nad oes gennym bwerau dros faterion rhyngwladol, fe allwn ac fe ddylem wneud datganiad pwerus dros heddwch fel cenedl, fel Senedd genedlaethol ac fel Llywodraeth. Mae gennym draddodiad hir o ddefnyddio'r llais hwnnw dros heddwch, o Gomin Greenham i ryfel Irac, ac ni ddylem byth danbrisio dilysrwydd a phŵer y llais cyfunol hwnnw. Oherwydd pan fydd yn ei siwtio nhw, bydd Llywodraeth Cymru yn trafod materion rhyngwladol yn helaeth, gan gyfeirio'n aml at faterion rhyngwladol mewn ymateb i gynigion cydsyniad deddfwriaethol, cytuniadau, cytundebau masnach, adroddiadau pwyllgorau, ac nid oes ond angen inni feddwl am y sylw a roddir gan Weinidogion mewn areithiau a datganiadau i'r ymosodiad echrydus ar Wcráin a'i ganlyniadau dinistriol. Felly, y pwynt hanfodol yma yw na all Senedd a Llywodraeth Cymru fod yn dawel, yn enwedig nawr pan welwn Israel yn benderfynol o gyflawni mwy fyth o ladd a dinistr yn Rafah. Mae angen iddynt godi llais yn glir, a'r geiriau y mae'n rhaid inni eu clywed yw 'Cadoediad nawr'. Jenny Rathbone AC: Fel y dywedodd Rhun ap Iorwerth, ni allwn ddod i arfer â lefel y gyflafan sy'n digwydd; rhaid inni beidio â throi ein cefnau. Plentyn yw Jana Ayad, tua'r un oed â fy ail wyres. Nid yw'n ddim ond croen ac esgyrn, yn llwgu i farwolaeth oherwydd polisi bwriadol i beidio â chaniatáu digon o fwyd i mewn i Gaza i fwydo'r holl bobl sydd wedi'u dadleoli gan y bomio. Gyda'r maeth cywir, gellid achub Jana, pe bai blocâd Gaza yn cael ei godi. Nos Lun cafodd newyddiadurwr, Salem Abu Toyor, a'i fab, eu lladd pan darodd bom Israelaidd eu tŷ. Mae Israel wedi lladd mwy o newyddiadurwyr yn Gaza na'r holl newyddiadurwyr a laddwyd yn yr ail ryfel byd, mewn dim ond 200 diwrnod. A yw milwyr Israel yn fwriadol yn lladd newyddiadurwyr—neu a oes ganddi agwedd laissez-faire tuag at ladd sifiliaid sy'n byw yn Gaza, ac mae newyddiadurwyr, fel gweithwyr iechyd a gweithwyr cymorth, yn mynd o ffordd eu hymgyrch? Dywedir wrthym fod y pecyn cadoediad diweddaraf yn gynnig hael, meddai Antony Blinken. Nid yw mis heb fomio a newynu, wedi'i ddilyn gan gyflafan yn Rafah, neu ymosodiad uniongyrchol ar Rafah yn teimlo'n hael, yn ddeniadol nac yn cyd-fynd â rheolau rhyfel. Mae gan y fyddin oresgynnol hon ddyletswydd i ofalu am sifiliaid yn yr ardal, ac nid yw hynny'n digwydd yn Gaza na'r Lan Orllewinol. Rhaid i Lywodraeth yr Unol Daleithiau fynnu cadoediad cadarn ar unwaith, neu atal pob cymorth milwrol i Israel, a rhaid inni barhau i weiddi am gadoediad ar unwaith ac ateb parhaus, cynaliadwy. Mabon ap Gwynfor AS: Diolch yn fawr iawn i ti, Peredur, am dy agoriad rhagorol a phwerus iawn i'r cyfraniad yma. Mae'r rhai hynny sydd yn amddiffyn gweithredoedd gwladwriaeth Israel yn dweud mai amddiffyn eu hunain mae'r wladwriaeth honno, ond nid gweithred amddiffynnol ydy lladd 35,000 o bobl. Nid gweithred amddiffynnol ydy lladd traean ohonyn nhw yn blant. Nid gweithred amddiffynnol ydy bomio ysbytai gyda chleifion ynddyn nhw, ac yn sicr nid gweithred amddiffynnol ydy atal cymorth dyngarol rhag cyrraedd poblogaeth sydd ar fin marw o newyn. Yn wir, yn ôl diffiniad yr International Court of Justice, gellir diffinio'r gweithredoedd hyn fel gweithred hil-laddiad. Rŵan, roedd y newyddion ddaru ni ei gael rhai wythnosau yn ôl ynghylch bomio cerbydau World Central Kitchen yn andros o drist, ac fe glywsom ni fod yna dri pherson o’r Deyrnas Gyfunol wedi cael eu lladd. Yn sydyn iawn, ddaru Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol ddangos diddordeb. Yr hyn welsom ni, mewn gwirionedd, oedd bod bywyd un person gwyn o Brydain yn gyfwerth i fywyd 11,000 o Balestiniaid diniwed. Rŵan, mae’r bomio yma wedi cael ei alluogi oherwydd bod Israel yn medru prynu arfau, a hynny heb ddim rheolaeth gan y gwladwriaethau sydd yn eu gwerthu nhw. Felly, mae gen i ddiddordeb i glywed yn ymateb y Gweinidog pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud er mwyn sicrhau nad oes yna unrhyw arfau o Gymru, neu ddarnau o arfau sy’n cael eu gwneud yng Nghymru, yn cael eu cyfrannau a’u gwerthu i Lywodraeth Israel. Mae’n rhaid inni atal y gwerthu arfau yma a’r trwyddedu o’r gwerthu yma. Diolch yn fawr iawn. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl—Lesley Griffiths. Lesley Griffiths AC: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, a diolch, Peredur Owen Griffiths, am gyflwyno'r ddadl bwysig hon. Mae pob un ohonom o amgylch y Siambr hon wedi cael ein dychryn gan y trais parhaus yn Israel, Palesteina a'r rhanbarth ehangach. Er nad yw materion polisi tramor wedi'u datganoli, mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol fod canlyniadau gwirioneddol a pharhaol iawn yn ein cymunedau yng Nghymru. Mae'n werthfawr ein bod yn cael y cyfle hwn i drafod y canlyniadau hynny'n fanylach. Mae'r ddadl heddiw hefyd yn adeiladu ar y cynnig cadoediad y cyfeiriodd Peredur ato, ac a drafodwyd yn y Siambr hon ar 8 Tachwedd y llynedd. Yn unol â chonfensiwn—ac rwyf am egluro hyn—fe ymataliodd Gweinidogion Cymru o'r bleidlais ar y cynnig gan nad yw materion polisi tramor wedi'u datganoli i Senedd Cymru. Fodd bynnag, yn y ddadl ei hun roedd fy rhagflaenydd, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, yn glir fod Llywodraeth Cymru eisiau gweld cadoediad llawn cyn gynted â phosibl. Ailadroddwyd y safbwynt hwn yn y Cyfarfod Llawn gan y Prif Weinidog a'r cyn Brif Weinidog, a gwn y bydd y Prif Weinidog yn ateb yr ohebiaeth y cyfeiriodd Peredur ati. Rhaid cael ymdeimlad newydd o frys ymhlith y gymuned ryngwladol i sicrhau cadoediad llawn a pharhaol, gan ddod â'r dioddefaint ar bob ochr i ben cyn gynted â phosibl. Fel y dywedodd y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, mae argyfwng dyngarol go iawn yn digwydd. Rydym yn mawr obeithio y bydd yr holl bartneriaid perthnasol yn sicrhau cynnydd sylweddol ac uniongyrchol yn y cymorth i mewn i Gaza, yn cytuno i ryddhau'r holl wystlon, yn dod â'r trais i ben, ac yn cymryd rhan ystyrlon yn natblygiad datrysiad dwy wladwriaeth sy'n para. Rhaid i roi'r gorau i drais fod yn llwyfan hanfodol ar gyfer proses wleidyddol fwy hirdymor a phendant tuag at sefydlu datrysiad dwy wladwriaeth yn seiliedig ar wladwriaeth sofran Palesteina ac Israel ddiogel. Ni all fod unrhyw ddiogelwch i unrhyw un yn Israel a Phalesteina heb heddwch hirdymor sy'n deg i'r ddwy wladwriaeth. Fe welwyd dioddefaint annirnadwy i bobl ddiniwed ar bob ochr, ac mae'n parhau, ac mae'n hanfodol fod pawb yn cydnabod dynoliaeth gyffredin pob dioddefwr. Yng Nghymru, yr her i ni yw nodi'r dylanwad y gallwn ei gael i helpu i gyflawni'r newidiadau y mae pawb ohonom am eu gweld, i atal y casineb a'i ganlyniadau. Mae hanes a geowleidyddiaeth y rhanbarth, yn ogystal â'r trais parhaus a'r ffaith nad yw polisi tramor wedi'i ddatganoli, yn cyfyngu'n ddifrifol ar yr hyn y gallwn ei wneud, er gwaethaf ein tristwch dwfn. [Torri ar draws.] A gaf i barhau am funud, os gwelwch yn dda? Serch hynny, mae yna bethau y gallwn ni, ac rydym ni'n eu gwneud yng Nghymru i gefnogi'r cymunedau yr effeithir arnynt sy'n byw yma. Sioned Williams AS: Fe gofiwch, yn Senedd yr Alban, y cynhaliwyd dadl yn galw am gadoediad ar unwaith. Yn ystod y ddadl honno, dywedodd y cyn-Brif Weinidog Humza Yousaf ei fod wedi anfon llythyr gan Lywodraeth yr Alban at Rishi Sunak a Keir Starmer yn gofyn iddynt alw am gadoediad ar unwaith. A yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud yr un peth? Lesley Griffiths AC: 'Nid wyf yn gwybod' yw'r ateb gonest. Sioned Williams AS: Mae hynny'n siarad cyfrolau. Lesley Griffiths AC: Fe edrychaf ar hynny i chi, ac yn amlwg fe ysgrifennaf atoch i roi gwybod i chi. Rydym wedi bod yn monitro unrhyw densiynau cymunedol sy'n ymwneud â'r gwrthdaro drwy ein rhaglen cydlyniant cymunedol, ac yn monitro unrhyw gynnydd mewn digwyddiadau casineb drwy ganolfan cymorth casineb Cymru. Er bod rhai digwyddiadau atgas wedi bod, diolch byth mae'r rhain yn brin, ac nid ydym wedi gweld y niferoedd mawr yr oeddem yn eu hofni. Mae Gweinidogion wedi cyfarfod ag arweinwyr Iddewig a Mwslimaidd i drafod effeithiau'r gwrthdaro yn Israel a Gaza ar ein cymunedau yma yng Nghymru. Rydym wedi annog undod a deialog rhyngddiwylliannol mewn partneriaeth â'n fforwm cymunedau ffydd. Er mwyn mynd i'r afael ag unrhyw faterion sy'n codi mewn ysgolion, gallasom gyd-ysgrifennu llythyr ar gyfer ysgolion, colegau a phrifysgolion yng Nghymru gyda Chyngor Mwslimaidd Cymru a Bwrdd Dirprwyon Iddewon Prydain. Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth â phob ffydd, fel y gwnaethom mor dda ers sefydlu'r fforwm ar ôl 9/11, i hyrwyddo cydnabyddiaeth o'n dynoliaeth gyffredin. Nid oes lle i ragfarn a chasineb yng Nghymru. Rydym yn disgwyl i honiadau ac achosion o hiliaeth ac aflonyddu hiliol gael eu harchwilio'n llawn, gyda chamau priodol yn cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r mater ac atal digwyddiadau pellach rhag digwydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi rhoddion i sawl apêl gan y Pwyllgor Argyfyngau Brys yn y blynyddoedd diwethaf— Delyth Jewell AC: A wnewch chi dderbyn ymyriad? Lesley Griffiths AC: A gaf i wneud peth cynnydd, os gwelwch yn dda? Nid ydym wedi gallu gwneud hyn i leddfu peth o'r dioddefaint yn Gaza, oherwydd nid yw'r Pwyllgor Argyfyngau Brys wedi gallu lansio ymgyrch. Ar hyn o bryd, mae'r Pwyllgor Argyfyngau Brys yn credu mai dim ond cadoediad parhaol fydd yn galluogi ei asiantaethau i ddarparu cymorth mawr ei angen yn Gaza yn effeithiol. Rydym yn parhau i weld argymhellion ar gyfer cynyddu cyflenwadau cymorth o'r môr a gollwng cymorth o'r awyr, a gobeithio y bydd hynny'n arwain at fwy o gymorth mwy effeithiol. Byddwn yn parhau i adolygu ein safbwynt pe bai'r Pwyllgor Argyfyngau Brys yn teimlo y gellir bodloni'r meini prawf ar gyfer apêl. Delyth Jewell AC: Diolch yn fawr am hynny. A ydych chi'n rhannu fy mhryder dybryd am weithwyr cymorth, sydd yn Gaza ac yn y Lan Orllewinol ar hyn o bryd? Roedd rhai o fy nghyn-gydweithwyr yn ActionAid Palestine yn gaeth yn Gaza am amser hir ar ddechrau'r gwrthdaro hwn, ac maent bellach yn y Lan Orllewinol mewn amgylchiadau ofnadwy. Rydym hefyd wedi clywed am yr hyn a ddigwyddodd yn World Central Kitchen. A ydych chi'n cytuno â mi fod y bobl hyn yn bobl sydd am gadw pobl eraill yn fyw, eu bod yn aberthu eu bywydau er mwyn gwneud y byd hwn yn lle gwell, a dim ond cadoediad brys a diwedd ar y lladd fydd yn sicrhau y gallant gael y cymorth i'r bobl sydd gymaint o'i angen? Lesley Griffiths AC: Yn hollol. Fel y dywedwch, mae'r bobl hynny'n mynd i'r gwledydd hyn i gadw pobl eraill yn ddiogel, ac mae'n erchyll eu bod yn cael eu rhoi yn y sefyllfa honno. Mae Llywodraeth Cymru yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd â'r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu i ddeall ymdrechion y DU mewn perthynas â'r gwrthdaro, ac i ddeall unrhyw effeithiau canfyddedig i Gymru. Bydd yr Aelodau'n gwybod, yr wythnos diwethaf, fod sefyllfa'r teulu Brisley wedi cael sylw mewn cwestiwn i'r Prif Weinidog, ac mae'r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu wedi cadarnhau bod cymorth yn cael ei ddarparu i'r teulu yn yr amgylchiadau erchyll hyn. Ymrwymodd y Prif Weinidog i weithio gydag Aelodau a allai fod ag etholwyr sydd ag aelodau teuluol a oedd yn ddioddefwyr ar 7 Hydref, neu sy'n cael eu dal fel gwystlon, i ddeall a oes angen cymorth pellach. Mae pob dydd y mae gwystlon yn parhau'n gaeth yn ymestyn poen yr erchyllterau, ac rydym am sicrhau bod cefnogaeth briodol ar gael. Ers 7 Hydref, mae Gweinidogion Cymru wedi gofyn i Weinidogion Llywodraeth y DU am gyfleoedd ar gyfer adsefydlu o Gaza i'r rhai sydd â'r angen mwyaf. Mae'n ymddangos i ni nad oes unrhyw obaith ar hyn o bryd o gael cynllun adsefydlu Gaza ar gyfer y DU. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae awdurdodau lleol Cymru a'n cymunedau wedi rhoi croeso i Wcreiniaid, i Affganiaid, Syriaid a cheiswyr lloches o lawer o wledydd. Yn unol â hynny, fel cenedl sy'n dyheu am fod yn genedl noddfa, byddem hefyd yn anelu at chwarae rhan lawn mewn unrhyw gynllun adsefydlu Gaza pe bai un yn cael ei sefydlu. Rydym wedi bod yn dilyn yr ymgyrch am gynllun aduno ar gyfer teuluoedd Gaza gyda diddordeb brwd. Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn ariannu'r Groes Goch Brydeinig i gefnogi aduno teuluol, gan helpu'r rhai sydd â statws ffoadur i ddod ag aelodau o'u teulu i Gymru drwy lwybr diogel a chyfreithiol a sefydlwyd gan Lywodraeth y DU. Fodd bynnag, mae atgyfeiriadau i'r prosiect o Gaza yn cael eu cymhlethu gan y rhwystrau rhag gadael Gaza. Mae hanes poenus y rhanbarth yn effeithio ar barodrwydd Palesteiniaid i adael, a pharodrwydd gwledydd cyfagos i ganiatáu mynediad. Mae pryder clir na fydd Palesteiniaid byth yn gallu dychwelyd os ydynt yn gadael nawr. Mae sicrwydd— Peredur Owen Griffiths AS: [Anghlywadwy.] Lesley Griffiths AC: Ni allaf dderbyn rhagor, mae'n ddrwg gennyf. Mae'n amlwg fod sicrwydd ynghylch yr hawl i ddychwelyd i unrhyw un sy'n gadael Gaza y tu hwnt i'n rheolaeth ni. Fodd bynnag, mae angen dod o hyd i atebion os ydym am allu cefnogi aduno yng Nghymru. Nid ydym wedi galw'n benodol am gynllun aduno teuluoedd Gaza. Yn hytrach, rydym wedi galw am fersiwn fwy blaengar o gynllun aduno teuluoedd y DU, sy'n adeiladu ar rai o lwyddiannau cynllun teuluoedd Wcráin sydd bellach wedi cau. Fe wnaeth cynllun Wcráin gefnogi 57,000 o bobl a gyrhaeddodd mewn cyfnod byr iawn, yn bennaf oherwydd bod y diffiniad o 'deulu' yn eang a bod prosesu ceisiadau'n gyflym. Gallai'r un dull hwn ar gyfer Palesteiniaid ac eraill gael effaith fuddiol iawn ar les a diogelwch llawer o deuluoedd. Mae aduno teuluol yn hanfodol i unrhyw un sy'n ceisio noddfa sy'n byw yng Nghymru, ni waeth ble yn y byd y mae eu haelod teuluol a wahanwyd yn byw. Ein dull gweithredu yw cefnogi cynllun teuluol a allai gefnogi Palesteiniaid neu unrhyw berson arall sydd wedi cael noddfa yma yng Nghymru. Byddwn yn parhau i alw am hyn. I gloi, bydd Llywodraeth Cymru yn chwarae rhan adeiladol yn cefnogi cymunedau a theuluoedd yr effeithir arnynt yng Nghymru, ac yn ceisio chwarae unrhyw ran a allwn i gefnogi ymdrechion rhyngwladol. Rydym yn galw eto am gadoediad, am gynyddu cymorth, ac am i'r gwystlon gael eu rhyddhau. Diolch. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Diolch i bawb. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Daeth y cyfarfod i ben am 18:45. QNR Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg Altaf Hussain: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cadwyn gyflenwi'r sector ynni yng Ngorllewin De Cymru? Jeremy Miles: We are supporting businesses in the supply chain in South Wales West through our Business Wales service and the development of the supply chain mapping tool. Luke Fletcher: A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet amlinellu sut mae'r toriadau i gyllideb y rhaglen brentisiaethau yn cydymffurfio â dyletswydd economaidd-gymdeithasol Llywodraeth Cymru? Jeremy Miles: There is no cut to the apprenticeship budget in 2024-25, meaning we will invest over £143 million next year in quality apprenticeships that deliver long-term economic benefits and strong careers. Tom Giffard: Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cyllid busnes yn cael ei ddyrannu mewn modd cyfrifol? Jeremy Miles: Welsh Government undertakes a due diligence appropriate to level of risk and value before approval of any business funding. We take our responsibility of handling public moneys very seriously. Darren Millar: A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer yr economi yng Ngogledd Cymru? Jeremy Miles: Our economic mission sets four national priority areas across a just transition and green prosperity; a platform for young people, fair work, skills and success; stronger partnerships for stronger regions and the everyday economy; and investing for growth. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llyr Gruffydd: Pa ystyriaeth y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i rhoi i gyflwyno strategaeth genedlaethol ar gyfer tiwmorau'r ymennydd? Eluned Morgan: The Welsh Government has published policy for both cancer and neurological conditions, which focuses on ensuring people have access to high-quality diagnostic and treatment services for conditions such as brain tumours. Our approach is based on supporting NHS organisations to deliver care in line with professional standards. Buffy Williams: A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau sydd i'w cymryd dros weddill tymor y Senedd hon fel rhan o'r cynllun iechyd menywod? Eluned Morgan: The national strategic clinical network for women’s health will be developing the women’s health plan. A consultation on the short-term actions and outcomes will take place in the autumn and the plan will be published at the end of the year. Further detailed actions will follow the publication of the plan. Cwestiynau i Y Gweinidog Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar Gareth Davies: A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru? Jayne Bryant: We continue to increase and sustain funding to support health boards and the NHS executive to ensure services meet the needs of the population. We have increased investment in mental health services in 2024/25, with the health board ring fence rising to over £800 million. Cwestiynau i Y Gweinidog Gofal Cymdeithasol Heledd Fychan: A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ynglŷn a’r adolygiad diogelu unedig sengl a’r prosesau cysylltiedig? Dawn Bowden: Mae'r adolygiad diogelu unedig sengl yn cyfuno adolygiadau ymarfer oedolion, ymarfer plant, lladdiad iechyd meddwl, lladdiad domestig a lladdiad ag arf ymosodol. Bydd yn cael ei lansio yn hydref 2024 a bydd yn dileu'r angen am adolygiadau lluosog, yn gwella prosesau, yn lleihau trawma i deuluoedd, yn cwtogi amserlenni, ac yn sicrhau bod dysgu'n cael ei fabwysiadu ledled Cymru.
uk-hansard-senedd-cy
senedd2024-05-01
2024-06-01T00:00:00
{ "year": "2024", "language": "cy", "license": "Open Parliament Licence - https://www.parliament.uk/site-information/copyright-parliament/open-parliament-licence/" }
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. Datganiad gan y Llywydd Y Llywydd / The Llywydd: Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Cyn i ni ddechrau, licen i roi gwybod i Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, fod Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024 wedi cael Cydsyniad Brenhinol ar ddydd Mercher 14 Chwefror. 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog Y Llywydd / The Llywydd: Yr eitem gyntaf, felly, y prynhawn yma, fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma gan Russell George. Prentisiaethau Russell George AC: 1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cynyddu cyfleoedd prentisiaethau yn y canolbarth? OQ60687 Mark Drakeford AC: Llywydd, diolch i Russell George am y cwestiwn yna. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud buddsoddiad sylweddol mewn prentisiaethau ledled Cymru. Mae creu cyfleoedd newydd yn y canolbarth yn dibynnu ar hyrwyddo manteision llwybrau prentisiaeth o ansawdd i gyflogwyr ac i ddysgwyr. Russell George AC: Diolch am eich ateb, Prif Weinidog. Yr wythnos diwethaf, roeddwn i'n falch o longyfarch Calum Greatorex, prentis sy'n gweithio yn Carpenter and Paterson Ltd yn y Trallwng, a enillodd wobr prentisiaeth y flwyddyn yn ddiweddar gan Academi Sgiliau Cymru fel prentis lefel 3. Roedd hefyd yn braf cael siarad gyda Leighton Rowlands Jones a Spencer Roberts, sydd hefyd yn brentisiaid yn y cwmni. Mae'r cwmni yn y Trallwng wedi hen sefydlu. Mae'n ymwneud â dyluniad busnes a gweithgynhyrchu cynhyrchion ar gyfer diwydiannau fel cynhyrchu pŵer, ynni adnewyddadwy a niwclear, ac ar hyn o bryd mae'r gweithlu wedi'i gyfansoddi o tua 12 y cant o brentisiaid. Roedd hefyd yn braf cyfarfod â Myrick Training Services, cwmni nid-er-elw sy'n helpu i gynorthwyo busnesau sy'n gysylltiedig â phrentisiaethau, ac sydd hefyd yn cynnig prentisiaethau o lefel 2 hyd at ac yn cynnwys lefel 5. Mae ganddyn nhw bryderon ynghylch cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru o ran y toriadau arfaethedig i'r gyllideb o ran prentisiaethau. Felly, tybed, Prif Weinidog, a allech chi amlinellu pa drafodaethau yr ydych chi wedi eu cael gyda darparwyr prentisiaethau ynglŷn â'r pryderon hyn, oherwydd rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi bod angen i ni gefnogi prentisiaethau yng Nghymru er mwyn cynyddu talent yn y dyfodol hefyd, a llwyddiant, fel yn stori Calum Greatorex. Mark Drakeford AC: Wel, diolch i Russell George am hynny, Llywydd, ac, wrth gwrs, rwy'n llongyfarch y bobl ifanc y mae wedi cyfeirio atyn nhw. Mae'n wych clywed am gwmni sydd â 12 y cant o'i weithlu fel prentisiaethau, gan mai nhw, fel y dywedodd, fydd y bobl ifanc a fydd yn dysgu'r sgiliau y bydd eu hangen arnyn nhw ar gyfer y dyfodol. A bydd Llywodraeth Cymru yn parhau—byddwn yn gwario dros £400 miliwn ar brentisiaethau dros dymor y Senedd hon, ac, yn y flwyddyn ariannol nesaf, byddwn yn parhau i fuddsoddi £138 miliwn, fel y gwelwch chi yn y gyllideb ddrafft. Nawr, wrth gwrs, mae'r Gweinidog a'r Gweinidog cyllid wedi bod yn gwrando'n astud ar y pwyntiau a wnaed gan bwyllgorau, gan gynnwys pwyllgor Russell George, yn ystod y broses graffu, a byddan nhw'n edrych i weld ble mae unrhyw newidiadau y gellir eu gwneud pan ddaw'r gyllideb derfynol gerbron y Senedd. Ond, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, bu galwadau o bob rhan o'r Senedd am gyllid ychwanegol at amrywiaeth eang o ddibenion, ac mae hynny wedi cynnwys prentisiaethau. Rydym ni'n parhau i fod mewn trafodaethau gyda bob un o'r 10 darparwr—mae bob un o'r 10 darparwr yn weithredol yn y canolbarth. Cynhaliodd swyddogion gyfarfod gyda bob un o'r 10 ohonyn nhw yn gynharach y mis hwn er mwyn cynllunio ymlaen llaw a gwneud y defnydd gorau posibl o'r buddsoddiad sylweddol iawn yn y maes pwysig hwn sydd yno o hyd yng nghynigion y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Trais Domestig Mabon ap Gwynfor AS: 2. Pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i fynd i'r afael â thrais domestig? OQ60714 Mark Drakeford AC: Llywydd, mae'r camau ymarferol mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo iddyn nhw i ddelio gyda thrais domestig ar gael yn ein strategaeth genedlaethol. Partneriaid ar draws y sectorau preifat, cyhoeddus ac arbenigol sy’n cyflawni’r camau yma. Mae gwasanaethau datganoledig, a rhai sydd heb eu datganoli hefyd, wedi dod at ei gilydd i gefnogi'r agenda yma yng Nghymru. Mabon ap Gwynfor AS: Diolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Mae'r ystadegau o ogledd Cymru yn frawychus. Mae 65 y cant o holl dor-cyfraith ardaloedd y gogledd yn ymwneud â thrais domestig. Mae mwy o achosion o drais domestig a thrais rhywiol yng ngogledd Cymru nag yn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Gyfunol y tu allan i Lundain. Dyna pam mae gwaith Gorwel mor bwysig. Bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol o Gorwel—rhaglen gan grŵp tai cymdeithasol Cynefin ydy Gorwel, sydd yn cael ei hariannu drwy'r grant cymorth tai, ac yn helpu pobl sy'n dioddef o drais domestig, ymhlith gwaith pwysig arall. Am bob £1 y mae rhaglen Gorwel yn ei derbyn, mae'n cynhyrchu £3.56 o werth cymunedol. Ond os na fydd y Llywodraeth yn cynyddu’r grant cymorth tai, yna bydd y rhaglen yma, a darpariaethau eraill tebyg trwy Gymru, o dan fygythiad, ac mi fyddwn ni'n gweld mwy o achosion o drais domestig, mwy o alw ar wasanaethau heddlu, a mwy o bwysau ar y gwasanaethau iechyd a thai. Wrth ystyried pwysigrwydd hyn, felly, ydy'r Prif Weinidog yn fodlon ymrwymo i sicrhau bod y grant cymorth tai yn derbyn y cynnydd angenrheidiol er mwyn parhau â'r gwaith pwysig y mae'r darparwyr yma yn ei gyflawni? Mark Drakeford AC: Llywydd, diolch i Mabon ap Gwynfor am y cwestiwn yna. Dwi'n ymwybodol o'r gwaith y mae Gorwel yn ei wneud, wrth gwrs. O ran y ffigurau y mae'r Aelod wedi cyfeirio atynt, mae'n beth anodd eu clywed nhw. Ond un o'r rhesymau pam y mae ffigurau fel yna gyda ni yw achos bod asiantaethau fel Gorwel, a phobl eraill, yn codi ymwybyddiaeth ac yn rhoi hyder i bobl ddod ymlaen ac i riportio pethau i'r heddlu, ac yn y blaen. Fel dywedais i yn yr ymateb i Russell George, ar draws y Siambr mae Aelodau'n gofyn i'r Llywodraeth ffeindio mwy o arian i bethau—a phethau pwysig, wrth gwrs. Ond pan na fydd yr arian sydd gyda ni yn ddigonol i wneud popeth rŷn ni eisiau ei wneud fel Llywodraeth, mae penderfyniadau anodd i'w gwneud. Fel y dywedais i, mae'r Gweinidog cyllid wedi gwrando ar bopeth y mae pwyllgorau'r Senedd wedi dweud trwy'r broses graffu, a bydd y cyllid terfynol yn dod o flaen Aelodau cyn bo hir. Altaf Hussain AS: Prif Weinidog, yn anffodus, mae trais domestig yn parhau i fod yn uchel iawn, gyda 7 y cant o fenywod a 3 y cant o ddynion yn dioddef cam-drin domestig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, heb newid i raddau helaeth o'r 12 mis blaenorol. Os ydym ni'n mynd i roi terfyn ar gam-drin a thrais domestig, mae angen i ni addysgu darpar gyflawnwyr troseddau nad trais a cham-drin yw'r ateb byth. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o effeithiolrwydd yr ymgyrch Byw Heb Ofn wrth addysgu cenedlaethau'r dyfodol am effaith trais domestig ar ddioddefwyr a chymdeithas yn gyffredinol? Mark Drakeford AC: Wel, unwaith eto, Llywydd, diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae'n tynnu sylw at yr un cyfyng-gyngor a oedd yno yn y cwestiwn gwreiddiol. Diben ein rhaglenni yng Nghymru yw perswadio mwy o bobl i ddod ymlaen a riportio digwyddiadau o drais domestig pan fydd y rhain yn digwydd. Yna gallwch ddarllen llwyddiant perswadio pobl i fod â'r hyder bod gwasanaethau ar gael fel arwydd bod mwy o drais domestig nag oedd mewn cyfnod blaenorol. Rwy'n credu bod dadl gredadwy iawn mai’r mater syml yw ein bod ni'n datgelu mwy o'r hyn a oedd yno eisoes. Ac mae llinell gymorth Byw Heb Ofn, sydd yno 24 awr y dydd, bob diwrnod o'r flwyddyn, yno i roi hyder i bobl sy'n cael eu hunain yn yr amgylchiadau ofnadwy hyn y bydd cymorth ar gael iddyn nhw bob amser. A gellir ystyried bod y ffaith bod mwy o alwadau i'r llinell mewn rhai blynyddoedd fel llwyddiant yr ymdrech honno, yn hytrach nag arwydd bod pethau'n gwaethygu. Mae'n rhaid i ni fod yn ofalus am y ffordd yr ydym ni'n dehongli'r ffigurau hynny. Lle rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn y mae'r ddau Aelod wedi ei ddweud yw bod y ffigurau hynny yn llawer iawn rhy uchel, a bod llawer iawn i'w wneud o ran addysg, o ran darparu gwasanaethau, i oroeswyr ac i gyflawnwyr trais domestig, i gyrraedd y math o Gymru yr ydym ni eisiau ei bod, lle nad yw pobl yn byw mewn ofn o'r hyn a allai ddigwydd iddyn nhw y tu mewn i'w cartrefi eu hunain. Huw Irranca-Davies AC: Rwy'n falch iawn o glywed y Prif Weinidog yn rhoi clod i linell gymorth Byw Heb Ofn. Mae'n amserol oherwydd, er ein bod ni wedi clywed heddiw bod trais yn erbyn menywod a merched yn dal i fod yn broblem fawr ar draws cymdeithas gyfan, ym mhob rhan o Gymru ac ym mhob math o leoliad domestig, rydym ni hefyd yn gweld cynnydd mewn trais o gwmpas yr adeg honno o ddigwyddiadau chwaraeon mawr, gan gynnwys pencampwriaeth rygbi'r chwe gwlad wrth gwrs. Nawr, mae'n rhaid mai rhan o'r ateb i hyn yw cefnogaeth proffil uchel ein sefydliadau rygbi a'n clybiau rygbi, gan gynnwys Undeb Rygbi Cymru, wrth gwrs, ond hefyd clybiau fel y Gweilch gwych, sydd wedi cynnal ymgyrchoedd hyrwyddo ar hyn eu hunain—ac fe gawson nhw ganlyniad gwych dros y penwythnos, gyda llaw, yn erbyn Ulster, yr ydym ni i gyd yn ei gymeradwyo—ond ein holl glybiau rhanbarthol, a'n clybiau lleol hefyd, sydd â chymaint o ran i'w chwarae a chymaint o ddylanwad i'w gael o ran hyrwyddo'r ymgyrch yn erbyn trais a cham-drin domestig. Felly, a wnaiff ef ymuno â mi i alw ar bawb i gefnogi Cymru dros y penwythnos, lle mae ganddyn nhw fynydd i'w ddringo yn Nulyn, er ein bod ni wedi arfer â dringo mynyddoedd, wrth gwrs, yng Nghymru, a galw ar bawb yn y teulu rygbi i godi llais yn erbyn trais a cham-drin domestig? Mark Drakeford AC: Wel, diolch i Huw Irranca-Davies am hynna. Wrth gwrs, gall y sefydliadau hynny sydd â statws o'r fath yng nghymunedau Cymru ac ym mywyd cyhoeddus Cymru wneud cymaint i annog a pherswadio pobl i weithredu yn y ffyrdd y byddai pawb yn y Siambr hon yn dymuno eu gweld. Buom yn trafod Undeb Rygbi Cymru ar lawr y Senedd ddim ond ychydig wythnosau yn ôl, ac rwy'n falch o ganmol y gwaith y mae'r undeb yn ei wneud, ei waith yn hyrwyddo gêm y menywod, ond hefyd yn y ffordd y gall helpu i fynd i'r afael ag agweddau efallai na fyddai wedi cael eu herio yn y gorffennol a heddiw yr ydym ni'n gwybod bod yn rhaid i ni eu hwynebu yn y ffordd uniongyrchol honno. Rwy'n ddiolchgar iawn am y cymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei gael gan sefydliadau chwaraeon yn ymgyrch Iawn, yr ymgyrch honno wedi'i hanelu at ddynion ifanc wrth iddyn nhw ddechrau ffurfio perthnasoedd yn eu bywydau eu hunain. Rydym ni wedi cael tua 100 o gyfranogwyr uniongyrchol yn yr ymgyrch—esiamplau, pobl sy'n lleisio eu barn i bobl eraill. Yng ngham cyntaf yr ymgyrch, cyrhaeddwyd tua 400,000 o bobl ifanc yng Nghymru gan y gwahanol ffyrdd y mae'r ymgyrch honno yn ceisio cyfleu'r pwysigrwydd i ddynion ifanc, yn arbennig, o fod â pherthynas barchus ag eraill wedi'i ymwreiddio yn y ffordd y maen nhw eu hunain yn tyfu i fyny. Ac o ran y pwyntiau y mae'r Aelod wedi eu gwneud am glybiau rygbi, a sefydliadau chwaraeon eraill hefyd sydd â pharch yn y cymunedau lleol hynny, gallan nhw wneud llawer iawn i helpu. Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau Y Llywydd / The Llywydd: Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies. Andrew R.T. Davies AC: Diolch, Llywydd, ac rwy'n tynnu sylw'r Aelodau at fy natganiad o fuddiannau ar y gofrestr. Prif Weinidog, ddoe, yn eich cynhadledd i'r wasg, fe wnaethoch chi gyfeirio at y ffaith bod ffermwyr, ar y cynllun ffermio cynaliadwy, eisiau gallu gwneud beth bynnag maen nhw ei eisiau gyda'r arian a pheidio â chael eu dwyn i gyfrif. Ai dyna'ch dealltwriaeth chi o'r dicter, y rhwystredigaeth a'r pryder dwfn iawn sydd gan ffermwyr ynghylch y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, oherwydd nid wyf i'n gwybod am unrhyw ffermwr nad yw'n disgwyl cael ei ddwyn i gyfrif am yr arian y mae'n ei dderbyn gan y trethdalwr wrth dderbyn y nwyddau y mae'n eu darparu yn gyfnewid am y camau y mae'n ei gymryd ar ei fferm? Ac, yn wir, mae pob arolwg yn dangos, am bob £1 sy'n cael ei gwario gan y trethdalwr i gefnogi'r diwydiant amaeth, bod rhwng £7 a £9 yn cael ei ddychwelyd er budd y cyhoedd. Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i barhau i gefnogi ffermwyr a'r economi wledig. Dyna pam rydym ni wedi cynnal y cyfanswm yr ydym ni'n ei gyfrannu at y cynllun taliadau sylfaenol yn llawn yma yng Nghymru—cyferbyniad enfawr â'r ffordd y mae ffermwyr wedi cael eu trin yn Lloegr, wrth gwrs. Y pwynt yr oeddwn i'n ei wneud ddoe, ac yn ei wneud eto heddiw, yw y bydd y cyhoedd yng Nghymru yn parhau i fuddsoddi mewn ffermio, ac mae gan y cyhoedd hawl i weld enillion o'r buddsoddiad hwnnw. Dyna hanfod y cynllun ffermio cynaliadwy. Ar frig uchaf y rhestr mae'r buddsoddiad y byddwn ni'n ei wneud mewn cynhyrchu bwyd cynaliadwy, ond, ochr yn ochr â hynny, mae pethau eraill, pethau pwysig iawn, y mae ffermwyr yn eu gwneud heddiw yr ydym ni eisiau parhau i'w gwobrwyo am eu gwneud yn y dyfodol—yr holl bethau stiwardiaeth amgylcheddol hynny, sydd, mewn oes o newid hinsawdd, yn fwy arwyddocaol fyth. Felly, mae bargen yma. Dyna'r fargen y mae'r cynllun ffermio cynaliadwy yn ei chynrychioli. Dyna pam rydym ni wedi cael sgwrs saith mlynedd gyda ffermwyr yng Nghymru ynglŷn â chael y fargen honno'n iawn. Rydym ni yn nyddiau olaf yr ymgynghoriad diweddaraf, ac rwy'n gobeithio y bydd cynifer o bobl â phosibl yn cymryd rhan ynddo, fel y gallwn ni gyrraedd cynllun terfynol sy'n parhau i fuddsoddi yn nyfodol cefn gwlad a'n cymunedau ffermio, ac sy'n gwneud hynny mewn ffordd sy'n sicrhau'r enillion o'r buddsoddiad hwnnw y mae gan y cyhoedd hawl i'w ddisgwyl. Andrew R.T. Davies AC: Rwy'n cytuno â chi bod gan y cyhoedd hawl, a dyna pam y defnyddiais y ffigurau pwysig hynny o'r enillion o'r buddsoddiad y mae'r trethdalwr yn ei wneud. Ond fe aethoch chi ymlaen yn y gynhadledd i'r wasg honno i ddweud mai eich dealltwriaeth chi oedd, 'Gwnewch beth bynnag y mae ffermwyr yn meddwl y bydden nhw'n hoffi ei wneud ag ef'—ac 'ef' yw'r arian y mae'r trethdalwr yn ei gyfrannu i gefnogi amaethyddiaeth. Ac mae'n beth anodd iawn ei werthu, gan fod eich dadansoddiad eich hun yn sôn am golli 5,500 o swyddi, gostyngiad o 125,000 o wartheg, 800,000 o ddefaid, a cholled o £200 miliwn mewn gweithgarwch economaidd yn yr economi wledig. Nid fy ffigurau i yw'r rhain; dyna'r ffigurau y mae'r Llywodraeth, yn amlwg, wedi eu cyhoeddi. Pan fyddwn ni'n sôn am geisio cael cynllun ffermio cynaliadwy sy'n darparu diogeledd bwyd, ar y mathau hynny o rifau, mae'n amlwg mai ychydig neu ddim pwysoliad sydd ar gyfer diogeledd bwyd. Sut ar y ddaear all ffermwyr fod yn hyderus yn sefyllfa'r Llywodraeth pan fo'r rhifau hynny ynghlwm wrth y briff? A allwch gadarnhau heddiw, Prif Weinidog, bod diogeledd bwyd yn gynhwysyn hanfodol o'r ymgynghoriadau hyn yr ydych chi'n eu cael ar hyn o bryd ac, yn y pen draw, y bydd gan ddiogeledd bwyd yr un pwysoliad â'r enillion amgylcheddol hanfodol yr ydym ni eisiau gweld ffermwyr yn chwarae rhan yn eu sicrhau i gyrraedd sero net erbyn 2050? Mark Drakeford AC: Yn gyntaf oll, i ymdrin â'r pwynt a wnaeth yr Aelod am y dadansoddiad ariannol a gyhoeddwyd, o leiaf mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dadansoddiad ariannol. Fe wnaethom ni ddarganfod heddiw bod Llywodraeth y DU wedi gwrthod cyhoeddi dadansoddiad ariannol o'i chynigion ar gyfer cymunedau ffermio yn Lloegr, tra ein bod ni wedi cyhoeddi'r ffigurau hynny. Fe wnaethom ni eu cyhoeddi nhw am yr union reswm o gael ymgynghoriad cytbwys, lle gallwn gytuno ar gynigion ar gyfer y cynllun ffermio cynaliadwy terfynol a fydd yn lliniaru rhai o'r risgiau hynny a fyddai wedi bod yno fel arall. Nid yn unig y gallaf i gadarnhau wrth arweinydd yr wrthblaid bod ffermio cynaliadwy yn gynhwysyn hanfodol yn y cynllun ffermio cynaliadwy, dyma'r cynhwysyn pwysicaf. Dyna'r peth cyntaf yr ydym ni'n ei ddweud: bod y cynllun ffermio cynaliadwy wedi'i ddylunio i sicrhau cynhyrchiant bwyd cynaliadwy yma yng Nghymru. Andrew R.T. Davies AC: Pan edrychwch chi ar y ffigurau yr wyf i wedi eu rhannu â chi, Prif Weinidog, ac yn enwedig y colledion swyddi hollbwysig a'r colledion allbwn economaidd hynny, mae'n anodd i unrhyw berson rhesymol ddod i'r casgliad y bydd y cynllun ffermio cynaliadwy, fel y mae wedi'i lunio ar hyn o bryd, yn darparu'r cynnig ffermio cynaliadwy hwnnw gan Lywodraeth Cymru neu Lywodraethau Cymru yn y dyfodol. Felly, gofynnaf eto i chi gadarnhau bod diogeledd bwyd yn rhan hanfodol o'r cynigion ac y byddwch chi'n gwneud yn siŵr bod diogeledd bwyd yn cael y pwysoliad cyfartal hwnnw â'r enillion amgylcheddol yr ydym ni i gyd, yn y pen draw, eisiau eu gweld, ac y bydd ailfeddwl am y gorchudd coed gorfodol o 10 y cant sy'n un o ofynion y cynigion presennol sydd ar y bwrdd. Oherwydd bydd y ddogfen cynllun ffermio cynaliadwy honno sy'n cael ei chyflwyno yn dibrisio ffermydd, yn arwain at golli swyddi ac yn chwalu'r gallu i ddarparu bwyd sydd ei angen ar y genedl ar gyfer y dyfodol. Mark Drakeford AC: Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig fy mod i'n atgoffa arweinydd yr wrthblaid pam ein bod ni yn y sefyllfa yr ydym ni ynddi: mae oherwydd bod ffermwyr yng Nghymru wedi cymryd ei gyngor ac wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd. Dyna pam mae hynny—[Torri ar draws.] Wel, dyna ni. Credwch chi fi, rydym ni yn y sefyllfa yr ydym ni ynddi heddiw oherwydd ein bod ni wedi cymryd rheolaeth yn ôl dros gymorth ffermio yng Nghymru, fel yr oedd yn rhaid i ni ei wneud. Pe bai ffermwyr yng Nghymru yn dal i allu cael mynediad at y cyllid a oedd ar gael drwy'r Undeb Ewropeaidd, bydden nhw mewn sefyllfa wahanol iawn nag y maen nhw ar ôl clywed a dilyn ei gyngor ef. Rwyf i wedi ateb llawer o'i gwestiynau eisoes y prynhawn yma; ni wnaf fynd dros hynny eto. O ran plannu coed, mae gan gannoedd ar gannoedd ar gannoedd o ffermydd yng Nghymru 10 y cant o'u tir o dan orchudd coed eisoes. Nid oes neb yn cael eu gorfodi i blannu coed yng Nghymru; roeddem ni'n benderfynol o gynnig y cyfle cyntaf i ffermwyr yng Nghymru dyfu'r coed y bydd eu hangen arnom ni, gan y bydd angen miloedd ar filoedd yn fwy o goed arnom ni yng Nghymru mewn cyfnod o newid hinsawdd. Rydym ni wedi ymrwymo i wneud hynny ac rydym ni wedi ymrwymo i gynnig cyfle cyntaf i ffermwyr wneud hynny. Pan nad yw'n bosibl, pan, oherwydd topograffi'r tir neu ystyriaethau eraill, nad yw'n bosibl cyrraedd 10 y cant, mae'r Gweinidog eisoes wedi cyflwyno cynigion fel na fyddai disgwyl i ffermwyr gyrraedd hynny. Pan fo ffermwyr yn gallu, pan fo'n rhesymol disgwyl i ffermwyr wneud cyfraniad at liniaru newid hinsawdd, byddan nhw'n cael eu gwobrwyo am wneud hynny yn y cynllun ffermio cynaliadwy. Y Llywydd / The Llywydd: Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch, Llywydd. Cafwyd cadarnhad yr wythnos diwethaf bod economi'r DU wedi mynd i ddirwasgiad. Ond nid yr economi yn unig sy'n mynd tua'n ôl; mae dirywiad diwydiannau hanfodol yng Nghymru a'r cymunedau y maen nhw'n eu cynnal, boed hynny'n amaeth, yn ddur neu'n lletygarwch, yn cynnwys holl nodweddion dirwasgiad cymdeithasol hefyd. Mae dur yn brwydro am ei fywyd; mae'r tractorau, rydym ni'n gwybod, eisoes ar y ffyrdd; ac mae'r arwydd 'ar gau ar gyfer busnes' diweddaraf yn cael ei godi mewn bwyty arall eto yn etholaeth y Prif Weinidog ei hun. Rwyf wedi sefyll yma yn ddigon hir nawr i wybod y bydd y Prif Weinidog yn neilltuo'r bai i San Steffan: 'Mae'n fater o ddiffyg cyllid'. Ac, wrth gwrs, mae Plaid Cymru wedi dadlau ers tro nad yw Cymru'n cael ei hariannu'n deg; gallwn gytuno ar hynny yn sicr. Ond a yw'r Blaid Lafur yn cytuno—Plaid Lafur Keir Starmer? A yw ef yn cytuno nad yw Cymru'n cael ei hariannu'n deg? Ac os ydyw, pam nad yw'n dal i addo i unioni hynny, hyd yn oed ar rywbeth mor sylfaenol anghyfiawn â cholli biliynau o bunnoedd o symiau canlyniadol HS2? A pham mae'r Prif Weinidog yn methu â'i berswadio? Mark Drakeford AC: Rydym ni'n cael y cwestiwn hwn wythnos ar ôl wythnos ar ôl wythnos, lle mae'r Aelod eisiau gofyn cwestiynau i rywun nad yw yn y Senedd ynglŷn â chyfrifoldebau nad ydyn nhw'n cael eu harfer yn y Senedd. Rwyf i wedi dweud wrtho o'r blaen bod lle gallai e ofyn y cwestiynau hynny, ac efallai y byddai'n well ganddo fod yn y fan yna. Gadewch iddo, am eiliad, ofyn cwestiwn i mi am yr hyn yr wyf i'n gyfrifol amdano ac fe wnaf fy ngorau i roi ateb iddo. Rhun ap Iorwerth AC: Fe wnaf i ailadrodd y cwestiwn. Beth mae'r Prif Weinidog yn ei wneud i berswadio arweinydd y Blaid Lafur i fynd i'r afael â chyllid teg i Gymru? Bydd ASau Plaid Cymru yn falch o ddwyn Keir Starmer i gyfrif os yw Gweinidogion Llafur Cymru yma yn anfodlon gwneud hynny. Y peth y mae pobl eisiau ei wybod yw bod y Llywodraeth ar eu hochr nhw. Rwy'n meddwl ei bod hi'n eithaf amlwg bod y Ceidwadwyr ar ochr neb ond eu hochr eu hunain, a dyna pam rwy'n llwyr ddisgwyl iddyn nhw gael eu taflu allan o rym eleni. Mae'n llawer iawn rhy hwyr. Ond mae Plaid Cymru yn barod i ddwyn pwy bynnag sydd mewn grym yn San Steffan i gyfrif. Ar ôl cael gwared ar y Torïaid, byddai pobl wedyn yn edrych i weld a yw Llafur ar eu hochr nhw. Wrth gwrs, maen nhw eisoes yn gwneud hynny yng Nghymru, ac mae llawer wedi dod i'r casgliad bod Llafur yn methu yma. Ac mae'n methu mewn meysydd y byddech chi'n disgwyl i Lafur, o'u rhethreg eu hunain, eu blaenoriaethu. Un o gonglfeini maniffesto'r Prif Weinidog ar gyfer arweinyddiaeth Llafur oedd hyrwyddo cydraddoldeb drwy'r cyflog byw go iawn, ond gallaf ddweud wrtho fod dwy ran o dair o weithwyr sy'n cael eu talu drwy'r grant cymorth tai, er enghraifft, yn dal i gael eu talu llai na'r cyflog byw gwirioneddol. A yw'r Prif Weinidog yn gresynu hynny, a phryd allwn ni ddisgwyl i hynny gael ei gywiro? Mark Drakeford AC: Nid yw dyfynnu'n ddetholus o faniffestos yn ein cael ni'n bell iawn. Rwyf i wedi edrych ar faniffesto Llafur; nid yw'n gwneud unrhyw gyfeiriad o gwbl at dalu'r cyflog byw gwirioneddol yn y cyd-destun y mae newydd ei ddisgrifio. Yr hyn y mae'n ymrwymo iddo yw talu'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol yma yng Nghymru. Dyna oedd yr un ymrwymiad drytaf yn ein maniffesto ac mae arian wedi cael ei ddefnyddio flwyddyn ar ôl blwyddyn i'w gyflawni. Rwy'n falch, bob blwyddyn, bod nifer gynyddol o gyflogwyr cyflog byw gwirioneddol yma yng Nghymru a mwy o bobl yn elwa ohono. Rwy'n gobeithio y bydd y nifer honno yn parhau i dyfu yn y dyfodol, ac rwy'n gobeithio y bydd cyfleoedd i bobl yn y maes y mae wedi cyfeirio ato. Er mwyn gwneud hynny, mae'n rhaid i chi fod â'r cyllid ar gael. Wythnos ar ôl wythnos, mae'n gofyn i mi ddod o hyd i fwy o arian ar gyfer hyn a mwy o arian ar gyfer y llall, ac rwy'n siŵr ei fod ar fin gofyn i mi ddod o hyd i fwy o arian at ddiben arall eto; yr hyn nad yw byth yn ei wneud yw dweud wrthyf i o ble y byddai'r arian hwnnw'n dod. Rhun ap Iorwerth AC: Rwy'n synnu'n fawr, mae'n rhaid dweud, nad yw'n ymddangos bod y Prif Weinidog yn gresynu nad yw'r rhai sy'n gweithio ar brosiectau grant cymorth tai yn cael eu talu'r cyflog byw gwirioneddol. Efallai fy mod i wedi camddeall yr hyn yr oedd Llafur wedi ei addo. Yn sicr, mae posibilrwydd o or-addo yn digwydd, ond gallwn yn sicr weld digon o arwyddion o dangyflawni. Mae'r Llywodraeth Lafur hon yn methu â bodloni ei dangosyddion perfformiad allweddol ei hun ar lawer o bynciau. Nid yw hynny'n helpu pan fo'r Llywodraeth wedyn yn gosod dangosyddion perfformiad allweddol i eraill eu bodloni sydd nid yn unig yn anodd eu bodloni ond a allai fod yn niweidiol i'w llesiant, a dyna sut mae'r sector amaeth yn teimlo ar hyn o bryd: Llywodraeth Cymru o'r brig i lawr yn dweud wrthyn nhw sut i ffermio tra'u bod yn meddu ar gamddealltwriaeth o'r hyn sydd ei angen i sicrhau amaethyddiaeth gynhyrchiol ac ystyriol o'r amgylchedd, sef yr hyn y mae'r sector yn ymdrechu i'w gyflawni. Ddoe, clywsom y Prif Weinidog yn dweud wrth ffermwyr ar y naill law y bydd eu llais yn llunio'r cynllun ffermio cynaliadwy ac ar y llaw arall nad nhw sydd i benderfynu sut mae'r cynllun yn gweithio. Pa un a yw'n ddur, pa un a yw'n lletygarwch neu'n fanwerthu neu'n amaethyddiaeth, siawns mai swyddogaeth Llywodraeth Cymru yw arwain partneriaeth, gan hyrwyddo gweithwyr Cymru, gweithio gyda nhw. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno, os ydyn nhw'n mynd i ddangos eu bod nhw ar ochr pobl, bod yn rhaid i'r pwyslais fod ar y gwrando ac nid ar y darlithio? Mark Drakeford AC: Rwyf i wedi clywed tair darlith y prynhawn yma gan yr Aelod yn honni eu bod nhw'n gwestiynau. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r dros 3,000 o ffermwyr sydd wedi cymryd rhan yn y 10 digwyddiad ymgynghori yr ydym ni wedi eu cynnal ar y cynigion diweddaraf yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf yn unig. Rwy'n gwybod y bydd cannoedd o bobl eraill wedi cymryd rhan mewn sgyrsiau drwy'r undebau ffermio. Rydym ni wedi ymrwymo'n llwyr i'r ffordd honno o gyd-gynhyrchu gyda'r sector ffermio mewn ffordd lle mae'r swm mawr iawn o arian yr ydym ni wedi ymrwymo i'w gynnal ar gyfer cynorthwyo'r gymuned amaethyddol yn parhau i fod ar gael iddyn nhw. Mae'r Gweinidog mewn trafodaeth barhaus gyda buddiannau ffermio. Byddaf yn cyfarfod â phobl eraill yr wythnos nesaf at y diben hwn. Y rheswm pam rydym ni'n ei wneud yw oherwydd ein hymrwymiad i'r sector hwnnw ac i ddyfeisio yma yng Nghymru ffordd o wobrwyo ffermwyr am y gwaith y maen nhw'n ei wneud sy'n cael ei gydnabod gan weddill y cyhoedd yng Nghymru fel gwaith sy'n hanfodol ar gyfer ein dyfodol cyfunol. Safleoedd Gwenwynig Peredur Owen Griffiths AS: 3. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau diogelwch safleoedd gwenwynig yn y de-ddwyrain? OQ60715 Mark Drakeford AC: Mae'r ddeddfwriaeth sy'n ymdrin â diogelwch ar safleoedd o'r fath yng Nghymru yn cael ei gosod gan y Senedd. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu canllawiau statudol i gynorthwyo awdurdodau lleol i gyflawni eu cyfrifoldebau. Mae cymorth pellach ar gael drwy Iechyd Cyhoeddus Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru. Peredur Owen Griffiths AS: Diolch am yr ateb yna. Peredur Owen Griffiths AS: Yn yr un modd â'r map o domenni glo categori C a D yng Nghymru, mae gan bobl yr hawl hefyd i gael gwybod lleoliad safleoedd gwenwynig hanesyddol. Yn anffodus, mae llawer o safleoedd gwenwynig ledled ein gwlad o ganlyniad i'n treftadaeth ddiwydiannol a chorfforaethau rhyngwladol yn ein defnyddio ni fel man dadlwytho ar gyfer pob math o gemegau annymunol. Efallai fod y corfforaethau hyn wedi hen ddiflannu o'n cymunedau, ond mae etifeddiaeth eu gwaith yn parhau gyda chyrsiau dŵr llygredig. A yw'r Llywodraeth hon wedi ystyried cyhoeddi map o safleoedd gwenwynig ledled Cymru i hysbysu'r cyhoedd yn well am y peryglon a allai fodoli yn eu cymuned, a phryd y byddwn ni hefyd yn cael tasglu sy'n ymroddedig i dynnu'r holl asiantaethau perthnasol sy'n mynd ar drywydd llygryddion at ei gilydd ac ymdrin â'r etifeddiaeth y maen nhw wedi ei gadael ar eu holau? Mark Drakeford AC: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig yna. Mae'n iawn, wrth gwrs, bod tirwedd Cymru wedi'i wasgaru gydag enghreifftiau o etifeddiaeth pethau a ddigwyddodd flynyddoedd maith yn ôl. Y system bresennol yw mai cyfrifoldeb awdurdod lleol yw hyn. Mae ganddyn nhw ddyletswydd sylfaenol yn y maes hwn i nodi tir halogedig yn eu hardal. Ond mae'r gwaith y mae'r Gweinidog yn ei wneud ar y Bil mwyngloddiau segur yn cael ei ddylunio gyda'r posibilrwydd o ymestyn cwmpas y trefniadau y byddwn ni'n eu sefydlu yn y lle cyntaf er mwyn gallu cymryd mathau eraill o etifeddiaeth ddiwydiannol i ystyriaeth yn y dyfodol. Rwy'n gobeithio, pan ddaw'r Bil gerbron y Senedd, y bydd yr Aelod yn gweld hynny. Er ei fod yn dechrau, fel y dywedodd, gydag etifeddiaeth mwyngloddio yng Nghymru, ceir materion etifeddiaeth eraill y gellid defnyddio'r strwythur a fydd yn cael ei sefydlu i ymateb iddyn nhw yn y dyfodol, a byddai hynny'n caniatáu i ni, er enghraifft, gymryd i ystyriaeth y rhaglen adfer mwyngloddio metel sydd gennym ni yma yng Nghymru, lle ceir diddordeb rhyngwladol yn y ffordd yr ydym ni wedi gallu ymestyn cwmpas ein rhaglen adfer. Felly, ni fydd llwybr cyflym i'r math o gofrestr y mae'r Aelod yn ei hawgrymu, ond mae llwybr posibl a fydd yn dod gerbron y Senedd yn ddiweddarach eleni, ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau sy'n cynrychioli ardaloedd lle mae'r materion etifeddiaeth hyn yn flaenllaw iawn eisiau cymryd diddordeb agos yn hynt y Bil hwnnw. Laura Anne Jones AC: Rwyf innau hefyd yn rhannu pryderon y cyd-Aelod dros Ddwyrain De Cymru ac, er enghraifft, ar y cynnig i adennill tomenni glo Bedwas, sydd wedi bod yn destun llawer o bryder ymhlith etholwyr yn fy rhanbarth i. Er bod Llywodraeth Cymru wedi honni nad yw'r tomenni o reidrwydd yn beryglus, mae risg, wrth gwrs, fel y gwyddoch chi, o ddŵr ffo a allai arwain at ddigwyddiad. Ond hoffwn wneud y Prif Weinidog yn ymwybodol o chwarel Tŷ Llwyd yn Ynys-ddu ger Caerffili, lle canfuwyd fod cemegau gwenwynig yn y dŵr yn gollwng o'r safle tirlenwi i goetir a ddefnyddir gan blant a cherddwyr cŵn y llynedd. Mae fy etholwyr yn yr ardal yn dal i gredu bod yr ardal wedi'i halogi ac wedi lleisio eu pryderon ynghylch y risg iechyd a diogelwch sy'n gysylltiedig â'r safle hwn. Mae'r system ddraenio sydd yno ar hyn o bryd yn annigonol, ac mae hylif halogedig yn dal i fod yn broblem gyffredin. Yn 2011, cytunodd Monsanto i helpu i lanhau'r chwarel, ac eto 13 mlynedd yn ddiweddarach, mae fy etholwyr yn dal i orfod ymdrin â'r canlyniadau hynny. Felly, Prif Weinidog, sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i ymdrin â'r mater hwn a glanhau'r chwarel unwaith ac am byth? Diolch. Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig yna. Dim ond i fod yn eglur, yn seiliedig ar wybodaeth gyfredol, nad yw'r rheoleiddwyr yn ystyried bod risg i iechyd y cyhoedd yn Nhŷ Llwyd ar hyn o bryd, ond mae'r awdurdod lleol—a wnaeth, gadewch i ni gofio, nodi'r chwarel hon eu hunain fel testun pryder yn ôl yn y 1990au—wedi comisiynu Arcadis i gynnal arfarniad o opsiynau i edrych ar ffyrdd gwell yn y dyfodol y gellir rheoli trwytholch o'r safle. Mewn oes o newid hinsawdd—rydym ni wedi sôn am hynny y prynhawn yma eisoes—mae digwyddiadau tywydd difrifol, gan gynnwys glaw dwys, wedi gwneud yr her ar y safle hwnnw yn fwy sylweddol nag y byddai wedi bod yn y gorffennol. Nawr, rwy'n deall bod yr ymgynghorwyr bellach wedi culhau cwmpas eu gwaith i lawr i bedwar opsiwn ar gyfer rheoli'r safle yn y dyfodol, bod yr adroddiad hwnnw bellach wedi cael ei gyflwyno i'r awdurdod lleol, ond, ynghyd â Cyfoeth Naturiol Cymru, mae rhaglen fonitro yn cael ei chynnal dros y gaeaf hwn i edrych ar ddŵr daear a dŵr wyneb, a fydd yn helpu i fireinio'r opsiynau hynny ymhellach. Nawr, pan fydd yr opsiynau hynny'n cael eu mireinio, rwy'n dychmygu fy hun y bydd yn arwain i'r cyngor fod angen gwneud cais am drwydded amgylcheddol ar gyfer y ffordd y caiff y safle ei reoli yn y dyfodol. Byddwn yn rhagweld y bydd amodau llym ynghlwm wrth y drwydded honno i wneud yn siŵr y gall trigolion lleol fod yn hyderus nad oes unrhyw drwytholch o'r safle hwnnw a fyddai'n achosi niwed i'r amgylchedd ac i iechyd y cyhoedd. Hefin David AC: Soniwyd am domen Bedwas eisoes, ac mae'n etifeddiaeth o'n treftadaeth lofaol. Ceir cwmni sydd â diddordeb mewn adfer tomen Bedwas heb unrhyw gost i bwrs y wlad, a phan ydych chi'n sôn am fwy na £30 miliwn, mae hwnnw'n gynnig sylweddol i'w ystyried. Yn anffodus, mae rhai o gynghorwyr yr wrthblaid wedi bod yn lledaenu, trwy daflenni, rhai anwireddau uniongyrchol am y prosiect. Rwy'n credu bod angen i ni gadw meddwl agored am yr hyn y bydd y prosiect yn ei olygu. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod y prosesau priodol yn cael eu dilyn i sicrhau bod y cyhoedd yn cael lleisio eu barn. A wnaiff y Prif Weinidog gefnogi hynny felly a chytuno, i'r math hwn o brosiect adfer gael ei ystyried, bod yn rhaid i ni gadw meddwl agored am ba mor llwyddiannus y gall fod? Mark Drakeford AC: Diolch i Hefin David am hynna, Llywydd. Soniodd Laura Anne Jones am domenni Bedwas, ac mae tair tomen lo categori D segur uwchben Bedwas, ac rydym ni'n gwybod hynny, wrth feddwl am y cwestiwn a ofynnwyd i mi yn wreiddiol gan Peredur Owen Griffiths, gan fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r wybodaeth honno. Nawr, fy nealltwriaeth i yw bod y cwmni sy'n cynnig gwahanol ddyfodol i'r tomenni hynny ar y cam cyn gwneud cais cynllunio ar hyn o bryd. Roeddwn i'n falch iawn o weld bod arddangosfa ym Medwas heddiw ac yng Nghwmfelinfach yfory o'r cynigion y maen nhw'n eu cyflwyno. Yna, bydd yn rhaid iddyn nhw gyflwyno cais cynllunio llawn, ac ar yr adeg honno, os oes pryderon gan drigolion lleol, byddan nhw'n gallu cael eu lleisio a byddan nhw'n gallu cael eu hystyried yn y ffordd drefnus, seiliedig ar reolau honno, y mae'r system gynllunio yn ei chaniatáu, ac yna gellir ymchwilio ac adrodd yn briodol ar rinweddau ac anfanteision, os oes rhai, y cynnig. Ffordd Blaenau'r Cymoedd Vikki Howells AC: 4. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar ddeuoli adrannau 5 a 6 ffordd yr A465 Blaenau'r Cymoedd? OQ60716 Mark Drakeford AC: Diolch i Vikki Howells am hynna, Llywydd. Mae'r gwaith o ddeuoli adrannau 5 a 6 ffordd Blaenau'r Cymoedd dair blynedd i mewn i'w gyfnod adeiladu ar hyn o bryd. Er i'r prosiect gychwyn yn ystod anterth pandemig COVID, cynhaliwyd cynnydd da a disgwylir i'r cwblhad a drefnwyd ac a ragwelir ddigwydd yn ystod haf 2025. Vikki Howells AC: Prif Weinidog, roedd yn bleser ymweld gyda chi a Dawn Bowden i weld y gwaith adeiladu parhaus ar adrannau 5 a 6 ffordd Blaenau'r Cymoedd yr wythnos diwethaf. Rwy'n siŵr, fel fi, yr hoffech chi ddiolch i Future Valleys Construction a'u partneriaid am ein croesawu a rhoi taith addysgiadol iawn i ni. Roedd yn braf clywed am y manteision economaidd, amgylcheddol a chymunedol y mae'r prosiect eisoes yn eu darparu, ond sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i sicrhau bod y dulliau hyn yn cael eu hymwreiddio i gyflawni gwelliannau parhaol i Gwm Cynon a'r ardaloedd cyfagos? Mark Drakeford AC: Wel, diolch i Vikki Howells am hynny ac am y gwahoddiad a wnaeth ar lawr y Senedd i wneud yr ymweliad hwnnw, y gwnes i ei fwynhau yn fawr, ynghyd â'r Aelod dros Ferthyr Tudful a Rhymni. Roedd yn dilyn ymweliad cynharach yr oeddwn i wedi ei wneud gydag Alun Davies â gwahanol ran o'r ffordd, a thra roedden ni'n gwneud ein hymweliad, y geiriau y mae'r Aelod dros Flaenau Gwent yn aml yn eu defnyddio ar lawr y Senedd a oedd yn fy meddwl, bod hon yn llawer mwy na ffordd, mae'n gyfres o gyfleoedd economaidd pwysig iawn i bobl sy'n byw yn y rhan hon o Gymru. Ac mae'r manteision a welsom o'n blaenau yr wythnos diwethaf, rwy'n credu, yn sicr yn fanteision a fydd yn para i'r dyfodol: y mesurau teithio llesol hynny a fydd yn cael eu cynllunio nawr, y llwybrau beicio a welsom ni, gwahanu cerddwyr oddi wrth draffig, y ffaith y bydd 120,000 o goed yn cael eu plannu yn rhan o'r gwaith ar adrannau 5 a 6. Dywedwyd wrthym ni am yr 8,000 o blanhigion a oedd yn cael eu cyflwyno yn arbennig er mwyn diogelu dyfodol glöyn byw britheg y gors, yn ogystal â phopeth arall a welsom i wneud yn siŵr y bydd bioamrywiaeth a chornchwiglod ac ystlumod a phathewod, a'r holl bethau eraill sydd yno nawr, yn cael eu sicrhau ar gyfer y dyfodol. Ac mae hynny heb yr holl fuddsoddiad a fydd yn para i'r dyfodol: £105 miliwn yn y gadwyn gyflenwi o ganlyniad i'r gwaith ar ffordd Blaenau'r Cymoedd. Bydd y rheini'n gwmnïau a fydd yno i ffynnu i'r dyfodol. Ac i ddychwelyd at y cwestiwn cyntaf un a ofynnwyd i mi y prynhawn yma, clywsom gan brentisiaid a chyfarfod â nhw, pobl a fydd wedi dysgu eu sgiliau dros y degawd o fuddsoddiad y mae'r Llywodraeth Cymru hon wedi ei wneud yn y ffordd honno, ac fe wnaethom ni gyfarfod a chlywed am bobl a ddechreuodd fel prentisiaid lefel 2 yn y cyfnod cynnar ac sydd bellach yn gyfrifol am rai rhannau pwysig iawn o'r gwaith adeiladu hwn. Felly, rwy'n credu y bydd cyfres gyfan o etifeddiaethau economaidd ac amgylcheddol y bydd y cynllun hwn yn eu darparu ar gyfer y cymunedau hynny ymhell i'r dyfodol. Natasha Asghar AS: Prif Weinidog, rydych chi a minnau'n gwybod fy mod i'n gefnogwr enfawr o gael seilwaith trafnidiaeth cryf ledled Cymru. Fodd bynnag, yn yr achos hwn, nid yw eich Llywodraeth wedi methu â fy synnu. Ar y naill law, mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod argyfwng hinsawdd ac yn gwahardd yr holl waith adeiladu ffyrdd mawr yn rhan o'i hagenda gwrth-fodurwyr—[Torri ar draws.]—ac ar y llaw arall, rydym ni'n eich gweld chi, y dirprwy Weinidog twristiaeth a Vikki Howells i gyd yn gwenu ac tynnu ystumiau ym Mlaenau'r Cymoedd ar gyfer lluniau, yr ydych chi newydd sôn amdanyn nhw— Y Llywydd / The Llywydd: Allaf i ddim clywed yr Aelod, mae'n ddrwg gen i, ac nid wyf i'n siŵr a all y Prif Weinidog, felly a oes modd clywed yr Aelod mewn ychydig o ddistawrwydd, os gwelwch yn dda? Natasha Asghar AS: Diolch o galon. Nawr, mae'n rhaid i mi ddweud, Prif Weinidog, rwyf i'n bersonol yn falch dros ben o weld y Llywodraeth gwrth-adeiladu ffyrdd hon yn cydnabod manteision buddsoddi yn y prosiectau seilwaith pwysig iawn hyn o'r diwedd—ydw yn wirioneddol. Fodd bynnag, nid wyf i'n siŵr bod y ffaith bod y cynllun hwn, sy'n ddifrifol dros ei gyllideb ac y tu ôl i'r amserlen yn enfawr, yn rhywbeth i'w ddathlu. Felly, Prif Weinidog, o gofio eich bod chi'n galw ffordd Blaenau'r Cymoedd yn llwyddiant, a all pobl Cymru ddisgwyl bellach gweld y Llywodraeth hon yn dechrau adeiladu seilweithiau ffyrdd pwysig eraill nawr hefyd? Diolch. Mark Drakeford AC: Wel, mae'n drueni, Llywydd, bod croeso yr Aelod i'r cynllun wedi'i orchuddio mewn niwl o gamwybodaeth o'r fath. Mae hi'n hollol anghywir ynglŷn ag agwedd y Llywodraeth at adeiladu ffyrdd. Mae hi'n hollol anghywir am adrannau 5 a 6, sy'n cael eu hadeiladu o dan y model buddsoddi cydfuddiannol, lle nad yw'r risgiau o gostau yn mynd yn rhy uchel yn gyfrifoldeb i'r Llywodraeth o gwbl; maen nhw'n llwyr yn nwylo'r cwmni adeiladu, sydd wedi cael ei gontractio i adeiladu'r rhan honno o'r ffordd. Felly, gall fod yn sicr bod ei phryderon yn ddi-sail ac yn y dyfodol bydd yn gallu dathlu llwyddiant y ffordd heb ei amgylchynu â chyfres o ofidion cwbl wallus. Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy James Evans AS: 5. A yw Llywodraeth Cymru wedi cynnal asesiad effaith diweddar ar y cynllun ffermio cynaliadwy? OQ60712 Mark Drakeford AC: Llywydd, cyhoeddwyd asesiad effaith integredig ar 14 Rhagfyr y llynedd, yn rhan o'r ymgynghoriad presennol ar y cynllun ffermio cynaliadwy. Bydd asesiad wedi'i ddiweddaru, ynghyd â thystiolaeth ategol, yn cael ei gyhoeddi cyn gwneud unrhyw benderfyniadau terfynol. James Evans AS: Diolch am eich ateb, Prif Weinidog, a byddwn yn gobeithio y byddwch chi'n cynnal asesiad effaith wedi'i ddiweddaru cyn gynted â phosibl. Dros yr wythnos ddiwethaf, rwyf i wedi ymweld â ffermydd, marchnadoedd da byw, cyflenwyr amaethyddol, ac roeddwn i yn rowndiau terfynol drama y Clwb Ffermwyr Ifanc ym Maesyfed. Mae'r holl bobl y siaradais â nhw yn poeni, maen nhw'n ofnus ac maen nhw'n ddig oherwydd yr ansicrwydd ynghylch eu dyfodol. Mae elusennau iechyd meddwl gwledig hefyd yn cael eu boddi gan alwadau gan bobl sydd angen cymorth a chefnogaeth oherwydd y pwysau enfawr sydd arnyn nhw ar hyn o bryd oherwydd angen di-ildio i lenwi ffurflenni, TB a Llywodraeth yma y mae'n ymddangos ei bod yn anwybyddu eu pryderon. Prif Weinidog, felly gyda'r nifer aruthrol o 5,500 o swyddi wedi'u colli, y golled o £200 miliwn i'r economi a'r gostyngiad enfawr i niferoedd da byw, a amlinellwyd gan asesiad effaith a gomisiynwyd gan y Llywodraeth hon, sut all ffermwyr ymddiried ynoch chi a'r Gweinidog materion gwledig pan fyddech chi'n dweud y byddwch chi'n gwrando ar yr ymgynghoriad, pan fo'n ymddangos i lawer bod y Llywodraeth hon wedi anwybyddu ffermwyr yn ystod y cyfnod cyd-ddylunio ac na wnaeth chwaith gymryd i ystyriaeth y dystiolaeth sy'n amlinellu'r niwed di-ben-draw y byddai'r cynllun hwn yn ei wneud i gefn gwlad Cymru? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, gadewch i mi ddechrau drwy gydnabod, pan fydd newid yn digwydd, bod pobl yn gweld hynny'n anodd, ac yng nghefn gwlad Cymru, mae llawer o newidiadau sy'n anochel ar garreg eu drws. Maen nhw yno oherwydd ein bod ni wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, gyda'r diogelwch a'r sicrwydd yr oedd hynny'n ei roi i ffermio yma yng Nghymru. Nid oes modd osgoi, er nad ydym bellach yn aelodau o'r trefniadau a oedd wedi cynnal ffermio yng Nghymru ers cynifer o flynyddoedd, bod yn rhaid i ni nawr roi cynlluniau amgen ar waith. A phan fydd newid yn digwydd, mae pobl yn bryderus ac mae pobl yn poeni ac mae pobl yn wirioneddol ofidus. Rwy'n deall hynny. Dyna pam rydym ni'n parhau i gael y sgyrsiau yr ydym ni'n eu cael. Yn sicr nid yw'n helpu'r sgyrsiau hynny, yn sicr nid yw'n helpu i fynd i'r afael â'r straen y cyfeiriodd yr Aelod ato, pan fydd yn dod â'i gwestiwn i ben gyda'r math o nonsens codi bwganod a gynigiwyd ganddo. Ac rwy'n gwneud y pwynt hwnnw iddo, oherwydd mae'n aml yn gyfrannwr eithaf synhwyrol at drafodaethau ar lawr y Senedd, ond os ydym ni'n bryderus am bobl a'u dyfodol, yna byddai'n well pe baem ni i gyd yn cynnal y sgyrsiau hynny mewn ffordd fwy pwyllog nag y gwnaeth yn y ffordd y daeth â'i sgwrs i ben, oherwydd yn sicr nid yw'r Llywodraeth hon wedi anwybyddu llais ffermwyr. Rydym ni wedi cael sgwrs saith mlynedd. Rwy'n ddiolchgar iawn—dywedais mewn ateb cynharach, rwy'n ddiolchgar iawn—i'r 12,000 o ymatebion a gawsom i'r ymgynghoriad 'Brexit a'n tir' cyn belled yn ôl â 2018. Rwy'n ddiolchgar o gael dros 3,000 o ymatebion i ymgynghoriad 2019 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir', i'r 2,000 o bobl a gymerodd ran yn yr ymarfer cyd-ddylunio yn y flwyddyn ganlynol; 2018, 2019, 2020, 2021, mae gennym ni Bapur Gwyn ar y Bil Amaethyddiaeth (Cymru), 2022, 1,600 o gyfraniadau at ail gam y cyd-ddylunio, ac eleni mae mwy na 3,000 o ffermwyr wedi dod i'r ymarferion ymgynghori, y sioeau teithiol, a gynhaliwyd ym mhob rhan o Gymru. Rwy'n credu eu bod nhw'n haeddu gwell na'i gyfraniad, oherwydd nid yw eu safbwyntiau wedi cael eu hanwybyddu, oherwydd, ar bob cam, bu gwelliannau i'r cynllun, ac rwy'n hyderus y bydd gwelliannau pellach i'r cynllun o ganlyniad i'r ymgynghoriad a'r sgyrsiau sy'n cael eu cynnal ar hyn o bryd. Ond mae'n sgwrs rhwng dau barti. Mae'n sgwrs rhwng ffermwyr, ac mae'n sgwrs rhwng y cyhoedd yng Nghymru sy'n darparu'r arian sy'n mynd i mewn i'r cynllun ffermio cynaliadwy. Ac mewn sgwrs, bydd mwy nag un safbwynt. Dyna pam rydym ni'n cynnal y sgyrsiau mor ofalus a thros gyfnod mor estynedig. Nid yw ar ben a byddwn yn parhau i wrando ac yn parhau i ymateb, ac unwaith eto, rwy'n annog cynifer o bobl â phosibl i gymryd rhan yn y cyfle sydd yno o'u blaenau i ddylanwadu ar ddyfodol y cynllun. Llyr Gruffydd AC: A gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog, roi eich hun yn esgidiau rhywun efallai sy'n ceisio gwneud bywoliaeth o fferm deuluol? Rydych chi'n gofyn iddyn nhw, fel Llywodraeth, wneud dewis: i bob pwrpas, i neilltuo 10 y cant o'u tir ar gyfer gorchudd coed, 10 y cant arall efallai ar gyfer cynefinoedd. Bydd hynny'n gwasgu'r hyn sydd eisoes yn hyfywedd ffiniol iawn y busnes hwnnw. Y dewis arall, wrth gwrs, pan fyddwch chi'n rhoi'r dewis hwnnw iddyn nhw, yw nad ydyn nhw'n mynd i mewn i gynllun ac maen nhw'n gwneud heb yr hyn sy'n gyfatebol i daliad sylfaenol, sef yr hyn sydd wedi bod yn cadw llawer o'r busnesau hynny'n hyfyw yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Felly, fy nghwestiwn i chi yw: a ydych chi'n ei ddeall? Ydych chi wir yn deall yr hyn yr ydych chi'n gofyn i'r sector ei wneud? Rwy'n dweud hyn mewn ffordd mor gadarnhaol ag y gallaf i. Ydy hynny'n nonsens sy'n codi bwganod, neu ai dyna'r gwirionedd y mae pobl yn ei wynebu? A yw'n unrhyw syndod bod yna iselder ac anobaith llwyr yn y wlad ar hyn o bryd? Mark Drakeford AC: Nid wyf i'n ystyried y pwynt y gwnaeth yr Aelod fel nonsens sy'n codi bwganod, oherwydd mae'n iawn fod hyn yn mynd i wraidd y cytundeb yr ydyn ni eisiau'i weld yn y dyfodol ar gyfer ffermio yng Nghymru. Dyna pam mae cyfanswm cynllun y taliad sylfaenol wedi'i gynnal yma yng Nghymru ac sydd ar y bwrdd ar gyfer cynllun y dyfodol hwnnw. Nid ydym ni'n gofyn i ffermwyr neilltuo 10 y cant o'u tir. Hoffem ni dalu iddyn nhw wneud hynny. Rydym ni'n cynnig iddyn nhw gael y cyfle cyntaf i dyfu'r coed fydd eu hangen arnom ni yn y dyfodol. Rwy'n cofio cael fy meirniadu'n hallt, yma ar lawr y Senedd, gan arweinydd Plaid Cymru ar y pryd am fethu tyfu digon o goed yma yng Nghymru i fodloni'r argyfwng hinsawdd. A'r ffordd yr ydyn ni eisiau'i gyflawni yw rhoi ffermwyr ar flaen y ciw, i roi'r cynnig cyntaf iddyn nhw dyfu'r coed y bydd eu hangen arnom ni yn y dyfodol, ac yna eu gwobrwyo am hynny. Fel y dywedodd Llyr Gruffydd, yn y pen draw, mae'n gynllun gwirfoddol. Nid yw tua hanner y ffermydd yng Nghymru heddiw yn rhan o gynllun y taliad sylfaenol, ond, gan ei fod yn gynllun gwirfoddol, rydyn ni eisiau cynllunio'r cynllun hwnnw gyda'n gilydd. Mae hynny'n gynnig hollol ddiffuant gan Lywodraeth Cymru. Fel yr wyf i wedi'i ddweud sawl gwaith y prynhawn yma, rwy'n ddiolchgar iawn i'r miloedd o ffermwyr hynny yng Nghymru sy'n dod i fod yn rhan o'r ymdrech ar y cyd honno. Jane Dodds AS: Prynhawn da, Prif Weinidog. Rwy'n credu bod angen i'r iaith a naws y mater hwn fod yn barchus ar bob ochr. Nid yw'r lle yr ydyn ni efallai wedi cael ein hunain ynddo, o bosibl, mewn gwirionedd yn helpu unrhyw un ac mae'n effeithio ar iechyd meddwl y rhai sy'n mynd i orfod ymdrin â hyn wrth symud ymlaen. Roeddwn i'n un o 500 o bobl a fynychodd gyfarfod yn Aberhonddu ychydig wythnosau yn ôl lle gwnaethon ni glywed am y 17 gweithred gyffredinol a'r ddau gynllun y mae angen i ffermwyr eu bodloni er mwyn cael y taliad sylfaenol. Cymerodd bron i awr a chwarter i gyflwyno hynny, ac, yn hynny o beth, credwch chi fi, roeddwn i'n arbennig o ddryslyd, ac roeddwn i'n eistedd yn agos at ffermwyr a oedd yn ofidus iawn yn sgil yr hyn y gwnaethon nhw ei glywed. Dywedodd un ffermwr—gyda thristwch yn wir—'Dwi jest eisiau ffermio.' Rydyn ni'n gwybod bod yr ymgynghoriad yn parhau, ac rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog materion gwledig—rydw i wedi cael cyfarfod â hi ac rwy'n gwybod ei bod hi wedi cyfarfod ag Undeb Amaethwyr Cymru ac Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, dim ond yn ddiweddar, oherwydd mae gwir dristwch a gofid ynghylch yr hyn y gall ffermwyr ei weld sy'n mynd i fod yn gyfnod gofidus a llawn straen o'u blaenau. Rwy'n gwybod bod dyddiad cau'r ymgynghoriad dal i ddod, ond tybed, yn eich asesiad effaith parhaus, a fyddech chi'n ystyried yr effaith ar iechyd meddwl ffermwyr nid yn unig yn y cynllun hwn, ond yr holl ofynion eraill hefyd, oherwydd mae angen i'n ffermwyr ni fod yn iach, i allu gweithio ar eu tir ac i gadw ein cymunedau ni—yn enwedig ein cymunedau Cymraeg ni—yn fyw ac yn ffynnu. Diolch yn fawr iawn. Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, rwy'n cytuno â'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud, ond, pan fydd unrhyw gymuned yn wynebu newid, yna bydd pwysau iechyd meddwl yn rhan o'r hyn y byddai angen i unrhyw Lywodraeth ymateb iddo. Pan oeddwn i yn Tata Steel gyda fy nghyd-Weinidog Gweinidog yr economi ychydig wythnosau yn ôl, cawson ni sgwrs ddifrifol iawn yno gyda'r cwmni am yr effaith ar iechyd meddwl y bydd colli rhwng 2,000 a 3,000 o swyddi mewn cymuned faint Port Talbot yn ei gael yn y gymuned honno. Felly, lle bynnag yr ydyn ni'n gweld newid, rydyn ni'n ymwybodol o'r effaith ehangach honno ar fywydau pobl. Dyna pam yr ydym ni'n buddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl, yn arbennig, i ffermwyr yma yng Nghymru, ac mae gennym ni sefydliadau gwych yng Nghymru, fel Sefydliad DPJ, sy'n gwneud cymaint o les wrth ymateb i bobl sy'n wynebu'r trallod hwnnw. Yn y dyfyniad y mae'r Aelod wedi'i gynnig i ni, rydych chi'n crynhoi, mewn ffordd, y cyfyng-gyngor sydd yno: mae pobl 'jest eisiau ffermio', ac rwy'n ofni nad felly fydd y dyfodol. Nid yw'r dyfodol yn mynd i ganiatáu i bobl wneud yr hyn y maen nhw eu hunain wedi'i wneud erioed. Mae newid yn gwbl anochel, a dyna'r hyn y mae'r Llywodraeth hon yn cychwyn arno—newid yr ydyn ni eisiau'i wneud mewn ffordd sy'n sicrhau dyfodol llwyddiannus i ffermio yng Nghymru. Nid oes gennyf i unrhyw amheuaeth y bydd y newid hwnnw, i rai, yn anodd ac yn boenus, ond drwy feddwl ein bod ni'n datrys y broblem drwy ddweud na fyddwn ni'n newid, y gallwn ni osgoi newid—nid yw hynny'n ateb chwaith. Felly, mae newid yn anochel. Rydyn ni eisiau i'r newid hwn gael ei gyflawni gyda'r sector. Rydyn ni eisiau parhau i fuddsoddi yn ei ddyfodol llwyddiannus, gan gydnabod y bydd honno'n daith anodd i rai pobl sy'n gweld newid, nid yn unig fel rhywbeth sy'n ymylol i'w bywydau, ond mewn rhai ffyrdd mae'n gofyn iddyn nhw feddwl eto am yr holl ffordd y gallan nhw barhau i fyw ar y tir a chael cefnogaeth i wneud hynny. Ken Skates AC: Prif Weinidog, diolch am eich eglurder ar y mater hwn, ond, er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, a allwch chi gadarnhau eto y byddwch chi'n ystyried pob ymateb i'r ymgynghoriad yn feddylgar a gydag ystyriaeth fanwl, ac y bydd yr ymatebion hynny'n helpu i lunio a mireinio rhaglen gymorth derfynol i'r gymuned ffermio, ac na ddylem ddod i gasgliadau ar hyn o bryd ynghylch y ffurf derfynol honno o'r rhaglen? Mark Drakeford AC: Mae'n bwysig iawn, Llywydd, fel mae Ken Skates yn ei ddweud, fod pobl yn cydnabod bod hyn yn parhau i fod yn broses iteraidd iawn. Nid wyf i'n credu ei fod yn helpu'r broses pan fydd pobl yn ei disgrifio fel proses lle nad oes unrhyw newid wedi'i wneud, oherwydd mae newidiadau wedi cael eu gwneud ar bob cam yn y broses ymgynghori, yn y broses gyd-ddylunio, ac rwy'n hollol siŵr y bydd newidiadau eraill yn deillio o'r ymgynghoriad presennol. A dylai pobl fuddsoddi yn yr ymgynghoriad gan fod yn hyderus o wybod bod rhywun yn gwrando ar eu barn, bod yna bethau ymarferol sy'n newid o ganlyniad i'r hyn sy'n cael ei ddweud wrthym ni, ac na fydd unrhyw beth yn derfynol yn y cynllun hwn nes bod yr holl ymatebion i'r ymgynghoriad presennol wedi cael eu darllen, eu hystyried, y bydd asesiad effaith integredig newydd yn cael ei gynnal, ac yna bydd cynigion terfynol yn cael eu cyflwyno gerbron y Senedd. Ynni Adnewyddadwy Paul Davies AC: 6. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r sector ynni adnewyddadwy ym Mhreseli Sir Benfro? OQ60681 Mark Drakeford AC: Llywydd, mae gan y sector yn etholaeth yr Aelod botensial enfawr i ddiwallu ein hanghenion ynni wrth gadw cyfoeth a gwerth yng Nghymru. Rydyn ni'n symleiddio prosesau cynllunio a chydsynio, yn arwain gwaith strategol ar gynlluniau ynni ac yn gweithio i fanteisio i'r eithaf ar y potensial ar gyfer technolegau newydd, gan gynnwys ffermydd gwynt arnofiol ar y môr. Paul Davies AC: Rwy'n ddiolchgar i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog. Nawr, byddwch chi'n ymwybodol o'r rhaglen Fit 4 Offshore Renewables, sy'n cael ei chyflwyno gan Offshore Renewable Energy Catapult, mewn partneriaeth â Floventis Energy, datblygwr Llŷr 1 a 2 yn y môr Celtaidd. Nawr, mae'r rhaglen yn helpu busnesau i wneud cais am waith yn y sector ffermydd gwynt arnofiol ar y môr, drwy roi'r sgiliau a'r arbenigedd i fusnesau Cymru i sicrhau llwyddiant yn y diwydiant hwn sy'n tyfu'n gyflym. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i groesawu'r rhaglen a'r buddsoddiad y mae Floventis wedi'i wneud yn y gadwyn gyflenwi? Ac a allwch chi ddweud wrthym ni beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn benodol i ddatblygu'r gwaith hwn a chefnogi busnesau Cymru yn y sector ynni adnewyddadwy ar gyfer y dyfodol? Mark Drakeford AC: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna ac am y gefnogaeth glir a chyson y mae'n ei rhoi i'r sector hwn, a fydd yn gwneud cymaint i helpu pobl yn ei ran o Gymru. Efallai y gwnaf i roi dim ond un enghraifft o weithred ddiweddar iawn, oherwydd ysgrifennais i ddoe at Brif Weinidog y DU i gefnogi bwriad Llywodraeth y DU i roi'r gallu i Ystad y Goron fenthyg yn erbyn yr asedau sydd ganddi, yn enwedig yng nghanol Llundain. Mae hwn yn ymrwymiad y mae Llywodraeth y DU wedi'i wneud, a ddoe ysgrifennais i at Brif Weinidog y DU i gefnogi hynny, ond i'w annog hefyd i ddod â'r darn bach iawn hwnnw o ddeddfwriaeth gerbron Tŷ'r Cyffredin cyn gynted â phosibl. Oherwydd un o'r pethau y gwnaeth Ystad y Goron bwysleisio i mi a'r Gweinidog Newid Hinsawdd, pan gymerodd y ddau ohonom ni ran yn y digwyddiad cynigwyr arfaethedig yn Abertawe ar 31 Ionawr, oedd pe baen nhw'n gallu benthyg yn erbyn yr asedau hynny, yna bydden nhw'n defnyddio rhywfaint o hynny i fuddsoddi yn y gadwyn gyflenwi yma yng Nghymru, yn yr un ffordd ag y mae Paul Davies wedi disgrifio gweithredoedd Floventis. Nawr, mae Ystad y Goron yn cydnabod, os ydyn ni eisiau gwneud y defnydd gorau o'r cyfle sydd yno yn y môr Celtaidd, y bydd angen i ni baratoi cadwyn gyflenwi cyn y datblygiad hwnnw, yn barod i allu gwneud y gwaith yr oedden ni eisiau'i wneud yng Nghymru i gadw'r swyddi hynny yma. Rwy'n credu ei bod yn bartner parod yn hynny. Rwy'n credu bod ymrwymiad Llywodraeth y DU i'w galluogi i fenthyg yn un da, a bydd Llywodraeth Cymru yn sicr yn eu cefnogi i gyflwyno'r ddeddfwriaeth honno. Gofalwyr Di-dâl Jayne Bryant AC: 7. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi gofalwyr di-dâl? OQ60717 Mark Drakeford AC: Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi pob gofalwr di-dâl yng Nghymru, gan sicrhau eu bod yn ymwybodol o'u hawliau, fel y mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn eu hamlinellu. Ers mis Ionawr 2022, rydyn ni wedi dyrannu £42 miliwn o gyllid ychwanegol i gefnogi gofalwyr di-dâl. Jayne Bryant AC: Diolch, Prif Weinidog. Hoffwn i groesawu'r cyllid ychwanegol hwnnw yn y maes hwn hefyd. Ddoe, cafodd cynulliad gofalwyr Cymru ei gynnal yn Nhŷ Hywel yma yn y Senedd. Wedi'i drefnu gan Ofalwyr Cymru, cafodd y digwyddiad ei fynychu gan ofalwyr di-dâl o bob cwr o'r wlad. Hoffwn i gofnodi fy niolch i'r gofalwyr di-dâl hynny, a gododd lawer o gwestiynau pwysig drwy gydol y dydd, gan gynnwys ar iechyd, gofal cymdeithasol a chyflogaeth. Ymunais i â thrafodaeth banel yn canolbwyntio ar sut mae gofalwyr yn cydbwyso cyflogaeth a chyfrifoldebau gofalu. Mae cynnal y cydbwysedd hwn yn anodd iawn i lawer o ofalwyr di-dâl, ac mae'n cael effaith sylweddol ar eu hiechyd meddwl a'u llesiant, yn ogystal â chyllid unigol a theuluol. Prif Weinidog, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi gofalwyr o unrhyw oedran, p'un ai i aros yn y gwaith, dychwelyd i'r gwaith, neu i ddilyn cyfleoedd cyflogaeth newydd a pharhau i ofalu am eu hanwyliaid? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, rwy'n diolch i Jayne Bryant am hynna, ac am y rhan y chwaraeodd hi yn y digwyddiad ddoe. Rwy'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog gyda chyfrifoldeb am wasanaethau ar gyfer gofalwyr di-dâl wedi ymdrin ag ef. A'r panel y cymerodd yr Aelod dros Orllewin Casnewydd ran ynddo, Llywydd, roeddwn i'n credu ei fod yn rhan arbennig o bwysig o'r rhaglen. Rydym ni'n siarad am 'ofalwyr di-dâl': maen nhw'n ddi-dâl am y gofal maen nhw'n ei roi, ond yn aml, maen nhw'n gweithio ar yr un pryd. Ac mewn economi sydd â llai o bobl erbyn hyn yn gweithio ynddi na chyn 2016, rydyn ni'n gwybod bod yn rhaid i ni wneud mwy i alluogi pobl a hoffai fod yn y gweithlu, ond sy'n cael eu hatal gan eu hamgylchiadau domestig rhag gallu gwneud y cyfraniad hwnnw. Ac mae'r canolbwyntio hwnnw ar yr anweithredol yn economaidd, fel y maen nhw, braidd yn ddi-chwaeth, yn cael eu galw, yn flaenoriaeth bwysig iawn i Weinidog yr Economi. Felly, gallwch chi fod yn sicr, ein bod ni'n chwilio ar draws Llywodraeth Cymru am ffyrdd y gallwn ni ei gwneud yn haws i bobl nad ydyn nhw yn yr economi gynhyrchiol ar hyn o bryd, ond a hoffai fod, i allu gwneud y cyfranogiad hwnnw. Ac mae pobl sydd â chyfrifoldebau gofalu wir yn rhan o hynny. Bydd yn dibynnu, gwyddom ni, ar gyflogwyr yn cydnabod yr addasiadau y mae angen iddyn nhw eu gwneud yn y gweithle er mwyn gallu denu'r bobl hynny sy'n aml yn fedrus, yn brofiadol, ac sydd â llawer i'w gynnig, ar ôl cael y cyfle i wneud hynny. Y Llywydd / The Llywydd: Yn olaf— Y Llywydd / The Llywydd: —cwestiwn 8, Mark Isherwood. Pobl sy'n Dioddef o Feigryn Mark Isherwood AC: 8. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi bobl sy'n dioddef o feigryn? OQ60691 Mark Drakeford AC: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Cafodd pecyn cymorth Cymru gyfan ei lansio ym mis Mehefin y llynedd, i gefnogi clinigwyr i wneud diagnosis a gofalu am bobl â gwahanol fathau o gur pen, gan gynnwys meigryn. Cafodd y pecyn cymorth ei gynhyrchu ar y cyd gan aelodau'r grŵp gweithredu cyflyrau niwrolegol, gan gynnwys Cynghrair Niwrolegol Cymru. Mark Isherwood AC: Y mis diwethaf, cyd-noddais ddigwyddiad ymwybyddiaeth meigryn yma yn y Senedd gyda Jayne Bryant AS a Luke Fletcher AS. Mae meigryn yn gyflwr cyffredin sy'n effeithio ar un o bob saith oedolyn, ac un o bob 10 o blant ledled y DU—tua 10 miliwn o bobl, gan gynnwys 450,000 yng Nghymru. Mae meigryn yn parhau i fod yn gyflwr gwanychol, ond mae camddealltwriaeth sylfaenol o'r gwirionedd yn golygu bod meigryn yn aml yn cael ei ddiystyru fel, rwy'n dyfynnu, 'dim ond cur pen'. Mae'r Ymddiriedolaeth Meigryn wedi argymell camau y mae modd eu cymryd i wella gofal meigryn yng Nghymru, gan ymgorffori nifer yn benodol yn ymwneud â chyfrifoldebau cynllunio ac asesu anghenion byrddau iechyd lleol, gan gynnwys, adolygiadau o anghenion meigryn poblogaethau lleol; sicrhau bod y llwybrau gorau posibl yn cael eu gweithredu; cynyddu'r nifer o arbenigwyr cur pen sydd ar gael; datblygu a chyflwyno hyfforddiant ac adnoddau ar gyfer meddygon teulu; sicrhau bod yr holl ganllawiau ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn cael eu diweddaru; cryfhau rôl fferylliaeth o fewn gofal sylfaenol ar gyfer meigryn; ac ymgyrchoedd ac adnoddau ymwybyddiaeth y cyhoedd. Felly, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cynllunio, os o gwbl, i fynd i'r afael â'r materion hyn a gafodd ei godi yma fis diwethaf ac i ddiwallu anghenion pobl â meigryn yng Nghymru? Mark Drakeford AC: Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, ac rwy'n llongyfarch yr holl Aelodau ar draws y Siambr a gymerodd ran yn y digwyddiad ymwybyddiaeth meigryn hwnnw. Pwrpas pecyn cymorth Cymru gyfan yw ymateb i nifer o'r awgrymiadau ymarferol y gwnaeth Mark Isherwood eu codi ar ran y rhai sy'n gweithio yn y maes hwn, oherwydd yn ei hanfod, mae'n ymwneud â gwella'r ffordd y gall clinigwyr gofal sylfaenol allu adnabod ac ymateb i bobl sy'n dioddef o'r cyflwr gwanychol y mae meigryn i gynifer o bobl. Ar ben arall y sbectrwm, rydyn ni'n cydnabod bod angen cefnogaeth fwy arbenigol i'r bobl hynny y mae eu meigryn yn fath sy'n arbennig o wanychol. Rydym ni'n disgwyl penodi arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer cyflyrau niwrolegol yn fuan iawn, ac rwy'n gobeithio, fel rhan o'i waith, y bydd yn ystyried sut y gall y ddau ohonom ni gryfhau rheng flaen honno'r gwasanaeth iechyd, lle bydd y rhan fwyaf o bobl yn parhau i gael eu gofal, gan hefyd gryfhau pen arbenigol iawn y sbectrwm gofal i'r bobl hynny y mae eu cyflyrau angen mwy nag y byddai ymateb gofal sylfaenol yn gallu'i roi ar waith. Y Llywydd / The Llywydd: Diolch i'r Prif Weinidog. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Y Llywydd / The Llywydd: Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes. Y Trefnydd i wneud y datganiad hynny, Lesley Griffiths. Lesley Griffiths AC: Diolch, Llywydd. Mae un newid i'r agenda heddiw. Mae'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar fesurau arbennig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, flwyddyn yn ddiweddarach, wedi cael ei ddwyn ymlaen o'r wythnos nesaf i heddiw. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod, sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig. Darren Millar AC: Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad gan y Gweinidog perthnasol ar gymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer cyfleusterau cyhoeddus, os gwelwch yn dda? Rydyn ni'n gwybod pa mor bwysig yw'r cyfleusterau cyhoeddus. Mae mynediad at doiledau'n bwysig iawn, yn enwedig i bobl hŷn a phobl a allai fod â rhyw fath o anabledd, ac, yn wir, pobl a allai fod angen eu defnyddio fel ystafell newid neu fel cyfleuster newid babanod. Ond, yn anffodus, y ffaith yw bod dros hanner ein cyfleusterau cyhoeddus wedi cau ers y 2010au, ac, yn anffodus, er ein bod ni wedi cael cyfle i ymdrin â'r mater hwn gyda Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 a gafodd ei phasio gennym ni fel Senedd nifer o flynyddoedd yn ôl, nid oes rhwymedigaeth gyfreithiol ar awdurdodau lleol o hyd i sicrhau bod ganddyn nhw rwydwaith digonol o gyfleusterau cyhoeddus; mae'n ofynnol iddyn nhw adrodd ar yr hyn sydd ganddyn nhw yn unig. Felly, a gaf i alw am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog sy'n gyfrifol am iechyd y cyhoedd, i sicrhau bod hwn yn fater y mae Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw ato? Ac yn y datganiad hwnnw, a allwn ni gael dealltwriaeth ynghylch a allai Llywodraeth Cymru godi'r mater hwn eto a rhoi rhai rhwymedigaethau statudol ar waith ar awdurdodau lleol, i sicrhau bod safonau mynediad gofynnol? Diolch. Lesley Griffiths AC: Diolch. Rwy'n credu bod yr Aelod yn codi pwynt pwysig iawn, am y rhesymau y gwnaeth ef eu hamlygu. Er ei fod, wrth gwrs, yn fater i awdurdodau lleol lle mae toiledau cyhoeddus yn cael eu gosod, ac yn amlwg yn cael eu hariannu, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod y gwaith, yr wyf i'n ymwybodol bod llawer o awdurdodau lleol wedi'i gyflawni, yn parhau, i sicrhau, lle bynnag y bo toiledau cyhoeddus—p'un ai mewn siop neu fwyty—eu bod yn gallu cael eu defnyddio yn absenoldeb toiledau sydd, fel y dywedwch chi, wedi'u cau, yn anffodus, yn bennaf oherwydd pwysau cyllidebol. Heledd Fychan AS: Trefnydd, hoffwn ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda. Yn gyntaf, fe fyddwch chi'n ymwybodol, dwi'n siŵr, ein bod ni i gyd wedi derbyn nifer o e-byst gan aelodau undebau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru, yn mynegipryderon am y toriadau, ond yn benodol o ran diogelwch y casgliadau cenedlaethol. Mi hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog, yn amlinellu sut y mae hi'n sicrhau diogelwch y casgliadau hyn yn wyneb y toriadau. Hefyd, oes modd cael datganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd yn ein diweddaru ar y Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 a beth sy'n digwydd yn dilyn yr adolygiad? Mae nifer o gynghorau ar hyn o bryd yn ymgynghori ynglŷn â newidiadau i'w darpariaeth teithio i'r ysgol, sy'n achosi pryder i nifer o ddysgwyr a rhieni. Yn amlwg, mae angen eglurder o ran beth sy'n digwydd gyda'r Mesur teithio, a byddwn yn ddiolchgar pe bai'r Llywodraeth yn amlinellu amserlen er mwyn mynd â'r gwaith yma rhagddo. Lesley Griffiths AC: Diolch. O ran eich cais cyntaf, gwn i fod y Dirprwy Weinidog yn gweithio gyda'r llyfrgell ar hyn o bryd i sicrhau'r hyn y gwnaethoch chi ei nodi, a gwn fod ei swyddogion hefyd yn trafod. Yn sicr fe wnaf i ofyn i'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd gyflwyno datganiad ysgrifenedig o ran y Mesur teithio i ddysgwyr. Paul Davies AC: Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog newid hinsawdd ynghylch effeithiolrwydd Cyfoeth Naturiol Cymru a safbwynt Llywodraeth Cymru ar reoli safleoedd tirlenwi yng Nghymru? Mae problem barhaus yn fy etholaeth i ar safle tirlenwi Withyhedge, lle, yn ystod y misoedd diwethaf, mae trigolion wedi gorfod dioddef arogleuon difrifol yn dod ohono. Rwyf i wedi cysylltu â Cyfoeth Naturiol Cymru, gan ofyn iddyn nhw ymchwilio i'r mater ar frys, ac i gymryd camau gorfodi yn erbyn Resources Management UK Ltd, sy'n berchen ar y safle. Yn anffodus, mae trigolion yn parhau i ddioddef o ganlyniad i'r arogleuon ofnadwy hyn, ac yn ddealladwy, maen nhw'n ddig iawn, yn ofidus ac yn siomedig. O ystyried yr effaith enfawr ar eu bywydau, mae trigolion erbyn hyn yn galw am dynnu trwydded y cwmni hwn yn ôl. Eisoes mae gan y bobl sy'n berchen ar y cwmni ac sy'n gweithredu'r safle fynediad uniongyrchol at Weinidogion y Llywodraeth, ac maen nhw hyd yn oed wedi rhoi arian i un ohonyn nhw. Ac felly, dylai hyn fod ar radar y Llywodraeth yn barod, ac rwy'n gobeithio y bydd rhywfaint o ymyrraeth i gefnogi'r trigolion yr effeithir arnyn nhw gan y broblem ofnadwy hon. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi fod hyn yn gwbl annerbyniol, ac felly, byddwn i'n ddiolchgar pe bai modd cyflwyno datganiad cyn gynted â phosibl, i roi rhywfaint o gefnogaeth i'r cymunedau yr effeithiwyd arnynt a sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn effeithiol wrth gyflawni ei ddyletswyddau rheoleiddio a gorfodi. Lesley Griffiths AC: Nid wyf i'n siŵr a ydych chi wedi cael ymateb gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ond byddwn i'n meddwl mai dyna'r peth pwysicaf ar hyn o bryd. Efallai y gallwch chi ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd, a all sicrhau eich bod chi'n cael ymateb ar frys. Llyr Gruffydd AC: Fe darodd Storm Babet, wrth gwrs, yn ôl ym mis Hydref, a wnaeth adael Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, ymhlith eraill, â chostau clirio enfawr—yn achos Conwy, hyd at £1.5 neu £1.4 miliwn. Nawr, er bod y cyngor wedi rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru y byddan nhw'n ceisio cymorth drwy'r cynllun cymorth ariannol brys, neu CCAB, i roi'r acronym iddo, wrth gwrs, mae trothwy o ychydig dros £0.5 miliwn y mae'n rhaid i'r awdurdod ei hun ei dalu i ddechrau. Fodd bynnag, mae'r cyngor—ac nid yw'n unigryw i Gonwy, mae cynghorau eraill yn wynebu'r cyfyng-gyngor hwn hefyd—yn dal i aros am gadarnhad gan Lywodraeth Cymru, a'r Gweinidog cyllid yn benodol, ynghylch a fyddwch chi'n agor CCAB ar gyfer ceisiadau gan awdurdodau lleol. Os na chaiff ei agor, wrth gwrs, bydd y gost gyfan o £1.4 miliwn yn disgyn ar ysgwyddau cyngor Conwy, gan gynyddu'r gorwariant a ragwelir iddo a gan ychwanegu risg sylweddol i'w gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf a chydnerthedd parhaus y cyngor. Felly, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog cyllid, gan roi eglurder brys i awdurdodau lleol ynghylch a fydd hi, ac os felly, pryd y bydd hi'n agor CCAB ar gyfer ceisiadau? Lesley Griffiths AC: Diolch. Wel, mae gan Lywodraeth Cymru hanes cryf iawn o gefnogi'n hawdurdodau lleol, pan fo llifogydd, yn anffodus wedi digwydd. Gwn i fod y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn ymwybodol o'r cais. Ar hyn o bryd mae'n ei ystyried, a bydd yn rhoi gwybod i'r awdurdodau lleol unwaith y bydd penderfyniad wedi'i wneud yn y dyfodol agos iawn. Jane Dodds AS: Prynhawn da, Gweinidog. Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, os gwelwch yn dda, ynghylch adeiladu a diogelwch tân, oherwydd bod y dioddefaint i lawer o drigolion mewn adeiladau uchel iawn yn mynd yn ei flaen, yn enwedig yng ngoleuni cyhoeddi uno Redrow a Barratt yn ddiweddar. Mae 12 mis wedi mynd heibio erbyn hyn ers llofnodi contract Llywodraeth Cymru a datblygwyr, ac, yn anffodus, mae taliadau adfer yn boenus o araf. Gall uno o'r maint hwn, gyda £90 miliwn mewn arbedion cost disgwyliedig, gymryd sylw sylweddol y rheolwyr gan oedi ymdrechion adfer ymhellach. Yn ogystal, o ystyried y mesurau llywodraethu arbennig a gafodd eu rhoi ar waith ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, a'r datganiadau gan Lywodraeth Cymru a achosodd pryder am fethiannau'r gwasanaeth i ddysgu gwersi tân Tŵr Grenfell, mae trigolion yn haeddu cadarnhad o'r newydd, cyn gynted â phosibl, bod diogelwch adeiladau yn parhau i gael ei flaenoriaethu drwy'r cyfnod pontio hwn. Felly, tybed a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau bod diogelwch tân yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i'r trigolion hynny. Diolch yn fawr iawn. Lesley Griffiths AC: Diolch. Wel, o ran rhwymedigaethau'r datblygwyr, nid oes angen diwygio na llofnodi contract newydd gyda'r datblygwyr o ganlyniad i'r uno y gwnaethoch chi gyfeirio ato. Roedd y diffiniad o 'gwmni grŵp datblygwyr cyfranogwyr' yn ddigon eang, pan gafodd ei gyflwyno flwyddyn yn ôl, i gipio'r newidiadau a ddaeth yn sgil uno. Ac rwy'n gwybod y bydd swyddogion y Gweinidog Newid Hinsawdd yn parhau i gyfarfod â chynrychiolwyr y datblygwyr o dan sylw yn ystod yr wythnosau nesaf i drafod unrhyw effeithiau ymarferol. Gareth Davies AS: Hoffwn i alw am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y prynhawn yma ar y driniaeth hydrotherapi sydd ar gael o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae'r Gweinidog wedi amlinellu o'r blaen y gall y bwrdd iechyd ddefnyddio adnoddau cymunedol lleol, ond rwyf i wedi clywed gan gleifion sydd wedi cael atgyfeiriad bod oedi yn aml a bod diffyg adnoddau cymunedol ar gael, a bod angen ailfuddsoddi ar lawer ohonyn nhw. Mae'r pwll hydrotherapi agosaf ar gyfer fy etholwyr i ym Mangor, a chafodd pwll hydrotherapi Ysbyty Glan Clwyd ei gau yn ôl yn 2014, heb unrhyw gynlluniau, hyd y gwn i, i agor cyfleuster hydrotherapi newydd. Mae defnyddio hydrotherapi yn effeithiol iawn wrth leddfu poen i'r rhai sy'n dioddef o gryd cymalau a llu o gyflyrau orthopedig a chyhyrysgerbydol. Felly, mae hydrotherapi a ffisiotherapi yn effeithiol wrth leihau'r pwysau ar wasanaethau eraill y GIG. A allai'r Trefnydd amlinellu a yw Llywodraeth Cymru wedi asesu neu, o leiaf, wedi ystyried y posibilrwydd o agor pwll hydrotherapi newydd yn yr adran ffisiotherapi yn Ysbyty Glan Clwyd? A beth mae'r Gweinidog yn ei wneud i wella'r berthynas rhwng y bwrdd iechyd ac adnoddau cymunedol, er mwyn sicrhau, pan fydd atgyfeiriad yn cael ei wneud, bod y claf yn cael y driniaeth sydd wir ei hangen arno? Lesley Griffiths AC: Diolch. Wel, nid mater i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yw'r mater yr ydych chi'n ei godi. Yn ddiau, mae'n fater i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Felly, byddwn i'n eich annog chi i ysgrifennu at y cadeirydd. Mabon ap Gwynfor AS: A gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda? O ran y cyntaf, datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar sut mae gorfodi rheoliadau enwau lleoedd safonol Cymru. Yn sgil agor pont newydd dros Ddyfi, mae yna arwyddion newydd wedi cael eu gosod yn cyfeirio at Aberdyfi efo'r hen sillafiad. Mae'r hen sillafiad yma wedi hen ddarfod erbyn hyn ac, yn ôl enwau lleoedd safonol Cymru, Aberdyfi efo'r sillafiad gwreiddiol ydy'r un safonol. Sut, felly, mae'r Llywodraeth wedi gallu rhoi arwydd newydd i fyny sydd yn anghywir? Felly, tybed a allwn ni gael datganiad gan y Gweinidog am sut mae'n bwriadu sicrhau bod enwau lleol safonol Cymru yn cael eu parchu. Yn ail, a gawn ni ddatganiad llafar yn y Siambr yma, os gwelwch yn dda, ar gyhoeddiad y Gweinidog iechyd yr wythnos diwethaf ar addysg a hyfforddiant i weithwyr gofal proffesiynol? Mae'r datganiad ysgrifenedig yn codi sawl cwestiwn. Mae'n sôn am arian, ydy, ond faint o leoedd myfyrwyr mae hyn yn ei olygu, faint o bobl fydd yn cael eu hariannu, faint o bobl gafodd eu hymgynghori ynghylch y datganiad yma, pwy wnaeth y Gweinidog ymgynghori efo nhw? Felly, mae nifer o gwestiynau'n codi, a byddwn yn ddiolchgar am y cyfle i gael datganiad llafar yn fan hyn er mwyn codi'r cwestiynau yna'n uniongyrchol. Diolch. Lesley Griffiths AC: Diolch i chi. O ran eich cais cyntaf, fe fyddwn i'n awgrymu eich bod yn ysgrifennu yn uniongyrchol at Weinidog y Gymraeg ac Addysg ynglŷn â'r pwynt y gwnaethoch chi ei godi am yr arwydd a osodwyd ar gyrion Aberdyfi. O ran yr ail gais, mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, bob blwyddyn, yn cyhoeddi cyllid ar gyfer hyfforddiant proffesiynol. Mae hynny'n cael ei wneud yn flynyddol, ac mae'r datganiad ysgrifenedig yn nodi yn eglur yr hyn sy'n ddisgwyliedig, yr hyn a fyddai'n cael ei gyflwyno a'r cyllid, ac rwy'n cymryd y bydd hwnnw'n cael ei gyfrifo wrth i ni fynd drwy'r flwyddyn. Os oes unrhyw beth penodol i'w godi, unwaith eto, mae'r Gweinidog yn ei lle ac mae hi'n gofyn i chi ysgrifennu yn uniongyrchol ati hi. Laura Anne Jones AC: Gweinidog Busnes, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog addysg. Ers 2011, mae niferoedd yr athrawon i'r byddar wedi gostwng 20 gan y cant—un o bob pump o'r athrawon. Fe ddisgwylir y bydd un o bob tri athro yn ymddeol yn ystod y 10 mlynedd nesaf. Os na chymerir camau pellach, ni fydd unrhyw athrawon i'r byddar ar ôl o gwbl yma yng Nghymru. Felly, fe fydd plant byddar yn cael eu hamddifadu o gymorth ac fe fydd gennym ni argyfwng arall gydag addysg y gellid bod wedi ei osgoi. Fe hoffwn i glywed beth mae'r Gweinidog addysg yn ei wneud, ar ffurf datganiad, os gwelwch yn dda, i annog mwy o athrawon i ymgymryd â'r ddwy flynedd ychwanegol o hyfforddiant ar gyfer bod yn athrawon i'r byddar. Fel rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno, Gweinidog busnes, fe ddylai pob plentyn, gan gynnwys y rhai sydd â nam ar eu clyw, allu cael addysg o'r un safon ag adddysg pawb arall. Diolch i chi. Lesley Griffiths AC: Ie, rwy'n cytuno â'ch pwynt olaf chi'n llwyr. Mae'r pwynt yr ydych chi'n ei godi, mewn gwirionedd, yn rhan o'r gwaith o gynllunio'r gweithlu y mae'r sector addysg yma yng Nghymru yn ymgymryd ag ef. Y Llywydd / The Llywydd: Janet Finch-Saunders. Janet Finch-Saunders AC: Diolch i chi. Fe hoffwn i—. Ai hwn—? Y Llywydd / The Llywydd: Y datganiad busnes yw hwn. Janet Finch-Saunders AC: Ar y—. Y Llywydd / The Llywydd: Y datganiad busnes yw hwn, Janet Finch-Saunders, yr ail eitem ar yr agenda. Janet Finch-Saunders AC: Ynglŷn â bwrdd Betsi. Y Llywydd / The Llywydd: Nid wyf i'n credu eich bod yn barod i ofyn eich cwestiwn. Janet Finch-Saunders AC: Na, rwy'n barod. Y Llywydd / The Llywydd: Nac ydych—. Janet Finch-Saunders AC: Rwy'n barod. Mae fy nghyfraniad i gennyf i yma. Y Llywydd / The Llywydd: Pam na wnaethoch chi ofyn hwnnw felly? Pam oeddech chi'n ymgynghori â'ch cyd-Aelod i ofyn iddi hi beth oedd yn digwydd? Gofynnwch eich cwestiwn. Janet Finch-Saunders AC: Iawn. Fe hoffwn i godi'r pryder ynglŷn â'r dull y mae Bws Arriva Cymru wedi torri pob cysylltiad â phentref yn fy etholaeth i, sef yn ward Penrhyn. Fe wnaethon nhw hynny heb rybudd, gan adael tua 450 neu 500 o bobl, nawr, yn teimlo eu bod mewn unigedd cymdeithasol llwyr. Pentref yw hwn ar lethr serth iawn o fynydd Nant-y-gamar. A dweud y gwir, rwyf i wedi ysgrifennu at y Gweinidog, ond fe hoffwn i gael datganiad, oherwydd nid yn fy etholaeth i yn unig nac yn yr ardal hon yn unig y mae hyn yn digwydd, ac maen nhw'n llythrennol yn tynnu'r gwasanaeth heb unrhyw ymgynghori ag aelodau etholedig, heb unrhyw ymgynghori â thrigolion na'r teithwyr yr effeithir arnyn nhw. Felly, mae hyn yn rhywbeth yr wyf i'n teimlo yn angerddol iawn yn ei gylch. Lesley Griffiths AC: Diolch i chi. Mater i Arriva yw hwn. Nid mater i'r Dirprwy Weinidog mohono, ac rwy'n awgrymu eich bod chi'n ysgrifennu at brif weithredwr Arriva. Y Llywydd / The Llywydd: Diolch i'r Trefnydd. 3. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Dwy flynedd ers yr ymosodiad llawn ar Wcráin a diweddariad ar y Genedl Noddfa Y Llywydd / The Llywydd: Yr eitem nesaf fydd y datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar ddwy flynedd ers yr ymosodiad llawn ar Wcráin a diweddariad ar y genedl noddfa. Y Gweinidog, felly, i wneud ei datganiad—Jane Hutt. Jane Hutt AC: Diolch yn fawr, Llywydd. Bydd y pedwerydd ar hugain o fis Chwefror yn dynodi dwy flynedd ers ymosodiad llawn ar Wcráin gan Putin. Ers hynny, mae mwy na 7,500 o Wcreiniaid wedi cael eu gorfodi i adleoli i Gymru, gyda miliynau yn rhagor wedi cael eu dadleoli ar draws Ewrop. Mae'r wythnos hon yn garreg filltir arw i Wcreiniaid ym mhobman, ond rydym ni'n benderfynol o arddangos ein hundod parhaus. Er bod y rhyfel yn faith, chwedl Arlywydd Zelenskyy yn nyddiau cynnar yr ymosodiad, 'bydd goleuni yn drech na'r tywyllwch'. Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair. Jane Hutt AC: Yn arwydd o hyn, fe fyddwn ni'n taflu goleuadau ar rai o adeiladau'r Llywodraeth yng Nghaerdydd yr wythnos hon, a nos yfory fe fyddaf i'n siarad mewn digwyddiad a noddir gan Mick Antoniw AS, yma yn y Senedd. Ymweliad nodedig â'r DU gan feddygon rheng flaen o Wcráin yw'r achlysur hwn, sy'n cynnwys rhai a gafodd eu dal yn gaeth yn Rwsia, sy'n teithio o amgylch y DU gydag ambiwlans a gafodd ei fomio. Bydd y digwyddiad ei hun yn taflu goleuni ar anwareidd-dra ymosod ar gyfleusterau meddygol—trosedd rhyfel. Yn ogystal â hyn, mae Mick Antoniw AS newydd ddychwelyd ar ôl ei ymweliad ef ag Wcráin gyda thîm o wirfoddolwyr, a oedd yno'n trosglwyddo nwyddau angenrheidiol a ddarparwyd gan gymunedau Cymru. Mae ein cefnogaeth i'r Wcreiniaid yn ddiwyro yma yng Nghymru. Ar ymweliad diweddar â phrosiect Safe Haven ym Maesteg, fe welais i bwysigrwydd y croeso sy'n cael ei estyn i Wcreiniaid. Fe gefais fy nghyfareddu gan araith bwerus gan ddisgybl ysgol a oedd yn sôn am hanes y gwrthdaro a'r cyfleoedd a gafodd hi o ran cymorth. Fe hoffwn i ddiolch i'r teuluoedd sydd wedi croesawu gwesteion Wcreinaidd ar eu haelwydydd ledled Cymru. Ers misoedd rwyf i wedi bod yn ceisio ymrwymiadau gan Lywodraeth y DU ar gyfer estyniadau i gyfnodau dilysrwydd fisâu neu hawl i ymgartrefu. Ac roeddwn i'n falch o weld cyhoeddiad ddoe y bydd y rhai sydd â fisâu dan gynlluniau ar gyfer Wcráin yn gallu ymestyn eu hawl i aros yn y DU am 18 mis arall. Nid y cyfnod estyn yr oeddem ni wedi gobeithio amdano yw hwnnw'n union, ac nid oes fyth hawl i ymgartrefu, ond fe wn i y bydd llawer o Wcreiniaid yng Nghymru yn gwerthfawrogi'r sicrwydd o wybod bod modd aros am 18 mis arall eto yng Nghymru. Rydym ni'n gwybod na fydd gan lawer ohonyn nhw gartrefi i fynd adref iddyn nhw ar ddiwedd y cyfnod hwnnw ac fe fyddwn ni'n dal ati i weithio ar ymagwedd drugarog a fydd yn canoli ar yr unigolyn mewn misoedd a blynyddoedd i ddod. Mae hi'n amlwg fod llawer o fanylion mân eto ynglŷn â'r trefniadau i ymestyn cyfnodau dilysrwydd y mae angen gweithio drwyddyn nhw a chyfleu'r atebion i Wcreiniaid yn ein cymunedau nhw. Fe wnaeth Llywodraeth y DU gyflwyno llawer o newidiadau i'r rheolau mewnfudo sy'n ymwneud â chynlluniau cyfredol ynghylch Wcráin brynhawn ddoe hefyd, ond mae angen peth amser arnom ni i amgyffred eu heffaith debygol nhw yng Nghymru. Fe fyddwn ni'n parhau i ymgysylltu â'r Swyddfa Gartref i sicrhau bod cynlluniau ar gyfer Wcráin yn addas i'r diben a bod y camau y mae angen i Wcreiniaid eu cymryd yn cael eu hamgyffred a'u cefnogi yn llawn. O ran y rai sydd wedi elwa ar haelioni uwch-noddwr sydd wedi teithio ac wedi manteisio ar ein cynnig o lety cychwynnol, rydym ni'n parhau i wneud cynnydd ardderchog o ran cefnogi pobl i symud i lety tymor hwy ledled Cymru a thu hwnt lle gall Wcreiniaid ddal i ymgartrefu yn ein cymunedau ni. Erbyn hyn mae llai na 90 o unigolion ar ôl yn y tri safle llety cychwynnol i gyd, ac rydym ni'n gweithio yn agos gyda'r awdurdodau lleol i gefnogi'r aelwydydd sydd ar ôl i symud ymlaen, gan gynnwys drwy gyfrwng ein rhaglen gyfalaf llety trosiannol. Rydym ni'n parhau i fod ar y llwybr iawn i fod yn cau ein safleoedd llety cychwynnol yn gyfan gwbl yn ystod 2024. Mae ein dull tîm Cymru ni, gyda'r awdurdodau lleol a phartneriaid y trydydd sector i gyd yn dod at ei gilydd i gefnogi Wcreiniaid i symud ymlaen ledled Cymru, sy'n cael ei hwyluso gan y tasglu symud ymlaen cenedlaethol a weithredir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, wedi bod yn hanfodol i'r llwyddiant hwn. Erbyn hyn, mae dros 2,000 o westeion wedi cael cymorth i lety tymor hwy yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan ein galluogi ni i gau 28 o leoliadau llety cychwynnol. Nid yn unig yr ydym ni wedi gallu cefnogi cannoedd o gartrefi i fod yn aelwydydd llwyddiannus yn ein cymunedau lleol, ond rydym ni wedi lleihau ein cyllideb y gellir ei rhagweld o ran llety cychwynnol yn sylweddol hefyd a hynny mewn cyfnod o bwysau ariannol difrifol. Er y llwyddiannau hyn, rydym ni wedi gorfod mynd i'r afael â heriau mawr o ran y gefnogaeth i geiswyr lloches yn ystod y misoedd diwethaf. Yn benodol, arweiniodd ymdrech y Swyddfa Gartref i ddileu eu hôl-groniad o hawliadau lloches at gynnydd mawr yn niferoedd y ffoaduriaid digartref yn y cyfnod cyn y Nadolig. O ganlyniad i Ddeddf Cenedligrwydd a Ffiniau 2022 a Deddf Mudo Anghyfreithlon 2023, mae dau ôl-groniad arall o geisiadau lloches gennym ni ar gyfer rhai sy'n glanio a'r ôl i'r ddwy Ddeddf gael eu pasio, er yr honiadau eu bod nhw wedi datrys y materion hyn. Ar hyn o bryd rydym ni'n gweld argyfwng o ran y cyngor cyfreithiol mewnfudo sydd ar gael a fydd ag effaith ganlyniadol ar ddigartrefedd, amddifadedd a chamfanteisio yn ein cymunedau ni os na ellir mynd i'r afael â hynny. Rydym ni wedi gofyn dro ar ôl tro i Lywodraeth y DU ddefnyddio ei phwerau i sicrhau bod digon o gymorth cyfreithiol ar gael yng Nghymru, ond hyd yn hyn, wedi gwrthod gweithredu y mae hi. Mae'r system cymorth cyfreithiol yn fater a gedwir yn ôl ac rydym ni'n dibynnu ar Lywodraeth y DU i gymryd y camau angenrheidiol i atal y sector hwn rhag chwalu. Ond rydym ni'n ystyried camau cyfyngedig gan Lywodraeth Cymru y gallem ni eu cymryd ac rydym ni'n dal ati i alw ar Lywodraeth y DU i gydnabod effaith peidio â gweithredu. Gan weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'n partneriaid yn yr awdurdodau lleol, rydym ni wedi cyflwyno trefniadau llywodraethu newydd yn ddiweddar i fod yn sail i'n dull tîm Cymru ni. Mae hyn yn cynnwys sefydlu bwrdd goruchwylio strategol cenedl noddfa, yr wyf i'n ei gadeirio gyda llefarydd tai CLlLC. Mae'r aelodau yn cynnwys arweinwyr awdurdodau lleol, cynrychiolwyr o'n gwasanaethau sector cyhoeddus yn fyw eang, partneriaid yn y trydydd sector a chynrychiolwyr o'r Swyddfa Gartref a'r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau. Rydym ni wedi sefydlu bwrdd partneriaeth cenedl noddfa hefyd i sicrhau ymgysylltiad ar lefel swyddogol uwch ar draws ein holl bartneriaid. Er mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw'r gyfundrefn loches, mae'r bwrdd hwn yn cynnig llwyfan pwysig i geisio gweithio gyda nhw i ddarparu system effeithiol sy'n cefnogi cymunedau lleol a cheiswyr lloches. Fe fyddwn ni'n parhau i'w helpu nhw i gyflawni eu cynllun gwasgaru ceiswyr lloches a thynnu sylw at faterion lle maen nhw'n codi, gan gydnabod ei bod hi'n amlwg mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw sicrhau bod y cynllun i wasgaru yn cael ei weithredu. Dirprwy Lywydd, mae Cymru yn genedl noddfa. Rydym ni'n falch o gynnig lloches i bobl sy'n ffoi rhag rhyfel, gwrthdaro a cham-drin yng Nghymru. Fe gawsom ein syfrdanu gan haelioni pobl ledled Cymru a agorodd eu drysau i bobl yn ffoi rhag ymladd ofnadwy yn Wcráin. Ond mae Cymru hefyd wedi croesawu pobl a oedd yn ffoi o Affganistan, Syria a Hong Kong. Mae bod yn genedl noddfa yng Nghymru yn golygu cefnogaeth i bawb sy'n dod i Gymru i fod â rhan lawn yn ein cymunedau a'n heconomi. Mae angen ymfudo ar Gymru i gynnal a chynyddu ein poblogaeth a chefnogi busnesau a'r sector cyhoeddus. Mae ymfudo yn cadw ein cymunedau ni'n fywiog ac yn helpu ein heconomi i ffynnu. Diolch. Mark Isherwood AC: Mae Rwsia yn wlad odidog, ac mae ei phobl yn haeddu cymaint gwell na Vladimir Putin a'i giwed o ffasgiaid. Am y byddwn ni'n nodi dwy flynedd ddydd Sadwrn nesaf ers ymosodiad anghyfreithlon Putin ar Wcráin, a gyda'i ymdrechion anwaraidd ef i roi taw ar bob gwrthwynebiad democrataidd yn ystod y dyddiau diwethaf, mae'n rhaid i ni gofio bod Putin nid yn unig yn droseddwr rhyfel rhyngwladol ac wedi llofruddio lluoedd, ond ei fod ef hefyd yn hen ddyn bach ffiaidd ac yn ormeswr milain. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno bod diolchgarwch enfawr yn ddyledus i bobl Wcráin am amddiffyn y rheng flaen o ran rhyddid y gorllewin ar ddwy lan yr Iwerydd a thu hwnt. Wrth eich holi chi yma ym mis Mehefin y llynedd, roeddwn i'n nodi, wrth ymateb i'ch datganiadau blaenorol chi ynglŷn ag Wcráin a'r genedl noddfa, fy mod i wedi codi mater tai a thai modiwlaidd arfaethedig dro ar ôl tro yn rhan o'r datrysiad, fel sydd yn digwydd dros y dŵr yn Iwerddon. Roeddech chi wedi cyfeirio o'r blaen at yr angen i symud ein gwesteion Wcreinaidd i lety tymor hwy, ac mae rhywfaint o hynny'n cynnwys tai modiwlaidd a ddatblygwyd ledled Cymru. Felly, pa ddyraniad penodol sy'n cael ei ddarparu ar gyfer ffoaduriaid, os oes un o gwbl? Roeddwn ni'n nodi hefyd, felly, fod y gronfa £150 miliwn i helpu Wcreiniaid i ganfod cartrefi iddyn nhw eu hunain wedi cael ei chyhoeddi yn ffurfiol gan Lywodraeth y DU, gyda £8 miliwn i Gymru, ac roeddwn i'n gofyn i chi gadarnhau sut y byddai hwnnw'n cael ei ddyrannu ac a fyddai'n cael ei ddosbarthu gan Lywodraeth Cymru a/neu'r cynghorau i helpu teuluoedd o Wcráin i gael llety rhent preifat a chael gwaith, fel sy'n digwydd yn Lloegr. Yn eich ymateb chi, roeddech chi'n dweud bod 936 o dai ychwanegol yn cael eu hariannu o'r rhaglen gyfalaf llety trosiannol 'am ac i'r flwyddyn nesaf'—h.y. eleni—ac mae honno'n ystod o ddatrysiadau o ran llety ledled Cymru, nid tai modiwlaidd yn unig, ond sy'n dwyn tai gwag neu segur i ddefnydd unwaith eto, gan drawsnewid rhai adeiladau, dymchwel eraill a chodi adeiladau newydd hefyd. O ystyried bod bron i 90,000 o aelwydydd yng Nghymru ar restrau aros tai cymdeithasol ar hyn o bryd, faint o dai sydd wedi cael eu hariannu erbyn hyn drwy'r rhaglen gyfalaf llety trosiannol, faint o'r rhain a ddyrannwydar gyfer ffoaduriaid Wcreinaidd neu ffoaduriaid eraill, a faint o gartrefi ychwanegol, gan gynnwys adeiladau newydd a thai modiwlaidd newydd, a ddarparwyd i ddiwallu anghenion ffoaduriaid Wcreinaidd a ffoaduriaid eraill yng Nghymru? O ystyried bod y DU wedi cynnig neu ymestyn noddfa i fwy na 238,000 o Wcreiniaid, faint o'r rhain sydd yng Nghymru erbyn hyn, ac a yw Cymru yn ysgwyddo'r baich mewn ffordd deg, pan fo Lloegr yn rhoi cartref i 16 o geiswyr lloches fesul 10,000 o bobl, ond dim ond naw a gartrefir yng Nghymru? Pa gamau a ydych chi am eu cymryd i fynd i'r afael â hyn, os ydych chi am wneud hynny o gwbl? Y tro diwethaf i mi ymweld â Chanolfan Byd Gwaith yr Wyddgrug, fel soniais i o'r blaen, fe ddysgais i am y gwaith rhagorol yr oedden nhw'n ei wneud wrth gefnogi Wcreiniaid sy'n awyddus i weithio a gwneud cyfraniad. Yn y cyd-destun hwn, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â chyrsiau Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill, ESOL, a pha mor hawdd yw trosglwyddo eu cymwysterau i Gymru? Mae cynllun teithio rhad ac am ddim i ffoaduriaid ar fysiau Cymru, y tocyn croeso, a oedd yn dechrau ar 26 Mawrth 2022 ac a fydd yn parhau tan 31 Mawrth 2024 gyda threfniadau eraill yn cael eu hystyried ar ôl hynny, yn caniatáu i'r rhai sy'n gymwys deithio yn rhad am ddim ar bob gwasanaeth bws lleol ledled Cymru heb unrhyw gyfyngiadau, gan gynnwys y rhai sy'n rhedeg dros y ffin â Lloegr os yw'r daith yn cychwyn ac yn gorffen yng Nghymru, gyda gwaharddiadau yn berthnasol i wasanaethau National Express a Stagecoach Megabus yn unig. Beth yw'r cynlluniau ar gyfer y cyfnod ar ôl 31 Mawrth? Fe anfonais i e-bost atoch chi dros y penwythnos ar ran etholwyr sy'n rhoi llety i'w hail deulu Wcreinaidd, ac rwy'n diolch i chi am eich ymateb dros dro. Dywedodd gyrrwr bws y gwasanaeth sy'n mynd trwy eu pentref nhw, sy'n cael ei redeg gan Townlynx yn Nhreffynnon, wrthyn nhw ei fod yn fodlon gadael eu gwesteion Wcreinaidd fynd ar y bws y tro hwn, ond na fydden nhw'n cael mynd ar y bws eto. Sut wnaeth Llywodraeth Cymru, felly, gomisiynu'r cynllun teithio rhad ac am ddim ar fysiau i ffoaduriaid a pha gamau a allwch chi neu a wnewch chi eu cymryd mewn amgylchiadau o'r fath? Fel roeddech chi'n ei nodi, fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU gynllun estyniad o 18 mis ar gyfer dilysrwydd fisa ar gyfer Wcreiniaid a ddaeth i geisio noddfa yn y DU yn dilyn ymosodiad anghyfreithlon Rwsia, sy'n golygu y byddan nhw'n gallu aros yn y DU nawr tan fis Medi 2026. Fe fydd y rhai sydd yn y DU yn ôl cynllun Cartrefi i Wcráin, y cynllun teuluoedd o Wcráin, neu gynllun estynedig Wcráin yn gymwys i wneud cais am yr estyniad o fewn tri mis olaf y fisa cyfredol. Er bod y cynllun teuluoedd o Wcráin yn cael ei ddiddymu, fe fydd gwladolion Wcráin a fyddai wedi bod yn gymwys yn unol â hyn yn parhau i allu gwneud cais i gynllun Cartrefi i Wcráin, ac fe all teuluoedd sydd wedi ymgartrefu yma barhau i noddi aelod o'r teulu i ddod i'r DU yn ôl Cartrefi i Wcráin. Sut fydd y newidiadau hyn yn effeithio ar gynlluniau Llywodraeth Cymru, a pha gamau a gymerwch chi i ddiwallu'r angen mwy eang hwn, ar lefel Llywodraeth Cymru a thrwy ymgysylltu â Llywodraeth y DU fel ei gilydd? Diolch yn fawr. Jane Hutt AC: Diolch yn fawr, Mark Isherwood. Rwy'n cytuno yn llwyr â chi wrth i chi siarad am anwareidd-dra Putin ac mae hynny, rwy'n credu, yn cael ei adleisio ar draws y Siambr hon, sef y diolchgarwch mawr i gydnabod dewrder, cydnerthedd a chadernid pobl Wcráin am eu parodrwydd diwyro i ymladd a gwrthsefyll ymosodiad Putin ar eu cenedl. Mae hi'n bwysig ein bod ni'n gwneud y datganiad hwnnw gyda'n gilydd heddiw. Rydych chi'n codi cwestiynau pwysig ynglŷn â sut yr ydym ni wedi rhoi cefnogaeth. Ddwy flynedd yn ôl, roeddem ni yma gyda'n gilydd yn gwneud dim ond mynegi ein trueni a'n harswyd oherwydd ymosodiad Putin a chydnabod dewrder y bobl hynny yn Rwsia hefyd sy'n gwrthsefyll Putin erbyn hyn, gan fentro eu bywydau i wneud felly, hyd yn oed. Fe wyddom ni fod yna laweroedd o sifiliaid yn y sefyllfa honno. Ond beth a wnaethom ni? Mae hi'n hen bryd i ni gydnabod ac ystyried yr hyn sydd wedi digwydd a sut mae Cymru, ac fel rydych chi'n dweud, pobl Cymru a'i sefydliadau, llywodraeth leol, y trydydd sector, eglwysi, mosgiau, a sut mae pawb wedi ymateb. Unwaith eto, rydym ni wedi croesawu dros 7,400 o Wcreiniaid yn unol â chynllun Cartrefi i Wcráin y DU, gan gynnwys bron i 3,300 yn ôl ein llwybr uwch-noddwr ni, ac mae hi'n bwysig bod hynny'n cael ei roi ar gofnod heddiw. Rydym ni wedi helpu dros 2,600 o bobl i symud drwy ein llety cychwynnol, y canolfannau hynny i groesawu, ledled Cymru, ac rwyf i wedi sôn am y ffaith ein bod ni am weithredu tuag at gau'r canolfannau croeso diwethaf yn ystod y flwyddyn eleni. Felly, mae hi'n rhaid i ni ddiolch, unwaith eto, i'n partneriaid allweddol sydd yn ein cefnogi i helpu'r 2,600 o bobl hynny o'r canolfannau croeso, y llety cychwynnol hwnnw, i lety tymor hwy—dull tîm Cymru. Ac rwyf i eisoes wedi cydnabod swyddogaeth, wrth gwrs, pobl Cymru a roddodd o'u calonnau ac agor drysau eu cartrefi, am eu caredigrwydd a'u hymrwymiad lletygar. Rwy'n credu mai mater yw hwn, unwaith eto, o fod yn craffu ar rywfaint o'r manylion yn y cyhoeddiadau. Fe wnes i gyfarfod â Gweinidog Llywodraeth y DU ochr yn ochr â Gweinidog Llywodraeth yr Alban, Dirprwy Weinidog Gogledd Iwerddon a Gweinidog Gogledd Iwerddon. Roedd hi'n hyfryd ein bod ni i gyd yn cael cyfarfod gyda'n gilydd wythnos diwethaf i drafod y cyhoeddiadau hyn a oedd yn cael eu cyflwyno. Ond roeddem ni'n codi cwestiynau ynghylch a fydd y taliadau diolch, er enghraifft, yn parhau—mae'r rhain yn fanylion y mae angen i ni edrych arnyn nhw, oherwydd rydym ni'n awyddus hefyd i gefnogi'r rhai hynny sy'n dal i ddod ymlaen i gynnig llety. A dim ond gair, o ran ein canolfannau croeso ni, roeddwn i'n sôn mai 90 o westeion yn unig sydd gennym ni ar ôl yn y canolfannau croeso oherwydd llwyddiant y gweithgarwch o ran symud pobl ymlaen. Pan oedd y prosiect yn ei anterth, roedd dros 1,900 o westeion mewn mwy na 40 o safleoedd ledled Cymru, ac mae llawer ohonoch wedi bod yn ymweld â'r lleoliadau hynny. I sôn ychydig am eich cwestiwn ynglŷn â'r llety a ddefnyddir, roedd y rhaglen gyfalaf i ddarparu llety trosiannol, yn y flwyddyn gyntaf, yn rhoi £76.4 miliwn i awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ar gyfer cynnig 936 o gartrefi i bobl. Mae hon yn agored erbyn hyn i geisiadau newydd yn ystod y flwyddyn ariannol hon, ac fe fyddwn ni'n parhau i weithio gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac awdurdodau lleol i ddarparu mwy o gartrefi. Mae hynny'n cynnwys amrywiaeth o brosiectau: fel defnyddio tai gwag unwaith eto, ailfodelu ac altro adeiladau presennol, yr adeiladau modiwlaidd a welwyd gan lawer yn eu hetholaethau nhw eu hunain, a chydnabod hefyd fod y rhain, mewn gwirionedd, yn gartrefi i bobl sydd mewn llety dros dro, gan gynnwys pobl sy'n cael eu hadsefydlu o Syria, Affganistan a Wcráin. Roeddech chi'n crybwyll cyflogaeth ac ESOL. Mae hi'n allweddol i ni gefnogi ein gwesteion Wcreinaidd i symud i'w llety eu hunain a bod yn annibynnol. Ac, wrth gwrs, mae gwir angen am y sgiliau y mae gwesteion o Wcráin yn eu cynnig i Gymru, a'u hawydd i wella eu Saesneg hefyd, gan lunio'r gwersi o amgylch gwaith ac ymrwymiadau astudio. Roeddwn i'n awyddus i fynegi bod dros 600 o Wcreiniaid yng Nghymru wedi cofrestru gyda STEP Wcráin, sy'n rhaglen ddwys 12 wythnos o ran iaith Saesneg a chyflogaeth ar gyfer Wcreiniaid yn y DU. O ran y tocyn croeso, rydym ni'n falch ein bod ni wedi gallu darparu'r cynllun tocyn croeso ar gyfer cludiant cyhoeddus am ddim am ddwy flynedd. Mae newidiadau i'r ffordd y mae'r diwydiant bysiau yn cael ei ariannu yn golygu ein bod ni'n ystyried dulliau amgen o ddarparu cymorth yn y dyfodol. Rydym ni'n gwneud y penderfyniadau hyn nawr ac fe fyddwn ni'n egluro'r rhain yn llawn pan fydd y trafodaethau hynny wedi dod i ben. Diolch am gysylltu â mi dros y penwythnos, Mark, i roi gwybod i mi am ddigwyddiad siomedig a gresynus. Mae digwyddiadau fel hyn wedi digwydd wrth i geiswyr lloches naill ai gael eu gwrthod ar gam rhag teithio neu deimlo eu bod nhw'n cael eu trin yn annheg. Mewn unrhyw achosion fel hyn, fe fyddwn ni'n ymchwilio i'r amgylchiadau ac yn gweithio gyda gweithredwr y gwasanaeth. Cyfrifoldeb y sawl sy'n rhedeg y gwasanaeth yw hwn, ond fe fyddwn ni gwneud ymholiadau i'r gweithredwr sy'n gyfrifol i geisio unioni pethau. Yn olaf, Dirprwy Lywydd, mae hi'n bwysig ein bod yn edrych ar yr hyn a fydd yn digwydd i'r dyfodol gyda chynlluniau Wcráin. Maen nhw'n gynlluniau pwysig, ac rwy'n gobeithio gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Ddoe yn unig y cawsom ni'r manylion. Mae materion i'w hegluro fel bydd y trefniadau sydd ar ddod yn cefnogi llwybrau diogel a chyfreithiol, ac, yn amlwg, rydym ni'n gweithio yn glòs iawn gyda'r Swyddfa Gartref ynglŷn â'r mater hwn. Mae cynllun newydd i ymestyn caniatâd ar gyfer caniatáu i Wcreiniaid yng Nghymru gynllunio ychydig ymhellach i'r dyfodol a thawelu'r pryderon ynghylch eu sefyllfa o fis Mawrth 2025 ymlaen. Ond yr hyn y gwnaethom ni ei ddweud yw bod rhaid i geisiadau am estyn cyfnod unrhyw fisa fod yn rhwydd, mae'n rhaid iddyn nhw fod â chost resymol, mae'n rhaid iddyn nhw fod yn syml a heb fod ag angen cyngor cyfreithiol i'w cwblhau. Ni ddylid rhoi pobl ar ymyl y dibyn o ran eu sefyllfa. Felly, mae hwnnw'n rhywbeth yr ydym ni'n ceisio ei egluro. Ond, wrth gwrs, mae terfynu'r cynllun teuluoedd o Wcráin, gan fyrhau'r cyfnod o ganiatâd i aros ar gyfer fisâu Cartrefi i Wcráin i 18 mis yn hytrach na 36 mis, yn newidiadau sylweddol, ac yn golygu nad oes cyfleoedd am nawdd cadwyn mwyach. Rydym ni wedi bod yn gofyn am eglurhad ynglŷn â'r materion hyn. A hefyd, o ran ein cynlluniau ein hunain, ein dealltwriaeth ni yw nad yw'r newidiadau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn atal unrhyw un sydd wedi cael fisa uwch-noddwr rhag teithio i'r DU os nad ydyn nhw wedi gwneud hynny eisoes. Sioned Williams AS: Diolch am y datganiad, Weinidog. Sioned Williams AS: Rhywbeth ofnadwy yw'r hyn yr ydym ni'n ei nodi heddiw: dwy flynedd ers yr ymosodiad anghyfreithlon ar diroedd Wcráin, bomio eu dinasoedd a phobl yn cael eu gyrru o'u cartrefi mewn arswyd. Rydym ni wedi condemnio gweithredoedd anghyfreithlon ac anwaraidd Putin ac yn gywir felly ac wedi chwarae ein rhan wrth helpu i gefnogi ffoaduriaid rhag yr ymladd hwn i ddod o hyd i noddfa a lloches yng Nghymru. Mae Cymru wedi cael ei chanmol am ei hymateb dyngarol, y cynllun uwch-noddwr, cyfranogiad ein hawdurdodau lleol a sefydliadau cenedlaethol fel Urdd Gobaith Cymru, sy'n esiamplau disglair yn nhywyllwch y ddwy flynedd ddiwethaf o ryfel a dadleoli pobl. Fe hoffwn i fynegi diolchgarwch Plaid Cymru ar goedd i bawb yng Nghymru sydd wedi helpu ac sy'n dal ati i helpu ein brodyr a'n chwiorydd Wcreinaidd yn eu hangen mawr. Mae'n rhaid tynnu sylw at y cyferbyniad mawr rhwng yr ymateb rhyngwladol i'r rhyfel yn Wcráin a'r ymateb i ymosodiad parhaus Llywodraeth Israel ar Gaza yn y cyd-destun hwn, am eich bod chi, Gweinidog, wedi dweud y bydd yn rhaid i Gymru sy'n genedl noddfa gefnogi pawb sydd ag angen am noddfa, sy'n ffoi rhag rhyfel. Felly, a ydych chi'n cytuno na ddylai gwladwriaeth y Deyrnas Unedig, yr ydym ni'n rhan ohoni, fod yn gallu dewis a dethol pwy y bydd hi'n eu cefnogi neu'n cydsefyll â nhw sy'n ddioddefwyr rhyfel ac yn bobl a ddadleolwyd? Oherwydd ym Mhalestina y mae'r argyfwng ffoaduriaid mwyaf hirsefydlog na chafodd ei ddatrys mewn hanes diweddar, ac erbyn hyn y mae hwnnw'n argyfwng nad oes ansoddeiriau digonol i ddisgrifio ei erchyllterau. Fel pobl Wcráin, nid ydyn nhw'n dyheu am ddim ond cael mynd adref i'w tai, i'w hystafelloedd dosbarth, i'w busnesau, y cafodd llawer ohonyn nhw eu dinistrio gan fomiau'r ymosodwyr. Ar y cyfan, nid yw pobl Gaza wedi gallu ffoi o gwbl rhag y bomiau na'r bwledi na'r diraddio, a hyd yn oed pe bydden nhw'n gallu cael eu ffordd allan o'r hyn a alwodd Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig yn hunllef ddyngarol, ni fydden nhw wedi cael llwybr penodol ar gyfer mewnfudo cyfreithiol i gyrraedd yma. Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth a'r arweinydd yn San Steffan, Liz Saville-Roberts, wedi pwyso ar Lywodraeth y DU i adfer cyllid ar gyfer Asiantaeth Rhyddhad a Gwaith y Cenhedloedd Unedig, sydd wedi darparu cefnogaeth hanfodol i filiynau o ffoaduriaid Palesteinaidd, gan alw atal cefnogaeth Lywodraeth y DU yn gamgymeriad moesol a strategol. A yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r alwad honno? Pa sgyrsiau a gawsoch chi gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â sicrhau cefnogaeth i'r rhai a ddadleolwyd gan y rhyfel yn Gaza ac sy'n wynebu'r trychineb dyngarol hwn? Ac mae hi'n ymddangos nawr fod eich cydweithwyr chi yn y Blaid Lafur yn San Steffan yn dechrau deall o'r diwedd nad yw atal y brwydro dros dro yn ddigonol, a wnewch chi yn y Llywodraeth alw eich hunain am gadoediad ar unwaith, o ystyried eich condemniad cyfiawn o weithredoedd Putin a sefyllfa pobl yn Wcráin? Mae'r pwerau dros faterion mewnfudo, fel roeddech chi'n dweud, yn fater a gedwir yn ôl, wrth gwrs, ac mae'r gefnogaeth barhaus a ddarperir i bawb sydd wedi cael eu gorfodi i adael eu cartrefi a cheisio lloches yng Nghymru yn cael ei chyfyngu gan San Steffan. Felly, er eich bod chi'n amlwg yn ceisio eglurhad, a ydych chi'n cytuno mai gwarth o beth yw bod Llywodraeth Dorïaidd San Steffan wedi cyhoeddi heb rybudd o gwbl y byddan nhw'n rhwystro Wcreiniaid rhag ymuno ag aelodau o'u teuluoedd yng Nghymru? Beth mae hynny'n ei gyfleu, yn eich barn chi, i'r rhai sydd wedi colli popeth yr ydym ni'n awyddus ac yn teimlo cyfrifoldeb i gynnig noddfa iddyn nhw rhag y rhyfel? A ydych chi'n cytuno y dylid gweld diwedd ar newidiadau polisi fel hyn a sicrhau bod y Llywodraeth yn cyflwyno cynllun byd-eang sy'n rhoi'r un hawliau, gan gynnwys o ran uno teuluoedd, i bawb sydd eu hangen, heb ystyried eu cenedligrwydd? Mae Plaid Cymru wedi clywed am bryderon sydd gan awdurdodau lleol Cymru a Chyngor Ffoaduriaid Cymru hefyd ynglŷn â'r cynllunio hirdymor i'r cynllun a fwriadwyd i gefnogi ffoaduriaid o Wcráin. Gyda Llywodraeth y DU yn dod â'r taliad cymorth diolch i ben ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf, ni fydd y rhai sy'n cynnig llety yng Nghymru yn cael y cymorth ariannol sydd ei angen arnyn nhw wedyn i barhau â'u gwaith ardderchog yn lletya ffoaduriaid o Wcráin. Roedd y taliadau, wrth gwrs, yn rhoi cymhelliant ariannol hefyd ar gyfer annog pobl i letya. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â'r perygl hwn y bydd teuluoedd o Wcráin yn cael eu gorfodi i ddod o hyd i'w llety eu hunain gan wynebu digartrefedd efallai, a fyddai'n ychwanegu at y pwysau aruthrol sydd ar y gwasanaethau tai a digartrefedd eisoes, y mae'r awdurdodau lleol sydd eisoes yn brin ddifrifol o gyllid yn ceisio ymdrin ag ef? A fyddech chi'n disgwyl i'r awdurdodau lleol ymgymryd â'r un dyletswyddau gyda llai o adnoddau, yn enwedig o ystyried y toriad arfaethedig yn y gyllideb ar gyfer cymorth i ffoaduriaid o Wcráin? Ac yn olaf, yn adroddiad cynnydd 'Cenedl Noddfa—Cynllun Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches' a gyhoeddwyd yn ddiweddar, fe nodwyd bod y gwaith i sicrhau strategaethau atal digartrefedd yn y pedair ardal wasgaru yn ystyried bregusrwydd ffoaduriaid newydd i ddigartrefedd gyda rhybudd ambr. A wnewch chi amlinellu pa gamau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â hynny? Diolch. Jane Hutt AC: Diolch, Sioned Williams. Ie, fel rydych chi'n dweud, mae'r ddwy flynedd a nodwn ni heddiw yn rhai dychrynllyd iawn. Unwaith eto, rwy'n diolch i chi am gydnabod yr ymateb dyngarol eang a welsom ni yng Nghymru. Mae hi'n dda iawn i ni allu dwyn swyddogaeth yr Urdd i gof unwaith eto wrth sefydlu un o'r canolfannau croeso cyntaf. Ac wrth gwrs, fe hoffwn i ddiolch hefyd i'r Urdd am y gwaith a wnaethon nhw wrth ymateb i'r ffoi o Affganistan, oddi wrth y Taliban, ac inni weld y fath ymateb ar garreg ein drws, gyda'r Urdd yn agor eu drysau i blant a theuluoedd Affganistan. Ac fe hoffwn i ddweud, ynglŷn â'r pwynt hwnnw, fod Cymru wedi croesawu dros 800 o bobl o Affganistan erbyn hyn ac mae'r gwaith yn parhau i gynyddu'r niferoedd eto. Ac rwy'n credu bod rhaid cydnabod awdurdodau lleol Cymru unwaith eto ac mae'n rhaid eu canmol nhw am y canlyniad anhygoel wrth symud y rhan fwyaf o deuluoedd o Affganistan allan o'r gwestai a gaffaelwyd gan Lywodraeth y DU mewn dull mor llwyddiannus. Ym mis Awst y llynedd, fe wnaethon ni ymweld â—wel, dros gyfnod o bron i ddwy flynedd i gyd—gwestai a gweithio gydag awdurdodau lleol i weithredu'r symudiad anhygoel hwnnw. A chan gydnabod cynghorau Caerdydd a Bro Morgannwg yn arbennig, yn ogystal â phawb arall a gefnogodd y gwaith o'u symud nhw, gan weithio yn ddiflino i leihau nifer y teuluoedd a oedd wedi cael eu gwneud yn ddigartref. Oherwydd, wrth gwrs, roeddem ni'n gweithio gyda'r teuluoedd hynny a ddaeth o Syria a'u cefnogi nhw hefyd. Jane Hutt AC: Wel, ie, mae hi'n amlwg eich bod chi wedi myfyrio ar faterion ehangach ynglŷn â'r ymladd yn y byd, sy'n bwysig i ni o ran ein cysylltiadau a'n dealltwriaeth ryngwladol a'n cyfrifoldebau a'n dinasyddiaeth fyd-eang. Yr hyn sy'n rhaid i ni ei weld yw hynny o ran—. Y gwir yw, argyfwng dyngarol yw'r un a welwn ni yn Gaza. Mae llawer gormod o sifiliaid, gan gynnwys menywod a phlant, yn colli eu bywydau. Ac mae'n rhaid i ni gael mwy o gymorth i Gaza—ac, yn bwysicaf i gyd, mae'n rhaid i'r gwystlon gael eu dychwelyd yn ddiogel ac mae'n rhaid cefnogi gwladolion Prydeinig. Felly, yn fy marn i, mae hyn yn rhywbeth, y mae—. Unwaith eto, mae hyn yn ein cysylltu nid yn unig â'r genedl noddfa, ond â chydlyniant cymunedol, ac rydym ni wedi sefyll gyda chymunedau Iddewig a Mwslimaidd a chwrdd â nhw ers dechrau'r gwrthdaro, ac rydym ni'n parhau i siarad â chymunedau Mwslimaidd ac Iddewig i weld pa gymorth y gallwn ni ei roi. Mae hi'n bwysig ein bod ni ag eglurder o ran y materion yr ydych chi'n eu codi ynglŷn â dyfodol cynllun Wcráin. Fe ddywedais i eisoes ein bod ni wedi gwneud nifer o alwadau, fel gwnes i yn y grŵp rhyng-weinidogol wythnos diwethaf. Mae angen i ni sicrhau'r trefniadau arfaethedig fel bydd gan bobl Wcráin, ein cymdogion ni, ein gwesteion ni, yr wybodaeth a'r cyngor sydd eu hangen arnyn nhw, oherwydd fe fydd hwn yn newid mawr, sef gorffen y cynllun teuluoedd o Wcráin—. Roedd hwnnw'n bwysig iawn, y cynllun teuluoedd, ar ddechrau'r ymosodiad, ond, mewn gwirionedd, mae'r ceisiadau wedi rhedeg eu cwrs ac rydym ni wedi gofyn i'r Swyddfa Gartref drosglwyddo'r hyn a ddysgwyd o'r cynllun hwnnw i'w cynlluniau eraill i uno teuluoedd unwaith eto. A lleihau'r cyfnod o ganiatâd i aros o dan gynllun Cartrefi i Wcráin—mae hyn yn ymddangos yn rhywbeth sy'n peri pryder, ond fe ddywedwyd wrthym ni y bydd pob deiliad fisa Cartrefi i Wcráin yn gymwys ar gyfer y cynllun i gael estyniad i'w caniatâd. Felly, fe fyddai hyn yn caniatáu 18 mis, a 18 mis arall wedyn. Ac mae hi'n bwysig fod deiliaid fisa yn gallu gwneud cais ar gyfer estyniad yn gynharach i atal anawsterau wrth sicrhau tenantiaethau neu swyddi, sef, wrth gwrs, y ffyrdd y bu cymaint o ymgartrefu ac integreiddio llwyddiannus o ganlyniad i'r gwesteion hyn yn dod atom ni i Gymru. Fe soniais i am y cynllun uwch-noddwr; rydym ni'n gweithio ar frys i gadarnhau na fydd unrhyw un yn cael ei atal rhag teithio i'r DU os oes fisa uwch-noddwr ganddyn nhw. Ac fe soniais i'n gynharach hefyd am bwysigrwydd y taliadau 'diolch' sydd ar gael i'r rhai sy'n rhoi llety i rai sy'n cael ymestyn cyfnodau eu fisâu ac iddyn nhw fod yn deall sut mae'r prosesau ymgeisio yn gweithio. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n edrych ar hyn yn y cyd-destun ehangach, ac ar y ffyrdd yr ydym ni'n ceisio ymgysylltu, fel rydym ni'n ceisio ei wneud, â Llywodraeth y DU, gan weithio yn agos iawn gyda'n hawdurdodau lleol o ran ymgodymu—ac ymgodymu yw e'—gyda'r polisi lloches. Mae gan Lywodraeth y DU strategaeth o ran amgylchedd gelyniaethus. Rydym ni wedi pwyso am ddigon o lwybrau diogel a chyfreithiol i geiswyr lloches hawlio lloches o'r tu allan i'r DU, ac, wrth gwrs, fe fyddai hyn yn diddymu'r angen am deithiau peryglus ac yn amharu ar weithgarwch y rhai sy'n smyglo pobl, ond yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw sicrhau bod penderfyniadau lloches yn cael eu gwneud yn gynt, ond mae'n rhaid iddyn nhw beidio ag arwain at ddigartrefedd ac amddifadedd, a hynny a ddigwyddodd mewn gwirionedd wrth i'r ôl-groniad gael ei leihau. Ond mae'n rhaid i ni sicrhau bod ein dull tîm Cymru ni'n gweithio hefyd i ganiatáu ymateb i'r angen pwysicaf sef i groesawu ceiswyr lloches o bob cwr o'r byd. Ond fe wyddom ni fod hyn yn gofyn i ni weithio yn agos gyda'n gilydd i sicrhau y gallwn ni, gyda'n hawdurdodau lleol, a dyna pam y bydd y bwrdd partneriaeth strategol y soniais i amdano mor bwysig. Mae gennym ni—. Rydym ni wedi bod ar daith bwysig gyda'n gilydd o ran croesawu ffoaduriaid o Syria, Affganistan ac Wcráin nawr. Heddiw, ar y gwesteion hynny o Wcráin yr ydym ni'n canolbwyntio, gan ystyried eu hamgylchiadau nhw, eu bywydau nhw, eu teuluoedd nhw, y teuluoedd sydd ar ôl yno, eu hanwyliaid nhw yn y rhyfel a'r anwyliaid a gollwyd, y cartrefi a gollwyd, gan sicrhau y byddwn ni'n parhau i ddiogelu'r croeso hwnnw yma yng Nghymru. Rhianon Passmore AC: Gweinidog, diolch yn fawr iawn i chi am eich datganiad heddiw. Efallai fod dwy flynedd wedi mynd heibio ers ymosodiad rheibus Rwsia ar Wcráin, ond mae'r bygythiad i ddemocratiaeth a'r gwerthoedd yr ydym ni i gyd yn y Siambr hon yn eu trysori yng Nghymru a'r gorllewin hefyd wedi cynyddu yn fawr ac nid wedi lleihau. Wrth i'r Ffindir ymuno â Sefydliad Cytuniad Gogledd Iwerydd a'r dwyrain canol bron iawn wedi cyrraedd pwynt berwi, rydym ni'n tystio i farwolaeth frawychus y bygythiad mwyaf i Wanwyn Rwsiaidd Putin. Heddiw, fe welsom ni gyfrif X—Twitter gynt—Yulia Navalnaya yn cael ei atal, ddiwrnod yn unig ar ôl iddi hi ddefnyddio'r cyfrwng i barhau ag ymgyrch gydol oes ei gŵr dros etholiadau rhydd a theg a democratiaeth yn Rwsia, ac ni chaiff hynny mo'i ddistewi fyth. Yn eich datganiad chi, Gweinidog, rydych chi'n iawn i ganmol gwaith ein cyd-Aelod a'n cyfaill, Mick Antoniw, sydd wedi mynegi llawer am yr ymosodiad a'r gwrthdaro yn Wcráin mewn ffordd fyw iawn ar gyfer pobl Cymru, gan ymweld yn rheolaidd ag Wcráin a sôn am y gwirfoddolwyr sy'n cludo nwyddau a gyfrannwydgan gymunedau yng Nghymru. Serch hynny, mae'r perygl y mae'r gwrthdaro hwn yn ei olygu i ddemocratiaeth a democratiaethau yn ymestyn i'r holl fyd, ac mae'r bylchau gwleidyddol byd-eang yn ehangu wrth i gynghreiriaid y gorllewin a Rwsia ymgyfuno o amgylch y dwyrain canol. Felly, o gofio'r galw cynyddol am sancsiynau pellach yn erbyn Rwsia ac awdurdodaeth gyfyngedig a mandad y Senedd hon ac fel cenedl noddfa, sut, felly, ydych chi'n rhagweld, Gweinidog, y bydd y gefnogaeth oddi wrth Lywodraeth Cymru i bobl Wcráin yn datblygu drwy 2024? Ac wrth i gynlluniau teuluol y DU ac Wcráin gael eu tynnu yn ôl, pa gamau pellach yr ydych chi'n gobeithio eu gweld oddi wrth Lywodraeth y DU ar gyfer dangos undod o blaid achos rhyddid a democratiaeth? Jane Hutt AC: Diolch yn fawr, Rhianon Passmore. Rwy'n falch eich bod chi hefyd wedi ehangu hyn ar gyfer myfyrio ar y sefyllfa o ran marwolaeth erchyll Alexei Navalny a chydnabod bod Putin yno, Putin sy'n gyfrifol, a chydnabod dewrder aruthrol Yulia Navalnaya hefyd. Fe hoffwn i wneud sylw ar ddarn a gafodd ei ysgrifennu am Alexei dros y penwythnos gan Odessa Rae, pan ddywedodd hi, 'Treuliodd 15 mlynedd olaf ei fywyd yn gweithio drwy gyfrwng ei sefydliad yn y gobaith o ddisodli Putin a'i gyfundrefn awdurdodaidd. Rwy'n gwybod y byddai ef yn gwthio'r genhadaeth honno, a'i neges i Rwsia fyddai peidio â mynd yn rhywbeth o'r gorffennol ond yn rhywbeth sy'n parhau mewn rhyw ffordd—nad ydyn nhw, yng ngeiriau Dylan Thomas, yn mynd yn ddistaw i'r nos.' Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n myfyrio ar hynny heddiw, wrth i ni ystyried effaith hyn o safbwynt byd-eang a chydnabod mai dyna pam mae'n rhaid i ni gefnogi pobl Wcráin. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Alun Davies. Alun Davies AC: Rwy'n ddiolchgar i chi, Dirprwy Lywydd, ac yn ddiolchgar hefyd i'r Gweinidog am ei datganiad y prynhawn yma. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n ymuno â'n gilydd i gydnabod dewrder pobl Wcráin, sydd wedi bod yn gwrthsefyll ymosodiad Putin ers dwy flynedd erbyn hyn. Fe hoffwn i roi teyrnged i'r arweinyddiaeth a amlygodd y Gweinidog yn ystod y cyfnod hwn hefyd, ac i arweinyddiaeth Mick Antoniw hefyd, a fu yn Wcráin yn trosglwyddo rhagor o ddeunyddiau, cefnogaeth a chymorth i'r bobl ar y rheng flaen, ac rwy'n credu y dylem ni i gyd ar draws y Siambr gydnabod y gwaith yr ymgymerodd Mick ag ef yn ystod y cyfnod hwn. Mae'r ddwy flynedd o drais erchyll yn erbyn Wcráin gan Putin, wrth gwrs—mae hi'n amhosibl peidio â myfyrio hefyd, fel cafodd ei wneud eisoes, ar lofruddiaeth Alexei Navalny yr wythnos diwethaf, a laddwyd gan Putin. Ni allai ef dorri ei ysbryd, ac felly fe'i lladdodd, ac rwy'n credu bod hynny'n arddangos natur y drefn y mae pobl Wcráin yn ymladd yn ei herbyn. Roeddwn i'n siomedig o glywed ddoe bod Llywodraeth y DU wedi cau cynllun fisa teuluoedd o Wcráin heb unrhyw rybudd o gwbl. Fe fyddai hi'n ddefnyddiol, Gweinidog, pe gallai Llywodraeth Cymru siarad â Gweinidogion y DU ar unwaith i sicrhau bod pawb sydd ag angen noddfa yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig yn gallu cael gafael ar y cymorth hwnnw yn ddiymdroi neu heb unrhyw oedi. Mae lleihau cyfnod dilysrwydd fisâu o 36 mis i 18 mis yn anodd iawn i rai teuluoedd hefyd, ac rwy'n credu bod angen i ni herio hynny. Ac, yn olaf, Gweinidog, yn eich trafodaethau chi gyda Llywodraeth y DU, rwyf i o'r farn ei bod hi'n bwysig hefyd ein bod ni'n cydnabod yr hyn sydd ei angen ar Wcráin ar gyfer parhau â'r frwydr dros ddemocratiaeth. Yr hyn a welsom ni dros yr wythnosau diwethaf yw lluoedd Wcráin yn cael eu gwthio yn eu holau gan rym a nerth lluoedd Rwsia sydd â llawer mwy o arfau a milwyr. Mae angen cefnogaeth cynghreiriaid y gorllewin ar Wcráin, ond mae angen taflegrau hefyd. Mae angen rocedi, mae angen sieliau a ffrwydron eraill ar y wlad ar gyfer trechu ymosodiad Rwsia. Nid yw addewidion gwag gan wleidyddion yn werth dim ar y rheng flaen yn Donetsk a dwyrain Wcráin ar hyn o bryd. Mae angen i ni sicrhau bod yr arfau a'r ffrwydron ganddyn nhw i drechu ymosodiad Rwsia. Jane Hutt AC: Diolch yn fawr, Alun Davies. Mae hi'n bwysig ein bod ni'n gwrthsefyll Putin. Fe allwn ni i gyd wrthsefyll Putin—fel gwnawn ni heddiw—ac ymddygiad ymosodol Putin a'i luoedd arfog. A dyna pam mae nodi dewrder a chadernid achos Wcráin mor bwysig heddiw wrth nodi dwy flynedd o ryfel. A dyna pam hefyd y mae'n rhaid i ni sicrhau bod y newidiadau hyn yn gadarn a'u bod yn galluogi Wcreiniaid nid yn unig i breswylio yma, y rhai a oedd yn ffoi rhag yr ymladd, ond er mwyn i eraill allu dod yma hefyd. Ac, wrth gwrs, fe fyddwn i'n ymestyn hynny hyd at ffoaduriaid eraill o rannau eraill o'r byd y gwnaethom ni eu cefnogi nhw, fel y ffoaduriaid o Affganistan a Syria sydd yma. Fe ddywedais i fy mod i'n gofyn i'r Swyddfa Gartref ddysgu oddi wrth y cynllun teuluoedd o Wcráin a chydnabod yr effaith a gafodd, oherwydd un pwynt rwy'n credu, ac rwy'n credu bod Mark Isherwood wedi codi hwnnw, yw ein bod ni wedi cael y gadwyn o nawdd a oedd yn ceisio uno teuluoedd yma yng Nghymru. Rwyf i wedi codi hynny. Rydym ni'n gofidio am golli'r elfen hon gyda chynllun Cartrefi i Wcráin, oherwydd ei bod yn caniatáu i deuluoedd uno. Rydym ni wedi gofyn i Lywodraeth y DU weithio gyda nhw ynglŷn â'r llwybrau amgen ar gyfer cefnogi aduniad teuluoedd. Fe wyddom ni fod teuluoedd yn cael eu gwahanu ac yn parhau i fod ar wahân. Felly, rydym ni'n ceisio edrych ar hynny hefyd. A hefyd, rwy'n credu bod pwynt, ac fe godais i hwn yn gyson, sef bod rhai Wcreiniaid yn dymuno cael llwybr i ymgartrefu yng Nghymru. Nid oes gan lawer ohonyn nhw gartrefi i ddychwelyd iddyn nhw yn Wcráin. Rydym ni'n parhau i wthio am hynny, ond, yn amlwg, cynnig llwybr i ymgartrefu—mae'n rhaid i ni wneud hyn mewn partneriaeth a gyda dealltwriaeth ein cyfeillion Wcrainaidd a'r Llywodraeth honno. Fe wyddom ni y bydd angen ar Lywodraeth Wcráin i'r rhan fwyaf o'u dinasyddion ddychwelyd i helpu gyda'r ailadeiladu ymhen amser. Mae cynllun estyniad yn gam ymarferol iawn ymlaen. Fe wnaethon ni ofyn am ddwy flynedd—18 mis. Ond sut y caiff hynny ei gyflawni a'i reoli—nawr, yn sicr fe allech chi fy nal i gyfrif, a'r Llywodraeth hon, o ran sut y byddwn ni'n bwrw ymlaen â hyn yn y ffordd yr ydych chi'n ei disgrifio. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Ac yn awr galwaf ar Mick Antoniw i wneud cyfraniad byr i'r datganiad hwn. Mick Antoniw AC: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i gyfrannu at y datganiad hwn wrth i ni nesáu at ddiwedd yr ail flwyddyn ers yr ymosodiad anghyfreithlon ar Wcráin. Felly, dri diwrnod yn ôl, fe ddychwelais o Kyiv ar ôl bod yn trosglwyddo tri cherbyd a nwyddau ar ran grŵp trawsbleidiol y Senedd i gefnogi Wcráin. Felly, fe hoffwn i ddiolch yn arbennig i Alun Davies am ei waith gyda'r grŵp hwn, a'i gefnogaeth ef gyda darpariaeth y deunyddiau cynorthwyol, yn cynnwys gyrru miloedd o filltiroedd ar draws Ewrop i Pavlohrad yn nwyrain Wcráin. Hyd yn hyn, cyfanswm y gefnogaeth a ddarparwyd yw 15 cerbyd, a nwyddau o werth a amcangyfrifir tua £1 miliwn. Rwy'n cydnabod y gefnogaeth sylweddol hefyd oddi wrth Undeb Cenedlaethol y Glowyr, undebau llafur a changhennau Cymru, cwmnïau fel Alcumus yn Nantgarw a Highadmit yn Nhonysguboriau, a llawer o unigolion a grwpiau sydd wedi cefnogi'r gwaith hwn. Ac rwy'n cydnabod y gefnogaeth hefyd gan gyn-filwyr Cymru a grwpiau o Gymru fel UK for UA, grŵp rhagorol o Gymru sydd wedi bod yn trosglwyddo nwyddau i Wcráin bedwar deg ac wyth—ie, pedwar deg ac wyth—o droeon ar gyfer cynorthwyo eu hymdrechion yno. Yn Kyiv, fe wnaethom ni gyfarfod ag aelodau o undebau'r glowyr, gwirfoddolwyr a milwyr rheng flaen. Roedd penderfyniad hollol yn Wcráin i ennill y rhyfel yn erbyn Rwsia gan nad oes unrhyw ddewis arall. Rhyfel yn erbyn y ffasgiaeth sydd yn Rwsia yw hwn. Mae hwn yn rhyfel y mae'n rhaid i Wcráin a'r byd democrataidd ei ennill. Y dewis arall i bobl Wcráin yw alltudio rhagor o blant gan ychwanegu at y rhif a amcangyfrifir o 80,000 o blant a gipiwyd eisoes, y trais, artaith, a'r dienyddio cyson, alltudio torfol poblogaethau, gan ddisodli iaith, diwylliant a hunaniaeth Wcráin gan y Rwsiaid. Mae hyn yn digwydd eisoes mewn rhannau o Wcráin sydd yn eu meddiant. Roedd disgwyl y byddai Wcráin yn chwalu o fewn wythnos, ond ni wnaeth hynny. Mae Wcráin wedi ymlid fflyd o longau o'r Môr Du er nad oes ganddi hi ei hunan lynges hyd yn oed. Mae allforion grawn wedi ailddechrau. Mae Rwsia wedi colli tua 380,000 o filwyr, ond nid yw bywydau ei dinasyddion yn golygu llawer iddi, y mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw'n dod o leiafrifoedd ethnig o fewn y Ffederasiwn Rwsiaidd. Ond fe gafodd gyflenwadau newydd sylweddol o arfau ac offer oddi wrth Ogledd Korea ac Iran. Felly, mae'r rhyfel mewn cyfnod peryglus ar hyn o bryd. Mae prinder taflegrau a ffrwydron pell-ehedol, y parlys o ran y gefnogaeth oddi wrth America, methiant Nato hyd yn hyn i gyflenwi'r gyfradd o ffrwydron a addawyd yn rhoi hyder i Putin ac yn peryglu buddugoliaeth. Mae yna lawer mwy y gall Llywodraeth y DU ei wneud eto ac fe ddylai wneud felly. Fe fyddai methu â threchu Putin yn ansefydlogi Ewrop gyfan. Mae Moldofa, Georgia, gwledydd y Baltig ac eraill dan fygythiad i gyd. Mae llofruddiaeth Navalny yn Rwsia, llofruddiaethau ar diriogaeth y DU ac mewn rhannau eraill o'r byd, yn mynd yn ôl at dactegau Stalinaidd y gorffennol. Mae'n rhaid i'r byd uno nawr i drechu Putin, ac, i'r rhai sy'n dweud na allwn ni fforddio'r gost, yn fy marn i, ni allwn fforddio peidio. Fe fyddai cost hirdymor peidio yn uchel iawn ar bob dinesydd yn y DU ac Ewrop os na ellir ei rwystro, a hynny am genedlaethau i ddod. Fel pob amser, mae cymunedau Wcráin yng Nghymru sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru fel minnau, yn croesawu ac yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth barhaus gan Lywodraeth Cymru a gan Lywodraethau'r DU, ac, yn benodol, gan bobl Cymru. Mae'n rhaid i Wcráin gael yr arfau a'r gefnogaeth sy'n angenrheidiol nawr ar gyfer ennill a dod â'r rhyfel i ben. Ac fel gwnaethom ni ei ddysgu oddi wrth ddigwyddiadau 1938, ni ellir dyhuddo ffasgiaeth. Слава Україні! Героям слава! Перемогам! Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Diolch i Mick, a diolch i'r Gweinidog. 4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Mesurau arbennig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr—Flwyddyn yn ddiweddarach Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Eitem 4 heddiw yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: mesurau arbennig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr—flwyddyn yn ddiweddarach. A galwaf ar y Gweinidog i wneud y datganiad. Eluned Morgan. Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Bydd yr wythnos nesaf yn nodi 12 mis ers i mi osod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig. Heddiw, rwyf am achub ar y cyfle i fyfyrio ar y flwyddyn ddiwethaf a rhannu gyda chi sut mae'r bwrdd iechyd, er gwaethaf y pwysau parhaus, yn parhau i gyflawni o ddydd i ddydd mewn ffordd gadarnhaol iawn i'r mwyafrif helaeth o bobl yn y gogledd. Mae'n werth cofio mai'r bwrdd iechyd yw'r cyflogwr mwyaf yng Nghymru, gan gyflogi dros 20,000 o bobl, sy'n gwasanaethu poblogaeth o tua 700,000 o bobl, gan gynnal tua 16,000 o gysylltiadau cleifion ar gyfartaledd, dros 2,000 o apwyntiadau cleifion, a thua 450 o driniaethau a gynlluniwyd bob dydd. Felly, rwyf eisiau cydnabod gwaith rhagorol pawb sy'n gweithio yn y bwrdd iechyd, a diolch iddyn nhw am bopeth y maen nhw'n ei wneud i sicrhau bod cleifion yn cael eu gweld a'u trin yn ddiogel, yn dosturiol ac yn amserol. Rwyf hefyd am dynnu sylw at ychydig o enghreifftiau yn unig o rai o'r datblygiadau arloesol y mae'r bwrdd iechyd wedi'u cyflwyno dros y 12 mis diwethaf. Mae'r rhain yn cynnwys bod y cyntaf yn y Deyrnas Unedig i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial i wneud diagnosis o ganser y fron a'r prostad. Roeddwn i hefyd yn falch o helpu i lansio'r gwasanaeth e-bresgripsiynu newydd mewn fferyllfa yn y Rhyl yn ôl ym mis Tachwedd, fel rhan o gyflwyno hynny ledled Cymru gyfan. Dirprwy Lywydd, mae wedi bod yn flwyddyn heriol i'r bwrdd iechyd, ond rwy'n credu mai'r penderfyniad anodd i'w roi mewn mesurau arbennig oedd yr un cywir. A hynny oherwydd bod y bwrdd hwn bellach mewn sefyllfa lawer gwell i ysgogi newid sylweddol a gwella gwasanaethau iechyd i bobl y gogledd. Felly, beth ydym ni wedi'i wneud? Yn gyntaf, bu ffocws ar ailadeiladu a sefydlogi'r bwrdd. Erbyn hyn mae cadeirydd parhaol, prif weithredwr ac is-gadeirydd. Bydd y pedwar aelod annibynnol olaf yn cael eu cyhoeddi'n fuan iawn, a bydd hyn yn rhoi'r sefydlogrwydd a'r ffocws sydd ei angen ar y sefydliad er mwyn gwella. Roeddwn yn falch o weld bod Archwilio Cymru wedi cydnabod gwelliant amlwg o ran sefydlogrwydd y bwrdd yn ei adroddiad dilynol diweddar ar effeithiolrwydd y bwrdd, ac nad yw'r camweithrediad o fewn y bwrdd a ddisgrifiwyd yn ei adroddiad blaenorol bellach yn amlwg. Fel rhan o'r ymyrraeth mesurau arbennig, cafodd nifer fach o gynghorwyr annibynnol eu contractio i weithio gyda'r bwrdd, ac mae nifer o adolygiadau annibynnol wedi'u comisiynu i feysydd problemus. Dirprwy Lywydd, mae'n rhaid imi ddweud bod darllen llawer o'r myfyrdodau gan y cynghorwyr, a'r adroddiadau o'r adolygiadau annibynnol, yn brofiad anghyfforddus ac maen nhw wedi amlygu rhai materion difrifol iawn y mae'n rhaid i'r bwrdd iechyd fynd i'r afael â nhw nawr. Er ei bod wedi bod yn galonogol clywed am y gwelliannau y mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi'u gweld drwy ei arolygiadau mwy diweddar, bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod crwneriaid Ei Fawrhydi a'r ombwdsmon wedi amlygu nifer o themâu cyson, a gobeithiaf fod y bwrdd iechyd bellach wedi datgelu'r holl faterion allweddol y mae angen mynd i'r afael â nhw a bod ganddo strwythurau ar waith i fynd i'r afael â'r materion hyn. Mae Archwilio Cymru hefyd, dros y flwyddyn ddiwethaf, wedi adrodd ar arferion rheoli ariannol a chyfrifyddu gwael. Rwyf wedi trafod y rhain gydag Aelodau'r Senedd ar sawl achlysur, ac rydych chi i gyd yn ymwybodol na allaf wneud sylw pellach gan fod prosesau disgyblu yn dal i fynd rhagddynt. Ond mae adroddiad diweddar Archwilio Cymru yn awgrymu bod y bwrdd yn ymateb i'r materion a nodwyd yn eu harchwiliadau o gyfrifon 2021-22 a 2022-23, yn ogystal â'r rhai a nodwyd yn adolygiad Ernst & Young. Mae'n werth nodi hefyd bod Heddlu Gogledd Cymru wedi penderfynu peidio â chymryd unrhyw gamau pellach ar ganfyddiadau adroddiad Ernst & Young. Fel pob bwrdd iechyd arall yng Nghymru, mae Betsi yn wynebu heriau ariannol sylweddol o ganlyniad i chwyddiant a mesurau cyni. Rydym wrthi'n monitro ymateb y bwrdd iechyd i'r heriau hyn. Eluned Morgan AC: Mae hyn i gyd yn allweddol er mwyn newid diwylliant y bwrdd iechyd a'r ffordd y mae e wedi ei drefnu. Ond y cwestiwn pwysig yw: pa wahaniaeth y mae hyn yn ei wneud i bobl sy'n byw yng ngogledd Cymru? Wel, fe ddylen nhw gael cysur yn y ffaith bod perfformiad yn y bwrdd yn gwella. Mae'r bwrdd iechyd wedi adrodd bod gostyngiad o 65 y cant yn nifer y bobl sy'n aros mwy na thair blynedd i'w triniaeth ddechrau, rhwng mis Chwefror a mis Tachwedd 2023. Mae nifer y bobl sy'n aros mwy na 52 wythnos am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol hefyd wedi gostwng dros 15 y cant yn yr un cyfnod. Yn ogystal, mae gostyngiad o 33 y cant wedi bod yn nifer y bobl sy'n aros mwy nag wyth wythnos am brawf diagnostig. Dwi'n deall bod pobl yn dal i orfod aros yn rhy hir, ond mae pethau'n symud i'r cyfeiriad iawn. Ym mis Tachwedd 2022, ychydig fisoedd cyn i'r bwrdd iechyd gael ei roi o dan fesurau arbennig, fe wnes i ymweliad yn ddirybudd ag Ysbyty Abergele. Y diwrnod hwnnw, ar brynhawn dydd Iau, doedd dim gweithgarwch orthopedig yn digwydd. Roedd hyn er gwaethaf y ffaith bod gan Betsi un o'r amseroedd aros orthopedig hiraf yng Nghymru. Nawr, fe ges i fy synnu a'm siomi o weld nad oedd y tîm rheoli na'r bwrdd yn gwybod am y diffyg gweithgarwch, gan ddangos eu diffyg gafael ar y sefyllfa. Ond, erbyn heddiw, diolch i lawer o gefnogaeth gan y tîm Gwneud Pethau'n Iawn y Tro Cyntaf—GIRFT—Llywodraeth Cymru a'r bwrdd newydd, mae llawer mwy o weithgarwch ar y safle. Mae'r amseroedd aros ar gyfer llwybrau orthopedig wedi gwella ar draws y bwrdd iechyd. Ym mis Tachwedd, roedd nifer y llwybrau cleifion sy'n aros mwy na 104 wythnos ar ei lefel isaf ers mis Ebrill 2021. Ac rŷn ni'n disgwyl gweld y cynnydd cadarnhaol yma yn parhau wrth i'r ganolfan orthopedig newydd, sy'n cael ei hadeiladu yn Llandudno, gael ei chwblhau erbyn diwedd y flwyddyn. Mae'r pwysau ar ofal brys ac argyfwng yn parhau. Rhwng mis Chwefror a mis Rhagfyr 2023, fe wnaeth 2,000 yn fwy o bobl fynd i adrannau brys y gogledd bob mis. Mae canolbwyntio ar gael gwared ar achosion o bedair awr o oedi wedi trosglwyddo o ambiwlans yn arwain at rai gwelliannau. Ym mis Rhagfyr 2023, roedd 786 o achosion o oedi yn fwy na phedair awr. Er bod hwn, yn amlwg, yn dal yn rhy uchel, mae e'n ostyngiad o 23 y cant ers y flwyddyn gynt. Mae llawer o sôn wedi bod am yr heriau sy'n wynebu'r gwasanaeth fasgiwlar. Dwi wedi ymweld â'r adran sawl gwaith i fonitro cynnydd, ac roeddwn i'n falch o weld, ym mis Mehefin y llynedd, fod Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi newid ei statws o wasanaeth sydd angen ei wella'n sylweddol i statws is. Mae rhwydwaith clinigol fasgiwlar gweithrediaeth yr NHS hefyd wedi cynnal asesiad annibynnol o'r gwasanaeth yn erbyn y cynllun fasgiwlar, a daeth i'r casgliad ei fod wedi gwella a'i fod bellach yn darparu gwasanaeth llawer mwy diogel. Er mwyn rhoi mwy o sicrwydd, mae asesiad nodyn achos wedi cael ei gomisiynu ar gyfer y gwasanaeth. Mae disgwyl i'r adroddiad terfynol fod yn barod ym mis Mawrth. Felly, beth nesaf? Mae'r bwrdd iechyd wedi bod o dan fesurau arbennig ers 12 mis, ond mae llawer iawn i'w wneud eto. Llynedd, gwnes i nodi cyfres o amodau cynaliadwyedd ar ei gyfer, sy'n dal yn ddilys ac sydd angen iddo eu bodloni cyn fedrwn ni ystyried newid ei statws i lefel 4. A, dros y misoedd nesaf, byddaf i'n cyhoeddi meini prawf ar gyfer pob maes i fynd gyda'r amodau yma. Heb os, mae gan y bwrdd iechyd heriau mawr o'i flaen, ond mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn ei gefnogi i ddatblygu a chreu sefydliad cynaliadwy, sy'n gallu darparu'r gwasanaethau mae pobl yn y gogledd yn eu haeddu. Diolch. Darren Millar AC: A gaf i ddiolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad? Byddwch yn gwerthfawrogi ei bod yn atgof sobreiddiol iawn o'r sefyllfa enbyd yn y gwasanaeth iechyd yn y gogledd. Mae'n flwyddyn arall i drigolion y gogledd gyda'u bwrdd iechyd mewn mesurau arbennig, ac, wrth gwrs, mae wedi treulio pob un ond dwy o'r naw mlynedd diwethaf mewn mesurau arbennig yn y gogledd—yr hiraf o unrhyw sefydliad GIG yn y Deyrnas Unedig gyfan; nid yw honno'n anrhydedd yr wyf i, nac unrhyw un, eisiau ei dathlu. Hoffwn gofnodi diolch fy etholwyr a minnau a gweddill grŵp y Ceidwadwyr Cymreig i'r staff gweithgar hynny sy'n gweithio'n galed o ddydd i ddydd. Ond ni fyddaf yn diolch i holl weithwyr y bwrdd iechyd, oherwydd gwyddom fod rhai o'r gweithwyr hynny, yn anffodus, yn dal i siomi pobl yn y gogledd. Mae rhai ohonyn nhw'n gyn-swyddogion gweithredol sy'n dal yn y GIG ac ni ddylen nhw fod, i fod yn gwbl onest. Ac, am y rheswm hwnnw, ni fyddaf yn estyn fy niolch, yn wahanol i chi, i bawb yn y bwrdd iechyd yn y gogledd. Mae yna lawer o bobl, wrth gwrs, sy'n profi oedi sylweddol yn eu triniaeth. Cafwyd papur briffio a ddosbarthwyd i Aelodau'r Senedd o'r gogledd ddoe, gan gadeirydd a phrif weithredwr y bwrdd iechyd, yn dathlu'r ffaith eu bod wedi dileu arosiadau chwe blynedd yn y gogledd am driniaethau. Aros am chwe blynedd, allwch chi gredu? Felly, hyd at yn weddol ddiweddar, roedd pobl yn y gogledd yn dal i aros chwe blynedd am eu triniaeth. Yn yr adroddiad hwnnw hefyd, dywedodd wrthym fod llawer o bobl yn y gogledd o hyd—cannoedd, mewn gwirionedd—yn aros am dros dair blynedd, nid yn unig am driniaeth, ond am eu hapwyntiad claf allanol cyntaf un. Clywn lawer o sôn am y pwyslais ar ddwy flynedd yn y Siambr hon, ond beth am y pwyslais tair blynedd y mae rhai o fy etholwyr yn gorfod ei wynebu yn y gogledd? Mae'n wirioneddol frawychus. Ac, i fod yn gwbl onest, mae angen i ni gael mynediad mwy rheolaidd at wybodaeth am hyn, neu fel arall ni fydd y materion hyn yn cael eu trin yn briodol. Hoffwn i wybod faint o bobl sy'n aros pum mlynedd, pedair blynedd, tair blynedd, dwy flynedd, blwyddyn, ac ati, oherwydd dyna'r math o dryloywder y mae angen i ni ei weld. Y peth arall yn yr adroddiad, na wnaethoch chi gyfeirio ato'n llwyr yn eich datganiad chi heddiw, ond y peth arall yn yr wybodaeth a rannwyd gan y bwrdd iechyd ddoe oedd bod 10 adolygiad wedi'u cynnal—10 adolygiad i wasanaethau, gydag argymhellion. Nid ydym wedi gweld yr un ohonyn nhw'n cael ei gyhoeddi. Lle ydyn ni'n mynd i weld beth yw'r adolygiadau hynny? Rydych chi wedi cyfeirio at adolygiadau yn dod o hyd i bob math o erchyllterau y mae angen i bobl fynd i'r afael â nhw heddiw; nid wyf i wedi gweld yr un o'r adolygiadau hyn, ac nid yw unrhyw un arall yn y Siambr hon, nac yn bwysicach fyth, y cyhoedd, sy'n talu am y gwasanaethau hyn ac sydd â hawl i wybod sut mae'r gwasanaethau hynny'n perfformio. Felly, er gwaethaf y cynnydd yr ydych yn hoffi ei adrodd, mae arnaf ofn fy mod yn dal i bryderu'n fawr, a hoffwn weld rhywfaint o dryloywder gan y Llywodraeth hon fel y gallwn fod â hyder yn y system. Fe wnaethoch chi gyfeirio at y ffaith bod adroddiadau'r crwneriaid a'r ombwdsmon yn codi pryderon yn rheolaidd am driniaeth yn y gogledd. Fe ddywedoch chi, hefyd, fod Heddlu Gogledd Cymru wedi penderfynu peidio â chymryd unrhyw gamau pellach ar ganfyddiadau adroddiad Ernst & Young i afreoleidd-dra cyfrifyddu ond gwyddom fod pobl wedi'u gwahardd dros dro o hyd, gwyddom y bu yna ganfyddiadau o gyfrifyddu ffug, gwyddom fod unigolion, gan gynnwys ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, a oedd yn cuddio dogfennau ac yn osgoi'r trefniadau llywodraethu priodol o ran gosod contractau. I fod yn gwbl onest, mae'n frawychus nad yw'n ymddangos bod yr un person wedi ei ddiswyddo o ganlyniad i'r methiannau hynny yn y sefydliad. Gwnaethoch chi gyfeirio at Landudno. Rwy'n falch iawn o weld bod Llandudno yn mynd i fod yn cael hyb orthopedig. Wrth gwrs, mae'r rhan fwyaf o'r gweithgaredd hwnnw ar hyn o bryd, neu gyfran fawr ohono, yn cael ei wneud yn Abergele, yn Ysbyty Abergele, y dywedoch chi eich bod chi wedi ymweld ag ef beth amser yn ôl ac wedi cael sioc o weld nad oedd yr holl welyau wedi'u meddiannu. Cefais innau sioc hefyd ychydig wythnosau yn ôl, pan ymwelais a dim ond un gwely a oedd wedi'i feddiannu yn yr ysbyty hwnnw. Ac fe gafodd fy staff sioc hefyd, y penwythnos hwn, pan aethon nhw i ymweld ag aelod o'u teulu a dim ond dau wely a oedd wedi'u meddiannu yn yr ysbyty cyfan hwnnw. Dydy hynny ddim yn ymddangos fel petaech chi'n defnyddio'r adnoddau'n llawn i gael gwared ar yr arosiadau orthopedig rhy hir hynny yn y ffordd y mae angen i ni wneud. Felly, nid wyf yn derbyn eich hunanfodlonrwydd ar y mater hwnnw. Fe wnaethoch chi sôn am y problemau rydyn ni'n eu cael mewn gofal brys. Wrth gwrs, rydyn ni'n cael problemau ym maes gofal brys yn y gogledd, oherwydd rydyn ni'n gwybod bod angen uned mân anafiadau newydd arnom yn Y Rhyl, nad ydych chi wedi trafferthu ei hadeiladu er gwaethaf y ffaith iddi gael ei haddo 10 mlynedd yn ôl. Felly, a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am hynny hefyd? Ac yna, yn olaf, os caf i, roedd adroddiad diogelwch cleifion ynghlwm wrth rai papurau bwrdd a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Adroddwyd yn y cyfryngau heddiw mai un o'r pethau a amlygodd yr adroddiad hwnnw oedd pryder am roi ocsigen i gleifion, gyda staff ddim yn cysylltu'r cyflenwad ocsigen yn gywir a bod canlyniadau trychinebus i rai cleifion. Ac nid dim ond un digwyddiad ynysig oedd hwn, bu rhagor o ddigwyddiadau i gleifion hefyd. A allwch chi ddweud wrthym ni pa gamau sy'n cael eu cymryd i sicrhau nad yw'r pethau hynny'n digwydd? A allwch chi ddweud wrthym ni hefyd beth oedd y canlyniad go iawn? Beth oedd y canlyniad trychinebus? A yw pobl wedi marw? A yw pobl wedi colli gallu gwybyddol o ganlyniad i'r diffyg ocsigen hwn? Mae angen i ni wybod, ac rwy'n credu bod y cyhoedd yn haeddu gwybod. Yn ogystal â hynny, yr adroddiad hwnnw— Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Na, rydych chi wedi gwneud llawer o gwestiynau ac rydw i wedi bod yn hyblyg iawn. Mae gennym ni fwy o Aelodau i ofyn cwestiynau ac mae gennym lawer i fynd. Darren Millar AC: Rwy'n gwerthfawrogi hynny. Dyma'r cwestiwn olaf. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Ac yn fyr os gwelwch yn dda, Darren. Darren Millar AC: Mae o. Mae'r adroddiad hwnnw hefyd yn cyfeirio at archwiliad o wasanaethau wroleg, lle gwnaed chwiliad o swyddfeydd ac fe ddaethon nhw o hyd, ac rwy'n dyfynnu '100+ o adroddiadau radioleg, atgyfeiriadau mewnol, adroddiadau histoleg a llythyrau canolfannau trydyddol nad ydynt wedi eu hadolygu na'u gweithredu', dros 300 ohonyn nhw i gyd, gydag atgyfeiriadau yn mynd yn ôl i fis Mawrth 2023 sydd heb gael eu brysbennu. Ac un pwynt olaf yma, ar hyn— Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Darren, rydych chi'n ei gwthio'ch lwc. Darren, os gwelwch yn dda, rwy'n credu bod angen i chi ofyn y cwestiwn. Darren Millar AC: Rwy'n gwerthfawrogi bod amser yn brin, ond heb os nac oni bai mae gwerth munud o amser er mwyn dwyn y Gweinidog i gyfrif am y methiannau yn y gogledd yn briodol. Dyma'r un— Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Darren. Darren. Na, fe wnaf eich stopio chi yn y fan yma. Rydych chi wedi cael chwe munud pryd yr ydych chi wedi cael— Darren Millar AC: Rwyf wedi. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: —cyfle i ofyn cwestiynau i'r Gweinidog. Darren Millar AC: Ac rwyf wedi cyflwyno llawer o gwestiynau. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Rydych chi wedi treulio llawer o amser oherwydd eich bod chi eisiau gwneud pwyntiau. Un cwestiwn olaf, os gwelwch yn dda, a rhaid iddo fod yn gwestiwn, neu byddaf yn ei gau. Darren Millar AC: Mae yn gwestiwn. Nodwyd hefyd bod ôl-groniad o 1,133 o lythyrau wedi'u harddweud gan glinigwyr nad ydynt wedi'u hanfon. Nawr, a gaf i ofyn i chi, Gweinidog, pam, pan fo fy etholwyr i, a minnau, ac Aelodau eraill yn y Siambr hon sy'n cynrychioli'r gogledd, wedi gwneud cwynion di-ri am wasanaethau wroleg yn ystod y blynyddoedd diwethaf, y caniatawyd i hynny ddigwydd tra bod y sefydliad hwn mewn mesurau arbennig, oherwydd mae'n annerbyniol? Eluned Morgan AC: Wel, diolch yn fawr. Fe wnes i ei gwneud hi'n glir iawn fod ffordd bell i fynd o hyd mewn cysylltiad â Betsi, a dim ond ym mlwyddyn 1 ydyn ni, ac mewn gwirionedd mae ffordd eithaf hir wedi ei theithio i'r cyfeiriad iawn, rwy'n credu, ond dydw i ddim yn ymddiheuro ar ran y bwrdd eu bod yn cydnabod bod ffordd bell i fynd. O ran staffio yn y bwrdd iechyd, yn amlwg mae hyn yn rhywbeth sy'n benderfyniad i'r bwrdd, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn hollol glir ynghylch atebolrwydd yn y fan yma, oherwydd mae'n ymddangos bod dryswch, unwaith eto, ynghylch ble mae'r atebolrwydd. Nodais y paramedrau ar gyfer yr hyn y disgwylir iddo gael ei gyflawni, ond yna rwy'n trosglwyddo'r cyfrifoldeb hwnnw i'r bwrdd iechyd. Nawr, yn amlwg, pan fyddan nhw o dan fesurau arbennig, mae gennym ni ddull llawer mwy gwyliadwrus o ran yr hyn y mae angen iddyn nhw ei gyflawni, ond cyfrifoldeb y bwrdd iechyd o hyd yw cyflawni ac nid cyfrifoldeb y Gweinidog iechyd yn Llywodraeth Cymru. Nawr, o ran prosesau disgyblu, yn amlwg ni allaf wneud sylwadau ar rai o'r rhai sy'n dal i fynd rhagddynt, sy'n rhwystredig iawn, ond dyna'r sefyllfa, mae'r prosesau disgyblu mewn cysylltiad â rhai o'r materion ariannol yn dal i fynd rhagddynt, mae arna i ofn, ac mae'n rhaid i ni ddilyn y broses briodol. O ran perfformiad, rydych chi'n hollol iawn bod ffordd bell i fynd. Y gwir amdani yw fy mod i'n monitro hyn yn hynod ofalus. Rwy'n cael cyfarfodydd bob pythefnos i fonitro rhestrau aros yng Nghymru; rwy'n gwybod yn union faint o bobl sydd ar ba restrau, ym mha fyrddau iechyd, felly rwy'n ei fonitro'n fanwl iawn yn sicr. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, mewn gwirionedd, bod y rhestrau aros hynny, y rhestrau aros hiraf, wedi dod i lawr nid dim ond yn Betsi, ond dros Gymru gyfan, wedi dod i lawr, oherwydd y pwyslais llwyr hwnnw yr wyf i a Llywodraeth Cymru wedi'i roi ar hynny. O ran adolygiadau, rwy'n credu, yn sicr, bod mwy o dryloywder, ac enghraifft o'r tryloywder yw'r ffaith eich bod wedi sôn am y materion sy'n ymwneud â gweinyddu ocsigen. Mae'r ffaith bod y bwrdd iechyd yn agored am y peth ac yn dryloyw yn newid mawr o gymharu â'r hyn a welsom yn y gorffennol. Mae'r bwrdd iechyd wedi cadarnhau ei fod yn ymchwilio i un canlyniad trychinebus sy'n gysylltiedig â diffyg llif ocsigen, ond ni allaf roi mwy o fanylion na'r hyn sydd wedi'i gynnwys yn yr adroddiad oherwydd y pryderon cyfrinachedd. O ran wroleg, mae'r bwrdd iechyd wedi nodi prosesau gweinyddol a olygodd na chafodd gwybodaeth ei rhannu rhwng arbenigeddau a meddygon teulu mewn modd amserol, ac mae gwaith eisoes wedi digwydd i adolygu'r wybodaeth hon i sicrhau ei bod yn dal yn briodol ym mhob achos. Rwy'n deall y cysylltir ag unrhyw gleifion yr effeithiwyd arnynt gan hyn. O ran y sefyllfa mewn cysylltiad â phwysau, rwy'n teimlo'n rhwystredig hefyd pan welaf welyau sy'n wag, ond, mewn gwirionedd, nid yw bod â llawer o welyau yn llawn drwy'r amser yn wobr. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn glir am y ffaith fy mod i, mewn gwirionedd, yn ddiymddiheuriad ynghylch y ffaith yr hoffwn i weld mwy o ofal yn digwydd yn y gymuned. Y ffaith yw bod gennym ni lawer iawn—llawer iawn—mwy o welyau y pen o'r boblogaeth nag sydd ganddyn nhw yn Lloegr, a hefyd—[Torri ar draws.] Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Un funud, Gweinidog. Darren, hoffwn i glywed ymateb y Gweinidog, ac rydych chi'n ceisio siarad drosti yn barhaus, felly gadewch i'r Gweinidog ymateb i'r cwestiynau niferus a godwyd gennych chi dros yr amser a gawsoch. Gweinidog. Eluned Morgan AC: Os edrychwch chi ar yr hyn mae GIRFT yn ei argymell—yr arbenigwyr Gwneud Pethau'n Iawn y Tro Cyntafyn y maes—yr hyn maen nhw'n ei ddweud, mewn gwirionedd, yw y dylen ni fod yn gwneud llawer mwy o lawdriniaeth ar ffurf achosion dydd. Felly, mae'n arwydd o lwyddiant os oes gennych chi lai o gleifion, oherwydd mae'n golygu eu bod yn fwy effeithlon o ran eu llawdriniaeth achosion dydd. Ac yna, pan ddaw i Ysbyty Brenhinol Alexandra, mae'r bwrdd iechyd wedi penderfynu eu bod yn dymuno adolygu eu cynigion ar gyfer y safle hwn, ac maen nhw'n gwneud hynny mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol. Rwy'n credu y bydd y cynlluniau'n cynnwys uned mân anafiadau, gwelyau gofal canolradd a gofal integredig, ac rwy'n aros am gynnig newydd y gallaf i ei ystyried. Mabon ap Gwynfor AS: Mi fyddaf i mor gryno â phosib. Betsi Cadwaladr ydy fy mwrdd iechyd i, ac mae fy anwyliaid yn ddibynnol ar y gweithlu yno i'w cynnal a'u hadfer mewn cyfnodau o anhwylder. A gadewch inni fod yn glir: mae'r gweithlu yno yn bobl ymroddedig ac yn gwneud gwaith rhagorol mewn amgylchiadau anodd iawn. A dyna pam bod y siom ynghylch methiannau'r bwrdd cymaint yn fwy, oherwydd nid y cleifion yn unig sy’n cael eu gadael i lawr, ond hefyd y gweithlu. Ond mi fyddai’n annheg dweud mai methiant y bwrdd yn unig oedd hyn. Mae o hefyd yn fethiant ar ran y Llywodraeth hon a’r Llywodraethau blaenorol: methiant am fethu ag adnabod y gwendidau ynghynt; methiant am fethu â mynd i’r afael â’r gwendidau pan ddaethon nhw i’r amlwg; a methiant am fethu â gosod rhaglen glir mewn lle i wella'r sefyllfa pan oedd angen. Mae’r Llywodraeth, wrth gwrs, yn hapus i feio San Steffan am fethu ag ariannu Cymru yn ddigonol. Mae hyn wrth gwrs yn wir, ond mae’r dystiolaeth yn dangos nad ydy'r Llywodraeth yma yn codi bys er mwyn trio cael gwell setliad ariannol, ac mae’n annhebygoly bydd y Llywodraeth o dan Starmer yn rhoi tegwch ariannol i Gymru. Ond y gwir yn achos bwrdd iechyd y gogledd, fel gyda gwasanaethau iechyd yn eu cyfanrwydd, mewn gwirionedd, ydy fod yna broblem lawer dyfnach yma sydd angen mynd i’r afael â hi. Ac nid problem ariannol ydy honno, ond fel dwi wedi nodi yma sawl gwaith, mae o'n broblem ddiwylliannol. Mi ydw i'n croesawu, felly, adroddiad diweddar yr ymchwilydd cyffredinol yn dangos bod cynnydd wedi digwydd dros y 12 mis diwethaf ers i’r bwrdd gael ei roi dan fesurau arbennig unwaith eto, ond mae hyn, wrth gwrs, yn adlewyrchu ffolineb penderfyniad y Llywodraeth i dynnu'r bwrdd allan o fesurau arbennig y tro cyntaf. Ond un wennol na wna wanwyn, ac mae’n amlwg i mi fod y gwendidau strwythurol yma'n parhau; mae’r gagendor yna rhwng y bwrdd a’r gweithlu ar lawr gwlad yn parhau. Mae hyn yn dyddio nôl i'r ailstrwythuro gwreiddiol, ac mae cyfres o brif weithredwyr wedi methu mynd i’r afael â’r gwendid sylfaenol yma. Ond cyn gwneud unrhyw beth sylfaenol, mae’n rhaid cael bwrdd cyfan mewn lle. Felly, tybed a all y Gweinidog ddweud wrthym ni pryd y mae disgwyl y bydd pob apwyntiad wedi cael ei wneud ar gyfer y bwrdd. Mae’r ansefydlogrwydd yma sydd wedi bod ar lefel y bwrdd, nid yn unig o ran yr aelodau annibynnol ond y prif swyddogion hefyd, wedi arwain at ddiffyg atebolrwydd a diffyg cymryd cyfrifoldeb. Rydyn ni wedi gweld uwch-aelodau yn cael eu tynnu i mewn i weithio yno heb ddim dealltwriaeth o'r ardal a ddim hyd yn oed yn barod i fwrw gwreiddiau yn yr ardal. Mae’r newid cyson o ran rheolwyr sydd wedi digwydd ym Metsi Cadwaladr—y churn di-baid yma—wedi cyfrannu at yr argraff o ansefydlogrwydd yn y bwrdd ac wedi creu darlun aneglur o ran llinellau atebolrwydd. Yr hyn sy'n frawychus ydy, hyd y gwn i, nad ydy’r Llywodraeth neu'r Gweinidog wedi gosod unrhyw feini prawf ar gyfer isgyfeirio. Beth ydy’r strategaeth ar gyfer gwella'r sefyllfa, a sut gall y bwrdd wybod eu bod nhw’n mynd i’r cyfeiriad cywir heb y meini prawf yma ar gyfer de-escalation, isgyfeirio? Felly, mi fyddwn i'n ddiolchgar i’r Gweinidog pe gallai osod allan yn glir heddiw beth ydy’r meini prawf ar gyfer de-escalation, isgyfeirio, er mwyn i’r bwrdd fedru gosod strategaeth ar waith. Ymhellach, a wnaiff y Gweinidog ymrwymo i ddatgan pwy fydd yn cyfrannu at y penderfyniad i isgyfeirio, de-escalation, a phwy fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol? Wedi'r cyfan, dydyn ni ddim am fod yn yr un sefyllfa eto ble'r oeddem ni ynghynt, gyda'r Llywodraeth yn tynnu'r bwrdd allan o fesurau arbennig oherwydd anghenion gwleidyddol, a hynny'n groes i gyngor cyrff arbenigol. Yn olaf, wrth gwrs, mae yna bwysau cyson ar y bwrdd, fel rhestrau aros, natur wledig y rhanbarth, demograffeg ac ati, sydd yn profi i fod yn heriol. Ond hoffwn wybod beth ydy gweledigaeth y Gweinidog am ddarpariaeth gwasanaeth iechyd ar gyfer y gogledd. Beth mae’r Gweinidog yn credu ydy'r heriau ac anghenion pobl yng ngogledd Cymru? Pa waith mae hi wedi ei wneud er mwyn adnabod hyn, ac felly, o adnabod yr heriau yma, gosod y meincnodau mewn lle er mwyn cyflawni'r weledigaeth, fel bod y bwrdd yn gwybod pa gamau mae angen iddyn nhw eu cymryd er mwyn medru gwella'r gwasanaeth? Tybed all y Gweinidog ein goleuo ar hyn. Diolch. Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr. Rŷch chi'n eithaf iawn i ganolbwyntio ar y ffaith bod y gweithlu yn Betsi yn hollbwysig, a nhw yn amlwg sydd yna er mwyn sicrhau bod gofal iechyd yn cael ei roi i'r bobl sydd yn byw yn y gogledd. Mae dros 20,000 o bobl yn gweithio i'r bwrdd iechyd, sydd yn ei hun yn golygu ei fod e'n cyffwrdd â bob agwedd ar gymdeithas. Roedd y bwrdd diwethaf wedi stryglo, dwi'n meddwl, i gael gafael ar y sefyllfa. Dwi'n meddwl bod hynny yn deg i ddweud. Mae'r ffaith bod y bwrdd presennol wedi mynd ar drywydd gwahanol, bod yr awyrgylch wedi newid, bod pobl ddim ag ofn i siarad i fyny—. Dwi'n meddwl bod y broblem ddiwylliannol oedd yna ynghynt—. Mae ffordd bell i fynd o hyd, ond dwi yn meddwl ein bod ni ar y siwrnai gywir. Dwi'n gwybod bod yr arweinyddiaeth, y compassionate leadership, yn hollbwysig, a dwi'n gwybod bod yna bobl yn dod mewn i roi hyfforddiant i arweinwyr y bwrdd yn y maes yna. Dwi'n gwybod bod Plaid Cymru wastad â diddordeb mewn sôn am ailstrwythuro. Beth dwi eisiau gweld yw ein bod ni'n canolbwyntio ar beth sy'n bwysig i'r bobl ar lawr gwlad, a dwi'n meddwl beth maen nhw eisiau gweld yw perfformiad yn gwella a maen nhw eisiau sicrhau bod pethau'n saff. Jest o ran beth sy'n digwydd o ran y bwrdd, mae yna bedwar person, dwi'n deall, i ddod o ranindependent members i'r bwrdd. Dwi jest yn aros i'r recommendations ddod i fy mlwch e-bost i. Dwi'n disgwyl hynny yn ystod y dyddiau nesaf, ac felly bydd hynny wedyn, gobeithio, yn golygu ein bod ni mewn sefyllfa i gael bwrdd cyflawn. Eluned Morgan AC: Rwy'n credu ei bod yn werth nodi bod llawer o benodiadau newydd iawn wedi bod ar gyfer swyddi allweddol. Mae gennym ni brif weithredwr newydd, wrth gwrs, ond mae cyfarwyddwr cyllid dros dro newydd hefyd, cyfarwyddwr gweithredol dros dro newydd, pennaeth staff dros dro newydd, cyfarwyddwr gweithredol dros dro newydd ar gyfer iechyd y cyhoedd. Mae newidiadau wedi bod i swyddogaeth ysgrifennydd y bwrdd, a bydd cyfarwyddwr llywodraethu corfforaethol newydd yn dechrau ym mis Ebrill. Mae'n swnio fel bod llawer o'r rheini yn rhai dros dro, ond mae hwn yn gam cyntaf angenrheidiol. Mae angen i ni sefydlogi'r llong, cael pobl yn eu lle. Yn amlwg, mae'n rhaid i ni fynd trwy broses ffurfiol i sicrhau nawr bod y penodiadau dros dro hynny'n mynd drwy'r broses gywir. O ran beth yw'r amodau dad-ddwysáu, rydym ni wedi nodi'r amodau cynaliadwyedd, a chyfeiriwyd at hynny yn y datganiad llafar a wnes i yn flaenorol. Mae'r rhain yn cynnwys pethau fel nodi gweledigaeth strategol, perfformiad ac ansawdd integredig, newid diwylliant, strwythurau a chyflawni, bwrdd effeithiol a gweithredol, sefydliad ymatebol, sefydliad sy'n dysgu a gwella, arweinyddiaeth ac ymgysylltu cryfach, rheoli rhaglenni, arweinyddiaeth glinigol, gwasanaethau clinigol cryfach, gwell mynediad, canlyniadau a phrofiad. Yr hyn fydd yn digwydd nawr yw fy mod i'n mynd i ategu'r amodau cynaliadwyedd hynny gydag amodau dad-ddwysáu clir yn ystod y misoedd nesaf, ond rydw i eisiau gwneud hynny gyda'r bwrdd fel ein bod ni i gyd yn gytûn ar yr hyn y mae'n angenrheidiol i'w wneud. Ac yna, wrth gwrs, byddwn ni'n mynd i'r dull arferol, sef y dull teirochrog. Bydd AGIC, Archwilio Cymru a Llywodraeth Cymru yn gwneud argymhellion, a byddaf i'n penderfynu pryd yw'r amser cywir i bobl ddod allan. Diolch. Jack Sargeant AC: Gweinidog, diolch am eich datganiad y prynhawn yma. Mae'n flwyddyn ers i'r bwrdd iechyd ddychwelyd i fesurau arbennig, ac yn ddealladwy mae trigolion yn Alun a Glannau Dyfrdwy, ac yn y gogledd, yn dymuno gweld y newid ar lawr gwlad. Pa mor bwysig bynnag yw'r newidiadau ar y brig, ar lefel bwrdd—ac maen nhw'n hanfodol bwysig, fel rydych chi wedi disgrifio—maen nhw'n golygu llai iddyn nhw na pha mor hawdd yw hi i gael apwyntiad meddyg teulu, pa mor hawdd yw hi i gael apwyntiad deintyddol, neu pa mor hir maen nhw a'u hanwyliaid yn aros ar y rhestr am driniaeth. Felly, gyda hynny mewn golwg, beth yw'r wybodaeth ddiweddaraf allwch chi ei rhoi i'r Siambr o ran y cynnydd ar y materion hynny, y materion ar lawr gwlad? A hefyd, a allwch chi ein sicrhau ni eto heddiw bod blaenoriaethau fy etholwyr a minnau yn parhau i fod yn flaenoriaethau i chi a Llywodraeth Cymru? Diolch. Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr. Rwy'n credu eich bod chi'n hollol gywir—mae'n ddigon gwir fod angen i ni newid y diwylliant ar y brig, mae angen i ni newid y sefydliad, ond beth, mewn gwirionedd, sy'n bwysig i'r cyhoedd? Yr hyn maen nhw eisiau yw mynediad ar amser i wasanaeth sydd ei angen arnynt. Dyna pam rwy'n falch iawn, mewn gwirionedd, o ran meddygfeydd teulu, nid yn unig yn Betsi ond ledled Cymru, mai'r hyn sydd gennym erbyn hyn yw dull newydd o gael mynediad at feddygon teulu—a gadewch i ni beidio ag anghofio bod 90 y cant o bobl yn defnyddio'r GIG trwy ofal sylfaenol a meddygon teulu. Roedd 91 y cant o feddygfeydd yn y gogledd yn cyflawni 100 y cant o safonau mynediad erbyn 31 Mawrth y llynedd, felly rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y gellir ei ganmol. Felly, mae pethau'n gwella. Efallai eich bod wedi sylwi—yn sicr rwyf i wedi sylwi yn fy mag post—bod nifer y cwynion yn gysylltiedig â mynediad at feddygon teulu wedi gostwng yn sylweddol. Mae yna ffordd i fynd o hyd. Mae angen i wyth y cant o feddygfeydd, hyd yn oed yn y gogledd, gydymffurfio â hynny o hyd. Rydym yn ategu buddsoddiad mewn seilwaith digidol ac mae yna fuddsoddiad ychwanegol mewn adnoddau staff ledled Cymru gyfan. Felly, rwy'n gobeithio bod y dagfa honno am 8 y bore wedi mynd. O ran recriwtio, mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar recriwtio meddygon teulu i'r meddygfeydd hynny. Rwy'n falch iawn bod ymgyrch recriwtio yn golygu bod Wrecsam a Sir y Fflint wedi gweld nifer o swyddi'n cael eu cynnig i bum meddyg teulu arweiniol clinigol a 18 meddyg teulu cyflogedig yn ddiweddar. Felly, mae pethau'n gwella yn y fan yna, ac rwy'n meddwl bod hynny'n annog mwy i ddod i Wrecsam a Sir y Fflint. Rwy'n credu y bydd cyflwyno meddygon teulu parhaol ar gyflogau yn darparu'r parhad gofal pwysig hwnnw y mae eich etholwyr yn awyddus i'w weld. Janet Finch-Saunders AC: Rwyf am gofnodi fy mod yn cefnogi pob un gair y mae fy nghyd-Aelod Darren Millar wedi'i ddweud heddiw. Fel Aelodau o'r gogledd, ac i mi fel yr Aelod dros Aberconwy, nid yn unig yr ydym ni'n darllen yr adroddiadau negyddol iawn sydd wedi dod o bethau brawychus; roedd yn rhaid i mi godi'r mater, dim ond yr wythnos o'r blaen am offer sugno budr, a hynny mewn adroddiad o ymhell dros flwyddyn yn ôl. Wrth gwrs, erbyn hyn mae wedi mynd yn ôl i fesurau arbennig. Roedden ni i gyd yn sicr iawn o'r farn, 'A fydd unrhyw beth yn newid?'; mae'n rhaid i mi fod yn onest, rwyf wedi gweld gwahaniaeth o ran ymgysylltu, ond mae ychydig yn rhy ychydig, mewn gwirionedd. Rwyf am gofnodi fy niolch i'r cadeirydd newydd sydd wedi ei benodi—yn hytrach na dros dro, ef yw'r cadeirydd erbyn hyn—Dyfed Edwards, oherwydd mae wedi bod yn gwbl ardderchog. Pan fyddwn yn cael sefyllfa frys nad ydym yn cael unrhyw ymateb ganddo, mae'n ymateb ac mae'n gweithredu, ac rydym yn cael canlyniadau. Ond ni ddylai fod yn rôl y cadeirydd i orfod gwneud hyn yn awtomatig. Dylai fod mecanwaith sy'n gweithio o fewn y bwrdd. Mae gen i gleifion nawr sydd wedi bod yn aros am bedair blynedd am lawdriniaeth orthopedig. Dywedodd y prif weithredwr wrtha'i ei hun chwe wythnos yn ôl y byddai achosion AS1 ac AS2 nad ydynt yn rhai cymhleth—pobl nad oes ganddynt broblemau eraill, sydd ond angen y llawdriniaeth orthopedig—yn cael eu trin yn gyflym iawn erbyn hyn yn Abergele, ond nid wyf wedi gweld unrhyw welliant i nifer y cleifion sydd gennyf yn aros. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Mae angen i chi ofyn eich cwestiwn nawr, Janet. Janet Finch-Saunders AC: Felly, os gallech chi wneud sylwadau ar hynny. Ond hoffwn i gofnodi fy niolch i Dyfed Edwards. Diolch. Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr. Hoffwn i gofnodi fy niolch i Dyfed Edwards hefyd. Rwy'n credu ei fod wedi dangos arweinyddiaeth go iawn yn yr hyn sy'n sefyllfa anodd iawn. Mae e wedi ei gwneud yn glir ei fod yno i wrando ac mae'n ymgysylltu â chymunedau, ac mae gwahaniaeth go iawn, rwy'n credu, yn y ffordd y mae'n cyfathrebu â'r cyhoedd. Felly, hoffwn i ychwanegu fy niolch i Dyfed Edwards, a gweddill y bwrdd hefyd. Rwy'n cyfarfod â Dyfed yn rheolaidd—rwy'n cael cyfarfodydd misol ag ef; fe ges i'r un diweddara' y bore 'ma—dim ond i fonitro cynnydd, i wneud yn siŵr a oes unrhyw beth arall y gallwn ni ei wneud i helpu. Oherwydd mae'n rhaid iddo gymryd cyfrifoldeb, mae'n dal i fod wrth y llyw, ond rydw i yno i sefyll wrth ei ochr, os oes angen hynny arno. Y peth arall, dim ond mewn cysylltiad ag orthopaedeg—rwy'n gwybod eich bod yn falch iawn o weld y datblygiad hwnnw yn Llandudno—yw bod arosiadau orthopedig yn lleihau. Rydym wedi gweld gwelliant yn yr arosiadau dros 36 wythnos, dros 52 wythnos, dros 104 wythnos a dros 156 wythnos, ac ers mis Chwefror, rydym wedi gweld gostyngiad o 15 y cant yn nifer y cleifion allanol sy'n aros dros 52 wythnos am apwyntiad cyntaf. Felly, mae pethau'n gwella. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cydnabod hynny, oherwydd mae pobl yn gweithio'n galed iawn, maen nhw'n ceisio troi'r llong hon o gwmpas, ac mae'n bwysig iawn rhoi canmoliaeth pan fo hynny'n briodol. Sam Rowlands AS: Diolch yn fawr, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Gweinidog, fe wnaethoch chi nodi, yn eich datganiad, yr adroddiad gan Archwilio Cymru, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, ac fe wnaethoch chi gyfeirio ato mewn ymatebion heddiw hefyd. Roedd yn sobreiddiol i'w ddarllen ac mae'n dangos bod llawer i'w wneud o hyd. Er bod yna lefel o welliant, mae yna lawer iawn mwy i'w wneud i roi'r gwasanaeth iechyd y maen nhw'n ei haeddu i'r bobl rwy'n eu cynrychioli yn y gogledd. Mae'r adroddiad yn sôn am heriau sylfaenol sy'n dal i wynebu'r bwrdd iechyd, ac fe wnaethoch chi gyfeirio at rai o'r rhain yn eich ymateb i Mabon ap Gwynfor eiliad yn ôl. Mae cyfeiriadau at benodiadau parhaol, yr angen am fwrdd cydlynol ac unedig, yr angen i ymdrin â materion personél. Mae hyn, i mi, yn tynnu sylw at faterion sylweddol o fewn y strwythur rheoli nad ydynt wedi'u datrys yn llawn o hyd. Rwy'n derbyn, mae'n cymryd amser, ond mae blwyddyn wedi mynd heibio. Ymhlith hyn i gyd, yn y darlun ehangach o bethau, mae yna bobl go iawn—cleifion, gweithlu dan bwysau, trigolion yr wyf i wedi fy ethol i'w cynrychioli. Maen nhw wedi bod yn aros am amser hir i'r materion hyn gael eu datrys—nid dim ond y flwyddyn ddiwethaf, ond am flynyddoedd a blynyddoedd cyn hynny. Felly, tybed, Gweinidog, a oes gennych chi ddyddiad mewn golwg o ran pryd rydych chi'n disgwyl bod yn fodlon fod gan fy nhrigolion y lefel gywir o fynediad at ofal iechyd yn fy rhanbarth i? Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr. Rwy'n credu eich bod yn iawn i dynnu sylw at y ffaith fod adroddiad Archwilio Cymru yn cydnabod bod heriau o hyd, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn eu bod hefyd yn cydnabod bod newid sylweddol wedi'i wneud a bod y bwrdd mewn sefyllfa sy'n llawer mwy sefydlog. Daethon nhw i'r casgliad nad yw'r camweithrediad o fewn y bwrdd, a ddisgrifiwyd yn yr adroddiad blaenorol, bellach yn amlwg, a bod perthnasoedd gwaith ymhlith uwch arweinwyr yn llawer mwy cadarnhaol. Nid yw wedi gwneud unrhyw argymhellion newydd i'r bwrdd iechyd, gan ei fod yn teimlo bod y camau gweithredu sydd eu hangen o hyd eisoes wedi'u cynnwys yn y cynlluniau gwella cyffredinol y mae'r bwrdd iechyd eisoes wedi'u sefydlu. Rwy'n credu ei bod yn bwysig nodi hefyd bod y mwyafrif helaeth o bobl yn y gogledd yn cael gwasanaeth da iawn, a rhaid i ni beidio â cholli golwg ar hynny. Rwyf newydd ddyfynnu i chi yr ystadegau o ran mynediad at feddygon teulu. Mae'r rhain yn ystadegau syfrdanol, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, oherwydd mae 90 y cant o bobl yn cael mynediad i'r GIG trwy'r cysylltiadau cychwynnol hynny â meddygon teulu a gofal sylfaenol. Dydw i ddim yn dweud bod popeth yn berffaith—mae'n bell o fod yn berffaith. Mae ffordd bell i fynd. Mae angen enfawr i gynyddu'r gwelliant hwnnw mewn perfformiad, o ran ansawdd a diogelwch, a dyna'r pethau yr wyf wedi gofyn iddyn nhw ganolbwyntio arnyn nhw mewn gwirionedd. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Ac yn olaf, Gareth Davies. Gareth Davies AS: Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr iawn am eich datganiad y prynhawn yma, Gweinidog, 12 mis ers i chi roi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ôl i fesurau arbennig, ac, yn wir, y newidiadau i strwythur a phersonél y bwrdd. Fe wnaethoch chi grybwyll yn gryno yn eich datganiad amodau cynaliadwyedd y bydd angen i'r bwrdd iechyd eu bodloni er mwyn cyflawni dad-ddwysáu i lefel 4, na allaf ond tybio ei fod yn symudiad i ffwrdd o fesurau arbennig os gwneir gwelliannau yn y dyfodol. Felly, a allwch chi ddisgrifio, Gweinidog, y meini prawf penodol a chymhwysol y bydd yn rhaid i Betsi Cadwaladr eu harddangos a'u bodloni er mwyn gadael mesurau arbennig yn y pen draw mewn ffordd sy'n ddiogel, yn gynaliadwy ac er budd gorau cleifion a'r 20,000 o bobl y mae'r bwrdd iechyd yn eu cyflogi ledled y gogledd? Ac rwy'n deall, yn amlwg, y cymhlethdodau a'r problemau logistaidd wrth ddod allan o fesurau arbennig, ond heb os nac oni bai dyna yw'r nod a'r uchelgais trosfwaol yma? Mae angen i ni weld amserlen o ddigwyddiadau oherwydd rydyn ni wedi cael digon o'r sgandal a'r argyfyngau parhaus. Mae'n bryd gweithredu, cyflawni a sicrhau canlyniadau diriaethol, ac fel y dywedwch chi yn eich datganiad, Gweinidog, dyna beth mae pobl y gogledd yn ei haeddu. Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr. Wel, rwy'n credu fy mod wedi ymdrin â rhywfaint o'r ateb hwnnw mewn ymateb i Mabon, sef rhestru'r amodau cynaliadwyedd yr wyf eisoes wedi'u nodi: gweledigaeth strategol, perfformiad ac ansawdd a newid diwylliant. Felly, roedd rhestr hir y darllenais yn gynharach. Ond yr hyn rwyf hefyd wedi'i ddweud yw fy mod i'n mynd i fod yn ategu'r amod cynaliadwyedd hwnnw gydag amod dad-ddwysáu clir y byddaf yn cytuno arno gyda'r bwrdd iechyd yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf. Felly, mae hynny'n dod. Nid ydym ni'n barod ar ei gyfer eto, a'r hyn nad wyf yn mynd i'w wneud yw rhoi unrhyw ddyddiad ar hap i chi ar gyfer pryd y bydd y bwrdd yn dod allan o fesurau arbennig. Nid dyna'r dull yr ydym ni'n ei gymryd. Byddan nhw'n dod allan o fesurau arbennig pan fyddan nhw'n barod i ddod allan o fesurau arbennig, nid cyn hynny. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Diolch i'r Gweinidog. 5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Y Strategaethau Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol ac Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Eitem 5 yw datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: y strategaethau iechyd meddwl a llesiant meddyliol ac atal hunanladdiad a hunan-niwed. A galwaf ar y Dirprwy Weinidog, Lynne Neagle. Lynne Neagle AC: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Heddiw, rwy'n falch iawn o lansio'r strategaeth iechyd meddwl a llesiant, a'n strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niweidio newydd ar gyfer ymgynghori. Nod y strategaethau yw ategu 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' a 'Beth am Siarad â Fi 2'. Mae'r strategaethau blaenorol wedi bod yn gatalydd ar gyfer dull trawslywodraethol ac amlasiantaethol o ymdrin ag iechyd meddwl a hunanladdiad ac atal hunan-niweidio. Mae'r dogfennau ymgynghori a gyhoeddwyd heddiw yn nodi ein hymrwymiad i ddatblygu hyn ymhellach, gyda phartneriaid, fel rhan o ddull system gyfan o ddiogelu, gwella a darparu cefnogaeth i iechyd meddwl, a lleihau hunanladdiad a hunan-niweidio yng Nghymru. Mae'r strategaethau o ganlyniad i ymgysylltu sylweddol. Mae gwrando ar bobl sydd wedi eu heffeithio gan y materion ym mhob strategaeth wedi bod yn hanfodol. Roedd yr arolwg cyn ymgynghori ei hun yn cynnwys dros 250 o ymatebion. Rydym wedi gweithio gyda chyfres o grwpiau cyfeirio gan gynnwys ein bwrdd partneriaeth iechyd meddwl cenedlaethol, Cynghrair Cymru dros Iechyd Meddwl, ein grŵp gorchwyl a gorffen iechyd meddwl lleiafrifoedd ethnig, ein fforwm defnyddwyr gwasanaeth cenedlaethol a gofalwyr a'n grŵp drafftio atal hunanladdiad a hunan-niweidio. Rydym hefyd wedi gweithio gyda'r grŵp rhanddeiliaid ieuenctid a Senedd Ieuenctid Cymru, ac mae'r adroddiad 'Young Minds Matter' wedi helpu i lunio'r strategaethau. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y broses hon hyd yn hyn. Mae wedi bod yn ddull partneriaeth a chyd-gynhyrchu gwirioneddol. Yn bwysig, mae'r dogfennau ymgynghori yn canolbwyntio'n glir ar fynd i'r afael ag anghydraddoldebau o ran mynediad a chanlyniadau. Roedd ymchwiliad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Senedd Cymru, 'Cysylltu'r dotiau: mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru' yn ymdrin â'r mater hwn yn fanwl, gan dynnu sylw at y rhai yn y boblogaeth sydd â'r risg fwyaf o anghydraddoldeb iechyd meddwl a sut mae gwahanol grwpiau a chymunedau yn profi'r anghydraddoldeb hwn, a gwnaeth nifer o argymhellion sydd wedi llywio datblygiad y strategaethau. Mae'r ddwy strategaeth yn cydnabod rôl hanfodol portffolios gweinidogol eraill i fynd i'r afael â phenderfynyddion ehangach iechyd meddwl ac i atal hunanladdiad a hunan-niweidio. Mae fy swyddogion wedi gweithio gyda swyddogion ar draws y Llywodraeth i sicrhau bod meysydd gwaith allweddol yn cael eu hadlewyrchu yn y strategaethau newydd. Mae'r strategaeth iechyd meddwl a llesiant yn strategaeth iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd i adlewyrchu cyfrifoldebau'r ddau i ddarparu cymorth iechyd meddwl. Rwyf hefyd wedi ymgynnull bwrdd gweinidogol newydd ar y cyd i oruchwylio'r strategaethau, ac mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i fod yn is-gadeirydd. Bydd y bwrdd hwn yn cyfarfod am y tro cyntaf yr wythnos hon. Lynne Neagle AC: Thema allweddol yn ein hymgysylltiad hyd yma yw peidio â meddygoli iechyd meddwl. Mae iechyd meddwl wedi dod yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio ystod eang o amgylchiadau. Rydym am weld newid yn y ffordd yr ydym yn sôn am faterion iechyd meddwl ac yn eu cefnogi i adlewyrchu anghenion unigolion yn well. Mae'r angen cymorth ar y rhan fwyaf o bobl y gallem ni eu diffinio fel rhai sydd â phroblem iechyd meddwl, ond nid oes angen gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol arnynt. I'r rhai y mae angen gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol arnynt, rydym hefyd wedi bod yn glir ynghylch sut rydym yn bwriadu cryfhau'r rhain ymhellach. Mae'r strategaethau'n gam cyntaf i weithio gyda rhanddeiliaid i ailosod yr iaith ynghylch iechyd meddwl a llesiant. Mae'r ddwy strategaeth ar wahân ond yn rhyng-gysylltiedig. Mae'r dull hwn yn cydnabod nad yw hunanladdiad a hunan-niweidio yn gyflyrau iechyd meddwl y gellir rhoi diagnosis ar eu cyfer ac nad yw llawer o bobl sy'n marw trwy hunanladdiad yn hysbys i wasanaethau iechyd meddwl. Mae yna gamsyniad cyffredinol hefyd bod gan bobl sy'n marw trwy hunanladdiad salwch meddwl, ac mae'n hanfodol ein bod yn herio'r canfyddiad hwn i gael gwared ar y stigma a chefnogi pobl sydd ei angen. Mae'r ddwy strategaeth ddrafft wedi'u datblygu o amgylch dwy weledigaeth lefel uchel. Nod y strategaeth iechyd meddwl a llesiant yw i bobl yng Nghymru fyw mewn cymunedau sy'n eu hyrwyddo, eu cefnogi ac yn eu grymuso i wella eu hiechyd meddwl a'u lles, a bod yn rhydd rhag stigma a gwahaniaethu. Byddwn yn arddel ymagwedd sy'n seiliedig ar hawliau i sicrhau bod gan bawb yr iechyd meddwl gorau posibl. Bydd system gysylltiedig o gymorth ar draws iechyd, gofal cymdeithasol, trydydd sector ac ehangach, lle gall pobl gael mynediad at y gwasanaeth cywir ar yr adeg gywir ac yn y lle cywir. Bydd gofal a chymorth yn canolbwyntio ar yr unigolyn, yn dosturiol ac yn canolbwyntio ar adferiad, gyda phwyslais ar wella ansawdd, diogelwch a mynediad. Bydd gofal a chymorth yn cael eu darparu gan weithlu sy'n teimlo eu bod yn cael eu cefnogi ac sydd â'r capasiti, y cymhwysedd a'r hyder i ddiwallu anghenion pobl. Nod ein strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niweidio yw i bobl yng Nghymru fyw mewn cymunedau sy'n rhydd o'r ofn a'r stigma sy'n gysylltiedig â hunanladdiad a hunan-niweidio, ac sy'n cael eu grymuso a'u cefnogi i geisio a chynnig cymorth pan fo angen. Mae'r holl fodelu sydd ar gael yn awgrymu y bydd gofynion iechyd meddwl yn parhau i gynyddu. Heb gefnogaeth barhaus ar draws y Llywodraeth ac amlasiantaeth, fel y nodir yn y strategaethau hyn, mae'r GIG yn debygol o gael ei lethu. Rydym wedi buddsoddi i sicrhau bod cefnogaeth newydd ac ymroddedig ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl, ac ar gyfer atal hunanladdiad a hunan-niweidio, yng ngweithrediaeth y GIG. Bydd yr adnodd hwn yn hanfodol i ddarparu'r ysgogiad canolog a'r gefnogaeth i wella ansawdd, diogelwch a hygyrchedd gwasanaethau iechyd meddwl. Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn parhau i ddatblygu gwasanaethau, gan ategu trawsnewid gwasanaethau yn ddiweddar drwy weithredu '111 pwyso 2' ar gyfer iechyd meddwl. Wrth gwrs, rydym yn cydnabod y pwysau ariannol digynsail yr ydym yn ei wynebu, a nod y strategaethau yw rhoi cyfeiriad i wasanaethau a phartneriaid i sicrhau bod adnoddau'n cael eu targedu ar sail gwerth, yn hytrach na nodi rhestr o ymrwymiadau cyllido newydd. Ar y sail ein bod yn disgwyl ymgysylltiad sylweddol gan grwpiau tebyg o randdeiliaid, rydym yn cynnig cyfnod ymgynghori o 16 wythnos. Mae hyn yn rhoi cyfle arall i archwilio'r materion y mae pobl yn eu hwynebu yng Nghymru ymhellach, sy'n arwain at iechyd meddwl a llesiant gwael, hunan-niweidio ac, yn yr achosion mwyaf trasig, hunanladdiad. Bydd hyn yn ein helpu i gryfhau ein hymateb trawslywodraethol i'r materion y mae pobl yn eu profi i hyrwyddo iechyd meddwl a llesiant da a sicrhau bod cymorth amserol ar gael i bobl. Rydym wedi gwneud ein gorau glas i sicrhau bod yr ymgynghoriad hwn mor hygyrch â phosibl. Mae'r ymgynghoriad ar gael yn llawn ar ein gwefan ochr yn ochr â fersiynau hawdd eu darllen, ac rydym wedi datblygu adnoddau penodol i gefnogi plant a phobl ifanc. Rydym hefyd wedi creu pecynnau ymgysylltu i gefnogi'r rhai sy'n gweithio gyda grwpiau agored i niwed neu bobl â phrofiad bywyd i'w helpu i ymateb i'r ymgynghoriad. Bydd gan bob un ohonom ddiddordeb yn y maes hwn ac rwy'n annog pobl i ymateb i'r ymgynghoriad. Diolch. James Evans AS: Hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am eich datganiad heddiw a'r copi ymlaen llaw o'r hyn rydych newydd ei ddweud. Mae lleihau cyfraddau hunanladdiad a hunan-niweidio yn ein cymdeithas yn hanfodol. Mae hunanladdiad a hunan-niweidio, yn enwedig hunanladdiad, yn gadael gormod o lawer o deuluoedd a phobl ac anwyliaid ledled Cymru â thwll na ellir byth ei lenwi. A hefyd, mae lleihau hunan-niweidio yn bwysig iawn oherwydd nid ydym am weld effeithiau hirdymor hynny ar bobl, a hefyd, mae pobl yn colli eu bywydau pan fyddan nhw'n hunan-niweidio, hefyd, ac mae hynny'n rhywbeth y mae angen i ni ei ddatrys. Mae'n dda clywed, Dirprwy Weinidog, am y sefydliadau yr ydych chi wedi gweithio gyda nhw, yn enwedig y Senedd Ieuenctid. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, iawn ein bod yn cael barn pobl ifanc pan fyddwn yn creu'r strategaethau hyn, oherwydd mae llawer o bobl ifanc yn dioddef o gyflyrau iechyd meddwl, felly mae'n hanfodol bwysig ein bod yn cael eu cefnogaeth a'u bod yn cyfrannu at y strategaethau hyn. Yn y datganiad, fe wnaethoch chi sôn am gyd-ddylunio a gweithio trawslywodraethol, ac rwy'n gwybod bod hynny'n flaenoriaeth i chi. Mae'r strategaethau hyn, ar draws y Llywodraeth, yn fusnes i bawb, ond mae gen i ddiddordeb mewn sut mae'r strwythurau hyn yn mynd i weithio. Pan fyddwn ni'n cael adborth a mewnbwn yn ôl o'r strategaethau, sut fyddan nhw'n cael eu monitro a pha fecanweithiau rydych chi'n eu rhoi ar waith fel y gellir diweddaru'r Senedd mewn gwirionedd, trwy strwythur y pwyllgor a'r Siambr, i sicrhau bod y strategaethau hyn yn cyflawni'r hyn y maen nhw i fod i'w wneud? Un o'r grwpiau sydd wir yn fy mhoeni i, ac mae'n cael ei grybwyll, yw dynion ifanc a dynion canol oed. Rydym yn gwybod eu bod yn fwy tebygol o gymryd eu bywydau eu hunain a byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod pa waith rydych chi'n ei wneud ynghylch y grŵp penodol hwnnw i gael eu hadborth i'r ymgynghoriadau hyn. Oherwydd, mae'n anodd iawn i ddynion ddod ymlaen i siarad am eu profiadau iechyd meddwl, felly rwy'n credu y byddai'n ddiddorol a byddai llawer o bobl yn hoffi gwybod beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud ynglŷn â hynny. Er mwyn i lawer o'r strategaethau hyn weithio, bydd angen cefnogaeth a chyfrifoldeb ar y cyd y byrddau iechyd hefyd. Felly, un peth yr hoffwn ei wybod gennych chi, Dirprwy Weinidog, yw pa sgyrsiau rydych chi wedi'u cael gyda'n byrddau iechyd a'r byrddau o amgylch y strategaethau hyn a beth fu eu hymateb a sut maen nhw'n mynd i gyfrannu at yr ymgynghoriad hwn hefyd. Oherwydd fel y gwnaethoch chi sôn ynghylch pwysau ariannol, mae pawb dan bwysau ariannol ar hyn o bryd, felly byddai'n ddiddorol gweld sut y gallan nhw wneud i'r rhain weithio'n ymarferol. Amcan lefel uwch Rhif 4 oedd cynyddu sgiliau, ymwybyddiaeth a gwybodaeth am hunanladdiad a hunan-niweidio. Mae'n datgan yno y bydd yn cael ei wneud trwy hyfforddiant ac ymwybyddiaeth, ond rydym ni i gyd yn gwybod, yn anecdotaidd ac o feysydd eraill, pan fydd meddygon a nyrsys yn mynd trwy hyfforddiant mewn arfer cyffredinol, mewn gwirionedd, bod yr elfen iechyd meddwl yn rhan eithaf bach o'u hyfforddiant. Felly, byddai'n ddiddorol gwybod pa sgyrsiau rydych chi wedi'u cael gyda'r Gweinidog addysg a'r Gweinidog iechyd cyffredinol ynghylch hyn a sut y gallwn ni ymgorffori iechyd meddwl yn fwy i'n hyfforddiant fel bod pobl yn fwy ymwybodol ohono. Mae amcan lefel uwch 6 yn sôn am y cyfryngau ac rwy'n cytuno'n llwyr â chi am yr iaith a ddefnyddiwn pan fyddwn yn siarad am hunanladdiad a hunan-niweidio; rhaid gwneud hyn mewn ffordd briodol. Fel y gwyddom i gyd, mae'r cyfryngau yn dal i fod yn fater a gedwir yn ôl i Lywodraeth y DU, felly mae'n debyg y bu'n rhaid i chi gael sgyrsiau trawslywodraethol ynghylch sut mae'r cyfryngau'n cael eu rheoli a sut mae'r trafodaethau hynny'n cael eu cynnal. Felly, byddai'n ddiddorol gwybod pa drafodaethau rydych chi wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU, ond hefyd gyda'r cyfryngau yma yng Nghymru, am sut maen nhw'n trafod iechyd meddwl, sut maen nhw'n siarad am hunanladdiad a sut maen nhw'n siarad am hunan-niweidio. Fe wnaethoch chi sôn, ar ddechrau eich datganiad, am y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac am yr adroddiad 'Cysylltu'r dotiau: mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru'. Felly, hoffwn ddeall gennych sut y gwnaeth hynny gyfrannu at yr ymgynghoriad hwn a pha argymhellion a gyflwynwyd ganddyn nhw y byddwch chi'n bwrw ymlaen â nhw fel rhan o'r strategaethau hyn i sicrhau nad yw'r adroddiadau hynny a gawn gan bwyllgorau yn eistedd ar silff. Gall rhai o'r argymhellion y maen nhw'n eu cyflwyno mewn gwirionedd wella bywydau pobl sydd â phrofiad bywyd. Felly, rwy'n credu y byddai hynny'n bwysig iawn hefyd. Yn olaf, Gweinidog, wrth i'r ymgynghoriad hwn gael ei gyflwyno, fe wnaethoch chi amlinellu y byddwch chi'n ymgysylltu â chymaint o grwpiau â phosibl, ond un peth yr hoffwn i ei wybod mewn gwirionedd yw am y bobl hynny sydd â phrofiad bywyd, oherwydd rwyf i bob amser yn credu, yn yr ymatebion hyn i'r ymgynghoriad, ein bod bob amser yn cael ymatebion gan yr un rhai sy'n ymateb i bopeth gyda'r ymatebion arferol i bron pob ymgynghoriad sy'n cael ei gyflwyno; rydyn ni i gyd wedi eu gweld drwy iechyd—. Rydym yn eu gwerthfawrogi'n fawr, ond rydyn ni, fel arfer, yn cael yr un ymatebion. Ond yn bersonol rwy'n credu mai'r ymatebion profiad bywyd hynny yw'r rhai—. Hyd yn oed yn mynd trwy fy mhroses fy hun nawr, fy Mil hun, yr ydych yn ymwybodol ohono, mae'r bobl hynny sy'n ymateb i chi wir yn achosi ymdeimlad dwys ac mewn gwirionedd, yr hyn yr ydych chi am wrando arno a'i ddeall, a sut y gallwch chi ddatblygu'r rheini yn strategaethau i wneud yn siŵr bod y bobl hynny yn byw bywydau iachach a mwy bodlon—. Felly, rwy'n edrych ymlaen at ganlyniad yr ymgynghoriad hwn, gan ei fod yn rhedeg ochr yn ochr ag ymgynghoriad fy Mil fy hun—fe wnai i gynnwys hwnna, ond mae'n debyg nad wyf i fod i, o dan gwestiynau llefarydd, Dirprwy Lywydd, ond byddaf yn ei wneud beth bynnag. Ond hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am eich datganiad ac edrychaf ymlaen at yr ymgynghoriad hwn wrth iddo fwrw ymlaen, a sut y gallwn wella bywydau'r rhai hynny y mae iechyd meddwl yn effeithio arnynt yma yng Nghymru. Lynne Neagle AC: Diolch yn fawr iawn, James, am yr ymateb cadarnhaol iawn hwnnw i'r datganiad, ac a gaf i fanteisio ar y cyfle hwn, Dirprwy Lywydd, i gofnodi fy niolch i swyddogion Llywodraeth Cymru am eu holl waith ar y ddwy strategaeth hon? Nid yw'n dasg hawdd cyflwyno dwy strategaeth mewn ffordd mor gydgynhyrchiol, wrth wneud yr holl bethau y mae'n rhaid iddyn nhw eu gwneud o ddydd i ddydd, ac rwy'n wirioneddol falch ac yn werthfawrogol o'r gwaith y maen nhw wedi'i wneud. James, fe wnaethoch chi godi llawer o bwyntiau yn y fan yna, a diolch i chi am ddechrau gyda'r strategaeth atal hunanladdiad. Rwy'n awyddus iawn bod honno yn gymaint o ffocws â'n strategaeth iechyd meddwl a llesiant. Maen nhw ar wahân, ond yn rhyng-gysylltiedig. Felly, mae hynny'n bwysig iawn. Rydym wedi ymrwymo i leihau nifer y bobl sy'n marw drwy hunanladdiad. Cyn belled ag yr wyf i yn y cwestiwn, mae un person sy'n marw drwy hunanladdiad yn un yn ormod. Mae'r cyfraddau wedi bod yn sefydlog i raddau helaeth dros y blynyddoedd diwethaf, ond rydym am ostwng y cyfraddau hynny ymhellach o lawer, a dyna hanfod y strategaeth newydd hon. Fe wnaethoch chi gyfeirio at hunan-niweidio, a dyna pam rydyn ni wedi canolbwyntio ar hunan-niweidio yn y strategaeth, oherwydd rydyn ni'n gwybod bod gan bobl sy'n hunan-niweidio risg llawer yn uwch o fynd ymlaen a chwblhau hunanladdiad. Felly, maen nhw'n grŵp o bobl y mae gwir angen i ni ganolbwyntio arnyn nhw. Ond rydym wedi arddel ymagwedd fanwl iawn tuag at grwpiau risg uchel yn y strategaeth, felly rydym wedi nodi pa grwpiau sy'n fwy tebygol o hunan-niweidio. Rydyn ni eisiau adeiladu'r sylfaen dystiolaeth ar hunan-niweidio, ac mae hynny'n ddull rydyn ni hefyd wedi'i ddilyn gyda dynion. Rydyn ni wedi arfer dweud bod problem gyda hunanladdiad dynion, ond rydyn ni'n gwybod mai grŵp penodol o ddynion, dynion canol oed, sy'n llawer mwy tebygol o farw drwy hunanladdiad. Felly, mae hynny'n cael ei adlewyrchu yn y strategaeth, a gallaf gadarnhau bod llawer o waith eisoes yn digwydd. Rydyn ni wedi cael gweithdai gyda dynion i wrando arnyn nhw am y materion maen nhw'n eu hwynebu fel y gallwn ni wir gyd-gynhyrchu'r ymateb hwnnw gyda dynion. Fe wnaethoch chi dynnu sylw at bwysigrwydd bod hon yn strategaeth drawslywodraethol, ac mae hi, yn bendant, ac rwy'n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth gan fy holl gyd-Weinidogion yn y Cabinet. Ond rydych chi'n hollol iawn, unwaith y bydd gennym y strategaethau gorffenedig, mae angen i ni fonitro ac ysgogi'r gweithredu hwnnw. Dyna pam, gyda fy nghyd-Aelod, Julie Morgan, yr ydym ni wedi sefydlu bwrdd cyflawni a sicrwydd newydd i ysgogi hynny, fel dau Weinidog sy'n cynrychioli iechyd a gofal cymdeithasol, i sicrhau bod gennym ni y mecanwaith lefel uchel hwnnw gan Lywodraeth Cymru i ysgogi'r cyflawniad. Ond yn ogystal â hynny, mae gennym hefyd waith trawslywodraethol gyda chyd-Aelodau yn y Cabinet. Mae gennym ddau grŵp o swyddogion trawslywodraethol, un yn edrych ar iechyd meddwl a llesiant, a'r llall yn edrych ar atal hunanladdiad. Felly, mae'r gwaith hwnnw wedi'i ymwreiddio drwy'r Llywodraeth mewn gwirionedd, ac mae'n hollol wir y byddwn yn darparu—. Ymrwymais y byddem yn darparu adroddiadau ar gynnydd. Y cynllun yw, pan fyddwn wedi cwblhau'r ymgynghoriad, y byddwn yn cyhoeddi'r strategaethau terfynol, gyda chynlluniau cyflawni yn sail iddynt, ac yna byddwn hefyd yn nodi beth fydd y trefniadau adrodd hynny. Diolch am eich sylwadau am y byrddau iechyd. Yn amlwg, mae cael cefnogaeth yn hanfodol, yn enwedig yn yr hinsawdd sydd ohoni. Mae gweithrediaeth y GIG yn mynd i fod yn cynnal gweithdai penodol gyda'r GIG i gael eu barn ar y strategaethau, felly byddwn yn gallu cymryd eu hadborth yn benodol ar hynny a nodi beth arall y gallwn ni ei wneud yn y maes hwnnw. Fe sonioch chi, o ran y strategaeth atal hunanladdiad, amcan lefel uchel 4, sef yr un am hyfforddiant. Nawr, rwy'n credu bod atal hunanladdiad yn fusnes i bawb. Rwyf wedi dweud hyn sawl gwaith. Rwyf am ein gweld ni i gyd yn cael ei huwchsgilio o ran cael y sgyrsiau hynny sy'n achub bywydau gyda phobl. Felly, ein dull ni o hyfforddi yw'r math hwnnw o ddull, mewn gwirionedd. Mae gennym wefan newydd gyda phob math o gyfleoedd hyfforddi, ond mae angen i ninnau hefyd, fel y dywedwch chi, ymgorffori hynny yn y GIG, ac mae gennym ein cynllun gweithlu iechyd meddwl strategol newydd a fydd yn ein helpu gyda hynny, ac yn amlwg rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda'r Gweinidog iechyd ar hynny. O ran amcan lefel uchel 6, sydd ar y cyfryngau, mae angen i ni barhau i ganolbwyntio ar y cyfryngau. Rwy'n credu bod gwelliannau wedi bod; mae'r rhan fwyaf o allanfeydd y cyfryngau yn ymwybodol o ganllawiau rhagorol y Samariaid ar adrodd am hunanladdiad, ond nid ydynt i gyd yn ei ddilyn cymaint ag y gallent ei wneud, a byddwn yn parhau â'r ddeialog honno gyda'r cyfryngau yng Nghymru a gyda Llywodraeth y DU hefyd. Ond yr hyn fyddwn i'n ei ddweud yw nad yw'n ymwneud â'r cyfryngau yn unig; mae'n ymwneud â'r iaith rydyn ni i gyd yn ei defnyddio pan fyddwn ni'n siarad am hunanladdiad, a byddwn i'n cyfeirio Aelodau eto at ganllawiau'r Samariaid a gyhoeddwyd ganddynt ar Ddiwrnod Atal Hunanladdiad y Byd yn yr hydref, sy'n ein hannog ni i gyd i ddefnyddio iaith gyfrifol pan fyddwn ni'n siarad am hunanladdiad, oherwydd gallai pobl fregus fod yn gwrando arnom a gallai ddylanwadu ar eu hymddygiad. O ran adroddiad y pwyllgor 'Cysylltu'r dotiau', yn amlwg roedd hwnnw'n ddarn allweddol iawn, mawr o waith; roedd yn canolbwyntio'n sylweddol ar anghydraddoldebau iechyd a phenderfynyddion cymdeithasol iechyd meddwl, ac rwy'n credu, os edrychwch chi ar y strategaeth, y gallwch weld ein bod wedi edrych ar hynny'n fanwl iawn. Rydyn ni wedi cymryd egwyddorion Marmot fel ffordd o fframio'r camau rydyn ni'n eu cymryd ar hynny. Y mathau eraill o feysydd yr ydym wedi'u codi o'u hadroddiad yw'r angen i ganolbwyntio mwy ar salwch meddwl difrifol, oherwydd mae hynny wedi tueddu i fod yn faes lle nad yw hynny wedi diwgydd, efallai; plant a phobl ifanc—maes blaenoriaeth allweddol i ni. Ond rwy'n gobeithio y bydd y pwyllgor, wrth edrych ar y ddogfen ymgynghori, yn gweld bod y gwaith a wnaethant wedi llywio ein hymgynghoriadau. Mabon ap Gwynfor AS: Diolch am y datganiad gan y Dirprwy Weinidog. Rwy'n hoffi llawer o'r hyn rwy'n ei glywed. Mae tirwedd gofal iechyd meddwl wedi esblygu'n sylweddol ers cyhoeddi'r strategaeth wreiddiol 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' yn ôl yn 2012. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld newid hir-ddisgwyliedig mewn agweddau cymdeithasol tuag at iechyd meddwl. Mae stigmas cymdeithasol niweidiol yn cael eu datgymalu'n gynyddol, ac mae'n amlwg bod y sgwrs gyhoeddus ar iechyd meddwl yn fwy parod i dderbyn y sensitifrwydd cysylltiedig. Ond mae llawer o waith i'w wneud o hyd. Y llynedd, galwodd Plaid Cymru ar y Llywodraeth i gynnwys pwyslaispenodol ar y cyfnod amenedigol yn y strategaeth sydd ar ddod a hoffwn ailadrodd yr alwad hon heddiw. Mae cymaint ag un o bob pedair menyw yn profi problem iechyd meddwl yn ystod beichiogrwydd neu yn y flwyddyn gyntaf ar ôl genedigaeth eu babi. Mae hyn yn cyfateb i tua 9,000 o famau newydd yng Nghymru bob blwyddyn. Mae tua un o bob 10 partner hefyd yn profi problem iechyd meddwl yn ystod y cyfnod hwn ac mae'r gymhareb hon yn sylweddol uwch ar gyfer partneriaid menywod sydd â phroblemau iechyd meddwl eu hunain. Mae 1,000 diwrnod cyntaf bywyd plentyn yn allweddol wrth lunio ei les gydol oes. Mae methiant i nodi ac ymateb i faterion iechyd meddwl amenedigol cyn gynted ag y maent yn amlygu eu hunain yn parhau ac yn ymwreiddio problemau iechyd meddwl, yn ogystal â materion corfforol cysylltiedig, trwy gydol bywyd diweddarach i rieni a phlant fel ei gilydd. Os ydym am ddatblygu strategaeth iechyd meddwl wirioneddol gyfannol ac ataliol felly, rhaid iddi fod yn effeithiol ar ddechrau bywyd. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu sicrhau bod pob un o'r saith gwasanaeth iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru yn bodloni yn llawn safonau math 1 cenedlaethol y College Centre for Quality Improvement, yn ogystal â chynyddu llwybrau hyfforddi a datblygu sylweddol ar iechyd meddwl babanod ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Mae hyn yn fy arwain at fy mhwynt nesaf, sef yr angen i fynd i'r afael â'r rhwystrau penodol y mae plant a phobl ifanc yn eu hwynebu o ran cael gafael ar gymorth iechyd meddwl. Pobl ifanc gafodd y dirywiad cyfartalog mwyaf yn eu lles meddyliol o ganlyniad i'r pandemig. Ac eto mae'r amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol yn anghymesur yn hirach i blant Cymru o'i gymharu ag oedolion. Byddwn yn ddiolchgar iawn, felly, pe gallai'r Dirprwy Weinidog esbonio sut y gall y strategaeth newydd hon gael y Llywodraeth yn ôl ar y trywydd iawn i gyrraedd ei tharged o ddarparu o leiaf 80 y cant o blant a phobl ifanc ag atgyfeiriadau iechyd meddwl o fewn 28 diwrnod, nad yw wedi'i fodloni ers peth amser. Mae hyn wrth gwrs yn ymwneud â mater ehangach o anghydraddoldebau wrth ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl, lle mae rhyw, oedran, ethnigrwydd, incwm cartref a lleoliad daearyddol yn aml yn pennu ansawdd gofal. Er enghraifft, roedd menywod yng Nghymru yn arddangos lefelau gwaeth o iechyd meddwl ar ôl dechrau'r pandemig, gan arwain at ehangu'r bwlch mewn lles yr adroddwyd amdano rhwng dynion a menywod. Ar y sail hon, rwy'n pryderu ynghylch goblygiadau'r bwriad i ailflaenoriaethu £15 miliwn o'r gyllideb iechyd meddwl, y mae'r Llywodraeth wedi bod yn barod i gydnabod y bydd yn arwain at fentrau i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau cymdeithasol yn cael eu cyflawni'n fwy graddol. A wnaiff y Dirprwy Weinidog felly roi rhagor o fanylion am beth fydd hyn yn ei olygu i amserlenni a thargedau perthnasol? Yn olaf, rwy'n croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth yn bwriadu parhau â strategaeth ar wahân ar gyfer yr agenda atal hunanladdiad a hunan-niweidio, ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r rhesymeg dros wneud hynny. Mae'n drasiedi ac yn arwydd damniol o sut mae ein cymdeithas yn methu'r rhai mwyaf bregus mai hunanladdiad yw prif achos marwolaeth i ddynion dan 50—mae fy nheulu fy hun a gormod o rai eraill yma heddiw yn parhau i alaru a dioddef oherwydd hyn—tra, yma yng Nghymru, mae cyfraddau hunanladdiad ar gyfer dynion a menywod yn parhau i fod yn uchel ac ymhell uwchlaw'r cyfartaledd ar gyfer Cymru a Lloegr. Un o argymhellion allweddol adroddiad ORS ar ddatblygu'r strategaethau olynol i 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' a 'Beth am Siarad â Fi 2?' oedd yr angen i wella dulliau o gasglu data i ddangos llwyddiant neu fel arall, ond problem dro ar ôl tro yng nghyd-destun atal hunanladdiad yw'r ffaith bod oedi cofrestru canolrif ar gyfer adroddiadau crwneriaid ar hunanladdiadau yn sylweddol hirach yng Nghymru o'i gymharu â Lloegr, sydd, yn anochel, yn peryglu gwerth ystadegau cyhoeddedig. Felly, a allai'r Dirprwy Weinidog gadarnhau y bydd y mater penodol hwn yn cael ei ystyried fel rhan o waith y Llywodraeth? Diolch yn fawr iawn. Lynne Neagle AC: Diolch yn fawr iawn, Mabon, am eich sylwadau a'ch ymateb cadarnhaol i'r datganiad, gan dynnu sylw at faterion pwysig iawn. Ac rwy'n cytuno'n llwyr â chi, ar bethau fel stigma, nad ydym wedi ei ddatrys eto, mae gennym fwy o waith y mae angen i ni ei wneud, a dyna pam mae stigma yn gymaint o ran allweddol yn y strategaeth newydd. Fe wnaethoch chi sôn am iechyd meddwl amenedigol ac iechyd meddwl babanod, ac mae'r ddau ohonyn nhw'n hynod bwysig i mi. Rwy'n angerddol am egwyddorion ymlyniad. Rwyf wedi dweud droeon, os oes bwled arian mewn iechyd meddwl, rwy'n credu mai blynyddoedd cynnar yw hwnnw. Mae'r 1,000 diwrnod cyntaf hwnnw yn gyfle gwych iawn i roi'r dechrau hwnnw i blentyn am weddill ei oes, gan ddysgu am y perthnasoedd diogel hynny. Bydd iechyd meddwl amenedigol yn parhau i fod yn flaenoriaeth, ond rydym wedi tynnu sylw yn benodol at y strategaeth ein bod am ddatblygu cefnogaeth lefel is. Oherwydd, rydyn ni wedi gwneud cynnydd da, mae gennym dimau iechyd meddwl amenedigol ym mhob rhan o Gymru, mae gennym ni'r uned mamau a babanod yn Ysbyty Tonna, mae gennym ni'r un sydd ar y ffordd yn y gogledd, ond yr hyn rwy'n teimlo bod angen i ni wneud mwy arno yw'r gefnogaeth lefel is honno: menywod nad ydynt yn cyrraedd y trothwy clinigol, a thadau hefyd. Es i i gwrdd â grŵp yn etholaeth James Evans, Mums Matter, lle'r oedd y trydydd sector yn cyflwyno rhaglen, i ddod â mamau at ei gilydd, mewn gwirionedd, i siarad am y problemau sydd gan lawer ohonom pan fyddwn ni'n dod yn famau, ac roedd yn anhygoel. Nid oedd yn glinigol. Ac roedd gen i ferched yno yn dweud wrthyf i, 'Mae'r rhaglen hon wedi achub fy mywyd.' Ac rwyf eisiau gweld mwy o'r math yna o fenter i bawb yng Nghymru. Mae iechyd meddwl babanod wedi'i ymrwymo'n benodol iddo yn y strategaeth. Dim ond dau dîm sydd gennym ar hyn o bryd yng Nghymru sy'n darparu cymorth iechyd meddwl babanod, modelau ychydig yn wahanol yn y ddau, ond rwy'n awyddus iawn bod gennym ddarpariaeth ledled Cymru i ategu'r gefnogaeth honno am y 1,000 diwrnod cyntaf. Fe wnaethoch chi godi'r materion yn ymwneud â phlant a phobl ifanc, a does dim byd yn agosach at fy nghalon na gwasanaethau plant a phobl ifanc. Credaf ei bod yn bwysig cydnabod bod newid allweddol yr ydym yn ceisio ei wneud yn y strategaeth hon yn un yr ydym wedi'i wneud i ryw raddau eisoes ar gyfer plant a phobl ifanc, sydd wedi dweud wrthym dro ar ôl tro, 'Peidiwch â meddygoli ein hiechyd meddwl. Peidiwch â meddygoli tyfu i fyny." Gall llawer o bobl ifanc gael cymorth heb ddefnyddio gwasanaethau arbenigol. Dyna pam mae gennym ddull ysgol gyfan, mae gennym ein system NEST / NYTH, ac maent wedi ymrwymo i'r strategaeth. Mae angen i ni wneud mwy o gynnydd ar y mesur ar gyfer plant a phobl ifanc. Rydyn ni wedi buddsoddi mewn adnoddau pwrpasol yn rhaglen iechyd meddwl gweithrediaeth y GIG—£2.2 miliwn—ac maen nhw'n gweithio gyda byrddau iechyd i ysgogi'r gwelliannau hynny. Mae gan bob bwrdd iechyd lwybrau i adfer eu perfformiad. Ac rydym eisoes wedi gweld cynnydd da mewn CAMHS arbenigol, ac mae angen i ni weld hynny nawr gyda'r mesur. Fe wnaethoch chi gyfeirio at y cyllid, Mabon, ac rwyf wedi bod yn agored iawn gyda'r Senedd mewn pwyllgorau nad oeddem yn gallu cymryd y cam ychwanegol hwnnw o gael y £15 miliwn ychwanegol. Rydym wedi buddsoddi £75 miliwn yn ychwanegol, sydd ar gael eleni, a £50 miliwn y llynedd, ond oherwydd y sefyllfa ariannol anodd iawn ni allem gymryd y cam ychwanegol hwnnw gyda'r £15 miliwn. Ond mae hynny'n fwy na gwneud iawn am y ffaith ein bod wedi blaenoriaethu'r cyllid sydd wedi ei glustnodi i iechyd meddwl sy'n mynd i fyrddau iechyd. Mae hynny wedi gweld cynnydd o £25 miliwn, ac roedd yn rhywbeth i gydbwyso, mewn gwirionedd. Roeddwn i'n teimlo ei bod yn bwysig iawn amddiffyn y gwasanaethau rheng flaen hynny, y byddai unrhyw beth a fyddai'n tanseilio'r cyllid hwnnw sydd wedi'i glustnodi yn gwneud mwy o niwed i ymdrechion i sicrhau cydraddoldeb rhwng iechyd meddwl a chorfforol yn yr hirdymor. Ac rydym wedi cael trafferth gwario rhywfaint o'r buddsoddiad ychwanegol yr ydym wedi'i fuddsoddi mewn iechyd meddwl oherwydd heriau'r gweithlu. Felly, rydym yn gallu rheoli'r gostyngiad hwnnw yn yr MEG canolog, rwy'n credu, trwy danwariant a phroffilio'r gwariant ychydig yn wahanol yn unig, fel bod blaenoriaeth o hyd ar gael ar gyfer buddsoddi mewn iechyd meddwl. Diolch am eich sylwadau ar hunanladdiad a hunan-niweidio ac am dynnu sylw at y gwaith a wneir gan ORS. Rwy'n hapus iawn i ymrwymo i edrych ar y mater gyda'r crwner. Rwy'n credu bod llawer mwy o waith y gallwn ni ei wneud gyda Crwneriaid yn gyffredinol, oherwydd rwy'n credu y gall fod yn brofiad trawmatig iawn i deuluoedd, a'r peth olaf rydyn ni ei eisiau yw i deuluoedd gael eu hail-drawmateiddio. Ond rydym wedi dod dros y rhwystr hwnnw o'r oedi yng Nghymru, oherwydd mae gennym wyliadwriaeth hunanladdiad amser real ledled Cymru nawr—nid yw hynny'n rhywbeth sydd ganddyn nhw yn Lloegr—a chyhoeddodd ei adroddiad cyntaf ym mis Ionawr eleni. Mae hyn yn ein galluogi i ymateb yn gyflym, mewn gwirionedd. Gallwn nodi unrhyw glystyrau ac ymateb i unrhyw faterion mewn ardaloedd, felly rwy'n falch iawn bod gennym ni hynny ar waith, oherwydd mae gennym y wybodaeth amser real honno nad yw'n dibynnu arnom yn aros am ganlyniad llys crwner. Diolch. Jack Sargeant AC: Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi am gyflwyno'r datganiad heddiw ar y ddwy strategaeth ac unwaith eto dangos eich ymrwymiad i wella iechyd meddwl ac atal hunanladdiad? Llywydd, siaradais yn ddiweddar iawn am fy ngholled fy hun trwy hunanladdiad, yn enwedig fy nhad a fy ffrind gorau o 20 mlynedd, Jamie Wynne. Rhannais y profiad hwnnw a phrofiad fy mrwydrau personol fy hun gydag iechyd meddwl oherwydd fy mod eisiau helpu eraill. Rwyf wir eisiau helpu eraill. Dydw i ddim eisiau i deulu arall fynd trwy'r hyn aeth fy nheulu i a Jamie drwyddo. Ond rwyf hefyd yn ymrwymo i gefnogi eraill sydd eisiau helpu—pobl fel Clwb Pêl-droed Tref Cei Connah, clwb pêl-droed llawr gwlad Jamie, sy'n ceisio gwneud yn union hynny, dim ond i helpu eraill. Maen nhw wedi cymryd nifer o gamau, Gweinidog, i annog chwaraewyr a chefnogwyr sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl personol eu hunain i geisio cymorth gan naill ai hyrwyddwr llesiant y clwb, neu drwy elusennau cydnabyddedig a sefydliadau iechyd meddwl y maen nhw wedi cyfeirio atynt. A ydych chi'n cytuno â mi y dylid canmol a rhannu gwaith CPD Tref Cei Connah fel arfer gorau ledled Cymru? Ac efallai fel rhan o'r ymgynghoriad wrth symud ymlaen, a fyddech chi'n rhoi cyfarwyddyd i swyddogion gwrdd â'r clwb i drafod ymhellach sut y gellid efelychu hyn ledled Cymru? Diolch. Lynne Neagle AC: Diolch yn fawr iawn, Jack. A gaf dalu teyrnged i'r gwaith rydych chi wedi bod yn ei wneud? Rwy'n cydnabod ei bod hi'n anodd iawn siarad am y profiadau rydych chi wedi bod drwyddyn nhw, ond bydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i bobl sy'n eich clywed chi, ac rydyn ni wedi siarad llawer am stigma, ac mae'n chwalu'r stigma, felly rydw i'n diolch o galon i chi am y gwaith rydych chi'n ei wneud. Rwy'n hapus iawn i gymeradwyo Clwb Pêl-droed Tref Cei Connah. Rwy'n credu ei bod hi'n wych eu bod nhw'n gwneud hyn ac, mewn gwirionedd, rwy'n meddwl bod potensial enfawr gyda chlybiau pêl-droed yn fwy cyffredinol—mae Sefydliad CPD Dinas Caerdydd hefyd yn gwneud gwaith da, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn—oherwydd yr hyn y mae clybiau pêl-droed yn ei roi inni yw ymdeimlad o berthyn, ac rydym yn gwybod bod perthyn yn amddiffynnol ar gyfer iechyd meddwl, a bod peidio â pherthyn yn i'r gwrthwyneb. Felly, mae potensial enfawr yno, ac mae hefyd yn cyd-fynd â'r hyn rydyn ni'n ceisio'i wneud yn y strategaeth, sy'n dweud nad oes angen cymorth meddygol arbenigol ar bawb: mae'n ymwneud â'r cwmni hwnnw, peidio â bod yn ynysig, yr ymdeimlad hwnnw o berthyn. Felly, diolch am dynnu sylw at hynny, ac rwy'n hapus iawn i gwrdd â'r clwb fy hun i wrando ar y gwaith y maen nhw wedi bod yn ei wneud ac i weld pa wersi y gallwn ni eu dysgu ar gyfer mannau eraill yng Nghymru. Jayne Bryant AC: Hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei datganiad heddiw a chofnodi fy niolch am y gwaith diflino y mae hi'n ei wneud yn y maes hwn. Rwy'n gwybod ei fod yn rhywbeth sy'n ymrwymiad personol ar hyn, a hoffwn gydnabod y gwaith y mae hi wedi'i wneud ac mae'n parhau i'w wneud yn y maes hwn. Mae cymaint i'w groesawu yn hyn heddiw, yn y datganiad, ac roeddwn yn arbennig o falch o glywed y Dirprwy Weinidog heddiw yn dweud nad mater iechyd a gofal cymdeithasol yn unig yw iechyd meddwl da, ac fel cadeirydd grŵp trawsbleidiol y Senedd ar atal hunanladdiad, rhywbeth y dilynais y Dirprwy Weinidog ynddo, rwy'n ymwybodol iawn o'r angen i gymdeithas a'r Llywodraeth gydweithio i barhau i wella gwasanaethau ac agweddau tuag at iechyd meddwl a lles. Mae'r strategaethau drafft a lansiwyd heddiw yn gyfle hanfodol i godi ymwybyddiaeth o benderfynyddion cymdeithasol iechyd meddwl gwael a rôl anghydraddoldebau iechyd. Mae tystiolaeth ddata a ryddhawyd yn ddiweddar yn dangos bod tlodi ac anghydraddoldeb yn parhau i fod yn ffactorau risg allweddol, ac mae mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol hynny yn gofyn am gydweithio traws-sector. Enghraifft ragorol yw partneriaeth reilffordd Samariaid y DU, a fydd yn cael ei hymestyn yn fuan i reilffyrdd craidd y Cymoedd. Gwneir llawer o effaith y fenter hon gan weithwyr rheilffyrdd sydd wedi'u hyfforddi a'u grymuso i weithredu, gan ddangos yr hyn sy'n bosibl trwy gydweithio ar draws sectorau. Ac yn olaf, Dirprwy Lywydd, gwn fod ysgolion ledled Cymru wedi arloesi dulliau newydd o hyrwyddo iechyd meddwl a llesiant da mewn pobl ifanc, ac mae atal ac ymyrryd yn gynnar yn allweddol i barhau â'r gwaith o sicrhau bod ein cwricwlwm newydd yn cyflawni dyletswyddau deddfwriaethol i lesiant ac iechyd meddwl. Diolch. Lynne Neagle AC: Diolch yn fawr iawn, Jayne, am eich geiriau caredig ac am eich croeso i'r ddwy strategaeth heddiw, a diolch am y gwaith rydych chi'n ei wneud gyda'r grŵp trawsbleidiol atal hunanladdiad. Mae'n hynod o bwysig. Ac fel rydych chi wedi tynnu sylw ato, mae tlodi ac anghydraddoldeb yn sbardun allweddol nid yn unig o hunanladdiad, ond iechyd meddwl gwael, felly dyna pam mae gennym bwyslais cryf iawn. Mae pennod gyfan wedi'i rhoi i hynny. Mae un o'r datganiadau gweledigaeth ar waith trawslywodraethol, a byddwn yn annog Aelodau i edrych ar y peth oherwydd, mewn gwirionedd, pan welwch y cyfan wedi'i ysgrifennu, mae'n eithaf trawiadol faint o waith trawslywodraethol sydd yna gyda'r holl Weinidogion, nid dim ond fy nghyd-Aelod, Julie Morgan, ond Vaughan Gething, y Gweinidog trafnidiaeth, ac mae'n gwbl hanfodol ein bod yn gwneud y gwaith hwnnw. A diolch i chi am dynnu sylw at fenter rheilffordd y Samariaid, sy'n wych yn fy marn i. Gwyddom fod y rheilffyrdd—. Blaenoriaeth yn ein strategaeth yw lleihau mynediad i ddulliau a lleoliadau, felly mae angen i ni fynd i'r afael â'r pethau sy'n digwydd ar y rheilffyrdd, felly mae croeso mawr i hynny, ac rwy'n falch iawn o glywed y bydd yn dod i dde Cymru. A diolch am dynnu sylw at waith yr ysgol. Mae'n gwbl hanfodol, ac mae'r gwaith rydyn ni'n ei wneud gyda phlant a phobl ifanc wedi llywio'r gwaith rydyn ni'n ei wneud gydag oedolion. Dywedon nhw wrthym, 'Peidiwch â meddygoli tyfu i fyny', a dyna pam rydyn ni eisiau'r gefnogaeth gyffredinol honno mewn ysgolion, wedi'i seilio ar ein cwricwlwm, i geisio atal y problemau hynny rhag gwaethygu. Diolch. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Ac yn olaf, Huw Irranca-Davies. Huw Irranca-Davies AC: Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwyf innau'n croesawu'n wirioneddol y ddwy strategaeth—yr iechyd meddwl a'r lles, a'r strategaethau atal hunanladdiad a hunan-niweidio—a'r ymgynghoriadau, ac rwy'n ymuno â'r Gweinidog i annog pobl i roi eu meddyliau i hyn ar sut rydym yn bwrw ymlaen â hyn. Pan oeddwn i'n ddyn ifanc iawn, amser maith yn ôl, roedden ni'n grŵp tynn iawn o bump ohonon ni oedd bob amser yn mynd i bobman gyda'n gilydd. Roedden ni'n ffyliaid. Doedden ni byth yn ddrwg, ond roedden ni'n ffyliaid, ac wedyn aethon ni ein ffordd ein hunain i'r coleg ac i swyddi ac yn y blaen, a gwnaeth un ohonom ni, un o'n grŵp bach tynn, gymryd ei fywyd ei hun, yn ddirybudd—y mwyaf bywiog, y mwyaf allblyg, y mwyaf talentog ohonom ni i gyd, ac rwy'n aml yn aros ac yn meddwl, 'Beth os?' A dyna pam yr hyn sydd wir yn fy nharo i yn y datganiad heddiw yw lle rydych chi'n dweud, 'Mae'r dull hwn yn cydnabod nad yw hunanladdiad a hunan-niweidio yn gyflyrau iechyd meddwl y gellir rhoi diagnosis iddynt ac nad yw llawer o bobl sy'n marw trwy hunanladdiad yn hysbys i wasanaethau iechyd meddwl. Mae yna gamsyniad cyffredinol hefyd bod gan bobl sy'n marw drwy hunanladdiad salwch iechyd meddwl, ac mae'n hanfodol ein bod yn herio'r canfyddiad hwn i gael gwared ar y stigma a chefnogi pobl sydd ei angen.' Rwy'n cytuno'n llwyr. A gaf i, ynghyd â Jack, a soniodd am rywfaint o'r gwaith rhagorol sy'n digwydd mewn grwpiau allan yna, os ydych chi neu'ch swyddogion eisiau dod i ymweld â'r 14 o wirfoddolwyr yn CIC Ymwybyddiaeth Hunanladdiad Cwm Ogwr, sy'n gweithio gyda grwpiau a sefydliadau lleol—clybiau pêl-droed, clybiau rygbi, grwpiau lleol amrywiol—i godi ymwybyddiaeth o'r gefnogaeth sydd ar gael i bobl a all eu helpu mewn gwirionedd, a chael y sgyrsiau hynny hefyd. Maen nhw'n trefnu boreau coffi ac yn y blaen. Felly, Gweinidog, os byddwch chi rywbryd eisiau dod i siarad â rhywun yn ein ardal ni, rwy'n siŵr y bydden nhw'n ei groesawu'n fawr. Lynne Neagle AC: Diolch yn fawr iawn, Huw, am eich croeso. Mae'n ddrwg gen i glywed am eich ffrind. Mae hynny'n rhywbeth sy'n effeithio ar bobl am weddill eu hoes, a dyna'r 'beth os?', onid yw e, mewn gwirionedd, ac mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn cofio, yn ogystal â'r ffaith nad yw hunanladdiad yn fater iechyd meddwl—er gall fod yn fater iechyd meddwl, ond nid yw o reidrwydd yn fater iechyd meddwl—mae'n rhaid i ni gofio hefyd nad yw hunanladdiad yn anochel, ac mae yna gyfleoedd i atal, a dyna hanfod y strategaeth newydd hon, chwilio am y cyfleoedd hynny ar gyfer atal ac ymgysylltu â phob un o'r rheini. Diolch am dynnu sylw at y grŵp yn eich etholaeth, CIC y grŵp ymwybyddiaeth o hunanladdiad. Doeddwn i ddim yn gwybod am hwnnw a byddwn yn hapus iawn i gwrdd â nhw. Dim ond dweud hefyd ein bod wedi datblygu pecynnau ymgysylltu i weithio gyda'r ddwy strategaeth, fel y gall y grwpiau gael y pecynnau a gallant eu defnyddio i ymgynghori â'u haelodau eu hunain. Felly, os oes unrhyw Aelodau yn gwybod am unrhyw grwpiau y maen nhw'n meddwl yr hoffen nhw fod yn rhan o'r ymgynghoriad, pe baech yn anfon e-bost ataf, byddai hynny'n wych, oherwydd rydym yn awyddus i gael yr ymgysylltiad mwyaf. Diolch. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Diolch i'r Dirprwy Weinidog. 6. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: System a Siarter Budd-daliadau Cymru Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Eitem 6 heddiw yw'r datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: system a siarter budd-daliadau Cymru. Galwaf ar y Gweinidog, Jane Hutt. Jane Hutt AC: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle hwn i wneud datganiad ar lansiad siarter budd-daliadau Cymru ar 22 Ionawr 2024 yng Nghanolfan Adnoddau Blaenafon gydag arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ac Aelod dynodedig Plaid Cymru, Siân Gwenllian AS. Mae'r siarter yn rhan newydd allweddol o'n system budd-daliadau yng Nghymru. Mae'r siarter, sydd wedi'i chyd-gynhyrchu ag ystod o randdeiliaid, ac a gymeradwywyd gan bob un o'r 22 awdurdod lleol, yn nodi egwyddorion lefel uchel ar gyfer system fudd-daliadau dosturiol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, system sy'n seiliedig ar hawl person i gael cymorth ariannol, gan ddileu'r stigma y mae rhai pobl yn ei deimlo pan fyddan nhw'n gofyn am fudd-dal. Mae system budd-daliadau Cymru pan fo pobl angen adrodd eu stori unwaith yn unig i gael mynediad at eu hawliau wedi bod yn weledigaeth hirdymor. Fydden ni ddim lle'r ydym ni heddiw heb waith caled ac ymroddiad llawer o bobl. Hoffwn ddiolch i John Griffiths AS, ac aelodau'r cyn Bwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, am eu hadroddiad ardderchog 'Budd-daliadau yng Nghymru: opsiynau i'w cyflawni'n well'. Mae Siarter Budd-daliadau Cymru yn seiliedig ar argymhelliad y pwyllgor ar gyfer datblygu ar y cyd gyfres o egwyddorion sy'n sail i gynllunio a chyflawni budd-daliadau Cymru. Hoffwn ddiolch hefyd i Sefydliad Bevan a'i bartneriaid, gan gynnwys Policy in Practice, am y gyfres o bapurau ymchwil y maen nhw wedi'u cynhyrchu ar system fudd-daliadau Cymru. Mae'r rhain wedi llywio ein dealltwriaeth o sut olwg sydd ar system fudd-daliadau Cymru gydlynol ac integredig ac wedi arwain datblygiad yr ymrwymiadau yn Siarter Budd-daliadau Cymru. Helpodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chynrychiolwyr awdurdodau lleol i ddatblygu'r siarter, ac yn dilyn cyfarfod cyngor partneriaeth Cymru fis Tachwedd diwethaf, o dan gadeiryddiaeth y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, cymeradwyodd pob awdurdod lleol y siarter. Mae hyn yn cynrychioli ymrwymiad clir ar y cyd i sefydlu a chryfhau system fudd-daliadau symlach i Gymru, fel sydd wedi'i hymgorffori yn siarter budd-daliadau Cymru, fel y cam pwysig cyntaf ar y daith hon. Mae grŵp llywio allanol wedi'i sefydlu i ddatblygu cynllun gweithredu ar gyfer yr holl weithgareddau y mae angen eu cwblhau i ddod ag ymrwymiadau'r siarter yn fyw mewn ystyr ymarferol. Ac rwy'n falch fod Fran Targett wedi cytuno i gadeirio'r grŵp llywio allanol. Dewiswyd yr aelodau oherwydd eu harbenigedd wrth ddarparu budd-daliadau yng Nghymru neu wrth gefnogi pobl sy'n wynebu'r anhawster mwyaf wrth hawlio budd-daliadau. Cynhaliodd y grŵp llywio ei gyfarfod agoriadol ar 14 Chwefror a'i nod yw llunio cynllun gweithredu erbyn haf 2024. Bydd y grŵp llywio hefyd yn pennu'r mesurau sy'n briodol i'w defnyddio i asesu cynnydd o'i gymharu â chyrhaeddiad yr wyth canlyniad a nodir yn y siarter, ac adrodd ar gynnydd i gyngor partneriaeth Cymru. Mae'n bwysig nodi, fodd bynnag, nad ydym yn dechrau'r rhaglen waith hon o stop. Fel y gwelsom yn ystod pandemig COVID, mae awdurdodau lleol Cymru yn fedrus wrth ddylunio a darparu cynlluniau cymorth ariannol. Yn ôl archwiliad diweddar gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, mae'r rhan fwyaf o awdurdodau eisoes yn gwneud cynnydd i grynhoi budd-daliadau Cymru y maent yn gyfrifol amdanynt, gyda rhai yn asesu hawl i dri phrif fudd-dal mewn un cais. Mae awdurdodau lleol bellach yn gweithio gyda'i gilydd i efelychu'r arfer da hwn ledled Cymru. Rwy'n gwybod bod yr Aelodau wedi croesawu gweithredu siarter budd-daliadau Cymru. Mae'n enghraifft gadarnhaol o'r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd gwahanol randdeiliaid sy'n rhannu'r un nod yn gweithio mewn partneriaeth. Ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau nawr yn cefnogi'r rhaglen waith barhaus a fydd yn troi ymrwymiadau'r siarter yn weithrediadau. Mae'r gwaith i gryfhau system fudd-daliadau Cymru yn mynd rhagddo, o ganlyniad i'n hymrwymiad i gytundeb cydweithio â Phlaid Cymru, i gefnogi datganoli gweinyddiaeth lles ac archwilio'r seilwaith angenrheidiol sydd ei angen i baratoi ar gyfer hyn ac i gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer system fudd-daliadau Cymru. Trwy weithredu siarter budd-daliadau Cymru, rydym yn gosod conglfeini'r seilwaith ar gyfer system fudd-daliadau dosturiol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Byddai unrhyw weinyddu pwerau lles yn y dyfodol yn cael ei gyflawni yn unol â nodau'r siarter. Ond mae hwn yn faes cymhleth. Mae'n bwysig ein bod yn deall yr holl oblygiadau o ddatganoli gweinyddu lles. Felly, rydym yn comisiynu ymchwil annibynnol a fydd yn darparu crynodeb sy'n seiliedig ar dystiolaeth o sut y gellid bwrw ymlaen â datganoli gweinyddu lles yng Nghymru, ac i lywio'r gwaith dylunio sefydliadol y byddai ei angen i alluogi trosglwyddo'r pwerau hyn i Gymru. Felly, bydd canfyddiadau'r ymchwil hwn yn helpu i nodi'r camau ymarferol nesaf ar gyfer datganoli gweinyddu lles. Rydym hefyd yn edrych yn fanwl ar y gwaith sy'n cael ei wneud yn yr Alban, lle mae gweinyddu lles wedi'i ddatganoli. Mae'r Aelod dynodedig a minnau wedi cyfarfod â Social Security Scotland a chydweithwyr yn Llywodraeth yr Alban i ddeall mwy am y profiad yno a sut y gellid cymhwyso unrhyw wersi yma. Fel y nodir yn Amcan 1 y strategaeth tlodi plant, mae gwella mynediad at fudd-daliadau Cymru yn un o'r camau cadarnhaol yr ydym yn eu cymryd i leihau costau a chynyddu incwm teuluoedd i'r eithaf. Ynghyd â'n cefnogaeth barhaus i'r gronfa gynghori sengl, yr ymgyrch hawlio budd-daliadau flaenllaw, 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi', a darparu hyfforddiant codi ymwybyddiaeth am ddim i weithwyr rheng flaen, rydym yn sicrhau bod teuluoedd ledled Cymru yn hawlio pob punt y mae ganddynt hawl iddi. Rydym yn haeddiannol falch o'r cymorth ariannol y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu, sy'n cynnwys prydau ysgol am ddim, y grant hanfodion ysgolion, y cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, a'r lwfans cynhaliaeth addysg. Mae'r taliadau hyn yn gwneud gwahaniaeth i fywydau cannoedd o filoedd o bobl yng Nghymru. Eleni yn unig, mae 260,912 o aelwydydd yn cael cymorth i dalu eu bil treth gyngor, gyda dros 210,000 o aelwydydd yn talu dim treth gyngor o gwbl. Bydd system budd-daliadau yng Nghymru pan fydd rhaid i berson adrodd ei stori unwaith yn unig i gael mynediad i'w holl hawliau yn cael effaith gadarnhaol ar gynyddu incwm y cartref a mynd i'r afael â thlodi, a diolchaf i'n partneriaid sydd bellach yn gweithio tuag at weithredu'r system hon. Mark Isherwood AC: Wrth eich holi chi yma dair wythnos yn ôl am siarter budd-daliadau Cymru, nodais, ers bron i ddegawd, fod darparwyr gwasanaethau ac ymchwilwyr ar draws y sector wedi bod yn galw am system fudd-daliadau gydlynol ac integredig i Gymru ar gyfer yr holl fudd-daliadau prawf modd y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt. Pan wnaethoch lansio siarter fudd-daliadau Llywodraeth Cymru y mis diwethaf, dywedoch chi wrthym ni ei bod yn bwriadu cynyddu'r nifer sy'n manteisio ar fudd-daliadau Cymru, gan alluogi mwy o bobl yng Nghymru i fanteisio ar eu hawl, ac i nodi a dileu'r rhwystrau sy'n atal pobl rhag hawlio eu hawliau. Fodd bynnag, cyhoeddodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ddatganiad i'r wasg wedyn yn nodi, ymhell o fod yn lansiad system fudd-daliadau i Gymru, fod awdurdodau lleol dim ond wedi cytuno i weithio gyda Llywodraeth Cymru i weithredu tuag at ddatblygu un. Felly, yn union fel y dywedodd Comisiynydd Plant Cymru yng nghyd-destun eich strategaeth tlodi plant, mae'r diffyg camau gweithredu manwl, amserlenni a thargedau cyflawnadwy unwaith eto yn golygu nad oes unrhyw ffordd o ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Oes gennych chi amserlen felly ar gyfer cyflwyno system fudd-daliadau i Gymru, ac, os felly, pa dargedau fydd ar waith i fesur cynnydd? Daeth y Llywydd i’r Gadair. Mark Isherwood AC: Yn eich ateb, dywedoch chi fod pob un o'r 22 awdurdod lleol wedi cytuno i gefnogi'r siarter. Ydyn nhw wedi cytuno ar ddyddiad erbyn pryd y byddan nhw'n gweithredu system fudd-daliadau i Gymru, ac, os felly, pryd? Hefyd, a ydyn nhw wedi cytuno i weithredu hon yn unffurf ledled Cymru er mwyn osgoi unrhyw loteri cod post? Ac yn hollbwysig, sut y byddwch chi'n monitro gweithredu ac ymarfer i sicrhau effeithiolrwydd, effeithlonrwydd a chanlyniadau targed? Dywedoch chi hefyd y bydd grŵp cyfeirio allanol annibynnol—grŵp llywio nawr—dan gadeiryddiaeth Fran Targett, a fydd yn rhoi'r siarter ar waith. Er eich bod yn datgan heddiw mai nod y grŵp llywio yw llunio cynllun gweithredu erbyn haf 2024, pa gylch gorchwyl, targedau ac amserlenni ydych chi wedi eu pennu ar gyfer y grŵp llywio allanol? Mae Sefydliad Bevan yn dweud ei fod yn awyddus i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei hymrwymiad i sefydlu system fudd-daliadau Cymru yn gyffredinol. Sut ydych chi'n ymateb felly i'w datganiad, er bod y trefniadau presennol yn seiliedig ar gydweithio a phartneriaeth, mae cyfranogiad felly yn wirfoddol gyda risg nad yw'r rhai cyrff yn cymryd rhan o gwbl, tra bod eraill yn gwneud eu pethau eu hunain? A sut ydych chi'n ymateb i'w galwadau ar Lywodraeth Cymru, gan gynnwys rhoi sylfaen gadarnach i gymryd rhan drwy ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol alinio eu gwaith o weinyddu'r cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor â chynlluniau datganoledig eraill y maent yn eu gweinyddu, i nodi map llwybr clir i ddod â grantiau a lwfansau prawf modd eraill i'r system y tu hwnt i'r syniad gwreiddiol o ddod â saith cynllun gwahanol i mewn i fframwaith cyffredin, ac ad-dalu awdurdodau lleol ac eraill o bosibl maes o law am gostau ychwanegol, gan ddechrau gyda chynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, lle disgwylir y bydd y cynnydd mwyaf yn nifer y bobl a fydd yn manteisio ar hwn? Pan ofynnais y cwestiynau hyn i chi dair wythnos yn ôl, roedd eich ateb yn canolbwyntio ar elfennau cyffredinol. Felly, byddwn i'n ddiolchgar pe gallech roi atebion penodol i'r cwestiynau penodol hyn, naill ai heddiw neu'n ysgrifenedig ar ôl i ni ddod i ben. Dywed siarter budd-daliadau Cymru y bydd Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn gweithio mewn partneriaeth â phartneriaid cyflenwi eraill i ddylunio system gynhwysol. Roeddwn yn aelod o ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau 2019 i fudd-daliadau yng Nghymru ac opsiynau i'w cyflawni'n well. Galwodd tystion, gan gynnwys Cartrefi Cymunedol Cymru, am integreiddio gwell rhwng canolfannau gwaith a gwasanaethau a ddarperir yn lleol. Fodd bynnag, mae siarter budd-daliadau Cymru dim ond yn cyfeirio at barhau i weithio gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo'r nifer sy'n manteisio ar fudd-daliadau heb eu datganoli yng Nghymru, heb unrhyw gyfeiriad at rôl gydweithredol ar gyfer swyddfeydd lleol y Ganolfan Byd Gwaith, sydd eisoes wedi'u sefydlu i weinyddu budd-daliadau lles heb eu datganoli a fyddant hefyd, drwy weithio gydag awdurdodau lleol, yn dod yn bwynt cyswllt unigol ar gyfer budd-daliadau datganoledig. Felly, pa drafodaethau penodol, os o gwbl, a gawsoch gydag Adran Waith a Phensiynau y DU ynghylch y rôl y gall swyddfeydd y Ganolfan Byd Gwaith ei chwarae mewn system fudd-daliadau integredig yng Nghymru, gan gydweithio ag awdurdodau lleol ledled Cymru? Pan ofynnais hyn i chi dair wythnos yn ôl, dim ond ateb cyffredinol a roddoch ynghylch sut rydych chi'n gweithio, lle gallwch chi, gyda'r Ganolfan Byd Gwaith i sicrhau bod pobl yn manteisio ar fudd-daliadau Llywodraeth Cymru a budd-daliadau Llywodraeth y DU fel credyd pensiwn. Sut fyddwch chi felly'n sicrhau y gweithredir ar alwad gan dystion i ymchwiliad pwyllgor 2019 i swyddfeydd y Ganolfan Byd Gwaith weithredu fel un pwynt mynediad, drwy ymgorffori gwasanaeth budd-daliadau Cymru yr awdurdod lleol? Ac yn olaf, o ystyried eich cyfeiriad at ddatganoli gweinyddu lles a'r gwaith sy'n cael ei wneud yn yr Alban, pa dystiolaeth sydd gennych chi fod hyn yn debygol o ddigwydd yng Nghymru—ac fe wnes i ei gefnogi yn yr adroddiad hwnnw—a pha ystyriaeth rydych chi wedi'i rhoi i gynnwys perthnasol yn ein hadroddiad pwyllgor yn 2019, gan gynnwys y costau annisgwyl a ysgwyddwyd, pan wnaethom ymweld â Chaeredin a chymryd tystiolaeth gan Lywodraeth yr Alban, gan Social Security Scotland, gan bwyllgor perthnasol Senedd yr Alban, a gan bartneriaid trydydd sector yr Alban a oedd wedi cyd-gynhyrchu'r system a gyflwynwyd yn yr Alban? Diolch yn fawr. Jane Hutt AC: Diolch yn fawr, Mark Isherwood. Rwy'n siŵr eich bod yn falch iawn o weld bod y gwaith yr oeddech yn rhan ohono, yn wir, gyda John Griffiths yn cadeirio'r pwyllgor hwnnw, wedi dwyn ffrwyth gyda lansiad siarter budd-daliadau Cymru. Yn amlwg, mae hyn yn ymwneud ag ymrwymo i sicrhau bod pobl yng Nghymru yn hawlio pob punt y mae ganddynt hawl iddi. A hefyd, rydym yn gwybod bod pobl yn dal ar eu colled o ran eu hawliau, gan gynnwys y cymorth ariannol yr ydym ni, Llywodraeth Cymru, yn gyfrifol amdano. Felly, dyna pam yr ydym yn creu system fudd-daliadau Cymru sy'n fwy cydgysylltiedig pryd y mae'n rhaid i berson adrodd ei stori unwaith yn unig i gael mynediad at ei hawliau. A gaf i ddweud bod hyn wedi'i gyd-gynhyrchu gyda rhanddeiliaid allweddol o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, awdurdodau lleol a sefydliadau'r trydydd sector? Roedd yn wych iawn pan gawsom y digwyddiad lansio hwnnw yn ôl ym mis Ionawr, pan aethom i ganolfan adnoddau Blaenafon ac roedd arweinydd cyngor Torfaen, y Cynghorydd Anthony Hunt, sydd mewn gwirionedd yn aelod cabinet arweiniol dros gyllid llywodraeth leol Cymru hefyd, yno i gefnogi'r lansiad yn llwyr, a hefyd i ddangos yr hyn y gall cyngor fel Torfaen ei wneud i sicrhau bod gennym y system fudd-daliadau Cymru gydgysylltiedig honno pryd y mae'n rhaid i berson adrodd eu stori unwaith yn unig er mwyn cael mynediad at ei hawliau. Rwy'n credu ei fod yn ddiddorol iawn, oherwydd roedd ganddo ei dîm hefyd, yr hyn a alwodd yn dîm refeniw a budd-daliadau yng nghyngor Torfaen, oherwydd mae wedi dweud wrthym ar sawl achlysur mai hwn yw'r tîm 'ref-budd' ym mhob awdurdod. Bydd cymdeithas y trysoryddion yn ymgysylltu â hyn hefyd—nhw yw'r rhai ar y rheng flaen, sydd mewn gwirionedd yn mynd i gyflawni hyn. Mae'n bwysig cydnabod bod hwn yn gam mawr ymlaen. Rydych chi wedi gweld siarter budd-daliadau Cymru, rydych chi wedi gweld y ffaith bod pob logo o bob awdurdod yng Nghymru wedi cytuno i gefnogi hon. Mae'n gyflawniad aruthrol, ond wrth gwrs mae'n ymwneud â chyflawni, mae'n ymwneud â gweithredu. Dyna pam yr oedd cyfarfod y cyngor partneriaeth, dan gadeiryddiaeth y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, mor bwysig, oherwydd eu bod i gyd yn cymeradwyo siarter budd-daliadau Cymru yn ffurfiol, dan arweiniad y Cynghorydd Anthony Hunt fel arweinydd cyllid llywodraeth leol yng Nghymru. Fe wnaethant gadarnhau eu hymrwymiad ar y cyd i wella mynediad at gymorth ariannol i bobl ledled Cymru. Roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn y lansiad ar 22 Ionawr, ac rwy'n edrych ymlaen, mewn gwirionedd, at ymweliad yfory, gyda'r Aelod dynodedig, â Chyngor Sir Caerfyrddin, i un o'u hybiau, ac aeth y Dirprwy Weinidog i Ynys Môn, ac ymweld â thîm yno. Rwy'n credu yn eich holl etholaethau rwy'n eich annog i fynd i weld sut y maent yn cyflawni siarter budd-daliadau Cymru, oherwydd maen nhw i gyd wedi cytuno i'w chefnogi. O ran y cwestiwn o weithredu'r siarter a sut y caiff ei mesur, mae wyth canlyniad yr wyf wedi'u rhestru yn y siarter, ac mae'n cynnwys ystod o effeithiau a fwriadwyd: yn bwysicaf oll, yn gyntaf oll, mwy o bobl yn manteisio ar fudd-daliadau Cymru, gan gynyddu incwm cartrefi i'r eithaf; yn ail, polisi ar sail gwybodaeth Cymru sydd wedi cynnwys partneriaid ac unigolion a rhanddeiliaid eraill yn y datblygiad; yn drydydd, ymwybyddiaeth o hawl budd-daliadau a'r cymorth sydd ar gael; ac yn bedwerydd, ymrwymiadau ynghylch uchafu incwm, budd-daliadau lles, cymunedau sy'n gydnerth yn ariannol, gwella canlyniadau i blant a phobl ifanc o aelwydydd incwm isel, gostyngiad yn yr angen am gymorth brys fel banciau bwyd, a mesur y nifer sy'n manteisio drwy nifer y bobl a gefnogir gan gynllun budd-daliadau Llywodraeth Cymru. Sefydlwyd y grŵp llywio allanol hwn i oruchwylio'r gwaith hwn ar symleiddio system fudd-daliadau Cymru ac maent yn datblygu eu mecanwaith adrodd ar gyfer mesur cynnydd o'i gymharu â'r canlyniadau hyn. Rwyf eisoes wedi dweud yn fy natganiad eu bod yn mynd i lunio cynllun gweithredu erbyn yr haf, ac maen nhw hefyd yn edrych ar sut y gallant fesur rhai o'r canlyniadau meddalach hynny ynghylch newid agwedd. Rwyf am droi at system fudd-daliadau Llywodraeth y DU yn fyr ac yn gyflym, un nad wyf yn credu ei bod yn system fudd-daliadau dosturiol, gydlynol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Y ffaith yw bod system fudd-daliadau Llywodraeth y DU er enghraifft yn parhau i drin pobl heb dosturi nac urddas, gan ddefnyddio mesurau cosbol fel sancsiynau budd-daliadau fel modd o orfodi pobl i mewn i swyddi anaddas. Cymorth personol ar gyfer swydd yw'r ffactor allweddol o ran cael gwared ar rwystrau rhag cyflogaeth, ond mae'r newidiadau i drefn amodoldeb credyd cynhwysol, a gyhoeddwyd y gwanwyn diwethaf, yn golygu y bydd yn rhaid i hawlwyr sy'n ofalwyr arweiniol plant 1 neu 2 oed chwilio am waith neu wynebu cosb, hyd yn oed pan fo un rhiant yn y teulu eisoes yn gweithio. Ond byddwch yn falch o glywed, Mark, fy mod wedi cwrdd â Gweinidog Llywodraeth y DU dros Bobl Anabl, Iechyd a Gwaith. Rydym wedi cael y cyfarfod grŵp rhyng-weinidogol dwyochrog cyntaf, mae gennym gylch gorchwyl, felly mae'n gam cadarnhaol tuag at well cyfathrebu a pherthnasoedd ar lefel weinidogol ar feysydd o ddiddordeb i'r ddwy ochr lle gallwn sicrhau y bydd y nifer mwyaf yn manteisio ar fudd-daliadau Llywodraeth y DU, yn ogystal â'n rhai ni. Sioned Williams AS: Diolch am y datganiad, Weinidog. Ers 2021, fel llefarydd Plaid Cymru ar gyfiawnder cymdeithasol, rwyf wedi cefnogi'r galwadau i greu system fudd-daliadau Gymreig lawer tro yn y Siambr, ac yn 2022 fe gefnogodd y Senedd fy nghynnig a oedd yn galw am osod dyletswydd ar bob sefydliad sector cyhoeddus i sicrhau bod mwy o arian yn cyrraedd pocedi pobl Cymru drwy gynyddu'r defnydd o daliadau cymorth Cymreig a thaliadau cymorth awdurdodau lleol, a hynny drwy symleiddio'r broses o'u derbyn a sicrhau'r cysondeb hollbwysig yna drwy Gymru. Mae Plaid Cymru felly'n falch o'r gwaith sy'n digwydd drwy'r cytundeb cydweithio i osod seiliau ar gyfer system fudd-daliadau Gymreig, sy'n cynnwys, wrth gwrs, y siarter newydd, fel y cam cyntaf.Ac mae'n gam cyntaf hirddisgwyledig, ond mae'n rhaid mynd ymhellach os ydym wir am sicrhau'r nod o sicrhau bod y system les yn ffit i bwrpas, yn cyflawni ei phwrpas, sef bod yn rhwyd ddiogelwch effeithiol ar gyfer y degau ar filoedd o aelwydydd sydd yn fwy na'n ei chael hi'n anodd cael deupen llinyn ynghyd. Mae'r cynnydd mewn dyled broblemus a'r cynnydd yn nefnydd cyson o fanciau bwyd yn dangos i ni nad oes gan bobl y modd i gynnal eu hunain bellach, ac mae angen camau bras ar frys os ydym am eu diogelu. Mae ymrwymiad holl awdurdodau lleol Cymru i egwyddorion y siarter i wella mynediad pobl dros Gymru i gefnogaeth ariannol i'w groesawu, wrth gwrs. Mae egwyddorion y siarter yn sail i greu modd mwy trugarog a dynol o daclo tlodi, ond mae natur anstatudol yr ymrwymiad yn gwanhau y tebygolrwydd y bydd yn cyflawni hynny i'r graddau eithaf posib. Rwyf wedi gofyn sawl tro ond heb gael ateb clir: ydy'r Llywodraeth yn ffyddiog bod yr adnoddau angenrheidiol wedi eu dyrannu i awdurdodau lleol er mwyn sicrhau nad yw'r cyfyngiadau ar eu cyllidebau, rŷn ni'n clywed cymaint o sôn amdanyn nhw—maen nhw'n argyfyngus—yn mynd i gael effaith ar eu gallu i gyflawni amcanion y siarter? Ac os ydym o ddifrif am greu system fudd-daliadau Gymreig effeithiol, mae'n rhaid inni edrych tua'r Alban er mwyn gweld beth sy'n cael ei gyflawni. Ac rwy'n falch o glywed eich bod chi wedi bod yn cynnal cyfarfodydd o ran hyn, achos does dim gwadu bod creu budd-daliadau sy'n ffit i bwrpas, sy'n cael effaith, fel taliad plant yr Alban, wedi bod yn drawsnewidiol o ran taclo tlodi plant, er enghraifft. Mae'n rhaid i'r gwaith ddechrau ar baratoi'r ffordd i ymgorffori mwy o grantiau a budd-daliadau prawf modd eraill, a'r gallu yma i greu taliadau, fel y taliadau plant, i mewn i system Gymreig newydd. Felly, a fydd Llywodraeth Cymru yn gosod llwybr ac amserlen glir ar gyfer gwneud y math yma o waith? Ac o ran y gwaith yma sy'n cael ei wneud i baratoi ar gyfer datganoli grymoedd dros weinyddiaeth y system les, pa wersi yn union sydd eu dysgu o'r hyn sy'n cael ei gyflawni yn yr Alban i daclo tlodi drwy'r system les? Pa waith sy'n cael ei wneud o ran gweld sut byddai rhywbeth fel taliad plant yn cael effaith ar lefelau tlodi plant yng Nghymru? Beth yw'r amserlen ar gyfer y gwaith yma? A phe bai yna newid Llywodraeth yn San Steffan, a fydd y Llywodraeth yn cyflwyno'r gwaith yma fel modd o wneud achos dros drosglwyddo'r pwerau dros les i Gymru? O edrych ar faniffestos yr ymgeiswyr ar gyfer arweinyddiaeth Llafur Cymru, mae'n amlwg mai dim ond un sydd wedi datgan ei fod o blaid datganoli pwerau dros weinyddiaeth les. Felly, ydych chi'n cytuno, Weinidog, y byddai'n gam gwag i rwyfo'n ôl ar ymrwymiad datganedig y Llywodraeth yn hyn o beth yn sgil newid Prif Weinidog Cymru? Mae Plaid Cymru yn erfyn ar y Llywodraeth i weithredu gyda mwy o frys a phenderfyniad i greu system fudd-daliadau Gymreig a fydd yn haeddiannol o gael ei alw yn system ddiogelwch gymdeithasol. Ar hyn o bryd, mae gormod o bobl yn byw ar ddibyn peryglus, a gormod eisoes yn cael eu hunain yng ngenau didrugaredd magl tlodi. Jane Hutt AC: Diolch yn fawr, Sioned Williams. Ac mae hwn yn gynnyrch pwysig iawn o'n cytundeb cydweithio. Ac mae'n dda ei fod wedi rhoi hwb ac wedi gwireddu argymhellion gan bwyllgor blaenorol a oedd yn bwyllgor trawsbleidiol yma yn y Senedd. Ond hefyd, ac yn hollbwysig o ran cyflawni, mae wedi ymgysylltu â phob un o'r 22 awdurdod lleol, a'r bobl sy'n gweithio iddyn nhw ar y rheng flaen, gyda'r gymeradwyaeth hon ar gyfer y siarter. Ac fel y dywedais i yn fy natganiad, mae'n rhan newydd allweddol o system fudd-daliadau Cymru. Yr hyn a ganfuom—Cyngor Partneriaeth Cymru, fel y dywedais i—oedd ymrwymiad ar y cyd i wella'r mynediad hanfodol hwnnw at gymorth ariannol. Maen nhw i gyd yn rhannu ein gweledigaeth ar gyfer system fudd-daliadau Cymru pryd y mae'n rhaid i berson ddweud ei stori unwaith yn unig i gael mynediad at ei hawliau, a dyna pam, ar hyn o bryd—. A chyfarfûm â Victoria Winckler yr wythnos diwethaf o Sefydliad Bevan dim ond i ddiolch iddi hefyd am y rôl maen nhw wedi'i chwarae—Sefydliad Bevan—oherwydd eu hadroddiad pwysig yn cyflwyno'r achos dros system fudd-daliadau Cymru. Mae profiadau pobl wedi cyfrannu hefyd. Ac rwy'n credu mai hwn yw'r cam cyntaf: cael cymeradwyaeth awdurdodau lleol, i gael grŵp cyfeirio clir, annibynnol, allanol gyda llinellau amser ar gyfer cynllun gweithredu dyma yw'r cyfeiriad y mae angen i ni ei ddilyn, yn hytrach na gorfodi awdurdodau lleol ar hyn o bryd. Rwy'n credu eu bod wedi cymryd mandad eu hunain trwy gymeradwyo'r siarter. Ond, yn amlwg, mae angen i ni weld y canlyniadau yn cael eu cyflawni. Nid wyf am ailadrodd yr wyth canlyniad a restrir yn y siarter sy'n cwmpasu ystod o effeithiau, ond mae'n ddiddorol nad oedd y grŵp cyfeirio allanol yn gwastraffu unrhyw amser yn cwrdd a hefyd, fel y dywedais i, maen nhw yn datblygu mecanweithiau adrodd. Ac os edrychwch chi ar aelodaeth y grŵp allanol, mae'n cynnwys llawer o staff rheng flaen o lywodraeth leol, Ymddiriedolaeth Trussell, Tîm Lleiafrifoedd Ethnig a Chymorth Ieuenctid Cymru, y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol, prif swyddog digidol llywodraeth leol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae'n cynnwys trysorlys Cymru, mae'n cynnwys Anabledd Cymru, Plant yng Nghymru, Cyngor ar Bopeth, Sefydliad Bevan, Cynghrair Henoed Cymru. Maen nhw i gyd yn dweud yr un pethau ag yr ydym ni'n eu dweud, onid ydyn nhw, ynglŷn â chyflawni a datblygu, trwy siarter system fudd-daliadau Cymru? A hefyd mae ganddyn nhw ffrydiau gwaith ar ddigidol a data, cymhwysedd—cam 1. Nawr mae hwn yn bwynt pwysig, oherwydd wrth drafod hyn gyda Sefydliad Bevan yr wythnos diwethaf, yn amlwg rydym eisiau gweld gwaith cam 1. Mae hynny'n ymwneud â'r tair prif fantais: prydau ysgol am ddim, grant hanfodion yr ysgol—ac, wrth gwrs, mae hyn yn cysylltu'n llwyr â'r ffyrdd rydyn ni'n ceisio mynd i'r afael ag anghydraddoldeb a thlodi trwy grant hanfodion yr ysgol—a'r cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor. Ond cam cyntaf yn unig yw hwn, ac rwyf eisiau gwneud hynny'n glir heddiw—dyma gam 1. Dyma sut rydym yn symud ymlaen ar y gwaith hwn, ac, wrth gwrs, themâu eraill—ffrydiau gwaith eraill ar ymchwil, cyfathrebu strategol, dysgu a datblygu ar gyfer awdurdodau lleol. Felly, dydw i ddim wedi cwrdd â Policy in Practice eto, ond dwi'n meddwl y byddan nhw—. Fel y gwyddoch, rydym wedi cwrdd â nhw ac yn wir gyda'r Aelod dynodedig, a gwn eu bod wedi bod yn ymgysylltu â'r grŵp trawsbleidiol ar dlodi hefyd. Felly, rwy'n credu y gallwn ni weld bod y camau'n cael eu cymryd i'r cyfeiriad cywir. Felly, rwyf hefyd eisiau dweud ei bod yn ddefnyddiol gweld nid yn unig y gwaith rwy'n ei ddatblygu gyda Llywodraeth y DU—ac fe wnes i fyfyrio ar hynny—ond i edrych ar y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Ac mae hyn wir yn ymwneud â rhai o'r pwyntiau rydych chi wedi'u gwneud am botensial ar gyfer taliadau plant, er enghraifft, yng Nghymru—bod comisiwn y cyfansoddiad yn cydnabod y bydd datganoli a mwy o bwerau ar gyfer budd-daliadau lles yn ymarferol dim ond gyda chynnydd sylweddol mewn pwerau treth a benthyca, er mwyn galluogi Llywodraeth Cymru i ymgymryd â'r risgiau a'r rhwymedigaethau cysylltiedig. Ac, yn amlwg, roeddwn i'n awyddus i weld beth fydden nhw'n ei ddweud cyn belled ag yr oedd hyn yn y cwestiwn, a chredaf ei bod yn bwysig myfyrio ar hynny a symud hynny ymlaen, o ran deall beth fyddai hynny'n ei olygu o ran y datganoli mwy sylweddol hwnnw yr ydym ni—. Ond nid oedden nhw eu hunain—roedden nhw'n myfyrio arno, yn hytrach na gwneud argymhellion clir. A gaf i wneud pwynt arall, ac mae'n ymateb i'r pwynt a wnaed yn gynharach, rwy'n credu, gan Mark Isherwood, am gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor? Rwy'n credu, hefyd, ein bod yn gwella mynediad—yn ogystal â thrwy'r budd-daliadau hyn, rydym yn gwella mynediad at gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor o ganlyniad i'r ymgynghoriad yr haf diwethaf ar roi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i sefydlu un cynllun cenedlaethol a weinyddir yn lleol gan awdurdodau lleol a galluogi newidiadau yn ystod y flwyddyn. Felly, rydyn ni'n gwneud newidiadau, rydyn ni'n symud ymlaen mewn gwahanol ffyrdd—yn hynny o beth, drwy'r Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru), fel y gallwn ni gael y cynllun cenedlaethol hwnnw a chael y newidiadau hynny yn ystod y flwyddyn, fel bod cyfleoedd mwy hyblyg i ymateb i ofynion sy'n dod i'r amlwg. Yn hanesyddol, nid yw llawer wedi manteisio ar y cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, ac mae nifer yr aelwydydd sy'n derbyn gostyngiad yn y dreth gyngor yn parhau i ostwng, felly rydym yn ymgynghori ymhellach, mewn gwirionedd, ar y newidiadau sydd eu hangen i gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor er mwyn gwneud y gostyngiadau hynny'n haws. Ond mae gennym y cyfle hwnnw, rwy'n credu, o ganlyniad i'r gwaith yr ydym wedi'i wneud gyda'n gilydd yn y cytundeb cydweithio, y grŵp cyfeirio allanol a chymeradwyaeth 22 o awdurdodau lleol, i yrru hyn ymlaen i gyflawni'r canlyniadau y gwn ein bod yn eu rhannu. John Griffiths AC: Diolch am eich gwaith ar hyn, Gweinidog. Mae'n braf iawn gweld y gwaith a wnaeth y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau gyda sefydliadau fel Sefydliad Bevan—mae gweld hwnnw'n dwyn ffrwyth ac yn symud ymlaen drwy Lywodraeth Cymru a'r cytundeb cydweithio yn galonogol iawn yn wir. Mae'n ymwneud â lleihau gwariant a sicrhau'r incwm mwyaf i deuluoedd ac unigolion yng Nghymru, Gweinidog, ac i'r graddau hynny, hoffwn gael eich barn ar werth meini prawf taliadau a chymhwysedd, oherwydd gwyddom fod cynlluniau, er enghraifft, yn ymwneud ag ysgolion wedi cael eu rhewi yn y termau hynny ers nifer o flynyddoedd, ac, yn amlwg, mae hynny wedi ei gwneud hi'n anoddach cynyddu incwm teuluoedd yn y ffordd angenrheidiol. O ran yr hyn a ddywedoch chi, Gweinidog, ynglŷn â, efallai, y caiff nifer o gynlluniau budd-daliadau eu cynnwys, ond gan ddechrau gydag ychydig ac yna, efallai, ehangu'r rhif hwnnw, a fyddech chi'n nodi map llwybr clir o ran y broses sy'n gysylltiedig â hynny, oherwydd, unwaith eto, rwy'n credu, bod hynny'n rhan bwysig iawn o'r cydgrynhoi a'r elfennau hawdd eu trin y mae angen i ni eu creu os ydym am weld y siarter yn cael ei gweithredu'n effeithiol ar lawr gwlad, Cyflawni'r budd-daliad yr hoffem ni i gyd ei weld? Jane Hutt AC: Diolch yn fawr, John Griffiths, ac a gaf i ddiolch i chi am yr arweinyddiaeth a ddangosoch chi fel Cadeirydd y pwyllgor a gyflawnodd y gwaith hwn yn y Senedd ddiwethaf, a'r ffordd y gwnaethoch roi'r dystiolaeth a gafodd ei chymeradwyo'n fawr wedyn gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru—yr ymchwil a wnaethom i edrych ymhellach ar y cyfleoedd a'r opsiynau ar gyfer datganoli gweinyddu lles i Gymru? Rwy'n credu eich bod wedi canolbwyntio ar y pwyntiau allweddol, o ran y gwaith y mae'r grŵp cyfeirio allanol yn ei wneud, gyda chefnogaeth y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol. Felly, mae cymhwysedd yn allweddol. Y graddoli—rwyf eisoes wedi sôn am y ffaith, ie, ei fod yn gam 1, ond bydd gennym gynllun yn yr haf i ddangos sut mae'r grŵp cyfeirio allanol yn teimlo y gallant ehangu hynny. Bydd ganddyn nhw ddiddordeb mawr yn yr ymateb heddiw i'm datganiad. Hefyd, dim ond i ddweud, gan edrych yn arbennig tu hwnt i brydau ysgol am ddim, y cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor a'r grant hanfodion ysgolion, mae'n bwysig bod pobl yn dal i fod—bod hyn, ynddo'i hun, yn gallu sicrhau ein bod ni'n cael yr arian allan sydd wedi bod ar gael. Felly, ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, mae £13.6 miliwn ar gael ar gyfer y grant hanfodion ysgolion, ac mae 87 y cant o'r dyraniad cyllid hwn eisoes wedi'i dalu i deuluoedd cymwys. Mae'n rhaid i ni gael yr arian allan mewn gwirionedd—gallwn ei ddyrannu yn ein cyllidebau—felly rwy'n credu bod ein hymgyrch 'Hawliwch help gyda chostau ysgol' yn hanfodol. Felly, mae'n rhaid i hyn i gyd gysylltu o ran y ffordd yr ydym yn hyrwyddo hyn, gan ein bod yn gwybod bod grant hanfodion yr ysgol yn hanfodol. Ond gadewch i ni hefyd ganolbwyntio ar y lwfans cynhaliaeth addysg. Rwy'n siŵr y byddant yn edrych ar hynny hefyd, gyda'r cynnydd, y cynnydd, i £40 yr wythnos fis Ebrill diwethaf, gan gydnabod y costau ar y myfyrwyr ifanc hynny, yn enwedig y rhai sy'n parhau mewn addysg ôl-16. Ac mae pob un ohonom sy'n adnabod ac yn cwrdd â myfyrwyr ifanc yn y sefyllfa honno yn gwybod pa mor bwysig yw'r LCA. Mae'n cael ei gyflawni mewn partneriaeth ag ysgolion a cholegau, ond rwy'n credu bod hynny'n enghraifft arall o'r ffordd y gallwn symud ymlaen. Yn olaf rwyf hefyd eisiau sôn am y talebau cychwyn iach. Nid wyf yn credu bod y Gweinidog yma gyda ni, ond 78 y cant yw'r nifer sy'n manteisio ar y cynllun cychwyn iach yng Nghymru ar hyn o bryd ac mae'n parhau i dyfu'n gyson, o'i gymharu â 74 y cant yn Lloegr a 61 y cant yng Ngogledd Iwerddon. Felly, os oes ewyllys i wneud hyn—. Ac mae yno, mewn gwirionedd, rwy'n credu bod hyfforddiant, y cwrs e-ddysgu gorfodol ar gyfer cychwyn iach i'r rhwydwaith cychwyn iach, gweithwyr iechyd proffesiynol, wedi gwneud gwahaniaeth. Felly, mae dysgu sut y gallwn gyflwyno hyn yn effeithiol yn hanfodol bwysig. Y Llywydd / The Llywydd: Rydym eisoes allan o amser ar gyfer y datganiad 30 munud hwn, felly pe baem yn cael cyfraniadau byr gan yr Aelodau a'r Gweinidog, byddai hynny'n fy helpu i alw ychydig mwy o Aelodau. Peredur Owen Griffiths. Peredur Owen Griffiths AS: Diolch, Llywydd. A diolch am y datganiad y prynhawn yma, Weinidog. Peredur Owen Griffiths AS: Fel rhan o'n cytundeb cydweithio â Llywodraeth Cymru, rydym wedi ymrwymo i sicrhau datganoli gweinyddiaeth y system les yng Nghymru. Yn ein barn ni, bydd yn sicrhau bod darparu cymorth lles wedi'i deilwra'n well i'n hanghenion cymdeithasol. Mae manteision datganoli yn y maes hwn hefyd yn amlwg o safbwynt ariannol. Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru, er enghraifft, wedi rhagweld y byddai Trysorlys Cymru wedi arbed tua £700 miliwn rhwng 2018 a 2024 pe bai gennym drefniant cyllidol ar les tebyg i'r un a drafodwyd rhwng Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y DU. Yn amlwg, gwnaed yr amcanestyniad hwn yn 2019, cyn effaith COVID a'r cyfnod o chwyddiant uchel yr ydym wedi bod yn ei brofi dros y flwyddyn ddiwethaf, felly mae'n ddigon posibl y bydd y ffigur yn uwch nawr. A yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw waith i ganfod yr amcangyfrif diweddaraf? Pe byddem yn edrych ar y £700 miliwn hwnnw, mae hynny oddeutu £116 miliwn y flwyddyn, a fyddai'n ddigon i ymestyn y ddarpariaeth o brydau ysgol am ddim i blant ysgol uwchradd sy'n derbyn credyd cynhwysol, talu am adfer y grant cymorth tai mewn termau real, gyda digon ar ôl i leddfu'r beichiau sy'n wynebu awdurdodau lleol yn sylweddol. Mae gennyf dri chwestiwn yn gyflym. A gaf i, felly, ofyn pa sgyrsiau y mae'r Llywodraeth wedi'u cael gyda Gweinidogion y DU ar y trywydd hwn, ac a ydych chi'n cytuno y dylen nhw ymrwymo'r adnoddau angenrheidiol i ganiatáu i ddatganoli ddigwydd? A ydych wedi ymgysylltu â'ch arweinyddiaeth Lafur yn y DU ar y mater hwn hefyd, ac, os felly, pa warantau ydych chi wedi gallu eu sicrhau i ddarparu hynny fel rhan o'r agenda ar gyfer y Llywodraeth? Ac yn olaf, a ydych chi'n credu y bydd y Llywodraeth Lafur sy'n dod i mewn yn San Steffan yn gallu cyflawni'r diwygiad hwn y mae mawr ei angen ar gyfer Cymru? Jane Hutt AC: Diolch yn fawr. Diolch am y pwyntiau allweddol yna. Mae angen i ni edrych ar hyn yn ehangach, y prif faterion yr ydych wedi'u codi, y fframwaith cyllidol ehangach, ond hefyd edrych ar yr hyn sy'n ymarferol. Nid wyf am ailadrodd eto yr hyn a ddywedais am ganfyddiadau pwyllgor y cyfansoddiad, ond datganoli mwy o bwerau ar gyfer budd-daliadau lles o ran bod angen y cynnydd hwnnw mewn pwerau treth a benthyca—. Felly, rydym yn eithaf pell i ffwrdd o'r sefyllfa honno, ond rydym yn cydnabod yn llwyr y pwyntiau a wnaed heddiw. Vikki Howells AC: Diolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad pwysig heddiw ar waith i ddarparu siarter a system fudd-daliadau Cymru. Hoffwn ddiolch i chi, eich swyddogion, llywodraeth leol a'r holl randdeiliaid perthnasol am ddod â ni i'r sefyllfa hon. Dim ond un cwestiwn sydd gennyf i, i fod yn fyr. Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod pob aelod o'n cymunedau yn gallu cael gafael ar unrhyw gymorth, gan gynnwys y rhai a allai wynebu heriau o ran iaith neu lythrennedd TGCh. Rwy'n gwerthfawrogi bod gan ein cynghorau a'n sefydliadau partner brofiad eisoes o fynd i'r afael â'r pryderon hyn, ond sut y bydd yr arbenigedd hwn yn cael ei ymgorffori mewn unrhyw systemau'r dyfodol fel nad ydynt yn dod yn rhwystrau anfesuradwy sy'n atal pobl rhag cael gafael ar gymorth? Jane Hutt AC: Diolch yn fawr iawn Vikki Howells. Rydych wedi codi pwynt allweddol, rwy'n credu ein bod wedi mynd i'r afael ag ef yn ein grŵp llywio allanol o gynrychiolwyr llywodraeth leol Cymru, awdurdodau lleol, ond hefyd Anabledd Cymru, Plant yng Nghymru, y Lleiafrifoedd Ethnig a Thîm Cymorth Ieuenctid Cymru, Ymddiriedolaeth Trussell, pawb sy'n gweithio yn y rheng flaen gyda phobl â phrofiad bywyd, i sicrhau ein bod yn cael hyn yn iawn o ran gweithredu. Rwy'n credu y bydd hynny'n cael ei adlewyrchu yn y gweithgorau sy'n cael eu sefydlu a hefyd yn y ffyrdd y gall yr aelodau hynny ryngweithio. Mae'n ymwneud â dysgu a datblygu ar gyfer awdurdodau lleol hefyd, ac maent yn cydnabod bod hyn yn golygu ein bod yn gweithio gyda'n gilydd i gydnabod amrywiaeth Cymru ac anghenion y rhai tlotaf. Dyma pryd y byddwn hefyd yn dweud bod ein dyletswydd economaidd-gymdeithasol yn hanfodol, ac rwyf mor falch ein bod wedi deddfu'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol honno, hyd yn oed ar adegau anoddaf y pandemig, oherwydd bod y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol mewn gwirionedd yn rhoi dyletswydd ar bob corff cyhoeddus, gan gynnwys ein holl awdurdodau lleol, i edrych drwy bersbectif anfantais economaidd-gymdeithasol. Mae hyn yn hanfodol er mwyn cael hyn yn iawn ar gyfer y siarter. Y Llywydd / The Llywydd: Yn olaf, Heledd Fychan. Heledd Fychan AS: Diolch, Llywydd, a diolch, Weinidog, am y datganiad pwysig yma. Wrth ymateb i ymgynghoriad y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru o safbwynt rheoleiddio dyletswyddau ieithyddol a materion polisi a gadwyd yn ôl, fe nododd Comisiynydd y Gymraeg fod nawdd cymdeithasol, cynnal plant, pensiynau ac iawndal hefyd yn faterion a gedwir yn ôl. Yn amlwg, rydym ni'n croesawu bod y siarter yn mynd i fod yn gweithredu yn unol â safonau'r Gymraeg ac yn sôn am fynediad at y system mewn Cymraeg clir a hygyrch, ond, yn amlwg, mi fydd yna rai budd-daliadau sydd o dan reolaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Felly, gaf i ofyn pa sicrwydd neu drafodaethau rydych chi wedi eu cael o ran sicrhau bod yr holl system yma yn gweithio yn y Gymraeg a'r Saesneg, oherwydd mi fydd hi'n anodd o ran bod pobl yn gwybod pa hawl sydd ganddyn nhw o ran defnyddio'r iaith? Mae bwysig bod hyn ar gael yn y ddwy iaith. Hefyd, jest o ran mynd â'r gwaith yma rhagddo, mi nododd y comisiynydd dyw hi ddim 'yn ymwybodol o ddata ac ymchwil sy’n edrych yn benodol ar amddifadedd a dibyniaeth ar fudd-daliadau mewn cymunedau lle ceir canrannau uchel o siaradwyr Cymraeg neu ymysg siaradwyr Cymraeg yn gyffredinol'. Ydych chi wedi cael unrhyw drafodaethau neu yn edrych o ran sut rydym ni'n edrych ar yr holl system yma a'r elfen o'r Gymraeg yn benodol? Diolch. Jane Hutt AC: Diolch yn fawr am eich cwestiwn pwysig iawn. Jane Hutt AC: Byddwn yn hapus iawn i gwrdd â Chomisiynydd y Gymraeg, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog hefyd yn cydnabod hyn yn y gwaith a'r cyswllt ymgysylltu â Chomisiynydd y Gymraeg. Mae'n hanfodol bwysig ein bod yn cael hyn yn iawn. Ni ddylech orfod ei ddweud, dylai ddigwydd, ond mae angen i ni sicrhau ei fod yn gwneud hynny, ac rwy'n hapus i fwrw ymlaen â hyn. Hefyd, rwy'n credu bod materion eraill o ran hygyrchedd. Os caf dim ond dweud bod yna ymrwymiadau a wnaed yn y siarter, nid ymrwymiadau ar y Gymraeg yn unig, ond hefyd y dylai'r cyfathrebu am fanteision Cymru fod ar gael mewn fformatau hygyrch, hawdd eu deall, Iaith Arwyddion Prydain ac ieithoedd cymunedol. Felly, fel y dywedais i, mae gan y grŵp cyfeirio allanol weithgor ar gyfathrebu strategol mewn gwirionedd, felly byddaf yn sicrhau bod y cyfan yn cael ei fwydo yn ôl i'r grŵp cyfeirio allanol. Y Llywydd / The Llywydd: Diolch yn fawr i'r Gweinidog. 7. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cynllun Gweithredu Technoleg Gymraeg Y Llywydd / The Llywydd: Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg sydd nesaf ar y cynllun gweithredu technoleg Gymraeg. A'r Gweinidog, felly, i wneud ei ddatganiad. Jeremy Miles AC: Diolch, Llywydd. Yn gynharach heddiw, fe wnes i gyhoeddi adroddiad terfynol ar ein cynllun gweithredu technoleg Cymraeg. Ac rwyf i yma heddiw i ddathlu’r cynnydd sydd wedi’i wneud. Mae’r adroddiad yn edrych nôl ar y pum mlynedd ers i ni gyhoeddi’r cynllun. Mae e hefyd yn marcio diwedd oes y cynllun. Mae mwy yn yr adroddiad nag y gallaf i siarad amdano fe mewn cwta sesiwn fel hon, wrth gwrs, ac mae’r adroddiad yn dod â phopeth ynghyd i chi gael gweld. Tair thema’r cynllun nôl yn 2018 oedd technoleg lleferydd iaith Gymraeg, cyfieithu â chymorth cyfrifiadur, a deallusrwydd artiffisial sgyrsiol. Rydyn ni wedi cymryd y dasg o ddifrif. Ers hynny, rŷn ni wedi ariannu, wedi creu ac wedi gweithio ar y pethau sydd eu hangen ar iaith yn yr oes ddigidol sydd ohoni. Er enghraifft, gyda’n grant ni, mae Trawsgrifiwr Prifysgol Bangor yn troi Cymraeg llafar yn destun ysgrifenedig. Mae hyn yn helpu defnyddwyr iaith Gymraeg sydd ag anghenion penodol. Mae hefyd yn gallu cynhyrchu is-deitlau yn awtomatig ar gyfer fideos a ffeiliau sain Cymraeg. Erbyn hyn mae gan bobl sy’n defnyddio lleisiau synthetig Cymraeg—am resymau meddygol neu hygyrchedd, er enghraifft—fwy o ddewis o leisiau, rhai benywaidd a gwrywaidd, mewn acenion gwahanol. Mae Cymru yn wlad ddwyieithog, felly hefyd y lleisiau hyn. Maen nhw’n adlewyrchu sut mae siaradwyr yn newid rhwng y Gymraeg a'r Saesneg mewn sgyrsiau bob dydd. Mae cyfieithu peirianyddol wedi elwa o'n gwefan BydTermCymru. Yma, rŷn ni’n rhannu cofau cyfieithu yn agored. Gyda chefnogaeth ein grant, mae Prifysgol Bangor wedi datblygu cyfieithu peirianyddol arbenigol, un yr un ar gyfer y maes iechyd a gofal, a deddfwriaeth. Mae’r brifysgol hefyd wedi gweithio gyda’r cwmni y tu ôl i ChatGPT, OpenAI, i wella sut mae eu sgwrsfot mwyaf pwerus, GPT-4, yn prosesu’r Gymraeg. Mae hon yn enghraifft o weithio mewn partneriaeth, ac mae partneriaeth yn ganolog i'n gwaith. Er enghraifft, fel rhan o'n partneriaeth â Microsoft, rŷn ni wedi cydweithio i greu cyfleuster cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd Microsoft Teams. Athroniaeth y cynllun oedd creu diwylliant o arloesi agored drwy sicrhau bod adnoddau digidol iaith Gymraeg a data ar gael i bawb, heb gyfyngiadau diangen ar eu defnydd. Mae hyn yn galluogi datblygwyr a siaradwyr Cymraeg i’w defnyddio a’u hailddefnyddio at eu dibenion nhw eu hunain, ac i greu cynnyrch a gwasanaethau newydd sydd o fudd i’n hiaith. Mae hefyd wedi sicrhau bod yr adnoddau rŷn ni wedi’u creu yn gynaliadwy at y dyfodol. Mae ein gweledigaeth ni yn rhoi ein hiaith ni wrth wraidd datblygiadau digidol. Mae’r gwaith rŷn ni wedi’i wneud yn cefnogi’r nod o ddyblu’r nifer ohonom ni sy’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd, ac, wrth gwrs, o gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Samuel Kurtz AS: Weinidog, diolch i chi am gyflwyno'r datganiad hwn, a rhoi gwybod am y sefyllfa sydd ohoni. Fel un o gefnogwyr brwd y Gymraeg, ac fel rhywun sydd yn llawn cyffro o ran technolegau newydd, rwy'n cydnabod pa mor bwysig yw hi i wneud yn siŵr bod technoleg yn chwarae rhan ar hyd taith Cymru i wireddu uchelgais 'Cymraeg 2050'. Gan symud ymlaen i'r adroddiad hwn, mae bron i saith mlynedd wedi mynd heibio ers lansio'r cynllun gweithredu gan eich rhagflaenydd, sef y Gweinidog iechyd erbyn hyn. Yn ôl yr adroddiad, er bod technoleg ym mhobman, prin yw’r cyfle i ddefnyddio'r Gymraeg a phan fo defnyddio'r Gymraeg yn opsiwn nid yw bob amser yn un clir. Rwy'n teimlo ein bod ni wedi gwneud cynnydd o bwys ers 2017, ac mae'r datganiad heddiw wedi ategu hynny. Dylai technoleg fod yno i helpu ein defnydd o'r Gymraeg, magu hyder yn y rheini sy'n dysgu neu'n adnewyddu eu sgiliau iaith, a chynnig profiad mwy esmwyth a chyfeillgar i ddefnyddwyr os ydyn nhw eisiau defnyddio technoleg yn y Gymraeg. Mae'r ffaith bod y cynllun gweithredu yn cydnabod bod technoleg yn faes blaenoriaeth o ran sicrhau lle i'r Gymraeg yn ein bywydau yn y dyfodol yn genhadaeth ag iddi nod canmoladwy, ac, yn sgil y datganiad heddiw, rwy'n teimlo bod cynnydd wedi'i wneud. Mae rôl technoleg wrth gefnogi’r defnydd o ail iaith yn golygu ymgysylltu. Roeddwn yn falch o weld sut mae SaySomethinginWelsh, sef datblygwyr apiau dysgu Cymraeg, wedi creu cwrs byr, rhad ac am ddim, i helpu pobl i ddysgu anthem genedlaethol Cymru mewn pryd ar gyfer gêm y chwe gwlad y penwythnos hwn. Maen nhw'n honni y bydd modd dysgu 'Hen Wlad fy Nhadau' mewn pedair gwers yn unig, gan ddefnyddio'r ap. Y math hwn o arloesi sy’n cofleidio pŵer technoleg, gyda'r awydd i lwyddo i ddatblygu sgiliau newydd a gwneud targedau 'Cymraeg 2050' yn bosibl. Roedd gan adroddiad 2017 dri maes a bennwyd, fel roeddech chi'n sôn, sef technoleg lleferydd Cymraeg, cyfieithu â chymorth cyfrifiadur a deallusrwydd artiffisial sgyrsiol, ac rwy’n gwybod bod datblygiadau mawr wedi'u gwneud ar draws y tri maes hyn. Gan ganolbwyntio ar rai o'r manylion penodol yn yr adroddiad, felly, o ran yr hyn fyddai'n cael ei datblygu yn ystod oes y cynllun gweithredu, mae diddordeb gyda fi mewn gwybod sut mae'r cyfleuster bancio llais ar gyfer lleisiau Cymraeg unigolion wedi cael ei ddatblygu, gan ei bod yn hanfodol y gall technoleg gydnabod yr ystod lawn o acenion a thafodieithoedd sydd yn rhan o'n hiaith. Sut ydych chi'n sicrhau bod pob agwedd ar ein hiaith yn cael ei chydnabod gan dechnoleg? Yn olaf, o ran cynnwys digidol Cymraeg, beth yw'r gefnogaeth sydd gennym ni ar hyn o bryd i wella gwirwyr sillafu, gramadeg a threigladau Cymraeg, gyda'r nod o sicrhau bod mwy o gyfleusterau o'r fath ar gael yn rhad ac am ddim? Ydych chi wedi cael unrhyw gyfarfodydd gyda Microsoft neu Google, er enghraifft, i drafod hyn, yn enwedig o ystyried twf cyflym AI? Weinidog, fel y dywedais i wrth agor, mae gwireddu targed 'Cymraeg 2050' yn rhywbeth yr wyf am ei weld. Bydd llwyddiant y cynllun gweithredu technoleg Cymraeg, sydd ar y gweill, yn gwneud hynny'n bosibl. Efallai mai dyma'r cyfle olaf i fi drafod materion y Gymraeg gyda chi yn eich rôl bresennol, felly, dyma fynegi fy niolch ichi am y gwaith rydych chi wedi ei wneud i hyrwyddo'r Gymraeg yn ystod eich cyfnod fel Gweinidog. Diolch, Llywydd. Jeremy Miles AC: Diolch o galon am hynny, a diolch am gwestiynau treiddgar a phwysig, os caf i ddweud. O ran yr hyn wnaeth Sam Kurtz gychwyn ei gyfraniad yn sôn amdano fe, mae wir yn bwysig, onid yw e, ein bod ni'n sicrhau, wrth ein bod ni'n gosod y nod i'n hunain o ddyblu'r defnydd o'r Gymraeg yn ddyddiol, ein bod ni'n sicrhau bod hynny'n rhywbeth sydd yn real yn ein bywydau ni ymhob ffordd, ac mae cyfraniad technoleg i'n bywyd bob dydd ni, wrth gwrs, yn realiti ers cyfnod ac mae'n gynyddol felly, felly mae’n amlwg bod e'n bwysig inni barhau i fod yn berthnasol ac i sicrhau ein bod ni'n esblygu ein strategaeth yng ngoleuni hynny. Felly, mae'r datganiad heddiw yn sôn am, os hoffwch chi, seilwaith, y blociau adeiladu sydd tu cefn i rai o'r cynigion cyhoeddus hynny, ond mae hefyd gwaith arall yn digwydd o ran dysgu'r Gymraeg drwy VR—virtual reality—rhaglen Aberwla ac ati. Felly, mae'n bwysig ein bod ni'n parhau i fod yn berthnasol. Gwnaeth yr Aelod sôn am bwysigrwydd y datganiad a'r strategaeth yn 2017, ac o safbwynt maes iechyd a gofal, pa mor bwysig y mae technoleg yn gallu bod yn y cyd-destun hwnnw, felly, rŷn ni wedi ariannu lleisiau synthetig dwyieithog sydd bellach yn cael eu defnyddio yn y sector iechyd gan therapyddion lleferydd, ac mae'r lleisiau ar waith ym mhrosiect Lleisiwr Prifysgol Bangor, sy'n helpu cleifion i ddefnyddio'u Cymraeg ar ôl triniaeth. Rŷn ni hefyd wedi ariannu 16 llais cyfathrebu estynedig ac amgen ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n dibynnu ar dechnoleg i gyfathrebu, er enghraifft, ac mae'r rhain yn cynnwys lleisiau, fel roedd e'n gofyn, sydd ag acenion gogleddol, deheuol ac ar gyfer bechgyn a merched ifanc ac yn eu harddegau. Felly, amrywiaeth o leisiau i gyfathrebu trwyddyn nhw. Mae'n bwysig— Y Llywydd / The Llywydd: Dwi wir yn sori am dorri ar eich traws chi. Sori, fy nghamgymeriad i, roeddwn i'n meddwl eich bod chi wedi gorffen. Jeremy Miles AC: Jest i ddweud, mae'r syniad o fancio, bancio iaith, yn bwysig. Mae hynny'n cyfrannu tuag at yr adnodd sydd ar gael i eraill allu datblygu'r hyn rŷn ni'n buddsoddi ynddo fe. Felly, mae datblygiad Mozilla Common Voice, er enghraifft, yn enghraifft o sut rŷn ni'n gallu defnyddio hyn i greu banc o leisiau amrywiol Cymraeg a data wedyn sy'n gallu cael ei ddefnyddio i hyfforddi systemau lleferydd i destun newydd yn y Gymraeg. Jest i ddweud, mae'r gwaith partneriaeth yn bwysig. Mae perthynas da iawn gennym ni gyda Microsoft ac eraill hefyd, cwmnïau eraill, sydd ddim eto wedi cael eu cyhoeddi, ond rwy'n gobeithio gallu gwneud hynny cyn hir, ac mae'r gwaith gydag OpenAI hefyd yn gyffrous iawn. Heledd Fychan AS: Diolch, Weinidog, am y datganiad. Fe wnes i fwynhau darllen yr adroddiad yn fawr iawn a dwi eisiau llongyfarch pawb sydd wedi bod ynghlwm efo'r gwaith arloesol a phwysig iawn yma. Mae o wir yn werth i bobl wybod y cyfoeth o bethau sy'n digwydd, a dwi'n meddwl mai un o'r heriau ydy sut fedrwn ni hybu'r ffaith bod cymaint o'r adnoddau yma ar gael, fel bod cymaint o bobl â phosib yn cael budd ohonyn nhw. Wedyn, un o'r cwestiynau sydd gen i ydy: pa waith fydd rŵan yn cael ei wneud i gynyddu'r defnydd o'r holl adnoddau yma i sicrhau bod pawb yn gwybod amdanyn nhw? Oherwydd, yn sicr, dwi wedi ffeindio pethau newydd allan wrth ddarllen yr adroddiad, a dwi'n meddwl ei fod o'n bwysig ofnadwy ein bod ni'n sicrhau bod y wybodaeth yna allan yna, oherwydd does yna ddim pwynt cael yr adnoddau yma os nad ydyn nhw ychwaith yn cael y bwriad sydd y tu cefn iddyn nhw, a bod pobl yn eu defnyddio nhw yn eu bywydau bob dydd. Dwi'n adlewyrchu hefyd mai adroddiad terfynol sydd gennym ni fan hyn. Yn amlwg, mae technoleg yn newid yn gyflym ac yn esblygu drwy'r adeg, felly beth ydy'r camau nesaf? Fydd yna gynllun newydd? Sut fydd y gwaith yma'n mynd rhagddo, oherwydd dechrau'r daith ydy o ar nifer o'r prosiectau hyn, yn amlwg, ac mi fyddan nhw'n esblygu? Dwi'n adlewyrchu hefyd ei bod hi'n saith mlynedd yn ôl bellach ers i Llyr Gruffydd siarad efo Siri yn y Siambr yma a methu â chael ateb wrth siarad yn Gymraeg, ac yn anffodus dwi'n meddwl pe baech chi'n trio siarad efo Siri yn Gymraeg yr un peth fyddai'n digwydd heddiw. Dydy o ddim yn fy neall i weithiau pan dwi'n trio siarad Saesneg efo fo, oherwydd fy acen i. [Chwerthin.] Ond mae yna waith mawr o ran sicrhau yr holl ystod yma o dechnoleg sydd yn rhan o'n bywydau ni bob dydd. Felly, a gaf i ofyn yn benodol o ran Siri, oes yna unrhyw sgyrsiau wedi bod yn benodol efo Apple, oherwydd dwi'n nodi yn yr adroddiad o ran Alexa a'r camau yna, ond yn amlwg mae Apple yn rhan fawr o fywyd bob dydd, a Siri, felly? Un o'r pethau eraill, wrth gwrs, o ran—. Mae Samuel Kurtz wedi codi nifer o bethau yna. Dwi'n croesawu yn fawr y bartneriaeth sydd wedi bod o ran Duolingo. Mae hwnna yn ap allweddol, a dwi yn credu, wrth inni fynd ati i adfywio a normaleiddio'r defnydd o'r iaith Gymraeg, mi fydd yn rhaid sicrhau bod yr holl ystod o apiau hefyd ar gael. Rydyn ni wedi sôn o'r blaen efo'r safonau, efo pethau fel y banciau ac ati, ond mae yna gymaint o rwystrau rŵan. Mae'n bywyd ni i gyd bron—bob ffurflen a bob llinell gymorth rŵan—drwy gyfrifiadur yn lle person, felly sut ydyn ni'n mynd i sicrhau, drwy'r safonau hefyd efallai, ein bod ni'n rhoi'r pwyslais yna ar dechnoleg drwy hynny ac yn sicrhau bod cwmnïau oedd yn flaenorol efallai yn frwd o ran y Gymraeg pan oedd person ar gael yn sicrhau ei fod e yr un mor hawdd drwy dechnoleg i allu defnyddio'r Gymraeg mewn ffordd dydd i ddydd, oherwydd mae'n dod yn gynyddol anoddach, yn fy marn i, i ddefnyddio'r Gymraeg? Lle mae gennym ni'r holl fuddsoddiad yma yn mynd i mewn a chymaint i'w ddathlu, fel roeddwn i'n dweud, pam felly ydyn ni'n ei chael hi'n anoddach weithiau i ddefnyddio ein Cymraeg? Felly, gaf i ofyn sut ydyn ni am weithio efo'r sefydliadau hynny sydd yn gynyddol yn trio ein cael ni i ddefnyddio technoleg, i sicrhau bod y gwaith yma'n mynd rhagddo, fel ein bod ni i gyd yn cyrraedd y nod o normaleiddio'r defnydd o'r Gymraeg, ond yn ei gwneud hi'n hawdd hefyd? Jeremy Miles AC: Digon teg. O ran y cwestiynau gan Heledd Fychan—. Adnoddau rŷn ni'n eu creu yn fan hyn, sydd yn ddefnyddiol o ran y gwaith mae datblygwyr technoleg, ar y cyfan, yn gallu ei wneud. Mae yna elfennau ohono fe sy'n wynebu'r cyhoedd, wrth gwrs, ond gyda llawer o'r adnoddau, seilwaith ieithyddol yw e. Rwyf jest eisiau cydnabod—. Rwyf wedi sôn am waith Prifysgol Bangor yn fy natganiad, ond mae Prifysgol De Cymru, Caerdydd, Aberystwyth a Chaerhirfryn hefyd wedi bod ynghlwm yn elfennau o'r gwaith yma, felly mae rhwydwaith sefydlog a brwdfrydig iawn o bobl yn gweithio ar hyn o'r ochr academaidd. Ond hefyd rwyf eisiau cydnabod y gwaith mae ystod eang iawn o wirfoddolwyr yn ei wneud, fel mewn pob maes datblygu technoleg, ac mae'r gwaith hwnnw yn rhan hollol naturiol o'r tirwedd datblygu yma hefyd, felly rwyf eisiau cydnabod y rôl sydd ganddyn nhw yn lledaenu'r neges hefyd. Un o'r pethau rŷn ni wedi bod yn glir arno o ran egwyddor yn hyn o beth, er mwyn ein bod ni'n gallu hyrwyddo mewn ffordd sydd yn annog datblygiadau eraill arloesol, yw ein bod ni'n trwyddedu am ddim, felly mae'r buddsoddiad rŷn ni'n ei wneud yn creu deunydd rŷn ni wedyn yn trwyddedu am ddim i'r byd, fel bod hynny'n gallu creu arloesi, ac mae hynny'n rhywbeth rwy'n falch iawn ohono fe. Mae'n fuddsoddiad pwysig ond, ar ddiwedd y dydd, darparu hyn yn agored yw'r ffordd orau i sicrhau cynnydd yn y maes. O ran cynllun newydd, dwi ddim wedi penderfynu eto ai cynllun newydd yw'r penderfyniad iawn. Ar ddiwedd y dydd, fy man cychwyn i yw bod angen i'r gweithgaredd barhau, yn sicr, ac efallai mai blaenoriaethu hynny yn hytrach na llunio cynllun arall yw'r peth gorau, gan fod yr egwyddorion yn glir ddigon yn y cynllun cyntaf a'r perthnasau a'r rhwydwaith o berthnasau wedi'u sefydlu erbyn hyn. Felly, rwy'n creu mai adeiladu ar hynny yw'r peth mwyaf cynhyrchiol, ond rwy'n cadw hynny o dan drosolwg, ac mae adnoddau wedi eu clustnodi ar gyfer caniatáu gwneud hynny yn y dyfodol, felly dyw'r gwaith, yn sicr, ddim yn dod i ben. Mi wnaeth Heledd Fychan ofyn am Siri. Dŷn ni ddim eto mewn man i allu gwneud hynny. Er mwyn datblygu’r math yna o dechnoleg, mae angen ystod sylweddol iawn o ddata ieithyddol. Mae datblygwyr yn y maes yn disgwyl degau, os nad cannoedd o filoedd o oriau o ddata cyn eu bod nhw'n gallu creu y math yna o dechnoleg, ac ar hyn o bryd mae gennym ni tua 200 awr o ddata perthnasol yn y Gymraeg. Mae hynny'n gwbl arferol i iaith sydd yn llai ei defnydd yn rhyngwladol, felly dyw hynny ddim yn beth annisgwyl, ond mae e’n her. Dyna pam rŷn ni wedi blaenoriaethu’r bancio ieithyddol—ein bod ni'n cynyddu hynny—a bydd hynny, yn y pen draw, yn caniatáu i hynny ddigwydd. O ran Duolingo, mae hynny yn bwysig. Wrth gwrs, dyw profiad pobl o ddefnyddio Duolingo, ar y cyfan, ddim wedi newid. Ar gyfer bron pob defnyddiwr, mae'r profiad yn union yr un peth, ac maen nhw wedi cytuno i gael trafodaeth gyda ni, yn barhaus. Petasem ni'n penderfynu bod angen datblygu pellach, wel, mae gennym ni ddeialog i ni allu trafod hynny gyda nhw, felly mae hynny'n adeiladol iawn. O ran yr apiau, rwyf jest eisiau dweud, o ran y defnydd o dechnoleg bob dydd, os hoffwch chi, mae sgwrsfot gan Brifysgol Bangor o'r enw Macsen sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Felly, mae cyfle i allu datblygu ymhellach o'r math yna o ddatblygiad. Mi wnaethon ni hefyd rhagosod rhyngwyneb Office365 i'r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, ac mae hynny wedi golygu, dros nos, fod y defnydd hwnnw nawr yn beth hollol naturiol, bod dim angen gwneud y dewis penodol hwnnw. Ac mae'r math yna o beth, dwi'n credu, yn dangos sut gallwn ni wneud cynnydd. Ar ddiwedd y dydd, mae pobl yn cynefino’n gyflym iawn â hynny, os ŷch chi’n gwneud y penderfyniad i'w wneud e. Felly, mae cyfle i ni wneud hynny mewn ffyrdd eraill hefyd. Alun Davies AC: Diolch yn fawr, Gweinidog. Dwi'n falch iawn o weld yr adroddiad yma. Dwi'n falch iawn eich bod chi wedi ei gyhoeddi fe, ac yn falch eich bod chi wedi gwneud y datganiad dŷch wedi ei wneud y prynhawn yma. Dwi'n ei groesawu fe yn fawr iawn. Fel Heledd, dwi'n awyddus iawn i ddeall pryd fyddaf i'n gallu siarad ag Alexa a Siri yn y Gymraeg, ac mi licien i wybod os—. Dŷch chi wedi ateb y cwestiwn blaenorol, ond licien i wybod os oes amserlen gennych chi ar gyfer y gwaith datblygu ychwanegol sydd ei angen arnoch chi er mwyn cwblhau'r broses. Ond hefyd, dwi'n awyddus i ddeall sut bydd AI yn newid y ffordd dŷch chi'n datblygu polisi y Gymraeg, achos mae'n hynod o bwysig ein bod ni'n edrych ar ddatblygiadau yn y dyfodol ar gyfer y Gymraeg a sicrhau bod y Gymraeg yn rhan ohonyn nhw, a hefyd bod y Gymraeg yn rhan o ddatblygiadau y cwmnïau byd-eang yma dŷn ni wedi bod yn eu trafod, ond hefyd mae’r ffordd dŷn ni'n gwneud hyn yn eithaf pwysig i fi. Dwi'n awyddus iawn ein bod ni'n canolbwyntio ar open-source technology yn lle technolegau sy'n gaeedig, a licien i ddeall beth ydy agwedd y Llywodraeth at hynny. Ac wedyn, sut mae'r Llywodraeth yn cydweithio â chwmnïau a busnesau mawr i sicrhau bod mwy o apps ar gael yn Gymraeg? Dwi'n defnyddio iPhone, er enghraifft, ac mae'r operating system hynny bron i gyd yn y Gymraeg, so dwi'n defnyddio’r Gymraeg bod dydd drwy hynny. Ond pan dwi'n mynd i mewn i'r apps ar y ffôn, wrth gwrs, dwi'n troi at y Saesneg, felly licien i sicrhau ein bod ni'n gallu cael awyrgylch neu landscape digidol yn y Gymraeg lle rŷn ni'n gallu defnyddio’r Gymraeg drwy’r amser. Jeremy Miles AC: Diolch am y cwestiynnau hynny. Wel, o ran y gwaith gydag Alexa, gyda Siri, gydag Android ac ati, yr her nesaf, ac rŷn ni'n gweithio arno hi'n barod, yw creu’r gronfa o gannoedd o filoedd o oriau o ddata. Dyna sydd angen ei wneud nawr, ac mae gennym ni siwrnai eithaf hir cyn ein bod ni wedi cyrraedd y nod hwnnw, jest oherwydd maint y Gymraeg o gymharu â'r ieithoedd rhyngwladol mwyaf eu defnydd. Ond mae'r gwaith yn parhau’n barod i gasglu mwy o ddata, ac mae'r gwaith yna yn bwydo i mewn i adnoddau rŷn ni'n eu hariannu, fel Macsen roeddwn i'n sôn amdano fe jest nawr, sef sgwrsfot Prifysgol Bangor, ond hefyd i adnoddau allanol. Roedd Alun Davies yn gofyn sut ŷn ni'n cydweithio â'r cwmnïau yma. Mae adnoddau allanol, fel cronfa ddata Amazon MASSIVE, sydd yn gronfa ddata gyfochrog o hyd at tua miliwn o ymadroddion, y tu cefn i beth sydd yn bwydo, os hoffwch chi, system Alexa, felly mae gyda ni'r berthynas honno yn barod. Dwi'n cytuno'n llwyr gydag e bod cyfle mawr fan hyn o safbwynt deallusrwydd artiffisial, AI. Dyna ran o'r rheswm rŷn ni'n ariannu Prifysgol Bangor i adeiladu ar Macsen a gweithio gyda OpenAI nawr i weld sut mae'r sgwrsfot sydd gyda nhw, sef GPT-4, yn gallu prosesu'r Gymraeg. Mae hynny wedyn yn gam mawr ymlaen, dwi'n credu, o ran darpariaeth, ac yn bwysig o ran darpariaeth yng nghyd-destun apiau. Mae fy ffôn symudol i wedi'i osod i'r Gymraeg, ond, fel yn ei brofiad e, pan fyddaf i'n edrych ar ap, dyw hynny ddim yn y Gymraeg, ond rwy'n rhagweld, wrth inni allu tyfu'r cyfle yma o ddefnyddio'r Gymraeg drwy ChatGPT ac ati, fod hynny'n dod yn haws i'w wneud. A jest i ddweud, yn olaf, rwy'n cytuno'n llwyr gydag e mai'r defnydd agored o drwyddedu yw'r ffordd rŷn ni'n mynd i wneud cynnydd yn fan hyn. Dyna sy'n ddisgwyliedig, dwi'n credu, yn y maes, a hynny sydd yn mynd i sicrhau ein bod ni'n gallu parhau i arloesi. Y Llywydd / The Llywydd: Diolch i'r Gweinidog. 8. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Wythnos CaruUndebau Y Llywydd / The Llywydd: Y datganiad o dan eitem 8 sydd nesaf, sef y datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ar Wythnos CaruUndebau. Y Dirprwy Weinidog i wneud y datganiad—Hannah Blythyn. Hannah Blythyn AC: Diolch. Wythnos diwethaf, fe ddathlodd undebau llafur ar draws Cymru a'r Deyrnas Unedig Wythnos CaruUndebau, digwyddiad blynyddol sy'n dangos y gwaith hanfodol mae'r undebau llafur yn ei wneud. Hannah Blythyn AC: Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r mudiad undebau llafur yn seiliedig ar ein cred gadarn bod undebau llafur yn sylfaenol i waith teg. Mae'r mudiad undebau llafur wedi siapio pwy ydw i, ac rwy'n falch o fod yn rhan o Lywodraeth sy'n gwerthfawrogi'r cyfraniadau y mae'r mudiad llafur wedi eu gwneud ac yn parhau i'w gwneud i'n bywydau ni i gyd. Rydym ni'n credu mai bod mewn undeb llafur yw'r ffordd orau o ddiogelu hawliau yn y gwaith, gwella cyflogau, telerau ac amodau, a sicrhau bod llais gweithwyr yn cael ei glywed. Rydym ni'n falch o hyrwyddo swyddogaeth undebau llafur a'r gwaith pwysig y maen nhw'n ei wneud i wneud gwaith a gweithleoedd yn decach, yn fwy diogel ac yn fwy sicr. Bob dydd, mae undebau ledled Cymru yn chwarae rhan hanfodol yn cefnogi gweithwyr, pa un a yw'n hyrwyddo cydraddoldeb, yn cynnig cyfleoedd hyfforddi, yn hybu iechyd a diogelwch yn y gweithle, neu'n brwydro dros bontio teg. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gwaith hwn mewn amrywiaeth o ffyrdd, a hoffwn fanteisio ar y cyfle i dynnu sylw at rai o'r rhain heddiw. Yn gyntaf oll, mae cronfa ddysgu undebau Cymru, neu WULF fel yr ydym ni yn ei hadnabod hi, yn rhaglen hirsefydlog sy'n cefnogi addysg oedolion dan arweiniad undebau llafur yn y gweithle. Mae WULF yn ymrwymiad rhaglen lywodraethu â chysylltiadau cryf â'n cynllun cyflogadwyedd a sgiliau a'n huchelgeisiau ar gyfer gwaith teg. Rydym ni wedi cefnogi'r rhaglen flaenllaw hon ers dros 20 mlynedd. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig, mae hyn wedi cynorthwyo tua 12,000 o weithwyr o bob rhan o Gymru ar eu taith ddysgu. Mae'n enghraifft wych o sut y gall y Llywodraeth, undebau llafur a chyflogwyr gydweithio i uwchsgilio'r gweithlu. Rwyf hefyd yn arbennig o falch o'n prosiect Undebau a'r Byd Gwaith mewn ysgolion uwchradd ledled Cymru. Datblygwyd hwn mewn partneriaeth gymdeithasol â Llywodraeth Cymru, TUC Cymru, undebau llafur ac athrawon. Mae'r prosiect yn cynorthwyo wrth ddarpar profiad cysylltiedig â gwaith a gyrfaoedd, thema drawsbynciol o'r Cwricwlwm i Gymru. Trwy wneud amrywiaeth o adnoddau ar gael ar Hwb—ein porth addysg ar-lein—rydym ni ar y cyd yn cynorthwyo'r genhedlaeth nesaf o weithwyr, cyflogwyr a darpar entrepreneuriaid i fod â gwell dealltwriaeth o hawliau cyflogaeth, swyddogaeth undebau llafur ac effaith llais cyfunol wrth fynd i'r afael â materion yn y gweithle a thu hwnt. Rydym ni'n parhau i fod yn ymrwymedig i'r rhaglenni hyn gan eu bod nhw'n hanfodol i'n gweledigaeth gyffredin ar gyfer tegwch a datblygiad yn y gwaith. Mae pawb yn haeddu gwybod sut i arfer eu hawliau a sut i ddefnyddio eu llais ym myd gwaith. Wrth i waith barhau i esblygu, mae'n rhaid i ninnau hefyd, gan sicrhau bod gennym ni bontio teg wrth i ni ymdrechu i gyflawni ein dyheadau sero net a gwneud defnydd cyfrifol o ddeallusrwydd artiffisial yn y gweithle. Mae'n rhaid i lais y gweithiwr gael ei glywed a'i gynrychioli drwy gydol yr esblygiad hwnnw. Dyna pam, fel Llywodraeth, yr ydym ni wedi ymrwymo i godi ymwybyddiaeth o swyddogaeth undebau llafur. Dyna pam nad ydym ni'n gwingo rhag hyrwyddo manteision ymuno ag undeb llafur, a dyna pam rydym ni'n annog cyflogwyr i ddarparu mynediad at undebau llafur, fel bod gan weithwyr y cyfle a'r dewis i gael eu cynrychioli ar y cyd. Rydym ni'n eglur mai undebau llafur yw llais dilys gweithwyr yn y gweithle, boed hynny yn y sector cyhoeddus, preifat neu wirfoddol, ac mai bod yn rhan o undeb llafur yw'r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau bod anghenion gweithwyr yn cael eu clywed. Dyma sylfaen ein model partneriaeth gymdeithasol. Mae ein dull yng Nghymru yn gwbl groes i'r gweithredoedd a'r rhethreg gwrth-undebau llafur yr ydym ni wedi eu gweld gan Lywodraeth y DU o dan bum Prif Weinidog ers 2010. Tra eu bod nhw wedi deddfu i gyfyngu hawliau gweithwyr ac undebau llafur, rydym ni wedi pasio deddfwriaeth i wneud partneriaeth gymdeithasol yn gyfraith. Pasiwyd ein Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 yn gyfraith ym mis Mai 2023, gan roi sylfaen statudol i bartneriaeth gymdeithasol. Bydd ei dyletswyddau yn dechrau ar 1 Ebrill eleni, ond mae gennym ni dystiolaeth uniongyrchol eisoes o'r effaith gadarnhaol y gall gweithio effeithiol mewn partneriaeth gymdeithasol ei chael ar weithwyr unigol a sectorau ehangach yn yr un modd. Mae cyflogwyr, undebau llafur a'r Llywodraeth wedi cydweithio'n llwyddiannus drwy'r fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol i gyflwyno'r cyflog byw gwirioneddol yn y sector ac i sicrhau bod gan ein gweithlu a'n cynorthwywyr personol gofal cymdeithasol cofrestredig yr urddas o ennill cyflog byw. Yn y sector manwerthu, mae gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol wedi gweld sefydlu fforwm manwerthu, cyflwyno cynllun gweithredu manwerthu ac ymrwymiad gan y Llywodraeth, undebau llafur a chyflogwyr i gydweithio i fynd i'r afael â materion allweddol sy'n wynebu'r sector. Mae cyngor partneriaeth y gweithlu, partneriaeth o'r undebau llafur, cyflogwyr y sector cyhoeddus a Llywodraeth Cymru, yn parhau i ddatblygu cynllun gwaith sy'n cynnwys ystyried materion allweddol fel cydraddoldeb yn y gweithle a defnyddio deallusrwydd artiffisial yn y sector cyhoeddus. Yn fwy diweddar, rydym ni wedi sefydlu fforwm hawliau a chyfrifoldebau'r gweithlu, lle bydd ein model llwyddiannus o weithio mewn partneriaeth gymdeithasol yn sail i'w nodau o wella dealltwriaeth gyfunol o hawliau a chyfrifoldebau yn y gweithle. Mae undebau llafur wedi chwarae rhan hanfodol ym mhob un o'r grwpiau hyn a byddant yn parhau i wneud hynny, yn enwedig fel aelodau o'r cyngor partneriaeth gymdeithasol, a gyfarfu am y tro cyntaf ar 1 Chwefror. Mae cyfarfod cyntaf hwn y cyngor yn gam mawr ymlaen yn ein hymrwymiad i'r ffordd Gymreig hon o weithio a'i gwneud yn rhan o'n DNA datganoledig. Bwriad yr ymyriadau a'r rhaglenni yr wyf i wedi tynnu sylw atyn nhw heddiw yw sicrhau gwelliant i fynediad at undebau llafur a'u presenoldeb a'u cwmpas yng Nghymru, y mae pob un ohonyn nhw'n cyfrannu at ein dangosydd cenedlaethol sy'n mesur cyfran y gweithwyr y mae eu cyflog yn cael ei bennu gan fargeinio ar y cyd. Rwy'n falch o fod yn undebwr llafur ac rwy'n falch o hyrwyddo mynediad at undebau llafur ac aelodaeth ohonyn nhw. Ac rwy'n falch o'r hyn yr ydym ni wedi ei wneud, ac y gallwn ni ei wneud, drwy ein dull partneriaeth gymdeithasol blaengar. Diolch. Joel James AS: Diolch, Dirprwy Lywydd, am eich datganiad heddiw. Efallai y bydd hyn yn eich synnu, ond rwy'n credu y gall undebau llafur fod yn rym cadarnhaol dros amddiffyn hawliau gweithwyr a hyd yn oed i helpu llywodraethau i ddeall rhai o oblygiadau mwy manwl-benodol eu polisïau. Fe wnaethoch chi sôn yn eich datganiad am wella mynediad at undebau llafur. Fodd bynnag, rwy'n credu eich bod chi wedi methu â gweld y broblem o'r safbwynt bod mwyafrif y bobl yn y wlad hon o'r farn nad yw undebau llafur yn ymladd yn bennaf dros hawliau gweithwyr a sicrhau gwell amodau gwaith, ond yn hytrach yn ceisio'n bennaf cael dylanwad gwleidyddol gormodol ar brosesau democrataidd y wlad hon, fel yr ydym ni wedi ei weld mor amlwg gydag Unite yn newid ei reolau yn amheus yn y fath fodd fel mai dim ond yr ymgeisydd yr oedden nhw'n ei ffafrio, yr Aelod dros Dde Caerdydd a Phenarth, fyddai'n ymddangos ar y papur pleidleisio. Er mai dim ond 11 o undebau llafur sy'n cefnogi'r Blaid Lafur yn agored fel hyn, mae'n rhaid i ni fod yn ystyriol o'r ffath ei fod yn sicr yn suro tybiaeth y cyhoedd yn erbyn pob undeb llafur, a dangosir hyn yn eglur gan y gostyngiad i nifer y bobl sy'n ymuno ag un, a wnaeth ostwng yn 2022 i'r lefel isaf erioed. Y ffaith syml, Dirprwy Weinidog, yw nad oes gan undebau llafur, fel prif roddwyr ariannol y Blaid Lafur, gywilydd mewn bygwth yn gyhoeddus cadw cyllid yn ôl os nad yw eu gofynion yn cael eu bodloni ac, o'r herwydd, eu swyddogaeth eu hunain fel pypedfeistri i'r Blaid Lafur, lle gallan nhw reoli breichiau'r llywodraeth o'u plaid yn anuniongyrchol—yn aml, dylwn ychwanegu, yn erbyn lles y wlad. Er y gall Aelodau Llafur yma wfftio'r ffaith hon—ac rwy'n gallu eu clywed nhw, Llywydd—y gwir amdani yw nad yw llawer o bobl a fyddai'n debygol o elwa o fod yn aelod o undeb llafur eisiau bod yn gefnogwyr sefydliadau o'r fath ac felly ddim yn ymuno. Mae erfyn digywilydd Llywodraeth Cymru yn y Siambr hon, Dirprwy Weinidog, i bobl ymuno ag undeb llafur yn ofer, oherwydd y gwir amdani yw nad yw llawer o bobl eisiau bod mor uniongyrchol gysylltiedig â phlaid wleidyddol, na chefnogi ideoleg wleidyddol asgell chwith eithafol undeb llafur. Yn wir, mae rhai llyfrau rheolau undebau, fel rhai Unite ac Unsain, dim ond dwy enghraifft, yn datgan yn eglur na fydd yr undeb yn cefnogi—[Torri ar draws.]—yn datgan yn eglur na fydd yr undeb yn cefnogi unrhyw blaid wleidyddol ac eithrio'r Blaid Lafur, sy'n dangos yn eglur pa mor ragrithiol yw'r undebau hyn. Maen nhw'n honni eu bod nhw eisiau cynwysoldeb ac, fel y nodwyd gennych chi yn eich datganiad heddiw, eisiau sicrhau bod llais pob gweithiwr yn cael ei glywed, ac eto, heb iot o gywilydd, mae rhai undebau yn diystyru unrhyw aelod sy'n meiddio bod â barn wleidyddol wahanol iddyn nhw neu i faniffesto'r Blaid Lafur. Siawns, Dirprwy Weinidog, y dylai aelodau undebau llafur gael eu hannog i ymgysylltu'n llawn â gwahanol bleidiau gwleidyddol ar bob lefel. Ac a ydych chi'n cytuno â mi, Dirprwy Weinidog—[Torri ar draws.]—y byddai hyn o fudd i'r achos cyfunol o helpu i wella'r ddealltwriaeth o'r heriau y mae gweithwyr yn eu hwynebu ar draws yr holl sbectrwm gwleidyddol, yn fwy na dim ond cael un naratif gwleidyddol? Gyda hyn i gyd mewn golwg, Dirprwy Weinidog, a ydych chi'n credu ei bod hi'n iawn y dylai fod gan unrhyw undeb llafur duedd wleidyddol mor agored ei fod yn eithrio pobl nad ydyn nhw'n cefnogi eu hagenda asgell chwith, a'i fod yn niweidio enw da pob undeb llafur, er nad yw llawer wedi'u hymlynu â'r Blaid Lafur? O safbwynt personol, mae gan lawer o undebau llafur ddealltwriaeth dda o anghenion gweithwyr yn eu diwydiannau, ac mae'n iawn bod gan weithwyr lwyfan i ddwyn cyflogwyr i gyfrif yn gyfunol am amodau gwaith a chyflogau gwael. Yn wir, rwy'n eithriadol o falch o record y Blaid Geidwadol yn y maes hwn. Mae gennym ni draddodiad hir o gefnogi hawliau gweithwyr a gweithio gydag undebau llafur i helpu gweithlu'r Deyrnas Unedig. Nid yn unig y mae ein diwygiadau wedi democrateiddio undebau llafur drwy sicrhau bod pob aelod yn cael pleidlais, rydym ni wedi cyfreithloni undebau llafur yn y gyfraith ac rydym ni wedi gwahardd gweithredu undebau caeedig. Rydym ni hyd yn oed wedi cyflwyno diwygiadau llafur arloesol, fel sicrhau bod gweithwyr a chyflogwyr yn gyfartal gerbron y gyfraith mewn contractau llafur, bod gweithwyr yn cael contractau cyflogaeth a gwyliau â thâl, a bod y gweithwyr hynny ag anableddau yn cael eu diogelu'n llawn ac na ellir byth gwahaniaethu yn eu herbyn ym maes cyflogaeth. Mae deddfwriaeth ddiweddar Llywodraeth y DU, Deddf Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) 2023, yn enghraifft dda arall o sut mae'r Ceidwadwyr wedi arwain y ffordd o ran helpu i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas yn ystod streic, tra hefyd yn caniatáu i'r gweithwyr sy'n streicio fod yn hyderus nad yw eu gweithredu diwydiannol yn niweidiol i'r cyhoedd, ac yn lleihau'r tebygolrwydd o adwaith yn eu herbyn. Er bod y meinciau Llafur yn gynddeiriog ar y pryd, tybed, Dirprwy Weinidog, os, o fyfyrio, y gallwch chi weld bellach manteision y ddeddfwriaeth hon i undebau llafur ac i'r gweithwyr y maen nhw'n eu cynrychioli. Yn olaf, Dirprwy Weinidog, rwy'n sylwi nad ydych chi wedi sôn am undebau ffermwyr. Fodd bynnag, rydych chi'n sôn am Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, sydd â chyngor partneriaeth gymdeithasol, wrth gwrs. Ac eto nid oes unrhyw undebau ffermwyr yn ei gynrychiolaeth undebau llafur, ac nid oes unrhyw aelodau sy'n gyflogeion yn cynrychioli'r diwydiant ffermio chwaith. Dirprwy Weinidog, pam mai dyma'r sefyllfa, a pham nad oes gan y Llywodraeth hon ddiddordeb mewn helpu ffermwyr Cymru? Rwy'n credu, Llywydd, bod Llywodraeth Cymru yn gwenieithio am hawliau gweithwyr ond y bydd yn gwneud ei gorau glas i dawelu unrhyw leisiau sy'n ei gwrthwynebu, a dyna pam mae wedi anwybyddu ffermwyr yn llwyr o'i siop siarad ddethol. Dirprwy Weinidog, a yw hyn oherwydd eich bod chi'n gwybod bod ffermwyr yn paratoi ar gyfer gweithredu diwydiannol mawr yn erbyn y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru am ei hanes parhaus ac echrydus o bolisïau sy'n tanseilio cefn gwlad, sy'n parlysu'r diwydiant, neu a yw hyn oherwydd nad ydyn nhw wedi'u hymlynu â'r Blaid Lafur— Y Llywydd / The Llywydd: Bydd yn rhaid i chi ddod â'ch cwestiynau i ben nawr. Joel James AS: Diolch, Llywydd. Dydyn nhw ddim wedi'u hymlynu â'r Blaid Lafur, felly nid yw'n werth meddwl na sôn amdanyn nhw. Llywydd, yn ysbryd Wythnos CaruUndebau yr wythnos diwethaf, mae'n rhaid i ni fod yn ofalus i gofio na ddylai undebau ymgymryd â llwgrwobrwyo llywodraethau na'r genedl, ac y dylen nhw geisio fod yn gynhwysol a chroesawu'r amrywiaeth o syniadau gwleidyddol sydd gan weithwyr yn y Deyrnas Unedig. Rwy'n siŵr y byddai hyd yn oed yr undebwyr llafur mwyaf unllygeidiog yn gweld— Y Llywydd / The Llywydd: Rydych chi'n— Joel James AS: Y frawddeg olaf, Llywydd. Y Llywydd / The Llywydd: Iawn, gadewch i ni— Joel James AS: Byddai'r undebwyr llafur mwyaf unllygeidiog yn gweld y byddai hyn yn beth cadarnhaol i weithwyr a hawliau gweithwyr yn y pen draw. Diolch. Y Llywydd / The Llywydd: Honna oedd eich brawddeg olaf. Y Gweinidog i ymateb. Hannah Blythyn AC: Diolch, Llywydd. Peidiwch â phoeni, fe fyddaf i'n llawer mwy cryno yn fy ymateb. Felly, gofynnodd Joel James i mi a allaf i weld—[Torri ar draws.] Nid wyf i'n credu y bydd angen i chi, peidiwch â phoeni. Gofynnodd Joel James i mi a allaf i weld budd deddfwriaeth gwrth-undebau llafur y Llywodraeth Geidwadol. Na allaf. Ac a wyf i'n cytuno â phwyntiau a safbwynt Joel James ar undebau llafur a'r rhan y maen nhw'n ei chwarae i gynorthwyo pobl sy'n gweithio? Nac ydw. Sioned Williams AS: Cefais fy magu ar aelwyd lle'r oedd aelodaeth o undeb yn cael ei ystyried yn rhan naturiol o fod mewn gwaith. Roedd fy rhieni ill dau yn aelodau o undebau athrawon, ac roedd eu tadau, glowyr ill dau, yn rhan o'r mudiad undebau llafur a frwydrodd dros degwch, diogelwch ac urddas ym maes glo cwm Rhymni. Cafodd fy hen dad-cu ei roi ar restr ddu am ei ran yn streic 1926 a bu'n rhaid iddo werthu yswiriant o ddrws i ddrws wedyn i wneud bywoliaeth. Cefais fy magu yn y traddodiad hwn, ac felly mae'n debyg fy mod i wedi tybio bod pawb a oedd yn gweithio yn aelod o undeb yn awtomatig, a phan ddechreuais i weithio fy hun, gwelais nad oedd hynny'n wir, yn rhannol oherwydd y ffordd yr oedd undebau wedi cael eu pardduo a'u difenwi gan Thatcheriaid a'r rhai ar asgell dde'r Blaid Lafur a fyddai'n parhau â'i safbwyntiau economaidd neo-ryddfrydol, ac mae hyn wedi gadael ei ôl ar ein gweithleoedd. Roeddwn i'n aelod o bwyllgor Undeb Prifysgol a Choleg Prifysgol Abertawe, er eu bod nhw'n gwybod, Joel James, fy mod i'n aelod gweithgar o Blaid Cymru. Roeddwn i'n ffodus o weithio gyda chydweithwyr profiadol ac egwyddorol, fel yr Athro Simon Hoffman a Howard Moss, i helpu i gefnogi fy nghydweithwyr yn y brifysgol yn wyneb gweithredoedd gan reolwyr a oedd yn niweidiol i'w llesiant a'u hawliau cyflogaeth. Ac ers cael fy ethol, rwyf i wedi cefnogi'r camau a gymerwyd gan nifer o undebau yng Nghymru yn erbyn cyflogwyr, preifat a chyhoeddus—y llais cyfunol grymus hwnnw yn tynnu sylw at gontractau ansicr, setliadau cyflog annheg, bygythiadau i bensiynau, amodau gwaith gwael ac, wrth gwrs, diswyddiadau, a'u gwrthwynebu. Rwy'n falch bod fy nghyd-Aelodau ym Mhlaid Cymru wedi cefnogi'r gweithredoedd hyn, gan sefyll gyda nhw ar linellau piced ac ategu eu galwadau yn y lle hwn. A ydych chi'n cytuno, Dirprwy Weinidog, bod swyddogaeth undebau o sefyll dros weithwyr a mynnu tegwch yn bwysicach nag erioed i bobl Cymru? Mae adroddiad TUC Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar, 'Dyfodol Gwaith a Datganoli yng Nghymru', gan yr Athro Jean Jenkins, wedi tynnu sylw at ba waith y mae angen ei wneud i sicrhau bod ein cenedl yn datblygu amgylchedd eglur a phendant ar gyfer gwaith a hawliau gweithwyr Cymru. Mae cyflogau a chynhyrchiant yn is yng Nghymru na bron pobman arall yn y DU, ac mae'r TUC wedi adrodd bod llawer iawn o wahaniaethu yn y farchnad lafur yn parhau yn erbyn gweithwyr du a lleiafrifoedd ethnig, menywod a phobl anabl, gydag un o bob naw o weithwyr yng Nghymru mewn gwaith ansicr. Canfuwyd ganddyn nhw bod hawliau llafur yn cael eu gorfodi'n wan, gyda dim ond £10.50 yn cael ei wario ar orfodi ar gyfer pob gweithiwr, ac mae capasiti ein cyrff arolygu yn y seithfed safle ar hugain o 33 o wledydd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. O ystyried y safbwynt a gyflwynwyd gennych chi yn eich datganiad, a ydych chi'n cytuno mai'r ateb ddylai fod i gefnogi datganoli hawliau cyflogaeth? Beth yw ymateb y Llywodraeth i'r canfyddiadau a'r argymhellion a amlinellir yn yr adroddiad hwn, a pha ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei rhoi i ddatganoli cyfraith gyflogaeth? Un o'r galwadau penodol oedd i TUC Cymru sefydlu gweithgor i archwilio ymarferoldeb datganoli hawliau cyflogaeth. Beth yw eich safbwyntiau chi ar hyn, a sut fyddwch chi'n cefnogi'r gwaith hwn os byddwch chi? Nodwyd gennych chi yn eich datganiad eich bod chi'n eglur mai undebau llafur yw llais dilys gweithwyr yn y gweithle, felly hoffwn wybod eich safbwyntiau, Dirprwy Weinidog, ar farn Undeb y Frigâd Dân na chafodd gweithwyr eu hymgynghori ac na wrandawyd arnyn nhw, a bod aelodau wedi cael eu siomi gan benodiad Stuart Millington yn brif swyddog dros dro Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, sydd bellach, wrth gwrs, wedi arwain at bleidlais o ddiffyg hyder gan yr undeb. Sut fydd y Llywodraeth yn sicrhau bod llais yr undeb yn cael ei glywed a'i barchu gan y comisiynwyr yr ydych chi wedi eu penodi wrth i'w gwaith pwysig ddechrau? Diolch. Hannah Blythyn AC: Fe wnaf i roi sylw i'r pwyntiau olaf a wnaethoch chi yn eich cyfraniad yn gyntaf, cyn dod at y pwyntiau ehangach a wnaethoch chi. Rwy'n amlwg yn ymwybodol o sefyllfa Undeb y Brigadau Tân a'r cynnig a basiwyd ganddyn nhw. Yn amlwg, gwnaed y penodiad gan y pedwar comisiynydd, ac mae'n benodiad dros dro i lenwi'r bwlch hwnnw pan adawodd y pennaeth presennol, a oedd yn golygu bod angen iddyn nhw lenwi'r gofyniad gweithredu hwnnw. Mewn gwirionedd, roedd y swydd dros dro drwy secondiad, felly ar y sail honno, ni fyddai'r broses ymgynghori arferol. Ond rwy'n ymwybodol bod y comisiynwyr wedi cyfarfod ag Undeb y Brigadau Tân a bydd ymgynghori ac ymgysylltu parhaus wrth iddyn nhw fynd ati i recriwtio i'r swydd fwy parhaol. Rwy'n credu eu bod nhw i gyd yn gweld y gwerth, hefyd, nid yn unig o weithio gydag Undeb y Brigadau Tân ond yr undebau eraill o fewn y gwasanaeth tân, sy'n cynrychioli staff gweithredu a staff eraill hefyd. Dim ond ar hynny, pan ddechreuais i yn y swydd hon, a'm portffolio eclectig iawn—yn ogystal â gwaith teg a phartneriaeth gymdeithasol, mae'n cynnwys gwasanaethau tân ac achub—fe wnes i'n siŵr ein bod ni'n sefydlu dull o ddod â chyflogwyr, cynrychiolwyr yr undebau llafur a chynrychiolwyr y gweithlu yn y sector hwnnw at ei gilydd drwy'r fforwm partneriaeth gymdeithasol tân ac achub. Mae hynny'n cynnwys yr amrywiaeth eang o gyrff sy'n cynrychioli gweithwyr. Ac rwy'n cyfarfod mewn gwirionedd, yn ogystal â chynrychiolwyr o Gymru, yn rheolaidd â'r ysgrifennydd cyffredinol Matt Wrack, hefyd. Ond roedd rhai o'r pethau yr oeddech chi'n eu dweud ar ddechrau eich cyfraniad wir yn atseinio gyda mi hefyd. Dylwn ddatgan fy mod innau hefyd yn ferch i ddau o athrawon, a ymunodd undeb athrawon ar y diwrnod y cawson nhw eu swydd gyntaf yn athrawon, ac yn sicr iawn fy nhad-cu ar ochr fy mam a ddylanwadodd pwy wyf i heddiw, ac mae'n debyg mai ef oedd yrhagflaenydd i mi fynd i weithio yn y mudiad undebau llafur. Roedd yn gweithio yng ngwaith dur Shotton, ac rwy'n cofio ei sôn am gyfunoliaeth ac undod a'r frwydr a oedd yn eu hwynebu nhw bryd hynny yn y 1980au, a ddinistriodd ein hardal. Mewn gwirionedd, ni aeth fy nhad-cu ar y diwrnod hanesyddol, erchyll hwnnw sy'n dal i fod â'r record o'r nifer unigol fwyaf o ddiswyddiadau torfol mewn un diwrnod; aeth ychydig yn ddiweddarach. Mae wedi marw erbyn hyn, ond mae gen i o hyd yn rhan o'i bethau ei hen gerdyn undeb, sef UCATT bryd hynny, gan ei fod yn saer coed wrth ei waith, ond hefyd llythyr teipysgrif swta iawn a oedd yn dweud rhywbeth fel, 'Diolch am eich degawdau o wasanaeth. Hwyl fawr'. Rwy'n aralleirio, ond dyna oedd y neges. Ond maen nhw'n bethau yr wyf i bob amser wedi eu cadw fel atgof ohono a'r hyn yr oedd yn ei olygu i mi, a'r gwerthoedd a drosglwyddodd i mi hefyd. Rwy'n credu ei fod yn dod â ni at y pwynt a wnaethoch chi—y gwaith rydym ni'n ei wneud o ran yr Undebau a'r project Byd Gwaith a'r hyn y gallwn ni ei wneud i gefnogi twf mudiad yr undebau llafur, ond hefyd y ddealltwriaeth ohono yng Nghymru. Rwy'n credu nad yw hyn i ni yn unig. Rwy'n credu y gallaf i ddweud hyn fel undebwr llafur, ond mae'r byd gwaith wedi newid, felly mae angen i'r ffordd y mae undebau llafur wedi'u trefnu newid hefyd. Mae gennym ni weithleoedd poblog iawn, ond, mewn gwirionedd, fel y dywedwch chi, mae pobl ar gontractau ansicr, mae pobl yn gweithio mewn gweithluoedd anghyfartal. Felly, mewn gwirionedd, mae gwaith da yn cael ei wneud, ond rwy'n credu bod swyddogaeth i ni hefyd yn y Llywodraeth o ran sut y gallwn ni gefnogi hynny i dyfu a rhoi'r llwyfan iddyn nhw wneud hynny hefyd. A, hefyd, o ran y llais cyfunol grymus, ac rwy'n cytuno mai dyna'r dull gorau o sicrhau tegwch a chydraddoldeb yn y gweithle. Yn olaf, rydych chi'n cyfeirio at gomisiwn TUC Cymru a 'Dyfodol Gwaith a Datganoli yng Nghymru'. Rwy'n credu, er na chafwyd ymateb ffurfiol gan Lywodraeth Cymru, ei fod yn adroddiad da iawn, sydd wir yn rhoi llwyfan i ni gael trafodaeth ar ei sail. Un o'r pethau y byddem ni'n ei ddweud am ddatganoli hawliau pellach—. Mae'n debyg ei fod y tu hwnt i fy ngradd cyflog ar hyn o bryd i ymrwymo i unrhyw beth fel hynny, ond un o'r pethau y byddwn i'n ei ddweud yw bod yn wir rhaid gwneud hynny mewn partneriaeth gymdeithasol hefyd. Un o'r sgyrsiau yr wyf i wedi eu cael yn flaenorol gyda phartneriaid undebau llafur yw y gallai gynnig cyfleoedd, ond mae'n creu heriau hefyd, felly mae'n well gweithio drwy'r pethau hynny gyda'i gilydd. Ond mae rhai pethau da iawn eraill yno hefyd, yn yr adroddiad hwnnw, ac mae rhai o'r pethau yn ymwneud â gorfodi yn bethau yr ydym ni wedi dechrau ceisio bwrw ymlaen â nhw drwy ein fforwm hawliau a chyfrifoldebau yn y gweithle. Oherwydd er nad oes gennym ni'r holl ysgogiadau hynny o ran gorfodi yng Nghymru nawr, mewn gwirionedd mae'n cynnig golwg i ni ar sut y gallwn ni wneud mwy gyda'r hyn sydd gennym ni, ond hefyd i wella'r cysylltiadau hynny rhwng asiantaethau ar lefel y DU a'r rhai sydd gennym ni yng Nghymru. Rhianon Passmore AC: Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Rwy'n ymwybodol o'r effaith fawr y mae bod yn undebwr llafur wedi ei chael arnoch chi'n bersonol, a hefyd yn fy mywyd gwleidyddol fy hun. Mae Wythnos CaruUndebau yn gyfle pwysig i bob un ohonom ni gydnabod a myfyrio ar y cyfraniad pwysig y mae undebau llafur yn ei wneud at fywyd cyhoeddus a sifil. Cefais fy nharo'n arbennig gan eich datganiad pan wnaethoch chi gyfeirio at yr Undebau a'r prosiect Byd Gwaith mewn ysgolion uwchradd ledled Cymru. Ers rhy hir, mae agenda wleidyddol y cyfryngau asgell dde a Llywodraeth Dorïaidd asgell dde y Deyrnas Unedig wedi ceisio pardduo undebau llafur a mudiad yr undebau llafur. Dangoswyd hyn gan raglen ddogfen ddiweddar BBC Two ar streic y glowyr, a'i ffilm archif gweithredol. Mae'n dal i fod yn broblem heddiw gan ein cyfryngau asgell dde, fel GB News honedig. Felly, mae'n hanfodol bod cenedlaethau'r dyfodol o fyfyrwyr Cymru yn cael gwell dealltwriaeth o hawliau cyflogaeth, swyddogaeth undebau llafur a swyddogaeth ddwys llais cyfunol yn y gweithle. Ddydd Sadwrn, gorymdeithiais ar strydoedd canol dinas Casnewydd gyda chydweithwyr Llafur Cymru Gwent, a'r undebau llafur sy'n cynrychioli gweithwyr dur Llanwern. Felly, rydym ni'n gwybod, Dirprwy Weinidog, bod gweithwyr, cymunedau a chymdeithasau gyda'i gilydd yn gryfach. Ac rydym ni hefyd yn gwybod, o'u gadael i niwed dilyffethair cyfalafiaeth, bod pobl yn ddiwerth o'u cymharu â thrachwant elw net, heb fawr o ystyriaeth i hawliau'r rhai sydd ar waelod y triongl hwnnw. Dirprwy Weinidog, sut gellir ehangu'r Undebau a'r rhaglen Byd Gwaith ymhellach fel y gall mwy o blant Cymru gael eu grymuso a'u cyfoethogi gan y rhaglen addysgol gyfranogol hon, sy'n grymuso pawb mewn cymdeithas? Hannah Blythyn AC: Diolch, Rhianon Passmore, am eich cyfraniad ac am gydnabod y swyddogaeth sydd gan Wythnos CaruUndebau o ran hyrwyddo'r hyn y mae undebau llafur yn ei wneud, nid yn unig yn y gweithle, ond yng Nghymru hefyd. Rwyf i bob amser yn hoffi dweud nad yw undeb llafur ar gyfer Wythnos CaruUndebau yn unig, mae am oes. Ac rwy'n credu bod y pwynt yr ydych chi'n ei wneud am brosiect peilot Undebau a'r Byd Gwaith yn bwysig iawn. Cynllun peilot ydyw ar hyn o bryd, ond mae'n rhywbeth y byddem ni'n gobeithio ei weld yn cael ei gyflwyno hefyd. Ac os oes gan Aelodau ddiddordeb, mae'n debyg y gallem ni rannu rhai manylion, oherwydd rwyf i wedi cael sgyrsiau mewn mannau eraill a bydd pobl bellach yn meddwl bod rhywun mewn ysgol yn agos atyn nhw a fyddai â diddordeb cymryd rhan a rhedeg rhywbeth. Efallai y gallem ni rannu hynny. Os oes gennych chi ddiddordeb, cysylltwch â ni a gallaf wneud yn siŵr bod y manylion hynny gennych chi i'w rhoi i unrhyw ysgolion sydd â diddordeb yn eich ardal. Rydych chi'n sôn am rym protest hefyd, a'r gyfunoliaeth honno, y dod ynghyd hwnnw yn wyneb adfyd, ac yn sicr fe welsom ni hynny ar strydoedd Casnewydd a Phort Talbot dros y penwythnos. Samuel Kurtz AS: Dirprwy Weinidog, rwy'n gwerthfawrogi eich ymateb hynod drwyadl i'm cyd-Aelod Ceidwadol Joel James, ond roedd un pwynt na chafodd sylw yn eich ymateb, a'r undebau ffermwyr oedd hwnnw. O gofio'r sefyllfa bresennol yng nghefn gwlad Cymru gyda'r ymgynghoriad ar y cynllun ffermio cynaliadwy, a gaf i ofyn i chi erfyn ar y ddau ymgeisydd i fod yn Brif Weinidog gyfarfod â'r undebau ffermio cyn gynted â phosibl i ddeall a gwerthfawrogi yn llawn difrifoldeb y sefyllfa sydd o'u blaenau? Rwy'n credu ei bod hi'n wych bod y ddau Weinidog gyda gweithwyr dur Port Talbot yr wythnos diwethaf. Byddai'n wych—pe bai yna brotest gan ffermwyr yn y cyffiniau rywbryd yn y dyfodol—pe baen nhw'n annerch yr undebau ffermwyr, oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n hanfodol bod y ddau ddarpar Brif Weinidog yn deall yr hyn sy'n digwydd yng nghefn gwlad Cymru ar hyn o bryd. Oherwydd os bydd pethau'n parhau fel y maen nhw, bydd y naill neu'r llall ohonyn nhw'n etifeddu llanast go iawn gyda'r berthynas rhwng y Llywodraeth hon a Chymru wledig ar hyn o bryd. Hannah Blythyn AC: A gaf i ddiolch i Sam Kurtz am ei gyfraniad? Roedd hi'n rhyfedd taro arnoch chi mewn Senedd arall ddoe hefyd. Ond ar y pwynt yr ydych chi'n ei wneud, rwy'n credu bod fy nghyd-Aelodau sy'n ymgeiswyr ar gyfer swydd benodol wedi cyfarfod â dirprwyaeth a oedd yno dros y penwythnos, ac rwy'n deall bod gan y ddau ymrwymiad i ddilyn hynny gyda chyfarfodydd hefyd. Rwy'n cynrychioli etholaeth eithaf gwledig, ac efallai na fyddaf i bob amser yn cytuno ar bopeth, ond rwy'n gwneud yn siŵr fy mod i'n cynnal y cyfarfodydd hynny. Ac yn ddiweddar, ddim mor bell yn ôl, yn gynharach y mis hwn, fe wnes i ymweld â fferm ac rwyf i bob amser yn awyddus i wneud mwy. Ond rwy'n mynd i roi sylw i un pwynt. Efallai eich bod chi'n teimlo fy mod i'n bod yn bedantig, ond er bod 'undeb' yn enwau Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac Undeb Amaethwyr Cymru, cynrychiolwyr cyflogwyr ydyn nhw yn y bôn yn ôl ein panel cynghori amaethyddol. Dim ond eisiau gwneud y pwynt bach hwnnw oeddwn i. Luke Fletcher AS: Mae'r ddwy flynedd ddiwethaf, rwy'n credu, wedi dangos pwysigrwydd undebau llafur. Ac maen nhw hefyd wedi dangos i ni, wrth gwrs, bod cefnogaeth ehangach ymhlith y cyhoedd yn gyffredinol i weithwyr sy'n streicio, ac mae hynny er gwaethaf, wrth gwrs, ymdrechion gorau'r Torïaid a'u cyfeillion ar Fleet Street. Roeddwn i eisiau manteisio ar y cyfle i dynnu sylw at weithleoedd heb undebau a'r hyn y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu i gael undebau i'r gweithleoedd hynny. Yr hyn yr wyf i'n ei olygu wrth ddweud y gweithleoedd hynny yw'r mathau hynny o weithleoedd y gallech chi eu canfod yn y sector manwerthu, mewn gofal cymdeithasol, mewn lletygarwch ac yn yr economi gig ehangach. Pan oeddwn i yn y sector lletygarwch, Unite oedd fy undeb llafur, ac rwy'n gwybod bod Unite Hospitality wedi gwneud llawer o waith ac wedi gwneud cynnydd gwirioneddol yn y sector hwnnw. Ond sut all Llywodraeth Cymru helpu i gefnogi'r gwaith hwnnw i gael undebau i weithleoedd nad oes ganddyn nhw rai? Hannah Blythyn AC: Diolch, Luke Fletcher, am eich cyfraniad ac am wneud y pwynt da am sut rydym ni'n lledaenu mewn gwirionedd y math hwnnw o amddiffyniad a chefnogaeth undeb yn y gweithleoedd hynny sydd yn ôl pob tebyg wedi bod yn anoddach eu cyrraedd yn draddodiadol ar sail eu natur neu efallai o ran sut maen nhw'n gweithredu hefyd. A dylwn ddweud mai yn McDonald's oedd fy swydd gyntaf mewn gwirionedd, nad oedd o reidrwydd yn—[Torri ar draws.] Rwy'n dweud wrthych chi, Hefin, roedd fy nghoginio i mor wael doeddwn i ddim yn cael gweithio yn y gegin, felly roedd yn rhaid i mi gyfarch cwsmeriaid ar y ddesg flaen. Ond, wyddoch chi, fe ddysgodd wersi gwerthfawr i mi am weithio yn y sector hwnnw ac am weithio ym maes manwerthu hefyd. Mae un o'r pethau yr ydym ni wedi dechrau ei wneud gyda'n fforwm manwerthu yn rhywbeth, rwy'n credu, y byddwn i'n awyddus i edrych arno i weld, mewn gwirionedd, sut y gallem ni wneud mwy gyda lletygarwch hefyd. Oherwydd mae'n aml yn weithlu iau, pobl o gefndir du a lleiafrifoedd ethnig, felly rwy'n credu bod angen i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu cyrraedd y rheini. Ac mewn gwirionedd nid yw'n ymwneud ag amddiffyn pobl a'u helpu a'u cefnogi gyda'u hawliau yn y gwaith yn unig; os yw pobl yn mynd i'r swyddi hynny, efallai tra eu bod nhw'n astudio, mae'n fater o ddal y genhedlaeth nesaf honno o undebwyr llafur cyn iddyn nhw fynd ymlaen i'r byd gwaith ehangach hefyd. Jack Sargeant AC: Fel y Gweinidog a llawer ohonom ni yma yn y Senedd, rwy'n falch o fod yn undebwr llafur. Mae'n rhaid i ni gofio y brwydrwyd am yr hawliau yr ydym ni'n eu cymryd yn ganiataol yn y gweithle heddiw, ac fe'u henillwyd gan ein cydweithwyr yn yr undebau llafur. Ac mae'r frwydr honno'n parhau, Llywydd. Mae mwy na miliwn o bobl yn y DU ar gontractau dim oriau. Fel y nododd Plaid Llafur y DU yn briodol heddiw, mae pobl sy'n gweithio ledled Cymru a'r Deyrnas Unedig wedi cael eu siomi'n ddybryd gan fethiant y Torïaid i'w hamddiffyn nhw rhag gwaith ansicr. A gwn nad yw'r Ceidwadwyr Cymreig naill ai eisiau deall hynny neu'n camddeall y gwirionedd yn fwriadol, ond dyna'r realiti i'm hetholwyr, a dyna'r realiti i'w holl etholwyr hwythau hefyd. Gweinidog, a ydych chi'n cytuno â mi mai'r ffordd orau o ddathlu Wythnos CaruUndebau fyddai sicrhau Llywodraeth Lafur y DU a fyddai'n gweithio mewn partneriaeth ag undebau fel fy un i, Unite a Community, ac y gallem ni gyda'n gilydd roi terfyn ar bla contractau dim oriau a chyflawni mewn gwirionedd dros bobl sy'n gweithio? Hannah Blythyn AC: Diolch i'm cyd-Aelod a'm cymydog etholaethol, Jack Sargeant, am ei gyfraniad. Rwy'n cytuno'n llwyr bod yr hawliau yr ydym ni efallai weithiau'n eu cymryd yn ganiataol heddiw nid yn unig yn rhai y bu galw amdanyn nhw am amser maith ond hefyd yn rhai y brwydrwyd yn galed i'w cael dros ddegawdau a degawdau. Ac ydw, rwy'n cytuno'n llwyr â chi mai'r hyn sydd ei angen arnom ni yw deddfwriaeth i wneud yn siŵr bod yr hyn y fyddwn i'n ei alw—. Felly, mae'r fargen newydd i weithwyr yn gynnig rhagorol, ac rwy'n sicr eisiau gweld honno'n cael ei darparu o fewn y 100 diwrnod, fel addewid gan Lywodraeth Lafur nesaf y DU. A phan wyf i wedi bod yn siarad mewn digwyddiadau, yr hyn yr wyf i'n ei weld hefyd yw'r llinell sylfaen honno sy'n sail i'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud yng Nghymru gyda'n dull partneriaeth gymdeithasol ac sydd wir yn caniatáu iddo ffynnu. Mabon ap Gwynfor AS: Un o lwyddiannau ein hundebau llafur dros y 100 mlynedd diwethaf fu'r gallu i sicrhau gwell cyflog, ac mae'r grym cydfargeinio hwn wedi bod yn hanfodol bwysig. Ond yn rhan o'i ymgyrch i ddod yn Brif Weinidog, tynnodd y Prif Weinidog presennol, Mark Drakeford, o'r traddodiad hwn a dweud, fel un o'i ddwsin o gynigion, ac rwy'n dyfynnu, y byddai'n 'Bwrw ymlaen â'r Comisiwn Gwaith Teg a'r camau sydd angen i ni eu cymryd er mwyn gwneud Cymru'n genedl Gwaith Teg—talu'r cyflog byw gwirioneddol ym mhob cwmni sy'n derbyn arian cyhoeddus fel cam cyntaf.' Wrth gwrs, cyllid y Llywodraeth sy'n talu am weithwyr cymorth digartrefedd rheng flaen drwy'r grant cymorth tai, ond er bod y Prif Weinidog presennol wedi dweud y byddai'n rhaid i bob cwmni sy'n derbyn arian cyhoeddus dalu'r cyflog byw gwirioneddol, y gwir syml amdani yw nad yw'r cyllid a ddarperir gan Lywodraeth Cymru a'r gofynion statudol a roddir ar ddarparwyr yn ddigon, gan arwain at 42 y cant o weithwyr digartrefedd yn cael eu talu llai na'r cyflog byw a thri chwarter yn cael eu talu llai na'r cyflog byw gwirioneddol. Felly, yn ymateb y Dirprwy Weinidog, byddwn yn ddiolchgar pe gallai ddweud a yw hi'n credu y dylai'r gweithwyr digartrefedd ymuno ag undeb a dal eu llafur yn ôl tan fod y Llywodraeth yn darparu setliad teg. Ac a ddylai'r sector ddefnyddio eu grym cydfargeinio a herio'r Llywodraeth hon am ei methiant i ariannu'r gwasanaethau a'r gweithwyr cymorth digartrefedd hynny sy'n gweithio mor galed yn briodol? Hannah Blythyn AC: Diolch Mabon ap Gwynfor am y cyfraniad yna ac am gydnabod y rhan y mae cydfargeinio yn ei chwarae mewn gweithleoedd. Yn amlwg, rydym ni eisiau cyrraedd pwynt yng Nghymru lle mae lefelau cydfargeinio yn uwch eto. A dweud y gwir, un o'r pethau y byddwn i'n ei ddweud yw nad oes gan ein staff cymorth gydfargeinio hyd yn oed yn y lle hwn chwaith. Felly, rwy'n credu bod ffyrdd y mae angen i ni gydweithio i sicrhau bod y math hwnnw o egwyddor, y dull hwnnw, yn cael ei weithredu ar draws sectorau ac ar draws sefydliadau. Sarah Murphy AS: Eleni, mae'n 40 mlynedd ers streiciau'r glowyr a rwygodd ein cymunedau yn ddarnau. Roedd hyn yn wyneb, yn ôl negeseuon ei phennaeth polisi a ddaeth i'r fei, Margaret Thatcher yn dweud wrth ei Llywodraeth na ddylen nhw fethu unrhyw gyfle i erydu aelodaeth undebau llafur. Ond oherwydd undod a chydsefyll yn ein mudiad undebau gyda'n Plaid Lafur, mae undebau llafur yn dal yn gryf yma yng Nghymru, fel y gwelsom ni ym mhrotestiadau Llanwern a Phort Talbot i achub ein diwydiant dur dros y penwythnos gydag Aelodau o bob rhan o'r Siambr. Rwy'n eithriadol o falch o fod yn aelod o undeb llafur. Mae'n golygu bod pobl yn gefn i chi, mae'n golygu bod â theulu o'ch cwmpas, mae'n golygu sefyll gyda'ch gilydd dros eich hawliau ybrwydrwyd mor galed i'w sicrhau. Mae'n drueni, ond nid yw'n syndod mae'n debyg, bod rhai pobl yn y Siambr hon nad ydyn nhw'n deall hynny. Dydyn nhw'n dal ddim yn deall hynny, maen nhw'n dal i barhau â'r naratif hwn bod yr undebau yn golygu, 'Gwnewch eich gwaith, arhoswch yn eich lôn—rhag eich cywilydd yn trefnu a chymryd rhan mewn democratiaeth a gwleidyddiaeth, a rhag eich cywilydd bod wedi'ch ymlynu â'r Blaid Lafur, plaid y gwnaethoch chi ei sefydlu i sefyll dros hawliau gweithwyr a pheidio â derbyn y sefyllfa fel y mae hi.' Felly, Dirprwy Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi ei bod hi'n hanfodol bod Llywodraethau ac undebau llafur yn parhau i weithio gyda'i gilydd dros ein hetholwyr a hawliau gweithwyr? Diolch. Hannah Blythyn AC: Diolch yn fawr iawn am y cyfraniad angerddol ac ymroddedig yna. Sarah, rwy'n gwybod pa mor ymroddedig ydych chithau fel undebwr llafur hefyd. Ac rwy'n cytuno'n llwyr â chi bod angen i ni gydweithio â mudiadau undebau llafur, gyda chydweithwyr undebau llafur, i ddatblygu a chefnogi hawliau gweithwyr, nid yn unig yn ein gweithleoedd, ond mewn gwirionedd, rwy'n credu bod undebau llafur o fudd i Gymru hefyd. Rydym ni'n gwybod mai dim ond trwy weithio gyda'n gilydd y byddwn ni'n cyflawni. Ac mae'n iawn eich bod chi'n myfyrio ar ddeugainmlwyddiant streic y glowyr a fydd yn dod yn fuan iawn. Mae gen i atgofion niwlog iawn—dim ond dweud 'niwlog iawn' wyf i, dydw i ddim mor hen â hynny—ond roedd fy ewythr Tony ar streic yn y Parlwr Du yng ngogledd Cymru a dweud y gwir. Mae fy mam yn hoffi fy mhryfocio, pan aethon ni i ymweld, fe wnes i fwyta rhai o'r bisgedi y talwyd amdanyn nhw o gronfa'r streic. Mae'n rhaid fy mod i wedi cael eu cynnig nhw, oherwydd dim ond rhyw ddwy oed oeddwn i, ond mae hynny'n aros gyda ni, ac mae'n aros gyda theuluoedd ac mae'n aros gyda chymunedau. Ac er efallai ei fod yn gyfnod gwirioneddol ofnadwy, rwy'n credu ei fod hefyd yn eich sbarduno i frwydro ar gyfer y dyfodol, i barhau i weithio ar y cyd yn yr ysbryd hwnnw o undod, y gwerthoedd cyffredin hynny yr ydym ni'n gwybod sy'n gwneud gwahaniaeth i bob un ohonom ni ac i bob un o'n cymunedau. Y Llywydd / The Llywydd: Yn olaf, Huw Irranca-Davies. Huw Irranca-Davies AC: Diolch, Llywydd. Gweinidog, fel aelod o undeb llafur gydol fy oes, rwy'n falch o gael y datganiad sy'n nodi Wythnos CaruUndebau yno. Hoffwn siarad yma, yn groes i'r hyn yr ydym ni wedi ei glywed gan rai o'n cyd-Aelodau i'r chwith ond nid i'r chwith gwleidyddol ohonof i amddiffyn undebau ac, yn wir, eu cysylltiadau â'r mudiad llafur a'r Blaid Lafur. Undebau: y bobl a sicrhaodd y penwythnos deuddydd i chi; y cyfyngiadau ar oriau gwaith; yr isafswm cyflog; cydraddoldeb o ran cyflog; absenoldeb rhiant; yr hawl i gael trafodaethau ar gyflogau ac amodau; contractau cyflogaeth sy'n rhwymo mewn cyfraith; a chynnydd i wyliau blynyddol i 28 diwrnod—llawer o'r rheini yn ystod Llywodraethau Llafur, o Barbara Castle i'r Llywodraethau Blair a Brown diwethaf. Eto, ledled y byd—a dyma lle'r wyf i eisiau gofyn a ydych chi'n cytuno â mi, Gweinidog—mae arolwg hawliau byd-eang 2023 y Cydffederasiwn Undebau Llafur Rhyngwladol yn dangos bod tramgwyddo hawliau gweithwyr wedi cyrraedd ei lefel uchaf erioed. Ac rydym ni'n gwybod bod trefnwyr undebau yn cael eu llofruddio bob un dydd am sefyll dros hawliau gweithwyr. A yw hi'n cytuno â mi bod yn rhaid i'r frwydr barhau, yma yn y DU ac yn rhyngwladol, ac yng ngeiriau Joe Hill, y cyfansoddwr caneuon ac aelod o'r Wobblies—Gweithwyr Diwydiannol y Byd: 'Peidiwch â galaru—trefnwch!'? Hannah Blythyn AC: A gaf i ddiolch i Huw Irranca-Davies am y cyfraniad terfynol addas iawn yna at y datganiad heddiw? Yn sicr, dwi'n cytuno. Rwy'n cytuno â phopeth a ddywedodd—bod undebau llafur, mewn gwirionedd, yn bwysig i gefnogi gweithwyr yma yng Nghymru, ond mae'n gwbl hanfodol, yn rhan o'r gwerthoedd hynny, yn rhan o'r ysbryd hwnnw o gyfunoliaeth, ei fod yn cyrraedd y tu hwnt i'n glannau, ac mae'n golygu undod a chefnogaeth ryngwladol hefyd. Y Llywydd / The Llywydd: Diolch i'r Dirprwy Weinidog. 9. Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2024 Y Llywydd / The Llywydd: Eitem 9 sydd nesaf, y Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2024. Y Gweinidog i wneud y cynnig yma—Rebecca Evans. Cynnig NDM8486 Lesley Griffiths Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2024 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Ionawr 2024. Cynigiwyd y cynnig. Rebecca Evans AC: Cynigiaf y cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2024. Mae'r rheoliadau yn arwain at luosydd ardrethi annomestig o 0.562 ar gyfer 2024-25. Cyhoeddais ar 19 Rhagfyr y byddem ni'n cyfyngu'r cynnydd i'r lluosydd ar gyfer 2024-25 ar gost gylchol o £18 miliwn i gyllideb Cymru—cam sydd o fudd i bob talwrardrethi yng Nghymru, ac eithrio'r bron i 50 y cant sydd eisoes yn talu dim ardrethi o gwbl. Bydd y lluosydd yn cynyddu 5 y cant yn hytrach na'r cynnydd diofyn o 6.7 y cant yn unol â chwyddiant y mynegai prisiau defnyddwyr. Dyma'r lefel fwyaf posibl o gymorth sydd ar gael gan ddefnyddio'r holl gyllid canlyniadol a dderbyniwyd o gyhoeddiad Llywodraeth y DU ynghylch lluosydd 2024-25. Ochr yn ochr â'r penderfyniad i gyfyngu'r cynnydd i'r lluosydd, rydym ni'n darparu pecyn hael o ryddhad. Drwy'r rhyddhad hwn, mae bron i hanner yr holl dalwyr ardrethi, gan gynnwys miloedd o fusnesau bach, yn talu dim ardrethi o gwbl. Pan fydd cymorth rhannol yn cael ei gynnwys, bydd talwyr ardrethi mewn mwy nag 80 y cant o eiddo yn elwa o ryddhad yn 2024-25. Mae hynny'n cyfateb i 104,000 eiddo ledled Cymru, neu, i'w roi mewn ffordd arall, bydd llai nag 20 y cant o eiddo yn talu ardrethi llawn. Rydym ni'n darparu cyfanswm o £384 miliwn o gymorth ardrethi annomestig y flwyddyn nesaf. Bydd pob talwr ardrethi yn elwa o'r pecyn hwn. Mae ein cymorth yn sicrhau cydbwysedd rhwng cynorthwyo busnesau a thalwyr ardrethi eraill yng Nghymru, yn enwedig o ystyried y pwysau y maen nhw wedi bod yn eu hwynebu, a'r angen i gynnal llif refeniw sefydlog ar gyfer gwasanaethau lleol, yr ydym ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw. Mae'r cymorth hwn yn cael ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ei ystyriaeth o'r rheoliadau a gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau heddiw. Peter Fox AS: Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno pwerau o'r diwedd i gyflwyno lluosydd hollt drwy'r Bil cyllid llywodraeth leol—rhywbeth yr ydym ni wedi galw amdano ers amser maith. Fodd bynnag, yr hyn sy'n dal i beri pryder yw'r ffaith bod pob busnes yma yng Nghymru yn talu cyfradd uwch na busnesau yn Lloegr a'r Alban ac mae hynny hyd yn oed gyda'r cynnydd o 5 y cant, yn hytrach na'r ffigur Mynegai Prisiau Defnyddwyr o 6.7 y cant. Bydd y newidiadau arfaethedig yn golygu bod busnesau Cymru yn wynebu'r lluosydd uchaf, sef 56.2. Mae'n drueni nad yw opsiwn 3, fel y disgrifir yn y memorandwm esboniadol, i rewi'r lluosydd ar gyfradd y llynedd o 53.5c wedi cael ei ddewis, gan gydnabod pa mor anodd yw pethau i'n busnesau yn dilyn y blynyddoedd diwethaf. Ac i wneud pethau'n waeth, fel y gwyddom ni, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi terfyn ar gymorth i fusnesau yn y sectorau lletygarwch, hamdden a manwerthu yma yng Nghymru, gan sicrhau y bydd tafarndai a bwytai a siopau yn talu bron i ddwbl cyfradd ardrethi busnes eu cymheiriaid yn Lloegr. Felly, yng ngoleuni hyn, Llywydd, ni allwn ni gefnogi'r rheoliadau hyn sy'n cynnal ardrethi busnes mor uchel yma yng Nghymru. Peredur Owen Griffiths AS: Er ein bod ni'n croesawu'r penderfyniad i gapio'r cynnydd i'r lluosydd ardrethi annomestig yng Nghymru islaw chwyddiant y mynegai prisiau defnyddwyr, mae angen rhoi hyn yng nghyd-destun y toriad sylweddol i ryddhad busnes o 75 y cant i 40 y cant yn rhan o'r gyllideb sydd ar fin cael ei chynnal. Yn dilyn ergyd sylweddol eisoes o sgil-effeithiau economaidd y pandemig, mae'r bygythiad ynghylch nifer fawr o fusnesau yn cau, yn enwedig yn y sector manwerthu a lletygarwch, yn edrych yn enbyd bellach. Fel yr ydym ni wedi bod yn ei bwysleisio fyth ers cyhoeddi'r gyllideb ddrafft ym mis Rhagfyr, byddem yn annog Llywodraeth Cymru i wneud popeth o fewn ei gallu i gynorthwyo busnesau yn llawn yn ystod y cyfnod hwn o galedi ariannol mawr. Dylai hyn gynnwys bod ag amser Senedd a phwyllgor digonol i drafod a chraffu ar benderfyniadau pellgyrhaeddol fel hyn yn llawn. Er ein bod ni wedi bod yn trafod sefyllfa gyffredinol y gyllideb dros yr wythnosau diwethaf, mae'n destun gofid bod yr agwedd benodol a hynod arwyddocaol hon ar graffu ar y gyllideb ddrafft wedi cael ei gwasgu oherwydd cyfyngiadau amser. Byddwn hefyd yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog ymhelaethu ar y rhesymeg dros bennu'r cynnydd i'r lluosydd ar 5 y cant. Pa hyblygrwydd oedd gan y Llywodraeth yn hyn o beth, ac a oedd unrhyw ystyriaeth o gyfyngu'r cynnydd hyd yn oed ymhellach? Diolch. Y Llywydd / The Llywydd: Y Gweinidog cyllid i ymateb. Rebecca Evans AC: Rwy'n ddiolchgar i'r ddau gyd-Aelod am eu cyfraniadau heddiw, ac rwy'n cofio y cawsom ni gyfraniad tebyg gan y Ceidwadwyr yn y ddadl ar y lluosydd y llynedd. Hoffwn fod yn gwbl, gwbl eglur, os na chaiff y cynnig hwn ei basio heddiw, y bydd y lluosydd yn codi yn unol â'r mynegai prisiau defnyddwyr, a bydd yn 6.7 y cant, yn hytrach na 5 y cant. Felly, byddai unrhyw bleidlais ac eithrio cefnogi'r cynnig heddiw mewn gwirionedd yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau dalu mwy yng Nghymru. Eto, cawsom ddadl debyg y llynedd, felly'r dewis i gyd-Aelodau yw cefnogi cynnydd o 5 y cant i'r lluosydd neu gynnydd o 6.7 y cant i'r lluosydd. Dyna'r unig ddau ganlyniad posibl o'r bleidlais yr ydym ni'n ei chael heddiw. Ac yna i ateb y cwestiwn penodol hwnnw o ran y 5 y cant—5 y cant yw'r ffigur a geir pan fyddwch chi'n defnyddio pob ceiniog o'r cyllid ychwanegol a ddaeth o ganlyniad i benderfyniad Llywodraeth y DU o ran y lluosydd yn Lloegr. Felly, fe wnaethom ni ddefnyddio pob ceiniog o hynny, ac arweiniodd hynny at y 5 y cant. I fyfyrio ar rai o'r pwyntiau eraill, rwy'n credu fy mod i wedi cyfeirio at y rhan fwyaf ohonyn nhw yn fy sylwadau agoriadol, ond hoffwn bwysleisio'n benodol eto na fydd 50 y cant o fusnesau yng Nghymru yn talu unrhyw ardrethi o gwbl y flwyddyn nesaf diolch i'r cymorth yr ydym ni'n ei ddarparu. Mae ein pecyn o gymorth werth mwy na thraean biliwn o bunnoedd i fusnesau mewn cymorth ardrethi, a bydd llai nag un o bob pump yn talu eu rhwymedigaeth lawn mewn gwirionedd, oherwydd bod gennym ni ystod mor eang o gymorth cyffredinol ar gael. Nawr, wrth gwrs, rydym ni'n deall y pwysau sydd ar fusnesau ar hyn o bryd, ond byddwn ni i gyd yn gyfarwydd iawn â'r dewisiadau anodd iawn y bu'n rhaid i ni eu gwneud ar draws y Llywodraeth wrth bennu'r gyllideb eleni. O ganlyniad, rydym ni wedi blaenoriaethu gwasanaethau cyhoeddus—bydd y GIG yng Nghymru yn derbyn cynnydd o 4 y cant. Yn Lloegr mae'n 1 y cant, ac mae hynny'n dangos y gwahanol ddewisiadau yr ydym ni wedi eu gwneud fel Llywodraeth Cymru. Ond, fel y dywedais, mae'r pecyn cymorth yr ydym ni'n ei ddarparu yn dal i fod yn gynhwysfawr, ac mae'r dewis y prynhawn yma, Llywydd, rhwng cynnydd o 5 y cant neu gynnydd o 6.7 y cant. Y Llywydd / The Llywydd: Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebu.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fe wnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. 10. Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) (Diwygio) 2024 Y Llywydd / The Llywydd: Eitem 10 sydd nesaf, y Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) (Diwygio) 2024 yw hwn. A'r Gweinidog cyllid i wneud y cynnig unwaith eto—Rebecca Evans. Cynnig NDM8485 Lesley Griffiths Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) (Diwygio) 2024 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 09 Ionawr 2024. Cynigiwyd y cynnig. Rebecca Evans AC: Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o gyflwyno Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) (Diwygio) 2024. Mae'r grym i Weinidogion Cymru wneud y Gorchymyn yn adran 6 Deddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007 ac mae'n ofynnol iddo gael ei gymeradwyo gan y Senedd. Y diben yw ychwanegu'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil at y rhestr o gynhyrchwyr ystadegau swyddogol. Bydd hyn yn rhoi sicrwydd bod ystadegau a gynhyrchir gan y comisiwn yn ddibynadwy, o ansawdd uchel ac o werth cyhoeddus. Bydd y comisiwn yn dod yn gyfrifol am ariannu, goruchwylio a rheoleiddio addysg drydyddol yng Nghymru. Bydd yn gyfrifol am yr ystadegau swyddogol presennol sy'n trosglwyddo o Lywodraeth Cymru, yn ogystal ag ystadegau sy'n cael eu cyhoeddi ar hyn o bryd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Bydd y Gorchymyn yn galluogi'r comisiwn i gyhoeddi ystadegau fel ystadegau swyddogol pan ystyrir eu bod yn ddigon cadarn i wneud hynny. Mae gwaith ar y gweill, gydag ystadegwyr yn trosglwyddo i'r sefydliad, i sicrhau bod hyn yn digwydd cyn gynted â phosibl. Mae ystadegau swyddogol yn cynnig cipolwg ar ein cymdeithas, yn hysbysu'r broses gwneud penderfyniadau ac yn helpu i ddwyn cyrff cyhoeddus i gyfrif. Mae'r Gorchymyn hwn yn sicrhau y bydd y comisiwn yn darparu ystadegau o ansawdd uchel y gellir dibynnu arnyn nhw a fydd yn hysbysu ac yn llunio llesiant cenedlaethau'r dyfodol, a gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r Gorchymyn hwn. Heledd Fychan AS: Er yn amlwg croesewir y dull gweithredu, nid yw CCAUC yn gorff ystadegau swyddogol ar hyn o bryd, felly a gaf i ofyn pa ymgynghoriad y mae'r Gweinidog wedi'i gael gyda CCAUC neu brifysgolion i nodi a thrafod effeithiau neu broblemau posibl, gan gynnwys goblygiadau cost y newid hwn? Rebecca Evans AC: Rwyf eisiau rhoi sicrwydd i gyd-Aelodau y bu ymgysylltiad sylweddol gan y prif ystadegydd a'i thîm mewn cysylltiad â'r symudiad i roi'r statws i'r corff newydd o fod yn ddarparwr ystadegau swyddogol, a'r nod, mewn gwirionedd, yw sicrhau bod yr ystadegau hynny'n parhau i fod yn ystadegau cadarn. Yn enwedig yng nghyd-destun y sefyllfa rydyn ni'n cael ein hunain ynddi heddiw, pan fo cymaint o gamwybodaeth, rwy'n credu bod ystadegau cadarn y gall pawb ddibynnu arnynt gan ffynhonnell ag enw da yn bwysig iawn. A Llywydd, roeddwn i mor awyddus i ateb y cwestiwn rwy'n sylweddoli nad wyf yn gwybod a oes siaradwyr eraill yn y ddadl. Y Llywydd / The Llywydd: Ac roeddwn i mor awyddus i chi ateb y cwestiwn, doeddwn i ddim yn sylweddoli nad oedd unrhyw siaradwyr heblaw chi i ymateb. Oedd, roedd y ddwy ohonom yn rhy awyddus. Y Llywydd / The Llywydd: Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, does dim gwrthwynebiad. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 11. Dadl: Setliad yr Heddlu 2024-25 Y Llywydd / The Llywydd: Yr eitem nesaf, felly, fydd y ddadl ar setliad yr heddlu 2024-25. Y Gweinidog cyllid unwaith eto i wneud y cynnig—Rebecca Evans. Cynnig NDM8482 Lesley Griffiths Cynnig bod y Senedd, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2024-25 (Setliad Terfynol – Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu), a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 31 Ionawr 2024. Cynigiwyd y cynnig. Rebecca Evans AC: Heddiw, er mwyn cael cymeradwyaeth y Senedd, rwy'n cyflwyno manylion am gyfraniad Llywodraeth Cymru i'r cyllid refeniw craidd ar gyfer y pedwar comisiynydd heddlu a throseddu yng Nghymru ar gyfer 2024-25. Mae'r cyllid craidd ar gyfer yr heddlu yng Nghymru yn cael ei ddarparu drwy drefniant tair ffordd sy'n cynnwys y Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru a'r dreth gyngor. Gan nad yw polisi plismona a materion gweithredol wedi'u datganoli, mae'r darlun cyllido cyffredinol yn cael ei bennu a'i ysgogi gan benderfyniadau'r Swyddfa Gartref. Rydym wedi cynnal y dull sefydledig o osod a dosbarthu elfen Llywodraeth Cymru, yn seiliedig ar yr egwyddor o sicrhau cysondeb a thegwch ledled Cymru a Lloegr. Fel yr amlinellwyd yn fy nghyhoeddiad ar 31 Ionawr, cyfanswm y gefnogaeth refeniw heb ei neilltuo ar gyfer gwasanaeth yr heddlu yng Nghymru ar gyfer 2024-25 yw £459.8 miliwn. Er gwaethaf y sefyllfa ariannol heriol sy'n ein hwynebu, mae cyfraniad Llywodraeth Cymru i'r swm hwn yn parhau i fod heb newid ar £113.5 miliwn y llynedd a'r cyllid hwn y gofynnir i chi ei gymeradwyo heddiw. Fel mewn blynyddoedd blaenorol, mae'r Swyddfa Gartref wedi troshaenu ei fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion gyda mecanwaith gwaelodol. Mae hyn yn golygu, ar gyfer 2024-25, y bydd Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ledled Cymru a Lloegr i gyd yn derbyn cynnydd mewn cyllid o 2.054 y cant o'i gymharu â 2023-24, ar ôl cynnwys codiad cyflog yn ystod y flwyddyn ar gyfer 2023-24 a chyn addasu ar gyfer cyllid yr heddlu arbennig. Bydd y Swyddfa Gartref yn darparu grant atodol gwerth cyfanswm o £67.2 miliwn i sicrhau bod pob un o'r pedwar heddlu yng Nghymru yn cyrraedd lefel gwaelodol. Y cynnig ar gyfer y ddadl heddiw yw cytuno ar yr adroddiad cyllid llywodraeth leol ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu sydd wedi'i osod gerbron y Senedd hon. Os caiff ei gymeradwyo, bydd yn caniatáu i'r comisiynwyr gadarnhau eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, a gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r cynnig hwn. Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair. Mark Isherwood AC: Fel y clywsom, mae cyllid ar gyfer pedwar heddlu Cymru yn cael ei ddarparu drwy drefniant tair ffordd sy'n cynnwys y Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru a'r dreth gyngor, gyda'r Swyddfa Gartref yn gweithredu fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion gyda mecanwaith gwaelodol i ddosbarthu cyllid ar draws heddluoedd Cymru a Lloegr a chydag elfen Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar gysondeb ar draws Cymru a Lloegr. Ar gyfer 2024-25, cyfanswm y gefnogaeth graidd i heddluoedd yng Nghymru fydd £459.8 miliwn. Cyfraniad Llywodraeth Cymru i'r setliad i Gymru yw £113.47 miliwn, yr un swm ag a roddwyd yn setliad 2023-24. Bydd heddluoedd ledled Cymru a Lloegr yn derbyn hwb ariannol o hyd at £287 miliwn y flwyddyn nesaf gan Lywodraeth y DU. Bydd y cynnydd yn cynyddu'r cyfanswm cyllid ar gyfer plismona yng Nghymru a Lloegr i £17.2 biliwn, ac mae'n golygu y bydd comisiynwyr heddlu a throseddu ar draws y 43 heddlu yng Nghymru a Lloegr yn derbyn cynnydd o hyd at £523 miliwn o grantiau ac incwm praesept y Llywodraeth. Bydd praesept yr heddlu'r dreth gyngor yn codi 4.69 y cant yng Ngogledd Cymru, 6.2 y cant yn Nyfed-Powys, 6.7 y cant yng Ngwent a 8.69 y cant yn Ne Cymru. Ar fater cysylltiedig, mae Rhaglen Ysgolion Heddlu Cymru, SchoolBeat.Cymru, yn gydweithrediad rhwng Llywodraeth Cymru a Heddluoedd Dyfed-Powys, Gwent, Gogledd Cymru a De Cymru, sy'n creu rôl swyddogion heddlu ysgol, pwynt cyswllt penodol ar gyfer pob ysgol yng Nghymru. Mae'n cyflwyno cwricwlwm dwyieithog a adolygir yn genedlaethol o wersi a ddatblygwyd gan athrawon ar gyfer plant rhwng 5 ac 16 oed. Maent yn ymgysylltu â phob ysgol, gan gynnwys addysg prif ffrwd, ysgolion annibynnol yng Nghymru, ysgolion sy'n cefnogi anghenion dysgu ychwanegol a darpariaeth amgen, gan gynnwys unedau cyfeirio disgyblion ac addysg heblaw yn yr ysgol, fel polisi cytunedig gan bedwar heddlu Cymru ar gyfer ymateb i adroddiadau o ddigwyddiadau mewn ysgolion a chefnogi a chynghori ysgolion yng nghyd-destun diogelu—yn y bôn, ymyrraeth gynnar ac atal. Fodd bynnag, cadarnhawyd i mi, mewn cwestiynau ysgrifenedig i ddechrau, y bydd Llywodraeth Cymru yn tynnu ei chyllid cyfatebol yn ôl ar gyfer rhaglen ysgolion heddlu Cymru, sy'n cynnwys SchoolBeat, a thrwy hynny yn cael gwared ar raglen ymyrraeth gynnar ac atal allweddol a thrwy hynny ysgwyddo costau ar gyfer gwasanaethau statudol, gan gynnwys y rhai y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt. Felly, penderfyniad cibddall arall gan Lywodraeth Cymru yw hwn, gan dorri rhaglen sydd wedi'i chynllunio i atal yn hytrach na gwella, gan arbed y pwrs cyhoeddus yn nes ymlaen. Ym mis Mawrth y llynedd, cyflawnodd Llywodraeth y DU ei haddewid maniffesto a recriwtio 20,951 o swyddogion o gyllid ar gyfer rhaglen gynnydd yr heddlu, gan gynnwys 1,005 o swyddogion heddlu newydd ledled Cymru, yn amrywio o 141 ym Mhowys i 206 yng Ngogledd Cymru a Gwent a 452 yn Ne Cymru. Mae polisi'r Ceidwadwyr Cymreig hefyd yn parhau i gynyddu'r cyllid ar gyfer swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu bob blwyddyn. Dangosodd ffigurau diweddaraf arolwg trosedd Cymru a Lloegr ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2023 fod cyfanswm troseddau wedi gostwng 10 y cant, a achoswyd yn bennaf gan ostyngiadau mewn troseddau twyll a difrod troseddol. Mae hyn yn dilyn tuedd hirdymor ar i lawr a chwympiadau diweddar ers dechrau'r pandemig coronafeirws, gyda chyfanswm y troseddau 18 y cant yn is na'r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020. Ac fel y dysgais pan ymwelais ag Uned Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol Gogledd Orllewin Lloegr, amcangyfrifir bod 95 y cant neu fwy o droseddau yng y gogledd yn gweithredu ar draws y ffin, o'r dwyrain i'r gorllewin a bron dim ar sail Cymru gyfan. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru dal heb esbonio pam mai dim ond un cyfeiriad at droseddoldeb trawsffiniol y mae adroddiad comisiwn Thomas yn ei wneud, er gwaethaf y dystiolaeth a gyflwynwyd iddynt. Yn wahanol i'r Alban a Gogledd Iwerddon, mae gan Gymru ardal drawsffiniol boblog iawn, gyda bron i hanner y boblogaeth yng Nghymru yn byw o fewn 25 milltir i Loegr, a 90 y cant o fewn 50 milltir. O ystyried y realiti gweithredol a realiti'r boblogaeth, rhaid i Lywodraeth Cymru esbonio pam y mae'n neilltuo cymaint o amser ac adnoddau i ddatganoli plismona i Gymru pan fydd yn torri cyllidebau allweddol mewn mannau eraill, yn enwedig pan fo Llywodraeth Geidwadol y DU ac AS Llafur mwyaf blaenllaw Cymru yn San Steffan, Ysgrifennydd Cymru yr wrthblaid, Jo Stevens, wedi gwrthod galwadau newydd i Lywodraeth Cymru gael rheolaeth dros blismona a chyfiawnder troseddol oedolion. Diolch yn fawr. Peredur Owen Griffiths AS: Mae setliad yr heddlu ar gyfer 2024-25 yn golygu bod 14 mlynedd o gyni a ysgogwyd gan y Torïaid wedi peryglu diogelwch ein cymunedau. Oherwydd difrifoldeb y toriadau a osodwyd ar heddluoedd yn ystod gweinyddiaeth Cameron, dim ond nawr rydym yn gweld adferiad yn nifer yr heddlu yng Nghymru i'r un lefel yn fras ag yr oeddent yn 2010. Ac ar adeg pan fo pŵer gwario'r cyllid cyhoeddus mewn cyflwr mor ddinistriol, mae cyfanswm y cynnydd o lai na £10 miliwn ar gyfer grant heddlu Cymru yn y flwyddyn ariannol nesaf, sy'n cynrychioli cynnydd o 2 y cant yn unig o'i gymharu â'r llynedd, yn golygu bod penderfyniadau gwario anodd o'n blaenau i bob un o'n pedwar heddlu. Er enghraifft, mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru wedi amcangyfrif bod cyllideb yr heddlu wedi ei erydu £651 miliwn mewn termau real dros y 12 mlynedd diwethaf. Yn y cyfamser, mae Dyfed-Powys a Gogledd Cymru yn gorfod ystyried arbedion o tua £6 miliwn a £7.5 miliwn yn y drefn honno dros y pum mlynedd nesaf. Nid yw effaith niweidiol cyni yn weladwy mewn ffigurau ariannol yn unig. Datgelodd arolwg diweddar gan Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr fod 97 y cant o'r ymatebwyr yn dweud bod eu triniaeth gan y Llywodraeth, yn enwedig ar gyllid, wedi niweidio eu morâl, ond efallai na ddylem— Mark Isherwood AC: A wnewch chi ildio? Peredur Owen Griffiths AS: Mae gen i lawer i'w drafod, mae'n ddrwg gennyf, Mark. Ond efallai na ddylem synnu fod y blaid Dorïaidd, sydd wedi datblygu arfer parhaus yn ystod y blynyddoedd diwethaf o dorri'r rheolau, yn ymddangos nad yw'n gweld gwerth buddsoddi mewn cyfraith a threfn. Canlyniad y tanfuddsoddi cyson hwn gan San Steffan yw ei bod yn ymddangos bod yn rhaid i'r dreth gyngor ysgwyddo cyfran gynyddol fwy o'r costau. Bydd praesept yr heddlu ar gyfer pob llu heddlu yng Nghymru yn cynyddu yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf, 9 y cant yn achos De Cymru, sy'n golygu bod y praesept bellach yn cyfrif am 47 y cant o'r gyllideb, o'i gymharu â 34 y cant ddegawd yn ôl. Felly, pan fydd yr Aelodau Ceidwadol yma yn cwyno am y cynnydd i'r dreth gyngor, dylen nhw sianelu'r dicter hwnnw tuag at eu cydweithwyr yn Llywodraeth y DU a galw arnynt i ariannu heddluoedd Cymru yn iawn. Mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb yn y maes hwn hefyd. Er bod y siâr a gafodd gan Lywodraeth y DU yn ddi-os yn un gwael, mae'n wir serch hynny y bydd y penderfyniad i dorri £7.5 miliwn o gyllideb swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu a rhewi'r rhaglen recriwtio arfaethedig yn rhoi mwy o bwysau fyth ar adnoddau heddluoedd. A byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog egluro sut mae'r Llywodraeth wedi bod yn ymgysylltu â'r heddluoedd priodol ar oblygiadau'r cynlluniau gwariant cyllideb drafft. Yn olaf, o bersbectif ehangach, mae'r sefyllfa heriol y mae ein heddluoedd yn canfod eu hunain ynddi yn adlewyrchiad o ba mor wael y mae Cymru yn cael ei siomi gan ddiffyg pwerau datganoledig dros blismona, mewn gwrthgyferbyniad llwyr â'r cenhedloedd datganoledig eraill. Yn nhermau ariannol, mae hyn yn cael ei amlygu gan economi ffug modelau gwario i arbed mewn cyd-destun nad yw'n ddatganoledig, sy'n golygu, er gwaethaf y ffaith bod tua thraean o gyfanswm gwariant ar gyfiawnder yng Nghymru yn dod o ffynonellau datganoledig neu lywodraeth leol, ni ddychwelir unrhyw arbedion canlyniadol sy'n deillio o fentrau polisi Cymru i Drysorlys Cymru. Fel yr argymhellwyd gan gomisiwn Silk bron i ddegawd yn ôl, mae'r achos dros unioni'r anghysondeb cyfansoddiadol hwn yn gymhellol ac yn hir-ddisgwyliedig, ac eto mae'n parhau i syrthio ar glustiau byddar ymhlith arweinyddiaeth Llafur y DU, enghraifft arall eto o ddiffyg ymateb cynhenid i anghenion Cymru. Felly, byddwn yn galw ar Aelodau Llafur i ofyn y cwestiwn syml hwn i Ysgrifennydd Gwladol Cymru yr wrthblaid: pam ydych chi'n credu mai'r status quo sy'n methu yw'r peth gorau a gaiff pobl Cymru? Diolch. Rhys ab Owen AS: Er bod y setliad yma yn darparu cynnydd cyffredinol i'r cyllid, nid yw hyn yn cael ei ddyranu ar sail anghenion unigol y lluoedd. Ac fel dywedodd Peredur Owen Griffiths, mae'n dod yn dilyn nifer o doriadau ers dros ddegawd. Yn ogystal â'r toriadau i gyllid yr heddlu, mae'r heddlu hefyd wedi gorfod ymdopi â cheisio llenwi'r bwlch mawr sydd wedi cael ei adael yn ein cymunedau ni oherwydd polisïau llymder. Yn ôl Heddlu De Cymru, maent yn derbyn galwad bob 13 munud am ddigwyddiad sy'n ymwneud â mater iechyd meddwl. O'r digwyddiadau hynny, dim ond 4 y cant o'r galwadau sydd angen ymarfer pwerau'r heddlu—96 y cant, felly, o alwadau, un bob 13 munud, yn ymwneud â materion iechyd meddwl. Yn ogystal, mae pob un ohonom ni wedi clywed am geir heddlu yn cael eu defnyddio, yn hytrach nag ambiwlans, i gludo pobl i'r ysbytai, a hefyd enghreifftiau o bobl â phroblemau iechyd meddwl dwys yn cael eu cadw mewn celloedd heddlu. Rhys ab Owen AS: Yn ôl y Swyddfa Gartref, er mwyn sicrhau cynnydd cyfartalog mewn arian ar gyfer gwasanaethau heddlu o 6 y cant, bydd angen i'r holl gomisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru a Lloegr gynyddu eu praeseptau o leiaf £13—[Anghlywadwy.]—ffigur. Yng Ngogledd Cymru, mae'r praesept yn cynyddu £16; yn Nyfed-Powys, £19; yng Ngwent, £25; ac yn Ne Cymru cynnydd sylweddol o £28—cynnydd o £28 yn nhrethi'r cyngor i bobl de Cymru. Mae'n annheg, oherwydd diffyg cyllid priodol gan Lywodraeth San Steffan, y gofynnir i drigolion lleol, sydd eisoes wedi talu am blismona yn eu trethi, ysgwyddo'r baich unwaith eto, yn enwedig yn ystod argyfwng costau byw. Mae hefyd yn creu loteri cod post rhyfedd, lle bydd y dreth yng Nghasllwchwr yn cynyddu bron i ddwbl y cynnydd ar draws yr aber yn Llanelli. Er bod y cyfrifiadau cyfredol yn ystyried ychydig o ffactorau economaidd-gymdeithasol, y brif anfantais yw maint y boblogaeth. Pam, felly, ydyn ni'n defnyddio rhagfynegiadau-nid data, rhagfynegiadau, nid data—o 2013, i benderfynu ar ganlyniadau cyllid yn 2024? Mae hyn wedi cael ei amlygu a'i feirniadu gan ffederasiwn yr heddlu ers blynyddoedd, ond mae'n dal i gael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru. Os ydym o ddifrif ynglŷn â datganoli plismona, mae angen i ni ddangos mwy o ofal i'r angen am blismona yma yng Nghymru. Fel y soniodd Peredur, dywedodd 93 y cant o swyddogion heddlu Cymru nad ydyn nhw'n teimlo eu bod yn cael eu parchu gan Lywodraeth Cymru. Pan ystyriwch nifer y toriadau dros y blynyddoedd i fesurau addysgol, cymunedol ac ataliol yr ymdrinnir â nhw gan yr heddlu, a'r cymhlethdod ychwanegol a grëwyd gan yr ymyl garw, mae'n hawdd deall pam eu bod yn teimlo fel hyn. Yn hanfodol, mae'r setliad hwn yn methu â darparu gweledigaeth flaengar ar gyfer plismona yng Nghymru. Yn hytrach nag ymrwymo i gynllun ariannu sefydlog a chynaliadwy, gwelwn Weinidogion Cymru yn dibynnu ar setliadau blynyddol nad ydynt yn rhoi unrhyw arwydd o drywydd yn y dyfodol. Mae hyn yn hanfodol os ydym o ddifrif ynglŷn â datganoli pellach. Gobeithio, gyda newid Llywodraeth eleni yn San Steffan, y bydd Llywodraeth Cymru a'r Swyddfa Gartref yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu cymorth ychwanegol ar gyfer cyllido plismona datganoledig yn y dyfodol, arwydd o lwybr at blismona datganoledig a chynllun i ddatganoli fformiwlâu cyllido i ganiatáu i Lywodraeth Cymru gynhyrchu system ariannu decach sy'n gweithio i bawb ledled Cymru. Diolch yn fawr. Heledd Fychan AS: Un o'r pethau a welwyd yn y penawdau yr wythnos diwethaf oedd prosiect neu fenter SchoolBeat.Cymru, ac yn amlwg mae wedi bod yn destun pryder mawr, i'r heddlu, comisiynwyr heddlu a throseddu ac ysgolion, ond hefyd i bobl o fewn y gymuned rwy'n ei chynrychioli, bod hyn yn dod i ben. Yn amlwg, mae'r heddlu wedi penderfynu ei hariannu am weddill y flwyddyn academaidd, ond siomedig oedd darganfod na fu unrhyw ymgynghoriad, dim sgwrs ynghylch diwedd y rhaglen hon. O ran ei heffaith, rwy'n credu bod yr holl dystiolaethau hynny'n siarad drostynt eu hunain. Roedd yn bwerus iawn darllen ar y newyddion, ond hefyd yn y negeseuon e-bost rydw i wedi'u derbyn gan athrawon, yn nodi'r effaith y gallan nhw ei gweld yn sgil y buddsoddiad hwnnw i alluogi'r heddlu i ymgysylltu, a hefyd sut mae hynny'n mynd i'r afael â phroblemau cyn iddyn nhw waethygu ac atal pobl rhag gorfod mynd i lawr y llwybr cyfiawnder ieuenctid hwnnw nad ydym eisiau ymgysylltu ag ef. Mae cymaint o wahanol faterion yn cael sylw yn y gwersi hynny, o gamddefnyddio sylweddau, diogelu, ymddygiadau, ond hefyd gwrth-hiliaeth; cymaint o faterion y gallant ymgysylltu'n rhagweithiol â nhw ac yn y math hwnnw o amgylchedd sy'n ddiogel ac yn groesawgar. Felly, byddwn yn gofyn i Lywodraeth Cymru pa ystyriaethau a roddwyd, yn dilyn y beirniadaethau hynny a'r pryderon ynghylch y toriad hwnnw i'r ffrwd ariannu benodol honno, er mwyn sicrhau nad yw'r gwaith hwnnw'n chwalu o golli'r cyllid hwnnw. Gan y bydd atal, yn y tymor hir, yn gwneud arbedion o ran cyllido cyhoeddus, felly byddwn yn awyddus iawn i wybod a fydd y sgyrsiau hynny'n digwydd nawr, os na ddigwyddon nhw cyn i'r penderfyniad hwnnw gael ei wneud, a sut y gallwn sicrhau y gall y rhaglenni hynny barhau mewn ysgolion. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i ymateb i'r ddadl. Rebecca Evans. Rebecca Evans AC: Diolch. Fe ddechreuaf, mewn gwirionedd, drwy gydnabod manteision cyllid dangosol i gomisiynwyr heddlu a throseddu ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Fodd bynnag, nid yw hyn bob amser yn ymarferol ac nid yw'n ddefnyddiol, rwy'n gwybod, i gomisiynwyr mewn cysylltiad â chynllunio ariannol tymor canolig, ond gan fod y trefniadau cyllido yn cwmpasu Cymru a Lloegr, nid yw'n bosibl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi gwybodaeth heb fanylion am gyllid y Swyddfa Gartref. I gyfeirio'n gryno at yr adolygiad o'r fformiwla ariannu, sydd ar y gweill ar hyn o bryd, mae Gweinidogion Llywodraeth y DU wedi cadarnhau eu bwriad i gwblhau'r gwaith hwn cyn yr etholiad cyffredinol nesaf. Mae'r Swyddfa Gartref yn cydnabod bod y fformiwla ariannu heddlu bresennol wedi dyddio ac nad yw bellach yn adlewyrchu'r galw ar blismona yn gywir, ac mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gyflwyno fformiwla newydd a fydd, meddai, yn dosbarthu cyllid craidd yn deg ac yn dryloyw i'r 43 heddlu yng Nghymru a Lloegr. Felly, mae cam technegol yr adolygiad ar y gweill ar hyn o bryd a bydd hynny'n cyflwyno cynigion ar gyfer trefniadau ariannu newydd. Mae grŵp uwch sector a grŵp cyfeirio technegol wedi cael eu cynnull gyda chynrychiolaeth o'r sector plismona ac arbenigwyr perthnasol i arwain ar ddatblygu fformiwla newydd. Bydd y Swyddfa Gartref yn parhau i weithio'n agos gyda'r sector drwy gydol yr adolygiad, a bydd unrhyw gynigion yn destun ymgynghoriad cyhoeddus llawn cyn cael eu gweithredu, ac yn amlwg byddem eisiau i swyddogion Llywodraeth Cymru barhau i aros yn agos at y gwaith hwnnw a pharhau i dderbyn y diweddariadau hynny amdano. Daeth y Llywydd i’r Gadair. Rebecca Evans AC: Wrth gwrs, rwy'n deall y pryderon sydd wedi'u codi am raglen ysgolion heddlu Cymru. Doedd hynny ddim yn benderfyniad hawdd o bell ffordd, ond rwy'n credu mai enghraifft dda iawn yw e—enghraifft dda iawn y prynhawn yma—o'r dewisiadau anodd rydyn ni wedi gorfod eu gwneud o ran ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Wrth flaenoriaethu'r GIG a llywodraeth leol, mae wedi golygu newid ein dull o ymdrin â rhai rhaglenni ar draws y Llywodraeth, ac yn y cyd-destun hwnnw roedd yn rhaid i ni wneud y penderfyniad anodd hwnnw i dynnu cyllid yn ôl ar gyfer rhaglen ysgolion heddlu Cymru ar ddiwedd y flwyddyn ariannol hon. Mae'n werth cydnabod bod y dirwedd o amgylch llesiant dysgwyr ar ystod o faterion pwysig wedi newid yn sylweddol ers cyflwyno'r rhaglen honno. Mae llawer o feysydd bellach yn bynciau a fyddai'n cael eu hystyried fel arfer ym maes dysgu iechyd a llesiant, ac roedd pob un o'r rhain yn draddodiadol yn dod o dan raglen ysgolion heddlu Cymru. Ond bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid mewnol ac allanol i archwilio pa ddarpariaeth ac adnoddau presennol neu amgen sydd ar gael i sicrhau bod plant yn cael gwybodaeth berthnasol i'w galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus a'u cadw'n ddiogel. Ond dim ond pwysleisio eto nad oedd hynny'n benderfyniad a wnaed yn ysgafn, ac yn sicr nid yn un y byddem wedi dymuno ei gymryd pe bai ein sefyllfa ariannol wedi bod yn wahanol. Ac yna, yn fyr, i fyfyrio ar swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu, rydym yn dal i ddarparu dros £15 miliwn o gyllid ar gyfer SCCH, er bod y maes hwn yn un a gedwir yn ôl gan Lywodraeth y DU. Mae'r arian hwn yn cael ei ddarparu yn ychwanegol at yr arian y bydd heddluoedd yn ei dderbyn gan Lywodraeth y DU. Mae'n darparu buddsoddiad ychwanegol mewn cymunedau yng Nghymru nad yw ar gael i heddluoedd yn Lloegr. A hefyd, nid effeithir ar gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer SCCH trafnidiaeth o'r portffolio newid hinsawdd, ac rwy'n falch ein bod yn gallu parhau i ariannu yn y maes pwysig hwn. Rydym yn darparu £0.5 miliwn o gyllid bob blwyddyn ar gyfer SCCH trafnidiaeth, ac mae'r cyllid hwn yn ariannu rhingyll yr heddlu a chyllid rhannol ar gyfer un arolygydd heddlu. Er, wrth siarad am flaenoriaethau eto, rydym wedi gwneud y penderfyniad i flaenoriaethu gwariant ar ddiogelwch cymunedol yn y meysydd sydd wedi'u datganoli i Lywodraeth Cymru. Mae hynny'n cynnwys cynnal neu gynyddu ein gwariant mewn meysydd fel Canolfan Cymorth Casineb Cymru, trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol', glasbrint cyfiawnder menywod, a'r rhaglen cydlyniant cymunedol. Mae maint llawn y buddsoddiad hwn wedi'i nodi yn ein cyllideb ddrafft. Dim ond i ddweud 'diolch' wrth fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, sydd â'r berthynas o ddydd i ddydd â'n cydweithwyr yn yr heddlu, a gwn fod y perthnasoedd hynny'n adeiladol iawn, iawn yn wir. Ac yna yn olaf, dim ond i gydnabod cyd-destun anodd y penderfyniad sy'n cael ei wneud mewn cysylltiad â gosod y praesept. Yn wahanol i Loegr, rydym wedi cadw'r rhyddid i Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu Cymru wneud eu penderfyniadau eu hunain am gynnydd treth gyngor. Mae gosod y praesept yn rhan allweddol o rôl y Comisiynwyr, ac mae'n dangos eu hatebolrwydd i'r etholwyr lleol. Mae pob un o'n Comisiynwyr Heddlu a Throseddu wedi bod yn ymgynghori â'u cymunedau ar lefel y cyllid lleol ar gyfer 2024-25, a gwn y byddant yn ymwybodol iawn o'r pwysau costau byw y mae llawer o aelwydydd yn parhau i'w hwynebu, ac rwy'n disgwyl i Gomisiynwyr weithredu mewn modd rhesymol drwy ymgynghori â thrigolion lleol a'r cynghorau cyfansoddol, a chael cynlluniau cyllideb synhwyrol a chynlluniau ariannol tymor canolig ar waith, a hefyd myfyrio ar benderfyniadau blaenorol y dreth gyngor yn eu hardaloedd hefyd. Felly, yn olaf, Llywydd, i ddiweddu drwy gydnabod y gwaith pwysig y mae'r heddlu yn ei wneud i'n cymunedau ledled Cymru. Maent yn rhan gwbl allweddol o wasanaeth cyhoeddus integredig, gan weithio gyda byrddau iechyd, cynghorau lleol, a phartneriaid eraill fel rhan o'n dull cydgysylltiedig o ymdrin â diogelwch cymunedol yma yng Nghymru. Y Llywydd / The Llywydd: Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fe wnawn ni ohirio tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. 12. Cyfnod Pleidleisio Y Llywydd / The Llywydd: Rŷn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac felly fe wnawn ni symud at y pleidleisiau, os nad oes tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch. Gwnawn ni gynnal y bleidlais gyntaf. Mae'r bleidlais gyntaf ar y Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2024. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Nid oes recordiad ar gael o’r cyfarfod rhwng 19:09 a 19:11. Eitem 9. Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2024: O blaid: 27, Yn erbyn: 14, Ymatal: 11 Derbyniwyd y cynnigCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Y Llywydd / The Llywydd: Galwaf am bleidlais ar y cynnig ar setliad yr heddlu yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 41, 11 yn ymatal, neb yn erbyn. Ac, felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn. Eitem 11. Dadl: Setliad yr Heddlu 2024-25: O blaid: 41, Yn erbyn: 0, Ymatal: 11 Derbyniwyd y cynnigCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Y Llywydd / The Llywydd: Dyna ddiwedd ar y cyfnod pleidleisio. Daeth y cyfarfod i ben am 19:11. QNR Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru Sian Gwenllian: Pa asesiad mae'r Llywodraeth wedi ei wneud ynghylch a ydi cynlluniau i adeiliadu gorsafoedd nwy yn Arfon yn gydnaws â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol? Vaughan Gething: Bydd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ac egwyddorion datblygu cynaliadwy, fel maen nhw’n cael eu diffinio yn y Ddeddf, yn rhan o'r gwaith o asesu unrhyw gais cynllunio. Laura Anne Jones: Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda thiriogaethau tramor Prydain? Vaughan Gething: Our International Strategy sets out our approach to our international work. Our flexible approach means that we welcome new partners who can support our work to promote Wales overseas, including those in the British Overseas Territories. Cefin Campbell: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gapasiti'r grid trydanol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? Vaughan Gething: Electricity demand in Wales will increase substantially due to electrification of heat, transport and business needs. We need a strategic solution to updating our grid infrastructure to give people reliable access to clean heat, transport, and fair work. The Welsh Government published the Future Grids for Wales report in July 2023. Joel James: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cymorth y bydd ffermwyr yn ei gael er mwyn cynnal safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig ar eu tir? Vaughan Gething: Farmers who have sites of special scientific interest on their land play a vital role in safeguarding our precious natural environment. The Sustainable Farming Scheme consultation seeks views on how to manage these sites and I encourage everyone to have their say and respond to the consultation.
uk-hansard-senedd-cy
senedd2024-02-20
2024-06-01T00:00:00
{ "year": "2024", "language": "cy", "license": "Open Parliament Licence - https://www.parliament.uk/site-information/copyright-parliament/open-parliament-licence/" }
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. Galw'r Aelodau i drefn. 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Angela Burns. Gwella'r Gwasanaeth Iechyd Angela Burns AC: 1. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella'r gwasanaeth iechyd dros y flwyddyn sydd i ddod? OAQ54972 Mark Drakeford AC: Llywydd, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Ymhlith ein blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod mae buddsoddi'r symiau uchaf erioed ar draws ein system iechyd a gofal cymdeithasol, hyfforddi'r nifer uchaf erioed o weithwyr clinigol proffesiynol i greu gweithlu'r dyfodol ac amddiffyn Cymru rhag unrhyw ymgais gan Lywodraeth y DU i roi'r GIG ar werth. Angela Burns AC: Wel, Prif Weinidog, fel y gwyddoch, mae'r pwysau presennol sy'n wynebu GIG Cymru wedi dod i'r amlwg yn yr wythnosau diwethaf—'pwysau'r gaeaf', fel yr ydym ni'n hoffi eu galw, er mai'r realiti yw eu bod nhw yno yn ystod y rhan fwyaf o'r flwyddyn. Nawr, yng ngeiriau Dr Phil Banfield, Cadeirydd pwyllgor ymgynghorol Cymdeithas Feddygol Prydain Cymru, dywedodd Mae'n amlwg o'r datblygiadau diweddaraf bod pethau'n mynd yn waeth nid yn well. Aeth ymlaen hefyd i ddweud Bydd gofal yn dioddef os na wneir rhywbeth am hyn nawr. Mae'n rhaid cymryd hyn o ddifrif. Mae'n gwbl bosibl y gallai bywydau gael eu colli'n ddiangen. Prif Weinidog, mae Cymdeithas Feddygol Prydain hefyd yn mynd ymlaen i awgrymu, fel y mae llawer ohonom ni yn y Siambr hon wedi awgrymu, y gwahanol bethau y mae angen eu gwneud i leddfu pwysau'r gaeaf a'r mathau o feysydd y mae angen i ni eu hystyried, o gynyddu nifer y gwelyau mewn ysbytai, i gynyddu gallu pobl i ddod allan o'r ysbyty a chael eu cynorthwyo yn y gymuned, i sicrhau mai dim ond y bobl y mae angen iddyn nhw fynd i'r ysbyty sy'n mynd i'r ysbyty. Felly, mae pedair blynedd wedi mynd heibio, ac roedd hyn yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. A allwch chi ddweud wrthym ni, os gwelwch yn dda, yn y flwyddyn sydd gennym ni ar ôl, a fyddwch chi'n gallu mynd i'r afael â'r mater difrifol iawn hwn o'r diwedd? Ac mae'n ddifrifol, oherwydd rwyf i eisiau cloi ar yr un nodyn hwn. Mae Dr Banfield, sy'n cynrychioli llawer iawn o bobl yn y GIG iechyd, yn mynd ymlaen i ddweud bod y pwysau ar staff yn annioddefol, a bod bywydau cleifion mewn perygl. Nid yw hon yn sefyllfa dderbyniol. Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, gadewch i mi gytuno â rhywbeth a ddywedodd yr Aelod ar ddechrau ei chwestiwn, oherwydd mae naw o'r 11 mis diwethaf yn y GIG yng Nghymru wedi bod y misoedd prysuraf o'r math hwnnw a gofnodwyd erioed. Felly, mae hi'n iawn i ddweud bod y pwysau yn y GIG yng Nghymru yn ddi-baid; bod y galw'n tyfu drwy'r amser. Ond mae hi wedyn yn mynd ymlaen i ganolbwyntio ar yr ochr gyflenwi yn unig, fel pe byddai'r ateb i'r gwasanaeth iechyd yw parhau i ehangu'r gwasanaethau a ddarperir yn unig, gan fynd ar drywydd galw bythol gynyddol. Ac nid yw hwnnw'n ateb i'r gwasanaeth iechyd. Rydym ni'n gwneud hynny i gyd. Rydym ni'n parhau bob blwyddyn. Mae gennym ni'r nifer uchaf erioed o weithwyr proffesiynol yn gweithio yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Erbyn hyn mae gennym ni fwy o bobl yn gweithio yn y GIG yng Nghymru nag yn holl Fyddin Prydain. Cyflogir mwy na 92,000 o bobl i ddarparu'r gwasanaeth y mae Angela Burns yn cyfeirio ato. O ganlyniad i gynllunio ar gyfer pwysau'r gaeaf, bydd 400 yn fwy o welyau, neu wasanaethau sy'n cyfateb i welyau, ar gael y gaeaf hwn nag a fyddai wedi bod ar gael fel arall. Cyfeiriodd yr Aelod at y gwasanaethau sydd ar gael i gadw pobl allan o'r ysbyty. Fy nealltwriaeth i, o wybodaeth reoli, yw y byddwn ni wedi gweld gostyngiad i nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal ym mis Rhagfyr y llynedd oherwydd yr ymdrechion aruthrol a wneir gan ein hawdurdodau lleol i ddarparu'r gwasanaethau hynny. Ond pan fydd llanw cynyddol o bobl yn dod drwy'r drws; pan fydd y bobl hynny yn aml yn oedrannus, pan fo'u hanghenion yn aml yn gymhleth, pan fo angen iddyn nhw fod yn yr ysbyty—. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd Angela Burns, ond dim ond rhywun sydd angen bod mewn ysbyty ddylai fod yn yr ysbyty. Ond mae nifer y bobl dros 75 oed sy'n cyflwyno eu hunain wrth ddrws ffrynt GIG Cymru, sydd wedyn angen—a gwir angen—gwely mewn ysbyty, wedi bod ar ei uchaf erioed yn ystod y gaeaf hwn. Felly, lle bynnag y gallwn ni, rydym ni angen gwasanaethau sy'n dargyfeirio pobl o'r lefel uchaf o ddwyster yn y sector ysbytai, gan leihau angen, defnyddio fferyllfeydd cymunedol cyn i chi fynd at y meddyg, yr holl bethau hynny—maen nhw i gyd yn digwydd yn y GIG yng Nghymru, ond maen nhw'n digwydd yn erbyn patrwm o alw sy'n golygu bod yn rhaid i chi redeg hyd yn oed yn gyflymach dim ond i sefyll yn llonydd. Rhun ap Iorwerth AC: Her sylfaenol ydy symud tuag at system sydd yn wirioneddol ataliol ei natur. Dŷn ni ddim yn gweld hynny o ran polisi ar hyn o bryd; dŷn ni ddim yn ei weld o o ran y ffordd mae cyllidebau yn cael eu rhannu. A wnaiff y Prif Weinidog sylweddoli bod angen blaenoriaethu go iawn rŵan yr angen i ffeindio ffyrdd o bontio at fath newydd o NHS, o allu buddsoddi yn yr ataliol—yn cynnwys isadeiledd ataliol, adnoddau chwaraeon, adnoddau ymarfer corff, adnoddau cadw'n heini, ac ati—neu, fel arall, pwll diwaelod fydd yr NHS? Mae angen y trawsnewidiad yna nad ydym ni'n ei weld ar hyn o bryd. Mark Drakeford AC: Wel, wrth gwrs dwi'n cytuno, Llywydd. A beth rŷm ni'n gallu ei wneud i atal pobl heb gael—. Sori. Mark Drakeford AC: —i atal pobl rhag bod angen mynediad at y gwasanaeth iechyd, mae hwnnw, wrth gwrs, yn fuddsoddiad priodol yn y dyfodol; nid yw'n ateb i'r sawl sydd dros 75 oed sydd angen gwasanaethau yn y fan a'r lle. Mae'r adolygiad seneddol, y cymerodd pleidiau ar draws y Siambr hon ran ynddo, yn darparu pont o'r math hwnnw. Mae'n disgrifio sut y gallwch chi newid y system gam wrth gam—oherwydd dyna'r unig ffordd y gallwch chi ei wneud—fel bod mwy o bwyslais ar atal, ac felly llai o angen i bobl geisio cymorth yn rhan fwyaf dwys y system. Nid yw hynny'n helpu pobl y mae eu hanghenion am y math hwnnw o gymorth yn bodoli nawr, ac na allwch chi beidio â rhoi sylw i'r anghenion hynny. Ac nid cyfrifoldeb y gwasanaeth iechyd gwladol yw atal; mae atal yn rhywbeth y gallwch chi ei gyflwyno dim ond pan fo gennych chi'r holl wasanaethau cyhoeddus wedi ymrwymo i wneud hynny a phan fo gennych chi berthynas gyda'r defnyddiwr lle mae hwythau hefyd yn chwarae eu rhan. Rydym ni'n siarad yn aml ar lawr y Cynulliad am gyd-gynhyrchu, a'r angen i gofnodi'r cyfraniad y mae defnyddwyr yn ei wneud, ac nid oes unrhyw amgylchiadau lle mae cofnodi'r cyfraniad hwnnw yn bwysicach nag os ydym ni wir yn mynd i gael gwasanaethau ataliol. Oherwydd yn anad dim, mae hynny'n dibynnu ar yr hyn y gall unigolion ei wneud i sicrhau bod y niwed a fyddai'n digwydd fel arall yn eu bywydau eu hunain yn cael ei osgoi. Mandy Jones AC: Gweinidog, rwy'n gweld bod astudiaeth fyd-eang wedi datgelu bod sepsis yn lladdwr mwy na chanser erbyn hyn, a bod enghreifftiau ohono ar gynnydd yng Nghymru a Lloegr. Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o hyn, a sut mae eich Llywodraeth yn mynd i sicrhau bod GIG Cymru yn barod am hyn yn ystod y flwyddyn nesaf? Mark Drakeford AC: Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn atodol pwysig yna. Dylwn ei gwneud yn eglur bod niferoedd sepsis yng Nghymru yn gostwng a ddim yn codi, felly nid yw'r ffigurau a gyhoeddwyd yn ffigurau ar gyfer Cymru—maen nhw wedi gostwng yng Nghymru ers 2016. Ac mae hynny oherwydd gwaith arloesol iawn a wnaed gan glinigwyr yma yng Nghymru, o dan arweiniad rhai clinigwyr craff ac ymroddedig iawn, sydd wedi datblygu'r system arwyddion rhybudd cynnar sydd gennym ni ar gyfer sepsis yma yng Nghymru, sydd bellach yn cael ei mabwysiadu mewn rhannau eraill o'r gwasanaeth iechyd yn fwy cyffredinol, sy'n sicrhau bod pobl yn effro i'r arwyddion cynnar hynny y gellir eu drysu'n ddigon hawdd fel arwydd o rywbeth heblaw sepsis, i ddilyn y chwe cham y mae angen i chi eu cymryd fel clinigydd i brofi ai sepsis yw'r hyn yr ydych chi'n ei weld o'ch blaen, ac yna cymryd camau cyflym. Mae'n fater pwysig iawn, ond rwy'n credu y gallwn ni hawlio'n wirioneddol ein bod ni wedi bod y tu blaen i'r ddadl hon yng Nghymru, a dyna pam mae'r ffigurau yng Nghymru wedi bod yn gostwng. Mick Antoniw AC: Prif Weinidog, rwyf i wedi codi gyda chi eich hun y sefyllfa ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg lawer gwaith, o ran trosglwyddiadau ambiwlansys. Ac mae'n deg dweud eu bod nhw, dros y blynyddoedd diwethaf, wedi datblygu model rhagorol, lle maen nhw'n derbyn y cleifion o'r ambiwlans, er mwyn rhyddhau'r ambiwlansys. Ond wrth gwrs mae hefyd yn ei gwneud hi'n ofynnol bod buddsoddiad ar y pen arall o ran y rhai sydd mewn gwelyau yn gallu gadael; eu bod nhw'n cael y cymorth priodol gan y gwasanaethau cymdeithasol, ac yn y blaen. Nawr, mae'n amlwg bod hynny wedi bod yn gweithio eleni, ond ceir pwysau sylweddol, felly rwyf i wedi cael fy hysbysu am nifer o enghreifftiau. Rwy'n credu bod dau fater, mewn gwirionedd, yr hoffwn i eu hystyried. I ba raddau y mae'r model hwnnw a ddatblygwyd yng Nghwm Taf wedi cael ei gyflwyno ymhlith byrddau iechyd eraill? Ond yn ail, pa werthusiad sy'n cael ei gynnal o'r pwysau sy'n amlwg yn bodoli ar y cydgysylltiad gyda'r ochr gwasanaethau cymdeithasol, fel bod gwelyau—bod pobl yn gallu gadael yr ysbyty pan fyddan nhw'n barod i wneud hynny, gan ryddhau lle, yn amlwg, a hefyd rhyddhau'r gwasanaeth ambiwlans wedyn? Ac yn olaf ynglŷn â hynny mae'n debyg, mae'r gydnabyddiaeth, rwy'n credu, o broffesiynoldeb ac ymroddiad ein gwasanaethau ambiwlans. Oherwydd, ar yr adeg hon o'r flwyddyn, mae eu hymatebion a'u hymrwymiad heb eu hail. Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, rwy'n falch iawn o gofnodi gwerthfawrogiad Llywodraeth Cymru i bawb sy'n gweithio ar reng flaen ein gwasanaethau iechyd o dan y pwysau di-baid sydd wedi bod yno, nid yn unig dros y gaeaf, ond fel y dywedodd Angela Burns, dros fisoedd lawer cyn hynny. Mae llawer y gall pobl eraill ei ddysgu o brofiad Cwm Taf o drosglwyddo pobl o ambiwlansys i ysbytai a dyna pam mae gennym ni ddull cenedlaethol o ddatblygu gwasanaethau ambiwlans. Mae Mick Antoniw yn iawn, wrth gwrs, i gyfeirio at y pwysau sydd yn ein gwasanaethau cymdeithasol, yn ogystal â'r gwasanaeth iechyd. Soniais yn fy ateb i Angela Burns bod 400 o wasanaethau gwelyau neu'n cyfateb i welyau yn cael eu cynhyrchu dros y gaeaf hwn yn ychwanegol i'r gwasanaethau arferol. Mae tua 160 o'r rheini mewn gofal cymdeithasol mewn gwirionedd, yn cynnig lleoedd lle gellir gofalu am bobl yn ddiogel yn y gymuned, naill ai wedi'u rhyddhau'n gyflym o'r ysbyty neu'n atal derbyniad yn y lle cyntaf. Ond, fel yr wyf i hefyd wedi ei ddweud o'r blaen ar lawr y Cynulliad, mae'r hyn y mae awdurdodau lleol yn ei wynebu, mewn rhai ffyrdd, yn ganlyniad i'r llwyddiant y maen nhw wedi ei gael o ran lleihau'r angen am ofal preswyl yma yng Nghymru. Rwy'n cofio darllen rhagfynegiadau ar ddechrau datganoli a oedd yn dweud wrthymy byddai miloedd yn fwy o bobl hŷn mewn gofal preswyl yng Nghymru erbyn heddiw, a bod angen i ni ddechrau paratoi ar gyfer hynny. Mewn gwirionedd, yr hyn y mae awdurdodau lleol wedi ei wneud yw cryfhau gwasanaethau cymunedol fel nad yw'r ffrwydrad hwnnw yn yr angen am ofal preswyl wedi digwydd. Ond pan eich bod chi'n gofalu am fwy o bobl—pobl fwy bregus, pobl â lefelau uwch o angen a gwasanaeth mwy dwys yn y gymuned—yna mae'r her o gadw'r bobl hynny'n iach, eu cadw nhw'n egnïol, eu dychwelyd nhw i'w cartrefi pan fyddan nhw'n cael achos o ofal acíwt, yn her wirioneddol. Rydym ni'n olrhain hynny wrth gwrs; rydym ni'n trafod drwy'r byrddau partneriaeth rhanbarthol a chyda'n cyd-Aelodau wrth gwrs, a byddwn yn dysgu'r gwersi o'r gaeaf hwn, wrth i ni ddechrau cynllunio—fel y byddwn ni'n fuan—ar gyfer gaeaf y flwyddyn nesaf. Cam-drin Domestig Bethan Sayed AC: 2. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â cham-drin domestig yng Nghymru? OAQ54954 Mark Drakeford AC: Diolchaf i'r Aelod am hynna. Rydym ni'n mynd i'r afael â cham-drin domestig drwy amrywiaeth o fentrau wedi eu llywio gan oroeswyr. Mae'r rhain yn cynnwys codi ymwybyddiaeth a herio agweddau drwy ymgyrchoedd cyfathrebu; hyfforddi gweithwyr proffesiynol; darparu addysg ar gydberthnasoedd iach; pennu safonau ar gyfer gweithio gyda chyflawnwyr troseddau; a darparu cyllid refeniw a chyfalaf i ddarparwyr gwasanaethau. Bethan Sayed AC: Diolch am yr ateb yna. Gwn fod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno llawer o wahanol arferion o ran rheolaeth drwy orfodaeth, ac rwyf i'n croesawu hynny, a byddwch yn gwybod, o'r ddadl yr wythnos diwethaf a gawsom ar dreisio—dadl Plaid Cymru—fy mod i wedi cynnal digwyddiad gyda David a Sally Challen yn adeilad y Senedd. A'r hyn a'm trawodd i oedd na fydd llawer o'r dioddefwyr yn gwybod bod rhai o'r nifer o fathau o gamdriniaeth sy'n ymwneud â rheolaeth drwy orfodaeth yn rhywbeth nad ydyn nhw'n ei nodi yn y cydberthnasoedd hynny. Ac felly mae ceisio mynd i'r afael â hynny yn rhywbeth—. Pan oedd comisiynwyr yr heddlu yn bresennol, roedden nhw'n dweud bod cam-drin domestig yn epidemig erbyn hyn a bod digwyddiadau sy'n gysylltiedig â rheoli drwy orfodaeth wedi cynyddu ynghynt ac ynghynt yn ardal yr heddlu penodol hwnnw. Felly, fy nghwestiwn i yw, o'r noson honno, clywsom fod rhaglen Freedom yn llwyddiannus iawn, a fyddwch chi'n gallu cyflwyno honno mewn ysgolion? Rydym ni'n gwybod ei bod yn edrych ar systemau credo camdrinwyr a sut y galla nhw newid eu hagweddau. Ac fy ail gwestiwn yw—. Roedd gennym ni lond ystafell o bobl yno, ond dim ond pump neu chwech o ddynion oedd gennym ni. Pa un a ydyn nhw'n cael eu cam-drin neu'n gamdrinwyr, os nad ydyn nhw yn yr ystafell nid ydyn nhw'n gwrando ac nid ydyn nhw'n cymryd rhan yn y prosesau hynny. Felly, sut gallwn ni wneud hwn yn fater cymdeithasol? Ac mae'r trydydd un yn ymwneud â sut y gallwch chi wneud yn siŵr, pan ddaw'r rhaglen rheolaeth drwy orfodaeth bresennol sydd gennych chi, fel Llywodraeth Cymru, i ben, beth ydych chi'n mynd i'w wneud ar ôl hynny, fel y gallwn ni wneud yn siŵr bod gennym ni bobl yn y mathau hyn o gydberthnasoedd yn y dyfodol sy'n gallu cael eu cefnogi a'u helpu pan fydd angen iddyn nhw ddianc o'r cydberthnasoedd hynny, ond mewn modd y gallan nhw ei wneud gyda chefnogaeth cymdeithas y tu ôl iddyn nhw? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, diolchaf i Bethan Sayed am y cwestiynau yna ac am y digwyddiad a gynhaliwyd ganddi, y gwn ei fod wedi denu llawer o ddiddordeb y tu hwnt i'r Cynulliad o ran dysgu o'r hyn a ddywedwyd a'r sesiwn holi ac ateb gyda David a Sally Challen. A dywedwyd yno, rwy'n gwybod, i gynifer o ddioddefwyr rheolaeth dan orfodaeth mai'r cam cyntaf yw cydnabod bod hyn yn digwydd iddyn nhw a deall nad yw hon yn ffordd normal o gynnal perthynas. Felly, i gymryd y cwestiynau penodol gan gychwyn gyda'r olaf, bydd gan yr ymgyrch gyfathrebu 'Nid Cariad yw Hyn. Rheolaeth yw Hyn', a gynhaliwyd drwy'r llynedd, olynydd. Byddwn yn bwrw ymlaen o'r fan honno. Mae'n sicr, rydym ni'n credu, trwy dystiolaeth gan heddluoedd, wedi arwain at gynnydd i nifer yr achosion o reolaeth drwy orfodaeth yr adroddir amdanynt, sy'n awgrymu bod yr ymgyrch ymwybyddiaeth yn cael effaith. Ond fel y dangosodd y digwyddiad yn y fan yma, mae'n rhaid mai'r cam cyntaf yw codi ymwybyddiaeth. Rwy'n credu y gwnaed pwynt pwysig iawn ynghylch sut y dylem ni ehangu'r sgwrs fel bod dynion yn ogystal â menywod yn cymryd rhan lawn ynddi, yn deall yr hyn sy'n cael ei drafod ac yn gallu bod eu hunain, fel y dywedodd Bethan, yn ddioddefwyr rheolaeth drwy orfodaeth ond hefyd angen deall y rhan y maen nhw'n ei chwarae yn ei gynnal mewn rhai perthnasoedd, neu'n ei herio pan gaiff ei weld. Cyn belled ag y mae ysgolion yn y cwestiwn, wedyn, wrth gwrs, mae'r cwricwlwm newydd yn cynnwys dull cytbwys o ymdrin â'r ffordd y caiff iechyd, llesiant a chydberthnasoedd personol eu haddysgu yn ein hysgolion mewn ffordd sy'n briodol i oedran y plant, fel bod pobl ifanc yn wybodus, yn deall a, gobeithio, yn fwy cymwys i fod y math o ddinasyddion yr hoffem ni eu gweld nhw'n ei fod yma yng Nghymru erbyn yr adeg y byddan nhw eu hunain mewn cydberthynas. Mark Isherwood AC: Roeddwn i'n bresennol yn y sesiwn holi ac ateb gyda Sally a David Challen. Wrth gwrs, mae rheolaeth drwy orfodaeth hefyd yn berthnasol i blant o ran oedolion. Testun gofid yw bod dadansoddiad gan Gymdeithas y Plant wedi dangos nad yw tua 85 y cant o droseddau rhywiol yn erbyn plant a hysbysir i'r heddlu yng Nghymru a Lloegr yn arwain at gymryd unrhyw gamau yn erbyn y cyflawnydd, ac mae'r ffigurau y maen nhw'n eu cynnwys yn dangos bod 70 y cant o droseddau rhywiol yn erbyn plant dan 13 oed yn droseddau rhywiol teuluol; mewn geiriau eraill, domestig neu'n digwydd o fewn eu teulu neu gartref. Sut, felly, ydych chi'n ymateb i'r alwad ar Lywodraeth Cymru gan Gymdeithas y Plant i adolygu'r achos dros wneud y cynnig o ôl-drafodaethau yn dilyn dychweliad plentyn o achos o fod ar goll yn ofyniad statudol, lle ceir cysylltiadau'n aml rhwng plant yn mynd ar goll o'u cartref a'u profiad o gam-drin neu gamfanteisio rhywiol? Maen nhw'n dweud y bydd hyn yn arwain at gasglu gwell gwybodaeth i helpu i hysbysu achosion o gam-drin a chamfanteisio, pobl ifanc yn cael eu hatgyfeirio i wasanaethau am gymorth ac at rannu gwybodaeth am blant sydd mewn perygl rhwng yr heddlu a gofal cymdeithasol, gan nodi y cynigir ôl-drafodaeth yn Lloegr. Mark Drakeford AC: Llywydd, rwy'n credu bod nifer o wahanol elfennau yn y cwestiwn yna. Dechreuodd yr Aelod drwy dynnu sylw'n briodol at y ffaith bod plant y camfanteisir yn rhywiol arnynt yn fwy tebygol o gael hynny'n digwydd iddyn nhw yn y cartref a chyda phobl y maen nhw'n eu hadnabod na dieithriaid. Mae plant sy'n rhedeg i ffwrdd o ofal preswyl a ddarperir gan y wladwriaeth mewn sefyllfa wahanol. Maen nhw'n agored i niwed mewn gwahanol fath o ffordd ac i amrywiaeth lawer ehangach o gyflawnwyr posibl. Nid wyf i'n ymwybodol o'r pwynt penodol iawn yng nghyngor Cymdeithas y Plant. Fy nealltwriaeth i o'r achosion yr wyf i fy hun wedi ymdrin â nhw yw, pan fydd person ifanc yn rhedeg i ffwrdd ac yn cael ei ddychwelyd, y siaredir â hwy bron bob amser a bod eu profiadau'n cael eu trafod gyda nhw. Mae pa un a yw hynny'n gyfweliad ôl-drafodaeth yn ystyr adroddiad Cymdeithas y Plant yn rhywbeth y byddai angen i mi edrych arno'n fwy manwl, a pha un a oes achos dros wneud hynny'n statudol, pan, fel y mae'n ymddangos i mi, mai dim ond arfer da ar ran unrhyw weithiwr cymdeithasol gofal plant fyddai hynny, i fod wedi trafod gyda pherson ifanc ar ôl iddo dychwelyd yr hyn sydd wedi digwydd iddo yn y cyfamser, rwy'n hapus i edrych ar hynny hefyd. Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau—arweinwyr y pleidiau, hyd yn oed. Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies. Paul Davies AC: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae ffigurau diweddaraf Llywodraeth Cymru yn dangos bod dros 12,000 o wartheg wedi cael eu lladd oherwydd twbercwlosis mewn gwartheg. Mae hyn yn gynnydd anhygoel o 24 y cant o'r flwyddyn flaenorol. Dyma'r ffigurau uchaf erioed. Ym mhle mae polisi eich Llywodraeth yn methu? Mark Drakeford AC: Yn sicr, nid yw polisi'r Llywodraeth yn methu ar y sail y mae'r Aelod newydd ei hamlinellu. Gadewch i mi ddechrau, fodd bynnag, trwy gydnabod yr effaith enfawr y mae TB yn ei chael yn y gymuned ffermio, y trawma a'r niwed a geir mewn teuluoedd ffermio pan geir TB mewn gwartheg, ond mae'r ffigurau lladd yn ganlyniad i fwy o sensitifrwydd o ran profi, mwy o gyfundrefnau profi—. Rydym ni'n darganfod mwy o TB, ac, felly, mae'r ffigurau lladd wedi codi. Nid yw'n wir bod hwn yn TB nad oedd yno o'r blaen. Roedd yno o'r blaen, ac nid oedd yn cael ei ganfod, a chan nad oedd yn cael ei ganfod, roedd yn dal i beri risg o drosglwyddiad pellach. Felly, mae'r ffaith ein bod ni'n darganfod mwy o TB, ac rwy'n deall yr holl ofid a ddaw yn sgil hynny—ond nid yw'r ffaith bod y ffigurau lladd wedi cynyddu yn arwydd o gwbl ar ei ben ei hun bod y polisi'n methu. Paul Davies AC: Wel, Prif Weinidog, rydych chi newydd ei ddweud eich hun: rydych chi'n canfod mwy o achosion o TB. A gadewch i ni fod yn eglur: nid yw eich polisi'n gweithio, neu fel arall byddai nifer y gwartheg sy'n cael eu difa oherwydd TB mewn gwartheg yn gostwng, ond yn hytrach, rydym ni'n gweld cynnydd. A pha ffordd bynnag yr ydych chi eisiau edrych ar hyn, mae'r ffaith yn parhau bod y sector ffermio yng Nghymru o dan bwysau enfawr. Rhoddodd y brecwast ffermdy a gynhaliwyd gan Undeb Amaethwyr Cymru y bore yma gyfle i ni glywed mwy am yr heriau sy'n wynebu ffermwyr Cymru, ac yr oedd TB mewn gwartheg yn sicr ar frig eu hagenda. Prif Weinidog, rydych chi'n iawn, rwyf i fy hun wedi cael profiad uniongyrchol o weld mor anodd a dinistriol y gall TB mewn gwartheg fod i'r ffermwyr hynny y mae'r clefyd yn effeithio arnyn nhw, ac maen nhw'n disgwyl ac yn haeddu mwy gan Lywodraeth Cymru. Methiant eich Llywodraeth chi i fynd i'r afael â'r clefyd hwn yn gyfannol sy'n gyfrifol am y niferanghynaladwy o uchel o wartheg sy'n cael eu lladd yng Nghymru, ac yn y cyfamser, mae cymunedau ffermio ledled Cymru yn teimlo eu bod ar wahân, yn cael eu hanwybyddu ac yn cael eu hesgeuluso. Felly, gyda hynny mewn golwg, Prif Weinidog, ac o ystyried yr effaith ddifrifol iawn y mae TB mewn gwartheg yn parhau i'w chael ar ffermydd Cymru, yn ariannol ac yn emosiynol, a allwch chi ddweud wrthym ni pa gamau newydd y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd nawr i fwrw ymlaen â'r gwaith o ddileu TB mewn gwartheg yng Nghymru? Ac a allwch chi ddweud wrthym ni hefyd pa sicrwydd y gallwch chi ei gynnig i ffermwyr Cymru bod eich Llywodraeth yn gwrando ac y byddwch chi'n diogelu cynaliadwyedd y diwydiant ffermio ar gyfer y dyfodol? Mark Drakeford AC: Wel, o ran Llywodraeth Cymru yn gwrando, Llywydd, anerchais gyngor Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr fy hunan brynhawn ddoe, fel y gwneuthum i gynhadledd flynyddol yr FUW y llynedd yn Aberystwyth, wrth i mi gyfarfod gyda'r FUW gyda Lesley Griffiths i siarad â nhw am TB yn benodol. Hoffwn gydnabod y synnwyr o straen sy'n bodoli mewn cymunedau ffermio yma yng Nghymru wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, gyda'r holl ansicrwydd a ddaw yn sgil hynny i gymunedau ffermio, ac mae hynny'n wirioneddol iawn, fel y dywedwyd wrthyf ddoe pan gefais gyfarfod â nhw, wedi eu dychryn gan yr hyn yr oedd gan Ganghellor y Trysorlys i'w ddweud dros y penwythnos am beidio â mynd ar drywydd aliniad rheoleiddiol, er enghraifft. Cyn belled ag y mae dangosyddion hirdymor o TB yng Nghymru yn y cwestiwn, bu gostyngiad o 37 y cant i ddigwyddiadau newydd dros y degawd diwethaf, gostyngiad o 4 y cant i nifer yr achosion o ladd anifeiliaid yn ystod yr holl gyfnod hwnnw, ac roedd 393 yn llai o fuchesi yn destun cyfyngiadau ar ddiwedd 2018 nag ar ddiwedd 2009. Mae angen i ni wneud mwy. Rwy'n cydnabod hynny. Dyna pam y cefais gyfarfod â'r Athro Glyn Hewinson, gyda Lesley Griffiths, nid yr wythnos diwethaf ond yr wythnos gynt—arbenigwr blaenllaw'r byd ar TB mewn gwartheg yr ydym ni wedi dod ag ef yma i Gymru, yr ydym ni wedi'i sefydlu gydag athrofa newydd yn Aberystwyth o dan raglen Sêr, gan ddenu ffigurau blaenllaw eraill o'r byd hwn. Dywedodd wrthym ei fod yn credu bod pethau newydd y byddem ni'n gallu rhoi cynnig arnynt yng Nghymru o ganlyniad i'r gwaith ymchwil y mae e'n ei wneud ac mai'r hyn y bydd ei angen arnom ni yw pecyn gwahaniaethol i ymdrin â TB. Mae TB yn wahanol mewn gwahanol rannau o Gymru, mae'r achosion sylfaenol yn wahanol mewn gwahanol rannau o Gymru, ac o ganlyniad i'w waith ef a'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud gyda phobl eraill, er enghraifft ym Mhenrhyn Gwyr, lle mae gennym ni brosiect penodol iawn law yn llaw â ffermwyr, byddwn yn dod o hyd i ffyrdd newydd o fynd i'r afael â chlefyd sy'n cael effaith mor ddinistriol ar deuluoeddffermio. Paul Davies AC: Mae'n eithaf eglur, Prif Weinidog, nad yw ffermwyr ac undebau amaethyddol yn credu bod eich polisi cyfredol ar TB mewn gwartheg yn gweithio a dyna pam mae'n hanfodol nawr bod eich Llywodraeth yn ailystyried y polisi hwn er mwyn mynd i'r afael â'r clefyd hwn mewn ffordd fwy cyfannol o lawer. Mae mater brys arall a godwyd gyda mi y bore yma, lle mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb hefyd, yn ymwneud â pharthau perygl nitradau. Ceir rhai pryderon difrifol iawn ynghylch y cynigion hyn a allai roi baich enfawr ar ffermwyr ac, o ganlyniad, gorfodi llawer allan o fusnes. Felly, mae ffermwyr, yn gywir ddigon, yn gweld y cynigion hyn fel ergyd arall i'r gymuned amaethyddol. Mae'n rhaid, o leiaf, cyhoeddi asesiad o effaith rheoleiddiol, o ystyried yr effaith enfawr y bydd cynigion eich Llywodraeth yn ei chael ar bob fferm yng Nghymru. Prif Weinidog, mae NFU Cymru yn llygad eu lle wrth ddweud bod Llywodraeth Cymru yn profi diwydiant ffermio Cymru y tu hwnt i'w derfynau. A wnewch chi gadarnhau felly beth yn union yw cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer parthau perygl nitradau yng Nghymru, o gofio eich bod chi wedi addo cyflwyno'r rhain ddechrau'r flwyddyn hon? A wnewch chi gyhoeddi asesiad o effaith rheoleiddiol manwl nawr ar y cynigion hyn ac a wnewch chi ei gwneud yn berffaith eglur nawr pa gymorth yn union a fydd ar gael i'r ffermwyr hynny a fydd yn cael eu rhoi dan anfantais ariannol oherwydd cynigion eich Llywodraeth? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, roeddem ni wedi ymrwymo i gyflwyno rheoliadau ddechrau mis Ionawr, a'r union reswm pam yr ydym ni wedi gohirio hynny am nifer o wythnosau yw er mwyn gallu parhau'r sgwrs gyda ffermwyr sydd wedi dod drwy'r broses ymgynghori gyda syniadau newydd ynghylch sut y gellir cyflawni diben y rheoliadau yn ymarferol. Ond gadewch i mi fod yn gwbl eglur: ni wnaiff Llywodraeth Cymru gamu'n ôl o fynd i'r afael â llygredd mewn amaethyddiaeth yma yng Nghymru. Mae achosion o lygredd yn rhy uchel—maen nhw wedi bod yn tyfu, maen nhw'n gwneud difrod. Maen nhw'n gwneud difrod i gyrsiau dŵr yma yng Nghymru, maen nhw'n gwneud niwed i'r amgylchedd ac maen nhw'n gwneud niwed i enw da y diwydiant ffermio, ar yr union adeg y mae angen i enw da cynhyrchu bwyd yma yng Nghymru fod ar ei orau. Dyna pam, yn dilyn blynyddoedd o gynllun gwirfoddol y cytunwyd arno gyda'r NFU, nad yw'n cael ei anrhydeddu wedyn ar lawr gwlad, byddwn yn cymryd camau i reoleiddio, ond byddwn yn ei wneud ar y cyd â'n cymunedau ffermio, mewn trafodaethau gyda nhw. Dyna pam yr ydym ni wedi dal yn ôl rhag cyflwyno'r rheoliadau, gan y gallai fod ffyrdd y gallwn ni gyflawni'r nodau na fyddwn yn cilio rhagddynt mewn ffordd y byddai ffermwyr yn ei chael yn fwy ymarferol yn y ffordd y cânt eu cymhwyso. Ac yna byddwn yn darparu cymorth ariannol i'w cynorthwyo—nid i gyrraedd y safonau sydd yno eisoes mewn rheoliadau ac y dylai pob fferm yng Nghymru fod yn eu bodloni eisoes, ond i fodloni unrhyw faich rheoleiddiol ychwanegol a ddaw yn sgil y mesurau rheoli llygredd. Pum miliwn o bunnau yng nghyllideb y flwyddyn nesaf i helpu i fynd i'r afael â llygredd i ansawdd dŵr. Byddwn yn gweithio gyda'r gymuned ffermio. Dyma'r peth iawn i'w wneud. Rydym ni eisiau ei wneud ochr yn ochr â nhw, ond nid yw hynny'n golygu am eiliad y byddwn ni'n camu yn ôl o'r her y mae llygredd amaethyddol yn ei pheri i ni yma yng Nghymru. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price. Adam Price AC: Diolch, Llywydd. Er gwaethaf pryderon ynghylch diogelwch y cyhoedd, fe wnaeth yr Ysgrifennydd cyfiawnder ar y pryd yn San Steffan, Chris Grayling, fwrw ymlaen â'r rhan o breifateiddio'r gwasanaeth prawf yn 2014. Flwyddyn yn ddiweddarach, llofruddiwyd Conner Marshall o'r Barri gan David Braddon, a oedd dan oruchwyliaeth cwmni adsefydlu cymunedol sy'n cael ei redeg yn breifat. Mae'n ymddangos mai hwn fu un o'r penderfyniadau polisi mwyaf trychinebus gan Lywodraeth San Steffan. Mae mam Conner, Nadine, a oedd yn y Senedd heddiw, wedi arwain ymgyrch ddiflino i gael cyfiawnder i Conner. Prif Weinidog, sut orau allwn ni ei gofio ef ac anrhydeddu ei gwaith hithau? Mark Drakeford AC: Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna a dechreuaf trwy gytuno ag ef bod dinistrio'r gwasanaeth prawf, y cyfeiriwyd ato'n aml fel prif drysor system cyfiawnder troseddol Cymru a Lloegr, yn fefl ar hanes y Llywodraeth Geidwadol flaenorol ac yn fefl a arweiniodd at ganlyniadau ymarferol mor ddinistriol yn yr achos y mae Adam Price wedi cyfeirio ato. Talaf deyrnged enfawr i'r ymgyrch a arweiniwyd gan fam Conner. Gwn pa effaith y mae hynny wedi ei chael ar y teulu ehangach ac ar ei dyfodol ei hun. Rwy'n gwybod hynny, oherwydd iddi gyfarfod ddwywaith â'm rhagflaenydd fel Prif Weinidog i gyflwyno'n uniongyrchol iddo ef ei phrofiad hi a'i theulu ac i ofyn am ein cymorth i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i unioni'r camweddau a wnaed, a ddilynwyd yn ddyfal gan fy rhagflaenydd. Gofynnodd yr Aelod beth allem ni ei wneud i nodi ein gwahaniaeth yma yng Nghymru. Wel, rwyf i wedi dadlau ers tro y dylai'r gwasanaeth prawf gael ei ddatganoli yma yng Nghymru. Rhoddais dystiolaeth gyntaf ym 1995, ar ran Cymdeithas Genedlaethol y Swyddogion Prawf, i gomisiwn a oedd yn paratoi deddfwriaeth ar gyfer datganoli a dadleuais y dylai'r gwasanaeth prawf a chyfiawnder ieuenctid fod wedi bod ar y rhestr gynnar o wasanaethau i'w datganoli, oherwydd mae'r pethau y mae swyddog prawf yn dibynnu arnyn nhw i gyflawni ei gyfrifoldebau'n effeithiol i gyd wedi eu datganoli eisoes. Os ydych chi'n chwilio am wasanaeth iechyd meddwl, mae'n cael ei reoli yng Nghymru. Os ydych chi'n chwilio am gwrs i rywun fynd arno i wella ei ragolygon cyflogaeth, mae wedi ei ddatganoli i Gymru. Os ydych chi'n chwilio am rywle i rywun fyw, mae gwasanaethau tai wedi eu datganoli i Gymru. Mae'r cyfochri rhwng y gwasanaeth prawf a'r gwasanaethau sydd wedi eu datganoli eisoes mor gryf fel y dylid datganoli'r gwasanaeth prawf fel y byddai'r staff ymroddgar sy'n dal i weithio yn y gwasanaeth prawf, o dan amodau amhosibl o anodd yn aml, mewn sefyllfa well i wneud y gwaith y maen nhw eisiau ei wneud, a gallem ni gael gwasanaeth prawf o'r math yr hoffem ni ei weld yma yng Nghymru. Adam Price AC: Diolch, Prif Weinidog. Pan gafodd y system ei phreifateiddio, fel y gwyddom, dyfarnwyd y contractau gwerth ychydig llai na £4 biliwn i wyth sefydliad. Working Links oedd y cwmni a oedd yn goruchwylio David Braddon. Yn 2015, blwyddyn y llofruddiaeth, adroddodd The Financial Times bod staff yn ysgrifennu at y cwmni yn cwyno am lwythi gwaith gormodol. Yr wythnos diwethaf, daeth y crwner i'r casgliad bod rheolaeth a goruchwyliaeth y gweithiwr prawf a oedd newydd ei benodi a oedd yn gyfrifol am David Braddon yn druenus o annigonol. Fodd bynnag, nid yw'n eglur bod llawer wedi newid yn y cyfamser. Dywedodd adroddiad yr arolygiaeth prawf ym mis Gorffennaf y llynedd bod 60 y cant o swyddogion adrodd yn credu bod eu llwyth gwaith yn amhosibl i'w reoli. A gafodd y pryderon a godwyd gan weithwyr prawf eu dwyn i sylw bwrdd rheoli troseddwyr integredig Cymru neu fwrdd cyfiawnder troseddol Cymru gyfan, y cynrychiolir Llywodraeth Cymru arno am y rhesymau y mae'r Prif Weinidog newydd eu hamlinellu, ac, yn benodol, a oedd y byrddau yn ymwybodol o unrhyw gynnydd mewn risg, o bosibl, i'r cyhoedd yn ne Cymru ar adeg llofruddiaeth Conner Marshall o ganlyniad i'r diffygion a nodwyd? Mark Drakeford AC: Llywydd, yr hyn y gallaf ei ddweud yn gyffredinol yw bod ein pryderon am dynged y gwasanaeth prawf, am ei breifateiddio, am ei chwalu'n gydrannau, wedi cael eu codi yn rheolaidd iawn drwy'r peirianwaith sydd gennym ni yma yng Nghymru ac yn ein cyswllt gyda Llywodraeth y DU. Yn wir, rwy'n cofio'n dda iawn yr ymdrechion dyfal a wnaethom pan oedd Chris Grayling yn cychwyn ar y diwygiad hollol gyfeiliornus hwn, pryd y dadleuwyd gennym ni y dylid eithrio Cymru ohono, oherwydd os oedd marchnad yn unman—a byddwn wedi amau hynny'n fawr iawn—os oedd marchnad y gellid ei defnyddio i ddarparu gwasanaethau, nid oedd marchnad yng Nghymru. Yn syml, nid oedd darparwyr ar gael yn aros i ymgymryd â'r gwaith hwn. Felly, dadleuwyd yn ddygn gennym ar y pryd y dylem ni gael ein heithrio o'r diwygiadau hyn, oherwydd nid oedden nhw byth yn mynd i weithio ar lawr gwlad yma, a chyflëwyd hynny gennym drwy'r holl wahanol fecanweithiau a oedd gennym ni. Llywydd, gofynnodd Adam Price gwestiwn penodol iawn i mi ar y diwedd ynghylch trafodaethau'r byrddau ar eitem benodol. Nid yw'r wybodaeth honno gen i yn syth i law, ond rwy'n ffyddiog iawn y byddwn ni'n dod o hyd iddi ac yn ei hysbysu am y canlyniad.FootnoteLink Gwybodaeth ychwanegol at y Cyfarfod Llawn Adam Price AC: Prif Weinidog, rydych chi'n dadlau'r achos yn huawdl iawn, yn sicr, y dylai'r gwasanaeth prawf fod wedi cael ei ddatganoli ymhell yn ôl, ac mae'n sicr yn wir, rwy'n credu, pe byddai'r system gyfiawnder wedi cael ei datganoli yna ni fyddem wedi dilyn y newidiadau trychinebus a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU, ac rwy'n meddwl bod yn rhaid i chi ofyn: a yw hi'n bosibl na fyddai bywyd diniwed wedi cael ei golli? Yn amlwg, mae comisiwn Thomas wedi cyhoeddi ei adroddiad, gan ddadlau'r achos yn fras dros ddatganoli cyfiawnder a phlismona. Dylid nodi yn y cyd-destun hwn mai enw iawn y cwmni adsefydlu cymunedol newydd a gymerodd drosodd gan Working Links, mewn gwirionedd, a bron yn anesboniadwy, yw is-adran Cymru Caint, Surrey a Sussex, sydd mewn rhai ffyrdd yn dweud y cyfan, onid yw, am y cyfyng-gyngor yr ydym ni ynddo? A all y Prif Weinidog ddweud wrthym ni pryd y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb yn ffurfiol i argymhellion comisiwn Thomas, ac a fydd yr ymateb hwnnw'n un cadarnhaol o ran ei gynnig craidd, sef datganoli cyfiawnder a phlismona a'r gwasanaeth prawf? Ac onid dyna fyddai'r ffordd orau o barchu coffadwriaeth Conner? Mark Drakeford AC: Llywydd, byddwn yn sicr yn ymateb yn gadarnhaol i gomisiwn Thomas. Un o'r argymhellion oedd mwy o gydgysylltiad o'r gwaith y mae'n ymddangos sy'n cael ei wneud ar draws Llywodraeth Cymru yn y maes hwn nad yw eisoes wedi ei ddatganoli—un o'r pethau trawiadol a ddywedodd yr Arglwydd Thomas iddo ei ganfod nad oedd wedi ei ragweld o anghenraid. Ddoe, cawsom gyfarfod cyntaf is-bwyllgor y Cabinet y byddaf i yn ei gadeirio i oruchwylio'r broses o weithredu argymhellion comisiwn Thomas a gwaith ehangach Llywodraeth Cymru ym maes cyfiawnder. Bydd dadl ar lawr y Cynulliad yn y fan yma yn amser y Llywodraeth yn fuan iawn, pryd y byddwn yn adrodd ar y camau yr ydym ni wedi eu cymryd yn syth ar ôl cyhoeddi'r adroddiad. Rwy'n deall bod cynhadledd wedi'i chynllunio ar gyfer mis Ebrill eleni dan arweiniad Prifysgol Abertawe, a fydd yn gyfle arall i ddod â'r buddiannau hynny at ei gilydd, oherwydd, Llywydd, ni ddylem anghofio bod llawer o'r argymhellion gan gomisiwn Thomas wedi eu bwriadu ar gyfer y proffesiwn yma yng Nghymru—pethau y mae angen i'r proffesiwn ei hun eu gwneud i gryfhau ei allu i ddarparu gwasanaeth o'r math y mae comisiwn Thomas yn ei ragweld. Bydd y gynhadledd honno ym mis Ebrill yn gyfle cynnar i ni adrodd ar gynnydd, a gwneud hynny gyda'r buddiannau eraill hynny sy'n angenrheidiol os ydym ni'n mynd i sicrhau llwyddiant yr argymhellion yng Nghymru. Arweinydd Plaid Brexit, Mark Reckless. Mark Reckless AC: Prif Weinidog, un o elfennau allweddol bargeinion dinesig, o leiaf fel y mae Llywodraeth y DU wedi eu hyrwyddo dros yr wyth mlynedd diwethaf, yw integreiddio trafnidiaeth ar sail ranbarthol. A yw cyhoeddiad cyngor Caerdydd yr wythnos diwethaf yn golygu bod gwahanol ddull yn cael ei fabwysiadu yng Nghymru? Nid yn unig y mae'n ymddangos bod un ardal cyngor, Caerdydd yn cael cyfran anghymesur o fuddsoddiad trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer dinas-ranbarth Caerdydd, dywedir wrthym nawr bod cyngor Caerdydd eisiau gwneud i eraill dalu amdano trwy godi £2 bob tro ar bobl nad ydynt yn drigolion Caerdydd i ddod â'u ceir i ganol dinas Caerdydd, gan eithrio holl drigolion Caerdydd ei hun. Prif Weinidog, a ydych chi'n cefnogi trethu Casnewydd, Pen-y-bont ar Ogwr a'r cymoedd i dalu am Gaerdydd? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, rwy'n credu bod yr Aelod yn drysu nifer o wahanol elfennau wrth geisio clymu'r fargen ddinesig a'i mecanweithiau a'i chyllid gyda'r cynigion ymgynghori y mae cyngor Caerdydd wedi eu llunio. Hoffwn dynnu sylw'r Aelod, rhag ofn nad yw wedi cael cyfle i'w weld eto, at lythyr a gyhoeddwyd gan fy nghyd-Weinidog Ken Skates ar ran Llywodraeth Cymru at arweinydd cyngor Caerdydd. Mae'r llythyr yn gyhoeddus, a dyfynnaf o'r paragraff perthnasol: mae angen i Lywodraeth Cymru ystyried yn fanwl y bwriad i gyflwyno unrhyw fecanwaith rheoli galw newydd gan y cyngor a'i effaith ar y rhanbarth ehangach o amgylch Caerdydd, sy'n cynnwys rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru. I'r perwyl hwn, gallaf gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn comisiynu astudiaeth fanwl bellach o ddulliau rheoli galw, eu manteision a'u heriau, i hysbysu safbwynt cenedlaethol ar y mater hwn, a all helpu i gyfrannu at safbwyntiau rhanbarthol yn ei gylch. Mark Reckless AC: Rwy'n falch o glywed y bydd y Llywodraeth yn edrych ar hyn yn fanwl ac yn ymateb i'r ymgynghoriad. Fodd bynnag, onid yw hyn yn mynd i werthoedd? £583 yr wythnos yw'r cyflog cyfartalog yng Nghaerdydd. £458 yr wythnos ydyw ym Mlaenau Gwent. Pam ddylai pobl sy'n ennill £125 yn llai yr wythnos dalu treth newydd tra bod pobl sy'n ennill £125 yn fwy yr wythnos yn cael eu heithrio? Beth mae hynny'n ei ddweud am werthoedd y Prif Weinidog, ei blaid a'i Lywodraeth? Er efallai y bydd yn ymateb yn gyffredinol maes o law, pam na all ef ddweud nawr nad yw'n iawn i gyngor Caerdydd geisio gwneud i bawb arall dalu ffi atal tagfeydd gan eithrio ei drigolion ei hun? Darganfuwyd gennym yn y gyllideb ddrafft y bydd bysus trydan newydd crand ddwywaith y pris arferol i Gaerdydd, ac eto mae gwasanaethau bws yng Nglynebwy wedi cael haneru o ran amlder wrth i Lywodraeth Cymru wneud toriadau mewn termau real i gymorthdaliadau bysiau. [Torri ar draws.] Ac mae'r Gweinidog iau yn heclo. Ei gyllideb ef—toriadau mewn termau real i gymorthdaliadau bysiau. Dyna werthoedd y Llywodraeth Cymru hon. Dywedodd pennaeth Trysorlys Cymru wrth y Pwyllgor Cyllid yr wythnos diwethaf mai'r rheswm am hyn oedd y gallai Llywodraeth Cymru roi cymorth cyfalaf, ond nid mwy o refeniw. Prif Weinidog, a yw hyn yn wir mewn gwirionedd? Oni fyddai bysiau newydd yn lleihau costau gweithredu ac yn denu mwy o deithwyr, gan leihau drwy hynny yr angen am gymhorthdal refeniw? Ac os gall Llywodraeth y DU anwybyddu rheolau'r Trysorlys er mwyn cael buddsoddiad o Lundain a gogledd Lloegr, pam mae Trysorlys Cymru yn mynnu cael dull sy'n gwrthod buddsoddiad i'r cymoedd er mwyn ei ganolbwyntio yng Nghaerdydd? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, dyma'r cawdel arferol o syniadau a gynigir i ni gan yr Aelod. Mae bysus trydan newydd crand yn cael eu darparu yng Nghasnewydd a Chaerffili hefyd. Onid yw ef eisiau eu gweld nhw yno ychwaith? Onid yw ef eisiau gweld y £29 miliwn yr ydym ni wedi ei roi yn ein cyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn nesaf i gefnogi cerbydau trydan yma yng Nghymru? Wrth gwrs bod angen i ni weld mathau newydd o gludiant cyhoeddus, gan fod yn rhaid i ni berswadio pobl i ddod oddi wrth y car a defnyddio gwahanol fathau o gludiant. Caerdydd yw'r ddinas y cymudir iddi fwyaf yn y Deyrnas Unedig gyfan—mae 70,000 o gerbydau yn teithio i mewn i Gaerdydd bob dydd. Os ydym ni o ddifrif ynghylch ansawdd aer, os ydym ni o ddifrif am yr argyfwng hinsawdd, yna ni allwn ni edrych i'r cyfeiriad arall a dweud, 'Peidiwch â phoeni; gadewch iddo gario 'mlaen.' Nawr, mae tegwch yn ganolog i'r ffordd y mae'n rhaid datrys y broblem honno, ac mae hynny'n gwbl ganolog i'r llythyr y mae Ken Skates wedi ei roi i arweinydd cyngor Caerdydd. Ond nid yw wfftio'r holl ffyrdd y gallwn ni wneud gwahaniaeth yn y dyfodol fel pe na bydden nhw'n berthnasol o gwbl i bobl sydd yn byw naill ai yn y brifddinas neu yn yr ardaloedd o'i hamgylch yn ddim ffordd o gwbl i fynd i'r afael â'r hyn sy'n her polisi cyhoeddus sylfaenol ddifrifol yma yng Nghymru, yn ein prifddinas ac ymhell y tu hwnt. Trosglwyddiadau Ambiwlansys Janet Finch-Saunders AC: 3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wella trosglwyddiadau ambiwlansys yng Nghymru? OAQ54941 Mark Drakeford AC: Diolchaf i'r Aelod. Cyhoeddodd y Gweinidog iechyd ddatganiad ysgrifenedig ar 15 Ionawr yn nodi camau i wella gwasanaethau ambiwlans yng Nghymru ymhellach, gan gynnwys trosglwyddiadau rhwng ambiwlansys ac adrannau derbyn mewn ysbytai. Janet Finch-Saunders AC: Diolch yn fawr, Gweinidog. Cafodd elusen Ambiwlans Awyr Cymru ei blwyddyn brysuraf yn 2019, gyda'i thîm gweithgar yn ymateb i 3,627 o alwadau brys—i fyny gan 1,200 o 2018. Gall yr awyren deithio dros 2 filltir y funud a chyrraedd unrhyw le yng Nghymru o fewn 20 munud. Nawr, mae effeithiolrwydd cyrraedd, trin a chludo cleifion yn eglur, felly rwyf nawr yn cefnogi nod yr ambiwlans awyr iddo ddod yn wasanaeth 24 awr. Mae David Gilbert OBE, cadeirydd yr ymddiriedolaeth, wedi dweud: gyda chymorth y cyhoedd yng Nghymru, rydym ni eisiau gwneud ein gweledigaeth o ddarparu gwasanaeth 24 awr yn realiti. Mae angen £1.5 miliwn yn ychwanegol ar gyfer hyn. Pa gamau allech chi fel Llywodraeth Cymru eu cymryd i helpu i wneud gwasanaeth ambiwlans awyr 24 awr yn realiti? Mark Drakeford AC: Diolchaf i'r Aelod am hynna, a hoffwn ddweud cymaint yr wyf i'n rhannu'r farn gadarnhaol y mae hi wedi ei mynegi ar Ambiwlans Awyr Cymru, y gwaith gwych y mae'n ei wneud. Mae'r ambiwlans awyr wedi bod yn eglur iawn gyda ni erioed fel Llywodraeth nad yw eisiau i arian cyhoeddus gael ei dalu'n uniongyrchol iddo, gan ei fod yn credu y byddai'n amharu ar ei allu i godi arian gan y cyhoedd, y mae'n ei wneud o flwyddyn i flwyddyn mewn ffordd mor wych, gyda chymaint o wirfoddolwyr ymroddedig. Rydym ni'n cefnogi'r elusen mewn ffyrdd eraill. Rydym ni'n ei chefnogi drwy hyfforddiant, yn enwedig y parafeddygon y mae'n eu cyflogi. Rydym ni'n ei chefnogi drwy'r gwasanaeth EMRTS, y gwasanaethau adalw meddygol brys sy'n gweithio'n agos gydag ef, ac rydym ni'n sicr yn cefnogi gwaith Ambiwlans Awyr Cymru drwy egluro i bobl y gwaith gwych y mae'n ei wneud, sut y bydd ei wneud yn wasanaeth 24 awr yn caniatáu iddo wneud mwy fyth yn y dyfodol, gan ei gefnogi yn y gwahanol fannau yng Nghymru y mae'n gweithredu ohonynt, a'i gwneud yn eglur i bobl yng Nghymru bod Llywodraeth Cymru yn ei gefnogi i'r eithaf yn ei waith ac yn ei uchelgais. Treftadaeth a Diwylliant Casnewydd Jayne Bryant AC: 4. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo treftadaeth a diwylliant Casnewydd? OAQ54977 Mark Drakeford AC: Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi'n uniongyrchol mewn elfennau allweddol o dreftadaeth a diwylliant cyfoethog Casnewydd. Ar yr un pryd, rydym ni'n gweithredu gydag eraill—yr awdurdod lleol, busnesau preifat, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Cadw, er enghraifft—i hyrwyddo atyniadau niferus y ddinas, gartref a thramor. Jayne Bryant AC: Diolch, Prif Weinidog. Fel y dywedasoch, mae gennym ni hanes cyfoethog ac amrywiol iawn yng Nghasnewydd yr ydym ni'n falch iawn ohono, o'n treftadaeth Siartwyr i'n pont gludo ardderchog a'n hanes morwrol, Tŷ Tredegar ysblennydd a'n caer Rufeinig yng Nghaerllion. Pleser oedd croesawu'r Dirprwy Weinidog i Gaerllion yr wythnos diwethaf ar gyfer ailagoriad Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru. Er bod yr amgueddfa wedi bod ar gau i'r cyhoedd oherwydd gwaith ailwampio, parhaodd yr ymweliadau addysgol, gyda dros 20,000 o ymwelwyr y llynedd. Yng Nghaerllion, mae gennym ni etifeddiaeth Rufeinig gydag amffitheatr, baddonau a barics cystal ag mewn unrhyw le yn y DU. Fodd bynnag, er mwyn gwneud y gorau o'r safle gwych hwn, mae'n rhaid i Amgueddfa Cymru, Cadw a Chyngor Dinas Casnewydd, ynghyd â Llywodraeth Cymru, gydweithio i hyrwyddo Caerllion fel cyrchfan boblogaidd i dwristiaid, nid yn unig yng Nghasnewydd, ond yng ngweddill Cymru a denu ymwelwyr o fannau pellach i ffwrdd. Yn gyntaf, a wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i gydnabod gwaith addysgol pwysig cynnig Amgueddfa Genedlaethol Cymru i ysgolion a'n pobl ifanc yng Nghaerllion, ac edrych hefyd ar ffyrdd ymarferol y gall Llywodraeth Cymru gynyddu ei hymdrechion i gynorthwyo cyngor Casnewydd, Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Cadw i ddod ynghyd i sicrhau bod yr hyn sydd gennym ni i'w gynnig yng Nghaerllion yn cael ei bwysleisio a'i ddefnyddio'n llawn? Mark Drakeford AC: A gaf i ddiolch i Jayne Bryant am hynna? Rwy'n gweld bod y Dirprwy Weinidog yn ymwelydd rheolaidd â Chasnewydd, ar ôl bod i'r bont gludo yn ddiweddar hefyd, ac edrychaf ymlaen at ddatblygu posibiliadau ar gyfer gwneud mwy o'r atyniad hwnnw yng Nghasnewydd yn y dyfodol. Wrth gwrs, mae Jayne Bryant yn iawn yn yr hyn y mae'n ei ddweud am bwysigrwydd tref Rufeinig hynafol Caerllion—yr amffitheatr Rufeinig fwyaf cyflawn ym Mhrydain, yr unig farics lleng Rufeinig sydd i'w gweld yn unman yn Ewrop—ac mae'n wych gweld bod y gwaith a wnaed i'w drin, rhywfaint o'r gwaith hanfodol ar do'r amgueddfa, wedi ei gwblhau erbyn hyn a'i fod yn gwbl agored i'r cyhoedd. Hoffwn dalu teyrnged i'r bobl sy'n gweithio yn yr amgueddfa am y ffordd iddyn nhw barhau'r gwasanaethau addysgol hynny, hyd yn oed pan nad oedd yr amgueddfa ei hun ar agor i'r cyhoedd yn y ffordd y bu gynt. Mae'n rhan bwysig iawn o'r hyn y mae'n ei wneud i wneud yn siŵr bod y profiadau byw hynny y mae'n eu cynnig i bobl ifanc—sy'n dod â hanes Caerllion a hanes Cymru yn fyw iddyn nhw—yn parhau ac yn datblygu erbyn hyn. Ac, wrth gwrs, bydd Llywodraeth Cymru, fel y dywedais yn fy ateb gwreiddiol, yn gweithio, mewn partneriaeth â'r awdurdod lleol, gyda Cadw ac eraill, i wneud y gorau posibl o'r safle gwirioneddol bwysig hwnnw. Newid yn yr Hinsawdd Mick Antoniw AC: 5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn ne Cymru i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd? OAQ54956 Mark Drakeford AC: Llywydd, rydym ni'n mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd trwy leihau allyriadau a datblygu cydnerthedd. Yn y de, rydym ni'n buddsoddi mewn cludiant cyhoeddus, adeiladau carbon isel, datgarboneiddio ein system ynni, gwella bioamrywiaeth, a datblygu'r gallu i wrthsefyll effeithiau'r newid yn yr hinsawdd mewn meysydd fel atal llifogydd a rheoli adnoddau naturiol. Mick Antoniw AC: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Hoffwn fynd â chi'n ôl yn fyr at fater tagfeydd ar y ffyrdd a'r effaith ar y newid yn yr hinsawdd. Rwy'n croesawu'n fawr yr ystyriaeth sy'n cael ei rhoi erbyn hyn i fater tagfeydd a llygredd oddi wrth y traffig sy'n mynd i mewn i Gaerdydd. Wrth gwrs, nid yw'r traffig hwnnw'n ymddangos yn wyrthiol yng Nghaerdydd, mae'n mynd drwy etholaethau fel fy un i i mewn i Gaerdydd, ac mae tagfeydd a llygredd yn cael eu teimlo drwy bob un o nifer eithaf helaeth o'n hetholaethau. Ond, yn arbennig, nid yng Nghaerdydd yn unig y mae'r ateb i dagfeydd a llygredd, mae'n ymhellach drwyddo o lawer. Er mwyn ennill cefnogaeth, rwy'n credu, y bobl niferus yn etholaeth Pontypridd a thu hwnt, mae'n ymddangos i mi bod ystyried holl fater codi ffi tagfeydd yn dibynnu ar nifer o fathau o sicrwydd egwyddorol yr wyf i'n credu y mae pobl eu heisiau. Yr un cyntaf yw nad yw'r costau'n disgyn yn anghymesur ar y cymunedau tlotaf. Yr ail un yw bod cyfran o'r enillion yn cael ei hailddosbarthu a'i buddsoddi yn ein system drafnidiaeth ehangach. Ac, yn drydydd, bod y dewis amgen o gludiant cyhoeddusfforddiadwy ar gael, Prif Weinidog. Mark Drakeford AC: Diolchaf i Mick Antoniw am y pwyntiau ychwanegol yna ar y mater hwn. Wrth gwrs, mae'n iawn bod traffig sy'n llifo drwy ei etholaeth ef ac yn aml iawn o'i etholaeth ef i mewn i'm hetholaeth i ac ymlaen i Gaerdydd yn cael ei gynhyrchu mewn mannau eraill. Hoffwn gydnabod yr hyn a ddywedodd Mick Antoniw am yr angen i fynd i'r afael â hyn. Yn syml, nid yw'r syniad y gallwch ei anwybyddu ac edrych y ffordd arall yn ateb i'r hyn sy'n ein hwynebu. Ond mae'n rhaid i'r ateb yr ydym ni'n ei ddylunio fod â'r mathau o nodweddion y soniodd ef amdanynt. Dywedais yn yr ateb i'm cwestiwn blaenorol, i'r rhai a oedd yma i'w glywed, bod llythyr y Gweinidog yn rhoi tegwch wrth wraidd ymateb Llywodraeth Cymru iddo, a bod ailddosbarthu unrhyw symiau a godir, fel eu bod o fudd i ardaloedd y tu allan i Gaerdydd, yn rhan annatod o unrhyw gynllun hefyd. Ac wrth gwrs, mae'n rhaid i gludiant cyhoeddus fforddiadwy o'r math y gwn fod yr Aelod wedi ymgyrchu'n arbennig drosto, am ailagor hen reilffyrdd a fyddai'n gwasanaethu ei etholaeth ef ac yn darparu'r math hwnnw o gludiant cyhoeddus fforddiadwy, fod yn rhan annatod o'r cynllun hefyd. A dyna pam, yn yr ateb a roddais i Mark Reckless, y darllenais y rhan honno o lythyr y Gweinidog i Gyngor Caerdydd sy'n rhoi'r pethau hynny i gyd yn y cyd-destun ehangach hwnnw. Dioddefwyr Troseddau Michelle Brown AC: 6. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu dioddefwyr troseddau yng Nghymru? OAQ54975 Mark Drakeford AC: Llywydd, rydym ni'n gweithio'n agos gyda'r pedwar heddlu a'n comisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru a phartneriaid eraill, gan gynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, i gefnogi dioddefwyr troseddau ac i leihau'r risg y gallai pobl ddioddef troseddau. Michelle Brown AC: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Nifer o fisoedd yn ôl, gofynnais i chi a fyddech chi'n cefnogi fy ngalwad i dadau plant sy'n cael eu cenhedlu drwy weithred o dreisio gael eu gwahardd rhag cael yr hawl i weld y plant hynny. Ar y pryd, fe wnaethoch wrthod rhoi ateb pendant i mi, gan ddweud nad oedd yn fater datganoledig, er eich bod chi'n galw'n aml yn y lle hwn ar Lywodraeth San Steffan i weithredu ar faterion nad ydyn nhw wedi eu datganoli i'r lle hwn. Mae Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd Cymru wedi'i ddatganoli, fodd bynnag, a gall wneud argymhellion i'r llysoedd teulu yng Nghymru efallai na allai llys teulu yn Lloegr neu yn rhywle arall yn y DU ei wneud, ac mae gwasanaethau cymdeithasol wedi eu datganoli hefyd. Sut y gall dioddefwr trais fyth ganfod unrhyw beth yn agos at ddiweddglo os oes yn rhaid iddi boeni y gallai ei hymosodwr, ryw ddiwrnod, ddychwelyd a bod yn rhan o fywyd ei phlentyn, ac y gallai ei phlentyn gael ei orfodi i fod mewn cysylltiad â'r sawl a dreisiodd ei fam ei hun? Felly, rwy'n gofyn i chi am yr eildro: a ydych chi'n cytuno â mi—ac mae gennych chi rai o'r cyfrifoldebau sydd eu hangen i allu gwneud hyn—na ddylai'r llys teulu roi unrhyw hawliau mynediad i dadau plant sy'n cael eu geni yn sgil trais weld y plant hynny, ac a wnewch chi ymdrechu i gyflwyno gwaharddiad o'r fath yng Nghymru? Os na wnewch chi, pam? Mark Drakeford AC: Llywydd, mae'n debyg na allaf i fynd ymhellach nag a wneuthum yn fy ateb diwethaf i'r Aelod. Hoffwn gydnabod pwysigrwydd y pwyntiau y mae'n eu gwneud a'r ddadl y mae hi wedi ei sbarduno ynghylch y mater hwn. Y rheswm pam na allaf gynnig y sicrwydd y mae'n dymuno i mi ei ddarparu yw nad yw'r pwerau i wneud hynny wedi eu lleoli yn y Cynulliad hwn. Roedd hynny'n wir y tro diwethaf iddi ofyn y cwestiwn i mi ac mae'n wir eto heddiw. Ni ellir gwneud newid i'r gyfraith o'r math y mae wedi fy holi yn ei gylch yn y fan yma, ni waeth faint o weithiau y mae'n gofyn i hynny ddigwydd. Felly, ni allaf roi sicrwydd iddi, oherwydd ni fyddai'n onest i wneud hynny. Ni all gwleidyddion wneud y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud yn y llys teulu. Maen nhw'n cael eu gwneud yn y llys teulu gyda chyngor y gweithwyr proffesiynol sy'n adrodd ar achosion unigol. Wrth gwrs, dylen nhw roi ystyriaeth ddifrifol iawn i'r pwyntiau y mae'r Aelod wedi eu gwneud. Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Ond mater i—[Torri ar draws.] Mae'r Aelod yn ceisio ymyrryd, Llywydd, o'r man lle mae'n eistedd, ond nid yw'r pwynt y mae'n ei wneud yn ddim gwell o'i ailadrodd nag yr oedd y tro cyntaf iddi ei wneud. Mae hi'n gofyn i mi roi sicrwydd ynghylch rhywbeth nad yw'r grym gen i i'w warantu. Ni wnaf i wneud hynny, oherwydd byddai hynny'n golygu cynnig sicrwydd ffug i bobl sydd, yn gwbl briodol, yn pryderu am y pwyntiau y mae'r Aelod wedi eu codi ac sydd, fe ailadroddaf, yn haeddu cael eu cymryd o ddifrif. Ffordd A465 Blaenau'r Cymoedd Vikki Howells AC: 7. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr amserlen arfaethedig ar gyfer deuoli adrannau 5 a 6 o ffordd A465 Blaenau'r Cymoedd? OAQ54947 Mark Drakeford AC: Diolch i'r Aelod am hynna, Llywydd. Y disgwyl yw y bydd tendrau ar gyfer deuoli rhannau 5 a 6 o'r A465 yn cael eu derbyn y mis nesaf. Bydd y Gweinidogion wedyn yn ystyried achos busnes llawn y prosiect. Ar yr amod bod hynny'n parhau'n foddhaol, rydym ni'n disgwyl i gontract gael ei osod yn ystod haf 2020, gydag adeiladu i ddechrau erbyn diwedd y flwyddyn. Vikki Howells AC: Diolch, Prif Weinidog. Fe wn eich bod chi wedi bod yn gefnogwr brwd i'r prosiect hwn, sydd wedi bod mor bwysig i'm hetholwyr, yn enwedig yn eich swydd flaenorol fel Gweinidog Cyllid pryd y gwnaethoch chi gyflwyno'r model buddsoddi cydfuddiannol a fydd yn sicrhau bod y prosiect hwn yn cael ei gyflawni. Gwn i y bu rhai pryderon am effaith yr oedi a'r costau cynyddol wrth ddeuoli rhannau cynharach o'r ffordd, ac mae modd gosod hyn yn erbyn adroddiadau diweddar nad oedd y gwaith arolwg daearegol ar yr adran rhwng Hirwaun a Dowlais wedi'i gynnal hyd at fwy na blwyddyn ar ôl dechrau caffael contractau. Mewn un achos o leiaf, mae drilio archwiliadol wedi'i ohirio tan fod yr adeiladu yn cychwyn. Mae'n rhaid bod hyn yn codi rhai pryderon am y ffordd y lluniwyd y technegau a chostau a pheirianneg ar gyfer yr adran hon hyd yma, a gyda hynny mewn golwg, pa wersi y mae Llywodraeth Cymru wedi eu dysgu wrth ddeuoli adran 2 yr A465, a sut y byddan nhw yn cael eu cymhwyso i ddeuoli adrannau 5 a 6? Mark Drakeford AC: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig. Mae hi yn llygad ei lle wrth ddweud bod gwersi i'w dysgu o'r ffordd y cafodd adran 2 o'r A465 ei deuoli, o ran y ffordd y caiff contractau eu llunio a'r ffordd y caiff y risgiau rhwng Llywodraeth Cymru a'r contractwr eu rhannu. Yn wir, i droi at y pwynt penodol a wnaeth Vikki Howells, yn y contract hwnnw, y contractwr oedd yn gyfrifol am gasglu data—er enghraifft, drwy arolygon cyflwr tir; rwy'n credu mai un o'r pethau y byddwn ni wedi'i ddysgu o hynny yw y byddai'n well, yn y dyfodol, pe byddai Llywodraeth Cymru yn derbyn cyfrifoldeb am hynny, o ystyried rhai o'r pethau sydd wedi digwydd ers hynny. Ond rwy'n ddiolchgar iawn i Vikki Howells am y cyfle i fod yn glir o leiaf—oherwydd rwy'n meddwl efallai y bu peth dryswch ynglŷn â hyn—nad oedd adran 2 yr A465 yn rhaglen model buddsoddi cydfuddiannol, ond bod y contract sydd i'w ddefnyddio ar gyfer adrannau 5 a 6 i'w gyflawni drwy'r trefniant MIM. Mae'n ddull sylfaenol gwahanol; mae'n gontract cyfandaliad, pris penodol, sy'n golygu na fydd Llywodraeth Cymru yn talu am y gwasanaeth tan ei fod yn weithredol. Bydd hynny'n cymell y contractwyr i gwblhau'r rhaglen yn brydlon. Mae'r risg o gostau cynyddol ac oedi mewn rhaglenni yn disgyn yn llwyr ar y darparwr gwasanaeth penodedig yn y model buddsoddi cydfuddiannol. Byddwn ni'n dysgu'r gwersi o adrannau cynharach, ond bydd gan y model y byddwn ni’n ei ddefnyddio ar gyfer adrannau 5 a 6 yr holl fanteision ychwanegol hynny yr ydym ni o'r farn, yn yr achos hwn, a ddaw yn sgîl defnyddio'r math hwnnw o gontract. Ac yn olaf, cwestiwn 8, Leanne Wood. Gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys Leanne Wood AC: 8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg? OAQ54953 Mark Drakeford AC: Llywydd, deallaf i y bydd y bwrdd iechyd lleol yn trafod y mater hwn yn ei gyfarfod bwrdd cyhoeddus nesaf ar 30 Ionawr. Leanne Wood AC: Prif Weinidog, mae gennyf i adroddiad sy'n edrych ar sut y bydd cymunedau sy'n cael eu gwasanaethu gan Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn cael eu heffeithio os caiff y gwasanaethau damweiniau ac achosion brys dan arweiniad meddyg arbenigol eu symud oddi yno. Mae'r cymunedau yr effeithir waethaf arnyn nhw yng nghanol y Rhondda. Gall y trefi a'r pentrefi ym mhen uchaf y Rhondda Fach a'r Rhondda Fawr fynd i ysbyty'r Tywysog Siarl yn gymharol gyflym drwy ddefnyddio heolydd mynydd y Maerdy a'r Rhigos. Fodd bynnag, mae trigolion y Rhondda sy'n defnyddio'r ffordd honno'n rheolaidd yn gwybod ei bod hi'n beryglus cymryd hynny yn ganiataol, oherwydd yn y gaeaf mae'r ffyrdd hynny yn aml ar gau. A ydych chi o blaid cadw gwasanaethau dan arweiniad meddyg arbenigol yn adran damweiniau ac achosion brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg a'i gallu i ymdrin â derbyniadau trawma? Ac a fyddwch chi'n barod i wrando ar farn cleifion a staff, yn enwedig y pryderon hynny sy'n ymwneud ag amseroedd teithio, cyn i unrhyw benderfyniad terfynol ynghylch dyfodol gwasanaethau damweiniau ac achosion brys dan arweiniad meddyg arbenigol yn yr ysbyty hwnnw gael ei wneud? Mark Drakeford AC: Llywydd, hoffwn i ddiolch i'r Aelod am y pwyntiau hynny. Nid wyf wedi gweld yr adroddiad y cyfeiriodd hi ato, ac nid wyf wedi gweld y papur y bydd y bwrdd yn ei gyflwyno i'w gyfarfod cyhoeddus ar 30 Ionawr. Fodd bynnag, rwy'n deall y bydd y bwrdd yn cynnig cyfle i Aelodau Cynulliad lleol gael eu briffio ddydd Gwener yr wythnos hon, er mwyn deall yr hyn y maen nhw i'w adrodd i'r bwrdd hwnnw. Rwy'n sicr yn disgwyl y byddai'r bwrdd yn gweithredu yn y ffordd a awgrymwyd gan Leanne Wood, gan wrando ar farn cleifion, staff, a chynrychiolwyr etholedig, a gobeithiaf y bydd y cyfarfod ddydd Gwener yn ddechrau da i'r broses honno. Diolch i'r Prif Weinidog. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud ei datganiad—Rebecca Evans. Rebecca Evans AC: Diolch, Llywydd. Mae dau newid i fusnes yr wythnos hon. Yn gyntaf, bydd y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) yn cael ei drafod yn syth ar ôl y datganiad busnes hwn, gyda phleidlais yn cael ei chynnal yn syth wedyn. Yn ail, mae hyd y ddadl ar Fil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) wedi'i gwtogi yn unol â nifer y gwelliannau a gyflwynwyd. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfodydd sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig. Darren Millar AC: Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, os gwelwch yn dda, ynghylch ymdrechion Llywodraeth Cymru i ddiogelu rhywogaethau sydd mewn perygl a dan fygythiad yng Nghymru? Efallai eich bod chi'n ymwybodol ei bod yn Ddiwrnod Gwerthfawrogi Gwiwerod o amgylch y byd heddiw, ac fel pencampwr y wiwer goch yn y Cynulliad Cenedlaethol, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fy mod yn achub ar y cyfle hwn i godi mater pwysig cadwraeth y wiwer goch ar draws y wlad. Ers y 1940au, mae poblogaeth y wiwer goch, a arferai fod dros y rhan fwyaf o Gymru, bellach yn boblogaeth sydd mewn tair prif ganolfan yn unig, un ar Ynys Môn, un yn y Canolbarth, ac un yng Nghoedwig Clocaenog yn fy etholaeth i fy hun. Rwy'n gwybod bod nifer o rywogaethau'n cael eu cynrychioli gan lawer o unigolion yn y Siambr hon, ond rwy'n credu y byddai'n amser da i ofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf am y camau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu gwiwerod coch, ac, yn wir, rywogaethau eraill sydd dan fygythiad ledled y wlad. Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair. Rebecca Evans AC: Diolch i Darren Millar am y cwestiwn, a dymunaf ddiwrnod gwerthfawrogi'r wiwer hapus iawn iddo, fel pencampwr y rhywogaethau yn y Cynulliad hwn. Ac, yn sicr, roedd y Gweinidog yma i glywed eich cais am ddiweddariad ar y camau i amddiffyn rhywogaethau dan fygythiad, ac rwy'n siŵr y bydd yn rhoi ystyriaeth briodol iddo. Leanne Wood AC: Rwyf i eisiau codi'r mater datganoli'r system cyfiawnder troseddol. Yn ystod yr wythnos diwethaf mae'r dadleuon dros ddatganoli wedi cryfhau'n sylweddol, yn unol â'r hyn sydd eisoes yn bodoli yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae achos trasig Conner Marshall wedi tynnu sylw at yr hyn yr oedd llawer ohonom ni eisoes yn ei wybod—sef bod preifateiddio'r gwasanaeth prawf wedi bod yn drychineb llwyr. Sawl bywyd arall fydd angen ei golli cyn y bydd trefn yn cael ei rhoi ar y gwasanaeth prawf? A fyddwn ni byth yn deall yn llwyr wir gost y penderfyniad i breifateiddio'n rhannol y gwasanaeth prawf? Mae ysgrifennydd cyfiawnder y Torïaid wedi dweud ei fod yn awyddus i fwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer carchar newydd arall yng Nghymru, er mai gennym ni y mae'r gyfradd garcharu uchaf yng ngorllewin Ewrop. Mae nifer y bobl sy'n marw o ganlyniad i ddefnyddio sylweddau wedi cyrraedd lefel uwch nag erioed, ac mae'r cyfraddau euogfarnau am drais yn plymio o lefelau sydd eisoes yn isel. Mae'n amlwg nad yw system cyfiawnder troseddol Lloegr yn gweithio i ni. Fel y canfu'r Comisiwn Thomas ar ddatganoli cyfiawnder, mae pobl yng Nghymru yn cael eu siomi gan y system yn ei chyflwr presennol. Pe bai Cymru'n cynnal ei system cyfiawnder troseddol ei hun, gallem ganolbwyntio ar leihau niwed a gwella canlyniadau. Yn ymateb cychwynnol y Prif Weinidog i Gomisiwn Thomas, addawodd y byddai'n cychwyn deialog gyda Llywodraeth y DU ar ôl yr etholiad. Nawr, mae mwy na mis wedi mynd heibio ers yr etholiad hwnnw, felly a gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth yn amlinellu a yw'r ddeialog honno wedi dechrau? A allwch chi ddweud wrthyf hefyd pa waith paratoi yr ydych chi'n bersonol wedi'i ddechrau o ran cyllideb y Llywodraeth hon, oherwydd gallwch chi ddangos bod Cymru o ddifrif ynghylch datganoli'r system cyfiawnder troseddol i Gymru, ac nad ydym ni'n fodlon gweld canfyddiadau'r comisiwn hwn yn cael eu taflu o'r neilltu drwy ymrwymo adnoddau i'r mater hwn? A ydych chi'n bwriadu gwneud hynny? Rebecca Evans AC: Wel, yn y lle cyntaf, byddwn i'n dweud, gyda phob parch, rwy'n credu bod y Prif Weinidog wedi ateb rhai o'r cwestiynau hynny. Ond bydd cyfle i gael trafodaeth fanylach mewn dadl yn amser y Llywodraeth, a fydd yn cael ei chynnal yn ystod yr wythnosau nesaf, yn ôl yr hyn yr wyf i'n ei ddeall. Huw Irranca-Davies AC: A gawn ni ddatganiad neu ddadl ynghylch ddarparu triniaethau priodol ar gyfer anhwylderau personoliaeth ffiniol mewn modd cyson ledled Cymru? Mae etholwr huawdl a hyddysg iawn wedi cysylltu â mi—yn wybodus drwy brofiad personol a drwy ymchwil academaidd—sydd wedi codi'r anhawster o gael therapi ymddygiad dialectig, DBT, yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Morgannwg Cwm Taf, ac mae wedi holi a allai'r un peth fod yn berthnasol ar draws ardaloedd byrddau iechyd gwahanol yng Nghymru. Ac yna gallem hefyd drafod, felly, i ba raddau y dylai unigolyn sydd ag anhwylder personoliaeth ffiniol fod yn gallu ymgysylltu â chlinigwyr ar yr hyn y mae'r unigolyn yn ei ystyried y ffurf fwyaf priodol o driniaeth iddyn nhw eu hunain, yn hytrach na dim ond derbyn pa driniaeth bynnag a all fod ar gael, neu beidio, o fewn un ardal Bwrdd Iechyd. A gawn ni ddatganiad hefyd am y newidiadau i amserlennu trenau, er mwyn galluogi cymudwyr yn y Cymoedd i gyrraedd y gwaith yn brydlon yng Nghaerdydd? Dim ond dau drên o Faesteg sydd wedi'u hamserlennu i gyrraedd Caerdydd cyn 9 a.m. ar ddyddiau'r wythnos. Mae'r cyntaf yn gadael am 6.44 a.m. ac yn cyrraedd am 7.38 a.m.—digon o amser i gyrraedd y gwaith erbyn 8 a.m. neu 8.30 a.m. Fodd bynnag, effeithiwyd ar yr ail gan newid i'r amserlen ym mis Tachwedd, a wthiodd amser ymadael y trên yn ôl i 8.04 a.m., gan gyrraedd Caerdydd am 8.54 a.m. os nad oes oedi. Gweinidog, mae oedi bob tro—weithiau pum munud, weithiau 10 munud, weithiau'n fwy. Felly mae'n golygu bod cymudwyr oedd â phenaethiaid deallgar a ddywedai, 'cyn belled â'ch bod chi wrth eich desg erbyn 9 a.m., peidiwch â phoeni, rydych chi'n iawn', bellach yn cyrraedd eu desgiau'n yn hwyrach na 9 a.m. yn rheolaidd, i ddarganfod eu penaethiaid yn dweud, 'os bydd hyn yn digwydd o hyd, fydd ddim swydd i chi.' Felly, rwyf wedi ysgrifennu at Weinidogion, at Drafnidiaeth Cymru, at KeolisAmey, at Network Rail, ac eraill, iddyn nhw roi'r trên hwn yn ôl i amser cynharach pan ddaw'r newidiadau i'r amserlen fis Mai. Felly byddwn i'n croesawu datganiad ar amserlen mis Mai. Ac yn olaf, a gawn ni ddadl ar gyflwyno credyd cynhwysol, sydd, fel yr wyf i'n ei weld yn fy nghymorthfeydd wythnos ar ôl wythnos, yn gwthio llawer o'n hetholwyr i yn drwm i ddyled, i mewn i dlodi, ac i anobaith? Ac a oes modd inni gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr ymchwil gan Policy in Practice a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi'i chynllunio i helpu Llywodraeth Cymru i wneud penderfyniadau polisi mewn modd sy'n helpu awdurdodau lleol a phreswylwyr yn y ffordd orau bosibl gyda chredyd cynhwysol, ac i ddeall sut mae hyn yn effeithio ar deuluoedd yng Nghymru? Gwelsom y gwaith ymchwil y llynedd gan Cartref, sy'n dangos effaith rhewi'r credyd cynhwysol, gan arwain at ostyngiad o 6 y cant ar gyfartaledd yn incwm pobl sy'n hawlio budd-daliadau oedran gweithio ers 2016. Dangosodd fod ar 84 y cant o'r tenantiaid sy'n hawlio Credyd Cynhwysol rywfaint o rent bellach i'w cymdeithasau tai, naill ai drwy beidio â thalu neu faterion technegol. Ac mae ar y tenantiaid hynny ar Gredyd Cynhwysol sydd mewn ôl-ddyledion fwy na dwywaith swm y rhent o'u cymharu â chyfoedion sy'n hawlio budd-dal tai o dan yr hen drefn. Felly byddai'n dda cael datganiad neu ddadl ar hyn, felly gallwn ni fynd i'r afael o ddifrif ag effeithiau gwaethaf polisi Llywodraeth y DU sy'n creu tlodi ac sydd wedi'i ddylunio'n wael. Rebecca Evans AC: Rwy'n ddiolchgar i Huw Irranca-Davies am godi tri mater pwysig iawn. Roedd y cyntaf iddo ei godi yn ymwneud â chyfle i gael DBT ar gyfer unigolion ag anhwylder personoliaeth ffiniol. Mae gwella'r cyfle i fynd at amrywiaeth o therapïau yn flaenoriaeth ar hyn o bryd i Lywodraeth Cymru, ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi parhau i weithredu ein hymrwymiad i wella'r cyfle i gael therapïau seicolegol. Darparwyd £4 miliwn ychwanegol i fyrddau iechyd yng 2018-19 i gefnogi hynny. Darparwyd £3 miliwn arall hefyd fel rhan o'r cyllid ar gyfer gwella'r gwasanaeth iechyd meddwl o'r flwyddyn ariannol hon. Gallaf sicrhau y bydd gwella ansawdd ac amrywiaeth y therapïau seicolegol a'r cyfle i'w defnyddio, yn parhau'n brif flaenoriaeth yn y 'Cynllun Cyflawni Law yn Llaw at Iechyd Meddwl 2019-2022' sydd ar y gweill a bwriad y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yw cyhoeddi hwnnw'n fuan iawn. Yr ail fater a godwyd oedd y pryder y mae Huw Irranca-Davies wedi'i godi o'r blaen yn y Siambr, mewn gwirionedd, o ran teithio i Gaerdydd o Faesteg. Yn y lle cyntaf, mae'n fater gweithredol ar gyfer trafnidiaeth Cymru a KeolisAmey, sy'n gorfod bodloni ymrwymiad y fasnachfraint, sef bod y ddau drên hynny o Faesteg i Gaerdydd yn cyrraedd cyn 9 y bore. Ond i gydnabod y materion penodol a ddisgrifiodd, rwy'n deall bod cynrychiolwyr Trafnidiaeth Cymru wedi cynnal gweithdy i randdeiliaid i ystyried y mater hwn. Mae gwasanaeth y bore rhwng Maesteg a Chaerdydd a'r heriau yr ydych chi'n eu disgrifio yn cael eu hystyried ar hyn o bryd, a gwn y byddan nhw'n awyddus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn y gweithdai rhanddeiliaid hynny. Y trydydd mater oedd diwygio lles, a chredyd cynhwysol yn benodol, a'r effaith ddinistriol y mae hynny wedi'i chael ar lawer o bobl ledled Cymru. Darn arall o dystiolaeth sy'n ychwanegu, mae'n debyg, at ein dealltwriaeth o effaith cyflwyno credyd cynhwysol, yw'r darn o waith ymchwil a gyhoeddais i ar gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor yng Nghymru. Ac mae Huw Irranca-Davies wedi disgrifio'r effaith y mae'n ei gael ar bobl o ran ôl-ddyledion rhent. Dyna un darn o ymchwil yr ydym ni wedi'i gyflawni sy'n ymwneud â'r dreth gyngor ac ardrethi annomestig, ac wrth inni gasglu rhagor o'r darnau hynny o ymchwil ynghyd, byddan nhw'n helpu i lywio ein ffordd ymlaen, ac yn amlwg byddwn ni'n awyddus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau maes o law. David J Rowlands AC: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch lleoli adweithyddion modiwlaidd bach yn y Gogledd? Deallwn ni fod y consortiwm o dan arweiniad Rolls Royce yn ystyried adeiladu adweithyddion modiwlaidd bach, gyda Thrawsfynydd yng Ngwynedd wedi'i awgrymu fel prif darged. Roeddem hefyd yn credu bod yna gynlluniau i leoli un ar y safle Wylfa ar Ynys Môn ac roedd adroddiadau i'w gweld yn cadarnhau hynny. Ond mae datganiad gan bŵer niwclear Horizon wedi ceisio egluro nad yw hyn yn gywir. Dywedasant: Nid oes unrhyw gynlluniau i ddefnyddio adweithydd modiwlaidd bach Rolls Royce ar safle Wylfa newydd ac mae'r straeon diweddar yn y cyfryngau yn nodi hynny'n anghywir. A allai'r Gweinidog wneud sylwadau ar y datganiad hwn? Fe wnaethant ychwanegu: Mae gweithgarwch ar y prosiect Horizon wedi'i atal ar hyn o bryd, ond rydym yngweithio'n galed i sefydlu'r amodau ar gyfer ailgychwyn gan ddefnyddio cynllun adweithyddion a brofwyd gennym, sydd eisoes wedi clirio proses asesu rheolyddion y DU. Dywedasant fod cais cynllunio i gyflenwi dau o'r adweithyddion hyn–gan ddarparu digon o bŵer glân ar gyfer dros 5 miliwn o gartrefi a buddsoddiad gwertho biliynau o bunnoedd i'r rhanbarth. A all y Gweinidog roi gwybodaeth glir ynglŷn â'r sefyllfa gyda'r ddau safle hyn? Rebecca Evans AC: A gaf i ofyn i chi, yn y lle cyntaf, ysgrifennu at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, a fydd, rwy'n credu, yn y sefyllfa orau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch ei ddealltwriaeth o'r sefyllfa? Andrew RT Davies AC: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Trefnydd, nid oedd y Prif Weinidog, mewn ymateb i arweinydd yr wrthblaid, wedi cadarnhau pryd y byddai'r asesiad effaith rheoleiddiol ar gael i'r cyhoedd ei ystyried. Mae hon yn ddogfen hanfodol bwysig er mwyn deall effaith cynigion o'r fath dan ystyriaeth y Llywodraeth ar hyn o bryd ynghylch parthau perygl nitradau i'w gweithredu yma yng Nghymru. A gaf i erfyn arnoch i weithio gyda'r Gweinidog i sicrhau bod y ddogfen honno ar gael i'r Aelodau, fel y gallwn ni ddeall yn union yr hyn y mae'r asesiad effaith rheoleiddiol yn ei ddweud wrth Weinidogion a'r effaith a gaiff, pe bai'r rheoliadau hyn yn cael eu rhoi ar waith ledled Cymru, yn ôl y cynnig, cyn bod y Gweinidog yn penderfynu cynnal ymgynghoriadau pellach ag undebau'r ffermwyr a sefydliadau eraill? Rwy'n derbyn diffuantrwydd y Llywodraeth wrth gychwyn ar y trafodaethau hynny, ond mae'r rhain yn benderfyniadau mawr a gaiff eu gwneud yma ar sail Cymru gyfan. Ac roedd panel y Llywodraeth ei hun, a sefydlwyd gyda'r rheoleiddiwr, Cyfoeth Naturiol Cymru, a oedd yn ymrwymo i'r adroddiad a gyflwynwyd gan y panel rheoleiddiol hwnnw, yn gofyn am ddull gwirfoddol o weithredu'r materion hyn a fyddai'n ceisio mynd i'r afael â'r achosion o lygredd amaethyddol a grybwyllwyd gan y Prif Weinidog. Hoffwn i dynnu sylw'r Prif Weinidog at y ffaith na fu cynnydd sylweddol mewn llygredd amaethyddol ledled Cymru yn ystod y 20 mlynedd diwethaf. Mae hyn wedi amrywio o 190 o achosion ar ei huchaf i oddeutu 120 neu 130 o achosion ar ei hisaf. Ac o'r achosion hynny, dim ond 20 i 30 sydd wedi bod yn ddifrifol. Wrth gwrs, mae un yn ormod—rwy'n derbyn hynny. Ond wrth feddwl am ollyngiadau dŵr Cymru, er enghraifft, mewn achosion o lygredd carthion sy'n digwydd ledled Cymru, ac nid yw'n edrych fel bod y Llywodraeth yn dymuno ymgymryd â'r materion penodol hynny, ymddengys fod hwn yn ddull llawdrwm iawn pan fod gennych eisoes gytundeb ar y bwrdd y mae'r rheoleiddiwr wedi ymrwymo iddo, a bod y sefydliadau sydd wedi dod o amgylch y bwrdd, wedi trafod hyn ac wedi cyflwyno cynnig. Byddwn i'n erfyn ar Lywodraeth Cymru i ddychwelyd at y ddogfen honno a gweithio i'r ddogfen honno, yn hytrach na chyflwyno'r cynigion llym hyn. Rebecca Evans AC: Gwn fod y Gweinidog sy'n gyfrifol am yr amgylchedd, ynni a materion gwledig yn awyddus iawn i barhau i weithio ochr yn ochr â ffermwyr a'u cynrychiolwyr undeb ar y mater penodol hwn. Fel yr ydych chi'n ei ddweud, mae'r rhain yn benderfyniadau mawr, a dyna pam y mae Llywodraeth Cymru yn cymryd yr amser sydd ei angen arni er mwyn datblygu cynigion a'u hystyried. Rwy'n deall y bydd y Gweinidog yn cael cyngor, gan gynnwys yr asesiad effaith rheoleiddiol, o fewn yr wythnosau nesaf, erbyn diwedd y mis gobeithio, ac yn amlwg, bydd hi'n awyddus i drafod pethau ymhellach gyda rhanddeiliaid maes o law. Llyr Gruffydd AC: A gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog perthnasol yn y Llywodraeth ynghylch y tân diweddar yn Kronospan yn y Waun, sydd wedi achosi cryn bryder yn lleol, wrth gwrs? Dyma'r trydydd tân yno mewn cwta dair blynedd, a bu'n llosgi am wythnos, gan achosi llygredd ledled y dref a thu hwnt. Cymerodd 48 awr i roi offer monitro ansawdd aer yn ei le, a gollodd, wrth gwrs, y gwaethaf o'r llygredd, ond er hynny fe ganfu fformalin, sydd wedi'i gydnabod yn garsinogen, yn yr awyr, sydd, fel y gallwch chi ei ddychmygu, yn achosi pryder enfawr i'r boblogaeth leol. Mae angen esboniad arnom ni yn sgil y digwyddiadau hyn. Mae angen inni glywed yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau na fydd hyn yn digwydd eto. A wnewch chi ymuno â mi i alw am ymchwiliad annibynnol i ddarganfod pam yr oedd y tân wedi llosgi'n ffyrnig gyhyd a hefyd pam yr oedd yr ymateb gan asiantaethau mor araf? Hefyd mae angen lleoli offer monitro ansawdd aer annibynnol yno'n barhaol. Rwy'n deall bod yr offer dros dro presennol wedi cael ei symud yno o Abertawe. Nawr, mae trigolion lleol yn haeddu ymateb cadarn gan Lywodraeth Cymru ar hyn, ac, ar hyn o bryd, rwy'n ofni nad ydyn nhw'n cael yr ymateb hwnnw. Hefyd, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog Addysg yn sgil adroddiad hynod feirniadol gan Arolygiaeth Gofal Cymru o Ysgol Rhuthun, a gafodd ei gyhoeddi yn ddiweddar? Dywed yr adroddiad, a dyfynnaf: Canfuwyd bod yr arweinyddiaeth, y rheolaeth a'r llywodraethu sy'n ymwneud â diogelu yn annigonol ac, o ganlyniad, nid oedd pobl ifanc yn cael eu hamddiffyn yn llawn. Ac mae'r adroddiad yn nodi: Pryderon sylweddol a chyffredin o ran llesiant pobl ifanc. Hefyd, Roedd y trefniadau ar gyfer ymdrin â phryderon am ddiogelu pobl ifanc yn annigonol. Mae hynny'n gwbl annerbyniol, ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno. Felly, a wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch swyddogaeth Llywodraeth Cymru o ran diogelu plant mewn ysgolion preifat a phreswyl? A wnaiff ddatganiad hefyd ynghylch yr ymyriadau sydd ar gael mewn ysgolion yng Nghymru nad ydynt dan reolaeth awdurdodau lleol? Pa oruchwyliaeth sydd gan awdurdodau statudol, megis diogelu plant, dros ysgolion preifat yng Nghymru? Ac onid oes achos i'w wneud bod angen ymyrryd yn gynharach pan fo diogelu plant yn broblem? Dyma'r ail adroddiad mewn blwyddyn sy'n tynnu sylw at bryderon am faterion diogelu yn yr ysgol ac mae angen atebion gan Lywodraeth Cymru i'r cwestiynau hyn. Rebecca Evans AC: O ran yr ail fater a godwyd, yn ymwneud ag Ysgol Rhuthun, byddaf i'n gofyn i'r Gweinidog gwasanaethau cymdeithasol ysgrifennu atoch mewn ymateb i'r cwestiynau penodol a oedd gennych chi ynghylch diogelu a swyddogaeth Llywodraeth Cymru o sicrhau diogelu plant a phobl ifanc mewn ysgolion preifat a phreswyl, a hefyd yr oruchwyliaeth sydd gan y cyrff statudol. Mae'r rheini'n gwestiynau manwl ac rwy'n siŵr bod angen ateb manwl arnyn nhw. Y mater cyntaf, wrth gwrs, oedd y tân yn Kronospan a'r materion a oedd yn ymwneud â'r mwg o ganlyniad i'r tân hwnnw. Mae'n amlwg bod y Gweinidog wedi bod yma i glywed eich sylwadau ar hynny ac mae'n amlwg ei fod wedi cymryd diddordeb ynddo. Rwy'n siŵr y byddai eich swyddogion wedi bod mewn cysylltiad â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, sef, yn amlwg, y corff arweiniol o ran ymateb i hyn. Ond os caf i ofyn ichi ysgrifennu at y Gweinidog, rwy'n siŵr y byddai hi'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y mater yn gyffredinol. Alun Davies AC: Byddwn i, rheolwr busnes, yn hoffi gofyn am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth, os oes modd. Mae'r cyntaf yn ymwneud â mater a gafodd ei godi yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog, sef y tâl atal tagfeydd y mae cyngor sir Caerdydd wedi'i gynnig fel rhan o'i waith o wella trafnidiaeth yn y ddinas. Bydd llawer ohonom ni'n croesawu'r weledigaeth a ddangosodd awdurdodau lleol Caerdydd yn eu Papur Gwyn, a bydd llawer ohonom yn cefnogi eu huchelgeisiau. Ond ni fydd llawer ohonom ni'n goddef treth y Cymoedd i dalu amdani. Mae'n bwysig, rwy'n credu, bod unrhyw dâl sy'n cael ei godi ar ddinasyddion y wlad hon yn cael ei wneud yn deg ac yn gyfartal. Mae'r tâl atal tagfeydd a gynigodd cyngor sir Caerdydd yn methu â chyflawni'r ddau fesur hynny. Wrth gwrs, Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y rhwydwaith cefnffyrdd a'r prif ffyrdd i mewn ac allan o Gaerdydd. Rwy'n deall y bydd cyngor dinas Caerdydd, cyngor sir Caerdydd, yn cymryd cyfrifoldeb am y ffyrdd hynny yn y ddinas ei hun, ond hyd at y fynedfa i'r ddinas, cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw'r rhain. Byddai'n ddefnyddiol, felly, pe gallem ddeall beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar godi tâl am ffyrdd ac a fu ymgynghori â Llywodraeth Cymru fel rhan o hyn ac a yw Llywodraeth Cymru wedi awgrymu ei bod yn cydsynio neu gefnogi'r dreth bosibl hon o gwbl. Ac i lawer ohonom, rydym yn pryderu'n ddirfawr am y ffordd y cafodd hyn ei gyhoeddi ac yn pryderu'n fawr am yr effaith a gaiff ar ein hetholwyr. Felly, byddwn i'n ddiolchgar pe gallai Llywodraeth Cymru roi datganiad inni am y materion hynny. Yr ail yw—hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ar faterion sy'n ymwneud â chyffuriau a sbeicio ddiodydd. Codwyd y mater hwn gyda mi yn ystod yr wythnosau diwethaf. Yr wythnos diwethaf, cawsom ddadl dda iawn, yn fy marn i, ar drais rhywiol a sut y mae treisio yn cael ei drin o fewn y system cyfiawnder troseddol. Credaf fod llawer ohonom wedi croesawu'r ddadl honno ac rwy'n credu bod cytundeb eang ar bob ochr i'r Siambr hon ynglŷn â'r angen i wella profiad pobl sydd wedi dioddef trais rhywiol o fewn y system cyfiawnder troseddol. Ond mae'n rhaid inni hefyd gydnabod—mae menywod ifanc yn arbennig mewn perygl o gael rhywun yn sbeicio eu diodydd ym mhob un o'n prif drefi a dinasoedd. Ac mae myfyrwyr a menywod ifanc yn enwedig yn wynebu cael eu heffeithio'n fawr ac yn ofni y gall eu diodydd gael eu sbeicio ac y gellir ymosod arnyn nhw wrth iddyn nhw fwynhau noson allan. Mae hyn yn rhywbeth sydd, yn fy marn i, yn arwyddocaol iawn i bob un ohonom ni, ac mae'n rhywbeth yr wyf yn gobeithio y gallai Llywodraeth Cymru geisio cymryd camau i fynd i'r afael ag ef. Rebecca Evans AC: Rwy'n ddiolchgar i Alun Davies am godi'r ddau fater hyn. Credaf fod y llythyr y mae Gweinidog yr economi wedi'i anfon at arweinydd Cyngor Caerdydd yn dechrau ateb rhai o'r pryderon sydd gennych chi, yn enwedig o ran pryder Llywodraeth Cymru ynghylch tegwch, ond hefyd y pryder y dylai unrhyw benderfyniadau gael eu gwneud mewn ffordd sy'n ystyriol iawn o'r effaith ar y rhanbarth ehangach hefyd. Felly, rwy'n credu y bydd y gwaith a gaiff ei wneud o ganlyniad i'r llythyr hwnnw yn fan cychwyn ar gyfer y trafodaethau hynny, a byddaf i'n sicrhau bod y llythyr hwnnw'n cael ei ddosbarthu i'r Aelodau. Ac ar yr ail fater o sbeicio diodydd, gwn fod y Gweinidog iechyd i fod i gyhoeddi datganiad yn y dyfodol agos a fydd yn lansio'r cynllun cyflawni newydd ar gamddefnyddio sylweddau ac, yn amlwg, mae addysg a chadw pobl yn ddiogel wrth wraidd y cynllun penodol hwnnw. Mohammad Asghar (Oscar) AC: Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar y grant cymorth tai? Mae cyllid ar gyfer cymorth sy'n gysylltiedig â thai wedi gostwng £27 miliwn mewn termau real ers 2012. Mae awdurdodau lleol, darparwyr cymorth y trydydd sector a landlordiaid cymdeithasol yn dweud ei bod eisoes yn anodd diwallu anghenion pobl y mae angen gwasanaethau cymorth arnyn nhw o fewn y cyfyngiadau presennol ar y gyllideb. Maen nhw'n honni, heb fuddsoddiad ychwanegol yn y grant cymorth tai, fod perygl na fydd gan wasanaethau'r gallu i ddiwallu anghenion pobl ac y gallai digartrefedd fod yn llawer gwaeth yng Nghymru. A gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog mewn ymateb i'r pryderon hyn ynghylch pa gamau y bydd yn eu cymryd i sicrhau bod gan wasanaethau yr adnoddau i ddiwallu anghenion pobl sy'n dioddef effeithiau digartrefedd? A'r ail ddatganiad yr hoffwn i ofyn amdano gan y Gweinidog diwylliant, os gwelwch yn dda. Rwy'n credu bod y Prif Weinidog wedi sôn yn gynharach am safleoedd treftadaeth yng Nghasnewydd. Roedd yn braf iawn deall ei bryder. Ond fandaliaeth mewn safleoedd treftadaeth yw fy mhryder i. Yn gynharach y mis hwn, adroddwyd bod difrod dychrynllyd wedi'i wneud i domen gladdu sy'n dyddio'n ôl i'r Oes Efydd yng Nghoed Gwent ger Casnewydd, ac mae'r heddlu'n dweud mai dim ond cerbydau oddi ar y ffordd a allai fod wedi gwneud hynny. Nid yw'n dderbyniol mewn unrhyw gymdeithas. Cyn inni hyrwyddo treftadaeth a diwylliant Casnewydd, rhaid inni sicrhau eu bod yn cael eu diogelu'n ddigonol. Felly, Gweinidog, a gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth bod ein holl safleoedd treftadaeth yn cael eu diogelu'n briodol rhag y fandaliaid hyn? Diolch. Rebecca Evans AC: Diolch am godi'r materion hyn. Y cyntaf yw'r grant cynnal tai. Mae'r mater penodol y cyfeiriwch chi ato yn rhan o'r gyllideb ar gyfer 2020-1. Byddwn i'n awgrymu, efallai, mai'r lle priodol i graffu ar hynny yw o fewn y trafodaethau ar y gyllideb, felly bydd cyfle arall i gael y dadleuon hynny yma ar lawr y Cynulliad, a hefyd drwy'r broses o graffu ar y gyllideb y mae pwyllgorau yn ymgymryd â hi. Felly, rwy'n credu mai dyna fyddai'r lle priodol i fod yn craffu ar elfennau o gyllideb 2020-1. Gofynnaf i'r Gweinidog ysgrifennu atoch o ran sut yr ydym ni'n gwarchod ein safleoedd treftadaeth yn eu cyfanrwydd, ond hefyd gyda rhai syniadau penodol ar fater y cerbydau oddi ar y ffordd a ddisgrifiwyd gennych chi, sydd yn amlwg wedi cael effaith niweidiol dros ben yn ardal Coed Gwent, y cyfeirioch ati. Mike Hedges AC: Hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth. Mae'r cyntaf yn cyfeirio at Iaith Arwyddion Prydain a darparu cyrsiau, yn enwedig ar gyfer rhieni plant byddar. Cawsom a thrafodwyd deiseb gan Deffro!, a gafodd ei chefnogi gan y Llywodraeth ac Aelodau ar draws y Siambr, ac mae pobl yn Deffro! yn dweud wrthyf i, 'beth sy'n digwydd ar hyn o bryd?' A gawn ni ddatganiad ynglŷn â pha gamau sydd wedi'u cymryd a pha gamau sydd wedi'u cynllunio yn dilyn y ddeiseb honno, oherwydd bod pryderon difrifol o fewn y gymuned fyddar? Nid wyf yn siŵr fy mod eisiau datgan buddiant: mae fy chwaer yn hollol fyddar ac yn aelod o'r gymuned fyddar, ond nid wyf i yn rhiant i blentyn byddar. Mae'r ail gais ar bwyntiau gwefru trydan sydd ar gael i'r cyhoedd. Rydym ni'n ceisio hyrwyddo ceir trydan; rydym ni'n ceisio hyrwyddo ynni gwyrdd. A oes modd i'r Gweinidog wneud datganiad ynghylch ar gyfer ble y maen nhw wedi'u cynllunio, pa bryd y maen nhw'n debygol o gael eu gosod, faint sy'n debygol o gael eu gosod wrth bob pwynt a pha fath? Oherwydd deallaf oddi wrth un o fy etholwyr fod y rhan fwyaf o'r pwyntiau gwefru yng ngorsaf wasanaeth Sarn yno ar gyfer cerbydau Tesla, nid y gwefrydd mwy cyffredin. Nid wyf i'n arbenigwr yn y pethau hyn, ond mae fy etholwr yn dweud os oes gennych gerbyd Tesla, does dim ciw; os oes gennych chi gerbyd trydanol cyffredin, mae ciw. Rydyn ni'n ceisio cael pobl i ddefnyddio cerbydau trydanol. Mae angen rhyw fath o gynllun, a hoffwn i gael datganiad gan y Llywodraeth ar y cynllun hwnnw. Rebecca Evans AC: Gallaf weld y Gweinidog yn ymateb yn gadarnhaol i'ch cais am ddatganiad ynglŷn â phwyntiau gwefru ceir trydan. Ar hyn o bryd mae dros 930 o gysylltwyr pwynt gwefru sy'n hygyrch i'r cyhoedd ledled Cymru, i fyny o 670 ym mis Ebrill y llynedd. Felly, yn amlwg, rydym yn dechrau gweld rhywfaint o gynnydd yn y maes hwn, ond mae Mike Hedges yn codi pwynt pwysig, onid ydyw, fod y pwyntiau gwefru penodol yn briodol ar gyfer y cerbydau y mae pobl yn dewis eu gyrru? Felly, byddai Ken Skates wedi clywed y sylwadau hynny, ac rwy'n siŵr y bydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ar hynny. Ar fater penodol Iaith Arwyddion Prydain a'r ddeiseb y mae Deffro! wedi'i chyflwyno i'r Cynulliad, byddaf i'n siŵr o gysylltu â chyd-Aelodau—gwn fod hwn yn faes o ddiddordeb i nifer o'n cydweithwyr, mewn gwirionedd, ym mhob rhan o'r Llywodraeth, ym maes addysg ac ym maes iechyd—i sicrhau eich bod yn cael diweddariad addas.FootnoteLink Gwybodaeth ychwanegol at y Cyfarfod Llawn (Saesneg yn unig) Rhun ap Iorwerth AC: Hoffwn i godi mater, fel cefnogwr chwaraeon yng Nghymru, o'r angen i ddathlu hanes chwaraeon Cymru, a hefyd fel ffan o ddinas Caerdydd a chynrychiolydd etholedig nifer nid ansylweddol o gefnogwyr yr Adar Gleision o Ynys Môn—Caergybi yn arbennig—sydd wedi bod yn ffyddlon iawn i'r Clwb dros y blynyddoedd. Mae Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Dinas Caerdydd wedi dod yn ymwybodol o gasgliad gwerthfawr ac anhepgor o gofiannau hanesyddol clwb pêl-droed Dinas Caerdydd a fydd yn mynd i ocsiwn ar 25 Ionawr. Nawr, mae'r Ymddiriedolaeth wedi annog clwb pêl-droed Dinas Caerdydd i brynu'r casgliad fel sail i amgueddfa i ddathlu hanes y clwb. Cafwyd rhai adroddiadau nad oedd yr eitemau bellach ar werth. Ond mae'n ymddangos y byddant yn mynd ar werth ar 25 Ionawr. Does dim llawer o amser ar ôl i atal y golled hon o dreftadaeth chwaraeon Gymreig bwysig iawn. A gaf i ofyn am ymyriad gan y Gweinidog chwaraeon a threftadaeth chwaraeon, gan gynnwys cysylltu â'r clwb i weld pa gymorth y gellid ei roi i gadw hyn mewn dwylo cyhoeddus, neu o leiaf ei fod ar gael i'r cyhoedd, a chael datganiad ysgrifenedig ar y camau posibl y gallai Lywodraeth Cymru eu cymryd i gefnogi'r clwb i brynu'r cofiannau gwerthfawr iawn hyn? Rebecca Evans AC: Wrth gwrs, mae'r Dirprwy Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros chwaraeon wedi bod yma i glywed eich cais am ymyrryd yn y mater penodol hwn o ran sicrhau bod y pethau cofiadwy i ddathlu hanes y clwb yr ydych chi wedi'i ddisgrifio yn dal i fod ar gael i gefnogwyr y clwb, ac rwy'n siŵr y bydd yn rhoi ystyriaeth deilwng iddo. Neil McEvoy AC: Drwyddoch chi, Gweinidog, hoffwn gael datganiad gan y Dirprwy Weinidog dros blant ar ddiogelu plant. Rydym ni’n byw yng Nghymru, sy'n wlad lle mae plentyn sy'n agored i niwed, neu blant sy'n agored i niwed, mewn gwirionedd, yng ngofal cwmnïau preifat yn gallu honni camdriniaeth, ond nid ydynt yn cael eu cymryd o ddifrif, ni fyddant yn cael eu cludo i fan diogel er mwyn siarad â nhw, ac os oes gan blentyn anawsterau dysgu ni fydd yn cael eiriolwr, ac ni fydd yn siarad ag arbenigwr ar ddiogelu plant. Ac os meddyliwch chi am y sgandalau ledled y DU bellach am blant sydd wedi dioddef y creulondeb mwyaf mewn gofal, ac os edrychwch chi ar hanes cartrefi gofal yng Nghymru—yn y ddinas hon, â dweud y gwir—yna fy nghwestiwn i neu'r datganiad yr wyf i'n dymuno ei gael gan y Llywodraeth mewn gwirionedd yw: beth y mae'r Llywodraeth yn mynd i'w wneud i ddiogelu plant yng Nghymru? Mae'n sefyllfa anobeithiol. Rhaid gwrando arnyn nhw. Rebecca Evans AC: Mae diogelu plant, a phlant sy'n agored i niwed yn benodol, yn amlwg yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, a byddaf i'n sicr yn gofyn i'r Gweinidog gwasanaethau cymdeithasol roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer diogelu plant yng Nghymru. Mark Isherwood AC: Ategaf i'r sylwadau am y tân yn Kronospan a nodaf fod cyngor Wrecsam wedi cynnal cyfarfod amlasiantaeth i drafod hyn ddydd Mawrth diwethaf, a bod AS De Clwyd yn cyfarfod â phrif weithredwr y cyngor ddydd Gwener diwethaf ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Ysgrifennydd Gwladol ar hyn. Ond rwy'n galw am ddau ddatganiad. Yn gyntaf, o ran atal canser ceg y groth, efallai eich bod yn ymwybodol mai Wythnos Atal Canser Ceg y Groth yw hon. Mae Ymddiriedolaeth Canser Ceg y Groth Jo, sy'n ymgyrchu i roi terfyn ar y stigma sy'n ymwneud â haint y firws papiloma dynol, neu'r feirws HPV, ac i godi ymwybyddiaeth o'r firws gwirioneddol gyffredin hwn a swyddogaeth sgrinio canser ceg y groth wrth atal canser ceg y groth, yn datgan bod y rhaglen sgrinio yng Nghymru bellach yn profi pob sampl ar gyfer HPV yn gyntaf, ond yn nodi ymhlith pethau eraill fod llawer o fenywod yn dal i fod—. Maen nhw'n clywed yn rheolaidd gan fenywod bob dydd sy'n teimlo cywilydd ac embaras ac yn ddryslyd ar ôl cael gwybod bod HPV ganddyn nhw. Gall y mythau ynghylch HPV annog menywod i beidio â mynd am brofion sgrinio. Felly, a fyddai modd imi alw am ddatganiad yn ymateb i'w galwad am fanylion gan Lywodraeth Cymru ar y camau y mae'r Ysgrifennydd Iechyd yn eu cymryd i gynyddu dealltwriaeth o HPV yn dilyn sgrinio ceg y groth yn symud i fod yn sgrinio sylfaenol HPV? Yn ail ac yn olaf, a gaf i alw am ddatganiad ar gymorth i bobl ifanc sy'n wynebu caledi ariannol? Dyma gyd-destun yr elusen a sefydlwyd gan Ally Elouise yn Llandudno yn 2015, sy'n cynnig dros 3,000 o siwtiau a ffrogiau prom ar fenthyg am ddim i gannoedd o fyfyrwyr na allant fel arall fforddio i ddathlu gorffen yn yr ysgol. Mae Ally wedi ennill gwobr Points of Light Prif Weinidog y DU, ac roedd hi wedi anfon e-bost yr wythnos diwethaf yn datgan, 'Byddwn i'n ddiolchgar pe gallech rannu neu hyrwyddo hyn er mwyn helpu cynifer â phosib o bobl ifanc sy'n wynebu caledi ariannol i fynd i'w proms ysgol eleni.' Galwaf am ddatganiad yn unol â hynny. Rebecca Evans AC: Yn gyntaf, rwy'n llongyfarch Ally ar bopeth y mae hi wedi'i gyflawni a'r ffaith ei bod wedi cael cydnabyddiaeth am syniad rhagorol, ymarferol a all wneud gwahaniaeth mawr i bobl ifanc. Gwyddom y gall y gost o fynd i prom fod yn afresymol o ddrud ac yn bryder i rai teuluoedd, felly rwy'n canmol Ally a'i dyfeisgarwch wrth sicrhau y gall pobl ifanc fwynhau moment arbennig iawn yn eu bywyd ysgol, neu ddiwedd eu bywyd ysgol. Mae mater canser ceg y groth a godwyd gennych yn bwysig dros ben hefyd. Rydym ar fin cael Wythnos Ymwybyddiaeth Canser Ceg y Groth, a gwn i y bydd Vikki Howells yn cynnal digwyddiad ar gyfer holl Aelodau'r Cynulliad yn y Senedd i glywed am ffyrdd y gall pawb ohonom ni chwarae ein rhan wrth godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cynnal profion yn lleol. Roedd y Gweinidog iechyd, pan oeddech chi'n siarad, yn awyddus iawn imi wneud y pwynt nad oes unrhyw gywilydd yn gysylltiedig â hyn o gwbl, a'i bod yn bwysig bod y profion yn cael eu cynnal. Mae gennym ni brofion mwy sensitif yma yng Nghymru, a fydd yn golygu ein bod ni'n gallu ymyrryd ac achub bywydau'n gynnar, a hefyd nawr, wrth gwrs, rydyn ni'n cyflwyno'r brechiadau i fechgyn hefyd. Gwn fod hynny wedi cael croeso cynnes iawn ledled Cymru. Ac yn olaf, David Rees. David Rees AC: Trefnydd, yr wythnos diwethaf, fe'n hatgoffwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder yn Llywodraeth y DU ei fod yn dal i gredu bod angen carchar newydd yn y de. Nawr, rydym wedi clywed y ddadl hon o'r blaen, ac mae fy nghymuned i wedi bod yn chwyrn iawn yn ei gwrthwynebiad i leoliad y cynnig diwethaf. Ond y cwestiwn a gawsom yn y ddadl honno oedd a oedd angen uwch garchar newydd arnom, a beth oedd y prosesau cymwys. A fydd gennych ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch pa drafodaethau a gawsoch â Llywodraeth y DU ar syniadau o'r fath gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder, a'r hyn y mae ef yn ei olygu, mewn gwirionedd, pan fo'n sôn am fanteision cael uwch garchar newydd? Oherwydd, yn y dadleuon y tro diwethaf, buom yn siarad am y ffyrdd y gallwn wella ansawdd bywyd i garcharorion, ac edrych ar y ffordd yr ydym ni'n hepgor cyfiawnder. Siaradwyd yn helaeth am ddatganoli cyfiawnder a datganoli gwasanaethau carchardai i Gymru fel y gallem wneud hynny'n briodol ar gyfer Cymru. Nawr, mae'n ymddangos bod y datganiad hwn yn anwybyddu'r holl gysyniadau hynny ac unwaith eto yn ein gorfodi ni i gael carchar newydd. Felly, rwy'n gobeithio y cawn ni ddatganiad gan y Gweinidog, neu bwy bynnag yw'r Gweinidog perthnasol, ynglŷn â pha drafodaethau sy'n digwydd a pha gynlluniau sydd ganddo ar gyfer Cymru. Rebecca Evans AC: Fe fyddaf i'n sicr o ofyn i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am y trafodaethau diweddaraf a all fod wedi digwydd yn y maes penodol hwn a dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â'r materion perthnasol a godwyd. Diolch yn fawr iawn i chi, Trefnydd. 3. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) Eitem 3 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael), ac rwy'n galw ar y Prif Weinidog i gynnig y cynnig—Mark Drakeford. Cynnig NDM7232 Mark Drakeford Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Cynigiwyd y cynnig. Mark Drakeford AC: Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr. Mae'r cynnig gerbron y Cynulliad heddiw yn un pwysig a hanesyddol. Mae angen inni ystyried cydsyniad deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael). Wrth drafod hwn heddiw, fe fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried y Bil o safbwynt beth sydd er lles Cymru. Dirprwy Lywydd, mae Brexit yn mynd i ddigwydd. Nawr, mae'n rhaid canolbwyntio ar sut y mae Brexit yn digwydd, a sut i gael perthynas gydag Ewrop sy'n amddiffyn buddiannau Cymru. Dyna'r man cychwyn i edrych ar y cwestiwn o gydsyniad deddfwriaethol i'r Bil tyngedfennol hwn. Mark Drakeford AC: Dirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch i chi ac i'r Llywydd am yr hyblygrwydd yr ydych chi wedi ei ddangos ynglŷn â'r ddadl, amseriad y ddadl, ar y Bil cytundeb ymadael, y darn pwysicaf o ddeddfwriaeth San Steffan y bu'n rhaid inni ei ystyried yn ystod 20 mlynedd o hanes y Senedd hon? Nawr, gadewch imi fod yn glir am yr hyn nad yw'r ddadl hon yn ei olygu. Nid yw'n golygu atal Brexit; nid yw'n ymwneud â pheri rhwystredigaeth i'r Bil. Mae'n ymwneud â ffurf Brexit, ac nid ffaith Brexit. Mae'n ymwneud â gwella'r Bil ac nid ei daflu oddi ar y cledrau. Mae Brexit yn mynd i ddigwydd—mae honno'n ffaith. Er hynny, mae'r ffordd y bydd Brexit yn digwydd ymhell o fod wedi ei sefydlu. Mark Reckless AC: A wnaiff y Prif Weinidog ildio? Onid dyna'n union y gwnaethoch chi ei ddweud yn 2016 ar ôl y refferendwm? O ystyried eich camau gweithredu yn ystod y tair blynedd a hanner diwethaf, pam ddylai pobl eich credu chi nawr? Mark Drakeford AC: Wel, rwy'n tybio bod yr Aelod wedi bod yn cysgu drwy gydol mis Rhagfyr pan gynhaliwyd etholiad cyffredinol, ac mae gennym Lywodraeth sy'n eglur am y ffaithein bod ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd. Roeddwn i'n credu bod hynny'n rhywbeth y dywedodd ef ei fod wedi ymgyrchu drosto am flynyddoedd lawer, ac rwyf innau newydd ddweud, mor glir ag y gallaf, ar goedd, fod honno, beth bynnag oedd barn rhai ohonom ni, yn ffaith sefydlog erbyn hyn. Yr hyn nad yw'n sefydlog, a dyma bwnc ein hystyriaeth ni'r prynhawn yma, yw sut y dylai Brexit ddigwydd, ac mae ffurf Brexit wedi troi a throi lawer tro eisoes yn nwylo Llywodraethau Ceidwadol olynol. Yn wir, nid y Bil y mae gofyn inni gydsynio ag ef heddiw yw'r Bil y byddai'r Prif Weinidog presennol wedi gofyn inni gydsynio ag ef ddechrau mis Rhagfyr. Nawr, Dirprwy Lywydd, mae Llywodraeth y DU yn gwthio'r Bil hwn drwy San Steffan gyda chyflymder sy'n hollol amhriodol o ystyried ei arwyddocâd. Mae hynny'n ddiangen ac yn annoeth. Dyma'r penderfyniad pwysicaf a gymerwyd gan San Steffan mewn cenhedlaeth neu fwy, ac mae'n sicr bod y ddeddfwriaeth yn haeddu'r craffu llawnaf a mwyaf trwyadl posibl. Mae'r methiant i roi cyfle i'r Senedd wneud hynny yn effeithio arnom ni yma'n uniongyrchol. Fel rheol, fe fyddem ni ar lawr y Cynulliad yn trafod mater cydsyniad deddfwriaethol ar Fil gan wybod beth fyddai ei ffurf derfynol ar gyfer pleidleisio arno yn San Steffan. Ni wyddom hynny y prynhawn yma. Mae'r ffaith na fydd bwlch rhwng adroddiad a thrydydd darlleniad yn Nhŷ'r Arglwyddi yn golygu y bydd ein gallu ni i roi penderfyniad cywir gerbron y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn cael ei gyfaddawdu hefyd. Daeth y Llywydd i’r Gadair. Mark Drakeford AC: Y cwestiwn sydd ger ein bron, serch hynny, yw hwn: a yw'r Bil hwn, fel y mae'n cael ei eirio ar hyn o bryd, yn bodloni buddiannau Cymru? A'r ateb y mae'r Llywodraeth hon yn ei awgrymu ichi'r prynhawn yma, y casgliad clir yr ydym ni wedi dod iddo, yw na allwn ni ofyn ichi roi cydsyniad i'r Bil, gan ei bod yn bendant nad yw buddiannau Cymru'n cael eu bodloni ynddo. Nid yw mandad ar gyfer Brexit yn fandad ar gyfer deddfwriaeth wael, a chyn belled ag y mae Cymru yn y cwestiwn, mae'r ddeddfwriaeth hon yn dal i fod yn wael iawn. Fe fydd yn tanseilio ein heconomi ni mewn ffyrdd niweidiol ac, yn bwysicach fyth, Llywydd, mewn ffyrdd y gellid eu hosgoi. Gadewch imi amlinellu rhai o'r ffyrdd y mae'r ddeddfwriaeth hon yn niweidio buddiannau hanfodol Cymru. Yn gyntaf oll, mae amddiffyn hawliau gweithwyr, a gafodd eu cynnwys yn y ddeddfwriaeth arfaethedig flaenorol, yn cael eu hepgor yn y Bil sydd gerbron Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi heddiw. Mae'r darpariaethau a oedd ar gael mewn fersiynau blaenorol wedi cael eu tynnu allan o'r Bil, ac ni allwn ni ddychmygu mai ar ddamwain y digwyddodd hynny. Fe fyddai Llywodraeth a oedd yn cymryd diogelu buddiannau gweithwyr o ddifrif wedi gadael y darpariaethau hynny yn y Bil, fel yr oedd Llywodraeth Geidwadol flaenorol yn hapus i'w wneud. Yn ail, Llywydd, mae protocol Iwerddon-Gogledd Iwerddon yn gosod cyfres newydd o rwystrau i fasnachu nad oedd yn bresennol yn y fargen flaenorol. Mae'r dadansoddiad a gyhoeddwyd gennym ddoe, a gynhaliwyd gan Arsyllfa Polisi Masnach y DU ym Mhrifysgol Sussex, yn nodi'r gwrthdaro anochel a'r bygythiad i fusnes ym mhorthladdoedd Cymru a fydd yn codi o ganlyniad i'r ddeddfwriaeth. Ac mae'n werth cofio, onid yw, fod y peryglon hyn yn rhai y bu i'r Prif Weinidog fynd yr holl ffordd i Belfast yn benodol i'w diystyru pan addawodd i'r gymuned unoliaethol yno na fyddai ef byth yn cytuno i ffin ym Môr Iwerddon. Mae'r ffin honno ym Môr Iwerddon yn effeithio'n uniongyrchol ac yn niweidiol arnom ni yma yng Nghymru ac fe ofynnir i ni gydsynio i'r effeithiau niweidiol hynny, ac mae'r Llywodraeth hon yn dweud wrth Aelodau'r Senedd hon na ddylem ni wneud hynny. Yn drydydd, mae'r aliniad deinamig â'r rheolau a'r rheoliadau Ewropeaidd hynny sy'n angenrheidiol i osgoi rhwystrau newydd i fasnachu yn cael sylw yng nghytundeb blaenorol Mrs May, ond rhoddwyd hyn o'r neilltu bellach hefyd. Nawr, yn lle hynny, mae Canghellor y Trysorlys yn ymffrostio'n agored am wahanu oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd fel pe bai'n erthygl ffydd. Wel, mae hon yn erthygl ffydd a fydd yn gwneud bywyd yn fwy anodd i fusnesau yng Nghymru sy'n masnachu ag Ewrop ac yn sicr dylem ni yn y Siambr hon ddeall bod economi Cymru yn fwy agored i niwed yn hyn o beth na'r DU yn gyffredinol oherwydd ein dibyniaeth ar y diwydiant gweithgynhyrchu a'r economi wledig. Siawns na ddylai cefnogwyr y ddeddfwriaeth hon ddisgrifio sut y maen nhw'n credu y bydd rhwystrau newydd i fasnachu, drwy wyro'n fwriadol oddi wrth y safonau cyffredin, yn caniatáu ar gyfer gwneud allforio i farchnadoedd mewn mannau eraill yn Ewrop yn fwy anodd i'n ffermwyr ni—i fynd yn ôl at yr hyn a gawsom ni'n gynharach y prynhawn yma. Mark Drakeford AC: Mae'r ddeddfwriaeth yn mynd â ni yn ein holau ac nid yn ein blaenau. Nid yw hynny'n anochel; mae o ganlyniad i ddewisiadau gwleidyddol gan Lywodraeth y DU ac mae gwell deddfwriaeth ar gael. Dyna pam rydym ni wedi gweithio mor galed, Llywydd, gyda'n cyd-Aelodau yn San Steffan dros y dyddiau diwethaf i gynnig gwelliannau a fyddai wedi unioni rhai o'r pethau y mae'r ddeddfwriaeth hon yn eu gwneud mor wael. A gaf i, wrth imi ymdrin â'r mater hwn, roi teyrnged i'r ymdrechion aruthrol a wnaeth yr Arglwyddi o Gymru yn Nhŷ'r Arglwyddi? Arglwyddi o wahanol bleidiau ac Arglwyddi meinciau croes hefyd, lawer ohonyn nhw'n gyn-Aelodau o'r Senedd hon, ond rhai eraill hefyd. Mae'n annheg enwi unrhyw un yn arbennig, Llywydd, ond fe hoffwn grybwyll yr Arglwydd John Morris. Y tro diwethaf imi gael sgwrs gyda'r Arglwydd Morris, tua diwedd y flwyddyn y llynedd, fe ddywedodd ef y stori am sut, yn ddyn ifanc yn ei 20au, y bu iddo gael ei ddewis i godi hwyl cyn cyflwyno'r prif siaradwr, Clem Attlee, yn isetholiad Caerfyrddin ym 1957. A dyma ni, fwy na 60 mlynedd yn ddiweddarach. Ar ôl bod yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru dan Harold Wilson a James Callaghan, ac yn Dwrnai Cyffredinol yng Nghabinet Tony Blair, roedd ef yno ddoe—fe fydd yn 90 mlwydd oed y flwyddyn nesaf—yn brwydro'n galed i ddiwygio'r Bil hwn fel y byddai'n amddiffyn buddiannau hanfodol Cymru. Os gall yr Arglwydd John Morris frwydro i amddiffyn buddiannau Cymru, yna siawns y dylem ninnau yma yn y Siambr hon allu gwneud yr un peth. Gadewch imi hefyd am ennyd, Llywydd, rifo'r diffygion penodol yn y Bil hwn o safbwynt datganoli. Yn gyntaf oll, y cymal cwbl sarhaus sef rhif 21, lle mae Llywodraeth y DU yn defnyddio pwerau Harri'r Wythfed fel y'u gelwir, i ddiddymu neu ddiwygio unrhyw ran o unrhyw Ddeddf Seneddol, gan gynnwys Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae yna Aelodau o feinciau'r Ceidwadwyr yn y fan hon sydd, yn anrhydeddus a thros flynyddoedd lawer, wedi plismona'r ffin rhwng pwerau a roddir i Weinidogion Cymru a phwerau y dylid eu harfer yma ar lawr y Senedd. Nid wyf wedi cytuno bob amser â rhai o'u casgliadau nhw, ond rwyf bob amser wedi edmygu'r ymdrech a wnaethon nhw i gadw'r berthynas honno'n ddidwyll. Heddiw, fe fyddan nhw'n pleidleisio i gefnogi Bil lle gall Gweinidogion y DU ddiwygio Deddf Llywodraeth Cymru drwy ddeddfwriaeth eilaidd a heb unrhyw ganiatâd gan y Senedd hon o gwbl. Sut yn y byd y gallwn ni gydsynio i hynny? Rydym ni'n dymuno pob llwyddiant i brotocol Gogledd Iwerddon, ond nid yw cefnogaeth i ddatganoli a heddwch yng Ngogledd Iwerddon yn gofyn am ailysgrifennu'r setliad datganoli gan Weinidogion y DU yn unochrog. Dyna oedd dadl fawr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, y cyn Arglwydd Brif Ustus, ar lawr Tŷ'r Arglwyddi wrth geisio perswadio Gweinidogion y Deyrnas Unedig. Ond, er pob dadl a ddefnyddiwyd ganddo ef, nid ydym wedi elwa ar hynny o gwbl. Nid yw'r Bil cytundeb ymadael yn rhoi unrhyw sicrwydd y bydd sefydliadau datganoledig yn cael swyddogaeth ystyrlon yn y trafodaethau ar y cyd â'r bartneriaeth, y mae'n paratoi'r ffordd ar eu cyfer nhw—trafodaethau a fyddai'n cael effaith fawr ar faterion o fewn cymhwysedd datganoledig. Fe ddylem ni gael gwarant yn sgil y ddeddfwriaeth y bydd llais y Senedd hon yn cael ei glywed yn y trafodaethau hynny ond, er gwaethaf y gwelliannau a argymhellwyd gennym ni i'r Bil, fe wrthodwyd pob un o'r ymdrechion hynny. Fel y dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, nid yw hi'n iawn i'n gorfodi ni i gydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol sy'n effeithio ar gymhwysedd datganoledig os nad ydym ni wedi bod yn rhan o gytuno arnynt. Yn olaf, a does dim esgus dros hynny, Llywydd, mae Gweinidogion y Llywodraeth hyd yma wedi gwrthod ymgais i ychwanegu unrhyw gydnabyddiaeth o gonfensiwn Sewel at gymal sy'n haeru sofraniaeth ddiwrthdro'r Senedd—cymal a ddisgrifiwyd yn gofiadwy gan fy rhagflaenydd fel naill ai darn o graffiti cyfansoddiadol, oherwydd nid yw'n golygu dim, neu gymal sydd ag ymgais wirioneddol i dresmasu yn y setliad datganoli mewn ffordd ddifrifol iawn. Llywydd, nid wyf yn fy nhwyllo fy hun y bydd gwrthod cydsyniad deddfwriaethol gan y Senedd hon yn atal y Bil rhag cael ei ddeddfu, ond rwy'n gobeithio, hyd yn oed nawr, y bydd Llywodraeth y DU yn aros i fyfyrio ynghylch eu hagwedd nhw at ddatganoli ac yn ystyried y difrod y maen nhw'n ei achosi i wead y Deyrnas Unedig. Rwy'n nodi'r awgrym yn y llythyr gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd fod yr amgylchiadau sy'n ymwneud â'r Bil hwn yn neilltuol, yn benodol ac yn eithriadol. Dylent ddangos eu bod nhw'n credu mewn gwirionedd yn yr hyn y maen nhw'n ei ddweud drwy ddilyn ein cyngor ni ar sut y gellid codio Sewel i wneud yn siŵr bod y penderfyniad hwn yn cael ei gadarnhau mewn gwirionedd yn y dyfodol. Mae'r Bil yn rhoi'r Deyrnas Unedig ar drywydd newydd, un sy'n llawn peryglon, gan gynnwys peryglon diangen y gellid bod wedi eu hosgoi. Ni chawsant eu hosgoi yn y ffordd y mae'r Bil wedi mynd trwy ddau Dŷ Seneddol; yn hytrach, yn y Bil hwn, maen nhw wedi cynyddu eto fyth ar draul datganoli ac ar draul Gymru. Ein gwaith ni yw amddiffyn ein buddiannau ni, gan y bydd Senedd yr Alban yn amddiffyn buddiannau'r Alban, ac fel y credaf y bydd Cynulliad Gogledd Iwerddon yn ei wneud ar ran eu poblogaeth nhw hefyd. Mae cyfle inni wneud hyn y prynhawn yma, a dyna pam yr wyf i'n gofyn i'r Senedd hon bleidleisio yn erbyn y cynnig a gwrthod ein cydsyniad ni i'r Bil niweidiol hwn. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, David Rees. David Rees AC: Diolch, Llywydd. Mae'r cyhoeddiad o adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar Fil cytundeb ymadael yr UE yn canolbwyntio ar ddadansoddiad o'r cymalau yn y Bil yr ydym ni'n ystyried bod angen cael cydsyniad y Cynulliad ar eu cyfer nhw. Yn yr amser byr sydd ar gael, nid ydym wedi gallu ystyried rhai o'r pryderon ehangach y mae Llywodraeth Cymru wedi eu rhoi yn ei memorandwm, yn enwedig gan fod rhai o'r pryderon hyn yn ymwneud â materion nad ydyn nhw wedi eu cynnwys yn y Bil wrth ei gyflwyno. Yn fras, mae llawer o'r pryderon a godwyd gennym ni o ran dirprwyo pwerau i Weinidogion y DU a Llywodraeth Cymru yn Neddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 yn parhau o ran y Bil penodol hwn. Er hynny, oherwydd rhesymau ymarferol a gwleidyddol, rydym wedi penderfynu peidio â'u hailddatgan nhw yn ein hadroddiad ni. Yn hytrach, rydym wedi canolbwyntio ar y darpariaethau y mae angen cydsyniad deddfwriaethol ar eu cyfer, gyda golwg ar sicrhau na fydd lleihad yn swyddogaeth y Cynulliad wrth graffu ar gyfraith yr UE yn ystod y cyfnod gweithredu, ac mae hynny wedi tynnu sylw at y pwynt hwn: sicrhau swyddogaeth y Cynulliad yn y craffu ar gyfraith yr UE. Felly, rydym wedi canolbwyntio ein hadroddiad ni ar y sefydliad hwn, i sicrhau na chaiff effaith andwyol. Rydym ni'n cytuno ag asesiad Llywodraeth Cymru o'r darpariaethau yn y Bil y mae angen cydsyniad deddfwriaethol arnyn nhw, gydag un ychwanegiad—cymal 42—ac rydym ni'n gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn helpu i lywio dadl y Cynulliad ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol y prynhawn yma. Fel pwyllgor, rydym wedi bod yn ystyried mater swyddogaeth y Cynulliad wrth ystyried deddfwriaeth yr UE yn ystod y cyfnod pontio neu weithredu, ac rydym wedi bod yn gwneud hynny ers 2018. Rydym wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU a chyd-Aelodau Seneddol y DU sawl gwaith ers hynny. Rydym o'r farn na ddylai swyddogaeth y Cynulliad leihau wrth graffu ar ddeddfwriaeth yr UE yn ystod y cyfnod gweithredu, er ein bod ni'n cydnabod y gallai fod angen i'r swyddogaeth addasu yn ôl telerau'r cytundeb ymadael. Er ein bod ni'n croesawu'r swyddogaeth a ddarperir i bwyllgorau San Steffan o dan gymal 29, credwn fod angen ei chryfhau drwy gynnwys swyddogaeth i bwyllgorau perthnasol y deddfwrfeydd datganoledig pan fydd deddfwriaeth yr UE yn cael ei hadolygu, yn enwedig pan fydd yn ymwneud â meysydd o gymhwysedd datganoledig. Ar 8 Ionawr 2020, ysgrifennwyd at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd i gyflwyno'r achos o blaid dau welliant i gymal 29 yn y Bil i gynnwys swyddogaeth i'r deddfwrfeydd datganoledig hynny. Rydym wedi cyhoeddi'r llythyr hwn mewn atodiad i'n hadroddiad ni ar y cydsyniad deddfwriaethol. Llywydd, rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod Joan McAlpine ASA, sy'n Gynullydd Pwyllgor Diwylliant, Twristiaeth, Ewrop a Materion Allanol yn Senedd yr Alban, wedi ysgrifennu hefyd at yr Ysgrifennydd Gwladol i gefnogi ein gwelliannau arfaethedig ni. Mae ein hachos ni dros y gwelliannau hyn yn syml. Ar hyn o bryd, mae gan y Cynulliad swyddogaeth o ran ystyried cydymffurfiaeth â chyfraith ddrafft yr UE gyda'r egwyddor o sybsidiaredd. Mae hyn yn deillio o erthygl 6 o brotocol 2 i'r cytuniad ar weithrediad yr Undeb Ewropeaidd. Ni fydd y ddarpariaeth hon yn gymwys mwyach pan fydd y DU yn ymadael â'r UE yr wythnos nesaf. Mae cymal 29 y Bil yn darparu ar gyfer mecanwaith Seneddol i adolygu deddfwriaeth yr UE yn ystod y cyfnod gweithredu. Yn ein hadroddiad ni, rydym yn nodi nad yw hyn yn weithredol ynglŷn â mater cydymffurfio ag egwyddor sybsidiaredd. Yn hytrach, caiff ei seilio ar gwestiwn ynghylch a yw darn o ddeddfwriaeth yr UE yn codi mater o ddiddordeb cenedlaethol hanfodol i'r Deyrnas Unedig. Mae profiad y Cynulliad o adolygu cyfraith ddrafft yr UE yn y gorffennol wedi dangos, ar adegau, fod materion penodol wedi codi sydd o ddiddordeb i Gymru a heb eu nodi ar lefel y Deyrnas Unedig. Er enghraifft, yr effaith bosibl ar bysgodfeydd Cymru neu waharddiad ar bysgota rhwydi drifft a newidiadau i reoliadau organig i amaethyddiaeth yng Nghymru. Fe ellir ystyried y materion hyn, drwy estyniad, yn faterion o ddiddordeb cenedlaethol y DU. Roeddem ni'n dadlau y byddai'r Cynulliad, wrth gynnal adolygiad o ddeddfwriaeth yr UE sy'n canolbwyntio ar y meysydd polisi a ddatganolwyd iddo, yn ychwanegu gwerth at y broses graffu gyffredinol ar gyfer y DU gyfan. Felly, i sicrhau nad yw swyddogaeth y Cynulliad yn lleihau wrth adolygu cyfraith yr UE yn ystod y cyfnod pontio, fe hoffem ni weld swyddogaeth gyfatebol i'r Cynulliad yn cael ei chydnabod yng nghyfraith y DU, yn union fel y cydnabyddir hynny ar hyn o bryd yn nhestun cyfreithiol y cytuniadau. Felly, rydym ni'n gweld lleihad yn ein swyddogaeth ni yma mewn gwirionedd. Er i'r achos hwn gael ei gyflwyno i'r Ysgrifennydd Gwladol, mae'n ymddangos yn annhebygol y bydd unrhyw ddiwygiad yn cael ei wneud i gymal 29. Os bydd cymal 29 yn parhau i fod heb ei ddiwygio, fe fyddwn ni'n ceisio gweithio gyda phwyllgorau yn y ddau Dŷ Seneddol i sicrhau y gallwn chwarae rhan wrth ystyried deddfwriaeth yr UE yn ystod y cyfnod pontio, er gwaethaf y diffyg cydnabyddiaeth i'r swyddogaeth honno yn y Bil. Llywydd, rhoddodd y pwyllgor yr adroddiad hwn ynghyd gyda barn ar rai o'r materion, ac ni wnaethpwyd unrhyw argymhellion, oherwydd roeddem ni'n teimlo ei bod hi'n bwysig inni roi gwybod i'r Aelodau am y pwyntiau yr oedd angen eu hystyried yn y ddadl hon. Fel y cyfryw, fe hoffwn i efallai gynnwys barn bersonol yn hytrach na barn y pwyllgor ar rai o'r pwyntiau hyn. Llywydd, rwyf i'n cytuno â'r Prif Weinidog, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig tynnu sylw at hyn, mae'n rhaid i'r ddadl hon beidio â bod—peidio â bod—yn ddadl ynglŷn ag a yw Brexit am ddigwydd ai peidio. Mae hynny'n amherthnasol. Mae'n ymwneud â Bil sy'n pennu cyfraith sy'n nodi sut y gallwn ni gyflawni ein dyletswyddau yn y Siambr hon ac a yw'r gyfraith honno'n ddigon da. Mae Llywodraeth Cymru wedi tynnu sylw at y gwendidau yn y Bil hwn a'r ffordd y mae wedi newid cryn dipyn ers yr etholiad cyffredinol. Ein gwaith ni yw edrych ar fuddiannau'r bobl sy'n ein hethol ni a cheisio gwneud penderfyniadau a chymryd camau sy'n gwella ansawdd eu bywydau nhw. Mewn gwirionedd, mae'r diffygion yn y Mesur hwn—y gellid bod wedi eu cynnwys nhw, ond oherwydd dewis Llywodraeth y DU i beidio eu cynnwys—wedi arwain at leihad yn y craffu ar gamau gweithredu'r Llywodraeth. Mae'n bwysig, felly, ein bod ni'n sicrhau bod y newidiadau hynny'n cael eu cyflawni. Os na chân nhw eu cyflawni, yna ni ddylem gefnogi Bil nad yw'n ein helpu ni i gyflawni ein swyddogaeth. Ni ddylid ystyried awydd i sicrhau bod Brexit yn cael ei gyflawni ar frys yn rheswm dros ymwrthod â'n cyfrifoldebau ni a'n dyletswyddau ni yma yn y Senedd. Fe fyddaf i'n pleidleisio yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn heddiw gan nad wyf i'n credu bod y Bil hwn yn rhoi digon o allu inni wneud ein gwaith: sef sicrhau bod buddiannau pobl Cymru yn cael eu digoni. Pe bai Llywodraeth y DU wedi gwneud rhywbeth gwirioneddol ac wedi derbyn rhai o'r gwelliannau—. Rydym wedi gweld gwelliannau yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth y DU. Rydym ni wedi cyflwyno rhai i Lywodraeth y DU. Maen nhw'n anwybyddu popeth. Nid ydyn nhw'n dymuno hynny. Maen nhw wedi cael gwared ar lawer iawn o faterion a oedd ganddyn nhw ar waith. Nid yw hwn yn Fil sy'n cyflawni. Felly, fe fyddaf i'n gwrthwynebu hwn ar gyfer sicrhau ein bod ni'n cael ein gweld yn cefnogi'r bobl sy'n ein hethol ni. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Mick Antoniw. Mick Antoniw AC: Diolch, Llywydd. Fe gawsom ni dystiolaeth gan y Prif Weinidog ynglŷn â memorandwm cydsyniad deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn ein cyfarfod ni ar 13 Ionawr 2020 ac adroddwyd ar hyn ddydd Gwener diwethaf, 17 Ionawr. Daeth ein hadroddiad ni, gyda chytundeb unfrydol aelodau'r pwyllgor, i bump o gasgliadau. Roedd y cyntaf o'r rhain yn adlewyrchu'r sylwadau a wnaed gennym ni ar sawl achlysur ynglŷn â swyddogaeth sylfaenol confensiwn Sewel wrth weithredu cyfansoddiad y DU. Fe ddaethom ni i'r casgliad, pe byddai'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu peidio â chydsynio i'r Bil ar y materion y mae angen cydsyniad arnynt a bod Senedd y DU, er hynny, yn penderfynu bwrw ymlaen heb gydsyniad, y byddai hynny'n golygu canlyniadau cyfansoddiadol andwyol sylweddol i ddyfodol confensiwn Sewel a datganoli. Ers hynny, rydym wedi gweld y llythyr gan Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth y DU dros ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, Stephen Barclay, yn nodi y bydd Llywodraeth y DU, yn absenoldeb caniatâd gan y Senedd hon, yn bwrw ymlaen er gwaethaf hynny. Hwn fydd y tro cyntaf i hyn ddigwydd, ac fel y nododd y Goruchaf Lys yn erthygl 50 o ddyfarniad Miller, confensiwn gwleidyddol yw Sewel ac fe geir canlyniadau gwleidyddol pan gaiff confensiynau eu torri. Yn amlwg, fe fydd yna ganlyniadau difrifol ac andwyol i strwythur cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, sydd yn fregus eisoes. Nodwyd bod y Prif Weinidog wedi ceisio gwelliannau i'r Bil yn Nhŷ'r Arglwyddi, gyda'r bwriad o ddiogelu buddiannau Cymru. Fe ddaethom ni i'r casgliad nad oedd y gwelliannau hyn yn tanseilio prif amcan y Bil, sef ymadael â'r Undeb Ewropeaidd ar 31 Ionawr 2020, ond yn hytrach, roedd yn ceisio gwella rhannau o'r Bil mewn meysydd pwysig. Nawr, fel y dywedodd y Prif Weinidog, fe fyddai cymal 21 y Bil yn caniatáu addasu Deddf Llywodraeth Cymru 2006 gan reoliadau Llywodraeth y DU i'r graddau yr oedd Llywodraeth y DU yn ystyried bod addasiad o'r fath yn briodol i weithredu'r protocol ar gyfer Iwerddon/Gogledd Iwerddon. Er y byddai angen cymeradwyaeth y ddau Dŷ Seneddol ar gyfer rheoliadau o'r fath, nid oes swyddogaeth ffurfiol i'r Cynulliad Cenedlaethol wedi ei nodi yn y Bil, ac mae hyn yn peri pryder gan nad ydym yn gwybod i ba raddau y gellid addasu Deddf 2006. Nodwyd bod un o welliannau Llywodraeth Cymru yn ceisio mynd i'r afael â'i phryder ynghylch maint y pŵer a geir yng nghymal 21. Tynnwyd sylw hefyd at bryderon y pwyllgor ar bwerau dirprwyedig a diwygio rheoleiddio a chyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi ynghylch maint y pwerau yng nghymal 21. Ein trydydd casgliad ni, a gytunwyd gyda'r ddau bwyllgor o Dŷ'r Arglwyddi, sef pe gellid cyfiawnhau cymal 21 a'i fformat presennol, y dylid cyfyngu ar y pwerau sydd ynddo. Roedd ein pedwerydd casgliad yn ailadrodd ein barn hirsefydlog y dylai unrhyw addasiad o Atodlen 7A neu 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru, o ran cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol, gael ei gyflawni drwy'r broses a nodir yn adran 109 o'r Ddeddf. Mynegodd ein casgliad terfynol ni bryder ynghylch cynnwys cymal 38 yn y Bil—y cymal sofraniaeth seneddol. Rydym ni o'r farn mai darpariaeth ddiangen yw hon mewn Bil sy'n ymwneud yn bennaf ag ymadael â'r UE, yn hytrach na fframwaith cyfansoddiadol ehangach y Deyrnas Unedig. Mae dadleuon pwysig i'w cael ynglŷn â natur sofraniaeth yn y DU, ond mae sefydlu'r ddarpariaeth hon mewn statud, ac, yn benodol, mewn Bil nad yw'n ymwneud â'r cyfansoddiad yn y DU, neu'r setliadau datganoli, yn gallu arwain at ganlyniadau cyfansoddiadol anfwriadol. Llywydd, yng ngoleuni'r datblygiadau diweddar yn y llythyr oddi wrth Lywodraeth y DU, yn rhinwedd fy swydd i fel Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, fe fyddaf i'n gwneud y sylwadau ychwanegol hyn. Nid yw proses seneddol y Bil hwn wedi dod i ben eto. Mae'n iawn fod pryderon y Senedd hon yn cael eu hadlewyrchu yn y broses hon, ac, wrth gwrs, mae'r Bil wedi cael ei ddiwygio erbyn hyn gan Dŷ'r Arglwyddi, ac ni phenderfynwyd ar ei fformat terfynol eto. Mae rhwymedigaeth ar Lywodraeth y DU i geisio a sefydlu consensws. Fe fyddai bwrw ymlaen heb ganiatâd yn golygu diwedd ar Sewel yn fy marn i. Nid yw canlyniadau cyfansoddiadol tymor hwy yn sicr eto ynglŷn â hyn. Rwyf hefyd am wneud pwynt personol, sef: mae methu â dod i gonsensws a diystyru Sewel, yn absenoldeb unrhyw ddiwygiad cyfansoddiadol arall, yn golygu bod y broses o ddatgymalu a thorri'r DU wedi dod un cam yn nes. David Melding AC: A wnewch chi ildio? Mick Antoniw AC: Gwnaf. David Melding AC: Wrth gwrs, mae egwyddor Sewel yn seiliedig ar y ffaith nad yw cydsyniad yn cael ei ddal yn ôl yn afresymol, ac mae hynny'n gryn dipyn o brawf hefyd. Mick Antoniw AC: Ydy, ond y broblem yn yr achos hwn yw nad yw prif amcan y Bil yn rhywbeth sy'n cael ei wrthwynebu; ansawdd a statws a chyfansoddiad y Bil hwnnw yw'r mater sy'n peri pryder i ni. A dyna pam mae Sewel mor bwysig, oherwydd, drwy beidio â cheisio cael consensws, drwy beidio â gweithredu i gael hynny, a diystyru Sewel er hynny, mae hynny, mewn gwirionedd, yn torri egwyddorion sylfaenol y confensiwn. Ac felly, yn fy marn i, mae Llywodraeth y DU yn hapchwarae â chyfanrwydd y DU i'r dyfodol. Mae'r achos dros gonfensiwn cyfansoddiadol yn cynyddu o ddydd i ddydd gyda phob un o weithrediadau'r Llywodraeth hon. Diolch, Llywydd. Paul Davies. Paul Davies AC: Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon ac egluro safbwynt y Ceidwadwyr Cymreig. Mae'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol heddiw yn gyfle clir i'r Senedd hon gyflawni'r canlyniad y pleidleisiodd pobl Cymru o'i blaid yn refferendwm yr UE yn 2016. Bron i bedair blynedd ar ôl y refferendwm hwnnw, rydym ni, ar yr ochr hon i'r Siambr, yn credu ei bod hi'n bryd i ni fwrw ymlaen â'r gwaith o ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Mae'n bryd inni gyflawni ewyllys glir pobl Cymru a'r DU, ac mae'n bryd inni ddwyn ein gwlad ni ymlaen ac archwilio ffyrdd o sicrhau llwyddiant Cymru ar y llwyfan rhyngwladol, ar ôl Brexit. Nawr, nid yw'r ansicrwydd parhaus sydd wedi cael ei achosi gan rai gwleidyddion wedi gwneud dim i ennyn hyder yn ein gwlad. Ac felly, yn dilyn y mandad clir a roddwyd i Lywodraeth y DU yn yr etholiad cyffredinol diweddar, mae'n amser bwrw ymlaen â'r gwaith erbyn hyn. O'r diwedd, fe fydd bwrw ymlaen â'r gwaith yn dod â'r ansicrwydd i ben, ac yn helpu i adfer hyder yn economi'r DU. Bydd yr Aelodau yn ymwybodol o sylwadau Airbus yn ddiweddar, sy'n adlewyrchu hyder newydd. Dyma a ddywedodd y prif weithredwr yn ddiweddar, ac rwy'n dyfynnu, Rydym ni'n gweld potensial mawr i wella ac ehangu ein gweithrediadau ni yn y DU eleni. Ac mae Airbus yn gwbl gywir i ddweud bod cytundeb Brexit y Prif Weinidog wedi gwneud pethau'n fwy sicr. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn rhoi ystyriaeth i'r sylwadau hynny, yn ogystal â barn y bobl a'r cymunedau y maen nhw'n eu cynrychioli, pan fyddan nhw'n pleidleisio yn ddiweddarach heddiw. Nawr, fe wn i fod y Prif Weinidog Cymru wedi honni y bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn peri i ddatganoli ledled y DU fod yn agored i niwed, ac eto, mae Llywodraeth y DU wedi datgan yn gwbl glir y bydd unrhyw benderfyniad a wneir ar hyn o bryd gan y gweinyddiaethau datganoledig yn aros yn gyfrifoldeb iddyn nhw ar ôl i'r DU ymadael â'r UE. Yn wir, mae Llywodraeth y DU wedi cynnig hefyd y dylai mwyafrif helaeth y pwerau sy'n cael eu dychwelyd o Frwsel egino yng Nghaeredin, Caerdydd a Belfast. Ac rwy'n falch o weld Llywodraeth y DU yn gweithredu o'r safbwynt hwnnw, ac yn parchu'r setliad datganoli. Yn wir, rwyf i o'r farn y byddem ni i gyd yn ddiofal pe byddem ni'n methu â gweld bod y cytundeb hwn yn cynnig rhai cyfleoedd cyfansoddiadol hefyd ar gyfer y DU gyfan. Er enghraifft, mae'r Bil yn adfer sofraniaeth y DU drwy wneud llysoedd Prydain, yn hytrach na Llys Cyfiawnder Ewrop, yn llysoedd uchaf y wlad, gan ddod â dyfarniadau barnwrol hanfodol bwysig yn nes at ein pobl ni. Er hynny, rwy'n derbyn y bydd tynnu allan o'r UE yn newid y berthynas rhwng rhannau cyfansoddol y Deyrnas Unedig. Wrth i Brydain fynd ymhellach ar hyd y broses hon, fe fydd y cysylltiadau rhynglywodraethol rhwng pob rhan o'r DU yn hollbwysig ar gyfer diogelu sefydlogrwydd y cyfansoddiad i'r undeb. Ac mae'n bwysig bod Cymru â rhan lawn yn hynny. Nawr, rwy'n digwydd credu hefyd, ar ôl Brexit, y bydd gan Lywodraeth Cymru gyfle i osod agenda uchelgeisiol ar gyfer Cymru drwy alw am ddatganoli adnoddau naturiol Cymru ei hun ymhellach, er enghraifft, fel y gallwn ni harneisio ei phŵera'i farchnata'n fyd-eang. Fel y mae fy nghydweithwyr a minnau'n ei gweld hi, yn wahanol iawn i dorri ymrwymiadau amgylcheddol, fe allai ymadael â'r Undeb Ewropeaidd ein galluogi ni i weddnewid ein dulliau o ddiogelu'r amgylchedd, gan gyflwyno Bil newydd i osod nodau cyfreithiol sy'n rhwymo. Mae yna gyfleoedd inni. Nawr, os ywpobl yn hoffi hynny neu beidio, fe fydd ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn rhyddhau cyfreithiau'r UE i Gymru, gan gynnwys ymadael â'r polisi amaethyddol cyffredin a'r polisi pysgodfeydd cyffredin, lle mae'r rheolau hynny o'r UE wedi ein rhwymo ni hyd yn hyn. Fe fydd Llywodraeth Cymru yn rhydd i ddatblygu polisïau cynaliadwy i ddiogelu bywoliaeth ffermwyr Cymru, ac, yn wir, bysgotwyr Cymru. Rwy'n credu mai dyma'r amser i feddwl am syniadau arloesol i drawsnewid y diwydiannau hynny yma yng Nghymru. Fe ddylem ni fod yn llawer mwy optimistaidd, ac nid mabwysiadu dull Llywodraeth Cymru weithiau o alaru ac anobeithio. Llywydd, fe bleidleisiodd pobl Cymru o blaid ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn 2016, ac, yn yr etholiad cyffredinol fis diwethaf, fe wnaethonnhw godi eu llais yn uchel ac yn hyglyw unwaith eto. Fe bleidleisiodd pobl Cymru i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, ac maen nhw'n awyddus i ddatgloi'r cyfleoedd sydd ar gael inni y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd. Mae gennym ni gyfarwyddiadau eglur gan y bobl a'r cymunedau yr ydym ni'n eu cynrychioli, a'r neges bennaf o'n gwlad ni yw ei bod yn dymuno ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Heddiw, Llywydd, mae'n ddyletswydd arnom i gyflawni hynny, ac rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, a dechrau gweithio gyda'n gilydd i wneud Cymru yn genedl fyd-eang sy'n wirioneddol gystadleuol. Delyth Jewell AC: Ambell waith mewn gwleidyddiaeth, mae'n fanteisiol inni edrych i'r pellteroedd i weld sut yr ydym ni wedi cyrraedd y fan lle'r ydym ni. Hwn fydd fy nghyfraniad olaf i yn y Siambr hon fel llefarydd fy mhlaid ar Brexit, gan fy mod i'n ymgymryd â swydd newydd sy'n cyd-fynd yn addas iawn â'n hamseriad ni o ran ymadael â'r UE. Anrhydedd rhyfedd fu hwn—yn heriol ac yn peri rhwystredigaeth ar yr un pryd—siarad ynglŷn â'r mater hwn dros fy mhlaid yn ystod fy mlwyddyn gyntaf yn wleidydd etholedig. Dyma'r gwaith a etifeddais i gan Steffan Lewis, a wnaeth waith mor arwyddocaol, ynghyd â Llywodraeth Cymru, wrth gynhyrchu 'Diogelu Dyfodol Cymru'. Roedd y ddogfen honno'n nodi map eglur ar gyfer ymadael â'r UE a fyddai'n osgoi codi rhwystrau diangen. Ac fe hoffwn i dalu teyrnged i Steffan unwaith eto am ei holl ymdrechion ef yn hyn o beth. Bydd hanes yn edrych yn garedig ar ei ymgais egwyddorol ef i geisio cael cytundeb ar gyfaddawd a oedd yn adlewyrchu canlyniad agos y refferendwm. Ond nid oedd gan San Steffan ddiddordeb mewn cyfaddawdu. Yn wir, roedd hwn yn un o blith llawer o gyfleoedd a gollwyd gan Lywodraethau olynol yn San Steffan i gyflawni Brexit mewn ffordd a oedd yn gweithio—yr holl gyfleoedd a aeth i'r gwellt. Gan fod San Steffan wedi gwrthod cyfaddawdu, fe ddaeth Plaid Cymru i'r casgliad nad oedd gennym ddewis ond ceisio perswadio Llywodraeth y DU i ennill mandad ar gyfer eu cynlluniau penodol nhw, sef ail refferendwm. Fe wnaethom ni weithio gyda phleidiau eraill i hybu hynny, ond fe danseiliwyd cynlluniau doeth gan ryfyg Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn San Steffan, a'u hargyhoeddodd nhw eu hunain mai'r ffordd i goncro Boris Johnson oedd rhoi iddo'r hyn yn union yr oedd yn ei ddymuno—etholiad cyffredinol; etholiad yr oedden nhw'n credu y gallen nhw ei hennill pan oedd yr holl dystiolaeth yn awgrymu nad oedd Corbyn, Swinson na'r amgylchiadau yn rhoi unrhyw obaith iddyn nhw. Wel, rydym yn y fan lle'r ydym ni. Fe'u profwyd yn anghywir. Llwyddodd Boris Johnson i ennill y mwyafrif yr oedd yn ei ddymuno ac mae hi'n anorfod erbyn hyn y byddwn ni'n ymadael â'r UE ymhen 10 diwrnod, a bydd Brexit caled Torïaidd yn cael ei gyflawni. Felly, ein gwaith ni nawr yw craffu ar y cynlluniau ac amddiffyn buddiannau'r bobl yr ydym ni'n eu cynrychioli. Mae yna bump o brif resymau pam mae Plaid Cymru wedi dod i'r casgliad nad oes gennym unrhyw ddewis ond pleidleisio yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol heddiw: (1) mae'r Bil yn caniatáu i Lywodraeth y DU ddiwygio Deddf Llywodraeth Cymru heb gydsyniad y Senedd hon—mae hynny'n annerbyniol; (2) nid yw'n rhoi unrhyw swyddogaeth i'r Senedd wrth graffu ar fesurau fel masnach a fydd yn cael effaith enfawr ar fywoliaeth pobl Cymru; (3) mae'r diffyg asesiadau o effaith economaidd yn gadael sectorau a phorthladdoedd allweddol yng Nghymru yn y tywyllwch ac yn agored i niwed; (4) mae'r Bil yn dwyn hawliau oddi wrth ffoaduriaid, gweithwyr a dinasyddion yr UE ac, o bosibl, hawliau myfyrwyr Cymru i astudio dramor; (5) mae diystyru estyniad i'r cyfnod pontio yn anghyfrifol ac yn gwneud cytundeb esgyrn noeth neu 'heb gytundeb' yn ganlyniad mwyaf tebygol. Llywydd, mae Plaid Cymru yn derbyn bod Brexit yn digwydd ac fe fyddwn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i geisio cael y cytundeb gorau posibl i Gymru. Nid yw'r ddadl hon yn ymwneud ag a fydd Brexit yn digwydd—fe fydd—ond yn hytrach, mae'n ymwneud â sut wlad fyddwn ni yn y blynyddoedd sydd i ddod, oherwydd mae hon yn diriogaeth hollol newydd. Ni chafwyd enghraifft erioed o'r blaen o genedl-wladwriaeth yn ceisio cytundebau masnach lle mae hi'n bwriadu codi rhwystrau a pheidio â'u tynnu nhw i lawr. Mae'n fyd ar ei ben i lawr. Pan oedd yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ychydig wythnosau yn ôl, fe ddyfynnodd y Prif Weinidog sylwebydd a oedd wedi dweud bod blwch Pandora yn cael ei agor gan Brexit. Llywydd, mae blwch Pandora fel arfer yn ffordd o fynegi anhrefn mawr; y rhybudd fod yna angenfilod ar ymyl y map neu, fel y cyfaddefodd David Cameron, roedd refferendwm 2016 yn debygol o ryddhau cythreuliaid, nad oeddem ni'n gwybod dim amdanyn nhw. Ond, fe fyddai hefyd yn dda inni gofio, ar ôl i bopeth ddod allan o flwch Pandora, roedd un peth ar ôl ynddo—sef gobaith. Fe all gobaith fod ar sawl ffurf. Fe allai fod yn obaith am gytundebau masnach; yn obaith am ddiogelwch; yn obaith am Fil cytundeb ymadael gwell sy'n ystyried barn y Senedd hon mewn gwirionedd; yn obaith am flynyddoedd i ddod sydd ar sawl ffurf eto. I'r rhai ohonom ni sydd ar y meinciau hyn, mae'r gobaith hwnnw yn y pen draw yn ein hannog ni i geisio cael Cymru sy'n bwriadu gweithio'n rhyngwladol, sy'n edrych tuag allan, sef cenedl annibynnol falch ar lwyfan y byd. Felly, gadewch inni ganolbwyntio nid yn unig ar yr hyn a allai fod wedi digwydd; gadewch inni ganolbwyntio ar yr hyn sydd eto i ddod ac wrth wraidd yr holl bethau hyn, y symbyliad pwysicaf un—gobaith. Mark Reckless AC: Rwy'n diolch i'r Prif Weinidog am ei gynnig i roi cydsyniad i Fil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael), fel y dylem ni ei wneud, yn dilyn penderfyniad pobl Cymru mewn refferendwm. Mae'n rhyfeddol bod y Prif Weinidog yn pleidleisio yn erbyn ei gynnig ef ei hun, i bob pwrpas yn cadw at wrthwynebiad Llywodraeth Cymru i Brexit. Fe ddylai'r ddadl honno fod wedi dod i ben; fe ddylai fod wedi dod i ben ar 24 Mehefin 2016. Dywedodd rhagflaenydd y Prif Weinidog wrthym ni bryd hynny fod y ddadl honno drosodd; eich bod chi am barchu'r refferendwm; bod Brexit am ddigwydd a mater o 'sut' fyddai hynny'n digwydd oedd hi, ac nid 'pe' byddai hynny'n digwydd. Felly, pan ddywedwch yr un peth heddiw ag y gwnaethoch chi bryd hynny, pam y dylem ni eich credu chi? Nid oes gwahaniaeth sawl gwaith y mae pobl Cymru yn dweud wrthych eu bod nhw'n dymuno cael Brexit, nid ydych chi'n clywed hynny: 'Rydym ni'n gwybod yn well. Fe wnaethoch chi gamgymeriad, ac felly rydym ni wedi gwneud ichi bleidleisio tair gwaith, ond rydym eisiau pleidleisio yn erbyn hyn heddiw eto.' Rydych chi'n dweud bod y Bil hwn, bod Brexit, sut rydym ni am ymadael, heb gael digon o graffu arno. Y methiant i fynd drwy'r Senedd, y cyfle i gael craffu priodol. Beth ar y ddaear ydych chi'n credu sydd wedi bod yn digwydd dros y tair blynedd a hanner diwethaf? Ar ôl y refferendwm, fe wnaethoch chi ddewis gwneud eich gwely gyda Phlaid Cymru i ddatblygu dogfen, 'Diogelu Dyfodol Cymru', sef Brexit mewn enw yn unig i bob pwrpas. Ac eto, pan wnaeth Theresa May gynnig Brexit fel hyn ichi ar gyfer y rhai oedd yn dymuno aros, gydag undeb tollau, gydag aliniad deinamig, fe wnaethoch chi bleidleisio yn ei erbyn. Dro ar ôl tro, fe wnaethoch chi gydweithio â Phlaid Cymru, ac mewn amgylchiadau eraill gyda'r SNP, i geisio rhwystro Brexit rhag digwydd. Fe bleidleisiodd yr Alban i adael, mae'r SNP yn dymuno torri'r Deyrnas Unedig, fel y mae Plaid Cymru. Fe ddylech chi, y Blaid Lafur, y Llywodraeth Lafur yng Nghymru, barchu'r bobl yr ydych chi'n honni eich bod yn eu cynrychioli, sef pobl Cymru a bleidleisiodd i ymadael mewn refferendwm ac sy'n dymuno aros yn y Deyrnas Unedig. Felly, Prif Weinidog, roeddwn i'n diolch i chi ac i Lafur ac i Lywodraeth Cymru yr wythnos diwethaf am yr hyn yr oeddech chi wedi ei wneud, yn anfwriadol, i sicrhaubod Brexit yn digwydd. Ac eto i gyd, yr wythnos hon rydych chi'n gwrthod cydnabod bod canlyniadau i'r siawns yr ydych chi wedi ei gymryd. Yn gyntaf, fe wnaethoch chi benderfynu gwrthod bargen Theresa May, er ei bod fwy neu lai'r hyn a oedd gennych chi yn 'Diogelu Dyfodol Cymru', ac er i'r Cwnsler Cyffredinol ddweud ei fod ef yn ddigon hapus gyda'r cytundeb ymadael, ac y byddai'n hoffi, efallai, gweld rhai newidiadau i'r datganiad gwleidyddol nad yw'n rhwymol. Felly, ar ôl gwneud hynny, rydych nawr yn cwyno nad yw rhai darnau o'r cytundeb ymadael, yr oedd May yn mynd i'w cael, yno mwyach. Wel, wrth gwrs, nad ydynt. Fe wnaethoch chi gymryd eich siawns. Cafodd Theresa May ei disodli yn yr etholiad Ewropeaidd. Fe geisiodd hi wneud hynny. Nid hi yw'r Prif Weinidog erbyn hyn oherwydd hynny. [Torri ar draws.] Fe fyddwn i'n falch o dderbyn eich ymyriad chi. Mick Antoniw AC: Felly, pam ydych chi'n dweud—? Diolch ichi am dderbyn yr ymyriad. Pan ddywedwch chi nad yw'r eitemau hynny o ran amddiffyn cyflogaeth yn bodoli erbyn hyn, 'wrth gwrs nad ydynt', pam ydych chi'n dweud, 'wrth gwrs nad ydynt'? Pam y dylid eu tynnu nhw allan? Beth sy'n cyfiawnhau eu tynnu nhw allan pan oedden nhw'n gwbl dderbyniol o'r blaen? Nid gêm o bocer mo hon; gêm o ddeddfwriaeth dda ydyw. Felly, pam ydych chi'n dweud ei bod yn briodol hepgor amddiffyn hawliau cyflogaeth? Mark Reckless AC: Wel, oherwydd bod y cyfreithiau hyn gennym cyn inni ymuno â'r Undeb Ewropeaidd a bod yr Undeb Ewropeaidd yno. Roedd gennym lawer mwy o amddiffyniadau i hawliau gweithwyr yn y wlad hon nag a oedd gan y rhan fwyaf o'r gwledydd Ewropeaidd hynny, a gafodd eu hennill, i raddau helaeth, gan yr undebau llafur. Eto i gyd, rydych chi'n anwybyddu hynny nawr ac yn datgan mai rhodd gan yr Undeb Ewropeaidd oedd hon rywsut yn hytrach na chan yr undebau a grëwydeich plaid eich hun. [Torri ar draws.] Beth ddigwyddodd? Roedd gennych gydbwysedd yn y Senedd. Fe gollodd Theresa May y mwyafrif. Fe wnaeth ei gwely gyda'r DUP. Roedd y sefyllfa hon gennychac roeddech chi'n ceisio manteisio arni. Ond, yn y pen draw, ar ddau achlysur, fe gymeroch chi eich siawns a cholli wnaethoch chi. Yn y lle cyntaf, nid oeddech chi'n cytuno â Brexit Theresa May mewn enw yn unig, er eich bod wedi dadlau drosto pan ddywedasoch eich bod chi'n parchu canlyniad y refferendwm, ac yna, dan Boris Johnson, fe wnaethoch chi bleidleisio yn erbyn cynnig y rhaglen. Fe gafwyd mwyafrif, prin, yn yr Ail Ddarlleniad, ond wedyn fe wnaethoch chi benderfynu pleidleisio yn erbyn cynnig y rhaglen ar gyfer Bil a oedd yn cynnwys llawer o'r pethau yr oeddech chi'n dweud eich bod chi'n awyddus i'w cael—er eu bod nhw gennym ni cyn ymuno â'r UE, ac fe fyddan nhw gennym ni eto, oherwydd mae Boris Johnson a'r Ceidwadwyr wedi ennill etholiad. Mae ganddyn nhw fwyafrif o 80. Fe wnaethoch chi bleidleisio i gael yr etholiad hwnnw, fe bleidleisiodd y Democratiaid Rhyddfrydol o blaid yr etholiad hwnnw, roedd yr SNP yn dadlau dros gael yr etholiad hwnnw cyn iddyn nhw ymatal, a dyma yw canlyniad hynny. Ac rydych chi'n dweud nad ydych chi eisiau rhwystro Brexit, ond rydych chi wedi dweud hynny o'r blaen. Pam ddylem ni gredu hynny nawr? A'r hyn yr ydych chi'n ei wneud wrth i Lywodraeth Cymru wylltio fel hyn unwaith eto yw peryglu confensiwn Sewel. Rydych chi'n gorfodi Llywodraeth y DU i dorri'r Confensiwn hwnnw, er bod pobl Cymru wedi pleidleisio dros Brexit mewn refferendwm, ond nid ydych chi'n hoffi hynny. Rydym ni'n mynd i gael Brexit, mae'n mynd i ddigwydd, mae'n mynd i ddigwydd ar y telerau a osodwyd gan y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan gyda mwyafrif o 80 oherwydd y dewisiadau a wnaethoch chi. Fe fyddwn ni'n gadael ddiwedd y mis hwn, ac rwy'n croesawu'r llythyr y bore yma at fy nghyd-Aelod Mandy Jones yn cadarnhau y bydd y baneri y tu allan i'r lle hwn yn cael eu tynnu i lawr. Dafydd Elis-Thomas AC: Y cyfan i gyd? Pob un ohonyn nhw? Mark Reckless AC: Dim ondyr UE. Alun Davies AC: Mae'n eironig iawn, Llywydd, cael pregeth ar ddemocratiaeth gan Mark Reckless, ond gadewch i mi ddweud hyn: dadl y Ceidwadwyr a roddwyd iddyn nhw gan eu penaethiaid yn Llundain yw nad oes gennym ni hawl i wrthwynebu'r Bil hwn, bod yn rhaid i ni dderbyn pa bynnag Fil a gaiff ei ysgrifennu yn Stryd Downing a'i anfon drwy Dŷ'r Cyffredin, nad oes gan y Senedd hon unrhyw hawl i farn, nad oes gan y Senedd hon unrhyw hawl i fynegi ei barn ar ba gymalau bynnag a gaiff eu drafftio gan Boris Johnson, nad oes gennym ni ddim hawliau—[Torri ar draws.]—nad oes gennym ni ddim hawliau. Dydym ni ddim yn adennill rheolaeth. Nid yw'r hawliau hyn gennym ni mwyach. Dywedwyd wrthym ni nad oedd gennym ni hawl, wrth gwrs, i wrthwynebu'r Biliau blaenorol. Dyma drydydd fersiwn y Bil penodol hwn, a dywedwyd wrthym ni, yn amlwg gan yr un bobl, nad oedd gennym ni hawl i wrthwynebu na nodi sylwadau ar y fersiwn gyntaf na'r ail fersiwn o'r ddeddfwriaeth hon. Dywedwyd yr un peth wrthym ni. Yn y ddemocratiaeth Brydeinig newydd hon, nid oes gennym ni'r hawl i wrthwynebu'r hyn y mae'r Weithrediaeth yn galw amdano gennym, y cyfan sydd gennym ni yw'r hawl i gytuno. Nid yw hynny'n fawr o ddemocratiaeth, ydy e'? Dywedwyd wrthym ni y byddai hyn yn gwella swyddogaeth Senedd Prydain a Senedd Cymru a Senedd Yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon. Ac yna dywedir wrthym ni y bydd y cymalau sy'n cyflwyno'r Weithrediaeth i reolaeth y Senedd yn cael eu dileu o'r Bil hwn. Felly, ni fydd unrhyw archwiliad o fandad negodi, ni fydd unrhyw adrodd naill ai i'r Senedd hon nac i Senedd y DU, ni fydd unrhyw graffu democrataidd ac ni fydd unrhyw atebolrwydd democrataidd. Ac yna dywedir wrthym bod yn rhaid i ni bleidleisio o'i blaid—bod yn rhaid i ni bleidleisio o'i blaid—beth bynnag arall sy'n cael ei gymryd a'i ddileu o'r Bil hwn, mae'n rhaid i ni eistedd yno a derbyn hynny. Nid yw hynny'n swnio fel democratiaeth i mi. Ac yna dywedir wrthym ni, oherwydd bod Bill Cash wedi cael y ffantasi hwn o sofraniaeth seneddol bod yn rhaid i ni dderbyn cymal arall sy'n gorfodi sofraniaeth Senedd Prydain ar fuddiannau pobl Cymru, y bobl, Mark, sydd wedi ein hethol ni—sydd wedi ein hethol. Fe ddangosaf i eiriadur i chi. Y bobl y byddwn ni'n atebol iddyn nhw y flwyddyn nesaf. Pan fyddaf i'n wynebu'r etholwyr ym Mlaenau Gwent, gadewch i mi ddweud hyn wrthych chi: ni fyddaf i'n rhedeg—[Torri ar draws.] Dydych chi ddim yn adnabod pobl Blaenau Gwent; dydyn nhw ddim yn eich adnabod chithau ychwaith. Fyddan nhw ddim yn gofyn i mi beth nad wyf i wedi ei wneud; byddan nhw'n gofyn i mi beth yr wyf i wedi ei wneud. Beth wnes i i amddiffyn ein democratiaeth? Bydd y Prif Weinidog yn cofio'r rali ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Nhredegar yr haf diwethaf pryd y buom yn siarad dros ddemocratiaeth yng Cymru, ac ni fyddwn yn cydsynio heddiw i lastwreiddio'r ddemocratiaeth honno. Felly, bydd y Senedd hon yn sefyll dros graffu. Byddwn yn sefyll dros atebolrwydd a byddwn yn sefyll dros ein hawliau. Byddwn yn sefyll dros ein hawl ddemocrataidd i anghytuno, i wrthwynebu ac i sefyll dros yr hyn y cawsom ein hethol i'w wneud. Gadewch i mi ddweud hyn: gwrandewais ar fy nghyd-Aelodau Ceidwadol yn dweud wrthym na allwn ni wrthwynebu. Nid ydyn nhw wedi gwneud dim ond gwrthwynebu am 20 mlynedd, a byddan nhw'n gwrthwynebu yn ddiweddarach y prynhawn yma, ac rwy'n eu cefnogi nhw yn eu hawl i wrthwynebu deddfwriaeth y Llywodraeth hon. Mae'n iawn ac yn briodol bod y Ceidwadwyr yn cael y cyfle i wrthwynebu, ac i fynegi a dadlau eu hachos. Mae hefyd yn iawn ac yn briodol bod y lle hwn yn cael yr un cyfle. Gadewch i mi gloi drwy ddweud hyn: mae hwn yn ddarn difrifol iawn o ddeddfwriaeth, nid yn unig oherwydd yr hyn y mae'n ei wneud o ran Brexit, ond yr hyn y mae'n ei wneud o ran ein cyfansoddiad ein hunain. Mae hyn yn chwalu Confensiwn Sewel. Roedd y pwyntiau a wnaed gan yr Aelod dros Bontypridd yn gwbl glir. Mae Llywodraeth y DU yn anghywir ynglŷn â hyn. Nid yw hwn yn gyfle i ddeddfu heb gydsyniad y lle hwn, Senedd yr Alban, Cynulliad Gogledd Iwerddon, oherwydd mae hyn yn eithriadol. Oherwydd bod hwn yn gyfnod eithriadol mae'n rhaid mynnu'r cydsyniad hwnnw ac mae'n rhaid cydnabod nad yw'r caniatâd hwnnw'n cael ei roi. Ni allaf feddwl am adeg pan fo Senedd y DU wedi bod mor ddiofal o ran pwerau Seneddau'r Deyrnas Unedig, a dweud wrthym wedyn nad oes gennym ni unrhyw ddewis heblaw cydsynio. Mae hwn yn Fil a fydd nid yn unig yn cyflawni Brexit, ond a allai ddechrau cyflawni datgymaliad a datgysylltiad y Deyrnas Unedig. Gareth Bennett. Gareth Bennett AC: Diolch, Llywydd. Carwyn Jones AC: Pwy yw hwnna? Gareth Bennett AC: Pwy ydych chi, gyda llaw, syr? [Torri ar draws.] Wel, ie, yr athro— Gadewch i'r Aelod ddechrau ei araith, os gwelwch yn dda. Gareth Bennett AC: Swydd athro mor haeddiannol. Diolch eto, Llywydd. Wel, mae wedi bod yn ddadl ddiddorol heddiw, ond rwy'n credu mewn gwirionedd bod yn rhaid bod y Prif Weinidog, wrth wrthwynebu'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, yn mwynhau cael ei gosbi. Ers gweld ei ochr ef yn colli'r ddadl Brexit yn 2016, pan wnaethon nhw golli'r refferendwm nid yn unig yn y DU ond yma yng Nghymru hefyd, mae wedi bod wrth wraidd ceisio atal Brexit rhag digwydd dros y tair blynedd a hanner diwethaf. Canlyniad hynny fu bod Llafur newydd gael ei chwalu yn yr etholiad cyffredinol. Efallai fod rhywbeth y mae angen i'r Prif Weinidog a'i Blaid Lafur Gymreig ei sylweddoli: po hwyaf ac uchaf eu cloch y maen nhw'n parhau i wrthwynebu Brexit, y mwyaf y byddan nhw'n dioddef mewn etholiadau. Peidiwch â meddwl mai etholiad cyffredinol 2019 yw'r pwynt isaf. Efallai na fydd. Mae'n bosibl y bydd gwaeth i ddod ar eu cyfer nhw eto. Dim ond rhywbeth i feddwl amdano—ac mae'n dda bod un o'ch ffrindiau yn ei heglu hi am Aberystwyth er mwyn ei osgoi. Rwy'n gweld bod y Prif Weinidog heddiw yn dilyn esiampl Senedd yr Alban. Yn anffodus i'r Prif Weinidog, o leiaf gall Miss Sturgeon hawlio bod ei rhanbarth hi o'r DU wedi pleidleisio dros aros. Ni all y Prif Weinidog hyd yn oed hawlio hynny, oherwydd pleidleisiodd Cymru, wrth gwrs, i adael. Beth bynnag, ni chafodd cyrff datganoledig y DU eu sefydlu ar gyfer y math hwn o ddiben. Fe'u sefydlwyd er mwyn caniatáu ar gyfer craffu mewn meysydd polisi datganoledig penodol megis iechyd, tai ac addysg. Nid oedden nhw i fod i ymyrryd yng ngwaith Llywodraeth y DU mewn meysydd y mae'n amlwg nad ydyn nhw wedi'u datganoli fel polisi tramor a chytundebau masnach rhyngwladol. Mae'r Prif Weinidog a'i gyd-Aelodau, fel Mick Antoniw ac Alun Davies, yn dal i wthio'r ffiniau ar hyn, ond dylen nhw fod yn ymwybodol, y tu allan i swigen Bae Caerdydd, na fydd unrhyw rai o'u geiriau yn gwneud argraff dda ar y rhan fwyaf o bobl gyffredin yng Nghymru. Efallai y daw llawer o bobl i'r casgliad rhesymegol, os bydd y Prif Weinidog a'r Cynulliad yn fwriadol yn rhwystro dymuniadau pobl Cymru am gyhyd â hyn ac mor uchel â hyn, yna bydd yn rhaid dileu'r Prif Weinidog ei hun a chael gwared ar y Cynulliad hefyd. Mae'r rheini, wrth gwrs, yn gasgliadau yr wyf i fy hun wedi dod iddyn nhw gryn amser yn ôl. Diolch yn fawr. [Torri ar draws.] Beth ddigwyddodd yn y fan yna? [Chwerthin.] O, dyna oedd y diwedd. Iawn, o'r gorau. David Melding. David Melding AC: Diolch yn fawr, Llywydd. Clywsom y Prif Weinidog yn cyfaddef yn haelionus fod Brexit yn mynd i ddigwydd, ac mae hyn o leiaf yn gam ymlaen, gan nad wyf i'n hollol siŵr am y llynedd, pryd y gwnaethoch chi wrthod cytundeb Mrs May er gwaethaf fy apeliadau angerddol bod hynny yn Brexit mor gadarnhaol ag yr oeddem ni'n debygol o'i gael. Wrth gwrs, roeddwn i'n frwd dros aros ac nid wyf i'n hapus ein bod ni yn y sefyllfa hon, ond rydym ni ynddi, yn sgil pleidlais ddemocrataidd enfawr a gafodd, yn fy marn i, drwy unrhyw ddehongliad, ei chryfhau ymhellach yn yr etholiad cyffredinol. Rwy'n credu mai dyna'r unig esboniad rhesymol o'r datblygiadau gwleidyddol diweddar. Fodd bynnag, mynnodd y Prif Weinidog wedyn mai'r unig ffordd y byddai'n cefnogi unrhyw berthynas â'r UE yn y dyfodol oedd pe byddai hynny'n bodloni buddiannau Cymru fel y mae ef yn eu gweld nhw. Wedyn daeth y rhan fwyaf o'i araith—treuliodd ddwy ran o dair o'i amser ar hyn—rhestr faith o resymau pam mae Brexit yn ddrwg i ni ac y dylai ein gwneud ni ei weithredu mewn modd mor wan â phosibl, felly i bob pwrpas rydych chi'n aros yng nghylch dylanwad gwleidyddol ac economaidd yr UE. Ond nid yw hynny'n realiti. Mae'n rhywbeth y gwnes i ei dderbyn yn syth ar ôl y refferendwm. Wrth gwrs, roeddwn i'n gobeithio y byddem ni'n aros yn gyfan gwbl yn y cylch dylanwad economaidd a gwleidyddol gyda holl hawliau aelodaeth, ond mae canlyniadau os byddwn ni'n symud allan, sef y byddwn ni'n mynd ar drywydd llwybrau eithaf gwahanol mewn rhai meysydd, ac mae ceisio dileu pob ystyr ar Brexit, yn fy marn i, yn broses hynod amheus ar sail ddemocrataidd. Ond o leiaf, yn ei ddull o weithredu, fe wyddom mai gwrthwynebiad gwleidyddol sydd ganddo ac nad oes gan hynny fawr i'w wneud â phriodoldeb cyfansoddiadol. Nid yw'r hyn y mae'n ceisio ei wneud y prynhawn yma yn waradwyddus o gwbl. Mae e'n dymuno gwneud Brexit yn fater sy'n eiddo i'r Blaid Geidwadol yn unig, ac mae hyn yn rhan o'r neges fawr sydd ganddo i'r cyhoedd—'Dim byd i'w wneud â ni. Ni wnaethom ni erioed ei gefnogi na'i hwyluso mewn unrhyw ffordd.' Ac, ar sail resymol, rwy'n gweld bod rhyw fath o resymeg os ydych chi'n credu bod yna lwybr yn ôl i Lafur ar y mathau hyn o sail, yn enwedig yn rhai o'u cyn gadarnleoedd. Fe adawaf i i chi benderfynu ar eich tactegau ar y materion hyn. Ond yr hyn nad ydym ni wedi ei gael yw esboniad ar sail egwyddor gyfansoddiadol uchel pam y dylai'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn gael ei wrthod. A gadewch i ni gofio, mae'n ymwneud â deddfu, gweithredu, penderfyniad refferendwm ar fater cyfansoddiadol hynod bwysig. Nid yw'r rhain yn ddibwys—rwy'n cytuno â rhai o'r Aelodau Llafur sydd wedi siarad i'r perwyl hwnnw—ond maen nhw wir yn funudau difrifol iawn, iawn. Treuliodd y Prif Weinidog rywfaint o amser fel ôl-ystyriaeth—. Fe wnaf i ildio. Carwyn Jones AC: Diolch. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod am ganiatáu i mi ymyrryd. Pa gyngor y byddai'n ei roi i'r rhai hynny ohonom ni sy'n pryderu'n eithriadol ynghylch cymal 38(1), ac yn enwedig yr effaith a gaiff hynny pe byddai'n dod yn Ddeddf? David Melding AC: Fe wnaf roi cyngor llawn ac ystyriol iddo ar y rhan honno pan fyddaf wedi ei darllen ac fe wnaf ysgrifennu ato. Nawr, dyna'r math o ateb yr arferwn i ei gael ganddo fe yn aml iawn, felly rwy'n gobeithio y bydd yn fodlon. [Chwerthin.] Aeth y Prif Weinidog yn ei flaen wedyn, fel rhyw ôl-ystyriaeth, yn fy marn i, i'r seiliau cyfansoddiadol, ac mae rhai ohonyn nhw yn gofyn am ymateb—nid yw'n beth afresymol i'w ystyried—nad yw Sewel wedi'i ymwreiddio; bod gan Weinidogion y DU o dan y Bil hwn bŵer i gysoni cyfraith y Cynulliad i adlewyrchu'r cytundeb yn y pen draw; materion sy'n ymwneud â ffin Gogledd Iwerddon fel y mae'n effeithio ar Iwerddon, ac, i bob pwrpas, y ffin Brydeinig—wrth gwrs, bod gweithredu'r dewis blaenoriaethol a oedd gan yr UE o'r cychwyn cyntaf ar ôl pleidlais Brexit—ac yna sofraniaeth seneddol. Nawr, efallai fod rhai pobl yn meddwl ei bod hi'n naïf ailadrodd y ffaith fod y Senedd yn San Steffan yn sofran yn y pen draw, ond mae hi, ac rwy'n atgoffa Aelodau Llafur bod hynny yn rhan annatod o'ch Deddfau datganoli chi o 1997 neu 1998. Felly, mae'r pethau hyn yno. Ac os nad yw'r rhain yn amgylchiadau anarferol pryd y caniateir, yn gyfansoddiadol, i Lywodraeth y DU ddiystyru penderfyniadau yn y fan yma a bod yn atebol am hynny, yna nid wyf i'n gwybod beth sy'n anarferol. Felly, nid wyf i'n derbyn, mewn unrhyw ffordd, nad ydym ni'n parchu hawliau. Rydym ni'n arfer ein hawliau, ac os na fyddwn ni'n cytuno ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol, byddwn ni wedi cael yr hawl i wneud hynny. Yr hyn nad oes gennym yr hawl i'w wneud yw—rwy'n ofni fy mod i wedi gweld Jenny yn gyntaf—chwythu cledrau Brexit a'i atal rhag digwydd. Mae dyletswydd ar Senedd y DU i sicrhau nad yw hynny'n digwydd. Fe wnaf i ildio, gyda'ch goddefgarwch. Jenny Rathbone AC: David Melding, diolch i chi am ildio, ac roeddwn i'n meddwl tybed a ydych chi, fel llawer ohonom ni, yn wffti at y ffaith fod y gwelliant Dubs wedi'i ddileu, sy'n rhoi'r hawl i ffoaduriaid sy'n blant gael eu haduno gyda'u teuluoedd. David Melding AC: Mae llawer o bethau a fyddai'n well o lawer gennyf yn ymagwedd Mrs May. Mae pawb yn gwybod yn y Siambr hon cymaint o blaid Ewrop ydw i, ac rwy'n teimlo'n anesmwyth iawn. Rwy'n credu bod yr heriau cyfansoddiadol hirdymor a wynebwn i gadw'r undeb gyda'i gilydd yn llawer anoddach nag y bydden nhw wedi bod pe byddem ni wedi aros yn yr undeb, ac fel cyn ddirprwy gyfarwyddwr Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru a swyddog Unicef yng Nghymru, mae'r rhain yn faterion sy'n fy mhryderu.Fodd bynnag, credaf y byddai'n well o lawer pe byddai Llywodraeth Cymru wedi derbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn ac wedi'i gefnogi, ac yna wedi dweud wrth Lywodraeth y DU, fel y gwnaeth y llynedd, pan ddiddymodd y Bil parhad neu'r Ddeddf—wel, gallai fod wedi mynd yn Ddeddf, ond, beth bynnag, fe'i diddymwyd yn y diwedd—a defnyddio ei dylanwad i gyflawni amcanion hirdymor a fyddai'n cryfhau'r undeb Prydeinig ar ôl Brexit.Oherwydd mae gennych chi ddylanwad o'i gymharu â Llywodraeth yr Alban, sy'n amlwg ar gwrs gwahanol iawn, gyda'r nod yn y pen draw o dorri'n rhydd oddi wrth y Deyrnas Unedig. Ac, ar y pwynt hwnnw, byddech chi'n cael llawer o gefnogaeth, fel yr ydych chi wedi'i chael, o'r meinciau hyn ar faterion fel cysylltiadau rhynglywodraethol cryfach, wedi'u ffurfioli yn fwy o lawer, ar eich hawliau ar gytundebau masnach yn y dyfodol—nid yn y cytundeb ymadael hwn y dylem ni fod yn chwilio am hynny, ond mae'n fater gwirioneddol bwysig yn y dyfodol—ac ar fframweithiau cyffredin a'u trefniadau llywodraethu. Dyna ble y dylech chi fod wedi bod yn mynd. Dyna ble y dylech chi fod wedi bod yn defnyddio eich dylanwad gwleidyddol. Yn hytrach, rydych chi'n ceisio apelio at bobl sydd o blaid aros sydd yn dal i fodoli, ac rwy'n credu bod hynny yn gamgymeriad. Rwy'n ddiolchgar iawn i chi, Llywydd, am eich goddefgarwch. Lynne Neagle AC: Ni ellir cael cyd-destun gwell i'n dadl heddiw a'r rhuthr mawr i adael yr UE ddiwedd y mis na'r pantomeim hurt ynghylch canu cloch Big Ben ar 31 Ionawr.Yn gyntaf, mae'n wastraff llwyr o amser ac egni, yn ail, mae'r Prif Weinidog, wedi ei ysgogi gan ei Aelodau adain dde Ewrosgeptig, fel petai'n meddwl ei fod yn syniad da erbyn hyn, ac, yn drydydd, mae ef eisiau i'r cyhoedd dalu amdano. Ni allai symboleiddio Brexit yn fwy agos na phe byddai'r holl beth wedi'i sgriptio gan Quentin Tarantino. O leiaf, serch hynny, byddai Tarantino yn rhoi trac sain da i ni ar gyfer y gyflafan sydd i ddilyn, yn hytrach na sŵn gwag un gloch. Nawr, mae digon i'w ddweud am fethiant fy mhlaid fy hun yn ymgyrch aros 2016 a cholli etholiad cyffredinol Brexit 2019 wedi hynny. Mae bod ag agwedd saith allan o 10 yn y cyntaf yn ei gwneud hi'n amheus iawn y byddwn i'n rhoi unrhyw beth yn agos at 10 allan o 10 i arweinydd ein plaid yn y DU ar gyfer yr olaf. Ac felly mae angen i'r rhai ohonom ni yn y Siambr hon sy'n falch o fod yn Ewropeaidd ofyn nifer o gwestiynau i ni ein hunain ynglŷn â sut y daethom ni i'r pwynt hwn, ond nid yw hynny'n fater ar gyfer heddiw. Er fy mod i'n derbyn, gyda'r galon drymaf, fod canlyniad yr etholiad cyffredinol ym mis Rhagfyr yn golygu bod ein hymadawiad o'r UE bellach yn sicr, nid yw hynny yr un fath â chytuno â'r syniad chwerthinllyd hwn y gallwn ni yn awr gyflawni Brexit yn rhwydd. Ni ellir rhoi rhyddid llwyr i'r Prif Weinidog wrth iddo ruthro'r wlad tuag at ddrws yr allanfa, ac mae gennym ni swyddogaeth bwysig yn y lle hwn i wneud yn siŵr nad yw'n gwanhau sylwedd ein heconomi na'n cymdeithas. Ac ni allai'r cyfiawnhad dros ein gwyliadwriaeth o'r newydd fod yn gliriach na phan edrychwn ni ar yr hyn y gofynnir i ni gytuno iddo heddiw: lleihau ymrwymiadau yn gysylltiedig â llais Cymru hyd yn oed o'r ddeddfwriaeth is na'r safon ofynnol a gynigiwyd ym mis Hydref. Fel y mae'r memorandwm gan Lywodraeth Cymru a'r adroddiadau pwyllgor cysylltiedig yn ei wneud yn glir, mae'r Bil fel y mae wedi'i ddrafftio yn datgan awdurdod San Steffan mewn ffordd nad yw erioed wedi digwydd o'r blaen ac mae'n mynd yn groes i'r holl ddeialog sydd wedi digwydd rhwng y Llywodraethau dros y blynyddoedd diwethaf. Ond wedyn ni ddylai hynny ein synnu o gwbl. Mae'n amlwg fod y Blaid Geidwadol wedi penderfynu nad yw'r hyn y maen nhw yn ei ddweud yn gyhoeddus yn bwysig erbyn hyn. Pan oedden nhw'n gofyn am gefnogaeth busnesau yn y refferendwm ac yn ystod trafodaethau Brexit, fe wnaethon nhw ddweud y bydden nhw'n cymryd y galwadau am aliniad rheoleiddiol o ddifrif, ond cafodd blynyddoedd o eiriau gwresog a sicrwydd eu golchi i ffwrdd mewn un cyfweliad gan y Canghellor y penwythnos hwn. Roedd y dyn a ddisgrifiodd y farchnad sengl, fis cyn y refferendwm, fel dyfais wych bellach yn gwrthod pryderon busnes gan ddweud, 'Rydym ni'n sôn am gwmnïau sy'n gwybod ers 2016 ein bod yn gadael yr UE.' Fyddai waeth iddo fod wedi dweud, 'Wel, wrth gwrs nad oeddem ni'n dweud y gwir. Beth oedden nhw'n ei ddisgwyl?' Efallai ei fod wedi ei ysgwyd gan y dadansoddiad newydd sy'n dangos y rhagwelwyd eisoes y bydd cost Brexit yn cyrraedd £200 biliwn eleni, sef cyfanswm o fwy nag y mae'r DU wedi ei dalu i mewn i'r UE dros 47 mlynedd. Beth bynnag fo'r rheswm dros dro pedol brawychus y Canghellor, mae'n dilyn patrwm cyfarwydd y blaid. Yn y Senedd yr wythnos diwethaf, gwnaeth ASau Ceidwadol hefyd wrthod gwelliannau nad oedden nhw'n effeithio mewn unrhyw ffordd ar y penderfyniad i adael yr UE. Mewn gwirionedd, bydden nhw wedi anrhydeddu nifer o ymrwymiadau a wnaed ganddyn nhw yn flaenorol i'r wlad hon—ar hawliau dinasyddion yr UE, ar hawliau gweithwyr, ffoaduriaid sy'n blant, pwerau gweinidogol, Gogledd Iwerddon, y farchnad sengl a hawl i'r Senedd a'r gweinyddiaethau datganoledig fynegi eu barn ar y berthynas gyda'r UE yn y dyfodol. Hyd yn oed ar raglen Erasmus, gwrthododd y Llywodraeth gynnig y cyfle anhygoel hwnnw i genedlaethau'r dyfodol. Gwn yn uniongyrchol beth y gall y math hwnnw o gyfle ei olygu i bobl ifanc na allan nhw fforddio gwyliau teuluol dramor a theithiau ysgol drud. Mae cyfyngu ar orwelion pobl ifanc yn y wlad hon y tu hwnt i unrhyw fath o amddiffyniad. Dyma'r Llywodraeth sydd yn dymuno i ni yn y Cynulliad hwn ddibynnu ar eu hewyllys da a'u bwriadau anrhydeddus ynghylch swyddogaeth y sefydliadau datganoledig wrth lunio deddfau yn y dyfodol. Dim ar unrhyw gyfrif, ddywedwn i. Dyma'r Llywodraeth sydd yn dymuno i ni drosglwyddo'r cyfrifoldeb dros bolisi cyllido rhanbarthol i Swyddfa Cymru a Whitehall. Dim ar unrhyw gyfrif, ddywedwn i. Efallai eu bod nhw wedi ennill refferendwm 2016, efallai eu bod nhw wedi ennill etholiad cyffredinol 2019, ond nid yw hynny'n golygu eu bod yn cael dad-wneud degawdau o gonfensiwn, cyfraith a chytundeb. Mae hyn yn gyfystyr â Chymru yn mynnu chwarae pob un o gemau'r chwe gwlad gartref eleni gan mai nhw yw'r pencampwyr presennol. Gall hynny ymddangos yn atyniadol iawn i'r enillydd, ond mewn gwirionedd mae'n hurt ac yn annheg. Mae Llywodraeth y DU wedi ennill hawl ddilys i fwrw ymlaen â Brexit, ond nid yn y ffordd ffwrdd â hi hon. Mae'r wlad yn haeddu gwell na Brexit 'Eton-mess'. Felly, fe ychwanegaf fy llais innau at lais Llywodraeth Cymru ac aelodau eraill yn y fan yma heddiw drwy ddweud 'na'. Nid yw Llywodraeth y DU wedi ennill yr hawl i sathru dan draed ein heconomi, ein democratiaeth na'n cymdeithas. Er mwyn datblygu'r wlad hon gyda'n gilydd, mae'n rhaid i Lywodraeth y DU wella ei ffordd o weithredu, gwella ei chysylltiadau ag eraill a diwygio'r ddeddfwriaeth hon. Mandy Jones AC: Deg diwrnod a saith awr i fynd tan ddydd Gwener nesaf. Hwrê. Iawn. Nid oes dim celu'r ffaith y cafodd Llafur grasfa yn yr etholiad cyffredinol ac y safodd Plaid Cymru unwaith eto yn ei hunfan. Fe wnes i feddwl y byddai rhyw fath o wers wedi ei dysgu o'r canlyniadau hyn, ond yn amlwg ddim. Fe wnes i wylio â chryn syndod wrth i ASau etholedig newydd Llafur Cymru a Plaid ddechrau fel yr oedden nhw'n bwriadu symud ymlaen yn llwyr yn y Senedd newydd, trwy fynd ar drywydd rhwystro Brexit er bod y freuddwyd honno yn farw, a'r realiti yw eu bod nhw yn amherthnasol erbyn hyn, oherwydd mwyafrif llethol Llywodraeth Geidwadol. Diolch i Dduw am hynny. Wrth iddyn nhw barhau â'u golwg ar yr un peth hwn, nid yw'n ymddangos eu bod nhw wedi clywed ein bod ni yn gadael. Roedd y neges gan yr etholwyr ym mis Rhagfyr yn glir iawn: 'Cyflawni Brexit'. Fel arfer—. Beth fydd Llafur a Plaid Cymru yn ei wneud yma? Fel arfer, byddan nhw'n defnyddio eu rhifau cyfunol i bleidleisio yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Nid ydych yn gwrando ar eich pobl yng Nghymru o hyd. [Torri ar draws.] Nid oes rhaid i mi wrando arnoch chi; chi yw'r wrthblaid. Pleidleisiodd y wlad unwaith eto o blaid Brexit ym mis Rhagfyr, ar ôl gwneud hynny ym mis Mai 2019, Mai 2017 a Mehefin 2016. Digon nawr. Waeth i chi gyfaddef: mae eich Llywodraeth yn dal i godi bwganod a chafodd hynny ei wrthod o ddifrif unwaith eto fis Rhagfyr diwethaf. Ni fydd yn syndod mai fy marn i yw y dylai'r Cynulliad roi ei gydsyniad heddiw a chaniatáu i'r wlad hon symud ymlaen o'r diwedd i'n dyfodol. Mae angen gwirioneddol i Lafur Cymru a Plaid Cymru roi'r gorau i atal Cymru, oherwydd dyna yr ydych yn ei wneud ac mae'n siŵr y byddwch yn parhau i wneud hynny. Rwyf i wedi gweld llythyr Stephen Barclay, â dyddiad ddoe arno, ac rydym ni i gyd yn gwybod, beth bynnag fydd yn digwydd, bydd y Bil ymadael yn mynd drwyddo ac y byddwn yn gadael yr UE ddydd Gwener nesaf, ar yr unfed ar hugain. Felly, mae'r hyn y mae'r Cynulliad hwn yn ei benderfynu heddiw yn gwbl academaidd. Yn olaf, hoffwn i atgoffa bob un ohonoch yn y Siambr hon bod y cytundeb ymadael sy'n destun y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn heddiw wedi ei gytuno gan dîm negodi yr UE hefyd. Felly, mae'r UE yn ei gefnogi hefyd. Felly, a gawn ni i gyd yn awr gefnogi Llywodraeth y DU mewn ysbryd o ffurfio'r berthynas newydd â'n cyfeillion yn Ewrop? Mae'n rhaid bod hynny er lles pawb. Diolch. Michelle Brown. Michelle Brown AC: Diolch yn fawr, Llywydd. [Torri ar draws.] Maen nhw ar bigau'r draen i'ch clywed chi, Michelle. Michelle Brown AC: O mi wn i. Mae'n cynhesu calon onid yw, Llywydd? Ydy. Wyddoch chi, yr hyn sy'n lletchwith am wrthodiad Llafur a Plaid i gefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn yw nad wyf i'n siŵr a wyf i wedi synnu ai peidio. Mae fel pe na bai'r etholiad cyffredinol diweddar wedi digwydd. Roedd pawb yn ymwybodol bod yr etholiad yn ymwneud yn bennaf â Brexit a bod y cyhoedd wedi ailddatgan ei lais. Mae pobl wedi cael llond bol ar eu barn yn cael ei hanwybyddu, felly fe wnaethon nhw gefnogi safbwynt Boris Johnson y dylai'r DU adael yr UE ar ddiwedd y mis hwn, hyd yn oed heb gytundeb. Cymaint yw'r awydd yng Nghymru i adael yr UE nes i'r Torïaid bron â dyblu eu nifer o seddi yma, gan hyd yn oed ennill sedd Wrecsam, a fu'n Llafur ers 1930, ac mae Llafur bellach yn dal gafael bregus ar sedd Alun a Glannau Dyfrdwy yn San Steffan. Roedd y Prif Weinidog yn ymgyrchu dros ail refferendwm ac, fel y gwelwyd, dyna'n union sut y bu i'r bobl drin yr etholiad cyffredinol. Felly, cafodd Llafur eu hail refferendwm i bob pwrpas a chollodd yn enfawr. Ac ni allwch chi ddweud mai'r pleidiau sy'n cefnogi'r ymgyrch aros enillodd y dydd oherwydd, er bod y Prif Weinidog yn dadlau dros ail refferendwm ac ymgyrch i aros, roedd neges y darpar Brif Weinidog Llafur mor ddryslyd nad oedd neb yn gwybod beth yr oedd Llafur yn sefyll amdano. Am yr ail dro, gwelodd y cyhoedd drwy'r codi bwganod. Ar ôl mynd yn ddig ynglŷn â'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio peidio â chyflawni canlyniad y refferendwm, mae'r cyhoedd wedi bod hyd yn oed yn fwy uchel eu cloch wrth ddweud wrth y gwleidyddion bod yn rhaid i ni adael yr UE gyda chytundeb neu heb un. Mae hyd yn oed ffrind gorau Plaid, Nicola Sturgeon, wedi dweud ei bod hi o'r farn bod gan Boris Johnson fandad i adael yr UE, ac eithrio i'r Alban, a bleidleisiodd mewn gwirionedd i aros yn 2016. Ac eto, mae'r rhan fwyaf o'r pleidiau yn y lle hwn yn ceisio aros yn yr UE neu adael mewn enw yn unig. Gadewch i ni fod yn gywir ynglŷn â hyn, mae cydgynllun Llafur a Plaid ar gyfer Brexit, i bob pwrpas, gystal ag aros yn yr UE. Hefyd, mae'n rhaid i ni wynebu rhywbeth arall, ni fydd unrhyw beth yn llai nag aelodaeth iawn yn ddigon da i Plaid neu Llafur yn y lle hwn. Felly, ar y naill law rwy'n synnu bod Llafur a Plaid yn dal i geisio tarfu ar y broses Brexit, ond ar y llaw arall nid wyf i'n synnu o gwbl—[Torri ar draws.] Na. Nid wyf i'n synnu o gwbl, oherwydd eu bod nhw wedi anwybyddu'r safbwyntiau—[Torri ar draws.] Rydych chi i gyd wedi cael eich cyfle i ddweud eich dweud. Rydych chi wedi cael digon o gyfle i ddweud eich barn—digon o gyfle i ddweud eich barn. Gadewch i mi ddweud fy marn i. Nid wyf i yn synnu o gwbl, oherwydd eu bod nhw i gyd wedi anwybyddu barn y pleidleiswyr am rai blynyddoedd bellach, hyd yn oed yn wyneb dirywiad neu ddiffyg twf etholiadol. Yn wahanol i'r Blaid Lafur, gwnaeth Boris Johnson ei safbwynt yn gwbl glir, a dangosodd yr etholiad cyffredinol yn ddiamwys i ni y dylem ni adael yr UE gyda chytundeb neu heb un. O leiaf, dyna mae'n ei ddangos i'r rhai hynny ohonom ni nad ydyn nhw'n credu bod yr etholwyr yn dwp. Felly, pam mae Llywodraeth Cymru a llawer o'r ACau yn dal i geisio rhwystro Brexit? Protestiwch faint y mynnwch chi, mae'r bobl allan yn y fan yna yn gwybod beth yw agenda Llywodraeth Cymru trwy wrthwynebu'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Sawl gwaith y mae'n rhaid i'r bobl ddweud wrthych chi beth i'w wneud cyn y byddwch chi'n gwrando arnyn nhw? Faint o seddi y mae'n rhaid i chi eu colli cyn i chi wrando ar lais democrataidd y bobl? Rydym ni'n clywed rhai yn cwyno bod y Bil cytundeb ymadael yn annemocrataidd oherwydd nad yw'n caniatáu llawer o fewnbwn gan Lywodraeth Cymru, ac eto nid yw'r Llywodraeth Cymru hon yn meddwl dim am geisio anwybyddu ewyllys democrataidd etholwyr Cymru. Mae Boris Johnson yn iawn i wadu i Lywodraeth Lafur Cymru unrhyw ymwneud sylweddol â'r broses Brexit, oherwydd byddan nhw yn gwneud popeth posibl i sicrhau ei bod yn methu. Roedd etholwyr Cymru yn gwybod y dylid cadw Llafur draw oddi wrth y trafodaethau Brexit, oherwydd y byddan nhw yn y diwedd yn ildio gormod o reolaeth i Frwsel ac yn ein cadw'n gyson iawn â'r UE. Roedd etholwyr Cymru yn gwybod y byddai cael Llafur yn agos at y broses Brexit yn golygu, ar y mwyaf, y byddem ni'n gadael mewn enw yn unig, ac yn amlwg nid dyna maen nhw'n ei ddymuno. Felly, rwy'n siŵr y bydd Boris Johnson yn anwybyddu unrhyw wrthodiad o'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn gan y Cynulliad hwn, ac felly y dylai wneud. Nid oes angen mandad arno gan Gynulliad Cymru. Mae ganddo fandad gan bobl Prydain. Mae'n ymddangos ei fod ef yn barod i barchu ewyllys pleidleiswyr Cymru, hyd yn oed os nad yw Llafur, Plaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Diolch. Carwyn Jones AC: Nid wyf yn bwriadu treulio llawer o amser yn sôn am y materion y mae Aelodau eraill wedi sôn amdanyn nhw; rwyf wedi traethu'n huawdl neu'n gras arnyn nhw, yn dibynnu ar eich safbwynt, dros y flwyddyn a hanner diwethaf. Ond dau bwynt yr wyf i'n awyddus i'w gwneud, sef na phleidleisiodd pobl Cymru dros y Ceidwadwyr ac na wnaethon nhw bleidleisio dros Lywodraeth Geidwadol. Gadewch i ni fod yn glir am hynny. Rwy'n ildio i'r Ceidwadwyr y ffaith ei fod yn ganlyniad da iawn yn hanesyddol o'u safbwynt nhw, ond gadewch i ni beidio ag esgus bod y Ceidwadwyr yn cynrychioli Cymru. Yn ail, mae fy nghyd-Aelod Alun Davies wedi awgrymu bod rhai yn y Siambr hon—[Torri ar draws.] Wel, mae'r fathemateg yno i bawb ei gweld. Mae rhai yn y Siambr hon sydd o'r farn nad oes gennym ni'r hawl i fynegi barn ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Yn wir, dywedodd yr Aelod gyferbyn, rwyf wedi anghofio ei enw, yn ogystal â pheidio â bod â'r hawl i wrthwynebu'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, y dylem ni mewn gwirionedd gael ein diddymu rhag gwrthwynebu'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Wel, fy ngwlad i yw hon, fy Senedd i yw hon, rwy'n gweld fy Llywodraeth i o fy mlaen, ac rwyf i'n awyddus i fy ngwlad barhau i fodoli, diolch yn fawr iawn. Rwyf am ganolbwyntio'n llwyr ar gymal 38. Roeddwn i'n synnu nad oedd David Melding yn gallu ymdrin ag ef ac, yn ôl ei safonau ef, rwy'n siŵr y bydd yn ymateb maes o law. Ond mae'n dweud hyn yn syml, cymal 38(1): 'Cydnabyddir bod Senedd y Deyrnas Unedig yn sofran.' Efallai byddai rhai yn dweud, 'Beth yw'r broblem gyda hynny?' Wel, beth yw'r pwynt? Beth yw pwynt rhywbeth—os yw Senedd y DU eisoes yn sofran, pam rhoi hynny yn y gyfraith? Oherwydd nid yw mewn unrhyw gyfraith arall. Graffiti llwyr yw hi. Neu ai'r gwirionedd amdani yw bod Llywodraeth y DU wedi sylweddoli nad yw Senedd y DU yn sofran mewn gwirionedd? Nid oes dim mewn cyfraith sy'n dweud bod Senedd y DU yn sofran o gwbl. Dim. Mae'n gonfensiwn. Ac mae'r llysoedd wedi parchu'r confensiwn hwnnw. Ond mae'r llysoedd wedi dweud mewn barn, yn y dyfodol os ydynt o'r farn bod Deddf Seneddol yn ormesol, yn ddidostur, yn amlwg yn chwerthinllyd, y bydden nhw'n cadw'r hawl iddyn nhw eu hunain ymyrryd os byddai hynny'n briodol, ond y byddai hynny o dan amgylchiadau eithriadol yn unig. Yr hyn y mae'r cymal hwn yn ei wneud yw dileu hawl y llysoedd i edrych ar unrhyw ddeddfwriaeth sylfaenol a ddrafftiwyd gan Lywodraeth y DU. Mae hwnnw'n gam gweithredu peryglus. Yr Arglwydd Hailsham, arglwydd Ceidwadol, a ddywedodd tua diwedd y 1970au fod cyfansoddiad Prydain i bob pwrpas yn unbennaeth ddewisol, ac felly y mae hi. A thrwy gynnwys y cymal hwn, mae'n ei gwneud yn waeth byth. Mae'n dweud y gall Senedd y DU wneud beth a fynno, pryd bynnag y dymuna, heb unrhyw ymyrraeth o gwbl yn ystod ei chyfnod mewn grym. Ni all hynny fod yn ddemocrataidd ac ni all fod yn iawn cyn belled ag y mae'r cyfansoddiad yn y cwestiwn. Ac nid oes dim yn y gyfraith sy'n dweud bod Senedd y DU yn sofran. Dim. Felly, dyna pam yr wyf i'n amau ei bod wedi ymddangos, i wneud yn iawn am y ffaith nad yw confensiwn, er iddo gael ei barchu dros y blynyddoedd, yn gyfraith mewn gwirionedd. Ond trwy ei wneud yn gyfraith, rydych chi'n ei gwneud hi'n llawer anoddach, er enghraifft, i'r llysoedd roi barn ar gyfreithiau. David Melding AC: A wnewch chi ildio? Carwyn Jones AC: Wrth gwrs y gwnaf. David Melding AC: Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog Emeritws. Rydym ni mewn system cyfraith gyffredin. Yn y 1690au mynegwyd sofraniaeth seneddol gyntaf gan y llysoedd, a'r rheswm na ellir ei hamgodio yw mai'r Senedd ei hun yw'r mynegiant eithaf ac uchaf o'r gyfraith. Dyna'r system sydd gennym ni, oni bai ein bod yn symud i system wahanol. Carwyn Jones AC: Mae'r hyn y mae David Melding yn cyfeirio ato yn gywir: ym 1689, dywedodd Iarll Shaftesbury fod Senedd Lloegr yn sofran; ond nid yw Senedd Lloegr yn bodoli mwyach. Diflannodd Senedd Lloegr ym 1707, a Senedd yr Alban yn yr un modd. Senedd y Deyrnas Unedig: nid oes unrhyw gyfraith o gwbl sy'n dweud bod honno yn sofran. Y rheswm pam mae hynny'n bwysig yw oherwydd yn yr Alban nid oes unrhyw gysyniad o gwbl o sofraniaeth seneddol. Mae datganiad Arbroath ym 1380, byddwn ni i gyd yn gyfarwydd ag ef, wrth gwrs, yn dweud bod sofraniaeth yn yr Alban yn gorffwys gyda'r bobl. Mae hynny'n dal i fod yn wir heddiw yng nghyfraith gyfansoddiadol yr Alban; mae'n dal yn wir, ac mae llysoedd yr Alban wedi mynegi barn ar hynny, yn enwedig mewn achosion yn y 1950au hyd at y 1970au. Beth mae hynny yn ei olygu'n ymarferol? Mae'n golygu, os daw'r cymal hwn yn gyfraith, y bydd yr Alban yn cael ffurf o sofraniaeth wedi'i orfodi arno nad yw, yn gyntaf, yn bodoli yn yr Alban ac, yn ail, sy'n torri ar draws y Cytundeb Undeb ym 1707. Mae llysoedd yr Alban wedi dweud bod hynny yn rhywbeth y maen nhw'n fodlon edrych arno o ran y gallu i'w gyfiawnhau. Nid yw'n effeithio arnom ni yng Nghymru, mae'n wir, oherwydd cafodd ein system lysoedd ei diddymu yn raddol rhwng 1536 a 1830, ond mae hyn mewn gwirionedd yn ymosodiad sylfaenol ar Gytundeb Undeb 1707 yn yr Alban. Byddaf yn gadael i'r Albanwyr ymladd eu brwydr eu hunain, ond mae'n rhywbeth sydd wedi mynd heb roi sylw iddo. Nid yw sofraniaeth seneddol erioed wedi bod yn rhan o gyfraith y Deyrnas Unedig o ran Senedd y Deyrnas Unedig, ar wahân i nawr. Ac rwyf eisoes wedi esbonio canlyniadau hynny. Yn olaf, y pwynt arall yr hoffwn i ei wneud yw hyn: ni allaf i gefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn—mae llawer o resymau eraill y mae Aelodau eraill wedi eu crybwyll, ac nid yw'n ymwneud â Brexit o gwbl—oherwydd nid wyf yn cefnogi'r syniad o sofraniaeth seneddol. Mae'n gysyniad hen ffasiwn ac mae'n hen bryd i'r DU gael cyfansoddiad mwy modern. Gallwn edrych ar sofraniaeth a rennir. Pam sefydlu system sy'n flinedig ac nad yw'n addas at y diben? Mae hwnnw yn welliant nodweddiadol o fyd bach San Steffan ac sydd wedi ei roi yn y ddeddfwriaeth hon, gan anwybyddu realiti bodolaeth Seneddau eraill yn y DU. Mae sofraniaeth yn gorffwys gyda phobl Cymru. Fe wnaethon nhw fynegi'r sofraniaeth honno drwy refferendwm ym 1997 ac yn 2011, ac fe wnaethon nhw fynegi'r farn honno yn 2016 trwy ddweud, 'Rydym ni eisiau gadael yr UE.' Nid wyf i'n amau hynny. Ond mae'r sofraniaeth honno yn gorffwys gyda phobl Cymru fel y'i mynegir drwy'r refferenda hynny. A beth fydd gennym ni os bydd y cymal hwn yn cael ei basio? System heb unrhyw rwystrau na gwrthbwysau. Pum mlynedd lle gall Llywodraeth wneud unrhyw beth a fynno heb unrhyw fath o gyfyngiad. Mae hyn yn newid sylfaenol i'r ffordd y mae'r DU yn cael ei llywodraethu. Mae'n annemocrataidd. Nid yw'n rhan o faniffesto unrhyw blaid. Mae'n mynd â ni tuag yn ôl. Mae'n sefydlu yn y gyfraith rywbeth nad yw erioed wedi bod yno o'r blaen. Mae'n gamddealltwriaeth sylfaenol ac o bosibl yn ymosodiad ar natur datganoli o fewn y DU. Ac am y rheswm hwnnw, ynghyd â llawer o rai eraill, ni allaf i gefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Neil Hamilton AC: Yn ei haraith angerddol yn gynharach, soniodd Lynne Neagle am y Bil hwn yn sathru ar ddemocratiaeth. Ond wrth gwrs, nid yw'n sathru ar ddemocratiaeth, mae'n cyflawni democratiaeth. Yn ystod y traethawd athrawiaethol yr ydym ni newydd wrando arno, cyfeiriodd Carwyn Jones at ddatganiad Arbroath i ddweud yng nghyfraith yr Alban fod sofraniaeth yn gorffwys yn nwylo'r bobl. Wel, penderfynodd y bobl ym mis Mehefin 2016—17.4 miliwn, y bleidlais ddemocrataidd fwyaf yn hanes Prydain i gyd—i adael yr UE. Am y tair blynedd a hanner diwethaf, mae'r Blaid Lafur, Plaid Cymru a'r SNP wedi bod yn trio pob ffordd bosibl o osgoi canlyniadau'r bleidlais honno. Rwy'n ildio. Carwyn Jones AC: Ni allwch chi gael sofraniaeth boblogaidd a sofraniaeth seneddol. Rydych chi'n dadlau nawr nad yw sofraniaeth seneddol yn bodoli mewn gwirionedd. Neil Hamilton AC: Na. Nid wyf yn credu fy mod i am dreulio llawer o amser yn dadlau faint o angylion sy'n gallu dawnsio ar ben pin. Mae'r mathau hyn o weithgareddau academaidd o flaen yr Aelod ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr; sedd a gollwyd, wrth gwrs, yn etholiad San Steffan ychydig wythnosau yn ôl. Nid yw'n ymddangos bod y ffeithiau hyn wedi taro ar ymwybyddiaeth Aelodau Llafur, ac Aelodau Plaid Cymru o bosibl, o gwbl. Roedd hwyliau digon amlwg yn y wlad, rwy'n credu, i fwrw ymlaen â'r gwaith o gyflawni Brexit. Nid dyna'r unig reswm pam y collodd Llafur gynifer o seddi yn yr etholiad hwnnw, ond yn sicr yr oedd yn rhan arwyddocaol iawn ohono. Y broblem sydd wedi bod, ar gyfer y sefydliad hwn sydd wedi ei boblogi'n bennaf gan y rhai hynny a oedd yn cefnogi'r achos 'aros' yn y refferendwm, yw nad ydych chi erioed wedi derbyn canlyniad y refferendwm ei hun. Ac rydych chi wedi gwneud popeth o fewn eich gallu i darfu ar y broses a cheisio oedi, a rhwystro o bosibl, a thrwy ymgyrchu dros bleidlais y bobl honedig, i wrthdroi canlyniad y refferendwm ym mis Mehefin 2016. Wel, rydych chi wedi colli, a nawr mae'n bryd i chi gydnabod eich bod wedi colli. Ac os oes unrhyw warth cyfansoddiadol wedi ei gynnwys yn y Bil hwn, y rheswm dros hynny yw oherwydd eich gwrthwynebiad di-ildio chi i'r hyn y pleidleisiodd y bobl drosto dair blynedd a hanner yn ôl. Nid oes gen i y pryderon hynny y mae'r Aelodau eraill wedi eu mynegi yn y ddadl hon, ond rwyf yn credu bod hwn yn achos hynod eithriadol, fel yr eglurodd David Melding yn ystod ei araith. Nid ydym yn mynd i gael refferenda o'r pwys cyfansoddiadol hwn yn aml iawn, os yn wir byth eto yn y wlad hon. Ac o ganlyniad i'r oedi sydd wedi digwydd wrth gyflawni canlyniad y refferendwm hwnnw, mae awydd dybryd a hollbwysig erbyn hyn y dylem ni gyflawni'r hyn yr oedd y bobl wedi pleidleisio drosto. Rydym ni wedi clywed areithiau drosodd a throsodd, unwaith eto, yn trafod yr holl ddadleuon yr ydym ni wedi eu clywed hyd ddiflastod yn ystod ymgyrch y refferendwm a thros y tair blynedd a hanner diwethaf. Mae'r ddadl ynghylch a yw'n beth da i adael yr UE ai peidio wedi dod i ben. Mae'r bobl wedi penderfynu. Ond polisi Llywodraeth Cymru yw ein bod yn cyflawni Brexit mewn enw yn unig; maen nhw eisiau aros yn yr undeb tollau, maen nhw eisiau aros yn y farchnad sengl. Wel, ni ellir disgrifio hwnnw fel Brexit mewn unrhyw ffordd. Holl bwynt hyn, i ddychwelyd at bwynt y cyn Brif Weinidog ynghylch sofraniaeth seneddol, yw adfer pŵer deddfwriaethol i'r deddfwyr, nid yn unig yn San Steffan, ond, cyhyd ag y mae'r setliad datganoli yn bodoli, i ddeddfwyr yma yn hyn lle hwn. Rwy'n ildio eto, ydw. Carwyn Jones AC: Diolch i'r Aelod am dderbyn ail ymyriad. Rwy'n derbyn ei bwynt ynglŷn â derbyn canlyniad y refferendwm yn 2016. A wnaiff ef wedyn dderbyn canlyniad y refferenda ym 1997 a 2011? Neil Hamilton AC: Wel, fe wnaethom ni gyflawni canlyniadau'r refferenda ym 1997 a 2011. Ac rwy'n berffaith hapus i weld y Blaid Lafur yn ymrwymo i fynd yn ôl i'r UE pan fyddwn wedi gadael; yr hyn nad oedd ganddi'r hawl foesol i'w wneud oedd ceisio rhwystro canlyniad y refferendwm cyn iddo gael ei gyflawni mewn gwirionedd. Mae'n safbwynt gwbl anrhydeddus i bleidiau eraill ddweud, 'Rydym yn well ein byd y tu mewn i'r UE', ac i ymgyrchu. Rwy'n credu y byddai'n gam dewr iddyn nhw ei gymryd, ac rwy'n gobeithio, yn wir, y byddan nhw'n ei gymryd, oherwydd bydd hynny, rwy'n credu, yn helpu i gadarnhau eu bod mor amherthnasol ag y maen nhw ar hyn o bryd ar gyfer y dyfodol rhagweladwy. Ond nid yw'r ddadl hon yn ymwneud â hawliau gweithwyr nac unrhyw elfen arall o gynhwysion ymgyrch y refferendwm. Nid wyf i'n awyddus i weld unrhyw gamu yn ôl ar hawliau gweithwyr yn fwy nag y mae unrhyw Aelod arall yn ei wneud yn y tŷ hwn. Mae hyn i gyd yn ymwneud â chymhwysedd deddfwriaethol. Dyma beth yw democratiaeth. Cenhedloedd, er da neu ddrwg, yn gwneud penderfyniadau. Trwy etholiadau, maen nhw'n ethol Llywodraethau i gyflwyno cyfreithiau ac i newid cyfreithiau. Ac os nad ydym ni'n mynd i gael Senedd sofran yn y cyswllt hwnnw, yna, i bob pwrpas, nid ydym ni wedi gadael yr UE o gwbl yn y manylion hynny. Felly yn y pen draw, mae hyn yn ymwneud â pha fath o wlad yr ydym ni a pha fath o genedl yr ydym ni. Pa fath o system etholiadol i gyflawni ewyllys democrataidd y bobl sydd gennym ni? Mae'n rhyfeddol bod gennym ni blaid cenedlaetholwyr, fel y'i gelwir, yn y lle hwn nad yw'n credu mewn gwirionedd mewn annibyniaeth genedlaethol fel y mynegir drwy sefydliadau cynrychioliadol; byddai'n well o lawer ganddyn nhw gael eu llywodraethu gan elît technocrataidd nad ydym ni'n ei ethol ac nad ydym yn gallu ei enwi hyd yn oed yn y rhan fwyaf o achosion, wedi'i leoli ym Mrwsel. Roedd hon yn bleidlais gan bobl Prydain a phobl Cymru dros annibyniaeth a goruchafiaeth eu sefydliadau seneddol, gan gynnwys hon yma yng Nghaerdydd. Mae cyflawni'r hyn y pleidleisiodd y bobl drosto dair blynedd a hanner yn ôl yn foment hanesyddol i'r wlad hon, ac mae arnaf ofn bod y Blaid Lafur, a Phlaid Cymru yn arbennig, wedi siomi'r bobl sydd wedi eu hethol. Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol i ymateb i'r ddadl. Jeremy Miles AC: Diolch, Llywydd. Gaf i ddiolch i bob Aelod sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon am eu cyfraniad ac am waith y pwyllgorau o dan gadeiryddiaethDavid Rees a Mick Antoniw am eu hasesiadau o'r Bil? Jeremy Miles AC: Ar ddechrau'r ddadl hon, dywedodd y Prif Weinidog y byddem ni'n sicr yn clywed ein gwrthwynebwyr yn honni bod y penderfyniad i argymell pleidleisio ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol wedi'i seilio ar ein gwrthwynebiad i'r cytundeb tynnu yn ôl ei hun, ac rwy'n falch na wnaeth Mark Reckless a Neil Hamilton ein siomi yn hynny o beth yn yr hyn sy'n gorfod bod yn ymgais parhaus ac, rwy'n meddwl, fwyfwy taer am berthnasedd fod Mandy Jones, wrth gyfri'r diwrnodau tan Brexit, yn ein hatgoffa ei bod yn gyfyngedig erbyn hyn diolch byth. Ond gadewch i mi ddweud yn gwbl onest bod y penderfyniadau hyn bob tro yn benderfyniadau pwysig i Lywodraeth sy'n dymuno gweld Undeb mwy effeithiol. Am 20 mlynedd, rydym ni a Llywodraethau olynol y DU, mewn gwirionedd, wedi ymdrechu'n galed i osgoi sefyllfa lle y torrir cytundeb Sewel, oherwydd er bod y Goruchaf Lys wedi dyfarnu nad yw'n gyfiawnadwy, y mae, fel yr amlinellodd Mick Antoniw yn ei gyfraniad, ag arwyddocâd enfawr. Dylai confensiynau mewn cyfansoddiad heb ei ysgrifennu fod yn bwysig. Mae'n gonfensiwn nad yw'r sofran yn gwrthod llofnodi Deddfau Seneddol a gaiff eu pasio'n briodol gan y ddau Dŷ; ni all yr un statud na llys ei gorfodi i wneud hynny. Mae'n gonfensiwn nad yw Tŷ'r Arglwyddi yn ceisio rhwystro deddfwriaeth sydd wedi ymddangos mewn maniffesto etholiad y blaid fuddugol. Felly, mae'n amlwg ein bod ni wedi meddwl yn hir ac yn galed cyn cynghori'r Senedd i wrthod cydsyniad. Yn groes i ddadl arweinydd yr wrthblaid, nid yw hyn yn ymwneud ag atal Brexit na phwdu, gan fod yr etholiad cyffredinol yn ddi-os wedi rhoi mandad i Lywodraeth y DU negodi perthynas â'r UE ar sail y cytundeb masnach rydd y maen nhw wedi ei amlinellu. Fel y mae ein dogfen ar negodiadau a blaenoriaethau i Gymru yn y dyfodol yn ei nodi, er nad ydym yn credu bod hynny er budd gorau Cymru, rydym yn derbyn mai dyna fan cychwyn y trafodaethau, ac rydym yn pennu'r cyfeiriad yr ydym ni o'r farn y mae angen iddyn nhw ei gymryd. Mae ein gwrthwynebiad i'r Bil wedi ei seilio ar yr hyn y mae'n bygwth ei wneud i'r setliad datganoli, ac mae'n iawn i ni sefyll dros y setliad hwnnw. Fel y dywedodd Alun Davies yn ei gyfraniad, 'Nid yw'r dewis arall yn swnio fel democratiaeth i fi', ac rwy'n credu ei fod yn iawn yn hynny o beth. Rwy'n gwrthod dadl David Melding nad yw'r rhesymau a roddir yn faterion sy'n ymwneud ag egwyddor gyfansoddiadol, a byddwn i'n rhoi llai o bwys efallai ar ei gyfraniadau pwysig nag y byddwn i fel arfer yn ei wneud yn y math hwn o ddadl, oherwydd fy mod i'n credu ei fod wedi methu â mynd i'r afael â'r pwynt a wnaeth Carwyn Jones mor huawdl ynghylch effaith arwyddol cymal 38, sy'n honni rhyw fath o sofraniaeth seneddol na ddylem ni yn y lle hwn ei gefnogi yn rhwydd, oherwydd ei fod yn camddeall yn sylfaenol gyfansoddiad Cymru sydd wedi newid a'r Deyrnas Unedig mewn ffordd rwy'n gobeithio y byddai'r Aelodau yn y Siambr hon yn ei chydnabod. Wrth wraidd ein dadl yw'r ffaith y gall Llywodraeth y DU, o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru, geisio gorfodi'r Senedd hon yn y pen draw i roi mesurau ar waith i weithredu rhwymedigaethau rhyngwladol nad ydym ni, i bob pwrpas, yn cytuno â nhw ac a all rwystro'r Senedd rhag deddfu mewn ffordd sy'n iawn yn ei barn hi ac sydd fel arall o fewn— David Melding AC: A wnewch chi dderbyn ymyriad? Jeremy Miles AC: Gwnaf. David Melding AC: Ar y pwynt hwn y bydd gwladwriaeth y DU a Llywodraeth y DU yn cymryd y swyddogaeth i orfodi rhai newidiadau cyfreithiol, wrth gwrs, mae hynny'n efelychu'r sefyllfa ar hyn o bryd—mae gan yr UE yr hawl i gyfarwyddo ein cyfraith ni mewn rhai ffyrdd ac rydym ni yn derbyn bod hynny yn rhan o'r trefniant cyfansoddiadol. Jeremy Miles AC: Dydw i ddim yn ceisio dweud nad yw'n rhan o'r trefniant cyfansoddiadol. Yr union bwynt a wnaf yw y bu'r bygythiad o ddefnyddio'r pwerau hynny yn ddamcaniaethol, hyd yn hyn, ond mae'r negodiadau ar berthynas yn y dyfodol a'r negodiadau masnach rydd gyda thrydydd gwledydd yn mynd i esgor ar nifer enfawr o faterion sydd yn effeithio'n uniongyrchol ac yn allweddol ar gymwyseddau datganoledig. Mae'r rhain yn ddewisiadau a fydd yn effeithio ar fywydau pobl yng Nghymru. Pa gymwysterau ydym ni yn eu cydnabod neu ddim yn eu cydnabod ar gyfer ein hathrawon a'n gweithwyr iechyd? Pa derfynau sydd i'r cymorth ariannol y gallwn ni ei roi, gan gynnwys drwy Fanc Datblygu Cymru? A allwn ni barhau i wrthod caniatáu i gig eidion wedi'i drin â hormonau ddod i'r farchnad? Fel y dywedodd Lynne Neagle yn ei chyfraniad, a all ein pobl ifanc barhau i gymryd rhan yn y cynllun Erasmus, sydd wedi bod â rhan mor enfawr o ran agor Cymru i'r byd a'r byd i Gymru? Rydym ni wedi bod yn glir gyda Llywodraeth y DU bod ganddynt ddewis. Gallant geisio, lle bynnag y bo'n bosib, gytuno â ni a safbwyntiau negodi'r gweinyddiaethau datganoledig eraill ar y rhain a llawer o faterion eraill sy'n effeithio ar ein cymwyseddau, ac os felly, byddwn yn cefnogi'r sefyllfa y cytunwyd arni ac yn rhoi'r cytundebau hynny ar waith. Gobeithio, wrth alw ar Gymru i gymryd rhan lawn yn y cyfnod sydd o'n blaenau, y bydd Paul Davies yn perswadio'i gyd-Aelodau yn y Senedd i alluogi hynny i ddigwydd. Mae wedi methu â gwneud hynny hyd yn hyn. Fel arall, gallai'r DU anwybyddu ein safbwyntiau, trafod ar eu pen ein hunain ac yna wynebu brwydr gyfansoddiadol i'n gorfodi ni i weithredu canlyniad y gallem ni ei wrthwynebu ac na fyddwn ni wedi bod ag unrhyw ran yn penderfynu arno. Yn anffodus, er gwaethaf y drafodaeth ynglŷn â throsoledd yn y ddadl hon, nid yw'r Llywodraeth hyd yn hyn wedi rhoi unrhyw sicrwydd inni, er gwaethaf, os caf ddweud—ac ategaf eiriau'r Prif Weinidog yn y fan yma—y gwaith clodwiw gan Dŷ'r Arglwyddi i'w hannog i wneud hynny. At hynny, maent wedi gwrthod diystyru gweithredu ar eu pen eu hunain i ddiwygio Deddf Llywodraeth Cymru, os yw hynny'n angenrheidiol iddynt roi eu sicrwydd i Ogledd Iwerddon. Llywydd, os bu achos erioed o ddwyn gan y naill i dalu'r llall o ran datganoli, dyna, yn sicr, yw hynny. Felly, mae ein cyngor i'r Senedd i bleidleisio yn erbyn y cynnig yn seiliedig yn llwyr ar amddiffyn datganoli. A gaf i gydnabod cefnogaeth Delyth Jewell i'r cynnig hwnnw yn ei chyfraniad a diolch iddi am ei gwaith yn craffu a herio yn ei swyddogaeth yn llefarydd Plaid Cymru ar Brexit? Sylwaf ei bod yn anffodus wedi methu â gwrthod y cyfle i daflu ensyniadau pleidiol braidd gynnau, ond rwyf yn diolch iddi am y cyfleoedd i gydweithio ar un neu ddau o'r materion sydd wedi codi yng nghyd-destun Brexit. Nid cyd-ddigwyddiad, Llywydd, yw bod Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon wedi dod i'r un farn, ac felly mae Llywodraeth y DU yn wynebu sefyllfa na welwyd ei thebyg o'r blaen lle y bydd hi o bosib yn bwrw ymlaen â'r Bil er iddi fethu â chael cydsyniad deddfwriaethol gan y tair deddfwrfa ddatganoledig. Yn wyneb y sefyllfa honno, byddwn yn apelio ar Lywodraeth y DU i wneud dau beth: yn gyntaf, i'w gwneud hi'n glir nad yw hi'n diystyru confensiwn Sewel. Caf fy nghysuro gan lythyr yr Ysgrifennydd Gwladol ddoe a ddyfynnodd y Prif Weinidog, a gobeithiaf nawr y caiff y sicrwydd hwnnw ei ailadrodd yn y Senedd. Ac yn ail, i ystyried o ddifrif ei hymateb i'n gofynion dilys am ran yn nhrafodaethau'r dyfodol. Maent wedi addo rhoi ateb inni yng nghyfarfod nesaf Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau’r UE), a gynhelir yn fuan iawn, yng Nghaerdydd—gadewch inni weld beth yw'r ateb hwnnw. Bydd y bleidlais ar y cynnig yma yn digwydd nawr, yn unol â Rheol Sefydlog 11.15(i), oni bai bod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch. Os na, dwi'n symud i bleidlais ar y mater yma. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid, 15, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod. NDM7232 - Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael): O blaid: 15, Yn erbyn: 35, Ymatal: 0 Gwrthodwyd y cynnigCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Mae'r Senedd nawr, felly, wedi cytuno i beidio â rhoi cydsyniad i Fil cytundeb ymadael Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol. Bydd y penderfyniad yma yn cael ei gyfathrebu ar frys i'r ddau Senedd-dŷ San Steffan i'w ystyried yn ofalus fel rhan o'u trafodaethau. 4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am wasanaethau mamolaeth ac ymyrraeth wedi'i thargedu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg Yr eitem nesaf o'n busnes ni'r prynhawn yma yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau mamolaeth ac ymyrraeth wedi'i thargedu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Galwaf ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething. Vaughan Gething AC: Diolch, Llywydd. Yn sgîl fy natganiad ysgrifenedig ddoe, roeddwn eisiau achub ar y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am yr amrywiaeth o gamau sydd ar y gweill i sicrhau a chynnal gwelliannau mewn gwasanaethau mamolaeth a'r trefniadau ansawdd a llywodraethu ehangach ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Ddoe, cyhoeddais ail ddiweddariad gan y panel trosolwg annibynnol ar wasanaethau mamolaeth. Rwy'n siŵr ein bod ni, ym mhob rhan o'r siambr, yn llawenhau o weld yn yr asesiad cyffredinol a ddarparwyd gan y panel annibynnol fod cynnydd da wedi'i wneud o ran gweithredu'r argymhellion a wnaed gan y colegau brenhinol yn dilyn eu hadolygiad o wasanaethau mamolaeth y gofynnais amdano ac yr adroddais yn ei gylch y llynedd. Yr hyn sy'n bwysig, ac yng ngeiriau aelodau annibynnol y panel, maent yn lled-gadarnhaol nawr y llwyddir i sicrhau gwelliannau cynaliadwy yn y tymor hwy. Mae'r panel wedi asesu tystiolaeth sydd wedi rhoi sicrwydd rhesymol iddynt fod 25 o argymhellion pellach wedi'u cyflawni ers yr adroddiad diwethaf. Mae hyn yn cynnwys: gwella ansawdd hyfforddiant ar gyfer staff meddygol a bydwreigiaeth a chynyddu'r niferoedd sy'n elwa arno, yn seiliedig ar gynlluniau cadarn i barhau i ddarparu gwasanaethau; bod â fframwaith llywodraethu clinigol cynhwysfawr ar waith sy'n arwain at welliannau mewn arferion clinigol; gwelliannau o ran adrodd, ymchwilio a dysgu o ddigwyddiadau difrifol; ac, yn bwysig iawn, cadarnhad bod y lefelau staffio ym maes bydwreigiaeth yn y bwrdd iechyd dros y naw mis diwethaf, bellach yn unol â'r lefelau a argymhellir gan Birthrate Plus. Bydd y panel yn ailymweld â'r rhain a meysydd eraill o bryd i'w gilydd dros y chwech i 12 mis nesaf i sicrhau eu bod yn effeithio ar arferion a bod gwelliannau felly'n parhau, gan hefyd asesu cynnydd yn unol â'r argymhellion sy'n weddill. Er mai testun calondid imi yw gweld y gwelliannau hyn o ran diogelwch ac ansawdd gofal clinigol, rwy'n arbennig o falch o'r adborth cadarnhaol am y profiad o ofal a geir gan fenywod a theuluoedd sy'n defnyddio gwasanaethau ar hyn o bryd. Yn ogystal â phrosesau'r byrddau iechyd ar gyfer cofnodi profiadau pobl wrth iddynt eu cael, caiff yr adborth hwn hefyd ei ategu gan ganfyddiadau ymweliadau'r cynghorau iechyd cymuned dros y misoedd diwethaf. At hynny, canfu adroddiad arolygu diweddar Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru fod gofal yn cael ei ddarparu mewn modd diogel ac effeithiol yng nghanolfan eni Tirion, sy'n uned dan arweiniad bydwragedd yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Fodd bynnag, fel y mae'r panel wedi'i wneud yn glir, mae llawer mwy i'w wneud eto i adeiladu ar y cynnydd hwn. Cadarnheais yn fy natganiad ysgrifenedig ddoe mai un o elfennau pwysig swyddogaeth y panel yw cynnal rhaglen o adolygiadau clinigol sy'n edrych ar ansawdd y gofal a ddarparwyd yn flaenorol. Mae hyn yn bwysig er mwyn sicrhau y nodir pob agwedd bosib ar ddysgu ac y gweithredir arnynt, ond yn yr un modd, i geisio ateb unrhyw gwestiynau gan fenywod a theuluoedd am eu gofal sydd heb eu hateb eto. Rwy'n ddiolchgar i'r panel am y gwaith helaeth sydd wedi'i wneud i ddatblygu proses gadarn a thrylwyr, a gefnogir gan dîm mawr o adolygwyr clinigol profiadol, annibynnol sydd bellach wedi'u recriwtio. Maen nhw ac rwyf i yn benderfynol y bydd menywod a theuluoedd wrth wraidd y gwaith hwn ac y byddant yn cael cymorth i gymryd rhan os dymunant. Mae'r cyngor iechyd cymuned hefyd yn darparu cymorth eirioli ychwanegol i helpu gyda hyn. Roeddwn yn falch o gael y cyfle i gyfarfod â menywod a theuluoedd yr wythnos diwethaf, ochr yn ochr â'r panel. Mae gwrando'n uniongyrchol ar eu profiad bob amser yn anodd, ond mae'n hanfodol deall sut yr ydym ni'n sicrhau gwelliannau cynaliadwy wrth ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar fenywod a theuluoedd. Cyn y Nadolig, cyfarfûm hefyd â staff yn ysbyty'r Tywysog Siarl ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Dywedwyd wrthyf eu bod bellach yn teimlo bod mwy o gydlyniant a hygrededd yn bodoli o ran arwain a darparu eu gwasanaeth. Cefais ymdeimlad gwirioneddol o ymrwymiad, perchenogaeth a balchder unwaith yn rhagor yn y gwelliannau yr oeddent yn ceisio eu cynnal ac adeiladu arnynt. Mae hyn, heb os, wedi bod yn gyfnod anodd iawn i staff, ac rwyf eisiau diolch iddynt am yr hyn y maent wedi'i gyflawni mewn cyfnod byr o amser, ac mae hynny wedi ei gydnabod yn glir gan y panel annibynnol. Mae llawer o'r hyn a ddysgwyd o wasanaethau mamolaeth bellach yn helpu i lywio gwelliannau sefydliadol ehangach. Ers fy natganiad diwethaf ym mis Hydref, bydd Aelodau'n ymwybodol bod Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru wedi cyhoeddi eu cydadolygiad o drefniadau llywodraethu ansawdd. Amlygodd hyn nifer o wendidau sylfaenol yn y trefniadau hynny, ac mae'r adroddiad yn gwneud argymhellion eang eu cwmpas i fynd i'r afael â nhw. Fodd bynnag, cefais fy nghalonogi hefyd gan y ffaith eu bod yn cadarnhau bod arweinyddiaeth newydd y sefydliad wedi llwyr gydnabod yr heriau, yr angen am newid a bod llawer o'r gwaith hwnnw eisoes yn mynd rhagddo. Mae hyn yn cynnwys gwneud newidiadau er mwyn sicrhau bod eu prosesau llywodraethu yn gadarn, yn agored ac yn dryloyw, gyda llinellau uwchgyfeirio a llinellau atebolrwydd clir pan fydd pryderon yn codi. Mae nifer o ffrydiau gwaith ar y gweill i ymgysylltu â staff i fynd i'r afael â'r pryderon a godwyd ynghylch y diwylliant o fewn y sefydliad, ynghyd â'r camau gweithredu hynny sydd eu hangen i ailennyn ffydd ac ymddiriedaeth cleifion, y cyhoedd a rhanddeiliaid. Disgwyliaf yn arbennig weld gwelliannau cyflym a chynaliadwy yn y modd y mae'r sefydliad yn ymateb i bryderon a chwynion cleifion. Mae hyn yn hanfodol er mwyn ysgogi dysgu a gwella yn ogystal ag er mwyn i'r sefydliad gael ei gydnabod fel sefydliad sy'n agored ac yn dryloyw ym mhob peth a wna. Mae'r gwahanol adolygiadau sydd wedi'u cynnal erbyn hyn ac sydd wedi adrodd yn ôl dros y misoedd diwethaf wedi rhoi darlun cynhwysfawr a disgrifiad o'r newidiadau sydd eu hangen. Mae hynny'n cynnwys ffyrdd o weithio a'r gwerthoedd a'r arferion sylfaenol y disgwylir iddynt sicrhau ansawdd a safonau gofal y mae gan bawb yr hawl i'w disgwyl. Rwy'n ffyddiog bod y bwrdd yn llwyr gydnabod difrifoldeb y materion a maint yr her sy'n eu hwynebu o hyd o ran sicrhau newid a gwelliant cynaliadwy, ac maent yn sylweddol. Fel y dywedais yn fy natganiad ysgrifenedig yr wythnos diwethaf ar uwchgyfeirio ac ymyrryd yn y GIG, mae'r lefelau uwchgyfeirio presennol yn parhau ar draws holl sefydliadau'r GIG. Felly, yng Nghwm Taf, mae gwasanaethau mamolaeth yn parhau mewn mesurau arbennig ac mae Cwm Taf Morgannwg yn parhau i fod yn destun ymyrraeth wedi'i thargedu. Erbyn hyn mae cynlluniau gwella clir yn datblygu i ymateb i'r ystod o newidiadau sydd eu hangen. Bydd fy swyddogion yn parhau i weithio'n agos gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau y cânt eu cefnogi a'u herio i gyflawni'r gwelliannau hynny. Mae'n bosib ac yn angenrheidiol cyflawni llawer yn gyflym, tra bydd eraill yn cymryd mwy o amser i'w cyflawni ac i ymwreiddio er mwyn sicrhau gwelliant cynaliadwy. Wrth gwrs, byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd. Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair. Angela Burns AC: Rwy'n ddiolchgar iawn, Gweinidog, am y sesiynau briffio sydd wedi'u darparu ar yr adroddiad hwn, er fy mod yn credu bod yn rhaid i ni gofio—ac, unwaith eto, hoffwn estyn fy nghydymdeimlad dwysaf a chywiraf i bawb yr effeithir arnynt—y loes ynghylch y diffygion y mae gwasanaethau mamolaeth yng Nghwm Taf wedi ei beri i lawer iawn, iawn o rieni ac ar adeg a ddylai fod yn un o'r adegau mwyaf llawen yn eu bywydau. Mae'n rhaid i mi gyfaddef, rwyf hefyd wedi synnu o ddarllen penawdau yn y cyfryngau yn dilyn cyhoeddi'r diweddariad oedd yn dweud ei fod wedi gwneud cynnydd sylweddol, oherwydd fy nealltwriaeth i o hynny hyn yw bod y panel yn lled-gadarnhaol, a dyna rwy'n credu dylai fod yn sylfaen i'n disgwyliadau. Rwyf eisiau talu teyrnged i waith y panel trosolwg annibynnol ar wasanaethau mamolaeth. Maen nhw wedi defnyddio'u profiad i helpu i ysgogi newid yn y bwrdd iechyd hwn. A gaf i hefyd, Gweinidog, fanteisio ar y cyfle hwn i ganmol y staff rheng flaen diwyd y mae'n rhaid eu bod wedi teimlo loes calon a digalondid mawr oherwydd methiannau gwasanaethau mamolaeth yn y bwrdd iechyd hwn a'r beirniadu a fu arnynt? Gobeithiaf fod agweddau cadarnhaol yr adroddiad hwn yn dangos bod pethau'n dechrau gwella a bod gwasanaethau mamolaeth ac, yn wir, y bwrdd iechyd cyfan bellach yn gwneud cynnydd a bod adolygiad gwirioneddol yn cael ei gynnal nid yn unig ym mhob agwedd ar y gwasanaethau mamolaeth ond mewn mannau eraill yn y bwrdd. Roeddwn yn falch iawn o glywed bod y lefel staffio bellach ar raddfa briodol a bod arolygon ddwywaith yr wythnos o wasanaethau cyngor a chyswllt â chleifion wedi bod yn gyson gadarnhaol. Roedd hi hefyd yn galonogol iawn, Dirprwy Lywydd, clywed am yr adborth cadarnhaol yn dilyn ymweliadau dirybudd y cyngor iechyd cymuned a'r adroddiadau cadarnhaol gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ynglŷn â Chanolfan Eni Tirion yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Rwyf, fodd bynnag, yn gochel rhag barnu faint y mae pethau wedi newid nes inni glywed am yr adroddiad sydd i'w gyhoeddi ddiwedd y mis hwn am yr uned famolaeth yn Ysbyty y Tywysog Siarl ei hun. Mae meysydd sy'n peri pryder o hyd, yn enwedig mewn cysylltiad â chyflymder y newid a chyflymder yr ymateb i geisiadau am wybodaeth a ddarperir i'r panel, felly, mae gennyf ambell gwestiwn yn y fan yma, Gweinidog. Deallaf nad yw'r panel ond wedi gallu cymeradwyo 25 o'r 79 cam gweithredu y gwnaethant gais i'r bwrdd eu cwblhau. Mae rhai o'r camau gweithredu hyn sy'n parhau heb eu cymeradwyo yn cynnwys gwelliannau mewn hyfforddiant, llywodraethu clinigol ac archwiliadau clinigol. Ydych chi'n fodlon â chyflymder y cynnydd, a pha amserlenni sydd gennych chi mewn golwg i gymeradwyo gweddill y camau hyn? Rwy'n dal yn bryderus o ddarllen, Gweinidog, fod angen cyflymu pethau a gwell disgyblaeth weinyddol o hyd yn y ffordd y caiff y broses newid ei rheoli gan y bwrdd iechyd. Yn benodol, ni fu cymaint o gynnydd yn y fframwaith sicrwydd na chyda'r asesiad perfformiad integredig, sy'n fodd o fonitro ac asesu gwelliant hirdymor mewn canlyniadau. Gofynnwyd am gyflawni hyn erbyn mis Rhagfyr, ond mae wedi cael ei ohirio i fis Ebrill. Byddwn wedi meddwl bod hyn yn allweddol mewn gwirionedd i gyflawni'r newid hwnnw; tybed a wnewch chi ddweud wrthym ni pa sicrwydd y gallwch ei roi inni y caiff y terfyn amser hwnnw ei gyflawni, ar ôl cael ei ohirio unwaith yn barod. Dywedodd y panel hefyd fod gwaith i'w wneud o hyd i ddatblygu'r cynllun gwella gwasanaethau mamolaeth yn gynllun cyfrifol gyda cherrig milltir, targedau a chanlyniadau clir. Unwaith eto, Gweinidog, mae'n peri pryder imi nad yw hyn ar waith eto ac mae'r ffaith nad yw'n bod, byddwn yn awgrymu i chi, yn rhoi negeseuon cymysg iawn. Gan y byddai cael y cynllun gwella gwasanaethau mamolaeth hwnnw pan fo'r holl fater hwn yn ymwneud â darparu gwasanaethau mamolaeth yn allweddol. Mae angen inni ailennyn ymddiriedaeth yn y system. Mae angen i ni sicrhau bod teuluoedd yn teimlo'n ffyddiog yn y dyfodol. Hoffwn pe baech chi'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynghylch pryd yr ydych chi'n disgwyl i hynny ddigwydd. Mae'r dull o ymdrin â chwynion a phryderon yn parhau'n anghyson. Mae heriau sylweddol o hyd o ran mynd i'r afael â'r ôl-groniad hanesyddol o gwynion ac nid yw'n ddigon da. Dylai hyn fod wedi bod yn fater o flaenoriaeth i helpu rhieni sy'n galaru i symud ymlaen. Oherwydd rydym ni i gyd yn gwybod pan ddaw etholwyr i'n gweld ni am unrhyw fater pryd byddant yn credu y bu camweinyddiad cyfiawnder, ei bod hi'n anodd iawn symud ymlaen. Ac ni all y rhieni hyn wneud hynny. Deallais o ddarllen erthygl newyddion ddoe fod mam wedi colli ei baban cynamserol yn 2015. Cytunodd y bwrdd iechyd eu bod wedi torri eu dyletswydd gofal, ond nid yw hi eto wedi cael ymddiheuriad gan y bwrdd. Rwy'n credu bod gwir angen i ni wneud cynnydd cyflym yn hyn o beth. Bu bylchau o ran capasiti a gallu o fewn y tîm gwella. Er enghraifft, bu'n rhaid iddynt ohirio'r broses o weithredu'r rhaglen adolygiadau clinigol o un mis gan nad oedd y panel yn ffyddiog bod gan y bwrdd iechyd y trefniadau angenrheidiol ar waith i gefnogi a sicrhau y gellid diwallu anghenion menywod a theuluoedd. Felly, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynghylch a ydych chi'n credu bod y tîm gwella bellach yn addas at y diben ac a all gyflawni hyn? Yn olaf, Gweinidog, rwyf yn derbyn bod newidiadau derbyniol wedi'u gwneud, ond mae problemau sylfaenol o hyd, sef materion sy'n treiddio drwy'r holl fwrdd iechyd. Gwelsom ddiffygion bach a diffygion mwy, efallai, hyd yn oed, mewn meysydd eraill. Mae llawer o'r personél allweddol wedi newid ac rwy'n croesawu hyn. Rwy'n derbyn bod angen amser i staff newydd ymgartrefu, ymgynefino, bwrw iddi a symud ymlaen. Ond a ydych chi'n ffyddiog—yn wirioneddol ffyddiog—fod y bwrdd newydd, gyda'r Cadeirydd a fu'n goruchwylio rhai o'r pethau a ddigwyddodd o'r blaen, mewn sefyllfa briodol, a bod gennym y personél cywir mewn swyddi dylanwadol iawn i gael y maen hwn i'r wal nawr? Oherwydd mae angen i ni allu cau pen y mwdl ar y bennod drist iawn hon o ran darparu gofal i famau a theuluoedd yn y GIG. Vaughan Gething AC: Diolch am y rhestr o gwestiynau. Rwyf eisiau dechrau gyda'r sylw am yr effaith ar deuluoedd. O ran cwrdd â theuluoedd mae'n anodd tanbwysleisio yr effaith ar y teuluoedd hynny, nid ar un adeg yn unig, ac mae gwahanol bobl ar wahanol adegau o ran gwneud cynnydd, naill ai o ran gallu symud ymlaen neu beidio. Wrth gwrs, gwahanol bobl gyda gwahanol gyfrifoldebau. Mae'n un o'r anawsterau gwirioneddol a sylweddol sy'n ein hwynebu, nid yn unig fel cynrychiolwyr, ond wrth gwrs o ran y gwasanaeth ac yn wir yr hyn yr ydym ni'n ei wneud i wella hynny. Ond mae'r ymgysylltu uniongyrchol â theuluoedd wedi ychwanegu at hynny yn bendant a dyna un o'r pethau mwyaf calonogol, rwy'n credu, am yr hyn a wnaed o ran gwella hyd yma, sef ei fod yn mynd ati'n rhagweithiol i chwilio am fwy o adborth gan bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth ar hyn o bryd, yn ogystal ag ymgysylltu â theuluoedd sydd wedi dod ymlaen ac y bydd nifer ohonynt nawr yn mynd drwy'r broses adolygu clinigol ar wahanol adegau. Mae wedi bod yn ddefnyddiol, rwy'n credu, gyda'r ddau ddigwyddiad a fu, un ym Merthyr ac un yn Llantrisant, i ofyn mewn gwirionedd i fenywod ddod ymlaen i roi eu barn eu hunain am arferion diweddar hefyd. Felly, rwy'n credu bod y rheini'n galonogol. Rwyf i, hefyd, yn edrych ymlaen at weld adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar eu hymweliad diweddar ag Ysbyty'r Tywysog Siarl, hefyd, i roi'r sicrwydd a'r gonestrwydd hynny ynghylch faint o gynnydd sy'n cael ei wneud. Yn hynny o beth, mae eich sylw ynglŷn â'r ffordd yr adroddwyd hyn—wel, wrth gwrs, nid wyf yn gyfrifol am y ffordd y mae pobl eraill yn rhoi gwybod am hynny, ond yr hyn a ddywedodd y panel eu hunain oedd y bu cynnydd da a'u bod bellach yn lled-gadarnhaol ynghylch y dyfodol, a dyna sy'n arwyddocaol. Felly, nid oes unrhyw ddatganiad pendant yn dweud bod popeth yn iawn ac nad oes angen rhagor o waith, ac, yn yr un modd, mae rhan o'r optimistiaeth yn ymwneud â'r cynnydd a wnaed, ond, yn yr un modd, mae rhywfaint o'r pryder yn ymwneud â'r ffaith bod angen ichi weld rhai o'r agweddau hynny'n cael eu cynnal. Felly, ynglŷn â nifer o'ch cwestiynau am y cynnydd o gymharu ag argymhellion adolygiad y coleg brenhinol, ynglŷn â chyflymder y cynnydd y gwnaed sylwadau arno yn yr adroddiad ar dudalen 35, yn ogystal â thudalen 37 a 36 ar y pryd, am y cynllun gwella gwasanaethau mamolaeth. Ac mae a wnelo hynny i raddau â gonestrwydd ynghylch pa mor gyflym y mae'r bwrdd iechyd wedi gwneud cynnydd, yn yr un modd, ynglŷn â lle gwelwyd cynnydd, o ran bod eisiau gweld hynny yn ymwreiddio ac yn parhau mewn difrif. Felly, mae'r panel eu hunain wedi dweud, er eu bod yn cydnabod bod nifer o argymhellion wedi cael eu cyflawni, dyna pam eu bod nhw eisiau dychwelyd i ailedrych eu hunain ar hyn yn y chwech i 12 mis nesaf i wneud yn siŵr eu bod dal yno. Ac o ran rhai o'r agweddau hyn, maent yn cydnabod fod gwaith ar y gweill. Felly, o ran un o'ch cwestiynau am gyflymder y cynnydd hwnnw, yr ateb gonest yw 'ydw' a 'nac ydw'. Ydw, rwy'n fodlon eu bod yn gwneud cynnydd a'u bod yn gwneud hynny mor gyflym â phosib. Fodd bynnag, nid wyf yn arbennig o fodlon oherwydd rwyf wastad eisiau iddynt allu gwneud y cynnydd hwnnw yn gyflymach, ond rhaid i mi gael cydbwysedd o ran y gofynion yr wyf yn eu rhoi ar y system, fel petai, oherwydd mae'n ymddangos mai'r pwynt cyffredinol yw nad ydynt yn gwneud unrhyw beth i beryglu diogelwch ac ansawdd y gwasanaeth, a'r gwelliannau y maen nhw'n eu gwneud. Ac yn sicr nid wyf eisiau gwneud unrhyw beth sy'n gwneud i bobl fod o dan gamargraff ynghylch sut y cawsom ni rywfaint o'r llanast hwn yn y lle cyntaf. Mae pobl eisiau cynnydd cyflym ac yn ceisio rhyw bennawd bachog, cyfleus, yn hytrach na gwneud rhywbeth sy'n gwneud y gwahaniaeth gorau posib i'n staff a'r bobl y maent yn gweithio gyda nhw ac yn eu gwasanaethu. O ran eich sylw am gefnogi anghenion yn ystod adolygiadau clinigol a chyflymder gweithredu hynny, yna, ydw, rwyf wedi fy nghalonogi, yn enwedig ar ôl cael sgyrsiau dros yr wythnos diwethaf yn uniongyrchol gyda theuluoedd yn ogystal â phobl o'r bwrdd iechyd a'r panel gwella. Ac er y byddwn wedi dymuno i hynny fod wedi'i sefydlu o'r blaen, roedd y dewis bwriadol i beidio â dechrau tan fis Ionawr yn un anodd oherwydd, ar y naill law, roeddwn yn awyddus iawn i'r adolygiadau hynny ddechrau yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach. Cafwyd her onest wedyn ynghylch a ydych chi'n ysgrifennu at bobl ganol mis Rhagfyr, ychydig cyn y Nadolig, ac yn dweud wrthynt fod eu hadolygiadau ar fin dechrau, ac nid yw hynny'n ddewis syml i'w wneud. Rwy'n credu, ar y cyfan, mai'r peth priodol oedd gohirio hynny tan fis Ionawr cyn dechrau ar y broses honno, felly mae llythyrau wedi'u cyflwyno ddechrau mis Ionawr. Ond hefyd, mae hynny wedi rhoi mwy o amser i roi cymorth ar waith, ac mae a wnelo hynny â gwneud yr hyn sy'n iawn a'r hyn sy'n briodol, a pheidio â gwneud rhywbeth sy'n gyflym. Ac yn yr un modd, mae'n bwysig bod yn onest. Gobeithiaf fod yr ail adroddiad gan y panel annibynnol yn rhoi'r sicrwydd hwnnw—bod gwir onestrwydd yn yr hyn a wnaed a pha mor hir y bydd yn ei gymryd cyn y gallwn ni gadarnhau bod y diwylliant a'r cynnydd wedi ymwreiddio, yn hytrach na dim ond ceisio gwneud rhywbeth sy'n gyfleus i mi neu i aelodau o'r bwrdd iechyd. Ac mae gennyf ffydd yn aelodau'r bwrdd, o'r aelodau gweithredol, y prif weithredwr dros dro a'r cyfarwyddwr meddygol newydd a'r cyfarwyddwr nyrsio, ac mae sylwadau yn yr adroddiad am yr effaith a gafodd y ddau unigolyn hynny wrth helpu i newid peth o'r diwylliant er gwell a oedd yn anodd i amrywiaeth o staff, ond hefyd pan gyfarfûm â staff, roeddent yn gadarnhaol ynghylch arweinyddiaeth y gwasanaeth ac roedd y gwahaniaeth yn y cyfarfodydd yn amlwg o gymharu â'r cyfarfod blaenorol a gefais gyda'r staff. Ond roedd ffydd hefyd yn y cadeirydd a'r aelodau annibynol, ac maen nhw'n hollol o ddifrif ynghylch y methiant a fu, ac y maen nhw wedi llwyr gydnabod hynny. Ac maen nhw wedi cydnabod nad oedd rhai o'r ffyrdd y cyflwynwyd neu na chyflwynwyd yr wybodaeth iddyn nhw yn dderbyniol, ac mae yna drylwyrdeb gwirioneddol yn ogystal â phenderfyniad, ac rwy'n credu bod capasiti a gallu gan y bwrdd a'i aelodau, gan gynnwys y cadeirydd, i wneud y peth priodol. Rhun ap Iorwerth AC: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad? A gaf i yn gyntaf ddweud bod rhaid i ni fod yn bwyllog iawn wrth fesur pa mor bell rydyn ni wedi dod yn fan hyn? Oes, mae yna wella wedi bod, ond rydyn ni yn siarad yma am sgandal lle y bu farw babanod, lle cafodd bywydau eu chwalu. Ac mae'r adroddiad diweddaraf yn dangos lle'r oeddem ni wedi dod yn y daith wrth ymateb i'r sgandal honno, ac mae'n dangos yn glir fod yna ffordd bell i fynd i ateb hyd yn oed rhai o'r cwestiynau mwyaf sylfaenol. Rhun ap Iorwerth AC: Rhaid inni fod yn ofalus wrth awgrymu bod cynnydd sylweddol wedi'i wneud, oherwydd mae darllen y diweddariad diweddaraf yn dangos bod pryderon sylweddol o hyd, ac, mewn sawl ffordd, ar lefel eithaf sylfaenol. Fe wnaf i gyfeirio at sawl elfen o'r adroddiad: 'Mae mwy na dwy ran o dair...o'r camau gweithredu yn y cynllun gwella mamolaeth yn dal i fod yn waith ar y gweill'; 'mae gwaith sylweddol o hyd i'w wneud er mwyn cyrraedd y safonau perfformiad y mae byrddau iechyd eraill yn eu cyflawni'; diffyg 'cerrig milltir, targedau a chanlyniadau clir'; 'mae ffordd bell i fynd o hyd i wella systemau a phroses busnes hanfodol fel y rhai ar gyfer ymdrin â chwynion a phryderon'— Mae'n rhestr eithaf hir— 'diffyg gallu mewn meysydd hollbwysig megis dadansoddi perfformiad, gwella ansawdd ac ymgysylltu â chleifion'. Fe wnaf i grynhoi rhai o'm cwestiynau allweddol, tri neu bedwar cwestiwn efallai. Pam nad ydym ni eto wedi gweld datblygiad y metrigau a'r cerrig milltir allweddol a fydd yn caniatáu i'r panel trosolwg fesur yn union lle yr ydym ni arni er mwyn darparu asesiad cynnydd sy'n fwy seiliedig ar dystiolaeth 'gan ddefnyddio cyfuniad grymus o fesurau ansoddol a meintiol', i ddyfynnu o'r adroddiad? Rwy'n credu bod angen i ni weld datblygu ffyrdd o fesur yn llawer mwy eglur faint o gynnydd a wnaed wrth ymateb i'r sgandal. O ran lefelau staffio, cwestiwn penodol: rydych chi'n cadarnhau yn eich datganiad, yn bwysig iawn, bod y lefelau staffio ym maes bydwreigiaeth y bwrdd iechyd dros y naw mis diwethaf, bellach yn cyd-fynd â'r lefelau y mae Birthrate Plus yn eu hargymell. Yn ôl yr hyn yr wyf yn ei weld o'r adroddiad, nid yw'r panel yn gallu cymeradwyo hynny eto, oherwydd nid ydynt wedi gweld y cynllun gweithredu o hyd. Ar adeg ysgrifennu'r llythyr hwn, nid oedd pob swydd wag wedi'i llenwi. Felly, efallai y gallwch chi ddweud wrthym ni os oes rhywbeth wedi digwydd dros y tair wythnos diwethaf sy'n golygu bod y trothwy hwn bellach wedi'i gyrraedd, ond nad oedd hynny'n wir, mewn gwirionedd, adeg ysgrifennu'r adroddiad. A wnewch chi egluro—y trydydd cwestiwn—pam rydych chi'n credu bod y panel yn dweud ei fod yn gynyddol bryderus ynghylch diffyg capasiti i sicrhau gwelliannau? Mae'n fy nharo, ar hyn o bryd, os oes elfennau sy'n destun pryder cynyddol, fod hynny'n rhywbeth a ddylai fod yn destun cryn bryder yn wir, ac efallai y dylai arwain at ymyrraeth ychwanegol i wneud yn siŵr fod y mater hwnnw o gapasiti yn y cam hwn yn cael sylw. Yn olaf, pam, mewn perthynas â chwynion, yr ymddengys hi fod y diwylliant yn dal i fod mor amddiffynnol pan amlygir hynny fel mater o bwys? Rwy'n credu ein bod yn dal i glywed am staff clinigol yn dweud eu bod yn ei chael hi'n anodd cwyno. Ac o ran yr holl fater o newid diwylliant sydd ei angen, rwy'n credu, bod angen i ni fod â phwyslais clir o hyd, a bod yn rhaid cael fframwaith, rwy'n credu, ar gyfer dwyn rheolwyr y GIG i gyfrif yn y ffordd y mae staff clinigol yn cael eu dwyn i gyfrifer mwyn cynorthwyo i newid diwylliant a gweithredu hynny. Mae gennym ni reolwyr GIG rhagorol ym mhob rhan o'r GIG—fe wnes i gyfarfod â rhai rheolwyr rhagorol ac arloesol yn Ysbyty Gwynedd yr wythnos diwethaf—ond, yn amlwg, bydd gennych chi reolwyr gwael ac mae arnom ni angen fframwaith i sicrhau y cânt eu dwyn i gyfrif yn union fel y byddem ni yn dwyn meddygon neu nyrsys i gyfrif, y gellir eu diswyddo os ydynt yn tangyflawni. Rydym ni'n sôn yn y fan yma fel pe bai angen inni gael ein hatgoffa am rywbeth sydd yn un o'r materion mwyaf difrifol y gallem ni ymdrin ag ef erioed yn ein Senedd, y fath fater, fel y crybwyllwyd yma o'r blaen, y byddai wedi arwain at ymddiswyddiad Gweinidogion mewn gwledydd eraill, a fyddai wedi arwain at ddisgyblu neu ddiswyddo uwch reolwyr. Rwy'n credu bod angen i ni atgoffa ein hunain bod y ffaith nad yw'r pethau hynny wedi digwydd yma yn awgrymu bod rhai o'r gwersi mwyaf sylfaenol a ddylai fod wrth wraidd hyn oll yn dal heb eu dysgu. Vaughan Gething AC: Fe wnaf i roi sylw i rai o'r pwyntiau mwyaf sylweddol, ac, unwaith eto, tynnu sylw at y ffaith nad wyf yn sicr wedi mynd ati i geisio gorbwysleisio maint y cynnydd na maint yr her sy'n dal i fodoli, ac, yng ngeiriau'r panel, mae'r bwrdd iechyd wedi gwneud cynnydd da ac mae'r panel yn lled-gadarnhaol ynghylch rhagolygon gwella yn y dyfodol. Nid oes awgrym o gwbl fod popeth wedi ei ddatrys, ac ni fyddech yn disgwyl hynny ar hyn o bryd, yn rhannol oherwydd bod rhai o'r heriau yn rhai tymor hwy, o ran newid, gwella ac ymgorffori diwylliant a'r newid diwylliannol hwnnw. A phe bawn yn sefyll ar fy nhraed heddiw ac yn ceisio honni bod yr holl newid diwylliannol hwnnw wedi digwydd a'i fod wedi ymwreiddio, ni fyddai neb yn yr ystafell hon yn fy nghymryd o ddifrif, ac ni ddylech chi ychwaith, ac, yn yr un modd, y teuluoedd a'r staff eu hunain. Felly, mae gonestrwydd ynglŷn â hyn—ni allwch chi fynnu newid a disgwyl gweld hynny. Bydd rhywfaint o hyn yn cymryd amser o reidrwydd, a pha un a yw'n wasanaeth cyhoeddus neu, yn wir, o fewn y sector preifat, nid yw newid diwylliant ac ail-lunio yn digwydd yn gyflym nac o reidrwydd yn hawdd. Y rheswm arall pam na fyddech yn disgwyl gweld popeth yn cael ei ddatrys nawr, wrth gwrs, yw ein bod ar fin dechrau'r broses adolygu clinigol, ac rydym yn disgwyl dysgu llawer o hynny. Ac, ar ddiwedd y broses adolygu clinigol, byddwn yn gallu casglu ynghyd y gwahanol bethau a ddysgwyd a deall sut rydym yn disgwyl i hynny gael ei gymhwyso a sut rydym yn disgwyl i bobl weld tystiolaeth o'r cynnydd hwnnw. A chredaf fod hynny'n arwain at eich sylw ynghylch sut y byddwn yn gwybod a beth yw'r metrigau. A dyna arwyddocâdyr hyn sy'n cael ei ddatblygu nawr rhwng y bwrdd iechyd a throsolwg y panel annibynnol a'r matrics aeddfedrwydd y mae'r panel wedi'i amlinellu, ac i siarad am y lefelau a'r camau cynnydd, ac rwy'n credu bod hynny'n bwysig. Felly, mae yna, wedyn, fesur gwrthrychol ar faint o gynnydd sydd wedi'i wneud a pha mor drylwyr ydyw, i ddarparu gwasanaeth da ac yna, o bosib, gwasanaeth enghreifftiol hefyd. A bydd y matrics aeddfedrwydd hwnnw y cyfeiriodd y panel ato, rwy'n credu, yn fesur pwysig i bob un ohonom ni yn y fan yma, ond hefyd yn allanol i'r cyhoedd ac i staff hefyd, ac, unwaith eto, y gonestrwydd yn asesiad y panel ynghylch faint o gynnydd a wnaed. O ran eich sylw bod y panel yn pryderu fwyfwy am rai meysydd cynnydd, mae'n anodd, heb gyd-destun priodol yr ymadroddion yr ydych chi wedi'u dewis, ond rwy'n credu, pan edrychwch chi ar yr hyn y mae'r panel ei hun yn ei ddweud, eu bod yn cydnabod, gyda'r heriau y maent yn eu datgelu, fod y bwrdd iechyd yn ymateb yn briodol iddynt ac yn sicrhau bod adnoddau ar gael i wneud yn siŵr y gwneir cynnydd. Ac, yn amlwg, fel Llywodraeth, rydym ni wedi neilltuo mwy o adnoddau i'r rhaglen wella hon hefyd. Mae hynny'n cynnwys yr arian ychwanegol yr ydym ni wedi'i ddarparu i'r cyngor iechyd cymuned hefyd. Ond mae'r panel eu hunain yn cydnabod, o ystyried cynnydd ac ymrwymiad parhaus proses wella'r bwrdd iechyd, nad ydynt yn teimlo bod angen gwneud unrhyw argymhellion penodol ar hyn o bryd. Dylai hynny roi rhywfaint o ffydd i bob un ohonom ni, lle bynnag yr ydym ni'n eistedd yn y Siambr, ynglŷnâ'r cynnydd, sef faint a wnaed mewn difrif, oherwydd disgwyliaf i'r panel hwn, os teimlant fod angen gwneud argymhellion, wneud hynny yn ddiduedd, a byddant yn cyhoeddi'r argymhellion hynny yn ogystal â'u dwyn at fy sylw i. Felly, rwy'n credu bod adnoddau priodol ar gael. Ac, o ran bydwreigiaeth a Birthrate Plus, mewn gwirionedd, ddoe, wrth gael ei holi'n uniongyrchol a'i gyfweld, llwyddodd cadeirydd y panel i gadarnhau bod y bwrdd iechyd bellach yn cydymffurfio â Birthrate Plus. Ac mae a wnelo hynny â'r staff sydd yn ei le, yn ogystal â chyllido'n briodol, yn unol â'r nifer priodol o staff ar gyfer y sefydliad, a recriwtio mwy o staff. Nawr, nid yw hi byth yn wir y gallwch chi dynnu un llinell ac rydych chi naill ai un safle yn uwch neu un yn is ac rydych chi'n cydymffurfio â Birthrate Plus neu beidio. Felly, mewn gwirionedd, mae a wnelo hyn â pha mor llwyddiannus ydych chi o ran cynnal y niferoedd staff, a bod yn ymrwymedig mewn gwirionedd i gael sefydliad a ariennir yn briodol a'r gallu i recriwtio ar gyfer hynny. Ac, unwaith eto, dylai pob un ohonom ni gysuro'n hunain gyda'r ffaith bod y bwrdd iechyd wedi llwyddo i recriwtio pobl i ddod i weithio yn y sefydliad. Ar un adeg, roedd pryder na fyddent yn gallu gwneud hynny oherwydd y camau a gymerwyd a sut y cafodd y sefydliad ei labelu. Yn olaf, eich sylw am reolwyr yn y gwasanaeth iechyd—nid wyf yn credu ei bod hi'n ddefnyddiol o gwbl awgrymu fy mod yn ochri gyda rheolwyr ac nid gyda phobl yr effeithiwydarnynt yn uniongyrchol. Yn sicr nid dyna'r sgwrs uniongyrchol iawn yr wyf wedi'i chael gyda theuluoedd nac, yn wir, y staff. Yr hyn sydd arnaf eisiau ei weld yw'r gwelliant sy'n ofynnol i ddarparu'r ansawdd, y diogelwch a'r tosturi yn y gwasanaeth, ac i'r staff gael yr amodau gwaith a'r arweinyddiaeth i allu gwneud eu gwaith a'i wneud yn dda. Byddwn yn trafod y mater o gael rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer rheolwyr lawer gwaith eto, rwy'n credu, ond dydw i ddim yn meddwl bod hynny'n ein helpu ni o ran symud ymlaen gyda'r gwelliant angenrheidiol. Byddai'n gofyn am newid deddfwriaethol sylweddol, ac, os oes gan Blaid Cymru gynigion mwy pendant yr hoffent eu cyflwyno ar hyn o bryd, neu mewn Senedd yng Nghymru'r dyfodol, yna byddaf yn hapus i drafod â nhw. Ond rwy'n canolbwyntio ar gyflawni'r gwelliant y mae'n amlwg bod ar y teuluoedd hynny ei angen ac yn ei haeddu. Dawn Bowden. Dawn Bowden AC: Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf i ddiolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad? Fel eraill, hoffwn gydymdeimlo'n ddiffuant, a hynny ar goedd, â'r teuluoedd hynny yr effeithiwyd arnynt gan fethiannau uned famolaeth Cwm Taf. Rwy'n parhau i gysylltu â rhai o'r teuluoedd hynny, ac rwy'n gweld, yn sgil y cyswllt hwnnw a'r trafod parhaus â nhw, yn uniongyrchol yr effaith y mae hynny wedi'i chael ar eu bywydau, ac mae hynny'n rhywbeth na ddylem ni byth golli golwg arno. Ond a gaf i hefyd ddiolch i'r panel trosolwg am eu datganiadau a'r cyfathrebu gwell rwy'n credu sydd rhyngom ni nawr a'r bwrdd iechyd, sydd i'w groesawu yn fy marn i? Nawr, nid wyf yn mynd i sôn am yr holl faterion a grybwyllwyd yn yr adroddiad—rwy'n gwybod na fyddai'r Dirprwy Lywydd yn caniatáui mi beth bynnag—felly, tri phwynt byr gennyf fi. Yn gyntaf, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig dweud ar goedd fy mod yn dal i fyfyrio ar y ffaith bod y sefyllfa yn uned famolaeth Cwm Taf, mewn sawl agwedd, wedi bod yn sioc i mi, a dywedaf eto y tanseiliwyd fy ymddiriedaeth yn y bwrdd iechyd, ac mae'n mynd i gymryd peth amser a rhywfaint o dystiolaeth ddiriaethol o welliant tymor hir i'r ymddiriedaeth honno gael ei hadfer. Yn ail, rwy'n credu ei bod hi'n deg cydnabod rhywfaint o ryddhad bod y panel trosolwg annibynnol ac arbenigol wedi nodi cynnydd yn ystod y cyfnod dan sylw. Fel Angela Burns, roeddwn yn falch o weld bod y panel i'w weld yn fodlon bod y broses o adrodd am ddigwyddiadau difrifol yn dechrau cydymffurfio, oherwydd mae'n bwysig cael dealltwriaeth glir o brofiadau cleifion. Rydym ni wedi gweld arwyddion gwirioneddol o welliant o'r adborth pythefnosol gan fenywod a'r teuluoedd eu hunain ar yr uned, sy'n wahanol iawn i'r hyn a adroddwyd o'r blaen, ac fel yr ydych chi newydd gyfeirio ato mewn ymateb i Rhun ap Iorwerth, mae lefel staffio bellach yn cydymffurfio â Birthrate Plus o ran bydwragedd, felly mae mwy o ffydd nawr o ran diogelwch. Felly, mae'n amlwg y croesewir yr holl gynnydd hwnnw. Ond, yn olaf, sylwaf fod llawer i'w wneud eto. Gwaith ar y gweill yw hyn o hyd, ac nid wyf yn credu am un funud y gallwn ni laesu dwylo, fel sydd wedi digwydd yn y gorffennol. Byddwch yn gwybod, Gweinidog, ein bod wedi cael adroddiadau yn y gorffennol pan gafodd camau gweithredu eu rhoi ar waith, y dechreuwyd llaesu dwylo a gwelsom bethau'n dirywio, ac mae'n bosib mai dyma sut y daethom ni i'r sefyllfa yr oeddem ynddi ddeunaw mis yn ôl. Felly, mae'n amlwg yn mynd i gymryd faint bynnag o amser a gymer hi er mwyn adolygu achosion y gorffennol ac i deuluoedd gael atebion, oherwydd mae angen yr atebion hynny ar deuluoedd er mwyn iddyn nhw gael symud ymlaen a sicrhau eu hunain na chaiff methiannau o'r fath eu hailadrodd yn y dyfodol. Gan fod y broses adolygu honno'n golygu gwaith hynod o dringar, roeddwn yn falch iawn o'ch clywed yn dweud y bydd teuluoedd yn ganolog iawn i'r gwaith hwnnw. Felly, nawr, rwyf unwaith eto yn gofyn am sicrwydd gennych chi bod y panel annibynnol yn cael yr holl gymorth sydd ei angen arno er mwyn cwblhau ei waith mewn modd amserol, ond heb frysio, ac y bydd teuluoedd yr effeithir arnynt hefyd yn parhau i gael pa bynnag gymorth sydd ei angen arnynt tra bod hyn yn parhau, oherwydd, er gwaethaf y ffaith bod hyn yn mynd i gymryd peth amser i fynd i'r afael â'r holl faterion hyn, credaf fod cyfle yn y fan yma, gyda'r holl gymorth yn ei le, ac o ystyried y buddsoddiad enfawr mewn seilwaith cyfalaf, yn enwedig yn ysbyty'r Tywysog Siarl, y gallai ac y dylai hyn fod yn uned enghreifftiol. Nid wyf yn credu bod hynny'n ddim llai nag y mae menywod a theuluoedd ardal bwrdd iechyd Cwm Taf yn ei haeddu. Vaughan Gething AC: Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau, ac, yn wir, yn amlwg, rwyf wedi cwrdd â nifer o etholwyr Dawn Bowden yn y cyfarfodydd teulu, ac â nifer o etholwyr Dawn Bowden sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd wrth imi gyfarfod â staff. Mae'r sylw ynglŷn â meithrin ymddiriedaeth y mae Dawn Bowden yn ei wneud yn un yr wyf yn ei gydnabod. Ymhlith yr Aelodau dros etholaethau sy'n ymgysylltu'n rheolaidd â'r bwrdd ac Aelodau rhanbarthol, rwy'n credu bod hynny'n deimlad cyffredin, ac, yn yr un modd, o safbwynt y Llywodraeth, mae yna broblem wedi bod, ac mae hynny'n rhan o'r rheswm pam mae'r gwasanaeth mewn mesurau arbennig a bod y sefydliad yn destun ymyrraeth wedi'i thargedu. Mae angen iddynt feithrin yr ymddiriedaeth honno yn y ffordd y maent yn ymddwyn, a dyna pam mae adroddiad y panel ar gynnydd yn bwysig, ond mae'n nodi'r hyn y mae'r bwrdd iechyd yn ei wneud mewn gwirionedd i ymateb i'r heriau a wynebant, yn adweithiol ac yn rhagweithiol, ar y daith hon o wella. Mae adrodd am ddigwyddiadau difrifol yn un arwydd o hynny. Mae'r ffaith eu bod nawr yn cydymffurfio'n briodol â lefelau Birthrate Plus yn arwydd arall o hynny, oherwydd, mewn gwirionedd, roedd pryderon ynghylch Birthrate Plus yn rhan o'r arwyddion o bryder, pan, ar ôl cael sicrwydd drwy swyddfa'r prif nyrs eu bod yn cydymffurfio â Birthrate Plus, roedd hi'n amlwg nad oeddent. Roedd hynny'n un o'r materion yr oedd y staff eu hunain yn cwyno amdano, ynglŷn â diffyg staff cyson ac am beidio â cheisio recriwtio'n briodol i'r swyddi gwag hynny. Felly, mae'r rheini'n bwysig iawn, gan fod angen eu cynnal er mwyn meithrin yr ymddiriedaeth y mae Dawn Bowden yn cyfeirio ati. Ac o ran eich sylwadau ynghylch y panel ac a ydynt yn cael yr adnoddau priodol, 'ydynt', rwy'n credu yw'r ateb syml i hynny. Ac os bydd angen mwy o adnoddau iddynt wneud eu gwaith, yna wrth gwrs byddaf eisiau sicrhau eu bod yn parhau i gael yr adnoddau i wneud yr hyn sydd angen iddynt ei wneud. Enghraifft dda o'r hyn rydym ni eisoes wedi'i wneud, fodd bynnag, yw'r ffaith bod gennym y tîm llawer mwy hwn o adolygwyr clinigol. Gyda'r cynnydd yn nifer yr adolygiadau sydd angen eu cynnal, mae'n amlwg ein bod wedi gorfod sicrhau bod gennym ni fwy o adolygwyr; fel arall, byddai wedi bod yn gyfnod annerbyniol o hir i'r holl adolygiadau hynny gael eu cynnal. Bydd yn cymryd cymaint o amser ag y mae'n ei gymryd, ond mae llawer mwy o bobl yn ymgymryd â'r swyddogaeth nawr nag yr oeddem yn credu y gallem eu cael ar y dechrau, pan oedd dim ond tua 40 o achosion, mae'n debyg, i edrych arnynt. Bellach, fel yr ydym ni nawr, mae tua 140. Ond mater i'r panel edrych arno fydd hynny, yn ogystal â phobl sy'n gallu eu cyfeirio eu hunain i'r broses hefyd. O ran eich sylw ynglŷn â sicrhau bod teuluoedd yn ganolog i'r adolygiadau clinigol a'r gefnogaeth iddynt, un peth sydd wedi bod yn ddefnyddiol yw'r ffordd y mae'r panel wedi cynhyrchu siart i helpu pobl i fynd drwy'r broses, gyda'r 12 cam ynddi. Nid yw wedi'i hysgrifennu fel dogfen ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol; mae wedi'i hysgrifennu ar gyfer y cyhoedd ehangach. Ac rwy'n credu y bu hi'n ddefnyddiol iawn i mi edrych ar honno a deall sut y bydd yn gweithio. Ar y cychwyn cyntaf, siaradais am y cyfle i deuluoedd adrodd eu hanes, a gallu gwneud hynny ac yna cael eu cefnogi i wneud hynny hefyd. Oherwydd, fel y dywedais yn gynharach, nid oes modd cau pen y mwdl ar yr hyn sydd wedi digwydd ym mhob un o'r grwpiau teuluol ar ôl cyfnod penodol. Felly, mae'r cymorth parhaus y bydd ei angen ar bobl ar ôl y posibilrwydd o golled neu niwed a achosir i rywun. A hyd yn oed os nad oes unrhyw niwed corfforol wedi'i achosi, yna bydd y ffordd y caiff pobl eu trin yn elfen pan fydd angen cymorth. Ac yn y digwyddiadau teuluol, rydym ni wedi cael grŵp Teardrop a'r grŵp Sands yno i roi cymorth hefyd, i wneud yn siŵr bod pobl yn cael eu cefnogi drwy'r broses gyfan hon, ac i'r bwrdd iechyd ddeall yr anghenion gofal parhaus sy'n bodoli. Unwaith eto, mae hynny i gyd yn rhan o ailennyn ymddiriedaeth a ffydd. Cawsom gymorth yn hynny o beth gan y ffaith y bu nifer o deuluoedd y gwyddom iddynt ddioddef niwed a cholled yn fodlon rhoi o'u hamser i helpu'r bwrdd iechyd i wella, ac mae'n gymhelliad gwirioneddol anhunanol ein bod yn cydnabod mewn llawer o bobl, nad ydyn nhw eisiau i bobl eraill fynd drwy'r hyn y maen nhw wedi'i brofi, ac maen nhw wedi aberthu llawer eu hunain i geisio gwneud yn siŵr nad yw hynny'n digwydd. Mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom ni i sicrhau nad yw amser, egni ac ymdrech yn cael eu gwastraffu. Caroline Jones AC: Fe hoffwn innau hefyd gydymdeimlo ar goedd â'r holl deuluoedd yr effeithiwyd arnynt. Diolch am eich datganiad, Gweinidog, ac am hwyluso'r briffio gyda'r panel annibynnol a'ch swyddogion. Rwy'n croesawu'r cynnydd sy'n cael ei wneud i sicrhau bod gwasanaethau mamolaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn ddiogel i'm hetholwyr. Fel y mae'r panel yn tynnu sylw ato, mae ffordd bell i fynd. Mae'r panel yn lled-gadarnhaol. Felly, gofynnaf i chi, Gweinidog, pa mor gadarnhaol ydych chi? Un o'r prif bethau sydd i'w weld o'r diweddariad chwarterol hwn yw nad yw'r bwrdd iechyd lleol yn gwneud digon. Yng ngeiriau'r panel annibynnol, mae angen iddynt brysuro. Gweinidog, pa bwysau allwch chi ei roi i sicrhau bod y bwrdd iechyd lleol yn gwneud cynnydd cyflymach? Fel y mae'r panel yn tynnu sylw ato, mae ymdrin â chwynion yn dal yn destun pryder. Mae'r bwrdd iechyd lleol yn cael trafferth gyda'r broses. Gweinidog, gan fod adroddiad Andrews wedi gwneud argymhellion ynghylch prosesau cwyno bum mlynedd yn ôl, mae'n destun pryder bod y byrddau iechyd yn dal i'w chael yn anodd ymdrin â chwynion a phryderon. Oes gennych chi unrhyw ffydd y gall byrddau iechyd lleol ddysgu gwersi o achosion mewn byrddau iechyd eraill? Sut gallwn ni fod yn sicr nad yw'r methiannau yng Nghwm Taf yn cael eu hailadrodd mewn byrddau iechyd eraill? Wedi'r cyfan, roedd y methiannau mamolaeth yng Nghwm Taf yn digwydd o dan drwyn pobl am flynyddoedd. Gweinidog, ydych chi'n ffyddiog bod model y bwrdd iechyd lleol yn gweithio i gleifion yng Nghymru? Sut y gallwch chi ein sicrhau ni o hyn? Yn olaf, Gweinidog, mae'r cyngor iechyd cymuned wedi chwarae rhan hanfodol yn ystod y broses hon ac mae wedi parhau i eiriol dros y menywod a'r teuluoedd y mae'r sefyllfa hon wedi effeithio arnynt. Mae'n galonogol y cafwyd adborth cadarnhaol yn sgil ymweliadau dirybudd diweddar. Gweinidog, ydych chi'n cytuno bod yr ymweliadau dirybudd hyn yn rhan hanfodol o dawelu meddyliau'r cyhoedd bod gwasanaethau'r GIG yn ddiogel? Ac os felly, a wnewch chi ddiwygio eich Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) i sicrhau y gall ymweliadau dirybudd barhau o dan y corff newydd y bwriedir iddo ddisodli'r cynghorau iechyd cymuned? Croesawaf y cynnydd a wnaed yng Nghwm Taf a gobeithiaf y byddwch yn gwneud popeth a allwch chi i sicrhau bod adroddiad nesaf y panel annibynnol yn dangos cynnydd cyflymach tuag at weithredu pob un o'r 79 cam gweithredu yn y cynllun gwella gwasanaethau mamolaeth. Diolch yn fawr. Vaughan Gething AC: Wel, fel y byddech yn ei ddisgwyl, pan fyddaf yn cwrdd â chadeirydd a phrif weithredwr y bwrdd iechyd, dyma un o'r pynciau yr ydym yn eu trafod: pa mor effeithiol a pha mor gyflym y mae'r bwrdd iechyd yn ymateb i'r gwelliannau sydd eu hangen, ac yn wir, lefel yr ansawdd a diogelwch sy'n cael ei ddarparu mewn gwasanaethau mamolaeth heddiw ac yn y dyfodol. Ac fel y dywedais yn fy natganiad, ac yn adolygiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr ar ganolfan eni Tirion, mae menywod yn rhoi adborth da ar hyn o bryd, ac mae ymdrech llawer mwy rhagweithiol i fynd ati i sicrhau bod adborth gan fenywod i ddeall beth sy'n digwydd yn y gwasanaeth heddiw. Mae angen i'r holl fyrddau iechyd ddysgu, o ran ymdrin â chwynion, lle yr ydym ni wedi gweld cynnydd gwirioneddol, ac mewn gwirionedd mae pethau'n llawer gwell ar hyn o bryd o ran ymdrin â chwynion yng Nghwm Taf, ond mae her o hyd ynghylch newid diwylliant a ffordd o weithio amddiffynnol iawn. Felly, mae'r panel annibynnol eu hunain yn gwneud sylwadau ar hynny, ac yn sicr, mae mwy o ddysgu a gwella i ddod, nid yn unig yn y bwrdd iechyd hwn, ond mewn rhai eraill hefyd. O ran eich sylw am gynghorau iechyd cymuned ac eiriolaeth, wel, wrth gwrs, rydym ni wedi darparu adnoddau ychwanegol ar gyfer yr anghenion eiriolaeth ychwanegol y disgwyliwn i'r cynghorau iechyd cymuned eu cael. Ac o ran eich sylw am ymweliadau, mae Cyfnod 2 o'r Bil ar y gweill ddydd Iau, ac nid wyf eisiau gweld datganiad heddiw—sy'n ymwneud â gwasanaethau mamolaeth yng Nghwm Taf—yn mynd ar goll yn hynny. Bydd cyfle i edrych yn fanwl ar yr ymrwymiadau a roddwyd gennyf yn flaenorol ynghylch y dymuniad i gael canllawiau statudol a rhagdybiaeth o blaid ymweliadau. Ond ni ddylid drysu rhwng swyddogaeth y cynghorau iechyd cymuned ac ymweliadau dirybudd yr arolygiaeth, sydd wedi digwydd, ac wrth gwrs y darn mwy o waith thematig y maent yn ei wneud ar wasanaethau mamolaeth ar draws y wlad—edrychaf ymlaen at gyhoeddiad hwnnw yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Ond, nid oedd yr hyn a ddigwyddodd yn digwydd cymaint o dan drwynau pobl pan oedd pobl yn ymwybodol ohono, yr her oedd bod hyn yn digwydd yn y dirgel ac o olwg y rhai a oedd yn gwneud penderfyniadau a'r bwrdd, ac mae hynny'n sicr yn un o'r pethau yr ydym ni wedi eu dysgu am y rheolaeth honno o ran nifer cyfyngedig o bobl yn y sefydliad. Diolch. Rydym ni wedi cael siaradwyr o bob un o'r prif bleidiau. A gaf i ofyn i'r ddau siaradwr nesaf grynhoi eu cyfraniadau, ac a all y Gweinidog hefyd grynhoi ei atebion ychydig, ac wedyn ni fyddwn ni ymhell ar ei hôl hi? Mick Antoniw. Mick Antoniw AC: Gweinidog, mae'r rhan fwyaf o'r sylwadau yr oeddwn eisiau eu gwneud eisoes wedi'u gwneud, ac rydych chi wedi ateb y rhan fwyaf ohonynt. Dim ond un pwynt sydd, yn amlwg, yn peri pryder, sef y cyfeiriadau at y diwylliant o gosbi sy'n bodoli yn y gwasanaethau mamolaeth. Wrth gwrs, mae'n rhywbeth sydd wedi bod yn destun sôn a phryder ers cryn amser. Ac rydych chi'n dweud yn eich datganiad, wrth gwrs, eich bod wedi cyfarfod â staff. Mae newid y diwylliant hwnnw yn gwbl sylfaenol i lwyddiant y gwaith o lwyr wyrdroi sut mae'r gwasanaethau mamolaeth yn gweithio, a chyflawni hynny. Tybed pa drafodaethau ydych chi efallai wedi'u cael, er enghraifft, gyda'r undebau llafur sy'n cynrychioli'r staff hynny a beth fu'r adborth gan y staff, a sut ydych chi'n gwerthuso'r cynnydd? Oherwydd yn yr adroddiad, mae'n dweud bod ymdeimlad o hyd bod y diwylliant o fewn y gwasanaeth yn dal i fod yn un sy'n cosbi. Mae'n sôn am waith sy'n mynd rhagddo, ac wrth gwrs mae'n cydnabod bod newid mewn diwylliant yn cymryd amser, ond gwaith sydd ar y gweill yw hyn i raddau helaeth. Ond mae'n ymddangos i mi mai dyma un o'r pwyntiau craidd am newid, tybed sut yr ydych chi'n gwerthuso ac yn monitro'r agwedd benodol honno. Vaughan Gething AC: Mae hwnnw'n sylw sydd nid yn unig yn deg, ond yn un pwysig, a rhan o'n her ni ynghylch dymuno ffeirio diwylliant o gosbi am un sy'n dysgu yw cydbwyso hynny â galwadau'r bobl am atebolrwydd, boed ar y brig, neu yn y canol, neu ar waelod sefydliad hefyd. Felly, mae ofn y caiff pobl eu cosbi os byddant yn sôn am eu pryderon—mae hynny'n rhan o'r hyn a barodd i hyn gael ei guddio—ac mae'n ymwneud wedyn â'n gallu i dorri drwy hynny. Mae hefyd, er hynny—. Pan edrychwch chi ar yr adroddiadau gan fenywod a theuluoedd a'r ffordd yr oedd rhai wedi cwyno am y modd y cawsant eu trin, roedd angen mewn gwirionedd ymrafael â'r diwylliant cyffredinol hwnnw oedd yn bodoli mewn rhai rhannau o'r tîm staff ac i chwalu rhywfaint ohono. Roedd hynny'n anodd oherwydd bod y staff hynny, pan gawsant eu symud, yn teimlo bod yna weithredu yn eu herbyn a'u bod yn cael eu cosbi. Felly, nid yw'n syml, ond rwy'n credu bod y cyfarwyddwr nyrsio yn arbennig wedi ymyrrydi wneud y peth priodol, o ran newid rhai o'r patrymau rota ac o ran yr arweinyddiaeth ar werthoedd ac arferion hefyd. Mae'n bendant yn cynnwys undebau llafur, yn enwedig Coleg Brenhinol y Bydwragedd ac Unsain fel y ddau undeb llafur mwyaf, ac maent yn trafod yn uniongyrchol â'r bwrdd iechyd i geisio newid a gwella rhywfaint o hyn. Yn sicr, daeth hynny i'r amlwg yn y cyfarfodydd staff a gefais. Roedd yn newid sylweddol, o ddicter a siom a rhai pobl ddim yn teimlo balchder yn eu gwisg, i ragolwg llawer, llawer gwell gan y staff eu hunain. Felly, mae rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud, ond mae angen gwneud mwy. Vikki Howells AC: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Mae'n sicr yn awgrymu y bu peth cynnydd o ran unioni pethau yng ngwasanaethau mamolaeth Cwm Taf Morgannwg. Rwyf hefyd yn ddiolchgar iawn eich bod wedi ymgysylltu â menywod a theuluoedd a chyda staff, gan gynnwys teuluoedd o'm hetholaeth fy hun, sydd wedi ymgysylltu â'r fath urddas yn y broses er mwyn ceisio sicrhau nad oes unrhyw deuluoedd eraill yn profi'r math o golled y maen nhw wedi'i dioddef. Byddant yn gwybod pwy ydynt, gan fy mod yn sôn amdanynt yma heddiw, ac rwy'n parhau i gydymdeimlo'n ddwys iawn â nhw a'r holl deuluoedd eraill yr effeithiwyd arnynt. Fe wnaethoch chi sôn am y broses adolygu clinigol, ac rwy'n cytuno ei bod hi'n bwysig iawn y clywir llais y teulu yn rhan o hyn. Rwy'n gwybod y bu rhai pryderon ynghylch ail-archwilio cofnodion er mwyn i ni fynd i wraidd yr hyn a aeth o'i le. Pa sicrwydd allwch ei roi o ran hynny'n benodol? Sylwaf hefyd ar eich sylwadau ynghylch disgwyl gwelliannau cyflym a chynaliadwy yn yr ymateb i bryderon a chwynion cleifion, a hoffwn ategu hynny'n gryf. Pan fyddaf yn codi materion gwaith achos gyda'r bwrdd iechyd ar amrywiaeth o bethau, nid dim ond materion mamolaeth, rwy'n synnu'n aml faint o amser y gall ei gymryd i ymateb i gwynion, heb sôn am eu datrys. Yn eich barn chi, beth yn union fyddai'r gwelliannau yn y broses hon? A oes unrhyw enghreifftiau o arferion gorau gan fyrddau iechyd o ran ymdrin â chwynion? A sut caiff hyn ei fonitro fel y gellir nodi unrhyw dueddiadau neu batrymau? Vaughan Gething AC: O ran y sylw am gwynion, rydych chi yn llygad eich lle, a soniais yn gynharach am gefnu ar ddull amddiffynnol o wneud pethau. Rwy'n gwybod, a minnau'n Aelod etholaeth, pan ddeuthum i'r fan yma gyntaf, fod yr ymateb gan y swyddogaeth gwynion ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro yn wahanol iawn, o ran prydlondeb ond hefyd o ran ansawdd ymatebion. Rwy'n credu'n llwyr fy mod, fel Aelod etholaeth nawr, yn cael ymateb llawer gwell gan y bwrdd iechyd nag a gefais ar y dechrau—ac nid yw hynny'n ymwneud â'r newid yn fy sefyllfa yn y Llywodraeth, rwy'n credu ei fod yn ymwneud mewn gwirionedd â'r ffordd y mae'r bwrdd iechyd yn ymdrin â'r cwynion hyn nawr. Yn sicr, nid yw'r gwelliant yn y swyddogaeth gwynion sy'n digwydd yng Nghwm Taf wedi'i gwblhau, ond mae ymarfer o fewn y GIG i edrych ar hynny ac i ddysgu o hynny eisoes. Ond yn arbennig, elfen bwysig o hyn yw'r teuluoedd hynny sydd wedi mynd drwy'r broses eisoes ac sydd wedi cael canlyniad, hyd yn oed fel yr ydym ni nawr, gan sicrhau nad yw hynny'n rhwystro bwrdd iechyd rhag ymddiheuro. Ymhell o fod yn wahoddiad i gamau cyfreithiol, yn aml, dyna'r hyn y mae teuluoedd yn chwilio amdano. Nid yw'n effeithio ar y prawf ar dorri dyletswydd gyfreithiol ai peidio, ond mae'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r teuluoedd pan dderbyniant ohebiaeth sydd yn ymddangos yn fwy agored ac yn ymddiddori ynddyn nhw a'u profiad, yn hytrach na rhywbeth sy'n ymddangos yn llym ac yn gyfreithiol ei naws—a dywedaf hynny a minnau'n gyn-gyfreithiwr. O ran eich sylw am y profiad teuluol, mae hyn yn wirioneddol bwysig ei ailadrodd. Bydd y profiad teuluol yn un o elfennau cyntaf y broses adolygu clinigol. Felly, bydd pobl yn cael cyfle priodol i adrodd eu hanes ac yn cael cymorth i wneud hynny. Dyna ran o'r rheswm pam yr ydym ni wedi rhoi adnoddau ychwanegol i gynghorau iechyd cymuned. Ac ni fydd y broses honno yn ystyried y nodiadau yn unig, gan fod a wnelo rhai o'r cwynion sydd gan deuluoedd â'u cred nad yw'r hyn sydd yn y nodiadau yn gywir a bod hynny'n rhan o'r hyn sy'n cael ei herio yn rhywfaint o'r broses gyfreithiol sy'n mynd rhagddi. Ond hefyd, bydd yr ohebiaeth ynghylch y gofal hwnnw hefyd yn rhan o'r hyn y mae'r broses adolygu clinigol yn ei ystyried. Felly, ni fydd yn unig yn fater o ddarllen nodiadau clinigol a derbyn y cynnwys fel gwirionedd pur; bydd cyfle i gleifion adrodd eu stori. Oherwydd bod rhywfaint o hyn yn ymwneud â'r ffordd y mae pobl wedi teimlo yn ystod y broses, ac ni allwch chi ddirnad hynny o'r nodiadau yn unig bob tro. Rwy'n credu ei bod hi hefyd yn bwysig dweud, yn y broses adolygu clinigol, ar ôl yr haen gyntaf o adolygiadau sy'n digwydd, bod cyfle o hyd i hunangyfeirio. Maen nhw bellach wedi cytuno ar y ffordd y gall pobl sy'n pryderu am eu gofal eu cyfeirio eu hunain ac yna cael penderfyniad, sy'n cynnwys y panel annibynnol, ynghylch a fyddan nhw'n derbyn adolygiadau ar gyfer pryderon mwy hirsefydlog hefyd. Ond fe hoffwn i orffen, Llywydd, drwy gytuno â'r sylw a wnaeth Vikki Howells am urddas teuluoedd—rwy'n rhyfeddu at yr urddas y mae pobl wedi'i ddangos—ond hefyd y loes barhaus a'r effaith y mae'n ei chael heddiw. Diolch yn fawr, Gweinidog. 5. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Canfasiad Blynyddol) (Diwygio) (Cymru) 2020 Eitem 5 ar yr agenda y prynhawn yma yw Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Canfasiad Blynyddol) (Diwygio) (Cymru) 2020, a galwaf ar yDirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig y cynnig. Hannah Blythyn. Cynnig NDM7230 Rebecca Evans Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Canfasiad Blynyddol) (Diwygio) (Cymru) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Rhagfyr 2019. Cynigiwyd y cynnig. Hannah Blythyn AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch heddiw o gael dod â chynnig gerbron i gymeradwyo Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Canfasiad Blynyddol) (Diwygio) (Cymru) 2020. Mae'r canfasiad blynyddol presennol ar gyfer etholwyr yn hen ffasiwn ac yn feichus, mae'n ddrud ac yn gymhleth i'r swyddog cofrestru etholiadol ei weinyddu a gall arwain at ddryswch i'n dinasyddion. O gofio hyn, rydym wedi gweithio gyda llywodraethau'r Alban a'r DU i foderneiddio a symleiddio'r canfasiad blynyddol er mwyn sicrhau ei fod yn addas i'r diben ar draws y cenhedloedd ar gyfer pob un o'n hetholiadau. Mae'r gwaith hwn yn rhan o ystod o ddiwygiadau etholiadol, gan gynnwys ymestyn yr etholfraint ar gyfer etholiadau datganoledig a gyflawnwyd yn rhannol gan Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020, a fydd yn cael ei gwblhau gan Fil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru). Bydd Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) hefyd yn cynnwys rhai darpariaethau pwysig eraill sydd â'r nod o wella cofrestru pleidleiswyr yn yr hirdymor, megis cofrestru ar gyfer ceisiadau, sydd weithiau yn cael ei alw'n cofrestru awtomatig, a'r opsiwn i greu cronfa ddata Cymru gyfan o wybodaeth cofrestru etholiadol. Ynghyd â'r newidiadau yn y canfasiad blynyddol a gyflwynir gan y rheoliadau hyn, bydd ein diwygiadau etholiadol yn cydweithio i foderneiddio'r prosesau cofrestru yn ogystal â gwella effeithlonrwydd a phrofiad pleidleiswyr. Gyda'i gilydd, maen nhw'n cynrychioli newid sylweddol yn ein system etholiadol ac yn ein rhaglen eang o waith. Amcanion y diwygiadau canfasiad yw gwneud y broses yn symlach ac yn gliriach i ddinasyddion, rhoi mwy o ddisgresiwn lleol i swyddogion cofrestru etholiadol a diogelu cywirdeb ac uniondeb y gofrestr etholiadol. Bydd y diwygiadau canfasiad hyn hefyd yn mynd i'r afael â'r gost ychwanegol a gynhyrchir drwy gofrestru etholiadol unigol ac yn gwella cywirdeb ein cofrestr etholiadol. Wrth i'r fasnachfraint ehangu i gynnwys pobl 16 ac 17 oed a dinasyddion tramor cymwys, mae'n hanfodol sicrhau cywirdeb ac uniondeb parhaus y gofrestr etholiadol i'r eithaf. Mae'r gymuned etholiadol yng Nghymru wedi cyflawni ei chyfrifoldebau cofrestru ac ethol i safonau uchel iawn yn gyson. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae wedi bod o dan amgylchiadau anodd iawn. Mae cadernid ein hetholiadau yn barhaus, diolch i'r gymuned bwysig hon o weithwyr proffesiynol, a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i gofnodi ein diolch am eu gwaith caled a'u hymroddiad parhaus. Felly, anogaf yr Aelodau yma i gymeradwyo'r cynnig hwn er mwyn inni barhau i ddwyn prosesau etholiadol i mewn i'r unfed ganrif ar hugain a helpu ein democratiaeth i ffynnu. Diolch. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Mick Antoniw. Mick Antoniw AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Ystyriwyd y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod ar 13 Ionawr a gosodwyd ein hadroddiad gerbron y Cynulliad ar 14 Ionawr. Cododd ein hadroddiad un pwynt rhinweddau o dan Reol Sefydlog 21.3. Gwnaethom nodi a chroesawu'r wybodaeth drylwyr a ddarparwyd ym memorandwm esboniadol y rheoliadau. Hefyd, fe wnaethom nodi sut y mae'r rheoliadau, a osodwyd ar 10 Rhagfyr 2019, yn dibynnu ar Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) (Gorchymyn) 2019. Ni ddaeth y Gorchymyn hwn i rym tan 18 Rhagfyr 2019. Cytunasom ei bod yn briodol gosod y rheoliadau hyn cyn gwneud y Gorchymyn adran 109 er mwyn rhoi digon o amser i'r Cynulliad graffu arnynt. Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch. Y Dirprwy Weinidog i ymateb i'r ddadl, neu a ydych yn hapus? Hannah Blythyn AC: Hapus i symud ymlaen. Hapus. Iawn. Y cynnig yw bod y cynnig yn cael ei gytuno. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 6. Cyfnod Pleidleisio Nid oes gennym unrhyw eitemau i bleidleisio arnynt yn y cyfnod pleidleisio. Cyn i ni symud i'r ddadl Cyfnod 3 ar Fil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru), byddaf yn atal y Trafodion tan 17:40. Felly, dyna chwe munud. A dydyn ni ddim yn canu'r gloch felly mae'n rhaid i reolwyr busnes wneud yn siŵr bod eu Haelodau i gyd i mewn. Felly, am 17:40, byddwn yn ailymgynnull ar gyferCyfnod 3 y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru). Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:34. Ailymgynullodd y Cynulliad am 17:40, gyda'r Llywydd yn y Gadair. 7. Dadl: Cyfnod 3 y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) Dwi'n ailgychwyn y sesiwn, a dyma ni'n cyrraedd Cyfnod 3 y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru). Grŵp 1: Dyletswydd i hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd (Gwelliannau 1, 2, 3, 4, 5) Rydym ni'n trafod yn gyntaf grŵp 1 o welliannau, ac mae'r grŵp cyntaf o welliannau yn ymwneud â'r ddyletswydd i hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd. Gwelliant 1 yw'r prif welliant yn y grŵp yma, a dwi'n galw ar Janet Finch-Saunders i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant yma a'r gwelliannau eraill yn y grŵp—Janet Finch-Saunders. Cynigiwyd gwelliant 1 (Janet Finch-Saunders). Janet Finch-Saunders AC: Diolch, Llywydd. Rwy'n siarad am welliannau 1 i 5, sy'n ymwneud â'r ddyletswydd i hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd. Wrth gwrs, fe wnaethom ni gyflwyno'r gwelliannau hyn yng Nghyfnod 2 gyda'r farn, gan fod hwn yn ddarn o ddeddfwriaeth mor ddadleuol gydag effeithiau pellgyrhaeddol ar rieni cyffredin, sydd fel arall yn parchu'r gyfraith, bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru barhau â'i hymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd y tu hwnt i Gydsyniad Brenhinol y Bil. Unwaith eto, er gwaethaf bwriad y Bil i atal math penodol o ymddygiad, byddwn yn dadlau na allai goblygiadau posib dileu'r amddiffyniad o gosb resymol fod yn fwy arwyddocaol. Mae hyn yn gwneud rhieni yn agored i gosbau troseddol, yn hytrach na throseddau sifil llai, fel yn achos y gwaharddiad ar ysmygu, sy'n golygu, i rieni a theuluoedd, y gallai hyn arwain at gofnodion troseddol parhaol, difetha cyfleoedd cyflogaeth ac o bosib gwahanu. Felly, rhaid i ymwybyddiaeth gyhoeddus fod yn elfen ganolog o weithrediad y Bil. Felly, gwelliannau 1 a 5: gan droi at welliant 1, yng Nghyfnod 2, sicrhaodd y Dirprwy Weinidog y pwyllgor y byddai ymgyrchoedd ymwybyddiaeth gyhoeddus y tu hwnt i Gydsyniad Brenhinol y Bil, ac felly roedd hi'n credu nad oedd angen y gwelliant hwn. Nawr, os yw Llywodraethau Cymru yn y dyfodol i adrodd ar effeithiolrwydd a goblygiadau'r Bil i'r Cynulliad, yna siawns nad yw ymwybyddiaeth gyhoeddus yn ganolog i lwyddiant y Bil o ran newid ymddygiad a dylai'r Llywodraeth hefyd ei ystyried ar y cyd. Mae'n wir nad oes terfyn amser ar gyfer y gwelliant hwn, ond nid ydym yn disgwyl i hyn gael ei weithredu'n barhaus ac yn ddiddiwedd. Bwriad gwelliant 1 yw sicrhau bod y Cynulliad, wrth asesu a chael mewnbwn yng ngweithrediad y Bil, yn gallu dod i gasgliad ynghylch pa mor ymwybodol yw'r cyhoedd o oblygiadau'r Bil ac a oes angen i Lywodraethau Cymru yn y dyfodol fynd ymhellach yn eu hymgyrchoedd eu hunain. Yn ystod hynt Bil yr Alban, nododd rhanddeiliaid a roddodd dystiolaeth gerbron y Pwyllgor Cydraddoldebau a Hawliau Dynol, ar wahân i ymgyrchoedd ymwybyddiaeth y cyhoedd adeg gweithredu'r ddeddfwriaeth, fod yn rhaid cydnabod hefyd, gan fod pobl yn dod yn rhieni drwy'r amser, bod rhaid cael ymrwymiad parhaus i ymgyrchu ynghylch ymwybyddiaeth. Mae hwn yn bwynt rhagorol mewn gwirionedd sy'n dangos yn glir yr angen am ymgyrch ymwybyddiaeth barhaus. Nid yw rhianta'n dod i ben adeg Cydsyniad Brenhinol Bil, ac nid yw'n dod i ben chwe blynedd yn ddiweddarach. Dirprwy Weinidog, credaf mai eich dyletswydd chi yw cael y cyhoedd yng Nghymru ar eich ochr chi, yn hytrach na chreu awyrgylch o elyniaeth ac ymwrthedd, ac mae ymwybyddiaeth gyhoeddus barhaus yn hanfodol er mwyn i chi gyrraedd y nod hwnnw. Er i'r Bil hwn gael ei osod ger ein bron am flwyddyn fwy neu lai, mae'r adborth a gawsom yn hynod negyddol. Dangosodd ymgynghoriad y pwyllgor nad oedd bron i ddwy ran o dair o'r ymatebwyr yn cefnogi'r Bil hwn. Dangosodd arolwg y Ceidwadwyr Cymreig eu hunain fod 79 y cant o'r ymatebwyr yn erbyn y gwaharddiad, gyda sylwadau'n cynnwys y canlynol: 'Ni ddylai'r wladwriaeth ddweud wrth bobl sut i fod yn rhiant. Mae Deddfau ar waith eisoes',ac 'Nid oes angen gwneud rhieni'n droseddwyr. Mae effaith yr heddlu yn mynd â rhiant oddi ar blentyn yn cael mwy o effaith ar y plentyn na chaiff smacen fechan.' Janet Finch-Saunders AC: Mae cryfder barn o'r fath yn awgrymu bod angen i Lywodraeth Cymru wneud llawer mwy o waith i gael derbyniad i'r syniad hwn y tu allan, wrth gwrs, i'r cylchoedd proffesiynol arferol. Mae gwelliant 5 yn ymestyn yr ymgyrch codi ymwybyddiaeth i ymwelwyr â Chymru. Yng Nghyfnod 2, fe wnes i amlinellu, er i brif erlynydd y Goron ddweud, nid yw anwybodaeth ynghylch y gyfraith yn amddiffyniad, y byddai mwy o achosion yng Nghymru yn pasio'r cam tystiolaethol nag yn Lloegr, gan godi materion yn ymwneud ag ymwybyddiaeth o droseddu ymhlith pobl o Loegr sy'n teithio i Gymru. At hynny, er fy mod yn croesawu'n fawr ohebiaeth y Dirprwy Weinidog â'r grŵp gweithredu strategol a'i hymrwymiad i ystyried codi ymwybyddiaeth ymwelwyr â Chymru, byddwn yn ddiolchgar pe bai'n ateb cwestiwno bryder a godais yng Nghyfnod 2. Yn fy araith i'r pwyllgor, holais y Dirprwy Weinidog am y dewisiadau y bydd yn eu hystyried gyda'r grŵp gweithredu strategol, yn benodol ynghylch ymwelwyr â Chymru. Felly, rwy'n annog yr Aelodau i ystyried y gwelliant hwn yn ofalus a chefnogi'r ystyr y tu ôl iddo, fel nad yw rhieni yn y dyfodol yn cael eu rhoi dan anfantais gan y Bil hwn. Gwelliant 2. Wrth siarad am welliant 2, mae hwn yn ymwneud â gwybodaeth sydd ar gael i rieni am ddewisiadau eraill heblaw cosb gorfforol. Addawodd y Dirprwy Weinidog y byddai'n sicrhau bod grwpiau sy'n anos eu cyrraedd yn cael yr wybodaeth hon, ond credwn y byddai dyletswydd i ddarparu gwybodaeth am ddewisiadau amgen i gosb gorfforol yn gwarantu cynnal ymgyrch codi ymwybyddiaeth lwyddiannus. Felly, cefais fy siomi bod y Dirprwy Weinidog wedi gwrthod fy nadleuon yng Nghyfnod 2. Anghytunaf â'i dadleuon ei hun a gyflwynwyd sef y byddai meddylfryd y grŵp arbenigwyr rhianta am ymgyrchoedd yn y dyfodol yn cael ei gyfyngu gan y gwelliant hwn. Sut? Bwriedir i hyn fod yn adeiladol ac mae'n annhebygol iawn y byddai unrhyw grŵp arbenigol neu Lywodraeth Cymru yn y dyfodol yn anghytuno â'r angen i ddangos i rieni y gefnogaeth sydd ar gael iddynt, fel nad ydynt yn defnyddio cosb gorfforol. Yn ystod y dystiolaeth, cododd rhanddeiliaid bryderon dwys ynghylch grwpiau o rieni a allai fod yn llawer anos eu cyrraedd. Clywsom hefyd fod pecyn cymorth presennol Llywodraeth Cymru, 'Magu plant. Rhowch amser iddo' yn druenus o annigonol, yn methu â chyrraedd croestoriad hanfodol o gymdeithas Cymru oherwydd ei fod ar gael ar-lein yn unig. Gyda'r gwelliant hwn, nid ydym yn rhoi gormod o bwyslais ar rai grwpiau o rieni, Dirprwy Weinidog; rydym ni eisiau cynnwys pawb. Mae'r asesiad effaith rheoleiddiol diweddaraf wedi dweud bod ystod oedran 'Magu plant. Rhowch amser iddo', yn cael ei ehangu ac yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, dynodwyd oddeutu £30,000 mewn gwirionedd i ddatblygu adnoddau newydd. Felly, a wnaiff y Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae hyn yn mynd yn ei flaen ac a yw'r dulliau ar gael nawr i bobl sydd heb fynediad i'r rhyngrwyd? Yn olaf, mae'n rhaid imi bwysleisio wrth yr Aelodau yma heddiw nad yw'r gwelliant hwn yn ceisio sicrhau Bil cyfyngedig mwy cymhleth, ond rydym eisiau rhywfaint o fewnbwn fel Senedd i'r modd y sicrheir yr ymwybyddiaeth o waharddiad ar smacio. Deddf y Cynulliad fydd hon, nid Llywodraeth Cymru, os caiff ei phasio yng Nghyfnod 4. Felly, anogaf y Dirprwy Weinidog ac Aelodau i ystyried sut yr eglurwn i'n hetholwyr ledled Cymru ynghylch sut y byddant yn codi ymwybyddiaeth rhieni o oblygiadau'r Bil. Gan droi at welliant 3, o ran gwelliant 3, mae hwn yn sicrhau bod y cyhoedd yn cael gwybodaeth am yr hyn y gallant ei wneud os gwelant rywbeth. Credaf nad yw geiriau ailadroddus y Dirprwy Weinidog yng Nghyfnod 2 yn dweud fod diogelu yn fusnes i bawb yn lleddfu ein pryderon. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod aelodau'r cyhoedd yn ddigon hyderus i deimlo eu bod nhw wedi barnu sefyllfa arbennig yn gywir. A barnu yw'r gair allweddol yma. Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i bawb fod yn ddigon medrus i weld y byddai digwyddiad yn bendant angen ymyrraeth yr heddlu neu'r gwasanaethau cymdeithasol. Dim ond ar ôl ymweliad gan yr heddlu neu'r gwasanaethau cymdeithasol y gellid penderfynu ar y cyd-destun. Erbyn hynny, wrth gwrs, gallai'r difrod fod wedi ei wneud eisoes. Janet Finch-Saunders AC: Yn eu tystiolaeth, roedd Conffederasiwn GIG Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe yn pryderu nad yw memorandwm esboniadol y Bil yn rhoi digon o eglurder ynghylch y diffiniad o ymddygiad derbyniol ar ôl cael gwared ar yr amddiffyniad, a allai arwain at fwy o atgyfeiriadau. Felly, rwy'n credu felly bod angen i'r Dirprwy Weinidog ail-ystyried ei sylwadau blaenorol mai cyfrifoldeb yr unigolyn yw gwneud yr hyn y mae'n credu sy'n briodol yn y sefyllfa honno, oherwydd, a bod yn blwmp ac yn blaen, osgoi cyfrifoldeb yw hynny. Nid oedd yr atebion a gawsom ni yng Nghyfnod 2 yn fy sicrhau y byddai unigolion yn ddigon hyderus i wybod beth i'w wneud pe byddent yn gweld neu'n clywed fod plentyn yn cael ei gosbi'n gorfforol. Os yw'r Dirprwy Weinidog o'r farn mai penderfyniad yr unigolyn ydyw, yna mae'n ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y rhai sy'n rhoi gwybod am ddigwyddiadau yn gwbl ymwybodol a ddylent fod yn gwneud hynny ai peidio, ac a ydynt yn gwneud pethau'n well neu'n waeth i'r plentyn. Fel arall, os nad yw hyn yn wir, dylai Llywodraeth Cymru egluro, os caiff amddiffyniad cosb resymol ei ddileu, na ellir amddiffyn cosb gorfforol mewn cyfraith droseddol. Felly, byddai'n rhaid i'r cyhoedd ei adrodd ni waeth beth fo'r amgylchiadau. Felly, unwaith eto, gofynnaf i'r Aelodau ystyried hyn yn ofalus iawn a chefnogi ein gwelliant. Gwelliant 4: Rwyf wedi ail-gyflwyno gwelliant 4 gan fy mod yn teimlo na chawsom ni ymateb llawn na boddhaol gan y Dirprwy Weinidog ynghylch hybu ymwybyddiaeth o'r gwaharddiad ar smacio ymhlith plant eu hunain a phobl ifanc. Er fy mod i yn parchu addewidion y Dirprwy Weinidog yng Nghyfnod 2, af yn ôl at y pwynt bod y gwelliant hwn yn seiliedig ar argymhelliad gan y pwyllgor. Beth yw diben cael pwyllgorau os anwybyddwn eu hargymhellion? Y rheswm am hyn oedd nad oeddem yn fodlon ar atebion y Dirprwy Weinidog o ran sut y cai'r gwaharddiad ar smacio ei ddysgu yn y cwricwlwm newydd. Ni allaf dderbyn y byddai amcanion y Bil ond yn cael eu hystyried fel rhan o ddatblygu'r cwricwlwm newydd. Mae arnom ni angen ymateb clir gan y Dirprwy Weinidog a'r Gweinidog Addysg ynghylch sut y mae hyn yn mynd i weithio. Bydd y ddeddfwriaeth hon yn rhagflaenu deddfwriaeth y cwricwlwm, felly ni allwn ni fod yn sicr y bydd yn cael ei chynnwys ym mhob ysgol. Cyfaddefodd y Dirprwy Weinidog hefyd na fyddai'r cwricwlwm newydd yn cael ei gynllunio i fanylu ar restrau manwl o bynciau ar gyfer athrawon, felly gallai hyn olygu bod y gwersi ymwybyddiaeth yn amrywio o ysgol i ysgol, gan arwain o bosib at wybodaeth dameidiog o'r gyfraith a'i goblygiadau. Croesawaf y memorandwm esboniadol sydd wedi'i ddiweddaru ac sy'n esbonio bod gwaith yn cael ei wneud i ystyried amcanion y ddeddfwriaeth wrth ddatblygu'r cwricwlwm newydd, ond mae yn nodi bod ymarferwyr sy'n datblygu'r meysydd dysgu a phrofiad yn dal i ddarllen yr adborth ac yn ystyried sut y gellir mireinio'r canllawiau. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe bai'r Dirprwy Weinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y gwaith maen nhw'n ei wneud ar hyn o bryd, yn ogystal ag amserlen er mwyn i'r Cynulliad gael gweld y canllawiau hyn. Yn ystod trafodaethau Cyfnod 2, ni wnaeth y Dirprwy Weinidog ymateb i'm cwestiynau penodol yn llwyr, felly byddwn yn ddiolchgar felly pe bai'r Dirprwy Weinidog yn ateb y canlynol heddiw: Dirprwy Weinidog, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y trafodaethau yr ydych chi'n eu cael gyda'r Gweinidog Addysg i ymgorffori addysgu unffurf ar wahardd smacio yn y cwricwlwm newydd? Hefyd, a wnewch chi roi gwybod sut y dysgir plant mewn modd cytbwys am y gwaharddiad ar smacio? A hefyd, sut mae'r Dirprwy Weinidog yn mynd i'r afael â'r risgiau a wynebir gan blant iau nad ydynt yn gallu mynegi eu pryderon? Ac wrth gwrs, ni chafodd y rhain eu cynnwys yn asesiad y Bil o'r effaith ar gydraddoldeb. O gofio bod y Dirprwy Weinidog yn ceisio amddiffyn hawliau'r plentyn drwy'r Bil hwn, mae'n briodol i Aelodau'r Cynulliad gael gwybod sut y caiff plant eu hunain eu haddysgu yn y dyfodol. Felly, galwaf ar bob Aelod i gefnogi'r gwelliant hwn. Gan ddod â'r gyfres hon o welliannau ar godi ymwybyddiaeth i ben, hoffwn orffen gyda'r sylw hwn, a wnaed mor fedrus gan fy nghyd-Aelod Suzy Davies AC yng Nghyfnod 2. Dywedodd, oni bai fod rhai o'r gwelliannau hyn yn cael eu derbyn gan Aelodau o Senedd Cymru, y sefyllfa gyda'r Bil hwn yw na fydd gennym ni ronyn o ddylanwad dros gynnwys ymgyrch i godi ymwybyddiaeth. Felly, anogaf yr Aelodau i ystyried y gwelliannau hyn yn ofalus cyn bwrw eu pleidlais. Diolch. Helen Mary Jones AC: Codaf i siarad yn y ddadl hon ar ran fy nghyd-Aelod Siân Gwenllian, sydd yn anffodus yn sâl ac yn methu bod gyda ni heddiw. Ond rwyf hefyd yn codi fel unigolyn sydd wedi ymgyrchu dros 25 mlynedd i sicrhau'r newid hwn. Ac mae hyn, wrth gwrs, wedi bod yn fater a drafodwyd droeon yn y Cynulliad hwn, ymhell cyn inni gael y pŵer, ac yr oedd yr ewyllys yno. Wel, nawr mae gennym yr ewyllys a'r pŵer. Siaradaf am y grŵp hwn o welliannau ac yna sôn yn fyr am safbwynt ein grŵp ar y lleill, ond gwnaf rai sylwadau cyffredinol byr i ddechrau. Nid yw hyn yn golygu gwneud newid dramatig yn y ffordd y mae'r gyfraith yn gweithio ar hyn o bryd. Ar hyn o bryd, mae'n amhosib i deulu ddefnyddio'r amddiffyniad o gosb resymol os yw plentyn wedi'i daro a bod marc wedi'i adael. Mae hon yn gyfraith anodd iawn i'w gorfodi, oherwydd bod pobl yn wahanol o ran sensitifrwydd. Rwy'n digwydd bod yn un sy'n cleisio'n hawdd iawn, felly pe bai fy rhieni wedi rhoi smacen imi, byddent wedi mynd i lawer mwy o drafferthion na phe bai nhw wedi rhoi smacen i fy mrawd mawr nad yw byth yn dangos marc nac yn cleisio o gwbl. Felly, mewn gwirionedd mae'n anodd iawn i rieni wybod beth sy'n cael ei ganiatáu o dan y gyfraith bresennol. Nid ydym yn y ddadl hon ychwaith yn awgrymu chwyldro mewn arferion rhianta, oherwydd y gwir amdani yw bod yr holl arolygon barn a'r holl ymchwil bellach yn awgrymu mai dim ond lleiafrif o rieni sy'n parhau i ddefnyddio cosb gorfforol, a bod y rhan fwyaf o'r rhai sy'n gwneud hynny, pan fyddant yn cael eu holi amdano, yn dweud eu bod yn gwneud hynny yn eu tymer, eu bod yn difaru, a dydyn nhw ddim mewn gwirionedd yn credu ei fod wedi dysgu fawr ddim i'r plant. Felly, er fy mod yn derbyn bod gan yr Aelodau gyferbyn rai pryderon gwirioneddol, ac rwy'n credu ei bod hi'n briodol ein bod yn eu gwyntyllu ac yn eu trafod, rwy'n credu mewn gwirionedd bod angen i ni ddeall, er bod y newid y mae'r Llywodraeth yn ei gynnig drwy'r ddeddfwriaeth hon yn bwysig, nid yw mor fawr ag y mae rhai ohonom ni efallai yn teimlo ei fod ef. Rwy'n deall, wrth droi at y grŵp hwn o welliannau, fod angen gwneud y cyhoedd yn ymwybodol o newid yn y gyfraith. Mae'n rhaid i mi ddweud, rwy'n credu bod ymrwymiad y Llywodraeth ar hyn yn sylweddol. Dydym ni ddim fel arfer yn cael ymgyrchoedd gwybodaeth enfawr i'r cyhoedd pan fyddwn ni'n newid y gyfraith. Rydym yn disgwyl i bobl wybod bod y gyfraith wedi newid. Ond pan fyddwn ni weithiau'n cynnig newid sy'n cael dylanwad mawr ar arferion pobl, o bosib, yna mae'n briodol eu gwneud yn ymwybodol o'r newid. Ond dydw i ddim yn credu mai wyneb y Bil yw'r lle priodol ar gyfer hyn. Dydym ni ddim fel arfer yn rhoi'r mathau hyn o bethau ar wyneb Bil. [Torri ar draws.] Gwnaf, wrth gwrs. Darren Millar AC: Dim ond ar y pwynt penodol yna, wrth gwrs, gwnaethom benderfyniad i roi'r math hwn o eitem ar wyneb y Bil o ran cyfraith rhoi organau, a oedd unwaith eto'n ddarn arwyddocaol o ddeddfwriaeth a fyddai'n effeithio ar fywydau llawer o bobl. Rwy'n credu ei bod hi'n gwbl briodol ein bod yn cymryd ymagwedd debyg gyda hyn, o ystyried mai dyna safbwynt polisi'r Llywodraeth, ac, wrth gwrs, maen nhw wedi bod yn dadlau yn gynharach heddiw y dylid rhoi safbwyntiau polisi ar wyneb Bil. Helen Mary Jones AC: Gallech ddilyn y trywydd yna. Byddwn i'n dadlau bod y newid yn y gyfraith ar roi organau mewn gwirionedd yn llawer mwy o ran ei ddylanwad ar arferion pobl na hyn. Ond wedi dweud hynny, mae'r Llywodraeth—os edrychwn ni ar y dystiolaeth, ac mae'r darn mwyaf diamwys o dystiolaeth yn y gyllideb. Mae gennym ni ddywediad yn Gymraeg, 'diwedd y gân yw'r geiniog'. Ac mae'r Llywodraeth yn ymrwymo, yng nghyllideb ddrafft eleni, i ymgyrch £600,000 i godi ymwybyddiaeth. Rwy'n ymwybodol, ac rwy'n ddiolchgar i'r Dirprwy Weinidog am ei gwybodaeth yn hyn o beth, eu bod yn ymgynghori â grwpiau ffocws, gyda phobl o gymunedau lleiafrifol, pobl o grwpiau ffydd, i sicrhau bod y negeseuon yn cael eu cyfleu yn y ffordd fwyaf priodol i bob rhiant a allai fod eu hangen. Nid wyf yn gweld yr anghenraid, felly, i'w gael ar wyneb y Ddeddf. Byddwn, yn fy nghyfraniad yma, yn gofyn i'r Gweinidog roi sicrwydd inni, wrth gwrs, y bydd yr wybodaeth hon ar gael yn ddwyieithog, ond byddwn yn erfyn ar i'r dyluniad fod yn ddwyieithog o'r dechrau, ac i'r wybodaeth yn y Gymraeg fod yn fwy na chyfieithiad o'r wybodaeth Saesneg yn unig, dim ond oherwydd bod hynny'n eithaf lletchwith fel arfer. Rhaid imi ddweud, Llywydd, pan gyflwynwyd deddfwriaeth gyffelyb yng Ngweriniaeth Iwerddon, nid oedd y Llywodraeth yno'n teimlo bod angen gwneud unrhyw fath o godi ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd, gan fod y ddadl wedi cael sylw helaeth yn y wasg, ac roedd pawb yn ymwybodol o'r newid yn y gyfraith. O'm safbwynt personol i, gallaf feddwl am bethau eraill y byddai'n fuddiol i'r Llywodraeth eu gwneud gyda'u £600,000, ond credaf y dylai'r meinciau gyferbyn gydnabod yr ymrwymiad y mae'r Gweinidog yn ei ddangos yn hyn o beth. Trof yn fyr at y grwpiau eraill o welliannau, er y dychwelaf atynt ar yr adeg briodol. Grŵp 2, am ofynion adrodd, unwaith eto, credaf fod y Llywodraeth yn hael wrth gytuno i dderbyn hyn; nid yw'n arferol, o anghenraid, gosod ar wyneb deddfwriaeth ddwy amserlen wahanol ar gyfer adrodd yn ôl, ond credaf, wrth wneud hynny, fod y Dirprwy Weinidog yn cydnabod bod pryderon gwirioneddol, a bod angen inni sicrhau bod y ddeddfwriaeth hon yn gweithio'n effeithiol ac nad oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol. Eto, grŵp 3, mewn cysylltiad â chyllid digonol, wel, byddwn yn dweud, ac rwy'n credu mai dyma safbwynt y Llywodraeth, ei bod hi'n annhebygol y bydd llawer mwy o gostau, oherwydd ni fyddwn yn gweld lluoedd a lluoedd o rieni'n mynd drwy systemau na fyddent fel arall yn mynd trwyddyn nhw, ond os oes costau ychwanegol, mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i'r cyrff cyhoeddus priodol gwrdd â'r rheini, ac, unwaith eto, nid ydym yn gweld yr angen i roi hyn ar wyneb y Bil. Mae'r gwelliant yng ngrŵp 4 yn ddiangen, oherwydd, wrth gwrs, gall y Cynulliad hwn bob amser ddiwygio neu ddiddymu deddfwriaeth os bydd y mwyafrif ohonom yn penderfynu ei bod yn amhriodol. Ac o ran y pumed grŵp o welliannau, gwelliant 10, effaith y gwelliant hwn, pe baem yn ei basio, fyddai rhoi yn nwylo cyrff sydd heb eu datganoli—er cymaint y byddem yn dymuno i'r cyrff cyfiawnder troseddol hyn gael eu datganoli, byddai'n rhoi yn nwylo'r cyrff sydd heb eu datganoli y pŵer i benderfynu pryd neu a ddylid gweithredu'r darn hwn o ddeddfwriaeth. Nawr, mae'n fater, Llywydd, i'r Siambr hon, ac nid i mi ei ddweud efallai, a yw hyn yn fwriadol ar ran y Ceidwadwyr—rydym ni wedi gweld enghreifftiau ohonynt yn ymddangos fel petaen nhw eisiau dadwneud datganoli. Mae'r materion hyn, Llywydd, yn amlwg wedi'u datganoli, a dyna sut y dylent aros. Wrth gwrs, mae'n briodol i Lywodraeth Cymru gyd-drafod â'r cyrff cyfiawnder troseddol priodol nad ydynt wedi'u datganoli a chyda'r heddlu i sicrhau bod y ddeddfwriaeth hon yn cael ei gweithredu'n briodol; nid yw hi'n briodol caniatáu i'r Swyddfa Gartref benderfynu a gaiff ei gweithredu o gwbl. Llywydd, edrychaf ymlaen at weddill y ddadl hon. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog, Julie Morgan. Julie Morgan AC: Diolch yn fawr iawn. A gaf i ddechrau drwy ddiolch i Aelodau'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am graffu ar y Bil hwn, ac i'r Aelodau am ystyried y ddeddfwriaeth bwysig iawn hon? Mae'r Bil hwn yn un syml, gyda diben clir iawn: ei nod yw dileu amddiffyniad cosb resymol. Mae'n dileu'r amddiffyniad i drosedd sy'n bodoli eisoes, nid yw'n creu trosedd newydd, ac mae'n ceisio rhoi'r un maint o amddiffyniad i blant rhag cosb gorfforol ag oedolion. Rwyf wedi ystyried yn ofalus gwelliannau 1 i 5, sy'n ymwneud â'r ddyletswydd i godi ymwybyddiaeth. Fel y gwyddoch chi, mae'r Bil eisoes yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i godi ymwybyddiaeth, ac rwyf wedi ymrwymo'n llwyr i wneud hynny. Mae gwelliant 1 yn cyflwyno cyfeiriad at ddealltwriaeth y cyhoedd, a chredaf—yn fy marn i—nad yw'n ychwanegu dim at y Bil. Bydd codi ymwybyddiaeth yn un agwedd ar ein hymdrechion i roi gwybod i'r cyhoedd, gan gynnwys rhieni, am y newid yn y gyfraith. Rydym ni eisoes yn darparu pecyn cymorth eang i rieni, sy'n cynnwys 'Magu Plant. Rhowch amser iddo' yn ogystal â Dechrau'n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf a'n gwasanaeth ymwelwyr iechyd cyffredinol. Rydym yn ymgysylltu ag amrywiaeth eang o weithwyr proffesiynol sy'n darparu'r gwasanaethau wyneb yn wyneb hyn i rieni, gan gynnwys drwy ein grŵp gweithredu arbenigol ar rianta, sydd wedi'i sefydlu yn rhan o'n grŵp gweithredu. Mae'n amlwg bod ganddynt swyddogaeth allweddol o ran sicrhau bod rhieni'n ymwybodol o'r newid yn y gyfraith a sut y gallant ddefnyddio dulliau cadarnhaol o reoli ymddygiad. Mae ein strategaeth gyfathrebu yn cynnwys ymarfer cynhwysfawr i ymgysylltu â rhanddeiliaid, a fydd yn digwydd cyn gweithredu'r strategaeth. Bydd hyn yn cynnwys amrywiaeth eang o sefydliadau ac unigolion sy'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd yng Nghymru. Cyflwynodd Janet Finch-Saunders y cynnig hwn am ddyletswydd codi ymwybyddiaeth benagored, ac fe'i trafodwyd a'i wrthod yng Nghyfnod 2, ac nid yw fy marn ynghylch hynny wedi newid. Ond gadewch imi eich sicrhau, os caiff y gyfraith hon ei phasio, y bydd y negeseuon am y newid yn y gyfraith yn cael eu hymgorffori'n llwyr i'r ohebiaeth y mae rhieni yn ei chael gan weithwyr iechyd a gweithwyr proffesiynol eraill ac mewn ystod eang o adnoddau rhianta, gan gynnwys yr adnoddau gwybodaeth newydd i rieni sy'n disodli 'Bwmp, Babi a Thu Hwnt', a roddir i bob menyw feichiog a rhieni newydd. Rwyf wedi ymrwymo'n llwyr i godi ymwybyddiaeth, a diolchaf i Helen Mary Jones am ei sylwadau. Mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo'n llwyr i godi ymwybyddiaeth ac wedi cytuno i ymgyrch codi ymwybyddiaeth amlwg a phenodol. Os caiff y Bil hwn ei basio, bydd yr ymgyrch yn para am o leiaf chwe blynedd a bydd yn cael ei fireinio yn seiliedig ar ymchwil reolaidd, gan gynnwys graddau ymwybyddiaeth a newidiadau mewn agwedd. Felly, yn fy marn i, nid oes angen dyletswydd barhaus sy'n cyfeirio'n benodol at y newid yn y gyfraith. Mae'r memorandwm esboniadol sydd wedi'i ddiweddaru yn nodi ein cynlluniau i godi ymwybyddiaeth gyda phlant, gan gynnwys ein bwriad i ymgynghori â chynrychiolwyr pobl ifanc. Yn yr un modd, gan nodi'n benodol y pynciau y mae angen ymdrin â hwy yn yr ymgyrch codi ymwybyddiaeth, a awgrymir yng ngwelliannau 2 a 3, nid wyf yn credu bod hynny ar gyfer wyneb y Bil. Fodd bynnag, gadewch imi eich sicrhau, y mae cynllun clir a fydd yn sicrhau bod yr ymgyrch yn effeithiol ac yn cael ei gwerthuso'n briodol. Hefyd, na foed i ni anghofio'r gwasanaeth gwybodaeth i deuluoedd ym mhob awdurdod lleol, ein hymgyrch 'Magu plant. Rhowch amser iddo', a gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda rhieni, ac maen nhw eisoes yn cyfeirio rhieni i'r cymorth sydd ar gael. Mae'r holl faterion hyn yn cael eu hystyried gan y grŵp gweithredu arbenigol ar rianta ac ni ddylid cyfyngu ar eu syniadau mewn unrhyw fodd gan fanylebau ar wyneb y Bil. Mae gennym ni ddyletswydd i gynnal ymgyrch ymwybyddiaeth, ond nid wyf yn credu bod angen yr holl fanylion hyn arnom ni ar wyneb y Bil. Nid yw'r Bil hwn yn creu trosedd newydd. Yn y cyd-destun hwn, nid yw'n gwneud synnwyr i gynnwys darpariaeth sy'n ei gwneud hi'n ofynnol darparu gwybodaeth am sut y gall unigolyn godi pryderon os yw'n ymddangos iddynt fod plentyn wedi cael ei gosbi'n gorfforol. Ac rwy'n ailadrodd: mae diogelu yn gyfrifoldeb ar bawb. Fel ar hyn o bryd, mae gan y cyhoedd ran i'w chwarae wrth dynnu sylw at wasanaethau perthnasol os ydynt yn pryderu am blentyn. Nid yw'r Bil hwn yn newid hynny. Yn fy marn i, nid yw'n ddefnyddiol tynnu sylw at agweddau penodol ar godi ymwybyddiaeth ar draul rhai eraill. Credaf y dylai fod hyblygrwydd i addasu a theilwra'r ymgyrch codi ymwybyddiaeth, gan gynnwys ystyried gwaith ymchwil sy'n mynd rhagddo, a bydd gwerthuso yn rhan annatod o'r ymgyrch hon. Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn dod o hyd i'r ffordd orau o gyfathrebu ag unigolion, teuluoedd, grwpiau a chymunedau gan y bydd angen iddynt i gyd fod yn ymwybodol o'r newid hwn yn y gyfraith. Gwybodaeth, codi ymwybyddiaeth: bydd yr wybodaeth yn cael ei chynnwys yn yr adnoddau a ddarperir i rieni yn rhan o ddatblygiad proffesiynol parhaus. Felly, byddwn yn gwneud yn siŵr bod y caiff yr holl wybodaeth hon ei lledaenu'n eang iawn. Dydw i ddim yn credu bod angen tynnu sylw grwpiau penodol, fel ymwelwyr â Chymru. Bydd hyn yn cael ei gynnwys yn ein holl ohebiaeth. Yn wir, rwy'n gwybod y bu aelodau'r Senedd yn mynegi barn mewn erthyglau mewn gwahanol rannau o'r wasg, ac rwy'n credu bod hynny'n dda iawn, oherwydd ei fod hefyd yn tynnu sylw at hyn. Rwyf eisoes wedi dweud ein bod yn estyn allan at grwpiau anodd eu cyrraedd, a soniodd Janet Finch-Saunders am y rhai nad ydynt yn defnyddio'r rhyngrwyd. Rydym ni eisoes yn darparu gwybodaeth mewn trafodaethau wyneb yn wyneb, cymorth ac mewn deunydd printiedig. Rwyf yn credu bod angen i ni ymddiried yn y cyhoedd, fel y gwnawn ni ar hyn o bryd. Ac mae pobl yn gwneud penderfyniadau nawr ynghylch a ddylid codi pryderon gyda'r gwasanaethau cymdeithasol a'r heddlu. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod yn sicrhau bod rhieni'n cael eu cyfeirio at leoedd y gallant gael cymorth, cefnogaeth a chyngor ar rianta cadarnhaol, a dyma'r hyn yr ydym yn ei ddatblygu gyda'r grŵp gweithredu. Mae gennym ni ymrwymiad a brwdfrydedd gwych yn y grwpiau gweithredu. Ni allaf feddwl mewn gwirionedd am waith mwy ymdrechgar y mae ein swyddogion yn ei wneud, gan—[torri ar draws.] Iawn, yn sicr. Neil McEvoy AC: Rwy'n gwrando arnoch chi yna yn sôn am amddiffyn plant, ac rwyf wedi bod yn dweud—gannoedd o weithiau ar gyfryngau cymdeithasol, yn y Siambr hon—fod plant yn honni eu bod yn cael eu cam-drin yn ddifrifol mewn cartrefi gofal preifat yng Nghymru ac nad oes neb yn gwrando arnyn nhw. Felly, rydym yn trafod hyn yn awr—pa un a yw hynny'n rhywbeth troseddol ai peidio. Rwy'n cael gwybod gan blant eu hunain, mewn gwirionedd, rhai ohonynt sydd wedi gadael gofal, y buont yn dioddef ymosodiadau mewn gofal ac nad oes dim yn cael ei wneud. Mae pawb bron yn dawel yn y Siambr hon, ac rydym ni'n trafod hynny. Julie Morgan AC: Rydym yn trafod cael gwared ar yr amddiffyniad o gosb resymol yma heddiw, ac os gallaf fynd ymlaen dim ond i wneud sylwadau ar y cwricwlwm newydd, mae canllawiau'r cwricwlwm yn glir: dylai dysgwyr ddatblygu dealltwriaeth o'r ystod o hawliau cyfreithiol ac amddiffyniadau sydd ganddyn nhw. Byddwn yn sicrhau bod hynny'n digwydd wrth i'r cwricwlwm gael ei ddatblygu. Felly, anogaf yr Aelodau i wrthod y gwelliannau a gynigiwyd gan Janet Finch-Saunders, gan nad wyf yn credu eu bod yn ddefnyddiol o ran yr hyn y mae angen i'r ddyletswydd codi ymwybyddiaeth, sy'n bodoli eisoes, ei sicrhau. Galwaf ar Janet Finch-Saunders i ymateb i'r ddadl. Janet Finch-Saunders AC: Diolch, Llywydd. Os caf ddweud ar y dechrau, cyn imi ddechrau fy rhan nesaf, rwy'n ceisio bod o gymorth. Mae hyn yn mynd i basio; gwyddom eisoes lle mae'r pleidleisiau heddiw o ran Llafur a Phlaid Cymru. Fodd bynnag, rhan o'm swyddogaeth yn Aelod Cynulliad wrth graffu yw herio hefyd, ac rwyf fi, yn fy ffordd fy hun, yn ceisio bod o gymorth. Nawr, nid yw'r hyn yr wyf yn gofyn amdano yn amhriodol. Mae enghreifftiau o ddyletswydd benagored o ran ymwybyddiaeth i'w gweld yn y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru), a'r dyletswyddau a roddir ar y cyrff iechyd ac awdurdodau lleol i hybu ymwybyddiaeth o'r corff llais dinasyddion arfaethedig. Nid oes dim i awgrymu bod hyn yn gyfyngedig o ran amser. Felly, nid oes rheswm pam na ellid bod wedi ymdrin â'r Bil hwn yn y ffordd honno mewn gwirionedd. Rwy'n dal i gredu bod ymgyrch i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd yn hanfodol. Yn Seland Newydd, canfu arolwg cenedlaethol fod hanner pobl Seland Newydd yn credu bod cyfraith 2007 yn erbyn taro plant wedi achosi dirywiad mewn disgyblaeth. Mae bron i 40 y cant o famau plant ifanc yn dweud eu bod wedi taro eu plentyn er gwaetha'r newid yn y gyfraith, ac roedd pôl piniwn Ymchwil y Farchnad Curia o 1,000 o ymatebwyr a holwyd eu barn ddechrau mis Rhagfyr hefyd wedi canfod bod teuluoedd incwm isel—63 y cant—yn llawer mwy tebygol o herio'r gyfraith. Dywedodd 70 y cant na fyddent yn rhoi gwybod am riant a welsant yn taro plentyn ar ei ben-ôl neu ar ei law, tra byddai 20 y cant yn gwneud hynny. Dywedodd 22 y cant o rieni â phlant ifanc fod eu plentyn wedi bygwth rhoi gwybod i'r awdurdodau pe baent yn cael eu taro. Dywedodd 15 y cant o rieni â phlant ifanc eu bod yn ymwybodol o deulu y cafodd y gyfraith effaith negyddol arnyn nhw, a dywedodd 17 y cant o rieni â phlant ifanc fod y gyfraith wedi eu gwneud yn llai hyderus fel rhieni; 21 y cant o dadau. Felly, dyna fy marn i, y gofynnaf i'r Aelodau ei chefnogi—. Ni allaf weld, yn fy meddwl fy hun—ac mae aelodau o'r cyhoedd wedi gofyn imi, pam y byddai yna unrhyw dawedogrwydd, ac os yw'r gyfraith hon yn mynd i gael ei chyflwyno, pam na fyddech chi mewn gwirionedd eisiau gwneud yr ymgyrch ymwybyddiaeth mor gryf ag y gallai fod, a thrwy hynny, rwy'n golygu ei rhoi ar wyneb y Bil. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Dwi'n symud i'r bleidlais, felly, ac yn agor y bleidlais ar welliant 1. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 1 wedi ei wrthod. Gwelliant 1: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0 Gwrthodwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Janet Finch-Saunders, gwelliant 2. A ydych chi'n cynnig? Cynigiwyd gwelliant 2 (Janet Finch-Saunders). Janet Finch-Saunders AC: Cynigiaf. Y cwestiwn yw: a ddylid gwelliant 2? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Dwi'n agor y bleidlais, felly, ar welliant 2. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi ei wrthod. Gwelliant 2: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0 Gwrthodwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Janet Finch-Saunders, gwelliant 3. Cynigiwyd gwelliant 3 (Janet Finch-Saunders). Janet Finch-Saunders AC: Cynigiaf. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 3? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, dwi'n agor y bleidlais ar welliant 3. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal,38 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 3 wedi ei wrthod. Gwelliant 3: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0 Gwrthodwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Janet Finch-Saunders, gwelliant 4. Cynigiwyd gwelliant 4 (Janet Finch-Saunders). Janet Finch-Saunders AC: Cynigiaf. Mae gwelliant 4 wedi ei symud. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 4? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, dwi'n agor y bleidlais ar welliant 4. Cau'r bleidlais. O blaid 15,neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 4 wedi'i wrthod. Gwelliant 4: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0 Gwrthodwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Gwelliant 5—Janet Finch-Saunders. Cynigiwyd gwelliant 5 (Janet Finch-Saunders). Janet Finch-Saunders AC: Cynigiaf. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 5? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, dwi'n agor y bleidlais ar welliant 5. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 5 wedi'i wrthod. Gwelliant 5: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0 Gwrthodwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Grŵp 2: Gofynion adrodd (Gwelliannau 6, 11) Daw hyn â ni at yr ail grŵp o welliannau, ac mae'r grŵp yma yn ymwneud â gofynion adrodd. Gwelliant 6 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Dwi'n galw ar Janet Finch-Saunders i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliannau yn y grŵp yma. Janet Finch-Saunders. Cynigiwyd gwelliant 6 (Janet Finch-Saunders). Janet Finch-Saunders AC: Diolch, Llywydd. Hoffwn droi yn awr at welliannau 6 ac 11 ar yr adolygiad ar ôl gweithredu, ond yn gyntaf hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Weinidog a'i thîm am ein cynorthwyo gyda'r gwelliannau hynny, fel y nodwyd yn ei llythyr dyddiedig 11 Rhagfyr at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Mae fy nghyd-Aelod Suzy Davies a minnau'n croesawu naws adeiladol ein trafodaeth â'r Dirprwy Weinidog. Yn ail, rwy'n croesawu'n fawr llythyr y Dirprwy Weinidog dyddiedig 11 Rhagfyr at y grŵp gweithredu strategol, a ofynnodd am farn y grŵp ar y gwelliannau a gyflwynais yng Nghyfnod 2 ynghylch cynnwys yr adolygiad ôl-weithredu, gan gynnwys nifer y bobl a gafodd eu herlyn am gosb gorfforol yng Nghymru; nifer yr adroddiadau i'r heddlu am achosion o gosbi plentyn yn gorfforol a oedd yn digwydd yng Nghymru; nifer yr adroddiadau a gyflwynwyd i adrannau gwasanaethau cymdeithasol ynghylch cosbi corfforol; costau a ysgwyddwyd gan awdurdodau datganoledig Cymru; a nifer y staff a gyflogir gan unrhyw awdurdod Cymreig datganoledig sydd wedi cael hyfforddiant o ganlyniad i'r Bil hwn. Felly, yn fyr, mae gwelliant 6 yn galluogi Gweinidogion Cymru i baratoi dau adroddiad ar effaith y newidiadau a ddaw yn sgil y Bil hwn a'u cyflwyno gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Bydd yr adroddiad cyntaf dair blynedd o ddechrau blwyddyn 1, a'r ail ar ôl pum mlynedd. Mae gwelliant 11 yn ganlyniadol ac yn dechnegol ei natur, gan ddarparu ar gyfer newidiadau oherwydd dileu ac amnewid adran 3 o'r Bil. Yng Nghyfnod 1, argymhellodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y dylid cysoni'r cyfnod adrodd â'r amserlen arferol ar gyfer craffu ar ôl deddfu, ond tair blynedd ar ôl cychwyn y ddeddfwriaeth. Felly, fel y mae hi ar hyn o bryd, byddai'r amserlen craffu ar ôl deddfu yn y Bil yn golygu na fyddai ei effaith yn cael ei asesu'n ffurfiol tan i saith mlynedd fynd heibio. Felly, rwy'n ddiolchgar bod y Dirprwy Weinidog, yn gwbl briodol, wedi cydnabod ein pryderon ni a phryderon y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol drwy ein trafodaethau yng Nghyfnod 3. Felly, rwy'n argymell i Aelodau gefnogi'r gwelliant hwn. Helen Mary Jones AC: Bydd grŵp Plaid Cymru yn cefnogi'r gwelliannau hyn. Yn bersonol, teimlaf fod y Llywodraeth wedi bod yn hael iawn wrth eu derbyn. Nid wyf yn rhagweld y bydd canlyniadau negyddol i'r Llywodraeth adrodd arnynt. Yn sicr, nid yw'r profiad yng Ngweriniaeth Iwerddon yn awgrymu hyn. Wrth ymateb i'r ddadl flaenorol, cyfeiriodd Janet Finch-Saunders at yr arolwg yn Seland Newydd. Wrth gwrs, dyna'n union oedd y bleidlais yn Seland Newydd—roedd yn arolwg barn a gomisiynwyd gan y grŵp ymgyrchu a oedd wedi ymgyrchu yn erbyn diddymu'r amddiffyniad o gosb resymol, ac mae tuedd hanesyddol gref yma, onid oes, Llywydd? Y mae tuedd bob amser, o amser Aristotle a Pliny, i fyfyrio ar y genhedlaeth iau na ni a'u gweld yn ymddwyn yn waeth nag yr oeddem ni. Anaml iawn y caiff hyn, wrth gwrs, ei gadarnhau gan y ffeithiau. Byddwn yn cyfeirio Aelodau at brofiad Iwerddon, lle nad oedd yr un o'r anawsterau a ragwelwyd wedi digwydd, ond gan fod y Llywodraeth yn barod i dderbyn y gwelliant hwn, a chan ei fod yn creu gwaith iddynt hwy ac nid i ni, bydd Plaid Cymru yn falch o gefnogi'r gwelliannau fel y maen nhw ar hyn o bryd, er y byddem, wrth gwrs, yn gobeithio mai ni fydd y Llywodraeth gyfrifol yn ystod rhywfaint o'r cyfnod adrodd. Y Dirprwy Weinidog, Julie Morgan. Julie Morgan AC: Diolch. Rwy'n croesawu'r gwelliant hwn, a pharodrwydd Janet Finch-Saunders a Suzy Davies i weithio gyda mi i ddod o hyd i ffordd ganol, mewn gwirionedd, o ran yr adolygiad ar ôl gweithredu. Rwy'n ddiolchgar i Janet am weithio gyda mi a'm swyddogion i ddrafftio'r gwelliant hwn, a diolchaf eto i Helen Mary Jones am ei chefnogaeth a chefnogaeth ei grŵp. Yn dilyn Cyfnod 2 a chyfarfod cynhyrchiol gyda'm cyd-Aelodau Ceidwadol, gallaf gadarnhau fy mod wedi ysgrifennu at y grŵp gweithredu strategol i ofyn iddynt ystyried dichonoldeb cynnwys materion a godwyd yn ystod Cyfnod 2 yn rhan o'r adolygiad ôl-weithredu. Bydd angen amser arnynt i ystyried y materion hyn yn drylwyr, felly byddwn yn disgwyl cael ymateb cychwynnol dros yr haf. Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor am eu hymateb. Roedd yn amlwg o'r argymhellion a wnaed gan y pwyllgorau yng Nghyfnod 1 eu bod yn rhannu fy marn am bwysigrwydd adolygiad ôl-weithredu o effaith diddymu'r amddiffyniad cosb resymol. Am y rheswm hwn, fe wnes i gyflwyno gwelliant Cyfnod 2 i gynnwys dyletswydd i gynnal adolygiad o'r fath ar wyneb y Bil, a gytunwyd. Ni fydd yr adolygiad ôl-weithredu o'r Bil hwn yn un darn o waith, ond yn rhaglen barhaus o waith yn ystod y blynyddoedd ar ôl cychwyn adran 1. Yn gyntaf, byddwn yn parhau i gynnal arolygon o agweddau, a ddefnyddir i olrhain newidiadau mewn agweddau tuag at gosbi plant yn gorfforol a nifer y rhieni sy'n dweud eu bod yn defnyddio cosb gorfforol. Bydd yr arolygon hefyd yn cael eu defnyddio i fonitro effeithiolrwydd ein hymgyrch codi ymwybyddiaeth. Ac yna, yn ail, drwy grŵp gorchwyl a gorffen penodedig, rydym yn gweithio gyda sefydliadau i sefydlu trefniadau i bennu dulliau cadarn o gasglu data ystyrlon sy'n ymwneud â'r Bil ac i ystyried yr effaith bosibl ar wasanaethau. Mae'r grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o'r sefydliadau canlynol: yr heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron Cymru, Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd Cymru, Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlys ei Mawrhydi, cyfarwyddwyr addysg, cyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol a phlant a rhwydwaith diogelu'r GIG. Mae hwn yn grŵp brwdfrydig iawn, sy'n gweithio'n galed iawn ar y mater hwn. Felly, rwy'n cefnogi'r gwelliant hwn a'r gwelliant canlyniadol. Janet Finch-Saunders i ymateb i'r ddadl. Janet Finch-Saunders AC: Dim ond i symud i'r bleidlais. Ocê. Ymateb, felly. Os gwrthodir gwelliant 6, bydd gwelliant 11 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 6? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly derbynnir gwelliant 6 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Grŵp 3: Dyletswydd i sicrhau cyllid digonol (Gwelliannau 7, 8) Grŵp 3 yw'r trydydd grŵp o welliannau, sydd yn ymwneud â dyletswydd i sicrhau cyllid digonol. Gwelliant 7 yw'r prif welliant yn y grŵp yma, a dwi'n galw ar Janet Finch-Saunders i gynnig y prif welliant ac i siarad i'r gwelliannau—Janet Finch-Saunders. Cynigiwyd gwelliant 7 (Janet Finch-Saunders). Janet Finch-Saunders AC: Gan droi at welliannau 7 ac 8 ar ddyletswydd i sicrhau cyllid digonol ar gyfer awdurdodau datganoledig, dygwyd y rhain ymlaen o Gyfnod 2, pan amlinellais ein bod yn dal i bryderu am y costau posib i awdurdodau datganoledig Cymru yn ogystal â'r diffyg costau mesuradwy yn asesiad effaith rheoleiddiol y Bil. Er bod gwelliant 7 yn cyfeirio at gostau a delir gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd, nodaf fod gwelliant 8 yn mynd â hyn ymhellach drwy gynnwys awdurdodau datganoledig eraill nad ydynt yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru. Gan ragweld ymateb y Dirprwy Weinidog y byddai'r Bil dim ond yn effeithio ar ychydig o dan y categori hwn, os o gwbl, rydym yn dilyn egwyddor yn hyn o beth, a'r hyn a geisiwn yw i'r Dirprwy Weinidog a'r Aelodau sy'n bresennol heddiw gytuno ar yr egwyddor o ddarparu cyllid digonol. Rwy'n derbyn dadl y Dirprwy Weinidog yng Nghyfnod 2 nad oedd rhai o'r tystion yn credu y byddai'r elfen o gost yn fawr iawn, er i mi ddangos tystiolaeth groes o ran hynny yn flaenorol. Nid ydym wedi cyrraedd y pwynt o hyd lle gallwn ddweud yn ffyddiog na fydd hyn yn effeithio ar ein gwasanaethau cyhoeddus. Diolchaf hefyd i'r Dirprwy Weinidog am ddarparu'r asesiad effaith rheoleiddiol diweddaraf cyn trafodion Cyfnod 3 heddiw, ac eto, cyfaddefodd y Dirprwy Weinidog i Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg mewn llythyr dyddiedig 7 Ionawr ei bod yn dal yn methu â llunio amcangyfrif cyflawn ar gyfer atgyfeiriadau o ran cosb gorfforol ar lefel Cymru gyfan. Nawr, mae hyn yn hanfodol er mwyn darganfod y gost i'n gwasanaethau cyhoeddus. Nodaf yn benodol nad oedd tîm y Dirprwy Weinidog ond yn gallu dangos amcangyfrifon ar gyfer tri—ie, tri—o'r 22 awdurdod lleol, ac roedd y ffigurau hynny hyd yn oed yn llawn amodau. Felly, rwyf yn dal yn ochelgar ynghylch yr effeithiau posibl y gallai'r Bil eu cael ar gyllidebau cyrff cyhoeddus sydd eisoes yn gyfyngedig, a dyna pam y cyflwynais y ddau welliant eto. Mae'r Dirprwy Weinidog wedi dweud o'r blaen y gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru bob amser ddadlau dros gael arian ychwanegol drwy'r broses pennu cyllideb, ac y bydd blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru yn y dyfodol yn newid. Mae'r ymateb hwn yn fy mhoeni'n fawr. Yn y bôn, os bydd Llywodraeth Cymru yn pleidleisio yn erbyn awgrym cyllideb ynghylch cyllid ychwanegol neu fod eu blaenoriaethau gwariant yn newid, yna cyrff cyhoeddus eu hunain fydd yn gorfod ysgwyddo'r baich a'r costau a fydd yn deillio o addewid gan Lywodraeth Cymru. [Torri ar draws.] Iawn. Mike Hedges AC: Rydych chi wedi sôn am y costau ychwanegol. Beth am yr arbedion a all ddigwydd drwy osgoi'r niwed seicolegol y gall plant ei ddioddef yn sgil cael eu taro, a beth am yr arbedion y gellir eu gwneud o ran atal rhieni rhag dechrau taro plentyn yn ysgafn ac o bosib symud ymlaen i'w taro'n galetach? Janet Finch-Saunders AC: Wel, o ran hynny, rwy'n credu, pe byddech chi wedi bod yn rhan o'r dadleuon drwy'r Cyfnodau i gyd, un o'r dadleuon croes yw y gall plant ddioddef niwed seicolegol mawr iawn yn sgil rheolaeth drwy orfodaeth a mathau eraill o gosbi sy'n cael effaith ar eu hiechyd meddwl a'u lles. Felly, dydw i ddim wir eisiau cytuno ynglŷn â'r effaith seicolegol pan fo plentyn yn cael yr hyn y mae llawer o rieni'n ei ystyried yn gosb resymol. Yn olaf, tynnaf sylw'r Aelodau at dystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a ddywedodd yng Nghyfnod 1 fod yn rhaid cael: ymrwymiad y caiff y costau hynny eu talu, beth bynnag yw'r costau, oherwydd ei bod yn ddeddfwriaeth y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn arwain arni. Rydym yn amau mai dyma fel bydd hi. Felly, rwy'n argymell cefnogi'r gwelliant hwn. Helen Mary Jones AC: Er ein bod yn derbyn bod y pryderon y mae'r Aelod yn eu codi yn rhai gwirioneddol, rydym yn methu â gweld lle mae'r dystiolaeth sy'n dangos bod cyrff cyhoeddus yn debygol o wynebu pwysau ariannol ychwanegol gwirioneddol sylweddol o ganlyniad i'r ddeddfwriaeth hon. Cyfeiriaf yr Aelodau gyferbyn eto at enghraifft Gweriniaeth Iwerddon, lle nad oedd pwysau ychwanegol ar wasanaethau cyhoeddus. Nawr, wrth gwrs, rydym newydd gytuno i welliannau y bydd y ddeddfwriaeth, os caiff ei phasio yn y pen draw, yn sicrhau bod proses adrodd ar effaith y ddeddfwriaeth. Rwy'n gwbl sicr, os bydd y broses adrodd honno'n cyflwyno tystiolaeth sy'n dangos bod pwysau sylweddol ar ein gwasanaethau cyhoeddus, na fydd ein gwasanaethau cyhoeddus yn oedi cyn rhoi pwysau ar bwy bynnag yw Llywodraeth Cymru wedyn i sicrhau bod yr adnoddau ychwanegol angenrheidiol ar gael. Gwyddom fod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, onid ydym, yn effeithiol iawn, iawn o ran sicrhau eu bod yn codi pryderon os oes pwysau ychwanegol. Felly, nid ydym yn barod i gefnogi'r gwelliannau hyn, oherwydd rydym yn credu bod y pwysau ychwanegol a ragwelwyd yn annhebygol iawn o ddigwydd, ac oherwydd nad ydym yn credu beth bynnag ei bod yn well gwneud y mathau hyn o benderfyniadau cyllidebol ar wyneb darn o Ddeddfwriaeth. Os yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru'n anghywir, cyfrifoldeb y Siambr hon yw eu dwyn i gyfrif am hynny a cheisio'u hargyhoeddi i newid eu meddyliau. Os byddwn yn gosod gofynion cyllidebol penodol mewn darnau penodol o ddeddfwriaeth, yna bydd gofynion cyllidebol eraill na fydd Llywodraethau Cymru yn y dyfodol yn gallu eu bodloni o bosibl. Felly, er fy mod yn derbyn y gallai pryderon Janet Finch-Saunders fod yn ddidwyll, nid wyf yn credu bod y pryderon hynny yn seiliedig ar dystiolaeth ddigonnol ac, ar y sail honno, ni fyddwn yn cefnogi'r gwelliannau hyn. Y Dirprwy Weinidog, Julie Morgan. Julie Morgan AC: Diolch. Gallaf ddeall bod yr Aelod yn pryderu am effeithiau'r Bil hwn ar wasanaethau cyhoeddus, a derbyniaf yn llwyr fod hynny'n bryder gwirioneddol. Fodd bynnag, fe welwch chi o'r memorandwm esboniadol sydd wedi'i ddiweddaru, ac o'r llu o ddatganiadau effaith a gyhoeddwyd gyda'r Bil, ein bod wedi gwneud gwaith trwyadl a diwyd iawn o ystyried effeithiau posibl y Bil hwn, cyn ei gyflwyno ac yn ystod y broses graffu. Ac, fel y dywedodd Helen Mary Jones, nid oedd Iwerddon yn gwneud dim o'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud mewn gwirionedd, a, hyd y gwn i, nid oes yr un wlad arall wedi gwneud mwy na ni i ystyried effeithiau deddfwriaeth debyg neu i baratoi ar gyfer gweithredu mewn modd mor gynhwysfawr. Buom yn gweithio fel lladd nadroedd i wneud popeth y gallwn ni i baratoi ar gyfer y ddeddfwriaeth hon. Archwiliwyd y data cyhoeddedig sydd ar gael o wledydd eraill ar effaith y mesurau a weithredwyd i wahardd cosbi plant yn gorfforol a buom yn trafod ag amrywiaeth eang o bobl yn Iwerddon, Seland Newydd a Malta, sydd â systemau tebyg i'n rhai ni. Ac, yn y gwledydd hyn, nid oes unrhyw dystiolaeth y llethwyd gwasanaethau cyhoeddus yn dilyn diwygio'r gyfraith. Ac mae rhanddeiliaid, yma yn y wlad hon wedi bod yn glir wrth roi tystiolaeth i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg—rwy'n siŵr y bydd Janet Finch-Saunders wedi clywed hyn—nad ydynt o'r farn y bydd costau ychwanegol, a chredaf y dylem ni ymddiried yn eu barn ar hyn. Fel y nododd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ei adroddiad Cyfnod 1, mae'r rhai sy'n darparu gwasanaethau yn y rheng flaen wedi dweud, yn ddieithriad, fod y Bil: yn gwella eu gallu i amddiffyn plant sy'n byw yng Nghymru oherwydd bydd yn gwneud y gyfraith yn glir. A dyna pam ein bod yn gwneud hyn. Dywedodd Sally Jenkins o Gymdeithas Cyfarwyddwyr y Gwasanaethau Cymdeithasol wrth y pwyllgor: O ran y trothwyon ar gyfer gwasanaethau plant, ni fyddem yn rhagweld cyfeirio nifer enfawr o achosion atom ni. Efallai y bydd nifer fach o atgyfeiriadau. Yr hyn a wyddom ni o genhedloedd eraill yw y bydd yn cyrraedd uchafbwynt ac yna bydd cysondeb. Rydym yn cydnabod bod hynny'n debygol o ddigwydd. Dywedodd Jane Randall, Cadeirydd y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol: Nid oes disgwyl y bydd cynnydd enfawr yn nifer yr achosion a gaiff eu cyfeirio at wasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol, rwy'n credu yr ymdrinnid â nhw o fewn eu hadnoddau presennol. Ac mae Dr Rowena Christmas, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, wedi dweud: Ni allaf weld y bydd yn ymestyn ymgynghoriadau. Ni allaf weld y bydd yn cynyddu nifer yr ymgynghoriadau, ac nid wyf yn credu y bydd yn cynyddu nifer yr atgyfeiriadau yr wyf yn eu gwneud i'r ymwelydd iechyd neu'r gwasanaethau cymdeithasol, oherwydd petawn i'n poeni, byddwn yn gwneud yr atgyfeiriadau hynny nawr, ni waeth beth fo'r Bil. A'r un oedd y stori, yn unfrydol, gan yr holl arbenigwyr sy'n gweithio ym maes gofal plant: nad ydynt yn disgwyl y bydd hyn yn arwain at gynnydd enfawr yn nifer yr atgyfeiriadau. A dywedodd y Seneddwr Gwyddelig Jillian Van Turnhout wrth nifer ohonom ni yr wythnos diwethaf, pan ymwelodd â'r fan yma: Mae gweithwyr proffesiynol yn Iwerddon yn teimlo bod y newid yn y gyfraith wedi dod ag eglurder. Mae wedi newid y berthynas rhwng gweithwyr proffesiynol a rhieni gan eu galluogi i siarad am yr hyn y gallant ei wneud yn hytrach na'r hyn na allant ei wneud. Ceir ymdeimlad y bu hyn yn ataliol oherwydd y gellir darparu cyngor a gwybodaeth yn gynharach. Nawr, mae'r Bil hwn yn dileu amddiffyniad i drosedd o ymosodiad cyffredin, sydd wedi ffurfio rhan o gyfraith gyffredin Cymru a Lloegr ers amser maith. Mae'r gwasanaethau cymdeithasol eisoes yn cael adroddiadau ac yn ymchwilio i adroddiadau am blant sy'n dioddef ymosodiad, gan gynnwys o adrannau iechyd ac addysg, felly nid yw hwn yn faes cwbl newydd o weithgarwch costus i unrhyw un ohonynt. Rydym ni'n gweithio gyda sefydliadau i roi trefniadau ar waith i gasglu data am yr effaith bosibl ar eu gwasanaethau. A chaiff hyn ei ddadansoddi yn rhan o'r adolygiad ôl-weithredu. Gallwn ystyried gyda'r sefydliadau perthnasol y ffordd orau o reoli unrhyw effaith ar lwyth gwaith neu adnoddau, ac unrhyw oblygiadau o ran cost. Felly, mae'r hyn sy'n cael ei gynnig y tu hwnt i'r trefniadau ariannu arferol sy'n gweithredu o fewn y Llywodraeth ac nid yw'n glir pam, yng nghyd-destun y dystiolaeth a glywyd yng Nghyfnod 1, fod angen darpariaethau o'r fath. Rwy'n siŵr y bydd Aelodau'n cytuno bod angen i lywodraethau'r dyfodol ystyried, yng nghyd-destun y broses pennu cyllideb, beth yw eu blaenoriaethau. A byddai angen gwneud yr ystyriaethau hyn yn y cyd-destun ar y pryd, er enghraifft, gan ystyried yr hyn sy'n digwydd mewn cysylltiad â Brexit neu unrhyw effaith arall nas rhagwelwyd ar economi neu wead cymdeithas yng Nghymru. Mae angen i Lywodraethau'r dyfodol allu gwneud y penderfyniadau hynny. At hynny, fel sy'n digwydd nawr, mae'r Senedd yn craffu ar gyllideb Llywodraeth Cymru bob blwyddyn, felly gallai ddadlau o blaid cyllid ychwanegol i gyrff cyhoeddus pe bai'n ystyried bod angen gwneud hynny. Ond rwy'n credu y dylem ni wrando ar yr holl bobl hynny sy'n gweithio yn y gwasanaethau a'r gwasanaethau cyhoeddus yr ydym yn sôn amdanynt, ac felly rwy'n annog Aelodau i wrthod y gwelliannau hyn, sy'n ddiangen yn fy marn i. Janet Finch-Saunders i ymateb i'r ddadl. Janet Finch-Saunders AC: Diolch, Llywydd. Hoffwn ddweud ar goedd, fel yr aelod etholedig dros Aberconwy, fod fy adran gwasanaethau cymdeithasol fy hun, yn enwedig o ran gweithio gyda theuluoedd, dan bwysau mawr, ac mae hynny'n amlwg o ganlyniad i ddiffyg setliad teg iddo. Gallaf ddweud wrthych chi, nid yw'n adlewyrchu'n dda ar y Siambr hon a ninnau ar fin pasio deddfwriaeth heb welliannau ar gost, o gofio mai dim ond tri o'r 22 awdurdod lleol y gofynnwyd iddynt am amcangyfrifon sydd wedi gallu ymateb. Rwy'n gweld hynny'n sefyllfa wan iawn i'r Llywodraeth Lafur hon sydd gan Gymru. Ond symudaf ymlaen i'r gwelliannau nawr, os gwelwch yn dda. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 7? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, dwi'n agor y bleidlais ar welliant 7. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 7 wedi'i wrthod. Gwelliant 7: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0 Gwrthodwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Gwelliant 8, Janet Finch-Saunders. Cynnig? Cynigiwyd gwelliant 8 (Janet Finch-Saunders). Janet Finch-Saunders AC: Cynigiaf. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 8? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, dwi'n agor y bleidlais ar welliant 8. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 8 wedi'i wrthod. Gwelliant 8: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0 Gwrthodwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Grŵp 4: Pwerau gwneud Rheoliadau yn y Bil (Gwelliant 9) Y grŵp nesaf o welliannau yw grŵp 4, a'r grŵp yma'n ymwneud â phwerau gwneud rheoliadau yn y Bil. Gwelliant 9 yw'r prif welliant, a'r unig welliant. Rwy'n galw ar Janet Finch-Saunders i gynnig gwelliant 9—Janet Finch-Saunders. Cynigiwyd gwelliant 9 (Janet Finch-Saunders). Janet Finch-Saunders AC: Diolch, Llywydd. Siaradaf am welliant 9, a gyflwynwyd hefyd gan fy nghyd-Aelod Suzy Davies yng Nghyfnod 2. Mae hwn yn diwygio adran 4 o ran y pwerau sydd gan Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau. Fel y dywedodd Suzy yng Nghyfnod 2, nid yw'r hyn sydd bellach yn adran 4 yn bŵer cychwyn ar wahân i adran 1, ac mae'n debygol y bydd angen pwerau rheoleiddio arnoch i gyflwyno'r adroddiadau i effeithiolrwydd y Bil yn ogystal â'r ymgyrch ymwybyddiaeth. Fe y mae wedi'i drafftio, mae'n bosibl na fydd adran 4 yn rhoi digon o bwerau i'r Dirprwy Weinidog yn ystod y Bil i gyflawni ei hamcanion. Fel y cyfryw, mae'r gwelliant hwn yn sicrhau gallu'r Cynulliad i gyflwyno unrhyw beth y dymuna'r Dirprwy Weinidog ei gyflwyno o dan adran 1 o'r Bil gerbron y Senedd hon. Yn ei hymatebion yng Nghyfnod 2, dywedodd y Dirprwy Weinidog fod y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi dod i'r casgliad na ddylid cael gweithdrefn Cynulliad, ac nad oedd angen pwerau ehangach yn ei barn hi. Er fy mod yn derbyn y pwyntiau hyn, nid ydym yn glir o hyd a fyddai'r ddarpariaeth y mae'n bwriadu ei chyflwyno yn fwy addas i weithdrefnau cadarnhaol neu weithdrefnau negyddol. Yn olaf, cadarnhaodd y Dirprwy Weinidog y byddai'n parhau i arolygu'r pwerau wrth nesáuat Gyfnod 3. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe bai'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau heddiw am ei barn am oblygiadau pwerau cyfyngedig, yn enwedig os oes cysylltiadau rhwng y Bil hwn a deddfwriaeth arall a allai fod angen pŵer ehangach. Helen Mary Jones AC: Y sefyllfa naturiol ar y meinciau hyn, wrth gwrs, yw ein bod wastad eisiau cadw llygad ar beth bynnag y mae'r Llywodraeth yn ei wneud. Yn hynny o beth, mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad â'r hyn y mae Janet Finch-Saunders yn ceisio'i gyflawni gyda'r gwelliant hwn, ond yn yr achos yma mae'n ymddangos yn ddianghenraid. Mae hyn yn ddiddymiad syml, nid yw hyn yn ddarn cymhleth o ddeddfwriaeth, ac os yw'r Dirprwy Weinidog yn fodlon bod hyn yn ddianghenraid, yna rydym yn fodlon ei chefnogi a pheidio â chefnogi'r gwelliant. Y Dirprwy Weinidog, Julie Morgan. Julie Morgan AC: Diolch. Mae'r gwelliant yn dechnegol ei natur ac roedd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn fodlon, yn hyn o beth, nad oedd yr un weithdrefn yn briodol. Nid yw'r ffaith nad oes gweithdrefn Cynulliad yn golygu na all Aelodau graffu ar benderfyniadau Gweinidogion mewn cysylltiad â phwerau trosiannol. Gallai unrhyw bryderon am gynigion Gweinidogion Cymru gael eu cyflwyno i mi yn y Senedd. Cyflëwyd hyn i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ac, fel y dywedais, eu casgliad terfynol oedd: nid oes unrhyw weithdrefn sy'n weithdrefn briodol ar gyfer pŵer o'r fath. Mae cyflwyno'r posibilrwydd o ddirymu yn anfon negeseuon cymysg i'n rhanddeiliaid allweddol pan fo sicrwydd wedi'i roi ar wyneb y Bil ynghylch pryd y bydd y newid yn y gyfraith yn dechrau. Oherwydd hyn, anogaf yr Aelodau i wrthod gwelliant 9 gan Janet Finch-Saunders, sy'n mynd yn groes i adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Janet Finch-Saunders i ymateb. Janet Finch-Saunders AC: Symud i'r bleidlais. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 9? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Agor y bleidlais felly ar welliant 9. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 9. Gwelliant 9: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0 Gwrthodwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Janet Finch-Saunders, gwelliant 11. A ydych chi'n cynnig gwelliant 11? Cynigiwyd gwelliant 11 (Janet Finch-Saunders). Janet Finch-Saunders AC: Cynigiaf. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 11? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir gwelliant 11. Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Grŵp 5: Cychwyn (Gwelliant 10) Grŵp 5 yw'r grŵp nesaf, y grŵp olaf o welliannau, sy'n ymwneud â chychwyn. Gwelliant 10 yw'r prif welliant, yr unig welliant. Dwi'n galw ar Janet Finch-Saunders i gyflwyno gwelliant 10. Cynigiwyd gwelliant 10 (Janet Finch-Saunders). Janet Finch-Saunders AC: Diolch, Llywydd. Gan droi at welliant 10, mae tair rhan i hyn: gohirio cychwyn adran 1, gan gynnwys diwygio canllawiau Gwasanaeth Erlyn y Goron; sefydlu llwybr amgen i ffwrdd o'r system cyfiawnder troseddol; a sefydlu cymorth rhianta. Mae'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog yn gyfarwydd â dadleuon y Ceidwadwyr Cymreig pan fu inni gyflwyno y rhain fel gwelliannau ar wahân yng Nghyfnod 2, ond credaf y dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru fod yn ymwybodol o'n rhesymeg y tu ôl i'r oedi. Rhaid imi ailadrodd y bydd y Bil hwn yn cael effeithiau pellgyrhaeddol, nid yn unig ar hawliau'r plentyn, ond hefyd ar fywydau eu rhieni. Mae'r Dirprwy Weinidog wedi dweud yn gyson yn ystod hynt ddeddfwriaethol y Bil bod arni eisiau i hyn ennyn newid mewn ymddygiad. Fodd bynnag, gallai fod wedi gwneud hyn drwy godi ymwybyddiaeth neu orfodi sifil, yn hytrach na gwneud rhieni'n destun atebolrwydd troseddol. Mae effeithiau posibl o fod yn destun y fath atebolrwydd mor ddifrifol a gallent gael effeithiau negyddol difrifol ar rieni, plant a theuluoedd, ac rwyf wedi amlinellu hynny o'r blaen yn fy ngwelliannau yng ngrŵp 1. Nid ydym yn argyhoeddedig y bydd cymorth rhianta wedi ei sefydlu'n briodol erbyn i'r Bil ddod i rym yn llawn. Rydym yn ymwybodol iawn yn y Siambr hon o'r defnydd tameidiog o Dechrau'n Deg, ac mae gwir angen i'r Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y cynnydd o ran capasiti a chyrhaeddiad Plant Iach Cymru, o ystyried y dywedwyd wrthym y cysylltwyd â dim ond ychydig dros hanner y plant o dan y cynllun. Dyna pam mae sefydlu ffordd amgen a chymorth rhianta cyn cyflwyno gwaharddiad ar smacio yn hanfodol. At hynny, mae cynnwys Gwasanaeth Erlyn y Goron a'r heddlu, drwy'r canllawiau diwygiedig ynghylch cyhuddo, yn achosi i ni grwydro ychydig i faterion a gadwyd yn ôl. Soniodd Suzy am hyn a'i nodi yng Nghyfnod 2. Mae dyletswyddau'r ddau gorff y tu allan i'n cymhwysedd ni. Felly, drwy basio'r Bil hwn heb weld y canllawiau hyn ymlaen llaw, byddem ni fel deddfwrfa ddatganoledig yn rhoi ystyriaethau difrifol, megis cydberthnasau teuluol, yn nwylo dau gorff nad ydynt wedi'u datganoli. A'i roi'n hollol syml, ni fyddai gennym ni reolaeth dros y canllawiau, a allai yn y pen draw fod yn gwbl anghymesur â'r hyn y mae'r Dirprwy Weinidog yn bwriadu ei wneud. Ac, yn y pen draw, y rhieni a'r teuluoedd fydd yn dioddef yn sgil polisi sydd heb ei ystyried yn drwyadl. Cyfaddefodd y Dirprwy Weinidog i'r pwyllgor nad oedd y grŵp gweithredu strategol ond yn y camau cynnar o drafod sut beth yn union fyddai natur y canllawiau hyn, gan olygu mai ni wedyn sy'n pasio darn o ddeddfwriaeth nad yw'n rhoi unrhyw reolaeth na mewnbwn ynghylch sut y gallai rhieni gael eu cosbi am smacio eu plant. Mae hynny'n wirioneddol frawychus. Rwy'n anghytuno'n llwyr â honiadau'r Dirprwy Weinidog y byddem yn rhoi pŵer i gorff nad yw wedi'i ddatganoli o ran y ffordd yr ydym yn deddfu yng Nghymru. Mae'r rhain yn welliannau wedi'u geirio'n ofalus iawn nad ydynt yn ceisio rhoi'r pŵer hwnnw. Ar y llaw arall, atgoffaf yr Aelodau fod Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn gosod cyfyngiadau ar ein gallu, heb ganiatâd Llywodraeth y DU, i orfodi, addasu neu ddileu swyddogaethau awdurdodau a gadwyd yn ôl. Felly, rhaid inni fod yn ofalus ynglŷn â chydsyniad y Goron. Yn hytrach, rydym yn ceisio sicrwydd y gall y Cynulliad weld ychydig ar y canllawiau cyhuddo cyn i'r Bil ddod i rym. Nawr, wrth gwrs, gellid osgoi canlyniadau posibl y camau hyn pe baech chi wedi penderfynu amddiffyn hawliau'r plentyn drwy orfodaeth sifil. Nid oes yr un ohonom ni eisiau troi rhieni'n droseddwyr yn ddiangen, ac felly mae'n bwysig iawn bod gennym ni'r trefniadau amgen ar waith cyn i ddarpariaethau'r Bil ddechrau. Ein dyletswydd ni fel Cynulliad yw sicrhau ein bod yn cael pethau'n iawn cyn i'r Bil ddechrau, ac felly rwyf yn wirioneddol annog yr Aelodau i gefnogi'r gwelliant penodol hwn. Diolch yn fawr. Helen Mary Jones AC: Darllenais i'r gwelliant a chefais i fy nrysu braidd gan ei fwriad. Roeddwn i wedi gobeithio y byddai cyfraniad Janet Finch-Saunders i'r ddadl yn fy ngoleuo. Mewn gwirionedd, mae hwnnw wedi fy nrysu i ymhellach, oherwydd yr oedd rhai pwyntiau yn ei chyfraniad pan oedd yn swnio fel pe bai'n galw am ddatganoli'r system cyfiawnder troseddol i alluogi'r lle hwn i gael rheolaeth dros Wasanaeth Erlyn y Goron a'r heddlu—a byddwn i'n croesawu hynny, wrth gwrs, gyda breichiau agored. Ac os yw Janet wedi dod i'r safbwynt hwnnw, rwyf wrth fy modd. Mae'r gwelliant ei hun yn ddryslyd, ac yng nghyfraniad Janet ychydig iawn o ffydd y mae hi'n ei ddangos yng ngwasanaeth yr heddlu yng Nghymru ac yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron yma i weithio mewn modd cydweithredol gyda Llywodraeth Cymru, gyda'r weinyddiaeth ddatganoledig. Mae'r profiad o hyn mewn meysydd eraill yn gwbl groes; mae Gwasanaeth Erlyn y Goron a'r heddlu yn agored iawn i fod yn gydweithredol ac yn gefnogol. Rwy'nbarod i ildio. Huw Irranca-Davies AC: Diolch am ildio. Fel y gwnaethoch chi ei nodi, yn y gwaith a wnaed ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod ac atal, ond hefyd ar gam-drin domestig, yn wir mae'r heddlu yn bendant yn gweithio o fewn fframweithiau polisi sydd wedi'u pennu gan Lywodraeth Cymru. Does gen i ddim rheswm i ragweld y bydden nhw'n gweithio mewn unrhyw ffordd wahanol gyda hyn. Helen Mary Jones AC: Byddwn i'n cytuno'n llwyr â Huw Irranca-Davies ar hyn. Gadewch i mi gymryd y tair adran un ar y tro yn fyr. Mae'n rhaid bod Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi diwygio ei ganllawiau: wel, rwy'n barod i dderbyn y sicrwydd a roddodd y Gweinidog i mi heddiw ar ran fy mhlaid, ei bod hi yn bendant yn rhagweld y bydd y canllawiau, erbyn y caiff y ddeddfwriaeth hon ei rhoi ar waith, wedi'u diwygio, a'i bod wedi cael sicrwydd gan Wasanaeth Erlyn y Goron i'r perwyl hwnnw, ac rwyf fi yn barod i gredu Gwasanaeth Erlyn y Goron. Mae adran (b) yn galw ar Lywodraeth y DU, yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron i sefydlu llwybr dewis amgen yn hytrach nag erlyn. Wel, nid yw erioed wedi bod yn waith Llywodraeth y DU i sefydlu hynny'n uniongyrchol, hyd yn oed yn y dyddiau cyn datganoli. Bydd yr heddlu'n arwain, gydag eraill, i gynnig dewisiadau amgen yn hytrach nag erlyn. Ond nid wyf i'n credu ein bod yn debygol o weld dwsinau a dwsinau o deuluoedd yn wynebu erlyniad na fydden nhw wedi'i wneud fel arall. Mae'r profiad yn Iwerddon wedi dangos bod eu deddfwriaeth wedi arwain at un teulu yn unig, ledled y genedl gyfan, yn ystod holl gyfnod ei gweithredu, yn mynd i mewn i'r broses na fydden nhw fel arall wedi gwneud. A hynny oherwydd bod aelod o'r cyhoedd wedi gweld ymddygiad mewn man cyhoeddus yr oedd hi'n pryderu yn ei gylch, wedi adrodd ar hynny i'r heddlu, a phan wnaethon nhw ymchwilio, fe wnaethon nhw weld, o dan y smac gyhoeddus honno, fod patrwm cam-drin difrifol iawn, na fyddai fel arfer, wrth gwrs, yn wir.Felly, nid yw adran (b) yn gwneud synnwyr fel y mae. Mae adran (c) yn gofyn i Weinidogion Cymru sefydlu gwasanaethau cymorth rhianta. Wel, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio ar sefydlu gwasanaethau cymorth rhianta mewn sawl ffordd ers blynyddoedd lawer. A ydym ni ar y meinciau hyn yn gwbl ffyddiog eu bod yn gwneud popeth y gallan nhw ei wneud, y dylen nhw ei wneud, ac y byddan nhw yn ei wneud? Wel, wrth gwrs nad ydym ni; ein gwaith ni yw craffu a'n gwaith ni yw codi pryderon. Ond mae'n ymddangos, i ni, yn ffôl i roi ar wyneb y Bil ei bod yn ofynnol i Lywodraeth Cymru wneud rhywbeth y maen nhw wedi bod yn ei wneud ers tua 18 mlynedd beth bynnag. Rwyf bob amser yn hapus i dderbyn ymyriad gan Darren Millar. Darren Millar AC: Rwy'n ddiolchgar iawn. Rwyf i wedi fy nrysu ychydig gan yr hyn sy'n ymddangos yn agwedd wahanol iawn ar feinciau Plaid Cymru—ac yn wir, ar feinciau cefn Llafur—tuag at y darn hwn o ddeddfwriaeth o'i gymharu â Bil ymadael yr UE yr oeddem ni'n ei drafod yn gynharach y prynhawn yma, lle y bu rhai datganiadau clir iawn am fwriad polisi Llywodraeth y DU, ac eto rydych chi i gyd eisiau gwelliannau ar y Bil er mwyn dangos bod ymrwymiad clir i'r pethau hynny, oherwydd mae arnoch chi ofn y bydd pobl yn mynd yn ôl ar bethau. Ac eto, ar y Bil penodol hwn, mae rhai arwyddion clir o fwriad polisi gan y Llywodraeth, ac mae'n eithaf amlwg bod y Llywodraeth wedi gwneud ei safbwynt— Helen Mary Jones AC: Mae'n ddrwg gen' i, Darren, mae angen i mi barhau â fy sylwadau. Rwyf yn derbyn eich pwynt. Darren Millar AC: Rwy'n gwerthfawrogi hynny, ond nid wyf yn siŵr pam mae'r dull mor wahanol. Helen Mary Jones AC: Wel, gadewch i mi egluro. Darren Millar AC: Gwnewch chi hynny. Helen Mary Jones AC: Mae gwahaniaeth—ac mae'n dibynnu'n llwyr ar bwy mae rhywun yn ei gredu, wrth gwrs. Ond yr hyn mae'r ddau beth hyn yn ei wneud—[Torri ar draws.] Gadewch i Helen Mary ymateb. Helen Mary Jones AC: Rwyf i wedi caniatáu i Darren Millar wneud ymyriad; hoffwn i iddo ef, os gwnaiff ef, wrando ar fy ateb. A fy ateb i yw hyn: y pethau sydd gan y Bil yr oeddem ni wedi'i drafod yn gynharach—Bil San Steffan—a hwn yn gyffredin yw, o'u darllen y ffordd anghywir, bod y ddau yn gyfystyr â San Steffan yn cipio pŵer Os byddwn ni'n pasio'r gwelliant hwn, byddai cyrff nad ydyn nhw wedi'u datganoli, y mae Janet Finch-Saunders, yn gwbl briodol, wedi tynnu sylw atyn nhw, yn gallu atal darn o ddeddfwriaeth rhag cychwyn yma, petaent yn gwrthod cydweithredu. Nid oes gennyf i unrhyw reswm—dim rheswm o gwbl—i feddwl y byddai'r heddlu na Gwasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru eisiau gwneud y fath beth, ond mae'r gwelliant hwn yn cyfeirio'n benodol at y ffaith bod angen i Lywodraeth y DU wneud rhywbeth cyn bod modd rhoi deddfwriaeth yr ydym ni wedi'i phasio yn y lle hwn ar waith. Nid yw hynny'n dderbyniol. Yr hyn sydd gan y ddau beth yn gyffredin yw ymgais i leihau grym ac awdurdod y lle hwn ac nid wyf i yn barod i oddef y naill na'r llall ohonyn nhw. David J Rowlands AC: Er y byddai'n well gan fy ngrŵp i petai'r Bil hwn yn cael ei wrthod yn ei gyfanrwydd, byddwn ni’n cefnogi'r gwelliant hwn gan Janet Finch-Saunders. Y gwir amdani yw bod hwn yn ddarn gwael o ddeddfwriaeth. Mae'n dileu'r amddiffyniad o gosb resymol. Rhesymol. Nid yw'r hyn y byddai unrhyw un ohonom ni y Siambr hon wedi'i ystyried yn gosb resymol yn amddiffyniad mwyach. Felly, yr hyn y mae'n ei wneud yw ystyried manylion smacio plentyn, taro plentyn ar ei law. Dyma le mae hwn yn ddarn gwael o ddeddfwriaeth yn ôl unrhyw safonau o gwbl. Mae gennym ni amddiffyniad y gyfraith ac rwyf i'n gwbl sicr bod pawb yn y Siambr hon yn poeni ynghylch diogelu plant, ond mae ein plant yn dioddef llawer iawn o gam-drin geiriol. Nid yw hyn yn effeithio mewn unrhyw ffordd ar gam-drin plant yn eiriol, sy'n llawer mwy niweidiol yn seicolegol na chael eu taro'n ysgafn ar y llaw. Neil McEvoy AC: David, a wnewch chi'n ildio? David J Rowlands AC: Gwnaf, wrth gwrs. Neil McEvoy AC: A fyddech chi hefyd yn cytuno bod dieithrio rhieni'n yn fath enfawr o gam-drin plant, sy'n cael ei anwybyddu'n llwyr gan lawer o Aelodau'r Cynulliad hwn? Mae llawer o Aelodau'n ei anwybyddu. Dyma'r unig fath o gam-drin plant sy'n cael ei dderbyn. Dylem ni fod â Bil ar hynny. David J Rowlands AC: Gadewch i mi ystyried sefyllfa lle mae cwpl gyda phlentyn ifanc mewn bwyty neu gaffi. Mae ganddyn nhw gwpanau poeth o goffi neu gynhwysydd o goffi poeth ar y bwrdd ac mae'r plentyn yn mynd i fachu'r coffi, ac mae'r fam, yn reddfol, yn tapio llaw'r plentyn i'w rybuddio yn erbyn hynny. [Torri ar draws.] Ac yna, mae gennych chi selotiaid yn y caffi hwn, a allai fod yn ACau Plaid Cymru neu ACau Llafur, sy'n dewis rhoi gwybod i'r heddlu am yr hyn sydd wedi digwydd. Gallech chi gael y senario lle mae rhiant yn cael ei lusgo allan o'r caffi— A allwn ni ganiatáu i'r Aelod gario ymlaen mewn rhywfaint o dawelwch, os gwelwch yn dda? David J Rowlands AC: —gan yr heddlu. Dyna'r math o gyfraith rydych chi'n ceisio ei chyflwyno i'r Siambr hon. Rwy'n cefnogi gwelliant Janet, y mae pawb sydd wedi cysylltu â mi ynglŷn â'r Bil hwn yn ei gefnogi'n ysgubol. Mae'n debyg fy mod i wedi cael mwy o ohebiaeth ynghylch y Bil arbennig hwn nag ynghylch unrhyw beth arall sydd wedi cael ei ddwyn drwy'r Siambr hon. A gan academyddion, a gan bobl sy'n gweithio yn y maes hwn. A phob un ohonyn nhw'n condemnio'r Bil hwn. Mae'n ddarn gwael o ddeddfwriaeth. Lynne Neagle AC: David, a wnewch chi dderbyn ymyriad? David J Rowlands AC: Gwnaf. Ie, wrth gwrs fe wnaf. Lynne Neagle AC: Fe wnaethoch chi ddweud eich bod wedi cael llawer o ohebiaeth gan weithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn y maes hwn. A ydych chi'n ymwybodol bod pob un gweithiwr proffesiynol a roddodd dystiolaeth i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg o feysydd iechyd, addysg, yn gyffredinol, yn cefnogi'r ddeddfwriaeth hon? David J Rowlands AC: Y cyfan y gallaf i ei ddweud yw'r hyn sy'n dod drwy fy negeseuon e-bost a drwy fy mlwch llythyrau, sy'n gwbl groes i'r hyn yr ydych chi newydd ei ddweud. Darren Millar a gododd— David J Rowlands AC: Wrth gwrs y gwnaf. Darren Millar AC: Mae pwynt wedi'i wneud ynglŷn â'r gefnogaeth neu fel arall ar gyfer y darn penodol hwn o ddeddfwriaeth. A ydych chi'n derbyn mai ychydig iawn o rieni sy'n ei gefnogi gan fod pleidlais ar ôl pleidlais wedi dangos nad yw rhieni eisiau i'r ddeddfwriaeth hon gael ei phasio, ac yn wir wrth ofyn i aelodau o'r cyhoedd bleidleisio ar hyn, mae dwy ran o dair neu dri chwarter ohonyn nhw yn gyson wedi pleidleisio o blaid cadw'r trefniadau presennol? David J Rowlands AC: Yn hollol. Rydym ni wedi clywed yn y Siambr hon am y broses o drosi'r hyn sydd wedi digwydd yn Iwerddon. Un erlyniad. Dyna'r cyfan a ddeilliodd ohoni.A sawl ymchwiliad? Faint o amser ac ymdrech a fu gan y gwasanaethau cymdeithasol yn ymwneud â'r nifer fawr o achosion a fu, heb os, yn dod ger eu bron—cost hynny oll pan ddylen nhw fod yn ymchwilio i feysydd llawer mwy difrifol o gam-drin plant? Gwyddom ni yn y wlad hon, pa un ag ydym ni'n hoffi hynny ai peidio, fod diwylliant gwrth-risg yn ein gwasanaethau cymdeithasol. Dyna pam yr ydym ni'n gweld plant yn derbyn gofal pan na ddylen nhw fod wedi bod yn derbyn gofal, oherwydd gorfrwdfrydedd y gwasanaethau cymdeithasol, yn aml, a dyna'n union y byddwn ni'n ei gael gyda'r Bil hwn am gost enfawr i'r wlad hon. Mark Isherwood AC: Wel, fel y dywedais i pan gawsom ni ddadl ar y Bil hwn ym mis Medi, rwy'n rhiant i chwech, pob un ohonyn nhw bellach yn oedolion cyfrifol a gofalgar, yn rhiant bedydd, taid, ewythr a hen ewythr. Mae tair o fy merched yn feichiog ar hyn o bryd hefyd. Mae dwy o'r rhain bellach yn byw ychydig filltiroedd i ffwrdd yn Lloegr. Maen nhw wedi dweud wrthyf i eu bod yn ddiolchgar na fydd y Bil hwn yn berthnasol iddyn nhw. Fodd bynnag, mae ein merch feichiog arall, sy'n dal i fyw yng Nghymru, yn poeni am yr hawl i fusnesa y mae'r Bil hwn yn bygwth ei chyflwyno, ac felly hefyd ei ffrindiau, ei chydweithwyr a'i grwpiau cyfoedion. Canfu arolwg cenedlaethol annibynnol yn Seland Newydd—a gynhaliwyd yn annibynnol—lle y mae smacio eisoes yn drosedd, fod 70 y cant yn dweud na fydden nhw'n adrodd am riant y bydden nhw'n ei weld yn smacio ei blentyn, ond byddai 20 y cant yn troi'n fusneslyd. Mae'n ymddangos bod y bobl sydd y tu ôl i'r Bil hwn yn byw yn swigen anghynrychioliadol Bae Caerdydd lle mae barnu pobl eraill a phenderfynu ar yr hyn sy'n dda iddyn nhw'n cael blaenoriaeth dros wrando ar y bobl y maen nhw i fod i'w cynrychioli. Maen nhw'n honni eu bod yn amddiffyn plant ac maen nhw'n dweud bod angen cyrsiau rhianta cadarnhaol ar y rhai hynny sy'n anghytuno â nhw. Fodd bynnag, mae mwyafrif llethol y rhieni eisoes yn gwybod am yr ymyriadau rhianta cadarnhaol y maen nhw'n eu hargymell ac maen nhw'n eu defnyddio, gan hefyd gadw'r opsiwn o smacio ysgafn yn eu dull o rianta cadarnhaol i'w ddefnyddio ar adegau prin pan fo perygl neu fel dewis olaf. Fel y dywed Gwasanaeth Erlyn y Goron, ni ellir defnyddio amddiffyniad cosb resymol: ar gyfer mân ymosodiadau a gyflawnir gan oedolyn ar blentyn sy'n arwain at anafiadau fel crafiadau, sgriffiadau, mân gleisiau, chwyddo, toriadau arwynebol neu lygad du, y cyhuddiad priodol fel arfer fyddai gwir niwed corfforol. Mae'r amddiffyniad cosb resymol dim ond ar gael, maen nhw'n nodi, mewn achosion lle: mae'r anaf yn fyrhoedlog ac yn ddibwys. Canfu arolwg diweddar o gynghorwyr lleol Cymru fod saith o bob 10 yn erbyn gwaharddiad smacio, gan gynnwys mwyafrif o bob un o'r prif bleidiau, a bod naw o bob 10 yn dweud nad oes gan gynghorau yr adnoddau i ymdopi ag un, ac mae pryder wedi'i godi nad yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi— Helen Mary Jones AC: A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad? Mark Isherwood AC: Un funud, Helen Mary. —asesiad o gost y Bil hwn i'r gwasanaethau cymdeithasol o ran cynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau a baich cynyddol ar weithwyr cymdeithasol. Helen Mary Jones AC: Nid wyf yn siŵr a yw'r Aelod yn ymwybodol, o ran cyfraddau ymateb i'r arolwg hwnnw, mai dim ond llai na 13 y cant o'r aelodau awdurdodau lleol a arolygwyd a ymatebodd o gwbl. Byddai rhywun yn disgwyl, o dan yr amgylchiadau hynny, y bydden nhw'n aelodau a oedd yn gwrthwynebu. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn eithaf gofalus ynglŷn â sut yr ydym ni'n defnyddio'r ffigurau hynny, ac rwyf eisoes wedi gwneud y pwynt ynghylch arolwg Seland Newydd, sef yr union beth hwnnw—roedd yn bôl piniwn a gomisiynwyd gan y sefydliad a oedd wedi gwrthwynebu'r gwaharddiad yn y lle cyntaf. Mark Isherwood AC: Fel arfer, byddai 13 y cant yn cael ei ystyried yn ymateb uchel ar gyfer y rhan fwyaf o ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru a llawer o'r polau a'r arolygon eraill yr ydym ni fel Aelodau yn eu dyfynnu'n aml. Wrth siarad yma ar y Bil hwn ym mis Medi, dyfynnais uwch-swyddog profiadol gyda heddlu Cymru, a ddywedodd: Rwyf i wedi fy nghyfyngu rhag siarad yn gyhoeddus' —fel llawer o weithwyr proffesiynol eraill yng Nghymru ar gyflogres Llywodraeth Cymru— ond mae'n rhaid i mi wneud rhywbeth— er fy mod yn amlwg yn gwerthfawrogi nad yw swyddog heddlu ar gyflogres Llywodraeth Cymru— ond mae'n rhaid i mi wneud rhywbeth i geisio annog y Cynulliad i beidio â chefnogi cynlluniau i wahardd smacio. Fe ddywedodd, 'Mae'r amddiffyniad cosb resymol ond yn cwmpasu'r math ysgafnaf o smacio. Mae'n atal rhieni rhag cael eu trin fel troseddwyr heb reswm da. Byddai dileu'r amddiffyniad'—dywedodd y swyddog heddlu hwn—'yn dileu unrhyw ddisgresiwn sydd gennym ni. Bydd yn arwain at brofiad trawmatig i deuluoedd gweddus.' Dywedais yma ym mis Medi fy mod wedi cael llawer o ohebiaeth gan etholwyr ynglŷn â'r Bil hwn, ac fe gefais, pob un ohonyn nhw yn gofyn imi ei wrthwynebu. Nid oedd yr un yn gofyn i mi ei gefnogi. Bedwar mis yn ddiweddarach, nid wyf wedi cael yr un cais gan unrhyw etholwr i gefnogi'r Bil hwn—dim un—ond rwyf i wedi derbyn nifer o negeseuon e-bost gan etholwyr yn gofyn i mi gefnogi gwelliant 10, a gynigiwyd heddiw gan Janet Finch-Saunders, a fyddai'n atal y gwaharddiad ar smacio rhag dod i rym tan fod Llywodraeth y DU, yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi sefydlu llwybr fel dewis amgen yn hytrach nag erlyn ar gyfer y rhai hynny y mae'r newidiadau i'r gyfraith yn effeithio arnyn nhw. Mae hyn yn dilyn argymhelliad i'r perwyl hwn yn adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar y Bil, sy'n cydnabod bod plismona a chyfiawnder yng Nghymru yn gyfrifoldeb nad yw wedi'i ddatganoli, a dyna'r rheswm dros y geiriad. Er mwyn cynrychioli fy etholwyr, fe rannaf i rai o'u sylwadau diweddar, fel a ganlyn: 'Yr oedd y ddau ohonom ni ymhlith y 76 y cant o oedolion sy'n byw yng Nghymru a bleidleisiodd yn yr arolwg ComRes yn 2017 i wrthwynebu troseddoli smacio. Mae'r gyfraith eisoes yn amddiffyn plant rhag trais, a bydd y Bil hwn yn llethu'r heddlu a gweithwyr cymdeithasol â gormod o gofnodion tra bydd achosion go iawn o gam-drin plant difrifol yn cael eu hanwybyddu.' Un arall: 'Hyderwn y byddwch chi'n cefnogi gwelliant Janet Finch-Saunders, sy'n galw am ddewis amgen yn hytrach nag erlyn. Er nad ydym ni'n cymeradwyo taro plentyn pan fydd yn camymddwyn, nid yw smacio ysgafn yn niweidiol ac ni ddylid ei wneud yn drosedd. Rydym ni'n deall bod angen amddiffyn plant rhag cael eu cam-drin, ond nid yw smacio'n gam-drin.' Un arall: 'Nid oes unrhyw un yn cefnogi cam-drin plant, ond bydd y gyfraith hon yn wrthgynhyrchiol. Mae'n gwbl annemocrataidd gan fod pob pôl piniwn yr wyf i wedi'i weld yn dangos bod rhieni wedi'i wrthod. Rwy'n eich annog i ystyried pa effaith a gaiff hyn ar yr heddlu, gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau'r llysoedd. Gallai hefyd arwain at chwalu teuluoedd cariadus yn ddiangen.' Un arall: 'Os caiff ei basio ar ei ffurf bresennol, effaith y Bil arfaethedig fyddai gadael rhieni cariadus yn agored i gael eu troi'n droseddwyr oherwydd smac ysgafn i'w plentyn, yn cyflwyno ymchwiliadau diangen gan yr heddlu ac ymchwiliadau amddiffyn plant gan wasanaethau gorbrysur ar gyfer achosion dibwys iawn a gadael achosion go iawn o gam-drin plant heb eu datrys.' Un arall: 'Mr Isherwood, a fyddech cystal â chefnogi gwelliant 10, a gyflwynwyd gan Janet Finch-Saunders, i sicrhau nad yw'r gwahardd smacio yn dod i rym, gan y byddai'r gwaharddiad hwn yn troi rhieni da yn droseddwyr. A wnewch chi amddiffyn rhyddid teulu, os gwelwch yn dda?' Un arall: 'Mae'r Bil hwn yn sarhad ar bob rhiant normal, yn ogystal â bod yn ymyrraeth ddiangen ar fywyd teuluol.' Dau arall: 'Rydym ni, fel meddygon teulu sydd wedi ymddeol yn ddiweddar, yn ymwybodol o'r llwyth gwaith trwm sydd gan weithwyr proffesiynol yn y sectorau gofal cymdeithasol a gofal iechyd o ran canfod risg ac amddiffyn plant rhag cam-drin gwirioneddol a sylweddol. Ein hofn ni yw y gallai'r Bil, ar ei ffurf bresennol, arwain at lethu gwasanaethau amddiffyn plant wrth i adnoddau gael eu dargyfeirio i ffwrdd o amddiffyn plant sy'n wynebu risg go iawn tuag at ymchwilio ac erlid rhieni cariadus cyfrifol.' A dyfyniad terfynol: 'Rwy'n erfyn arnoch chi i gefnogi gwelliant 10. Rwy'n pryderu'n fawr y gallai hyn arwain at droseddoli rhieni cariadus ac achosi i deuluoedd chwalu.' Sampl bach yn unig yw'r rheini o'r rhai sydd wedi eu derbyn yn y dyddiau diwethaf. Bod heb gyfyngiadau sy'n cyfrannu at fywydau di-drefn sydd wedi'u niweidio, aflonyddwch a drwgweithredu, nid bod â chyfyngiadau. Yn lle troseddoli rhieni normal, gweddus a chariadus sy'n defnyddio smacio o bryd i'w gilydd, mae'n rhaid i ni gydnabod y gwahaniaeth amlwg rhwng smacio a cham-drin plentyn, y mae'r mwyafrif helaeth o rieni'n gallu ei gydnabod. Mae'r ddadl hon yn tynnu ein sylw'n llwyr, pan ddylem ni fod yn canolbwyntio ar adroddiadau cynyddol ynghylch plant yn cael eu cam-drin yn rhywiol, eu hecsbloetio a'u gorfodi i weithio, yn hytrach. Gadewch i ni ddangos i bobl Cymru ein bod ni'n gwrando, gadewch i ni ddangos i rieni Cymru nad sefydliad rhith-wirionedd yw hwn, fel y mae'r Senedd hon yn rhy aml yn ei gyflwyno, a gadewch i ni gefnogi gwelliant 10 a rhoi cyfle i'r darn hwn o ddeddfwriaeth wneud rhywfaint o dda. Neil McEvoy. Neil McEvoy AC: [Anghlywadwy.] Y Dirprwy Weinidog i ymateb. Julie Morgan AC: Diolch. Gwrandewais yn astud ar yr hyn a ddywedodd y rhanddeiliaid a'r tri phwyllgor yn ystod Cyfnod 1 am bwysigrwydd sicrhau bod digon o amser ar gael i ddiddymu'r amddiffyniad cosb resymol cyn y newid yn y gyfraith. O ganlyniad, fe wnes i gyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 2 i ddarparu sicrwydd ynghylch y dyddiad ar gyfer y newid yn y gyfraith ac am gyfnod o ddwy flynedd rhwng y Cydsyniad Brenhinol a dechrau gweithredu'r ddeddf. Credaf mai dyma'r ffordd fwyaf priodol o hyd i gyflwyno'r newid hwn. Bydd y sicrwydd hwn, o ran yr amserlen, yn caniatáu i'n holl bartneriaid allweddol, gan gynnwys yr heddlu, y gwasanaethau cymdeithasol a Gwasanaeth Erlyn y Goron, gynllunio ar gyfer newidiadau i ganllawiau, hyfforddiant a chasglu data a gallu ei wneud mewn modd mwy effeithiol oherwydd eu bod yn gwybod yr union gyfnod o amser sydd ganddynt. Bydd hefyd yn darparu pwyslais i'n hymgyrch codi ymwybyddiaeth. Julie Morgan AC: Rwyf wedi gwrando ar y dadleuon a gyflwynwyd gan Janet Finch-Saunders ac Aelodau eraill, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cydnabod, fel y dywedwyd eisoes—ac mae Helen Mary Jones wedi gwneud y pwynt hwn yn gryf iawn—os derbynnir y gwelliant hwn, bydd yn gwneud cychwyn y Bil yn amodol ar i rywbeth arall ddigwydd gyntaf, boed hynny'n aros i ganllawiau Gwasanaeth Erlyn y Goron gael eu diwygio, neu sefydlu llwybr ar gyfer dargyfeirio o'r system cyfiawnder troseddol, neu ddarparu gwasanaethau cymorth magu plant. Drwy wneud dechreuad y ddeddfwriaeth hon yn amodol ar ddiwygio canllawiau Gwasanaeth Erlyn y Goron, byddem yn caniatáu i gyrff nad ydynt wedi eu datganoli fod y cymrodeddwyr terfynol ar ein deddfwriaeth, ac rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig iawn. Hefyd, rydych chi'n awgrymu ein bod ni'n caniatáu i Lywodraeth y DU leisio barn ynghylch pa bryd ycychwynnir deddfwriaeth Cymru mewn maes a ddatganolwyd yn benodol i'r Senedd o dan Ddeddf Cymru 2017, a pham yn y byd y byddem ni eisiau gwneud hynny? Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn gwbl annibynnol ar y Llywodraeth a bydd yn gwneud ei benderfyniadau ei hun ynghylch sut a phryd y bydd yn diwygio ei ganllawiau. Gadewch i ni beidio ag anghofio, yn ystod Cyfnod 1, bod Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi sicrhau'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y bydd diwygiadau'n cael eu gwneud i'w canllawiau. Mae ansicrwydd ynglŷn â'r prawf a gymhwysir gan y newid arfaethedig o ran pryd y gallai'r cychwyniad ddigwydd yn gyfreithlon. Os caiff y gwelliant hwn ei basio, byddai'n anodd iawn, os nad yn amhosibl, barnu pryd y gellid dechrau adran 1. Mae hyn yn groes i'r hyn y mae rhanddeiliaid a phwyllgorau wedi gofyn amdano, ac mae'n codi ansicrwydd mawr a allai beryglu'r Bil. Gofynnwyd i ni roi sicrwydd, a dyna'r hyn yr ydym wedi rhoi. Rwyf eisiau eich sicrhau bod gennym ni berthynas waith dda iawn gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron a'r heddlu. Cyfeiriodd Huw Irranca-Davies at sut maen nhw wedi gweithio'n agos gyda ni mewn meysydd eraill, ac yn sicr mae gennym ni berthynas waith dda erbyn hyn. Rydym wedi gweithio gyda hwy i ddarparu'r amcangyfrifon o'r costau yn yr asesiad o effaith rheoleiddiol, ac maen nhw'n aelodau gweithredol o'r grŵp gweithredu strategol a'i grwpiau gorchwyl a gorffen. Maen nhw'n cymryd rhan lawn yn ein holl baratoadau. Ni ddylai'r gwaith a wnawn yn y grwpiau hyn effeithio ar amseriad cychwyn y Bil. Mewn gwirionedd, mae i'r gwrthwyneb: mae cyfnod o ddwy flynedd rhwng Cydsyniad Brenhinol a chychwyniad sydd yn golygu y gall y grwpiau hyn gynllunio eu gwaith yn ôl amserlen hysbys a'i gyflawni mewn da bryd cyn i'r gyfraith ddod i rym. O ran cymorth magu plant, mae ystod eang o wasanaethau eisoes ar gael i rieni a gofalwyr ledled Cymru i gefnogi magu plant mewn modd cadarnhaol, gan gynnwys cyngor wyneb yn wyneb drwy ymweliadau iechyd, y gwasanaeth ymwelwyr iechyd cyffredinol, a thrwy ein rhaglenni cymorth teulu, Dechrau'n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf. Hefyd, mae ein hymgyrch 'Magu plant. Rhowch Amser Iddo' yn rhoi cyngor cadarnhaol i rieni ar fagu plant drwy wefan, Facebook ac amrywiaeth o adnoddau eraill, ac fe'u defnyddir yn helaeth. Rwyf wedi dyrannu £325,000 i'r ymgyrch 'Magu plant. Rhowch Amser Iddo' eleni, ac rwy'n bwriadu darparu lefel debyg o fuddsoddiad y flwyddyn nesaf. Ond yn sicr, nid wyf yn hunanfodlon. Mae'r Aelodau yn gwybod fy mod wedi ymrwymo i adolygu'r ddarpariaeth bresennol o ran cymorth i rieni, ac mae gwaith yn mynd rhagddo eisoes ar yr union fater hwn drwy'r grŵp gweithredu arbenigol ar fagu plant. Bydd y grŵp hwn o arbenigwyr ar fagu plant a gweithwyr proffesiynol yn ystyried pa gymorth, os o gwbl, sydd ei angen o ran magu plant, a chyngor a gwybodaeth ychwanegol i gefnogi newid mewn ymddygiad ynghyd â'r ddeddfwriaeth hon, yn ogystal â nodi unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth bresennol. Yn ôl yr arwyddion cynnar o'r ymarfer a gynhaliwyd i fapio cymorth magu plant, ceir amrywiaeth dda ar y cyfan o gymorth a ddarperir gan awdurdodau lleol ar draws gwahanol ystodau oedran, ond, fel y dywedais yn gynharach, bydd y grŵp yn ystyried sut y gellid gwella hyn i gyflawni'r effaith fwyaf. Dim ond i sôn am rai o'r cyfraniadau a wnaed yn y fan yma heno, rwyf am bwysleisio unwaith eto bod yr holl weithwyr proffesiynol eisiau i'r gyfraith fod yn eglur. Maen nhw'n gofyn i'r gyfraith fod yn glir. Mae ymwelwyr iechyd, pobl yn y rheng flaen, yn awyddus i gael yr eglurder hwnnw. Ond rwyf hefyd eisiau ei gwneud yn gwbl glir nad oes unrhyw beth yn y ddeddfwriaeth hon sy'n atal y rhiant rhag amddiffyn plentyn sydd mewn perygl. Os yw plentyn yn rhedeg tuag at heol, wrth gwrs y caiff rhiant ddal gafael ar y plentyn. Os yw plentyn yn debygol o gael ei sgaldio gan goffi poeth, wrth gwrs y caiff y rhiant dynnu'r plentyn oddi wrth y perygl. Mae hyn yn gwbl dderbyniol. [Torri ar draws.] Os yw plentyn mewn perygl, mae'n rhaid i'r rhiant weithredu er mwyn achub y plentyn. Yn yr enghraifft a ddefnyddiodd yr Aelod, byddech yn tynnu'r plentyn oddi wrth y perygl a byddai hynny'n gwbl dderbyniol. A'r pwynt arall yr wyf yn dymuno ei wneud yw bod yr holl—. [Torri ar draws.] Gadewch i'r Dirprwy Weinidog barhau a chael gwrandawiad, os gwelwch yn dda. Julie Morgan AC: Os caf i barhau, mae Aelodau wedi cyfeirio at farn y cyhoedd, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn i ddweud bod 58 y cant eisoes yn credu nad yw'n gyfreithlon i daro plentyn. Felly, mewn gwirionedd, mae mwyafrif yn credu bod y gyfraith hon ar waith eisoes ac, ar y cyfan, mae barn y cyhoedd yn newid. Mae mwy a mwy o bobl yng Nghymru yn credu nad yw cosbi corfforol yn dderbyniol ac rydym ni'n cadw golwg ar hynny, a byddwn yn parhau i gadw golwg arno ar ôl i'r ddeddfwriaeth hon gael ei phasio. A'r hyn sy'n arbennig o arwyddocaol, rwy'n credu, yw mai'r rhieni sy'n magu plant—rhieni sydd â phlant ifanc—sydd fwyfwy mewn mwyafrif yn credu nad yw'n dderbyniol niweidio eu plentyn yn gorfforol. Ac felly, rwyf wir yn teimlo bod y ddeddfwriaeth hon yn cyd-fynd ag ysbryd yr oes. Mae'n cyd-fynd â barn y cyhoedd. Ac rwy'n gwybod y bu safonau gwahanol yn y gorffennol a bod pobl yn gweithredu mewn ffordd wahanol, ond nawr rydym wedi symud ymlaen ac mae gennym ni lawer mwy o wybodaeth; mae gennym ni lawer mwy o ymchwil sy'n dangos y niwed posibl. Ac felly, rwy'n teimlo ein bod ni'n gwneud yr union beth iawn wrth gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon heddiw, ac rwy'n eich annog felly i beidio â chefnogi gwelliant 10, a fyddai'n achosi anawsterau mawr o ran dwyn y ddeddfwriaeth hon i rym. Janet Finch-Saunders i ymateb i'r ddadl. Janet Finch-Saunders AC: Gadewch i ni symud at y bleidlais. Iawn. Diolch, Janet. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 10? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Rydym ni'n symud i'r bleidlais felly, ac agor y bleidlais ar welliant 10. Cau'r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 10. Gwelliant 10: O blaid: 16, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0 Gwrthodwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Rydym ni felly wedi cyrraedd diwedd ein ystyriaeth Cyfnod 3 o'r Bil Plant (Diddymu Amddifyniad Cosb Resymol) (Cymru). Dwi'n datgan bod pob adran o'r Bil a phob Atodlen wedi eu derbyn, a daw hynna â'n trafodion am y Cyfnod 3 yma i ben. Barnwyd y cytunwyd ar bob adran o’r Bil. Daeth y cyfarfod i ben am 19:12. QNR Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru Andrew R.T. Davies: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol maes awyr Caerdydd? Mark Drakeford: We are committed to Cardiff Airport as a pillar of our transport system and gateway to the world. It has grown by around 60 per cent under Welsh Government ownership, sustains around 2,400 jobs, and brings in around £250 million of economic benefit. We will continue to support and grow the airport for Wales's benefit. Mike Hedges: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyflwyno 'cyfraith Lucy' i reoleiddio ffermio cŵn bach yng Nghymru? Mark Drakeford: The report on the urgently commissioned review of the Animal Welfare (Breeding of Dogs) (Wales) Regulations 2014 has been received, and the Minister for Environment, Energy and Rural Affairs will be making a statement once the recommendations have been fully considered. Dawn Bowden: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflawni rhaglen brentisiaethau Llywodraeth Cymru? Mark Drakeford: Aligning apprenticeships with the needs of the Welsh economy is at the heart of our skills policy. We are making excellent progress towards the target of at least 100,000 apprenticeship starts in this Assembly term. Projections show we are likely to exceed the target. Jack Sargeant: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i fynd i'r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod? Mark Drakeford: We are funding the adverse childhood experiences support hub for a further year, to March 2021, so that it can continue to offer advice and support. We will also be commissioning an independent review that will help inform and, if necessary, develop our future approach to ACEs.
uk-hansard-senedd-cy
senedd2020-01-21
2024-06-01T00:00:00
{ "year": "2020", "language": "cy", "license": "Open Parliament Licence - https://www.parliament.uk/site-information/copyright-parliament/open-parliament-licence/" }
Cyfarfu'r Senedd drwy gynhadledd fideo am 13:29 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. Datganiad gan y Llywydd Croeso, bawb, i adalw’r Senedd o dan Reol Sefydlog 34.9. Cyn inni ddechrau, dwi eisiau ychwanegu ychydig o bwyntiau. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae’r rhain wedi eu nodi ar eich agenda chi. A dwi hefyd eisiau atgoffa’r Aelodau fod Rheolau Sefydlog sy’n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn gymwys i’r cyfarfod yma a’r cyfyngiadau amser o ran hyd cwestiynau a gaiff eu cymhwyso i’r cyfarfod yma. 1. Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (COVID-19) Felly, yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw’r datganiad gan y Prif Weinidog ar COVID-19. Dwi’n galw ar y Prif Weinidog i wneud ei ddatganiad—Mark Drakeford. Mark Drakeford AC: Llywydd, diolch yn fawr. Fe drefnwyd y sesiwn heddiw a'r datganiad hwn er mwyn rhoi cyfle i Aelodau graffu ar yr adolygiad diweddaraf o'r rheoliadau coronafeirws yng Nghymru. Cafodd y rheoliadau hynny eu diwygio ddydd Gwener diwethaf, 31 Gorffennaf. Ers i'r Senedd gyfarfod ddiwethaf, ar 15 Gorffennaf, cafwyd cyhoeddiadau pwysig yn ymwneud â chefnogi'r economi a'r sector ddiwylliannol, ac yn ymateb i ddigartrefedd. Ym maes iechyd a gofal, rydym wedi croesawu ffigurau calonogol o ran recriwtio meddygon dan hyfforddiant ac wedi cyhoeddi’r rhaglen fwyaf erioed i gynnig brechiad yn erbyn y ffliw. Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi ysgrifennu at y bobl hynny sy'n rhan o'r cynllun gwarchod, ac mae pedwar prif swyddog meddygol y Deyrnas Unedig wedi datgan y dylid ymestyn y cyfnod hunanynysu i 10 diwrnod mewn ymateb i symptomau coronafeiwrs neu brawf cadarnhaol. Mewn meysydd eraill, mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau ymgynghoriad ar y drefn gymorth i amaethwyr ac ar gynlluniau i leihau plastig untro yng Nghymru. Rydym wedi cyhoeddi datganiadau ysgrifenedig er mwyn tynnu sylw Aelodau'r Senedd at y datblygiadau hyn. Mark Drakeford AC: Lywydd, rwyf am ganolbwyntio yn awr ar yr adolygiad tair wythnos. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol, dros y tair wythnos ddiwethaf, fod y rhagolygon mewn perthynas â'r coronafeirws wedi gwaethygu mewn sawl rhan o'r byd, o Manila i Bogota, o Awstralia i'r Unol Daleithiau. Yn Ewrop, cyngor Llywodraeth y DU oedd ailgyflwyno'r trefniadau cwarantin ar gyfer ymwelwyr sy'n dychwelyd o Sbaen a Lwcsembwrg, ac mae rheoliadau i'r perwyl hwnnw wedi'u gosod gerbron y Senedd. Yn Lloegr, ers i'r Senedd gyfarfod ddiwethaf, cyflwynwyd cyfyngiadau symud lleol newydd yn Luton, Blackburn with Darwen, Oldham, a Rochdale, cyn i gyfyngiadau mwy cyffredinol gael eu hailgyflwyno ddydd Gwener diwethaf ar draws gogledd-orllewin Lloegr a gorllewin Swydd Efrog. Lywydd, cyfeiriaf at hyn er mwyn nodi cyd-destun sefyllfa’r feirws yng Nghymru. Ni ddylai unrhyw un fod o dan unrhyw gamargraff na allai'r feirws hwn ddychwelyd yn gyflym ac mewn modd niweidiol yma yng Nghymru hefyd. Ac i fod yn glir, mae enghreifftiau o gynnydd lleol o ran achosion o’r coronafeirws wedi codi, ac yn parhau i godi, yma yng Nghymru. Mae gennym achosion parhaus yn Wrecsam. Credwn fod y clwstwr yn Rowan Foods bellach dan reolaeth, a chafodd yr achos olaf sy'n gysylltiedig â'r clwstwr hwn ei nodi ar 24 Gorffennaf. Yn Ysbyty Maelor Wrecsam, mae camau'n parhau i gael eu cymryd i fynd i'r afael â chynnydd mewn achosion yno. Ers i'r clwstwr gael ei ddatgan ar 25 Gorffennaf, mae saith achos wedi'u nodi yn Ysbyty Maelor fel heintiau newydd a ddaliwyd yn yr ysbyty. Nid oes unrhyw heintiau newydd wedi'u dal yn yr ysbyty wedi cael eu nodi ar chwech o'r saith diwrnod diwethaf. Mae'r tîm rheoli achosion yn parhau i gyfarfod yn ddyddiol a chaiff ei gefnogi gan ystod o bartneriaid, gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Oherwydd y ddau glwstwr a gafwyd ar safleoedd penodol, gwnaed penderfyniad gan arweinwyr iechyd y cyhoedd lleol i gynnig profion cymunedol gwirfoddol torfol mewn rhannau o Wrecsam. O'r 1,418 o bobl a brofwyd, 11 achos positif newydd yn unig a nodwyd, sef cyfradd positifrwydd o 0.7 y cant. O ystyried bod y Gydganolfan Bioddiogelwch yn nodi cyfradd positifrwydd o 4 y cant fel y trothwy ar gyfer unrhyw bryder newydd, mae'r ffocws yn Wrecsam yn parhau i fod ar atal lledaeniad yr achosion safle-benodol, ac wrth gwrs, mae ein system brofi, olrhain, diogelu yn rhan hanfodol o’r ymdrech hon. Mark Drakeford AC: Lywydd, mae llawer o ddiddordeb wedi bod yng nghyflymder canlyniadau profion yn y system Profi, Olrhain, Diogelu. Yn y profion cymunedol yn Wrecsam, profwyd dros 95 y cant o samplau o fewn 24 awr i'w derbyn, ac mae hynny’n dangos, pan fydd angen canlyniadau cyflym o'r fath, y gall y system eu darparu. Yn wir, yr wythnos diwethaf, cynhaliwyd y nifer uchaf erioed o brofion yng Nghymru o fewn 24 awr. Nawr, wrth gwrs, mae cynnydd lleol mewn achosion yn cyfrannu at yr asesiad cyffredinol o'r sefyllfa yng Nghymru. Serch hynny, yn y cyfnod cyn yr adolygiad yr wythnos diwethaf, amcangyfrifwyd fod y rhif R yng Nghymru rhwng 0.6 a 0.9. Yn y model a gyhoeddwyd ddydd Gwener diwethaf, cyfrifwyd bod y rhif R ar gyfer Cymru yn is nag ar gyfer yr Alban ac ar gyfer Lloegr, ond po leiaf yw cylchrediad y feirws, y mwyaf ansefydlog y daw’r rhif R, a dyna pam rydym yn dibynnu ar nifer ehangach o ddangosyddion, gan gynnwys canlyniadau profion. Yn hynny o beth, yr wythnos diwethaf, cynhaliwyd 41,451 o brofion yng Nghymru, ac roedd 0.8 y cant ohonynt yn achosion positif. Mae degau o filoedd o brofion wedi'u cynnal ar staff a phreswylwyr mewn cartrefi gofal, ac yn yr wythnos ddiwethaf, roedd cyfradd y canlyniadau positif ar gyfer staff a phreswylwyr yno yn 0.3 y cant. Y casgliad y daeth y prif swyddog meddygol iddo yn sgil yr holl ddata hwn, fel y nodwyd yn ei asesiad a gyhoeddwyd ochr yn ochr â'n newidiadau yr wythnos diwethaf, yw bod y feirws wedi'i reoli mor effeithiol yng Nghymru fel bod cyfiawnhad dros lacio pellach ar sail iechyd y cyhoedd. O ganlyniad, o ddydd Llun yr wythnos hon ymlaen, mae lletygarwch dan do wedi ailgychwyn mewn tafarndai, caffis, bwytai a gwestai yng Nghymru. Ddydd Llun nesaf, bydd campfeydd dan do, sbas, canolfannau hamdden a mannau chwarae dan do i blant yn ailagor. Lywydd, penderfynodd y Cabinet yr wythnos diwethaf y byddem yn neilltuo llawer o'r lle i weithredu sydd ar gael inni i ddarparu hyblygrwydd newydd ar gyfer cyfarfodydd rhwng teulu a ffrindiau, ond mae ein trafodaethau wedi cydnabod mai dyma'r elfen fwyaf peryglus o ran unrhyw fesurau i lacio’r cyfyngiadau symud. Felly, rydym wedi penderfynu gohirio unrhyw benderfyniad ar hyn tan yn ddiweddarach yn y cylch. Ein nod o hyd yw adfer peth o'r rhyddid y bu'n rhaid i bobl ei ildio yn ystod y rhan hon o'u bywydau, ond ni fyddwn ond yn gwneud hynny os ceir achos iechyd y cyhoedd cryf dros gyfiawnhau cyfarfodydd pellach dan do rhwng teulu a ffrindiau. Yn y cyfamser, ni fydd y rheolau cadw pellter cymdeithasol bellach yn berthnasol i blant o dan 11 oed, ac mae hyblygrwydd newydd wedi'i ddarparu ar gyfer cyfarfod â theulu a ffrindiau yn yr awyr agored. Lywydd, yn y cyhoeddiad ddydd Gwener, nodais gynlluniau hefyd i gryfhau'r modd y caiff rheolau coronafeirws eu gorfodi yng Nghymru. Er bod y rhan fwyaf o unigolion a busnesau yn gweithio'n galed i gadw pawb yn ddiogel, nid yw hynny'n wir am bawb. Mae unigolion sy'n ymddwyn fel pe bai'r argyfwng wedi dod i ben yn creu risg o niwed i eraill. Nid yw hynny'n dderbyniol o gwbl. Mae’n tanseilio'r ymdrechion y mae pawb arall yn eu gwneud. Heddiw, rwyf wedi cyfarfod ar wahân gyda’r heddlu a chydag awdurdodau lleol yng Nghymru i ddiolch iddynt am eu gwaith hanfodol ac i ailddatgan yr ymrwymiad a rennir gennym i gefnogi’r rheini sy’n gwneud y pethau iawn i ddiogelu pob un ohonom. O ran busnesau, yn wahanol i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig, mae ein rheoliadau’n gosod cyfrifoldeb uniongyrchol ar yr unigolyn sy'n gyfrifol am safle i roi pob cam rhesymol ar waith i leihau'r risg o ddal y coronafeirws. Cytunwyd ar ganllawiau gyda'r gwahanol sectorau i egluro beth y mae hyn yn ei olygu yn ymarferol, ac mae llawer o fusnesau wedi buddsoddi amser, egni ac arian i sicrhau eu bod yn gallu gweithredu mewn modd diogel mewn perthynas â’r coronafeirws. Er mwyn eu cefnogi, byddwn yn darparu pwerau newydd i awdurdodau lleol ymyrryd yn gyflym ac yn bendant lle nad yw hynny’n digwydd, a bydd hyn yn cynnwys ei gwneud yn ofynnol i safleoedd gau os oes angen. Cyflwynir y rheoliadau ddydd Gwener yr wythnos hon, 7 Awst, a byddant yn dod i rym ddydd Llun 10 Awst. Yn olaf, Lywydd, gan edrych ymlaen tuag at ddiwedd y cylch sydd eisoes wedi dechrau, mae Prif Swyddog Meddygol Lloegr, yr Athro Chris Whitty, wedi rhybuddio yno y gallai’r cyfyngiadau symud eisoes fod wedi'u llacio i’r graddau mwyaf posibl. Yma yng Nghymru, rydym wedi mabwysiadu dull gwahanol, dull cam wrth gam, ond ar ddiwedd y cylch hwn ar 21 Awst, byddwn o fewn pythefnos i ailagor ysgolion ym mis Medi. Bydd angen inni flaenoriaethu unrhyw le i weithredu ar y pwynt hwnnw i sicrhau y gellir cyflawni'r foment hanfodol bwysig hon i'n plant a'n pobl ifanc yn ddiogel ac yn llwyddiannus, ac efallai na fydd llawer o le i fynd y tu hwnt i hynny yn yr adolygiad nesaf. Bydd hynny oll, Lywydd, yn dibynnu, wrth gwrs, ar y dystiolaeth ddiweddaraf ar drosglwyddiad, yn ddiweddarach ym mis Awst, a byddaf yn adrodd eto i'r Aelodau ar hynny i gyd ymhen tair wythnos. Diolch yn fawr. Arweinydd y Ceidwadwyr, Paul Davies. Paul Davies AC: Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, er bod cyfraddau COVID-19 yn parhau i fod yn gymharol isel ledled Cymru, fel y nodwch yn eich datganiad, yn anffodus mae nifer y cleifion sy'n cael eu heintio â'r coronafeirws tra bônt yn yr ysbyty yng ngogledd Cymru wedi cynyddu. Fel y dywedoch chi, bu cynnydd yn nifer yr achosion yn Ysbyty Maelor Wrecsam yn ddiweddar, ac yno y cofnodwyd y nifer uchaf o achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth yng Nghymru. Brif Weinidog, yn amlwg, ceir problem mewn perthynas â rheoli'r haint yng ngogledd Cymru, a hynny gan fwrdd iechyd sydd o dan reolaeth uniongyrchol eich Llywodraeth. A allwch ddweud wrthym, felly, pam fod cyfraddau heintio yn Ysbyty Maelor Wrecsam wedi cynyddu'n ddiweddar? A allwch ddweud wrthym hefyd pa gamau uniongyrchol rydych yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r cynnydd yn y cyfraddau heintio yn Ysbyty Maelor Wrecsam, o gofio eich bod yn dweud eich bod yn rhoi camau ar waith? A allwch roi sicrwydd i bobl gogledd Cymru y bydd yr achosion hyn yn cael eu rheoli yn awr, o ystyried eich bod yn uniongyrchol gyfrifol am ddarparu gwasanaethau iechyd yn yr ardal honno? Mark Drakeford AC: Wel, Lywydd, hoffwn ddweud yn glir fod camau eisoes wedi'u cymryd yn Ysbyty Maelor Wrecsam. Mae'r sefyllfa wedi sefydlogi, fel y dywedais yn fy natganiad. Cafwyd 76 o achosion yn ystod y saith diwrnod blaenorol, ac roedd hynny wedi gostwng i 27 yn y saith diwrnod diwethaf—gostyngiad o 64 y cant. Ledled Wrecsam, mae cyfradd yr achosion, a oedd yn 61.8 fesul 100,000 ar 26 Gorffennaf, wedi gostwng i 19.9 yn y saith diwrnod diwethaf, ac mae'n parhau i ostwng. Felly, mae'r sefyllfa yn Wrecsam o dan reolaeth i raddau helaeth, ac mae'n parhau i wella, a hynny oherwydd y camau y mae'r ysbyty ei hun wedi'u cymryd—gorfodi defnydd o fasgiau wyneb, gosod offer sgrinio corfforol newydd, un fynedfa ar gyfer y cyhoedd, a phrofi pob claf wrth iddynt gyrraedd, drwy ba bynnag lwybr y cyrhaeddant yr ysbyty. Pan fydd y cleifion hynny'n cael eu sgrinio, mae'r rheini yr amheuir fod ganddynt y coronafeirws yn cael eu trosglwyddo i ystafell ochr ar ward COVID-positif ac yn cael eu nyrsio gan dîm nyrsio ar wahân. Mae'r rhai heb unrhyw symptomau yn cael eu cadw ar wahân nes bod canlyniadau swab ar gael. Mae cleifion sy'n cael canlyniad positif yn cael eu rhoi ar ward COVID-positif, ac mae cleifion sy'n cael canlyniad negyddol yn cael eu trosglwyddo i wely cyffredinol. O ran y staff, mae'r holl staff yn Ysbyty Maelor yn cael eu profi. Mae chwe chant o'r profion hynny eisoes wedi'u harchebu. Cyfyngir ar symud staff drwy’r ysbyty, caiff staff asiantaeth eu cyfyngu i wardiau penodol, a darparwyd miloedd o eitemau ychwanegol o gyfarpar diogelu personol yn yr ysbyty—cyfres gynhwysfawr o fesurau, gyda mwy o fesurau'n cael eu hychwanegu bob dydd, ac fel y dywedais, Lywydd, mae llwyddiant y mesurau hynny eisoes i’w weld. Paul Davies AC: Brif Weinidog, fel y dywedoch chi yn eich datganiad, dros yr wythnosau diwethaf, gwelsom fusnesau a chyfleusterau’n ailagor yn raddol, sy'n golygu bod pobl yn gwneud mwy a mwy o ryngweithio, boed hynny yn y gwaith neu yn y gymuned. Fodd bynnag, mae llawer o bobl wedi cysylltu â mi i ddweud eu bod yn ddryslyd ynghylch caniatâd i fwyta mewn bwyty dan do gyda phobl o'r tu allan i'w haelwyd neu eu haelwyd estynedig. Nawr, fel y gwyddoch, mae cynllun Llywodraeth y DU, Eat Out to Help Out, yno i annog pobl i gefnogi'r diwydiant lletygarwch, ac mae llawer o bobl yn awyddus i gefnogi bwytai, caffis a thafarndai lleol. Fodd bynnag, o gofio na fu unrhyw newidiadau i'r polisi ar swigod cymdeithasol, rwy'n siŵr y gallwch ddeall y bydd cyfarfod â mwy o bobl o’r tu allan i'ch aelwyd, neu eich aelwyd estynedig, mewn lleoliadau lletygarwch yn peri’r dryswch hwnnw. A allwch ddweud wrthym felly beth yw safbwynt presennol Llywodraeth Cymru ar swigod cefnogaeth a phryd y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu caniatáu unrhyw newidiadau penodol i'r polisi hwnnw, o gofio eich bod yn dweud yn eich datganiad y byddwch yn edrych arno yn hwyrach yn y cylch? Ac a allwch ddweud wrthym pa mor hyderus yw Llywodraeth Cymru ynglŷn ag unrhyw lacio pellach ar y rheoliadau cadw pellter cymdeithasol rhwng pobl, gan fod y cyfyngiadau wedi'u llacio bellach i ganiatáu i bobl ddychwelyd i'r gwaith ac i ryngweithio ymhellach yn y gymuned? Mark Drakeford AC: Wel, Lywydd, fel y dywedais yn fy natganiad, ni fydd swigod cymdeithasol—gallu pobl i gyfarfod dan do—yn cael eu llacio tan ddydd Gwener yr wythnos nesaf ar y cynharaf. Byddwn yn adolygu'r wybodaeth ddiweddaraf ar gylchrediad y feirws ddydd Mercher a ddydd Iau nesaf, ac yna'n gwneud penderfyniad a fydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Gwener. Mae ein gofal wrth ddarparu rhyddid pellach i bobl gyfarfod dan do yn seiliedig ar y dystiolaeth a welwn mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Mae Public Health England yn nodi bod 70 y cant o'r holl heintiau newydd a geir yn Lloegr yn deillio o gysylltiadau yn y cartref. Felly, nid oes niferoedd mawr o bobl yn dal y feirws yn y gweithle, nac mewn bwytai nac wrth gyfarfod yn yr awyr agored, ond mae saith o bob 10 haint newydd yn deillio o'r ffordd y mae pobl yn rhyngweithio o fewn y cartref. A pho fwyaf y caniatawn i hynny ddigwydd, y mwyaf o gyfleoedd a ddarparwn i'r feirws ail-ledaenu, ac os rhowch gyfleoedd newydd i'r feirws hwn, fe fydd yn ail-ledaenu. Dyna pam ein bod wedi mabwysiadu'r dull rhagofalus sydd gennym yng Nghymru. Nawr, os yw'r feirws yn parhau i gael ei reoli’n effeithiol yng Nghymru ddiwedd yr wythnos nesaf, hoffwn allu mynd ymhellach na ble rydym ar hyn o bryd i ganiatáu mwy o gyfleoedd i deulu a ffrindiau gyfarfod dan do. Ond ni fyddwn yn gwneud hynny os yw’r dystiolaeth yn dangos y byddai hynny'n ychwanegu at y risg sy'n ein hwynebu yng Nghymru mewn ffordd a fyddai'n annog y feirws i ledaenu unwaith eto. Gwn y bydd yr Aelod yn deall bod ein dull rhagofalus yn cael ei atgyfnerthu ymhellach gan y ffordd y bu’n rhaid gwrthdroi camau i lacio’r mesurau dros y ffin, a heddiw yn yr Alban, fel y bydd wedi'i weld, am fod y feirws ar gynnydd eto. Felly, mae'n rhywbeth anodd sy'n rhaid ei gydbwyso'n ofalus iawn. Byddwn yn ystyried y data, fel bob amser, ac yn gwneud penderfyniad erbyn dydd Gwener yr wythnos nesaf. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price. Adam Price AC: Diolch, Llywydd. Mae'n galonogol iawn bod nifer yr achosion newydd a recordiwyd yng Nghymru yn isel, bellach yn gyson yn y degau nid dros y cant. Onid dyma'r adeg, Brif Weinidog, inni fabwysiadu strategaeth o ddileu'r feirws—strategaeth sero COVID, fel y'i gelwir—gan unioni ein hunain â sylwadau Prif Weinidog yr Alban, a ddywedodd yr wythnos diwethaf fod angen i bob gwlad yn y Deyrnas Gyfunol gefnogi cynllun o'r fath? Yn ôl yr Athro Susan Michie, sy'n aelod o bwyllgor SAGE, mae strategaeth ddileu yn llawer mwy ymarferol yn ynysoedd Prydain o gymharu â chyfandir Ewrop. Ar 1 Gorffennaf, gan gyfeirio at nifer o wledydd ar draws y byd sydd wedi cofleidio'r strategaeth yma'n llwyddiannus, mi ofynnais ichi wneud cais i'r gell ymgynghori dechnegol i edrych ar fabwysiadu polisi o ddileu'r feirws yng Nghymru. A allwch chi ddweud beth ddaeth o'ch trafodaethau gyda'r gell ymgynghori ac a ydych chi'n cefnogi galwad Prif Weinidog yr Alban? Gydag astudiaethau yn America a'r Eidal yn dangos bod plant nid yn unig yn trosglwyddo'r feirws ond hefyd yn grŵp oedran sy'n gyrru'r feirws mewn modd arwyddocaol, pa asesiad ydych chi wedi ei wneud o effaith hyn ar eich strategaeth o ran coronafeirws yng Nghymru? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, diolch yn fawr i Adam Price. Dwi wedi cael cyfle yn barod i siarad gyda Phrif Weinidog yr Alban, a byddaf yn siarad â hi unwaith eto cyn diwedd y prynhawn heddiw. Beth dwi wedi siarad gyda hi amdano yw'r ffaith fy mod i'n meddwl ein bod ni yn yr un lle. Yn Saesneg, ein huchelgais ni yw cael Mark Drakeford AC: y lefel isaf bosibl o atal y feirws, ac yna cynnal y lefel isaf bosibl honno drwy'r camau rydym yn eu cymryd. A chredaf fod hynny'n gyson iawn â'r hyn y mae Prif Weinidog yr Alban wedi'i nodi fel uchelgais. Ac wrth gwrs, rydym yn parhau i drafod hyn a chamau eraill gyda hi, a chyda Phrif Weinidog y DU a Phrif Weinidog Gogledd Iwerddon hefyd. Mae Adam Price yn llygad ei le, Lywydd, yn tynnu sylw at her ailagor ysgolion ar ôl y gwyliau. Mae gwneud hynny'n parhau i fod yn uchelgais gadarn gennym. Rwy’n siŵr y bydd wedi gweld datganiad Comisiynydd Plant Lloegr heddiw ynglŷn â'r niwed a wneir i blant o fethu ailafael yn eu haddysg—niwed cymdeithasol yn ogystal â niwed i’w haddysg. Byddwn yn parhau i ddilyn y dystiolaeth dros weddill y mis, ac fel y dywedais yn fy natganiad agoriadol, os oes gennym fwy o le i weithredu yng Nghymru pan gyrhaeddwn 21 Awst, am y tair wythnos y tu hwnt i hynny, ailagor ysgolion yn ddiogel ac yn llwyddiannus fydd ein prif flaenoriaeth ar gyfer unrhyw le y gallai fod gennym i symud. Adam Price AC: Dangosodd data a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod cyfraddau marwolaeth Cymru 2.78 y cant yn uwch na’r gyfradd farwolaethau gyfartalog rhwng 2015 a 2019 dros chwe mis cyntaf y flwyddyn hon. Mae'n bwysig cydnabod bod hynny'n is na Lloegr a'r Alban, ond serch hynny, roedd Cymru yn y pumed safle o ran marwolaethau ychwanegol yn Ewrop dros y cyfnod hwnnw. Pam fod y Prif Weinidog yn credu ein bod wedi gwneud yn wael o gymharu â gwledydd Ewropeaidd eraill? Ar 28 Mawrth, ysgrifennodd fy nghyd-Aelod Rhun ap Iorwerth at y Gweinidog iechyd i annog Llywodraeth Cymru i fabwysiadu strategaeth ymyrraeth gynharach ar gyfer unigolion a chanddynt symptomau COVID, yn debyg i'r hyn a fabwysiadwyd mewn rhai gwledydd Ewropeaidd. Mewn ymateb, cydnabu'r Gweinidog y dystiolaeth newydd fod ymyrraeth gynnar yn effeithiol wrth drin cleifion. Pam, felly, ei bod wedi cymryd tan 16 Mehefin, fwy na deufis yn ddiweddarach, i’r cyngor clinigol newid, a pham ei bod wedi cymryd tan ddoe, fwy na phedwar mis ers i’r Gweinidog gydnabod y dystiolaeth, i wneud datganiad i gadarnhau y bydd adnoddau ar gael o'r diwedd i helpu meddygon teulu i wneud mwy o ddefnydd o ocsimetreg pwls, fel rydym wedi annog yn gyson? Onid yw'n wir, Brif Weinidog, y gallai cannoedd o fywydau fod wedi eu hachub, o bosibl, pe bai hyn wedi digwydd yn gynt? Mark Drakeford AC: Wel, Lywydd, nid yw ef na minnau'n gwybod a yw hynny'n wir, ac ni fydd unrhyw fodd inni wybod hynny. Ymddengys i mi mai dyfalu di-fudd yw hynny. Mae'n wir ein bod wedi gweld marwolaethau ychwanegol yng Nghymru dros gyfnod y coronafeirws. Rwy'n falch iawn o ddweud bod marwolaethau yng Nghymru dros yr wythnosau diwethaf yn is na'r cyfartaledd pum mlynedd, felly rydym bellach mewn cyfnod llai stormus o ran hynny. Rwy'n siŵr y bydd y rheswm pam fod y Deyrnas Unedig wedi cael lefelau uwch o farwolaethau ychwanegol na gwledydd Ewropeaidd eraill yn destun ymchwil yn y dyfodol. Mae angen deall yn well hefyd pam fod gan Gymru gyfradd is o farwolaethau ychwanegol na Lloegr neu'r Alban. Ar yr wyneb, byddech yn meddwl bod hynny'n mynd yn groes i'r ffeithiau. Mae gennym boblogaeth hŷn, salach a thlotach na thros y ffin, ac mae ein ffigurau marwolaethau ychwanegol fel arfer yn adlewyrchu natur y boblogaeth honno. Bydd angen rhywfaint o ymchwil i ddeall pam fod y gwrthwyneb wedi digwydd yn ystod argyfwng y coronafeirws, ac nid yw'n gysur o gwbl i'r teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid yn ystod y pandemig. Mae'r Aelod yn gofyn pam na wnaed pethau ym mis Mawrth a mis Ebrill yn y ffordd a argymhellwyd gan ei lefarydd iechyd. Wel, y gwir amdani yw y bu’r gwasanaeth iechyd yn gweithio’n ddiflino yn mynd i’r afael ag argyfwng y coronafeirws ar ei anterth, gyda channoedd lawer o bobl yn dod drwy ddrysau ysbytai ac arnynt angen—eisoes angen—darpariaethau a gwelyau gofal critigol. Ac er bod camau'n cael eu cymryd i wella mesurau atal—ac yn sicr, yn yr hydref, byddwn yn gwybod mwy am y ffordd y gall ymyrraeth gynnar gael effaith gadarnhaol ar gynnydd y clefyd hwn—ar y pwynt hwnnw yng nghromlin y pandemig, ffocws ein system oedd peidio â chael ei gorlethu gan y galw a gynhyrchwyd eisoes gan ledaeniad y clefyd. Rydym bellach wedi gallu cadarnhau cyllid ar gyfer ystod eang o bethau y byddwn yn gallu eu gwneud dros weddill y flwyddyn hon yn dilyn cadarnhad gan Drysorlys y DU ynglŷn â'r arian a fydd ar gael i Gymru. Cyn gynted ag y bu modd inni gadarnhau'r ffigurau hynny, cyhoeddasom fanylion ynglŷn â sut y defnyddir yr arian hwnnw. Ac fel y dywed yr Aelod, byddwn yn gallu gwneud mwy i sicrhau bod gofal sylfaenol yn cael y dyfeisiau pwls y bydd arnynt eu hangen i fesur ocsigen yng ngwaed pobl—arwydd cynnar, ac arwydd nad yw’n hawdd ei ganfod weithiau, o bresenoldeb coronafeirws. Arweinydd Plaid Brexit, Mark Reckless. Mark Reckless AC: Brif Weinidog, a gaf fi ddiolch i chi am eich datganiad a hefyd am y gwaith parhaus eithriadol o galed rydych wedi bod yn ei wneud? Rydym wedi bod ar doriad—rwy’n amau ​​na fyddwch yn cael cyfle i fynd ar eich gwyliau fel ambell un arall efallai—a gwn fod eich llwyth gwaith wedi bod yn eithriadol. Felly, diolch am hynny. Roeddech yn sôn am nod y rheoliadau. Ar y dechrau, roeddwn dan yr argraff mai eu diben oedd diogelu'r GIG ac i sicrhau nad oedd capasiti’r GIG yn cael ei orlethu. Yn gymharol gynnar yn y broses, ymddengys bod hynny wedi'i gyflawni. Pan fo Adam Price yn eich gwahodd i ddweud a ydych yn bwriadu dileu—'Ai dyna'r nod?'—nid ydych yn dweud 'ie' wrth hynny. Roeddwn wedi meddwl bod peidio â chaniatáu i R fynd uwchlaw 1 yn nod clir. Rwyf wedi cwestiynu hynny o'r blaen. Ymddengys i mi fod nifer yr achosion o leiaf mor bwysig ag R. Yn eich sylwadau yn awr, rwy'n credu eich bod wedi rhoi mwy o ffocws ar hynny nag a gawsom o'r blaen efallai. Ond mae’r uchelgais o gael y lefel isaf bosibl—nid wyf yn gweld sut, yn ymarferol, y mae hynny o gymorth i wneud penderfyniadau, yn enwedig pan fo R yn isel ac yn ansefydlog. Soniasoch am gyfraddau achosion o 0.7 y cant a 0.8 y cant o gymharu â 4 y cant fel y lefel pryder am achosion newydd—gan y ganolfan bioddiogelwch o leiaf—a chafwyd llawer o sôn gennych am le i weithredu, ond sut y gwnewch y penderfyniadau hyn? Mae'n siŵr y bydd angen rhywfaint o ddadansoddi cost a budd wrth edrych ar y lefel is o lawer, diolch byth, o farwolaethau ac achosion difrifol yn yr ysbyty sydd gennym bellach, ond mae pobl a'u lles a'r economi yn gweithredu dan gyfyngiadau eithaf llym o hyd. Pan fydd pobl yn ystyried a ydynt yn mynd i ryngweithio, mae'r perygl o ddal y feirws yn isel iawn yn gyffredinol, ond gall cost peidio â rhyngweithio—yn gymdeithasol yn ogystal ag yn economaidd—fod yn uchel o hyd, ac nid wyf yn deall yn iawn sut rydych yn penderfynu beth sy'n cael ei lacio ai peidio. Ac rydych yn sôn am le i weithredu, ond nid yw'r uchelgais o gael y lefel isaf bosibl yn darparu safon feintiol y gallwch wneud penderfyniadau yn ei herbyn. Mae gennym hefyd lawer iawn o fanylder a chymhlethdod a microreoli o ran yr hyn y dylai pobl ei wneud ai peidio, a ph’un a yw'n gyfraith neu'n rheoliadau, ac mae pethau ychydig yn wahanol yng Nghymru i'r hyn ydynt yn Lloegr, a phan fyddwch yn cwyno am bobl nad ydynt yn dilyn yr union gyfarwyddiadau, mae llawer o bobl yn ei chael hi'n anodd iawn dal i fyny â beth yw’r cyfarwyddiadau hynny. Os ydynt yn ystyried bod y risg yn isel iawn, ond fod y gost iddynt o beidio â gwneud rhywbeth neu beidio â rhyngweithio—bydd llawer o bobl yn ei wneud. Onid ydych yn deall hynny? Cawsom £59 miliwn ar gyfer y celfyddydau. Dywedasoch fod yr arian hwnnw wedi’i basio ymlaen, ond £53 miliwn yn unig ohono sydd wedi’i ddosbarthu yng Nghymru. Beth a wnewch gyda'r £6 miliwn arall? Un maes rwyf wedi cael cwynion yn ei gylch yn fy etholaeth—dywed canolfan farchogaeth David Broome yng Nghas-gwent fod cystadleuwyr dros y ffin yn iawn, ond oherwydd y gyfraith a'r hyn rydych yn ei wneud yng Nghymru, ni allant gynnal digwyddiadau neidio ceffylau, ac mae'r cyfyngiad o 30 o bobl ar unrhyw beth yn yr awyr agored, hyd yn oed os nad yw pobl yn agos iawn at ei gilydd, yn berthnasol. A oes unrhyw beth y gallech ei wneud i'w cynorthwyo? Ysgrifennodd fy nghyd-Aelod David Rowlands atoch 10 diwrnod yn ôl, ond nid yw wedi cael ateb eto. Yn olaf, credaf fod hyder ac asesiad pobl o risg o leiaf yr un mor bwysig â beth yw'r gyfraith neu'r union ganllawiau. A allwch ddweud yn glir wrth bobl: a ydych am i bobl fynd yn ôl i'r gwaith pan allant, neu a ydych yn dal i ddweud bod yn rhaid i bobl aros gartref pan allant? Oddeutu traean yn unig o weithwyr swyddfa sydd gennym yn ôl yn y gwaith. Mae hynny'n cymharu ag oddeutu tri chwarter yn y rhan fwyaf o wledydd Ewrop. Onid ydym yn mynd i weld dinistr economaidd llwyr tra bo hynny'n parhau? Mark Drakeford AC: Wel, Lywydd, diolch i'r Aelod am yr hyn a ddywedodd wrth gyflwyno ei gwestiwn. Mae'n gofyn sut rydym yn gwneud y cyfrifiadau a wnawn, a gallaf esbonio ein proses yn gryno. Dyma wythnos gyntaf y cyfrif hwn—adolygiad tair wythnos. Yr hyn a fydd yn digwydd ar draws Llywodraeth Cymru yw y byddwn yn llunio'r rhestr hiraf y gallwn ei chreu o'r holl wahanol bethau y gallem eu gwneud eto i lacio’r cyfyngiadau ar fusnesau ac ar unigolion, ac fel mae'n digwydd mae canolfannau marchogaeth ar y rhestr honno. Yna, byddwn yn cael cyngor gan y prif swyddog meddygol erbyn diwedd yr wythnos hon, a ddechrau wythnos nesaf, byddwn yn dechrau cyfyngu’r rhestr honno i'r pethau y credwn fod yr achos cryfaf dros eu gwella. Ac yna, rydym yn pwyso a mesur hynny yn y drydedd wythnos yn erbyn y wybodaeth ddiweddaraf sydd gennym ar draws ystod eang o ddangosyddion am lefel y clefyd yng Nghymru ar hyn o bryd, a hynny sy'n rhoi ymdeimlad i ni o faint o le i weithredu sydd gennym a pha gamau y gallwn eu cymryd. Rydym yn cael ein harwain gan gyngor y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau a Sefydliad Iechyd y Byd i gymryd un cam ar y tro yn unig felbod cyfle i gysylltu'r camau rydych yn eu cymryd a'r effaith a gânt ar gylchrediad y feirws. Credaf mai'r hyn sy’n anodd o ran safbwynt yr Aelod yw hyn: fod hwn yn feirws lle gallwch fynd o’i reoli’n effeithiol i ledaeniad eang mewn mater o ychydig wythnosau yn unig. Felly, yn Melbourne yn Awstralia, bedair wythnos cyn i 5 miliwn o bobl gael eu rhoi dan gyfyngiadau symud unwaith eto, cafwyd dyddiau pan nad oedd unrhyw achos newydd yn cael ei nodi ymhlith y 5 miliwn o bobl hynny—dim un achos newydd—a phedair wythnos yn ddiweddarach, mae’r feirws yn lledaenu i’r fath raddau fel bod yn rhaid i'r 5 miliwn o bobl gael eu rhoi dan gyfyngiadau llymach nag ar unrhyw adeg cyn hynny, a bu'n rhaid cynyddu'r mesurau hynny ymhellach wrth i dalaith Victoria ddatgan eu bod yn wynebu trychineb. Nawr, os mai ychydig wythnosau yn unig sydd rhwng ein sefyllfa ni heddiw a thrychineb, ni allwch fforddio bod yn siriol ac yn optimistaidd ynglŷn â sut y bydd y feirws yn gweithredu yng Nghymru, ac nid dyna sut y gwnawn bethau yma yn Llywodraeth Cymru. Ar ddau gwestiwn penodol a grybwyllodd yr Aelod, Lywydd—o ran y celfyddydau, ni chyfeiriodd at y £16 miliwn roeddem eisoes wedi'i ddarparu i'r celfyddydau yng Nghymru o’n hadnoddau ein hunain. Felly, mae'r buddsoddiad cronnol yn y celfyddydau yn llawer mwy na'r cyllid canlyniadol a gawsom at y diben hwnnw: nid yw £6 miliwn yn llai, mae oddeutu £10 miliwn yn fwy na'r hyn a gawsom. A'n cyngor i bobl yng Nghymru yw os gallwch weithio gartref yn effeithiol, mae'n dal i fod yn well i chi wneud hynny. Nawr, 'gweithio'n effeithiol' yw'r ymadrodd cywir. Os na allwch weithio gartref yn effeithiol, mae'r ddadl dros ddychwelyd i'r gwaith yn gryfach. Ond yma yn Llywodraeth Cymru, er enghraifft, lle buom yn gweithredu gyda phawb, bron â bod, yn gweithio gartref, gwelsom ein bod yn gallu gwneud hynny'n effeithiol iawn yn wir ac nid wyf am weld niferoedd mawr o bobl yn dychwelyd i weithleoedd lle nad yw hynny’n angenrheidiol ar gyfer gweithrediad effeithlon y sefydliad hwn. Mae’n llawer gwell, o safbwynt amgylcheddol ac o safbwynt iechyd y cyhoedd, ein bod yn adeiladu ar y llwyddiant hwnnw ac yn caniatáu i fwy o bobl weithio gartref am gyfnod hwy. Carwyn Jones AC: Brif Weinidog, rwyf wedi sylwi dros yr wythnosau diwethaf, lle caiff y cyfyngiadau eu llacio, mewn sawl man fel siopau, bwytai a thafarndai, fod pobl, mewn gwirionedd, yn dal i fod yn amharod i fynd allan i wario arian yn y busnesau hynny. Roeddwn yng Nghaerdydd yr wythnos diwethaf, er enghraifft, ac roedd siopau ar agor, ond roedd canol y ddinas yn eithaf gwag. Mae pentref siopa McArthurGlen yn agos i fy etholaeth. Unwaith eto, mae siopau'n cau yn gynnar yno gyda'r nos am nad yw nifer yr ymwelwyr yr hyn y dylai fod. Y pryder sydd gennyf yw bod cyfyngiadau’n cael eu llacio ond mae'n cymryd peth amser i'r cyhoedd newid yn ôl i sefyllfa sydd bron â bod yn normal o ran gwario arian yn y busnesau hynny. A ydych yn rhannu fy mhryder, felly, os daw’r cynllun ffyrlo i ben ym mis Hydref, y byddwn yn gweld cynnydd gwirioneddol wedyn yn nifer y swyddi a gollir gan y bydd bwlch rhwng diwedd y cynllun ffyrlo ac ailddechrau rhywbeth sy'n debyg i fasnach normal. Os ydych yn rhannu'r farn honno, pa drafodaethau y bwriadwch eu cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â pha gefnogaeth y gellid ei rhoi ar waith i fusnesau ar ôl y cynllun ffyrlo? Mark Drakeford AC: Lywydd, a gaf fi ddiolch i Carwyn Jones am y pwyntiau hynny? Mae'n llygad ei le: ledled y byd gwelsom mai un peth yw ailagor lleoliad, a bod perswadio pobl i ddychwelyd yno yn fater arall. Dyna pam ein bod wedi rhoi cymaint o bwyslais yng Nghymru ar adeiladu'r profiad o wneud pethau'n llwyddiannus, oherwydd lle gall pobl weld bod eu lles yn cael ei ystyried yn iawn a bod mesurau lliniaru ar waith yn iawn, credaf y gwelwn fwyfwy o fudd i’r economi, ac yn sicr, rydym am weld hynny yma yng Nghymru, ond mae'n dibynnu ar gynyddu hyder unigolion wrth i fusnesau ddangos llwyddiant. Mae Carwyn Jones yn llygad ei le hefyd, Lywydd, yn nodi, o ran argyfwng economaidd, na fydd y coronafeirws drosodd i lawer o sectorau erbyn mis Hydref. Rwy'n deall yn iawn pam na all y Canghellor barhau i ddarparu cynllun ffyrlo lle gall busnesau ddychwelyd at yr hyn a oedd yn arfer bod yn normal, ond rydym wedi dweud yn gyson wrth Lywodraeth y DU na ddylent feddwl am ddiwedd y cynllun ffyrlo fel erfyn di-awch—y dylai fod yn gynllun wedi'i deilwra, lle bydd y sectorau a fydd angen cefnogaeth barhaus yn cynllunio’r gefnogaeth honno gyda Llywodraeth y DU er mwyn caniatáu i'r busnesau hynny oroesi’r coronafeirws a bod yn fusnesau llwyddiannus eto yn y dyfodol. Credaf fod hynny er budd yr economi. Credaf ei fod yn fuddsoddiad y dylai'r Canghellor fod yn barod i'w wneud, yn hytrach na dim ond ei ystyried yn wariant pellach, gan mai’r busnesau hynny yw’r busnesau a fydd yn talu trethi yn y dyfodol, a bydd rhywfaint o gymorth iddynt y tu hwnt i fis Hydref yn eu rhoi yn y sefyllfa honno yn nes ymlaen y flwyddyn nesaf. Rydym yn gwneud y pwyntiau hynny pryd bynnag y gallwn, mewn sgyrsiau gyda Phrif Weinidog y DU, yn y cyfarfodydd cyllid pedairochrog y mae fy nghyd-Aelod Rebecca Evans yn eu mynychu, yn y cyfarfodydd y mae Ken Skates, fel Gweinidog yr economi, yn eu cael gyda'i swyddogion cyfatebol—teilwra'r cynllun, yn hytrach na'r hyn sydd wedi'i gynllunio ar hyn o bryd: diwedd sydyn a chyflym iddo, mewn ffordd a fydd yn niweidio busnesau sydd newydd ddechrau cael eu traed tanynt. Andrew RT Davies AC: Brif Weinidog, diolch am bopeth rydych yn ei wneud yn yr argyfwng presennol, ac yn enwedig yr amser y mae'n rhaid i chi ei dreulio wrth eich desg yn y swyddfa yn gwneud penderfyniadau allweddol er budd Cymru. Yn eich datganiad, soniwch am am Ysbyty Maelor Wrecsam, a'r achosion yn Ysbyty Maelor Wrecsam, ac mae cryn dipyn o egni wedi’i roi i hynny. Pam nad yw'r Llywodraeth wedi cynorthwyo'r bwrdd iechyd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i'w gwneud hi'n orfodol i bobl wisgo masgiau wyneb mewn lleoliadau fel ysbytai a chartrefi gofal, lle mae'r dystiolaeth yn dangos yn glir y bydd hynny o gymorth? Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r bwrdd iechyd wedi gofyn am hynny, ond nid yw'n ymddangos bod y Llywodraeth wedi darparu camau gweithredu cadarn i gefnogi’r cais hwnnw. A allwch egluro pam, os gwelwch yn dda? Ac yn ail, yn eich datganiad, rydych yn sôn am brofi, ac er ei bod yn braf gweld bod canlyniadau profion mewn rhai ardaloedd wedi bod yn gadarnhaol—rydych yn crybwyll cyfradd ddychwelyd canlyniadau o 95 y cant mewn 24 awr, ond yn anffodus, gwyddom fod rhai o ffigurau'r gyfradd ddychwelyd wedi bod mor isel â 26, 27 y cant mewn 24 awr yn genedlaethol. Mae'n amlwg nad yw hynny'n dderbyniol ac ni fydd yn gyfradd ddychwelyd dderbyniol yn y drefn brofi. Pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i gynyddu'r cyfraddau dychwelyd yn genedlaethol i fod yn agosach at y 90 y cant fel bod gennym drefn brofi effeithiol yma yng Nghymru? Mark Drakeford AC: Lywydd, diolch i Andrew R.T. Davies am ei gwestiynau. Wel, i fod yn glir, mae masgiau wyneb yn orfodol yn Ysbyty Maelor Wrecsam, ac maent wedi bod yn orfodol ers i'r clwstwr gael ei ddatgan, a barn Llywodraeth Cymru yw y dylid defnyddio masgiau wyneb lle ceir achos clinigol dros wneud hynny. Nid oes achos clinigol dros eu gwisgo mewn mannau lle mae cylchrediad y feirws o dan reolaeth i’r fath raddau fel nad ydynt yn ychwanegu unrhyw ddiogelwch o bwys i bobl, ond lle ceir achos, achos clinigol, dros eu defnyddio, dylid eu defnyddio wrth gwrs, ac maent yn orfodol yn Ysbyty Maelor Wrecsam oherwydd y sefyllfa yno. O ran cyflymder dychwelyd canlyniadau profion, Lywydd, fel y dywedais yn fy natganiad, cafodd 13,330 o brofion eu dychwelyd o fewn 24 awr yr wythnos diwethaf—y nifer uchaf erioed. Ond roeddwn am wneud un pwynt arall i Andrew ac i eraill: ar hyn o bryd, y ffordd rydym yn cofnodi'r pethau hyn yng Nghymru yw ein bod yn cofnodi pob prawf fel pe bai angen iddo fod yn ôl o fewn 24 awr, ac nid yw hynny'n synhwyrol. Mae unrhyw un sy'n symptomatig, unrhyw un sy'n mynd i ysbyty, unrhyw un sy'n cael prawf yn y gymuned yn Wrecsam—roedd angen i'r rheini ddod yn ôl cyn gynted â phosibl. Ond rydym yn cynnal miloedd o brofion mewn cartrefi gofal bob wythnos ar bobl nad ydynt yn symptomatig o gwbl ar sail gwyliadwriaeth. Mae'r achos dros gael eu canlyniadau hwy yn ôl mewn 24 awr yn wan iawn yn wir, a byddai'n anodd iawn i gartrefi gofal wneud hynny gan eu bod yn dibynnu ar batrymau shifft a rhedeg y cartref yn y ffordd y gwnânt, ac mae'n cymryd mwy na diwrnod iddynt anfon y profion y maent yn eu derbyn i'r labordy. Ac mae'r cloc yn dechrau tician yr eiliad y maent yn derbyn y prawf, nid yr eiliad y bydd y labordy’n derbyn y prawf. Nawr, rydym yn cofnodi pob un o'r rhain fel pe bai'r un brys ar gyfer pob prawf. Nid yw hynny'n ffordd synhwyrol o wneud pethau, ac mae'n rhoi pwysau diangen ar y system. Felly, rwyf am allu rhoi gwybod i bobl yng Nghymru am yr holl brofion a gynhaliwn, y rhai lle mae cael canlyniadau o fewn 24 awr yn glinigol bwysig a'r rhai sy'n cael eu gwneud at ddibenion gwyliadwriaeth, lle nad oes ots o safbwynt clinigol os yw'n cymryd 48 awr i'r canlyniadau ddod yn ôl. Yr wythnos diwethaf, roedd cyfradd yr achosion ar gyfer staff mewn cartrefi gofal, o'r holl bobl rydym yn eu profi bob wythnos, yn 0.1 y cant, a bydd rhai o'r rheini'n ganlyniadau positif ffug hefyd wrth gael eu hailbrofi. Nid oes achos cryf dros roi pwysau ar y system i'w cael yn ôl o fewn 24 awr, ac mae'n rhaid inni sicrhau nad yw'r profion hynny'n cael eu blaenoriaethu dros y rheini a chanddynt achos clinigol dilys dros ddychwelyd canlyniadau'n gyflym. Rhun ap Iorwerth AC: Dau beth—mi wnaf i drio mynd trwyddyn nhw'n sydyn. Mae Adam Price wedi sôn yn barod am arafwch y Llywodraeth yn ymateb i'r galw am ymyrraeth gynharach o ran triniaeth ocsigen. Mi wnaf i atgoffa'r Prif Weinidog mai'r rheswm roedden ni'n galw am hyn oedd er mwyn tynnu'r pwysau oddi ar y gwasanaeth iechyd a cheisio achub bywydau. Peth arall sy'n debyg o fod mewn peryg o gostio bywydau, dwi'n meddwl, ydy arafwch ailgyflwyno gwasanaethau yn yr NHS. Nawr, dwi wedi ysgrifennu at gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr heddiw yn rhannu rhwystredigaeth meddygon orthopedig yn Ysbyty Gwynedd sydd wir eisiau cael dechrau efo'u gwaith elective eto. Mae yna bron i 3,000 o gleifion yn aros dros 36 wythnos; buaswn i'n hoffi ymateb y Prif Weinidog i hynny. Ond hefyd, wrth inni drafod llacio rheoliadau neu lacio cyfyngiadau heddiw, dwi eisiau gwybod mwy am barodrwydd y Llywodraeth i dynhau'r rheoliadau lle mae angen. Dwi hefyd eisiau gweld rheolau llymach ar orchuddion wyneb. Ond hefyd, mae yna sawl ardal o risg uchel wedi cael eu cydnabod rŵan—ardal Wrecsam, rhannau o ogledd-orllewin Lloegr. Mae miloedd o bobl o'r ardaloedd hynny wrth gwrs yn dod i lefydd fel fy etholaeth i ar eu gwyliau ar hyn o bryd. Rŵan, os nad ydy'r Llywodraeth yn barod i ddweud wrth bobl am beidio â theithio, ydych chi, fel cam lleiaf, yn barod i gynyddu'r cyfathrebu ynglŷn â sut y dylen nhw ymddwyn ar ôl cyrraedd, oherwydd mae yna beryglon, wrth gwrs, o bobl yn mynd i dafarndai, bwytai ac ati, neu'n gor-gronnu mewn niferoedd mawr? Mark Drakeford AC: Well, Llywydd, i ymateb i'r pwynt olaf i ddechrau, wrth gwrs rŷn ni'n cydnabod bod pobl yn dod i Gymru o Loegr, ac rŷn ni wedi gweld beth sydd wedi digwydd yn Lloegr. Does dim pwynt, dwi'n meddwl, jest dweud wrth bobl i beidio â dod i Gymru heb gael pethau yn eu lle i reoli hwnna, a dwi ddim yn meddwl bod hwnna'n ymarferol i'w wneud. So, i gryfhau'r negeseuon, dwi'n cytuno gyda hwnna, ac rŷn ni'n dweud bob tro i bobl, 'Os ydych chi'n dod i Gymru, helpwch ni i gyd i gadw Cymru'n ddiogel.' Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n dod i Gymru—dwi'n siŵr eu bod nhw eisiau gwneud hynny. Fel y dywedais i yn y datganiad, pan rŷn ni'n gweld pobl sydd ddim yn fodlon cydymffurfio â'r rheoliadau yng Nghymru, rŷn ni wedi cryfhau'r pwerau sydd gyda'r awdurdodau lleol i weithio gyda'r heddlu ac yn y blaen—i fod yn glir gyda nhw, os yw pobl ddim yn fodlon cydymffurfioâ'r sefyllfa yma yng Nghymru, ein bod ni'n fodlon gwneud pethau i fod yn glir gyda phobl am eu cyfrifoldebau nhw. Dwi wedi siarad y bore yma gydag arweinydd Cyngor Gwynedd, a dwi'n siŵr a dwi'n gwybod eu bod nhw'n awyddus i wneud popeth maen nhw'n gallu ei wneud yn yr ymdrech hon. Mark Drakeford AC: O ran dychwelyd at weithgareddau normal yn y gwasanaeth iechyd, rydym wedi defnyddio peth o'r lle i weithredu a fu gennym dros y pedwar cylch diwethaf i ddechrau sicrhau bod y gwasanaeth iechyd yn dychwelyd i'w weithgareddau mwy arferol—dyna pam ein bod wedi gallu ailagor gwasanaethau yn y gymuned; dyna pam ein bod wedi gallu ailagor gwasanaethau sgrinio. Y pen draw un fydd llawdriniaethau o'r math y cyfeiriodd Rhun ap Iorwerth atynt. Roedd cynhyrchiant o hyd at wyth llawdriniaeth y dydd mewn theatrau orthopedig yn y cyfnod cyn COVID. O dan amodau COVID, bydd hynny'n gostwng i dair llawdriniaeth y dydd. Mae honno'n her wirioneddol, ac mae'n her wirioneddol i bob gwasanaeth iechyd, gyda'r holl fesurau diogelwch y bydd angen inni eu rhoi ar waith yn y dyfodol i atal risgiau ychwanegol i gleifion ac i staff, hyd yn oed os yw ein theatrau'n gweithio’n ddi-stop, na fyddant yn gallu cyflawni'r un nifer o lawdriniaethau a gynlluniwyd ac a ddisgwyliwyd o'r blaen. Bydd honno'n her i'r gwasanaeth iechyd wrth wynebu'r gaeaf yn arbennig, a bydd angen sgyrsiau rhwng cleifion a'u clinigwyr, ond nid oes ateb hawdd i hyn, ac nid oherwydd diffyg ymdrech ar ran clinigwyr neu fyrddau iechyd i ailddechrau'r gweithgareddau hynny. Yn syml, yng nghyd-destun y coronafeirws, nid yw'n bosibl dychwelyd at y math o arferion gwaith a oedd yn ddiogel yn ôl ym mis Ionawr a mis Chwefror eleni. Lynne Neagle AC: Brif Weinidog, cefais fy nghalonogi’n fawr gan eich ateb cynharach i Adam Price, gan fy mod i'n bersonol yn awyddus iawn i weld Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i strategaeth di-COVID i Gymru. Cefais fy nghalonogi’n fawr hefyd wrth i chi ailddatgan eich ymrwymiad i flaenoriaethu ailagor ysgolion. Wrth gwrs, y pwynt arall a wnaeth Comisiynydd Plant Lloegr oedd mai ysgolion a ddylai fod yn gyntaf i agor ac yn olaf i gau, ac mae hynny hefyd yn rhywbeth sy'n ymddangos yn y cyngor gwyddonol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gael ar ailagor ysgolion. Nawr, rwy'n bryderus iawn ynglŷn â'r penderfyniad i ailagor tafarndai dan do a'r effaith y bydd hynny'n ei chael ar ein cynlluniau i ailagor ysgolion, felly a gaf fi ofyn i chi sut y byddwch yn mynd ati i flaenoriaethu plant ac ysgolion, yn enwedig yng ngoleuni'r hyn sydd wedi digwydd heddiw yn Aberdeen, lle cafodd clwstwr o achosion eu cysylltu â thafarn yn ôl yr hyn a ddeallaf? Hoffwn eich holi hefyd ynglŷn ag archfarchnadoedd. Fel y gwyddoch, rwy'n wirioneddol bryderus fod llawer o archfarchnadoedd bellach wedi rhoi’r gorau i ddefnyddio systemau unffordd, cyfyngiadau ar niferoedd ac ati, ac mae llawer o fy etholwyr yn dweud wrthyf nad ydynt yn teimlo'n ddiogel wrth fynd i'r siopau. Beth a wnewch, Brif Weinidog, i sicrhau bod siopau hanfodol yn deall yr angen i gynnal mesurau cadw pellter cymdeithasol yng Nghymru? Diolch. Mark Drakeford AC: Lywydd, diolch i Lynne Neagle am hynny. Rwy'n fwy na pharod i ailadrodd safbwynt Llywodraeth Cymru y bydd ailagor ysgolion yn cael y brif flaenoriaeth ym mha bynnag fodd sydd gennym o barhau i lacio’r cyfyngiadau symud yn ail hanner y mis hwn ac ym mis Medi. Bydd ein dull o ymdrin ag unrhyw glystyrau o achosion a welwn o ganlyniad i fesurau eraill rydym eisoes wedi'u cymryd yn debyg i'r hyn a welsoch yn yr Alban heddiw ac yn Lloegr eisoes—byddwn yn cyflwyno cyfyngiadau symud lleol yn effeithiol i atal cylchrediad y feirws yn yr ardaloedd hynny, fel y credaf inni ddangos ein bod wedi gallu ei wneud ar Ynys Môn, ym Merthyr Tudful, ddechrau’r mis diwethaf. Bydd yr ystod o gamau y byddwn yn eu cymryd yn lleol yn dibynnu ar natur yr achosion. Bydd rhestr o gamau y bydd timau rheoli achosion lleol yn gallu eu defnyddio. Bydd fy nghyd-Aelod, Vaughan Gething, yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth ar gyfer yr Aelodau, yr wythnos nesaf rwy’n credu, gobeithio, a fydd yn nodi ein hymagwedd tuag at sut y gallai cyfyngiadau symud lleol gael eu sbarduno, gan bwy fydd y grym i gymryd camau, beth yw'r rhestr o gamau gweithredu posibl, a beth fydd y broses ar gyfer llacio cyfyngiadau symud wrth i'w heffeithiolrwydd gydio. Yn y ffordd honno, gobeithiwn allu osgoi'r angen i roi mesurau ar waith ledled y wlad, yn enwedig mesurau a fyddai'n effeithio ar blant. O ran archfarchnadoedd, cyfarfu fy nghyd-Aelod Lesley Griffiths â'r archfarchnadoedd yng Nghymru y bore yma. Pwysleisiodd wrthynt fod y gyfraith yn wahanol yng Nghymru, fod ganddynt rwymedigaeth gyfreithiol—nid cyngor yn unig—sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod eu safleoedd yn ddiogel i staff ac i'r bobl sy'n siopa ynddynt. Cafodd sicrwydd gan y sector ynghylch sawl mater, ac ymrwymiad y byddent yn edrych ar rai o'r cwynion a wnaed i fy swyddfa ac i Aelodau eraill yma—i'w swyddfeydd—hefyd, am y ffordd y mae rhai archfarchnadoedd yn gweithredu'n lleol. Maent yn sectorau pwysig tu hwnt ac maent wedi llwyddo'n rhyfeddol yn ystod argyfwng y coronafeirws i aros ar agor ac i barhau i fwydo pobl yng Nghymru a gweddill y Deyrnas Unedig. Ond mae ganddynt gyfrifoldeb hefyd, ac yma yng Nghymru, rydym yn benderfynol iawn o egluro'r cyfrifoldeb hwnnw wrthynt, a bod yn rhaid iddynt ei ysgwyddo. Nick Ramsay AC: Diolch am eich datganiad, Brif Weinidog. Mae gennyf gwpl o gwestiynau. Yn gyntaf—ac fe soniwyd yn rhannol am hyn mewn ateb a roesoch i gwestiwn ychydig funudau yn ôl—ar y gwasanaeth iechyd a llawdriniaethau, mae nifer o etholwyr wedi cysylltu â mi ar ôl cael llawdriniaethau wedi’u gohirio oherwydd y sefyllfa gyda COVID-19. Rwy'n derbyn yr hyn a ddywedwch ynglŷn â pha mor anodd yw hi i bethau ddychwelyd at fod yn normal yn y dyfodol agos ac nad yw'r capasti yno, ond mae angen i mi roi rhyw fath o arweiniad i fy etholwyr. Felly, tybed a all Llywodraeth Cymru ddweud yn glir, a darparu rhywfaint o eglurhad ynghylch pryd y gall llawdriniaethau sydd wedi'u gohirio ailddechrau, a phryd y gallwn ddisgwyl rhyw fath o normalrwydd. Yn ail, chwaraeon. Caniatawyd i ganolfannau marchogaeth dan do ailagor yn yr Alban a Lloegr—yn yr Alban ar 29 Mehefin ac yn Lloegr ar 4 Gorffennaf, rwy’n credu. Ni chredaf fod hyn wedi digwydd eto yng Nghymru. Felly, a allech roi rhywfaint o eglurhad, neu a allech godi hyn gyda'r Gweinidog sy'n gyfrifol, fel ein bod yn gwybod pryd y gallwn ddisgwyl i ganolfannau dan do ailagor yng Nghymru, yn rhannol o leiaf? Ac yn olaf— Na, nid oes lle i ‘yn olaf’. Nick Ramsay AC: Na? Iawn. Mae'n ddrwg gennyf. Diolch, Nick. Brif Weinidog. Mark Drakeford AC: Wel, diolch i Nick Ramsay. Mae llawdriniaethau wedi ailddechrau yng Nghymru. Mae llawdriniaethau’n digwydd bob dydd. Mae'n fater o flaenoriaethu clinigol. Y rheol yng Nghymru bob amser yw y bydd y rheini sydd â'r angen mwyaf yn cael y gwasanaeth yn gyntaf, a mater i glinigwyr ei drafod â'u cleifion yw hynny. Ni chredaf y bydd rheol fwy manwl na hynny, a'r cyngor yn gyffredinol yw y bydd yn rhaid i bobl drafod y mater â'u meddyg ymgynghorol a chael cyngor yn y ffordd honno. O ran canolfannau marchogaeth dan do, rwyf eisoes wedi trafod hyn yn gynharach yr wythnos hon gyda'r prif swyddog meddygol ac eraill; mae'n rhan o'r adolygiad tair wythnos cyfredol. Os ydym mewn sefyllfa ar ei ddiwedd i lacio ymhellach, gall y sefydliadau yng Nghymru sy'n gweithredu ym maes marchogaeth wybod ein bod yn mynd ati’n weithredol i edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud ar eu cyfer. Leanne Wood AC: Mae llawer o rieni wedi cysylltu â mi i fynegi pryderon am y lleoedd cyfyngedig ar fysiau i ysgolion. Mae problemau ar bob bws sy'n effeithio ar weithwyr allweddol hefyd, ond mae prinder lle ar fysiau ysgol yn achosi straen arbennig i rieni sydd â phlant mewn gwahanol ysgolion, i rieni sydd â phlant mewn ysgolion Cymraeg, y bobl sydd wedi talu am le yn y gorffennol ac na allant wneud hynny mwyach. Felly, beth a ddywedwch wrth y rhieni hynny, gan gynnwys mam plentyn awtistig sy'n methu cael sedd ar fws i'w mab gyrraedd yr ysgol ar ei ddiwrnod cyntaf yn yr ysgol uwchradd? A sut rydych yn ystyried y ddwy astudiaeth a gyhoeddwyd gan rwydwaith JAMA Pediatrics sy'n awgrymu bod plant ifanc yn lledaenu COVID-19 yn fwy effeithlon nag oedolion, gan beri risg amlwg i berthnasau bregus? Ymddengys i mi fod hynny'n mynd yn groes i’ch cyhoeddiad ar roi diwedd ar fesurau cadw pellter cymdeithasol i rai dan 11 oed. Felly, a wnewch chi gyhoeddi'r cyngor a arweiniodd at y penderfyniad hwnnw, ac a wnewch chi ymrwymo i ystyried yr ymchwil newydd hon a'i heffaith, yn enwedig ar ein dinasyddion mwyaf bregus? Mark Drakeford AC: Lywydd, rydym yn cyhoeddi'r cyngor yn wythnosol, felly bydd yr Aelod yn gweld hynny i gyd, fel y bydd eisoes wedi gallu gweld yr holl dystiolaeth rydym wedi'i chyhoeddi ar drosglwyddiad ymhlith plant a’r perygl i blant o ddal yr haint. Bydd ein grŵp cynghori technegol yn edrych ar y ddwy astudiaeth hon, ac os bydd yn newid eu meddyliau, byddant yn dweud hynny wrthym. Ond mae’r rhan fwyaf o’r dystiolaeth wedi bod ar ochr arall y rhaniad hwnnw, gan gynnwys mewn lleoedd fel Denmarc, lle mae ganddynt fwy o brofiad eisoes o blant yn dychwelyd i'r ysgol. Felly, mae mwy nag un astudiaeth yma, ac nid yw mwyafrif y dystiolaeth ar yr ochr y mae'r Aelod wedi'i nodi hyd yma. O ran lleoedd ar fysiau, rydym yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol a darparwyr bysiau i sicrhau ein bod, i'r graddau mwyaf sy'n bosibl, yn gallu darparu cludiant ysgol effeithiol i blant sy'n dychwelyd i'r ysgol yn yr hydref. Jenny Rathbone AC: Rwy’n llwyr gefnogi safbwynt y Llywodraeth o ran blaenoriaethu dychweliad pob disgybl, gobeithio, i’r ysgol erbyn dechrau’r flwyddyn ysgol y mis nesaf. Yn gysylltiedig â'r newid pwysig i'r rheoliadau ddydd Gwener diwethaf nad oes angen i blant hyd at 11 oed gadw pellter cymdeithasol mwyach, oddi wrth ei gilydd nac oddi wrth oedolion, rwy'n awyddus i ddeall sut y bydd hynny'n hwyluso ailagor pob ysgol gynradd ar gyfer pob disgybl yn llawnamser, a hefyd a fydd hynny wedyn yn galluogi clybiau brecwast a gwasanaethau ar ôl ysgol cofleidiol i weithredu fel arfer hefyd, gan fy mod yn siŵr y bydd hynny'n ddefnyddiol iawn i rieni y bydd angen iddynt wneud trefniadau eraill ar gyfer gofal plant fel arall. Gan gymryd bod y wybodaeth o Ddenmarc a mannau eraill yn dal dŵr ar ôl craffu arni ac nad yw plant ysgolion cynradd yn ffynhonnell ar gyfer lledaenu’r coronafeirws, yn amlwg, mae hynny’n ein galluogi i ganolbwyntio mwy ar yr ysgolion uwchradd, lle mae angen mesurau cadw pellter cymdeithasol, a tybed sut y mae’r Llywodraeth yn cynorthwyo ysgolion uwchradd i sicrhau bod y nifer uchaf o ddisgyblion yn gallu mynychu y rhan fwyaf o'r amser. Ac yn olaf, roeddwn— Na. Nid oes lle i'ch ‘yn olaf' chi chwaith, mae'n ddrwg gennyf, Jenny. Y Prif Weinidog. Mark Drakeford AC: Wel, Lywydd, diolch i Jenny Rathbone am ei chefnogaeth gadarn iawn drwy gydol hyn i blant a'r angen i'r plant hynny fod yn ôl yn yr ysgol. Mae'r wyddoniaeth yn newid mewn perthynas â’r coronafeirws. Mae aelodau Plaid Cymru wedi tynnu sylw at astudiaethau pellach heddiw, astudiaethau y mae angen eu hystyried, ond mae’r rhan fwyaf o’r dystiolaeth rydym wedi’i gweld yn nodi nad yw plant yn lledaenu’r afiechyd ac nad ydynt yn dioddef o’r clefyd i’r un graddau ag eraill. Mae plant yn dioddef mewn ffyrdd eraill. Mae plant o dan 11 oed sy’n clywed bod yn rhaid iddynt gadw pellter cymdeithasol oddi wrth bobl y maent yn eu caru a phlant eraill y maent yn eu hadnabod yn dioddef drwy hynny hefyd. Felly, roeddwn yn falch iawn ddydd Gwener ein bod wedi gallu dweud bod y dystiolaeth yn dweud wrthym y gallwn godi'r cyfyngiad hwnnw ar eu bywydau, a dylai olygu y bydd y broses o ailagor ysgolion ym mis Medi yn haws yn y ffordd honno. Nid dyma'r unig ran o'r darlun, fel y gwn fod Jenny Rathbone yn gwybod. Rhaid inni feddwl am oedolion yn yr ysgol. Nid yn yr ystafell ddosbarth y mae llawer o'r risgiau sy'n gysylltiedig ag ysgolion i'w canfod; maent yn deillio o’r ffordd y mae pobl yn cyrraedd yr ysgol ac yn gadael yr ysgol, a'r holl bethau sy'n digwydd o amgylch ysgol. Felly, bydd penaethiaid yn dal i feddwl yn ofalus ynglŷn ag ailagor i'r graddau mwyaf y gallant ei wneud, gan gynnwys clybiau brecwast a chlybiau ar ôl ysgol ac ati. Ac mewn ysgolion uwchradd, mae gennym fantais unigryw yng Nghymru yn yr ystyr fod plant wedi bod yn ôl yn yr ysgol uwchradd ddiwedd mis Mehefin a dechrau mis Gorffennaf, ac mae penaethiaid wedi dysgu llawer o hynny. Rydym yn gwneud llawer gyda'r sector i sicrhau bod y profiad hwnnw'n cael ei rannu a bod athrawon yn gallu dychwelyd i'r ystafell ddosbarth gyda phlant oedran uwchradd i'r graddau mwyaf sy'n bosibl. Rydym yn cynnig rhywfaint o hyblygrwydd ychwanegol ar ddechrau'r tymor ysgol i ganiatáu i bobl wneud addasiadau yn yr ychydig wythnosau cyntaf hynny, a'n nod wedyn yw sicrhau bod cymaint â phosibl o blant yn dychwelyd am gymaint â phosibl o amser am fod hynny er lles iddynt, fel y mae ein comisiynydd plant ein hunain, yn ogystal â'r comisiynydd plant yn Lloegr, wedi’i ddweud mor rymus. Neil Hamilton. Ni allaf eich clywed ar hyn o bryd, Neil Hamilton. Ie. Neil Hamilton AC: Diolch, Lywydd. Yn ystod ei ddatganiad, dywedodd y Prif Weinidog fod y rhagolygon mewn perthynas â'r coronafeirws 'wedi gwaethygu mewn sawl rhan o'r byd', ond un wlad lle nad yw hynny'n wir yw Sweden. Mae Sweden wedi cael 81,000 o achosion i gyd ers dechrau'r pandemig, ond y sefyllfa ddoe oedd mai dim ond 41 o bobl a gofrestrwyd fel rhai sydd mewn cyflwr difrifol neu gritigol, ac mae cyfartaledd symudol saith diwrnod y marwolaethau wedi gostwng bellach i rhwng un neu ddau y dydd. Ar ddechrau'r cyfyngiadau symud ym Mhrydain, fe ddewisodd Sweden lwybr tra gwahanol. Ni chawsant gyfyngiadau symud gorfodol o gwbl, a dywedodd yr Athro Tegnell, prif gynghorydd Llywodraeth Sweden, na fyddai cyfyngiadau symud ond yn gohirio heintiau a marwolaethau ac na fyddent yn eu hatal rhag digwydd. Ymddengys bod hynny wedi'i gadarnhau gan brofiadau yn Lloegr, y cyfeiriodd y Prif Weinidog atynt. Ar y sail honno, felly, er bod yn rhaid i bobl barhau i fod yn bersonol gyfrifol am arfer rhagofalon synhwyrol drwy gadw pellter cymdeithasol ac osgoi creu risgiau i'r rhai sy'n agored i niwed—yr henoed a'r rhai sydd â chyflyrau meddygol sy'n bodoli eisoes—a fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno ei bod hi'n hollbwysig yn awr inni sicrhau bod yr economi mor iach ag y gallwn? Oherwydd mae cost economaidd i'r cyfyngiadau symud, ond hefyd, wrth gwrs, mae cost mewn pobl sydd â chlefydau difrifol na cheir diagnosis ohonynt ac na chânt eu trin, ac felly, dylem fod yn ystyriol yn ein hymateb a pheidio â chael ein dychryn gan y cynnydd diweddar yn yr achosion mewn rhannau eraill o Loegr. Mark Drakeford AC: Wel, Lywydd, mae tröedigaeth yr Aelod at achos democratiaeth gymdeithasol Sgandinafia wedi bod yn un o ffenomenau holl brofiad y coronafeirws. Ac mae'r sefyllfa yn Sweden yn llawer mwy cymysg nag y credaf ei fod yn dymuno ei awgrymu: cafwyd mwy o farwolaethau yn Sweden na Denmarc a Norwy gyda'i gilydd, a chafodd eu sector cartrefi gofal ei effeithio'n arbennig o wael. Felly, ni ddylai neb gredu bod un enghraifft wych i'w chael hyd yn oed yn Sweden. Ond ar bwynt cyffredinol, nid wyf yn anghytuno â'r hyn y mae'r Aelod wedi'i ddweud: rydym eisiau i'r economi yng Nghymru ailagor, rydym eisiau i bobl gael bywoliaeth o'u blaenau ac i fusnesau lwyddo. Ond dyna pam ein bod wedi mynd ati yn y ffordd a wnaethom, oherwydd nid wyf yn credu bod dim yn anos i fusnes nag agor a chau wedyn, ac yna ailagor a'r perygl o gau eto. Oherwydd mae hynny'n erydu'r hyder y cyfeiriodd Carwyn Jones ato'n gynharach yn y sesiwn yn y bobl y mae'r busnesau hynny'n dibynnu arnynt: eu cwsmeriaid. Ac mae'r ffordd rydym wedi ceisio ei wneud yng Nghymru, mewn ffordd gam wrth gam heb, hyd yma, orfod gwrthdroi'r mesurau a gyflwynwyd gennym, yn dda i fusnes yn fy marn i, ac mae angen i fusnesau lwyddo mewn argyfwng sy'n economaidd yn ogystal ag argyfwng iechyd. Ond fy nadl i fyddai fod ein hymagwedd tuag at hyn wedi bod yn dda, nid yn unig i iechyd y cyhoedd, ond mae'r hyn sy'n dda i iechyd y cyhoedd yn dda i fusnes, a dyna'r ffordd rydym wedi ceisio mynd ati. Yn olaf, Jack Sargeant. Jack Sargeant AC: Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, mae trigolion wedi cysylltu â mi ynglŷn ag aelodau o'u teuluoedd sydd wedi dal coronafeirws tra yn yr ysbyty. Fel y gallwch ddychmygu, maent yn ddig ac yn ofnus iawn, a hynny'n gwbl briodol. Nawr, Brif Weinidog, mae hyn wedi digwydd mwy yng ngogledd Cymru nag yn unman arall, ac mae angen i bobl wybod eu bod yn ddiogel pan fyddant yn mynd i'r ysbyty. A wnewch chi ofyn i'ch swyddogion siarad â'r bwrdd iechyd i ofyn iddynt adolygu'r gweithdrefnau yng ngogledd Cymru, gyda'r nod o sicrhau na fydd hyn byth yn digwydd eto yn y dyfodol? Mark Drakeford AC: Lywydd, diolch i Jack am hynny, ac wrth gwrs rwy'n deall ac yn cydymdeimlo â'r bobl sydd â pherthnasau yn yr ysbyty ac sy'n ofni dal coronafeirws pan fyddant yno. Mewn gwirionedd, bu hynny'n fwy nodweddiadol o dde Cymru, a de-ddwyrain Cymru yn enwedig, nag unrhyw ran arall o Gymru, gan gynnwys y gogledd. Ond rwy'n rhoi sicrwydd llwyr i Jack Sargeant fod fy swyddogion mewn cysylltiad dyddiol â'r tîm rheoli achosion yn Ysbyty Maelor Wrecsam. Rwyf wedi cyfarfod â hwy fy hun ddwywaith gyda'r Gweinidog iechyd yn y pum niwrnod diwethaf, i glywed am y gwaith y maent yn ei wneud i sicrhau eu bod yn cael yr holl gymorth a chyngor sydd ei angen arnynt. Ac fel rwy'n dweud, rwy'n credu mai'r newyddion calonogol yw bod y sefyllfa yn yr ysbyty wedi sefydlogi, fod nifer yr heintiau newydd wedi bod yn isel yn ystod y dyddiau diwethaf, a chyda'r holl gamau sydd wedi'u cymryd eisoes, credaf y gall cleifion fod yn fwyfwy hyderus fod y digwyddiadau yn Ysbyty Maelor Wrecsam bellach o dan reolaeth. Diolch i'r Prif Weinidog. 2. Aelodaeth Pwyllgorau Yr eitem nesaf, felly, yw'r cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau. Dwi'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i symud y cynigion. Darren Millar. Cynnig NDM7361 Elin Jones Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Angela Burns (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Cynnig NDM7362 Elin Jones Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Suzy Davies (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau. Cynnig NDM7363 Elin Jones Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Andrew R.T. Davies (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn lle Angela Burns (Ceidwadwyr Cymreig). Cynnig NDM7364 Elin Jones Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn lle Andrew R.T. Davies (Ceidwadwyr Cymreig). Cynnig NDM7365 Elin Jones Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol David Melding (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn lle Suzy Davies (Ceidwadwyr Cymreig). Cynnig NDM7366 Elin Jones Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Laura Anne Jones (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn lle David Melding (Ceidwadwyr Cymreig). Cynnig NDM7367 Elin Jones Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Laura Anne Jones (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn lle Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr Cymreig). Cynigiwyd y cynigion. Darren Millar AC: Rwy'n cynnig. Y cynnig, felly, yw i dderbyn y cynigion. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, ac felly mae'r cynigion wedi cael eu cytuno. Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Yr eitemau nesaf yw eitemau 3, 4 a 5, ac yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, heblaw fod Aelod yn gwrthwynebu, bydd y tri chynnig o dan yr eitemau yma, 3, 4 a 5, yn cael eu grwpio ar gyfer y ddadl, ond gyda'r pleidleisiau ar wahân. A oes yna wrthwynebiad i'r cynnig hwnnw? Nac oes, ac felly does dim gwrthwynebiad. 3., 4. & 5. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) 2020 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 Dwi'n galw felly ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gyflwyno'r cynigion ar y rheoliadau. Vaughan Gething. Cynnig NDM7358 Rebecca Evans Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Gorffennaf 2020. Cynnig NDM7359 Rebecca Evans Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Gorffennaf 2020. Cynnig NDM7360 Rebecca Evans Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Gorffennaf 2020. Cynigiwyd y cynigion. Vaughan Gething AC: Diolch ichi, Lywydd, ac rwy'n cynnig y tair set o reoliadau ger ein bron heddiw yn ffurfiol, a gofynnaf i'r Aelodau gefnogi pob un o'r tair set o reoliadau. Fel gyda'r rheoliadau a'u rhagflaenodd, cafodd y tair set o reoliadau sy'n cael eu trafod heddiw eu cyflwyno o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 drwy weithdrefnau brys i gefnogi ein dull cenedlaethol o fynd i'r afael â coronafeirws yma yng Nghymru. Wrth i bandemig y coronafeirws barhau, rydym wedi adolygu'n barhaus y cyfyngiadau y bu'n rhaid eu gosod ar unigolion, busnesau a sefydliadau eraill i reoli'r argyfwng iechyd cyhoeddus gwirioneddol anarferol hwn. Mae'r adolygiad parhaus o'r rheoliadau yn ychwanegol at y cylch adolygu 21 diwrnod sy'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu'r angen am gyfyngiadau a gofynion bob 21 diwrnod. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, bydd yr Aelodau'n ymwybodol ein bod wedi ceisio llacio'n raddol ystod o gyfyngiadau sy'n gymwys i Gymru fel y mae amgylchiadau wedi caniatáu. Mae'r rheoliadau sydd gerbron y Senedd heddiw'n parhau'r broses honno. Unwaith eto, mae'r holl newidiadau a gyflwynir gan y rheoliadau hyn yn seiliedig ar y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf a chyngor iechyd y cyhoedd ynghylch pa gyfyngiadau sy'n fwyaf diogel i'w dileu neu eu newid tra'n diogelu rhag unrhyw gynnydd yn lledaeniad y feirws yma yng Nghymru. Roedd y rheoliadau Rhif 2 yn dirymu ac yn disodli'r darpariaethau blaenorol a nodir yn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 a'u diwygiadau dilynol. Daeth y rheoliadau hyn i rym ar 11 Gorffennaf mewn perthynas ag agor darpariaethau llety gwyliau hunangynhwysol, ac yn llawn o ddydd Llun 13 Gorffennaf eleni. Er bod y rheoliadau'n dirymu'r rheoliadau gwreiddiol, roeddent hefyd yn ailsefydlu, gyda rhywfaint o lacio, gofynion ar gyfer cau busnesau sy'n gwerthu bwyd neu ddiod, llety gwyliau a busnesau eraill i ddiogelu rhag y risg i iechyd y cyhoedd yn deillio o coronafeirws. Roeddent hefyd yn cyflwyno'r ddyletswydd ar awdurdodau lleol, awdurdodau parciau cenedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gau llwybrau troed neu fynediad i dir er mwyn atal niferoedd mawr o bobl rhag ymgasglu neu fod yn agos at ei gilydd ac i gyhoeddi rhestr o'r mannau a gaewyd ar eu gwefannau. Roedd y rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer nifer sylweddol o ddarpariaethau llacio yn y cyfyngiadau a oedd mewn grym yn flaenorol. Felly, drwyddynt, rydym wedi dileu'r gofyniad i gau'r categorïau canlynol o fusnesau: siopau trin gwallt a siopau barbwr, llety hunangynhwysol a lletygarwch awyr agored. Rydym wedi caniatáu i addoldai ailddechrau gwasanaethau awyr agored a gwasanaethau cynulleidfaol dan do mewn rhai ardaloedd. Rydym wedi caniatáu i sinemâu awyr agored agor ac wedi caniatáu ar gyfer gweithgareddau awyr agored wedi'u trefnu, hyd at uchafswm o 30 o bobl, os bydd y trefnwyr yn bodloni gofynion diogelwch COVID. Rydym wedi diwygio'r gofyniad 2m ac wedi rhoi gofyniad yn ei le i roi mesurau rhesymol ar waith i leihau'r risg o ddal coronafeirws. Mae hynny'n cynnwys cadw pellter o 2m, cyfyngu ar ymwneud wyneb yn wyneb, cynnal safonau hylendid a darparu gwybodaeth ar sut i leihau'r risgiau o ddal y feirws. Daeth y rheoliadau diwygio Rhif 2 i rym ar 20 Gorffennaf. Roeddent yn caniatáu ar gyfer llacio cyfyngiadau coronafeirws ymhellach drwy ailagor meysydd chwarae a champfeydd awyr agored a ffeiriau, ac yn egluro y gall pobl ymgynnull mewn addoldai. Yn olaf, daeth yr ail set o reoliadau diwygio i rym ar 3 Awst. Mae'r rheoliadau hyn yn darparu mwy fyth o ryddid i ymgysylltu ac yn dychwelyd at rywbeth sy'n nes at yr hyn a oedd yn fywyd normal i lawer o bobl, drwy ganiatáu i hyd at 30 o bobl ymgynnull, caniatáu i letygarwch dan do mewn tafarndai, bariau, caffis a bwytai ailagor, a chaniatáu i alïau bowlio, neuaddau bingo ac ystafelloedd arwerthu ailagor. Mae'r cyfyngiadau a roddwyd ar waith i ddiogelu iechyd pobl a rheoli lledaeniad y feirws wedi bod, ac yn parhau i fod yn ddigynsail. Fodd bynnag, mae'r gyfraith yn nodi'n glir mai dim ond cyhyd â'u bod yn angenrheidiol ac yn gymesur y gellir cadw'r cyfyngiadau hynny mewn grym. Roedd y cynllun a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 15 Mai yn addo dull gofalus a chydlynol o lacio'r cyfyngiadau drwy newid rheoleiddiol graddol. Mae'r rheoliadau y bydd yr Aelodau'n pleidleisio arnynt heddiw'n helpu i wireddu'r addewid hwnnw, a gofynnaf i'r Senedd eu cefnogi. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw. Mick Antoniw AC: Diolch, Lywydd. Cafodd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 eu gwneud, fel y dywedwyd, ar 10 Gorffennaf o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 mewn ymateb i COVID-19 neu coronafeirws. Mae'r rheoliadau'n dirymu'r rheoliadau coronafeirws gwreiddiol a wnaed ar 26 Mawrth. Fel y dywedwyd, dirymir hefyd yr holl welliannau a wnaed i'r rheoliadau cyfyngu gwreiddiol hynny. Y rheoliadau Rhif 2 yw'r prif reoliadau ar y coronafeirws yng Nghymru bellach. Yn gryno, ac fel y gŵyr yr Aelodau, mae rheoliadau Rhif 2 yn ailddatgan darpariaethau penodol yn y rheoliadau gwreiddiol, yn ei gwneud yn ofynnol i'r busnesau y caniateir iddynt fod ar agor gymryd camau penodol, gan gynnwys rhoi pob cam rhesymol ar waith i sicrhau bod cadw pellter cymdeithasol yn digwydd ar eu safleoedd ac mewn perthynas â chyfyngu ar gasgliadau mawr o bobl. Daw'r rheoliadau i ben ar 8 Ionawr 2021. Ar 3 Awst, cyflwynodd y pwyllgor adroddiad ar y rheoliadau Rhif 2 a dwy gyfres o reoliadau diwygio a wnaed ar 17 a 24 Gorffennaf. Nododd ein hadroddiad ar y rheoliadau Rhif 2 dri phwynt adrodd technegol a chwe phwynt adrodd ar ragoriaethau. Mynegwyd pryderon gennym am y darpariaethau cychwyn yn y rheoliadau; yn benodol, pryd yn union y daw'r rheoliadau i rym? Byddwn yn croesawu eglurhad ar y pwynt hwn yn sylwadau'r Gweinidog i gloi ac yn gobeithio y byddant yn cadarnhau'r sefyllfa mewn perthynas ag unrhyw un a allai fod wedi torri'r cyfyngiadau dros benwythnos 11 a 12 Gorffennaf. Yn ogystal, rydym yn tynnu sylw at rai anghysondebau o ran ystyr yn y testunau Cymraeg a Saesneg. Nawr, gan droi at y pwyntiau adrodd ar ragoriaethau, rydym yn nodi'r esboniad ynglŷn ag effaith y rheoliadau Rhif 2 ar hawliau dynol, a sut y gellir cyfiawnhau ymyrraeth mewn perthynas ag erthyglau 5, 8, 9 ac 11. Fodd bynnag, rydym wedi gofyn am ragor o wybodaeth er mwyn darparu dealltwriaeth lawnach o'u heffaith ar hawliau dynol. Rydym hefyd wedi gofyn am eglurhad ar ddau fater: yn gyntaf, ynglŷn â sut y mae'r rheoliadau'n berthnasol i'r cysyniad o aelwydydd estynedig lle nad yw un o'r aelwydydd yng Nghymru, o ystyried bod Deddf 1984 yn datgan bod cyfyngiadau Cymru yn berthnasol i Gymru. Yn ail, rydym wedi gofyn am esboniad ynglŷn â chymhwyso rheoliad 8. Mae hwn yn caniatáu i lety hunangynhwysol agor cyhyd â'i fod, ymysg gofynion eraill, ond yn cael ei osod i aelodau o'r un aelwyd yn unig. Yn benodol, rydym wedi gofyn am eglurhad o'r hyn y mae'n rhaid i berchennog unrhyw lety hunangynhwysol ei wneud er mwyn bodloni eu hunain eu bod mewn gwirionedd yn gosod yr eiddo i aelodau o'r un aelwyd, boed yn estynedig ai peidio. Gofynasom hefyd i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â materion penodol y tynnwyd sylw atynt yn ein hadroddiad, sydd gan yr Aelodau, ynglŷn â phwerau mynediad a hysbysiadau cosb benodedig. Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) 2020 hefyd yn diwygio'r rheoliadau Rhif 2 i ganiatáu ailagor ffeiriau, meysydd chwarae a champfeydd awyr agored, fel y crybwyllwyd gan y Gweinidog, ac yn egluro bod gan bersonau sy'n mynychu man addoli esgus rhesymol dros ymgynnull. Daeth y rheoliadau hyn i rym ar 20 Gorffennaf. Adroddwyd ar dri phwynt rhagoriaeth yn gysylltiedig â drafftio sy'n berthnasol i hygyrchedd y gyfraith, ac rydym yn tynnu sylw'r Senedd atynt fel y maent wedi'u nodi yn yr adroddiad. Yn olaf, deuwn at y drydedd set o reoliadau sy'n cael ei thrafod heddiw. Roedd yr ail set o reoliadau diwygio yn codi rhai o'r cyfyngiadau a osodwyd gan y rheoliadau Rhif 2 o 25 Gorffennaf, ac eraill o 27 Gorffennaf. Mae'r rhain wedi'u rhestru yn ein hadroddiad. Yn ogystal, ac o 27 Gorffennaf ymlaen, mae'r rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i deithwyr sy'n teithio ar wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus wisgo gorchudd wyneb, yn amodol ar rai eithriadau. Mae dau bwynt rhagoriaeth a nodir yn yr adroddiad yn ymwneud â mân fater drafftio a'r diffyg amser i gynnal ymgynghoriad neu asesiad effaith rheoleiddiol, a thynnaf sylw'r Senedd at y rhain. Diolch, Lywydd. Andrew RT Davies AC: Diolch am gyflwyno'r rheoliadau hyn, Weinidog. Os caf ofyn am sicrwydd gennych ar ddau fater, Weinidog. Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn pleidleisio o blaid y rheoliadau fel y'u cyflwynwyd y prynhawn yma, ond o ran y defnydd o fasgiau wyneb mewn lleoliadau lle ceir risg, megis ysbytai a chartrefi gofal, hoffwn wybod pam nad yw'r Gweinidog wedi dewis defnyddio'r diweddariadau hyn i'r rheoliadau i wneud hynny'n rhwymedigaeth orfodol ledled Cymru, yn enwedig gyda'r hyn a welsom yn Ysbyty Maelor Wrecsam, gyda cheisiadau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r bwrdd iechyd yn yr ardal honno. Clywais yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog yn ei ymateb i mi, sef eu bod yn orfodol ar safle Ysbyty Maelor Wrecsam, ond mewn gwirionedd ni chefnogwyd hyn gan reoliadau a osodwyd gan y Llywodraeth na'r ddeddfwriaeth sydd ar gael i'r Llywodraeth i ddileu'r agwedd ddadleuol a'i wneud, ledled Cymru, yn ofyniad ar bobl sy'n ymweld ag ysbytai a chartrefi gofal yn enwedig. Felly, hoffwn wybod pam nad yw'r Llywodraeth wedi dewis defnyddio'r cyfle hwn i wneud hynny. Yn ail, rydym i gyd wedi gweld y golygfeydd ledled Cymru wrth i rai o'r mesurau llacio ddod i rym—yn Roald Dahl Plass, y drws nesaf i adeilad y Cynulliad ei hun, ac mewn lleoliadau eraill yn fy rhanbarth etholiadol i. Yn y Barri, er enghraifft, cafwyd torfeydd o 25,000-30,000 ar Ynys y Barri yn ddyddiol. Pa mor hyderus ydych chi, Weinidog, y gall y rheoliadau a roesoch gerbron y Senedd i'w cymeradwyo heddiw reoli a chynorthwyo'r asiantaethau gorfodi i reoli'r sefyllfaoedd y maent yn eu hwynebu o ddydd i ddydd yn awr pan fo cymaint o bobl yn ymgasglu, gan droi'n ymddygiad afreolus, ac yn ymddygiad troseddol mewn rhai achosion byddwn yn awgrymu, oherwydd yn amlwg mae'r Prif Weinidog yn ei ddatganiad wedi cyfeirio at y ffaith ei fod wedi cyfarfod â'r asiantaethau gorfodi y bore yma, ond rydym yn pleidleisio ar reoliadau heddiw ar gyfer y tair wythnos nesaf? Felly, a ydych chi o'r farn fod y rheoliadau rydym yn pleidleisio arnynt yn helpu'r asiantaethau gorfodi i fynd i'r afael â sefyllfaoedd o'r fath? Rhun ap Iorwerth AC: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Diolch hefyd i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu gwaith nhw yn rhoi sgrwtini i'r rheoliadau yma. Mi fyddaf i a fy nghyd-Aelodau yn pleidleisio dros y rheoliadau yma. Rydym ni'n cefnogi'r symudiad, wrth gwrs, tuag at godi cyfyngiadau—dyna y mae pawb ei eisiau—cyn belled â bod y dystiolaeth yn dangos inni fod hynny'n gallu cael ei wneud yn ddiogel. Mi ydym ni, serch hynny, yn dal i bwysleisio'r angen i gyfathrebu mor glir â phosib ac mor bell â phosib ymlaen llaw lle mae yna bosibilrwydd o lacio rhagor o reoliadau a sut mae hynny yn gallu cael impact ar unigolion a theuluoedd, ac ar fusnesau hefyd, achos mae yna fusnesau sydd yn dal i fod eisiau gallu paratoi i gynyddu eu gweithgarwch. Ac mae hyn, wrth gwrs, efo'r cafeat y gallai pethau newid, achos mae hynny'n mynd i fod yn anochel efo'r pandemig yma. Hefyd, lle mae'n amhosib i roi rhyddid i fusnesau weithredu mewn modd sydd yn caniatáu iddyn nhw ddechrau adfer colledion, rydym ni hefyd yn atgoffa ein bod ni'n apelio ar y Llywodraeth i gryfhau'r pecynnau o gefnogaeth sydd ar gael i'r busnesau hynny. Mae yna'n dal i fod busnesau sy'n llithro trwy'r rhwyd o gefnogaeth sydd ar gael, o ystyried yr impact y mae'r pandemig a'r cyfyngiadau sydd mewn lle yn ei gael arnyn nhw. Rydym ni hefyd yn cefnogi'r egwyddor sydd yn y rheoliadau yma eto o gadw cyfarwyddyd pellter 2m yng Nghymru. Un peth yr hoffwn i ofyn amdano fe, serch hynny, ydy tybed a oes ystyriaeth wedi cael ei rhoi i roi trefn mewn lle i asesu a oes modd gostwng y cyfarwyddyd pellter i 1m yn ddiogel mewn rhai amgylchiadau drwy gyflwyno camau lliniaru, fel gwisgo gorchuddion wyneb, er enghraifft. Mae gen i enghreifftiau yn fy etholaeth i ac mae gan Aelodau eraill eu henghreifftiau eu hunain hefyd, dwi'n siŵr, lle mae'r 2m yn cael effaith andwyol. Er enghraifft, o ran busnesau sy'n rhedeg tripiau cychod neu dripiau pysgota yn Ynys Môn, yn yr awyr agored, mae'r cyfyngiadau 2m rhwng gwesteion sy'n talu yn gwneud hynny'n anodd. Tybed a oes modd gwneud hynny yn ddiogel. Gaf i hefyd ymhelaethu ychydig bach ar bwyntiau wnes i eu codi efo'r Prif Weinidog? Mae'r rheoliadau yma yn arwain tuag at, ac wedi arwain at, lacio'r cyfyngiadau. Ond tybed all y Gweinidog ddweud wrthym ni pa baratoadau sydd yna, drwy reoliadau, o bosibl, i dynhau cyfyngiadau eto lle mae angen hynny. Mi glywsom ni'r Prif Weinidog yn ein rhybuddio ni yn hollol, hollol iawn yn gynharach i gofio nad yw'r peryglon drosodd—dydyn nhw ddim. Rydym ni wedi gweld clystyrau go ddifrifol o achosion yn codi, er enghraifft, yng ngogledd-ddwyrain Cymru, lle gallai rheolau lleol gael eu tynhau, dwi'n meddwl, er mwyn, gobeithio, osgoi mynd i mewn i lockdown arall. Er enghraifft, siawns y dylai'r defnydd o orchuddion wyneb fod yn orfodol mewn mwy o leoedd mewn ardaloedd fel Wrecsam. Dwi'n eich atgoffa mai'r hyn dwi wedi'i ddadlau, a beth mae Plaid Cymru wedi'i ddadlau yn gyson, ydy bod angen canllawiau llawer cryfach a gorfodaeth mewn perthynas â gwisgo gorchuddion wyneb drwy Gymru mewn ardaloedd lle mae hi'n anodd ymbellhau oddi wrth eraill. Ond hefyd, mae gennym ni yr achosion yng ngogledd-orllewin Lloegr—ddim yng Nghymru, ond yn cael effaith uniongyrchol ar Gymru. Mae yna filoedd o bobl yn dal i ddod o'r ardaloedd hynny i ardaloedd fel Ynys Môn a Gwynedd ac ar hyd y gogledd. Mae'r cwestiwn wedi cael ei ofyn, ac mae'n gwestiwn dilys: a ddylid bod yn gofyn i bobl ond i deithio lle mae gwir angen hynny? Ond os nad yw'r Llywodraeth yn barod i roi gostyngiad neu gyfyngiad ar hawl pobl i deithio, dwi'n reit sicr bod angen cyfarwyddyd, canllawiau a gorfodaeth llawer mwy llym ar sut y dylai pobl ymddwyn ar ôl teithio i'r cymunedau hynny. Mae yna bobl sy'n methu mynd mewn teuluoedd lluosog i dafarn yng ngogledd-orllewin Lloegr, ond maen nhw yn cael mynd i dafarn yn Ynys Môn, a dwi'n meddwl bod eisiau i'r Llywodraeth ystyried hynny ac ymateb i hynny drwy gynyddu lefel y cyfarwyddyd o ran ymddygiad pobl. A dwi'n meddwl bod eisiau ystyried sut fydd angen cryfhau'r rheoliadau eto yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf i ymateb i sefyllfaoedd fel hyn. Mark Reckless AC: Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad ac i Gadeirydd y pwyllgor am y cefndir gweithdrefnol y gallwn fod wedi disgwyl ei gael gan y Gweinidog. Nid ydym wedi cael eglurhad ynglŷn â pham, ers y set wreiddiol ar 26 Mawrth, y cafwyd cyfres o welliannau i'r rheoliadau hynny—. Bellach, mae'r dull hwnnw wedi'i newid a chaiff y set gyffredinol gyntaf o reoliadau a'r holl welliannau eu dirymu wedyn a'u hadfer i raddau helaeth cyn cyflwyno cyfres newydd o welliannau. Beth yw diben y dull gweithdrefnol hwnnw? Rwy'n siomedig, unwaith eto, fod dros dair wythnos ers i'r gwelliannau hyn gael eu gwneud, ar 10 Gorffennaf, cyn inni eu trafod. Felly, rydym yn dadlau ac yn pleidleisio ar rywbeth pan fo eisoes wedi'i ddiwygio ddwywaith. Dywedodd y Prif Weinidog wrthym y bydd gwelliannau pellach yn cael eu gwneud ar 7 Awst. Mae'n 5 Awst heddiw. Pam na ellid gwneud hynny ddeuddydd yn gynharach fel y gallai'r Senedd eu craffu'n briodol? Y rheoliadau gwreiddiol, er y byddem wedi bod yn fodlon cefnogi rhywfaint o gyfyngu er mwyn diogelu capasiti'r GIG rhag cael ei drechu, erbyn inni hyd yn oed bleidleisio ar y set gyntaf o reoliadau, roedd y mater hwnnw, yn ein tyb ni, dan reolaeth. Rydym wedi gwrthwynebu'r holl reoliadau hyd yn hyn. Gan fod y rheoliadau Rhif 2 hyn yn adfer yr holl reoliadau hynny, rydym hefyd yn bwriadu pleidleisio yn erbyn y rhain. Unwaith eto, rydym yn credu bod graddau'r cyfyngiadau a'r cau yn anghywir, ac mae rhoi anhyblygrwydd enfawr y cadw pellter o 2m mewn cyfraith yn anghywir yn ein barn ni. Rwyf hefyd yn ystyried bod y rheoliadau hyn yn ddiangen ac yn anghymesur, ac mae hynny hyd yn oed yn fwy perthnasol o ystyried pa mor isel yw nifer yr achosion o COVID-19 erbyn hyn—y lefel hon o gyfyngiadau eithriadol a grym y wladwriaeth, a'r effaith y mae hyn yn ei chael ar yr economi, ond hefyd ar les pobl a hefyd, a bod yn blwmp ac yn blaen, ar iechyd, a chyfraddau marwolaeth, ysywaeth, o glefydau eraill yn y GIG. Mae'n gwbl anghymesur. Rydym yn ei wrthwynebu. Mae'r ddwy set o reoliadau diwygio yn fy nharo'n gyfan gwbl fel rhai sy'n llacio, er mewn ffordd fach, ac felly ni welwn fod angen gwrthwynebu'r rheoliadau diwygio os oes pleidlais. Diolch. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb—Vaughan Gething. Vaughan Gething AC: Diolch, Lywydd. Diolch i'r Aelodau am gyfrannu at y ddadl. Fe geisiaf ymateb i'r pwyntiau amrywiol. Efallai na lwyddaf i fynd drwy'r cyfan o ystyried nifer y pwyntiau penodol a wnaethpwyd. O ran ymdrin â'r pwyntiau a godwyd gan y pwyllgor, rwyf wedi ysgrifennu at y pwyllgor. Nid wyf yn gwybod a yw'r llythyr wedi cyrraedd y Cadeirydd eto, ond rwy'n meddwl y bydd yn ymdrin â'r pwyntiau a godwyd yn y pwyntiau adrodd, am y materion technegol a'r materion rhagoriaeth hefyd. Felly, byddant i gyd ar gael ac ar glawr. Rwy'n meddwl fy mod am ymdrin â'r pwynt cyntaf a wnaeth Mark Reckless ynglŷn â pham ein bod wedi dirymu'r rheoliadau gwreiddiol i gael cyfres newydd o reoliadau i'w diwygio. Y rheswm am hynny, yn syml, yw ein bod yn credu y byddant yn set fwy cydlynol o reoliadau i'w gwneud yn gliriach ac yn fwy amlwg i'r Aelodau ac i'r cyhoedd ac i bobl sy'n ceisio dilyn y rheoliadau, yn hytrach na pharhau i ailaddasu'r rheoliadau gwreiddiol. O ran y pwyntiau a wnaeth Rhun ap Iorwerth ac Andrew R.T. Davies ar orchuddion wyneb, mae'n ffaith fod hwn yn fater byw, ac nid yn unig yn destun trafod ymhlith y cyhoedd, ond hefyd yn destun sgyrsiau rheolaidd a gawn gyda'n cynghorwyr gwyddonol a chyda'r prif swyddog meddygol, am sefyllfa bresennol y dystiolaeth, a'r dystiolaeth sy'n cael ei hadolygu, a'r ymarfer hefyd. Felly, yn Ysbyty Maelor Wrecsam, mae yna sefyllfa benodol, a dyna pam y mae angen gorchuddion wyneb bellach ar bobl sy'n mynd i'r safle hwnnw. Nid oes angen cael rheoliadau gan y Llywodraeth er mwyn i'r gofyniad hwnnw fod yn real. Ond byddwn yn parhau i adolygu'r hyn a fyddai'n digwydd yn gyffredinol, gyda lledaeniad cyfredol y coronafeirws, ond pe bai gweithredu lleol, mae'r potensial ar gyfer defnydd pellach o orchuddion wyneb yn fater y gellid ei adolygu ymhellach, yn union fel y gwnaethom gyda thrafnidiaeth gyhoeddus, lle rydym yn cydnabod nid yn unig fod yna faterion trawsffiniol yn codi, ond wrth gwrs, ceir her wrth i fwy o bobl ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, ac mae cadw pellter cymdeithasol yn llawer mwy tebygol o fod yn anodd, a chyngor presennol y prif swyddog meddygol yw argymell defnyddio gorchuddion wyneb lle nad yw'n bosibl cadw pellter cymdeithasol. Rydym yn cydnabod, mewn gwirionedd, er mwyn cadw pethau'n syml hefyd, mai gwneud hynny'n orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus oedd y peth iawn i'w wneud. Felly, rydym yn parhau i ystyried tystiolaeth ar realiti ymarferol lle'r ydym arni ar orchuddion wyneb, fel yn wir ar ystod eang o feysydd. Rwyf am fynd i'r afael â rhai o'r pwyntiau a wnaeth Andrew R.T. Davies am Roald Dahl Plass a lleoliadau eraill. Wrth gwrs, dylwn ddweud bod Roald Dahl Plass yn fy etholaeth i, Lywydd, ac rwy'n cydnabod pryder amryw o bobl sy'n dod i Fae Caerdydd at ddibenion hamdden a dibenion eraill, ac mae peth o'r ymddygiad yn heriol. Mae hynny'n ymwneud yn rhannol ag ymgysylltu, ond hefyd â gorfodaeth. Ac ynglŷn â'r pwynt am ymddygiad y cyhoedd, dyna sydd wedi ein galluogi i gyrraedd y pwynt lle rydym wedi llacio ymhellach, ac efallai y gallwn lacio rhagor eto. Ond ymddygiad y cyhoedd hefyd sy'n creu'r risg fwyaf i allu parhau i lacio'r mesurau sy'n dal i fod gennym i gyfyngu ar ddewisiadau unigolion a chymunedau. Ymddygiad y cyhoedd fydd yn gochel orau rhag cynnydd pellach yn lledaeniad coronafeirws drwy'r hydref a'r gaeaf. Mae angen inni ymdrin â gorfodaeth lle mae pobl i'w gweld yn torri'r rheoliadau, ond hefyd mae angen inni atgoffa pobl ynglŷn â risgiau'r dewisiadau hynny i unigolion a phobl, nid yn unig y problemau gyda sbwriel ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, ond wrth inni fynd drwy'r hydref a'r gaeaf, beth y gallai hynny ei olygu o ran cynnydd yn lledaeniad y coronafeirws, fel y gwelsom mewn gwledydd eraill lle mae nifer yr achosion yn isel. Dyna'r rheswm pam, er enghraifft, fod Aberdeen bellach dan gyfyngiadau lleol yn yr Alban. Felly, mae'n fater i bob un ohonom yn y dewisiadau a wnawn fel arweinwyr cymunedol. Mae'n fater i ni fel unigolion yn ein cymunedau i geisio sicrhau bod coronafeirws yn cael ei atal. Ac o fewn hynny, rwy'n meddwl yn glir iawn am yr effaith ar fusnesau yn ogystal ag unigolion. Hoffwn weld mwy o gyfyngiadau'n cael eu llacio cyn gynted â phosibl, mor ddiogel ag sy'n bosibl, a dyna'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ceisio ei wneud o hyd. Ond mae hynny'n mynd i fod o fewn cyd-destun o weithredu'n fwriadol bwyllog i gadw Cymru'n ddiogel. Geilw hynny am eglurder yn ein cyfathrebu, ac rwy'n credu, er bod Plaid Brexit yn gwrthwynebu'r dull rydym yn ei ddilyn—ac maent wedi bod yn gyson yn hynny—byddai hyd yn oed pobl sy'n anghytuno ag ymagwedd y Llywodraeth hon yn cydnabod y cafwyd lefel glir a chyson o gyfathrebu mewn meysydd lle mae pobl yn anghytuno â ni. Credaf fod eglurder yn bwysig iawn, ac rwy'n credu bod hynny'n helpu'r cyhoedd i ddeall y rheolau a gwneud dewisiadau yn eu cylch. O ran ein cynllun ar gyfer y dyfodol, rwy'n cael cyfarfodydd rheolaidd gyda'r Prif Weinidog, y prif swyddog meddygol a'n prif gynghorwyr gwyddonol, ond rwyf wedi nodi y byddwn yn cyhoeddi cynllun ar ddechrau'r hydref ar gyfer paratoi ar gyfer yr hydref a'r gaeaf. Roedd yn newyddion i'w groesawu y bydd gennym fwy o arian ar gael. Cyhoeddwyd hynny heddiw yn dilyn datganiad gennyf i a'r Gweinidog cyllid. O fewn hynny, byddaf hefyd yn nodi, fel y nododd y Prif Weinidog—cyn hynny, yn hytrach—y cydbwysedd rhwng gweithredu lleol a chenedlaethol a sut olwg fydd ar hynny. Nawr, rhan yn unig o'n hymateb i reoli'r pandemig coronafeirws yma yng Nghymru yw'r rheoliadau hyn wrth gwrs, a byddwn yn parhau i weithredu i reoli'r pandemig a diogelu'r cyhoedd. O'u cymryd fel pecyn o fesurau, credaf fod y rheoliadau'n synhwyrol ac yn gymesur. Mae'r newidiadau wedi mynd gryn ffordd tuag at ddychwelyd at fywyd cymdeithasol ac economaidd mwy normal yng Nghymru. Mae elfen o risg yn gysylltiedig â hyn o hyd, ond ni chredwn fod y risg honno'n ormodol. Mae angen i bob un ohonom gofio nad yw'r feirws wedi diflannu ac mae angen inni ddal ati i ddilyn y negeseuon, yn enwedig ynglŷn â chadw pellter cymdeithasol a hylendid dwylo, er mwyn cadw pob un ohonom yn ein teuluoedd a'n cymunedau yn ddiogel. Edrychaf ymlaen at lacio ymhellach yn yr amser sydd ar gael i ni, ond byddaf hefyd, fel y bydd y Llywodraeth, yn parhau i roi pob mesur sy'n bosibl ac yn angenrheidiol ar waith er mwyn cadw pobl Cymru yn ddiogel. Ac efallai y bydd hynny'n golygu bod angen inni ddiwygio'r rheoliadau hyn ymhellach er mwyn symud y llacio i'r cyfeiriad arall. Ond fel y dywedaf, gobeithio y gallwn roi camau pellach ar waith i sicrhau bod y cyfyngiadau'n cael eu llacio ymhellach i bob cymuned ar draws y wlad. Diolch i'r Aelodau am gyfrannu at y ddadl a gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r rheoliadau sydd ger ein bron heddiw. Y cynnig yw i dderbyn y cynnig o dan eitem 3. A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Rydw i'n gweld gwrthwynebiad, felly fe wnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. Y cynnig nesaf yw i dderbyn y cynnig o dan eitem 4. A oes gwrthwynebiad? A oes gwrthwynebiad i'r cynnig o dan eitem 4? [Gwrthwynebiad.] Oes. Rydw i'n gweld gwrthwynebiad, felly rydw i'n gohirio tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. Y cynnig nesaf, felly, yw i dderbyn y cynnig o dan eitem 5. A oes gwrthwynebiad i'r cynnig hynny? [Gwrthwynebiad.] Oes. Rydw i'n gweld gwrthwynebiad i'r cynnig hynny, felly mae'r cynnig hynny hefyd yn cael ei ohirio tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. Sy'n dod â ni at y cyfnod pleidleisio, ond yn unol â Rheol Sefydlog 34.14D, bydd toriad o o leiaf pum munud cyn y byddwn ni yn pleidleisio. Felly, rŷn ni'n symud nawr at y toriad byr. Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:02. Ailymgynullodd y Senedd am 15:15, gyda'r Llywydd yn y Gadair. 6. Cyfnod Pleidleisio Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Mae'r bleidlais gyntaf ar y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Neil Hamilton, sut ydych chi'n pleidleisio? Neil Hamilton AC: Rwy'n pleidleisio yn erbyn. Paul Davies, sut ydych chi'n pleidleisio? Paul Davies AC: O blaid. Cau'r bleidlais. O blaid 41, neb yn ymatal, pedwar yn erbyn. Ac felly mae'r cynnig wedi ei gymeradwyo. Eitem 3 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020: O blaid: 41, Yn erbyn: 4, Ymatal: 0 Derbyniwyd y cynnigCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Mae'r bleidlais nesaf ar y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) 2020. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Neil Hamilton, sut ydych chi'n pleidleisio? Neil Hamilton AC: Pleidleisio yn erbyn. Paul Davies, sut ydych chi'n pleidleisio? Paul Davies AC: O blaid. Cau'r bleidlais. O blaid 43, neb yn ymatal, dau yn erbyn. Ac felly mae'r cynnig yna wedi ei gymeradwyo. Eitem 4 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) 2020: O blaid: 43, Yn erbyn: 2, Ymatal: 0 Derbyniwyd y cynnigCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Mae'r bleidlais olaf, felly, ar y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Neil Hamilton, sut ydych chi'n pleidleisio? Neil Hamilton AC: Yn erbyn. Paul Davies, sut ydych chi'n pleidleisio? Paul Davies AC: O blaid. Cau'r bleidlais. O blaid 43, neb yn ymatal, dau yn erbyn. Ac felly mae'r rheoliadau hynny wedi eu cymeradwyo. Eitem 5 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020: O blaid: 43, Yn erbyn: 2, Ymatal: 0 Derbyniwyd y cynnigCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Dyna ni'n dod at derfyn ein busnes am y dydd yma. Diolch i chi i gyd am gymryd rhan, a phob hwyl i chi i gyd. Diolch yn fawr. Daeth y cyfarfod i ben am 15:18.
uk-hansard-senedd-cy
senedd2020-08-05
2024-06-01T00:00:00
{ "year": "2020", "language": "cy", "license": "Open Parliament Licence - https://www.parliament.uk/site-information/copyright-parliament/open-parliament-licence/" }
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. Galw'r Aelodau i drefn. 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Janet Finch-Saunders. Amseroedd Aros y Gwasanaeth Iechyd ar draws Gogledd Cymru Janet Finch-Saunders AC: 1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd aros y gwasanaeth iechyd ar draws gogledd Cymru? OAQ53374 Mark Drakeford AC: Llywydd, er gwaethaf galw cynyddol, bu gostyngiad dros y flwyddyn ddiwethaf o bron i 30 y cant i nifer y bobl a fu'n aros am fwy na 36 wythnos am driniaeth yn Betsi Cadwaladr. Mae angen rhagor o waith, fodd bynnag, ac mae'n cael ei wneud i sicrhau bod yr holl amseroedd aros o fewn targedau Llywodraeth Cymru. Janet Finch-Saunders AC: Diolch, Prif Weinidog, ac rwyf i wir yn gwerthfawrogi'r gydnabyddiaeth bod angen gwneud rhagor o waith, ond, gadewch i ni fod yn onest, gweithredwyd ymyraethau uniongyrchol gan eich Llywodraeth Cymru chi ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr ym mis Mehefin 2015, tra'n aros am nifer o welliannau mawr a oedd yn ofynnol. Mewn gwirionedd, mae cleifion ar draws y gogledd yn dal i ddioddef digalondid amseroedd aros cynyddol. Rydym ni newydd weld y ganran waethaf erioed o gleifion a welwyd o fewn yr amser targed o bedair awr ar gyfer adrannau damweiniau ac achosion brys; clust, trwyn a llwnc—cynnydd o bron i 9 pwynt i ganran y llwybrau cleifion sy'n aros am fwy na 36 wythnos i ddechrau triniaeth, ac mae'r un peth yn wir o ran rheoli poen. Ac mae'r rhai sy'n aros am fwy na 24 wythnos am sigmoidosgopi hyblyg wedi cynyddu 4,900 y cant mewn termau canrannol. Nawr, mae gen i nifer o achosion lle mae etholwyr yn aros yn llawer rhy hir am driniaeth yn anffodus, fel un wraig oedrannus a gwympodd ym mis Mehefin y llynedd, gan dorri ei hysgwydd yn yfflon, ac a hysbyswyd erbyn hyn y bydd hi'n debygol o fod yn aros am o leiaf naw mis arall mewn poen arteithiol. Prif Weinidog, mae problemau o ran amseroedd aros ar draws y bwrdd iechyd hwn ar gyfer gwahanol driniaethau a gwasanaethau. Nawr, mae'n amlwg i mi, ac i Aelodau eraill yn y Siambr hon rwy'n credu, ac, yn wir, i'n cleifion yn y gogledd, bod eich Gweinidog iechyd eich hun, ar ôl tair blynedd a hanner, yn parhau i fethu o ran swyddogaethau a gweithrediad y bwrdd iechyd hwn. Fel y Prif Weinidog, sydd â'r cyfrifoldeb yn y pen draw—[Torri ar draws.] Rwy'n meddwl bod angen i chi ddod i'r cwestiwn. Janet Finch-Saunders AC: Iawn. Fel y Prif Weinidog sydd â'r cyfrifoldeb am bob portffolio yn y pen draw—[Torri ar draws.] Pan fy mod i'n gofyn i chi ddod at y cwestiwn, nid wyf i'n bwriadu i chi barhau i ddarllen yr hyn sydd gennych chi o'ch blaen. A wnewch chi ofyn y cwestiwn, os gwelwch yn dda? Janet Finch-Saunders AC: Iawn. Fel y Prif Weinidog sydd â'r cyfrifoldeb yn y pen draw, onid yw hi'n bryd erbyn hyn i chi ddechrau cymryd mwy o afael ar yr hyn sy'n digwydd yn y bwrdd iechyd hwn, ac efallai ystyried ffordd well o reoli'r ymyraethau uniongyrchol yn y bwrdd iechyd hwn? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, rwy'n parhau i gymryd diddordeb uniongyrchol ym mhopeth sy'n digwydd yn y gwasanaeth iechyd, gan gynnwys yn y gogledd. Ar yr adeg y gwnaed Betsi Cadwaladr yn destun mesurau arbennig, roedd pryderon gwirioneddol ynghylch ei wasanaethau mamolaeth. Mae'r rheini wedi gwella ac ni ystyrir mwyach eu bod angen bod mewn mesurau arbennig. Roedd pryderon gwirioneddol ynghylch gwasanaethau y tu allan i oriau, sydd wedi gwella'n sylweddol. Roedd pryderon ynghylch oedi wrth drosglwyddo gofal, ac roedd hynny wedi gostwng gan 22 y cant ym mis Tachwedd a chan 24 y cant ym mis Rhagfyr. Mae llawer o bethau sy'n gwella yn Betsi Cadwaladr, ond rydym ni'n cydnabod y ceir pobl sy'n aros yn rhy hir am driniaeth, er gwaethaf y ffaith bod amseroedd aros o 36 wythnos wedi gostwng, bod amseroedd aros o 26 wythnos wedi gostwng, ac mai 8.4 wythnos o'r adeg y caiff rhywun ei atgyfeirio am driniaeth i'r adeg pan fydd y driniaeth honno wedi ei chyflawni yw'r amser aros canolrifol ar gyfer triniaeth yn y bwrdd iechyd. Llyr Gruffydd AC: Fel rhan o'r ymateb i bwysau'r gaeaf, mae'r Groes Goch wedi bod yn mynd mewn i adrannau brys rhai o ysbytai Cymru. Maen nhw wedi bod yn gymorth mawr mewn dau o'r tri phrif ysbyty yn y gogledd, ac wedi cynorthwyo bron 5,500 o gleifion, sy'n cynrychioli mwy na hanner yr holl gleifion sydd wedi cael eu cynorthwyo yng Nghymru, yn Wrecsam Maelor ac yn Ysbyty Glan Clwyd. Nawr, efallai eich bod chi'n dweud bod y darlun cyffredinol yn gwella, ond mae'n rhaid i fi siarad o brofiad fan hyn, Brif Weinidog. Mi ges i fy nghyfeirio i'r uned frys yn Wrecsam Maelor ddydd Llun diwethaf. Roeddwn i'n cyrraedd am 5 o'r gloch y prynhawn a doeddwn i ddim yn cael fy ngweld tan 5 o'r gloch y bore—12 awr fues i'n aros yn yr uned frys. [Torri ar draws.] Mae e'n digwydd yn gyson, dwi'n gwybod, ac mae'r darlun yn cael ei bortreadu fan hyn bod pethau'n gwella. Efallai eu bod nhw yn gyffredinol, ond yr ateb dwi'n ei roi i chi yw bod yna brofiadau cwbl annerbyniol mae pobl yn dal yn gorfod eu goddef. Rŷn ni yn cydnabod y gwaith mae rhywun fel y Groes Goch yn ei wneud, ond mae'r gwasanaeth penodol yna yn dod i ben fis nesaf. Felly, gaf i ofyn i chi ydych chi'n meddwl y dylai fod y math yna o wasanaeth yn parhau a'n bod ni'n dibynnu ar y Groes Goch yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, a pha effaith rŷch chi'n credu bydd dod â'r gwasanaeth yna i ben yn ei chael ar y gwasanaethau a fydd yn cael eu gadael ar ôl? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, diolch i Llyr Gruffydd am beth ddywedodd e am waith y Groes Goch. Ac mae beth mae'r Groes Goch yn ei wneud yn y gogledd yn rhan o dri pheth rŷn ni'n ei wneud dros y gaeaf—pethau newydd i drio helpu'r system, a gwneud pethau mewn ffyrdd newydd. Ac mae'r gwaith y mae'r Groes Goch yn ei wneud, ond hefyd beth rŷn ni'n ei wneud gyda Care and Repair a chael pobl newydd yn yr adrannau brys i helpu, mae hwnna'n rhywbeth lle rŷn ni'n mynd i dynnu gwersi mas o'r profiadau yn y gogledd a thrio gweld a ydyn ni'n gallu gwneud hwnna ledled Cymru. Dwi'n cydnabod, fel y dywedais i wrth Janet Finch-Saunders, fod rhai pobl yn aros yn rhy hir yn yr adrannau brys dros y gaeaf. Maen nhw wedi dod o dan bwysau wrth gwrs, ac mae lot o bethau rŷn ni eisiau eu gwneud, ac yn eu gwneud, gyda'r bwrdd i wella'r sefyllfa yn y gogledd. Cynnydd Bargeinion Twf Mark Reckless AC: 2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd bargeinion twf yng Nghymru? OAQ53379 Mark Drakeford AC: Diolchaf i'r Aelod am ei gwestiwn. Mae bargeinion twf ar wahanol gamau aeddfedrwydd ledled Cymru, gan adlewyrchu gwahanol amseroedd cychwyn. Rydym ni'n dal i fod wedi ymrwymo i fod yn bartner llawn yn natblygiad a darpariaeth bargeinion llwyddiannus i bob rhan o Gymru. Mark Reckless AC: Un o heriau bargeinion twf yng Nghymru, o'i gymharu â Lloegr, lle'r oedd llawer yn mynd o'r blaen, yw bod Llywodraeth Cymru yn bartner pwysig arall yn yr ystafell, y mae angen ei chytundeb i gyflawni bargeinion, a bydd ganddi, yn briodol, wahanol bwysleisiau, ac efallai mewn rhai meysydd, gwahanol flaenoriaethau i Lywodraeth y DU. Beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod ei phresenoldeb, a'r gofyniad hwnnw am gadarnhad ychwanegol, yn cael eu defnyddio mewn gwirionedd i helpu i fwrw ymlaen â bargeinion twf yn hytrach na'u rhwystro neu eu harafu nhw mewn unrhyw ffordd, ac yn benodol rhoi cymorth i gynghorau lle efallai nad oes ganddyn nhw yr un lefel o seilwaith a chyllideb â rhai o'r bargeinion twf eraill? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, rwy'n cydnabod y cymhlethdod ychwanegol y mae Mark Reckless yn cyfeirio ato, ond rydym ni wedi bod yn bartneriaid cadarnhaol a pharod erioed yn yr ymdrech i greu bargeinion twf mewn gwahanol rannau o Gymru. Cadarnhawyd bargen ddinesig Abertawe gan y Prif Weinidog blaenorol ar y cyd â Phrif Weinidog y DU, gan ddangos y gwaith a wnaed ar y cyd gydag awdurdodau lleol, a gydag eraill â buddiant, a chyda'r sector preifat, yn y rhan honno o Gymru. Ac rydym ni'n bwriadu chwarae rhan gadarnhaol yn y gogledd hefyd, lle bu fy nghyd-Weinidog Ken Skates yn cyfarfod â'r bwrdd uchelgais economaidd yn ystod y 10 diwrnod diwethaf. Bydd yr Aelod yn ymwybodol o'r digwyddiad a gynhaliwyd yma yn y Cynulliad yr wythnos diwethaf o ran bargen ar gyfer y canolbarth. Ac yn yr holl gyd-destunau hynny, sy'n wahanol ac yn peri gwahanol heriau, bydd Llywodraeth Cymru yn bresenoldeb cyson, ac yn bresenoldeb cadarnhaol gyson hefyd. Rhun ap Iorwerth AC: Dwi wedi galw am arian ychwanegol a ffocws ychwanegol i fargen twf y gogledd, o ganlyniad i gyhoeddiad Hitachi ynglŷn â Wylfa Newydd, ac mi ellid ychwanegu cyhoeddiad Rehau yn Amlwch at hynny hefyd. A thra mod i'n nodi a chroesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fod yn barod i roi rhagor o arian i'r fargen twf yn y gogledd, os daw arian ychwanegol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, dwi yn ymwybodol o bryderon y gallai newid y fargen twf rŵan arwain at oedi yn y broses. Os felly, ydy'r Prif Weinidog yn fodlon ystyried rhyw fath o gynllun cyllido yn ychwanegol at y fargen twf, ac yn rhedeg mewn paralel â'r fargen twf, er mwyn dod â'r hwb angenrheidiol yna i Ynys Môn, ar yr adeg heriol yma? Mark Drakeford AC: Diolch i Rhun ap Iorwerth am y cwestiwn. Wrth gwrs, rŷn ni'n gallu gweld beth ddywedodd e am y pryderon yn y gogledd, ar ôl Wylfa, os bydd hwnna'n cael effaith ar y fargen twf, sy'n tynnu pethau yn ôl. Mae'r Gweinidog hefyd wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i roi mwy o arian i fewn i'r fargen twf yn y gogledd nawr, ar ôl Wylfa. Ac rŷn ni wedi dweud, fel Llywodraeth yma yng Nghymru, os bydd mwy o arian yn dod o'r Deyrnas Unedig, ein bod ni'n fodlon edrych a allwn ni roi mwy o arian i fewn i'r fargen hefyd, i helpu pobl yn y gogledd ar ôl beth sydd wedi digwydd yn Wylfa, ac yn ehangach ar yr ynys yn benodol. Rhianon Passmore AC: Prif Weinidog, i'm hetholwyr i yn Islwyn, mae bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd yn cynnig y posibilrwydd gwirioneddol o weddnewid ein cymunedau. Nod y fargen ddinesig yw darparu hyd at 25,000 o swyddi newydd ac ysgogi gwerth £4 biliwn ychwanegol o fuddsoddiad sector preifat. Pa gymorth ychwanegol, felly, a goruchwyliaeth y gall Llywodraeth Cymru eu cynnig i'r 10 awdurdod lleol sy'n rhan o fargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd, a beth all cymunedau Islwyn ei ddisgwyl ei weld yn realistig o ffrwyth yr ymdrechion hyn? Mark Drakeford AC: Wel, diolch i Rhianon Passmore am hynna. Yn union fel yn fy ateb i Mark Reckless, cyfeiriaf at gyfranogiad parhaus Llywodraeth Cymru mewn bargeinion dinesig ledled Cymru. Gwn fod Gweinidog yr economi wedi cyfarfod ddoe ag Andrew Morgan, arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a chadeirydd bwrdd bargen ddinesig prifddinas Caerdydd, i drafod cynnydd o ran y fargen honno a phethau y gallwn ni eu gwneud i barhau i'w chynorthwyo. Gwn fod gan fargen ddinesig prifddinas Caerdydd gynlluniau uchelgeisiol i fuddsoddi mewn tai yn yr ardal, i ddod â safleoedd segur i ddefnydd buddiol; i ychwanegu rhagor o fuddsoddiad at seilwaith trafnidiaeth yr ardal, i fynd ochr yn ochr â'r rhan ganolog honno o fargen Caerdydd sef y cynllun metro. Yn hynny o beth, gall pobl sy'n byw yn ardal yr Aelod, ac yn ehangach, edrych ymlaen at well cysylltedd, cyfleoedd economaidd newydd, lefelau sgiliau uwch ymhlith pobl sy'n byw yn Nhorfaen, ac mae hynny i gyd yn rhan o'r cynllun uchelgeisiol sydd gennym ni ar y cyd â'r 10 awdurdod lleol sy'n rhan o fargen ddinesig prifddinas Caerdydd. Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies. Paul Davies AC: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, pryd fyddwch chi'n gwneud penderfyniad am ddyfodol ffordd liniaru'r M4? Mark Drakeford AC: Wel, byddaf yn gwneud penderfyniad, Llywydd, pan fydda i yn y sefyllfa iawn i wneud hynny. Gwn ei bod hi'n rhwystredig i'r Aelodau, ond mae'r sefyllfa yr un fath ag yr wyf i wedi ei hamlinellu ar lawr y Cynulliad o'r blaen. Bu ymchwiliad cyhoeddus lleol mawr. Mae wedi llunio adroddiad, yr wyf i'n credu sy'n sylweddol o ran maint a natur. Mae swyddogion yn parhau i ystyried yr adroddiad hwnnw ac i wneud yn siŵr, pan fyddan nhw'n rhoi cyngor i mi, ei fod yn ddiogel cyn belled ag y mae'r agweddau cyfreithiol yn y cwestiwn, y mae'r agweddau ariannol yn y cwestiwn, y mae'r agweddau polisi yn y cwestiwn, ac rwyf i wedi dweud wrthyn nhw fy mod i eisiau'r cyngor gorau posibl. Nawr, rwy'n credu y bydd y cyngor hwnnw gen i cyn bo hir, ond rwy'n dal yn fodlon gwneud yn siŵr mai'r cyngor hwnnw yw'r cyngor iawn, ac yna—i fod yn eglur gyda'r Aelod—pan ddaw'r cyngor, byddaf angen amser i astudio'r cyngor hwnnw, oherwydd bydd y cyngor yn gymhleth a bydd yn sylweddol, a bydd yn neilltuo'r amser sy'n angenrheidiol i wneud yn siŵr bod y penderfyniad iawn yn cael ei wneud. Paul Davies AC: Llywydd, y cwbl yr ydym ni wedi ei gael gan Lywodraethau Llafur olynol yw gogor-droi, gogor-droi, gogor droi, a'r cwbl yw'r ateb yna yw mwy o ogor-droi gennych chi, Prif Weinidog. Mae'n eithaf eglur, er gwaethaf y ffaith fod £44 miliwn o arian trethdalwyr wedi cael ei wario ar yr ymchwiliad i atebion ar gyfer ffordd liniaru'r M4, bod y manylion yn hel llwch ar eich desg chi erbyn hyn, Prif Weinidog, o gofio y bu misoedd ers cyhoeddi'r adroddiad. Mae eich Llywodraeth yn parhau i lusgo eich traed o ran dod o hyd i ateb ymarferol, ac mae'r ansicrwydd y mae hyn yn ei greu yn niweidio busnesau Cymru ac yn niweidio buddsoddiad. Nawr, yr wythnos diwethaf, ysgrifennodd mwy na 90 o fusnesau mawr, sy'n cynrychioli chwarter gweithlu Cymru, atoch chi yn gofyn am eglurhad ar y mater hwn ar frys. Mae'n rhaid i chi roi terfyn ar yr ansicrwydd hwn trwy ddweud wrth Gymru o'r diwedd beth yw eich cynlluniau. Felly, a allwch chi fod yn eglur yn y fan yma heddiw? Os bydd canfyddiadau'r ymchwiliad yn argymell y llwybr du, a wnaiff eich Llywodraeth dderbyn y canlyniad wedyn a darparu'r llwybr du mewn gwirionedd? Mark Drakeford AC: Wel, does bosib bod yr aelod yn dychmygu fy mod i'n mynd i roi ateb iddo i'r cwestiwn hwnnw ar lawr y Cynulliad pan nad wyf i wedi gweld yr adroddiad nac wedi gweld dim o'r cyngor ategol a fyddai'n angenrheidiol i mi. Byddai gwneud hynny yn anghyfrifol dros ben, a'r cwbl y byddai'n ei wneud fyddai rhoi beth bynnag a ddywedais mewn perygl cyfreithiol gan y rhai a allai ddymuno ei herio. Wrth gwrs, gwelais yr hyn a ddywedodd y CBI ac eraill, ac mae'n rhaid i'r ateb a roddaf iddyn nhw fod yr un fath ag yr wyf i wedi ei roi i chi: byddaf yn gwneud penderfyniad yn y ffordd orau bosibl. Byddaf yn ei wneud gan roi ystyriaeth lawn i'r holl ffactorau sy'n cyfrannu at ei wneud, a byddaf yn ei wneud yn y ffordd orau y gallaf. Paul Davies AC: Prif Weinidog, roedd fy nghwestiwn yn gwestiwn syml, ond, unwaith eto, ni allwch chi roi ateb syml. Mae Llafur Cymru wedi oedi ar y mater hwn ers bron i 20 mlynedd erbyn hyn, ac mae'n ymddangos fel pe byddai mor analluog ag erioed i fwrw ymlaen ag ateb i'r broblem. Mae'n dechrau edrych, o'm safbwynt i, fel pe byddai'r prosiect hwn wedi cerdded drwy'r drws gyda'r Prif Weinidog blaenorol. Mae effeithiau niweidiol eich methiannau polisi o ran datblygu system drafnidiaeth effeithiol yn eglur. Mae gwerth ychwanegol gros Cymru ar waelod tabl cynghrair y DU; mae cynhyrchiant ar waelod tabl cynghrair y DU; mae cyflogauar waelod tabl cynghrair y DU. Ac ni allwn danbrisio pa mor bwysig yw'r prosiect seilwaith hwn ar gyfer gwella ffyniant economaidd Cymru. Felly, Prif Weinidog, os nad ydych chi'n mynd gyflwyno'r llwybr DU, a allwch chi ddweud wrthym ni pa atebion y byddwch chi'n eu cynnig fel Llywodraeth, oherwydd mae pobl Cymru wedi aros yn ddigon hir? Mark Drakeford AC: Llywydd, mae'n anodd gwrando weithiau ar yr hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud heb gofio mai ei blaid ef yw'r un sydd wedi methu â thrydaneiddio'r rheilffyrdd, sydd wedi bod yn gyfrifol am oediadau yn Wylfa—[Torri ar draws.] A phan ddaw, Llywydd, i aros i weithredu ar adroddiad, sawl mis, ac, yn y pen draw, blwyddyn aeth heibio cyn i'w Lywodraeth ef weithredu i wrthod yr adroddiad yr oedd hi ei hun wedi ei gomisiynu o ran morlyn llanw bae Abertawe? Felly, credaf fod ganddo ddigon i feddwl amdano o ran hanes ei blaid ei hun. Gadewch i mi ddweud hyn wrtho: roedd ei gwestiwn i mi y gwrthwyneb llwyr i syml. Roedd yn esgus ei bod yn bosibl rhoi ateb syml i gwestiwn cymhleth, y dylwn ddod i gasgliad yma ar lawr y Cynulliad heb ystyried dim o'r cyngor na'r adroddiad ei hun. Byddai hynny i'r gwrthwyneb yn llwyr o ffyrdd synhwyrol o weithredu i mi fod wedi dilyn ei gyngor. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price. Adam Price AC: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a allwch chi sicrhau'r Senedd nad yw eich gwas sifil blaenllaw, yr ysgrifennydd Parhaol y Fonesig Shan Morgan, wedi dweud mewn sgwrs gyda chi, neu'r Cabinet neu gydweithwyr eraill ei bod yn fodlon gadael ei swydd cyn i'w chontract ddod i ben yn 2022? Mark Drakeford AC: Rhoddaf sicrwydd i'r Aelod na fu unrhyw sgyrsiau o'r fath. Adam Price AC: Prif Weinidog, mae gen i ofn bod yn rhaid i mi bwyso arnoch chi unwaith eto ynghylch y pwynt hwn, ac mae hyn oherwydd natur y mae'r ymadawiad honedig hwn wedi dod i'r amlwg yn y cyfryngau, fel yr adroddwyd ddydd Iau diwethaf gan brif ohebydd y Western Mail, Martin Shipton. Mae'n cyfeirio at y ffaith fod nifer o ffynonellau uwch, ac, fel y mae ef yn ei eirio, rhai sydd mewn sefyllfa dda yn Llywodraeth Cymru wedi rhoi'r wybodaeth iddo y bu trafodaethau ynghylch ymadawiad cynnar y Fonesig Shan Morgan. Nawr, ceir dau bosibilrwydd sy'n deillio o'r stori fel y'i hadroddwyd: naill ai mae'n wir, sy'n golygu y gallai fod gan yr Ysgrifennydd Parhaol achos i hawlio diswyddiad adeiladol, neu nid yw'n wir, ac felly mae rhywun yn ceisio tanseilio'r Ysgrifennydd Parhaol yn fwriadol. Bu'n rhaid i'ch Llywodraeth chi, o dan eich rhagflaenydd, wadu honiadau o friffio yn erbyn unigolion. Onid ydych chi rhywfaint yn bryderus ei bod yn ymddangos bod yr arfer hwn yn parhau? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, cyn belled ag y mae'r stori honno yn y cwestiwn, rwy'n credu fy mod i'n ffynhonnell sydd mewn cystal sefyllfa ag y bydd gan yr Aelod fyth. Yr hyn yr oeddwn i eisiau ei wneud—. Nid wyf i'n mynd i gael fy nhynnu i mewn i ddyfalu ynghylch sut y mae pobl eraill wedi dod o hyd i wybodaeth y maen nhw'n credu sydd ganddyn nhw ac yn y blaen. Yr hyn a wnaf, yn syml, yw hysbysu am y sgyrsiau uniongyrchol yr wyf i wedi eu cael gyda'r unigolyn y mae'r Aelod wedi ei henwi, a rhoddaf iddo'r sicrwydd llwyr hwn nad yw'r pethau y mae wedi eu darllen yn y papur newydd erioed wedi codi mewn unrhyw sgwrs yr wyf i wedi ei chael gyda'r Ysgrifennydd Parhaol, a bod y cywiriad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gafodd ei gynnwys yn y stori honno yn cynrychioli safbwynt Llywodraeth Cymru 100 y cant. Adam Price AC: Prif Weinidog, yn yr achos enwog pan wnaeth John Howard ddiswyddo ei holl benaethiaid adrannol 20 mlynedd yn ôl yn Awstralia, cyfeiriwyd ato fel 'noson y cyllyll hir'. Nawr mae eich Llywodraeth chi yn gwadu pob gwybodaeth am sgyrsiau y mae sawl ffynhonnell uwch wedi mynnu eu bod wedi digwydd. Mae'n ymddangos mai noson y cofion byr yw hon. Nawr, roedd yn dweud yn yr erthygl eich bod chi'n awyddus i gael dechrau newydd, ond i roi mwy o hygrededd i'r hyn a ddywedasoch nawr, heddiw, ar y cofnod, a allwch chi gadarnhau na fyddwch chi nac unrhyw un sy'n gweithredu ar eich rhan naill ai'n gwneud cais nac yn cytuno i'r Ysgrifennydd Parhaol derfynu ei chontract yn gynnar? Wedi'r cyfan, mae egwyddor bwysig iawn yn y fan yma—mae'r cliw yn yr enw ysgrifennydd 'parhaol'. Er mwyn gwarchod natur ddiduedd ac annibyniaeth y gwasanaeth sifil, ni ddylai gwleidyddion byth allu diswyddo'r gwasanaeth sifil uwch. Felly, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno, os na fydd unrhyw ddechrau newydd yn ystod y ddwy flynedd a hanner nesaf, mai'r bobl fydd y barnwr wedyn, ac mai chi fydd yr unigolyn a ddylai gael ei ddiswyddo wedyn o dan yr amgylchiadau hynny ? Mark Drakeford AC: Wel, gadewch imi geisio achub rhywbeth o gwestiwn olaf yr Aelod a fyddai'n werth ymateb synhwyrol. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd Adam Price bod annibyniaeth a natur ddiduedd y gwasanaeth sifil yn ganolog i'r ffordd yr ydym ni'n cyflawni busnes, ac mae'n ganolog i'r ffordd y mae'r Llywodraeth hon yn cyflawni busnes yma yng Nghymru, ac nid oes dim y byddaf i'n ei wneud nac y bydd unrhyw Aelod o'm Llywodraeth yn ei wneud i godi unrhyw amheuon ynghylch yr egwyddor honno. Wrth gwrs, roedd yr Aelod yn iawn ein bod ni i gyd, yn y pen draw, yn gweithio i'r bobl sy'n ein hethol ni, ac mae pob un ohonom ni—pob un ohonom ni—mewn sefyllfa ar ddiwedd tymor Cynulliad lle bydd dyfarniad yn cael ei wneud arnom ni gan y bobl a'n hanfonodd ni yma yn y lle cyntaf, ac felly y dylai hi fod. Arweinydd grŵp UKIP, Gareth Bennett. Gareth Bennett AC: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae gwasanaethau bws Caerdydd mewn argyfwng. Fe wnaeth Bws Caerdydd, sy'n cael ei redeg gan y cyngor, golled o bron i £2 filiwn y llynedd ac mae'n colli arian ar gyfradd aruthrol. Mae Bws Caerdydd wedi ymateb trwy dorri llwybrau a chodi prisiau tocynnau, sy'n effeithio ar deithwyr, a thrwy israddio tâl ac amodau ar gyfer ei staff ei hun. Mae'n dal i fod heb ffeilio ei gyfrifon ar gyfer y llynedd. Beth yw eich myfyrdodau ar argyfwng bysiau Caerdydd a'i oblygiadau ar gyfer gwasanaethau bysiau yng ngweddill Cymru? Mark Drakeford AC: Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn. Mae'r pwyntiau y mae'n eu codi yn rhai pwysig i bobl sy'n byw yn y brifddinas yn arbennig. Oherwydd y sefyllfa yng nghwmni Bws Caerdydd y mae fy nghyd-Weinidog Ken Skates wedi gofyn i Trafnidiaeth Cymru gysylltu â'r cwmni i gynnig cyngor iddyn nhw, i wneud yn siŵr eu bod nhw'n cael pa bynnag gymorth sydd ei angen arnyn nhw i geisio gwneud yn siŵr eu bod nhw'n ymateb i'r pwysau masnachol y maen nhw'n ei wynebu ac i wneud penderfyniadau sy'n hybu iechyd hirdymor gwasanaethau bysiau yn y brifddinas. Gareth Bennett AC: Rwy'n falch bod camau wedi eu cymryd eisoes ac rwy'n falch bod eich Gweinidog trafnidiaeth eisoes yn rhoi sylw i'r mater ac y bydd trafodaeth gyda Chyngor Caerdydd. Ond mae problemau gyda thrafnidiaeth yng Nghaerdydd wedi bodoli ers cryn amser, felly rwy'n credu efallai y gallaf i gynnig rhai awgrymiadau—gwn ei fod yn Weinidog Cabinet galluog iawn, ond efallai y gallaf i gynnig rhai awgrymiadau y tro hwn. Cyngor Caerdydd sy'n goruchwylio gweithrediad Bws Caerdydd ac yn craffu arno, ond tybed pa mor effeithiol yw'r craffu hwnnw mewn gwirionedd. Nid oes gan Gyngor Caerdydd, sy'n cael ei redeg gan eich Plaid Llafur Cymru chi bwyllgor trafnidiaeth i oruchwylio gweithrediadau bysiau. Caiff Bws Caerdydd ei oruchwylio gan bwyllgor yr amgylchedd mewn gwirionedd, sy'n ymddangos fel pwyllgor eang iawn, a tybed pa mor drylwyr maen nhw'n ystyried y gweithrediadau bysiau. Hefyd, caiff ei gadeirio gan Ramesh Patel, ac fe oedd aelod cabinet y cyngor dros drafnidiaeth tan yn ddiweddar. Felly, i ryw raddau, mae'n craffu i bob pwrpas ar benderfyniadau a wnaed ganddo ef ei hun nid mor bell yn ôl fel yr aelod cabinet. Wrth gwrs, byddwch yn ymwybodol o hyn, Prif Weinidog, oherwydd pan fo ganddo'r amser i wneud hynny, mae'r Cynghorydd Patel hefyd yn gweithio i chi yn y Cynulliad. A ydych chi'n ffyddiog fod gan bwyllgor yr amgylchedd Cyngor Caerdydd, sy'n llawn aelodau Llafur, y gallu mewn gwirionedd i oruchwylio'r hyn y mae Bws Caerdydd yn ei wneud a helpu i roi trefn ar y llanastr syfrdanol hwn? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, mae trefniant priodol lle ceir bwrdd sy'n gofalu am Bws Caerdydd ac mae'r berthynas rhwng y cwmni a chyngor y ddinas yn un i gyngor y ddinas ei hun i fod yn fodlon â hi, nid i mi. Cyn belled ag y gwelaf i o'r tu allan, rwy'n credu bod y trefniadau craffu hynny yn gadarn. Yn dilyn y Papur Gwyn y mae fy nghyd-Weinidog Ken Skates wedi ei gyhoeddi ac yn y ddadl yn ei gylch yma yn y Cynulliad, gallai arwain at awdurdod trafnidiaeth ar y cyd, a fyddai'n atgyfnerthu'r trefniadau craffu ymhellach dros yr hyn sy'n digwydd yng Nghaerdydd ond yn fwy eang ar draws holl ranbarth de Cymru a thu hwnt. Gareth Bennett AC: Mae gen i ddiddordeb yn yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud am yr awdurdod trafnidiaeth ar y cyd. Credaf fod hynny'n rhywbeth, ac mae'n well na dim ond dweud, 'Mater i'r cyngor lleol yw hwn', sef y math o ymateb y mae Gweinidogion yn y fan yma yn tueddu i guddio y tu ôl iddo fel rheol. Ond mae'n ddiddorol, onid yw, pan wnaethoch chi ymgyrchu ar gyfer swydd y Prif Weinidog, mai un o'ch polisïau oedd cytuno gyda Jeremy Corbyn bod angen i ni ddychwelyd i gael mwy o gwmnïau bysiau trefol yma yng Nghymru? Pe byddech chi'n gwneud yr hyn y dywedasoch chi y byddech chi'n ei wneud ac yn ceisio cael mwy o gwmnïau bysiau trefol, onid yw'n wir mai'r cwbl y byddai hyn yn ei wneud yw ymestyn model aflwyddiannus Caerdydd ledled Cymru gyfan ac achosi mwy o broblemau i drethdalwyr Cymru, sydd eisoes o dan bwysau? Mark Drakeford AC: Wel, yr ateb i hynny, Llywydd, yw: nac ydy siŵr iawn. Oherwydd pe byddem ni mewn sefyllfa, fel yr ydym ni'n gobeithio gallu bod ynddi, i ailgyflwyno ail-reoleiddiad y gwasanaethau bysiau i ddod â gwasanaethau sy'n dibynnu bron yn gyfan gwbl ar y buddsoddiad y mae'r cyhoedd yn ei wneud ynddynt eisoes yn ôl o dan reolaeth y cyhoedd, yna byddem ni'n gwneud hynny mewn ffordd sy'n osgoi llawer o'r anawsterau y mae'r model presennol yn ei achosi i'r gwasanaeth bysiau trefol yma yng Nghaerdydd. Rwy'n falch iawn yn wir o gysylltu fy hun â'r cynigion hynny sy'n cael eu datblygu i ddod â gwasanaethau bysiau yng Nghymru yn ôl o dan reolaeth y cyhoedd a'r bobl hynny sydd eisoes yn talu amdanyn nhw, ac mae'r Papur Gwyn a gyhoeddwyd gan fy nghyd-Weinidog yn gam mawr ymlaen ar y daith honno. Gwerth Gorau am Arian ar gyfer Caffael Cyhoeddus Mark Isherwood AC: 3. Sut y mae Llywodraeth Cymru'n sicrhau'r gwerth gorau am arian ar gyfer caffael cyhoeddus? OAQ53333 Mark Drakeford AC: Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn. Mae dull Llywodraeth Cymru o sicrhau'r gwerth gorau o gaffael yn cynnwys sicrhau cymaint â phosibl o wariant yn economi Cymru, sicrhau manteision cymunedol ehangach o'r gwariant hwnnw, a sicrhau bod gwaith teg a safonau cyflogaeth moesol yn cael eu cynnal pan fydd arian yn cael ei wario ar ran y cyhoedd yng Nghymru. Mark Isherwood AC: Ym mis Tachwedd, cynhaliais ddigwyddiad yn y Cynulliad gyda 3SC, menter gymdeithasol asefydlwyd i wneud ceisiadau am gontractau cyhoeddus ac eraill, gan harneisio grym y trydydd sector i ddarparu'r contractau hynny drwy sefydliadau a fyddai ar eu colled fel arall. Yn y digwyddiad, lansiwyd eu papur safbwynt, 'The Crisis in Public Sector Contracting and How to Cure It: A Wales Perspective', ganddyn nhw gan dynnu sylw at rai o'r heriau y mae'r trydydd sector yn eu hwynebu o ran caffael sector cyhoeddus yng Nghymru a rhai syniadau ynghylch sut y gellid mynd i'r afael â'r rhain. Er bod y sector mentrau cymdeithasol yng Nghymru yn tyfu, dywedasant bod y sector yn dal i fod yn fach a heb ei fodloni o ran cyrraedd ei botensial llawn, a bod presenoldeb monopoli mewnol mewn llawer o awdurdodau lleol yr un mor gyfyngol o ran arloesi ac amrywiaeth â phe byddai'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu ar gontract allanol gan gwmni sector preifat mawr. Sut, felly, y gwnewch chi ymgysylltu â'r adroddiad hwn i ystyried ei gynigion ar gyfer mwy o sensitifrwydd o ran sut y caiff gwasanaethau eu caffael ac ymrwymiad pendant i'r trydydd sector a sefydliadau llai i sicrhau cyfran resymol o'r bastai caffael cyhoeddus? Yn olaf, lle maen nhw'n dweud bod problemau fel aildroseddu, tai, anabledd a chyflogaeth yn gofyn am gydweithrediad, amynedd a meddyliau clir yn ogystal ag arian, ond arian sy'n cael ei wario nid yn unig gyda golwg ar gael yr ateb rhataf, ond yr ateb gorau—mewn geiriau eraill, partneriaethau â phwrpas iddynt—a wnewch chi ystyried yr adroddiad hwn? Mark Drakeford AC: Llywydd, nid wyf i'n gyfarwydd â'r adroddiad, ond byddwn yn sicr yn awyddus i'w astudio, ac rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am dynnu fy sylw ato. Mae'n iawn, wrth gwrs: rydym ni'n gwybod y gall ennill contractau fod yn anodd i sefydliadau bach. Dyna pam mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda'r Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol i ddod o hyd i ffyrdd y gall sefydliadau bach, pa un a ydyn nhw'n fentrau bach a chanolig eu maint neu'n sefydliadau trydydd sector, ddod at ei gilydd i gydweithio ar geisiadau, i greu consortia, i ffurfio mentrau ar y cyd, ac yn y modd hwnnw gwella eu cyfleoedd o gael gwaith drwy'r broses caffael cyhoeddus. Bydd yr Aelod yn cael ei galonogi o glywed, rwy'n siŵr, bod 58 y cant o fusnesau a ddaeth drwy wefan GwerthwchiGymru dros y flwyddyn ddiwethaf wedi mynd at BBaChau yng Nghymru, ac mae honno'n ganran sylweddol uwch na, gadewch i ni ddweud, dair blynedd yn ôl. Ond os oes syniadau diddorol a newydd yn yr adroddiad, yna byddwn yn awyddus iawn i'w astudio, ac rwy'n ddiolchgar iddo am dynnu fy sylw ato. David Rees AC: Prif Weinidog, roedd y cwestiwn yn canolbwyntio ar werth am arian, ond un o'r meysydd pwysig eraill yw gwerth i economi Cymru. Fel y nodwyd gennych, mae hefyd yn ystyried sut y gallwn ddefnyddio caffael cyhoeddus i gefnogi economi Cymru a busnesau annibynnol bach. Mae fy nghyd-Aelod Mike Hedges wedi codi hyn yn aml gyda chi. Enghraifft hefyd allai fod sicrhau bod dur Cymru yn cael ei ddefnyddio mewn prosiectau seilwaith ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru. A wnewch chi edrych ar yr hyn sy'n digwydd yn hynny o beth, ac a allwch chi roi datganiad ar gynnydd i ni o ran sut mae'r broses gaffael yn newid i sicrhau bod cymaint o fusnesau Cymru a chynhyrchion yng Nghymru yn cael eu defnyddio wrth gaffael yng Nghymru? Mark Drakeford AC: Diolchaf i David Rees am hynna. Fel y bydd yn gwybod, yn dilyn yr anawsterau yn y diwydiant dur yn ôl yn 2016, lluniwyd nodyn caffael penodol ar gyfer prynwyr cyhoeddus Cymru i wneud yn siŵr ein bod ni'n sicrhau bod cymaint â phosibl o ddur Cymru yn mynd i'r adeiladau a'r buddsoddiadau seilwaith eraill a wneir ar ran y cyhoedd yma yng Nghymru. Gwnaed cyfres gyfan o bethau, fel y mae'r Aelod yn ei wybod, i wneud yn siŵr ein bod ni'n sicrhau nid yn unig y gwerth gorau am arian ond y gwerth gorau yn yr ystyr ehangach hwnnw. Mae'r cynllun manteision cymunedol yng Nghymru yn cwmpasu mwy na 500 o gynlluniau erbyn hyn, ac mae hwnnw wedi bod yn llwyddiannus iawn o ran gwneud yn siŵr bod swyddi lleol, prentisiaethau, hyfforddiant a gwariant ar y gyfres ehangach honno o fuddiannau cymunedol yn deillio o'r ffordd y caiff arian cyhoeddus ei wario. Nodwyd ein cod ymarfer ar gyflogaeth foesol yn y gadwyn gyflenwi drwy ddigwyddiad ym mis Ionawr yr oedd Ken Skates yn bresennol ynddo i ddathlu'r ffaith fod 150 o sefydliadau yng Nghymru wedi ymrwymo i'r cod hwnnw, sy'n enghraifft ymarferol wirioneddol o'r synnwyr ehangach hwnnw o sut y gellir dod o hyd i'r hyn yr ydym ni'n ei olygu wrth ddweud gwerth gorau yn economi Cymru. Lliniaru Tagfeydd Traffig yn Ne-ddwyrain Cymru Jayne Bryant AC: 4. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael ynghylch lliniaru tagfeydd traffig yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ53372 Mark Drakeford AC: Diolchaf i Jayne Bryant am hynna. Rwy'n cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, gan drafod materion trafnidiaeth allweddol, gan gynnwys y rhai sy'n effeithio ar dde-ddwyrain Cymru. Jayne Bryant AC: Diolch, Prif Weinidog. Mae llygredd aer a achosir gan dagfeydd traffig llonydd rheolaidd ar yr M4 yn ardal Casnewydd eisoes ar lefelau uchel. Mae'n broblem hirsefydlog, sy'n parhau i waethygu, ac yn cynrychioli risg sylweddol i iechyd fy etholwyr i. Mae cludiant cyhoeddus gwell, rheolaidd, dibynadwy a fforddiadwy yn bwysig i Gasnewydd, ond ni fydd yn datrys y broblem ar ei ben ei hun. Mae'r ystadegau traffig dangos yneglur nad pobl Casnewydd yw prif achos y tagfeydd, ond nhw yw'r rhai sy'n gorfod byw gyda'i ganlyniadau yn feunyddiol. Pan fo digwyddiadau ar y draffordd, fel yr oedd y bore yma i'r ddau gyfeiriad, mae tagfeydd a llygredd aer yn tagu Casnewydd ymhellach. Prif Weinidog, mae hwn yn fater sy'n gofyn am atebion tactegol byrdymor a strategol hirdymor. Fel yr wyf i wedi ei ddweud o'r blaen, nid yw gwneud dim yn ddewis. Tra ein bod ni'n aros yn eiddgar am ganlyniadau'r ymchwiliad cyhoeddus annibynnol, a wnewch chi ystyried ffurfio tasglu o arbenigwyr, sy'n cynnwys pobl, busnesau a chynrychiolwyr lleol, i ystyried y dewisiadau uniongyrchol sydd ar gael? Mark Drakeford AC: Llywydd, a gaf i ddweud bod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn, er bod y ddadl ar lawr y Cynulliad yn canolbwyntio yn gwbl ddealladwy ar adroddiad yr ymchwiliad cyhoeddus lleol a'r hyn y gallai hwnnw ei wneud yn y dyfodol, mae hynny rai blynyddoedd i ffwrdd, yn anochel, beth bynnag fydd canlyniad hynny, tra bod y problemau y mae'r Aelod yn cyfeirio atyn nhw yn broblemau sy'n digwydd ar hyn o bryd yng Nghasnewydd? Gwn ei bod wedi cyfarfod gyda'r Gweinidog yn y diwrnodau diwethaf i drafod y camau hynny sydd eisoes yn cael eu cymryd yn ardal Casnewydd i fynd i'r afael â'r materion y mae Jayne Bryant wedi tynnu sylw atynt. Nawr, mae'r syniad o ffurfio tasglu o arbenigwyr i edrych, fel y dywedodd, ar y dewisiadau uniongyrchol yn ymddangos i mi fel un deniadol iawn. Gofynnaf i'r Gweinidog, Ken Skates, ei drafod gyda Jayne Bryant yn uniongyrchol ac ymhellach. Mae gwaith a wnaed eisoes gyda'r awdurdod lleol o ran cynlluniau ansawdd aer lleol, felly byddai gan grŵp gorchwyl a gorffen o'r fath waith y byddai'n gallu manteisio arno wrth geisio llunio rhai atebion ar unwaith i'r anawsterau a wynebir yn y rhan honno o Gymru, ac rwy'n ddiolchgar iddi hi am godi'r posibilrwydd hwnnw gyda ni y prynhawn yma. Mohammad Asghar (Oscar) AC: Prif Weinidog, cyhoeddwyd datganiad yr wythnos diwethaf, wedi ei lofnodi gan ddwsinau o fusnesau ac arweinwyr cyngor, yn galw ar Lywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â ffordd liniaru'r M4 o amgylch Casnewydd. Roedd y llofnodwyr yn cynnwys Syr Terry Matthews a phenaethiaid busnesau fel Aston Martin, Tata ac Admiral—cwmnïau a ddisgrifiwyd gan gyfarwyddwr Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yng Nghymru fel pobl sydd â'u bys ar guriad calon economi Cymru. Cyhuddodd un cwmni eich Llywodraeth o oedi i roi amser i'w hun a chwilio am resymau i beidio ag adeiladu'r ffordd liniaru. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â'r busnesau a'r arweinyddion cyngor hyn bod gohirio penderfyniad yn dal economi Cymru yn ôl ac a wnewch chi fanteisio ar y cyfle hwn i roi dyddiad pan fydd y mater hwn yn cael ei ddwyn gerbron y Cynulliad hwn? Mae wedi bod ar y gweill ers yr wyth i 10 mlynedd diwethaf bron, ac mae bob diwrnod sy'n mynd heibio yn ychwanegu at y gost o adeiladu, neu ba ffordd bynnag yr hoffech chi feddwl amdano. Mae angen taer i'r ffordd hon gael ei datblygu, a gwneud yn siŵr o'r tagfeydd hyn, a fyddai'n gwella ein heconomi, ein hiechyd, ein haddysg ac, yn fwy nag unrhyw beth arall, ein chwaraeon. Diolch. Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, roeddwn i'n gwrando panofynnodd arweinydd yr Aelod yr union gwestiynau hynny i mi yn gynharach y prynhawn yma ac nid wyf i'n credu y gwnaf i gymryd amser yr Aelodau drwy ailadrodd yr un atebion, gan fod yr Aelodau wedi clywed yr un cwestiynau eisoes. Datganoli Gweinyddol mewn Cysylltiad â Lles Huw Irranca-Davies AC: 5. A wnaiff y Prif Weinidog nodi beth yw polisi Llywodraeth Cymru o ran datganoli gweinyddol mewn cysylltiad â lles? OAQ53335 Mark Drakeford AC: Diolchaf i'r Aelod am hynna. Byddwn yn ystyried yr achos dros ddatganoli gweinyddu agweddau ar y system fudd-daliadau i Gymru. Wrth wneud hynny, byddwn yn cymryd i ystyriaeth gwaith pwyllgorau'r Cynulliad ar y mater hwn a phrofiad mewn mannau eraill. Byddai'n rhaid i'r cyllid angenrheidiol fod ar gael ar y cyd ag unrhyw drosglwyddo swyddogaethau. Huw Irranca-Davies AC: Mae'r cwestiwn o ba un a all datganoli gweinyddol agweddau ar les ddod â manteision trwy gyfochri lles yn well gyda pholisïau Llywodraeth Cymru i drechu tlodi ac i ymdrin â darparu cyfle i bawb yn un sydd wedi bod o gwmpas ers peth amser. Ond roedd gwefr o gyffro yr wythnos diwethaf, mae'n rhaid i mi ddweud, yn sgil ymateb y Prif Weinidog, yr oedd croeso mawr iddo, i gwestiwn fy nghyd-Aelod John Griffiths ar 15 Ionawr bod yr achos wedi ei wneud dros ymchwilio i ddatganoli'r agweddau gweinyddol ar les. Mae'n rhywbeth yr oeddwn i'n credu ddylai fod yn agored i'w ystyried pan yr oeddwn i'n Weinidog ac rwy'n dal i'w gredu nawr. Felly, gan gydnabod bod peryglon, y tynnwyd sylw atyn nhw yn wir gan ddatganoli budd-dal y dreth gyngor, pryd y gwnaeth Llywodraeth y DU dro gwael iawn â ni—dyna wers a ddysgwyd—byddwn yn ei annog i ymchwilio o ddifrif i hyn , ond gyda diwydrwydd dyledus, gydag amynedd, heb ildio i or-frwdfrydedd y rhai a fyddai'n anwybyddu unrhyw beryglon ac yn ceisio sicrhau'r datganoli hwn ar unrhyw gost i'n sylfaen ariannol yng Nghymru a dinasyddion Cymru, nac ildio i'r gor-ofalus a fyddai'n dweud bod hyn yn rhy beryglus i'w ystyried hyd yn oed. A allai'r Prif Weinidog ddweud wrthym ni nawr sut y gallai fwrw ymlaen â'r gwaith hwn, ac yn unol â pha amserlen gyffredinol efallai, a pha un a wnaiff ef fanteisio ar adroddiad Sefydliad Bevan wrth wneud hynny? Mark Drakeford AC: A gaf i ddiolch i Huw Irranca-Davies am y cwestiwn atodol yna, gan mai'r ysbryd y mae'n awgrymu y dylem ni fynd ati i wneud hyn yw'r union ffordd yr wyf i eisiau i ni ei wneud? Rwyf i eisiau i ni ei wneud o ddifrif, rwyf i eisiau i ni ei wneud mewn modd cadarnhaol, ond rwyf i eisiau i ni ei wneud mewn ffordd sy'n cydnabod y bydd anawsterau ar y ffordd yn ogystal â manteision i'w hennill. Mae'r Aelod yn iawn i dynnu sylw at y ffaith nad yw gweinyddu rhannau o'r system fudd-daliadau yn syniad hollol newydd cyn belled ag y mae Cymru yn y cwestiwn. Mae'r ffaith ein bod ni wedi cadw cynllun budd-dal treth gyngor yma yng Nghymru, y ffaith bod gennym ni gronfa cymorth dewisol, y ffaith ein bod ni'n cymryd camau i ddiddymu carchar fel canlyniad o beidio â thalu'r dreth gyngor ac i ryddhau'r rhai iau na 25 oed sy'n gadael gofal rhag gorfod talu'r dreth gyngor—mae'r pethau hynny i gyd yn enghreifftiau o sut, pan fydd y gallu gennym ni i'w wneud, yr ydym ni'n defnyddio'r pwerau sydd gennym ni eisoes yn y maes gweinyddu budd-daliadau. Cyfeiriodd yr adroddiad a luniwyd gan bwyllgor ein cyd-Aelod John Griffiths at rai o'r effeithiau ar bobl yng Nghymru, er enghraifft, y drefn cosbau budd-dal. Ac rydym ni'n ymwybodol o'r ffordd gosbol y mae hynny wedi cael ei weinyddu yng Nghymru ac mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig a dyna pam yr wyf i wedi ymrwymo i ystyried a oes ffyrdd eraill y gallem ni wneud pethau'n wahanol ac yn well yma yng Nghymru. Rwy'n gobeithio ymchwilio gyda Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru pa un ai nhw a allai fod y ffordd orau y gallwn ni gymryd y camau cyntaf hyn ymlaen, gan edrych ymhellach ar y dystiolaeth y mae'r pwyllgorau wedi ei hystyried, edrych ar brofiad yr Alban hyd yn hyn, ac yna darparu sail dystiolaeth i ni o'r fath y mae Huw Irranca-Davies wedi cyfeirio ati, un lle mae gennym ni ddewrder i ystyried pethau a allai fod yn newydd i ni ond yn ddigon effro i'r peryglon a allai fod yno o hyd. David Melding AC: Rwy'n credu, a bod yn blaen, Prif Weinidog, mai rhywbeth pitw iawn fyddai datganoli gweinyddol yn y maes hwn. Nawr, ers 1945, y contract cymdeithasol a fu'n sylfaen i'r wladwriaeth les yw bod gan ddinesydd berthynas uniongyrchol â'r wladwriaeth ar gyfer lefel o ddiogelwch economaidd ac, ni waeth ble mae ef neu hi yn byw yn y Deyrnas Unedig, bod ganddo'r un hawliau economaidd sylfaenol i fudd-daliadau. Os byddwn ni'n ymyrryd â'r egwyddor hon, gallem ni yn y pen draw chwalu'r consensws hwnnw yr ydym ni'n ei fwynhau ar hyn o bryd ac sy'n cynnal gwladwriaeth les. Mae angen i ni fod yn ofalus dros ben ynghylch y math hwn o ddarnio. Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, nid yw hon yn egwyddor a oedd yn apelio i Lywodraeth yr Aelod ei hun pan orfodwyd gweinyddu'r dreth gyngor arnom ni yma yng Nghymru ganddynt, pan wnaethant ddatganoli'r gronfa gymdeithasol i ni erbyn ein dymuniadau, pan wnaethant fynnu ein bod ni'n cymryd cyfrifoldeb am y lwfans byw i'r anabl heb ofyn i ni o gwbl amdano yn gyntaf. Ond, a dweud y gwir—. Welwch chi, rwy'n digwydd cytuno â'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud, ond rwy'n gwneud gwahanol wahaniaethiad iddo ef. Nid wyf i eisiau gweld y system budd-daliadau treth yn cael ei chwalu; rwy'n credu ei bod hi'n rhan o'r glud sy'n dal y Deyrnas Unedig at ei gilydd. Nid wyf i'n sôn am ddatganoli cyfrifoldeb polisi am y materion hyn; rwy'n sôn am ddatganoli gweinyddol—y gallu nid i ni gael system wahanol yng Nghymru, ond am y ffordd y mae'r system honno yn cael ei darparu ar lawr gwlad i fod yn nwylo Cymru—ac rwy'n credu bod hwnnw'n fater gwahanol i'r perygl y mae'r Aelod yn cyfeirio ato, a pherygl yr wyf i'n digwydd ei rannu, mewn gwirionedd. Leanne Wood AC: Rwy'n croesawu'r newid diweddar gan y Llywodraeth Lafur pan ddaw i ddatganoli gweinyddu budd-daliadau lles. Nid oes unrhyw amheuaeth yn fy meddwl i, nac ym meddyliau llawer o bobl sy'n gweithio i asiantaethau cynorthwyo pobl ddigartref, bod cyni cyllidol yn gysylltiedig â'r cynnydd syfrdanol i gysgu ar y stryd amlwg ar ein strydoedd, ac nid yw'n syndod y dywedwyd gan Shelter Cymru bod hyn yn cyrraedd pwynt argyfwng. Mae gan yr Alban bwerau helaeth dros les eisoes, diolch i'r Llywodraeth ragweithiol gan Plaid Genedlaethol yr Alban sydd mewn grym yno, ac maen nhw'n gwneud yn llawer gwell o ran digartrefedd. Felly, a wnewch chi gomisiynu astudiaeth i ystyried sut y gwnaethant liniaru toriadau lles o San Steffan fel bod cynllun gweithredu yn barod i fynd os byddwn ni'n gallu cael y pwerau hynny yng Nghymru? Ac a wnewch chi gytuno hefyd i adolygu'r hyn y gall y Llywodraeth ei wneud yn y cyfamser, gan ddefnyddio eich pwerau presennol, i roi rhywfaint o ryddhad i'r argyfwng digartrefedd cynyddol sydd gennym ni yma yn y wlad hon? Mark Drakeford AC: Rwy'n cytuno'n llwyr â Leanne Wood mai'r cynnydd i'r niferoedd sy'n cysgu ar y strydoedd yw'r arwydd mwyaf gweladwy o'r oes o gyni cyllidol, ac mae'n newid sylweddol i'r ffordd yr ydym ni'n gweld yr argyfwng hwnnw ym mywydau pobl o'n blaenau bob dydd, o'i gymharu â degawd yn ôl. Rwyf i eisiau dysgu o'r profiad o ddatganoli lles yn yr Alban. Mae'n broses y bydd hi'n ymwybodol nad oes disgwyl iddi gael ei chwblhau tan 2021, felly mae ar y camau cynnar iawn, ond, serch hynny, yn y fath o astudiaeth y cyfeiriais ati yn fy ateb i Huw Irranca-Davies, rwy'n credu bod dysgu am brofiad yr Alban yn bwysig i ni. Yma yng Nghymru, cyn belled ag y mae cysgu ar y stryd yn y cwestiwn, rydym ni'n rhoi mwy o arian i wasanaethau digartrefedd y flwyddyn nesaf yn ogystal ag eleni, a cheir amrywiaeth eang o fentrau a gyhoeddwyd gan y Gweinidog a oedd yn gyfrifol amdano ar y pryd, Rebecca Evans, cyn y Nadolig. Rydym ni wedi gweld rhai ffigurau a gyhoeddwyd yn ddiweddar iawn bod rhai arwyddion cyntaf bach iawn bod y mentrau hynny yn dechrau gwneud gwahaniaeth, a hoffwn i ni barhau i wneud mwy i fynd i'r afael â'r arwyddion annymunol dros ben yr ydym ni'n eu gweld o'n cwmpas o bobl sy'n cael eu gorfodi i fwy eu bywydau o dan amgylchiadau na fyddai yr un ohonom ni'n barod i'w hystyried fel bod yn dderbyniol. Categoreiddio Ysgolion Suzy Davies AC: 6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gategoreiddio ysgolion? OAQ53376 Mark Drakeford AC: Diolch i Suzy Davies am hynna. Nid yw categoreiddio yn arwydd o lwyddiant na methiant ond mae'n fodd o nodi lefel y cymorth sydd ei hangen ar ysgol. Dangosodd ffigurau yr wythnos diwethaf bod cyfran gynyddol o ysgolion yn dod yn hunan-gynhaliol ac angen llai o gymorth allanol. Mae honno'n duedd ar i fyny o flwyddyn 2015 ymlaen. Suzy Davies AC: Ydy, ac rwy'n gobeithio y byddem ni i gyd yn hoffi ymuno i longyfarch yr ysgolion hynny sy'n canfod nad oes angen cymorth arnyn nhw mwyach; fel y dywedwch, diben categoreiddio yw nodi pa un a oes angen cymorth ychwanegol ar ysgolion. O ystyried rhai o'r canlyniadau TGAU a Safon Uwch a welsom eleni, fodd bynnag, a'r ffigurau diwygiedig ar y bwlch cyrhaeddiad rhwng plant sy'n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim a'u cyfoedion, a gawsoch chi eich synnu yr ystyrir bod llai o ysgolion angen rhywfaint o gymorth erbyn hyn? A byddwn hefyd yn awyddus i gael gwybod pa un a ydych chi'n credu bod y system yn gwasanaethu'n dda yr ysgolion hynny sy'n dda ond a allai fod yn rhagorol, oherwydd ni ddylai da fod yn ddigon i'n staff a'n myfyrwyr mwyaf galluog a dawnus? Mark Drakeford AC: Rwy'n credu bod perygl efallai fod yr Aelod yn cymysgu dau wahanol fater—y perfformiad o ran canlyniadau arholiadau, sy'n bwysig iawn, a'r angen i ysgol gael cymorth. Oherwydd y pwynt pwysig a wnaeth yw hwn—y gallai fod ysgol y mae'n ymddangos ei bod wedi cael canlyniadau arholiadau da iawn, ond lle dylai'r canlyniadau hynny fod yn well byth, o ystyried natur y disgyblion sy'n mynychu. Ac efallai fod angen cymorth ar yr ysgol honno. Efallai y bydd angen cymorth arni er mwyn gwneud yn siŵr ei bod yn cynnig y gwerth ychwanegol y dylai ysgol ei gynnig, yn dibynnu ar natur ei dalgylch. Felly, yn yr ystyr hwnnw, nid wyf i'n synnu at y ffigurau yr ydym ni'n eu gweld yn y fan yma, oherwydd nid wyf i'n credu bod cysylltiad mor uniongyrchol rhwng y ddau beth ag yr oedd y cwestiwn atodol yn ei awgrymu. Wrth gwrs, rwy'n falch o weld bod mwy o ysgolion angen llai o ddiwrnodau o gymorth, oherwydd rwy'n credu bod hynny'n dangos gwelliant yn y system. A lle nad yw hynny'n digwydd, a lle mae gennym ni nifer fach, ond sy'n peri pryder, o ysgolion nad ydyn nhw'n gallu dianc o'r categori coch, gwn fod fy nghyd-Weinidog Kirsty Williams yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu datganiad iddi, ar lefel ysgol, o'r cynlluniau sydd ar gael i wneud yn siŵr bod yr ysgolion hynny yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i wneud yn siŵr eu bod hwythau hefyd yn rhan o'r darlun hwn sy'n gwella. Effaith Brexit heb Fargen ar y Sector Modurol yng Nghymru Lynne Neagle AC: 7. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith Brexit heb fargen ar y sector modurol yng Nghymru? OAQ53378 Mark Drakeford AC: Diolchaf i Lynne Neagle. Mae ein hasesiad yn parhau i ddangos y byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb yn drychinebus i'r sector modurol. Dylai Llywodraeth y DU gymryd posibilrwydd o'r fath oddi ar y bwrdd a dylid ceisio estyniad nawr i'r amserlen erthygl 50. Lynne Neagle AC: Diolch, Prif Weinidog. A fyddech chi'n cytuno â mi mai'r wers o'r penwythnos, a'r newyddion drwg iawn gan Nissan, yw er mai dim cytundeb fyddai'r canlyniad gwaethaf un i'r diwydiant modurol, y gwir amdani yw y bydd unrhyw Brexit yn golygu y bydd dadleuon ac ansicrwydd yn parhau am flynyddoedd, a bod bob dydd o ansicrwydd yn ddiwrnod pan fo buddsoddwyr yn aros i ffwrdd ac mae swyddi o dan fygythiad, yn enwedig mewn etholaethau fel fy un i? Ac a fyddai'r Prif Weinidog hefyd yn cytuno, pa bynnag gytundeb Brexit a wneir, mai dim ond Brexit dall y bydd beth bynnag, gan mai dim ond rhestr o ddymuniadau gwleidyddol yw'r datganiad gwleidyddol sy'n ategu'r cytundeb ymadael, sy'n cyfateb i bethaucysurus fel bod yn fam a theisen afal, a pha un a fydd yn gytundeb Mrs May, neu Norwy a mwy, neu'n unrhyw fath arall o Brexit, ei bod yn debygol y bydd y trafodaethau a'r ansicrwydd niweidiol yn parhau am flynyddoedd i ddod? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, mae'r Aelod yn hollol iawn mai ansicrwydd yw gelyn buddsoddiad ac mae honno'n neges y mae Cydffederasiwn Diwydiant Prydain a chyrff eraill sy'n arwain eu diwydiannau wedi ei chyfleu ers misoedd ar fisoedd ar fisoedd. Iddyn nhw, nid yw Brexit yn rhywbeth a fydd yn digwydd ar ôl 29 Mawrth, mae Brexit yn rhywbeth sydd wedi bod yn digwydd ers misoedd lawer erbyn hyn, ac mae penderfyniadau yn cael eu gwneud mewn busnesau ledled Cymru a ledled y Deyrnas Unedig, lle mae pethau a fyddai wedi cael eu gwneud ac a fyddai wedi bod ar waith a byddai ffyniant wedi cael ei gefnogi—nid yw'r pethau hynny yn cael eu gwneud oherwydd yr ansicrwydd a'r ffordd y mae Llywodraeth bresennol y DU wedi llwyddo i wneud smonach o Brexit hyd at y llinell olaf un. Ac, wrth gwrs, mae'r Aelod yn iawn—bydd hi'n cofio'r ddadl a gawsom ni yma ar lawr y Cynulliad pan wnaeth Mrs May gyhoeddi ei chytundeb gyntaf. Mae pethau sydd yn anghywir gyda'r cytundeb ymadael, a chyfeiriwyd at y rheini gennym ni yn y fan yma. Ond mae'r pethau sy'n anghywir gyda'r datganiad gwleidyddol yn fwy arwyddocaol fyth, ac mae disgwyl i'r Cynulliad hwn neu unrhyw un arall i gytuno i'r ddogfen simsan honno heb unrhyw fath o sicrwydd ynghylch y math o ddyfodol sydd ei angen arnom ni yr ochr arall i'r Undeb Ewropeaidd—does dim rhyfedd ei bod hi wedi dioddef y trechiad a wnaeth, a does dim rhyfedd nad oedd y Cynulliad hwn yn barod i'w gefnogi ychwaith. Cwestiwn 8 yn olaf, John Griffiths. Datblygu Cyfranogiad mewn Chwaraeon John Griffiths AC: 8. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran datblygu cyfranogiad mewn chwaraeon? OAQ53371 Mark Drakeford AC: Ymhlith ein blaenoriaethau y mae cynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon gan grwpiau a dangynrychiolir yn draddodiadol, y ddarpariaeth o chwaraeon cymunedol a chryfhau'r berthynas rhwng gweithgarwch corfforol a llesiant. John Griffiths AC: Prif Weinidog, mae llwyddiant ar lefel broffesiynol yn bwysig iawn o ran ysbrydoli mwy o gyfranogiad ar lawr gwlad, ac yn y cyd-destun hwnnw, tybed a wnewch chi ymuno â mi i gydnabod llwyddiant Clwb Pêl-droed Casnewydd yn dychwelyd i gynghrair pêl-droed Lloegr yn y blynyddoedd diwethaf, yn cyflawni dihangfa wyrthiol rhag cwympo o'r gynghrair ac yna cyrraedd pedwaredd rownd Cwpan Lloegr y llynedd, gan drechu Leeds United, cael gêm gyfartal â Tottenham Hotspur a mynd i Wembley ar gyfer y gêm ailchwarae, a heno eto yn wynebu Middlesbrough ym mhedwaredd rownd Cwpan Lloegr ar ôl trechu Dinas Caerlŷr yn y rownd ddiwethaf. A fyddech chi'n cytuno â mi bod hyn yn gosod esiampl wych i'r rhai sy'n ystyried cymryd rhan mewn pêl-droed ar lawr gwlad yng Nghasnewydd, Prif Weinidog? Ac a wnewch chi hefyd ymuno â mi i anfon dymuniadau da i Gasnewydd ar gyfer y gêm heno? Mark Drakeford AC: Diolchaf yn fawr iawn i John Griffiths am y cwestiwn yna. Rwy'n sicr yn ymuno ag ef i anfon, rwy'n siŵr, dymuniadau gorau'r Cynulliad cyfan i Gasnewydd yn eu gêm ailchwarae yn erbyn Middlesbrough heno, sy'n rhan o'r hanes rhyfeddol hwnnw y mae Casnewydd wedi ei ddatblygu yn y blynyddoedd diwethaf mewn cystadlaethau cwpan. Ac, wrth gwrs, mae e'n hollol iawn bod eu llwyddiant yn ysbrydoli pobl yn fwy eang yn yr ardal, yn y sir. Gwyddom fod ymddiriedolaeth gymunedol Clwb Pêl-droed Casnewydd yn weithgar iawn—mae 48 y cant o bobl ifanc yng Nghymru yn cymryd rhan mewn chwaraeon o leiaf dair gwaith yr wythnos, ond mae'r ffigur ar gyfer Casnewydd yn 58 y cant, ac nid oes amheuaeth bod hynny'n rhannol oherwydd effaith yr ysbrydoliaeth o fod â chwaraeon proffesiynol llwyddiannus yn yr ardal. Dymunwn bob lwc iddyn nhw yn eu gêm ailchwarae heno. Diolch i'r Prif Weinidog. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Yr eitem nesaf yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a galwaf ar y Trefnydd i wneud y datganiad a'r cyhoeddiad—Rebecca Evans. Rebecca Evans AC: Mae dau ddatganiad ychwanegol wedi eu hychwanegu at agenda heddiw, un ar ddigartrefedd a chysgu ar y stryd a'r wybodaeth ddiweddaraf ar y model buddsoddi cydfuddiannol yng Nghymru. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi ei gynnwys yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes y gellir ei weld ymysg papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig. Mohammad Asghar (Oscar) AC: Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar yr ystadegau amseroedd aros diweddaraf ar gyfer cleifion damweiniau ac achosion brys mewn ysbytai yng Nghymru? Y mis diwethaf, gwelwyd y gyfradd isaf a gofnodwyd erioed ar gyfer mis Rhagfyr, gyda 77.8 y cant o gleifion yn unig yn cael eu gweld o fewn yr amser aros targed o bedair awr. Arhosodd dros 18,000 o gleifion am fwy na phedair awr, gyda 4,000 eisoes yn aros dros 12 awr cyn iddyn nhw gael eu gweld gan weithwyr iechyd proffesiynol. O gofio mai yn 2008 y pennwyd yr amser aros targed, ac nad yw erioed wedi ei fodloni, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog ynghylch y rhesymau pam mai amseroedd aros damweiniau ac achosion brys y mis diwethaf oedd y gwaethaf ar gofnod ers mis Rhagfyr llawer o flynyddoedd? Diolch. Rebecca Evans AC: Diolch am hynny. Gallaf gadarnhau y bydd y Gweinidog iechyd yn cyflwyno datganiad yr wythnos nesaf ar bwysau'r gaeaf ar ofal heb ei drefnu. Leanne Wood AC: Hoffwn i gael rhywfaint o eglurder gan Lywodraeth Cymru, os gwelwch yn dda, ar eich polisi o ran cartrefi gofal a diogelu a chadw cartrefi gofal cyhoeddus yn y sector cyhoeddus. Rwyf yn codi’r mater hwn oherwydd bod cyngor Rhondda Cynon Taf, dan arweiniad Llafur, yn bwriadu trefnu darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus i'r sector preifat ar gontract allanol yn sgil rhaglen foderneiddio honedig ar gyfer gwasanaethau i'r henoed. Mae hyn yn golygu bod cartrefi preswyl ym Mhentre, Treorci, y Gelli, Trealaw, y Porth a Glynrhedynog, ynghyd â rhai gwasanaethau gofal dydd, yn cael eu hadolygu, ac felly, dan fygythiad. Mae hyn wedi achosi llawer iawn o bryder dealladwy i’r bobl leol yr wyf wedi siarad â nhw. Felly, a oes modd ichi roi rhywfaint o eglurder ar y mater hwn drwy gyflwyno datganiad gan y Llywodraeth ar ei strategaeth gofal? Rwyf newydd gwrdd ag Imam Sis, aelod Cwrdaidd o Blaid Cymru, sydd wedi bod ar streic newyn ers 16 Rhagfyr mewn protest oherwydd gorthrwm Twrci ar ei phobl. Yn ganolog i'r ymgyrch hon, ceir yr ymgais i ryddhau arweinydd Plaid Gweithwyr Kurdistan, Abdullah Öcalan, o garchar yn Nhwrci. Carcharwyd ef ers 1999, dan yr amodau mwyaf ofnadwy. Yn gywilyddus, mae Llywodraeth y DU wedi anwybyddu hyn. A wnewch chi ymuno â Phlaid Cymru wrth ddangos undod â dinasyddion Cwrdaidd Cymru sy'n protestio yn erbyn gorthrwm ac yn sefyll dros ryddid? Cefais fy ysgwyd wrth glywed am achos y teithiwr o Gaerdydd, Gilbert Watt, a gafodd, gyda chymorth yr heddlu, ei daflu allan oddi ar fws National Express yr oedd ganddo docyn dilys ar ei gyfer. Rastaffariad du yw Mr Watt, a oedd yn ymweld â'i bartner o Lundain, ac roedd wedi bod ar y daith hon gan ddefnyddio e-docyn nifer o weithiau o’r blaen heb unrhyw broblemau. Mae'r ffaith bod National Express bellach wedi ymddiheuro ac wedi cynnig i’w ad-dalu, ynghyd â 10 taith am ddim, yn arwyddocaol iawn i mi. A ydych chi, fel fi, yn amau bod hiliaeth y tu ôl i’r digwyddiad hwn? Ac a wnewch chi ddatganiad cryf yn erbyn gweithrediadau o'r fath, sy’n amlwg iawn yn gwahaniaethu yn erbyn pobl? Yn olaf, byddwn yn ddiolchgar pe byddech chi’n ymuno â mi i gydnabod gwaith Elfed Wyn Jones, Osian Hedd Harris, Aron Tudur Dafydd, Grisial Hedd Roberts, Iestyn Phillips a Caleb Siôn Davies ar ôl iddyn nhw gymryd camau cyflym a chadarnhaol i adfer y graffiti ‘Cofiwch Dryweryn’ yn Llanrhystud? Mae hwn yn arwyddnod o bwys cenedlaethol. Felly, fel llawer o bobl ledled Cymru, roeddwn i wedi dychryn pan glywais ei fod wedi cael ei ddifwyno. Gweithiodd y bobl ifanc hyn drwy'r nos, nos Sul, i unioni'r camwedd hwn, ac maen nhw wedi dangos gwybodaeth o’u hanes eu hunain ond hefyd wedi dangos eu bod nhw’n benderfynol o gyflawni newid cadarnhaol. Mae enghreifftiau fel hyn yn rhoi gobaith mawr i mi ar gyfer dyfodol y wlad hon, felly a wnewch chi ymuno â mi wrth longyfarch y bobl ifanc hyn am y camau a gymerwyd ganddyn nhw yn ystod y penwythnos? Rebecca Evans AC: Diolch yn fawr iawn am godi'r materion hyn. Yn sicr, rwy'n ymuno â chi i longyfarch y bobl ifanc hynny am y gweithredu dros y penwythnos yn wyneb yr hyn yr wyf yn ei gredu oedd yn weithred arbennig o ddisynnwyr a dideimlad ynglŷn â’r gofeb ‘Cofiwch Dryweryn’. Byddwn yn sicr yn dweud bod Cadw, rwy'n credu, wedi edrych yn y gorffennol i weld a ddylai fod yn strwythur rhestredig ai peidio, a gwn na fyddai bod yn strwythur rhestredig hyd yn oed yn atal y math hwn o beth rhag digwydd eto. Ond gwn y byddai Llywodraeth Cymru yn awyddus i gael trafodaethau gyda Chyngor Cymuned Llanrhystud ac unrhyw bartïon eraill â diddordeb ynghylch yr hyn y gallem ei wneud i warchod y safle yn well yn y dyfodol. Ar y mater a godwyd gennych am ddinasyddion Cwrdaidd yng Nghymru, gallaf gadarnhau bod y Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol wedi codi’r mater hwn gyda llysgennad Twrci yr wythnos diwethaf, ac efallai y bydd hi’n gallu ysgrifennu atoch gyda mwy o gadarnhad ynghylch y sgyrsiau hynny a gafodd hi. Ar y mater gwahaniaethu, yn amlwg, byddem ni’n gwrthwynebu gwahaniaethu lle bynnag y bo hynny'n digwydd. Ac, yn sicr, byddai gan sefydliadau a busnesau gyfrifoldeb i sicrhau bod eu staff yn ymddwyn mewn ffordd sy’n cadw at lythyren ac ysbryd y ddeddfwriaeth gydraddoldeb i raddau helaeth bob amser, a byddwn yn pryderu o glywed am unrhyw enghreifftiau lle nad oedd hynny’n digwydd. Ar y mater strategaeth gofal, gwn y bydd gennych gyfle i godi’r pryderon hyn yn y cwestiynau iechyd a fydd yn digwydd yfory. Mike Hedges AC: Hoffwn godi dau fater a gofyn am ddau ddatganiad. Yn gyntaf, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog economi a thrafnidiaeth ynghylch diogelwch ar y ffyrdd ar yr M4 rhwng cyffordd 44, sydd yn fy etholaeth i, a chyffordd 46 sydd, rwy'n credu, yn etholaeth y Gweinidog? Mae nifer fawr o ddamweiniau wedi digwydd, ac mae’r bobl leol wedi sôn am ddraenio dŵr ac wyneb y ffordd yn yr ardal honno. Yn ail, a gaf i fynd yn ôl at y swyddi sy’n cael eu colli yng nghanolfan alwadau Virgin Media yn Abertawe? Ym mis Ionawr, fe ddywedasoch chi wrthyf fod y gyfran gyntaf o staff hynny wedi gadael ym mis Tachwedd a bod dau gam arall wedi eu cynllunio ar gyfer y flwyddyn hon. Mae tîm cymorth all-leoli Virgin Media wedi cymryd y cyfrifoldeb o ddarparu mynediad ar gyfer staff ar y safle i bartneriaid allweddol tasglu Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Gyrfa Cymru, yr Adran Gwaith a Phensiynau a chyflogwyr lleol. Cynhaliwyd ffair swyddi ar safle Virgin Media ym mis Hydref a chynlluniwyd rhagor o ffeiriau swyddi i gyd-fynd â’r cyfrannau cychwynnol o staff fydd yn gadael. Felly, bydd y ffeiriau swyddi eraill hynny yn cael eu hamseru i gyd-fynd â’r cyfrannau eraill o bobl a fydd yn gadael y cwmni. A gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth nawr, neu a allwch chi ymateb a rhoi rhagor o wybodaeth ar yr hyn sy'n digwydd yno, sy'n effeithio ar eich etholaeth chi, Julie James, ar fy etholaeth innau, a llawer o rai eraill? Rebecca Evans AC: Diolch yn fawr iawn am godi'r ddau fater hyn. Yn sicr, mae pryder ynghylch y damweiniau sydd wedi digwydd yn ddiweddar rhwng cyffordd 44 a 46 ar y draffordd, ac, yn sicr, roedd yn ddrwg calon gen i glywed am y ddamwain angheuol a ddigwyddodd yn ddiweddar ar gyffordd 45, ac, yn amlwg, byddem yn dymuno cydymdeimlo â theulu’r unigolyn dan sylw. Sicrhau diogelwch ar ein rhwydwaith ffyrdd yw ein prif bryder yn y fan hon, ac mae swyddogion yn aros am adroddiad manwl ac ymchwiliad yr heddlu ynghylch y gwrthdrawiad penodol hwnnw ar hyn o bryd. Gallaf ddweud bod gwaith cynnal a chadw wedi ei gynllunio ar y rhan hon o'r M4 rhwng cyffyrdd 45 a 46—ar y ffyrdd tua'r dwyrain a thua'r gorllewin—a bydd rhaglennu'r gwaith yn dibynnu ar flaenoriaethu a’r arian fydd ar gael. Ond yn y cyfamser, bydd ein hasiant yn parhau i arolygu’r rhan hon o’r briffordd yn rheolaidd gan atgyweirio diffygion sy’n ymwneud â diogelwch fel y byddan nhw’n codi. Ynghylch mater Virgin Media a’r swyddi sy’n cael eu colli, nid oes gen i lawer mwy i’w ychwanegu at yr wybodaeth yr ydych chi wedi ei rhoi inni y prynhawn yma. Ond gallaf gadarnhau y bwriedir cael dau gam o ddiswyddiadau pellach yn ddiweddarach eleni, ac y byddwn yn cynnal y ffeiriau swyddi hynny fel eu bod nhw’n cyd-fynd â’r dyddiadau gadael hynny. Gwn fod Mike Hedges a Julie James ac eraill yn ymwneud yn agos iawn â’r mater hwn ac yn siarad â'r gweithlu, ac felly, byddai'n ddefnyddiol gwybod am unrhyw faterion ychwanegol eraill sydd angen sylw y gallai Llywodraeth Cymru fod yn gallu helpu gyda nhw. Andrew RT Davies AC: Trefnydd, a gawn ni ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda? Un ohonynt mewn cysylltiad â ffordd newydd sydd wedi ei chynnig gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Bro Morgannwg rhwng Sycamore Cross a'r M4 ym Meisgyn. Rydym wedi cael newid Llywodraeth, byddwn i’n awgrymu—nid newid plaid, ond newid Llywodraeth—gyda Gweinidog newydd a Phrif Weinidog newydd, a byddai’n ddiddorol i drigolion yr ardal yr effeithir arni yn sicr pe byddai modd cael gwybod a oes unrhyw newid polisi yn y cynllun trafnidiaeth. Oherwydd, yn amlwg, rydym yn ymwybodol bod y dirprwy Weinidog newydd, byddwn i'n awgrymu, yn wrthwynebus i ffyrdd,a byddai’r trigolion yn hoffi deall a oes unrhyw newid o ran cynllunio, ac yn wir, newid i’r cynllunio a'r cymorth a allai ddod gan Lywodraeth Cymru er mwyn talu am y prosiect hwn. Ac, yn ail, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog dros faterion gwledig mewn cysylltiad â’i hymgynghoriad ynghylch Cyfraith Lucy, hynny yw, gwerthu cŵn bach trydydd parti? Mae hyn yn destun dadl fawr ledled Cymru. Mae’r rhan fwyaf o’r awdurdodau lleol wedi cefnogi'r cynnig sy’n ymwneud â Chyfraith Lucy. Dywedir wrthyf yn hyderus y bydd y rhai nad ydyn nhw wedi ei gefnogi yn dod i gytundeb arno cyn bo hir. Deallaf fod y Gweinidog yn bwriadu cyflwyno ymgynghoriad. Hyd yma, nid yw'r ymgynghoriad hwnnw wedi dod i sylw'r cyhoedd, felly byddai dealltwriaeth o sut y gallai hynny fynd rhagddo yn y dyfodol yn cael ei chroesawu yn fawr iawn. Rebecca Evans AC: Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau hynny. Ar fater y ffordd newydd ym Meisgyn, rwy'n credu efallai mai'r peth mwyaf priodol i'w wneud fyddai ichi ysgrifennu at y Gweinidog sy'n gyfrifol am drafnidiaeth er mwyn cael yr eglurder yr ydych yn ei geisio ar ran eich etholwyr yn y fan honno. Ac ynghylch mater Cyfraith Lucy, byddaf yn sicr yn cael sgwrs gyda'r Gweinidog i gael gwybod pryd y cawn ragor o fanylion ynghylch yr ymgynghoriad hwnnw ac unrhyw gamau arfaethedig sy'n ei ddilyn. Siân Gwenllian AC: Hoffwn i godi materion yn ymwneud â thryloywder peirianwaith Llywodraeth Cymru ac atebolrwydd gweinidogol priodol i'r Senedd hon. Ers peth amser bellach, mae yna amwysedd ynglŷn â pha Weinidog sy'n atebol i'r Cynulliad Cenedlaethol am y gwasanaeth sifil sy'n cefnogi gwaith Gweinidogion. Yn San Steffan, mae'r cyfrifoldeb hwnnw wedi ei roi yn glir iawn i'r Prif Weinidog, ond dydy'r rhestr o gyfrifoldebau gweinidogol diweddaraf ar gyfer Llywodraeth Cymru ddim yn rhoi llawer o oleuni ar y mater. Ac mae gen i ymateb i ddau gwestiwn ysgrifenedig a oedd wedi eu cyflwyno gan Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, yn gofyn i'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, egluro sut y mae peirianwaith adrannau'r gwasanaeth sifil wedi newid yn dilyn penodi ei Gabinet newydd. Ac mae o'n dweud mewn ymateb fod cyfrifoldebau staffio wedi'u dirprwyo i'r Ysgrifennydd Parhaol ac y bydd Shan Morgan yn ysgrifennu at Adam Price efo ateb. Ac mewn ateb i gwestiwn penodol arall, yn gofyn yn blwmp ac yn blaen pa Weinidog sy'n gyfrifol i'r Cynulliad hwn am y gwasanaeth sifil, yr un ydy'r ateb, sef fod materion staffio wedi'u dirprwyo i'r Ysgrifennydd Parhaol. Rŵan, dwi'n gofyn i chi, felly, am eglurder: pa Weinidog sy'n ateb i'r Cynulliad yma am y gwasanaeth sifil yn ei gyfanrwydd a'r weinyddiaeth yn ei chyfanrwydd sydd yn cefnogi Llywodraeth Cymru? Ac ar fater cysylltiedig yn ymwneud â thryloywder y gwasanaeth sifil, dwi wedi bod yn bryderus ers tro am y diffyg gallu i gael gwybodaeth am lefelau staffio a strwythurau staffio o ran safonau'r Gymraeg, achos mae hynny'n gallu effeithio'n uniongyrchol ar bolisi'r Llywodraeth yn y maes yna a chyflawni polisi'r Llywodraeth. Mi fu yn arfer gan y Llywodraeth i gyhoeddi siart strwythur o'r prif adrannau a'r prif uwch-weision sifil arweiniol. Ond dwi wedi bod yn chwilio am siart tebyg, ac mae'r un diweddaraf dwi'n medru dod o hyd iddo fo yn dyddio yn ôl i Fai 2017, ac wedi dyddio hefyd, ac roedd yn rhaid i fi fynd i grombil gwefan Llywodraeth Cymru ac archif o'r cyfnod hwnnw i ddarganfod y siart yma. Mae Llywodraeth Mark Drakeford wedi bod yn awyddus iawn, ar yr wyneb beth bynnag, i bwysleisio ymagwedd newydd at Lywodraeth agored, ac yn yr ysbryd hwnnw felly, allwch chi sicrhau bod yna fersiwn gyfredol o siart strwythur lefel uwch y Llywodraeth a'i hadrannau ar gael ar fyrder i Aelodau'r Cynulliad a phobl Cymru? Rebecca Evans AC: Diolch am godi'r materion hyn. Ynghylch y cyntaf, nid wyf yn credu y gallaf ychwanegu unrhyw beth at yr hyn a oedd yn y ddau ateb i'r cwestiynau ysgrifenedig i Adam Price. Rwyf wedi gweld yr atebion fy hun, a gwn ei fod yn fwriad, fel y dywedwch, i Shan Morgan ysgrifennu at Adam Price mewn ymateb i'w ymholiadau yntau hefyd. Byddaf yn sicr yn archwilio'r mater yr ydych wedi ei godi ynghylch tryloywder mewn cysylltiad â safonau'r Gymraeg, o ran yr uwch wasanaeth sifil yn arbennig, a byddaf yn ysgrifennu atoch gyda rhagor o wybodaeth. David Rees AC: Arweinydd y Tŷ, ddydd Sadwrn diwethaf roeddwn i mewn cyfarfod o Fenywod Castell-nedd Port Talbot yr 1950au—gan wneud yn siŵr fod y derminoleg honno'n gywir gennyf i. Roedd yn llawn dop yn y cyfarfod, gyda dros 400 yn bresennol. Nawr, rwy'n sylweddoli mai mater i San Steffan yw pensiynau, a'r mater hwn yn benodol, ond mae'r canlyniadau yn digwydd mewn gwirionedd yn y cymwyseddau datganoledig. Os oes gennym ni fenywod na allant bellach ymddeol pryd yr oedden nhw wedi bwriadu gwneud, ac mae ganddyn nhw gyfrifoldebau gofalu, pwy fydd yn gyfrifol am y cyfrifoldebau gofalu hynny? Byddan nhw'n dibynnu ar y gwasanaethau a gynigir yng Nghymru. Felly, mae nifer o faterion sydd mewn gwirionedd o fewn ein cymwyseddau datganoledig. Mae'n bwysig inni gael bargen deg ar gyfer menywod hyn, ac rwy'n datgan diddordeb yma, Llywydd, gan fod gennyf fi aelodau o'm teulu i—ni fyddaf yn eu henwi nhw, rhag ofn y caf fy saethu pan af i adref—sydd yn y sefyllfa honno. Ond mae'n bwysig ein bod yn sylweddoli bod llawer iawn o fenywod yn cael cam i'r fath raddau fel na fyddan nhw'n gallu gadael eu gwaith oherwydd na allan nhw fforddio i adael eu gwaith. Gallfod ganddyn nhw gyfrifoldebau eraill, sy'n rhoi pwysau ychwanegol arnyn nhw. Mae'n bryd i ni nawr wneud cymaint ag y gallwn i'w helpu nhw. A wnewch chi roi datganiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch pa gamau a gymerwyd i godi'r materion hyn gyda Llywodraeth y DU, i sicrhau y bydd dinasyddion Cymru sydd yn y sefyllfa hon yn elwa mewn gwirionedd ar y cytundebau? Mae cytundebau amrywiol yn cael eu trafod, ond maen nhw'n haeddu'r hyn yr oedden nhw'n ei ddisgwyl, a hynny yw pensiwn gan y wladwriaeth yn 60 oed. Rebecca Evans AC: Diolch yn fawr iawn i chi am godi'r mater hwn. Fel y dywedwch, nid yw materion pensiwn wedi cael eu datganoli, ond mae'r effaith a gaiff hyn ar y menywod dan sylw yn ofid mawr i Lywodraeth Cymru heb unrhyw amheuaeth. Mae Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU i fynegi ein pryderon ynghylch yr effaith anghymesur a gaiff Deddfau pensiwn 1995 a 2011 ar fenywod sydd wedi gweld yr oedran y byddan nhw'n cael pensiwn gan y wladwriaeth yn cael ei godi'n sylweddol, heb rybudd effeithiol na digonol. Ac, fel y dywedwch, mae llawer o fenywod yn y grŵp oedran arbennig hwn wedi gweithio mewn swyddi rhan-amser, swyddi ar gyflog isel yn aml, ac wedi cymryd amser i ffwrdd o'r gwaith i ofalu am blant a pherthnasau oedrannus, a hefyd wedi gweld anghydraddoldeb rhwng y rhywiau o ran cyflog am y rhan fwyaf o'u gyrfa. Felly, mae'n amlwg mai annhegwch mawr yw'r hyn sy'n cael ei wneud i'r garfan arbennig hon o fenywod. Fel y dywedaf, rydym eisoes wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU ar y mater hwn, ond rydych chi wedi ei godi yma yn y Siambr, ac yn sicr byddwn i fy hunan yn hapus i godi hynny unwaith eto. Diolch i'r Trefnydd. 3. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Digartrefedd a Chysgu Allan Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth leol ar ddigartrefedd a chysgu allan. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad—Julie James. Julie James AC: Diolch, Llywydd. Llywydd, mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb yn byw mewn cartref sy'n diwallu eu hanghenion. Mae gwireddu'r ymrwymiad hwn wedi bod yn fwy heriol byth oherwydd y cyni ac ansicrwydd parhaus. Yr her fwyaf enbyd a'r fwyaf anodd yw diwallu anghenion y rheini sydd ymhell oddi wrth dai diogel, addas, yn arbennig y rheini sy'n cysgu allan ar ein strydoedd mewn pebyll ac wrth ddrysau siopau, ond hefyd y rhai y mae eu digartrefedd yn llai gweladwy ond yr un mor wir. Rydym wedi cyhoeddi'r bore 'ma gyfrifiad blynyddol ar gyfer Cymru o'r rhai sy'n cysgu allan. Bwriad y cyfrifiad blynyddol yw nodi pwy sy'n cysgu allan ar noson benodedig. Mae hefyd yn cynnwys canfyddiadau'r ymarferiad o gasglu data am bythefnos, gan ddefnyddio gwybodaeth o ystod o wasanaethau, i ddwyn tystiolaeth ynghyd am niferoedd y rhai sy'n cysgu allan dros gyfnod mwy estynedig o amser. Mae'r data yn rhoi cipolwg ar ddarlun sy'n newid yn barhaus. Yn gyffredinol, mae'r data yn dangos y gall ein hymdrechion ni ar y cyd fod yn dechrau cael effaith. Yn wyneb y pwysau cynyddol ar aelwydydd, ymddengys bod nifer y bobl sy'n cysgu allan yn sefydlogi yn gyffredinol, ac, mewn rhai ardaloedd, mae'r niferoedd wedi gostwng. Er hynny, mae hyd yn oed un person yn cysgu allan ar ein strydoedd yn un yn ormod. Fel pob Aelod Cynulliad arall sy'n gyfarwydd â'r sefyllfa hon ar strydoedd yn ein trefi a'n dinasoedd, gwn fod cysgu allan yn dal i ddigwydd yn barhaus ac ar lefel annerbyniol yng Nghymru. Nid yw hon yn sefyllfa sy'n unigryw i Gymru. Yn anffodus, mae cysgu allan i'w weld ym mhob tref a dinas fawr. Nid yw hyn yn dderbyniol ac, yn fy marn i, nid yw'n anochel. Dylai tai addas fod yn un o'r hawliau dynol sylfaenol mewn gwlad gyfoethog fel ein gwlad ni, ond mae effaith diwygio budd-daliadau, ynghyd â bron i ddegawd o gyni, yn ychwanegu at y pwysau ar aelwydydd a'u gallu i sicrhau lle i aros sy'n fforddiadwy. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi'n sylweddol o ran atal a mynd i'r afael â digartrefedd dros y tair blynedd diwethaf. Rydym yn ychwanegu at y buddsoddiad hwnnw, gyda thros £30 miliwn eto eleni a'r flwyddyn nesaf. Rydym hefyd wedi ymrwymo i adeiladu mwy o dai fforddiadwy ac amddiffyn ein stoc o dai cymdeithasol. Gwelir arwyddion bod y cyfuniad o'n deddfwriaeth arloesol ar ddigartrefedd a'r buddsoddiad ariannol hwn yn gwneud gwahaniaeth. Llwyddwyd i rwystro bron 19,700 o aelwydydd rhag mynd yn ddigartref rhwng mis Ebrill 2015 a diwedd mis Medi 2018. Mae hyn yn arbennig o gadarnhaol o ystyried bod nifer yr aelwydydd sydd dan fygythiad digartrefedd wedi codi 12 y cant o'i gymharu â'r un chwarter yn y flwyddyn flaenorol. Er gwaethaf y cynnydd sylweddol hwn yn y galw, llwyddodd awdurdodau lleol i gynnal lefelau gwasanaeth, gan atal digartrefedd mewn 65 y cant o achosion. Cysgu allan yw'r ffurf fwyaf eithafol a gweladwy o ddigartrefedd. Yn aml mae pobl sy'n cysgu ar ein strydoedd ag ystod o anghenion cymhleth na fydd llety ar ei ben ei hun yn eu datrys. Os ydym ni o'r farn fod niferoedd y rhai sy'n cysgu allan yn digwydd yn barhaus ac yn annerbyniol o uchel, yna bydd yn rhaid inni holi a yw'r modelau ar gyfer ein gwasanaethau yn ymateb yn ddigonol i anghenion y rhai sy'n eu cael eu hunain ar ein strydoedd ni. Mae'n rhaid inni ddysgu o brofiad bywydau pobl a cheisio cael ymatebion arloesol sy'n canolbwyntio ar unigolion. Mae'n rhaid i ni ofyn i ni ein hunain a yw'r cyllid ychwanegol wedi cael effaith, ac a yw'r modelau ar gyfer gwasanaeth yn cefnogi anghenion cymhleth pobl yn ddigonol i helpu i'w dwyn nhw oddi ar y strydoedd ac i lety tymor hir. Rwy'n awyddus i awdurdodau lleol fod yn ddewr ac eofn. Rwy'n eu cymeradwyo nhw a phob un unigolyn sy'n gweithio mor galed i gefnogi pobl sy'n cysgu allan a'u helpu i drawsnewid eu bywydau. Mae rhai dulliau arloesol o weithredu arloesol yn cael eu treialu ledled Cymru. Yn Wrecsam, mae'r ganolfan gofal cymunedol yn un enghraifft o hyn. Fel y gwelodd y Prif Weinidog ei hunan yn ddiweddar, i'r rheini sy'n cysgu allan, mae'n cynnig iddynt ofal gan feddyg teulu, gofal iechyd meddwl, gofal i atal camddefnyddio sylweddau, gyda thai, ac allgymorth, canolfan waith a gwasanaethau cymorth eraill, a'r cyfan i gyd mewn un ystafell. Mae Cyngor Wrecsam yn gweld arwyddion cynnar hefyd o lwyddiant gyda'i ddull o 'allgymorth grymusol'. Mae'r dull hwn yn canolbwyntio ar gymorth amlddisgyblaethol sy'n barhaus a phwrpasol, gyda'r prif nod o roi terfyn ar ddigartrefedd. Rwy'n falch o adrodd ar gynnydd gwirioneddol wrth gyflwyno Tai yn Gyntaf yng Nghymru. Er ei bod yn ddyddiau cynnar, rydym eisoes yn gweld tystiolaeth o lwyddiant gyda rhai o'n cysgwyr allan sydd â'r problemau mwyaf cymhleth. Rydym yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol a'r sector ehangach i gyflwyno rhaglen arall o arloeswyr Tai yn Gyntaf, gyda chymorth mwy na £700,000 o gyllid ychwanegol y flwyddyn nesaf. Rydym hefyd yn canolbwyntio ar sut ybyddwn yn cydlynu ac yn rhannu'r arfer gorau o'r prosiectau cynnar hyn. Mae Tai yn Gyntaf yn rhoi'r gorau i'n dull traddodiadol ni o flaenoriaethu ar sail teilyngdod i helpu i ddwyn pobl oddi ar y stryd. Mae ei lwyddiant yn dibynnu ar y ffaith ei fod yn rhoi'r unigolyn yn y canol. Nid oes angen iddyn nhw ennill teilyngdod i fod ar gam nesaf y daith. Mae'n derbyn y gall unigolion fod â chymysgedd gymhleth o broblemau ac anghenion. Yn y bôn, mae'n cydnabod y gall unigolion reoli neu ymdrin yn well â materion fel salwch meddwl neu gamddefnyddio sylweddau ac ymgysylltu â gwasanaethau pan fo ganddyn nhw le sefydlog i'w alw'n gartref. Wythnos neu ddwy yn ôl, ymwelais â phrosiect Tai yn Gyntaf Byddin yr Iachawdwriaeth yng Nghaerdydd a chefais gyfle i siarad ag un o ddefnyddwyr y gwasanaeth a chlywed sut y gwnaeth Tai yn Gyntaf wahaniaeth dramatig i'w fywyd. Roedd yn amlwg fod llwyddiant Tai yn Gyntaf yn tarddu o ddwyn amrywiaeth o wasanaethau ynghyd, a phob un yn gweithio mewn ffyrdd newydd, hyblyg ac ymatebol er mwyn diwallu anghenion pobl ddigartref. Cydnabyddir pwysigrwydd ymrwymiad amlasiantaeth a hyblygrwydd yng Ngheredigion hefyd. Maen nhw'n gweld pwysigrwydd cael pob gwasanaeth a'r partneriaid i gydweithio, ac yn chwilio'n ddyfal am atebion i anghenion cymhleth yr unigolion. Mae Ceredigion yn ceisio profi y gall ymrwymiad cyffredin i deilwra gwasanaethau i unigolion, yn hytrach nag o'r tu arall, ddwyn ffrwyth gwirioneddol. Yn ogystal ag annog awdurdodau lleol i ofyn y cwestiynau anodd iddyn nhw eu hunain, a dysgu oddi wrth ei gilydd a newid eu modelau cyflenwi, byddaf hefyd yn eu hannog i weithio ochr yn ochr â'm hadran i er mwyn ystyried yr hyn y bydd angen ei wneud yn wahanol. Y nod, yn y tymor hwy, yw alinio ein cyllid â strategaethau digartrefedd statudol yr awdurdodau lleol. Bydd yn bwysig i'r cynlluniau hyn ddangos yn eglur sut mae sefydliadau'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector yn gweithio gyda'i gilydd yn strategol i gyflawni'r effaith fwyaf dymunol. Rwy'n awyddus i weld cydweithio gwirioneddol rhwng yr holl bartneriaid mewn ardal. Byddaf yn gofyn i'm cyd-Weinidogion ac i fi fy hun ddarparu'r un lefel o bendantrwydd, ymrwymiad a chydlyniant strategol. Mae amgylchiadau annerbyniol pob dinesydd digartref sydd heb do uwch ei ben yn mynnu hynny, ac nid yw'n haeddu dim llai. David Melding AC: Hoffwn i ddechrau gyda'r meysydd yr wyf yn credu bod cytundeb llwyr â nhw, fwy na thebyg, ar draws y Siambr, ar y mater hwn o'r pwys mwyaf, yn fy marn i—baromedr cyflawn ar gyfer y math o warineb sydd gennym mewn cymdeithas, neu fel arall. Credaf mai cysgwyr allan yw'r rhai sydd fwyaf agored i niwed, o ran bod mor bell o dai diogel ac addas. Roeddwn i'n falch o glywed hynny gan y Gweinidog. Er bod cysgu allan yn rhywbeth parhaus, mae'n beth annerbyniol ac nid yw'n anochel, a dyna'r farn y mae angen inni ei chlywed gan y Llywodraeth. Mae tai gweddus yn hawl dynol sylfaenol. Credaf fod hynny wedi ei ddatgan yn eglur iawn ar ôl yr ail ryfel byd, ond efallai ei fod wedi mynd ar goll dros y degawdau diwethaf i ryw raddau, ac mae angen inni ei ailddatgan. Mae angen inni fod yn ddewr ac eofn—rwy'n hoffi'r geiriau hynny, ac rwy'n eich cymeradwyo amdanynt—a phrofi ein modelau gwasanaeth presennol. Ar yr egwyddorion hyn, gallwn adeiladu consensws a dull cadarn o weithredu ary mater heriol hwn. Cyfeiriodd y Gweinidog at lwyddiant y Ddeddf tai o ran ysgogi Cymru i ganolbwyntio ar atal, ac rwyf wedi clywed llawer o bobl yn canmol dull y Llywodraeth. Felly, gan ganolbwyntio ar un neu ddau o ddiffygion, rwy'n awyddus iawn i fod yn gytbwys a dweud fy mod wedi clywed pobl yn canmol y dull gweithredu ac yn ei wthio ar rannau eraill o'r DU. Serch hynny, clywais hefyd dro ar ôl tro mai diffyg allweddol yn Neddf 2014 yw nad yw ond yn ofynnol i awdurdodau lleol helpu'r rhai sy'n mynd ati i geisio cymorth. Nawr, wrth gwrs, mae llawer yn mynd y tu hwnt i hynny, ond y gofyniad yn ôl y gyfraith yw ymateb i'r rheini sy'n mynd ati i geisio cymorth, a gall yr awdurdodau lleol roi'r gorau i'w dyletswyddau o ran digartrefedd pe na fyddai unigolyn yn cydweithredu â'r awdurdod lleol—unwaith eto, nid yw hynny'n dweudbod yn rhaid iddyn nhw, ond y bydden nhw yn gallu gwneud felly. Ac, yn olaf, nid yw'r rhai sy'n cysgu allan yn ennill statws angen blaenoriaethol yn awtomatig yn ôl y ddeddfwriaeth. Nawr, mae'r Gweinidog wedi cymeradwyo model Tai yn Gyntaf, ac rwy'n cytuno â hi mai honno yw'r ffordd orau ymlaen fwy nathebyg o ran mynd i'r afael â'r rhai sy'n cysgu allan. Ond credaf nad yw rhai o'r pethau sydd bellach, os nad ydynt wedi eu hymgorffori, yna wedi eu caniatáu, yn y dull deddfwriaethol yn cyd-fynd yn hollol â hynny. Er tegwch, rwy'n credu ichi gyfeirio at rai o'r anawsterau yn y dull o ennill teilyngdod wrth roi tai. Ond rwyf i'n credu bod angen inni edrych yn ofalus ar y ddeddfwriaeth i weld sut mae'n gweithredu ar y lefel hon o ddod â chymorth i'r rhai sy'n cysgu allan, ac na all yr angen cyfredol i ofyn am gymorth ac yna, mewn ffordd barhaus, gydweithredu fod yno fel prif egwyddor yn y ddeddfwriaeth. Ni ddylidei ddehongli fel yna, oherwydd, yn amlwg, mae gan y rhai sy'n cysgu allan anghenion cymhleth iawn, iawn, fel y dywedoch chi, ac mae eu hamgylchiadau yn gymhleth iawn hefyd. Credaf fod y model yn Wrecsam yn wirioneddol galonogol oherwydd mae ganddyn nhw yno yr hyn a alwoch yn 'allgymorth grymusol'. A dyna'r ffordd ymlaen, mae'n ymddangos i mi, o ran sut y byddwn yn dehongli'r ddeddfwriaeth, ac felly rwy'n gobeithio y byddwch chi'n cadarnhau hynny. Yn olaf, rwyf am bwysleisio'r gwaith arloesol yn y sector gwirfoddol. Rwy'n gobeithio bod yr Aelodau wedi cael cyfle i ddarllen erthygl graff a theimladwy Lindsay Cordery-Bruce yn y Western Mail ddoe. Mae'n rhaid i mi ddweud, Llywydd, fy mod o'r farn mai hon yw un o'r erthyglau sylwebaeth gorau i mi ei darllen ers blynyddoedd lawer mewn unrhyw bapur newydd, a dweud y gwir, ar y pwnc hwn, ac rwy'n annog yr Aelodau nad ydyn nhw wedi cael cyfle i'w darllen i wneud hynny. Mae Lindsay yn pwysleisio'r angen am ddull gweithredu, rwy'n dyfynnu sy'n rhoi'r tosturi yn ôl yn y comisiynu. Diwedd y dyfyniad. Ac mae angen rhoi sylw arbennig i brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Nawr, gwn fod y Llywodraeth yn edrych ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, a chredaf fod hynny'n bwysig iawn i'r sector hwn. Mae hi'n dweud hefyd bod digartrefedd wedi mynd yn argyfwng o ran arweinyddiaeth lawn cymaint ag yn argyfwng o ran tai, a chredaf mai ein dyletswydd ni bellach yw ceisio cyfuno'r consensws egnïol hwn a symud pethau yn eu blaenau. Ac rwyf am orffen mewn maes arall yn y sector gwirfoddol, gyda Phrif Weithredwr Crisis, John Sparks, a ddywedodd, ar ôl yr ystadegau a gyhoeddwyd heddiw, ac rwy'n dyfynnu: Mae'n ddim llai na sgandal cenedlaethol fod pobl, noson ar ôl noson, yn dal i orfod cysgu allan ar ein strydoedd, yn enwedig gan y gwyddom pe cymerid y camau cywir y gellid rhoi diwedd ar hynny am byth. Mae angen i bob un ohonom ni weithio tuag at hynny. Julie James AC: Diolch i chi am y sylwadau hynny. Nid wyf i'n anghytuno ag unrhyw un ohonyn nhw, mewn gwirionedd. Ceir mymryn bach o bwyslais, efallai—rhyw arlliw bychan—y byddem yn anghytuno ag ef, ond, yn gyffredinol, rwy'n credu ein bod ni'n mynd i'r cyfeiriad iawn. Rwy'n credu bod llawer iawn i'w ddysgu o'r daith hyd yma, yr hyn sydd wedi bod yn effeithiol a'r hyn nad yw wedi bod yn effeithiol ac, er tegwch, ledled y byd gorllewinol, mae gennym ni broblem gyffelyb, a'r modelau sy'n cael eu datblygu—rydym ni'n ceisio dysgu oddi wrth y gorau yn y modelau hynny. Felly, mae Tai yn Gyntaf yn ymddangos i mi yn ateb synhwyrol iawn yn amlwg ynddo'i hun. Gall fod yn fisoedd lawer, serch hynny, cyn i rywun sydd wedi bod yn cysgu allan gyda nifer o broblemau cymhleth gael y llety diogel sydd ei angen arno. Ond rydym yn golygu ymbellhau i raddau helaeth iawn oddi wrth y math o flaenoriaethu sydd wedi bodoli hyd yn hyn. Er bod hynny wedi gweithio i rai. Bydd hynny wedi gweithio i rai, ond, mewn gwirionedd, yr hyn yr ydym yn edrych arno yw'r dulliau sy'n canolbwyntio ar drawma, sy'n unigryw i'r unigolyn, oherwydd mae pob unigolyn yn wahanol. Felly, rwy'n siŵr bod cyfleoedd tai pur dda ar gael y bydden nhw'n fy ngwneud i'n ddigalon iawn ond fe allen nhw wneud rhywun arall yn hapus iawn. Y pwynt yw ceisio darganfod yr hyn y mae'r unigolyn hwnnw'n fwyaf tebygol o allu ei gynnal a pha wasanaethau cymorth y bydd eu hangen i wneud hynny. Mae'n bosibl, i rai, y byddai cael lle mewn fflat a chynnig lefel sylfaenol o incwm yn ddigonol, a byddai angen llawer iawn mwy o gymorth na hynny ar eraill. Felly, mae'r model yn canolbwyntio ar ddull sydd wedi ei ganoli ar yr unigolyn hwnnw, ac roedd hi'n fraint fawr i gwrdd â gŵr bonheddig a oedd wedi elwa ar hynny ac a oedd yn siŵr iawn na fyddai ef wedi gallu dod i mewn oddi ar y stryd oni bai am hynny. Felly, rwy'n cytuno â hynny. Rydym ni'n edrych, ac mae gennym wahanol adolygiadau yn digwydd, a ddechreuwyd gan fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans pan oedd hi'n Weinidog Tai—adolygiadau i angen blaenoriaethol a nifer o bethau eraill y soniodd David Melding amdanyn nhw, yn ystyried yr hyn sydd wedi bod yn effeithiol a'r hyn sydd ei angen arnom ni i'w wneud i symud y drafodaeth yn ei blaen. Rwy'n falch eich bod yn hoffi model Wrecsam gan fy mod yn credu bod llawer i'w ddweud dros y math hwnnw o allgymorth grymusol, fel y'i gelwir. Wedi dweud hynny, eto i gyd, yn y pen draw, mae'n rhaid i ni hefyd barchu'r hyn y mae'r unigolyn yn ei farnu sy'n angenrheidiol iddo ac yn gallu ei fynegi i ni. Felly, ystyr hyn yw cydbwysedd gofalus rhwng hawliau unigol yr unigolyn hwnnw a'n hangen ni i gynorthwyo'r unigolyn hwnnw'n ôl i gartref sy'n gynaliadwy. Leanne Wood AC: Mae eich datganiad yn honni bod nifer y rhai sy'n cysgu ar y stryd yn ymddangos fel pe bai'n sefydlogi, ond mae hynny'n seiliedig ar y cyfrifiad cysgu allan, sy'n parhau i ddangos cynnydd o 45 y cant ers 2015. At hynny, er bod y cyfrifiadau hynny'n ddefnyddiol mewn rhai ffyrdd, maen nhw'n gallu methu â chyfrif y rhai sy'n cysgu allan sydd wedi eu gyrru i ffwrdd o'r mannau lle mae pobl yn cael eu cyfrif, sy'n digwydd fel y gwyddom o ganlyniad i blismona gorfrwdfrydig, ac mewn rhai achosion hefyd o ganlyniad i bolisi diffygiol. Awgryma'r data eraill sydd gennym fod y broblem ar gynnydd o hyd. Mae cynnydd o 27 y cant yn yr aelwydydd sydd dan fygythiad digartrefedd ers 2015, er enghraifft, yn dangos y niferoedd enfawr yr ydym yn sôn amdanyn nhw yn y cyswllt hwn. Felly, a fyddech chi'n derbyn ei bod yn rhy fuan i ddweud yr ymddengys bod y pwysau sy'n achosi digartrefedd yn sefydlogi? Wedi'r cwbl, nid yw credyd cynhwysol wedi cael ei gyflwyno'n llawn eto, ac rydym yn gwybod y bydd hynny'n debygol o gynyddu digartrefedd eto hyd yn oed. Yn ail, mae eich datganiad yn cyfeirio at y ddeddfwriaeth arloesol, deddfwriaeth sydd wrth gwrs yn cadw'r prawf Pereira a'r categorïau angen blaenoriaethol, er gwaethaf y cyngor yr oedd y sector cyfan yn ei roi i chi. Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi tynnu sylw at hynny, ac rwy'n dyfynnu, Mae awdurdodau lleol yn ymateb i'r problemau a achosir gan ddigartrefedd gyda graddau amrywiol o lwyddiant, ond ychydig o bwyslaissydd ar atal achosion sylfaenol digartrefedd. Nawr, mae eich datganiad yn awgrymu eich bod chi'n gwybod am hyn, oherwydd rydych yn dweud bod angen i'r awdurdodau lleol ofyn rhai cwestiynau anodd iawn, iawn i'w hunain. Felly, a wnewch chi ddweud wrthym pa gwestiynau fyddai'r rheini, os gwelwch chi'n dda? Yn drydydd, ni allafweld unrhyw gyfeiriad at adroddiad diweddar Crisis ar sut i roi terfyn ar ddigartrefedd yn y DU, sef y cynllun mwyaf cynhwysfawr yr wyf i wedi ei weld. A ydych chi'n bwriadu darllen y cynllun hwnnw? Ac yn olaf, mae eich datganiad yn sôn am nifer o brosiectau Tai yn Gyntaf, ac mae Tai yn Gyntaf yn feddylfryd yr ydym ni'n ei gymeradwyo. Mae eich datganiad yn nodi bod mabwysiadu'r model hwn yn ymbellhau oddi wrth ddulliau blaenoriaethu traddodiadol, ond a wnewch chi ymhelaethu ar hyn, os gwelwch yn dda, o ran sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei phwerau ac, er enghraifft, ei chyllid i sicrhau symudiad tuag at Dai yn Gyntaf? A wnewch chi esbonio hefyd sut mae cadw at angen blaenoriaethol yn gydnaws â pholisi Tai yn Gyntaf, os gwelwch yn dda? Julie James AC: Ie, diolch i chi am y sylwadau hynny. Byddwn yn hapus iawn i geisio gwneud fy ngorau ynglŷn â'r rhain. Rydym yn cynnal adolygiad o'r system angen blaenoriaethol, a gomisiynwyd gan Rebecca Evans, ac rydym yn gobeithio adrodd yn ôl ym mis Ebrill eleni, gyda golwg ar weld i raddau helaeth iawn yr hyn y mae'r Aelod wedi sôn amdano—yr hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad, yr hyn y dylem ni ei wneud i'w newid, os oes unrhyw beth, ac ati. Felly, rwy'n mynd i aros i weld beth ddaw o hwnnw, ond fe'i comisiynwyd gyda golwg ar lawer o'r pethau a nododd hi yn ei sylwadau. O ran adroddiad Crisis, rydw i wedi cyfarfod eisoes â Crisis. Rwy'n ymddiddori'n fawr yn yr hyn sydd ganddyn nhw i'w ddweud. Mae gennym ni nifer o gynlluniau peilot ar waith. Rydym yn awyddus i weld sut y caiff y rheini eu gwerthuso. Mae gennym ddiddordeb mawr iawn, iawn o ran edrych i weld beth y gallwn ni ei wneud gyda golwg ar rai o'r pethau—dull Tai yn Gyntaf, y trefniadau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a nodir yn yr adroddiad hwnnw. Y cwestiynau y dylai'r awdurdodau lleol ofyn i'w hunain yw: a ydyn nhw'n dysgu o'r arfer gorau o'u cwmpas? Roeddwn i'n sôn am nifer o awdurdodau—Ceredigion, Wrecsam, i enwi dim ond dau—mae gennym ni arfer da yn ein hawdurdodau lleol. Nid yw hynny i'w gael ym mhob awdurdod lleol. Felly, wrth weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn fwy cyffredinol, mewn gwirionedd, ar gyfer awdurdodau lleol, nid yn unig ym maes tai, rydym yn bwriadu gwthio arfer da ledled y sector awdurdod lleol mewn nifer o ffyrdd. Byddaf yn disgwyl i awdurdodau lleol weithio gyda'i gilydd yn gywir i wneud yn siŵr ein bod yn gweld yr arfer gorau yn ymestyn ledled Cymru, ac nad ydym yn mynd ar yr un cyflymder â'r arafaf, fel petai, ac nid yn unig o ran tai, mae hynny ar draws amrywiaeth o wasanaethau. Mae gennym ni arferion rhagorol yng Nghymru, ond nid yw hynny mor gyffredinol ag y byddech chi a minnau yn hoffi ei weld yn fawr iawn. O ran cyflwyno'r credyd cynhwysol, rwy'n derbyn ei phwynt hi'n gyfan gwbl. Dywedais yn fy natganiad mai cipolwg yw'r cyfrifiad cysgu allan ar ŵyl symudol iawn. Rydym yn gwybod ei fod yn cuddio nifer o ystadegau ynglŷn â phobl nad ydyn nhw mewn llety diogel ond sy'n cael cysgu ar soffa rhywun neu gyda ffrindiau neu deulu. Gwyddom ei fod yn cuddio'r pethau hynny. Gwyddom fod awdurdodau lleol wedi cymryd rhai camau i atal digartrefedd, ond maen nhw'n ymladd yn erbyn y cynnydd mewn tlodi sydd yn cael ei yrru gan gyni, ac yn sicr nid yw cyflwyno'r credyd cynhwysol yn gymorth yn hynny o beth. Felly, rwy'n cytuno â phopeth a ddywedodd hi nawr. Ein gwaith ni yw gweld beth y gallwn ei wneud i helpu'r awdurdodau lleol nid yn unig i ddal y llanw, os hoffech chi, ond mewn gwirionedd i'w gyflymu i'r cyfeiriad arall. A dyna, i raddau helaeth iawn, y mae adolygiadau yr ydym wedi eu comisiynu yn bwriadu ei wneud dros y flwyddyn nesaf. Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair. Mike Hedges AC: Yn gyntaf, a gaf i groesawu datganiad y Gweinidog? A gaf i groesawu hefyd rai o'r sylwadau a wnaeth cyd-Aelodau yn gynharach? Rwy'n croesawu yn arbennig y gwahaniaethu rhwng digartrefedd a chysgu allan. Mae digartrefedd yn cynnwys y rhai sydd heb gartref sefydlog sy'n symud rhwng y naill soffa a'r llall drwy garedigrwydd teulu a ffrindiau, ond mewn llawer o achosion maen nhw o fewn un noson i fod yn cysgu allan. Ceir rhai hefyd mewn cartrefi anaddas a'r llety'n orlawn, yn aros gyda theulu neu ffrindiau'n aml, ac nid ydyn nhw'n ddigartref nac yn cysgu allan ond mae angen llety amgen arnyn nhw. Ac mae hynny, yn anffodus, yn cynnwys plant. Ceir nifer o hosteli sy'n gwneud gwaith da ond byddai'n well gan rai unigolion fod ar y stryd na mewn hostel am resymau personol o bob math, a gwn fod y Gweinidog yn ymwybodol iawn o hynny. A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi mai'r unig ffordd y gallwn ni leihau digartrefedd a chysgu allan yw drwy adeiladu digon o dai cyngor i fodloni'r galw, gan roi cymorth i ddod â'r digartref a'r rhai sy'n cysgu allan i gartref parhaol, gan roi'r gorau i droi pobl allan yn ddi-fai, a datblygu mentrau tai cydweithredol? Julie James AC: 'Ydw' yw'r ateb cryno iawn i hynny. Rwy'n cytuno'n llwyr gyda'r Aelod. Rydym yn gwbl benderfynol o gyflawni ein targed tai fforddiadwy ond, yn llawer pwysicach na hynny, i adeiladu tai i'w rhoi ar rent cymdeithasol ar raddfa fawr. Nawr fod Llywodraeth y DU wedi dychwelyd at gonsensws 1945, os gallaf ei rhoi hi felly, ac wedi diarddel y capiau ar gyfrifon refeniw tai ac ati, mae hynny'n golygu bod ein hawdurdodau yn cael eu rhyddhau i adeiladu'r tai y mae cymaint o'u hangen arnom ni. Y peth mawr fydd i ni adeiladu'r math iawn o dai yn y mannau iawn. Felly, bydd rhywfaint o hyn y golygu tai safonol cymdeithasol i'w rhentu, ond bydd rhywfaint ohono'n golygu llety â chymorth, a bydd hynny ar gyfer pobl sy'n dod oddi ar y strydoedd, a'r gefnogaeth addas ac yn y blaen— ac fel y dywedais, nid yw'r un peth yn addas i bawb yn sicr yn y sefyllfa honno—a bydd hefyd yn llety o ofal llai dwys, a fydd yn rhyddhau ein GIG, er enghraifft, i ganiatáu lleoliadau â chymorth allan i'r gymuned. Bydd hefyd yn golygu adeiladu cymunedau cynaliadwy unwaith yn rhagor. Nawr, dyma bwynt lle nad yw David Melding a minnau'n cytuno, mae'n rhaid imi ddweud. Yn fy marn i, anffodus tu hwnt oedd yr hyn a ddigwyddodd gyda'r hawl i brynu a'r hyn a ddigwyddodd yn yr ystadau cyngor lle cefais i fy magu, a drodd cymunedau cymysg cynaliadwy i fod yn gymunedau lle ceir un grŵp economaidd-gymdeithasol sydd wedi ei ynysu oddi wrth bawb arall. Credaf mai'r peth anghywir i'w wneud oedd hynny, ac nid oedd yn gweithio. Hoffwn yn fawr iawn gymell y cymunedau cymysg cynaliadwy yn ôl i'r ystadau hynny drwy adeiladu ac addasu'r tai fel y gall nifer o ddefnyddiau gwahanol gael eu rhoi'n ôl yno, fel ei bod, heb eisiau ymddangos fy mod yn hiraethu am fy mhlentyndod, yn ymdebygu llawer mwy â'r ystad dai y tyfais i fyny ynddi na'r grwpiau cymdeithasol ynysig a welwn ni ar hyn o bryd. Fe nododd Mike Hedges yn hyfryd, mewn gwirionedd, y pethau y mae angen i ni eu gwneud i gyflawni hynny, ac rydym yn benderfynol iawn i'w gwneud nhw. Gareth Bennett AC: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Cafwyd ymchwiliad ar broblemau digartrefedd a chysgu allan yn y pwyllgor cymunedau y llynedd, ac fel y soniodd David Melding, mewn llawer o achosion darlun cymhleth yw hwn, ac rydych chi wedi cyfeirio athynny yn eich datganiad heddiw. Weithiau mae angen dulliau cymhleth a thrawsbynciol i ddatrys y problemau hyn, a chefais fy nghalonogi gan eich cyfeiriadau at y dull yn Wrecsam, lle, yn amlwg, bydd gofyn i chi fonitro sut y bydd y canlyniadau yn datblygu. Ond mae'n ymddangos fod angen rhyw fath o ddull trawsbynciol arnoch chi yn aml, ac efallai'n wir mai dyna maen nhw'n ei wneud gyda'u canolfannau gofal cymunedol yno. Felly, gallai honno fod yn enghraifft y gallwn ni ei defnyddio o bosib wrth edrych ar hyn ledled Cymru. Nawr, un mater amlwg a welsom ni'n ddiweddar yw'r cynnydd mewn pobl sy'n byw mewn pebyll yng nghanol trefi, sy'n mynd yn fater dadleuol. Yn amlwg, mae'n ymddangos ei bod yn well eu byd ar y rhai mewn pebyll na'r rhai sy'n byw y tu allan ac yn agored i'r elfennau—mae hynny i'w weld yn amlwg—ond credaf fod angen inni fod yn ymwybodol bod rhai o fewn y sector tai wedi codi materion ynglŷn â hyn, sef bod yr hyn sy'n ymddangos yn ddatrysiad dros dro o fyw mewn pabell yn troi yn ateb hirdymor, a gallai hynny mewn gwirionedd atal pobl yn y diwedd rhag chwilio am ddatrysiadau o ran tai mwy hyfyw i'r hirdymor. Felly, mae pobl mewn sefydliadau fel y Wallich yn codi materion am hyn. Credaf fod angen i ni ymchwilio i'r rhesymau pam mae pobl yn fwy parod weithiau i fyw mewn pebyll yn hytrach na cheisio lloches mewn llochesi dros nos. Nawr, ceir rhywfaint o dystiolaeth anecdotaidd o adroddiadau diweddar yn y cyfryngau, a rhai o'r bobl sydd wedi cael eu cyfweld—rhai o'r bobl ddigartref sy'n byw yn y pebyll—wedi nodi nad yw llochesi dros nos weithiau mor ddeniadol iddyn nhw â byw mewn pabell ac weithiau nid ydynt yn teimlo'n ddiogel yn y llochesi dros nos. Felly, rwyf i o'r farn ei bod yn rhaid inni geisio datrys sut i'w gwneud yn fwy hyfyw i gael llety i bobl mewn lloches dros nos. Rwy'n credu bod defnyddio cyffuriau yn mynd yn broblem—ceir rhywfaint o dystiolaeth ei bod yn mynd yn fwy anodd i bobl ailintegreiddio wedi bod yn ddigartref am amser maith ac maen nhw'n fwy tebygol o gael eu hecsbloetio ar y strydoedd gan rai sy'n gwerthu cyffuriau. Mewn gwirionedd, mae llawer o'r rhai sydd yn y pebyll—y rhai a ddyfynnwyd—yn dweud mai un o'r rhesymau nad ydyn nhw'n dymuno mynd i'r llochesi dros nos yw eu bod eisiau osgoi cwrdd â defnyddwyr cyffuriau. Ond, mewn gwirionedd, os byddan nhw'n aros yn y pebyll, mae rhywfaint o dystiolaeth y gallan nhw ddod ar draws defnyddwyr cyffuriau hyd yn oed yn groes i'w dymuniadau. Felly, mae'r rhain yn broblemau cymhleth, ac rwy'n sylweddoli nad yw'r atebion bob amser mor hawdd â hynny. Credaf fod yna rywfaint o dystiolaeth bod cysgu allan yn yr Alban—efallai fod y ffigurau wedi sefydlogi, felly tybed a oes gwersi i'w dysgu o'u dulliau nhw yno. Mae rhai wedi nodi hefyd bod llawer o elusennau, o bosib, ar adegau, yn cystadlu â'i gilydd. A gawn ni weithio i sicrhau bod yr elusennau yn gweithio gyda'i gilydd i helpu i ddatrys y materion hyn? Diolch yn fawr. Julie James AC: Mae'r Aelod yn tynnu sylw'n dda iawn, rwy'n credu, at y cymhlethdodau mawr yn yr anawsterau sy'n ein hwynebu. Ni fyddwn yn sicr yn dymuno beirniadu unrhyw un sy'n helpu drwy roi pabell i unigolyn digartref er mwyn ei rwystro rhag gorfod cysgu wrth ddrws, oherwydd gall fod yn wahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth i hwnnw. Fodd bynnag, mae'n amlwg nad yw hynny'n ateb cynaliadwy. Holl ddiben dull Tai yn Gyntaf yw rhoi'r gallu i gynnig llety parhaol diogel i bobl ac nid eu gorfodi i fynd i mewn ac allan o'r llochesi nos ac ati sydd, yn amlwg, ond yn un cam bychan oddi wrth gysgu ar y stryd. Wedi dweud hynny, mae'r llochesi nos yn rhan bwysig iawn o'r gymysgedd. Rydym yn helpu llawer o'r elusennau sy'n rhedeg llochesi nos gyda phethau fel diogelwch gwell a lle gwell i fyw, fel petai, ond nid yw'r un peth yn gweithio i bawb. I rai, ni fydd hwnnw'n lle derbyniol i fynd iddo—i eraill, bydd yn fodd i fyw. Felly, wyddoch chi—. Mae'r Aelod yn tynnu sylw at y cymhlethdodau, a'r hyn yr wyf i wedi ei ddweud yn fy natganiad i ac wrth ateb cwestiynau ar draws y llawr yw: mae'n amlwg iawn i mi, ac mor blaen ag y gallai hi fod, mewn gwirionedd, fod gan bob unigolyn wahanol set o anghenion, a bydd yn rhaid dylunio set unigryw o ymyriadau ar gyfer yr unigolyn hwnnw. Mae'r syniad y gallwch chi gael rhyw fath o wasanaeth cyffredinol a fydd yn gweddu i bawb—yn amlwg, ni fyddai hynny'n gweithio. Ac fel y dywedais yn eglur, rwy'n berffaith siŵr na fyddai cynnig o lety addas i'r Dirprwy Lywydd, er enghraifft, yn rhywbeth y byddwn i yn ei ystyried yn llety addas efallai, gan ein bod yn unigolion gwahanol iawn i'n gilydd. Mae angen i ni allu cydnabod dynoliaeth yr unigolyn sy'n ddigartref a rhoi'r math o gartref iddo y gall ei gynnal yn ytymor hir, ac mae amrywiaeth enfawr o gymhlethdodau yn gysylltiedig â hynny. Hoffwn ddweud dau beth arall, serch hynny. Y cyntaf yw, er eglurder, nad oes gan bob person sy'n cysgu allan broblemau camddefnyddio sylweddau—mae gan rai ac nid oes gan eraill, felly nid yw honno'n nodwedd gyffredinol chwaith. Nid yw honno'n broblem ym mhob lloches nos ychwaith, felly y broblem yw ei bod yn hynod gymhleth ac yn ymddangos yn wahanol iawn yn dibynnu ar ble y byddwch chi'n chwilio. Jenny Rathbone AC: Hoffwn dalu teyrnged, yn gyntaf oll, i'r holl bobl, yn staff a gwirfoddolwyr, sydd bob dydd a nos yn atal pobl rhag bod yn ddigartref ac yn cefnogi'r rhai sydd ar y strydoedd. Bob un noson, mae pryd o fwyd twym ar gael i bobl anghenus, ac mae llawer iawn o waith yn digwydd a phobl yn gweithio fel lladd nadredd. Helpodd tîm allgymorth digartref Cyngor Caerdydd ddim llai na 54 o bobl ar un noson yr wythnos diwethaf i mewn i lety argyfwng—yn amlwg, pan oedd y tywydd ar ei fwyaf eithafol. Mae gennym 90 o leoedd brys ar gael o hyd i bobl a all gael eu perswadio i fynd i mewn i lety argyfwng yn ystod yr hyn oedd yn dywydd peryglus iawn o ran yr oerfel ychydig ddyddiau'n ôl. Rwy'n rhoi teyrnged hefyd i'r ffaith bod Caerdydd yn perfformio'n well na'r cyfartaledd yng Nghymru. Cafodd tri chwarter y rhai a aeth i ofyn am gyngor cynnar o ran bod yn ddigartref eu helpu i lety amgen yn hytrach nag aros nes eu bod ar y stryd. Felly, mae'n amlwg fod honno'n neges bwysig iawn i unrhyw un yn y sefyllfa honno. Yn anffodus, gwyddom nad prif achos digartrefedd yw dibyniaeth o ryw fath neu ei gilydd. Y prif achos, yn anffodus, yw ôl-ddyledion morgais a rhent ac mae hynny oherwydd polisi bwriadol gan Lywodraeth y DU i beidio â chaniatáu i fudd-daliadau mewn gwaith gadw i fyny â phrisiau, a bydd teuluoedd yn chwalu yn arwain ar unwaith at bobl yn methu â thalu eu rhent. Felly, bu cynnydd o 247 y cant yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yng Nghaerdydd, o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol, o ganlyniad i ôl-ddyledion morgais a rhent, ac mae hynny'n peri pryder. Felly, mae'r angen dybryd am fwy o dai cymdeithasol, yn fy marn i, ar ben fy rhestr o bryderon. Mae pobl sydd mewn llety dros dro yn aros yn rhy hir cyn cael eu symud i lety parhaol, oherwydd nid oes digon ar gael. Eisoes mae gennym lawer o bobl sydd wedi cael eu cartrefu yn amhriodol ond sydd â tho uwch eu pennau, serch hynny. Felly, mewn gwirionedd—gwn fod yna bodiau canolraddol yn cael eu hadeiladu fel rhan o'r rhaglen tai arloesol yng Nghaerdydd gan Cadwyn, tybed a allech chi ddweud wrthym pryd fyddan nhw'n barod, oherwydd maen nhw braidd fel podiau Ikea—popeth ar gael, preifatrwydd, diogelwch. Ac roeddech chi'n sôn hefyd am brosiect arloesol Tai yn Gyntaf Byddin yr Iachawdwriaeth, yr ymwelsoch ag ef yn ddiweddar. Byddai'n ddefnyddiol iawn i ni gael clywed ychydig mwy am hynny. Fel arall, a oes gan y Llywodraeth unrhyw gynlluniau pendant i ddiddymu adran 21, sy'n gorfodi llawer o bobl i fynd yn ddigartref, oherwydd nad ydyn nhw'n gallu cynnig llety amgen pan fydd eu landlordiaid preifat yn penderfynu nad ydyn nhw'n dymuno eu cartrefu mwyach? Julie James AC: Felly, gan ddechrau gyda hynny, rydym ni'n gweithio'n galed i fynd ar drywydd unrhyw gyfle deddfwriaethol a fyddai'n codi er mwyn ymdrin â'r materion yn sgil adran 21. Nid wyf i mewn sefyllfa i allu dweud mewn gwirionedd beth yw hynny ond rydym yn myndar drywydd y dewisiadau amrywiol sydd ar gael i ni, o fewn y rhaglen ddeddfwriaethol, i allu mynd i'r afael â rhai o'r materion hynny. Rydym hefyd, fel y clywsoch chi fi'n dweud mewn ymateb i gwestiynau eraill, yn golygu cael polisi adeiladu tai cymdeithasol o swmp mawr iawn, ac rydym yn bwriadu gweithio gyda'r awdurdodau lleol mor gyflym ag y bo modd i ryddhau tir cyhoeddus er mwyn iddyn nhw allu gwneud hynny. Rydym yn gweithio'n galed iawn—mae Rebecca Evans a minnau'n gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr bod y trefniadau i roi capiau ar y cyfrif refeniw tai yn cael eu codi ym mhob awdurdod lle ceir hynny ar hyn o bryd. Credaf fod gennym ni bedwar ar ôl, ond beth bynnag does yna ddim llawer ar ôl eto. Rydyn ni'n annog awdurdodau lleol i raddau helaeth iawn i fynd ati a defnyddio eu pwerau benthyca darbodus i ddechrau'r adeiladwaith ar gyfer tai ar rent cymdeithasol. Rydym hefyd, wrth gwrs, yn dilyn ein polisi tai fforddiadwy,—rydym yn hyderus y byddwn yn cyrraedd ein nod o 20,000 o gartrefi fforddiadwy. Ond nid dyna'r unig ateb sydd ei angen, fel y dywed Jenny Rathbone yn gywir. Mae gennym brinder tai dybryd iawn ac mae hynny'n achosi peth o'r digartrefedd. Ond mae gennym gynnydd mewn tlodi a achoswyd gan gyni, sydd hefyd yn cyfrannu at deuluoedd yn chwalu, a'r pwysau arnynt ac ati a amlinellwyd ganddi yn fedrus iawn, rwy'n credu. Felly, rwy'n mynd yn ôl at ddweud bod angen inni ddysgu oddi wrth yr awdurdodau da iawn hynny sydd â rhaglenni campus. Mae angen inni ledu'r arfer gorau ledled Cymru. Hoffwn i orffen drwy ddweud yr hyn a ddywedais yn fy natganiad: a mynegi gwir ddiolchgarwch y Llywodraeth i'r holl bobl sy'n gweithio yn y sector hwn—y trydydd sector, yr awdurdodau lleol, gwirfoddolwyr ac ati—hebddyn nhw byddemwedi gweld llawer iawn mwy o farwolaethau ar y strydoedd. Alun Davies AC: Rwy'n ddiolchgar i chi am eich datganiad, Gweinidog, ac rwy'n croesawu'r pwyslais ar alluogi'r gallu i gyflenwi mwy o dai cymdeithasol. Credaf fod hynny'n gwbl hanfodol i ddatrys llawer o'r materion yr ydych wedi eu trafod y prynhawn yma. Ond hoffwn i hefyd ofyn eich barn am gyfeirio at bobl ddigartref fel bodau dynol, ac nid yn unig fel niferoedd ac ystadegau. A oes gan y Llywodraeth gynlluniau i ddiddymu DeddfCrwydraeth 1824? Rydym yn ymwybodol bod y DdeddfCrwydraeth yn parhau mewn grym mewn ardaloedd yng Nghymru, ac mae hynny'n gwneud troseddwyr o'r rhai sy'n ceisio byw ar y strydoedd ac sy'n ceisio creu strategaethau i oroesi wrth iddyn nhw fyw ar y stryd. Ac rydym yn gwybod bod hwn yn ddarn niweidiol o ddeddfwriaeth o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg nad oes lle iddo ar y llyfr statud modern. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe bai'r Llywodraeth yn amlinellu unrhyw gynlluniau a allai fod ganddyn nhw i ddiddymu'r Ddeddf honno, ond hefyd, wedyn, i gyflwyno hawliau newydd ar gyfer pobl sy'n byw ar y strydoedd. Gwyddom, er enghraifft, nad oes gan bobl sy'n cysgu allan gyfle i dderbyn y cymorth meddygol sydd ei angen arnyn nhw, ond ni allan nhw gael gafael ychwaith ar rai pethau y byddai llawer ohonom ni'n eu cymryd yn ganiataol yn ein bywydau bob dydd, fel bod â dŵr glân a ffres i'w yfed, er enghraifft. Felly, yn ogystal â diddymu'r ddeddfwriaeth sy'n gwneud pobl yn droseddwyr, mae angen inni sicrhau hefyd bod pobl yn cael y mathau o hawliau y mae llawer yn eu cymryd yn ganiataol. Ac, yn olaf, Gweinidog, clywais eich atebion yn gynharach ar faterion yn ymwneud â chamddefnyddio sylweddau. Ond hoffwn bwysleisio fy mod yn credu y byddai llunio dull cyfannol o ymdrin â chamddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl, sy'n effeithio ac yn dylanwadu ar lawer, llawer o bobl sy'n ddigartref, yn effeithio ar allu pobl wedyn i ddal eu bywydau at ei gilydd i'r dyfodol. Rydym yn cydnabod—rwy'n credu fod yna gydnabyddiaeth eang—nad oes gennym ar hyn o bryd ddull cyfannol o roi polisi ar waith; rydym yn ymdrin â chamddefnyddio sylweddau mewn un lle, yn ymdrin ag iechyd meddwl, ac yn ymdrin â thai ar wahân i'w gilydd. Mae angen inni ddod â'r meysydd hyn at ei gilydd fel y gallwn sicrhau y bydd pobl sy'n eu cael eu hunain yn ddigartref yn gallu cael eu cynnal nid yn unig am un noson, ond eu bod yn gallu ailadeiladu eu bywydau. Julie James AC: Ie wir, rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Dyna, mewn gwirionedd, yw holl sail y strategaeth Tai yn Gyntaf. Roeddwn i'n sôn am y prosiect arloesol yn Wrecsam sy'n dwyn yr holl wasanaethau ynghyd i un ystafell fel y bydd pobl yn cael y cwbl yn hwylus ac ati. A holl ddiben y dull Tai yn Gyntaf yw bod cael rhywun i gartref diogel a hirdymor, y gall ei ystyried yn gartref iddo, yn ei gwneud yn llawer mwy amlwg iddyn nhw y gallan nhw gael gafael ar y gwasanaethau addas sy'n deillio o fod â chyfeiriad a man i'w alw'n gartref, tra byddwch, os ydych ar yr ysgol o lety dros dro ac ati, yn parhau i wynebu anawsterau a methu cael y gwasanaethau parhaol hynny sydd ar gael i bobl pan fydd ganddyn nhw le gweddus a diogel i fyw ynddo. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr ag ef, ac rydym yn edrych ledled y Llywodraeth ar y modd y gallwn ni wella darpariaeth y gwasanaethau ar gyfer y bobl sydd ar begwn eithaf yr ymylon, y rhai sy'n cysgu allan, ond, mewn gwirionedd, yr holl bobl a grybwyllodd Mike Hedges—y bobl sy'n symud o un soffa i'r llall—a'r bobl a grybwyllodd Jenny Rathbone—teuluoedd yn chwalu o ganlyniad i anawsterau ariannol difrifol ac ati—rydym ni i gyd yn ymwybodol o hynny yn ein cymunedau. A gaf i orffen drwy gytuno ag ef i'r carn mai holl ddiben hyn yw trin yr unigolyn truenus ac anffodus sy'n cael ei hunan yn y sefyllfa honno fel bod dynol oherwydd, a dweud y gwir, gallai hynny ddigwydd i unrhyw un ohonom ni. Ddim ond trwy lwc y byddwch chi'n osgoi'r amgylchiadau hynny yn y pen draw, ac felly rwy'n llawn gredu y dylem drin pob unigolyn fel bod dynol unigol, ac mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr fod gennym ni ddull sy'n canolbwyntio ar drawma ac sy'n rhoi i'r unigolyn hwnnw yr ymateb sy'n addas iddo. Ac, o ran y Ddeddf a grybwyllodd, rydym yn edrych yn gyffredinol ar ryngweithio deddfwriaethau amrywio. Mewn rhai achosion, mae gennym bwerau i wneud rhywbeth amdanyn nhw, ac mae achosion eraill wedi arwain at ganlyniadau anfwriadol—mae Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971, er enghraifft, yn cael canlyniadau anfwriadol yn hyn o beth—bydd angen inni weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau'r newidiadau sydd eu hangen arnom ni. Caroline Jones AC: Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Mae digartrefedd a chysgu allan yn gywilydd mawr i'r genedl. Mae'r ffaith nad oes gennym ni ddigon o dai ar gyfer ein dinasyddion yn beth digon gwael, ond mae'r ffaith ein bod yn esgeuluso rhai â phoen meddwl, gan arwain atyn nhw'n cysgu yn nrysau siopau, yn warthus, ac rwy'n gobeithio y byddwch chi'n cytuno â mi. Mae canran fawr o'r rhai sy'n cael eu gorfodi i gysgu ar y stryd yn gyn-filwyr. Maen nhw'n gadael y lluoedd arfog, yn aml yn dioddef o glwyfau corfforol a meddyliol a gawsant mewn brwydrau, yn disgwyl cael eu cartrefu gan genedl ddiolchgar, ddim ond i gael eu gadael, yn ddiymgeledd ac yn ddigartref. Mae'r rhai a oedd yn barod i aberthu eu bywydau i'n hamddiffyn ni a'n cenedl yn cael eu trin yn wael erbyn hyn, ac yn cael eu gwthio o'r neilltu, fel nad ydyn nhw'n cael eu gweld ac felly'n mynd yn angof. Nid yw hyn yn ddigon da, er mwyn y nefoedd. Mae gwleidyddion o bob tuedd wedi ymosod ar rai sy'n cysgu allan fel sbwriel i'w olchi o'n strydoedd heb fynd i'r afael â'r achosion sydd wrth wraidd hynny, heb feddwl am y dioddefaint ofnadwy y mae pobl sy'n cysgu allan yn ei brofi. Nid yw pobl yn dewis cysgu yn nrysau siopau—gorfod gwneud hynny y maen nhw. Ni ddylem godi cywilydd arnyn nhw, gan mai arnom ni y dylai'r cywilydd fod. Rwy'n gwybod am sawl cyn-filwr sy'n teimlo ei fod dan orfodaeth i guddio'r ffaith ei fod yn cysgu allan y tu ôl i finiau neu mewn llwyni oherwydd y ffordd y cân nhw eu trin. Ble mae'r cydymdeimlad â'r rhai sy'n llai ffodus na ni? Pan oeddwn i'n gweithio yng ngharchar Parc, roedd pobl yn y carchar am grwydraeth. Ni ddylen nhw fod yn y carchar; dylen nhw fod wedi cael cymorth yn ein cymuned. Yn anffodus, mae Llywodraethau olynol wedi methu â darparu digon o dai fforddiadwy, sy'n arwain at y cynnydd hwn mewn digartrefedd. Gweinidog, sut mae eich Llywodraeth chi yn bwriadu cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy eleni? Mae Llafur Cymru wedi bod mewn grym yng Nghymru am bron i ddau ddegawd ac eto mae digartrefedd wedi cynyddu. Felly, a wnewch chi dderbyn bod eichpolisïau chi ar fai am y cynnydd? Mae Helsinki bron â chael gwared yn gyfan gwbl ar gysgu allan dros y ddau ddegawd diwethaf, ac ers 2007, mae Llywodraeth y Ffindir wedi seilio ei pholisïau digartrefedd ar sail polisïau Tai yn Gyntaf. Gweinidog, pa wersi yr ydych chi wedi eu dysgu o brofiad y Ffindir? Yn ôl Shelter, mae llety Tai yn Gyntaf yn ddewis amgen i bobl â phroblemau iechyd meddwl hirdymor neu broblemau o ran camddefnyddio sylweddau, ac eto nid oes yng Nghymru ond ychydig iawn o lety Tai yn Gyntaf. Gweinidog, a wnewch chi amlinellu sut y bwriadwch gywiro hynny? Ac yn olaf, Gweinidog, pa gamau penodol fydd eich Llywodraeth chi'n eu cymryd i gefnogi cyn-filwyr digartref a sicrhau bod milwyr yn cael help, cymorth a thriniaeth ar ôl gadael y lluoedd arfog, er mwyn atal eu digartrefedd a chysgu allan yn y pen draw? Julie James AC: Wel, Dirprwy Lywydd, rwy'n credu i mi grybwyll llawer o'r hyn a ofynnodd yr Aelod i mi mewn atebion blaenorol gan Aelodau Cynulliad. Er hynny, wnes i ddim ymdrin â mater y cyn-filwyr, a chredaf fod hynny'n rhywbeth y mae'n iawn iddi ei godi. O dan y ddeddfwriaeth blaenoriaeth angen, mae'r flaenoriaeth angen ar gyfer personél y lluoedd arfog yn berthnasol wrth iddyn nhw adael y lluoedd arfog rheolaidd, ac nid yw hynny'n berthnasol i filwyr wrth gefn, gwŷr a gwragedd priod neu aelodau eraill o'r teulu estynedig. Rydym ni, er hynny, o fewn y cod canllawiau, wedi awgrymu bod awdurdodau lleol, wrth ystyried yr angen am dai ar fyrder, yn rhoi blaenoriaeth ychwanegol i unrhyw un sydd ag anaf difrifol, neu â chyflwr meddygol, neu unrhyw nam, y maen nhw neu aelod o'u haelwyd wedi ei ddioddef o ganlyniad i wasanaethu yn y lluoedd arfog. Ac mae gennym hefyd lwybr tai penodol i gyn-filwyr, sy'n darparu gwybodaeth ac yn cyfeirio at ddewisiadau llety ar eu cyfer nhw, ac mae croes ddeiliadaeth ar gael i bersonél y lluoedd arfog a'u teuluoedd wrth drosglwyddo yn ôl i fywyd sifil. Hefyd datblygwyd, cyhoeddwyd a dosbarthwyd cardiau cynghori, taflenni a phosteri i roi cyhoeddusrwydd i'r llwybr o fewn cymuned y lluoedd arfog a chyda'r cysgwyr allan presennol, gan gynnwys manylion cyswllt ar gyfer gwasanaeth porth y cyn-filwyr, sy'n darparu un safle holl gynhwysol i gyn-filwyr ac aelodau o'u teuluoedd fel y gallant gael gafael ar wasanaethau a chymorth yn yr un man. Felly, hoffwn i'n fawr iawn dynnu sylw'r Aelodau, os ydyn nhw'n dod ar draws rhywun o gefndir personél y lluoedd arfog, y dylen nhw eu cyfeirio at wasanaeth porth y cyn-filwyr, a fydd yn eu helpu i gysylltu â'r cymorth iawn a'r bobl iawn a fydd yn gallu ymdrin â'u hanghenion penodol nhw. John Griffiths AC: Gweinidog, rwy'n credu bod llawer o bobl yn rhannu'r ymdeimlad cryf iawn ei bod yn foesol anghyfiawn fod gennym ni yn y bedwaredd, y bumed, neu chweched economi fwyaf yn y byd lawer o bobl yn ddigartref ac yn cysgu allan, a chredaf fod hynny'n cael ei amlygu yn y math o ymateb gwirfoddol y cyfeiriodd Jenny Rathbone ato'n gynharach. Gwn ar adeg y Nadolig, er enghraifft, fod llawer o bobl wedi dod i helpu gyda rhai o'r gwasanaethau dros dro a sefydlwyd yngnghanol y dinasoedd a'r trefi, a'u bod wedi cael eu cynghori i fynd adref am eu bod yn baglu dros ei gilydd. Ond roedd eu hymrwymiad yn sicr i'w groesawu, yn amlwg, serch hynny. Ond mewn gwirionedd mae pobl yn ei chael hi'n anodd iawn deall sut, fel Teyrnas Unedig ac yng Nghymru, yr ydym ni'n analluog i'n trefnu ein hunain fel gwladwriaeth, fel gwlad, fel cymdeithas, mewn ffordd sy'n atal digartrefedd a chysgu allan cynyddol. Mae'n amlwg bod angen inni wneud yn llawer, llawer iawn gwell. O ran y pwyllgor yr wyf i'n ei gadeirio, sef y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, Gweinidog, hoffwn i ofyn rhai cwestiynau o ran rhywfaint o'r gwaith a wnaethom ni, o ran rhai o'ch ymatebion chi ac ymatebion eich rhagflaenydd a'r sefyllfa yr ydym ni ynddi ar hyn o bryd. O ran y cynllun gweithredu, roedd ceisio cael mwy o wybodaeth yn mynd i ddigwydd drwy wneud ymchwil i achosion y cynnydd diweddar mewn cysgu allan. Tybed a yw'r gwaith hwnnw wedi nodi unrhyw gyfleoedd ar gyfer mesurau atal mwy cadarn. Hefyd, bwriedir i'r cynllun gweithredu cysgu allan fod yn ddogfen fyw, ac rwy'n holi i ba raddau y mae honno wedi esblygu a pha ddatblygiadau sy'n digwydd ar hyn o bryd. Ac ar yr ymatebion i'r argymhellion yn adroddiad ein pwyllgor, nododd Llywodraeth Cymru y byddai cod o ganllawiau yn cael ei ddiweddaru ar gyfer awdurdodau lleol ynglŷn â dyrannu llety a digartrefedd, ac y byddai hwnnw'n cael ei gyhoeddi tua diwedd y llynedd ac y byddai'n destun ymgynghoriad. Felly, o gofio nad ydym wedi gweld ei gyhoeddi, rwy'n holi ynglŷn â'n sefyllfa ni gyda'r materion hynny. Yn olaf, nododd ymateb Llywodraeth Cymru ei bod yn y broses o gomisiynu asesiad annibynnol o'r goblygiadau a risgiau posib sy'n gysylltiedig â newid y dull blaenoriaeth angen presennol. Felly, Gweinidog, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar y gwaith hwnnw a rhoi syniad o ba bryd y cyhoeddir y canfyddiadau? Julie James AC: Rwyf am ddechrau gyda'r un olaf a gweithio'n ôl gyda'r pwyntiau hynny, a gomisiynwyd gan fy rhagflaenydd Rebecca Evans, sydd i ddod yn ei ôl ym mis Ebrill. Rydym ni'n disgwyl hwnnw'n ei ôl ym mis Ebrill.FootnoteLink Rwy'n gwybod bod y canllawiau newydd wedi eu gohirio, ond rydym eisiau gwneud yn siŵr bod gennym ni'r cydweithrediadau cywir i gyd ac ati, ac rydym ni, yn amlwg, wedi gweld newid Gweinidog yn y cyfamser hefyd. Felly, byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod ac yn dweud wrtho beth yn union yw'r cynllun, oherwydd cawsom rywfaint o drafodaeth ynghylch gwneud yn siŵr ein bod wedi cael mewnbwn priodol gan bob un o'n partneriaid cydweithredol—y trydydd sector, awdurdodau lleol ac ati—cyn i ni gyhoeddi'r canllawiau newydd. Ac rydym yn gweithio, fel y dywedaf, i symud at fodel llety diogel Tai yn Gyntaf, felly rydym am roi ystyriaeth i'r hyn a ddaw yn sgil y gwerthusiadau o'r cynlluniau treialu amrywiol. Hefyd, fel y dywedais wrth ymateb i Leanne Wood, rydym am roi ystyriaeth i'r profiad a gafwyd mewn mannau eraill gyda modelau Tai yn Gyntaf. Ni ddywedais hynny wrth ymateb i Caroline Jones, ond mae model y Ffindir yn ddiddorol iawn. Ond, wrth gwrs, bydd pobl yn dewis a dethol yr hyn y maen nhw'n ei hoffi yn y modelau, ac un o'r ystyriaethau ym model y Ffindir yw ei bod yn un o'r cymdeithasau mwyaf cyfartal yn y byd ac nad yw yn ei nawfed flwyddyn o gyni, sy'n ysgogi llawer iawn o'r materion y mae model y Ffindir yn gallu ymdrin â nhw. Mae ein sefyllfa ni yn wahanol iawn o ran y pwysau sydd ar lawer o'n teuluoedd, yn enwedig y rhai sydd mewn swyddi isafswm cyflog, lle mae cyflwyniad y credyd cynhwysol yn cael effaith ddifrifol ar eu gallu i gynnal eu llety diogel. Dyna pam mae ein deddfwriaeth ni'n torri tir newydd, oherwydd rydym wedi newid i edrych ar atal pobl rhag mynd yn ddigartref. Mae gennyf i'r uchelgais fawr iawn o weld diwedd ar droi unrhyw un allan o unrhyw fath o dŷ cymdeithasol yng Nghymru a'n bod yn gosod y gwasanaethau cymorth yn eu lle fel na fydd neb yn cael ei droi allan o dŷ cymdeithasol, oherwydd pan ddigwydd hynny, bydd yn ddigartref—a dyna yw diwedd y daith honno. Felly, mae angen inni weithio'n galed gyda'r cynghorau sydd â'u tai eu hunain o hyd a chyda'n landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i wneud yn siŵr y gallwn gynnal pobl mewn cartref ar rent cymdeithasol, y gallwn ddiwallu eu hanghenion a sicrhau eu bod mewn llety addas. Oherwydd, yn aml, gall fod yn fater o fod yn y man anghywir y tu allan i'ch rhwydwaith cymorth ac yn y blaen. Felly, byddwn yn gweithio'n galed iawn i gael trefn ar y materion hynny. Mae'n rhaid inni fynd i'r afael â'r ochr gyflenwi hefyd, fel y dywed ef ac y fel y dywed yr adroddiad yn briodol, ac rwyf wedi ateb aelodau amrywiol o ran yr hyn yr ydym ni'n ei wneud ar yr ochr gyflenwi, ond mae hynny, wrth gwrs, yn bwysig iawn: cael y math cywir o ochr gyflenwi a'r math addas o dai ar gyfer pobl fel bod modd diwallu eu hanghenion yn sgil y llety diogel hwnnw. Mae hynny'n gwbl sylfaenol, ac mewn lleoedd fel y Ffindir, dyna graidd yr hyn a wnân nhw. Rydym yn awyddus iawn i ddysgu'r pethau hynny oddi wrthyn nhw. Gwybodaeth ychwanegol at y Cyfarfod Llawn Diolch i chi. Ac yn olaf, Jack Sargeant. Jack Sargeant AC: Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf i ddechrau drwy ddiolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r datganiad hwn heddiw? Rwy'n croesawu'r sylwadau a wnaethoch i'r Aelodau ar draws y Siambr hefyd. Hoffwn ymuno hefyd â Jenny Rathbone i dalu teyrnged i'r rhai sy'n helpu gyda'r sefyllfa hon sydd gennym ni o ddydd i ddydd. Mae'n achos gofid mawr i mi, yn un o'r gwledydd cyfoethocaf yn y byd, fod cysgu allan yn digwydd bob dydd, ac mae'n anghyfiawnder annerbyniol sy'n niweidio ac yn difa miloedd o fywydau. Ac nid yw'n unigryw i strydoedd Caerdydd neu Lundain. Mae'n digwydd mewn trefi ledled y DU, gan gynnwys fy nhref fy hun. Felly, rwy'n awyddus i weld ein cymunedau, yn ogystal â'r Llywodraeth, yn gweithio i roi terfyn ar yr epidemig o fod yn ddigartref unwaith ac am byth. Gweinidog, a fyddech yn cytuno â mi y gall busnesau fod â rhan yn hyn—busnesau fel Dandy's Topsoil yn fy etholaeth i, a gynigiodd swydd, mewn gwirionedd, i un a oedd yn cysgu allan? Nid oedd curriculum vitae ganddo, nid oedd ganddo siwt, ond cynigiwyd gwaith iddo, cyfweliad a swydd, a dechreuodd hynny newid y ffordd yr oedd ef yn byw ei fywyd. Hefyd, a gaf i dynnu eich sylw at adroddiad gan Shelter, a elwir yn 'Yn Gaeth ar y Stryd'? Mae'r adroddiad yn nodi'n bwysig iawn, er bod rhai achosion cyffredin yn cael eu disgrifio gan bobl sy'n cysgu allan, mae'r boblogaeth yn amrywiol mewn gwirionedd ac mae anghenion pob unigolyn, fel yr ydym wedi crybwyll o'r blaen, a phrofiadau unigolion yn amrywio'n aruthrol fawr. Felly, a roddwch chi ystyriaeth i'r canfyddiadau yn yr adroddiad hwn, oherwydd rwyf i o'r farn ei fod mewn gwirionedd yn adroddiad rhagorol a chredaf y dylai'r Aelodau ar draws y Siambr roi sylw iddo hefyd. Yn olaf, gwn ein bod yn mynd yn brin o amser, Gweinidog, rwy'n hynod o falch i chi grybwyll y gwaith gyda Tai yn Gyntaf, oherwydd mae hyn yn rhywbeth y gelwais amdano'r llynedd, ac fe wnes i eistedd i lawr gyda'r Gweinidog blaenorol y llynedd hefyd i drafod hynny. Felly, a wnewch chi ymrwymo i barhau â'r drafodaeth honno yn y misoedd nesaf gyda mi, i weld sut y gallwnddatblygu hyn ar gyfer Cymru? Julie James AC: Gwnaf, wrth gwrs. Rwy'n hapus iawn yn ymrwymo i hynny ac i siarad ag unrhyw Aelod sydd â diddordeb yn y ffordd yr ydym ni'n datblygu'r polisïau hyn. Mae gennym ni amrywiaeth o gamau gweithredu, fel y nododd Jack Sargeant—mae'n galonogol clywed am y busnes y cyfeiriodd ato. Yn drist iawn, mae swyddi gan lawer o'r bobl sy'n cysgu ar y strydoedd, gan eich bod, mewn gwirionedd, angen mwy na hynny. Ac un o'r pethau y byddwn ni'n ei wneud cyn bo hir yw dechrau ar Gam 3 ein Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru), a fydd yn diddymu llawer o'r ffioedd sy'n rhwystr difrifol rhag i bobl rentu yn y sector preifat, oherwydd bod gennym ni dystiolaeth ar lawr gwlad o bobl yn gorfod dod o hyd i oddeutu £3,000 o ran blaendaliadau a ffioedd a threfniadau gwarantwr credyd ac yn y blaen, ac nid yw hynny'n bosib i nifer fawr o bobl sydd wedyn yn gorfod mynd o un soffa i'r llall ac yn y blaen. Felly, dyna ddiben y Ddeddf honno i raddau helaeth iawn. Felly, fel rwy'n gobeithio bod hynny yn ei ddangos, rydym ni'n ceisio mynd i'r afael â'r pla gwbl erchyll hwn ar ein cymdeithas mewn nifer fawr o wahanol ffyrdd. Yn benodol, fe hoffwn i gyfeirio at y modd yr ydym ni'n canolbwyntio ar drawma pan ymdrinnir â phob unigolyn fel bod dynol unigol ac yr eir i'r afael â'u hamgylchiadau penodol nhw, ac nad ydym ni'n mynd ati mewn un ffordd yn unig, 'o ie, rydych chi'n cysgu ar y stryd; rydych chi'n perthyn i'r categori hwn', oherwydd ei bod hi'n amlwg iawn nad yw pobl yn perthyn i'r categorïau hynny, fel rwyf wedi dweud droeon. Felly, byddwn yn ceisio sicrhau bod y cynllun gweithredu yn adlewyrchu hynny; ein bod ni'n adolygu gyda'n hawdurdodau lleol i weld os yw eu cynlluniau gweithredu nhw hefyd yn adlewyrchu hynny, a byddwn ni cyn bo hir, fel y dywedais wrth John Griffiths, yn cyhoeddi nifer o ganllawiau arfer gorau a'r papurau cynghori ac ati, a fydd yn pwysleisio'r dull hwn o weithredu unwaith y cawn ni'r ymchwil a'r gwerthusiadau yn ôl, fel y gallwn ni sicrhau bod y cyngor a'r arweiniad gorau ar gael gennym ni ar gyfer pob rhan o'n trydydd sector a'n holl bartneriaid awdurdod lleol. Diolch yn fawr iawn, Gweinidog. 4. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Fodel Buddsoddi Cydfuddiannol Cymru Eitem 4 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: y wybodaeth ddiweddaraf am fodel buddsoddi cydfuddiannol Cymru. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd—Rebecca Evans. Rebecca Evans AC: Diolch. Y llynedd, cyhoeddodd y cyn-weinidog cyllid ddatganiad ysgrifenedig ynghylch datblygiad y model buddsoddi cydfuddiannol i'n helpu i wireddu ein cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer seilwaith cyhoeddus. Mae'r Prif Weinidog a minnau wedi disgrifio droeon yn y Siambr hon sut mae ein cyllidebau cyfalaf yn crebachu o ganlyniad i bwyslais digyfaddawd Llywodraeth y DU ar gyni. Torrwyd 10 y cant oddi ar ein cyllideb cyfalaf mewn termau real o ganlyniad i'r polisïau cynni hyn. Yn 2019-20, mae hyn yn golygu y bydd gennym ni £200 miliwn yn llai i'w wario nag oedd gennym ni yn 2010-11, ond mae ein cynlluniau a'n galw am fuddsoddiad cyfalaf yng Nghymru wedi parhau i dyfu. Ychydig fisoedd yn ôl, roedd Canghellor y Trysorlys yn datgan fod cyni ar ben a'i fod yn cyhoeddi cyllideb i ryddhau buddsoddiad i sbarduno ffyniant ar gyfer y dyfodol. Aeth yn ei flaen wedyn i roi dim ond £2.6 miliwn o gyfalaf ychwanegol i'r Cynulliad hwn fynd i'r afael â phob angen buddsoddiad sydd heb ei ddiwallu sydd gennym ni yn y flwyddyn i ddod. Dyma'r cyd-destun y bu'r Llywodraeth hon yn gweithio ynddo i geisio gwneud defnydd llawn o'r holl ffynonellau o gyllid cyfalaf sydd ar gael i ni, ac i ddatblygu ffynonellau newydd ac arloesol o ariannu, gan gynnwys y pŵer i gyhoeddi bondiau a model buddsoddi cydfuddiannol Cymru. Er bod arnaf i eisiau canolbwyntio yn yr amser sydd gennyf y prynhawn yma ar y model buddsoddi cydfuddiannol a'r datblygiadau diweddaraf, fe hoffwn i hefyd ddweud ychydig eiriau o ran gallu cael arian gan Fanc Buddsoddi Ewrop a'n perthynas yn y dyfodol ar ôl Brexit. Rebecca Evans AC: Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir iawn ynghylch ei safbwynt ynglŷn â Banc Buddsoddi Ewrop. Fe wnaethom ni alw ar y DU i aros yn bartner tanysgrifio yn y banc—rhywbeth yr ydym ni'n credu a fyddai wedi bod yn gyraeddadwy pe byddai'r DU wedi dangos yr ewyllys gwleidyddol i wneud hynny. Wedi'r cyfan, rydym ni i gyd yn elwa o gyllid Banc Buddsoddi Ewrop: mae benthycwyr yn elwa o gost cyfalaf llai ac mae aelod-wladwriaethau yn eu swyddogaeth fel buddsoddwyr yn elwa o adenillion graddol ar fuddsoddiadau. Fel y mae pethau, gyda neu heb gytundeb, ar 29 Mawrth, bydd y DU yn gadael Banc Buddsoddi Ewrop yn ddisymwth. Mae Llywodraeth y DU wedi methu â rhoi unrhyw drefniant diogelu ar waith, ac eithrio cynnig i roi £200 miliwn o gyfalaf ychwanegol i Fanc Busnes Prydain yn 2019. Does dim ond angen imi nodi bod Banc Buddsoddi Ewrop dros y 10 mlynedd diwethaf wedi buddsoddi ar gyfartaledd mwy na £5 biliwn y flwyddyn yn y DU i ddangos pa mor bitw yw'r trefniant diogelu hwn. Dim ond yr wythnos diwethaf dywedodd Tŷ'r Arglwyddi, yn gynnil braidd, bod diffyg unrhyw gynigion ystyrlon gan y Llywodraeth Geidwadol ynglŷn â pherthynas gyda Banc Buddsoddi Ewrop yn y dyfodol neu ddewisiadau domestig amgen yn siomedig. Ar y lleiaf, mae'r Llywodraeth hon eisiau i'r Deyrnas Unedig anrhydeddu ei hymrwymiad i sicrhau perthynas ystyrlon gyda Banc Buddsoddi Ewrop. Rhaid i'r berthynas honno gynnwys mandad clir i Fanc Buddsoddi Ewrop barhau i fuddsoddi yma, gan ddarparu'r arian a'r arbenigedd y mae benthycwyr cyhoeddus a phreifat wedi gallu dibynu arnyn nhw ers mwy na phedwar degawd. Gan droi at y model buddsoddi cydfuddiannol, fe hoffwn i ddiolch yn arbennig i'r Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau a'r Pwyllgor Cyllid am roi ystyriaeth briodol i'r model buddsoddi cydfuddiannol tuag at ddiwedd y llynedd. Bydd Aelodau'n gwybod ein bod ni wedi ymrwymo i gyflawni tri chynllun gan ddefnyddio'r ffurf arloesol hon o gyllid: cwblhau'r gwaith o ddeuoli'r A465, buddsoddiad ychwanegol yng ngham nesaf rhaglen addysg ac ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, a Chanolfan Ganser newydd Felindre. Gyda'i gilydd, mae gan y cynlluniau hyn werth cyfalaf o fwy na £1 biliwn, ac ni fyddent yn fforddiadwy o'n cyllidebau cyfalaf cyfredol, sydd wedi'u disbyddu. Pe na byddem ni wedi datblygu'r model, byddai prosiectau fel y rhain yn gorfod aros eu tro nes bod digon o gyfalaf ar gael, ac er gwaethaf yr hyn yr ydym ni wedi'i glywed gan San Steffan ynglŷn â diwedd cyni, nid yw'r rhifyddeg gyllidebol yn adlewyrchu hyn o gwbl. O'r cychwyn cyntaf, ein bwriad erioed fu sicrhau bod y model buddsoddi cydfuddiannol yn hyrwyddo budd y cyhoedd yn y diffiniad ehangaf posib o'r term hwnnw. Yn hynny o beth, bydd y model yn sicrhau canlyniadau cadarnhaol, ychwanegol mewn cysylltiad â llesiant, gwerth am arian a thryloywder, ac wrth wneud hynny bydd yn osgoi llawer o'r beirniadu a fu ar ffurfiau hanesyddol o bartneriaethau cyhoeddus-preifat—mewn rhai achosion, beirniadaeth yr oedd Llywodraeth Cymru ymhlith y cyntaf i'w mynegi. Er enghraifft, fe gofiwch chi fod un llywodraeth ar ôl y llall yng Nghymru wedi beirniadu'r ffurf ar fenter cyllid preifat sydd wedi ei hanghymeradwyo bellach. Yn wir, yr wythnos diwethaf yn y Siambr hon, byddwch wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud ei fod yn disgwyl i bob awdurdod contractio yng Nghymru gynnal adolygiadau o'u contractau menter cyllid preifat hanesyddol a chanfod ble mae modd gwneud arbedion. O ran llesiant, bydd partneriaid preifat yr ydym ni'n contractio gyda nhw gan ddefnyddio'r model buddsoddi cydfuddiannol yn gorfod helpu'r Llywodraeth i gyflawni amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Bydd angen iddyn nhw gynnig manteision cymunedol eang, gyda chosbau am fethu â gwneud hynny. Bydd angen iddyn nhw fabwysiadu'r cod ymarfer ar gyfer cyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi. A bydd angen iddyn nhw adeiladu ein seilwaith gan ystyried cynaliadwyedd hirdymor ac effeithlonrwydd amgylcheddol. Byddwn yn gofyn i holl gynlluniau'r model buddsoddi cydfuddiannol gael arfarniad buddsoddi trwyadl y model pum achos—dull arfarnu achrededig rhyngwladol, y mae Llywodraeth Cymru yn gydberchennog arno. Mae Gweinidogion Cyllid y G20 wedi mabwysiadu egwyddorion y model yn sail ar gyfer safon fyd-eang o ran arfarnu buddsoddi mewn seilwaith. Rydym ni hefyd wedi datblygu dull sicrwydd prosiect newydd y bydd pob cynllun sy'n defnyddio'r model buddsoddi cyddfuddiannol yn ddibynol arno—gwiriadau adeg cymeradwyo masnachol. Rydym ni wedi cynnal dau o'r gwiriadau hyn ar y gwaith o ddeuoli'r A465. Cefnogwyd y gwiriadau hyn gan arbenigwyr o Fanc Buddsoddi Ewrop ac Awdurdod Seilwaith a Phrosiectau'rDU. Rwy'n argyhoeddedig y bydd arfarniadau buddsoddi trwyadl, ynghyd â sicrwydd prosiect cadarn gan arbenigwyr diamheuol, nid yn unig yn esgor ar well dealltwriaeth o'r peryglon dan sylw wrth ddarparu prosiectau seilwaith mawr, ond hefyd yn arwain at werthfawrogiad mwy credadwy o werth am arian prosiectau o'r fath, a pha mor fforddiadwy ydyn nhw. Er mwyn cynyddu gwerth am arian ein cynlluniau, rydym ni wedi penderfynu'n fwriadol i beidio â defnyddio'r model buddsoddi cydfuddiannol i ariannu gwasanaethau meddal, megis glanhau ac arlwyo, a oedd yn un o'r beirniadaethau mawr ar gontractau menter cyllid preifat blaenorol, ac ni chaiff ei ddefnyddio chwaith i ariannu offer cyfalaf. O ran tryloywder, mae'r Llywodraeth yn bwriadu buddsoddi swm bach o gyfalaf risg ym mhob cynllun, gan sicrhau bod y sector cyhoeddus yn cael cyfran o unrhyw elw o fuddsoddiad. Caiff y cyfranddaliad hwn ei reoli gan gyfarwyddwr a benodir o dan gyfarwyddyd Gweinidogion Cymru i fyrddau'r cwmnïau hynny sy'n darparu ein hasedau. Cytunais y mis diwethaf, yn ddibynol ar gwblhau gwaith diwydrwydd dyladwy yn foddhaol, y byddai Llywodraeth Cymru yn buddsoddi 15 y cant o gyfanswm y gofyniad cyfalaf risg ar gyfer y cynllun i ddeuoli ffordd yr A465, wrth ddisgwyl penderfyniad i ddechrau adeiladu. Bydd y buddsoddiad hwn ar delerau cydradd, gyda buddsoddwyr ecwiti preifat. Er bod pob cyfalaf risg, drwy ddiffiniad, yn fuddsoddiad gydag elfen o risg, rydym ni'n disgwyl i'n buddsoddiad ennill elw i'r sector cyhoeddus y gellir ei ailfuddsoddi mewn prosiectau cyhoeddus eraill. Mae'r Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth wedi penderfynu gwneud y gorchmynion ar gyfer y cynllun hwn. Cyhoeddwyd llythyrau hysbysu ddoe. Bydd yn rhoi manylion pellach am gynnydd y prosiect hwn yn ystod yr wythnosau nesaf. Mae'r Llywodraeth wedi cydnabod y pwysau gwirioneddol y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu, ac rydym ni wedi bod yn benderfynol yn ein hymrwymiad i wneud popeth yn ein gallu i'w hamddiffyn rhag effeithiau gwaethaf polisi cyni niweidiol Llywodraeth y DU. Ochr yn ochr â'r pecyn tair blynedd o fesurau ariannol ychwanegol a gyhoeddwyd gennym ni cyn y gyllideb derfynol, rydym ni wedi cytuno, ar gyfer cam nesaf rhaglen ysgolion ac addysg yr unfed ganrif ar hugain, y byddwn yn cynyddu'r cyfraddau ymyrryd ar gyfer prosiectau sy'n cael eu hariannu drwy'r model cyfalaf a'r model buddsoddi cydfuddiannol ill dau. Bydd prosiectau cyfalaf yn elwa o gyfraniad gan Lywodraeth Cymru o 65 y cant o'r costau, a bydd prosiectau sy'n defnyddio'r model buddsoddi cydfuddiannol yn elwa o gyfraniad lled-gymharol gan Lywodraeth Cymru o 81 y cant o'r costau. Bydd ysgwyddo rhagor o faich, er yn heriol, yn darparu cymorth ychwanegol gwerthfawr i'n partneriaid darparu yn y cyfnod hwn o gyni. Mae hefyd yn cynnig cyfle gwych i ni gyflawni mwy mewn partneriaeth. Bydd y Gweinidog Addysg yn nodi manylion pellach am y gyfradd ymyrraeth mewn datganiad ysgrifenedig cyn bo hir. Diolch. Nick Ramsay AC: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog Cyllid am ddatganiad heddiw? Rwy'n credu mai dim ond yr wythnos diwethaf y gofynnais i'r Prif Weinidog am y newyddion diweddaraf ynglŷn â'r model buddsoddi cydfuddiannol—rwy'n credu eich bod chi'n eistedd yn y Siambr ar yr un pryd, Gweinidog—felly yn sicr dyna effeithlonrwydd. Gan hepgor y rhagymadrodd arferol sy'n nodwedd o ddatganiadau nifer o Weinidogion am gyni, ceir rhai materion pwysig iawn yr ydych chi wedi cyfeirio atyn nhw yn eich datganiad. Fe hoffwn i sôn am rai o'r rheini fy hun. Yn gyntaf, a gaf i groesawu eich safbwynt ar Fanc Buddsoddi Ewrop? Bu'r Ceidwadwyr Cymreig yn galw ers tro ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy o ddefnydd o'r banc, ac fe wyddom ni fod gwledydd eraill, fel Sbaen, wedi bod yn defnyddio'r cyllid ers talwm ar gyfer cynlluniau ffyrdd a rheilffyrdd a phrosiectau seilwaith eraill. Felly, swyddogaeth fy mhlaid fu galw am fwy o fuddsoddiad o Fanc Buddsoddi Ewrop ers tro byd. Nid ydym ni wedi gwneud yr un peth, nid yn unig yng Nghymru, ond yn y DU ychwaith. Ac rwy'n credu eich bod chi'n gywir—mae angen i ni bwyso am aelodaeth barhaus, neu bartneriaeth neu bartneriaeth gyswllt, neu beth bynnag y gallai hynny fod, gyda Banc Buddsoddi Ewrop. Gadewch inni beidio ag anghofio y bydd Gweriniaeth Iwerddon yn aros yn yr Undeb Ewropeaidd ac y bydd angen ffyrdd Cymru a'r DU i gyrraedd yno o hyd—o leiaf rwy'n tybio mai dyna sut fydd hynny'n gweithio—unwaith y byddwn ni yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Felly, mae angen buddsoddi yn ffyrdd y DU, yn rhan o seilwaith Ewropeaidd, os nad Undeb Ewropeaidd, ehangach. Gan droi at yr agwedd ar eich datganiad sy'n ymwneud â sylwedd: rydym ni, wrth gwrs, yn cefnogi'r defnydd o'r model buddsoddi cydfuddiannol ar gyfer rhaglenni megis cwblhau'r gwaith o ddeuoli'r A465, a grybwyllwyd gennych chi; rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain—unwaith eto, y mae cefnogaeth eang iddi—a grybwyllwyd gennych chi; a hefyd Canolfan Ganser newydd Felindre. Felly, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am yr amserlenni ar gyfer y prosiectau hyn, ac yn wir yr amserlenni ar gyfer cael y modelau buddsoddi cydfuddiannol hynny ar waith yn llawn ac yn derfynol? Mae monitro'r prosiectau hyn yn mynd i fod yn hollbwysig, o gofio rhai o'r achosion o werth gwael am arian—unwaith eto, y cyfeiriasoch chi atyn nhw, ac y cyfeiriodd y Prif Weinidog atyn nhw'r wythnos diwethaf—prosiectau menter cyllid preifat blaenorol, a ddigwyddodd dros gyfnodau sylweddol o amser, o dan Lywodraethau o liwiau gwahanol, a bod yn onest. Rwyf yn cydnabod hefyd, o'r blaen, yn aml, roedd Llywodraeth Cymru yn cyfrannu at y cynlluniau hynny, felly bydd monitro yn hollbwysig yn hyn o beth, fel y dywedodd y Prif Weinidog wrthym ni'r wythnos diwethaf. A wnewch chi ddweud ychydig mwy wrthym ni am y model pum achos? Mae'n amlwg yn bwysig bod y gwaith monitro yn gadarn, ac mae hyn yn swnio'n drawiadol ar yr wyneb ond, wrth gwrs, gan feddwl yn ôl i'r adeg pan gyflwynwyd prosiectau menter cyllid preifat yn wreiddiol, roedd llawer, ar yr wyneb, o ddadleuon synhwyrol iawn ar gyfer y model menter cyllid preifat a'r math o effeithlonrwydd a fyddai'n dod yn sgil hynny, ac yn sicr ni ddigwyddodd hynny, naddo? Felly, gadewch i ni wneud yn siŵr nad yw'r model buddsoddi cydfuddiannol yn dioddef rhai o'r problemau a wynebwyd gan y model menter cyllid preifat a bod gwersi wedi'u dysgu. Hefyd, fe wnaethoch chi sôn am wasanaethau meddal ac fe wnaethoch chi sôn am beidio â defnyddio arian ar gyfer cyfarpar cyfalaf—nid oes amheuaeth gennyf nad ydych chi'n gywir mewn rhai neu nifer o achosion, ond dim ond meddwl wyf i tybed a yw'n briodol cael gwrthwynebiad cyffredinol i ddefnyddio arian buddsoddi cydfuddiannol ar gyfer pob cyfarpar cyfalaf, er enghraifft. Efallai'n wir y gallwch chi ddadlau dros hynny, ond rwyf ychydig yn bryderus y gallem ni gael sefyllfa yn y pen draw lle mae'r model buddsoddi cydfuddiannol mewn gwirionedd mor anhyblyg yna, efallai yn y dyfodol—os ydym ni eisiau sicrhau ei fod yn addas ar gyfer y dyfodol, mae hyn yn bwysig—efallai na fydd rhai cynlluniau yn hyfyw pryd y gallen nhw fod fel arall. Felly, fyddwn i'n ddiolchgar i gael rhywfaint o eglurder ynglŷn â hynny. A wnewch chi ddweud ychydig mwy wrthym ni am eich ymdrechion i wella tryloywder? Rydych chi'n dweud y caiff cyfranddaliad y Llywodraeth ym mhob cynllun ei reoli gan gyfarwyddwr a benodir gan Weinidogion. Pa broses gaiff ei defnyddio i ddewis y cyfarwyddwyr hynny a pha mor dryloyw fydd y prosesau hynny? Ond diolch am eich datganiad. Rwy'n credu bod cefnogaeth eang ym mhob rhan o'r Siambr hon i'r model buddsoddi cydfuddiannol, ac rwy'n croesawu'r hyn yr ydych chi wedi ei ddweud heddiw. Fe fyddwn i'n ddiolchgar petaech chi'n rhoi ychydig o atebion i rai o'r cwestiynau a holwyd. Rebecca Evans AC: Diolch yn fawr iawn am godi'r cwestiynau hynny'r prynhawn yma, a diolch yn fawr i chi hefyd am eich cefnogaeth i'n safbwynt ni ynglŷn â Banc Buddsoddi Ewrop, oherwydd, yn amlwg, mae'n ffynhonnell bwysig o arian ac arbenigedd i ni yma yng Nghymru. Mae wedi darparu swyddogaeth allweddol inni, mewn gwirionedd, yn cefnogi buddsoddiad tymor hir i wella tai cymdeithasol yma yng Nghymru, addysg, ynni, seilwaith, trafnidiaeth a seilwaith dŵr. Mae wedi cynnwys cefnogi buddsoddiad gan Dŵr Cymru, er enghraifft, ar draws y wlad, gan gynnwys Ysgol Gynradd Stebonheath yn Llanelli, lle mae'r prosiect Glawlif yn helpu i leihau gorlif carthion i Fôr Hafren. Roedd hefyd yn gymorth i ariannu ail bont Hafren a ffordd ddeuol yr A55 o Gaer i Gaergybi, yn ogystal â ffyrdd newydd yn ne a gorllewin Morgannwg, Dyfed a Gwent, a soniodd yr Aelod am bwysigrwydd buddsoddi yn y seilwaith hwnnw. Mae benthyciadau diweddar o Fanc Buddsoddi Ewrop wedi cefnogi buddsoddi mewn addysg yng Nghymru, gan gynnwys cefnogi campws newydd Prifysgol Bae Abertawe, a thorri costau gwresogi ym Mhrifysgol Bangor, er enghraifft, ac mae hefyd wedi darparu cymorth ar gyfer ein rhaglen tai cymdeithasol, gan ddarparu cartrefi newydd yn ogystal â gwella tai presennol, gan weithio gyda 10 o gymdeithasau tai gwahanol ledled Cymru. Ac, wrth gwrs, mae Banc Buddsoddi Ewrop hefyd wedi cefnogi buddsoddiad allweddol yng nghwmni Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Felly, yn amlwg, mae'n ffynhonnell bwysig o gyllid, ond hefyd yn ffynhonnell bwysig o arbenigedd. Ac mae'r manteision ychwanegol hynny o arbenigedd wedi dod i'r amlwg i raddau helaeth iawn drwy'r gwaith yr ydym ni wedi'i wneud i ddatblygu prosiect metro de Cymru, er enghraifft, sydd wedi elwa'n fawr iawn yn wir ar yr arbenigedd masnachol, sydd wedi cyfrannu at y broses gaffael, tra bod buddsoddiadau blaenorol eraill yng Nghymru wedi elwa hefyd ar arferion gorau y mae Banc Buddsoddi Ewrop wedi gallu dwyn ein sylw ni atyn nhw hefyd. O ran y prosiectau penodol, gallaf roi'r newyddion diweddaraf am yr A465. Fel y gwyddoch chi, daeth yr ymchwiliad lleol cyhoeddus i ben ar ddiwedd mis Mai 2018. Soniais yn fy natganiad bod y Gweinidog wedi cytuno i wneud y gorchmynion. Felly, bydd penderfyniad i fwrw ymlaen â'r cam nesaf yn awr o ran caffael yn yr wythnosau nesaf, a bydd y newyddion diweddaraf ar gael gan y Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth mewn cysylltiad â hynny. O ran y prosiect yn Felindre, y sefyllfa ar hyn o bryd yw bod Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn datblygu cyfres o achosion busnes amlinellol ar gyfer darparu Canolfan Ganser newydd Felindre ar safle'r Northern Meadows yn yr Eglwys Newydd, ac mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo'r ymddiriedolaeth i gwblhau'r prosiect pwysig hwn i sicrhau bod monitro priodol ar gyfer hynny ar waith. Mae gwaith yn cael ei flaenoriaethu i sicrhau mynediad i'r safle ar hyn o bryd, ac mae rhai trafodaethau manwl yn digwydd gydag amrywiaeth o gyrff a sefydliadau eraill i wneud yn sicr y gall hynny ddigwydd, ac ochr yn ochr â hynny, wedyn, mae achos busnes y gwaith galluogi yn cael ei ddatblygu, tra bo'r trafodaethau hynny'n mynd rhagddynt. Mae'r cynllun diweddaraf yn sôn am ddyddiad cwblhau ar ddiwedd 2023, gydag agoriad yn hanner cyntaf 2024. Unwaith eto, dim ond megis dechrau yr ydym ni gyda'r model buddsoddi cydfuddiannol o ran sut y gall hynny gefnogi ein rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ac mae Kirsty Williams yn bwriadu cyhoeddi datganiad arall ar y mater hwn cyn bo hir. Fe wnaethoch chi gyfeirio at dryloywder, a dyna un o fanteision y model buddsoddi cydfuddiannol—bydd tryloywder yn allweddol—hefyd y sicrwydd y bydd gwybodaeth ar gael i Aelodau'r Cynulliad, ac rwy'n awyddus iawn ein bod ni yn achub ar bob cyfle i roi gwybodaeth drylwyr i Aelodau'r Cynulliad ynglŷn â hyn, a bydd gofynion adrodd penodol i Lywodraeth Cymry fel cyfranddaliwr a hefyd fel cleient. Caiff y manylion penodol hynny eu nodi yn y cytundebau prosiect a gytunir arnyn nhw gyda'n partneriaid o ran cyflawni'r prosiectau hyn. O ran cyfarpar cyfalaf, rwy'n credu mai'r penderfyniad cywir yw peidio â defnyddio'r model buddsoddi cydfuddiannol ar gyfer hwnnw, ond yn amlwg mae dewisiadau eraill o ran sut y byddwn ni'n ariannu hwnnw. Mae'n fater mewn gwirionedd, o ddod o hyd i'r ffynhonnell fwyaf priodol o gyllid ar gyfer y math o bethau yr ydym ni eisiau eu caffael. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch i'r Gweinidog am y datganiad. Wrth gwrs, dwi'n cytuno efo'r bwriad yn fan hyn, sef yr angen i chwilio am ffyrdd arloesol o hybu buddsoddiad yn ein hisadeiledd ni: isadeiledd sydd yn dangos ôl clir o danfuddsoddi yn hanesyddol—a'r tanfuddsoddiad yna, dwi'n eich atgoffa chi, yn dod gan Lywodraethau Llafur a Cheidwadol dros y blynyddoedd. Er, wrth gwrs, dwi'n cytuno bod oes llymder wedi dyfnhau'r broblem. Felly, oes, mae eisiau edrych ar ystod o fodelau sydd ar gael neu a all gael eu datblygu. Dwi'n edrych ymlaen i weld datblygiad yr egwyddor o godi arian drwy fondiau Llywodraeth. Gaf i hefyd ddweud fy mod i'n falch o glywed cyfeiriad yn y datganiad at ein perthynas ni efo Banc Buddsoddi Ewrop, yr EIB? Mae'n bryderus iawn bod diffyg sylw na sicrwydd yng nghanol llanast Brexit i sut i ddiogelu'r math o fuddsoddiad sydd ar gael drwy'r EIB ar hyn o bryd, a dwi'n cytuno y dylid sicrhau bod y berthynas efo'r EIB yn parhau yn y dyfodol. Dwi wedi bod i bencadlys yr EIB yn Lwcsembwrg, ynghyd â nifer o aelodau'r Pwyllgor Menter a Busnes yn y Cynulliad diwethaf, a sylweddoli'r awch sydd yna a'r gallu sydd yna o fewn y Banc Buddsoddi Ewropeaidd i chwilio am brosiectau y gallen nhw eu cefnogi er budd buddsoddiad hirdymor yn cryfhau ein hisadeiledd ni, a dwi'n ofni beth sy'n digwydd os ydy hynny'n cael ei golli. Ond, i droi at y model buddsoddi cydfuddiannol, mae fy mhlaid i wedi rhoi croeso gofalus i ddatganiadau Llywodraeth Cymru ar y model hyd yma. Yn wir, un rhwystredigaeth dŷn ni wedi ei leisio ydy diffyg uchelgais, o bosib, o ran faint y gallwn ni edrych i'w godi neu ei fuddsoddi yn defnyddio'r model yma. Ond, wrth gwrs, mae eisiau bod yn ofalus iawn a nodi mor, mor bwysig ydy cael y model yn iawn. Dŷn ni yn, yn annatod, mae'n siŵr, yn mynd i fod yn dwyn cymariaethau efo PFI, ac mae'r Gweinidog wedi dwyn cymariaethau heddiw er mwyn ceisio tawelu rhai ofnau. Mae rhai pobl yn mynd i edrych ar beth ydy diffiniad y model yma a beth ydy diffiniad PFI a'u gweld nhw yn eithaf tebyg, ond dwi'n meddwl mai'r hyn dŷn ni'n chwilio amdano fo ydy sicrwydd bod risg yn gorwedd yn y lle iawn, achos, a bod yn blaen, mi oedd llawer gormod o gynlluniau PFI yn dangos mai bach iawn oedd y risg oedd yn cael ei chymryd gan fuddsoddwyr preifat, a hynny tra yn eu gweld nhw'n gwneud elw mawr. Felly, allaf i ofyn i'r Gweinidog, yn dilyn cyfres o addewidion bod hwn yn wahanol, pa gamau sydd yn mynd i fod yn cael eu cymryd i werthuso'r cytundebau wrth iddyn nhw fynd yn eu blaenau i sicrhau bod y cydbwysedd risg wedi cael ei daro yn iawn ac nad oes yna or-elwa? Achos partneriaeth, cydfuddsoddiad a system gydfuddiannol ydy hon i fod, ac mi ydyn ni drwy'r amser angen bod yn gwerthuso i sicrhau mai dyna sydd gennym ni, achos tra bod buddsoddwyr, yn deg iawn, angen gweld bod yna return hirdymor teg i ddod o wneud buddsoddiad, dŷn ni angen sicrwydd bod yna werth am arian i'r pwrs cyhoeddus. Ac, yn ail, o bosib yn cyfeirio yn ôl at ein rhwystredigaeth ni ynglŷn â diffyg uchelgais ar hyn o bryd, allwch chi roi awgrym i ni o'r camau nesaf ar gyfer chwilio am fuddsoddiadau pellach yn defnyddio'r model newydd yma a rhoi gair o eglurhad ynglŷn â sut mae blaenoriaethu'n mynd i ddigwydd? Oherwydd, cyn yr etholiad diwethaf, mi oeddem ni ym Mhlaid yn sôn am roi'r pŵer i flaenoriaethu ym maes isadeiledd i gorff hyd braich o'r Llywodraeth. Mi fyddai gen i ddiddordeb mewn gwybod i ba raddau mae'r Llywodraeth yn mynd i fod yn edrych am gyngor ac arweiniad a thrafodaeth civic ynglŷn â gosod y blaenoriaethau ar gyfer defnyddio'r model newydd yma yn y ffordd mwyaf effeithiol. Rebecca Evans AC: Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau hynny. Fe hoffwn i ddechrau, mewn gwirionedd, drwy ddweud nad oes diffyg uchelgais o ran ein huchelgeisiau seilwaith ar gyfer Cymru. O ran i ba gyfeiriad yr awn ni nesaf, mae'n amlwg bod gennym ni ein cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru, ein fframwaith datblygu cenedlaethol, sydd ar y gweill ar hyn o bryd, a'r comisiwn seilwaith, ac rwy'n credu, gyda'i gilydd, y bydd y tri pheth hyn yn ein helpu ni mewn gwirionedd i glustnodi a chanolbwyntio ar ble mae angen inni wneud y buddsoddiadau mwyaf strategol bwysig ledled Cymru yn y blynyddoedd i ddod. O ran bondiau, gall, yn sicr, fe all Llywodraeth Cymru gyhoeddi bondiau, ac rydym ni wedi ennill y pwerau newydd i wneud hynny er mwyn helpu i ariannu ein buddsoddiad mewn seilwaith, ac, yn sicr, ar adeg pan fo ein cyllidebau cyfalaf yn parhau i ostwng, mae'r rhain yn rhoi inni'r gyfres lawn o bwerau benthyca y gallwn ni eu defnyddio i wireddu'r cynlluniau buddsoddi seilwaith uchelgeisiol hynny ledled Cymru, ond y peth pwysig i'w gofio yw nad yw ein gallu i gyhoeddi bondiau yn cynyddu ein gallu i fenthyca. Felly, mae manylion penodol y bondiau yma y gallem ni fod yn dymuno eu cyhoeddi yn y dyfodol yng Nghymru eto i'w penderfynu oherwydd ni fyddem ni ond yn defnyddio'r bondiau hynny pan fo'r holl ffurfiau eraill rhatach o gyfalaf wedi eu disbyddu, a byddai unrhyw arian a godir gan fondiau Llywodraeth Cymru yn amlwg yn cael ei gyfrif yn erbyn ein terfyn benthyca hefyd, sydd yn un o atyniadau mathau eraill o gyllid y byddem yn sicr yn eu dewis yn gyntaf. O ran eich sylwadau ynglŷn â Banc Buddsoddi Ewrop, rwy'n eu croesawu'n fawr. Rwy'n credu inni nodi'n glir iawn gyda'n gilydd yn 'Diogelu Dyfodol Cymru' y byddai hi'n fwy buddiol inni yma yng Nghymru pe byddem ni'n aros yn bartner tanysgrifio gyda Banc Buddsoddi Ewrop oherwydd y manteision uniongyrchol i'n heconomi yn sgil hynny, nid yn unig o ran buddsoddi, ond hefyd yr arbenigedd hwnnw yr wyf i wedi cyfeirio ato o'r blaen. Ac, wrth gwrs, yr wythnos diwethaf, mabwysiadodd Tŷ'r Arglwyddi adroddiad a oedd yn dweud bod buddsoddi yn seilwaith y DU wedi elwa ar fwy na €118 biliwn o arian a fenthycwyd gan Fanc Buddsoddi Ewrop, ond, yn anffodus, roedd hefyd yn sôn am y gostyngiad sylweddol mewn cyllid gan Fanc Buddsoddi Ewrop ers y refferendwm a sbarduno Erthygl 50 ac yn cwyno am y ffaith, er gwaethaf colli ein mynediad i Fanc Buddsoddi Ewrop ar ôl Brexit, nad yw'r Llywodraeth Geidwadol wedi dweud fawr ddim am unrhyw berthynas â Banc Buddsoddi Ewrop yn y dyfodol neu unrhyw ddewisiadau domestig eraill posib. Cyfeiriodd yr Aelod at y gwahaniaethau rhwng y model buddsoddi cydfuddiannol a'r fenter cyllid preifat, ac fe geir rhai gwahaniaethau allweddol mewn gwirionedd y cyfeiriais i atyn nhw yn fy natganiad. Y cyntaf yw y byddwn ni'n gofyn am fanteision cymunedol eang iawn o'n prosiectau model buddsoddi cydfuddiannol. Rwy'n credu bod hyn yn wahaniaeth pwysig ac allweddol. Er enghraifft, byddwn yn edrych ar swyddi a grëwyd, hyfforddiant a chyfleoedd prentisiaeth, gan gynnwys ar gyfer lleoliadau gwaith graddedig, lleoliadau disgybl. Byddwn yn gofyn am ymgysylltu ag ysgolion, mentrau cymunedol, mentrau cadwyn cyflenwi, gwaith gyda mentrau cymdeithasol, ac, hefyd, yn amlwg, cymorth ar gyfer ein busnesau bach a chanolig. Felly, ceir rhai gwahaniaethau allweddol mewn gwirionedd rhwng menter cyllid preifat a'r model buddsoddi cydfuddiannol. Un arall o'r gwahaniaethau allweddol hynny, mewn gwirionedd, fydd y gofynion hynny y byddwn ni'n eu gosod ynghylch cynaliadwyedd a'r amgylchedd. Felly, er enghraifft, i ddarparu cynaliadwyedd amgylcheddol, bydd egwyddorion cynllunio allweddol ar gyfer Canolfan Ganser Felindre yn cynnwys y defnydd o adnoddau naturiol ac effeithlonrwydd ynni ym mhob maes posib. Yr A465—wrth wella diogelwch, cysylltedd a thagfeydd yn yr ardal leol, bydd hefyd yn gwella cydnerthedd ffyrdd eraill Cymru gan ddod yn ffordd amgen yn ystod cyfnodau o dagfeydd, cynnal a chadw neu ddigwyddiadau mawr, a bydd yr ardal leol hefyd yn gweld gwelliannau mewn llwybrau troed, llwybrau beiciau, gwell draenio a'r nod o wella ffitrwydd corfforol a theithio llesol. A bydd gwelliannau amgylcheddol nodedig hefyd yn cael eu darparu gan y cynllun o ran lleihau perygl llifogydd a lleihau perygl llygredd i gyrsiau dŵr. A bydd yn rhaid i'r mannau newydd hynny—y mannau dysgu newydd a adeiladwyd drwy raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain gyflawni sgôr A Tystysgrif Perfformiad Ynni ynghyd â rhagoriaeth BREAM. Felly, fe allwn ni ddefnyddio'r dulliau hyn yn y trafodaethau y byddwn ni'n eu cael gyda phartneriaid posib yn y dyfodol. Hefin David AC: Caf fy hun yn llais amheugar iawn ar y mater hwn ynghylch y model buddsoddi cydfuddiannol. Er, mae'n rhaid imi ddweud, ar ôl achub ar y cyfle i siarad â swyddogion y Gweinidog ar ddau achlysur, rwyf wedi cael rhyw gysur ynghylch y mecanweithiau adrodd a manylion y gwiriadau adeg cymeradwyo masnachol a fydd yn digwydd a hefyd y cytundebau prosiect a'r mecanweithiau adrodd a fydd yn gysylltiedig â'r rheini. Felly, mae cysur, ond rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru wedi cadw pethau'n bur gyfrinachol ynghylch sut y bydd y pethau hyn yn digwydd tan yn ddiweddar. Gallai hygyrchedd a gwybodaeth am y model buddsoddi cydfuddiannol wedi bod yn well o lawer, er fy mod i bellach wedi dod o hyd i eglurhad ar y model buddsoddi cydfuddiannol ar dudalen beta.gov.wales. Mae yna chwe pharagraff o wybodaeth eithaf syml i'r cyhoedd ynglŷn â buddsoddi cydfuddiannol ynghyd â dogfennau technegol. Fodd bynnag, pe bawn i'n rhiant ac ysgol fy mhlentyn yn cael ei hadeiladu drwy ddefnyddio cyllid y model buddsoddi cydfuddiannol, ni fyddai'r iaith a ddefnyddiodd y Gweinidog yn ei datganiad yn gysur imi. Er enghraifft: Bydd y buddsoddiad hwn ar delerau cydradd, gyda buddsoddwyr ecwiti preifat Ac rydym ni wedi cytuno, ar gyfer cam nesaf rhaglen ysgolion ac addysg yr unfed ganrif ar hugain, y byddwn yn cynyddu'r cyfraddau ymyrryd ar gyfer prosiectau sy'n cael eu hariannu drwy'r model cyfalaf a'r model buddsoddi cydfuddiannol. Nid wyf yn credu fod hynny yn agored iawn i'r cyhoedd ac nid wyf yn credu ei fod yn rhoi llawer o gysur i rieni'r plant hynny a fydd mewn ysgolion band B yr unfed ganrif ar hugain. Felly, pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i wneud yr wybodaeth ynghylch y model buddsoddi cydfuddiannol yn hygyrch tra bo prosiectau yn cael eu paratoi, ac yn enwedig pan fo nhw'n cael eu cyflawni ac wedyn? Mae'n rhaid cael cynlluniau i sicrhau bod yr wybodaeth honno ar gael i'r bobl hynny sy'n pryderu ond nad oes ganddyn nhw unrhyw ddiddordeb mewn gwybodaeth dechnegol. Rebecca Evans AC: Diolch am y sylwadau hynny. Roeddwn yn falch y cawsoch chi'r cyfle i gwrdd â swyddogion a sgwrsio gyda nhw am y model buddsoddi cydfuddiannol. Fe fyddwn i'n sicr yn cynnig sesiynau briffio technegol i unrhyw Aelodau sy'n awyddus i wybod mwy ynglŷn â sut mae'r model yn gweithio ac i ateb unrhyw gwestiynau technegol manwl sydd ganddyn nhw. Mae'n rhaid imi ddweud fodd bynnag nad wyf i'n credu y bu'r model buddsoddi cydfuddiannol yn gyfrinach—mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo iddo mor bell yn ôl â 2011, pan yr oedd ein maniffesto yn sôn am edrych ar ffyrdd arloesol o ariannu seilwaith cyhoeddus. Mae'r model wedi esblygu dros amser, felly rydym ni wedi bod yn benthyca gan yr Alban a Lloegr lle bo'n briodol, gan ddysgu gan Fanc Buddsoddi Ewrop, addasu i reolau cyfrifyddu lle bo angen, ac mae'r model buddsoddi cydfuddiannol yn brosiect sy'n deillio o'r dysgu hwnnw i raddau helaeth iawn a'r her a'r addasu sydd wedi bod yn digwydd, sy'n beth da, rwy'n credu. Bu gweinidogion yn goruchwylio'r prosiect hwn yn ofalus ers y cychwyn. Rwy'n gwybod i'r Cabinet drafod cyllid arloesol dair gwaith yn ystod y weinyddiaeth flaenorol ac ystyriwyd diweddariadau achlysurol hefyd gan is-bwyllgor y Cabinet ar gyfer seilwaith. Yn y tymor presennol, mae'r Cabinet wedi ystyried ddwywaith eisoes y model buddsoddi cydfuddiannol ac fe wnaeth fy rhagflaenydd ddatganiadau ar y model buddsoddi cydfuddiannol ar ddau achlysur eisoes yn y tymor hwn—felly, ym mis Chwefror 2017 ac ym mis Mehefin y llynedd—yn ogystal â phwysleisio swyddogaeth bwysig y model buddsoddi cydfuddiannol mewn cyhoeddiadau niferus, megis y diweddariad i'r cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru a'r gyllideb ddrafft. Felly, nid yw'n gyfrinach mewn unrhyw fodd, ond rwyf i'n sylweddoli ac yn deall eich pryder y dylai'r model buddsoddi cydfuddiannol fod yn hawdd ei ddeall ac yn hygyrch i bobl sydd â diddordeb, yn arbennig, rwy'n credu, o ran ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, sy'n brosiect hynod gyffrous a fydd yn trawsnewid amgylcheddau dysgu plant ledled Cymru. Mike Hedges AC: Wrth lansio'r model buddsoddi cydfuddiannol, dywedodd y Prif Weinidog, pan yr oedd yn Weinidog Cyllid: 'Mae'r model buddsoddi cydfuddiannol yn cynnwys darpariaethau gorfodol pwysig tymor hir i sicrhau manteision cymunedol, i greu prentisiaethau a lleoedd hyfforddi ar gyfer gweithwyr Cymru ac ar gyfer datblygu cynaliadwy, lle mae'r partner sector preifat yn cefnogi cyflawni Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae'n ymgorffori ein hymrwymiad i god cyflogaeth foesegol ac yn caniatáu i ni fanteisio i'r eithaf ar ein harferion caffael cynaliadwy. Mae'r model hefyd yn galluogi'r Llywodraeth i ddylanwadu ar y partner preifat a ddewiswyd er mwyn sicrhau bod budd y cyhoedd yn cael ei amddiffyn. Pan rydym ni'n buddsoddi mewn cynlluniau, bydd y dylanwad hwn yn cael ei arfer gan gyfarwyddwr budd y cyhoedd, ac mae hyn yn gam pwysig ymlaen o ran yr hyn sydd wedi cael ei sicrhau mewn modelau partneriaeth cyhoeddus-preifat eraill mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Mae hyn yn sicrhau tryloywder cadarn o ran mynediad at wybodaeth sydd ar gael i'r bwrdd, ochr yn ochr ag amrywiaeth o faterion a gedwir yn ôl i ddiogelu arian cyhoeddus a budd y cyhoedd.' Nid wyf yn credu y gall unrhyw un ganfod unrhyw broblemau yn ymwneud â hwnnw. Fodd bynnag, mae'n fodd o ddenu cyllid preifat i wasanaethau cyhoeddus fel nad yw ynghlwm wrth ofyniad benthyca'r sector cyhoeddus, fellly mae hynny'n cadw'r Trysorlys yn fodlon, ac nid yw hynny'n fenter cyllid preifat, sy'n cadw'r gweddill ohonom ni'n fodlon. Ond rwy'n bryderus ynghylch cost refeniw'r cyfalaf yn y dyfodol o dan y model hwn. Rwyf wastad yn bryderus ynghylch cost refeniw yn y dyfodol unrhyw arian sydd wedi ei fenthyg, yn cynnwys fy arian fy hun. Rydym ni'n gwybod ei fod yn ddrutach na defnyddio cyfalaf Llywodraeth Cymru neu ddefnyddio'r Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus. Mae gennyf dri chwestiwn: a ydych chi'n derbyn bod bondiau ar gael dim ond i gadw cyfraddau'r Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus yn isel, ac nac ydych chi'n disgwyl i Lywodraeth Cymru eu defnyddio, ond eu bod yn bwrw cysgod dros y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus a phe byddech chi'n cynyddu eich cyfraddau, fel y gwnaethant gyda llywodraeth leol, yna byddai llywodraeth leol yn dechrau dweud, 'Wel, fe allwn ni gyhoeddi bondiau', ac maen nhw'n dal i ostwng y cyfraddau? Fe wnaethoch chi sôn am elw o 15 y cant ar yr hyn yr ydym ni wedi ei fuddsoddi, ond onid yw hynny'n ddim ond ni'n cael ein harian ein hunain yn ôl, hynny yw, os ydym ni wedi ei fuddsoddi, daw'r arian yn ôl, a dim ond ein harian ni sy'n mynd i mewn, onid ydym ni felly dim ond yn cael ein harian ein hunain yn ôl? Ac, mewn gwirionedd, y cwestiwn allweddol yw: beth yw'r gyfradd enillion gymedrig a roddir i'r rhai sy'n darparu cyllid preifat drwy'r model hwn? Rydym ni'n gwybod y gellir benthyca arian yn gymharol rad, ond rydym ni hefyd yn gwybod bod terfyn ar yr hyn y gallwn ni ei fenthyg. Os gallem ni fenthyca'n ddarbodus, byddai pob un o'r ffyrdd arloesol hyn o wneud pethau yn ddiangen. Byddem yn defnyddio, fel y gall awdurdodau lleol, y model arloesol—yn hytrach na model arloesol, byddem yn defnyddio ein gallu i fenthyca'n ddarbodus, a byddai hyn i gyd yn cael ei wneud drwy fenthyca'n ddarbodus, y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus yw hynny, a fyddai'n rhatach. Os yw'r Gweinidog yn mynd i ddweud wrthyf na fydd hynny'n rhatach, fe hoffwn i weld y ffigurau. Felly, mewn gwirionedd, i ddychwelyd at y tri chwestiwn hynny, y prif un yw: faint o elw mae'r rhai sy'n benthyca yn ei wneud? Rebecca Evans AC: Diolch yn fawr iawn ichi am godi'r materion hynny. Cytunaf yn llwyr â'r pwynt a wnaethoch chi am fenthyca darbodus a'r ffaith bod awdurdodau lleol yn gallu gwneud hynny. Cawsom dipyn o drafodaeth am hyn yn ystod fy ymddangosiad diwethaf gerbron y Pwyllgor Cyllid, ac rwy'n sicr yn cytuno â'r pwyntiau a wnaethoch chi ac eraill yn y Pwyllgor Cyllid ynghylch y mater hwn. O ran y bondiau, er bod gan Lywodraeth Cymru'r pŵer i gyhoeddi'r bondiau hynny, nid oes gennym ni unrhyw gynlluniau i wneud hynny, oherwydd ein bod yn gallu benthyca drwy'r gronfa benthyciadau cenedlaethol, sydd yn gyffredinol yn cynnig cyfraddau llog is na bondiau Llywodraeth Cymru. Mae'r pŵer i gyhoeddi bondiau, fodd bynnag, yn bwysig, oherwydd ei fod yn golygu bod ffordd arall i Lywodraeth Cymru fenthyg pe byddai Llywodraeth y DU yn penderfynu cynyddu ein cost benthyca. O ran y cwestiwn am gyfradd gymedrig enillion ar gyfer prosiectau, wel, ar hyn o bryd rydym ni'n mynd i chwilio am bartneriaid i gyflawni'r prosiectau hyn ochr yn ochr â ni, felly, bydd llawer o'r manylion yn rhan o'r drafodaeth y byddwn ni'n ei chael yn y dyfodol agos gyda'r rhai sydd â diddordeb. Hoffwn ddweud ynglŷn â'r mater o bwysigrwydd penodi cyfarwyddwr y byrddau, rydym ni ar hyn o bryd yn gweithio ar y manylion ynghylch sut y gallai'r penodiad hwn weithio i sicrhau y byddai gan y sawl a benodir y sgiliau a'r profiad i ymgymryd â'r swyddogaeth honno, oherwydd mae hynny i gyd yn rhan o'r ffordd bwysig y byddwn ni'n ceisio ei defnyddio i ddwyn partneriaid i gyfrif o ran cyflawni. Mae nifer o bobl wedi codi'r mater o risg, a byddwn yn gweithredu dulliau adrodd sy'n cefnogi sector cyhoeddus Llywodraeth Cymru i ymgymryd â diwydrwydd dyladwy wrth gwblhau dyfarniadau contract. Bydd ein trefniadau yn helpu i roi rhybudd cynnar am unrhyw gyflenwyr sy'n strategol bwysig a allai fod yn dioddef anawsterau ariannol, ac rydym ni hefyd yn defnyddio'r wybodaeth sydd ar gael i ddatblygu darlun mor gynhwysfawr â phosib o gyflenwyr sy'n strategol bwysig ar draws y sector cyhoeddus fel y gallwn ni a chleientiaid yn y sector cyhoeddus ddeall yn glir y perygl posib o or-ddibynnu ar rhy ychydig o gyflenwyr. A bwriad ein dulliau o weithredu polisïau caffael yw datblygu sylfaen gyflenwi amrywiol, gystadleuol, a sicrhau bod arferion busnes teg yn llifo drwy'r cadwyni cyflenwi hynny. Diolch yn fawr iawn, Gweinidog. 5. Dadl: Dyfodol Rheilffordd Cymru Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 5 a 6 yn enw Darren Millar, a gwelliannau 2, 3, 4, 7 ac 8 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Eitem 5 yw'r ddadl ar ddyfodol rheilffordd Cymru, a galwaf ar y Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth i gynnig y cynnig—Ken Skates. Cynnig NDM6954 Rebecca Evans Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn siomedig yn y tanfuddsoddi hanesyddol gan Lywodraeth y DU yn seilwaith rheilffyrdd Cymru a chyfleoedd a gollwyd yn ddiweddar i wella capasiti yseilwaith strategol yng Nghymru. 2. Yn tynnu sylw at y gwaith, sydd wedi’i gyhoeddi, gan yr Athro Mark Barry: ‘Y Rhwydwaith Rheilffyrdd yng Nghymru—Yr Achos dros Fuddsoddi’ a’r cynigion ynddo i wella y seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru a’r prif reilffyrdd sy’n gwasanaethu Cymru. 3. Yn cefnogi ymateb Llywodraeth Cymru i Adolygiad Rheilffyrdd Llywodraeth y DU sy’n cael ei gynnal gan Keith Williams. 4. Yn credu bod buddsoddi mewn seilwaith rheilffyrdd strategol yn hanfodol i ba mor gystadleuol fydd Cymru yn y dyfodol, waeth ar ba delerau y byddwn yn ymadael â’r UE, ac yn galw ar Lywodraeth y DU i ddatblygu amserlen ar gyfer bodloni ei rhwymedigaethau cyfredol ar gyfer y Rhwydwaith Trafnidiaeth Traws Ewropeaidd, gan gynnwys trydaneiddio prif reilffyrdd Gogledd a De Cymru yn llawn. Cynigiwyd y cynnig. Ken Skates AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch yn arbennig am gytuno i gael y ddadl hon ar ddyfodol rheilffyrdd Cymru. Rwy'n credu ei bod hi'n amser cyffrous ar hyn o bryd, gan ein bod ni'n rheoli llawer o wasanaethau rheilffyrdd Cymru, ac rwy'n credu, o ganlyniad, y gallwn ni edrych ymlaen at gyflawni newid sylweddol o ran darparu gwasanaeth, gwelliannau i orsafoedd a hefyd, cerbydau newydd. Ond, mae hi yr un mor deg i ddweud gyda'r pwerau cywir a'r cyllid angenrheidiol, y gallem ni fod yn gwneud llawer mwy—mwy o wasanaethau i wella mynediad at swyddi a gweithgareddau hamdden; amseroedd teithio mwy deniadol i annog pobl i gefnu ar eu cerbydau preifat eu hunain; a mwy o orsafoedd i gysylltu ein cymunedau. Ken Skates AC: Mae'r cyd-destun ar gyfer darparu rheilffyrdd yng Nghymru yn gymhleth, yn dameidiog ac wedi'i danariannu. Cynlluniwyd y setliad rheilffordd presennol cyn dyfodiad datganoli. Er y gwnaed rhai ymdrechion i'w esblygu, mae'r setliad presennol yn parhau i adlewyrchu'r cyfnod pan gafodd ei greu. Ugain mlynedd ar ôl datganoli, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth yn San Steffan sydd yn y pendraw yn rheoli'r seilwaith rheilffyrdd yma yng Nghymru. Y setliad datganoli amherffaith hwn yw gwraidd llawer o'r problemau gyda'n rheilffyrdd. Mae'n tanseilio ein hymrwymiad i annog twf economaidd cynhwysol, i ddarparu buddsoddiad cytbwys ar draws rhanbarthau ac i ddatblygu rheilffordd sy'n diwallu anghenion cymdeithasol ein cymunedau gwledig. Rydym ni'n gwybod nad yw rhaglen wella Llywodraeth y DU yn gwasanaethu Cymru ac nad yw'n diwallu ein hanghenion ni. Hyd yma, nid ydym ni wedi gweld un o'r achosion busnes a gyhoeddwyd pan ganslodd Llywodraeth y DU y cynllun trydaneiddio i Abertawe dros 18 mis yn ôl. Nid ymrwymwyd i roi arian ar gyfer unrhyw gynlluniau i wella ein rheilffordd—ni roddwyd eglurder ynghylch cynnydd na'r camau nesaf. Ni ellir parhau i ddefnyddio ffordd Llywodraeth y DU o ddyrannu cyllid, sy'n rhoi blaenoriaeth i ardaloedd o'r wlad lle mae mwy o bobl yn defnyddio rheilffyrdd, yn aml oherwydd mwy o fuddsoddiad hanesyddol. Mae'r pwyslais ar eu blaenoriaethau seilwaith, eu meini prawf buddsoddi a'u cymhellion gwleidyddol eu hunain mewn gwirionedd yn gwahaniaethu yn erbyn ein cymunedau llai o faint a mwy anghysbell, ac yn lleihau ein gallu i ddarparu'r rhwydwaith trafnidiaeth integredig y mae pobl Cymru yn ei haeddu. Mae'r diffyg buddsoddi parhaus yma mewn seilwaith yn cyfyngu ar y capasiti ar gyfer gwasanaethau newydd, yn cyfyngu ar gyflymderau trenau newydd ac yn llyffetheirio ein gallu ni i agor y gorsafoedd yr ydym ni'n wirioneddol eisiau eu gweld. Mae ein gweledigaeth strategol, 'Y Rhwydwaith Rheilffyrdd yng Nghymru: Yr Achos dros Fuddsoddi', a luniwyd gan yr Athro Mark Barry, yn cynnig dadl gref dros wella seilwaith y rheilffyrdd yng Nghymru a'r prif reilffyrdd sy'n gwasanaethu Cymru. O'r gwaith hwn, mae'n amlwg bod modd cyflawni mwy na £2 biliwn o fanteision economaidd o raglen fuddsoddi uchelgeisiol, realistig a theg o fewn seilwaith rheilffyrdd Cymru. Disgwylir y bydd dros £3 biliwn yn cael ei wario ar y rheilffordd cyflymder uchel 2 yn Lloegr yn ystod y flwyddyn ariannol hon, a'r un peth eto ar wella'r rhwydwaith rheilffyrdd presennol. Byddai setliad datganoli teg i Gymru yn caniatáu inni, dros y 10 mlynedd nesaf, ariannu cynlluniau megis ailagor rheilffyrdd, trydaneiddio prif reilffyrdd y de a'r gogledd, a chodi gorsafoedd newydd ar draws y rhwydwaith. Felly, rwy'n galw ar i Lywodraeth y DU gydnabod a mynd i'r afael â'r tanfuddsoddi hanesyddol hwn yn seilwaith rheilffyrdd Cymru drwy gynnig dull arall ar gyfer datblygu a darparu'r cynlluniau y mae eu hangen arnom ni i wella cysylltedd ledled Cymru. Byddai'r buddsoddiad sy'n ofynnol i fodloni'r safonau a bennwyd ar gyfer y llwybrau rhwydwaith trafnidiaeth traws-Ewropeaidd craidd drwy Gymru i Aberdaugleddau a Chaergybi erbyn 2030 yn sicrhau cynnydd sylweddol. Felly, mae'n rhaid i Lywodraeth y DU ddatblygu amserlen er mwyn cyflawni ei hymrwymiadau ar gyfer y rhwydwaith trafnidiaeth traws-Ewropeaidd, gan gynnwys trydaneiddio prif reilffyrdd y gogledd a'r de yn llawn. Ni ddylai Cymru fethu â manteisio ar y buddsoddiad hwn o ganlyniad i unrhyw benderfyniadau a wneir yng nghyd-destun Brexit. Mae adolygiad trwyadl Keith Williams o reilffyrdd Prydain yn gyfle i ddiwygio'r rheilffordd ac i greu'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus gwbl integredig y mae ar Gymru ei angen. Ni ddylid colli'r cyfle hwn. Dylai ein rheilffordd fod yn un o'n hasedau mwyaf gwerthfawr yn gymdeithasol ac yn economaidd. Mae ganddi'r potensial i wneud cyfraniad enfawr, yng Nghymru, i fywydau pobl, ein cymunedau, yr amgylchedd a'n heconomi. Rydym ni'n disgwyl i adolygiad Williams nodi cynllun clir er mwyn i Gymru gael mwy o lais wrth bennu gwasanaethau rheilffyrdd; i reoli a datblygu seilwaith gyda setliad cyllido teg; ac i sefydlu fframwaith rheoleiddio sy'n cydnabod amrywiaeth datganoli yn y DU, gan gynnal rheilffordd genedlaethol sydd o fudd i bob rhan o Brydain. Rwy'n gofyn i Aelodau heddiw gefnogi ymateb Llywodraeth Cymru i adolygiad rheilffyrdd Llywodraeth y DU, adolygiad sy'n cael ei wneud gan Keith Williams, a'r newidiadau sylweddol y gofynnwyd amdanyn nhw. Bydd hyn yn rhoi'r mandad cryfaf imi pan fyddaf yn cyfarfod â Keith Williams yr wythnos nesaf i ddadlau'r achos dros ddwyn y setliad datganoli rheilffyrdd i'r unfed ganrif ar hugain, gan roi inni'r pwerau a'r arian sydd eu hangen arnom ni i ddarparu'r rheilffordd y mae pobl Cymru yn ei haeddu. Diolch. Rwyf wedi dewis yr wyth gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Galwaf ar Russell George i gynnig gwelliannau 1, 5 a 6, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Gwelliant 1—Darren Millar Dileu pwynt 1. Gwelliant 5—Darren Millar Dileu pwynt 3. Gwelliant 6—Darren Millar Dileu popeth ar ôl 'UE' ym mhwynt 4 ac ychwanegu pwyntiau newydd: Yn gresynu at berfformiad gwael diweddar gwasanaethau rheilffyrdd, gan gynnwys oedi mynych a chanslo teithiau, a weithredir gan Trafnidiaeth Cymru ers dod yn gyfrifol am wasanaethau ar fasnachfraint Cymru a'r Gororau. Yn gresynu at yr oedi wrth ail-sefydlu gwasanaethau rheilffordd uniongyrchol rhwng Cymru a Lerpwl. Yn nodi'r rôl y gall Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru ei chwarae wrth helpu i lunio gweledigaeth ar gyfer seilwaith rheilffyrdd Cymru. Yn nodi maint y cyfraniad y bydd bargeinion dinas a bargeinion twf Llywodraeth y DU yn eu gwneud. Yn annog Llywodraeth Cymru i gydweithio â Llywodraeth y DU a'r holl randdeiliaid perthnasol er mwyn parhau i wneud cynnydd o ran gwella gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru. Cynigiwyd gwelliannau 1, 5 a 6. Russell George AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf yn ffurfiol y gwelliannau yn enw Darren Millar. Mae dweud y bu tanfuddsoddi gan Lywodraeth bresennol y DU yn seilwaith rheilffyrdd Cymru yn gwbl anghywir. Gadewch i ni edrych ar y ffeithiau—[Torri ar draws.] Gadewch i ni edrych ar y ffeithiau, Dirprwy Lywydd, yn hytrach na'r rhethreg a amlinellir yn y cynnig. Mae Llywodraeth y DU yn buddsoddi'r symiau mwyaf erioed yn seilwaith rheilffordd Cymru. Mae cyllideb Network Rail ar gyfer llwybr Cymru a'r gororau ar gyfer y cyfnod 2019-2024 yn £2 biliwn, cynnydd o 28 y cant ers y cyfnod rheoli diwethaf. Gadewch inni ddathlu rheilffordd sy'n fwy a gwell ar gyfer Cymru—[Torri ar draws.]—mewn eiliad, gwnaf, fe wnaf i—a fydd yn cael ei darparu, gan wella amserau siwrneiau i deithwyr ar y trenau newydd mwyaf datblygedig. Hefyd, y buddsoddiad o £5.7 biliwn mewn trenau cyflym InterCity newydd sbon, a fydd yn tynnu 15 munud oddi ar y daith rhwng de Cymru a Llundain, ac mae gan bob trên hyd at 24 y cant o seddi ychwanegol o'i gymharu â thrên cyflym arferol—mae hyn, rwy'n gobeithio, i'w groesawu. Huw Irranca-Davies AC: Diolch i chi am ildio, Russell. Rydych chi'n ymdrechu'n lew i geisio amddiffyn hwn, ond tybed beth yw eich ymateb i'r dadansoddiad a gymeradwywyd gan y pwyllgor dethol ar faterion Cymreig a'r pwyllgor dethol seneddol ar drafnidiaeth yn San Steffan, grwpiau trawsbleidiol. Yn wir, caiff y pwyllgor dethol ar faterion Cymreig ei gadeirio, os cofiaf yn iawn, ar hyn o bryd, gan yr Aelod Ceidwadol dros Sir Fynwy, rwy'n credu ei fod yn dal i wneud. Daethant i'r casgliad fod systemau presennol yr Adran Drafnidiaeth ar gyfer arfarnu cynlluniau a'i phrosesau presennol wrth wneud penderfyniadau yn milwro yn erbyn rhanbarthau y tu allan i dde-ddwyrain Lloegr gan eu bod yn rhoi pwyslais sylweddol ar leihau tagfeydd presennol. Maen nhw'n nodi Crossrail, buddsoddiad enfawr o amgylch Paddington a phopeth yn rhan o hynny. Dônt i gasgliad sydd i'r gwrthwyneb yn llwyr i'r hyn yr ydych chi'n ei honni, Russell, felly a ydyn nhw'n anghywir? Russell George AC: Wel, mae'n ddiddorol eich bod wedi crybwyll rhan o'r adroddiad hwnnw. Wrth gwrs, mae rhan arall o adroddiad y pwyllgor dethol a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2017 yn dod i'r casgliad bod buddsoddi mewn rheilffyrdd yng Nghymru wedi'i gamreoli'n gyson gan Lywodraeth Cymru dros y degawd diwethaf. Felly, fe allwn ni i gyd ddewis a dethol, oni allwn ni, pa rannau o'r adroddiad yr ydym ni eisiau eu darllen. O ran y gwaith—wrth imi symud ymlaen yn awr—gan yr Athro Mark Barry, mae'r adroddiad yn edrych yn fanwl ar ymyriadau strategol hirdymor y gellid eu gwneud ar y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru i wella cysylltedd a sicrhau manteision economaidd yn y pen draw. Rwy'n sicr yn credu bod llawer yn yr hyn a ddywed i'w groesawu ac rwy'n credu ei fod yn synhwyrol. Ond nid oes costau, wrth gwrs, yn ei adroddiad, ac mae'r adroddiad yn canolbwyntio mwy ar gyflwyno gweledigaeth ar gyfer dyfodol seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru yn hytrach na ffordd realistig o gyflawni'r weledigaeth honno. Rwy'n derbyn bod eisiau rhoi mwy o gig ar yr asgwrn yn amlwg. Wrth gwrs, Dirprwy Lywydd, y ffaith yw y gall Llywodraeth Cymru wneud sawl peth, ac rwy'n credu i'r gweinidog ddechrau drwy ddweud hynny hefyd. Y gwir amdani yw, mewn llawer o achosion, yn y pen draw yma yn Llywodraeth Cymru y mae'r cyfrifoldeb o ran sefyllfa'r trenau yng Nghymru. Mae yna bethau y gall Llywodraeth Cymru ei wneud o ran profiad teithwyr. Trafnidiaeth Cymru, sy'n cael ei redeg gan Lywodraeth Cymru, sydd ers y llynedd yn gyfrifol am wasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru, fel y gwyddom ni. Rydym ni i gyd yn ymwybodol o'r nifer enfawr o drenau a gafodd eu canslo, tra bo gwasanaethau sy'n dal i redeg yn orlawn erbyn hyn oherwydd peidio â defnyddio llawer o gerbydau. Rwy'n credu bod yn rhaid inni gwestiynustrategaeth drosglwyddo Llywodraeth Cymru o ran hyn. Yr hyn a welsom ni yr Hydref diwethaf oedd nid y gwelliannau trawsffurfiol i wasanaethau a addawodd Llywodraeth Cymru, ac nid yw ychwaith yn cynrychioli'r capasiti ychwanegol neu'r weledigaeth o wasanaethau rheilffyrdd y dyfodol yng Nghymru y mae'r Athro Barry yn eu disgrifio. Llywodraeth Cymru sydd heb os yn gyfrifol am y llanast presennol a welsom ni'r Hydref diwethaf ac mae ei hymgais i fwrw'r bai yn annerbyniol yn y ddadl hon heddiw. Rhianon Passmore AC: A wnewch chi dderbyn ymyriad? Russell George AC: Gwnaf. Rhianon Passmore AC: Yn ôl yr Athro Mark Barry, fel a ddyfynnwyd gennych chi, mae'n credu bod Cymru wedi'i thanariannu—[Anghlywadwy.]—2016. A ydych chi'n anghytuno? Russell George AC: Fe wnes i amlinellu ar ddechrau fy nghyfraniad fod y cyfnod rheoli nesaf yn gynnydd o 24 y cant, ac o ran buddsoddiad hefyd, cafwyd £50 miliwn ar gyfer y prosiect i uwchraddio llinellau rheilffordd y gogledd, gan gynnwys system signalau newydd ar gyfer y gogledd ar brif linell reilffordd yr arfordir o Shotton i Fae Colwyn, £300 miliwn o fuddsoddiad yn ardal Caerdydd ar gyfer ailosod signalau, buddsoddiad o £2 miliwn o'r gronfa gorsafoedd newydd o Pye Corner i Gasnewydd, £4 miliwn o'r gronfa gorsafoedd newydd ar gyfer Bow Street ac Aberystwyth, £16 miliwn o fuddsoddiad ar linell Halton curve sy'n cysylltu gogledd Cymru â Lerpwl. Ac, wrth gwrs, mae hyn yn codi'r pwynt hefyd, ond gadewch i ni ganolbwyntio—gobeithio eich bod yn cytuno—nid ar ble y mae'r buddsoddi'n digwydd, ond ar beth yw'r budd i deithwyr Cymru. Yn sicr, mae'n rhaid ystyried hynny, ac mae'r un peth yn wir o ran HS2 yn hynny o beth hefyd. Felly mae'n siomedig o ran hynny. Wrth gwrs, yn ogystal â threnau gwell, mwy o gapasiti a gwell prisiau a dewis o docynnau, rwy'n credu hefyd ein bod ni eisiau gweld gwasanaethau rheilffyrdd sy'n integreiddio'n effeithiol â'r dulliau eraill o drafnidiaeth yr ydym ni'n eu defnyddio'n feunyddiol, a system drafnidiaeth nad yw'n cael ei hystyried ar wahân ond yn cyfrannu at dwf economaidd trawsffiniol ac yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus yn well. Rwyf wedi crybwyll llinell Halton curve yn un enghraifft o hynny. Mae'n rhaid inni edrych hefyd ar fuddsoddiad Llywodraeth y DU o £5 miliwn ym margen ddinesig Caerdydd, a fydd yn hybu cronfa fuddsoddi a chyfres o gyfleoedd i'r rhanbarth a chymorth ar gyfer trydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd hefyd. Rwy'n credu y dylai Llywodraeth Cymru gydnabod graddfa'r ymyriad hwn gan Lywodraeth y DU i reilffyrdd Cymru drwy'r fargen twf a'r fargen ddinesig, nid ei ddilorni fel y gwelir yn y cynnig heddiw. Gobeithio y bydd y Gweinidog yn ceisio cydnabod bod angen mynd ati mewn modd sy'n cynnwys y Llywodraeth gyfan yn ei sylwadau wrth gloi heddiw. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig gwelliannau 2, 3, 4, 7 ac 8 a gyflwynwyd yn ei enw. Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth Ym mhwynt 1, dileu 'siomedig yn y' a rhoi yn ei le 'condemnio’r'. Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth Mewnosod ar ddiwedd pwynt 1: ', gan gydnabod bod Cymru'n llusgo ar ôl gweddill y DU yn ddifrifol, o ran buddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth.' Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth Mewnosod ar ddiwedd pwynt 2: 'ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu'r argymhellion, gyda phwyslais ar gysylltu'r gogledd a'r de drwy ail-agor rheilffyrdd y gorllewin.' Gwelliant 7—Rhun ap Iorwerth Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi pwysigrwydd datgarboneiddio trafnidiaeth gyhoeddus ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i dulliau adnewyddadwy o bweru trafnidaieth gyhoeddus. Gwelliant 8—Rhun ap Iorwerth Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw am ffocws o'r newydd gan Lywodraeth Cymru ar weithio tuag at ailagor rheilffordd Gaerwen i Amlwch ar draws Ynys Môn yng ngoleuni cyhoeddiadau economaidd diweddar sy'n peri pryder. Cynigiwyd gwelliannau 2, 3, 4, 7 ac 8. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rhun ap Iorwerth AC: Gadewais fy nghartref ar Ynys Môn tua 6.30 p.m. neithiwr. Chwe awr yn ddiweddarach, cyrhaeddais Fae Caerdydd. Gallwn i fod wedi neidio i'r car a gwneud y daith mewn tua phedair awr yn hawdd ar yr adeg honno o'r nos. Nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr bod gennym ni system reilffyrdd—a ddylai gymell pobl i'w defnyddio—sy'n anghymhelliad bob tro yr edrychwch chi ar sut y mae teithiau hir yn gweithio yng Nghymru. Cant ac un o bunnau yw cost tocyn dwyffordd ar gyfer y daith honno. Doedd dim cwpanaid o de yn ystod y chwe awr ar y trên. Nid yw hyn yn dderbyniol, ac nid yw'n dderbyniol yn yr unfed ganrif ar hugain fy mod i'n gorfod ymbalfalu ar fy mhedwar yn chwilio am yr un soced sydd yno ar y trenau hynafol hynny. Nid yw'n ddigon da. Nawr, wrth gwrs, bu newidiadau yr ydym ni'n edrych ymlaen at eu gweld yn dwyn ffrwyth wrth greu Trafnidiaeth Cymru, ac, ydy, mae'r cerbydau i fod i gael eu gwella yn y blynyddoedd i ddod. Ond mae rheswm da iawn, rwy'n credu, pam fod gennym ni gerbydau mor druenus, pam fod gennym ni system o'r fath sy'n anghymhelliad i bobl ei defnyddio, a'r rheswm yw diffyg buddsoddi yn seilwaith ein rheilffyrdd. Ac mae'n hanesyddol, ac mae'n digwydd ers blynyddoedd lawer. Mae'r Athro Mark Barry yn ei adroddiad yn dyfynnu data'r Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd ar gyfer 2011-2016 sy'n dangos na chafodd llwybr Cymru ond 1 y cant o'r gyllideb gwella—£198 miliwn allan o'r gyllideb o £12.2 biliwn—er gwaetha'r ffaith ei bod yn 11 y cant o'r rhwydwaith. Ni all hynny fod yn dderbyniol. Gellir nodi ffigurau cyfartal o gyfnod y Blaid Lafur mewn Llywodraeth—1997-2010—sydd unwaith eto'n dangos diffyg hanesyddol o fuddsoddiad. Felly, nid yw fel petai un blaid yn gallu golchi ei dwylo. Ond dyma ble'r ydym ni, ac rwyf yn cefnogi'r sylwadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru, ar y cyfan, wrth ymateb i adroddiad Williams a dweud na allwn ni aros yn y sefyllfa hon yn edrych at y dyfodol lle mae tanfuddsoddi yng Nghymru yn parhau heb ei ddatrys. Os nad oes gennym ni'r buddsoddiad sydd ei angen yn y seilwaith, ni fyddwn yn cael, faint bynnag y bydd y cerbydau yn gwella, a faint bynnag y bydd nifer y gwasanaethau'n cynyddu, seilwaith rheilffyrdd sy'n gweithio i Gymru. Rydym ni'n cyfeirio at nifer o gynigion ynglŷn â beth sydd angen ei wneud yn ein gwelliannau heddiw. Yn sicr, yn ein gwelliant cyntaf, gwelliant 2, rydym ni'n condemnio'r sefyllfa, y sefyllfa hanesyddol. Nid yw'n siomedig—rhaid ei gondemnio. Yn ein trydydd gwelliant, gwelliant 3, rydym ni'n gwneud y pwynt bod Cymru wedi bod yn llusgo y tu ôl i weddill y DU yn barhaus o ran seilwaith trafnidiaeth. Yng ngwelliant 4, pwysleisiwn yr hyn yr ydym ni'n chwilio amdano yn ein system reilffyrdd. Oes, mae angen llawer iawn o gysylltiadau lleol cryfach, ar gyfer cymudwyr yn y de-ddwyrain ac yn y gogledd-ddwyrain, ar draws arfordir y gogledd, ar draws y de ac mewn rhannau eraill o Gymru, ond mae angen inni fod yn ceisio creu cysylltedd drwy Gymru gyfan. A dyna pam mae'n rhaid—mae'n rhaid—i ni roi cynlluniau tymor hir ar waith i'n cysylltu ni ar batrwm rhif wyth, rhywbeth sy'n cymryd gormod o amser i'w adeiladu yn nhermau ffyrdd, ond mae ei angen o ran rheilffyrdd hefyd, fel ein bod ni'n cysylltu'r gorllewin—[Torri ar draws.]—nid yn unig o Gaerfyrddin i Aberystwyth, y cyfeirir ato'n aml, ond hefyd o Fangor i lawr i Aberystwyth. Gwnaf, fe wnaf i ildio. Mark Reckless AC: A yw'n derbyn y gall fod yna fudd hefyd i bobl yng Nghymru o fuddsoddi yn y rheilffyrdd hyd yn oed os nad yw hynny o fewn ffiniau Cymru, yn enwedig trydaneiddio'r rheilffordd o Paddington hyd at dwnnel Hafren? Mae hynny yn hynod o fuddiol i Gymru ac a wnaiff ef gydnabod hynny? Rhun ap Iorwerth AC: Rwy'n sicr yn un nad yw'n gweld Cymru'n ynysu ei hun, ac fe all yr hyn sy'n digwydd o ran seilwaith mewn mannau eraill fod yn fuddiol. Ond fe all yr hyn sy'n digwydd o ran seilwaith mewn mannau eraill fod yn niweidiol i ni hefyd. Edrychwch ar HS2—mae pob astudiaeth yn dangos y gallai HS2, gyda'r biliynau sy'n cael ei wario arno, fod yn niweidiol i economi Cymru gyfan, er bod rhai manteision yn bosib o ran cyswllt fyddai ychydig yn gyflymach i Crewe i deithwyr yn y gogledd. Af ymlaen at fy ngwelliant lleol, gwelliant 8, sy'n galw am ailagor y rheilffordd o Gaerwen i Amlwch. Rydym ni i gyd yn gresynu at y penderfyniadau a wnaed gan Beeching yn y 1960au, ond fe arbedwyd rhai rheilffyrdd yr adeg honno ac rydym ni wedi elwa o hynny. Un enghraifft dda yw ailagor y rheilffordd i Lynebwy. Cafodd rhai rheilffyrdd eu harbed. Un arall a arbedwyd oedd y llinell ar draws Ynys Môn. Cafodd ei harbed gan ei bod yn cael ei defnyddio fel cyswllt diwydiannol i waith bromid y Great Lakes yn Amlwch, hyd at y 1990au. Mae yna reilffordd yno, mae angen ei hailagor. Nid oes angen imi ddweud wrthych chi am y newyddion economaidd drwg a gawsom ni yng ngogledd Ynys Môn yn ddiweddar. Gadewch inni ganolbwyntio o'r newydd ar ailagor y llinell honno fel y gallwn ni ystyried cysylltu'r gymuned anghofiedig honno yng ngogledd yr Ynys gyda chyfleoedd economaidd newydd, ac edrych am gyfleoedd twristiaeth ar yr un pryd. Mae'n rhaid inni fod yn fwy uchelgeisiol ar Ynys Môn, ond wrth inni edrych ychydig yn ehangach heddiw, mae'n rhaid inni fod yn fwy uchelgeisiol ynglŷn â'r hyn y gallwn ni ei wneud ar gyfer ein seilwaith rheilffyrdd ein hunain yng Nghymru yn y dyfodol. Alun Davies AC: Rwyf eisiau dechrau fy sylwadau'r prynhawn yma drwy groesawu'n fawr iawn y sylwadau a wnaed gan y Gweinidog yn ei sylwadau agoriadol yn y ddadl hon. Credaf ei bod hi'n gyfrifoldeb ar bob un ohonom ni i roi ein cefnogaeth lwyr i Lywodraeth Cymru wrth iddi gyfrannu at adolygiad Williams a gwneud yn siŵr fod gennym ni setliad sy'n addas i'w bwrpas. A phan rwy'n dweud, 'setliad sy'n addas i'w bwrpas', nid wyf yn golygu rhywbeth y gallai llefarydd Ceidwadol sefyll ar ei draed a'i amddiffyn ar brynhawn dydd Mawrth yma. Rwy'n golygu rhywbeth sy'n ateb anghenion ein hetholwyr o ddydd i ddydd. A phan rwy'n edrych ar sut y mae Llywodraeth Cymru wedi gallu gweithredu gyda chreadigrwydd a dychymyg i ailagor gwasanaethau, i fuddsoddi mewn gwasanaethau newydd, yr hyn a welaf yw Llywodraeth sy'n gwbl ymroddedig i wasanaethu fy etholwyr o ddydd i ddydd. Alun Davies AC: Siaradodd Rhun ap Iorwerth am lwyddiant llinell Cwm Ebwy, ac mae'n llygad ei le yn gwneud hynny, ac, wrth gwrs, byddai fy nghyfaill yn siarad am linell Maesteg, a byddai cyfaill arall yn sôn am linell Bro Morgannwg. Mae gennym ni'r llwyddiannau gwirioneddol yma i'w dathlu, ond mae angen inni hefyd—.Os yw'r llinellau yma a ail-agorwyd i barhau i fod yn llwyddiant yn y dyfodol, mae angen inni fuddsoddi ynddyn nhw yn awr ar gyfer y dyfodol hefyd, a golyga hynny i ni ar linell Glyn Ebwy ein bod yn gwneud yn siŵr fod gennym ni gerbydau newydd, cerbydau sy'n fodern, a bod gennym ni'r gwasanaethau newydd, nid dyblu'r gwasanaethau yn 2021 yn unig, ond rwy'n cofio'r Gweinidog yn dweud yn ei ddatganiad ym mis Mehefin y llynedd fod arno eisiau ymchwilio i bedwar gwasanaeth ar linell Cwm Ebwy erbyn 2024, ac rwy'n gobeithio y bydd modd inni gyflawni hynny, ac yn sicr mae gennyf ddiddordeb yn ei sylwadau'r prynhawn yma ynglŷn â'r cynnydd hwnnw mewn capasiti y mae angen inni allu ei gyflawni dros y blynyddoedd nesaf. Ond allwn ni ond gwneud hynny os yw'r strwythurau yn eu lle i hyrwyddo'r gwaith. Mae gennyf gryn ddiddordeb gael sicrwydd, os mynnwch chi, gan y Gweinidog fod llinell Cwm Ebwy yn parhau i gael ei hystyried yn wasanaeth rhyng-drefol, yn cysylltu Blaenau'r Cymoedd gyda chalon ein prifddinas, oherwydd er bod pob un ohonom ni'n gobeithio cynyddu gwasanaethau, cynyddu'r nifer o orsafoedd, buddsoddi yn ein rheilffyrdd ar hyd a lled y wlad, wrth gwrs, i'r rheini ohonom ni sy'n defnyddio gwasanaethau lle mae'r gorsafoedd ar ddiwedd y llinell, mae aros ymhob gorsaf ar y ffordd yn gwneud ein teithiau'n hirach. Felly, mae angen inni sicrhau fod yna ymrwymiad er mwyn gallu darparu cysylltiad rheilffordd effeithiol o dref Glynebwy i Gaerdydd, gan gynnwys Abertyleri, lle mae'r gwasanaeth rheilffordd yno ar gyfer Blaenau'r Cymoedd ac nid gwasanaeth cymudo i Gaerdydd a Chasnewydd, ac mae hwnnw'n wahaniaeth real a phwysig iawn. Ac fe ddyweda hyn wrthych chi, Gweinidog— ac rwy'n gwybod eich bod wedi cael eich lobïo ar hyn ar nifer o achlysuron gwahanol: nid oes yna unrhyw gefnogaeth yng Nglynebwy na Blaenau Gwent ar gyfer unrhyw wasanaeth i Gasnewydd. Cafodd hwn ei sefydlu fel gwasanaeth i gysylltu Blaenau'r Cymoedd gyda phrifddinas y wlad, ac mae hwn yn wasanaeth mae arnom ni ei eisiau, ac nid oes angen gwasanaeth cymudo arnom ni, ychwaith, mae arna i i ofn, ar gyfer Casnewydd na Chaerdydd. Gwasanaeth yw hwn i gysylltu'r cymunedau tlotaf yn y wlad hon gyda chalon ein prifddinas, ac mae angen inni allu canolbwyntio mewn difrif calon ar hynny. Felly, nid oes consensws na chefnogaeth ym Mlaenau Gwent i amharu â'n gwasanaeth rheilffyrdd fel yna. Ond er mwyn darparu'r hyn y gallai'r rheilffordd honno ei wneud mewn gwirionedd, sef llwyddiant cymdeithasol ac economaidd, mae angen strwythur arnom ni a all wneud hynny yn y dyfodol, ac er bod yr Aelod dros Sir Drefaldwyn, llefarydd y Ceidwadwyr ar y materion hyn, wedi gwneud ymdrech lew i amddiffyn agwedd y Ceidwadwyr tuag at ddatblygu'r rheilffyrdd, rwy'n ofni na lwyddodd i fy argyhoeddi ynglŷn â'r mater hwnnw y prynhawn yma. Nid ydym ni wedi gweld y buddsoddiad angenrheidiol yng Nghymru sydd ei angen arnom ni. Nid ydym ni wedi gweld y pwyslais ar Gymru sydd ei angen arnom ni, a'r hyn yr ydym ni wedi ei weld yw Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn ein rheilffyrdd, ond heb y strwythur democrataidd yr ydym ni'n disgwyl ei weld er mwyn cyflawni hynny. Mae hyn yn ymwneud â chyfiawnder cymdeithasol, Gweinidog. Mae'n ymwneud â chyfiawnder economaidd. Mae'n ymwneud â chael strwythur sy'n gallu darparu'r ddau beth yna yn ein gwlad yn y dyfodol. Wn i ddim a yw Gweinidogion y DU wedi trafod buddsoddiad ar linell Cwm Ebwy gyda Gweinidogion Cymru o gwbl; rwy'n amau hynny'n fawr. Mae rheilffordd Cwm Ebwy yn bell iawn, iawn o Whitehall a San Steffan. Mae'n bell iawn o'u meddyliau, ac nid wyf i erioed wedi gweld unrhyw un ohonyn nhw—nid wyf erioed wedi cael fy argyhoeddi eu bod yn poeni mewn unrhyw fodd am yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yma. Felly, rwy'n gobeithio yn y dyfodol, Gweinidog, y byddwn ni'n gallu gweld setliad sy'n eich galluogi chi a ninnau i sicrhau cyfiawnder cymdeithasol. Mae angen buddsoddiad mewn cerbydau ac mewn cysylltiadau rheilffyrdd arnom ni. Mae angen cysylltiadau ar gyfer cymunedau megis Abertyleri, sydd ddim yn cael eu gwasanaethu o gwbl gan y strwythurau presennol, ond yr hyn sydd ei angen yn fwy na dim arnom ni yw setliad ac eglurder fod yna ymrwymiad i ariannu'r uchelgais a'r weledigaeth hon, ymrwymiad i ariannu'r math o fuddsoddiad yn y system reilffyrdd sydd ei angen arnom ni, ac i mi, mae hynny'n golygu datganoli'r seilwaith a'r rheolaeth dros y seilwaith i Gymru, fel y gall y Llywodraeth hon dorchi ei llewys a bwrw ymlaen â'r gwaith nad oes gan y Torïaid unrhyw ddiddordeb ei ddechrau hyd yn oed. Mark Isherwood AC: Wel, fel sy'n digwydd mor aml gyda Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yma, mae'r cynigion yn dechrau gyda phennawd papur newydd, nawr yn honni tanfuddsoddi hanesyddol gan Lywodraeth y DU yn seilwaith rheilffyrdd Cymru. Mewn datganiad ysgrifenedig fis Rhagfyr diwethaf, dywedodd y Gweinidog yma mai Cymru gafodd y swm lleiaf o fuddsoddiad rheilffyrdd yn y DU a'n bod ni wedi derbyn llai na 2 y cant o'r buddsoddiad mewn gwelliannau rheilffyrdd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, wedi cyfleu hyn wrth Network Rail yn y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau yn 2017, anfonwyd copi o adroddiad blynyddol Swyddfa Rheilffordd a Ffyrdd, 'UK Rail Industry Financial Information 2015-16' i'r Aelodau, sy'n datgan i Gymru mewn gwirionedd dderbyn 9.6 y cant o arian net y Llywodraeth ar gyfer gweithredwyr masnachfraint trenau a Network Rail, a 6.4 y cant o gyfanswm net cyllid y Llywodraeth ar gyfer llinellau trên Network Rail. Rhoddodd adroddiad y flwyddyn ganlynol, a gyhoeddwyd yn 2018, oleuni pellach ar hyn. Ar gyfartaledd, cyfrannodd y Llywodraeth £1.53 fesul taith teithiwr yn Lloegr, £6.08 yn yr Alban a £8.82 yng Nghymru. Cyllid net y Llywodraeth, fel canran o incwm cyfan y diwydiant rheilffordd yng Nghymru, yr Alban a Lloegr oedd 17 y cant yn Lloegr, 47 y cant yn yr Alban a 49 y cant yng Nghymru. Cyllid net y Llywodraeth ar gyfer masnachfreintiau rheilffyrdd fel canran o gyfanswm yr incwm, gan gynnwys cyllid ar gyfer seilwaith, oedd 56 y cant yng Nghymru a'r Gororau, o'i gymharu â dim ond 21 y cant ar gyfer cyfanswm Prydain Fawr. Derbyniodd Cymru a'r Gororau 9.4 y cant o arian net gan y Llywodraeth o ran ardal masnachfraint. O blith holl linellau Prydain Fawr, yng Nghymru oedd y gwariant mwyaf fesul teithiwr, sef 43c y cilomedr. Derbyniodd Cymru dros 5 y cant o wariant gwella Network Rail GB fesul llinell, a derbyniodd Cymru bron i 10 y cant o gyfanswm cyllid Llywodraeth gweithredwyr masnachfraint trenau a Network Rail—[Torri ar draws.] Wrth gwrs. Nick Ramsay AC: [Anghlywadwy.]—ystadegau ar flaenau eich bysedd. Huw Irranca-Davies AC: Nac oes, nac oes—dim ystadegau o gwbl. Dim ond fel fy mod i'n glir pan rwyf yn trafod hyn gyda'm hetholwyr fy hun, Mark, rydych chi'n cyflwyno dadl argyhoeddiadol bod Cymru'n cael mwy na'i chyfran deg o fuddsoddiad seilwaith rheilffyrdd o gronfa'r DU. Ai dyma safbwynt y Blaid Geidwadol mewn difrif calon? Oherwydd bydd hynny'n cael lle amlwg a blaenllaw ar fy holl lythyrau a anfonir at fy etholwyr: 'Mae gennym ni fwy na'n cyfran deg, fe ddylem ni fod yn ddiolchgar am yr hyn a gawn ni.' Ai dyna mewn gwirionedd yr hyn y mae'n ei ddweud? Mark Isherwood AC: Dyma'n wir yr hyn y mae adroddiadau blynyddol y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd yn ei ddweud, sydd, rwy'n credu, yn annibynnol o'r Llywodraethau yma ac yn y DU. Yn ei ddatganiad ar 10 Rhagfyr, dywedodd y Gweinidog fod rhagolwg Adran Drafnidiaeth y DU ei hun yn dangos y byddai HS2 yn achosi £200 miliwn o ddifrod economaidd blynyddol i economi de Cymru. Y ffynhonnell ar gyfer hyn yw'r gwaith a wnaeth yr Athro Mark Barry i Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae adroddiad yr Athro Barry hefyd yn dyfynnu dadansoddiad KPMG, a oedd yn amcangyfrif y gallai cynnyrch domestig gros y gogledd elwa o £50 miliwn y flwyddyn o ganlyniad i HS2. O gofio bod y Gweinidog hefyd yn Weinidog dros y gogledd, mae angen inni wybod, felly, ble mae ei flaenoriaethau. Cyflwynwyd cais Bargen Twf Gogledd Cymru i Lywodraethau Cymru a'r DU ym mis Ionawr 2018. Deellir bod penawdau'r telerau i'w cytuno arnyn nhw erbyn diwedd mis Chwefror. Fis Hydref diwethaf, nodwyd yn 'Gweledigaeth Twf Gogledd Cymru - Dogfen Gynnig' gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru: 'Ceisir pwerau a chyfrifoldebau newydd i hwyluso twf mewn meysydd polisi allweddol megis trafnidiaeth a chyflogaeth. Mae ein hymagwedd yn hyrwyddo rhanbartholdeb a datganoli'. Mae'n datgan hefyd: 'Nid yw'r rhwydwaith rheilffyrdd yn cefnogi twf economaidd rhanbarthol yn effeithiol. Mae llai na 1% o deithiau i'r gwaith yn cael eu gwneud ar y rheilffordd... Sefydlwyd yr ymgyrch Growth Track 360 er mwyn adnabod blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi...mewn isadeiledd ac mewn gwasanaethau ychwanegol hefyd...Yn benodol, mae gwelliannau i gyflymder y lein ar hyd arfordir y Gogledd, gwelliannau lein Wrecsam i Bidston a gwelliannau capasiti gorsafoedd Caer a Wrecsam yn flaenoriaethau.' Mae'n galw unwaith eto ar i Lywodraeth Cymru gefnogi ffurfio corff trafnidiaeth rhanbarthol yn y gogledd, gyda phwerau ac arian wedi ei ddirprwyo i'r corff er mwyn caniatáu iddo weithredu mewn capasiti gweithredol. Er bod y Gweinidog wedi dweud wrthyf yn y Siambr hon ei fod yn croesawu'r cynnig yn fawr i greu corff trafnidiaeth rhanbarthol, dywedodd wrth y Cynulliad hwn hefyd ei fod wedi gofyn i Drafnidiaeth Cymru gyflwyno cynigion ar gyfer cael swyddfa yn y gogledd. Felly, pa un sydd i fod, Gweinidog? Cyfarwyddyd o'r brig gan Lywodraeth Cymru, neu wneud penderfyniadau yn rhanbarthol? Er bod y Gweinidog wedi dweud wrthym ni y byddai paratoi manwl yn sicrhau trawsnewid gwasanaethau pan fyddai Trafnidiaeth Cymru yn derbyn y cyfrifoldeb am fasnachfraint Cymru a'r Gororau fis Hydref diwethaf, cafwyd ymddiheuriad am yr oedi a'r diddymu gwasanaethau a fu yn y gogledd ym mis Tachwedd. Dywedwyd wrthyf gan ffynhonell ddibynadwy mai'r achos oedd prinder offer a darnau sbâr a diffyg mynediad at durniau olwyn oedd yn deillio o fethiant y gweithredydd i'w darparu mewn da bryd. Fis yn ddiweddarach, cysylltodd un o'm hetholwyr â mi ynghylch problemau parhaus ar linell Shotton i Wrecsam, gan ddweud, 'Maen nhw'n beio storm Callum yn rhan o'r esgus, ond roedd hynny chwe wythnos yn ôl'. Fis diwethaf, ysgrifennodd Cymdeithas Defnyddwyr Rheilffordd Bidston Wrecsam gan ddweud mai'r rheswm ymddangosiadol pam fod nifer y teithwyr i'w weld yn sylweddol is oedd oherwydd yr amharu sylweddol a fu yn fuan ar ôl i'r gwasanaeth drosglwyddo i Wasanaethau Rheilffordd Trafnidiaeth Cymru. Felly, yn lle bwrw'r bai, dylai'r Gweinidog ganolbwyntio eto ar y mater hwn. Jenny Rathbone AC: Mae yna chwe blynedd ers adroddiad Mark Barry, 'Metro ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Cymru', ac mae yna dair blynedd ers i fwrdd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd gyhoeddi, 'Sbarduno Economi Cymru', a oedd yn dadlau y gallai system drafnidiaeth integredig, fyddai'n cyd-fynd â chynllunio'r defnydd o dir, fod yn gatalydd ar gyfer newid economaidd ar draws y rhanbarth. Mae'n dadlau mai'r hyn sydd ei angen arnom ni yw rhwydwaith drafnidiaeth gyhoeddus fodern, o ansawdd uchel, amlfodd ac integredig, a'r hyn yr oedden nhw'n ei ddweud oedd nad oedd angen rhagor o ffyrdd arnom ni. Un bore'r wythnos diwethaf, teithiais i ymweld â fferm ym Mro Morgannwg—ar hyd yr A4232, rwy'n credu mai dyna enw'r ffordd—ac roeddwn i'n rhyfeddu o ddifrif o weld y tagfeydd diddiwedd oedd yn dod i mewn i Gaerdydd am naw o'r gloch y bore. Beth oedden nhw'n ei wneud? Y rheswm eu bod nhw'n eistedd yno'n eu ceir yw am nad oes yna wasanaeth rheilffordd digonol, na gwasanaeth tram, i'w galluogi i wneud y peth iawn iddyn nhw eu hunain ac i'w plant, sef cymudo ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae'n rhaid mai hyn yw'r dewis amgen realistig i'r cynigion Brenin Caniwt a glywir dro ar ôl tro gan Paul Davies a Mark Reckless, sef adeiladu mwy o ffyrdd, gan y bydd hynny'n arwain at fwy o geir a mwy o dagfeydd yn ystod oriau brig. Nid dyna'r ateb, ac ni allwn ni fforddio gwneud hynny, gan ein bod yn gwybod fod llinell reilffordd yn costio'r un faint â thraffordd, ond mae'n cludo rhwng wyth ac 20 gwaith yn fwy o bobl. Felly, yn amlwg, mae rheilffordd yn well ateb na ffyrdd. Ond mae angen i ni gael atebion gwirioneddol glir i'r problemau cymudo sy'n bodoli o amgylch Casnewydd, ac mae angen i ni hefyd gysylltu Maesteg, Glynebwy a llinellau Bro Morgannwg gyda gweddill Prifddinas-ranbarth Caerdydd, gan nad yr ateb yw dewis rhwng un peth a'r llall. Nid ydym ni eisiau gweld pawb yn dod i ganol y ddinas; rydym ni angen i bobl allu teithio mewn modd rhagweladwy lle maen nhw'n gwybod eu bod nhw'n mynd i gyrraedd ar adegau penodol, a dyna lle mae'r ffyrdd bob amser yn methu, a ble bydd rheilffyrdd a thramiau yn ennill. Felly, fe hoffwn i holi ychydig mwy ynghylch cyflymder y newid y mae Network Rail yn mynd i allu ei ddarparu, oherwydd rwy'n credu, Ken Skates, eich bod wedi ysgrifennu at reolwr gyfarwyddwr llinellau Network Rail ddiwedd 2016, oherwydd fe ddywedwyd wrthych chi y byddai'n cymryd 28 mlynedd i glirio'r ôl-groniad o waith sydd ei angen i gael system Cymru at y safon ofynnol, o ganlyniad i'r lefel buddsoddiad gwirioneddol echrydus o wael y buom ni'n ei gael gan Lywodraeth y DU. Nodaf hefyd bod yr Athro Calvin Jones, athro economeg yn Ysgol Fusnes Caerdydd, wedi dweud yn gyhoeddus y gallai gymryd degawdau i gael y metro sydd ei angen arnom ni. Mae'n dweud bod hwn yn brosiect fydd yn cymryd o leiaf 15 i 20 mlynedd. Hoffwn ddadlau fod angen inni gael Llywodraeth yn Llundain sy'n deall mai'r rhannau o'r DU sydd angen buddsoddi ynddyn nhw yw lleoedd fel Gogledd-ddwyrain Lloegr a Chymru, sydd wedi eu hamddifadu o arian, yn hytrach na rhoi'r arian i HS2 sy'n ddrud iawn, iawn ac sydd ond yn gwobrwyo'r ardaloedd sydd eisoes yn ffynnu. Felly, rwyf eisiau holi ymhellach am un neu ddau o bethau. Un ohonyn nhw yw'r ddadl dros reilffyrdd ysgafn, gan nad yw topograffi a'r nifer o arosfannau sydd ar reilffyrdd y Cymoedd byth yn mynd i allu sicrhau'r cyflymder, na'r amlder, y mae arnom ni eu hangen yn y gwasanaethau os ydym ni eisiau annog pobl i ddefnyddio'r rheilffyrdd yn hytrach na'u ceir mewn gwirionedd, ac rwy'n synnu ein bod yn parhau i drafod y dewis o gerbydau rheilffordd trwm, oherwydd er mwyn gwneud y rheilffyrdd neu'r tram yn gystadleuol, dyweder, i Ferthyr, mae'n rhaid i chi sicrhau bod amser y daith yn cael ei gostwng i 40 munud os ydych chi'n mynd i ddadlau'r achos hwnnw. Bydd rhwydwaith reilffyrdd ysgafn yn rhatach i'w redeg, gan arbed miliynau dros y blynyddoedd o bosib, a bydd hefyd yn defnyddio llai o drydan, sy'n golygu llai o allyriadau carbon. A'r peth arall y byddwn yn falch o'i glywed gan y Gweinidog yw ynghylch y cynlluniau ar gyfer y pedair llinell hollbwysig hynny sy'n rhedeg rhwng Caerdydd a Chasnewydd, gan fod dwy ohonyn nhw, yn amlwg, angen eu cysylltu â'r brif reilffordd rhwng Abertawe, Caerdydd a Llundain, ond am y ddwy linell arall: pam na fellir eu defnyddio ar gyfer gwasanaethau cymudo, i Gasnewydd i Lynebwy, ac ati? Mae'n ymddangos i mi fod yna wasanaethau yr ydym ni mewn gwirionedd yn eu hanwybyddu pan fôn nhw eisoes yn bodoli, a byddai hyn yn rhoi amser i ni greu'r tramleiniau yn yr ardaloedd hynny lle mae gwir angen amdanyn nhw. Cofiwch nad oes car gan 25 y cant o gartrefi. Felly, mae'r syniad hwn o greu rhagor o ffyrdd yn eu heithrio nhw ac yn eu gwneud yn dlotach fyth. Mae'n rhaid i ni wneud i'r system drafnidiaeth gyhoeddus weithio i bawb, ac felly mae angen gwasanaethau rheilffyrdd gwell arnom ni, ond mae angen gwell gwasanaethau tramiau a bysiau arnom ni hefyd. David J Rowlands AC: Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud sawl peth y byddem ni yn UKIP yn ei feirniadu. Fodd bynnag, teimlwn fod gennym ni ddyletswydd i bobl Cymru i gefnogi Llywodraeth Cymru lle'r ydym ni o'r farn fod eu gweithredoedd, ar y cyfan, wedi bod yn briodol. Roedd dechrau masnachfraint rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru fis Hydref y llynedd yn adeg allweddol i ddyfodol trafnidiaeth gyhoeddus Cymru. Ni ragwelodd masnachfraint 15 mlynedd y gweithredwr blaenorol unrhyw dwf yn nifer y teithwyr. Roedd y dybiaeth hon yn rhy isel o lawer, oherwydd cynyddodd nifer y teithwyr bob blwyddyn yn ystod cyfnod y fasnachfraint ddiwethaf, a arweinodd, yn anochel, at orlenwi cronig, yn enwedig ar linellau craidd y Cymoedd. Roedd proses y fasnachfraint newydd yn orchwyl anferth i Lywodraeth Cymru, ac mae arnom ni yn UKIP eisiau talu teyrnged i waith y Gweinidog, Ken Skates, a'i adran yn sicrhau masnachfraint sy'n addo darparu trenau newydd, cynyddu cysylltedd a gwella cyfleusterau i deithwyr. Yn wir, mae llawer i edrych ymlaen ato yn y blynyddoedd i ddod. Mae'n ymddangos bod cyfiawnhad llwyr dros ddefnyddio'r broses ddeialog gystadleuol. Er i'r dyddiau cyntaf o dan y gweithredwr newydd fod yn lled simsan, efallai, gyda'r oedi a'r canslo gwasanaethau a achoswyd oherwydd diffyg cerbydau, mae'n bwysig nodi nad oedd newid mawr byth yn mynd i ddigwydd dros nos. Cymharwch y dechreuad sigledig hwnnw, fodd bynnag, â pherfformiad yr wythnos diwethaf, pan oedd rhannau helaeth o Gymru o dan flanced o eira ac roedd llawer o'r trenau yn rhedeg ar amser neu gyda'r lleiafswm o oedi. Credaf mai un o'r materion y mae hyn yn ei amlygu yw bod gweithredwyr y rheilffyrdd—y gorffennol a'r presennol—wedi bod yn cerdded llinell fain o ran cerbydau. Dim ond tri chwmni prydlesu trenau sydd yn y DU. Mae hyn, ynghyd â'r prosiectau trydaneiddio yn Lloegr sydd wedi'u gohirio, yn golygu na all unedau diesel gael eu dosbarthu'n helaeth, mae hyn wedi gwneud caffael cerbydau newydd neu hyd yn oed rai wedi'u hadnewyddu yn anodd dros ben, yn enwedig yn y tymor byr. Bydd cyhoeddiad y Gweinidog ynghylch pum trên pedwar-cerbyd dosbarth 769 i redeg ar linellau Cymoedd y De, ynghyd â chyflwyno trenau dosbarth 230 wedi'u hailadeiladu, yn rhoi cymorth tymor byr cyn y gellir dod o hyd i, a darparu, trenau newydd. Os cyfunwn y gwahanol brosiectau metro, megis y gorsafoedd sydd wedi'u hadnewyddu'n llwyr, ac, mewn rhai achosion, gorsafoedd newydd, dylai teithwyr weld gwelliannau trawsnewidiol yn ystod oes y fasnachfraint newydd. Er ein bod yn edrych ymlaen at y gwelliannau hyn, rydym ni hefyd yn bwriadu dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am weithredu hynny. Wrth gwrs, mae'n deg dweud bod rhwydwaith rheilffyrdd Cymru wedi dioddef o ddiffyg buddsoddiad dros gyfnod hir. Mae Llywodraethau olynol San Steffan, o bob lliw, wedi cyfrannu at hyn, ac ni welaf fod unrhyw fudd bwrw bai ar wleidyddiaeth y gorffennol ar hyn o bryd. Bellach, mae angen i'r DU a Llywodraeth Cymru weithio gyda'i gilydd i hybu gwelliannau. Am y rheswm hwn, Dirprwy Lywydd, rwy'n croesawu'r adroddiad gan yr Athro Mark Barry ynglŷn â'r ddadl dros fuddsoddi yn y rhwydwaith rheilffyrdd yma yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn dadlau'n frwd dros weddnewid y rhwydwaith rheilffyrdd ar draws Cymru gyfan, nid yn unig ardaloedd cymudo y de a'r gogledd. Ar y cyfan, rwy'n credu y dylem ni hefyd fod yn gadarnhaol am adolygiad Williams. Rwy'n obeithiol y bydd yn rhoi sylw eang ac annibynnol i ddyfodol y rheilffyrdd ledled y DU, heb orfod troi at bwyntio bys at bwy sydd ar fai am fethiannau'r gorffennol. Yn fy nhyb i, y peth pwysicaf i gyd yw ailennyn hyder y cyhoedd yn rheilffyrdd y dyfodol. A siarad yn fras, mae rheilffyrdd y DU yn cael gwir ddadeni, gyda chynnydd yn nifer y teithwyr a nwyddau yn arwain at lai o geir a lorïau ar ein ffyrdd. Ni allwn ni adael Cymru ar wahân. Nid oes unrhyw ffin galed rhwng Cymru a Lloegr, ac, wrth gwrs, mae llawer o ganghennau ar ein rhwydwaith yn ymestyn i Loegr. Felly, beth bynnag a fydd yn cael ei argymell gan adroddiad Williams yn y pen draw, byddem ni ar y meinciau hyn yn annog Llywodraeth Cymru i weithio'n adeiladol ac ar y cyd â Llywodraeth y DU i ddarparu rhwydwaith rheilffyrdd sy'n wirioneddol gwasanaethu pobl Cymru. Byddwn, wrth gwrs, yn cefnogi Llywodraeth Cymru wrth iddi bwyso i weithredu canfyddiadau adolygiad Williams yng Nghymru. Ni allaf adael i'r foment yma fynd heibio, Dirprwy Lywydd, heb orfod gwrth-ddweud y sylwadau a wnaed gan yr Aelod dros Flaenau Gwent pan ddywedodd fod cyswllt rheilffordd i mewn i Gasnewydd yn hollol ddiangen. Nid dyna rwy'n ei glywed gan bobl ar lawr gwlad. Maen nhw'n awyddus iawn i gael y cysylltiad hwnnw. Pam y dylid trin dinas Casnewydd yn eilradd o'i chymharu â Chaerdydd? Mae'n sylw ofnadwy gennych chi—[Torri ar draws.] Gallwch wrth gwrs—Ildiaf. Alun Davies AC: Rydych chi newydd ddweud ei fod yn sylw ofnadwy o ran sôn am Gasnewydd. Roeddwn yn canolbwyntio yn fy sylwadau ar bobl Blaenau Gwent, yr wyf yn eu cynrychioli. David J Rowlands AC: Wel, wrth gwrs, wn i ddim a oeddech chi'n siarad mewn gwirionedd â phobl Blaenau Gwent, oherwydd yn sicr nid hynny mae pobl Blaenau Gwent yn ei ddweud wrthyf i. Maen nhw eisiau cysylltiad i mewn i Gasnewydd yn union yr un ffordd ag y maen nhw eisiau cysylltiad i mewn i Gaerdydd. Dyna'r gwir amdani. Rhianon Passmore AC: Rwy'n croesawu'r ffaith fod Llywodraeth Cymru yn dod â'r mater o ddyfodol rheilffyrdd Cymru ger bron y Senedd er mwyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ei drafod. Yn Islwyn, un o ganlyniadau mwyaf gweladwy datganoli yng Nghymru yw ailsefydlu'r llinell reilffordd i deithwyr rhwng Glynebwy a Chaerdydd gan Lywodraeth Cymru. Croesawyd hyn yn fawr fel gwelliant trafnidiaeth a buddsoddiad sylweddol. Mae rheilffordd Glynebwy wedi bod yn hynod boblogaidd, ac mae cymunedau yn Islwyn, megis Trecelyn, Crosskeys, Rhisga a Phont-y-meistr wedi elwa'n uniongyrchol. Hefyd mae'n gas gennyf anghytuno â fy nghyd-Aelod gynt, Alun Davies AS, ond, fel yr Aelod Cynulliad dros Islwyn, rwyf yn edrych ymlaen, ynghyd â fy etholwyr, at y gwasanaeth a addawyd ar linell Glynebwy a fydd yn cludo pobl Gwent yn uniongyrchol i'n dinas fwyaf, sef Casnewydd. Rwyf yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth mae Llywodraeth Cymru, ac yn benodol Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates, wedi'i rhoi i'r alwad gan Aelodau Cynulliad Gwent i wneud hyn yn bosib—[Torri ar draws.] Mae gen i lawer i'w ddweud felly yn anffodus, na. Mae hyn yn cyferbynnu'n llwyr ag esgeulustod Llywodraeth y DU o ran trydaneiddio—ymhell ar ei hôl hi, ac yn dal heb ei gyflawni. Rwy'n gwybod fod llawer o waith eto i'w wneud â'n gwasanaethau rheilffordd yn Islwyn. Yn rhy aml o lawer, mae etholwyr wedi cysylltu â mi, yn wyllt gacwn gyda'r gwasanaeth gwael yr oedden nhw'n ei gael o'r blaen gan Drenau Arriva Cymru wrth iddyn nhw ddod â'u masnachfraint i ben. Yr unig fodd o fynd i'r afael â'r cwynion am drenau gorlawn yw buddsoddi'n sylweddol mewn cerbydau a'r llinell ei hun i gynyddu nifer y gwasanaethau sy'n rhedeg bob awr, a hefyd i gynyddu nifer y cerbydau. Eto, felly, rwy'n galw am hyn ar linell Glynebwy, Gweinidog. Wrth inni drafod y mater hwn, fodd bynnag, mae'n hanfodol ein bod yn cydnabod ac yn realistig nad yw seilwaith y rheilffyrdd wedi'i ddatganoli ar hyn o bryd. Ar hyn o bryd, mae dewisiadau a blaenoriaethau o ran buddsoddi mewn seilwaith rheilffyrdd Cymru yn cael eu pennu gan Lywodraeth y DU ar ran Cymru. Does ond angen i chi edrych ar benderfyniad gwarthus Llywodraeth Dorïaidd y DU i gefnu ar eu haddewidion i drydaneiddio prif reilffordd De Cymru i Abertawe i ddeall nad oes gan Lywodraeth Dorïaidd y DU les pennaf Cymru a'n pobl mewn golwg. Canfu'r Athro Mark Barry, arbenigwr trafnidiaeth enwog yn y maes hwn, ynghyd â'r ddogfen 'Y Rhwydwaith Rheilffyrdd yng Nghymru: Yr Achos dros fuddsoddi', ac fe wnaf i ailadrodd, y cafodd Cymru ei llwgu o arian gan fwy na £1 biliwn rhwng 2011 a 2016. Felly, cymharwn hyn â haelioni Llywodraeth Dorïaidd y DU yn buddsoddi mwy na £50 biliwn yng nghynllun High Speed 2 ac, o bosib, £30 biliwn i Crossrail. Rydym ni'n gwybod fod yr arian ar gael. Gofynnwch i Blaid yr Unoliaethwyr Democrataidd. Er na fyddwn i erioed yn gwarafun unrhyw fuddsoddiad mewn cymunedau ledled y Deyrnas Unedig, mae'n rhaid cael cydraddoldeb a thegwch wrth flaenoriaethu'r cymunedau y mae'r Llywodraeth yn eu cefnogi. Rydym ni'n gyfarwydd iawn â pharodrwydd dideimlad y Torïaid i drin cymunedau yn wahanol yn ôl eu mympwy, a bod y tlotaf oll yn ein cymunedau wedi dioddef polisïau niweidiol cyni yn anghymesur ers 2010. Mewn cyferbyniad llwyr, ni fydd Llywodraeth Lafur Cymru a'r Blaid Lafur, yn anghofio am ein cymunedau. Mae Darren Shirley, Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas y Wasg wedi datgan Dylai'r Llywodraeth fuddsoddi mewn rhaglen genedlaethol o ymestyn y rheilffyrdd i helpu cymunedau difreintiedig ac i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol; lleihau allyriadau carbon a llygredd aer; a chreu lleoedd sy'n well ac yn fwy iach i fyw ynddynt. Rwy'n credu ei fod yn llygad ei le, ac mae Mick Cash, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr RMT, yn ei gefnogi. Felly, mae Llywodraeth Cymru ar ochr gywir hanes gyda'n hawydd uchelgeisiol ar gyfer rheilffyrdd Cymru, ac mae'n bryd i Lywodraeth Dorïaidd y DU ganiatáu i Lywodraeth Cymru newid Deddf Rheilffyrdd 1993, Deddf aflwyddiannus Llywodraeth Major sy'n atal gweithredwyr yn y sector cyhoeddus rhag gwneud cais i redeg ein gwasanaeth rheilffyrdd. Yn ddi-os, mae hi'n hen bryd i Lywodraeth Dorïaidd hollol ddi-drefn y DU gefnogi cynlluniau uchelgeisiol Llywodraeth Cymru ar gyfer rhwydwaith rheilffyrdd Cymru o ran y penderfyniadau gwleidyddol y maen nhw'n eu gwneud a'r cyfraniadau ariannol sydd dirfawr eu hangen gan y Trysorlys. Felly, galwaf ar Lywodraeth y DU i anrhydeddu eu haddewidion i Gymru. Diolch. Huw Irranca-Davies AC: Yn fy nghyfraniad byr at y ddadl hon, a gaf i ddechrau drwy gytuno â'r rhan o'r gwelliant sy'n cyfeirio at adolygiad rheilffyrdd Williams, sy'n sôn am drosglwyddo perchnogaeth seilwaith rheilffyrdd Cymru, setliad cyllideb teg yn ymestyn i welliannau reilffyrdd, y gallu i ddewis o blith amrywiaeth o fodelau ar gyfer darparu gwasanaeth rheilffordd i deithwyr, a'r ffaith y byddem ni'n symud i fodel nid-er-elw neu fodel perchnogaeth gyhoeddus, sef, yn fy marn i, yr hyn y byddai'r rhan fwyaf o aelodau'r cyhoedd bellach yn ei gefnogi'n llwyr, ac ati? Felly, roeddwn i eisiau agor â hynny. Ond mae hi yn werth myfyrio ar adroddiad Mark Barry. Fel y soniodd fy nghyd-Aelod gynnau, er gwaethaf protestiadau gan gyd-Aelodau Ceidwadol yma yn y Siambr hon heddiw, roedd hynny'n amlwg yn amlygu'r £1 biliwn o danariannu o fewn cyfnod o ddim ond pum mlynedd rhwng 2011 a 2016. Mae hynny'n sylweddol. Gadewch imi esbonio realiti hynny wrthych, oherwydd yn fy etholaeth i, mae'r drwgenwog bellach, rwyf yn cofio—. Mae Dennis Skinner yn enwog am lawer o bethau. Ni fydd rhai pobl yn sylweddoli ei fod yn arfer codi ar ei draed yn y Senedd yn rheolaidd gan ddadlau dros adnewyddu canolfan chwaraeon yn ei ardal. Rwyf yn sefyll yn rheolaidd ac yn dadlau dros linell Maesteg a dolen Tondu, sydd bellach, yn fy marn i, yn dod yn rhan o groniclau'r Senedd hon fel rhywbeth sy'n cael ei ailadrodd dro ar ôl tro. Pryd ydyn nhw'n mynd i ddatrys dolen Tondu? Wel, yn y diwedd, cafodd Dennis Skinner hynny ar ôl 20 mlynedd. Fe wnaf i ddweud wrthych chi'r rheswm pan nad ydym ni wedi datrys hynny: oherwydd yr oedd buddsoddiad i fod i ddigwydd i uwchraddio blwch signalau Tondu yn ddigidol tua 10 neu 15 mlynedd yn ôl, a dygodd Network Rail UK yr arian i ffwrdd yn syth i Lundain ar gyfer buddsoddiad yn y de-ddwyrain. Oherwydd hynny, mae gennym ni ddyn sy'n dod i lawr o'r hen flwch signalau Fictoraidd gydag allwedd yn ei law, ac yna'n ei throsglwyddo. Oherwydd hynny, ni allwn ni gael gwasanaeth bob hanner awr i Faesteg, i Garth, i ffordd Ewenni a'r holl wasanaethau ar y ffordd, oherwydd bod gennym ni ddyn yn dod i lawr o'r blwch reilffordd Fictoraidd i drosglwyddo'r allwedd, oherwydd cafodd y buddsoddiad ei ddwyn ar gyfer buddsoddi yn y de-ddwyrain. Ac, er gwaethaf protestiadau cyd-Aelodau Ceidwadol gyferbyn, dyna'n union beth sydd wedi bod yn digwydd, ac yn yr ysbryd o gydweithio a phartneriaeth â Llywodraeth y DU, byddwn yn dweud mai dyna beth sydd angen ei newid yn awr. Amlygir hynny yn yr adroddiad hwnnw. Rydym ni'n gweld buddsoddiad anferth o £50 biliwn yn HS2, £30 biliwn ar gyfer Crossrail. Pob lwc iddyn nhw. Mae hynny'n wych, a gallai'r Aelodau Ceidwadol gyferbyn ddweud wrthyf, 'A bydd hynny'n wych ar gyfer eich etholwyr o Bencoed a Phont-y-clun a Llanharan ac yn y blaen, ac ati, pan maen nhw'n ei ddefnyddio.' Wel, mae'r un peth yn digwydd o chwith, oherwydd pan fydd y teithwyr hynny'n teithio yma i'r de, rwyf eisiau iddyn nhw fod ar deithiau cyflym i fyny ac i lawr y brif reilffordd. Rwyf eisiau iddyn nhw gael cysylltedd y tu hwnt i flwch signalau Tondu a hyd at Faesteg er mwyn defnyddio parc antur Afan, a dod â beiciau mynydd a chyrraedd yno a gwario llwyth o arian mewn gwestai gwely a brecwast. Mae'r un peth yn wir y ddwy ffordd, mae'n rhaid imi ddweud, a'r cyfan yr ydym ni'n gofyn amdano yw am ein cyfran deg. Er gwaethaf y protestiadau, 1 y cant o fuddsoddiad yng Nghymru am 11 y cant o'r trac—dyna'r ffigurau moel. Felly, mewn ysbryd o gydweithredu, gadewch i ni gael ychydig o chwarae teg yma—gadewch inni gael ychydig o chwarae teg yn hyn o beth. Os gallwn ni gael y buddsoddiad hwnnw, yna gallwn ni wneud yn union beth sydd wedi ei amlygu yn adroddiad yr Athro Barry. Pan mae'n sôn am y syniadau hyn, er enghraifft, o gyflymu'r gwasanaeth—felly, 30 munud rhwng Abertawe a Chaerdydd—rwy'n cefnogi hynny'n llwyr. Er mwyn gwneud hynny, mae angen inni fuddsoddi mewn lleoedd fel Pencoed er mwyn cau'r groesfan a rhoi gwir fuddsoddiad y priffyrdd ar draws y bont rheilffordd sy'n mynd dros y ffordd fel y gallwn ni leihau'r tagfeydd sy'n bodoli ym Mhencoed ar hyn o bryd. Ni allwn ni wneud hynny gyda Llywodraeth Cymru yn unig—ni allwn ni wneud hynny gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr neu Gyngor Tref Pencoed. Gobeithio dyma lle bydd yr arian astudiaeth ddichonoldeb £60,000 sydd wedi ei gyhoeddi, yn ein helpu ni i gael buddsoddiad gan yr Adran Drafnidiaeth a rheilffyrdd y DU i liniaru'r tagfeydd hynny, yna byddwn yn cyflawni'r 30 munud rhwng Abertawe a Chaerdydd. I gynyddu amlder y gwasanaeth rhwng de-orllewin Cymru a Llundain—rwy'n cytuno, oherwydd pan fo fy etholwyr eisiau mynd i Lundain ar fusnes neu am noson allan ac ati yn Llundain, wel, rhagorol, ond nid yw'n mynd i wneud hynny oni bai bod gennym ni fuddsoddiad ar hyd y llinell gyfan honno yn ne Cymru ac yn y mannau hynny lle y ceir tagfeydd. Ni allwn ni wneud hynny ar ein pen ein hunain, fel Llywodraeth Cymru. Mae llawer o bwyntiau da eraill yma ynglŷn â pharcio a theithio ac yn y blaen ac ati. Felly, dim ond eisiau dweud wyf i fod gan Lywodraeth Cymru safbwynt strategol da o le y mae angen iddi fuddsoddi. Byddai fy safbwynt i yn cynnwys croesfan Pencoed a'r gwelliannau i'r bont, a fydd yr astudiaeth ddichonoldeb honno gan Lywodraeth Cymru yn gymorth i'w cyflawni. Bydd yn cynnwys cynyddu amlder ar y llinell o Faesteg i Ben-y-bont ac o Faesteg i Gaerdydd, a fydd y gofyn am y buddsoddiad hwnnw yn signalau Tondu ac yn gofyn am fuddsoddi yn y ddolen basio hefyd. Wrth gloi, Dirprwy Lywydd, gwnaed sylwadau am rai o'r mannau lle y maen nhw wedi ymgyrchu'n galed—soniodd Rhun ap Iorwerth amdano—a lle mae'r ymgyrchoedd yn dal i fynd. Wel, rydym ni wedi cadw llinell Maesteg ar agor, oherwydd i Awdurdod Lleol Llafur ddal eu tir a dweud, 'Dros ein crogi y byddwch chi'n cau'r llinell honno.' Rydym ni'n dal i ymgyrchu drosti. Yn Llanharan, rydym ni wedi ailagor yr orsaf, yn groes i'r holl dueddiadau presennol, oherwydd bod Llywodraeth Lafur Cymru, ynghyd ag Awdurdod Lleol Llafur ac Aelod Cynulliad Llafur, ac eraill, wedi cefnogi ymgyrchwyr lleol ac agorwyd yr orsaf honno. Pan gawn ni'r gwasanaeth ar y Sul ddiwedd y flwyddyn hon, bydd hynny oherwydd bod Llywodraeth Lafur wedi buddsoddi yn y ddarpariaeth i Faesteg. Pan gawn ni'r cynydd yn yr amlder—Llywodraeth Lafur unwaith eto. Byddwn yn parhau i ymgyrchu oherwydd bod hyn yn bwysig, ond mae angen i Lywodraeth y DU sefyll ochr yn ochr â ni hefyd a rhoi ychydig o chwarae teg i ni. Vikki Howells AC: Ers agor y rheilffordd Brydeinig gyntaf bron 200 mlynedd yn ôl, mae trenau wedi newid y ffordd yr ydym ni'n teithio ac yn cyfathrebu. I gymunedau fel yr un yr wyf i yn ei chynrychioli ym maes glo'r de, datblygodd y rheilffyrdd berthynas gymhleth a symbiotig â chloddio. Roedden nhw'n cynnig cyfleoedd i ddinasyddion weithio, dysgu neu fwynhau hamddena, ac mae hynny'n dal yn wir heddiw. Yn 2016-17, gwnaethpwyd dros 30 miliwn o deithiau ar y rheilffordd gan bobl yng Nghymru, a dyna'r nifer mwyaf ers y 1990au. Mae'r rheilffordd yn dal i ddarparu'r unig gyswllt trafnidiaeth gyhoeddus uniongyrchol rhwng fy etholaeth a Chaerdydd, ac eto, tra bod gwasanaethau rheilffyrdd yn cyflawni swyddogaeth mor bwysig, mae'n rhaid i ni, yn ein tro, sicrhau eu bod yn cael arian digonol a'u bod yn bodloni gofynion nid yn unig ein hetholwyr, ond hefyd pobl sy'n dod i Gymru, a'u bod yn cael eu cefnogi fel bod modd iddyn nhw fodloni nid yn unig yr anghenion presennol ond y gallan nhw ymdopi â'r galw yn y dyfodol. Fel rwy'n credu bod pob siaradwr eisoes wedi dweud, ni allwn ni wadu nad yw ein gwasanaethau rheilffyrdd wedi cael eu hariannu fel y dylent gan Lywodraeth y DU. Cytunaf yn llwyr â fy nghyd-Aelod, Huw Irranca-Davies mai'r cyfan yr ydym yn gofyn amdano yw ein cyfran deg. Ni fyddaf yn ailadrodd yr ystadegau hynny sy'n hysbys o amgylch y Siambr, heblaw am yr un ystadegyn a grybwyllwyd, rwy'n credu, gan Rhun ap Iorwerth: allan o gyfanswm cyllideb y DU, sef £12.2 biliwn, derbyniodd Cymru £198 miliwn yn unig. Gyda llaw, roedd hynny tua hanner yr hyn a fuddsoddodd Gweinidogion Cymru mewn rheilffyrdd yng Nghymru yn ystod yr un cyfnod, er nad yw'r cyfrifoldeb wedi cael ei datganoli. Wrth gwrs, mae'r tanfuddsoddi syfrdanol hwnnw yn rheilffyrdd Cymru gan Weinidogion y DU yn amlycaf pan ystyriwn eu brad o ran trydaneiddio'r rheilffordd. Eto, ni fyddaf yn sôn eto am y ddadl honno, oherwydd soniwyd amdani eisoes gan siaradwyr blaenorol. I ddiwallu anghenion presennol fy etholwyr a'u hangenion yn y dyfodol, rwyf yn falch o'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi mynd uwchlaw a thu hwnt i gefnogi gwasanaethau. Bydd penodi KeolisAmey i ddarparu masnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r Gororau yn ddi-os yn dod â manteision a chyfleoedd sylweddol, nid lleiaf yr holl fuddsoddiad gwerth £1.9 biliwn gan y gweithredwr. Ac ar gyfer beth y defnyddir y rhaglen hon o fuddsoddiad? Wel, edrychaf ymlaen yn arbennig at gynyddu capasiti ar wasanaethau llinellau'r Cymoedd. Bydd nifer y trenau rhwng Aberdâr a Chaerdydd yn dyblu felly bydd pedwar bob awr, gan ddod â mwy o gyfleoedd i fy etholwyr fwynhau teithio ac i gynyddu eu cyfleoedd economaidd. A bydd hefyd yn cynyddu nifer y gwasanaethau sy'n galw heibio gorsafoedd ar hyd y ffordd—er enghraifft, bydd gan Abercynon wyth trên yr awr. Gallai'r cynlluniau i ehangu cyfleoedd parcio a theithio fod yn gymorth mawr i gael pobl allan o'u ceir, ond mae'n rhaid i'r gwasanaethau diwygiedig ymateb i angen y cymudwyr. Ni allant fod yn ddydd Llun i ddydd Gwener, naw tan bump yn unig. Rwyf i, fel llawer o Aelodau eraill y Cynulliad, rwy'n siŵr, yn cael sylwadau mynych am brinder ac amserau anghyfleus y gwasanaethau ar ddiwrnodau gemau, er enghraifft. O ran gwasanaethau dydd Sul, roeddwn yn falch iawn o allu gweithio'n agos â'r gweithredwr blaenorol, Arriva, i wthio am gapasiti ychwanegol ar linell Aberdâr ar ddydd Sul, sydd bellach yn rhan annatod o'r amserlen newydd. Ond mae'n rhaid inni sicrhau bod trenau yn rhedeg ar yr adegau y mae pobl eu hangen os ydym ni'n mynd i gyflawni'r newid cyfrwng hwnnw sydd mor bwysig. Daw hynny â mi at gerbydau. Yn amlwg, mae cerbydau'n hanfodol ar gyfer darparu profiad diogel a chyfforddus i deithwyr a hefyd er mwyn sicrhau dibynadwyedd y gwasanaeth. Mae'r metro a'r ganolfan fyd-eang arfaethedig o ragoriaeth rheilffyrdd yn cynnig cyfleoedd cyffrous i ni, lle gall Cymru gael ei hadnabod am gerbydau arloesol yn hytrach na'r pacers toreithiog, cynhanesyddol sydd yn fwrn i ni. Ond yr her yn y cyfamser yw sut i reoli disgwyliadau cwsmeriaid yn ystod yr ychydig flynyddoedd hyny pan rydym ni'n dal i drosglwyddo i'r cerbydau newydd. Hoffwn wneud un pwynt olaf gan ein bod yn sôn am ddyfodol rheilffyrdd Cymru. Efallai ni ddaw yn syndod fy mod yn awyddus i ymestyn gwasanaethau rheilffyrdd i deithwyr yn fy etholaeth fy hun. Rwyf wedi cael llawer o awgrymiadau synhwyrol gan etholwyr ar gyfer gorsafoedd newydd, ond yn fwyaf aml oll o ran pentref Hirwaun. Mae'r llinell yn dal yno, a arferai gael ei defnyddio gan Lofa'r Tŵr, ac mae'r prosiect hwnnw wedi bod yn nod hirdymor i gynlluniau trafnidiaeth cenedlaethol di-rif. Pan gymerodd y pwyllgor economi dystiolaeth yn ddiweddar gan Drafnidiaeth Cymru, cefais fy synnu braidd gan y datganiad y gallai gymryd hyd at 20 mlynedd o bosib i ailagor y trac i Hirwaun. Rwy'n mawr obeithio nad fel hynny y bydd hi a bod modd i ni wneud cynnydd ar hyn, y byddai llawer iawn o fy etholwyr yn ei groesawu. Diolch. A gaf i yn awr alw ar Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ymateb i'r ddadl? Ken Skates. Ken Skates AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf yn falch iawn o ymateb i lawer o Aelodau sydd wedi dangos diddordeb mawr ac wedi siarad ag angerdd am y gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru ac, yn wir, ledled Prydain. Er hynny rwyf yn mynd i ymdrin yn gyntaf â'r wybodaeth ffug a rhai o'r datganiadau anghywir a wnaed ynghylch y gwasanaeth a reolir gan Trafnidiaeth Cymru a hefyd y lefelau hanesyddol o fuddsoddiad yn rhwydwaith llwybr Cymru. Yn gyntaf oll, o ran perfformiad—ac, wrth gwrs, mae hwn yn ganolog i welliannau'r Ceidwadwyr—mae'r mesurau perfformiad cyhoeddus presennol, sy'n cael eu penderfynu pan fo gwasanaeth yn gadael o fewn pum munud i'r amser cyrraedd a drefnwyd, yn dangos bod 95.1 y cant yn cyrraedd y lefel PPM presennol. Mae hynny'n cymharu'n genedlaethol â 90 y cant yn unig. Yn y cyfnod blaenorol, rhwng mis Rhagfyr a mis Ionawr, roedd 91.98 y cant yn bodloni'r lefel honno o wasanaeth, o gymharu â chyfartaledd cenedlaethol o 87.3 y cant. Hefyd, o ran achosion o ganslo ar lwybr Trafnidiaeth Cymru, cafodd 1.6 y cant o wasanaethau eu canslo o gymharu â 2.1 y cant yr adeg hon y llynedd. Yn amlwg, mae Trafnidiaeth Cymru yn darparu gwasanaethau gwell ac mae prydlondeb wedi gwella. O ran y ffigurau sy'n ymwneud â lefelau hanesyddol o fuddsoddi a lefelau o fuddsoddi yn y dyfodol, nododd nifer o Aelodau'r ffigur y mae'r Athro Mark Barry wedi ei ddyfynnu yn ei adroddiad: fe ddylem ni fod wedi cael £1 biliwn. Siaradodd nifer o Aelodau, megis Huw Irranca-Davies, ynghylch sut mae Cymru wedi'i hamddifadu o'r buddsoddiad hanfodol hwnnw. Nawr, pam mae hynny'n bwysig? Mae'n bwysig oherwydd roedd Aelodau Ceidwadol yn cyfeirio at y cynnydd yng nghyllideb Network Rail o 24 y cant dros y cyfnod rheoli nesaf. Fodd bynnag, yr hyn nad yw Aelodau yn y Siambr hon yn ymwybodol ohono efallai, yw bod y cynnydd hwnnw o 24 y cant yn y cyfnod rheoli nesaf ar gyfer gwaith cynnal a chadw ac adnewyddu yn unig, nid ar gyfer gwasanaethau newydd, llinellau newydd nac ymyriadau newydd. A gellid dadlau mewn gwirionedd na fyddai angen cynnydd o'r fath petai'r Llywodraeth wedi bod yn cynnal a chadw ein rheilffyrdd yn iawn ers 2010. Dyna, yn ei dro, sydd wedi arwain at ôl-groniad dros 28 o flynyddoedd yng Nghymru. Ac, yn wir, cafodd trenau newydd rhwng de Cymru a Llundain dipyn o sylw. Wel yn wir, fe geir trenau newydd ac maen nhw'n gyflymach, ond maen nhw'n parhau i'ch cludo chi o dde Cymru i Lundain yn yr un amser ag y byddai wedi ei gymryd ym 1977. Dyna'r ffaith, a pham hynny? Oherwydd bod ein seilwaith yn gwegian. Nawr rwy'n teimlo bod Mark Isherwood braidd yn hŷ yn awgrymu bod y gwleidyddion eraill yn ceisio cipio'r penawdau gyda'u rhethreg, ac a yw'n dadlau mewn gwirionedd bod Cymru wedi cael ei chyfran deg o fuddsoddiad seilwaith rheilffyrdd? Ar y meinciau hyn, fe fyddem ni'n dweud, dim o gwbl. Nawr, o ran HS2, gofynnodd gwestiwn am gyfeiriad ac fe roddaf i ateb uniongyrchol: mae gan HS2 y potensial i fod o fudd mawr i Brydain gyfan, yn benodol, gogledd Cymru, ond bydd yn effeithio ar dde Cymru oni bai y gwneir buddsoddiadau lliniaru ar hyd prif reilffordd de Cymru. Dyna pam yr ydym ni wedi bod yn gyson wrth ddweud wrth Lywodraeth y DU, 'Cyflwynwch yr achosion busnes ar gyfer gwella prif reilffordd de Cymru, yn enwedig rhwng Caerdydd ac Abertawe'. Soniodd Mark Isherwood hefyd am yr angen i ddatganoli penderfyniadau yn ymwneud â rheilffyrdd a thrafnidiaeth yn gyffredinol i ogledd Cymru, a gofynnodd pa bryd y byddwn ni'n gwneud datganiad. Wel, petai'n darllen y Papur Gwyn ar drafnidiaeth gyhoeddus, byddai'n gweld yr union ddatganiad am awdurdodau trafnidiaeth ar y cyd yn cael mwy o reolaeth a chyfrifoldeb o fewn y ddogfen honno, ac felly gobeithio y bydd yn cefnogi hynny. O ran y cynnig gan y Ceidwadwyr sy'n cyfeirio at dwf a bargeinion dinesig— Yn nodi maint y cyfraniad y bydd bargenion twf a dinesig Llywodraeth y DU yn eu gwneud tuag at seilwaith rheilffyrdd Cymru '— beth yw'r maint? A oes unrhyw raddfa fuddsoddi? Ym margen twf gogledd Cymru, er enghraifft, yn sicr byddem ni'n ei nodi petai buddsoddiad, ond nid wyf yn gweld ceiniog yn mynd i ogledd Cymru o ganlyniad i'r fargen twf arbennig honno. Rwy'n ymwybodol bod llawer o Aelodau wedi siarad am wasanaethau yn eu hetholaethau eu hunain, ac rwy'n falch bod Llywodraeth Lafur Cymru mewn sefyllfa i wella cerbydau, gwella gwasanaethau, cynyddu nifer y gwasanaethau, gwella prydlondeb a hefyd sicrhau bod gorsafoedd yn lleoedd mwy deniadol. Dywedodd Rhun ap Iorwerth am ei brofiadau personol wrth deithio ar y gwasanaeth cyflym rhwng y gogledd a'r de. Rwy'n credu ei fod yn dangos pam nad oedd y contract blaenorol yn addas i'r diben, pam ei fod wedi ein siomi. Mae hefyd yn dangos pam ei bod hi'n briodol i ni wario £800 miliwn ar gerbydau newydd. Rwy'n falch o ddweud y bydd trenau newydd ar y gwasanaeth rhwng y gogledd a'r de yn cael eu cyflwyno yn ddiweddarach eleni, ac y bydd tri gwasanaeth cyflym y dydd. Ond, yn drydydd, mae'n dangos pam fod y model ariannu yn ddiffygiol. Ac rwy'n credu y gallai pob un ohonom ni o amgylch y Siambr hon gytuno bod y model a fabwysiadwyd ar gyfer seilwaith ledled Prydain ers llawer iawn o flynyddoedd wedi rhoi'r flaenoriaeth i ardaloedd mwy trefol a dwys y wlad ac mae'r ardaloedd hynny, yn gyffredinol, yn ne-ddwyrain Lloegr. Nawr, rydym ni wedi dweud ein bod eisiau sicrhau ein bod yn tyfu'r economi'n gynhwysol ym mhob rhan o Gymru, ac er mwyn gwneud hynny byddwn yn cyhoeddi cyllidebau dangosol rhanbarthol i sbarduno penderfyniadau buddsoddi ar draws y rhanbarthau. Felly, fy mhwynt i i'r Aelodau hynny sydd yn petruso ynghylch pa un a ddylen nhw gefnogi'r cynnig heddiw yn syml yw: Os ydych chi'n credu y dylai Cymru gael ei chyfran deg o gyllid buddsoddi yn y rheilffyrdd, os ydych chi'n credu y dylem ni gael mwy o reolaeth dros ble y gwerir yr arian hwnnw wedyn, ac os ydych chi'n credu y dylid ei wella—gwasanaethau rheilffyrdd, seilwaith rheilffyrdd—ar hyd a lled Cymru, yna pleidleisiwch dros y cynnig os gwelwch yn dda. Y cynnig yw cytuno ar welliant 1. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, byddwn yn cynnwys yr holl bleidleisio nawr yn y cyfnod pleidleisio. Ydy'r Aelodau yn dymuno i'r gloch gael ei chanu? Mae'n rhaid inni aros am eiliad. Mae gennym ni broblem dechnegol fechan, fel y gallwch chi weld ar y sgriniau. Felly, fe arhoswn ni am funud ac yna, gobeithio—. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. 6. Cyfnod Pleidleisio Felly, symudwn yn awr at y cyfnod pleidleisio. Rydym ni'n mynd i bleidleisio ar ddyfodol rheilffyrdd Cymru. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig naw, tri yn ymatal, 31 yn erbyn, felly ni dderbynnir gwelliant 1. NDM6954 - Gwelliant 1: O blaid: 9, Yn erbyn: 31, Ymatal: 3 Gwrthodwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Symudwn yn awr at—. Mae'n ddrwg gennyf, rwyf wedi'i golli nawr oherwydd y sgriniau—. Nid yw gwelliant 1 wedi'i dderbyn, felly pleidleisiwn nawr ar welliant 2. Galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid gwelliant 2 30, neb yn ymatal, 13 yn erbyn, felly derbynnir gwelliant 2. NDM6954 - Gwelliant 2: O blaid: 30, Yn erbyn: 13, Ymatal: 0 Derbyniwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Galwaf am bleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant pedwar, pedwar yn ymatal, 36 yn erbyn, felly ni dderbynnir gwelliant 3. NDM6954 - Gwelliant 3: O blaid: 4, Yn erbyn: 36, Ymatal: 4 Gwrthodwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Galwaf am bleidlais ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant saith, naw yn ymatal, 27 yn erbyn, felly ni dderbynnir gwelliant 4. NDM6954 - Gwelliant 4: O blaid: 7, Yn erbyn: 27, Ymatal: 9 Gwrthodwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Galwaf am bleidlais ar welliant 5, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig naw, tri yn ymatal, 31 yn erbyn, felly ni dderbynnir gwelliant 5. NDM6954 - Gwelliant 5: O blaid: 9, Yn erbyn: 31, Ymatal: 3 Gwrthodwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 6, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 12, neb yn ymatal, 31 yn erbyn, felly ni dderbynnir gwelliant 6. NDM6954 - Gwelliant 6: O blaid: 12, Yn erbyn: 31, Ymatal: 0 Gwrthodwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Galwaf am bleidlais ar welliant 7, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 39, pedwar yn ymatal, un yn erbyn, felly derbynnir gwelliant 7. NDM6954 - Gwelliant 7: O blaid: 39, Yn erbyn: 1, Ymatal: 4 Derbyniwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Galwaf am bleidlais ar welliant 8, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 13, tri yn ymatal, 27 yn erbyn, felly ni dderbynnir gwelliant 8. NDM6954 - Gwelliant 8: O blaid: 13, Yn erbyn: 27, Ymatal: 3 Gwrthodwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Cynnig NDM6954 fel y'i diwygiwyd: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn condemnio'r tanfuddsoddi hanesyddol gan Lywodraeth y DU yn seilwaith rheilffyrdd Cymru a chyfleoedd a gollwyd yn ddiweddar i wella capasiti y seilwaith strategol yng Nghymru. 2. Yn tynnu sylw at y gwaith, sydd wedi’i gyhoeddi, gan yr Athro Mark Barry: ‘Y Rhwydwaith Rheilffyrdd yng Nghymru—Yr Achos dros Fuddsoddi’ a’r cynigion ynddo i wella y seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru a’r prif reilffyrdd sy’n gwasanaethu Cymru. 3. Yn cefnogi ymateb Llywodraeth Cymru i Adolygiad Rheilffyrdd Llywodraeth y DU sy’n cael ei gynnal gan Keith Williams. 4. Yn credu bod buddsoddi mewn seilwaith rheilffyrdd strategol yn hanfodol i ba mor gystadleuol fydd Cymru yn y dyfodol, waeth ar ba delerau y byddwn yn ymadael â’r UE, ac yn galw ar Lywodraeth y DU i ddatblygu amserlen ar gyfer bodloni ei rhwymedigaethau cyfredol ar gyfer y Rhwydwaith Trafnidiaeth Traws Ewropeaidd, gan gynnwys trydaneiddio prif reilffyrdd Gogledd a De Cymru yn llawn. 5. Yn nodi pwysigrwydd datgarboneiddio trafnidiaeth gyhoeddus ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i dulliau adnewyddadwy o bweru trafnidaieth gyhoeddus. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 35, neb yn ymatal, naw yn erbyn, felly derbynnir y cynnig. NDM6954 - Dadl: Dyfodol Rheilffordd Cymru, cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 35, Yn erbyn: 9, Ymatal: 0 Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwydCliciwch i weld canlyniad y bleidlais A daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch. Daeth y cyfarfod i ben am 17:14. QNR Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru Michelle Brown: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion i wella democratiaeth yng Nghymru? Mark Drakeford: The Welsh Government’s forthcoming local government and elections Bill will include measures to support our vision for democracy in Wales by extending the franchise, promoting transparency, diversity and ease of democratic participation. Alun Davies: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am drafnidiaeth gyhoeddus ym Mlaenau Gwent? Mark Drakeford: We are continuing to support and improve public transport services for Blaenau Gwent, including the very popular Ebbw valley railway. Nick Ramsay: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer hyrwyddo twf economaidd yn ne-ddwyrain Cymru? Mark Drakeford: The 'Prosperity for All' national strategy and the economic action plan set out the actions we are taking to improve and strengthen the economy and business environment across the whole of Wales. Darren Millar: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am unrhyw gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â gwahaniaethu ar sail oedran? Mark Drakeford: In addition to existing programmes designed to tackle ageism, the Welsh Government will launch our Making Rights Real campaign in the spring of this year. It will raise awareness of older people’s rights in Wales, working alongside the older people’s commissioner and others. David Rees: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hybu twf busnesau bach yng Ngorllewin De Cymru? Mark Drakeford: We support small businesses across Wales through Business Wales and the development bank. They offer bilingual advice, support and finance to help businesses start and grow. We also provide help to prepare for Brexit with a £7.5 million Brexit business resilience package. Mandy Jones: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer lles anifeiliaid yn ystod tymor y Cynulliad hwn? Mark Drakeford: The Minster for Environment, Energy and Rural Affairs set out the Government’s priorities in her statements in June and November last year. With Brexit on the horizon, we will review priorities as necessary to ensure that the welfare of animals in Wales remains paramount. Neil Hamilton: Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwella mynediad at ofal iechyd i gleifion yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? Mark Drakeford: Improved access to healthcare for patients in Mid and West Wales will be achieved through capital investment in health service infrastructure and by the development of innovative schemes across the region.
uk-hansard-senedd-cy
senedd2019-02-05
2024-06-01T00:00:00
{ "year": "2019", "language": "cy", "license": "Open Parliament Licence - https://www.parliament.uk/site-information/copyright-parliament/open-parliament-licence/" }
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:29 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. Datganiad gan y Llywydd Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Cyn i ni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod yma ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rhain wedi'u nodi ar eich agenda. Dwi eisiau atgoffa Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod yma, ac yr un mor berthnasol i'r Aelodau sydd yn y Siambr ag i'r rhai sy'n ymuno drwy gyswllt fideo. 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog Felly, yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan John Griffiths. COVID-19 yn Nwyrain Casnewydd John Griffiths AC: 1. Beth yw dadansoddiad diweddaraf Llywodraeth Cymru o nifer yr achosion o COVID-19 yn Nwyrain Casnewydd? OQ55943 Mark Drakeford AC: Lywydd, diolchaf i John Griffiths am y cwestiwn yna. Mae etholaeth Dwyrain Casnewydd, fel llawer o ardaloedd yng Nghymru, wedi gweld nifer fawr o achosion o haint coronafeirws. Cyflwynwyd cyfnod atal byr cenedlaethol i leihau cyfraddau digwyddedd ledled Cymru. Mae rhai o'r enillion a gyflawnwyd eisoes yn cael eu gwrthdroi yn y cyfnod ar ôl y cyfnod atal byr. John Griffiths AC: Prif Weinidog, rwy'n credu bod pryder ynglŷn â'r ystadegau diweddaraf, ac, yn amlwg, bydd angen i ni edrych ar hynny—bydd angen i Lywodraeth Cymru edrych yn fanwl ar hynny. Un agwedd sy'n peri pryder mawr i'm hetholwyr i yw'r amser ysgol sy'n cael ei golli. Mewn ysgolion uwchradd. er enghraifft, mae grwpiau blwyddyn cyfan yn parhau i hunanynysu pan fydd gan un o'r grŵp COVID-19, ac nid yw dysgu gartref yn gwneud iawn am yr amser coll hwnnw, a'r bobl fwyaf agored i niwed sy'n dioddef fwyaf. Mae'n ymddangos bod arferion yn wahanol o un ysgol ac un awdurdod lleol i'r llall. Felly, Prif Weinidog, a wnaiff Llywodraeth Cymru weithio gydag awdurdodau lleol, ysgolion ac undebau i geisio lleihau'r amser ysgol hwn a gollir, er enghraifft drwy edrych ar ddiogelwch mewn ysgolion, cyfyngu ar gyswllt rhwng disgyblion fel bod yn rhaid i lai ohonyn nhw ynysu pan fydd gan rywun y feirws, a threfn brofi well mewn ysgolion, i gyfyngu ar y niwed i addysg ein plant a dyfodol y genedl? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, gadewch i mi ddiolch i John Griffiths am hynna. Ac, wrth gwrs, rwy'n cytuno ag ef—mae'r ffaith ein bod ni'n gweld rhai o'r enillion a gyflawnwyd gennym ni drwy'r cyfnod atal byr yn cael eu gwrthdroi yn peri pryder, ac mae'n peri pryder arbennig gan ein bod ni'n gwybod po'r uchaf yw nifer yr achosion o coronafeirws yn y gymuned, y mwyaf yw'r effaith y mae hynny yn ei chael ar ysgolion, oherwydd y mwyaf o coronafeirws sydd o gwmpas, y mwyaf tebygol yw hi y bydd oedolion yn cael eu heintio, a phlant hefyd. Nawr, mae'n iawn bod gan awdurdodau lleol ac, yn wir, penaethiaid a chyrff llywodraethu rywfaint o hyblygrwydd i allu ymateb i amgylchiadau lleol, ond serch hynny mae hefyd yn bryder ei bod yn ymddangos bod gwahaniaeth rhwng y ffordd y mae rhai ysgolion yn trefnu eu hunain i atal yr angen i grwpiau blwyddyn gyfan fod wedi eu hynysu a bod gwahanol lefelau o risg yn dderbyniol mewn gwahanol ysgolion yng Nghymru. Nawr, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi gwneud llawer iawn i sicrhau bod staff rheng flaen a phobl sy'n gyfrifol am ysgolion yn gallu cael cyngor drwy eu timau rheoli digwyddedd lleol, drwy Iechyd Cyhoeddus Cymru, i geisio cael dealltwriaeth fwy cyffredin o'r ffordd y gellir lliniaru'r risgiau hyn. Mae'n bosibl, Llywydd, y gellir defnyddio'r profion llif ochrol newydd, gyda'u canlyniadau mwy uniongyrchol, mewn ysgolion yn y dyfodol mewn ymdrech arall i atal plant rhag gorfod hunanynysu pan ellid gwneud pethau i atal hynny rhag digwydd, am yr holl resymau a nodwyd gan John Griffiths, sydd yr un gyfres o resymau, Llywydd, pam mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi blaenoriaeth i wneud yn siŵr bod addysg ein plant yn cael ei diogelu hyd yn oed yn ystod y cyfnod anodd dros ben hwn. Laura Anne Jones AC: Prif Weinidog, yn dilyn cwestiwn John Griffiths, hoffwn ddweud bod nifer o rieni pryderus yn ardal etholaeth Casnewydd wedi cysylltu â mi hefyd, oherwydd, ar hyn o bryd, fel y mae pethau'n sefyll, mae 1,000 o ddisgyblion yn ynysu o Ysgol Gyfun Caerllion, fy hen ysgol i. Mae Blynyddoedd 7, 8, 9, 12 a 13 i gyd i ffwrdd ar hyn o bryd, sydd y tu hwnt i ddealltwriaeth mewn gwirionedd. Yn amlwg, mae'n rhaid i grwpiau blwyddyn aros i ffwrdd os oes digon o achosion a bod rheswm dros aros i ffwrdd, ond ceir ysgolion mewn siroedd eraill sydd ag un achos yn unig, fel sy'n wir yn y grwpiau blwyddyn hyn sydd i ffwrdd, lle maen nhw'n dilyn y drefn olrhain, fel yng Nghyngor Sir Fynwy, ac yn cadw 15 disgybl yn unig i ffwrdd yn hytrach na grwpiau blwyddyn cyfan. Yn amlwg, mae rhieni yn pryderu'n fawr am hyn, oherwydd mae'n amlwg ei fod yn effeithio ar eu swyddi, mae'n effeithio ar lesiant y plant, eu hiechyd meddwl, a'u haddysg, yn amlwg. Felly, byddwn yn gwerthfawrogi'n fawr pe gallech chi wneud popeth o fewn eich gallu ac efallai gwneud canllawiau'r Llywodraeth yn fwy pendant i ysgolion oherwydd ar hyn o bryd, fel y dywedasoch, mae loteri cod post enfawr mewn addysg yn digwydd yng Nghymru nawr. A hefyd, tra byddwch chi'n gwneud hynny, pe gallech chi hefyd—. Rydych chi wedi dweud wrth ysgolion yn ddiweddar, ynglŷn â gwisgo masgiau, 'Y cewch chi eu gwisgo nhw os ydych chi'n dymuno.' Efallai y dylai canllawiau'r Llywodraeth fod yn gryfach fel bod cysondeb, ym mhopeth, yn gyffredinol yng Nghymru yn ein hysgolion; mae'n ddryslyd iawn iddyn nhw. Diolch. Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, rwy'n credu bod y canllawiau ar wisgo masgiau mewn ysgolion newydd gael eu cryfhau yn ystod yr wythnos ddiwethaf, a rhoddodd y Gweinidog Addysg fwy o gyfarwyddyd i ysgolion, yn enwedig ysgolion uwchradd, ynghylch sut y gellir gwisgo masgiau mewn coridorau ac mewn mannau prysur eraill. Ond rwy'n rhannu llawer o bryderon cwestiwn yr Aelod—bod gwahanol benderfyniadau yn cael eu gwneud mewn gwahanol rannau o Gymru, er gwaethaf y cymorth cryfach y mae Llywodraeth Cymru wedi ei ddarparu fel y gall penaethiaid ac eraill gael cyngor yn uniongyrchol gan arbenigedd iechyd y cyhoedd wrth wneud y penderfyniadau anodd a heriol iawn y maen nhw'n eu gwneud; nid wyf i'n bychanu'r her y mae ysgolion yn ei hwynebu. Mae cydberthynas rhwng i ba raddau y mae coronafeirws mewn cylchrediad mewn unrhyw gymuned a'r effaith ar ysgolion, ac mae hynny yn helpu i esbonio rhywfaint o'r gwahaniaeth, ond nid yw'n esbonio'r cyfan, yn fy marn i. Rwy'n awyddus iawn bod ysgolion yn gwneud pob ymdrech yn y ffordd y maen nhw'n trefnu eu hunain yn fewnol ac yn y penderfyniadau y maen nhw'n eu gwneud i roi blaenoriaeth i gadw cynifer o bobl ifanc mewn ysgolion ag y mae'n ddiogel i'w wneud. Oherwydd fel arall, fel y dywedodd John Griffiths yn ei gwestiwn, mae eu haddysg yn dioddef, ac mae'r rhai sydd angen y cymorth hwnnw fwyaf, yn ei golli fwyaf pan nad yw ar gael iddyn nhw. Chwaraeon Tîm Amatur Mike Hedges AC: 2. A wnaiff y Prif Weinidog lunio cynllun ar gyfer dod â chwaraeon tîm amatur yn ôl yng Nghymru? OQ55907 Mark Drakeford AC: Llywydd, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer gweithgareddau chwaraeon i ddod yn ôl gam wrth gam. Mae cyrff llywodraethu cenedlaethol yng Nghymru, fel Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac Undeb Rygbi Cymru, yn darparu canllawiau a chynlluniau gweithredu penodol ar gyfer eu campau ac yn goruchwylio'r gweithgareddau a drefnir hynny. Mike Hedges AC: Rwy'n siarad fel rhywun sy'n treulio llawer o'i ddydd Sadwrn, fel rheol, yn gwylio pêl-droed a rygbi—timau lleol yn bennaf. A gaf i sôn am ddwy gamp tîm mwyaf poblogaidd y gaeaf—pêl-droed a rygbi? Pryd mae Llywodraeth Cymru yn credu y gallan nhw ddisgwyl yn realistig allu cychwyn gemau cystadleuol? Ac rwy'n sylweddoli y bydd pêl-droed yn gallu dechrau cyn rygbi, oherwydd ceir llawer mwy o gyswllt corfforol wrth chwarae rygbi. Mark Drakeford AC: Llywydd, gwn ein bod ni i gyd yn edrych ymlaen—a gwn fod Mike Hedges yn edrych ymlaen, yn yr holl bethau y mae'n eu gwneud yn lleol i gefnogi timau yn ardal Abertawe—i'r diwrnod y bydd y timau hynny yn gallu ailddechrau. Rydym ni wedi sefydlu grŵp chwaraeon cenedlaethol, drwy Chwaraeon Cymru, gan ddod â Llywodraeth Cymru, y cyrff llywodraethu ac eraill at ei gilydd, i ystyried ceisiadau gan y cyrff llywodraethu cenedlaethol i ganiatáu i gynghreiriau cystadleuol ailddechrau. Bydd y grŵp yn cyfarfod eto yfory i ystyried y gyfres gyntaf o geisiadau. Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi gofyn y dylai haen 2 cynghreiriau Cymru—sef y gogledd a'r de—ddychwelyd i gystadleuaeth gyntaf. Felly, mae gennym ni ddull yng Nghymru bellach i ddatgloi chwaraeon, pan ei bod yn ddiogel i wneud hynny. A'r cymal olaf hwnnw yw'r un pwysicaf oll, Llywydd—mai'r sefyllfa o ran coronafeirws, y sefyllfa o ran argyfwng iechyd cyhoeddus, yw'r lens y mae'n rhaid i ni ystyried yr holl geisiadau a gyflwynir ar gyfer ailagor chwaraeon amatur drwyddi. Ond mae gennym ni ddull bellach i sicrhau bod y ceisiadau hynny yn cael eu hystyried yn briodol ac yn gytbwys. Nick Ramsay AC: Prif Weinidog, roeddwn i'n falch o'ch clywed chi'n dweud eich bod chi'n edrych ar ffyrdd o—rwy'n credu mai dyma'r ymadrodd a ddefnyddiwyd gennych chi—'ddatgloi chwaraeon' yn ystod y cyfnod hwn o'r pandemig. Fel y gwyddom, yn ystod cyfyngiadau symud a chyfnodau atal byr, mae gweithgarwch corfforol a chwaraeon i gyd yn bwysig. Felly, mewn ymateb i gwestiwn cychwynnol Mike Hedges, ac os gallwn i fynd ar drywydd hyn mewn dwy ffordd, yn gyntaf oll, beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau bod pobl iau, yn arbennig, yn gallu cymryd rhan mewn chwaraeon ar hyn o bryd? Maen nhw wedi cael eu taro yn arbennig o galed, ac rydym ni'n gwybod bod materion iechyd meddwl yn effeithio ar bobl iau yn yr un modd â phobl hŷn hefyd. Ac yn ail, cefais gyfarfod diweddar yng nghwrs rasio Cas-gwent, yn fy etholaeth i, ac roedden nhw'n bryderus iawn ynghylch pryd y bydd cyrsiau rasio yn cael caniatâd i weithredu, o leiaf mewn rhyw ffordd gyfyngedig, yn y dyfodol. Felly, tybed a allech chi ateb y ddwy elfen hynny. Diolch. Mark Drakeford AC: Wel, diolch, Llywydd, a diolchaf i Nick Ramsay am hynna. Mae gan chwaraeon i blant dan 18 oed gyfres fwy haelfrydig o reolau ac mae'n fwy posibl i hynny ddigwydd, ac rydym ni wedi gwneud ein gorau i geisio sicrhau cymaint o gyfleoedd â phosibl i barhau â chwaraeon ieuenctid, hyd yn oed yn y cyfnodau anoddaf o coronafeirws. O ran ailagor cyrsiau rasio, cafwyd nifer fach o ailagoriadau arbrofol o gyrsiau rasio yn Lloegr yn gynharach yn y flwyddyn, fel y gwn y bydd Nick Ramsay yn ei wybod, a byddwn yn gweithio gyda'r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, ar lefel Llywodraeth y DU, mewn unrhyw raglen o gynlluniau arbrofol a allai ailddechrau yn Lloegr bellach. Fe wnaethom edrych yn ofalus i weld a oedd unrhyw rinwedd o gael cynllun arbrofol yng Nghymru ym maes rasio ceffylau, ond y casgliad oedd na fyddem ni, yn ôl pob tebyg, yn dysgu unrhyw beth gwahanol iawn na allem ni ei ddysgu o'r cynlluniau arbrofol a oedd yn cael eu cynnal mewn mannau eraill. Felly, byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon. Ceir rhai cynlluniau arbrofol newydd sydd yn yr arfaeth ac, os byddan nhw'n dod o hyd i lwybr i ailagor mwy o rannau o fywyd chwaraeon yn ddiogel i dorfeydd sy'n dod ac yn mwynhau rasio ceffylau a chwaraeon eraill, yna byddwn ni eisiau bod yn rhan o hynny, pan fo'n ddiogel i ni wneud hynny. Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price. Adam Price AC: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yn y flwyddyn anoddaf mewn cof byw i gynifer ohonom ni, rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn edrych ymlaen at flwyddyn newydd hapusach a, chyn hynny, at dreulio amser gyda ffrindiau a theulu dros y Nadolig. Mae dull tosturiol ond cyfrifol o lacio cyfyngiadau ar sail gyfyngedig dros gyfnod y gwyliau yn ymddangos yn synhwyrol. Fodd bynnag, mae'n hanfodol hefyd nad ydym ni'n colli'r enillion y gweithiwyd mor galed i'w sicrhau dros y misoedd diwethaf dim ond er mwyn cael pedwar neu bum diwrnod, ac felly mae'n rhaid i bobl wybod bod risg yn gysylltiedig ag unrhyw lacio hefyd, yn enwedig yng nghyd-destun y gwrthdroi, o bosibl, yr oeddech chi'n cyfeirio ato yn gynharach. A allwch chi ddweud pa fodelu gwyddonol sy'n cael ei ddefnyddio i lywio'r trafodaethau ar ddull pedair gwlad o ymdrin â chyfnod y Nadolig, a beth yw eich dealltwriaeth o effaith debygol unrhyw lacio cyfyngiadau? O gofio y bydd ymddygiad unigolion yn ffactor hollbwysig o ran penderfynu ar yr hyn fydd yn dilyn gwyliau'r Nadolig, a wnaiff Llywodraeth Cymru lansio ymgyrch gwybodaeth i'r cyhoedd, fel yr ymgyrchoedd grymus yr ydym ni'n eu gweld bob blwyddyn ar yfed a gyrru dros gyfnod yr ŵyl, gan annog pobl i ddilyn y canllawiau fel y gallwn ni i gyd fwynhau gwell 2021? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, diolchaf i Adam Price am hynna, ac rwy'n credu ei fod wedi cyfleu yn dda iawn, er bod cael cyfle, i lawer o bobl, i gyfarfod â theulu a ffrindiau dros gyfnod yr ŵyl yn bwysig iawn, bod yn rhaid i ni gydbwyso cynifer o bethau wrth ganiatáu i hynny ddigwydd. Nawr, bydd cyfarfod COBRA yn ddiweddarach y prynhawn yma, sef y cyfarfod diweddaraf rhwng pedair gwlad y Deyrnas Unedig, i lunio dull cyffredin o ymdrin â'r Nadolig, ac rwy'n obeithiol iawn y byddwn ni'n gallu gwneud cynnydd pellach ar hynny y prynhawn yma. Mae'r modelu sydd ar gael i ni yno yn dod drwy SAGE. Pan gawsom ni gyfarfod ddydd Sadwrn, fe wnaethom ni ofyn yn benodol i'r pedwar prif swyddog meddygol gyfarfod rhwng y cyfarfod dydd Sadwrn a'r cyfarfod yn ddiweddarach heddiw i roi cyngor pellach i ni ar nifer o agweddau ar lacio posibl dros y Nadolig a drafodwyd gennym ni yn y cyfarfod ddydd Sadwrn, a bydd hynny ar gael i ni y prynhawn yma. Ond, rwy'n cytuno â'r pwynt a wnaeth Adam Price y bydd yn rhaid i bobl ddefnyddio pa bynnag ryddid ychwanegol y gallwn ni ei gynnig dros gyfnod y Nadolig yn gyfrifol. Nid yw'r ffaith bod llacio yn bosibl yn gyfarwyddyd i fynd i dreulio'r holl gyfnod hwnnw yn gwneud pethau peryglus, a gofynnodd arweinydd Plaid Cymru beth fyddai effaith unrhyw lacio dros y Nadolig, ac er nad oes gen i ateb mesuradwy i hynny ar hyn o bryd, mae'r ateb cyffredinol yn eglur iawn: bydd yn arwain at fwy o ledaenu coronafeirws, oherwydd mae coronafeirws yn ffynnu pan fydd pobl yn dod at ei gilydd, a'r mwyaf o bobl sy'n dod at ei gilydd, y mwyaf o coronafeirws fydd yno. Dyna pam, Llywydd, yr wyf i wedi bod yn dadlau yn y cyfarfodydd yr ydym ni wedi eu cael dros bwyslais nid yn unig ar nifer fach o ddyddiau adeg y Nadolig ei hun, ond ar benderfyniadau y mae angen i ni eu gwneud yn y cyfnod cyn y Nadolig, a sut y byddwn ni'n ymdrin â'r canlyniadau, ac i geisio gwneud hynny ar sail gyffredin ar y cyfan hefyd. O ran yr ymgyrch wybodaeth—y cwestiwn olaf—mae gan Lywodraeth Cymru ymgyrch wybodaeth wedi'i chynllunio. Bydd yn gwneud llawer o'r pethau y soniodd Adam Price amdanyn nhw o ran ceisio gwneud pobl yn gwbl ymwybodol o ganlyniadau ymddygiad pobl, a'r ffyrdd y gallwn ni i gyd, drwy wneud y pethau iawn, wneud cyfraniad at gael Nadolig y gallwn ni ei fwynhau heb gymryd y risgiau gormodol hynny. Adam Price AC: Ddydd Sadwrn, Merthyr Tudful oedd y sir gyntaf yng Nghymru i dreialu profion torfol, ond ar yr un diwrnod, roedd yr achosion COVID fesul 100,000 o'r boblogaeth mewn cyfnod o saith diwrnod yn uwch ym Mlaenau Gwent a Chastell-nedd Port Talbot. Mae hyn yn tynnu sylw at anghysondeb ar hyn o bryd yn y ffordd yr ydym ni'n ymdrin ag ardaloedd lle ceir trosglwyddiad uchel o COVID. Pan wnaethom ni gefnogi'r cyfnod atal byr, roedd hynny ar yr amod y byddai'r system brofi ac olrhain yn cael ei huwchraddio, ei chyflymu a'i hehangu i gynnwys profi unigolion asymptomatig. Mae gwledydd annibynnol bach, fel yr ydym ni wedi sôn yn gynharach, fel Slofacia, wedi llwyddo i gyflwyno rhaglen profion torfol genedlaethol. Mae Tsieina wedi bod yn cynnal profion torfol mewn tair dinas dros y penwythnos. Hoffem ni ei weld yn cael ei gyflwyno mewn mwy o ardaloedd targed, wedi'i ategu gan daliad ynysu uwch o £800. Pryd, Prif Weinidog, fyddwn ni'n gallu troi cynllun arbrofol Merthyr yn rhaglen ehangach o brofion cyflym torfol yng Nghymru? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig atgoffa'r Aelodau, pan nodwyd Merthyr fel y man cyntaf lle byddem ni'n cynnal arbrawf profi torfol yng Nghymru, dyna oedd yr ardal â'r mwyaf o achosion o coronafeirws o bell ffordd—ac roedd hynny yn wir am fifer o ddyddiau. Mae eraill wedi ei goddiweddyd yn y cyfamser ond, wrth gynllunio, mae'n rhaid i chi ddechrau gyda'r ffigurau sydd o'ch blaen chi ar yr adeg honno. Gwn y bydd cwestiwn yn ddiweddarach y prynhawn yma, Llywydd, ond dim ond i ddweud bod dyddiau cynnar profion torfol ym Merthyr wedi mynd yn dda iawn a'u bod nhw'n deyrnged i weithredoedd sefydliadau lleol, ond hefyd dinasyddion, yn yr ardal honno. Byddwn ni'n dysgu llawer o'i wneud; gallwn fod yn siŵr o hynny. Rydym ni eisoes yn dysgu pethau o'r dyddiau cynnar iawn hyn. Ceir cynigion eisoes ar gyfer ehangu profion torfol i ardaloedd eraill. Bydd dewisiadau i'w gwneud, Llywydd, ac ni fyddan nhw'n ddewisiadau hawdd ychwaith. Cyfeiriais yn fy ateb i'r cwestiwn cyntaf at y ffaith y gallem ni efallai ddefnyddio profion llif ochrol i gynorthwyo i atal plant rhag cael cais i hunanynysu yn yr ysgol. Buom yn siarad, rwy'n credu, yr wythnos diwethaf ar lawr y Senedd am ddefnyddio dyfeisiau llif ochrol i ganiatáu ymweliadau â chartrefi gofal, a gallem ni ddefnyddio dyfeisiau llif ochrol i gael mwy o gyfle i gynnal profion torfol yng Nghymru. Ond nifer cyfyngedig sydd gennym ohonynt. Rydym ni'n disgwyl y bydd gennym ni tua 90,000 ohonyn nhw y dydd ar gael i ni yma yng Nghymru, ond bydden nhw'n cael eu defnyddio yn fuan iawn o nifer o'r dibenion yr wyf i newydd eu hamlinellu. Felly, bydd yn fater o gydbwyso. Bydd yn fater o geisio blaenoriaethu lle'r ydym ni'n eu defnyddio. Bydd mwy o gyfleoedd ar gyfer profion torfol pellach, ond bydd dibenion pwysig eraill y gellir defnyddio'r cyflenwad cyfyngedig hwnnw o brofion o'r fath ar eu cyfer yng Nghymru hefyd. Adam Price AC: Gan droi at faterion sy'n gysylltiedig â brechlynnau, lle'r ydym ni wedi cael rhagor o newyddion da yn ddiweddar, dim ond 10 diwrnod ar ôl i ni glywed y darn cyntaf o newyddion calonogol o ran y ffaith fod brechlyn Pfizer a BioNTech 90 y cant yn effeithiol mewn treialon, cyflwynodd Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth yr Alban gynllun cyflwyno cynhwysfawr i Senedd Holyrood. Yn y datganiad hwnnw, cadarnhawyd y byddai'r brechiadau cyntaf ar gael i staff iechyd a gofal cymdeithasol, preswylwyr cartrefi gofal hŷn, a'r rhai dros 80 oed sy'n byw yn y gymuned. Y cam nesaf wedyn fyddai ar gyfer y rhai dros 65 oed a'r rhai o dan 65 oed sydd mewn perygl clinigol ychwanegol, ac yna'r boblogaeth ehangach dros 18 oed. Maen nhw'n gobeithio cael 320,000 dos o'r brechlyn hwnnw i'w defnyddio yn ystod pythefnos cyntaf mis Rhagfyr, yn amodol ar gymeradwyaeth reoleiddiol, gydag uchelgais i frechu 1 filiwn o ddinasyddion erbyn diwedd mis Ionawr. Dywedodd yr Ysgrifennydd iechyd yno bod yr Alban yn barod ar gyfer mis Rhagfyr. Dim ond wythnos i ffwrdd yw mis Rhagfyr. A all y Prif Weinidog gadarnhau bod Cymru hefyd yn barod, ac os felly, pryd gallwn ni ddisgwyl gweld manylion rhaglen cyflwyno brechiadau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys llinell amser o bwy fydd yn cael eu brechu a phryd? Mark Drakeford AC: Llywydd, o ran pwy fydd yn cael eu brechu a phryd, rydym ni eisoes wedi dweud y byddwn ni'n dilyn cyngor y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio o ran blaenoriaethu. Mae'r cyngor hwnnw yn dal i gael ei fireinio ar sail y dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg o ba rai o'r brechlynnau sy'n cael eu hadrodd sydd fwyaf addas ar gyfer gwahanol grwpiau o fewn y boblogaeth. Mae gennym ni grŵp cynllunio gweithgar iawn a ddechreuodd weithio yn ôl ym mis Mai eleni ac mae wedi cyfarfod yn rheolaidd drwy gydol yr argyfwng i wneud yn siŵr ein bod ni mewn sefyllfa dda i ddefnyddio'r brechlynnau wrth iddyn nhw ddod ar gael i ni yng Nghymru. Rydym ni wedi ceisio, yn ystod yr holl argyfwng, Llywydd, dilyn y rhagosodiad sylfaenol hwn yng Nghymru, ein bod ni'n cynllunio yn gyntaf a phan fydd gennym ni gynllun yr ydym ni'n credu sy'n ddefnyddiol ac yn ymarferol, yna rydym ni'n ei gyhoeddi i bobl ei weld, yn hytrach na chyfres o uchelgeisiau nad oes modd eu cyflawni wedyn gan fod yr uchelgeisiau wedi eu seilio yn anochel ar wybodaeth nad yw mor ddibynadwy ag y mae ei hangen arnoch ar gyfer cynllun pwrpasol y gallwch chi ei gyflawni yn ymarferol. Yn y pen draw, rwy'n amau'n fawr y bydd rhestr flaenoriaethu'r Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio yn wahanol iawn i'r un y cyfeiriodd Mr Price ato gan Lywodraeth yr Alban, ond byddwn yn aros am gyfnod byr—dim ond am gyfnod byr—tan i ni gael yr wybodaeth bellach a dibynadwy honno am nifer y brechlynnau fydd ar gael i ni, natur y brechlynnau hynny, y grwpiau blaenoriaeth y byddan nhw'n cael eu darparu ar eu cyfer, ac yna, wrth gwrs, byddwn yn gwneud yn siŵr bod hynny yn cael ei gyhoeddi cyn gynted ag y gallwn ni fel nad yw pobl yng Nghymru, fel y dywedais, yn cael cyfres o uchelgeisiau ond cynllun ymarferol y gallan nhw ddibynnu arno. Arweinydd y Ceidwadwyr, Paul Davies. Paul Davies AC: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, cadarnhaodd y Gweinidog iechyd ddoe bod Llywodraeth Cymru yn ystyried cyfyngiadau COVID llymach yn y cyfnod cyn y Nadolig. A allwch chi gadarnhau pa gyfyngiadau yr ydych chi'n eu hystyried nawr, o gofio eich bod chi eisoes wedi cyflwyno cyfyngiadau ar sail awdurdodau lleol, cyfyngiadau o ran cyfyngiadau symud hyperleol, a chyfyngiadau cenedlaethol erbyn hyn? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, mae'r sail ar gyfer yr hyn a ddywedodd y Gweinidog iechyd ddoe i'w chanfod yn y ffigurau, ac rwy'n siŵr bod arweinydd yr wrthblaid wedi bod yn eu dilyn, fel yr wyf innau'n ei wneud bob dydd. Yn dilyn pythefnos a mwy o ffigurau yn gostwng ledled Cymru, rydym ni bellach wedi cael tri diwrnod yn olynol lle mae'r ffigur ar gyfer Cymru gyfan wedi codi, ac yn ffigurau heddiw, mae 17 o'r 22 awdurdod lleol yn adrodd cynnydd yn yr ystod oedran o dan 25 oed. Nawr, mae'r niferoedd yn parhau i ostwng yn yr ystod oedran dros 60 oed, ac mae hynny yn newyddion da, oherwydd o ran effaith ar y gwasanaeth iechyd gwyddom mai dyna lle mae pobl yn fwyaf tebygol o gael eu heffeithio waethaf gan y feirws. Ond rydym ni hefyd yn gwybod, o adeg gynharach yn yr hydref, bod y cynnydd cyflym a welsom ym mis Medi ac i fis Hydref wedi dechrau gyda chynnydd yn y boblogaeth iau. Felly, y cefndir hwnnw a oedd yno pan ddywedodd y Gweinidog iechyd yr hyn a ddywedodd ddoe, ac mae'n rhan o'r hyn a ddywedais wrth Adam Price, fy mod i wedi bod yn dadlau'r achos yn y cyfarfodydd yr ydym ni wedi eu cael gyda gwledydd eraill y Deyrnas Unedig am ddull gweithredu sydd wedi'i gyfochri yn fras nid yn unig ar gyfer cyfnod byr y Nadolig ond yn y cyfnod cyn y Nadolig ac yn y cyfnod ar ôl y Nadolig. Felly, rydym ni wedi dilyn yn ofalus yr hyn y mae Llywodraeth y DU wedi ei ddweud hyd yma yr wythnos hon am ddychwelyd at system haenau wedi'i had-drefnu yn Lloegr. Byddwn yn aros i gael rhagor o wybodaeth am hynny, y prynhawn yma o bosibl, ac eto ddydd Iau, ac yna, yr wythnos hon, bydd y Cabinet yn cyfarfod yn eithaf rheolaidd. Cawsom gyfarfod ddoe. Cawsom gyfarfod y bore yma. Byddwn yn cyfarfod eto cyn diwedd yr wythnos i weld a oes mesurau ychwanegol y mae angen i ni eu cyflwyno yng Nghymru, i ganolbwyntio ar natur y cynnydd yr ydym ni'n ei weld ac a fyddai'n rhoi'r aliniad bras hwnnw i ni â'r dull sy'n cael ei ddilyn gan rannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn rhan o greu'r lle hwnnw sydd ei angen ar bob un ohonom ni i ganiatáu llacio dros gyfnod y Nadolig. Paul Davies AC: Rwy'n cymryd o'r ateb yna, felly, Prif Weinidog, eich bod chi efallai'n edrych ar y posibilrwydd o gyflwyno rhyw fath o system haenau yma yng Nghymru. Wrth gwrs, ceir rhai gwahaniaethau rhwng y dulliau haenau yn yr Alban a Lloegr ac mae'n bwysig felly bod Llywodraeth Cymru yn edrych ar effaith y ddwy gyfres o gyfyngiadau seiliedig ar haenau cyn cadarnhau ei dull gweithredu ar gyfer Cymru. Nawr, mae eleni wedi bod mor anodd i gymaint o bobl, fel sydd newydd gael ei ddweud yn gynharach, a dyna pam mae hi'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn eglur i bobl Cymru sut yn union y bydd dull gweithredu newydd yn edrych a sut y bydd y cyfyngiadau hynny yn effeithio ar fywydau pobl o ddydd i ddydd. Felly, efallai y gallwch chi roi syniad i ni, Prif Weinidog, pryd y byddwch chi'n cyflwyno'r mesurau newydd hyn. A allwch chi ddweud wrthym ni hefyd pa adnoddau ychwanegol y byddwch chi'n eu darparu i gefnogi'r mesurau newydd a'r cyfyngiadau newydd hyn? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, rwy'n credu fy mod i wedi rhoi rhyw syniad, gystal ag y gallaf, i arweinydd yr wrthblaid eisoes am y llwybr gwneud penderfyniadau yr ydym ni'n ei weld o'n blaenau. Mae cyfarfod COBRA y prynhawn yma. Rwy'n cytuno â'r pwynt a wnaeth Paul Davies ynglŷn â chymryd i ystyriaeth y gwahanol ddulliau yn yr Alban yn ogystal ag yn Lloegr. Siaradais â Phrif Weinidog yr Alban unwaith eto ddoe. Ar ôl y cyfarfod heddiw, ceir cyhoeddiadau pellach y byddwn ni'n eu disgwyl yng nghyd-destun Lloegr ddydd Iau yr wythnos hon, dywedir wrthym, a fydd yn cynnig rhagor o wybodaeth i ni am weithrediad eu dull haenau. Ni fyddwn yn neidio ar unwaith, fel y gwnaeth arweinydd yr wrthblaid, i gasgliad, oherwydd bod gennym ni ddiddordeb yn y mesurau sy'n cael eu cymryd mewn mannau eraill, bod hynny o reidrwydd yn golygu y byddwn ni'n mabwysiadu dull haenau yma yng Nghymru. Cynnwys y mesurau, nid dim ond eu trefn, y bydd gennym ddiddordeb ynddo. Bydd y Cabinet yn cyfarfod unwaith eto cyn diwedd yr wythnos hon i weld a oes gwersi i ni eu dysgu o'r hyn sy'n digwydd mewn mannau eraill a dull cyffredin ledled y Deyrnas Unedig yn y cyfnod cyn y Nadolig, ac yn bwysig hefyd, yn y modd y bydd yn rhaid i bob un ohonom ni ymdrin â chanlyniadau anochel llacio, a fydd yn sbarduno cynnydd yn y coronafeirws. Mae hynny'n anochel, ac mae angen i ni baratoi gyda'n gilydd i ymdopi â'r canlyniadau. Paul Davies AC: Wrth gwrs, nid unigolion a theuluoedd yn unig sy'n awyddus i gael gwybod a fydd unrhyw newidiadau i'r cyfyngiadau yng Nghymru. Mae'n sicr y bydd busnesau ledled Cymru hefyd yn bryderus ynghylch y posibilrwydd o gyfyngiadau pellach. Mae'r cyfnod cyn y Nadolig yn gyfnod prysur, wrth gwrs, i fusnesau ym mhob sector, ac yn sgil blwyddyn anodd iawn, mae'n ddealladwy y bydd llawer yn pryderu, efallai, o glywed am gyfyngiadau pellach. Felly, mae'n gwbl hanfodol bod adnoddau a chymorth yn cael eu rhoi ar waith o flaen unrhyw newidiadau fel bod busnesau yn gallu cynllunio ac addasu eu gweithrediadau yn unol â hynny. A wnewch chi gadarnhau felly, Prif Weinidog, y bydd Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn hysbysu busnesau ledled Cymru cyn bod unrhyw gyfyngiadau newydd yng Nghymru fel bod ganddyn nhw amser i gynllunio ar gyfer unrhyw newidiadau? Ac, a allwch chi hefyd roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y trafodaethau yr ydych chi wedi eu cael gydag awdurdodau lleol yng Nghymru ynglŷn â chyflwyno cyfyngiadau newydd a pha adborth yr ydych chi wedi ei gael gan awdurdodau lleol hyd yn hyn gydag unrhyw gyfyngiadau posibl? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, rwy'n ymwybodol iawn o effaith y penderfyniadau yr ydym ni'n eu gwneud ar fusnesau yng Nghymru ac ar fywoliaeth pobl. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi swm sylweddol iawn o arian at ei gilydd yr ydym ni wedi ei fuddsoddi i geisio amddiffyn busnesau yng Nghymru rhag effaith coronafeirws—mae hynny yn ychwanegol at unrhyw gymorth sydd wedi dod gan Lywodraeth y DU. Ac mae angen i Lywodraeth y DU, gyda'r adolygiad cynhwysfawr o wariant yfory, wneud yn siŵr ei bod yn gwneud popeth o fewn ei gallu i wneud yn siŵr bod busnesau yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig mewn sefyllfa i wrthsefyll effaith barhaus coronafeirws, ac mae angen iddi wneud hynny mewn modd mwy brwdfrydig. Nid yw'r ail-gyhoeddiadau mynych gan Ganghellor y Trysorlys o'r pecyn cymorth sy'n dod gan Lywodraeth y DU wedi bod o gymorth, yn fy marn i. Rydym ni'n gwneud y gorau y gallwn ni yng Nghymru i helpu busnesau; rwy'n credu mai dull gweithredu'r Canghellor yw gwneud y lleiaf posibl y gall ei wneud heb gael ei feirniadu, a dyna'r gwahaniaeth gwirioneddol rhyngom ni. Mae trafodaethau gydag awdurdodau lleol, wrth gwrs, yn cael eu cynnal drwy'r amser. Bydd cyfarfodydd heddiw yn cynnwys y Gweinidog iechyd, y Gweinidog llywodraeth leol, y Gweinidog addysg, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac arweinyddion eraill awdurdodau lleol yng Nghymru, a'r dull partneriaeth hwnnw yw'r un sydd, yn ein barn ni, wedi llwyddo i'n cynnal ni drwy'r argyfwng hyd yma, a byddwn yn sicr, yng Nghymru, y byddwn ni'n parhau i fod wedi ymrwymo iddo. Effaith Economaidd COVID-19 Mick Antoniw AC: 3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith COVID-19 ar yr economi ym Mhontypridd a Thaf-Elái? OQ55944 Mark Drakeford AC: Llywydd, diolchaf i Mick Antoniw am hynna. Mae'r rhagolygon cyflogaeth a thwf diweddaraf yn dangos yn eglur yr effaith niweidiol y mae pandemig y coronafeirws yn ei chael ar economi Cymru a thu hwnt. Hyd yma, mae ein cronfa i fusnesau dan gyfyngiadau wedi darparu dros £7 miliwn o gymorth i 2,379 o fusnesau, sy'n cwmpasu dros 22,000 o swyddi yn Rhondda Cynon Taf yn unig. Mick Antoniw AC: Diolch am yr ateb yna,Prif Weinidog. Yn fy etholaeth i ym Mhontypridd, rydym ni wedi brwydro gyda llifogydd, sy'n taro ein heconomi a'n seilwaith yn galed, ac, wrth gwrs, rydym ni'n brwydro gyda COVID, gyda rhai o'r cyfraddau uchaf o'r haint yng Nghymru. Ac, fel miloedd lawer o bobl eraill, rwyf i wedi sefyll y tu allan i'm cartref ac wedi clapio a chymeradwyo ein gweithwyr sector cyhoeddus fel cymuned, ac rydym ni wedi cydnabod y cyfraniad hanfodol y maen nhw wedi ei wneud yn ystod y pandemig. Mae llawer ohonyn nhw wedi dioddef COVID; mae rhai wedi marw. Mae ein meddyliau gyda theulu Mark Simons, cynorthwy-ydd gofal iechyd yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg a chynrychiolydd iechyd a diogelwch Unite. Bu farw ar 10 Tachwedd ar ôl dal coronafeirws. Prif Weinidog, mae ein holl weithwyr sector cyhoeddus wedi mynd y tu hwnt i'r disgwyliad i'n cadw ni'n ddiogel ac i'n hamddiffyn ni a'n teuluoedd. Nawr, ddydd Mercher, tra bod ffrindiau'r Llywodraeth Dorïaidd yn gwneud miliynau o bunnoedd o elw o gontractau cyfarpar diogelu personol amheus, mae'r Canghellor, Rishi Sunak, yn bwriadu dweud wrth ein gweithwyr sector cyhoeddus mai eu gwobr am eu haberth fydd tair blynedd o rewi cyflogau degau o filoedd o weithwyr Cymru—dychweliad i gyni cyllidol y Torïaid. Prif Weinidog, nid yw'n rhy hwyr i ofyn i Lywodraeth y DU wneud tro pedol. Felly, a wnewch chi gysylltu â Phrif Weinidog y DU fel mater o frys a gwneud popeth o fewn eich gallu i'w annog i anrhydeddu a chydnabod cyfraniad ein holl—a phwysleisiaf 'holl'—weithwyr sector cyhoeddus yn ystod y pandemig hwn? Mark Drakeford AC: Wel, diolchaf i Mick Antoniw am hynna, Llywydd. Diolch iddo am ein hatgoffa—gwn nad yw'r Aelodau yma yn anghofio o gwbl, ond dim ond am ein hatgoffa—bod bywydau pobl go iawn y tu ôl i bopeth yr ydym ni'n ei drafod yn y fan yma. Adroddwyd dros 3,300 o farwolaethau yng Nghymru gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol heddiw, ac mae llawer o'r bobl hynny wedi bod yn weithwyr rheng flaen yn ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac mewn mannau eraill. Felly, wrth gwrs, nid yw'n rhy hwyr i annog Canghellor y Trysorlys i ddiystyru rhewi cyflogau sector cyhoeddus a darparu'r cyllid, ledled y Deyrnas Unedig, sydd ei angen arnom i ddiogelu ein hiechyd, ein swyddi, ac i gynorthwyo adferiad teg. Mae gweithwyr ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus wedi parhau i chwarae eu rhan hanfodol yng nghanol pandemig byd-eang, gan helpu i achub bywydau a chadw gwasanaethau i fynd. Dylid eu cydnabod am yr ymdrech hon ac nid eu gorfodi i dalu'r bil. Mae'r Canghellor yn dweud nad oes unrhyw ddychweliad i gyni cyllidol. Wel, rwy'n sicr yn gobeithio bod hynny'n wir o ran gweithwyr sector cyhoeddus sydd wedi bod ar flaen y gad yn yr argyfwng hwn ac sy'n haeddu cael eu cydnabod am hynny. Yn anffodus, Llywydd, dywedir wrthyf na fydd Prif Weinidog y DU yn mynychu'r cyfarfod COBRA eto y prynhawn yma. Efallai y byddech chi'n meddwl, o ystyried arwyddocâd y penderfyniadau y mae'n rhaid i ni eu gwneud yno, y gallai Prif Weinidog y DU feddwl bod honno yn sgwrs y byddai'n dewis cymryd rhan ynddi. Ond, os bydd cyfle yn codi—bydd Gweinidogion eraill Llywodraeth y DU yno, ac, os bydd y cyfle hwnnw yn codi, byddaf yn sicr yn gwneud y pwyntiau y mae'r Aelod wedi eu gwneud yn y fan hon y prynhawn yma. David Melding AC: Prif Weinidog, rwy'n pryderu yn arbennig am bobl ifanc yng Nghanol De Cymru, gan gynnwys Pontypridd, sy'n ymuno â'r farchnad lafur neu'n ceisio ymuno â hi yn ystod y cyfnod hwn, ac rwy'n credu bod gennym ni brofiad gwael iawn yn y gorffennol o bobl ifanc yn ymuno â'r farchnad lafur yn ystod cyfnod o adfyd economaidd. A byddwn yn eich annog i edrych ar y pecynnau hyfforddi a hefyd y cyllid sydd ar gael ar gyfer astudio ôl-raddedig, er enghraifft, yn ystod y blynyddoedd nesaf, oherwydd rwy'n credu y bydd angen defnyddio'r mathau hyn o raglenni, sydd o dan reolaeth Llywodraeth Cymru i raddau mwy helaeth nag yr oeddem ni wedi ei gynllunio efallai, ond bydd hyn hefyd yn helpu ein colegau addysg bellach a'r sector prifysgolion. Ond mae gwir angen cynorthwyo pobl ifanc gymaint ag y gallwn yn ystod y cyfnod hwn. Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, rwy'n cytuno â'r pwynt y mae David Melding yn ei wneud. Mae gennym ni brofiad anodd iawn yng Nghymru o genedlaethau o bobl ifanc heb ddyfodol wedi'i fapio o'u blaenau, ac yn sicr nid ydym ni eisiau dychwelyd i hynny yn yr argyfwng hwn. Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd yr Aelod—y bydd pobl ifanc a fydd yn dewis defnyddio'r cyfnod hwn i fuddsoddi ymhellach mewn datblygu eu sgiliau a'u haddysg eu hunain, fel eu bod, pan fydd pethau'n gwella, yn fwy parod i fanteisio ar hynny, a byddwn ni eisiau eu helpu nhw i wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd. Gwn y bydd yr Aelod wedi gweld y cyhoeddiad ar 11 Tachwedd, pan ddarparwyd rhagor o fanylion gennym am y cymorth y gall busnesau ei gael—a cholegau addysg bellach, wrth gwrs, o ganlyniad—i hyrwyddo prentisiaethau yma yng Nghymru. Mae busnesau yn gallu hawlio £3,000 erbyn hyn ar gyfer pob prentis newydd o dan 25 oed pan ei fod yn cael ei gyflogi am o leiaf 30 awr, a gwn y bydd David Melding yn croesawu yn arbennig y ffaith bod £1,500 ychwanegol ar gyfer unrhyw fusnes sy'n gallu cyflogi person ifanc anabl newydd fel prentis. Ar 18 Tachwedd, cyhoeddwyd y gronfa rhwystrau dechrau busnes gennym, swm o £1.2 filiwn, wedi ei thargedu yn benodol ar gyfer y bobl ifanc hynny a adawodd y coleg a'r brifysgol yn 2019 a 2020 y gallai fod ganddyn nhw syniadau eu hunain am fusnesau yr hoffen nhw geisio eu cychwyn, ond sydd angen y cymorth a'r gefnogaeth ychwanegol hynny gan y Llywodraeth er mwyn gallu gwneud hynny, a bydd y gronfa rhwystrau dechrau busnes honno wedi'i thargedu yn arbennig at y math o bobl ifanc y mae David Melding wedi tynnu sylw atyn nhw y prynhawn yma. Profion Torfol COVID-19 Dawn Bowden AC: 4. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun peilot ar gyfer profion torfol COVID-19 ym mwrdeistref sirol Merthyr Tudful? OQ55945 Mark Drakeford AC: Diolchaf i'r Aelod am hynna, Llywydd. Dechreuodd y cynllun arbrofol ddydd Sadwrn 21 Tachwedd. Mae'n cynnwys pawb sy'n byw, yn gweithio neu'n astudio yn yr ardal a'u bod i gyd i gael cynnig prawf COVID-19 yn rhan o'r profion torfol cyntaf o ardal gyfan yng Nghymru. Dawn Bowden AC: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog, ac rwy'n siŵr yr hoffech chi ymuno â mi i ddiolch i bawb sy'n gysylltiedig â logisteg, darparu a dadansoddi'r rhaglen profion torfol hon. Euthum fy hun, am brawf negyddol diolch byth, ddydd Sadwrn, a gallaf ddweud bod pawb sy'n ymwneud ag ef wedi bod yn gwbl eithriadol wrth weithio i sicrhau bod y cynllun arbrofol yn llwyddiant, ac mae hynny'n cynnwys diweddaru cwestiynau cyffredin yn gyflym, gan wneud yn siŵr y gwnaed darpariaeth arbennig ar gyfer pobl sy'n amddiffyn a phobl ag anableddau nad ydynt yn eu hamddiffyn, yr henoed, pobl fregus ac yn y blaen drwy gydol y broses hon, er ei bod yn debyg bod angen i ni roi ychydig o ystyriaeth o hyd i reoli profion ar gyfer y rhai sydd ag anableddau dysgu. Byddwn hefyd yn eich annog i ystyried profi yn y gweithleoedd mwy o faint hefyd, mae'n debyg. Ond, yn ystod y dyddiau cyntaf hyn, rydym ni wedi gweld miloedd o brofion yn cael eu cymryd gan bobl sy'n awyddus i helpu'r broses, a'r bobl hynny sydd â rheswm da dros ddod. Hyd yma, mae tua 1 y cant wedi bod yn ganlyniadau positif gan bobl sy'n asymptomatig. Yn ystod y cynllun arbrofol hwnnw, bydd hynny yn rai cannoedd o bobl a fyddai fel arall yn lledaenu'r feirws heb wybod yn y gymuned. Nawr, rydych chi eisoes wedi ateb cwestiynau cynharach am yr hyn sy'n digwydd ar ôl y cynllun arbrofol hwn a thu hwnt, felly nid wyf i'n mynd i drafod y pwyntiau hynny eto, ond, fel y gwyddoch, Prif Weinidog, mae gan fy etholaeth i ardaloedd sylweddol o dlodi ac amddifadedd, sy'n aml yn gysylltiedig â gwaith ansicr a chontractau dim oriau, sydd, fel y gwyddom, wedi bod yn rhwystr i lawer rhag dod ymlaen i gael profion. Felly, a gaf i ofyn am sicrwydd gennych chi y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid lleol i sicrhau bod profion torfol hefyd yn cael eu cynnal ymhlith y cymunedau anos eu cyrraedd hyn, gan y bydd hwn yn ffactor hollbwysig o ran sicrhau llwyddiant y cynllun arbrofol? Mark Drakeford AC: Llywydd, diolchaf i Dawn Bowden am hynna. Clywais gyfweliad llawn gwybodaeth a roddodd hi yn ystod y penwythnos, yn adrodd o reng flaen y profion ym Merthyr, ac rwy'n cytuno'n llwyr â hi am yr ymdrech tîm enfawr a gafwyd gan yr awdurdod lleol, gan y bwrdd iechyd lleol a gwasanaethau iechyd cyhoeddus, y cymorth yr ydym ni wedi ei gael drwy'r lluoedd arfog. Bu'n ymdrech ryfeddol mewn gwirionedd, ac, yn y dyddiau cynnar hyn, mae wedi cael ymateb rhyfeddol gan drigolion Merthyr Tudful hefyd. Llywydd, cododd Dawn Bowden nifer o bwyntiau, yn gyntaf oll am weithleoedd a phwysigrwydd gwneud yn siŵr bod cyflogwyr yn cyd-fynd â hyn i gyd. Mae cynnig o brawf ar gael i unrhyw un sy'n gweithio yn y fwrdeistref sirol—pa un a ydyn nhw'n byw yn rhywle arall ond yn gweithio ym Merthyr, mae prawf ar gael iddyn nhw. Byddaf yn trafod hyn yn y cyngor partneriaeth gymdeithasol, sydd i fod i gyfarfod nesaf ddydd Iau yr wythnos hon. Gwnaeth Dawn Bowden bwynt pwysig, Llywydd, am y bobl hynny sy'n fregus neu'n agored i niwed, yn amddiffyn neu sydd ag anableddau dysgu, a sut yr ydym ni'n gwneud yn siŵr eu bod nhw'n cael eu cynnwys yn y rhaglen. Rwy'n falch o ddweud fy mod i'n credu bod yr awdurdod lleol wedi ysgrifennu at bawb ar y rhestr amddiffyn heddiw yn cynnig prawf cartref iddyn nhw, sy'n golygu nad oes angen iddyn nhw adael eu cartrefi a mynd i ganolfan profi torfol. Felly, rwy'n credu bod hynny yn arwydd cryf iawn arall o'r ffordd flaengar y mae'r drefn brofi yn cael ei darparu yn yr ardal, ac wrth gwrs, Llywydd, mae Dawn Bowden yn gwneud y pwynt pwysig iawn am gyrraedd y cymunedau hynny lle mae gwasanaethau, yn gonfensiynol, yn cael yr anhawster mwyaf i gael yr effaith yr ydym ni eisiau iddyn nhw ei chael. Rydym ni'n mynd i fod yn defnyddio dulliau gwyliadwriaeth dŵr gwastraff ym Merthyr, fel y gwnaethon nhw yn Lerpwl—gwyliadwriaeth dŵr gwastraff, y bydd yr Aelodau yn cofio, a arweiniwyd gan Brifysgol Bangor wrth ei chreu. Bydd gennym ni saith gwahanol bwynt profi yn ardal bwrdeistref sirol Merthyr, a bydd hynny yn caniatáu i ni weld ein bod ni'n cael ymateb mewn gwahanol rannau o'r fwrdeistref, ac yn gwneud ymdrechion ychwanegol mewn mannau os nad ydym ni'n cael yr ymateb sydd ei angen. Fel y gwn y bydd yr Aelod lleol yn gwybod, mae'n rhan o'r ffordd y mae'r profion torfol yn cael eu darparu, os bydd rhywun yn cael prawf cadarnhaol, yna maen nhw'n cael cyngor gweithredol am y cymorth sydd ar gael iddyn nhw naill ai drwy'r taliad hunanynysu neu drwy'r gronfa cymorth dewisol, lle'r ydym ni wedi cyfrannu £5 miliwn yn fwy i helpu yn y modd hwn fel bod pobl yn gallu gwneud y peth iawn, fel y maen nhw eisiau ei wneud, a ddim yn canfod eu hunain â rhwystrau yn eu ffordd y gallwn ni eu helpu i'w datrys. Andrew RT Davies AC: Diolch, Prif Weinidog, am yr atebion hyd yn hyn i gwestiynau’r arweinyddion a hefyd i'r cwestiwn penodol hwn am y treial ym Merthyr. A ydych chi mewn sefyllfa i gadarnhau pryd y gellir gwneud y dadansoddiad, os bydd y treial hwn yn llwyddiannus—a'r arwyddion cychwynnol yw ei fod wedi bod yn llwyddiannus—y bydd hyn yn cael ei gyflwyno ledled gweddill Cymru, ac, yn arbennig, yn Rhondda Cynon Taf, ardal yr wyf i'n ei chynrychioli yn y fan yma yr wyf i'n credu y byddai'n elwa'n fawr ar y drefn brofi hon? Mark Drakeford AC: Gwn y bydd gan Andrew R.T. Davies ddiddordeb mewn gwybod bod cyngor Rhondda Cynon Taf eisoes wedi gwneud cynnig i gael ehangu trefn brofi Merthyr i ardal Cwm Cynon yr awdurdod lleol hwnnw, a bod cyfarfodydd, rwy'n credu, wedi'u trefnu ar gyfer yfory i archwilio'r cynnig hwnnw ac i weld sut y gellid ei gyflawni. Mae hwn yn ymarfer logistaidd enfawr, fel y gwn y bydd ef yn ei gydnabod, a dyna pam yr ydym ni mor ddiolchgar o gael cymorth y lluoedd arfog yn hynny o beth, oherwydd mae'n rhaid i wasanaethau lleol geisio cadw popeth arall y maen nhw'n ei wneud drwy'r amser i fynd, ac mae rhyddhau pobl i fod yn rhan o ymdrech profi torfol yn gofyn am gryn dipyn o baratoi. Felly, os ydym ni'n mynd i allu ehangu cynllun Merthyr i ardal Rhondda Cynon Taf, bydd angen gwneud paratoadau gofalus, gan ryddhau staff lleol o wasanaethau lleol. Mae gennym ni gymorth pellach gan y lluoedd arfog sy'n ymuno â ni ym Merthyr dros yr ychydig ddyddiau nesaf, ac efallai y bydd angen i ni weld a oes unrhyw gymorth pellach a allai fod ar gael er mwyn cynorthwyo gyda'r agweddau ymarferol pur sy'n gysylltiedig â chynnal ymarfer profi torfol o'r math hwn. Camwybodaeth am Frechlynnau Joyce Watson AC: 5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â chamwybodaeth am frechlynnau? OQ55947 Mark Drakeford AC: Llywydd, a gaf i ddiolch i Joyce Watson am y cwestiwn pwysig yna? Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gynorthwyo byrddau iechyd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i sicrhau bod gwybodaeth am imiwneiddio yn gywir ac yn hygyrch a bod pawb sy'n darparu brechiadau wedi'u hyfforddi'n dda ac yn hyderus wrth ddarparu gwybodaeth am imiwneiddio. Joyce Watson AC: Diolchaf i chi am hynna, Prif Weinidog. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Pfizer a BioNTech eu bod nhw wedi datblygu brechlyn ar gyfer COVID-19 a'i fod yn dangos canlyniadau addawol, ond bron ar unwaith roedd negeseuon yn cylchredeg ar sianeli cyfryngau cymdeithasol yn awgrymu y byddai'r brechlyn yn niweidiol, heb unrhyw dystiolaeth a brofwyd. Rwy'n deall ei bod hi'n naturiol y bydd gan bobl bryderon a chwestiynau am ddiogelwch brechlynnau newydd a chyfredol, ond rwy'n credu bod gan y gamwybodaeth yr ydym ni wedi ei gweld ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol y potensial i wneud niwed sylweddol. Prif Weinidog, pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gyda sianeli cyfryngau cymdeithasol ynghylch camwybodaeth am frechlynnau a sut y gallwn ni fynd i'r afael â hynny? A pha gamau sy'n cael eu cymryd i annog pobl i gael gafael ar wybodaeth mewn fformat dibynadwy? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, diolchaf i Joyce Watson am y cwestiynau dilynol yna. Mae hi'n iawn i dynnu sylw at y perygl o gamwybodaeth am frechlynnau—camwybodaeth fwriadol, faleisus. Mae'n rhan o grŵp o agweddau sydd, yn anffodus, wedi cael hygrededd mewn rhannau eraill o'r byd. Mae'r agweddau hyn yn deillio o'r un grŵp o bobl sy'n gwadu coronafeirws, sy'n ceisio perswadio pobl i amau canlyniadau etholiadau, ac, o ganlyniad, mae ganddyn nhw gyrhaeddiad i leoedd trwy gyfryngau cymdeithasol a allai, pe byddai pethau'n mynd o chwith, wneud yr hyn a ddywedodd Joyce Watson ac annog pobl a fyddai'n elwa ar gael eu brechu rhag dod ymlaen. Rydym ni'n gweithio gyda Swyddfa'r Cabinet yn Llundain. Mae ganddyn nhw uned ymateb cyflym, sydd yno yn benodol i ymateb i gamwybodaeth am y coronafeirws. A, chan weithio gyda phlatfformau cyfryngau cymdeithasol, cafwyd rhywfaint o lwyddiant, ac rwy'n awyddus i'w gydnabod, o ran perswadio'r platfformau cyfryngau cymdeithasol hynny i ddileu camwybodaeth lle gellir nodi'n eglur mai dyna ydyw. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni gymryd rhywfaint o gysur, fodd bynnag, Llywydd, o'r dystiolaeth wirioneddol o'r hyn sydd wedi digwydd mewn rhaglenni brechu dros y cyfnod diwethaf. Rydym ni wedi ennill tir mewn rhaglenni imiwneiddio plant yn ystod cyfnod y pandemig. Cynyddodd nifer y bobl a fanteisiodd ar y dos cyntaf o MMR yn ystod chwarter cyntaf eleni, er gwaethaf yr holl anawsterau y byddai rhieni wedi eu cael yn ceisio cyflwyno'r plentyn i gael ei frechu. Mae'r trydydd dos a drefnwyd o frechiad grŵp B meningococaidd ar y lefel uchaf erioed yng Nghymru. Ac, wrth gwrs, rydym ni'n cyrraedd mwy o bobl gyda'r brechiad rhag y ffliw nag erioed o'r blaen, ac mae 70 y cant o bobl yn y grŵp oedran dros 60 oed wedi cael eu brechu erbyn hyn. Roedd yn llai na 60 y cant yr adeg hon y llynedd. Mae tri deg saith y cant o bobl dan 65 oed sydd mewn perygl wedi cael eu brechu, ac roedd yn 27 y cant yr adeg hon y llynedd. Mae saith deg tri y cant o blant rhwng pedair a 10 oed wedi cael eu brechu. Felly, er fy mod i'n rhannu pryderon yr Aelod, mae ymddygiad gwirioneddol pobl yng Nghymru yn awgrymu, pan fydd brechlyn ar gael iddyn nhw a bod ganddyn nhw ffydd ynddo, eu bod yn dod ymlaen mewn niferoedd mawr, a dyna y byddwn ni eisiau ei annog pan fydd brechlynnau ar gael ar gyfer coronafeirws hefyd. Angela Burns AC: Prif Weinidog, rwy'n cytuno â chi y bu gwelliannau i'r niferoedd sy'n manteisio ar frechlynnau, ond hoffwn nodi hefyd, yn ôl adroddiad blynyddol diweddaraf ffliw tymhorol Cymru 2019-20, mai dim ond 56 y cant oedd nifer y bobl a fanteisiodd ar y brechlyn ffliw ymhlith staff y GIG eleni, a byddech chi'n meddwl y byddai staff y GIG, yn fwy na bron neb arall, yn sicr o ddeall gwerth brechlyn a pha fanteision y gallwn ni i gyd eu cael ohono. Mae gennym ni hefyd ein pobl anodd iawn eu cyrraedd, y bobl nad ydyn nhw'n siarad Cymraeg na Saesneg, pobl sy'n newydd i'n gwlad, pobl mewn ardaloedd ymylol dros ben, neu bobl mewn ardaloedd gwledig iawn, lle, eto, mae'r holl syniad hwnnw o ddod allan a chael eu brechu—. Hefyd, mae angen i'r brechlyn ar gyfer COVID fod yn stop dau frechlyn, lle efallai y bydd gennych chi sefyllfa lle mae rhywun yn cael un ac yn meddwl, 'O wel, dyna ni, rwyf i wedi gorffen', pan mewn gwirionedd mae angen yr ail un hwnnw arnynt i wneud yn siŵr eu bod yn cael gofal gwirioneddol. Felly tybed pa gynlluniau y bydd y Llywodraeth yn eu llunio, naill ai fel Cymru ei hun neu fel endid yn y DU, i geisio cyfleu neges gref nad oes dim i'w ofni mewn gwirionedd. Ac a gaf i ddweud yn gyflym iawn hefyd bod yn rhaid i ni fod yn ofalus iawn sut yr ydym ni'n cyfleu'r negeseuon hynny? Rwy'n siarad fel rhiant y cafodd ei phlentyn cyntaf yr holl MMRs yn unigol gan fod Andrew Wakefield ar anterth ei ŵyl frawychu, a dim ond yr MMR a gafodd fy ail blentyn, oherwydd gall pobl normal, gyffredin gael eu dychryn yn hawdd iawn pan fydd yr holl negeseuon anghywir yn cael eu cyfleu. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n eithriadol o bwysig ein bod ni'n llunio polisi cyfathrebu cydlynol a rhesymegol iawn, a byddai gen i ddiddordeb mawr cael gwybod beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau hynny ac, yn wir, sut y gallai pob un ohonom ni helpu i ledaenu'r neges honno. Mark Drakeford AC: Diolchaf i'r Aelod am hynna. Llywydd, rwy'n cytuno ag Angela Burns nad oedd canran staff y GIG a fanteisiodd ar frechiad rhag y ffliw y llynedd yn ddigon da. Roedd yn well nag mewn blynyddoedd blaenorol, ac rwy'n cofio llawer o drafodaethau gyda Darren Millar yma yn y Siambr hon, pan oeddwn i'n Weinidog iechyd ac yntau yn llefarydd ar iechyd, ynglŷn â'r graddau y gallem ni fynnu a'i gwneud yn ofynnol bod staff yn manteisio ar frechiadau. Y newyddion da yw bod y niferoedd yn llawer uwch nag yr oedden nhw y llynedd ar yr adeg hon, felly mae'r gwelliannau yr ydym ni wedi eu gweld yn y boblogaeth gyffredinol yn cael eu hadlewyrchu ymhlith staff gofal iechyd hefyd. Ond rwy'n credu bod ganddyn nhw rwymedigaeth broffesiynol i amddiffyn eu hunain rhag y risgiau y maen nhw'n eu peri fel arall i'r bobl hynny sy'n defnyddio eu gwasanaeth. Felly, i'r staff hynny, nid mater o amddiffyn eich hun yn unig ydyw; mae'n ddyletswydd broffesiynol, rwyf i wedi dadlau erioed, i sicrhau eich bod chi'n osgoi risg y gallech chi ei pheri i bobl eraill fel arall, ac mae angen i ni wneud mwy. Mae angen i ni wneud hynny gyda'r colegau brenhinol a chyda'r undebau llafur yn y maes hwnnw i godi'r ffigur hwnnw ymhellach fyth. Fe'm hatgoffwyd yng nghwestiwn atodol Angela Burns, Llywydd, pan welsom yr achosion o'r frech goch yn Abertawe rai blynyddoedd yn ôl, nad oedd y teuluoedd y gwnaethom fethu â'u cyrraedd, mewn gwirionedd, yn deuluoedd a oedd yn osgoi brechu. Nhw oedd y teuluoedd y cyfeiriodd Angela Burns atyn nhw—pobl nad Cymraeg na Saesneg yw eu hiaith gyntaf, sy'n symudol ac y mae eu cyfeiriadau yn newid yn gyflym, ac nad yw ffyrdd confensiynol o'u cyrraedd yn gweithio. Ond rwy'n credu bod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dysgu llawer o'r profiad hwnnw, ac rydym ni mewn sefyllfa well erbyn hyn i wneud yn siŵr y gallwn ni ymateb i'r anawsterau hynny. Ac yn olaf, a gaf i gytuno â'r pwynt olaf a wnaeth Angela Burns, Llywydd, ein bod ni angen yr ymdrech y gall pob un ohonom ni ei gwneud? Mae gan bob Aelod o'r Senedd hon rywfaint o statws yn eu cymunedau lleol. Rydym ni i gyd yn siarad â chryn awdurdodau â grwpiau yn ein hardaloedd ein hunain, ac ychwanegu ein lleisiau ein hunain, yn ogystal â rhai gwasanaethau cyhoeddus, at yr ymdrech gyffredinol honno y bydd ei angen arnom ni pan fydd brechlyn ar gael i berswadio pobl o'i ddiogelwch, o'i effeithiolrwydd, ac o'r rhesymau da niferus iawn pam y dylai pobl ddod ymlaen i'w dderbyn. Helen Mary Jones AC: Rwy'n ddiolchgar i Joyce am gyflwyno'r cwestiwn pwysig iawn hwn. Prif Weinidog, nid ar-lein yn unig y mae camwybodaeth am COVID yn cael ei rhannu. Tynnwyd fy sylw yr wythnos diwethaf, at daflen arbennig o niweidiol a oedd yn cael ei rhoi drwy ddrysau pobl. Roedd hyn yn sir Benfro, ond cefais wybod hefyd ei fod yn digwydd yng Nghaerffili. Roedd olwg swyddogol iddi—gallech chi fod wedi ei chamgymryd am ohebiaeth swyddogol gan y Llywodraeth. Mae camwybodaeth, yn fy marn i, Prif Weinidog, ar-lein yn ddigon drwg, ond o leiaf mae gan bobl ryw fath o ddewis ynglŷn â'r grwpiau Facebook y maen nhw'n ymuno â nhw a pha ffrydiau Twitter y maen nhw'n eu dilyn. Roedd y daflen hon yn dod trwy ddrysau pawb heb fod ganddyn nhw unrhyw hawl i'w gwrthod. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn y Siambr hon yn cefnogi rhyddid i siarad, ond mae angen arfer rhyddid i siarad yn gyfrifol. A oes unrhyw beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, gan weithio gyda gwasanaeth yr heddlu yn yr ardaloedd y mae'r daflen hon wedi effeithio arnyn nhw a chydag awdurdodau lleol, i geisio gwrthwynebu'r neges hon? Ac a oes unrhyw gamau unioni cyfreithiol yn erbyn pobl sy'n rhannu gwybodaeth yn fwriadol a allai fod yn frawychus iawn i bobl ac yn niweidiol dros ben, gan ein bod ni eisoes wedi trafod meysydd fel perswadio pobl i fanteisio ar y brechiad? Mark Drakeford AC: Llywydd, rwy'n credu bod Helen Mary Jones yn iawn: mae rhywbeth arbennig o ddichellgar am rywbeth yn cael ei roi trwy eich drws eich hun a'r ymgais fwriadol ac, fel y byddwn i'n dweud, maleisus honno i gamarwain pobl gyda gwybodaeth anghywir. Gwn fod pobl leol sydd wedi derbyn y daflen honno yn Sir Benfro wedi hysbysu'r heddlu ac wedi edrych i weld a oes unrhyw bosibilrwydd o wneud iawn. Dyma'r un daflen, yn ôl yr hyn a ddeallaf, sydd wedi bod yn cael ei dosbarthu mewn sawl rhan, nid yn unig o Gymru, ond yn ehangach. Ymhlith y pethau y gallwn ni eu gwneud y mae'r pethau y cyfeiriodd Angela Burns atyn nhw, sef ymgasglu lleisiau a fydd yn cael rhywfaint o barch mewn cymunedau lleol. A gwn, nos yfory, fod Steve Moore, sy'n brif weithredwr bwrdd iechyd Hywel Dda, a'r comisiynydd heddlu a throseddu ar gyfer yr ardal, yn cynnal sesiwn fyw ar Facebook ar y cyd, yn rhannol mewn ymateb i gylchrediad y daflen honno, fel y gallan nhw fod gyda'i gilydd i ddarparu gwybodaeth awdurdodol i'r boblogaeth leol a'i wneud yn uniongyrchol yn y modd hwnnw. Pobl sy'n Cysgu ar y Stryd David Melding AC: 6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr amcangyfrif o nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd yng Nghymru? OQ55919 Mark Drakeford AC: Mae'r amcangyfrifon diweddaraf yn awgrymu y daethpwyd o hyd i lety ar unwaith i 974 o bobl a gyflwynodd eu hunain yn ddigartref yn ystod mis Awst; Darparwyd llety hirdymor addas i 476 o bobl ddigartref; ac roedd 101 o bobl ddigartref yn cysgu ar y stryd. Bydd data misol o'r math hwnnw yn cael eu cyhoeddi ar gyfer gweddill tymor y Senedd hon. David Melding AC: A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ateb? A byddai ef hefyd wedi clywed y drafodaeth yn y Siambr yr wythnos diwethaf gyda'r Gweinidog tai, ac mae'r o 100 neu 101 o bobl sy'n cysgu ar strydoedd trefi a dinasoedd Cymru erbyn hyn yn peri gofid mawr. Gwn fod mwy na 3,000 neu 3,500, rwy'n credu, wedi cael cymorth yn ystod COVID i gael llety brys o ryw fath neu'i gilydd, ac mae hynny'n gyflawniad gwirioneddol, ond rhan o'r broblem yw na fu gennym, ers blynyddoedd lawer, amcangyfrif dibynadwy iawn o nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd, ac mae hyn wedi bod yn broblem ledled y Deyrnas Unedig, ond mae angen i ni wybod beth yw lefel y broblem, fel y gallwn ni gymryd camau priodol i ymateb i'w maint. Ond a allwch chi roi'r sicrwydd i ni ar unwaith bod yr allgymorth pendant i helpu'r 101 o bobl hynny sy'n cysgu ar y stryd ar hyn o bryd yn cael effaith? Mark Drakeford AC: Llywydd, rwy'n credu y gallwn ni roi'r sicrwydd hwnnw. Mae'n ddau beth gyda'i gilydd, mae'n ymddangos i mi. Allgymorth grymusol ac yna lefel briodol o gefnogaeth i'r bobl hynny ar ôl iddyn nhw gael eu cyrraedd ac ar ôl iddyn nhw gael eu rhoi mewn llety. Rydym ni'n gwybod, ymhlith y 101 o bobl a oedd yn cysgu ar y stryd ym mis Awst, y bydd rhai pobl y mae eu lefel o ddibyniaeth ar alcohol neu ar gyffuriau wedi mynd â nhw yn ôl i'r strydoedd unwaith eto. Byddwn yn gwybod, mewn rhai lleoliadau, lle mae pobl a oedd yn ddigartref gynt wedi cael eu cartrefu dros dro, bod lefel o ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n cael effaith ar staff ac ar denantiaid eraill hefyd ac y mae rhai pobl yn canfod nad ydyn nhw'n gallu ymdopi ag ef. Felly, yn ogystal â chyrraedd pobl trwy wasanaethau allgymorth pendant, mae'n rhaid i ni hefyd wneud yn siŵr bod gennym ni'r cymorth sy'n angenrheidiol wedyn i gadw pobl mewn llety dros dro i ddechrau, ac yna i lety parhaol yn y ffordd yr ydym ni'n dymuno ei weld. Gwn y bydd David Melding yn ymwybodol o'r ffaith bod bron i £10 miliwn o gam nesaf gwerth £50 miliwn ein hymateb i ddigartrefedd ar gyfer y cymorth cofleidiol hwnnw ym maes iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau, i geisio gwneud yn siŵr nad yw pobl yn teimlo mai'r ateb sy'n iawn iddyn nhw yw dychwelyd i gysgu ar y stryd y bydden nhw wedi cael eu rhyddhau ohono fel arall. Swyddi a Chyfleoedd Hyfforddi Huw Irranca-Davies AC: 7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau y gall greu swyddi a chyfleoedd hyfforddi i bobl o bob oed yn Ogwr yng nghyd-destun dirywiad economaidd? OQ55900 Mark Drakeford AC: Ym mis Gorffennaf, fe wnaethom gyhoeddi pecyn gwerth £40 miliwn i helpu cyflogwyr ledled Cymru i gyflogi a hyfforddi gweithwyr newydd. Yn gynharach y mis hwn, yn rhan o'r pecyn hwnnw, lansiwyd cymorth penodol gennym i annog recriwtio prentisiaid, yn ogystal â chronfa rwystrau i helpu unigolion sy'n ystyried hunangyflogaeth. Huw Irranca-Davies AC: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. A, Prif Weinidog, byddwch yn gwybod bod Centrica wedi dechrau trafodaethau gydag undeb y GMB yn gynharach eleni am newidiadau i delerau ac amodau swyddi, ond fe wnaethon nhw ddechrau'r trafodaethau hynny yng nghanol y pandemig gyda'r bygythiad i ddiswyddo ac ailgyflogi ei weithlu o 20,000 yn y DU, ac mae'r gyfran fwyaf o'r swyddi hyn fesul pen o'r boblogaeth yma yng Nghymru, ac mae llawer yn fy etholaeth i, mewn gwirionedd. Cwmni yw hwn, Prif Weinidog, sydd wedi elwa ar gontract gwerth £200 miliwn i redeg rhaglen effeithlonrwydd ynni Nyth yng Nghymru. Felly, a ydych chi'n cytuno â mi nad dyma'r hyn y dylem ni ei ddisgwyl gan sefydliad yr ydym ni'n cyflawni busnes gydag ef yma yng Nghymru ac nad dyma'r ffordd yr ydym ni'n disgwyl iddyn nhw drin eu gweithwyr? A wnaiff ef, felly, alw arnyn nhw i dynnu eu bygythiadau oddi ar y bwrdd, camu yn ôl o'r dibyn, a gweithio i sicrhau cytundeb synhwyrol, wedi'i negodi sydd er budd cyffredin enw da Centrica plc a'u cyfranddalwyr, ac, yn bwysicaf oll, er budd eu gweithlu medrus a ffyddlon iawn a'u teuluoedd? Mark Drakeford AC: Rwy'n sicr yn ymwybodol o fater Centrica, ar ôl cael trafodaethau'n uniongyrchol gydag arweinwyr y GMB yn ei gylch. Ysgrifennodd fy nghyd-Aelod Ken Skates at Centrica yn ôl ym mis Awst pan oeddem yn trafod hyn ddiwethaf gyda'r undeb. Gadewch imi fod yn glir, Llywydd: nid oes esgus i unrhyw sefydliad neu gwmni ddefnyddio argyfwng y coronafeirws i erydu hawliau a breiniau ei weithlu. Ac ategaf yn fawr iawn y sylw olaf a wnaeth Huw Irranca-Davies; rwy'n credu y byddai'n ddoeth iawn i'r cwmni dynnu'r bygythiad yn ôl, i ailddechrau trafod ac i weithio gyda'r GMB i negodi cytundeb. Ac yn olaf, cwestiwn 8, Siân Gwenllian. Gwasanaethau Deintyddol Siân Gwenllian AC: 8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau deintyddol yn Arfon? OQ55946 Mark Drakeford AC: Diolch yn fawr i Siân Gwenllian am y cwestiwn. Mae'r bwrdd iechyd yn gweithio i sicrhau bod mwy o bobl yn gallu cael gafael ar wasanaethau deintyddol. Mae hyn yn cynnwys cynlluniau i gynnig darpariaeth newydd yn lle’r hyn sydd wedi ei golli, a hynny ar frys. Siân Gwenllian AC: Dwi'n deall hefyd bod yna uned hyfforddi deintyddion yn mynd i gael ei sefydlu yn y gogledd, ac mae hynny yn newyddion da, wrth gwrs, ond mae o ddwy neu dair blynedd i ffwrdd, ac yn y cyfamser, mae yna argyfwng gwirioneddol yn digwydd yn fy etholaeth i. Mae rhan o'r broblem yn codi o'r ffordd mae'r cytundebau yn gweithio rhwng deintyddion a'r byrddau iechyd, ac mae yna addewid wedi bod ers tro y byddai'r Llywodraeth yma yn edrych yn fanwl ar beth sydd angen ei wneud er mwyn gwella'r sefyllfa yna. Fedrwch chi symud ymlaen efo'r gwaith yna rŵan os gwelwch yn dda? Ar y funud, mae pobl yn fy etholaeth i yn cael eu gadael i lawr. Mae yna ddeintyddfa arall yn cau y flwyddyn nesaf, ac mae yna wirioneddol angen gweithredu buan yn y maes yma. Mark Drakeford AC: Diolch yn fawr i Siân Gwenllian. Dwi wedi gweld y ffigurau o ran beth sydd wedi digwydd yn ei hardal hi. Dŷn ni ddim wedi sôn am Brexit eto heddiw, ond mae Brexit wedi cael effaith negyddol ar wasanaethau deintyddol. Mae 17 y cant o'r deintyddion sy'n cael eu cyflogi gan y cwmnïau mawr—a'r cwmnïau mawr sy'n cwympo mas o ardaloedd fel y gogledd-orllewin—yn cael eu recriwtio o'r Undeb Ewropeaidd, ac mae Brexit yn tanseilio hynny. Fel roedd Siân Gwenllian yn ei ddweud, bydd yr uned addysgu deintyddol newydd ym Mangor yn helpu. Bydd ymdrech y bwrdd iechyd i gynyddu mynediad i ofal deintyddol brys yn helpu. Mae'r Athro Paul Brocklehurst, y dirprwy brif swyddog deintyddol, wedi ei leoli yng ngogledd Cymru, a bydd yn cynnig cymorth arbennig wrth ymateb i'r her a wynebir yn etholaeth yr Aelod. Diolch i'r Prif Weinidog. 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol ar ei gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Helen Mary Jones. Menywod yn erbyn Anghyfiawnder Pensiwn y Wladwriaeth Helen Mary Jones AC: 1. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ohebiaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch achos ymgyrch Menywod yn erbyn Anghyfiawnder Pensiwn y Wladwriaeth i fenywod a anwyd yn y 1950au y gwrthodwyd eu pensiynau iddynt? OQ55902 Jeremy Miles AC: Rydym ni, y Llywodraeth, wedi mynegi pryderon dro ar ôl tro i Lywodraeth y DU ynghylch menywod y cynyddwyd eu hoedran pensiwn gwladol heb hysbysiad effeithiol na digonol. Ysgrifennodd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn ddiweddar at Lywodraeth y DU i bwyso am ateb teg a chlir i'r menywod. Helen Mary Jones AC: Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb. A yw'n cytuno â mi fod rhesymau penodol yng nghyd-destun COVID pam y dylai Llywodraeth y DU fynd i'r afael â'r anghyfiawnder hwn fel mater o frys? Mae cyngor swyddogol i bobl dros 60 oed yn awgrymu y dylai pobl leihau eu cysylltiad ag eraill, ac eto, mae llawer o fenywod y 1950au yn gweithio mewn swyddogaethau sy'n gofyn am ymwneud â'r cyhoedd megis gofal cymdeithasol, y GIG a manwerthu. Maen nhw'n dweud wrthyf eu bod yn ofni mynd i'r gwaith, ond na allan nhw fforddio peidio â gwneud hynny. Ac mae'n bosib y gellid rhyddhau 1.5 miliwn o swyddi pe caniateid i'r menywod hynny godi eu pensiynau nawr a chael rhywfaint o iawndal am yr hyn y maen nhw wedi'i golli. Effeithir ar dros 5,000 o fenywod yn Llanelli yn fy rhanbarth i yn unig. Mae Llywodraeth y DU wedi gallu darganfod adnoddau pan fo angen, i ymateb i argyfwng COVID, ac rwy'n siŵr ein bod i gyd yn gwerthfawrogi hynny. Ond a yw'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â mi y dylen nhw edrych eto yn y cyd-destun hwn lle gofynnir i fenywod weithio mewn sefyllfaoedd lle nad ydyn nhw efallai'n ddiogel, a lle mae gennym ni bobl ifanc, fel y clywsom ni mewn ymateb i gwestiynau cynharach, yn chwilio'n daer am waith—onid yw'n bryd i Lywodraeth y DU weithredu? Ac a wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ystyried gohebu ymhellach â Llywodraeth y DU, yn y cyd-destun ar ôl COVID hwn, ar ran y menywod? Jeremy Miles AC: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol pwysig yna. Rwy'n credu ei fod yn taflu goleuni sylweddol iawn ar y sefyllfa. Rwy'n credu ei bod hi'n briodol dweud, wrth gwrs, fod menywod yn cael eu gorgynrychioli, os mynnwch chi, mewn sectorau sydd wedi cael eu taro'n arbennig o galed yn ystod argyfwng COVID, sydd, yn fy marn i, yn dangos yn glir iawn yr her y mae llawer o'r menywod hyn yn ei hwynebu. Mae llawer ohonyn nhw wedi bod yn gweithio mewn swyddogaethau nad oedden nhw efallai yn talu'n dda ers blynyddoedd lawer cyn wynebu'r pwysau ariannol y maen nhw yn ei wynebu o'r newydd o ganlyniad i weithredoedd Llywodraeth y DU. Rwy'n gwybod y bydd yr un mor siomedig â minnau nad yw'r strategaeth ymgyfreitha yr oedd y grwpiau ymgyrchu yn ei dilyn wedi gallu dwyn ffrwyth. Ond mae hynny bellach, rwy'n credu, yn rhoi cyfrifoldeb penodol ac arbennig ar Lywodraeth y DU i ymgysylltu â'r grwpiau sydd wedi bod yn dadlau ar ran menywod yr effeithir arnyn nhw. Rwyf i, a dychmygaf fod llawer o Aelodau eraill yn y Siambr, wedi cael gohebiaeth gan fenywod yr effeithiwyd arnyn nhw yn cyflwyno cynigion synhwyrol a phragmatig iawn ar gyfer sut y gellid mynd i'r afael â'r her a'r anghyfiawnder hwn. Ac yn y goleuni hwnnw y mae fy nghyd-Aelod Jane Hutt wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU, i'w hannog i ymgysylltu â'r grwpiau hyn a thrafod datrysiad. Cymal 49 o Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig Delyth Jewell AC: 2. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o gymal 49 o Fil Marchnad Fewnol y DU? OQ55917 Jeremy Miles AC: Byddai cymal 49 o'r Bil fel y'i cyflwynwyd yn gwneud Deddf Marchnad Fewnol gyfan y DU yn ddeddfiad gwarchodedig. Dim ond pan ellir cyfiawnhau hynny y dylid defnyddio statws deddfiad gwarchodedig. Rydym ni wedi cynnig hepgor y ddarpariaeth hon; mater i Lywodraeth y DU nawr yw cyflwyno'r achos dros ei chynnwys. Delyth Jewell AC: Diolch, Cwnsler Cyffredinol. Pleidleisiodd y cyhoedd yng Nghymru o blaid datganoli yn 1997. Ar ôl y mandad cychwynnol hwnnw, rydym ni wedi cael 12 digwyddiad democrataidd pellach sydd wedi caniatáu i bobl Cymru gadarnhau'r farn honno—ar ffurf refferendwm pellach yn 2011, pum etholiad yn y Senedd, a chwe etholiad cyffredinol. Yn y refferenda a'r holl etholiadau cafwyd mwyafrif clir o blaid datganoli. Nawr, byddwch yn gwybod y bydd cymal 46 o Fil y farchnad fewnol yn galluogi Llywodraeth y DU i wario arian mewn meysydd datganoledig yng Nghymru. Byddai hynny'n caniatáu iddyn nhw, er enghraifft, wario arian ar gynlluniau trafnidiaeth a allai gael effaith andwyol ar feysydd sydd wedi'u datganoli, megis iechyd y cyhoedd, yr amgylchedd a chadwraeth. Fel yr ydych chi wedi bod yn ei nodi, Cwnsler Cyffredinol, mae cymal 49 o'r Bil yn atal y Senedd rhag gallu cyflwyno her gyfreithiol i gynlluniau o'r fath, er eu bod yn effeithio ar feysydd datganoledig. Rydym ni wedi gwybod o'r dechrau bod Boris Johnson yn elyniaethus i ddatganoli, sydd bellach wedi'i gadarnhau o lygad y ffynnon. Mae'r cipio grym hwn yn cadarnhau'r elyniaeth honno. Felly, a ydych chi'n cytuno â mi nad oes gan Lywodraeth Dorïaidd y DU fandad democrataidd i basio darpariaethau o'r fath, yn enwedig o gofio bod y mwyafrif o Aelodau Seneddol Cymru wedi pleidleisio yn eu herbyn a bod y Senedd hon yn gwrthwynebu? Jeremy Miles AC: Credaf fod yr Aelod yn gywir i dynnu sylw at effaith dynodi'r Bil yn ddeddfiad gwarchodedig, gan ei fod yn atal y Senedd hon rhag addasu effeithiau'r Ddeddf. Ond mae'n cyfeirio hefyd at ddarpariaeth lawer ehangach yn y Bil, sydd yr un mor anghyfiawn—os gallaf ei fynegi yn y termau hynny—sef y darpariaethau sy'n rhoi pwerau o feysydd datganoledig i Weinidogion Llywodraeth y DU i wario yng Nghymru. Nawr, clywsom y cyfraniadau yn Nhŷ'r Cyffredin yn ystod y dadleuon ar y Bil yn gynharach yn y flwyddyn ac roedd hi'n amlwg o'r cyfraniadau hynny mai'r hyn rwy'n credu sy'n ysgogi rhai o'r penderfyniadau hyn yw nad yw Llywodraeth y DU yn fodlon ar y blaenoriaethau y mae Llywodraeth Cymru, a etholwyd gan bobl Cymru, wedi eu gosod drosti eu hun yn rhan o fandad democrataidd. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig ar hyn o bryd yw i Lywodraeth y DU gydnabod nad yw hi'n rhy hwyr iddi newid ei meddwl o ran y ddarpariaeth hon. Byddem yn sicr yn ei gwahodd i wneud hynny. Pan ydym yn trafod hyn gyda Llywodraeth y DU, yn amlwg, caiff ei ddisgrifio fel cyfle i gydweithio. Wel, os yw hynny'n wir, mae'n ymddangos i mi ei fod yn gyfle i weithio o amgylch Llywodraeth Cymru, yn hytrach na gweithio gyda Llywodraeth Cymru. Ond, fel y dywedais, nid yw hi'n rhy hwyr i Lywodraeth y DU newid ei safbwynt yn hynny o beth a chydnabod y setliad datganoli democrataidd. Jenny Rathbone AC: Rwy'n pryderu'n benodol am hyn, oherwydd, ar ôl cael gwybod bod gadael yr UE yn ymwneud ag adfer rheolaeth, nid wyf yn credu bod llawer ohonom ni wedi sylweddoli bod hynny'n golygu Llywodraeth y DU yn adfachu rheolaeth a'r arian sy'n mynd gyda hynny er mwyn i'r canol allu targedu seddi at eu dibenion gwleidyddol eu hunain. Ac o roi anallu Llywodraeth y DU dros brofi, olrhain a diogelu a'u hawydd i roi arian i'w ffrindiau o'r neilltu, holl ddiben y llywodraeth ddatganoledig yw bod Llywodraeth Cymru yn deall y gwahaniaeth rhwng Caerdydd, Caernarfon a Chaersws, yn ogystal â nodweddion unigryw cymunedau fel fy un i, fel Adamsdown a rhannau o Bentwyn, sy'n ardaloedd o amddifadedd sylweddol, ac y mae eu hanghenion yn gwbl wahanol i anghenion Cyncoed neu Ben-y-lan, dyweder, er nad ydyn nhw ond ychydig filltiroedd ar wahân. Felly, beth ellir ei wneud i atal Llywodraeth Dorïaidd y DU rhag herwgipio'r arian hwn at eu dibenion eu hunain, yn hytrach na mynd i'r afael â thlodi ac amddifadedd yn ein cymunedau? Jeremy Miles AC: Mae'r Aelod, wrth gwrs, yn gywir i ddweud mai bwriad y Bil—mai diben y Bil, yn sicr—yw cyfyngu ar allu'r Senedd a Gweinidogion Cymru i weithredu yn unol â'r setliad datganoli. Nid oedd yn rhaid iddo fod fel hyn, ac nid oes rhaid iddo fod fel hyn o hyd. Rydym ni wedi cynnig dewis amgen i'r Bil sy'n parchu'r setliad datganoli, ond sydd hefyd yn cyflawni'r safonau uchel mewn ystod o feysydd, y gwn i ei bod yn teimlo'n angerddol iawn yn eu cylch ac yn ymgyrchydd brwd iawn drostynt. Fel y dywedais, rydym ni wedi dilyn strategaeth o gyflwyno dewisiadau adeiladol amgen, ac wedi cael cefnogaeth sylweddol yn Nhŷ'r Arglwyddi, fel rwy'n gwybod ei bod yn ymwybodol, i lawer o'r safbwyntiau hynny, o amrywiaeth o leisiau gwleidyddol a lleisiau anwleidyddol, ac o amrywiaeth o wahanol gefndiroedd. A chafwyd thema gref iawn, iawn bod angen parchu'r setliad datganoli ac os yw Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen ar y sail mai bwriad y Bil hwn yw cryfhau'r undeb, bydd yn canfod ei bod yn camgymryd, oherwydd y ffordd orau o wneud hynny yw drwy amddiffyn ac ymestyn datganoli, yn hytrach na cheisio ei sathru dan draed. Brexit heb Gytundeb Helen Mary Jones AC: 3. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion eraill y gyfraith ynghylch goblygiadau cyfreithiol Brexit heb gytundeb? OQ55903 Jeremy Miles AC: Mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud hi'n glir i Lywodraeth y DU fod cytundeb masnach gyda'r UE yn hanfodol bwysig i ddinasyddion a busnesau Cymru. Fodd bynnag, gan ein bod yn Llywodraeth gyfrifol rydym yn cynllunio ar gyfer y posibilrwydd. Mae hyn yn cynnwys gwneud yr holl ddeddfwriaeth angenrheidiol yng Nghymru i allu gweithredu canlyniad o 'dim cytundeb masnach' erbyn 31 Rhagfyr. Helen Mary Jones AC: Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb. A gaf i ofyn pa mor ffyddiog ydyw y bydd gennym ni fframwaith cyfreithiol ymarferol, y bydd modd gweithio ag ef, mewn meysydd pwysig, fel yr amgylchedd ac amaethyddiaeth, a oedd gynt yn deillio o gyfraith Ewrop? Mae'n siarad, yn ei ymateb i Delyth Jewell, am ddewis adeiladol arall yn lle Bil y farchnad fewnol, ac, wrth gwrs, dyna'r ffordd gywir o fynd ati, ond sut mae Llywodraeth Cymru yn ystyried y dylid gweithredu i ddiogelu'r setliad datganoli os caiff y ddeddfwriaeth hon ei phasio heb ei diwygio? A yw'n rhannu fy mhryder, a phryder a fynegwyd yn ddiweddar gan yr Athro Emyr Lewis ym Mhrifysgol Abertawe, y gallwn ni, os caiff y Bil hwn ei basio heb ei ddiwygio, wynebu Llywodraeth y DU sy'n cael blas ar ddeddfu mewn ffordd sy'n rhoi ei hun y tu hwnt i gwmpas arferol y gyfraith? A yw'r Cwnsler Cyffredinol wedi cael unrhyw drafodaethau gyda swyddogion y gyfraith yn y gweinyddiaethau datganoledig eraill ynghylch pa gamau cyfreithiol, os o gwbl, y gellid eu cymryd pe cai'r Bil hwn ei basio heb ei ddiwygio? Gobeithio y byddai'n cytuno â mi y byddai'n beryglus iawn yn wir i Lywodraeth y DU gael blas ar basio deddfwriaeth sy'n rhoi ei hun y tu hwnt i gwmpas y gyfraith. Jeremy Miles AC: Byddai nid yn unig yn beryglus, ond byddai'n gwbl anghywir yng nghyd-destun y setliad datganoli. Felly, ategaf y sylw y mae'r Aelod yn ei wneud yn ei chwestiwn ynglŷn â hynny. Credaf fod y sylw yr oedd Delyth Jewell yn ei wneud yn ei chwestiwn ynghylch y deddfiad gwarchodedig yn estyniad o'r egwyddor arferol. Felly, rydym ni wedi derbyn y gall fod adegau pan gaiff deddfiadau eu diogelu, ond o ran y Bil hwn, mae gwaharddiad cyffredinol ar addasu i bob pwrpas, y byddech yn disgwyl ei weld mewn deddfwriaeth gyfansoddiadol sylweddol iawn, nid un sydd, ar yr wyneb, yn ymdrin â materion sy'n ymwneud â'r economi a masnach. Felly, credaf fod hynny'n rhoi'r syniad sydd ei angen arnoch chi am faint y tresmasu ar y setliad datganoli y mae'r Bil hwn yn ei gynrychioli. A chytunaf â hi y byddai'n beryglus iawn gweld hynny'n dod yn batrwm ac, yn wir, byddai'n gwbl annerbyniol, hyd yn oed yn y Bil hwn. Ynghylch y cwestiwn o fod â llyfr statud gweithredol ar ddiwedd y cyfnod pontio, yr hyn y gwnaf i ei ddweud yw y bu llawer iawn o waith ar y gweill o ran cael cysondeb yn llyfr statud Cymru, drwy is-ddeddfwriaeth, i ystyried y newidiadau y bydd angen eu gwneud ar ôl diwedd y cyfnod pontio. Mae wedi bod yn dasg enfawr, a chaiff offerynnau statudol pellach eu cyflwyno i'r Senedd dros yr wythnosau nesaf. Nid ydym yn gwybod eto beth fydd canlyniad y trafodaethau rhwng Llywodraeth y DU a'r Comisiwn Ewropeaidd, yn amlwg, ond os cytundeb fydd y canlyniad, mae'n debyg y bydd angen gweithredu deddfwriaeth, ac mae'n debyg y bydd hynny—mae'n debyg, byddwn yn awgrymu—yn gofyn am gydsyniad y Senedd hon os yw'n ymwneud â materion sydd fel arall wedi'u datganoli. Ni wyddom ni eto sut olwg fydd ar y ddeddfwriaeth honno. Ni wyddom ni faint y dasg o fynd i'r afael â hi eto. Ni wyddom ni eto faint o weithredu is-ddeddfwriaeth y bydd hynny'n ei olygu. Mae'n debyg y bydd angen gwneud y cyfan erbyn diwedd eleni. Felly, mae'r her, rwy'n credu, yn amlwg pan fyddaf yn ei chyflwyno felly. Er y bu cynnydd da a, byddwn yn dweud, cydweithio da iawn gyda Llywodraeth y DU a Llywodraethau datganoledig eraill o ran y rhaglen waith hyd yma, mae'n amlwg pan ddywedaf fod her sylweddol yn union o'n blaenau. A chredaf fod hynny'n dweud ychydig wrthych chi am faint yr her yr ydym ni i gyd yn ei hwynebu yn ystod y misoedd nesaf. Mabwysiadu Ffyrdd Dai Lloyd AC: 4. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r ddeddfwriaeth sy'n sail i fabwysiadu ffyrdd o fewn datblygiadau tai newydd yng Nghymru? OQ55915 Jeremy Miles AC: Sefydlodd Gweinidogion Cymru dasglu yn gwerthuso atebion posibl o ran ffyrdd heb eu mabwysiadu. Daeth i'r casgliad nad oedd angen newidiadau deddfwriaethol, ond cyhoeddwyd canllaw arfer da, gan leihau'r risg o greu ffyrdd pellach heb eu mabwysiadu. Cyn bo hir, byddwn yn cyhoeddi canfyddiadau o'n galwad am dystiolaeth ynglŷn â thaliadau ystadau ar ddatblygiadau newydd. Dai Lloyd AC: Yn dilyn y ddadl gan Aelodau, a gynigiais yn y Cyfarfod Llawn ar 14 Chwefror 2018, roeddwn yn falch o weld yr adroddiad gan y tasglu ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu. Fodd bynnag, mae un elfen yn fy siomi, ac mae hynny'n ymwneud â'r diffyg pwysau cyfreithiol y tu ôl i rai o'r argymhellion. Yn benodol, mae canllaw model mabwysiadu ffyrdd y tasglu yn nodi, os caiff pum eiddo neu fwy eu gwasanaethu gan ffordd mewn datblygiad tai newydd, y dylai awdurdodau priffyrdd gyflwyno hysbysiad cod talu uwch i ddatblygwyr, sydd yn ei hanfod yn sicrhau bod bond ariannol ar waith i dalu unrhyw gostau yn y dyfodol o godi'r ffordd i safon y gellir ei mabwysiadu, fel y gwyddoch chi. Fodd bynnag, nid yw canllawiau ac argymhelliad, byddwn yn awgrymu, yn ddigon cryf, yn fy marn i, yn yr achos hwn. A wnewch chi, felly, ymrwymo i gynnal trafodaethau pellach gyda'r Gweinidog trafnidiaeth i archwilio a ddylid cyflwyno deddfwriaeth yn y maes hwn er mwyn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i gyflwyno hysbysiad i ddatblygwyr mewn amgylchiadau o'r fath? Jeremy Miles AC: Diolch i Dai Lloyd am ei gwestiwn pellach ynglŷn â hynny. Credaf y gwnaeth Gweinidog yr economi, a gomisiynodd waith y tasglu, ddatganiad ynglŷn â hyn ddiwethaf ychydig wythnosau'n ôl, ddiwedd mis Hydref. Roedd argymhellion y tasglu, sydd, yn amlwg, wedi'i gyfansoddi er mwyn rhoi cyngor, o'r farn bod y ffordd orau ar hyn o bryd yn sicr yn ymwneud â defnyddio Deddf Priffyrdd 1980, a'r pwerau o dan adran 38 yn benodol, ac y gellid cyflawni gweddill ei argymhellion, yn wir, heb ddeddfwriaeth sylfaenol. Fel y dywedais, mae galw pellach am dystiolaeth ynglŷn â materion sy'n ymwneud â thaliadau ystadau. Mae'r sylw y mae'n ei wneud am y rhwymedigaethau talu, yn amlwg, yn peri pryder arbennig. Bydd yn rhaid parhau i weld a fydd unrhyw ystyriaethau deddfwriaethol yn codi yng nghyd-destun taliadau ystadau pan fydd gennym ni'r argymhellion a chanlyniad yr alwad am dystiolaeth. Pysgodfeydd Cymru Janet Finch-Saunders AC: 5. What discussions has the Counsel General had with other law officers in the United Kingdom about supporting Welsh fisheries after the end of the EU transition period? OQ55911 Jeremy Miles AC: Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU a'r Llywodraethau datganoledig eraill ar Fil Pysgodfeydd y DU ac ar is-ddeddfwriaeth ymadael â'r UE i sicrhau cyfres o bwerau a fydd yn ein galluogi i gefnogi pysgodfeydd Cymru ar ôl diwedd cyfnod pontio'r UE. Janet Finch-Saunders AC: Diolch. Er fy mod yn sicr yn gobeithio am gytundeb, yn enwedig yng ngoleuni y sôn gan Ursula von der Leyen am gynnydd ddydd Sadwrn diwethaf, fodd bynnag, mae'n ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i baratoi ar gyfer y sefyllfa waethaf. Dim ond 37 diwrnod o bontio sydd gennym ni ar ôl, felly mae'n hanfodol bod pawb yng Nghymru yn paratoi hyd eithaf eu gallu, gan gynnwys holl bysgodfeydd Cymru. Yn ddiau, cafwyd newyddion rhagorol, gan y bydd y cytundeb â Chanada yn golygu y gellir allforio pysgod yn rhad ac am ddim. Ond, wrth gwrs, ni allwn ni anghofio pwysigrwydd marchnad yr UE. Er enghraifft, aiff dros 60 y cant o allforion bwyd môr Cymru i Sbaen. Er mai cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw cymorth pysgodfeydd, rwy'n croesawu'r ffaith eich bod yn ymdrechu i gael cynllun ymyrraeth ledled y DU. Yn ôl cynllun gweithredu diwedd y cyfnod pontio, y sefyllfa ddiweddaraf oedd eich bod yn cyfathrebu â Llywodraeth y DU. Allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd a'i Haelodau heddiw ynglŷn â phryd yr ydych chi'n gobeithio y bydd y cymorth hwn ar gael rhag ofn y gallai fod ei angen? Jeremy Miles AC: Bu bron imi wirio i weld o ba feinciau yr oedd y cyflwyniad yna'n dod am eiliad. Byddaf bob amser yn croesawu cydnabyddiaeth gynyddol gan feinciau ar bob rhan o'r Siambr hon o effaith yr her sydd o'n blaenau. Dywedaf ei bod yn gyfres sylweddol iawn o heriau y mae'r Llywodraeth hon wedi bod yn ceisio ymgodymu â hwy, ac rwy'n falch bod cydnabyddiaeth o'r risgiau sydd yn y cyfnod i ddod o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd o bosib heb gytundeb. Yr hyn a ddywedaf o safbwynt polisi—. Rwy'n siŵr y bydd fy nghydweithiwr, y Gweinidog sy'n gyfrifol am bysgodfeydd, yn cyflwyno rhagor o wybodaeth maes o law. Cyfeiriaf Janet Finch-Saunders at ddatganiad Lesley Griffiths ychydig wythnosau'n ôl ynglŷn â chynlluniau ar gyfer cefnogi pysgodfeydd yn y dyfodol o ran yr ymgynghoriad 'Brexit a'n Moroedd', a amlinellodd rai o'n cynigion. Ond, hoffwn ddweud wrthi y bu cydweithio agos iawn â rhannau eraill o'r DU yn hyn o beth, fel bod gennym ni yr offer ar gael er mwyn gallu gofalu am fuddiannau pysgotwyr yng Nghymru, o ran deddfwriaeth, paratoi ar gyfer cymorth ariannol yn y dyfodol o ddechrau'r flwyddyn nesaf, a chynlluniau maes o law ar gyfer Bil pysgodfeydd i Gymru. Cwestiwn 6, Janet Finch-Saunders. Janet Finch-Saunders AC: Diolch, Llywydd, a dim ond er mwyn eglurder, nid proffwyd gwae oeddwn i yn y fan yna— Na, dydych chi ddim yn cael ail gyfle gyda chwestiwn 5. Rydych chi, mewn gwirionedd, yn cael cyfle gyda chwestiwn 6 nawr. Janet Finch-Saunders. Y Sector Cig Coch Janet Finch-Saunders AC: 6. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion eraill y gyfraith yn y Deyrnas Unedig ynghylch darparu cymorth i'r sector cig coch ar ôl i'r cyfnod pontio'r UE ddod i ben? OQ55912 Jeremy Miles AC: Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU a Llywodraethau datganoledig i gyflwyno'r achos dros gyllid gan Drysorlys Ei Mawrhydi i gefnogi'r sector cig coch os na fydd cytundeb masnach ar gyfer ymadael â'r UE. Janet Finch-Saunders AC: Diolch. Byddwch yn ymwybodol, wrth gwrs, fod cynllun gweithredu diwedd y cyfnod pontio yn cydnabod y byddai gennym ni gytundeb yn y sefyllfa orau, ac rwyf eisiau gweld cytundeb masnach. Ond, mae'n rhaid i ni baratoi, a, gadewch i ni fod yn onest, rydych chi Lywodraeth Cymru, wedi cael amser hir ers y bleidlais honno i wneud y paratoadau hyn. Rydych chi wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU, gobeithio, i ddatblygu cynllun wrth gefn ledled y DU mewn ymateb i'r effeithiau posibl ar y sector defaid. Yn ôl y cynllun ar gyfer diwedd y cyfnod pontio, roedd y dyluniad gweithredol eto i'w gwblhau ar 11 Tachwedd 2020. A gafwyd y cytundeb hwn bellach ac, os felly, a wnewch chi amlinellu inni fel Aelodau sut y bydd y cynllun ymyrryd mewn argyfwng yn gweithio? Mae NFU Cymru wedi codi pryderon bod sector llaeth Cymru yn agored i niwed o ganlyniad i'w faint a'i allu i brosesu llaeth, a dibyniaeth ar farchnad nwyddau llaeth nad yw'n talu'n rhy dda, fel y gwyddom ni i gyd. Beth ydych chi'n ei wneud, Gwnsler Cyffredinol, i ddiogelu ein diwydiant llaeth cyn y flwyddyn nesaf hefyd? Jeremy Miles AC: Wel, mae'n ddrwg gennyf siomi Janet Finch-Saunders, ond credaf fod y cwestiynau hynny'n canolbwyntio'n bennaf ar ymateb polisi'r Llywodraeth o ran cefnogi'r sector cig coch, ac rwy'n credu mai mwy priodol mae'n debyg fyddai cyflwyno'r cwestiynau hynny i Lesley Griffiths y Gweinidog sy'n gyfrifol. Ond, o safbwynt cyfreithiol, bydd yn ymwybodol, yn Neddf Amaethyddiaeth 2020, er enghraifft, fod Gweinidogion Cymru wedi cymryd pwerau'n benodol i ymdrin ag amodau marchnad eithriadol, y byddai'r amodau hyn yn amlwg yn eu cynrychioli, ac yn rhoi pwerau i ni gefnogi'r sector o dan yr amgylchiadau hynny. Fel y mae hi ei hun yn ei gwneud yn glir, mae'n hanfodol bwysig i'r sector cig coch y dylid dod i gytundeb. Allforir 35 y cant o'n cig oen, ac allforir 90 y cant o hynny i farchnad yr UE. Felly, os na sicrhawn ni gytundeb sy'n diogelu buddiannau ffermwyr Cymru yn hynny o beth, yn sicr bydd angen ymyrraeth ledled y DU, a byddwn yn gofyn i'r Trysorlys ariannu'r ymyriad hwnnw. Ond, fel y dywedais, mae gennym ni'r fframwaith cyfreithiol ar waith i alluogi hynny i ddigwydd. Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol. 3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny—Rebecca Evans. Rebecca Evans AC: Diolch, Llywydd. Mae gennyf dri newid i fusnes yr wythnos hon. Bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud datganiad heddiw ar yr wybodaeth ddiweddaraf am drefniadau mesurau arbennig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. O ganlyniad, mae'r datganiad am dasglu'r Cymoedd wedi'i ohirio tan 8 Rhagfyr. Yn olaf, mae'r ddadl ar Reoliadau Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (Diwygio Atodlen 1) 2020 wedi'i symud i'r eitem olaf ar yr agenda heddiw. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig. Darren Millar AC: Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad gan y Gweinidog priodol yn y Llywodraeth ynghylch cyfyngiadau ar ganu yn eglwysi Cymru a mannau addoli eraill? Yn amlwg, mae gennym ni dymor y Nadolig ar ein gwarthaf. Mae llawer o bobl yn mwynhau mynd i wasanaethau carolau a chymryd rhan mewn gwasanaethau addoli yr adeg benodol hon o'r flwyddyn, ac mae Llywodraeth y DU wedi gwneud cyhoeddiad yn ddiweddar am egwyddorion ar gyfer canu mwy diogel, gan gynnwys mewn addoldai, a fydd yn galluogi pobl i ddod at ei gilydd, ar yr amod eu bod yn ymwybodol o reolau cadw pellter cymdeithasol ac yn cymryd rhagofalon eraill, er mwyn ymgynnull ar gyfer addoliad o'r fath. Hoffwn gael y cyfle i bobl yng Nghymru fwynhau'r un breintiau, a tybed a allem ni gael datganiad am hyn cyn gynted ag y bo modd. Diolch. Rebecca Evans AC: Diolch i Darren Millar am godi'r mater hwn y prynhawn yma, ac wrth gwrs rydym wrthi'n gyson yn adolygu pob agwedd ar ein rheoliadau a'n canllawiau. Rwyf yn deall yr heriau y mae'r cyfyngiadau ar ganu mewn addoldai yn eu gosod ar eglwysi a mannau ffydd eraill yn ein cymunedau, a deallaf y siom y mae llawer o bobl yn ei theimlo wrth beidio â chael canu ar hyn o bryd. Gofynnaf i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg—i arddel ei theitl newydd—ystyried y sylwadau yr ydych chi wedi'u gwneud, ac yn amlwg, wrth inni barhau i adolygu'r pethau hyn, fe gaiff eich sylwadau eu hystyried yn briodol. Leanne Wood AC: Hoffwn dynnu sylw at rwystredigaethau busnesau'r Rhondda sydd wedi'u gadael heb unrhyw gymorth ariannol ers dechrau'r pandemig. Gwyddom am fusnesau ledled Cymru a esgeuluswyd ar ôl gwneud cais i'r gronfa cadernid economaidd. Mae busnes newydd yn y Rhondda yn dweud wrthyf nad ydyn nhw wedi cael unrhyw gefnogaeth, er iddyn nhw golli'r mwyafrif o'u derbyniadau gwerthiant. Fe wnaethon nhw gais am grant dewisol cyfyngiadau symud a weinyddir drwy'r awdurdod lleol, a chafwyd ymateb yn dweud y bu eu cais i gronfa arall, nad oedden nhw wedi gwneud cais iddi, yn aflwyddiannus. Mae gyrwyr tacsis yn grŵp arall nad oes darparu ar ei gyfer, a threfnwyd gwrthdystiad gan undeb llafur Unite heddiw yng nghanol dinas Caerdydd, yn galw am gefnogaeth, ac rwy'n cefnogi'r ymgyrch hon. Nawr, rwy'n cydnabod ein bod yn byw mewn cyfnod na welwyd ei debyg o'r blaen a bod cynlluniau wedi'u llunio'n gyflym, ond oni ddysgir gwersi o'r hyn sydd wedi mynd o'i le hyd yn hyn, yna caiff camgymeriadau eu hailadrodd a bydd cymorth wedi'i dargedu yn parhau i esgeuluso'r busnesau sydd ei angen. Felly, a allwn ni gael datganiad gan y Llywodraeth yn amlinellu sut y gallwch chi adolygu'r system grantiau fel y gellir helpu'r achosion hynny yr wyf wedi eu crybwyll heddiw ac y gallwn ni sicrhau nad yw busnesau a phobl yn methu hawlio cymorth ariannol angenrheidiol pan fo gwir angen hynny arnyn nhw nawr? Rebecca Evans AC: Rwy'n ddiolchgar, unwaith eto, i Leanne Wood am godi'r mater hwn y prynhawn yma, ac rwy'n gwybod y bydd hi'n codi'r achos penodol cyntaf hwnnw gyda'r cyngor yn Rhondda Cynon Taf er mwyn sefydlu beth sydd wedi digwydd gyda'r cais grant penodol hwnnw. Mae'n wir, wrth gwrs, mai gan Gymru o hyd y mae'r pecyn cymorth mwyaf hael i fusnesau yn unrhyw le yn y DU, ac mae trydydd cam y gronfa cadernid economaidd eisoes wedi gweld dros 35,000 o fusnesau'n cael cynnig dros £106 miliwn hyd yma, ac, yn ogystal, mae dros £20 miliwn wedi cyrraedd busnesau twristiaeth, lletygarwch a manwerthu sydd â gwerth manwerthu o rhwng £12,000 a £50,000, ar ffurf y cyllid brys hwnnw. Felly, mae busnesau yn bendant yn cael y cyllid yna, er yn anochel ni fyddwn yn gallu cefnogi pob busnes unigol yng Nghymru. Ond rydym yn awyddus iawn i ddysgu o brofiadau trydydd cam y gronfa cadernid economaidd wrth i ni ddatblygu ein cefnogaeth i fusnesau yn y dyfodol. Ac rwyf yr un mor bryderus ynghylch gyrwyr tacsis yn benodol. Credaf fod elfen cyfiawnder cymdeithasol yn y fan yma. Cefais drafodaeth dda gyda'r Athro Ogbonna, sydd wedi bod yn gwneud rhywfaint o waith i Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut y mae'r coronafeirws wedi effeithio'n wael ar bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn arbennig. Ac mae gyrwyr tacsis yn gymwys i wneud cais am yr elfen ddewisol honno o'r gronfa cadernid economaidd, ac rwy'n awyddus iawn i ni gyfleu'r neges honno i yrwyr tacsi. Ond rwy'n gwybod y bu Ken Skates hefyd yn trafod materion penodol sy'n effeithio ar yrwyr tacsis ac eraill, gydag Unite ac eraill yr effeithir arnyn nhw. Alun Davies AC: Os caf i, fe hoffwn i ofyn i'r Llywodraeth am ddatganiad am argaeledd gwasanaethau argyfwng, gan gynnwys rhaglenni cymorth ariannol, drwy gydol y Nadolig a chyfnod y flwyddyn newydd. Llywydd, rydym ni i gyd, ar bob ochr i'r Siambr, yn ymwybodol o'r ffordd y mae pobl wedi dioddef eleni, a gwyddom hefyd fod llawer o deuluoedd yn wynebu argyfwng gwirioneddol yr adeg hon o'r flwyddyn. Mae gennym ni ddadl am y Nadolig a'r angen i bobl ddod at ei gilydd a mwynhau cyfnod yr ŵyl, ond weithiau, rwy'n credu, rydym yn anghofio, i lawer o deuluoedd, y byddant yn ofni'r Nadolig ac na fyddant yn edrych ymlaen at gyfnod y gwyliau oherwydd y pwysau ariannol y maen nhw yn ei hwynebu fel teulu. A gwyddom fod grwpiau o bobl, neu wirfoddolwyr a chymunedau yn dod at ei gilydd i gefnogi a chynnal teuluoedd yn ystod y cyfnod hwn, fel y buont yn ei wneud drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf yn fy etholaeth i. Ond mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru, rwy'n teimlo, yn gwneud datganiad gwirioneddol ynglŷn â sut y byddant yn ceisio cefnogi gwasanaethau argyfwng drwy'r cyfnod hwn. Hoffwn ofyn hefyd am ddadl ar y gronfa ffyniant gyffredin. Deallwn o'r papurau Sul y bydd Llywodraeth y DU yn gwneud datganiad ar hyn yfory. Hyd y gwn i, ni fu ymgynghori ar hyn, ac mae'n ymddangos—unwaith eto drwy ddarllen adroddiadau mewn papurau newydd—fod Llywodraeth y DU yn bwriadu peidio â dysgu gwersi cyllid Ewropeaidd, ond ailadrodd rhai o'r camgymeriadau a wnaethpwyd. Pan oeddwn yn Weinidog rhaglenni ariannu Ewropeaidd, arweiniais adolygiad o sut y gwnaethom ni ddyrannu ffrydiau ariannu bron i ddegawd yn ôl, ac fe wnaethom ni ddysgu llawer o wersi bryd hynny, y mae pob un ohonyn nhw yn cael eu dadwneud yn awr gan Lywodraeth sy'n benderfynol o chwarae gwleidyddiaeth gyda dyfodol ein gwlad. Gobeithio y gallwn ni gael dadl frys ar y mater hwn cyn toriad y Nadolig er mwyn sicrhau y gall y lle hwn drafod y materion hyn a chyflwyno ei farn ei hun. Rebecca Evans AC: Diolch i Alun Davies am roi'r cyfle i mi fynegi diolch Llywodraeth Cymru i'r unigolion a'r gwirfoddolwyr hynny sydd wedi gweithio mor galed drwy gydol pandemig y coronafeirws i gynnig y math hwnnw o gymorth argyfwng i deuluoedd ac unigolion sydd wirioneddol yn ei chael hi'n anodd o ganlyniad i'r argyfwng ac o ganlyniad i 10 mlynedd o gyni. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyllid sylweddol i'r Gronfa Gynghori Sengl, ac mae gan y gronfa honno record benodol a thrawiadol, rwy'n credu, o ran sicrhau bod teuluoedd ac unigolion yn hawlio'r budd-daliadau y mae ganddynt yr hawl iddynt—miliynau o bunnoedd yn ôl i bocedi pobl sy'n haeddu hynny yng Nghymru, a hynny'n gwbl briodol. Felly, rwy'n credu y bu hynny yn llwyddiannus iawn. Ac, yn rhan o'r ymateb i'r pandemig, rydym ni hefyd wedi rhoi £10 miliwn yn fwy o gefnogaeth i'r gronfa cymorth dewisol, ac eto, mae hynny'n gyfle pwysig iawn i bobl sy'n ei chael hi'n anodd iawn ac sydd mewn sefyllfa enbyd, i allu cael gafael ar gyllid yn gyflym iawn. Felly, rydym yn falch iawn o'r ffordd y caiff y gronfa honno ei gweithredu, ac wrth gwrs, byddwn yn annog Aelodau i gyfeirio unrhyw etholwyr y mae angen y cymorth hwnnw arnyn nhw at y gronfa honno. Rwyf yr un mor bryderus ag Alun Davies am y gronfa ffyniant gyffredin. Mae ymgysylltiad Llywodraeth y DU wedi bod yn gwbl druenus—ni fu unrhyw ymgynghori, mewn gwirionedd—ar y mater penodol hwn. Nid ydym yn gwybod eto i ba raddau y byddwn yn gwybod unrhyw beth defnyddiol yfory yn yr adolygiad o wariant, ond fy mwriad, yn gynnar ar ôl cyhoeddi'r adolygiad o wariant, yw gallu darparu datganiad cynnar—yn y lle cyntaf, datganiad ysgrifenedig—i gyd-Aelodau gyda'n hymatebion cychwynnol, ac yna, yn amlwg, byddwn yn dod o hyd i'r cyfle priodol i ddarparu mwy o wybodaeth am unrhyw newyddion a allai fod ar gael neu beidio ynglŷn â'r gronfa ffyniant gyffredin. Mark Isherwood AC: Rwy'n galw am ddatganiad brys ar gefnogaeth i fusnesau gwely a brecwast bach. Pan ofynnais i chi am ddatganiad ar hyn chwe wythnos yn ôl, dywedais fod Llywodraeth Cymru unwaith eto wedi'u heithrio rhag cymorth ariannol i'w helpu i oroesi'r pandemig, y tro hwn wedi eu gwahardd o drydedd rownd y gronfa cadernid economaidd. Fe'u barnwyd hefyd yn anghymwys mewn camau blaenorol ac fe wrthodwyd grantiau busnesau bach iddyn nhw, yn wahanol i'w cymheiriaid yn Lloegr a'r Alban. Mewn ymateb, fe ddywedsoch chi y dylen nhw siarad â chynghorwyr Busnes Cymru i weld a allant eu cyfeirio at fathau eraill o gymorth. Ar ôl rhoi cynnig ar hyn, maen nhw wedi dweud wrthyf mai dim ond benthyciadau oedd ar gael, a byddai'r rhain yn eu gwthio i ddyled na ellir ei rheoli. Ers hynny maen nhw wedi dweud wrthyf nad ydyn nhw ychwaith yn gymwys i gael eich grant dewisol cyfyngiadau symud ac yn gofyn a oedd Llywodraeth Cymru yn mynd i'w helpu cyn i'r gaeaf hwn gyrraedd, gan ddweud, 'Ni all ein sector oroesi heb gymorth ychwanegol'. Felly, mae angen datganiad gennych chi, yn manylu ar y gefnogaeth y byddwch yn ei rhoi iddyn nhw nawr, neu'n esbonio pam ar y ddaear eich bod wedi cefnu ar y sector allweddol hwn a'i gefnogaeth i'n heconomïau lleol. Rebecca Evans AC: Wel, byddwn i'n ddiolchgar iawn pe byddai Mark Isherwood yn anfon rhagor o fanylion ataf am y rhesymau pam nad oedd y perchnogion gwely a brecwast y mae'n cyfeirio atyn nhw yn gymwys i elwa ar y gronfa ddewisol. Mae'n dweud ei fod wedi gwneud hynny, ond nid oes dim wedi fy nghyrraedd eto. Felly, byddwn yn awyddus i ddeall y rhesymau am hynny, oherwydd rydym ni, fel yr wyf wedi sôn mewn ymateb i Leanne Wood, yn ceisio archwilio'r hyn y gallwn ni ei ddysgu o'r cam 3 presennol hwn o ran ein pecyn cymorth wrth inni symud ymlaen ar gyfer busnes. Felly, rwy'n awyddus i ddeall pam nad oedden nhw'n gallu cael gafael ar gyllid drwy'r gronfa ddewisol, sy'n fwriadol yn hyblyg ac yn eang iawn er mwyn diwallu anghenion y busnesau hynny nad ydyn nhw eto wedi gallu cael cymorth. Siân Gwenllian AC: Hoffwn i wybod efo pwy yn union o fewn Llywodraeth Cymru mae'r sector theatrau angen bod yn trafod ynglŷn ag ailagor mewn ffordd ddiogel? Efo neuaddau bingo, sinemâu a chasinos ac yn y blaen yn cael ailagor, mae'r rhai sydd yn gweithio mewn theatrau, a'r rhai ohonom ni sydd yn hoffi mynychu theatrau, angen gwybod pryd gallan nhw ailagor yn ddiogel. Y broblem ydy nad ydyn nhw ddim yn gwybod efo pwy yn union o fewn Llywodraeth Cymru maen nhw angen bod yn trafod. Mae'n debyg eu bod nhw mewn trafodaethau sy'n cael eu cynnal gan yr uned digwyddiadau mawr, ond nid dyna'r lle priodol ar gyfer y drafodaeth achos rydych chi'n medru sôn am ddigwyddiadau bychain iawn yn gallu digwydd o fewn theatrau. Felly, a fedrwch chi roi eglurder: efo pwy yn union maen nhw angen bod yn trafod? Rebecca Evans AC: Wel, yng ngoleuni'r cyd-destun iechyd cyhoeddus ehangach, mae'n ofynnol i theatrau a neuaddau cyngerdd, fel y dywed Siân Gwenllian, aros ar gau i'r cyhoedd. Ac, wrth gwrs, maen nhw, fodd bynnag, yn rhan annatod o'n dull o brofi digwyddiadau, na fyddan nhw, yn anffodus, bellach yn gallu ailddechrau tan fis Chwefror ar y cynharaf. Felly, mis Chwefror fydd hi, ar y cynharaf, o ran pryd y byddwn ni'n cloriannu'r profion hynny. Rydym ni wedi dechrau ailagor mewn ffordd gyfyngedig. Felly, rydym ni wedi bod yn ystyried caniatáu cynnal ymarferion a pherfformiadau ar-lein, er enghraifft, ac mae ein cronfa adfer diwylliannol gwerth £63 miliwn yno i gefnogi theatrau a neuaddau cyngerdd yn y cyfamser. O ran gyda phwy y dylen nhw sgwrsio ymhellach, Eluned Morgan neu Dafydd Elis-Thomas fyddai'r person priodol i gael y trafodaethau hynny. Joyce Watson AC: Mae gennyf ddau gais byr, Trefnydd: yn gyntaf, a gawn ni amser yn y Siambr i drafod adroddiad blynyddol y cynghorwyr cenedlaethol ar drais a cham-drin domestig, os gwelwch yn dda? Yfory yw'r Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Dileu Trais yn erbyn Menywod a Phlant, a'r llynedd, bu marwolaethau 1,300 o fenywod, a phump o'r rheini yng Nghymru. Fel arfer, byddwn yn gofyn i Aelodau gefnogi cronfa'r Rhuban Gwyn. Felly, a gaf i fanteisio ar y cyfle hwn i ofyn i gyd-Aelodau ystyried cefnogi eu prosiectau lleol yn eu hetholaethau? Oherwydd mae modd iddyn nhw achub bywydau yn enwedig nawr pan nad yw aros gartref, i lawer o fenywod, yn golygu aros yn ddiogel. Ac yn ail, byddwn yn falch o gael yr wybodaeth ddiweddaraf gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru am y Ganolfan Fyd-eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd yng Nghymru. Dyma gyfle gwych i Bowys a chwm Tawe uchaf sydd wedi'i gyflwyno gan Lywodraeth Cymru. Byddai'n dda iawn cael rhywfaint o eglurder ynghylch y sefyllfa sydd ohoni, yn enwedig gan fod yr Aelod Seneddol Ceidwadol dros Frycheiniog a Sir Faesyfed wedi creu dryswch drwy honni'n anghywir mai Llywodraeth Cymru sydd i fod i roi sêl ei bendith, ond fy nealltwriaeth i yw mai'r rheswm dros yr oedi yw nad yw Llywodraeth y DU wedi gwneud penderfyniad rhwng safle Powys a'r safle Siemens yn Scunthorpe sy'n cystadlu am y ganolfan. Rebecca Evans AC: Llywydd, a gaf i fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Joyce Watson am y gwaith anhygoel y mae'n ei wneud, flwyddyn ar ôl blwyddyn, o ran ymgyrch y Rhuban Gwyn ac o ran bod yn llais i fenywod a merched sy'n dioddef trais neu sydd mewn perygl o ddioddef trais? Rwy'n credu ei bod hi'n ysbrydoliaeth i bob un ohonom ni, ac rwy'n ddiolchgar iawn i Joyce am yr wylnos a drefnodd ddoe. Roedd yr wylnos ar-lein, ond ddim yn llai grymus oherwydd hynny, a hefyd y digwyddiad y bûm yn rhan ohono yn y bore, a oedd yn canolbwyntio'n benodol ar fenywod a merched sy'n wynebu trais domestig mewn cymunedau gwledig, nad yw eu lleisiau bob amser yn cael eu clywed ac sy'n aml yn ei chael hi'n anoddach estyn allan am y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Felly, roeddwn yn credu bod hwnnw'n ddigwyddiad hynod o rymus. Bydd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn cyhoeddi datganiad yfory sy'n sôn am gyhoeddi cynllun y cynghorwyr cenedlaethol, ac mae eu blaenoriaethau dros y flwyddyn nesaf yn cynnwys sefydlu dull iechyd cyhoeddus o ymdrin â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol; a hefyd gweithio gyda'r grŵp sy'n arwain ar gam-drin ar sail anrhydedd fel dau o'r pethau y byddant yn canolbwyntio arnynt dros y 12 mis nesaf. O ran y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd, Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, a ddatblygodd y cynigion arloesol ar gyfer y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd ar ôl gweld fod angen am gyfleuster o'r fath, ac rydym ni wedi dangos yr arweiniad yr oedd ei angen i'w ddatblygu i'r cam yma. Mae'n fenter a luniwyd yn gadarn iawn yma yng Nghymru, gan greu'r cyfleuster newydd ar gyfer holl ddiwydiant rheilffyrdd y DU, ac rydym yn bwriadu iddo fod yn atyniad ar gyfer swyddi, sgiliau a thwf yn yr ardal. Mae'n wir ein bod, ddechrau mis Gorffennaf, wedi cyflwyno achos busnes i Lywodraeth y DU yn amlinellu'r camau nesaf i wireddu'r ganolfan honno, ac rydym yn aros am gymeradwyaeth ffurfiol gan Lywodraeth y DU i'r achos busnes, ac, yn amlwg, gobeithiwn gael cyhoeddiad cadarnhaol am hynny yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant yfory. Laura Anne Jones AC: Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog addysg yn egluro safbwynt Llywodraeth Cymru ar gadw plant mewn ysgolion gymaint â phosibl hyd at ddiwedd y tymor hwn? Roedd yn galonogol clywed y Prif Weinidog yn rhannu fy mhryderon ynghylch grwpiau blwyddyn mewn rhai ysgolion mewn rhai awdurdodau y gellid dadlau eu bod gartref yn ddiangen oherwydd nad oedden nhw'n defnyddio'r system profi ac olrhain yn iawn. Tybed sut—o fewn y datganiad hwnnw, pe gellid ei ymgorffori—y mae'r Llywodraeth hon yn bwriadu gweithio gyda'n hysgolion a'n awdurdodau lleol i sicrhau bod cysondeb ledled Cymru yn ymagwedd ein hysgolion tuag at y coronafeirws. Hefyd, soniodd y Prif Weinidog am brofion llif ochrol, pe gellid ymgorffori hynny hefyd yn y datganiad, yr amserlenni, y symiau, y math hwnnw o beth. Ac yn olaf, Llywydd, hefyd, rwyf wedi bod yn clywed y gallai rhai ysgolion yn y de-ddwyrain fod yn cau wythnos yn gynnar yn nhymor y Nadolig, felly tybed a all y Llywodraeth roi rhywfaint o eglurder ar hynny, oherwydd, o'r ddealltwriaeth sydd gennyf, roedd ysgolion am gau wythnos yn gynnar oherwydd byddai hynny'n golygu cyfnod ynysu o bythefnos ar gyfer Noswyl Nadolig, yn amlwg. Felly, tybed a allai roi rhywfaint o eglurder ynglŷn â hynny a beth yw safbwynt gwirioneddol y Llywodraeth, o ystyried mai blaenoriaeth y Llywodraeth yw cadw ein plant yn yr ysgol gymaint ag sy'n bosibl. Diolch. Rebecca Evans AC: Diolch i Laura Anne Jones am godi'r mater pwysig yna. Mae gan y Gweinidog Addysg gwestiynau yn y Siambr yfory, felly gallai hynny fod yn gyfle i ystyried rhywfaint o hyn yn fanylach, ond, ochr yn ochr â hynny, gofynnaf iddi ysgrifennu atoch gyda rhywfaint o wybodaeth bellach am y cynllun ar gyfer profi plant yn yr ysgol, a hefyd y cyngor sy'n cael ei roi i ysgolion yn benodol o ran anfon plant adref i hunanynysu ac ati, a hefyd y math o feddylfryd o ran y dull o ymdrin â'r Nadolig a sicrhau ein bod yn cadw plant a'u teuluoedd mor ddiogel ag y gallwn ni. Rhun ap Iorwerth AC: Gweinidog, rwy'n gofyn am gynnal dadl ar frys ar ddiwedd cyfnod pontio Brexit a'r hyn y mae'n ei olygu'n benodol i borthladdoedd Cymru. Rydym bellach ar yr unfed awr ar ddeg, ac mae rhybuddion a godwyd gennyf fi ac eraill ynghylch y diffyg paratoi yng Nghaergybi yn swnio'n uwch byth. Nawr, gyda'r angen am ddatganiadau a gwiriadau'r tollau ar gludo nwyddau allan o 1 Ionawr, nid yw'r system tollau electronig newydd sydd i'w defnyddio wedi ei threialu hyd yn hyn, rwy'n deall. Bydd y Gweinidog wedi darllen am bryderon a fynegwyd heddiw gan gludwyr o Iwerddon am anhrefn yn y porthladd. Rwyf wedi siarad â Nick Bosanquet, athro polisi iechyd yn y Coleg Imperial, sy'n poeni y gallai oedi ym maes porthladdoedd hyd yn oed gynyddu'r risg o COVID. Nawr, ddoe ymwelodd Taoiseach Iwerddon â'r seilwaith eithaf trawiadol sydd wedi'i ddatblygu ym mhorthladd Dulyn. Does dim byd yng Nghaergybi ar gyfer y cyfnod pan fydd angen y gwiriadau hynny ym mis Gorffennaf y flwyddyn nesaf ar gludo nwyddau yn dod i mewn. Mae safle yn Warrington wedi'i ddynodi ar gyfer man gwirio nwyddau a fewnforiwyd yng Nghaergybi, o leiaf dros dro. Allech chi ddim dyfeisio'r fath stori. Mae'n amlwg bod yn rhaid i'r safle hwnnw fod yng Nghaergybi neu gerllaw. Nawr, mae Llywodraeth y DU wedi gwneud traed moch go iawn yma, ond mae angen inni hefyd glywed yn union beth arall y mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio ei wneud, ac yn ceisio ei wneud i achub pethau, o gofio mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am ddatblygu canolfan ar gyfer y ffin yn ne-orllewin Cymru, a Llywodraeth y DU ar gyfer yr un sy'n ymwneud â Chaergybi. Nawr, fy ofn i, fel yr wyf wedi rhybuddio dro ar ôl tro, yw y bydd unrhyw beth sy'n effeithio ar lif rhydd masnach drwy Gaergybi yn tanseilio'r porthladdoedd ac yn tanseilio swyddi sy'n gysylltiedig â'r porthladdoedd, felly a allwn ni ddod â'r holl faterion hyn gerbron y Senedd eto, ar yr awr hwyr hon hyd yn oed, fel y gallwn ni bwysleisio beth yn union sydd yn y fantol? Rebecca Evans AC: Diolch i Rhun ap Iorwerth am grybwyll yr hyn sy'n bryderon difrifol a sylweddol. Gwnaf yn sicr fy mod yn siarad â Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth am eich cais am y datganiad brys hwnnw. Os na ellir gwneud hynny yn y dyfodol agos iawn, byddaf yn sicr yn gofyn iddo ysgrifennu atoch chi ynghylch y materion hynny yn y cyfamser. Rhianon Passmore AC: Hoffwn ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar y broses gynllunio, yr amserlenni a'r ffordd o fynd ati i lunio strategaeth ailgychwyn gyfyngedig a graddol ar gyfer lleoliadau perfformiad a chelfyddydau ledled Cymru, ond i nodi bod ymchwil wyddonol a fframweithiau lliniaru gweithredu diogel hanfodol bellach ar waith ledled y DU ac yn rhyngwladol, ein bod ni yng Nghymru wedi agor ac yn gweithredu sinemâu a neuaddau bingo, y cynhelir ymarferion cerddorfa ac opera diogel ledled Cymru, ac y cyhoeddwyd pryd y bydd lleoliadau Lloegr yn ailagor a bod rhai lleoliadau, theatrau a chanolfannau celfyddydol llai bellach yn barod i wirfoddoli fel cynlluniau arbrofol i allu agor yn ddiogel nawr gyda mesurau lliniaru llym priodol tebyg ar waith. Felly, Gweinidog, mae'r lleoliadau llai hyn nid yn unig yn hanfodol i les ein cymunedau o ran ymgysylltu a chyfranogi, ond, os nad ydyn nhw yn agor yn fuan, efallai y bydd yn rhaid iddyn nhw gau, ac ni all llawer ohonyn nhw hawlio nawr o gronfa cadernid economaidd COVID-19. Felly, a all y datganiad hwn gan Lywodraeth Cymru nodi llwybr clir ymlaen i'r sector ac amlinellu'r mesurau i gefnogi ein lleoliadau celfyddydol a pherfformio fel y gallan nhw agor mewn modd cynlluniedig, cyfyngedig a diogel, fel y cynghorir yn glir gan yr adroddiad ynglŷn â cherddoriaeth fyw i ymateb Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu Llywodraeth Cymru? Diolch. Rebecca Evans AC: Unwaith eto, diolch i Rhianon Passmore am grybwyll y mater hwn y prynhawn yma. Rwy'n gwybod ei bod wedi cael cyfle i gyflwyno'r sylwadau cryf hynny ar ran lleoliadau llai, yn enwedig yn uniongyrchol i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg yn gynharach heddiw. Mae'n wir, yn sicr o ran y digwyddiadau prawf—ac rwy'n sylweddoli bod y rhain fwy na thebyg yn ddigwyddiadau mwy na'r rhai y mae Rhianon Passmore yn meddwl amdanyn nhw—na fydden nhw'n ailddechrau tan fis Chwefror ar y cynharaf, ond rwy'n sylweddoli ein bod fwy na thebyg yn siarad yn yr achos hwn am leoliadau llai. Byddaf yn siŵr eto o sicrhau bod y Gweinidog yn ystyried hynny ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi fel bo'n briodol. Diolch i'r Trefnydd. Egwyl fydd nesaf nawr, er mwyn gwneud rhai o'r newidiadau sy'n angenrheidiol yn y Siambr. Felly, egwyl fer. Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:19. Ailymgynullodd y Senedd am 15:26, gyda'r Dirprwy Lywydd (Ann Jones) yn y Gadair. 4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Fesurau Arbennig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Felly, rydym ni'n ailymgynnull gydag eitem 4 ar yr agenda, sef datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: yr wybodaeth ddiweddaraf am Fesurau Arbennig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Besti Cadwaladr. Ac rwy'n galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething. Vaughan Gething AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel y gŵyr yr Aelodau, caiff ystyriaeth ei rhoi i statws uwchgyfeirio ac ymyriad y byrddau iechyd a'r ymddiriedolaethau yng Nghymru fel rhan o'r trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd sydd gennym ni ar y cyd. Mae hyn yn golygu bod swyddogion Llywodraeth Cymru yn cyfarfod ag Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ddwywaith y flwyddyn i drafod sefyllfa gyffredinol sefydliadau GIG Cymru o ran ansawdd, perfformiad gwasanaethau a rheolaeth ariannol. Rhoddir ystyriaeth i ystod eang o wybodaeth a hysbysrwydd ar gyfer nodi unrhyw faterion i lywio eu hasesiad a'u cyngor i mi fel Gweinidog Iechyd. Mae cyfle hefyd i gynnal cyfarfodydd ychwanegol, pe byddai'r grŵp o'r farn bod angen hynny. Yn y cyfarfod tairochrog llawn diwethaf a gynhaliwyd ym mis Medi, fe gytunwyd i gynnal cyfarfod pellach cyn diwedd y flwyddyn galendr, yn benodol ynglŷn â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Rwy'n falch o gael dweud y cynhaliwyd cyfarfod tairochrog arbennig yn gynharach y mis hwn. Y cyngor a'r argymhelliad clir i mi oedd y dylid newid statws uwchgyfeirio'r bwrdd iechyd. Rwyf wedi derbyn y cyngor hwnnw. Rwyf wedi penderfynu y bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dod allan o fesurau arbennig a hynny ar unwaith. Mae statws uwchgyfeirio'r bwrdd iechyd bellach wedi newid i ymyriad wedi'i dargedu. Fe adolygodd y grŵp tairochrog dystiolaeth ychwanegol a gyflwynwyd gan y bwrdd iechyd a oedd yn dangos cynnydd dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys mewn meysydd a nodwyd yn wreiddiol yn bryderon a oedd yn teilyngu mesurau arbennig. Fe nododd y grŵp fod y bwrdd iechyd wedi dangos ymgysylltiad gwell gyda phartneriaid, yn enwedig yn ystod y pandemig presennol. Roedd hefyd yn cydnabod dealltwriaeth y bwrdd iechyd o'r heriau y mae'n eu hwynebu o hyd, ynghyd â'r penderfyniad a ddangoswyd gan y bwrdd a'r prif weithredwr newydd i sicrhau cynnydd pellach. Nododd y grŵp tairochrog yr effaith andwyol yr oedd bod mewn mesurau arbennig wedi'i chael ar allu'r bwrdd iechyd i recriwtio a chadw staff, yn enwedig ar lefel uwch. Mae hyn wedi arwain at lenwi nifer o swyddi cyfarwyddwyr gweithredol dros dro ar hyn o bryd. Mae'n amlwg nad yw hyn yn fuddiol iawn i'r bwrdd iechyd wrth symud ymlaen. Roedd mesurau arbennig yn cael effaith hefyd ar allu'r bwrdd iechyd i wneud y cynnydd pellach sy'n angenrheidiol. Mae pryderon o hyd ynghylch rhai agweddau ar berfformiad, yn enwedig mewn gwasanaethau iechyd meddwl a gallu'r bwrdd iechyd i baratoi cynllun tymor canolig y gellir ei gymeradwyo. Wrth symud ymlaen, er mwyn darparu eglurder a sicrwydd o'r pwysigrwydd angenrheidiol, fe ddefnyddir dull matrics aeddfedrwydd, sy'n debyg i'r prosesau a fu ar waith ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Ar 3 Tachwedd, fe gyhoeddais i becyn cymorth i'r bwrdd iechyd. Mae'r cymorth hwn yn gyfanswm o £82 miliwn ychwanegol y flwyddyn dros dair blynedd a hanner i gefnogi'r bwrdd iechyd wrth iddo ddechrau ar gyfnod newydd o dan ymyriad wedi'i dargedu, ac mae'n dal ati â'i waith parhaus i wireddu gwelliannau. Mae cadeirydd y bwrdd iechyd wedi ymateb eisoes gan amlinellu sut y defnyddir y cymorth hwn i wella gofal heb ei gynllunio, i feithrin gofal a drefnir mewn modd cynaliadwy, gan gynnwys orthopedeg, i sicrhau y bydd gwelliannau mewn gwasanaethau iechyd meddwl ac, wrth gwrs, er lles iechyd poblogaeth y gogledd. Fe ddylid cofio bod ymyriad wedi'i dargedu yn parhau i fod yn lefel fwy dwys o uwchgyfeirio. Mae hyn yn gofyn am weithredu sylweddol gan y sefydliad, ac fe fydd yna lefel o oruchwyliaeth barhaus gan fy swyddogion i sy'n cyd-fynd â hyn. Er hynny, mae symud allan o fesurau arbennig heb os nac oni bai yn gam ymlaen i staff y bwrdd iechyd sydd wedi gwireddu a chynnal y cynnydd i ddod â'r mesurau arbennig i ben. Mae hwn yn gam cadarnhaol ymlaen hefyd i bob cymuned yn y gogledd sy'n cael ei gwasanaethu gan y bwrdd iechyd. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau ar draws y Senedd yn ymuno â mi i longyfarch staff yn y bwrdd iechyd wrth iddyn nhw symud i gam nesaf eu taith nhw o ran gwelliant. Darren Millar AC: A gaf i fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch ar goedd ar ran pawb ar feinciau Ceidwadwyr Cymru i'r aelodau hynny o staff rheng flaen y GIG yn y gogledd sydd wedi bod yn gweithio mor galed, yn enwedig yn ystod y pandemig hwn? Trueni mawr, Gweinidog, na fuoch chi mor gwrtais â briffio unrhyw Aelodau ar feinciau'r gwrthbleidiau heddiw ynglŷn â'ch penderfyniad, ac mewn gwirionedd, fe fuoch chi mor anghwrtais, hyd yn oed, â pheidio â rhannu eich datganiad nes yn union cyn ichi ei ddarllen yn gyhoeddus. Y gwir amdani yw ei bod hi'n ymddangos bod gan y cyhoeddiad heddiw fwy i'w wneud â rhagolygon y Blaid Lafur yn y gogledd yn etholiadau'r Senedd y flwyddyn nesaf nag ydyw ag unrhyw dystiolaeth o welliant gwirioneddol ar lawr gwlad yn y gogledd. Ni ellir cyfiawnhau eich penderfyniad i ddiddymu mesurau arbennig ac ni allwch dwyllo na chamarwain pobl y gogledd i feddwl bod popeth yn iawn. Nid yw eich disgrifiad chi o welliant yn debyg o gwbl i realiti profiadau cleifion ledled y rhanbarth. Gadewch inni edrych ar y ffeithiau. Roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ei chweched flwyddyn o fesurau arbennig. Yn y cyfnod hwn, mae'r bwrdd wedi gweld newidiadau parhaus o ran ei uwch dîm arwain, gyda nifer fawr o brif weithredwyr, nifer fawr o gyfarwyddwyr cyllid, a nifer fawr o gyfarwyddwyr iechyd meddwl. Yn wir, mae'r cyfarwyddwr iechyd meddwl presennol yn gadael ei swydd ddiwedd y mis hwn, rhicyn arall ym mhostyn gwely Betsi. Ers 2015, mae perfformiad adrannau damweiniau ac achosion brys wedi gwaethygu, mae rhestrau aros ac amseroedd aros wedi dirywio ac wedi mynd yn hwy, ac mae sefyllfa ariannol y bwrdd iechyd wedi dirywio hefyd. Mae'r ffigurau diweddar yn dangos mai gan Betsi y mae'r adrannau achosion brys sy'n perfformio waethaf o hyd yng Nghymru gyfan, gydag un o bob 10 o bobl yn aros mwy na 12 awr cyn y gellir eu rhyddhau nhw ar ôl cyrraedd yr adran damweiniau ac achosion brys, ac ni ellir rhyddhau dros hanner, bron hanner y boblogaeth sy'n cyrraedd yno o fewn pedair awr. Fe wyddom fod gwasanaethau meddygon teulu yn parhau i fod yn fregus yn y rhanbarth, gyda mwy o bractisau a reolir yn unrhyw ardal bwrdd iechyd arall yng Nghymru. Ac, wrth gwrs, fe wyddom ni bellach fod gwasanaethau deintyddiaeth yn fregus ledled y gogledd hefyd, gydag 20,000 o gleifion wedi cael rhybudd y bydd eu gwasanaethau GIG nhw'n dod i ben ddechrau'r flwyddyn nesaf. Nid yw hwn yn fwrdd iechyd sy'n barod ar gyfer dod allan o'r trefniadau mesurau arbennig. Roeddech chi'n cyfeirio at nifer o resymau pam aeth y bwrdd iechyd hwn i fesurau arbennig, ac roedd llywodraethu, arweinyddiaeth a goruchwyliaeth yn un ohonyn nhw. Fe wyddom fod gwendidau yno o hyd oherwydd fe gafwyd achosion diweddar o'r coronafeirws yn torri allan mewn dau o'r ysbytai yn y gogledd, ac ni ddaeth yr un ohonyn nhw i'r amlwg oherwydd sefyllfa'r bwrdd iechyd, ond oherwydd bod Aelodau lleol o'r Senedd wedi ysgrifennu i godi pryderon. Nid yw gwasanaethau iechyd meddwl wedi dod trwy'r gwaethaf eto chwaith. Er gwaethaf addewidion o adeiladau newydd a gwych, mae'r diwylliant yn yr adrannau hynny'n parhau i fod yr un peth. Mae gennym 1,600 o gleifion a gafodd eu rhyddhau o wasanaethau yn gynharach eleni yn ddiarwybod iddyn nhw, heb i neb eu hysbysu nhw. Mae nifer y gwelyau yn parhau i fod yn broblem aruthrol. Nid yw gwasanaethau plant a'r glasoed na'r gwasanaeth iechyd meddwl byth yn ddigonol, gyda chleifion yn parhau i gael eu hanfon gannoedd o filltiroedd i ffwrdd i gael triniaethau fel cleifion mewnol. Ac mae chwarter—chwarter—yr holl achosion diogelwch iechyd meddwl yn GIG Cymru yn achosion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Nid yw hwn yn fwrdd iechyd sy'n addas i ddod allan o fesurau arbennig. Ychydig wythnosau yn ôl, y mis diwethaf, roeddech chi'n dweud bod yna heriau mawr yn parhau yn y gogledd. Ychydig wythnosau yn ôl, roeddech chi'n dweud, ac rwy'n dyfynnu, Yn benodol, roedd y grŵp yn dymuno cael rhywfaint o sicrwydd pellach gan y bwrdd iechyd o ran y cynnydd mewn gwasanaethau iechyd meddwl. Dim ond ychydig wythnosau yn ôl yr oedd hyn. Nawr, ai dyma'r adferiad mwyaf gwyrthiol ers i Lasarus gael ei gyfodi o blith y meirw neu a ydych chi'n ceisio twyllo pobl gogledd Cymru i feddwl bod gwasanaethau wedi gwella, a'r gwirionedd yw nad ydyn nhw wedi gwella? Felly, rwy'n gofyn i chi, Gweinidog, sut allwch chi gyfiawnhau eich safbwynt chi o gofio bod llawer o'r materion ar y rhestr wreiddiol honno—ac rwy'n dyfynnu un, er enghraifft: ailgysylltu â'r cyhoedd ac adennill hyder y cyhoedd. Dyna un o'r rhesymau y cafodd y bwrdd ei roi mewn mesurau arbennig. Fe allaf i ddweud wrthych chi nad oes gan y cyhoedd yn y gogledd hyder o gwbl yn eich gallu chi i wella eu gwasanaethau. Dim ond dirywiad a welwyd ganddyn nhw yno, fel y dywedais i wrthych chi nawr, o ran rhai o'r ffeithiau hynny ar lawr gwlad. Felly sut y gallwch chi ddweud eich bod wedi ymdrin â'r mater hwnnw? Sut allwch chi ddweud, pan mae cynifer o wasanaethau meddygon teulu yn fregus, a chymaint o wasanaethau yn destun ymyriad a rheolaeth gan y bwrdd iechyd, yr ymdriniwyd â'r pryderon hyn am wasanaethau meddygon teulu a gofal sylfaenol, yn arbennig gyda'r argyfwng sydd ar y gorwel nawr ym maes gofal deintyddol hefyd? A sut ar y ddaear allwch chi ddweud yr ymdriniwyd â llywodraethu pan nad oedd y bwrdd iechyd ei hun yn gwybod beth oedd cyfradd yr heintiau a welwyd mewn ysbytai o ran COVID nes i mi dynnu eu sylw nhw at hynny? A sut ar y ddaear allwch chi ddweud bod gwasanaethau iechyd meddwl yn well pan maen nhw, a dweud y gwir, gyn waethed nawr ag yr oedden nhw nôl yn 2015? Vaughan Gething AC: Wel, siomedig, ond nid anarferol efallai, yw'r ymateb afresymol a oedd i'w ddisgwyl gan Mr Millar. Mae'n anffodus ei fod yn gwrthod rhoi unrhyw glod i'r staff am y cynnydd a wnaed yn ystod y blynyddoedd diwethaf sydd wedi arwain at ddod â'r mesurau arbennig i ben. Yn benodol, rwy'n atgoffa'r Aelodau, yn y Siambr hon ond yn allanol hefyd, nid yn unig o'r cynnydd a enillwyd yn sgil y broses dairochrog, y byddaf i'n dod yn ôl ati, ond yn benodol yr ymateb i'r pandemig, sef argyfwng gofal iechyd a ddaw unwaith mewn can mlynedd. Rwyf i o'r farn fod Betsi Cadwaladr a'i staff yn haeddu clod enfawr am yr ymateb. Rhyfedd iawn fyddai dweud y cafwyd ymateb o'r radd flaenaf i'r pandemig ac eto mae'n rhaid i'r sefydliad aros mewn mesurau arbennig, oherwydd byddai hynny'n cyd-fynd â safbwynt Mr Millar. O ran sail y penderfyniad i ddiddymu mesurau arbennigar gyfer y sefydliad hwn, fe gyfeiriais i'n amlwg iawn ac yn eglur iawn at hyn yn y datganiad, yn union fel y gwnaethom ni o'r blaen wrth gyfeirio at ddiweddariadau ynglŷn â mesurau arbennig, am y cyngor o'r broses gynghori wrthrychol dairochrog. Mae prif weithredwr GIG Cymru, ynghyd â swyddogion Llywodraeth Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Archwilio Cymru, yn rhoi cyngor imi yn rhinwedd fy swydd fel Gweinidog. Eu cyngor amlwg nhw oedd nad yw hwn bellach yn sefydliad sy'n teilyngu mesurau arbennig. Ac fe ddylwn i ddweud nad yw prif weithredwr GIG Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru nac Archwilio Cymru yn gwneud dewisiadau o ran eu cyngor nhw i mi ar sail gwleidyddiaeth y pleidiau. Mae'r awgrym gan Mr Millar i'r gwrthwyneb yn sen ar eu cywirdeb nhw ac mae'n fater y dylai ei dynnu'n ôl a'i ailystyried. Y cyngor tairochrog yw'r cyngor; ond fi sy'n gwneud y penderfyniad. Nid yw ymyrryd wedi'i dargedu yn gyfystyr â dihangfa lwyr; mae angen mwy o gynnydd, fel yr eglurais i. Rwy'n credu y bydd pobl resymol yn cydnabod hynny, ond fe fyddan nhw hefyd yn cydnabod mai rhywbeth cadarnhaol o ran gofal iechyd yn y gogledd yw hyn, sy'n glod gwirioneddol i staff y bwrdd iechyd, ac rwy'n edrych ymlaen at weld cynnydd pellach yn digwydd. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch, Gweinidog. Diolch am ddatganiad sy'n cadarnhau bod Betsi Cadwaladr am aros ar lefel o ymyrraeth am gyfnod arall yn nwylo Llywodraeth Cymru, sydd wedi methu, yn ystod cyfnod o bum mlynedd a hanner, â datrys y problemau a'i rhoddodd mewn mesurau arbennig. Rwy'n awyddus bob amser i ganmol staff rheng flaen y GIG, yng ngogledd Cymru, fel y gwnaf i yng ngweddill Cymru. Mae eu hymateb nhw i'r pandemig hwn wedi bod heb ei ail. Rwy'n falch o ddweud fy mod i'n adnabod llawer ohonyn nhw, ac rwy'n falch o'r gwaith a wnaeth pob un ohonyn nhw, a hynny'n ddiflino. Wrth ein gwahodd ni i'w canmol nhw'n benodol am ddod â'r bwrdd allan o fesurau arbennig, a ydych chi'n dweud wrthym ni nad oedd ganddyn nhw ran i'w chwarae wrth ddod â'r mesurau arbennig yn y bwrdd i ben yn ystod y pum mlynedd a hanner diwethaf? Yr hyn a welais i yw Llywodraeth Cymru yn methu â chymryd camau digonol, a chamau y gallech chi fod wedi eu cymryd nhw o'r blaen. Mae'r datganiad hwn, y fy marn i, yn dweud yn y bôn, 'Wyddoch chi beth? Ni allwn gael cynnydd, fe ymddengys, wrth inni aros mewn mesurau arbennig.' A yw wedi cymryd pum mlynedd a hanner i chi ddod i'r safbwynt hwnnw? A sut wnaethoch chi gyrraedd y pwynt hwn ymhen ychydig wythnosau? Rydym ni nawr—ble rydym ni? 24 o fis Tachwedd. Roeddech chi'n dweud wrthym ar 7 Hydref fod yna broblemau mawr i'w hwynebu o hyd, ym maes iechyd meddwl yn arbennig. Ond nid heddiw yr oeddech chi'n penderfynu; yn gynharach y mis hwn, fe ymddengys, erbyn hynny, roedd y cyfarfod tairochrog wedi dweud wrthych chi, 'Mae popeth yn iawn'. Felly, mewn mater o dair neu bedair wythnos roedd pethau wedi trawsnewid yn llwyr. Ac mae hynny, i mi, yn ymddangos yn rhyfedd iawn, iawn. Rydych chi'n dweud bod mesurau arbennig yn effeithio ar allu'r bwrdd iechyd i recriwtio a chadw staff. Unwaith eto, ai dim ond nawr yr ydych chi'n sylweddoli hynny, ar ôl cyfnod estynedig o fod â swyddi na ellir eu llenwi'n niweidiol ar y gallu sydd gennym i ddenu'r bobl orau i weithio ym maes iechyd yng ngogledd Cymru? Wrth gwrs, ar ryw ystyr, rwy'n falch o weld symud ymlaen oddi wrth fesurau arbennig i gyfradd arall o ymyrryd. Ond rwyf i o'r farn o hyd, fel llawer o gleifion ac aelodau staff ym mwrdd Betsi Cadwaladr, fod angen dechrau newydd ar Ogledd Cymru. Mae wedi cymryd gormod o amser i gyrraedd y pwynt hwn ac ychydig iawn o ffydd sydd yn y ffordd y byddwn ni'n cyrraedd y pwynt nesaf, pryd y gallwn ni ddweud mewn gwirionedd fod gennym ni, yng ngogledd Cymru, wasanaeth iechyd sy'n gweithio ac a gynlluniwyd mewn ffordd y mae'r staff a'r cleifion yn ei haeddu. Mae angen byrddau iechyd newydd ar gyfer gogledd Cymru, cychwyn newydd, ac ni chefais i fy argyhoeddi heddiw fod Llywodraeth Cymru yn deall y problemau gwirioneddol, yn enwedig ym maes iechyd meddwl, a oedd wrth wraidd rhoi'r bwrdd mewn mesurau arbennig yn y lle cyntaf, i'r graddau y gallaf i ddweud bod y broblem yn agos at gael ei datrys. Vaughan Gething AC: Diolch am y cwestiynau a'r sylwadau. Rwy'n croesawu yn arbennig gydnabyddiaeth yr Aelod fod yr ymateb i'r pandemig gan staff a sefydliadau yn y gogledd wedi bod heb ei ail. Fe fu hwn yn ymateb cadarnhaol a thrawiadol iawn. Ac, unwaith eto, mae honno'n sylfaen i sefydliad lle byddai eraill wedi bod yn pryderu am allu'r sefydliad i weithio yn effeithiol yn wyneb pandemig unwaith mewn can mlynedd. Ac eto i gyd, mewn gwirionedd, maen nhw wedi ymateb yn sylweddol i'r her, nid yn unig gyda chreu ysbytai enfys, ond y ffordd y maen nhw wedi gweithio ar draws eu system gofal iechyd yn ei chyfanrwydd. Ac rwy'n credu y dylai hynny roi mwy o hyder i fwy o bobl yn ystod gweddill y pandemig sy'n parhau y mae pob un ohonom ni'n dal i'w wynebu. Ac, unwaith eto, i fynd yn ôl at y pwynt ynglŷn â'r cyngor a roddir a'r sicrwydd o'r diweddariad blaenorol a roddais i o'r cyfarfod tairochrog rheolaidd, yn y cyfarfod hwnnw, yn y drafodaeth ynghylch y gogledd, roedden nhw'n cydnabod bod cynnydd pellach wedi digwydd ac fe ofynnwyd am gyfarfod pellach am eu bod nhw'n ceisio cael sicrwydd pellach ar feysydd y cynnydd. Maen nhw wedi ystyried yr wybodaeth ychwanegol a roddwyd, ac mae'r grŵp hwnnw o bobl—prif weithredwr GIG Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Archwilio Cymru—wedi rhoi cyngor clir y dylai mesurau arbennig Betsi Cadwaladr ddod i ben, a dyna sail fy mhenderfyniad i. Nid wyf i o'r farn ei bod yn anodd nac yn gymhleth deall hyn, ac, wrth gwrs, mae gan bobl eraill yr hawl i ddweud eu bod nhw'n diystyru cyngor Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Archwilio Cymru a phrif weithredwr GIG Cymru. Mae ganddyn nhw yr hawl i ddweud hynny. Ac rwy'n credu bod gan bobl yr hawl i farnu ai dyna'r peth iawn i'w wneud yn eu barn nhw, fy mod i'n gwneud fy newis ar sail hynny, fel Gweinidog, neu am resymau mwy pleidiol i beidio â newid statws y sefydliad, ond ei gadw mewn mesurau arbennig pan mai'r cyngor gwrthrychol clir yw nad hwnnw yw'r peth iawn i'w wneud mwyach ar gyfer y sefydliad na'r bobl y mae hwnnw'n eu gwasanaethu. Rwy'n cydnabod mai—. Mae gan yr Aelod farn glir a fynegodd ar fwy nag un achlysur, sef ei fod o'r farn y byddai ad-drefnu gyda mwy nag un bwrdd iechyd yn y gogledd yn cynnig dyfodol gwell. Nid wyf i o'r un farn ag ef. Rwyf i o'r farn y byddai'r colli'r ffocws, yr arian y byddech chi'n ei wario, a'r ffwdan, yn golygu cost wirioneddol ac yna fe fyddai'n rhaid ichi ail-wneud yr holl drefniadau partner hynny sydd wedi symud ymlaen yn bendant dros y misoedd a'r blynyddoedd diwethaf. Felly, nid wyf i o'r un farn ag ef, ond rwy'n cydnabod bod ganddo berffaith hawl i fynegi ei farn i'r bobl. Fe fydd yr Aelodau yn penderfynu, ond fel y dywedais i, mae hwn yn gam cadarnhaol ymlaen i holl staff y bwrdd iechyd ac yn wir i bob cymuned yn y gogledd a wasanaethir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Jack Sargeant AC: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad chi. Rwy'n croesawu'n fawr iawn y buddsoddiad sylweddol a'r newyddion heddiw fod y bwrdd iechyd allan o fesurau arbennig erbyn hyn. Er hynny, mae rhai pryderon yn dal gennyf yr hoffwn i eu codi nhw heddiw, ac fe fyddwn i'n ddiolchgar am eich sylwadau chi ar y rhain. Rwy'n dal i bryderu am wasanaethau iechyd meddwl yn benodol, ac fe fyddwn i'n croesawu eich barn chi ynglŷn â'r gwelliant sy'n digwydd yn y gwasanaeth. Yn ail, a wnewch chi amlinellu hefyd sut rydych chi'n teimlo y mae'r bwrdd iechyd yn perfformio o ran llawdriniaethau dewisol? Ac yn olaf, mae angen gwell darpariaeth o feddygon teulu ar rannau o Aluna Glannau Dyfrdwy yn benodol; mae lleoedd fel Saltney, yn enwedig, heb wasanaeth digonol. Felly pa mor hyderus ydych chi, Gweinidog, y bydd y bwrdd iechyd yn mynd i'r afael â hyn yn iawn? Ac os caf i, wrth gloi, Dirprwy Lywydd, ddiolch ar goedd i'r holl staff ledled y gogledd yn y GIG, a ledled Cymru, nid am yr hyn y maen nhw'n ei wneud nawr yn unig ac yn parhau i'w wneud, ond am yr hyn y maen nhw wedi ei wneud bob amser i'n cynorthwyo ni drwy gyfrwng y system gofal iechyd yng Nghymru? Diolch. Vaughan Gething AC: Fe hoffwn i ddiolch i'r Aelod am y tri maes penodol hyn o gwestiynau. Rwyf am ymdrin â nhw o'r tu ôl ymlaen. O ran practis cyffredinol, a Saltney yn benodol, fel y crybwyllodd ef, mae newyddion da gan fod pob cynllun yn y gogledd ar gyfer hyfforddi meddygon teulu wedi recriwtio neu or-recriwtio i'w gapasiti, felly rydym yn denu pobl i weithio ledled y wlad. Mae hyn yn newyddion da i Gymru gyfan, gan gynnwys y gogledd. Fe welsom ni rai heriau penodol ar ddechrau ein gwaith ni ar 'Hyfforddi. Gwaith. Byw.' i gael pobl i fanteisio ar y lleoedd hyfforddi sydd yn y gogledd. Rydym mewn sefyllfa erbyn hyn lle mae gennym nifer dros ben, sy'n sefyllfa dda iawn i fod ynddi o ran ein lleoedd arferol, ond rydym yn awyddus i gadw'r holl bobl hyn sy'n cael eu hyfforddi yn y gogledd, oherwydd rydym yn awyddus i annog pobl i ystyried y gogledd yn lle deniadol i hyfforddi, gweithio a byw ynddo. Ac os yw'r Aelod yn dymuno cael sgwrs benodol ynglŷn â Saltney neu ardaloedd eraill yn ei etholaeth ef, yna fe fyddaf i'n hapus i drefnu hynny gyda'r bwrdd iechyd a/neu rhyngddo ef a minnau, ac fe edrychaf ymlaen at glywed mwy gan ei swyddfa i gael gwybod sut yr hoffai fwrw ymlaen â hynny. O ran capasiti dewisol, fel yn achos Cymru gyfan, cafwyd her arbennig. Mae'r gogledd yn wynebu mwy o her na rhannau eraill o Gymru o ran gofal dewisol a gofal wedi ei gynllunio, yn rhannol oherwydd y ffordd y mae gofal iechyd arferol yn digwydd, ac fe fydd ef yn gwybod hyn, am fod ei etholaeth ef ar y ffin. Mae llawer o bobl yn gyfarwydd â theithio dros y ffin i dderbyn peth o'u gofal iechyd nhw. Yn y dyfodol, fe allwn ni fod yn hyderus y bydd system Lloegr yn dal i fyny'n aruthrol o ran ei chapasiti dewisol hefyd. Rydym yn annhebygol o weld llawer iawn o gapasiti gofal wedi ei gynllunio yn system Lloegr. Dyna pam mae'r her orthopedig a nodais i a'r cyllid yr ydym ni'n ei ddarparu yn bwysicach byth, i weld sefyllfa â mwy o gysondeb ynddi ar gyfer llawdriniaethau wedi eu cynllunio—orthopedig ac eraill—yn y gogledd cyn belled ag y bo modd cael hynny, yn ogystal â'r sgwrs y mae angen inni ei chael am ofal iechyd rheolaidd dros y ffin. Ac o ran iechyd meddwl, mae yna bryder penodol y tynnais sylw ato yn fy natganiad i—unwaith eto, oherwydd y cynnydd o ran iechyd meddwl, ond yn sicr mae rhagor i'w wneud eto. Ac felly mae'r strategaeth 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yng Ngogledd Cymru' a gynlluniwyd gyda defnyddwyr gwasanaethau yn y gogledd—mae'n bwysig iawn gweld y trawsnewid hwnnw'n parhau, ac fe fydd hwnnw'n bryder arbennig y byddwn yn ceisio sicrwydd a chynnydd pellach arno yn y trefniadau ymyrryd wedi'i dargedu sydd ar waith. Felly, fe hoffwn i sicrhau'r Aelod a phawb arall sy'n gwylio fod iechyd meddwl yn bwysig iawn yn ein golwg ni—unwaith eto, o ran y daith anorffenedig tuag at welliant sy'n ofynnol o hyd. Ond yn ddiamau, mae gwasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd mewn gwell cyflwr nawr nag yr oeddent pan gafodd y sefydliad ei roi mewn mesurau arbennig bum mlynedd yn ôl. Mandy Jones AC: Mae Betsi Cadwaladr, yn ôl yr hyn a ddywedwch chi, allan o fesurau arbennig erbyn hyn. Iawn. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd Rhun a Darren, ond fe fyddwn ni'n gweld yn y dyfodol sut y bydd hyn yn gweithio, ac fe fydd fy nghyfraniad i heddiw'n dal i sefyll. Rwyf i wedi bwrw golwg, Gweinidog, ar fy natganiad blaenorol i pan oedd y bwrdd mewn mesurau arbennig, ac ar fy ymatebion i, ac maen nhw i gyd ar yr un trywydd. Felly, fe allwn i, pe byddwn i'n dymuno gwneud hynny, gyflwyno'r union araith a roddais i ym mis Mehefin 2019. Er hynny, o ystyried y flwyddyn yr ydym ni i gyd wedi ei chael, lle mae'r GIG a gwasanaethau cysylltiedig ar y rheng flaen i raddau mawr iawn, credaf ei bod yn fwy priodol i fod mor adeiladol â phosibl. Yn gyntaf, fe hoffwn i ddiolch ar goedd i bawb yn y GIG sydd wedi cyfrannu at gadw gwasanaethau ar waith yn wyneb ofn, pwysau, salwch a marwolaeth. Mae'n ymddangos ein bod ni'n ennill brwydr COVID. Wrth i nifer yr achosion trwy'r byd godi yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, nid yw marwolaethau wedi codi o'u cymharu â'r niferoedd hyn. Gweinidog, ni allaf i ond dychmygu pa mor aruthrol o fawr yw'r pwysau ar eich ysgwyddau chi. Mae'r ffaith eich bod chi'n dal i sefyll yn dystiolaeth i'ch dycnwch unigol chi. Er y gall unrhyw un o'r gwrthbleidiau anghytuno â'r dull a gymerir, rwy'n amau a fyddai unrhyw un yn y Siambr hon yn awyddus i gyfnewid lle â chi mewn gwirionedd—o leiaf yn ystod 2020. Fe wyddom ni fod Betsi Cadwaladr wedi bod mewn mesurau arbennig am y cyfnod hwyaf erioed ac, fel y dywedais i, a chan groesi bysedd, fe fydd eich dull chi o weithredu yn gweithio nawr. Ac roedd y cynnydd yn y cyllid o'r mis diwethaf i'w groesawu yn fawr iawn. Yn eich tŷb chi, Gweinidog, pa wahaniaeth y mae bod mewn mesurau arbennig yn ei wneud i lefel y gwasanaeth a gynigir i'n hetholwyr ni, a sut fydd hynny'n newid nawr? Rwy'n ceisio cael gwybod a oedd mesurau arbennig yn golygu amseroedd aros hwy, mwy o anhawster i gael apwyntiad gyda meddyg teulu a gwasanaethau deintyddol sy'n fwy anodd cael atyn nhw? Oherwydd mae'n ymddangos i mi, yn ein byd ni sy'n adfer wedi COVID, y bydd pob dinesydd yng Nghymru yn cael anhawster ym mhob un o'r meysydd hyn oherwydd effaith y pandemig. Wedi gofyn y cwestiwn hwn, mae'n rhaid imi ddweud fy mod i, am un, wedi syrffedu ar y defnydd o'r gwasanaeth iechyd fel cocyn hitio gwleidyddol, sy'n digwydd o hyd. Rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi sylweddoli bod iechyd yn bwysicach na dim byd arall. Fe wyddom fod y gwasanaeth iechyd yn cymryd dros 50 y cant o ddyraniad y gyllideb ar gyfer yr holl wasanaethau datganoledig, ac fe gafodd ymateb COVID ledled y DU ei yrru gan y GIG—ei gapasiti, ei gyllid—ar draul pob maes arall o gymdeithas sifil, mae'n debyg. Yn fy sylwadau i'ch datganiad chi am gefnogaeth strategol i Betsi Cadwaladr, fe soniais y gallai fod angen dull hollol wahanol i ddatrys yr hyn a welaf i yn broblem strwythurol gyda bwrdd iechyd y gogledd. Dyma'r bwrdd mwyaf yng Nghymru, felly efallai fod angen edrych ar hynny—y strwythur. Efallai ei bod hi'n bryd rhoi'r gorau i ddefnyddio'r gwasanaeth iechyd yn gocyn hitio gwleidyddol. Mae'n bryd nawr ystyried pa fath o gomisiwn trawsbleidiol all gymryd cyfrifoldeb am iechyd y genedl a GIG Cymru. Wedi'r cyfan, ni cheir monopoli ar syniadau da na chyfrifoldeb gwleidyddol ar y cyd, ac mae'n siŵr bod elfen o gytundeb yn well na'r ddadl yr ydym ni wedi ei chael, neu y byddwn ni'n ei chael heddiw. Diolch, Gweinidog. Vaughan Gething AC: Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Fe ddylwn i ddweud, o ran eich pwynt olaf chi, y gwnaethom ni, wrth gwrs, ar ddechrau'r tymor Cynulliad hwn, fel yr oedd hi bryd hynny, y tymor Seneddol hwn bellach, ddechrau gydag adolygiad seneddol. Rhoddodd y grŵp UKIP ar y pryd gefnogaeth i greu'r grŵp hwnnw ac, yn wir, i'w aelodaeth hefyd. Felly, roedd gennym ni grŵp annibynnol o arbenigwyr a gyflwynodd adroddiad ar yr heriau sylweddol yr oeddem ni'n eu hwynebu a syniadau am ddyfodol iechyd a gofal cymdeithasol, ac fe arweiniodd hynny at 'Cymru Iachach', sef ein cynllun hirdymor ni ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Felly, rydym yn ceisio cyflawni'r trawsnewid y cawsom yn amlwg ein cynghori y byddai angen iddo ddigwydd, ac mae hynny'n golygu rhywfaint o grynhoad o wasanaethau arbenigol mewn ysbytai, yn ogystal â symudiad pellach tuag at ddarparu mwy o wasanaethau yn y gymuned. Ac mae'r symudiad hwnnw a'r diwygio at ddiben ym maes gofal iechyd yn bwysig iawn, ynghyd â'r camau bwriadol y gwyddom fod angen inni eu cymryd i greu system iechyd a gofal cymdeithasol sy'n fwy integredig. Dyna pam rydym wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gronfa drawsnewid ac adeiladu'r gwasanaeth newydd hwnnw. Ac mewn gwirionedd mae'r pandemig wedi atgyfnerthu'r angen i wneud hynny. Mae wedi atgyfnerthu'r cynnydd a wnaethom eisoes hefyd o ran gwella'r berthynas rhwng iechyd a gofal cymdeithasol. Unwaith eto, rwy'n cydnabod y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud ynglŷn â'r posibilrwydd o ad-drefnu gofal iechyd yn y gogledd. Nid wyf i'n credu bod cyflawni'r weledigaeth yn 'Cymru Iachach' yn gofyn am ad-drefnu'r bwrdd iechyd yn y gogledd, ond mae honno'n farn y mae gan yr Aelodau yr hawl iddi. Nid honno yw fy marn i, ond rwy'n edrych am y canlyniadau a'r cynnydd yr ydym ni'n bwriadu eu cael. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelod yn gweld hynny yn y camau gweithredu, oherwydd fe wnaeth hi ddechrau trwy groesawu'r symudiad a chydnabod y byddai'n dymuno gweld y canlyniadau ar lawr gwlad. Ac i rywun sy'n byw yn y gogledd, mae hwnnw'n safbwynt cwbl resymol. O ran mesurau arbennig, y rheswm dros fynd i fesurau arbennig oedd—. Roedd ein hasesiad ni o'r ddarpariaeth, yr ansawdd a statws parhaus mesurau arbennig yn ymwneud â'n hasesiad ni o'r cynnydd a wnaeth y sefydliad yn erbyn yr heriau hynny, ond hefyd yr hyder i'r dyfodol ynglŷn â chynnal y gwelliant. Oherwydd rwyf wedi adrodd yn rheolaidd bod rhywfaint o welliant wedi bod, ond rhaid cael hyder y bydd hwnnw'n cael ei gynnal a'i barhau yn y dyfodol. Rydym ni heddiw nawr wedi cyrraedd y pwynt lle maen nhw'n hyderus, ynghyd â'r cyngor tairochrog, nad hwn yw'r lle iawn i'r sefydliad erbyn hyn. Dyna pam y symudais i'r bwrdd allan o fesurau arbennig, ar sail y cyngor clir a gwrthrychol hwnnw. Fe fydd canolbwyntio a chraffu ychwanegol yn parhau o hyd ar y bwrdd iechyd drwy ymyrryd wedi'i dargedu. Rwyf eisoes wedi cyhoeddi'r cymorth ariannol fydd yn cyd-fynd â hynny i'w helpu nhw ar eu taith tuag at welliant. Rwy'n credu mai da o beth i bawb sy'n byw yn y gogledd yw bod y bwrdd iechyd bellach yn y sefyllfa hon o symud allan o fesurau arbennig, ac rwy'n gobeithio y bydd pobl yn gweld hyn yn y ffordd honno. Yn olaf, fe hoffwn i ddiolch i'r Aelod am ei geiriau caredig am realiti ymdrin â'r pandemig. Mae llawer mwy o ddiwrnodau anodd o'n blaenau ni bob un. Janet Finch-Saunders AC: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad chi. Fel arfer, wrth gwrs, fe fyddwn i wedi bod wrth fy modd o glywed eich bod chi'n cymryd bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig. Yn wir, mewn cyfarfod diweddar yn y gogledd gydag Aelodau'r ddwy Senedd, roedd y cadeirydd ei hun yn edrych ymlaen at gael symud allan o fesurau arbennig oherwydd, fel y nodwyd yn gywir yma heddiw, recriwtio—wyddoch chi, mae hwn bron fel brand gwenwynig nawr, onid yw e, bwrdd Betsi, sy'n drist iawn. Ond, fe hoffwn gymeradwyo ar goedd sylwadau fy nghyd-Aelod Darren Millar a fynegodd ei ddiolch, ei ddiolchgarwch, ei werthfawrogiad yn huawdl i bawb sy'n gweithio yn y GIG ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr ar draws pob lefel, nid yn unig am eu gwaith nhw dan densiynau mesurau arbennig, ond am eu hymdrechion arwrol hefyd yn ystod pandemig COVID-19. Felly, unwaith eto, roedd yn gywilyddus iawn, Gweinidog, eich bod yn diystyru hynny. Nawr, mae'r bwrdd iechyd hwn wedi bod mewn mesurau arbennig yn hwy nag unrhyw fwrdd iechyd arall ym Mhrydain. Ers mis Mehefin 2015, mae bron i £100 miliwn wedi cael ei wario gan Lywodraeth Cymru dan eich cyfarwyddwyd chi ar gymorth ymyrryd a gwella, ond ni chyflawnwyd hynny. Nawr, fe wariwyd £1.7 miliwn ar sicrhau gwasanaethau cyhyrysgerbydol ac orthopedig cynaliadwy y llynedd. Ac eto i gyd, yn gynharach y mis hwn, fe gyhoeddwyd £30 miliwn gennych ar gyfer gwella gofal heb ei drefnu ac adeiladu rhaglen gofal wedi ei gynllunio sy'n gynaliadwy, gan gynnwys ar gyfer orthopedeg. Nawr, er fy mod i'n deall ac yn gwerthfawrogi'n fawr fod yr argyfwng mewn orthopedeg wedi gwaethygu o ganlyniad i COVID-19, pan nad oes gennym gynllun cynaliadwy o hyd ar ôl buddsoddiad o £1.7 miliwn? Ychydig wythnosau nôl, roeddech chi'n sôn am rai o'r heriau sy'n ein hwynebu ni. Wel, fe allaf i ddweud wrthych, ar 3 Tachwedd eleni, sef 15 diwrnod gwaith mewn gwirionedd, fe wnaethoch ddatgan bod angen nifer o gamau gweithredu i wella arweinyddiaeth a llywodraethu ymhellach: bod angen datblygu strategaeth gwasanaethau clinigol integredig hirdymor, bod angen inni gryfhau ymhellach y capasiti i arwain o fewn iechyd meddwl i wella sefydlogrwydd a chydnerthedd, bod angen datblygu cynllun ariannol cadarn am dair blynedd i gyflawni dyletswyddau ariannol yn rhan o'r cynllun tymor canolig integredig, bod angen cwblhau a gweithredu fframwaith atebolrwydd a pherfformiad diwygiedig, a bod angen cyflawni gwelliannau mewn perfformiad, yn enwedig yn y sector acíwt. Dyna oedd— A wnewch chi roi pen ar y mwdwl, os gwelwch chi'n dda? Janet Finch-Saunders AC: —ar 3 Tachwedd, Dirprwy Lywydd. Felly, sut ydych chi, mewn 15 diwrnod, wedi llwyddo i oresgyn yr holl bethau hynny yr oedd angen eu gwella? Nawr, gan eich bod chi'n tynnu'r bwrdd iechyd allan o fesurau arbennig— A wnewch chi roi pen ar y mwdwl, os gwelwch chi'n dda? Janet Finch-Saunders AC: Gwnaf, rwyf i'n gwneud hynny— Rydych chi wedi cael ymhell dros eich munud. Janet Finch-Saunders AC: Fel y cafodd llawer Aelod arall. Mae'n flin gen i. Fi sy'n penderfynu pwy sy'n cael gofyn beth, ac rwy'n gofyn ichi roi pen ar y mwdwl, os gwelwch chi'n dda. Janet Finch-Saunders AC: Iawn, rwy'n gwneud hynny. A wnewch chi gadarnhau bod y bwrdd iechyd wedi ymateb i bob un o'r meysydd hynny? Ac a wnewch chi addo i'r Siambr hon nad oes cymhelliad gwleidyddol i'r symudiad hwn heddiw, a'i fod er budd cleifon y gogledd, ac nid er budd— Na. Mae'n flin gen i. Diolch i chi. Y Gweinidog i ymateb. Cyn ichi wneud hynny, a gaf i atgoffa'r Aelodau o bleidiau sydd i ddilyn mai munud sydd ganddyn nhw, ac y dylai eich rheolwyr busnes orfodi hynny arnoch er mwyn i'r Siambr hon gael ei rhedeg yn ddiogel? Gweinidog. Vaughan Gething AC: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwyf am ymdrin â'r pwyntiau penodol, ac yna fe fyddaf i'n dod nôl at y cyhuddiad ar y diwedd. Mae'n werth nodi ar gyfer—. Rwy'n credu bod elfen o gamddealltwriaeth yma o ran y sylwadau am y gwasanaeth cyhyrysgerbydol a'i gysylltiad ag orthopedeg. Mewn gwirionedd, y Gogledd gymerodd yr awenau o ran y dull gweithredu 'ffisio yn gyntaf' gan edrych ar ddull a oedd yn cael ei gyflwyno ac yn lleihau'r galw o fewn y gwasanaeth orthopedig. Lle'r oedd angen llawdriniaethau dewisol wedi eu cynllunio, mae hyn wedi bod o fudd mawr, ac mewn gwirionedd, mae'r gogledd wedi arwain ar rywfaint o'r gwaith hwnnw ac mae gweddill Cymru wedi elwa ar y profiad hwnnw. Felly, trwy fuddsoddi o amgylch y gwasanaeth hwn, rydym wedi osgoi'r angen am rai llawdriniaethau diangen, ac mae'n ymwneud hefyd â helpu pobl i ymdopi os oes angen iddyn nhw gael llawdriniaeth yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae'r cynllun orthopedig y cyfeiriais ato, mae hwnnw'n ymwneud â buddsoddi ar gyfer yr angen parhaol i amrywiaeth o bobl gael llawdriniaeth serch hynny. Felly, mae'n ymwneud â sut mae gennym ni gynllun y mae'r holl ganolfannau yn y gogledd yn ei dderbyn. Oherwydd ar ddechrau'r flwyddyn hon fe gefais i sylwadau gan Aelodau mewn gwahanol bleidiau a oedd wedi siarad â chlinigwyr mewn gwahanol rannau o'r gogledd, ac roedd gan bob un ohonyn nhw gynllun cystadleuol yr oedden nhw'n dymuno ei hyrwyddo. Rydym mewn sefyllfa erbyn hyn lle y gwelwn ni rywfaint o undod yn y grŵp clinigol. Maen nhw'n barod i ymrwymo i gynllun cyffredin, ac mae hyn yn ymwneud â chydymffurfio â'r cynllun hwnnw. Nid yw'n ymwneud yn unig â sut y byddwn yn gwneud y gwasanaeth yn fwy effeithlon; fe fydd angen rhywfaint o fuddsoddiad cyfalaf arno hefyd, ar hyd y daith, yn fy marn i. Felly, rwy'n edrych ymlaen at achos busnes unedig, terfynol sy'n ein galluogi ni i helpu'r gogledd i symud ymlaen gyda chynllun orthopedig i ymdrin â natur wirioneddol yr angen a'r galw. Mae'r gwasanaeth cyhyrysgerbydol y buddsoddwyd ynddo yn enghraifft dda iawn o'r gogledd yn cymryd yr awenau ac yn edrych ar sut y bydd yn diwygio ei wasanaeth mewn ffordd gadarnhaol. Ac yna'r cyhuddiadau ehangach a wnaed. Rwy'n gwybod bod yr Aelod wedi dechrau trwy ddweud y byddai hi 'fel arfer' 'wrth ei bodd' gyda chynnydd y tu allan i fesurau arbennig, ac rwy'n credu bod yna fater yma, na chaiff ei gydnabod yn y Siambr hon yn unig, ond y tu allan hefyd, o wrthod cydnabod newyddion da a chynnydd da. Y cyhuddiad uniongyrchol a wnaeth y siaradwr Ceidwadol cyntaf oedd bod hyn rywsut yn ymarfer gwleidyddiaeth bleidiol. Nid yw prif weithredwr GIG Cymru yn rhoi cyngor trwy'r dull hwn. Nid yw Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru nac Archwilio Cymru yn darparu eu cyngor nhw trwy'r dull hwn—drwy drefniadau uwchgyfeirio ac ymyriad tairochrog. Ac mae Aelodau yn y Siambr hon yn gwybod hynny'n dda iawn. Nid yw'r awgrym fel arall, nad yw hyn yn ddim mwy nag ymarfer gwleidyddiaeth bleidiol, yn adlewyrchu'n dda ar unrhyw un o'r Aelodau Ceidwadol sydd wedi ceisio gwneud hynny. Fy mhenderfyniad i ar sail cyngor clir yw hwn. Rwy'n falch iawn o fod wedi gwneud y dewis hwn, ac rwy'n croesawu'r cynnydd sy'n digwydd yn y gogledd. Mark Isherwood AC: Ni allaf ond canmol y staff meddygol arwrol, sy'n gweithio'n galed yn ein hysbytai yn y gogledd. Mae'r pryderon mewn mannau eraill. Ym mis Ionawr, ysgrifennodd cyngor iechyd cymuned gogledd Cymru atoch, gan atodi'r adolygiad annibynnol o therapïau seicolegol yn y gogledd, a ddisgrifiodd sut roedd y gwasanaeth yn methu mewn sawl ardal, a dweud, ar ôl bron i bum mlynedd yn destun mesurau arbennig, gyda llawer o hynny ymwneud â materion iechyd meddwl, fod y canfyddiadau hyn yn siomedig iawn. Nid yw cyngor iechyd cymuned gogledd Cymru yn cydnabod y darlun a geir yn adroddiad y fframwaith gwella mesurau arbennig. Nid yw hyn yn cael ei adlewyrchu yn ein llwyth achosion o gwynion ac eiriolaeth nac yn adroddiadau timau ymweld y cyngor iechyd cymuned. Ddydd Gwener diwethaf, fe wnaethant gyhoeddi y byddant yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ar Zoom, gan wahodd staff y GIG, cleifion, gofalwyr a theuluoedd i siarad am wasanaethau iechyd meddwl. Fel y dywedont, Mae'n hanfodol ein bod yn cyflwyno profiadau ac awgrymiadau pawb sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau a pholisïau. Heddiw, dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y byddant yn ystyried trefniadau ar gyfer arwain iechyd meddwl ac anableddau dysgu gyda'u prif weithredwr newydd Jo Whitehead pan fydd yn dechrau yn ei swydd yn y flwyddyn newydd. Pam nad ydych chi'n aros i'r pethau hyn ddigwydd, gan roi cleifion o flaen gwleidyddiaeth, yn hytrach na chamu i'r tywyllwch? Vaughan Gething AC: Mae'r penderfyniad hwn heddiw yn rhoi cleifion o flaen gwleidyddiaeth wrth wneud yr hyn sydd bob amser yn ddewis anodd, ond yn ddewis sy'n cael ei yrru gan y cyngor clir iawn a gawsom ni yn y broses driphlyg. Rwy'n cydnabod bod siaradwyr Ceidwadol wedi rhagbenderfynu peidio â derbyn na chydnabod y penderfyniad didwyll hwn. Mater iddyn nhw yw hynny, a bydd pobl sy'n gwylio yn gwneud eu penderfyniadau eu hunain ynghylch a ddylen nhw ymddiried ym marn gwleidyddion Ceidwadol y gogledd, neu'r cyngor clir, gwrthrychol gan brif weithredwr GIG Cymru, Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru sy'n sail i'm penderfyniad i dynnu Betsi allan o fesurau arbennig. Diolch yn fawr iawn, Gweinidog. 5. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Diwygio'r drefn ar gyfer Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat Eitem 5 ar yr agenda yw datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ar ddiwygio'r drefn ar gyfer tacsis a cherbydau hurio preifat. Galwaf ar Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru—Ken Skates. Ken Skates AC: Dirprwy Lywydd, hoffwn yn gyntaf gydnabod y rhan hollbwysig y mae'r diwydiant tacsis a cherbydau hurio preifat yn ei chwarae yn ystod pandemig COVID. Mae llawer wedi parhau i weithio drwyddi draw ac wedi darparu cludiant i weithwyr allweddol, yn ogystal â darparu gwasanaethau sy'n amlwg wedi galluogi darparu nwyddau, bwyd a chyflenwadau meddygol hanfodol. Rydym yn cydnabod bod hwn yn gyfnod anodd yn ariannol i'r diwydiant, gyda chyfyngiadau'n golygu bod y galw arferol gan gwsmeriaid yn eithriadol o isel. Ken Skates AC: Yr wythnos diwethaf, cyfarfûm ag undebau llafur a roddodd yr wybodaeth ddiweddaraf i mi am yr heriau presennol a wynebir gan y diwydiant tacsis a cherbydau hurio preifat yn sgil y pandemig. Rydym wedi ceisio darparu cymorth drwy gydol y cyfnod hwn lle bo hynny'n bosibl. Yn ogystal â chynlluniau cymorth ariannol Llywodraeth y DU, rwyf wedi darparu cyllid drwy gam 3 ein cronfa cadernid economaidd gwerth £200 miliwn, sy'n cynnwys cynllun grant dewisol o £25 miliwn wedi ei weinyddu gan awdurdodau lleol ar gyfer cyfyngiadau symud. Mae nifer o'r diwydiannau tacsis a cherbydau hurio preifat eisoes wedi elwa ar gronfa fusnes y cyfyngiadau symud a hefyd y gronfa cymorth dewisol. Hefyd, gallaf ddweud bod swyddogion yn archwilio dewisiadau ar frys i ddarparu cyfarpar diogelu personol o ansawdd uchel i gynorthwyo'r diwydiant i ddiogelu'r gyrwyr eu hunain a'u teithwyr rhag COVID-19. Rydym ni hefyd wedi sefydlu tudalen bwrpasol ar ein gwefan i roi cyngor i'r diwydiant ar ffyrdd o leihau trosglwyddiad y coronafeirws a'r cymorth ariannol sydd ar gael. Mae swyddogion, Dirprwy Lywydd, wrthi'n datblygu nifer o gynlluniau treialu gydag awdurdodau lleol a fydd yn caniatáu i yrwyr brofi cerbydau dim allyriadau cyn eu prynu, fel y gallan nhw ddeall yn well y manteision ariannol ac amgylcheddol posibl. Ac maen nhw hefyd yn archwilio dewisiadau ar gyfer cynlluniau cymhelliant i gynorthwyo'r gyrwyr hynny sydd â diddordeb mewn defnyddio'r cerbydau hyn yn y tymor hwy. Heb os, mae cerbydau tacsis a cherbydau hurio preifat yn fath hanfodol o drafnidiaeth gyhoeddus. Maen nhw'n cynnig ateb ar gyfer trafnidiaeth ymarferol ac uniongyrchol ac maen nhw'n darparu gwasanaeth hanfodol i bobl sy'n byw mewn cymunedau gwledig lle gall mathau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus fod yn annigonol neu'n absennol yn wir; i economi'r nos, gan gefnogi llawer o'n busnesau lletygarwch; ac, wrth gwrs, i deithwyr ag anableddau, yn ogystal â chwarae rhan bwysig yn y gwaith o hwyluso cynhwysiant cymdeithasol. Am y rhesymau hyn mae ein Llwybr Newydd, strategaeth drafnidiaeth newydd Cymru, a lansiwyd yr wythnos diwethaf, yn cynnwys cynllun ategol ar gyfer tacsis a cherbydau hurio preifat. Er hynny, mae'r ddeddfwriaeth bresennol ar dacsis a cherbydau hurio preifat wedi dyddio, gyda'r prif fframwaith yn dyddio'n ôl i 1847 a 1976. Mae'r fframwaith hwn wedi arwain at bolisïau, safonau ac amodau trwydded anghyson ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr. Mae rheoleiddio tacsis a cherbydau hurio preifat, wrth gwrs, bellach yn fater datganoledig o dan Ddeddf Cymru 2017. Rydym yn atebol ar hyn o bryd, ond hyd nes y byddwn yn deddfu, ni allwn orfodi unrhyw newid. Nawr, mae nifer o broblemau'n gysylltiedig â'r ddeddfwriaeth drwyddedu bresennol, sy'n cynnwys pryderon diogelwch i yrwyr a theithwyr, safonau trwyddedu anghyson, sy'n cyfrannu at broblemau llogi trawsffiniol, gwasanaeth cwsmeriaid gwael a dryswch cyhoeddus ynghylch mathau o gerbydau a strwythurau tocynnau. Ac mae'r problemau presennol, mae arnaf ofn, yn mynd i barhau i gynyddu wrth i'r diwydiant barhau i esblygu. Nododd Llywodraeth y DU am y tro cyntaf fod angen diwygio yn ôl yn 2011 pan gynhaliodd Comisiwn y Gyfraith adolygiad o'r drefn bresennol. Ac yna hefyd, yn 2018, adroddodd grŵp gorchwyl a gorffen argymhellion ar gyfer gwella'r drefn trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat. Mae'r adolygiadau hyn wedi creu, rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud, disgwyliadau uchel iawn ymhlith rheoleiddwyr a'r diwydiant tacsis a cherbydau hurio preifat y bydd newid. Fodd bynnag, ar wahân i ychydig o welliannau bach a chyhoeddi safonau tacsis a cherbydau hurio preifat statudol yr Adran Drafnidiaeth yn ddiweddar, nid yw Llywodraeth y DU wedi diwygio deddfwriaeth tacsis mewn gwirionedd. Ers datganoli rheoleiddio tacsis a cherbydau hurio preifat i Lywodraeth Cymru, rydym ni wedi cynnal dau ymgynghoriad mawr. Mewn ymateb i'r Papur Gwyn 'Gwella trafnidiaeth gyhoeddus', roeddem yn cydnabod bod cefnogaeth gyffredinol i'r cynigion yn ymwneud â safonau cenedlaethol, i bwerau gorfodi a rhannu gwybodaeth gwell. Ond, roeddem hefyd yn derbyn, o ganlyniad i'r ymgynghoriad, fod teimlad cryf nad oedd y cynigion yn mynd yn ddigon pell i fynd i'r afael yn effeithiol â'r heriau presennol a wynebir gan y diwydiant a rheoleiddwyr. Felly, yn sgil hyn, fe wnes i ymrwymiad y byddai'r cynigion ar gyfer tacsis a cherbydau hurio preifat yn cael eu datblygu ymhellach ac mae gwaith eisoes wedi dechrau ar ddrafftio cynigion polisi sy'n adeiladu ar y gwaith a wnaed yn y Papur Gwyn. Canolbwyntiwyd y cynigion hyn ar wella pedwar maes: yn gyntaf oll, diogelwch, yn ail, cydraddoldeb, yn drydydd, safonau amgylcheddol ac yna, yn bedwerydd, gwasanaeth cwsmeriaid. A'n nod yw cyflwyno deddfwriaeth sylfaenol sy'n cefnogi teithwyr yn ogystal â chefnogi'r diwydiant ei hun. Mae angen deddfwriaeth newydd i wneud tacsis a cherbydau hurio preifat yn ddiogel ac yn rhan o system drafnidiaeth integredig ledled Cymru ac i broffesiynoli'r diwydiant a sicrhau y gall gyrwyr wneud bywoliaeth dda a theg. Rydym yn ceisio cyflawni hyn drwy ddatblygu ac ymgynghori ar gynigion deddfwriaethol newydd a byddwn yn disodli'r cyfundrefnau cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat dwy haen dryslyd gydag un gyfundrefn dacsis. Byddwn yn parhau i weithio gyda llywodraeth leol i archwilio rhinweddau newidiadau i awdurdodau trwyddedu pan gaiff cerbydau weithredu'n genedlaethol, ac eithrio mewn parthau cyfyngedig lle mae tystiolaeth o orgyflenwad, er enghraifft, yma yng Nghaerdydd, a byddwn yn creu safonau trwyddedu cenedlaethol ar gyfer gyrwyr, cerbydau a gweithredwyr, gyda phwyslais ar sicrhau'r diogelwch cyhoeddus mwyaf posibl a phroffesiynoli'r diwydiant. Yn ogystal, bydd pwerau gorfodi yn cael eu cynyddu a'u cynorthwyo gan gronfa ddata a chofrestr genedlaethol. Fel man cychwyn, cyn newid deddfwriaethol, mae swyddogion wedi gwneud gwaith gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chynrychiolwyr awdurdodau lleol ledled Cymru i nodi meysydd polisi trwyddedu y gellir eu gwella a'u gwneud yn fwy cyson. Mae hyn wedi arwain at gytundeb ar gyfres o argymhellion ar gyfer alinio polisi tacsis. Mae cyfyngiadau ar y gwaith hwn, gan fod polisïau trwyddedu'n amrywio'n fawr ledled Cymru, ac roedd swyddogion yn ofalus i sicrhau na fyddai mabwysiadu'r argymhellion yn golygu unrhyw gost sylweddol i awdurdodau lleol nac, yn wir, i'r diwydiant cyn newid deddfwriaethol ehangach. Serch hynny, bydd yr argymhellion hyn yn gam tuag at safonau trwyddedu cenedlaethol a phroffesiynoli'r diwydiant, a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am gynnydd. Russell George AC: Gweinidog, a gaf i ddiolch ichi am eich datganiad heddiw? Rwy'n gyffredinol o blaid y diwygiadau a'ch dull gweithredu, os ydyn nhw, wrth gwrs, yn llwyddiannus o ran symleiddio ac addasu'r systemau rheoleiddio tacsis a hurio preifat. Yn gyffredinol, nid wyf yn cefnogi Llywodraeth Cymru pan fydd yn canoli pwerau a'u tynnu oddi wrth awdurdodau lleol, ond yn hyn o beth, credaf fod achos dros hyn, am nifer o resymau, ond fe wnaethoch chi nodi llawer ohonyn nhw yn eich datganiad eich hun. Tybed pa adborth, cadarnhaol a negyddol, a gawsoch chi gan awdurdodau lleol, gyrwyr, gweithredwyr a theithwyr o ran eich cynigion i ganoli trwyddedu yng Nghymru. Byddai'n ddefnyddiol clywed y safbwyntiau hynny a gawsoch chi. Er bod creu'r awdurdod trafnidiaeth ar y cyd yn welliant, rydych wedi mynd ymhellach nag argymhelliad Comisiwn y Gyfraith a'r grŵp gorchwyl a gorffen wrth ymgynghori ar gyflwyno safonau cenedlaethol. Felly, pam ydych chi wedi dewis mynd y tu hwnt i argymhellion Comisiwn y Gyfraith a'r grŵp gorchwyl a gorffen yn hyn o beth? Roedd papur ymgynghori Llywodraeth Cymru yn cynnig diddymu'r gwahaniaeth hwn rhwng cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat, ond mae'n ymddangos bod y cynnig hwn wedi ei dynnu'n ôl. Rwy'n deall bod 45 y cant o'r ymatebwyr wedi mynegi barn a oedd yn cytuno ag argymhellion Comisiwn y Gyfraith, gan ddweud y dylid cadw'r gwahaniaeth rhwng cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat. Nid oedd Comisiwn y Gyfraith ychwaith yn cefnogi cyflwyno gofynion cadw cofnodion ar gyfer gyrwyr tacsis, ac eithrio mewn cysylltiad â thacsis yn casglu teithwyr y tu allan i'w hardal drwyddedu. Fodd bynnag, mewn egwyddor, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gwaith o gadw cofnodion cywir ar gyfer gyrwyr tacsis, a tybed pam ydych chi wedi gwyro oddi wrth farn Comisiwn y Gyfraith, a pha anawsterau ymarferol ydych chi'n eu rhagweld wrth gofnodi'r data. Mae yna hefyd fater ynghylch tacsis a cherbydau hurio preifat yn gweithio ar hyd y ffin â Lloegr; byddwch chi a fi'n gyfarwydd â hynny, drwy gynrychioli etholaethau ar y ffin. Ac mae'r materion yno yr un fath â'r rheswm pam rydych chi eisiau cymryd ymagwedd ganolog ledled Cymru, rwyf hefyd yn cytuno â'r ymagwedd honno, ond wedyn dyna fater y ffin. Felly, tybed a wnewch chi ehangu, yn hynny o beth, o ran pa drafodaethau yr ydych wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU a'r Adran Drafnidiaeth. Ac yn olaf, deallaf eich bod wedi cynnig pennu ffioedd trwyddedu llogi preifat yn genedlaethol ond y bydd ffioedd trwyddedu tacsis yn parhau i gael eu pennu'n lleol. Roedd hwn yn gynnig amhoblogaidd yn ystod y broses ymgynghori ac roedd yn well gan awdurdodau trwyddedu lleol allu pennu ffioedd ar gyfer trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat yn lleol, ond, gan arfer y swyddogaeth, i roi sylw dyledus i ganllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Tybed beth yw eich ymateb o ran yr adborth penodol hwn. Ken Skates AC: A gaf i ddiolch i Russell George am ei sylwadau, ei gwestiynau a dweud fy mod yn credu bod ei gyfraniad yn cyfeirio at y ffaith bod cytundeb cyffredinol ar draws y Siambr bod angen diwygio, bod angen moderneiddio a bod angen deddfwriaeth? Mae'r fframwaith presennol yn fwy na 150 mlwydd oed; fe'i diweddarwyd 44 mlynedd yn ôl. Mae'n hen bryd cyflwyno deddfwriaeth newydd sy'n cydnabod yr oes yr ydym bellach yn byw ynddi, y technolegau newydd sy'n cael eu cynnwys a'r gwahanol ffyrdd y mae pobl yn gweithredu. O ran y cynigion, fe'u croesawyd yn gyffredinol, ac yn benodol o ran safonau cenedlaethol. Credaf eu bod yn gwneud synnwyr ac maen nhw'n mynd i'r afael â phryderon a godwyd drwy'r broses ymgynghori ar y Papur Gwyn. Mae dileu'r system ddwy haen yn angenrheidiol i Gymru yn fy marn i. Yn amlwg, gallai'r sefyllfa fod yn wahanol mewn mannau eraill. Yn Llundain, mae amgylchedd gwahanol iawn i gerbydau hacni weithredu ynddo, ond, yma yng Nghymru, credaf y byddai'r rhan fwyaf o bobl yr ydym yn eu gwasanaethu yn ei chael yn anodd nodi'r gwahaniaethau rhwng cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat, ac mae cael system un haen yn gwneud synnwyr perffaith i'r teithiwr. Mae hefyd yn gwneud synnwyr perffaith i'r diwydiant ei hun. Byddem wedyn yn gallu defnyddio setiau cyson o gyfundrefnau ar draws pob math o gerbydau a gwasanaethau. Wrth gwrs, bydd angen i ni fynd i'r afael â materion yn ymwneud â'r ffin rhwng Cymru a Lloegr. Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'r Adran Drafnidiaeth ynglŷn â'r mater hwn, a byddwn yn cytuno â Russell George fod llawer o bobl sy'n gweithio ar ochr Lloegr i'r ffin sy'n dod â phobl i Gymru ac i'r gwrthwyneb. Mae yna bobl sy'n byw yng Nghymru sydd wedi'u cofrestru fel gyrwyr tacsis, gyrwyr cerbydau hurio preifat, dros y ffin yn Lloegr, ac, felly, fel rhan o'r gwaith ar y ddeddfwriaeth, byddwn yn cysylltu â'r Adran Drafnidiaeth, ac, yn wir, â rhanddeiliaid lleol dros y ffin yn Lloegr, i sicrhau bod cyflwyno deddfwriaeth yma yng Nghymru yn gydnaws â sut mae gwasanaethau tacsis a cherbydau hurio preifat yn gweithredu dros y ffin. Ac yna o ran ffioedd, rwy'n credu ei bod hi'n hanfodol bod y gyfundrefn ffioedd yn dryloyw, ei bod mor gyson â phosibl, a'i bod yn deg—sef nad yw'n arwain at ystumio ceisiadau i ffwrdd o un ardal benodol a ffafrio ardal arall oherwydd bod y ffioedd yn is, neu, yn wir, oherwydd bod y safonau'n is. Mae llawer o'r problemau presennol a welwn gyda'r system fel y mae'n gweithredu ar hyn o bryd yn ymwneud â'r anghysondebau hynny ymysg awdurdodau lleol, y gwahaniaethau hynny. Mae'r gofynion trwyddedu ledled Cymru yn wahanol am wahanol resymau, gan gynnwys yr hynaf y gall cerbyd trwyddedig fod, amlder profion cerbydau, y safonau profi cerbydau, y profion gwybodaeth gyrwyr a safonau meddygol gyrwyr, i enwi ond ychydig o wahanol ddulliau anghyson ledled Cymru. Felly, mae cael cymaint â phosib o gysondeb ledled Cymru yn gwneud synnwyr perffaith, yn enwedig i'r ardaloedd hynny lle mae cryn dipyn o weithgarwch yn y farchnad, megis yng Nghaerdydd a Chasnewydd, hefyd Abertawe ac yn Wrecsam a'r cyffiniau hefyd. Helen Mary Jones AC: Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad, ac, fel bob amser, am y copi ymlaen llaw, ac i roi cefnogaeth gyffredinol iddo gan Blaid Cymru am sylwedd y datganiad. I wneud fy sylwadau agoriadol, hoffwn gefnogi'r hyn y mae'r Gweinidog wedi'i ddweud am bwysigrwydd tacsis a cherbydau preifat. Mewn rhai cymunedau nhw yw'r unig fath o drafnidiaeth gyhoeddus, mewn gwirionedd, ac ni allai pobl ymdopi hebddyn nhw, ac rwy'n gwybod bod llawer o ddarparwyr tacsis a cherbydau hurio preifat wedi gwneud gwaith ychwanegol yn ystod y cyfyngiadau symud. Gwn fod cwmni tacsis cydweithredol Drive yng Nghaerdydd yn casglu presgripsiynau ac yn dosbarthu bwyd i bobl, a gwn fod hynny wedi'i adlewyrchu ledled Cymru. Rwy'n gobeithio y byddai'r Gweinidog yn cytuno â mi ei bod yn bwysig iawn iddo gael cydweithrediad a chefnogaeth y sector er mwyn gallu cyflawni'r uchelgeisiau a nodir yn ei ddatganiad. Bydd, wrth gwrs, yn ymwybodol o'r gwrthdystiad heddiw, y gwrthdystiad gan undebau llafur heddiw—ac un o'r arwyddion yn cyfeirio atyn nhw eu hunain, y diwydiant tacsis, yn fasnach anghofiedig weithiau, yn enwedig drwy'r pandemig. Nawr, mae'r Gweinidog wedi crybwyll bod cymorth ariannol ar gael drwy'r gronfa cadernid economaidd, y gronfa cymorth dewisol i fusnesau yn ystod y cyfyngiadau symud, ond tybed a all ddweud ychydig mwy am ei dybiaeth ynghylch faint o hynny sydd wedi cyrraedd pobl sy'n gweithio yn y diwydiant tacsis a hurio preifat. Efallai y bydd problemau, er enghraifft, o ran cael gafael ar wybodaeth. Mae llawer o'r bobl sy'n gweithio yn y diwydiant, er enghraifft, yng Nghaerdydd a Chasnewydd, yn bobl o wledydd eraill nad oes ganddyn nhw'r Gymraeg na'r Saesneg fel eu hiaith gyntaf o bosibl; efallai nad ydyn nhw'n gwybod ble i fynd i chwilio am y math hwn o gymorth. Croesawaf yr hyn a ddywedodd y Gweinidog heddiw am gyfarpar diogelu personol ar gyfer gyrwyr tacsis, ond wrth gwrs gwyddom, i lawer o bobl sy'n gweithio yn y sector hwnnw, ei bod yn llythrennol yn rhy hwyr. Mae hwn wedi bod yn sector lle mae llawer iawn o bobl sy'n gweithio ynddo wedi mynd yn sâl, felly a wnaiff roi amserlen inni ynghylch y gwaith hwnnw o ran cyfarpar diogelu? Oherwydd rwy'n credu bod hynny'n gwbl hanfodol i'r bobl hynny, fel y dywedodd ei hun, allu gweithio'n ddiogel ac er diogelwch eu teithwyr, wrth gwrs. Cytunaf yn bendant fod angen deddfwriaeth, ac, fel y dywedodd y Gweinidog, mae'r fframwaith presennol yn hen ffasiwn iawn. Yn fy nhrafodaethau â chynrychiolwyr y sector, credaf eu bod, yn gyffredinol, yn gwerthfawrogi'r angen i ddiwygio, ond mae rhai pryderon. Dydw i ddim yn hollol siŵr a fyddwn i'n cytuno â'r Gweinidog pan ddywed nad yw pobl yn gwybod y gwahaniaeth rhwng tacsis a cherbydau hurio preifat. Rwy'n adnabod, er enghraifft, llawer o fenywod a fydd bob amser yn defnyddio tacsi yn hytrach na cherbyd hurio preifat oherwydd y canfyddiad, boed yn wir ai peidio, bod y safonau fetio yn golygu bod tacsi yn lle mwy diogel i fenyw os yw'n teithio ar ei phen ei hun. Mae'n rhaid i mi ddweud ei fod yn rhywbeth yr wyf bob amser yn argymell bod fy merch i yn ei wneud. Felly, mae pryder, drwy ddileu'r gwahaniaeth rhwng tacsis a cherbydau hurio preifat—. A all y Gweinidog fy sicrhau heddiw nad yw hynny'n mynd i arwain at leihad mewn safonau, a'n bod mewn gwirionedd yn mynd i weld y cerbydau hurio preifat yn cael eu codi i'r un safonau ag sy'n ofynnol yn awr i'r hyn yr ydym yn eu hystyried yn dacsis go iawn—mae'n debyg nad dyna'r ffordd gywir o'i ddisgrifio—oherwydd yn sicr ni fyddem am weld safonau'n gostwng? Felly, gobeithio y gwnaiff y Gweinidog ddweud ychydig mwy heddiw am y cyfiawnhad dros y newidiadau un haen. Credaf fod symlrwydd yn amlwg yn un ohonyn nhw, ond a all fod yn siŵr na chaiff safonau eu gostwng? Nawr, mae'r syniad o gronfa ddata a chofrestr genedlaethol yn rhywbeth y byddem yn ei groesawu ym Mhlaid Cymru, ac mae cryfhau pwerau gorfodi er budd diogelwch a safonau'r cyhoedd yn bwysig. Mae lleiafrif o bobl yn gweithio yn y maes hwn nad ydyn nhw'n cadw eu cerbydau'n lân, nad ydyn nhw'n bodloni'r safonau y byddem yn eu disgwyl, ac mae hynny wrth gwrs yn ddrwg i bawb sy'n gweithio yn y diwydiant. Ond rwyf wedi clywed pryderon ynghylch dileu unrhyw elfen leol yn gyfan gwbl. Siawns nad oes angen i awdurdodau lleol wybod faint o gerbydau sydd ar y ffordd yn eu hardal, ac os yw tacsis a cherbydau hurio preifat i fod yn rhan o'n cynlluniau trafnidiaeth gyhoeddus cyffredinol, mae angen inni wybod ble maen nhw ar lefel leol hefyd. Yn ei ymateb i Russell George, credaf fod y Gweinidog wedi sôn am y risg o orgyflenwi mewn rhai ardaloedd, ond byddwn hefyd yn awgrymu i'r Gweinidog fod perygl hefyd o dangyflenwi—sef os caiff tacsis eu cofrestru'n genedlaethol, byddant yn mynd i weithio lle mae'r gwaith, a gallai hynny olygu bod rhai cymunedau'n cael eu hamddifadu o wasanaeth. Felly, tybed a all y Gweinidog ddweud ychydig mwy am sut y mae'n bwriadu sicrhau bod gwasanaeth yn parhau i fod ar gael ledled y wlad. Un fantais o gofrestru fesul sir yw mai dyna'r sir y mae'n rhaid i chi weithio ynddi. Felly, yn olaf, i ddod at y materion di-garbon, yn y strategaeth drafnidiaeth yr wythnos diwethaf fe wnaethoch chi sôn am yr angen i drosglwyddo i dacsis dim allyriadau, a chroesawais yr hyn a oedd gennych i'w ddweud am alluogi pobl i roi cynnig ar hynny, ond a wnewch chi ddweud ychydig mwy wrthym, Gweinidog? Byddwn yn ddiolchgar pe baech yn dweud ychydig mwy am y cynllun cymhellion sy'n cael ei ystyried. A fyddai, er enghraifft, o bosibl yn rhoi cymorth i alluogi gyrwyr i brynu cerbydau dim allyriadau, sydd, wrth gwrs, yn ddrutach ar hyn o bryd? Diolch. Ken Skates AC: A gaf i ddiolch i Helen Mary Jones am ei chyfraniad, a oedd, fel arfer, yn adeiladol? Rwy'n falch iawn o ateb y cwestiynau a gododd. Byddaf yn dechrau gyda'r cwestiwn olaf hwnnw am y cymorth a allai fod ar gael ar gyfer tacsis gwyrdd yn y dyfodol. Wrth gwrs, cynllun treialu yw hwn, yn bennaf oll, a fydd yn galluogi gyrwyr tacsis, gweithredwyr, i brofi cerbydau gwyrdd cyn iddyn nhw eu prynu. Bydd cyllid cerbydau allyriadau isel iawn yn cael ei ddarparu ar gyfer nifer o gynlluniau treialu tacsis gwyrdd yn y flwyddyn ariannol hon. Rydym yn cynnig y bydd y cynlluniau treialu yn cael eu cynnal ym mhrifddinas-ranbarth Caerdydd, yn sir Ddinbych, yn sir Benfro ac yng Ngheredigion, ac yna'n ymgorffori llawer o'r meysydd blaenoriaeth sydd wedi'u cynnwys yn y fenter trawsnewid trefi hefyd. Felly, rydym yn ceisio cysoni cryn dipyn o feysydd polisi yn hyn o beth. Bydd cynlluniau tymor hwy ar gyfer cymell pobl i ddefnyddio tacsis a cherbydau dim allyriadau yn cael eu hymchwilio, megis cyfleoedd i gael grantiau, cyfleoedd ar gyfer gwella telerau cynlluniau prydlesu, ond mae'n mynd i ddibynnu'n fawr ar werthuso'r cynlluniau treialu, ac, wrth gwrs, mae'n rhaid i mi ddweud y bydd y graddau y gallwn gynnig cymorth yn dibynnu ar yr adnoddau ariannol sydd ar gael. Ond rwy'n frwd iawn o ran y maes gwaith penodol hwn, a chredaf y gall y cynlluniau treialu hynny gynnig rhywfaint o wybodaeth werthfawr a fydd wedyn yn llywio maint yr ymyriad sydd ei angen. Ken Skates AC: Byddwn yn cytuno'n llwyr â Helen Mary Jones fod llawer o bobl yn dibynnu'n eithriadol o drwm ar dacsis a cherbydau hurio preifat, yn enwedig pobl nad oes mathau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus ar gael iddyn nhw mewn ardaloedd gwledig, er enghraifft, a hefyd, yn hollbwysig, pobl sy'n wynebu rhwystrau anablu mewn cymdeithas. Ac eto hefyd, ochr yn ochr â hyn, gwyddom, mewn rhai ardaloedd awdurdodau lleol, fod cyn lleied â 5 y cant o dacsis a cherbydau hurio preifat sy'n gallu cynnig mynediad i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn. Ac yn aml, gwyddom o'r adroddiadau a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, fod pobl sy'n wynebu rhwystrau oherwydd anableddau mewn cymdeithas yn aml yn wynebu heriau ychwanegol o ran gordalu, ac weithiau nid yw'r profiad gwasanaeth cwsmeriaid yr hyn y byddem yn sicr yn ei ddisgwyl. Ac felly mae llawer o rwystrau y mae'n rhaid i ni naill ai eu dileu neu eu goresgyn er mwyn sicrhau bod y diwydiant tacsis a cherbydau hurio preifat yn diwallu anghenion pobl anabl. O ran y sector ei hun a'n hymgysylltiad ni, fel y dywedais ychydig yn gynharach, cyfarfûm â TUC Cymru, ag Unite, â'r GMB yr wythnos diwethaf i drafod yr heriau y mae gyrwyr tacsis yn eu hwynebu ar hyn o bryd yn ystod y pandemig. Ac, o ganlyniad i'r cyfarfod hwnnw, gofynnais i nifer o ddarnau o waith brys gael eu gwneud—un i gasglu'r data ynghylch trydydd cam y gronfa cadernid economaidd, oherwydd datblygwyd y trydydd cam gyda gyrwyr tacsis mewn golwg yn fwy na dim. Dyna pam wnaethom ni ddatblygu'r elfen grant dewisol honno o £25 miliwn. Ac felly rwyf wedi gofyn am adborth gan awdurdodau lleol ynghylch faint o grantiau y gwnaed cais amdanyn nhw gan yrwyr tacsis, ac i'r undebau eu hunain sicrhau bod eu haelodau'n cael gwybodaeth am y gwahanol gynlluniau cymorth sydd ar gael—y cynlluniau dewisol hynny, cynllun y gronfa cymorth dewisol, er enghraifft, y cynllun cymorth hunangyflogaeth, nad yw miloedd a miloedd o bobl hunangyflogedig yng Nghymru yn ei ddefnyddio o hyd. Felly fe gaiff y data hynny ei gasglu. Rwyf hefyd wedi gofyn i wahanol ddarnau eraill o waith gael eu gwneud, gan gynnwys wrth gwrs sut y gallwn ni gyflenwi cyfarpar diogelu personol gwerthfawr i yrwyr tacsi. Yr her fawr o ran cyfarpar diogelu personol yw nid yn gymaint sut yr awn ati i sicrhau digon ohono i'r diwydiant a gyrwyr, ond mewn gwirionedd sut ydym ni'n sicrhau bod y gyrwyr yn derbyn y cyfarpar yna—sut y maen nhw yn cael y cyfarpar diogelu personol hwnnw, y caiff ei ddefnyddio gan weithredwyr tacsis. Ac mae'n bwynt diddorol y mae Helen Mary Jones yn ei wneud am y gwahaniaeth rhwng cerbydau hurio preifat a thacsis. Credaf fod Helen Mary Jones yn gwneud pwynt pwysig—y bydd rhai pobl yn amlwg yn gwybod beth yw'r gwahaniaethau ac y caiff safonau ar gyfer tacsis eu hystyried yn uwch nag ar gyfer cerbydau hurio preifat, ac yn enwedig o ran diogelwch y cyhoedd. Mae pryderon difrifol sy'n deillio o rai o'r adroddiadau a gomisiynwyd ynglŷn â'r ffordd y mae rhai pobl wedi cael eu trin. Er enghraifft, amlygodd adroddiadau Jay a Casey ar gamfanteisio ar blant yn rhywiol yn Rotherham bod enghreifftiau o yrwyr tacsis yn cael eu cysylltu'n uniongyrchol â phlant a oedd yn cael eu cam-drin, gan gynnwys achosion lle yr oedd plant yn cael eu casglu o ysgolion, cartrefi plant neu o gartrefi teuluol a'u cam-drin neu eu hecsbloetio'n rhywiol yn gyfnewid am deithiau tacsis am ddim. Ac felly gallaf sicrhau Helen Mary Jones a phob Aelod heddiw mai dim ond un ffordd y bydd y safonau'n mynd—cânt eu gwella. Ac mae hynny'n gwbl hanfodol er budd diogelwch y cyhoedd, yn enwedig y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Cododd Helen Mary Jones y cwestiwn hefyd am y gronfa ddata genedlaethol a'r safonau cenedlaethol. Rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol y caiff safonau eu cynnal ar y lefel uchaf bosibl ar sail genedlaethol fel nad ydym yn cael y math o broblemau trawsffiniol a brofwn yn awr. A chredaf y bydd elfen leol gref iawn i weithrediad y gyfundrefn fel yr ydym yn ei chynnig, yn enwedig ar lefel awdurdod lleol ond hefyd ar lefel cydbwyllgor corfforaethol. Ac mae awdurdodau lleol yn ymgysylltu'n llawn â'n hymgynghoriadau ac wrth lunio'r ddeddfwriaeth, ac wrth gwrs maen nhw wedi cymryd rhan lawn. Maen nhw wedi bod yn cyd-ysgrifennu'r argymhellion, yr enillion cyflym hynny a amlinellais. A chredaf, o ran cynnal gweithrediadau tacsis a hurio preifat mewn ardaloedd gwledig, fod rhywfaint o fethiant yn y farchnad eisoes mewn sawl rhan o'r Gymru wledig, a dyna pam mae cynlluniau trafnidiaeth gymunedol yn sicr wedi bod mor bwysig yn yr ardaloedd hynny. A byddwn yn parhau â'n hymrwymiad i drafnidiaeth gymunedol mewn ardaloedd gwledig fel ffordd hanfodol o alluogi pobl i gael gwaith a chael mynediad at wasanaethau hanfodol. Alun Davies AC: Rwy'n croesawu'n fawr y datganiad gan y Gweinidog y prynhawn yma a chroesawaf yn fawr y cynigion y mae'n eu trafod ar gyfer diwygio'r sector. Credaf fod llawer o bobl yn edrych ymlaen at hyn, a gwn fod llawer o yrwyr tacsis eisiau gweld y math hwnnw o sicrwydd hefyd—maen nhw eisiau cael y fframwaith y gallant gynllunio eu busnesau oddi mewn iddo dros y blynyddoedd nesaf. Mae hon wedi bod yn flwyddyn eithriadol o anodd i yrwyr tacsis. Mae wedi bod yn flwyddyn eithriadol o anodd i'r diwydiant cyfan, ac rydym ni wedi gweld llawer o bobl yn gadael gan na allan nhw fforddio parhau drwy'r pandemig hwn. Croesawaf yn fawr yr hyn a ddywedsoch chi, Gweinidog, am y gronfa ddewisol a'r gronfa cadernid economaidd, a gobeithiaf y gall cymaint o'r cyllid hwnnw ag sy'n bosibl gyrraedd gyrwyr tacsis sy'n cael, mae'n debyg, flwyddyn waethaf eu gyrfaoedd proffesiynol. O ran bwrw ymlaen â hyn, credaf fod dau beth y mae angen inni eu gwneud er mwyn sicrhau bod tacsis yn rhan o'r darlun trafnidiaeth yn y dyfodol. Yn gyntaf oll, credaf fod angen i'r Llywodraeth wneud mwy i gydnabod tacsis fel rhan o'r rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus cyffredinol o amgylch gwahanol gymunedau. Rydych chi wedi siarad am ardaloedd gwledig a chymunedau gwledig yn yr ateb blaenorol, ond mae hyn yn wir yn y Gymru drefol hefyd. Er enghraifft, rydym ni wedi agor Ysbytu Athrofaol y Faenor yng Nghwmbrân dros yr wythnos ddiwethaf, a byddai'n ddefnyddiol pe bai tacsis, er enghraifft, yn rhan o'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus cydnabyddedig sy'n cysylltu ein cymunedau a'n cleifion â'r ysbyty hwnnw, a hoffwn weld mwy ynghylch sut y bydd y Llywodraeth yn gwneud i hynny ddigwydd. Ac yn ail, ac efallai'n bwysicach o ran y tymor hir, hoffwn weld cronfa datblygu tacsis yn cael ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru i alluogi gyrwyr tacsis lleol i gystadlu â'r cewri technolegol sy'n dod yn flaenllaw yn y diwydiant. Mae'n mynd i fod yn amhosibl i yrwyr tacsi lleol gystadlu ag Uber yn y dyfodol oni bai bod ganddyn nhw gymorth a chefnogaeth, ac mae hynny'n golygu cronfa ddatblygu sy'n galluogi gyrwyr tacsis i fuddsoddi yn eu cerbydau, ond hefyd i fuddsoddi yn y math o dechnoleg a fydd yn eu cysylltu â'u cwsmeriaid yn y dyfodol hefyd. Felly, gobeithiaf y gallwn ni ddatblygu'r ddau beth hyn a sicrhau bod gennym ni'r amgylchedd rheoleiddio, yr arian ar gael i sicrhau bod gyrwyr tacsis yn gallu goroesi'r pandemig, ac yna hefyd y datblygiad a fydd yn eu galluogi i ffurfio rhan o rwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus y dyfodol. Diolch. Ken Skates AC: A gaf i ddiolch i Alun Davies am ei gyfraniad? Unwaith eto, yn anhygoel o adeiladol—ni allwn anghytuno â dim o'r hyn y mae Alun Davies wedi'i amlinellu. Gwnaeth dri phwynt cryf iawn. Un, mae angen cymorth tymor byr i gael y sector drwy'r pandemig. Yn ail, mae angen cymorth pontio i sicrhau ein bod yn diogelu'r diwydiant yn y dyfodol, i'w wneud yn gystadleuol, er mwyn sicrhau y gall bontio a chystadlu ag elfennau sy'n amharu ar y diwydiant. Ac yna, yn drydydd, mae Alun yn gwneud y pwynt pwerus hwn, fod yn rhaid inni gydnabod bod tacsis a gwasanaethau cerbydau hurio preifat yn rhan annatod o'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yma yng Nghymru, a byddwn yn cytuno'n llwyr fod angen dangos hynny, a chaiff ei ddangos drwy'r ddeddfwriaeth y byddwn yn ei chyflwyno yn ail flwyddyn tymor nesaf y Senedd. Ac o ran y gefnogaeth uniongyrchol i'r diwydiant, wel, hyd yma, rydym wedi sicrhau mwy na 100,000 o swyddi drwy'r gronfa cadernid economaidd, ac mae hynny'n ychwanegol at gefnogaeth Llywodraeth y DU i'r cynllun cymorth hunangyflogaeth a'r cynllun cadw swyddi, y gwn y bu o gymorth i'r sector, ond mae'n ymddangos, mewn llawer o achosion, yn enwedig yma yng Nghymru, mewn gwirionedd, nad yw gyrwyr unigol yn elwa ar hynny am ryw reswm neu'i gilydd. Yn seiliedig ar y trafodaethau yr ydym ni wedi'u cael gyda'r TUC a chydag undebau, credwn y gallai methu cael gafael ar wybodaeth fod yn ffactor allweddol o ran gyrrwyr ddim yn elwa ar gymorth priodol. Ac felly, fel y dywedais mewn ymateb i Helen Mary Jones, rydym yn gweithio gyda'r undebau i sicrhau y gellir dosbarthu a lledaenu gwybodaeth briodol ar draws y diwydiant, a bod yr undebau'n gweithio gydag awdurdodau lleol, ac wrth gwrs gyda Llywodraeth Cymru, i rannu gwybodaeth briodol. Oherwydd, fel y dywedais, fe wnaethom ni sefydlu'r trydydd cam hwnnw o'r Fframwaith, yn enwedig yr elfen gronfa grant dewisol o £25 miliwn, i gefnogi unig fasnachwyr megis gyrwyr tacsis, er mwyn goroesi'r cyfnod atal byr diweddar. Mae gyrwyr tacsis wedi gallu cael cymorth gan y cynllun grant dewisol hwnnw hyd yn oed os ydyn nhw wedi defnyddio'r cynllun cymhorthdal incwm hunangyflogaeth. Felly, mae'r arian wedi bod ar gael, mae'n ymddangos nad yw unigolion o fewn y sector wedi manteisio arno ar raddfa ddigonol, a dyna pam yr wyf wedi gofyn am atebion ynghylch pam mae hynny'n wir. Ac yna, yn y tymor hwy, credaf fod Alun Davies yn gwneud pwynt eithriadol o bwysig sef ein bod yn wynebu nifer o ffactorau tarfu: y newid i gerbydau trydan; y newid tuag at gerbydau cwbl annibynnol o bosibl; gwahanol fodelau o drafnidiaeth gyhoeddus—felly, defnyddio ceir a rennir ac ubereiddio trafnidiaeth gyhoeddus; yr angen i ddatgarboneiddio; a gwahanol ffyrdd o weithio yn ogystal â mewn amgylchedd ôl-COVID, gyda chanolfannau gweithio o bell. Fe wnaethom ni sefydlu, drwy'r cynllun gweithredu economaidd, y galwadau i weithredu. Felly, rhaid i fusnesau sy'n ceisio cyllid o gronfa dyfodol yr economi wneud hynny ar sail un o'r pum pwynt yn y galwadau i weithredu, ac mae dau o'r rheini'n ymwneud â datgarboneiddio ac ymateb i her tarfu technolegol. Mae'n ffordd berffaith i'r sector allu cael gafael ar gyllid er mwyn goresgyn a herio'r technolegau aflonyddgar hynny a'r newid i economi sero-net. Unwaith eto, byddwn yn annog y sector i edrych ar y gronfa benodol honno fel cyfrwng priodol ar gyfer defnyddio cymorth ariannol er mwyn cael y cerbydau y bydd eu hangen arnyn nhw ar gyfer y dyfodol. David J Rowlands AC: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Ac rwy'n gwbl sicr ein bod i gyd yn cytuno ei bod yn hen bryd diwygio tacsis a cherbydau hurio preifat. Y prif bwynt yr hoffwn i ei wneud yw y dylid cael system unffurf ar draws y 22 o awdurdodau lleol Cymru. Byddai hyn yn sicrhau y byddai gan deithwyr well dealltwriaeth o'r taliadau a'r rheolau sy'n rheoli tacsis pe baen nhw'n unffurf ledled Cymru. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau mai hyn hefyd sydd bwysicaf yn ei feddwl? Rwy'n argyhoeddedig y byddai symud i system un haen o fudd i deithwyr ac awdurdodau lleol fel ei gilydd. Dylid gosod mesurydd gyda thariffau cywir ac unffurf ar bob cerbyd, ac mae angen iddi fod yn glir mai dim ond o'r man codi i'r man gollwng y caiff y mesurydd weithredu. Dylai hyn atal gordaliadau. Ar hyn o bryd, mae cwmnïau ac unigolion sy'n rhedeg busnesau hurio preifat yn codi'r hyn a fynnant, cyn belled â bod y cwsmer yn derbyn hynny, ond rwy'n siŵr bod y Gweinidog yn gwybod, mewn gwirionedd, ei fod yn 'fait accompli' o ran y teithiwr, gan ei fod ef neu hi wedi ymrwymo cyn gynted ag y mae'n mynd i mewn i'r tacsi. Dylai'r rheolau newydd gynnwys y rheol y dylid cofnodi pob taith. Mae cadw cofnod o deithiau, yn y gorffennol, wedi bod o fudd i yrwyr dilys, awdurdodau lleol a'r heddlu. Mae hefyd yn bwysig, Gweinidog, y dylai cwmnïau sy'n ymdrin â manylion teithwyr fod yn destun rhyw fath o graffu o ran sut maen nhw'n casglu, rhoi a chadw gwybodaeth. Byddai hyn yn golygu y byddai llawer llai o berygl y cai data o'r fath ei gamddefnyddio. A wnewch chi gynnwys hyn yn y rhan hon o'ch deddfwriaeth? Dylid glynu'n llymach wrth y prawf cymwys a phriodol ac, o bosibl, dylid datgelu pob euogfarn, gan hyd yn oed symud y tu allan i Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Ein dyletswydd ni yw sicrhau bod pob teithiwr sy'n mynd i dacsi yn teimlo y bydd yn cyrraedd ei gyrchfan yn ddiogel. Rhaid i'r rhai sy'n dewis teithio mewn tacsi allu teithio heb ofni y byddant mewn perygl oherwydd unrhyw unigolyn sy'n darparu'r gwasanaeth hwnnw. Yn ogystal â'r system tariff genedlaethol, dylid cael prawf ansawdd cerbydau cenedlaethol hefyd. Fe wnaethoch chi sôn am hyn yn gynharach, Gweinidog. Mae'n dda darllen yn y datganiad fod gan y Gweinidog yr holl agweddau hyn mewn golwg, ac edrychaf ymlaen at yr adeg pan weithredir y rheoliadau newydd drwy ddeddfwriaeth. Felly, a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei waith ar y mater trafnidiaeth pwysig hwn? A hoffwn ychwanegu bod llawer o gynnwys fy sylwadau yn dod o'r diwydiant ei hun. Ken Skates AC: A gaf i ddiolch hefyd i David Rowlands am ei sylwadau a'i argymhellion yn ei gyfraniad adeiladol heddiw? O dan y ddeddfwriaeth bresennol, fel yr amlinellais eisoes, mae gennym ni 22 o awdurdodau lleol sy'n gweithredu gwahanol bolisïau trwyddedu ledled Cymru, ac mae hynny'n cynnwys, fel yr amlinellais, uchafswm oedran y cerbyd trwyddedig, hyd y drwydded, gwiriadau yswiriant y drwydded, a hefyd archwiliadau'r drwydded yrru. Credaf fod cael dull cenedlaethol cyson yn gwneud synnwyr perffaith i'r diwydiant ac i deithwyr, ac mae llawer o'r pwyntiau y mae David Rowlands wedi'u codi heddiw yn ymwneud nid yn unig â'r cynigion deddfwriaeth newydd, ond hefyd â'r argymhellion a ddaeth o'n gwaith gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac mae'r argymhellion yn anelu at wella safonau a chysondeb polisïau trwyddedu heb orfod creu costau afresymol i'r diwydiant tacsis nac awdurdodau lleol. Felly, mae'r argymhellion yn cynnwys—a chredaf y byddai David Rowlands yn croesawu hyn—amodau gyrwyr a gweithredwyr safonol; protocolau gorfodi ar gyfer awdurdodiadau trawsffiniol; yn hollbwysig, hyfforddiant diogelu gyrwyr a chod ymddygiad gyrwyr; a hefyd meini prawf cymhwyso gyrwyr wedi'u safoni. Felly, gan y bydd mabwysiadu'r argymhellion yn sicrhau cydymffurfiaeth â llawer o safonau'r Adran Drafnidiaeth, bydd Llywodraeth Cymru yn monitro cydymffurfiaeth awdurdodau lleol â'r ddwy ddogfen, a chytunwyd ar y dull hwn, yn amlwg, gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth. Ond yna wrth fynd ymlaen i'r tymor hwy, rhagwelir y bydd y Bil tacsis yn cael ei gyflwyno ym mlwyddyn 2 y Senedd nesaf ar hyn o bryd ac, fel y dywedais, mae gwaith eisoes wedi dechrau ar ddrafftio cynigion polisi sy'n adeiladu ar yr ymatebion i'r Papur Gwyn 'Gwella trafnidiaeth gyhoeddus'. Mae mwy o fanylion yn cael eu datblygu ynghylch safonau cenedlaethol, y cyfeiriodd David Rowlands atynt gan ddweud eu bod yn gwbl hanfodol, cofrestr genedlaethol a gwell gorfodaeth, a gynigir o dan y Papur Gwyn, ac, yn ogystal, mae cynigion newydd yn cynnwys cyflwyno system drwyddedu un haen symlach i ddileu'r gwahaniaeth hwnnw y soniais amdano'n gynharach, ac i greu'r awdurdod trwyddedu sengl ac i ganiatáu i dacsis weithredu ledled Cymru. Mae'n rhaid i mi atgyfnerthu'r pwynt a wnes yn gynharach fod deddfwriaeth newydd yn gwbl hanfodol er mwyn mynd i'r afael yn effeithiol â'r materion a godwyd gan y diwydiant a rheoleiddwyr. Mae arnaf ofn na all newid effeithiol ddigwydd drwy ddefnyddio'r ddeddfwriaeth bresennol na thrwy fabwysiadu mesurau gwirfoddol. Jenny Rathbone AC: Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am estyn allan at yr undebau i sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r cynllun grant dewisol ar gyfer cyfyngiadau symud, oherwydd mae hyn yn rhywbeth yr oeddwn wedi'i godi gyda'r Dirprwy Weinidog sy'n gyfrifol am leiafrifoedd ethnig a chydraddoldeb cyn diwedd y cyfyngiadau symud, ac, fel y crybwyllodd Helen Mary, nid oes gan lawer o'r gyrwyr tacsi hyn y Gymraeg na'r Saesneg fel eu hiaith gyntaf. Ac felly, ddiwedd yr wythnos diwethaf, gwn fod Unite wedi cyflwyno 1,000 o geisiadau y buon nhw'n helpu gyrwyr tacsis i'w cwblhau am eu bod yn ei chael hi'n anodd gwneud hynny ar eu pennau eu hunain; oeddent yn wir. Ac yn anffodus, mae llawer iawn o angen. Yng Nghaerdydd, bu llawer mwy o alw ar y gronfa nac o arian a oedd ynddi, felly rwy'n gobeithio bod rhywbeth y gallwn ei wneud ynglŷn â sicrhau nad yw'r ddeddf gofal gwrthgyfartal yn berthnasol i yrwyr tacsis, ac na fydd y rhai mwyaf anghenus, sydd angen y rhan fwyaf o gymorth i gael y dogfennau gyda'i gilydd, yn cael eu heithrio, heb unrhyw gymorth o gwbl. Rwy'n cefnogi'n frwd eich ymdrechion i annog gyrwyr tacsis i fanteisio ar gerbydau di-garbon, fel y gallan nhw ddeall bod hyn mewn gwirionedd yn ffordd lawer glanach ac, yn y diwedd, yn ffordd fwy cost-effeithiol o redeg eu busnes. Ond, yn amlwg, bydd angen rhai cynlluniau benthyca wedi'u llunio'n ofalus iawn sy'n fforddiadwy, o ystyried bod y rhan fwyaf o yrwyr tacsis wedi gweld eu hincwm eleni yn plymio. Ond, yn amlwg, mae angen inni symud tuag at hynny, o gofio y bydd cerbydau petrol a cherbydau diesel yn cael eu dileu'n raddol beth bynnag. A wnewch chi—? A wnewch chi derfynu, os gwelwch yn dda? Jenny Rathbone AC: Gwnaf. Ni chaiff unffurfiaeth safonau olygu sefyllfa afreolus a dilywodraeth i bob gyrrwr tacsi mewn rhai ardaloedd a phrinder gyrwyr tacsis mewn ardaloedd eraill, ac mae gor-gyflenwad eisoes yng Nghaerdydd. Felly, sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu rheoleiddio nifer y tacsis sy'n gweithredu mewn unrhyw ardal benodol, gan ddefnyddio ffonau symudol o bosibl— A wnewch chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda? Jenny Rathbone AC: —i sicrhau nad ydym yn cael y sefyllfa afreolus hon sy'n achosi'r gorgyflenwad enfawr hwn? Ken Skates AC: A gaf i ddiolch i Jenny Rathbone am y cwestiynau y mae wedi'u codi, a hefyd am ei chyfraniad ehangach o ran tynnu sylw at yr effaith anghymesur y mae'r coronafeirws wedi'i chael ar rai o'r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, gan gynnwys, o ran y diwydiant tacsis a cherbydau hurio preifat, pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig? Rydym yn cydnabod bod y pandemig wedi effeithio'n ddifrifol ar y diwydiant, yn enwedig pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghaerdydd, Casnewydd ac Abertawe yn bennaf, sy'n cynrychioli cyfran uchel o'r diwydiant. Fel yr wyf wedi'i ddweud wrth gyfranwyr eraill y prynhawn yma, mae'r wybodaeth sydd ar gael, o ran cymorth, yna ar-lein. Rydym wedi gofyn i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru rannu'r wybodaeth honno â gyrwyr tacsis; rydym ni hefyd wedi gofyn i undebau llafur wneud hynny yn yr un modd. Credaf fod swyddogion wedi gweithio'n agos iawn gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac awdurdodau lleol i ddarparu atebion i faterion fel addasrwydd sgriniau diogelwch dros dro ar gyfer cerbydau. Ac, fel y dywedais eisoes, rydym yn ymchwilio i'r posibilrwydd o ddarparu cyfarpar diogelu personol o ansawdd uchel i yrwyr tacsi a cherbydau hurio preifat. Ac, wrth gwrs, mae gennym y grŵp cynghori, a sefydlwyd ac sydd wedi bod yn cyfarfod ers mis Ebrill eleni, i ystyried y nifer anghymesur o farwolaethau sy'n gysylltiedig â COVID-19 ymhlith pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Mae gwaith yn mynd i barhau i ddatblygu argymhellion i sicrhau bod diogelwch gweithwyr o'r pwys mwyaf, a'n bod yn helpu i leihau nifer y marwolaethau, yn enwedig o fewn sectorau allweddol lle mae pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig wedi eu cynrychioli'n fawr. Felly, yn amlwg, bydd y diwydiant tacsis a cherbydau hurio preifat yn un o'n pryderon allweddol ni. Byddwn yn dweud eto wrth Jenny Rathbone ei bod yn llygad ei lle wrth ddweud mai mater trawsffiniol yw'r mater pwysicaf y mae angen inni ei oresgyn efallai, y mae angen inni ei herio. Oherwydd o ganlyniad uniongyrchol i faterion trawsffiniol roedd llawer o yrwyr tacsis, yn enwedig yng Nghaerdydd lle mae gorgyflenwi, yn cael taliadau isel—cyflogau isel—cyn y pandemig, ac o ganlyniad, hyd yn oed os oedden nhw'n gallu sicrhau cyllid drwy'r cynllun cymorth hunangyflogaeth, ar 80 y cant yn unig, prin ei fod yn ddigon i fyw arno. Dyna pam y mae'r gronfa cymorth dewisol wedi bod mor bwysig. Dyna pam y mae'r cynllun grant dewisol wedi bod mor bwysig—y £25 miliwn. Ond rydym ni eisiau parhau i edrych i weld sut y gallwn ni helpu'r sector mewn unrhyw ffordd bosibl. Ac yn olaf, o ran tacsis gwyrdd, rwyf eisoes wedi amlinellu'r cynlluniau treialu sy'n cael eu cynnal a sut y bydd y cynlluniau treialu hynny wedyn yn llywio maint y cymorth y bydd ei angen er mwyn trawsnewid y diwydiant tuag at ein huchelgeisiau sero-net. Ac, wrth gwrs, bydd rhan i'w chwarae, yn amlwg, gan Lywodraeth y DU yn hyn o beth. Mae wedi cyhoeddi bod y dyddiad ar gyfer dod â chynhyrchu cerbydau motor tanio mewnol i ben wedi'i ddwyn ymlaen i 2030, felly rydym yn aros hefyd—yfory o bosibl—am unrhyw arian ychwanegol y gellir ei gyhoeddi gan Lywodraeth y DU i helpu i sicrhau y gellir bodloni'r uchelgais hwnnw, y targed hwnnw. Yn olaf, Mick Antoniw. Mick Antoniw AC: Gweinidog, cytunaf â llawer o'r sylwadau sydd eisoes wedi'u gwneud, ac nid ailadroddaf y rheini. A gaf i ddweud ar goedd, yn gyntaf, fy mod yn cydnabod bod y gwasanaeth tacsis, yn enwedig yn y Cymoedd, wedi gwneud cyfraniad mor bwysig wrth ymdrin â phandemig COVID, wrth gludo, er enghraifft, staff y GIG i'r gwaith mewn ardaloedd lle mae gwasanaethau bysiau'n wael beth bynnag? Rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod hynny—a'r sylw a wnaeth Alun Davies am y gwasanaeth tacsis yn rhan bwysig iawn o wasanaeth trafnidiaeth integredig. Mae'r pwynt a wnaeth am ffiniau gweithredu yn bwysig, yn enwedig, er enghraifft, i gymunedau'r Cymoedd, oherwydd i ryw raddau mae'r gorgyflenwad, fel y gwnaethoch chi grybwyll, mewn lleoedd fel Caerdydd mewn gwirionedd yn tanseilio datblygiad gwasanaeth tacsis yn rhai o gymunedau'r Cymoedd, oherwydd gorfodir gyrwyr tacsis i fynd i un ardal a thanseilio'r sail economaidd y mae'r gallu i ddarparu'r gwasanaeth tacsis wedi ei seilio arni mewn gwirionedd. Mae dwy agwedd ar safonau a diogelwch. Mae un safon, yn amlwg, yn cynnwys hyfforddiant hefyd. Mae diogelwch ar gyfer teithwyr, ond mae hefyd ar gyfer gyrwyr tacsis, y mae llawer ohonyn nhw'n dioddef ymosodiadau yn ystod eu gwaith. Pe bai gweithwyr eraill yn y sector cyhoeddus yn profi ymosodiadau i'r fath raddau, byddem yn ei ystyried yn fater difrifol iawn. Felly, rwy'n credu ei fod yn ymwneud â chydnabod y sefyllfa honno a'r swyddogaeth. Un o'r materion y mae'r cwmnïau tacsis wedi'i godi gyda mi yw nifer y platiau a'r angen i roi cap ar blatiau i sicrhau nad oes gorgyflenwad. Mae hynny'n amlwg yn gorgyffwrdd â'r mater ffiniau hefyd. A gaf i wedyn godi mater— Na. Allwch chi ddirwyn i ben, os gwelwch chi'n dda? Mick Antoniw AC: Byddaf i'n ddirwyn i ben—o ran Uber, sydd, yn y bôn, wedi datblygu ras i'r gwaelod o ran y gwasanaethau tacsi. Mae'n bwysig mewn unrhyw ddatblygiad nad ydym yn caniatáu i'r gwasanaeth tacsis ddilyn yr un drefn ag Uber—bod yn rhaid iddo gael sail fasnachol gadarn i oroesi a bod yn rhan o wasanaeth trafnidiaeth integredig. Ken Skates AC: A gaf i ddiolch i Mick Antoniw am y pwyntiau y mae wedi'u codi a'r cwestiynau y mae wedi'u gofyn? Mae'n hollol iawn i ddweud bod angen inni osgoi unrhyw ras i'r gwaelod. Wrth wneud hynny, rhaid inni sicrhau bod y safonau hynny y soniais amdanyn nhw'n gynharach o'r ansawdd uchaf, a sicrhau y gallwn ni gystadlu â'r newydd-ddyfodiaid hynny i'r farchnad ar sail safonau a diogelwch. Rhaid dweud bod gormod o gyflenwyr tacsis wedi achosi cyflogau is. Felly, o ran gweithredu'n groesffiniol, nid oes amheuaeth nad yw'r ddeddfwriaeth a fydd yn cael ei chyflwyno yn y tymor nesaf, yn hanfodol bwysig o ran codi lefelau cyflog gyrwyr tacsis a cherbydau hurio preifat. Wrth gwrs, mae Mick Antoniw yn tynnu sylw at y rhan hanfodol y mae tacsis a gyrwyr cerbydau hurio preifat wedi'i chwarae yn ystod y pandemig cyfan, gan sicrhau bod modd i weithwyr allweddol ac offer y GIG gael eu cludo'n ddiogel ac yn ddibynadwy. Rwyf i'n hynod ddiolchgar i'r diwydiant am chwarae ei ran wrth ymateb i'r ymdrech genedlaethol. Rwy'n gwybod bod Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i fod i wneud datganiad heddiw ynghylch gweithgareddau o fewn tasglu'r Cymoedd. Bydd hynny'n digwydd ar 8 Rhagfyr, ac rwy'n siŵr y bydd ganddo rywbeth i'w ddweud bryd hynny am rai o'r cynlluniau peilot sydd wedi bod yn digwydd o ran trafnidiaeth gyhoeddus. Gan gydnabod y rhan hanfodol y mae tacsis a cherbydau hurio preifat yn ei chwarae yn y Cymoedd, rwy'n siŵr y bydd ganddo rywbeth i'w ddweud am y gwasanaethau y maen nhw'n eu gweithredu yn y cymunedau hynny y mae Mick Antoniw ac Aelodau eraill yn eu cynrychioli mor dda. Diolch yn fawr iawn, Gweinidog. 6. Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Diweddariad ar Dasglu'r Cymoedd Mae eitem 6 ar yr agenda wedi'i gohirio tan 8 Rhagfyr. 7. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2020 Eitem 7 yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio a Chyfyngiadau Rhyngwladol) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2020. Mae'n gyffrous iawn. Rwy'n galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol—Vaughan Gething. Cynnig NDM7484 Rebecca Evans Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Tachwedd 2020. Cynigiwyd y cynnig. Vaughan Gething AC: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig ger ein bron. Mae'r rheoliadau sydd ger ein bron heddiw yn darparu na fydd awyrennau a llongau teithwyr sy'n teithio'n uniongyrchol o Ddenmarc, a nwyddau sy'n cael eu cludo gan bobl, yn gallu glanio na docio ym mhorthladdoedd Cymru mwyach. Fe ddaethant i rym ddydd Sadwrn 14 Tachwedd. Mae'r rheoliadau'n dilyn y camau brys a gafodd eu cymryd ledled y DU gan bob un o'r pedair Llywodraeth yn dilyn adroddiadau gan awdurdodau iechyd yn Nenmarc bod achosion o amrywiolyn newydd o COVID wedi'u canfod ar ffermydd mincod, gyda rhai achosion o drosglwyddo dynol. Cyflwynodd diwygiadau blaenorol i'r cyfyngiadau teithio gyfyngiadau ar Ddenmarc. O 7 Tachwedd, roedd yn ofynnol i unrhyw un a oedd yn cyrraedd y DU o Ddenmarc dros nos ynysu am 14 diwrnod. Roedd hyn yn berthnasol i unigolion a'u haelwydydd hefyd. Roedd hyn yn cyd-fynd â Llywodraeth y DU yn gweithredu pwerau mewnfudo. Mae hynny'n golygu bod holl deithwyr cenedlaethol neu breswyl nad ydyn nhw'n Brydeinig sydd wedi bod yn Nenmarc, neu sydd wedi teithio drwodd, yn ystod y 14 diwrnod diwethaf wedi cael gwrthod mynediad i'r DU. Roedd y rhain yn fesurau rhagofalus yn seiliedig ar dystiolaeth gynnar gan awdurdodau iechyd yn Nenmarc. Drwy weithredu, ein nod yw atal risg i Gymru a'r DU rhag y math newydd hwn o COVID. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn cysylltu â thrigolion Cymru sydd wedi bod yn Nenmarc, i egluro y byddwn ni'n ei gwneud yn ofynnol iddyn nhw a'u haelwydydd ynysu fel mesur rhagofalus ychwanegol. Yn amlwg, mae'r sefyllfa yn Nenmarc yn parhau i fod yn sefyllfa sy'n esblygu y byddwn i'n parhau i'w monitro'n ofalus, ac, wrth gwrs, byddwn ni'n gweithio gyda Llywodraethau eraill yn y DU ac Ewrop wrth inni wneud hynny. Nid yw'r Senedd wedi trafod diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 o'r blaen, a gaiff ei wneud, fel arfer, o dan y weithdrefn negyddol. Gan fod y rheoliadau hyn yn diwygio'r cyfyngiadau teithio rhyngwladol a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020 ar wahân ac yn fwy cyffredinol, maen nhw, yn yr achos hwn, o dan y weithdrefn gadarnhaol. Mae arwyddion calonogol bod y cyfnod atal byr yng Nghymru wedi gweithio, gan arwain at ostyngiad sydyn yn nifer yr achosion cadarnhaol. Mae hyn yn arbennig o glir mewn ardaloedd lle mae nifer fawr o achosion fel Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful. Rydyn ni hefyd yn gweld bod nifer y derbyniadau i ysbytai yn lefelu, ac o bosibl yn gostwng. Fodd bynnag, mae'r sefyllfa yng Nghymru yn parhau'n ddifrifol iawn. Fel y nododd y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, yn dilyn ein hadolygiad o'r rheoliadau, mae'n rhy gynnar i lacio unrhyw un o'r cyfyngiadau. Mae hyn yn cyd-fynd â'r dull gofalus a graddol yr ydym ni wedi'i gymryd erioed. Mae'n werth ystyried, wrth wneud hynny, y cynnydd diweddar mewn achosion cadarnhaol newydd yn ystod y dyddiau diwethaf. Mae'r rheoliadau yma yng Nghymru yn dilyn y cyfnod atal byr wedi'u cynllunio i fod yn glir, yn sefydlog ac yn syml i'w deall. Felly, nid ydym yn gwneud newidiadau sylweddol ar hyn o bryd. Wrth inni nesáu at gyfnod yr ŵyl ym mis Rhagfyr, bydd teuluoedd ac anwyliaid yn naturiol yn dymuno bod gyda'i gilydd. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â gweinyddiaethau eraill y DU i geisio dull cydgysylltiedig o gynllunio ar gyfer cyfnod yr ŵyl. Mae'r Prif Weinidog yn cyfarfod y prynhawn yma, os nad wrth inni siarad, fel rhan o gyfarfod COBRA i drafod yr hyn a allai fod yn bosibl ledled y pedair gwlad dros gyfnod y Nadolig. Ac yn amlwg ni allaf i achub y blaen ar ganlyniad y sgyrsiau hynny. Fel y nodais i yng nghynhadledd Llywodraeth Cymru ddoe, yn anffodus efallai y bydd mabwysiadu dull cyffredin ledled y DU yn dal i olygu bod angen tynhau'r cyfyngiadau yng Nghymru yn ystod yr wythnosau cyn cyfnod yr ŵyl. Efallai mai dyma'r unig ffordd y gallwn ni gyflawni'r hyblygrwydd sydd ei angen i ddarparu ar gyfer y rhyddid ychwanegol y mae llawer ohonom ni'n gobeithio ei fwynhau dros gyfnod cyfyngedig yr Ŵyl. Dylwn i bwysleisio nad oes penderfyniad wedi'i wneud eto ar unrhyw gyfyngiadau newydd. Mae'r gyfraith yng Nghymru yn ei gwneud yn ofynnol i'r cyfyngiadau gael eu hadolygu eto erbyn 3 Rhagfyr. Fel rhan o'r adolygiad hwnnw, rwy'n disgwyl inni ystyried a oes angen gofynion ychwanegol yng Nghymru, a bydd hyn yn cynnwys y trefniadau haen newydd yn Lloegr a'r Alban, fel y cafodd ei godi yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog gan arweinydd yr wrthblaid yn gynharach heddiw. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau, fel minnau, wedi'u calonogi gan y newyddion cadarnhaol ynghylch datblygu brechlynnau, gyda'r newyddion ychwanegol ddoe am frechlyn Rhydychen. Er hynny, hoffwn i atgoffa pawb unwaith eto nad yw'r brechlyn yn ateb syml. Mae'r coronafeirws yn dal gyda ni. Mae'n dal yn heintus iawn, ac yn dal i fod yn debygol o achosi niwed mawr yn y misoedd i ddod, gan gynnwys, mae arnaf ofn, ragor o farwolaethau. Yn anffodus, mae'r cyfyngiadau'n dal yn angenrheidiol iawn. Rydym fisoedd i ffwrdd o'r posibilrwydd realistig o ddiogelu'r boblogaeth gyda chyfuniad o frechlynnau. Mae angen i bob un ohonom feddwl am yr hyn y dylem ei wneud i ofalu amdanom ni ein hunain a'n gilydd. Unwaith eto, fodd bynnag, hoffwn i ddiolch i bobl ym mhob rhan o Gymru am eu hymdrechion parhaus, ar dipyn o gost i bob un ohonom ni, i helpu i gadw Cymru'n ddiogel. Rwy'n gofyn i'r Aelodau gefnogi'r cynnig sydd ger ein bron. Diolch. Rwy'n galw nawr ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfau, Cyfiawnder a Chyfansoddiad, Mick Antoniw. Mick Antoniw AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Gan fy mod yn hanner Danaidd, mae gennyf ddiddordeb arbennig yn y set benodol hon o reoliadau. Fe wnaethom ni adrodd fel pwyllgor ar y rheoliadau hyn ddoe. Fel y gwŷr yr Aelodau, daethon nhw i rym am 4 a.m. ddydd Sadwrn 14 Tachwedd 2020. Fel yr eglurodd y Gweinidog, mae'r rheoliadau'n diwygio'r rheoliadau coronafeirws, teithio rhyngwladol a chyfyngiadau gwreiddiol, gan gynnwys drwy ychwanegu mesur newydd yn gwahardd llongau awyrennau a llongau morwrol, mai Denmarc oedd eu man gadael olaf, rhag cyrraedd Cymru. Mae'r cyfyngiad hwn yn amodol ar eithriadau cyfyngedig. Mae'r rheoliadau hefyd yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru), fel y soniodd y Gweinidog. Fe wnaethom ni fel pwyllgor nodi un pwynt adrodd technegol ynglŷn â gwahaniaeth rhwng y testunau Cymraeg a Saesneg o ran ystyr 'cyrraedd Cymru', o ran llong yn dod yn uniongyrchol o Ddenmarc. Roeddem ni hefyd wedi nodi tri phwynt teilyngdod. Mae'r pwynt cyntaf yn nodi'r cyfiawnhad dros unrhyw ymyrraeth wleidyddol â hawliau dynol, a'r ail nid oes ymgynghoriad ffurfiol wedi bod ar y rheoliadau hyn. Mae ein pwynt adrodd terfynol yn croesawu'r ffaith bod y rheoliadau hyn yn cywiro materion yn rheoliadau Rhif 4 a'r rheoliadau coronafeirws, teithio rhyngwladol a chyfyngiadau gwreiddiol y mae ein pwyllgor wedi'u codi mewn adroddiadau blaenorol. Diolch, Llywydd. Andrew RT Davies AC: Byddwn ni'n cefnogi'r rheoliadau sy'n cael eu cyflwyno y prynhawn yma. Hoffwn ofyn am ddau bwynt o eglurhad gan y Gweinidog, os caf i. Ynghylch rhan Denmarc o'r rheoliadau sydd wedi'u symud gan y Llywodraeth, a wnaiff y Gweinidog, er iddo roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni at ryw bwynt, nodi a oes unrhyw wybodaeth am y gyfradd drosglwyddo y tu allan i Ddenmarc? Rwy'n nodi bod damcaniaethu yn y wasg sydd wedi sylwi ar yr amrywiolyn newydd o haint COVID fel sy'n ymddangos nawr mewn gwledydd eraill yn Ewrop. Nid wyf yn credu fy mod i wedi clywed am unrhyw drosglwyddo o fewn y Deyrnas Unedig, nac, yn wir, yng Nghymru, ond byddai'n ddefnyddiol deall. A all y Gweinidog gadarnhau bod hynny'n wir ac, yn benodol, y ddeialog reolaidd y mae swyddogion Iechyd Cyhoeddus Cymru ac awdurdodau Denmarc yn ei chael i sicrhau bod yr wybodaeth honno'n cael ei rhannu? Oherwydd, unwaith eto, yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae'r achosion hyn yn Nenmarc wedi arwain at ymddiswyddiadau yn y Llywodraeth hefyd. Felly, roedd yr wybodaeth ddiweddaraf a roddodd inni yr wythnos diwethaf o ran perthynas dda yn braf i'w chlywed, ond mae'n amlwg bod rhai ystyriaethau gwleidyddol domestig yn Nenmarc, a rhaid inni sicrhau bod y llwybrau cyfathrebu hynny'n cael eu cynnal. Yn ail, o ran y rheoliadau rhyngwladol ar gyfyngiadau teithio a osodwyd ar ymwelwyr sy'n dychwelyd o Wlad Groeg, heddiw rydym ni wedi cael y newyddion am brofion posibl—y gallu i brofi ar ôl dychwelyd a fyddai'n byrhau'r cyfnod ynysu. A yw'r Gweinidog mewn sefyllfa i gadarnhau a fydd cyfleoedd profi o'r fath ar gael yma mewn pwyntiau mynediad i Gymru, neu ai menter i Loegr yn unig yw hon ar hyn o bryd, ac a allai fod ar gael, o bosibl, yma yng Nghymru? Rhun ap Iorwerth AC: Mi fyddem ninnau hefyd yn cefnogi'r rheoliadau yma heddiw. Mae'r sefyllfa yn Nenmarc yn bryderus, wrth gwrs, ac mae'n synhwyrol i gymryd camau i ddiogelu'r cyhoedd yng Nghymru yn sgil y datblygiadau hynny. Mae'r rheoliadau yma hefyd yn tynnu nifer o wledydd oddi ar y rhestr o diriogaethau sy'n esempt o waharddiadau ac yn y blaen, ac yn ychwanegu gwledydd eraill ati. Mae hynny'n dweud wrthym ni, onid ydy, fod stori'r feirws yn stori o feirws sy'n ddeinamig o hyd ar hyd a lled y byd, ac mae hynny'n ein hatgoffa ni nad ydy pethau drosodd o bell ffordd eto. Mae o'n ddeinamig yma yng Nghymru hefyd, wrth gwrs, ac mi wnaf i ychydig o sylwadau ynglŷn â hynny. Do, mi gawsom ni'r cyfnod clo dros dro ac roeddwn innau, ynghyd ag Aelodau Plaid Cymru, wedi galw am hynny. Mi oedd hi'n amser am y cyfnod hwnnw. Ond rydym ni'n gallu gweld, onid ydym, fod yna arwyddion pryderus mewn sawl rhan o Gymru—mewn llawer o rannau o Gymru, a dweud a gwir—ynglŷn â'r ffordd mae patrwm y feirws yn mynd. Ac mi ddywedaf i yn fan hyn ein bod ni'n barod i weithio efo'r Llywodraeth ar reoliadau newydd gallai fod angen eu cyflwyno, a'r rheoliadau hynny efo pwyslais ar gefnogi. Mi drafodon ni yma yn y Senedd brynhawn dydd Mercher diwethaf y pwysigrwydd o gefnogi pobl i helpu cymunedau i'w helpu eu hunain i reoli'r feirws yma. Mi glywson ni yn y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yr wythnos diwethaf mor bwysig ydy cefnogi cymunedau, cefnogi pobl i hunan-ynysu ac yn y blaen, fel un o'r prif arfau yn erbyn y feirws yma. Felly, gadewch i ni edrych yn enwedig ar yr ardaloedd hynny o Gymru lle mae'r feirws ar gynnydd a gweld sut y gallen ni drio newid ymddygiad pobl ac arferion pobl drwy eu helpu nhw. Mae yna lawer rhy ychydig o bobl, nid dim ond yng Nghymru, ond yn yr ynysoedd yma, sydd yn methu â gwneud yr hyn sydd ei angen er mwyn hunan-ynysu yn llym. Mae gwledydd eraill yn llawer gwell am gael pobl i hunan-ynysu, a'r rheswm ydy bod yna fwy o gefnogaeth yn y gwledydd hynny—nid dim ond cefnogaeth ariannol, fel rydym ni wedi pwysleisio sydd ei angen, ond cefnogaeth ymarferol, cefnogaeth emosiynol hefyd, i bobl allu gwneud y penderfyniadau iawn. Dwi'n annog y Llywodraeth i ystyried y mathau yna o gamau yng Nghymru dros yr wythnosau nesaf—meddwl amdanyn nhw fel cefnogaeth yn hytrach na chyfyngiadau. Mae pawb wedi cael llond bol ar gyfyngiadau. Ond mae yna ardaloedd sydd angen mwy o help nag eraill, a rydym ni'n barod i gefnogi'r Llywodraeth os ydyn nhw am ystyried hynny wrth inni symud ymlaen i'r cyfnod nesaf. Diolch. Nid oes gennyf i unrhyw un sydd wedi gofyn am wneud ymyriad. Felly, rwy'n galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl. Vaughan Gething AC: Diolch, a diolch i'r Aelodau am eu sylwadau. Yn wahanol i Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad, nid wyf i'n hanner Danaidd, ond mae gennyf i deulu yn Nenmarc—mae gennyf frawd, chwaer yng nghyfraith a dau nai. Nid wyf yn credu bod hynny'n effeithio'n sylweddol ar fy mhenderfyniadau yn hyn o beth, yn enwedig gan fod y rhain yn gyfyngiadau ychwanegol yr ydym ni'n eu trafod. Fe ddylwn i ddweud hefyd fod y cyfyngiadau gwreiddiol wedi'u llofnodi ar ôl 3 a.m. y bore, cyn dod i rym am 4 a.m. Roedd hynny'n fore cynnar, neu'n noson hwyr i mi, ond hefyd hoffwn i ddiolch i'r swyddogion, yr wyf i o'r farn nad ydyn nhw bob amser yn cael eu gwerthfawrogi. Maen nhw yn aros i fyny'n hwyr iawn gyda'r nos, yn gweithio drwy fanylion y rheoliadau ac yn trosglwyddo'r mesurau brys, y bu'n rhaid i ni eu cymryd ac sy'n symud yn wirioneddol gyflym iawn, a hynny ar gryn gost iddyn nhw eu hunain a'u teuluoedd am weithio hyd at yr amser hwnnw. O ran y cwestiynau gan Andrew R.T. Davies a rhai o'r pwyntiau, wel, nid ydym yn hollol glir am yr amrywiolyn arall mewn gwledydd eraill yn Ewrop, oherwydd mae gan wledydd eraill Ewrop rywfaint o ffermio mincod masnachol. Nid ydym yn siŵr a oes trosglwyddo o Ddenmarc neu amrywiolion newydd mewn gwledydd eraill. Byddwn yn cyfarfod unwaith eto ledled gweinyddiaethau eraill y DU ddydd Iau, pan fyddaf yn disgwyl cael yr wybodaeth ddiweddaraf. Byddaf i hefyd yn cael sgwrs gyda'n prif swyddog meddygol ni cyn hynny, ac wrth innigael y darlun mwy datblygedig, byddwn yn parhau i'ch diweddaru. Ond mae hwn, unwaith eto—er gwaethaf yr holl wahaniaeth ar wahanol adegau rhwng y pedair Llywodraeth yn y DU yn ystod y pandemig, mae hwn yn faes lle cawn sgwrs ddilys ac agored rhwng y Llywodraethau, gan rannu gwybodaeth a thystiolaeth. A phan gawn ni ddiweddariad priodol arall, byddaf i'n hapus i ddarparu hynny i'r Aelodau, gan gynnwys, os yw hynny y tu allan i amser y Cyfarfod Llawn, wneud hynny mewn datganiad ysgrifenedig. Rydym ni yn y sefyllfa, serch hynny, o fod â pherthynas dda iawn nid yn unig â Llywodraeth Denmarc ond â system gofal iechyd Denmarc, ac nid oes unrhyw bryderon wedi'u codi gyda mi ynglŷn â lefel y cydweithredu a rhannu gwybodaeth o Ddenmarc. Er hynny, rydym yn disgwyl, ar yr ail bwynt a ofynnodd yr Aelod—nid yw'n fanwl gywir yn rhan o'r rheoliadau i ni heddiw, ond, o ran y trefniadau teithio rhyngwladol a gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth ar gyfer Lloegr heddiw, nid ydym wedi diystyru gwneud rhywbeth tebyg. Fodd bynnag, rydym eisiau gallu deall mwy o'r wybodaeth fanwl sydd, mae'n debyg, yn sail i'r dewis sy'n cael ei wneud gan Weinidogion Lloegr. Felly, rwy'n falch o ddweud eu bod wedi cytuno i rannu'r wybodaeth honno a gweithio gyda'n prif swyddog meddygol ni a'n cell cyngor technegol i roi cyngor i Weinidogion Cymru. O ystyried na fydd y gweithredu yn Lloegr yn digwydd tan ganol mis Rhagfyr, efallai y gallwn ni symud tua'r un amser, os dewiswn wneud hynny. Ond, fel y dywedais, byddwn ni'n cael y papurau hynny, byddwn ni'n cael y cyngor hwnnw gan ein cell cyngor technegol, ac yna, yn ôl y drefn arferol, byddem ni'n disgwyl nid yn unig allu gwneud penderfyniad ond hefyd gyhoeddi crynodeb o'r cyngor hwnnw yng nghyhoeddiadau rheolaidd y gell cyngor technegol sy'n ymddangos bob wythnos. Rwy'n credu bod hynny'n symud at y pwyntiau a wnaed gan Rhun ap Iorwerth ar gefnogi pobl a hunanynysu yn benodol. Cyfeiriwyd at bapurau SAGE yn adroddiad y gell cyngor technegol yr wythnos diwethaf, ac mae'n sôn eto nid yn unig am gymorth ariannol, y mae peth eisoes yn ei le, ond hefyd am gymorth anariannol a'r pwynt ehangach ynghylch annog pobl i wneud y peth cywir i eraill yn ogystal ag iddyn nhw eu hunain. Felly, mae yna her yma, drwy anfon negeseuon, drwy bwysleisio pam mai hwn yw'r peth iawn i'w wneud, a chefnogi pobl i wneud hynny. O'r adolygiad cynhwysfawr o wariant yfory, fe fyddwn yn clywed am ein sefyllfa o ran a fydd unrhyw adnodd ychwanegol i'r Llywodraeth yma ei ddefnyddio, ac, os felly, ar ba bwynt. Fodd bynnag, mae gennym eisoes alwadau cymorth rheolaidd, sy'n nodwedd o'n gwasanaeth profi, olrhain a diogelu. Rwyf wedi cael etholwyr, a phobl o bob rhan o Gymru y tu allan i'm hetholaeth i, yn cysylltu â mi i ddweud pa mor ddefnyddiol y mae'r galwadau cymorth rheolaidd hynny o'r gwasanaeth profi, olrhain a diogelu wedi bod iddyn nhw, o ran gweld sut y maen nhw a sut maen nhw'n ymdopi â theimlo'n unig yn dilyn cyfnod o ynysu, naill ai fel achos cyfeirio neu, yn wir, fel cyswllt. Felly, mae yna ragor o bethau y byddem eisiau eu dysgu o rannau eraill o'r DU, meddwl am y cyngor yr ydym ni'n ei gael, a helpu pobl i wneud y peth iawn yn ymarferol. Mae hyn yn rhan fawr o wneud y peth iawn wrth ofalu amdanom ni ein hunain a'n gilydd. Hoffwn i ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau heddiw a gofyn i'r Aelodau barhau i gefnogi'r rheoliadau i helpu i gadw Cymru'n ddiogel. Llawer o ddiolch. Diolch. Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Byddwn ni nawr yn atal y trafodion i ganiatáu newid yn y Siambr. Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny'n brydlon, a bydd y gloch yn cael ei chanu ddwy funud cyn i'r trafodion ailgychwyn. Dylai'r Aelodau aros y tu allan i'r Siambr nes i'r gloch gael ei chanu. Diolch. Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:09. Ailymgynullodd y Senedd am 17:15, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair. 8. Rheoliadau Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2020 Felly, rydym ni'n ailymgynnull ar eitem 8, sef Rheoliadau Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2020, a galwaf ar y Gweinidog Addysg i wneud y cynnig. Kirsty Williams. Cynnig NDM7482 Rebecca Evans Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Tachwedd 2020. Cynigiwyd y cynnig. Kirsty Williams AC: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod y Llywodraeth hon, mewn ymateb i nifer o adroddiadau ar ddiffygion y system bresennol, wedi cyflwyno deddfwriaeth newydd yn 2016 a oedd yn paratoi y ffordd ar gyfer system lawer gwell i gefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Cafodd y ddeddfwriaeth uchelgeisiol hon ei chyd-ddatblygu â rhanddeiliaid allweddol a'i phrofi drwy broses graffu'r Bil gan Aelodau'r Senedd. Daeth Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, a elwir fel arall yn Ddeddf ADY, yn Ddeddf Cyfraith ym mis Ionawr 2018 ac mae'n ganolbwynt i'r rhaglen drawsnewid ADY ehangach. Ers 2018, rwyf wedi bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid i helpu i lunio'r cod ADY a'r rheoliadau drafft sy'n nodi sut y bydd y system newydd yn gweithio'n ymarferol. Ym mis Medi, cyhoeddais fod yr amserlen ar gyfer dechrau cyflwyno'r system ADY newydd yn aros yr un peth, a bod swyddogaethau statudol y cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol—y CADY; y swyddog arweiniol clinigol addysgol dynodedig—y SACDA; a swyddogion arweiniol anghenion dysgu ychwanegol y blynyddoedd cynnar—y CADY blynyddoedd cynnar—yn dal i ddechrau ym mis Ionawr 2021. Bydd hyn yn galluogi gweddill y system newydd i fynd rhagddi fesul cam o fis Medi 2021. Yn gynharach y mis hwn, cymeradwyais y Gorchymyn a fydd yn caniatáu ar gyfer cychwyn y swyddogaethau statudol hyn o 4 Ionawr 2021, ac i gefnogi hyn rwy'n falch o gyflwyno cyfres bwysig o reoliadau sy'n nodi carreg filltir allweddol yn y gwaith o ddiwygio'r ADY yng Nghymru, y rheoliadau ADY drafft. Bydd y rheoliadau hyn yn helpu i godi safonau a chydgysylltu darpariaeth addysg, ac yn hyrwyddo dull ysgol gyfan o ymdrin â'r rhai ag ADY drwy ragnodi'r cymwysterau a phrofiad y mae'n rhaid i ADY eu cael. Maen nhw'n nodi tasgau clir y mae'n rhaid i ADY ymgymryd â nhw. Bydd y rhain yn sicrhau bod ein cyrff statudol yn defnyddio dull cyson o ddynodi'r swyddogaeth, yn ogystal â galluogi darparu gwell darpariaeth addysgol i blant a phobl ifanc ag ADY. I gefnogi'r swyddogion CADY, rwy'n darparu cyllid ar gyfer hyfforddiant ychwanegol fel rhan o raglen hyfforddi broffesiynol genedlaethol ADY. Mae gwaith ar y gweill i ddatblygu cynnig dysgu proffesiynol penodol ar gyfer CADYau i'w galluogi i ddarparu swyddogaeth arwain strategol, gan weithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer cyngor ac arweiniad proffesiynol i eraill. Cafodd y rheoliadau ADY drafft eu gosod yn y Senedd ar 3 Tachwedd. Gyda chefnogaeth yr Aelodau heddiw daw i rym ar yr un pryd ag y bydd swyddogaeth y CADY yn dechrau, sef ar 4 Ionawr 2021. Bydd pasio'r rheoliadau hyn yn gam sylweddol ymlaen o ran darparu ein system ADY newydd yng Nghymru a bydd yn cyfrannu rhywfaint at wella cyfleoedd bywyd ein dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Diolch, Dirprwy Lywydd. Siân Gwenllian AC: Mae Plaid Cymru yn croesawu'r bwriad i wella'r gefnogaeth i ddisgyblion gydag anghenion ychwanegol, ond dwi'n nodi, fodd bynnag, fod yna nifer o heriau yn codi efo cyflwyno'r newidiadau, yn enwedig yn sgil COVID ac o gofio'r diwygiadau cwricwlwm pellgyrhaeddol sydd ar y gorwel hefyd. Mae'r newidiadau i addysg disgyblion anghenion ychwanegol yn cario pris efo nhw, ond dydy hi ddim yn glir faint fydd hyn i gyd yn ei gostio—ddim yn glir faint fydd o'n gostio mewn termau staffio na mewn termau hyfforddiant. Ond dwi'n meddwl bod yna gytundeb yn gyffredinol y bydd o'n golygu pwysau ariannol ychwanegol ar ein hysgolion ni er bod cyllidebau yn crebachu. Mae cryn waith i'w wneud i uwch-sgilio staff, hefyd. Felly, tra'n croesawu'r rheoliadau newydd yma, mae'n rhaid i'r Llywodraeth gydnabod bod yna gryn heriau wrth gyflwyno'r newidiadau mewn ffordd ystyrlon a fydd wir yn gwneud gwahaniaethi'r cohort arbennig yma o blant. Diolch. Nid oes unrhyw Aelodau wedi dweud eu bod eisiau ymyrryd, felly, a gaf i alw ar y Gweinidog Addysg i ymateb i'r ddadl? Kirsty Williams. Mae angen ichi gael eich dad-dawelu. Kirsty Williams AC: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i Siân Gwenllian am ei sylwadau? Mae hi yn llygad ei lle wrth siarad am yr heriau sylweddol o wireddu addewid y Ddeddf ADY. Ac yn sicr, nid yw effaith COVID-19 ar waith y Llywodraeth ac, yn wir, ar waith ysgolion yn ddibwys. Fodd bynnag, rwy'n siŵr y byddai hi'n cytuno â mi bod yn rhaid inni wneud cynnydd ac mae'r rheoliadau sydd ger ein bron heddiw yn caniatáu inni wneud hynny. O ran adnoddau ariannol, bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod ni wedi neilltuo rhaglen gwerth £20 miliwn i gefnogi'r gwaith o weithredu'r Ddeddf. Bydd y rhan fwyaf o hynny'n cael ei wario ar ddarparu'r cyfleoedd dysgu proffesiynol ac uwchsgilio angenrheidiol y bydd y ddeddfwriaeth yn gofyn amdanyn nhw. Ond rwy'n ddiolchgar am ei sylwadau a'i hymrwymiad parhaus i'r maes diwygio pwysig hwn. Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf i'n gweld unrhyw wrthwynebiadau. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 9. Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymraeg 2050 (2019-2020) ac Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg (2019-2020) Mae eitem 9 ar ein hagenda yn ddadl, a dyma adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru ar gyfer 'Cymraeg 2050' ar gyfer 2019-20, ac adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg yn 2019-20. Rwy'n galw ar y Gweinidog Iechyd Meddwl, Lles a'r Gymraeg i wneud y cynnig. A yw'r Gweinidog yno? Iawn, cawn rai munudau o seibiant nes y gall y Gweinidog ymuno â ni yn rhithiol. Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:22. Ailymgynullodd y Senedd am 17:23, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair. Fel y dywedais, rydym ni ar y ddadl ar adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru ar gyfer 'Cymraeg 2050' ac adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg, ac rwy'n gofyn nawr i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Lles a'r Gymraeg gynnig y cynnig. Eluned Morgan. Cynnig NDM7485 Rebecca Evans Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi: a) Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymraeg 2050 (2019-20); b) Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg (2019-20). Cynigiwyd y cynnig. Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr, ac ymddiheuriadau fy mod i wedi cyrraedd yn hwyr. Dwi yma heddiw i gyflwyno dau adroddiad blynyddol gerbron y Senedd sydd, gyda'i gilydd, yn dangos y camau a gafodd eu cymryd yn 2019-20 i gyrraedd ein nod llesiant cenedlaethol o weld y Gymraeg yn ffynnu. Yr adroddiadau sydd dan sylw yw adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru ar gyfer 'Cymraeg 2050' ac adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg, eto ar gyfer 2019-20. Dwi am ddechrau trwy drafod ein hadroddiad blynyddol ni ar ein strategaeth iaith, sef 'Cymraeg 2050'. Mae'r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar flwyddyn ariannol 2019-20, ac mae'n dangos y cynnydd rydym ni wedi ei wneud wrth weithredu 'Cymraeg 2050' yn ystod y flwyddyn. Eluned Morgan AC: Fe gofiwch fod 'Cymraeg 2050' yn cynnwys dau brif nod, sef cynyddu nifer y siaradwyr a chynyddu'r defnydd a wneir o'r iaith hefyd. Mae'r adroddiad hwn, felly, yn dangos y gwaith sydd wedi'i wneud mewn ymateb i'r nodau hyn yng nghalon ein cymunedau, gan ein partneriaid grant, a gennym ni fel Llywodraeth. Fe welwch fod yr adroddiad yn dangos ein gwaith o'r blynyddoedd cynnar, trwy ddarpariaeth addysg statudol, i addysg ôl-orfodol a Chymraeg i oedolion. Mae hefyd yn sôn am brosiectau i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn ein cymunedau. Mae'r adroddiad yn un amrywiol iawn am fod y gwaith yn perthyn i bob un o feysydd gwaith y Llywodraeth, gan adlewyrchu pwysigrwydd prif ffrydio a gwreiddio 'Cymraeg 2050' yn eang. Mae'r adroddiad hwn yn arddangos tystiolaeth dda iawn o hynny. Does dim amser gyda fi i fynd drwy bopeth heddiw, felly dwi am sôn am rai o uchafbwyntiau'r flwyddyn cyn troi at beth sydd wedi digwydd ers hynny yn sgil COVID-19. Un o uchafbwyntiau'r llynedd oedd cymryd rhan ym Mlwyddyn Ryngwladol UNESCO ar gyfer Ieithoedd Brodorol. Roedd yn gyfle gwych i ni godi proffeil Cymru yn rhyngwladol, fel gwlad ddwyieithog a gwlad sy'n arwain yn y maes adfywio ieithyddol. Yn ystod yn flwyddyn adrodd, mi wnes i gyhoeddi ein bwriad i sefydlu Prosiect 2050. Uned newydd sbon yw hon sy'n cydlynu ein gwaith o gynllunio ein llwybr tuag at yr 1 filiwn. Bydd hefyd yn creu mentrau newydd i ddyblu defnydd o'r iaith ac yn cefnogi adrannau polisi ar draws y Llywodraeth i weithredu 'Cymraeg 2050'. Bydd yn gweithio gydag amrywiol bartneriaid ledled Cymru a thu hwnt, a dwi'n edrych ymlaen at weld y gwaith arloesol y bydd y prosiect yma yn ei gyflawni. Mae annog teuluoedd i ddewis defnyddio'r Gymraeg yn un o'r pethau pwysicaf y gallwn ni ei wneud ar ein taith tua'r 1 filiwn, felly roeddwn i'n falch dros ben o lansio ymgynghoriad ar y polisi drafft cenedlaethol ar drosglwyddo'r Gymraeg a'i defnydd mewn teuluoedd. Byddwn yn cyhoeddi'r polisi terfynol yma yn y Senedd ar 15 Rhagfyr. Hefyd, rydym wedi lansio'r gwasanaeth Helo Blod, sef gwasanaeth cymorth a chyfieithu sydd ar gael ar-lein a dros y ffôn i fusnesau bach a'r trydydd sector. Rhaid cofio hefyd am y gwaith bara menyn fel cynyddu nifer y cylchoedd meithrin, cynyddu'r lleoedd sydd ar gael mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a'r niferoedd sy'n eu mynychu, cynnig darpariaeth i hwyrddyfodiaid, cryfhau'r gweithlu addysg, cynnal defnydd iaith yn y sector ôl-16 a datblygu adnoddau addysgol o safon, hefyd, cynyddu nifer yr oedolion sy'n dysgu, a chynnig dewis da o brentisiaethau cyfrwng Cymraeg, a chreu cyfleoedd i ddefnyddio'r iaith mewn gweithleoedd, cefnogi partneriaid grant, rhaglen Arfor, rôl y cyfryngau, treftadaeth, diwylliant, twristiaeth, seilwaith ieithyddol a manteisio i'r eithaf ar dechnoleg. Fe welwch chi fod y data yn yr adroddiad yn dangos ein bod ni'n dal i wynebu heriau mewn rhai meysydd, er enghraifft, recriwtio athrawon a sicrhau bod pobl ifanc yn parhau i ddefnyddio'r Gymraeg ar ôl 16 oed. Ond, rŷn ni'n gweithio'n galed ar draws y Llywodraeth a gyda phartneriaid ac yn parhau i gadw llygad ar y data er mwyn addasu ein cynlluniau os bydd gofyn. Mae'n bwysig cofio mai ciplun ar y cyfnod penodol a ddaeth i ben ddiwedd mis Mawrth eleni sydd yn yr adroddiad hwn a rhaid ystyried, wrth gwrs, fod y byd wedi newid yn llwyr ers hynny. Mae'r Gymraeg, fel pob un o feysydd polisi eraill y Llywodraeth, wedi wynebu heriau mawr yn sgil COVID-19, ond gyda phob her, daw cyfleoedd cyffrous. Mae arloesedd, agwedd benderfynol a chreadigrwydd ein partneriaid wedi creu argraff fawr arnaf i. Roedd hi'n bleser gwylio Eisteddfod T, Eisteddfod Amgen a chlywed am waith gwirfoddol gwych y ffermwyr ifanc a Merched y Wawr, yn ogystal â gweld pob math o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ar-lein gan y mentrau iaith. Mae mwy o ddysgwyr wedi manteisio ar gyrsiau blasu ar-lein y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ers mis Mawrth eleni na chyfanswm dysgwyr y tair blynedd flaenorol gyda'i gilydd. Ac mae'r mwyafrif o'n partneriaid wedi llwyddo i barhau i weithredu amcanion 'Cymraeg 2050' yn ystod cyfnod mor anodd. Dwi am ddiolch iddyn nhw am eu hymdrechion aruthrol. Fel Llywodraeth, rŷn ni wedi ymateb i'r pandemig trwy gefnogi partneriaid, gan geisio rhagweld sefyllfaoedd ac ymateb iddyn nhw, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Er enghraifft, mae ymgyrch Llond Haf o Gymraeg wedi ei lansio i gefnogi rhieni plant sy'n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg. Rŷn ni hefyd wedi cynnal awdit o ddefnydd iaith yn ein cymunedau, er mwyn deall effaith COVID ac adnabod cyfleoedd newydd i bobl ddefnyddio eu Cymraeg. Bellach, mae pecyn Cysgliad ar gael am ddim i ysgolion a sefydliadau bach, ac mae hyn yn ei gwneud hi'n haws i fwy o bobl ddefnyddio'r Gymraeg. Rŷn ni hefyd wedi bod yn ystyried beth fydd effaith COVID-19 a hefyd Brexit ar y canlynol: defnydd o'r Gymraeg yn y gweithleoedd; yr economi wledig, gan gynnwys y sector amaeth; a sefyllfa ail gartrefi a thai fforddiadwy. Bydd ein hadroddiad blwyddyn nesaf yn cynnwys mwy o fanylion am y materion hyn ac unrhyw ganfyddiadau am effaith y pandemig ar y Gymraeg, a bydd hyn oll yn cael ei ystyried hefyd wrth inni baratoi ar gyfer rhaglen waith nesaf 'Cymraeg 2050' ar gyfer y Llywodraeth nesaf. Dwi am droi nawr at adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2019-20, sef blwyddyn lawn gyntaf Aled Roberts fel comisiynydd. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch eto am ei waith. Dwi eisiau nodi fy mod i'n gwerthfawrogi parodrwydd y comisiynydd a'i staff i addasu'r ffordd maen nhw wedi gweithio, yn arbennig wrth ystyried goblygiadau COVID-19 ar gyrff sy'n darparu gwasanaethau Cymraeg. Cychwynnodd y comisiynydd ar ei waith drwy gwrdd â thrawstoriad o bobl mewn cymunedau a sefydliadau ar draws Cymru, a hynny er mwyn iddo gael deall sefyllfa'r Gymraeg ar hyd a lled y wlad yn well. Bu'r daith yn sail i weledigaeth y comisiynydd ar gyfer y ffordd ymlaen. Dwi'n falch bod Aled yn rhannu'n gweledigaeth ni fel Llywodraeth Cymru, sef bod rheoleiddio a chreu cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn mynd law yn llaw. Mae angen gwneud y ddau beth er mwyn llwyddo gyda'n gilydd i weithredu 'Cymraeg 2050'. Mae'r adroddiad blynyddol yn cyfeirio at waith sydd wedi'i wneud yn unol â blaenoriaethau'r comisiynydd, sef parhau i reoleiddio'n effeithiol, tra hefyd yn cydweithio â phartneriaid i hybu'r Gymraeg. Mae'r comisiynydd yn parhau i weithredu safonau'r Gymraeg. Daeth y safonau i'r sector iechyd i rym yn ystod y cyfnod adrodd, ac mae'r comisiynydd hefyd wedi bod yn gweithio gyda chyrff i'w cefnogi i roi safonau ar waith. Dwi'n ddiolchgar iawn i'r comisiynydd am ei barodrwydd i gydweithio gyda fy swyddogion i i adolygu'r broses o wneud safonau yn dilyn argymhellion Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu. Dwi'n awyddus i gydweithio i wthio cyrff yn eu blaenau i ddarparu gwasanaethau Cymraeg. Rŷn ni hefyd am greu sefyllfa lle mae hawliau siaradwyr Cymraeg yn glir er mwyn cynyddu'r defnydd o wasanaeth. Mae'r adroddiad hefyd yn amlygu rôl y comisiynydd wrth sicrhau bod y Gymraeg wrth galon gwaith y Llywodraeth gyfan. Eleni, mwy nag erioed o'r blaen, mae'r her allanol yn hollbwysig wrth i ni ystyried effeithiau hirdymor COVID-19 a'r ansicrwydd i'r Gymraeg yn sgil ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. A dyna ni. Dau adroddiad cynhwysfawr iawn yn cyflwyno llawer o wybodaeth am y gwaith hollbwysig sy'n cael ei wneud o dan faner 'Cymraeg 2050'. Diolch yn fawr. Suzy Davies AC: Diolch, Weinidog. A gaf i ddechrau trwy fynegi fy siom ein bod ni'n trafod y ddau adroddiad hyn gyda'i gilydd? Pum munud i graffu ar y ddau. Does dim digon o amser i graffu ar eich llwyddiant i gymharu â'ch gweithgaredd. Does dim amser i fynd drwy'r byd gwaith, y gymuned, y maes addysg, ac yn y blaen, a does dim digon o amser i edrych ar swyddogaethau a chyfrifon y comisiynydd, i archwilio a oes ganddo ddigon o adnoddau, i archwilio ymhellach pam ei fod wedi gorfod gwario mwy ar ffioedd cyfreithiol a phroffesiynol na'r disgwyl. Ac mae yn bwysig, achos i mi, mae hyn yn awgrymu bod y broses gwynion yn dal yn rhy gymhleth ar gyfer rhai cwynion. Mae llawer ohonynt heb eu profi, fel y gwelwn. Ac mae'n lleihau'r arian sydd ar gael ar gyfer y gwaith arall y mae'n rhaid i'r comisiynydd ei wneud, sef helpu i greu mwy o siaradwyr Cymraeg a mwy o ddefnydd o'r Gymraeg. Gaf i groesawu'r cod ymarfer a gyhoeddwyd ym mis Chwefror, sy'n helpu sefydliadau i ddeall sut i gydymffurfio â safonau? Dylai, wrth gwrs, fod mwy o safonau i gydymffurfio â nhw erbyn hyn. Dywedasom yr un peth llynedd, ac roedd diffyg brwdfrydedd dros safonau yn amlwg iawn cyn COVID. Ni allwn feio'r feirws am hyn. Ond mae gen i, hefyd, fwy o frwdfrydedd dros weld gwelliant ar y gwaith ar hyrwyddo a pherswadio a llwybrau eraill i gyflawni'r targed o filiwn o siaradwyr. Gan fod Llywodraeth Cymru yn benderfynol o ddod â mwy o gyfrifoldeb am hyn yn ôl yn fewnol, gawn ni weld faint o amser bydd gan y Gweinidog i gyflawni ar hyn, o ystyried ei chyfrifoldebau heriol a phwysig newydd. Rwy'n awyddus iawn i weld beth sy'n digwydd i ganfyddiadau arolwg y comisiynydd o awdurdodau cynllunio, achos, mae'n debyg i fi, bod gorfodaeth y sylw dyledus ar effaith y Gymraeg yn cael ei ddehongli fel blwch ticio yn hytrach na meddwl am gyfleoedd cytundebau—section 106, er enghraifft—fel ffordd o gynyddu'r galw am addysg Gymraeg. Ac rwy'n falch iawn o weld y comisiynydd yn cyflwyno'r achos dros god ymarfer o dan y cwricwlwm newydd. Ni fydd prif-ffrydio'r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn hawdd, ond dyma'r ffordd orau ymlaen, yn fy marn i, i greu cenedlaethau mwy dwyieithog. Mae'n llawer gwell na chynigion lletchwith ar drosi ysgolion dwy ffrwd yn ysgolion cyfrwng Cymraeg, pan nad oes mynediad i ddewis arall am ddegau o filltiroedd. Nid yw rhannu cymunedau a chwarae gwleidyddiaeth hunaniaeth yn dda i'r iaith. Ar ben hynny, rydym yn dal i gael trafferth recriwtio athrawon, fel y dywedoch, yn enwedig ar y lefel uwchradd. Felly, anogaf Llywodraeth Cymru i ystyried cod ymarfer continwwm o ddifri, a chadw ffocws ar ddarpariaeth blynyddoedd cynnar, i'w gwneud hi'n hawdd i ddewis Cymraeg, ac rwy'n golygu dewis er hwylustod a gyda hyder. Efallai y gallwch chi ddweud wrthym ni, Weinidog, a yw COVID wedi torri ar draws eich cynlluniau i gael 40 o feithrinfeydd newydd erbyn 2021, a sut y byddwch chi'n dal lan. A allwch hefyd ddweud a yw'r 800 o blant ychwanegol mewn meithrinfeydd cyfrwng Cymraeg wedi eu gwasgaru ledled Cymru, neu ydyn nhw mewn ardaloedd Saesneg eu hiaith neu Gymraeg eu hiaith yn bennaf? Neu dim ond yn adlewyrchiad o'r cynnydd yn niferoedd y boblogaeth ar gyfer y grŵp oedran hwn yw hyn? A gofynnaf yr un peth am y cynnydd yng nghanran y plant sy'n symud i ysgolion cynradd Cymraeg. A allaf i ofyn hefyd: pam niferoedd ar gyfer un, a chanrannau ar gyfer y llall? Dydy hynny ddim yn dryloyw o gwbl. Ac er fy mod yn credu bod rhaglen Camau yn syniad gwych, a allwch ddweud a oes gan bob lleoliad Dechrau'n Deg erbyn hyn un person, o leiaf, â sgiliau trosglwyddo'r iaith Gymraeg ar lefel briodol? Jest i ddod i ben, mae yna, fel y dywedais i, ormod o gwestiynau i mi eu cyfro heddiw, ond rwyf eisiau troi at y ffigurau TGAU. Mae'n gynnydd cymedrol, ac rwy'n croesawu unrhyw gynnydd, fel rydych chi'n gwybod, ond efallai y byddai gweld graddau disgyblion wedi ein helpu i ddeall rhywbeth arall—a ddylid eu croesawu ymhellach, neu a oes unrhyw broblem gyda chyrhaeddiad yn y pwnc gorfodol hwn. Ac, ie, dylai fod yn orfodol, achos mae dal angen inni ddangos i nifer o bobl, sy'n crebachu, fod hwn yn gymhwyster gwerthfawr. Mae'n hanfodol, hefyd, i wrthdroi'r cwymp yn y galw am safon uwch os oes unrhyw obaith o gael yr athrawon sydd eu hangen arnom. Diolch. Siân Gwenllian AC: 'Ymlaen tua'r dyfodol y mae edrych, nid am yn ôl' meddai'r Gweinidog yn ei rhagair i'w hadroddiad blynyddol ar strategaeth 'Cymraeg 2050'. A'n gwaith ni yn y Senedd heddiw ydy adolygu gweithgarwch y 12 mis o 1 Ebrill 2019 i 30 Mawrth eleni, sef yr hyn sy'n cael ei gofnodi a'i grisialu yn y ddau adroddiad sydd o'n blaenau ni heddiw—cyfnod bron yn gyfan gwbl cyn yr argyfwng COVID, wrth gwrs. Mae'r comisiynydd a'i dîm eisoes wedi ymddangos o flaen pwyllgor y Gymraeg i ymateb i'r adroddiad blynyddol ac adroddiad sicrwydd y comisiynydd, felly dwi am ganolbwyntio fy ngyfraniad y prynhawn yma ar gyfrifoldebau'r Gweinidog. Daeth y Llywydd i’r Gadair. Siân Gwenllian AC: Mae'n gywir i ddweud bod COVID wedi newid ein cymdeithas dros nos, ond dim ond erbyn pythefnos olaf cyfnod adrodd yr adroddiad, felly fedrith COVID ddim esgusodi na chuddio'r diffyg cynnydd amlwg sydd i'w weld yn record y Llywodraeth. Ac un enghraifft wnaeth neidio allan ataf fi'n syth oedd datganiad ysgubol yn yr adroddiad, wrth gyfeirio at prosiect 2050, fod pennaeth prosiect 2050 bellach wedi'i benodi ac yn ei swydd, yn dilyn oedi yn sgil COVID-19. Ond nid COVID oedd y bai am yr oedi. Cyhoeddi'r un swydd newydd yma yn y gwasanaeth sifil oedd cyhoeddiad mawr y Gweinidog yn ôl yn Eisteddfod Llanrwst yn Awst 2019, a oedd i fod i hoelio sylw ar weithredu'r strategaeth. Roeddwn i'n gweld pethau'n mynd yn araf deg, ac ysgrifennais i at yr Ysgrifennydd Parhaol ym mis Ionawr 2020 yn gofyn am ddiweddariad. Siomedig iawn, iawn oedd yr arafwch hwn—nodweddiadol, efallai—a collwyd llawer gormod o amser efo'r penodiad ac felly efo'r strategaeth. Mae strategaethau hirdymor yn bwysig, ond mae'r prawf o'u gweithrediad o flwyddyn i flwyddyn yn bwysicach fyth, a'r prawf pennaf bod dim lot o gynnydd yn digwydd ydy pan fo Gweinidog yn bodloni ar wneud cyhoeddiadau yn hytrach na gallu tystio cyflawniad go iawn. Un fenter o'r fath a gyhoeddwyd oedd Helo Blod, gwasanaeth cymorth a chyfieithu i fusnesau bach a'r trydydd sector—cyhoeddiad sy'n swnio'n dda a menter digon clodwiw mor belled ag y mae hi'n mynd, ond cwbl, cwbl annigonol os ydyn ni o ddifri am gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg. Dim ond camau breision yn y gweithlu, y gyfraith a'r gyfundrefn addysg fydd yn sicrhau hynny. Mae gan addysg rôl hollol allweddol wrth greu'r miliwn, ond mae'r adroddiad yn dweud bod llai o athrawon cynradd Cymraeg yn y cyfnod dan sylw nag oedd hyd yn oed yn 2015-16—llai. Mae hynny'n anhygoel. Hyfforddwyd 11 o athrawon uwchradd cyfrwng Cymraeg—11—sydd 367 o athrawon yn brin o'r targed. Mae hi'n argyfyngus, ac wrth edrych ymlaen, mae COVID yn bygwth yr hyn sydd gennym ni yn barod. Ond beth rydym ni'n ei gael? Helo Blod, ta-ta rhaglen cyflwyno safonau. Helo Blod, ond ta-ta i'r Urdd. Helo Blod, ond ta-ta cymunedau hyfyw Cymraeg lle mae ail gartrefi allan o reolaeth. Dwi'n siwr eich bod chi'n clywed y coegni a'r rhwystredigaeth yn fy llais i, a dydw i ddim yn mynd i ymddiheuro am hynny. Mae yna le i gydnabod ambell lygedyn o obaith. Diolch i bwyllgorau cyfrifon cyhoeddus a diwylliant y Senedd, fe lwyddwyd i ddal traed yr Ysgrifennydd Parhaol i'r tân, ac fe gafwyd ymrwymiad a chynllun gweithredu i wneud y Gymraeg yn iaith weinyddol gweithlu'r Llywodraeth dros amser. Cafwyd dyfarniad y Barnwr Fraser yn y llys gweinyddol yn ddiweddar, sy'n cadarnhau, i bob pwrpas, hawl pawb i barhau ar lwybr addysg Cymraeg. A llygedyn arall o obaith ydy gwaith manwl Comisiynydd y Gymraeg, sy'n dangos lle mae deddfwriaeth ar y cwricwlwm yn rhoi cyfle gwirioneddol i wneud cynnydd go iawn ar y continwwm ieithyddol, os ddown ni â chod statudol i symud y sefyllfa ymlaen. A dwi'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn fodlon manteisio ar y cyfle, wrth ymateb i'r ddadl, i roi ei chefnogaeth i waith ardderchog y comisiynydd o ran Bil y cwricwlwm. Ond beth sy'n bwysig am y llygedyn o obaith yma, y tri pheth yma dwi wedi sôn amdanyn nhw, ydy nid y Llywodraeth sydd wedi bod yn gyfrifol am ddod â nhw ymlaen. Mae'r pethau yma wedi digwydd er gwaethaf y Llywodraeth, nid o'i herwydd o. Mae angen symud ymlaen. 'Ymlaen tua'r dyfodol y mae edrych, nid am yn ôl' meddai'r Gweinidog, a fydd hi ddim yn syndod ichi fy mod i'n hapus iawn i edrych ymlaen at ddyfodol newydd i'r gwaith o adfywio'r Gymraeg, ac mae gen i a Phlaid Cymru syniadau clir iawn am y cyfeiriad newydd, yr arweiniad newydd a'r egni newydd sydd eu hangen ar gyfer yr ymdrechion hynny. Mi fyddai Llywodraeth Plaid Cymru yn dyrchafu statws uned y Gymraeg yn gyfarwyddiaeth drawslywodraethol bwerus. Mi fyddem ni'n cyflwyno Deddf addysg Gymraeg i'w gwneud yn wirioneddol iaith i bawb. Mi fyddem ni'n achub ein sefydliadau cenedlaethol sy'n gwneud cymaint dros yr iaith ac yn creu dyfodol cynaliadwy i holl gymunedau Cymru. Diolch. Gareth Bennett AC: Diolch i'r Gweinidog am ddod â'r adroddiad hyn. Gareth Bennett AC: Pan fydd Llywodraeth yn ceisio gweithredu polisi, mae gwahanol ddulliau y mae modd eu defnyddio yn yr achos hwnnw. Weithiau mae'n bosibl rhannu'r rhain yn ddwy elfen sylfaenol, sef y foronen a'r ffon. Rwy'n credu bod y Gweinidog wedi bod yn eithaf cyson yn argymell y foronen yn hytrach na'r ffon wrth hyrwyddo'r ymgyrch o hybu defnydd y Gymraeg, ac rwyf wedi fy nghalonogi, ar ôl darllen adroddiad 'Cymraeg 2050', ei bod yn ymddangos mai dyna yw ei dull sylfaenol o hyd. Rwy'n credu bod annog grwpiau a sefydliadau i dyfu'r defnydd o'r Gymraeg yn fesur llawer gwell na dulliau gorfodi, felly byddwn i'n gyffredinol yn cymeradwyo'r dulliau y mae'r Gweinidog yn eu dilyn, sydd wedi'u hamlinellu yn adroddiad 'Cymraeg 2050' eleni, drwy gefnogi'r gwahanol fentrau a nodwyd. Barn Plaid Diddymu Cynulliad Cymru yw ein bod ni, yn gyffredinol, yn cefnogi'r mesurau cadarnhaol hyn i annog twf y Gymraeg. Weithiau, nid yw gwneud rhywbeth yn orfodol yn gweithio mewn gwirionedd. Fe wnaeth Llywodraeth Cymru benderfynu ychydig flynyddoedd yn ôl i wneud addysgu'r Gymraeg mewn ysgolion yn orfodol hyd at 16 oed. Mae'r penderfyniad hwnnw wedi bod yn ddadleuol. Tybed a yw'n wirioneddol wedi llwyddo i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg i unrhyw lefel ystyrlon? Gan hynny, rwy'n golygu cynyddu nifer y bobl yng Nghymru sy'n defnyddio'r Gymraeg bob dydd. Fy sylw i fy hun, yn seiliedig ar brofiad amrywiol berthnasau a pherthnasau ffrindiau sydd wedi mynd drwy'r system ysgolion yn ystod y blynyddoedd diwethaf yw bod gennym ni garfan sylweddol o bobl ifanc o hyd sy'n weddol ddifater am y Gymraeg a hefyd yn weddol anwybodus ohoni, er iddyn nhw ei hastudio mewn theori hyd at 16 oed. Felly, ar un ystyr, ychydig sydd wedi newid ers i mi fod yn yr ysgol 30 mlynedd yn ôl. Ar ôl gweld y ffigurau a nodwyd, nid wyf yn siŵr a yw cyfran y bobl ifanc sy'n defnyddio'r Gymraeg yn sylweddol wedi cynyddu o ganlyniad i orfodi mwy o bobl i astudio'r iaith yn yr ysgol am dair blynedd ychwanegol. A gaf i gyfeirio at y diffyg cynnydd yn nifer y bobl sy'n manteisio ar Gymraeg Safon Uwch yn yr ysgol, a nodwyd yn yr adroddiad? Nid oes cynnydd parhaol sylweddol wedi bod yn nifer y myfyrwyr ysgol sy'n dilyn Cymraeg Safon Uwch, felly mae hyn, ynddo'i hun, yn dangos, i raddau helaeth, fod y polisi o orfodi disgyblion ysgol i gymryd y Gymraeg hyd at 16 oed wedi methu. Rwy'n credu bod hyrwyddo nosweithiau rhieni i annog mwy o bobl i fanteisio ar Gymraeg Safon Uwch yn syniad da. Byddai modd defnyddio'r un dull gyda TGAU Cymraeg yn fy marn i, ond efallai fod hynny'n drafodaeth ar gyfer diwrnod arall. Fy mhrif ddadl yw y gall dysgu Cymraeg fod yn brofiad cadarnhaol iawn, ond rhaid ei wneud gyda chydsyniad a mewnbwn gweithredol y dysgwr. Rhaid i'r dysgwr fod eisiau dysgu, felly'r prif beth yw annog mwy o bobl ifanc i gymryd y pwnc cyn belled ag y bo modd. Mae nosweithiau rhieni'n iawn, ond, hyd yn oed yno, rhaid inni sicrhau bod y myfyrwyr ifanc eu hunain hefyd yn cymryd rhan yn y trafodaethau ar ba Safon Uwch y maen nhw’n eu cymryd. Mae yna broblemau cysylltiedig â'r nifer sy'n manteisio ar gymryd Safon Uwch, megis y prinder athrawon ysgol gynradd a'r prinder mwy o ran athrawon ysgol uwchradd—materion a godwyd eisoes heddiw gan siaradwyr cynharach. Mae yna gynllun trosi, a ddisgrifir yn yr adroddiad, ond yr anhawster yw nad yw llawer o athrawon ysgol gynradd o bosibl eisiau troi at yr ysgol uwchradd a hefyd mae gennych chi brinder athrawon ysgol gynradd beth bynnag. Felly, mae anawsterau wrth symud ymlaen tuag at y dyhead da iawn o wella'r defnydd o'r Gymraeg. Er hynny, rwy'n cymeradwyo'r Gweinidog am ei dull cyffredinol o weithredu. Gareth Bennett AC: Diolch i'r Gweinidog eto am ei hadroddiad. Y Gweinidog, nawr, i ymateb i'r ddadl—Eluned Morgan. Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr, a diolch am yr ymatebion hynny. I ddechrau gyda Suzy, wrth gwrs, ers i ni benderfynu peidio â bwrw ymlaen gyda Deddf yr iaith Gymraeg, mi roeddem ni wedi dechrau symud ymlaen gyda rhai safonau newydd, ond, wrth gwrs, roedd COVID, wedyn, wedi torri ar draws. Ond, rŷn ni yn gobeithio cael o leiaf un grŵp newydd o safonau i mewn cyn diwedd y sesiwn yma. Eluned Morgan AC: Dwi'n meddwl bod y ffaith bod gen i swydd newydd, mewn ffordd, yn fy helpu i roi tamaid bach o oleuni ar y maes yna o ran iechyd meddwl a’r Gymraeg, ac eisoes dwi wedi mynd ati i ofyn am waith i gael ei wneud ar y mater yma. Felly, dwi ddim yn gweld eu bod nhw’n cystadlu; dwi’n meddwl bod yna le i ni gydweithio ar y pynciau yna. O ran prif-ffrydio’r Gymraeg,i fod yn glir, does dim diddordeb gen i i weld tensiwn rhwng yr ieithoedd sydd yn ein cymunedau ni. Mae’n bwysig ein bod ni’n cydweithredu a’n bod ni’n deall bod yna gyfrifoldeb nid jest ar y bobl sy’n mynd i ysgolion Cymraeg ond ar y rheini sydd ddim yn mynd i ysgolion Cymraeg—bod cyfrifoldeb arnyn nhw hefyd i ddysgu digon o iaith y wlad hefyd. Ac, wrth gwrs, mae’n bwysig ein bod ni’n gwneud mwy o waith ar hynny, ac rŷn ni eisoes wedi bod yn siarad â llefydd fel y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i weld sut maen nhw’n gallu, efallai, helpu, gyda’u profiad newydd nhw o weithio ar-lein. O ran meithrinfeydd, rŷn ni’n dal ar darged i gyrraedd y 40 o feithrinfeydd roedden ni wedi gobeithio eu rhoi mewn lle, a, jest i fod yn glir, rŷn ni wedi gofyn iddyn nhw roi’r ffocws ar yr ardaloedd lle nad oes yn draddodiadol gyfleusterau yn yr ardal. Mae’r Gymraeg yn gymhwyster a hefyd o werth o ran beth mae’n rhaid inni gael pobl i’w ddeall—ei bod hi’n gymhwyster ar ben yn ffordd o gyfathrebu. Wrth gwrs, rŷn ni wedi ceisio rhoi arian ar y bwrdd—mae £150,000 wedi cael ei roi ar y bwrdd—i geisio annog mwy o bobl i ymgymryd â lefel A ac, fel roedd Gareth Bennett yn nodi, mae angen mwy o waith arnom ni yn yr ardal yna. Rŷn ni’n gwneud ein gorau yn fan hyn. Mae lot o ysgogiadau gyda ni mewn lle, ac, felly, os oes syniadau eraill gan bobl, rŷn ni’n fwy na hapus i wrando arnyn nhw. Ond yn arbennig pan fo’n dod i geisio cael mwy o athrawon i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, mae o leiaf 10 o fesurau mewn lle sydd eisoes yn ceisio cael mwy o bobl i ymgymryd â’r gwaith yma. Dwi’n gwybod bod hwn yn rhywbeth mae Siân Gwenllian â diddordeb mawr ynddo. Dwi ddim yn derbyn nad ydym wedi symud pethau ymlaen yn ystod y cyfnod yna. Mae pennaeth Prosiect 2050 nawr mewn lle. Roedd y gwaith oedd yn cael ei wneud yn waith sydd yn cario ymlaen nawr, oedd yn dechrau cyn i’r penodiad yna ddigwydd. Felly, doedd e ddim fel petai'r gwaith ddim yn digwydd. Er enghraifft, ar drosglwyddo Cymraeg yn y teulu, roedd lot o waith yn cael ei wneud ar hwnna. Roedd lot o waith yn cael ei wneud ar y Gymraeg a thechnoleg. Felly, roedd y pethau yna sydd mor bwysig, dwi’n meddwl, i sicrhau bod y mesurau mewn lle i sicrhau bod yna gyfle i bobl ddefnyddio’r iaith, eisoes wedi symud ymlaen cyn bod y pennaeth yna wedi cael ei benodi. O ran Cymraeg Gwaith, dwi’n meddwl bod gwaith aruthrol wedi cael ei wneud yn fan hyn, ond, wrth gwrs, roedd lot o hwnna wedi dod i ben gyda COVID. Ond mae’n bwysig ein bod ni’n ailgydio yn hynny unwaith fod cyfle, fel bod cyfle i bobl fynd mewn i’r gweithle eto i sicrhau bod mwy yn ymgymryd â dysgu’r iaith Gymraeg a defnyddio’r iaith Gymraeg yn y gweithle. Rŷch chi’n dweud nad ydym wedi rhoi cefnogaeth i’r Urdd. My goodness, rŷn ni wedi sefyll ar bwys yr Urdd mewn ffordd aruthrol, dwi’n meddwl. Wrth gwrs mae angen gwneud mwy i gefnogi’r Urdd, ond rŷn ni’n gwneud ein gorau glas gyda nhw, o bob mudiad, achos rŷn ni’n gwerthfawrogi’r gwaith aruthrol a phwysig maen nhw’n ei wneud o ran cynnal y Gymraeg gyda’n hieuenctid ni. Dwi wedi cadw mewn cysylltiad agos gyda’r comisiynydd a’r Gweinidog Addysg i sicrhau bod y cwricwlwm yn y lle iawn o ran y Gymraeg, ac, wrth gwrs, mae’n drueni nad oedd Siân wedi clywed beth wnes i gyfeirio ati ynglŷn â’r gwaith rŷn ni’n ei wneud gydag ail gartrefi. Dwi’n falch o glywed bod Gareth Bennett, fel rhan o’r Abolish the Welsh Assembly Party, yn cefnogi’r syniad o gefnogi’r Gymraeg. Beth rŷn ni’n ceisio ei wneud—jest i edrych ar ychydig o bwyntiau a wnaeth e—o ran defnyddio’r iaith ar ôl i bobl gadael ysgol, mae'n rhaid inni roi'r cyfleoedd i wneud hynny, a dyna pam mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi cael ei sefydlu. Dyna pam mae mwy o brentisiaethau mewn lle trwy gyfrwng y Gymraeg, a dyna pam mae modiwlau nawr o ran cyrsiau addysg bellach yn rhannol trwy gyfrwng y Gymraeg i’r rheini sydd wedi mynychu ysgolion Cymraeg. Jest i orffen, felly, mae’n debyg y bydd adroddiad y flwyddyn nesaf yn wahanol iawn o ystyried faint mae'r byd o'n cwmpas ni wedi newid. Ac er bod y cyd-destun i'n gwaith ni wedi newid yn ddramatig ers lansio 'Cymraeg 2050', mae'n blaenoriaethau ni wedi aros yn yr un lle. Ein bwriad ni o hyd yw cynyddu nifer y siaradwyr a chynyddu defnydd yr iaith a gwella'r seilwaith, a dyna pam dwi wedi nodi rhai o'r pethau hynny. Mae lot o waith eisoes wedi ei wneud ac mae sylfaen gref yno i sicrhau bod y Llywodraeth nesaf yn parhau â'r weledigaeth yna o gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, does neb yn gwrthwynebu. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 10. Rheoliadau Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (Diwygio Atodlen 1) 2020 Yr eitem nesaf, felly, yw'r Rheoliadau Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (Diwygio Atodlen 1) 2020. Dwi'n galw ar y Cwnsler Cyffredinol i wneud y cynnig—Jeremy Miles. Cynnig NDM7483 Rebecca Evans Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (Diwygio Atodlen 1) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Tachwedd 2020. Cynigiwyd y cynnig. Jeremy Miles AC: Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig yn ffurfiol y rheoliadau sydd ger ein bron ni heddiw. Rwy'n argymell bod y Senedd yn cefnogi'r Rheoliadau Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (Diwygio Atodlen 1) 2020, ac rwy'n gofyn yn ffurfiol i Aelodau gefnogi'r rheoliadau ger eu bron. Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 1 i Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019, sydd, fel y dywedais i mewn dadl yr wythnos diwethaf, yn cyflwyno diffiniadau cyffredinol ar gyfer termau a ddefnyddir yn Neddfau Senedd Cymru ac offerynnau statudol Cymru. Jeremy Miles AC: Mae'r rheoliadau hyn yn mewnosod diffiniadau yn Neddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 ar gyfer y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a'r cod dedfrydu. Maen nhw hefyd yn diwygio diffiniad y raddfa ddirwyon safonol ar gyfer troseddau diannod o ganlyniad i'r cod dedfrydu er mwyn caniatáu i ddeddfwriaeth Cymru sy'n cyfeirio at y raddfa barhau i weithredu'n gywir. Mae'r cod dedfrydu yn ben y daith i brosiect hirfaith a gafodd ei gynnal ar ran Llywodraeth y DU gan Gomisiwn y Gyfraith a geisiodd greu un statud yn cynnwys yr holl gyfraith ar weithdrefn ddedfrydu. Drwy ddwyn ynghyd y ddeddfwriaeth bresennol mewn un cod dedfrydu gyda strwythur clir a rhesymegol, mae'r gyfraith wedi'i gwneud yn fwy hygyrch i'r cyhoedd ac i'r farnwriaeth ac ymarferwyr. Nid yw'r cod yn cyflwyno unrhyw gyfreithiau sylweddol newydd nac yn newid uchafswm neu isafswm cosbau am droseddau, ac mae'r cod wedi'i gymeradwyo gan Senedd y DU, wedi cael Cydsyniad Brenhinol ar 22 Hydref, a daw i rym ar 1 Rhagfyr. Mae'n cynrychioli ymarfer cydgrynhoi a moderneiddio pwysig, ac mae'n enghraifft o'r math o gamau y mae angen i Lywodraethau ledled y DU eu cymryd i wella hygyrchedd ein cyfreithiau. Rwy'n falch ein bod ni eisoes wedi cychwyn ar ymarferion cydgrynhoi a moderneiddio tebyg i Gymru ac wedi gosod y sylfeini ar gyfer gwneud gwaith o'r fath drwy Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019. Bydd yr Aelodau yn cofio bod Deddf 2019 yn cyflawni dwy swyddogaeth allweddol. Yn gyntaf, mae'n darparu'r sylfaen honno i ni wella hygyrchedd cyfraith Cymru, ac, yn ail, mae'n darparu Deddf ddehongli i Gymru. Jeremy Miles AC: Er mwyn i'r ddarpariaeth ddehongli weithio'n gywir, mae'n bwysig sicrhau bod pob term a diffiniad perthnasol wedi eu cynnwys. Dyna pam y cytunodd y Senedd hon roi pwerau i Weinidogion yn adran 6(2) o'r Ddeddf i'w galluogi i ddiweddaru'r Ddeddf drwy ddeddfwriaeth eilradd. Y rheoliadau hyn yw'r tro cyntaf rydyn ni'n defnyddio'r pwerau hynny. Mae deddfwriaeth ambell waith yn cael ei phasio, fel yn yr achos hwn, gan Senedd San Steffan, ac mae angen wedyn cysoni'r diffiniadau mewn deddfwriaeth Gymreig. Yn yr achos hwn, daeth yn amlwg bod angen diwygio'r diffiniadau yn y ddeddfwriaeth ar ôl i'r Mesur Dedfrydu gwblhau'r camau gwelliannau yn San Steffan, ond mae'n anorfod y bydd hyn yn rhywbeth sy'n digwydd o bryd i'w gilydd ar brosiectau cymhleth fel y cod dedfrydu. Wrth gloi, Llywydd, rwy'n diolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ei waith yn craffu ar y rheoliadau a'r memorandwm esboniadol yn ddiweddar. Mae wastad yn bleser i gael adroddiad sy'n cymeradwyo. Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol. Does gyda fi ddim siaradwyr, ac felly dwi'n cymryd nad yw'r Cwnsler eisiau ymateb i'r diffyg sylwadau wnaethpwyd. Ac felly, gwnaf i ofyn y cwestiwn: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, does yna ddim, felly mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn o dan Reol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 11. Cyfnod Pleidleisio Mae hynny'n golygu ein bod ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ond heb fod angen pleidleisio y prynhawn yma. Does yna ddim pleidlais, felly, a dyna ddiwedd y cyfarfod. Prynhawn da ichi. Daeth y cyfarfod i ben am 18:00. QNR Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru Janet Finch-Saunders: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth i brosiectau ynni adnewyddadwy yng Nghymru? Mark Drakeford: The Welsh Government has a policy framework to encourage new investment in renewable energy. We support regions to develop strategic energy plans to meet our future power, heat and transport needs and to create the low-carbon jobs and industries of the future. Darren Millar: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag ôl-groniad o ran rhestrau aros y GIG yng Ngorllewin Clwyd? Mark Drakeford: Plans to address the backlog are being developed in the context of a continuing public health emergency. For as long as coronavirus remains in our community, the Welsh Government will support the NHS to deliver both COVID and non-COVID services safely based on clinical priority. Rhun ap Iorwerth: Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DG ynglyn â pharatoi porthladd Caergybi ar gyfer diwedd y cyfnod pontio Brexit? Mark Drakeford: Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau bod ein porthladdoedd yn parhau i weithredu mor llyfn â phosib. Dim ond ar ddiwedd mis Awst y daeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gysylltiad â Gweinidogion Cymru ynglŷn â datblygu safle mewndirol parhaol i wasanaethu porthladd Caergybi. Mae’r ffaith nad oedden nhw wedi dod i gysylltiad â ni yn gynharach ynglŷn â’r mater hwn yn golygu ei bod hi’n dipyn o her i ddarparu’r seilwaith sydd ei angen ar y ffin.
uk-hansard-senedd-cy
senedd2020-11-24
2024-06-01T00:00:00
{ "year": "2020", "language": "cy", "license": "Open Parliament Licence - https://www.parliament.uk/site-information/copyright-parliament/open-parliament-licence/" }
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. Datganiad gan y Llywydd Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y cyfarfod yma, ac mae'r rheini wedi eu nodi ar yr agenda. Dwi eisiau nodi hefyd i'r Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod yma, ac yr un mor berthnasol i'r Aelodau yn y Siambr ag i'r rhai sy'n ymuno drwy gyswllt fideo. 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Yr eitem gyntaf ar yr agenda y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Adam Price. Cyfleoedd Prentisiaeth Lleol Adam Price AC: 1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi ynghylch darparu cyllid ychwanegol i awdurdodau lleol i hyrwyddo cyfleoedd prentisiaeth lleol i bobl ifanc? OQ56999 Rebecca Evans AC: Mae prentisiaethau'n helpu pobl, yn enwedig pobl ifanc, i wella eu sgiliau a'u gyrfaoedd, ac yn helpu cyflogwyr i ddiwallu eu hanghenion sgiliau ar gyfer y dyfodol. Rwy'n manteisio ar bob cyfle i drafod ymrwymiadau uchelgeisiol ein rhaglen lywodraethu i gefnogi twf, ehangu cyfranogiad mewn hyfforddiant a hybu symudedd cymdeithasol gyda Gweinidog yr Economi. Adam Price AC: Roedd cyfeiriad gan Jenny Rathbone yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog ddoe ynghylch y prinder dybryd sydd yna o ran prentisiaethau yn y sector adeiladu, ac mae'r ffigurau gan y corff hyfforddi, y Construction Industry Training Board, yn dangos gostyngiad o hyd at 20 y cant, rwy'n credu, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Dwi wedi cael gohebiaeth gan lu o bobl ifanc yn fy etholaeth i sydd angen prentisiaeth er mwyn sicrhau eu cymhwyster ond yn methu â chael hyd iddo fe. Roedd un person ifanc wedi ffonio pob trydanwr yn sir Gaerfyrddin a methu â dod o hyd i brentisiaeth. Rwyf wedi cael fy nghyfeirio gan Weinidog yr Economi at wefan pori'r Llywodraeth, Dod o Hyd i Brentisiaeth, ac fe wnes i drial fy hunan i ffeindio prentisiaethau ym mhob maes, a dweud y gwir, ar draws Cymru. Dim ond 107 trwy Gymru gyfan sydd ar gael ar hyn o bryd ar y wefan pori ac yn amlwg dyw hwnna ddim yn ddigonol o gwbl ar gyfer pobl ifanc yn fy etholaeth i a thrwy Gymru gyfan. Onid oes cyfle i ddatrys y sefyllfa trwy siarad gyda, a rhoi adnoddau i, awdurdodau lleol sydd â'r cysylltiadau gyda busnesau lleol a gwybodaeth leol er mwyn eu 'incentivise-o' nhw i gynnig y prentisiaethau sydd eu hangen? Rebecca Evans AC: Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio’n galed iawn i gymell cyflogwyr i recriwtio prentisiaid i helpu pobl i gael gwaith ac i helpu’r economi i ddechrau symud unwaith eto, ac yn ddiweddar, rydym wedi ymestyn ein cymelliadau i gefnogi busnesau yng Nghymru i recriwtio prentisiaid hyd at fis Chwefror 2022. Mae'r cynllun cymell prentisiaethau i gyflogwyr yn rhan allweddol o'n hymrwymiad COVID i gefnogi busnesau a gweithwyr i'w helpu i ymadfer wedi effeithiau pandemig y coronafeirws. Ac mae'r cymelliadau hynny eisoes wedi golygu bod mwy na 5,500 o brentisiaid newydd wedi cael eu recriwtio ers mis Awst 2020. Mae'r pwyntiau a wnewch yn rhai da ynglŷn â'r diwydiant adeiladu a diwydiannau eraill y bydd y pandemig, a Brexit wrth gwrs, yn effeithio'n arbennig arnynt. Byddaf yn gofyn i swyddogion Gweinidog yr Economi gael trafodaeth bellach gyda bwrdd hyfforddi'r diwydiant adeiladu i archwilio beth arall y gellir ei wneud yn y maes hwn i sicrhau bod prentisiaethau adeiladu ar gael i'n pobl ifanc yng Nghymru. Fe welwch fod gan ein rhaglen lywodraethu ymrwymiadau i gynyddu prentisiaethau ym maes gofal yn enwedig, gan fod hwnnw'n faes arall lle rydym yn gweld heriau penodol gyda recriwtio, ac yn arbennig gyda siaradwyr Cymraeg yn hynny o beth. Mae gennym ymrwymiad i greu 125,000 o brentisiaethau pob oed yn ystod tymor y Senedd hon ac i ehangu'r defnydd o rannu prentisiaethau a gradd-brentisiaethau. Felly yn sicr, byddaf yn archwilio ymhellach gyda Gweinidog yr Economi a gofyn am i'w swyddogion archwilio ymhellach gyda bwrdd hyfforddi'r diwydiant adeiladu beth arall y gellir ei wneud yn y maes penodol hwnnw. Laura Anne Jones AC: Bydd prentisiaethau'n chwarae rhan allweddol yn cefnogi'r broses o greu swyddi wrth inni ymadfer wedi'r pandemig hwn, ond mae sawl sector, fel sydd newydd gael ei drafod, yn dal i'w chael hi'n anodd recriwtio aelodau newydd o staff ers diwedd y cyfyngiadau symud. Yn dilyn cwestiwn Adam Price a'ch ateb chi, pa asesiad a wnaethoch—a wnaeth Llywodraeth Cymru—i gynyddu cwmpas cynllun prentisiaethau Llywodraeth Cymru er mwyn llenwi'r swyddi crefftus allweddol hyn? Rebecca Evans AC: Wel, yn ystod tymor blaenorol y Senedd, fe wnaethom greu mwy na 100,000 o brentisiaethau, ac roedd hynny'n uwch na'r targed a oedd gennym mewn gwirionedd, ond y tro hwn, rydym hyd yn oed yn fwy uchelgeisiol, gan gydnabod yr angen yn yr economi am y sgiliau hyn, ac rydym wedi codi ein targed i 125,000 o brentisiaethau newydd erbyn 2025. Felly yn amlwg, rydym wedi cydnabod bod angen sylweddol yn y maes hwn, ac rydym yn parhau i fuddsoddi, yn enwedig yn y meysydd lle rydym yn deall bod prinder sgiliau. Rwyf eisoes wedi cyfeirio at ymrwymiad ein rhaglen lywodraethu i gynyddu nifer y prentisiaethau yn y sector gofal yn enwedig. Adolygiad Gwariant 2021 Jayne Bryant AC: 2. A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer adolygiad gwariant arfaethedig Llywodraeth y DU 2021? OQ57021 Rebecca Evans AC: Hoffwn weld Llywodraeth y DU yn cadw at ei hymrwymiad i weithio yn unol â pholisïau'r Llywodraethau datganoledig. Mewn meysydd fel sero-net a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol, ceir cyfleoedd i weithredu ar fuddsoddiadau a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i bobl yng Nghymru. Jayne Bryant AC: Diolch am eich ateb, Weinidog. Fel y gwyddoch, mae perygl y bydd Cymru'n colli dros £150 miliwn y flwyddyn o ganlyniad i brosiect HS2, a fydd yn cynyddu atyniad gogledd a gogledd-orllewin Lloegr. Mae'n hanfodol fod Cymru'n cael ei chyfran deg ac nad yw'n cael ei gadael ar ôl. Weinidog, a fyddech yn cytuno â mi fod gan Lywodraeth y DU gyfle perffaith i wneud hyn yn yr adolygiad o wariant sydd ar y ffordd ar 27 Hydref, drwy ymrwymo buddsoddiad a all gyflawni'r pecyn seilwaith rheilffyrdd hanfodol a nodwyd yn argymhellion Burns ar gyfer Casnewydd, gan gynnwys uwchraddio'r brif reilffordd a chwe gorsaf newydd mawr eu hangen? Rebecca Evans AC: Diolch. Lywydd, mae Jayne Bryant yn llygad ei lle yn cydnabod bod dadansoddiad Llywodraeth y DU ei hun yn dangos y gallai HS2 wneud niwed i Gymru, ac yn enwedig de-orllewin Cymru, ond maent yn dal i'w gategoreiddio fel prosiect Cymru a Lloegr. Maent ganddynt gyfle i fynd i'r afael â hyn ynghyd â thanariannu a thanfuddsoddi hanesyddol mewn perthynas â rheilffyrdd yng Nghymru yn yr adolygiad o wariant sydd ar y ffordd ar 27 Hydref. Ond i ymateb yn benodol i'r cwestiynau ynghylch comisiwn Burns, derbyniwyd ei 58 o argymhellion mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru, ac maent yn cyd-fynd yn dda iawn â'n strategaeth drafnidiaeth newydd i Gymru. Mae'r uned gyflawni wedi'i sefydlu bellach yn Trafnidiaeth Cymru, ac mae honno'n bwrw ymlaen â'r gwaith o wireddu'r argymhellion hynny. Argymhellodd Burns chwe gorsaf newydd yn Heol Casnewydd, parcffordd Caerdydd, gorllewin Casnewydd, dwyrain Casnewydd, Llan-wern a Magwyr, a gwnaethom dderbyn yr argymhellion hynny, ond mae angen uwchraddio prif reilffordd de Cymru, sydd heb ei datganoli, er mwyn galluogi'r gorsafoedd hynny. Felly, yn yr adolygiad o wariant sydd ar y ffordd, mae cyfle gwych i Lywodraeth y DU wireddu'r hyn a ddywed am godi'r gwastad a buddsoddi yn y maes hwn yn enwedig. Natasha Asghar AS: Weinidog, un o brif nodau adolygiad o wariant y DU yw codi'r gwastad ledled y DU er mwyn cynyddu a lledaenu cyfleoedd. Fodd bynnag, fel y clywsom yn y cwestiwn blaenorol heddiw, mae Cymru'n parhau i wynebu prinder sgiliau sylweddol, sy'n rhwystro economi Cymru a gallu'r gweithlu i addasu i ddiwydiannau a thechnoleg sy'n newid yn barhaus. Mae ymchwil gan y Brifysgol Agored yn dangos bod bwlch sgiliau Cymru yn 2020 yn fwy na'r Alban a chwech o wyth rhanbarth Lloegr. O'r 50,000 o raglenni prentisiaeth a gychwynnwyd yn 2019-2020, 740 yn unig a oedd ym maes gweithgynhyrchu, a 5,000 ym maes adeiladu. Weinidog, pa warantau y gallwch eu rhoi mai un o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru wrth ddyrannu unrhyw gyllid cynyddol a ddaw i Gymru fydd ei ddefnyddio i godi'r gwastad yn economi Cymru drwy ddiwallu anghenion busnesau er mwyn sicrhau na fydd prinder sgiliau yma yng Nghymru? Rebecca Evans AC: Wel, mae cryn dipyn o eironi yn y cwestiwn hwnnw, wrth gwrs, gan nad yw Llywodraeth y DU yn ariannu Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r £375 miliwn y byddem wedi'i dderbyn yn flaenorol gan yr Undeb Ewropeaidd, ac roedd llawer o'r cyllid hwnnw yn cael ei fuddsoddi mewn sgiliau, cyflogadwyedd, prentisiaethau, Banc Datblygu Cymru a phrosiectau seilwaith strategol eraill. Felly, mae'n amlwg fod datgysylltiad rhwng awydd yr Aelod am gyllid ychwanegol yn y maes hwn a realiti gwirioneddol yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud o ran peidio â chadw at ei haddewid na fyddai Cymru geiniog yn waeth ei byd. Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Peter Fox. Peter Fox AS: Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Weinidog, a ydych yn cytuno â honiad blaenorol y Prif Weinidog fod Plaid Cymru yn credu mewn economeg fwdw a bod ganddynt arfer, ac rwy'n dyfynnu unwaith eto, o 'addo pethau i bobl yr wyf i'n gwybod nad ydyn nhw'n bosibl'? Rebecca Evans AC: Lywydd, nid wyf am gyfryngu rhwng y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru ar lawr y Senedd. Gadawaf hynny iddynt hwy gael y trafodaethau hynny eu hunain. Peter Fox AS: Crybwyllais hyn, Weinidog, o gofio bod Llafur Cymru, eich Llywodraeth a Phlaid Cymru wrthi'n negodi cytundeb cydweithredu ar hyn o bryd. Serch hynny, Weinidog, ni wyddom o hyd beth sydd yn y cytundeb. Beth fydd yn ei olygu i gyllideb Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr? Y cyfan a gawsom hyd yn hyn yw datganiad annelwig a gyhoeddwyd fis diwethaf gan Lywodraeth Cymru, ac ni chredaf fod hynny'n dderbyniol. Ac fel gwrthblaid gyfrifol, mae angen inni gael cyfle i graffu ar y cytundeb hwn ac archwilio'r hyn y bydd yn ei olygu i drethdalwyr gweithgar Cymru. Wedi'r cyfan, y trethdalwyr fydd yn talu'r bil am y cytundeb hwn yn y pen draw. Roedd rhestr siopa maniffesto Plaid Cymru yn cynnwys, fel y gwyddom, datganoli cyfiawnder yn llawn, a fyddai'n costio oddeutu £100 miliwn yn ôl amcangyfrif comisiwn Silk, ac roeddent hefyd yn sôn am gael benthyg £4 biliwn o'r sector preifat i ariannu ymrwymiadau polisi amrywiol. Meddyliwch am hynny am eiliad. Felly, a fydd y polisïau hyn yn mynd i'r afael â'r problemau mwyaf dybryd? Na fyddant. A fydd y polisïau hyn yn creu swyddi? Na fyddant. A fydd y polisïau hyn yn helpu Cymru i ymadfer ar ôl COVID? Na fyddant. Yn hytrach, bydd yr ymrwymiadau hyn yn llesteirio'r adferiad ariannol sydd ei angen arnom. Mae symiau mor anferthol o arian yn creu risg o achosi lefelau anghynaladwy o ddyled i genedlaethau'r dyfodol. Ni fydd hyn yn creu swyddi, yn cefnogi'r gwasanaethau cyhoeddus nac yn helpu adferiad ariannol Cymru wedi'r pandemig. Felly, Weinidog, mewn ysbryd o atebolrwydd a chraffu da, a wnewch chi amlinellu pa ymrwymiadau yn y cytundeb Llafur-Plaid fydd yn rhan o'r gyllideb sydd ar y ffordd, a sut y cânt eu hariannu? Rebecca Evans AC: Lywydd, rwy'n ceisio helpu cymaint ag y gallaf mewn sesiynau cwestiynau, ond nid wyf am gael fy nhemtio i wneud sylwadau ar drafodaethau a allai fod yn digwydd rhwng fy mhlaid a Phlaid Cymru. Ni chredaf fod hon yn adeg briodol i wneud hynny. Wedi dweud hynny, credaf fod pethau pwysig y gall y Ceidwadwyr eu cyflwyno i'r drafodaeth hon o ran yr hyn sy'n dda i bobl yng Nghymru. Mae gennym gyfle perffaith ar 27 Hydref i'r Ceidwadwyr ddangos eu hymrwymiad i Gymru ac i roi'r dyfodol gwell rydych newydd awgrymu eich bod yn dymuno'i weld. Un ffordd y gallent wneud hynny, wrth gwrs, fyddai ariannu'r gwaith o adfer tomenni glo yng Nghymru. Gadewch inni gofio y bydd hynny'n £500 miliwn i £600 miliwn dros y 10 mlynedd nesaf, ac os nad yw Llywodraeth y DU yn ei ariannu, gan gofio na fwriadwyd cyllid Barnett at y diben hwn erioed, mae hwnnw'n gyllid y bydd yn rhaid inni ei ddargyfeirio oddi wrth bethau eraill, megis adeiladu tai cymdeithasol, buddsoddi mewn ysgolion ac ysbytai, mewn cynnal a chadw ffyrdd ac ati. Ar 27 Hydref, gallant fynd i’r afael â thanariannu hanesyddol y rheilffyrdd yr ydym newydd ei drafod mewn ymateb i gwestiwn Jayne Bryant, a gallant fynd i’r afael â diffyg arian yr UE, sy'n rhywbeth yr ydym wedi'i drafod mewn cwestiwn arall y prynhawn yma, ac yn fwy cyffredinol, darparu'r sicrwydd na fyddwn yn wynebu cyfnod arall o gyni. Felly, credaf fod Llywodraeth Cymru'n awyddus i weithio gyda phawb sy'n rhannu ein huchelgais ar gyfer Cymru fwy teg, mwy gwyrdd a mwy cyfartal, ond credaf fod gan y Ceidwadwyr gyfle i ddylanwadu ar eu Llywodraeth eu hunain ar y pwynt pwysig hwn. Peter Fox AS: Wel, ni allaf ddiolch i chi am hynny, Weinidog; credaf eich bod wedi osgoi ateb y cwestiwn. Mae'n gwestiwn dilys gan blaid sy'n dwyn y Llywodraeth i gyfrif. Mae'r gyllideb sydd ar y ffordd gan Lywodraeth Cymru yn un o'r rhai mwyaf arwyddocaol y byddwn yn eu gweld yn y lle hwn, ac o ystyried yr effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar bobl ledled Cymru, mae angen i hon fod yn gyllideb sy'n canolbwyntio nid yn unig ar adfer, ond ar ddyhead hefyd. Ond mae'r cytundeb y mae eich plaid yn bwriadu ei wneud â Phlaid Cymru yn mentro mynd â mwy o arian o bocedi ein pobl. Roedd maniffesto Plaid Cymru'n cynnwys nifer o drethi llechwraidd posibl, megis treth bwyd sothach, treth ar yrwyr, treth dwristiaeth, sydd wedi ei chrybwyll ac a fyddai’n arwain at ganlyniadau enbyd i’r sector lletygarwch yng Nghymru. Wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn archwilio'r posibilrwydd o dreth ffordd a threth dwristiaeth—ergyd ddwbl i deuluoedd ledled y wlad. Yn y pen draw, mae angen cynllun uchelgeisiol arnom sy'n edrych tua'r dyfodol ac sy'n dod â phennod dywyll COVID yr ydym wedi byw drwyddi i ben. Felly, Weinidog, a allwch gadarnhau nad yw'n fwriad gennych gyflwyno unrhyw drethi newydd yn eich cyllideb sydd ar y ffordd, ac wnewch chi ddweud a yw eich cytundeb â Phlaid Cymru'n cynnwys cytundeb penodol ar ddiwygio'r dreth gyngor? Yn syml, beth fydd eich cytundeb cydweithredu yn ei olygu i deuluoedd gweithgar Cymru? Diolch. Rebecca Evans AC: Lywydd, byddaf yn cyhoeddi cyllideb ddrafft a chyllidebau adrannol Llywodraeth Cymru ar 20 Rhagfyr, a bydd digon o gyfle i'r cyd-Aelodau graffu ar y gyllideb ddrafft wedi hynny. Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd. Llyr Gruffydd AC: Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Onid yw'n braf clywed y nadu ar feinciau'r Ceidwadwyr ynglŷn â pholisïau treth Plaid Cymru pan na allant hyd yn oed gadw eu haddewidion mewn perthynas â threthiant ar lefel y DU? Ac mae'n enghraifft amlwg iawn, yn fy marn i, o amherthnasedd cenfigennus yr Aelodau yr honnir eu bod yn wrthblaid swyddogol—a gwrthblaid swyddogol na all hyd yn oed sicrhau bod ei Haelodau'n pleidleisio pan ddaw'n amser iddynt wneud hynny. Llyr Gruffydd AC: Nawr te, Weinidog, i ni gael trafod rhai o'r materion sydd wir yn mynd â bryd pobl Cymru—mae yna heriau eithriadol, wrth gwrs, yn wynebu nifer o fusnesau ar hyn o bryd yng Nghymru, sy'n gorfod dygymod â chynnydd sylweddol ym mhris ynni. Mae hynny'n effeithio yn arbennig ar fusnesau sydd yn ddefnyddwyr ynni dwys. Dŷn ni'n ymwybodol o drafodaethau sy'n digwydd rhwng adrannau ar lefel Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Gallwch chi ddweud wrthym ni pa drafodaethau sy'n digwydd oddi fewn i Lywodraeth Cymru, gyda chi fel Gweinidog cyllid, i edrych ar y posibilrwydd o gynnig cymorth ychwanegol i'r busnesau yng Nghymru sy'n cael eu heffeithio gan hyn? Rebecca Evans AC: Wel, mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU i'w hannog i weithredu ym mhob ffordd sy'n bosibl i ddiogelu pobl a busnesau ar y pwynt hwn. A gwn iddi gael sesiwn friffio gydag Ofgem ar 21 Medi, lle bu'n ceisio sicrwydd ar ran defnyddwyr. O ran busnesau, yn amlwg, rydym yn pryderu am effaith y cynnydd mewn costau ynni, yn ogystal â'r effaith ar wasanaethau cyhoeddus hefyd. Yn y pen draw, mae angen i Lywodraeth y DU weithredu ar hyn, gan mai dyma'r math o faes lle mae angen y grym sydd gan Lywodraeth y DU, yn wahanol i ni. Y tu hwnt i hynny, rwy'n cael trafodaethau pellach ynghylch cymorth i fusnesau am weddill y flwyddyn ariannol, drwy'r cyllid ychwanegol sydd gennym mewn perthynas â COVID, sydd eto i'w ddyrannu, er nad wyf yn awgrymu bod hwnnw ynghlwm wrth ynni o reidrwydd, ond hoffwn roi sicrwydd fod cymorth ychwanegol i fusnesau'n cael ei drafod ar hyn o bryd. Llyr Gruffydd AC: Wel, diolch am hynny. Dŷch chi wedi gwneud y pwynt i fi, dwi'n meddwl, drwy ddweud bod gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig bwerau sydd ddim gennym ni yn y fan hyn i ymateb i hyn. Ac wrth gwrs, unwaith eto, mae amgylchiadau eithriadol fel rŷn ni'n eu hwynebu ar hyn o bryd yn dangos cyn lleied o bwerau a dylanwad macroeconomaidd sydd gennym ni fan hyn yng Nghymru i fedru ymateb i wahanol argyfyngau. Mi welsom ni hefyd elfennau o hynny, wrth gwrs, yn ymwneud â'r pandemig; mi wnaeth yr Institute for Fiscal Studies ddadlau bod llywodraethau datganoledig wedi cael eu dal yn ôl yn eu hymateb cyllidol i'r pandemig—gan gronfeydd wrth gefn annigonol, gan bwerau benthyg cyfyngedig, ac yn y blaen. Nawr, roedd eich dadl chi fel Llywodraeth yr wythnos diwethaf hefyd, wrth gwrs, yn mynd â ni i'r un cyfeiriad, o safbwynt methiant a diffygion y setliad presennol yn y cyd-destun cyllidol yna. Felly, yng ngoleuni hyn oll, ydych chi'n cydnabod bod y setliad presennol yn annigonol, bod angen ail-negodi'r fframwaith gyllido, a gwneud hynny er mwyn cryfhau'r pwerau cyllidol sydd gennym ni fan hyn yng Nghymru, er mwyn ein hymbweru ni i ymateb yn well i sefyllfaoedd fel y maen nhw'n codi? Rebecca Evans AC: Ydw, rwy'n cytuno bod angen ailedrych ar y fframwaith cyllidol a'r datganiad o bolisi ariannu sy'n cyd-fynd ag ef, ac yn arbennig felly mewn perthynas â hyblygrwydd cyllidol. Mae gennyf gyfle yfory, yng nghyfarfod pedairochrog y Gweinidogion cyllid, i godi'r union bwynt hwnnw, ochr yn ochr â Gweinidogion o Ogledd Iwerddon a’r Alban, sy’n rhannu ein pryder y dylem allu cario cyllid ymlaen am gyfnod o 12 mis, er enghraifft, pan gawn gyllid canlyniadol ychwanegol hwyr wedi ei gyhoeddi yn ystod y flwyddyn. Dylai fod gennym allu i ddefnyddio mwy o arian o gronfa wrth gefn Cymru, a dylai fod gennym allu i gael mwy o bwerau benthyca. A dyna rai enghreifftiau o'r hyblygrwydd ychwanegol a fyddai'n ddefnyddiol ar gyfer rheoli'r gyllideb yn dda, yn anad dim. Felly, bydd y trafodaethau hynny'n parhau gyda Phrif Ysgrifennydd newydd y Trysorlys yfory. Pan wnaethom drafod y mater o'r blaen gyda'r Prif Ysgrifennydd blaenorol, cytunwyd y byddai hon yn drafodaeth barhaus. Felly, rwy'n gobeithio y gallwn wneud rhywfaint o gynnydd. Llyr Gruffydd AC: Diolch yn fawr iawn. Ac wrth gwrs, yn y cyfamser, mae'n bwysig bod y Llywodraeth yma'n troi pob carreg bosib er mwyn creu'r adferiad dŷn ni eisiau ei weld. Ac mae'r Ffederasiwn Busnesau Bach, er enghraifft, yn cynnig pecyn o fesurau posib a fyddai'n cyfrannu at hynny, drwy ddefnyddio caffael. Maen nhw hefyd yn sôn am annog mwy o start-ups a chynyddu'r lwfans cyflogaeth, ac ati. Ond mae caffael, wrth gwrs, yn benodol, yn un arf sydd yn eich meddiant chi fel Llywodraeth yma yng Nghymru, ac yn rhywbeth a all gael yr effaith drawsnewidiol dwi'n siŵr dŷn ni i gyd eisiau ei gweld ar yr economi. Nawr, rŷn ni i gyd wedi dadlau bod angen cynyddu faint o arian caffael cyhoeddus Cymreig sy'n aros yng Nghymru o'r o gwmpas 52 y cant presennol. Rŷn ni fel plaid wedi dweud y bydden ni eisiau anelu at o leiaf 70 y cant o hwnnw, ac wrth gwrs mae pob 1 y cant yn ychwanegol yn cynrychioli 2,000 o swyddi. Felly, mi fyddai cynnydd o 20 y cant yn cynrychioli 40,000 o swyddi o fewn yr economi yng Nghymru, a beth sy'n wych am hynny yw byddai hynny'n cael ei wireddu heb wario mwy o bres. Mae'r pres yna'n cael ei wario yn barod, ond bydden ni'n gallu gwneud hynny mewn ffordd llawer mwy clyfar. Felly, beth ŷch chi'n mynd i'w wneud i wireddu'r potensial hwnnw, ac a wnewch chi nawr ymrwymo i darged, fel mae Plaid Cymru yn anelu ato fe, er mwyn uchafu gwerth y bunt Gymreig, a fyddai, wrth gwrs, yn cael dylanwad mor bositif ar yr economi ac ar fywydau pobl yng Nghymru? Rebecca Evans AC: Byddwn yn cymeradwyo dangosfwrdd GwerthwchiGymru i'r Aelod ac i'r holl gyd-Aelodau fel cyfle i gael cipolwg pwysig iawn ar y sefyllfa gaffael yma yng Nghymru. Felly, rhwng mis Gorffennaf a mis Medi, dyfarnwyd 1,078 o gontractau i gyflenwyr, ac o'r rheini, dyfarnwyd 706 i gyflenwyr Cymreig. Felly yn amlwg, rydym am barhau i wella'r ffigurau hynny, ac mae gwahanol ffyrdd o wneud hynny. Un o'r pethau y mae gennyf ddiddordeb arbennig ynddynt, ac rydym wedi cychwyn gweithio arno, yw deall yn well y bylchau sydd gennym yn y gadwyn gyflenwi yma yng Nghymru, ble y gallwn eu llenwi pan nad oes unrhyw reswm rhesymegol pam ein bod yn prynu o fannau eraill, a chreu'r swyddi hynny yma yng Nghymru. Mae caffael yn ymwneud â hyd yn oed mwy na hynny mewn gwirionedd. Rydym yn canolbwyntio'n gryf ar werth cymdeithasol a gwerth amgylcheddol caffael. Felly, gwnaethom gyhoeddi ein themâu, canlyniadau a mesurau gwerth cymdeithasol newydd yn ddiweddar, sy'n ymyrraeth bwysig yn y maes hwnnw, ac rydym hefyd wedi cyhoeddi datganiad caffael newydd i Gymru, sy'n nodi'r math o werth ychwanegol rydym am ei weld yn ein caffael cyhoeddus yma yng Nghymru. Ac rydym hefyd yn edrych ar ein grantiau, oherwydd wrth gwrs, mae grantiau'n gorbwyso caffael cyhoeddus mewn sawl ffordd o ran y cyllid a ddyrennir drwyddynt, felly rydym yn edrych eto ar ba werth cymdeithasol y gallwn ei gael o'n grantiau yma yng Nghymru. Ond mae'n amlwg yn faes lle mae gan y ddau ohonom ddiddordeb cyffredin mewn sicrhau bod busnesau yma yng Nghymru yn ennill mwy o'r contractau hyn. Heledd Fychan AS: Hoffwn ddatgan buddiant ar y dechrau, gan fy mod yn aelod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf hyd at mis Mai flwyddyn nesaf. Y Setliad Llywodraeth Leol Heledd Fychan AS: 3. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ddigonolrwydd y setliad llywodraeth leol eleni? OQ57010 Rebecca Evans AC: Yn y flwyddyn ariannol gyfredol, gwnaethom ddarparu cynnydd o 3.8 y cant i gyllideb graidd llywodraeth leol, gan adeiladu ar y cynnydd sylweddol a ddarparwyd gennym yn 2020-21. Yn ogystal, rydym wedi darparu dros £325 miliwn drwy'r gronfa galedi i lywodraeth leol er mwyn helpu llywodraeth leol i ymateb i'r pandemig. Heledd Fychan AS: Diolch, Weinidog. Yn gynharach eleni hefyd, darparodd Llywodraeth Cymru £40 miliwn yn ychwanegol mewn adnoddau i gefnogi gwasanaethau cymdeithasol yn benodol yn 2021-22 drwy'r gronfa adfer gofal cymdeithasol. Drwy hyn, mae cyngor RhCT wedi penderfynu talu'r cyflog byw gwirioneddol i bob gweithiwr gofal cymdeithasol i oedolion a chynorthwywyr personol dan gontract o fis Rhagfyr ymlaen, sydd i'w groesawu'n fawr, wrth gwrs. O gofio bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i dalu’r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal fel rhan o’ch rhaglen lywodraethu, a fydd cynghorau yn y dyfodol yn derbyn y cyllid ychwanegol i gyflawni hyn yn flynyddol fel rhan o’u setliad blynyddol? Rebecca Evans AC: Diolch am gydnabod y gwaith pwysig y mae RhCT wedi bod yn ei wneud yn buddsoddi yn eu staff er mwyn eu cadw a'u gwerthfawrogi. Credaf fod hynny wedi bod yn bwysig iawn, ac yn ymyrraeth ragorol ar eu rhan. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i ddeall yn well beth fydd goblygiadau llawn ein cynnydd tuag at sicrhau bod holl staff y sector gofal cymdeithasol yn derbyn y cyflog byw gwirioneddol, a thrwy wneud hynny, i ddeall yn well y ffyrdd y gallwn sicrhau mai'r staff sy'n elwa o'r codiad cyflog a ddarperir. Gwn fod y £42 miliwn y cyfeirioch chi ato ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol wedi'i groesawu gan lywodraeth leol, ond cefais drafodaethau da gyda hwy yn ddiweddar, ac maent wedi dweud yn glir iawn wrthyf y bydd yn dal i fod angen cyllid ychwanegol eleni. Felly, rwyf wedi bod yn gweithio gyda llywodraeth leol a chyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i nodi ffigur ar gyfer hynny er mwyn sicrhau y gallwn ymateb i hynny cyn gynted â phosibl. Byddwn yn gwneud hynny drwy'r gronfa COVID, ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol neu finnau'n dweud mwy am hynny cyn bo hir. Sam Rowlands MS: Diolch i fy nghyd-Aelod am godi'r mater pwysig hwn yn y Siambr heddiw ynghylch setliadau llywodraeth leol. Weinidog, ymddengys bod gwahaniaeth sylweddol ar adegau rhwng yr hyn y mae arweinwyr cynghorau ac aelodau a etholir yn lleol yn ei ddweud yw'r cyllid sydd ei angen drwy'r fformiwla ariannu i ddarparu llawer o'r gwasanaethau pwysig a'r hyn rydych chi, yn ôl pob golwg, yn barod i'w gefnogi ar brydiau. Un enghraifft o un o'r meysydd y gwn y bydd wedi cael eu dwyn i'ch sylw yw gallu awdurdodau gwledig i ddarparu gwasanaethau ar draws ardaloedd daearyddol enfawr, weithiau, a sut y mae'r fformiwla ariannu gyfredol yn llwyddo i adlewyrchu hyn. Wrth gwrs, nid yw hyn yn newydd. Ymddengys ei bod yn frwydr reolaidd y mae awdurdodau lleol yn ei chael gyda Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r fformiwla ariannu, oherwydd wrth gwrs, mae oddeutu 70 y cant o allu cyngor i wario ar wasanaethau a'u darparu. Felly, fy nghwestiwn yw: wrth weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, pa ystyriaeth y byddech yn ei rhoi i gomisiynu adolygiad annibynnol o'r fformiwla ariannu ar gyfer cynghorau lleol? Rebecca Evans AC: Diolch am ofyn y cwestiwn, ac rwyf innau hefyd yn cael trafodaethau gyda llywodraeth leol am yr arian sydd ei angen. Ond mae'n rhaid imi ddweud, nid yw'n ymwneud â beth rwy'n barod i'w gefnogi; mae'n ymwneud â beth y gallaf ei gefnogi o ganlyniad i gyllideb Llywodraeth Cymru a ddarperir i ni gan Lywodraeth y DU. Felly yn amlwg, byddwn yn awyddus i wneud mwy dros lywodraeth leol, ond fe wnaethom lwyddo y llynedd i ariannu'r pwysau ar eu gweithlu a nodwyd ganddynt yn llawn, ac roedd hwnnw'n bwysau sylweddol, felly roeddwn yn falch ein bod wedi gallu gwneud hynny. A'r ddau setliad diwethaf ar gyfer llywodraeth leol yw'r rhai gorau a gynigiwyd ers dros 12 mlynedd. Yn ein trafodaethau ar y gyllideb cyn yr haf, cytunwyd fel Cabinet y byddai iechyd a gofal cymdeithasol yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni, a hefyd y byddem yn ceisio rhoi’r setliad gorau posibl i lywodraeth leol. Felly, rwy'n cael cyfarfod gyda'r is-grŵp cyllid, sy'n cynnwys arweinwyr llywodraeth leol ac eraill—eu llefarwyr cyllid, dylwn ddweud—yr wythnos nesaf, lle byddaf yn clywed yn uniongyrchol ganddynt beth yw'r pwysau arnynt ar gyfer y flwyddyn nesaf. O ran adolygiad o'r fformiwla ariannu, rwyf wedi dweud yn glir iawn wrth lywodraeth leol, os ydynt am i'r fformiwla ariannu honno gael ei hadolygu a dod ataf gyda chais i wneud hynny, rwy'n fwy na pharod i gychwyn yr adolygiad hwnnw a chael trafodaethau pellach yn ei gylch gyda hwy. Nid yw'r cais hwnnw wedi'i gyflwyno eto, ond os daw, rwy'n sicr yn fwy na pharod i gael y trafodaethau hynny. Gwasanaethau Cyhoeddus yn Sir Benfro Paul Davies AC: 4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau cyhoeddus lleol yn sir Benfro? OQ56992 Rebecca Evans AC: Rwy'n ddiolchgar am waith parhaus llywodraeth leol, gan gynnwys sir Benfro, ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus eraill yn darparu gwasanaethau cyhoeddus i gefnogi'r adferiad wedi COVID a diogelu pobl agored i niwed yn ein cymunedau. Mae llywodraeth leol yn parhau i wneud gwaith rhagorol mewn cyfnod heriol. Paul Davies AC: Weinidog, efallai eich bod yn ymwybodol fod Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn ystyried dyfodol ei ganolfannau gwastraff ac ailgylchu, ac mae'r opsiynau'n cynnwys lleihau nifer y safleoedd a weithredir gan y cyngor a lleihau oriau agor pob safle. Nawr, ni allaf bwysleisio pwysigrwydd casglu gwastraff ac ailgylchu i'n hamgylchedd, ac yn wir, i'n hiechyd, a phe bai'n rhaid i breswylwyr deithio ymhellach am y gwasanaethau hanfodol hyn, gallai ddadwneud peth o'r cynnydd da a wnaed gan Gyngor Sir Penfro dros y blynyddoedd diwethaf. Felly, a allwch ddweud wrthym, Weinidog, pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig i Gyngor Sir Penfro i sicrhau y gallant gadw eu safleoedd ar agor fel bod gan bobl yn sir Benfro fynediad at ganolfannau gwastraff ac ailgylchu? Rebecca Evans AC: Wel, mae'n dda fod Paul Davies yn cydnabod y cynnydd da a wnaed gennym yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf yn ailgylchu gwastraff cartrefi. Rydym yn sicr ymhlith y gorau yng Nghymru, ac rydym am gynnal—. Ni allaf glywed ymateb y Gweinidog. Rwy'n siŵr fod Paul Davies yn dymuno clywed yr ymateb. Rebecca Evans AC: Felly, roeddwn yn cyfeirio at ein cynnydd da yng Nghymru yn ailgylchu gwastraff cartrefi, sy'n golygu mai ni yw un o'r gorau yn y byd, ac yn amlwg, rydym am gynnal hynny a pharhau i wella ein perfformiad yn hynny o beth. Fel y dywedwch, mae sir Benfro yn ymgynghori ar hyn ar hyn o bryd. Mater i Gyngor Sir Penfro yw hwn. Fodd bynnag, byddaf yn rhoi gwybod am eich pryderon i'r Gweinidog Newid Hinsawdd, sydd â chyfrifoldeb am wastraff. Canlyniadau Economaidd yng Ngorllewin De Cymru Tom Giffard AS: 5. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog yn ei rhoi i wella canlyniadau economaidd yng Ngorllewin De Cymru wrth ddyrannu cyllid i bortffolio'r economi? OQ57002 Rebecca Evans AC: Mae cadernid economaidd yn parhau i fod yn un o nodau craidd y Llywodraeth hon, a dyna pam ein bod wedi buddsoddi dros £600 miliwn mewn cyllid grant i gefnogi busnesau eleni, ac mae dros £250 miliwn wedi'i ddarparu i fusnesau yn ne-orllewin Cymru ers mis Ebrill 2020. Tom Giffard AS: A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei hateb, a dechrau drwy ddatgan fy niddordeb fel cynghorydd sy'n eistedd ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr? Weinidog, efallai eich bod yn ymwybodol fod adroddiad diweddar gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi datgelu bod cyflogau wythnosol cyfartalog yn sir Pen-y-bont ar Ogwr wedi gostwng o £525.90 yn 2019, ffigur a oedd yn agos at gyfartaledd Cymru gyfan, i ddim ond £464.10 yn 2020, sef yr isaf ond un bellach o 22 awdurdod lleol Cymru. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno, Weinidog, fod llithro o ganol y tabl i'r isaf ond un mewn cyfnod o flwyddyn yn destun pryder i lawer am berfformiad y cyngor a Llywodraeth Cymru yn gwella canlyniadau economaidd ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Pe bai'r perfformiad hwnnw i'w weld gan reolwr pêl-droed yn yr Uwch Gynghrair, byddent wedi cael eu diswyddo bellach. O ystyried hyn, pa ddisgwyliadau sydd gan y Llywodraeth i awdurdodau lleol wella eu heconomïau lleol yn eu hardaloedd, a pha ymyrraeth benodol y bydd Llywodraeth Cymru yn ei gweithredu ym Mhen-y-bont ar Ogwr i atal pethau rhag dirywio ymhellach? Rebecca Evans AC: Mae gennyf ddisgwyliadau y bydd Llywodraeth y DU yn sicrhau nad ydynt yn llesteirio cyflogau yn y sector cyhoeddus, er enghraifft, fel y gwelsom yn fwyaf diweddar gan Lywodraeth y DU, felly mae'n anodd iawn i mi ymateb i'r cwestiwn hwn. Fe geisiaf helpu a chyfeirio at rôl y cyd-bwyllgorau corfforaethol a'r hyn y gallant ei wneud drwy gydweithio i wella'r sefyllfa economaidd yn eu hardaloedd lleol, ond rwy'n ei chael yn anodd iawn ymateb i gwestiynau gan y Ceidwadwyr am gyflogau pobl er mai Llywodraeth y DU sy'n dal cyflogau yn ôl ac sydd hefyd yn mynd â £20 o bocedi rhai o'n gweithwyr tlotaf o ganlyniad i'w newidiadau i'r credyd cynhwysol. Sioned Williams MS: Weinidog, os ydym am wella sefyllfa economaidd pobl Gorllewin De Cymru, mae angen inni daclo'r lefelau uchel ac annheg o drethi cyngor mewn awdurdodau lleol a mynd i'r afael â'r broblem gynyddol o ôl-ddyledion trethi cyngor. Mae cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gyson yn pennu un o'r lefelau uchaf o'r dreth gyngor yng Nghymru. Dyw preswylwyr ddim yn gallu deall pam mae e'n costio cymaint yn fwy i fyw yng nghyngor Castell-nedd Port Talbot a sut maen nhw'n darparu gwasanaethau sydd llawer mwy drud o'u cymharu â siroedd cyfagos. Holais i'r Prif Weinidog nôl yng Ngorffennaf a oedd y Llywodraeth wedi ystyried cynnal ymchwiliad yn benodol i awdurdodau sy'n trethu yn uwch, fel Castell-nedd Port Talbot, gyda'r nod o sicrhau lefelau treth mwy cyson yng Nghymru, ond yn anffodus ches i ddim ateb uniongyrchol i'r cwestiwn hwnnw. A all y Gweinidog felly ddarparu ateb i'r cwestiwn hwn heddiw? Ac ar ben hyn, wrth gwrs, mae'r ôl-ddyledion trethi cyngor wedi cynyddu yn sylweddol yn ystod y pandemig, gyda 55,000 o gartrefi bellach mewn ôl-ddyledion gyda'u trethi cyngor rhwng Ionawr a Mai. Felly, hoffwn hefyd holi a oes gan y Llywodraeth unrhyw fwriad i gyhoeddi cynlluniau newydd i daclo problem gynyddol ôl-ddyledion trethi cyngor, gan fod hyn yn effeithio ar deuluoedd incwm isel yn fy rhanbarth. Diolch. Rebecca Evans AC: Diolch am ofyn y cwestiwn. Yn y pen draw, wrth gwrs, mater i awdurdodau lleol eu hunain yw pennu'r dreth gyngor—neu i'r cynghorau, dylwn ddweud. Wedi dweud hynny, mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i gefnogi pobl gyda'r dreth gyngor a thalu'r dreth gyngor, ac rydym yn cefnogi dros 200,000 o aelwydydd gyda'u treth gyngor. Yn aml, nid yw aelwydydd yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael iddynt, felly byddwn yn awgrymu yn y lle cyntaf y gallent gysylltu â'r cyngor neu edrych ar wefan Llywodraeth Cymru i gael gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael iddynt. Rwy'n gwybod bod anallu i gasglu'r holl dreth gyngor drwy gyfnod COVID wedi bod yn broblem benodol i awdurdodau lleol, felly y llynedd, gallais roi arian ychwanegol i awdurdodau lleol i gydnabod eu bod wedi ei chael yn anos casglu'r dreth gyngor, a chredaf fod honno'n ymyrraeth ddefnyddiol. O ran ôl-ddyledion, rydym wedi gweithio'n galed iawn gyda llywodraeth leol yn awr i ddod o hyd i ffordd o gasglu ôl-ddyledion mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Felly, gofynnwn i awdurdodau lleol archwilio gydag unigolion beth yw achos yr ôl-ddyledion yn y lle cyntaf—efallai nad ydynt yn hawlio'r holl gymorth y mae ganddynt hawl iddo, er enghraifft—ac i ddod o hyd i ffordd sensitif o fynd ati i hawlio'r ôl-ddyledion hynny. Ond wyddoch chi, mae'n broblem wirioneddol yn ystod COVID, ac rydym wedi gweithio'n galed i gefnogi awdurdodau lleol, gan gydnabod nad ydynt wedi gallu hawlio cymaint o dreth, a rhoi dull o weithredu sy'n canolbwyntio llawer mwy ar yr unigolyn ar waith wrth fynd ati i gasglu ôl-ddyledion. Ardrethi Busnes Altaf Hussain AS: 6. A wnaiff y Gweinidog nodi polisi ardrethi busnes Llywodraeth Cymru ar gyfer y tymor seneddol hwn? OQ56991 Rebecca Evans AC: Rydym yn datblygu rhaglen uchelgeisiol o ddiwygiadau treth lleol sy'n cefnogi economi gryfach, cymunedau sefydlog a gwasanaethau cyhoeddus bywiog. O fewn hyn, rydym yn ystyried sut i wella ein system ardrethi annomestig tra'n cynnal refeniw hanfodol ar gyfer gwasanaethau lleol sy'n sicrhau manteision sylweddol i bawb. Altaf Hussain AS: Diolch. Weinidog, mae arweinydd eich plaid, Keir Starmer, wedi dweud bod y Blaid Lafur o blaid diddymu ardrethi busnes ac y dylid cael rhywbeth arall yn eu lle. Gŵyr pawb ohonom fod llawer o fusnesau yng Nghymru wedi ei chael hi'n anodd, a chyda ein trefi angen hwb economaidd, mae'n bryd mynd i'r afael â'n dull o roi cymorth busnes. A oedd Keir Starmer yn siarad ar eich rhan chi hefyd, ac os nad oedd, beth yw barn Llywodraeth Lafur Cymru am ddyfodol ardrethi busnes? Rebecca Evans AC: Wel, mae'n gyffrous iawn gweld cymaint o ddiddordeb sydd gan feinciau'r Ceidwadwyr yn ymagwedd Llywodraeth y DU at ardrethi annomestig. Fi sy'n penderfynu ar ardrethi annomestig yma yng Nghymru, a gwnawn hynny ar sail y sefyllfa yma yng Nghymru, sydd ychydig yn wahanol o ran ein heconomi, ac rydym yn falch iawn o fod mewn sefyllfa i wneud hynny yma yng Nghymru. Yr hyn a ddywedaf yw ein bod yn edrych ar raglen ddiwygio uchelgeisiol ar gyfer trethiant lleol, gan ystyried gwahanol opsiynau ar gyfer y dyfodol. Rwy'n gobeithio dweud mwy, yr ochr hon i'r Nadolig yn ddelfrydol, ar drethiant lleol ar gyfer y dreth gyngor yn arbennig, ond rydym yn edrych i weld beth arall y gallwn ei wneud i wella ardrethi annomestig. Unwaith eto, ar 27 Hydref, mae cyfle mawr i Lywodraeth y DU nodi ei chynlluniau ar gyfer ardrethi annomestig yn Lloegr ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf drwy'r adolygiad o wariant, ac wrth gwrs mae'n cael effaith fawr ar yr hyn y gallwn ei wneud yma. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r cynllun sydd gennym yng Nghymru, lle mae busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch yn cael blwyddyn lawn o ryddhad ardrethi, sy'n llawer mwy hael na'r hyn sydd ar gael dros y ffin, ond mae gwneud hynny'n costio £380 miliwn, felly nid ymyriadau bach yw'r rhain, ac maent yn gwneud—. Os bydd Llywodraeth y DU yn llwyddo i sefydlu cynllun sy'n gallu cefnogi busnesau yn y ffordd sylweddol honno, yn amlwg, byddem yn ystyried gwneud rhywbeth tebyg yma yng Nghymru. Ac mae Llywodraeth y DU hefyd yn cynnal yr adolygiad sylfaenol o ardrethi busnes yn Lloegr ac rydym yn edrych yn fanwl iawn ar hynny i ddeall beth y mae'n ei olygu i ni yma yng Nghymru. Er enghraifft, a fyddant yn gweithredu ar drethu gwerthiannau digidol ac yn y blaen? Mae llawer o gwestiynau heb eu hateb o hyd, ond edrychwn ymlaen at glywed beth sydd gan yr adolygiad hwnnw i'w ddweud. Jane Dodds AS: Prynhawn da, Weinidog. A gaf fi ofyn ichi eto ynglŷn ag ardrethi busnes? Oherwydd, fel llawer o gyd-Aelodau yn y Siambr hon, gofynnir i ni am ardrethi busnes gan fusnesau teuluol bach, sydd o dan bwysau mawr ar hyn o bryd. Mae gennyf ddiddordeb mewn gwybod sut y mae Llywodraeth Cymru yn cyfathrebu â'r busnesau hynny, yn enwedig busnesau teuluol bach, pa ddiwygiadau sy'n digwydd ac yn wir y rheolaeth sydd gan Lywodraeth Cymru, neu'r diffyg rheolaeth, mewn perthynas â'u sefyllfa benodol. Ac a gaf fi ofyn hefyd pa ryddhad ar gyfer buddsoddiadau yr ydych yn edrych arno er mwyn cefnogi'r busnesau bach a chanolig hynny i fuddsoddi er mwyn hybu cynhyrchiant ac ymdrechion datgarboneiddio? Diolch yn fawr iawn. Rebecca Evans AC: Diolch am godi'r mater hwn y prynhawn yma. Rydym yn cyfathrebu'n uniongyrchol â busnesau mewn nifer o ffyrdd. Un ffordd yw drwy Busnes Cymru, sydd â chronfa ddata ragorol o fusnesau yma yng Nghymru, felly gallwn gael gwybodaeth iddynt yn gyflym iawn ac roedd hynny'n hynod o ddefnyddiol i ni yn ystod y pandemig. Ac wrth gwrs, bydd pob busnes sy'n talu ardrethi annomestig ar gofrestr leol eu cynghorau, a ddylai, unwaith eto, fod yn ffordd ddefnyddiol o rannu gwybodaeth. Ac unwaith eto, roedd hynny'n ddefnyddiol iawn i ni yn ystod y pandemig i allu cael grantiau i fusnesau yn hynod o gyflym. Ar ddyfodol ardrethi busnes, credaf fod llawer yn dibynnu ar ganlyniad yr adolygiad sylfaenol a'r hyn y bydd hynny'n ei olygu i ni yma yng Nghymru. Mae ardrethi busnes yma yn darparu tua £1 biliwn o'n cyllideb yng Nghymru, felly mae hwn yn swm sylweddol o arian, ac mae angen inni feddwl, mewn unrhyw fath o adolygiad o ardrethi busnes, beth fyddai'r goblygiadau i wariant cyhoeddus. Cefais gyfarfod rhagorol ddoe gyda Chonsortiwm Manwerthu Cymru ac roeddent yn gallu siarad yn eithaf angerddol am y ffyrdd posibl y gallai ardrethi busnes newid, o bosibl i gydnabod buddsoddiad pellach mewn datgarboneiddio, er enghraifft. Roeddent yn gallu rhannu llawer o syniadau gyda ni, ac roeddent i gyd yn ddiddorol iawn. Nid oes gennyf gynllun ar gyfer unrhyw newidiadau heddiw, ond rwy'n awyddus i glywed syniadau am yr hyn a allai wella'r sefyllfa yn y dyfodol. Darparu Gwasanaethau John Griffiths AC: 7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda llywodraeth leol yng Nghymru i wella'r modd y darperir gwasanaethau? OQ57015 Rebecca Evans AC: Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda llywodraeth leol yng Nghymru drwy amrywiaeth o fecanweithiau ymgysylltu ffurfiol ac anffurfiol ar draws pob portffolio. Mae Gweinidogion yn gweithio gydag arweinwyr, ac mae ein swyddogion yn gweithio gyda'i gilydd, i sicrhau eu bod yn datblygu polisïau gwell a chanlyniadau gwell wrth ddarparu gwasanaethau i bobl Cymru. John Griffiths AC: Diolch yn fawr, Weinidog. Credaf ei bod yn deg dweud bod yna farn gyffredinol fod Llywodraeth Cymru, yn ystod y pandemig, wedi gweithio'n dda iawn gydag awdurdodau lleol ac arweinwyr awdurdodau lleol, gyda'r dechnoleg newydd, weithiau, yn helpu hynny i sicrhau bod cyfarfodydd wythnosol a chyfarfodydd rheolaidd iawn yn llawer haws i'w gwneud, a bod awdurdodau lleol sy'n gweithio gyda'r sector gwirfoddol yn gallu gwneud hynny'n gyflymach a chyda llai o fiwrocratiaeth. Tybed, Weinidog, i ba raddau y mae'r profiad hwnnw o weithio yn ystod y pandemig wedi cael ei werthuso, ac yn cael ei werthuso, fel y gellid cadw rhai o'r ffyrdd gwell hynny o weithio, ffyrdd mwy effeithiol o weithio, lle bo'n briodol. Rwy'n tybio mai ar gyfer sefyllfa o argyfwng fwy neu lai yn unig, fel y gwelsom, y gallai rhai ohonynt fod wedi bod yn addas. Ond mae'n debyg y gellid cadw rhai ohonynt er budd pobl Cymru. Hefyd, i ba raddau y mae trawsnewid digidol, sydd eto wedi bod yn bwysig iawn yn ystod y pandemig wrth ddarparu gwasanaethau a ffyrdd newydd o weithio—? I ba raddau y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod y posibiliadau digidol hynny'n cael eu defnyddio a'u defnyddio'n llawn, unwaith eto er budd ein cymunedau yma yng Nghymru? Rebecca Evans AC: Mae John Griffiths yn iawn i ddweud bod y cysylltiadau'n rhagorol drwy'r pandemig, ac fe wnaeth y ffyrdd newydd o weithio alluogi hynny mewn gwirionedd. Mae'n bwysig ein bod yn adeiladu ar y cysylltiadau a'r technolegau newydd sydd wedi galluogi'r cysylltiadau hynny i fod yn gryf iawn drwy gydol y pandemig. Felly, fe gadeiriais—yr wythnos diwethaf, rwy'n credu—gyfarfod o Gabinet Llywodraeth Cymru a phob un o'r 22 arweinydd awdurdod lleol yng Nghymru, a dyna'r tro cyntaf inni ddod at ein gilydd mewn fforwm o'r fath, a gwnaethom hynny'n ddigidol. Roedd yn gyfarfod rhagorol, lle gwnaethom ganolbwyntio'n fanwl ar ddwy o'r problemau mawr a'r heriau mawr sy'n ein hwynebu—yr heriau ym maes gofal cymdeithasol a heriau newid hinsawdd—gan archwilio sut y gallwn gydweithio i fynd i'r afael â'r ddwy her fawr. Felly, roedd hwnnw'n gyfarfod gwirioneddol ddefnyddiol, addysgiadol a chyffrous ar y ffyrdd newydd o weithio a chanlyniadau hynny. Cyhoeddwyd y strategaeth ddigidol ar gyfer Cymru ym mis Mawrth eleni. Felly, fe'i cyhoeddwyd i raddau helaeth yng nghyd-destun COVID, ac mae'n nodi gweledigaeth ac uchelgais cryf iawn ar gyfer dull digidol cydgysylltiedig o weithredu yma yng Nghymru. Felly, rydym yn awr yn gweithio ar gyflawni'r strategaeth honno, ac fel rhan o hynny, rydym yn ystyried beth arall y gallwn ei wneud drwy Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru, a sefydlwyd y llynedd i gefnogi sector cyhoeddus Cymru yn ei gyfanrwydd i ddarparu gwell gwasanaethau cyhoeddus, ac mae hynny'n allweddol, mewn gwirionedd, i lwyddiant y strategaeth. Un enghraifft o ble y mae'n dangos gwerth cydweithio a chynllunio gwasanaethau o amgylch anghenion defnyddwyr yw drwy weithio gyda thri awdurdod, hyd yma, ar brosiect trawsnewid digidol ar fynediad at wasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion a rhannu dysgu. Felly, cyfleoedd enfawr, rwy'n meddwl, gyda digidol, i ni wella gwasanaethau cyhoeddus a phrofiadau pobl. Russell George AC: Weinidog, a gaf fi ofyn ichi am gefnogaeth i gynghorau cymuned, yn arbennig, gan Lywodraeth Cymru? Rwy'n ymwybodol, o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, fod gofyniad i gynghorau cymuned sefydlu systemau i ganiatáu cyfarfodydd wyneb yn wyneb, o bell neu hybrid. Mae llawer o gynghorau cymuned, wrth gwrs, yn cyfarfod mewn canolfannau cymunedol neu neuaddau pentref, ac nid oes ganddynt fynediad at y rhyngrwyd. Felly, mae angen cymorth ar y cynghorau hynny, yn arbennig. Rwy'n ymwybodol fod gan Lywodraeth Cymru gronfa a oedd ar gael i bobl wneud cais amdani, ond mae'r gronfa honno bellach ar gau i geisiadau newydd. Felly, a gaf fi ofyn pa gefnogaeth bellach y bydd Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i gynghorau cymuned lleol yn y cyd-destun hwn? Rebecca Evans AC: Wel, yn ddiweddar iawn, cymeradwyais gyllid ar gyfer rheolwr cyflawni digidol newydd ar gyfer cynghorau tref a chymuned yng Nghymru, a'r disgwyl yw y byddant yn adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes wedi'i sefydlu. Wrth gwrs, fe wnaethom ymgynghori ar y gofyniad ynglŷn â gweithio hybrid yn y dyfodol, a dylai fod yn glir mai'r hyn sy'n ofynnol gan gynghorau tref a chymuned yw y dylai'r sawl sy'n mynychu o bell allu clywed a chael ei glywed. Felly, credaf y gellir gwneud hynny am gost isel, os oes angen. Ond rwy'n awyddus i weithio gyda chynghorau tref a chymuned, drwy'r rheolwr cyflawni digidol newydd, i ddeall yn well beth yw'r problemau penodol ac a oes ffyrdd y gallwn helpu i'w datrys. Ac yn olaf, Vikki Howells, cwestiwn 8. Adfer Tomenni Glo Vikki Howells AC: 8. Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran sicrhau setliad ariannol cynaliadwy gan Lywodraeth y DU i gefnogi'r gwaith o adfer 2,100 o domenni glo Cymru yn effeithiol? OQ57006 Rebecca Evans AC: Rhaid i Lywodraeth y DU weithredu i fynd i'r afael â'r gost etifeddol hirdymor i Gymru o atgyweirio, adfer ac ail-lunio safleoedd tomenni glo, a etifeddwyd gan y diwydiant glo cyn datganoli. Mae angen o leiaf £600 miliwn dros ddegawd a hanner, llawer mwy na'r disgwyl pan ddechreuodd datganoli a'n trefniadau ariannu presennol. Vikki Howells AC: Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae creithiau ffisegol y chwyldro diwydiannol yn etifeddiaeth yr ydym yn byw gyda hi heddiw, gyda bron i 40 y cant o'r holl domenni glo segur yn y DU yma yng Nghymru. Fel y dywedoch chi mor gywir, mae costau adfer ar raddfa sy'n uwch nag unrhyw beth y gellid bod wedi'i ragweld pan ddechreuodd datganoli, ond mae'n bwysig ein bod yn ymdrin â'r mater hwn yn awr. Felly, a wnewch chi bwyso ar Lywodraeth y DU yn yr adolygiad o wariant sydd i ddod i ymrwymo'r buddsoddiad sydd ei angen i fynd i'r afael â'r broblem hirsefydlog hon, mewn ardaloedd fel Cwm Cynon, i sicrhau diogelwch ein holl gymunedau? Rebecca Evans AC: Gallaf yn bendant roi'r ymrwymiad hwnnw i bwyso ar Lywodraeth y DU mewn perthynas â'r mater hwn. Cyn yr adolygiad o wariant, byddaf yn ysgrifennu at y Canghellor yn amlinellu ein blaenoriaethau i Gymru yn y llythyr hwnnw, a byddaf yn gofyn i Lywodraeth y DU weithio ar frys gyda ni i ddatblygu strategaeth ffurfiol a rhaglen ariannu ar gyfer atgyweirio, adfer ac ail-lunio safleoedd tomenni glo yn hirdymor, er mwyn rheoli effeithiau newid hinsawdd a lleddfu pryderon yn ymwneud â diogelwch y cyhoedd yn hynny o beth. Yn y cyfarfod rhagarweiniol a gefais gyda Phrif Ysgrifennydd newydd y Trysorlys yn ddiweddar, manteisiais ar y cyfle i amlinellu ein blaenoriaethau allweddol ar gyfer yr adolygiad o wariant, ac roeddwn yn glir iawn mai diogelwch tomenni glo yw ein pryder allweddol yr ydym am ei weld yn cael sylw yn yr adolygiad o wariant. Edrychaf ymlaen at gyfarfod â'r Prif Ysgrifennydd yfory lle byddaf unwaith eto'n pwyso mewn perthynas â'r union bwyntiau a nodwyd gennych y prynhawn yma. Diolch i'r Gweinidog. 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Y cwestiynau nesaf fydd y rhai i'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r cwestiwn cyntaf gan Samuel Kurtz. Diogelu Bywyd Morol Samuel Kurtz MS: 1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch y flaenoriaeth a roddir i ddiogelu bywyd morol wrth benderfynu ar bolisi pysgodfeydd Llywodraeth Cymru? OQ57001 Lesley Griffiths AC: Rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd, ac rydym yn gweithio ar draws y portffolios i ddatblygu'r cyd-ddatganiad pysgodfeydd i nodi polisïau ar gyfer rheoli pysgodfeydd yn gynaliadwy er mwyn cyflawni'r amcanion pysgodfeydd. Bydd hyn yn cynnwys ein hymrwymiad i ddarparu dull rheoli ar lefel yr ecosystem ar gyfer pysgodfeydd. Samuel Kurtz MS: Diolch, Weinidog. Fe fyddwch yn falch iawn o glywed, rwy'n siŵr, fy mod wedi cael fy mhenodi yn hyrwyddwr y morlo llwyd yn ddiweddar, a'r wythnos diwethaf, tra'n cymryd rhan mewn gweithgaredd glanhau traeth ar draeth y gogledd, Dinbych-y-pysgod, mwynheais gyfarfod â'r Gymdeithas Cadwraeth Forol i drafod rhai o'r heriau y mae'r creaduriaid hyn yn eu hwynebu yn sgil gweithredoedd pobl. Ar yr adeg hon o'r flwyddyn mae llawer o forloi bach newydd-anedig yn mentro allan am y tro cyntaf i gefnfor gwyllt yr Iwerydd ar arfordir sir Benfro a sir Gaerfyrddin ond yn anffodus, un o'r prif fygythiadau i'r creaduriaid rhyfeddol hyn yw'r llygredd sy'n cael ei greu gan draffig morol. Gyda'r cyfrifoldeb dros ddiogelu ein bywyd gwyllt morol ar ysgwyddau eich cyd-Weinidog, y Gweinidog Newid Hinsawdd, a'r cyfrifoldeb am bysgodfeydd o fewn eich portffolio eich hun, a allwch fanylu ar ba gamau yr ydych chi a'ch cyd-Weinidog yn eu cymryd i sicrhau bod dyfodol yr ymwelwyr hyn â'n harfordir yn cael ei ddiogelu am genedlaethau i ddod? Lesley Griffiths AC: Da iawn chi ar gael eich penodi'n hyrwyddwr y morlo llwyd. Dylech gael cystadleuaeth gyda'ch cyd-Aelod, Darren Millar, i weld sawl gwaith y gallwch ddweud yn y Siambr pa rywogaeth yr ydych yn hyrwyddwr arni. [Chwerthin.] Rwy'n credu ei bod wedi bod yn hyfryd iawn gweld cymaint o forloi bach o gwmpas ein harfordir dros yr haf. I fynd yn ôl at eich cwestiwn penodol am y sgyrsiau rhwng y Gweinidog Newid Hinsawdd a minnau ynglŷn â'n polisïau, mae'n bwysig iawn ein bod yn sicrhau, er enghraifft, fod ein holl nodweddion dynodedig yn ein hardaloedd morol gwarchodedig yn cael eu hasesu yn erbyn unrhyw niwed posibl o weithgareddau fel y rhai y cyfeirioch chi atynt. Joyce Watson AC: Mae diogelu'r amgylchedd morol yn rhywbeth y bûm yn ei hyrwyddo ers blynyddoedd lawer, ac un mater penodol a godais yn y Siambr droeon yw ailgyflwyno treillio am gregyn bylchog mewn ardal fechan ym mae Ceredigion, ardal gadwraeth arbennig, a'r effaith ar fywyd morol yn yr ardal honno. Weinidog, mae nifer o flynyddoedd bellach ers ailgychwyn y gweithgaredd hwn, ac rwy'n awyddus i wybod pa asesiad a gynhaliwyd o effaith amgylcheddol treillio am gregyn bylchog ar y safle hwn ers ei ailgyflwyno yn 2016. Lesley Griffiths AC: Diolch, a gallaf dawelu meddwl Joyce Watson fod treillio am gregyn bylchog yn cael ei reoleiddio'n llym yn nyfroedd Cymru, ac mae hynny'n cynnwys drwy gyfyngiadau gofodol hefyd. Rydym yn monitro'r gweithgaredd yn ofalus. Rydym yn rhoi camau gorfodi ar waith lle bynnag y bo angen, a gwneir hyn yn bennaf drwy dracio llongau gan ddefnyddio'r systemau monitro llongau sydd gennym ar ein llongau patrolio pysgodfeydd, sy'n cynnwys llong y Rhodri Morgan, er enghraifft, a hefyd drwy archwiliadau porthladd a harbwr gan ein swyddogion gorfodi morol. A phob blwyddyn cyn i'r bysgodfa cregyn bylchog ailagor, mae Llywodraeth Cymru yn cynnal asesiad rheoleiddio cynhwysfawr o'r cynefinoedd, a dim ond gyda chytundeb pellach Cyfoeth Naturiol Cymru y gwneir hynny. Huw Irranca-Davies AC: A gaf fi yn gyntaf oll, fel hyrwyddwr eogiaid y Senedd, ofyn i'r morloi chwarae'n ofalus? [Chwerthin.] Ond mae gennyf ddiddordeb arbennig, fel y gŵyr y Gweinidog, yn y gwaith partneriaeth sy'n sail i bysgodfeydd a rheoli morol, yr ymelwa, yn gynaliadwy, ar ein hadnoddau naturiol, ochr yn ochr â'r dull rheoli ar lefel yr ecosystem, y dywedodd yn gywir y byddai'n sail i ystyriaeth Llywodraeth Cymru. Felly, tybed a yw'n rhoi amser i edrych ar waith effeithiol y grwpiau cenedlaethol a lleol—grŵp cynghori a gweithredu Cymru ar faterion morol, ond hefyd y grwpiau sy'n ei gynnal yn lleol—i sicrhau bod y cydbwysedd hwnnw'n iawn gennym, fod pob llais yn cael ei glywed, a bod partneriaeth effeithiol yn bodoli. Mae cryn dipyn o flynyddoedd bellach ers iddynt gael eu rhoi ar waith, felly mae'n ymddangos ei bod yn amser priodol i ddweud, 'A ydynt yn gweithio'n effeithiol, a yw'r cydbwysedd yn iawn ganddynt ar gyfer natur a hefyd ar gyfer ymelwa cynaliadwy?' Lesley Griffiths AC: Diolch. Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau, yn sicr gyda'r rhan hon o'r portffolio; byddwn yn dychmygu y byddai hynny bellach yn dod o fewn cylch gwaith y Gweinidog Newid Hinsawdd. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gweithio gyda'r grwpiau, fel yr awgrymwch, oherwydd os ydym am gael statws amgylcheddol da, er enghraifft, i'n dyfroedd, rhywbeth yr ydym yn ceisio'i gyflawni ar hyn o bryd, mae gwir angen inni wrando ar beth y mae'r bobl hyn yn ei ddweud wrthym a pha waith sy'n cael ei wneud. Ond fe ofynnaf i'r Gweinidog Newid Hinsawdd roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi. Cynnyrch Lleol ar gyfer Prydau Ysgol Laura Anne Jones AC: 2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ynghylch cyrchu cynnyrch lleol ar gyfer prydau ysgol? OQ57003 Lesley Griffiths AC: Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu polisi economi sylfaenol, gyda bwyd yn rhan annatod ohono. Mae fy nghyd-Weinidogion a minnau yn cael trafodaethau rheolaidd ar y cysylltiadau rhwng ein portffolios a chaffael cynnyrch lleol yn ehangach. Awdurdodau lleol ac ysgolion sy'n gyfrifol am brynu bwyd ar gyfer prydau ysgol a chaffael gan gyflenwyr y cytunwyd arnynt. Laura Anne Jones AC: Diolch, Weinidog. Er mwyn lleihau allyriadau carbon, byddai caffael cynnyrch lleol ar gyfer prydau ysgol yn helpu tuag at dargedau Llywodraeth Cymru ac yn amlwg yn helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddeall, monitro, mesur, asesu faint o gynnyrch lleol sy'n cael ei ddefnyddio mewn prydau ysgol ac o ble y daw. Lesley Griffiths AC: Diolch. Rydym yn amlwg yn cydnabod manteision clir iawn caffael cynnyrch lleol o safbwynt gwahanol ystyriaethau, ac mae hynny'n cynnwys milltiroedd bwyd, a fyddai, yn amlwg, yn rhan bwysig o'ch cwestiwn. Hefyd, os ydych yn defnyddio cynnyrch lleol, credaf fod hynny'n helpu plant a phobl ifanc i gysylltu'n dda â'u hamgylchedd lleol. Mae un neu ddau o awdurdodau lleol yn gweithio'n galed iawn yn y maes hwn. Gwn fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, a Chyngor Sir Caerfyrddin, rwy'n credu, yn edrych ar y ffordd yr ydym yn caffael bwyd ar hyn o bryd, ac yn amlwg, byddai monitro'r allyriadau carbon yn rhan o'r gwaith hwnnw wrth symud ymlaen. Mae'n ddrwg gennyf, mae sir Fynwy, hefyd yn gweithio'n galed iawn yn y maes hwn. Ond unwaith eto, ni fyddai hyn yn rhan o fy mhortffolio i, ond fe wnaf yn siŵr fod y Gweinidog yn ymateb os oes unrhyw wybodaeth bellach. Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau Reit. Cwestiynau'r llefarwyr. Mae'n ddrwg gennyf am yr oedi. Roeddwn ar y rhan anghywir yn fy sgript. Cwestiynau'r llefarwyr. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf, Darren Millar. Darren Millar AC: Diolch, Lywydd. Yn rhinwedd eich swydd fel Gweinidog gogledd Cymru, pa gamau a gymerir gennych i ddatgloi'r moratoriwm ar fuddsoddi cyfalaf mewn ffyrdd yn y rhanbarth? Lesley Griffiths AC: Fe fyddwch yn ymwybodol fod y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cyflwyno adolygiad ffyrdd. Nid yw wedi adrodd eto, ond yn amlwg, pan fydd yn adrodd, gallwn weld pa gynlluniau fydd yn parhau a gallwn edrych ar y materion ariannu bryd hynny. Darren Millar AC: Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog, ond ni fydd llawer o bobl yng ngogledd Cymru yn ystyried ei fod yn ddigon da. Gwnaeth y Blaid Lafur addewidion cyn yr etholiad y byddai'n sicrhau gwelliannau sylweddol i'r rhwydwaith cefnffyrdd yng ngogledd Cymru. Fe ddywedoch chi y byddech yn darparu pont dros y Fenai—trydedd bont y Fenai—ond mae wedi'i gohirio. Fe ddywedoch chi y byddech yn cael gwared ar gylchfannau yn Llanfairfechan a Phenmaenmawr ar yr A55, ac mae'r prosiectau hynny wedi'u gohirio. Ac fe ddywedoch chi hefyd y byddech yn cyflawni'r addewid i fynd i'r afael â thagfeydd o amgylch Glannau Dyfrdwy, ond mae hynny wedi'i ohirio. Felly, mae'r rhain yn brosiectau mawr yr addawoch chi eu cyflawni ar gyfer pobl gogledd Cymru, ac maent bellach wedi'u rhewi o ganlyniad i'r penderfyniadau a wneir gan y Llywodraeth hon. Byddai pobl yng ngogledd Cymru yn disgwyl y byddech chi, fel Gweinidog gogledd Cymru, yn galw am ddatgloi'r prosiectau hyn a sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni. Ond onid y gwir, mae arnaf ofn, yw nad yw'r Llywodraeth Lafur hon yn malio am ogledd Cymru, ac mai dyna pam y mae prosiectau eraill yn mynd rhagddynt tra bo'r rhain wedi'u rhewi? Lesley Griffiths AC: Wel, mae Darren Millar yn gwybod nad yw hynny'n wir o gwbl. Rwy'n Aelod o ogledd-ddwyrain Cymru ac ni fyddwn byth yn caniatáu i hynny ddigwydd. Mae'r ffaith bod gennym Weinidog gogledd Cymru a hynny ers nifer sylweddol o flynyddoedd, gydag is-bwyllgor Cabinet ar gyfer gogledd Cymru, yn dangos hynny'n glir, felly peidiwch â chamarwain yn y ffordd honno. Rydych yn dweud eu bod wedi'u rhewi; nid ydynt wedi'u rhewi. Mae adolygiad ar y gweill ar hyn o bryd. Fel y dywedwch, gwnaed ymrwymiadau maniffesto. Llywodraeth bum mlynedd yw hon, rydym bum mis i mewn iddi, felly nid wyf yn credu y gallwch ddweud na fydd y pethau hyn yn digwydd. Mae proses adolygu ar y gweill, a phan fydd y broses adolygu wedi adrodd ac y cawn weld beth sy'n digwydd, efallai y cewch ddechrau gweiddi wedyn. Darren Millar AC: Ond o gofio eu bod yn ymrwymiad maniffesto, a'ch bod newydd awgrymu y byddant yn cael eu cyflawni o fewn pum mlynedd tymor y Llywodraeth Lafur, pam ar y ddaear y byddech yn eu rhewi yn y lle cyntaf? Y gwir amdani yw y dylent fod yn mynd rhagddynt, oherwydd rydych wedi rhoi ymrwymiad clir. Rwy'n derbyn yr hyn a ddywedwch, eich bod yn malio am ogledd-ddwyrain Cymru: mae hwnnw'n lle rydych wedi'i gynrychioli'n fedrus ers blynyddoedd lawer. Ond mae arnaf ofn nad yw llais gogledd Cymru o amgylch bwrdd y Cabinet i'w weld yn cael llawer iawn o ddylanwad, oherwydd os edrychwch ar gyflawniad y Llywodraeth hon yng ngogledd Cymru, ein gwasanaeth iechyd, y perfformiad damweiniau ac achosion brys gwaethaf o bob un o'r byrddau iechyd yw'r un sy'n gwasanaethu rhanbarth gogledd Cymru. Gennym ni y mae'r amseroedd aros hwyaf yng Nghymru gyfan—ymhlith y gwaethaf yn y Deyrnas Unedig gyfan mewn gwirionedd. Gwyddom fod awdurdodau lleol, ar gyfartaledd, yng ngogledd Cymru yn cael setliadau gwaeth na rhannau eraill o'r wlad, a gwyddom fod prosiectau ffyrdd yng ngogledd Cymru wedi'u rhewi tra bod prosiectau'n dal i fynd rhagddynt yn ne Cymru ac mewn rhannau eraill o'r wlad. Onid yw'r dystiolaeth honno'n dangos yn glir mai Llywodraeth yw hon nad yw'n blaenoriaethu gogledd Cymru mewn gwirionedd, fod yr ardal honno bob amser yn ail ar ei rhestr o flaenoriaethau, a'i bod yn bryd i'r Llywodraeth hon godi'r gwastad ar draws Cymru gyfan er mwyn inni gael rhywfaint o degwch i'n rhanbarth ni yn y gogledd? Lesley Griffiths AC: Wel, gallai fod ateb byr, a'r ateb byr yw 'na', ond rwyf am fod yn garedig a cheisio ymateb mewn ffordd llawer mwy cadarnhaol gyda chi. Rydych chi'n dewis a dethol. Fe gyfeirioch chi at awdurdodau lleol, er enghraifft. Fe wyddoch sut y caiff awdurdodau lleol eu hariannu—fe wyddoch hynny. Fformiwla yw hi. Rydym newydd glywed y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn esbonio i'r Aelodau nad oeddent, efallai, yn ymwybodol o'r ffordd y caiff awdurdodau lleol eu hariannu. Fformiwla yw hi. Fformiwla yw hi sy'n cael ei gwneud— Darren Millar AC: Mewn ffordd sy'n annheg i ogledd Cymru. Lesley Griffiths AC: Fformiwla yw hi sy'n cael ei gwneud gyda Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, a hyd nes y bydd awdurdodau lleol yn gofyn—. Ac rwyf wedi bod yn Weinidog llywodraeth leol ac ni chefais erioed gais i edrych ar y fformiwla, oherwydd fe wyddant, os oes gennych—[Torri ar draws.] Os oes gennych chi restr o 22 awdurdod lleol, bydd rhywun ar y brig a bydd rhywun ar y gwaelod, a pha fformiwla bynnag a ddefnyddiwch, bydd hynny'n digwydd. Bydd hynny'n digwydd. Felly, un peth yw dewis a dethol yr holl bethau hyn. Nawr, i fynd yn ôl at yr adolygiad ffyrdd, sef y cwestiwn a ofynnoch chi i mi yn y dechrau. Rydych yn sôn am 'rewi'. Nawr, rwy'n derbyn, ar hyn o bryd, fod adolygiad ffyrdd ar y gweill, felly mae'r pethau hyn wedi'u rhoi heibio am y tro—nid eu rhewi; maent wedi'u rhoi heibio am y tro. A phan gyhoeddir yr adolygiad ffyrdd gyda'r argymhellion—[Torri ar draws.] Gwn nad ydych erioed wedi bod mewn Llywodraeth yma. Mae ymrwymiad maniffesto yn ymrwymiad ar gyfer pum mlynedd; mae rhaglen lywodraethu yn para am bum mlynedd. Rydym bum mis i mewn i'r rhaglen lywodraethu honno; mae digon o amser i barhau i gyflawni dros ogledd Cymru. Llefarydd Plaid Cymru, Cefin Campbell. Cefin Campbell MS: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Bydd y Gweinidogyn ymwybodol bod hon yn Wythnos Wlân, a llynedd, cododd fy nghyd-Aelod Llyr Gruffydd pryderon gyda chi am gyflwr y farchnad wlân yng Nghymru. O ganlyniad i'r pandemig, roedd y cwymp yn y farchnad wlân yn golygu bod ffermwyr yn talu rhyw £1 am gneifio dafad a dim ond cael rhyw 19c neu 20c yn ôl am bob rholyn o wlân ar gyfartaledd. Diolch byth, mae prisiau gwlân wedi codi rhywfaint bach ers hynny, ond mae'n bell o fod yn ddigonol. Mae'n amlwg felly bod angen meddwl am ddulliau gwahanol o ddefnyddio gwlân er mwyn helpu'r diwydiant. Ac mae gwlân, fel mae pawb yn gwybod, yn cael ei ddefnyddio ers tro byd fel insiwleiddydd effeithiol iawn. Yng ngoleuni'r sylw cynyddol sy'n cael ei rhoi i newid hinsawdd a gwella'r amgylchedd, mae rhinweddau hyn yn dod yn fwyfwy pwysig i adeiladwyr a phrynwyr cartrefi. Felly, ydych chi'n fodlon rhoi ystyriaeth i gefnogi'r diwydiant gwlân yng Nghymru a defnyddio gwlân i insiwleiddio'r tai y mae'r Llywodraeth yn bwriadu eu codi, gan gynnwys y cynllun retroffitio? Diolch yn fawr. Lesley Griffiths AC: Rydych yn gwneud pwyntiau cymwys iawn ynghylch pris gwlân. Rwy'n ceisio meddwl—rwy'n credu mai ar ddiwedd tymor y Llywodraeth ddiwethaf y gwelsom y prisiau gwlân yn gostwng o ddifrif a chefais gyfarfodydd gydag awdurdod gwlân Prydain i geisio gweld beth y gallem ei wneud i helpu Cymru. Cyflwynais sylwadau i Lywodraeth y DU gyda gweinidogion cyfatebol o'r Alban. Yn sicr, gwn fod y Gweinidog Newid Hinsawdd, sy'n amlwg yn gyfrifol am dai ac am ôl-osod wedi cael trafodaethau am hyn, oherwydd, fel y dywedwch, mae gwlân yn ddeunydd inswleiddio da iawn. Felly, os yw honno'n un ffordd y gallwn barhau i helpu i gefnogi gwlân Cymru, byddwn yn sicr yn ystyried gwneud hynny. Nid wyf yn siŵr pa mor bell y mae'r Gweinidog wedi mynd gyda'i thrafodaethau, ond gwn ei bod wedi cael trafodaethau cychwynnol ynglŷn â hyn. Cefin Campbell MS: Diolch yn fawr iawn. Mae'r clafr, neu'r sgab, yn fater pwysig iawn, eto yn ymwneud â defaid ym maes llesiant anifeiliaid yn arbennig, ac yn fater sydd efallai ddim wedi derbyn ffocws digonol dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'n broblem sydd yn helaeth ac yn cynyddu, yn anffodus. Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi ei fod yn clustnodi rhyw £5 miliwn i helpu cael gwared ar y clafr nôl ar ddechrau 2019. Yna, er mawr siom ym mis Tachwedd y llynedd, fe gyhoeddwyd y byddai'r £5 miliwn yn cael ei ddargyfeirio i gefnogi cynlluniau COVID. Mae'r sector amaeth nawr yn awyddus iawn bod Llywodraeth Cymru yn adfer y £5 miliwn yma i'r ymdrechion i waredu'r clafr, ac yn gwireddu eu hymrwymiad a'r addewid a wnaethoch chi i'r diwydiant. Mae yna arian, fel rŷch chi'n gwybod, dros ben yn y cynllun datblygu gwledig, ac ym marn Plaid Cymru, dylai'r Llywodraeth ddyrannu £5 miliwn o'r cynllun hwnnw i helpu'r diwydiant i waredu'r clafr. Felly, ydy'r Gweinidog yn fodlon ymrwymo i gadw at ei haddewid gwreiddiol er mwyn taclo'r her bwysig hon? Lesley Griffiths AC: Rwy'n cytuno'n llwyr; mae'r clafr yn glefyd cymhleth ac anodd iawn. Nid wyf yn credu mai cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yn unig ydyw; rwy'n credu ei fod yn fater i'r diwydiant gyda'i gilydd. Yn sicr, buom yn gweithio gyda'n gilydd i wneud hynny. Yn anffodus, oherwydd penderfyniadau y bu'n rhaid i mi eu gwneud am y gyllideb mewn perthynas â COVID, ni fu modd imi gyflwyno'r cyllid hwnnw, ond yn sicr rwy'n cael trafodaethau yn awr am gam nesaf y cynllun datblygu gwledig, ac yn sicr gallaf eich sicrhau chi a'r diwydiant y bydd cyllid i helpu i ddileu'r clafr yn uchel iawn ar fy rhestr o flaenoriaethau. Cefin Campbell MS: Diolch yn fawr iawn. A'r cwestiwn olaf: bydd Aelodau'n ymwybodol bod y penwythnos diwethaf, wrth gwrs, wedi cael ei ddynodi'n Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd. Yn ôl eu natur, mae cymunedau gwledig yn rhai diarffordd ac ynysig iawn, ac oherwydd y diffyg cyfleoedd i bobl i gwrdd â phobl eraill o ddydd i ddydd, mae teuluoedd yn aml yn gallu dioddef ynysu cymdeithasol gyda phroblemau iechyd meddwl yn gallu deillio o hyn. Yn anffodus, mae 84 y cant o ffermwyr o dan 40 oed yn dweud mai materion iechyd meddwl yw'r her anweledig fwyaf i ffermio yng Nghymru. Mae adroddiad a gomisiynwyd gan Gronfa Cefn Gwlad Tywysog Cymru wedi amlinellu sut y gall martau sicrhau dyfodol mwy llewyrchus i ffermwyr a'r cymunedau gwledig fel mannau mae pobl yn gallu mynd iddyn nhw i gymdeithasu. Felly, a allai'r Gweinidogamlinellu pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd nid yn unig i helpu i gefnogi iechyd meddwl ffermwyr, ond hefyd i helpu i gefnogi'r rôl economaidd mae canolfannau cymunedol fel martau yn eu chwarae i ddarparu manteision cymdeithasol pwysig? Lesley Griffiths AC: Diolch. Credaf mai dyna'r cwestiwn pwysicaf o'ch tri chwestiwn, ac mae'n rhywbeth rwyf bob amser wedi bod â diddordeb mawr ac arbennig ynddo ers i mi ymgymryd â'r portffolio hwn. Oherwydd, er bod y sector amaethyddol a chymunedau ffermio yn rhai o'r grwpiau mwyaf agos y cyfarfûm â hwy erioed, gallwch deimlo braidd yn ynysig weithiau wrth fodar fferm. Yn enwedig yn ystod y pandemig, credaf fod hynny'n sicr wedi'i amlygu. Felly, rwyf wedi rhoi cyllid sylweddol i elusennau iechyd meddwl amaethyddol. Fe ofynnoch chi ar y diwedd am farchnadoedd, er enghraifft, ac un o'r pethau yw'r cyllid y gallasom ei ddyrannu i Sefydliad DPJ. Rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol o'r elusen honno. Fe wnaethant edrych ar sut y gallent hyfforddi pobl eraill i adnabod symptomau o broblemau iechyd meddwl mewn mannau fel marchnadoedd ffermwyr, lle na fyddech yn meddwl efallai, pe baech yn ffermwr â phryderon, y gallech gael eich cyfeirio at y lle mwyaf priodol. Felly, mae hwnnw'n faes y buom yn gweithio arno. Hefyd, lansiwyd FarmWell gennym yn ystod pandemig COVID-19, a oedd fel siop un stop, lle byddech yn cael gwybod, pe baech yn cysylltu â hwy, ble i fynd ymlaen wedyn i gael rhagor o gymorth. Rwy'n cyfarfod yn eithaf rheolaidd â'r holl elusennau amaethyddol, ac maent hwy, rwy'n credu, pob un ohonynt—cyfarfûm â thua hanner dwsin ohonynt yn rheolaidd dros y 18 mis diwethaf—wedi dweud bod yr atgyfeiriadau atynt wedi cynyddu yn ystod y pandemig. Felly, mae'n rhywbeth rwy'n cadw llygad barcud arno, ac os oes unrhyw beth arall y gallaf ei wneud i helpu, rwy'n sicr yn hapus i wneud hynny. Mae cwestiwn 3 wedi'i dynnu yn ôl. Felly, cwestiwn 4, Siân Gwenllian. Ni ofynnwyd cwestiwn 3 [OQ57022]. Pysgota Anghyfreithlon Siân Gwenllian AC: 4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fesurau i daclo pysgota anghyfreithlon? OQ57024 Lesley Griffiths AC: Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn monitro, a lle bo angen, yn gorfodi cydymffurfiaeth â rheoliadau pysgodfeydd drwy amrywiaeth o weithgareddau sicrhau ansawdd ac arolygu. Mae'r rhain yn cynnwys patrolau, gwyliadwriaeth ac arolygiadau ar y tir ac ar y môr, ac rydym hefyd yn cymryd camau cyfreithiol priodol a chymesur. Siân Gwenllian AC: Mae cymdeithas o bysgotwyr lleol wedi cysylltu efo mi ynghylch potsio honedig sy'n digwydd, a diffyg gorfodi deddfau pysgota. Yr honiad ydy bod yna ostyngiad sylweddol yn nhimau gorfodi Cyfoeth Naturiol Cymru, gan adael tîm o ddim ond 15 i wneud y gwaith yma ar hyd a lled Cymru. Mae'r gymdeithas pysgotwyr yn teimlo bod hyn yn annigonol ar gyfer diogelu ein pysgodfeydd, ac yn adrodd bod potswyr yn manteisio ar hyn, ac yn achosi niwed mawr i'r stociau pysgod ac i hyfywedd y dyfrffyrdd i'r dyfodol. Pa gamau penodol ydych chi am eu cymryd i wella'r sefyllfa yma? Lesley Griffiths AC: Rydym yn sicr wedi cynyddu nifer y swyddogion gorfodi morol sydd gennym fel Llywodraeth, ac yng ngogledd Cymru, mae wedi cynyddu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf hefyd. Mae nifer yr arolygiadau ar y tir wedi cynyddu'n sylweddol. Eleni yn unig, hyd at ganol mis Hydref, yn amlwg, rydym wedi cael 350 o arolygiadau ar y tir, ac mae hynny'n cymharu â 310 yn 2020. Felly, rydym yn gweld llawer mwy o waith arolygu. Rwy'n bryderus iawn o glywed am y pryder penodol a godwyd gennych, ac os ydych chi eisiau ysgrifennu ataf, byddaf yn gofyn i hynny gael ei wneud yn benodol. Ond fel y dywedaf, mae lefel yr arolygiadau wedi cynyddu'n sylweddol, a chan ein bod yn cyflwyno recriwtiaid newydd, oherwydd rydym yn parhau i recriwtio swyddogion gorfodi, byddwn yn gobeithio gweld gweithgarwch yn cael ei fonitro'n llawer agosach, a bod gorfodi'n digwydd hefyd yn amlwg. Joel James MS: Fel y gŵyr y Gweinidog, er gwaethaf pob ymdrech i atal a rhwystro pysgota anghyfreithlon, mae rhai pobl yn dal i fod yn benderfynol o dorri'r gyfraith a gorgynaeafu ein moroedd yn anghyfreithlon er budd masnachol iddynt hwy. Mae hyn, yn anffodus, yn cael effaith ganlyniadol enfawr, gyda stociau pysgod yn lleihau, bywoliaeth pysgotwyr sy'n cadw at y gyfraith yn cael eu heffeithio, a phoblogaeth rhywogaethau pysgod sydd eisoes mewn perygl yn dirywio ymhellach. Fel y gŵyr llawer yn y Siambr hon, mae Brexit wedi arwain at fwy na geiriau tanbaid ynghylch pysgota gan wledydd Ewrop yn nyfroedd tiriogaethol Prydain, a mater cyfredol sy'n dod i'r amlwg yw bod llongau pysgota yn diffodd eu systemau adnabod awtomatig a'u dyfeisiau adnabod a thracio o bell er mwyn iddynt allu pysgota mewn dyfroedd heb gael eu canfod. Nid oes gennyf fawr o amheuaeth fod dyfroedd Cymru yn debygol o gael eu targedu gan yr ymddygiad hwn, felly a allai'r Gweinidog wneud datganiad am y sgyrsiau y maent hwy a'u cyd-weinidogion wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch yr arfer hwn, a pha fesurau y gallant eu rhoi ar waith i'w atal? Lesley Griffiths AC: Mae hwn yn amlwg yn rhywbeth a drafodais droeon gydag Ysgrifennydd Gwladol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a chyda Llywodraeth y DU yn gyffredinol, yn sicr pan oeddem yn nesáu at gyfnod pontio'r UE. Weithiau, ateb Llywodraeth y DU oedd, 'Fe anfonwn y llynges i mewn', ac nid wyf yn credu mai dyna oedd yr ateb o gwbl. Ond mae unrhyw bysgota anghyfreithlon yn annerbyniol. Yr hyn a wnaethom fel Llywodraeth, oherwydd dyna oedd ail ran eich cwestiwn, oedd sicrhau bod gennym longau patrolio pysgota newydd, oherwydd, yn sicr pan ymgymerais â'r portffolio hwn bum mlynedd yn ôl, nid oedd y llongau a oedd gennym bryd hynny yn addas i'r diben. Felly, fe fyddwch yn ymwybodol fod gennym longau gorfodi pysgota newydd, ac mae hynny'n sicr wedi helpu yn fy marn i. Ond mae unrhyw bysgota anghyfreithlon yn annerbyniol. Rwy'n cyfarfod â Gweinidog DEFRA a fy nghymheiriaid yn yr Alban a Gogledd Iwerddon eto, rwy'n credu, ddiwedd y mis hwn, ac yn sicr, mae pysgota bob amser ar yr agenda. Llygredd Afonydd sy'n Deillio o Amaethyddiaeth Mike Hedges AC: 5. Pa fesurau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cyflwyno i fynd i'r afael â llygredd afonydd sy'n deillio o amaethyddiaeth? OQ56990 Lesley Griffiths AC: Mae llygredd o unrhyw fath yn effeithio ar bob un ohonom ac mae'n rhaid inni fynd i'r afael ag ef er budd ein hamgylchedd a'n cymunedau. Ar 27 Ionawr eleni, cyflwynais Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021, a daeth mesurau cychwynnol i rym ar 1 Ebrill. Mike Hedges AC: A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw? Er bod y ddadl gyhoeddus fawr yr wythnos ddiwethaf yn ymwneud â diogelwch rhag COVID, cefais fwy o e-byst am lygredd Afon Gwy nag unrhyw beth arall. Rwyf hefyd yn ymwybodol o afonydd eraill sydd wedi'u llygru o ganlyniad i ddŵr ffo amaethyddol. Mae pobl hefyd yn pryderu am ddŵr ffo o ffermydd ieir a nitrogen a chemegau eraill sy'n mynd i mewn i'r afon. A allwn ddisgwyl gweld gwelliant yn ansawdd afonydd yn y dyfodol agos? Oherwydd, o'r hyn rwy'n ei glywed gan bobl am Afon Gwy, mae mewn cyflwr bregus iawn ar hyn o bryd, ac rwy'n siŵr y bydd afonydd eraill yn yr un sefyllfa yn union yn weddol fuan. Mae angen inni ddiogelu ein hafonydd, ac mae angen gwneud beth bynnag sydd ei angen i ddiogelu ein hafonydd. Lesley Griffiths AC: Rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod, ac mae gennym bryderon ynghylch Afon Gwy ar hyn o bryd. Rydych yn gofyn a fyddwn yn gweld gwelliant yn ein hafonydd. Rwyf eisiau gweld gwelliant ar y raddfa a welsom gyda'n dyfroedd ymdrochi, er enghraifft, lle rydym wedi gwneud cynnydd enfawr. Byddaf yn sicr eisiau gweld hynny gyda'r afonydd. Rwy'n gweithio'n agos gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd, oherwydd yn sicr mae gan atal llygredd o ffermio dofednod rôl i'w chwarae, fel y dywedoch chi. Ac yn amlwg, mae awdurdodau cynllunio yn gorfod ystyried effeithiau amgylcheddol unrhyw gynigion cynllunio ar gyfer unedau dofednod newydd, felly dyna pam y bûm yn gweithio gyda'r Gweinidog mewn perthynas â chynllunio, oherwydd gwelsom nifer cynyddol, yn sicr yn nifer y ffermydd dofednod a'r ceisiadau hefyd. Felly, mae angen i ni sicrhau nad yw'r effaith gronnol yn arwain at ganlyniadau andwyol. Peter Fox AS: Diolch am ateb cwestiwn Mike, Weinidog; mae'n ddefnyddiol iawn. Mae'r sefyllfa gyda rhai o'n hafonydd ledled Cymru yn peri pryder mawr, ac rydym yn rhannu'r pryder hwnnw. Mae angen ymdrech ar y cyd ar frys i fynd i'r afael â'r lefelau llygredd a welir ar hyn o bryd. Serch hynny, rwy'n siŵr y byddech yn cytuno, Weinidog, nad yw llygredd afonydd i gyd yn deillio o amaethyddiaeth, fel y gwelsom yn Afon Wysg, lle mae carthion crai yn cael eu gollwng i'r afon yn rheolaidd, hyd yn oed pan fo'n ymddangos nad oes cyfnodau sylweddol o law wedi bod. Mae cannoedd ar gannoedd o bobl leol yn pryderu'n fawr am hynny. Gwn y byddwch chi hefyd, ac rwyf wedi rhoi tystiolaeth o hynny i chi. Weinidog, a fyddech yn cytuno bod y rhan fwyaf o ffermwyr yn malio am yr amgylchedd ac yn gwneud y pethau iawn? Ac a fyddech yn cytuno o'r diwedd fod angen i'n rheoleiddwyr, Cyfoeth Naturiol Cymru, gamu i'r adwy ac ymdrin ag unrhyw un neu unrhyw gorff sy'n torri'r rheolau, ac mae hynny'n cynnwys cwmnïau dŵr? Mae'r hyn a welwn ar hyn o bryd yn gwbl annerbyniol, yn sicr mewn perthynas ag Afon Wysg. Lesley Griffiths AC: Rwy'n sicr yn cytuno â'r ddau ddatganiad a wnaethoch. Ni fyddwn byth yn dweud bod yr holl lygredd yn cael ei achosi gan arferion amaethyddol. Daw llygredd o sawl ffynhonnell, a byddwn yn dweud bod y rhan fwyaf o ffermwyr yn sicr yn malio am yr amgylchedd. Fodd bynnag, rydym yn gweld lefelau annerbyniol o lygredd amaethyddol—a chyfeiriais at y rheoliadau a ddaeth i rym yn gynharach eleni. Mewn perthynas â'ch pwynt arall, ynglŷn â ffynonellau eraill o lygredd, yn amlwg, os nad yw cwmnïau dŵr yn cydymffurfio ag amodau eu trwydded, neu os ydynt yn gweithredu heb drwydded—ac fe fyddwch yn ymwybodol fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi trwyddedau ar gyfer gorlif storm, er enghraifft—bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymchwilio, a lle bo'n briodol, byddant yn rhoi camau gorfodi ar waith. Felly, rydych yn llygad eich lle—mae'n bwysig fod ein rheoleiddwyr yn chwarae eu rhan hefyd. Jane Dodds AS: Prynhawn da, Weinidog. Yn dilyn cwestiwn fy nghyd-Aelod ynghylch Afon Gwy, gan fy mod yn byw ar Afon Gwy, yn y Gelli Gandryll, mae pobl yn dwyn cwestiynau a phroblemau ychwanegol i fy sylw ar y mater hwn. Mae'n bryder byw iawn. Mae Afon Gwy, fel afonydd eraill, yn llifo drwy Gymru a Lloegr, felly mae yma gymhlethdod ynglŷn â sut y gweithiwn ar draws ffiniau. Yr wythnos hon, roedd papur newydd The Times yn cynnwys cyfaddefiad, am y tro cyntaf, gan gyflenwr cyw iâr mawr, Avara Foods, a oedd yn dweud bod y defnydd o ffermydd ieir yn cyfrannu at y llygredd yn nalgylch Afon Gwy. Ac ar ôl cyfarfod â sefydliadau yn lleol ac yn genedlaethol sy'n pryderu am y llygredd yn Afon Gwy, gan gynnwys—mae'n bwysig iawn dweud hyn—cynrychiolwyr o undebau ffermio, sydd eu hunain yn bryderus tu hwnt ac yn ymrwymedig iawn i fynd i'r afael â llygredd afonydd, hoffwn ofyn i chi, Weinidog, sut y bwriadwch weithio, fel y mae fy nghyd-Aelod wedi'i grybwyll, i gryfhau gallu Cyfoeth Naturiol Cymru, a'u rôl weithredol gyda Natural England, er mwyn sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â llygredd afonydd gyda'r gyllideb a'r adnoddau priodol i gyflawni cynllun gweithredu clir. A tybed a gaf fi ofyn i chi gyfarfod â mi—ac eraill hefyd efallai—i drafod y gwaith o gryfhau Cyfoeth Naturiol Cymru. Diolch yn fawr iawn. Lesley Griffiths AC: Mewn perthynas â'r cwestiwn olaf, ynghylch cyfarfod â chi i drafod Cyfoeth Naturiol Cymru, mae hynny mewn gwirionedd yn rhan o bortffolio'r Gweinidog Newid Hinsawdd—hi sy'n gyfrifol am Cyfoeth Naturiol Cymru. Felly, byddwn yn awgrymu eich bod yn ysgrifennu ati i ofyn ynglŷn â'r rhan benodol honno o'ch cwestiwn. O ran y ffermydd dofednod a'r llygredd o amgylch Afon Gwy, fel y dywedais, mae gan atal llygredd o ffermydd dofednod rôl enfawr i'w chwarae yn ansawdd ein hafonydd. Ac mae'n bwysig fod trothwy'r caniatâd cynllunio, er enghraifft, yn gywir. Felly, ar hyn o bryd, y trothwy yw, os oes gennych—rwyf wedi anghofio beth yw'r ffigur—hyn a hyn o ieir, nid oes raid i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio, ac mae hynny'n sicr yn peri pryder i mi. Ac mae hynny'n rhan o'r trafodaethau rwy'n eu cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd, sydd â chyfrifoldeb am gynllunio hefyd, fel y gwyddoch. Mae'r rheoliadau sydd gennym ar hyn o bryd, a ddaeth i rym yn 2016, yn dweud bod angen i unedau dofednod dwys gael trwydded i weithredu, ac mae hynny'n cynnwys mesurau i ddiogelu'r amgylchedd. Os oes angen inni gryfhau'r rheoliadau, rwy'n credu bod angen inni edrych yn fanwl iawn ar wneud hynny, ond fel y dywedaf, mae hynny'n rhan o'r trafodaethau rwy'n eu cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd. Cyfreithiau Bridio Cŵn Tom Giffard AS: 6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am adolygiad Llywodraeth Cymru o gyfreithiau bridio cŵn? OQ57000 Lesley Griffiths AC: Diolch. Cyhoeddwyd ymateb y Llywodraeth i'r adolygiad ar 4 Mawrth 2020. Er mwyn ateb yr argymhellion, mae swyddogion yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol i fynd i'r afael â rhwystrau i orfodi, gwell hyfforddiant, gwell canllawiau a gwell defnydd o adnoddau o fewn awdurdodau lleol, fel rhan o brosiect tair blynedd a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Tom Giffard AS: A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am yr ateb, ac mewn gwirionedd rwy'n croesawu rhai o'r argymhellion y soniwch amdanynt ac y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gweithredu? Fodd bynnag, un o'r argymhellion nad yw wedi'i weithredu eto oedd system achrededig neu system wedi'i graddio ar gyfer bridwyr cŵn, a ddisgrifiwyd fel, 'system ar gyfer rhoi sgôr i sefydliadau bridio sy’n seiliedig ar yr archwiliadau trwyddedu presennol'. I mi, nid yw hyn yn gymhleth. Byddai'n rhoi hyder mawr ei angen i'r rhai sy'n dymuno prynu cŵn ac yn gwella enw da'r rhai sy'n dilyn y rheolau. Byddai'n sicrhau bod cŵn bach yn iach ac yn cael gofal cyn iddynt fynd at eu perchnogion newydd. Felly, gyda hyn mewn golwg, pa ystyriaeth bellach y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i'r argymhelliad hwn i ddiogelu cŵn, yn ogystal â'u bridwyr a chwsmeriaid hefyd, drwy gyflwyno system sgorio ar gyfer sefydliadau bridio? Lesley Griffiths AC: Diolch. Mae'n rhywbeth rwy'n ei ystyried ar hyn o bryd fel rhan o'r cynllun lles anifeiliaid. Felly, rwyf wedi gofyn i swyddogion—y prif swyddog milfeddygol a'i swyddogion—i edrych ar gynllun lles anifeiliaid pum mlynedd i Gymru fel y gallwn adeiladu ar y cynnydd a wnaethom ar les anifeiliaid, yn sicr dros yr 16 mlynedd diwethaf, a fy mwriad yw cyflwyno cynllun lles anifeiliaid yn nes ymlaen eleni a fydd yn edrych ar yr hyn y dylem ei wneud dros bum mlynedd nesaf y Llywodraeth hon. Mae hyn yn sicr yn rhywbeth rwy'n ei ystyried yn rhan o hynny. Credaf fod ystod eang o bolisïau y mae angen inni eu cyflwyno, nid yn unig mewn perthynas â chŵn, ond os ydym am gynnal y momentwm sydd gennym, oherwydd credaf fod gennym safonau lles anifeiliaid uchel iawn yng Nghymru, rwy'n credu bod angen inni edrych ar y momentwm hwnnw i ddiwygio, ac yn sicr bydd y cynllun yn gwneud hynny. Gwarchodfeydd Anifeiliaid Peredur Owen Griffiths AS: 7. Sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau bod gwarchodfeydd anifeiliaid yn cymryd camau digonol i fodloni safonau lles? OQ57014 Lesley Griffiths AC: Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda grŵp Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru, a gyhoeddodd eu cod ymarfer gwirfoddol ar gyfer gwarchodfeydd neu sefydliadau lles anifeiliaid yn 2020. Bydd ystyriaeth bellach ar reoleiddio sefydliadau lles anifeiliaid yn well, sy'n cynnwys gwarchodfeydd, yn cael ei rhoi drwy ymrwymiadau'r rhaglen lywodraethu a'r cynllun lles anifeiliaid arfaethedig i Gymru yr wyf newydd gyfeirio ato. Peredur Owen Griffiths AS: Diolch, Weinidog. Mae gennym rai gwarchodfeydd anhygoel yma yng Nghymru sy'n gwneud gwaith hanfodol i achub anifeiliaid sydd wedi cael eu gadael neu eu hanafu. Mae'r mwyafrif llethol o warchodfeydd a chanolfannau achub yn fodelau o arfer da. Fodd bynnag, nid oes unrhyw reoleiddio arnynt. Gall unrhyw un eu sefydlu, ni waeth a oes ganddynt brofiad a gwybodaeth ai peidio. Barn yr RSPCA, un o'r awdurdodau mwyaf blaenllaw ar les anifeiliaid, yw ei bod yn hen bryd rheoleiddio canolfannau achub a gwarchodfeydd yng Nghymru i ddangos bod anifeiliaid yn cael eu diogelu fel y maent ei angen. Byddai'r ddeddfwriaeth hefyd yn sicrhau bod canolfannau achub a gwarchodfeydd sefydledig sy'n fodelau o arfer da yn cael eu diogelu yn hytrach na chael llychwino gan sefydliadau amheus. A ydych chi'n ymchwilio i'r ddeddfwriaeth hon ac os felly, pryd y byddai'n dod yn weithredol? Lesley Griffiths AC: Diolch. Rydych yn llygad eich lle—maent yn chwarae rhan amhrisiadwy mewn gwasanaethau lles anifeiliaid, ac yn anffodus, ceir adegau pan fo pethau wedi mynd o chwith, ac yn sicr, ers imi fod yn Weinidog, cafodd un neu ddau o faterion eu dwyn i fy sylw, ond mae'r rhan fwyaf ohonynt, fel y dywedwch, yn fodelau o arfer da. Soniais am y cod ymarfer yn fy ateb i chi, ac rwy'n ymwybodol fod y grŵp a weithiodd gyda ni ar hynny yn awyddus i gyflwyno mesurau statudol. Byddent yn hoffi gweld rheoleiddio statudol neu ryw fath o system drwyddedu yn dod i rym. Unwaith eto, mae'n rhywbeth rwy'n ei ystyried o fewn y cynllun lles anifeiliaid y byddaf yn ei gyhoeddi yn nes ymlaen eleni. Sam Rowlands MS: Rwy'n siŵr fod pob plaid ar draws y Siambr yn cefnogi camau i sicrhau bod safonau lles anifeiliaid yn cael eu cyrraedd, ac rwyf bob amser yn hapus i ddatgan buddiant fel perchennog daeargi Glen of Imaal hyfryd sy'n ddwy oed. Mae'n bwysig iawn fod gennym y safonau lles anifeiliaid cywir ar waith. Byddwn yn sicr yn adleisio'r geiriau a grybwyllwyd o ran y rôl hanfodol y mae gwarchodfeydd anifeiliaid yn ei chwarae yn gofalu am anifeiliaid a rhoi amgylchedd diogel iddynt fyw ynddo am gyfnod. Serch hynny, Weinidog, gwyddom mai swyddogion cynghorau lleol sy'n gwneud llawer o'r gwaith o sicrhau cydymffurfiaeth â'r rheoliadau, a phan roddir mwy o reoliadau ar waith, mae hynny'n gwasgu ar gyllidebau sydd eisoes dan bwysau o fewn yr awdurdodau lleol i gynnal y gwaith o orfodi'r rheoliadau hynny. Felly, Weinidog, pa drafodaethau rydych yn eu cael gydag awdurdodau lleol i ddeall beth yw'r pwysau cyfredol ar y gyllideb i orfodi'r rheoliadau presennol, a pha drafodaethau rydych yn eu cael gyda hwy i ddeall beth allai'r pwysau fod yn y dyfodol gyda rheoliadau pellach hefyd? Lesley Griffiths AC: Soniais yn fy ateb blaenorol i Tom Giffard fod Llywodraeth Cymru wedi ariannu prosiect gydag awdurdodau lleol. Mae'n brosiect tair blynedd a ddechreuwyd gennym fel rhan o'n gwaith ar gyflwyno deddfwriaeth mewn perthynas â gwahardd gwerthu cŵn a chathod gan drydydd parti, a gyflwynais ychydig wythnosau yn ôl. Felly, rydym wedi ariannu'r prosiect hwnnw, gan weithio gydag awdurdodau lleol, i weld beth oedd y rhwystrau, oherwydd nid wyf yn credu bod angen deddfwriaeth bob amser. Roeddem yn sicr eisiau gweld beth oedd y rhwystrau hynny, ac roedd cyllid yn amlwg yn rhwystr, felly fe wnaethom ariannu'r prosiect, ac rwy'n credu bod hynny wedi helpu swyddogion gorfodi awdurdodau lleol i ddilyn y canllawiau statudol diweddaraf, er enghraifft. Maent wedi cael hyfforddiant ychwanegol ac mae'n rhaid i mi ddweud, maent wedi bod yn bartneriaid da iawn wrth gyflwyno'r canllawiau hyn. Polisi Iawndal Twbercwlosis Janet Finch-Saunders AC: 8. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith polisi iawndal TB Llywodraeth Cymru ar ffermwyr? OQ57019 Lesley Griffiths AC: Mae ffermwyr Cymru yn cael gwerth llawn yr anifail ar y farchnad am wartheg sy'n cael eu difa o dan y rhaglen i ddileu TB. Byddaf yn gwneud datganiad ar lafar fis nesaf ynghylch y diweddariad o'r rhaglen i ddileu TB yng Nghymru. Bydd trefniadau ar gyfer talu iawndal TB i ffermwyr yn rhan o'r datganiad hwnnw. Janet Finch-Saunders AC: Diolch. Lladdwyd 2,990 o wartheg yn ail chwarter eleni, gan gynyddu nifer yr anifeiliaid a laddwyd oherwydd TB buchol i 6,175. Nawr, drwy helpu un o fy etholwyr a oedd yn cael trafferth gydag achos o bTB, fe ysgrifennochchi ataf i ddweud, ac rwy'n dyfynnu, nad oes raid i'r ffermwr gytuno ar brisiadau ac na ellir apelio yn erbyn gwerth yr anifail ar y farchnad. Mae nodiadau canllaw Llywodraeth Cymru ar dalu iawndal TB yn datgan, 'Fel arfer, telir iawndal sy'n seiliedig ar werth yr anifail ar y farchnad ar gyfer anifail sy’n cael ei ladd oherwydd TB.' Yr hyn sy'n annheg, serch hynny, yw bod y cap ar iawndal yn £5,000, oherwydd mae gan y ffermwr penodol hwn anifeiliaid sy'n werth llawer mwy na o filoedd na phump. Mae'n eu harddangos hefyd, welwch chi. Felly, gallai tarw pedigri fod yn werth ymhell dros £5,000 yn hawdd. Felly, Weinidog, a wnewch chi edrych ar y cap eto ac ymestyn yr hawl i ganiatáu i ffermwyr apelio a herio'r pris a roddir iddynt? Maent eisoes mewn gofid mawr ar adeg y lladd, ond gadewch inni sicrhau eu bod yn cael iawndal cywir a chyfartal. Diolch. Lesley Griffiths AC: Diolch, ac rwy'n ymwybodol eich bod wedi ysgrifennu ataf eto yr wythnos ddiwethaf, am yr un ffermwr rwy'n credu. Byddaf yn sicrhau eich bod yn cael ateb erbyn yr wythnos nesaf. Telir iawndal i berchnogion anifeiliaid, fel y gwyddoch, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn ymdrechu i sicrhau bod y polisi talu yn deg, nid yn unig i berchennog yr anifail, neu i'r ffermwr yn yr achos hwn, ond hefyd i'r trethdalwr gan mai arian cyhoeddus ydyw wrth gwrs. Ac rwy'n gwybod, mae'n anochel, onid yw, y bydd yna adegau pan nad yw'r perchennog yn fodlon â'r prisiad. Ond mae'n rhaid i mi ddweud mai prin yw'r cwynion. Rydym yn bwriadu ymgynghori ar newid y ffordd y telir iawndal, ac fel rhan o fy natganiad llafar, ac o edrych ar y diweddariad o'r rhaglen i ddileu TB, rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth y dylem edrych arno yn sicr. Rwy'n credu mai dyma'r adeg briodol i adolygu'r trefniadau hynny. Er mwyn sefydlu gwerth yr anifail ar y farchnad, dylwn ddweud bod yn rhaid i brisiwr profiadol wedi'i hyfforddi'n llawn benderfynu, drwy brisio'r anifail dan sylw ar y fferm, pa bris y gellid ei gael am yr anifail pe bai ar werth ar y farchnad agored a phe na bai wedi dod i gysylltiad â TB neu wedi'i effeithio gan TB. Fe sonioch chi am y cap iawndal ar £5,000 ar gyfer anifeiliaid o werth uchel, a chyflwynais hwn y tro diwethaf i ni ddiweddaru'r rhaglen i ddileu TB. A'r cyngor bryd hynny oedd, os oes gennych wartheg—ac fe gyfeirioch chi at y ffaith bod eich etholwr yn arddangos ei wartheg—efallai y byddai'n well edrych ar yswiriant felly, oherwydd, yn amlwg, £5,000 yw'r cap. Gwasanaethau Brys yng Ngogledd Cymru Gareth Davies AS: 9. Pa ystyriaeth y mae pwyllgor Cabinet gogledd Cymru wedi'i rhoi i ddarparu gwasanaethau brys yng gogledd Cymru? OQ57011 Lesley Griffiths AC: Mae pwyllgor y Cabinet ar ogledd Cymru yn trafod ystod eang o bynciau pwysig. Roedd y cyfarfod cyntaf yn nhymor y Senedd hon yn cynnwys trafodaeth ar y pwysau a wynebir gan bartneriaid iechyd a gofal cymdeithasol, yn cynnwys prif weithredwr y bwrdd iechyd, prif weithredwr GIG Cymru a phob arweinydd awdurdod lleol. Gareth Davies AS: Diolch yn fawr am yr ateb hwnnw, Weinidog, ond mae gennyf bryderon sy'n ymestyn y tu hwnt i'r argyfwng presennol mewn perthynas ag amseroedd ymateb ambiwlansys. Yr wythnos ddiwethaf, cafwyd ymosodiad llosgi bwriadol yng Nghlwb Pêl-droed y Rhyl ar yr un pryd ag y cafwyd tân mewn gwesty ym Mhrestatyn. Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu bod dan bwysau wrth orfod ymdrin â'r ddau ddigwyddiad yn fy etholaeth. Mae'n gas gennyf feddwl beth fyddai wedi digwydd pe bai damwain ddifrifol neu dân mewn tŷ yn rhywle arall yn Nyffryn Clwyd y diwrnod hwnnw. Weinidog, pa gamau y bydd pwyllgor y Cabinet ar ogledd Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod digon o wasanaethau tân ac achub yn cael eu darparu ar gyfer gogledd Cymru, a fy etholaeth i'n benodol? Lesley Griffiths AC: Wel, nid wyf yn credu y byddai hwnnw'n benderfyniad i is-bwyllgor y Cabinet ar ogledd Cymru. Yn amlwg, mae'n rhaid i ddarpariaeth y gwasanaethau brys ar draws gogledd Cymru fod yn briodol bob amser. Rydych newydd sôn am ddau ddigwyddiad arwyddocaol a ddigwyddodd ar yr un pryd ac wrth gwrs, tra bônt yn digwydd, mae yna bob amser ddigwyddiadau eraill y caiff ein gwasanaethau brys eu galw iddynt. Ac yn amlwg, mae pwysau aruthrol o hyd, yn enwedig ar wasanaeth ambiwlans Cymru ar hyn o bryd. Mae amrywiaeth gymhleth iawn o heriau ar hyn o bryd, rwy'n credu, sy'n dod at ei gilydd i greu storm berffaith, ond mae'n bwysig iawn, yn amlwg, fod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio'n agos iawn gydag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Fe fyddwch yn ymwybodol o adolygiad sydd ar y gweill gan yr ymddiriedolaeth ar hyn o bryd, ac yn amlwg mae gwasanaethau tân yn rhan o gylch gwaith y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, rwy'n credu—neu lywodraeth leol efallai, ond bydd yn Weinidog gwahanol ar gyfer hynny. Ond yn amlwg, ar draws y Llywodraeth, byddwn yn gweithio'n agos iawn i wneud yn siŵr—. Un o'r pethau da sydd wedi digwydd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf—yn sicr mae gennyf un yn fy etholaeth i—yw gwasanaethau brys yn dod at ei gilydd mewn un adeilad. Felly, yn Wrecsam, mae gennym y gwasanaeth ambiwlans a'r gwasanaeth tân yn cydweithio, ac rwy'n credu bod hynny wedi gwella pethau'n fawr. Ac yn olaf, cwestiwn 10, Mabon ap Gwynfor. Parthau Perygl Nitradau Mabon ap Gwynfor AS: 10. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith parthau perygl nitradau? OQ57004 Lesley Griffiths AC: Roedd dynodi parthau perygl nitradau yn un o ofynion cyfarwyddeb nitradau'r UE, ac aseswyd effeithiolrwydd dynodiad y parthau perygl nitradau fel rhan o'n hymrwymiad. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu dynodiad y parthau perygl nitradau yn rheolaidd i bennu ardaloedd ar gyfer eu dynodi o'r newydd, parhau dynodiadneu ddad-ddynodi. Mabon ap Gwynfor AS: Diolch, Gweinidog. Mae'r parthau perygl nitradau yng Nghymru yn cyfyngu amaethwyr i wasgaru dim mwy na 170 kg o nitradau yr hectar, tra bod parthau mewn gwledydd eraill yn galluogi ffermwyr i wasgaru hyd at 250 kg yr hectar. Mae'r cyfyngu yma yn golygu bod slyri yn cael ei ddal yn ôl ac yn methu cael ei wasgaru ac yn achosi trafferthion i ffermwyr, neu mi fydd o'n gwneud. A allwch chi esbonio, felly, beth yw rhesymeg Llywodraeth Cymru dros gyfyngu i 170 kg yma, tra bod llefydd eraill yn cyfyngu i 250 kg? Lesley Griffiths AC: Nid oes gennym barthau perygl nitradau dynodedig pwrpasol yng Nghymru mwyach, fel y gwyddoch, ac ar 27 Ionawr eleni, cyflwynais Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021, ac fel y gwyddoch, daeth y mesurau cychwynnol hynny i rym ar 1 Ebrill. Roedd y rheoliadau hynny'n dirymu ac yn disodli Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013, a oedd yn dynodi parthau perygl nitradau cyn hynny wrth gwrs, ac fel y gwyddoch, ar hyn o bryd, mae caniatâd wedi'i roi i'r llysoedd adolygu'r rheoliadau hynny. Diolch i'r Gweinidog. 3. Cwestiynau Amserol Does dim cwestiynau amserol. 4. Datganiadau 90 eiliad Felly, yr eitem nesaf yw'r datganiadau 90 eiliad, a'r datganiad cyntaf heddiw yw'r un gan Huw Irranca-Davies. Huw Irranca-Davies AC: Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Heddiw, yn fy rôl fel Cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar deithio llesol, ac ar ôl misoedd lawer o waith trawsbleidiol y tu ôl i'r llenni, lansiwyd y pecyn cymorth teithio llesol hirddisgwyliedig i ysgolion yn ysgol gynradd Penyrheol yng Ngorseinon. Yng Nghymru, rydym wedi rhoi camau pwysig ar waith i newid y ffordd yr ydym yn mynd i'r ysgol, ond mae'r ffigurau'n dangos bod angen inni wneud mwy o lawer, yn enwedig ar feicio, lle mae llai nag 1 y cant o blant yng Nghymru yn beicio i'r ysgol yn rheolaidd, yn wahanol iawn i'n cymdogion Ewropeaidd fel yr Iseldiroedd, lle mae 49 y cant o ddisgyblion yn beicio i'r ysgol bob dydd. Felly, roedd yn hyfryd ymuno â'r pennaeth, Alison Williams, a disgyblion ac eraill heddiw ar fy meic yn ogystal â phlant sy'n teithio i'r ysgol ar eu beiciau a'u sgwteri, ac ar droed hefyd. Mae teithio llesol o fudd i les corfforol a meddyliol plant, yn lleihau allyriadau, yn helpu i ymladd yr argyfwng hinsawdd, yn lleihau tagfeydd a llygredd o amgylch gatiau ysgolion, yn gwella sylw disgyblion yn yr ystafell ddosbarth drwy roi dechrau egnïol i'r diwrnod, a chymaint mwy. Ac nid yw ein pecyn cymorth yn bresgripsiwn sefydlog; mae pob ysgol yn wynebu cyfres unigryw o heriau, ond gyda'r fenter hon, rydym yn darparu'r syniadau a'r adnoddau sydd eu hangen ar arweinwyr ysgolion a rhieni a llywodraethwyr i bennu eu llwybr eu hunain tuag at fod yn ysgol ac yn gymuned teithio llesol. A thrwy bwysleisio pa mor bwysig yw perswadio eraill i deithio'n llesol i'r ysgol, nod y pecyn hwn yw creu consensws lleol aruthrol ar deithio llesol i'r ysgol. O'r dechrau i'r diwedd, mae a wnelo hyn â chydweithredu, partneriaethau rhwng ysgolion a theuluoedd ar lawr gwlad a gwaith y tu ôl i'r llenni gan y grŵp trawsbleidiol. Felly, bydd y pecyn cymorth yn cael ei anfon at yr holl Aelodau o'r Senedd, i ofyn iddynt gysylltu ag ysgolion ar y daith lesol hon. Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Cefin Campbell MS: Diolch yn fawr. Dwi'n siŵr y bydd pawb ohonoch chi am ymuno â fi i longyfarch y chwaraewr dartiau o Gymru, Jonny Clayton, ar ei fuddugoliaeth wych ym mhencampwriaeth Grand Prix y Byd nos Sadwrn diwethaf, y tro cyntaf iddo fe ennill y gystadleuaeth, a digwydd bod fe lwyddodd e ennill drwy faeddu cyd-Gymro a chyfaill arbennig iddo fe, sef Gerwyn Price, yn y rownd derfynol. Yn ogystal ag ennill y Grand Prix, sy'n un o gystadlaethau mawr y byd dartiau, mae e hefyd wedi ennill y Masters a'r Premier League eleni, ac roedd e hefyd yn rhan o dîm buddugol Cymru a enillodd Gwpan y Byd i chwaraewyr dartiau fis Tachwedd diwethaf, ac yn chwarae, wrth gwrs, gyda'i ffrind annwyl Gerwyn Price. Ydy, mae wedi bod yn dipyn o flwyddyn iddo fe. Mae Jonny, neu'r Ferret, fel mae'n cael ei alw, yn siaradwr Cymraeg ac yn byw ym Mhontyberem, ac mae trigolion y Bont, Cwm Gwendraeth, sir Gaerfyrddin a Chymru gyfan yn ymfalchïo yn fawr yn ei lwyddiant. Ond, yn rhyfeddol, er ei lwyddiant, mae'n parhau i weithio fel plastrwr yn rhan amser i Gyngor Sir Gaerfyrddin, ac rwy'n deall ei fod e'n bwriadu parhau i wneud y gwaith yma am beth amser beth bynnag. Mae'n amlwg ei fod e'n gallu troi ei law at dipyn o bopeth. Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd am ddymuno'n dda i Jonny Clayton, a Gerwyn Price hefyd, wrth gwrs, dros y flwyddyn nesaf wrth i'r tymor dartiau brysuro, a'i longyfarch ef eto ar ei lwyddiant dros y penwythnos. Diolch yn fawr iawn. Altaf Hussain AS: Arthritis yw'r afiechyd mwyaf cyffredin yn y byd, ac mae'n effeithio ar 1 o bob 4 unigolyn. Caiff Diwrnod Arthritis y Byd ei nodi ledled y byd ar 12 Hydref—sef ddoe—bob blwyddyn, i addysgu'r cyhoedd ar ddiagnosis arthritis amserol a rheoli arthritis. Heddiw yw diwrnod olaf Wythnos Genedlaethol Arthritis yma yn y DU. Thema'r ymgyrch eleni yw 'Don’t Delay, Connect Today' gyda ffocws ar waith gyda'r is-bennawd 'Time2Work'. Ym 1996, sefydlwyd Diwrnod Arthritis y Byd gan Arthritis and Rheumatism International. Nod y diwrnod yw codi ymwybyddiaeth o afiechydon rhiwmatig a chyhyrysgerbydol ledled y byd. Nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn sylweddoli bod dros 100 o wahanol fathau o arthritis. Mae arthritis yn afiechyd sy'n effeithio ar oddeutu 350 miliwn o bobl ledled y byd. Ar hyn o bryd, mae oddeutu 120 miliwn o bobl yn byw gydag afiechyd rhiwmatig fel arthritis, yn Ewrop. Poen yw symptom mwyaf niweidiol arthritis. Mae llawer o fythau mewn perthynas â rheoli arthritis a all fod yn rhwystr i'w reoli'n effeithiol. Mae llawer yn credu bod ymarfer corff yn beryglus, fod canfyddiadau delweddu—hynny yw, pelydr-x ac MRI—yn pennu'r hyn y gall rhywun ei wneud, ac mai llawfeddygaeth a gorffwys yw'r unig driniaethau. Gwyddom bellach y gall gormod o orffwys ac osgoi gweithgarwch waethygu poen ac anabledd yn sgil arthritis. Er y bydd cyfran fach o unigolion yn elwa o lawfeddygaeth—pethau fel pen-glin newydd—nid oes angen llawdriniaeth ar bawb, ac ni fydd pawb yn elwa o lawdriniaeth. Mae ymarfer corff a gweithgareddau wedi'u graddio yn ddiogel ac yn dda i'ch cyhyrau a'ch cymalau. Diolch, Lywydd. Diolch. Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor Yr eitem nesaf, felly, yw'r cynnig i ethol Aelod i bwyllgor, a dwi'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol. Darren Millar. Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Alun Davies (Llafur Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn lle Jayne Bryant (Llafur Cymru) Cynigiwyd y cynnig. Darren Millar AC: Rwy'n cynnig. Mae wedi'i symud. Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Fe fyddwn ni nawr yn cymryd toriad byr ar gyfer gwneud ambell i newid yn y Siambr. Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:08. Ailymgynullodd y Senedd am 15:19, gyda'r Dirprwy Lywydd (David Rees) yn y Gadair. 5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Manteision cymunedol prosiectau ynni Croeso yn ôl. Yr eitem nesaf yw eitem 5, dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21, manteision cymunedol prosiectau ynni. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i wneud y cynnig. Cynnig NDM7794 Rhun ap Iorwerth Cefnogwyd gan Adam Price, Altaf Hussain, Delyth Jewell, Heledd Fychan, Janet Finch-Saunders, Luke Fletcher, Sioned Williams, Tom Giffard Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi pwysigrwydd ynni adnewyddadwy wrth geisio lleihau ein hôl-troed carbon. 2. Yn cytuno bod angen sicrhau bod pob datblygiad ynni yn dod a budd i’r cymunedau lle’u lleolir. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru, unai drwy reoliadau neu ddeddfwriaeth newydd, i fynnu bod datblygwyr prosiectau ynni yn gorfod profi budd cymunedol eu datblygiadau arfaethedig drwy orfod cynnal asesiad effaith cymunedol a chyflwyno cynllun budd cymunedol fel rhan o’r broses gynllunio. Cynigiwyd y cynnig. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a dwi'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Busnes yn gyntaf am roi'r cyfle imi gael rhoi'r cynnig yma o flaen y Senedd heddiw, a dwi'n ddiolchgar hefyd i'r Aelodau sydd wedi cefnogi'r cynnig sydd o'n blaenau ni. Mae'n ddadl amserol iawn, dwi'n credu. Dyma ni ar drothwy cynhadledd y COP26 yn Glasgow. Nes ymlaen y prynhawn yma, mi fydd Plaid Cymru yn arwain dadl ar y sector ynni a'r argyfwng hinsawdd a natur. Mae pwynt 1 yn fy nghynnig i yn gofyn inni nodi pwysigrwydd ynni adnewyddadwy wrth geisio lleihau ein hôl troed carbon. Dwi ddim yn meddwl bod unrhyw un yn mynd i anghytuno efo hynny. Mae ynni, y ffordd rydym ni'n defnyddio ynni, y ffordd rydym ni'n ei arbed o, ei ddosbarthu o, ac, ie, y ffordd rydym ni'n ei gynhyrchu fo, yn faterion cwbl, cwbl greiddiol i ba mor llwyddiannus rydyn ni'n am allu bod yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Ond mae ein perthynas ni efo ynni hefyd yn gwbl greiddiol i'n bywydau bob dydd ni, ac, mi fyddaf i'n dadlau y prynhawn yma, yn gallu gall cael effaith fawr ar y math o gymunedau rydym ni'n byw ynddyn nhw. Rhun ap Iorwerth AC: Dwi'n gofyn i'r Senedd yma gydsynio efo'r gosodiad yn ail gymal y cynnig, sef ein bod ni'n cytuno bod angen sicrhau bod pob datblygiad ynni yn dod â budd i'r cymunedau lle maen nhw wedi'u lleoli, ac mae hyn mor bwysig, dwi'n credu. Mae gennym ni fel gwlad gymaint i'w gynnig o ran datblygiadau ynni; mi allen ni fod yn cyflenwi nid yn unig ein hanghenion ein hunain mewn ynni glân, mewn ynni carbon isel ac ynni adnewyddadol, ond mi allen ni hefyd fod yn allforiwr mawr hefyd, a hynny'n gallu dod â budd economaidd sylweddol yn ogystal â buddiannau amgylcheddol mawr. Ond pan ydym ni'n gofyn i gymunedau gynnig cartref i ddatblygiadau o'r fath, mae eisiau sylweddoli eu bod nhw'n gallu cael impact sylweddol, felly, mae eisiau cefnogi'r cymunedau hynny ac ystyried eu hanghenion a'u dyheadau nhw fel cymunedau. Mi allaf i gyfeirio at un cynllun ynni arfaethedig ym Môn sy'n bodoli oherwydd ei gymuned—cynllun Morlais i greu ardal ddatblygu ynni llif llanw oddi ar arfordir gorllewin Môn, sy'n cael ei redeg gan fenter gymdeithasol, Menter Môn, i gadw'r elw yn lleol. Mae yna lu o brosiectau ynni cymunedol eraill ar draws Cymru. Bues i'n ymweld ag Ynni Ogwen ddim llawer iawn yn ôl. Dwi'n croesawu'r egwyddor yn nharged y Llywodraeth o sicrhau y dylai o leiaf 1 GW o ynni adnewyddadol yng Nghymru fod o dan berchnogaeth leol erbyn 2030, ac mi wnaf i'ch atgoffa chi mai un o brif swyddogaethau cwmni ynni Cymru y mae Plaid Cymru mor benderfynol o'i weld yn cael ei sefydlu—efo'i bencadlys yn Ynys Môn, gobeithio—fyddai i gydlynu a chefnogi a hyrwyddo prosiectau ynni cymunedol. Ond lleiafrif bach, wrth gwrs, ar hyn o bryd, o gynhyrchu ynni sy'n digwydd yn y ffordd yma. Gadewch imi gyferbynnu'r math yna o weledigaeth efo beth sy'n digwydd yn Ynys Môn ar hyn o bryd ym maes ynni solar. Mae penderfyniadau diweddar gan Lywodraeth Cymru i glustnodi rhannau mawr o Ynys Môn fel ardal datblygu ynni solar wedi creu cyfle i gwmnïau mawr rhyngwladol gael llwybr haws at ganiatâd i greu ffermydd solar enfawr. Mae'r canlyniadau i'w gweld yn barod. Mae o'n reit frawychus pa mor gyflym mae pethau wedi digwydd. Mae Enso Energy wedi cyhoeddi cynlluniau am fferm solar 750 erw; mae cynlluniau Lightsource BP i gynhyrchu 350 MW o ynni solar yn ymestyn dros 2,000 erw; mae'r cwmni Low Carbon wedi adnabod dros 150 erw ar gyfer fferm solar Traffwll; mae EDF wedi prynu safle 190 erw efo caniatâd yn barod am fferm solar yng ngogledd yr ynys, ac mae hynny ar ben y cynlluniau sydd wedi'u datblygu'n barod. Rydym ni'n sôn yn fan hyn am am ardaloedd enfawr, yn cynnwys, wrth gwrs, Môn Mam Cymru, tir amaethyddol da, ac rydym ni'n sôn am y cymunedau o gwmpas yr ardaloedd ac o fewn yr ardaloedd hynny. Does gen i ddim amheuaeth y gall Ynys Môn wneud cyfraniad mawr mewn datblygiadau ynni solar, ond y gwir amdani ydy bod y cynlluniau ar y bwrdd yn mynd i adael ôl troed enfawr ar ardaloedd o gefn gwlad efo ychydig iawn, iawn o fudd i'r cymunedau hynny—does yna prin ddim swyddi a dim disgwyliad o ran budd ehangach yn ariannol neu fel arall. Beth mae datblygwyr yn ei honni fel budd lleol? Mae gwefan EDF yn brolio y bydd £10,000 yn cael ei dalu fel budd cymunedol yn flynyddol—dim ond £10,000. Mae datblygwyr fferm Alaw Môn yn gwahodd syniadau am gynllun neu brosiect cynaliadwy yn yr ardal. Maen nhw hefyd yn addo y bydd eu cynllun nhw'n rhoi'r cyfle i orffwys tir sydd wedi cael ei ffermio'n ddwys— ymgais, dwi'n meddwl, sydd yn ddigon sarhaus i roi sbin ar golli tir amaethyddol da. Beth mae hyn yn ei ddweud wrthym ni ydy nad oes yna ddim byd ar hyn o bryd i drio sicrhau bod yna fudd cymunedol o gwbl, a dyna pam, yn y cynnig yma, dwi'n galw ar Lywodraeth Cymru, un ai drwy reoliadau neu ddeddfwriaeth newydd, i fynnu bod datblygwyr prosiectau ynni yn gorfod profi budd cymunedol eu datblygiadau arfaethedig drwy orfod cynnal asesiad effaith cymunedol a chyflwyno cynllun budd cymunedol fel rhan o’r broses gynllunio. Mi allai budd go iawn ddod ar sawl ffurf. Budd ariannol sylweddol ydy'r ffurf fwyaf amlwg. Ond, mewn e-bost ataf i y bore yma yn amlinellu taliadau i gymunedau y maen nhw'n dweud y maen nhw'n eu gwneud, yn deillio o nifer o'u prosiectau ynni nhw yng Nghymru, mae cwmni ynni RWE yn dweud hyn: Rhun ap Iorwerth AC: 'Mae darparu budd cymunedol o ddatblygu ynni adnewyddadwy yn digwydd yn wirfoddol ar hyn o bryd.' Rhun ap Iorwerth AC: A dyna un o'r problemau. Mi wnes i gyflwyno cynnig am ddeddfwriaeth newydd i'r Senedd yn ddiweddar, ar ôl i dîm deddfwriaethol y Senedd gadarnhau y byddai angen deddfwriaeth sylfaenol i fynnu asesiad o fudd cymunedol o'r math yma. Ches i ddim fy nhynnu o'r balot, ond mae'r ddadl yn sicr yn dal yn fyw gen i. Yn y cyd-destun hwnnw, dwi'n croesawu datganiad RWE heddiw: Rhun ap Iorwerth AC: 'Rydym yn cefnogi'r cysyniad y dylid deddfu ar gyfer swm safonol o fudd cymunedol am bob megawat neu fegawat awr a gynhyrchir o brosiectau sy'n mynd yn eu blaenau.' Rhun ap Iorwerth AC: Mi fyddai hynny, dwi'n meddwl, yn gam pwysig ymlaen. Ond mi all budd ddod mewn ffyrdd eraill hefyd. Mi all o olygu addewidion go iawn am swyddi—bwrlwm economaidd o'r math yna—cryfhau cadwyni cyflenwi; biliau ynni rhatach, neu, o bosib, yn fwy gwerthfawr yn amgylcheddol, fuddsoddiad mewn effeithlonrwydd ynni o fewn y cymunedau hynny; rhwydweithiau gwefru cerbydau trydan; batris cartref neu ynni solar cartref wedi cael ei sybsideiddio. Beth am rannu elw go iawn efo cymunedau? Prynu caniatâd am fferm solar y gwnaeth EDF. Beth am yr elw y gwnaeth y cwmni a wnaeth gael y caniatâd hwnnw a'i werthu fo ymlaen? Mi ddylai cyfran o'r elw a wnaeth y cwmni yna, dwi'n credu, aros yn lleol. Ond nid dim ond rhestru buddion o'r math yna y byddwn i am i ddatblygwyr orfod ei wneud drwy gynnal asesiad effaith cymunedol. Mi fyddai angen mesur impact go iawn ar hagru cefn gwlad, ar golli amwynder gwyrdd sy'n bwysig iawn, iawn i ni; yr effaith ar bris eiddo o fewn y cymunedau hynny, a safon byw pobl hefyd. Mae hynny'n rhywbeth sy'n anodd rhoi pris arno fo, o bosib, ond sydd mor, mor bwysig. O ystyried bod yr impact o gynllun unigol, neu effaith gronnol cynlluniau lluosog, a dyna'r broblem rydyn ni'n ei hwynebu yn Ynys Môn—. O ystyried yr impact yna, beth byddwn i'n dymuno ei weld wedyn fyddai ymdrechion i ddarparu'r cynhyrchiant ynni yna rydym ni'n ei angen mewn ffyrdd gwahanol. Yn hytrach na defnyddio bloc o filoedd o aceri, beth am gannoedd o flociau llai, yn dilyn, o bosib, llinellau dosbarthu ynni—mwy o dirfeddianwyr yn elwa ychydig, yn hytrach nag ychydig o dirfeddianwyr yn elwa llawer iawn? Beth am, drwy gryfhau'r system ddosbarthu, ddefnyddio toeau siediau amaethyddol, toeau ffatrïoedd, eglwysi, capeli, ysgolion, canolfannau cymunedol ac ati? Beth am osod paneli cyfochrog efo cloddiau a ffiniau tir dros ardaloedd eang, gan greu coridorau cyfoethog mewn bioamrywiaeth tra'n cadw'r caeau eu hunain yn gynhyrchiol? Beth am ymylon ffyrdd? Un syniad arall a gafodd ei basio ymlaen i mi heddiw: defnyddio canol yr A55, hyd yn oed, ar gyfer paneli solar. Wn i ddim; mae'n bosib bod hynny'n bosib. Gadewch inni feddwl y tu allan i'r bocs. Drwy fod yn greadigol, dwi'n meddwl y gallwn ni gynhyrchu ynni ar raddfa eang iawn tra'n gweithio efo, yn hytrach nag yn erbyn, cymunedau. Dwi wedi sôn am solar yn bennaf heddiw, achos mai dyna'r prif fater sydd yn ymwneud â phrosiectau ynni o'r math yma yn Ynys Môn, ond mi allai fo gynnwys pob mathau o ddulliau o gynhyrchu ynni eraill hefyd. Mae rhai wedi dadlau efo fi bod peidio â meddwl yn y ffordd greadigol yma hyd yn oed yn gallu creu'r risg o droi pobl yn erbyn prosiectau ynni adnewyddol, a rhwystro cynnydd, pan mai un o'r gwobrau net sero mawr, siawns, fyddai gallu ymgysylltu a hwyluso cymunedau yn effeithiol i ddatgarboneiddio. Rydym ni eisoes yn gweld cryn rwystredigaeth yn lleol, mae'n rhaid dweud, yn sgil colli dylanwad dros ba un a gaiff cynlluniau ganiatâd ai peidio, ond mi fyddai, dwi'n meddwl, cynnal asesiadau effaith cymunedol yn dod â'r gymuned yn ôl at galon penderfyniadau cynllunio ar ynni. Dwi'n edrych ymlaen i glywed cyfraniadau y prynhawn yma ac ymateb y Llywodraeth. Janet Finch-Saunders AC: Diolch am gyflwyno'r ddadl hon, Rhun, ac er bod gennych rai pryderon am solar, mae'n deg dweud, ar hyd arfordir gogledd Cymru, fod y pryderon hynny bellach yn ymestyn i gynnwys y prosiectau ffermydd gwynt enfawr sydd ar y ffordd. Ddirprwy Lywydd, gwyddom fod tua 58,000 yn gweithio yn y sector ynni a'r sector amgylchedd yng Nghymru, gan gynhyrchu dros £4.8 biliwn mewn refeniw, ac mae'r sector hwn wedi'i baratoi i gael ei ehangu'n barhaus dros y blynyddoedd nesaf. Ar hyn o bryd mae gan Gymru 86 o ffermydd gwynt gweithredol, potensial i gynhyrchu tua 10 GW o ynni morol, sector ynni solar aeddfed, ac amrediad llanw sy'n gallu darparu cyfleoedd cynhyrchu sylweddol ar hyd arfordir Cymru. Roedd Rheoliadau Strategaeth Forol 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gymryd y camau angenrheidiol i gyflawni neu gynnal statws amgylcheddol da dyfroedd morol erbyn 31 Rhagfyr 2020, a gwn na lwyddwyd i wneud hynny erbyn y dyddiad hwnnw. Mae bioamrywiaeth forol yn parhau i ddirywio. Beth am wrthdroi'r duedd drwy weld y ffermydd gwynt ar y môr a chysylltwyr gwely'r môr yn cael eu defnyddio fel sail ar gyfer adfer ecosystem gwely'r môr a dal a storio carbon glas? Rwyf wedi bod yn cynnal trafodaethau adeiladol iawn gyda'r Athro Chris Baines sy'n byw yn fy etholaeth i, ac mae'n awdur enwog ar faterion o'r fath. Mae wedi amlinellu'n briodol, os gall ffermydd gwynt ddod—. Os ydynt yn mynd i fod yno, a allant ddod yn warchodfeydd gan aflonyddu cyn lleied â phosibl ar wely'r môr? Ac os gellir cyfuno hyn ag adfer cynefinoedd yn rhagweithiol ar ffurf pethau fel gosod riffiau artiffisial ar waelod y tyrbinau, gallai'r seilwaith ynni gwynt wneud cyfraniad unigryw a chadarnhaol tu hwnt i adferiad morol a charbon sero-net, tra'n cydymffurfio â'n nodau bioamrywiaeth a chadwraeth. Felly, Weinidog, a gaf fi ofyn pa gamau a gymerir gennych i annog datblygwyr ynni adnewyddadwy yn y dyfodol i gymryd rhan mewn prosiectau o'r fath i adfywio cynefinoedd morol Cymru? Pa gamau a gymerir gennych i annog dargyfeirio gwariant cymunedol tuag at ymdrechion plannu, fel rhai dolydd morwellt, y gwyddys eu bod yn dal carbon hyd at 35 gwaith yn gyflymach na choedwigoedd glaw trofannol? Byddai argymhelliad y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar ar gyfer cynllun datblygu morol yn rhoi eglurder ynghylch faint o ddatblygiad sy'n gynaliadwy ym moroedd Cymru, a lle sydd orau i'w leoli. Wrth ateb cwestiwn ysgrifenedig i chi, Weinidog, fe wnaethoch gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn dechrau rhaglen waith ddwy flynedd i fapio adnoddau strategol posibl. Felly, gyda hyn mewn golwg, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am gynnydd y gweithgaredd mapio hwn a chadarnhau dyddiad ar gyfer cyflawni i ni heddiw? Amcangyfrifodd adroddiad gan Zero Waste Scotland y bydd cynifer â 5,613 o dyrbinau yn cael eu datgomisiynu rhwng 2021 a 2050, gan gynhyrchu rhwng 1.25 miliwn ac 1.4 miliwn tunnell o ddeunydd. Ac wrth gwrs, rwyf wedi mynegi pryderon fy hun yn ddiweddar ynglŷn â sut na ellir ailgylchu llafnau'r tyrbin ar hyn o bryd. Felly, yn Nenmarc, mae'r Re-Wind Network yn addasu'r strwythurau hyn yn wahanol elfennau pensaernïol, megis llochesi beiciau a phontydd troed. Mae gan Rotterdam faes chwarae 1,200 metr sgwâr i blant sy'n cynnwys tŵr sleidiau, twnelau a rampiau, a'r cyfan wedi'i greu o lafnau tyrbinau gwynt a ddatgomisiynwyd. Pa gamau a gymerir gennych i gynhyrchu data ar y broses o ddatgomisiynu ffermydd gwynt, Weinidog? Ac a wnewch chi ymrwymo i weithio gyda datblygwyr newydd i gyflwyno gofyniad yn galw arnynt i ymrwymo ymlaen llaw i addasu eu hoffer at ddibenion gwahanol mewn ffordd sydd o fudd i'n cymunedau, a'n hamgylchedd yn wir? Yn olaf, mae'r Gweinidog yn gwybod bod prosiectau ffermydd gwynt ar y môr Awel y Môr, BP Morgan a Mona yn peri pryder mawr i lawer. Yn wir, pan ddatblygir y rhain, dywedodd sawl arbenigwr yn y maes y bydd gormod o dyrbinau gwynt ar arfordir gogledd Cymru. Hyd yma, mae un o bwyllgorau Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi dangos eu gwir wrthwynebiadau i gynllun enfawr Awel y Môr. Ni all fod yn iawn fod cyn lleied o ddiogelwch i'n pysgotwyr a fydd, Weinidog—mewn gwirionedd, wyddoch chi, gallai eu bywoliaeth gael ei bygwth gan gynllun ar y gorwel agos, 10.6 km yn unig oddi ar yr arfordir. Rydym mewn argyfwng natur, ac eto mae perygl gwirioneddol y gallai'r cynlluniau hyn gael effaith andwyol ar rywogaethau morol, ein cynnig twristiaeth, ac yn wir— A wnaiff yr Aelod ddod i ben yn awr, os gwelwch yn dda? Janet Finch-Saunders AC: Iawn. Ac, yn wir, effaith pethau gweledol yn y nos ar ein hawyr dywyll werthfawr. Mae arnom angen ynni adnewyddadwy, ond rwy'n erfyn ar Lywodraeth Cymru, a'r Gweinidog, i sicrhau bod unrhyw gynlluniau ynni adnewyddadwy newydd, fod yna gydbwysedd perffaith iach rhwng ein hymdrechion bioamrywiaeth a chadwraeth. Diolch. Alun Davies. Alun Davies AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch hefyd i Rhun ap Iorwerth am gyflwyno'r ddadl hon. Pan oeddwn yn darllen y papur trefn a theitl y ddadl—budd cymunedol ynni—y gair a oedd yn sefyll allan i mi oedd 'cymuned' wrth gwrs, ac mae'n rhywbeth sy'n mynd yn angof yn aml iawn pan soniwn am gael cymysgedd ynni llawer cyfoethocach na'r hyn sydd gennym ar hyn o bryd. A hoffwn roi'r gair 'cymuned' yn ôl i mewn yn ein polisi ynni. Rwy'n falch iawn fod y ddau Weinidog yma gyda ni y prynhawn yma. Yn y gorffennol, mae'n debyg ei bod yn wir fod peirianwaith y Llywodraeth wedi gweithio yn erbyn cael polisi ynni Cymreig yn hytrach na'i alluogi. Yn sicr, pan oeddwn yn y Llywodraeth gyda chyfrifoldeb am ynni, roeddwn yn un o dri Gweinidog yn y Cabinet hwnnw a oedd yn gyfrifol am ynni, a'r canlyniad anochel, wrth gwrs, oedd bod gennym dri pholisi ynni yn lle un, ac ni lwyddasom i gyflawni fawr ddim heblaw cyhoeddi cynlluniau a strategaethau, oherwydd bod yna lefel o ddryswch. Nid oedd y Llywodraeth yn gwybod beth oedd ei pholisi, a chredaf fod cyfle yn awr, gyda pheirianwaith newydd y Llywodraeth, iddi gael syniad clir o'r hyn y mae'n ceisio'i gyflawni, ond yn bwysicach, o sut y mae'n bwriadu ei gyflawni. Credaf fod angen inni edrych yn fanwl ar beth fydd y cymysgedd ynni yn y dyfodol. Mae'r newyddion diweddar am—[Torri ar draws.] Ie, os gadewch i mi orffen y frawddeg. Mae'r newyddion diweddar am ddatblygu adweithyddion niwclear modiwlar yn newyddion da yn fy marn i. Mae'n ddigon posibl y bydd yn newyddion da i sir Fôn; mae'n ddigon posibl y bydd yn newyddion da i safleoedd eraill hefyd, a newyddion da o ran gostwng ein hallbwn carbon ar yr un pryd â sicrhau cyflenwad sylfaenol. Janet Finch-Saunders AC: Diolch. Roedd eich sylwadau'n ddiddorol iawn, ond oni chredwch ei bod braidd yn siomedig i unrhyw un sy'n gwylio'r ddadl hon fod y ddau Weinidog ar eu ffonau? Alun Davies AC: Nac ydw. Rwy'n credu bod angen inni godi lefel y ddadl yn hytrach na cheisio ei gostwng. Wyddoch chi, Jayne—? Rwy'n edrych arnoch chi, Jayne. Janet, hoffwn erfyn arnoch i wneud mwy na darllen araith, a deall beth y mae'n ei feddwl, ac mae'n mynd y tu hwnt i ddarllen geiriau rhywun arall. A chredaf ei bod yn bwysig—[Torri ar draws.] Rwy'n credu ei bod yn bwysig inni gael sgwrs ddifrifol ynglŷn â ble mae hyn yn mynd. Felly, gadewch i mi wneud cynnydd, os gwelwch yn dda. Rwy'n deall yr hyn y mae'r Llywodraeth newydd yn ceisio'i gyflawni, ac rwy'n derbyn ac yn cytuno'n gryf â'r hyn y mae'r ddau Weinidog yma wedi'i ddweud, ar wahanol adegau, am eu huchelgeisiau a beth yw eu gweledigaeth. Hoffwn ddweud hyn wrthynt: cadwch lygad barcud ar bethau. Yn aml iawn, soniwn am y setliad diffygiol a gawn fel rhywbeth drwg, ond yn yr achos hwn, mewn gwirionedd, o safbwynt ynni, mae'n golygu y gallem ganolbwyntio'n llawer gwell ar yr agweddau cymunedol o ran ble'r ydym arni. A fy mhryder yw y byddem yn mynd ar hyd y llwybr y mae Rhun a Janet wedi'i ddisgrifio, lle mae gennym ddatblygiadau ar raddfa fawr iawn sy'n amhriodol i'r lleoedd lle cânt eu gosod a'u lleoli, a hefyd yn amhriodol o ran yr hyn y dymunwn ei gyflawni yn rhan o bolisi hinsawdd ehangach a pholisi cymunedol ehangach. I mi, hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar gynhyrchu gwasgaredig; canolbwyntio ar yr hyn y gall cymuned ei wneud er mwyn cynhyrchu ar gyfer ei anghenion hi ac ar gyfer anghenion yr ardal leol. Mae gennyf ddiddordeb mewn deall sut y bydd y Gweinidog, wrth ymateb i'r ddadl hon, yn siarad ynglŷn â sut y gallwn gyflawni'r mecanweithiau a'r dulliau angenrheidiol i gael cynhyrchiant lleol i ddarparu ynni ar gyfer anghenion lleol, yn ogystal â chyfrannu at grid. Ac rwyf am weld Llywodraeth Cymru yn gweithio ar hyn. Pan oeddwn yn gwneud ymchwil ar hyn yn ddiweddar, sylweddolais mai'r tro diwethaf i Lywodraeth Cymru lanlwytho unrhyw wybodaeth am ynni cymunedol i'w gwefan oedd bum mlynedd yn ôl. Ychydig iawn o waith a wnaed gan Lywodraeth Cymru yn y Senedd ddiwethaf ar sut yr awn ati i ddarparu ynni cymunedol. Roedd y gwerthusiad o'r cynllun ynni cymunedol blaenorol, Ynni'r Fro, yn eithaf cymysg, ond nid yw hynny o reidrwydd yn beth drwg oherwydd fe ddysgwyd gwersi. Gwnaed rhai o'r camgymeriadau wrth geisio darparu cynllun am y tro cyntaf, ac mae hynny bob amser yn mynd i ddigwydd. Ond nid ydym yn dysgu gwersi o hynny a'i gymhwyso mewn ffordd newydd, gyda chynlluniau newydd i gefnogi adfywio cymunedol. Ac o ganlyniad, mae'r rheini ohonom sy'n cynrychioli gwahanol rannau o'r wlad hon yn cael ein rhoi yn y sefyllfa ofnadwy o orfod dweud, 'Ydym, rydym yn cefnogi ynni adnewyddadwy, ond a ydym yn cefnogi diwydiannu cymuned mewn gwirionedd, diwydiannu tirwedd yr ydym am ei diogelu ar yr un pryd?' Ac nid ydym am fod yn y sefyllfa honno, ond cawn ein gorfodi i'r sefyllfa honno gan nad oes gennym bolisi ynni cyfoethog sy'n cyflawni'r cynhyrchiant cymunedol a'r cynhyrchiant gwasgaredig sy'n golygu y gallwn gyflawni ein huchelgeisiau hinsawdd, ein huchelgeisiau ynni, ein huchelgeisiau cymdeithasol a'n huchelgeisiau economaidd. Ac rwy'n credu—. A gallaf weld hyd yn oed heb fy sbectol, Ddirprwy Lywydd, fy mod yn profi eich amynedd. [Chwerthin.] Felly, dof â fy sylwadau i ben, ond rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog, wrth ymateb i'r ddadl hon, yn gyntaf oll, yn ymrwymo i lansio cynllun ynni cymunedol cyn gynted â phosibl o fewn y Senedd hon a dysgu gwersi o gynlluniau'r gorffennol; ac y bydd yn sicrhau y bydd peirianwaith y Llywodraeth sydd gennym yn awr, sydd, yn fy marn i, yn welliant mawr ar yr hyn a fu gennym yn y gorffennol, yn gallu darparu polisi ynni sy'n golygu ein bod yn cyflawni ein huchelgeisiau, o ran ein gweledigaeth a'r modd y ceisiwn ei gwireddu. Rhoddais amser ychwanegol am eich bod wedi cael ymyriad, ond fe wnaethoch ei ymestyn braidd. [Chwerthin.] Altaf Hussain. Altaf Hussain AS: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o fod yn un o gyd-gyflwynwyr y ddadl hon. Fel gwlad, mae gennym dirwedd a morwedd anhygoel, sy'n llawn o fynyddoedd gwyntog ac arfordiroedd ysblennydd, gyda'r gallu i gynhyrchu ynni gwyrdd mewn ffordd a fyddai o fudd nid yn unig i gymunedau Cymru, ond a fyddai'n ychwanegu'n sylweddol at anghenion ynni'r DU yn y dyfodol. Wrth gwrs, mae potensial i ynni gwyrdd ddarparu nifer fwy o swyddi yn y dyfodol, swyddi medrus iawn ar gyflogau gwell yn datblygu ac adeiladu'r technolegau newydd i ateb ein hanghenion ynni. Chwyldro diwydiannol newydd sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Mae Llywodraeth Cymru wedi sôn am y twf posibl yn yr economi werdd, ac er fy mod yn croesawu datblygu ac adfywio economaidd yn seiliedig ar ddefnyddio potensial ein hamgylchedd, gwn fod angen canolbwyntio datblygiadau ynni hefyd ar y budd y gall buddsoddiadau o'r fath ei gynnig i gymunedau lleol. Wrth gwrs, ceir budd lleol amlwg i seilwaith, a'r gobaith o gael gwaith ym maes cynllunio a pheirianneg, ond ceir llawer o enghreifftiau hefyd o brosiectau ynni sydd wedi gweithio i ddarparu budd ychwanegol i'w cymunedau lleol. Ymhlith yr enghreifftiau o fudd o ddatblygiadau ynni, mae mesurau i fynd i'r afael â thlodi tanwydd, gyda chronfeydd ar gael i gefnogi ôl-osod cartrefi lleol i'w gwneud yn fwy effeithlon o ran eu defnydd o ynni. Mae rhai cwmnïau wedi buddsoddi mewn cronfeydd cymunedol, wedi'u sefydlu a'u rheoli'n lleol gan bobl leol, gan ddarparu grantiau i sefydliadau a phrosiectau, nid yn unig fel cyfraniad untro ond fel buddsoddiad cymunedol parhaus. Mewn rhai achosion, mae'r cronfeydd lleol hyn wedi defnyddio cannoedd o filoedd o bunnoedd. Fodd bynnag, ceir heriau i'r Llywodraeth. Mae angen i Weinidogion ddeall potensial eu rôl fel galluogwyr. Mae angen mwy o uchelgais yn y Llywodraeth i weithio gyda diwydiant i ddarparu prosiectau ynni newydd a fydd yn newid proffil economaidd Cymru er gwell, yn cynyddu'r cyflenwad o swyddi a'u hamrywiaeth, ac yn cynnal budd lleol i'r gymuned. Er mwyn denu datblygiadau yng Nghymru, mae arnom angen pobl sydd â'r weledigaeth a'r sgiliau i fynegi pam y dylai datblygwyr ynni fuddsoddi yma. Pam dod yma pan allent fuddsoddi mewn mannau eraill yn y DU? Beth sydd yna am Gymru sy'n gwneud datblygu yma yn gynnig deniadol? Os yw'r Llywodraeth am gael chwyldro swyddi gwyrdd, mae angen iddi feithrin perthynas â phobl yn y sector—ni fydd uchelgais ar ei ben ei hun yn gwneud iddo ddigwydd. Ac mae angen iddi fod yn berthynas lle mae datblygwyr yn deall y pwyslais a roddwn ar gymuned, defnyddio budd buddsoddiad a chydweithio i adeiladu Cymru fwy gwyrdd, heb anghofio ein bod, yma yng Nghymru, yn agos iawn at natur, ac nid ydym am ddifetha hynny drwy godi tyrbinau 850 troedfedd o uchder, a gwneud ein Cymru'n hyll, fel a gynlluniwyd ar gyfer Y Bryn. Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Vikki Howells AC: Bûm ar ymweliad amserol iawn yr wythnos diwethaf â fferm wynt Pen y Cymoedd. I unrhyw un nad yw'n gyfarwydd â'r lle, dyma'r fferm wynt ar y tir fwyaf yng Nghymru a Lloegr, ac mae'n rhedeg ar hyd pen uchaf fy etholaeth i a sawl etholaeth arall. Mae ganddi 76 o dyrbinau, a phrin fod un ohonynt i'w weld o lawr y dyffryn, ac mewn blwyddyn gyfartalog bydd yn pweru'r hyn sy'n cyfateb i 188,000 o gartrefi. I roi hynny mewn persbectif, dyna oddeutu 15 y cant o aelwydydd Cymru—cyfraniad gwirioneddol bwysig. Mae hefyd wedi rhoi llawer o arian i mewn i economi Cymru; aeth 52 y cant o'r buddsoddiad gwreiddiol o £400 miliwn yn uniongyrchol i gwmnïau o Gymru, a sicrhaodd hyn waith i fwy na 1,000 o weithwyr yng Nghymru yn ystod y gwaith o'i adeiladu. Mae wedi creu cyfleoedd prentisiaeth, ac mae hefyd wedi diogelu'r amgylchedd ac wedi hybu bioamrywiaeth. Rwy'n hyrwyddwr rhywogaeth y troellwr mawr, sy'n nythu ar y safle hwn, felly rwyf wedi croesawu'r cyfle i allu dilyn yr agwedd hon ar eu gwaith. Mae'r fferm wynt hefyd wedi gweithredu cronfa budd cymunedol arbennig o uchelgeisiol. Bob blwyddyn tan 2043, mae £1.8 miliwn ar gael i fusnesau a grwpiau ar draws cymoedd Cynon, Afan, Castell-nedd a'r Rhondda. Ac yn bwysig, rwy'n meddwl, nid asiantaethau allanol sydd yng ngofal y gronfa. Yn hytrach, yr arbenigwyr lleol yw'r bobl sydd wedi bod yn rhan o lunio'r weledigaeth—pobl sy'n byw ac yn gweithio yn y cymunedau hynny, sy'n adnabod ac yn defnyddio gwasanaethau lleol, sy'n deall yr ardal y maent yn byw ynddi, beth sydd ar gael a beth sydd ar goll. Mae'r gronfa hon wedi bod yn cefnogi cymunedau ers i'r fferm wynt ddod yn weithredol yn 2017. Rhwng hynny a mis Ebrill 2021, yn fy etholaeth i yn unig, mae 129 o sefydliadau a busnesau wedi cael cefnogaeth uniongyrchol. Mae'r cyllid hwnnw, i grwpiau yn fy etholaeth i yn unig, yn werth tua £3 miliwn. Mae rhai grantiau'n fach, er enghraifft, cannoedd o bunnoedd a ryddhawyd drwy grant microgyllido, ond mae cronfeydd eraill, y gellir eu cael drwy'r gronfa weledigaeth, yn fwy sylweddol, ar gyfer prosiectau sy'n cyfrannu at gyflawni gweledigaeth y cymunedau. Felly, beth a gefnogwyd â'r arian hwnnw? Wel, busnesau, corau a grwpiau diwylliannol, cymorth iechyd meddwl a hybu llesiant, mentrau amgylcheddol, neuaddau cymunedol, prosiectau treftadaeth, timau chwaraeon, grwpiau teuluol, cynlluniau i gefnogi pobl hŷn ac i goffáu'r rhai a wasanaethodd eu gwlad. Mae'r gronfa hefyd wedi cefnogi prosiectau trawsnewidiol ar raddfa fawr fel Dŵr Dâr, y pad sblasio poblogaidd ym mharc Aberdâr. Mae wedi helpu i addasu eglwys Sant Elfan i fod yn ofod cymunedol deniadol, ac mae wedi chwarae rhan yn y gwaith o greu canolfan gymunedol Cynon Linc sydd newydd agor. Mae'r gronfa wedi cefnogi popeth o gymdeithasau celfyddydol i elusennau diffibrilwyr, ac yn fwy diweddar, lansiodd gronfa argyfwng COVID, y gellir ei defnyddio i ddarparu llif arian sydd ei angen ar frys neu i gefnogi arallgyfeirio ar gyfer rhywbeth sy'n gysylltiedig â COVID. Mae dros £0.5 miliwn wedi'i ddosbarthu drwy honno i gefnogi 32 o fusnesau a sefydliadau, ac mae wedi galluogi 23 o brosiectau ymateb COVID eraill i sefydlu a chefnogi'r rhai sydd â'r angen mwyaf mewn cymunedau lleol. Mae'n amlwg fod angen ynni adnewyddadwy arnom. Ond gyda hynny, mae arnom angen prosiectau sydd o fudd i'w cymunedau. Os caf droi at drydydd pwynt y cynnig sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i fynnu bod datblygwyr prosiectau ynni yn gorfod profi budd cymunedol eu datblygiadau arfaethedig drwy orfod cynnal asesiadau effaith cymunedol a chyflwyno cynllun budd cymunedol fel rhan o'r broses gynllunio. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r argymhelliad hwn, a hoffwn ein gweld yn grymuso ein cymunedau i gael y disgwyliadau uchaf o fudd cymunedol, i gydgynhyrchu cynlluniau ar gyfer budd cymunedol ac i feddwl mwy am gynlluniau buddsoddi ymlaen llaw, megis un a welwyd yn yr Alban yn ddiweddar, lle nad oedd y gymuned yn fodlon â'r gronfa draddodiadol y gallai achosion da lleol wneud cais iddi, ac yn hytrach, yr hyn y dymunent ei gael oedd fflyd o geir trydan y gallai'r pentref eu rhannu, ac fe'u cawsant. Mae'r cyfleoedd ar gyfer budd cymunedol yn wirioneddol ddiddiwedd, ond ni ellir manteisio'n llawn ar y potensial hwn heb roi syniadau a gwybodaeth i bobl am yr hyn sy'n bosibl. Rwyf am gloi drwy nodi un pwynt pwysig y mae'r cynnig yn ei hepgor, sef sut y gallwn annog cynhyrchiant ynni cymunedol a chydweithredol yn y ffordd orau. Yr wythnos diwethaf, clywodd y grŵp trawsbleidiol ar gwmnïau cydweithredol a chydfuddiannol gan siaradwyr amrywiol, gyda phob un yn pwysleisio budd cynlluniau cymunedol. Disgrifiodd Robert Proctor o Ynni Cymunedol Cymru, er enghraifft, sut y mae 100 y cant o'r elw o'r rhain yn mynd i'r cymunedau lleol sy'n eu rheoli. Maent yn cynhyrchu ynni gwyrdd ar lefel leol, ond maent hefyd yn creu— A wnaiff yr Aelod ddod i ben yn awr, os gwelwch yn dda? Vikki Howells AC: [Anghlywadwy.]—budd economaidd. Felly, mae llawer mwy y gallwn ei wneud, a rhaid i hynny fod yn ffocws i Lywodraeth Cymru. Samuel Kurtz MS: Diolch i'r Aelod o Ynys Môn am ddod â'r ddadl yma i'r Siambr. Samuel Kurtz MS: Mae gan Gymru gyfoeth o botensial ynni adnewyddadwy a gwyrdd, a byddwn ar fai yn peidio â dechrau, o gofio mai Rhun ap Iorwerth a sicrhaodd y ddadl hon, drwy sôn am y cyfleoedd ar Ynys Môn. Fe soniodd am solar, ond mae safle ynni niwclear Wylfa Newydd yn ymgyrch rwy'n gwybod bod ei gyd-Aelod etholaethol, yr Aelod Seneddol dros Ynys Môn, Virginia Crosbie, wedi'i hyrwyddo'n rymus. Ond hoffwn ganolbwyntio ar brosiect oddi ar arfordir fy etholaeth fy hun, sef Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro: prosiect arloesol, gwerth miliynau o bunnoedd Blue Gem Wind, menter ar y cyd rhwng TotalEnergies, un o gwmnïau ynni mwyaf y byd, a Simply Blue Energy, datblygwr ynni arloesol yn y môr Celtaidd. Bydd y prosiect yn datblygu gwynt ar y môr arnofiol, a elwir yn FLOW, yn nyfroedd y môr Celtaidd. Bydd FLOW yn dod yn dechnoleg allweddol yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd, gyda dros 80 y cant o adnoddau gwynt y byd mewn dyfroedd dyfnach na 60m. Mae astudiaethau annibynnol wedi awgrymu y gallai fod cymaint â 50 GW o gapasiti trydan ar gael yn nyfroedd y môr Celtaidd oddi ar arfordiroedd y DU ac Iwerddon. Gallai'r adnodd ynni adnewyddadwy hwn chwarae rhan allweddol wrth i'r DU geisio cyrraedd targed sero-net 2050 sy'n angenrheidioli liniaru newid hinsawdd. Bydd ynni gwynt arnofiol—FLOW—yn darparu cyfleoedd ar gyfer cadwyn gyflenwi carbon isel newydd, yn cefnogi cymunedau arfordirol ac yn creu manteision hirdymor i'r rhanbarth. Yn fy etholaeth i, amcangyfrifir y gallai 1 biliwn watt cyntaf Blue Gem o ynni gwynt arnofiol ddarparu dros 3,000 o swyddi a £682 miliwn mewn cyfleoedd ar gyfer y gadwyn gyflenwi, gan agor byd newydd o ynni adnewyddadwy ar y môr gyda sir Benfro yn ei ganol, ac o fudd i'r gymuned yn ddi-os. Bydd y prosiect arddangos cyntaf yn y môr Celtaidd, prosiect 96 MW Erebus, yn dod yn un o'r prosiectau gwynt ar y môr mwyaf yn y byd pan gaiff ei adeiladu yn 2026. Caiff ei ddilyn gan Valorous, prosiect masnachol cynnar 300 MW, unwaith eto, yn y môr Celtaidd, a fyddai'n arwain at bweru 280,000 o gartrefi bob blwyddyn, tra'n arbed dros 455,000 tunnell o allyriadau carbon y flwyddyn. Ond yr hyn sy'n wirioneddol anhygoel am brosiect Blue Gem Wind a'r cyfleoedd sy'n codi yn y môr Celtaidd yw nad un ardal yn unig sy'n elwa mewn gwirionedd, ac ni all un ardal gyflawni'r prosiect ar ei phen ei hun chwaith. Rhaid ei rannu ar draws nifer o ardaloedd a nifer o borthladdoedd. Arweinia at ledaenu budd cymunedol y prosiectau newydd hyn ymhellach, gan nad yw swyddi medrus a manteision economaidd wedi'u crynhoi mewn ardal fach. Gall cymunedau yn ne-orllewin Cymru, de-ddwyrain Gweriniaeth Iwerddon ac ierdydd llongau yng Ngogledd Iwerddon a'r Alban oll elwa o'r prosiect hwn. Ond nid yw'r budd yn mynd i ymddangos heb gyfraniad gweithredol gan y Llywodraeth ar bob lefel. Mae prosiectau masnachol fel y rhain yn gweithio ar gyflymder nas gwelir fel arfer o fewn adrannau'r llywodraeth, a gwn fod yr Aelod o Flaenau Gwent wedi codi'r pryderon hanesyddol ynghylch polisi ynni yn flaenorol. Mae cyflymder yn hanfodol mewn perthynas â'r prosiectau hyn, er mwyn sicrhau na chânt eu colli ac na chollir y budd cymunedol chwaith. Mae angen inni ddeall y cyfyngiadau y mae'r busnesau a'r prosiectau hyn yn gweithio oddi tanynt a gwneud yr hyn a allwn i symleiddio'r broses. Nid galwad am osgoi cyfyngiadau cynllunio a rheoleiddio allweddol yw hon, ond am weithio'n gyflym ac yn adeiladol i helpu'r prosiectau hyn i gael eu traed oddi tanynt a chyflawni eu manteision amgylcheddol, economaidd a chymunedol. Ym mhob cwr o Gymru, mae gennym enghreifftiau o brosiectau sy'n ymdrechu i wneud gwahaniaeth. Mae'r penderfyniad yno, mae'r fenter yno, y cyfan sydd ei angen arnom yw'r hyder i'w wireddu. Diolch yn fawr. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters. Lee Waters AC: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Credaf fod llawer iawn o gonsensws wedi bod yn y Senedd y prynhawn yma ar bwysigrwydd ynni adnewyddadwy a pha mor hanfodol yw sicrhau bod hyn wedi'i wreiddio yn ein cymunedau, o ran cael ei dderbyn, ond hefyd o ran gwireddu'r budd y tu hwnt i'r budd ehangach neu ein helpu i gyrraedd sero-net. Rydym yn cytuno â safbwynt yr Aelod y dylem sicrhau bod ein cymunedau'n teimlo budd y datblygiadau hanfodol hyn, ac mae gennyf lawer o gydymdeimlad â'r anghysur a fynegodd am ffermydd solar ar raddfa fawr, yn arbennig, yn codi ledled y wlad, heb fynd i sôn am unrhyw un yn benodol. Credaf ein bod yn well ein byd yn canolbwyntio solar ar adeiladau nag ar ddefnyddio darnau mawr o dir. Roedd hon yn thema a ddaeth i'r amlwg mewn nifer o'r areithiau gan yr Aelodau; mae'n amlwg fod cydbwysedd i'w daro ar yr effaith amgylcheddol. Cyfeiriodd Janet Finch-Saunders, yn ei sylwadau, at adfywio gwely'r cefnfor. Mae hwnnw'n bwynt pwysig, yn ogystal ag enghreifftiau eraill a roddwyd lle nad oedd datblygiadau'n gweddu'n llwyr i'w cymunedau lleol. Credaf fod yn rhaid inni sicrhau cydbwysedd bregus. Er mwyn cyrraedd sero-net, gwyddom y bydd yn rhaid inni wneud mwy o doriadau yn ein hallyriadau yn y 10 mlynedd nesaf nag a wnaethom dros y 30 mlynedd diwethaf, a bydd yn rhaid cynyddu cyflymder a maint yn y blynyddoedd y tu hwnt i hynny. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn gweithredu ar raddfa fawr, yn gyflym, ond mae angen inni hefyd ddod â chymunedau gyda ni ac mae angen inni fod yn ymwybodol o effeithiau eraill y datblygiadau hyn. Bydd yn rhaid inni deimlo ein ffordd drwy hynny, a dweud y gwir; nid oes templed ar gyfer gwneud hynny'n sensitif. Rwy'n cytuno'n llwyr â byrdwn y ddadl ynghylch perchnogaeth ar asedau adnewyddadwy yn lleol, a rhaid inni ddatblygu cadwyni cyflenwi cryf a chyfleoedd swyddi yng Nghymru, fel yr amlinellodd Samuel Kurtz. Ar y prosiect penodol y soniodd amdano, y fferm wynt arnofiol yn nyfroedd y môr Celtaidd, gwn fod fy nghyd-Aelod, Julie James, wedi siarad mewn cynhadledd porthladdoedd ar gyfer y DU y bore yma, ac mae'n brosiect yr ydym yn edrych arno'n ofalus. Rydym am ddatblygu cynifer o wahanol fathau o brosiectau ag y gallwn, ac fel y dywedaf, mae cynnwys cymunedau yn allweddol. Y ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau budd yw drwy berchnogaeth leol, ac mae gan ein rhaglen lywodraethu darged i sicrhau cynnydd o 100 MW mewn ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i'r cyhoedd a'r gymuned erbyn 2026. Rydym yn cydnabod yr angen i gael cymorth ar waith i gyflawni'r uchelgais hwn. Mae gwasanaeth ynni Llywodraeth Cymru yn gwneud gwaith rhagorol yn cefnogi cyrff cyhoeddus a chymunedau i ddatblygu cynlluniau, ac rydym yn rhoi cymorth ariannol i ddatblygu prosiectau. I roi un enghraifft, cafodd y cwmni cydweithredol Egni help y gwasanaeth ynni i fuddsoddi mwy na £4 miliwn mewn solar ar doeau ledled Cymru i gynhyrchu pŵer am ddim i sefydliadau cymunedol ac i ysgolion, gan gynnwys cyfranddaliadau yn y cwmni cydweithredol i rai ysgolion yn nyffryn Aman uchaf mewn gwirionedd, sy'n brosiect ardderchog yn fy marn i, ac rwy'n awyddus i weld sut y gallwn ei ledaenu'n ehangach ledled Cymru. Er gwaethaf heriau COVID, yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gwnaethom gefnogi'r gwaith o osod gwerth £35 miliwn o brosiectau effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy, gan gynnwys 9 MW o ynni adnewyddadwy. Erbyn 2030, mae gennym darged i sicrhau y bydd 1 GW o'r cynhyrchiant ynni adnewyddadwy mewn perchnogaeth leol. Soniodd Rhun ap Iorwerth am ddau brosiect yng ngogledd-orllewin Cymru yr ymwelais â hwy yn ddiweddar, sef Ynni Ogwen a Menter Môn. Mae'r ddau wedi gwneud gwaith rhagorol gyda chymunedau, gan sicrhau budd yn lleol, yn ogystal â'i wneud mewn ffordd sy'n sensitif i'r amgylchedd lleol. Rwy'n credu bod llawer y gall pawb ohonom ei ddysgu o'u gwaith rhagorol. Rydym wedi gosod disgwyliad y dylai pob prosiect ynni adnewyddadwy gynnwys o leiaf elfen o berchnogaeth leol o hyn ymlaen. Unwaith eto, dyma un o'r problemau eraill a wynebwn, oherwydd, yn amlwg, er mwyn cyrraedd y targedau hyn, rydym am gael datblygiadau sylweddol a all ein helpu i gyrraedd ein hamcanion. Ond mae hynny'n rhy aml yn golygu bod gan gwmnïau rhyngwladol mawr tramor allu a chyfalaf i ddod i mewn a symud y datblygiadau hyn yn eu blaen. Mae hynny'n amlwg yn rhywbeth yr ydym am ei annog, ac rydym wedi gweithio'n agos gyda'r sector hwnnw dros y blynyddoedd diwethaf, ond gwyddom fod cyfyngiadau ar yr hyn y gall y sector preifat ei wneud i gefnogi cynhyrchiant ynni adnewyddadwy yng Nghymru ac i ddod â chymunedau gyda hwy, ac i roi cymaint ag y maent yn ei haeddu o fudd o'r cynlluniau. A soniwyd am nifer o enghreifftiau o'r symiau pitw sy'n cael eu cynnig i rai cymunedau. Ac yn amlwg nid dyna'r hyn yr ydym ni am ei weld. Felly, drwy wasanaeth ynni'r Llywodraeth, rydym yn gweithio gyda chymunedau a chyrff cyhoeddus i archwilio opsiynau perchnogaeth, ac rydym wedi bod yn datblygu canllawiau gyda'u mewnbwn hwy i gynorthwyo gyda'u trafodaethau. Ac rydym yn dechrau gweld tystiolaeth o ddatblygwyr mawr yn cymryd camau cadarnhaol i ymgysylltu â'n cymunedau, ond mae'n deg dweud nad ydym wedi cyrraedd lle mae angen inni fod. Mae ymgysylltu'n dameidiog a'r dull o weithredu yn anghyson. Yfory, Ddirprwy Lywydd, rwy'n lansio ymarfer at wraidd y mater arall, y tro hwn i ynni adnewyddadwy yng Nghymru, a byddaf yn archwilio beth arall y gallwn ei wneud i ddenu cyfoeth o ddatblygiadau preifat a chefnogi mwy o berchnogaeth a datblygu cymunedol yng Nghymru. A byddwn yn archwilio'r posibilrwydd o sefydlu datblygwr ynni sy'n eiddo cyhoeddus i gyflymu'r gwaith o ddarparu ynni adnewyddadwy a fydd yn creu mwy o fudd cymunedol a chyhoeddus nag y mae'r modelau presennol yn eu cynnig. Wrth gwrs, mae angen inni weithio gyda datblygwyr preifat, a'r gadwyn gyflenwi, fel y soniwyd. Mae cyfleoedd yma ar gyfer swyddi gwyrdd a sgiliau gwyrdd, ac mae angen inni sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar y budd hwnnw. Felly, rydym yn adeiladu darlun o'r prosiectau sy'n cael eu datblygu a'u hanghenion o ran y gadwyn gyflenwi a'r gweithlu, ac rydym yn gweithio gyda'n colegau i ddatblygu sgiliau'r dyfodol a chefnogi busnesau lleol i gyflenwi i'r farchnad newydd. A hefyd, yn hollbwysig, rydym yn pwyso ar Ystad y Goron a Llywodraeth y DU i wneud buddion economaidd lleol yn ystyriaeth berthnasol wrth roi hawliau a chontractau gwely'r môr. Ac rydym hefyd yn edrych ar sut y gallwn ddefnyddio ystad goetiroedd Llywodraeth Cymru a thir arall sy'n eiddo cyhoeddus i gynnig cyfleoedd ar unwaith i ddatblygu prosiectau sy'n helpu eu cymunedau. Felly, rwy'n credu bod llawer yn digwydd. Rwy'n cydnabod pwynt Alun Davies ynglŷn â bod dulliau gweithredu tameidiog a ffocws ar strategaethau yn hytrach na chyflawni yn difetha gormod o ymdrechion Llywodraethau ar draws y byd, ac mae angen inni sicrhau, wrth sefydlu'r portffolio hwn, ein bod yn canolbwyntio ar weithredu a chyflawni a chyflymder, a gallaf addo ein bod yn gwneud yr hyn a allwn i wneud hynny. Ni allwn symud mor gyflym ag y dymunwn ei wneud, dyna un o rwystredigaethau mawr y rôl hon. Mae'r rhain yn brosiectau hynod gymhleth, a gall y broses o ddod â'r holl wahanol rannau at ei gilydd fod yn llawer arafach nag yr hoffem iddi fod. A dyna'r her i bob un ohonom, oherwydd gwyddom fod y wyddoniaeth a'r her yn fater brys, ac mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i geisio sicrhau bod cyflymder y ddarpariaeth yn cyd-fynd â hynny. Ond byddwn yn sicr yn dweud wrth Alun Davies na fyddwn yn camgymryd— Alun Davies AC: A wnewch chi dderbyn ymyriad? Lee Waters AC: Gwnaf, ond rwyf am ddweud wrtho na fyddwn yn camgymryd lanlwytho gwybodaeth i wefan am ddiffyg gweithgarwch ar ynni cymunedol. Alun Davies AC: Wel, yn sicr, mae yna ddiffyg gweithgarwch o ran cyfleu'r hyn rydych yn ei wneud i unrhyw un yn y byd o gwbl. Ond y pwynt yr hoffwn ei wneud yw, yn eithaf aml, ac mae'n un o'r gwersi o Ynni'r Fro, fod cryn dipyn o amser y Llywodraeth yn cael ei dreulio'n dadlau am gynigion gyda rhannau eraill o'r sector cyhoeddus. A’r hyn y mae angen i'r Llywodraeth ei wneud yw sicrhau bod y Llywodraeth nid yn unig yn arwain, yn darparu peth o’r cyllid sbarduno sydd ei angen er mwyn gwneud hyn, ond hefyd yn sicrhau nad oes gennych arian cyhoeddus yn cael ei wario ar ddwy set o fargyfreithwyr yn dadlau gyda'i gilydd dros un cais. A gallai'r Llywodraeth arwain go iawn yn hynny. Lee Waters AC: Wel, yn amlwg, ni ellir dadlau â hynny. Ac un o'r pethau y byddaf yn canolbwyntio arnynt wrth ddechrau'r gwaith i fynd at wraidd y mater yfory fydd sut i symbylu a chynnull cynghrair dros newid ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat i wneud cynnydd go iawn. Oherwydd, fel y mae pob un ohonom yn cytuno yma y prynhawn yma, mae'r wobr yn wych a chost diffyg gweithredu yn rhy anodd ei hamgyffred. Diolch. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i ymateb i'r ddadl. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Credaf fod hon wedi bod yn drafodaeth wirioneddol werthfawr, ac a gaf fi ddiolch yn gyntaf oll i'r Gweinidog am ei eiriau, pan ddywedodd ei fod yn dod yn agos at sefydlu, gobeithio, corff a fydd yn annog ac yn hyrwyddo ynni cyhoeddus yng Nghymru? Mae hynny'n swnio i mi fel pe bai ymgyrch hirfaith Plaid Cymru i sefydlu ynni Cymru, corff ynni i Gymru, wedi dwyn ffrwyth, ac rwy'n falch iawn ei bod yn swnio fel pe bai Llywodraeth Cymru ar fin rhoi rhywbeth tebyg iawn i hynny ar waith. A chredaf fod hynny'n rhywbeth cadarnhaol tu hwnt gan y credaf ei fod yn fodd o ganolbwyntio'n iawn ar y math o ddatblygiadau ynni yr hoffem eu gweld yng Nghymru. Diolch am y cyfraniadau. Ie, rhai syniadau diddorol, nid budd cymunedol yn unig; Janet Finch-Saunders yn siarad am fudd amgylcheddol hyd yn oed yn sgil prosiectau ynni adnewyddadwy, a gwella bioamrywiaeth morol hyd yn oed. Ond rydym yn sôn heddiw am y budd cymunedol—rwy'n falch, yn etholaeth Vikki Howells, ei bod yn hapus fod y budd yn dod—ond fe ddywedoch chi eich hun eu bod yn wirfoddol, a dyna'r pwynt yma: mae angen mecanweithiau arnom i sicrhau eu bod yn llifo'n awtomatig o brosiectau o'r fath, ac er nad yw'r cynnig yn sôn am ynni cymunedol ac ynni cydweithredol, rwy'n siŵr y byddwch wedi sylwi bod hynny wrth wraidd y math o weledigaeth sydd gennyf fi, yn sicr, yn ogystal â'r rhan fwyaf o'r Aelodau yma hefyd, rwy'n credu. Hoffwn roi sylw arbennig i Alun Davies a'i gyfraniad: yr un fath o weledigaeth ag sydd gennyf innau, ac wrth ddweud bod 'cymuned' yn air sydd wedi'i anghofio i raddau helaeth mewn polisi ynni, a bod angen ei adfer, credaf mai dyna'r union bwynt rwy'n ceisio'i wneud heddiw. Gallwn gael pob math o weledigaethau beiddgar ar gyfer cyflawni ein nodau newid hinsawdd, ac mae'n rhaid inni fynd ati'n ddygn i gyflawni'r rheini, ond mae'n rhaid inni gofio bod llawer o'r prosiectau'n digwydd mewn cymunedau, ac yn effeithio'n uniongyrchol ar gymunedau lle mae pobl yn byw, ac mae'n rhaid i hyn fod yn symbiosis. Felly, dywedodd y Gweinidog yn ei sylwadau agoriadol fod cryn dipyn o gonsensws yma heddiw, a chredaf fod hynny'n bwysig iawn. Nid wyf yn siŵr a fydd y Llywodraeth yn pleidleisio dros y cynnig fel y mae heddiw; rwy’n sicr yn gobeithio y bydd y Senedd yn cefnogi’r cynnig hwn heddiw. Dywedodd y Gweinidog fod yn rhaid inni fynd â chymunedau gyda ni. Mae'n rhaid i berchnogaeth leol fod yn nod, ond fel y mae pethau ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru wedi galluogi a grymuso cwmnïau rhyngwladol mawr i ddewis rhannau o Ynys Môn a rhannau eraill o Gymru fel ardaloedd lle credant fod ganddynt hawl awtomatig, bron, i fwrw ymlaen â'u datblygiadau. Ni all hynny ddigwydd, a byddaf yn falch o weithio gyda'r Llywodraeth i fod yn bont rhwng fy nghymunedau a'r Llywodraeth i gyflwyno'r achos fod yn rhaid i'r cwmnïau rhyngwladol hynny fynd y tu hwnt i'r gwirfoddol rywsut, rhaid iddynt fynd y tu hwnt i'r trothwy isaf posibl y credant y gallant ei gael mewn perthynas â budd lleol, a gobeithio y gallwn weithio tuag at reoleiddio cadarn o leiaf, yn ogystal â deddfwriaeth, rwy'n credu, i sicrhau nad yw ein cymunedau'n dioddef yn sgil datblygiadau ynni adnewyddadwy a datblygiadau ynni eraill, ond yn dod yn bartneriaid go iawn ynddynt hefyd. Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 6. Dadl Plaid Cymru: Y sector ynni a'r argyfyngau hinsawdd a natur Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar, a gwelliant 2 yn enw Lesley Griffiths. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Eitem 6 ar yr agenda yw dadl Plaid Cymru ar y sector ynni a'r argyfyngau hinsawdd a natur. Galwaf ar Delyth Jewell i wneud y cynnig. Cynnig NDM7803 Siân Gwenllian Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi: a) datganiad y Senedd o argyfwng hinsawdd yn 2019, ac argyfwng natur yn 2021; b) y bydd 26ain Cynhadledd Partïon y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (COP26) yn cyfarfod yr Hydref hwn i gytuno ar gamau gweithredu cydgysylltiedig i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd; c) y bydd 15fed cyfarfod Cynhadledd y Partïon (COP15) i'r Confensiwn ar Amrywiaeth Biolegol (CBD) yn cyfarfod y gwanwyn nesaf i gytuno ar fframwaith bioamrywiaeth byd-eang; d) targed Llywodraeth Cymru i gyrraedd allyriadau carbon sero-net erbyn 2050; e) cred y Senedd y dylid sicrhau cydraddoldeb rhwng y camau a gymerir i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r rhai a gymerir i fynd i'r afael â'r argyfwng natur (NDM7725); f) bod y Senedd wedi pasio NDM7725 yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno gofyniad sy'n rhwymo mewn cyfraith i wrthdroi colli bioamrywiaeth drwy dargedau statudol. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) geisio datganoli rheolaeth Ystad y Goron a'i hasedau yng Nghymru yn llawn i Lywodraeth Cymru; b) ceisio datganoli pwerau ynni yn llawn; c) gwneud y mwyaf o botensial Cymru ar gyfer datblygu ynni adnewyddadwy drwy sefydlu cwmni datblygu ynni a gefnogir gan y wladwriaeth; d) datblygu gweithlu sero-net yng Nghymru drwy hwyluso ymdrechion traws-sector i uwchsgilio gweithwyr yn y sector ynni; e) hwyluso'r gwaith o ehangu'r pŵer adnewyddadwy sy'n angenrheidiol i gwrdd â sero-net drwy fuddsoddi'n helaeth mewn uwchraddio grid trydan Cymru; f) datblygu a gweithredu strategaeth ar gyfer porthladdoedd Cymru, a cheisio cyllid pellach gan Lywodraeth y DU ar gyfer seilwaith porthladdoedd yng Nghymru i gefnogi'r sector gwynt ar y môr sy'n datblygu; g) datblygu a gweithredu cynllun datblygu morol i roi sicrwydd i ddatblygwyr ynni drwy arwain y gwaith o nodi datblygiadau adnewyddadwy i ffwrdd o'r ardaloedd mwyaf sensitif o safbwynt ecolegol. Cynigiwyd y cynnig. Delyth Jewell AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae angen ymateb brys ar unrhyw argyfwng. Dyna'r neges sydd wrth wraidd ein dadl heddiw, gan y diffinnir argyfwng fel rhywbeth y mae angen gweithredu arno ar unwaith; dyna sy'n ei wneud yn argyfwng. Rydym ni yng Nghymru wedi datgan argyfyngau natur a hinsawdd dros y blynyddoedd diwethaf, ond hyd yn hyn, ni chafwyd digon o weithredu i atgyfnerthu'r datganiadau hynny. Mae arnaf ofn nad yw aros yn fraint y gallwn ei fforddio mwyach. Mae Cymru a'r byd yn wynebu trychinebau hinsawdd a natur, ac yn yr un modd ag y mae'r argyfyngau hyn yn cydblethu a'u hachosion yn gydgysylltiedig, mae'n rhaid i'w hatebion fod wedi'u cydblethu hefyd. Mae'n rhaid inni gael dulliau cydradd o fynd i'r afael â'r argyfyngau hyn, y newid yn yr hinsawdd a dirywiad bioamrywiaeth, oherwydd Ddirprwy Lywydd, rydym ar drobwynt yn hanes y ddynoliaeth. Nid yn aml y gallwn ddweud rhywbeth mor fawr â hynny mewn gwirionedd, ond mae'n wir. Nid yn unig y bydd y dewisiadau a wnawn yn awr, neu'r rhai y methwn eu gwneud, yn gosod y sefyllfa ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, byddant hefyd yn sicrhau a yw'r byd hwnnw'n dal i fodoli ai peidio. Mae COP15 yn agor yr wythnos hon ac mae COP26 ar y gorwel. Nawr, maent yn rhoi cyfle i'r byd wrthdroi'r newid yn yr hinsawdd a dirywiad bioamrywiaeth. Mae llawer iawn yn y fantol, ond mae llawer yn ofni y gallai'r fframweithiau a ddaw o'r COP fod yn esgus dros beidio â chymryd camau cryfach, a phawb yn claddu eu pennau yn y tywod ar yr union adeg y mae'r tywod hwnnw'n llifo allan o'r awrwydr, ac ar yr awr dyngedfennol, gallai arweinwyr y byd fethu gwneud yr hyn sydd angen iddynt ei wneud. Ond nid oes angen i bethau fod felly, a gall Cymru helpu i osod y cywair. Yn hytrach nag aros i COP26 a COP15 ddod i ben a defnyddio'r fframweithiau hynny i lunio ein hatebion ein hunain, gallem arwain y ffordd a dangos unwaith eto sut y gall gwlad o faint Cymru arwain y byd. Delyth Jewell AC: Dywedais na allwn fforddio aros, ond mae'r datganiadau a wnaethom a'r cynadleddau sydd i ddod yn rhoi cyfle inni fod yn radical, i fod yn arloesol ac i dorri cwys newydd, gan fod angen gweithredu ar frys. Mae'r argyfwng hinsawdd eisoes yn taro ein cymunedau'n galed. Y Rhondda, Llanrwst, Ystrad Mynach—mae strydoedd ym mhob cornel o'n gwlad, bron â bod, wedi wynebu llifogydd erchyll. Mae cartrefi a busnesau wedi'u dinistrio, ac mae tirlithriadau o domenni glo anniogel yn fygythiad parhaus. Mae tanau gwyllt a sychder wedi dod yn gyffredin, a bob blwyddyn daw tymereddau uwch nag erioed â dinistr yn eu sgil, gan godi'n ddi-droi'n-ôl fel y moroedd wrth ein traed. Yn union fel y mae rhai pethau'n codi, mae eraill yn cwympo. Disgwylir i'r dirywiad mewn bioamrywiaeth ar ein planed arwain at golli miliwn o rywogaethau. Yng Nghymru, mae'r RSPB a phartneriaid eraill wedi ein rhybuddio yn eu hadroddiad Cyflwr Natur 2019 fod 666 o rywogaethau yng Nghymru dan fygythiad o ddifodiant, ac mae 73 rhywogaeth eisoes wedi diflannu, sy'n drychineb y dylem wneud mwy na dim ond ei nodi a symud ymlaen. Mae'r rhywogaethau hynny wedi ein gadael oherwydd y ffordd yr ydym yn byw ein bywydau. Mae niferoedd gloÿnnod byw wedi gostwng 52 y cant ers 1976, ac mae 30 y cant o rywogaethau mamaliaid y tir mewn perygl o ddiflannu'n gyfan gwbl yng Nghymru, fel y wiwer goch a llygoden y dŵr. Ddirprwy Lywydd, mae'r wyddoniaeth yn glir, ac mae Cymru yn teimlo effeithiau'r argyfyngau hyn sy'n cyd-fodoli, yr un sy'n parhau i godi a chodi, a'r llall sy'n ein tynnu i lawr i ddyfnderoedd colled. Felly, beth y gallwn ei wneud i newid hyn? Wel, mae ail ran ein cynnig yn nodi cyfres o gamau beiddgar ac uchelgeisiol y gall, ac y mae'n rhaid i Gymru eu cymryd er mwyn mynd i'r afael â difrifoldeb yr argyfyngau hyn. Rydym yn galw ar y Llywodraeth i gynyddu potensial ein gwlad ar gyfer datblygu ynni adnewyddadwy drwy sefydlu cwmni datblygu ynni wedi'i gefnogi gan y wladwriaeth. Rydym yn galw am ddatblygu gweithlu sero-net yn y sector ynni, ehangu capasiti ynni adnewyddadwy drwy fuddsoddi mewn gwaith uwchraddio i'r grid trydan, strategaeth ar gyfer porthladdoedd Cymru a fyddai'n cefnogi'r sector gwynt ar y môr, a chynllun datblygu morol i roi sicrwydd i ddatblygwyr ynni ac i sicrhau nad yw datblygiadau adnewyddadwy yn cael eu cynllunio yn yr ardaloedd mwyaf sensitif o safbwynt ecolegol. Dywedais fod adnoddau ar gael i ni, ond nid yw holl adnoddau Cymru o dan ein rheolaeth, a dyna pam ein bod hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgyrchu dros ddatganoli rheolaeth Ystad y Goron yn llawn a datganoli pwerau ynni yn llawn, er mwyn sicrhau bod gennym yr holl ysgogiadau sydd eu hangen arnom i fynd benben â'r argyfyngau hyn. Nawr, bydd llawer o'r hyn y siaradwn amdano yn y ddadl hon ar raddfa enfawr, targedau byd-eang a llwybrau a chynlluniau sy'n ymestyn ddegawdau i'r dyfodol, ond nid mewn graffiau neu rifau neu beilonau yn yr awyr yn unig y caiff effeithiau diffyg gweithredu gan y Llywodraeth yn y meysydd hyn eu mesur. Effeithir ar fywydau pobl ar lawr gwlad mewn ffordd aruthrol o bersonol hefyd. Mae'r argyfwng ynni diweddar yr ydym yn dal i fod yn ei ganol wedi tanlinellu ein dibyniaeth ar farchnadoedd ac adnoddau sydd y tu hwnt i'n rheolaeth, a pha mor agored yr ydym i'w siociau hwy. Mae cwsmeriaid yn wynebu biliau uwch ac mae'r diwydiant yn wynebu toriadau yn y cyflenwad a chau i lawr. Y teuluoedd sydd leiaf abl i fforddio prisiau uwch fydd yn cael eu taro waethaf. Mae'r llifogydd y soniais amdanynt yn gynharach nid yn unig yn dinistrio tai, maent yn rhwygo bywydau pobl. Dyna ganlyniad diffyg gweithredu. Ddirprwy Lywydd, pan gawsom ein dadl ym mis Mehefin, a arweiniodd at y Senedd yn datgan argyfwng natur, dywedodd Mike Hedges y gallai cymaint o greaduriaid annwyl yr ydym yn eu hadnabod mewn llyfrau plant ddiflannu o’n byd cyn bo hir. A chredaf fod y ddelwedd honno o lyfrau stori yn un gref. Pa lyfrau stori, pa lyfrau hanes, y byddem eisiau i'n hwyrion eu darllen yn datgan beth a wnaethom ar yr adeg hon, pan ellir newid cymaint o hyd, os bydd papur ar ôl i ysgrifennu arno? A ydym am i'r naratif ymddatod, i gaethiwo cenedlaethau'r dyfodol mewn dystopia o dir llosg, tirweddau llwm a llanw sy'n codi ac yn codi? Neu a ydym am droi'r ddalen heddiw, ac agor pennod a fydd yn caniatáu i'r plant hynny adrodd stori o lwyddiant? Mae llygaid y dyfodol arnom ni heddiw. Mae eu tynged yn ein dwylo ni. Gadewch inni ddechrau eu straeon yn awr tra gallwn. Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig, ac os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Janet Finch-Saunders i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Gwelliant 1—Darren Millar Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) weithio gyda Llywodraeth y DU i gyflawni prosiectau ynni mawr i Gymru; b) croesawu'r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo £90 miliwn i brosiectau sero-net arloesol yng Nghymru; c) adeiladu ar y ffaith bod diwydiant a Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i fuddsoddi dros £40 miliwn i gefnogi'r clwstwr o ddiwydiannau yn ne Cymru i bontio i sero net; d) cydnabod bod Llywodraeth y DU wedi darparu £4.8 miliwn, yn amodol ar achos busnes a chymeradwyaethau eraill, i gefnogi datblygiad hwb hydrogen Caergybi; e) yn croesawu Cronfa Bwyd Môr y DU, sydd werth £100 miliwn, a gynlluniwyd i lefelu cymunedau arfordirol ledled y DU, a gweithio i weithredu yn hytrach nag oedi cyn creu porthladd rhydd yng Nghymru; f) gwneud y mwyaf o'r potensial ar gyfer datblygu ynni adnewyddadwy drwy sefydlu pecyn o gymorth ar gyfer buddsoddiad preifat mewn cynlluniau ynni adnewyddadwy; g) hwyluso goruchafiaeth gynyddol ynni adnewyddadwy drwy roi mwy o frys ar sicrhau y gall seilwaith ddarparu ar gyfer galw; h) datblygu a gweithredu cynllun datblygu morol; i) creu 15,000 o swyddi glas/gwyrdd newydd. Cynigiwyd gwelliant 1. Janet Finch-Saunders AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant yn enw Darren Millar, ac rwy'n ddiolchgar iawn unwaith eto i Blaid Cymru am y ddadl bwysig hon. Nawr, gyda COP15 ar y gweill, mae'n briodol iawn ein bod yn sicrhau bod ein Llywodraeth yng Nghymru yn gwneud ei gorau glas i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur. Ar draws y Siambr, rydym yn cytuno bod angen cyflawni sero-net erbyn 2050 a diogelu o leiaf 30 y cant o dir a môr erbyn 2030. Ond rydym yn anghytuno ynglŷn â sut yr awn ati i gyflawni'r nodau hynny. Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, yn genedlaetholwyr Cymreig go iawn, yn galw am ddatganoli pwerau ymhellach a chreu cwmni wedi'i gefnogi gan y wladwriaeth, cwmni newydd wedi'i gefnogi gan y wladwriaeth, ond pam y byddech am i Lywodraeth Cymru wneud hynny pan oeddent, ychydig wythnosau yn ôl yn unig pan oeddem yn siarad am y tomenni glo, yn awyddus i roi'r cyfrifoldeb hwnnw ar ysgwyddau Senedd y DU, gan ddweud nad oes gennym adnoddau yma yng Nghymru? [Torri ar draws.] Na, na, na, fe'i gelwir yn ddatganoli. Pam fyddai arnoch eisiau Llywodraeth Cymru fel hon, sydd wedi gwastraffu cannoedd o filiynau o bunnoedd, fel £221 miliwn ar ardaloedd menter anghystadleuol, £9.3 miliwn ar gyllid cychwynnol diffygiol i Gylchffordd Cymru, a £130 miliwn ar gynnal Maes Awyr Caerdydd? Nawr, mae Llywodraeth y DU—Ceidwadwyr—ar y llaw arall yn barod iawn i brofi ei bod am gyflawni chwyldro gwyrdd, ac yma yng Nghymru, gyda dros £40 miliwn wedi'i ymrwymo i gefnogi'r clwstwr o ddiwydiannau yn ne Cymru i drawsnewid i sero-net, £4.8 miliwn yn cael ei ddarparu, yn amodol ar achos busnes a chymeradwyaethau eraill, i gefnogi—[Torri ar draws.]—i gefnogi hwb hydrogen Caergybi, ac maent eisoes wedi ymrwymo £90 miliwn i brosiectau sero-net arloesol yng Nghymru. Nawr, nodais yn glir yn y Senedd ddiwethaf y dylai 'Cymru’r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040' fod wedi mynd i'r afael â'r problemau difrifol a nodwyd gan randdeiliaid, sef y diffyg difrifol o gapasiti grid yng nghanolbarth Cymru. Bûm yn siarad heddiw ddiwethaf â datblygwyr ynni, ac maent yn wirioneddol bryderus am y sefyllfa yng nghanolbarth Cymru. Ac mae angen i chi fel Llywodraeth Cymru wynebu eich cyfrifoldeb ar hyn a gweithio mewn modd cydlynolgyda Llywodraeth y DU i sicrhau y gallwn gynyddu capasiti'r grid. Mae angen inni wybod pa derfyn amser a bennwyd i gyflawni'r cynllun hirdymor a pha gamau a fydd yn cael eu cymryd i wella capasiti yn y tymor byr, fel y gall y seilwaith ddarparu ar gyfer y galw sydd ei angen i drydaneiddio ein seilwaith gwresogi a thrafnidiaeth. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru fanteisio i'r eithaf ar y potensial ar gyfer datblygu ynni adnewyddadwy drwy sefydlu pecyn cymorth ar gyfer buddsoddiad preifat mewn unrhyw gynlluniau newydd, ac mae hyn yn ymwneud â'r hyn yr oeddech yn ei ddweud yn gynharach, Rhun, am gynlluniau bach. Penderfynodd y Gweinidog Materion Gwledig ddiddymu cymorth ardrethi busnes gwirioneddol hanfodol ar gyfer prosiectau hydrodrydanol ar raddfa fach dan berchnogaeth breifat. Yn hytrach, beth am anfon neges glir at ein ffermwyr a'n rheolwyr tir fod Llywodraeth Cymru yn eu cefnogi i arallgyfeirio drwy fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy? Os na wnewch chi weithredu yn awr, bydd tystiolaeth syfrdanol yr adroddiad 'Cynhyrchu Ynni yng Nghymru' diwethaf yn cael ei hailadrodd: cynnydd yng nghyfanswm y capasiti ynni dŵr o lai na 0.2 y cant; cynnydd o lai nag 1 y cant yng nghapasiti solar ffotofoltäig Cymru; dim un prosiect storio batri ar raddfa fawr wedi'i gomisiynu yn 2019; a chynnydd o 0.6 MWh yn unig yn nifer y gosodiadau storio batri domestig a masnachol ar raddfa fach. Er y gallwch roi camau ar waith i annog buddsoddiad preifat, mae angen i lywodraeth ar bob lefel—ac rwy'n derbyn hynny—gydweithredu ar ddarparu cynlluniau ynni mawr i Gymru. Mae Wylfa Newydd yn enghraifft allweddol, a diolch—. O, mae wedi mynd; roedd y tu ôl i mi. Ond fe soniodd Sam Kurtz am Wylfa a’r gwaith y mae ein cyd-aelod o'r Blaid Geidwadol, Virginia Crosbie AS, yn Ynys Môn—. Gallwn fod yn gweithio gyda'n gilydd i sicrhau bod adweithydd modiwlar bach yn cael ei adeiladu yn Nhrawsfynydd erbyn y 2030au, ac mae gennym gyfle anhygoel o gyffrous gyda morlyn llanw gogledd Cymru, a allai ddarparu ynni glas cwbl ragfynegadwy i dros filiwn o gartrefi. Gwnaf, fe wnaf ildio. Mike Hedges AC: Mae'n ddrwg gennyf, roeddwn am ddweud: a wnewch chi ychwanegu morlyn llanw Abertawe at hynny? Janet Finch-Saunders AC: Yn sicr. Roeddwn yn cefnogi morlyn llanw Abertawe, ac rwyf—. Yn y pen draw, ydw, rwy'n cefnogi hwnnw—felly hwnnw a'r un yng ngogledd Cymru. Fel y dywedodd Margaret Thatcher, 'Efallai y bydd yn rhaid i chi ymladd brwydr fwy nag unwaith i'w hennill.' Felly, byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i weithio gyda'n busnesau preifat a Llywodraeth y DU i barhau i ymladd er mwyn cyflawni'r chwyldro gwyrdd hwn yng Nghymru, a gadewch inni wneud hon yn genedl ynni fyd-eang wych unwaith eto. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, i gynnig yn ffurfiol gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Gwelliant 2—Lesley Griffiths Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le: Cadarnhau ei ymrwymiad i'r egwyddorion sydd wedi'u hymgorffori yn Natganiad Silesia i gefnogi gweithwyr drwy drosglwyddo teg i net zero. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) chwarae ei rhan i alluogi trawsnewid ein system ynni i gadw manteision economaidd a chymdeithasol o gynhyrchu ynni adnewyddadwy yng nghymunedau Cymru. b) cynyddu capasiti cynhyrchu ynni sy'n eiddo i gyrff cyhoeddus a grwpiau cymunedol. c) cefnogi porthladdoedd Cymru i sicrhau eu bod yn gallu buddsoddi i sicrhau'r manteision lleol mwyaf posibl o ddatblygu cynhyrchu ynni morol. d) diogelu bioamrywiaeth morol tra'n hwyluso'r defnydd o dechnoleg ynni morol, gan gynnwys drwy ddarparu canllawiau ar gyfer deall y lleoliadau mwyaf addas. Yn galw ar arweinwyr byd-eang i ddefnyddio 26ain Cynhadledd Partïon y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd i ymrwymo i roi terfyn ar y defnydd o lo wrth gynhyrchu ynni. Cynigiwyd gwelliant 2. Julie James AC: Yn ffurfiol. Rhys ab Owen AS: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi'n ddigon ffodus i allu cerdded ar hyd yr afon Taf i'r Senedd, ac, wrth gerdded ar hyd y glannau, dwi'n adlewyrchu'n aml gymaint o'r ardaloedd o amgylch a fyddai o bosib o dan dŵr o fewn ychydig flynyddoedd os nad ydyn ni'n cydweithio gyda'n gilydd. Ac mae hyn yn bwysicach na gwleidyddiaeth pleidiol, onid yw e? Mae'n rhaid inni gydweithio gyda'n gilydd—Llywodraethau ledled y byd a hefyd Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y Deyrnas Unedig a llywodraethau lleol. Rhys ab Owen AS: Y rhybudd amlwg gan gadeirydd Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr yw 'addasu neu farw', a gŵyr pob un ohonom nad oes Clawdd Offa yn bodoli mewn perthynas â'r argyfwng hinsawdd. Ond mae angen inni ddod o hyd i atebion yma yng Nghymru ar gyfer realiti byd-eang. I wneud hynny, mae angen y rheolaeth arnom. Mae arnom angen yr ysgogiadau i wneud gwahaniaeth go iawn. Mae gwelliannau i'n trefniadau cyfansoddiadol wedi cael eu rhewi gan y Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan. Tra bo Boris Johnson yn mwynhau paentio yn ei fila foethus, mae'r argyfwng hinsawdd yn arwain at rewlifoedd yn toddi, ac yma, maent yn gwarafun yr offer sydd eu hangen arnom i weithredu. Rhys ab Owen AS: I daclo'r argyfwng, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru geisio datganoli pwerau ynni yn llawn. Dylai Llywodraeth Cymru lywodraethu adnoddau Cymru ar gyfer pobl Cymru ac er budd amgylcheddol ac economaidd Cymru, heddiw ac i'r yfory. Rhys ab Owen AS: Ni allwn ganiatáu i eraill ecsbloetio adnoddau Cymru eto fyth. Dros ddegawd yn ôl yn y lle hwn, dywedodd Leanne Wood hyn: 'Ar anterth y diwydiant glo, cynhyrchwyd elw enfawr o adnoddau naturiol Cymru, ond llifodd yr holl arian, bron, allan o'r wlad ac i bocedi pobl mewn mannau eraill.' Rhys ab Owen AS: Allwn ni ddim gadael i hyn ddigwydd eto. Rhys ab Owen AS: Gall Cymru gynhyrchu'r pŵer sydd ei angen arnom o ffynonellau adnewyddadwy ac allforio ynni ledled y byd. O'r lle hwn, bu porthladd Caerdydd, Cymru fyd-eang, Cymru ryngwladol, yn allforio glo i bedwar ban byd. Gallwn fod yn arweinydd unwaith eto. Yr hyn na allwn ei wneud yw aros ac aros am roddion prin gan Lywodraeth ddifater San Steffan. Fel y gwelir yn yr adroddiad ar borthladdoedd y dyfodol, a gyhoeddwyd heddiw, mae Ystad y Goron yn arwerthu lesoedd ar gyfer datblygu ynni gwynt ar y môr a thechnolegau adnewyddadwy eraill. Gwnânt hynny er mai Llywodraeth Cymru sydd â chyfrifoldeb am ynni adnewyddadwy ar gyfer prosiectau hyd at 350 MW. Mae refeniw proffidiol o lesoedd Ystad y Goron a ddylai ddod yma i Drysorlys Cymru yn diflannu yn hytrach i bot yn Whitehall, gyda chyfran hael o 25 y cant i'r teulu brenhinol. Mae arian a allai wneud gwahaniaeth i deuluoedd yma yng Nghymru yn mynd yn syth i gyfrifon banc biliwnyddion. Rhys ab Owen AS: Wedi cael ei ofni gan gynnydd yr SNP ar ôl y refferendwm annibyniaeth, cafodd Ystâd y Goron ei datganoli i'r Alban, ond mae llais honedig Cymru yn y Cabinet, Simon Hart, yn erbyn hynny i Gymru; dyw Cymru ddim yn ddigon da am y pŵer yna, yn ôl e. Ond mae'r ffigurau yn drawiadol. Gwrandewch: 27 y cant o ynni Cymru yn dod o ynni adnewyddadwy o gymharu â 61 y cant yn yr Alban. Rhys ab Owen AS: Mae rheolaeth Ystad y Goron ar wely ein môr, heb sôn am ddarnau mawr o'n tir, yn golygu bod Cymru'n colli'r rhuthr gwyrdd y mae'r Alban yn elwa ohono ar hyn o bryd, ac mae'r un peth wedi digwydd ar hyd y canrifoedd. A dyna eironi marchnad ynni neoryddfrydol y DU—mae cwmnïau ynni a chanddynt gefnogaeth y wladwriaeth o bob rhan o Ewrop yn manteisio ar adnoddau Cymru ac yn gwario'r arian hwnnw i helpu eu gwasanaethau cyhoeddus eu hunain gartref, tra bod ein gwasanaethau cyhoeddus ein hunain yn dirywio oherwydd diffyg buddsoddiad. Heddiw, yn nigwyddiad y gynghrair werdd yn San Steffan, nododd Ed Miliband mai Rachel Reeves fyddai Canghellor gwyrdd cyntaf y DU. Wel, yma yng Nghymru, nid oes angen inni aros am Lywodraeth Lafur. Beth am gael y pwerau fel mai Rebecca Evans yw'r Gweinidog cyllid gwyrdd cyntaf a dangos y ffordd i'ch cyd-aelodau o'r Blaid Lafur yn Llundain? Rhys ab Owen AS: Yn hytrach na diffyg uchelgais San Steffan, mae angen sicrhau'r pwerau i bweru Cymru. A dwi'n gorffen gyda hwn. Rhys ab Owen AS: Os ydym am wneud y mwyaf o'n potensial ynni adnewyddadwy, mae'n rhaid inni wneud hynny gyda'n dwy droed ein hunain a'n dwy law ein hunain; ni allwn ddibynnu ar eraill, yn enwedig Llywodraeth ddifater San Steffan. Dylai adnoddau Cymru gael eu llywodraethu gan Lywodraeth Cymru— A wnewch chi ddirwyn i ben yn awr, os gwelwch yn dda? Rhys ab Owen AS: —ar gyfer pobl Cymru, ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru. Rhys ab Owen AS: Mae mor syml â hynny. Diolch yn fawr. Jenny Rathbone AC: Rydym mewn perygl o gael ein parlysu gan faint yr her sydd o'n blaenau, ond nid yw gwasgu ein dwylo mewn anobaith yn dda i ddim; mae'n rhaid inni achub ar y cyfle, ac mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae. Ond ni chredaf fod llawer o werth taflu dartiau at Lywodraeth y DU i ofyn iddynt am fwy o ddatganoli, gan nad oes ganddynt unrhyw ddiddordeb o gwbl. Maent yn casáu datganoli ac maent yn gwneud popeth a allant i'w fachu'n ôl oddi wrthym, gan ddefnyddio gadael yr Undeb Ewropeaidd fel cyfle i wneud hynny. Dywedwyd wrthym na fyddem yn cael 'yr un geiniog yn llai' o ganlyniad i Brexit—aeth hynny'n dda; £137 miliwn yn llai o'r rhaglen datblygu gwledig a'r holl gronfeydd strwythurol yn cael eu herwgipio i'w cronfa ffyniant gyffredin, fel y'i gelwir. Nid oedd 'adfer rheolaeth' yn golygu grymuso cymunedau lleol, dim ond mwy o bŵer i'r mega-gyfoethog, sydd bellach yn prynu eu dylanwad dros y blaid sy'n rheoli yn Llywodraeth y DU. Felly, gadewch inni anghofio'r hyn nad yw Llywodraeth y DU yn mynd i'w wneud drosom; rydym yn gwybod hynny. Rwy'n cytuno â Rhys ab Owen y gallem gynhyrchu digon o ynni glân i ddatgarboneiddio ein marchnad ynni ddomestig, a gallem fod yn ei werthu i’r niferoedd dirifedi o bobl sydd am ei brynu oddi wrthym, ond nid ydym wedi llwyddo i wneud hynny hyd yn hyn, ac mae angen inni ddeall ychydig yn well pam ein bod wedi gweld gostyngiad yng nghynhyrchiant ynni adnewyddadwy yng Nghymru dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Efallai y dylwn ddatgan buddiant yma, gan fod fy mhartner yn ymgynghorydd gyda Bute Energy, sy'n archwilio yng Nghymru. Ond mae gwir angen inni feddwl sut rydym yn mynd i gyflymu'r defnydd o ynni adnewyddadwy gwyrdd, gan fod galw mawr am ynni, yma yng Nghymru ac yng ngweddill Ewrop. Rydym yn ymwybodol o'r angen i ddatgarboneiddio ein trafnidiaeth, a bydd rhywfaint o hynny'n ymwneud â newid i geir trydan o danwydd ffosil, ond ni allwn fforddio gwefru'r ceir trydan hyn gan ddefnyddio'r tanwyddau ffosil budr yr ydym yn ceisio dianc rhagddynt, felly mae'n rhaid inni gynhyrchu llawer iawn mwy o ynni adnewyddadwy. Mae'n rhaid i ni hefyd ddatgarboneiddio ein holl dai, ac mae hynny'n golygu nid yn unig ôl-osod yr holl dai presennol sydd eisoes wedi'u hadeiladu, sef ein holl dai, bron â bod, ond mae'n rhaid i ni hefyd roi stop ar yr holl gwmnïau adeiladu tai mawr hyn sydd am barhau i adeiladu tai nad ydynt yn addas at y diben. Felly, rwy'n gobeithio y gall y Gweinidog ddweud wrthym pryd y byddwn yn uwchraddio Rhan L yn y rheoliadau adeiladu i sicrhau mai safonau di-garbon yn unig a gynhyrchir gennym yn y dyfodol. Mae angen inni feddwl hefyd am bopeth a wnawn fel unigolion. Ac er mwyn gallu gwneud y dewisiadau iawn, mae'n rhaid inni ddeall beth yw cost prynu cynnyrch penodol yn hytrach nag un arall. Oherwydd nid oes pwynt allforio ein hallyriadau carbon drwy ddweud, 'Nid wyf am brynu hwn am ei fod yn cynhyrchu gormod o allyriadau carbon yma. Fe gawn rywun dramor i wneud hyn drosom.' Mae'n rhaid inni ddeall, os ydym am gynhyrchu cig yn ddiwydiannol yn y ffatrïoedd cig moch hyn neu'r ffatrïoedd cyw iâr hyn, mae cost i'r byd, nid yn unig yng Nghymru wrth i'n hafonydd gael eu llygru, ond beth y maent yn ei fwyta ac o ble y daw? Os ydym am gael anifeiliaid yn cael eu cynhyrchu'n anghynaladwy—. Mae porfa yn ddull cynaliadwy iawn o gynhyrchu cig, ond os ydym yn eu cynhyrchu drwy eu bwydo â soia a grawn, mae'n debyg ein bod yn cyfrannu at ddatgoedwigo sylweddol yn yr Amazon. Felly, bydd angen inni addysgu pawb i wneud dewisiadau priodol am bopeth a wnawn yn ogystal â meithrin ein natur drwy benderfyniadau bach iawn ynghylch gosod blychau ffenestri a phlannu bwyd i ni a'n cymdogion ei fwyta. Dyma'r pethau y gallwn eu gwneud, ond credaf fod angen inni roi'r gorau i geisio meddwl bod Llywodraeth y DU rywsut yn mynd i newid eu hymddygiad—nid ydynt yn mynd i wneud hynny—ac rydym yn mynd i orfod gwneud hyn ein hunain. Sam Rowlands MS: Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl bwysig ac amserol hon heddiw, sy'n amlwg yn eang ei chyrhaeddiad o safbwynt ei theitl—gallai'r Aelodau ddilyn sawl trywydd mewn perthynas â'r ddadl hon heddiw. Hefyd, hoffwn groesawu a chefnogi adran gyntaf y cynnig gan Blaid Cymru, sy'n nodi'r holl waith da sydd wedi digwydd mewn gwahanol sefydliadau ac mewn gwahanol rannau o'r wlad hefyd. Rwyf am geisio cadw fy nghyfraniad mor ymarferol â phosibl, gan ganolbwyntio ar gyflawniad. Mewn perthynas ag atebion ynni gwyrdd, i mi, mae tri phwynt perthnasol y byddaf hefyd yn canolbwyntio arnynt yn fy nghyfraniad. A'r cyntaf sydd angen inni ei drafod a pharhau i'w ystyried, rwy'n credu, yw'r amrywiaeth o atebion ynni y byddem eisiau eu gweld yng Nghymru. Mae wedi bod yn glir, onid yw, yn ystod yr wythnosau a'r misoedd diwethaf, ein bod wedi rhoi gormod o'n hwyau mewn un fasged ynni gwyrdd o bosibl, gan beri inni fynd i drafferthion, oherwydd rydym wedi gweld, onid ydym, fod y diffyg gwynt drwy fis Medi yn golygu bod llai o ynni ar gael inni ei ddefnyddio? Fel seneddwyr, credaf y dylem ystyried y ffocws ar gynlluniau ynni sydd i'w gweld yn rhad o ran eu costau gosod cychwynnol a'u costau cychwynnol, ond mae gwir angen inni ystyried: a ydynt yn gyson? A ydynt yn ddibynadwy? Beth yw effaith macro'r cynlluniau a roddwyd ar waith yn y gorffennol a pha dechnolegau eraill y dylem geisio eu cefnogi yn y dyfodol? Soniodd fy nghyd-Aelod dros Aberconwy am gynllun ynni'r llanw, a gwn fod Mr Hedges hefyd wedi sôn am hynny mewn ymyriad, ond mae yna gynlluniau fel cynllun ynni'r llanw—technolegau fel hynny—a all ddarparu ynni dibynadwy, rhagfynegadwy i ni yn y dyfodol. Fe wnaf dderbyn ymyriad. Jenny Rathbone AC: Ie. Hoffwn eich atgoffa, fel Aelod newydd, ein bod wedi ymdrechu mor galed, ar draws pob plaid, i gael Llywodraeth y DU yn y Senedd ddiwethaf i gefnogi cynllun ynni'r llanw ac fe wnaethant ei wrthod. Ac mewn gwirionedd, mae'r llanw ar drai ar hynny. Mae'n gwbl anobeithiol ac yn awr rydym yn y sefyllfa rydym ynddi. Sam Rowlands MS: Rwy'n sicr yn cydnabod hynny a byddaf yn parhau i gefnogi manteision ynni'r llanw o fy ochr i. Efallai nad yw'r cynllun penodol hwnnw wedi bod mor effeithiol â rhai eraill, ond nid yw'n golygu bod ynni'r llanw a'r dechnoleg yn beth drwg. Ac rwy'n credu bod y gwaith da mewn lleoedd fel Morlais, sy'n edrych ar ynni'r llanw a sut y gellir ei wella, yn bwysig iawn a dylem barhau i'w gefnogi. Hefyd, yr hyn y mae ynni'r llanw yn ei gynnig i ni, fel y bydd yr Aelod yn deall, yw cyfle i liniaru rhai o effeithiau newid hinsawdd, nad yw Llywodraethau wedi'i ystyried yn briodol yn y gorffennol efallai. Ac mae'r ateb arall, nad yw wedi'i grybwyll gymaint yma heddiw—mae wedi cael ei grybwyll—yn ymwneud ag ynni niwclear, wrth gwrs. Mae hwnnw'n ynni glân, dibynadwy heb unrhyw allyriadau. Mewn gwirionedd, mae gennym safleoedd da, fel y gwyddom, ledled Cymru ar hyn o bryd, a thechnolegau eraill y soniodd Mr Kurtz amdanynt yn gynharach, nad ydynt efallai wedi'u profi i'r un graddau ar hyn o bryd, ond nid yw hynny'n golygu y dylem ochel rhag y rheini, a throi'n ôl at yr hen ffyrdd o wneud pethau drwy'r amser. Dyna oedd fy mhwynt cyntaf. Mae arnaf ofn fod yr amser yn mynd, Ddirprwy Lywydd; fe geisiaf gyflymu rhywfaint. Yn ail, y maes arall sy'n hanfodol inni ei ystyried a chanolbwyntio arno yw sicrhau bod gennym yr amgylchedd cywir ar gyfer buddsoddi preifat hefyd. Credaf y gallai fod risg weithiau o sôn am ynni gwyrdd neu economi sy'n ffynnu. Nid wyf yn credu bod y ddau beth yn gwbl annibynnol ar ei gilydd. Rydym i gyd yn deall, ac yn cefnogi rwy'n siŵr, y ffaith bod ynni gwyrdd yn gyfle inni dyfu ein heconomi yma yng Nghymru. Yn sicr, mae gan y Llywodraeth rôl bwysig, nid yn unig mewn perthynas â buddsoddiad cwmnïau ynni, ond hefyd i greu'r seilwaith amgylcheddol, mater a godais yr wythnos diwethaf yma yn y Siambr, i alluogi ac annog y buddsoddiad preifat hwnnw. Y trydydd pwynt, sydd efallai wedi cael mwy o sylw y prynhawn yma nag unrhyw fater arall, yw pwysigrwydd gweithio ar draws y gwledydd yn y Deyrnas Unedig. Nid yw'r argyfwng hinsawdd a natur a wynebwn yn bryder i Gymru'n unig, ac felly nid yw'n ateb i Gymru'n unig. Mae'n rhaid inni barhau i geisio gweithio gyda'n gilydd, ac efallai y bydd yna adegau pan fydd hynny'n anodd, byddwn yn cydnabod hynny—nid wyf yn mynd i anwybyddu hynny—ond nid yw'n golygu bod yn rhaid inni roi'r gorau i'w wneud, ac mae'n rhaid bod ffyrdd y gallwn barhau i adeiladu ar y cysylltiadau a'r ymdrechion hynny lle maent yn gweithio'n dda. Felly, fe geisiais fod mor gryno â phosibl yno, Ddirprwy Lywydd: tri phwynt sydd, gobeithio, yn ymarferol ac rwy'n gobeithio y byddant yn ein helpu i gyflawni'r gwaith pwysig sydd o'n blaenau. Luke Fletcher AS: Y Senedd hon oedd y gyntaf i ddatgan argyfwng hinsawdd, yn ôl yn 2019, ac ychydig fisoedd yn ôl, hon oedd y Senedd gyntaf i ddatgan argyfwng natur. Gwyddom fod y dasg sydd o'n blaenau yn aruthrol, a bod angen meddwl o ddifrif amdani ac ewyllys i newid y system yr ydym yn byw ynddi. Rwyf bob amser wedi bod yn glir: mae'r system economaidd bresennol yr ydym yn byw ynddi yn anghydnaws â'r hyn sydd ei hangen i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur, fel sy'n wir am unrhyw system sy'n rhoi elw a thrachwant o flaen popeth arall. Bydd y newid i economi sero-net, er enghraifft, yn un o'r trawsnewidiadau economaidd mwyaf dwys i ni eu gweld ers degawdau, a bydd yn foment allweddol yn hanes nid yn unig Cymru, ond y ddynoliaeth. Mae'n galw arnom i roi cymunedau a'r blaned yn gyntaf. Ni, yn y fan hon, yr eiliad hon, fydd yn penderfynu a fydd y blaned hon yn weddus i'n hwyrionfyw arni neu beidio. Rydym yn byw ar un o'r adegau hynny mewn hanes, fel y dywedodd Delyth Jewell, lle mae dynoliaeth naill ai'n llwyddo neu'n methu. Wrth inni symud tuag at economi sero-net, bydd y canlyniadau i'n cymunedau yn bellgyrhaeddol. Ydy, mae datgarboneiddio yn cynnig rhai enillion a allai fod yn werthfawr, ond mae'n rhaid inni sicrhau bod pawb yn elwa o'r enillion hynny. Gobeithio bod yr Aelodau'n ymwybodol o egwyddor trawsnewid cyfiawn. Mae'n rhaid i'r egwyddor hon fod yn allweddol i unrhyw strategaeth i fynd i'r afael â newid hinsawdd. Mae'n golygu gwneud ein heconomi yn un fwy cynaliadwy, mewn ffordd sy'n deg i bob gweithiwr, ni waeth pa ddiwydiant y maent yn gweithio ynddo. Mae'r ffordd yr adeiladwyd ein heconomi yn golygu bellach fod bywoliaeth llawer o bobl a chymunedau ehangach ynghlwm wrth y diwydiannau sy'n llygru: diwydiannau a fydd yn newid yn eithriadol; diwydiannau a fydd yn crebachu; a diwydiannau a allai ddiflannu'n llwyr, gan newid bywydau gweithwyr yn y cymunedau hynny am genedlaethau i ddod yn y pen draw. Rydym eisoes wedi gweld effaith trawsnewid anghyfiawn. Pan gaeodd Thatcher y pyllau glo, gadawyd y cymunedau i wynebu'r canlyniadau ar eu pen eu hunain, ac mae'r effeithiau'n dal i'w teimlo heddiw. Rhaid i Lywodraeth Cymru archwilio'r cyfleoedd i sefydlu canolfan ragoriaeth ynni adnewyddadwy i fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau presennol, boed drwy hyfforddi pobl o'r newydd neu ailhyfforddi'r rheini mewn sectorau carbon uchel. Ni ellir ond cyflawni hyn ar raddfa genedlaethol strategol. Hoffwn ofyn i Lywodraeth Cymru roi eu hymateb gonest, a ydynt yn credu y gall y gweithlu fel y mae ar hyn o bryd gyflawni eu hymrwymiadau gwyrdd? A all y gweithlu gyflawni ymrwymiadau tai gwyrdd mewn gwirionedd? A all gyflawni nodau inswleiddio ynni? A all gyflawni dros natur? Er mwyn adeiladu gweithlu sero-net, mae angen inni weld arweiniad gan Lywodraeth Cymru i hwyluso ymdrechion traws-sector i uwchsgilio gweithwyr. Mae ystod eang o randdeiliaid—megis EDF, er enghraifft—wedi mynegi pryderon ynglŷn ag a fyddai gan Gymru gapasiti i greu mwy o swyddi yn dilyn y pandemig COVID-19. Ategwyd pryderon tebyg y bore yma mewn cyfarfod a gynhaliais gyda chynrychiolwyr o'r sector adeiladu. Dros y pum mlynedd nesaf, bydd yn rhaid i bob cwmni yng Nghymru fod ar ryw fath o daith ddatgarboneiddio. Mae angen inni fachu ar y cyfle a gweithredu yn awr i ddatblygu strategaeth gynhwysfawr ar gyfer gweithlu gwyrdd, neu beth bynnag y mae Llywodraeth Cymru eisiau ei alw—gwnewch hynny. Gallem greu miloedd ar filoedd o swyddi, sicrhau ffyniant economaidd i amryw o sectorau ar hyd a lled Cymru, cyflawni ein nodau gwyrdd, a sicrhau dyfodol cynaliadwy i bawb. Ond mae angen inni fod yn strategol, mae angen inni sicrhau bod gennym weithlu gwyrdd gyda sgiliau da ac wedi'i hyfforddi'n dda i gyflawni'r nodau hyn. Ac yn olaf, Ddirprwy Lywydd, mae yna rywbeth y credaf ei fod yn aml yn cael ei anwybyddu pan soniwn am wneud yr economi yn fwy cynaliadwy, a thlodi yw hwnnw. Gwyddom fod pobl eisiau gwneud y newidiadau gwyrdd hynny yn eu bywydau, fel y nododd Jenny Rathbone, ond y realiti yw na allant fforddio gwneud hynny. Mae'n iawn i ni sefyll yma a rhygnu ymlaen am y newidiadau sydd angen inni eu gwneud, ond rydym ni, wrth gwrs, yn siarad o safbwynt breintiedig. Os ydych yn deulu gyda phlant i'w bwydo, yn gweithio nifer o swyddi ac yn gwneud popeth yn eich gallu i gadw dau ben llinyn ynghyd, ni allwch fforddio mynd i brynu bwyd cynaliadwy. Ni allwch fforddio mynd i'r siop ddiwastraff, ni allwch fforddio newid i gerbyd trydan, ni allwch fforddio gwneud unrhyw beth heblaw cynnal y status quo ansicr.Mae'n rhaid i ymladd yr argyfwng hinsawdd olygu ymladd tlodi. Mae gennym gyfle i newid popeth, i droi'r byrddau. Pan fyddwn yn cymryd y camau hynny, mae angen iddynt fod ar gyfer pawb. Rydym wedi siarad digon, ac mae'r amser ar ben. Os nad yw'n digwydd yn awr, ni fydd byth yn digwydd. Gareth Davies AS: Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon y prynhawn yma ar fater pwysig a pherthnasol iawn. Ar wahân i rai ar gyrion cymdeithas, nid oes neb ar y blaned hon sy'n gallu gwadu'r trychinebau sy'n ein hwynebu, o'r newid hinsawdd sy'n bygwth digwyddiadau tywydd eithafol yn rheolaidd, fel y llifogydd dinistriol yn fy etholaeth ar ddechrau'r flwyddyn hon, i'r dirywiad enfawr ym myd natur sydd wedi arwain at golli rhywogaethau di-rif. Bydd y modd y gweithredwn dros y degawdau nesaf yn penderfynu pa mor hyfyw yw bywyd ar y ddaear. Fodd bynnag, mae'n rhaid inni sicrhau ein bod yn gwneud y peth iawn, a'n bod hefyd yn ei wneud yn y ffordd gywir. Rydym i gyd yn cofio polisïau trychinebus cyfnod Blair/Brown a oedd yn hyrwyddo injans diesel mewn ymgais annoeth i reoli allyriadau carbon. Rydym yn dal i ymdrin â chanlyniadau'r llanastr hwnnw heddiw. Faint o blant a fu farw neu sydd wedi dioddef effeithiau iechyd hirdymor o ganlyniad i'r cynnydd mewn gronynnau ac ocsidiau nitrogen? Mae'n raid inni sicrhau nad yw'r hyn a wnawn heddiw yn arwain at ganlyniadau anfwriadol, neu fel arall byddwn wedi methu dysgu gwersi'r gorffennol. Arweiniodd y chwyldro diwydiannol at fanteision enfawr i'r ddynolryw, ond arweiniodd hefyd at ddifrod di-ben-draw i'r unig le y gall pobl ei alw'n gartref: y ddaear. Ni allwn barhau i wneud yr un camgymeriadau. Hyd yn oed ar lefel ficro, mae'n rhaid inni sicrhau nad yw'r camau a gymerwn i gyfyngu ar ddifrod i'n hinsawdd a'n byd natur yn achosi niwed diangen i fywydau a bywoliaeth pobl. Mae'r 10 corfforaeth fyd-eang fwyaf yn gyfrifol am 70 y cant o allyriadau, ond nid eu cyfrifon banc hwy fydd yn dioddef wrth i ni ymladd newid hinsawdd; y rhai tlotaf mewn cymdeithas fydd yn rhannu'r baich trymaf. Er nad oes dewis arall yn lle sero-net, bydd pris anferthol i'w dalu er mwyn cyflawni hynny. Bydd yn sicr o arwain at gost uwch am angenrheidiau sylfaenol, megis bwyd a thanwydd. Rydym yn gweld yr effeithiau hynny yn awr. Mae'n bosibl mai fy etholwyr i, rhai o'r bobl dlotaf yn y byd gorllewinol, fydd yn cael eu taro galetaf. Sut y bydd cwpl wedi ymddeol yn y Rhyl yn gallu fforddio talu am ôl-osod system yn lle eu system wresogi nwy? Gan na lwyddasom i ragweld beth oedd i ddod, rydym wedi methu buddsoddi yn y dechnoleg a fydd yn mynd i'r afael â'r materion hyn.Mae ein gwariant ar ymchwil a datblygu yn druenus, a dyna pam y bu'n rhaid i Gymro deithio i America i ddatblygu cerbydau trydan. Gobeithio y gall Llywodraeth Cymru berswadio prif swyddog gweithredol Lucid Motors i ddychwelyd i Gymru, a gallaf argymell parc busnes Llanelwy yn fawr. Dylai popeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ganolbwyntio ar fynd i'r afael â'n diffygion amgylcheddol, yn ogystal ag ystyried y goblygiadau ehangach. Drwy beidio ag ailadeiladu pont Llannerchyn fy etholaeth yn gynt, rydym yn ychwanegu at y tagfeydd a'r llygredd, yn ogystal ag atal mynediad at deithio llesol i drigolion lleol. Drwy ofyn i gynghorau ddilyn polisi dad-ddofi tir, rydych yn methu ystyried canlyniadau troi man gwyrdd, a ddefnyddir ar gyfer chwarae ac ymarfer corff, yn weirglodd blodau gwyllt. Mae'n wych ar gyfer gwenyn, ond heb fod mor wych ar gyfer bechgyn a merched. Mae lle i bob polisi, ond mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau dull cyfannol o weithredu, a rhaid inni osgoi canlyniadau anfwriadol. Diolch yn fawr. Peredur Owen Griffiths AS: Mae ein cymunedau yn bwysig i holl Aelodau Plaid Cymru ledled Cymru, ond maen nhw'n arbennig o bwysig i mi gan eu bod yn rhan o fy mhortffolio. Felly, hoffwn ganolbwyntio fy nghyfraniad i'r ddadl hon ar gynhyrchu ynni cymunedol, ac rydyn ni wedi clywed rhywfaint am hynny y prynhawn yma yn y ddadl flaenorol. Mae'n bosib y bydd y prosiectau hyn ddim ond yn rhan fach o'r system ynni yn y dyfodol, ond maent yn hanfodol gan y byddant yn chwarae rhan allweddol wrth gael caniatâd, cynyddu cyfranogiad ac ymgorffori math o ymddygiad radical y bydd angen inni ei gael i osgoi eithafoedd gwaethaf yr argyfwng hinsawdd. Mae'n rhaid i gymunedau fod wrth wraidd unrhyw newid gwyrdd. Mae gan bob cymuned ei rôl i'w chwarae. Fel y nododd Ynni Cymunedol Cymru, mae diddordeb cynyddol gan gynghorau plwyf a thref a sefydliadau cymunedol eraill sydd am ddarparu prosiectau ynni i fynd i'r afael â newid hinsawdd. Mae prosiectau ynni cymunedol ar lawr gwlad, yn ôl eu natur, yn ddemocrataidd eu strwythur, ac mae hyn yn golygu eu bod yn hyrwyddo cyfranogiad democrataidd, a gwyddom fod gennym ddiffyg o hyn yng Nghymru. Bydd angen dinasyddiaeth ynni ymgysylltiol er mwyn sicrhau net sero. Rydym yn galw ar y Llywodraeth i ddarparu cefnogaeth wirioneddol amlwg i'r sector. Er mwyn datganoli potensial ynni cymunedol i gyflawni ar raddfa eang, mae angen amgylchedd polisi hirdymor sefydlog a chefnogol gan Lywodraethau Cymru a'r Deyrnas Unedig. Mae'n anodd gorbwysleisio pwysigrwydd ynni cymunedol wrth sicrhau newid ymddygiad. Yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf, bydd datgarboneiddio’r economi yn gofyn am newidiadau sylweddol i ddefnyddwyr, megis newid i bympiau gwres ac ôl-ffitio ein stoc dai, sydd yn aml yn hen ac wedi'i hinswleiddio'n wael. Mae sefydliadau ynni cymunedol yn cael eu hymddiried a'u cydnabod yn eu hardal leol am flaenoriaethu lles eu cymunedau, ac felly maen nhw'n hanfodol wrth adeiladu cefnogaeth gyhoeddus a chefnogaeth i gyfrannu yn y broses o bontio newid ynni. Peredur Owen Griffiths AS: I gloi, hoffwn amlinellu rhai o'r camau y mae'r sector wedi bod yn gofyn i Lywodraeth Cymru eu cymryd, a byddwn yn sicr yn gwerthfawrogi ymateb gan y Gweinidog—[Torri ar draws.] Yn sicr. Jenny Rathbone AC: Credaf fod eich pwynt am ynni cymunedol a arweinir gan gynghorau cymuned yn bwysig iawn, ond tybed pam nad yw cynghorau tref a chymuned wedi manteisio ar hyn lawer yn gynt yn eich barn chi. Oherwydd mae'r holl brosiectau ynni cymunedol y gallaf feddwl amdanynt yng Nghymru oll wedi'u datblygu gan bobl eraill, boed gyda chymorth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol neu gan unigolion penderfynol sydd wedi glynu ati er gwaethaf yr holl rwystrau cynllunio a roddwyd yn eu ffordd. Pam nad yw cynghorau tref a chymuned, y mae gan lawer ohonynt adnoddau go sylweddol, wedi mynd ati i ailfuddsoddi yn yr ynni cymunedol a allai gyfoethogi eu cymunedau? Peredur Owen Griffiths AS: Diolch yn fawr am yr ymyriad. Rwy'n credu y gellir priodoli hynny i'r diffyg fframweithiau a chymorth i'w hannog i gymryd rhan yn yr ochr honno i bethau. Mae'r sector wedi gofyn am fynediad at gymorth, adnoddau a chyllid angenrheidiol. At hynny, maent wedi gofyn am alluoedd pellach i gynhyrchwyr werthu eu hynni'n lleol, boed drwy ofynion caffael i gyrff cyhoeddus neu wella capasiti grid. Mae asedau'n faes craidd arall i'w ystyried, yn ogystal â mynediad at dir ac adeiladau i'w datblygu, ac mae'r sector eisiau gweld Llywodraeth Cymru yn hwyluso ac yn cefnogi rheolaeth ddemocrataidd bellach dros asedau o'r fath. Maent hefyd eisiau rheolaeth ddemocrataidd bellach dros y broses, megis datblygu cynlluniau datgarboneiddio a dulliau o ymchwilio a thrafod drwy gynulliadau dinasyddion, gan roi cymunedau wrth wraidd yr adferiad gwyrdd. Un o'n dadleuon canolog mewn gwirionedd yw ein bod eisiau rheolaeth ddemocrataidd ar ein hadnoddau ein hunain. Boed yn Ystad y Goron neu gynhyrchiant ynni lleol, Cymru, ein pobl, ein cymunedau a'n hawdurdodau a etholir yn ddemocrataidd a ddylai reoli ein hadnoddau, ac elwa ar y budd yn y pen draw.Ni ddylai ein cynhyrchiant ynni a'r elw sy'n deillio ohono fod yn nwylo cwmnïau rhyngwladol tramor mawr, nac yn nwylo ein cymdogion dros y ffin yn wir. Diolch yn fawr. Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James. Julie James AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r ddadl hon yn fawr. Mae'r cynnig gan Blaid Cymru yn gwneud nifer o bwyntiau pwysig iawn ac yn cydnabod y camau a gymerwyd gennym i nodi a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur. Mae'n amlwg nad yr argyfwng hinsawdd a natur yw'r argyfwng byd-eang nesaf; yr un sydd eisoes gyda ni ydyw. Ac rwy'n falch iawn ein bod, fel Senedd, wedi cymryd camau ar y cyd i ddatgan yr argyfyngau hyn, ac am ymrwymo Cymru i darged sero-net ar gyfer 2050. A gadewch imi ailadrodd y pwynt a wneuthum yn flaenorol: nid targed Llywodraeth Cymru yw hwn, fel y mae'r cynnig yn ei nodi, ein targed ar y cyd i Gymru yw hwn—ein targed ar gyfer pobl, busnesau a sefydliadau o bob rhan o'n gwlad. Mae'n darged sy'n ei gwneud yn ofynnol i bob un ohonom weithredu. Nododd Delyth ac eraill raddfa a difrifoldeb yr her a'i heffaith ar fodau dynol a'n cymunedau, ond mae'n bwysig nad ydym yn ildio i anobaith yma. Gallwn fachu ar y cyfle i'w newid, ac mae gwir angen inni wneud hynny. Mae angen i'r 2020au fod yn ddegawd pendant o weithredu, nid yn unig yng Nghymru, ond yn fyd-eang. Mae COP26 yn garreg filltir ac mae'n rhaid iddi gyflawni'r newid sylfaenol sydd ei angen. Julie James AC: Mae'r Llywodraeth hefyd yn gefnogol iawn i lawer o'r hyn a nodir yn ail ran y cynnig. Rydym yn cytuno bod angen newid yn sylfaenol y ffordd y caiff pwerau a chyfrifoldebau eu dosbarthu ledled y DU. Dyna pam ein bod wedi cyhoeddi ein bwriad i sefydlu comisiwn annibynnol ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru. Ond yr hyn sydd ei angen arnom yw asesiad cynhwysfawr o'r pwerau sydd eu hangen ar Gymru mewn setliad cyfansoddiadol sylfaenol wahanol. Mae hyn yn cynnwys ond nid yn gyfyngedig i'n cyfrifoldebau ym maes ynni a rheoli Ystad y Goron yng Nghymru. A chredaf ei bod yn dweud llawer fod Janet Finch-Saunders yn ymddangos fel pe bai'n gwbl anymwybodol o'r ffaith nad yw'r grid wedi'i ddatganoli—o, na byddai—ac mae ei dryswch llwyr ynglŷn â hynny yn arwydd o wir natur yr angen i wneud y pethau hyn yn llawer cliriach. Oherwydd, yn anffodus, yr hyn a welsom gan y Llywodraeth Geidwadol yn Llundain yw gelyniaeth ddofn tuag at ddatganoli. Wrth iddynt ddathlu buddsoddiadau bach iawn yng Nghymru, yn debyg i'r rhestr yn y cynnig gan Darren Millar, mae Llywodraeth y DU hefyd yn tanseilio'r cyfrifoldebau y mae pobl Cymru wedi'u rhoi i'r Senedd hon mewn modd systemig. Rydym yn croesawu buddsoddiad i Gymru, ond rydym eisiau gweithio gyda Llywodraeth y DU a pharhau â'n gwaith partneriaeth gyda llywodraeth leol a phartneriaid cymdeithasol ehangach yng Nghymru. Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU, yn anffodus, yn gwthio agenda sy'n mynd ati'n fwriadol i adael y Llywodraeth yng Nghymru allan, er mai hi sydd wedi bod yn gyfrifol am gyflawni dros Gymru dros y tri degawd diwethaf. Mae'r ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi bwrw ymlaen â chyllid ar gyfer pysgodfeydd yn ymosodiad uniongyrchol ar ddatganoli, ac mae wedi achosi dryswch, a bydd yn parhau i greu drwgdeimlad diangen ymhlith rhanddeiliaid. Ni fydd y Llywodraeth yn cefnogi'r gwelliant gan Darren Millar. Mae gwelliant y Llywodraeth yn rhannu teimlad y cynnig gwreiddiol, a galwaf ar bob Aelod i'w gefnogi. Wrth inni edrych ymlaen at COP26, mae'n bwysig iawn nad ydym yn anghofio'r camau sydd eisoes wedi'u cymryd yng nghynadleddau blaenorol partïon y Cenhedloedd Unedig ar newid hinsawdd, gan gynnwys COP24. Rydym wedi bod yn glir, wrth inni symud at sefyllfa lle bydd cyfran fwy o'n hynni yn dod o ffynonellau adnewyddadwy, fod yn rhaid i'r newid hwn fod yn un cyfiawn.Clywsom nad oedd y newid diwethaf yn un cyfiawn ac rydym yn benderfynol iawn na fydd y newid hwn yn anghyfiawn. Mae ein rhaglen lywodraethu yn tanlinellu pwysigrwydd cyfiawnder cymdeithasol a thrawsnewid i sero-net mewn ffordd nad yw'n gadael unrhyw berson nag unrhyw le ar ôl. Roedd datganiad Silesia yn COP24 yn dangos yr angen i gefnogi gweithwyr yn rhan o'r newid hwn i sero-net. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i ysbryd y datganiad hwnnw, gan adlewyrchu ei hanfod yn ein Bil partneriaeth gymdeithasol a'n methodolegau gwaith. Drwy'r bartneriaeth sgiliau rhanbarthol, rydym yn gweithio i sicrhau bod y seilwaith addysg ar waith i gefnogi'r twf yn yr economi werdd, ac mae Ynni Morol Cymru yn datblygu'r adnoddau sydd eu hangen i fanteisio i'r eithaf ar y cyfle i gael swyddi medrus newydd mewn ynni morol yng Nghymru. Cytunaf yn gryf â nifer fawr o Aelodau sydd wedi cyfrannu heddiw fod hwn yn gyfle inni gael miloedd o swyddi gwyrdd newydd i bobl Cymru wrth ddatblygu'r diwydiannau newydd hyn, a galwaf ar y Senedd i gadarnhau ei hymrwymiad i'r egwyddorion a ymgorfforwyd yn natganiad Silesia. Ddirprwy Lywydd, rydym yn glir fod gan Lywodraeth Cymru ran allweddol i'w chwarae yn trawsnewid ein system ynni drwy symud oddi wrth y defnydd o danwydd ffosil a thuag at ffynonellau ynni adnewyddadwy. Mae ein cynllun sero-net, sydd i'w gyhoeddi yn yr wythnosau nesaf, yn nodi'r camau allweddol y byddwn yn eu rhoi ar waith i sicrhau mai hwn yn wir fydd y degawd o weithredu, a bod y sylfeini'n cael eu gosod i gyrraedd ein targedau ynni adnewyddadwy a sero-net. Wrth annog y cynnydd sylweddol mewn ynni adnewyddadwy, rydym wedi ymrwymo i gadw'r cyfoeth yn ein heconomi ac yn ein cymunedau. Felly, yfory, bydd fy nghyd-Aelod Lee Waters yn dechrau astudiaeth ddofn i bennu'r camau y gallwn eu cymryd i oresgyn y rhwystrau i fuddsoddi, a sut y gallwn gynyddu capasiti cynhyrchu ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i gyrff cyhoeddus a grwpiau cymunedol ledled Cymru. Rydym eisiau i'r sector cyhoeddus chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o ddatblygu ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Ni fydd gadael buddsoddiad i'r sector preifat yn unig yn sicrhau budd o'r maint sydd ei angen ar ein cymunedau, na'r gyfran o fudd o'n hadnoddau cenedlaethol yr ydym ei hangen ar gyfer pobl Cymru. Yn ystod yr wythnosau nesaf, byddaf yn nodi rhagor o fanylion am ein cynlluniau i sefydlu datblygwr ynni adnewyddadwy sy'n eiddo cyhoeddus i arwain buddsoddiad yng Nghymru. Gwyddom fod y cyfleoedd ar gyfer hynny'n sylweddol iawn. Yn y môr Celtaidd yn unig, rydym yn gweld dechrau chwyldro mewn ynni morol, gyda photensial ar gyfer 15 GW o ynni gwynt arnofiol ar y môr. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein porthladdoedd, ein busnesau a'n cymunedau yn barod i elwa o'r buddsoddiad hwnnw.Drwy'r rhaglen ynni morol, rydym yn datblygu opsiynau i sicrhau maint y buddsoddiad sydd ei angen yn ein porthladdoedd yng Nghymru. Bydd hyn yn dod â chyfleoedd gwaith uniongyrchol a buddsoddiad newydd i'n cymunedau lleol, a thrwy'r rhaglen ynni morol, rydym hefyd yn ystyried sut y gall Cymru fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd o gynhyrchiant ynni'r llanw, gan gynnwys y gwaith sydd ar y gweill i gyflwyno her môr-lynnoedd llanw i sicrhau ein bod yn aros ar flaen y gad gyda datblygiadau môr-lynnoedd llanw ledled y byd. Wrth i ni archwilio'r cyfleoedd ar gyfer ynni morol, rydym hefyd yn cydnabod yr effaith y gall ynni morol ei chael ar ein hamgylchedd a bioamrywiaeth ein hamgylchedd morol. Mae cynllun morol cenedlaethol Cymru yn gosod y fframwaith strategol ar gyfer datblygu i sicrhau bod datblygiadau newydd yn dilyn y gweithdrefnau cydsynio ac yn cynnal asesiad rheoleiddio cynefinoedd naill ai ar lefel cynllun neu ar lefel prosiect, gan sicrhau bod safleoedd dynodedig yn cael eu diogelu. Ers cyhoeddi cynllun morol cenedlaethol Cymru, mae gwaith pellach wedi dechrau ar fapio rhyngweithiad sectorau, nodi meysydd adnoddau allweddol y bydd polisi diogelu yn berthnasol iddynt, a datblygu gwell dealltwriaeth o gyfyngiadau ecolegol. Drwy'r gwaith hwn, byddwn yn darparu canllawiau ar gyfer deall y lleoliadau mwyaf addas ar gyfer datblygu ynni morol. Wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, rwy'n dychwelyd at bwysigrwydd COP26. Rwy'n annog arweinwyr y byd i ddangos yr arweiniad cyfunol sydd ei angen ar y genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol pan fyddant yn cyfarfod yn Glasgow ymhen cwta 18 diwrnod. Mae'n rhaid inni beidio â cholli'r cyfle hwn. Ni allwn adael i'r ymateb tymor byr i amodau presennol y farchnad ynni beryglu'r camau pendant sydd eu hangen. Mae'n rhaid blaenoriaethu ymrwymiad byd-eang i roi diwedd ar y defnydd o lo ar gyfer cynhyrchu ynni. Fel y nodwyd yn ein polisi glo yn gynharach eleni, rydym yn gwrthwynebu echdynnu a defnyddio tanwydd ffosil, ac yn cefnogi cyfiawnder cymdeithasol yn y trawsnewid economaidd wrth gefnu ar eu defnydd. Rydym yn annog pob gwlad i ddilyn ein harweiniad yng Nghymru, a galwaf ar y Senedd i gefnogi'r cynnig yn enw Lesley Griffiths. Diolch. Galwaf ar Llyr Gruffydd i ymateb i'r ddadl. Llyr Gruffydd AC: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y drafodaeth. Mae wedi bod yn drafodaeth eang, a hynny, mae'n debyg, yn adlewyrchu ehangder y cynnig gwreiddiol, ond hefyd ehanger y gwelliannau sydd wedi cael eu gosod. Mae sawl cyflwyniad wedi ein hatgoffa ni o'r ffaith mai argyfyngau sydd gennym ni, hinsawdd a natur, a'r ddau beth yn cydblethu. Mae'r achosion yn rhyng-gysylltiedig, ac felly, wrth gwrs, mae'n sefyll i reswm bod y datrysiadau yn gysylltiedig hefyd, ac mae COP26 a COP15 yn ddau ran o'r un jig-so pan fo hi'n dod i geisio datrys yr her sydd o'n blaenau ni. Dyw'r gweithredu hyd yma ddim wedi bod yn ddigonol. Dwi'n meddwl y byddai'r Llywodraeth a phawb arall yn cydnabod hynny, oherwydd mae yna wastad mwy y gallwn ni ei wneud, y dylen ni ei wneud ac y byddem ni'n dymuno i'w wneud i fynd i'r afael â'r heriau yma. Llyr Gruffydd AC: Nid ydym wedi crybwyll un maes penodol, a chredaf y byddwn yn esgeulus pe na bawn yn cyfeirio ato. Y bore yma, mynychodd y Gweinidog a minnau ac eraill lansiad adroddiad gan WWF Cymru, RSPB Cymru a Maint Cymru sydd, rwy'n credu, yn pwysleisio'r ffaith mai rhan o'r broblem yn unig yw mynd i'r afael â'n hôl troed domestig o safbwynt allyriadau carbon a cholli bioamrywiaeth. Mae bai arnom na chafodd yr elfen fyd-eang ei chynnwys yn ein cynnig, nac yn unrhyw un o'r gwelliannau chwaith. Mae gan Gymru ôl troed sylweddol iawn ar dir tramor—datgelwyd ffigurau go syfrdanol yn yr adroddiad heddiw. Fel y dywedais yn gynharach, mae'r effaith a gawn y tu hwnt i'n ffiniau yn adlewyrchiad arnom ni fel gwleidyddion a chymdeithas yn ehangach. Roedd angen arwynebedd sy'n cyfateb i 40 y cant o faint Cymru dramor i dyfu mewnforion o gynnyrch penodol a ddefnyddiwn yma yng Nghymru, caiff 30 y cant o'r tir a ddefnyddir i dyfu nwyddau sy'n cael eu mewnforio i Gymru yn rhai o'r gwledydd hynny eu categoreiddio fel rhai sydd â risg uchel neu uchel iawn o fod yn gysylltiedig â phroblemau cymdeithasol a datgoedwigo, ac mae'r allyriadau nwyon tŷ gwydr sy'n gysylltiedig â'r gweithgarwch hwnnw'n 4 y cant o gyfanswm amcangyfrifedig ôl troed carbon nwyddau domestig a nwyddau a fewnforir i Gymru, neu'r hyn sy'n cyfateb i bron i chwarter yr holl allyriadau trafnidiaeth yng Nghymru. Mae'n syfrdanol, mae'n peri syndod, mae'n gywilyddus mewn gwirionedd, ac mae pob un ohonom yn cyfrannu at hynny, yn anffodus. Mae'n bwysig, pan oedd Delyth Jewell, wrth agor y ddadl, yn sôn am yr angen am eglurder ynghylch y cydraddoldeb y mae angen inni ei sicrhau rhwng yr argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur—credaf ei bod bellach yn bryd i'r cydraddoldeb hwnnw gael ei adlewyrchu mewn perthynas â'n cyfrifoldebau domestig a'n cyfrifoldebau byd-eang, yn enwedig yng nghyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, lle mae bod yn wlad sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang yn gyfrifoldeb i bob un ohonom fel dinasyddion Cymreig. Rwyf am ymateb i rai o'r cyfraniadau. Roedd Janet Finch-Saunders yn canmol y chwyldro gwyrdd ymddangosiadol, credaf mai dyna'r term a ddefnyddiwyd gennych, sydd ar ei ffordd o Lywodraeth San Steffan. Wel, rydych yn sicr yn gwneud eich rhan i wyrddgalchu'r Torïaid yno. Ni sonioch chi am faes olew Cambo nac am y pyllau glo newydd yng ngogledd Lloegr nac yn wir, fel y cawsoch eich atgoffa gan rai o'r Aelodau, am y diffyg cefnogaeth i fôr-lynnoedd llanw yng Nghymru, na'r modd y mae Llywodraeth y DU i'w gweld yn mynnu gwthio mwy o geir ar fwy o ffyrdd yng Nghymru, yn enwedig o amgylch Casnewydd.Felly, peidiwch â dod yma i siarad ar eich cyfer pan nad yw Llywodraeth y DU yn fodlon gweithredu. Rwy'n credu ei bod yn destun gofid eich bod wedi defnyddio'r cywair hwnnw. Ac yn yr un modd, Gareth Davies yn beio Blair a Brown am y sefyllfa yr ydym ynddi heddiw. A bod yn deg, nid yw fel pe baem wedi cael Llywodraeth Dorïaidd am 10 mlynedd ers hynny, ond rwy'n siŵr y cewch gyfle i weithredu rywbryd. Gadewch i ni obeithio y cewch gyfle i weithredu erbyn i ni gyrraedd trafodaethau COP26. Oherwydd, fel y dywedodd y Gweinidog, mae'n garreg filltir, onid yw, ac ni ddylem golli'r cyfle. Fy ofn i yw bod Llywodraeth y DU wedi methu ffurfio cynghrair ryngwladol o gwmpas yr angen i fynd i'r afael â hyn cyn COP26 ond yn amlwg fe ddaw dydd o brysur bwyso a bydd yn rhaid inni aros i weld beth a gyflawnir. A gwn y bydd llawer ohonom yn mynychu ac yn chwarae ein rhan fach ein hunain gymaint ag y gallwn, gobeithio, i geisio cyflawni'r canlyniad yr hoffem ei gyflawni. Rhys ab Owen, rydym angen pwerau i sicrhau'r dyfodol yr ydym ei eisiau, oherwydd wrth gwrs nid yw Llywodraeth y DU yn cynnig y dyfodol yr ydym eisiau ei weld. Ac fel y dywedodd Luke Fletcher, rydym angen sgiliau hefyd i allu cyflawni'r potensial sydd gennym. Ac fel y dywedodd Peredur hefyd, mae angen i'n cymunedau fod wrth wraidd yr adferiad gwyrdd. Mae angen iddo fod yn newid gan ein cymunedau ar gyfer ein cymunedau. Felly, boed yn gyflawni ar gyfer yr hinsawdd ac ar gyfer natur drwy ddatblygu prosiectau ynni, datblygu ein grid a'n porthladdoedd, buddsoddi yn ein cymunedau, mynd i'r afael â cholli bioamrywiaeth wrth gynllunio, newid ein hymddygiad fel defnyddwyr, gosod targedau sy'n rhwymo mewn cyfraith—ac rwyf wedi bod ar daith mewn perthynas â'r targedau hynny. Roedd gennyf amheuon i ddechrau, ond rydym wedi gweld sut y mae targedau allyriadau carbon yn gyrru agenda yn hynny o beth—credaf y gallwn wneud yr un peth yn union mewn perthynas â bioamrywiaeth hefyd. Beth bynnag ydyw, ac mae'n debyg ei fod yn hynny i gyd a mwy, mae gan Gymru rôl go iawn i'w chwarae, ac mae Cymru'n frwd i chwarae ei rhan yn y gwaith o gyflawni hynny, gartref a thramor. Felly, y cwestiwn yw: a ydym yn gyfan gwbl o ddifrif ynglŷn â hyn? Nawr, rwyf bob amser wedi dweud wrth y Llywodraeth, 'Pan fydd Gweinidogion yn ddewr, bydd y Senedd hon yn eich cefnogi. Pan fyddwch yn methu cyrraedd y nod, yn amlwg, byddwn yn eich dwyn i gyfrif.' Dywedodd Delyth Jewell wrthym ar ddechrau'r ddadl hon fod llygaid y dyfodol arnom heddiw, felly gadewch inni ailddatgan ein hymrwymiad i Gymru a'r byd drwy gefnogi cynnig Plaid Cymru. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio, sydd nesaf. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, byddaf yn atal y cyfarfod dros dro cyn symud i'r cyfnod pleidleisio. Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:03. Ailymgynullodd y Senedd am 17:13, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair. 7. Cyfnod Pleidleisio Mae pawb sydd am bleidleisio ar gael. Iawn, rydym yn awr yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac rwyf am siarad Saesneg i wneud yn siŵr nad wyf yn ei gael yn anghywir. Pleidleisiwn yn awr ar ddadl Plaid Cymru, y sector ynni a'r argyfyngau hinsawdd a natur. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 42 yn erbyn, felly gwrthodwyd y cynnig. Eitem 6 - Dadl Plaid Cymru - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 14, Yn erbyn: 42, Ymatal: 0Gwrthodwyd y cynnigCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Felly, symudwn at bleidlais ar y gwelliannau. Pleidlais ar welliant 1 yn gyntaf. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf felly am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 41 yn erbyn, felly gwrthodwyd gwelliant 1. Eitem 6 - Gwelliant 1 - Cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 15, Yn erbyn: 41, Ymatal: 0 Gwrthodwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Symudwn yn awr at welliant 2, a galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid 43, neb yn ymatal, 13 yn erbyn, felly derbynnir gwelliant 2. Eitem 6 - Gwelliant 2 - cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 43, Yn erbyn: 13, Ymatal: 0 Derbyniwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd. Cynnig NDM7803 fel y'i diwygiwyd: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi: a) datganiad y Senedd o argyfwng hinsawdd yn 2019, ac argyfwng natur yn 2021; b) y bydd 26ain Cynhadledd Partïon y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (COP26) yn cyfarfod yr Hydref hwn i gytuno ar gamau gweithreducydgysylltiedigi fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd; c) y bydd 15fed cyfarfod Cynhadledd y Partïon (COP15) i'r Confensiwn ar Amrywiaeth Biolegol (CBD) yn cyfarfod y gwanwyn nesaf i gytuno ar fframwaith bioamrywiaeth byd-eang; d) targed Llywodraeth Cymru i gyrraedd allyriadau carbon sero-net erbyn 2050; e) cred y Senedd y dylid sicrhau cydraddoldeb rhwng y camau a gymerir i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r rhai a gymerir i fynd i'r afael â'r argyfwng natur (NDM7725); f)bod y Senedd wedi pasio NDM7725 yn galw ar Lywodraeth Cymru igyflwyno gofyniad sy'n rhwymo mewn cyfraith i wrthdroi colli bioamrywiaeth drwy dargedau statudol. 2. Cadarnhau ei ymrwymiad i'r egwyddorion sydd wedi'u hymgorffori yn Natganiad Silesia i gefnogi gweithwyr drwy drosglwyddo teg i net zero. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) chwarae ei rhan i alluogi trawsnewid ein system ynni i gadw manteision economaidd a chymdeithasol o gynhyrchu ynni adnewyddadwy yng nghymunedau Cymru. b) cynydducapasiticynhyrchu ynni sy'n eiddo i gyrff cyhoeddus a grwpiau cymunedol. c) cefnogi porthladdoedd Cymru i sicrhau eu bod yn gallu buddsoddi i sicrhau'r manteision lleol mwyaf posibl o ddatblygu cynhyrchu ynnimorol.d) diogelu bioamrywiaeth morol tra'n hwyluso'r defnydd o dechnoleg ynni morol, gan gynnwys drwy ddarparu canllawiau ar gyfer deall y lleoliadau mwyaf addas. 4. Yn galw ar arweinwyr byd-eang i ddefnyddio 26ain Cynhadledd Partïon y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd i ymrwymo i roi terfyn ar y defnydd o lo wrth gynhyrchu ynni. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. A gaf fi gadarnhau bod y bleidlais honno hefyd wedi cynnwys Julie, oherwydd mae'n ymddangos fy mod un yn brin? O'r gorau. Dyna ni. O blaid 56, neb yn ymatal, neb yn erbyn, felly derbynnir y cynnig fel y'i diwygiwyd. Diolch. A daw hynny â'r pleidleisio i ben am heddiw. Eitem 6 - Dadl Plaid Cymru - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 56, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0 Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwydCliciwch i weld canlyniad y bleidlais 8. Dadl Fer: Cyflawni'r weledigaeth: Codi'r gwastad yn y Cymoedd Symudwn yn awr at y ddadl fer. Galwaf ar Alun Davies i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddo. Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny'n dawel. Alun Davies AC: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n ddiolchgar i chi am ganiatáu'r ddadl fer hon. Mae Tom Giffard wedi gofyn am funud o fy amser y prynhawn yma, felly byddaf yn sicrhau fy mod yn cwblhau fy sylwadau mewn pryd iddo allu siarad. Mae codi'r gwastad yn un o'r pethau mewn gwleidyddiaeth nad oeddem erioed wedi clywed amdano ychydig flynyddoedd yn ôl, ac nid ydym yn clywed ei ddiwedd heddiw. Mae un o'r rhannau niferus o broses codi'r gwastad Llywodraeth y DU yn rhywbeth sy'n cael ei drafod yn gyson, ond nid yw erioed wedi'i ddiffinio. Ac i lawer ohonom, rwy'n credu—. Rwyf yn y sefyllfa anhapus heddiw o bosibl o fod wedi bod o gwmpas yn ddigon hir i gofio'r pethau hyn yn digwydd ar fwy nag un achlysur. Ac un o'r pethau sy'n siomedig iawn am ddull Llywodraeth y Deyrnas Unedig o ymdrin â'i hagenda gyffredinol ar gyfer codi'r gwastad yw nad yw'n diffinio unrhyw dargedau, nid yw'n diffinio unrhyw amcanion ac nid yw'n caniatáu unrhyw atebolrwydd. Roeddwn yn ddigon ffodus i fod yn Weinidog rhaglenni Ewropeaidd yn Llywodraeth Cymru rhwng 2011 a 2013, ac yn ystod y cyfnod hwnnw, ailnegodwyd cyllideb yr UE ar y pryd. Hefyd cafwyd ddeddfwriaeth newydd ar gronfeydd strwythurol. Roedd Llywodraeth Cymru a phobl Cymru yn rhan o'r broses honno. Roeddent yn rhan o'r broses honno am ei bod wedi'i gwneud yn gyhoeddus, fe'i gwnaed gydag atebolrwydd a democratiaeth a chraffu a thryloywder. Pasiwyd y ddeddfwriaeth yn gyhoeddus. Trafodwyd y gyllideb yn gyhoeddus. Roedd Llywodraeth Cymru yn rhan o'r broses o ddiffinio safbwynt y Deyrnas Unedig ar yr holl faterion hynny. Cafwyd secondiadau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU er mwyn sicrhau bod modd defnyddio arbenigedd Llywodraeth Cymru yn y ffordd orau i lywio safbwynt Llywodraeth y DU ar y pryd. Mynychais Gynghorau Ewropeaidd a buom yn trafod y materion hynny yn y Siambr hon ar sawl achlysur. Roedd pob un o'r gwahanol agweddau hynny'n sail i bolisi. Nid oes yr un o'r pethau hynny'n wir heddiw am agenda codi'r gwastad—nid oes yr un o'r pethau hynny'n wir heddiw. Nid oes unrhyw dryloywder. Nid ydym yn gwybod beth yw amcanion Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Nid ydynt wedi cyhoeddi unrhyw dargedau, nid ydynt wedi cyhoeddi amserlen, maent wedi methu gwneud pob ymgynghoriad a addawyd ganddynt, ac ni fu unrhyw atebolrwydd ar unrhyw ffurf o gwbl. Mae'n wers ar sut i beidio â llunio polisi a sut i beidio â chynnwys pobl. A dywedaf hynny fel cyflwyniad oherwydd mae'n bwysig nad ydym yn gwneud y pwyntiau hynny mewn perthynas â Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn unig, ond ein bod yn sicrhau nad yw Llywodraeth Cymru yn ailadrodd y gwallau hynny a'r camgymeriadau hynny hefyd. Mae bob amser yn bwysig dysgu o hanes yn hytrach nag ailadrodd camgymeriadau hanes. Ac yn fy amser i yma, rwyf wedi gweld nifer o fentrau gwahanol yn cael eu lansio ar gyfer ein hagenda codi'r gwastad ein hunain yng Nghymoedd de Cymru. Cofiaf Lywodraeth Cymru'n Un, lle gweithiodd y ddau Weinidog, Leighton Andrews a Jocelyn Davies wedyn, yn eithriadol o galed ar gyflawni agendâu ar gyfer Blaenau'r Cymoedd ac ar gyfer y Cymoedd yn gyffredinol. Cofiaf wedyn y gwaith a wnaed er mwyn cyflwyno rhaglenni eraill yn y Llywodraeth a etholwyd yn 2011, ac fel y bydd llawer o'r Aelodau'n cofio, cefais fy mhenodi gan Carwyn Jones i arwain tasglu'r Cymoedd, a bennwyd i arwain y gwaith hwn ar ôl etholiad 2016. Ac wrth i mi edrych yn ôl dros y cyfnod hwnnw, rwy'n meddwl am y gwersi y dylem fod yn eu dysgu, fel Llywodraeth Cymru ac fel Senedd. A beth yw'r gwersi hynny? Alun Davies AC: Mae yna wers o ran cysondeb personél, cysondeb Gweinidogion. Bu gormod o Weinidogion yn rhan o hyn dros gyfnod rhy fyr, ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog sydd yn ei le y prynhawn yma yn ei le am sawl prynhawn ac y bydd yn gallu hyrwyddo agenda bolisi sy'n gyson dros amser. O ystyried y ddadl yr ydym newydd ei chael ar yr hinsawdd, yr eironi yw mai'r unig bolisi cyson a gyflwynwyd yn y Cymoedd oedd deuoli'r A465. Dyma'r unig bolisi cyson a ddilynwyd dros y degawd diwethaf, ac mae anawsterau wedi codi, ond mae Gweinidogion wedi mynd ar ei drywydd, ac mae Gweinidogion olynol wedi sicrhau bod y polisi wedi'i gyflawni ac yn cael ei gyflawni. Ond nid ydym wedi cael cysondeb o ran polisi, ac nid ydym wedi cael cysondeb o ran dull o weithredu, ac nid ydym wedi cael cysondeb o ran personél, ac mae hynny wedi gwanhau ein gallu i gyflawni ar ran y Cymoedd. Nid ydym wedi sicrhau chwaith fod gennym yr uchelgeisiau a'r amserlenni a'r targedau wedi'u cytuno bob amser, ac nid ydym bob amser—a dyma'r pwynt allweddol yr hoffwn ei wneud yn fy sylwadau y prynhawn yma—wedi canolbwyntio'n ddigonol ar gyflawni. Cofiaf yn dda y sgwrs a gefais gyda Carwyn Jones pan wnaeth fy mhenodi i arwain tasglu'r Cymoedd. Dywedodd, 'Rwyf am i chi arwain tasglu'r Cymoedd.' Nid oedd unrhyw amwysedd yno. Dywedodd, 'Nid oes gennych gyllideb ac nid oes gennych adran; rwyf am i chi ddod â phobl at ei gilydd er mwyn cyflawni dros Gymoedd de Cymru.' Nid oedd gennyf gyllideb ar gyfer rhentu man cyfarfod na darparu te neu goffi. Yr hyn yr oedd yn rhaid inni ei wneud oedd perswadio Gweinidogion—a bydd y Gweinidog ei hun yn cydnabod pa mor anodd y gall hyn fod—i roi benthyg swyddogion i mi yn y bôn, i roi benthyg cyllidebau i mi ac i roi ymrwymiad gwleidyddol i mi. A dyna un o'r pethau anoddaf y gallwch ofyn i unrhyw un ei wneud mewn Llywodraeth, oherwydd mae swyddogion—. Mae llawer o nonsens yn cael ei ddweud am y gwasanaeth sifil. Mae'r gwasanaeth sifil yn beiriant gwych ac mae ganddo lawer iawn o bobl dalentog, ond mae'n gweithio mewn modd hierarchaidd; mae'n gweithio i Weinidog. A phan fyddwch yn gofyn i swyddog weithio i Weinidog arall, nid yw'n gweithio, ac roedd hynny'n eithriadol o anodd. Ond fe wnaethom nodi ein huchelgeisiau ac roeddwn yn glir iawn, a daeth hyn yn dilyn y bleidlais ar Brexit—a chredaf fod gan y bleidlais ar Brexit yng Nghymoedd de Cymru lawer mwy i'w wneud â'r lle hwn nag â Brwsel; roedd gan y bleidlais lawer mwy i'w wneud â methiannau yma ac yn Llundain nag â methiannau ym Mrwsel, felly credaf fod angen inni gydnabod hynny. Ac un o'r pethau yr oeddwn am ei wneud oedd sicrhau bod gennym lefel o atebolrwydd, a bydd yr Aelodau yma'n cofio i mi ddod i'r Siambr hon a nodi targedau, nodi amcanion, nodi amserlenni y byddem yn eu cyflawni dros y cyfnod hwnnw o bedair neu bum mlynedd. Rwy'n siomedig na wnaeth y Llywodraeth flaenorol adrodd ar y materion hynny. Dylent fod wedi gwneud hynny. Rhoesom ein gair i'r bobl yn y cymunedau y byddem yn cyflawni'r pethau hyn dros y cyfnod o bum mlynedd. Nid ydym wedi adrodd ar yr hyn a wnaethom, ac mae angen inni allu gwneud hynny. Mae angen inni allu sicrhau bod rhaglen y Cymoedd Technoleg—ac rwy'n ddiolchgar am amser y Gweinidog i'w thrafod yr wythnos hon—yn cael ei chyflwyno yn fy etholaeth i. Gwnaethom addewid i bobl Blaenau Gwent y byddem yn cyflwyno'r rhaglen honno, a chofiaf yn dda y cyhoeddiad a wnaeth Ken Skates gyda mi yng Nglyn Ebwy ar hynny. Gwnaethom addewid, ac mae angen inni gyflawni hynny ac mae angen inni nodi sut y bydd hynny'n digwydd. Hefyd, rydym angen nodi—a dyma'r cyfle yr hoffwn i'r Gweinidog ei gymryd, nid y prynhawn yma efallai, ond dros yr wythnosau nesaf ar ddechrau'r Senedd hon—yr hyn y byddwn yn ei gyflawni dros y pum mlynedd nesaf. Un o'r gwersi y credaf fod angen inni ei dysgu yw ei bod yn bwysicach buddsoddi mewn lleoedd a all weithredu fel catalydd ar gyfer newid na dweud bod gan bawb rywbeth, sydd, yn y pen draw, yn annigonol. Roeddwn yn glir iawn wrth nodi'r uchelgeisiau ar gyfer tasglu'r Cymoedd, fod gennym—. Credaf iddo droi'n saith hyb, a chofiaf fod yr Aelod dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn awyddus iawn inni gael wyth neu naw hyb i gynnwys y Cymoedd yn ei etholaeth ef, a phwy all ei feio? Byddwn i wedi gwneud yr un peth yn union. Ond fe wnaethom nodi'r gyfres honno o hybiau, a hoffwn ddeall beth yn union sydd wedi digwydd o ganlyniad i'r polisi hwnnw. Hefyd—ac mae hon yn siom bersonol fawr iawn i mi—nid ydym wedi darparu'r parc rhanbarthol. Roeddwn yn teimlo bod hwnnw'n gysyniad ysbrydoledig a oedd yn dod â phobl at ei gilydd, a chofiaf siarad â phobl mewn gwahanol rannau o'r Cymoedd am yr hyn y gallem ei wneud drwy'r parc rhanbarthol, a hoffwn weld hynny'n cael ei gyflawni, Weinidog. Credaf ei fod yn rhywbeth a allai ysgogi newid ar draws de Cymru, fel ein bod yn gwneud mwy na sicrhau twf economaidd yn ein cymunedau, fel sydd angen inni ei wneud, ond ein bod hefyd yn buddsoddi yn nyfodol cymunedau a phobl a lleoedd. Weithiau, rwy'n credu ein bod yn sôn am ddatblygu economaidd yn nhermau ffigurau'n unig, ond rhaid inni siarad yn nhermau pobl a lleoedd hefyd. Ac roedd parc y Cymoedd yn fodd o wneud hynny. Ac mae'r gwaith y mae'r Aelod dros Ogwr wedi'i wneud mewn gwahanol leoedd wedi bod yn dempled ar gyfer hynny mewn gwirionedd. Ond gadewch imi ddweud hyn wrth gloi fy sylwadau: y wers a ddysgais drwy gydol y cyfnod hwn ac wrth edrych yn ôl yw, beth bynnag fo uchelgais a diffuantrwydd yr uchelgais hwnnw a'r ffordd y mynegir y weledigaeth, ni chaiff byth mo'i gyflawni oni bai bod gennych fodd i wneud hynny. A dyma fyrdwn fy sylwadau y prynhawn yma. Nid ydym erioed wedi creu'r cyfrwng cyflawni a all sicrhau newid radical a pharhaol a chyson; rydym wedi creu llu o bwyllgorau, llond gwlad o gomisiynau, ac rydym wedi creu cyfle i bobl siarad. Yr hyn sy'n rhaid inni ei wneud yw mynd ati i gyflawni, ac amlinellais—. A bydd y Gweinidog yn ymwybodol o fy safbwyntiau ar greu asiantaeth datblygu'r Cymoedd, a chynnwys cymunedau, llywodraeth leol, busnesau a Llywodraeth Cymru yn dod at ei gilydd, fel y maent wedi'i wneud yn ucheldiroedd ac ynysoedd yr Alban gan sicrhau effaith wirioneddol mewn gwahanol rannau o'r wlad honno. Credaf y byddwn yn parhau i ailadrodd ein camgymeriadau oni bai ein bod yn creu modd a mecanwaith ar gyfer cyflawni. A dyma un o'r pethau y gobeithiaf y bydd y Gweinidog yn eu hystyried. Rydym wedi gweld dinas-ranbarth Caerdydd dros y blynyddoedd diwethaf yn methu sicrhau unrhyw fuddsoddiad ystyrlon ym Mlaenau'r Cymoedd; cawsom y buddsoddiad yn Zip World yn Hirwaun, ond nid ydym wedi gweld unrhyw fuddsoddiad ystyrlon arall. Nid ydym wedi gweld cynllun swyddi i fanteisio ar y gwaith ar ddeuoli'r A465; nid ydym wedi gweld y strategaeth economaidd a all fod yn sail i hynny, a dyna un o'r pethau y ceisiais ei sefydlu yn y swydd, ac nid yw wedi cael ei ddilyn ers i mi adael y swydd. Yr hyn y mae angen inni allu ei wneud, Weinidog, yw creu'r dull o gyflawni—y dull o gyflawni a'r gallu i gyflawni. Gwyddom fod gennym bobl wych yn gweithio mewn llywodraeth leol. Mae gennym swyddogion gwych yn gweithio yn Llywodraeth Cymru. Mae gennym arweinwyr llywodraeth leol gwych ar draws gwahanol rannau o'r Cymoedd. Ond yr hyn nad oes gennym yw'r capasiti yn y sefydliadau hynny i sicrhau newid parhaol ar y raddfa y mae angen i ni ei wneud. Ac mae hynny'n golygu newid. Mae'n golygu newid ein dull o weithredu, herio ein hunain, gofyn cwestiynau anodd i ni'n hunain a bod yn onest yn y ffordd yr wyf wedi ceisio bod yn onest y prynhawn yma, a gwneud penderfyniadau yr ydym weithiau'n teimlo'n anghyfforddus yn eu cylch. Gwn nad yw Llywodraeth Cymru, ar wahanol adegau, wedi cefnogi dull o weithredu sy'n seiliedig ar asiantaethau. Gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn edrych yn fanwl ar yr hyn sydd gan y dyfodol i'w gynnig ac yn edrych yn fanwl ar yr hyn a wnaed ac a gyflawnwyd gennym yn y gorffennol, ac yn edrych yn fanwl ar yr hyn y gallwn ei gyflawni gyda'n gilydd yn y dyfodol. Diolch. Tom Giffard AS: Diolch, Alun, am ddod â'r ddadl hon i'r Siambr heddiw. Rwy'n credu ei bod yn ddadl bwysig iawn ac rwy'n ddiolchgar iawn i chi am roi amser i mi siarad. Un o'r gwersi allweddol a ddysgais o'ch sylwadau oedd eich bod yn iawn i ddweud, 'Iawn, mae codi'r gwastad yn ymadrodd gwleidyddol newydd ffasiynol,' os mynnwch, ond nid cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yn unig ydyw. Mae'n rhaid i Lywodraeth y DU chwarae rhan wrth reswm, ond credaf fod gan bob lefel o lywodraeth, a'r sector preifat hefyd, rôl i'w chwarae. I'r perwyl hwnnw, roeddwn am ddefnyddio fy sylwadau heddiw i sôn yn benodol am fy mhrofiad fel cynghorydd lleol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac yn benodol am gymhwyso proses y CDLl a sut y mae honno'n gwneud cam â chymunedau'r Cymoedd. Oherwydd, yn fy marn i, mae honno'n astudiaeth achos ynddi ei hun. Felly, i'r perwyl hwnnw, rwy'n datgan fy niddordeb yn y mater hwn yn gyntaf fel cynghorydd presennol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Gwelaf fod yr Aelod dros Ogwr yma, ac felly ni fydd angen i mi egluro daearyddiaeth Pen-y-bont ar Ogwr. Ond i'r rhai nad ydynt yn gwybod, mae gennych dri phrif gwm yng ngogledd yr etholaeth—cymoedd Ogwr, Llynfi a Garw—a'ch trefi mwy o faint yn y de. Ond yn anffodus, o edrych ar y broses gynllunio honno, a phroses y CDLl ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae'n dangos dau hanner gwahanol iawn i'r stori. Fe roddaf enghraifft ichi: yn CDLl 2018-33 cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, dim ond 14 y cant o'r cartrefi y bwriedir eu hadeiladu sydd yn ardaloedd y Cymoedd hynny, neu ardal porth y Cymoedd. Neu, o'i roi mewn ffordd arall, dim ond 1,360 o'r 9,200 o gartrefi a gynlluniwyd sydd wedi'u lleoli yn y cymunedau hynny. Y cwestiwn y mae angen inni ei ofyn i ni'n hunain yw, 'Pam?' Pam y mae proses ein CDLl ym Mhen-y-bont ar Ogwr—ac mewn mannau eraill yn ôl pob tebyg—yn gwneud cam â chymunedau'r Cymoedd? Wrth gwrs, mae gan rai lleoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr dir llwyd sylweddol y gellid adeiladu arno yng nghymunedau'r Cymoedd hyn. Rwyf wedi cael y trafodaethau hyn gyda swyddogion ac yn y gorffennol, maent wedi dweud wrthyf nad yw'r ardaloedd hyn mor ddeniadol i ddatblygwyr. Ond does bosibl nad y gynffon yn ysgwyd y ci yw hynny. Mae angen inni sicrhau bod tai'n cael eu hadeiladu lle byddant yn gwneud y mwyaf o les cyhoeddus—[Torri ar draws.]—yn hytrach na gorlenwi cymunedau eraill am eu bod yn fwy deniadol. [Torri ar draws.] [Anghlywadwy.]—hyd yn hyn. Tom Giffard AS: Rwy'n ymddiheuro. Fe ddof i ben yn fuan. Dylai ein polisïau cynllunio fod o fudd i'n cymunedau, nid ein datblygwyr. Mae un o adroddiadau cyngor Pen-y-bont ar Ogwr ei hun yn dweud: 'mae problemau capasiti trafnidiaeth cyfredol yn atal datblygiad sylweddol ychwanegol yn yr ardal ar hyn o bryd'. Gan nad ydym yn buddsoddi yng nghymunedau'r Cymoedd, fe'u hystyrir yn llai deniadol i fyw ynddynt. Ond wedyn, nid ydym yn datrys yr angen hwnnw am dai ychwanegol oherwydd diffyg capasiti trafnidiaeth. Mae'n gylch dieflig. Os ydym am godi'r gwastad yn y Cymoedd, ni allwn ganiatáu i hyn barhau. Mae arnom angen system gynllunio sy'n gweithio i'n holl gymunedau, ac sy'n eu gwneud yn fwy deniadol i fyw ynddynt drwy fuddsoddiad pellach gan bob haen o Lywodraeth, ac annog awdurdodau lleol nid yn unig i ddewis yr opsiwn hawdd o ran cyrraedd targedau tai, ond y rhai sydd â'r budd hirdymor mwyaf i'n cymunedau hefyd. Galwaf ar Weinidog yr Economi i ymateb i'r ddadl. Vaughan Gething. Vaughan Gething AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Alun Davies am gyflwyno'r ddadl hon heddiw? Mae'n drafodaeth wirioneddol ddiddorol ac amserol mewn nifer o ffyrdd. Hoffwn ddiolch i'r ddau Aelod am eu cyfraniadau meddylgar. Bydd y rhan fwyaf o fy sylwadau'n ymwneud ag ardal Blaenau'r Cymoedd wrth gwrs, am mai o'r fan honno y daw Alun Davies, fel y mae'n ein hatgoffa'n rheolaidd, ac mae wedi bod yn bleser ei glywed yn sôn am yr hanes hir pan wyf wedi bod ym Mlaenau Gwent, yn ogystal ag i lawr yma. Ond byddwn yn dweud wrth Tom Giffard a'i gyfraniad, os ydym yn mynd i geisio cael system lle gallwn gyfeirio buddsoddiad yn fwriadol tuag at ardaloedd llai breintiedig, mae heriau gwirioneddol yn y dull o weithredu sy'n deillio, nid yn unig o godi'r gwastad, ond o reoli cymorthdaliadau a'r Bil Rheoli Cymorthdaliadau sy'n mynd drwy Senedd y DU, y bydd gan yr Aelodau yma ddiddordeb ynddo. Oherwydd os bydd hwnnw'n mynd rhagddo ar y sail bresennol, mae'n ei gwneud yn llawer iawn anos buddsoddi yn yr ardaloedd llai breintiedig hynny. Yn hytrach na gweld proses lle mae'n haws ac yn fwy deniadol i fuddsoddi yn yr ardaloedd lleiaf cefnog hynny, bydd yn anos fyth ei wneud. Mae'n rhan o'r her a welwn, her y cyfeiriodd Alun Davies ati, am label cyffredinol 'codi'r gwastad' nad oes neb yn mynd i anghytuno ag ef yn ei hanfod, ac eto realiti'r dewisiadau polisi sy'n cael eu gwneud. Byddaf yn sôn rhagor yn nes ymlaen am godi'r gwastad. Y gwir amdani yw bod llawer o'r gwaith a wnaethom i gefnogi Blaenau'r Cymoedd yn arbennig wedi bod yn bosibl o ganlyniad i waith Llywodraeth Cymru a phartneriaid yn y trydydd sector, addysg uwch, y sector preifat a'r sector gwirfoddol wrth gwrs, i ddarparu cronfeydd strwythurol Ewropeaidd. Mae wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. I roi hynny yn ei gyd-destun, mae rhaglenni ariannu presennol yr UE wedi helpu i greu 3,600 o swyddi ac wedi cefnogi mwy na 2,000 o fusnesau ac wedi helpu bron i 9,000 o bobl i gael gwaith, yn ardal Blaenau'r Cymoedd yn unig. Oherwydd y llwyddiant hwn treuliasom gryn dipyn o amser yn cynllunio fframwaith, gyda phartneriaid allweddol yng Nghymru, ar gyfer buddsoddi yn seiliedig ar dystiolaeth a chytundeb, gyda blaenoriaethau clir i Gymru. Dyma sut y mae dull Tîm Cymru yn edrych, ac rydym yn bwriadu adeiladu ar hynny a'r gwaith a wnawn yn awr, ynghyd â gwaith y mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn ei wneud, felly ceir cyfryngwr diduedd i edrych ar y dystiolaeth ryngwladol o ran sut y gallwn weithredu datblygu economaidd rhanbarthol yn llwyddiannus. Vaughan Gething AC: Yn ystod fy natganiad fis diwethaf ar gynlluniau'r DU ar gyfer cyllid yn lle cyllid yr UE a'r agenda codi'r gwastad yn gyffredinol, rhannais nid yn unig fy mhryderon, ond pryderon Llywodraethau cenedlaethol datganoledig eraill yn y DU, seneddau, pwyllgorau ac arbenigwyr blaenllaw. Mae'n dal yn wir fod dull Llywodraeth y DU hyd yma yn gymysglyd, yn anhrefnus, yn brin o unrhyw resymeg economaidd sylweddol neu gydlynol, ac nid oes cytundeb na mewnwelediad yn perthyn i'r dull cyfredol. Os bydd yn parhau ar y daith hon, bydd yn methu cyflawni'r canlyniadau y mae ein cymunedau'n eu haeddu. Ac nid wyf yn golygu i Gymru'n unig yma chwaith oherwydd y gwir amdani yw nad fy marn i'n unig y bydd pobl yn gyfarwydd â hi, ond pe baech yn cael y sgwrs hon gyda llywodraeth leol, y sector addysg uwch, neu'r trydydd sector yn yr Alban neu Loegr yn ogystal ag yma yng Nghymru, byddai'r farn yn debyg ar y cyfan. Yr her yw mynd drwy'r dryswch hwnnw a chyrraedd fframwaith a allai sicrhau'r math o fanteision y gallai pob Llywodraeth o wahanol liwiau ledled y DU ymrwymo iddynt a chytuno arnynt. Mae fy rhagflaenydd a minnau wedi gofyn am gyfarfodydd gyda Gweinidogion y DU sy'n arwain yn y maes hwn i drafod y pryderon hynny ac i fod eisiau dod i gytundeb am ffordd well ymlaen. Mae'n hen bryd cynnal y cyfarfodydd, o ystyried bod dros 18 mis wedi mynd heibio ers Brexit. Yn anffodus, gwyddom nad yw'r gronfa adfywio cymunedol a'r gronfa codi'r gwastad wedi gweld un penderfyniad yn cael ei wneud o'r cynlluniau peilot a gyhoeddwyd. Dim un penderfyniad ar y cynlluniau peilot hynny. Rydym ar y pwynt lle na fydd awdurdodau lleol ledled y DU yn llwyddo i wario'r arian hwnnw o fewn y flwyddyn galendr hon, ac mae honno'n her wirioneddol. Rydym yn colli blwyddyn o amser ac arian ac mewn gwirionedd, fel y mae pethau, byddwn yn colli mwy o amser i mewn i'r flwyddyn nesaf, oherwydd credaf y bydd yn heriol iawn i unrhyw Lywodraeth ddarparu fframwaith priodol a fydd yn barod ac ar gael i'w weithredu o fewn y flwyddyn nesaf. Felly, rydym yn disgwyl yn awr y gallem gael fframwaith polisi lefel uchel i gyhoeddi'r gronfa ffyniant gyffredin yn yr adolygiad o wariant yn ddiweddarach y mis hwn. A dywedaf eto fy mod yn gobeithio y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol newydd, Michael Gove, yn mabwysiadu ymagwedd wahanol i'w ragflaenwyr, ac yn gyffredinol yn gweithio gyda ni i ddarparu arian ledled y DU a fydd yn sicrhau gwell gwerth am arian, gwell canlyniadau, ac na fydd yn peryglu'r gwaith o ddarparu cynlluniau cenedlaethol fel Busnes Cymru, prentisiaethau a'r banc datblygu. Mae'r dull presennol o weithredu hefyd yn peryglu'r cyllid hanfodol ar gyfer ystod eang o bartneriaid eraill, nid llywodraeth leol yn unig, sy'n hanfodol ar gyfer y twf yn ein cymunedau, ond fel y dywedais, y trydydd sector, busnes, ac addysg uwch ac addysg bellach hefyd. Rwy'n credu ei bod yn ddefnyddiol fod Alun Davies wedi tynnu sylw at ei rôl flaenorol fel Gweinidog â chyfrifoldeb dros raglenni Ewropeaidd, nid dim ond y rôl hirsefydlog a fu gan y sefydliad hwn a Llywodraeth Cymru yn gwneud y dewisiadau hynny gyda Chymru ac ar ei rhan, ond y realiti ein bod wedi dysgu gwersi ar beth i'w wneud. Symudasom oddi wrth ddull a oedd yn ymwneud â phrosiectau bach iawn, i edrych ar brosiectau mwy o faint a mwy strategol. Ac eto, mae'r peilot presennol ar gyfer y gronfa godi'r gwastad a'r gronfa adfywio cymunedol yn ceisio symud oddi wrth hynny'n fwriadol i gael dull llawer llai, llawer mwy lleol o weithredu na fydd yn caniatáu i brosiectau rhanbarthol neu arwyddocaol yn genedlaethol gael eu cyflwyno. Felly, mae llawer gennym i'w ddysgu am yr hyn a wnaethom yn dda, yn ogystal â'r hyn nad ydym yn credu ei fod wedi gweithio, ac mae hynny'n rhan o'r her a nodwyd gan yr Aelod ar gyfer Llywodraeth Cymru. Ond er gwaethaf yr holl heriau sy'n ein hwynebu, yng Nghymru rydym yn bendant yn fwyaf llwyddiannus pan fyddwn yn gweithio gyda'n gilydd i ddatblygu atebion, ac roeddwn yn falch o glywed Alun Davies yn tynnu sylw at y dalent a'r ymrwymiad sy'n bodoli o fewn Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, ac yn y sector preifat hefyd yn wir. Ac mae'n bwysig ein bod yn parhau i weithio mewn partneriaeth gyda'r partneriaid hynny—felly, busnes, undebau llafur, llywodraeth leol, y trydydd sector a Llywodraeth Cymru. Rydym i gyd wedi cael sgyrsiau, nid yn unig yn ystod yr wythnos neu ddwy ddiwethaf, lle maent wedi bod yn gymharol ddwys, ond mewn gwirionedd ers i mi fod yn Weinidog a chyn hynny. Mewn sawl ffordd, mae'r pandemig wedi dod â ni yn nes fyth at ein gilydd, nid yn unig ar gyfer y busnes anodd o oroesi, ond y cyfleoedd i wella ac adfywio. Nawr, mae'r Aelod wedi tynnu sylw at y ffaith bod tasglu'r Cymoedd wedi dod i ben, ond mae Dawn Bowden a minnau yn gweithio i ymgorffori gwaith y tasglu yn ein cynlluniau hirdymor o fewn y Llywodraeth yn ogystal â chyda'r partneriaid y soniais amdanynt. Ac ni ellir gwadu bod angen gwneud mwy, ac mae'r her y mae'r Aelod yn ei gosod yn un deg ynglŷn â sut y gwnawn wahaniaeth: yn hytrach na siarad am yr hyn y dymunwn ei wneud, beth y mae hynny'n ei olygu i bobl a chymunedau ar lawr gwlad? Ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion a phartneriaid gydweithio'n agosach, nid yn unig gydag ymroddiad parhaus, ond i gofio bod a wnelo hyn â gwella canlyniadau. Ac rwy'n cydnabod peth o her yr Aelod ynglŷn â gweithio ar adolygiadau neu brosiectau ar draws y Llywodraeth. Cefais rywfaint o'r profiad hwnnw yn fy rôl gyntaf yn y Llywodraeth, ac roedd yn her cael Gweinidogion i gydweithio tuag at amcan a rennir y dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth ar y pryd. Felly, mae her yma, ond mae llawer o hynny'n ymwneud â'r gwahanol ysgogiadau sydd gennym, ymrwymiad Gweinidogion, a'r gallu i ddefnyddio arian i'r un cyfeiriad er mwyn cyflawni amcanion. Vaughan Gething AC: Ond rydym yn glir yn ein huchelgais ar gyfer adferiad economaidd sy'n adeiladu Cymru fwy teg, mwy gwyrdd a mwy ffyniannus. Ac roedd yr Aelod yn iawn i dynnu sylw at y buddsoddiad yn rhaglen y Cymoedd Technoleg, sy'n rhan o'r weledigaeth honno, ac mae'n gwneud cynnydd; mae'n gweld mwy o ganlyniadau. Roeddwn yng nghyfleuster Thales yn ddiweddar, gydag eraill, a sylwodd yr Aelod fy mod yno. Roeddwn yn falch iawn o'i gael yn cymeradwyo fy ymweliad â'i etholaeth. Ond i weld beth sy'n digwydd wedyn i adeiladu ar hynny, nid yn unig ar gyfer yr un prosiect, ond ar gyfer y cyfleoedd i fusnesau eraill, a'r pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud ynghylch cael hybiau i dynnu pobl at ei gilydd mewn gweithgarwch. Ac yn yr un ffordd, cyfarfu'r Prif Weinidog hefyd â chynrychiolwyr o CiNER Glass Limited, sy'n ceisio creu cyfle cyflogaeth sylweddol, eto ym Mlaenau Gwent. Ac mae'n wir, wrth gwrs, y byddant wedi'u lleoli'n ffisegol ym Mlaenau Gwent, ond mae'r ardal teithio i'r gwaith yn golygu y byddem yn disgwyl i bobl o'r tu allan i'r fwrdeistref sirol, ac etholaeth yr Aelod, gael eu cyflogi yno. Nawr, bydd hynny nid yn unig yn dod â swyddi i'r ardal, bydd yn ceisio defnyddio technoleg i helpu i gyrraedd targedau newid hinsawdd Llywodraeth Cymru ei hun a bydd hefyd yn fuddsoddiad yn yr economi gylchol. Ddydd Llun cyfarfûm â phrif weithredwyr ac arweinwyr gwleidyddol o'r pum awdurdod lleol sy'n ffurfio ardal Blaenau'r Cymoedd i drafod ein huchelgais cyffredin a sut yr ydym gyda'n gilydd yn trosi'r rheini'n flaenoriaethau ar y cyd ar gyfer gweithredu. Ac roedd y cyfarfod yn un cadarnhaol; nid yw hynny wedi bod yn wir bob amser. Os meddyliwch, tua 10 mlynedd yn ôl, roedd cael pum awdurdod lleol a'r Llywodraeth yn yr un ystafell gyda'i gilydd i gytuno ar brosiect, a chytuno ein bod yn mynd i ddefnyddio ein priod ddulliau gweithredu i wneud rhywbeth cadarnhaol—ac unwaith eto, nid yw hynny'n golygu na ddigwyddodd y sgyrsiau hynny erioed, ond credaf ein bod bellach mewn gwell lle i weld hynny'n troi'n realiti, sef y prif bwynt y mae'r Aelod yn ei wneud: nid amcanion yn unig, ond a fyddwn ni wedyn yn cyflawni'r canlyniadau y ceisiwn eu gosod i ni ein hunain yn ogystal? Felly, mae hyn yn ymwneud hefyd â manteisio ar y cyfle i ailegnïo ac ailgynllunio llawer o ganol ein trefi a'n strydoedd mawr ar draws y Cymoedd, a'r newyddion da, er ein bod yn cydnabod bod llawer i'w herio, yw bod cyfleoedd hefyd o ran ble mae hynny eisoes wedi'i wneud yn llwyddiannus. Mae cyfleoedd i ddysgu o'r hyn sydd eisoes wedi gweithio. Ac rydym yn cydnabod canol trefi fel rhan o fywyd a gweithgarwch dynol, a'r angen i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor a phwysigrwydd ymdeimlad o le ar gyfer lle mae pobl yn byw o ran cael canol tref neu stryd fawr ffyniannus. Felly, mae ein dull 'canol trefi yn gyntaf' wedi'i ymgorffori yn ein fframwaith cynllunio, 'Cymru'r Dyfodol', ac mae'n golygu mai canol trefi ddylai fod yr ystyriaeth gyntaf ar gyfer pob penderfyniad ynglŷn â lleoliad gweithleoedd a gwasanaethau. Mae'n rhywbeth yr oeddwn o ddifrif yn ei gylch yn fy rôl flaenorol fel Gweinidog iechyd: rhan o'r rheswm pam ein bod wedi edrych ar fuddsoddi mewn optometreg a fferylliaeth ar y stryd fawr. Ac felly, mae'r rhaglen Trawsnewid Trefi yn darparu £136 miliwn i gefnogi adferiad economaidd a chymdeithasol canol trefi a dinasoedd yng Nghymru, gyda £3 miliwn o gyllid Trawsnewid Trefi wedi ei gymeradwyo ar gyfer etholaeth yr Aelod yn unig, i gefnogi dros £8 miliwn o fuddsoddiad ledled y sir. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod canol trefi yn wynebu llawer o heriau sydd wedi'u gwaethygu gan y pandemig. Nawr, nodaf yr hyn a oedd gan yr Aelod i'w ddweud am y parc rhanbarthol, a'r pwynt am fuddsoddi mewn pobl a lle ac nid gweld llwyddiant yn unig yn nhermau niferoedd swyddi ond mewn perthynas ag a yw'n lle da i fyw ynddo. A yw pobl yn falch o ble y dônt, ac am aros yno hefyd? A allwch fod yn llwyddiannus yn y lle hwnnw a pheidio â theimlo'r angen i symud oddi yno a symud ymlaen? Felly, mae parc rhanbarthol y Cymoedd yn dal i fod yn rhywbeth yr hoffem ei weld yn llwyddo, a gwn y bydd yr Aelod am barhau i siarad â mi a fy nirprwy ynglŷn â hynny. Mae'r defnydd cynyddol o dechnoleg ddigidol a gweithio mwy hyblyg yn rhoi cyfle inni sicrhau ymwelwyr newydd a rhoi egni newydd yn ôl yng nghalonnau llawer o gymunedau llai y Cymoedd. Dyna pam y bydd y Llywodraeth hon yn parhau i fuddsoddi mewn cynlluniau peilot ar gyfer hybiau cydweithio ac i'w cefnogi ar draws nifer o gymunedau'r Cymoedd. Ac rwy'n cydnabod yr hyn a oedd gan yr Aelod i'w ddweud am Zip World Tower yn Hirwaun a phwysigrwydd twristiaeth. Mae Croeso Cymru wedi gweithio'n galed ar hyrwyddo'r Cymoedd, ac mae 60 y cant o'r lleoliadau y mae Croeso Cymru yn rhoi sylw iddynt o fewn ardal y Cymoedd. A dylwn ddweud fy mod wedi ymweld â Zip World, ac roedd—mae fy nodyn yn dweud y dylwn fod wrth fy modd; roeddwn ar ben fy nigon yn dod i lawr, ac roedd yn ddiwrnod allan gwych, a byddwn yn hapus i fynd eto gyda fy mab. Ac felly, mae'r pwynt yno am fod eisiau dychwelyd dro ar ôl tro. Gallaf ddweud yn onest, yn ystod y busnes anodd o geisio cael fy hun a phobl eraill wedi ein hethol—gyda rhai wedi'u hethol am y tro cyntaf—gwelais fwy o gymunedau'r Cymoedd ac rwy'n cydnabod bod potensial gwirioneddol yno. Rwyf innau hefyd am weld mwy o bobl yn mwynhau hynny fel rhan reolaidd o fywyd hefyd. Rwyf am orffen drwy gydnabod bod cryfderau a chyfleoedd inni adeiladu arnynt. Yn bendant, mae'r heriau i gydnabod a mynd i'r afael â'n heconomïau lleol yn ganolog i'n dull o adfywio'r economi yn seiliedig ar leoedd. Edrychaf ymlaen at wneud hynny drwy weithio gyda'r Aelod a chyda'r cyfuniad o her a chefnogaeth y bydd yn ei gynnig wrth wneud hynny, ynghyd â chynrychiolwyr eraill y Cymoedd. Felly, nid yw'r sgwrs wedi gorffen o ran ble'r ydym arni heddiw; mae llawer mwy o bwyntiau inni wneud penderfyniadau arnynt er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn. A rhaid i'n ffocws fod ar y canlyniadau a sut i wneud gwahaniaeth ymarferol gyda ac ar gyfer y bobl y mae'r Aelod yn eu cynrychioli ac y mae'n fraint gennyf innau eu gwasanaethu hefyd. Diolch, Weinidog. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch yn fawr, bawb. Daeth y cyfarfod i ben am 17:46. QNR Cwestiynau i Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Alun Davies: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am drawsnewid gwasanaethau llywodraeth leol yn ddigidol? Rebecca Evans: We have recognised the role of digital innovation in the future of local government services through the launch of the Centre for Digital Public Services, establishment of the local government chief digital officer and funding for digital projects. I will continue to support innovations in delivery to and engagement with our communities. Jack Sargeant: Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog yn ei rhoi i ddatblygu cynllun peilot incwm sylfaenol cyffredinol wrth ddyrannu cyllid i'r portffolio cyfiawnder cymdeithasol? Rebecca Evans: We have followed the progress of other pilots and believe there is an opportunity to test a basic income pilot in Wales to demonstrate how this could alleviate poverty alongside wider benefits. Further exploration of the viability of a pilot is being considered as part of our 2022-23 budget preparations. Mark Isherwood: Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau atebolrwydd mewn llywodraeth leol? Rebecca Evans: The Welsh Government has introduced a framework under legislation for local government to follow. Each principal council is required to have a constitution that sets out how decisions are made and the procedures to be followed. Failure to comply with standing orders is an internal disciplinary matter. Russell George: Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog yn ei rhoi i ddarparu cludiant i blant a phobl ifanc mewn ardaloedd gwledig wrth ddyrannu'r gyllideb i'r portffolio newid hinsawdd? Rebecca Evans: Social justice is at the heart of our 2022-23 budget preparations, including consideration of the provision of transport to children and young people in rural areas. Throughout our forthcoming 2022-23 budget, we will continue to invest in young people and children all over Wales, including in the climate change portfolio. Cwestiynau i Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Ken Skates: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i wneud teledu cylch cyfyng yn orfodol ym mhob lladd-dy? Lesley Griffiths: The Welsh Government is committed to ensuring high standards of welfare for all animals kept in Wales at all stages of their life, including at the point of slaughter. Our programme for government includes a commitment to require CCTV in all slaughterhouses during this Government’s term. Jenny Rathbone: Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith prinder llafur yn y diwydiant prosesu cig? Lesley Griffiths: The situation is serious and the Welsh Government is supporting the industry as appropriate. UK Government policy has caused these problems, and the Minister for Economy has written to the Secretary of State for Business, Energy and Industrial Strategy, asking the UK Government to recognise the importance of these labour issues and to act accordingly.
uk-hansard-senedd-cy
senedd2021-10-13
2024-06-01T00:00:00
{ "year": "2021", "language": "cy", "license": "Open Parliament Licence - https://www.parliament.uk/site-information/copyright-parliament/open-parliament-licence/" }
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn o'r Senedd. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Joyce Watson. Addysg a Gyrfaoedd STEM Joyce Watson AC: 1. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog merched i mewn i addysg a gyrfaoedd STEM? OQ59722 Mark Drakeford AC: Llywydd, diolchaf i Joyce Watson am y cwestiwn yna. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag ysgolion, colegau, cyflogwyr, a gyda modelau rôl, i sicrhau bod merched a menywod ifanc yn cael eu hannog yn gadarnhaol i ddewis cymwysterau a gyrfaoedd sy'n gysylltiedig â STEM. Joyce Watson AC: Diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae hi'n Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod mewn Peirianneg y dydd Gwener yma, a byddaf yn nodi hynny gydag ymweliad â Dragon LNG. Mae mentrau da ar gael, fel y dywedwch chi, fel rhaglen Cynllun Addysg Beirianneg Cymru, ond, yn y gweithle, mae'n dal yn wir bod 73 y cant o'r gweithlu STEM yn ddynion, dim ond 14.5 y cant o beirianwyr sy'n fenywod, a dim ond 20 y cant o raddedigion gwyddoniaeth benywaidd sy'n mynd ymlaen i weithio mewn gyrfaoedd STEM, o'i gymharu â 44 y cant o ddynion. Mae'n bwysig nid yn unig o ran cydraddoldeb rhywiol, ond oherwydd bod diffyg o 173,000 o weithwyr yn sector STEM y DU, sy'n costio £1.5 biliwn y flwyddyn i'r economi. Mae'r newid yn yr hinsawdd, diogelwch bwyd a dŵr, pandemigau yn y dyfodol a'r heriau byd-eang yr ydym ni'n eu hwynebu yn galw am atebion sy'n seiliedig ar STEM. Allwn ni ddim fforddio gwastraffu talent a gwybodaeth menywod. Felly, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i gau'r bwlch hwnnw ac i weithio gyda phartneriaid eraill i sicrhau hynny? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, diolchaf i Joyce Watson am y pwyntiau hynny, ac rwy'n cytuno â'i chynsail sylfaenol yn fawr iawn mai'r dyfodol yn economi Cymru fydd y gystadleuaeth i weithwyr ymgymryd â'r swyddi sy'n aros i weithwyr eu cyflawni. Ac mae hynny'n golygu yn gwbl sicr na ellir anwybyddu talentau a galluoedd dros hanner y boblogaeth yn yr ymgais honno. Nawr, mae merched yn perfformio'n well na bechgyn yn gyson o ran cyrhaeddiad mathemateg a gwyddoniaeth trwy gydol addysg orfodol. Ar gyrsiau TGAU, mae merched yn perfformio'n well na bechgyn ym mhob agwedd ar y gwyddorau ac eithrio ffiseg. Ac mae merched yn perfformio'n well na bechgyn ar gyrsiau Safon Uwch hefyd. Yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud, fel y mae Joyce Watson yn ei awgrymu, Llywydd, yw gwneud mwy o ymdrech i berswadio'r menywod ifanc hynny i ddefnyddio'r cymwysterau hynny yn y gweithle yn y swyddi sy'n dibynnu ar gefndiroedd STEM i fod yn llwyddiannus. Dyna pam, gan feddwl am yr hyn a ddywedodd Joyce Watson am y ffaith ei bod hi'n Ddiwrnod Menywod mewn Peirianneg ddydd Gwener yng Nghymru, y mae gan Gynllun Addysg Beirianneg Cymru gryfder penodol, gan annog merched ifanc mor gynnar â blwyddyn 8 yn yr ysgol i fod mewn cysylltiad â chyflogwyr, i fod mewn cysylltiad â phobl mewn addysg uwch, fel eu bod nhw'n cymryd diddordeb gweithredol mewn STEM cyn iddyn nhw wneud dewisiadau TGAU, gan wybod bod y dewisiadau hynny yn arwain at bosibiliadau cyflogaeth y dyfodol. Ar draws ymdrech y Llywodraeth—ond nid y Llywodraeth yn unig, cyflogwyr hefyd—mae angen pwyslais arnom ni ar y ffordd y mae menywod ifanc yn cael eu perswadio bod amrywiaeth o bosibiliadau iddyn nhw yno yn y gweithle, ac y bydd y buddsoddiad y maen nhw'n ei wneud mewn astudio pynciau STEM yn talu ar ei ganfed iddyn nhw o ran cyfleoedd gyrfaol yn y dyfodol. Laura Anne Jones AC: Yn dilyn ymlaen o'r hyn rydych chi newydd ei ddweud, Prif Weinidog, am hyrwyddo diddordeb gweithredol i ferched mewn pynciau STEM cyn iddyn nhw gyrraedd lefel TGAU, fel llysgennad balch dros y Geidiaid, rwyf i wedi bod yn falch o weld bod Geidiaid Gwent, dros y ddau fis diwethaf, wedi cynnal digwyddiadau ar thema'r gofod ar gyfer Enfysau a Brownis, ac mae dros 80 o geidiaid wedi cymryd rhan mewn diwrnod STEM. Mae'r merched hyn wedi cael amser gwych yn gwneud batris lemon, breichledi deuaidd, a chymaint mwy, sydd, wrth gwrs, wedi helpu i hyrwyddo pwnc STEM i'r merched hyn. Fel Llywodraeth, dylech chi fod yn gwneud popeth o fewn eich gallu i sicrhau bod y merched hyn yn cael y cyfleoedd gorau mewn STEM, ac, yn amlwg, chwarae teg a chyfleoedd teg wrth gael mynediad at addysg uwch. Ac eto, Prif Weinidog, mae'n ymddangos bod eich Llywodraeth eisiau ei gwneud hi'n anoddach nag erioed i ddysgwyr benywaidd ifanc fynd i faes STEM, trwy gyfuno'r dair gwyddor ar wahân hynny yn wyddoniaeth ddwbl ar lefel TGAU, fel y soniais yr wythnos o'r blaen. Nid oeddech chi eisiau ei gydnabod y tro diwethaf, ond mae hyn yn rhywbeth sydd wedi cael ei feirniadu'n eang gan y proffesiwn a'r sector gwyddoniaeth hefyd: Dr Lowri Mainwaring, arweinydd tîm academaidd mewn gwyddorau biofeddygol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd; yr Athro Alma Harris o'r adran addysg ac astudiaethau plentyndod ym Mhrifysgol Abertawe; Eluned Parrott, pennaeth Cymru yn y Sefydliad Ffiseg. Mae'r Llywodraeth hon, ar un anadl, yn gofyn i ferched ifanc ymgymryd â gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a swyddi ar gyfer y dyfodol, ac yna, ar yr un anadl, rydych chi'n eu rhoi nhw o dan anfantais ar unwaith i weddill y DU pan fyddan nhw'n ymgeisio am swyddi a lleoedd prifysgol. Prif Weinidog, sut mae cyfyngu addysg STEM pobl ifanc yn helpu merched i fynd i faes STEM mewn gwirionedd? Mark Drakeford AC: Llywydd, rwyf i wedi trafod y mater hwn gyda'r Aelod o'r blaen. Nid wyf i'n cytuno â'r pwyntiau y mae hi'n eu gwneud, ond, yn bwysicach o lawer na fy safbwynt i, nid yw'r bobl hynny sy'n gweithio yn y maes chwaith. Cynnig gan Cymwysterau Cymru yw hwn—y bobl hynny yr ydym ni'n dibynnu arnyn nhw am eu harbenigedd o ran cynllunio llwybr at ddyfodol i'n pobl ifanc. Cyrff diwydiant—. Ac, mewn gwirionedd, clywais iddi sôn am Eluned Parrott; rwy'n deall bod Eluned Parrott yn cefnogi'r cynigion y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud, ac, ar ben hynny, bod y rhannau hynny, y cyrff cynrychioliadol hynny yr ydym ni'n dibynnu arnyn nhw am gyngor ym meysydd cemeg, bioleg, ac ati, o blaid y cynigion hyn, gan eu bod nhw'n credu y bydd mwy o bobl ifanc—mwy o bobl ifanc—yn astudio gwyddoniaeth ar y lefel honno yn y pen draw, ac yn ei wneud mewn ffordd sy'n rhoi'r hyder iddyn nhw wybod y gallan nhw fynd ymlaen a'i hastudio ar lefelau uwch hefyd. Rwy'n clywed cyfres o honiadau gan yr Aelod, mewn ffordd ddi-dystiolaeth. Dyma ei safbwyntiau hi, y mae'n dymuno ein perswadio ni ohonyn nhw, yn nannedd y dystiolaeth—nid safbwyntiau, y dystiolaeth—gan y rhai sy'n arbenigwyr yn y maes y bydd y cynigion yn gwneud mwy i annog menywod ifanc, a dynion ifanc, i astudio'r gwyddorau yng Nghymru, a dyna pam mae'r Llywodraeth yn mynd ar drywydd yr uchelgeisiau hynny. Ysgolion Ecogyfeillgar Russell George AC: 2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn annog ysgolion i ddod yn fwy ecogyfeillgar? OQ59694 Mark Drakeford AC: A gaf i ddiolch i Russell George am y cwestiwn yna, Llywydd? Ein pobl ifanc yw'r eiriolwyr gorau dros wneud ysgolion yn ecogyfeillgar. Mae llwyddiant y mudiad Eco-Sgolion yng Nghymru yn ffordd effeithiol y gellir troi'r ymrwymiad hwnnw yn weithredu ymarferol. Russell George AC: Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n cytuno â chi yn llwyr—rwy'n credu mai pobl ifanc yw'r bobl orau i arwain y maes hwn. Yr wythnos diwethaf, fe wnes i gyfarfod â phlant o Ysgol Gynradd Llanidloes—Belle, Reggie, Millie a Willow—sy'n aelodau o eco-bwyllgor yr ysgol. Nawr, maen nhw'n awyddus iawn i weld llai o wastraff plastig o ran y ddarpariaeth o laeth ysgol, ac fe wnaethon nhw esbonio i mi eu bod nhw'n derbyn 78 o boteli plastig bach unigol o laeth bob dydd yn rhan o gynllun ledled y DU gyfan, sy'n cael ei ariannu'n rhannol hefyd gan Lywodraeth Cymru. Amlinellodd y bobl ifanc wrthyf fod yr ysgol yn defnyddio 15,210 o gynwysyddion llaeth plastig bob blwyddyn. Fe wnaethon nhw hefyd amlinellu i mi bod hyn wedi costio £5,171.40—maen nhw'n dda iawn ym mhwnc mathemateg yn yr ysgol hon, dylwn ychwanegu. Nawr, pe baen nhw'n prynu'r llaeth eu hunain, gan gynnwys danfon, ac yn defnyddio cwpanau y gellir eu hailgylchu, byddai arbediad enfawr o ran pwysau; a dweud y gwir, roedden nhw wedi cyfrifo hynny fel tair gwaith pwysau eu hathrawes, Mrs Stead, bob blwyddyn. Felly, ar wahân i'r arbedion amgylcheddol, byddai arbedion cost enfawr hefyd, o 50 y cant. Er tegwch i'r plant, roedden nhw hefyd o'r farn y byddai adnodd o olchi'r cwpanau y gellir eu hailddefnyddio hefyd. Maen nhw wedi cyfarfod â'u hawdurdod lleol, maen nhw wedi cyfarfod ag eraill, ond maen nhw'n teimlo braidd eu bod nhw wedi bod yn curo eu pennau yn erbyn wal frics, yn anffodus—maen nhw'n teimlo'n ddigalon, maen nhw'n teimlo fel pe bai rhwystrau yn cael eu codi. Felly, a gaf i ofyn, Prif Weinidog, i chi ofyn i un o'ch swyddogion yn Llywodraeth Cymru i weithio gyda'r plant a'r ysgol, i redeg prosiect peilot, oherwydd, wedi'r cyfan, gallai fod arbediad enfawr yn y defnydd o blastig, ac arbediad cost enfawr hefyd, os meddyliwch chi am £2,500 ynghyd â phob ysgol gynradd, bob blwyddyn? Diolch, Prif Weinidog. Mark Drakeford AC: Diolchaf i Russell George yn fawr am y cwestiwn atodol yna. Mae hwnna yn gyfuniad rhyfeddol o sgiliau datrys problemau i ni ei weld gan y myfyrwyr yn Llanidloes. Rwy'n falch iawn o gytuno y byddwn ni'n dod o hyd i rywun i siarad yn uniongyrchol â'r ysgol, ac, yn wir, gyda'r plant, i weld a all eu syniadau ddod o hyd i ffordd arall o gael eu rhoi ar waith yn ymarferol. Ond mae'n wych gweld, onid yw, y ffordd y mae gan bobl ifanc eu hunain nid yn unig ddiddordeb, yn yr ystyr gyffredinol honno, yn nyfodol yr amgylchedd, ond y ffordd y maen nhw'n cyfateb hynny â'r pethau y maen nhw'n eu gweld o'u blaenau bob dydd, ac yna'n dod ymlaen gyda'r mathau hynny o syniadau llawn dychymyg i greu atebion newydd. John Griffiths AC: Prif Weinidog, fel Aelodau'r Senedd, rwy'n credu ein bod ni'n cael synnwyr cryf o'r angerdd sydd gan ddisgyblion ysgol at yr amgylchedd pan ddaw ysgolion yma i'r Senedd i ymweld ac i ddysgu mwy am waith Aelodau'r Senedd, a hefyd pan fyddwn ni'n ymweld ag ysgolion. Rwyf i wedi bod yn falch iawn o weld ysgolion lleol yn Nwyrain Casnewydd yn gosod esiampl dda iawn, rwy'n credu, o ran cydnabod angerdd eu disgyblion at yr amgylchedd a threfnu o'i gwmpas: gwahodd cynrychiolwyr lleol i mewn i drafod materion amgylcheddol a sut y gellir bwrw ymlaen â gweithredu; trefnu profiadau sgiliau goroesi; bwrw ymlaen â gwersi trwy Ysgol Goedwig; a mesurau gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd, Prif Weinidog. Felly, a fyddech chi'n cytuno â mi bod angen i ni edrych ar ysgolion yng Nghymru sy'n gosod esiampl dda iawn, a gwneud yn siŵr ein bod ni'n defnyddio'r angerdd hwnnw, wrth i ni fwrw ymlaen â'r polisïau hyn? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, rwy'n cytuno, wrth gwrs, y dylem ni ddod o hyd i'r holl ffyrdd y gallwn ni i fanteisio ar yr ymrwymiad angerddol hwnnw y mae pobl ifanc yn ei deimlo at ddyfodol y blaned y byddan nhw'n parhau i fyw arni. Byddwn yn cyfarfod yfory â'r Senedd Ieuenctid yma, yn yr ystafell hon, ac rwy'n siŵr y byddwn ni'n clywed bryd hynny safbwyntiau'r bobl ifanc hynny ar y newid yn yr hinsawdd, ar golli bioamrywiaeth, ar ffyrdd y gallwn ni weithredu gyda'n gilydd i wella'r amgylchedd. Nawr, digwyddais weld bod yr Aelod dros Ddwyrain Casnewydd yn Ysgol Gynradd Ringland yn ddiweddar, yn cyfarfod â'i heco-gyngor ac yn rhannu syniadau â nhw. Yn union fel yn Llanidloes, dyma ysgol arall sydd â llawer o syniadau ymarferol. Cefais fy nharo gan y ffaith fy mod i wedi gweld bod ganddyn nhw gystadleuaeth ailgylchu wythnosol lle mae popeth y mae pob dosbarth wedi ei gasglu yr wythnos honno yn cael ei bwyso, ac yna caiff enillydd y gystadleuaeth ei gyhoeddi bob wythnos, ac mae hynny'n creu diddordeb ym mhob plentyn ac ym mhob rhan o'r ysgol mewn gwneud y pethau ymarferol y gallan nhw eu gwneud i wneud gwahaniaeth. Jenny Rathbone AC: Cefais gyfarfod gwych gyda chyngor ysgol Albany, ac fe wnaethon nhw godi mater oedolion yn bwydo colomennod a oedd yn eu hatal nhw rhag defnyddio'r ychydig o fannau gwyrdd a oedd ganddyn nhw o amgylch eu hysgol. Felly, plant yw'r eco-ryfelwyr gorau. Fe wnaethon nhw hefyd godi â mi y broblem o barcio ceir ar balmentydd, a oedd yn amharu ar eu gallu i gerdded i'r ysgol yn ddiogel. Felly, rwy'n credu bod llawer mwy y gallwn ni ei wneud. Hoffwn atgoffa'r Llywodraeth am bwysigrwydd sicrhau bod pob myfyriwr yn gallu cerdded, beicio neu fynd ar sgwter i'r ysgol, os yw hynny'n bosibl yn ffisegol. Efallai na fydd yn bosibl i'r holl fyfyrwyr yn Llanidloes, a allai fod â chryn bellter i'w deithio. Ond, yn union fel mae gennym ni gynllun ar gyfer galluogi pobl i brynu beic os ydyn nhw'n gweithio i ni yma yn y Senedd, a roddwyd unrhyw ystyriaeth i gael rhyw fath o gynllun benthyg beic fel y byddai teuluoedd yn gallu prynu beic yn araf? Mark Drakeford AC: Rwy'n cytuno â Jenny Rathbone mai plant yw'r eiriolwyr mwyaf perswadiol gyda'u rhieni eu hunain ynghylch camau y gellir eu cymryd i wella'r amgylchedd o amgylch eu hysgolion eu hunain. Fel pob Aelod yma yn y Senedd, rwy'n siŵr, rwyf i wedi ymweld ag ysgolion lle'r ydych chi'n gweld arddangosiadau o'r negeseuon y mae plant yn eu cyfleu i'w rhieni am ysmygu, am sbwriel, am barcio, am yr holl bethau sy'n gwneud y gwahaniaeth uniongyrchol hwnnw i amgylchedd y plentyn. Ac, mewn gwirionedd, rwy'n credu bod cynlluniau sydd eisoes yn bodoli sy'n annog ysgolion i brynu beiciau eu hunain fel y gall plant eu benthyg nhw a beicio yn ôl ac ymlaen i'r ysgol—gan gyfuno hynny â dosbarthiadau hyfedredd beicio, yr holl bethau sy'n gwneud beicio yn hwyl, yn ogystal â'i wneud yn ddewis gwell i blant fynd yn ôl ac ymlaen rhwng eu cartrefi a'r ysgol. Ac, wrth gwrs, rwy'n annog pob ysgol a phob awdurdod addysg lleol i barhau i wneud popeth o fewn eu gallu i berswadio pobl ifanc ac i alluogi pobl ifanc i wneud y dewisiadau iach ac egnïol hynny. Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies. Andrew RT Davies AC: Diolch, Llywydd. Gyda'ch caniatâd, a gaf i groesawu arweinydd newydd Plaid Cymru i'w swydd, a dymuno'n dda iddo—ddim yn rhy dda—yn y swydd honno? [Chwerthin.] Rwy'n siŵr y byddwn ni'n cael dadleuon a sgyrsiau da ar draws llawr Senedd Cymru. Prif Weinidog, roedd ffigurau diweithdra'r wythnos diwethaf yma yng Nghymru yn siomedig. Roedden nhw'n dangos, yn anffodus, bod y niferoedd yn cynyddu ar gyfer diweithdra yma yng Nghymru, o'i gyferbynnu â'r gostyngiad mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi gallu ei wneud o'r ffigurau hynny, a pha gamau y mae'n eu cymryd i ymateb i'r nifer cynyddol o bobl ddi-waith yma yng Nghymru? Mark Drakeford AC: Rwy'n ymwybodol, wrth gwrs, o ystadegau marchnad lafur yr wythnos diwethaf. Mae'r cefndir iddyn nhw yn un difrifol i'r Deyrnas Unedig gyfan. Mae'r Blaid Geidwadol wedi chwalu'r economi, ac rydym ni'n gweld hynny'n datblygu nawr ar ffurf y pwysau yr ydym ni'n eu gweld yn y gweithle hefyd. [Torri ar draws.] Nid wyf i'n credu y gallaf i gredu y gallaf feddwl am Aelodau'r Blaid Geidwadol yn chwerthin ar y syniad o'r ffordd y maen nhw wedi cyflawni cyfrifoldebau economaidd y wlad hon. Ond o ran ffigurau Cymru, mae'r ffigurau a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf yn dangos darlun cymysg. Er bod y prif ffigurau diweithdra wedi cynyddu yng Nghymru, mae'r ffigurau y mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn eu cyhoeddi ar weithwyr cyflogedig misol yng Nghymru yn dangos bod y ffigur hwnnw yn cynyddu mewn gwirionedd, ac yn cynyddu yng Nghymru yn gryfach nag yn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig. Felly, roedden nhw'n ddwy set o ffigurau, a gyhoeddwyd ar yr un diwrnod, yn pwyntio i gyfeiriadau sy'n ymddangos yn wahanol; tra bod diweithdra yng Nghymru wedi cynyddu, fe wnaeth nifer y gweithwyr cyflogedig misol hefyd gynyddu yn yr un mis. Ac fel erioed, gydag unrhyw set fisol o ffigurau, mae'n well edrych dros ystod o fisoedd cyn i ni weld pa un o'r dangosyddion gwrthgyferbyniol hyn sy'n adrodd hanes gwirioneddol cyflwr presennol economi Cymru i ni yn y pen draw. Andrew RT Davies AC: Prif Weinidog, economi'r DU oedd yr economi a oedd yn tyfu gyflymaf am y ddwy flynedd ddiwethaf yn y G7. Mae'r Almaen mewn dirwasgiad; er gwaethaf y ffaith fod holl aelodau eich meinciau cefn a'ch Llywodraeth yn dymuno i'r wlad hon fod mewn dirwasgiad, nid yw'r wlad hon mewn dirwasgiad. Dangosodd ffigurau yr wythnos diwethaf yn glir bod diweithdra yn cynyddu yn y rhan hon o'r Deyrnas Unedig, ond yn gostwng mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Mae'n ffaith nad yw gwerth ychwanegol gros o dan oruchwyliaeth y blaid Lafur wedi cynyddu fel y dylai fod wedi cynyddu, mae'n ffaith bod £2,000 yn llai mewn pecynnau cyflog yng Nghymru na'r rhai mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ac mae'n ffaith, yn anffodus, fod gennym ni fwy o bobl ddi-waith hirdymor yn y rhan hon o'r Deyrnas Unedig. Y ffaith arall yw bod gennym ni 5 y cant o'r boblogaeth yma yng Nghymru, ond dim ond 3 y cant o'r cyfoeth yr ydym ni'n ei gynhyrchu. Ers 25 mlynedd, mae'r Blaid Lafur wedi methu â gwella'r ffigurau hynny. Gofynnaf i chi eto, Prif Weinidog: beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu'r rhagolygon hirdymor ar gyfer economi Cymru a chael y niferoedd hynny i symud i'r cyfeiriad cywir? Oherwydd y cwbl wnaeth y rhifau diweithdra hynny yr wythnos diwethaf oedd atgyfnerthu methiant polisi Llafur Cymru mewn Llywodraeth yma yng Nghymru. Mark Drakeford AC: Y peth gorau all ddigwydd i economi Cymru yw i ni gael Llywodraeth Lafur ar lefel y Deyrnas Unedig. Pe bai un cam y gallem ni ei gymryd i wneud yn siŵr bod pobl yma yng Nghymru yn mwynhau'r dyfodol economaidd y maen nhw'n ei haeddu, mae'n rhaid mai'r cam hwnnw fyddai cael Llywodraeth gymwys ar lefel y DU, Llywodraeth heb y staeniau rhyfeddol ar ei record economaidd sydd gan Lywodraeth bresennol y DU. Mae'n wirioneddol syfrdanol i mi y dylai'r Blaid Geidwadol feddwl y gallan nhw gynnig darlith i unrhyw un ar sut i ymgymryd â materion economaidd yma yn y Siambr hon. Roedd yr Aelod yn anghywir—mae'n aml yn anghywir; rydym ni'n gwybod—pan ddywedodd wrthyf i fod cyfraddau anweithgarwch economaidd yng Nghymru yn gwaethygu, gan fod y ffigurau yr oedd yn dibynnu arnyn nhw yn ei gwestiwn cyntaf yn dweud bod anweithgarwch economaidd yng Nghymru wedi gostwng 0.6 y cant yn y chwarter olaf yng Nghymru. Felly, mewn gwirionedd, rydym ni'n llwyddo i gael mwy o bobl yn ôl i waith o anweithgarwch economaidd yma yng Nghymru—nid llai, fel y dywedodd yn ei ail gwestiwn. Ac os yw'n dymuno edrych yn ôl dros holl gyfnod datganoli, yr hyn y bydd yn ei ganfod yw stori lwyddiant ryfeddol cynifer o bethau yma yng Nghymru. Yn y 1980au a'r 1990au, roedd y bwlch cyflogaeth rhwng Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig—. Mae'r bwlch hwnnw wedi cael ei haneru yng nghyfnod datganoli. Os gwnaiff ef edrych yn ôl ar ffigurau anweithgarwch economaidd ar ddechrau'r 1990au, roedd Cymru yn allanolyn llwyr yn y Deyrnas Unedig, ac roedd y bwlch hwnnw wedi bod yn tyfu o un flwyddyn i'r llall. Byddai wedi syfrdanu unrhyw un ym 1999 pe baech chi wedi dweud 20 mlynedd yn ddiweddarach bod y bwlch anweithgarwch economaidd rhwng Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig wedi crebachu i'r lefel y mae heddiw. Mae economi Cymru, Llywydd, wedi bod yn llwyddiant yn ystod y 25 mlynedd diwethaf, er gwaethaf ac nid oherwydd y polisïau y mae ei blaid ef wedi eu dilyn mewn grym. Andrew RT Davies AC: Weithiau, rydych chi'n meddwl tybed a ddylech chi fod yn y neuadd gomedi yn hytrach nag ar lawr Senedd Cymru, Prif Weinidog. Mae'n ffaith, pan oeddech chi'n gynghorydd arbennig i Rhodri Morgan, eich bod chi wedi gosod y targed ar gyfer codi gwerth ychwanegol gros i fod ar gyfartaledd gweddill y DU o leiaf. Rydych chi wedi methu â gwneud hynny. Tynnais eich sylw at sut mae pecynnau cyflog yma yng Nghymru £2,000 yn ysgafnach nag mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ac fe wnes i hefyd dynnu eich sylw at sut mae gennym ni 5 y cant o boblogaeth y DU ond ein bod ni'n cynhyrchu dim ond 3 y cant o'r cyfoeth. Gofynnais i chi pa strategaeth, pa bolisi, sydd gennych chi ar waith i edrych ymlaen, nid yn ôl, i wneud yn siŵr y gallwn ni wella'r rhifau hynny. Fe wnaethoch chi gynnig dim byd o gwbl. Rwyf i wedi rhoi'r cyfle i chi. Ar y trydydd cyfle, rhowch syniad i ni o ble'r ydych chi'n mynd ag economi Cymru, â rhai canlyniadau pendant y gallwn ni fesur y Llywodraeth hon ar eu sail, oherwydd ar hyn o bryd mae'r canlyniadau'n dangos cerdyn sgorio o 'wael iawn' o ran yr economi yma yng Nghymru. Mark Drakeford AC: Nid wyf i'n credu bod record economaidd y Deyrnas Unedig yn rhywbeth i chwerthin yn ei chylch, ac nid wyf i'n credu chwaith, pan fydd arweinydd yr wrthblaid yn cael ei hun ar iâ mor denau, bod gweiddi'n uwch ac yn uwch arnaf i yn ffordd o guddio gwendid ei safbwynt. Mae'n gweiddi arnaf i eto. Mae'n ffordd y mae'n ceisio cuddio teneuder ei ddadl ei hun. Yma yng Nghymru, bydd pobl yfory yn wynebu cynnydd newydd i gyfraddau llog. Bydd pobl sy'n talu morgeisi yng Nghymru yn gweld eu hunain yn waeth eu byd eto oherwydd camreolaeth economaidd ei blaid. Yma yng Nghymru, mae'r Llywodraeth hon yn parhau i fuddsoddi yn economi Cymru, i fuddsoddi yn y sgiliau y bydd eu hangen ar bobl yn y dyfodol, i fuddsoddi yn y seilwaith sy'n cefnogi ein hymdrech economaidd, i fuddsoddi yn y diwydiannau newydd hynny—mewn seiberddiogelwch, mewn ynni adnewyddadwy, yn y pethau hynny sy'n cynnig dyfodol economaidd llwyddiannus i Gymru. Rydym ni'n gwneud hynny yn erbyn blaenwyntoedd gweithredoedd anghyfrifol Llywodraeth y DU. Cofiwn mor dda sut y gwnaeth arweinydd yr wrthblaid gefnogi Boris Johnson yn gyntaf ac yna Liz Truss. Sut gwnaiff ef esbonio hynny i bobl yng Nghymru, pan fyddan nhw'n canfod bod eu dyfodol economaidd wedi cael ei ddinistrio gan weithredoedd anghyfrifol Llywodraeth Geidwadol y mae ef wedi mynd—[Torri ar draws.] Rwy'n credu bod y cwestiynau wedi cael eu gofyn eisoes. Arweinydd yr wrthblaid, a allwch chi wrando ar yr ateb i'r cwestiwn? Mark Drakeford AC: —allan o'i ffordd i'w cefnogi yma yng Nghymru dro ar ôl tro? Arweinydd newydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae hi'n anrhydedd cael fy ngalw fel arweinydd Plaid Cymru i ddal Llywodraeth Cymru a Phrif Weinidog Cymru i gyfrif. Efo'ch caniatad, Llywydd, mi fyddwn i'n licio diolch i'm cyd-Aelodau ar y meinciau yma am eu cefnogaeth, am y dymuniadau gorau gan Aelodau ar draws y Siambr, a'r dymuniadau lled dda gan arweinydd y Blaid Geidwadol. Rydyn ni i gyd yn dod i fan hyn, i'r Senedd—neu mi ddylem ni, yn sicr—efo darlun o'r math o gymdeithas rydyn ni eisiau gweithio tuag ati, ac i fi mae hynny'n cynnwys gweledigaeth glir o sut Gymru dwi'n dyheu amdani hi. Rhun ap Iorwerth AC: Mae'r Gymru yr wyf i'n ymdrechu i'w sicrhau yn fwy uchelgeisiol. Mae'n decach. Mae'n wyrddach. Mae'n fwy llewyrchus. Mae'n wlad sy'n annibynnol ac yn gysylltiedig, yn pennu ei thrywydd ei hun ac yn chwilio am bartneriaethau newydd. Mae'n daith, ac rwy'n gwahodd y Prif Weinidog i weithio gyda mi tuag at y weledigaeth honno, hyd yn oed os nad yw ef ei hun wedi cael ei argyhoeddi i'r graddau yr wyf i o'n galluoedd fel cenedl. Rwy'n ei wahodd i wthio ein ffiniau fel cenedl ar unwaith. Felly, ar fater mwy o bwerau yn gyffredinol, cymryd mwy o gyfrifoldeb, a yw'n cytuno â'r egwyddor o 'os na ofynnwch chi, ni chewch chi'? Mark Drakeford AC: I ddechrau, Llywydd, croeso’n ôl i Rhun ap Iorwerth at gwestiynau i'r Prif Weinidog, fel roedd arweinydd yr wrthblaid yn ei ddweud. Pob lwc iddo fe yn y swydd newydd mae e wedi ei derbyn. Mark Drakeford AC: O ran dyfodol Cymru, ceir llawer yn yr hyn a ddywedodd Rhun ap Iorwerth a fyddai'n uchelgais a rennir gan lawer o bobl ar yr ochr yma i'r Siambr. Rwy'n edrych ymlaen at barhau i weithio gydag ef a chydag Aelodau eraill o'i blaid yn rhan o'r cytundeb cydweithio yr ydym ni wedi ei lywio yn llwyddiannus yn ystod y 18 mis cyntaf. Mae gennym ni lawer o waith pwysig i'w gyflawni yn ail hanner y cytundeb hwnnw. Fe wnaf i ateb y cwestiwn penodol fel hyn, Llywydd: mae adroddiad Gordon Brown, a gomisiynwyd gan fy mhlaid fel prosbectws ar gyfer Llywodraeth Lafur nesaf, pryd bynnag y bydd hynny yn digwydd, yn dweud nad oes unrhyw reswm pam na ddylid datganoli unrhyw beth sydd wedi'i ddatganoli i'r Alban i Gymru, os mai dyna oedd dymuniad y Senedd hon. Rwy'n credu bod hynny yn cynnig llwybr at ateb y cwestiwn aofynnwyd gan Rhun ap Iorwerth. Os yw'r Senedd eisiau gofyn i bwerau sydd eisoes wedi'u datganoli mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig gael eu harfer yma, mae adroddiad Gordon Brown yn dweud na ddylai fod unrhyw rwystr i hynny ddigwydd. Rhun ap Iorwerth AC: Dwi'n ddiolchgar am y cyfarchion gan y Prif Weinidog, a dwi o ddifrif am gydweithio. Rhun ap Iorwerth AC: Yr wythnos diwethaf, disgrifiodd fy nghyd-Aelodau Plaid Cymru pam roedd datganoli grym dros ddŵr mor bwysig, a pha mor siomedig oeddem ni bod Llywodraeth Cymru eisiau i'r trosglwyddiad grym hwnnw gael ei ohirio. Ond, wrth gwrs, rwy'n falch bod y Prif Weinidog yn cytuno â ni nawr ar yr egwyddor sylfaenol ynghylch y mater penodol hwnnw. Ond hoffwn ei wthio am fwy, ac rwy'n siŵr y byddai'n disgwyl i mi fod eisiau ei wthio am fwy. Gyda'r Ceidwadwyr, rwy'n ei ddeall. Fel plaid, prin y gallan nhw guddio eu dirmyg tuag at ddatganoli, yn union fel y maen nhw wedi dangos eu bod nhw'n dirmygu egwyddorion sylfaenol uniondeb ac ymddiriedaeth. Mae'n anhygoel, onid yw, bod mwyafrif o ASau Ceidwadol Cymru i bob pwrpas wedi ochri gyda Boris Johnson neithiwr trwy beidio â phleidleisio ar yr adroddiad hwnnw yn Nhŷ'r Cyffredin. Byddech chi wedi meddwl mai dyna'r lleiaf y gallen nhw fod wedi ei wneud i geisio cael rhywfaint o iachawdwriaeth. Ond yn ôl at y grymoedd hynny. Lle ceir tir cyffredin gwirioneddol rhwng y Prif Weinidog a minnau—ar ddŵr, ie, ond ar gyllid HS2 a materion eraill hefyd—rwyf i wir yn croesawu hynny. Ond mae'n rhaid iddo fod yn fwy na geiriau. A yw'n cytuno, tra bod Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, yn anghytuno ar gymaint o'r materion hynny, ac na wnaiff addo cyflawni, mai dim ond geiriau ydyn nhw mewn gwirionedd? Mark Drakeford AC: Yn gyntaf oll, gadewch i mi gytuno ar y pwynt hwn—roedd yn weithred ryfeddol o lwfrdra gwleidyddol neithiwr i Brif Weinidog y DU fethu â chefnogi adroddiad pwyllgor annibynnol yn Nhŷ'r Cyffredin a oedd yn gyfrifol am yr ymchwiliad hwnnw ac am lunio, gyda mwyafrif o ASau Ceidwadol ar y pwyllgor hwnnw, gyfres o argymhellion. Mae'r ffaith bod Prif Weinidog y DU wedi methu â chefnogi'r pwyllgor hwnnw, rwy'n credu, yn enghraifft syfrdanol o'i wendid gwleidyddol, ac rwy'n eithaf sicr y bydd yn difaru hynny, ac mae'n haeddu ei ddifaru, yn y dyfodol hefyd. O ran datganoli, nid wyf i'n rhannu, wrth gwrs, yr hyn a ddywedodd arweinydd Plaid Cymru am betruster y Blaid Lafur, oherwydd y Blaid Lafur yw plaid datganoli. Ni fyddai datganoli oni bai am ymrwymiad y Blaid Lafur i'r achos hwnnw. Ni fyddai unrhyw dwf wedi bod yn y pwerau a welsom ni yn y Senedd yma. Ni fyddai dyfodiad pwerau deddfu sylfaenol i'r Senedd hon wedi digwydd oni bai am Lywodraeth Lafur a Deddf 2006 y rhoddodd Llywodraeth Lafur ar y llyfr statud. Rwy'n edrych ymlaen, yn sicr, at y diwrnod pan fo Llywodraeth Lafur eto yn San Steffan, Llywodraeth sydd wedi ymrwymo i egwyddorion datganoli, Llywodraeth sy'n benderfynol o lunio Teyrnas Unedig lle mae grym ac awdurdod yn cael eu rhannu ymhlith y rhanbarthau yn ogystal â'r cenhedloedd. Rwy'n credu y bydd hynny yn rhoi prosbectws tra gwahanol i ni yma yn y Senedd, ac edrychaf ymlaen yn fawr at y diwrnod pan fyddwn ni yn y sefyllfa honno unwaith eto. Rhun ap Iorwerth AC: Rwy'n sicr yn falch iawn o'r cydweithrediad a ddigwyddodd dros gyfnod o ddegawdau a arweiniodd at ddatganoli a'r degawdau lawer o bwysau gan Blaid Cymru i'n cael ni i'r pwynt hwnnw. Ond yr hyn yr wyf i'n ceisio ei gyfleu heddiw gyda fy nghwestiynau yw ein bod ni wir angen gweld y Prif Weinidog yn dal traed ei blaid ei hun i'r tân, ond rwyf i hefyd eisiau gweld mwy gan y Llywodraeth hon ei hun o ran ceisio'r pwerau i lunio ein dyfodol ein hunain. O ran datganoli cyfiawnder a'r heddlu, enghraifft arall, cafwyd ateb ysgrifenedig diweddar gan Weinidog y DU yn dweud nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw gais ffurfiol i gyfiawnder a phlismona gael eu datganoli mewn gwirionedd, er ei bod yn ymddangos ei fod yn safbwynt polisi ganddyn nhw ers y rhan helaeth o ddegawd bellach. Fe wnawn ni sôn mwy am hynny mewn dadl Plaid Cymru yma yn y Senedd yfory. Ond mae angen i ni barhau i wneud y ddadl dros ein dyfodol ein hunain fel cenedl. Felly, yn ôl i'r man lle dechreuais i: os na wnewch chi ofyn, ni chewch chi. Sut gwnaiff y Prif Weinidog wneud yn siŵr bod Cymru yn cael ei chlywed? Mark Drakeford AC: Wel, yn gyntaf oll, Llywydd, gadewch i mi fod yn glir: mae'n nonsens llwyr i unrhyw Weinidog Ceidwadol honni nad ydym ni wedi gofyn yn ffurfiol am y pwerau hynny. Rydym ni wedi bod mewn trafodaethau poenus gyda Llywodraeth y DU ynghylch adroddiad comisiwn Thomas ers ei gyhoeddi. Rydym ni wedi ennill darnau bach, bach o dir ar yr argymhellion niferus a wnaed gan yr Arglwydd Thomas i Lywodraeth y DU ei hun: enillion bach iawn o ran data, enillion pwysig, ond, yn y cyd-destun ehangach, rhai main o'u cymharu â'r agenda uchelgeisiol a gyflwynwyd gan yr Arglwydd Thomas ac yr ydym ni wedi ei chyflwyno dro ar ôl tro ar ôl tro i Lywodraeth honno y DU. Mae'r Llywodraeth hon yng Nghymru yn parhau i wneud y ddadl dros ddatganoli'r system gyfiawnder yn seiliedig ar yr adroddiad awdurdodol hwnnw. Mae'r is-bwyllgor ar gyfiawnder yr wyf i'n eistedd arno gyda fy nghyd-Weinidog Jane Hutt ac o dan gadeiryddiaeth y Cwnsler Cyffredinol yn datblygu'r ddadl honno ochr yn ochr â'r gymuned gyfreithiol ehangach a'r gymuned broffesiynol yma yng Nghymru. Mae adroddiad Gordon Brown, Llywydd, i ddychwelyd at hwnnw, yn cynnig datganoli cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf. Rwy'n edrych ymlaen at weld y ddau beth hynny yn digwydd. Rwy'n credu bod datganoli pellach y tu hwnt i hynny, ond, mewn sawl ffordd, y cam cyntaf ar y daith yw'r anoddaf i'w gymryd, a'r ffaith bod adroddiad Brown yn gwbl ddiamwys yn cymeradwyo y dylai'r cyfrifoldebau hynny ddod yn gyfrifoldebau yma yn y Senedd—drwy'r pwyllgor hwnnw yr ydym ni'n eistedd arno, rydym ni'n paratoi nawr ar gyfer realiti'r pwerau hynny yn dod yma i Gymru; byddwn yn parhau i wneud y ddadl honno, a byddwn yn parhau i wneud y ddadl honno ar y sail y bydd y gwasanaethau hynny lle mae penderfyniadau yn cael eu gwneud yn agosach at y bobl sy'n uniongyrchol gysylltiedig â nhw a'r bobl hynny sy'n cael eu heffeithio yn uniongyrchol ganddyn nhw yn benderfyniadau gwell, ac y bydd y cyfrifoldebau hynny yn cael eu cyflawni yn fwy effeithiol pan fyddan nhw yma ar lawr y Senedd hon. Anghydraddoldebau Iechyd a Marwolaeth Huw Irranca-Davies AC: 3. Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau anghydraddoldebau iechyd a marwolaeth? OQ59687 Mark Drakeford AC: Llywydd, mae anghydraddoldebau iechyd yn arwydd o anghydraddoldebau economaidd a chymdeithasol ehangach sy'n llywio cyfleoedd bywyd dinasyddion Cymru. Rydym ni'n gwybod mai'r camau cynharaf y gallwn ni eu cymryd—cynllun Cychwyn Iach a pholisïau gwneud iawn fel Dechrau'n Deg—sy'n cael yr effaith fwyaf, gan gynnwys lleihad mewn anghydraddoldebau iechyd a marwolaeth. Huw Irranca-Davies AC: Bydd y Prif Weinidog yn cytuno â mi mai un o'r anghyfiawnderau mwyaf yn fyd-eang, ond hefyd yma yng Nghymru, yw pan fydd ansawdd bywyd rhywun, canlyniadau iechyd rhywun, ond hefyd ddisgwyliad oes rhywun yn cael eu culhau gan amgylchiadau eu geni neu amgylchiadau'r amgylchedd o'ch cwmpas. Cawsom adroddiad cyn i mi gyflwyno'r cwestiwn hwn—doeddwn i ddim yn gwybod bod yr adroddiad hwn yn dod—a ddangosodd y bwlch o 10 mlynedd o ran marwolaeth rhwng lleoedd yn fy etholaeth i fel Ynysawdre ym Metws a Melin Ifan Ddu a'r rhai sy'n byw yn Nhrelales a Bracla a Choety. Ac fe gawsom ni adroddiad y grŵp trawsbleidiol ar ganser ar sut mae anfantais yn effeithio ar ganlyniadau canser. Dyma gyfraith gofal gwrthdro Dr Julian Tudor Hart wedi'i hamlygu, yr holl flynyddoedd hynny ar ôl creu'r GIG. Felly, 75 mlynedd ers creu'r GIG, rwy'n credu ei bod hi'n iawn ein bod ni'n gofyn: beth fyddai Nye yn ei wneud nawr? Beth fyddai Attlee yn ei wneud nawr? Beth fyddai Jim Griffiths yn ei wneud nawr, a phobl eraill o'r fath, pe baen nhw'n edrych ar hyn ac yn dweud, 'Sut ddylem ni ymdrin â'r anghyfiawnder hwn?' Ond, yn bwysicach fyth, Prif Weinidog, beth ddylem ni ei wneud nawr, ym mhymthegfed blwyddyn a thrigain hon y GIG, i siarad am amodau tai, amodau eich magwraeth, yn ogystal ag iechyd, a symud at fodelau cymunedol ac ataliol fel ein bod ni'n culhau ymhellach yr anghyfiawnder hwnnw yn y bwlch o ran disgwyliad oes a chanlyniadau iechyd? Yn syml, nid yw'n deg ac mae'n rhaid i ni wneud popeth yn ein gallu. Mark Drakeford AC: Llywydd, rwy'n credu bod Huw Irranca-Davies wedi mynegi yn dda iawn y ffaith nad yw gwelliant i anghydraddoldebau iechyd yn nwylo'r gwasanaeth iechyd yn bennaf; mae'n ymwneud â delio â'r achosion sylfaenol ac ysgogol hynny sy'n effeithio ar gyfleoedd bywyd pobl ym mhob rhan o'n cymunedau. Dyna pam, fel Llywodraeth, yr ydym ni'n buddsoddi mewn tai, gan ein bod ni'n gwybod bod yr amodau tai yr ydych chi'n byw ynddyn nhw yn cael effaith sylfaenol ar eich iechyd, o'r blynyddoedd cynharaf yr holl ffordd i gyfnod diweddarach eich bywyd. Dyna pam rydym ni'n buddsoddi mewn addysg i wneud yn siŵr bod ein pobl ifanc yn cael y cyfle gorau o fynd ymlaen i ennill bywoliaeth mewn economi sy'n ffynnu, ac lle maen nhw eu hunain yn cael eu hunain yn gallu byw bywydau lle mae disgwyliad oes iach —nid disgwyliad oes ei hun yn unig—lle mae disgwyliad oes iach o'u blaenau. O ran cyfraniad y gwasanaeth iechyd ei hun, yna'r pethau y mae fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Iechyd, wedi eu pwysleisio mor aml wrth siarad yma ar lawr y Senedd yw'r rheini. Ysmygu, gordewdra, yr agenda iechyd cyhoeddus sy'n cael yr effaith honno o lunio newidiadau bywyd pobl, a symud gwasanaethau yn agosach i'r fan lle mae pobl yn byw fel bod yr anfanteision iechyd hynny y mae pobl yn byw â nhw heddiw yn cael eu herydu. Yn etholaeth yr Aelod ei hun, rwyf i wedi bod yn dilyn gwaith y bwrdd iechyd yn ei gynllun i ailfodelu Ysbyty Cymunedol Maesteg, ysbyty yr wyf i wedi ymweld ag ef gyda'r Aelod fy hun yn y gorffennol, yn ganolfan iechyd cymunedol newydd i Faesteg yn y dyfodol, gan ddod â gofal cymdeithasol a gofal iechyd ynghyd, lleihau nifer y bobl nad ydyn nhw'n gallu manteisio ar apwyntiadau pan fydd yn rhaid iddyn nhw deithio ymhellach i ffwrdd, a lleihau nifer y cyflwyniadau hwyr. Mae honno'n nodwedd wirioneddol arall o anghydraddoldebau iechyd, Dirprwy Lywydd. Y bobl sydd â'r lleiaf sy'n aros hiraf cyn iddyn nhw ddod â'u problemau i'r gwasanaeth iechyd. Pan fyddwch chi'n symud y gwasanaethau hynny yn agosach at y cymunedau hynny, gallwch chi erydu'r anghydraddoldebau hynny hefyd. Ac yna mae'r gwasanaeth iechyd yn chwarae ei ran, ond ei ran ochr yn ochr â'r holl bethau eraill hynny y mae angen i ni eu gwneud i fynd i'r afael â'r sgandal nid yn unig o anghydraddoldebau iechyd, ond y ffordd y caniatawyd i anghydraddoldeb ei hun dyfu yn y Deyrnas Unedig dros y 15 mlynedd diwethaf a mwy. Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair. Darren Millar AC: Un o'r materion eraill o ran anghydraddoldebau iechyd yw'r gwahaniaeth enfawr ym mherfformiad y GIG mewn gwahanol rannau o Gymru. Er enghraifft, pobl yn y gogledd sydd â'r adrannau brys sy'n perfformio waethaf yn y wlad. Mae pob un o'r tri ysbyty mawr yn y gogledd yn tanberfformio'n ddifrifol, ac mae pobl yn y gogledd yn debygol o aros yn hwy i gael eu cyfeirio at driniaeth hefyd ar gyfer llawer iawn o wahanol lawdriniaethau. Felly, pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i newid yr anghydraddoldebau hynny fel nad oes gennym ni'r math o system cod post sydd gennym ni o ran mynediad digonol at driniaeth pan fydd ei angen ar bobl? Mark Drakeford AC: Nid wyf i'n anghytuno â'r cynnig agoriadol bod anghydraddoldebau o fewn y gwasanaeth iechyd ei hun yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni weithio'n galetach i gael gwared arnyn nhw. Pan oeddem ni'n arfer siarad am yr agenda gofal iechyd darbodus ar lawr y Senedd yma, rwy'n cofio'n aml dyfynnu'r ffaith eich bod chi bedair gwaith yn fwy tebygol o gael tynnu eich tonsiliau os oeddech chi'n byw ar Ynys Môn nag oeddech chi yn rhan o'r un bwrdd iechyd ond yn byw yn Wrecsam. Felly, rwy'n cytuno bod yr amrywiadau hynny mewn gofal iechyd yn rhan bwysig o wneud yn siŵr bod ymdrech i leihau anghydraddoldebau iechyd ym mhobman. Ac yn union fel y mae gan bob rhan o Gymru ei heriau ei hun, felly hefyd y mae pob rhan o Gymru yn gwneud yn well nag unman arall mewn rhai rhannau pwysig eraill o ofal iechyd. Felly, pan fyddwch chi'n meddwl am anghydraddoldebau iechyd, un o'r prif arfau yn yr arfogaeth, Dirprwy Lywydd, yw brechu i atal salwch y gellir ei osgoi, ac, yn hyn o beth, Betsi Cadwaladr sy'n arwain Cymru gyfan. Mae ganddo'r cyfraddau brechu rhag ffliw gorau yng Nghymru gyfan. Mae ganddo'r cyfraddau brechu plant gorau o unrhyw le yng Nghymru. Yn wir, roedd cyfradd imiwneiddio plant erbyn pump oed ar ei huchaf ers i gofnodion ddechrau yn 2020-21, a'r prif berfformiwr, y bwrdd iechyd blaenllaw ar draws Cymru gyfan yn y perfformiad gorau erioed hwnnw, oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Felly, nid wyf i'n anghytuno â'r Aelod bod heriau yno y mae angen mynd i'r afael â nhw, ond, os ydych chi eisiau rhoi darlun teg a chytbwys, byddai'n rhaid i chi hefyd gydnabod bod llawer iawn o bethau lle mae'r bwrdd iechyd hwnnw, fel ym mhob rhan o Gymru, yn rhagori yn y gwasanaeth y mae'n ei ddarparu i'w boblogaeth leol. Jane Dodds AS: Gaf i hefyd ymestyn croeso mawr i Rhun ap Iorwerth ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol? Diolch. Jane Dodds AS: Prynhawn da, Prif Weinidog. Cefais reswm yn ddiweddar i ymweld â phresgripsiynydd annibynnol. Fe wnaethoch chi sôn am wasanaethau yn agos at y bobl. Mae presgripsiynwyr annibynnol a fferyllwyr yn agos iawn at ein pobl, ac mae angen cymorth a chyllid parhaus arnyn nhw i sicrhau bod gennym ni fwy a'u bod yn teimlo eu bod nhw'n yn cael eu cynorthwyo yn well ac yn fwy medrus. Mae Dylan Jones yn bresgripsiynydd annibynnol gwych sydd wedi'i leoli yn Llanidloes a Llanwrtyd. Mae'n dweud ei fod yn un o'r pethau gorau y mae erioed wedi ei wneud. Ond mae llawer ohonyn nhw'n sôn am ba mor bwysig yw bod â lleoliadau gyda meddygon teulu, ac mae meddygon teulu yn dweud ei bod hi'n bwysig iddyn nhw gael y cyllid a'r cymorth er mwyn darparu'r lleoliadau hynny. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a allech chi siarad am sut rydych chi'n bwriadu sicrhau bod y gwasanaeth ardderchog hwn, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig fel y canolbarth a'r gorllewin, yn cael y cymorth sydd ei angen arno i ehangu a pharhau. Diolch—diolch yn fawr iawn. Mark Drakeford AC: Wel, diolch yn fawr i Jane Dodds. Mark Drakeford AC: Wrth ateb Huw Irranca-Davies, Llywydd, ceisiais sôn am bwysigrwydd symud gwasanaethau yn agosach at bobl er mwyn ymdrin ag anghydraddoldebau iechyd, ac mae'r gwaith gwych sydd wedi cael ei wneud yng Nghymru ym maes fferylliaeth gymunedol, achos sydd wedi cael ei gefnogi ar draws y Siambr hon i gyd dros holl gyfnod datganoli, wedi symud, fel y mae Jane Dodds yn dweud, i gyfnod newydd a phwysig iawn gyda'r buddsoddiad yr ydym ni'n ei wneud mewn hawliau presgripsiynu annibynnol i fferyllwyr. Soniwyd llawer am Lanidloes ar lawr y Senedd y prynhawn yma, ond dyna'n union y math o gymuned lle, os oes gennych chi dîm gofal sylfaenol ehangach, lle mae pobl yn cael eu galluogi i ymarfer ar frig eu trwydded glinigol, gan wneud y defnydd mwyaf posibl o'r sgiliau y maen nhw wedi eu caffael, ac, yn achos fferyllwyr nawr, gallu presgripsiynu'n annibynnol o fewn ystod y cymhwysedd clinigol hwnnw, wrth gwrs mae'n golygu bod gwasanaethau mewn trefi a phentrefi mwy gwledig yn dod yn agosach at bobl. Mae gennym ni bron i 700 o fferyllwyr cymunedol yma yng Nghymru o hyd. Nid yw'r niferoedd yng Nghymru yn gostwng fel y maen nhw mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig, ac mae hynny'n rhannol, rwy'n credu, oherwydd y bartneriaeth a fu gennym ni gyda'r proffesiwn hwnnw a'r buddsoddiad yr ydym ni'n ei wneud ynddo. Po fwyaf y gallwn ni ei wneud yn y ffordd y dywedodd Jane Dodds i gydnabod a gwella'r gwerth y gall pob aelod o'r tîm clinigol hwnnw, y tîm gofal sylfaenol hwnnw, ei ychwanegu, yna po fwyaf y bydd gennym ni wasanaethau sydd ar gael i bobl lle bydd pobl yn mynd i weld y person sydd yn y sefyllfa orau i ymateb i'w hangen, ac mae fferyllwyr yn rhan sylfaenol o'r ffordd yr ydym ni'n llunio'r dyfodol hwnnw. Yr Argyfwng Bysiau Cyhoeddus Carolyn Thomas AS: 4. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y bydd yr argyfwng bysiau cyhoeddus presennol yn ei chael ar ddarpariaethau'r Mesur teithio gan ddysgwyr? OQ59705 Mark Drakeford AC: Diolchaf i Carolyn Thomas. Llywydd, ddydd Gwener, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddatganiad gyda phartneriaid yn y diwydiant bysiau ac eraill. Cadarnhaodd y bydd cyllid a ddarperir eleni yn sicrhau y gall gwasanaethau hanfodol barhau. Mae'r effaith ar ddysgwyr cyn y flwyddyn ysgol newydd yn parhau i fod yn rhan annatod o'r gwaith ar y cyd hwn. Carolyn Thomas AS: Diolch am eich ymateb, Prif Weinidog. Rwy'n ymwybodol, yn enwedig yn y gogledd, bod trafnidiaeth gyhoeddus ynghlwm â thrafnidiaeth addysg—maen nhw'n helpu i ariannu ei gilydd—ac rwyf i wir yn cymeradwyo'r gwaith partneriaeth sydd wedi bod yn cael ei wneud dros yr wythnosau diwethaf i arbed cymaint o lwybrau bysiau â phosibl. Fodd bynnag, rydym ni wedi cyrraedd cnewyllyn gwasanaeth yn dilyn dau ddegawd o ostyngiad i nifer y teithwyr a hefyd toriadau i gymorthdaliadau yn dilyn mwy na degawd o doriadau i wasanaethau cyhoeddus. Mae gennym ni brinder gyrwyr hefyd, a gwn fod gyrwyr rheolaidd yn golygu llawer i deithwyr; maen nhw'n annog hyder i gael teithwyr yn ôl ar fysiau, maen nhw'n gwybod yr amserlenni ac maen nhw'n cynnig cyngor hefyd. Felly, nawr bod gennym ni rywfaint o sefydlogrwydd, yn y dyfodol, a fyddai Llywodraeth Cymru yn helpu i fwrw ymlaen ag ymgyrch recriwtio i gael gyrwyr yn ôl ar fysiau, a hefyd i gael nifer y teithwyr yn ôl i fyny eto i wneud ein gwasanaethau yn fwy sefydlog, yn y dyfodol? Diolch. Mark Drakeford AC: Diolch i Carolyn Thomas am hynny. Mae hi'n gywir bod chwe gwahanol bartner ar draws y diwydiant, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i'r datganiad y gwnaeth y Dirprwy Weinidog yr wythnos diwethaf. Mae ymdrech enfawr wedi bod yn ystod yr wythnosau diwethaf i gyrraedd y pwynt hwnnw lle'r ydyn ni nawr yn gallu symud i fodel cyllid pontio ar gyfer bysiau. Ond, mae Carolyn Thomas hefyd yn gywir, Dirprwy Lywydd, nad cyllid yw'r unig her sy'n wynebu'r diwydiant bysiau; mae her hefyd o ran y gweithlu. Mae proffil oedran gyrwyr bysiau yn broffil sy'n heneiddio, ac mae hynny'n arbennig o wir o ran teithio i ddysgwyr, lle mae cwmnïau'n dibynnu ar bobl nad ydyn nhw'n gweithio'n llawnamser, dim ond oriau penodol o'r dydd ac yn y blaen. Mae'n her pedair gwlad, oherwydd mae'r un proffil i'w weld ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig, a dyna pam ein bod ni yng Nghymru yn rhan o ddull newydd pedair gwlad o ddenu pobl yn ôl i'r diwydiant hwnnw, i ddod o hyd i ffyrdd o oresgyn rhwystrau a dod o hyd i ffyrdd y gallai pobl a oedd yn arfer gweithio yn y diwydiant hwn ddiweddaru eu sgiliau ac ymgymryd â swyddi yn y diwydiant eto. Mae ein rhaglen ReAct+, Dirprwy Lywydd, er enghraifft, yn rhoi cefnogaeth uniongyrchol i bobl sydd wedi colli eu swydd mewn un diwydiant ac a allai fod wedi gweithio fel gyrwyr bysiau o'r blaen, ond mae angen iddyn nhw fynd ar gyrsiau nawr i ddiweddaru eu hyfforddiant a sicrhau bod ganddyn nhw'r sgiliau a'r cymwysterau sydd eu hangen i fod yn yrrwr bws yn y cyfnod presennol. Mae ymgyrch i berswadio pobl bod hon yn swydd y gallen nhw ei gwneud a chyfraniad y gallen nhw ei wneud, wrth gwrs, yn rhywbeth y byddwn ni'n ei ystyried yn gadarnhaol iawn. James Evans MS: Prif Weinidog, ym mis Mawrth, dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd y byddai adolygiad eang yn cael ei gynnal o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 oherwydd yr anghenion cymhleth ynghylch dysgwyr ac, yn wir, y byddai mwy o drafnidiaeth gyhoeddus yn dod yn rhan o ddarpariaeth cludiant i ddysgwyr ledled y wlad. Fodd bynnag, hoffwn i wybod sut mae hynny'n mynd a pha ymgynghori sydd wedi bod yn digwydd gyda rhieni ac awdurdodau lleol, oherwydd yn fy etholaeth i, lle'r ydyn ni wedi dibynnu mwy ar drafnidiaeth gyhoeddus, yn Llanfair-ym-Muallt, roedd plant yn cael eu gadael ar ochr y ffordd neu blant yn sefyll ar y bws oherwydd nad oedd lle i'r disgyblion hynny fynd ar y drafnidiaeth gyhoeddus honno. Felly, a gawn ni rywfaint o sicrwydd, pan fydd yr adolygiad hwn yn cael ei gynnal, y byddwn ni, os ydyn ni'n symud tuag at fodel lle'r ydyn ni'n defnyddio mwy o drafnidiaeth gyhoeddus, yn sicrhau bod y bysiau hynny ar gael fel nad ydyn ni'n gadael dysgwyr ar ochr y ffordd ac nad yw pobl ifanc yn cael eu gorfodi i sefyll ar fws? Mark Drakeford AC: Mae'r adolygiad yn mynd rhagddo ac yn mynd rhagddo'n weithredol. Gofynnodd Mr Evans am yr ymgysylltiad ag awdurdodau lleol. Nodwyd dyddiad cau o 5 Mehefin i awdurdodau lleol gyflwyno eu tystiolaeth i'r adolygiad hwnnw—tystiolaeth ynghylch costau, rhifau, dulliau darparu cludiant ysgol. Roedd dros hanner yr awdurdodau lleol yng Nghymru wedi dychwelyd eu harolygon erbyn y dyddiad hwnnw ac rydyn ni'n disgwyl i'r gweddill gyflwyno eu tystiolaeth yn fuan iawn. Rydyn ni'n ymgynghori'n uniongyrchol â phlant a phobl ifanc eu hunain. Rhwng 16 Mehefin a 17 Gorffennaf, bydd ymgynghoriad uniongyrchol yn cael ei gynnal mewn ysgolion yng Nghymru, wedi'i gomisiynu drwy Cymru Ifanc—y sefydliad hwnnw—i wneud yn siŵr ein bod ni'n casglu barn a dewisiadau pobl ifanc eu hunain o ran y cludiant hwnnw rhwng y cartref a'r ysgol. Fy nealltwriaeth i yw bod swyddogion Llywodraeth Cymru yn disgwyl tynnu ynghyd holl linynnau'r adolygiad sydd wedi bod yn cael ei gynnal fel y gallan nhw ddarparu tystiolaeth yn uniongyrchol i'r Gweinidog erbyn diwedd tymor y Senedd hon. Yna bydd y Gweinidog yn gallu adolygu hynny ei hun dros yr haf, ac yna dychwelyd i'r Senedd yn yr hydref, fel bod Aelodau'n cael gwybod am ganlyniad yr adolygiad hwnnw. Sector Tai Rhent Preifat Vikki Howells AC: 5. A wnaiff y Prif Weinidog nodi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella'r sector tai rhent preifat am weddill tymor y Senedd hon? OQ59676 Mark Drakeford AC: Mae cyflwyno Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 fis Rhagfyr diwethaf wedi rhoi fframwaith ar waith ar gyfer gwelliannau sylweddol i'r sector rhentu preifat, gan gynnwys gofyniad am gontract ysgrifenedig, gwell diogelwch deiliadaeth a mwy o sicrwydd i landlordiaid. Mae agweddau ar ddiogelwch wedi cael eu gwella hefyd, gan gynnwys y gofyniad am larymau mwg wedi'u pweru gan y prif gyflenwad. Vikki Howells AC: Prif Weinidog, gwnaeth adroddiad Cyngor ar Bopeth 'Diodde'r oerfel' ganfod bod un o bob pedwar person sy'n rhentu'n breifat yn teimlo na allan nhw wresogi eu cartref i dymheredd cyfforddus, bod saith o bob 10 wedi wynebu oerfel, lleithder neu lwydni gormodol, ac nad oedd un o bob pump yn cwyno oherwydd eu bod yn poeni am gael eu troi allan. Mae hyn yn adlewyrchu gwaith achos rwy'n ei ddewis gyda'r rhai sy'n rhentu'n breifat yn aros blynyddoedd, weithiau, i gael system gwresogi wedi'i thrwsio, yn byw mewn ystafelloedd y mae lleithder yn effeithio arnyn nhw'n wael, ac yn wynebu bygythiadau o gael eu troi allan os byddan nhw'n cwyno. Rwy'n gwybod y bydd datganiad yma y prynhawn yma ar y rhaglen Cartrefi Cynnes, ond a allech chi amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod landlordiaid yn y sector rhentu preifat yn darparu cartrefi sy'n gynnes ac yn ffit i bobl fyw ynddyn nhw? Mark Drakeford AC: Diolch i Vikki Howells am hynny, Dirprwy Lywydd. Yn wir, bydd y Gweinidog yn gwneud datganiad y prynhawn yma ar iteriad diweddaraf y rhaglen Cartrefi Cynnes a'r gwahaniaeth y mae hynny eisoes wedi'i wneud ac y bydd yn parhau i'w wneud i fywydau pobl sy'n byw yn yr amgylchiadau ffisegol mwyaf heriol. Ond, o ganlyniad i'r camau a gymerwyd gan y Senedd hon, mae gan y problemau y mae Vikki Howells wedi'u nodi ddatrysiadau newydd erbyn hyn y gall tenantiaid, yn arbennig, eu rhoi ar waith. Fel y dywedais i yn fy ateb gwreiddiol, Dirprwy Lywydd, ym mis Rhagfyr y llynedd, daeth y Rheoliadau Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi i rym. Maen nhw'n nodi 29 o faterion penodol y mae'n rhaid i landlordiaid roi sylw iddyn nhw pan fyddan nhw'n gosod eiddo yn y sector rhentu preifat, ac ymhlith y materion hynny mae mesurau i sicrhau nad oes gan yr eiddo lwydni na lleithder ac nad yw'n rhy oer. Wrth gwrs, cyflwynodd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) warchodaethau rhag troi allan dialgar, yr ydyn ni'n gwybod eu bod nhw wedi bod yn nodwedd o'r tai hynny nad ydyn nhw'n ffit i fod yn gartref, a phan fydd tenant yn cwyno amdano, yn hytrach na bod y pethau hynny'n cael eu cywiro, maen nhw wedi cael hysbysiadau troi allan. Bydd y Ddeddf Rhentu Cartrefi yn rhoi terfyn ar hynny ac yn rhoi'r hawl hefyd i denantiaid beidio â thalu rhent yn ystod unrhyw gyfnod pan nodir nad yw'r annedd yn ffit i bobl fyw ynddi. Dirprwy Lywydd, mae Cymru'n llawn o landlordiaid da, gadewch i ni fod yn siŵr o hynny, sy'n rhoi sylw priodol i safonau eu heiddo ac yn ymateb i gwynion pan fyddan nhw'n cael eu gwneud. Ond lle mae yna landlordiaid—ac yn anffodus mae gormod o achosion o hyn hefyd—nad ydyn nhw'n bodloni'r safonau sylfaenol y mae'r Senedd hon yn gofyn amdanyn nhw, rydyn ni nawr wedi rhoi cyfres newydd o warchodaethau ar waith, a bydd modd i'r tenantiaid eu hunain arfer y gwarchodaethau hynny'n uniongyrchol. Mabon ap Gwynfor AS: Diolch i Vikki am y cwestiwn yma. Wrth gwrs, dwi'n ymfalchïo bod y cytundeb cydweithredu yma rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth wedi arwain at Bapur Gwyn y byddwn ni'n ei weld maes o law, a dwi'n edrych ymlaen at gyfrannu ato. Dwi hefyd yn croesawu'r cyhoeddiad ar Bapur Gwyrdd gafodd ei wneud yn ddiweddar efo'r ffocws ar rentu. Mi ydych chi'n gwybod ein bod ni yma wedi bod yn galw am system i reoli rhenti yng Nghymru. Wrth gwrs, y brif ddadl yn erbyn hynny oedd y byddai hyn yn debygol o arwain at grebachu yn y farchnad dai sydd ddim yn wir, oherwydd yn ddiweddar ces i gyfle i fynychu gŵyl tai cymdeithasol rhyngwladol yn Barcelona a chael sgyrsiau efo'r sosialwyr Renaud Payre, is-lywydd awdurdod bwrdeistref Lyon, ac Ada Colau, maer Barcelona. Fe soniodd y ddau ohonyn nhw wrthyf i am y rhaglen o gyflwyno rheoli rhenti maen nhw wedi'u gwneud yn eu bwrdeistrefi nhw yn arbennig o lwyddiannus. Felly, ydych chi'n derbyn y gall math newydd o reoli rhenti, wedi'i gysylltu efo ansawdd a safon y tŷ, weithio yma yng Nghymru? Mark Drakeford AC: Wel, diolch yn fawr i Mabon ap Gwynfor am y cwestiwn ychwanegol, a diolch am beth ddywedodd e am bwysigrwydd y pethau sydd gennym ni yn y cytundeb. A’r rheswm pam rŷn ni wedi cyhoeddi Papur Gwyrdd, wrth gwrs, yw achos ein bod ni eisiau tynnu tystiolaeth o bob man, a lle mae syniadau newydd ar gael o dramor, neu o’r Alban, neu o ble bynnag y mae syniadau newydd yn dod sy’n gallu ein helpu ni ar y llwybr i’r Papur Gwyn, rŷn ni’n agored i glywed ac i ystyried y dystiolaeth sy’n dod i mewn. Dwi ddim yn gyfarwydd â’r dystiolaeth o Barcelona, ​​​​ond mae’n edrych fel bod syniadau yna y gallwn ni dynnu arnyn nhw yn y drafodaeth sy’n mynd i fod yn rhan o’r gwaith sy’n mynd ymlaen rhwng Plaid Cymru a’r Llywodraeth i symud ymlaen at y Papur Gwyn, ac i ddyfeisio ffyrdd newydd yma yng Nghymru i ddelio â’r problemau rŷn ni'n gwybod sy’n wynebu’r sector a phobl sy’n dibynnu ar dai yn y sector preifat. Tai yng Ngogledd Cymru Sam Rowlands MS: 6. Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer tai yng Ngogledd Cymru? OQ59723 Mark Drakeford AC: Ein strategaeth ni yw cynyddu'r cyflenwad o dai i'w rhentu ac i'w prynu, gan wella ansawdd tai i gyd-fynd â'n rhwymedigaethau newid hinsawdd. Sam Rowlands MS: Diolch, Prif Weinidog, am yr ateb hwnnw. Prif Weinidog, byddwch chi'n ymwybodol, ledled Cymru, bod tua 13,000 o bobl mewn llety dros dro ar hyn o bryd, boed hynny'n wely a brecwast neu westai, sy'n gost fawr iddyn nhw'n bersonol a hefyd i'r pwrs cyhoeddus, wrth gwrs. Ar yr un pryd, yn y gogledd, nid oes modd adeiladu tua 1,000 o gartrefi cymdeithasol oherwydd polisi Llywodraeth Cymru a diffyg eglurder ymhlith adeiladwyr tai ar sut i ymdrin â'r polisi hwnnw. Rwy'n gwybod bod uwchgynhadledd wedi cael ei chynnal yn gynharach eleni, a oedd yn ceisio symud ymlaen â materion i ddatrys y broblem honno. Tybed a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf yma heddiw ynglŷn â sut mae hynny'n mynd, a sut y bydd pobl yn y gogledd yn gallu gweld y tai hynny'n cael eu hadeiladu y mae eu hangen yn daer arnom. Mark Drakeford AC: Diolch i Sam Rowlands am dynnu sylw at y pwysau sydd yno o ran llety dros dro yng Nghymru. Maen nhw yno, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, oherwydd ein polisi o sicrhau nad oes neb yn cael ei adael yn ddigartref yma yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd cyfres o gamau gweithredu i gynyddu'r cyflenwad o dai i ateb y galw hwnnw, p'un ai drwy sicrhau bod cartrefi gwag yn gallu cael eu defnyddio eto, drwy'r cymorth yr ydyn ni'n parhau i'w roi ar gyfer Cymorth i Brynu yma yng Nghymru, neu drwy'r gwaith yr ydyn ni'n ei gefnogi drwy Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a fydd, er enghraifft, yn arwain at adeiladu dros 300 o gartrefi newydd ar hen safle ysbyty Dinbych. Mae mater ffosffadau a'r angen i sicrhau, pan fydd tir yn cael ei ddatblygu, nad yw'n cael ei wneud mewn ffordd sy'n ychwanegu at y pwysau sylweddol iawn yr ydyn ni'n ymwybodol sydd i'w gweld mewn afonydd yng Nghymru yn broblem anodd ei datrys, oherwydd rydyn ni eisiau gweld y cartrefi hynny'n cael eu hadeiladu, ond nid yw'n bosibl i ni gytuno eu bod yn cael eu hadeiladu mewn ffordd sy'n ychwanegu'n fwriadol at anhawster arall. Dyna pam roedd yr uwchgynhadledd mor bwysig wrth ddod â'r holl fuddiannau hynny sydd â chyfraniad i'w wneud i ddatrys y broblem honno o amgylch y bwrdd. Ac roedd ffocws gwirioneddol yn yr uwchgynhadledd ddiwethaf ar ddod o hyd i ffyrdd y gellir rhyddhau tir at y dibenion tai pwysig iawn hynny mewn ffordd nad yw'n arwain at ddiraddio cyflwr afonydd yng Nghymru ymhellach; syniadau newydd gan Dŵr Cymru o ran sut y gallen nhw helpu; a syniadau newydd gan y swyddogion cynllunio yr oedd gennym ni yno o ran sut y gallai tir gael ei ryddhau at y dibenion hynny. Felly, rwyf i eisiau rhoi sicrwydd i'r Aelod fod honno'n drafodaeth a oedd yn canolbwyntio'n gryf ar agweddau ymarferol, yn chwilio am ffyrdd y gallwn ni ryddhau'r tir hwnnw, oherwydd mae angen y tai hynny yn y gogledd fel mannau eraill, ond mae amharodrwydd i ddatrys un broblem ar draul problem polisi cyhoeddus arall sydd, fel yr ydyn ni'n gwybod, wir wedi cydio ym meddyliau'r cyhoedd sy'n poeni am gyflwr yr amgylchedd naturiol. Goroeswyr Strôc Mark Isherwood AC: 7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi goroeswyr strôc? OQ59675 Mark Drakeford AC: Llywydd, ymhlith y camau y mae'r gwasanaeth iechyd yn eu cymryd i gefnogi goroeswyr strôc mae eu rhyddhau'n gynnar gyda chefnogaeth a darparu adsefydlu hanfodol i alluogi adferiad yn y cartref. Mark Isherwood AC: Diolch. Yn gynharach y mis hwn, ymwelais i â grŵp strôc Bwcle, gyda'r Gymdeithas Strôc, i ddysgu am eu profiad o strôc yn sir y Fflint, Wrecsam a sir Ddinbych. Ar hyn o bryd mae dros 70,000 o oroeswyr strôc yng Nghymru, ac mae disgwyl i'r nifer gynyddu 50 y cant dros yr 20 mlynedd nesaf. Cefais i fy atgoffa o ddata Rhaglen Archwilio Genedlaethol Strôc Sentinel sy'n dangos bod yr amser rhwng dechrau cael symptomau a'r amser pan fydd claf sydd wedi cael strôc yn cyrraedd yr ysbyty yn bedair awr, wyth munud ar gyfartaledd yn Lloegr, chwe awr, pum munud yng Nghymru, a naw awr, 23 munud yn Ysbyty Maelor Wrecsam. Ymhlith y materion y gwnaeth goroeswyr strôc sôn wrthym amdanynt oedd diffyg gofal cydgysylltiedig—er bod gweithwyr proffesiynol yn garedig a gofalgar—cael strôc yn Lloegr, ond peidio â chael gwybod beth oedd ar gael pan wnaethon nhw ddychwelyd i Gymru; trafferth cysylltu â meddygon teulu; peidio â chael gwybod beth sy'n digwydd pan fyddwch chi'n cael strôc, ac wrth ofyn a oedd modd iddyn nhw weld arbenigwr strôc, y meddyg yn dweud 'Rhowch enw i mi, ac fe wnaf i eich atgyfeirio chi'. Gyda bwrdd y rhaglen strôc yn cynllunio gwaith ymgysylltu ar ddyfodol gwasanaethau strôc, sut y byddwch chi'n sicrhau bod lleisiau goroeswyr strôc a gofalwyr yn cael eu clywed a'u bod yn rhan o gyd-gynhyrchu'r gwaith hwn? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, rwy'n credu ein bod ni'n lwcus iawn yng Nghymru i gael partneriaeth mor bwerus a phartner pwerus yn y Gymdeithas Strôc. A chlywais i'r hyn y dywedodd yr Aelod bod y Gymdeithas Strôc yn rhan o'i ymweliad ym Mwcle. Mae gennym ni berthynas hirsefydlog yng Nghymru rhwng arweinyddiaeth broffesiynol gwasanaethau strôc, ac rwy'n credu ein bod ni wastad wedi bod yn ffodus iawn yng Nghymru hefyd i gael clinigwyr pwerus sy'n gweithredu fel ein harweinwyr clinigol cenedlaethol. Ac mae Dr Shakeel Ahmad, yr arweinydd clinigol cenedlaethol presennol ar gyfer gwasanaethau strôc yng Nghymru, wedi parhau â'r ffordd honno o wneud pethau, gan sicrhau bod llais cleifion yn cael ei glywed yn rymus yn y ffordd y mae rhaglenni strôc, a gwelliannau strôc yng Nghymru, yn cael eu cyflwyno. Rydyn ni'n ddiolchgar iawn am y ffordd maen nhw'n barod, nid yn unig i fod yn llais i gleifion wrth gyfleu profiadau, ond yn llais i gleifion wrth ddod o hyd i atebion hefyd. Ac ar y rhestr o faterion y cyfeiriodd Mark Isherwood atyn nhw, roedd nifer ohonyn nhw'n ymddangos i mi'n hawdd iawn eu datrys, yn syml drwy wneud yn siŵr bod y profiad bywyd hwnnw'n cael ei gyfleu yn y ffordd bwerus y mae'r Gymdeithas Strôc yn ei wneud i bobl sy'n gyfrifol am eu gofal. Ac yn olaf, cwestiwn 8, Natasha Asghar. Natasha Asghar AS: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Qatar Airways ym Maes Awyr Caerdydd Natasha Asghar AS: 8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau gyda Qatar Airways ynghylch dychwelyd i Faes Awyr Caerdydd? OQ59677 Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, byddwn i'n croesawu ailddechrau gwasanaeth Doha o Gaerdydd, ond mater masnachol yw hwn, i'w ddilyn trwy drafodaethau rhwng tîm gweithredol y maes awyr a Qatar Airways. Natasha Asghar AS: Diolch, Prif Weinidog, am eich ymateb. Wrth gwrs, mae'r newyddion bod Qatar Airways yn dychwelyd, o bosibl, i Faes Awyr Caerdydd yn cael ei groesawu, rwy'n siŵr, gan bob un ohonon ni, er mai penderfyniad masnachol ydyw—rwy'n cytuno â chi yn hynny o beth. Gyda mwy o hediadau, dylai nifer y teithwyr, mewn theori, gynyddu, er y bydd yn rhaid i ni aros i weld a yw hynny'n digwydd mewn gwirionedd yn y maes awyr. Fel y gwyddoch mae'n siŵr, Prif Weinidog, nid yn rhy bell yn ôl, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd rheolau diogelwch meysydd awyr yn cael eu hailwampio'n sylweddol, gyda'r rheol 100 mililitr ar hylifau a'r gofyniad i dynnu eitemau trydan mawr o fagiau yn dod i ben. Bydd y newid mawr hwn, a allai fod wedi digwydd oherwydd technoleg newydd, yn lleihau ciwiau ac yn gwella profiadau teithwyr. Nawr, bydd y newid hwn yn cael ei gyflwyno'n raddol, gyda meysydd awyr yn gorfod gosod y dechneg newydd hon a gwella cyfarpar sgrinio erbyn y terfyn amser, sef mis Mehefin 2024. Yn amlwg, bydd gwneud y gwelliannau hyn ym Maes Awyr Caerdydd yn golygu y bydd yn rhaid i rywun rhoi ei law yn ei boced. Yn ddiweddar, ymwelais i â Maes Awyr Heathrow, lle rhoddodd staff esboniad i mi o'r heriau a'r symiau enfawr o arian sy'n gysylltiedig â chyflawni'r gwelliannau hyn. [Chwerthin.] Gallwch chi chwerthin, ond, ar ddiwedd y dydd, mae ennill gwybodaeth am rywbeth y mae angen i ni ei wella yma yn werthfawr. Prif Weinidog, a ydych chi'n hyderus y bydd Maes Awyr Caerdydd yn cwrdd â'r terfyn amser yn 2024, ac a ydych chi wedi cyfrifo cyfanswm y bil ar gyfer y gwaith hwn, gan fy mod i'n siŵr y bydd trethdalwyr ledled Cymru yn awyddus i wybod beth fydd hynny'n ei gostio iddyn nhw? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, ydw wir, rwy'n ymwybodol o'r newidiadau mewn technolegau, ac rwy'n ymwybodol o'r ffaith mai dyma'r enghraifft fwyaf eithriadol o annhegwch polisïau Llywodraeth y DU tuag at feysydd awyr nid yn unig yma yng Nghymru, ond ledled y Deyrnas Unedig, oherwydd, ar ôl gosod y rhwymedigaethau newydd hyn ar feysydd awyr, maen nhw'n gwrthod rhoi arian i unrhyw faes awyr rhanbarthol fodloni'r safonau newydd hynny. Ac mae hynny'n golygu, er bod rhwymedigaethau ar Faes Awyr Caerdydd, nad oes unrhyw gyllid o gwbl gan y rhai a osododd y rhwymedigaethau hynny yn y lle cyntaf. Nid yw hynny'n wir am feysydd awyr mawr fel Heathrow, y cyfeiriodd Natasha Asghar atyn nhw, ond mae'n wir am feysydd awyr bach, rhanbarthol nad oes ganddyn nhw'r un lefel o adnoddau. Felly, byddai fy neges i yn glir iawn: dylai'r lefel honno o lywodraeth sy'n gosod gofynion ar feysydd awyr hefyd gymryd cyfrifoldeb am sicrhau bod gan feysydd awyr y cyllid angenrheidiol i gyflawni'r rhwymedigaethau newydd y maen nhw'n eu hwynebu nawr. A dylai hynny fod yn deg; dylai fod yn deg. Dyna'r pwynt allweddol yma. Ni ddylai fod cymorth i rai a dim cymorth i eraill, ond dyna bolisi presennol Llywodraeth y DU. Diolch i'r Prif Weinidog. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Symudwn ymlaen at y datganiad a chyhoeddiad busnes, a galwaf ar y Trefnydd, Lesley Griffiths. Lesley Griffiths AC: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae pedwar newid i fusnes yr wythnos hon. Yn gyntaf, bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd yn gwneud datganiad ar raglen Cartrefi Cynnes. Yn ail, mae'r datganiad ar systemau draenio cynaliadwy wedi'i ohirio. Yn drydydd, mae'r ddadl Cyfnod Adrodd ar Fil Amaethyddiaeth (Cymru) 2022 wedi'i chwtogi i 30 munud, ac yn olaf, mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno y bydd y ddadl yfory ar gynnig deddfwriaethol Adam Price yn cael ei gohirio. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig. Darren Millar AC: A gaf i alw am ddatganiad llafar gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar adroddiad interim Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru, a gyhoeddwyd yn ddiweddar? Darllenais i'r adroddiad hwnnw gyda diddordeb, ac rydyn ni i gyd yn gwybod bod angen gwella ein seilwaith trafnidiaeth yn y gogledd, a bod pryderon ynghylch pethau fel trafnidiaeth bysiau. Ond un o'r pethau y mae llawer o bobl yn poeni amdano yn y gogledd yw'r posibilrwydd o godi tâl ar rannau o'n rhwydwaith cefnffyrdd. Byddwch chi'n gwybod, cystal â minnau, pa mor bwysig yw'r A483, yr A55 a llwybrau prifwythiennol eraill i bobl symud o gwmpas, yn enwedig y rhai sy'n cysylltu rhannau gwledig o'r gogledd â'r prif rwydwaith trafnidiaeth. Mae'n awgrymu, yn yr adroddiad, mai argymhelliad y Comisiwn yw parhau i ystyried codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd. Rwy'n gwybod nad oes unrhyw benderfyniadau terfynol wedi'u gwneud eto, ond rwy'n credu bod angen trafodaeth eang ar hyn ymhlith Aelodau Gogledd Cymru, ac rwy'n credu y byddai datganiad yn ddefnyddiol wrth helpu i gychwyn hynny. Diolch. Lesley Griffiths AC: Diolch. Wel, mae'r adroddiad yr ydych chi'n cyfeirio ato yn adroddiad annibynnol, ac yn amlwg bydd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn ei ystyried. Yn amlwg, mae ond yn rhan o'r polisi ehangach y mae'r Dirprwy Weinidog yn ei ystyried ar hyn o bryd ynghylch pob agwedd ar drafnidiaeth, ac yn amlwg mae hwn yn canolbwyntio ar y gogledd. Yn sicr, byddaf yn parhau i gael fy nghyfarfodydd rheolaidd gyda'r Dirprwy Weinidog, gan wisgo het gogledd Cymru, ac ar yr adeg fwyaf priodol—. Yn amlwg, mae'r Dirprwy Weinidog bob amser yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am faterion o'r fath. Delyth Jewell AC: Hoffwn i ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar y pwysau sy'n cael ei roi ar Lywodraeth y DU a'r ombwdsmon i ddod â chyfiawnder i fenywod Menywod yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth, y mae pensiwn y wladwriaeth wedi'i wrthod iddyn nhw. Byddwch chi'n gwybod bod mwy na 200,000 o fenywod eisoes wedi marw heb i'r anghyfiawnder hwn gael ei unioni. Mae diffyg uniondeb a moesoldeb yn yr hyn sydd wedi'i wrthod i'r menywod hyn, sydd wedi bod yn flinedig yn gorfforol ac yn emosiynol iddyn nhw a'u hymgyrchwyr dewr sy'n ymladd dros yr hyn sy'n gyfiawn, gan gynnwys—ac rwy'n datgan diddordeb—fy mam, sy'n fenyw WASPI. Nid yw ymchwiliad yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd i'r Adran Gwaith a Phensiynau ar y mater hwn wedi dod i ben. Nid oes amserlen ar gyfer pryd y bydd yn dod i ben, ac mae menywod yn dioddef yn y cyfamser. Felly, a wnaiff y Llywodraeth roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am y camau y bydd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r impasse moesol hwn? Lesley Griffiths AC: Rydych chi'n hollol gywir, y newidiadau hynny i oedran pensiwn y wladwriaeth—nid oedd llawer o fenywod yn gwybod dim byd amdanyn nhw ac mae wedi effeithio ar filiynau o fenywod nid yn unig yng Nghymru, ond yn amlwg ledled y DU. Ac nid dim ond yr effaith ariannol, ond hefyd yr effaith ar eu hiechyd corfforol a meddyliol a'u lles. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU. Mae'n bwysig iawn bod y menywod hyn yn cael canlyniad teg a chyfiawn o rywbeth nad oedd unrhyw fai arnyn nhw amdano, a menywod, fel eich mam chi—. Nid oedd gan fenywod a gafodd eu geni yn y 1950au y cyfleoedd bywyd na'r cyfleoedd gwaith yr ydyn ni'n eu mwynhau heddiw, felly mae'n bwysig iawn. Gwnaeth y Cwnsler Cyffredinol gyfarfod yr wythnos diwethaf â grŵp o fenywod WASPI, ac mae ef wedi dweud bod Llywodraeth Cymru yn gefnogol iawn; dim ond hyn a hyn y gallwn ni ei wneud, ond yn amlwg, yr hyn y gallwn ni ei wneud yw rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU. Yn dilyn her gyfreithiol ymgyrch WASPI yn erbyn yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd, rwy'n gwybod bod yr ombwdsmon wedi cytuno i ailystyried adroddiad Cyfnod 2. Mike Hedges AC: Rwy'n gofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar ddefnyddio meddalwedd ffynhonnell agored. Meddalwedd gyfrifiadurol yw meddalwedd ffynhonnell agored sy'n cael ei rhyddhau o dan drwydded lle mae deiliad yr hawlfraint yn rhoi hawliau i ddefnyddwyr ddefnyddio, astudio, newid a dosbarthu'r feddalwedd a'i chod ffynhonnell i unrhyw un ac ar gyfer unrhyw ddefnydd. Mae'n bosibl datblygu meddalwedd ffynhonnell agored mewn modd cyhoeddus cydweithredol, ond, yn bwysicaf oll, caiff ei rhannu heb unrhyw gost. Mae hyn yn cynnwys Linux a'i deilliadau fel systemau gweithredu. Mae'n ffordd o arbed arian yn y sector cyhoeddus. Mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio meddalwedd fasnachol ddrud yn gyson. Nid wyf i'n gofyn am ymrwymiad i'w defnyddio, dim ond datganiad arno, a'r rheswm pam nad yw'n cael ei defnyddio fel mater o drefn. Mae'n arbed talu miliynau o bunnoedd i Microsoft. Lesley Griffiths AC: Diolch. Mae strategaeth ddigidol Llywodraeth Cymru yn cydnabod sut y gall cydweithredu ym maes arloesi digidol helpu i wella gwasanaethau a chynyddu effeithlonrwydd. Ac mewn rhai amgylchiadau, gall meddalwedd ffynhonnell agored fod yn addas, gall fod yn berthnasol a gall fod y peth iawn i'w ddefnyddio. Ond, fel gyda phob meddalwedd, mae risgiau ynghlwm wrthi, megis mewnosod codau maleisus, ac, o ystyried hynny ochr yn ochr â'r potensial am ddogfennaeth a chefnogaeth ffurfiol mwy cyfyngedig, gall hynny, unwaith eto, arwain at fwy o risg o dorri rheolau diogelwch data a pheryglon diogelwch. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod unrhyw sefydliadau sydd yn ei defnyddio yn bodloni eu hunain bod ganddyn nhw fynediad priodol at gymorth ac arbenigedd os ydyn nhw'n defnyddio meddalwedd ffynhonnell agored ar gyfer gwasanaethau hanfodol. Ac mae'n bwysig iawn bod sefydliadau'n cael y cydbwysedd cywir rhwng meddalwedd drwyddedig ac annhrwyddedig, yn seiliedig, yn amlwg, ar anghenion y sefydliad ac a yw'n barod i dderbyn risg. Gareth Davies AS: A gaf i ofyn am ddatganiad brys gan y Llywodraeth y prynhawn yma ar bont Llanerch yn Nyffryn Clwyd, rhwng Trefnant a Thremeirchion? Fe wnes i a llawer o bobl eraill fynd i gyfarfod cyhoeddus yn y Tŷ Gwyn yn Rhuallt ddydd Iau diwethaf, ac roedd lawer o bobl leol, o Drefnant a Thremeirchion, fy hun, yr AS lleol Dr James Davies, arweinwyr y cyngor a swyddogion y cyngor yn bresennol. Ac roedd pwyslais cryf gan swyddogion Cyngor Sir Ddinbych—nid cynghorwyr—bod angen ymrwymiad ariannol gan Lywodraeth Cymru er mwyn gallu adeiladu pont newydd. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru, sy'n nodi faint o gyfalaf y mae Llywodraeth Cymru yn barod i'w gyfrannu tuag at adfer pont Llanerch, gan fod hyn wedi bod yn mynd rhagddo am lawer rhy hir, ac mae angen atebion ar bobl Dyffryn Clwyd? Lesley Griffiths AC: Hyd y gwn i, mae Llywodraeth Cymru yn dal i aros am yr achos busnes gan yr awdurdod lleol. Ond rwy'n gwybod bod swyddogion y Gweinidog Newid Hinsawdd yn gweithio gyda'r cyngor ar hyn o bryd. Luke Fletcher AS: Hoffwn i ofyn am ddatganiad, ysgrifenedig neu lafar, ar gyflwr afon Garw. Fel llawer o etholwyr yn sir Pen-y-bont ar Ogwr, byddaf i'n aml yn mynd â fy nghi am dro ym Mharc Gwledig Bryngarw, lle mae afon Garw yn llifo. Yn ôl adroddiadau, dim ond dwy filltir i fyny'r afon, ar 325 allan o 365 o ddiwrnodau mewn blwyddyn, mae popeth y mae cartrefi yn ei fflysio ac yn ei arllwys i lawr eu toiledau a'u sinciau yn llifo heb ei drin am filoedd o oriau'r flwyddyn yn yr afon. Gwnaeth gorlifoedd carthffosydd cyfunol ym Mhontyrhyl a Llangeinor arllwys carthion heb eu trin am gyfanswm o 7,804 o oriau a 7,784 o oriau yr un yn y drefn honno yn 2022. Byddai briff gan y Gweinidog hefyd yn cael ei werthfawrogi'n fawr. Lesley Griffiths AC: Diolch. Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd newydd glywed eich cais. Rwy'n credu y byddai'n well pe baech chi'n ysgrifennu ati'n uniongyrchol, ac yna bydd hi'n gallu ymateb. Altaf Hussain AS: Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar ddarparu tai cymdeithasol, neu ddatganiad ar y cyd efallai gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, gan fod y rheswm dros y cais hwn yn deillio o gyfarfod y gwnes i fynd iddo yn siarad am gau canolfan groeso Castell-nedd Port Talbot. Mae teuluoedd sy'n ffoaduriaid o Wcráin yn cael gwybod, gyda'r ganolfan ar fin cau, y gallan nhw gael eu symud i rannau eraill o Gymru. Mae nifer o deuluoedd mawr o Wcráin yn parhau i gael eu cartrefu yn y canolfannau croeso gan nad oes unrhyw eiddo addas i gynnig llety parhaol iddyn nhw. Mae dwy ran o dair o blant yn mynd i ysgolion lleol, ac mae 10 o'r oedolion mewn cyflogaeth leol, ac mae pob un nawr yn wynebu cael eu dadwreiddio unwaith eto, oherwydd ein bod ni wedi methu â darparu llety mwy parhaol. Ond nid ein gwesteion o Wcráin yn unig sy'n dioddef oherwydd diffyg cartrefi. Mae cyngor Castell-Nedd Port Talbot hefyd yn cartrefu wyth teulu digartref mewn gwesty lleol, a bu'n rhaid anfon un i westy yn Mryste, oherwydd prinder difrifol o lety. Gweinidog, mae'n amlwg bod angen brys am dai ledled Cymru, ac mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu, yn enwedig os ydyn ni eisiau cynnal ein statws fel cenedl noddfa. Felly, rwy'n gofyn am ddatganiad brys gan Lywodraeth Cymru yn amlinellu sut y byddwch chi'n ymdrin â'r diffygion tai ar gyfer ein ffoaduriaid a'n teuluoedd sy'n byw yng Nghymru, yn ddelfrydol cyn i'r canolfannau croeso gau mewn ychydig wythnosau. Diolch yn fawr. Lesley Griffiths AC: Diolch i chi. Wel, fel rydych chi'n dweud, fe agorodd llawer o bobl ddrysau eu cartrefi i bobl sy'n ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin, ac mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn parhau i weithio yn agos iawn gyda phobl a ymgartrefodd yng Nghymru. Ac, fel rydych chi'n dweud, fe fydd rhai ohonyn nhw wedi bod yma am fwy na blwyddyn, mae eu plant nhw wedi setlo yn yr ysgol, ac mae hi'n bwysig iawn ein bod ni'n gwneud pob peth a allwn ni. Fel gwyddoch chi, ni chawsom ni unrhyw gyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU; fe wnaethom ni hyn ar ein traul ein hunain, oherwydd dyna oedd y peth cyfiawn i'w wneud, ac, yn wir, rydyn ni'n genedl noddfa. Ond rwy'n gwybod bod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn parhau i weld y cymhlethdodau hynny o hyd ac, yn amlwg, mae hi'n gweithio yn agos iawn nid yn unig gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd o ran tai, ond gyda'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol hefyd, i weld beth arall y gallwn ni ei wneud i helpu i roi cartref i'r teuluoedd hyn sydd, fel rydych chi'n dweud, wedi ymgartrefu yma. Alun Davies AC: Mae'r datganiad busnes yn cynnwys ymrwymiad i ddatganiad o 30 munud ynglŷn â 75 mlynedd y GIG. Go brin y caiff honno ei hystyried yn ffordd ddigonol o nodi'r pen-blwydd hwn, gyda datganiad o 30 munud. Fe hoffwn i ofyn i'r Llywodraeth gyflwyno cynnig a dadl ar ddyfodol y GIG. Mae tri chwarter canrif wedi bod, wrth gwrs, ers i Aneurin Bevan ddweud ei fod am 'Dredegareiddio' gweddill y Deyrnas Unedig, ac efallai mai'r ffordd orau y gallwn ni roi coffâdi Aneurin a sefyllfa wirioneddol gwasanaeth iechyd gwladol yw cynnal dadl ddifrifol ar ei ddyfodol—sut rydym ni'n gweld y 75 mlynedd nesaf, sut rydym eisiau gweld y GIG yn datblygu i wasanaethu cenedlaethau'r dyfodol. Fe gafodd fy rhieni eu geni dan oruchwyliaeth Cymdeithas Cymorth Meddygol Tredegar, cyn sylfaenu'r GIG, ond rwy'n siŵr y bydd fy mhlant i'n dymuno gwybod barn y lle hwn am ddyfodol eu GIG nhw. Ac fe fydd y bobl sy'n gweithio yn y GIG heddiw yn disgwyl i ni lunio dyfodol sy'n gofalu am ei sefydliad, ond gan sicrhau hefyd y bydd y sefydliad yr esgorwyd arno dri chwarter canrif yn ôl yn addas ar gyfer y tri chwarter canrif nesaf. Lesley Griffiths AC: Fe wnaf i ystyried y cais. Yn olaf, James Evans. James Evans MS: Diolch, Dirprwy Lywydd. Trefnydd, fel gwyddoch chi'n iawn, mae'r ymgynghoriad ynglŷn â rhyddhau a rheoli adar hela yng Nghymru ar fin dod i ben. Mae miloedd o bobl wedi ymateb i'r ymgynghoriad hwn am eu bod nhw'n ei ystyried yn ymosodiad ar eu swyddi, ar eu bywoliaethau a'u busnesau. Yr hyn yr hoffwn i ofyn amdano yw dadl, yn amser y Llywodraeth, ar y rheoliadau hyn, pe cânt eu cyflwyno, i sicrhau y bydd y miloedd o bobl hyn sydd wedi ymateb i'r ymgynghoriad hwnnw yn gallu hysbysu'r Siambr hon o'u barn, a bod barn y bobl sy'n cael eu cynrychioli yn cael eu gwyntyllu yn y Siambr hon. Lesley Griffiths AC: Mae'r ymgynghoriad yn dod i ben heddiw, mewn gwirionedd. Yn amlwg, fe fyddwn ni'n ystyried yr ymatebion wedyn. Diolch, Trefnydd. 3. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Y Rhaglen Cartrefi Clyd Eitem 3 yw'r datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: y rhaglen Cartrefi Clyd. Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James. Julie James AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe wnaethom ni gyhoeddi'r gwersi a ddysgwyd yn ogystalâ dogfennau ymateb y Llywodraeth ddydd Mercher diwethaf, ond, oherwydd materion technegol, nid oedd y datganiad polisi ar gyfer rhaglen newydd Cartrefi Clyd ar gael ar yr un pryd. Felly, yn gyntaf, Dirprwy Lywydd, gadewch i mi ymddiheuro am yr oedi gyda'r cyhoeddi, ond rwyf i am nodi'r manylion heddiw y mae'r datganiad hwnnw'n eu rhoi. Mae'n rhaid i'n rhaglen newydd ni, ac fe fydd hi'n gwneud hynny, gydbwyso'r amcanion deublyg o fynd i'r afael â thlodi tanwydd a lleihau effeithiau hinsawdd ein stoc dai. Fe fyddwn ni'n adeiladu ar ein dull ni o wella effeithlonrwydd ynni cartrefi Cymru, gan sicrhau ein bod ni'n defnyddio dim ond yr ynni sydd ei angen arnom ni i gadw ein cartrefi ni'n gysurus gynnes am gost sy'n fforddiadwy. Ni ddylai teuluoedd orfod gwneud dewisiadau amhosibl, fel rhwng prynu bwyd a chadw yn ddiddos. Mae'r argyfwng ynni presennol wedi tanlinellu'r angen mawr i wneud gwresogi ein cartrefi ni'n fwy fforddiadwy. Er bod fy nghydweithwyr a minnau'n parhau i fynnu bod newid systemig yn digwydd yn Llywodraeth y DU i lunio system sy'n decach i bawb, bydd ein rhaglen newydd ni, Cartrefi Clyd, yn parhau i fod yn brif fecanwaith i Lywodraeth Cymru o ran mynd i'r afael â thlodi tanwydd. Julie James AC: Wrth i ni fwrw ymlaen â'r gwaith o fynd i'r afael â'r angen i gefnogi aelwydydd gyda'u biliau tanwydd nawr, nid ydym ni'n gallu colli golwg ar yr argyfwng hinsawdd a'n llwybr tymor hwy at sero net. Rydym ni'n parhau â'r ymagwedd 'adeiladwaith, y gwaethaf a charbon isel yn gyntaf', gan wella perfformiad yr aelwydydd incwm isel lleiaf effeithlon yn thermol yng Nghymru. Yn ein rhaglen newydd ni, serch hynny, rydym ni'n mynd ymhellach i ddewis datrysiadau carbon isel ac osgoi systemau amnewid tanwydd ffosil lle bynnag y bo modd. Bydd pob cartref yng Nghymru yn gallu mynd at y rhaglen Cartrefi Clyd i gael cyngor a chymorth ynglŷn â'r dull gorau o wella effeithlonrwydd ynni'r cartref, a sut y gellir ariannu'r mesurau hynny. O ran mewnosod y mesurau, rwyf i o'r farn y dylem ni ganolbwyntio ein sylw ar yr aelwydydd sydd leiaf abl i dalu am y gwelliannau eu hunain yn sectorau'r perchen-feddiannwyr, rhent preifat a chwmnïau cydweithredol tai. Mae'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio a safon ansawdd tai Cymru eisoes yn cynyddu effeithlonrwydd ynni mewn tai cymdeithasol ac rwy'n falch o'r effaith y maen nhw'n ei chael. Rydym ni wedi gwrando ar ein rhanddeiliaid ac wedi ystyried meini prawf cymhwysedd yn ofalus ar gyfer y cynllun newydd i sicrhau ei fod yn cyflawni ein hamcanion ni. Fe fyddwn ni'n pennu trothwy incwm isel, yn hytrach na seilio cymhwysedd ar fudd-daliadau prawf modd yn unig, i sicrhau ein bod ni'n anelu at y rhai tlotaf yn y gymdeithas. O ran y cartrefi a fydd yn gymwys, fe fyddwn ni'n ymdrin ag anheddau gyda gradd Tystysgrif Perfformiad Ynni E ac is. Fe gaiff hynny ei ymestyn hyd at radd Tystysgrif Perfformiad Ynni D i aelwydydd sy'n gartref i unigolion â chyflwr iechyd cydnabyddedig, megis anadlol cronig, cyflyrau cylchrediad gwaed neu o ran iechyd meddwl. Ein nod ni yw cynnig lle ar restr wrth gefn i aelwydydd incwm is gyda Thystysgrif Perfformiad Ynni D ond heb gyflwr iechyd, gydag adolygiadau o bryd i'w gilydd i sicrhau bod y llif gwaith yn gweithredu i'r eithaf fel dylai. Rwy'n awyddus i sicrhau y bydd pob ceiniog o'r gronfa a ddyrennir i'r rhaglen hon yn cael ei defnyddio er lles. Fe fyddwn ni'n gwneud darpariaeth ar gyfer adeiladau sy'n cynnwys mwy nag un annedd, megis blociau o fflatiau, sy'n cael eu trin yn fwy effeithiol yn gyfunol, yn aml iawn. Fe fydd yna hyblygrwydd gyda meini prawf cymhwysedd ar gyfer peidio â rhoi aelwydydd sydd â thlodi tanwydd dan anfantais am eu bod yn rhannu adeiladau ag aelwydydd eraill nad ydyn nhw'n gymwys. Fe fyddwn ni'n gweithio gydag awdurdodau lleol a chwmnïau ynni i wneud y gorau o ffynonellau eraill o gyllido, fel rhwymedigaeth y cwmni ynni, i anelu at aelwydydd sydd â'r angen mwyaf a'r rhai a all elwa ar y cynlluniau hyn. O ran y mesurau a gynigir i'r aelwydydd hyn, fe fyddwn ni'n mabwysiadu dull adeiladwaith yn gyntaf, gan wella effeithlonrwydd thermol hyd at safon foddhaol cyn defnyddio mesurau o ran gwresogi ac awyru. Fe fydd ein camau ni'n cael eu harwain gan asesiad o'r tŷ cyfan, a gwblheir gan aseswyr annibynnol. Fe fydd technolegau carbon isel yn cael eu blaenoriaethu lle bo hi'n gwneud synnwyr i wneud hynny. Nid ydym ni am osod boeleri nwy newydd fel datrysiad dewisol mwyach. Lle bo hynny'n gost-effeithiol, rydym ni am osod datrysiadau amgen carbon isel fel pympiau gwres yn lle boeleri sydd wedi cyrraedd diwedd eu hoes. Lle byddai symud at system wresogi trydan yn achosi cynnydd sylweddol yn y costau rhedeg, y flaenoriaeth fyddai atgyweirio boeleri nwy ynni-effeithlon i ymestyn eu bywydau nhw. Gellir ystyried technolegau arloesol fel pympiau gwres hybrid neu systemau cymunedol pryd nad yw atgyweirio yn ddewis cost-effeithiol neu ymarferol. Rydym ni wedi clywed ac ymateb i adborth ar gynnwys ffenestri a drysau, a gwaith galluogi ar raddfa fach o fewn terfyn ariannol y cytunwyd arno ymlaen llaw. Mae'n bwysig nad ydym ni'n caniatáu, er enghraifft, i newid teils ar raddfa fechan rwystro gosod paneli solar ffotofoltaig ar do, sy'n darparu ynni rhad am ddim a allai fod yn dro ar fyd i aelwyd dan anfantais. Yn olaf, ni fydd cartrefi yn gyfyngedig i geisiadau sengl erbyn hyn. Os yw aelwyd a gefnogwyd gan gynllun Cartrefi Clyd blaenorol yn parhau i fod mewn tlodi tanwydd ac yn bodloni'r meini prawf o ran cymhwysedd, cânt wneud cais am gymorth ychwanegol nawr. Mae canolbwyntio adnoddau ar ôl-osod dwysach i'r tlotaf yn y gymdeithas yn tanlinellu ein hymrwymiad ni i bontio teg ac fe fydd hynny'n ein helpu ni i ddysgu gwersi i lywio a galluogi ôl-osod ehangach a dwysach yn y dyfodol. Rydym ni'n cydnabod yr angen i ysgogi sgiliau a datblygu'r gadwyn gyflenwi yn y sector hwn hefyd. Er na allwn ni ymrwymo y tu hwnt i'r cyfnod adolygu gwariant presennol, fe allaf i gadarnhau bod tua £30 miliwn wedi cael ei neilltuo ar gyfer y rhaglen yn ystod blwyddyn gyntaf ei chyflwyno. Gan ddysgu gwersi o'r gorffennol, rwyf i wedi ymrwymo i sicrhau y bydd defnyddwyr yn cael eu hamddiffyn rhag safonau gwael o ran cyflawni a rhoi mesurau amhriodol yn eu lle. Fe fydd y gwasanaeth newydd yn gofyn am waith i gyrraedd safonau PAS, gan leihau'r tebygolrwydd o ganlyniadau anfoddhaol, cynnig atebolrwydd cyfreithiol lle bo angen, ac agor ffrydiau eraill o gyllido fel rhwymedigaeth ar y cwmni ynni. Rydym ni'n annog ansawdd ymhellach drwy sicrhau annibyniaeth rhwng y cyngor ynni, y sefydliad sy'n gosod y mesurau, a'r cyflenwyr sicrhau ansawdd ac archwilio. Dirprwy Lywydd, rwyf i wedi disgrifio'r gwasanaeth fel caiff ei ddarparu o'i ddiwrnod cyntaf. Eto i gyd, mae angen i ni fod yn hyblyg o ran amgylchiadau newidiol hefyd. Felly, er mai gwasanaeth fydd hwn a arweinir gan y galw ar y dechrau, ni fydd hynny'n rhwystro mentrau sy'n seiliedig ar ardaloedd. Fe fyddwn ni'n gweithio gyda'r asiantau cyflenwi a'n partneriaid ehangach i gwmpasu'r elfen hon, gan roi ystyriaeth i fentrau eraill fel rhwymedigaeth cwmni ynni (ECO). Mae'r rhaglen newydd hon yn rhan o'n gwaith ni o ddatblygu dull cydgysylltiedig ar draws pob deiliadaeth a chyfradd o incwm i ysgogi datgarboneiddio. Yn gam dechreuol, ein nod ni yw cyhoeddi ein strategaeth wres eleni, a fydd yn nodi'r weledigaeth a'r meysydd o flaenoriaeth ar gyfer camau. Mae ein dull ni o weithredu yn cyflawni ein gwerthoedd ac yn gwneud dewisiadau ymarferol iawn i sicrhau ein bod ni'n anelu ein hadnoddau ni'n gywir. Fe fydd yn cynnig dull sy'n integredig: gan ymateb i'r argyfwng costau byw presennol, hyrwyddo deunyddiau cynaliadwy o Gymru; darparu cyngor dibynadwy ar effeithlonrwydd ynni a datgarboneiddio; cefnogi sgiliau a swyddi yng Nghymru; a dysgu o'r gwersi a'r profiad a gafwyd o raglen ôl-osod er mwyn optimeiddio Llywodraeth Cymru. Diolch. Janet Finch-Saunders AC: Diolch yn fawr, Gweinidog. Rwyf i o'r farn fod y datganiad a wnaethoch chi ei roi yn un diddorol a chynhwysfawr iawn mewn gwirionedd, ac mae hi'n deg dweud ein bod ni'n rhannu'r un uchelgeisiau, yn y bôn. Mae'n rhaid i ni wella effeithlonrwydd ynni cartrefi Cymru, ac mae'n rhaid i ni ddiddymu tlodi tanwydd. Nawr, rydych chi siŵr o fod yn cofio mai eich uchelgais gyntaf chi oedd edrych—rwy'n datgan buddiant fel perchennog eiddo—ar dai cymdeithasol, ond roedd y dystiolaeth a gafwyd gennym ni yn y pwyllgor newid hinsawdd yn dangos i bawb, er mwyn cyflawni'r gwaith hwn, a'n nodau angenrheidiol o ran sero net, fe ddylid mynd i'r afael â thai o bob math. Nawr, dywedodd y Sefydliad Tai Siartredig wrth ein pwyllgor newid hinsawdd ni mai llety preifat yw'r mater amlycaf y mae'n rhaid mynd i'r afael ag ef os yw tai am chwarae eu rhan. Fe wyddom ni hefyd nad yw hen stoc dai Cymru mor rhwydd â hynny i'w hôl-osod. Nawr, mae'r cynlluniau blaenorol yr ydych chi wedi cyfeirio atyn nhw yn y rhaglen Cartrefi Clyd wedi cyfrannu at leithder, anwedd, ac mae hi'n deg dweud, mewn llawer o achosion, iddyn nhw fod yn fethiant. Nawr, fe hoffwn i wybod pa fonitro—ac mae gen i reswm da am ofyn y cwestiwn hwn i chi mewn munud—sydd gennych chi ar unrhyw waith sy'n cael ei wneud sydd, yn dechnegol, â'r bwriad o gefnogi preswylwyr. Nawr, rwy'n gwybod y bydd gan y rhaglen newydd drothwy o ran incwm isel yn hytrach nag o ran budd-daliadau prawf modd, felly nid drwg o beth yn fy marn i fyddai i chi roi diffiniad o 'incwm isel'. Mae pryderon wedi cael eu codi gyda mi y gallai'r cynllun gael ei ddefnyddio ar gyfer systemau gwresogi tanwydd ffosil newydd o bosibl, ac fe allai hynny danseilio'r gwaith o ran sero net. Dim ond gair bach ynglŷn â hynny. Mae ein pwyllgor newid hinsawdd wedi bod yn eglur yn flaenorol fod gennych swyddogaeth bwysig o ran newid ymddygiad defnyddwyr ac ysgogi ôl-osod i gynorthwyo effeithlonrwydd ynni. Felly, fe wyddom ni na fydd cartrefi Cymru, oni bai ein bod ni'n cyflawni'r arloesedd hwn mewn modd priodol, yn cyrraedd sero net erbyn 2050. Fe wyddom ni fod yr adroddiad ar newid hinsawdd yn nodi bod allyriadau wedi cynyddu 2% yn 2020, mae'r galw am nwy mewn adeiladau preswyl wedi parhau i fod yn weddol gyson dros y degawd diwethaf, ac fe gynyddodd y galw am drydan mewn adeiladau preswyl 5 y cant. Nawr, mae eich datganiad chi'n ardderchog, Gweinidog. [Torri ar draws.] Beth bynnag am hynny, yr hyn yr hoffwn ei ofyn i chi—. Yn ddirybudd, yn un o fy nghymorthfeydd bythefnos yn ôl, fe ddaeth menyw ataf i ac, mae'n rhaid i mi ddweud, roedd hi mewn trallod. Mae hi wedi cael un o'r technolegau carbon isel hyn. Daeth rhywun a churo ar ei drws hi a dweud, 'Fe allwch chi gael y pwmp gwres hwn ac fe wnaiff hwnnw bob un dim i chi'. Felly, fe wnaeth hi ganiatáu iddyn nhw fynd yn eu blaenau ac, mae hi'n deg dweud, mae hi mewn trallod. Cost y cynllun oedd £18,000. Roedd ganddi hi dŷ â thair ystafell wely, ac rwyf i wedi gweld yr holl ffotograffau i roi tystiolaeth. Mae hi wedi gweld un o'i hystafelloedd hi'n llawn dop erbyn hyn, mae'r teclyn mawr hwn yno a phibellau yn mynd i bobman. Mae ei nenfydau'n llawn tyllau, mae lloriau wedi eu codi a'u rhoi yn eu holau'n flêr iawn. Tynnwydei boeler o'i chegin drwy waith diofal iawn. Y tu allan, mae'r ardd wedi cael ei difetha, ac, mae'n rhaid i mi ddweud, mae ansawdd y gwaith yn dila iawn, a dweud y lleiaf. Nid yw hi wedi cael unrhyw warantau ardystio, ac mae gwaith wedi'i wneud gyda'r trydan, gwaith gyda'r nwy, tynnu pethau allan, ac rwyf i'n gresynu. Felly, rwyf i wedi ysgrifennu at y cwmni a oedd yn gyfrifol am y gwaith hwn, Gweinidog. Nid wyf i'n gallu canfod pwy sydd wedi ariannu'r cynllun hwn. Y cyfan sy'n cael ei ddweud wrthyf i yw, 'Y rhaglen Cartrefi Clyd yw hon.' 'O, iawn, Llywodraeth Cymru felly.' 'Nage ddim. Nid wyf i'n gwybod pwy sy'n ein hariannu ni am ein bod ni'n gweithredu ar ran cwmni arall sy'n gwneud hyn ar ran rhywun arall.' Ac, yn sydyn, mae diogelwch adeiladau a'r holl broblemau a gawsom ni gyda chladin yn dod i'r meddwl. Fe ddywedodd hi wrthyf i wedyn fod ffrindiau eraill ganddi hi sy'n byw yn yr un ardal sydd am ddod i fy ngweld i oherwydd eu bod nhw wedi mynd i sefyllfa eu hunain o fod wedi ymgymryd â'r teclyn newydd hwn. Ni wnaeth hi arwyddo unrhyw waith papur tan y diwedd un, hyd yn oed. Ni ofynnwyd iddi hi arwyddo unrhyw beth. Felly, yn y bôn, yr hyn yr wyf i'n ei ofyn, Gweinidog, yw sut y gallwch chi fonitro'r gwaith hwn. Yr hyn nad ydym ni'n dymuno ei wneud—. Nid ydym ni'n dymuno gweld trychineb arall fel Arbed. Rydym ni'n awyddus i sicrhau, os yw symiau o arian trethdalwyr yn mynd i mewn i'r cynlluniau hyn, y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau hyd at safon dda a safon ddiogel. Diolch. Julie James AC: Diolch yn fawr i chi, Janet. O ran cyfyng-gyngor eich etholwraig chi, mae hynny'n swnio fel twyll i mi, ond ni allaf i wybod i sicrwydd. Pe byddech chi'n ysgrifennu ataf i a rhoi gwybod i mi am y cyfeiriad, yn sicr fe allaf i wirio nad yw hi'n un o'n rhaglenni ni, am na all hi fod, oherwydd nid oes unrhyw bosibilrwydd y gallai rhaglen heb ddogfennaeth ac ati fod yn un o rai ni. Ond ysgrifennwch a rhowch y cyfeiriad i mi, ac fe wnaf i wirio hwnnw i chi. Nid yw hwn yn swnio fel unrhyw raglen a ariennir gan y llywodraeth a glywais amdani erioed, felly fe fyddwn i fy hunan yn cyfeirio'r etholwraig at Gyngor ar Bopeth neu gyfreithiwr, oherwydd mae honno'n swnio fel sefyllfa ddifrifol iawn wir. Yr hyn a nodais yn fy natganiad i, serch hynny, oedd ein bod ni'n dysgu'r gwersi o rai o'r cynlluniau a gawsom ni yn y gorffennol, a lle rydym ni wedi gweld cynlluniau llwyddiannus iawn yn y gorffennol, fe welsom ni, serch hynny, rai cartrefi heb gael eu trin yn dda. Rydym ni wedi cywiro rhai o'r rhain lle bo hynny'n bosibl. Mae rhai ohonyn nhw wedi cwympo i'r categori hwnnw oherwydd cynlluniau gan Lywodraeth y DU hefyd. Felly, rydyn ni'n dysgu gwersi o hyn. Rhan o'r hyn yr wyf i'n ei gyhoeddi heddiw yw gwasanaeth cynghori a fydd yn caniatáu i bobl gymryd cyngor ynghylch yr hyn a ddylai ddigwydd yn eu cartrefi nhw, felly fe fyddai eich etholwraig chi wedi gallu cael mynd at y gwasanaeth cynghori hwnnw, a fyddai'n dweud wrthi hi a oedd ei chartref yn addas ar gyfer pwmp gwres ffynhonnell aer neu beth bynnag allai fod, a'i helpu hi i ddeall beth ellir ei wneud gyda'r math o dŷ sydd ganddi. Mae hynny'n dod yn syth o'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio, lle gwnaethom ni dreialu cyfres o wahanol atebion yn fwriadol i wahanol fathau o dŷ—chwech enghraifft glasurol o dŷ—er mwyn sicrhau bod yr ateb yr oeddem ni'n ei gynnig yn gweithio mewn gwirionedd. Rwyf i wedi sôn am hyn sawl gwaith. Rydym ni'n gallu cyflwyno'r cyngor hwnnw erbyn hyn oherwydd mae gennym ni ddigon o ddata yn dod allan i allu rhoi cyngor dibynadwy i bobl. Yna, rydym ni'n anelu at rai sydd mewn tlodi tanwydd. Mae tlodi tanwydd yn anodd iawn oherwydd fe allech chi fod ag incwm eithaf uchel mewn gwirionedd a bod yn berchen-feddiannydd yn prynu tŷ ar forgais ac yn dal i fod mewn tlodi tanwydd. Felly, yr hyn a wnawn ni yw ceisio anelu hyn yn briodol ar gyfer aelwydydd sy'n annhebygol iawn o allu rheoli'r sefyllfa ond lle bydd yn lleihau eu bil ynni yn sylweddol yn ogystal â'u cyfraniad o ran sero net. A chyfaddawdu yw hynny—nid oes unrhyw amheuaeth am hynny. Dyma un o'r pethau y bydd yn rhaid i ni ei wneud ar y llwybr oherwydd mae gennym argyfwng costau byw yn ogystal ag argyfwng hinsawdd. Felly, yn rhan o'n cynlluniau pontio teg, rydym ni'n ceisio helpu cymaint o bobl â phosibl. Ond yr hyn y mae'r rhaglen hon yn ei wneud, am y tro cyntaf, mewn gwirionedd, yw edrych yn gyfannol ar yr eiddo cyfan. Mae'n rhoi insiwleiddio'r cartref cyfan yn gyntaf, ac yna, lle gellir trwsio boeler nwy, gyda'r carbon sy'n gorfforedig yn hwnnw, fe fyddwn ni'n ei atgyweirio; os na ellir ei atgyweirio, yna fe fydd systemau gwahanol yn dod i rym. Ond, ie, pe byddech chi'n ysgrifennu ataf i am eich etholwraig, Janet. Rwy'n amau hynny'n fawr iawn, ond fe wnaf i wirio hynny. Mabon ap Gwynfor AS: Mae rhaglen Cartrefi Clyd yn pennu rhai nodau sy'n glodwiw iawn, ac nid oes amheuaeth fod y canlyniadau yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i lawer o bobl. Mae gwneud cartrefi yn fwy clyd a chysurus gan gyfrannu yn sylweddol at ddatgarboneiddio hefyd yn dangos ein bod ni o ddifrif yng Nghymru ynglŷn â mynd i'r afael â newid hinsawdd a'r argyfyngau costau byw, gan gefnogi pobl sy'n agored i niwed wrth wella eu llesiant a'u cydnerthedd rhag salwch y gellir ei osgoi hefyd. Fodd bynnag, wrth i ni werthuso'r rhaglen flaenorol, mae'n rhaid i ni dderbyn bod gwersi difrifol i'w dysgu. O ran yr ailadroddiad newydd o raglen Cartrefi Clyd, mae'r ffaith ei bod hi wedi cymryd cymaint o amser i gael y cyhoeddiad hwn heddiw yn peri dryswch i mi. O ystyried y brys gwirioneddol ynghylch y mater hwn, a'r ffaith fod adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar dlodi tanwydd a'r rhaglen Cartrefi Clyd wedi cael eu trafod yn y Siambr dros flwyddyn yn ôl, pam mae hi wedi cymryd cymaint o amser i'r cyhoeddiad hwn gael ei wneud, gyda chyhoeddiad ar y funud olaf hefyd? O edrych ar yr ailadroddiad blaenorol, fe wyddom ni i gyd am yr aflwydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac rwy'n gwybod o brofiad personol yn Nhanygrisiau yn fy etholaeth fy hun na wnaeth pethau weithio allan fel y cynlluniwyd. Felly, pa wersi a ddysgodd y Gweinidog o'r camgymeriadau hyn, a pha ddylanwad a fydd hynny'n ei gael ar y rhaglen newydd? Mae llawer o bobl mewn etholaethau ledled Cymru, gan gynnwys fy un i, yn byw mewn adeiladau rhestredig, lle mae gwaith adfer bron yn amhosibl neu, yn wir, yn anghyfreithlon. Ond mae'r cartrefi hyn, mewn llawer o achosion, yn aneffeithlon o ran ynni ac yn gartref i bobl agored i niwed. Yn gryno, a wnaiff y Gweinidog roi mewnwelediad pellach o ran sut mae eiddo rhestredig yn cyd-fynd â'r rhaglen hon? O ran data, mae angen i ni ddeall maint yr effaith a gafodd rhaglen Cartrefi Clyd hyd yn hyn. Felly, a wnaiff y Gweinidog ddarparu data ar nifer yr aelwydydd sydd wedi elwa ar y rhaglen hyd yma? Yn ogystal â hynny, fe fyddai dadansoddiad o effaith y rhaglen ar iechyd a llesiant unigolion a theuluoedd yn amhrisiadwy wrth ddeall ei llwyddiant yn gyffredinol. Fe fyddai gwybodaeth o'r fath yn ein galluogi ni i asesu a yw rhaglen Cartrefi Clyd yn cynorthwyo'r rhai sydd â'r angen mwyaf amdani, ac yn gwneud gwahaniaeth ystyrlon yn eu bywydau nhw. Felly, a wnaiff y Gweinidog rannu data effaith y rhaglen ynglŷn ag iechyd y cyfranogwyr? Un elfen allweddol wrth fynd i'r afael ag effeithlonrwydd ynni stoc dai Cymru yw uchelgais Llywodraeth Cymru i ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy carbon isel newydd erbyn diwedd tymor y Senedd hon. Felly, pa gynnydd a wnaeth Llywodraeth Cymru yn ôl cyflawniad y nod hwn? A ydym ni ar y trywydd iawn i gyrraedd y nod hwn erbyn 2026? Yn yr un modd, ar wahân i adeiladu cartrefi fforddiadwy cymdeithasol newydd sy'n effeithlon o ran ynni, un o'r prif flaenoriaethau eraill yw gwneud cartrefi presennol yn fwy effeithlon o ran ynni, o ystyried mai gan Gymru y mae'r stoc dai sydd leiaf effeithlon o ran ynni yn Ewrop. Yn rhannol, fe fydd cyflawni hyn yn ei gwneud hi'n ofynnol i berchnogion tai fod yn ymwybodol o'r mesurau y gallan nhw eu cymryd i wneud eu cartrefi yn fwy effeithlon o ran ynni, a chael gafael ar gynhyrchion a gwasanaethau angenrheidiol. Fe fyddai hyn, wrth gwrs, yn gofyn am weithlu medrus sy'n gallu cynnig mesurau o'r fath. Mae awdurdodau trefol ledled Ewrop, fel yn Valencia, wedi datblygu siopau un stop lle gall perchnogion cartrefi gael gafael ar ganllawiau, cynhyrchion a gwasanaethau datgarboneiddio ac effeithlonrwydd tai, gan ei gwneud hi'n gynt, yn symlach ac yn fwy cyfleus i bobl gyfrannu at ddatgarboneiddio wrth wella eu cartrefi. Fe fyddai hi'n dda gennyf i gael clywed safbwynt y Gweinidog am y dull hwn, ac a fyddai hi'n ystyried mabwysiadu polisi o'r fath yng Nghymru. Mae datblygiadau technolegol o ran effeithlonrwydd ynni yn cynnig cyfleoedd ac atebion newydd i ni. Fe fyddwn i'n gwerthfawrogi clywed barn y Gweinidog ynglŷn â sut yr effeithir ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i ymgorffori'r technolegau newydd hyn yn y rhaglen Cartrefi Clyd. A oes unrhyw fentrau ymchwil a datblygu ar y gweill i archwilio dulliau arloesol a all wella effeithlonrwydd ynni yn ein cartrefi ni? Mae'n rhaid i raglen Cartrefi Clyd ddarparu ar gyfer anghenion cymunedau difreintiedig mewn ardaloedd trefol a gwledig. Felly, rwy'n erfyn ar y Gweinidog i ymhelaethu ar sut mae'r rhaglen am anelu at y cymunedau hyn yn benodol a sicrhau bod modd teg o gael gafael ar ei manteision. Trwy fynd i'r afael â'r mater hwn yn rhagweithiol, fe allwn ni bontio'r bwlch a llunio cymdeithas fwy cynhwysol a chyfiawn. Yn olaf, bu fy nghyd-Aelodau Peredur Owen Griffiths a Hefin David mewn cyfarfod yng Nghanolfan Gymdeithasol y Glowyr yng Nghaerffili yn ddiweddar, lle cododd trigolion lleol nifer o gwestiynau perthnasol, yr hoffwn eu mynegi yn y fan hon, rhai ohonyn nhw o leiaf. Roedden nhw'n gofyn a oedd y Gweinidog wedi ystyried benthyciadau di-log ar gyfer ôl-osod, heb gychwyn yr ad-daliadau cyn y daw biliau gwresogi i lawr, neu a oedd y Gweinidog wedi ystyried hyfforddiant rhad ac am ddim i adeiladwyr a chrefftwyr mewn technegau a deunyddiau modern ar gyfer ôl-osod. Yn olaf, dim ond i ymateb i stori Janet Finch-Saunders yn ei hetholaeth hi, mae gennyf i astudiaeth achos debyg yn fy etholaeth innau ym Mlaenau Ffestiniog, felly mae hi'n ymddangos bod rhai pobl o leiaf yn ceisio dilyn y llif o ran y rhaglen Cartrefi Clyd a'i hawlio hi'n rhywbeth ar gyfer gwneud arian iddyn nhw eu hunain. Felly, fe fyddai'n dda o beth inni edrych i mewn i hynny. Diolch. Julie James AC: Diolch, Mabon. Roedd honna'n rhestr eithaf hir o gwestiynau, a bod yn deg. Os oes gennych chi rywun sydd â phroblem benodol o'r fath yna, ysgrifennwch chi ataf i. Rwy'n credu mai'r tebygolrwydd yw nad yw honno'n rhaglen a noddir gan y Llywodraeth; rhywun sy'n cymryd mantais ar bobl sydd heb gael cyngor iawn. Ond mae hi'n werth gwirio hynny ac rwy'n hapus iawn i wneud felly. Ynglŷn â'r amser a gymerodd hi, un o'r pethau y buom ni'n awyddus iawn i'w gwneud yw sicrhau bod y data sy'n dod o'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio yn addas i'r diben ac y gellir eu lledaenu, yn yr union ffordd y mae nifer o'ch cwestiynau chi'n cyfeirio ati. Felly, roeddem ni'n awyddus iawn i gael y cyngor, sefydlu'r cyngor. Un o'r gwersi a ddysgwyd yw y dylai'r cyngor ynglŷn â'r hyn sydd ei angen ar gartref fod ar wahân i'r bobl sy'n gwneud y gwaith, fel nad oes unrhyw—ac nid wyf i'n ceisio difrïo llawer o'r gosodwyr da iawn sydd gennym ni—gymhelliant i gynyddu cyfradd y gwaith sydd ei angen ar y tŷ; fe fyddai'r cyngor yn cael ei ddarparu ar wahân. Dyma un o'r pethau y gwnaethom ni ei ddysgu. Ac yna fe ddywedais i yn fy natganiad y byddwn ni'n ofalus iawn i sicrhau bod yr amddiffyniadau cywir i gyd ar waith, felly os na wneir y gwaith hyd at safon dderbyniol, mae yna lwybr cyfreithiol i unioni hynny, ond fe fydd yna broses archwilio fwy cadarn a phroses hapwiriohefyd i gyd-fynd â honno. Fe hoffwn i ond pwysleisio bod y mwyafrif helaeth o bobl sydd wedi elwa ar raglenni Cartrefi Clyd Cymru yn y gorffennol—ac, yn wir, ar raglenni Llywodraeth y DU yn y gorffennol—yn fodlon ar hynny, ond fe brofodd nifer o bobl waith nad oedd yn bodloni'r safon, ac rydym ni'n awyddus i sicrhau bod hynny'n cael ei gyfyngu neu ei ddileu yn gyfan gwbl. Felly, rwy'n cytuno â hynny i gyd. Ond y rheswm pam mae hyn yn cael ei gyflwyno nawr yw oherwydd ein bod ni'n dymuno i'r data fod ar gael er mwyn i ni allu rhoi cyngor priodol i bobl gyda phob un o'r mathau o dai yr ydym ni'n ymdrin â nhw yn bennaf yng Nghymru. Ynglŷn ag adeiladau rhestredig, mae arnaf i ofn y bydd yn rhaid i mi ysgrifennu atoch chi ynglŷn â hynny, Mabon, oherwydd un o'r problemau gydag adeiladau rhestredig yw eu bod nhw'n tueddu i fod yn unigryw, ac os oes gennych chi eiddo sy'n hŷn—mae gennyf innau eiddo sy'n hŷn—mae hi'n anodd iawn cael y cyngor priodol ar gyfer hwnnw. Felly, rwyf i am ysgrifennu atoch chi ar wahân ynglŷn â hynny. Mae yna gyfres gymhleth iawn o bethau yr ydym ni'n eu gwneud i geisio cwmpasu pobl sydd â thai anarferol sydd ag angen cymorth arbenigol. O ran y rhaglenni blaenorol, rwy'n cyhoeddi'r rhaglen newydd heddiw, ond yn y pen draw, Dirprwy Lywydd, fe fyddwn ni'n cyflwyno'r ymateb i'r hen raglenni, yr adroddiadau gwerthuso a monitro. Yn sicr, fe fyddaf i'n gwneud hynny yn y dyfodol rhagweladwy, ond dim ond cyhoeddi'r rhaglenni newydd yr wyf i heddiw. Yn amlwg, nid yw'r wybodaeth honno gennym ni ar hyn o bryd. O ran pethau fel benthyciadau di-log ac yn y blaen, fe wnaeth Vaughan Gething a minnau lawer o waith gyda Banc Datblygu Cymru ynglŷn â'r cynnyrch a allai fod ar gael i bobl. Mae darn o waith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd ynglŷn â mecanweithiau eraill i ganiatáu i bobl ddatgarboneiddio eu cartrefi wrth iddyn nhw fyw ynddyn nhw, ac efallai dalu cost y datgarboneiddio sydd ar werth neu ar etifeddiaeth—felly, codi'r pris ar sail y tir am gost wirioneddol y gosod yn hytrach na'r budd cronedig i'r tŷ, er enghraifft. Felly, rydym ni'n edrych ar hyn o bryd ar ffyrdd y gallwn ni annog pobl a allai fod ag ased, ond sy'n dlawd o ran arian, i fuddsoddi. Rydym ni am wneud hynny'n hollol, felly rydym ni'n mynd ati i ystyried methodolegau ar gyfer hynny. Ac yna o ran eiddo masnachol—ac i'r rhai ohonoch sydd â phyllau nofio yn eich etholaethau chi, efallai yr hoffech chi ystyried hyn—mae gennym ni wasanaeth ynni Llywodraeth Cymru, sydd â benthyciad di-log cylchredol, ac mae hwnnw'n gweithio yn union fel yr oeddech chi'n ei ddisgrifio. Felly, yn waelodol, mae'r benthyciad yn cael ei roi i osod beth bynnag fyddo'r dechnoleg adnewyddadwy—paneli solar, yn aml, ar gyfer pwll nofio, er enghraifft—ac yna mae'r ad-daliad yn cael ei raddnodi yn ôl yr arbedion ynni yn ei sgil, dros gyfnod o amser, a'r arian hwnnw'n cael ei ailgylchu wedyn ar gyfer prosiect arall. Felly, mae hynny'n bodoli, ond ar hyn o bryd dim ond ar gyfer eiddo masnachol y mae hynny ar gael, oherwydd ystod o gymhlethdodau cyfreithiol nad wyf i am ymhelaethu arnyn nhw. Ac yna roeddwn i'n dymuno dweud hefyd ein bod ni'n wirioneddol awyddus i bobl fod â ffydd yn y cyngor y maen nhw'n ei gael. Fe ddywedais i yn fy natganiad ein bod yn niwtral iawn o ran y dechnoleg yn hyn o beth, felly fe fydd y cyngor yn cwmpasu technolegau newydd wrth iddyn nhw ddod i'r amlwg, ac atebion arloesol eraill hefyd. Rwy'n awyddus iawn i fod â datrysiadau sy'n seiliedig ar ardal, a'r hyn a wnaethom ni yw gweithio yn galed iawn fel nad oes ardal sydd â rhai pobl a allai fforddio gwneud hyn eu hunain, a phobl eraill na allen nhw fforddio i'w wneud eu hunain, dan anfantais pe byddai datrysiad i'w gael i'r ardal i gyd, er mwyn i'r datrysiad aros o fewn y rhaglen. Mae nifer o brosiectau treialu o gwmpas Cymru y gallai'r Aelodau fod yn dymuno mynd i gael golwg arnynt—mae un yn etholaeth Mike Hedges yn Abertawe, lle mae cyfarpar solar wedi ei osod ar y cartrefi hynny sy'n gallu eu cael yn effeithlon. Mae'r batri storio yn cael ei rannu wedyn ac mae'r ynni yn cael ei rannu rhwng y gymuned gyfan. Felly mae atebion arloesol iawn yn yr arfaeth fel rhan o'r rhaglen hon. Jenny Rathbone AC: Mae heddiw yn ddiwrnod ar gyfer newyddion gwirioneddol dda. Diolch yn fawr iawn i chi, Gweinidog, am eich datganiad. Rwy'n croesawu'n fawr y cyngor rhad ac am ddim, diduedd y gall unrhyw un ei gael ynglŷn â sut i ddatgarboneiddio'r adeilad y mae'n byw ynddo, neu y mae'n berchen arno ac yn ei roi ar rent. Oherwydd mae'n rhaid i mi dybio nad yw'r rhan fwyaf o bobl yn gwneud y peth rhesymegol. Os ydyn nhw'n berchen ar dŷ yn gyfan gwbl, yn sicr fe allan nhw dalu am y gwaith ôl-osod a fydd yn caniatáu iddyn nhw ddianc o grafangau polisi ynni'r Torïaid sy'n eu gorfodi nhw i dalu drwy eu trwynau am rywbeth a bennir yn unol â'r pris sy'n digwydd bod ar nwy. Felly, rwy'n cymryd naill ai nad ydyn nhw'n gwybod am yr hyn sydd ar gael neu eu bod nhw'n petruso rhag hyn oherwydd twyll o'r fath yr ydym ni newydd fod yn siarad amdano, neu eu bod nhw'n ansicr ynghylch yr hyn a fyddai orau iddyn nhw. Felly, rwy'n credu bod hwn yn ddatblygiad pwysig iawn, iawn, oherwydd mae hi'n debyg y bydd cynnydd enfawr yn y galw o ganlyniad iddo, ac roeddwn i'n meddwl tybed pa asesiad a wnaeth y Llywodraeth ynglŷn â sut y bydd hyn yn ysgogi'r farchnad ar gyfer hyfforddiant gan y dorf o blymwyr, trydanwyr a thowyr nad ydyn nhw'n deall sut i wneud hyn eto. Oherwydd rwy'n cael fy synnu yn fawr gan bobl yn rhoi llechi ar eu toeau yn hytrach na phaneli solar pan fydd angen atgyweirio'r to. Mae hi'n ymddangos i mi yn gwbl afresymol ac mae'n rhaid i hynny fod yn seiliedig ar anwybodaeth ar ran deiliad y tŷ ac, yn wir, y bobl sy'n gosod y to newydd. Diolch, Jenny— Jenny Rathbone AC: Felly, fy nghwestiwn i— Na, rydych chi wedi gofyn y cwestiwn. Fe aethoch chi ar grwydr, ac rydym ni ymhell dros amser. Diolch i chi. Julie James AC: Jenny, mae sawl peth ynglŷn â hyn. Yn gyntaf oll, fe fydd y gwasanaeth cynghori yn rhoi cyngor ynglŷn â'r ffordd orau o fuddsoddi mewn datgarboneiddio eich cartref gyda'r bwriad o leihau eich costau ynni. Nid yw rhai o'r mesurau effeithlonrwydd ynni y mae pobl yn siarad amdanyn nhw yn arbed costau mewn gwirionedd dan amgylchiadau arbennig, ac felly mae gwneud hynny'n iawn yn bwysig ofnadwy. Fe geir materion eraill yn ymwneud â gosod paneli solar ac yn y blaen, ynghylch gallu eich tŷ i fod â chyflenwad dŵr sy'n ddigonol i ddal yr ynni ac yn y blaen, felly mae hi'n bwysig iawn cael y cyngor priodol ar gyfer y math o gartref sydd gennych chi. Ac yna'r peth arall i'w ddweud yw mai'r ffordd y mae'r farchnad dai wedi bod yn gweithio yw hon yn unig, yn arbennig dros 14 mlynedd diwethaf o Lywodraeth Geidwadol, y duedd yw mai pobl sydd wedi ymddeol ac sydd wedi cael budd o lywodraethau Llafur cynharach sydd â digon o arian i wneud hyn, ac maen nhw'n tueddu i fod yn wyliadwrus iawn ynglŷn â buddsoddi mewn rhywbeth gyda chyfnod ad-dalu o dros 10 mlynedd. Felly, mae sicrhau eich bod chi'n cael cyngor priodol ynglŷn â sut i fuddsoddi yn eich cartref yn bwysig iawn. Hefyd, un o'r pethau da prin ynghylch cost ynni yw, mewn gwirionedd, bod y cyfnod ad-dalu yn sylweddol is, wrth gwrs, oherwydd fe allwch chi dynnu eich hunan oddi ar y grid. Ond nid yw llawer o bobl yn deall sut mae hynny'n gweithio ac nid ydyn nhw'n deall sut mae'r tariff yn gweithio. Mae gennym broblemau gyda'r grid mewn rhai rhannau o Gymru—nid ym mhobman, wrth gwrs, ond mewn rhai rhannau o Gymru mae problemau grid gwirioneddol o ran cysylltu â'r grid ar gyfer llif dwy ffordd. Felly, mae hynny ychydig yn gymhleth ac mae hi'n bwysig cael cyngor priodol. Er hynny, fel dywedais i wrth Mabon, rydym ni'n gweithio yn brysur iawn gyda Banc Datblygu Cymru ac, mewn gwirionedd, gyda benthycwyr eraill i weld a allwn roi cynlluniau ar y gweill a fydd yn caniatáu i bobl gael arian drwy ryddhau ecwiti, er enghraifft, neu i weld a allem ni osod fel rhan o gynllun Llywodraeth Cymru ac yna defnyddio system pridiant tir ar gyfer y gost o osod fel y caiff ei had-dalu ar etifeddiaeth neu ar werthiant, er enghraifft. Felly, mae yna bethau yr ydym ni'n gweithio arnyn nhw. Ond fe wyddom ni, mewn gwirionedd, fod cyfran fawr iawn o bobl sydd ag angen gwaith ôl-osod ar eu cartrefi yn y dosbarth incwm is mewn gwirionedd, ac felly fydd hyn yn gweithio ar gyfer hynny. Rydyn ni wedi bod yn gwneud llawer o waith gyda chynghorau lleol ledled Cymru yn rhan o'n gwasanaeth ynni i lunio mapiau o ynni yng Nghymru fel ein bod ni mewn gwirionedd yn gwybod ble mae cymunedau ag ynni uchel ac effeithlonrwydd thermol isel, ac fe allwn ni anelu, mewn datrysiad ar sail ardal, at rai o'r cymunedau hynny hefyd. Rwy'n awyddus iawn i weithio gyda phobl mewn etholaethau fel eich un chi. Gyda rhes o dai teras, er enghraifft, mae hi'n ddigon posibl fod yna ateb ardal ar gyfer hynny a allai weithio yn dda iawn. Yr hyn y byddwn ni'n ei wneud yw cyllido—yn rhan o'n cytundeb cydweithio, gydag Ynni Cymru, fe fyddwn ni'n ariannu gweithwyr a fydd yn mynd allan i helpu cymunedau i ddod at ei gilydd gyda'r math o gynllun yr ydym ni'n dymuno iddyn nhw ei gyflawni. Fe gyhoeddodd fy nghyd-Weinidog, Jane Hutt, er enghraifft, rai o'r cynlluniau ar gyfer helpu pobl i brynu olew mewn llwyth mawr, oherwydd os dewch at eich gilydd fe gewch chi bris llawer gwell. Nid yw hynny'n golygu y byddwch chi'n datgarboneiddio eich cartref, ond yn sicr fe fydd hynny'n helpu gyda'ch problemau chi o ran tlodi tanwydd. Felly, mae yma nifer o gymhlethdodau. Y tamaid olaf yw: o ran y pwynt am sgiliau, rydyn ni wedi cael sgyrsiau gyda fy nghyd-Weinidog i yma Jeremy Miles a gyda Vaughan Gething. Roedd llawer o'r hyn a wnaethom ni yn y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio yn ymarferiad ar sail sgiliau i ganfod, mewn gwirionedd, pa sgiliau sydd eu hangen: ai dim ond arfogi eich plymwr o'r newydd neu, mewn gwirionedd, a ydych chi'n edrych ar fath gwahanol o grefftwr, y mae angen iddo allu ymdrin â thrydan a phlymio? Mae hyn yn gyffredin iawn i rai o'r systemau hyn. Rydym ni wedi bod yn gweithio gyda'r colegau addysg bellach a gyda'n fforwm adeiladu. Mae Vaughan Gething, Lee Waters a minnau'n rhedeg—rwy'n credu mai unwaith bob chwarter—fforwm adeiladu, pryd rydyn ni'n siarad â'r mentrau bach a chanolig a chwmnïau ledled Cymru ynglŷn â sut i ddwyn cynllun hyfforddi at ei gilydd ar gyfer eu gweithlu presennol, oherwydd fe fydd angen ailhyfforddi tua 60 y cant o'r gweithlu presennol rywbryd dros y 10 mlynedd nesaf. Felly, rydym ni'n edrych yn ofalus iawn ar gynllun sgiliau hefyd. Yn olaf, gan ddolennu yn ôl at y cyngor, rhan o'r rheswm pam rydym ni'n awyddus i roi'r cyngor ar waith yw oherwydd, mewn gwirionedd, mae'n rhaid dod o hyd i'r crefftwr priodol ac osgoi pobl sy'n rhoi cyngor gwael i chi a dyna un o'r rhesymau mwyaf pam nad yw pobl yn mynd amdani. Jane Dodds AS: Prynhawn da, Gweinidog, fe hoffwn innau hefyd roi croeso cynnes iawn i'r datganiad hwn; mae cymaint ynddo ac mae hi'n wirioneddol wych gweld hyn. Fe hoffwn i ddim ond crybwyll mater amserlenni. Yn eich datganiad chi, rydych chi'n dweud y bydd strategaeth gwres eleni, ac roeddwn i'n meddwl tybed a fyddech chi'n dweud ychydig bach mwy wrthym ni ynglŷn â phryd y bydd hynny'n digwydd, ond hefyd, yn sylfaenol, pryd y byddwn ni'n gweld cyflwyno'r rhaglen—hynny yw, pan fydd cartrefi mewn gwirionedd â chyfle i gyflawni'r cynlluniau hyn. Fe wyddom ni y bydd hi'n cymryd 134 o flynyddoedd dan gynllun cyfredol Nyth i inswleiddio pob tŷ yng Nghymru a bod bron i 200 o bobl yng Nghymru wedi marw, yn ôl Climate Cymru, o ganlyniad i fyw mewn cartrefi oer, llaith ac wedi eu gwresogi yn wael iawn. Mae hwn yn achos brys mawr, felly fe fyddai hi'n dda iawn gennyf i glywed am yr amserlenni, os caf i, oddi wrthych chi, Gweinidog. Diolch yn fawr iawn. Julie James AC: Ie, diolch, Jane. Rwy'n deall yn llwyr yr angen am frys, ond mae'n rhaid i ni wneud hyn yn iawn hefyd. Fel dywedodd llawer o bobl, mae hi'n bwysig bod â'r datrysiad iawn i'r tŷ iawn hefyd. Rydym ni wedi ymestyn rhaglen Nyth drwy'r gaeaf nesaf, dim ond ar gyfer sicrhau nad oes bwlch, ond rwy'n obeithiol iawn y byddwn ni'n rhoi'r rhaglen hon ar waith tua dechrau'r gaeaf nesaf. Dyna'r hyn yr ydym ni'n ei fwriadu ar hyn o bryd, ond fe wnaethom ni'n siŵr y bydd rhaglen Nyth yn parhau, dim ond er mwyn sicrhau nad oes yna fwlch. Dim ond dweud—gydag ymddiheuriadau i Mabon, oherwydd yn amlwg nid wyf wedi troi at y dudalen gywir yn fy mriff yma—rhaglen Cartrefi Clyd, o 2010 hyd at ddiwedd Mawrth 2022, fe wnaethom wario £420 miliwn a gwella cartrefi ar gyfer 73,000 o aelwydydd ar incwm is. Felly, mae hyn yn sylweddol iawn eisoes, ond, rydych chi'n hollol iawn, mae angen gwneud llawer mwy. Mae hwn yn ddull gwahanol, fel clywsoch chi fi'n dweud wrth eraill, felly mae hwn yn ddull llawer mwy cyfannol. Rydym ni'n annog pobl i ddod ynghyd â chymdogion hefyd i wneud y defnydd gorau o ystafelloedd sy'n wynebu'r de a threfniadau gyda phympiau gwres o'r ddaear lle na fyddai pob tŷ unigol yn gallu rhedeg hynny, ond mae'r ynni a gynhyrchir yn ddigonol ar gyfer nifer o dai a, phe byddech chi'n cyfuno gyda'ch gilydd, fe allech chi gael y buddsoddiad. Felly, rydyn ni'n awyddus iawn i helpu pobl i ddod at ei gilydd yn y ffordd honno i sicrhau datrysiadau cymunedol. Rydym ni'n rhai da iawn am ddatrysiadau cymunedol yng Nghymru, ac rydym ni wedi bod yn gweithio gyda nifer o awdurdodau lleol—Caerdydd, yn arbennig, yn dod i'r meddwl—ynglŷn â dod o hyd i ddatrysiadau ynni ar gyfer nifer o gartrefi. Mae Mike yn ymwybodol iawn o'r un yn ei etholaeth ef yr wyf i wedi ymweld ag ef sawl gwaith. Felly, mae hwn yn beth arloesol iawn. Un o'r materion mawr i ni fydd sicrhau ein bod ni'n gwneud yr asesiad cychwynnol hwnnw o'r cartref mewn ffordd briodol, a'n bod ni'n gosod yr inswleiddio thermol mewn ffordd briodol wedyn yn ogystal â'r system wresogi. Fel dywedais i, i rai cartrefi, mewn gwirionedd, dim ond sicrhau bod eu boeler nwy presennol mor effeithlon â phosibl wrth inswleiddio eu cartref fydd y datrysiad yn y cyfamser, ac, i eraill, fe fydd angen ôl-osod y cwbl. Sioned Williams MS: Fel fy nghyd-Aelodau, dwi wedi bod yn disgwyl yn eiddgar ac yn aros yn llawer rhy hir am y datganiad hwn am raglen Cartref Clyd nesaf y Llywodraeth. Felly, rwy'n ddiolchgar i gael y cyfle byr yma—trueni ein bod ni ddim yn gallu cael mwy o amser i drafod y rhaglen bwysig yma, a'n bod ni jest yn cael munud yr un i holi rhai o'r cwestiynau sydd yn dal angen atebion. Mae llawer i'w groesawu yma, yn sicr, gan gynnwys ffocws ar gefnogi'r rhai sydd lleiaf abl i dalu a bod y mesurau hynny'n mynd i fynd yn ddyfnach ar eu cyfer nhw. Ond, o ran y cymhwysedd, beth yw'r diffiniad o'r trothwy lefel incwm? A fydd yna ffactorau eraill ar wahân i incwm yn cael eu hystyried yn rhan o'r darlun yma o'r cymhwysedd—nifer ar yr aelwyd, ffactorau lleol, cyflyrau iechyd, anableddau ac yn y blaen? Mae'n dda clywed bod y gyllideb yr eiddo yn mynd i gael ei chynyddu, felly beth fydd lefel y cap cyllido ar bob eiddo? A'r cwestiwn mawr yma rydym ni wedi eich clywed chi'n sôn tipyn amdano fe nawr, eto, mewn termau sydd ddim yn benodol iawn, yw pryd. Mae pennaeth Cymru National Energy Action, Ben Saltmarsh, wedi dweud ei bod hi'n gwbl angenrheidiol bod y cynllun yn weithredol y gaeaf hwn, felly yr amserlen yna—ydy dechrau y gaeaf, fel dŷch chi newydd sôn, yn meddwl Tachwedd 2023? Julie James AC: Diolch, Sioned. Nid wyf i'n anghytuno â llawer o'r hyn a wnaethoch chi ei ddweud nawr. Ni allaf i ddweud wrthych chi'n onest ai mis Tachwedd fydd hi, oherwydd rydym ni ar ganol y broses gaffael ar hyn o bryd, ac, mae arnaf i ofn, 'Mae hynny'n ddibynnol,' yw'r ateb ar gyfer llawer o hynny, fel mae hi'n digwydd. Felly, os bydd y broses gaffael yn mynd yn ddidrafferth, ni fydd yna broblem o ran dechrau'r gaeaf; pe byddai anawsterau ar y ffordd, mae hi'n ddigon posibl mai ymhellach ymlaen ym mis Rhagfyr fydd hi. Dyna pam rydym ni wedi ymestyn rhaglen Nyth i sicrhau na fydd bwlch yn y ddarpariaeth. Mae hon yn rhaglen o fath gwahanol. Mae hi'n anodd iawn ateb y cwestiwn, 'Beth mae "incwm isel" yn ei olygu?', oherwydd mae hyn yn dibynnu hefyd ar sut mae'r gyfrifiannell tlodi tanwydd yn gweithio. Yn y bôn, nid yw'n destun prawf modd, felly fe fyddwch mewn tŷ sydd â Thystysgrif Perfformiad Ynni E, oni bai bod gennych chi gyflyrau iechyd, ac os felly fe fydd Tystysgrif Perfformiad Ynni D yn cael ei gynnwys. Fe fyddwn ni'n cynnwys pobl yn D yn rhai i lenwi bwlch, os mynnwch chi, oherwydd rydym ni'n awyddus i'r rhaglen hon redeg yn ddi-dor, felly fe fyddan nhw'n cael eu rhoi ar restr aros neu restr wrth gefn, ac wedyn, a dweud y gwir, fe welwn ni sut bydd hynny'n gweithio, oherwydd mae hi'n anodd iawn mesur faint o bobl sydd mewn tlodi tanwydd. Nid yw'n fesur absoliwt, nagyw? Mae'n ymwneud â pha un a ydych chi'n gwario mwy na 45% o'ch incwm ar danwydd, ac mae pobl sydd ag incwm eithaf uchel yn gwneud hynny mewn rhai amgylchiadau. Felly, fe fyddwn ni'n gweithio ar hynny gyda phob un ohonoch chi ac yn ystyried cymunedau y gwyddom ni fod y mathau hynny o faterion yn bodoli ynddyn nhw. Felly, nid wyf i'n ceisio osgoi'r cwestiwn—mae'n un da iawn—ond rwy'n credu y bydd hi'n rhaid i mi ddod yn ôl i'r Senedd pan fyddwn ni wedi bod drwy'r cam caffael, dim ond ar gyfer dweud wrthych chi beth yw'r graddnodiad yn union, oherwydd rydyn ni wedi gofyn i'r partneriaid yr ydym ni'n caffael hyn gyda nhw i roi syniad i ni o ran sut y bydden nhw'n gwneud hynny, oherwydd rydyn ni'n dymuno iddo fod yn gaffaeliad mor eang â phosibl. Rwy'n awyddus i hyn fod o fudd i gynifer o aelwydydd â phosib yn y ffordd gyfannol honno, hefyd, ac mae hwnnw'n benderfyniad anodd, onid ydyw, oherwydd rydym ni wedi bod yn rhoi boeleri nwy effeithlon i mewn dan raglen Nyth. Mae hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i gartrefi pobl. Ond, wrth gwrs, nid yw'n eu gwneud nhw'n effeithlon o ran ynni yn arbennig felly oni bai eich bod yn cwblhau'r camau eraill hefyd, a dyna pam rydym ni wedi agor y rhaglen hon i bobl y mae rhywbeth wedi cael ei wneud ar eu cyfer nhw eisoes. Felly, pe byddai boeler nwy effeithlon o ran ynni gennych chi eisoes a roddwyd i chi dan raglen flaenorol, ond, mewn gwirionedd, yr hyn sydd ei angen arnoch chi yw inswleiddio priodol, yna fe gewch chi ymgeisio unwaith eto, oherwydd fe fyddai hynny'n caniatáu i chi gael rhywbeth arall o'r un peth efallai. Felly, os ydych chi'n dal i fod mewn tlodi tanwydd, a'ch bod chi wedi cael yr ymyrraeth honno eisoes, fe gewch chi wneud cais newydd, oherwydd fe wyddom ni nad aeth pawb o dlodi tanwydd o ganlyniad i'r ymyrraeth gyntaf honno, er y bydd hi wedi eu rhoi nhw'n is i lawr ar y raddfa. Felly, mae arnaf i ofn ei bod hi'n anodd iawn ateb y cwestiynau da iawn yr ydych chi wedi eu gofyn i mi nes ein bod ni ychydig ymhellach ymlaen yn y rhaglen, ond, Dirprwy Lywydd, rwy'n fwy na pharod i ddod yn ôl ar ddechrau'r hydref a rhoi ateb i rai o'r rhain pan fyddwn ni wedi bod trwy'r profiad. Fe gaiff Hefin David ofyn ei gwestiwn ef nawr. Hefin David AC: Diolch i chi. Yn y ddadl yr wythnos diwethaf, fe wnaethom ni ofyn am ragor o fanylion, a mawredd mawr, fe gawsom ni ragor o fanylion, sy'n bwysig iawn ac i'w croesawu yn fawr, ond mae hynny'n gwneud dewis cwestiwn yn fwy anodd. Roedd Mabon yn sôn am y ffaith bod Pred a minnau wedi mynd i gyfarfod Cyfeillion y Ddaear wythnos diwethaf gyda'r Cynghorydd Shayne Cook, yr aelod o Gyngor Caerffili sydd â chyfrifoldeb am dai, ac roedd hwnnw'n gyfarfod da iawn, gyda llawer o gwestiynau, yr ydych chi, mewn gwirionedd, wedi eu hateb nhw'n rhannol yn eich datganiad ac yn rhannol yn eich ymatebion yn y Siambr. Roedd Pred a minnau'n perfformio fel deuawd o fath. Roedd hynny'n llawer o sbort mewn gwirionedd, onid oedd, Pred? Felly, y mater yr hoffwn i ei godi yw hwn: yr esiampl yn fy etholaeth i yw Parc Lansbury, lle, o dan gynllun Arbed, roedd nifer o dai wedi eu gorffen, ond roedd nifer ohonyn nhw heb eu gorffen, a fy mhryder i—. Rydych chi wedi sôn am fflatiau a fydd yn cael eu cwblhau ar y cyd; beth am yr ystadau tai hynny sydd yn yr economi gymysg ar hyn o bryd, gyda rhai ohonyn nhw'n dai cyngor, rhai ohonyn nhw'n perthyn i gymdeithas dai, rhai yn dai preifat—sut fyddwch chi'n sicrhau nad oes rhywfaint o anghydraddoldeb yn digwydd ar draws ystadau tai o'r fath? Julie James AC: Felly, fe gaiff y rhaglen hon ei hanelu yn fwriadol tuag at ddatrysiad cymunedol o'r math hwn. Felly, gan dybio y gallwn ni helpu'r gymuned i ddod at ei gilydd gyda datrysiad y cytunwyd arno rhwng pawb—hynny yw, mae hi'n hawdd iawn dweud hynny, ond fe all fod yn anodd ei wneud, ond gan dybio bod—. Ac ni fyddem ni'n eithrio cymuned oherwydd nad yw rhai o bobl y gymuned yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd am fod eu hincwm nhw'n uwch ac nad ydyn nhw mewn tlodi tanwydd a bod yn fanwl gywir. Cyn belled â bod nifer o'r bobl yn y gymuned honno yn cael mantais ac y gellid cyflwyno datrysiad da o ran effeithlonrwydd ynni carbon isel ar draws y gymuned—. Ac rydym ni'n awyddus iawn i weithio ar y rhan honno o'r peth, ac mae'r enghraifft ym Mhenderi yn ardal Mike yn un dda iawn, ac, mewn gwirionedd, Hefin, fe fyddai hi'n werth i chi fynd i lawr i ymweld ag ef, oherwydd welwch chi sut mae hynny'n gweithio ar lawr gwlad. Felly, hen ystad o dai cymdeithasol yw honno, gyda llawer o berchnogaeth breifat ynddi hi nawr, drwy gynllun Hawl i Brynu ac yn y blaen, ac ystad newydd o dai gerllaw yn dod at ei gilydd i gyflwyno datrysiad ynni. Felly, mae hynny'n deillio o'r hyn yr ydych chi'n ei ofyn i ryw raddau. Ac yn olaf, Mike Hedges. Mike Hedges AC: Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r datganiad gan y Gweinidog yn fawr iawn. Mae angen cartref clyd ar bawb ac mae pawb yn haeddu un. Mae cartref oer yn effeithio ar iechyd yn ddifrifol ac, i blant, fe all hynny achosi tanberfformio yn yr ysgol. Rwy'n croesawu'r ffaith fod bob cartref yng Nghymru yn gallu troi at y rhaglen Cartrefi Cynnes i gael cyngor a chymorth ynglŷn â'r ffordd orau o wella effeithlonrwydd ynni eu cartref. A yw'r Gweinidog yn cytuno, i lawer o bobl, mai'r unig beth sydd ei angen arnyn nhw yw cyngor? Mae hi'n bwysig gosod trothwy incwm isel, yn hytrach na seilio cymhwysedd ar fudd-daliadau prawf modd yn unig, sy'n eithrio'r rhai sydd ag incwm ychydig yn uwch na'r trothwy budd-daliadau, ac fe allai'r rhai o'r rhain fod mewn mwy o angen. Rhywbeth sydd am fod o fudd i lawer yn fy etholaeth i yw na fydd aelwydydd yn cael eu cyfyngu i geisiadau sengl erbyn hyn. A fydd yn gallu ariannu atgyweirio problemau oherwydd gwaith a wnaethpwyd yn flaenorol, fel yr inswleiddio wal geudod amhriodol sydd wedi effeithio ar etholwyr llawer o Aelodau yn y fan hon? A oes cyfyngiad ar nifer y ceisiadau y gall aelwyd eu cyflwyno? Sut fyddai hynny'n gweithio ar gyfer tai ar rent preifat? Ac yn olaf, grŵp Pobl yn Abertawe a wnaeth y gwaith. Julie James AC: Ie, diolch i chi, Mike. Roeddwn i'n gwybod mai Pobl a wnaeth hyn. Mae hwn yn gynllun da iawn ac, mewn gwirionedd, maen nhw'n falch iawn ohono, felly, pe byddai Aelodau yn dymuno mynd yno, mae hi'n werth ymweld â'r lle mewn gwirionedd. Mae'n rhoi syniadau gwirioneddol eang i chi o ran yr hyn sy'n bosibl; maen nhw wedi gweithio yn galed iawn gyda'r gymuned yno. Felly, ie, Mike, rwy'n credu mai ateb cadarnhaol sydd i bob un o'ch cwestiynau chi nawr. Felly, yn bendant ni fyddwn ni'n profi modd; yn bendant, mae hyn ar gyfer pobl sydd â modd ychydig dros y trothwy ar gyfer budd-daliadau, a phobl eraill hefyd a allai fod ychydig dros hwnnw, oherwydd eu bod nhw mewn tlodi tanwydd ac mewn cartref aneffeithlon iawn. Yn bendant mae gennym ni ddatrysiad i'r gymuned ac, yn sicr, fe allwch chi wneud cais fwy nag unwaith. Felly, rwy'n falch iawn o ddweud fy mod i'n credu mai ymateb cadarnhaol sydd yna i'ch cwestiynau chi i gyd. Diolch. Diolch i'r Gweinidog. 4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Sefydlu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil Eitem 4 y prynhawn yma yw'r datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg, sefydlu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, a galwaf ar y Gweinidog i wneud y datganiad—Jeremy Miles. Jeremy Miles AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi’n falch o gadarnhau y bydd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn cael ei sefydlu ym mis Medi, cyn dod yn weithredol fis Ebrill nesaf. Y prif nod wrth sefydlu’r comisiwn yw creu corff annibynnol sy'n gallu delio â chynllunio strategol a chyllid ar draws y sectorau addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru, gyda ffocws allweddol ar lwybrau dysgwyr a llwybrau gyrfa. Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i ddatblygu ein rhaglen ar gyfer diwygio addysg, a gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod anghydraddoldebau addysgol yn lleihau a bod safonau'n codi. Mae cael pob agwedd ar addysg drydyddol ac ymchwil o dan un corff yn gam hanfodol i'r cyfeiriad yma. Bydd gan y comisiwn rôl flaenllaw o ran gwella pob agwedd ar lesiant ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol, a bydd yn cael ei rymuso i sicrhau bod y sector addysg drydyddol wedi’i drefnu mewn ffordd sy’n diwallu anghenion dysgwyr, yr economi, cyflogwyr a'r genedl gyfan. Mae’r dyletswyddau strategol yn allweddol wrth nodi ein gweledigaeth ar gyfer y sector, yn ogystal â'n datganiad o flaenoriaethau yr wyf yn bwriadu ei gyhoeddi ar ddiwedd y flwyddyn. Bydd y gwaith o ddatblygu'r datganiad yn parhau dros y misoedd nesaf, a byddaf yn ystyried barn rhanddeiliaid, y sector, y comisiwn ac, wrth gwrs, fy nghydweithwyr yn y Cabinet ac Aelodau'r Senedd. Jeremy Miles AC: Fel y gŵyr yr Aelodau, rwyf wedi penodi Simon Pirotte yn brif swyddog gweithredol cyntaf y comisiwn. Mae penodiad Simon wedi cael croeso cynnes ar draws y sector ac wedi'i gymeradwyo gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Bydd Simon yn dechrau yn ei swydd fis Medi eleni am gyfnod o ddwy flynedd. Ar hyn o bryd, mae Simon yn bennaeth ac yn brif weithredwr Coleg Penybont, ac mae wedi gweithio yn y sector addysg ers dros 30 mlynedd, gyda phrofiad yn y sectorau addysg uwch, addysg bellach ac ysgolion yng Nghymru, Lloegr ac UDA. Rwy'n hyderus bod cyfuniad yr Athro Fonesig Julie Lydon fel cadeirydd, yr Athro David Sweeney fel dirprwy gadeirydd, a Simon Pirotte fel Prif Swyddog Gweithredol, yn darparu profiad a gwybodaeth arweinyddiaeth eang i dîm a all arwain y comisiwn newydd wrth gyflawni ein gweledigaeth arloesol ac uchelgeisiol ar gyfer sector addysg drydyddol ac ymchwil Cymru. Gan droi at benodi aelodau bwrdd cyffredin y comisiwn, a fydd yn dechrau yn eu swyddi ym mis Medi, cawsom gyfanswm o 108 o geisiadau ar gyfer y rolau hyn, sydd, yn fy marn i, yn dangos y gefnogaeth a'r brwdfrydedd o bob rhan o'r sector i'r comisiwn. Roedd y ceisiadau hyn yn cynnwys nifer o siaradwyr Cymraeg, neu unigolion â phrofiad o ddarparu neu hyrwyddo addysg neu hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyrwyddo addysg drydyddol cyfrwng Cymraeg yn un o ddyletswyddau strategol y comisiwn, ac rwyf wedi dynodi'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn ffurfiol i gynghori'r comisiwn ar gyflawni'r ddyletswydd honno. Bydd hyn yn galluogi'r comisiwn i gael budd o rwydweithiau presennol y coleg a'i gyfoeth o brofiad o ddatblygu a chefnogi addysg drydyddol cyfrwng Cymraeg. Yfory, byddaf yn lansio ymgynghoriad sy'n ceisio barn rhanddeiliaid ar y rhestr o undebau llafur a chyrff cynrychiolaeth dysgwyr a all enwebu unigolion at ddiben penodi aelodau cyswllt y comisiwn. Rwy'n bwriadu penodi'r aelodau cyswllt erbyn mis Ebrill 2024, er mwyn cyfrannu at y comisiwn cyn gynted ag y bydd yn weithredol. Bydd yr aelodau hyn yn chwarae rhan allweddol, gan sicrhau mewnbwn democrataidd i benderfyniadau'r comisiwn drwy drefniant partneriaeth gymdeithasol, a helpu i sicrhau bod llais y dysgwr yn cael ei glywed ar lefel y bwrdd ac yn llywio'r penderfyniadau hynny. Mae'r Ddeddf yn cynnwys nifer o ddiwygiadau a fydd yn cyflawni gwelliannau uniongyrchol i ddysgwyr. Mae'r rhain yn cynnwys y cod ymgysylltu â dysgwyr, a darpariaethau mewn perthynas â lles staff a myfyrwyr, a thrwy hynny yn rhoi dysgwyr wrth wraidd y diwygiadau rydym yn ceisio eu cyflawni drwy'r comisiwn. Jeremy Miles AC: O ran gweithredu'r Ddeddf yn ehangach, bydd hefyd cyfres o ymgynghoriadau eraill dros y misoedd nesaf a fydd yn cael eu rheoli'n ofalus er mwyn osgoi baich gormodol ar y sector. Dwi’n ysgrifennu at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yr wythnos hon, yn nodi rhagor o fanylion am y rheoliadau a'r ymgynghoriadau arfaethedig a fydd yn cefnogi gweithredu'r Ddeddf hon. Yn yr hydref, byddwn ni’n ymgynghori ar reoliadau drafft sy'n angenrheidiol i gefnogi'r broses o weithredu'r gofrestr o ddarparwyr addysg drydyddol. Byddaf hefyd yn gwneud Gorchymyn cychwyn dros yr haf, a fydd yn cynnwys darpariaeth i ddod â swyddogaethau penodol o’r Ddeddf i rym yn rhannol, er mwyn galluogi'r comisiwn i ymgymryd â gweithgareddau paratoi dros yr hydref a'r gaeaf, i gefnogi gweithredu swyddogaethau allweddol. Dirprwy Lywydd, mae hon yn Ddeddf uchelgeisiol sy'n cyflwyno diwygiadau eang, gan roi lle canolog i ddysgwyr mewn sector addysg drydyddol sy'n diwallu anghenion pobl o bob oed a chyda gwahanol ddiddordebau, cymwyseddau, anghenion a dyheadau. Dwi’n falch o'r cynnydd rŷn ni wedi ei wneud i weithredu'r Ddeddf a sefydlu'r comisiwn, ac rwy'n ddiolchgar am y gefnogaeth a'r ymgysylltiad rydw i a'm swyddogion wedi’u cael o bob rhan o'r sector a'r Senedd. Laura Anne Jones AC: Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Drwy gydol y gwaith craffu ar y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru), mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi dadlau a cheisio pasio gwelliannau ar yr angen gwirioneddol i'r comisiwn a Llywodraeth Cymru fod, wrth gwrs, hyd braich oddi wrth ei gilydd. Dywedais hefyd y byddwn yn cadw llygad ar faint o ddylanwad mae Gweinidogion yn ei gael dros y comisiwn er mwyn gwneud yn siŵr nad yw ei annibyniaeth a'i ymreolaeth yn cael eu peryglu wrth iddo gyflawni ei ddyletswyddau. Eto dyma ni, yn anffodus, gydag amheuon ar y gorwel ynghylch sut y dewiswyd y cadeirydd, gan arwain at gwestiynau amlwg o ar draws y sbectrwm gwleidyddol yn fy mhwyllgor plant a phobl ifanc, ynghylch pa mor agos oedd y Gweinidog i benodi'r cadeirydd newydd, ar ôl i'r panel, wrth gwrs, fethu â phenodi ymgeisydd fel rhan o'r broses recriwtio rhwng mis Tachwedd 2022 a mis Chwefror 2023. Cyfaddefodd y cadeirydd newydd, er ei bod yn ddymunol iawn ac yn dalentog iawn mewn sawl ffordd, nad oedd ganddi'r profiad o ymdrin â chyllideb mor sylweddol â'r hyn y bydd gan y comisiwn addysg drydyddol fynediad ato, sef amcangyfrif o £800 miliwn y flwyddyn—mwy nag unrhyw gorff cyhoeddus arall yng Nghymru y tu allan i GIG Cymru. Pwysleisiais wrth graffu ar y Bil hwn fod yn rhaid dangos cyfrifoldeb ariannol priodol. Felly, Gweinidog, fy nghwestiwn cyntaf yw: pa sicrwydd sydd y bydd y cyllidebau'n cael eu goruchwylio'n briodol gan ddwylo profiadol? Nododd y pwyllgor plant, pobl ifanc ac addysg, wrth benodi'r cadeirydd a'r dirprwy gadeirydd, eu siom nad yw'r cymysgedd o gefndiroedd y ddau benodiad yn rhoi effaith i bob rhan o'r sector. Cefais fy siomi gyda'r broses a ddilynwyd ar gyfer yr apwyntiadau hyn. Mae hwn yn gomisiwn pwysig dros ben, a fydd yn gyfrifol am sicrhau bod yr uchelgeisiau beiddgar a nodir yn cael eu cyflawni, ac mae'n hanfodol nad yw pob rhan o'r comisiwn yn colli allan ar gyllid, fel, colegau chweched dosbarth o bosibl, oherwydd diffyg profiad yr apwyntiadau yn hyn o beth. Felly, Gweinidog, o ystyried nad yw'r cadeirydd a'r dirprwy gadeirydd yn meddu ar ddigon o brofiad yn cwmpasu ehangder y bobl a fydd yn y comisiwn i gyd, pa sicrwydd allwch chi ei roi i'r sector bod y comisiwn yn cynnwys y profiad angenrheidiol ac nad yw'n effeithio ar ehangder y sector hwnnw? Ac, yn olaf, ar ein hymchwil a'n datblygiad, ymchwil ac arloesi yng Nghymru, y mae angen cefnogaeth, cyllid a strategaeth sylweddol arnyn nhw, bu diffyg mawr o ran hynny yng Nghymru, ac mae sefydliadau yng Nghymru wedi bod yn galw'n daer amdano. Yn ystod Cyfnod y Pwyllgor, dywedodd y Cadeirydd newydd: 'Rwy'n credu, mae'n debyg, mai'r maes sy'n fwy o ddallbwynt i mi fyddai hwnnw yn ymwneud ag ymchwil'. Felly, sut allwn ni fod yn sicr y bydd y comisiwn yn rhoi'r sylw, y cyllid a'r arweinyddiaeth briodol sydd eu hangen i ysgogi'r sector ymchwil a datblygu hwnnw er mwyn sicrhau ei fod yn ffynnu? Ac onid ydych chi'n cytuno ei bod yn gwbl hanfodol bod ymchwil a datblygu yn rhan fawr a sylweddol o waith y comisiwn wrth symud ymlaen, ar gyfer y manteision i Gymru y byddai'n eu cyflwyno, wrth gwrs? Ac, yn olaf, a gaf i ddymuno pob llwyddiant i'r comisiwn wrth symud ymlaen, gan fod yr hyn sydd o'i flaen yn dasg bwysig iawn? Jeremy Miles AC: Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny, ac rwy'n siŵr y bydd y comisiwn yn croesawu'r farn honno wrth gloi gan lefarydd addysg y Ceidwadwyr. Dydw i ddim yn siŵr fy mod wedi dilyn y ddadl yn llawn yn y cwestiwn. Cyfeiriodd yr Aelod at benodiad y cadeirydd droeon. Doeddwn i ddim yn siŵr a oedd hi'n golygu'r prif swyddog gweithredol ynteu'r cadeirydd. Beth bynnag, roedd y pwyllgor ei hun yn awyddus i sicrhau bod cymysgedd da o brofiad yn cwmpasu addysg uwch, addysg bellach ac ymchwil ymhlith y tîm arweinyddiaeth yn y comisiwn. Ac rwy'n gwbl hyderus bod profiad y dirprwy gadeirydd, gyda phwyslais penodol ar ymchwil, sef y pwynt y pwysleisiodd hi ei fod yn gwbl hanfodol, ac rwy'n cytuno â'r pwynt hwnnw—mae ei brofiad yn y gymuned ymchwil yn ddigyffelyb. Ac mae'r profiad o addysg bellach yn gwbl flaenllaw ac yn ganolog wrth benodi'r prif swyddog gweithredol, sydd â hanes sylweddol o lwyddiant yn y sector addysg bellach yng Nghymru, fel arweinydd sy'n greadigol ac yn gydweithredol, sef yr union fath o berson sydd ei angen arnom ni i fod yn brif swyddog gweithredol y sefydliad newydd. Mae hi'n iawn i ddweud bod cyfrifoldebau cyllidebol sylweddol y bydd y comisiwn yn eu cyflawni. Dyna sydd wrth wraidd y rheswm pam ein bod yn ei sefydlu ar hyd braich fel yr ydym ni, a bydd hi'n gwybod fy mod wedi ateb nifer o gwestiynau am hyn tra'r oedd y Ddeddf ar ei hynt. Ond rwy'n gwbl hyderus, gyda'r tîm arweinyddiaeth sydd gennym ar waith, ynghyd â'r gwir ddiddordeb rydym wedi'i dderbyn gan bob rhan o'r sector ar gyfer swyddi ar y bwrdd, y gallwn ni fod yn gwbl hyderus y bydd materion mewn perthynas ag archwilio, rheoli ariannol, ac ati, yn cael eu cyflawni'n llawn gan arweinyddiaeth y sefydliad newydd. Sioned Williams MS: Hoffwn i ddatgan budd bod fy ngŵr yn gyflogedig gan Brifysgol Abertawe. Diolch am y datganiad, Weinidog. Mae'n destun llawenydd; mae wedi bod yn daith hir nes cyrraedd y pwynt yma, o feddwl y gofynnwyd i'r Athro Hazelkorn gynnal adolygiad o addysg a hyfforddiant ôl-statudol nôl yn 2016. Ac roeddem ni ym Mhlaid Cymru yn falch bod y camau i sefydlu'r comisiwn drwy ddeddfwriaeth yn rhan o'n cytundeb cydweithio ni gyda'r Llywodraeth. Rŷm ni'n edrych ymlaen at weld y comisiwn yn dechrau ar ei waith, a bod y weledigaeth yna o ddatblygu a chefnogi darpariaeth o safon fyd-eang, sy'n cwrdd ag anghenion pob dysgwr mewn modd integredig a blaengar, yn mynd rhagddi. Fel Laura Anne Jones, rwy hefyd yn aelod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ac felly wedi cael cyfle i fod yn rhan o'r gwrandawiad cyn penodi ar gyfer y cadeirydd, yr is-gadeirydd a, ddiwedd y mis diwethaf, ar gyfer y prif weithredwr. Rŷm ni wedi codi cwestiynau yn ein hadroddiad ar y broses o benodi'r prif weithredwr ar gyfer y corff Cymreig hynod bwysig hwn, a fydd yn ail yn unig i'r gwasanaeth iechyd gwladol o ran maint ei gyllid; cwestiynau sydd ddim mewn unrhyw ffordd yn sylw ar briodoldeb y prif weithredwr newydd ar gyfer y rôl, nac ar ei allu, ond, yn hytrach, yn ystyried y broses ar gyfer y penodiad allweddol yma. Rŷm ni'n mynegi ein siom â'r broses a ddyluniwyd na ailagorwyd y broses recriwtio agored, ac na chafodd yr ymgeisydd a benodwyd gyfweliad ffurfiol na'r elfennau eraill a fu'n rhan o'r broses agored, fel asesiad seicolegol, profion seicometreg, digwyddiad ymgysylltu â rhanddeiliaid, a gofyniad i baratoi cyflwyniad. Yn eich ymateb i'r pwyllgor, rydych chi'n tynnu sylw at y ffaith nad penodiad cyhoeddus mo hwn, ac at yr amserlen heriol o ran sefydlu'r comisiwn. Ond hoffwn i ofyn, Weinidog, a ydych chi'n cytuno yn yr achos hwn bod y broses benodi wedi bod yn ddiffygiol i raddau, ac a ydych chi'n cytuno y dylai penodiadau gweinidogol, fel penodiadau cyhoeddus, ddilyn prosesau cadarn, teg a thryloyw? I droi nawr at swyddogaethau'r comisiwn, hoffwn gael ychydig mwy o eglurder gan y Gweinidog o ran y weledigaeth ar gyfer y sector addysg uwch, a datblygu strategaeth o ran hynny, wrth i'r comisiwn ddechrau ar y gwaith. Hynny yw, beth yw'ch gweledigaeth chi o ran y cydweithredu a phartneriaeth rhwng y comisiwn a'r cyrff addysg uwch yng Nghymru sydd ei angen, er mwyn llunio'r strategaethhonno a'i gweithredu? Hoffwn i hefyd sôn am y ffocws ar ymchwil o fewn y comisiwn. Heblaw ei fod e yn nheitl y corff, a'i fod e'n un o ddyletswyddau statudol y corff, mae ymchwil yn amlwg yn mynd i fod yn faes llai efallai o ran ffocws a chyllid o'i gymharu â'r holl sectorau addysg a dyletswyddau eraill a fydd o dan reolaeth y comisiwn. Ond mae'n hollbwysig, onid yw hi, os yw Cymru o ddifrif o ran bod yn gymdeithas ac yn genedl sy'n gwneud penderfyniadau ac yn gweithredu ar sail ymchwil Cymreig. A gyda'r diffyg o ran cronfeydd strwythurol yr Undeb Ewropeaidd, mae ymchwil o fewn addysg uwch yng Nghymru yn profi toriadau enbyd a pheryglus, ar adeg pan fo angen i'r sector fod mor gystadleuol ac mor ystwyth â phosibl i sicrhau cyllid drwy UK Research and Innovation. Felly, mae dirfawr angen eglurder a chyfeiriad ar gyfer y blynyddoedd nesaf, ac mae angen i'r sector addysg uwch yng Nghymru fod yn lle da hefyd i fod yn ymchwilydd. Felly, beth yw'ch gweledigaeth chi o ran sut y dylai'r comisiwn gyflawni hynny? Ac yn olaf, mae Plaid Cymru'n croesawu'n fawr eich cadarnhad y prynhawn yma o ddynodiad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gynghori'r comisiwn ar ei ddyletswydd i hyrwyddo addysg trydyddol cyfrwng Cymraeg, gan gydnabod rôl greiddiol y coleg yn strategaeth Gymraeg y Llywodraeth. Mae'n allweddol nawr fod y comisiwn yn ymroi i'r berthynas hollbwysig hon, er mwyn cwrdd â'i dyletswyddau statudol o ran yr iaith Gymraeg, gan hybu ac annog y galw ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg ôl 16, nid ei gwrdd yn unig. Ydych chi'n cytuno, Weinidog, fod angen i'r cyfle hwn gan y comisiwn i ymestyn darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog gael ei ddefnyddio i'r graddau llawnaf posib? Beth yw'ch barn chi o ran y cyfleon i wneud hyn, ac a fyddwch chi'n sicrhau bod yna benodi aelodau sy'n medru'r Gymraeg, sydd â phrofiad o addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, i fwrdd y comisiwn? Mae'n dda clywed bod nifer wedi gwneud cais am hynny, achos dyn ni'n teimlo bod hynny'n hollol angenrheidiol er mwyn cyflawni hyn. Jeremy Miles AC: Diolch i'r Aelod am yr amryw gwestiynau hynny. Gwnaf i geisio fy ngorau i'w hateb nhw mor llawn ag y gallaf i. O ran apwyntiad y prif weithredwr, jest i fod yn glir, o ran proses, ychwanegwyd cam i'r broses y tro yma er mwyn sicrhau y tegwch a'r tryloywder mae'r Aelod yn dweud sydd mor bwysig—ac rwy'n cytuno gyda hi bod yr egwyddorion hynny yn bwysig ac rwy'n sicr yn fy meddwl eu bod nhw wedi cael eu cyflawni yn yr achos hwn. Ond ychwanegwyd cam y tro yma fel bod gan y pwyllgor gyfle i gael y drafodaeth fyddai ddim wedi bod ganddyn nhw fel arall. Felly, dyma i chi enghraifft o gymryd cam penodol i sicrhau bod y broses honno yn gallu bod yn gyhoeddus ac yn dryloyw. Gwnes i ddarllen adroddiad y pwyllgor, a gyda phob parch, rwy'n anghytuno gyda'r casgliad yn hyn o beth, ond yn falch o weld bod y pwyllgor yn cadarnhau bod y prif weithredwr â'r sgiliau a phrofiad priodol iawn ar gyfer y gwaith. Mae'r pwyllgor wedi fy annog i sicrhau ein bod ni'n edrych ar y farchnad dalent, os hoffwch chi, yn ehangach. Gwnaethpwyd hynny. Mae'r pwyllgor wedi gofyn i sicrhau bod apwyntiad yn adlewyrchu ystod o sgiliau, yn cynnwys sgiliau yn y sector addysg bellach. Gwnaethpwyd hynny. Gwnaeth y pwyllgor ofyn inni sicrhau ein bod ni'n bwrw ati gyda'r broses o sefydlu'r comisiwn, fel bod hynny'n digwydd mewn ffordd oedd yn amserol ac ac yn gallu sicrhau bod buddiannau'r Ddeddf yn cael eu gweithredu cyn gynted â phosibl. Gwnaethpwyd hynny. Ac mae'r pwyllgor yn gyson wedi gofyn i fi sicrhau fy mod i'n adlewyrchu y consyrn a blaenoriaethau'r sector a'r rhanddeiliaid wrth fynd ati i sefydlu'r comisiwn, ac mae'r ymateb wrth y sector o groeso cyffredinol i'r apwyntiad yn dangos yn glir hefyd. Gwnaethpwyd hynny. Felly, rwy'n hapus ddigon bod y broses wedi bod yn ddigonol ac yn deg ac yn dryloyw, a bod yr apwyntiad yn un teilwng iawn. O ran y cwestiynau eraill, mae sefydlu'r comisiwn yn sicrhau, wrth gwrs, fod gennym ni gorff hyd braich wrth y Llywodraeth sydd yn mynd ati i wneud ei waith. Byddaf yn gwneud datganiad ar ddiwedd y flwyddyn ar y blaenoriaethau sydd gen i fel Gweinidog i'r comisiwn, fel bod y comisiwn yn gallu cymryd ystyriaeth lawn o hynny wrth eu bod nhw'n bwrw at eu gwaith. Gwnaeth yr Aelod ofyn i fi sut fyddwn i'n hoffi gweld y comisiwn yn gweithredu gyda'r sector, ac mae'n bwynt da. Mae'r drafodaeth yn ystod pasio'r Ddeddf wedi bod yn aml ynglŷn â sut rŷn ni'n gobeithio gweld y sector yn gweithio gyda'i gilydd. Byddwn i'n hoffi gweld yr un gwerthoedd ar waith rhwng y comisiwn a'r sector ei hun—hynny yw, gweithio mewn ffordd greadigol, mewn ffordd sydd yn gydweithredol, sydd yn sicrhau bod cyd-gynhyrchu'n digwydd, pan fo hynny yn bosib. Materion yn y pen draw i'r comisiwn yw'r rhain, ond byddwn i'n credu bod rheini'n ffyrdd da o sicrhau ein bod ni'n cael sector sydd yn gallu ymateb yn gyflym i ddatblygiadau a sicrhau buddiannau dysgwyr a'r economi yn ehangach. Mae hi'n iawn i ddweud bod ymchwil yn bwysig. Gwnaeth hi ddweud oni bai bod hwn yn enw'r corff ac oni bai bod strwythur yn delio â hyn—. Wel, byddwn i'n awgrymu bod rheini'n arwydd clir o ba mor ganolog yw cefnogi gwaith ymchwil yn remit y comisiwn, a dyna pam rwy'n falch iawn o'r apwyntiad o ddirprwy gadeirydd sydd â track record cryf iawn yn y maes hwnnw, ac rwy'n sicr iawn bydd e'n gallu gwneud beth rwy'n credu rŷn ni i gyd eisiau ei weld, hynny yw, cefnogi'r prifysgolion i fod yn gystadleuol, a hefyd sicrhau bod y sail sydd ganddyn nhw i gystadlu o fewn y Deyrnas Gyfunol, ond yn rhyngwladol hefyd, mor gryf ag y gall e fod. Ar y pwynt diwethaf gwnaeth yr Aelod ei ofyn ynglŷn â'r Gymraeg, rwy'n cytuno'n llwyr â hi fod amryw o gyfleoedd fan hyn nawr i ymestyn darpariaeth ôl 16. Mae gwaith y coleg, wrth gwrs, yn hwn, yn rhywbeth rŷn ni i gyd yn adnabod fel rhywbeth sydd yn arwain ac ar y blaen yn hyn o beth. Mae dyletswydd statudol benodol wrth gwrs gyda'r comisiwn yn hyn o beth, a byddaf i eisiau sicrhau bod y bwrdd hefyd yn dod â'r profiad â'r talent hwnnw i'r blaen, fel bod gennym ni gyfle da i sicrhau bod y Gymraeg yn mynd i gael ei phrif-frydio yng ngwaith y comisiwn. Huw Irranca-Davies AC: A gaf i ddechrau fy sylwadau byr drwy groesawu'n gryf benodiad Simon Pirotte yn Brif Swyddog Gweithredol? Er, mae'n rhaid i mi ddweud y bydd Sarah Murphy, fy Aelod Seneddol cyfagos, a minnau yn colli ei gyfraniad i Goleg Penybont yn arw, oherwydd fel arweinydd, nid yn unig y mae wedi bod yn ddeinamig, yn egnïol ac yn llawn cymhelliant, ond—ansoddeiriau anarferol, efallai, i'w defnyddio i ddisgrifio arweinydd coleg—mae e' wedi bod yn dosturiol ac wedi'i lywio gan werthoedd yn yr hyn y mae wedi ceisio'i wneud gyda'r sefydliad hwnnw hefyd. Ond rwy'n credu y bydd e'n wych yn y rôl. Rydyn ni'n ffodus; mae gennym y dirprwy brifathro, Viv Buckley, yn camu i'r adwy fel arweinydd dros dro am gyfnod, ac mae hi ei hun yn llawn egni a brwdfrydedd hefyd, felly rydyn ni'n ffodus iawn unwaith eto. A gaf i ofyn, serch hynny, am y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd tuag at ddyletswydd strategol y comisiwn ar ddysgu gydol oes, a ddylai, fel y mae llawer o bobl wedi'i ddweud, fod wrth wraidd gwaith y comisiwn? Mae'n hanfodol, yr holl ffordd ar hyd y llwybr gydol oes, ein bod yn sicrhau bod addysg—addysg o safon—ar gael i bawb. Felly, pa gynnydd ydym ni'n ei wneud ar hynny, o ran cyflawni'r ddyletswydd honno a chyflawni canlyniadau y gellir eu mesur go iawn? Jeremy Miles AC: Diolch i Huw Irranca-Davies am y cwestiwn hwnnw. Gair sydyn i ddweud, rwy'n credu mai'r rhinweddau a amlinellodd Huw ar ddechrau ei gwestiwn yw'r union reswm pam mae penodiad Simon wedi ei groesawu gan gynifer o bobl. Mae'r ddyletswydd mewn perthynas â dysgu gydol oes, wrth gwrs, yn hanfodol. Mae pob un ohonom ni'n awyddus i Gymru fod yn genedl ail gyfle, lle nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu, ac felly y ddyletswydd statudol gyntaf ar wyneb y Ddeddf i'r comisiwn yw'r ddyletswydd i hyrwyddo dysgu gydol oes. Mae hyn yn ategu llawer o'r gwaith yr ydym, yn amlwg, wedi bod yn ei wneud y tu allan i'r ddeddfwriaeth mewn perthynas â chyllid ychwanegol ar gyfer dysgu cymunedol i oedolion, cyllid ychwanegol ar gyfer y cyfrifon dysgu personol, ac ystod o fentrau eraill. Ond rwy'n credu mai'r cam nesaf yn y datblygiad hwnnw nawr yw'r hyn y bydd angen i'r comisiwn ei ddatblygu. O'n safbwynt ni, bydd yn cofio bod y ddeddfwriaeth yn cynnwys pŵer i wneud rheoliadau fel y gall Gweinidogion nodi pa mor eang y mae'r ddyletswydd i ariannu yn ymestyn, i bob pwrpas, a dyna'r mecanwaith, y bydd yn ei gofio, ar gyfer ehangu'r ddarpariaeth dysgu gydol oes ar sail statudol, nad ydym erioed wedi'i wneud o'r blaen. Mae hyn yn sail statudol newydd i ni yng Nghymru. Rydym wrthi'n gweithio gyda rhanddeiliaid i archwilio sut y gallwn lunio'r ddyletswydd honno orau, ac mae dewisiadau. Mae cwestiwn manwl ac mae cwestiwn eang, ac maent yn amlwg yn cyfaddawdu, i ryw raddau, on'd ydyn nhw? Rwy'n awyddus iawn i sicrhau ein bod yn ymgysylltu â rhanddeiliaid ac yn cael yr ystod lawn o leisiau cyn i mi wneud y penderfyniad ynghylch y cymysgedd hwnnw, os mynnwch chi. Ond fy mwriad i yw y byddwn ni'n ymgynghori ar y rheoliadau erbyn dechrau'r flwyddyn nesaf a fydd yn nodi cwmpas y ddyletswydd honno yn y gyfraith, a fydd wedyn yn rhoi'r cnawd ar yr esgyrn, sydd mewn deddfwriaeth, ond mae'n gam nesaf pwysig iawn i ni. Ac yn olaf, Hefin David. Hefin David AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn union fel Sioned Williams, hoffwn hefyd groesawu rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel cynghoryddi CTER. Hefin David AC: A gaf i ofyn hefyd—? Os yw'r corff am fod yn wirioneddol lwyddiannus, yna mae angen i'r holl randdeiliaid sydd oddi tano, ym maes addysg uwchradd, drydyddol ac uwch, a chyflogwyr ac undebau llafur cysylltiedig weithio gyda'i gilydd i greu'r cyfnod pontio di-dor hwnnw, ac os bydd hynny'n llwyddiannus, efallai y bydd angen newid diwylliant mewn sawl rhan o'r sectorau hynny. Jeremy Miles AC: Diolch i Hefin David am y pwynt y mae newydd ei wneud. Bydd yn cofio, tra roedd y Bil ar ei hynt, yn anad dim oherwydd ei fod, yn ei waith fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar brifysgolion, wedi cadeirio mwy nag un sesiwn ar hyn. Un ohonyn nhw, bu modd i mi fynd iddo fy hun, ac rwy'n credu y byddai'n cytuno â mi fod yna lefel uchel o awydd i gydweithio ar draws y sector mewn perthynas â hyn, ond mae rhai rhwystrau, y mae'r ddeddfwriaeth yn bwriadu eu cywiro, yn anad dim y cwestiwn o rwystrau cyllido. Pan fyddwch chi'n cael eich ariannu gan fwy nag un endid ar wahân—sydd wedi bod yn wir, sydd yn dal yn wir, ac fe fydd yn wir nes bydd gwaith y comisiwn yn dechrau—mae hynny'n creu ei heriau ei hun i gydweithio'n llawn. Ond rwyf wedi fy nghalonogi'n fawr, mewn gwirionedd, hyd yn oed cyn i'r comisiwn ddechrau ar ei waith, fy mod yn teimlo bod hynt y ddeddfwriaeth hon a'r drafodaeth gyhoeddus ar draws y sector a'r ddadl gyhoeddus a gawsom yn y Siambr hon wedi dechrau creu cyd-destun a diwylliant lle mae pobl yn awyddus i gydweithio. A dim ond amser cinio heddiw, roeddwn i'n gallu siarad yn y lansiad yma yn Neuadd Athrofa Dechnegol Prifysgol Cymru, sy'n fenter ar y cyd rhwng Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Grŵp Colegau Castell-nedd Port Talbot, Coleg Ceredigion, Coleg Sir Gâr, Coleg Sir Benfro, a Choleg Caerdydd a'r Fro, gan ganolbwyntio ar ddarparu sgiliau technegol lefel uwch i'n pobl ifanc. Ac mae amrywiaeth o fodelau eraill ar gyfer cydweithredu sy'n cael eu harchwilio'n weithredol, ac rwy'n credu y bydd bod â dulliau gwahanol yn dda, oherwydd gall pob un ohonom ddysgu o'r pethau sy'n gweithio orau o hynny. Ond fy mhrif obaith ar gyfer y newid y bydd y Bil yn ei roi ar waith yw sicrhau bod sefydliadau'n cydweithio'n llawn er mwyn gwireddu'r ymrwymiad hwnnw sydd gennym ni i gyd yn y fan yma i roi dysgwyr wrth wraidd ein holl ddarpariaeth ôl-16. Dioch i'r Gweinidog. 5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Mesurau cenedlaethol i gryfhau gofal cymdeithasol Eitem 5 sydd nesaf, datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ar fesurau cenedlaethol i gryfhau gofal cymdeithasol. Galwaf ar y Gweinidog, Julie Morgan. Julie Morgan AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Heddiw, rwy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am fesurau a fydd yn cryfhau'r ddarpariaeth o wasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae'r rhain yn cynnwys camau gweithredu ar unwaith a mentrau strategol tymor hwy. Bydd yr Aelodau yn cofio, fis diwethaf, i mi lansio ymgynghoriad ffurfiol ar y rhaglen ailgydbwyso gofal a chymorth. Mae'r ymgynghoriad hwn yn adeiladu ar gynigion bras ym Mhapur Gwyn 2021 o'r un enw drwy nodi'r camau gweithredu arfaethedig ar amrywiaeth o feysydd. Er bod swyddogion eisoes wedi cyflawni amrywiaeth o ymgysylltiadau gyda phartneriaid ar y cynigion penodol yn yr ymgynghoriad, byddwn hefyd yn ymgysylltu yn eang yn ystod y cyfnod ymgynghori 12 wythnos. Gyda'i gilydd, bydd y cynigion ar y fframwaith cenedlaethol a'r swyddfa genedlaethol, wedi'u hategu gan y mentrau eraill yn yr ymgynghoriad, ymhlith blociau adeiladu pwysig cyntaf gwasanaeth gofal cenedlaethol—ymrwymiad allweddol yn y cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Mae'r cynigion hyn yr ydym yn ymgynghori arnyn nhw wrth ailgydbwyso gofal a chymorth yn ategu canfyddiadau'r grŵp arbenigol a sefydlwyd i wneud argymhellion ynghylch y camau tuag at greu gwasanaeth gofal cenedlaethol. Mae eu hadroddiad, o'r enw 'Tuag at Wasanaeth Gofal a Chymorth Cenedlaethol i Gymru', yn hanes cynhwysfawr o'r heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu'r sector, gan fynd i'r afael â'r cylch gorchwyl, a hefyd dangos dyfnder ac ehangder trafodaethau ac ystyriaethau'r grŵp. Felly, ar ran y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Aelod dynodedig, Cefin Campbell AS, hoffwn ddiolch unwaith eto i'r cyd-gadeiryddion a holl aelodau'r grŵp arbenigol am eu cyfraniadau at y gwaith hanfodol a heriol hwn, gan gydnabod bod ymrwymiad wedi mynd ymhell y tu hwnt i'r hyn a ragwelwyd ar y cychwyn. Roeddem ni'n falch iawn o ddarllen sut mae nifer o argymhellion y grŵp arbenigol yn cyd-fynd â'n rhaglen bresennol ar gyfer ymrwymiad y llywodraeth i ddiwygio'r sector gofal cymdeithasol. Mae hyn yn golygu y gallwn ni symud ymlaen yn hyderus i ddatblygu cefnogaeth genedlaethol gryfach i'r sector. Mae ein camau arfaethedig yn yr ymgynghoriad ailgydbwyso gofal a chymorth yn cynnwys datblygu fframwaith comisiynu cenedlaethol statudol; sefydlu swyddfa genedlaethol ar gyfer gofal a chymorth; datblygiad y fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol o fframwaith tâl a dilyniant cenedlaethol; gwaith agos gydag awdurdodau lleol ar set ddata perfformiad a gwelliant cenedlaethol; a chryfhau trefniadau ar gyfer gweithio partneriaeth rhanbarthol ar draws maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r camau hyn gyda'i gilydd yn gyfystyr â chryfhad sylweddol o'r trefniadau cenedlaethol ar gyfer gofal a chymorth, ac felly byddan nhw'n rhan sylweddol o'r cynllun gweithredu sydd ar ei ffordd ar gyfer gwasanaeth gofal a chymorth cenedlaethol. Nawr, mewn sector lle mae tua 90 y cant o'r darparwyr yn y sector annibynnol, bydd datblygu fframwaith comisiynu cenedlaethol statudol yn llywio pwyslais ar ansawdd wedi'i ategu gan ffioedd teg am gost gofal. Bydd newid o gymhlethdod trefniadau comisiynu tuag at symlrwydd yn seiliedig ar egwyddorion cyffredin. Bydd yn annog newid o arfer sy'n seiliedig ar dasgau tuag at arfer sy'n seiliedig ar ganlyniadau. Bydd y fframwaith comisiynu hefyd yn ddull dynamig, y gellir ei ddiweddaru gyda manylebau model gwasanaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Bydd y swyddfa genedlaethol yn galluogi pwyslais ar wella a gweddnewid gwasanaethau i oedolion a phlant ac yn adeiladu ar gynnydd a wnaed eisoes o ran gwella data gofal cymdeithasol, gan ddatblygu darlun mwy eglur o'r ddarpariaeth o wasanaethau, a thrwy hynny galluogi meincnodi a gwelliant i wasanaethau. Bydd hefyd yn cefnogi'r prif swyddog gofal cymdeithasol fel llais cryfach i'r sector, ac yn llwyfan y caiff elfennau eraill o'r gwasanaeth gofal a chymorth cenedlaethol eu hadeiladu arno trwy gamau olynol cynllunio gweithredu. Bydd cydweithio â Gweithrediaeth y GIG yn hanfodol i sicrhau y rhoddir cyfeiriad cyson i system iechyd a gofal cymdeithasol yr ydym ni'n ei gwthio tuag at integreiddio pellach. Mae'r fframwaith tâl a dilyniant yn dangos ymhellach ein hymrwymiad i'r gweithlu gofal cymdeithasol, pa bynnag ran o'r sector y maen nhw wedi'u cyflogi ynddi. Mae Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu gofal cymdeithasol, ac rydym ni wedi buddsoddi ynddo, gan gynnwys drwy sicrhau bod pob gweithiwr gofal cymdeithasol yn cael ei dalu ar lefel y cyflog byw gwirioneddol o leiaf. Er bod sefydliadau annibynnol yn gyfrifol am eu harferion cyflogaeth eu hunain, mae'r fframwaith newydd, a ddatblygwyd mewn partneriaeth gymdeithasol gan y fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol, yn dechrau gosod disgwyliadau ynghylch sut y dylai ein gweithlu medrus ac ymroddedig gael ei gydnabod yn genedlaethol. Mewn ymateb i ymgynghoriad Papur Gwyn cynharach, fe wnaethom ni wrando ar sefydliadau statudol nad oedden nhw eisiau i strwythur cyfreithiol byrddau partneriaeth rhanbarthol newid. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym ni wedi gweithio gyda phartneriaid i egluro a chryfhau llywodraethu, atebolrwydd, cynllunio a llais dinasyddion. Wrth weithio'n agos gyda'r sector i ddatblygu'r mesurau hyn, rwy'n edrych ymlaen at y gwahaniaeth y byddan nhw'n ei wneud o ran integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ymhellach. Mae'r holl ddatblygiadau hyn yn cyd-fynd â'r datganiad diweddar a wnaed gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 'Meithrin Gallu drwy Ofal Cymunedol – Ymhellach, Yn Gyflymach'. Ein nod drwy'r fenter hon yw gweithio gyda'n partneriaid llywodraeth leol a GIG i gryfhau capasiti gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y gymuned. Mae'r gwaith hwn yn cynnwys amrywiaeth o gamau ar unwaith i wneud gwahaniaeth mesuradwy i wasanaethau gofal cymunedol cyn y gaeaf nesaf, ynghyd â nod tymor hwy o gryfhau darpariaeth gymunedol yn ehangach. Mae egwyddorion system gydgysylltiedig, ataliol, sy'n canolbwyntio ar y gymuned, a gefnogir gan 'Ymhellach yn Gyflymach' yn cyd-fynd â'r rhai y byddem ni'n disgwyl eu gweld mewn gwasanaeth gofal cenedlaethol. Byddwn yn rhoi diweddariad pellach ar gynnydd o ran datblygiadau gofal cymdeithasol a chamau tuag at wasanaeth gofal cenedlaethol yn ystod yr wythnosau nesaf. Diolch. Gareth Davies AS: Diolch yn fawr iawn am eich datganiad y prynhawn yma, Dirprwy Weinidog, ar y mesurau cenedlaethol i gryfhau gwasanaethau cymdeithasol ledled Cymru. Er fy mod i'n cefnogi ac yn cytuno i raddau helaeth â chynnwys eich datganiad y prynhawn yma, Dirprwy Weinidog, mae'n rhaid i mi ddweud ei fod yn ddull gweithredu eithaf cyffredinol a chymedrol o fynd i'r afael â rhai o'r ffactorau mawr, acíwt a phenodol sy'n wynebu'r sector gwasanaethau cymdeithasol ar ôl COVID ac yng Nghymru'r unfed ganrif ar hugain. Nawr, y rheswm yr wyf i'n dweud hyn yw bod llawer o agweddau ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol y mae angen mynd i'r afael â nhw nad yw'r Llywodraeth wedi ymdrin â nhw yn ei datganiad heddiw. Un enghraifft o'r hyn y byddai angen ei ymgorffori yn aliniad y ddau sector, un o'r rheini, yw gwasanaethau i blant, a'r hyn nad ydym wedi ei weld, a'r hyn yr ydym ni wedi ei drafod sawl gwaith yn Siambr y Senedd hon, fy hun a chyd-Aelodau, yw methiant Llywodraeth Cymru i gomisiynu pwyslais hynod fanwl ar adolygu'r holl wasanaethau i blant ledled Cymru, gan roi cyfle i bob un o'r 22 awdurdod lleol adolygu eu harferion i wneud yn siŵr bod y nifer leiaf posibl o blant yn llithro drwy'r rhwyd a sicrhau eu diogelwch. Rwy'n gwneud cyfeiriadau penodol at ddioddefwyr esgeulustod a llofruddiaeth plant, gan gynnwys Logan Mwangi a Kaylea Titford, i enwi dim ond dwy enghraifft o hyn, gan fod tystiolaeth yn awgrymu y gallai adolygiad plant wedi bod yn fesur mwy ataliol yn eu hachosion nhw, ac atal y posibilrwydd o fwy yn y dyfodol mewn ffordd na fyddai'n niweidiol i uchelgais y Llywodraeth o integreiddio yn y dyfodol, a chael ei ddarparu mewn swyddogaeth a fyddai'n rhychwantu llawer o broffesiynau sy'n cwmpasu'r pecyn cyfannol y mae plant agored i niwed yn ei dderbyn drwy eu taith ddatblygiadol, weithiau gyda chymorth ac arbenigedd darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol. Nawr, ar wahân i wasanaethau plant, ac er gwaethaf ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynyddu'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol, yr ydym ni ar feinciau'r Ceidwadwyr Cymreig wedi'i gefnogi, ac yn parhau i'w gefnogi, ac yn wir integreiddiad pellach gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol hefyd, mae'r sector yn dal i wynebu argyfwng recriwtio, â brwydr barhaus i recriwtio ymgeiswyr i faes gofal cymdeithasol, yn enwedig yn ein cartrefi gofal, sy'n cael effaith ganlyniadol ar ryddhau o ysbytai, rhestrau aros, amseroedd ymateb ambiwlansys ac adrannau damweiniau ac achosion brys, gan fod cysylltiad cynhenid rhwng y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol. Felly, Dirprwy Weinidog, pa sicrwydd allwch chi ei roi mewn ymateb i'ch datganiad heddiw y bydd cyfleoedd hyfforddi, llwybrau gyrfaol digonol a nenfydau gwydr yn cael eu torri i ddenu darpar weithwyr gofal cymdeithasol i'r sector? A pha ymrwymiad allwch chi ei roi i gyflogwyr gofal cymdeithasol a pherchnogion cartrefi gofal y gall Llywodraeth Cymru sicrhau ei phwerau datganoledig mwyaf posibl i awdurdodau lleol, fel bod pob penderfyniad gan y Llywodraeth ar y sector gofal cymdeithasol yn cael ei deimlo ar lawr gwlad ledled Cymru, ac nid yn swigen bae Caerdydd yn unig? Nawr, gan aros ar thema penderfyniadau'r Llywodraeth yn cael eu teimlo ar lawr gwlad, pa mor gadarn yw uchelgeisiau'r Llywodraeth a'r cytundeb cydweithio ar gyfer integreiddio pellach i'r posibilrwydd o newid a gwahaniaethau gwleidyddol yn y dyfodol? A'r rheswm am ofyn hyn yw'r realiti moel nad oes gan Lywodraeth Cymru fwyafrif yn Siambr y Senedd hon a bod yn rhaid iddi ddibynnu ar gefnogaeth Plaid Cymru, sydd ei hun wedi bod yn garwsél o arweinwyr a swyddogion dros dro yn ddiweddar, a fydd, heb os, yn cael ei ystyried yn fygythiad yn y sectorau perthnasol i gyflawni rhai o nodau ac amcanion y Llywodraeth. Felly, pa sicrwydd allwch chi ei roi, Dirprwy Weinidog, bod y cynlluniau ar gyfer integreiddio a'r lefelau cywir o arfau ac adnoddau wedi'u diogelu at y dyfodol ac yn gadarn er mwyn wynebu'r posibilrwydd o newidiadau yn y dyfodol, gan y byddwch chi'n derbyn heb amheuaeth bod hwn yn sector sy'n effeithio ar fywydau pobl bob un dydd? Felly, a ydych chi wedi rhoi diwydrwydd dyladwy i'r realiti hwn? Ac a all y Dirprwy Weinidog ymhelaethu ymhellach ar sefydlu swyddfa genedlaethol ar gyfer gofal a chymorth? Sut fydd y swyddfa'n edrych? A fydd bwrdd? Faint o staff fydd hi'n eu cyflogi, ac a fydd ariannu hon yn creu'r risg y bydd adnoddau yn cael eu sugno gan y swyddfa ei hun yn hytrach na'r bwriad o greu integreiddio? A pha ddulliau cadw cydbwysedd fyddwch chi'n eu defnyddio i fonitro hyn? Yn olaf, Dirprwy Weinidog, a allwch chi roi rhywfaint o eglurder pellach ynghylch y gwahaniaeth rhwng gwaith agos gydag awdurdodau lleol a chryfhau'r trefniadau ar gyfer gweithio partneriaeth ranbarthol, gan ei bod hi'n ymddangos bod y ddau yn gwrthddweud ei gilydd, o ystyried uchelgais Llywodraeth Cymru i greu cyd-bwyllgorau corfforedig, CBCau? A beth fyddai canlyniad CBCau ar y gwasanaethau gofal cymdeithasol os byddan nhw'n cael eu darparu mewn gwirionedd? Diolch yn fawr iawn unwaith eto am eich datganiad y prynhawn yma, Dirprwy Weinidog, ac edrychaf ymlaen at eich ymateb. Diolch. Julie Morgan AC: Diolch yn fawr iawn, Gareth, am groesawu'r rhan fwyaf o'r datganiad ac am eich cefnogaeth yn gyffredinol. Rydych chi'n dweud ei fod yn gyffredinol. Rwy'n credu y byddwch chi'n ymwybodol, yn natganiad y Gweinidog yn weddol ddiweddar ar 'Ymhellach, Yn Gyflymach', ein bod ni wedi mynd i gryn fanylder ynghylch sut y byddem ni'n gweithio ar lawr gwlad er mwyn mynd i'r afael â'r materion sydd wedi codi ym maes gofal cymdeithasol. Felly, mae'r pwyntiau yr wyf i wedi bod yn eu gwneud yn y datganiad heddiw yn gysylltiedig â'r ymgynghoriad yr ydym ni'n ei gael gyda'r gymuned, sy'n parhau, ar yr holl gynigion hyn sydd, mewn gwirionedd, wedi bod yn destun trafod ers cryn nifer o flynyddoedd. O ran y gwasanaethau i blant, bydd y swyddfa genedlaethol a'r fframwaith comisiynu yn cwmpasu gwasanaethau i oedolion a phlant. Felly, mae'r hyn yr wyf i wedi siarad amdano heddiw yn berthnasol i blant. O ran adolygu gwasanaethau i blant, cynhaliwyd adolygiad ar y cyd yn ddiweddar gan yr asiantaethau arolygu yn edrych yn benodol ar faterion amddiffyn plant mewn nifer o awdurdodau lleol, yr wyf i'n siŵr y bydd gan yr Aelod ddiddordeb yn ei ddarllen. Ac rwy'n siŵr ei fod hefyd yn ymwybodol ein bod ni'n cynnal nifer o adolygiadau o ganlyniad i rai o'r achosion amddiffyn plant trasig iawn sydd wedi codi yn ddiweddar. Felly, rydym ni'n edrych yn ofalus iawn ar yr holl feysydd hyn, ac yn amlwg yn cymryd ein cyfrifoldebau o ddifrif. Y cyflog byw gwirioneddol—ydw, rwy'n falch iawn ein bod ni wedi cyflwyno'r cyflog byw gwirioneddol. Rwy'n credu ei fod yn gwbl ardderchog—£70 miliwn eleni i sicrhau bod rhai o'n gweithwyr ar y cyflogau isaf wedi cael codiad cyflog mewn gwirionedd, ac mae'r gweithlu wedi ei werthfawrogi'n fawr iawn. Ceir problem gyda recriwtio a chadw, ac rydym ni'n gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau rhagolygon gyrfaol pobl sydd yn y maes. Un o'r pethau yr ydym ni'n ei wneud yw darparu hyfforddiant ar-lein cychwynnol a hefyd yn gweithio i hysbysebu manteision mawr gweithio yn y maes hwn trwy fenter Gofalwn.Cymru, ac yn amlwg, gweithio'n agos iawn gyda maes gofal cymdeithasol. Oherwydd mae'r Aelod yn llygad ei le—mae problem allweddol o gadw staff, a dyna un o'r pethau yr ydym ni'n rhoi sylw iddyn nhw. Ac wrth gwrs, rwy'n siŵr ei fod yn ymwybodol bod gennym ni lawer iawn o gefnogaeth gan Fforwm Gofal Cymru, sef, fel y gwyddoch, y sefydliad sy'n gweithio gyda'r darparwyr preifat, sy'n llawn canmoliaeth i'r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud i gefnogi'r sector cartrefi gofal yn benodol. Aethom wir allan o'n ffordd yn ystod y pandemig i wneud popeth y gallem ni, ac o ganlyniad ychydig iawn o gartrefi gofal yng Nghymru sydd wedi cau o ganlyniad i'r pandemig a'r holl bwysau a gafwyd yno, tra bu llawer mwy dros y ffin. Ac yna pa sicrwydd y bydd cynlluniau ar gyfer integreiddio yn parhau? Rydym ni wedi seilio ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol ar y cynigion gan y grŵp arbenigol, a sefydlwyd ar y cyd gan Blaid Cymru a'r Llywodraeth, ac mae'r hyn yr ydym ni'n bwriadu ei wneud yn seiliedig ar yr hyn a gyflwynwyd gan y grŵp arbenigol i ni. Fel y dywedais, yn ffodus, roedd llawer ohono yn cyd-fynd â phethau yr oeddem ni wedi bod yn ystyried eu gwneud cynt beth bynnag, fel y swyddfa genedlaethol a'r fframwaith cenedlaethol. Bydd y swyddfa genedlaethol yn cael ei sefydlu fel uned o fewn y Llywodraeth. Mae hyn yn rhywbeth y gwnaethom ni ymgynghori arno flwyddyn neu ddwy yn ôl, ac nid oedd unrhyw awydd i sefydlu corff ar wahân, gan y byddai rhywfaint o hyblygrwydd o'i sefydlu o fewn y Llywodraeth yn ogystal â gwneud y defnydd mwyaf posibl o adnoddau. Felly, bydd y swyddfa genedlaethol, gobeithio, yn weithredol erbyn y flwyddyn nesaf. Ac yna wrth gwrs gweithio'n agos gyda'r awdurdodau lleol a'r byrddau iechyd—mae llawer o'r gwaith hwnnw yn cael ei wneud yn y byrddau partneriaeth rhanbarthol, a sefydlwyd yn benodol er mwyn dod â meysydd iechyd a gofal cymdeithasol ynghyd, ac maen nhw'n cryfhau wrth iddyn nhw ddatblygu, ac yn rhan o'r cynigion hyn rydym ni'n cynnig eu cryfhau ymhellach. Felly, dyna lle'r ydym ni'n gweld un o'r meysydd allweddol lle mae integreiddio yn digwydd o ran datblygu polisi, ac wrth gwrs yn y gwaith ar lawr gwlad mewn timau sydd wedi'u cyfansoddi o weithwyr gofal cymdeithasol ac iechyd, a disgyblaethau eraill. Peredur Owen Griffiths AS: Diolch yn fawr am y datganiad y prynhawn yma, Dirprwy Weinidog. Peredur Owen Griffiths AS: Rydym ni'n croesawu'r wybodaeth ddiweddaraf heddiw am ddatblygu gwasanaeth gofal cenedlaethol i Gymru, ymrwymiad maniffesto gwirioneddol chwyldroadol gan Blaid Cymru sy'n cael ei gyflawni drwy ein cytundeb cydweithio gyda Llywodraeth Cymru. Rydym ni'n gweld unwaith eto, pan fydd gan Blaid Cymru ddylanwad ar y rhaglen lywodraethu, bod Cymru ar ei hennill. Gyda'n poblogaeth sy'n heneiddio a phwysau llym ar ein GIG sydd mewn trafferthion, ni fu'r angen am wasanaeth gofal cenedlaethol erioed yn fwy, ac mae'n galonogol yn hyn o beth bod adroddiad ac argymhellion y grŵp arbenigol yn sicr yn cyd-fynd â'n gweledigaeth radical ar gyfer diwygio yn y sector hwn. Gan droi at y camau penodol sy'n deillio o'r ymgynghoriadail-gydbwyso gofal a chymorth, a gaf i ofyn i chi, Dirprwy Weinidog, am ragor o fanylion am yr amserlenni perthnasol ar gyfer cyflwyno'r fframwaith comisiynu cenedlaethol statudol? Mae hefyd yn briodol y bydd y fframwaith dan sylw yn ceisio sicrhau newid i ddulliau sy'n seiliedig ar ganlyniadau ymhlith darparwyr, wedi'u seilio ar set o egwyddorion cyffredin, a rennir. A gaf i ofyn a allai'r Gweinidog ymhelaethu ar y metrigau neu'r meini prawf perthnasol a fydd yn hysbysu sut mae'r canlyniadau hyn yn cael eu hasesu? Mae hefyd yn gwbl briodol y bydd y rhaglen waith hon yn ceisio ymwreiddio arferion gwaith teg a chyflog teg ymhlith cyflogwyr, gan adeiladu ar ymrwymiad blaenorol y Llywodraeth i sicrhau bod pob gweithiwr gofal cymdeithasol yn derbyn y cyflog byw gwirioneddol o leiaf. Fodd bynnag, dylem ni hefyd gydnabod cyfraniad enfawr a hanfodol gofalwyr di-dâl at y ddarpariaeth o ofal cymdeithasol yng Nghymru. Dangosodd y cyfrifiad diwethaf bod 310,751 o ofalwyr o'r fath yng Nghymru, y mae 107,000 ohonyn nhw'n darparu 50 awr neu fwy o ofal di-dâl yr wythnos. A gaf i ofyn i'r Dirprwy Weinidog esbonio sut y bydd y gwasanaeth gofal cenedlaethol yn helpu i leddfu'r baich ar ofalwyr di-dâl ac a allai eu harbenigedd a'u profiad hynod werthfawr helpu i lywio dyluniad y gwasanaeth gofal? Bydd y GIG yn saith deg pum mlwydd oed ymhen ychydig wythnosau. Ei sefydlu oedd y foment a ddiffiniodd hanes gwleidyddol Prydain ar ôl y rhyfel ac roedd yn waddol aruthrol o sosialaeth ddemocrataidd ar waith. Rydym ni hefyd yn wynebu heriau gofal iechyd yr unfed ganrif ar hugain. Mae angen i ni sianelu'r un synnwyr o radicaliaeth, gweledigaeth ac uchelgais a nodweddodd brosiect mawr Nye Bevan ym 1948. Trwy fwrw ymlaen â'r cynlluniau ar gyfer sefydlu gwasanaeth gofal cenedlaethol, a fydd, yn ei dro, yn sicrhau dyfodol GIG mwy sefydlog a chynaliadwy, mae Plaid Cymru wedi dangos unwaith eto nad ydym ni'n cilio rhag rhoi atebion pellgyrhaeddol a thrawsnewidiol ar waith i Gymru. Diolch yn fawr. Julie Morgan AC: Diolch, a diolch yn fawr iawn am groesawu'r datganiad heddiw. Rwy'n gwerthfawrogi'n fawr y gwaith yr ydym ni wedi gallu ei wneud gyda Phlaid Cymru i fwrw ymlaen â hyn, oherwydd rwy'n credu, fel y dywedodd yr Aelod yn ei gyfraniad, na fu erioed fwy o angen am ffordd radical o fynd i'r afael ag anawsterau gofal cymdeithasol. Cyfeiriodd yr Aelod at boblogaeth sy'n heneiddio, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod unrhyw beth yr ydym ni'n ei wneud, gan gydnabod yr anghenion ychwanegol a allai fod yno, yn cydnabod cyfraniad pobl hŷn at gymdeithas hefyd. Yr amserlenni: wel, y peth cyntaf y byddwn ni'n ei wneud yw sefydlu'r swyddfa genedlaethol, oherwydd, yn amlwg, rydym ni angen y swyddfa genedlaethol yno i fwrw ymlaen â'r newidiadau hyn. Y nod yw cael y swyddfa genedlaethol yn weithredol erbyn dechrau'r flwyddyn nesaf, ac yna bydd y fframwaith yn dilyn ymlaen o hynny. Rydym ni eisiau symud tuag at weld beth yw'r canlyniadau a mesur y canlyniadau hynny. Trwy gael fframwaith cenedlaethol, byddwn yn gallu—. Gyda'r contractau, er enghraifft, sydd yno gyda'r cartrefi gofal, ni fydd gennym ni lawer o wahanol gontractau wedi'u cytuno yn unigol gyda channoedd o fusnesau preifat bach ar wahân. Rydym ni'n gobeithio y byddwn ni'n gallu sicrhau dull llawer mwy unedig pan fydd yr egwyddorion yn cael eu penderfynu ar lefel genedlaethol, ac y byddwn ni'n gallu symud tuag at wasanaeth gofal cenedlaethol yn y math hwnnw o ffordd, trwy drefnu bod gan bobl gontractau tebyg ac egwyddorion cyffredin tebyg. Felly, rydym ni'n gweld hynny yn datblygu. O ran gwaith teg a chyflog teg—cwbl hanfodol. Rydym ni'n gweithio yn agos iawn gyda'r fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol, sy'n cynnwys cyflogwyr, undebau llafur a phartïon eraill â buddiant. Fe'n cynghorwyd ganddyn nhw ar gyflwyno'r cyflog byw gwirioneddol—ar sut i wneud hynny—ac maen nhw bellach yn edrych ar yr holl agweddau eraill, oherwydd, yn amlwg, mae gwaith teg yn mynd ymhell y tu hwnt i'r arian yn unig, ac rydym ni eisiau amodau llawer gwell i weithwyr gofal. Felly, maen nhw'n gweithio ar hynny nawr. Gofalwyr di-dâl: cwbl hanfodol a sylfaen gwasanaeth gofal cymdeithasol. Rwy'n credu ein bod ni wedi symud rhyw fymryn tuag at gydnabod eu gwaith, o ran rhai o'r budd-daliadau arian parod bach yr ydym ni wedi gallu eu cynnig iddyn nhw a'r cymorth gyda seibiant i'w helpu i reoli eu bywydau bob dydd a rhoi ychydig o seibiant iddyn nhw. Felly, rwy'n credu ein bod ni wedi gallu eu cydnabod nhw llawer mwy, ond mae gennym ni siarter ar gyfer gofalwyr erbyn hyn ac mae gennym ni grŵp cynghori gweinidogol, lle mae pobl sy'n gweithio yn y maes hwnnw a phobl sy'n ofalwyr di-dâl yn cael eu tynnu i mewn i'n cynghori ni ar yr holl waith hwn. Bydd y siarter ar gyfer gofalwyr di-dâl yn cael ei hymgorffori yn y rheoliadau a fydd yn cael eu harfer gan y byrddau partneriaeth rhanbarthol. Felly, byddwn yn trefnu hynny yn uniongyrchol yno, fel y bydd gofalwyr di-dâl yn cael eu cydnabod yno. Ac yna'r GIG, 75 mlynedd, ie, amser pwysig i ddathlu, ac rwy'n teimlo bod hwn yn gam sylweddol yr ydym ni'n ei wneud o ran gofal cymdeithasol. Fel y dywedais, dyma'r blociau adeiladu. Byddwn yn cyflwyno'r cynllun gweithredu, wedi'i lunio gyda Phlaid Cymru, yn ystod yr wythnosau nesaf, ac rwy'n credu ein bod ni'n cymryd camau tuag at wasanaeth gofal cenedlaethol. Alun Davies AC: Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei datganiad. Rwy'n ddiolchgar iddi hefyd am y pwyslais y mae hi wedi ei roi ar y maes gwaith hwn ac ar y portffolio hwn. Rwy'n credu ei fod yn bortffolio pwysig iawn, ac mae'n bwysig cael y pwyslais hwnnw. Rwy'n croesawu'r hyn y mae'r Gweinidog wedi ei ddweud y prynhawn yma am y camau tuag at wasanaeth gofal cenedlaethol. Mae'n amlwg i mi nad yw'r farchnad gymysg ym maes gofal cymdeithasol yn cyflawni ar gyfer y bobl rydym ni'n eu cynrychioli. Nid yw'n cyflawni'r lefel o ofal a chymorth sydd ei hangen ar bobl. I mi, pan fyddaf i'n meddwl am wasanaeth gofal cenedlaethol, ac mae siaradwyr eisoes wedi cyfeirio at Aneurin Bevan y prynhawn yma, rwy'n meddwl am wasanaeth gofal cenedlaethol sy'n cael ei ddarparu gan y cyhoedd ar gyfer y bobl sydd angen y gwasanaeth hwnnw, ac rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn gallu symud i'r cyfeiriad hwnnw. Mae'r Gweinidog wedi siarad y prynhawn yma am integreiddio gwasanaethau. Mae'n amlwg i mi nad yw strwythurau fel y byrddau partneriaeth rhanbarthol yn cyflawni'r integreiddio sydd ei angen arnom ni. Nid yw gwahanu llywodraeth leol a'r gwasanaeth iechyd gwladol o ran darparu gofal cymdeithasol yn cyflawni ar gyfer y bobl yr ydym ni'n eu cynrychioli. Os ydym ni o ddifrif am wasanaeth gofal cenedlaethol, yna mae'n rhaid i ni fod o ddifrif hefyd am y strwythurau a fydd yn darparu, yn cefnogi ac yn cynnal y gwasanaeth hwnnw. Ni fydd natur ddarniog bresennol gwasanaethau cymdeithasol ledled y wlad yn cefnogi ac yn cynnal gwasanaeth gofal cenedlaethol. Rydym ni'n creu strwythurau i oresgyn y darnio sydd gennym ni heb fynd i'r afael ag achos y darnio. Efallai, o'm safbwynt i, nad y ffordd orau o ddathlu gwaddol Aneurin Bevan yw rhoi rhywbeth a grëwyd dri chwarter canrif yn ôl mewn asbig, ond edrych ar yr hyn sy'n ofynnol a'i angen ar gyfer y ganrif nesaf. Daeth y Llywydd i’r Gadair. Julie Morgan AC: Diolch yn fawr iawn i Alun Davies am y cyfraniad yna. Yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud drwy'r Papur Gwynail-gydbwyso a'r ymgynghoriadail-gydbwyso yw symud y cydbwysedd oddi wrth ddibyniaeth drom ar y sector preifat i ddarpariaeth fwy cytbwys. Ar hyn o bryd, rwy'n credu bod tua 90 y cant o'r ddarpariaeth yn y sector preifat, felly rydym ni'n ddibynnu'n fawr ar y cyrff hynny i ddarparu ar gyfer ein pobl agored i niwed. Felly,ail-gydbwyso yw'r pwyslais yn yr hyn yr wyf i wedi bod yn ei ddweud heddiw, symud tuag at ddarpariaeth fwy cymysg fel nad ydym ni mor eithriadol o ddibynnol ar un maes. Er enghraifft, hoffem weld mwy o ddarpariaeth gan y sector gwirfoddol, hoffem weld mwy o ddarpariaeth awdurdod lleol, oherwydd, wrth gwrs, bu'r newid mawr hwnnw oddi wrth yr awdurdodau lleol yn darparu gwasanaethau yn uniongyrchol. Felly, rydym ni eisiau darpariaeth fwy cytbwys. Roedd y grŵp arbenigol, yn ei gasgliadau, yn cefnogi'r drefn o wasanaethau gofal cymdeithasol yn aros gyda'r awdurdodau lleol, ac ni fu erioed unrhyw gwestiwn mewn gwirionedd yn yr hyn yr ydym ni wedi bod yn ei wneud am symud oddi wrth darpariaeth awdurdod lleol ar gyfer gofal cymdeithasol, gan ein bod ni'n credu ei bod hi'n bwysig darparu gofal cymdeithasol mor agos at y bobl ag y gallwn ni, ac mae cyrff etholedig awdurdodau lleol yn agos at y bobl ac mae ganddyn nhw gyfrifoldeb am lawer o'r meysydd eraill sydd mor gwbl annatod i ofal cymdeithasol, fel tai, er enghraifft. Felly, nid oes gennym ni unrhyw gynigion o ran symud gofal cymdeithasol o awdurdodau lleol, ond rydym ni'n credu y gallwn ni adeiladu gwasanaeth gofal cymdeithasol cenedlaethol, a dyma'r blociau adeiladu yr wyf i'n eu cyhoeddi heddiw. Jane Dodds AS: Prynhawn da, Gweinidog. A gaf i groesawu'r datganiad hwn? Mae'n uchelgeisiol iawn o ran ei gyrhaeddiad, ac rwy'n siŵr y byddai llawer ohonom ni'n cytuno ei fod yn hir-ddisgwyliedig. Dywedodd Steve Thomas, a oedd yn rhedeg Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, am ofal cymdeithasol: 'Gallwn blastro llawr Stadiwm Principality gyda'r cynlluniau a'r syniadau cyfrwys a fu gan bleidiau gwleidyddol dros y blynyddoedd i drwsio gofal cymdeithasol'. Nawr mae llawer ohonom ni'n teimlo bod hynny'n rhywbeth sy'n taro deuddeg, a dweud y gwir, ac mae'n debyg mai fy nghwestiwn i chi yw: o ystyried yr uchelgeisiau eglur a gwirioneddol sydd gennych chi yn y datganiad hwn, pwy fydd yn gyfrifol, o'r holl gyrff sydd wedi'u rhestru, am fwrw ymlaen â'r agenda hon? Oherwydd mae angen brys a chyflymder arnom ni i sicrhau bod y bobl yr ydym ni'n eu cynrychioli, y mae Alun Davies wedi siarad amdanyn nhw—. Mae hyn i gyd yn ymwneud â phobl, yn enwedig mewn poblogaeth sy'n heneiddio yma yng Nghymru, ac yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, y mae llawer ohonom ni'n eu cynrychioli. Mae angen i ni weld bod cyflawni, a bod rhywun yn atebol amdano. Diolch. Diolch yn fawr iawn. Julie Morgan AC: Diolch am y cwestiwn, Jane. Julie Morgan AC: Mae sefydlu'r swyddfa genedlaethol yn canolbwyntio ar bwynt cenedlaethol lle gallwn fwrw ymlaen â pholisïau. Felly, rwy'n gweld y swyddfa genedlaethol yn cyflwyno'r fframwaith cenedlaethol a chael strwythur y gallwn ddatblygu'r gwasanaeth gofal cenedlaethol ohono. Ond, yn amlwg, mae'n ymwneud yn llwyr â gweithio partneriaeth oherwydd, dim ond i ateb cwestiwn Alun Davies, roeddwn i'n dweud pa mor bwysig yw awdurdodau lleol, gan eu bod nhw'n agosach at bobl, maen nhw'n cael eu hethol yn ddemocrataidd, ac mae angen i ni sicrhau eu bod nhw'n gweithio gyda ni, ynghyd â'r byrddau iechyd. Felly, rwy'n ei gweld fel partneriaeth, yn y dyfodol, wedi'i hysgogi gan y swyddfa genedlaethol. A'r ymgynghoriad sy'n cael ei gynnal ar swyddfa genedlaethol, fframwaith cenedlaethol, bydd yn bwysig iawn gweld beth yw'r ymatebion i hynny, yn bennaf gan bobl sy'n chwarae rhan fawr yn hyn. Rwy'n gwybod mai dyna'r prif ymatebion sy'n dod i mewn. A phan fyddwn ni wedi cael y rheini, byddwn hefyd wedyn yn symud ymlaen, fel y dywedais, i'r cynllun gweithredu, lle bydd Llafur a Phlaid Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i gyflwyno'r gwasanaeth gofal cenedlaethol. Vikki Howells AC: Diolch, Dirprwy, Weinidog, am eich datganiad pwysig heddiw. Mae'n dda iawn clywed am gyfeiriad y ddarpariaeth o ofal cymdeithasol ac ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i wella hyn ar gyfer pobl sy'n rhoi ac yn derbyn gofal ledled Cymru. Roeddwn i'n falch o glywed yr wybodaeth ddiweddaraf am fesurau sy'n arwain tuag at wasanaeth gofal cenedlaethol. Rwy'n gefnogwr mawr o'r cysyniad hwn, y mae wir ei angen yn fy marn i. Wrth i ni ddathlu 75 mlynedd ers sefydlu'r GIG gyda'n poblogaeth sy'n heneiddio, mae hyn yn ymddangos yn hollbwysig. Fodd bynnag, byddwn yn croesawu diweddariad ar safbwynt presennol Llywodraeth Cymru o ran adroddiad Holtham a'r ardoll gofal cymdeithasol arfaethedig. Os ydym ni'n mynd i sicrhau gwasanaeth gofal cenedlaethol sy'n addas i'r diben ac yn addas ar gyfer y dyfodol, a oes angen i ni ofyn cwestiynau diffuant am ei gyllid? Yn ail, fel y bydd yr Aelodau yn ymwybodol, mae Pythefnos Cydweithfeydd yn dechrau yr wythnos hon, ac rydym ni'n gwybod yn y sector gofal cymdeithasol, bod cwmnïau cydweithredol yn creu gwerth cymdeithasol aruthrol, yn blaenoriaethu llesiant ac yn arwain at well tâl ac amodau gwaith. Enghraifft dda o hyn yw menter Drive Wales. Felly, hoffwn ofyn pa waith sy'n cael ei wneud i hyrwyddo'r ddarpariaeth gydweithredol o ofal cymdeithasol yng Nghymru. Julie Morgan AC: Diolch yn fawr iawn i Vikki Howells am y cwestiynau yna ac am ei chroeso i'r datganiad hwn heddiw, ac am ei brwdfrydedd dros wasanaeth gofal cenedlaethol. Heddiw, nid wyf i wedi crybwyll sut rydym ni'n talu am ofal o gwbl, ac roedd hynny yn rhywbeth na wnaeth y grŵp gofal arbenigol unrhyw gynigion yn ei gylch mewn gwirionedd. Wrth gwrs, roeddem ni'n meddwl y byddai gennym ni gynigion gan Lywodraeth Geidwadol San Steffan, ac y byddai hyn i gyd yn cael ei ddatrys ar sail Cymru a Lloegr, ond wrth gwrs, fe'u gollyngwyd yn weddol gyflym. Felly, o ran sut rydym ni'n talu am symud tuag at wasanaeth sydd am ddim pryd a lle bynnag y bo’i angen, mae'n rhaid i mi ddweud nad ydym ni wedi cyflwyno unrhyw atebion ynglŷn â hynny, ond rhan o'n cynigion a'r hyn rydym ni'n gweithio arno gyda Phlaid Cymru yw ceisio comisiynu rhai darnau penodol o waith ymchwil i edrych ar ffyrdd y gallem ni symud ymlaen. Yn ystod y Senedd ddiwethaf, cawsom drafodaethau dwys iawn ynghylch talu am ofal, ac fe wnaethom ni ystyried adroddiad Holtham bryd hynny. Felly, mae'n debyg, mewn gwirionedd, mai'r ateb iddi yw y byddwn ni'n edrych ar sut y byddwn ni'n talu am ofal cymdeithasol, ond oherwydd y sefyllfa ariannol anodd iawn bresennol yr ydym ni ynddi, ni allwn roi unrhyw ymrwymiad ynghylch pryd y byddwn ni'n gallu gwneud hynny mewn gwirionedd. Felly, rwy'n credu mai'r peth pwysig y mae angen i ni ei wneud nawr, ac yr ydym ni'n ei wneud, yw gosod y blociau, y blociau adeiladu, fel y byddwn ni mewn sefyllfa, pan fydd y sefyllfa ariannol yn gwella yn y tymor hwy, i symud ymlaen pan fyddwn ni'n gallu. Yna, o ran cwmnïau cydweithredol, ydym, rydym ni'n gweithio i gael rhai—. Hoffem yn fawr iawn i gwmnïau cydweithredol fod yn rhan o'n mudiad yn y dyfodol, ac yn rhan o'r agenda ail-gydbwyso, felly rydym ni'n symud tuag at hynny hefyd. Yn olaf, Jenny Rathbone. Jenny Rathbone AC: Diolch. Diolch am eich datganiad. Rwy'n gobeithio nad ydym ni'n mynd i fod yn gwneud gwaith ail-wneud strwythurau, oherwydd mae'n ymddangos i mi mai'r cwbl y mae hynny yn ei wneud yw oedi unrhyw welliannau i ofal. Rwyf i wir eisiau gweld rhywfaint o gynnydd o ran symud arian oddi wrth gofal eilaidd, sydd wedi llowcio'r holl adnoddau hyd yn hyn, a chael gwell gofal yn y gymuned i'r rhai nad oes angen iddyn nhw fod yn yr ysbyty. Rwyf i eisiau i bawb gael y cyfleoedd a gafodd fy etholwr yr wythnos diwethaf, i allu marw gydag urddas gartref, wedi'i hamgylchynu gan deulu a nyrsys arbenigol a oedd yn gwybod sut i reoli poen, yn ogystal â gofalwyr gwych a wnaeth ddiwallu ei holl anghenion. Nid yw hyn yn ymwneud â phwy oedd yn cyflogi'r bobl hyn mewn gwirionedd; mae'n ymwneud â sicrhau bod gennym ni system gydgysylltiedig i alluogi pawb i gael y dewis o beidio â gorfod marw yn yr ysbyty. Roeddwn i eisiau gofyn i chi am yr wybodaeth sy'n cael ei darparu drwy'r llwybrau oedi wrth drosglwyddo gofal o ysbytai, sy'n ddogfen ddefnyddiol gan ei bod hi'n gweld pa mor bell y mae'n rhaid i ni deithio, ond nid yw wedi'i ddadansoddi fesul awdurdod lleol, dim ond fesul bwrdd iechyd, a byddai'n ddefnyddiol iawn gallu gweld a ellid ei ddadansoddi fesul awdurdod lleol fel y gallwn ni weld ble mae'r broblem, a phe bai'r rhesymau am oedi'r gofal hefyd yn cael eu hamlygu gan yr awdurdod lleol, yna byddem ni'n gwybod yn union ble'r oedd y tagfeydd a byddai'n canolbwyntio meddyliau yn rhyfeddol ar eu datrys. Julie Morgan AC: Diolch yn fawr iawn, Jenny, am eich cyfraniad a'r pwyntiau pwysig iawn a wnaethoch. Rydym ni wedi ymrwymo yn llwyr i roi cymaint o adnoddau ag y gallwn yn y gymuned, fel y gallwn ni atal pobl rhag mynd i'r ysbyty, neu eu gohirio rhag mynd i'r ysbyty, a dyna fu llawer o'r gwaith y mae'r Gweinidog iechyd a minnau wedi bod yn ei wneud. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n ymwybodol o lansiad ein menter Ymhellach, Yn Gyflymach, sy'n sicr yn mynd i'r afael â'r materion hyn yr ydych chi'n eu codi heddiw, ac mae honno yn rhoi adnoddau ychwanegol i'r gwaith cymunedol, a chan gyfeirio at achos eich etholwr a oedd yn gallu marw'n heddychlon gartref gyda'r cymorth gartref, aeth rhywfaint o'r arian hwnnw yn benodol tuag at ofal lliniarol, oherwydd mae pobl eisiau marw gartref a dylen nhw allu gwneud hynny, ac mae hynny'n golygu bod yn rhaid i ni roi mwy o arian i'r gwasanaethau gofal lliniarol. A hefyd, wrth gwrs, yn bwysig iawn—ailalluogi. Oherwydd, mae'n anhygoel sut y gall ymyrraeth ailalluogi fach, weddol fyr, wneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl a gall eu hatal rhag mynd i'r ysbyty, eu cadw gartref yn hwy, ac eto roedd hynny yn rhan o'r datganiad a wnaeth y Gweinidog am fenter Ymhellach, Yn Gyflymach. Felly, rwy'n credu, gyda'r fenter honno, yr ydym ni'n gobeithio y gallai fod yn lasbrint pan fyddwn ni'n datblygu gwasanaethau ledled Cymru, bod honno'n ateb yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud o ran cynyddu'r ddarpariaeth yn y gymuned. Ond o ran y data yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw, mae ansawdd y data yn gwella, ac roedd yn ddiddorol, oherwydd yr wythnos diwethaf, cafodd y Gweinidog a minnau gyfarfod gyda'r bwrdd iechyd lleol ac awdurdod lleol yn eu hardal eu hunain i geisio ymchwilio'n drylwyr i fater rhyddhau cleifion o'r ysbyty a swyddogaeth bwysig gwasanaethau cymunedol, ac i weld sut yr oedden nhw'n rhyngweithio, a oedd yn ymarfer defnyddiol iawn. Ond mae ein fframwaith newydd ar gyfer adrodd am oedi gofal bellach ar waith, fel y dywedwch, ac mae'n rhoi trosolwg i ni o oedi ledled Cymru, y gellir ei adolygu ar lefel byrddau iechyd rhanbarthol yn ogystal â fesul awdurdod lleol unigol. A dweud y gwir, mae'r fframwaith adrodd wedi'i ddilysu rhwng y bwrdd iechyd a'r awdurdodau lleol, i sicrhau ei fod yn adlewyrchu'n gywir yr hyn sy'n digwydd yn y gymuned, a bydd hyn yn rhoi llawer mwy o fanylion i ni nag yr ydym ni wedi eu cael yn flaenorol o ran oedi a bydd yn caniatáu i ni, fel y gwnaethoch chi ddweud, ganolbwyntio ar welliannau lle mae eu hangen nhw fwyaf. Diolch yn fawr i'r Dirprwy Weinidog. 6. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Sicrhau mwy o fanteision i fyd natur, yr amgylchedd a chymunedau drwy systemau draenio cynaliadwy—Cyhoeddi adolygiad Llywodraeth Cymru a ffordd ymlaen Mae eitem 6 wedi ei ohirio. 7. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Lansio 111 dewis 2 ar gyfer iechyd meddwl brys Eitem 7 sydd nesaf, felly, sef y datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ar lansio '111 dewis 2' ar gyfer iechyd meddwl brys. Felly, y Dirprwy Weinidog, Lynne Neagle. Lynne Neagle AC: Diolch, Llywydd. Rwy'n falch iawn o gyhoeddi bod ein gwasanaeth newydd—gwasanaeth '111 pwyso 2' y GIG ar gyfer cymorth iechyd meddwl brys—ar gael nawr ledled Cymru. Bydd y gwasanaeth newydd yn trawsnewid y ffordd y mae modd cael gafael ar gymorth iechyd meddwl brys yng Nghymru, ac mae ar gael i bobl o bob oedran, 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Mae'r trawsnewidiad hwn o ran gwasanaethau yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i wella mynediad at gymorth iechyd meddwl yng Nghymru ac mae'n cyflawni un o'r ymrwymiadau yn ein rhaglen lywodraethu sef blaenoriaethu ailgynllunio gwasanaethau a dull 'dim drws anghywir' o ddarparu cymorth iechyd meddwl. Mae hefyd yn ymateb i argymhellion yn yr adolygiad 'Tu Hwnt i'r Alwad'. Cafodd yr adolygiad hwn ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru a'i arwain gan grŵp llywio amlasiantaeth i'n helpu ni i ddeall anghenion unigolion sy'n cysylltu â'r gwasanaethau brys ynghylch pryderon iechyd meddwl yn well. Nododd yr adolygiad ehangder anghenion cymdeithasol a lles sydd yn aml y tu ôl i argyfwng iechyd meddwl a'r angen i gael mynediad hawdd at gymorth cydgysylltiedig, amlddisgyblaethol. Mae gwasanaeth '111 pwyso 2' y GIG yn gam sylweddol tuag at hyn. Mae'n golygu bod modd cael mynediad cyflym at wasanaethau cyngor, asesu a dad-ddwysáu gan ymarferydd iechyd meddwl sydd wedi'i hyfforddi'n arbennig, dros y ffôn. Lle bo angen, gall unigolion gael eu hatgyfeirio'n ddi-dor i wasanaethau iechyd meddwl arbenigol neu gymorth hunangymorth. Wrth i'r gwasanaeth ddatblygu, mae'n hanfodol bod y GIG yn cael ei gefnogi gan asiantaethau eraill er mwyn galluogi'r rhai sy'n cael eu hatgyfeirio i gael gafael ar gymorth priodol, yn enwedig ar gyfer materion cymdeithasol a lles. Ar ôl i wasanaeth ehangach 'GIG 111 Cymru' gael ei gyflwyno'n genedlaethol ym mis Mawrth 2022, cynhaliwyd ymgyrch genedlaethol i gynyddu ymwybyddiaeth, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth. Mae ychwanegu '111 pwyso 2' yn adlewyrchu ein hymrwymiad i barhau i ddatblygu gwasanaethau iechyd meddwl brys. Ers i'r broses gyflwyno ddechrau ym mis Tachwedd 2022, mae eisoes wedi helpu dros 15,000 o bobl mewn trallod yn ogystal â gofalwyr ac aelodau o'r teulu sy'n pryderu i gael y cymorth sydd ei angen arnynt. Yn ogystal â darparu ymyriadau byr i leihau trallod a rheoli argyfwng iechyd meddwl uniongyrchol, mae '111 pwyso 2' wedi darparu mynediad amserol i wasanaethau iechyd meddwl. I'r lleiafrif, mae hyn wedi golygu gwasanaethau gofal brys, gwasanaethau iechyd meddwl y GIG, neu ofal sylfaenol, ond mae'r mwyafrif wedi cael eu cyfeirio at grwpiau trydydd sector lleol neu wedi cael cyngor ar hunanreoli. Bydd ymgyrch ymwybyddiaeth genedlaethol yn cael ei lansio'r wythnos hon i hyrwyddo'r gwasanaeth pwysig hwn ymhellach ac i ymestyn y cymorth sy'n cael ei gynnig i bawb sydd ei angen yng Nghymru. Hoffwn ddiolch i'n byrddau iechyd am eu hymrwymiad i sefydlu'r gwasanaeth hwn yng nghyd-destun y pwysau parhaus a sylweddol sydd ar ein gwasanaethau iechyd meddwl, gyda chefnogaeth yr Uned Comisiynu Cydweithredol Genedlaethol a rhaglen GIG 111. Erbyn hyn, mae gan y gwasanaeth dros 140 o staff mewn hybiau yn ein saith bwrdd iechyd, ac rwyf yn llawn werthfawrogi'r gwaith sy'n cael ei wneud gan ein timau ymroddedig a'r gweithwyr tosturiol sy'n cymryd galwadau i wireddu'r weledigaeth hon. Mae'r gwasanaeth newydd yn ganlyniad buddsoddiad sylweddol mewn cymorth iechyd meddwl yng Nghymru, ac mae'n un o nifer o welliannau i wasanaethau. Mae hyn yn cynnwys rhoi amrywiaeth o ddewisiadau amgen ar waith yn lle derbyn pobl i'r ysbyty, gan gynnwys noddfeydd. Fel rhan o'r cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru, mae'r cynnig noddfa wedi cael ei ymestyn, ac mae nifer o brosiectau wedi cael eu treialu sy'n darparu noddfeydd pwrpasol i blant a phobl ifanc sy'n wynebu argyfwng iechyd meddwl. Rydym hefyd wedi rhoi model cludiant iechyd meddwl cenedlaethol ar waith o'r enw 'Taith Dda' neu 'Good Journey', sy'n cynnig dull cludo diogel, tosturiol ac ymatebol i helpu pobl i gael gafael ar gymorth iechyd meddwl priodol. Bydd yn sicrhau bod dewis arall ar gael yn lle ambiwlans neu gerbyd heddlu, ac mae'n bartneriaeth rhwng y GIG ac Ambiwlans Sant Ioan Cymru. Mae'r gwelliannau hyn yn darparu'r llwyfan ar gyfer cymorth iechyd meddwl gwirioneddol integredig. Mae '111 pwyso 2' yn ymestyn ein pecyn cymorth iechyd meddwl sy'n hawdd cael gafael arno ymhellach. Mae hyn yn cynnwys ein llinell gymorth iechyd meddwl CALL, cymorth ar gyfer anhwylderau bwyta gan BEAT, a therapi ymddygiad gwybyddol ar-lein trwy SilverCloud. Trwy SilverCloud yn unig, rydym wedi cefnogi dros 22,000 o bobl yng Nghymru drwy gymorth arloesol lle nad oes angen atgyfeiriad gan weithiwr iechyd proffesiynol. Gallwn ni deimlo'n falch o'r datblygiadau hyn sydd wedi cael eu gwneud yng Nghymru i wella'r cymorth sydd ar gael i'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Mae'r gwaith hwn i wella mynediad at gymorth i'r rhai sydd wedi cyrraedd pwynt argyfwng yn digwydd yng nghyd-destun gwaith system gyfan llawer ehangach i wella iechyd meddwl a lles. Mae ein dull ysgol gyfan a fframwaith cynllunio NEST/NYTH yn enghreifftiau da o'n hymrwymiad parhaus i gyflawni gwaith trawslywodraethol a thraws-sectoraidd i amddiffyn a chefnogi ein lles emosiynol a'n hiechyd meddwl. Yn ddiweddarach eleni, byddwn ni'n ymgynghori ar ein strategaethau iechyd meddwl ac atal hunanladdiad yng Nghymru yn y dyfodol. Cyhoeddwyd gwerthusiad annibynnol o'r ddwy strategaeth ym mis Mawrth, ac mae swyddogion eisoes wedi gwneud cryn dipyn o waith paratoi ac ymgysylltu gyda rhanddeiliaid a defnyddwyr gwasanaethau i lywio cyfres o egwyddorion a datganiadau gweledigaeth. Rydym bellach yn symud i gyfnod o ymgysylltu cyn yr ymgynghoriad er mwyn sicrhau bod ein cynlluniau olynol yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn cael eu llywio gan leisiau defnyddwyr, gofalwyr a rhanddeiliaid yng Nghymru. Byddaf yn gwneud datganiad pellach ar hyn yn ddiweddarach eleni, cyn yr ymgynghoriad cyhoeddus. Diolch, Llywydd. James Evans. James Evans MS: Diolch, Dirprwy—. Diolch, Llywydd, a hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am eich datganiad. Mae wedi bod yn ddiwrnod hir yn barod, Dirprwy Weinidog. [Chwerthin.] Rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth cadarnhaol iawn, ac rwy'n gwybod ei fod yn rhywbeth y mae fy mhlaid i yn y fan yma yn frwd iawn yn ei gylch ac yn gefnogol iawn i'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ar hyn. Mae llawer o gwestiynau gen i ynghylch y datganiad. Yn amlwg, mae'r un ynghylch y gwasanaeth 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Mae hynny'n dda iawn, ond yr hyn yr hoffwn i ei ddeall yw, hoffem weld pobl ar lawr gwlad hefyd, y timau hynny, mewn byrddau iechyd hefyd, a all ddarparu'r gofal hwnnw 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Mae'n dda iawn bod gennym y llinell ffôn lle y gall pobl gael cymorth, ond weithiau, mae angen i rywun fynd allan i weld y bobl hynny yn ystod yr amseroedd hynny y tu allan i oriau i roi'r help a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw. Felly, hoffwn wybod pa waith arall y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod gennym y timau argyfwng gwirioneddol hynny yn yr ardaloedd hynny i fynd allan a rhoi cymorth. Y dull 'dim drws anghywir': rwy'n gwybod fy mod i wedi siarad â chi am hyn sawl gwaith, ac rwy'n gefnogol iawn i'r dull 'dim drws anghywir' hwnnw. Mae'n dweud bod pobl yn mynd yn ddi-dor i wasanaethau eraill i gael yr help. Hoffwn ddeall sut mae hynny'n gweithio mewn gwirionedd, gan ein bod ni'n gwybod, mewn rhai rhannau o Gymru, fod pobl yn ei chael hi'n anodd cael y gefnogaeth a'r cymorth sydd eu hangen arnyn nhw. Felly, yr hyn yr hoffwn i ei wybod yw, pan fyddan nhw'n ffonio, ac mae rhywun yn dweud, 'Wel, mae angen y gefnogaeth ychwanegol honno arnoch chi', sut yn union mae hynny'n gweithio, oherwydd rwy'n credu ei bod yn beth da iawn i ni wybod hynny, a gallwn ni fynd yn ôl at ein hetholwyr a deall hynny. Beth arall sydd gennym yma? Rwy'n credu bod y 15,000 o bobl sydd wedi cael cymorth, rwy'n credu bod hynny'n nifer eithriadol o bobl sy'n mynd trwy'r gwasanaeth hwnnw eisoes, ac rwy'n credu ei fod yn dangos bod problem wirioneddol ddifrifol gennym o ran iechyd meddwl yng Nghymru, ac rwy'n falch iawn bod y llinell hon ar gael nawr i roi'r cymorth sydd ei angen ar y bobl hynny, oherwydd rwy'n credu bod y bobl yna wedi dioddef mewn tawelwch gartref yn rhy hir heb wybod ble i gael y cymorth yna. Felly, fel y dywedais i, rwy'n falch iawn ei fod wedi cael ei gyflwyno. Felly, ie. Hefyd, mae nifer y bobl, fel y dywedoch chi, sy'n mynd i mewn i'n hybiau, y bobl sydd wedi cael eu recriwtio fel petai ledled Cymru, yr hyn yr hoffwn i ei wybod, yn ogystal â'r rhai sy'n ateb y ffonau a'r bobl ymroddedig hynny, a oes gennym ni gapasiti llawn ym mhob un o'n byrddau iechyd nawr o ran y bobl sy'n gallu ateb y ffôn a rhoi'r cymorth arbenigol hwnnw sydd ei angen ar y bobl hynny? Hoffwn ategu'r sylwadau a wnaethoch: mae'r bobl hynny'n gwneud gwaith hollol anhygoel, a dydy hi ddim yn hawdd gwneud y swydd honno, ac rwy'n codi fy het i bob un o'r rhai sy'n gwneud hynny, ond hoffwn wybod, a yw'r holl swyddi hynny wedi'u llenwi ledled Cymru? Fe ddywedoch chi fod y pethau maen nhw'n eu gwneud yn cynnwys ystod o opsiynau amgen i dderbyn pobl i'r ysbyty. Roedd yn y cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru. Hoffwn wybod pa opsiynau amgen eraill rydych chi'n eu hystyried, heblaw mynd i'r ysbyty, oherwydd dydw i ddim yn credu ei bod hi'n iawn ein bod ni'n anfon pobl sydd â chyflwr iechyd meddwl i adrannau damweiniau ac achosion brys neu i'n hysbytai; mae angen iddyn nhw fynd i rywle arall i gael y cymorth arbenigol sydd ei angen arnyn nhw. Y 'Taith Dda'—rwy'n credu bod hynny'n waith da iawn rydych chi'n ei wneud gydag Ambiwlans Sant Ioan, oherwydd, fel y dywedoch chi o'r blaen, dydy hi ddim yn iawn rhoi pobl sy'n dioddef argyfwng iechyd meddwl yng nghefn car heddlu. Maen nhw'n gallu mynd mewn ambiwlansys, ond dydw i ddim yn credu mai dyna sydd ei angen arnyn nhw. Does dim angen iddyn nhw fynd mewn car heddlu. Mae hynny'n gwneud pethau'n waeth. Ond yr hyn yr hoffwn i ei wybod am hynny yw: ydy hynny'n cael ei gyflwyno ar draws Cymru neu a yw'n mynd i fod yn ein dinasoedd yn unig, oherwydd doedd hynny ddim yn hollol glir yn y datganiad—rhannau o'r byd rwy'n eu cynrychioli ym Mhowys, er enghraifft? Hoffwn wybod a yw hynny yno, oherwydd mae'r heddlu'n gwneud llawer iawn o waith cludo pan fydd pobl yn ffonio, a dydw i ddim yn credu bod hynny'n iawn. Roeddech chi'n sôn ei fod yn ymwneud â gwasanaethau anhwylderau bwyta hefyd. Fe wnes i godi hyn gyda'r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, felly hoffwn wybod pa waith pellach rydyn ni'n ei wneud ar wasanaethau anhwylderau bwyta ledled Cymru i sicrhau bod y bobl hynny'n cael eu cefnogi ac yn cael yr help sydd ei angen arnyn nhw. Ac os gallech chi egluro safbwynt y Llywodraeth ar hynny, byddwn i'n ddiolchgar iawn. A hefyd, i orffen, o ran yr hyn fydd yn cymryd lle 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', mae'n braf iawn gweld ei fod wedi cael ei gyflwyno ac i weld y gwaith rydych chi'n ei wneud ar hynny. Felly, hoffwn pe gallech chi roi unrhyw ddiweddariadau pellach ar y strategaeth honno, gyda phwy rydych chi'n siarad a phryd bydd yr ymgynghoriad yn dechrau, oherwydd byddai'n ddefnyddiol iawn gwybod hynny. Fel y dywedais i, hoffwn ddiolch i chi am y datganiad hwn, Gweinidog. Rwy'n credu'n gryf bod hyn yn rhywbeth sydd ei angen arnom. Mae angen ei gyflwyno ymhellach, a hoffwn ei weld yn cael ei gyflwyno ledled Cymru ac yn gwneud mwy, ond rwy'n credu ein bod ni'n gwneud cymaint ag y gallwn ni ar hyn o bryd, ac rwy'n diolch yn fawr iawn i chi am ei gyflwyno. Lynne Neagle AC: Diolch yn fawr iawn i James Evans am y croeso a'r ymateb cadarnhaol hwnnw. Roedd llawer o gwestiynau yn y fan yna; byddaf yn gwneud fy ngorau i ateb yr hyn y gallaf. Mae'n 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, ond nid dyna'r unig beth rydyn ni'n ei wneud. Yn amlwg, mae'r cysylltiadau hefyd â'r timau argyfwng, â'r timau ymyrraeth yn y cartref, ac â phethau fel gwasanaethau noddfa. Felly, mae hyn yn rhan o ddarn ehangach o waith ynghylch cymorth iechyd meddwl brys i bobl. A'r peth da am y gwasanaeth hwn yw bod gennym ni set ddata dda iawn ar yr hyn y mae pobl yn galw amdano, felly bydd hynny'n ein galluogi i nodi unrhyw fylchau mewn gwasanaethau. Felly, er enghraifft, pe byddem ni'n gweld llawer o bobl yn gorfod mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys mewn ardal benodol, byddai hynny'n dweud wrthym ni fod gennym ni broblem yn yr ardal honno, ac yna gallwn ni weithio i geisio llenwi'r bylchau o ran hynny. Ac mae wir yn drawiadol iawn—ac mae'n rhaid i mi dalu teyrnged i'r Uned Comisiynu Cydweithredol Genedlaethol a Shane Mills, sydd wedi arwain y gwaith hwn—mae'n ddarn wirioneddol drawiadol o waith maen nhw wedi'i wneud o amgylch y data a fydd yn hynod ddefnyddiol. Mae'n ddull 'dim drws anghywir', sy'n amlwg yn un o'r ymrwymiadau yn y rhaglen lywodraethu. Yr hyn dydyn ni ddim eisiau ei weld yw pobl yn cael eu symud rhwng gwasanaethau, ac rydyn ni wedi gweld hynny yn y gorffennol. Felly, yr hyn fydd yn digwydd gyda hyn yw, os bydd rhywun yn ffonio a bod angen mwy o help na'r hyn y gellir ei ddarparu dros y ffôn, yna dylai'r ymarferwyr lles meddyliol drefnu'r apwyntiad yn y fan a'r lle i bobl weld rhywun, gyda CAMHS arbenigol neu'r tîm argyfwng, dyweder. Maen nhw i fod i wneud y darn hwnnw o waith fel nad yw rhywun yn cael ei anfon i ffwrdd i fynd yn ôl i chwilio am wasanaethau eraill. Felly, o'r safbwynt hwnnw, mae'n sicr yn ddull 'dim drws anghywir'. Ac fel rydych chi wedi pwysleisio, mae 15,000 o bobl eisoes wedi ei ddefnyddio, a'r hyn sy'n ddiddorol yw y gallwn ni weld o'r ffigurau hynny bod tua hanner y rheini yn bobl a oedd eisoes mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd meddwl. Felly, mae hynny'n golygu nad yw'r hanner arall wedi cael unrhyw gyswllt blaenorol â gwasanaethau iechyd meddwl, felly, fel rhan o'r cyhoeddusrwydd ar gyfer y gwasanaeth newydd hwn nawr, yr hyn yr ydym am ei wneud dros y misoedd i ddod yw sicrhau ein bod ni'n cyrraedd mwy a mwy o bobl sydd angen cymorth ond sydd heb gysylltu â gwasanaethau. Mae'r prosiect cludiant iechyd meddwl yn brosiect rhagorol ac, fel y dywedwch chi, mae mor bwysig osgoi'r stigma o roi pobl yng nghefn car heddlu, ac mae hwnnw ar gael ledled Cymru. Felly, mae honno'n fenter dda iawn. O ran capasiti'r gwasanaeth, mae 147 o staff yn gweithio yn yr hybiau ledled Cymru ar hyn o bryd. Rydym yn monitro cydnerthedd y gwasanaeth yn ofalus iawn, oherwydd mae wedi mynd o wasanaeth sy'n gweithredu rhan o'r dydd i wasanaeth 24 awr. Felly, yr hyn y mae angen i ni ei wneud nawr yw monitro'r cydnerthedd hwnnw fel ein bod ni'n gwybod pa mor hir y mae'n ei gymryd i ateb y galwadau yn y canolfannau galwadau penodol, oherwydd y peth olaf rydych chi ei eisiau yw bod rhywun yn ffonio rhif iechyd meddwl brys ac yna, 'O, wyddoch chi, bum munud yn hwyr'. Byddai hynny'n ofnadwy, a dydy hynny ddim yn digwydd, ond mae angen i ni sicrhau bod y gwasanaeth yn gydnerth, yn enwedig wrth i ni agosáu at y gaeaf, pan fydd y pwysau hynny bob amser. Felly, rydyn ni'n parhau i adolygu hynny. O ran gwasanaethau anhwylderau bwyta, fel y gwyddoch chi, James, mae anhwylderau bwyta yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Rydyn ni wedi buddsoddi tua £2.5 miliwn ychwanegol y llynedd mewn gwasanaethau anhwylderau bwyta. Mae'r pwyslais wedi bod ar sicrhau bod pob bwrdd iechyd yn bodloni canllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal a'r amser aros, sef pedair wythnos. Mae gennym arweinydd clinigol nawr ac rydyn ni'n gwneud cynnydd da. Rwy'n gwybod bod diddordeb arbennig gennych chi mewn gwasanaethau i gleifion mewnol, ac mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn gwneud darn o waith i ni gael ein huned cleifion mewnol ein hunain yng Nghymru. Bydd hynny'n cael ei wneud fel rhan o'r gwaith o amgylch eu strategaeth gwasanaethau arbenigol, ond gallaf gadarnhau hefyd ein bod ni'n hyderus y bydd gennym rai gwelyau dros dro yng Nghymru yr haf hwn, felly bydd hynny'n gam ymlaen. O ran y strategaeth, mae llawer iawn o ymgysylltu yn digwydd gyda'n fforwm defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr, rydyn ni'n sefydlu grŵp o bobl ifanc i weithredu fel grŵp cyfeirio i ni, mae gennym ni bethau fel Cynghrair Iechyd Meddwl Cymru, mae gennym ni'r grŵp gorchwyl a gorffen du a lleiafrifoedd ethnig. Mae honno'n broses barhaus, ailadroddol, ac mae fideo newydd fynd yn fyw sy'n nodi rhai o'r gweledigaethau yn y datganiad er mwyn i ni gael barn cyn cynnal ymgynghoriad ffurfiol. Felly, rydyn ni'n bwriadu cynnal ymgynghoriad sydd mor eang ac mor gynhwysol â phosibl. Peredur Owen Griffiths AS: Diolch yn fawr, Dirprwy Weinidog, am y datganiad a'r atebion yna i'r cwestiynau gan James, a dwi'n cytuno efo James bod yn rhaid inni fynd mor bell â rydym ni'n gallu mynd gyda'r gwasanaeth yma, achos mae'n hynod o bwysig. Peredur Owen Griffiths AS: Mae llawer o gefnogaeth i'r gwasanaeth hwn ar draws y Siambr a chan fy mhlaid i—mae llawer iawn o gefnogaeth wedi bod ar gyfer cymorth iechyd meddwl dros y ffôn ac ar-lein. Fel y sonioch chi, nododd 'Tu Hwnt i'r Alwad', yr adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2020, y galw sydd ar ofal sylfaenol, yr heddlu, gwasanaethau ambiwlans ac adrannau brys, yn ogystal â gwasanaethau iechyd meddwl y GIG i'r rhai mewn argyfwng, ac mae'n sylweddol. Amcangyfrifodd yr adolygiad hwnnw fod 941 o alwadau neu bresenoldeb neu atgyfeiriadau ar gyfer pryderon iechyd meddwl neu les bob dydd yng Nghymru. Pan fydd eich iechyd meddwl yn fregus, mae angen i chi wybod y gallwch chi gael gafael ar y cyngor a'r cymorth sydd eu hangen arnoch. Mae hi yr un mor bwysig, pan fyddwch chi'n cael y cyngor neu'r cymorth hwnnw, ei fod yn cael ei roi gan staff hyfforddedig ac arbenigol. Rwy'n mawr obeithio y bydd y gwasanaeth hwn yn nodi newid mawr yn y modd y mae pobl sy'n wynebu argyfwng iechyd meddwl yn cael eu cefnogi a'u trin a pha mor gyflym y mae hynny'n digwydd. Rwy'n amau bod llawer o bobl, dros y blynyddoedd, wedi cael eu colli rhwng y gwasanaethau hyn cyn lansio gwasanaeth arbenigol fel hwn. I unrhyw un yng nghanol argyfwng iechyd meddwl, dydy cael ei adael ar ei ben ei hun ddim yn ddelfrydol o bell ffordd, ac rwy'n siŵr bod gan bob un ohonom ni unigolion yn ein cymunedau ac yn ein teuluoedd ein hunain y mae pethau fel hyn wedi effeithio arnynt. Mae hyn yn fy arwain at fy nghwestiwn cyntaf. A wnewch chi ddweud ychydig mwy wrthyf am y cynlluniau i roi cyhoeddusrwydd i'r gwasanaeth er mwyn sicrhau bod pobl yn gwybod ei fod yn bodoli? Fe wnaethoch chi sôn am y bwriad i gynnal ymgyrch genedlaethol, ond dydy'r record o ran rhoi gwybod i bobl am wasanaethau ffôn presennol ddim yn wych. Er enghraifft, mewn arolwg o oedolion yng Nghymru, dywedodd 65 y cant nad oedden nhw'n gwybod y dylen nhw ffonio'r heddlu ar y rhif 101 ar gyfer mater nad yw'n argyfwng, a doedd 48 y cant o fenywod a 72 y cant o ddynion ddim yn gwybod y dylen nhw ffonio'r GIG ar 111 os oes sefyllfa feddygol nad yw'n argyfwng. A oes cynlluniau i roi cyhoeddusrwydd i'r gwasanaeth hwn mewn ffordd wahanol i'r modd y cynhaliwyd ymgyrchoedd cenedlaethol yn y gorffennol? Mae angen sicrhau hefyd fod y seilwaith ar waith i gefnogi'r gwasanaeth. Rydyn ni'n debygol o weld mwy o alw ar wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru wrth i fwy o bobl gael eu cyfeirio at y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Mae hyn yn beth da, ond nid yw ond yn beth da os oes capasiti ym maes y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r trydydd sector, sydd efallai, dros y blynyddoedd, heb gael yr arian a'r adnoddau y dylen nhw fod wedi'u cael. Felly, a ydych yn hyderus y bydd y cyllid ychwanegol rydych wedi'i roi hyd yn hyn neu wedi'i gynllunio ar gyfer y dyfodol yn ddigonol i ateb y galw ychwanegol a ragwelir o ganlyniad i'r fenter hon? Gallai'r gwasanaeth ffôn ac ar-lein ddarparu safon aur ar gyfer triniaeth a chyfeirio, ond os nad oes digon o gapasiti yn y system a allai fynd â'r galwr ymlaen at gam nesaf y driniaeth, yna byddai hynny'n drueni mawr; byddai hefyd yn gwneud cam â rhywun yn y cyflwr bregus hwnnw. Yn olaf, a wnewch chi ddweud wrthyf sut y bydd gwybodaeth a gasglwyd o'r gwasanaeth yn cael ei defnyddio i lywio penderfyniadau ynghylch dyrannu cyllid ar gyfer y dyfodol? Mae hefyd yn bwysig bod unrhyw ddata a gwerthusiadau o'r gwasanaeth yn cael eu rhannu â phartneriaid ym maes iechyd meddwl i'w helpu i wella'r gwasanaethau y maen nhw'n eu darparu. Diolch yn fawr. Lynne Neagle AC: Diolch yn fawr iawn, Peredur, am y pwyntiau hynny. Rwy'n hapus iawn i geisio ateb eich cwestiynau. Rydych chi'n iawn i dynnu sylw at 'Tu Hwnt i'r Alwad'; roedd yn ddarn o waith arloesol iawn. Ond yr hyn a ddangosodd oedd, i'r mwyafrif helaeth o bobl oedd yn gwneud y cysylltiadau brys hynny gyda phethau fel yr heddlu, doedd hynny ddim oherwydd eu bod nhw'n sâl yn feddyliol; roedd hynny am resymau lles—roedd pobl mewn trallod, roedden nhw mewn dyled, mae pobl yn unig. Felly, mae hwn yn ymgais, mewn gwirionedd, i fynd i'r afael â hynny. Bydd yna ymgyrch gyhoeddusrwydd lawn. Yn amlwg, mae wedi cael cyhoeddusrwydd yn barod, ond nawr ei fod wedi mynd yn fyw 24 awr y dydd, bydd ymgyrch gyhoeddusrwydd yn cael ei chynnal a, wyddoch chi, mae wedi gweithio i'r gwasanaeth 111 arferol. Galla' i ddim gwneud sylw ar 101, oherwydd mae hynny'n amlwg yn wasanaeth heddlu, ond rwy'n gwybod bod byrddau iechyd yn gwneud eu cyhoeddusrwydd a'u hysbysebu eu hunain hefyd trwy eu sianeli cyfryngau cymdeithasol eu hunain. Yr hyn rydyn ni'n ei weld hyd yn hyn yw defnydd da o'r gwasanaeth a byddem yn disgwyl i hynny gynyddu. Rydych chi'n gwneud pwyntiau pwysig am y cynnydd yn y galw, ond diben hyn, mewn gwirionedd, yw dad-ddwysáu'r anghenion hynny a chyfeirio pobl at y cymorth mwyaf priodol. Yn y ffigurau sydd gennym hyd yn hyn ar yr hyn sydd wedi digwydd i'r bobl sydd wedi cysylltu â'r gwasanaeth, mae 45 y cant ohonyn nhw, drwy'r alwad, wedi mynd ymlaen i roi dulliau hunanofal ar waith—maen nhw wedi cael cyngor ar hunanofal. Mae 5 y cant ohonyn nhw wedi cael eu rhoi mewn cysylltiad â sefydliadau trydydd sector. Mewn gwirionedd, nifer fach iawn o bobl sydd wedi cael eu cyfeirio at wasanaethau arbenigol. Rydych chi'n gwneud pwyntiau pwysig am gyllid, ond mae'n un o ymrwymiadau'r rhaglen lywodraethu, fe gafodd £50 miliwn yn ychwanegol y llynedd a £75 miliwn yn ychwanegol eleni, a bydd yn cael £90 miliwn y flwyddyn nesaf, felly rydyn ni'n gwneud defnydd da o'r arian hwnnw. Yr hyn y gallwn ni ei wneud gyda'r data a gawn o'r galwadau hyn yw, os oes bylchau, gallwn geisio eu llenwi. Fel y dywedais i, os oes llwyth o bobl yn mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys, dydy hynny ddim yn ganlyniad da i bobl, neu os ydyn ni'n meddwl bod pobl ifanc sy'n ymgyflwyno mewn ardal benodol—. Felly, byddwn ni'n defnyddio'r data hwnnw i lywio ein cynlluniau yn y dyfodol, wrth symud ymlaen. Vikki Howells AC: Diolch, Llywydd, am eich datganiad heddiw. Mae '111 pwyso 2' yn gynllun trawiadol iawn, felly rwy'n croesawu eich diweddariad. Rwy'n gwybod bod cyflwyno'r dull 'dim drws anghywir' yn rhywbeth rydych chi'n angerddol iawn amdano, ac rwy'n credu y bydd o werth amhrisiadwy i bobl yn ein cymunedau sydd angen cael gafael ar gymorth iechyd meddwl brys. Rwy'n falch iawn o glywed ei fod wedi helpu dros 15,000 o bobl yn barod a bod 140 o staff ar draws ein byrddau iechyd yn darparu'r gwasanaeth hwn. Cefais gyfle yn ddiweddar i ymweld â hwb Cwm Taf Morgannwg ac i gwrdd â'r tîm sydd wrthi'n cyflwyno hyn, ac roedd yn hynod ddiddorol clywed am y sgiliau gwahanol yr oedden nhw'n eu defnyddio yn eu rolau, eu cefndir a sut roedd yr amrywiaeth o sgiliau a oedd ganddynt yn gwella'r ddarpariaeth. Felly, tybed pa fecanweithiau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith i sicrhau bod byrddau iechyd yn gweithio i ddarparu gwasanaeth cynaliadwy o ansawdd da yn y tymor hir, yn enwedig o ran cynllunio'r gweithlu yn y dyfodol. Fy ail gwestiwn—. Rwy'n edrych ymlaen at ddilyn yr ymgyrch ymwybyddiaeth arfaethedig. Mae'n amlwg yn bwysig iawn bod pobl yn gwybod bod y gwasanaeth yno, ac rwy'n credu mai un o'r teyrngedau mwyaf trawiadol a glywais pan wnes i gyfarfod â'r gwasanaeth lleol yw bod ymwybyddiaeth ohono ar y pryd wedi tyfu'n organig ar lafar. Mae hyn yn adeiladu ar gwestiwn a ofynnais i'r Gweinidog Addysg yn flaenorol. Rwy'n gwybod eich bod chi wedi siarad yma yn barod am sut y gall yr ymgyrch codi ymwybyddiaeth ymateb i ddata sydd wedi'i gasglu, ond, yn amlwg, bydd gwahanol negeseuon a llwyfannau yn apelio orau at wahanol ddemograffeg, felly sut y bydd modd ymgorffori hynny yn yr ymgyrch a pha negeseuon y gellid eu defnyddio fel bod pobl iau, yn arbennig, yn ymwybodol o'r gwasanaeth? Lynne Neagle AC: Diolch yn fawr iawn, Vikki, ac rwy'n falch iawn eich bod chi wedi cael y cyfle i fynd i'w weld ar waith. Mae'n wasanaeth trawiadol iawn, ac rydych chi wedi gwneud pwynt pwysig iawn am y gweithlu, oherwydd yr her rydyn ni wedi'i hwynebu gyda gwasanaethau—ac nid yw'n unigryw i Gymru—yw bod pwysau go iawn o ran y gweithlu. Yr hyn rydym yn ei weld yn aml pan fyddwn ni'n buddsoddi mewn gwasanaeth newydd yw ein bod ni'n cymryd oddi ar un gwasanaeth ac yn rhoi i wasanaeth arall, felly bydd staff yn gadael un gwasanaeth ac yn mynd i weithio mewn gwasanaeth gwahanol. Y peth da am y gwasanaeth hwn yw mai aelodau staff hollol wahanol sy'n rhedeg y gwasanaeth, maen nhw'n ymarferwyr lles meddyliol; maen nhw i gyd wedi cael hyfforddiant llawn, ond maen nhw'n dod o amrywiaeth o gefndiroedd. Felly, yn hytrach na chael eu cyfyngu i, dyweder, nyrsys band 6, gallen nhw fod yn therapyddion galwedigaethol, yn bobl sydd wedi gwneud graddau mewn seicoleg, ond maen nhw i gyd wedi cael y lefel hon o hyfforddiant. Felly, mae'n fath newydd o weithlu i raddau helaeth, ni fydd staff yn cael eu cymryd oddi wrth wasanaethau sy'n bodoli'n barod, ac mae hefyd yn cyd-fynd i raddau helaeth â gofal iechyd darbodus. O ran yr ymgyrch ymwybyddiaeth, byddwn ni'n gwneud ein gorau i ddefnyddio'r data, ac rydym yn monitro nifer y bobl o wahanol grwpiau sy'n galw, felly byddwn ni'n gwybod faint o blant sydd wedi galw. Mae gennym ni fanylion am gyn-filwyr a phopeth felly, felly byddwn ni'n defnyddio'r data wedyn i geisio targedu ein dulliau cyfathrebu. Byddwn i'n ddiolchgar iawn pe gallai Aelodau'r Siambr hon roi gwybod i'w hetholwyr am y gwasanaeth, oherwydd, yn amlwg, rydych chi i gyd mewn sefyllfa unigryw i hyrwyddo'r gwasanaeth hefyd. Bydd codi ymwybyddiaeth ohoni yn rhywbeth parhaus, ond rwy'n credu bod y ffigurau cychwynnol yn galonogol iawn. Jane Dodds AS: Prynhawn da, Gweinidog. Rwyf innau hefyd yn ymuno â phawb yn y Siambr, rwy'n credu, sy'n cefnogi datblygiad y gwasanaeth a darpariaeth y gwasanaeth, hefyd. Mae'n drawiadol iawn o ran anghenion cynifer o bobl y mae wedi'u diwallu hyd yn hyn ac mae wedi newid bywydau pobl, rwy'n siŵr—pobl fel ni. Gallai unrhyw un ohonom ni ddioddef, ac efallai fod llawer ohonom ni wedi dioddef o heriau iechyd meddwl penodol, felly mae'n drawiadol iawn. Diolch yn fawr iawn. Roeddwn i eisiau canolbwyntio ar un peth, ac rwy'n gwybod eich bod chi wedi ymuno â'n grŵp trawsbleidiol sy'n edrych ar 1,000 diwrnod cyntaf plant. Rydych chi'n gwybod pa mor bwysig yw'r cyfnod cyntaf hwnnw o fywyd plentyn, o fywyd babi, o ran sicrhau bod ein babanod newydd-anedig—ac, yn wir, buddsoddi i gynilo ar gyfer y genhedlaeth nesaf o ran gwasanaeth. Rydyn ni'n gwybod bod problemau iechyd meddwl amenedigol yn effeithio ar hyd at 27 y cant o famau newydd a mamau beichiog, ac, os na chânt eu trin, gallan nhw gael effeithiau hirdymor sylweddol ar rieni ac ar blant. Felly, tybed beth allem ni ei wneud o ran y gwasanaeth i wella sgiliau pobl er mwyn diwallu anghenion posibl y bobl sydd mewn cysylltiad â'r gwasanaeth hwnnw, a pha gynlluniau sydd gennych chi ar gyfer datblygu hynny yn y dyfodol. Diolch yn fawr iawn. Lynne Neagle AC: Diolch yn fawr iawn, Jane, am y croeso hwnnw i'r gwasanaeth, sy'n cael ei werthfawrogi'n fawr. Rydych chi'n iawn i dynnu sylw at bwysigrwydd y 1,000 diwrnod cyntaf, ac, fel y gwyddoch chi, rwy'n angerddol iawn am iechyd meddwl babanod. Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i bawb, mewn gwirionedd, ac rydym hefyd yn cofnodi nifer y bobl sy'n galw am faterion iechyd meddwl amenedigol. Yn amlwg, mae gennym wasanaethau arbenigol, timau arbenigol ym mhob rhan o Gymru sy'n darparu cymorth iechyd meddwl amenedigol, felly rwy'n credu y byddai'n dibynnu ar lefel angen yr unigolyn. Gall fod angen i rywun sy'n cysylltu â'r gwasanaeth gael gwybodaeth am grŵp mamau neu grŵp tadau neu gael ei roi mewn cysylltiad ag ef, neu gall fod angen ei roi mewn cysylltiad â'r tîm iechyd meddwl amenedigol arbenigol hwnnw. Ond mae hwn yn wasanaeth i bawb, ni waeth beth yw eu hanghenion iechyd meddwl, a dyna pam ei bod yn bwysig iawn bod yr holl hybiau wedi datblygu llwybrau at yr holl wasanaethau lleol, ac maen nhw hyd yn oed yn mynd i weld rhai o'r gwasanaethau hynny, er mwyn sicrhau eu bod nhw'n gyfarwydd â'r hyn sydd ar gael yn eu hardal leol fel y gallan nhw rhoi pobl mewn cysylltiad â nhw. Jenny Rathbone AC: Diolch yn fawr iawn am eich datganiad, sy'n llawn manylion diddorol. Yn amlwg, os yw rhywun mewn argyfwng iechyd meddwl, y lle olaf maen nhw am fynd iddo yw adran frys brysur a swnllyd, felly mae croeso mawr i bopeth y gallwn ni ei wneud i gadw pobl allan o'r sefyllfa honno. Credaf y bydd hyn yn rhoi sicrwydd arbennig i'r rhai sydd ag aelod o'r teulu y maen nhw'n gwybod sy'n wynebu argyfyngau o bryd i'w gilydd, ac os gallan nhw fod yn sicr o wybod y bydd gwasanaeth ar gael 24/7 drwy'r amser, hyd yn oed pan fydd gwasanaethau eraill ar gau, mae hynny'n newyddion da iawn. Roedd yn ddiddorol, y sylw am sefydlu'r 'Taith Dda', i fynd â rhywun i fan diogel nid mewn car heddlu. Wedi dweud hynny, yn y gorffennol roedd yr heddlu bob amser â rhan bwysig iawn i'w chwarae, gan mai nhw oedd yr unig wasanaeth oedd ar gael 24/7 ac yn mynd at bobl sydd mewn trallod meddyliol yr oedd eu cymdogion wedi eu riportio, efallai. Meddwl oeddwn i tybed a ydych chi'n fodlon bod yr heddlu bellach yn ailbwysleisio eu hymdrechion ar agweddau eraill ar bobl yn torri'r gyfraith, a yw'r gwasanaeth hwn yn mynd i fod yn ddigonol i weithredu fel yr ymateb 24/7 hwnnw, oherwydd bod rhai pobl—. Os mai cymydog neu aelod o'r teulu sy'n gwneud yr alwad honno, efallai na fydd yr unigolyn sydd mewn trallod mewn cyflwr i siarad â'ch ymarferwyr iechyd meddwl mewn gwirionedd ac i'w helpu nhw i ddod trwy'r argyfwng. A fydd gennych chi, fel cymorth wrth gefn, bobl sy'n gallu neidio i mewn i gar, os oes angen, i fynd at rywun mewn trallod? Lynne Neagle AC: Diolch, Jenny. Mae hwn yn wasanaeth iechyd meddwl brys. Os oes argyfwng a bygythiad uniongyrchol i fywyd, yna ffonio 999 yw'r peth cywir i'w wneud. Rydyn ni wedi clywed y cyhoeddiadau sydd wedi cael eu gwneud yn Lloegr, yn enwedig gan y Met, ond mae'r rheiny'n ymwneud â Lloegr. Mae gennym drefniadau partneriaeth cydweithredol da iawn gyda'r heddlu a gwasanaethau cyhoeddus eraill yng Nghymru. Mae gennym fwrdd plismona a phartneriaeth i Gymru, yn ogystal â phob math o waith partneriaeth arall sy'n mynd ymlaen yn barhaus, ac mae gennym gytundeb ar y cyd â'r heddlu fod ymateb i anghenion iechyd meddwl yn gofyn am ddull cydgysylltiedig ac amlasiantaethol. Rydyn ni'n gweithio gyda'r heddlu i ddeall effaith y fenter o'r enw'r rhaglen 'Right Care, Right Person' yn Lloegr, a bydd hynny'n cynnwys edrych ar y rhan y gall '111 pwyso 2' ei chwarae fel rhan o ddull amlasiantaethol o ymdrin ag iechyd meddwl yng Nghymru. Diolch i'r Gweinidog. Rydych chi wedi ymdrin â'r holl gwestiynau a'r bobl oedd eisiau cyfrannu. 8. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Diwrnod y Lluoedd Arfog Felly, eitem 8 sydd nesaf, datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog. Felly, y Dirprwy Weinidog i wneud y datganiad. Hannah Blythyn. Hannah Blythyn AC: Diolch, Llywydd. Mae Wythnos y Lluoedd Arfog yn gyfle i ddangos ein cefnogaeth i bawb sy'n rhan o'r gymuned, o filwyr i deuluoedd a chyn-filwyr y lluoedd arfog. Hannah Blythyn AC: Fel rhan o Wythnos y Lluoedd Arfog, ddydd Sadwrn yma, rydyn ni'n nodi Diwrnod y Lluoedd Arfog gyda digwyddiad cenedlaethol yng Nghasnewydd. Eleni, yn y Senedd, rwyf am dynnu sylw arbennig at ein cenhedlaeth gwasanaeth cenedlaethol. Yn ddiweddar, mynychais goffâd yn yr ardd goed genedlaethol i nodi 60 mlynedd ers i'r gwasanaeth cenedlaethol ddod i ben. Maen nhw bellach ymhlith ein cenhedlaeth hynaf o gyn-filwyr a gwnaethon nhw wasanaethu ledled y byd gyda chlod, gan gynnwys rhyfel Corea, a ddaeth i ben 70 mlynedd yn ôl. Wrth dawelu i feddwl a chofio yr wythnos hon, wrth gwrs, mae cymunedau eraill gyda ni yma yng Nghymru yr wyf yn siŵr y bydd Aelodau'r Senedd yn ymuno â mi i gofio amdanyn nhw heddiw: y rhai a fu'n gweithio ochr yn ochr â'n milwyr yn Afghanistan, a'r rhai sydd yma yn ceisio lloches rhag y rhyfel yn Wcráin, y bydd gan lawer ohonyn nhw deulu a ffrindiau yn cymryd rhan mewn gweithrediadau ymladd. Mae ein lluoedd arfog ein hunain yn darparu cefnogaeth trwy ymfyddiniadau i flaen-bresenoldeb Sefydliad Cytundeb Gogledd yr Iwerydd yn Estonia, a thrwy hyfforddi a chyflenwi milwyr Wcráinyn y DU. Fel arfer, mae'r ymrwymiad hwn wedi bod yn ddwys iawn, gydag oriau hir a gwahanu yn effeithio ar unigolion a bywyd teuluol. Mae'r ymrwymiadau a ymgorfforir yng nghyfamod y lluoedd arfog yn parhau i fod yn allweddol, sef bod ymrwymiad gwasanaethu yn cael ei gydnabod; y gweithredir ar anfantais, lle mae'n digwydd; a bod, mewn rhai achosion, fodd cyfiawnhau mynediad â blaenoriaeth at wasanaethau. Nid rhywbeth sy’n digwydd unwaith y flwyddyn drwy Ddiwrnod y Lluoedd Arfog yn unig yw cydnabyddiaeth. Mae codi ymwybyddiaeth a gwybodaeth am anghenion cymuned y lluoedd arfog yn dasg barhaus. Mae ein hymarfer cwmpasu cyn-filwyr, sy'n ategu strategaeth cyn-filwyr y DU, yn ategu hynny. Dair blynedd ers ei greu, mae ein cynnydd yn cynnwys 35 y cant o gynnydd yn y cyllid ar gyfer GIG Cymru i Gyn-filwyr, ein gwasanaeth iechyd meddwl blaenllaw, sydd bellach yn treialu ymyrraeth sy'n darparu cymorth iechyd meddwl i gyn-filwyr mewn carchardai yng Nghymru; sefydlu ffair gyflogaeth i gyn-filwyr yn 2021, gyda chynlluniau wedi'u datblygu'n dda ar gyfer digwyddiad 2023, a digwyddiad newydd yn 2024 yn y gogledd a'r canolbarth; cyflwyno cyrsiau pontio ychwanegol gan y Weinyddiaeth Amddiffyn a'r bartneriaeth newid gyrfa yng Nghymru; darparu prostheteg arbenigol i gyn-filwyr yng Nghymru, sydd bellach yn cynnwys darparu pengliniau microbrosesydd i gyn-filwyr ag anafiadau nad ydyn nhw'n gysylltiedig â gwasanaethu, yn amodol ar angen clinigol; cydnabod pwysigrwydd teuluoedd y lluoedd arfog drwy barhau i ariannu Cefnogi Plant y Lluoedd Arfog mewn Addysg Cymru; buddsoddi £80,000 yn ychwanegol yn 2023-24 i ariannu swyddogion cyswllt ysgolion rhanbarthol ledled Cymru; a gweithio i wella'r wybodaeth sydd ar gael i gymuned ein lluoedd arfog drwy gylchlythyr cyfamod Cymru a chanllaw pontio Cymru sydd bellach yn cael ei rannu gyda swyddogion pontio ledled y DU. Ond dydy hi ddim yn stopio yno, ac ni ddylai stopio yno, a chan adeiladu ar yr ymarfer cwmpasu cyn-filwyr, rwy'n falch o roi gwybod am ddatblygiadau pellach. Dim ond fis diwethaf, ymunais â'm cydweithiwr, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant a'r prif swyddog meddygol wrth lansio cynllun achredu meddygon teulu. Buon ni'n ymweld â meddygfa yng Nghwmbrân a chlywed am ba mor bwysig yw hi i'r practis meddyg teulu ddeall a allai cyflwr fod yn gysylltiedig â gwasanaethu, a gallu gwneud atgyfeiriadau ymlaen gyda'r mewnwelediad hwnnw. Ochr yn ochr â hyn, rydym hefyd wedi lansio canllawiau blaenoriaeth glinigol newydd a fydd yn helpu meddygon teulu i flaenoriaethu triniaeth cyn-filwyr pan fydd hi'n briodol gwneud hynny. Mae gan y rhai sy'n darparu tai, iechyd ac addysg ar lefel leol ddyletswydd gyfreithiol i ddangos sylw dyledus i'w cymuned lluoedd arfog leol. I helpu gyda hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi cynhyrchu hyfforddiant dwyieithog ar-lein i helpu i godi ymwybyddiaeth o fewn awdurdodau lleol a byrddau iechyd. Daw'r ddadl hon flwyddyn i mewn i gyfnod y Cyrnol James Phillips fel Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru. Mae wedi bod yn eiriolwr gweithredol dros gyn-filwyr yng Nghymru. Ei adroddiad cyntaf yw asesiad allanol defnyddiol o rai o'r heriau a'r cyfleoedd wrth gefnogi cyn-filwyr yng Nghymru, a'i asesiad cyffredinol yw bod 'Cymru yn lle da i fod yn gyn-filwr ond gyda rhai meysydd lle mae potensial i wella'. Gweithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael â'r heriau hyn yw'r hyn rydyn ni'n ei wneud yng Nghymru, ac mae llawer o sefydliadau yn y trydydd sector yn darparu cymorth a gwasanaethau i rai o'n cyn-filwyr mwyaf agored i niwed. Yr wythnos diwethaf, cefais gyfle i gwrdd ag amrywiaeth o elusennau a ariennir drwy Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog fel rhan o'r portffolio lleoedd, llwybrau a phobl ar gyfer cyn-filwyr. Mae gan yr ymddiriedolaeth ymgynghoriad sydd ar agor nawr ar lunio ei blaenoriaethau ariannu ar gyfer y tair blynedd nesaf, ac mae cyfle i leisiau o Gymru helpu i lunio hynny. Mae ein swyddogion cysylltu â'r lluoedd arfog ledled Cymru yn ganolog i'r dull partneriaeth hwn. Cafwyd cydnabyddiaeth eang am waith ein swyddogion cysylltu â'r lluoedd arfog, yr rwyf wedi ymrwymo i'w ariannu am ddwy flynedd arall. Yn ddiweddarach eleni, byddaf yn comisiynu gwerthusiad allanol o'u heffaith a sut y gallwn ni ddysgu a gwella ar gyfer y dyfodol. Yn olaf, rydyn ni'n disgwyl gweld canfyddiadau adolygiad annibynnol yr Arglwydd Etherton cyn bo hir i'r gydnabyddiaeth hwyr ar gyfer rhan benodol o'n cymuned lluoedd arfog—sef y rhai yr effeithiwyd arnyn nhw gan y gwaharddiad hoyw cyn 2000. Rwyf wedi cwrdd â'r Arglwydd Etherton ac rwy'n disgwyl i'r adroddiad gynnwys awgrymiadau i Lywodraeth Cymru eu hystyried. Yn ddiweddar, mynychais y digwyddiad swyddogol i nodi cwblhau'r adolygiad, a siaradais â chyn-filwyr a gyfrannodd at yr adroddiad. Mae eu straeon am yrfaoedd a gafodd eu difetha, cywilydd a dioddefaint yn peri gofid, ac rwyf wedi ymrwymo'n fawr i barhau i weithio gyda'r elusen Fighting With Pride i gefnogi cyn-filwyr LHDTC+ ac ymateb i argymhellion yr adolygiad. Yn ystod Wythnos y Lluoedd Arfog eleni, rwy'n falch fy mod wedi cael y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn adeiladu ar ein cefnogaeth i'n cymuned lluoedd arfog. Hannah Blythyn AC: Yr wythnos hon, a bob wythnos, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i wneud ein gorau dros y rhai sydd wedi gwasanaethu, a'r rhai sy'n parhau i wasanaethu hefyd. Mark Isherwood AC: Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn olaf pob mis Mehefin: eleni, mae'n digwydd ar 24 Mehefin. Dechreuodd y dathliadau ddoe, pan godwyd baner y lluoedd arfog ar adeiladau a thirnodau enwog ledled y wlad. Bydd Diwrnod y Lluoedd Wrth Gefn yfory, 21 Mehefin, hefyd yn gyfle i gydnabod ein lluoedd wrth gefn, gan gynnwys derbyniad cyflogwyr i ddathlu Diwrnod y Lluoedd Wrth Gefn yn y Senedd nos yfory, a noddir gan gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog a chadetiaid, Darren Millar. Gyda'r ffigurau swyddogol yn 2021 yn nodi bod tua 115,000 o bobl yng Nghymru wedi dweud eu bod wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y DU o'r blaen, roedd y ganran yn uwch nag yn Lloegr. O'r rhain, roedd 113,000—98.2 y cant—yn byw mewn aelwydydd, ac roedd canran yr aelwydydd ag un neu fwy o bobl a oedd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y DU yn uwch yng Nghymru ar 8.1 y cant nag yn Lloegr ar 7 y cant. Ar draws Cymru, mae'r awdurdodau lleol sydd â'r gyfran uchaf o gyn-filwyr yn cynnwys Conwy, Ynys Môn a sir Benfro. Pa ffigurau sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer nifer y bobl yng nghymuned y lluoedd arfog yng Nghymru, gan gynnwys personél sy'n gwasanaethu, cyn-bersonél a'u teuluoedd? A sut mae'n ystyried hyn yn ei gwaith cefnogi, cynllunio a chyflawni? Mae bron 19 mlynedd ers i mi godi yn y fan yma yr angen i gyn-filwyr sydd wedi'u trawmateiddio gael gafael ar ofal iechyd meddwl a chael triniaeth â blaenoriaeth am y tro cyntaf. Ar ôl cwrdd â chyn-aelodau o'r lluoedd arfog sydd â phroblemau iechyd meddwl sy'n gysylltiedig â gwasanaethu, gan gynnwys anhwylder straen wedi trawma yn Nhŷ Gwyn yn Llandudno, sef yr unig ganolfan seibiant preswyl ar y pryd i gyn-aelodau'r lluoedd arfog yn y DU yr oedd eu gwasanaeth wedi amrywio o encil Dunkirk i Ynysoedd Falkland. Er gwaethaf hyn, caniatawyd iddo gau, heb unrhyw ddarpariaeth amgen yn ei lle. Ond yn y pen draw, lansiodd Llywodraeth Cymru GIG Cymru i Gyn-filwyr, gan ddarparu asesiadau a thriniaethau seicolegol amhreswyl ar gyfer problemau iechyd meddwl i gyn-filwyr sy'n byw yng Nghymru, gan gynnwys PTSD. Fel y dywedodd GIG Cymru i Gyn-filwyr wrthyf, maen nhw'n ddiolchgar am eu cyllid rheolaidd ychwanegol, yr oeddem wedi bod yn galw amdano. Fodd bynnag, dywedwyd wrthyf fod angen mentor cymheiriaid ym mhob bwrdd iechyd lleol. A wnaiff y Dirprwy Weinidog, felly, gadarnhau pa gamau sy'n cael eu cymryd nawr ynghylch yr angen hwn am fentor cymheiriaid ym mhob bwrdd iechyd lleol, ac a yw Llywodraeth Cymru bellach wedi rhoi hyn ar waith, neu a fydd yn gwneud hynny? Ac a wnaiff y Dirprwy Weinidog ymuno â mi i groesawu buddsoddiad £320 miliwn Llywodraeth y DU yn ystâd y lluoedd arfog yng Nghymru, gan gynnwys cwmni wrth gefn newydd o'r Cymry Brenhinol ym marics Hightown Wrecsam a chadw barics Aberhonddu? Yn 2013, siaradais i yn lansiad Change Step, sef y rhaglen cymorth i gyn-filwyr yng Nghymru sy'n helpu cyn-filwyr a'u teuluoedd i fynd i'r afael â chyflyrau iechyd meddwl sy'n gysylltiedig â gwasanaethu trwy ddarparu cymorth cymheiriaid wedi'i deilwra ac ymyrraeth arbenigol, a gynhaliwyd ym marics Hightown Wrecsam. Ymwelais i â chanolfan alwadau Porth y Cyn-filwyr yn Nantgarw gydag aelodau eraill o'r grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog a'r cadetiaid ddydd Iau diwethaf, ac mae un ohonyn nhw yn eistedd y tu ôl i chi, sydd yno i unrhyw gyn-bersonél y lluoedd arfog a'u teuluoedd sy'n chwilio am gyngor neu gefnogaeth, beth bynnag maen nhw'n delio ag ef. Cawsom gyfle i gyfarfod ag aelodau o'u tîm llinell gymorth cyfeillgar, y gellir cysylltu â nhw 24/7, a ddywedodd wrthyf fod Change Step yn un o'r gwasanaethau allweddol y maen nhw'n cyfeirio atyn nhw. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd felly i sicrhau bod y gwasanaethau hanfodol a ddarperir gan Change Step yn parhau i fod ar gael? Roedd Deddf Lluoedd Arfog y DU 2021 ym mis Rhagfyr 2021 yn ymgorffori cyfamod y lluoedd arfog yn y gyfraith am y tro cyntaf i helpu i atal personél a chyn-filwyr y lluoedd arfog rhag cael eu rhoi dan anfantais wrth gael gafael ar wasanaethau hanfodol fel gofal iechyd, addysg a thai. Y tu hwnt i gefnogi cynhyrchu hyfforddiant dwyieithog ar-lein, pa gamau ymarferol y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd ers hynny i sicrhau bod hyn yn cael ei weithredu a'i fonitro yng Nghymru? Sut mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i bum argymhelliad allweddol yn yr adroddiad ym mis Mehefin 2022 am gyn-filwyr benywaidd, 'Female veterans: The forgotten and invisible servicewomen of our Armed Forces', sy'n cynnwys cefnogaeth rhwng cymheiriaid, gwella gwasanaethau pontio ac adsefydlu, gwasanaethau meddygol, cymorth cyflogaeth ariannol a gweithdai sgiliau bywyd? Ac yn olaf, a wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddiffiniad Llywodraeth Cymru o 'blant milwyr' a'r data a gesglir gan y cyfrifiad ysgolion blynyddol ar lefel disgyblion, ac ar sut mae hyn yn cael ei ddefnyddio i lywio'r ddarpariaeth ar gyfer plant y lluoedd arfog yn ysgolion Cymru? Diolch yn fawr. Hannah Blythyn AC: Diolch i Mark Isherwood am ei gyfraniadau ac, mewn gwirionedd, y ffordd yr ydych chi, yn ystod eich cyfraniad, wedi codi ymwybyddiaeth o'r nifer hynny o sefydliadau y gwyddom eu bod nhw'n gwneud gwaith anhygoel mewn cymunedau ledled Cymru, gan gefnogi nid yn unig ein cyn-filwyr, ond eu teuluoedd a'r bobl o'u cwmpas hefyd. Rydym yn gwybod mai dim ond trwy weithio mewn partneriaeth â'r sefydliadau hyn y gallwn ni wneud y gwaith a wnawn yng Nghymru, boed hynny drwy ein grŵp arbenigol ar y lluoedd arfog, neu allan yn y maes, y gwaith gyda swyddogion cysylltu â'r lluoedd arfog hefyd. Fe wnaf ymdrechu i ymateb i gynifer o'r pwyntiau a gododd Mark Isherwood ag y gallaf, ond os na fyddaf yn eu cynnwys i gyd, yna mae croeso mawr i chi ddod ataf, ac rwy'n fwy na pharod i godi hynny y tu allan i'r Siambr hon gyda rhai o'r pwyntiau manylach hefyd. Os caf godi'r pwynt ynghylch GIG Cymru i Gyn-filwyr a'r gwaith sy'n cyd-fynd â hynny o ran mentora cymheiriaid a Step Change hefyd. Rwy'n ymwybodol bod nifer o fyrddau iechyd wedi nodi pryderon posibl ynghylch colli mentoriaid cymheiriaid, trwy Step Change, gyda'u harweinwyr y GIG i gyn-filwyr. Maen nhw wedi gweithio i'r cymorth cofleidiol hwnnw o'r blaen, ac mae'r mater hwnnw wedi'i ddatrys gan gydweithwyr iechyd trwy gyfarfod hyrwyddwyr cyn-filwyr y byrddau iechyd, ac rydym yn gweithio gyda nhw i sicrhau y gallwn ni fynd i'r afael â'r heriau hynny wrth symud ymlaen. Soniais yn fy natganiad hefyd yr wythnos diwethaf i mi gwrdd â nifer o sefydliadau sy'n ffurfio'r pedwar sefydliad 'P', fel y maent erbyn hyn, ac roedden nhw'n sôn am y gwaith y maen nhw'n ei wneud i gefnogi, yn arbennig, iechyd meddwl a sut mae hynny'n ategu ac yn cyd-fynd â gwasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr. Felly, rwy'n awyddus iawn i barhau â'r gwaith hwnnw gyda nhw a'u cyllid—cyllid cyfamod y lluoedd arfog—i wneud yn siŵr ei fod yn cyd-fynd ac yn ategu'r gwaith maen nhw'n ei wneud. Gwnes i'n glir iawn, yn y digwyddiad hwnnw, ein bod ni yno i'w cefnogi nhw a gweithio gyda'n cymheiriaid yn Llywodraeth y DU i sicrhau bod cyn-filwyr yng Nghymru yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt yn llawn. O ran y sefyllfa o amgylch ffeithiau a ffigurau a'r ystadegau a sut mae hynny'n helpu i lunio ein gwaith, wel, eleni, byddwch chi'n ymwybodol, rydyn ni wedi gweld—. Gwyddom fod mwy o bobl yng Nghymru, yn gyfrannol, wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog nag mewn rhannau eraill o'r DU. Mae gennym fwy o gynrychiolaeth o bobl sy'n gwasanaethu a chyn-filwyr ymhlith ein poblogaeth na thros y ffin yn Lloegr. Gwelwyd rhai elfennau cadarnhaol iawn eleni o ran y data a fydd ar gael i ni, felly erbyn hyn, rydyn ni'n dechrau cael datganiadau o wybodaeth fanwl o gyfrifiad 2021, a byddwn yn gweld gwybodaeth debyg yn fuan o arolwg y cyn-filwyr a gynhaliwyd hefyd. Felly, byddwn ni'n gweithio i weld bod y cyfrifiad hwnnw a'r data hwnnw o'r arolwg yn gyfle gwirioneddol i weithio gyda byrddau iechyd ac awdurdodau lleol, i adeiladu'r sylfaen dystiolaeth honno o ran sut maent nid yn unig yn dangos y sylw dyledus i'w cymuned lluoedd arfog leol, ond hefyd yn helpu i gefnogi gwaith swyddogion cysylltu â'r lluoedd arfog. Ac yn olaf, gwnaethoch chi sôn am y Diwrnod Lluoedd Wrth Gefn a'r digwyddiad Diwrnod y Lluoedd Wrth Gefn yn y Senedd yfory, sy'n cael ei noddi gan Darren Millar, sy'n hyrwyddwr brwd o'n cymuned cyn-filwyr a'r lluoedd arfog, rwy'n gwybod, a byddaf yn falch iawn o ymuno â chydweithwyr yn y digwyddiad hwnnw, i gefnogi, nos yfory hefyd. Peredur Owen Griffiths AS: Diolch yn fawr i'r Dirprwy Weinidog am y datganiad. Peredur Owen Griffiths AS: Roedd gennyf ddiddordeb arbennig mewn clywed am yr adnoddau ychwanegol sy'n cael eu buddsoddi i wella'r cynigion i gyn-filwyr a'r ymrwymiadau o'r newydd i'r cyfamod milwrol. Mae materion o ran y ffordd y caiff cyn-filwyr eu trin ym mhob agwedd ar fywyd cyhoeddus yn fater mwy yma nag ydyw dros y ffin yn Lloegr. Mae cyn-filwyr yn ffurfio 4.5 y cant o'r oedolion yng Nghymru, o'i gymharu â 3.8% yn Lloegr. Felly, mae'n hanfodol bwysig ein bod yn sicrhau eu bod yn cael eu trin yn iawn yng Nghymru. Rwyf am ddechrau drwy ddweud y byddai'n anfoesgar peidio â chydnabod y camau breision sydd wedi'u cymryd i wella gwasanaethau i gyn-filwyr; gwnaethoch chi restru llawer ohonyn nhw yn eich datganiad yn gynharach. Rydym wedi dod yn bell yn ystod y degawd diwethaf i wneud bywydau yn haws i bersonél milwrol sy'n gwasanaethu, yn ogystal â chyn-filwyr. Mae'n gam cadarnhaol bod cyfamod y lluoedd arfog bellach wedi dod yn gyfraith ar gyfer tai, addysg ac iechyd. Mae rhaid i staff yn yr adrannau hyn roi sylw dyledus i gymuned y lluoedd arfog, ac mae hynny'n iawn ac yn briodol. Felly, a ydym mewn sefyllfa lle gallwn ni eistedd yn ôl ac edmygu'r gwaith sydd wedi'i wneud ar ran cymuned y lluoedd arfog? Nac ydym, yn fy marn i. Hefyd, Dirprwy Weinidog, rydych chi eisoes wedi cyfeirio at hynny a'ch bod yn tueddu i gytuno ar hyn. Fel rydych chi wedi dweud, dyma hefyd farn y Cyrnol James Phillips, Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru. Yng nghylchlythyr diweddaraf Cyfamod Lluoedd Arfog Cymru ar gyfer Cymru, mae'n dweud: 'Fy asesiad i yw nad yw Cymru yn 2023 yn lle drwg i fod yn gyn-filwr, ond gallwn ni ei wella o hyd.' Er mwyn cydweithredu, byddaf yn amlinellu ychydig o bethau a fyddai'n helpu personél y lluoedd arfog yn eu bywyd bob dydd, a byddwn yn ddiolchgar am adborth y Dirprwy Weinidog ynghylch a yw'r materion hyn ar y gweill neu'n cael eu hystyried. Rwy'n credu bod angen sicrhau bod gwasanaeth cyfartal i gyn-filwyr, waeth ble maen nhw'n byw yn ein gwlad. Efallai fod enghreifftiau da o fyrddau iechyd yn dilyn y cyfamod milwrol, tra nad yw eraill yn talu'r sylw y mae'n ei haeddu—rwyf wedi clywed tystiolaeth anecdotaidd bod hyn yn digwydd yn fy rhanbarth fy hun. Gyda hynny mewn golwg, a allwch ddweud wrthyf pa fecanweithiau sydd ar waith i sicrhau bod cyn-filwyr yn cael eu trin fel y dylen nhw gael eu trin, p'un a ydynt yn byw yng ngogledd, de, dwyrain neu orllewin ein gwlad? Wrth sôn am iechyd, roeddech chi'n sôn am y cynllun achredu meddygon teulu sy'n cael ei lansio yng Nghymru. Cafodd meddygfeydd sy'n gyfeillgar i gyn-filwyr eu dyfeisio'n wreiddiol gan feddyg teulu o Swydd Efrog, a oedd, cyn ei yrfa ym maes gofal iechyd sylfaenol, wedi gwasanaethu yn Irac. Meddyliodd am y syniad pan ddywedodd claf wrtho ei fod wedi ymuno â'i bractis yn benodol i weld rhywun a allai ddeall ei anghenion fel cyn-filwr. Mae'r cynllun, sydd wedi'i gefnogi gan Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, yn ceisio adnabod a thrin cyn-filwyr yn well, gan sicrhau eu bod yn cael mynediad at ofal penodol lle bo hynny'n briodol. Fy nealltwriaeth i yw bod tua 1,000 o feddygfeydd sy'n ystyriol o gyn-filwyr yn Lloegr, ond eto roedd rhaid i ni aros tan y mis hwn am yr un cyntaf i ni. Roeddech chi'n sôn am lansiad swyddogol cynllun Cymru yn ystod yr wythnosau diwethaf, ond byddwn yn ddiolchgar pe gallen ni gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar gyflwyno'r cynllun a'r posibilrwydd o gyrraedd yr un lefel â Lloegr ar y mater hwn. Mae gwneud Cymru mor ystyriol o gyn-filwyr ag y gall fod yn nod a rennir ar draws y rhaniad gwleidyddol. Gyda'r uchelgais cywir, yr ewyllys wleidyddol, gallwn ni lwyddo. Diolch yn fawr. Hannah Blythyn AC: Diolch, Peredur. Rwy'n credu eich bod yn gwneud pwynt da iawn ar y diwedd ynglŷn â lle mae cymaint o dir cyffredin a rennir o ran cefnogaeth i gyn-filwyr a'n cymuned lluoedd arfog. A dim ond ychydig wythnosau yn ôl, mewn gwirionedd, cwrddais â Gweinidog y Cyn-filwyr, Johnny Mercer, yn Llundain, a gwnaethom yn glir yn y cyfarfod hwnnw hefyd—roedd yn gyfarfod cadarnhaol iawn—ein bod ni wir eisiau gweithio gyda'n gilydd, i wneud yn siŵr bod y gefnogaeth honno yno. A phan geir buddsoddiad neu gyhoeddiadau ar sail y DU, rydym eisiau gweithio gyda'n gilydd, i sicrhau eu bod yn gweithio yn y ffordd orau bosib yng Nghymru hefyd, a sicrhau ei fod yn cael ei wneud mewn ffordd sy'n diwallu anghenion cyn-filwyr yma yng Nghymru, gan gymryd y data hwnnw, yr wybodaeth honno sydd gennym gan y bobl hynny sy'n gweithio o fewn byrddau iechyd, fel swyddogion cyswllt y lluoedd arfog, ac rydym yn gwybod am y gwahanol sefydliadau elusennol hefyd. Rydych chi'n hollol iawn hefyd o ran y ffaith y gallwn fyfyrio a bod yn falch o'r hyn rydyn ni wedi'i wneud, ond yn sicr nid ydym yn hunanfodlon ac yn eistedd i lawr ac yn meddwl mai dyna'r cyfan sydd angen i ni ei wneud, a gallwch chi bob amser adeiladu ar yr hyn a wnaethpwyd eisoes a cheisio gwella hynny a mynd ymhellach hefyd. O ran y cydraddoldeb hwnnw—byddaf yn canolbwyntio'n arbennig, efallai, ar iechyd—mae gennym hyrwyddwyr annibynnol y lluoedd arfog a chyn-filwyr ac arweinwyr gweithredol ym mhob bwrdd iechyd i eiriol dros bersonél a chyn-filwyr sy'n gwasanaethu'n filwrol, er mwyn sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu cynnwys mewn pethau fel cynllunio'r gwasanaeth. Rydym eisoes wedi cyhoeddi canllawiau ar flaenoriaeth gofal iechyd cyfamodol y lluoedd arfog i gyn-filwyr i bob bwrdd iechyd, ac i'w hatgoffa o ymrwymiad cyfamod y lluoedd arfog i ddarparu triniaeth â blaenoriaeth i gyn-filwyr sy'n dioddef o bryderon iechyd ac amodau sy'n uniongyrchol gysylltiedig â'r cyfnod mewn gwasanaeth milwrol. Rwy'n gwybod bod gan rai byrddau iechyd—a chredaf fod gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn y gogledd a Chaerdydd a'r Fro swyddogaethau penodol bellach i gefnogi cyflawni cyfamod y lluoedd arfog, ac mae hynny'n amlwg i'w groesawu. Ond mae'n rhywbeth yr ydym ni eisiau parhau i weithio gydag ef, i weld yr arferion gorau hynny'n cael eu lledaenu ledled Cymru, felly pan fyddwn ni'n dysgu o'r hyn sy'n gweithio mewn rhai mannau, gellir rhannu hynny mewn mannau eraill, a dyna y mae Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio arno wrth gefnogi gyda'n cydweithwyr a'n gwasanaethau ledled y wlad, i sicrhau bod hynny'n digwydd. Mewn cysylltiad â'r cynllun achredu meddygon teulu, er i ni ei lansio fis diwethaf, roedd ei gyflwyno wedi dechrau cyn hynny, ond roeddem am gael lansiad meddal, ac yna mynd yn ôl a'i lansio'n swyddogol. Mae'r cynllun wedi ei gyflawni gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru—sonioch chi am y cynllun yn Lloegr—ac rwy'n ddiolchgar iawn am y gwaith maen nhw wedi'i wneud i ddatblygu'r cynllun sy'n cefnogi meddygon teulu i fod yn ymwybodol o gyn-filwyr drwy hyfforddiant ac achrediad. Ac roedd yn ddiddorol iawn i mi weld yn bersonol hefyd, y systemau a'r pethau roedd y meddygon teulu yn arfer eu gwneud hefyd, a'r cwestiynau a ofynnwyd, a'r ffordd maen nhw'n gwneud hyn. Rwy'n ymwybodol ar hyn o bryd, rwy'n credu, ers y lansiad, fod dros 40 o feddygon teulu wedi cofrestru. Felly, byddwn i'n gofyn i'r Aelodau yn y lle hwn mewn gwirionedd, ac yn eu hannog i'n helpu ni i ledaenu'r gair hefyd, i hyrwyddo'r cynllun ac annog meddygfeydd i gofrestru yn ein hetholaethau a'n rhanbarthau ein hunain hefyd. Ac rwy'n hapus i barhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau o ran sut mae'r broses honno'n cael ei chyflwyno, ac efallai lle y gallai fod angen i ni wneud y gwaith ychwanegol hwnnw gyda'n gilydd i annog rhagor o feddygfeydd teulu i ymuno â'r cynllun hefyd. Alun Davies AC: Dylwn gofnodi, ochr yn ochr â Darren Millar, fy mod yn gwasanaethu ar fwrdd y lluoedd arfog wrth gefn a chadetiaid Cymru. Rwy'n credu bod hwn yn gyfle i ni dalu teyrnged i'n lluoedd arfog a'r gwasanaeth y maen nhw'n ei ddarparu i ni, gartref a thramor. Rydym wedi gweld yn ystod y blynyddoedd diwethaf, wrth gwrs, sut y gwnaeth y lluoedd arfog ein cefnogi yn ystod pandemig COVID, a'r ffordd yr oeddem yn gallu cyflawni'r rhaglen i gefnogi'r GIG trwy gefnogaeth ein lluoedd arfog, ac rwy'n credu ein bod yn dal yn ddiolchgar iawn iddyn nhw am y gwaith y gwnaethon nhw drwy'r rhaglen honno. Ond hefyd, rwy'n meddwl yn arbennig am y catrodau Cymreig hynny sy'n gwasanaethu ac sydd wedi gwasanaethu i amddiffyn ystlys ddwyreiniol NATO, oherwydd rydyn ni'n siarad am y rhyfel yn Wcráin a'r effaith y mae'n ei gael ar bobl Wcráin, a sut mae pobl y Deyrnas Unedig wedi cefnogi pobl Wcráin yn ddiweddar, ond ein lluoedd arfog, wrth gwrs, sy'n amddiffyn gwladwriaethau'r Balcanau ac yn amddiffyn ystlys ddwyreiniol NATO ar hyn o bryd. Roeddwn yn falch o ddarllen yn eich datganiad, Dirprwy Weinidog, y byddwch yn adolygu gwaith swyddogion cyswllt y lluoedd arfog. Mae swyddogion cyswllt y lluoedd arfog yn gwneud gwaith aruthrol wrth gefnogi a chynnal gwasanaethau sy'n cael eu darparu i gyn-filwyr mewn awdurdodau lleol ledled Cymru. Rwy'n gobeithio, pan fyddwch chi wedi gallu adolygu'r gwaith sy'n cael ei wneud gan y swyddogion cyswllt y byddwch yn gallu gwneud y cyllid yn fwy parhaol, oherwydd rwy'n credu mai un o'r materion sy'n wirioneddol bwysig—. Ac mewn sgwrs a gawsom ar HMS Cambria bythefnos yn ôl gyda'r grŵp hollbleidiol ar y lluoedd arfog, clywsom am sut mae'r rhaglen ariannu dwy flynedd reolaidd yn ei gwneud hi'n anodd iawn cynllunio ymlaen llaw a darparu cynaliadwyedd a chysondeb dros amser. Felly, byddai'n ddefnyddiol pe gallech wneud datganiad ar hynny, Dirprwy Weinidog. Ond rwy'n credu bod hwn yn achlysur pan fydd Aelodau ym mhob rhan o'r Siambr yn dod at ei gilydd ac yn siarad am sut y gallwn ad-dalu'r ddyled sy'n ddyledus i'n lluoedd arfog am y gwaith y maent yn ei wneud o ddydd i ddydd, yn ein gwasanaethu ni a phobl y wlad hon. Hannah Blythyn AC: A gaf i ddiolch i Alun Davies, fel Aelod arall yn y Siambr hon unwaith eto, sydd wedi ymrwymo'n gryf iawn i eirioli dros hyn, dros ein cymuned lluoedd arfog a chyn-filwyr, nid yn unig yn y lle hwn ond y tu hwnt hefyd? Ac rwy'n ymuno yn llwyr ag Alun i dalu teyrnged i'n lluoedd arfog sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd, boed hynny mewn cysylltiad â ffrynt y dwyrain yn Wcráin neu ynghylch cefnogi ymdrech Wcráin, fel y mae cymunedau yma yng Nghymru yn ei wneud hefyd. Ond rydym yn myfyrio hefyd, fel y dywedoch chi, ar y rhan a chwaraeodd cymuned y lluoedd arfog i'n helpu ni i ymateb i'r her yma gartref o ran pandemig COVID nad yw mor bell yn ôl â hynny. O ran eich sylwadau cefnogol am swyddogion cyswllt y lluoedd arfog, neu AFLOs fel yr ydym yn cyfeirio atynt yn aml, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld canlyniad yr adolygiad, ond hefyd gan ddefnyddio hynny i—. Mae swyddogaeth AFLOs yn cael ei chydnabod y tu hwnt i Gymru hefyd, ac rwy'n awyddus iawn i weld sut y gallwn ddefnyddio canlyniad yr adolygiad hwnnw i dynnu sylw at y gwaith da maen nhw'n ei wneud, yr enghreifftiau hynny o arferion da iawn, y gwahaniaeth y mae'n ei wneud i'r gymuned a sut maen nhw'n chwarae rhan bwysig a gwerthfawr iawn mewn gwirionedd. Rwy'n gwybod ein bod wedi siarad yn y lle hwn o'r blaen am y cyllid dwy flynedd, ac rwy'n cydnabod nid yn unig cwestiynau ynghylch sefydlogrwydd o ran cynllunio a'r gwaith y gallant ei wneud, ond cydnabod mai swyddi pobl yw'r rhain hefyd. Felly, rydym yn y sefyllfa hon oherwydd y ffordd y penderfynir ar ein cyllid ar hyn o bryd, ond mae'n rhywbeth yr ydym yn ymwybodol iawn ohono pan edrychwn ni ar swyddogaeth yr AFLOs yn y dyfodol. Darren Millar AC: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw? Rwy'n falch iawn bod hwn yn achlysur blynyddol sydd bellach yn ein dyddiaduron fel Aelodau'r Senedd. Nid yw hynny bob amser wedi bod yn wir, ond rydych yn sicr wedi cofleidio'r cyfle hwn i sicrhau ein bod yn dathlu ein lluoedd arfog yma yng Nghymru yn ystod Wythnos y Lluoedd Arfog, ac rwy'n falch iawn hefyd eich bod wedi derbyn y gwahoddiad i ddigwyddiad nos yfory i nodi Diwrnod y Lluoedd Wrth Gefn, oherwydd rydym yn ymwybodol o'r rhan bwysig y mae milwyr wrth gefn yn ei chwarae wrth sicrhau bod gennym bersonél gwasanaethau arfog digonol, ac mae'r ffordd y mae cyflogwyr yn cefnogi ac yn hwyluso eu swyddogaeth fel milwyr wrth gefn hefyd yn bwysig iawn, iawn yn wir. Yn sicr, rwyf eisiau adleisio'r galwadau am gyllid mwy cynaliadwy ar gyfer swyddogion cyswllt ein lluoedd arfog. Cawsom gyflwyniad ardderchog gan Lisa Rawlings o Went a ddywedodd fwy wrthym am bwysigrwydd eu gwaith yn ein grŵp trawsbleidiol diweddar, ac, wrth gwrs, maent yn cyfrannu'n rheolaidd at ein gwaith yma yn y Senedd. Un o'r heriau yr ydym wedi'u gweld yn ystod y blynyddoedd diwethaf yw nad oes ymgysylltiad tebyg, os mynnwch chi, gyda'r lluoedd arfog yn ein byrddau iechyd. Nawr, mae rhai eithriadau. Mae gennym ni bobl dda iawn yn gweithio yn y gogledd, er enghraifft. Mae Zoe Roberts, arweinydd cyfamod y lluoedd arfog, yn gwneud gwaith gwych. Ond mae arnom angen pobl fel hynny ym mhob un bwrdd iechyd yng Nghymru i sicrhau bod dull cyson o gymhwyso cyfamod y lluoedd arfog, a rhaid i ni atgoffa'n hunain, wrth gwrs, bob amser o'r ffaith bod gwasanaethau cyhoeddus, awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru yn arddel y cyfamod hwn yr ydym ni i gyd eisiau sicrhau ei fod yn cael ei gynnal mewn gwirionedd. Felly, byddaf eisiau gweithio gyda chi, Gweinidog, ac felly hefyd y grŵp trawsbleidiol, i wneud yn siŵr y gallwn ddwyn pwysau ar bobl i sicrhau y bydd y cyfamod yn cael ei gyflawni gan y bobl hynny sy'n ei arddel. A dau beth, os caf i: a fyddwch chi'n cefnogi ysgolion i gofleidio'r cyfle newydd hwn drwy fenter ysgolion sy'n gyfeillgar i'r lluoedd arfog, y mae Cefnogi Plant Milwyr Mewn Addysg Cymru bellach wedi'i greu? Mae'n amlwg yn rhaglen sy'n cael ei harwain gan y Deyrnas Unedig. Rydyn ni eisiau ei chyflwyno ar draws Cymru gyfan, yn enwedig lle mae plant milwyr yn ein hysgolion, ac rydw i eisiau gwybod pa adnodd rydych chi'n mynd i'w roi ar gyfer hynny. Rwy'n falch iawn, yn amlwg, o'r adnoddau ychwanegol sydd wedi mynd i mewn i GIG Cymru, ond mae mwy y gallwn ei wneud. Rydym yn ategu sylwadau'r Cyrnol James Phillips am y ffaith bod Cymru'n lle sy'n cefnogi ein cyn-filwyr a'n lluoedd arfog, ond gallwn wneud mwy bob amser, a dyma rai o'r pethau y gallem eu gwella. Hannah Blythyn AC: Diolch, Darren, ac mae'n un o'r achlysuron prin hynny i'w croesawu yn Siambr y Senedd pan na allaf ddod o hyd i unrhyw beth rwy'n anghytuno â Darren Millar yn ei gylch. Peidiwch â fy nyfynnu i ar hynny, unrhyw un, y tu allan i'r lle hwn. Ond, na, o ddifrif, gwnes i groesawu'n fawr y ffordd y gwnaethoch chi ymgysylltu a'r ffordd y gwnaethom ni weithio gyda'n gilydd ar y mater hwn, a hefyd y rhan yr ydych chi'n ei chwarae fel sylwedydd nawr ar grŵp arbenigol y lluoedd arfog hefyd, gan gynnal y cysylltiad hwnnw rhwng y grŵp hwnnw a gwaith y grŵp trawsbleidiol yn y Senedd. Rwy'n gwybod bod fy swyddogion i bob amser yn mynychu'r grŵp trawsbleidiol hefyd, i sicrhau bod gweithio dwy ffordd yn parhau a bod yr ymrwymiad yno i barhau â hynny wrth symud ymlaen. Rydych chi unwaith eto'n tynnu sylw at rhan swyddogion cyswllt y lluoedd arfog yng Nghymru, ac rwy'n falch iawn bod Lisa Rawlings wedi gallu dod i roi'r cyflwyniad hwnnw. Roedd Lisa'n wych. Ymunodd hi â ni yn ddiweddar yn nigwyddiad lansio swyddogol y cynllun achredu meddygon teulu, ac roedd hi yn gyfiawn yn llawn cyffro, oherwydd mae'n rhywbeth sydd wedi effeithio arni hi ei hun, ac y mae hi wir wedi bod yn dadlau drosto a gwthio amdano ers amser maith. Felly, rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gallu dechrau cyflwyno hynny, a gobeithio gweld hynny'n gwreiddio ym mhob meddygfa ledled Cymru hefyd. Rydych chi'n gywir—byddaf i'n ymuno â chi yn y digwyddiad nos yfory, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr ato. O ran ysgolion hefyd, a chyswllt ysgolion, roeddwn i'n falch iawn bod fy nghyd-Aelod, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, wedi cyhoeddi cynnydd o £350,000 mewn cyllid ar gyfer prosiect Cynorthwyo Plant Milwyr yn Ysgolion Cymru (SSCE Cymru) ddoe. Felly, rydyn ni'n gweithio ar draws y Llywodraeth i sicrhau ein bod ni'n gallu cefnogi nid yn unig ein cyn-filwyr, ond plant milwyr a theuluoedd milwyr hefyd. Er mwyn pwysleisio'r gwaith trawslywodraethol hwnnw yn y maes hwn, ar ôl i'r Cyrnol James Phillips ddod i'w swydd, rydyn ni wedi sicrhau fy mod i wedi hwyluso cyfarfodydd gyda chydweithwyr ar draws y Llywodraeth fel ei fod wedi cael y cyflwyniadau hynny ac mewn gwirionedd ble mae'r holl ysgogiadau gwahanol hynny, fel ein bod ni i gyd yn gweithio ar draws y Llywodraeth, ac mae ef wedi cael cyfleoedd i gyflwyno ei flaenoriaethau fel comisiynydd cyn-filwyr cyntaf Cymru. Felly, rydw i wir yn credu bod y cydweithio hwnnw gyda'r comisiynydd hefyd wedi dechrau, ac mae'n rhywbeth yr ydyn ni wedi ymrwymo i'w barhau. Rydyn ni wedicyrraedd diwedd yr amser ar y datganiad hwn ac mae gennyf i fwy o bobl ar ôl ar fy rhestr i siarad nag yr wyf i wedi'i alw'n barod, felly os gallaf i gael cwestiynau cryno ac atebion cryno, yna caf i gweld lle byddaf yn tynnu'r llinell. Rhianon Passmore. Rhianon Passmore AC: Diolch, Llywydd. Diolch am y datganiad hwn, ac rwy'n falch ei fod yn cael ei grybwyll, y digwyddiad yng Nghasnewydd,ddydd Sadwrn i nodi Diwrnod y Lluoedd Arfog yng Nghymru. Mae'n bwysig iawn i ni. Mae'n dal i fy rhyfeddu i, os af at fy nghwestiwn i, Llywydd, bod arolygon barn yn awgrymu bod hanner pobl Prydain, dim ond hanner pobl Prydain—yn wybodol o'r hyn oedd D-day mewn gwirionedd a'i bwysigrwydd i ni. Mae hefyd yn bwysig ein bod ni'n cadw ffrwd gyllido gynaliadwy ar gyfer swyddogion cyswllt ein lluoedd arfog. Hyrwyddwr cyfamod cymunedol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yw'r Cynghorydd Teresa Heron, sy'n cynrychioli Cefn Fforest a Phengam, ac rwy'n siŵr y byddai hi hefyd yn croesawu, ochr yn ochr â mi, y gefnogaeth ddiweddar i blant aelodau o'r lluoedd arfog yn ein hysgolion yng Nghymru. Felly, fy nghwestiwn i, Dirprwy Weinidog: beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i gynyddu proffil a chyfleoedd i bencampwyr y lluoedd arfog rhoi adborth i fywyd gwaith awdurdodau lleol a gwneud yn gliriach yr amrywiaeth o bolisïau sy'n cael eu datblygu a'u rhaeadru ar gyfer ein cyn-filwyr, y lluoedd arfog a'u teuluoedd ar draws cymunedau Cymru? Hannah Blythyn AC: A gaf i ddiolch i Rhianon Passmore am ei chwestiwn ac ymuno â hi i ddiolch i bobl fel Teresa am y gwaith maen nhw'n ei wneud i hyrwyddo ein lluoedd arfog mewn awdurdodau lleol ledled Cymru? Mae Llywodraeth Cymru'n gweithio'n agos iawn, drwy ein swyddogion cyswllt lluoedd arfog, drwy grŵp arbenigol ein lluoedd arfog, sy'n cynnwys cynrychiolwyr gwahanol yno, i wneud yn siŵr bod yr arfer gorau, ac mewn gwirionedd yn nodi'r meysydd hynny lle mae angen i ni wneud rhywfaint mwy o waith, a sut yr ydyn ni'n lledaenu'r wybodaeth honno, felly, gan sicrhau bod—. Un o'r pethau y gwnaethom ni gyda'r ymarfer cwmpasu oedd gofyn, 'Beth yw'r man cychwyn?' Ble mae'r wybodaeth nid yn unig ar gyfer cyn-filwyr, ond, fel y dywedwch chi, i godi ymwybyddiaeth ynghylch y rhan a gafodd ei chwarae yn ein cymunedau ac yn ein gwlad, boed hynny yn ystod y blynyddoedd diwethaf neu ymhellach yn ôl mewn hanes? Felly, mae llawer iawn o waith parhaus yno, a gallaf i roi'r ymrwymiad i'r Aelod yr ydyn ni wedi ymrwymo'n gryf i barhau â hynny. Rydych chi'n codi pwynt cwbl gywir fod Casnewydd yn cynnal Diwrnod y Lluoedd Arfog eleni, ac rwy'n edrych ymlaen at fod yn bresennol yno am ran o ddigwyddiadau coffa'r diwrnod. Y llynedd, roedd yn Wrecsam, ac rwy'n credu y flwyddyn nesaf y bydd yn Abertawe— Mike Hedges AC: Bydd. Hannah Blythyn AC: Rwy'n falch fy mod i wedi cael hynny'n gywir, Mike Hedges. Paul Davies AC: Dirprwy Weinidog, un o'r ffyrdd pwysicaf y gallwn ni anrhydeddu ein harwyr a thalu teyrnged i'w gwasanaeth a'u haberth yw diogelu cofebion rhyfel Cymru, ac rwy'n gwerthfawrogi bod rhywfaint o'r cyfrifoldeb hwn yn gorwedd gyda'ch cyd-Aelod, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, ac rwy'n falch ei bod yn ei lle yma y prynhawn yma. Ond rwy'n siŵr y bydd gennych chi ddiddordeb mawr yn hyn hefyd. Nawr, byddwch chi a'ch cyd-Aelodau'n gwybod, ers sawl blwyddyn, fy mod i wedi bod yn galw am gyflwyno deddfwriaeth ynghylch y mater hwn, ac er fy mod i'n deall bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu peidio cefnogi'r ymgyrch honno, mae'n gwbl hanfodol bod camau'n cael eu cymryd i ddiogelu cofebion rhyfel yma yng Nghymru yn well. Felly, Dirprwy Weinidog, a wnewch roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y trafodaethau y cawsoch chi gyda'ch cyd-Aelodau ynghylch sut y bydd Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu diogelu cofebion rhyfel, wrth symud ymlaen? Yn olaf, mae hi hefyd yn hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn dangos rhywfaint o arweiniad o ran ymdrin â fandaliaeth a dwyn cofebion rhyfel. Nawr, mae'r rhain yn droseddau yn erbyn y gymdeithas, a dylai popeth posibl gael ei wneud o ran nodi ffyrdd o atal y rhai sy'n ceisio symud neu fandaleiddio cofebion rhyfel. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni hefyd beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod gan awdurdodau lleol y cymorth a'r adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw i ymdrin â digwyddiadau fandaliaeth a dwyn cofebion rhyfel yn ein cymunedau? Ac a allwch chi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am unrhyw drafodaethau yr ydych chi a'ch cyd-Aelodau wedi'u cael gydag awdurdodau lleol a heddluoedd ar y mater penodol hwn? Hannah Blythyn AC: Rwy'n ymuno â Paul Davies i gondemnio'r gweithredoedd hyn o fandaliaeth neu ladrad o ran ein cofebion rhyfel, a gwyddom ni fod llawer iawn o grwpiau yn treulio llawer iawn o amser yn eu cynnal, yn gofalu amdanyn nhw ac yn addysgu ynghylch cofebau rhyfel. Mae gennyf i sefydliad o fewn fy ardal i fy hun o'r enw Cofebau Rhyfel Sir y Fflint—enwau ar gerrig—ac maen nhw wedi gwneud llawer o waith fel bod pobl yn gwybod pwy yw'r bobl hynny ar y cofebion rhyfel hynny hefyd. Felly, rwy'n ymuno â chi yn hynny o beth. Gyda pharch, ac er mwyn bod dyn gryno hefyd nawr, rwy'n fwy na pharod i godi'r pwyntiau yr ydych chi wedi'u codi o ran cofebion rhyfel a'u cynnal gyda fy nghyd-Aelod, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, sy'n eistedd wrth fy ymyl. Ac rwy'n fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod am hynny maes o law. Jack Sargeant AC: Ar gyfer y cofnod, efallai y bydd Aelodau'n ymwybodol fy mod i'n hynod falch o fod yn aelod anrhydeddus o Gymdeithas Cymrodyr Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig Shotton a Glannau Dyfrdwy. Gan nodi'r hyn y gwnaethoch chi ei ddweud yn gynharach, Llywydd, tybed, Dirprwy Weinidog, os ydych chi'n rhannu fy uchelgais o ddod â Diwrnod y Lluoedd Arfog yn ôl i'r gogledd ar y cyfle cyntaf posibl, ac a oes modd i chi amlinellu sut y gallai cynghorau sydd â diddordeb yn hynny wneud cais, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, i gynnal digwyddiadau o'r fath. Hannah Blythyn AC: Rwy'n diolch i'r Aelod ac yn cydnabod yr hyn y mae'n ei ddweud o ran y diddordeb lleol sydd gennym ni i gyd o ran y grwpiau a'r sefydliadau hynny a'n cefndiroedd lleol ein hunain hefyd. Gwnes i sôn am yr ardd goed genedlaethol a chofeb y gwasanaeth cenedlaethol, ac roeddwn i'n falch iawn, yn llawn balchder ac yn freintiedig o gael mynd ar ran Llywodraeth Cymru, ond hefyd cyflawnodd fy nhad-cu fy hun wasanaeth cenedlaethol yn Nigeria ychydig flynyddoedd ar ôl diwedd yr Ail Ryfel Byd. Rwy'n cofio tyfu i fyny yn gweld y delweddau du-a-gwyn hynny ohono yn gwasanaethu yn Lagos ac, ar y cefn, llythyrau caru bach at fy mam-gu, yr oedd ef yn ei chanlyn hi ar y pryd, fel yr oedden nhw'n arfer ei ddweud. Felly, mae gan bob un ohonom ni y cysylltiadau lleol hynny, ac rwy'n credu ei bod yn iawn ein bod ni'n eu codi nhw a'u hyrwyddo nhw y gorau y gallwn ni bob cyfle posibl. O ran Diwrnod y Lluoedd Arfog yn dod yn ôl i'r gogledd, mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cefnogaeth ac yn gweithio gydag awdurdodau lleol, felly byddwn i'n annog awdurdodau lleol i gamu ymlaen, a chysylltu â swyddogion Llywodraeth Cymru i ystyried sut, efallai, ar ôl Abertawe y flwyddyn nesaf, y flwyddyn wedyn, y gallwn ni ddychwelyd i'r gogledd. Laura Anne Jones AC: Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Hoffwn groesawu'r holl bethau cadarnhaol rydych chi wedi'u gwneud, yn enwedig o ran plant milwyr a'r pethau rydych chi wedi'u gwneud yn hyn o beth. Gan fy mod yn dod o deulu'r lluoedd arfog, rwy'n gwybod pa mor bwysig yw cydnabod y gwaith a'r ymrwymiad a'r cyfraniad y mae ein lluoedd arfog yn ei wneud, a'r ddyled enfawr o ddiolchgarwch, yn amlwg, sydd gennym ni iddyn nhw. Bydd y Diwrnod Lluoedd Arfog hwn a'r digwyddiad yng Nghasnewydd ddydd Sadwrn yn rhoi'r cyfle hwnnw i ni dalu teyrnged a chydnabod y cyfraniad y maen nhw yn ei wneud. Yn ystod fy nghyfnod ar Gyngor Sir Fynwy, roeddwn i'n hyrwyddwr y lluoedd arfog, a nawr, mae pum awdurdod lleol wedi ennill y wobr aur yn y cynllun cydnabod cyflogwyr y weinyddiaeth amddiffyn, a hefyd yn cynnig y cynllun gwarant o gyfweliad, sy'n hollol wych ac i'w groesawu. Mae'n bennaf oherwydd cyfraniad swyddogion cyswllt y lluoedd arfog hynny, sydd eisoes wedi'i grybwyll, gan gynnwys Lisa Rawlings o fy ardal i, sy'n hollol anhygoel a gweithgar, effeithiol a gwybodus. A diolch lle mae angen diolch: mae'r Senedd wedi cymryd camau breision dros gyn-filwyr, ond er mwyn i ni ymdrechu a gwneud y trosglwyddiad esmwyth hwnnw i fywyd sifil, mae angen y swyddogion cyswllt hynny. Ac felly, fy nghwestiwn i chi, sydd eisoes wedi'i ofyn, oedd sicrhau parhad y cyllid hwnnw, y tâl hwnnw i'n swyddogion cyswllt; maen nhw'n gwbl hanfodol. Rwyf hefyd yn ailadrodd y galwadau a wnaeth Darren Millar ar gyfer yr un math o swyddogion cyswllt o fewn ein GIG. Felly, gofynnaf ichi wneud hynny. Diolch. Hannah Blythyn AC: Rwy'n gwybod, Laura Anne Jones, o ystyried eich cefndir, fod hyn yn rhywbeth rydych chi wedi ymrwymo'n fawr iddo. A gaf i ymuno â chi i longyfarch yr awdurdodau hynny sy'n derbyn eu gwobr aur? Nid chwarae bach mo hynny, ac rwyf wir eisiau annog eraill i wneud yr un peth a gweld cydnabyddiaeth bellach ledled Cymru. Ac mewn perygl o ennyn digofaint y Llywydd nawr o ran crynoder, rwy'n ystyried yr holl bwyntiau rydych chi wedi'u gwneud, ac mae eraill wedi'u gwneud, o ran swyddogion cyswllt y lluoedd arfog a'u swyddogaeth anhygoel mewn cymunedau ledled Cymru. Fe fyddwn yn hoffi pe baech chi wastad yn gwrando cystal pan fyddaf yn gofyn am gwestiynau ac atebion cryno. Oherwydd eich bod chi wedi gwneud mor dda, gallaf alw James Evans. James Evans MS: Diolch, Llywydd. Dirprwy Weinidog, mae'n dda iawn y gallwn ni i gyd ddod at ein gilydd heddiw i ddathlu Diwrnod y Lluoedd Arfog a'r gwaith gwych y mae ein lluoedd arfog yn ei wneud i'n hamddiffyn ni yma i sicrhau ein bod ni i gyd yn ddiogel, a hefyd y gwaith dyngarol maen nhw'n ei wneud ledled y byd. Ond mae hefyd yn gyfle da i dynnu sylw at rai o'r materion sy'n wynebu ein lluoedd arfog. Yr hyn yr ydym yn ei weld yw gostyngiad o 30 y cant yn nifer y bobl sy'n gwasanaethu'n llawn amser yn ein lluoedd arfog. Hoffwn wybod pa waith y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i annog pobl i ymuno â'r lluoedd arfog, i sicrhau bod gan y gwasanaeth hwnnw bersonél bob amser yn barod i'w defnyddio pryd bynnag y bydd eu hangen arnom ni. Hannah Blythyn AC: Dylwn fod yn ofalus o'r hyn rwy'n ei ddymuno; Dylwn i fod wedi siarad am fwy o amser mewn ymateb i Laura Anne Jones—na. Rwy'n croesawu cyfraniad James Evans, ac rwy'n gwybod o ran yr etholaeth rydych chi'n ei chynrychioli, mae hyn yn rhywbeth sy'n agos iawn at eich calon ac yn rhywbeth rydych chi'n ei godi pryd bynnag y gallwch chi yn Siambr y Senedd. Rwy'n credu o ran recriwtio i'r lluoedd arfog, mae'n amlwg bod hynny'n fater a gedwir yn ôl, ond mae'n rhywbeth y gallwn ni edrych arno. Rydym ni'n gwneud llawer o waith o ran cyflogaeth a phontio, ond mae'r gwaith rydym ni'n ei wneud hefyd o ran Diwrnod y Lluoedd Wrth Gefn a'r digwyddiad lluoedd wrth gefn hefyd, a sut rydym ni'n annog cyflogwyr efallai yng Nghymru i gydnabod rhan y lluoedd wrth gefn, a bod hynny yn fudd ac yn ased i'r gymuned hefyd—felly, a dweud y gwir, sut y gallwn ni wneud hynny o ran defnyddio ein grym yng Nghymru o ran gweld hynny fel rhywbeth cadarnhaol o ran cyflogwr, i roi'r amser hwnnw i bobl wneud hynny fel y cam hwnnw i gefnogi cymuned y lluoedd arfog hefyd. Diolch i’r Dirprwy Weinidog. 9. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol Yr eitem nesaf, felly, yw eitem 9, y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol. Y Dirprwy Weinidog sy'n cyflwyno'r cynnig yma. Dawn Bowden. Cynnig NDM8297 Dawn Bowden Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Cynigiwyd y cynnig. Dawn Bowden AC: Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau yn y Bil Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol, i'r graddau y maen nhw o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, gael eu hystyried gan Senedd y DU. Diolchaf i Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am graffu ar y memoranda cydsyniad deddfwriaethol ac am eu hargymhellion bod y Senedd yn cefnogi ac yn cydsynio i gymalau 141 a 142 o'r Bil, ac Atodlenni 6 a 7 i'r Bil. Mae gan y DU un o'r economïau mwyaf sylweddol a mwyaf agored, sy'n ei gwneud yn lle deniadol i fusnes byd-eang. Fodd bynnag, mae'r natur agored hon yn agor y DU i'r risg gan y rhai sy'n ceisio cyflawni twyll a gwyngalchu arian. Mae'r Bil Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol yn cynnwys darpariaethau i ddiwygio Tŷ'r Cwmnïau, i atal cam-drin partneriaethau cyfyngedig, ac i alluogi atafaelu ac adennill asedau crypto a ddelir gan droseddwyr. Rwy'n cefnogi'r amcanion polisi yn y Bil Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol i atal troseddau cyfundrefnol, twyllwyr, cleptocratiaid a therfysgwyr rhag defnyddio cwmnïau ac endidau corfforaethol eraill i gam-fanteisio ar economi agored y DU. Byddai gwneud y darpariaethau hyn yn sicrhau bod economi Cymru yn lle anodd i wyngalchu arian, cyflawni troseddau seiber economaidd a gweithgareddau anghyfreithlon cysylltiedig eraill. Rwy'n cefnogi dyrannu adnoddau priodol i Dŷ'r Cwmnïau weithredu'r newidiadau o ran ei gyfrifoldebau cynyddol o ganlyniad i weithredu'r Bil. Ym mis Tachwedd, fe wnaethom ni gyflwyno memorandwm cydsyniad deddfwriaethol, ac ym mis Ionawr a mis Mawrth femoranda cydsyniad deddfwriaethol atodol, ac argymhellwyd bod y Senedd yn cefnogi'r cynigion ac yn rhoi ei chydsyniad. Felly, gofynnaf i'r Senedd roi ei chydsyniad i'r memorandwm hwn y prynhawn yma. Peredur Owen Griffiths AS: Mae Plaid Cymru yn gwrthwynebu defnyddio memoranda cydsyniad deddfwriaethol fel mater o egwyddor. Credwn yn gryf y dylai penderfyniadau ar feysydd cymhwysedd datganoledig gael eu gwneud yn ddi-eithriad gan y Senedd hon. O ran y Bil hwn, croesewir rheoliadau i wrthsefyll dylanwad cyllid anghyfreithlon a gorfodi tryloywder corfforaethol. Mae'n werth atgoffa ein hunain, fodd bynnag, cyn i Putin ymosod ar Wcráin, fod y Llywodraeth Dorïaidd hon wedi goruchwylio llif gwirioneddol o arian Rwsiaidd budr i economi'r DU. Mae yna reswm da bod Llundain wedi cael yr enw 'Moscow-on-Thames'. A hyd yn oed nawr, bron i flwyddyn a hanner ers dechrau'r goresgyniad llawn a bron i ddegawd ers cipio'r Crimea yn anghyfreithlon, nid yw'r cysylltiadau ymddangosiadol rhwng y Torïaid ac arian Rwsiaidd wedi'u datgelu llawn eto. Er enghraifft, efallai y gallai'r Torïaid wrthod unrhyw roddion pellach o ffynonellau Rwsiaidd a gallent dalu'n ôl y £243,000 y maen nhw eisoes wedi'i dderbyn gan roddwyr o'r fath ers dechrau'r goresgyniad ar Wcráin. Fel yr amlygwyd gan waith ymchwiliol y Good Law Project, mae hyn yn cynnwys rhoddion gan wraig cyn-ddirprwy Weinidog cyllid Rwsiaidd a chwmni sy'n eiddo i un o enwau mawr Rwsia yn y diwydiant olew. Dylem hefyd ystyried ymgreinio'r Torïaid ger bron oligarchiaid fel Evgeny Lebedev. Fe wnaeth Boris Johnson, yn ei holl ddoethineb, ei enwebu i fynd i Dŷ'r Arglwyddi er iddo gael ei gyfoeth gan ei dad, Alexander, a gafodd ei gosbi yn ddiweddar gan Wcráin am ei gysylltiad â chyfundrefn y Kremlin. O ystyried eu hanes alaethus yn y maes hwn, rydym yn amheus iawn y bydd y Llywodraeth Dorïaidd hon yn effeithiol ar orfodi tryloywder corfforaethol yn hyn o beth. Yn y pen draw, y ffordd orau o sicrhau bod ein heconomi yn gweithio'n llawn er budd pobl Cymru, yn hytrach nag er budd oligarchiaid dirgel a chwmnïau rhyngwladol sy'n osgoi treth, yw drwy annibyniaeth. Gan droi at ddarpariaethau penodol y Bil ar ddiwygio Tŷ'r Cwmnïau, a allai'r Gweinidog ddatgelu a yw hi wedi cael unrhyw drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ar ddarparu adnoddau ychwanegol i ganghennau Cymru Tŷ'r Cwmnïau i sicrhau eu bod yn gallu cyflawni eu cyfrifoldebau newydd yn effeithiol? Diolch yn fawr. Does gen i ddim siaradwyr eraill, felly ydy'r Dirprwy Weinidog eisiau ymateb? Dawn Bowden AC: Diolch, Llywydd. Dim ond i ddweud yn fyr iawn na fyddwn o reidrwydd yn anghytuno â phryderon Peredur am oligarchiaid a chysylltiadau Rwsiaidd yn y DU. Fodd bynnag, nod y Bil yw cryfhau ffiniau'r DU mewn ymateb i droseddau economaidd yn benodol, gan roi pwerau newydd i asiantau gorfodi'r gyfraith atafaelu'r cryptoasedau hynny a galluogi busnesau yn y sector ariannol i rannu gwybodaeth yn fwy effeithiol. Mae'r trafodaethau paratoadol gyda Llywodraeth y DU a'r dadansoddiad dilynol wedi nodi bod y darpariaethau datganoledig dan sylw yn dechnegol ac nad ydynt yn gynhennus ac felly mae'n briodol defnyddio'r Bil i wneud y darpariaethau hyn yn hytrach na defnyddio Bil Senedd. O gofio, Llywydd, y bydd y Bil yn helpu economi Cymru i barhau i fod yn economi agored, gan barhau i fod yn lle anodd i wyngalchu arian, cyflawni troseddau seiber economaidd a gweithgareddau anghyfreithlon cysylltiedig eraill, felly gofynnaf i'r Aelodau gydsynio i'r Bil. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe wnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. 10. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Mudo Anghyfreithlon Eitem 10 sydd nesaf, cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Mudo Anghyfreithlon. Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol sydd yn gwneud y cynnig yma. Jane Hutt. Cynnig NDM8296 Jane Hutt Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Mudo Anghyfreithlon i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Cynigiwyd y cynnig. Jane Hutt AC: Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n cyflwyno'r cynnig ac yn argymell nad yw Aelodau'n cydsynio i'r Bil hwn. Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am ystyried y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ac am eu hadroddiad diweddar. Rwy'n nodi bod mwyafrif aelodau'r pwyllgorau yn cytuno â'r safbwynt rwy'n ei gyflwyno i'r Senedd heddiw. Byddaf wrth gwrs yn darparu rhagor o wybodaeth maes o law mewn ymateb i adroddiadau'r pwyllgorau. Llywydd, bydd Bil Mudo Anghyfreithlon Llywodraeth y DU yn tanseilio yn sylfaenol ein gweledigaeth o fod yn genedl noddfa, y mae'r Senedd wedi'i chymeradwyo. Mae cyfres o unigolion a sefydliadau uchel eu parch wedi datgan yn ddiamwys bod y Bil hwn yn torri ein rhwymedigaethau ac yn gyfystyr â gwaharddiad ar loches. Wrth gwrs, ategwyd y lleisiau hynny ddoe gan gyrff meddygol blaenllaw. Mae'r Cyd-bwyllgor Tai Seneddol ar Hawliau Dynol wedi nodi'n glir nad yw darpariaethau'r Bil yn gydnaws â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, neu nifer o rwymedigaethau cyfreithiol rhwymol eraill, gan gynnwys mewn perthynas â chaethwasiaeth fodern a'r confensiwn ffoaduriaid. Mae yna ffyrdd tosturiol ac effeithiol y gallwn ni fynd i'r afael â thrafferthion ceiswyr lloches, yn bennaf trwy sicrhau llwybrau diogel a chyfreithiol, fel y gelwais amdanynt yn fy natganiad ysgrifenedig ym mis Mawrth. Mae'n Wythnos Ffoaduriaid, a'r thema eleni yw tosturi. Mae'n amserol bod angen i ni fel Senedd ystyried y Bil Mudo Anghyfreithlon hwn yn y cyd-destun hwnnw. Mae ein dull yn ymwneud ag integreiddio, am weld y plentyn yn gyntaf cyn y statws mewnfudo, ynghylch rhoi budd gorau plant fel yr ystyriaeth bwysicaf. Mae'r Bil yn diystyru’rdull hwn. Mae'r darpariaethau a gwmpesir gan y ddau femorandwm cydsyniad deddfwriaethol a gyflwynais yn cynnwys tynnu plant o ofal gwasanaethau cymdeithasol Cymru gyda'r posibilrwydd o'u rhoi mewn ystafell ddal neu eu halltudio; dileu'r hawl i apelio yn erbyn penderfyniad asesu oedran, er gwaethaf yr effeithiau niweidiol sylweddol iawn a achosir gan benderfyniad anghywir; y pŵer i Lywodraeth y DU dybio bod person ifanc yn oedolyn os yw'n gwrthod caniatâd i gymryd rhan mewn asesiad oedran gwyddonol honedig, er gwaethaf effaith hyn a natur ymwthiol y profion hyn; a phŵer yr Ysgrifennydd Gwladol i ddiwygio deddfwriaeth Senedd Cymru o ganlyniad i benderfyniadau a wnaed i eithrio carfannau penodol o bobl o'r ddyletswydd newydd i'w hanfon o'r DU. Hoffwn nodi y bu newid yn rhif y Bil yn ystod yr wythnos ddiwethaf, fel bod yr hyn yr ydym ni wedi bod yn cyfeirio ato fel cymalau 55 a 56 bellach yn gymalau 56 a 57. Nid yw'r Bil yn cydnabod cyd-destun datganoledig Cymru, ac mae'n rhoi pŵer, fel yr amlinellais i, i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau sy'n gosod swyddogaethau ar awdurdodau datganoledig Cymru. Yng Nghymru, rydym ni'n trin pob plentyn ar ei ben ei hun sy'n chwilio am loches fel plentyn sy'n derbyn gofal, ac mae hyn wedi'i nodi yng nghyfraith Cymru o dan Ran 6 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae ein safbwynt polisi yn deillio o'n hymrwymiad i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn i weithredu er budd gorau pob plentyn. Ac fel yr adroddodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i'n pwyllgor, bydd gan awdurdodau lleol yr her o ymdrin â dau ddull statudol ond croes o asesu oedran, wrth iddyn nhw geisio cyflawni eu dyletswyddau tuag at blant. Mae'n gwbl annerbyniol i Lywodraeth y DU, drwy'r Bil hwn, fod yn tanseilio cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd drwy geisio penderfynu beth sydd er budd gorau plant, neu orfodi dulliau penodol o asesu oedran nad ydynt yn cael eu hystyried yn arfer dda yng Nghymru. Felly, Llywydd, gofynnaf i'r Aelodau beidio â chydsynio i'r darpariaethau hyn yn y Bil hwn heddiw. Diolch. Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn gyntaf. Jenny Rathbone. Jenny Rathbone AC: Diolch yn fawr iawn. Ystyriodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol femorandwm cydsyniad deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ym mis Mai, ac ysgrifennodd ar y cyd â'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at randdeiliaid sydd â diddordeb yn y materion a gwmpesir gan y Bil neu arbenigedd ynddynt, yn ogystal ag at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol. Fe wnaethom ni ofyn i randdeiliaid wneud sylwadau ar ddarpariaethau'r Bil sy'n ymwneud â meysydd cymhwysedd datganoledig, materion gofal cymdeithasol yn bennaf. Cawsom wyth ymateb, ac mae'n drawiadol bod y negeseuon allweddol a fynegwyd mor gyson. Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn gwrthwynebu'r Bil, ac roedd y rhai a roddodd farn ar gydsyniad yn argymell bod y Senedd yn gwrthod cydsyniad. Codwyd tri mater allweddol ynghylch Bil Llywodraeth y DU: (1) diffyg cydnawsedd â hawliau dynol; (2) y goblygiadau posibl ar gyfer hawliau plant; a (3) potensial y Bil i danseilio polisi Cymru a'r cyd-destun deddfwriaethol, ac, yn benodol, Deddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Disgrifiodd Comisiynydd Plant Cymru y goblygiadau i hawliau plant fel rhai sy'n groes i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Y bobl sy'n ganolog i'r mater hwn yw dynion, menywod a phlant unigol a fydd i gyd â'u rhesymau neu amgylchiadau anobeithiol eu hunain sy'n eu cymell, yn gyffredinol, i wneud teithiau peryglus iawn. Rydym yn rhannu'r awydd i roi terfyn ar y teithiau peryglus dros y sianel a'r golled drasig o fywyd sy'n digwydd ym Môr Udd, ond ni lwyddir i wneud hynny heb ffyrdd amgen o wneud cais am loches i'r DU. Oni bai eich bod o Wrcráin, o Hong Kong, ac, o bosib, os ydych chi'n gyfieithydd o Afghanistan, nid oes unrhyw ffyrdd amgen o wneud cais cyn cyrraedd ynysoedd Prydain. Yn benodol, mae dibenion cymalau 19, 20, 55 a 56 yn ymwneud â gofal cymdeithasol, sydd i gyd yn faterion datganoledig. At hynny, byddai cymal 3 yn grymuso'r Ysgrifennydd Gwladol i ddiwygio deddfiadau o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd heb ganiatâd y Senedd. Felly, byddai hyn mewn gwirionedd yn tanseilio datganoli Cytunodd mwyafrif yr Aelodau fod cymalau 3, 19, 20, 55 a 56 yn gofyn am gydsyniad deddfwriaethol y Senedd, ac roedd un Aelod yn anghytuno. Y goblygiadau ar gyfer polisi datganoledig pe bai darpariaethau cymal 15 i 18 yn cael eu hymestyn i Gymru yw eu bod yn debygol o danseilio swyddogaeth awdurdodau lleol wrth gynnal asesiadau o angen o dan Ddeddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Wrth drin plant dan oed ar eu pen eu hunain a phlant sy'n ceisio lloches yn wahanol i blant eraill, gall y cymalau hyn dorri Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a'r dull gweithredu seiliedig ar hawliau sy'n ganolog i'n dull gweithredu yng Nghymru. Byddai dulliau polisi eraill a fabwysiadwyd yng Nghymru, gan gynnwys plant yn gyntaf, ymfudwyr yn ail, ac uchelgais Llywodraeth Cymru i Gymru fod yn genedl noddfa, hefyd yn cael eu peryglu o ganlyniad. Mae mwyafrif y pwyllgor yn argymell y dylai'r Senedd atal cydsyniad deddfwriaethol, gydag un Aelod yn anghytuno. Roedd Aelod arall yn gwrthwynebu egwyddor Bil Llywodraeth y DU yn deddfu ar ddeddfwriaeth a fydd yn berthnasol i Gymru, ond a oedd o blaid gwrthod y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, Jayne Bryant. Jayne Bryant AC: Diolch, Llywydd. Rwy'n cyfrannu heddiw yn rhinwedd fy swydd yn Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ac rwy'n siarad ar ran mwyafrif y pwyllgor, ond nid ar ran fy nghyd-Aelodau James Evans a Laura Jones, nad ydynt yn cytuno â'r casgliadau a'r argymhellion a nodir yn yr adroddiad. Ym mis Chwefror 2022, siaradais yn y Siambr hon am y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau yn ystod dadl a rannodd lawer o'r un nodweddion â'r ddadl hon heddiw. Yna, daeth mwyafrif y pwyllgor i'r casgliad bod angen cydsyniad y Senedd ar gyfer rhai darpariaethau yn y Bil, er nad oedd Llywodraeth y DU yn cytuno â hynny. Ac fe wnaethom ni argymell bod y Senedd yn atal y cydsyniad hwn. Roeddem wedi derbyn tystiolaeth gyson yn nodi bod technegau asesu oedran gwyddonol honedig ar gyfer asesu oedran ceiswyr lloches, fel y nodir yn y Bil, yn anghywir ac yn gallu bod yn drawmatig i bobl ifanc. Heddiw, unwaith eto, rwyf yma'n siarad yn ystod dadl am gynnig cydsyniad deddfwriaethol arall am drin ceiswyr lloches y mae anghydfod o ran eu hoedran. Yn union fel ym mis Chwefror y llynedd, rydym ni wedi dod i'r casgliad bod angen cydsyniad y Senedd ar gyfer cymalau penodol yn y Bil. Ac yn union fel ym mis Chwefror y llynedd, rydym ni wedi argymell nad yw'r Senedd yn cydsynio. Cyn i mi egluro pam ein bod wedi dod i'r casgliadau hyn, hoffwn ddiolch i'r sefydliadau a ymatebodd i'n cais ar y cyd, gyda'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, am dystiolaeth ysgrifenedig, a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol am ymateb yn gynhwysfawr i'n cais am ragor o wybodaeth mewn amser mor fyr. Roedd y dystiolaeth a gawsom yn hynod gyson, ac yn sail i'r casgliadau a'r argymhellion yn ein hadroddiad. Yn gyntaf, ynglŷn ag a oes angen cydsyniad, nid yw Llywodraeth y DU yn credu bod unrhyw gymalau yn y Bil yn gofyn am gydsyniad deddfwriaethol y Senedd. Nid yw nodiadau esboniadol y Bil yn esbonio pam yn fanwl iawn. Maen nhw'n nodi bod Llywodraeth y DU yn cydnabod bod llawer o gymalau yn y Bil yn ymestyn i Gymru, ond nid ydynt yn credu eu bod yn sbarduno'r broses cydsyniad deddfwriaethol. Rydym yn anghytuno. Mae Cymal 3 yn galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol i wneud diwygiadau i unrhyw Ddeddfau neu Fesurau'r Senedd at ddibenion penodol. Mae cymalau 19 ac 20 yn ymwneud â darparu llety i blant mudol ar eu pen eu hunain a'u trosglwyddo o un awdurdod lleol i'r llall, sy'n effeithio ar faes datganoledig gofal cymdeithasol. Ac mae dau gymal yn newid natur y broses asesu oedran ar gyfer ceiswyr lloches sy'n destun anghydfod oedran yng Nghymru, sydd hefyd yn effeithio ar faes datganoledig gofal cymdeithasol. Er bod prif ddiben y darpariaethau hyn yn ymwneud â'r maes mewnfudo a gedwir yn ôl, credwn fod ganddyn nhw ddiben deuol sy'n effeithio ar faterion datganoledig. Yn ail, o ran a ddylai'r Senedd gydsynio, os caiff ei ddeddfu, bydd y Bil Mudo Anghyfreithlon yn gwneud yr hyn yr ydym yn credu sy'n newidiadau pryderus iawn i'r broses asesu oedran sydd eisoes yn ddadleuol a gyflwynwyd gan Ddeddf Cenedligrwydd a Ffiniau 2022. Mae'r Bil i bob diben yn gwarafun yr hawl i bobl ifanc apelio yn erbyn penderfyniad asesu oedran. Mae hon yn broblem ynddi hi ei hun. Mae cael gwared ar hawl person ifanc i apelio yn erbyn penderfyniad mor dyngedfennol sy'n newid ei fywyd yn peri gofid, ond mae'n arbennig o broblemus pan fo tystiolaeth ddiweddar yn awgrymu y canfyddir yn ddiweddarach fod dwy ran o dair o'r asesiadau oedran wyddonol honedig hyn yn anghywir. Mae'r Bil hefyd yn rhoi'r pŵer i'r Ysgrifennydd Gwladol gymryd yn ganiataol mai oedolyn yw unrhyw geisiwr lloches y mae anghydfod am ei oedran nad yw'n cydsynio i'r technegau asesu oedran dadleuol hyn. Gallai hyn olygu bod dyletswydd ar yr Ysgrifennydd Gwladol i'w halltudio o dan gymal 2 y Bil. Rydym ni wedi ymrwymo i roi hawliau plant wrth wraidd popeth a wnawn. Mae'r holl dystiolaeth a gawsom yn dangos bod y Bil Mudo Anghyfreithlon yn diystyru hawliau plant a hawliau dynol yn ehangach. Yn gymaint felly fel nad yw Llywodraeth y DU yn gallu cadarnhau bod darpariaethau'r Bil yn gydnaws â hawliau confensiwn y Cenhedloedd Unedig. Ac yn gymaint felly nes bod Uchel Gomisiynydd Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig wedi mynegi pryder mawr am y Bil, gan nodi, pe bai'n cael ei basio, y byddai'n torri rhwymedigaeth y DU o dan gyfraith ryngwladol. Felly, ar ran plant a phobl ifanc ym mhobman, rydym yn argymell bod y Senedd yn gwrthod cydsynio i'r Bil hwn heddiw. Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies. Huw Irranca-Davies AC: Diolch, Llywydd. Cyflwynodd fy mhwyllgor ei adroddiad ddoe ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Mudo Anghyfreithlon. Daethom i dri chasgliad a gwnaethom un argymhelliad, a byddaf yn ymdrin â'r rheini mewn byr eiriau yn y sylwadau. Huw Irranca-Davies AC: Bydd yr Aelodau'n gwybod yr awn ati i drin a thrafod mewn ffordd sych a ffeithiol iawn. Rydym yn edrych ar y cyfansoddiad ac effeithiau cyfreithiol cynnig deddfwriaethol, ond nid yw hynny o reidrwydd yn ei gwneud yn llai diddorol. Roedd ein casgliad cyntaf yn cytuno gydag asesiad y Gweinidog bod cymalau 3, 19, 20 a chymalau newydd 55 a 56 o'r Bil yn dod o fewn diben o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd ac felly bod angen cydsyniad y Senedd. Mae cymalau 15 i 18 yn galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol i ddarparu llety i blant mudol ar eu pen eu hunain yn Lloegr, darparu fframwaith i'r Ysgrifennydd Gwladol drosglwyddo plant o lety'r Swyddfa Gartref i ofal awdurdodau lleol ac i'r gwrthwyneb, yn gosod dyletswyddau gwybodaeth ar awdurdodau lleol, a rhoi pwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol orfodi'r dyletswyddau hynny. Byddai cymal 19 o'r Bil yn caniatáu ymestyn cymalau 15 i 18 i Gymru. Nawr, wrth wneud hynny, mae'n rhoi pŵer—ac fe hoffwn i bwysleisio hyn—gan ganiatáu i'r Ysgrifennydd Gwladol ddiwygio, diddymu neu ddirymu deddfwriaeth a wnaed gan Weinidogion Cymru neu a basiwyd gan y Senedd hon, heb ofyn am gydsyniad y naill na'r llall. Mae ein hadroddiad yn tynnu sylw nad ydym yn ystyried bod hyn yn dderbyniol. Nodwn sylwadau'r Gweinidog, a bydd y Senedd yn nodi hefyd, fod Llywodraeth y DU wedi methu â chadarnhau bod y Bil yn gydnaws â hawliau'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol, ac, yn wir, mae'r Ysgrifennydd Cartref wedi gwneud datganiad i'r perwyl hwnnw o dan adran 19(1)(b) o Ddeddf Hawliau Dynol 1998. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi dweud ei bod yn fodlon bod modd cymhwyso darpariaethau'r Bil yn gydnaws â hawliau'r confensiwn. Nid yw Memorandwm Rhif 2 yn ystyried y datganiad penodol hwn, ac felly argymhellwyd y dylai Llywodraeth Cymru nodi ei barn ar y mater hwn. Ni chlywais hynny yn sylwadau agoriadol y Gweinidog, felly byddwn yn ddiolchgar pe gallai ymateb i hynny ar y diwedd. Mae ein hadroddiad hefyd yn tynnu sylw at bryderon cynrychiolwyr llawer o sefydliadau rhyngwladol blaenllaw, er enghraifft, Comisiynydd Hawliau Dynol Cyngor Ewrop ac Uchel Gomisiynydd Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig, ac rydym yn tynnu sylw'r Senedd at adroddiad y Cyd-bwyllgor ar Hawliau Dynol, pwyllgor o'r ddau Dŷ yn San Steffan, a ddaeth i'r casgliad bod y Bil, ac rwy'n dyfynnu, 'yn torri nifer o rwymedigaethau hawliau dynol rhyngwladol y DU...ac yn peryglu torri rhai eraill.' Rwy'n dweud unwaith eto, rydym yn cloriannu hyn mewn dull cyfreithiol a chyfansoddiadol sych iawn, ond mae hynny'n eithaf clir. Felly, fel y gŵyr yr Aelodau, mae'r setliad datganoli yn ei gwneud hi'n ofynnol i Weinidogion Cymru gydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol a hawliau confensiwn. Mae cod gweinidogol Llywodraeth Cymru hefyd yn gosod dyletswyddau penodol ar Weinidogion i gydymffurfio â chyfraith ryngwladol a rhwymedigaethau cytundebau. Felly, daw hyn â mi at ddau gasgliad terfynol ein hadroddiad unfrydol, y bydd ar yr holl Aelodau eisiau ei ystyried o ddifrif, wrth i ni geisio heddiw rhoi ein barn fel Senedd ar y cyd ac yn unigol ar fater pwysig cydsyniad. Yn gyntaf, rydym yn rhannu pryderon y Gweinidog a'r nifer o gyrff y cyfeirir atyn nhw yn ein hadroddiad, ac, yn wir, rhai pwyllgorau eraill yma, ynghylch cydnawsedd y Bil â'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol. Ar ben hynny, rydym yn tynnu sylw at y ffaith y gallai penderfyniad gan y Senedd i gydsynio i'r Bil hwn gyfrannu at dorri cyfraith ryngwladol a byddai'n golygu bod y Senedd yn gweithredu'n anghyson â rhwymedigaethau rhyngwladol, a fyddai'n gwbl groes i ysbryd y setliad datganoli. Felly, dyna gasgliadau cytunedig ein pwyllgor, a diolchaf i'n holl Aelodau am eu hystyriaeth fanwl a diduedd iawn o'r cyngor cyfreithiol ar y dystiolaeth a'r dadansoddiad. Hoffwn ddiolch hefyd i'n clercod a'r tîm ehangach am eu cymorth. Gobeithiwn y bydd ein hadroddiad o gymorth i holl Aelodau'r Senedd wrth ddod i benderfyniad ynghylch cydsynio. Mark Isherwood AC: Mae Cymru, fel cenedl noddfa, yn bodoli i gyfeillion o dramor ar ôl iddyn nhw gyrraedd yma a chael mynediad at wasanaethau datganoledig, er, wrth gwrs, mae'r gwasanaethau hynny eisoes dan bwysau aruthrol, gydag argyfwng cyflenwad tai ac amseroedd aros gwaethaf y GIG ym Mhrydain. Fodd bynnag, mae mewnfudo yn fater nad yw wedi'i ddatganoli ac a gedwir yn ôl i Lywodraeth y DU. Wrth gwrs, rydym yn cydnabod pryderon am yr effaith y gallai'r Bil hwn ei chael ar blant ar eu pen eu hunain a dioddefwyr masnachu pobl, am yr angen am lwybrau diogel a chyfreithiol i'r DU ac am yr angen i ddarparu noddfa i'r rhai sy'n ffoi rhag rhyfel ac erledigaeth. Rydyn ni hefyd yn ymwybodol fod y pryderon hyn yn cael eu codi gan Aelodau o bob plaid yn nau Dŷ'r Senedd yn y DU, lle mae'r cyfrifoldeb am ddiwygio'r ddeddfwriaeth hon. Fodd bynnag, rydyn ni hefyd yn cydnabod bod dros 45,700 o bobl wedi cyrraedd ar gychod bach yn 2022, cynnydd o 60 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol; bod pobl wedi colli eu bywydau yn ceisio croesi lôn longau brysuraf y DU mewn cychod llipa; bod y rhai sy'n croesi yn teithio o wledydd diogel; y camfanteisir ar y bobl sy'n gwneud y teithiau hyn gan smyglwyr pobl sy'n codi miloedd o bunnau arnyn nhw cyn defnyddio'r arian hwn i ariannu troseddau difrifol eraill; ac na allwn ni barhau i ychwanegu pwysau annerbyniol ar ein gwasanaethau iechyd, tai, addysg a lles. Nid yw'r ddyletswydd i ddileu, yng nghymal 2(1) y Bil, yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud trefniadau symud ymaith ar gyfer plant ar eu pen eu hunain nes eu bod yn 18 oed. [Torri ar draws.] Fel mater o bolisi, y pŵer yng nghymal 3(2) y Bil—. Mae'n ddrwg gennyf, ai ymyriad yw hwnna? Ie. Mark Isherwood AC: O mae'n ddrwg gen i. Ie. Joyce Watson AC: Diolch. Diolch am dderbyn ymyriad. Rydyn ni'n siarad am blant dan oed ar eu pen ein hunain ac rydyn ni'n sôn am eu cadw'n ddiogel a chael gwared ar yr hawl i ni wneud hynny. A ydych chi'n rhannu'r un pryderon sydd gennyf i fod Llywodraeth y DU, sy'n gyfrifol am gadw plant dan oed ar eu pen eu hunain yn ddiogel, wedi llwyddo i golli mwy na 100 o blant, ac nad ydyn nhw hyd yn oed yn gwybod ble maen nhw? Nid yw hynny'n hanes da o gadw plant dan oed yn ddiogel. Mark Isherwood AC: Wel, rwy'n credu ei bod hi'n erchyll bod gangiau'n dwyn plant oddi ar ein strydoedd, ac rwy'n rhannu eich pryder. Ond fel mater o bolisi, dim ond ar gyfer plant ar eu pen eu hunain y bydd y pŵer yng nghymal 3(2) y Bil yn cael ei arfer pan fo nhw o dan 18 oed o dan amgylchiadau cyfyngedig iawn cyn iddyn nhw fod yn oedolion, megis at ddibenion aduniad teuluol, neu pan symudir nhw ymaith i wlad wreiddiol ddiogel. Os yw rhywun yn cael ei adnabod fel rhywun sydd o bosib yn dioddef caethwasiaeth fodern, bydd y Bil yn sicrhau ei fod yn cael ei dychwelyd adref neu i wlad ddiogel arall. Gellir gohirio symud ymaith o'r DU pan fydd rhywun yn cydweithredu ag asiantaethau gorfodi'r gyfraith mewn ymchwiliad i amgylchiadau masnachu neu gaethwasiaeth fodern. Rhwng 2015 a Rhagfyr 2022, cynigiodd y DU le i 481,804 o ddynion, menywod a phlant a oedd yn ceisio diogelwch trwy lwybrau mynediad diogel a chyfreithiol. Mae angen i ni nawr weld ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i weithio ochr yn ochr â Llywodraeth y DU i gynyddu faint o lwybrau diogel a rheolaidd sydd ar gael i'r DU hon yr ydym ni'n ei rhannu. Wrth i fudo anghyfreithlon gael ei gyfyngu, bydd gan Lywodraeth y DU fwy o gapasiti i ddarparu hafan ddiogel i'r rhai sy'n wynebu perygl rhyfel ac erledigaeth. Ac mae'r Bil yn darparu i Lywodraeth y DU ymrwymo i ailsefydlu ffoaduriaid agored i niwed o bob cwr o'r byd, bob blwyddyn. Byddwn yn cefnogi'r cynnig hwn yn unol â hynny. Peredur Owen Griffiths AS: Bob tro y daw cynnig cydsyniad deddfwriaethol gerbron y Senedd hon, rwy'n dweud yr un peth, ac rydych chi eisoes wedi'i glywed y prynhawn yma: ni waeth beth fo'r pwnc, mae Plaid Cymru yn credu'n gryf y dylai'r Senedd hon wneud pob penderfyniad sy'n ymwneud â meysydd cymhwysedd datganoledig, yn unol â dymuniadau democrataidd pobl Cymru. Mae'r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi troi fwyfwy at ddefnyddio cynigion cydsyniad deddfwriaethol yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn tanlinellu'r agenda canoli niweidiol sy'n anwybyddu ein datganoli yn llwyr. Trown yn awr at bwnc y cynnig hwn, sef mae'n siŵr un o'r darnau mwyaf caeth o ddeddfwriaeth sydd wedi dod ger ein bron. Bwriad y Bil hwn yw ymosod ar hawliau ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Mae fy mhlaid yn erbyn y Mesur Mudo Anghyfreithlon annynol sydd wedi'i gynnig gan San Steffan, ac rydym ni wedi ei ymladd ar bob lefel o Lywodraeth. Nid yw'n syndod na fyddwn yn pleidleisio o blaid y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol sy'n cael ei drafod yn y Senedd hon ynghylch y Bil Mudo Anghyfreithlon. Gyda'n nod o fod yn genedl noddfa, does gan ddeddfwriaeth greulon a didostur fel hon ddim lle o gwbl yng Nghymru. Pe bai gennym ni'r pwerau angenrheidiol yn ein gwlad, gallem sicrhau na fyddai'r Bil annynol hwn tuag at ffoaduriaid yn berthnasol yma. Mae hyn yn mynd at wraidd pam fod Plaid Cymru yn cefnogi annibyniaeth: nid er mwyn annibyniaeth y mae hynny, ond fel y gallwn ni amddiffyn ein hunain rhag polisïau cyntefig a didostur sy'n deillio o San Steffan. Bydd y cynlluniau ar gyfer cadw ac alltudio o dan y Bil yn torri hawliau ffoaduriaid. O gartrefu ffoaduriaid mewn cychod camlas ar ffurf carchar a gwersylloedd milwrol segur, i alltudio i Rwanda, mae'n ymddangos nad oes diwedd i'r driniaeth erchyll hon o ffoaduriaid gan y blaid Dorïaidd, yn gyfnewid am bennawd di-chwaeth mewn papur newydd tabloid. O roi moeseg i un ochr, nid yw hefyd yn gwneud unrhyw synnwyr ariannol, gan fod y polisi yn gwbl aneffeithiol. Os gellid defnyddio'r biliynau o bunnau hyn i gyd i ddatrys y broses loches yn y DU, yna efallai y byddwn yn gwneud cynnydd. Mae angen i'r DU edrych eto ar ei blaenoriaethau, er mwyn trwsio'r systemau proses loches diffygiol y mae'r blaid Dorïaidd wedi'u chwalu. Mae mudo afreolaidd ar gynnydd ledled y byd, ac mae hyn yn gofyn am ymateb byd-eang. Yn hytrach na gweithredu Bil mor annynol, dylem fod yn gweithio gyda gwledydd eraill i ddatblygu llwybrau diogel sy'n amddiffyn hawliau dynol ffoaduriaid, yn ogystal â buddsoddi mewn ymdrechion i fynd i'r afael â newid hinsawdd. I gloi, hoffwn ofyn y cwestiynau canlynol. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i gwneud o lwybrau amgen sydd ar gael i liniaru risgiau ac amddiffyn y rhai y mae'r Bil hwn yn effeithio arnynt? Ac, o ddysgu o gynllun noddi Wcráin, a wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried sut i gynnig yr un radd o amddiffyniad i bob ffoadur a pherson sy'n ceisio lloches? Yn olaf, a fydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i adolygu— Janet Finch-Saunders AC: A wnewch chi dderbyn ymyriad? Peredur Owen Griffiths AS: Mae'n ddrwg gennyf i, rwy'n dod i ben nawr. Yn olaf, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i adolygu amddiffyniadau i geiswyr lloches yng Nghymru yng ngoleuni'r Bil hwn? Diolch yn fawr. Joyce Watson AC: Hoffwn siarad, yn amlwg, o blaid yr hyn y mae'r Gweinidog wedi'i gyflwyno. Mae'n werth nodi, onid yw, mai y Mesur Mudo Anghyfreithlon yw teitl hwn, yn hytrach na thybiaeth i helpu ceiswyr lloches—oherwydd, yn bennaf, dyna beth rydym ni'n sôn amdano—a chynnig rhai llwybrau diogel, sydd wedi cael eu crybwyll yma heddiw. Ac yn amlwg, mae yna—[Torri ar draws.] Na, nid ar hyn o bryd, na. Does dim trugaredd yma yn hyn o beth. Rwyf wedi clywed yr Aelodau Torïaidd yn y Siambr hon, rwyf wedi clywed yr Aelodau Torïaidd yn San Steffan yn sôn am y ffaith ein bod yn cefnogi plant dan oed, gan gynnwys ceiswyr lloches, yn gadael gofal. Rwyf wedi gweld penawdau am y cymorth yr ydym ni wedi'i roi, ond yr hyn rwy'n methu ei weld na'i glywed yn y Siambr hon gan y Torïaid yw unrhyw beth o gwbl am nifer y plant y maen nhw wedi'u colli a lles y plant hynny, ac yn annog y Llywodraeth i chwilio amdanyn nhw. Dydw i ddim wedi clywed gair am hynny, ond rwyf wedi clywed digon yma ac rwyf wedi gweld y trydariadau—sy'n warthus yn fy marn i—gan eu harweinydd, ond cywain ynghyd y cymorth rydym ni'n ei roi i blant sydd wedi dod i'n gofal, sef y plant mwyaf agored i niwed, a chysylltu hynny â rhywbeth arall: defnyddio a chamddefnyddio'r plant hynny. Felly, roedd yn rhaid i mi ddweud hynny. [Torri ar draws.] Mae symud plant ymaith, wrth gwrs, o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn— Ydych chi'n derbyn ymyriad, Joyce Watson? Joyce Watson AC: Na, dydw i ddim, oherwydd rydw i'n mynd i ddweud fy marn i. Nid yn unig fod hyn yn ymosodiad graddol ar ddatganoli, o dan nawdd, fe ymddengys, y Bil Mudo Anghyfreithlon, ond maen nhw wedi ei wneud mewn mannau eraill hefyd. Felly, does dim pall ar eu hymdrechion, mae'n ymddangos i mi, i geisio hyrwyddo eu hagenda asgell dde, a dyna'n union ydyw. Mae'n hyrwyddo system o gasineb, o ni a nhw, ac nid oes atebion yn hyn o ran sut maen nhw'n mynd i helpu pobl i gael taith ddiogel. Pe baen nhw'n gwario'r arian ar hynny—ac roedd Peredur yn hollol gywir—yn lle ceisio erlid pobl sy'n ceisio lloches, pe baen nhw'n gwario rhywfaint o'r arian yna wrth geisio darparu ar gyfer y plant dan oed hynny, y plant hynny, pe baen nhw'n gwario rhywfaint o'r arian yna yn ceisio dod o hyd i'r rhai maen nhw wedi llwyddo i'w colli—. Ac os ydych chi'n colli plant ac yna rydych chi'n gofyn i ni drosglwyddo drwy ddeddfwriaeth eich hawl i ofalu amdanyn nhw, rwy'n credu eich bod chi o dan gamsyniad mawr. Sioned Williams MS: Mae Plaid Cymru wedi lleisio ein condemniad llwyr o'r Bil Mudo Anghyfreithlon hwn lawer gwaith, yn y fan yma ac yn nau dŷ Senedd y DU, ac unwaith eto, byddwn yn honni ei fod yn anghyfreithlon yn sicr, gyda sefydliadau hawliau dynol yn cytuno'n llwyr, fel yr ydym ni wedi clywed, a hyd yn oed yr Ysgrifennydd Cartref yn methu gwadu bod y Bil yn anghydnaws â'r cytuniadau hawliau dynol rhyngwladol y mae'r DU yn llofnodwr iddyn nhw, gan gynnwys y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol, confensiwn ffoaduriaid 1951 a datganiad cyffredinol o hawliau dynol 1948. Llywydd, ni ddylai unrhyw Aelod o'r Senedd hon gydsynio i Fil a allai ei gwneud hi'n ofynnol i Gymru dorri cyfraith hawliau dynol rhyngwladol, yn groes i'n setliad datganoli ein hunain. Mae Plaid Cymru yn cytuno â Llywodraeth Cymru ei bod yn tanseilio hawliau plant a phobl ifanc ar eu pen eu hunain sy'n ceisio lloches, ac mae'n gwbl ac yn gywilyddus anghydnaws â'r dull plentyn yn gyntaf, mudwr yn ail sy'n gwarchod buddiannau a hawliau plant yng Nghymru. Ac mae'n gwbl anghyson â'n hymrwymiad i fod yn genedl noddfa. Mae Plaid Cymru yn cytuno â'r pryderon a leisiwyd gan y Groes Goch Brydeinig bod y Bil hwn—[Torri ar draws.] Na, rydym ni wedi clywed digon o'ch barn ar y cyfryngau cymdeithasol, diolch yn fawr iawn. Mae Plaid Cymru yn cytuno â'r pryderon a leisiwyd gan y Groes Goch Brydeinig y bydd y Bil hwn yn dileu'r amddiffyniadau presennol sydd gan blant ar eu pen eu hunain a dioddefwyr masnachu pobl. Mae Plaid Cymru yn cytuno â Chyngor Ffoaduriaid Cymru a Chlymblaid Ffoaduriaid Cymru y dylai'r Senedd wrthwynebu'r Bil hwn yn gyfan gwbl, a gwrthod cydsyniad deddfwriaethol er mwyn cydymffurfio â'n rhwymedigaethau i amddiffyn dioddefwyr masnachu yng Nghymru. [Torri ar draws.] Rydym yn gwrthod yr ymgais annynol ac anfoesol hon i erlid, dad-ddyneiddio a chefnu ar y rhai sydd angen cefnogaeth ac amddiffyniad. A hyd yn oed os nad yw'r dadleuon moesol a chyfreithiol yn ddigon, mae Plaid Cymru yn cytuno â'r Sefydliad Llywodraethu annibynnol ac arbenigwyr polisi eraill sydd wedi dod i'r casgliad bod hwn yn ddarn aneffeithiol o ddeddfwriaeth sigledig iawn ei siliau. Mae'r Bil yn nodi, drwy ei gwneud hi'n ofynnol symud pobl ymaith sy'n cyrraedd y DU drwy ddulliau afreolaidd, ei fod yn anelu at 'atal mudo anghyfreithlon', yn enwedig trwy lwybrau peryglus. Ond, medd y Sefydliad Llywodraethu, 'prin yw'r dystiolaeth i ddangos bod y rhai sy'n barod i beryglu eu bywydau...yn cael eu hatal gan newidiadau i bolisi lloches.' Rydym yn clywed Aelodau Seneddol Ceidwadol ac Aelodau'r Senedd hon yn ailadrodd yn gywilyddus 'gwirionedd y ffactor atyniad' honedig, y syniad y bydd pobl yn cael eu hatal rhag teithio i'r DU trwy sefydlu system lymach. Ond mae'r Sefydliad Llywodraethu yn datgan yn bendant nad oes 'unrhyw dystiolaeth gadarn'. Mae'n safbwynt gwleidyddol, ideolegol. Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, yn gwrthwynebu yn sylfaenol unrhyw ymgais i danseilio hawl a phŵer y Senedd hon i ddeddfu mewn meysydd polisi datganoledig. Mae'r Bil hwn yn enghraifft berffaith o pam ein bod yn dal y farn honno. Rhaid i ni, gynrychiolwyr etholedig pobl Cymru, gael yr hawl i benderfynu beth sydd o fudd i'n cymunedau ein hunain a phwy y byddem yn eu croesawu i'r cymunedau hynny. A byddwn yn gofyn i chi, Gweinidog, sawl gwaith ydych chi'n mynd i anobeithio yn y diffyg gweithredu cyn gweld mai'r ateb i hyn yw Llywodraeth a etholir gan bobl Cymru sydd â'r pwerau i sicrhau na fyddai unrhyw ddeddfwriaeth sy'n anghydnaws â gwerthoedd a buddiannau gorau Cymru, fel y Bil anghyfreithlon hwn, yn berthnasol yng Nghymru? Gwnaed un o'r apeliadau mwyaf pwerus ymhlith y di-rif a wnaed gan sefydliadau yn erbyn pasio'r Bil gan grwpiau ffoaduriaid Iddewig. Llyfrgell Holocost Wiener yw casgliad hynaf a mwyaf Prydain o ddeunydd archifol gwreiddiol ar oes y Natsïaid, ac eleni mae'n nodi ei phen-blwydd yn 90 oed. Mae gwreiddiau'r llyfrgell yng ngwaith Dr Alfred Wiener, a ymgyrchodd yn erbyn Natsïaeth yn y 1920au a'r 1930au ac a gasglodd dystiolaeth am wrthsemitiaeth ac erledigaeth Iddewon yn yr Almaen. Mae ganddo hefyd gasgliadau unigryw yn ymwneud â phrofiadau teuluoedd ffoaduriaid Iddewig a ddaeth i Brydain yn y 1930au a'r 1940au. Mewn ymyrraeth wleidyddol brin, dywedodd y llyfrgell, ynghyd â Chymdeithas Ffoaduriaid Iddewig, fod y ddau sefydliad yn poeni am effaith Bil Mudo Anghyfreithlon arfaethedig y Llywodraeth a'r drafodaeth a'r iaith sy'n ymwneud â'i llunio. Er bod casgliad y llyfrgell yn tystio i'r boen a brofir gan y rhai y bu'n rhaid iddyn nhw ffoi rhag erledigaeth, mae Cymdeithas Ffoaduriaid Iddewig wedi cefnogi ffoaduriaid a goroeswyr yn barhaus. 'Os yw "Byth Eto" yn mynd i ddod yn realiti yn hytrach nag yn rhywbeth a ailadroddir, rhaid i ni ddangos arweinyddiaeth i agor ein drysau i warchod y rhai sydd mewn perygl rhag niwed.' Pan fyddwn yn dweud 'byth eto', mae'n rhaid i ni ei olygu, mae'n rhaid i ni ei fyw, mae'n rhaid i ni orfodi hynny; rhaid i ni beidio byth â thanseilio hynny. Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol nawr i ymateb. Jane Hutt. Jane Hutt AC: Diolch, Llywydd, a diolchaf i'r Aelodau heddiw am eu cyfraniadau i'r ddadl bwysig iawn hon. Yn benodol, a gaf i ddechrau drwy ddiolch i gadeiryddion y pwyllgorau allweddol a fu'n craffu ar y Memorandwm hwn, gan gadarnhau fy safbwynt mewn cysylltiad â'r Bil hwn, gan gymeradwyo ymrwymiad Llywodraeth Cymru i greu cenedl noddfa? A diolchaf i bawb a roddodd dystiolaeth i'ch pwyllgorau, gan gynnwys Cyngor Ffoaduriaid Cymru, y cyfarfu llawer ohonom heddiw â'r aelodau ar risiau'r Senedd, gan gwrdd â ffoaduriaid y mae eu bywydau, wrth gwrs, wedi cael eu peryglu gan wrthdaro ac a ddaeth yma i geisio'r genedl noddfa a'r gefnogaeth hon. Rydym yn glir yn ein rhaglen lywodraethu ein bod wedi ymrwymo i barhau i gynnal hawliau a breintiau plant ar eu pen eu hunain sy'n geiswyr lloches, ac rydym yn falch ein bod yn mabwysiadu dull plentyn yn gyntaf, mudwr yn ail, ac rydym yn falch bod hyn yn cynnal buddiannau a hawliau i ddarparu gofal a chymorth i blant yng Nghymru. Nid yw unrhyw gynnig polisi sy'n ymddangos i leihau'r sefyllfa statudol hon—ein sefyllfa statudol yma yng Nghymru—yn un y byddem yn ei gefnogi. Bu sôn am yr angen am lwybrau diogel a chyfreithiol, ac wrth gwrs, yn fy sylwadau agoriadol, gelwais eto am hyn. Hoffwn atgoffa'r Aelodau unwaith eto o'r datganiad a wneuthum ar 31 Mawrth, 'Llwybrau Diogel a Chyfreithiol ar gyfer Ceiswyr Lloches', yr ydym ni wedi bod yn galw amdanynt gan Lywodraeth y DU. A hoffwn atgoffa pobl o gynllun Dubs. Fe wnes i eu hatgoffa nhw i ddweud y gwir yn fy natganiad: 'Ein safbwynt ni yw y dylai nodwedd o gytundeb adsefydlu ledled Ewrop', y credaf y dylem ni i gyd ymrwymo iddo, 'gynnwys hefyd y DU yn ailgyflwyno cynllun tebyg i'r cynllun "Dubs"...—a enwyd ar ôl yr Arglwydd Alf Dubs. Cafodd y llwybr diogel a chyfreithiol hwn i'r DU ei gau sawl blwyddyn yn ôl ond sicrhaodd fod plant arbennig o agored i niwed ar eu pen eu hunain yn gallu dod i'r DU yn ddiogel yn hytrach na gwneud teithiau peryglus.' Ac fe wnaethon ni alw am hynny—ac, wrth gwrs, galwodd ein Haelodau cyfatebol yn San Steffan am ymestyn a chefnogi hynny, a chredaf: 'Mae cynllun Pobl Ifanc Dan Oed Cymwys Wcráin yn darparu model ar gyfer sut y gellid dylunio fersiwn fwy effeithiol o'r cynllun Dubs.' Felly, yn amlwg, Llywydd, mae'r Bil Llywodraeth y DU hwn yn gwneud darpariaeth o fewn cymhwysedd datganoledig y Senedd fel y mae'r Aelodau wedi cydnabod—darpariaeth nad ydym yn ei chefnogi. Ac ni allaf argymell bod y Senedd yn cydsynio i'r darpariaethau hyn sydd wedi'u cynnwys yn y Bil. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cofio beth ddywedodd yr arbenigwyr a'r cyrff meddygol blaenllaw hynny ddoe. Dywedodd yr Athro Kevin Fenton, llywydd y Gyfadran Iechyd y Cyhoedd, 'Ni ddylai fod lle i roi plant dan glo sydd wedi ffoi rhag amgylchiadau ofnadwy i geisio diogelwch yn y DU. Mae'r dystiolaeth yn glir ei fod yn achosi niwed erchyll i'w hiechyd corfforol a meddyliol gyda chanlyniadau gydol oes'. Ni allwn ni sefyll o'r neilltu a chaniatáu i'r Bil hwn roi plant sy'n agored i niwed drwy greulondeb o'r fath. Dyna pam rydyn ni'n galw am gyfarfod brys i annog y Llywodraeth i roi diwedd ar y cynigion echrydus hyn, a dyna pam mae'n rhaid i ni heddiw yn y Senedd alw gyda'n gilydd—fel y dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg mor glir—a dangos ein hymrwymiad i roi hawliau plant wrth wraidd popeth a wnawn. Felly, os gwelwch yn dda, Aelodau, heddiw, dewch at eich gilydd a gwrthod cydsyniad i'r Bil Mudo Anghyfreithlon. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly dwi'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. 11. Cyfnod Adrodd y Bil Amaethyddiaeth (Cymru) Yr eitem nesaf, felly, fydd y Cyfnod Adrodd ar y Bil Amaethyddiaeth (Cymru), ac mae un gwelliant wedi ei gynnig yn y Cyfnod Adrodd yma ar gyfer y Bil amaethyddiaeth, ac mae'r gwelliant hynny yn ymwneud â darparu cymorth i ffermwyr, a dwi'n galw ar y Gweinidog i gynnig gwelliant 1, Lesley Griffiths. Cynigiwyd gwelliant 1 (Lesley Griffiths). Lesley Griffiths AC: Diolch, Llywydd. Mae'r gwelliant a gyflwynwyd yn fy enw i yn ceisio disodli'r gwelliant i adran 9(3) a gyflwynwyd yng Nghyfnod 3. Ar 24 Mai, cyflwynais gynnig i symud y Bil hwn i'r Cyfnod Adrodd, pan amlinellais y cyfyngiadau a'r effeithiau heriol sy'n deillio o gyflwyno adran 9(3), sy'n cyfyngu'n ddifrifol ar allu Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth ar draws y sector amaethyddol yn y dyfodol. Fel yr wyf wedi ei ddweud o'r blaen ar sawl achlysur yma yn y Siambr, yn ystod gwaith craffu gan bwyllgorau a gyda'n rhanddeiliaid, rhaid i'r Bil Amaethyddiaeth (Cymru) hwn weithio i bob ffermwr, a pheidio â chreu rhwystrau rhag y cymorth y gellir ei ddarparu i'r sector. Ar hyn o bryd, mae adran 9(3) o fewn y Bil yn arbennig o heriol ac mae perygl y bydd y cymorth y gall Gweinidogion Cymru ei ddarparu i'r sector o dan adran 8 o'r Bil leihau. Nid yw'r ddarpariaeth hon yn gweithio i bob ffermwr ar draws y sector. Mae hyn yn cynnwys porwyr tir comin, lle gall yr amodau o fewn y ddarpariaeth eithrio cymorth ariannol i'r ffermwyr hynny sydd â hawliau dros dir comin, lle nad oes gan ffermwyr o'r fath reolaeth lawn dros y tir. At hynny, o dan adran 9(3), ni fyddai Gweinidogion Cymru yn gallu darparu cymorth ariannol tuag at ddatblygu cynlluniau busnes i newydd-ddyfodiaid nad ydynt yn meddiannu tir ar hyn o bryd, neu nad ydynt yn bodloni gofynion eraill adran 9(3), megis gweithredu tir sy'n cael ei ddefnyddio'n bennaf ar gyfer amaethyddiaeth. Mae ffermwyr wrth wraidd ein sector amaethyddol a'r cymunedau y maen nhw'n gweithredu ynddynt. Fy mwriad i drwy'r Bil hwn yw i gymorth yn y dyfodol, fel y cynllun ffermio cynaliadwy, fod ar gael ar gyfer pob math o ffermwyr a'i gyfeirio atyn nhw, o berchnogion busnes fferm i ffermwyr sy'n denantiaid, a ffermwyr tir comin fel ei gilydd. Mae'n allweddol i gadw ein ffermwyr ar y tir, gan eu galluogi i wneud yr hyn maen nhw'n ei wneud orau. Am y rheswm hwn rwyf wedi cyflwyno'r gwelliant i ddisodli adran 9(3) o'r Bil, un nad yw'n eithrio ffermwyr a'r ystod amrywiol o gymorth sydd ei angen i helpu ein sector amaethyddol i ffynnu. Mae fy ngwelliant Llywodraeth yn osgoi'r materion sy'n codi o adran 9(3) ac yn darparu ar wyneb y Bil y caiff cynlluniau a sefydlwyd yn unol ag adran 8 ddarparu cymorth, yn amodol ar fodloni meini prawf cymhwysedd. Byddai meini prawf cymhwysedd yn cael eu pennu fel rhan o broses ddylunio'r cynllun, ac mae'r ddarpariaeth yn darparu enghreifftiau o feini prawf cymhwysedd sy'n ymwneud â chymorth ariannol a chymorth arall a ddarperir o dan adran 8. Mae'r diwygiad yn cyd-fynd ag adran 12 o'r Bil, sy'n rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru wirio, ymhlith pethau eraill, a yw cymhwysedd ar gyfer cymorth wedi'i fodloni. Mae'r gwelliant hwn yn cydnabod pwysigrwydd amaethyddiaeth a'r ffermwyr hynny sy'n rheoli'r tir yn weithredol drwy ei gwneud yn glir y gall Gweinidogion Cymru osod rhag-amodau i gynlluniau, megis pwy fydd yn gymwys i gael ac elwa ar gymorth gan gynlluniau a sefydlwyd o dan adran 8 o'r Bil. Bydd y meini prawf cymhwysedd yn cael eu pennu gan bob cynllun cymorth a sefydlir o dan adran 8, a gallant esblygu dros amser wrth i ffermio a rheoli tir addasu a newid. Mae'r ddarpariaeth yn adlewyrchu'r hyblygrwydd sydd ei angen ar Weinidogion Cymru yn ymarferol i osod meini prawf cymhwysedd priodol ar gyfer cynlluniau sy'n gweithredu o dan y pŵer i ddarparu cymorth. Gallai'r meini prawf cymhwysedd alluogi cymorth i gael ei dargedu tuag at yr unigolion hynny sy'n rheoli tir Cymru yn weithredol, sy'n cyfrannu at gyflawni'r amcanion rheoli tir cynaliadwy, megis cynhyrchu bwyd a nwyddau eraill mewn modd cynaliadwy. Samuel Kurtz MS: Rwy'n ddiolchgar i gael un cyfle olaf i siarad ar y mater hwn cyn i'r Bil Amaethyddiaeth (Cymru) basio i Gyfnod 4. Er fy mod i'n sylweddoli bod camgymeriad pleidleisio a wnaed ar feinciau y Llywodraeth yn ystod dadl Cyfnod 3 wedi dod â hyn yn ôl i'r Siambr heddiw, ac mae'r Gweinidog wedi amlinellu eu pryderon ynghylch yr hyn y gallai fy ngwelliant 55 gwreiddiol fod wedi'i achosi drwy ganlyniadau anfwriadol, rwy'n siomedig, er gwaethaf ymgysylltiad cadarnhaol yn ystod camau cynharach y Bil, nad yw'r Llywodraeth na'r Gweinidog wedi estyn allan ataf i na'r meinciau hyn mewn ymdrech i ddod o hyd i gonsensws ar bwrpas fy ngwelliant gwreiddiol neu i gydweithio i oresgyn y canlyniadau anfwriadol canfyddedig hynny—rhywbeth rwy'n deall sydd wedi'i wneud yn flaenorol gyda Biliau eraill. Rwy'n ailadrodd y sylwadau a wnes i pan gyflwynwyd y cynnig i ystyried gwelliannau pellach i Fil Amaethyddiaeth (Cymru) yn y cyfnod adrodd i lawr y Senedd cyn toriad Sulgwyn. Roedd diben gwelliant 55 yn ddeublyg. Yn gyntaf, roedd i sicrhau bod ein ffermwyr, boed yn ffermwyr sy'n denantiaid, ffermwyr iseldir neu ucheldiroedd, yn cael eu blaenoriaethu wrth dargedu cefnogaeth—y ffermwyr gweithredol. Yn ail, ac o ganlyniad, roedd i sicrhau nad yw corfforaethau mawr, sy'n cynyddu pris tir amaeth Cymru yn artiffisial trwy wneud cynnig uwch na darpar brynwyr lleol, yn cael arian cyhoeddus i blannu coed i wrthbwyso eu hôl troed carbon heb newid unrhyw un o'u hymddygiadau busnes eu hunain—pwnc emosiynol sydd wedi ei godi ar lawr y Siambr hon sawl gwaith. Rwy'n nodi bod y gwelliant a gyflwynwyd yn enw'r Gweinidog, yr ydym yn ei drafod heddiw, yn mynd ychydig o'r ffordd i liniaru'r pryderon hyn. Fodd bynnag, rwy'n dal i bendroni a ydym ni, trwy beidio â bod ag iaith gryfach ac eglurach, yn gadael bwlch ar agor i'w ecsbloetio er anfantais i ffermwyr Cymru a'n cymunedau gwledig. Pe bai fy ngwelliant 55 wedi pasio, ochr yn ochr â'r gwelliannau eraill yn fy enw i, ni fyddai'r canlyniadau anfwriadol wedi dod i fodolaeth a byddai amddiffyniadau cryfach wedi cael eu rhoi i'n cymunedau ac i'r rhai y dewisodd y Llywodraeth roi cymorth iddynt trwy arian cyhoeddus. Mae hwn yn Fil nodedig—un sydd o bwys mawr i ffermwyr Cymru, ein cefn gwlad a'n hamgylchedd. Ac wrth i ni ddathlu Wythnos bwyd a ffermio Cymru, edrychaf ymlaen at weld y Gweinidog a'r Llywodraeth yn nigwyddiad NFU Cymru i ddathlu bwyd a ffermio Cymru yn y Neuadd cyn bo hir. Diolch, Llywydd. Mabon ap Gwynfor AS: Trwy gydol taith y Bil drwy'r Senedd, mae Plaid Cymru wedi ymdrechu i hyrwyddo y fferm deuluol yng Nghymru, cymunedau gwledig a'r sector amaethyddol yn ehangach, yn economaidd ac yn ddiwylliannol. Meddyliwch yn ôl at fersiwn gyntaf y Bil arfaethedig hwn, 'Brexit a'n tir' yn 2018, pan gynigiodd y Llywodraeth y dylai'r cymorth yn y dyfodol ddilyn darpariaeth nwyddau cyhoeddus o dir, lle gallai sefydliadau rhyngwladol mawr hawlio arian cyhoeddus Cymru am bethau fel cnydau pren. Mae'r Bil fel y mae bellach filltiroedd lawer i ffwrdd o'r cynigion cychwynnol hynny. Roedd y drafft cyntaf, i bob pwrpas, yn gynnig ar gyfer Bil amgylcheddol wedi'i wisgo fel Bil amaethyddiaeth. Er ein bod ni i gyd yn derbyn yn llawn yr angen i chwarae ein rhan yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd yn fyd-eang ac adfer natur, dylai Bil amaethyddiaeth ymwneud ag amddiffyn a gwella amaethyddiaeth, cynhyrchu bwyd, a chynnal a chadw'r gymuned a gefnogir gan y sector, yn ogystal â chyflawni ar gyfer yr hinsawdd. Roedd y Bil fel y'i cyflwynwyd yn brin iawn ym maes cynhyrchu bwyd ac ar bwysigrwydd amaethyddiaeth i economi a bwrlwm diwylliannol Cymru. Mae'r rhai hynny ohonom sy'n byw a bod ffermio yn gwybod yn iawn mai prif rôl amaethyddiaeth yw cynhyrchu bwyd. Mae ffermwyr yn cynhyrchu'r bwyd sydd ar ein platiau fel nad oes rhaid i eraill gynhyrchu eu bwyd eu hunain. Mae ffermwyr yn ffermio fel nad oes rhaid i eraill wneud hynny. Rydyn ni hefyd yn gweld yn ddyddiol y cyfraniad y mae'r gymuned ffermio yn ei wneud i'n heconomi leol a'r diwylliant bywiog sydd gennym yma yng Nghymru. Mae ffermwyr yn ychwanegu gwerth, nid yn unig yn economaidd ond yn ddiwylliannol. Mae'r cyfraniadau hyn bellach yn ganolog i'r Bil amaethyddiaeth newydd arfaethedig, diolch i Blaid Cymru. Un o'r newidiadau mwyaf arwyddocaol yr ydym wedi llwyddo ei wreiddio yn y Bil amaethyddiaeth yw cael cydnabyddiaeth o'r ffaith bod yn rhaid i deuluoedd ffermio gynllunio eu busnes am flynyddoedd ymlaen llaw. Mae angen iddyn nhw wybod pa gaeau i'w haredig a'u hail-hadu, a ddylen nhw gymryd mwy o wartheg, cylchdroi caeau, a fydd angen iddyn nhw dyfu cnydau ar gyfer bwyd anifeiliaid, a nifer o benderfyniadau eraill y mae'n rhaid eu gwneud flynyddoedd cyn y gallan nhw elwa ar y buddsoddiad hwnnw. Felly, mae angen diogelwch ar ffermwr er mwyn buddsoddi gan wybod y bydd yn eu helpu i gynhyrchu bwyd i ni ei fwyta, flynyddoedd ymlaen llaw. I'r perwyl hwnnw, mae Plaid Cymru hefyd wedi llwyddo i sicrhau setliad cynllun cymorth amlflwydd fel rhan o'r Bil amaethyddiaeth newydd, gyda'r Llywodraeth yn gorfod rhoi sicrwydd ar y cynlluniau cymorth sydd ar gael ar gylch pum mlynedd, syniad dangosol o beth fydd y cyllid, sawl blwyddyn ymlaen llaw. Yn olaf, mae hyn yn dod â mi at fy mhwynt olaf. Cafodd y gwelliant a gyflwynwyd gan Samuel Kurtz a'i gefnogi gennym ni ei wneud yn ddidwyll. Cafodd ei wneud er mwyn osgoi'r sefyllfa honno, y soniais amdani yn gynharach, lle gallai cwmnïau rhyngwladol a sefydliadau mawr nad ydyn nhw'n ymwneud â ffermio hawlio arian cyhoeddus sydd i fod ar gyfer cynhyrchu bwyd. Yn fyr, roedd yn ymgais ddiffuant i ddiffinio ffermwr gweithredol, a hynny yn y gyfraith. Diolch i Samuel Kurtz am ei ymdrechion i'r perwyl hwnnw. Fodd bynnag, daeth yn amlwg y byddai'r geiriad yn achosi pob math o anawsterau, ac felly bu'n rhaid ailedrych arno. Felly, rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei sicrwydd ynghylch sicrhau bod arian yn cael ei dargedu lle y dylai fod, cadw ffermwyr ar y tir, fel y clywsom ni, a gallwn osgoi'r sefyllfa o arian yn cael ei dynnu allan o ffermio i gefnogi mentrau nad ydynt yn rhai ffermio. Diolch yn fawr iawn. Y Gweinidog i ymateb. Lesley Griffiths AC: Diolch, a diolch i'r ddau Aelod am eu cyfraniadau. Rwy'n credu yn sicr, yn y drafodaeth a gefais gyda Sam Kurtz, ei fod yn llwyr gydnabod bod canlyniadau anfwriadol, ac rwy'n gwybod eich bod wedi codi gyda mi o'r blaen ynghylch y mater o gorfforaethau a chwmnïau yn prynu tir amaethyddol at ddibenion plannu coed ar gyfer gwrthbwyso carbon. Ac mae wastad wedi bod yn flaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru i gadw ffermwyr ar eu tir. Wrth gwrs, ni allaf atal unrhyw ffermwr rhag gwerthu ei dir i unrhyw un, ond ni fyddaf yn cefnogi'r hyn rydych chi newydd ei godi o ran corfforaethau a chwmnïau yna'n plannu coed ar gyfer gwrthbwyso carbon, ac nid dyna lle rydyn ni eisiau i'r arian fynd. Rwy'n disgwyl i ni osod amodau cymhwysedd ar gyfer cynlluniau a sefydlir o dan adran 8 o'r Bil, gan alluogi cymorth ariannol ac anariannol i gael ei gyfeirio at y person priodol, fel y mae Mabon ap Gwynfor newydd ei ddweud, sef ffermwyr sy'n ffermio'r tir. Rwy'n cytuno'n llwyr: mae amaethyddiaeth yn sector tymor hir. Pan fyddan nhw'n ystyried cynlluniau, mae'n rhaid iddyn nhw wneud hynny. Ond y bygythiadau mwyaf i gynhyrchu bwyd cynaliadwy yw'r argyfyngau hinsawdd a natur, a dyna pam mae'n rhaid i ni gael y cydbwysedd hwnnw. Ond yn anffodus, byddai'r gwelliant a basiwyd wedi golygu na fyddai pobl fel milfeddygon a lladd-dai yn gymwys i gael cymorth ariannol, nac unrhyw fusnesau eraill yn y gadwyn gyflenwi amaethyddol—popeth y mae ein cymuned wledig yn dibynnu arno. Gallai cytundebau ffermio a rennir, partneriaethau gan gynnwys partneriaethau teuluol, hefyd fod yn anghymwys i dderbyn cymorth ariannol. Felly, byddwn i'n annog yr Aelodau i gefnogi'r gwelliant hwn gan y Llywodraeth. Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fyddwn ni'n symud i bleidlais ar welliant 1, ac oni bai fod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, dwi'n symud yn syth i bleidlais ar welliant 1—gwelliant 1 y Bil amaeth. Felly, gwelliant 1— Joyce Watson AC: Nid yw wedi agor. Nid yw wedi'i agor. Rydych chi'n iawn, Joyce Watson—dydw i ddim wedi agor y bleidlais. Agor y bleidlais, felly, ar welliant 1. Cau'r—.Ocê, problem technegol gyda Mabon ap Gwynfor eto? Ie, ocê. Siẁd ydych chi'n bwrw'ch pleidlais, Mabon? Mabon ap Gwynfor AS: O blaid. O blaid. Cau'r bleidlais. O blaid 38, neb yn ymatal, 15 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei dderbyn. Eitem 11: Cyfnod Adrodd Bil Amaethyddiaeth (Cymru). Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 38, Yn erbyn: 15, Ymatal: 0 Derbyniwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Gan fod y gwelliant yna wedi ei dderbyn, dwi'n gallu dweud ein bod ni wedi dod i ddiwedd ystyriaeth y Cyfnod Adrodd ar Fil Amaethyddiaeth (Cymru), a dwi'n datgan y bernir bod pob adran o'r Bil, felly, a phob Atodlen iddo, wedi eu derbyn. [Cymeradwyaeth.] Barnwyd y cytunwyd ar bob adran o’r Bil. 12. Cyfnod Pleidleisio Nawr, fe awn ni ymlaen i'r cyfnod pleidleisio ar gyfer gweddill y pleidleisiau y prynhawn yma. Mae'r bleidlais gyntaf, felly, ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol, a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Dawn Bowden. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 43, neb yn ymatal, 10 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn. Eitem 9: Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol: O blaid: 43, Yn erbyn: 10, Ymatal: 0 Derbyniwyd y cynnigCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Y bleidlais nesaf fydd y cynnig ar y cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Mudo Anghyfreithlon, a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei wrthod. Eitem 10: Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Mudo Anghyfreithlon: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0 Gwrthodwyd y cynnigCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Dyna ddiwedd ar ein pleidleisiau ni y prynhawn yma. Diolch yn fawr i chi i gyd. Daeth y cyfarfod i ben am 18:47. QNR Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru Gareth Davies: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth Llywodraeth Cymru i leihau amseroedd aros yn Ysbyty Glan Clwyd? Mark Drakeford: Waiting times for both elective and emergency care have shown improvements over the last year. There is still work to be done. Within the special measures regime, the health Minister has set clear targets for the next 90 days, and I expect to see continued improvements in waiting times. Joel James: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i warchod poblogaethau draenogod? Mark Drakeford: The Welsh Government supports a range of initiatives to help hedgehogs. This includes the provision of wildlife underpasses on trunk roads and funding local nature partnerships to co-ordinate local biodiversity action, such as providing advice and materials to communities to promote hedgehog-friendly gardens. Ken Skates: Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith dyledion cinio ysgol ar ddisgyblion? Mark Drakeford: No child should go hungry. Local authorities and schools should work in partnership with families experiencing difficulties with payment of school meals to find a solution to ensure no child goes without a meal at lunch time. Janet Finch-Saunders: Pa gamau brys y mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i wrthdroi rhwystrau i adeiladu tai yng Nghymru? Mark Drakeford: The delivery of good-quality homes across Wales is a priority for this Government. We are providing record levels of funding to support this priority and we are working in collaboration with the sector to overcome challenges.
uk-hansard-senedd-cy
senedd2023-06-20
2024-06-01T00:00:00
{ "year": "2023", "language": "cy", "license": "Open Parliament Licence - https://www.parliament.uk/site-information/copyright-parliament/open-parliament-licence/" }
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:29 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. Datganiad gan y Llywydd Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn, a chyn i ni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, lle bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda chi. A dwi eisiau atgoffa Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol, wrth gwrs, ac yr un mor berthnasol i Aelodau yn y Siambr ag i'r rhai sy'n ymuno drwy gyswllt fideo. 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Felly, yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Hefin David. Tân Gwyllt Hefin David AC: 1. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith tân gwyllt a werthir mewn siopau ar les anifeiliaid yng Nghymru? OQ55887 Lesley Griffiths AC: Diolch. Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw bwerau penodol i reoli gwerthiant a’r defnydd o dân gwyllt yng Nghymru. Rwyf am i ddeddfwriaeth tân gwyllt y DU gael ei thynhau a hoffwn weld mwy o ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd o'r trallod y gall defnydd anghyfrifol o dân gwyllt ei achosi i anifeiliaid. Rwyf wedi galw am gamau gweithredu ledled Prydain ar hyn cyn gynted â phosibl ac rwyf wedi gofyn am gyfarfodydd gyda fy swyddogion cyfatebol yn Llywodraethau’r Alban a’r DU er mwyn bwrw ymlaen â hyn. Hefin David AC: Diolch, Weinidog. Mae croeso mawr i’r datganiad hwnnw, yn yr ystyr eich bod yn mynd ar drywydd hyn gyda'r cyfrifoldeb Llywodraethol perthnasol. Mae'r Cynghorydd Jill Winslade, sy'n gynghorydd ar Gyngor Cymuned Bedwas, Tretomos a Machen, wedi cysylltu â mi. Trafodwyd hyn gan y cyngor yr wythnos diwethaf, pan gytunwyd yn unfrydol eu bod yn poeni am y sŵn y mae tân gwyllt yn ei wneud. Roeddent yn poeni'n benodol am yr effaith ar y rheini sy'n ddigartref, ar y rheini sydd â phroblemau iechyd meddwl, yn enwedig anhwylder straen wedi trawma, a'r rheini sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Fel cyngor, maent yn teimlo bod dyletswydd gofal arnynt i breswylwyr, a byddent yn hoffi pe bai tân gwyllt distaw ar gael i'r cyhoedd—neu o leiaf fod tân gwyllt dros 120 desibel yn cael eu gwahardd. A hoffent gael cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'w hymgyrch i gyfyngu ar y defnydd o dân gwyllt, mewn perthynas â’r materion rwyf wedi sôn amdanynt eisoes. Felly, a fyddech chi, Weinidog, yn cefnogi'r Cynghorydd Jill Winslade o Gyngor Cymuned Bedwas, Tretomos a Machen, gyda'r mater ehangach hwn, ac yn cydnabod y gefnogaeth honno heddiw? Lesley Griffiths AC: Diolch am eich cwestiwn, Hefin David. A chredaf ei bod yn iawn cydnabod—. Yn amlwg, nid anifeiliaid yn unig sy'n profi trallod, ond fe gyfeirioch chi at unigolion digartref a phobl sy'n dioddef o anhwylder straen wedi trawma hefyd. Credaf fod hyn yn rhywbeth sy'n cael cryn dipyn o gefnogaeth wleidyddol a chyhoeddus, ac rwy’n fwy na pharod i edrych ar yr ymgyrch y cyfeiriwch ati. Credaf ei bod yn bwysig iawn fod Llywodraeth y DU yn deall ein pryderon mewn perthynas â'u deddfwriaeth, ac fel y soniais yn fy ateb i chi, rwyf wedi gofyn am gyfarfod tairochrog. Ysgrifennais yn ôl ar ddechrau'r flwyddyn mewn gwirionedd—ym mis Ionawr, rwy’n credu—i drefnu cyfarfod, ond gyda phandemig COVID, mae arnaf ofn i'r gwaith hwnnw ddod i stop. Ond mae wedi ailddechrau bellach, felly rwy'n obeithiol y bydd modd inni fwrw ymlaen â phethau’n gyflym iawn. Janet Finch-Saunders AC: Hoffwn ddiolch i Hefin David am godi hyn, ac i chithau, Weinidog, am eich ymateb cadarnhaol—mae'n fater mor bwysig ledled Cymru. Nawr, mae oddeutu 54 y cant o gathod, 55 y cant o geffylau, a 62 y cant o gŵn yn dangos arwyddion o drallod o ganlyniad i’r fath sŵn a chleciau swnllyd. Er bod 72 y cant o bobl yng Nghymru yn cydnabod y gall tân gwyllt gael effaith negyddol ar les anifeiliaid, mae'r Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid eu hunain yn derbyn 400 o alwadau bob blwyddyn ar gyfartaledd oherwydd tân gwyllt. Mae arolygon barn wedi canfod bod 67 y cant o drigolion Cymru yn cytuno y dylid diwygio'r gyfraith i amddiffyn lles anifeiliaid yn well. Ac fel y mae pob un ohonom yn sylwi, mae'r tymor ar gyfer tân gwyllt wedi ymestyn bellach o'r adeg cyn Noson Tân Gwyllt, ac i mewn i'r flwyddyn newydd weithiau, felly mae gennym dymor estynedig. Mae awydd i weld newid yn cael ei arwain gan y Senedd hon, ac i'r defnydd o dân gwyllt gael ei gyfyngu i arddangosiadau cyhoeddus mawr. Wrth weithio ar hyn, a wnewch chi ystyried tân gwyllt distaw—gwahardd tân gwyllt uwchlaw lefel benodol o ddesibelau, fel y dywedodd Hefin? Ond a wnewch chi edrych hefyd ar leihau’r nifer o weithiau y gall pobl gael eu dychryn yn eu cartrefi eu hunain, ac wrth gwrs, ar ein hanifeiliaid anwes a da byw? Diolch. Lesley Griffiths AC: Ie, rwy’n sicr yn cydnabod y ffigurau hynny a nododd Janet Finch-Saunders. Yn sicr, profodd fy nghi drallod eleni. Mae hi'n ddwy oed, ac yn sicr, fe’i profodd am y tro cyntaf eleni. Felly, rwy’n llwyr gydnabod y ffigurau hynny. Ac fel y dywedais yn fy ateb i Hefin David, mae'n waith rydym yn bwrw ymlaen ag ef, ond yn anffodus, mae'r ddeddfwriaeth a'r pwerau yn nwylo Llywodraeth y DU. Ond credaf yn sicr na chynhaliwyd arddangosiadau cyhoeddus eleni oherwydd pandemig COVID-19, felly yn sicr, credaf inni weld mwy o bobl yn prynu tân gwyllt fel unigolion, ac roedd fel pe bai’n gyfnod estynedig iawn. Clywais dân gwyllt neithiwr yma yng Nghaerdydd. Felly, yn sicr, credaf fod pobl wedi bod yn eu prynu, ac efallai'n eu defnyddio ar ôl Noson Tân Gwyllt. Felly, fel yr amlinellais yn fy ateb, rwy'n awyddus iawn i fwrw ymlaen â hyn. Mandy Jones AC: Fel y mae Hefin a Janet newydd sôn, ymddengys bod Noson Tân Gwyllt yn mynd yn waeth bob blwyddyn—mae’n para’n hirach, mae'n fwy swnllyd, mae’n hwyrach, gyda sŵn bellach yn para tan oriau mân y bore ac am ddyddiau wedyn. Rwy'n bryderus iawn am les ein hanifeiliaid, fel y nododd y ddau siaradwr blaenorol hefyd, yn y cartref a hefyd yn y caeau, yn ogystal ag effaith ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig â thân gwyllt, a chreulondeb i anifeiliaid yn sicr. Gwn na all Llywodraeth Cymru wahardd tân gwyllt rhag cael eu gwerthu i'r cyhoedd, ond a yw o fewn cymhwysedd Llywodraeth Cymru i’w cadw ar gyfer arddangosiadau cyhoeddus diogel a thrwyddedig yn unig? Diolch. Lesley Griffiths AC: Felly, na, nid ni sy’n gyfrifol am y ddeddfwriaeth hon. Fel y dywedais yn fy ateb i Janet Finch-Saunders, gan na chawsom yr arddangosiadau cyhoeddus rydym fel arfer yn eu gweld eleni, yn anffodus, credaf inni weld mwy o bobl yn prynu tân gwyllt. Yn amlwg, mae siopau papurau newydd, er enghraifft, wedi'u trwyddedu i werthu tân gwyllt. Felly, gallai archfarchnadoedd eu gwerthu, gan eu bod ar werth yn rhywle arall. Dewisodd rhai archfarchnadoedd beidio â gwneud hynny eleni, ac roeddwn o’r farn fod hynny'n beth da iawn i'w wneud. Ond yn amlwg, nid oedd yn anghyfreithlon i ddefnyddio tân gwyllt o fewn y rheoliadau COVID rydym wedi'u cael, ond unwaith eto, mae a wnelo â gofyn i bobl fod yn gall. Ond rwy'n awyddus i sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn addas i’r diben, gan fy mod yn siŵr fod pob un ohonom yn cytuno nad yw hynny’n wir ar hyn o bryd. Llifogydd yn y Rhondda Leanne Wood AC: 2. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau'r perygl o lifogydd yn y Rhondda? OQ55863 Lesley Griffiths AC: Diolch. Mae cyllid wedi’i gymeradwyo ar gyfer 25 o brosiectau lliniaru llifogydd ar draws Rhondda Cynon Taf eleni, sef cyfanswm o £1.9 miliwn. Mae hyn yn cynnwys £303,450 rwyf wedi'i gymeradwyo'n ddiweddar i osod mesurau gwrthsefyll llifogydd ar lefel eiddo mewn 357 o gartrefi yn y Rhondda. Rwyf hefyd wedi darparu £1.6 miliwn o gyllid brys i RhCT ar gyfer gwaith atgyweirio yn dilyn stormydd eleni. Leanne Wood AC: Yn ystod y mis diwethaf, mae Cyfoeth Naturiol Cymru eich Llywodraeth chi wedi cyhoeddi adroddiadau ar lifogydd eleni, ac yn amlwg, mae fy niddordeb i yn ymwneud â’r Rhondda. Ychydig o bobl oedd yn synnu na chanfu CNC fod unrhyw fai arnynt hwy eu hunain yn yr adroddiadau hynny. Yr agosaf a ddaethant at gyfaddef unrhyw gyfrifoldeb oedd pan ddywedasant nad oedd ganddynt ddigon o arian i ymateb i raddfa’r digwyddiadau mis Chwefror, rhywbeth y gobeithiaf i chi ei glywed a'i ystyried yn ofalus iawn, Weinidog. Nawr, mae'n amlwg i mi ac i lawer o bobl eraill a lofnododd ddeiseb mai dim ond ymchwiliad annibynnol fydd yn mynd at wraidd yr hyn a ddigwyddodd ac yn cynnig atebion parhaol a fydd yn ystyried yr argyfwng hinsawdd, a dyna fydd ein gobaith gorau o atal y math hwn o beth rhag digwydd i gymunedau yma yn y Rhondda eto. Safbwynt y blaid Lafur yn San Steffan yn gynharach eleni oedd cefnogi ymchwiliad i lifogydd mewn cymunedau yn Lloegr. Pam nad yw ymchwiliad o’r fath yn ddigon da i bobl yma yng Nghymru? A wnewch chi gefnogi ymchwiliad annibynnol nawr? Neu a wnewch chi egluro i bobl yn y Rhondda beth ydych chi'n ofni y gallai ymchwiliad o'r fath ei ddatgelu? Lesley Griffiths AC: Nid oes ofn arnaf o gwbl, a na, nid wyf am ymrwymo i adolygiad annibynnol ar hyn o bryd am y rhesymau rwyf wedi’u nodi wrthych yn y Siambr hon ac am y rhesymau rwyf wedi’u nodi wrthych mewn gohebiaeth. Rydym yn aros am adroddiadau ymchwiliad adran 19. Maent yn ddyletswydd ar yr awdurdod lleol, fel y gwyddoch, a byddant yn darparu eglurder ynghylch y rhesymau am y llifogydd, yn ogystal â sut y bydd yr awdurdodau rheoli perygl yn gweithredu. Nid wyf yn cydnabod eich sylwadau ar adroddiad CNC. Roeddwn o’r farn ei fod yn asesiad gonest iawn o'u perfformiad eu hunain, sut roeddent yn credu y gallent wneud gwelliannau, ac nid oedd yn ymwneud â chyllid yn unig. Roeddwn yn credu bod yr adroddiad—. Nid fi gomisiynodd yr adroddiad hwnnw, ond credaf y bydd y canfyddiadau'n ategu ymchwiliadau'r awdurdod lleol ac yn helpu i gefnogi’r gwaith o reoli perygl llifogydd yn y dyfodol. Mae'n rhaid i bob un ohonom dderbyn ein bod, gyda'r argyfwng hinsawdd, yn mynd i weld y mathau hyn o ddigwyddiadau a welsom ym mis Chwefror, ac rydym yn ceisio ein gorau glas i sicrhau bod RhCT wedi derbyn yr arian y gofynnwyd amdano. Soniais am yr arian ychwanegol rwyf wedi’i ddarparu’r wythnos hon ar gyfer gwrthsefyll llifogydd ar lefel eiddo, fel y gall pobl sy'n teimlo bod ei angen arnynt yn eu cartrefi fynd at eu hawdurdod rheoli risg a gofyn am y cyllid, a chael beth bynnag sy'n ofynnol wedi'i osod yn iawn. Ni chredaf—. Cyfrifoldeb unigolion fyddai cyflwyno'r cais hwnnw, a dyna'n union rydym wedi'i wneud. Andrew RT Davies AC: Weinidog, nododd yr adolygiad o’r llifogydd a gynhaliwyd gan CNC yn gynharach eleni fod 12 rhybudd rhag llifogydd wedi cael eu cyhoeddi’n hwyr, ac na chafodd rhai ardaloedd rybudd rhag llifogydd o gwbl. Weithiau, gallwn ganolbwyntio ar y prosiectau seilwaith mawr a rhai o'r materion mwy sy'n ymwneud â llifogydd, ond os na allwch wneud y pethau syml yn iawn, fel rhybuddio'r cyhoedd i fod yn barod a gwneud paratoadau, bydd hynny'n tanseilio’r holl broses o baratoi ar gyfer llifogydd. Pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i ryngweithio â Cyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau bod yr agwedd benodol hon ar y system atal llifogydd, rhybuddio cynnar a synhwyro yn ddibynadwy, yn wydn, ac yn rhybuddio cymunedau am berygl llifogydd sydd mor ddinistriol i leoedd fel y Rhondda a Nantgarw ym Mhontypridd? Lesley Griffiths AC: Soniais fy mod yn credu bod yr adroddiad y mae CNC wedi'i gyflwyno yn asesiad gonest iawn o’u perfformiad, ac rwyf wedi cyfarfod â hwy i gychwyn ei drafod. A ddydd Llun nesaf—rwy’n credu mai dydd Llun nesaf ydyw; wythnos nesaf, yn sicr—byddaf yn cyfarfod â'r cadeirydd a'r prif weithredwr i gael trafodaeth o sylwedd ynghylch yr adroddiad a pha gamau sydd angen eu cymryd. Credaf fod yn rhaid inni gydnabod mai stormydd mis Chwefror, sef yr hyn roedd yr adroddiad hwn yn seiliedig arno yn bennaf, oedd y rhai gwaethaf inni eu gweld mewn rhannau o Gymru ers 40 mlynedd. Ac nid esgus yw hynny; rwyf ond yn dweud bod yn rhaid inni gofio mai dyna roeddem yn ymdrin ag ef. Cawsom lifogydd mewn dros 3,000 yn anffodus, a gwelais y dinistr, ac rwy'n siŵr i chi ei weld hefyd, ac rydym am wneud popeth y gallwn ei wneud i osgoi hynny. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod yn edrych ar yr adroddiad hwnnw'n fanwl iawn, a dyna mae swyddogion wedi bod yn ei wneud ers inni ei gael oddeutu mis yn ôl. Byddaf yn cael y drafodaeth honno gyda CNC, ac rwy’n fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Mick Antoniw AC: Weinidog, yn ardal Pontypridd a Thaf Elái, rydym yn amlwg yn edrych ymlaen at yr wyth adroddiad adran 19 a fydd yn cael eu paratoi nawr gan Rondda Cynon Taf, a fydd yn bwysig iawn wrth bennu camau atal a chamau gweithredu yn y dyfodol ac ati. Mae un o'r materion sydd wedi codi yn yr oddeutu 30 o gyfarfodydd rwyf i a'r AS lleol wedi'u cael gyda chymunedau, busnesau ac yn y blaen yn ardal Pontypridd a Thaf Elái yn ymwneud â'r pethau y gellir eu gwneud nawr i roi mwy o wytnwch i’r cymunedau yr effeithiwyd arnynt. Un o'r materion, wrth gwrs, yw pethau fel gatiau llifogydd ac ati, ac oherwydd mai llifogydd o afonydd, yn bennaf, a gafwyd ym Mhontypridd a Thaf Elái, credaf mai cyfrifoldeb CNC yw hynny. Nawr, rwyf wedi dwyn y mater i'w sylw, a deallaf eu bod wedi bod yn cyfarfod â chi i drafod mater cyllido a darparu adnoddau gwrthsefyll llifogydd ychwanegol i'r cymunedau yr effeithir arnynt ym Mhontypridd a Thaf Elái. Tybed a allech amlinellu canlyniad y trafodaethau rydych wedi'u cael? Lesley Griffiths AC: Mae'r trafodaethau hynny'n parhau. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud fy mod yn cyfarfod â hwy eto yr wythnos nesaf. Fodd bynnag, mae'r cyllid y cyfeiriwch ato yno iddynt wneud cais amdano. Felly, soniais fy mod newydd ddyrannu £305,000 yn ychwanegol ddechrau'r wythnos yn uniongyrchol i RhCT ar gyfer mesurau gwrthsefyll llifogydd ar lefel eiddo, ac mae’r cyllid hwnnw’n sicr ar gael i CNC wneud cais amdano hefyd. Felly, unwaith eto, mae'r trafodaethau hynny'n parhau. Byddaf yn cael cyfarfod arall yr wythnos nesaf, ond mae'r cyllid ar gael nawr. Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau Llefarydd y Ceidwadwyr, Janet Finch-Saunders. Janet Finch-Saunders AC: Weinidog, ym mis Mehefin 2018, rhybuddiodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig fod pob tebygolrwydd y bydd bwlch llywodraethu ar ôl Brexit. Nid oes gan CNC, fel y rheoleiddiwr amgylcheddol, ddigon o annibyniaeth, a cheir teimlad nad oes gan swyddfa comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol ddigon o ffocws ac arbenigedd amgylcheddol. Felly, ceir teimlad fod angen corff newydd ar Gymru i fonitro gweithredoedd y Llywodraeth wrth gyflawni deddfwriaeth amgylcheddol, system gwynion hygyrch a deddfwriaeth briodol a chadarn sy’n cael ei gorfodi. Dyma ni bellach, bron i 30 mis yn ddiweddarach. Nawr, mae Llywodraeth y DU yn y broses o benodi cadeirydd cyntaf swyddfa diogelu'r amgylchedd. Mewn cymhariaeth, mae'r llinell amser ar gyfer sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol olynol i Gymru yn parhau i fod yn aneglur. Mae wedi bod yn amlwg ers mis Mehefin 2018 fod angen y corff newydd hwn ar Gymru, a hyd yn oed cyn hynny, ym mis Mawrth y flwyddyn honno, gwnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymiad i achub ar y cyfle deddfwriaethol addas cyntaf i ymgorffori egwyddorion amgylcheddol yn y gyfraith ac i gau'r bwlch llywodraethu hwn. Pryd fyddwn ni'n gweld manylion cadarn am y llinell amser hon a chorff newydd yn cael ei sefydlu, a pham nad yw hyn wedi ei ddatblygu'n barod? Lesley Griffiths AC: Wel, un o'r rhesymau, fel y gwyddoch, yw mai dim ond un rhan fach iawn o adael yr Undeb Ewropeaidd yw hyn, a hoffwn weithiau pe baech wedi mynychu rhai o'r cyfarfodydd y bûm ynddynt, lle rydych yn cydnabod y mynydd o waith sydd angen ei wneud yn ystod y 42 diwrnod nesaf bellach, rwy’n credu, cyn i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Ond mae hwn yn bwynt pwysig iawn ac rwy'n fwy na pharod i ateb cwestiynau fel y gall pobl ddeall lle rydym arni ar hyn o bryd. Felly, credaf fod yn rhaid i chi gyfaddef bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn graff iawn yn cyflwyno Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Felly, mae'r bylchau mewn llywodraethu amgylcheddol yn wahanol iawn yng Nghymru i'r hyn a geir yn Lloegr. Yn amlwg, mae Llywodraeth y DU wedi rhoi stop ar Fil Amgylchedd y DU ar hyn o bryd—mae hwnnw wedi'i oedi, er fy mod yn credu ei fod ar fin ailgychwyn—ond mae gennym ein Deddf amgylchedd yma. Felly, o ran egwyddorion, er enghraifft, mae gennym set o egwyddorion amgylcheddol yn ein Deddf amgylchedd nad oes gan wledydd eraill. Fodd bynnag, fel y gwyddoch o fy ngrŵp rhanddeiliaid bord gron ar Brexit, sefydlais grŵp gorchwyl ohono i ofyn iddynt gyflwyno adroddiad, ac maent wedi gwneud hynny. A chredaf imi grybwyll mewn ateb i Llyr yr wythnos diwethaf yn y pwyllgor y byddaf yn cyflwyno rhagor o wybodaeth am hynny. Nid wyf yn siŵr a ofynasoch i mi mewn cwestiwn ysgrifenedig neu a ysgrifennais atoch i ddweud ein bod wedi hysbysebu am unigolyn i arwain y rhan hon o Lywodraeth Cymru ar ôl inni adael yr Undeb Ewropeaidd, a'r llinell amser ar gyfer hynny oedd cyn y Nadolig, rwy'n credu. Janet Finch-Saunders AC: Diolch, a diolch am gadarnhau eich bod, ym mis Gorffennaf 2019, wedi cynnull grŵp gorchwyl o randdeiliaid allweddol i weithio gyda chi i ddatblygu manylion am strwythur llywodraethu amgylcheddol Cymru ymhellach. Nawr, ar 5 Tachwedd, fe nodoch eich bod yn bwriadu cyhoeddi'r cynigion hyn ar gyfer trefniadau llywodraethu amgylcheddol mwy hirdymor erbyn diwedd y flwyddyn, ochr yn ochr ag adroddiad y grŵp gorchwyl ar lywodraethu amgylcheddol. Er bod hynny ynddo’i hun eisoes yn dynodi oedi i'r addewid gwreiddiol i gyhoeddi argymhellion y grŵp gorchwyl yr hydref hwn, ymddengys bod y grŵp wedi adrodd ym mis Ebrill 2020. Dywedasoch wrthym ddydd Iau diwethaf yn y pwyllgor na ellid sicrhau bod yr adroddiad ar gael oherwydd diffyg capasiti ac adnoddau. A wnewch chi roi mwy o fanylion heddiw ynglŷn â beth yw'r heriau penodol o ran capasiti ac adnoddau sydd wedi golygu na allwch rannu'r adroddiad am saith mis, ac egluro pam eich bod yn gwarafun cyfle i Senedd Cymru graffu ar yr adroddiad a'r argymhellion cyn eich cynigion ar gyfer llywodraethu amgylcheddol? Lesley Griffiths AC: Gwnaf. Credaf imi egluro yr wythnos diwethaf mai'r un grŵp o swyddogion sy'n gweithio ar drefniadau pontio’r UE ag sy'n gweithio ar yr ymateb i COVID-19. Nid ydym wedi dyblu nifer ein swyddogion dros nos. Felly, dyna roeddwn yn ei feddwl wrth ddiffyg capasiti ac adnoddau. Ac nid wyf am warafun cyfle i'r Senedd hon. Byddaf yn cyhoeddi ymateb Llywodraeth Cymru i’r argymhellion a ddaw gan y grŵp gorchwyl, a hefyd yr adroddiad. Janet Finch-Saunders AC: Diolch, Weinidog. Credaf mai’r hyn sydd wedi digwydd yma mewn gwirionedd yw bod trefniadau hirdymor ar gyfer llywodraethu amgylcheddol wedi'u gohirio. Nawr, gyda chynnydd mor rhwystredig o araf ar gynlluniau ar gyfer y dyfodol, mae'n rhesymol disgwyl i drefniadau dros dro gael eu rhoi ar waith. Nawr, rwy’n ymwybodol i chi roi blaenoriaeth i sicrhau bod mecanwaith cwynion ar gael, ac y dylid asesu pob cwyn yn annibynnol, ac mae’n rhaid croesawu hynny yn gyffredinol. Fodd bynnag, er bod diwedd y cyfnod pontio mewn llai na deufis, ni chynhaliwyd y cyfweliadau ar gyfer asesydd diogelu'r amgylchedd dros dro tan ddydd Llun. Erbyn pryd y bydd yr asesydd yn ei swydd? A yw'r panel arbenigol a fydd yn cefnogi'r asesydd wedi'i benodi, ac os nad ydyw, pryd y bydd hynny’n digwydd? Ac a allwch gadarnhau y bydd gan y system gwynion dros dro, a ddylai ddod yn weithredol o 1 Ionawr 2021, gapasiti digonol i ymdrin â nifer o bryderon ar yr un pryd? Diolch. Lesley Griffiths AC: Ni fyddwn yn cytuno bod hyn wedi cael ei ohirio, ond yn amlwg, mae'n rhaid inni flaenoriaethu, ac mae'n rhaid i bandemig iechyd y cyhoedd, fel rydym wedi'i weld ac yn ei ganol ar hyn o bryd, gael blaenoriaeth. Felly, yn fy mhortffolio—os edrychwch ar draws fy mhortffolio, fe welwch fod popeth wedi'i liwio gan gyllid a deddfwriaeth Ewropeaidd ac ati, felly mae'n rhaid inni wneud llawer iawn o waith, yn anffodus, wrth inni agosáu at 31 Rhagfyr. Felly, nid yw wedi cael ei ohirio o gwbl, ond yn amlwg, ni allwch wneud popeth—hoffwn pe gallem. Felly, i gadarnhau, mae'r mesurau dros dro wedi'u cynllunio i lenwi bwlch rhwng diwedd y cyfnod pontio a chyflwyno mesurau statudol. Fel y nodoch, rydym wedi hysbysebu, rydym yn y broses o hysbysebu, a bydd yr unigolyn yn ei swydd. Yr hyn rwyf wedi dweud yw fy mod yn dymuno cael system well. Dyma rywle lle credaf y gallwn fod yn well na'r system bresennol sydd gennym gyda'r Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd. Rydych yn cyfeirio at y 'nifer o gwynion'; wel, rwyf wedi edrych yn ôl i weld faint o gwynion rydym wedi'u hanfon o Gymru i Frwsel mewn gwirionedd, ac ni fyddwn yn eu galw'n niferus. Mae hefyd yn amlwg iawn fod hyn yn araf, felly credaf ei bod yn bwysig iawn, pan gewch gŵyn, y gallwch ymdrin â hi cyn gynted â phosibl, a chraffu arni a’i hymchwilio mewn ffordd lawer cyflymach. Felly, credaf ei bod yn bwysig iawn inni sicrhau bod y system yn iawn. Hoffwn fod wedi ei chyflwyno yn nhymor y Senedd hon, ond yn anffodus, ni allaf wneud hynny. Ond rydym wedi sicrhau bod y mesurau dros dro yn gadarn ac yn addas i’r diben. Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd. Llyr Gruffydd AC: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi'n meddwl bod yna eironi eithriadol yn y ffaith bod gennym ni Geidwadwyr fan hyn yn cwyno ynglŷn â'r trafferthion dybryd y mae Brexit yn eu hachosi i ni nawr yng Nghymru ac yn cwyno am arafwch Llywodraeth Cymru. Mae gen i gydymdeimlad â'r farn yna ond, wrth gwrs, mae angen iddyn nhw atgoffa eu Llywodraeth eu hunain ar lefel y Deyrnas Unedig o'r arafwch mewn rhoi eglurder i ni yng Nghymru am yn union beth sydd yn ein hwynebu ni ymhen, beth, 42, 43 neu 44 o ddyddiau o nawr. Mi gyfeiriaf i, fyddwch chi ddim yn synnu, at broblem arall, Weinidog, oherwydd mi fyddwch chi'n cofio ichi roi tystiolaeth i ni, ynghyd â'ch prif swyddog milfeddygol, yn y pwyllgor amgylchedd ynglŷn â goblygiadau diwedd y cyfnod trosglwyddo ar gapasiti milfeddygol yma yng Nghymru gyda'r holl ofynion ychwanegol, yr ardystio iechyd allforion—yr export health certification—mewn porthladdoedd sydd ei angen ac yn y blaen, a fydd yn golygu y bydd angen mwy o gapasiti milfeddygol; capasti, wrth gwrs, sydd ddim gennym ni yng Nghymru, fel yr atgoffodd y prif swyddog milfeddygol ni. Nawr, rydych chi, yn sgil hynny, wedi awgrymu, wrth gwrs, efallai y bydd yn rhaid edrych i symud milfeddygon o, er enghraifft, waith profi TB, neu o ddelio gyda'r ffliw adar, er mwyn cwrdd â'r galw ychwanegol yma yn sgil Brexit. Felly, gydag ychydig dros 40 o ddyddiau i fynd tan 1 Ionawr, allwch chi esbonio beth yn union yw cynlluniau Llywodraeth Cymru i gwrdd â'r galw yma? Lesley Griffiths AC: Rydych yn cyfeirio at y sesiwn a gawsom yr wythnos diwethaf ynghylch tystysgrifau iechyd allforio, a chodais hynny mewn is-bwyllgor Cabinet y bore yma, oherwydd yn amlwg, ymddengys bod Llywodraeth y DU yn credu y gallwn daflu arian at hyn, a gallwn recriwtio swyddogion iechyd yr amgylchedd y mae’n cymryd pedair blynedd i’w hyfforddi, rwy’n credu—heb fod yn llawer llai na milfeddygon, mae’n debyg. Pan godais hyn yng ngrŵp rhyngweinidogol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ddydd Llun, dywedwyd wrthyf, 'Wel, gallwch roi milfeddygon wneud y gwaith hwn'. Unwaith eto, eglurais, fel y dywedasoch, pe bawn yn tynnu milfeddygon oddi ar brofion TB—ac erbyn hyn mae gennym ffliw adar yn y DU; nid yng Nghymru, diolch byth, ond yn y DU, felly mae hynny'n galw am gryn dipyn o wyliadwriaeth—unwaith eto, byddech yn tynnu milfeddygon oddi ar y gwaith hwnnw. Felly, mae'n hynod siomedig mai dyna yw ateb Llywodraeth y DU i'r broblem allweddol hon. Fel Llywodraeth, rydym wedi recriwtio mwy o filfeddygon dros y tair blynedd diwethaf bellach, mae'n debyg—rydym wedi canolbwyntio ar hynny. Rwy'n cyfarfod ag APHA yfory—yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion—oherwydd yn amlwg, maent yn edrych ar Gymru a Lloegr; mae ganddynt gyfrifoldeb dros y ddwy wlad. Rwyf am ailadrodd i'r prif weithredwr yfory—ac mae'n rhaid imi ddweud, mae bob amser wedi cydnabod hyn—fod angen iddynt sicrhau bod penderfyniadau ynghylch recriwtio, er enghraifft—. Credaf, efallai, eu bod yn aros am yr adolygiad cynhwysfawr o wariant, fel pob un ohonom, cyn iddynt edrych ar beth arall y gallant ei wneud i'n cynorthwyo, ond byddaf yn sicr yn trafod hynny gydag ef yfory. Llyr Gruffydd AC: Fe awgrymoch chi yn y pwyllgor wrth gwrs, fel rydych newydd ei ailadrodd, y gallai fod rhaid i chi dynnu milfeddygon oddi ar brofion TB. Mae’n anochel y byddai hynny'n golygu llai o brofi, ac yn golygu hefyd wrth gwrs ei bod yn fwy tebygol na fyddai profion yn cael eu cwblhau mewn modd amserol, sydd wedyn yn arwain at y posibilrwydd y gallai rhai o’n ffermwyr wynebu mwy o gyfyngiadau ar symud. Felly, mae effeithiau canlyniadol enfawr yma, ac rwy'n meddwl tybed beth yw eich asesiad, efallai, o’r effaith y byddai symud y capasiti hwnnw'n ei chael ar eich rhaglen brofi TB? A fyddai ailgyfeirio capasiti milfeddygon oddi wrth TB, er enghraifft, yn golygu y byddai angen mwy o hyblygrwydd i ganiatáu i ffermwyr beidio â phrofi mor aml, gadewch inni ddweud? Efallai y gallech ddweud wrthym beth yn union rydych yn ei feddwl o hynny, oherwydd yn amlwg, rwy'n siŵr y byddech yn cytuno na ddylid cosbi ffermwyr am rywbeth sy'n amlwg y tu hwnt i'w rheolaeth. Lesley Griffiths AC: Yn hollol, a chan fynd yn ôl at yr eironi y cyfeirioch chi ato, ar adeg pan ydym yn dymuno cynnal ein safonau iechyd a lles anifeiliaid, wrth inni edrych ar drafodaethau masnach, yn amlwg nid ydym am fod yn gwneud hynny. Felly, mae hwn yn waith y mae swyddfa'r prif swyddog milfeddygol yn edrych arno ar fy rhan. Rydym wedi dweud yn glir iawn yn ystod pandemig COVID-19 ein bod yn awyddus i brofion TB barhau yn y ffordd y byddem wedi’i wneud fel arfer, a chredaf ein bod wedi cynnal hynny gymaint ag y gallwn. Ond yn amlwg, mae problemau wedi bod lle nad yw profion TB wedi gallu digwydd weithiau gan fod rhywun yn hunanynysu, er enghraifft, mewn perthynas â'r pandemig. Felly, mae hwn yn waith—. Oherwydd nid ydym am dynnu milfeddygon oddi ar y cyfundrefnau profi pwysig hyn er mwyn ymgymryd â’r tystysgrifau iechyd allforio. Felly, credaf fod hwn yn ddull dau drac. Rwy'n gweithio'n agos iawn gyda fy nghyd-Aelod Julie James ac awdurdodau lleol ar barodrwydd awdurdodau lleol mewn perthynas â cheisio recriwtio mwy o swyddogion iechyd yr amgylchedd. Cyfeiriais at Gaergybi yn un o gyfarfodydd XO Llywodraeth y DU a’r anawsterau gyda recriwtio. Ni allaf ddychmygu mai Cymru'n unig sy'n ei chael hi’n anodd recriwtio swyddogion iechyd yr amgylchedd, ac rwy'n siŵr y bydd yr un peth yn wir am filfeddygon hefyd. Felly, unwaith eto, mae'n rhywbeth y mae'r prif swyddog milfeddygol hefyd yn ei drafod gyda'i thri swyddog cyfatebol arall. Llyr Gruffydd AC: Ie, gydag oddeutu 40 diwrnod i fynd. O ystyried yr ansicrwydd parhaus, yn amlwg, cyn diwedd y cyfnod pontio, hoffwn ofyn hefyd beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i roi cyngor i geidwaid anifeiliaid a pherchnogion anifeiliaid anwes ynghylch argaeledd bwyd anifeiliaid, o ystyried y pryderon tra hysbys ynghylch oedi mewn cadwyni cyflenwi. Mae cynllun Brexit 'dim cytundeb' y Llywodraeth ei hun yn cydnabod bod problemau gyda chadwyni cyflenwi yn her fawr bosibl. Felly, a allech ddweud wrthym p’un a oes gan eich Llywodraeth gynlluniau i gynghori ceidwaid anifeiliaid ynghylch sicrhau bod ganddynt gyflenwadau digonol, o ystyried yr ansicrwydd posibl? A beth rydych chi'n ei wneud i sicrhau bod digon o gyflenwadau wrth gefn o fwyd anifeiliaid fferm ar gael hefyd? Nid oes angen i mi sôn wrthych am y canlyniadau erchyll i les anifeiliaid os nad yw'r Llywodraeth yn gwneud hyn yn iawn. Lesley Griffiths AC: Mae hyn yn rhan o'n cynlluniau wrth gefn, a byddwch wedi gweld bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ein cynllun ar gyfer diwedd y cyfnod pontio yr wythnos diwethaf. Fel y dywedwch, mae'n union fel ein bwyd ni, onid ydyw? Mae angen bwyd anifeiliaid arnom hefyd. Felly, unwaith eto, mae hyn yn rhan o'n cynlluniau wrth gefn, a byddwn yn trafod, yn amlwg, gyda'n rhanddeiliaid yng nghyfarfod bord gron nesaf y rhanddeiliaid—mae hon yn eitem y byddwn yn parhau i'w thrafod, oherwydd, fel y dywedwch, ychydig dros 40 diwrnod sydd i fynd bellach hyd nes y byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Arbed Siân Gwenllian AC: 3. A wnaiff y Gweindiog roi diweddariad am y cynllun Arbed yn Arfon? OQ55852 Lesley Griffiths AC: Mewn ymateb i ymchwiliad gan Lywodraeth Cymru, mae gwasanaethau ynni Fortum, a roddodd gynllun etifeddiaeth Arbed 2 ar waith yng ngogledd Cymru, wedi cwblhau arolwg o gartrefi yng Ngharmel, Y Fron, Deiniolen a Dinorwig yn ddiweddar. Byddaf yn darparu diweddariad pellach pan fyddaf wedi ystyried eu hadroddiad. Siân Gwenllian AC: Diolch yn fawr. Mae etholwyr yn y pedair ardal yna—yn Carmel, y Fron, Deiniolen a Dinorwig—wedi bod yn hynod amyneddgar, ond erbyn hyn, mae angen symud ymlaen i wneud y gwaith sydd wedi'i addo. Dwi wedi bod yn codi'r mater hwn efo chi ers haf 2017. Ar y cychwyn, roedd y cwmni'n gwadu bod yna broblemau, ond fe wnaethoch chi—a dwi'n ddiolchgar iawn am hynny—gynnal nid un, ond dau adolygiad annibynnol, gyda'r ail yn dod i'r casgliad mai safon wael y crefftwaith oedd yn gyfrifol am achosi lleithder difrifol a difrod i'r toeau a'r waliau. Mae yna 40 a mwy o etholwyr yn dal i aros i'r gwaith ddigwydd, felly ar ôl i chi edrych yn fanwl ar yr adroddiad yma eto, beth fydd y camau nesaf? Lesley Griffiths AC: Diolch, ac rwy'n cytuno'n llwyr â chi fod angen inni fwrw ymlaen â hyn, felly rwyf wedi gofyn i swyddogion roi cyngor i mi erbyn diwedd y mis hwn er mwyn i mi allu dod atoch o fewn mis a dweud wrthych beth fydd y camau nesaf hynny. Mark Isherwood AC: Bu’n rhaid cynnal ymchwiliad i raglen Arbed Llywodraeth Cymru, neu’r cynllun tlodi tanwydd ar sail ardal, ar ôl iddo fynd o chwith i drigolion Arfon, wrth i’w cartrefi gael eu difrodi gan eu gadael yn ddiolwg ac angen eu hatgyweirio. Y mis diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi comisiynu Miller Research i werthuso rhaglen Arbed er mwyn deall sut y câi ei rheoli a’i chyflenwi. Mae cynllun grant cartrefi gwyrddach Llywodraeth y DU yn Lloegr yn mynd ymhellach na chynlluniau cartrefi cynnes ac effeithlonrwydd ynni Llywodraeth Cymru, Nyth, sy'n dibynnu ar brawf modd, ac Arbed, sy’n seiliedig ar ardaloedd, gan wneud cartrefi'n fwy effeithlon o ran ynni ac yn rhatach i berchnogion tai a thenantiaid eu cadw'n gynnes, ond hefyd drwy gael effaith ganlyniadol o fewn economïau lleol drwy gefnogi busnesau lleol, cynhyrchu swyddi lleol, a chynhyrchu’r angen am hyfforddiant pellach a galwedigaethol yn lleol. Pa ystyriaeth y bydd y Gweinidog yn ei rhoi, felly, i fynd i'r afael â'r problemau a nodwyd yn Arfon drwy sicrhau mai busnesau lleol cyfrifol sy'n cyflawni eu cynlluniau tlodi tanwydd? Lesley Griffiths AC: Wel, byddwch wedi clywed fy ateb i Siân Gwenllian, fy mod wedi gofyn i swyddogion roi cyngor imi yn seiliedig ar yr adroddiad a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru cyn penderfynu ar unrhyw gamau pellach, felly byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau pan fyddaf wedi cael y cyngor hwnnw. Bioamrywiaeth Joyce Watson AC: 4. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella bioamrywiaeth? OQ55881 Lesley Griffiths AC: Diolch. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i adferiad gwyrdd a glas ar ôl COVID-19, a gwella bioamrywiaeth, sy'n sail i'n hiechyd, ein heconomi a'n lles. Mae'r cynllun gweithredu adfer natur ar ei newydd wedd, y fforest genedlaethol ac adfer safleoedd a mawndiroedd Natura 2000 yn rhai o'r mentrau rydym yn eu rhoi ar waith i gyflawni hyn. Joyce Watson AC: Diolch am eich ateb, Weinidog, ac rwy'n falch iawn o weld bod Llywodraeth Cymru bellach wedi dewis y safleoedd cyntaf ar gyfer y goedwig genedlaethol, ac mae nifer o'r rheini yn fy etholaeth i, Canolbarth a Gorllewin Cymru. Roedd yn galonogol gweld bod nifer uchel o bobl yn awyddus i ymgymryd â’r gwaith o blannu coetiroedd newydd, gyda mwy na 350 yn datgan diddordeb yn y prosiectau hynny. Bydd gwella a chreu coetir, ynghyd â'i gysylltu ledled Cymru, rwy'n siŵr, o fudd mawr i natur ac i bobl. Weinidog, pa asesiad a wnaethoch o'r modd y gallai'r goedwig genedlaethol newydd helpu i wella bioamrywiaeth a helpu i wyrdroi'r lleihad yn niferoedd llawer o rywogaethau yn ddiweddar? Lesley Griffiths AC: Diolch. Roeddwn yn falch iawn ein bod wedi gallu gwneud y cyhoeddiad ynglŷn â’r goedwig genedlaethol yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru, a fu’n llwyddiannus iawn, ac sydd ar-lein bellach ar gyfer yr Aelodau a’i methodd, ac rwy'n gobeithio y bydd pobl yn gallu gwrando ar y sgyrsiau a'r trafodaethau a gawsom. Yr hyn y bydd y goedwig genedlaethol yn ei wneud, ac fe fyddwch yn ymwybodol fod hyn yn rhan o ymrwymiad maniffesto’r Prif Weinidog, yw cefnogi bioamrywiaeth drwy greu coetiroedd mwy cymysg, gwella coetiroedd presennol, a sicrhau eu bod yn cael eu rheoli’n weithredol, yn ogystal â chwilio am gyfleoedd i gysylltu'r coetiroedd hynny gyda'i gilydd dros amser. Credaf ei bod yn hollol iawn inni gydnabod bod partneriaid ac unigolion yn frwd iawn i chwarae eu rhan a chreu eu coetiroedd eu hunain fel rhan o'r goedwig genedlaethol. Mae'n bwysig iawn fod y coed iawn yn cael eu plannu yn y mannau iawn, fel y gallwn gynnal a gwella ecosystemau bioamrywiol a gwydn. Felly, rydym am i'r gweithdrefnau fod yn syml, yn rhagweladwy ac mor amserol â phosibl. Felly, rydym wedi dechrau ar y gwaith o nodi'r newidiadau y bydd eu hangen, ond rwy'n awyddus iawn i'r goedwig genedlaethol fod yn hygyrch i bawb, ac mae wedi bod yn wych gweld y croeso brwd a roddwyd iddi. Nick Ramsay AC: Credaf fod hwnnw'n gwestiwn gwych gan Joyce Watson, a chredaf fod y syniad o goedwig genedlaethol yn un da iawn y mae’n hen bryd ei wireddu, ac mae'n dda ein bod yn datblygu dalfeydd carbon fel coedwig. A gaf fi eich holi ynghylch agwedd ychydig yn wahanol ar fioamrywiaeth sy’n ymwneud ag ansawdd dŵr a'n dyfrffyrdd? Fel hyrwyddwr y Senedd ar ran misglen berlog yr afon, rwyf bob amser yn awyddus i gefnogi bioamrywiaeth, a gwn fod Aelodau eraill, fel hyrwyddwyr eu rhywogaethau eu hunain, yn teimlo'r un fath. Mae misglen berlog yr afon dan fygythiad gan fod ei chylch oes yn dibynnu ar ddŵr afon pur iawn. Mae llygredd yn ein hafonydd yn effeithio ar lawer o rywogaethau, ac yn ddiweddar, cafwyd problem gyda llygredd yn rhannau uchaf Afon Gwy, yn deillio o ffermydd dofednod, rwy’n credu, yn yr achos hwnnw. Felly, sut y mae Llywodraeth Cymru yn diogelu ansawdd dŵr yn ein dyfrffyrdd i warchod bioamrywiaeth, er ei lles ei hun ac er lles cenedlaethau'r dyfodol? Lesley Griffiths AC: Mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn ynglŷn â llygredd, a bydd cwestiwn yn nes ymlaen gan eich cyd-Aelod a fy nghyd-Aelod innau, Angela Burns, ynghylch llygredd. Fe fyddwch yn ymwybodol fy mod wedi gosod y rheoliadau llygredd amaethyddol drafft yn gynharach eleni, ac rwyf wedi gofyn i fy swyddogion roi cyngor i mi ynglŷn â'u cyflwyno. Rydym yn gweld lefelau annerbyniol o lygredd ledled Cymru gyfan ac rwy'n cytuno'n llwyr fod y rhain yn annerbyniol ac mae’r rhan fwyaf o bobl, rwy'n siŵr, yn cytuno â ni. Ac yn sicr, y cyngor a gefais gan gomisiwn y DU ar y newid yn yr hinsawdd yw bod angen i ni gyflwyno rheoliadau ar frys. Caroline Jones AC: Weinidog, mae colli bioamrywiaeth yn un o'r bygythiadau mwyaf sy'n wynebu ein rhywogaethau. Rydym wedi colli cymaint o rywogaethau, ac mae poblogaethau bywyd gwyllt pwysicaf y DU wedi gostwng 60 y cant ers 1970, sy’n syfrdanol. Bydd y difrod ecolegol yn cael effaith aruthrol ar ddynoliaeth a'n gallu i fwydo ein hunain. Rydym eisoes wedi gweld effaith ein tresmasu ar gynefinoedd eraill—pandemig byd-eang y coronafeirws. Weinidog, sut y bydd eich Llywodraeth yn sicrhau bod ei holl bolisïau'n ystyried yr effaith bosibl y byddant yn ei chael ar fioamrywiaeth fyd-eang? Lesley Griffiths AC: Diolch. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud ein bod yn wynebu argyfwng bioamrywiaeth yn ogystal ag argyfwng hinsawdd. Un o'r polisïau yw Natura 2000, y soniais amdano yn fy ateb cynharach i Joyce Watson, ac rwy'n falch iawn ein bod, fel rhan o'n hadferiad ar ôl COVID, wedi cymryd camau i gefnogi’r gwaith o gofrestru’r safleoedd Natura 2000 hynny. Maent yn hafan i rai o'n rhywogaethau a'n cynefinoedd mwyaf gwerthfawr sy'n wynebu'r bygythiad mwyaf. Mae hwn yn gyfle, ac mae'n rhaid inni chwilio am gyfleoedd ymhlith yr holl heriau hynny. Yn sicr, wrth ddod allan o bandemig COVID i mewn i'r cyfnod adfer, mae angen inni ddiogelu'r amgylchedd naturiol; mae'n hollol hanfodol. Ac fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i wneud hynny. Pysgod Cregyn Neil Hamilton AC: 5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y terfyn maint dal ar gyfer pysgod cregyn yng Nghymru? OQ55883 Lesley Griffiths AC: Mae meintiau glanio lleiaf yn offeryn pwysig er mwyn rheoli pysgodfeydd. Maent yn sicrhau bod pysgod cregyn yn tyfu i faint digonol i atgenhedlu o leiaf unwaith cyn cael eu dal a'u glanio. Mae’n rhaid rhoi pysgod cregyn o dan y maint glanio lleiaf yn ôl yn y dŵr yn fyw. Neil Hamilton AC: Diolch i'r Gweinidog am ei hateb. Wrth gwrs, mae pob un ohonom yn derbyn bod angen mesurau cadwraeth i ddiogelu'r diwydiant pysgota yn y dyfodol. Cefais gyfarfod yr wythnos diwethaf gyda physgotwyr ym mae Abertawe, ac maent yn bryderus iawn ynghylch y cynnydd diweddar yn y maint lleiaf a ganiateir mewn perthynas â physgota cregyn moch. Mae wedi codi o 45mm i 65mm. Dywedant wrthyf fod cryn dipyn o amrywio ym maint cregyn moch o amgylch arfordiroedd Cymru, ac yn wir, ym mae Abertawe a'r moroedd cyfagos, anaml iawn y byddant yn tyfu i 65mm a gellir eu cywain yn ddiogel heb beryglu cadwraeth stociau pysgod. Felly, tybed a allai’r Gweinidog ystyried peidio â chael un polisi sy’n berthnasol i bawb mewn perthynas â rhywogaethau yn y moroedd o amgylch Cymru, ond yn hytrach, ystyried amrywiadau ac amodau lleol, a phan gawn Fil pysgodfeydd maes o law, a fyddai'n gallu seilio mesurau cadwraeth ar yr hyn y gallem ei alw'n rheolaeth wedi'i haddasu, sy'n ystyried amgylchiadau lleol ac yn dysgu drwy brofiad fel y gallwn sicrhau bod diwydiant pysgota Cymru yn y dyfodol yn gallu tyfu yn hytrach na dirywio, fel y mae wedi’i wneud o dan y polisi pysgodfeydd cyffredin, i lefelau trychinebus o fach. Lesley Griffiths AC: Wel, nid yw pysgod cregyn wedi'u rhwymo gan gwotâu, yn amlwg, felly nid yw hynny'n berthnasol i'r sylw terfynol. A chododd fy nghyd-Aelod Julie James y mater hwn gyda mi dri neu bedwar mis yn ôl, ac mae'r cynnydd yn y maint glanio lleiaf yn caniatáu i fwy o gregyn moch gyrraedd oedran bridio ac yn gwella cynaliadwyedd stociau cregyn moch. Nid yw cregyn moch ym mae Abertawe yn rhywogaeth wahanol, ond maent yn llai o ran maint, gan yr ymddengys bod eu twf yn cael ei atal, sydd, dywedir wrthyf, yn ganlyniad posibl i dymheredd uwch y dŵr yn ne Cymru o gymharu â gogledd Cymru, ac yn sicr, gallaf dystio i’r gwahaniaeth hwnnw mewn tymheredd. Ond yn sicr, mae'r ardal yr effeithir arni'n gymharol fach, ond credaf y byddwn yn cadw'r maint glanio lleiaf dan arolwg ar gyfer yr ardal hon. Suzy Davies AC: Weinidog, er mwyn inni allu cefnogi ein diwydiant pysgod cregyn, mae angen diwydiant pysgod cregyn arnom i’w gefnogi, ac mae mis Rhagfyr nid yn unig yn ddyddiad terfynol ar gyfer cytundeb gyda’r UE ond hefyd ar gyfer cydymffurfiaeth â dyfarniad y Comisiwn Ewropeaidd yn 2017 yn achos C-502/15, a ddygwyd yn erbyn Llywodraeth y DU, a de facto yn erbyn Llywodraeth Cymru, am fethu â chyflawni rhwymedigaethau'n ymwneud â thrin dŵr yng Nghilfach Tywyn. Fel y gwyddoch, mae'r cocos yn dal i fethu aeddfedu'n llawn yn y dyfroedd hynny, gan leihau'r cyflenwad. Mae'n rhaid i werthwyr o Gymru fewnforio cocos o bryd i’w gilydd i ateb y galw lleol. Felly, a allwch roi sicrwydd pendant y byddwn yn cydymffurfio'n llawn o fewn y saith wythnos nesaf, a thrwy hynny, osgoi bod yn agored i ddirwy sylweddol, ond yn bwysicach fyth, i gynnig sicrwydd go iawn i'n proseswyr cocos? Lesley Griffiths AC: Credaf eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn am y diwydiant pysgod cregyn, a'r ffordd orau o’i ddiogelu yw aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Rwy'n bryderus iawn am y diwydiant pysgod cregyn, yn enwedig os byddwn yn gadael heb gytundeb. Ni allaf roi'r sicrwydd hwnnw i chi o fewn y cyfnod o saith wythnos honno yma, ond fe wnaf ysgrifennu atoch, gan y gwn y byddaf yn cael cyfarfod yn ystod y pythefnos nesaf ynglŷn â’r mater hwn, yn enwedig ynglŷn â Chilfach Tywyn, felly byddaf yn ysgrifennu atoch wedi i mi gael y cyfarfod hwnnw. Rhun ap Iorwerth AC: Mae perygl gwirioneddol y bydd terfynau ar faint pysgod sy’n cael eu dal yn dod yn eithaf amherthnasol yn rhan ddwyreiniol afon Menai ymhen ychydig dros flwyddyn, gan yr ymddengys na all Llywodraeth Cymru wneud unrhyw gynnydd gyda'r mesurau rheoli newydd ar gyfer ffermio cregyn gleision yn yr ardal hynod bwysig hon i ddiwydiant pysgod cregyn Cymru. Gwnaed ceisiadau i adnewyddu mesurau ar gyfer rhan orllewinol afon Menai bron i 10 mlynedd yn ôl; dros ddwy flynedd yn ôl yn y rhan ddwyreiniol. Rydym wedi wynebu oedi ar ôl oedi byth ers hynny yn y ddwy ardal. Cyfarfûm â physgotwyr yn y dwyrain ychydig ddyddiau'n ôl, a gadewch inni fod yn onest, os na chaiff hyn ei ddatrys, bydd y diwydiant sydd wedi'i adeiladu dros 60 mlynedd yn dod i ben. Ac mewn gwirionedd, os na all Llywodraeth Cymru flaenoriaethu a chyflawni'r Gorchymyn rheoli penodol hwn, mae'n bwrw amheuaeth ar eu hymrwymiad i ddatblygu'r sector yn ei gyfanrwydd er mwyn ei fuddion economaidd a'r rhan y mae'n ei chwarae mewn ymchwil ac ati. Felly, a wnaiff y Gweinidog ymrwymo yma nawr i ddatrys hyn ar frys? Fel arall, gallwn ffarwelio â thyfu cregyn gleision yn fasnachol yn afon Menai. Lesley Griffiths AC: Mae'n ddrwg gennyf nad ydym wedi gallu gwneud unrhyw gynnydd ar hyn. Cyfarfûm â’r pysgotwyr fy hun mewn perthynas â hyn, felly byddaf yn sicr o fynd yn ôl i ofyn i swyddogion edrych ar hyn fel mater o frys, fel y dywedwch. Ceir cydnabyddiaeth lwyr, fel y dywedwch, i'r ffaith bod dros 10 mlynedd wedi bod ers i un o'r grwpiau ofyn am hynny. Felly, byddaf yn sicr yn mynd yn ôl, ac unwaith eto, byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod yn dilyn y drafodaeth honno. Atal Llifogydd Adam Price AC: 6. Pa gymorth ariannol sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i ddinasyddion Cymru y mae llifogydd a difrod dŵr yn effeithio'n rheolaidd ar eu heiddo ar gyfer atal a lliniaru effeithiau llifogydd? OQ55878 Lesley Griffiths AC: Diolch. Mewn ymateb i stormydd mis Chwefror, darparodd Llywodraeth Cymru becyn cymorth cynhwysfawr gwerth cyfanswm o £9.2 miliwn. Rwy'n annog mesurau gwrthsefyll llifogydd ar lefel eiddo lle gall hynny leihau risg ymhellach, a'r wythnos hon, dyfarnais £303,450 i Rondda Cynon Taf ar gyfer gatiau llifogydd. Eleni, darparais dros £1 filiwn ar gyfer mesurau o'r fath i fod o fudd i 594 o gartrefi. Adam Price AC: Dwi'n ddiolchgar am yr ymateb, ac, wrth gwrs, mae unrhyw arian sydd wedi cael ei ddarparu i'w groesawu. Dwi wedi ymweld â chymuned yn fy etholaeth i, Pontargothi, yn ddiweddar, fel mae'r Gweinidog yn ymwybodol, a dwi'n edrych ymlaen i gwrdd i drafod buddsoddiadau gall atal llifogydd yn y dyfodol. Ond un thema sydd yn codi'n gyson, pan dwi yn ymweld â phobl sydd wedi cael eu heffeithio, ydi buddsoddiad arian ar gael ar gyfer mesurau ataliol unigol ar gyfer tai—felly, amddiffynfeydd, lle bod hynny'n briodol, hefyd addasu tai, lle bod hynny yn fwy addas. Mae yna gynllun gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol sy'n dyrannu £5,000 i gartrefi neu fusnesau er mwyn iddynt wella eu hamddiffynfeydd. Fydd yna gynllun cenedlaethol ar gael i drigolion Cymru i'r un graddau hefyd? Lesley Griffiths AC: Yr arian y soniais amdano yn fy ateb gwreiddiol i chi, y £304,000, roedd hwnnw—credaf ei fod ar gyfer 357 o gartrefi os cofiaf yn iawn. Credaf inni ariannu oddeutu 85 y cant. Felly, mae'r cyllid hwnnw ar gael i'r holl awdurdodau rheoli risg a CNC, felly, pe bai awdurdod lleol Sir Gaerfyrddin yn dymuno gwneud cais am y cyllid hwnnw, byddent yn gallu gwneud hynny. Nid wyf yn siŵr a glywsoch chi fi'n dweud mewn ateb cynharach fy mod yn credu ei bod yn bwysig iawn nad yw unigolion yn gofyn am yr arian ac yna'n gosod beth bynnag y maent yn penderfynu ei gael eu hunain. Credaf ei bod yn bwysig iawn fod yr offer y maent yn ei gael yn hollol iawn ar gyfer eu cartref, ac yn rheoli'r perygl mewn ffordd sy'n gywir. Felly, y rheswm pam nad ydym wedi rhoi cyllid i unigolion ond i'r awdurdodau eu hunain yw er mwyn sicrhau bod hynny'n digwydd. COVID-19 a Gwelliannau Amgylcheddol John Griffiths AC: 7. Beth yw dadansoddiad diweddaraf Llywodraeth Cymru o effeithiau COVID-19 ar ei pholisïau ar gyfer gwelliannau amgylcheddol yng Nghymru? OQ55876 Lesley Griffiths AC: Diolch. Mae'r pandemig wedi tarfu ar bethau. Fodd bynnag, mae hefyd wedi ein gorfodi i fyfyrio ar y math o ddyfodol rydym yn dymuno’i gael i Gymru. Cyhoeddwyd 'Ail-greu ar ôl COVID-19: yr heriau a’r blaenoriaethau' gennym y mis diwethaf, i nodi ein hagenda ar gyfer adferiad gwyrdd a chyflymu'r newid i economi carbon isel. John Griffiths AC: Weinidog, yn ystod COVID-19, rydym wedi gweld llawer o bobl leol yn cysylltu'n well â'u hamgylcheddau lleol, yn mynd allan am dro, efallai, am eu hymarfer corff bob dydd ac yn gwerthfawrogi natur i raddau mwy. Credaf fod cyfle nawr i fanteisio ar y gydnabyddiaeth newydd hon o werth natur i iechyd a lles ac ansawdd bywyd gwell, a tybed beth y gallech ei ddweud am fwy o gefnogaeth i sefydliadau fel Maindee Unlimited yn fy etholaeth, lle maent wedi cyflawni gwaith ar wyrddu amgylcheddau trefol ac wedi gwella ansawdd bywyd pobl yn fawr? Bellach, mae ganddynt brosiect newydd, gydag oddeutu £0.25 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru a chyllid loteri, o'r enw triongl Maendy, a fydd, unwaith eto, yn gwyrddu ardal drefol, yn plannu llysiau, yn gwneud rhywfaint o dirlunio, yn darparu lle ar gyfer cyfarfodydd a pherfformiadau, a chaffi cymunedol o bosibl. Daw hyn ar ben y gwaith a wnânt yn llyfrgell Maendy. Maent yn sefydliad da iawn sy’n gwneud llawer o waith da, a tybed, nawr, yng nghanol y pandemig ac wrth fynd ati i ailadeiladu’n well y flwyddyn nesaf, pa gefnogaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i sefydliadau fel Maindee Unlimited? Lesley Griffiths AC: Diolch yn fawr, John. Yn sicr, yn ystod y cyfyngiadau symud, rydym wedi gweld ymwybyddiaeth a diddordeb cynyddol mewn natur a mannau gwyrdd, ac mae'n bwysig iawn fod yr ymddygiad hwnnw’n parhau. Rwyf wedi bod yn falch iawn, er gwaethaf heriau COVID-19, fod un o'n polisïau’n ymwneud â chreu natur ar garreg eich drws, felly mae ein cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, lle rydym yn annog pobl—nid oes angen llawer iawn o arian, ond i wneud rhywbeth y gallant gael mynediad ato o garreg eu drws. Felly, mae gennym gannoedd o brosiectau yn llythrennol yn dechrau cael eu gwireddu bellach. Mae gennym gydgysylltwyr partneriaethau natur lleol sy'n bwrw ymlaen â'r prosiectau hyn, dros £109 miliwn. Hyd yn oed yn ystod y pandemig, rydym wedi llwyddo i ddarparu cyllid sylweddol, ac rydym hefyd wedi cydweithio â chronfa dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, felly nawr, gall cymunedau gael mynediad—[Anghlywadwy.] Nid wyf yn siŵr a yw Maindee Unlimited wedi cael mynediad at y naill neu'r llall o'r potiau arian hynny, ond yn sicr, mae’r rheini'n ddau faes lle rydym wedi darparu cyllid sylweddol dros yr ychydig fisoedd diwethaf. Mae Cadwch Gymru'n Daclus hefyd yn cynorthwyo cymunedau i greu eu lleoedd eu hunain ar gyfer natur. Felly, unwaith eto, mae hwnnw'n sefydliad arall y gallai Maindee Unlimited gael cyllid ganddo hefyd. Yn olaf— —cwestiwn 8. Angela Burns. Parthau Perygl Nitradau Angela Burns AC: 8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddull Llywodraeth Cymru o ymdrin â pharthau perygl nitradau ledled Cymru? OQ55869 Lesley Griffiths AC: Diolch. Rwyf wedi gofyn i swyddogion roi cyngor ar gyflwyno deddfwriaeth mewn ymateb i lefelau annerbyniol o lygredd amaethyddol yn sgil arferion amaethyddol gwael yng Nghymru. Bydd yn ystyried pryderon parhaus Aelodau o'r Senedd a'r cyhoedd, ac effeithiau COVID-19. Angela Burns AC: Fe fyddwch yn ymwybodol mai ein safbwynt ni yw ein bod yn cydnabod bod angen i lygredd a achosir gan amaethyddiaeth ddod i ben. Mae gennym farn wahanol ynglŷn â’r fethodoleg ar gyfer gwneud hynny. Ond yr hyn roeddwn am ei drafod oedd cynllun gorchudd iardiau’r grant busnes fferm, a lansiwyd yn gynharach y mis hwn, Weinidog, i ddarparu grantiau i ffermwyr i'w helpu i gydymffurfio â rheoliadau’r parthau perygl nitradau pan gânt eu cyflwyno yn nes ymlaen eleni. Fodd bynnag, mae nifer o ffermwyr wedi mynegi pryderon nad ydynt yn gymwys i gael y cyllid hwn, a chyda chyllideb gyffredinol o £1.5 miliwn, gydag uchafswm dyfarniad o £40,000, pe bai pob grant yn cael yr uchafswm, mae'n fy nharo mai 37 neu 38 o ymgeiswyr yn unig y byddem yn gallu eu helpu. Weinidog, i ddangos bod Llywodraeth Cymru yn deall angen y diwydiant amaethyddol, a'u hymdrechion i geisio dileu llygredd ar ffermydd, a wnewch chi gynorthwyo'r holl ffermwyr sydd angen y gefnogaeth i baratoi ar gyfer y parthau perygl nitradau? Gwyddom y bydd hyn yn gostus. Ac a wnewch chi ymrwymo i adolygu'r cynllun, ac yn yr un modd ag y gwnaethoch wrth sefydlu cyllid adnoddau naturiol a lles, a wnewch chi ystyried sicrhau bod cyllid ychwanegol ar gael o’ch portffolio? Lesley Griffiths AC: Diolch. Wel, nid wyf yn siŵr fod gennym wahaniaeth barn. Byddai dull Cymru gyfan o fynd i'r afael â llygredd amaethyddol yn gyson â'r cyngor a gawsom gan Bwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd. Dywedasant fod yn rhaid ymestyn y parthau perygl nitradau i gwmpasu’r Deyrnas Unedig gyfan, a phe na baem yn gwneud hynny, gwn y byddai hynny'n tanseilio uchelgais y DU gyfan mewn perthynas â'r argyfwng hinsawdd. Mewn perthynas â'r cynllun gorchuddio iardiau a gyhoeddais y mis diwethaf, fe’i datblygwyd yn dilyn trafodaethau gydag undebau’r ffermwyr. Yn sicr, nid ydynt wedi dweud wrthyf fod ffermwyr yn cael trafferth gyda'r cynllun, ond rwy’n fwy na pharod i ofyn iddynt pan fyddaf yn cyfarfod â hwy, gan fy mod yn gwneud hynny'n rheolaidd, fel y gwyddoch, ac rwy'n siŵr y byddaf yn cyfarfod â hwy yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf. Ond mae'n gwbl hanfodol ein bod yn gwneud popeth y gallwn ei wneud mewn perthynas â llygredd amaethyddol, a byddai'r rhan fwyaf o ffermwyr yn cytuno'n llwyr â hynny, ac yn gwneud popeth y gallant ei wneud i osgoi llygredd amaethyddol. Ond yn anffodus, rydym yn dal i weld nifer uchel o ddigwyddiadau wedi'u cadarnhau. Erbyn diwedd y mis diwethaf, roeddem wedi gweld 123 eleni yn unig, ac wrth inni fynd i mewn i fisoedd y gaeaf, rydym yn disgwyl i nifer y digwyddiadau godi, fel y gwnânt bob blwyddyn, oherwydd cynnydd yn y glawiad. Felly, yn anffodus, credaf nad oes tuedd weladwy ar i lawr. Diolch i'r Gweinidog. 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Yr eitem nesaf yw cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Joyce Watson. Y Rhaglen Ôl-Osod er mwyn Optimeiddio Joyce Watson AC: 1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio? OQ55882 Julie James AC: Diolch yn fawr iawn, Joyce. Gwnaf. I ddechrau, roedd £9.5 miliwn ar gael yn y flwyddyn ariannol hon, ond ers hynny, rydym wedi penderfynu cynyddu'r gyllideb i £19.5 miliwn. Rwy'n ddiolchgar iawn i'm cyd-Aelod, Rebecca Evans, am y gallu i wneud hynny. Mae pum cynllun wedi sicrhau cefnogaeth, gan gynnwys un consortiwm mawr, sy'n cynnwys 26 o landlordiaid cymdeithasol. Mae’r cynlluniau ym mhob rhan o Gymru, a byddant yn treialu gwahanol atebion, gan gynnwys ar gyfer eiddo nad yw ar y grid nwy. Joyce Watson AC: Diolch am eich ateb, Weinidog, ac rwy'n sylweddoli ei bod yn ddyddiau cynnar ar y rhaglen ar hyn o bryd. Rwy'n croesawu dull Llywodraeth Cymru o dreialu uwchraddiadau fel y gallwn ddatblygu dealltwriaeth dda o'r hyn sydd fwyaf effeithiol. Os bydd y rhaglen, fel y gobeithir, yn cael ei chyflwyno dros y blynyddoedd i ddod, mae'r potensial ar gyfer swyddi medrus ym maes adeiladu yn addawol dros ben. Wrth gwrs, bydd angen gweithwyr adeiladu arnom a chanddynt y sgiliau i gyflawni'r gwaith hwn. Rwy'n ymwybodol y bydd Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu yn lansio adroddiad sy'n edrych ar y mater penodol hwnnw cyn bo hir, ac edrychaf ymlaen at ei weld. Weinidog, a allwch ddweud wrthyf pa gamau sy'n cael eu cymryd ar hyn o bryd i sicrhau bod cyfleusterau hyfforddi a chyrsiau ar gael, fel nad oes unrhyw oedi rhwng lansio rhaglen a chael y bobl â'r sgiliau angenrheidiol i gyflawni'r gwaith hwnnw? Julie James AC: Ie, diolch, Joyce. Yn amlwg, rwy'n ymwybodol iawn o'ch diddordeb hirsefydlog a pharhaus mewn sgiliau yn y sector hwn, yn enwedig i fenywod, ac un o'r pethau gwirioneddol hyfryd am allu gwneud hyn yn y ffordd hon yw’r amrywiaeth y byddwn yn gallu ei hannog yn y gweithlu. Felly, treial yw hwn sy'n cynnwys dros hanner landlordiaid cymdeithasol Cymru, ac sy’n ein helpu i nodi bylchau sgiliau yn gyflym yn eu sefydliadau, yn eu cadwyni cyflenwi ac yn eu partneriaid cyflenwi fel y gallwn sefydlu beth yw’r galw a rhoi'r hyfforddiant priodol ar waith cyn ei gyflwyno i bob cartref. Dyna ran o bwynt cael hwn fel cynllun, fel y gallwn brofi beth sy'n digwydd ym mhob un o'r gwahanol fathau o eiddo. Mae'n egwyddor allweddol, a chaiff ei noddi ar y cyd gennyf fi, y Gweinidog Addysg a Gweinidog yr economi am y rheswm hwn. Mae'n egwyddor allweddol nid yn unig ein bod yn ôl-osod y cartrefi yn y cynllun, ond ein bod yn ei dreialu er mwyn ei gyflwyno ledled Cymru ar draws pob math o ddeiliadaeth. Felly, yn sicr, mae a wnelo hyn â darganfod beth sy'n gweithio, sut olwg sydd ar y cadwyni cyflenwi, beth yw'r bwlch sgiliau a sut y gallwn gynyddu hynny ar ei gyfer. Yn sicr, byddwn yn cael ein llywio gan y dadansoddiad o sgiliau sero-net pwrpasol y cyfeirioch chi ato gan fwrdd hyfforddi'r diwydiant adeiladu, a byddwn hefyd yn ystyried unrhyw argymhellion perthnasol gan y tasglu adferiad gwyrdd, sy'n cael ei arwain gan Syr David Henshaw. Ac rydym wedi bod yn gweithio hefyd gyda'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol, sydd wedi datblygu'r agenda hon ar draws tri rhanbarth Cymru, gan nodi'r sgiliau lleol sydd ganddynt a pha gymorth sydd ei angen arnynt i gefnogi’r gwaith o fabwysiadu arferion a thechnolegau carbon isel. Felly, yn sicr, dyma’r dull integredig y gwn y byddech yn falch o’n gweld yn ei ddefnyddio, ac mae'n sicr yn ymwneud â sicrhau ein bod yn gwella sgiliau'r gweithlu er mwyn gallu ei gyflwyno'n fwy cyffredinol, ond rydym hefyd yn datblygu'r cadwyni cyflenwi a'r partneriaid cyflenwi a'u gweithluoedd, yn hytrach na gweithlu'r sector cyhoeddus yn unig. David Melding AC: Weinidog, tybed a allech ddweud wrthym sut rydych yn mynd i nodi’r eiddo hŷn sy'n rhan sylweddol o stoc dai Cymru, ac yn sicr cyn 1930 ac yn enwedig cyn y rhyfel byd cyntaf, ychydig iawn o'r eiddo hynny sydd yn nwylo landlordiaid cymdeithasol, ac eto mae'n debyg fod y crynhoad mwyaf o deuluoedd incwm isel yn byw yn y math hwnnw o dai. Maent hefyd yn anodd eu hôl-osod. Felly, mae angen inni ganolbwyntio ar yr eiddo sy'n anoddach eu cael os ydynt yn mynd i elwa o'r hyn rwy’n ei chroesawu fel menter dda. Julie James AC: Oes, yn sicr, ac rydych yn llygad eich lle, nid oes llawer ohonynt yn y sector cymdeithasol, ond rydym yn chwilio am y rheini sydd i’w cael. Y syniad yw nodi grŵp digon o faint o bob math o dŷ yng Nghymru a threialu beth fydd yn gweithio i'r tai hynny, heb bennu targedau amhosibl. Felly, nid ydym yn dweud y byddwn yn sicrhau y bydd pob cartref yn cael gradd A ar eu Tystysgrif Perfformiad Ynni, yr hyn rydym yn ei ddweud yw: a allwn sicrhau bod pob cartref cystal ag y gall fod? Ac os yw hynny’n sero-net o ran carbon, mae hynny'n wych, ond os yw’n radd B ar eu Tystysgrif Perfformiad Ynni ac mai dyna'r gorau rydych yn mynd i'w gael, yna mae angen inni wybod hynny wrth ddod allan o'r rhaglen, ac mae angen inni gael polisi sy'n mynd i'r afael â’r mater hwnnw wrth symud ymlaen, gan fy mod yn amau'n fawr ein bod am ddymchwel ein holl dai treftadaeth ar y sail na allant gyflawni sero-net o ran carbon. Un o'r pethau mawr yr edrychodd y grŵp datgarboneiddio arno oedd y cylch oes cyfan. Felly, nid ymwneud yn unig â sicrhau bod cartrefi’n cyrraedd sero-net o ran carbon y mae hyn, ond hefyd beth sy'n digwydd os byddwch yn eu dymchwel. Mae gennych bentwr enfawr wedyn o wastraff drud-ar-garbon y bydd rhaid i chi ymdrin ag ef. Felly, nid dyna'r ateb chwaith, heb sôn am y cysylltiadau hanesyddol a theuluol ac ati. Felly, nid yw'n gweithio o ran carbon beth bynnag. Felly, holl bwynt y rhaglen hon yw gwneud y gorau y gallwn gyda'n stoc dai a gallu datblygu polisïau sy'n caniatáu inni fynd i'r afael â'r problemau sydd ar ôl. Ac yn sicr, mae angen inni sicrhau bod gennym ateb ar gyfer pob math o dŷ yng Nghymru, gan gynnwys y nifer fawr iawn o dai teras cerrig Fictoraidd ac ati y cyfeiriwch atynt. Tlodi Plant Huw Irranca-Davies AC: 2. Pa fesurau y bydd y Gweinidog yn eu hyrwyddo ar draws Llywodraeth Cymru i liniaru tlodi plant yn Ogwr? OQ55854 Hannah Blythyn AC: Mae ein cynllun gweithredu pwyslais ar incwm yn amlinellu mesurau trawslywodraethol newydd i liniaru tlodi plant yn Ogwr a ledled gweddill Cymru. Bydd y rhain yn sicrhau y cymerir camau ymarferol i helpu teuluoedd i gynyddu eu hincwm i'r eithaf, lleihau costau byw hanfodol a chefnogi gwytnwch ariannol. Bydd yn cael ei roi ar waith ochr yn ochr â rhaglenni tlodi plant sy'n bodoli eisoes. Huw Irranca-Davies AC: Diolch i'r Gweinidog am ei hymateb. Ac ar frig cynllun gweithredu pwyslais ar incwm Llywodraeth Cymru ar gyfer tlodi plant, nod amcan 1 yw sicrhau bod teuluoedd yng Nghymru yn cael eu cynorthwyo i hawlio'r holl gymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo. Nawr, mae hyn yn hanfodol, gan fod pob punt na chaiff ei hawlio'n golygu bod y teulu hwnnw bunt yn dlotach, a phunt yn llai yn dod yn ôl i'r teulu hwnnw a'r gymuned honno yng Nghymru. A dweud y gwir, mae'n bunt y mae Trysorlys y DU yn ei chadw'n ôl. Felly, a gaf fi ofyn i'r Gweinidog beth y gall ei wneud i hybu hawliadau budd-daliadau cyn y Nadolig ymhlith teuluoedd a phlant yng Nghymru ac Ogwr sydd angen y gefnogaeth honno? A sut y bydd yn datblygu hyn ymhellach yn y flwyddyn newydd? Ac a oes unrhyw obaith y gallai Llywodraeth y DU helpu gydag ymgyrch ledled y DU i hybu hawliadau budd-daliadau? Hannah Blythyn AC: A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Mae sicrhau bod teuluoedd yng Nghymru yn ymwybodol, ac yn bwysig iawn, yn gallu cael mynediad at y gefnogaeth y mae ganddynt hawl i'w chael yn rhan flaenllaw o’n cynllun gweithredu pwyslais ar incwm, a gyhoeddwyd y mis hwn. Rhoesom ystod o gamau ar waith yn y tymor byr. Rydym wedi rhoi strategaeth gyfathrebu ac ymwybyddiaeth ar waith i sicrhau bod pobl a chymunedau yn cael y gefnogaeth a’r wybodaeth ddiweddaraf, ac yn bwysig, y cyfleoedd sydd ar gael iddynt. Rydym yn gwneud hynny drwy'r cyfryngau cymdeithasol, rhaglenni a rhwydweithiau presennol, ac wrth gwrs, byddwn yn sicrhau ein bod yn rhannu'r wybodaeth honno gyda'r Aelod, ac Aelodau ar draws y Siambr, fel y gallwch ehangu a rhannu'r neges honno yn eich etholaethau a’ch cymunedau hefyd.FootnoteLink Rydym hefyd yn gweithio gyda phartneriaid i symleiddio'r broses o ymgeisio am fudd-daliadau gan Lywodraeth Cymru a budd-daliadau a weinyddir gan awdurdodau lleol, gan eu gwneud yn llawer mwy hygyrch i aelwydydd cymwys, ac ar yr un pryd, yn datblygu dull sy'n sicrhau nad oes unrhyw ddrws anghywir, fel petai, er mwyn cael system gymorth fwy integredig, sy'n cyfyngu ar nifer y cysylltiadau y mae'n rhaid i deuluoedd ac unigolion eu gwneud a'r nifer o weithiau y mae'n rhaid iddynt barhau i ailadrodd eu stori er mwyn cael y gefnogaeth y mae ganddynt hawl i’w chael. Mewn ymateb i bwynt olaf yr Aelod, y cwestiwn y mae'r Aelod yn ei wneud, mewn perthynas â Llywodraeth y DU yn datblygu strategaeth i hybu ceisiadau am nawdd cymdeithasol a budd-daliadau ac yn ei rhoi ar waith, rwy'n cytuno ag ef. A ddylai Llywodraeth y DU wneud mwy? Dylai. Ai dyna fyddai'r peth iawn i'w wneud? Yn sicr; byddai'n cefnogi cymunedau a phobl ledled y DU. A fyddant yn gwneud hynny? Wel, gallaf ddweud fy mod, yr wythnos hon, wedi ymuno â fy swyddogion cyfatebol yng ngweinyddiaethau datganoledig yr Alban a Gogledd Iwerddon i alw ar Lywodraeth y DU i wneud yn union hynny, er mwyn—. Oherwydd gwyddom fod yr effaith y mae'r pandemig hwn yn ei chael yn gwaethygu'r effaith y mae pobl yn ei gweld ar eu cyllid. A nawr, yn fwy nag erioed, mae angen ymgyrch ledled y DU i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r hyn y mae ganddynt hawl iddo, ac yn bwysicach fyth, i’w galluogi i'w gael. Gwybodaeth ychwanegol at y Cyfarfod Llawn (Saesneg yn unig) Suzy Davies AC: A gaf fi ddweud wrth yr Aelodau fod disgyblion blwyddyn 6 Ysgol Gynradd Santes Helen yn Abertawe yn ein gwylio? Felly rwy'n gobeithio ein bod i gyd yn ymddwyn yn dda. Ddirprwy Weinidog, mae sicrhau bod rhieni mewn cyflogaeth ddiogel a chynaliadwy yn elfen hynod bwysig o liniaru tlodi plant. Tybed a allwch ddweud wrthym sut rydych yn gweithio gyda chyd-Aelodau yn y Cabinet i helpu i baru dysgwyr sy'n oedolion â chyfleoedd dysgu sy'n seiliedig ar waith, er mwyn gwella eu rhagolygon cyflogaeth a chefnogi eu teuluoedd. Diolch. Hannah Blythyn AC: A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn, a dymuno'n dda i'r myfyrwyr blwyddyn 6, a gobeithio y byddant yn mwynhau eu profiad yn gwylio'r Senedd ar waith heddiw? A gobeithio, yn y dyfodol heb fod yn rhy bell, y byddant yn gallu dod i eistedd yn yr oriel i wylio hefyd. Gadewch imi ddweud wrth yr Aelod, wrth ateb ei chwestiwn, ein bod yn amlwg yn gweithio ar draws y Llywodraeth nid yn unig i sicrhau bod teuluoedd a chymunedau'n ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael ar ffurf lles a nawdd cymdeithasol, ond o ran cael mynediad at y cyfleoedd hynny drwy bethau fel y rhaglen Cymunedau am Waith a Cymunedau am Waith a Mwy, ond hefyd mewn gwirionedd gyda'r gwaith rydym yn ei wneud ar draws y Llywodraeth yn ymgorffori gwaith teg mewn cymunedau ledled Cymru. Ac yn y dyfodol heb fod yn rhy bell, byddwn yn ceisio sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r hawliau a'r cyfrifoldebau hynny, o ran mynediad at waith a sut y gallant fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi pellach, nid yn unig i unigolion ond i gyflogwyr hefyd. Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell. Delyth Jewell AC: Diolch, Lywydd. Weinidog, adroddwyd bod chwarter y rhai sy'n cysgu ar y stryd a gafodd le i aros yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf nôl yn cysgu ar y stryd. Pam fod hynny wedi digwydd? Julie James AC: Diolch, Delyth. Mae arnaf ofn fod yr adroddiad hwnnw ar y BBC wedi tangyfrif maint yr ymdrech sydd wedi digwydd ledled Cymru. Nid wyf yn gwybod a wnaethoch chi glywed rhaglen radio ychydig yn ddiweddarach ar y BBC, lle cefais gyfle i egluro'r sefyllfa. Cafodd ffigur—hapwiriad o nifer y bobl a oedd yn cysgu ar y stryd ym mis Mawrth, sef 407—ei gymryd fel nifer y bobl a oedd wedi cael cymorth drwy'r pandemig. Mewn hapwiriad arall ym mis Awst roedd 101 o bobl wedi mynd yn ôl ar y stryd, ac mae un person yn ormod, felly dof yn ôl at hynny mewn munud. Ond mewn gwirionedd, yn ôl y cyfrif diwethaf, mae 3,533 o bobl wedi cael cymorth, felly mae'r raddfa ychydig yn wahanol i adroddiad y BBC. Felly nid yw'n agos i fod yn chwarter, er y byddwn yn dweud bod unrhyw nifer yn broblem wirioneddol. Hoffwn allu egluro i bobl Cymru beth yw maint gwirioneddol yr hyn sydd wedi'i gyflawni yng Nghymru yn ystod y pandemig, gan bawb sydd wedi bod yn gweithio yn y sector hwn. Roedd gennym lawer mwy o bobl yn cysgu ar y stryd nag yr oeddem wedi meddwl yn wreiddiol. Roeddem bob amser yn gwybod bod yr hapwiriad yn debygol o fod yn rhy isel. Roeddem bob amser yn gwybod na fyddai'n cynnwys pobl ifanc na menywod yn arbennig o dda, er enghraifft, ac fel y gwyddoch, roedd bob amser yn ffordd fras o'i wneud dros ddwy noson benodol ar draws y DU. Felly roeddem bob amser yn gwybod y byddai'n amcangyfrif rhy isel. Credaf ein bod wedi synnu braidd pa mor isel ydoedd mewn gwirionedd. A hefyd wrth gwrs, rydym wedi cynnwys yr holl bobl sydd, er nad ydynt ar y strydoedd mewn gwirionedd, yn eithaf agos at hynny—felly yr holl bobl oedd yn cysgu ar soffas, neu'n cysgu mewn ceir neu mewn mannau anaddas iawn eraill. Felly, nid yw'n ymwneud yn unig â'r pen eithafol o gysgu ar y stryd, mae'n ymwneud â'r holl bobl sydd mewn llety anniogel, anaddas lle na ellid eu cadw'n ddiogel drwy'r pandemig. Felly, rwy'n talu teyrnged wirioneddol i'r holl sefydliadau trydydd sector ac awdurdodau lleol, swyddogion y Llywodraeth—pawb—sydd wedi gweithio'n galed i helpu cynifer o bobl ag sy'n bosibl. Pan gafodd y cyfyngiadau symud gwreiddiol eu llacio yn yr haf, gwyddom fod pobl a oedd wedi profi digartrefedd yn flaenorol yn teimlo'r rhyddid a deimlai cryn dipyn ohonom o gael mynd allan i'r awyr iach ac yn y blaen, ac mae'r rhain yn bobl sydd ag anghenion cymorth cymhleth. Ac felly, roeddem yn gwybod fod rhai pobl nad oeddent wedi bod mewn gwasanaethau cymorth yn ddigon hir eto, ac nad oeddent mewn llety a oedd yn ddelfrydol ar eu cyfer efallai, yn cael eu denu'n ôl at y strydoedd. O reidrwydd, bu'n rhaid inni gartrefu pobl â phroblemau tebyg mewn ardaloedd penodol, a gall hynny fod yn wrthgynhyrchiol. Felly, gwyddom fod y problemau hynny'n bodoli. Maent yn parhau i fodoli. Nid wyf erioed wedi celu'r ffaith nad yw hwn yn ateb i'r broblem hirdymor. Fodd bynnag, rydym wedi llwyddo i gael allgymorth pendant i bob person yng Nghymru sy'n cysgu ar y stryd, gan gynnwys y rhai a oedd wedi syrthio allan o'r gwasanaethau dros dro dros yr haf. Bydd yn ddiddorol iawn gweld beth fydd y cyfrif nesaf, o ran pwy sy'n derbyn gwasanaethau a'r rhai nad ydynt. Yn y mis hwnnw, er enghraifft, ym mis Awst, pan gafwyd y cyfrif o 101, cawsom hefyd bron i 1,000 o bobl ddigartref o'r newydd, y canfuwyd llety i bob un ohonynt, a rhoddwyd cymorth hefyd—ni allaf gofio nawr—i symud cannoedd lawer o bobl i lety parhaol allan o'r llety dros dro. Gallaf ddarparu'r ffigur hwnnw. Rwyf wedi'i anghofio am nawr ond mae'n 500/600 o bobl. Felly, mae'r nifer sy'n mynd drwy'r system yn bwysig iawn, a Delyth, fe fyddwch yn gwybod ein bod wedi trafod droeon nad yw hwn yn rhyw fath o ddilyniant llinellol. Mae cam 1 i bobl sy'n ddigartref ac mae angen inni ddatrys hynny iddynt—sicrwydd dros dro a sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn y blaen. Ac yna cam 2, sef rhoi cartref diogel parhaol i'r bobl hynny—ailgartrefu'n gyflym—gyda'r holl fecanweithiau cymorth o'u cwmpas. Felly, nid yw hyn yn ymwneud â waliau'n unig. Mae hyn yn ymwneud â chymorth iechyd meddwl, cymorth camddefnyddio sylweddau, cymorth pan fo perthynas yn chwalu, dianc rhag trais domestig—y llu o broblemau sy'n cael eu gwaethygu gan unrhyw gyfnod o amser y mae pobl yn ei dreulio allan o lety parhaol, wrth gwrs. Felly, rwy'n falch iawn o gael y cyfle i egluro'r sefyllfa. Rydym wedi cwyno wrth y BBC eu bod yn tangyfrif y broblem drwy wneud hynny ac mewn gwirionedd yn amharchu'r bobl sydd yn y system a'r bobl ddigartref eu hunain. Delyth Jewell AC: Wel, diolch am hynny, Weinidog. Hoffwn ategu eich teyrnged i'r gweithwyr yn y trydydd sector ac awdurdodau lleol am yr holl waith y maent wedi'i wneud ar hyn. Ac rwy'n falch eich bod wedi egluro'r sefyllfa. Yn amlwg, gallwch weld o ble y cawsom y ffigurau hynny. Ond rwy'n cytuno â'r pwynt a wnaethoch hefyd ei bod yn amlwg fod un person sy'n dychwelyd i fyw ar y stryd yn un person yn ormod. Gyda'r hyn rydych newydd ei ddweud, Weinidog, o ran yr anghenion hynod gymhleth a fydd gan nifer o'r bobl rydym yn sôn amdanynt, a'r cymorth sylweddol sydd ei angen arnynt, yn amlwg byddwn yn cytuno â hynny hefyd, ond mae hynny'n gwneud i mi gwestiynu pam na chawsant y cymorth hwnnw pan oeddent yn cael eu cartrefu. Nawr, rwy'n derbyn, wrth gwrs, yr hyn rydych wedi bod yn ei ddweud am y sefyllfa hynod gymhleth rydym wedi bod yn ei hwynebu, ac ni fyddai'r un ohonom yn bychanu hynny. Ond mae eich Llywodraeth i fod wedi ymrwymo i fodel tai yn gyntaf, felly dylai'r cymorth hwnnw fod wedi cael ei ystyried. Nawr, wrth edrych ar rai o'r achosion, mae'n amlwg nad oes lefel o ddealltwriaeth wedi bod o fewn rhai awdurdodau lleol nad yw pobl ddigartref yn grŵp unffurf, fel rydych newydd fod yn ei ddweud, ac na fydd ateb i un person o reidrwydd yn gweithio i un arall. Weinidog, rydych wedi cyfeirio at rywfaint o hyn yn eich ateb cychwynnol. Rydym wedi cael straeon am bobl sydd wedi cael eu cartrefu gyda'i gilydd, gan gynnwys dioddefwyr camdriniaeth sydd wedi cael eu cartrefu gyda phobl sydd â hanesion treisgar—dulliau un ateb i bawb yn aml nad ydynt yn ystyried anghenion unigolion. Felly, a ydych yn derbyn bod angen llawer mwy o waith i sicrhau bod staff awdurdodau lleol yn cael gwell dealltwriaeth o ddigartrefedd, a'u bod yn cael hyfforddiant ar sut i ymdrin â phobl sydd wedi profi trawma, a chydnabyddiaeth bod darparu amrywiaeth o fathau o lety, yn hytrach nag un ateb i bawb, yn hanfodol i ddatrys y broblem? Julie James AC: [Anghlywadwy.]—Delyth. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi ar bopeth rydych newydd ei ddweud. Mae hwn yn newid diwylliant enfawr i lawer o'r awdurdodau lleol, ac rydym i gyd yn gwybod, o'n hymateb ein hunain i'r pandemig, ei fod, ar y dechrau, yn frawychus ac yn peri pryder gwirioneddol, ond roedd hefyd ychydig yn gyffrous, roedd yn newydd ac yn wahanol, nid ydym wedi'i wneud o'r blaen, ac roeddem i gyd yn meddwl y gallai fod yn beth byr i'r pwynt y gallem ei wneud i reoli'r feirws ac yn y blaen. A'r hyn sydd wedi digwydd gyda'r holl wasanaethau, wrth gwrs, yw ei bod yn amlwg iawn nad sbrint yw hwn ond marathon. Ac felly, mae pobl wedi blino. Maent wedi gweithio'n galed iawn drwy hyn i gyd. Prin yw'r adnoddau sydd ganddynt o hyd. Er ein bod wedi neilltuo £50 miliwn yn fwy ar ei gyfer, mae'n dal i fod yn adnodd cyfyngedig i'r bobl a welwn. Mae gennym hefyd ffrwd ddiddiwedd o bobl sy'n profi'r un broblem. A gwyddom fod un o'r problemau mawr mewn perthynas â chyfnodau atal pellach a'n pryder parhaus am y feirws, a'r holl bethau tebyg i ddirwasgiad sy'n digwydd yn yr economi, yn peri i berthnasoedd chwalu, a bod hynny'n arwain at ddigartrefedd. Felly, mae'n rhaid i ni gael rheolaeth ar y pandemig, a'i ganlyniadau economaidd, er mwyn gallu dechrau meddwl am gau'r tap, fel petai. Ac mae'n ddrwg gennyf siarad am bobl fel pe baent yn llifogydd oherwydd mae pob un ohonynt yn drasiedi, ond mae gennym nifer fawr o bobl sy'n dal i fod yn y mathau hynny o amgylchiadau. Rydym hefyd wedi cryfhau'r math mwyaf o fecanwaith cymorth ar draws gwasanaethau iechyd meddwl, gwasanaethau camddefnyddio sylweddau a gwasanaethau cymorth ar gyfer perthnasoedd sy'n chwalu. Rydym wedi rhoi symiau enfawr o arian i'r gwasanaethau cynghori hefyd, i geisio cael pobl i wneud y mwyaf o'u hincwm, oherwydd pan fyddant yn cael lle yn y tai hyn, mae angen iddynt allu cael y credyd cynhwysol sydd ar gael—ac nid yw hynny bob amser mor syml â hynny—ond hefyd ffrwd incwm er mwyn gallu cynnal eu tai a hynny i gyd. Mae'n gymhleth iawn. Wedyn, wrth gwrs, o reidrwydd, oherwydd bod gennym niferoedd mor fawr, rydym yn rhoi pobl mewn llety anaddas dros dro. Rwy'n derbyn hynny'n llwyr. Mae'r awdurdodau lleol yn gwneud eu gorau glas i sicrhau nad yw hynny'n digwydd. Nid yw pawb yn adrodd eu stori'n llawn pan fyddant yn dod i gysylltiad â gwasanaethau am y tro cyntaf. Mae llawer o bobl yn amheus, am resymau dealladwy iawn, o bobl swyddogol sy'n ceisio helpu ac yn y blaen. Ac mae pob un o'r methiannau hynny'n broblem fawr iawn. Fodd bynnag, ceir straeon calonogol am lwyddiant hefyd. Felly, mae llawer o awdurdodau sydd â'r problemau hynny hefyd wedi cael pobl yn dod i gysylltiad â gwasanaethau am y tro cyntaf ac wedi gweld llwyddiant ysgubol. Maent yn digwydd bod wedi cael y cwnselydd iawn, y cymorth cywir, ac maent wedi symud ymlaen i lety parhaol. Felly, nid wyf eisiau i'r cyfan fod—. Nid wyf yn tynnu oddi ar y rhai nad ydynt wedi cael beth y maent ei eisiau'n iawn, ac mae angen i ni gryfhau ein hymdrechion i wneud hynny, ond credaf hefyd ei bod yn bwysig annog yr awdurdodau, oherwydd maent hwy hefyd wedi cael llwyddiannau. Felly, mae angen inni annog y gwaith llwyddiannus a'u hannog i beidio â pharhau i wneud y gwaith aflwyddiannus.Rydym wedi bod yn cynnal llawer o weminarau ar gyfer awdurdodau. Mae hwn, fel y dywedais, yn newid diwylliant enfawr o ble roedd gan bobl ryw fath o rôl porthgadw o'r blaen. Felly, rydym wedi'i gwneud yn glir iawn na fyddwn yn mynd yn ôl, a bod angen gwreiddio'r newid diwylliant hwnnw. Ond o ddifrif, nid oedd unrhyw ffordd y byddai wedi gwreiddio mewn pedwar mis yn unig yn wyneb pandemig. Felly, rwyf wedi dweud yn glir nad ydym wedi datrys y broblem; rydym wedi cymryd y cam cyntaf tuag at ddatrys y broblem. Bydd angen i bob un ohonom gydweithio i sicrhau ein bod yn gallu parhau ar hyd y llwybr hwnnw. Delyth Jewell AC: Iawn. Diolch ichi am hynny, Weinidog. O ran y newid diwylliant sydd ei angen, yn amlwg, nid staff awdurdodau lleol, sy'n cynllunio ac yn comisiynu gwasanaethau, yn unig sydd angen y ddealltwriaeth honno a'r tosturi rydych newydd gyfeirio ato. Yn ddiweddar, mae—. Rydym wedi gweld sylwadau anffodus gan gynghorydd awdurdod lleol yng ngogledd Cymru sydd fel pe baent yn awgrymu nad oedd pobl sydd â 'ffyrdd caotig o fyw', fel y dywedodd y cynghorydd hwnnw, yn haeddu gwasanaethau 'drud', a defnyddio geiriau'r cynghorydd hwnnw unwaith eto. Mae hyn, wrth gwrs, er gwaethaf y ffaith bod atal a datrys digartrefedd bob amser yn rhatach na gadael iddo ddigwydd, ac mae'n dal i fod yn anffodus nad yw pobl sy'n gwneud y penderfyniadau hyn yn deall hynny. Felly, hoffwn ofyn i chi yn olaf, Weinidog: pa gamau y gwnewch chi eu cymryd i fynd i'r afael â'r rhagfarn ymhlith cynghorwyr awdurdodau lleol? Tosturi sydd ei angen, onid e, nid creu dihirod o'r bobl hyn. Julie James AC: Rwy'n cytuno'n llwyr, ac mae'r naratif rydym wedi cael trafodaethau yn ei gylch droeon yn y Siambr hon fod rhai pobl rywsut yn haeddu bod yn dlawd, a rhai pobl nad ydynt yn haeddu bod yn dlawd, yn falltod maleisus ar ein cymdeithas, ac mae angen inni weithio gyda'n gilydd i sicrhau ein bod yn cael gwared arno, oherwydd nid oes neb sydd yn y sefyllfa honno wedi bod yno o'r cychwyn. Ni chawsant eu geni i'r sefyllfa honno. Maent yno oherwydd methiant yn y system yn rhywle ar hyd y ffordd. Felly, mae'n rhaid inni gyfleu'r neges honno, ac yn anffodus, rydym yn byw mewn cymdeithas lle mae gennym gryn dipyn o gyfryngau yn porthi'r syniad o bobl nad ydynt yn haeddu bod yn dlawd. Felly, hoffwn fanteisio ar y cyfle i gofnodi unwaith eto fod hynny'n falltod ar unrhyw gymdeithas wâr ac mae angen inni fod yn siŵr nad ydym, mewn unrhyw ffordd, yn hyrwyddo'r naratif hwnnw. Rydym wedi dweud yn glir iawn fod pob bod dynol sy'n dod i sylw awdurdod lleol sydd angen tŷ, yn cael rhywbeth: cymorth ar unwaith. Maent yn cael cymorth ar unwaith; maent yn cael cymorth parhaol os yw hynny'n bosibl o gwbl, ac os nad yw'n bosibl, cânt gymorth dros dro wrth i ni ddod o hyd i ateb parhaol ar eu cyfer. Ac fel y dywedais, mae honno'n ffordd hir. Mae'n hawdd i mi ei ddweud wrth sefyll yma; ond mae'n llawer anos ei wneud ar lawr gwlad. Ond rydym wedi rhoi llawer o adnoddau tuag at ei wneud hyd yma. Mae angen inni barhau i wneud hynny. A hoffwn gofnodi, mewn gwirionedd, gan ein bod i gyd yn eistedd yma, fy mod wedi bod yn dweud wrth yr elusennau digartrefedd sy'n gweithio yn y gofod hwn, wrth inni nesáu at etholiadau'r Senedd, mai'r gobaith gorau i bobl yn yr amgylchiadau hyn yw sicrhau bod yr holl bleidiau gwleidyddol—y pleidiau gwleidyddol mawr, beth bynnag, yng Nghymru—yn sicrhau bod hyn yn eu maniffestos, oherwydd gallwn fod yn siŵr wedyn fod modd inni fwrw ymlaen â hyn gyda'n gilydd. Nid wyf yn credu bod unrhyw ddadl wirioneddol na ddylai hyn ddigwydd ymhlith y pleidiau gwleidyddol mawr yng Nghymru. Ac felly, mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn bwrw ymlaen â hyn gyda'n gilydd. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood. Mark Isherwood AC: Diolch, Lywydd. Rwy'n cytuno—nid oes dadl wleidyddol ymysg y pleidiau mawr ynglŷn â'r mater hwn. Mae adroddiad diweddar yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau, 'Building Stronger Welsh Communities: opportunities and barriers to community action in Wales' yn ymwneud â harneisio cryfderau a sgiliau pobl leol fel y gallant adeiladu'r seilwaith cymdeithasol a llunio'r gwasanaethau y maent eu heisiau ac y maent eu hangen yn eu hardal. Ar ôl hwyluso sgwrs genedlaethol gyda thros 250 o bobl a fynychodd 20 o ddigwyddiadau a gynhaliwyd ar hyd a lled Cymru i ddylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio ar eu hardal leol—[Anghlywadwy.]—nad yw geiriau teilwng yn cael eu hategu gan gamau gweithredu, fod cyrff cyhoeddus yn gwneud i bobl yn hytrach na chyda phobl—[Anghlywadwy.]—cymunedau, ac mae diffyg ymddiriedaeth sylfaenol y cyhoedd, ynghyd ag osgoi mentro, gweithio mewn seilos, rhagfarn broffesiynol a diffyg cymhelliad i staff yn rhwystrau sylweddol i fwy o weithredu cymunedol. Ac yn sicr mae fy ngwaith achos yn cefnogi hynny'n gryf. Sut felly y byddwch yn ymgysylltu â hwy i gynllunio, darparu a monitro ffordd well o gyflawni gwaith llywodraeth leol ledled Cymru? Julie James AC: Diolch, Mark. Nid wyf yn credu fy mod wedi clywed y cwestiwn hwnnw i gyd, ond rwy'n meddwl fy mod wedi cael byrdwn yr hyn a ddywedoch chi, felly fe wnaf fy ngorau i'w ateb. Felly, yr hyn rydych yn sôn amdano yw newid diwylliant i'r hyn rydym yn ei alw'n 'creu lleoedd'. Felly, mae gennym nifer o sefydliadau, gan gynnwys yr un rydych newydd ei grybwyll, sydd wedi bod yn gweithio gyda ni i sicrhau ein bod yn cynnwys cymunedau lleol yn y broses o ystyried sut y dylai eu lleoedd edrych—sut y dylai eu cymunedau edrych a sut y dylai'r cyfleusterau o'u cwmpas edrych. Ac rydym wedi bod yn gweithio'n galed iawn ar sail sybsidiaredd, i ddefnyddio'r jargon, i leihau'r gwaith o wneud penderfyniadau i'r man isaf posibl lle gall pobl wneud y penderfyniadau hynny. Unwaith eto, rydym wedi cael y drafodaeth hon droeon yn y Siambr hon, lle mae angen i rai gwasanaethau fod yn gyffredinol—felly, mae angen i chi gael yr un profiad o rai gwasanaethau ni waeth ble rydych yn byw. Ond nid yw hynny'n wir gyda'ch lle chi neu eich tref neu eich pentref lleol chi nac unrhyw beth arall, oherwydd rydym eisiau i'r rheini fod mor unigryw a lleol ag y gallwn eu gwneud. Felly, mae arnom angen i leisiau pobl leol fod yn uchel ac yn glir yn y cymunedau hynny. Felly, mae holl fyrdwn 'Polisi Cynllunio Cymru', y fframwaith datblygu cenedlaethol a'r papurau adfer y mae fy nghyd-Aelodau, y Cwnsler Cyffredinol a Ken Skates, Gweinidog yr economi, wedi bod yn gweithio arnynt ar draws holl ranbarthau Cymru, wedi'i gynllunio i sicrhau bod y llais uchel hwnnw gan bobl leol. Felly, unwaith eto, Mark, os oes gennych enghreifftiau lle nad yw hynny'n gweithio mor dda ag y gallai, ac mae'n newid diwylliant mawr, ac os hoffech dynnu fy sylw atynt ar wahân, rwy'n hapus iawn i edrych i weld beth y gallwn ei wneud mewn achosion penodol i annog y math hwnnw o gydweithrediad ar lawr gwlad. Cyn i chi ofyn eich cwestiwn atodol, Mark Isherwood, dylech wybod bod eich cysylltiad band eang yn eithaf ansefydlog. Rydych wedi bod yn torri allan gryn dipyn. Felly, rhown gynnig ar eich cwestiwn nesaf, ond os nad yw'n ddealladwy yn y Siambr, efallai y bydd rhaid inni adael eich cwestiynau ar gyfer yr wythnos hon. Ond rhowch gynnig arall arni ac fe gawn weld ble y cyrhaeddwn ni y tro hwn. Mark Isherwood AC: Iawn, wel, rwy'n gobeithio y gallwch glywed yn well ac rwy'n gobeithio bod yr ateb hwnnw'n golygu y byddwch yn eu cynnwys hwy a chymunedau nid yn unig yn y broses gynllunio, ond yn y gwaith o gyflawni a monitro, ac fel y gwyddoch, rwyf wedi cyfeirio nifer o achosion atoch yn ddiweddar, ond roeddech yn teimlo na allai Llywodraeth Cymru ymyrryd yn briodol. Fel y clywsom, adroddodd BBC Wales yr wythnos diwethaf fod bron i chwarter y rhai a oedd yn cysgu ar y stryd ac a gafodd dai dros dro yn ystod y cyfyngiadau symud COVID cyntaf yng Nghymru bellach yn cysgu ar y stryd eto. Do, dywedodd fod dros 3,566 o bobl mewn llety dros dro, ond roedd 101 yn cysgu ar y stryd ar y dyddiadau hynny ym mis Awst, o'i gymharu â mis Ebrill pan gafwyd hyd i leoliadau dros dro ar gyfer pob un o'r 407 o bobl y gwyddem eu bod yn cysgu ar y stryd yng Nghymru. Dywedodd yr elusen Shelter Cymru, sy'n gweithio gydag unigolion go iawn yr effeithiwyd arnynt, ei bod yn sefyllfa siomedig dros ben, gan ychwanegu mai'r pwysau ar lety dros dro sy'n arwain rhai cynghorau i fabwysiadu polisïau llym iawn. Dywedodd elusen The Wallich fod llawer o gynghorau unwaith eto'n troi pobl ddigartref i ffwrdd oddi wrth gymorth oherwydd diffyg lle, gan ychwanegu, Ni wnaethom ddatrys tlodi, ni wnaethom roi diwedd ar ddigartrefedd, nid ydym wedi datrys camddefnyddio sylweddau nac argyfyngau iechyd meddwl. Ac mae'r elusen Crisis yn galw am gynllun cenedlaethol trawslywodraethol i roi diwedd ar ddigartrefedd mewn degawd. Sut y byddwch chi, felly, yn ymgysylltu â'r sector i gynllunio, cyflawni a monitro ffordd well a mwy cynaliadwy o fynd i'r afael â hyn? Julie James AC: Rwy'n credu fy mod wedi ymdrin â rhywfaint o hyn yn eithaf cynhwysfawr yn fy ateb i Delyth Jewell, ond fe ychwanegaf, er mwyn bod yn drylwyr, ein bod, wrth gwrs, yn dilyn y cynllun a nodwyd ar ein rhan gan y grŵp gweithredu ar gyfer tai, sy'n cynnwys Shelter, The Wallich a Crisis fel cynghorwyr i Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut rydym yn strwythuro ein polisïau wrth symud ymlaen. A'r hyn a wnaeth y pandemig, yn amlwg, oedd cyflymu ein hymateb i'r argymhellion hynny. Felly, rydym wedi dilyn argymhellion y grŵp gweithredu ar gyfer tai yn llwyr, gan gynnwys yr holl sefydliadau a nodwyd gennych yno, Mark, ac rydym wedi bod yn gweithio gyda hwy, ochr yn ochr â hwy, drwy'r pandemig. Credaf fod y ddogfen Crisis y sonioch chi amdani mewn gwirionedd yn sôn am Lywodraethau'r DU yn gyffredinol, nid Cymru'n unig, ac rydym wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda'r rheini o ran sut rydym yn strwythuro'r ymateb i'r pandemig a'n hymateb i ddigartrefedd wrth symud ymlaen. Ewch chi, Mark. Mark Isherwood AC: Gobeithio bod hynny'n golygu— Ewch chi. Mark Isherwood AC: A ydych chi'n gallu clywed? Gallwn. Ewch chi. Mark Isherwood AC: Diolch. Wel, gobeithio bod hynny'n golygu y byddwch hefyd yn ymgysylltu â hwy ar gyflawni a monitro. Crisis wnaeth gyhoeddi'r adroddiad y cyfeirioch chi ato, ond maent hefyd wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol i Gymru. Maent yn amcangyfrif, ar unrhyw noson benodol, fod tua 5,200 o aelwydydd yng Nghymru yn profi rhyw fath o ddigartrefedd yn 2017, a bod yr angen am dai ar gyfer pobl â phrofiad o ddigartrefedd a phobl ar incwm isel yn 4,000 o gartrefi cymdeithasol newydd bob blwyddyn. Dywedant fod pobl sydd â phrofiad o ddigartrefedd yn gallu ei chael yn anodd cael gafael ar gartref parhaol a'i gynnal, yn y sector tai preifat a'r sector rhentu cymdeithasol fel ei gilydd. Maent yn dweud bod ymateb cam 2 Llywodraeth Cymru wedi canolbwyntio ar arloesi, adeiladu ac ailfodelu i drawsnewid gwasanaethau digartrefedd yn fodel ailgartrefu cyflym gyda chymorth ariannol o £15 miliwn. Ond dywedasant y bydd trawsnewid yn galw am gynllunio a newid hirdymor. Felly, roeddent yn gofyn pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i sicrhau bod pobl sydd â phrofiad o ddigartrefedd yn gallu cael mynediad at gartref diogel yn ogystal â'r cymorth sydd ei angen arnynt i gynnal cartref, ac i sicrhau cyllid ychwanegol a hirdymor ar gyfer gwasanaethau digartrefedd er mwyn trosglwyddo i ailgartrefu cyflym a bodloni'r galw. Gofynasant i mi ofyn y cwestiynau hynny i chi ddoe. Julie James AC: Diolch, Mark. Yn amlwg, rwy'n ymwybodol iawn o'r adroddiad gan Crisis oherwydd cadeirydd y grŵp gweithredu ar gyfer tai, mewn gwirionedd, oedd Jon Sparkes, cadeirydd Crisis. Felly, mae wedi bod yn gweithio gyda ni drwy hyn i gyd, i gynllunio ein hymateb i ddigartrefedd yng Nghymru yn y lle cyntaf—oherwydd rhoddwyd hyn ar waith ymhell cyn y pandemig—ac yna, wrth gwrs, ein hymateb i'r pandemig ac yn wir, ein hymateb wrth symud ymlaen o ran newid ein polisi'n llwyr fel bod gennym y dull ailgartrefu cyflym hwnnw ar waith yng Nghymru. Dyna'n union a nodwyd yn adroddiad y grŵp gweithredu ar gyfer tai, ac mae hynny bellach yn cael ei adlewyrchu yn nogfennau Crisis ledled y DU, ac mewn gwirionedd, os ydych yn ei ddarllen o glawr i glawr, mae'n nodi Cymru fel enghraifft o'r hyn y gellir ei wneud pan fydd pawb ohonom yn rhoi ein meddyliau ar rywbeth ac yn gweithio gyda'n gilydd.Felly, yn sicr rydym yn gweithio gyda hwy wrth symud ymlaen, ac fel y dywedais wrth Delyth, yn bendant nid ydym wedi datrys y broblem hon. Yr hyn rydym wedi'i wneud yw cymryd y cam mawr cyntaf ar y llwybr tuag at ei ddatrys ac fel y dywedais hefyd, mae consensws ar draws y Siambr y dylem barhau i wneud hynny. Ail Gartrefi Siân Gwenllian AC: 3. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag ail gartrefi ar draws Cymru? OQ55860 Julie James AC: Diolch, Siân. Rydym yn mabwysiadu dull cyfannol sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gan roi ystyriaeth briodol i'r ystod eang o fuddiannau dan sylw. Ar draws y Llywodraeth, rydym yn parhau i adolygu'r holl dystiolaeth sydd ar gael. Mae cyd-Weinidogion, fy swyddogion a minnau wedi cyfarfod â nifer o Aelodau o'r Senedd, awdurdodau lleol ac academyddion i ddatblygu ein hymateb system gyfan i'r materion ymhellach. Siân Gwenllian AC: Dydw i ddim am ymddiheuro am godi'r pwnc yma eto. Dwi'n ddiolchgar ichi am y trafod diweddar sydd wedi bod rhwng ein plaid ni a'ch Llywodraeth chi, a dwi'n edrych ymlaen at ymuno mewn cyfarfod rhithiol rhwng y Prif Weinidog a chynrychiolwyr yr ymgyrch Hawl i Fyw Adra o Ben Llŷn yr wythnos nesaf. Ond un peth yw cynnal cyfarfodydd ac asesiadau, a gwneud synau o gydymdeimlad a dweud eich bod yn deall y broblem; peth arall ydy gweithredu er mwyn atal y cynnydd mewn ail gartrefi mewn cynifer o'n broydd ni yn y gorllewin. Mae Plaid Cymru wedi amlinellu rhai camau y gellid eu cymryd yn syth. Ydy'ch Llywodraeth chi yn bwriadu cymryd unrhyw gamau penodol i newid y gyfraith cynllunio neu gyllidol rhwng rŵan ac ethol Senedd newydd ym mis Mai? Julie James AC: Diolch, Siân. Fel y gwyddoch, mae'n broblem gymhleth iawn ac rydym yn cydymdeimlo'n fawr, ond nid oes ateb syml. Ni allwn gymryd pwerau deddfu sylfaenol rhwng nawr a'r etholiad am nad oes gennym ddigon o amser Senedd ar ôl i wneud hynny. Felly, nid yw'n ffisegol bosibl inni wneud hynny mewn gwirionedd. Mae gennym nifer o bethau roeddem yn awyddus iawn i'w cyflawni yn ystod tymor y Senedd hon ac rydym wedi gorfod gadael y pethau hynny i gyd, ac rydym i gyd yn gresynu at hynny. Felly, nid oes unrhyw bwynt i mi geisio esgus fel arall. Nid oes gobaith cael deddfwriaeth sylfaenol newydd drwodd ar y pwynt hwn, nac ar unrhyw bwynt arall, mewn gwirionedd, ar wahân i'r rhai sydd eisoes wedi dechrau ar eu taith drwy'r Senedd. Fel y gwyddoch, rydym eisoes wedi gwneud nifer fawr o bethau yng Nghymru, gan gynnwys taliadau trafodion tir gwahaniaethol a chyfundrefnau gwahaniaethol ar gyfer y dreth gyngor, ac yn y blaen. Yn y grŵp trawsbleidiol a gyfarfu â ni, fe fyddwch yn gwybod ein bod yn edrych eto ar y materion data i weld a allwn nodi mathau penodol o dai y gallem weithredu arnynt. Mae'n llawer mwy cymhleth nag y mae'n ymddangos gyntaf pan fyddwch yn ceisio nodi pa set benodol o dai rydych yn sôn amdanynt mewn gwirionedd, fel y gwyddoch.Ac felly, rwy'n edrych ymlaen at y cyfarfod gyda'r Prif Weinidog a'r grŵp ymgyrchu, ond mae'n llawer mwy cymhleth na newid y gyfraith gynllunio yn unig, er enghraifft. Felly, byddai angen ystyried nifer o faterion, fel y trafodasom yn helaeth yn y grŵp y tro diwethaf. Mike Hedges AC: A gaf fi ddweud fy mod yn rhannu pryder Siân Gwenllian am ail gartrefi, yn enwedig pan fo gennym broblem ddigartrefedd, fel y trafodasom yn gynharach? Unwaith eto, rwy'n dadlau y dylid rhoi diwedd ar eithrio rhag talu'r dreth gyngor ar unrhyw dai sydd wedi'u cofrestru i gael eu gosod yn breifat ar gyfer gwyliau ac sydd wedyn yn cael eu heithrio rhag ardrethi busnes gan olygu nad yw pobl yn talu unrhyw beth o gwbl. Nid oes angen deddfwriaeth sylfaenol ar gyfer hynny, dim ond gweithredu. Ond mae llety myfyrwyr a thai a osodir yn fyrdymor ar gyfer gwaith wedi'u cyfrif yn y ffigurau ar gyfer ail gartrefi ar rai rhestrau. Nid yw hynny'n arbennig o ddefnyddiol. Ac rydych yn gwybod yn eich etholaeth eich hun fod rhywun wedi ystyried nodi bod traean o'r tai yn ail gartrefi er mai llety myfyrwyr yw bron y cyfan ohonynt. A yw'r Llywodraeth yn gwybod faint o eiddo sy'n ail gartrefi, h.y. cartrefi sydd ond yn cael eu defnyddio am gyfran o'r flwyddyn neu wedi'u cofrestru i'w gosod ar gyfer gwyliau? Julie James AC: Diolch, Mike, a'r ateb syml i'r cwestiwn yw 'na', oherwydd nid oes gennym ffordd o wahaniaethu data ar gyfer tai yn y ffordd honno. Mae'n anodd iawn gwybod a yw tŷ'n cael ei osod i rywun yn barhaol, ar sail llety gwyliau, yn rhannol ar sail llety gwyliau, neu'n cael ei ddefnyddio gan deulu a ffrindiau. Er enghraifft, mae plant perchennog cofrestredig yn meddiannu rhai ail gartrefi'n barhaol. Mae hynny'n eithaf cyffredin mewn dinasoedd ar draws Cymru, er enghraifft. Ceir lefelau uchel iawn o ail gartrefi yn Abertawe a Chaerdydd nad oes gennym y data ar eu cyfer, ond mae'n ymddangos yn eithaf tebygol mai pobl sy'n gweithio yn y dinasoedd yn ystod yr wythnos ac sy'n mynd adref i rywle arall dros y penwythnos sy'n byw ynddynt. Gwyddom hefyd fod gan weithwyr allweddol ledled gorllewin Cymru dai y maent yn gweithio ohonynt yn ystod yr wythnos a'u bod yn mynd adref i rywle arall yng Nghymru dros y penwythnos. Felly, mae'n anodd iawn gwahanu'r data yn y ffordd syml a nodwyd gennych. Fodd bynnag, mae gennyf lawer o gydymdeimlad â'r cynnig nad yw'r rhyddhad ardrethi i fusnesau bach yn berthnasol i rai safleoedd sydd wedi symud o'r dreth gyngor i ardrethi busnes o ganlyniad i osod yr eiddo, a hefyd beth yw'r trothwyon ar gyfer hynny, ac rydym yn edrych ar y dystiolaeth empirig sydd ar gael inni i ddeall yn union sut y byddai hynny'n edrych pe baem yn ei wrthdroi. Mae hwnnw'n waith sy'n parhau. Nid wyf eto mewn sefyllfa i ddweud a fyddwn yn gallu gwneud hynny neu beidio. Rydym wedi gofyn i'r holl awdurdodau y mae hyn yn effeithio'n benodol arnynt rannu'r sylfaen dystiolaeth sydd ganddynt â ni, ac mae manylion diddorol yma. Rydym wedi caniatáu i awdurdodau godi hyd at 100 y cant o dreth gyngor ar ail gartrefi ac adeiladau sy'n wag yn hirdymor er enghraifft, ond nid oes unrhyw un wedi defnyddio'r 100 y cant. Mae saith awdurdod lleol yn codi rhwng 25 y cant a 50 y cant, ac mae Powys wedi argymell premiwm o 75 y cant yn ddiweddar. Felly, mae angen i ni ddeall pam nad ydynt yn defnyddio'u pŵer llawn, ac mae sawl enghraifft arall o dystiolaeth empirig y mae angen inni weithio drwyddynt cyn y gallwn lunio polisi y gwyddom y bydd yn gwneud bob dim rydym eisiau iddo ei wneud. Rydym i gyd eisiau iddo gael yr effaith a nodwyd gennych, ond rwyf eisiau bod yn siŵr y bydd y polisi'n cael yr effaith honno, ac na fydd yn cael rhyw effaith annymunol, er enghraifft, o ran tai gweithwyr allweddol sy'n agos at ysbytai ac yn y blaen. Marchnadoedd Tai Gwledig Adam Price AC: 4. Pa ymdrechion y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i sicrhau nad yw pobl ifanc mewn ardaloedd gwledig yn cael eu prisio allan o'u marchnadoedd tai lleol? OQ55877 Julie James AC: Diolch, Adam. Rydym wedi gwneud y buddsoddiad mwyaf erioed o £2 biliwn mewn tai fforddiadwy yn ystod y tymor Senedd hwn. Mae'r buddsoddiad yn cael effaith sylweddol ar ddarpariaeth tai sy'n diwallu anghenion gwirioneddol cymunedau Cymru, ac rydym ar y trywydd cywir i gyflawni ein targed uchelgeisiol o 20,000 o dai fforddiadwy y tymor hwn. Adam Price AC: Yn ddi-os, i adeiladu, wrth gwrs, ar yr atebion i'r cwestiwn blaenorol, mae'r cynnydd anferthol mewn ail gartrefi yn tanseilio unrhyw waith arall mae'r Llywodraeth yn ei wneud o ran sicrhau bod pobl ifanc mewn ardaloedd gwledig yn gallu cael mynediad at dai. Mae'r hyn oedd yn broblem eisoes, ers degawdau, wedi troi nawr yn grisis anferth. Rwy'n deall beth mae'r Gweinidog yn ei ddweud o ran yr anawsterau niferus technegol, cyfreithiol, gweinyddol ac yn y blaen, sy'n gwneud y sefyllfa yma'n anodd a chymhleth, ac rwy'n croesawu'r trafod a'r dadansoddi, ond mae angen symud yn gyflym nawr at weithredu. Dyna beth yw hanfod gwleidyddiaeth, wrth gwrs—cynnig arweiniad, atebion, gweithredu. Dyna glywsom ni gennych chi gynnau ynglŷn â digartrefedd yn gyffredinol. Ydyn ni'n gallu gweld yr un math o weithredu nawr o ran y crisis yma yn y Gymru wledig? Un galwad penodol ydy rhoi'r grym i awdurdodau lleol osod cap ar uchafswm y stoc dai mewn cymuned y gellir eu defnyddio fel ail gartrefi. Allwch chi gadarnhau o leiaf eich bod chi'n cefnogi'r egwyddor hynny, ac y dylai hynny fod yn rhan o'r consensws roeddech chi wedi cyfeirio ato gynnau? Julie James AC: Diolch, Adam. Rwy'n rhannu'r pryder yn llwyr; rydym yn sicr yn awyddus i'n pobl ifanc allu aros yn y cymunedau y cawsant eu magu ynddynt ac maent yn dymuno cyfrannu atynt. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud droeon yn y Siambr hon fy mod hefyd yn byw mewn pentref lle na fydd fy mhlant byth yn byw yn y pentref oni wneir rhywbeth yn ei gylch. Nid fy mod yn credu y dylem fod yn llunio polisi Llywodraeth yn seiliedig ar amgylchiadau personol Gweinidogion, ond hoffwn ddangos bod gennyf lawer o gydymdeimlad â'r hyn rydych yn ei ddweud. Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni fod yn siŵr nad oes canlyniadau anfwriadol i rywfaint o hynny. Felly, rydym wedi bod yn edrych gyda diddordeb ar yr enghraifft o gapio niferoedd, er enghraifft, mewn ardaloedd eraill, ac mae rhai anfanteision difrifol iawn wedi codi o ganlyniad iddynt, yn enwedig os bydd dirwasgiad. Felly, rydym wedi gweld pobl leol wedi'u dal mewn ecwiti negyddol a phethau eraill o ganlyniad i gapiau o'r fath. Rwy'n edrych arno'n frwd iawn, i fod yn glir, ond rydym eisiau bod yn siŵr nad oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol. Mae Mike Hedges newydd gyfeirio at y ffaith bod tai amlfeddiannaeth yn gyffredin iawn mewn dinasoedd prifysgol; rydym yn gwybod hynny. Er enghraifft, rydym wedi ceisio rhoi polisïau dwysedd ar waith yn y dinasoedd hynny, ac yna atal tai eraill rhag newid. Yr hyn sy'n digwydd wedyn yw bod y tai hynny'n cael eu hysbysebu i'w gwerthu ar y farchnad am ddwywaith eu pris arferol, nid oes modd eu gwerthu ac yna daw cais arall i'r awdurdod i'w newid yn dŷ amlfeddiannaeth. Felly, mae angen inni wneud yn siŵr nad oes gennym unrhyw fylchau yn y gyfraith nac unrhyw ffordd arall o'i gwmpas—neu os ydych yn ei brynu drwy gwmni neu os yw eich tad yn ei brynu i chi—unrhyw beth y byddai angen inni weithio arnynt i sicrhau y byddai'r polisi'n gweithio mewn gwirionedd. Ond mae gennyf lawer o gydymdeimlad â'r ymdrech i ddod o hyd i ffyrdd o wneud hyn. Un o'r pethau eraill rwyf wrthi'n edrych arno mewn gwirionedd yw'r posibilrwydd o ymestyn ein trefniadau ymddiriedolaeth tir cymunedol, lle gall pobl leol ddod at ei gilydd a bod yn berchen ar dai yn y gymuned honno mewn ffordd gydweithredol. A'r hyn y mae hynny'n ei wneud yw atal y tai rhag cael eu gwerthu ymlaen i berson arall y tu allan i'r cap ac yn y blaen. I bob pwrpas, mae'n rhoi cyfran euraidd i chi fel y gallwch atal hynny rhag digwydd, ac mae'n atal sefyllfa lle mae rhywun yn prynu'r tŷ ac yna'n cyfarfod ac yn priodi rhywun o rywle arall ac yn gadael a beth a wnewch am y ffaith bod y tŷ'n sydyn yn dod yn wag. Felly, mae cyfres gyfan o ganlyniadau anfwriadol y mae angen i ni weithio arnynt, ond rydym yn gwneud hynny, ac rydym wedi gofyn i'r uned ddata feddwl am lawer mwy o ddata ar raddfa fanylach, fel y gallwn edrych yn iawn ar yr hyn rydym yn sôn amdano mewn gwirionedd. Ac yn y cyfarfod a fynychodd Siân Gwenllian, a nifer o rai eraill hefyd, er enghraifft, dechreuasom edrych ar ddata'r dreth trafodiadau tir sydd gennyf yma. Yr hyn nad yw hwnnw'n ei ddweud wrthych yw p'un a yw'r tŷ hwnnw eisoes yn ail gartref, neu p'un a gafodd ei adeiladu fel llety gwyliau. Nid yw'n dweud unrhyw beth wrthych. Nid yw ond yn dweud wrthych beth oedd y trafodiad. Felly, mae'n ymwneud â'n gallu i gael y data hwnnw, a gwneud rhai penderfyniadau gwybodus yn dilyn hynny heb achosi rhai o'r canlyniadau anfwriadol y mae rhai o'r polisïau wedi'u gweld mewn mannau eraill o'r byd. Andrew RT Davies AC: Weinidog, un o'r gwelliannau cynllunio a gyflwynwyd i'r system mewn Cynulliad blaenorol oedd gweithredu TAN 6 ar gyfer anheddau gwledig. Yn anffodus, fy mhrofiad i o TAN 6 yw ei fod bellach wedi newid i fod yn fodel eithaf soffistigedig. Yn hytrach na'i fod yn fodel hawdd ar gyfer datblygu eiddo gwledig ar gyfer gweithwyr gwledig, mae yna glytwaith o gyflawniad gan awdurdodau cynllunio, ac mae'n dibynnu ar eich cod post. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effeithiolrwydd TAN 6 i ddatblygu anheddau gwledig, fel y gall pobl ifanc aros mewn cymunedau gwledig, lle gallent fod yn gweithio fod mewn menter wledig? Julie James AC: Diolch, Andrew. Mae hwnnw'n un o'r pethau rydym yn edrych arnynt o ran y data sydd gennym. Unwaith eto, mae'n un o'r pethau lle mae gofyniad amaethyddol ar annedd, er enghraifft, neu ofyniad cysylltiad lleol—yr hyn sy'n digwydd ar yr ail a'r trydydd gwerthiant. Felly, yr ateb byr i'ch cwestiwn yw 'ydym'; rydym yn edrych eto i weld a yw hwnnw mewn gwirionedd yn cael yr effaith y bwriadwyd iddo ei chael, a pha ddata sydd ar gael i weld a yw'n effeithiol, neu a oes angen i ni wneud rhywbeth yn ei gylch fel rhan o waith ehangach mewn perthynas â'r broblem hon, sydd, yn amlwg, yn broblem ddifrifol iawn, ac sy'n tyfu'n fwy difrifol byth wrth i'r pandemig frathu ac wrth i bobl sylweddoli y gallant symud o'r dinasoedd i leoedd gwahanol a mwy prydferth. Gwasanaethau Cyhoeddus yn Sir Benfro Paul Davies AC: 5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau cyhoeddus lleol yn sir Benfro? OQ55858 Julie James AC: Diolch, Paul. Rwy'n parhau i weithio'n agos iawn gyda llywodraeth leol, gan gynnwys sir Benfro, ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus eraill ar y gwersi allweddol a ddysgwyd o'r ymateb i COVID-19 a fydd yn helpu ein hadferiad strategol yn y tymor hwy ac yn helpu i ddiffinio normal newydd y dyfodol. Paul Davies AC: Diolch i chi am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Mae ffigurau gan Gyngor Sir Penfro wedi dangos, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rhwng mis Ebrill 2019 a mis Ebrill 2020, fod cyfanswm o 72 y cant o holl wastraff cartrefi wedi'i ailgylchu, sydd 10 y cant yn fwy na'r flwyddyn flaenorol. I ychwanegu at hynny, mae un o weithwyr y cyngor, Amanda Absalom-Lowe o Hwlffordd, wedi'i henwi gan BBC Radio 4 fel un o 30 o fenywod ysbrydoledig y mae eu gwaith yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i'r amgylchedd. Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Amanda Absalom-Lowe a Chyngor Sir Penfro am y cyflawniad hwn, yn enwedig a hithau wedi bod yn flwyddyn anodd i gynghorau ledled Cymru? Yng ngoleuni'r llwyddiant hwn, a allwch chi ddweud wrthym beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu i sicrhau bod y cynnydd da hwn yn cael ei gynnal a'i ddatblygu ar gyfer y dyfodol? Julie James AC: Rwy'n falch iawn o wneud hynny, Paul. Rwy'n falch iawn o ble mae sir Benfro wedi'i gyrraedd mewn perthynas â'r agenda wastraff. Maent wedi mynd o drefniant bag cymysg, fel y gwyddoch, i drefniant didoli ar garreg y drws. O ganlyniad, mae eu cyfraddau ailgylchu wedi saethu i fyny. Rwy'n hapus iawn i'w llongyfarch hwy a'r swyddogion sy'n gyfrifol am wneud hynny. Byddwn yn gweithio ar draws awdurdodau lleol i sicrhau ein bod yn lledaenu arferion da o'r math hwnnw'n llawer mwy cyffredinol ym maes gwastraff, yn ogystal ag ym mhob maes arall. Rwy'n gobeithio'n fawr, Lywydd, y bydd Cyfnod 4 fy Mil yn mynd drwodd y prynhawn yma. O ganlyniad i hynny, wrth gwrs, byddwn yn newid—gan dybio y bydd yn mynd drwodd—i system adolygu gan gymheiriaid ar gyfer awdurdodau lleol, lle gellir lledaenu'r union fath o arferion rhagorol rydych newydd eu hamlinellu, Paul. Gallwn ofyn i'r awdurdodau lleol eraill, 'Pam nad ydych yn ei wneud fel hyn?' fel rhan o'r broses adolygu gan gymheiriaid. Dyna un o'r rhesymau roeddem eisiau newid y system mewn awdurdodau lleol, fel y gallem ddysgu o ragoriaeth yn yr union ffordd rydych newydd ei hamlinellu. Pobl sy'n Cysgu ar y Stryd Mandy Jones AC: 6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd yng Ngogledd Cymru? OQ55857 Julie James AC: Diolch, Mandy. Nid yw'r data diweddaraf a gyhoeddwyd wedi'i rannu yn ôl rhanbarth, mae arnaf ofn, ond mae'n dangos bod tua 101 o bobl, ddiwedd mis Awst, yn cysgu ar strydoedd ledled Cymru. Er bod hyn yn annerbyniol o uchel, mae'n dal yn wir fod miloedd, dros yr wyth mis diwethaf, wedi cael llety dros dro a llety parhaol. Mandy Jones AC: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Unwaith eto, hoffwn eich llongyfarch am eich gwaith yn cadw pobl oddi ar y strydoedd yn ystod y pandemig, gyda chefnogaeth yr holl asiantaethau a'r trydydd sector ac yn y blaen. Gwrandewais yn gynharach ar yr hyn a ddywedoch chi wrth siaradwyr eraill, ond rwy'n bryderus iawn o glywed y gallai hosteli gael eu gorfodi i leihau nifer y rhai sy'n cysgu ar y stryd y gallant roi llety iddynt oherwydd yr angen i gadw pellter cymdeithasol. A allwch chi wneud sylwadau ar hyn, ac a allwch chi ailddatgan eich ymrwymiad i sicrhau bod pobl sy'n cysgu ar y stryd yn cael eu cynnal mewn rhyw fath o lety? Julie James AC: Ie, rwy'n hynod o hapus i ailddatgan yr ymrwymiad hwnnw fel rwyf wedi'i wneud sawl gwaith eisoes y prynhawn yma—rwy'n hapus iawn i gael cyfle arall i wneud hynny. I fod yn glir, dywedwyd wrth awdurdodau lleol ledled Cymru y dylent gartrefu pawb sy'n dod atynt am eu bod angen cartref, felly nid oes porthgadw'n digwydd. Nid oes system ar waith a fyddai'n caniatáu i chi ddweud na ddylid cartrefu'r person hwnnw. Wedi dweud hynny wrth gwrs, mae'n fwyfwy anodd dod o hyd i'r math iawn o lety i bobl. Roeddem yn ffodus iawn ein bod wedigallu sicrhau nifer o westai, darpariaethau gwely a brecwast ac yn y blaen, a llety prifysgol, ond wrth i bobl fynd yn ôl i fusnes arferol, mae hynny'n fwyfwy anodd. Fel rhan o'n dull gweithredu cam 2, rydym yn adeiladu'n agos at 1,000 o dai newydd, a fydd, gobeithio, wedi'u cwblhau'n fuan iawn. Maent yn defnyddio dulliau modern o adeiladu, felly maent yn dai y gellir eu hadeiladu'n gyflym iawn. Maent yn dai hardd; nid rhyw fath o ateb dros dro yw'r rhain. Maent yn hyfryd, ond nid yw 1,000 yn ddigon o bell ffordd i fynd i'r afael â hyn. Mae gennym reolwyr cysylltiadau o Lywodraeth Cymru o hyd sy'n gweithio ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru, i gynorthwyo swyddogion ar lawr gwlad i ddod o hyd i'r mathau cywir o lety ac i roi'r pecynnau cymorth ar waith ochr yn ochr â'r trydydd sector a phartneriaid eraill. Rydym yn dal yn ddiolchgar iawn am hynny. Er mwyn rhoi syniad i chi o'i faint, ar gyfartaledd mae'n costio £1.6 miliwn y mis i dalu costau ein dull 'pawb i mewn' cynhwysol—felly tua £20 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer yr ymateb brys am y flwyddyn gyfan, a hynny eleni yn unig. Felly, rydym wedi ymrwymo i hyn mewn gwirionedd. Nid yw'n beth hawdd i'w wneud, ond rydym yn bendant yn ei ariannu ac yn gweithio mewn partneriaeth â'n hawdurdodau lleol a phartneriaid eraill i sicrhau y gallwn wneud iddo ddigwydd. Jack Sargeant AC: Weinidog, dros y flwyddyn ddiwethaf, fe wyddoch fy mod wedi bod yn gweithio gyda nifer o sefydliadau ar bolisi sy'n ystyriol o anifeiliaid anwes—neu 'pawlicy', fel rwy'n hoffi ei alw. Fe wyddoch mai nod hwn yw sicrhau nad oes yn rhaid i neb ddewis rhwng eu cyfaill gorau—eu hanifail anwes—a chael mynediad at lety. Nawr, rwy'n deall o'ch ymateb i fy nogfen bolisi fod awdurdodau lleol ledled Cymru wrthi'n llunio cynlluniau digartrefedd ar hyn o bryd. Weinidog, a allwch chi fy sicrhau y bydd y cynlluniau hyn yn cynnwys gallu cadw eich anifail anwes a chael llety? Julie James AC: Yn hollol, Jack, ac rydym yn ddiolchgar iawn i chi am rannu'r ddogfen bolisi gyda ni. Rydym yn parhau i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol i gynorthwyo pobl i ddod oddi ar y strydoedd, ac mae hynny'n cynnwys eu hanifeiliaid anwes. Yn aml iawn, mewn gwirionedd, bydd rhywun yn gwrthod dod i mewn os yw'n golygu bod eu hanifail anwes yn cael ei adael allan, ac rwy'n deall hynny'n llwyr, a phwy sydd ddim? Felly, rydym yn gwneud yn siŵr fod llety ar gael i bobl ag anifeiliaid anwes ac y gallant gadw'r anifail anwes gyda hwy wrth symud ymlaen. Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am rannu'r polisi gyda ni, a byddwn yn rhannu hwnnw ar draws yr awdurdodau lleol wrth i ni weithio drwy hyn. Datgarboneiddio Tai Cymdeithasol Nick Ramsay AC: 7. A wnaiff y Gweinidog amlinellu strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflawni'r agenda ddatgarboneiddio yn y sector tai cymdeithasol? OQ55865 Julie James AC: Diolch, Nick. Gan adeiladu ar lwyddiant safon ansawdd tai Cymru, mae cartrefi cymdeithasol yn flaenoriaeth gynnar ar gyfer gweithredu. Bydd hyn yn sicrhau bod tenantiaid yn byw mewn cartrefi carbon isel o ansawdd da sy'n defnyddio ynni'n effeithlon, ac rydym yn defnyddio'r cyfle i sbarduno datblygiad diwydiant ôl-osod newydd ac arloesedd ar gyfer ein busnesau bach a chanolig eu maint a'n cymunedau. Nick Ramsay AC: Diolch, Weinidog. Rwy'n credu ein bod i gyd yn cefnogi'r nodau rydych newydd eu nodi, fel y mae ein cymdeithasau tai, wrth gwrs. Maent eisiau helpu i gyflawni'r agenda ddatgarboneiddio, ond yn amlwg bydd hyn yn galw am gyllid, a gobeithio y gellir gwneud hynny heb i gost codiadau rhent gael eu trosglwyddo i'r tenantiaid. Er mwyn osgoi sefyllfa lle bydd yn rhaid i rai o'r tenantiaid mwyaf agored i niwed dalu am y polisi hwn, a ydych chi'n edrych ar gynllun a fyddai'n cynorthwyo cymdeithasau tai i gyflawni ar y mater pwysig hwn a rhoi mecanweithiau iddynt godi'r arian hwn heb drosglwyddo'r cyfan i'r tenantiaid? Julie James AC: Ydw, yn bendant. Mae amrywiaeth o bethau gwahanol yn cael eu gwneud. Yn gyntaf oll, mae gennym y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddioroeddwn yn sôn amdani'n gynharach, lle mae angen inni brofi pa dechnoleg, pa sgiliau, pa ôl-osod sy'n gweithio ar gyfer pob math penodol o dŷ. Felly, mae hynny'n datblygu'n gyflym ledled Cymru ar hyn o bryd. Rydym yn dod at ddiwedd safon ansawdd tai Cymru.Rydym wedi gorfod ei ymestyn ar gyfer un neu ddau o gynghorau oherwydd y pandemig, felly yn hytrach na diwedd y flwyddyn hon bydd yn ddiwedd y flwyddyn nesaf pan allwn ddweud o'r diwedd fod pob cyngor a phob landlord cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru wedi cyrraedd safon ansawdd tai Cymru.Rydym wedi arfer â safon ansawdd tai Cymru, ond pan wnaethom ei dechrau, câi ei hystyried yn hurt ac yn gwbl amhosibl, ac eto dyma ni; rydym wedi gwneud hynny ledled Cymru i raddau helaeth. Ac wrth gwrs, bydd yr holl arian a fuddsoddwyd gennym ynddi yn cael ei ailfuddsoddi i sicrhau ein bod yn gwneud hyn eto, ond bellach yng ngoleuni'r dechnoleg fodern sydd wedi deillio o'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio. Fel y dywedais yn gynharach mewn ymateb i Joyce Watson, nid rhaglen dai ar draws y Llywodraeth yn unig yw hon; caiff ei noddi ar y cyd â'r Gweinidog Addysg a Gweinidog yr economi a minnau, am yr union resymau a nodais. Felly, mae hyn yn ymwneud ag adeiladu'r diwydiant, adeiladu'r sgiliau ac adeiladu'r dechnoleg yma yng Nghymru er mwyn gallu datrys y broblem, wrth symud ymlaen, nid yn unig ar gyfer tai, ond ar gyfer cyflogaeth a'r gallu technolegol a'r sgiliau sy'n dod ochr yn ochr â hynny. Yn olaf, cwestiwn 8, David Melding. Gwella Ansawdd Tai David Melding AC: 8. Pa gynnydd sydd wedi'i wneud ers 2016 i wella ansawdd stoc tai Cymru? OQ55867 Julie James AC: Diolch, David. Rhwng mis Mawrth 2016 a mis Mawrth 2019, cynyddodd cydymffurfiaeth â safon ansawdd tai Cymru mewn tai cymdeithasol o 79 y cant i 93 y cant. Mae hyn wedi gwella'r ddarpariaeth o gartrefi diogel, addas o ansawdd da i rai o'r tenantiaid tlotaf a mwyaf agored i niwed sy'n byw mewn cartrefi cymdeithasol yng Nghymru. David Melding AC: Rwy'n falch iawn ein bod wedi gweld gwelliannau mawr yn ansawdd tai cymdeithasol, ond mae rheoleiddio gwael wedi bod, o ran y rheoliadau eu hunain—y rheoliadau adeiladu—a'r broses o'u harchwilio mewn llawer o'r stoc tai preifat, yn enwedig mewn crynoadau o dai mwy dwys. Ac rwy'n meddwl tybed pa mor hyderus ydych chi na fyddwn yn gweld, yn y 2020au, pan fyddwn yn wynebu galwadau mawr i adeiladu mwy o dai, y math o broblemau rydym wedi'u cael ers troad y ganrif yn ansawdd yr hyn roedd llawer o bobl yn ei feddwl oedd y tai o'r ansawdd gorau a oedd ar gael iddynt. Julie James AC: Yn sicr. Roeddwn yn dweud yn gynharach, onid oeddwn, mewn ymateb i Siân Gwenllian, ein bod wedi colli llawer o'r ddeddfwriaeth roeddem yn gobeithio ei chyflwyno o ganlyniad i'r pandemig. Un o'r rhai rwy'n gresynu fwyaf ynghylch ei cholli yw'r rheoliadau adeiladu a'r diwygiad i Ran L a'r hyn a fydd yn awr yn Bapur Gwyn yn y dyfodol ar safonau adeiladu a diogelwch adeiladau. Credaf fod consensws ar draws y Siambr yn hynny o beth. Unwaith eto, byddwn yn ein hannog i gyd i edrych ar hynny mewn maniffestos wrth symud ymlaen, oherwydd gorau po gyntaf y gallwn wneud hynny ar ôl yr etholiad yn fy marn i. Amlinellais—credaf mai blwyddyn a hanner yn ôl yn unig oedd hynny—yr hyn roeddem yn ei wneud i weithio ar hynny gyda'r gwahanol grwpiau, am yr union reswm rydych newydd ei nodi, ein bod eisiau sicrhau ein bod yn dysgu gwersi'r gorffennol, gwersi erchyll y gorffennol hefyd, a bod gennym, wrth symud ymlaen, y stoc dai orau yn Ewrop. Felly, rwy'n hyderus y bydd modd rhoi hwnnw ar waith ac rwy'n eithaf sicr fod pob plaid fawr yn y lle hwn o'i blaid. Felly, ar ôl yr etholiad, rwy'n siŵr y bydd yn flaenoriaeth uchel. Diolch i'r Gweinidog am yr eitem yna. 3. Dadl: Cyfnod 4 y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar Gyfnod 4 y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru). Felly, peidiwch ag eistedd i lawr, Weinidog, chi sydd yn cyflwyno'r eitem yma. Felly, Julie James. Cynnig NDM7486 Julie James Cynnig bod y Senedd yn unol â Rheol Sefydlog 26.47: Yn cymeradwyo Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru). Cynigiwyd y cynnig. Julie James AC: Diolch, Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Gadeiryddion ac aelodau'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Cyllid, yn ogystal ag Aelodau eraill sydd wedi cyfrannu at y gwaith o graffu ar Fil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru). Rwyf hefyd yn ddiolchgar iawn i'r holl randdeiliaid a ymatebodd i'r ymgynghoriadau ar y Papur Gwyn a'r Papur Gwyrdd, a fu'n gyfrifol am lywio'r Bil, a'r rhai a gyfrannodd dystiolaeth i'r broses graffu. Rwy'n arbennig o ddiolchgar i bawb mewn llywodraeth leol sydd wedi gweithio gyda mi a fy swyddogion i gytuno ar weledigaeth gyffredin ar gyfer y dyfodol ac i ddatblygu atebion ar y cyd i'r heriau y maent yn eu hwynebu, heriau sydd wedi rhoi siâp i'r Bil terfynol. Yn olaf, Lywydd, hoffwn dalu teyrnged i dîm y Bil a'r swyddogion yn Llywodraeth Cymru sydd wedi gweithio'n galed iawn i gefnogi'r Bil drwy ei nifer fawr iawn o iteriadau. Mae'n flwyddyn i'r diwrnod ers inni gyflwyno'r Bil i'r Senedd, sy'n dwt iawn. Felly, rwy'n cydnabod bod darpariaethau'r Bil hwn wedi bod ar y gweill am amser hir. Mae'r cynigion ar gyfer diwygio llywodraeth leol wedi bod yn destun trafodaeth ac ymgynghoriad manwl iawn. Efallai ei bod wedi cymryd sawl blwyddyn i gyrraedd y pwynt hwn, ond credaf fod gennym Fil yn awr a fydd yn sicrhau diwygio effeithiol a gynlluniwyd gyda llywodraeth leol. Mae Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), a gyflwynwyd i'r Senedd union flwyddyn yn ôl i'r diwrnod, yn darparu pecyn eang o ddiwygiadau. Mae'r rhain yn cynnwys pŵer cymhwysedd cyffredinol ar gyfer prif awdurdodau lleol a chynghorau cymuned cymwys a chyfundrefn lywodraethu a pherfformiad newydd ar gyfer prif gynghorau. Mae'r Bil yn rhoi mwy o gyfleoedd i'r cyhoedd gymryd rhan a thryloywder mewn llywodraeth leol er mwyn rhoi mwy o bŵer i bobl leol. Mae'n cynnwys mesurau i annog mwy o amrywiaeth ymhlith deiliaid swyddi ac aelodau o brif gynghorau, megis y rhai sy'n ymwneud â rhannu swyddi, gweithio o bell ac absenoldeb teuluol. Bydd y Bil yn galluogi cyd-bwyllgorau corfforaethol i gael eu sefydlu drwy reoliadau. Bydd y rhain yn dod â mwy o gydlyniadi drefniadau llywodraethu rhanbarthol; byddant yn cryfhau atebolrwydd democrataidd lleol drwy sicrhau mai aelodau etholedig lleol sy'n gwneud penderfyniadau gyda'i gilydd ynglŷn â gwasanaethau llywodraeth leol, gan ddarparu ar gyfer pobl a chymunedau ledled Cymru. Mae ymgynghoriad ar y rheoliadau sefydlu ar y gweill ar hyn o bryd tan 4 Ionawr, ac rwy'n croesawu barn yr Aelodau ar y rheoliadau hynny. Bydd y Bil hefyd yn gwella'r trefniadau etholiadol ar gyfer llywodraeth leol. Mae hyn yn cynnwys ymestyn yr etholfraint i gynnwys pobl ifanc 16 a 17 oed ac i ddinasyddion tramor sy'n preswylio'n gyfreithlon yng Nghymru, gan ganiatáu iddynt gael llais yn y ffordd y caiff eu cymunedau eu rhedeg. Mae hyn yn adlewyrchu hawliau pobl ifanc 16 a 17 oed a dinasyddion tramor cymwys i gofrestru a phleidleisio yn etholiadau'r Senedd. Bydd y Bil yn diwygio'r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â chyllid llywodraeth leol, gan gynnwys ardrethi annomestig cenedlaethol a'r dreth gyngor ac yn cryfhau ac yn moderneiddio gweithrediad llywodraeth leol mewn ystod o faterion amrywiol. I grynhoi, bydd y Bil hwn yn ein galluogi i weithredu ein cynigion ar gyfer cryfhau a grymuso llywodraeth leol yng Nghymru. Bydd yn adeiladu prif gynghorau a chynghorau cymuned gwydn ac adnewyddedig, gan ddarparu gwell arfau iddynt weithio gyda'i gilydd a chyda ni, eu cymunedau, ac ar draws pob sector i ailadeiladu Cymru yng ngoleuni'r pandemig coronafeirws. Rwy'n annog yr holl Aelodau i gefnogi'r Bil hwn. Diolch. Mark Isherwood AC: Corfforaetholdeb yw'r ddamcaniaeth a'r ymarfer o drefnu cymdeithas yn gorfforaethau sy'n ddarostyngedig i'r wladwriaeth. Y dull hwn sydd wedi bod yn dal Cymru yn ôl ers 1999, gan dagu lleoliaeth a thrwy hynny lyffetheirio entrepreneuriaeth gymdeithasol ac arloesi cymunedol. Mae'r Bil hwn a allai fod wedi sbarduno'r newidiadau angenrheidiol wedi dod, yn lle hynny, yn gyfle a gollwyd. Mewn unrhyw gorff neu sefydliad, mae arweinyddiaeth o'r brig i lawr yn rhwystro'r newid sydd ei angen yn y ffordd y mae pobl, sefydliadau a systemau yn ymwneud â'i gilydd, pan ddylai pawb fod yn cynyddu lleisiau a doethineb pobl a chymunedau yn lle hynny, gan gydnabod bod creadigrwydd, dyfeisgarwch a dychymyg wedi'u dosbarthu'n eang ymhlith y boblogaeth. Dylai llywodraeth genedlaethol a llywodraeth leol fod yn datblygu ac yn rhyddhau'r potensial hwnnw tuag at amcanion cyffredin. Mewn datganiad heddiw, ar fframwaith ar gyfer buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru, dywed Llywodraeth Cymru fod y Cabinet wedi cytuno i drosglwyddo 'cymaint â phosibl' o'r gwaith penderfynu a blaenoriaethu i ardaloedd a rhanbarthau lleol, ond wedyn mae'n ychwanegu mai'r mecanwaith a fwriedir yw'r cyd-bwyllgorau corfforaethol a gynigir o dan y Bil hwn. Fodd bynnag, datgelodd y Gweinidog y gyfrinach yn ystod y ddadl ar Gyfnod 3 y Bil yn y lle hwn yr wythnos diwethaf. Fel y dywedais bryd hynny, o ystyried eu rôl o ran seilwaith rhanbarthol a datblygu economaidd, mae'r gallu i ganiatáu i Weinidogion Cymru fandadu creu cyd-bwyllgorau corfforaethol hefyd yn tanseilio'r datganoli mewnol a'r gwaith partneriaeth lleol a sefydlwyd mewn ardaloedd gan gyrff fel Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, cynghrair sy'n cynnwys y ddwy Lywodraeth, pob un o chwe chyngor gogledd Cymru, busnes a'r byd academaidd. Fodd bynnag, er ei bod yn cydnabod bod gan brif gynghorau gyfoeth o brofiad yn cyflawni swyddogaethau economaidd, gan gynnwys ar lefel ranbarthol, drwy'r bargeinion dinesig a thwf er enghraifft, dywedodd y Gweinidog wedyn ei bod yn gobeithio y bydd rhanbarthau'n trosglwyddo eu trefniadau rhanbarthol presennol i'r cyd-bwyllgorau corfforaethol ar ôl eu sefydlu. Ond mae'n ofynnol i'r cyd-bwyllgorau corfforaethol, o dan y Bil, roi sylw i unrhyw ganllawiau rydym ni Weinidogion Cymru yn eu cyhoeddi mewn perthynas â'u gweithrediadau, gan gynnwys eu swyddogaethau, a bydd Gweinidogion Cymru hefyd yn gallu gosod cyfyngiadau ar arfer y swyddogaeth llesiant economaidd drwy reoliadau. Felly, mae hyn naill ai'n camddeall neu'n tanseilio'r materion allweddol a amlinellais yn gynharach, lle mae llwyddiant y bargeinion dinesig a thwf, neu unrhyw fentrau lleol neu ranbarthol eraill, yn dibynnu ar blannu a meithrin yr hadau'n lleol. Mae arweinyddiaeth effeithiol yn ymwneud â pharchu eraill, datgloi eu cryfderau cynhenid a gallu dirprwyo. Fodd bynnag, drwy gydol ei hymatebion yn ystod Cyfnodau blaenorol i'r Bil hwn, mae'r Gweinidog wedi datgan ei chred bersonol yn y cynigion o fewn y Bil hwn, sy'n cael eu gwrth-ddweud yn uniongyrchol gan y dystiolaeth a ddarparwyd gan y cyrff arbenigol yn gweithio yn y meysydd perthnasol, ac yna wedi arwain ei phlaid i drechuein holl welliannau cysylltiedig. Wrth ddiystyru arferion da rhyngwladol, gwrthododd y gofynion preswylio gofynnol cyn y gall dinasyddion tramor bleidleisio yma. Wrth ddiystyru'r Gymdeithas Diwygio Etholiadol, gwrthododd ofyniad i wleidyddiaeth a democratiaeth yng Nghymru gael eu haddysgu ym mhob ysgol yng Nghymru. Wrth ddiystyru academyddion, gwrthododd ddarpariaeth i sicrhau nad yw unigolion yn cael eu cofrestru'n awtomatig ar y gofrestr etholiadol agored, gan effeithio ar yr unigolion sydd yn bwrpasol wedi dewis peidio â chofrestru rhag cael eu hadnabod gan gyn-bartneriaid treisgar neu bobl eraill a allai fod eisiau eu niweidio. Wrth ddiystyru Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cymdeithas Prif Weithredwyr yr Awdurdodau Lleol a'r Comisiwn Etholiadol, gwrthododd gynigion i gadw un system bleidleisio llywodraeth leol ar gyfer Cymru gyfan. Wrth ddiystyru Archwilydd Cyffredinol Cymru, gwrthododd ei ddadl y dylai'r cynghorau tref a chymuned sy'n dymuno arfer y pŵer cymhwysedd cyffredinol baratoi strategaeth ar gyfer arfer y pŵer yn briodol. Wrth ddiystyru Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru, yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau a Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru, gwrthododd nifer o gynigion i gynnwys pobl leol a sefydliadau cymunedol lleol wrth wneud penderfyniadau ar bob lefel o lywodraeth leol er mwyn sicrhau adfywio economaidd, cymunedol a chymdeithasol cynaliadwy. Yn hytrach, fel y canfu ymchwilwyr yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau, mae pobl yng Nghymru'n teimlo'n llai a llai abl i ddylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio ar eu hardal leol. Diystyrodd dystiolaeth unfrydol hyd yn oed gan awdurdodau tân ac achub Cymru y byddai'r newidiadau i'r trefniadau llywodraethu y mae'r Bil hwn yn eu cynnig i'w gweld, ac rwy'n dyfynnu, 'yn gam yn ôl, gyda rhywfaint o risg i ddiogelwch y cyhoedd a diffoddwyr tân.' A gwrthododd ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i ddigolledu awdurdodau lleol am unrhyw gostau yr eid iddynt o ganlyniad i ddarpariaethau yn y Bil hwn.Felly, dylai pob Aelod cyfrifol wrthwynebu'r Bil hwn, a byddwn yn pleidleisio yn ei erbyn yn unol â hynny. Delyth Jewell AC: Rŷn ni fel plaid yn gefnogol o nifer o agweddau'r ddeddfwriaeth hon, yn enwedig y mesurau i estyn yr hawl i bleidleisio ar gyfer pobl ifanc 16 ac 17 mlwydd oed a hefyd pobl sydd wedi dewis gwneud eu cartref yma yng Nghymru. Mae hynny i'w glodfori ac yn bwysig, a byddwn ni'n falch o bleidleisio o blaid y ddeddfwriaeth heno. Ond rhaid dweud bod cyfle hefyd wedi ei golli yma. Roedd cyfle i newid diwylliant llywodraeth leol mewn cymaint o ffyrdd, i gyflwyno mwy o gyfartaledd ac i newid y system bleidleisio yn genedlaethol. Yn ystod trafodaethau ar y ddeddfwriaeth, mae'r Gweinidog wedi ymrwymo i gymryd sawl cam i wella cydraddoldebau ac amrywiaeth, ac rŷn ni'n disgwyl ac yn mawr obeithio y bydd yr ymrwymiadau hynny yn cael eu gweithredu arnynt.Rŷn ni'n cysylltu ein hunain gyda rhai o'r pethau roedd Mark Isherwood wedi dweud am ycorporate joint committees hefyd, yn amlwg. Diolch eto i'r clercod, i staff cymorth y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau am eu gwaithcaled. Gwnawn ni obeithio bod mwy o ddatblygiadau pwysig eto i ddod yn sgil y ddeddfwriaeth hon. Diolch. Y Gweinidog i ymateb. Julie James AC: Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch eto i bawb sydd wedi gweithio mor galed ar y Bil, gan gynnwys y pwyllgorau a phawb yma yn y Senedd. Diolch. Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, rhaid cynnal pleidlais wedi ei chofnodi ar gynigion Cyfnod 4, felly mae'r bleidlais ar y Cyfnod yma yn cael ei gohirio tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. 4. Cwestiynau Amserol Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau amserol, ond does dim wedi cael eu dewis ar gyfer heddiw. 5. Datganiadau 90 eiliad A'r datganiadau 90 eiliad, felly, sydd nesaf. Mae'r datganiad cyntaf gan Jenny Rathbone. Jenny Rathbone AC: Diolch, Lywydd. Y dydd Gwener hwn yw Diwrnod Cyflog Cyfartal. Am weddill y flwyddyn hon, mae menywod i bob pwrpas yn gweithio am ddim oherwydd y diffyg o ran yr hyn y dylent fod yn ei ennill o'i gymharu â dynion. Ysbrydolwyd Deddf Cyflog Cyfartal Barbara Castle ym 1970 gan streic peirianwyr gwnïo Ford Dagenham. Roeddent wedi cael llond bol ar weld eu gwaith medrus iawn yn ennill llai iddynt na'r hyn roedd dynion yn ei ennill am ysgubo llawr y ffatri o'u cwmpas.Wedi'u hysbrydoli gan fenywod Dagenham—nid oedd Ford Pen-y-bont ar Ogwr yn bodoli ar y pryd—penderfynodd menywod yn ffatri Hoover ym Merthyr Tudful roi prawf ar y Ddeddf Cyflog Cyfartal newydd hon ym 1970. Roedd rheolwyr Hoover yn fodlon, ond mae'r ffordd yr adweithiodd y gweithlu gwrywaidd, gyda chefnogaeth eu harweinwyr gwrywaidd yn yr undebau llafur, fel yn Ford, yn dangos pam ei bod wedi cymryd cyhyd i sicrhau cyflog cyfartal. Mae dwywaith cymaint o fenywod wedi colli eu swyddi yn ystod y pandemig, gan fod dynion a chyflogwyr yn tybio y byddai menywod yn ysgwyddo'r rhan fwyaf o'r gwaith addysgu ychwanegol gartref, y gwaith tŷ a'r gofal plant yn ystod y cyfyngiadau symud, a dyna'n union sydd wedi digwydd. Mae'r frwydr gyflogau ddiweddaraf ar y cae pêl-droed. Mae sgwad pêl-droed menywod Cymru yn mynnu cyflog cyfartal â thîm y dynion. Mae menywod sy'n cynrychioli Lloegr yn rhyngwladol eisoes yn cael yr un cyflog â'u cymheiriaid gwrywaidd, ond nid yw Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi gwneud datganiad hyd yn hyn ar rinweddau cyflog cyfartal i dîm menywod Cymru. Huw Irranca-Davies AC: Eleni, rydym yn dathlu canmlwyddiant Cymdeithas y Wrens a Gwasanaethau Menywod y Llynges Frenhinol (WRNS), sy'n cadw ffrindiau a chyn-gymheiriaid mewn cysylltiad. Mae Barbara McGregor, swyddog gwarant dosbarth 1 RNCS, sy'n byw yn Abercynfig, yn un o ymddiriedolwyr y gymdeithas. Mae'n ymddeol eleni, ar ôl 44 mlynedd o wasanaeth rhagorol yng Ngwasanaeth Menywod y Llynges Frenhinol. Ymunodd yn gyntaf fel gweithiwr radio Wren yn 1977 ac wrth drosglwyddo i'r gangen reoleiddio, daeth yn orau yn ei dosbarth o 12 dyn. Ar y cychwyn, y drefn yn HMS Raleigh Cornwall, y sefydliad hyfforddi newydd-ddyfodiaid, oedd hyfforddi graddfeydd newydd i fenywod ar gyfer WRNS, ac yn ddiweddarach, ar ôl cael ei dyrchafu'n feistr arfau, bu'n hyfforddi recriwtiaid benywaidd a gwrywaidd gyda'i gilydd am y tro cyntaf, a lle dechreuodd menywod fynd i'r môr am y tro cyntaf. Gan ddychwelyd yn 1994, ar ôl arloesi gydag absenoldeb mamolaeth, fel rheolwr swyddfa canolfan cyswllt gyrfaoedd swyddogion y Llynges Frenhinol ym Mryste, cododd drwy'r rhengoedd i ddod yn rheolwr datblygu rhanbarthol ar gyfer Rheolaeth Ranbarthol y Llynges ar gyfer Cymru a Gorllewin Lloegr, gan gynnwys swyddfeydd gyrfaoedd y lluoedd arfog o Wrecsam i Redruth. Roedd ganddi rôl bwysig yn uwchgynhadledd NATO yng Nghaerdydd yn 2014, ac fe'i hetholwyd i fod yn swyddog gwarant uchaf gwasanaeth gyrfaoedd y Llynges Frenhinol rhwng 2018 a heddiw. Roedd hi i fod i arwain cynrychiolaeth Cymdeithas y Wrens wrth y senotaff yn Whitehall am y tro olaf fel swyddog gwarant sy'n gwasanaethu, ond nid oedd hyn i fod oherwydd COVID. Yn hytrach, gwisgodd ei lifrai am y tro olaf i osod torch wrth senotaff Bryn, ger Maesteg, lle hanai ohono'n wreiddiol. Rydym yn talu teyrnged i Barbara McGregor, swyddog gwarant dosbarth 1 RNCS, a'r holl fenywod sydd wedi gwasanaethu'n ddewr ac yn anrhydeddus yn ein llynges, ac i Gymdeithas y Wrens a Gwasanaethau Menywod y Llynges Frenhinol ar adeg eu canmlwyddiant. Diolch, bawb. Llyr Gruffydd AC: Nid bob dydd y mae Wrecsam yn dod i'r brig fel stori newyddion ledled y DU—ond nid bob dydd chwaith y daw dau o sêr Hollywood yn berchnogion newydd clwb pêl-droed Wrecsam. Ac ers y cyhoeddiad ddydd Llun fod cefnogwyr wedi pleidleisio i dderbyn y cynnig gan Ryan Reynolds a Rob McElhenney, cafwyd tonnau o sylw yn y cyfryngau, ac mae'r dref wedi'i chyffroi drwyddi. Mae'r trydydd clwb proffesiynol hynaf yn y byd wedi gweld adegau gwych a gwael yn y gorffennol—ar y cae ac oddi arno, gyda'r fuddugoliaeth enwog yn erbyn Arsenal yn uchafbwynt arbennig i mi, ac i sawl un arall rwy'n siŵr. Mae'r ddau ddarpar berchennognewydd wedi pwysleisio eu bod yn deall ac yn parchu gwreiddiau cymunedol dwfn y clwb, ei waddol, a'i berthynas â thrychineb Gresford. Maent yn gefnogwyr. Ac yn wahanol i rai perchnogion blaenorol, nid ydynt yn ei wneud er mwyn ennill arian yn hawdd. Ac wrth i'r bennod hon ddechrau, ni ddylem anghofio, wrth gwrs, y gwaith y mae Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam wedi'i wneud i ddiogelu'r clwb ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol—mae miloedd o wirfoddolwyr di-dâl wedi buddsoddi arian, amser ac ymdrech yn eu clwb cymunedol, a dylent fod yn falch o'u cyfraniad. Gwelais y Prif Weinidog yn llongyfarch y perchnogion newydd ddoe, a bydd mwy o sylw yn y cyfryngau rhyngwladol i brifddinas gogledd Cymru dros y misoedd nesaf. Rydym wedi gweld hefyd sut y mae noddwr y crysau—un Ifor Williams, neu 'E-for Williams', fel y maent yn cael eu galw erbyn hyn mae'n debyg—maent eisoes wedi elwa ar sgiliau marchnata'r ddau ddarpar berchennog. Llwyddodd fideo a oedd yn hyrwyddo'r cwmni trelars yng Nghorwen i ddenu mwy na 4 miliwn o wylwyr mewn ychydig oriau'n unig. Mae hyn yn hwb mawr i'r dref, ac i ogledd Cymru i gyd, ar ôl yr hyn a fu, wrth gwrs, yn flwyddyn eithaf llwm a digalon. Ac edrychaf ymlaen, fel yr holl Aelodau o'r Senedd hon, rwy'n siŵr, at y bennod nesaf yn hanes disglair y clwb. Da iawn. Byddwn ni'n atal y cyfarfod nawr am gyfnod byr er mwyn gwneud newidiadau yn y Siambr. Felly, diolch, a byddwn ni nôl mewn ychydig funudau. Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:34. Ailymgynullodd y Senedd am 15:39, gyda'r Dirprwy Lywydd (Ann Jones) yn y Gadair. 6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Cartrefu ceiswyr lloches yng ngwersyll milwrol Penalun Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Neil Hamilton. O'r gorau. Felly, eitem 6 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r ddadl aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21 ar gartrefu ceiswyr lloches yng ngwersyll milwrol Penalun, a galwaf ar Joyce Watson i wneud y cynnig—Joyce. Cynnig NDM7455 Helen Mary Jones, Joyce Watson, Leanne Wood Cefnogwyd ganJohn Griffiths,Llyr Gruffydd,Mick Antoniw Cynnig bod y Senedd: 1. Yn credu y dylai Llywodraeth y DU fod wedi cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr lleol cyn rhoi llety i geiswyr lloches yng nghanolfan filwrol Penalun, ger Dinbych-y-pysgod. 2. Yn credu y dylid ailystyried y penderfyniad am ei fod yn lle anaddas i geiswyr lloches, gan ei fod wedi'i ynysu oddi wrth rwydweithiau cymorth priodol. 3. Yn condemnio'r protestiadau treisgar a drefnwyd gan grwpiau'r asgell dde eithafol o'r tu allan i Sir Benfro. 4. Yn canmol trigolion a gwirfoddolwyr lleol o bob rhan o Gymru sydd wedi croesawu a chefnogi'r ceiswyr lloches. Cynigiwyd y cynnig. Joyce Watson AC: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig ar fy rhan i, Leanne Wood a Helen Mary, a fydd yn cloi'r ddadl. Fe'i cefnogir hefyd gan John Griffiths, Mick Antoniw a Llyr Gruffydd, a diolch iddynt am hynny. Rwy'n siŵr y byddai'r rhan fwyaf o'n cyd-Aelodau'n cefnogi ein cynnig, fel y byddai'r mwyafrif helaeth o'r bobl rydym yn eu gwasanaethu. Nid yw pob Aelod o'r Siambr hon yn rhannu ein barn, ac mae gwelliant cywilyddus Neil Hamilton yn tystio i hynny. Mae'n disgrifio grwpiau gwirfoddol sy'n gwrthwynebu hiliaeth, casineb a ffasgaeth fel y chwith eithafol. Ond dyna ni, rydym yn sôn am ddyn a oedd unwaith yn westai anrhydeddus mewn clwb preifat a alwai am adfer rheolaeth wâr i Dde Affrica, a'r hyn a olygai, wrth gwrs, oedd goruchafiaeth y dyn gwyn. Felly, ni fyddwn yn disgwyl dim llai ganddo, ac fe symudaf ymlaen. Joyce Watson AC: Fel y gwyddoch, Lywydd, ym mis Medi, cyhoeddodd Llywodraeth y DU, heb ymgynghori â Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, byrddau iechyd na thrigolion, a heb ddarparu cyllid ychwanegol ar gyfer Cyngor Sir Penfro na Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, y byddai tua 200 o geiswyr lloches yn cael eu cartrefu yng nghyn-wersyll milwrol Penalun ger Dinbych-y-pysgod. Mae bellach yn gartref i oddeutu 250 o ddynion. Afraid dweud nad yw gwersyll milwrol byth yn lle addas i gartrefu pobl sydd wedi ffoi rhag gormes a rhyfel, pobl sydd wedi dioddef caledi a thrawma na ellir ei ddychmygu ac wedi'u gwahanu oddi wrth eu teuluoedd, yn enwedig hen wersyll wedi dirywio fel Penalun. Rwy'n gwybod ei fod yn hen, oherwydd arferai fy nhad hyfforddi recriwtiaid yno pan oedd yn sarjant staff. Roedd yn eithaf llwm bryd hynny, ac yn ôl pob sôn, mae'r amodau'n warthus yno erbyn hyn. Mae'n peryglu iechyd corfforol a meddyliol y dynion a'u hurddas fel bodau dynol. Ac eto, dro ar ôl tro mae'r Swyddfa Gartref wedi methu mynd i'r afael â'r amodau byw gwael ym Mhenalun. Mae arnaf ofn ei fod yn fater o allan o olwg, allan o feddwl, ac mae'n rhan o bolisi amgylchedd gelyniaethus ehangach yr Ysgrifennydd Cartref sy'n cael ei ddefnyddio i erlid newydd-ddyfodiaid agored i niwed i Brydain. Yn ôl adroddiadau a ddatgelwyd yn answyddogol y penwythnos diwethaf, mae hyd yn oed swyddogion y Swyddfa Gartref yn pryderu bod lles plant yn cael ei beryglu gan y bwriad i erlyn ffoaduriaid am droseddau mewnfudo. Yn y cyfamser, pobl dda sir Benfro sy'n gofalu am y dynion hyn, heb ddim arian a dim arbenigedd. Mae prosesu a gofalu am nifer mor fawr o bobl sy'n ceisio lloches yn y ffordd hon yn sefyllfa ddigynsail yng Nghymru, heb sôn am sir Benfro, heb sôn am bentref bach. Rydym yn siarad am le gydag un siop, er mwyn popeth. Nid oes gennym gapasiti na gallu i ddarparu ar gyfer y math hwn o gyfleuster yng ngorllewin Cymru. Ceir pedair canolfan wasgaru yng Nghymru—Caerdydd, Abertawe, Casnewydd a Wrecsam. A gwn o fy ngwaith gyda'r grŵp trawsbleidiol ar fasnachu mewn pobl fod ganddynt lwybrau a seilwaith sefydledig i ofalu am geiswyr lloches, i roi sylw i'w hanghenion llety, gofal iechyd, cymorth bugeiliol a diwylliannol, yn ogystal â chyngor cyfreithiol, a'r holl anghenion eraill. Nid oes unrhyw beth tebyg i hynny, na chyllid ar ei gyfer, yn sir Benfro. Wedi dweud hynny, er yr holl anawsterau, mae pobl leol a darparwyr gwasanaethau cyhoeddus yn gwneud eu gorau glas i ofalu am y dynion hyn. Mae bwrdd iechyd Hywel Dda wedi gweithio'n ddiflino i drefnu a darparu gwasanaethau gofal iechyd craidd ac estynedig. Ar yr un pryd, maent yn wynebu her ddigynsail pandemig byd-eang. Mae Cyngor Sir Penfro wedi sefydlu gwefan i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i bobl leol am yr hyn sy'n digwydd yn y gwersyll, ac mae presenoldeb yr heddlu ym Mhenalun a Dinbych-y-pysgod wedi'i gynyddu i dawelu meddwl trigolion. Ac mae hynny ynddo'i hun, wrth gwrs, yn rhoi straen enfawr ar eu cyllidebau lleol, na chânt eu digolledu amdano gan Lywodraeth y DU. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda phartneriaid lleol i leihau risgiau a sicrhau lles gorau pawb yr effeithir arnynt. Ac mae mudiadau gwirfoddol wedi cyflawni ein haddewid fel cenedl noddfa. Fel y gŵyr unrhyw un sydd wedi ymweld â sir Benfro erioed—ac ar ôl yr haf hwn, credaf fod hynny'n cynnwys o leiaf hanner poblogaeth Prydain—rydym yn bobl gynnes a chroesawgar. Mae'r mwyafrif helaeth o bobl leol wedi ymateb i orfodaeth y Swyddfa Gartref gyda thosturi a gofal. Mae rhai grwpiau lleol bellach yn cydlynu cymorth ar y safle i'r dynion, ac mae cynllun ar waith i brynu ffonau symudol. Mae'r Swyddfa Gartref yn mynd â ffonau ffoaduriaid wrth iddynt gyrraedd, ond maent yn hanfodol; maent yn galluogi'r ffoaduriaid i gysylltu â'u hanwyliaid, i siarad â chyfreithwyr os oes angen, a llawer o bethau eraill hefyd. Ond gyda'r ewyllys gorau yn y byd, nid yw'n sefyllfa gynaliadwy. Nid yw Penalun yn lleoliad addas ac ni all gorllewin Cymru, ar hyn o bryd, ddarparu'r cymorth a'r gofal cymhleth sydd ei angen ar y dynion hyn, a'r hyn y maent yn ei haeddu mewn gwirionedd. Nid yw'n deg i neb. Rhaid i'r Swyddfa Gartref ymyrryd nawr. Diolch. Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Neil Hamilton i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn ei enw ef. Neil. Gwelliant 1—Neil Hamilton Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn condemnio'r anrhefn sydd wedi digwydd o fewn canolfan filwrol Penalun, ger Dinbych-y-pysgod, yn ystod y cyfnod pan y rhoddwyd llety i geiswyr lloches yno dros yr wythnosau diwethaf, sydd wedi arwain at bresenoldeb rheolaidd gan yr heddlu. 2. Yn nodi adroddiadau yr arestiwyd pump ceisiwr lloches sy'n byw yng nghanolfan filwrol Penalun ar 10 Tachwedd 2020 ac adroddiadau am ddau arestiad y tu mewn i'r ganolfan ym mis Hydref 2020. 3. Yn nodi ymhellach adroddiadau am geiswyr lloches sy'n byw yng nghanolfan filwrol Penalun yn torri rheoliadau a chanllawiau coronafeirws ac yn ymddwyn yn afreolus wrth deithio y tu allan i'r ganolfan; a'r gofid a achoswyd i drigolion Penalun o ganlyniad i hyn. 4. Yn credu mai un o achosion rhannol y sefyllfa yn Penalun yw methiant Llywodraeth y DU i weithredu rheolaethau mewnfudo a ffiniau dyngar, cadarn a theg sy'n sicrhau nad yw trigolion tramor nad ydynt yn drigolion y DU, ac yn enwedig y rhai y gwrthodwyd ceisiadau am loches iddynt neu sydd wedi gwrthod yr hawl i breswylio mewn gwledydd diogel eraill, yn dod i mewn neu'n aros yn y DU yn anghyfreithlon. 5. Yn credu ymhellach mai un o achosion rhannol arall y sefyllfa yn Penalun yw cynllun cenedl noddfa Llywodraeth Cymru, sy'n annog pobl tramor nad ydynt yn drigolion y DU i ddod i mewn i'r DU yn anghyfreithlon ac yna gwneud hawliadau am loches tra byddant wedi'u lleoli yng Nghymru. 6. Yn condemnio'n gryf ymddygiad treisgar, brawychus, tanseiliol a chuddiedig pleidiau a sefydliadau gwleidyddol y chwith eithafol weithiau, gan gynnwys Stand Up To Racism, Hope not Hate a Far Right Watch Wales, sydd wedi'i gyfeirio at bobl sy'n mynegi barn wleidyddol ddilys a rhesymol mewn perthynas â'r sefyllfa yn Penalun. 7. Yn credu bod barn trigolion Penalun o leiaf yr un mor bwysig â'r bobl hynny y cyfeirir atynt fel gwirfoddolwyr, grwpiau rhanddeiliaid, a chynrychiolwyr; ac yn canmol y rhan fwyaf o drigolion Penalun sydd o blaid rheolaethau mewnfudo a ffiniau dyngar, cadarn a theg yn y DU, ac yn berthnasol i Penalun yn benodol. 8. Yn credu y dylid rhoi'r gorau i roi llety i geiswyr lloches yng nghanolfan filwrol Penalun. Cynigiwyd gwelliant 1 Neil Hamilton AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n cytuno â'r rhan fwyaf o'r hyn y mae'r sawl sy'n cyflwyno'r cynnig newydd ei ddweud, ond rwyf am ganolbwyntio ar yr hyn na ddywedodd yn y ddadl hon. Yn gyntaf oll, rwyf am ganolbwyntio ar ein hetholwyr ym Mhenalun, nad ydynt yn rhannu'r brwdfrydedd yn y Blaid Lafur a Phlaid Cymru dros fewnfudo anghyfyngedig i'r wlad hon. A chredaf fod eu barn yn sicr yn haeddu mynegiant yn y Siambr hon. Mae'r syniad y dylid ystyried fy ngwelliant yn gywilyddus mewn unrhyw ffordd yn sarhad mewn gwirionedd ar y nifer enfawr o bobl, yn sir Benfro ac yn fwy eang yng Nghymru, sy'n rhannu fy marn i ar y broblem hon. Yr ail bwynt rwyf am ei wneud yw bod dwy Lywodraeth yn gyfrifol am y llanast hwn ym Mhenalun. Yn gyntaf oll, wrth gwrs, ac yn bennaf, y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan sy'n gyfrifol am ddympio'r bobl hyn mewn lleoliad cwbl anaddas. Rwy'n cytuno'n llwyr â Joyce ar hynny. Ond wrth gwrs, dim ond un enghraifft yw hon o fethiant llwyr polisi mewnfudo'r Llywodraeth a ffiasgo ein system reoli ffiniau. Ond mae'r ail Lywodraeth—yr un yng Nghaerdydd: Llywodraeth Cymru—hefyd yn rhannol gyfrifol am eu bod wedi bod ymffrostio mewn rhinweddau am Gymru fel cenedl noddfa—ein bod yn agored i bawb sydd am ddod—tra bo cannoedd o filiynau o bobl ledled y byd a hoffai ddod i Brydain, mae'n siŵr, er mwyn gwella eu bywydau a phwy all eu beio? Ond ni allwn yn gyfrifol gael system fewnfudo sy'n caniatáu i bawb ac unrhyw un ddod i mewn i'r wlad hon. Nawr, mae'n bwysig fod y Deyrnas Unedig yn gallu darparu lloches i'r rhai sydd mewn gwir angen gan atal ceiswyr lloches ffug a chael gwared ar y rhai y gwrthodwyd eu ceisiadau. Mae gan Brydain hanes anrhydeddus o gyflawni ei rhwymedigaethau o dan y confensiynau amrywiol ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches sydd wedi bodoli ers 100 mlynedd. Dywed confensiwn y Cenhedloedd Unedig 1951, sy'n weithredol ar hyn o bryd, fod yn rhaid inni amddiffyn unrhyw un sy'n cyrraedd y wlad hon a fyddai, pe byddent yn cael eu hanfon yn ôl i'r wlad yr hanent ohoni, yn ofni erledigaeth ar sail hil, crefydd, cenedligrwydd, cred wleidyddol neu aelodaeth o grŵp cymdeithasol penodol, a bod sail i'w hofnau. Nid oes anghytundeb o gwbl rhyngom ar y pwynt hwn—rhwymedigaeth ddyngarol sylfaenol ydyw. Ond wrth gwrs, nid ymdrin â cheiswyr lloches yn yr ystyr arferol a wnawn yma. Nid ydynt wedi cyrraedd yn syth o wlad wedi'i darnio gan ryfel. Mae'r rhan fwyaf ohonynt, yn ôl yr hyn a ddeallaf, os nad pob un ohonynt, wedi cyrraedd o Ffrainc, ar draws y sianel mewn cychod bach. Nid yn Ffrainc y cawsant eu herlyn. Mae Ffrainc yn wlad ddiogel. Felly, nid ydynt yn ceisio lloches ym Mhrydain am y rhesymau a ganiateir o dan gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig 1951. Nawr, mae'r system geisio lloches yn y wlad hon bellach dan straen enfawr, oherwydd y byddinoedd hyn o bobl sy'n ceisio dod i mewn i'r wlad hon yn anghyfreithlon. Mae ychydig dros hanner yr holl geiswyr lloches yn llwyddiannus yn y pen draw ac mae ceisiadau 38 y cant yn cael eu caniatáu yn ystod y cam cychwynnol, ac 17 y cant yn cael eu caniatáu ar ôl apêl. Ond gwrthodir lloches i ymhell dros 40 y cant, neu dyna a ddigwyddodd yn y blynyddoedd rhwng 2004 a 2018. Ac o'r rheini, mae 40 y cant, hyd yn oed ar ôl i'w hapêlau gael eu gwrthod, yn dal i aros yn y wlad hon; ni chânt eu halltudio a'u hanfon yn ôl i'r wlad y daethant ohoni. Dyna oddeutu 120,000 o bobl dros y cyfnod hwnnw o 14 mlynedd sydd wedi cyrraedd y wlad hon yn anghyfreithlon ac sy'n dal yma'n anghyfreithlon. Mae llety sy'n gysylltiedig â lloches bellach yn costio £400 miliwn y flwyddyn i ni, ac mae cyfanswm costau ein system lloches bellach yn agosáu at £1 biliwn y flwyddyn. Mae hwnnw'n arian y gellid ei ddefnyddio'n llawer mwy proffidiol ar bethau fel y gwasanaeth iechyd yn hytrach na'r dibenion y caiff ei ddefnyddio ar eu cyfer. Ymdrin ag ymfudwyr economaidd a wnawn yn achos trigolion y gwersyll ym Mhenalun. Wyddoch chi, maent yn camddefnyddio'r system fewnfudo er mwyn ceisio gwella eu bywydau. Nid oes gennyf wrthwynebiad iddynt geisio gwella eu bywydau, ond dylent wneud hynny o fewn y gyfraith. Dywed rheoliad Dulyn yr UE y dylid ymdrin â cheiswyr lloches yn yr aelod-wladwriaeth gyntaf lle caiff eu holion bysedd eu storio neu pan fydd eu cais am loches yn cael ei gyflwyno, fel mai'r wlad honno fyddai'n gyfrifol am eu cais am loches. Oherwydd cytundeb Schengen, wrth gwrs, gall y rhai sy'n cyrraedd glannau Gwlad Groeg gychwyn ar daith ar unwaith i arfordir y sianel ar ochr Ffrainc, ac mae arnaf ofn mai problem yr UE yw honno, oherwydd maent wedi methu'n llwyr ag ymdrin â'r anawsterau lloches yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Caiff hyn ei gydnabod yn wir: dywedodd Frans Timmermans, Is-lywydd cyntaf y Comisiwn Ewropeaidd yn 2015, fod 60 y cant o 120,000 o ymfudwyr a oedd wedi cyrraedd yr UE erbyn mis Rhagfyr 2015 yn dod o wledydd lle gallwch dybio nad oes ganddynt reswm o gwbl dros ofyn am statws ffoadur. Gwelwn yr un broblem ar garreg ein drws yn ffigurau'r rheini sy'n croesi'r sianel mewn cychod bach, ond i raddau llawer llai. Yn 2018, roedd 299 o ymfudwyr anghyfreithlon wedi croesi'r sianel mewn cychod bach. Yn 2019, flwyddyn yn ddiweddarach, roedd y ffigur wedi cynyddu wyth gwaith, i 1,835, ac yn 2020, mae 8,220 wedi cyrraedd drwy'r dulliau hynny hyd yma. A gaf fi ofyn i chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda? Dewch â'ch casgliadau i ben, os gwelwch yn dda. Neil Hamilton AC: Rwy'n gwneud hynny mewn gwirionedd. Felly, credaf fod yr hyn sy'n digwydd ym Mhenalun ac yn Folkestone ac mewn mannau eraill yn annheg i ddinasyddion sy'n cadw at y gyfraith yn y wlad hon ac i'r rheini sy'n ceisio dod i mewn iddi drwy'r dulliau mewnfudo arferol. Credaf fod hyn wedi dwyn anfri ar y system geisio lloches a chredaf ei bod yn annheg i bobl Prydain, yn sir Benfro ac yn fwy eang. Leanne Wood AC: Hoffwn ofyn i'r Aelodau ddychmygu hyn: mae bom yn mynd i ffwrdd ac mewn eiliad mae eich bywyd wedi'i droi ben-i-waered. Mae rhyfel wedi torri allan ac mae ymladd yn eich stryd. Nid yw'r cymunedau yr arferech eu galw'n gartref yn ddiogel mwyach, ac mae eich bywyd chi, a bywydau eich teulu, mewn perygl. Mae gennych ddau ddewis: aros yn eich gwlad, peryglu eich bywyd a bywydau aelodau o'ch teulu, neu ffoi—gadael, mynd dramor i fyw os gallwch. Beth fyddech chi'n ei wneud? Gwn beth y byddwn i'n ei wneud pe bawn yn cael yr opsiwn hwnnw. A dyna'r dewis a wynebir gan lawer o'r bobl sydd bellach ymhell o'u cartref yn sir Benfro. Wrth iddynt aros i'r Swyddfa Gartref wneud penderfyniadau, cânt eu cartrefu mewn amodau cyfyng a llaith mewn hen wersyll milwrol, tra bod rhai pobl yn honni eu bod yn gwybod eu bod yn twyllo neu'n anghyfreithlon, er gwaethaf y ffaith nad yw eu hachosion wedi'u clywed eto. Creulondeb yw gorfodi pobl sydd wedi dianc rhag rhyfel i fyw mewn canolfan filwrol. Mae'n arbennig o broblemus i'r rhai sydd wedi gweld creulondeb na ellir ei ddychmygu dan law milwyr yn eu gwledydd cartref. Mae'r gwleidyddion ar yr asgell dde eithafol sy'n hoff iawn o gyfle i ymosod ar fewnfudwyr, ac sydd wedi godro'r digwyddiad hwn yn sych, yn aml yn cyfeirio at y ffaith bod ceiswyr lloches a mewnfudwyr yn cael cynnig llety tra bod miloedd o bobl yn byw ar y strydoedd. Ddwy flynedd yn ôl, canfu tîm Plaid Cymru yn San Steffan fod hyd at 66,000 o gyn-filwyr yn y DU naill ai'n ddigartref, yn dioddef problemau iechyd meddwl, neu yn y carchar. Dyna gondemniad damniol o'r modd y caiff personél milwrol eu trin yn y DU, ac mae ffigurau digartrefedd yng Nghymru hefyd yn warthus a dylid mynd i'r afael â hwy gyda llawer mwy o frys nag a welsom, nid yn unig am fod hyn yn rhoi arfau i'r asgell dde eithafol ymosod ar geiswyr lloches, ond oherwydd mai dyma'r peth iawn i'w wneud. Y peth iawn i'w wneud hefyd yw rhoi mynediad i bersonél y lluoedd arfog at y cymorth sydd ei angen arnynt, nid yn unig pan fyddant mewn gwasanaeth gweithredol, ond ar ôl gadael y fyddin fel y gallant addasu'n well i fywyd sifil. Cyn belled â bod pobl ar y strydoedd a chyn belled â bod pobl sy'n gorfod mynd heb hanfodion fel bwyd yn ogystal â chysgod, bydd pobl yn teimlo'n ddig a byddant yn teimlo bod y system yn annheg. A byddwn yn cytuno, mae'r system yn annheg. Fel Llywodraeth, mae Llywodraeth Cymru'n rhannol gyfrifol am y system honno hefyd. Gall Llywodraeth Cymru wneud llawer mwy i ddylanwadu ar San Steffan i gael llety mwy addas i geiswyr lloches mewn lleoliadau mwy addas. Fel y dywedais eisoes, mae'r bennod druenus hon wedi'i hysgogi gan bobl ag agendâu gwleidyddol clir. Mae un ohonynt wedi cyflwyno cyfres o welliannau di-glem i'r cynnig rydym yn ei drafod heddiw. Nawr nid wyf yn gwadu bod rhai o'r gwleidyddion hyn yn bobl hiliol ffiaidd cyn iddynt ddod i'r Senedd, ond mae rhai hefyd yn mentro'u lwc, yn straffagluam fodd o barhau'n berthnasol a pharhau â'u gyrfaoedd. Mae pobl yn rhannu eu propaganda gwenwynig am geiswyr lloches ar-lein, i bobl sy'n ei chael hi'n anodd ac yn credu'r esboniadau hawdd hyn fod pobl o dramor yn dod yma i fanteisio ar y system fudd-daliadau wych hon y mae pawb ohonom yn gwybod amdani. Mae gan lawer o'r bobl hyn bob hawl i fod yn ddig gyda chymdeithas sydd wedi'u siomi hwy a'u teuluoedd. Yr hyn nad yw'n iawn yw'r ffordd y maent, gydag anogaeth, yn taro allan, ond maent yn taro allan yn erbyn y targed anghywir. Rhaid inni fynd i'r afael â'r amodau sy'n caniatáu i wleidyddiaeth casineb dyfu, a'r Llywodraeth hon yn ogystal â San Steffan sy'n gyfrifol am hynny. Rwyf wedi fy nghalonogi gan y gwrthdystiadau a'r gefnogaeth ddi-ben-draw gan bobl leol, sydd wedi dangos y gall Cymru fod yn wlad dosturiol sy'n deall. Dyna'r Gymru rwyf am weld mwy ohoni, a dyna'r Gymru y byddaf yn parhau i weithio drosti. Angela Burns AC: Mae'n drueni nad yw'r cynnig sydd ger ein bron, er nad yw dweud 'nid yn y fan hon' yn cynnig i ble y dylai'r ceiswyr lloches fynd, o ystyried maint yr argyfwng dyngarol ar hyn o bryd. Mae'r diffyg cydnabyddiaeth yn y cynnig i gyrhaeddiad y broblem a thôn anoddefgar gwbl ddisgwyliadwy y gwelliant gan Neil Hamilton wedi troi'r sefyllfa anodd ym Mhenalun yn bêl-droed wleidyddol. Cyn i mi roi sylw i dri maes allweddol, hoffwn atgoffa'r Aelodau fod gan y DU rwymedigaeth statudol i ddarparu cymorth a llety i geiswyr lloches a fyddai fel arall yn anghenus. Y problemau go iawn sy'n galw am sylw yw'r gwirioneddau geowleidyddol sy'n gyrru'r rhan fwyaf o bobl i'n glannau—ofn a thlodi—a rhaid i'r gwledydd cyfoethocach fynd i'r afael â'r gwirioneddau hyn mewn ffordd ystyrlon, neu bydd ymfudo ymhlith pobl a ormeswyd ac a wnaed yn amddifad yn parhau. O ran y sefyllfa ym Mhenalun, rydym i gyd yn derbyn y dylai'r Swyddfa Gartref fod wedi trafod eu bwriad i ddefnyddio'r barics ym Mhenalun gyda Llywodraeth Cymru ac y dylai hefyd fod wedi cyflawni ei phrosesau ymgynghori arferol gyda'r gymuned a gwasanaethau lleol. Fodd bynnag, rhaid inni gydnabod hefyd fod y Swyddfa Gartref dan bwysau aruthrol, a waethygir gan y pandemig COVID-19. Maent yn parhau i gefnogi ceiswyr lloches lle byddai eu cymorth fel arfer wedi dod i ben. Nid oeddent yn gallu ailwladoli'r rhai roedd eu ceisiadau wedi methu, a rhaid inni gofio bod niferoedd y bobl sy'n cael eu cefnogi neu eu hasesu wedi codi o 45,000 i bron i 60,000 o unigolion mewn ychydig fisoedd. Ac wrth gwrs, mae angen i bob lleoliad gydymffurfio â mesurau COVID. Cynigiodd y Weinyddiaeth Amddiffyn farics Penalun a barics Napier yng Nghaint yn wir fel atebion dros dro ac o ystyried y pwysau sydd ar y system loches, rhoddwyd y prosesau ymgynghori arferol naill ochr, a symudodd y Swyddfa Gartref yn gyflym am nad oedd ganddynt unman, yn llythrennol, i roi pobl. Rwyf wedi mynegi fy mhryderon yn helaeth wrth y Swyddfa Gartref, ac rwy'n falch fod y Swyddfa Gartref bellach yn cysylltu â Llywodraeth Cymru, a'i bod, drwy fforwm ymgysylltu strategol, yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Hywel Dda a Heddlu Dyfed-Powys. Rwyf hefyd yn falch fod swyddogion o'r Swyddfa Gartref wedi cymryd rhan mewn digwyddiad lleol i ateb cwestiynau gan y gymuned. Rwy'n cydnabod, fel y dylai eraill, mai ychydig iawn o leoedd eraill sydd ar gael i geiswyr lloches yn yr argyfwng presennol hwn. Ond tra'u bod ym Mhenalun, rwyf wedi gofyn i'r Swyddfa Gartref ariannu unrhyw gostau a ysgwyddir gan Hywel Dda a chan Ddyfed-Powys yn ystod eu cefnogaeth i'r ceiswyr lloches. Trof at y gwersyll ei hun. Er ein bod yn cydnabod nad yw gwersyll milwrol yn lleoliad priodol ar gyfer ceiswyr lloches sydd wedi dioddef eu carcharu neu sydd wedi bod mewn rhyfel, dylem hefyd gydnabod nad unigolion sydd newydd gyrraedd yw'r rhain, a'u bod wedi bod yn y DU ers peth amser, fod eu hachosion yn cael eu hasesu, ac maent eisoes wedi cael rhywfaint o ymyrraeth feddygol. Dyna pam nad ydynt mewn canolfan wasgaru—oherwydd maent yn dal i fynd drwy'r broses. Gofynnais am sicrwydd gan y Swyddfa Gartref ynglŷn â'r contractwr a'u rhwymedigaethau i ddarparu llety cynnes a diogel, bwyd gweddus, cymorth ar gyfer eu hanghenion meddyliol a chorfforol, gweithgareddau i'r dynion, gwasanaethau cyfieithu, a chymorth gyda gwaith papur, a chefais sicrwydd fod y llety, a ddefnyddiwyd gan ein milwyr tan yn ddiweddar, yn addas ac yn bodloni'r safonau presennol ar gyfer darpariaethau llety i geiswyr lloches ac yn cydymffurfio â deddfwriaeth gartrefu berthnasol. Rwyf hefyd wedi cael sicrwydd fod y contractwr yn gweithredu, lle bo'n briodol, i wella'r hyn a oedd ar waith, gan ystyried adborth gan ddefnyddwyr y gwasanaeth, a bod gan bob ceisiwr lloches fynediad at gyngor 24/7, gwasanaeth adrodd ar faterion a chymhwysedd a ddarperir ar gyfer y Swyddfa Gartref gan Migrant Help, lle gallant godi unrhyw bryderon ynghylch llety. Yn olaf, hoffwn gydnabod a diolch i gymuned ehangach sir Benfro. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r unigolion a'r sefydliadau niferus sydd wedi cynnig cymorth, o gymunedau cyfagos Penalun a Dinbych-y-pysgod i arweinwyr ffydd lleol a llawer o elusennau. Cefais negeseuon e-bost yn mynegi pryderon gan etholwyr, ac nid oes ryfedd, oherwydd ceir digonedd o straeon ynghylch ceiswyr lloches yn camymddwyn. Ac eto, y realiti yw bod ymddygiad llond llaw o bobl annifyr neu ymosodol, fel unrhyw gymuned, yn maeddu enw da'r gweddill, sy'n cydymffurfio â'r broses briodol, yn ddiolchgar am gael bod yn y system, ac sy'n gobeithio am ddyfodol cadarnhaol. Cefais lawer mwy o negeseuon e-bost gan bobl yn gofyn sut y gallent helpu neu'n mynegi pryderon am yr aflonyddwyr annifyr ac ymosodol sy'n tagu'r lonydd, yn gwneud pi-pi yn eu gerddi ac yn dychryn pobl sy'n pasio—pob un yn bryder gwirioneddol. Ac eto, rwy'n ailadrodd fy sylwadau blaenorol yn y Senedd fod pobl sir Benfro yn samariaid da, eu bod yn groesawgar ac yn oddefgar, ac rwy'n talu teyrnged iddynt. Hoffwn ddiolch hefyd i'r Dirprwy Weinidog a'r Ysgrifennydd Gwladol am y trafodaethau amrywiol. Rwy'n gwerthfawrogi eu safiad pwyllog ar yr anawsterau o ddod o hyd i lety diogel i geiswyr lloches ar yr adeg hon, amhriodoldeb y gwersyll a'r angen i gyflawni ein rhwymedigaethau rhyngwladol. Rwy'n ddiolchgar am eu parodrwydd i ymgysylltu. Yn olaf, hoffwn ddiolch i'r rhanddeiliaid sy'n gweithio mor galed i gefnogi'r holl gymunedau dan sylw, a byddaf yn parhau i bwyso am adnoddau ac am weld diwedd ar ddefnyddio'r gwersyll ar gyfer ceiswyr lloches. Rwy'n credu fy mod eisoes wedi dweud digon am y gwelliant, Ddirprwy Lywydd. Yn gyffredinol, teimlaf mai testun gofid yw bod rhai'n ceisio gwneud elw gwleidyddol o sefyllfa anodd iawn, ac ni fydd gennyf fi a fy nghyd-Aelodau unrhyw ran yn hynny. Credaf fod eich meic ar agor, Mr Antoniw. Mick Antoniw AC: O'r gorau. Diolch, Ddirprwy Lywydd; roeddwn yn aros i glywed gennych. Byddaf yn canolbwyntio ar y ffoaduriaid eu hunain fel bodau dynol sydd bellach yn destun ymosodiad, bygythiadau ac erledigaeth gan yr asgell dde eithafol, a hynny'n anffodus wedi'i annog gan Aelod o'r Senedd hon, Neil Hamilton, sydd, yn fy marn i, yn dwyn sen ar y Senedd hon. Nid yw'n syndod i ni fod yr Aelod wedi bod yn frwd ei gefnogaeth i'r asgell dde eithafol, fel y mae wedi bod drwy gydol ei yrfa wleidyddol annymunol fel diffynnydd yn y gorffennol dros Dde Affrica hiliol, dros y gyfundrefn ffasgaidd yn Chile, a thros wahanol fudiadau asgell dde eithafol a llwgr ym mhob cwr o'r byd. Fel y dywedodd un preswylydd ym Mhenalun, mae'r brotest bellach wedi'i meddiannu gan bobl hiliol yr asgell dde eithafol o'r tu allan, a gwyddom pwy yw eu cefnogwr mwyaf brwd. Cytunaf yn llwyr â datganiadau Angela Burns a Leanne Wood. Gofynnodd Leanne i ni ddychmygu'r dewisiadau a wynebir gan y ffoaduriaid hyn, a gallaf eu dychmygu am mai dyma'r cefndir y cefais fy magu ynddo. Roedd fy nhad yn ffoadur o Ukrain ar ôl y rhyfel. Dywedai ei fod wedi dod yma oherwydd Hitler, ond na allai fynd yn ôl oherwydd Stalin. Cefais fy magu mewn cymuned o bobl a oedd wedi bod drwy ormes, artaith a charchariadau. Cofiaf un dyn a gafodd ei gymryd, yn fachgen 15 oed, yn weithiwr llafur caeth gan yr Almaenwyr. Ni allai siarad am ei brofiad heb grio. Roedd un arall wedi bod yn gwlag Stalin. Cafodd fy nhad ei hun pan ddaeth i'r wlad hon ei roi mewn gwersyll ailsefydlu yn Dundee. Roedd rhieni dau o fy ffrindiau agos pan oeddwn yn tyfu fyny wedi dod o wersyll crynhoi Sachsenhausen. A'r cyfan rwyf am ei ofyn mewn gwirionedd yw hyn: sut y mae'r bobl y cefais fy magu gyda hwy'n wahanol mewn unrhyw fodd i'r bobl sydd ym Mhenalun nawr? Nid ydynt yn wahanol o gwbl. Roedd fy nhad a'r gymuned y cefais fy magu ynddi bob un ohonynt yn siarad mor gynnes am y croeso a gawsant gan bobl Prydain pan ddaethant yma, a dysgodd un wers i mi mewn gwirionedd, un wers sy'n treiddio o fy mhrofiad i'r hyn sy'n digwydd nawr, sef mai ein brodyr a'n chwiorydd yw'r ffoaduriaid hyn, maent yn union yr un fath â ni, mae ganddynt yr un hawliau. Rwy'n gwrthod yn llwyr y sylwadau a wnaeth Neil Hamilton. Un neges sydd gennyf: rydym i gyd yn frodyr a chwiorydd gyda'n gilydd ac mae croeso i chi i gyd yma yng Nghymru, yn union fel y cafodd llawer o ffoaduriaid groeso drwy gydol hanes Cymru. Rydym yn eich croesawu yma a byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i'ch cefnogi ac i ofalu amdanoch ac i sefyll gyda chi. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch. A gaf fi alw ar y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, Jane Hutt? Jane Hutt AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Helen Mary Jones, Joyce Watson a Leanne Wood, gyda chefnogaeth Mick Antoniw, John Griffiths a Llyr Gruffydd, am gyflwyno'r ddadl bwysig hon. A gaf fi ddiolch hefyd i'r Aelodau—heblaw un—sydd wedi cyfrannu'n adeiladol at y ddadl? Mae safbwynt Llywodraeth Cymru yn amlwg yn cyd-fynd â chynnig yr Aelodau. Ysgrifennodd y Prif Weinidog at y Gweinidog mewnfudo, Chris Philp, ar 9 Hydref, yn annog cau gwersyll hyfforddi Penalun. Codais y mater gyda'r Gweinidog mewnfudo ar 3 Tachwedd, a byddaf yn ei drafod eto gydag ef ar 25 Tachwedd, pan fyddwn yn cyfarfod i siarad yn benodol am wersyll Penalun. Yr wythnos diwethaf, cefais gyfarfod â rhanddeiliaid allweddol sy'n gweithio i fynd i'r afael â phroblemau sy'n codi yn sgil Penalun, ac roedd cytundeb unfrydol nad yw'r cyfleuster hwn yn addas at y diben. Yn y bôn, mae lleoli ceiswyr lloches yng nghanolfan filwrol Penalun yn anaddas, yn anghynaliadwy ac yn anniogel. Roedd y penderfyniad a wnaed gan y Swyddfa Gartref, heb ymgynghori na strategaeth glir i sicrhau bod anghenion y rhai a gâi eu cartrefu yn y ganolfan wedi'u diwallu, yn anghywir. Roedd y penderfyniad i beidio ag ymgysylltu'n ystyrlon â'r gymuned neu gyrff cyhoeddus yn anghywir, ac roedd y methiant i weithredu mesurau diogelu digonol i sicrhau bod y safle'n ddiogel ac yn addas hefyd yn anghywir. Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am benderfyniadau sy'n ymwneud â'r system lloches a mewnfudo. Fodd bynnag, mae effaith y system honno ar gymunedau a gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn ei gwneud yn gwbl briodol ei bod yn ymgynghori ac yn ymgysylltu'n llawn â ni ar y mater hwn, a cheisio trefniant sy'n adeiladu cydlyniant ac integreiddio cymunedol. Ni roddwyd gwybod i Lywodraeth Cymru am y cynigion hyn tan 11 Medi, a bryd hynny hyd yn oed, dywedwyd wrthym nad oedd penderfyniad wedi'i wneud ynglŷn ag a ddylid defnyddio'r gwersyll ai peidio. Ond 10 diwrnod yn ddiweddarach, roedd y gwersyll eisoes ar agor. Dylai Llywodraeth y DU fod wedi cynnal trafodaethau ystyrlon gyda thrigolion lleol, yr awdurdod lleol, y bwrdd iechyd lleol a Llywodraeth Cymru cyn penderfynu cartrefu ceiswyr lloches yng nghanolfan filwrol Penalun. Mae ein pryderon ynghylch priodoldeb y llety a'r lleoliad sy'n cael eu defnyddio at y diben hwn wedi dwysáu dros yr wyth wythnos diwethaf ers i'r gwersyll agor. Mae perygl amlwg o ail-greu trawma i'r rhai sydd wedi dianc rhag gwrthdaro a rhyfel drwy eu cartrefu mewn canolfan filwrol. Mae'r gwasanaethau arbenigol sydd eu hangen i gefnogi ceiswyr lloches hefyd yn gyfyngedig yn y lleoliad hwn, fel y dywedwyd yn y ddadl hon. Mae'r safle ei hun yn creu risgiau diogelu cynhenid a risg o haint COVID-19, ac rydym yn anghytuno'n sylfaenol â'r Swyddfa Gartref; rydym yn dweud nad yw'r safle hwn yn cydymffurfio â mesurau COVID. Rydym yn gweithio gyda'r holl bartneriaid perthnasol i sicrhau bod y pryderon hyn a materion iechyd cyhoeddus hanfodol yn cael eu cydnabod a'u hateb. Rydym wedi gwneud ceisiadau rhesymegol dro ar ôl tro i'r Swyddfa Gartref wneud newidiadau i ddiogelu iechyd a lles ceiswyr lloches a symudir i Benalun. Mae'r newidiadau'n warthus o araf yn cael eu gweithredu, os cytunir arnynt o gwbl. Nid yw cyrff cyhoeddus wedi cael unrhyw gymorth ariannol hyd yma gan y Swyddfa Gartref i ddarparu gwasanaethau ar adeg pan fo pwysau na welwyd ei debyg o'r blaen arnynt yn sgil problemau eraill fel COVID-19, fel y dywedodd Joyce Watson. Mae Llywodraeth Cymru ei hun wedi ymrwymo i'r weledigaeth y bydd Cymru'n dod yn genedl noddfa, a hoffwn atgoffa Mr Hamilton mai'r Cynulliad hwn, o ganlyniad i adroddiad a gyflawnwyd gan John Griffiths fel cadeirydd y pwyllgor—y pwyllgor trawsbleidiol hwnnw, y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau—ein bod mewn gwirionedd wedi cymeradwyo cynlluniau i wneud Cymru'n genedl noddfa. Roeddwn yn falch o gyfarfod â ffoaduriaid yn ystod yr Wythnos Ffoaduriaid yn gynharach eleni ym mis Mehefin i ystyried ein cynnydd gyda'r cynllun, i glywed eu barn ynglŷn â sut y gallwn symud ymlaen i sicrhau bod ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn cael eu cefnogi'n llawn pan ddônt i Gymru. A gaf fi fanteisio ar y cyfle i ddiolch i'n hawdurdodau lleol yng Nghymru sy'n croesawu eu cyfrifoldebau yn yr ardaloedd gwasgaru, a'r dinasoedd, y trefi, y prifysgolion a'r pentrefi hynny sy'n ymrwymo i egwyddorion y genedl noddfa yng Nghymru? A diolch i'r awdurdodau sydd hefyd yn ymateb i anghenion plant ar eu pen eu hunain sy'n ceisio lloches gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Mae ein gweledigaeth yn ymwneud â chefnogi pobl i ailadeiladu eu bywydau a gwneud cyfraniad llawn i gymdeithas Cymru. Mae'n allweddol fod pobl yn gallu cael gafael ar wasanaethau, eu bod yn cael eu diogelu rhag niwed a'u bod yn gallu dechrau eu taith integreiddio o'r diwrnod cyntaf y byddant yn cyrraedd Cymru, ond nid yw gwersyll Penalun yn caniatáu i hyn ddigwydd. Mae'r rhai sy'n cael eu cartrefu'n cael eu gorfodi i rannu cyfleusterau gydag unigolion nad ydynt yn eu hadnabod, pobl sy'n dod o gefndiroedd gwahanol iawn. Maent yn profi amgylchiadau sy'n peri straen, ac nid oes digon o adnoddau ar gyfer rheoli'r gwersyll i'w cefnogi yn y ffordd hon. Mae lefel y gefnogaeth a gynigiwyd i'r rheini yn y gwersyll—pobl gynnes a chroesawgar sir Benfro—wedi creu argraff fawr arnaf, fel y mynegwyd y prynhawn yma. Gwnaeth Angela Burns y pwynt hwnnw ychydig wythnosau'n ôl yn y Senedd, yn ogystal â'r cyfarfod a gafodd Eluned Morgan â phobl leol, a gwnaeth Leanne y pwynt hefyd. Mae'r cymorth hwn wedi cynnwys angenrheidiau sylfaenol a rhoddion o Gymru, yn ogystal â sgyrsiau anffurfiol, clybiau, mentora, ac mae TUC Cymru wedi cymryd rhan yn hyn. Rydym yn llwyr gefnogi hawl y gymuned leol i godi pryderon am y ffordd y gweithredwyd y safle hwn. A hoffwn ddiolch mewn gwirionedd i'r trigolion lleol sydd wedi cyflwyno gohebiaeth i ni, i gynrychiolwyr lleol, a chwestiynau hefyd i'r Swyddfa Gartref a sefydliadau eraill. Rhaid i fynegi barn am y safle fod yn heddychlon mewn ffordd nad yw'n ail-achosi trawma i unrhyw un sy'n ceisio'r drefn briodol yn y DU. Mae gan bawb hawl i wneud cais am loches, a dylem amddiffyn a pharchu'r unigolion hynny tra bo'u cais yn cael ei glywed. Honnodd y Swyddfa Gartref fod angen agor Penalun oherwydd pwysau ar y system lloches, ond mae'r ateb cywir i'r broblem hon yn glir: mae angen cyflymu'r broses o geisio lloches, ac mae hyn yn arbennig o wir i'r rhai sy'n byw mewn llety anaddas fel hwn. Ond yn olaf, Lywydd, i gefnogi cynnig yr Aelodau heddiw, wrth inni alw am gau gwersyll Penalun—ac mae hyn yn ymateb i'r pwynt a wnaeth Angela Burns—mae angen inni alw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno cynllun i atal pob trosglwyddiad pellach i'r gwersyll a chartrefu defnyddwyr y gwasanaeth mewn lleoliadau priodol i ddiwallu eu hanghenion, parchu eu hurddas ac ymrwymo i ddatblygu eu ceisiadau am loches fel mater o frys. Diolch i'r heddlu, yr awdurdodau lleol, y GIG, y trydydd sector, y cymunedau ffydd—ein holl bartneriaid—am eu hyblygrwydd a'u dyfeisgarwch dros y misoedd diwethaf. Mae'r ymatal a'r gefnogaeth a ddangoswyd gan Heddlu Dyfed-Powys, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Cyngor Sir Penfro—maent oll yn camu ymlaen i geisio mynd i'r afael â'r angen hwn. Ond byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a phawb sy'n gyfrifol am ffoaduriaid a cheiswyr lloches i ddatblygu hyn—y cynllun hwn y mae arnom ei angen nawr—o fewn ein pwerau, i gau'r gwersyll hwn, ac i gartrefu holl ddefnyddwyr y gwasanaeth mewn lleoliadau priodol. Credaf y bydd hyn yn adlewyrchu ewyllys y Llywodraeth hon a'r Senedd hon heddiw. Diolch. Nid oes yr un Aelod wedi dweud ei fod am ymyrryd, felly galwaf ar Helen Mary Jones i ymateb i'r ddadl. Helen Mary Jones AC: Rwy'n ddiolchgar iawn i chi, Ddirprwy Lywydd. Fel eraill, rwy'n ddiolchgar i bawb ac eithrio un o'r rhai sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon. Rhaid i mi egluro pam y dewisasom ei chyflwyno. Y rheswm am hynny yw mai dadl wleidyddol yw hon; penderfyniadau gwleidyddol yw'r rhain, penderfyniadau a wnaed am resymau gwleidyddol, ac yn waeth, mae yna rai ar yr asgell dde eithafol sy'n ceisio gwneud elw gwleidyddol o hyn, fel y dywedodd Leanne Wood ac eraill. Weithiau, Ddirprwy Lywydd, gallwch ymdrin â'r materion hyn drwy aros yn dawel a'u hanwybyddu. Weithiau rhaid i chi siarad, a dyna pam y dewisodd yr Aelodau gyflwyno'r cynnig hwn heddiw. Ni allaf ymateb i'r holl bwyntiau y mae'r Aelodau wedi'u gwneud, ond cyn i mi ddechrau ceisio gwneud hynny, hoffwn ategu diolchiadau eraill i bawb, ac i'r gymuned leol yn bennaf oll. Gwn yn sicr, fel cynrychiolydd lleol—fel y mae Joyce Watson, ac Angela Burns yn gwybod—fod y mwyafrif helaeth o bobl yn y cymunedau hynny, er nad ydynt yn credu ei bod yn iawn i'r ceiswyr lloches fod yno, yn eu trin â charedigrwydd a pharch, ac yn gwneud yr hyn a allant i helpu. Helen Mary Jones AC: Gallaf ddweud hyn wrthych oherwydd fy mod mewn cysylltiad rheolaidd iawn â'r cynghorydd lleol yno, Jon Preston, sydd wedi gwneud popeth yn ei allu i godi pontydd mewn cymunedau ac i dawelu ofnau pobl. Felly, hoffwn ddiolch i'r holl gynrychiolwyr lleol sydd wedi gwneud yr un peth. Hoffwn ddiolch yn arbennig i'r gwasanaeth heddlu. Mae comisiynydd yr heddlu a throseddu wedi bod ar y safle ei hun ddwywaith, ac mae'n falch iawn o'r gwaith rhagorol y mae'r heddlu wedi'i wneud i geisio cadw pethau'n dawel er mwyn amddiffyn y gymuned leol. Mae'r cynnig yn cyfeirio at broblemau yn y gwersyll, o ran ymddygiad. Wel, mae'r Gweinidog wedi mynd i'r afael â hynny. Pan fydd gennych nifer fawr o ddynion ifanc ymhell o'u cartref, dynion nad ydynt yn deall ei gilydd, pobl nad ydynt yn siarad eu hiaith, bydd yna broblemau, a bydd gwrthdaro. Mae comisiynydd yr heddlu a throseddu—rwyf wedi cyfathrebu ag ef am hyn heddiw—yn dweud nad yw'r ymddygiad hwnnw'n wahanol i'r hyn y byddai'n ei ddisgwyl gan unrhyw grŵp mawr o ddynion ifanc nad oeddent yn cael eu cefnogi'n briodol yn eu hiaith a'u diwylliant eu hunain. Felly, gadewch i ni ddeall hynny unwaith ac am byth. Credaf fod Joyce Watson wedi dadlau'n bwerus iawn ynglŷn â pha mor anaddas yw'r safle. Nid wyf yn deall yn iawn sut y gall Angela Burns fynnu ei fod yn addas. Nid yw wedi'i wresogi'n iawn. Cyfeiriodd y Dirprwy Weinidog at y ffaith ei bod yn anodd iawn cadw pellter cymdeithasol. Nid dyma'r lle iawn i bobl fod. Nid yw'r gwaith rhagorol y mae'r gwasanaeth iechyd lleol a'r cyngor lleol yn ceisio'i wneud i ymateb i'w hanghenion yn lliniaru'r ffaith nad dyma'r lle iawn iddynt fod. Nawr, fel arfer yn y sefyllfaoedd hyn, Ddirprwy Lywydd, rwy'n anwybyddu'r Aelod o Wiltshire. Ond y tro hwn, mae arnaf ofn fod yn rhaid i mi ymateb i rai o'r pwyntiau a wnaeth a'r pwyntiau y methodd eu gwneud. A yw'r bobl o'r un farn â Neil Hamilton? Wel, nid dyna mae eu cynghorydd sir, y siaradaf ag ef yn rheolaidd, yn ei ddweud wrthyf. Maent wedi'u brawychu gan y ffordd y mae ef a'i debyg yn chwarae gyda phobl sy'n agored i niwed, ac yn chwarae—fel y soniodd Leanne Wood—â phryderon dilys pobl. A yw'r ffaith ein bod yn genedl noddfa yn broblem? A yw'n credu mewn gwirionedd fod pobl yn Syria—. Byddwn yn eithaf balch pe bawn yn meddwl bod pobl yn Syria yn gwybod bod Cymru'n genedl noddfa ac y byddem yn eu croesawu. Maent yn dod—a soniodd Angela Burns am hyn, ac roeddwn yn meddwl bod hwnnw'n bwynt pwerus iawn—yn sgil amrywiaeth eang o sefyllfaoedd geowleidyddol sy'n golygu nad yw pobl yn ddiogel. Nid yw'n wir y gall unrhyw un a phawb ddod i aros yn y DU, ac nid oes neb yn cynnig y dylai hynny ddigwydd. Sut y mae'n credu ei fod yn gwybod sut y mae'r bobl sydd yn y gwersyll wedi cyrraedd yno? Nid yw'n gwybod. Nid oes ganddo'r syniad lleiaf. Mae llawer ohonynt, fel y dywedodd Angela Burns, wedi bod yn y DU ers amser maith. Nid pobl sy'n arllwys dros ein ffiniau yw'r rhain, fel y byddai'n dweud wrthym. Nid oes ganddo unrhyw ffordd o wybod a yw eu ceisiadau'n debygol o gael eu derbyn. Ond yn sicr, mae mudiadau gwirfoddol lleol sy'n gweithio gyda hwy yn dweud wrthyf fod llawer o'r bobl hyn wedi dod o leoedd fel Syria, lle mae'n debygol iawn y bydd eu ceisiadau'n cael eu derbyn. Credaf fod Leanne Wood yn iawn i dynnu ein sylw at ddynoldeb ein ceiswyr lloches, fel y gwnaeth Mick Antoniw yn drawiadol iawn. Ac roedd hi'n iawn i dynnu sylw at sut y mae'r dde eithafol yn ceisio bwydo ar ymdeimlad cyfiawn pobl o annhegwch a gofid. Cyfraniad Angela Burns: llawer i gytuno ag ef yno. Mae hwn yn fater gwleidyddol, serch hynny. Byddwn yn dweud wrth Angela Burns fod hwn yn fater gwleidyddol, ac mae'n iawn iddo gael ei drafod gan wleidyddion. Felly, nid yw'n ymwneud â sgorio pwyntiau. Mae'n ymwneud â cheisio agor dadl onest a chlir yn seiliedig ar y ffeithiau. Mae hi'n iawn, fel rwyf eisoes wedi dweud, am y sefyllfaoedd geowleidyddol sy'n gwneud i bobl ffoi, ond mae hi'n anghywir i ddweud bod y llety'n addas. A phan ofynnodd y cwestiwn ynglŷn â ble y dylent fynd, wel, beth y dylent ei wneud, yr hyn y mae angen i'r Swyddfa Gartref ei wneud yw ehangu'r llety sydd ar gael yn y canolfannau gwasgaru presennol yng Nghymru a ledled y DU—nid wyf yn hoffi'r term 'gwasgaru' ond dyna a ddefnyddiwn—fel y gellir cefnogi'r dynion ifanc hyn yn briodol ac yn addas a phrosesu eu ceisiadau'n gyflym, fel y dywedodd y Dirprwy Weinidog yn gywir, er mwyn gallu gwneud penderfyniadau y naill ffordd neu'r llall. Mae Mick Antoniw yn gofyn: beth yw'r gwahaniaeth rhwng y ffoaduriaid hyn a'i deulu? Mae'n iawn i ddweud nad oes unrhyw wahaniaeth. Mae arnaf ofn, serch hynny, Ddirprwy Lywydd, mai lliw eu croen fydd y gwahaniaeth i rai pobl. Os felly, mae angen i bobl fod â chywilydd dwfn. Rwy'n ddiolchgar am gefnogaeth y Dirprwy Weinidog i'n cynnig, ac rydym wedi'i eirio mewn ffordd a oedd mor gydsyniol ag y gallem ei wneud. Mae'n iawn i ailymrwymo i'r syniad o'n cenedl fel cenedl noddfa, i dynnu sylw eto at yr ymateb cymunedol. Nid yw hon yn sefyllfa y dylem fod ynddi, ac fe ddof i ben—Ddirprwy Lywydd, gwn eich bod wedi bod yn hael iawn gyda'r amser—drwy ddweud hyn, a siaradaf yma drosof fy hun a thros rai o gynigwyr y cynnig ond nid pob un ohonynt. Mae'n fater o anhapusrwydd mawr i mi nad oes hawl gan ein Llywodraeth i reoli'r materion hyn, y gall Llywodraeth y DU na phleidleisiodd pobl Cymru drosti—ni wnaethom ethol mwyafrif o ASau Ceidwadol—orfodi hyn ar y cymunedau, ar y gwasanaethau cyhoeddus ac ar y ceiswyr lloches, yn bwysicaf oll. Rwy'n edrych ymlaen at y diwrnod, un diwrnod, Ddirprwy Lywydd, pan allwn wneud y penderfyniadau hyn yma, pan na fydd y Swyddfa Gartref yn gwneud cais am ganiatâd cynllunio i'r Weinyddiaeth Amddiffyn. Boed hynny fel y bo, hyd nes y gallwn wneud y penderfyniadau hynny drosom ein hunain, mae'n iawn fod Llywodraeth Cymru ac eraill yn parhau i negodi gyda'r Swyddfa Gartref i gael y dynion ifanc hyn wedi'u gwasgaru i gymunedau a all eu cefnogi'n briodol a lle gellir ymdrin â'u ceisiadau'n briodol. Ddirprwy Lywydd, mae'n amlwg mai dyna yw'r consensws yn y lle hwn ac rydym yn adnabod y cymunedau a gynrychiolwn. Rwy'n cynnig mai dyna yw consensws pobl Cymru. Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Iawn. Cafwyd gwrthwynebiad a gohiriwn y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. 7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar Effaith COVID-19 ar dreftadaeth, amgueddfeydd ac archifau Eitem 7 ar yr agenda yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, effaith COVID ar dreftadaeth, amgueddfeydd ac archifau. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig, Helen Mary Jones. Cynnig NDM7477 Helen Mary Jones Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, 'Effaith COVID-19 ar dreftadaeth, amgueddfeydd ac archifau', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Awst 2020. Cynigiwyd y cynnig. Helen Mary Jones AC: Rwy'n ddiolchgar i chi, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n hyderu na fydd y Siambr yn cael ei gorlethu gan ormod o Helen Mary Jones y prynhawn yma, ond mae'r amserlen, wrth gwrs, y tu hwnt i fy rheolaeth. Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i gyflwyno adroddiad y pwyllgor diwylliant i'r Senedd ar effaith COVID-19 ar dreftadaeth ac amgueddfeydd. Cynhyrchwyd yr adroddiad hwn gennym yn yr haf, wrth gwrs, ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r holl dystion, i staff y pwyllgor a'n cyd-Aelodau—rwy'n rhagfarnllyd, wrth gwrs, ond credaf ein bod yn un o'r pwyllgorau gorau yn y Senedd—ac rwy'n ddiolchgar iawn hefyd i'r Dirprwy Weinidog am ei ymgysylltiad ar y materion hyn ac am dderbyn ein hargymhellion. Dadl fer yw hon wrth gwrs, Ddirprwy Lywydd, ac ni allaf ond cyffwrdd ag ychydig o uchafbwyntiau. Fel ar draws ein bywyd cenedlaethol, mae effaith pandemig COVID ar y sector treftadaeth wedi bod yn ddwys ac o bosibl yn drychinebus. Caewyd drysau ein hamgueddfeydd, ein llyfrgell genedlaethol, a sychodd yr incwm. Ond mae rhai materion wedi symud ymlaen ers i ni gyflwyno ein hadroddiad, ac mae'r sefydliadau wedi gallu defnyddio'r cynlluniau cymorth sydd wedi bod ar gael. Croesawn gronfa adferiad diwylliannol Llywodraeth Cymru yn fawr iawn, ac yn wir yr adnoddau ychwanegol ar gyfer y gronfa honno a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. Ac rydym yn croesawu ymestyn y cynllun ffyrlo, er y byddai wedi bod yn braf pe bai wedi bod yn bosibl i hynny ddigwydd pan oedd ei angen yng ngogledd Lloegr a Chymru, yn hytrach nag aros nes bod ei angen yn Surrey, ond nid dyma'r amser i fod yn chwerw, ac mae'r prif sefydliadau diwylliannol yn ein sicrhau y byddant yn gallu defnyddio'r estyniad a fydd, wrth gwrs, yn eu helpu i gadw eu staff. Mae sefydliadau wedi gallu agor, ac eithrio yn y cyfnod dan gyfyngiadau, er ei bod yn amlwg fod y niferoedd yn gyfyngedig ac felly yr effeithir ar incwm. Tynnodd tystion ein sylw at bwysigrwydd gallu digideiddio eu casgliadau. Dyna'r ffordd, wrth gwrs, y gall y cyhoedd ledled Cymru, a thu hwnt yn wir, gael mynediad at rai o'r eitemau pwysig iawn sydd gennym yn ein sefydliadau cenedlaethol. Ond yn ôl ein tystiolaeth ni, mae'r gallu i wneud hyn drwy'r pandemig wedi bod yn amrywiol. Rydym yn falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhelliad 4 ynglŷn â'r angen am strategaeth i gynyddu mynediad digidol at gasgliadau, ac edrychwn ymlaen at weld y strategaeth genedlaethol honno'n cael ei chynhyrchu. Fodd bynnag, er bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhelliad 3 ynghylch darparu adnoddau ar gyfer digideiddio, mae gennym rai pryderon o hyd. Roedd yr adolygiad pwrpasol o'r llyfrgell genedlaethol yn ddiweddar yn dweud yn glir fod angen gwneud mwy o waith yn y maes hwn, ac mae'r llyfrgell yn glir fod angen adnoddau arnynt i wneud hynny'n bosibl. Bydd y pwyllgor yn parhau i gadw llygad ar hyn, ac edrychwn ymlaen at drafodaethau pellach gyda'r sector a chyda'r Dirprwy Weinidog. Dywedodd tystion wrthym fod yr argyfwng wedi gwneud iddynt ystyried ymhellach yr angen i ehangu a dyfnhau mynediad at ein treftadaeth a'n diwylliant. Mae hynny, wrth gwrs, yn ymwneud â'r agenda ddigideiddio, ond mae hefyd yn ymwneud â sefydliadau cenedlaethol yn gweithio'n agosach gyda sefydliadau lleol, llyfrgelloedd lleol, amgueddfeydd lleol a sicrhau bod ein casgliadau'n fwy hygyrch. Gwnaethom argymell y dylai Llywodraeth Cymru adolygu'r dangosyddion perfformiad ar gyfer ein sefydliadau cenedlaethol, hyrwyddo mwy o gydweithredu ac annog cyflawni canlyniadau ym maes iechyd, addysg, trechu tlodi a chynhwysiant cymdeithasol. Cawsom ein hargyhoeddi'n fawr, Ddirprwy Lywydd, gan yr hyn a ddywedodd y sefydliadau wrthym am eu gallu i gyfrannu at yr holl agendâu pwysig hyn. Nawr, unwaith eto, rydym yn falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhellion hyn, ac mae'r contract diwylliannol newydd, sy'n ofynnol ar gyfer sefydliadau sy'n derbyn arian o'r gronfa adferiad diwylliannol, yn gam pwysig i'r cyfeiriad iawn, ond unwaith eto, credwn fod mwy i'w wneud. Yn fwyaf arbennig, mae'n hanfodol fod gan sefydliadau adnoddau i wneud y math hwn o waith maes. Mae llawer o bwyntiau pwysig eraill yn yr adroddiad na allaf eu crybwyll nawr, Ddirprwy Lywydd, oherwydd rwyf am sicrhau bod gan yr Aelodau amser i gyfrannu a bod gennyf innau amser i ymateb i'r pwyntiau a wnaiff yr Aelodau. A gaf fi ddiolch unwaith eto i'n holl dystion, i'n staff ac i fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor, ac edrychaf ymlaen at y ddadl. David Melding AC: Mae bob amser yn bleser ac yn rhwystredig, weithiau, cael dilyn Helen Mary, oherwydd mae hi mor ysbrydoledig ac weithiau'n bryfoclyd yn ei sylwadau, a byddwn yn dweud ei fod yn gyfuniad hyfryd i'w gael gan un o'ch gwrthwynebwyr. O ran y cynllun ffyrlo, sy'n sylweddol iawn yn fy marn i, rydym wedi galw am rywbeth y mae Llywodraeth y DU wedi gwrando arno—ein llais ni, ymhlith llawer o leisiau eraill, mae'n siŵr. Ond mae'n bwysig iawn i'r sector. Darllenais yn y 'Financial Times' heddiw mai'r sector treftadaeth, ar 30 y cant, yw'r sector sy'n gwneud y defnydd mwyaf o'r cynllun ffyrlo, a dywedodd yr amgueddfa genedlaethol wrthym pa mor bwysig oedd y cynllun iddynt hwy. Felly, rwy'n falch y bydd yma tan ddiwedd mis Mawrth ac mae Llywodraeth y DU wedi gwneud y peth iawn. Roeddwn yn credu bod Helen Mary ar fin canmol Llywodraeth y DU, ond tynnodd yn ôl ar y funud olaf, gan gadw ei hygrededd o fewn ei phlaid ei hun beth bynnag, rwy'n credu, hyd yn oed os—. Roeddwn yn aros i weld rhyfeddod y naid honno i ganmol Llywodraeth y DU. Ond o ddifrif, mae'r cynllun ffyrlo wedi bod yn gynllun pwysig iawn, a nawr ein bod ar fin gweld ein ffordd allan o'r argyfwng gyda brechlyn rownd y gornel, rwy'n credu y gwelir bod y cynllun ffyrlo, wrth edrych yn ôl, wedi bod yn rhan allweddol o reoli canlyniadau economaidd yr argyfwng iechyd cyhoeddus erchyll hwn. Credaf fod Helen yn llygad ei lle wrth ddweud am bwysigrwydd digideiddio'r casgliadau, gwaith sydd wedi datblygu'n sylweddol iawn. Cawsom dystiolaeth yr wythnos diwethaf ynglŷn â pha mor arloesol oedd y llyfrgell genedlaethol 20 mlynedd yn ôl pan ddechreuodd ar y math hwn o weithgaredd, a'r amgueddfa hefyd, fe wyddom. A chredaf y byddai llawer ohonom wedi defnyddio'r adnoddau hyn: mae llawer o ysgolion, llawer o fyfyrwyr, a llawer o ddinasyddion na fyddent o bosibl wedi ymweld â chyfleusterau'r sefydliadau treftadaeth gwych hyn eu hunain wedi gallu gweld rhai o'r adnoddau bendigedig ar-lein. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig i hynny barhau oherwydd bod iddo botensial i ddod â'r casgliadau cyfan yn fyw, nid yn unig y rhai y gellir eu dehongli ar unrhyw un adeg, neu eu harddangos yn ffisegol ar unrhyw un adeg. Y trydydd pwynt yr hoffwn ei wneud yw pwysigrwydd mynd i'r afael ag allgáu cymdeithasol a hyrwyddo cydraddoldeb a gwell canlyniadau iechyd. Oherwydd rydym wedi gweld cyfleusterau'n agor ychydig wythnosau'n ôl erbyn hyn. Gwnaeth yr amgueddfa genedlaethol gynlluniau ar gyfer ailagor Sain Ffagan yn rhannol, er enghraifft; wrth gwrs, mae trefniadau rhagarchebu a chyfyngiadau ar waith yno. Ond mae'n bwysig iawn fod ein cyfleusterau'n agored i bobl pan fydd ganddynt fwy o amser a phan fyddant am fynd i weld yr atyniadau hyn a hefyd i wneud ymarfer corff ar y safleoedd niferus yn y sector treftadaeth—eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a phethau tebyg. Felly, mae gwneud hyn mewn ffordd sy'n rhoi'r mynediad mwyaf posibl i'r rheini nad oes ganddynt y cyfleusterau hyn o bosibl a'r gallu, yn lleol, i fwynhau gerddi neu beth bynnag yn eithaf hanfodol yn fy marn i, fel y mae agor y cyfleusterau hyn i ysgolion fel mater o flaenoriaeth, ac yn enwedig y rheini sydd mewn ardaloedd o dlodi cymharol. Ar gyfer y dyfodol hefyd, credaf y bydd casglu deunydd o'r cymunedau hyn ar sut y llwyddasant i ymdopi â COVID yn bwysig iawn. Oherwydd pe bai unrhyw un ohonom wedi astudio epidemig 1920, rwy'n siŵr y byddai'n canolbwyntio ar salwch Lloyd George, gwaith yr elusennau mawr, Ambiwlans Sant Ioan efallai—rwy'n gwisgo eu tei, Urdd Sant Ioan, heddiw—sefydliadau gweithgar a phwerus iawn o ran cadw cofnodion, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn cadw hynny i gyd. Ond rwy'n credu y byddai llawer o'r pethau cymdeithasol wedi'u colli 100 mlynedd yn ôl, ond nawr gallwn gyfleu hynny. Bydd gennym ddyddiaduron, bydd gennym gynlluniau gwaith ac adroddiadau dosbarth gan bob math o ysgolion a sefydliadau cymunedol sy'n helpu pobl i brosesu'r digwyddiad anhygoel hwn yn ein bywyd cenedlaethol. A chredaf y bydd yn bwysig iawn dysgu o hynny yn y dyfodol, felly cadw'r adnoddau hynny, ond hefyd cyfleu'r profiad hwnnw, a chredaf y byddai o werth hanesyddol mawr. Oherwydd bu'n rhaid inni astudio'r hyn a ddigwyddodd 100 mlynedd yn ôl ac atgoffa ein hunain bod masgiau'n cael eu gwisgo 100 mlynedd yn ôl ar strydoedd Caerdydd ac nid yn unig yn Tokyo neu lle bynnag, lle credwn mai peth Asiaidd yn unig yw gwisgo masgiau, a chredaf fod hynny'n ddadlennol iawn. Felly, gobeithio y daw hynny'n rhan annatod o gasgliadau cenedlaethol. Ac a gaf fi ganmol y sefydliadau sy'n gweithio mor galed? Rwyf newydd ddarllen yr wythnos hon am y £55,000 y mae'r amgueddfa wedi'i gael i roi hwb i'w chynnig dysgu yn ystod COVID, a daeth yr adnodd hwnnw o gronfa'r Fonesig Vivien Duffield, ac mae'n dangos i chi nad yw ein sefydliadau treftadaeth yn dibynnu ar grantiau'r Llywodraeth yn unig ond eu bod allan yno'n ceisio cael y gwerth mwyaf posibl i ni a bod ystod eang o arian ar gael iddynt pan fyddant yn codi arian yn effeithiol iawn. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Siân Gwenllian AC: Diolch yn fawr i'r pwyllgor am adroddiad arall ac am y cyfle i'w drafod o heddiw yma. Mae'r gyfres yma o adroddiadau wedi bod yn ddefnyddiol iawn i daflu goleuni ar effaith COVID ar wahanol rannau o’r sector celfyddydau a chreadigol, ac, yn bwysicach, yn cynnig argymhellion pendant am beth sydd angen ei wneud. Mae'r adroddiad yma, wrth gwrs, yn edrych yn benodol ar effaith COVID ar dreftadaeth, amgueddfeydd ac archifau. Mi ydym ni ym Mhlaid Cymru yn hollol grediniol bod yn rhaid i Lywodraeth gefnogi ein sefydliadau diwylliannol cenedlaethol allweddol er mwyn sicrhau eu cadernid a'u datblygiad i'r dyfodol. Mae gennym ni nifer dda o sefydliadau cenedlaethol sy'n cyfrannu'n helaeth at ein bywyd diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd. Maen nhw'n rhan greiddiol o fywyd ein gwlad, yn cwmpasu theatr, opera a dawns, llenyddiaeth a llyfrau, archifau ac amgueddfeydd, heb anghofio’r Eisteddfod Genedlaethol, wrth gwrs. Ond mae'r sefydliadau yma yn wynebu heriau sylweddol yn sgil yr argyfwng iechyd presennol, ond mae'n rhaid pwysleisio, fodd bynnag, fod y sefyllfa sy’n wynebu’r sector ar hyn o bryd wedi cael ei gwneud yn waeth oherwydd tanwariant, tanfuddsoddiad a llymder dros y ddegawd diwethaf. Mae'n rhaid i'r Llywodraeth nesaf fynd i'r afael â hyn mewn ffordd gadarn a diamwys a rhoi'r cymorth a'r gefnogaeth briodol a haeddiannol i'n sefydliadau pwysig ni. Fe gyhoeddwyd adroddiad blynyddol Llyfrgell Genedlaethol Cymru yr wythnos diwethaf, oedd yn crynhoi hanes blwyddyn brysur iawn i’r sefydliad, efo bron i 2 filiwn o ymweliadau i’w gwefannau ac mae yna dros 300,000 o eitemau wedi cael eu digideiddio. Yn ddiweddar, fe gynhaliodd y llyfrgell genedlaethol yr adolygiad teilwredig, ac mae'n rhaid dweud bod y sefyllfa ariannol bresennol yn un difrifol. Mae'r llyfrgell wedi profi gostyngiad o 40 y cant yn ei grant cynnal—dydy hynny ddim yn wir am sefydliadau cenedlaethol eraill. Mae sefyllfa'r amgueddfa genedlaethol yn fregus hefyd, ac mae tanfuddsoddiad wedi bod o ran isadeiledd a chynnal a chadw’r safleoedd. Mae yna ôl-groniad cynnal a chadw cyfalaf o fwy na £60 miliwn ar gyfer ei wyth safle. Maen nhw wedi bod yn llwyddiannus o ran cynyddu'r incwm a denunawdd dros y blynyddoedd diwethaf, ond yn amlwg mae COVID wedi ychwanegu at yr ansicrwydd a'r ansefydlogrwydd, ac mi fyddai cael diweddariad gan y Dirprwy Weinidog am y trafodaethau ariannol efo'r amgueddfa genedlaethol a'r llyfrgell genedlaethol yn fuddiol iawn, dwi'n credu. Fel mae Helen Mary wedi sôn, mae COVID wedi tynnu sylw at bwysigrwydd y maes digidol, ac mae'r adroddiad gan y pwyllgor yn rhoi sylw haeddiannol i hyn. Mae angen i sefydliadau gydweithio a pheidio â dyblygu gwaith, yn enwedig o ran paratoi defnyddiau dysgu digidol ar gyfer y cwricwlwm cenedlaethol a byrddau iechyd. Ac mae angen i'r cynnydd mewn gweithgareddau ar-lein gael adnoddau priodol i lwyddo. Felly, byddwn i'n hoffi gofyn i'r Dirprwy Weinidog sut mae o'n meddwl y dylai setliadau cyllid ar gyfer y sector yn y dyfodol ddarparu ar gyfer digideiddio casgliadau lleol a chenedlaethol a darparu ar gyfer gweithgareddau addysgol ac allgymorth ar y we. Gaf i droi at ddau fater i gloi? Mae Eluned Morgan wedi nodi bod Llywodraeth Cymru am ryddhau astudiaeth dichonoldeb ar sefydlu archif genedlaethol i Gymru. Dwi'n credu bod hyn yn rhan o'r ddealltwriaeth oedd rhwng y Llywodraeth yma a Phlaid Cymru ar gychwyn y Senedd yma. Mae COVID-19 wedi amharu ar waith yr ymchwiliad, dwi'n deall, ond dwi yn edrych ymlaen at weld y casgliadau a beth fydd y camau nesaf yn sgil yr astudiaeth yma. Felly, mi fyddai'n ddefnyddiol os medr y Dirprwy Weinidog roi ryw fath o amserlen inni ar gyfer cyflwyno'r gwaith yma. Mae COVID-19 wedi amlygu'r argyfwng ail gartrefi sy'n wynebu ein cymunedau ni, ac, efo hynny, mae yna beryg i'n treftadaeth ni hefyd wrth i enwau gwreiddiol rhai o'r tai yma gael eu colli am byth. Mae'r ffordd mae'r Llywodraeth yma wedi llusgo ei thraed pan fo'n dod i amddiffyn enwau lleoedd Cymraeg yn hynod siomedig. Rydym ni'n parhau i wynebu sefyllfa lle does yna ddim ffordd o ddiogelu enwau lleoedd hanesyddol Cymru—enwau sy'n rhan mor bwysig o dreftadaeth a hanes ein gwlad. Mae angen rheoleiddio statudol. Dydy'r Llywodraeth hon ddim yn mynd i gyflwyno hynny, ond mae angen deddfu yn y chweched Senedd doed a ddelo. Diolch yn fawr. Mick Antoniw AC: Gan mai fi yw'r pedwerydd neu'r pumed siaradwr, rwy'n credu, mae'r rhan fwyaf o'r hyn roeddwn am ei ddweud bellach wedi'i ddweud, felly dim ond ychydig o sylwadau penodol rwyf am eu gwneud. Yr un cyntaf yw croesawu'r adroddiad, a chroesawu'n benodol y model hwn o adroddiadau byr ac i'r pwynt sy'n amserol ac yn gyfredol iawn, oherwydd mae'r ffordd honno'n gwarantu y gallant gael effaith uniongyrchol ar yr hyn sy'n digwydd ar y pryd. Un o'r pethau a'm trawodd fwyaf yn ystod y sesiynau tystiolaeth a gawsom oedd pwysigrwydd faint o ganolfannau treftadaeth, amgueddfeydd o wahanol fathau, sydd bellach yn cael eu rhedeg bron yn gyfan gwbl gan gymunedau lleol, gan wirfoddolwyr, sy'n gyfrifol am godi eu harian eu hunain, ond sy'n chwarae rhan hanfodol yn cadw hanes y gymuned, y wybodaeth gymunedol sy'n bodoli. Roedd yn amlwg i mi fod llawer o waith y dylid ei wneud ac y mae angen ei wneud i gyfuno'r rhain a'u hasio gyda'i gilydd ar ryw ffurf gydlynol. Gwnaeth peth o'r dystiolaeth a gawsom argraff fawr arnaf, o ran—nid yn gymaint yr anawsterau, ond y cyfleoedd sy'n codi o waith Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn enwedig mewn perthynas â digideiddio. Roedd yn ymddangos i mi, gyda phob un o'r rhain, o ran y rôl y gallant ei chwarae nawr gyda chwricwlwm cenedlaethol Cymru yn ein hysgolion—. Dim ond dwy enghraifft yn fy etholaeth i. Mae crochenwaith Nantgarw yn rhywbeth sydd wedi mynd drwy ddadeni'n ddiweddar o ran pa mor gyfarwydd yw pobl ag ef a'r gwerth y mae pobl yn ei roi arno, oherwydd ei fod mor brin, ac oherwydd ei ansawdd. Wrth gwrs, yn ystod pandemig COVID, edrychasant ar ffyrdd dychmygus iawn o godi arian. Maent wedi troi teilchion hynafol o grochenwaith yn emwaith, ac wedi bod yn ei werthu, yn ogystal â darparu llawer o wybodaeth leol am y gwaith a'r ffordd roedd y crochendy'n gweithio. Yr un peth gyda Neuadd y Dref Llantrisant—gwn fod y Gweinidog diwylliant wedi bod yno droeon. Ac wrth gwrs, mae'r rhain i gyd yn sefydliadau sydd bellach yn wynebu anawsterau, yn ddibynnol iawn ar grantiau i oroesi, ac mae eu goroesiad yn gwbl hanfodol. Y pwynt y byddwn yn ei wneud, ac efallai y gallwn ofyn i'r Gweinidog wneud sylw arno, yw hwn: mae'r rôl y mae'r rhain yn ei chwarae nawr o fewn ein system addysg i'w gweld yn bwysig iawn i mi, yn ogystal â'r angen i'r cwricwlwm cenedlaethol gynnwys, ymgysylltu a chwmpasu, rywsut, yr holl ganolfannau treftadaeth, amgueddfeydd a sefydliadau hyn. Felly, os ydym am addysgu am hanes Cymru mewn gwirionedd, am hanes y cymunedau rydym yn byw ynddynt, wel, mae'r sefydliadau gennym yno. Yr hyn nad oes ganddynt yw'r integreiddio, yr adnoddau, y digideiddio i sicrhau bod y deunyddiau hynny ar gael ac yn hygyrch mewn ffordd sy'n cyflwyno'r cwricwlwm mewn gwirionedd. Felly, credaf mai'r un neges a ddaeth allan ohono'n gryf iawn i mi yw'r cyfle gwych sydd gennym gan ein bod yn edrych yn awr ar yr adnoddau sydd gennym, a sut y gallwn sicrhau gymaint yn well yn y dyfodol eu bod ar gael i holl bobl ein cymunedau, ond hefyd fel rhan ganolog o'n system addysg. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dafydd Elis-Thomas? Dafydd Elis-Thomas AC: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser unwaith eto gen i fel Gweinidog diwylliant i ymateb i'r drafodaeth yn y Siambr ynglŷn â'n sefydliadau cenedlaethol nodedig. Wrth wneud hynny, gaf i ddiolch i'r pwyllgor am ei adroddiad, a hefyd pwysleisio, wrth gwrs, ein bod ni wedi ymateb yn ysgrifenedig ym mis Medi, ac wedi nodi ein bod ni fel Llywodraeth yn falch iawn o allu derbyn pob un o argymhellion yr adroddiad, ac ein bod ni'n mynd ymlaen i'w gweithredu nhw? Fe wnaf i bwysleisio ar hynny yn fy ymateb cryno, gobeithio, i'r ddadl hon. Gaf i bwysleisio eto y gwnaf i ysgrifennu yn uniongyrchol at yr Aelodau am unrhyw bwyntiau na fyddaf i ddim wedi gallu eu hateb yn uniongyrchol? Y neges bwysig sydd gen i, wrth gwrs, yw ein bod ni wedi gwrando ar y cais sydd wedi cael ei wneud yn gyson am gynyddu'r cyllid ar gyfer y sectorau rydym ni wedi eu trafod heddiw, er gwaethaf y cyd-destun cyllidol difrifol anodd rydym ni'n gweithio o'i fewn, ac, wrth gwrs, yr wythnos diwethaf, yn dilyn y galw am gyllid ar draws y sectorau celfyddydol a diwylliannol, fe gyhoeddais i y byddai yna £10.7 miliwn ychwanegol ar gael i gefnogi sefydliadau ac unigolion. Yng ngoleuni'r ffaith bod yna geisiadau wedi cael eu gwneud i ni fel Llywodraeth nad oeddem ni'n gallu darparu cyllid iddyn nhw oherwydd bod nifer y ceisiadau yn llawer mwy enfawr na maint y cyllid, fe fydd yn rhaid inni geisio ffyrdd ar draws y Llywodraeth o weld os oes modd inni ddarparu rhyw gymaint yn rhagor o gyllid cyn diwedd y flwyddyn ariannol yma, os oes peth ar gael, neu gynllunio ar gyfer hynny yn y blynyddoedd ariannol nesaf. Ond mae cronfa adferiad diwylliannol wedi cyrraedd £63.7 miliwn, ac, fel dywedais i, mae'r diddordeb yn y grantiau o bob math, gan gynnwys y grantiau treftadaeth 15 munud, wedi bod yn rhyfeddol, ac roeddwn i'n falch iawn o weld hynny. Gaf i ddiolch i'r Aelodau sydd wedi siarad am dderbyn mor bwysig ydy'r datblygiad digidol i'r hyn rydym ni'n ceisio ei wneud i ymateb i sefyllfa COVID ac i ddatblygu ffordd o gyfathrebu ac o fod ar gael i'r cyhoedd drwy Gymru? Dwi'n gwerthfawrogi'n fawr y modd y mae llyfrgelloedd cyhoeddus wedi parhau i gynnig adnoddau drwy gydol yr argyfwng yma, megis e-lyfrau ac e-gylchgronau drwy'r llyfrgell ddigidol. Mae llwyfannau digidol yn sicr yn mynd i gael mwy o rôl i'w chwarae yn y dyfodol agos, ac mi fyddwn ni'n ceisio ffyrdd o sicrhau ein bod ni'n gallu cyllido o fewn y ffiniau cyllidol ac ariannol sydd gyda ni y datblygiad digidol, a bod hyn yn flaenoriaeth i ni fel Llywodraeth. Ac mae gwella sgiliau digidol y boblogaeth yn gyffredinol yn rhan bwysig iawn o'r prosiect yma, fel bod pobl yn gallu manteisio ar yr arlwy sydd ar gael. Ond does yna ddim byd tebyg, wrth gwrs, i ymweld â safleoedd hanesyddol mewn gwirionedd—nid yn rhithiol ond yn bersonol. Ac mae hyn wedi bod yn anodd iawn yn y cyfnod yma. Ond mae'n rhaid imi ddweud fy mod i wedi cael y profiad, oherwydd lle rydw i'n byw yn Llandaf, a dwi'n gwybod am lawer o bobl eraill hefyd, gan ein bod ni'n cerdded mwy ac yn teithio llawer llai, ein bod ni yn gweld pethau newydd yn ein cymunedau lleol yn ystod y cyfnod yma ac yn ailddarganfod safleoedd hanesyddol lleol. Ac mae hynny wedi cyfrannu at ein dealltwriaeth ni o'n cymunedau. Diolch yn fawr i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y drafodaeth yma, a dwi'n sicr nid hwn yw'r tro cyntaf ac nid hwn fydd y tro olaf y byddwn ni'n dod ynghyd fel Aelodau i ddangos cefnogaeth i'r sector ddiwylliannol. Ac mae'r feirniadaeth a'r anogaethgreadigol rydw i'n eu cael bob amser gan yr Aelodau sy'n cymryd rhan yn y dadleuon yma yn rhywbeth sydd yn helpu i'm cadw innau ar y llwybr cul, fel petai. Diolch yn fawr. Diolch. Unwaith eto, nid oes ymyriadau, felly galwaf ar Helen Mary Jones i ymateb i'r ddadl. Helen. Helen Mary Jones AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch yn fawr i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl? Unwaith eto gyda dadleuon yn deillio o waith ein pwyllgor gwelwn ehangder y gefnogaeth, ehangder y syniadau a'r gydnabyddiaeth drawsbleidiol o ba mor bwysig, yn yr achos hwn, yw ein sector treftadaeth a diwylliannol i bob un ohonom. Mewn ymateb i David Melding, roeddwn yn credu fy mod yn eithaf caredig tuag at Lywodraeth y DU. Roeddwn i'n gwneud fy ngorau. Dywedais fy mod yn falch eu bod wedi ei wneud, ond rwy'n credu y byddem i gyd y cydnabod, mae'n debyg, y byddai wedi bod yn well pe byddent wedi'i wneud ychydig yn gynt. Ond y pwynt y mae David yn ei wneud yn bwysig iawn am yr angen am fynediad at gyfiawnder cymdeithasol: a oes angen i ni roi blaenoriaeth i gael ein hysgolion o'n cymunedau tlotaf i mewn, ac oherwydd na all pawb fynd i mewn i'n hamgueddfeydd, a ddylem fod yn flaenoriaethau felly? Ac fe'm trawyd yn fawr gan yr hyn a ddywedodd am y ffordd y mae'r amgueddfa genedlaethol yn casglu straeon COVID. Bydd hon yn archif wych—yr holl leisiau na allem eu clywed 100 mlynedd yn ôl y byddwn yn gallu eu clywed drwy'r prosiect hwn. Ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld eu gwaith wrth iddo gael ei gynhyrchu. Dylwn ddatgan rhyw fath o fuddiant fel hanesydd dihangol fy hun. Bydd hwn yn adnodd gwych i haneswyr y dyfodol, a bydd yn sicrhau yr adroddir straeon pawb, nid dim ond y lleisiau mawr, fel y dywedodd David Melding. Rwy'n ddiolchgar iawn i Siân Gwenllian am ei sylwadau cadarnhaol iawn am waith ein pwyllgor. Mae'n iawn, wrth gwrs, i bwysleisio y bydd angen cefnogaeth barhaus gan y Llywodraeth ar ein sefydliadau ac i dynnu sylw at y ffaith eu bod yn fregus wrth wynebu'r argyfwng oherwydd y blynyddoedd o gyni. A bydd gennyf innau hefyd ddiddordeb mewn gweld y cynnydd o ran datblygu'r archif genedlaethol. Bydd angen i'r Llywodraeth barhau i gefnogi ein sefydliadau mawr ac yn wir, ein sefydliadau lleol llai. Bydd yn amser hir cyn y bydd y rhai a oedd yn bwrw iddi go iawn i allu gweithio'n fwy masnachol, bydd yn amser hir cyn y gallant ddychwelyd i'r lle hwnnw. Mick Antoniw, wrth gwrs, oedd yr un a awgrymodd yr adroddiad byr ac i'r pwynt, felly mae'n iawn i'w gymeradwyo. Ac rwy'n credu ei fod wedi galluogi ein pwyllgor i ymateb i sefyllfaoedd sy'n newid mewn ffordd eithaf hyblyg ac ymatebol. Ac mae'r hyn a ddywed Mick am y cyfleoedd digideiddio, wrth gwrs, yn gwbl gywir. Mae'n iawn i wneud y pwyntiau am y posibilrwydd o gofnodion wedi'u digideiddio, yn ogystal â chofnodion go iawn, yn ein sefydliadau i gyfrannu at y cwricwlwm cenedlaethol ledled Cymru, a dof yn ôl at hynny mewn munud. Ond rwy'n credu ei fod yn iawn hefyd i dynnu sylw at yr arloesi sy'n digwydd mewn sefydliadau diwylliannol lleol, ac mae'n rhaid i mi ddweud wrtho fod gemwaith crochendy Nantgarw ar fy rhestr cardiau Nadolig, rhag ofn bod unrhyw un yn gwrando. Mae'n hardd tu hwnt, ac am syniad clyfar, i ddefnyddio'r hyn sydd yn ei hanfod yn gynnyrch gwastraff nid yn unig i gynhyrchu incwm ar gyfer y crochendy, ond hefyd i godi ymwybyddiaeth ohono. Nid wyf wedi bod yno, mae'n rhaid i mi gyfaddef, ac rwy'n sicr yn mynd i fynd pan fydd hynny'n bosibl. Rwy'n falch iawn, fel rwyf eisoes wedi dweud, fod y Dirprwy Weinidog wedi derbyn ein hargymhellion. Ac rydym yn ddiolchgar fel pwyllgor, ac mae'r sector yn ddiolchgar, am yr adnoddau ychwanegol sydd wedi'u darparu a'r cyllid ychwanegol yr wythnos hon. Gwn y bydd yn cydnabod y bydd angen cymorth pellach yn y tymor canolig, ac roeddwn yn falch o glywed yr hyn a ddywedodd am chwilio am gymorth trawslywodraethol. Yma, hoffwn gyfeirio'n ôl at yr hyn a ddywedodd Mick Antoniw am y cyfraniad addysgol posibl wrth i ni symud at y cwricwlwm newydd, lle bydd llawer mwy o amrywiaeth yn yr hyn a addysgir i'n pobl ifanc pan fyddant yn cael eu haddysgu am eu treftadaeth a'u diwylliant. Tybed a allai'r Dirprwy Weinidog, yn dilyn y ddadl heddiw, siarad â'r Gweinidog addysg a gweld a ellid symud rhai adnoddau i gefnogi'r llyfrgell genedlaethol efallai, a hefyd yr amgueddfa genedlaethol, mewn perthynas â'u hagenda ddigideiddio, oherwydd mae angen inni sicrhau bod yr adnoddau gwych hynny ar gael i blant a phobl ifanc ledled Cymru ac yn wir, i bob un ohonom. Wrth gwrs, mae'r Dirprwy Weinidog yn iawn i sôn am bwysigrwydd mynediad go iawn, ac rydym i gyd yn edrych ymlaen at y dyddiau pan allwn ymweld â'n sefydliadau yn y ffordd yr arferem allu gwneud hynny. Yn y cyfamser, credaf y gallwn fod yn falch iawn o'r ffyrdd arloesol y maent wedi ymateb i gyfnod heriol iawn, ac rwy'n gobeithio bod y Dirprwy Weinidog yn deall bod ganddo gonsensws trawsbleidiol mewn perthynas ag amddiffyn ein sefydliadau—lleol a chenedlaethol—a sicrhau y byddant yno i ni pan ddown allan o hyn, ac i'n plant a'n hwyrion mewn cenedlaethau i ddod. Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf yn gweld unrhyw wrthwynebiad. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Rydym yn atal y trafodion yn awr i ganiatáu inni newid staff yn y Siambr, a bydd y gloch yn cael ei chanu ddwy funud cyn i'r trafodion ailgychwyn. Diolch. Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:51. Ailymgynullodd y Senedd am 17:00, gyda'r Llywydd yn y Gadair. Croeso nôl. 8. Dadl Plaid Cymru: Ardaloedd cymorth arbennig COVID-19 Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enwau Gareth Bennett a Mark Reckless, gwelliannau 2 a 4 yn enw Rebecca Evans, a gwelliant 3 yn enw Darren Millar. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2, 3 a 4 yn cael eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 3, bydd gwelliant 4 yn cael ei ddad-ddethol. Dadl Plaid Cymru sydd nesaf, ar ardaloedd cymorth arbennig COVID-19. Dwi'n galw ar Leanne Wood i wneud y cynnig. Cynnig NDM7480 Siân Gwenllian Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi'r lefelau uchel parhaus cyfraddau heintio COVID-19 yng nghymoedd y de, gydag ardaloedd o fyrddau iechyd Cwm Taf Morgannwg ac Aneurin Bevan yn profi rhai o'r cyfraddau uchaf yn y DU. 2. Yn nodi'r ymchwil a gynhaliwyd yn Lloegr sy'n dangos bod effeithiau'r pandemig wedi cael effaith anghymesur ar gymunedau ôl-ddiwydiannol yng ngogledd Lloegr ac wedi gwaethygu gwahaniaethau rhanbarthol hirsefydlog y wladwriaeth Brydeinig. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddynodi ardaloedd lle mae cyfraddau heintio COVID-19 yn uwch yn ardaloedd cymorth arbennig COVID i fod yn gymwys i gael mesurau cymorth ychwanegol a fyddai'n cynnwys: a) cymorth ychwanegol i'r rhai sy'n agored i niwed o safbwynt clinigol ac na allant weithio gartref; b) cynyddu'r grant hunanynysu i £800; c) adnoddau ychwanegol ar gyfer timau profi ac olrhain ac awdurdodau lleol; d) llety gwirfoddol ychwanegol i'r rhai nad ydynt yn gallu hunanynysu'n ddiogel gartref; e) mwy o brofion i ganfod achosion asymptomatig; f) blaenoriaeth ar gyfer rhaglenni profi torfol a chyflwyno unrhyw frechlyn yn gynnar; g) cryfhau ymgyrchoedd cyfathrebu cyhoeddus lleol i'w gwneud yn haws i gadw at ganllawiau iechyd y cyhoedd: h) adnoddau ychwanegol ar gyfer wardeiniaid COVID lleol ar gyfer awdurdodau lleol a hyrwyddwyr cymunedol COVID i ailadrodd negeseuon atal COVID cenedlaethol; i) mesurau amddiffynnol ychwanegol mewn ysgolion ac ar gludiant i'r ysgol, gan gynnwys gwisgo masgiau mewn ystafelloedd dosbarth; j) adnoddau ychwanegol ar gyfer gofal plant diogel a fforddiadwy; k) mesurau ychwanegol i liniaru'r rhaniad digidol a tharfu ar addysg; l) mwy o gefnogaeth i fusnesau a phobl hunangyflogedig sy'n dewis rhoi'r gorau i fasnachu'n wirfoddol dros dro; m) gorchmynion gwasgaru yng nghanol trefi ar ôl cau tafarndai. Cynigiwyd y cynnig. Leanne Wood AC: Diolch, Lywydd. Mae Plaid Cymru am gael cymorth ychwanegol i gymunedau sydd wedi cael eu taro'n anghymesur gan COVID. Yr ardaloedd sydd â'r cyfraddau uchaf o achosion COVID yw Merthyr, Castell-nedd Port Talbot, Rhondda Cynon Taf a Blaenau Gwent. Mae'r ffigurau ar gyfer Blaenau Gwent, Rhondda Cynon Taf a Merthyr wedi bod yn uwch na ffigurau Lerpwl, sydd wedi elwa ar gymorth a blaenoriaeth ychwanegol ar gyfer technolegau newydd. Nid oes a wnelo hyn ddim â diwylliant y Cymoedd, fel y mae rhai wedi honni, a phopeth i'w wneud â thlodi a chyflogau isel, tai gwael, gorlawn, patrymau cyflogaeth sy'n golygu y gall llai o bobl weithio gartref, y system nawdd cymdeithasol gamweithredol nad yw'n cynorthwyo pobl ym mhob achos i hunanynysu, a dibyniaeth ar aelodau o'r teulu a ffrindiau ar gyfer gofal plant. Felly, cyn stereoteipio, byddai'n ddefnyddiol pe gallai pobl ddeall y ffeithiau perthnasol hyn. Mae'n sicr yn newyddion da ei bod yn ymddangos bod y cyfnod atal byr wedi cael effaith gadarnhaol ar achosion. Dylai'r Llywodraeth fod yn ei gwneud mor hawdd â phosibl i bobl ynysu. Rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i ddiogelu'r bobl fwyaf agored i niwed, a rhaid inni hefyd, fel trethdalwyr, fod yn barod i gefnogi'r rheini sy'n peryglu popeth i'n helpu ni i gyd, sef y gweithwyr rheng flaen. Ac ar y nodyn hwnnw, un arwydd bach o gefnogaeth a fyddai i'w groesawu'n fawr fyddai pe bai'r Llywodraeth yn cytuno i dalu am angladdau pob gweithiwr rheng flaen sy'n marw o COVID. Nid yw'n iawn fod eu teuluoedd yn gorfod poeni am gyllid ar adeg o alar. Rhaid inni gydnabod hyn a'u cefnogi. Mae'n bryd inni dderbyn nawr fod ysgolion yn chwarae rhan fwy yn y broses o drosglwyddo'r haint nag y credwyd i ddechrau. Mae modelu a data'r swyddfa ystadegau gwladol yn awgrymu bod plant yn fwy tebygol o fod yn achos cyntaf mewn cartref. Mae plant a phobl ifanc yn debygol o fod yn lledaenwyr asymptomatig. Mae angen rhoi llawer mwy o ystyriaeth i sut i reoli trosglwyddiad mewn ysgolion. Rhaid cael profion torfol rheolaidd i nodi achosion asymptomatig, a rhaid cael cymorth ychwanegol i gydnabod yr anawsterau gyda dysgu digidol sy'n wynebu teuluoedd sy'n ceisio cyfuno gofal plant ac addysgu eu plant â chyflogaeth amser llawn. I ddod yn ôl at brofi, ym mis Medi, addawodd Llywodraeth Cymru 'Mae pob ysgol yng Nghymru wedi derbyn pecynnau profi. Hefyd o gymorth i ysgolion unigol lle bo’r angen fydd profi cyflym gan Wasanaeth Iechyd Cymru.' Beth sydd wedi digwydd i hynny? Nid oes profion torfol o hyd i gadw ysgolion yn ddiogel ac ar agor. Mae athrawon yn cwyno wrthyf am y pwysau meddyliol sy'n deillio o gael ond ychydig o gyfathrebiadau gan y Llywodraeth ynglŷn â'r cynllun, neu'r diffyg cynllun, i ganslo'r arholiadau. Oni fyddai'n syniad gwych cael cynllun cyn i ni gael y cyhoeddiad? Ond mae athrawon hefyd yn teimlo'n anniogel. Dywedodd un yn ddiweddar, 'Rwy'n arswydo rhag mynd i'r gwaith, heb wybod a yw pobl yn asymptomatig. Mae'r straen yn fy ngwneud i'n gorfforol sâl'. Mae athrawon yn haeddu gwell na hyn. At hynny, o gofio mai aelwydydd yw un o'r prif lwybrau trosglwyddo, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae tai gorlawn yn broblem, cred Plaid Cymru fod yr amser wedi dod i'r Llywodraeth sefydlu cyfleusterau ynysu ar wahân i oedolion. Defnyddiwyd cyfleusterau o'r fath yn Ne Korea, Singapôr, Taiwan, yr Eidal, y Ffindir a llawer o wledydd eraill sydd â hanes gwell o lawer o atal y feirws. Byddai lleoedd o'r fath nid yn unig yn cynnig lle diogel i bobl ddod dros salwch ysgafn heb ei ledaenu i berthnasau hŷn neu fwy agored i niwed sy'n byw gyda hwy, byddai hefyd yn cynnig cyfle i fonitro pobl ac ymyrryd yn gynharach pan fyddant yn dirywio. Mae'r ymyrraeth gynnar hon mor bwysig, a bodolaeth y cyfleusterau hyn sy'n esbonio'n rhannol pam mai Singapôr sydd â'r gyfradd farwolaethau isaf yn y byd, ar 0.05 y cant. Rydym angen llawer o ymyriadau eraill yn yr ardaloedd sydd â chyfradd uchel o achosion o COVID. Mae angen inni wneud llawer mwy i ddiogelu'r rheini sy'n agored iawn i niwed yn glinigol, ac mae angen inni wneud llawer mwy ar ochr ariannol hyn i gyd, i unigolion ac i fusnesau. Rhaid inni gael newid yn y dull o weithredu i gydnabod bod y pandemig a'r ymatebion i'r pandemig yn cael eu profi'n wahanol ac mewn ffordd wahanol sy'n adlewyrchu anghydraddoldebau presennol. Nid damwain yw bod cyfraddau uchel o COVID yn adlewyrchu cyfraddau amddifadedd uchel, a rhaid i ymateb y Llywodraeth roi gwell ystyriaeth i hynny. Rwyf wedi dethol y pump gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2, 3 a 4 yn cael eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 3, bydd gwelliant 4 yn cael ei ddad-ddethol. Mae'r gwelliant cyntaf yn enw Gareth Bennett, a dwi'n galw arno fe i gyflwyno ei welliant—Gareth Bennett. Gwelliant 1—Gareth Bennett, Mark Reckless Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod ardaloedd sy'n parhau i fod â nifer fawr o achosion o COVID-19 wedi elwa o'r cymorth ariannol o £5 biliwn a roddwyd i Gymru yn ystod pandemig COVID-19 gan Lywodraeth y DU. 2. Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi ymgymryd â strategaeth COVID-19 sy'n wahanol i'r strategaeth gan Lywodraeth y DU yn gyson ac nad yw hyn wedi helpu'r cyfraddau heintio uchel parhaus sy'n gyffredin yng nghymoedd y de. 3. Yn credu mai'r ymateb gorau i gynorthwyo'r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan COVID-19 yng Nghymru yw drwy gael ymateb unedig yn y DU, dan arweiniad Llywodraeth y DU. Cynigiwyd gwelliant 1. Gareth Bennett AC: Diolch, Lywydd. Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl heddiw a diolch hefyd, Lywydd, am dderbyn gwelliant 1, rwyf drwy hyn yn ei gynnig. Bydd Plaid Diddymu Cynulliad Cymru yn pleidleisio yn erbyn cynnig Plaid Cymru heddiw, nid am nad ydym yn cytuno â rhai o'r mesurau y maent yn eu cynnig, ond yn hytrach am ein bod yn anghytuno â ffocws eu cynnig. Mae Plaid Cymru yn cynnig llu o gamau gweithredu y maent am i Lywodraeth Cymru eu cymryd. Ein safbwynt ni yw bod llawer o broblemau ymdrin â'r pandemig wedi'u gwaethygu gan bedair Llywodraeth wahanol ledled y DU yn gwneud pethau gwahanol. Mae hyn wedi arwain at ddryswch enfawr. Mae gwir angen ymateb unedig yn y DU, dan arweiniad Llywodraeth y DU. Ar hyn o bryd, mae gwahanol setiau o reolau ar draws ffiniau honedig, megis rhwng Cymru a Lloegr—ffiniau nad ydynt wedi bodoli mewn unrhyw ffordd ystyrlon ers cannoedd o flynyddoedd. Wedyn, mae'r rheolau'n newid, ac maent yn wahanol eto mewn gwahanol rannau o'r DU. Nid rheolau go iawn yw rhai o'r rheolau, canllawiau'n unig ydynt mewn gwirionedd, sydd fel pe baent yn golygu bod Llywodraeth Cymru yn esgus y gellir erlyn pobl am wneud rhywbeth pan na allant wneud hynny mewn gwirionedd. Y perygl gwirioneddol yw y bydd yr holl ddryswch yn arwain at ddirmyg tuag at y rheolau ymhlith cyfran fawr o'r cyhoedd. Mae arnaf ofn y gallai hyn fod yn anochel. Gan droi at y gwelliannau, cytunwn â rhywfaint o'r hyn y mae'r Ceidwadwyr yn ei ddweud, a rhywfaint o'r hyn y mae Llafur yn ei ddweud. Yn y bôn mae Llafur yn dweud wrthym eu bod wedi gwneud popeth yn iawn, tra bod y Ceidwadwyr yn galw am fwy o weithredu gan Fae Caerdydd. A gaf fi wneud y pwynt yn gyntaf fod y Ceidwadwyr yn sicr yn iawn ynglŷn ag un peth, sef bod y £5 biliwn y mae Cymru wedi'i gael gan Drysorlys y DU wedi sicrhau ein bod yn cadw ein pennau uwchben y dŵr, ac na fyddai gennym obaith o ddod drwy'r argyfwng hwn hebddo? Felly, y ffaith ei bod yn rhan o'r DU sydd wedi helpu Cymru yma. A gaf fi hefyd nodi bod COVID-19 yn argyfwng nad yw'n effeithio ar Gymru'n unig? Mae'n effeithio ar y DU gyfan. Felly, does bosibl na fyddai'n llawer haws lliniaru problemau'r argyfwng hwn drwy gael un strategaeth ar waith ledled y DU. Mae'n hurt meddwl bod cael gwahanol setiau o wleidyddion mewn pedwar lle gwahanol yn helpu pethau, gyda phawb yn meddwl am eu hatebion a'u mesurau lliniaru eu hunain yn erbyn yr argyfwng erchyll hwn. Mae'n teimlo'n fwyaf hurt yn ardaloedd y ffin, lle gall trigolion lleol weld cymaint o nonsens yw bod siopau a thafarnau a bwytai'n cael agor mewn un lle, ond yn gorfod aros ar gau ychydig gannoedd o fetrau i ffwrdd. Yna, yr wythnos ganlynol, mae'r sefyllfa'n newid fel bod y gwrthwyneb yn wir. Nid dyma'r ffordd o ymdrin yn gynhwysfawr ag argyfwng rhyngwladol. Efallai y bydd cefnogwyr datganoli'n dadlau mai gwahaniaethau o'r fath yw hanfod datganoli. Rwy'n meddwl weithiau tybed a yw Llywodraeth Cymru yn credu bod yn rhaid iddi wneud rhywbeth gwahanol i Lywodraeth y DU er mwyn cyfiawnhau ei bodolaeth a dim mwy na hynny. Y broblem yw mai'r bobl fydd yn drysu yn sgil yr holl reolau gwahanol hyn, a hwy yw'r rhai a fydd yn dioddef yn ddiangen. Mae'r bobl wedi dod yn wystlon mewn gêm beryglus sy'n cael ei chwarae gan y datganolwyr ymroddedig ym Mae Caerdydd a Holyrood. Nid ydym wedi wynebu argyfwng ledled y DU tebyg i hwn ers dechrau datganoli 21 mlynedd yn ôl, felly mae'n ddiddorol iawn gweld sut y mae wedi datblygu. Mae problemau datganoli wedi cynnwys Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru, ond maent hefyd wedi cynnwys haenau eraill o Lywodraeth megis meiri a etholwyd yn uniongyrchol. Cawsom y llanast braidd yn annymunol pan wnaeth Andy Burnham, maer Llafur Manceinion fwyaf, ddatgan yn agored y byddai'n cytuno i gyfyngiadau Llywodraeth y DU cyn belled â bod ei faenoriaeth fach yn cael swm cyfatebol o iawndal ar ffurf mwy o arian gan y Llywodraeth. Daw'n amlwg o ymddygiad Burnham ein bod yn anelu tuag at fath o Lywodraeth sy'n gyfarwydd yn UDA, a elwir yn wleidyddiaeth 'casgen borc': 'Fe gewch ein pleidlais cyn belled â'n bod yn cael eich arian'. Yn anffodus, fodd bynnag, bydd mwy o arian ar gyfer Manceinion fwyaf yn golygu llai o arian ar gyfer lleoedd eraill, felly nid yw'r math hwn o ryfelgarwch gan unben pot jam lleol fel Andy Burnham yn gwneud llawer dros y DU gyfan. Cawsom enghraifft fwy hurt byth o anfanteision datganoli gyda'r gwrthdaro rhwng y Prif Weinidog a maer Middlesbrough, Andy Preston. Ym mis Hydref, anghytunodd y Maer Preston â'r Prif Weinidog ynghylch y cyfyngiadau a dywedodd: Fel y mae pethau, rydym yn herio'r Llywodraeth. Sut y gall maer tref fod mewn unrhyw sefyllfa i herio Llywodraeth y DU? Etholwyd Andy Preston yn faer Middlesbrough wedi iddo gael 17,000 o bleidleisiau. Enillodd y Prif Weinidog etholiad cyffredinol lle cafodd y Ceidwadwyr bron i 14 miliwn o bleidleisiau. Nid oes cyfatebiaeth ddemocrataidd rhwng Prif Weinidog y DU a maer Middlesbrough. Yn yr un modd, nid oes cyfatebiaeth ddemocrataidd rhwng Prif Weinidog Cymru a etholwyd ar gyfradd bleidleisio o 45 y cant o'r boblogaeth o 3 miliwn a phrif Weinidog y DU a etholwyd ar gyfradd bleidleisio o 67 y cant o'r boblogaeth o 65 miliwn. Mae COVID-19 yn argyfwng cenedlaethol. Mae'n dod yn fwyfwy amlwg nad yw'r DU, dan ddatganoli, yn gallu ymdopi ag argyfwng cenedlaethol mewn ffordd unedig. Weithiau, rwy'n meddwl tybed beth fyddai wedi digwydd yn ystod yr ail ryfel byd pe bai gennym ddatganoli. Dychmygwch: 'Mae Prif Weinidog Cymru yn arwain protest yn erbyn dod â charcharorion rhyfel Almaenig ac Eidalaidd i Gymru.' Mae eich amser ar ben bellach, Gareth Bennett. A gaf fi ofyn i chi ddod â'ch sylwadau i ben? Gareth Bennett AC: Fe ddatblygaf y pwynt hwn eto. I gloi, dyma'r nonsens sydd gennym yn awr gyda datganoli. A gawn ni gael gwared ar yr anhrefn gyfansoddiadol hon os gwelwch yn dda— Rwy'n credu fy mod wedi— Gareth Bennett AC: Diolch, Llywydd. Diolch yn fawr iawn. Dwi'n galw nawr ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig yn ffurfiol welliannau 2 a 4 yn enw Rebecca Evans. Yn ffurfiol, Weinidog? Gwelliant 2—Rebecca Evans Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn nodi bod Llywodraeth Cymru’n cadw llygad yn barhaus ar lefelau cyfraddau heintio COVID-19 ar draws Cymru, o ystyried bod y cyfraddau heintio yn uchel mewn rhai ardaloedd. Gwelliant 4—Rebecca Evans Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le: Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi ystod eang o fesurau cymorth cenedlaethol ar waith i ymateb i’r pandemig COVID-19, gyda’r nod o gynorthwyo’r ardaloedd hynny lle mae cyfraddau heintio COVID-19 yn uchel yn ogystal ag ardaloedd eraill yng Nghymru, gan gynnwys: a) cynyddu’r gallu i brofi ac olrhain cysylltiadau a chyflwyno dewisiadau profi newydd; b) cyllid a chymorth ychwanegol i awdurdodau lleol; c) ymgyrchoedd helaeth i roi gwybodaeth i’r cyhoedd ar draws sianelau’r cyfryngau a’r cyfryngau cymdeithasol; d) cymorth i ailagor ysgolion a sefydliadau addysg eraill yn ddiogel; e) cyllid ar gyfer adferiad economaidd ac ar gyfer busnesau yng Nghymru; f) taliad hunanynysu o £500. Cynigiwyd gwelliannau 2 a 4. Vaughan Gething AC: Yn ffurfiol, Lywydd. Diolch. Galwaf ar Andrew R.T. Davies nawr i gynnig gwelliant 3 yn enw Darren Millar. Andrew R.T. Davies. Gwelliant 3—Darren Millar Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn croesawu'r lefelau hanesyddol o gyllid gan Lywodraeth Ei Mawrhydi i holl ranbarthau a chenhedloedd y DU, gan gynnwys yr ardaloedd hynny sydd â chyfraddau heintio uchel, i fynd i'r afael â pandemig COVID-19, yn enwedig y £5 biliwn o arian ychwanegol a roddwyd i Lywodraeth Cymru. Yn credu y dylid rhoi mesurau cymorth ychwanegol ar waith yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn sgil adroddiadau yn y cyfryngau bod o leiaf 9,000 o gleifion wedi bod yn aros am fwy na blwyddyn am driniaeth gan y GIG ym mis Medi yn yr ardal honno, gydag amseroedd aros i fod i gynyddu ymhellach yn dilyn effaith COVID-19. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu'r canlynol mewn perthynas ag ardaloedd lle mae cyfraddau heintio COVID-19 yn uwch, yn ogystal ag ardaloedd eraill ledled Cymru: a) targedu ardaloedd lle mae cyfraddau heintio COVID-19 yn uwch yng Nghymru, gan gynnwys cyfyngiadau call wedi'u targedu lle y bo'n briodol; b) cynyddu'r nifer o ysbytaisy'n rhydd o COVID a chyfleusterau ysbyty dros dro a gaiff eu cyflwyno er mwyn lleddfu'r pwysau ar y system gofal iechyd a mynd i'r afael â rhestrau aros; c) targedu profion mewn ardaloedd lle ceir problemau a chyflwyno sgrinio asymptomatig ddwywaith yr wythnos ar gyfer yr holl staff sy'n wynebu cleifion yn y GIG yng Nghymru a'r sector gofal cymdeithasol; d) comisiynu ymchwiliad brys i farwolaethau a heintiau sy'n gysylltiedig ag achosion a gaiff eu trosglwyddo mewn ysbytai; e) cyflwyno pecyn cymorth tosturiol i'r rhai sydd fwyaf agored i niwed gan y coronafeirws yng Nghymru; f) ôl-ddyddio taliadau hunanynysu yng Nghymru hyd at 28 Medi er mwyn sicrhau chwarae teg gyda rhannau eraill o'r DU; g) dyrannu gweddill yr arian nas gwariwyd a ddarparwyd gan Lywodraeth Ei Mawrhydi i fynd i'r afael â'r coronafeirws. Cynigiwyd gwelliant 3. Andrew RT Davies AC: Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am roi'r cynnig ger ein bron y prynhawn yma i'w drafod. Siaradaf am y gwelliant yn enw Darren Millar, gwelliant 3, sy'n tynnu sylw at yr adnoddau ychwanegol sy'n cael eu darparu i Lywodraeth Cymru drwy ei rhan yn yr undeb. Gallwn ychwanegu fod £5 biliwn o adnoddau hyd yma yn gyfraniad ariannol sylweddol i'r ymdrech i drechu COVID a chefnogi'r economi ar hyd a lled Cymru, a byddwn yn awgrymu bod bod yn rhan o'r undeb hwnnw wedi ein galluogi i adeiladu'r fantolen hon sydd wedi edrych ar y pandemig ac wedi gwneud i'r cyhoedd yng Nghymru sylweddoli pa mor gryf yw mantolen yr undeb pan elwir arni i gefnogi pob rhan o'r undeb yn wyneb y pandemig sy'n dal i ddatblygu o flaen ein llygaid. Byddwn hefyd yn uniaethu â sylwadau'r siaradwr agoriadol a oedd yn galw am adnoddau ychwanegol ar gyfer ardal bwrdd iechyd Cwm Taf, fel sydd yn ein gwelliant. Fel Aelod rhanbarthol dros Ganol De Cymru, bob bore dydd Iau byddaf yn mynychu sesiwn friffio, drwy sesiwn Zoom, ynglŷn â'r hyn sy'n datblygu yn ardal bwrdd iechyd Cwm Taf, sydd, i'r rhai nad ydynt yn gwybod, yn ymestyn o Ferthyr Tudful drwy ardal Rhondda Cynon Taf ac i lawr i fwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn awr. Rhaid i mi ddweud, pan glywch ystadegau difrifol, yn anffodus, yr heintiau a ddaliwyd mewn ysbytai a'r marwolaethau mewn ysbytai—ac mae'n werth eu hailadrodd yn y fforwm hwn: mae Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn anffodus, wedi colli 57 o bobl, mae Ysbyty Brenhinol Morgannwg wedi colli 61, ac Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful wedi colli 34. Mae hynny, ar yr ochr iechyd yn unig, yn dangos yr effaith y mae COVID wedi'i chael mewn ysbytai, heb sôn yr hyn sy'n digwydd yn y gymuned, lle mae bron i 9,000 o bobl wedi'u heintio â COVID yn ardal bwrdd iechyd Cwm Taf. Beth bynnag fyddai barn pobl am y system haenog a fabwysiadwyd yn Lloegr, mae'n iawn dweud bod adnoddau ychwanegol ynghlwm wrth y system haenog honno a ganolbwyntiai ar y cyfyngiadau penodol a roddwyd ar waith yn yr ardaloedd hynny, yn wahanol i'r fan hon yng Nghymru, lle cafodd siroedd eu rhoi dan gyfyngiadau heb unrhyw gymorth ariannol ychwanegol i leddfu'r ergydion, yn economaidd, a ddeilliai o'r cyfyngiadau hynny. A chredaf fod angen i Lywodraeth Cymru, gyda £1.6 biliwn yn ei chyllideb heb ei wario o'r swm canlyniadol o £5 biliwn, edrych ar y nifer uwch o achosion mewn cymunedau sydd eisoes â lefelau uchel o dlodi a heriau gwirioneddol yn y cymunedau hynny, a cheisio mynd i'r afael â hynny drwy ddefnyddio rhywfaint o'r £1.6 biliwn hwnnw i helpu'r adfywiad economaidd a'r adeiladu nôl ar ôl COVID y mae ein gwelliant yn siarad amdano. Oherwydd rwy'n credu bod y pŵer yno, ac mae angen i Lywodraeth Cymru ymateb, yn enwedig pan edrychwch ar y niferoedd, fel rwyf wedi'u darllen, gyda'r nifer drasig o farwolaethau mewn ysbytai yn yr ardal benodol honno, ond hefyd y gyfradd heintio yn ardal bwrdd iechyd Cwm Taf, sy'n siarad drosti'i hun. Mae'n mynd i fod yn daith hir, ond gallwn ddechrau ailadeiladu, a gallwn, heb unrhyw amheuaeth—nid wyf yn ceisio bachu'r ymadrodd—ailadeiladu'n llawer gwell na phan aethom i mewn i'r argyfwng hwn o bosibl, gyda'r dychymyg cywir a'r ewyllys wleidyddol gywir yma. Credaf hefyd, gyda'r taliadau hunanynysu y soniwyd eu bod yn dod gan Lywodraeth Cymru, ei bod yn bwysig eu bod yn cyd-fynd ag ardaloedd eraill o'r Deyrnas Unedig ac wedi'u hôl-ddyddio i 28 Medi, yn hytrach na dim ond 22 Hydref, fel y mae'r Llywodraeth wedi nodi yma. Clywais yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog ddoe yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog, pan soniodd pam ei bod yn bwysig i'r systemau adlewyrchu mesurau a roddwyd ar waith i ddiogelu rhag twyll, ac rydym i gyd yn cytuno â hynny; rydym am gael y gwerth gorau am y bunt gyhoeddus. Ond mae'n hanfodol, pan fydd y mesurau hyn ar waith, fod £500 ar gael o'r adeg y daethpwyd â'r mesurau hynny i rym. Ac os gall rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig ddatblygu'r systemau—datblygu'r systemau hynny'n hyderus—a all ddarparu'r gefnogaeth honno'n ôl tan ddiwedd mis Medi, yn hytrach na diwedd mis Hydref, credaf y dylem fod yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud hynny, a dyna mae ein cynnig yn galw amdano—ein gwelliant i'r cynnig, mae'n ddrwg gennyf—heddiw. Mae'r gwelliant hefyd yn cyffwrdd ag amseroedd aros ysbytai. Ac mae'r ffigurau'n cael eu cyhoeddi yfory, rwy'n credu, a fydd yn rhoi darlun go iawn inni o sut olwg sydd ar yr amseroedd aros hynny yng Nghymru. Ond rydym yn gwybod, o geisiadau rhyddid gwybodaeth gan y BBC ac astudiaethau a wnaed gan elusen canser Macmillan, er enghraifft, o ran amseroedd aros, amseroedd aros cyffredinol, fod tua 49,000 o bobl ar restr aros yma yng Nghymru, ac mewn perthynas â chanser, nododd Macmillan y perygl o hyd at 2,000 o farwolaethau cynamserol am nad yw pobl wedi gallu cael yr apwyntiadau canser a'r triniaethau canser sydd mor hanfodol naill ai i sicrhau gwellhad o ganser neu sicrhau bod amser gwerthfawr yn cael ei brynu ar gyfer y claf canser hwnnw. Ac mae hwn yn faes hanfodol y mae angen inni fod yn ei ddatblygu ar y cyd â'r colegau brenhinol, a datblygu'r cysyniad o fannau rhydd o COVID yn ein hysbytai a'n lleoliadau ysbyty, fel y gallwn daro'r cydbwysedd rhwng y gwasanaeth iechyd fel gwasanaeth iechyd COVID, ond fel gwasanaeth iechyd sy'n gwneud yr hyn y mae wedi'i gynllunio i'w wneud, sef diwallu anghenion iechyd cyffredinol y boblogaeth. Ac felly rwy'n gobeithio y bydd y gwelliant yn cael cefnogaeth yma heno yn y Senedd, oherwydd rwy'n credu ei fod yn ychwanegu at y cynnig sydd ger ein bron i'w drafod a hoffwn annog y Senedd i gefnogi'r gwelliant pan gynhelir y bleidlais. Delyth Jewell AC: Mae cymaint o realiti economaidd y Cymoedd yn ystod y 40 mlynedd diwethaf wedi deillio o ddinistrio'r diwydiannau glo a'r diwydiannau cysylltiedig yn fwriadol gan Lywodraeth Thatcher. Roedd y brad hwnnw fel daeargryn ac mae wedi arwain at sawl ôl-gryniad. Nid yw ein hysbryd cymunedol erioed wedi pylu, ond mae ein lefelau diweithdra'n dal yn ystyfnig o uchel ac mae ein canlyniadau iechyd yn cario creithiau degawdau o danfuddsoddi. Mae cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth wedi talu'r pris am yr hyn a gymerodd Thatcher oddi wrthynt. Yr ergyd ddiweddaraf yw'r effaith anghymesur o galed y mae COVID-19 yn ei chreu. Mae'r feirws wedi bod yn greulon ac yn ddi-baid mewn cymunedau ledled Cymru, ond mewn ardaloedd ôl-ddiwydiannol lle mae tai'n agos at ei gilydd a chyflogaeth mor ansicr fel na all rhai fforddio hunanynysu, mae'r feirws wedi gallu lledaenu'n frawychus o gyflym. Merthyr Tudful sydd â'r nifer uchaf o achosion y pen o'r boblogaeth yng Nghymru. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru, heddiw, wedi cadarnhau y bydd profion torfol ar gael i drigolion yr ardal, p'un a oes ganddynt symptomau ai peidio. Mae'n hen bryd. Ond mae angen inni adeiladu ar hynny a darparu'r cymorth ychwanegol y mae ein cynnig yn galw amdano, fel bod pobl sy'n byw yn ein cymunedau yn cael gofal, nid diagnosis yn unig. Pan osodwyd cyfyngiadau lleol ar ardaloedd yng Nghymru, Caerffili oedd y gyntaf, ac yna'r Rhondda, Merthyr Tudful, Blaenau Gwent a Chasnewydd, a Thorfaen yn ddiweddarach. Beth sydd gan yr ardaloedd hyn yn gyffredin? Wel, Lywydd, maent yn ardaloedd sydd â phoblogaethau hŷn, gyda strydoedd teras, a lle mae cysylltiadau teuluol yn dal yn gryf. Mae ein cysylltedd wedi cael effaith greulon, ac unwaith eto, rydym wedi dioddef oherwydd cynllunio gwael a degawdau o danfuddsoddi. Gwn fod cymunedau ledled Cymru wedi dioddef, ac yn amlwg, dylai'r cymorth ychwanegol sydd ei angen ar gyfer ardaloedd lle ceir llawer o achosion fod ar gael ym mhobman y mae ei angen. Ond ceir rhesymau sylfaenol pam y mae'r ardaloedd y cyfeiriais atynt wedi cael eu taro'n arbennig o galed, ac mae'n rhaid i ni unioni hynny. Canfu adroddiad gan gell cyngor technegol Llywodraeth Cymru ar anghydraddoldebau iechyd fod y pandemig wedi dwysáu anghydraddoldebau iechyd a oedd eisoes yn bodoli, a bod y materion sylfaenol hyn yn deillio o incwm isel, tai gwael a chyflogaeth ansicr. Sawl gwaith y mae'n rhaid inni wrando ar yr un canfyddiadau o adroddiad arall eto fyth cyn i rywun wrando a rhoi'r hyn y maent ei angen i'n cymunedau? Dyna pam y galwn am y gefnogaeth ehangach hon. Rydym am weld llety i bobl nad ydynt yn gallu hunanynysu gartref, cymorth ar gyfer gofal plant diogel a fforddiadwy, a mesurau diogelwch i ysgolion, fel cyflwyno gwisgo masgiau mewn ystafelloedd dosbarth. Mae angen buddsoddiad arnom i oresgyn y gagendor digidol i'w gwneud yn haws i bobl gadw mewn cysylltiad pan na allant weld ei gilydd wyneb yn wyneb. A byddwn yn ychwanegu at hynny yr angen am gymorth iechyd meddwl i helpu cymunedau gyda'r trawma cyfunol y maent yn ei ddioddef. Gellid gweithredu llawer o'n cynigion ledled Cymru, megis cynyddu'r grant hunanynysu i bobl ar incwm isel i £800 er mwyn darparu mwy o ofal plant a chymorth i bobl na allant weithio gartref. Byddai'r camau hyn yn helpu unigolion a theuluoedd ledled Cymru, ond mae eu hangen yn arbennig lle gwelwyd y lefel uchaf o achosion o'r feirws. Mae ennyn hyder y cyhoedd yn hollbwysig, a dyna pam ein bod am gael ymgyrchoedd cyfathrebu cryfach. Pan osodwyd cyfyngiadau lleol yng Nghaerffili, ni roddwyd unrhyw ganllawiau swyddogol i breswylwyr ar yr hyn y dylent ei ddisgwyl am fwy na 24 awr, gan adael pobl yn teimlo'n ansicr ac yn bryderus. Rhaid inni ddysgu gwersi o'r cyfyngiadau hynny. Ond mae angen i ni ddeall mwy hefyd am y patrymau ymddygiad sy'n hwyluso lledaeniad y feirws. Byddai'n sicr yn fuddiol i'r Llywodraeth gomisiynu ymchwil yn y maes hwn, oherwydd pe tynnid sylw at rai o'r patrymau ymddygiad hyn, byddai cymunedau'n gwybod pa gamau i'w cymryd i ddiogelu eu hunain. Lywydd, mae gobaith ar y gorwel, gyda chanlyniadau cychwynnol addawol yn achos dau frechlyn. Ond rydym yn wynebu misoedd tywyll ac anodd yn y gaeaf i ddod, ac mae angen i Lywodraeth Cymru gynllunio mewn ffordd strategol sy'n targedu cymorth lle mae ei angen fwyaf. Mae angen cymorth ar y cymunedau hynod hyn. Maent wedi bod yn galw am y cymorth hwnnw ers degawdau. O'r diwedd, efallai y gall y Llywodraeth hon fynd ati nawr i unioni'r anghydraddoldebau sydd wedi plagio ein strydoedd a mynd i'r afael â'r holl ôl-gryniadau sydd wedi adleisio dros y degawdau ers cau'r pyllau glo. Os nad nawr, pryd? Huw Irranca-Davies AC: A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon ac am eu cynnig hefyd? Ar frig y cynnig, yn y tri phwynt sydd ganddynt, mae'r un cyntaf yn nodi'r nifer uchel barhaus o achosion o COVID-19 ar draws Cymoedd y de. Mae rhannau eraill o Gymru hefyd—yng ngogledd Cymru hefyd yn wir—yn dioddef cyfraddau uchel, ond mae'n arbennig o gyffredin ar draws Cymoedd de Cymru. Ac wrth groesawu rhai o'r sylwadau yng nghyflwyniad Leanne, rhoddodd ffocws ar Gymoedd de Cymru. Os caf nodi hefyd y ffaith bod Cwm Taf yn cynnwys Pen-y-bont ar Ogwr ac Ogwr yn ogystal â chymoedd y Rhondda, cwm Nedd, Merthyr Tudful ac yn y blaen. Ac rwy'n gwybod nad oedd yn bwriadu hepgor hynny, ond ym mhen uchaf cymoedd Ogwr, rydym hefyd wedi gweld nifer uchel iawn o achosion o COVID-19, ac wrth gwrs, rydym yn rhan o ardal Cwm Taf. Ac ar y pwynt cyntaf hwnnw, a gaf fi hefyd groesawu cyfraniad Andrew R.T. Davies, gan nodi'r dystiolaeth a gasglwyd ac a roddwyd i'r holl Aelodau o'r Senedd yn sesiynau briffio Cwm Taf? Ond hoffwn ddweud wrtho, yn ofalus iawn, mai'r union dystiolaeth honno o'r effaith ar y gwasanaeth iechyd yng Nghwm Taf, yn ogystal â lledaeniad yn y gymuned a lledaeniad yn y gweithle, dyna'n union pam roeddem angen y cyfnod atal byr a phopeth a ddaeth gydag ef er mwyn lleihau rhywfaint, er dros dro, ar y lledaeniad a'r cynnydd enfawr a welsom yn yr ardal. Roedd taer angen y cyfnod atal byr hwnnw arnom. Nawr, rhaid inni ysgwyddo'r cyfrifoldeb hwnnw, bob un ohonom sy'n byw yn ardal Cwm Taf i wneud iddo weithio wrth inni nesáu at fisoedd y gaeaf. Nododd hefyd, yn eitem Rhif 2, yr ymchwil a wnaed yn Lloegr, y credaf ei fod yn berthnasol iawn yng Nghymru mewn cymunedau ôl-ddiwydiannol, fel y dywedodd Delyth yn gywir. Yr hyn sydd gennym yw anghydraddoldebau strwythurol yng Nghymoedd de Cymru, a rhannau eraill o Gymru, rhaid imi ddweud, oherwydd mae yna ardaloedd ôl-ddiwydiannol eraill, gan gynnwys yng nghymunedau gogledd Cymru hefyd. Maent yn anghydraddoldebau hir a dwfn, ac mae'n sicr yn wir, fel y mae'r pwyllgor y mae Delyth a minnau'n aelodau ohono wedi dangos, fod effeithiau COVID wedi mynd yn ddyfnach i'r ardaloedd hynny lle roedd anghydraddoldebau strwythurol eisoes. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. A gaf fi ddweud, o ran pwynt 3 yng nghynnig Plaid Cymru, ond rhai o'r pwyntiau eraill hefyd, gan gynnwys pwyntiau'r Ceidwadwyr—mae pwyntiau o werth o'u mewn. Fy mhryder i, fodd bynnag, yw ei fod yn sawl peth, a gallai fod gwerth gwirioneddol i rai ohonynt a'u bod yn haeddu cael eu hystyried ac yn iawn i'w trafod heddiw, ond efallai nad yw rhai ohonynt yn gwbl effeithiol neu'n targedu cymorth ychwanegol yn effeithlon. Felly, rwy'n hapus i gefnogi'r ddau bwynt cyntaf ac i gefnogi cynnig Llywodraeth Cymru i dynnu trydedd ran y cynnig a rhoi'r un sy'n cydnabod y gwaith sy'n digwydd yno yn ei le. Ond hoffwn ychwanegu ato, ac yng ngwelliant 4 Llywodraeth Cymru o dan enw Rebecca Evans, mae'n sôn am yr ystod eang o fesurau cymorth cenedlaethol sydd ar waith, gan gynnwys y rheini i gynorthwyo ardaloedd lle ceir nifer fawr o achosion o COVID-19. Mae'n sôn am y profion ac olrhain cysylltiadau, ac rydym wedi clywed heddiw am Ferthyr Tudful, gyda phrofion torfol, gydag adnoddau enfawr yn cael eu rhoi tuag at hynny ac o bosibl yn cael eu trafod fel prototeip ar gyfer ardaloedd eraill sydd â chyfradd uchel o haint. Mae hynny i'w groesawu. Mae arian ychwanegol yn cael ei roi i awdurdodau lleol. Mae angen inni gadw llygad ar hynny a gweld beth arall sydd ei angen. Rwy'n gobeithio y gall y Gweinidog ddweud wrthym y byddai mwy ar yr ymgyrchoedd gwybodaeth i'r cyhoedd, oherwydd mae'n rhywbeth rwyf fi ac eraill wedi bod yn galw amdano: rhywbeth sy'n canolbwyntio'n wirioneddol ar bethau a fydd yn gweithio i bobl y Cymoedd rwy'n byw gyda hwy, sy'n mynd at wraidd y rhain mewn gwirionedd ac yn ennill calonnau ac eneidiau o ran sut i addasu eich ymddygiad eich hun a gofalu am eich ffrindiau a'ch teuluoedd yn ddiogel yn ystod y cyfnod anodd hwn, ac yn y blaen—eu hadferiad economaidd. Mae gennyf ddiddordeb mewn clywed gan y Gweinidog a fyddai'r taliad hunanynysu o £500, sydd i'w groesawu'n fawr—a fyddai hwnnw, er enghraifft, yn cael ei adolygu'n barhaus. Ond gadewch i mi ddweud, Lywydd, byddwn wedi ychwanegu at hynny 'galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i adolygu unrhyw gymorth ychwanegol sydd ei angen ar gyfer ardaloedd lle ceir cyfraddau uchel o COVID-19 i reoli'r cyfraddau heintio, a'—ledled Cymru, gyda llaw—'ymrwymo i archwilio effaith ychwanegol COVID-19 ar ardaloedd yng Nghymru gyda'r anghydraddoldeb economaidd ac iechyd strwythurol sy'n bodoli eisoes sydd hefyd yn profi cyfraddau uchel o COVID-19, gan nodi hefyd unrhyw fesurau angenrheidiol ychwanegol yn dilyn hynny'—ac edrych ar yr hyn a awgrymwyd heddiw, ond edrych ar bethau eraill i unioni'r anghydraddoldebau hynny y gwyddom eu bod yn cael eu gwaethygu gan COVID-19, gan gynnwys swyddi a'r economi, ond hefyd effeithiau COVID hir ar iechyd. Byddwn yn byw gyda hynny hefyd. Felly, byddwn wedi ychwanegu'r rheini. Credaf fod rhai syniadau da'n cael eu cyflwyno heddiw. Mae arnaf ofn fod rhai ohonynt heb fod mor effeithiol ac effeithlon ag y gallent fod, ond byddwn yn annog Llywodraeth Cymru, gan wneud popeth y mae'n ei wneud ar hyn o bryd, i gadw meddwl agored ynglŷn â beth arall y gallai fod angen ei wneud yn ogystal, ac i barhau i ymgysylltu â holl aelodau'r meinciau cefn wrth i ni gyflwyno'r syniadau hyn. Diolch yn fawr iawn. Dai Lloyd AC: Dim ond ymyriad byr sydd gennyf i yn fan hyn, a diolch am y cyfle i gyfrannu i'r ddadl ac i'w hehangu hi ychydig. Mae'n bwysig nodi o'r tystiolaethau a gawson ni'r bore yma yn y pwyllgor iechyd ei bod hi'n hanfodol bwysig cefnogi pobl i allu ynysu, eu cefnogi nhw'n ariannol ac yn gymdeithasol. Ond y pwynt dwi eisiau gofyn i'r Gweinidog ydy: ydy e'n cefnogi'r alwad synhwyrol gan y Blaid Lafur yn Lloegr yn ddiweddar i gyflwyno cyfraith i'w gwneud yn anghyfreithlon lledaenu gwybodaeth ffug a chodi bwganod ar y cyfryngau cymdeithasol ynghylch y brechlyn COVID newydd? Ac os felly, ydy e'n rhywbeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud er mwyn diogelu a hyrwyddo iechyd pobl Cymru? Diolch yn fawr, Llywydd. Caroline Jones AC: Pan godais fater y feirws newydd a oedd yn dod i'r amlwg yn Tsieina am y tro cyntaf, ynghyd â'i botensial i fygwth y tiroedd hyn, nid oeddwn yn credu na fyddem wedi cael rheolaeth arno bron i 10 mis yn ddiweddarach. Mae hyn yn ymwneud yn rhannol â'r rheolau, sy'n gallu bod yn ddryslyd iawn. Cysylltodd un etholwr â mi'n ddiweddar i ofyn pam na allai gyfarfod â ffrindiau yn gymdeithasol yn ei gardd mwyach, ond ei bod hi'n iawn iddi fynd i'r dafarn gyda hwy. Nid yw am fynd i dafarn a rhoi ei hun mewn mwy o berygl o ddal y clefyd, felly mae'n colli un o'r pethau sy'n cadw ei lles meddyliol yn iach. Nid oes angen rheolau cymhleth arnom, dim ond glynu at gadw 2m o bellter rhyngom a phobl nad ydynt yn rhan o'n teulu agos, golchi ein dwylo'n rheolaidd a gwisgo masg mewn mannau cyhoeddus. Os ydych yn dal y clefyd, neu wedi bod mewn cysylltiad agos ag unrhyw un sydd wedi ei ddal, bydd angen i chi hunanynysu am bythefnos. Dim byd cymhleth. Mae'r clefyd hwn yn cael ei ledaenu gan bobl sydd mewn cysylltiad agos â'i gilydd, a phe bai pawb ohonom yn cadw pellter cymdeithasol ni fyddai'r clefyd hwn yn lledaenu fel y mae'n gwneud. Cadw pellter o 2m rhwng pobl fydd yn torri'r gadwyn drosglwyddo, nid rheolau cymhleth ar gyfer gwahanol rannau o'r wlad neu res ddiddiwedd o gyfyngiadau symud neu gyfnodau atal byr, neu beth bynnag rydych am eu galw. Yr wythnos hon, cawsom newyddion addawol am yr ail frechlyn sy'n cael ei ddatblygu. Fodd bynnag, hyd yn oed os bydd hynny'n datblygu fel y cynlluniwyd, gallai fod o leiaf flwyddyn arall cyn i bawb yn y wlad gael eu brechu, felly ni fydd brechlyn yn ateb i bob gobaith eto. Fel rwyf wedi dweud droeon, mae'n rhaid inni ddysgu byw gyda'r clefyd hwn, a datblygu normal newydd fel y gall pobl barhau i fyw eu bywydau cystal ag y gallant o dan yr amgylchiadau. Mae'n mynd i gymryd cenedlaethau inni wella o'r niwed economaidd y mae COVID-19 wedi'i greu. Ni allwn barhau i gau ein heconomi. Ar y cam hwn, dylem fod yn cynnal profion ar y rhai sydd â'r feirws ac yn eu holrhain ar raddfa eang, ac yn sicrhau y gallant hunanynysu'n ddiogel. A dylem fod yn sicrhau cydymffurfiaeth lem â rheolau cadw pellter cymdeithasol. Ar ddechrau'r pandemig, gwelsom derfynau llym i nifer y bobl a ganiateid i fynd i mewn i'n siopau a'n harchfarchnadoedd, ond yn yr wythnosau diwethaf ymddengys nad oes unrhyw gyfyngiadau ar waith mewn rhai mannau, ac mae angen i siopau ac archfarchnadoedd gyfyngu ar nifer y bobl y caniateir iddynt ddod i mewn i'r siop ar unrhyw adeg. Yn olaf, drwy gydol y pandemig hwn, mae un grŵp wedi cael ei esgeuluso'n ddifrifol: y rhai sydd wedi cael COVID-19, ac mae llawer gormod o bobl yn dioddef o gyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd o ganlyniad i'r haint. Nid yw'r bobl hyn wedi cael fawr ddim cefnogaeth, a dywedodd un o fy etholwyr sy'n ddeintydd wrthyf nad yw'n siŵr a fydd yn gallu dychwelyd i'r gwaith oherwydd bod y feirws wedi dinistrio ei ysgyfaint. Mae'n ei chael hi'n anodd anadlu ac yn dioddef o flinder ofnadwy. Mae'n dioddef o anymataliaeth ac wedi colli mwy na 15kg o bwysau, er bod ei bwysau'n ddelfrydol cyn hyn. Dim ond 28 oed ydyw, ac eto mae ei feddyg, pan fydd yn gweld ei feddyg i gael cyngor, wedi dweud wrtho fwy neu lai mai dim ond gorbryder yw hyn a bod rhaid iddo ddod i delerau â'r peth. Mae'r achos hwn ymhell o fod yn unigryw, felly rhaid inni sicrhau bod y rhai sy'n dioddef o COVID hir yn cael eu cymryd o ddifrif, a'u bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i symud ymlaen a dychwelyd at ryw fath o fywyd normal gystal ag y gallant. Felly, mae COVID-19 yn her aruthrol, ond gallwn ddysgu byw gyda'r clefyd os rhoddwn y mecanweithiau cymorth cywir ar waith. Diolch yn fawr. Y Gweinidog i gyfrannu i'r ddadl, Vaughan Gething. Vaughan Gething AC: Diolch, Lywydd, a hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl heddiw. Mae ychydig dros wythnos ers diwedd y cyfnod atal byr. Mae'r arwyddion cynnar yn galonogol, gyda nifer yr achosion o'r coronafeirws yn parhau i ostwng. Ar gyfer yr wythnos a ddaeth i ben ar 1 Tachwedd, cafwyd 8,660 o achosion wedi'u cadarnhau yng Nghymru, ac ar gyfer yr wythnos a ddaeth i ben ar 15 Tachwedd, cafwyd 4,212 o achosion wedi'u cadarnhau. Felly, llai na hanner y niferoedd wythnosol o achosion a welwyd yn ystod wythnos gyntaf y cyfnod atal byr. Ac rwy'n awyddus i ddiolch eto i bobl Cymru am eu gwaith caled a'u haberth dros y cyfnod atal byr, ac rwy'n cydnabod bod hyn wedi bod yn anodd i bobl, felly rwy'n ddiolchgar iawn am ymdrechion pawb i wneud y peth iawn. Wrth adael y cyfnod atal byr rydym yn cydnabod yr angen i fod yn ofalus fel na fyddwn yn colli ei effaith. Bydd y mesurau cenedlaethol a gyflwynwyd yr wythnos diwethaf yn cael eu hadolygu'n rheolaidd i sicrhau mai hwy yw'r mesurau cywir o hyd yn seiliedig ar y dystiolaeth ddiweddaraf. Rydym yn parhau i fonitro nifer yr achosion a lledaeniad y feirws yn ofalus wrth gwrs. Gwyddom fod rheolau cenedlaethol yn symlach ac yn haws eu cyfathrebu ac i bobl eu dilyn. Ond rydym yn cydnabod y gall pethau newid a phe bai clwstwr o achosion mewn pentref, tref neu ardal leol, mae gennym amrywiaeth o gamau y gellid eu cymryd. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau y gall unigolion a busnesau ledled Cymru gael yr un lefel o gymorth ledled y wlad fel nad ydym yn rhoi unrhyw ranbarth penodol o dan anfantais. Rydym yn falch ein bod wedi gwneud y penderfyniad anodd ond angenrheidiol i weithredu'n gynharach yma, yn seiliedig ar gyngor gwyddonol a meddygol clir. Rydym wedi ystyried y wyddoniaeth yn gyson ers dechrau'r pandemig. Rydym yn dal i fod yn awyddus i weithio gyda Llywodraethau eraill yn y DU i ystyried a gweithredu dull gweithredu ledled y DU lle bynnag y bo modd, ond bydd ein dull gweithredu, wrth gwrs, yn rhoi'r flaenoriaeth i wneud y peth iawn i gadw Cymru'n ddiogel. Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraethau eraill yn y DU wrth gwrs, wrth inni ystyried ein cynlluniau ar gyfer cyfnod y Nadolig. Pan gyhoeddodd Llywodraeth y DU swm canlyniadol Barnett blaenorol o £1.2 biliwn i Gymru, mae'n bwysig cofio bod mwy na hanner yr arian hwnnw, £675 miliwn, wedi mynd ar ein GIG. Ac mae'r holl gyfran Barnett a'r cyfan o'r £5 biliwn y cyfeiriodd y Ceidwadwyr ato yn deillio o wariant a gyhoeddwyd neu wariant arfaethedig yn Lloegr. Nid yw'n fater o haelioni na charedigrwydd; dyna sut y mae undeb y DU yn gweithio. Fodd bynnag, mae ymhell o'r hyn y bydd ei angen ar Gymru i wrthdroi'r difrod hirdymor a achosir gan y pandemig. Rydym yn dal yn siomedig nad yw Llywodraeth y DU wedi ymateb i'n cais parhaus i ddarparu'r hyblygrwydd sydd ei angen arnom ni i ymateb ac i fuddsoddi yn adferiad Cymru, yn enwedig newid cyfalaf yn refeniw, cynyddu cronfeydd wrth gefn Cymru a'n pŵer benthyca. Fodd bynnag, gwnaethom ddefnyddio'r cyfnod atal byr i gryfhau ein gwasanaeth profi, olrhain, diogelu fel ei fod yn addas ar gyfer yr her gynyddol y gwyddom y bydd yn ei hwynebu y gaeaf hwn. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddais fuddsoddiad ychwanegol o £15.7 miliwn ar gyfer profi, olrhain, diogelu, i fynd â chyfanswm y buddsoddiad yn ein gweithlu olrhain cysylltiadau ers mis Mehefin i dros £60 miliwn. Bydd yr arian ychwanegol rwyf wedi'i gyhoeddi yn caniatáu i awdurdodau lleol recriwtio 1,300 o swyddogion olrhain cysylltiadau a chynghorwyr ychwanegol, gan godi cyfanswm y gweithlu o 1,800 i 3,100. Rydym hefyd wedi sefydlu tîm rheoli ymchwydd newydd ar gyfer olrhain cysylltiadau i Gymru gyfan i helpu ar ddiwrnodau pan geir niferoedd arbennig o uchel o achosion. Mae olrhain cysylltiadau'n rhan allweddol o'n hymateb i'r pandemig. Ers ei lansio ym mis Mehefin, mae ein gwasanaeth profi, olrhain, diogelu wedi llwyddo i olrhain mwy na naw o bob 10 cyswllt a nodwyd gan achosion positif newydd. O ran ein cefnogaeth ehangach, rydym wedi darparu dros £0.5 biliwn drwy'r gronfa galedi frys i lywodraeth leol. Mae'r cyllid yn ymateb i anghenion awdurdodau lleol. Po fwyaf yw'r angen, y mwyaf yw'r cyllid. Mae'n cwmpasu'r holl wasanaethau a ddarperir gan awdurdodau lleol, gyda chyllid penodol wedi'i neilltuo ar gyfer rhai meysydd, megis prydau ysgol am ddim a gofal cymdeithasol i oedolion. Ac rydym wedi cydnabod y bu effaith ar allu awdurdodau i godi incwm. Dyna pam y buom yn gweithio gyda llywodraeth leol i asesu'r effaith honno wrth i'r flwyddyn fynd yn ei blaen. Yn ogystal â'r gronfa galedi, rydym wedi darparu £2.85 miliwn i gefnogi pobl ar gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor. Bydd ein hymgyrch gyfathrebu'n parhau i ganolbwyntio ar ofyn i bobl feddwl yn ofalus am eu dewisiadau—nid yr hyn y gallwn ei wneud, ond beth y dylem ei wneud—oherwydd ni fydd rheolau'r Llywodraeth ar eu pen eu hunain yn cadw pobl Cymru'n ddiogel. Mae angen i bob un ohonom feddwl am yr hyn y gallwn ei wneud i helpu i atal lledaeniad y feirws a sut y gweithredwn i ddiogelu eraill. Bydd sut rydym yn dewis gweithredu dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf yn diffinio cwrs y feirws. Gallwch ddisgwyl gweld y neges honno'n cael ei hatgyfnerthu dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf ar y teledu, y radio a'r cyfryngau cymdeithasol, ac amrywiaeth o ddewisiadau amrywiol. Gobeithio y bydd hynny'n helpu pobl eto i ailystyried a gwneud dewisiadau o ran yr hyn y dylem i gyd ei wneud. Mae cadw ein hysgolion a'n sefydliadau addysg ar agor wedi bod yn flaenoriaeth allweddol. Er mwyn cefnogi addysg dal i fyny, rydym wedi buddsoddi bron i £29 miliwn. Mae hynny'n ddigon i ychwanegu tua 600 o athrawon a 300 o gynorthwywyr addysgu at gapasiti'r system. Rydym wedi darparu £25 miliwn ar gyfer gwaith glanhau ychwanegol mewn ysgolion er mwyn helpu i gadw ein hysgolion mor lân a diogel â phosibl i bobl ifanc a staff ysgolion. Rydym hefyd wedi darparu £2.3 miliwn i ddarparu gorchuddion wyneb am ddim i bob dysgwr ysgol uwchradd ac addysg bellach. Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu'n gyflym ac yn bendant i helpu i ddiogelu busnesau Cymru rhag effaith y coronafeirws. Mae ein pecyn cymorth busnes gwerth £1.7 biliwn a mwy yn ategu cynlluniau eraill y DU, ac mae'n golygu bod cwmnïau yng Nghymru'n gallu cael y cynnig mwyaf hael o gymorth yn unrhyw ran o'r DU. Pan aethom ati i ddatblygu ein cronfa cadernid economaidd ein hunain, gwnaethom hynny i lenwi bylchau a adawyd gan becyn cymorth Llywodraeth y DU. Hyd yma, mae'r gronfa cadernid economaidd wedi helpu mwy na 13,000 o fusnesau gyda mwy na £300 miliwn o gymorth, a chan ddiogelu dros 100,000 o swyddi. Ac mae'r taliadau hunanynysu newydd wedi dechrau o ddydd Llun yr wythnos hon. Bydd pobl ar incwm isel yn gallu gwneud cais am daliad o £500 os bydd yn rhaid iddynt hunanynysu oherwydd bod ganddynt COVID neu am eu bod wedi cael cyngor i ynysu gan y rhaglen profi, olrhain, diogelu, a chaiff ei ôl-ddyddio i 23 Tachwedd. Wrth i'r pandemig barhau, byddwn yn parhau i adolygu ac adnewyddu ein dull o weithredu, yn union fel y galwodd Huw Irranca-Davies amdano. Byddwn yn parhau i ystyried y cyngor gwyddonol a meddygol diweddaraf. Dyna'r ffordd gywir o ymateb i feirws na ellir ei ragweld. Dyna sut rydym wedi gweithredu'n gyson i gadw Cymru'n ddiogel. Fel y dywedais, bydd sut y gweithredwn a'r dewisiadau a wnawn dros y dyddiau nesaf yn dylanwadu ar yr hyn fydd yn digwydd nesaf. Gofynnaf i bawb leihau nifer y bobl y maent mewn cysylltiad â hwy, i weithio gartref os gallwch, i fynd allan yn llai aml a pheidio â theithio heb fod angen gwneud hynny, a pharhewch i gadw eich pellter, golchi eich dwylo'n rheolaidd, a gwisgo gorchudd wyneb lle bo angen. Mae angen i bob un ohonom chwarae ein rhan er mwyn gofalu amdanom ein hunain a'n gilydd, a dyna sut, gyda'n gilydd, y byddwn yn cadw Cymru'n ddiogel. Fel y dywedais, gofynnaf i'r Aelodau gefnogi gwelliannau 2 a 4, ac unwaith eto diolch i'r Aelodau am y ddadl heddiw. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth nawr i ymateb i'r ddadl. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan heddiw, ac am y cyfle i gloi y drafodaeth rydym ni wedi ei chael. Dwi'n apelio arnoch chi heddiw i gefnogi cynnig Plaid Cymru—cynnig sydd, yn syml iawn, yn ymwneud â chefnogi ardaloedd sy'n gweld niferoedd arbennig o uchel o COVID-19. Mae yna nifer o'r rheini yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae'r cynnig yma'n adlewyrchu'r ffaith mai yng Nghymoedd y de a'r de-ddwyrain y mae rhai o'r ardaloedd efo'r achosion mwyaf erbyn hyn, a dyma'r ardaloedd sydd fwyaf angen ein help ni—mwyaf o angen ein cefnogaeth bellach ni. Rhun ap Iorwerth AC: Ychydig eiriau am y gwelliannau. Gwrthodwn welliant dileu popeth braidd yn annysgedig ond rhagweladwy Gareth Bennett a Mark Reckless. Os gallant ddweud wrthym sut nad ydynt hwy, fel trethdalwyr yng Nghymru, wedi cyfrannu at gyllid y Trysorlys sydd wedi dod i Gymru yn ystod yr argyfwng hwn, efallai y gallant ddweud wrth eraill a allai fod eisiau osgoi talu trethi. Nid gwleidyddiaeth 'casgen borc' yn gymaint â gwleidyddiaeth crafu-gwaelod-y-gasgen gyda'u pwyslais cenedlaetholgar Prydeinig na ddylech byth wneud dim ar lefel Cymru'n unig. Yn sicr, os oes rhaid i'r ymateb i COVID fod yn union yr un fath ym mhob rhan o Brydain, byddech yn dadlau dros gael dull unffurf ar draws Ewrop hefyd. Rwyf fel pe bawn i'n cofio bod gennym undeb ar gyfer hynny. Nid yw Darren Millar ar ran y Ceidwadwyr yn dileu popeth yn hollol, mae'n garedig yn gadael y pwynt fod gan rai ardaloedd fwy o achosion o COVID nag eraill, ond mater iddynt hwy yw rhesymu pam eu bod am ddileu rhai o'n hawgrymiadau. Ond ar ôl hynny, maent yn gwrthod mwy o gymorth ariannol i'r rhai sydd ei angen i hunanynysu, a hyd yn oed yn gwrthod y profion torfol rydym yn gofyn amdanynt, profion torfol y mae'r Llywodraeth heddiw wedi cytuno arnynt, rwy'n falch o weld. Os bu adeg erioed i ymgysylltu'n adeiladol, efallai y gallem weld pawb, ar draws pob plaid, yn rhoi syniadau at ei gilydd i geisio sicrhau gwell canlyniadau i bobl Cymru. Huw Irranca-Davies, i ymateb i'ch sylwadau, mae gennyf ddiddordeb mewn gwybod pa rai o'r elfennau yn ein cynnig y credwch nad ydynt yn werth chweil, oherwydd, a dweud y gwir, yr hyn rwy'n ei weld yw eich bod yn gwrthod ein rhestr ni o bethau a allai fod yn syniadau da ac yn pleidleisio yn lle hynny dros y syniadau Llafur. Rwy'n deall pam eich bod yn gwneud hynny, ond nid yw'n ddefnyddiol iawn. Rhun ap Iorwerth AC: Felly, at welliannau Llywodraeth Cymru. Maent hwythau hefyd yn gwrthod, ymhlith pethau eraill, lefel uwch o gymorth ariannol i bobl y gofynnir iddynt hunanynysu. Wyddoch chi, nid dim ond y bobl sydd ag amser i wneud hynny y byddwn yn eu cynghori i wylio cyfarfod Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Senedd y bore yma, byddwn yn cynghori hyd yn oed y bobl nad oes ganddynt amser i wneud hynny hefyd. Roedd y tystion a ddaeth ger ein bron heddiw yn arbenigwyr byd-enwog mewn gwyddoniaeth ymddygiadol a seicoleg mewn perthynas â phandemigau a'r epidemioleg ac iechyd y cyhoedd—yr Athrawon Robert West, Susan Michie, David Heymann a Devi Sridhar—a rhoddasant gipolwg diddorol inni ar ymateb COVID yn fyd-eang, beth sydd wedi'i wneud yn dda gan bwy, beth sydd wedi'i wneud yn wael gan bwy, yr hyn y gallwn ei ddysgu o arferion gorau mewn mannau eraill, a'r hyn y gallwn ei ddysgu o egwyddorion hirsefydlog hefyd ynghylch sut i ymateb i bandemig. Yr un peth roeddent yn ei bwysleisio'n gadarn oedd pwysigrwydd cefnogi pobl er mwyn rhoi'r cyfle gorau i ni ein hunain ddod o hyd i strategaeth ddileu lwyddiannus, ac yn enwedig cynorthwyo pobl i hunanynysu, ac efallai mai'r rhan bwysicaf o'r cymorth hwnnw yw cael lefel y cymorth ariannol yn iawn. Dywedodd Devi Sridhar fel hyn, 'Ni allwch gosbi pobl am weithred o ewyllys da.' Yr hyn a olygai wrth hynny oedd, i'r rhai sydd â'r feirws eisoes, gofynnir iddynt hunanynysu er mwyn helpu eraill. Mae'n rhy hwyr iddynt hwy; maent wedi dal y feirws. Gofynnir iddynt geisio gwneud yn siŵr fod pobl eraill yn ddiogel, nad yw pobl eraill yn ei gael. Efallai eich bod mewn swydd fel finnau lle gallwch weithio'n eithaf hawdd gartref. Efallai eich bod yn ddiogel yn ariannol—gallech fforddio cymryd ychydig wythnosau o wyliau hyd yn oed heb unrhyw incwm o gwbl, efallai—ond mae llawer ohonom, yn ddealladwy, wedi dod i'r casgliad y bydd hunanynysu yn golygu caledi iddynt hwy neu hyd yn oed yn bwysicach, i'w teuluoedd. Mae cymhelliad iddynt beidio â hunanynysu ac fel y dywedodd Leanne Wood yn gynharach, nid yw'n gyd-ddigwyddiad mai ardaloedd lle ceir lefel uwch o amddifadedd i raddau helaeth yw'r ardaloedd lle ceir nifer fawr o achosion, ac nid yw'r ffigur o £800 rydym yn ei gynnwys yn y cynnig hwn yn ffigur rydym wedi'i greu o ddim byd, mae'n ffigur a awgrymwyd gan SAGE annibynnol. Nawr, pe bawn yn dweud wrthych fod papur gan Lywodraeth y DU ar gymorth i hunanynysu a gyhoeddwyd ym mis Medi wedi dod i'r casgliad mai dim ond tua 20 y cant o'r bobl y dywedwyd wrthynt am hunanynysu oedd yn gwneud hynny'n effeithiol, credaf eich bod yn cael darlun o'r hyn sy'n digwydd. Pa obaith sydd gennym? Credir efallai fod hynny'n nes at 30 y cant nawr, ond rywsut mae'n rhaid i ni newid ymddygiad. Mae'n rhaid inni ddigolledu pobl yn iawn yn ariannol, mae'n rhaid inni gynnig cymorth emosiynol ac ymarferol i bobl. Mae'n rhaid i ni gael y cyfathrebu'n iawn ynglŷn â pham y gofynnir i bobl gymryd y camau rydym yn gofyn iddynt eu cymryd. Mae cyfraddau hunanynysu Efrog Newydd tua 98 y cant. Pam? Yn ôl Devi Sridhar, y rheswm am hynny yw eu bod yn cael y gefnogaeth honno'n iawn. Clywsom am fannau lle mae pobl yn cael galwad ffôn bob dydd i ofyn, 'A ydych chi'n dal yn iawn?', lle mae pobl yn cael cymorth emosiynol ac ymarferol wedi ei drefnu fel rhan o'r pecyn. Dyna'r math o beth sydd ei angen arnom. Fe fuom yn edrych yn y pwyllgor y bore yma hefyd ar y syniad o sefydlu hosteli neu westai hunanynysu ac yn y blaen—elfen arall yn ein cynnig. Mae cymaint mwy y gellir ei wneud, i gyd o dan ymbarél, unwaith eto, y cymorth rydym ni ym Mhlaid Cymru yn gofyn am fwy ohono yn y ddadl hon. Heddiw, edrychwyd ar brofi yn y pwyllgor a hefyd ar y ffordd y mae cael profi yn iawn wedi bod yn ganolog i ymateb COVID llwyddiannus yn fyd-eang. Edrychasom ar Slofacia yn arbennig a phenderfyniad eu Llywodraeth i roi prawf i bawb yn y wlad, nid unwaith yn unig, maent yn bwriadu gwneud hynny yr eildro hefyd. Dywedir wrth bawb, i bob pwrpas, eu bod dan gyfyngiadau personol, yna cânt y prawf ac os yw'n negyddol, gallant barhau i weithio ac yn y blaen, a dechrau cymysgu ag eraill eto. Dyma beth a wnânt ar raddfa lai yn Lerpwl, a beth rydym ni ym Mhlaid Cymru wedi galw am ei weithredu. Rydym yn galw amdano yn y cynnig hwn heddiw, gan flaenoriaethu ardaloedd lle ceir llawer o achosion. Nawr, weithiau mae pobl yn cwestiynu, onid ydynt, beth yw diben dadleuon y gwrthbleidiau fel hyn, ond, os ydynt yn helpu i ddylanwadu ar bolisi'r Llywodraeth, maent yn cyflawni diben defnyddiol iawn. Felly, roeddwn yn falch iawn fod Llywodraeth Cymru, ychydig oriau cyn i'r ddadl hon ddechrau, wedi dweud y byddent yn bwrw ymlaen â'r rhaglen brofi torfol ym Merthyr Tudful—mae hynny'n dda, a gadewch inni ddweud yn syml ein bod yn falch o'r cyd-ddigwyddiad hwnnw. Ond os gallwn ei wneud ym Merthyr Tudful fel hyn—a nodaf fod Llywodraeth Cymru wedi dweud y caiff ei drin fel cynllun peilot, i bob pwrpas—wel, gadewch inni fynd ati gyda brys gwirioneddol i droi'r cynllun peilot hwnnw'n ymateb safonol mewn ardaloedd lle ceir llawer o achosion o COVID. Felly, i gloi, gofynnaf i chi gefnogi'r cynnig hwn heddiw. Mae angen inni helpu unigolion, teuluoedd a chymunedau i helpu eu hunain. Felly, gadewch inni gael cynllun cadarn ar waith i godi'r lefel o gymorth y gallwn ei chynnig, fel y gallwn roi'r cyfle gorau posibl i ni'n hunain reoli'r feirws peryglus hwn. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, fe wnawn ni ohirio'r bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. Rŷn ni nawr yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ond cyn gwneud hynny, ac yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, mi fyddwn yn atal y cyfarfod am bum munud er mwyn paratoi ar gyfer y bleidlais electronig. Diolch. Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:51. Ailymgynullodd y Senedd am 17:58, gyda'r Llywydd yn y Gadair. 9. Cyfnod Pleidleisio Mae'r bleidlais gyntaf, felly, ar Fil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), ar Gyfnod 4 y Bil hynny. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, neb yn ymatal, 16 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i gymeradwyo. Dadl: Cyfnod 4 y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru): O blaid: 39, Yn erbyn: 16, Ymatal: 0Derbyniwyd y cynnigCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Mae'r bleidlais nesaf ar y ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21 ar gartrefu cesiwyr lloches yn y ganolfan filwrol ym Mhenalun. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enwau Helen Mary Jones, Jocye Watson a Leanne Wood. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, 15 yn ymatal ac un yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i gymeradwyo. Dadl Aelod o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Cartrefu ceiswyr lloches yn y ganolfan filwrol ym Mhenalun - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 39, Yn erbyn: 1, Ymatal: 15 Derbyniwyd y cynnigCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Mae'r bleidlais nesaf ar ddadl Plaid Cymru ar ardaloedd cymorth arbennig COVID-19. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, pedwar yn ymatal a 39 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod. Dadl Plaid Cymru - Ardaloedd Cymorth Arbennig Covid-19 - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 12, Yn erbyn: 39, Ymatal: 4 Gwrthodwyd y cynnigCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Gwelliant 1 yw'r gwelliant nesaf, ac os ydy'r gwelliant yma'n cael ei dderbyn, yna mae gwelliannau 2, 3 a 4 yn cael eu dad-ddethol. Gwelliant 1, yn enw Gareth Bennett. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid chwech, 10 yn ymatal a 39 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi'i wrthod. Dadl Plaid Cymru - Gwelliant 1 (cyflwynwyd yn enw Gareth Bennett): O blaid: 6, Yn erbyn: 39, Ymatal: 10 Gwrthodwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Gwelliant 2 yw'r gwelliant nesaf, a'r gwelliant hynny yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 32, neb yn ymatal, 23 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi'i dderbyn. Dadl Plaid Cymru - Gwelliant 2 (cyflwynwyd yn enw Rebecca Evans): O blaid: 32, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0 Derbyniwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Gwelliant 3 yw'r nesaf, ac os derbynnir gwelliant 3, bydd gwelliant 4 yn cael ei ddad-ddethol. Gwelliant 3, felly, yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, dau yn ymatal, 40 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi'i wrthod. Dadl Plaid Cymru - Gwelliant 3 (cyflwynwyd yn enw Darren Millar): O blaid: 13, Yn erbyn: 40, Ymatal: 2 Gwrthodwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Gwelliant 4, felly, yw'r gwelliant nesaf. Gwelliant 4, yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 29, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant hwnnw wedi'i gymeradwyo. Dadl Plaid Cymru - Gwelliant 4 (cyflwynwyd yn enw Rebecca Evans): O blaid: 29, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0 Derbyniwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Y cynnig wedi'i ddiwygio sydd nesaf. Cynnig NDM7480 fel y'i diwygiwyd: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru’n cadw llygad yn barhaus ar lefelau cyfraddau heintio COVID-19 ar draws Cymru, o ystyried bod y cyfraddau heintio yn uchel mewn rhai ardaloedd. 2. Yn nodi'r ymchwil a gynhaliwyd yn Lloegr sy'n dangos bod effeithiau'r pandemig wedi cael effaith anghymesur ar gymunedau ôl-ddiwydiannol yng ngogledd Lloegr ac wedi gwaethygu gwahaniaethau rhanbarthol hirsefydlog y wladwriaeth Brydeinig. 3. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi ystod eang o fesurau cymorth cenedlaethol ar waith i ymateb i’r pandemig COVID-19, gyda’r nod o gynorthwyo’r ardaloedd hynny lle mae cyfraddau heintio COVID-19 yn uchel yn ogystal ag ardaloedd eraill yng Nghymru, gan gynnwys: a) cynyddu’r gallu i brofi ac olrhain cysylltiadau a chyflwyno dewisiadau profi newydd; b) cyllid a chymorth ychwanegol i awdurdodau lleol; c) ymgyrchoedd helaeth i roi gwybodaeth i’r cyhoedd ar draws sianelau’r cyfryngau a’r cyfryngau cymdeithasol; d) cymorth i ailagor ysgolion a sefydliadau addysg eraill yn ddiogel; e) cyllid ar gyfer adferiad economaidd ac ar gyfer busnesau yng Nghymru; f) taliad hunanynysu o £500. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 29, dau yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn. Dadl Plaid Cymru - Cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 29, Yn erbyn: 24, Ymatal: 2 Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwydCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Dyna ddiwedd ar y cyfnod pleidleisio. 10. Dadl Fer: Manteision llesiant y celfyddydau mewn pandemig Rydyn ni'n symud nawr tuag at y ddadl fer. Mae'r ddadl fer y prynhawn yma i'w chyflwyno gan Jayne Bryant. Jayne Bryant AC: Diolch, Lywydd. Wrth i ni symud drwy un o'r pandemigau byd-eang mwyaf heriol ers cenedlaethau, mae'n hawdd gweld pam y gallai rhai pobl esgeuluso'r celfyddydau. Efallai na fyddant yn chwarae rhan amlwg wrth inni fynd i'r afael â'r problemau rydym yn eu hwynebu, ond mae mor bwysig cydnabod sut y mae'r celfyddydau wedi bod yn rhan annatod o les meddyliol a chorfforol pobl o bob oed a gallu, yn ogystal â dod â phobl at ei gilydd. Nid oes dim yn tynnu sylw at hyn yn fwy na'r llifeiriant o fynegiant cymunedol a welwyd ar ddechrau'r pandemig. Wrth i COVID leihau ein gallu i gymdeithasu, daeth pobl o hyd i ffyrdd newydd o ddangos eu diolchgarwch—cerrig mân wedi'u paentio a'u gadael ar y stryd, gwaith celf wedi'i arddangos mewn ffenestri dirifedi, canu yn y stryd, ymhlith pethau eraill, i ddiolch i'n GIG, ein staff gofal cymdeithasol a gweithwyr allweddol. Roedd y cyfan yn fynegiant sy'n defnyddio ein sgiliau creadigol, ac rydym wedi gweld celf a cherddoriaeth yn parhau i ysbrydoli pobl yn hyn—pobl yn dylunio ac yn gwneud mygydau wyneb, er enghraifft, a'r grŵp gwau a chrosio gwych, Prosecco and Purls, sydd wedi bod yn brysur drwy'r pandemig yn creu gardd hud yng Nghaerllion i gefnogi sefydliad hosbis Dewi Sant ac yn dod â fflach o obaith a hwyl i'r pentref. Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair. Jayne Bryant AC: Er bod y mynegiant hwn wedi bod yn gadarnhaol, ni ellir gwadu y gall y newid sydyn hwn yn ein ffordd arferol o fyw fod yn destun pryder mawr ac mae wedi cael effaith fawr ar ein hiechyd meddwl. Defnyddiwyd y celfyddydau i ddangos hyn hefyd. Rydym wedi gweld grwpiau fel Cyngor Ieuenctid Casnewydd yn mynd i'r afael â'r problemau hyn drwy gelfyddyd, gyda fideo pwerus ynglŷn â sut roedd cyfyngiadau'n effeithio arnynt hwy. Mae llawer o astudiaethau wedi dangos y gall cymryd rhan mewn gweithgareddau artistig, naill ai fel sylwedydd neu gyfranogwr, wella hwyliau person, yn ogystal â chynnig manteision seicolegol eraill drwy ryddhau endorffinau naturiol o amgylch y corff. Olrheiniwyd carfan o 72,000 o oedolion ledled y DU bob wythnos mewn astudiaeth gan Goleg Prifysgol Llundain. Canfu fod pobl a dreuliai 30 munud neu fwy bob dydd yn ystod y pandemig ar weithgareddau celfyddydol fel darllen er pleser, gwrando ar gerddoriaeth neu gymryd rhan mewn hobi creadigol yn profi cyfraddau is o iselder a phryder a mwy o foddhad mewn bywyd. Yn syml, os bu blwyddyn erioed i bawb ohonom fod yn greadigol, 2020 yw'r flwyddyn honno yn sicr. Mae'n arbennig o greulon, felly, fod ein sector celfyddydau wedi cael ei daro'n ddrwg gan effaith COVID. Mae mesurau iechyd fel cadw pellter cymdeithasol a chyfyngiadau ar gynulliadau grŵp wedi gweld ein canolfannau celf traddodiadol yn cael eu cyfyngu neu eu cau. Mae cyfleusterau cyhoeddus a gwasanaethau hanfodol, lle mae llawer yn dianc rhag teimladau o unigedd neu wedi cael cysur o fod yn greadigol, wedi wynebu anawsterau. Mae ein theatrau, lleoliadau cerddoriaeth, ysgolion dawns, amgueddfeydd, orielau celf a chanolfannau cymunedol, hyd yn oed corau, bandiau a dosbarthiadau celf, i gyd wedi gorfod cyfyngu'n ddifrifol ar eu gweithgareddau. Maent wedi bod yn gweithio'n galed i gadw pobl mewn cysylltiad, a bydd rhai digwyddiadau, fel gŵyl gaeaf y Gelli a Chelf ar y Bryn Casnewydd yn mynd rhagddynt, ond mewn ffordd wahanol iawn. Maent yn dibynnu ar bobl yn dod at ei gilydd, felly mae'r celfyddydau wedi wynebu rhai o'r heriau strwythurol mwyaf enbyd mewn unrhyw ddiwydiant. Mae Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu'r Senedd wedi canfod bod perygl i Gymru golli cenhedlaeth gyfan o artistiaid a dadwneud blynyddoedd o waith cadarnhaol a buddsoddiad. Rwy'n ddiolchgar fod Llywodraeth Cymru yn helpu'r rhai yn y sector drwy'r gronfa adferiad diwylliannol, ond mae'n rhaid inni barhau i yrru'r cymorth hwn, gan ei bod yn hanfodol ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau eu bod yn dal yno mewn byd ôl-COVID. Fel llawer o ddiwydiannau, mae wedi bod yn galonogol gweld sut y mae sefydliadau wedi mynd ati'n gyflym i greu ffyrdd newydd o weithio a faint sydd wedi ymdrechu i estyn allan at gymunedau na allant ymweld â hwy'n bersonol mwyach. Gellir gwneud hyn mewn ffyrdd mwy traddodiadol, ond hefyd, drwy addasu a defnyddio technolegau newydd, gallwn ddefnyddio'r celfyddydau i helpu i gynnal iechyd meddwl da a llesiant. Mae cynifer o enghreifftiau o arferion da ledled Cymru, ac roeddwn am ddefnyddio fy amser heddiw i dynnu sylw at rywfaint o'r gwaith gwych sy'n cael ei wneud yma. Mae'r rhaglen Celf ar y Blaen, Iechyd ar y Blaen, wedi bod yn gweithio gyda sefydliadau cymunedol gwirfoddol sy'n cynnig profiadau creadigol o bell i'r rhai sydd â'r angen mwyaf, fel y rhai nad oes ganddynt fynediad at y rhyngrwyd. Mae hyn yn cynnwys cynnig pecynnau crefft, wedi'u cynnwys gyda nwyddau ar garreg y drws, a chyfathrebu â phobl hŷn drwy'r post a thros y ffôn. Mae Impelo@HOME ym Mhowys yn cynnig DVDs i gartrefi gofal a chanolfannau dydd sy'n cefnogi oedolion ag anableddau i fynd i'r afael â phroblemau gyda dod o hyd i wasanaethau ar-lein. Lansiwyd y rhaglen yn uniongyrchol yn sgil adborth cymunedol a ddywedai eu bod am ddawnsio, gyda'r ymarferwyr yn gwneud dosbarthiadau tebyg i'r rhai yr arferent eu mynychu. Mae Ymgolli mewn Celf, prosiect i bobl sy'n byw gyda dementia a grëwyd gan Hamdden Sir Ddinbych, yn cynnig deunydd dementia i'r rhai sy'n byw yn y gymuned, pecynnau a ddosberthir ar garreg eu drws, ffilm diwtorial wythnosol a anfonir atynt drwy e-bost, ac mae'n cynnig dwy alwad ffôn yr wythnos—un alwad llinell dir, un alwad FaceTime neu WhatsApp—i gefnogi aelodau yn eu hymarfer creadigol. Mae llawer o sefydliadau celfyddydol ac ymarferwyr hefyd wedi newid i ddarparu gwasanaethau ar-lein, ac wedi gallu cynnal dosbarthiadau gan ddefnyddio llwyfannau ar-lein fel Zoom, YouTube a'r cyfryngau cymdeithasol. Jayne Bryant AC: Mae ymgysylltu ar-lein yn ffordd effeithiol o sicrhau bod pobl yn parhau i fod mewn cysylltiad â'i gilydd ac yn parhau i gymryd rhan mewn gweithgarwch creadigol. Mae enghreifftiau'n cynnwys Bale Cymru, sydd wedi'i leoli yng Nghasnewydd. Mae llawer o waith cyffrous ar eu sianelau cyfryngau cymdeithasol, sesiynau tiwtorial drwy fideo i fyfyrwyr, cyfweliadau, dosbarthiadau pwyntio, ymestyn ac ymlacio, ymarferion cryfder a dangos cynyrchiadau blaenorol yn wythnosol. Mewn cydweithrediad â Jukebox Collective, NEW Dance, Dawns i Bawb, Arts Care Gofal Celf ac Impelo, maent i gyd wedi bod yn parhau ac yn cefnogi eu rhaglen Duets genedlaethol. Maent hefyd wedi bod yn cyflwyno gwaith i blant sy'n agored i niwed ar raglen drwy gyfrwng Zoom. Mae Rubicon Dance, sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd, yn annog pobl i gymryd rhan mewn dawns, gan gynnwys teuluoedd, plant a phobl ifanc, pobl anabl, yr henoed, cleifion yn yr ysbyty, goroeswyr strôc a phobl sy'n byw gyda dementia. Ers mis Mawrth, ac mewn ymateb i argyfwng COVID, mae Rubicon wedi cynnal cyswllt cymdeithasol wythnosol gyda'u 2,000 o gyfranogwyr rheolaidd. Wedi'u harwain gan y galw i barhau i ddawnsio, maent wedi gorfod ailystyried yn gyflym sut i gyflawni'r hyn a wnânt, yn enwedig i bobl sy'n wynebu amrywiaeth o rwystrau o ran cyfathrebu a TG. Maent yn defnyddio nifer o ffyrdd o wneud hynny, fel sy'n briodol i anghenion y cyfranogwyr, gan gynnwys sgyrsiau ffôn, testun, Zoom, Facebook. Ar hyn o bryd maent yn darparu 63 o sesiynau dawns ar-lein wythnosol, ac o'r adborth a gawsant, mae cymryd rhan yn y sesiynau wythnosol hyn yn cadw pobl yn symudol, yn gwella ffitrwydd a lles cyffredinol. Disgrifiodd un cyfranogwr sut roedd COVID wedi gwneud iddi deimlo ei bod wedi'i gadael ar ynys ac mai ei sesiynau Rubicon wythnosol yw'r hyn a'i cadwodd i fynd. Mae'r côr Forget-me-not yn enghraifft wych o elusen yn gweithio gyda phobl sy'n byw gyda dementia a'u teuluoedd, gan ddod â hwy at ei gilydd i ganu. Mae gweld yr effaith ar y bobl yng nghôr Forget-me-not yn rhywbeth arbennig iawn. Mae'r cysylltiad rhwng pobl, symud i'r gerddoriaeth a chanu yn wych, ynghyd â'r pleser pur sy'n amlwg yn rhywbeth na ellir ei brynu. Drwy gydol y pandemig, mae côr Forget-me-not wedi symud eu rhaglenni ar-lein, ac maent wedi gallu cyrraedd hyd yn oed mwy o bobl sy'n byw gyda dementia drwy eu ffilmiau rhithwir, yn ogystal â'u sesiynau i gartrefi gofal a sesiynau Zoom cymunedol. Mae dros 70 o gartrefi ledled Cymru wedi cael mynediad at eu hymarferion rhithwir, ac maent bellach yn cysylltu â chartrefi gofal yn Lloegr i gynnig eu hadnoddau am ddim. Ar ben hyn i gyd, maent newydd orffen ffilmio pedwar ymarfer rhithwir newydd, gan gynnwys ffefrynnau fel yr Hokey Cokey, a fydd, yn eu geiriau hwy, yn annog staff a thrigolion i ganu a 'shake it all about'. Diolch i bŵer Zoom, maent bellach yn croesawu pobl o mor bell â Dyfnaint a Cumbria i gymryd rhan. Rwy'n arbennig o falch o glywed am ymdrechion sefydliadau celfyddydol i gefnogi'r bobl sy'n byw mewn cartrefi gofal. Maent wedi cael eu taro'n galed gan y pandemig. Mae ymweliadau cyfyngedig wedi bod yn anodd ar breswylwyr a theuluoedd fel ei gilydd, ac o ran gweithgareddau, dibynnai llawer ar sefydliadau allanol yn dod i mewn i ddarparu dosbarthiadau wythnosol, ac ni ellir gwadu eu budd yn fy marn i. Efallai fod yr Aelodau wedi gweld fideo a aeth yn firol yn ddiweddar ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Mae'n dangos cyn-ddawnswraig bale gyda chlefyd Alzheimer yn cofio'r gerddoriaeth yr arferai ddawnsio iddi. Gellir gweld Marta González yn adnabod Swan Lake Tchaikovsky ar unwaith. Wrth wrando arno o'i chadair olwyn, mae'n dechrau dawnsio gyda'i breichiau. Mae'n anhygoel o ingol, gan ddangos grym cerddoriaeth a dawns. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd cysylltedd ar-lein i bobl hŷn, a chyflwynwyd cannoedd o ddyfeisiau digidol i gartrefi gofal ledled Cymru yn gynharach eleni. Mae hyn yn mynd i chwarae rhan bwysig iawn yn cadw preswylwyr mewn cysylltiad â'u teuluoedd a'u cymunedau. Fodd bynnag, er bod llawer o wasanaethau wedi gallu symud ar-lein, mae perygl o gynyddu'r gagendor digidol i'r bobl nad oes ganddynt y seilwaith, y sgiliau na'r hyblygrwydd ariannol i gael y rhyngrwyd gartref. Mae mor bwysig, felly, ein bod yn parhau i ddarparu gwell seilwaith digidol ledled Cymru i gefnogi cynwysoldeb ac i ddarparu hyfforddiant a'r sgiliau i'r rhai sydd eu hangen. Dros y blynyddoedd diwethaf, cafwyd dealltwriaeth gynyddol o'r effaith y gall cymryd rhan yn y celfyddydau ei chael ar iechyd a lles. Drwy gynnig rhywbeth ychwanegol at feddyginiaeth a gofal, gall y celfyddydau wella iechyd pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl neu gorfforol. Mae Growing Space, sydd wedi'i leoli ar dir Tŷ Tredegar Casnewydd, yn cynnwys therapi garddwriaethol a hyfforddiant i gefnogi pobl gyda'u hiechyd meddwl. Yn ystod y pandemig, mae'r gweithwyr wedi mynd y tu hwnt i gefnogi cyfranogwyr Growing Space. Creodd Mark Richardson, swyddog datblygu cymunedol 'Mannau Agored, Meddwl Agored', grŵp WhatsApp i ganiatáu i gyfranogwyr gadw mewn cysylltiad â'i gilydd yn ogystal â staff. Roedd defnyddio'r cyfrwng hwn, a dulliau digidol eraill fel posau, cwisiau, ysgrifennu creadigol a llawer mwy o weithgareddau bob dydd yn sicrhau eu bod yn cael yr holl gymorth sydd ei angen arnynt. Gwnaeth Lee Davies, y goruchwyliwr gwaith coed, gannoedd o eitemau ar gyfer y GIG. Gwnaeth eitemau hefyd i'r timau iechyd meddwl eu hychwanegu at eu pecynnau llesiant, megis blychau adar i'w gosod at ei gilydd, yn ogystal ag eitemau eraill i roi gweithgareddau creadigol i gleifion ar lawer o'r wardiau seiciatrig ledled Gwent. Mae'r enghreifftiau hyn yn dangos y gall y celfyddydau fod yn bwysig iawn i ddatblygu iechyd meddwl a chorfforol pob dinesydd. Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar y celfyddydau ac iechyd, roeddwn yn falch fod Cydffederasiwn GIG Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru wedi adnewyddu eu memorandwm cyd-ddealltwriaeth yn ddiweddar, gan ddangos eu hymrwymiad i ymgorffori mentrau celfyddydol ac iechyd ar draws y GIG yng Nghymru. Dyma'r math o waith yr hoffwn ei weld yn cael ei ymgorffori yn ymateb 'adeiladu nôl yn well' Llywodraeth Cymru i COVID. Bydd yn bwysig parhau i adeiladu ar y gwaith gwirioneddol gadarnhaol sy'n amlwg yn digwydd, ac edrych y tu hwnt i'r pandemig i sicrhau bod y mentrau hyn yn rhan greiddiol o ddull ataliol Cymru o ymdrin ag iechyd a gofal ar gyfer y dyfodol. Mae angen inni ddod drwy'r argyfwng hwn drwy gynnal ein lles gystal ag y gallwn. Mae'r celfyddydau'n hanfodol ar gyfer hynny nawr, a byddant yn hanfodol ar gyfer hynny yn y dyfodol. Ni ellir gorddatgan gwerth a phwysigrwydd y sector hwn. Mae'r manteision yn aruthrol. Os byddwn yn colli neu'n methu defnyddio'r sgiliau hyn, byddwn yn dlotach o lawer ein byd. Rwyf wedi tynnu sylw at rai o'r prosiectau sy'n digwydd heddiw yng Nghymru, ac mae cymaint mwy, cymaint fel y gallech orchuddio map o Gymru â hwy. Mae'r celfyddydau'n chwarae rhan hollbwysig yn ein lles meddyliol a chorfforol. Gallant helpu i leihau anghydraddoldebau ac os gallwn harneisio eu pŵer, gallant helpu Cymru i wella o'r pandemig. Yma yng Nghymru, mae cerddoriaeth, celf a diwylliant yn rhan o'n cyfansoddiad. Yn ein hanthem genedlaethol ein hunain, cawn ein hadnabod fel gwlad beirdd a chantorion. Hir y parhaed hynny. Diolch yn fawr. Diolch. A gaf fi alw ar y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth i ymateb i'r ddadl? Dafydd Elis-Thomas. Dafydd Elis-Thomas AC: Diolch yn fawr, Jayne. Roedd hwnnw'n anerchiad ysbrydoledig a grynhodd gymaint o'r gweithgarwch diwylliannol sy'n digwydd yng Nghymru nawr, ac rwy'n falch iawn eich bod wedi'i roi yn y Cofnod ar gyfer y dyfodol. Dafydd Elis-Thomas AC: Felly, gaf i ddiolch i Jayne am ei haraith? Gaf i ddiolch hefyd am ei chefnogaeth i gelf ac i bwysigrwydd y celfyddydau ym mywyd gwleidyddol Cymru ar hyd ei chyfnod fel Aelod Cynulliad? Diolch iddi hefyd am gyfeirio at yr holl weithgaredd sydd yn digwydd yng Nghasnewydd. Dwi wedi bod yn falch o'r cyfle i fod yn ei chwmni hi yn ymweld â rhai o'r canolfannau yma a oedd hi'n cyfeirio atyn nhw. Dwi'n cydnabod mor bwysig mae swyddogaeth Casnewydd a'r gweithgaredd sydd yn digwydd yno. Ond beth garwn i ddweud fel ymrwymiad iddi wrth ymateb i'r ddadl fer ydy fy mod i'n cytuno'n llwyr â hi ein bod ni wedi darganfod ffordd newydd o weithio, a ffordd newydd o ddeall beth yw diben celfyddyd yn y gymdeithas—ffordd na allwn ni ddim fforddio ei anghofio. Dyna pam bod hi wedi bod mor bwysig i mi weld gymaint o ymateb sydd wedi bod i'r gronfa adferiad diwylliannol, fel dywedais i'n gynharach heddiw yma, ac i'r pecyn ychwanegol drwy gronfa gwytnwch y celfyddydau, sydd ar hyn o bryd yn parhau—wel, sydd ar hyn o bryd wedi rhedeg mas, a dweud y gwir, ac rydym ni’n chwilio am gyllid ychwanegol i sicrhau ein bod ni'n dal i allu cefnogi’r ceisiadau rydym ni’n eu derbyn. Mae Llywodraeth Cymru'n mynd i barhau i gefnogi’r sector i ailagor drwy ddefnyddio celf fel allwedd i ddod mas o’r cyfnod clo, oherwydd mae’r ymwybyddiaeth sy’n dod drwy gelfyddyd wedi ei brofi i fod yn hanfodol i bobl yn yr argyfwng hwn. Ac er bod ein theatrau a’n neuaddau cyngerdd ni wedi bod ar gau, mae pobl wedi darganfod o’r newydd ddulliau eraill o gyfathrebu celf. A phan fydd y sefyllfa iechyd cyhoeddus yn caniatáu, rwy’n sicr y bydd y dulliau yma'n parhau i gael eu defnyddio, yn ogystal â’r dulliau traddodiadol sydd ddim wedi bod yn bosib yn y cyfwng yma. Mi gafodd ein rhaglen ni fel Llywodraeth o ddigwyddiadau profi ei ohirio ym mis Medi, ond mae’r cynllun yna o hyd, cynllun clir o ail-agor, ac mi fyddwn ni’n datblygu’r cynllun yna gan ddysgu oddi wrth yr ymdrechion amlwg sydd yn digwydd yn y gymuned yn wirfoddol yn barod. Dwi’n ddiolchgar am y cydweithio sydd wedi bod rhwng adran iechyd Llywodraeth Cymru a chyngor y celfyddydau ynglŷn â phresgripsiynau cymdeithasol. Dwi’n ddiolchgar hefyd am yr holl waith arloesol y cyfeiriodd Jayne ato sydd yn cynnwys yr holl gwmnïau y gwnaeth hi eu henwi—Theatr y Sherman, y gyfres sain Heart of Cardiff; Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ar y cyd gyda English National Ballet; sesiynau Dance for Parkinson's ar-lein ac ar Zoom; a chysylltiad Cwmni Theatr Arad Goch gydag ysgolion yn dal i ddefnyddio adnoddau digidol yn ystod y cyfnod clo. Ac mae prosiect Celf ar y Cyd wedi bod yn un trawiadol iawn i mi, rhwng cyngor y celfyddydau a’r amgueddfa genedlaethol, gyda’n cefnogaeth ni fel Llywodraeth i sicrhau bod pobl yn gweld celf yn yr ysbytai, a bod gweld celf yn yr ysbytai o’r newydd yn dod yn rhan o’r arwydd o rôl celf mewn iechyd. Un llwyddiant mawr arall y gwnaf i ei enwi cyn darfod yr ymateb yma ydy adrodd storïau digidol Bae Abertawe, sydd yn cael ei gyflwyno bellach ar draws byrddau eraill y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru. Mae’r prosiect yma'n caniatáu i’r rhai hynny sydd yn wael greu stori glaf ddigidol, fel rhan o ymrwymiad y bwrdd iechyd i wrando ar a dysgu o’u profiadau nhw. Mae’r dulliau newydd yma o weithio'n mynd i barhau gyda ni ar gyfer y dyfodol. Felly, diolch am yr holl waith da y mae cyngor y celfyddydau wedi ei wneud, yn cydweithio, fel y dywedodd Jayne, efo adnoddau celfyddydol ar-lein, y gofal iechyd ar draws y gwasanaeth iechyd gwladol yn cydweithio gyda chelf. Mae Llywodraeth Cymru'n ymrwymo i barhau gyda’r gwaith yma, nid cyhyd ag y bod angen i ddod allan o’r argyfwng yma, ond fel ffordd ymarferol o weithredu o hyn ymlaen. Oherwydd fy nghefndir yn y gorffennol, dwi wedi bod yn ceisio dadlau dros y blynyddoedd bod yna rôl arbennig i gelfyddyd, ac roedd hi’n dalcen caled weithiau. Roedd pobl yn dweud, ‘Wel, beth gall y celfyddydau ei gyflawni?’ Does neb yn dweud hynny heddiw. Felly diolch i Jayne am roi'r cyfan yma ar y Record. Diolch i’r Aelodau am y drafodaeth arall y cawson ni'n gynharach y prynhawn yma, a heb dynnu, wrth gwrs, oddi wrth beth rydw i wedi ei ddweud yn barod, mae’n rhaid i mi ddweud un peth: nid yn unig ydw i’n Weinidog celfyddyd, ond dwi’n Weinidog chwaraeon, ac felly gaf i ddymuno pob hwyl i Gareth Bale a gweddill y tîm heno? Diolch yn fawr. Diolch yn fawr iawn. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch. Daeth y cyfarfod i ben am 18:25. QNR Cwestiynau i Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Mark Reckless: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hawliau datblygu a ganiateir yng Nghymru yn sgil y pandemig COVID-19? Julie James: New permitted development rights were introduced earlier this year to support local authorities and NHS bodies in their response to the challenges posed by COVID-19. These permitted development rights ensure development is undertaken in a lawful manner while avoiding the delay that determining a planning application would inevitably involve. Caroline Jones: Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y mae'r pandemig parhaus yn ei chael ar gynllunio awdurdodau lleol ar gyfer y gaeaf? Julie James: We continue to work closely with local authorities and other partners during these uncertain times to ensure that authorities are as well placed as possible to plan for and respond to potential and actual challenges over the winter period arising from weather, EU transition, and the pandemic. Dai Lloyd: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllid llywodraeth leol? Julie James: Local Government services are funded through revenue support and specific grants, non domestic rates, council tax, and authorities’ own income. In 2020-21, the Local Government Settlement provided nearly £4.5 billion of general funding. We are providing over £0.5 billion to support Local Councils respond to the impacts of the pandemic. Cwestiynau i Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol Lynne Neagle: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru? Hannah Blythyn: We are targeting support for low income families through recognised programmes like Flying Start and Families First and new initiatives outlined in our Income Maximisation Action Plan which will help families tackle the acute financial pressures that many are experiencing as a result of the pandemic. Cwestiynau i Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Dai Lloyd: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu i ddarparu morlyn llanw ym Mae Abertawe? Lesley Griffiths: We strongly support the development of a viable marine renewable energy industry in Wales, and continue to work with a variety of stakeholders, including UKG, Swansea City Council and Swansea Bay City Region tidal lagoon taskforce to gain a greater understanding of opportunities and environmental impacts of a Tidal Lagoon. Paul Davies: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i brosiectau gwynt arnawf yng Nghymru? Lesley Griffiths: Welsh Government is proactively working with developers interested in deploying floating wind projects off the Welsh coast. To maximise the opportunities this exciting new sector presents, we have commissioned the Offshore Renewable Energy Catapult to assess the supply chain opportunities and grid and ports infrastructure needed to support this industry. Llyr Gruffydd: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer ynni adnewyddadwy? Lesley Griffiths: Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod fframwaith polisi cadarnhaol iawn er mwyn annog buddsoddiad newydd mewn ynni adnewyddadwy. Rydym yn cefnogi rhanbarthau i ddatblygu cynlluniau ynni strategol er mwyn diwallu ein hanghenion yn y dyfodol o ran pŵer, gwres a thrafnidiaeth ac rydym yn anelu at greu swyddi a diwydiannau carbon isel y dyfodol. Lynne Neagle: Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Cyfoeth Naturiol Cymru am yr amgylchedd yng nghymoedd de Cymru? Lesley Griffiths: I meet regularly with the Chair and Chief Executive of NRW. We discuss many aspects of the environment, some of which cover the south Wales valleys. For example, the Chair is leading the work on the Green Recovery which reaches the whole of Wales.
uk-hansard-senedd-cy
senedd2020-11-18
2024-06-01T00:00:00
{ "year": "2020", "language": "cy", "license": "Open Parliament Licence - https://www.parliament.uk/site-information/copyright-parliament/open-parliament-licence/" }
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 12:45 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 1. Eitem ar y cyd â Senedd Ieuenctid Cymru Prynhawn da, bawb, a chroeso i'r Cyfarfod Llawn o'r Senedd a'r Senedd Ieuenctid ar y cyd. Credaf ein bod newydd ostwng oedran cyfartalog y Siambr oddeutu 30 mlynedd. Diolch i’r holl bobl ifanc sy’n ymuno â ni heddiw i’n galluogi i wneud hynny. Hwn, wrth gwrs, yw'r tro cyntaf i'r Senedd Ieuenctid, sef yr ail Senedd Ieuenctid, sydd newydd ei hethol, eistedd gyda’r Senedd. [Cymeradwyaeth.] Felly, mae ein Senedd Ieuenctid ni yn ei hail dymor, a braf yw bod yn dyst i'r berthynas sydd yn datblygu rhwng y Senedd Ieuenctid a'r Senedd, wrth i'r gwaith pwysig o gynrychioli buddiannau pobl ifanc Cymru fynd rhagddo. Felly, heb oedi ymhellach, dwi'n mynd i ofyn i Ffion Williams agor y sesiwn. Ffion Williams yw Aelod etholaeth Gorllewin Caerdydd. Ffion Williams. Diolch, Lywydd. Mae’n bleser bod yn y Senedd heddiw gyda’n sesiwn gyntaf ar y cyd rhwng Aelodau o’r Senedd a’r ail garfan o Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru. Gwn fy mod i a’m cyd-Aelodau’n ddiolchgar am y cyfle i fod yma heddiw, ac rwy'n gobeithio y bydd y sesiwn yn werthfawr i Aelodau o’r Senedd ac i Senedd Ieuenctid Cymru wrth ddatblygu ein gwaith. Fel Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, mae wedi bod yn hynod galonogol gweld y cynnydd rydym wedi’i wneud yn ein his-bwyllgorau iechyd meddwl, yr amgylchedd, ac addysg. Dangosodd ein sesiwn yn y Senedd ym mis Tachwedd ein llwyddiant yn gwrando ar bobl ifanc ledled Cymru, gan roi sylw i'w barn i sicrhau bod pob llais yn cael ei gynrychioli. Yn ogystal â hynny, rwyf fi ac Aelodau eraill hefyd wedi elwa o sesiynau a phrofiadau blaenorol a rannwyd rhwng Senedd Ieuenctid Cymru ac Aelodau o’r Senedd i lywio a dylanwadu ar ein gwleidyddiaeth yma yng Nghymru. Wrth gwrs, mae ein gwaith wedi adeiladu ar y sylfeini a osodwyd gan Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru, gyda pharhad yr is-bwyllgorau hyn a rhai themâu o fewn y pynciau hyn yn dyst i sut mae’r materion hyn yn dal i fod yn bwysig i bobl ifanc. Gobeithiwn y bydd sesiwn heddiw yn ysbrydoli'r Aelodau i ymgysylltu ymhellach â’r gwaith a wnawn ac i gefnogi ein hymdrechion fel Senedd Ieuenctid Cymru. Yn ein tro, rydym hefyd yn gobeithio, fel Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru, y byddwn yn dysgu sut mae’r Senedd yn ymateb i’r materion sy’n wynebu pobl ifanc, ac yn sicrhau ein bod yn cydnabod hyn yn ein gwaith. Diolch. [Cymeradwyaeth.] Diolch yn fawr i Ffion Williams. Nawr, mae gennym gynrychiolwyr yn siarad ar ran tri phwyllgor y Senedd Ieuenctid a sefydlwyd, ac i siarad, yn gyntaf oll, ar ran y pwyllgor addysg a'r cwricwlwm ysgol, Leaola Roberts-Biggs o etholaeth Alun a Glannau Dyfrdwy. Diolch, Lywydd, a diolch am y cyfle i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf am waith y pwyllgor addysg a'r cwricwlwm gyda phob un ohonoch. Fel pwyllgor, canfuom fod y pynciau cyffredin roeddem am eu harchwilio yn cynnwys sgiliau bywyd, cyfleoedd allgyrsiol, cydraddoldeb a chynhwysiant, yn ogystal â’r systemau cymorth presennol sydd ar waith ar gyfer pobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig. Mae aelodau’r pwyllgor wedi cael cyfle i gyfarfod â chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru i ddysgu mwy am y Cwricwlwm newydd i Gymru, yn ogystal â'r ffaith bod llawer ohonom yn rhan o drafodaethau craff â Cymwysterau Cymru ynghylch cymwysterau pynciau newydd a’r newidiadau i’r ffordd y bydd rhai o’r pynciau'n cael eu hasesu bellach. Fel grŵp, mae gennym lawer o brofiadau gwahanol o system addysg Cymru, ac felly gobeithiwn ein bod wedi gallu ychwanegu gwerth sylweddol i’r trafodaethau hyn. Yn ddiweddar, rydym wedi lansio ein hymgynghoriad ar y diwrnod ysgol, gyda’n prif ffocws ar sicrhau bod yr Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru yn deall a fyddai gwneud newidiadau i hyd ein diwrnod ysgol yn cael unrhyw effeithiau neu gydberthynas gadarnhaol ar wella llesiant myfyrwyr, eu hyder, mwy o gymorth i rai o gefndiroedd difreintiedig lwyddo yn eu man astudio, yn ogystal â mwy o sgiliau cymdeithasol a phersonol posibl, yn enwedig yn dilyn effeithiau pandemig COVID-19. Yn rhan o’n hymgynghoriad, hoffem glywed nid yn unig gan fyfyrwyr, ond hefyd gan athrawon, rhieni a gwarcheidwaid er mwyn inni gael gwell syniad o sut y gallai hyn effeithio ar gyfran fwy o’n poblogaeth. Bydd yr ymgynghoriad yn adeiladu ar dreialon blaenorol Llywodraeth Cymru, lle mae gweithgareddau fel celfyddydau digidol, adrodd straeon a gweithgareddau antur awyr agored wedi cael eu cynnig yn ychwanegol at yr oriau ysgol presennol. Ar hyn o bryd, mae’r ymgynghoriad yn cael ei hyrwyddo ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol, drwy weithdai mewn ysgolion a grwpiau ieuenctid, yn ogystal â digwyddiadau cyhoeddus megis Sioe Frenhinol Cymru a’r Eisteddfod Genedlaethol, ac eraill. Edrychwn ymlaen at gyflwyno adroddiad dilynol yn y Siambr ym mis Tachwedd, a hoffem bwysleisio pwysigrwydd cymryd rhan ac annog cymaint o bobl ifanc â phosibl i wneud hynny, er mwyn sicrhau eu bod yn cael dweud eu dweud. [Cymeradwyaeth.] Ac ar rhan y pwyllgor iechyd meddwl a llesiant—. Rwy’n bod yn hael iawn wrth ganiatáu cymeradwyaeth yn y Siambr y prynhawn yma. Gobeithio na fydd y Senedd yn parhau â hynny ar ôl i'r Senedd Ieuenctid gwblhau ein sesiwn. Ocê, ar ran y pwyllgor iechyd meddwl a llesiant— —y pwyllgor iechyd meddwl a llesiant, Harriet Wright-Nicholas o etholaeth Caerffili. Diolch, Llywydd. Ers lansio ein hymgyrch, mae'r pwyllgor iechyd meddwl a lles wedi bod yn gweithio’n galed i godi ymwybyddiaeth o nifer o broblemau allweddol o fewn y gwasanaethau iechyd meddwl sydd ar gael i blant a phobl ifanc ledled Cymru. Fe ddechreuasom ein hymchwil drwy gynnal arolwg o farn plant, pobl ifanc ac oedolion ynglŷn â'r gwasanaethau iechyd meddwl a lles presennol a’r darpariaethau sydd ar gael iddynt. Cawsom dros 3,500 o ymatebion, a chanfod, er gwaethaf gwaith caled Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru i geisio gwella darpariaethau, nad yw gwasanaethau iechyd meddwl yn ddigonol o hyd. Mewn gwirionedd, ychydig iawn o wahaniaeth, os o gwbl, a welsom o ran pa mor aml y mae pobl ifanc yn cael trafferthion gyda’u hiechyd meddwl o gymharu ag arolwg Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru, a gynhaliwyd yn 2020. Er gwaethaf y cynnydd mewn gwariant mewn ymgais i wella gwasanaethau, nid oes digon o newid wedi bod. Yn amlwg, mae angen ailwampio darpariaethau iechyd meddwl ar frys. Ar sail canlyniadau ein harolwg a thrafodaethau â phlant a phobl ifanc mewn nifer o leoliadau, fe wnaethom lunio ein hadroddiad, a oedd yn cynnwys ein canfyddiadau a’n hargymhellion ar gyfer gwelliannau i Lywodraeth Cymru. Fis Tachwedd diwethaf, cawsom gyfle i gyfarfod â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn y Senedd yn ein cyfarfod preswyl. Buom yn trafod yr adroddiad a'r argymhellion a wnaed gennym. Roedd ein hawgrymiadau allweddol yn cynnwys: un 'siop un stop' ganolog a chydnabyddedig ar gyfer gwybodaeth, adnoddau a chymorth; mwy o bwyslais ar sicrhau bod teuluoedd a ffrindiau'n cael cymorth i gefnogi pobl ifanc, gan gynnwys darparu hyfforddiant, gwybodaeth a deunyddiau i alluogi’r rhai y mae pobl ifanc yn ymddiried ynddynt i helpu’n well; rhaglenni hyfforddi ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n cefnogi ac yn gweithio gyda phobl ifanc. Y nod fyddai gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r heriau iechyd meddwl y mae pobl ifanc o wahanol gefndiroedd yn eu hwynebu, gan gynnwys pobl niwroamrywiol, pobl ag anableddau, aelodau o'r gymuned LHDTC+, pobl sy'n byw mewn tlodi, pobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig, a phobl ifanc o wahanol gefndiroedd ethnig. Yn olaf, fe wnaethom alw am well cymorth i bobl ifanc yn gynharach er mwyn lleihau’r pwysau ar wasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed. Ers lansio’r adroddiad, mae aelodau’r pwyllgor wedi cymryd rhan mewn cyfleoedd i godi llais ar y mater, gan gynnwys mewn digwyddiadau fel Wonderfest gyda Platfform ar faes criced Morgannwg. Hoffwn orffen drwy ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei hymateb ysgrifenedig i'r adroddiad, a’i chynnig i weithio gyda Senedd Ieuenctid Cymru dros y misoedd nesaf. Rydym wrthi ar hyn o bryd rydym yn trefnu cyfarfod gyda'r Dirprwy Weinidog. Yn dilyn y cyfarfod, edrychwn ymlaen at weld rhai os nad pob un o’n hargymhellion yn cael eu gweithredu gan Lywodraeth Cymru. Diolch. [Cymeradwyaeth.] Diolch yn fawr i Harriet. Felly, ar ran y pwyllgor amgylchedd a newid hinsawdd, nesaf, Harrison Williams. Harrison Williams, yn cynrychioli Clybiau Bechgyn a Merched Cymru. Harrison. Prynhawn da. Fy enw i yw Harrison Williams, ac rwy'n cynrychioli Clybiau Bechgyn a Merched Cymru. Heddiw, byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am waith pwyllgor yr hinsawdd a’r amgylchedd. Yn ystod ein cyfarfod yma ym mis Tachwedd, fel pwyllgor, cyfarfuom i helpu i benderfynu a oeddem am ganolbwyntio ar fioamrywiaeth, trafnidiaeth gyhoeddus neu ymgyrchoedd ysgol ac addysg. Ar ôl cyflwyniadau addysgiadol iawn a thrafodaethau ag arbenigwyr ar y materion hyn, yn y pen draw, fe benderfynasom ganolbwyntio ar drafnidiaeth gyhoeddus a theithio cynaliadwy. Fel pwyllgor, fe wnaethom y penderfyniad hwn oherwydd y materion a gyflwynwyd i ni, megis defnydd, dibynadwyedd, a chost trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, yn ogystal â’n dymuniad i annog mwy o bobl i deithio’n gynaliadwy. Mae ein hymgynghoriad yn edrych ar y rhwystrau i drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol sy'n wynebu pobl ifanc, ac yn edrych ar beth arall y gellir ei wneud i deithio’n gynaliadwy. Mae’r ymgynghoriad yn cael ei gynnal drwy ein harolwg Ffyrdd Gwyrdd, sydd wedi casglu dros 1,000 o ymatebion drwy ei hyrwyddo mewn ysgolion, grwpiau ieuenctid a digwyddiadau fel Eisteddfod yr Urdd. Bydd yr arolwg yn weithredol tan ddiwedd mis Gorffennaf. Mae canfyddiadau cynnar yn awgrymu bod cost trafnidiaeth gyhoeddus yn ffactor pwysig i bobl ifanc wrth benderfynu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, gyda’r rheini mewn ardaloedd gwledig yn tynnu sylw at faterion i ymwneud â dibynadwyedd ac amlder. Mae’r pwyllgor wedi bod yn arbennig o awyddus i ddeall y profiadau hyn mewn ardaloedd mwy gwledig a thlotach, a dyna pam ein bod wedi cynnal digwyddiadau grwpiau ffocws ac wedi siarad â phobl ifanc yn ein hardaloedd lleol i ddeall yr heriau y maent yn eu hwynebu. Yn ogystal â hynny, mae’r arolwg wedi dangos y bu cynnydd mewn teithiau car a cherdded ers y pandemig. Yn ogystal â’r arolwg, mae digwyddiadau ymgysylltu â’r cyhoedd wedi chwarae rhan wych yn codi ymwybyddiaeth o fanteision teithio cynaliadwy a gadael i bobl ifanc fynegi eu barn ar y pwnc drwy stondinau gweithgareddau rhyngweithiol a defnyddio siaradwyr gwadd. Yn ddiweddar, rydym wedi cynnal digwyddiadau ym Mlaenau Ffestiniog, ac yn fwy lleol i mi, ym Mhontypridd, a fynychwyd gan lawer. Byddwn yn Sioe Frenhinol Cymru fis nesaf, ac rydym yn gwahodd unrhyw un a chanddynt diddordeb i ddod i ddweud eu dweud. Bydd adroddiad pwyllgor yr amgylchedd yn cael ei gyhoeddi yn nhymor yr hydref, lle byddwn yn gallu nodi ein canfyddiadau llawn. Bydd hyn yn ein galluogi i weithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael â phroblemau presennol trafnidiaeth gyhoeddus ac i barhau i godi ymwybyddiaeth o deithio cynaliadwy. I gloi, mae cael systemau teithio gwyrdd yn rhan hanfodol o ddyfodol cynaliadwy. Drwy leihau ein hôl troed carbon, hybu byw’n iachach, arbed arian a lleihau tagfeydd traffig, gallwn adeiladu dyfodol gwell nid yn unig i ni ein hunain, ond i genedlaethau’r dyfodol, a chyda’n gilydd, mae'n rhaid inni weithio i wneud opsiynau teithio gwyrdd yn fwy hygyrch a chyfleus i bawb. Diolch. [Cymeradwyaeth.] Diolch yn fawr i chi i gyd, felly, am y cyfraniadau ar ran gwahanol bwyllgorau'r Senedd Ieuenctid. Awn ni ymlaen nawr i gael ymatebion byr oddi wrth y Prif Weinidog, arweinwyr y pleidiau, a hefyd Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Felly, yn gyntaf, y Prif Weinidog, Mark Drakeford. Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, prynhawn da a diolch yn fawr. Hoffwn i ddechrau drwy longyfarch holl Aelodau'r Senedd Ieuenctid ar eu hetholiad. Wythnos diwethaf, fe wnes i gwrdd gyda rhywun oedd wedi bod yn Aelod o'r Senedd gyntaf o bobl ifanc yma yng Nghymru. Dywedodd e wrthyf i fod y profiad wedi newid ei fywyd. Dwi'n gobeithio y bydd yr amser rydych chi'n rhoi a'r ymrwymiad rydych chi wedi'i ddangos yn cael ei wobrwyo mewn ffordd debyg. Mae'r gwaith rydych chi eisoes wedi'i gwblhau'n adlewyrchu'n gryf prif ofidion pobl ifanc yng Nghymru heddiw. Diolch am yr adroddiadau ar addysg a'r cwricwlwm. Bydd yr argymhellion yn eich gwaith ar iechyd meddwl a llesiant yn ddylanwadol ar draws Llywodraeth Cymru. Bydd yr arolwg presennol, sy'n archwilio'r hinsawdd a'r amgylchedd, yn sicrhau bod llais heriol pobl ifanc ar bynciau mwyaf dwys y dydd yn cael ei glywed yn glir ac effeithiol yng ngwaith y Senedd. Mark Drakeford AC: Diolch, bawb, am ymuno â ni heddiw. Gallwch fod yn sicr fod gennych holl gefnogaeth y Senedd yn y gwaith pwysig a wnewch nid yn unig ar ran pobl ifanc Cymru, ond ar ran Cymru gyfan. Diolch yn fawr. Diolch yn fawr. Na, nid oes angen ichi gymeradwyo'r Prif Weinidog nac arweinwyr eich pleidiau, os nad oes ots gennych. Ymgais lew, Hefin David, ond dim diolch. [Chwerthin.] Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies. Andrew RT Davies AC: Diolch, Lywydd. Mae'n rhaid bod ad-drefnu ar y gweill neu rywbeth, gyda'r Aelodau ar y meinciau cefn yn cymeradwyo. [Chwerthin.] Mae’n bleser pur cael bod yma am yr eildro i’r Senedd Ieuenctid bresennol hon ddod at ei gilydd yn yr Oriel, yn Siambr y Senedd, i gyfarfod, yn amlwg, ag Aelodau o'r Senedd. Rwyf wedi cael y pleser o gyfarfod â gwahanol seneddwyr ieuenctid—rwy'n edrych ar Ruben ar ochr arall y ddesg, ac er nad yw'n cefnogi fy mhlaid wleidyddol, yn ôl y logos y mae’n eu rhoi ar y cyfryngau cymdeithasol, mae wedi ymgysylltu’n agos â gwleidyddion ar draws y Siambr hon, boed yn wleidyddion Llafur, Plaid Cymru, neu ni ein hunain, a dod â ni i mewn i'r ysgolion i gyfarfod â myfyrwyr yn Ysgol Uwchradd Llanisien, ac rwy'n siŵr fod hynny wedi digwydd ar draws y Senedd Ieuenctid, ac yn amlwg, wedi agor y drysau i lawer o bobl weld beth mae Senedd Cymru yn ei wneud mewn gwirionedd, a'r cyfrifoldebau sydd gennym, a gobeithio y byddwch yn gallu llywio ein gwaith gyda'r adroddiadau rydych wedi'u gwneud. Mae mor galonogol clywed y gwaith rydych wedi'i wneud ar y diwrnod ysgol yn arbennig, ac ar iechyd meddwl yn benodol. Heddiw, yn y Daily Telegraph, er enghraifft, mae adroddiad, wrth inni ddod allan o pandemig COVID, ar anhwylderau bwyta a sut mae hynny’n effeithio ar bobl ifanc a’r cymorth a’r gefnogaeth sydd angen eu darparu yn hynny o beth. Pa bobl well i lywio’r mesurau sydd angen eu rhoi ar waith na phobl ifanc eu hunain? A hefyd, wrth fyfyrio ar y diwrnod ysgol a'r newidiadau y gwn fod y Llywodraeth yn sôn am eu cyflwyno, mae'n galonogol gweld y ddeialog rhwng mainc y Llywodraeth a'r seneddwyr ieuenctid yn y gwaith rydych wedi'i wneud. Felly, rwy'n dymuno'n dda i chi, a phob llwyddiant yn eich gwaith. Rwy’n deall bod gennych chwe mis arall o waith tan y daw’r tymor hwn i ben—rwy’n credu fy mod yn iawn yn dweud hynny, Lywydd, 2023—ac o’ch cyflwyniadau cychwynnol, rydych wedi nodi, yn amlwg, y bydd adroddiadau'n cael eu cyflwyno yn yr hydref, ac rwyf fi, yn sicr, a'm cyd-Aelodau ar feinciau’r Ceidwadwyr, rwy'n gwybod, wedi mwynhau gweithio gyda'n cyd-seneddwyr ieuenctid, ac edrychwn ymlaen at barhau â’r gwaith a’r gefnogaeth honno. Bydd hynny'n agor y drws, gobeithio, i lawer ohonoch sefyll mewn etholiadau, i gael eich ystyried gan yr etholwyr yn fwy cyffredinol, ni waeth ym mha blaid, gan fod democratiaeth yn ffynnu pan fydd pobl yn sefyll etholiadau ac yn cynnig y dewis, y dewis eang hwnnw i’r etholwyr, er mwyn i’w lleisiau gael eu clywed. Felly, rwy'n dymuno’n dda i bob un ohonoch yn eich gwaith parhaus, a diolch am roi eich amser i fod gyda ni yma heddiw. Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorweth. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch yn fawr iawn, Llywydd, ac mae hi yn fraint wirioneddol i mi gael bod yma yn gwrando arnoch chi ac yn dysgu gennych chi heddiw yma. Rhun ap Iorwerth AC: Dylwn ddweud ein bod ni fel oedolion yn tueddu i feddwl ein bod yn iau nag ydym, felly mae cael ein hamgylchynu, yn llythrennol, gan bobl ifanc, a phobl ifanc mor eithriadol o ddeallus, ychydig yn frawychus, felly peidiwch â bod yn rhy galed arnom, yw fy nghais. Rhun ap Iorwerth AC: Rŵan, er fy mod i ychydig bach yn hŷn na chi, mae gennym ni un peth sy'n gyffredin iawn, sef chwilfrydedd. Dwi newydd ddod yn arweinydd ar fy mhlaid i ac wedi fy nghyffroi am y posibiliadau sy'n dod o hynny, wrth greu Cymru well. Ac yn yr un modd, dwi'n gwybod y bydd eich llygaid chithau yn lled y pen ar agor, ie, i'r heriau, ond hefyd i'r cyfleoedd cyffrous sy'n dod o'n blaenau ni fel cenedl. Rhun ap Iorwerth AC: Hoffwn ddiolch i chi am y gwaith pwysig a wnewch a rhoi sicrwydd i chi fod eich blaenoriaethau, mewn cymaint o ffyrdd, yr un fath â'm blaenoriaethau i a'n blaenoriaethau ninnau hefyd. Ac mae eich cael chi yma heddiw yn fy atgoffa nad wyf fi a'm cyd-Aelodau o'r Senedd yma er ein mwyn ein hunain; rydym yma ar eich cyfer chi. Ym mhopeth a ddywedwn ac a wnawn, dylem ofyn y cwestiwn syml i ni'n hunain, 'A fyddwn yn gadael ein cenedl mewn lle gwell o ganlyniad i'n gweithredoedd?' Gwn fod pobl ifanc yn wynebu cymaint o heriau—trodd y pandemig addysg wyneb i waered. Pwy fyddai wedi meddwl y byddai'r ystafell fwyta, y gegin, yn dod yn ystafell ddosbarth? Ond fe ddangosoch chi wytnwch, gallu i ymaddasu ac awydd i ddysgu, ac mae eich gallu chi fel cenhedlaeth i oroesi'r storm yn rhywbeth y gallwn ddysgu ohono. Rhun ap Iorwerth AC: Dwi'n gwybod bod COVID wedi creu cymaint o heriau i chi, wrth inni drio cadw'n gilydd yn ddiogel—yr unigrwydd ddaeth o hynny. Mae peidio â chael ein ffrindiau agos o'n cwmpas ni yn rhywbeth sy'n anodd ac yn gallu bod yn heriol o ran iechyd meddwl. Ond mae'n glod mawr i chi eich bod chi wedi gwneud iechyd meddwl yn rhywbeth normal i siarad amdano fo—rhywbeth oedd yn rhy anodd i'n cenhedlaeth ni i siarad amdano fo yn y gorffennol. Un o'r pryderon mwyaf sydd gennym ni fel byd, wrth gwrs, ydy newid hinsawdd. Fel dywedodd Greta Thunberg: Rhun ap Iorwerth AC: 'Unwaith y byddwn yn dechrau gweithredu, mae gobaith ym mhob man.' Rhun ap Iorwerth AC: Ac efo gweithredu cyflym, yn sgil pwysau gan eich cenhedlaeth chi, mi allwn ni wneud y byd yma yn lle gwell. Yr her i ni yn fan hyn, wrth gwrs, ydy dangos ein bod ni yn clywed, yn gwrando ac yn barod i weithredu ar yr hyn rydym ni'n ei glywed gennych chi. Diolch am fod yma heddiw yma. Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Jane Dodds. Jane Dodds AS: Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a gwych eich gweld chi i gyd yma heddiw. Jane Dodds AS: Un peth yr hoffwn ei ddweud, yn y bôn: fi yw'r unig fenyw sy'n arweinydd plaid yng Nghymru, a fi yw'r unig fenyw sy'n arweinydd plaid ac nad yw'n rhannu rôl yn y DU gyfan, felly mae'n wych gweld yr holl fenywod ifanc hyn yma heddiw. Boed ichi barhau i mewn i fyd gwleidyddiaeth, gan fod arnom eich angen yn fwy nag erioed. Jane Dodds AS: Diolch yn fawr iawn am ddod yma. Mae'ch gwaith chi ar iechyd meddwl wedi bod yn ardderchog, yn enwedig yn canolbwyntio ar lefydd gwledig, llefydd dwi'n eu cynrychioli, a phobl eraill hefyd. Dwi'n gobeithio mai hwn ydy dechrau eich rôl chi yn siapio Cymru a'r dyfodol. Mae angen syniadau newydd, wynebau newydd, a wynebau â phob amryw, i greu democratiaeth a bywyd dinesig bywiog a pherthnasol, a dwi'n gobeithio y byddwch chi yn rhan o wireddu hynny yma yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn am ddod. Diolch yn fawr i arweinwyr y pleidiau. Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg sydd nesaf, Jayne Bryant. Jayne Bryant AC: Diolch, Lywydd, ac mae'n wirioneddol wych fod y ddwy Senedd yn eistedd yma heddiw. Mae'n fraint wirioneddol cael bod yma, a hoffwn ddiolch i'r Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru sydd wedi siarad y prynhawn yma ac i'r Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru am eu gwaith caled parhaus. Rydych yn sicrhau bod lleisiau plant a phobl ifanc yn cael eu clywed ar lefel uchaf y gwaith o lunio polisïau a gwneud penderfyniadau yng Nghymru. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, rwy'n falch iawn o ddweud bod y gwaith sydd eisoes wedi'i wneud gan y Senedd Ieuenctid hon wedi helpu i lywio ein syniadau a'n hargymhellion. Fe wnaethom fyfyrio ar ganfyddiadau 'Meddyliau Iau o Bwys' yn ein hadroddiad diweddar ar iechyd meddwl mewn addysg uwch, a byddwn yn parhau i feddwl am y canfyddiadau hyn mewn unrhyw waith a wnawn yn y dyfodol ar les emosiynol a meddyliol plant a phobl ifanc. Edrychaf ymlaen at ddarllen adroddiadau'r pwyllgor addysg a'r cwricwlwm ysgol, a phwyllgor yr hinsawdd a'r amgylchedd, ac rwy'n siŵr y bydd y ddau adroddiad yr un mor ddefnyddiol ag adroddiad y pwyllgor iechyd meddwl a llesiant. Rydym wedi bod yn hynod lwcus i glywed yn uniongyrchol gan rai o Aelodau ein Senedd Ieuenctid ar ein pwyllgor. Yn fwyaf diweddar, rhoddodd Georgia Miggins dystiolaeth i ni a soniodd am ei phrofiadau yn yr ysgol ar gyfer ein hymchwiliad yn gofyn a yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg. Chwaraeodd Rosie Squires ran enfawr yn ein hymchwiliad i blant â phrofiad o fod mewn gofal; daeth i'r pwyllgor, chwaraeodd ran fawr yn ein digwyddiad rhanddeiliaid, ac mae wedi bod yn eiriolwr gwych dros blant â phrofiad o fod mewn gofal ledled Cymru. Roeddem yn edmygu angerdd a hyder Georgia a Rosie a'u syniadau am newid cadarnhaol, syniadau na fyddwn yn colli golwg arnynt. Felly, diolch yn fawr. Diolch unwaith eto, i'r holl Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru am eu gwaith caled i sicrhau bod lleisiau plant a phobl ifanc yn cael eu clywed yn uchel ac yn glir ledled Cymru. Diolch yn fawr iawn i Gadeirydd y pwyllgor. Felly, y rhan nesaf nawr fydd cyfres o gwestiynau gan yr Aelodau Senedd Ieuenctid i amrywiol Weinidogion Llywodraeth Cymru. Ac felly, mae'r set gyntaf o gwestiynau i gael ei hateb gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg, a thri chwestiwn felly gan Jake Dillon, Ruben Kelman a Keira Bailey-Hughes. Y cwestiwn cyntaf, Jake Dillon. Diolch. Sut fydd y Llywodraeth hon yn sicrhau bod y cwricwlwm newydd yn cael ei addasu ar gyfer plant ag anawsterau dysgu ledled y wlad? A dylwn fod wedi eich cyflwyno, Jake, fel yr Aelod dros Faldwyn, sir Drefaldwyn, ac fe'm hysgogwyd i wneud hynny gan fonllef Aelod arall sy'n cynrychioli etholaeth sir Drefaldwyn. Felly, diolch am eich cwestiwn. Ruben Kelman nesaf, cwestiwn eto i'r Gweinidog. Diolch, Lywydd. Ychydig iawn o gyfathrebu a gafwyd ynglŷn â'r cwricwlwm newydd. Yng ngeiriau athro rwy'n ei adnabod, dyma'r methiant mwyaf ym myd addysg ers datganoli. Felly, Gweinidog, sut ydych chi'n mynd i sicrhau bod y newidiadau cyffrous yma ddim yn fethiant llwyr? A Reuben yn Aelod o'r Senedd Ieuenctid yn cynrychioli Gogledd Caerdydd. A Keira Bailey-Hughes, y cwestiwn nesaf i'r Gweinidog addysg. Keira Bailey-Hughes yn cynrychioli sefydliad partner Gisda, felly Keira. Gorffennais ysgol flwyddyn yn ôl, ac nid oedd yn brofiad da i mi na llawer o fy ffrindiau LHDT+, yn enwedig i fy ffrindiau transgender. Roedd ysgol yn lle peryglus iddyn nhw. Roedd camwybodaeth ac anwybodaeth am bobl draws yn sicrhau hyn. Fy nghwestiwn i ydy: a allwn ddisgwyl gweld mwy o addysg i gefnogi agweddau iach tuag at lleiafrifoedd yn y cwricwlwm newydd, a sut olwg fydd ar hynny? Diolch am y tri chwestiwn. Y Gweinidog nawr, felly, i ateb y tri ohonyn nhw. Jeremy Miles AC: Diolch, Llywydd, a diolch i'r tri am y cwestiynau ar feysydd pwysig iawn. I ateb cwestiwn Jake— Jeremy Miles AC: —mae'n gwestiwn pwysig iawn rydych yn ei ofyn, Jake. Mae fframwaith y Cwricwlwm i Gymru wedi'i gynllunio i fod yn gynhwysol i bob dysgwr ac wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion pob dysgwr unigol yn yr ystafell ddosbarth. Felly, mae'n hanfodol, yn amlwg, ei fod yn diwallu anghenion dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol i'r un graddau â'u holl gyfoedion yn yr ysgol. Mae canllawiau'r fframwaith wedi'u dylunio gan athrawon ac arbenigwyr a chanddynt wybodaeth benodol am anghenion dysgu ychwanegol, fel eu bod yn cyfleu'r ystod o anghenion sydd gan bobl ifanc. Mae'r cod cynnydd, sy'n rhan sylfaenol o'r fframwaith ar gyfer y cwricwlwm newydd, yn nodi'r disgwyliadau ynghylch cynnydd i bob dysgwr, ac yna, mae ymyriadau a chymorth penodol ar gael os nad yw dysgwyr penodol yn gwneud y cynnydd y byddent hwy eu hunain yn dymuno ei wneud o bosibl. Felly, mae llawer o adnoddau ar gael i ysgolion hefyd ar hyn o bryd i sicrhau bod athrawon yn gallu cefnogi anghenion pob dysgwr unigol, gan gynnwys y rheini ag anghenion dysgu ychwanegol, yn amlwg. Ond mae'n bwysig iawn ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar hynny fel Llywodraeth, fel y gallwn ddiwallu anghenion pob dysgwr unigol. Ruben, eich cwestiwn—rydych yn llygad eich lle fod angen inni sicrhau bod gan athrawon y dulliau gweithredu sydd eu hangen arnynt i wneud y cwricwlwm yn llwyddiant. I roi rhywfaint o sicrwydd i chi, gobeithio, ar Hwb, mae ystod eang o adnoddau ar gael i gefnogi athrawon i gyflwyno'r cwricwlwm. Gwn fod Llanisien wedi bod yn gwneud hynny ers mis Medi y llynedd ar gyfer Blwyddyn 7. Yn amlwg, bydd hynny'n parhau dros y blynyddoedd nesaf. Byddwn yn gweithio gydag ysgolion i ddarganfod lle gallai fod angen cymorth ychwanegol arnynt, ac maent wedi sôn wrthym am rai meysydd, er enghraifft, ynghylch asesu a chynnydd, felly rydym yn darparu cymorth penodol mewn perthynas â hynny, ac mae gennym raglen dysgu proffesiynol sylweddol iawn rydym yn ei hariannu fel Llywodraeth, yn darparu arian i ysgolion fel y gall athrawon wario'r arian hwnnw i ddatblygu eu sgiliau mewn meysydd penodol yn y cwricwlwm. Mae yna fframwaith cenedlaethol. Mae'n Gwricwlwm i Gymru, felly mae'n cynnwys datganiadau o'r hyn sy'n bwysig, sy'n dweud wrth athrawon beth sydd angen iddynt ei gynnwys yn y cwricwlwm. Ond holl bwynt y cwricwlwm, ochr yn ochr â fframwaith a disgwyliadau cenedlaethol cryf, yw ein bod yn ymddiried mewn athrawon i gynllunio a chyflwyno cwricwla sy'n gweithio i'w dysgwyr, yn eu cymunedau, yn eu hysgolion, ac felly rydym yn defnyddio'r rhwydwaith cenedlaethol ar draws y system ysgolion i wrando ar athrawon, i glywed pa gymorth arall sydd ei angen arnynt i gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i ddatblygu a chynllunio'r cwricwlwm ar gyfer eu hysgol. Keira, mae eich pwynt yn wirioneddol bwysig. Rwyf wedi llwyr ymrwymo i sicrhau bod ein system ysgolion a'n cwricwlwm yn gwbl gynhwysol. Mae'r pwynt a wnewch am brofiad myfyrwyr traws yn bwysig iawn. Rydym yn gweithio ar ganllawiau ar hyn o bryd, y byddwn yn cynnal ymgynghoriad arnynt yn ystod y misoedd nesaf, i fynd i'r afael â nifer o'r pwyntiau a godwyd gennych. Rwy'n clywed gan bobl ifanc drwy'r amser fod arnynt angen y canllawiau ychwanegol y byddwn yn eu darparu i ysgolion. Rwy'n falch iawn fod gennym gwricwlwm a chwricwlwm addysg cydberthynas a rhywioldeb sy'n gwbl LHDTC+-gynhwysol. Mae hynny'n bwysig iawn i mi yn bersonol. Ond rydym hefyd am sicrhau bod profiadau pob unigolyn ifanc yn cael eu hadlewyrchu'n ôl arnynt, felly, fel y gwyddoch hefyd, ni yw'r rhan gyntaf o'r DU i wneud addysgu am brofiadau a hanesion pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn rhan o'r cwricwlwm, felly rwy'n falch iawn o'r gwaith rydym yn ei wneud yn y maes hwnnw. Mae pob un ohonom wedi ymrwymo i sicrhau bod ysgolion yn gwbl gynhwysol. Diolch yn fawr i'r Gweinidog am yr ymateb. Mae'r cwestiwn nesaf i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd. Ella Kenny o Ddwyrain Abertawe— —Dwyrain Abertawe, i ofyn y cwestiwn hwn. Gyda chyflwyno'r Bil Trefn Gyhoeddus draconaidd, sy'n gwahardd grwpiau fel Gwrthryfel Difodiant rhag protestio'n effeithiol, a nwyon tŷ gwydr ar eu lefel uchaf ers 4.5 miliwn flynyddoedd, beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru i sicrhau pontio radical i sero net, a sut maent yn bwriadu dwyn San Steffan i gyfrif wrth atal olew a nwy newydd? Lee Waters AC: Wel, diolch i Ella am ei chwestiwn, ac am ei heiriolaeth dros y mater hollbwysig hwn. Credaf ei bod yn bwysig dweud bod 60 y cant o'r allyriadau y mae angen inni eu torri erbyn 2050 yn nwylo Llywodraeth y DU a 40 y cant yn nwylo Llywodraeth Cymru. Mae angen inni sicrhau ein bod yn cyflawni ein toriad o 40 y cant. Gwyddom fod yn rhaid i ni, dros y 10 mlynedd nesaf, wneud toriadau mwy nag rydym wedi llwyddo eu gwneud dros y tri degawd diwethaf gyda'i gilydd. Mae hynny'n rhoi ymdeimlad i chi o'r ymdrech y bydd yn rhaid i ni ei gwneud i gyflawni'r targedau hanfodol hyn. Ac rydym yn gwneud llawer iawn. Mewn gwirionedd, mae Julie James—fy nghyd-Aelod—ym Mrwsel heddiw yn un o gyfarfodydd Cynghrair Dan2, rhwydwaith o ddinasoedd a rhanbarthau o bob cwr o'r byd sy'n gweithio ar lefel is-wladwriaethol i edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud. Felly, credaf mai dyna'n union y dylem fod yn canolbwyntio arno, gyda'r ewyllys yn llawn gobaith, os mynnwch, o ran yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud. Mae gan Lywodraeth y DU, wrth gwrs, ran bwysig i'w chwarae hefyd, ac mae'n deg dweud eu bod yn well am siarad nag am weithredu. Mae'r ffaith eu bod ar fin awdurdodi maes olew newydd sbon yn Rosebank, gyda 500 miliwn o gasgenni o olew i'w cymeradwyo, yn dangos diffyg cysylltiad â'r wyddoniaeth a barn y cyhoedd. Credaf fod hynny'n gam yn ôl. Nid yw'n rhy hwyr i Grant Shapps atal hyn, a gobeithio y bydd yn gwneud hynny. Mae Keir Starmer wedi dweud, os daw Llywodraeth Lafur, y byddai'n atal unrhyw ddrilio am olew ym môr y Gogledd, a dyna'r peth iawn i'w wneud. Mae gan y ddau ohonom gyfrifoldebau, nid yn unig i siarad, ond i weithredu. Diolch i'r Dirprwy Weinidog. Tegan Skyrme sydd nesaf, i ofyn ei chwestiwn i'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, ac mae Tegan yn cynrychioli Anabledd Dysgu Cymru. Tegan. Mae pawb angen mynediad at gymorth iechyd meddwl da. O fy mhrofiad fy hun, gwn fod pobl ag anableddau yn aml yn cael mwy o drafferth gyda'u hiechyd meddwl nag eraill oherwydd yr heriau y mae'n rhaid iddynt eu hwynebu, ond nid yw gwasanaethau iechyd meddwl bob amser yn hygyrch iddynt. Sut ydych chi'n bwriadu sicrhau bod gwasanaethau iechyd meddwl yn hygyrch? Lynne Neagle AC: Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn, Tegan. Mae'n bwysig iawn i mi fod pawb yn gallu cael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt gan ein gwasanaethau iechyd meddwl ac nad oes rhwystrau i gael cymorth. Mae pob bwrdd iechyd yn gyfrifol am gynllunio gofal i ddiwallu anghenion pawb, ac mae hynny'n cynnwys sicrhau bod gwasanaethau'n hygyrch. Mewn gwirionedd, mae gan y GIG gyfrifoldeb cyfreithiol i wneud hyn o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, felly golyga hynny fod yn rhaid i wasanaethau wneud addasiadau i sicrhau bod yr holl anghenion mynediad a chyfathrebu yn cael eu diwallu. Rydym ni fel Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall, Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar, Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain a sefydliadau'r GIG i'n helpu i ddeall beth sydd angen i ni ei wneud yn well fel y gall pobl â nam ar y synhwyrau gael mynediad hawdd at ein gwasanaethau. Rwyf hefyd wedi gofyn am adolygiad o'n timau iechyd meddwl cymunedol i helpu i ddweud wrthym beth sydd angen ei newid i wneud y gwasanaethau hyn yn fwy hygyrch i bobl anabl. Gyda'n gilydd, bydd y rhain yn ein helpu i ddeall pa welliannau y mae angen i ni eu gwneud. Ond fy nod yw sicrhau bod mwy o ffyrdd o gael mynediad at gymorth fel y gall pobl ddewis y ffordd sy'n gweithio orau iddynt hwy. Efallai y bydd rhai pobl yn ei chael hi'n haws siarad wyneb yn wyneb neu ar y ffôn, efallai y bydd rhai pobl yn hoffi defnyddio eu cyfrifiadur neu neges destun. Ddoe, lansiais y gwasanaeth '111 pwyso 2' newydd ar gyfer cymorth iechyd meddwl brys yng Nghymru, sy'n golygu y gall pobl, gan gynnwys plant a phobl ifanc, ddefnyddio'r gwasanaeth hwn ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos, gan gynnwys y penwythnos. Byddwn yn sicrhau y gall pobl ddefnyddio technoleg testun-i-lais a llais-i-destun i gael mynediad at y gwasanaeth, a bydd gennym gymorth fideo ar gyfer Iaith Arwyddion Prydain hefyd a hyfforddiant i staff mewn niwrowahaniaethau. Mae ein llinell gymorth 111 wedi'i chysylltu â'n llinell gymorth CALL, sydd newydd ehangu eu cynnig i gynnwys llinell wrando niwrowahanol fel y gall teuluoedd, rhieni a phobl ifanc drafod pryderon a dod o hyd i'r gwasanaethau cywir i'w cefnogi. Yr hyn yr hoffem ei weld yw gwasanaethau'n gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod pobl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt, a'r term am hynny yw'r dull 'dim drws anghywir'. Rydym yn ymdrechu'n galed iawn i gynllunio gwasanaethau fel y gall pawb gael gafael ar gymorth iechyd meddwl pan a ble mae arnynt ei angen, ac rydym wedi datblygu ein fframwaith NYTH i helpu gwasanaethau i gynllunio hynny. Ein huchelgais yw sicrhau bod cymorth iechyd meddwl ar gael mewn ysgolion, mewn gofal, mewn cartrefi maeth, mewn gweithleoedd a hyd yn oed yn eich cartrefi eich hun, ac rydym am wneud hynny drwy roi'r hyfforddiant a'r cymorth sydd ei angen ar athrawon, gweithwyr cymdeithasol, rhieni a gofalwyr i gefnogi pobl ifanc. Rydym wedi gwneud dechrau da iawn, rydym eisoes yn cyflwyno hyn mewn ysgolion drwy ein dull ysgol gyfan, ac mae llesiant bellach yn rhan o ddysgu bob dydd yng Nghymru. Rydym yn cysylltu pob ysgol yng Nghymru â'u gwasanaeth iechyd meddwl lleol, a all ddod i'r ysgol a helpu i gefnogi pobl ifanc ac athrawon. Mae gennym hefyd gynllun y gweithlu ar gyfer iechyd meddwl, fel y gallwn hyfforddi staff arbenigol ac unrhyw un sydd ei angen, ac mae hynny'n cynnwys datblygu hyfforddiant i helpu pawb yng Nghymru i nodi arwyddion trawma fel y gallant helpu pan fydd rhywun wedi cael profiadau gwael iawn yn eu bywydau a all arwain at broblemau iechyd meddwl. Hefyd, mae gennym hyfforddiant i'n staff iechyd meddwl a gweithwyr eraill ar helpu pobl â gwahaniaethau niwrolegol fel y gallant drin yr unigolyn hwnnw mewn ffordd sy'n gweithio iddynt hwy. Rwy'n deall, serch hynny, nad yw pethau'n berffaith a bod angen inni wneud mwy i wella mynediad i bawb. Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio ar ein strategaeth newydd ar gyfer iechyd meddwl yng Nghymru, ac mae hynny'n rhoi cyfle inni ddweud beth fyddwn yn ei wneud nesaf i wella pethau. Mae sicrhau bod gwasanaethau'n hygyrch i bawb yn rhan bwysig iawn o hyn, a'r wythnos diwethaf, lansiwyd arolwg gennym fel bod pobl yn cael eu cyfle i'n helpu i feddwl sut i wella cymorth wrth symud ymlaen. Hoffwn annog pawb i gymryd rhan yn yr arolwg hwn, fel y gallwch ein helpu i feddwl sut y gallwn wella gwasanaethau iechyd meddwl i bawb. Rwy'n arbennig o awyddus i glywed gan blant a phobl ifanc. Diolch. Diolch i'r Dirprwy Weinidog. Bydd y gair olaf yn y sesiwn hon yn dod, ac fe ddylai ddod, gan Aelod o'r Senedd Ieuenctid, Ollie Mallin, sy'n cynrychioli Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru. Yn gyntaf oll, hoffwn ddweud ei bod yn anrhydedd sefyll yma heddiw yn yr ail sesiwn ar y cyd rhwng ein Seneddau. Rwyf wedi bod mor ffodus i sefyll ddwywaith yn y Siambr hon gyda'ch chi a'ch rhagflaenwyr. Rhwng y sesiwn ddiwethaf a heddiw, mae Cymru wedi newid yn sylweddol. Rydym wedi wynebu pandemig byd-eang, sawl Prif Weinidog y DU, a bellach, argyfwng costau byw. Ond ni fu Cymru a'i phobl erioed yn gryfach nac mor unedig fel cenedl. Rwy'n siarad ar ran y Senedd Ieuenctid gyfan a minnau pan ddywedaf fy mod yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru a gweddill y Senedd yn derbyn ein hargymhellion gan lawn fwriadu eu rhoi ar waith. Credaf fod y Senedd Ieuenctid yn un o'r ffynonellau gorau—os nad y gorau—sydd gan Lywodraeth Cymru i ddarganfod beth mae pobl ifanc Cymru ei eisiau, beth mae cenhedlaeth nesaf Cymru ei eisiau. Hoffwn siarad am fy mhrofiad fel Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, i ddangos i chi pa mor bwysig yw rôl y Senedd Ieuenctid, a faint o effaith y mae'n ei chael, nid yn unig yng Nghymru, ond ar fy mywyd personol. Pan ymgeisiais am fy sedd gyntaf erioed ar Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru, dim ond 11 oed oeddwn i. Nid oedd gennyf lais, nid oedd gennyf blatfform, ond roedd gennyf syniadau, ac roeddwn yn awyddus i greu newid. Roeddwn yn gwybod am y trafferthion a wynebais i gael cymorth i fod yn ofalwr ifanc, ac roeddwn yn gwybod nad oedd hynny'n iawn. Roeddwn yn gwybod bod angen herio'r system, felly pan oeddwn yn 12 oed, rhoddodd Senedd Ieuenctid Cymru lwybr imi wneud hynny. A bellach, rwy'n 17 oed, ac mae gan Gymru ei cherdyn adnabod cenedlaethol ei hun i ofalwyr ifanc i'w helpu yn eu rolau. Mae fy chwaer fach, sy'n ofalwr, yn naw oed. Mae ganddi fynediad at wasanaethau na chefais i ac na allwn wneud dim ond breuddwydio amdanynt pan oeddwn yr un oed â hi, ac i mi, dyna fy nhasg i wedi'i chyflawni. Rwyf wedi helpu un unigolyn, wedi gwneud gwahaniaeth i fywyd un unigolyn. Beth arall sy'n bwysig mewn gwirionedd? Felly, pan fyddaf yn myfyrio ar fy nghyfnod yn y Senedd, os gallaf i fel un Aelod wneud yr hyn rwyf wedi'i wneud a helpu'r bobl rwyf wedi'u helpu, dychmygwch beth y gall 60 ohonom ei wneud. Dychmygwch beth fydd y 60 nesaf, y 60 nesaf, ac yn y blaen, yn ei gyflawni. Fesul tipyn, rydym yn creu'r fersiwn orau bosibl o Gymru. Fodd bynnag, dim ond hyn a hyn y gallwn ei wneud cyn bod angen eich help chi arnom. Felly, gofynnwn i chi dderbyn ein hargymhellion ac ystyried pob un ohonynt, cymryd camau ar bob un ohonynt. Daw'r argymhellion hyn yn syth gan bobl ifanc Cymru, felly rwy'n eich annog yma heddiw, lle mae calon Cymru'n curo, i wireddu'r argymhellion hyn. Rwy'n ddigon ffodus o fod wedi gweld datblygiad y Senedd Ieuenctid ac i gael profiad uniongyrchol o'r effaith y gall ein lleisiau ei chael. Mae'r ffaith bod gennym ni fel cenedl Senedd ar y cyd yn y lle cyntaf yn dangos bod Cymru ar flaen y gad. Mae gennym bleidlais i bobl 16 oed, sy'n anhygoel, a chredaf ei bod mor bwysig ein bod yn parhau i symud ymlaen ac yn ymdrechu i fod yn well. Yn olaf, diolch i'r Llywydd a'r Aelodau am ein croesawu i'r Siambr i siarad â chi heddiw. Mae'r gwaith y gallwn ei gyflawni os ydym yn gweithio gyda'n gilydd yn aruthrol. Diolch am wrando. [Cymeradwyaeth.] Ni chredaf y gallem fod wedi cael geiriau gwell i gloi ein sesiwn na'r geiriau rydym newydd glywed gennych chi, Ollie. Felly, diolch am hynny, a diolch am fod yn ysbrydoliaeth i'ch cyd-Aelodau fel seneddwyr ieuenctid, yn ogystal ag ysbrydoliaeth a her i ni fel Aelodau o'r Senedd. Gyda llaw, nid ydym wedi cael dici-bô yn y Siambr hon er pan oedd gennym Aelod o'r enw David Melding, ac rwy'n credu eich bod yn ein hatgoffa ohono heddiw gyda'ch geiriau hefyd. Diolch i bob un ohonoch fel pobl ifanc sydd wedi ymuno â ni heddiw—y rhai ohonoch sydd wedi siarad, a'r rhai ohonoch sydd wedi bod yn bresennol yma gyda ni. Mae'n wych fod cymaint ohonoch wedi gwneud ymdrech i fod gyda ni heddiw, a rhai ohonoch chi hefyd ar Zoom. Diolch am yr holl waith a wnewch yn y Senedd a'r pwyllgorau, a'r gwaith y byddwch yn parhau i'w wneud gyda'r amser sy'n weddill gennych. Mae pob un ohonoch wedi bod yn gryno ac yn glir iawn gyda phopeth rydych wedi'i ddweud wrthym, a gobeithio y gall hynny barhau gyda'ch Senedd bartner yn yr hyn sy'n weddill heddiw. Fe fyddwn ni nawr yn cymryd toriad byr, fel y gallwn wneud rhai newidiadau i'n hamgylchedd yma yn y Siambr, a byddwn yn ailymgynnull mewn tua 10 munud. Diolch i chi i gyd am y blaenoriaethau ŷch chi fel pobl ifanc, Aelodau o'r Senedd Ieuenctid, wedi'u cyflwyno i ni y prynhawn yma. Mae eich blaenoriaethau chi nawr yn flaenoriaethau i ni hefyd, ac rŷn ni'n edrych ymlaen i gydweithio gyda chi i'r dyfodol hefyd. Diolch yn fawr i bawb. [Cymeradwyaeth.] Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 13:25. Ailymgynullodd y Senedd am 13:35, gyda'r Llywydd yn y Gadair. 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip Gwnawn ni ailddechrau nawr. Yr eitem gyntaf nesaf ar ein agenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Rhys ab Owen. Noeth-chwilio Plant Rhys ab Owen AS: 1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r heddlu ac asiantaethau cyfiawnder troseddol ac ieuenctid eraill ynghylch dod â noeth-chwilio plant i ben, yn dilyn yr argymhelliad yn adroddiad Comisiynwyr Plant Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn? OQ59680 Jane Hutt AC: Diolch yn fawr am eich cwestiwn. Jane Hutt AC: Roeddwn yn bryderus iawn o glywed am yr adroddiad i noeth-chwilio plant, a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd Plant Lloegr ar 27 Mawrth. Rwyf wedi trafod y mater hwn gyda'r comisiynydd heddlu a throseddu arweiniol yr wythnos hon i gael eglurhad ynghylch y sefyllfa yng Nghymru. Rhys ab Owen AS: Diolch, Weinidog. Yr wythnos hon, codwyd mater stopio a chwilio gyda'r Ysgrifennydd Cartref, Suella Braverman, gan arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts, ac unwaith eto roedd yn tynnu sylw at ddiffyg data penodol i Gymru—rhywbeth y clywn amdano'n aml iawn yn y Siambr hon—ar gyfraddau stopio a chwilio yn ôl poblogaeth. Weinidog, a ydych chi'n cefnogi argymhelliad y comisiynydd plant i gael gwared ar noeth-chwilio plant yng Nghymru? Jane Hutt AC: Yr hyn sy'n bwysig nawr yw ein bod yn edrych ar raddfa a defnydd o noeth-chwilio. Rwyf wedi codi hyn gyda chomisiynydd yr heddlu a throseddu, fel y dywedais, ac rydym yn cydnabod y gallai noeth-chwilio fod yn hynod drawmatig i bobl ifanc, ac mae'n hanfodol ein bod yn cael gwybod gan yr heddlu beth yw'r data. Ac fel y dywedwch, mae hyn yn rhywbeth rydym yn poeni amdano. Rwyf wedi cyfarfod â'r comisiynydd plant i drafod y mater, ac rwyf wedi cael sicrwydd bod arweinwyr plismona yng Nghymru yn dod â data o bob heddlu yng Nghymru ynghyd, er mwyn sicrhau bod gennym ddarlun llawn o sut y defnyddir chwiliadau o'r fath, lle mae'r problemau, a lle mae angen i ni weithredu. Felly, bydd hynny'n rhoi darlun mwy cyflawn i ni na'r un sydd gennym ar hyn o bryd, a darlun o unrhyw anghymesuredd hefyd. Rwyf wedi pwysleisio bod angen cyflawni'r dasg hon ar frys, ac wedi gofyn am amserlen ragamcanol, ac rwyf wedi ysgrifennu at Gomisiynydd Plant Cymru i gadarnhau pa mor bwysig yw'r mater i ni, ac rwy'n hapus i adrodd yn ôl pan gawn y darlun data ar ba gamau priodol y dylid eu cymryd ynghylch yr arfer hwn. Y Sector Gwirfoddol yn Sir Drefaldwyn Russell George AC: 2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector gwirfoddol yn sir Drefaldwyn? OQ59693 Jane Hutt AC: Diolch yn fawr, Russell George. Rwy'n neilltuo ychydig dros £7 miliwn y flwyddyn, tan fis Mawrth 2025, i Cefnogi Trydydd Sector Cymru; mae £346,463 o'r cyllid hwn yn mynd i Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys bob blwyddyn i helpu mudiadau gwirfoddol lleol gyda chodi arian, diogelu, gwirfoddoli a llywodraethu da. Russell George AC: Diolch am eich ateb, Weinidog. Cyhoeddodd y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol adroddiad y llynedd a oedd yn amlinellu'r bygythiad seiber y mae elusennau o bob maint yn ei wynebu, ac rwy'n arbennig o bryderus am yr elusennau yn sir Drefaldwyn—elusennau llai nad oes ganddynt adnoddau i gryfhau eu seiberddiogelwch heb gymorth. Ac wrth gwrs, mae llawer o elusennau llai yn fwy tebygol o ddibynnu ar staff sy'n defnyddio TG personol, sy'n anos i'w ddiogelu a'i reoli na TG a ddefnyddir yn ganolog. Felly, Weinidog, a wnewch chi amlinellu yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu elusennau i fod yn fwy diogel? A'r arian a amlinellwyd gennych yn eich ymateb cyntaf—sut y gellir defnyddio hwnnw mewn perthynas â brwydro yn erbyn bygythiadau seiberddiogelwch i'r trydydd sector? Jane Hutt AC: Wel, hoffwn ddiolch i'r Aelod am godi mater pwysig iawn i'r trydydd sector, nid yn unig yn eich etholaeth ym Mhowys a sir Drefaldwyn, ond hefyd dros Gymru gyfan. Ac yn aml yr elusennau llai sy'n cael eu dal gan hyn, am nad ydynt yn deall cyfrifoldebau diogelu a bygythiadau seiberddiogelwch. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod wedi rhoi cymorth ychwanegol i Cefnogi Trydydd Sector Cymru, er mwyn mynd i'r afael â'r union faterion hyn. Bydd yn galluogi partneriaeth Newid, a arweinir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Canolfan Cydweithredol Cymru, a ProMo-Cymru, i barhau i gefnogi sgiliau digidol yn y sector gwirfoddol, a fydd yn helpu i ddechrau mynd i'r afael â hyn. Mae'n £1.2 miliwn dros y flwyddyn ariannol hon a'r tair blynedd ariannol nesaf. Ond bydd o fudd i'r sefydliadau gwirfoddol hynny a'r bobl agored i niwed y maent yn gweithio gyda nhw hefyd, y byddant yn dod ar eu traws mewn perthynas â'r materion hyn, ac yn sicr, mae hwn yn rhywbeth y byddaf yn ei godi yng nghyfarfod nesaf cyngor partneriaeth y trydydd sector. Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau Llefarwyr y pleidiau nesaf. Llefarydd y Ceidwadwyr, Altaf Hussain. Altaf Hussain AS: Diolch, Lywydd. Weinidog, dros y penwythnos, fe wnaeth y brifddinas gynnal Pride Cymru llwyddiannus iawn unwaith eto—arwydd arall eto o ba mor bell rydym wedi dod gyda hawliau LHDT. Yn y digwyddiad, ailadroddodd y Prif Weinidog fwriad Llywodraeth Cymru i sicrhau mai Cymru fydd y genedl fwyaf cyfeillgar i LHDT yn Ewrop erbyn diwedd y degawd hwn—nod y mae fy mhlaid yn ei gefnogi'n llawn. Fodd bynnag, mae'n ymddangos nad yw realiti yn dal i fyny â'r rhethreg. Mae cyplau lesbiaidd yng Nghymru yn cael gwybod bod yn rhaid iddynt brofi anffrwythlondeb gyda 12 cylch aflwyddiannus o ffrwythloni mewngroth—dwbl y chwech gwreiddiol—cyn cael mynediad at ffrwythloni in vitro a ariennir gan y GIG. Nid yw pob bwrdd iechyd yn ariannu ffrwythloni mewngroth, felly, mae mynediad at ofal iechyd ffrwythlondeb y GIG yn anghyson ac yn ddibynnol ar ble mae unigolion sy'n ceisio gofal iechyd yn byw yng Nghymru. Weinidog, pam rydym yn trin cyplau o'r un rhyw yn wahanol i gyplau heterorywiol? Yn sicr, os ydym am sicrhau mai Cymru yw'r genedl fwyaf cyfeillgar i LHDT yn Ewrop, gallem ddechrau drwy sicrhau mynediad cyfartal at ofal iechyd. Diolch. Jane Hutt AC: Diolch yn fawr am eich cwestiwn. Jane Hutt AC: Ac mae'n gwestiwn pwysig. Roeddwn eisiau dweud diolch am gydnabod y gefnogaeth wych a gafwyd, ac a gafodd ei arwain nid yn unig gan y Prif Weinidog, ond fy nghyd-Aelodau, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan a Jeremy Miles. Cafwyd cefnogaeth wych gan Lywodraeth Cymru, yn ogystal ag o bob rhan o'r Senedd hon, yn y digwyddiad ddydd Sadwrn, a'r holl gefnogaeth i'r cynllun gweithredu LHDTC+, sydd, wrth gwrs, yn cael ei arwain gan fy nghyd-Aelod. Ond mae ein cefnogaeth i Blaid Cymru, yn ymestyn yn arbennig—. Rwy'n mynd i orymdaith yn fy etholaeth yn y Bont-faen ddydd Sadwrn. Rydych yn codi pwynt pwysig iawn, yn arbennig mewn perthynas â gofal iechyd, sef cyfrifoldeb fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac rydych yn cyfeirio at gynnig ymgynghoriad ar gyfer newidiadau. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn eich bod yn edrych ar ymgynghoriad Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru ar y mater hwn. Altaf Hussain AS: Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Yn sicr, mae gennym ffordd bell i fynd os ydym am greu Cymru fwy cyfartal. Yn sicr, nid yw'r sefyllfa'n cael ei helpu gan eithafwyr ar y chwith a'r dde sy'n ceisio hau rhaniad rhwng gwahanol grwpiau. Gwelsom hyn yn digwydd dros yr wythnos ddiwethaf, pan gynhaliodd San Steffan ddadl am ddiffiniad o 'ryw' yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Nid yw ymosodiadau ar y gymuned draws ac ar fenywod sy'n poeni am fannau un rhyw yn helpu neb nac yn gwneud dim i fynd i'r afael â phryderon y naill ochr na'r llall. Weinidog, nod eich cynllun gweithredu LHDTC+ yw mynd i'r afael â mater cydnabod rhywedd yma yng Nghymru. Pa gamau rydych chi'n eu cymryd i sicrhau y gallwn ni fabwysiadu dull pwyllog yma yng Nghymru, dull sy'n codi uwchlaw'r galw enwau a'r negeseuon sy'n bygwth lladd, dull heb y malais a'r gwenwyn? Sut y gallwn ni sicrhau bod hawliau pawb yn cael eu parchu? Jane Hutt AC: Diolch yn fawr am eich cwestiwn. Ond mae'n rhaid i mi ddweud bod hawliau LHDTC+, gan gynnwys hawliau traws, yn hawliau dynol, ac mae'r cynllun gweithredu LHDTC+—. Rwy'n credu bod y miloedd o bobl a fynychodd ddydd Sadwrn, yn enwedig yn ein prifddinas, yn cydnabod yr hyn rydym yn ei wneud. Mae'n bwysig, ac fe wnaethoch chi ei gydnabod yn gynharach, ein bod wedi ymrwymo i sicrhau mai Cymru yw'r genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop, a dyna pam rydym wedi datblygu cynllun gweithredu mor gadarn a thrawsbynciol, a pham ei fod yn cryfhau amddiffyniadau i bobl LHDTC+ ac yn hyrwyddo cydraddoldeb i bawb. Ond a gaf fi ddweud hefyd fy mod yn credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn edrych ar effaith ein haddysg a'r ffyrdd pwysig y mae—? Heddiw, hyd yn oed yn ein Senedd Ieuenctid, llwyddodd y Gweinidog i ymateb i'r pwynt hwn. A dweud y gwir, mewn perthynas â'r cwricwlwm addysg cynhwysol i Gymru, addysg cydberthynas a rhywioldeb, rwy'n credu ein bod wedi gweld pa mor bwysig ydyw heddiw, pa mor bwysig oedd hi fod hwnnw wedi dechrau fis Medi diwethaf a bod ganddo rôl mor gadarnhaol ac amddiffynnol yn addysg dysgwyr. Fel y gwelsom heddiw, ein plant a'n pobl ifanc fydd yn dangos y ffordd ymlaen yn ein cwricwlwm dysgu. Altaf Hussain AS: Diolch yn fawr, Weinidog. Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae yn taflu goleuni ar drafodaethau o'r fath a sicrhau nad ydynt yn mynd yn rhy danbaid. Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae wrth fynd i'r afael â chasineb, a dyna pam roeddwn wrth fy modd yn dysgu ddoe bod trefnwyr Gŵyl Glastonbury wedi penderfynu canslo dangosiad o'r rhaglen ddogfen, Oh, Jeremy Corbyn: The Big Lie. Mae'r ffilm yn honni ei bod yn adrodd hanes yr hyn a achosodd i brosiect Corbyn fethu. Dwy funud ar bymtheg i mewn, ar ôl cyflwyno tystiolaeth o ymgyrch a gyd-drefnwyd yn erbyn Corbyn, mae'r adroddwr, Alexei Sayle, yn gofyn: 'Ond os oedd hi'n ymgyrch a gyd-drefnwyd, pwy oedd y trefnwyr?' Yna, ceir cyfosodiad tawel yn dangos Bwrdd Dirprwyon Iddewig Prydain, y Mudiad Llafur Iddewig, Cyfeillion Llafur Israel, a'r Mudiad Eirioli dros Israel, gan ddefnyddio capsiynau a lluniau a fyddai'n wrthsemitiaeth amlwg pe baent yn cael eu siarad, a dyna pam y galwodd Bwrdd Dirprwyon Iddewig Prydain ar drefnwyr Glastonbury i ganslo'r dangosiad— Rwy'n credu bod gan y Gweinidog lawer o gyfrifoldebau, ond mae'n debyg nad hi sy'n gyfrifol am yr hyn a ddangosir yn Glastonbury. Felly, bydd angen i chi ddod at eich cwestiwn. Altaf Hussain AS: A gaf fi siarad nawr? Gallwch ofyn eich cwestiwn. Altaf Hussain AS: Weinidog, a ydych chi'n cytuno nad oes lle yng Nghymru i'r ymgais hon i ailysgrifennu hanes a'i drosiadau gwrthsemitig cywilyddus, ac a wnewch chi ymuno â mi i alw ar bob lleoliad yng Nghymru i beidio â sgrinio'r ffilm atgas hon? Jane Hutt AC: Lywydd, a gaf fi ddweud, a hefyd mae'n gyfle i atgoffa'r Aelod a'r Aelodau yn y Siambr, fod Llywodraeth Cymru, yn 2017, wedi mabwysiadu diffiniad gweithredol Cynghrair Rhyngwladol Cofio'r Holocost o wrthsemitiaeth yn llawn ac yn ddiamod? Llefarydd Plaid Cymru nawr, Sioned Williams. Sioned Williams MS: Diolch, Llywydd. Prynhawn da, Weinidog. Sioned Williams MS: Mae Plaid Cymru yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi lansio strategaeth tlodi plant ddiwygiedig yr wythnos hon, rhywbeth rydym wedi bod yn galw amdano ers peth amser, ac mae'n wyth mlynedd ers cyhoeddi'r strategaeth ddiwethaf wrth gwrs. Mae data a gyhoeddwyd y mis hwn gan Brifysgol Loughborough yn dangos mai ychydig iawn o gynnydd a wnaed dros y cyfnod hwnnw. Rydym yn croesawu'r ffaith ei fod yn ailddatgan yr ymrwymiad mewn perthynas â mesurau fel cyflwyno'r rhaglen prydau ysgol am ddim, sy'n adlewyrchu gwaddol cadarnhaol ac adeiladol ein cytundeb cydweithio. Rwyf hefyd yn falch o weld ymrwymiad i gyflymu'r gwaith o sefydlu system fudd-daliadau yng Nghymru. Fe wyddoch fy mod wedi dadlau'n gyson dros hyn ac wedi derbyn cefnogaeth y Senedd i'm galwad am Fil i sicrhau bod pob £1 o gymorth Cymreig yn mynd i'r boced cywir ar yr adeg gywir mor hawdd a chyflym â phosibl ac mewn ffordd gyson ledled Cymru. Felly, a fydd elfen statudol i ddarpariaeth awdurdodau lleol o'r taliadau cymorth hyn drwy'r system fudd-daliadau yng Nghymru i sicrhau hyn? Gan droi at bumed blaenoriaeth y cynllun, ar alluogi cydweithredu, Weinidog, sut rydych yn rhagweld yr ymrwymiad i sefydlu a chefnogi dull cymunedau maes sy'n gweithio'n ymarferol? A fydd fframweithiau ychwanegol ar gyfer rhanddeiliaid perthnasol i sicrhau bod gwahanol elfennau'r cynllun yn cael eu cydlynu'n effeithiol? Jane Hutt AC: Diolch yn fawr, Sioned Williams. Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu lansio'r strategaeth tlodi plant ddiwygiedig ar gyfer Cymru. Mae bellach yn destun ymgynghoriad, felly edrychaf ymlaen at gael ymatebion manwl gennych chi eich hunain a Chymru wrth gwrs, ac yn enwedig gan blant a phobl ifanc, ar yr holl agweddau a godwyd gennych. Mae'n ymgynghoriad 12 wythnos a lansiwyd ddydd Llun, ac mae wedi'i seilio, o ran y ffordd rydym wedi'i ddatblygu, gyda chyfranogiad 3,000 o blant a phobl ifanc a theuluoedd a sefydliadau eisoes, i ddatblygu'r drafft o'r strategaeth ddiwygiedig ar gyfer tlodi plant. Felly, rwy'n credu eich bod yn iawn i ganolbwyntio ar y materion lle gallwn ni wneud y gwahaniaeth mwyaf. Dyma'r polisïau lle gallwn wneud y gwahaniaeth mwyaf, gan nodi meysydd blaenoriaeth, ac mae gennyf ddiddordeb arbennig yn y pwyntiau rydych yn eu codi. O ran y polisi'n ymarferol, byddaf yn cyfarfod â Sefydliad Bevan yn fuan iawn, ac mewn gwirionedd, bydd Siân Gwenllian yn ymuno â mi, oherwydd mae'n ymwneud ag edrych ar ein hymrwymiadau yn y cytundeb cydweithio, ac edrych ar yr hyn y gallai hyn ei olygu mewn perthynas â'r gwaith o ddatblygu system fudd-daliadau yng Nghymru, sydd, wrth gwrs, yn hanfodol o ran mynd i'r afael â thlodi plant. Sioned Williams MS: Diolch, Weinidog. Mae Dr Steffan Evans o Sefydliad Bevan wedi gwneud pwynt mwy cyffredinol am y cynllun—mae'n tynnu sylw at ddiffyg manylder yn y cynllun yn gyffredinol, ac yn cyfeirio at esiampl yr ymrwymiad, er enghraifft, ar gostau gofal plant a thrafnidiaeth, sydd ond yn dweud, 'canolbwyntio ar waith ar draws y llywodraeth i ddod o hyd i atebion fforddiadwy i gostau gofal plant a thrafnidiaeth i gael gwared ar rwystrau i waith a gwneud i waith dalu'. Mae'n gofyn beth mae hyn yn ei olygu yn ymarferol ac a oes targed o ran faint o blant a ddylai gael mynediad at ofal plant am ddim neu ofal plant fforddiadwy yn y pum mlynedd nesaf. Pa rwystrau fydd Llywodraeth Cymru yn ceisio eu dileu er mwyn galluogi mwy o fynediad at drafnidiaeth fforddiadwy i blant? Pam nad oes targedau penodol yn y cynllun hwn, Weinidog? Jane Hutt AC: Wel, diolch yn fawr iawn am y cwestiwn hwnnw, ac yn amlwg, rwy'n awyddus iawn i glywed a dysgu o'r hyn y mae Sefydliad Bevan—. Rwyf eisoes wedi ymateb i'r pwynt hwnnw, ond hefyd mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi ein helpu i symud ymlaen a'r materion allweddol a gyflwynwyd y mae angen inni fynd i'r afael â hwy. Felly, ie, ar ofal plant, lle mae gennym y cynnig gorau yng Nghymru, sydd wedi'i gyfoethogi gan gynnig estynedig Dechrau'n Deg ar gyfer gofal plant am ddim, sydd, wrth gwrs, yn estyn allan at y rhai mwyaf difreintiedig—. Ond hefyd, o edrych ar drafnidiaeth, mae'n bwysig, mewn gwirionedd, ein bod yn cydnabod bod y terfyn cyflymder o 20 mya yn ffactor pwysig mewn perthynas ag amddiffyn plant o ran mynd i'r afael â thlodi plant, ond hefyd edrych ar drafnidiaeth o ran mynediad at waith a chyfleoedd. Credaf ei bod yn bwysig cydnabod y materion sy'n codi ynghylch y ffaith bod angen inni gydnabod bod yn rhaid inni gael canlyniadau o'r strategaeth tlodi plant hon. Nid oes gennym yr holl ysgogiadau angenrheidiol i sicrhau newid gwirioneddol yn lefelau tlodi plant yng Nghymru, a gobeithio y byddwch yn ymuno â ni, fel y gwyddoch, wrth inni alw ar Weinidogion y DU i wneud yr hyn sydd angen iddynt ei wneud i fynd i'r afael â thlodi plant—dileu'r cap budd-daliadau a'r terfyn dau blentyn a chynyddu'r lwfans tai lleol. Ond yr hyn rydym yn ei wneud yw edrych ar ffyrdd o ddatblygu fframwaith monitro—mae'n dweud hynny yn y strategaeth ddrafft—fel y gallwn gael atebolrwydd gwirioneddol, tryloyw am y pethau hynny nad oes gennym ni bwerau drostynt. Trais ar Sail Rhywedd Sarah Murphy AS: 3. A wnaiff Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd o ran datblygu canllawiau i fynd i'r afael â phryderon am y berthynas rhwng rhannu data a pharodrwydd goroeswyr trais ar sail rhywedd i geisio cymorth? OQ59702 Jane Hutt AC: Diolch yn fawr, Sarah Murphy. Er nad yw mater rhannu data'r heddlu wedi'i ddatganoli, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda phartneriaid cyfiawnder troseddol drwy ein dull glasbrint o gyflawni'r strategaeth genedlaethol ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae hyn yn cynnwys ffocws ar rymuso goroeswyr i geisio diogelwch a chefnogaeth gyda'r hyder bod gwybodaeth am gleifion yn cael ei diogelu. Sarah Murphy AS: Diolch, Weinidog. Dychmygwch ddod i'r wlad hon a methu cael y gefnogaeth rydych ei hangen yn daer. Dychmygwch ddod i'r wlad hon a bod ofn estyn allan nid yn unig at yr heddlu, ond hefyd at asiantaethau sydd i fod i'ch amddiffyn rhag trais ar sail rhywedd. Dychmygwch ddod i'r wlad hon a chael eich curo, eich dyrnu a'ch cleisio. A phe byddech yn dweud wrth yr awdurdodau am y trais hwn, dychmygwch gael eich allgludo, heb eich plant, yn union fel y dywedodd y cyflawnwr fyddai'n digwydd pe baech yn rhoi gwybod am y trais. Yn anffodus, Weinidog, mae hyn yn llawer rhy gyffredin, fel yr amlygwyd yn adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, 'Trais ar sail rhywedd: Anghenion menywod mudol' y llynedd. Roeddwn yn falch o gymryd rhan yn yr ymchwiliad a gynhaliwyd gan y pwyllgor, a diolch i'r cadeirydd, Jenny Rathbone, am arwain ar y mater hwn. Weinidog, roeddwn yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhelliad 13 o'r adroddiad mewn egwyddor, a oedd yn nodi y dylid sefydlu wal dân sy'n cyfyngu ar rannu data rhwng asiantaethau'r rhai sy'n ceisio cefnogaeth ar gyfer trais rhywiol a thrais ar sail rhywedd. Awgrymodd Elizabeth Jiménez-Yáñez o gynghrair Menywod Mudol Step Up y byddai wal dân nid yn unig yn arwain at y canlyniad cadarnhaol o ganiatáu i ddioddefwyr roi gwybod yn ddiogel, byddai hefyd yn tynnu'r baich oddi ar wasanaethau statudol, gan gynnwys yr heddlu, i orfod cymryd camau gweithredu sy'n gysylltiedig â mewnfudo. Felly, Weinidog, a allwch chi roi diweddariad penodol mewn perthynas ag argymhelliad 13 a sut y dylai Llywodraeth Cymru sefydlu wal dân sy'n cyfyngu ar rannu data rhwng asiantaethau ar y rhai sy'n ceisio cymorth ar gyfer trais rhywiol a thrais ar sail rhywedd? Diolch. Jane Hutt AC: Diolch yn fawr, Sarah Murphy, ac a gaf fi ddiolch i chi, nid yn unig am y cwestiwn pwerus hwn heddiw, ond hefyd am y rôl arweiniol rydych chi'n ei chwarae yn y Senedd hon, mae'n rhaid i mi ddweud, yn datblygu dealltwriaeth ac arbenigedd mewn cyfiawnder data? Rwy'n credu ein bod yn cydnabod hynny, ac rydym yn troi atoch chi, ac rydym yn dysgu gennych chi am y materion hyn gyda'ch cyfraniadau, yn enwedig ar y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, a'r ymchwiliad penodol hwn a gynhaliwyd gennych yn y pwyllgor a'r argymhelliad. Nawr, mae'n bwysig ein bod yn cydnabod, fel y dywedais, y dylai diogelwch fod yn bwysicach na statws, yn bendant, o ran mewnfudo a chymorth. Mae'n rhaid inni amddiffyn a chefnogi dioddefwyr a goroeswyr camdriniaeth; mae'n hollbwysig mai dyna yw'r flaenoriaeth gyntaf i bob gwasanaeth, gan gynnwys yr heddlu. Mae hyn yn rhywbeth rwy'n ei godi nawr ar fwrdd gweithredu cenedlaethol ein strategaeth, y strategaeth ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Rydym wedi derbyn yr argymhelliad mewn egwyddor. Ni allwn gyfarwyddo'r heddlu nac awdurdodau eraill a gedwir yn ôl, ond rydym yn ystyried gyda nhw sut y gellir dileu rhwystrau i gael mynediad at wasanaethau a sut y gallwn ei wneud yn fecanwaith cyflawni ar gyfer ein strategaeth genedlaethol mewn gwirionedd. Cwestiwn 4 sydd nesaf, ac mae cwestiwn 4 gan Carolyn Thomas. Pobl sy'n ceisio Lloches Carolyn Thomas AS: 4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i sicrhau bod tosturi yn cael ei gynnwys mewn systemau cymorth i bobl sy'n ceisio lloches yng Nghymru? OQ59708 Jane Hutt AC: Diolch yn fawr, Carolyn Thomas. Ein gweledigaeth ar gyfer Cymru yw bod yn genedl noddfa, gan ymgorffori tosturi fel egwyddor allweddol. Nod ein cynllun cenedl noddfa yw sicrhau bod pobl sy'n ceisio noddfa yn cael eu croesawu o'r diwrnod cyntaf y byddant yn cyrraedd Cymru, ac mae ein cefnogaeth yn cynnwys gwasanaethau cynghori, gwybodaeth am hawliau, a gwasanaethau integreiddio. Carolyn Thomas AS: Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Yn ddiweddar, ymwelais â gŵyl ddawns y byd yn Nhreffynnon, a oedd, yn rhannol, yn helpu ffoaduriaid sydd bellach wedi ymgartrefu yng ngogledd-ddwyrain Cymru i deimlo'u bod wedi'u cynnwys yn well ac i roi cyfle iddynt rannu eu diwylliant ag eraill. Mwynheais sgwrsio â ffoaduriaid o Affganistan ac Wcráin ynghyd â phobl garedig a theg o Gymru, Lloegr a Tsieina o gwmpas yr ardal sy'n credu mewn gobaith yn hytrach na chasineb. Mae maer yr Wyddgrug, y Cynghorydd Teresa Carberry, yn cynnal digwyddiad ddydd Gwener, ac mae hi wedi galw am fwy o dosturi ac empathi i ddathlu amrywiaeth, a dyma'r neges y credaf y dylai arweinwyr gwleidyddol fod yn ei rhannu. Mae'n fy nhristáu pan fyddaf yn clywed Gweinidogion Llywodraeth y DU yn annog ofn a chasineb tuag at geiswyr lloches yn gyson, mewn ymgais i apelio at y dde eithafol. Maent i gyd yn bobl wedi'r cyfan. Mae yna bobl dda a phobl ddrwg ym mhobman, felly nid wyf yn deall. Weinidog, a ydych yn cytuno â mi fod hyn yn ei gwneud yn bwysicach fyth ein bod ni yma yng Nghymru yn parhau i dynnu sylw at y ffaith ein bod ni'n falch o fod yn genedl noddfa, ac yn ymroddedig i gefnogi'r rhai sy'n ceisio lloches? Diolch. Jane Hutt AC: Wel, diolch yn fawr, Carolyn Thomas. Mae'n hollbwysig cydnabod y tosturi a ddangoswyd yng ngŵyl ddawns y bydyn Nhreffynnon, gyda'r fath integreiddio a'r fath dosturi, ac wrth gwrs, y fath fudd a deimlai'r gymuned gyfan o'r integreiddio hwnnw. Mae'n Wythnos y Ffoaduriaid, a'r thema yw tosturi, ac yn gynharach yr wythnos hon mynychais ysgol—ac rwy'n cyfarfod ag ysgolion eraill, ac mewn gwirionedd, mae digwyddiadau'n digwydd mewn ysgolion ledled Cymru—sy'n gweithio ar wreiddio hyn yn y cwricwlwm, ond mae trefi, cymunedau, cynghorau a phrifysgolion yn cofleidio'r genedl noddfa hefyd ac yn ymgysylltu â Dinas Noddfa, a oedd gyda ni ddoe pan wnaethom gyfarfod â Chyngor Ffoaduriaid Cymru. Mae'n ymwneud â bod Cymru'n lle tosturiol a chroesawgar i'r rhai sy'n ceisio noddfa, ac mae'n bwysig eich bod yn tynnu sylw heddiw, o'r gymuned honno yn eich etholaeth chi, yn eich rhanbarth, sef Gogledd Cymru, at y gefnogaeth sydd ar gael, gyda maer yr Wyddgrug hefyd yn chwarae ei rhan. Mae'n arweinyddiaeth, ac mae'n golygu y dylem i gyd chwarae ein rhan i ddarparu'r croeso cynnes hwnnw, a chydnabod ein bod yn cael ein cyfoethogi gan sgiliau a phrofiadau'r ceiswyr lloches sy'n dod yma, ac y gallwn ofalu amdanynt yng Nghymru. Cwestiwn 5. Joel James. O, mae'n ddrwg gen i, sori— —Drysais rhwng fy Sams yno. Roeddwn i'n chwilio am Sam Kurtz ond Sam Rowlands sydd gennyf i lawr yma mewn gwirionedd. Felly, fe ddrysais rhwng fy Sams. Ymddiheuriadau am hynny. Cwestiwn atodol—Sam Rowlands. Sam Rowlands MS: Ddim o gwbl, Lywydd, a diolch am y cyfle. Mae'n hyfryd clywed am ŵyl ddawns y byd Treffynnon. Yn anffodus, ni lwyddais i gyrraedd yno; nid wyf yn siŵr a fyddai Treffynnon wedi bod yn barod ar gyfer fy symudiadau dawns—[Chwerthin.]—ond diolch i Carolyn Thomas am godi'r pwynt pwysig heddiw. Wrth gwrs, Weinidog, fe wyddoch fod gan y Deyrnas Unedig hanes o dderbyn a chroesawu'r rhai sy'n ceisio lloches o bob cwr o'r byd ers canrifoedd. Ym Mhrydain, wrth gwrs, rydym bob amser yn dangos croeso a thosturi. Os edrychwch yn ôl, yn yr unfed ganrif ar bymtheg, o'r Huguenotiaid Ffrengig, hyd heddiw gydag Wcreiniaid, Syriaid a phobl o Hong Kong yn ceisio lloches yng Nghymru, ac yn y DU gyfan, mae gennym freichiau agored a hafan i'r rhai sydd ei hangen. Os caf ganolbwyntio ar fy rhanbarth i, Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol, rwy'n siŵr, o gynigion i westy gael ei ddefnyddio, yn Neuadd Llaneurgain, fel safle ar gyfer 400 o ffoaduriaid gwrywaidd sengl. Hoffwn wybod beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar hyn, os gwelwch yn dda. Jane Hutt AC: Diolch yn fawr, Sam Rowlands, a diolch am gydnabod y genedl noddfa a'r gefnogaeth a'r croeso yng ngogledd Cymru, yn eich rhanbarth, a'r ffyrdd y mae awdurdodau lleol hefyd yn chwarae rhan mor hanfodol gyda'u cefnogaeth. Nawr, yn amlwg, dyma faes lle nad ydyw—polisi mudo—wedi'i ddatganoli i Gymru, ond rydym yn gweithio'n agos iawn ar y pwynt integreiddio â'r holl wasanaethau lleol rydym yn eu darparu. Rwy'n credu ei bod yn bwysig mai dyma lle mae dull tîm Cymru wedi bod mor llwyddiannus, nid yn unig o ran ein hymateb i ymateb dyngarol Wcráin, sy'n parhau wrth inni drafod yma yn y Senedd, ond cyn hynny, yr ymateb i adael Affganistan, lle rydym wedi cefnogi ffoaduriaid o Affganistan sy'n byw ledled Cymru, fel sydd wedi'i ddweud eisoes, a'r Syriaid sydd gyda ni ac sy'n gymaint o ran o'n cymunedau. Mae'n bwysig ein bod yn cydnabod mai cyfrifoldeb y Swyddfa Gartref yw hyn. Rydym yn pryderu am y ffyrdd nad yw'r Swyddfa Gartref yn ymgysylltu'n ddigonol â'n hawdurdodau lleol, yn enwedig mewn perthynas â chymorth a'r ymateb—yr ymateb amlasiantaethol. Rwy'n credu eich bod yn gwybod bod y safle penodol y sonioch chi amdano yn amodol ar ganiatâd cynllunio nawr. Ond yn wir, mae gennym fwrdd gweinidogol cenedl noddfa nawr, ac fe gyfarfu â Gweinidogion y bore yma, ac mae'n cynnwys cynrychiolwyr o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Felly, rydym yn gweithio ar ddull tîm Cymru i sicrhau y gallwn gynnig y gefnogaeth y gallwn ei rhoi, ond hefyd yn codi ein pryderon penodol gyda'r Swyddfa Gartref am y ffordd y maent yn defnyddio'r lleoliadau hyn yn amhriodol. Nawr, byddwn i'n dweud, ac rwy'n credu ein bod wedi dweud hyn ddoe mewn perthynas â'r Bil Mudo Anghyfreithlon, rwy'n gofyn eto a allwch chi a'ch cyd-Aelodau godi'r materion hyn gyda Llywodraeth y DU. Nid wyf yn siarad am y Bil Mudo Anghyfreithlon ar y pwynt hwn; rwy'n dweud, 'A wnewch chi ymuno â ni i ddweud mai'r hyn y mae angen i Lywodraeth y DU ei wneud yw gwella'r cyfleuster prosesu ar gyfer ceisiadau lloches i'r rhai mewn angen?' Mae gan Bwyllgor Dethol Materion Cartref Tŷ'r Cyffredin ystod o argymhellion—a hynny'n drawsbleidiol—yn y maes hwn. Pe gallent wella'r ceisiadau lloches, byddai llai o angen i bobl orfod dod i aros mewn lleoliadau anaddas. Mae angen inni sicrhau y gellir eu cartrefu'n gyflym, fel oedd yn arfer digwydd, neu'n wir, y gall fod cytundebau dychwelyd effeithiol i'r rhai â cheisiadau annilys a phroses eithriadol i sicrhau lloches i'r rhai mewn angen arbennig. Rwy'n gwneud y pwynt hwn heddiw, Lywydd, oherwydd mae'n rhywbeth y gallem uno yn ei gylch—galw am lwybrau diogel a chyfreithiol, a sicrhau y gallwn gael rhai o'r llwybrau diogel a chyfreithiol hynny, fel y dywedais ddoe, fel cynllun Dubs, a enwyd ar ôl yr Arglwydd Alf Dubs. Os gallwch ymuno â ni ar hynny—. Byddaf yn cyfarfod â'r Gweinidog mewnfudo, fel y gwnaeth llywodraeth leol yn ddiweddar, er mwyn sicrhau eglurder, ymgysylltu gwell a chodi pryderon am effaith safleoedd mawr ar integreiddio a chydlyniant. Undebau Credyd Joel James MS: 5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut mae undebau credyd yn cefnogi teuluoedd yng Nghymru? OQ59701 Jane Hutt AC: Diolch yn fawr, Joel James. Rydym yn gweithio'n agos gydag undebau credyd i ddarparu benthyciadau a chynilion moesegol, a ddarperir drwy 13 prosiect. Yn ogystal, rydym yn darparu £1.2 miliwn ar gyfer cynllun ehangu benthyciadau. Rwyf hefyd yn ymgysylltu'n rheolaidd â benthycwyr cyfrifol, er mwyn sicrhau eu bod yn gwneud popeth yn eu gallu i gefnogi pobl drwy'r argyfwng costau byw. Joel James MS: Diolch am eich ymateb, Weinidog. Yn ôl eu gwefan, mae Undeb Credyd Caerdydd a'r Fro, er yn gwerthu eu hunain fel sefydliad sydd, ac rwy'n dyfynnu, 'yn cynnig benthyciadau hyblyg ar delerau teg, gyda chyfraddau isel, dim ffioedd' yn ymddangos fel pe baent yn cynnig cyfraddau llog eithaf syfrdanol ar fenthyciadau sy'n uwch na chyfraddau'r farchnad. Mewn gwirionedd, Weinidog, byddai benthyciad teuluol safonol o £1,000 yn arwain at gyfradd llog o 41.2 y cant, a byddai benthyciad teyrngarwch o £1,000 yn golygu bod rhywun yn talu 40.2 y cant mewn llog. Yn wir, roedd y rhan fwyaf o'r cyfraddau a gynigiwyd ganddynt ar fenthyciadau o symiau gwahanol gryn dipyn yn uwch nag y byddai rhywun yn ei gael gan fanc neu gymdeithas adeiladu. Ac er eu bod yn cynnig cyfraddau benthyg cystadleuol, mynediad cyfyngedig a geir at y rhain ac ni fyddant ar gael i lawer o bobl a fydd yn gwneud cais amdanynt. Rwy'n poeni'n fwy na dim y bydd Undeb Credyd Caerdydd a'r Fro nawr yn derbyn budd-dal plant fel dull o dalu am fenthyciadau teuluol, a restrir ar gyfer gwisgoedd ysgol, tripiau, y Nadolig a gwyliau teulu. Felly, gellir defnyddio'r budd-dal sy'n cael ei dalu i deuluoedd i sicrhau bod plant yn cael eu bwydo a'u gwisgo'n briodol i dalu'r llog o 41.2 y cant ar fenthyciadau i'r undeb credyd. Sut bynnag yr edrychwch chi ar hyn, Weinidog, mae'n anghywir i deulu sy'n ei chael hi'n anodd ac sydd angen arian ar gyfer gwisgoedd ysgol dalu llog o 41.2 y cant, sy'n gyfradd llog nad yw'n annhebyg i gyfraddau llog y cwmnïau benthyciadau diwrnod cyflog gwarthus. Gyda hyn mewn golwg, a ydych chi'n credu bod y gyfradd hon yn cosbi pobl am fod yn dlawd ac nad yw o fewn ethos nodau datganedig yr undeb credyd o delerau teg a chyfraddau isel? Diolch. Jane Hutt AC: Wel, diolch am y cwestiwn. Rwy'n aelod balch iawn—dylwn ddatgan y buddiant hwnnw—o Undeb Credyd Caerdydd a'r Fro, fel y mae cymaint o bobl eraill, a byddwn yn eich annog i ymweld ag Undeb Credyd Caerdydd a'r Fro. Fe wnaethom ymweld ag undebau credyd ar ôl y Nadolig i'w llongyfarch ar y gwaith y maent yn ei wneud ac yn wir, i'w cefnogi fel benthycwyr moesegol, sy'n darparu mynediad at gredyd fforddiadwy, yn sefydlu hybiau cymunedol, ac yn gweithio gyda theuluoedd drwy gynllun cynilo'r ysgolion. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig dweud ein bod wedi eu cefnogi gyda'r cynllun ehangu benthyciadau hwn. Felly, mae £1.2 miliwn wedi'i ddarparu i 10 undeb credyd ar gyfer y cynllun ehangu benthyciadau, ac mae'n caniatáu i bobl sydd â hanes credyd gwael gael mynediad at gredyd fforddiadwy. Hyd at fis Mawrth eleni, rhoddwyd bron i 1,700 o fenthyciadau drwy'r cynllun hwn, ac mae hynny'n parhau i gynyddu. Mae yna heriau ariannol yn wynebu aelwydydd ledled Cymru, ond mae'r undebau credyd ledled Cymru—ac rwyf wedi ymweld â llawer ohonynt, ac rwy'n annog yr Aelodau i wneud hynny, ar draws y Siambr—wedi croesawu'r cynllun penodol hwn i ehangu benthyciadau. A gadewch inni wynebu'r peth, ar gyfer cefnogi costau byw, rhoddwyd £1.2 miliwn i undebau credyd yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf i ehangu eu benthyca. Mae hwnnw wedi'i ailgylchu i mewn i'r flwyddyn ariannol hon, a'r sector undebau credyd moesegol sy'n denu ac yn gwasanaethu'r aelodau newydd hynod fregus yn ariannol hynny. Ond a gaf fi hefyd achub ar y cyfle i ddweud bod mwy na 35 y cant o fenthycwyr undebau credyd yn rhieni sengl â phlant dibynnol? Maent yn darparu benthyciadau teuluol, lle caiff ad-daliadau eu didynnu'n awtomatig o daliadau budd-dal. Mae'n boblogaidd iawn—mae'n agor mynediad at gredyd fforddiadwy a chyda'r elfen gynilo, mae'n helpu rhieni i gynilo'n fwy rheolaidd. Maent yn ymwneud yn agos â'u haelodau, undebau credyd. Maent yn fforddiadwy, yn ddi-elw ac yn foesegol. Ac yn olaf, a gaf fi ddweud ein bod hefyd yn ymuno â Fair4All Finance? Ac rydym yn ymuno â'r Alban—yr holl genhedloedd datganoledig, yn ogystal â Lloegr—rydym yn ymuno â nhw, a benthycwyr cyfrifol, i brofi cynllun benthyciad dim llog, ac rwy'n siŵr y bydd gan yr Aelod ddiddordeb ynddo. Felly, bydd undebau credyd yng Nghymru yn bartneriaid cyfeirio ar ei gyfer. Mae'n cael ei ddarparu gan Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru, Fair4All a Salad Money, a byddaf yn falch o adrodd ar sut mae'r peilot hwnnw'n mynd. Y cwestiwn nesaf gan Darren Millar—cwestiwn 6. Allgáu Digidol Darren Millar AC: 6. Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i fynd i'r afael ag allgáu digidol? OQ59689 Hannah Blythyn AC: Mae ein rhaglen cynhwysiant digidol ac iechyd genedlaethol, Cymunedau Digidol Cymru, yn cefnogi sefydliadau ar draws pob cymuned a sector i helpu pobl i ymgysylltu â'r byd digidol. Mae strategaeth ddigidol Cymru yn ei gwneud yn glir fod yn rhaid parhau i ddarparu ffyrdd amgen i bobl na allant, neu sy'n dewis peidio â chael mynediad at wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru drwy ddulliau digidol, allu gwneud hynny. Darren Millar AC: Diolch am yr ymateb hwnnw, ac rwy'n falch iawn o'ch clywed yn dweud y dylai mynediad at wasanaethau mewn ffordd nad yw'n ddigidol fod ar gael. Gwyddom mai dim ond 41 y cant o'r rhai dros 75 oed sydd â sgiliau digidol, ac mae 32 y cant o bobl 75 oed a hŷn yn teimlo eu bod wedi'u hallgáu'n ddigidol. Ac yn anffodus, mae hyn yn arwain at broblemau i'r unigolion hynny allu cael mynediad at wasanaethau hanfodol, megis mynediad at fathodynnau glas. Mae ymchwil gan Age Cymru wedi dangos bod pobl hŷn, yn aml iawn, yn cael gwybod gan eu hawdurdodau lleol mai'r unig ffordd o wneud cais yw ar-lein. Pan fyddant yn gofyn am help am nad ydynt yn gallu gwneud cais ar-lein, dywedir wrthynt, 'Ni allwn gynnig unrhyw help', ac yn amlwg nid yw hynny'n ddigon da. Pa gamau y bwriadwch eu cymryd, fel y Dirprwy Weinidog â chyfrifoldeb am y mater hwn, i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cyflawni'r dyheadau rydych chi wedi'u gosod fel Llywodraeth Cymru i wneud yn siŵr fod ceisiadau am fathodynnau glas—ac unrhyw wasanaeth cyhoeddus arall, yn wir—ar gael i bobl nad ydynt yn gallu gwneud pethau fel ceisiadau ar-lein? Hannah Blythyn AC: A gaf fi ddiolch i Darren Millar am y cwestiwn? Rwy'n gwybod bod hyn yn rhywbeth rydych wedi'i godi yn Siambr y Senedd hon o'r blaen, ac mae'n bendant yn rhywbeth rwy'n credu bod pob un ohonom yn rhannu pryderon yn ei gylch, na all pobl ddal i gael mynediad at wasanaethau bob amser, oherwydd fe wnaethoch chi dynnu sylw at ffigur o 32 y cant o bobl 75 oed a hŷn yng Nghymru nad ydynt yn defnyddio'r rhyngrwyd yn bersonol, neu bobl nad ydynt yn gwybod sut i'w ddefnyddio, neu rai nad ydynt yn teimlo'n hyderus yn ei ddefnyddio yn ogystal. Felly, byddaf yn sicr yn codi'r pwyntiau a wnaethoch yn benodol am fathodynnau glas, ond os oes unrhyw bryderon eraill, unrhyw achosion penodol yr hoffech ysgrifennu ataf fi neu Jane Hutt i'w codi, gallwn sicrhau ein bod yn mynd ar drywydd hynny yn ein sgyrsiau ac yn gweithredu hyn gyda chydweithwyr mewn llywodraeth leol a thu hwnt hefyd. Rydym hefyd yn gwneud gwaith—rydym wedi comisiynu Prifysgol Lerpwl i wneud ymchwil ar ein rhan ar safon byw digidol gofynnol i Gymru. Felly, yn y bôn, adeiladu consensws i sefydliadau dinasyddion ystyried yr hyn y gallai fod angen iddynt wneud mwy ohono a'r ffordd y mae angen iddynt wneud pethau i gael y cynhwysiant digidol gofynnol, ond y byddai ganddynt y dewis arall hwnnw ar waith bob amser hefyd. Heddlu Cymunedol yn Sir Ddinbych Gareth Davies AS: 7. A wnaiff y Gweinidog amlinellu uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer cynyddu darpariaeth heddlu cymunedol yn Sir Ddinbych? OQ59715 Jane Hutt AC: Diolch am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddiogelwch cymunedol yng Nghymru. Un o ymrwymiadau ein rhaglen lywodraethu yw cynnal cyllid ar gyfer 500 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu a chynnydd o 100 yn eu nifer dros dymor y Senedd hon. Ac ar hyn o bryd mae 34 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu wedi'u lleoli yn sir Ddinbych. Gareth Davies AS: Diolch yn fawr iawn am eich ymateb, Weinidog, a'r rheswm pam rwyf am godi'r cwestiwn hwn y prynhawn yma yw fy mod wedi treulio tair shifft yn ddiweddar gyda thimau plismona lleol gogledd Cymru. Fe wneuthum ddwy shifft yn y Rhyl ac un yn Ninbych, ac un o'r themâu cyffredin sydd wedi cael eu cydnabod yw'r angen i wella presenoldeb plismona lleol ar y strydoedd i gynyddu gwelededd ac i fod yn rhwystr naturiol i droseddau yn ein trefi a'n pentrefi yn sir Ddinbych. Fel y sonioch chi yn eich ymateb cychwynnol, Weinidog, ym maniffesto etholiad Senedd Cymru 2021 y Blaid Lafur fe wnaethoch ymrwymo i gynyddu swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yn eu cannoedd, a ddwy flynedd yn ddiweddarach, rydym yn dal i aros i weld tystiolaeth o'r addewid hwn ar y strydoedd. A allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y mater ac amserlen ar gyfer pryd y bydd y caiff y swyddogion hyn eu cyflwyno, neu ai dim ond rhagor o eiriau gwag gan y Blaid Lafur yng Nghymru oedd hyn? Jane Hutt AC: Rwy'n falch iawn eich bod wedi croesawu'r ffaith mai Llywodraeth Lafur Cymru sydd nid yn unig yn ariannu 500 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ond sydd hefyd yn sicrhau cynnydd o 100 yn eu nifer dros dymor y Senedd hon, ac mae hynny'n bwysig o ran yr amserlen—fe ddof at yr amserlen. Ond hefyd, a gaf fi gymryd o hynny y gallech chithau hefyd fod yn cynhesu at y ffaith ein bod yn teimlo mai datganoli plismona i Gymru fyddai'r ffordd fwyaf priodol ymlaen, fel y gallwn ddiwallu anghenion plismona yn y gymdogaeth ein cymunedau mewn gwirionedd? Ac rwy'n eich llongyfarch ar ymuno â thair shifft ar y strydoedd. Fe ymunais innau â shifft ar y strydoedd—reid o gwmpas, fel y maent yn ei galw—yn ddiweddar, a dysgu llawer o'r profiad hwnnw, fel y mae llawer o Aelodau'r Senedd wedi sôn dros gyfnod o amser. Felly, rydym yn darparu dros £22 miliwn o gyllid ar gyfer swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yn y flwyddyn ariannol hon, er bod plismona wedi'i gadw'n ôl ar hyn o bryd, fel y dywedaf. Rydym eisiau ei ddatganoli. Mae gennym sefyllfa ariannol heriol iawn, a hynny oherwydd eich Llywodraeth chi a thoriadau a chyni ers 13 mlynedd. Ond mae gennych 34 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yn sir Ddinbych—mae 23 swyddog cymorth cymunedol yr heddlu wedi'u lleoli yn Ninbych arfordirol ac Abergele, mae 11 arall wedi'u lleoli Ninbych wledig a Chonwy—ac mae'n cynnwys cymysgedd o swyddogioncymorth cymunedol yr heddlu a ariennir gan Lywodraeth Cymru a chan yr heddlu. Rydym yn ariannu mwy na hanner cyfanswm y cyllid ar gyfer swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yng ngogledd Cymru yn 2023-24, a hynny drwy gytundeb â'r heddlu. Yn olaf, Lywydd, rwyf am roi un enghraifft o brosiect pwysig iawn gan y tîm plismona yn y gymdogaeth yng ngogledd Cymru, ac fe fyddwch yn ymwybodol ohono, rwy'n siŵr, Aelodau gogledd Cymru. Mae'r tîm plismona yn y gymdogaeth wedi bod yn cefnogi prosiect Blossom and Bloom. Elusen yw hi sy'n cefnogi mamau ifanc yn yr ardal, ac mewn gwirionedd y tîm plismona yn y gymdogaeth lleol a helpodd gyda'r cais am gyllid i'r elusen hon barhau â'u gwaith. Mae hyn yn dangos sut mae swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yn chwarae rhan mor hanfodol yn y gymuned, gan weithio gyda phobl ifanc, a chynnig sesiynau ffitrwydd i famau mewn campfa focsio leol. Gall un ohonoch hawlio'r prosiect hwn ar ryw bwynt, rwy'n siŵr. Ond hefyd, enillodd y gampfa focsio leol wobr yn seremoni gwobrau cymunedol comisiynwyr yr heddlu a throseddu, felly mae Cymru ar y map o ran y gefnogaeth a rown i'r swyddogion cymorth cymunedol pwysig hynny. Masnachu Pobl Huw Irranca-Davies AC: 8. Pa drafodaethau diweddar y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda chomisiynwyr heddlu a throseddu ynghylch mynd i'r afael â masnachu pobl yn ne Cymru? OQ59688 Hannah Blythyn AC: Er bod trosedd a chyfiawnder yn faterion a gadwyd yn ôl, rydym yn parhau i weithio ar y cyd â'r heddlu a phartneriaid perthnasol eraill ledled Cymru. Mae ein bwrdd partneriaeth plismona ar gyfer Cymru yn darparu cyfleoedd i drafod amrywiaeth o faterion, gan gynnwys masnachu pobl. Huw Irranca-Davies AC: Ie, dyma un o'r pethau sy'n dod o fewn y rhwyg neu'r ymylon aneglur rhwng cymwyseddau datganoledig a chymwyseddau a gadwyd yn ôl, ond mae fy amser allan ar y stryd yn rheolaidd gyda'n heddlu lleol wedi tynnu sylw at broblem masnachu pobl, pobl fregus, i mewn i ffermio cyffuriau mewn eiddo preswyl neu wag yng nghymoedd de Cymru. Mae'n effeithio ar y cymunedau hynny, mae'n llyncu adnoddau'r heddlu, ac mae'n effeithio'n uniongyrchol ar unigolion bregus sy'n aml yn cael eu masnachu i'r sefyllfaoedd hyn, a'u hecsbloetio, a nhw yw'r rhai sy'n cael eu herlyn, ac mae'r troseddwyr mawr sy'n rhedeg y gweithredoedd yn dianc i weithredu o eiddo arall, ar ddiwrnod arall, gydag unigolyn arall sy'n cael ei ecsbloetio, ond yn dal i effeithio ar y cymunedau mwyaf difreintiedig lle ceir yr eiddo rhataf a'r mwyaf addas ar gyfer gweithredoedd troseddol fel hyn. Felly, pa drafodaethau y gall y Gweinidog eu cael gyda'r comisiynwyr heddlu a throseddu a'r prif gwnstabliaid ar hyn? A hyd nes y caiff plismona ei ddatganoli, fel y mae i Faer Llundain i bob pwrpas, pa drafodaethau y gellir eu cael gyda'r Ysgrifennydd Cartref hefyd, i ddod ag ecsbloetio unigolion a fasnachir a chymunedau difreintiedig i ben? Hannah Blythyn AC: Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Rydych yn iawn i godi'r effaith y mae'r math hwn o ymddygiad ffiaidd, masnachu pobl, yn ei chael nid yn unig ar yr unigolion bregus sy'n dioddef o'i herwydd, ond hefyd yr effaith ar gymunedau yn gyffredinol, a'r sgil-effaith, fel y dywedais, ar adnoddau i'n cydweithwyr yng ngwasanaethau'r heddlu hefyd. Fel y dywedais o'r blaen, rydym yn gweithio mewn partneriaeth agos iawn, er ei fod yn dod o fewn maes nad yw wedi'i ddatganoli, ond mae gennym adran gaethwasiaeth fodern o fewn Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r materion hyn hefyd. Byddwn yn sicr yn gwneud hynny drwy ein comisiynydd heddlu a throseddu arweiniol—Jeff Cuthbert ar hyn o bryd—ar gaethwasiaeth fodern, ynglŷn â sut y gallwn sicrhau ein bod yn gweithio mor agos ag y gallwn a chodi'r pryderon hynny gyda'n cymheiriaid yn Llywodraeth y DU. Yn amlwg, clywsom yn y lle hwn ddoe, ac rwy'n siŵr y byddwn yn clywed eto, y pryderon ynghylch y Bil Mudo Anghyfreithlon, ac mewn gwirionedd mae hwnnw'n gwneud pethau'n anos i bobl sy'n ddioddefwyr masnachu pobl, yn hytrach na cheisio eu cefnogi a mynd i'r afael â'r bobl sy'n ceisio ecsbloetio pobl fregus sy'n cael eu masnachu. Felly, rydym wedi ymrwymo i barhau i weithio ar y cyd ac i fynd i'r afael â hyn gydag empathi a thosturi, a gweithio gyda'n cydweithwyr a swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu i gefnogi cymunedau lleol ac ar yr angen am gydlyniant cymunedol hefyd, ar yr un pryd. Yn olaf, cwestiwn 9, Luke Fletcher. Strategaeth Tlodi Plant Luke Fletcher AS: 9. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi ynghylch mesurau trawsbynciol i'w cynnwys yn y strategaeth tlodi plant wedi'i diweddaru? OQ59710 Jane Hutt AC: Diolch yn fawr, Luke Fletcher. Cyfarfûm â Gweinidog yr Economi yn ddiweddar fel rhan o gyfres o gyfarfodydd dwyochrog ar fesurau trawsbynciol i'w cynnwys yn y strategaeth ddrafft ar dlodi plant. Agorwyd cyfnod o ymgynghori ar strategaeth ddrafft ddydd Llun yr wythnos hon wrth gwrs. Luke Fletcher AS: Diolch am yr ateb, Gweinidog. Luke Fletcher AS: Yn dilyn cyhoeddi ystadegau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer mis Mehefin yn dangos patrwm o ostyngiad yng nghyfraddau cyflogaeth a gweithgarwch economaidd Cymru, gofynnais i Weinidog yr Economi yr wythnos diwethaf p'un a oes angen asesiad llawer mwy gonest o gyflwr economi Cymru. Nawr, mae adroddiad cynnydd 2022 ar y strategaeth tlodi plant yn cyfeirio at y ffaith bod plant mewn mwy o berygl o fod yn byw mewn tlodi mewn aelwydydd sy'n ei chael hi'n anodd cael gwaith. Ond wrth gwrs, rydym wedi cael senario ers cryn dipyn o amser lle mae'r posibilrwydd o dlodi mewn gwaith wedi cael ei ymestyn yn ddramatig i nifer cynyddol o aelwydydd yng Nghymru. Credaf fod y strategaeth tlodi plant newydd yn gyfle gwirioneddol i weithredu mesurau uchelgeisiol i newid hyn. Felly, yng ngoleuni ffigurau diweddar y Swyddfa Ystadegau Gwladol, a oes unrhyw adnoddau ychwanegol yn cael eu dyrannu i hyn a pha syniadau ffres sy'n cael eu cynhyrchu rhwng eich swyddogion chi a swyddogion Gweinidog yr Economi i fynd i'r afael â'r broblem hirsefydlog hon yma yng Nghymru? Jane Hutt AC: Diolch yn fawr am y sylwadau pwysig iawn hynny ac yn eich cwestiwn, am y myfyrdodau ar y cyfleoedd sydd gennym nawr gyda'r strategaeth tlodi plant ddrafft hon, yr anogaf yr Aelodau i ymgynghori yn eu hetholaethau yn ei chylch, ac ymgynghori ynghylch y cyfleoedd y mae'r strategaeth yn eu cynnig inni, er mai cyfyngedig yw ein pwerau mewn perthynas â threthiant a budd-daliadau. Ond rwy'n credu mai'r pwynt allweddol am y strategaeth yw ei bod yn drawslywodraethol ac wrth gwrs, cymeradwyodd holl aelodau'r Cabinet y strategaeth ddrafft ar gyfer yr ymgynghoriad 12 wythnos. Mae'n ymwneud â chefnogi llwybrau allan o dlodi. Roeddech yn canolbwyntio yn y ffigurau cyflogaeth ar anweithgarwch economaidd, er i'r Prif Weinidog egluro bod darlun o gyfle yma hefyd, o ran economi Cymru. Ond mae'n ymwneud â llwybrau allan o dlodi drwy'r blynyddoedd cynnar, addysg, cyflogaeth, cyflogaeth a sgiliau, ac mae'r cynllun cyflogadwyedd a sgiliau yn hanfodol i hynny, ac roedd hwnnw'n bwynt allweddol yn fy nhrafodaethau gyda Gweinidog yr Economi. Ond mae'n ymwneud â sut y gallwn gryfhau dull Llywodraeth Cymru o integreiddio polisi a chyllid er mwyn galluogi cydweithredu mwy hirdymor. Mae'n waith gwrthdlodi rhanbarthol, lleol a gweithio gyda'n partneriaid i greu Cymru lle gall pob plentyn, person ifanc a theulu ffynnu. Diolch i'r Gweinidog. 3. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad Yr eitem nesaf, felly, fydd y cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Jenny Rathbone. Profiad Pobl Ifanc o'r System Lysoedd Jenny Rathbone AC: 1. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Chymdeithas yr Ynadon ynghylch profiad pobl ifanc o'r system lysoedd? OQ59712 Mick Antoniw AC: Diolch am eich cwestiwn. Nid wyf wedi cael trafodaethau gyda Chymdeithas yr Ynadon ar y mater hyd yma. Fodd bynnag, ar ein cais ni, mae grŵp cynghori academaidd Cymru ar gyfiawnder ieuenctid wrthi'n adolygu'r cyfleoedd sy'n codi o ddatganoli cyfiawnder ieuenctid. Mae gweithrediad y llysoedd ieuenctid yn rhan o'r adolygiad hwnnw, ac mae ymgynghori'n digwydd gydag ynadon. Jenny Rathbone AC: Diolch am hynny, Weinidog. Efallai y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn ymwybodol fod adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, o'r enw '60%—Rhoi llais iddyn nhw', i fod i gael ei gyhoeddi a'i drafod yn y Senedd yr wythnos nesaf, a'i fod yn tynnu sylw at y ffaith bod gan o leiaf 60 y cant o bobl ifanc sy'n dod i gysylltiad â'r system cyfiawnder ieuenctid anawsterau lleferydd ac iaith a mathau eraill o anawsterau cyfathrebu. Yn ystod ein hymchwiliad, clywsom am yr arferion gorau a sefydlwyd gan ardaloedd cyfiawnder ieuenctid Castell-nedd Port Talbot a bae Abertawe a'r gwahaniaeth y mae hynny wedi'i wneud, i gael pobl sy'n arbenigwyr cyfathrebu i gefnogi pobl ifanc fel bod eu lleisiau'n cael eu clywed yn iawn ac yn bwysicach, fel eu bod nhw'n deall y broses y maent wedi dod yn rhan ohoni. Tybed a fydd y mater pwysig hwn yn codi yn y sgyrsiau a gewch gydag ynadon, a pha ddylanwad sydd gan ynadon ar sicrhau ansawdd y cymorth sydd ei angen i sicrhau nad oes camweinyddu cyfiawnder yn digwydd mewn perthynas â phobl ifanc nad ydynt yn deall beth sy'n digwydd. Mick Antoniw AC: Diolch am eich cwestiwn atodol ac rwy'n croesawu'r adroddiad yn fawr. Nid yw'n briodol i mi ymateb i'r adroddiad hwnnw, oherwydd yn amlwg fe fydd yn destun dadl yn y Siambr a hefyd yn mynd ger bron y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, rwy'n deall. Ond yr hyn y mae'n ei amlygu yw bod nifer o bobl ifanc sy'n dod i gysylltiad â'r system gyfiawnder yn aml yn dod o gefndiroedd anodd iawn, ac yn aml mae ganddynt gyfran uchel o anghenion dysgu ychwanegol, ac mae'r rheini wedi'u nodi yn yr adroddiad penodol hwnnw. Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud yw bod gennym ddull amlasiantaethol sydd, yn fy marn i, yn dargyfeirio llawer o bobl ifanc o'r system gyfiawnder yng Nghymru, ac mae hynny wedi cael effaith sylweddol iawn ar leihau nifer yr achosion sy'n mynd ger bron y llysoedd ieuenctid. Ond yr hyn ydyw yw cydnabyddiaeth mai'r ffordd briodol o ymdrin â llawer o'r materion hynny sy'n codi yw cadw pobl ifanc allan o'r system cyfiawnder troseddol, ac ymgysylltu â'r holl asiantaethau, y mae'r mwyafrif llethol ohonynt wedi'u datganoli, mewn ffordd sy'n fwy o ymateb datrys problemau. Ac er ein bod yn rhoi ystyriaeth bellach i argymhellion Comisiwn y Gyfraith o ran diwygio tribiwnlysoedd, rwy'n sicr yn meddwl tybed a oes rôl o fewn system dribiwnlysoedd ddiwygiedig lle, er enghraifft, mae gennych broblem iechyd meddwl eisoes, lle mae gennych yr arbenigedd mewn perthynas ag anghenion dysgu, ac yn ddiamau ar ryw adeg o ran gwaharddiadau, y bydd hwn yn faes priodol lle byddai'r arbenigedd hwnnw'n elwa o fewn system dribiwnlysoedd ddiwygiedig. Deddf Trefn Gyhoeddus 2023 Jack Sargeant AC: 2. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion eraill y gyfraith ynghylch yr effaith a gaiff y gwelliannau a wnaed i Ddeddf Trefn Gyhoeddus 2023 ar Gymru? OQ59717 Mick Antoniw AC: Diolch am eich cwestiwn. Mae'r diwygiadau i Ddeddf Trefn Gyhoeddus 1986 yn ymwneud â materion a gadwyd yn ôl, ac ni wnaeth Llywodraeth y DU ein hysbysu o'u bwriad i roi rhagor o bwerau eto i'r heddlu mewn perthynas â phrotestiadau. Mae'n hanfodol fod gan bobl hawl i fynegi pryderon yn rhydd, ac mewn ffordd ddiogel a heddychlon. Jack Sargeant AC: Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb, ac a gaf fi gytuno'n llwyr â'r sylwadau a wnaeth? Yn etholiadau diwethaf y Senedd, mae'n wir fod niferoedd mwy nag erioed o bobl Cymru wedi cefnogi Llafur Cymru. Fe wnaethant gefnogi'r Prif Weinidog beiddgar Mark Drakeford ac fe wnaethant gefnogi maniffesto beiddgar a oedd yn cynnwys mynd ar drywydd yr achos dros ddatganoli plismona. Gwnsler Cyffredinol, gan fod y Ddeddf Trefn Gyhoeddus yn rhoi mwy o bwerau i'r heddlu, pa drafodaethau pellach a gawsoch gyda swyddogion y gyfraith yn San Steffan, i sicrhau bod y system gyfiawnder gyfan yng Nghymru yn adlewyrchu blaenoriaethau pobl Cymru mewn gwirionedd? Mick Antoniw AC: Mae ein pryderon am y newidiadau a wnaed wedi'u gwneud yn dda, mewn trafodaethau ac mewn gohebiaeth. Fel y gwyddom, mae plismona'n fater a gadwyd yn ôl, ac fel rwyf eisoes wedi'i ddweud, ni chawsom ein cynnwys. Mae Deddf Trefn Gyhoeddus 2023 yn cynnwys pwerau y credwn eu bod yn rhy eang, ac rwy'n credu bod y rhuthr i gychwyn y ddeddfwriaeth cyn coroni'r Brenin wedi arwain at ormod o gyfrifoldeb ar yr heddlu i geisio gwneud synnwyr o ddeddfwriaeth sydd wedi'i drafftio'n wael. Mae hefyd yn bwysig nodi yn rhan o hynny mai un o'r rhesymau sy'n sail i'n pryderon yw oherwydd bod y cynigion hyn wedi cael eu trafod yn Nhŷ'r Arglwyddi yn flaenorol, ac fe wnaethant hwy bleidleisio yn erbyn diwygiadau tebyg yn ystod taith Deddf Trefn Gyhoeddus 2023 mewn gwirionedd. Felly, defnyddio is-ddeddfwriaeth i osgoi'r Senedd yw hyn bellach mewn gwirionedd. Mae nifer o sylwebaethau wedi bod, ac nid yw'r cyfan wedi dod o ochr Llafur. Dywedodd David Davis, cyn-Aelod o'r Cabinet: 'Mae yna broblem ynglŷn â beth sy'n gyfreithlon ac rwy'n credu ein bod wedi colli golwg ar hynny.' Dywedodd, 'Y gwir amdani yw bod gennych ddarn o gyfraith, sy'n dod yn gyfraith, a saith diwrnod yn ddiweddarach mae'n rhaid i Gomisiynydd y Met ymddiheuro i bobl y mae wedi'u harestio'n anghywir o dan y gyfraith honno.' Gofynnodd, 'Mae'n dweud bod rhywbeth o'i le, onid yw?' Dywedodd Syr Charles Walker, AS Ceidwadol arall: 'Rwy'n meddwl bod y Bil Trefn Gyhoeddus, y gwelsom blismona protestiadau dros benwythnos y Coroni—rwy'n anghytuno'n llwyr â fy mhlaid ar hynny... Yn bwysicach fyth, pan oeddem yn troseddoli protestiadau yn ystod y cyfyngiadau symud Covid, fe wneuthum rybuddio i lle byddai'r cyfan yn arwain.' Mae ein gwrthwynebiad yn glir. Mae ein gallu i ddylanwadu ar hynny oherwydd ei fod yn fater a gadwyd yn ôl yn gyfyngedig, ond wrth gwrs, rydym yn ymgysylltu â chyrff plismona a chyrff eraill yn ein cymunedau, ac rydym yn gobeithio bod yna ddull cyfrifol o weithredu deddfwriaeth anffodus sydd wedi'i drafftio'n wael a orfodwyd arnom heb unrhyw awydd i'w hystyried yn briodol, a heb y manteision o wneud hynny. Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau Llefarydd y Ceidwadwyr nawr i ofyn cwestiwn, Mark Isherwood. Mark Isherwood AC: Diolch, Lywydd. Mewn erthygl yn The Law Society Gazette ar 27 Ionawr ar gyfeiriad polisi cyfiawnder Llywodraeth Cymru yn y dyfodol, rydych chi'n dweud bod agenda Llywodraeth Cymru ar gyfer sector y gyfraith a chyfreithiol yn cynnwys tendr i asesu'r angen am brentisiaethau cyfreithwyr yng Nghymru. Mae'r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr, y rheoleiddiwr gwasanaethau cyfreithiol mwyaf yng Nghymru a Lloegr, sy'n cwmpasu tua 90 y cant o'r farchnad a reoleiddir ac yn goruchwylio mwy na 4,000 o gyfreithwyr a 400 o gwmnïau cyfreithiol yng Nghymru, yn hyrwyddo prentisiaethau cyfreithwyr fel dewis arall yn lle'r llwybr cymwysterau traddodiadol drwy'r brifysgol i ymgeiswyr sydd am ennill cyflog wrth iddynt ddysgu. Maent hefyd yn nodi bod modd i ddarpar gyfreithwyr gymhwyso yn Lloegr drwy brentisiaeth cyfreithiwr eisoes, proses sydd fel arfer yn cymryd pump i chwe blynedd i'w chwblhau. Pam, felly, eich bod chi ond yn asesu'r angen am hyn yng Nghymru, pan fo eisoes yn weithredol yn Lloegr, gan agor cyfleoedd i bobl na fyddent fel arall yn ymuno â'r proffesiwn i wneud hynny, a helpu angen y proffesiwn am newydd-ddyfodiaid? Mick Antoniw AC: Diolch. Mae’n gwestiwn da. Yr ateb iddo, mewn gwirionedd, yw oherwydd nad wyf yn credu bod yr hyn a roddwyd ar waith yn Lloegr wedi cael ei ystyried yn dda iawn. Rydym am gefnogi mynediad at y proffesiwn cyfreithiol, rydym am gefnogi mwy o symudedd cymdeithasol ac amrywiaeth, ond yr hyn nad ydym am ei wneud yw ariannu prentisiaethau cyfreithiol sydd, yn y bôn, yn disodli’r cyllid y mae cwmnïau cyfreithiol eisoes yn ei wario ar hynny. Nid yw hynny'n symud unrhyw beth yn ei flaen, mewn gwirionedd—mae'n rhoi bonws a hwb i gwmnïau cyfreithiol yn yr hyn y maent eisoes yn ei wneud. Felly, y dull gweithredu rydym wedi'i fabwysiadu yw hyn: rydym wedi mabwysiadu cymorth ar lefel y gweithredwr cyfreithiol o ran cynorthwyo'r rhai sy'n dod i mewn i hynny. Yr hyn rydym am ei ddeall yw sut y gallwn gefnogi prentisiaethau yn y proffesiwn cyfreithiol sy'n mynd i'r meysydd lle rydym am gael mwy o gyfreithwyr, lle mae angen mwy o gyfreithwyr arnom, yn enwedig i'r anialdiroedd cyngor, a sut rydym hefyd yn gwneud hynny mewn ffordd lle rydym yn sicr mai’r bobl rydym yn eu cefnogi yw’r rhai na fyddent fel arfer yn cael y cymorth hwnnw gan gwmnïau cyfreithiol presennol yng Nghymru. Nid yw cyflawni'r amcanion hynny'n dasg hawdd, ond mae'n rhywbeth rydym wedi bod yn meddwl amdano. Rydym am i’r ymchwil hwnnw gael ei gwblhau, er mwyn rhoi dealltwriaeth bellach i ni o’r ffordd orau o ddefnyddio arian cyhoeddus, yn gyntaf er mwyn cefnogi’r proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru, ond hefyd i’w gefnogi yn y mannau penodol hynny yn ein cymunedau sydd angen yr arbenigedd a'r cyngor cyfreithiol hwnnw fwyaf. Mark Isherwood AC: Gobeithio eich bod yn ymgynghori â'r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr ynghylch yr agweddau ymarferol y maent eisoes wedi sôn amdanynt mewn perthynas â hyn. Sut rydych chi'n ymateb i bryder a godwyd gyda mi gan fargyfreithiwr a Chwnsler y Brenin a dynnodd fy sylw at erthygl yn y The Law Society Gazette ar 27 Ionawr? Ei bryder oedd y gallai’r drafodaeth bresennol sbarduno datblygiad cynyddrannol lle mae diwygio cyfraith trosedd a chyfiawnder yng Nghymru yn arwain, yn y pen draw, at sefyllfa lle mae cyfraith sifil Cymru yn cael ei gwahanu oddi wrth gyfraith sifil Lloegr. Ychwanegodd, er nad oedd comisiwn Thomas yn 2019 yn argymell hyn—ac yn ddi-os, byddai’r Cwnsler Cyffredinol yn dweud nad oedd unrhyw fwriad i'w wneud—byddai rhesymeg newid cyfiawnder a chyfraith trosedd, ynghyd â chyflymder allbwn deddfwriaethol gan Lywodraeth Cymru ar faterion datganoledig, yn arwain at ddwy system gyfreithiol. Byddai hyn yn dod â chyfraith bresennol Cymru a Lloegr, sydd wedi bodoli ers bron i 500 mlynedd, i ben, a fyddai 'yn drychinebus i economi a ffyniant Cymru, ac i'r rhan fwyaf o bobl Cymru'. Mick Antoniw AC: Diolch. Credaf fod y cwestiwn yn un rydym wedi'i drafod ar sawl achlysur, ac yn parhau i'w drafod. Fy ymgysylltiad â’r proffesiwn cyfreithiol a sefydliadau cyfreithiol yw ei gwneud yn gwbl glir nad ydym yn sôn am ddiwygiadau sy’n arwain at greu unrhyw rwystrau. Ond ceir anomaleddau amlwg, hyd yn oed os cymerwn yr un awdurdodaethol fel un enghraifft yn unig. Byddwch yn cofio inni gael Bil yn 2016, rwy’n credu, ac wrth gwrs, mae’n faes y mae Cymdeithas y Cyfreithwyr eu hunain yn ymdrin ag ef ar hyn o bryd. Felly, er enghraifft, os oes gennych gyfraith ar addysg a gyflwynir gan Senedd y DU, daw’n gyfraith ar addysg i Gymru a Lloegr, er mai dim ond i Loegr y mae’n berthnasol. Os oes gennym gyfraith ar addysg yng Nghymru, daw’n gyfraith addysg (Cymru). Mae'n amlwg fod anomaledd yn hynny, onid oes? Dylai unrhyw ddeddfwriaeth sy’n dod o Senedd y DU ac sydd ond yn berthnasol i Loegr nodi’n glir ei bod yn dod o Loegr, fel bod pobl yn gwybod lle mae’r gyfraith honno’n berthnasol a beth yw’r awdurdodaeth. Nid oes unrhyw anhawster o gwbl yn y cysyniad, pan fydd llys yn eistedd yng Nghymru, ei fod yn rhan o awdurdodaeth Cymru, ond pan fydd yn eistedd yn Lloegr, mae'n rhan o awdurdodaeth Lloegr. Mae cyfreithiau Cymru a Lloegr a chyfreithiau sy'n benodol i Gymru yn unig ac sy’n berthnasol yng Nghymru yn amlwg yn ffurfio rhan o awdurdodaeth Cymru, ac mae’r un peth yn berthnasol i Loegr. Ni chredaf fod y rheini'n gysyniadau anodd. Credaf mai'r diddordeb sylfaenol sydd gennym yw nad oes unrhyw rwystrau o ran y farnwriaeth, nad oes unrhyw rwystrau o ran y cyfreithwyr. Yr hyn sy'n bwysig, serch hynny, wrth gwrs, wrth hyfforddi cyfreithwyr, wrth hyfforddi barnwyr, ac wrth hyfforddi'r rheini sy'n gweithio yn y proffesiwn cyfreithiol, yw y ceir dealltwriaeth fod gwahaniaethau'n bodoli. Daw’r gwahaniaeth hwnnw nid yn unig o’r hyn a wnawn yng Nghymru; daw'r gwahaniaeth hwnnw hefyd o’r hyn y mae Senedd y DU yn ei wneud yn Lloegr. Nid yw’n achosi problemau ac anawsterau mawr o ran awdurdodaeth yng Ngogledd Iwerddon nac o ran awdurdodaeth yn yr Alban, ac ni ddylai achosi problemau yng Nghymru ychwaith. Mark Isherwood AC: Dywedodd yr uwch fargyfreithiwr a Chwnsler y Brenin y cyfeiriais ato, a wnaeth ei sylwadau'n ddiweddar iawn, y byddai diwedd cyfraith bresennol Cymru a Lloegr yn 'drychinebus mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, mae cyfraith bresennol Cymru a Lloegr wedi bod, ac yn parhau i fod, yn safon aur ledled y byd ar gyfer contractau masnachol a chysylltiadau busnes, ond byddai bodolaeth, neu hyd yn oed y syniad o awdurdodaeth wahanol yng Nghymru yn cael effaith hynod niweidiol ar fuddsoddiad yng Nghymru gan fusnesau yn Lloegr neu dramor, gan ychwanegu’n sylweddol at y gost o wneud busnes o ddydd i ddydd. Mae’n dod yn broblem ddifrifol mewn anghydfodau, nid yn unig oherwydd y gost, ond hefyd oherwydd ansicrwydd y canlyniadau—pa gyfraith sy’n berthnasol i ba ran o’r trafodiad, beth sy’n digwydd lle ceir gwrthdaro. Byddai hyn yn creu mynyddoedd o waith i gyfreithwyr, a byddai pawb arall ar eu colled. Yr ail broblem fawr, yn gryno, yw'r un i bobl sy’n byw ar y naill ochr neu'r llall i’r ffin rhwng Cymru a Lloegr, ac sydd efallai’n byw yn Lloegr ac yn gweithio yng Nghymru, neu fel arall. Byddai eu bywydau bob dydd yn ddarostyngedig i ddwy set o ddeddfau.' Sut, felly, rydych chi'n ymateb i bryderon o’r fath sy’n cael eu codi gan uwch gyfreithwyr sy’n datgan, ac rwy’n dyfynnu eto, fod 'hwn yn fater pwysig gan y byddai dwy awdurdodaeth yn broblem enfawr’? Mick Antoniw AC: A gaf fi ddweud, yn gyntaf, mewn perthynas â mwyafrif helaeth y cyfreithwyr yr ymdriniais â hwy, y mae llawer ohonynt yn ymarfer yn Lloegr yn unig, er bod rhai wedi ymarfer yng Nghymru a Lloegr, a rhai'n ymarfer yng Nghymru yn unig hefyd, nad oes yr un ohonynt yn ystyried hyn yn broblem? Mae llawer ohonynt yn gadarnhaol iawn am rai o’r diwygiadau a’r newidiadau sy’n digwydd. Maent hefyd yn cydnabod y rhesymeg absoliwt, lle mae gennych fwy nag un senedd yn pasio deddf, yna, yn amlwg, mae gennych awdurdodaeth i’r ddeddfwriaeth honno ddigwydd. Rwy'n synhwyro rhyw fath o baranoia am y cysyniad o Gymru a Lloegr. Cafodd ei adlewyrchu gan Ysgrifenyddion Gwladol blaenorol Cymru yn Llywodraeth y DU, ond credaf ei fod yn ddi-sail; ni chredaf fod unrhyw dystiolaeth dros hynny. Mae'n ymddangos yn fater syml iawn i mi, lle mae gennych ddeddfau sy'n berthnasol yng Nghymru, sy'n cael eu pasio gan y Senedd hon, wel, yn amlwg, nid yn unig y dylent gael eu clywed yng Nghymru, ond maent yn dod yn rhan o awdurdodaeth Gymreig. A'r un peth, bob tro y bydd Lloegr yn pasio deddfwriaeth sydd ond yn berthnasol i Loegr—ac mae cryn dipyn o hynny'n digwydd ar yr ochr honno—ble mae'r broblem? Mae cyfreithwyr yn addasu i'r hyn sy'n gyfraith. Mae angen iddynt ddeall beth yw'r gyfraith. Mae angen i'r barnwyr wneud hynny. Bron nad rhyw fath o rithlun hanesyddol yw awdurdodaeth Cymru a Lloegr. Roedd yn cynrychioli sefyllfa lle nad oedd ond un senedd. Credaf efallai fod angen i’ch cyfaill dderbyn y ffaith bod gennym bedair senedd yn pasio deddfwriaeth yn y DU, a bod deddfwriaeth yn creu ei hawdurdodaeth gyfreithiol ei hun. Llefarydd Plaid Cymru, Peredur Owen Griffiths. Peredur Owen Griffiths AS: Diolch, Lywydd. Gwnsler Cyffredinol, yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban bapur ar ddatganoli ers refferendwm Brexit, yn rhoi crynodeb taclus o’r ffordd y mae datganoli wedi’i ddadwneud yn raddol ers 2016. Mae’r papur yn peri cryn bryder. Credaf y byddai'n werth i Lywodraeth Cymru ymrwymo i gynhyrchu papur tebyg. Rwy’n sicr y byddai’n dod i gasgliad tebyg, sef na all fod gwir hunanlywodraeth o dan setliad datganoli sy’n cadw goruchafiaeth San Steffan. Amlygwyd goruchafiaeth San Steffan yn gadarn yn nefnydd Llywodraeth y DU o adran 35 o Ddeddf yr Alban 1998 i rwystro Bil cydnabod rhywedd yr Alban. Cafodd ei adlewyrchu hefyd yn y dadleuon diweddar ynghylch cynllun dychwelyd ernes arfaethedig yr Alban. Fel y gŵyr y Gweinidog, mae’r cynllun wedi’i rwystro i bob pwrpas wrth i Weinidogion y DU arfer eu pŵer o dan Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020. Yn benodol, mae Llywodraeth yr Alban wedi’i gwahardd rhag cynnwys cynhyrchion gwydr yn y cynllun, penderfyniad a ddylai fod yn benderfyniad iddynt hwy ac nid i San Steffan. A gaf fi ofyn i’r Gweinidog a yw’n credu bod y DU yn undeb o diriogaethau cydradd, ac os felly, onid yw’r gred hon yn cael ei thanseilio gan y math hwn o orgyrraedd yn San Steffan? Mae Llywodraeth Cymru wedi mynnu bod cynlluniau i ddatblygu ei chynllun dychwelyd ernes ei hun, yn cynnwys gwydr, yn parhau i fod ar y gweill. A all y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau hyn, ac yn fwyaf arbennig, am drafodaethau yn eu cylch gyda Llywodraeth y DU yng ngoleuni’r penderfyniad ar gynllun yr Alban? Diolch. Mick Antoniw AC: Yn gyntaf, diolch am eich cwestiwn. Ydw, rwy’n ymwybodol o bapur yr Alban. Rwyf wedi ei ddarllen. Mae'n 38 tudalen. Ni chredaf ei fod yn ychwanegu unrhyw beth pellach at yr hyn a wyddom am safbwynt Llywodraeth yr Alban. Mae gan Lywodraeth yr Alban eu mandad eu hunain, ac maent yn amlwg yn mynd ar drywydd hynny. Rydym wedi cynhyrchu ein papurau ein hunain ar y ffordd y credwn y dylai dyfodol y DU edrych, 'Diwygio ein Hundeb’. Y safbwynt rydym wedi’i fabwysiadu’n gyson yw ein bod yn ystyried y DU yn undeb gwirfoddol o bedair gwlad, ond o fewn hynny, fod ganddi nifer sylweddol o gamweithrediadau cyfansoddiadol. Yn hytrach na'n bod ni'n cynhyrchu papurau—. Credaf y byddai hynny’n amhriodol iawn pan fo gennym ein comisiwn annibynnol ein hunain sy’n gwneud cryn dipyn o waith. Rhoddais dystiolaeth iddo yn ddiweddar, ac mae Gweinidogion eraill a llawer o gyrff a Gweinidogion eraill o bob rhan o’r DU a mannau eraill wedi gwneud hynny hefyd. Credaf y bydd yn cynhyrchu ei adroddiad oddeutu diwedd y flwyddyn, ac edrychaf ymlaen yn fawr at ddarllen yr adroddiad hwnnw. Ymddengys i mi mai dyna’r corff a fydd yn dylanwadu ar y ddadl a geir yn y Siambr hon ar ddiwygiadau cyfansoddiadol. Serch hynny, mae’r pwynt a godwch am y cynllun dychwelyd ernes yn un dilys iawn. Cytunwyd o fewn y fframweithiau cyffredin fod cytundeb rhwng Cymru, yr Alban a Llywodraeth y DU ynghylch yr angen am gynllun o’r fath. Mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo ar gyflymder gwahanol, ac mae wedi mynd yn eithaf pell yn yr Alban. Dim ond yn rhannol y mae’r cais am eithriad o dan Ddeddf y farchnad fewnol wedi’i roi, ac ymddengys i mi mai’r hyn sydd wedi digwydd yw bod Gweinidogion Lloegr, gan ddefnyddio deddfwriaeth y DU, wedi tarfu ar yr hyn a oedd yn gytundeb cydweithredol ar faes polisi amgylcheddol pwysig. Yr hyn sydd gennych mewn gwirionedd yw Gweinidogion y DU sydd bellach, yn y bôn, yn tanseilio’r ymdrechion cydweithredol hynny—y gwaith ar y cyd a oedd yn sail i’r fframweithiau cyffredin, a sefydlwyd er mwyn sicrhau trafodaeth gydlynol rhwng y cenhedloedd ac o fewn gwahanol gyfrifoldebau datganoledig y farchnad fewnol ar ôl inni adael. Credaf fod Deddf y farchnad fewnol yn gyfeiliornus. Mae tynnu allan a’r ymdrechion i ddefnyddio’r farchnad fewnol yn y ffordd hon yn hynod anffodus yn fy marn i. Ein safbwynt ni yw nad ydym yn credu bod Deddf y farchnad fewnol yn drech na'n cymhwysedd datganoledig ein hunain. Byddwn yn parhau i ddatblygu ein polisi ein hunain ac yn gweithio i'r cyfeiriad penodol hwnnw. Ond yn amlwg, ceir buddiannau cyffredin ar draws y DU gyfan, mae rhyw fath o bolisi yn hyn y gall pawb ei gefnogi, a chredaf ei bod yn anffodus iawn fod Llywodraeth y DU ar ran Lloegr i bob pwrpas, wedi dod yn allanolyn yn y broses hon. Peredur Owen Griffiths AS: Diolch am eich ymateb, er bod yn rhaid imi ddweud fy mod yn dal i fod yn bryderus iawn ynghylch yr hyn y gallai penderfyniad Llywodraeth y DU ar gynllun dychwelyd ernes yr Alban ei olygu ar gyfer datblygu cynllun cyfatebol yma yng Nghymru. Yn ogystal, rwy'n bryderus ynghylch y broses a ddefnyddiwyd i wneud y penderfyniad a’r hyn y mae hynny'n ei ddweud wrthym am amwysedd Deddf y farchnad fewnol, ac rydych wedi mynegi rhai o’r pryderon hynny yn eich ateb. Datgelodd gohebiaeth rhwng Llywodraethau’r Alban a’r DU fod Gweinidogion y DU yn ddryslyd, a hyd yn oed yn gwrth-ddweud eu hunain, ynghylch y broses ar gyfer gwneud cais am eithriadau o Ddeddf y farchnad fewnol, proses a amlinellwyd gan Lywodraeth y DU ei hun mewn datganiad gweinidogol ym mis Rhagfyr 2021. Mae'n ymddangos ei bod wedi bod yn ofynnol i Lywodraeth yr Alban gymryd llawer o gamau ychwanegol annisgwyl i gael penderfyniad ar y cynllun dychwelyd ernes. Ychwanegodd hyn at yr oedi cyn i Weinidogion Llywodraeth y DU wneud a chyhoeddi penderfyniad o’r fath. Mae Llywodraeth Cymru wedi codi pryderon fod hyn yn golygu ychwanegiad ad hoc o gamau pellach at y broses o geisio eithriad o Ddeddf marchnad fewnol y DU. A gaf fi ofyn pa sicrwydd y mae’r Gweinidog wedi’i gael na fydd Llywodraeth y DU yn gwneud unrhyw newidiadau pellach i’r broses fframweithiau cyffredin y mae pob ochr wedi cytuno arni? A yw'n cytuno â mi fod y bennod hon, yn y pen draw, yn datgelu camweithrediad difrifol o ran cysylltiadau rhynglywodraethol yn y DU? Ac yn olaf, a yw hefyd yn cytuno â mi fod yr adroddiadau yr wythnos hon fod arweinyddiaeth Llafur y DU wedi ceryddu Llywodraeth Cymru dro ar ôl tro am gyfeirio at y DU fel undeb o bedair gwlad wedi datgelu nad yw'r camweithrediad hwn yn debygol o wella gyda Llywodraeth wahanol yn San Steffan? Diolch. Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair. Mick Antoniw AC: I ateb y gwgli olaf a roesoch i mi ar ddiwedd eich cyfraniad, gallaf ddweud wrthych nad wyf wedi cael fy ngheryddu gan unrhyw un. Rwyf wedi datgan hynny ar bob cyfle a gaf, boed ar lefel y DU, lefel Lloegr neu beth bynnag, a byddaf yn ei ddatgan ger bron cynhadledd gyfreithiol bwysig yr wythnos nesaf. Byddaf hefyd yn gwneud y pwynt eto ar y safbwynt fod y DU yn undeb o genhedloedd, ac mae'n rhaid bod hynny'n wir, gan fod gennych bedair Senedd yn pasio deddfwriaeth, ac yn gyfansoddiadol, efallai fod gennym gamweithrediadau ac nad yw pethau wedi dal i fyny eto, ond dyna fy safbwynt. Nid yw wedi cael ei herio ar unrhyw lefel arbennig mewn gwirionedd. Nid wyf wedi gweld unrhyw ddadl ddilys sy'n yn herio hynny ychwaith. Ar y pwynt a godwyd gennych ynglŷn â’r Alban a’r cynllun ernes y cyfeirioch chi ato, ydy, mae’n tanseilio rhyng-gysylltiadau o fewn y DU, ac ydy, mae’n gyrru ceffyl a throl drwy fframweithiau cyffredin, oherwydd o fewn y fframweithiau cyffredin, cytunwyd y ceid cytundeb gwirfoddol y byddai tystiolaeth yn cael ei gosod lle roedd angen eithriad ac y byddai hynny’n cael ei bennu drwy gytundeb rhwng pawb a oedd yn cymryd rhan o fewn y fframweithiau cyffredin, a Llywodraeth y DU, yn gweithredu ar ran Lloegr, a helpodd i newid hynny mewn gwirionedd. Yn y bôn, maent wedi newid eu safbwynt. Pam eu bod wedi newid eu safbwynt, mae'n siŵr y cawn wybod ar ryw gam beth sydd wedi rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU i newid y safbwynt penodol hwnnw, ond cawn ein gadael gyda hynny, ac ydy, mae'n achosi camweithrediad, ac ydym, rydym yn codi hynny ar bob cyfle. Rydym yn codi hynny mewn gohebiaeth, ac yng nghyfarfod y pwyllgor sefydlog rhyngweinidogol a fynychais ychydig wythnosau’n ôl, codwyd yr union fater hwn a phryderon ynghylch methiant Llywodraeth y DU i gefnogi’r eithriad, neu i wneud penderfyniad ar yr eithriad. Rydym wedi cael penderfyniad bellach, ac mae'n un anfoddhaol. Polisi Cyfansoddiadol Llywodraeth Cymru Gareth Davies AS: 3. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael am fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd a ddarperir gan Brexit ar gyfer polisi cyfansoddiadol Llywodraeth Cymru? OQ59716 Mick Antoniw AC: Gallai fod yn ateb byr. Dylai ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd fod wedi arwain at fwy o gymhwysedd datganoledig. Yn hytrach, mae cyfyngiadau deddfwriaethol annerbyniol Llywodraeth y DU ar y sefydliadau datganoledig wrth iddi fynd yn groes i gonfensiwn Sewel dro ar ôl tro yn bygwth setliad cyfansoddiadol Cymru, ac yn rhoi straen ar y Deyrnas Unedig. Gareth Davies AS: Diolch am eich ymateb, Gwnsler Cyffredinol, a’r rheswm pam rwyf am ofyn y cwestiwn hwn heddiw yw am ein bod ni, ddydd Gwener, yn dathlu saith mlynedd ers i bobl y Rhyl, Prestatyn, Dyffryn Clwyd, sir Ddinbych, gogledd Cymru, Cymru a’r DU bleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd a’n rhoi ar lwybr annibynnol oddi wrth yr anhrefn cyfansoddiadol biwrocrataidd a oedd wedi bod yn ein dal yn ôl ers y 1970au. Nawr, yr hyn y mae pobl Cymru wedi’i weld yw ymwrthodiad ideolegol gan bobl ar y meinciau hynny y pleidleisiodd eu hetholwyr dros adael yr UE, gan gynnwys yn Alun a Glannau Dyfrdwy a Blaenau Gwent. Er i’w hetholwyr eu hunain bleidleisio i’r gwrthwyneb yn 2016 wrth bleidleisio dros Brexit, rhoesant gynnig ar bob dull yn y blynyddoedd canlynol i atal eu hetholwyr eu hunain rhag elwa ar fanteision gadael yr UE a gwneud y mwyaf o’r potensial i economi Cymru. Ddoe ddiwethaf, roedd Andrew R.T. Davies yn holi’r Prif Weinidog am y ffaith mai Cymru sydd â’r ffigurau cyflogaeth gwaethaf, a’r gwir amdani yw bod Llywodraeth Cymru yn methu sicrhau manteision Brexit i’r bobl a bleidleisiodd drosto. Felly, Gwnsler Cyffredinol, saith mlynedd ers Brexit, a wnewch chi amlinellu'r trafodaethau rydych chi a'ch Llywodraeth wedi'u cael gyda Gweinidogion a swyddogion y DU ac Ewrop ar liniaru ffigurau diweithdra a sicrhau bod economi Cymru yn elwa o Brexit? Mick Antoniw AC: Wel, a gaf fi eich cyfeirio at yr ymateb i’r materion penodol hynny a roddodd y Prif Weinidog ddoe, ac ar y datblygiadau a’r cynnydd a wnaed o ran y sefyllfa gyflogaeth yng Nghymru? A gaf fi ddweud hefyd, wrth inni agosáu at y garreg filltir honno ymhen wythnos arall, mae'n debyg na allaf wneud yn well na chyfeirio'r Aelod at y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, sy'n dweud wrthyf y byddwn yn dathlu—mae hyn yn eu hadroddiad—gostyngiad o 4 y cant mewn cynhyrchiant o ganlyniad i Brexit, a gostyngiad o 15 y cant mewn allforion o ganlyniad i Brexit, ond y gallwn ddathlu llawer o gytundebau masnach newydd â gwledydd y tu allan i’r UE, ond na fydd y rhain yn cael effaith economaidd berthnasol gan eu bod, ar y cyfan, yn dyblygu cytundebau'r UE a oedd yn bodoli eisoes? Ond gallaf hefyd gyfeirio at yr un budd, ac wrth gwrs, daw'r un budd gan y cefnogwr BrexitCeidwadol, Peter Bone, sy'n crynhoi manteision Brexit. Meddai, 'Mae'n rhaid inni ddechrau sôn am fanteision Brexit’, fel y mae’r Aelod yn ei wneud nawr. Dywedodd fod llawer wedi bod, hyd yn oed rhai bach—y £50 oddi ar yswiriant moduro—ond nad ydym yn sôn digon amdanynt. Y ffaith amdani yw nad yw’r £50 hwnnw oddi ar yswiriant moduron yn ddim i’w wneud â Brexit mewn gwirionedd, ond serch hynny, mae’n sicr yn rhywbeth y mae’n teimlo ei bod yn bwysig tynnu sylw ato, hyd yn oed os nad yw’n wir. Ond mae'n debyg fod hynny'n wir am y rhan fwyaf o'r dadleuon o blaid Brexit. Yr hyn rydym yn ei gydnabod, wrth gwrs, ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, yw bod llawer o newidiadau a phwysau ar ein heconomi. Rydym yn cydnabod yr angen am gyffredinedd mewn rhai meysydd polisi a hyd yn oed cysondeb a safonau gofynnol—ac un o’r safbwyntiau yw—[Anghlywadwy.]—cynnal safonau—i wneud popeth yn ein gallu, mewn gwirionedd, i amddiffyn cyflogaeth rhag effaith Brexit a’r hyn rydym yn ei weld eisoes, sef trosglwyddo swyddi i’r Undeb Ewropeaidd o’r DU, a hefyd y gostyngiad mewn masnach drwy Gymru o ganlyniad i Brexit hefyd. Y Nifer sy'n Pleidleisio Carolyn Thomas AS: 4. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r nifer sy'n pleidleisio yng Nghymru? OQ59707 Mick Antoniw AC: Diolch am eich cwestiwn. Mae'r nifer sy'n pleidleisio yn is nag y byddem am iddo fod. Ar ôl etholfreinio mwy o bobl nag erioed i gymryd rhan mewn etholiadau datganoledig, rydym bellach yn gweithio i annog cyfranogiad, fel yr amlinellwyd yn ein Papur Gwyn ar weinyddu a diwygio etholiadol a phrosiectau wedi'u targedu i ysgogi ymgysylltiad. Carolyn Thomas AS: Diolch am eich ateb, Gwnsler Cyffredinol. Credaf nad yw 15 y cant o’r bobl sy’n gymwys i fod ar y gofrestr etholiadol wedi cofrestru i bleidleisio, a gwn eich bod yn cytuno â mi, Gwnsler Cyffredinol, ei fod 15 y cant yn ormod. Ond nid dyma'r unig her sy'n ein hwynebu i wella cyfranogiad democrataidd. Am y tro cyntaf, fis diwethaf, roedd yn ofynnol i bleidleiswyr yn Lloegr ddod â dull adnabod ffotograffig i orsafoedd pleidleisio, ac mae hyn wedi cael effaith sylweddol. Er enghraifft, yn Hull, dim ond un o bob pum pleidleisiwr cymwys a arferodd eu hawl ddemocrataidd. Rwy'n ddiolchgar fod Llywodraeth Cymru wedi sicrhau na fydd angen dull adnabod ar gyfer etholiadau'r Senedd ac etholiadau lleol yng Nghymru, ond bydd hyn yn dal i effeithio ar bleidleiswyr Cymru yn ystod yr etholiad cyffredinol nesaf. Felly, a gaf fi ofyn beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog pobl yng Nghymru i gofrestru i bleidleisio, ac yn dilyn yr etholiadau lleol yn Lloegr, pa sylwadau rydych wedi'u gwneud i Lywodraeth y DU yn galw am dro pedol ar ddull adnabod i bleidleiswyr? A chredaf fod Rees-Mogg wedi dweud bod ad-drefnu tueddol y Llywodraeth Dorïaidd wedi cael effaith negyddol arnynt eu hunain mewn gwirionedd. Mick Antoniw AC: Diolch am eich cwestiwn. Os caf wneud un pwynt, wrth gwrs, pleidleisiodd y nifer uchaf erioed yn etholiadau’r Senedd yn 2021, gyda’r etholfraint ehangach o bleidleiswyr cymwys. Fodd bynnag, nid yw'n ddigon uchel o hyd, ac mae gwaith pwysig i'w wneud o hyd yn fy marn i, ar draws yr holl etholiadau a gynhelir ledled Cymru a ledled y DU, gan fod cyfranogiad yn allweddol i sefydlogrwydd a chryfder ein democratiaeth. Mae gennym grant ymgysylltu â democratiaeth o £300,000 y flwyddyn, y mae £260,000 ohono wedi’i ddyrannu ar gyfer 2023-24 i 12 i brosiectau gwahanol gyda'r nod o ymgysylltu â chymunedau a’u cefnogi i ddod yn ddinasyddion gweithredol. Rwyf wedi gwneud y pwynt yn glir iawn yn y gorffennol ynghylch gwrthwynebiad Llywodraeth Cymru i ddulliau adnabod pleidleiswyr a'r rhesymau dros hynny. Maent yn hysbys, mae pobl yn eu deall. Yr amcangyfrif a welwn yw bod oddeutu 9,000 o bobl wedi eu gwrthod yn ystod etholiadau llywodraeth leol Lloegr. Ond mae yna waith ar y gweill. Mynychais grŵp rhyngweinidogol ar etholiadau yn ddiweddar. Un o ddibenion y grŵp hwnnw yw edrych ar y buddiant cyffredin sydd gan bob un ohonom mewn rheoli etholiadau, er bod gwahanol safbwyntiau'n bodoli. Felly, roedd yn gyfarfod cadarnhaol iawn i'r diben hwnnw, ac rydym yn cydnabod y gwahaniaeth barn sydd gennym. Mae Llywodraeth y DU yn cynnal ei hasesiad ei hun o effaith dulliau adnabod pleidleiswyr, felly rydym yn aros am hynny. Rydym hefyd yn aros am waith y Comisiwn Etholiadol, a fydd yn cyhoeddi eu canfyddiadau cychwynnol yn ddiweddarach y mis hwn, a byddwn yn asesu effaith hynny ymhellach wedyn. Sam Rowlands MS: Diolch i’r Cwnsler Cyffredinol am ei gydnabyddiaeth o rai o’r pryderon ynghylch y nifer sy’n pleidleisio yn etholiadau’r Senedd. Yn wir, fel y gŵyr y Cwnsler Cyffredinol, yn etholiad cyffredinol diwethaf y DU, y ganran a bleidleisiodd yng Nghymru oedd 66.6 y cant, ac yn etholiad diwethaf y Senedd, y ganran a bleidleisiodd oedd 46.6 y cant—20 pwynt canran yn is mewn etholiadau ar gyfer y lle hwn nag ar gyfer Senedd y DU. Mae'n rhaid imi ddweud, teimlwn fod awgrym Carolyn Thomas yn un dewr, fod sylwadau a wnaed o'r lle hwn neu gan Lywodraeth Cymru i Lywodraeth y DU ynghylch cyngor ar etholiadau, efallai, pan fo'r nifer sy'n pleidleisio 20 y cant yn uwch yn yr etholiadau ar gyfer y lle hwnnw nag yn yr etholiadau ar gyfer y lle hwn. Rwy'n cytuno â’r Cwnsler Cyffredinol ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn gweld nifer uwch yn pleidleisio mewn etholiadau ar gyfer y lle hwn, gan mai dyna sy’n rhoi cyfiawnhad, nid yn unig i'r Llywodraeth yma, ond i ni fel seneddwyr yn Senedd Cymru. Felly, Gwnsler Cyffredinol, fe wnaethoch sylwadau ar rai o’r camau sy’n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau'r ymgysylltiad cynyddol hwnnw yn etholiadau’r Senedd. A wnewch chi nodi pa weithred unigol, yn eich barn chi, a allai wneud y gwahaniaeth mwyaf i'r nifer sy'n pleidleisio? Mick Antoniw AC: Credaf fod y gwahaniaeth mwyaf yn y cynnydd a gofrestrodd. Gwelodd y rhai a fanteisiodd ar y cynnig o gefnogaeth i swyddogion cymorth cofrestru etholiadol gynnydd sylweddol, bron yn ddiwahân, yn nifer y cofrestriadau. Credaf fod hynny’n bwysig; ni chafodd y rhai na wnaeth hynny y budd a ddaeth yn sgil hynny. Credaf fod hynny’n arwyddocaol. Credaf mai'r hyn sy'n bwysicach, yn ôl pob tebyg, yw ein bod, wrth gwrs, yn edrych ar fater diwygio etholiadol a materion fel cofrestru awtomatig, ac wrth gwrs, fe fyddwch yn ymwybodol o'r mathau o ymgynghoriadau ynghylch y diwygiadau penodol hynny. Credaf fod nifer o bethau’n bwysig. Er bod cofrestru awtomatig yn sicrhau nad yw hynny'n gorfodi pobl i bleidleisio, mae'n golygu bod rhwymedigaeth felly ar y pleidiau gwleidyddol a’r sefydliadau democrataidd ledled Cymru i roi cymhelliad i bobl bleidleisio. Mae'n rhaid imi ddweud, fy marn bersonol i yw nad wyf yn credu bod y system bleidleisio sydd gennym, system bleidleisio'r cyntaf i'r felin, yn creu hinsawdd lle gall pobl deimlo bod pob pleidlais yn ddefnyddiol. Felly, mae llawer o waith i'w wneud, ond credaf fod llawer o'r gwaith hwnnw'n dibynnu arnom ni fel gwleidyddion a'n pleidiau gwleidyddol i ddangos bod pleidleisio'n gwneud gwahaniaeth yn y ffordd rydym yn ymgysylltu â phobl, yn enwedig y rhai sy'n teimlo eu bod wedi eu datgysylltu oddi wrth hynny. Diwygio'r Senedd James Evans MS: 5. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynigion ac amserlen Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio'r Senedd? OQ59679 Mick Antoniw AC: Diolch am eich cwestiwn. Rydym yn parhau i wneud cynnydd da ar drosi argymhellion y pwyllgor diben arbennig ar ddiwygio’r Senedd yn ddarpariaethau deddfwriaethol. Fel rhan o’r cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru, edrychaf ymlaen at gyflwyno deddfwriaeth gyda'r bwriad o weld newidiadau'n dod i rym ar gyfer etholiadau’r Senedd yn 2026. James Evans MS: Diolch, Gwnsler Cyffredinol. Mae atebolrwydd yn bwysig iawn, ac ym mis Chwefror 2023, fe wnaeth y Prif Weinidog gamarwain y Senedd pan honnodd ei fod ef ac eraill wedi cael eu cynghori gan yr archwilydd cyffredinol i dynnu bwrdd Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig cyn etholiadau’r Senedd yn 2021. Ymddengys nad oedd hyn yn wir; fe gamarweiniodd y Senedd. Yr wythnos diwethaf, dywedodd y Gweinidog iechyd wrth y Senedd fod cyfrifwyr fforensig o ymgynghoriaeth Ernst & Young wedi cael cais i edrych ar gyfrifon y corff ar gyngor Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, dywedodd dau uwch swyddog o un o gyrff y GIG wrth y BBC nad oedd gan Lywodraeth Cymru ran yn y mater, gyda’r Gweinidog iechyd yn cyfaddef yn ddiweddarach na chafwyd sgwrs uniongyrchol ar y mater: fe wnaeth hi gamarwain y Senedd. Pan fydd Gweinidogion yn camarwain gwleidyddion mewn seneddau eraill, mae’r meinciau Llafur yma yn ei alw’n warth, yn llygredigaeth, ac y dylai’r bobl hynny gael eu diswyddo. Felly, wrth ddiwygio’r Senedd, mae’n bwysig inni edrych yn ôl ar sicrhau ein bod yn gwella tryloywder ac atebolrwydd. Felly, Gwnsler Cyffredinol, a wnaiff Llywodraeth Lafur Cymru gefnogi ymdrech i sefydlu pwyllgor breintiau yn y Senedd fel bod y rhai sy’n camarwain, yn llesteirio, neu'n atal gwaith y Senedd yn cael eu dwyn i gyfrif am eu gweithredoedd, ac yn cael cosb fesuradwy? Alun Davies AC: Pwynt o drefn. Fe gymeraf y pwynt o drefn wedyn. Mick Antoniw AC: Wel, a gaf fi ddweud yn gyntaf nad yw'n ymddangosi mi fod y cwestiwn atodol yn ymwneud â mater diwygio'r Senedd mewn gwirionedd? A gaf fi ddweud, ar y pwynt a godwyd gennych ynglŷn â phwyllgor breintiau, mai mater i’r Senedd yw hwnnw? Nid yw’n fater i’r Llywodraeth; nid yw’n fater i mi o ran fy nghyfrifoldebau i. Ac a gaf fi ddweud pa mor siomedig oedd gweld, yn San Steffan, adroddiad pwysig gan y pwyllgor breintiau yno, faint—[Torri ar draws.]—faint o'r—[Torri ar draws.]—faint o'r Aelodau Seneddol Ceidwadol a wrthododd gymryd rhan yn hynny? Ond nid mater i mi yw hwn, nid yw'n fater i Lywodraeth Cymru; mae’n fater i’w godi fel mater o bolisi’r Senedd. Nid yw'n iawn i'r Llywodraeth fod yn sefydlu'r rhain; mater i'r Senedd ei hun yw gwneud hynny. Fe gymeraf y pwynt o drefn ar ddiwedd cwestiynau'r Cwnsler Cyffredinol. Cwestiwn 6. John Griffiths. Trefniadau Gweithio John Griffiths AC: 6. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effeithiolrwydd y trefniadau gweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU? OQ59718 Mick Antoniw AC: Diolch am eich cwestiwn. Mae'r adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol yn darparu sylfaen gadarn i gefnogi gweithio rhynglywodraethol, ond mae ei effaith yn parhau i gael ei thanseilio gan ddiffyg parch Llywodraeth y DU tuag at yr egwyddorion a'r dull gweithredu a nodir yn yr adolygiad ac at ddatganoli yn ehangach. John Griffiths AC: Gwnsler Cyffredinol, ddiwedd y llynedd, dywedodd Prif Weinidog Cymru fod Llywodraethau'r DU wedi dilyn Confensiwn Sewel ers bron i 20 mlynedd er mwyn sicrhau nad yw cynigion deddfwriaethol Llywodraeth y DU a allai ymyrryd mewn meysydd datganoledig yng Nghymru ond yn bwrw ymlaen gyda chydsyniad y Senedd, ond nid yw Llywodraethau Torïaidd diweddar y DU wedi parchu'r confensiwn ac mae hyn yn golygu bod y setliad datganoli mewn 'lle anodd iawn'. Gwnsler Cyffredinol, yng ngoleuni'r sylwadau hynny gan y Prif Weinidog a phwysigrwydd y materion hyn i ddyfodol cyfansoddiadol Cymru a'r DU, beth yw eich asesiad cyfredol o'r sefyllfa o dan Lywodraeth bresennol y DU? Mick Antoniw AC: Wel, a gaf fi ddweud mai dim ond yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf y gwelsom yr hyn sy'n gyfres fawr o enghreifftiau o dorri confensiwn Sewel? Awgrymir o bryd i'w gilydd, wrth gwrs, mai dim ond materion cyfansoddiadol yn gysylltiedig â Brexit yw'r rhain i gyd, ond yn amlwg nid yw hynny'n wir, fel y gwelsom yn ddiweddar gyda'r Bil ffyniant bro, fel y gwelsom gyda'r Bil Ynni a nifer o ddeddfau eraill. Confensiwn Sewel yw'r olew yn yr injan gyfansoddiadol mewn gwirionedd; dyna sy'n galluogi'r Llywodraethau i gydweithio â hyder ac ymddiriedaeth. Felly, mae'r toriadau'n rhywbeth rwyf wedi'i godi ar bob cyfle ar y lefel ryngweinidogol, a rhywbeth y mae'r Prif Weinidog wedi'i godi, a Gweinidogion eraill. Rydym yn ei godi'n gyson mewn perthynas â deddfwriaeth Llywodraeth y DU sy'n dod drwodd, lle mae angen cydsyniad deddfwriaethol. I mi, yr her go iawn yw bod angen ailddiffinio Sewel; mae angen ei godio ac mae angen rhyw fath o draddodadwyedd, a dyna pam rwy'n croesawu'r argymhellion a nodwyd yn adroddiad Gordon Brown, y bydd y Llywodraeth Lafur nesaf yn cyflwyno diwygiadau a fydd yn galw am derfyn cyfansoddiadol i Senedd y DU allu diystyru deddfwriaeth ddatganoledig, neu dorri confensiwn Sewel yn y bôn. Rwy'n credu y byddai rhyw gam i'r cyfeiriad hwnnw yn gam sylweddol ymlaen. Rwy'n credu ei bod yn debygol y bydd angen ffordd fwy meddylgar a mwy hirdymor, yn y pen draw, o adfer y berthynas rhwng pedair gwlad y DU a natur cysylltiadau rhynglywodraethol. Mae gennym strwythur a allai weithio, ond mae'n strwythur sy'n ddibynnol i raddau helaeth ar ymddiriedaeth ac ewyllys da. Yn anffodus, gyda Llywodraeth y DU, yn y meysydd hyn ar hyn o bryd, mae ymddiriedaeth ac ewyllys da yn bethau prin iawn. Systemau Adnabod Pleidleiswyr a Systemau Cofrestru Huw Irranca-Davies AC: 7. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r effaith y caiff y gwahaniaeth rhwng systemau adnabod pleidleiswyr a systemau cofrestru yn etholiadau cyffredinol y DU ac etholiadau yng Nghymru ar ymddygiad pleidleiswyr? OQ59690 Mick Antoniw AC: Diolch. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i bleidleisio cynhwysol a hygyrch yn etholiadau'r Senedd a llywodraeth leol, ac mae eisiau annog cyfranogiad yn hytrach na'i gyfyngu. Dyna pam nad ydym yn cefnogi dull adnabod pleidleiswyr a pham ein bod eisiau cyflwyno cofrestru awtomatig ar gyfer pob etholwr llywodraeth leol yng Nghymru. Huw Irranca-Davies AC: Wel, mae'r pleidleiswyr yng Nghymru yn graff iawn ac yn ddeallus iawn yn eu dewisiadau bob amser, a byddant yn gallu dod o hyd i ffordd drwy'r sefyllfa ddryslyd hon. Ond mae perygl gwirioneddol o ddryswch wrth iddynt symud o etholiad cyffredinol ar lefel y DU, lle mae'r holl dystiolaeth yn dangos yn glir fod pleidleiswyr wedi'u hatal—roedd yna fathau o ddulliau adnabod pleidleiswyr nad oedd modd eu defnyddio, gan gynnwys, mae'n rhaid imi ddweud, llun adnabod y GIG nad oedd modd ei ddefnyddio neu lun adnabod pobl ifanc nad oedd modd ei defnyddio—a dull Cymreig o bleidleisio mewn etholiadau lleol ac etholiadau'r Senedd sydd wedi'i gynllunio i ymestyn yr etholfraint a sicrhau ei bod ar gael yn ehangach i bobl, gan barhau i gynnal diogelwch ein hetholiadau. Felly, rwy'n deall, Gwnsler Cyffredinol, y bydd adolygiad yn cael ei gynnal nawr ar lefel y DU o sut aeth pethau. Wel, rwy'n credu bod pawb a gafodd wybod, gan gynnwys aseswyr annibynnol yr etholiad, wedi datgan eu barn yn glir yn barod: cafodd y bleidlais ei hatal, cafodd pobl eu troi ymaith; aeth pobl i bleidleisio ac ni chawsant eu gadael i mewn. Felly, a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried cyflwyno ei barn ei hun iddynt, naill ai yn ei chyfarfodydd rhyngweinidogol neu'n rhan o'r adolygiad hwnnw, mai'r ffordd i osgoi dryswch i bleidleiswyr mewn gwirionedd yw cael gwared ar yr hyn y maent yn ei wneud yn y DU a dilyn esiampl Cymru? Mick Antoniw AC: A gaf fi ddiolch i chi? A'r pwynt rydych chi'n ei wneud, wrth gwrs, yw bod yr agweddau hynny ar Ddeddf Etholiadau Llywodraeth y DU 2022 yn enghraifft arall o Lywodraeth y DU yn dargyfeirio o'r consensws blaenorol ynghylch fformat etholiadau. Mae wedi arwain at ddargyfeirio, oherwydd, yn amlwg, nid oedd yr Alban a Chymru yn barod i gyd-fynd â'r newidiadau penodol hynny, gan fod ganddynt gyfeiriad gwahanol. Byddwn yn dweud bod ein dull gweithredu yng Nghymru yn un sy'n ceisio moderneiddio'r system etholiadol, i ddefnyddio technoleg a'r gallu i sicrhau cymaint â phosibl o gynhwysiant a hygyrchedd. Ond a gaf fi ddweud, i gyfeirio, fel y gwneuthum yn gynharach, at gyfarfod y grŵp rhyngweinidogol a gynhaliwyd heb fod yn hir yn ôl—y cyntaf o'r rhain ar etholiadau—fod trafodaeth onest iawn wedi bod rhwng yr holl bleidiau am y gwahaniaethau sydd gennym? Rydym yn cydnabod bod y gwahaniaethau hynny yno. Rwy'n credu bod cred gyffredin fod yn rhaid inni wneud i'r system weithio i bawb, na allwn ganiatáu i newid mewn un etholiad gael effaith andwyol ar y lleill, a bod yn rhaid inni edrych ar y ffyrdd y mae ein systemau'n gweithredu gyda'n gilydd, y ffordd rydym yn osgoi dryswch, ac mae hynny'n dibynnu, i raddau, rwy'n credu, ar y math o gyfathrebu, a'r esboniadau, sydd gennym pan fo etholiadau'n digwydd mewn gwirionedd. Felly, mae gwaith pellach yn cael ei wneud ar hynny. Byddwn yn ystyried adolygiad Llywodraeth y DU ei hun yn ofalus iawn, ac yn wir, adolygiadau'r Comisiwn Etholiadol, pan fyddant yn cael eu cynnal, ac yn sicr bydd trafodaethau pellach yn y Siambr hon ar y materion hyn hefyd. Oherwydd mae diwygio'n anochel o fewn ein system yng Nghymru; rydym am fwrw ymlaen â moderneiddio, cynwysoldeb a hygyrchedd, ond mae'n rhaid inni sicrhau ein bod hefyd yn cydweithio â Llywodraeth y DU i sicrhau bod y meysydd cyffredin hynny sydd gennym o ran gweinyddu etholiadau yn gweithio er budd pawb. Trefniadau Awdurdodaeth Rhys ab Owen AS: 8. Pa ystyriaeth y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i rhoi i'r angen am gywirdeb ac eglurder yn y termau a ddefnyddir i ddisgrifio trefniadau awdurdodaeth yn y dyfodol? OQ59681 Mick Antoniw AC: Diolch am eich cwestiwn. Mae cywirdeb ac eglurder yn hanfodol i bob agwedd ar y gyfraith, gan gynnwys trefniadau awdurdodaethol yn y dyfodol. Nid yw terminoleg gyfredol awdurdodaeth Cymru a Lloegr yn adlewyrchu'r realiti fod y gyfraith yma, yn amlwg, yn wahanol. Rhys ab Owen AS: Diolch yn fawr, Gwnsler Cyffredinol. Fel y nodwyd gennych, mae ansicrwydd bob amser yn beth drwg o fewn system gyfiawnder, ac fel y nodwyd gan Mark Isherwood yn gynharach yn y sesiwn gwestiynau hon, bydd unrhyw awgrym o ddatganoli cyfiawnder yn peri pryder i rai o fewn proffesiwn y gyfraith yng Nghymru a Lloegr. Mae'n bwysig iawn, felly, ein bod yn glir ac yn gywir yn y termau a ddefnyddir pan fyddwn yn trafod unrhyw drefniadau awdurdodaethol yn y dyfodol. Pa drafodaethau rydych chi'n eu cael felly, Gwnsler Cyffredinol, gyda'r proffesiynau cyfreithiol, ac ysgolion y gyfraith hefyd, i wneud yn siŵr fod Cymru'n parhau i fod yn lle deniadol i ymarfer y gyfraith? Mick Antoniw AC: Diolch am y sylwadau pwysig hynny. A gaf fi ddweud, rwyf wedi bod yn cael llawer o drafodaethau mewn llawer o fforymau cyfreithiol ym meysydd cyfiawnder, cyfiawnder cymdeithasol, hygyrchedd a datganoli cyfiawnder? Mae mater awdurdodaeth yn un sy'n codi'n aml, ac wrth gwrs, fel y gwyddoch, cafodd y mater hwn ei godi a'i nodi ar ffurf ddrafft, mewn gwirionedd, yn y Bil Llywodraeth a Chyfreithiau yng Nghymru a gyhoeddwyd yn 2017, a oedd yn ymwneud â'r eglurhad. Nid oedd yn ymwneud â datganoli cyfiawnder mewn gwirionedd, roedd yn ymwneud yn unig â sefydlu cydnabyddiaeth o'r awdurdodaethau cyfreithiol sy'n bodoli'n ymarferol, neu'n bodoli mewn realiti, er nad yw arferion a phrosesau a gweithrediad gweinyddiaeth y gyfraith o reidrwydd yn adlewyrchu hynny. A gaf fi ddweud hefyd fy mod wedi bod yn ymwneud â Chymdeithas y Gyfraith, ac mae wedi bod yn ymwneud cadarnhaol ac adeiladol iawn? Ac rwy'n croesawu gwaith diweddar Cymdeithas y Gyfraith ar y mater hwn, ac roeddwn yn falch o nodi eu bod yn cymeradwyo papur 'Awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân ar gyfer Cymru' yr wythnos diwethaf. Felly, o fewn y proffesiynau cyfreithiol, rwy'n credu bod cydnabyddiaeth gynyddol o hynny a phwysigrwydd hynny. Mae hefyd, fodd bynnag, yr un mor bwysig o ran yr hyfforddiant ac o ran ysgolion y gyfraith. Wrth gwrs, nid yw pawb yn dod i mewn i'r proffesiwn drwy ysgolion y gyfraith, ond rydym yn falch iawn, er enghraifft, o waith yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr a'r gofyniad penodol i fyfyrwyr orfod dysgu am gyfraith Cymru. Ac wrth gwrs, dylent orfod gwneud hynny, yn union fel y dylai myfyriwr y gyfraith yng Nghymru orfod dysgu am gyfraith Lloegr, ac mewn gwirionedd, mae'n ofynnol iddynt ddysgu am gyfraith Lloegr. Felly, fel y dywedais yn gynharach, mewn rhai o'r cwestiynau cynharach, nid yw'r rhain yn bethau cymhleth nac anodd eu deall. Wedi inni gydnabod y ffaith, gyda phedair Senedd, fod pedair awdurdodaeth yn cael ei chreu i bob pwrpas, efallai fod yr awdurdodaethau hynny'n gorgyffwrdd a bod yna gyffredinedd. Mae'n bosibl y bydd rhwystrau mewn rhai meysydd, ond rhwng Cymru a Lloegr, nid ydym yn gweld yr angen am unrhyw rwystrau. Ond rydych chi'n llygad eich lle: rwy'n credu mai addysg, hyfforddiant ac eglurder yw'r tair elfen allweddol. Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol. Pwynt o drefn, a galwaf ar Alun Davies i godi'r pwynt o drefn. Alun Davies AC: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Yn ystod y cwestiynau, fe wnaeth yr Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed nifer o honiadau difrifol yn erbyn Gweinidogion, gan ddweud bod y Gweinidog iechyd a'r Prif Weinidog wedi camarwain y Siambr hon yn fwriadol. Roeddwn yn sicr yn bresennol yn y Siambr pan gododd prif chwip y Ceidwadwyr rai materion gyda'r Gweinidog iechyd, ac yna fe gywirodd y cofnod. Rwy'n credu bod y Prif Weinidog hefyd wedi egluro sylwadau a wnaeth yma lle bu rhyw anghydfod, ond rwy'n cydnabod bod rhai o'i sylwadau'n parhau i gael eu herio gan eraill. Ond mae'n annerbyniol, wrth gwrs, pan fo Aelod yn sôn am gamarwain y Siambr ei fod yntau ei hun yn camarwain y Siambr. Diolch i chi am y pwynt o drefn hwnnw ac fe fyddaf yn ystyried y cyfraniad a gofnodwyd, ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelod hefyd yn ystyried y cyfraniad a gofnodwyd. A bydd y ddau ohonom yn ystyried cywirdeb y digwyddiadau a nodwyd yn y cyfraniad hwnnw, a byddaf yn edrych yn ofalus ar hynny. 4. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd Eitem 4 y prynhawn yma yw cwestiynau i Gomisiwn y Senedd. Ac, yn gyntaf, Heledd Fychan. Yr Anghydfod Llafur gydag Undeb y PCS Heledd Fychan AS: 1. Pa gamau y mae'r Comisiwn wedi'u cymryd i ddatrys yr anghydfod llafur gydag undeb y PCS? OQ59703 Mae undeb y PCS ar hyn o bryd yn gweithredu’n ddiwydiannol mewn perthynas â’u hawliad cyflog i Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae’r hawliad cyflog yn ymestyn i gynllun pensiwn gwasanaeth sifil y Deyrnas Unedig, i gytundeb sicrwydd swydd arfaethedig ac i delerau cynllun iawndal gwasanaeth sifil y Deyrnas Unedig. Er bod aelodau PCS y Comisiwn wedi pleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol, mae’r sail dros y gweithredu hwn yn ymwneud yn gyfan gwbl â chynlluniau gwasanaeth sifil y Deyrnas Unedig, sef materion sydd y tu hwnt i gylch gwaith y Comisiwn. Heledd Fychan AS: Diolch i chi, Llywydd, ac mi wnaethoch chi ymateb ar 25 Ionawr hefyd yn cadarnhau does yna ddim anghytundeb penodol gyda staff yma'n lleol, felly dwi yn deall o ran yr elfen efo'r Deyrnas Unedig. Heledd Fychan AS: Ond rwy'n deall, ers hynny, fod undeb y gwasanaethau cyhoeddus a masnachol wedi ysgrifennu atoch yn nodi sut mae hwn yn fater y mae gan y Comisiynwyr rywfaint o reolaeth leol drosto, ond hefyd sut y dylai'r Comisiwn, fel cyflogwr gwasanaeth cyhoeddus, fod yn defnyddio ei bŵer bargeinio gyda Swyddfa'r Cabinet i ddatrys y materion hyn, nid yn unig ar gyfer y staff sy'n ein cefnogi yn y lle hwn, ond ar gyfer y gwasanaethau sifil a chyhoeddus ehangach. A wnewch chi ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â sut mae Comisiynwyr wedi cyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i geisio datrys materion ehangach yr anghydfod? A pha fesurau lliniaru lleol sydd wedi'u rhoi ar waith i osgoi unrhyw gynnydd yn yr anghydfod a allai gael mwy o effaith ar fusnes y Senedd? Diolch am y cwestiwn atodol. Fe dderbyniwyd llythyr gan undeb PCS i'r perwyl rŷch chi'n ei gyflwyno fanna. Hyd yn hyn, dyw'r Comisiwn heb ymyrryd yn uniongyrchol â Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ar y mater yma. Fy marn i ar y cyfan yw taw mater i'r pleidiau gwleidyddol yn y lle yma sydd â chynrychiolwyr ar y Comisiwn yw i ddwyn pwysau, os ydyn nhw yn credu yn hynny fel pleidiau gwleidyddol, ar y materion yma drwy'r ffyrdd sydd yn berthnasol iddyn nhw. Nid mater i'r Comisiwn yw ymyrryd yn uniongyrchol gyda Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol. Dim ond i ychwanegu unwaith eto, felly, taw anghydfod gyda Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yw'r anghydfod yma gyda PCS. Mae ein cydweithredu ni, gobeithio, fel Comisiwn, gydag undeb y PCS a gyda'n staff ni yn gyffredinol yn un sydd yn gweithio mewn ffordd barchus ac mewn ffordd sydd yn gallu adweithio i'r sefyllfa ariannol bresennol mae nifer o'n gweithwyr ni yn ffeindio eu hunain ynddi. Ac, wrth gwrs, rŷn ni wedi ymateb yn hynny o beth drwy ddarparu rhywfaint o gefnogaeth i'r gweithwyr hynny drwy daliad uniongyrchol yn ystod y flwyddyn ariannol diwethaf, a drwy ystod o fesurau sydd ar gael i'n gweithwyr ni sydd yn wynebu problemau difrifol yn eu bywydau bob dydd oherwydd yr argyfwng costau byw. Mike Hedges AC: Rwy'n cadeirio grŵp trawsbleidiol undeb y gwasanaethau cyhoeddus a masnachol yn y Senedd. Mae'r Senedd yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn gyflogwr da, a hynny am reswm da, ac rwy'n siŵr fod y rhan fwyaf o'r Aelodau, os nad pob Aelod yma, yn falch iawn ein bod yn ystyried ein hunain, ac yn cael ein hystyried gan eraill, yn gyflogwr da iawn. Hoffwn gysylltu fy hun â'r cwestiynau a godwyd gan Heledd Fychan, ac fe fyddwch yn ddiolchgar na fyddaf yn eu hailadrodd. Yr hyn rwyf am ei ofyn, fodd bynnag, yw pa drafodaethau a gafodd y Comisiwn gyda PCS i drafod pryderon PCS ac i weithio tuag at ddatrys yr anghydfod hwn. Wel, nid wyf yn gyfarwydd â'r trafodaethau hynny fel cadeirydd y Comisiwn. Maent yn cael eu cynnal gan y staff sy'n gyfrifol o fewn y Comisiwn am gynnal trafodaethau ar unrhyw fater y mae PCS yn ei gyflwyno fel undeb llafur o fewn ein strwythurau yma, i drafod yr anghydfod presennol, ie, ond hefyd sut rydym yn paratoi ein hunain ar gyfer trafodaethau pellach yn y dyfodol ar gyflog a thelerau ac amodau i'n staff yma. I ailadrodd y pwynt y mae Heledd Fychan a Mike Hedges wedi'i wneud, cawn ein gwasanaethu yn y lle hwn gan staff rhagorol sy'n mynd y tu hwnt i'r disgwyl yn aml, yn enwedig yn ystod y cyfnodau arbennig o heriol a gawsom. Rydym yn gobeithio y gallwn ymateb i anghenion ein staff pan fyddant yn codi, ac y gallwn wneud hynny mewn ffordd barchus gyda'n partneriaid undebau llafur yn enwedig. Y Bwrdd Taliadau Annibynnol Natasha Asghar AS: 2. Pa drafodaethau diweddar y mae'r Comisiwn wedi'u cael gyda bwrdd taliadau annibynnol y Senedd? OQ59697 Mae’r Comisiynwyr wedi cael dau lythyr gan y bwrdd taliadau annibynnol yn ddiweddar. Roedd y llythyr cyntaf yn tynnu sylw at ymgynghoriad cyfredol y bwrdd ynghylch newidiadau arfaethedig i’r penderfyniad ar gyflogau a lwfansau'r Aelodau ar gyfer 2023-24. Cytunodd y Comisiwn i ymateb i’r ymgynghoriad i dynnu sylw at y goblygiadau i broses gyllidebu’r Comisiwn. Roedd yr ail lythyr yn nodi cais gan y bwrdd i gyfrannu at ddeialog gyda’r Comisiwn ynghylch sut y caiff cymorth ei ddarparu i’r Aelodau yn y dyfodol i gyflawni’u dyletswyddau drwy wasanaethau’r Comisiwn a phenderfyniad y bwrdd. Trafododd y Comisiynwyr arwyddocâd gwarchod uniondeb y ddau gorff, gan bwysleisio pwysigrwydd peidio â chreu dryswch ynglŷn â’u rolau perthynol a gwarchod y rhaniad rhwng y ddau gorff. Natasha Asghar AS: Diolch am yr ateb hwnnw, Lywydd. Yn fy marn i, nid yw'r bwrdd taliadau'n addas i'r diben, ac a dweud y gwir nid oes iddo le yn y sefydliad hwn mwyach. Nid yw'r bwrdd taliadau yn atebol i unrhyw un, sy'n golygu y gallant wneud fel y mynnant heb fod yn ddarostyngedig i graffu priodol. Nid yw'r bwrdd yn gweithredu mewn modd teg ac mae rhestr hir o resymau pam fy mod yn ei wrthwynebu'n llwyr, ond nid oes gennyf ddigon o amser i fynd trwy bob un ohonynt heddiw. Rwy'n credu'n gryf y dylai'r bwrdd taliadau gael ei ddiddymu ac y dylid sefydlu corff arall yn ei le. Er enghraifft, mae gan Senedd y DU yr Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol ar waith, ac yn seiliedig ar sgyrsiau a gefais gyda seneddwyr o bob plaid wahanol yma, maent wedi cael derbyniad eithaf da. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod a fydd y Comisiwn yn ystyried disodli'r bwrdd taliadau yn y dyfodol o bosibl, ac a oes unrhyw drafodaethau wedi bod ynglŷn â hyn, oherwydd yn sicr mae diffyg atebolrwydd y bwrdd i unrhyw un neu unrhyw beth yn annemocrataidd ac yn codi cwestiynau difrifol yn Senedd Cymru wrth symud ymlaen. Rwy'n gwybod nad oeddech chi yma yn 2010, Natasha Asghar. Roedd rhai ohonom yma pan wnaethom basio Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010, a sefydlodd annibyniaeth y bwrdd rhag unrhyw ddylanwad gan y Senedd neu Gomisiwn y Senedd wrth arfer ei swyddogaethau. Roeddwn i yma cyn 2010, ac arweiniodd diffyg annibyniaeth Aelodau'r Senedd yma ar y pryd rhag gwneud penderfyniadau ar ein cyflogau ein hunain a'r adnoddau a oedd ar gael i ni at sefyllfaoedd anodd iawn o ran ein hatebolrwydd ein hunain i'n hetholwyr. Hoffwn annog yr Aelod i fod yn ofalus am yr hyn rydych yn ei ddymuno yma. Mae'r annibyniaeth rhwng y bwrdd taliadau a ni fel Senedd yn rhywbeth i'w warchod. Nid ydym eisiau dychwelyd i sefyllfa lle mae'r Aelodau yma'n pleidleisio ar ein cyflogau ein hunain ac yn gyfrifol am benderfyniadau sy'n rhoi adnoddau at ein defnydd neu beidio. Mae'n ymddangos bod eich sgyrsiau gydag Aelodau Seneddol am yr hyn sydd ar waith mewn Seneddau eraill yn groes i rai o'r sgyrsiau rwy'n eu cael gydag Aelodau Seneddol ynglŷn â sut y cânt eu gwasanaethu hefyd. Felly, o ran yr annibyniaeth, a'r ffaith bod y bwrdd taliadau'n gorff statudol, nid oes angen imi ddweud wrth Aelod yn y lle hwn beth fyddai hynny'n ei olygu. Byddai angen deddfwriaeth newydd arnom. Nid mater i ni yn unig yw codi a dweud nad yw'n addas i'r diben; byddai angen deddfwriaeth newydd arnom pe bai hynny'n digwydd. Yr hyn y byddwn yn ei ddweud, serch hynny, mewn ffordd fwy adeiladol, yw bod y materion hyn—deddfwriaeth newydd hyd yn oed—bob amser yn agored i gael y ddadl honno. Yng nghyd-destun diwygio'r Senedd, ac wrth inni baratoi ar gyfer 2026 a thu hwnt, rwy'n credu ei bod yn iawn cael trafodaeth ehangach am y rolau a'r cyfrifoldebau y gall y Senedd a chorff fel y bwrdd taliadau eu cael yn y dyfodol. Felly, yn hynny o beth, yn fwy hirdymor, rwy'n credu y byddai'r sgwrs honno'n cael ei chroesawu, hyd yn oed gan y bwrdd taliadau ei hun yn ogystal â'r Senedd. Ymgysylltiad y Senedd â'r Cyhoedd John Griffiths AC: 3. Pa gamau y bydd y Comisiwn yn eu cymryd i wella ymgysylltiad y Senedd â'r cyhoedd yng Nghymru? OQ59698 Mae ymgysylltu â phobl Cymru yn un o dair blaenoriaeth strategol y Comisiwn. Rydym wedi sefydlu systemau newydd ar gyfer mesur cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith ar wella dealltwriaeth y cyhoedd o’r Senedd. Ddwy flynedd yn ôl, fe wnaethom gomisiynu'r Athro Diana Stirbu o Brifysgol Fetropolitan Llundain i gynnal asesiad allanol o sut rydym yn ymgysylltu â’r cyhoedd. Rydym nawr yn rhoi ei hargymhellion ar waith. Mae hyn yn cynnwys datblygu dulliau ymgysylltu ar-lein newydd i alluogi’r cyhoedd i gyfrannu at ymchwiliadau pwyllgorau’r Senedd mewn ffyrdd newydd gan ddefnyddio dulliau digidol yn arbennig. John Griffiths AC: Diolch, Lywydd. Rwy'n credu bod y sesiwn ar y cyd a gynhaliwyd yn gynharach rhwng y Senedd a Senedd Ieuenctid Cymru yn arddangosiad pwerus iawn o ba mor ddiddorol, pwysig a chalonogol yw hi i'r Senedd ymgysylltu â'n pobl ifanc. Rwy'n gwybod bod ein tîm addysg yn y Senedd yn gwneud gwaith gwych gydag ysgolion a cholegau ledled Cymru, gan gynyddu'r ymgysylltiad hwnnw, unwaith eto, rhwng democratiaeth Gymreig a'n pobl ifanc. Rwyf wedi mwynhau mynychu sesiynau yn Nwyrain Casnewydd, yn fwyaf diweddar yn Ysgol Gynradd Llyswyry. Lywydd, mae'n galonogol iawn clywed bod gwaith wedi digwydd, ac y bydd gwaith yn digwydd, i edrych ar sut rydym yn cynyddu ac yn cryfhau ein hymgysylltiad â'r cyhoedd yng Nghymru, ac rwy'n sicr yn credu bod unrhyw beth arall y gallwn ei wneud i ymgysylltu â'n pobl ifanc, yn ogystal â'r boblogaeth gyffredinol ledled Cymru, yn gwbl amhrisiadwy. Tybed a allech chi ddweud ychydig mwy am eich syniadau eich hun am y materion hyn. Diolch am yr holl sylwadau a arweiniodd at eich cwestiwn. Rwy'n credu bod y sesiwn gyda'n Senedd Ieuenctid y prynhawn yma yn brofiad calonogol, yn heriol i Lywodraeth Cymru a Gweinidogion, yn heriol i ni fel Aelodau hefyd i feddwl sut y gellir adlewyrchu blaenoriaethau ein Senedd Ieuenctid yn y gwaith a wnawn yn y Siambr hon ac yn ein pwyllgorau. Mae pobl ifanc Cymru, sy'n cael eu cynrychioli yn eu Senedd Ieuenctid, yn llais clir ac yn her i ni fel Aelodau. Dylem adlewyrchu hynny yn y gwaith a wnawn, fel rydych wedi'i amlinellu yn eich etholaeth, ac fel rydym i gyd yn ei wneud yn ein hetholaethau, a chael cyswllt uniongyrchol â phobl ifanc yn eu hamgylchedd ysgol ac yn y gymuned ehangach. Mae hwnnw'n faes gwaith y mae angen inni barhau i'w wella'n uniongyrchol fel Senedd hefyd, a darparu cymaint ag sy'n bosibl o gyfleoedd gwych i bobl ifanc weld ein gwaith yn uniongyrchol yma yn y Senedd, ond mae angen inni hefyd allu cael cyswllt uniongyrchol â phobl ifanc yn eu cymunedau eu hunain drwy blatfformau digidol y dyddiau hyn. Felly, fel rydych chi wedi herio, John, mae mwy i'w wneud; mae gwaith da eisoes ar y gweill, ond mae mwy i'w wneud bob amser, ac mae mwy o bobl ifanc i gael trafodaethau uniongyrchol â nhw. Ac fel pwynt rydych wedi'i wneud yn y gorffennol yn y Siambr hon, mae angen inni sicrhau fel Comisiwn ac fel Aelodau etholedig nad ydym bob amser yn mynd at yr un bobl ifanc; ein bod yn mynd at bobl ifanc wahanol yn hytrach na'r un rhai bob tro, neu o ysgolion, hyd yn oed, sy'n wahanol i'r rhai sydd â'r berthynas honno gyda ni, a'n bod yn parhau â'n hymdrechion i gyrraedd pob cymuned a phob person ifanc yng Nghymru. Diwygio Etholiadol Huw Irranca-Davies AC: 4. Pa baratoadau sy'n cael eu gwneud gan y Comisiwn ar gyfer diwygio etholiadol y Senedd erbyn 2026? OQ59691 Tom Giffard AS: 7. A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei rôl o ran diwygio'r Senedd? OQ59696 Dirprwy Lywydd, dwi'n deall eich bod chi wedi cytuno i grwpio'r cwestiwn yma a chwestiwn Rhif 7 hefyd. Mae Comisiwn y Senedd yn paratoi mewn pedair ffordd tuag at y gwaith yma. Yn gyntaf, mae’n paratoi i gefnogi gwaith craffu ar ddeddfwriaeth diwygio’r Senedd. Mae’n hanfodol bod y Senedd yn cael y cymorth fydd ei angen arni i wneud gwaith craffu trylwyr ar ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru ar ddiwygio’r Senedd, pan ddaw. Yn ail, mae Comisiwn y Senedd, fel rhanddeiliad blaenllaw, yn paratoi i gynorthwyo’r Senedd a’i phwyllgorau wrth iddynt ystyried deddfwriaeth diwygio’r Senedd, er enghraifft, os bydd un o’r pwyllgorau’n gwahodd Comisiwn y Senedd i gyfrannu at ei waith sgrwtini ar unrhyw ddeddfwriaeth. Ar hyn o bryd, mae’r Comisiwn yn ymateb i geisiadau Llywodraeth Cymru am wybodaeth am amcangyfrif o’r costau i Gomisiwn y Senedd a allai ddeillio o ddeddfwriaeth diwygio’r Senedd. Ac yn drydydd, rhaid i’r Comisiwn baratoi ar gyfer y newid sy'n bosib hefyd. Heb achub y blaen ar benderfyniadau’r Senedd ynghylch diwygio’r Senedd, mae’r newid arfaethedig mor fawr fel y bu’n rhaid i Gomisiwn y Senedd fynd ati i baratoi ar gyfer y posibilrwydd mewn ffordd ddarbodus. Ac yn olaf, os bydd y Senedd yn deddfu ar ddiwygio’r Senedd, yna bydd angen i’r Comisiwn, mewn partneriaeth â sefydliadau eraill, helpu i gyfleu unrhyw newidiadau etholiadol i’r cyhoedd yn glir cyn etholiad y Senedd yn 2026. Huw Irranca-Davies AC: Diolch yn fawr iawn am yr ateb hwnnw, ac rwy'n falch iawn o weld bod paratoadau synhwyrol yn cael eu gwneud ar draws ystod o feysydd, oherwydd yn sicr, mae'n ymwneud â mwy na'r addasiadau ffisegol y bydd angen eu gwneud yn unig, o ran y gefnogaeth i Senedd fwy, o ran yr Aelodau a'r gefnogaeth sy'n aml yn anweledig i lawer o'r cyhoedd. Ond gallai hefyd fod yn agweddau sy'n ymwneud ag ailwampio mewnol pethau fel y Rheolau Sefydlog, y ffordd o wneud busnes, nifer y Comisiynwyr, ac ati, y ffordd rydym yn gweithredu yn Siambr y Senedd hon. Felly, rwy'n falch o weld hynny'n mynd rhagddo. A fydd y Comisiwn hefyd yn rhoi ystyriaeth i sut y gwnawn hyn, fel rydym wedi ymdrechu'n galed iawn dros y blynyddoedd i'w wneud, gan ddefnyddio dull sy'n canolbwyntio'n gryf ar werth am arian hefyd? Nid yw democratiaeth yn rhad ac am ddim; mae'n rhaid inni wario arian i sicrhau atebolrwydd da, tryloywder da a democratiaeth dda. Ond nid ydym eisiau gweld y gwariant gormodol a welsom mewn mannau eraill yn y DU, oherwydd, er ei bod yn hyfryd cael fy ngrwpio gyda Tom ar y cwestiwn hwn, efallai fod ganddo safbwynt gwahanol, a byddai'n dda gweld, er enghraifft, rhywfaint o'r arian sydd wedi cael ei wario ar ehangu'r ail siambr yn Senedd y DU yn cael ei gyfeirio atom ni, oherwydd gallem wneud llawer gyda'r arian hwnnw. Fel yr amlinellais yn fy ateb gwreiddiol, ac fel y gwnaethoch chi ehangu arno yn eich cyfraniad, Huw Irranca-Davies, ceir cymaint o agweddau ar y gwaith hwn. Mae rhywfaint o'r gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd wrth baratoi ar gyfer ac wrth ymateb i'r cais gan Lywodraeth Cymru i ddarparu costau'r ddeddfwriaeth a fydd yn cael eu cyflwyno yn y ffordd arferol. Wrth inni symud i gyfnod craffu ar y ddeddfwriaeth hon, pan gaiff ei chyflwyno, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd yr Aelodau ar draws y rhaniadau gwleidyddol yma yn craffu'n fanwl ar y costau hynny a'r cyllid y bwriadwn neu yr argymhellwn ei wario ar ddiwygio'r Senedd . Fel Cadeirydd y Comisiwn sydd hefyd yn Gardi, byddaf yn sicrhau hefyd fod y costau hynny'n darparu'r gwerth am arian i bobl Cymru y mae democratiaeth yn ei gwneud yn ofynnol inni ei wneud. Felly, mae hwn yn faes a fydd yn agored i bobl Cymru i wylio'r hyn a wnawn a'r hyn a benderfynwn, ac yn y cyd-destun hwnnw, rwy'n edrych ymlaen at gyflwyno deddfwriaeth i ddiwygio'r Senedd. Mae'n teimlo braidd fel pe baem yn ymlid cysgodion ar hyn o bryd, ond rydym yn aros am y diwrnod pan welwn rywfaint o'r manylion mewn perthynas â hyn i gyd. Fe ddaw'r diwrnod hwnnw, ac fe fydd gan y Senedd hon ei safbwynt. Tom Giffard AS: Lywydd, a gaf fi yn gyntaf fynd ar drywydd eich pwynt olaf ar gostau, i wybod pryd yn union y rhagwelwch y byddant ar gael, ac er tryloywder ac at ddibenion craffu, a fydd y costau hynny ar gael i holl Aelodau'r Senedd, a hefyd i gael dealltwriaeth o sut y gallai'r costau fod wedi'u cyfrif? Ond y cwestiwn roeddwn i eisiau ei ofyn—. Cyfeiriodd Huw at y mwynhad a gefais ef a minnau yn eistedd ar y fainc hon gyda'n gilydd; rwyf wedi mwynhau'r ychydig fisoedd diwethaf yn eistedd yma ar fainc Llafur, yn enwedig y sgyrsiau niferus a gefais gyda fy ffrind Carolyn Thomas hefyd. Un o'r rhesymau pam rwy'n eistedd yma, yn amlwg, yw adeiladwaith ffisegol y Siambr hon. Fe fyddech chi wedi cael eich ethol yn y Senedd gyntaf un, a chredaf fod y Senedd bryd hynny i fod yn Senedd fodern iawn—mae adeiladwaith ffisegol yr adeilad hwn yn awgrymu hynny. Ond yn amlwg, yr hyn sydd i gyfrif am y rheswm ffisegol pam fod 15 sedd draw acw, er enghraifft, yw nifer y cyfrifiaduron sydd yn y Siambr hon. Felly, a wnaiff y Comisiwn ystyried a yw hynny'n dal i fod yn ofyniad modern? Mae llawer ohonom yn defnyddio gliniaduron ac iPads ac yn y blaen yn y Siambr hon i wneud peth o'r gwaith na fyddai wedi cael ei ragweld efallai pan gafodd y Senedd ei hun ei hadeiladu. Gallwch fynd â hynny allan o'r Siambr hon hefyd—pethau fel ystafell gynhadledd y wasg. Yn ystod fy nwy flynedd, nid wyf yn credu ein bod wedi cael cynhadledd i'r wasg. Felly, a fydd y Comisiwn yn edrych i weld a yw'r hyn a fwriadwyd efallai fel rhywbeth modern iawn pan agorwyd yr adeilad yn dal i fod fodern iawn ac yn flaengar heddiw, neu a fydd yn amgueddfa, os mynnwch, i ganol y 2000au? Mae'r amgueddfa drws nesaf, yn Nhŷ Hywel. I ateb y cwestiwn byrfyfyr a ofynnwyd gennych ar y dechrau, wrth gwrs bydd costau'r ddeddfwriaeth yn destun craffu pan fydd y ddeddfwriaeth yn cael ei chyflwyno gan Lywodraeth Cymru, a byddant yn mynd drwy'r prosesau craffu arferol yma yn y Senedd hon, fel y byddant mewn ymgynghoriad cyhoeddus hefyd, fel rhan o'r craffu deddfwriaethol. Mae gennym ddatganiad deddfwriaethol yr wythnos nesaf gan y Prif Weinidog. Pwy a ŵyr, efallai y cawn ni syniad bryd hynny pa bryd y gallwn ddisgwyl i Lywodraeth Cymru gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon. Rwy'n cofio cyd-Aelod i mi, Steffan Lewis, yn sefyll ar y meinciau hyn i annog yn un o'i gyfraniadau cynharaf yn y lle hwn i'r cyfrifiaduron hyn gael eu tynnu allan, ac y dylem ganolbwyntio ar y ddadl a oedd yn mynd rhagddi yn hytrach na'r hyn a oedd ar y cyfrifiadur o'n blaenau, ac mae hynny'n dal yn fy meddwl hyd heddiw. Cofiwch chi, weithiau, fe anghofiais ei alw, am nad oedd wedi gallu cael y neges ataf yn y Gadair, oherwydd y problemau gyda hynny. Ond fel y dywedwch, mae sut y cynlluniwn y Siambr, os oes gennym 96 neu fwy o Aelodau—. Na, mae'n ddrwg gennyf, mae angen i mi ail-ddweud hynny; nid oeddwn yn golygu mwy na 96 o Aelodau, rwy'n golygu mwy na 60 Aelod ar gyfer Senedd 2026. Bydd sut rydym yn ei chynllunio yn fater y gallwn ei drafod, ac mae'n ddigon posibl y bydd y ffonau hyn yn ddigon i bob un ohonom erbyn hynny ac na fydd angen y sgriniau cyfrifiadurol sydd gennym o'n blaenau, a bydd hynny'n rhoi mwy o hyblygrwydd i ni o ran sut y gallwn ehangu'r Siambr i fodloni gofynion Senedd 2026. Ymweliadau â'r Senedd Carolyn Thomas AS: 5. Pa asesiad y mae'r Comisiwn wedi'i wneud o effaith costau cynyddol ar allu plant ysgol i ymweld â'r Senedd? OQ59706 Mae swyddogion y Senedd wrthi’n adolygu cynllun cymhorthdalteithio y Senedd, sydd ar gael i ysgolion a cholegau sy’n cymryd rhan mewn sesiynau addysg yn y Senedd. Bydd yr adolygiad yma yn ystyried y cynnydd mewn costau y mae ysgolion a cholegau’n ei wynebu yn erbyn gwerth presennol ein cynnig, a chyfleoedd i flaenoriaethu grwpiau o ardaloedd tlotach. Carolyn Thomas AS: Diolch am yr ymateb, Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy gofnodi fy niolch i'r Comisiwn, a'r tîm ymgysylltu yn benodol, am y gwaith gwych y maent yn ei wneud gydag ysgolion ledled Cymru, i gyrraedd plant a'u haddysgu am ddemocratiaeth a'r Senedd. Rwy'n credu eu bod yn gwneud gwaith gwych mewn ysgolion, ac yn dod â phlant yma hefyd. Mae'r dewis i'w wneud yn rhithwir neu yn y cnawd yn dda iawn. Rhan bwysig o hynny yw ymweliadau ysgolion â'r lle hwn, yn enwedig i blant o ogledd Cymru ddod yma ac i weld Caerdydd hefyd, a'r Senedd a'i lleoliad. Mae'r cymhorthdal teithio yn hanfodol er mwyn sicrhau y gallant gyrraedd yma. Rwy'n gwybod bod costau cludiant ysgol wedi cynyddu 40 y cant, felly rwy'n gobeithio, wrth symud ymlaen, y caiff hynny ei ystyried, ac rwy'n ddiolchgar am eich ymateb. Diolch yn fawr iawn. Fel y dywedais yn fy ymateb, Carolyn Thomas, mae'r costau sy'n gysylltiedig ag ysgolion yn gallu ymweld â Chaerdydd a'n Senedd wedi newid yn eithaf sylweddol—dros y 12 mis diwethaf, hyd yn oed. Mae angen inni ystyried sut rydym yn adlewyrchu hynny yn y cynnig a wnawn i ysgolion i'w galluogi i ddod i'r Senedd. Felly, rydym yn adolygu hynny ar hyn o bryd, a bydd yn ystyried y pwyntiau rydych chi ac Aelodau eraill wedi'u gwneud yn y Siambr dros y sesiynau diwethaf, wrth inni feddwl sut i hyrwyddo'r Senedd i blant ysgol a cholegau ledled Cymru a sicrhau nad oes neb, yn unman, yn cael eu hatal rhag ymweld â'r lle hwn gan y gost o wneud hynny. Contractwyr Allanol Jack Sargeant AC: 6. A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am gynlluniau i ddod â gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd gan gontractwyr allanol yn fewnol? OQ59682 Ken Skates AC: Ar hyn o bryd mae'r Comisiwn yn allanoli pedwar gwasanaeth arbenigol nad ydynt yn rhai craidd, sef rheoli cyfleusterau, arlwyo, glanhau a darlledu. Mae'r Comisiwn yn ystyried yn benodol yr opsiwn o ddod â'r gwasanaethau hyn yn fewnol pan gaiff contractau eu hadnewyddu. Nododd ein hasesiad diweddaraf o ddod â gwasanaethau'n fewnol y byddai'n arwain, wrth gwrs, at gynnydd sylweddol mewn costau ac adnoddau. Fodd bynnag, rydym yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i archwilio ac asesu opsiynau mewnol yn gadarnhaol wrth i gontractau presennol ddod i ben. Jack Sargeant AC: Diolch i'r Comisiynydd am ei ateb, ac rwy'n ddiolchgar am y sylwadau a wnaeth. Fel rwy'n siŵr ei fod yn gwybod, ac fel mae'r Aelodau'n gwybod, mynegwyd pryderon am delerau ac amodau staff sy'n gweithio mewn gwasanaethau ar gontract allanol o fewn y Senedd. Mae hyn, ynghyd â phryderon ynghylch achosion unigol, wedi arwain at foicotio'r ffreutur gan staff cymorth, sydd, dylwn gofnodi, Ddirprwy Lywydd, yn gyd-aelodau o Unite the Union. Rwy'n credu bod gan y Llywodraeth hefyd gysylltiad â'r cwmni dan sylw. Ddirprwy Lywydd, mae'n amlwg i mi na ddylai pobl sy'n gweithio ochr yn ochr â'i gilydd yn yr un adeilad yn y Senedd wynebu gwahaniaethau enfawr o ran y ffordd y cânt eu trin. I'w roi'n syml, mae'n anghywir fod rhai aelodau o staff yn cael eu hamddifadu o daliadau costau byw. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Comisiynydd wneud sylw pellach ar sut y gellid cyflawni cydraddoldeb o ran amodau, a darparu amserlen efallai ar gyfer pryd y gallem weld hynny'n digwydd. Ken Skates AC: A gaf fi ddweud yn gyntaf oll fy mod yn credu y dylid trin pob aelod o staff, boed yn staff Comisiwn, staff cymorth Aelodau neu'n staff dan gontract, i gyd yn gyfartal ac yn deg, yn unol â'r agenda parch ac urddas yn y gwaith, a chyda gwaith teg? O ran y broses y byddwn yn ei dilyn, a'r amserlen, y peth cyntaf y dylwn ei ddweud yw bod y trefniadau sydd ar waith ar hyn o bryd ar gyfer contractau yr un fath â'r hyn a gychwynnwyd yn ôl yn 1999. Ac felly, wrth ddod â gwasanaethau'n fewnol, rydym yn ystyried rhywbeth nad yw wedi'i wneud o'r blaen, a dyna pam mae archwiliad trylwyr o'r costau a'r amserlenni yn cael ei gychwyn. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud, ac eithrio'r contract darlledu, y byddai angen adnoddau ariannol a dynol eithaf sylweddol ar bob gwasanaeth arall. Rydym wedi ei gyfrifo, yn ein hasesiad diweddaraf, fel ychydig o dan £1 filiwn o ofyniad ariannol ychwanegol bob blwyddyn ariannol ar gyfer dod â 47 o staff cyfwerth ag amser llawn i mewn a chost creu staff o fewn y Comisiwn i allu rheoli'r gwasanaethau a fyddai'n dod yn fewnol. Dyna'r llinell uchaf ar gyfer yr uchafswm a amcangyfrifir gennym. Wrth gwrs, mae yna opsiynau eraill; ni fyddai angen o reidrwydd inni ystyried dod â'r holl wasanaethau i mewn ar yr un pryd. Y contract cyntaf sydd ar fin cael ei adnewyddu yw'r contract arlwyo, sydd i fod i gael ei adnewyddu ym mis Medi 2024. Mae hynny oherwydd ein bod wedi cytuno ar gontract byrrach yn ôl yn 2022 gydag opsiynau i'w ymestyn am ddwy flynedd sengl. Felly, dyna'r cytundeb cyntaf. Dechreuodd y contract glanhau ym mis Chwefror 2020, ac mae i ddod i ben ym mis Chwefror 2025. Felly, mae'r holl opsiynau'n cael eu harchwilio, gan gynnwys yr opsiwn symlach a mwy uniongyrchol o ddod â staff yn fewnol a chynnal contractau penodol yn allanol. Felly, mae'r holl opsiynau'n cael eu harchwilio. Er ein bod yn gwneud hyn, mae hefyd yn bwysig dweud na fyddai'r broses yn syml o ran amserlen. Rydym yn amcangyfrif y gallai gymryd rhwng 12 a 18 mis i gynllunio ar gyfer newid mor sylweddol. Fodd bynnag, yn y cyfamser, credaf ei bod yn bwysig pwysleisio, o ganlyniad i ddeialog sy'n digwydd rhwng Comisiwn y Senedd a chwmnïau contractwyr, fod llawer o staff yn cael cynnig telerau ac amodau gwell uwchlaw'r cyfartaledd y mae'r cwmnïau hynny'n eu cynnig i'w gweithwyr. Fodd bynnag, byddwn yn annog unrhyw weithwyr mewn gwasanaethau dan gontract, os oes ganddynt bryderon, y dylent godi'r pryderon hynny gyda'u rheolwyr llinell yn gyntaf oll, oherwydd, fel y dywedaf, mae'n gwbl hanfodol fod pawb sy'n gweithio ar ein hystad yn cael eu trin yn gyfartal ac yn deg. Cafodd cwestiwn 7 ei grwpio gyda chwestiwn 4, felly cwestiwn 8, James Evans. Hyfforddiant CPR a Diffibriliwr James Evans MS: 8. Sut mae'r Comisiwn yn hyrwyddo hyfforddiant CPR a diffibriliwr i Aelodau o'r Senedd a staff Comisiwn y Senedd? OQ59678 Mae’r Comisiwn yn darparu ystod o gefnogaeth cymorth cyntaf, sy’n cynnwys diffibrilwyr symudol. Mae’r Comisiwn hefyd yn darparu ystod o hyfforddiant cymorth cyntaf sy’n cynnwys rhoi CPR a defnyddio diffibrilwyr. Er mwyn codi ymwybyddiaeth o weithdrefnau ar y safle, bydd y Comisiwn yn darparu sesiynau galw heibio ym Mae Caerdydd dros doriad yr haf a thymor yr hydref ac yn darparu sesiynau hyfforddi byr a fydd yn ymdrin â CPR. Bydd y sesiynau ar agor i Aelodau o’r Senedd, staff cymorth, staff y Comisiwn, a chontractwyr ar y safle. James Evans MS: Diolch. Hoffwn ddiolch i'r Llywydd am yr ymateb hwnnw. Wrth imi fynd am fy archwiliad pwysedd gwaed gyda fy nghyd-Aelod Jack Sargeant, dychrynais wrth weld yr hyn a ddywedai fy mhwysedd gwaed, a bod angen imi wneud ychydig bach llai. Ond mewn gwirionedd fe wnaeth imi ofyn cwestiynau gonest i mi fy hun, pe bai Aelod yn mynd i fod yma, neu aelod o staff y Comisiwn, yn hwyr y nos, eu bod yn cael gwybod yn union ble mae diffibrilwyr ar yr ystad a sut i'w defnyddio, oherwydd os oes angen help neu sylw meddygol ar Aelod neu aelod o staff yma, nid ydym am fod mewn sefyllfa lle nad oes unrhyw Aelod nac unrhyw berson arall yma yn gallu cael mynediad at y cyfarpar hwnnw. Rwy'n ddiolchgar iawn am eich ymateb, Lywydd. Ac os caf sicrhau hefyd fod yr Aelodau'n ymwybodol, a bod aelodau staff yn ymwybodol, mewn unrhyw achos, y dylid ffonio 6333 mewn argyfwng cymorth cyntaf ac y byddent yn sicr o gael sylw swyddogion cymorth cyntaf ar y safle sydd wedi cael hyfforddiant, cymorth sy'n cael ei ddarparu gan ein swyddogion diogelwch 24 awr ar hyn o bryd. Maent wedi cael hyfforddiant i ddarparu'r gwasanaeth hwnnw. Fel rydych chi wedi nodi, wrth gwrs, efallai y bydd angen i Aelodau ac aelodau staff fod yma ar bob adeg o'r dydd neu'r nos, ac mae ein tîm diogelwch hefyd yma 24 awr ac wedi'u hyfforddi er mwyn darparu'r gwasanaeth i ni. Gobeithio na fydd neb ei angen. Ac yn olaf, cwestiwn 9, Jenny Rathbone. Gwastraff Bwyd ar Ystâd y Senedd Jenny Rathbone AC: 9. Pa gynnydd y mae'r Comisiwn wedi'i wneud o ran lleihau faint o wastraff bwyd a gynhyrchir ar ystâd y Senedd eleni o'i gymharu â'r cyfnod cymharol y llynedd? OQ59711 Janet Finch-Saunders AC: Diolch. Diolch i'r Aelod am ofyn y cwestiwn i mi. Yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, mae'r tunelli o wastraff bwyd a gasglwyd o ystad y Senedd wedi cynyddu, ond mae'n dal i fod yn llai na hanner y ffigurau cyn y pandemig. Mae'r rhesymau dros y cynnydd diweddar yn amrywio, ond yn bennaf oherwydd defnydd cynyddol o'r ystad, gyda mwy o staff yn dod i'r swyddfa a nifer y digwyddiadau a gynhelir yma'n dyblu o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r contractwr arlwyo i sicrhau cyn lleied â phosibl o wastraff bwyd. Yn wir, mae cegin y contractwr yn cynhyrchu llai na thraean o wastraff cwmni masnachol. Mae gwastraff bwyd ar yr ystad yn cael ei gynhyrchu hefyd gan giniawau staff ac ymwelwyr ac nid yw'n rhywbeth y mae gennym reolaeth drosto. Mae'r contractwr arlwyo'n gweithio gyda threfnwyr digwyddiadau i leihau gwastraff bwyd. Mae'r rhan fwyaf o brydau bwffe yn cael eu trefnu gan bartïon allanol ac yn gyfreithiol nid oes modd i fwyd sy'n weddill ar ddiwedd y rhain gael ei roi i sefydliadau eraill. Jenny Rathbone AC: Diolch am hynny. Gan fod y Comisiynydd hefyd yn aelod o'r pwyllgor newid hinsawdd gyda mi, fe fyddwch yn ymwybodol fod adroddiad cynnydd diweddaraf y Pwyllgor Newid Hinsawdd ar Gymru i gyflawni ein targedau yn 'Tu hwnt i Ailgylchu' yn ein hatgoffa o'n targed i sicrhau gostyngiad o draean i'r holl wastraff bwyd ledled Cymru erbyn 2030. Ac felly, hoffwn herio'r Comisiynydd i ddatgelu sut rydych chi'n meddwl y gallwn ni ddweud wrth weddill Cymru beth i'w wneud os nad ydym yn ei wneud ein hunain, a beth y credwch chi fod angen ei roi ar waith i leihau ein gwastraff bwyd. Janet Finch-Saunders AC: Diolch. Hoffwn ddweud fy mod yn falch o fod yn aelod o'r pwyllgor newid hinsawdd. Ond cefais fy magu hefyd i beidio â gwastraffu, a phan feddyliwn am blant sy'n byw mewn tlodi, ni fyddwn yn gyffyrddus wrth feddwl y byddem yn gwastraffu unrhyw fwyd ychwanegol yma, Jenny, felly rwy'n ddiolchgar iawn i chi am ofyn y cwestiwn. Fel y dywedaf, mae yna rai pethau cadarnhaol. Mae ymwybyddiaeth aelodau staff o gyfleusterau gwaredu o amgylch yr ystad yn gwella. Mae cownteri yn y bwyty yn cynnwys llai o fwyd tuag at ddiwedd amser cinio yn hytrach nag ailgyflenwi'r cownter cyfan ar gyfer llai o giniawyr. Mae'n rhaid imi fod yn onest; i unrhyw un yn y byd busnes sy'n cynhyrchu bwyd nawr, ar gyfer y lle hwn neu unrhyw le, gyda chost bwyd a phrisiau bwyd yn codi, mae'n bwysicach nag erioed fod hyn yn cael ei wneud. Caiff llysiau ffres eu hailddefnyddio i wneud cawl. Mae cynllunio bwydlenni yn sicrhau y gellir defnyddio unrhyw gynhwysion heb eu coginio i wneud prydau eraill. O ran y lletygarwch, caiff bwydlenni bwffe a gynigir eu cyfrifo fesul y pen er mwyn osgoi gwastraff, a bydd bwyd nad yw'n cael ei ddefnyddio, fel bisgedi, yn aml yn cael ei ailddefnyddio lle mae rheolau iechyd a diogelwch yn caniatáu. Darperir cadi bwyd mewn ceginau ar draws Tŷ Hywel ar gyfer casglu pilion ffrwythau a llysiau, bagiau te a bwydydd eraill i atal unrhyw wastraff bwyd rhag mynd i safle tirlenwi. Er fy mod yn y swydd hon fel y Comisiynydd, yn y maes hwn, gallaf eich sicrhau fy mod lawn mor awyddus â chi mae'n debyg i sicrhau nad ydym yn gweld unrhyw fwyd yn mynd yn wastraff y tu hwnt i'r hyn sy'n rhesymol yn ymarferol. Bydd yna adegau, oherwydd ambell—. Weithiau, rwy'n gweld derbyniadau lle mae llawer o fwyd ar ôl, ac ar adegau eraill, ychydig iawn o fwyd sydd ar ôl, felly mae'n ymwneud â'r contractwyr yn gweithio gyda ni hefyd. Diolch. Diolch i'r Llywydd a diolch i Ken a Janet. 5. Cwestiynau Amserol Eitem 5 y prynhawn yma yw'r cwestiynau amserol, a bydd y cwestiwn cyntaf gan Andrew R.T. Davies. Andrew RT Davies AC: 1. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o 61 o fanwerthwyr diodydd sy'n gweithredu yng Nghymru yn ysgrifennu llythyr agored at Lywodraeth Cymru yn galw am eithrio gwydr o'i gynllun dychwelyd ernes yn unol â gweddill y DU? TQ800 Lee Waters AC: Diolch. Rydym yn croesawu ymgysylltiad y manwerthwyr diodydd wrth ddatblygu'r cynllun dychwelyd ernes, a byddwn yn gweithio gyda nhw i gyflwyno cynllun llwyddiannus ac effeithiol. Andrew RT Davies AC: Diolch am yr ymateb hwnnw, Ddirprwy Weinidog. A ydych yn cydnabod y pryderon gwirioneddol y mae'r busnesau hyn, 61 ohonynt, wedi'u lleisio i Lywodraeth Cymru ynghylch y cymhlethdod, yr anfantais fasnachol, a'r hyn y maent yn ei ddweud ac y mae eraill wedi cyflwyno sylwadau yn ei gylch yw na cheir yr effaith angenrheidiol ar dargedau ailgylchu ac mewn gwirionedd, y cymhlethdod ailgylchu y gallai'r cynllun dychwelyd ernes ei wynebu drwy gynnwys gwydr? Ar hyn o bryd, mae gennym gyfraddau ailgylchu da, rhywbeth rwy'n cymeradwyo Llywodraeth Cymru yn ei gylch, ac mae gennym ailgylchu da wrth ymyl y ffordd hefyd, ond mae angen rhoi ystyriaeth ddifrifol i'r pryderon a godwyd gan fusnesau ar y rheng flaen sy'n cyflogi ac yn creu cyfoeth mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru, ac yn fwyaf arbennig, yn seiliedig ar y sylwadau a wnaeth y Prif Weinidog ddoe ynghylch adennill costau, os bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fwrw ymlaen ar hyd y llwybr o gynnwys gwydr yn y cynllun dychwelyd ernes, a wnaiff Llywodraeth Cymru sicrhau bod arian ar gael fel y gellir eu digolledu am y mesurau ychwanegol y mae'n rhaid iddynt eu rhoi ar waith a'r peiriannau a'r hyfforddiant ychwanegol y bydd yn rhaid iddynt eu cael, oherwydd nododd y Prif Weinidog y dylai hynny fod yn flaenoriaeth i unrhyw Lywodraeth sy'n cyflwyno diwygiadau rheoliadol mewn unrhyw faes y mae'n gyfrifol amdano? Lee Waters AC: Wel, 'Bydd Cynllun Dychwelyd Ernes yr Alban yn helpu i fynd i’r afael â phla sbwriel poteli gwydr mewn cymunedau, gan y bydd cynnwys gwydr yn arwain at ailgylchu 53,000 tunnell ychwanegol o gynwysyddion. Byddai’n wych gweld cymaint o hwb i ailgylchu yma yng Nghymru hefyd'. Dyna ddyfyniad gan Janet Finch-Saunders, sydd wedi dadlau'n gyson o blaid cynnwys gwydr yn y cynllun dychwelyd ernes. Ac er tegwch i Janet Finch-Saunders, roedd hynny ym maniffesto'r Ceidwadwyr yn etholiad 2019, a dyma oedd y sail y gwnaethom ymgynghori â'r cyhoedd, ar y cyd â Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Gogledd Iwerddon arni o'r dechrau, a dyna pam ei fod yn sail i'n cynigion ni. Nawr, rwyf wedi gweld Andrew R.T. Davies yn dweud ar y cyfryngau cymdeithasol fod Llywodraeth Cymru yn ceisio bod yn wahanol er mwyn bod yn wahanol drwy fwrw ymlaen ag ailgylchu gwydr pan fo Lloegr wedi penderfynu yn hwyr yn y dydd i beidio â gwneud hynny, a'r gwrthwyneb sy'n wir. Yr eithriad yn hyn o beth yw Llywodraeth Lloegr, sydd wedi penderfynu, yn wyneb pwysau gan y diwydiant—. Ac rwy'n cydnabod y dyfyniadau y mae'n eu gwneud, oherwydd daw'r dyfyniadau hynny'n uniongyrchol gan grwpiau lobïo'r busnesau mawr; mae'n adleisio safbwyntiau nad ydynt yn gyson â maniffesto'r Ceidwadwyr, nad ydynt yn gyson â Janet Finch-Saunders a chefnogaeth arall gan y Ceidwadwyr ac nid yw'n gyson â'r ymgynghoriad a wnaethom ar y cyd gyda phob ewyllys da gyda Llywodraeth y DU. Roedd 86 y cant o bobl pan wnaethom ymgynghori, ac fe wnaethom ymgynghori ddwywaith, yn cefnogi cynnwys gwydr. Mae'n gwneud y cynllun yn fwy effeithlon; mae'n ei wneud yn symlach; mae'n dod ag arbedion sylweddol; bydd yn lleihau sbwriel a bydd yn lleihau allyriadau carbon. Bydd hefyd yn creu buddion o fwy na £126 miliwn os yw'r cyfan yn cael ei wneud gyda'i gilydd. Drwy hepgor gwydr, mae'n ei gwneud yn anfantais i gynhyrchwyr plastig ac alwminiwm—nid wyf yn siŵr a yw wedi cael unrhyw sylwadau gan eu grwpiau lobïo nhw. Ond mae'n penderfynu neilltuo un sector yn erbyn y lleill am ryw reswm. A hefyd, o ran yr effaith ar sbwriel, oherwydd mae'r dystiolaeth yn dangos y byddwn yn gweld gostyngiad o rhwng 60 ac 80 y cant mewn sbwriel diodydd drwy gynnwys gwydr yn y cynllun ernes. Felly, nid wyf yn credu bod ei safbwynt yn gyson â maniffestos y Ceidwadwyr; nid yw'n gyson â phenderfyniadau'r Senedd hon; nid yw'n gyson â'r ymgynghoriad cyhoeddus, ac nid yw'n gyson â'i gefnogaeth honedig i leihau allyriadau. Oherwydd fel y dywedasom wrth y Senedd Ieuenctid yn gynharach, er mwyn lleihau allyriadau—ac roedd yn awyddus i wrando ar yr hyn a oedd ganddynt i'w ddweud—. Maent yn dweud wrthym yn glir iawn: mae'n rhaid inni gyrraedd sero net erbyn 2050. Nid oes unrhyw ddiben cymeradwyo hynny mewn egwyddor, os yw'n gwrthwynebu bob tro y byddwn yn cyflwyno cam ymarferol i wneud hynny. Delyth Jewell AC: Mae'r pwyntiau roeddech chi'n eu gwneud, Dirprwy Weinidog, yn bwerus. Yn lle edrych dim ond ar beth sy'n digwydd gyda'r Llywodraeth yn Lloegr, roeddwn i eisiau gofyn ichi beth dŷch chi wedi'i ddysgu o'r profiadau mewn rhanbarthau neu wledydd eraill sydd wedi llwyddo i fewnblannu cynllun dychwelyd ernes sydd yn cynnwys gwydr—pa wersi; pa fewnwelediad sydd yn cael ei gynnig? Achos os ydym ni'n gallu astudio achosion llwyddiannus, byddwch chi fel Llywodraeth, a byddwn ni fel gwlad, yn gallu elwa o'r wybodaeth werthfawr yna sydd yn cael ei ddefnyddio i weld sut byddai hyn yn gallu gweithio, fel dŷch chi wedi'i ddweud, fel ein bod ni'n gallu mynd i'r afael â'r creisis sydd yn ein hwynebu ni i gyd. A dwi'n meddwl bod y cyhoedd eisiau inni wneud rhywbeth sydd yn weledol ac sydd yn mynd i fod yn effeithlon ac yn effeithiol. Felly, buaswn i wir yn hoffi gwybod beth ydych chi wedi'i ddysgu wrth wledydd eraill sydd wedi gwneud hyn neu sydd yn gobeithio gwneud hyn gyda chynlluniau. Lee Waters AC: Diolch, ac mae'r Aelod yn gwneud pwynt cryf. Mae cynnwys gwydr yn arferol mewn cynlluniau ledled y byd, ac mae hynny'n dangos ei bod yn ffordd lawer mwy effeithiol o'i wneud. Trwy fabwysiadu ymagwedd gynhwysfawr, mae'n llawer cliriach i'r defnyddiwr, mae'n haws i'r diwydiant wybod lle mae'n sefyll ac mae'n lleihau allyriadau'n well. Nid ydym am gyrraedd sefyllfa lle rydym yn ailgylchu pethau drwy'r amser yn hytrach na'u hailddefnyddio, oherwydd bob tro y byddwn yn ei wasgu, a'i ailgynhesu, mae cryn dipyn o garbon ymgorfforedig yn y broses honno. Felly, mae gallu ailddefnyddio pethau drwy eu golchi yn ffordd lawer mwy cynaliadwy o weithredu. Ac ar y dystiolaeth ryngwladol, mae effeithiau eraill y peth hefyd yn ddiddorol. Felly, roedd papur gan Cadwch Gymru'n Daclus ar sbwriel cynwysyddion diodydd yn cyfeirio at astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd yn ymchwilio i gymharu ymosodiadau poteli a gwydr rhwng Helsinki a Chaerdydd, ac mae gan Helsinki boblogaeth ddwywaith maint Caerdydd. Ac yn 2003, nododd yr astudiaeth honno fod 133 o ymosodiadau cysylltiedig â photeli yng Nghaerdydd, a dim ond un yn Helsinki, sydd â gwydr yn eu cynllun dychwelyd ernes. Felly, ceir nifer o fanteision o gynnwys gwydr yn y cynllun, sy'n mynd ymhell y tu hwnt i'r bwriad gwreiddiol. Rwy'n ofni bod hyn wedi'i golli yn y ddadl. Ac fel y dywedais, mae'r ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi trin Llywodraeth yr Alban yn hyn o beth, a cheisio difetha cynllun, yn siomedig iawn. Maent wedi gwario swm sylweddol o arian, ac mae'n rhy hwyr bellach i dynnu'n ôl ohono, gan dybio ein bod i gyd yn gweithio gyda'n gilydd ar nod cyffredin, fel y cytunwyd yn barhaus. Ac mae'r ffaith eu bod yn tynnu'r plwg ar y funud olaf yn amharchus iawn, ac yn tanseilio'r setliad datganoli. A dyma'r math o beth sy'n tanio cwynion lleol am yr undeb. Felly, mae angen iddynt feddwl yn ofalus iawn ynglŷn â pharhau i ymddwyn fel hyn. Diolch i'r Dirprwy Weinidog. Nawr, yr ail gwestiwn amserol gan Jenny Rathbone. Windrush Jenny Rathbone AC: 2. Yn sgil datgeliadau diweddar, pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch faint o aelodau o genhedlaeth Windrush o Gymru ag afiechyd cronig a meddyliol a gafodd eu halltudio? TQ801 Jane Hutt AC: Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn, Jenny Rathbone. Rydym yn chwilio am ffigurau penodol i Gymru ar yr anghyfiawnder hanesyddol hwn a ddatgelwyd gan y BBC, ac rydym yn parhau i alw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod cenhedlaeth Windrush yn cael y parch, y cyfiawnder a'r iawndal y maent yn ei haeddu, ac i weithredu argymhellion 'Adolygiad Gwersi a Ddysgwyd Windrush' yn llawn. Jenny Rathbone AC: Mae'r BBC wedi datgelu bod o leiaf 411 o bobl â salwch meddwl wedi cael eu hallgludo rhwng y 1950au a dechrau'r 1970au, ond am fod y cofnodion sydd gan Lywodraeth y DU yn llai na chynhwysfawr, gallai gynnwys llawer mwy o ddinasyddion Prydeinig o genhedlaeth Windrush. Felly, mae arbenigwyr yn tynnu sylw at ffaith y gallai dychwelyd dinasyddion Prydain i wlad lle cawsant eu geni fod wedi bod yn anghyfreithlon gan ei bod yn annhebygol iawn y byddai llawer o'r unigolion hyn wedi bod yn ddigon iach i fod â'r gallu meddyliol i gydsynio i gael eu hanfon i wlad lle nad oedd gwasanaethau iechyd meddwl yn bodoli i raddau helaeth. Gan ei fod yn golygu gwahanu pobl sâl oddi wrth eu hanwyliaid, gan gynnwys plant dibynnol y cafodd rhai ohonynt eu derbyn i ofal o ganlyniad i absenoldeb eu rhiant, mae'r syniad y byddai pob un o'r unigolion hyn wedi mynegi dymuniad i ddychwelyd yn anodd iawn ei gredu. Ar y pryd, cwynodd uchel gomisiynydd Jamaica wrth Lywodraeth Prydain fod ysbytai'r DU yn gofyn am ddychwelyd pobl i'w mamwlad yn bennaf ar sail pwysau ar welyau neu wasanaethau ysbyty eraill. Dyma'r datgeliad cywilyddus diweddaraf ynglŷn â sut y cafodd cenhedlaeth Windrush ei thrin, a'r methiant parhaus i'w digolledu am y ffordd y cafodd eu hawliau dynol eu hanwybyddu a'u cam-drin yn llwyr. Pa rôl y gall Llywodraeth Cymru ei chwarae neu a chwaraewyd ganddi i helpu Llywodraeth y DU i nodi teuluoedd yng Nghymru sy'n dioddef yr anghyfiawnder hwn, i'w hysbysu o'r hyn a ddigwyddodd i'w hanwyliaid a allgludwyd? Oni bai ein bod yn dysgu gwersi o hanes, rydym wedi ein tynghedu i'w ailadrodd. Felly, a ydych chi wedi cael unrhyw drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ar sefydlu ymchwiliad cyhoeddus ffurfiol i ddysgu gwersi o'r bennod gywilyddus hon o'n hanes ôl-drefedigaethol? Jane Hutt AC: Diolch, Jenny Rathbone, ac fel y dywedais mewn ymateb i'ch cwestiwn pwysig iawn heddiw, ar drothwy'r dydd pan fyddwn yn nodi Windrush 75 yma yn y Senedd—mae'n ddigwyddiad sy'n cael ei noddi gan y Comisiynydd Joyce Watson, a bydd y Llywydd, y Prif Weinidog a llawer ohonom yn bresennol—mae'r datguddiadau hyn gan y BBC yn hynod ofidus, ac felly, byddwn yn galw ar Lywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r anghyfiawnderau hyn ac i unioni'r camweddau sy'n wynebu pobl cenhedlaeth Windrush. Byddwn yn gwneud yr hyn a allwn o safbwynt Llywodraeth Cymru. Yn amlwg, bydd y data wedi'i gadw gan Lywodraeth y DU. Ond fel y dywedais, daw hyn ochr yn ochr â'n galwad beth bynnag ar Lywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r anghyfiawnderau ac i gyflawni nodau'r adroddiad gwersi a ddysgwyd gan Wendy Williams. Rwy'n pryderu'n fawr, mewn gwirionedd, fod yr Ysgrifennydd Cartref wedi dweud na fydd yn gweithredu'r holl argymhellion o adroddiad gwersi a ddysgwyd Windrush. Ac yn bwysig iawn, roedd un o'r argymhellion hynny'n ymwneud â digwyddiadau cymodi. Mae cymaint rydym bob amser yn ei ddysgu pan fyddwn yn cyfarfod â'n hynafgwyr Windrush, ac rydym yn cyfarfod â hynafgwyr Windrush blaenllaw yfory yma yn y Senedd, ac rwy'n siŵr y bydd hynny'n rhoi cyfle i ddysgu gwersi eraill. Ond a gaf fi ddweud y byddwn ni, yfory, yn talu teyrnged i'r cyfraniadau a wnaed i Gymru gan genhedlaeth Windrush a'u disgynyddion a'r holl gymunedau mudol eraill a ddaeth yma o'u blaenau ac ar eu holau? Daeth y Llywydd i’r Gadair. Andrew RT Davies AC: Rwy'n ddiolchgar i Jenny Rathbone am godi'r cwestiwn pwysig hwn, ond nid wyf yn credu, Weinidog, eich bod wedi cyffwrdd â chraidd yr hyn y pwysodd Jenny arnoch yn ei gylch, sef pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i geisio datgelu'r anghyfiawnder i deuluoedd Cymru yn y llanast hwn a'r anghyfiawnder difrifol hwn rhwng 1958 a 1970, fel bod modd efallai o safbwynt—. Ac nid bai Llywodraeth Cymru yw hyn, mae'n fater hanesyddol, ond mae gennych goridorau a llwybrau y gallwch fynd ar hyd-ddynt i geisio tynnu'r wybodaeth honno allan fel y gallwn fod mewn sefyllfa i gynorthwyo'r teuluoedd sy'n dal i ddioddef yn sgil yr anghyfiawnder hwn, sy'n dal i fod ag anwyliaid wedi'u dal yn y sgandal hon. Gwyddom o waith ymchwiliol y BBC y gallai tua 400 o deuluoedd fod wedi'u heffeithio gan y broses o ddychwelyd y bobl hyn i'w mamwlad. Felly, a wnewch chi roi ymrwymiad mewn ymateb i'r cwestiwn y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i nodi'r rhai yr effeithir arnynt yma yng Nghymru, ac a wnewch chi ymrwymo i adrodd yn ôl i Senedd Cymru pan nodir yr enwau hynny fel y gallwn ddeall yn union pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig i'r teuluoedd y mae'r anghyfiawnder hwn wedi effeithio arnynt, sy'n anghyfiawnder hanesyddol rhwng 1958 a 1970? Jane Hutt AC: Wel, rwy'n ddiolchgar eich bod yn cydnabod bod hwn yn anghyfiawnder hanesyddol, Andrew R.T. Davies. Mae'n anghyfiawnder hanesyddol, ac wrth inni edrych ar yr hyn sydd wedi'i ddatgelu yn yr adroddiad hwn, wrth i'r BBC ddod o hyd i ddogfennau yn yr Archifau Gwladol sy'n datgelu graddfa'r polisi—. Ac roedd yn bolisi—roedd yn bolisi Llywodraeth y DU ar y pryd, cyn datganoli. Ond wrth gwrs, fel y dywedais, byddwn nid yn unig yn galw ar Lywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r anghyfiawnderau hyn, byddwn hefyd yn gwneud ein gorau glas i gefnogi'r dinasyddion yr effeithiwyd arnynt. Fel arweinydd yr wrthblaid, rwy'n gobeithio y gwnewch chi ymuno â ni, ac Aelodau eraill ar draws y Siambr, rwy’n siŵr, i alw ar Lywodraeth y DU i roi argymhellion yr adolygiad o'r gwersi a ddysgwyd yn sgil Windrush ar waith yn llawn. Mae'n bwysig iawn ein bod yn cael yr alwad honno ar draws y Siambr heddiw yn fy marn i. Roedd yn flin iawn gennyf glywed y gallai’r Swyddfa Gartref fod yn dirwyn eu huned Windrush i ben, er enghraifft; roedd hynny yn y penawdau yr wythnos hon. Felly, a gawn ni sefyll gyda'n gilydd ar hyn? Byddwn yn chwarae ein rhan, ond mae’n rhaid i Lywodraeth y DU gymryd yr awenau ac unioni'r camweddau hyn. Sioned Williams MS: Bydd Plaid Cymru, yn sicr, yn cefnogi’r galwadau hynny ac yn ymuno â chi yn y galwadau hynny i fynd i’r afael â’r anghyfiawnderau hanesyddol hyn. Hoffwn ddiolch i Jenny Rathbone am gyflwyno’r cwestiwn pwysig hwn. Yfory, byddaf yn ymuno â Chymdeithas Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig Castell-nedd Port Talbot a llyfrgelloedd Castell-nedd Port Talbot ar ddiwrnod arbennig i anrhydeddu a dathlu gwaddol cenhedlaeth Windrush a’r cyfraniadau arwyddocaol y maent hwy a’u disgynyddion wedi’u gwneud i fy rhanbarth. Roeddwn yn falch o glywed hefyd fod celli wedi’i phlannu yng Nghastell-nedd i goffáu 75 mlynedd, a hoffwn ddiolch i Coed Cadw am helpu i hwyluso’r gwaith o greu celli Windrush gyda hynafgwyr Windrush ym Mrynau, y prosiect creu coetir mwyaf erioed i'w gynnal gan elusen yng Nghymru. Felly, oes, mae'n rhaid inni ddysgu o’r gorffennol, Weinidog, ac mae'n rhaid inni fynd i’r afael â’r anghyfiawnderau hanesyddol hyn, ac o ystyried y ddadl a gawsom ddoe a’r iaith anghyfrifol a ddefnyddiwyd gan rai gwleidyddion Ceidwadol wrth drafod mewnfudo, pa ddulliau gweithredu sydd ar gael i ni yng Nghymru i wrthsefyll yr agweddau trefedigaethol a senoffobig a arweiniodd at y modd creulon y cafodd pobl cenhedlaeth Windrush eu trin, yn cynnwys allgludo rhai ohonynt yn erbyn eu hewyllys, a beth arall y gallwn ei wneud yng Nghymru, Weinidog, i hyrwyddo cyfraniad pwysig hynafgwyr Windrush nawr ac yn y dyfodol? Jane Hutt AC: Wel, diolch yn fawr—diolch yn fawr iawn, Sioned Williams, am eich cefnogaeth i genhedlaeth Windrush a hefyd am eich cefnogaeth i rai o'r digwyddiadau niferus sy'n cael eu cynnal yng Nghymru, ledled Cymru gyfan. Gobeithio y bydd Aelodau ar draws y Siambr yn eu mynychu. Rydym wedi sicrhau bod cyllid ar gael—a gwneuthum y pwynt hwn yn fy natganiad yr wythnos diwethaf am Wythnos y Ffoaduriaid—rydym wedi sicrhau bod cyllid ar gael. Mae cyllid wedi'i ddarparu i brosiectau ledled Cymru; yn amlwg, rydych chi'n mynychu un ohonynt. Mae gennym ddigwyddiad pwysig yfory yma yn y Senedd, fel y dywedais, lle byddwn yn clywed mwy gan hynafgwyr Windrush, a gwaddol eu cyfraniadau yma—Vernesta Cyril OBE, cyn-fydwraig—cyfraniadau rhyfeddol hynafgwyr Windrush, ac rwy'n siŵr y bydd y boen a'r gwahaniaethu a wynebwyd ganddynt yn codi, gyda hynny bellach wedi'i amlygu gan y datgeliad diweddaraf hwn o anghyfiawnder hanesyddol. Nid dyna oedd yr unig anghyfiawnder hanesyddol: teuluoedd yn cael eu rhwygo, ac yn colli eu rhieni o ganlyniad i'r polisi hwn sydd wedi'i ddatgelu. Felly, byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod gwaddol cenhedlaeth Windrush—. Mewn gwirionedd, mae ffilm yn cael ei chreu; rydym wedi comisiynu ffilm am genhedlaeth Windrush a'i gwaddol, a byddwn wedyn yn gallu sicrhau bod hyn yn estyn allan, i ddangos yr hyn y mae cenhedlaeth Windrush wedi’i gyflawni a’i gefnogi yn y GIG, yn yr economi, mewn busnesau, mewn addysg, ym mhob agwedd ar fywyd, a gadewch inni ddathlu hynafgwyr Windrush a chenhedlaeth Windrush yma yng Nghymru yfory. Diolch i'r Gweinidog. Y cwestiwn olaf amserol y prynhawn yma yw'r un gan Altaf Hussain. Diogelwch Dŵr Altaf Hussain AS: 3. Pa gamau uniongyrchol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i weithio gydag ysgolion i addysgu pobl ifanc am ddiogelwch dŵr yn dilyn y boddi trasig ger pier Aberafan nos Lun? TQ802 Jeremy Miles AC: Rwy'n cydymdeimlo'n llwyr gyda’r teulu, y ffrindiau a’r gymuned yr effeithiwyd arnynt gan y drasiedi hon. Rydym yn gweithredu argymhellion y Pwyllgor Deisebau ar gyfraith Mark Allen, a ategir gan y strategaeth atal boddi. Bydd y strategaeth yn galluogi pobl i fod yn fwy diogel yn, ar ac o gwmpas dŵr. Mae'n hyrwyddo ac yn annog dull cyson o weithredu addysg, ymwybyddiaeth ac ymgysylltiad diogelwch dŵr. Altaf Hussain AS: Diolch, Weinidog. Hoffwn innau gydymdeimlo â theulu a ffrindiau David a phawb yn Ysgol Uwchradd Gatholig Joseff Sant ym Mhort Talbot. Mae’n drasiedi ni waeth pryd y bydd rhywun yn colli ei fywyd, ond yn fwy felly i un mor ifanc. Roedd gan y dyn ifanc hwn ei fywyd cyfan o’i flaen wrth iddo ddathlu diwedd ei arholiadau gyda'i ffrindiau, pan ddigwyddodd y drasiedi hon. Yn anffodus, pan ydym yn ifanc, rydym yn credu ein bod yn anorchfygol ac nid ydym yn talu fawr ddim sylw, os o gwbl, i'r arwyddion sy'n ein rhybuddio am beryglon. Mae pier Aberafan dan waharddiad am resymau da iawn, ond mae'r dŵr mor ddeniadol fel y bydd pobl yn anwybyddu'r rhybuddion. Weinidog, wrth i’n hafau ddod yn boethach ac yn boethach, mae ein crynofeydd dŵr yn dod yn fwyfwy deniadol i bobl ifanc. Y llynedd, cawsom bobl yn boddi mewn pyllau ac mewn afonydd, a nawr, mae gennym yr achos trasig hwn. Beth arall y gallwn ei wneud i gyfleu’r neges i bobl ifanc mewn ysgolion a thu hwnt ynglŷn â pheryglon nofio mewn dyfrffyrdd nad ydynt yn cael eu patrolio? Jeremy Miles AC: Wel, mae hwn yn bwnc difrifol iawn, ac rwy’n cydymdeimlo ag unrhyw un yr effeithiwyd arnynt gan achosion o foddi yng Nghymru—yr achos hwn, neu achosion eraill yn wir. Fel y noda Altaf Hussain yn ei gwestiwn, mae gormod o ddigwyddiadau sy'n gysylltiedig â dŵr yn digwydd yng Nghymru ac mewn mannau eraill o hyd, gan gynnwys marwolaethau sy'n gysylltiedig â dŵr. Mae gweithredu’r argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar gyfraith Mark Allen yn flaenoriaeth allweddol i ni fel Llywodraeth, gan y bydd yn gwella’r strategaeth atal boddi, a gyhoeddwyd gennym yn 2020, gan Diogelwch Dŵr Cymru. Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yng Nghymru mewn gweithgareddau awyr agored. Mae mannau awyr agored yn bwysig i’n hiechyd corfforol a meddyliol, ac rydym yn cefnogi gweithgareddau dŵr ac yn annog pawb i fwynhau dŵr mewn ffordd ddiogel. Fel cyd-ddigwyddiad ofnadwy, Lywydd, mae’r wythnos hon hefyd yn nodi Wythnos Atal Boddi’r Gymdeithas Frenhinol Achub Bywydau, un o ymgyrchoedd diogelwch dŵr yr haf mwyaf y DU ac Iwerddon, mewn gwirionedd, ac felly efallai yr hoffai'r Aelodau ymweld â gwefan y Gymdeithas Frenhinol Achub Bywydau a rhannu gwybodaeth am yr ymgyrch honno gyda'u hetholwyr ar eu sianeli cyfryngau cymdeithasol amrywiol. O’n safbwynt ni, rydym yn anelu i godi ymwybyddiaeth o broffil nofio a diogelwch dŵr yn ehangach yn ein cwricwlwm ysgol, gan weithio gyda Diogelwch Dŵr Cymru i sicrhau bod rhaglen addysg a diogelwch dŵr gydlynol yn ein hysgolion, yn cael ei darparu o oed ifanc. Afraid dweud pa mor bwysig yw hi fod dysgwyr yn gallu cadw’n ddiogel mewn dŵr ac o’i gwmpas, ac mae’r canllawiau statudol ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru, y mae’n rhaid i bob ysgol eu hystyried wrth gwrs, fel y gŵyr yr Aelod, yn pwysleisio bod gweithgarwch corfforol mewn dŵr yn bwysig ar gyfer datblygu iechyd a lles corfforol, ac felly mae nofio, yn yr ystyr hwnnw, yn ddewis clir ac amlwg i ysgolion. Ond mae'n ymwneud hefyd â deall risgiau gwneud hynny a gallu rheoli'r risgiau hynny, gan gynnwys mewn perthynas â sgiliau achub bywyd a chymorth cyntaf. David Rees AC: A gaf fi ymuno â’r Gweinidog ac Altaf Hussain a chydymdeimlo â theulu David a’i ffrindiau, ac â’r gymuned ehangach yn etholaeth Aberafan? Mae hwn yn ddigwyddiad trasig. Gŵr ifanc a oedd yn dathlu diwedd ei arholiadau, yn edrych ymlaen at y dyfodol o’i flaen, ac yn anffodus, bu farw o ganlyniad i ddigwyddiad nad ydym wedi darganfod y manylion llawn amdano eto. A gaf fi hefyd ganmol Ysgol Uwchradd Gatholig Joseff Sant, sydd wedi rhoi cymorth ar waith i’r disgyblion, ffrindiau David ac eraill yn y gymuned sy’n dioddef o ganlyniad i’r digwyddiad hwn? Mae’r gefnogaeth honno’n mynd i fod yn bwysig, Weinidog. Pa drafodaethau rydych yn eu cael gyda’ch cyd-Aelodau yn y Cabinet am y systemau cymorth sydd ar waith pan fydd digwyddiadau fel hyn yn digwydd? Gallwn addysgu pobl am ddŵr agored, am beryglon dŵr agored, gallwn ddangos iddynt, mewn gwirionedd, nad yw'r un peth â phwll nofio—mae llawer o heriau annisgwyl enfawr mewn dŵr agored—ond yn anffodus, mae damweiniau'n digwydd, ac mae angen inni sicrhau bod pobl yn cael eu cefnogi, nid yn unig disgyblion yr ysgol, neu’r teuluoedd a ffrindiau, neu’r gymuned, ond hefyd y gweithwyr brys sy’n mynychu’r digwyddiadau hyn, gan fod rhai ohonynt yn dioddef yn ofnadwy hefyd o ganlyniad i fynychu'r digwyddiadau hyn. Felly, a allwch chi ddweud wrthym pa drafodaethau rydych yn eu cael gyda'ch cyd-Aelodau i roi'r pethau hynny ar waith? A phan soniwch am hyfforddi a datblygu mewn perthynas â dŵr agored—fe sonioch chi am weithgareddau awyr agored—ar gyfer unrhyw weithgaredd awyr agored sy’n cynnwys gweithgareddau dŵr, a wnewch chi sicrhau bod yr hyfforddiant priodol yn cael ei ddarparu, a bod pobl ifanc yn ymwybodol o’r peryglon? Rwyf wedi clywed am ormod o achlysuron pan fydd bechgyn wedi mynd i gronfeydd dŵr—gallaf ddweud wrthych lle maent—neu afonydd, gan ei fod yn rhywbeth—. Mae arnynt eisiau oeri. Mae arnynt eisiau seibiant. Mae arnynt eisiau ychydig o hwyl. Ond mae peryglon yno nad ydym yn talu sylw iddynt, ac yn anffodus, dyma un o’r digwyddiadau lle mae’r perygl hwnnw wedi arwain at sefyllfa erchyll. Jeremy Miles AC: Diolch i David Rees am ei gwestiwn atodol ac rwy’n cytuno â’i sylwadau am yr ysgol hefyd, a’r gwaith y maent yn ei wneud i gefnogi eu pobl ifanc a’u teuluoedd. Mae’r ymwybyddiaeth o berygl y cyfeiriodd ati yn ei gwestiwn yn greiddiol i’r canllawiau statudol ar gefnogi ein dysgwyr i ddeall sut i nodi'r risgiau, a’r ffordd orau i ymateb iddynt a’u rheoli mewn ffordd sy’n gwarchod eu diogelwch. Felly, mae hynny’n rhan o’r canllawiau y cyfeiriais atynt yn gynharach. Gofynnodd am waith trawslywodraethol yn y maes hwn. Cyfarfûm â Dawn Bowden yn ddiweddar mewn perthynas â rhai o’r heriau y mae ysgolion yn eu hwynebu wrth ddarparu gwersi nofio i ddysgwyr, sydd, am wahanol resymau, yn fwy heriol heddiw nag yn y gorffennol o bosibl. Ac rydym yn trafod beth yw'r ffordd orau y gallwn gefnogi ysgolion gyda hyn, mewn cydweithrediad â Nofio Cymru. Bydd hefyd yn gwybod am y gwaith a wnaf gyda fy nghyd-Aelod, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant mewn perthynas â’r cymorth ar lefel ysgol i lesiant disgyblion, a bydd y gwaith hwnnw'n ymateb i amgylchiadau fel hyn. Mae’r cyllid a ddarparwn drwy ffrwd ariannu'r dull ysgol gyfan yn galluogi ysgolion i wneud penderfyniadau ynghylch y ffordd orau o gefnogi eu disgyblion gyda chwnsela ac ati mewn sefyllfa fel hon. Rwy’n ymwybodol fod Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cynnig gwasanaethau cwnsela ychwanegol i ddisgyblion a staff yn yr ysgol, ac yn ôl yr angen, byddant yn edrych ar ddarparu cymorth i ysgolion a chymunedau eraill yn yr ardal yr effeithiwyd arni gan y digwyddiad ofnadwy hwn. Yna, gall plant a staff y gallai fod angen cymorth ychwanegol arnynt ofyn am hynny drwy'r ysgol neu drwy'r awdurdod lleol. Diolch i'r Gweinidog. 6. Datganiadau 90 Eiliad Ac felly, yr eitem nesaf fydd y datganiadau 90 eiliad. Y datganiad cyntaf y prynhawn yma gan Tom Giffard. Tom Giffard AS: Diolch yn fawr iawn, Lywydd, ac rwy’n falch iawn o fod yma heddiw i ddathlu cyflawniad hanesyddol tîm Cymru yng Nghwpan Dartiau’r Byd y PDC 2023. Fel y gwyddoch, cododd chwaraewyr ein tîm, Gerwyn Price a Jonny Clayton, y tlws yn Frankfurt ddydd Sul diwethaf ar ôl buddugoliaeth syfrdanol o 10-2 dros yr Alban yn y rownd derfynol. Fe wnaethant ddangos sgìl, hyder a gwaith tîm anhygoel drwy gydol y gystadleuaeth, gan guro rhai o dimau gorau’r byd, gan gynnwys Lloegr, Sweden a Gwlad Belg. Mae hon yn foment falch i Gymru ac i ddartiau fel camp. Credaf ein bod bob amser wedi bod yn angerddol am ddartiau yn ein gwlad, ac mae ein tîm bob amser wedi ysbrydoli cenhedlaeth newydd o gefnogwyr a chwaraewyr gyda'u perfformiad. Maent hefyd wedi dangos i’r byd fod Cymru'n genedl o bencampwyr, sy'n gallu cystadlu ac ennill ar y lefel uchaf, a hoffwn longyfarch Gerwyn a Jonny ar ran Senedd Cymru a’r genedl gyfan. Rydych wedi gwneud pob un ohonom yn falch, ac mae pob un ohonom yn ddiolchgar am eich ymroddiad a'ch dawn. Rydych yn llysgenhadon go iawn dros Gymru a thros ddartiau. Hoffwn ddiolch hefyd i drefnwyr, swyddogion a chefnogwyr y digwyddiad a'i gwnaeth yn bosibl ac yn llwyddiant. Mae Cwpan Dartiau'r Byd yn gyfle gwych i arddangos amrywiaeth, cyffro a chyfeillgarwch y gamp hon. Mae'n dod â phobl ynghyd o wahanol wledydd a diwylliannau sydd wedi'u huno gan gariad at ddartiau. Gobeithio y bydd pob un ohonoch yn mwynhau'r dathlu ac yn ymuno â mi wrth inni ddathlu ein harwyr Cymreig. Hir oes i Gymru, a hir oes i ddartiau. Ac efallai eich bod yn credu bod hwnnw'n ddiweddglo rhyfedd i araith, Lywydd, ond gallaf ddatgan buddiant a dweud mai dyna oedd yr araith gyntaf, rwy'n credu, a wnaed yn y Siambr hon wedi'i hysgrifennu gan ChatGPT. Diolch am hynny, ie, yn wir. Llongyfarchiadau i dîm Cymru ar yr ennill yna. Samuel Kurtz nesaf. Samuel Kurtz MS: Diolch, Lywydd. Mae’r wythnos hon yn nodi ail Wythnos Bwyd a Ffermio Cymru NFU Cymru, cydnabyddiaeth a dathliad blynyddol o gynnyrch byd-enwog Cymru, cynhyrchiant sy’n gyfeillgar i’r hinsawdd a’r miliynau o bunnoedd a gyfrannir i economi Cymru gan ein diwydiant amaethyddol flwyddyn ar ôl blwyddyn. Ffermio yw'r edefyn arian sy'n rhedeg drwy wead hunaniaeth genedlaethol Cymru. Mae amaethyddiaeth Cymru nid yn unig yn rhan hanfodol o’n heconomi, mae’n rhan o’n diwylliant cyfoethog hefyd ac yn gwarchod ein hiaith a’n harddwch amgylcheddol. Ffermio yng Nghymru yw sylfaen sector bwyd Cymru, sy'n werth £7.9 biliwn, gyda 53,000 o'r 239,000 o bobl a gyflogir ar draws sector bwyd a diod Cymru yn cael eu cyflogi ar ffermydd Cymru. Mae'r ffermwyr hyn nid yn unig yn gweithio drwy gydol y flwyddyn i gynhyrchu bwyd o'r radd flaenaf ac yn gweithredu dulliau bridio soffistigedig sy'n seiliedig ar genedlaethau o brofiad, maent hefyd yn arloesi gyda chynlluniau newid hinsawdd byd-eang, a amlygir yn eu hymrwymiad i dargedau megis cyrraedd sero net erbyn 2040. Y ffermwyr a'r teuluoedd hyn, felly, sy’n gwarchod y tir, yn dathlu safonau lles anifeiliaid ac sy'n rhoi bwyd Cymreig o’r ansawdd uchaf ar ein byrddau yn gyson. O datws sir Benfro, sydd wedi ennill sawl gwobr, i gig oen morfa heli Gŵyr, mae gennym lu o bobl a chynnyrch i’w dathlu yr wythnos hon. Gyda hyn mewn golwg, Lywydd, mae’r wythnos hon o weithgareddau i hyrwyddo popeth sy’n wych am fwyd a ffermio Cymru yn gyfle perffaith inni ddod ynghyd a rhoi eiliad i ddiolch i’n ffermwyr am eu gwaith caled parhaus, 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn, ac am roi cymaint i sicrhau bod y Gymru wledig yn ffynnu. Diolch. Y datganiad nesaf gan Vikki Howells. Vikki Howells AC: Yn gynharach eleni, ar 8 Mawrth, dathlodd senotaff Aberdâr ei ganmlwyddiant. Cafodd y senotaff ei ddadorchuddio yn Sgwâr Fictoria yng nghanol y dref gerbron tyrfa o oddeutu 20,000 o bobl ym 1923. Cafodd ei gynllunio gan Francis Morley o Durham a'i gynhyrchu gan Dalbeattie Granite Works yn Dumfries, a'i fodelu ar y senotaff yn Whitehall. Costiodd oddeutu £1,200, sy'n cyfateb i £87,000 ym mhrisiau heddiw—swm aruthrol, y talwyd amdano'n bennaf drwy'r gronfa cofebion rhyfel a chyfraniadau cyhoeddus. I ddechrau, roedd yn coffáu’r 800 o bobl leol a gollodd eu bywydau wrth wasanaethu yn y rhyfel byd cyntaf. Mae bellach yn coffáu’r meirw ym mhob rhyfel lle bu farw milwyr Prydain wrth ymladd. Fel y cyfryw, mae’n ganolbwynt i’r gymuned leol bob blwyddyn ar Sul y Cofio. Bydd dathliad o ganmlwyddiant y senotaff yn cael ei gynnal yn Aberdâr drwy gydol mis Mehefin. Un elfen arbennig o'r dathliad yw'r arddangosfa yn eglwys Sant Elfan, a fydd yno am fis cyfan. Mae'n werth ymweld â hi. Ddydd Sul, bydd gorymdaith a seremoni arbennig iawn yn cael ei chynnal wrth y senotaff. Yna, bydd cyngerdd rhad ac am ddim yn Sgwâr y Llyfrgell, gyda pherfformiadau gan Gôr Meibion Cwm-bach, côr Lleisiau Cwmdâr, côr menywod Dare To Sing, a Band Tylorstown. Rwy'n gobeithio y bydd llawer o bobl yn ymuno â ni ar gyfer yr hyn a fydd yn ddigwyddiad cofiadwy iawn. Bydd eu henwau'n byw am byth. Diolch am y datganiadau yna i gyd. 7. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod—Bil dyletswydd ddinesig i bleidleisio Mae eitem 7 wedi'i ohirio. 8. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol—Deintyddiaeth Mae hynny'n dod â ni at eitem 8, a hon yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ddeintyddiaeth. Cadeirydd y Pwyllgor, felly, i gyflwyno'r ddadl. Russell George. Cynnig NDM8299 Russell George Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, 'Deintyddiaeth', a osodwyd ar 15 Chwefror 2023. Cynigiwyd y cynnig. Russell George AC: Diolch, Lywydd, ac rwy'n gwneud y cynnig ar y papur trefn heddiw yn fy enw i. Mae’n bleser mawr gennyf agor y ddadl y prynhawn yma ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ddeintyddiaeth, a diolch i’r Gweinidog am ei hymateb i’r argymhellion a wnaed yn ein hadroddiad. Gwn fod mynediad at ddeintyddiaeth y GIG yn fater sydd wedi bod yn rhan flaenllaw o waith achos yr Aelodau ac yn fater sy’n cael ei godi’n aml yn y Siambr hon. Nid yw'n teimlo fel llawer o wythnosau ers imi fod ar fy nhraed ddiwethaf mewn dadl yn siarad am ddeintyddiaeth. Rwyf wedi siarad o’r blaen am system ddwy haen, lle mae’r rhai sy’n gallu fforddio talu am driniaeth breifat yn gwneud hynny. Gwn y bydd y Gweinidog yn dweud bod system ddeintyddol breifat wedi bod ar gael erioed i'r rhai sy'n dewis ei defnyddio neu sy'n gallu fforddio gwneud hynny. Mewn un ffordd, wrth gwrs, rwy’n derbyn bod y Gweinidog yn iawn. Y gwahaniaeth nawr yw nad yw hyn yn ymwneud â phobl yn dewis cael triniaeth ddeintyddol breifat am eu bod yn gallu ei fforddio; mae'n ymwneud â phobl yn cael mynediad at driniaeth ddeintyddol breifat am nad oes ganddynt unrhyw opsiwn arall. I ormod o bobl, nid yw triniaeth ddeintyddol yn fater o ddewis mwyach, mae'n fater o anghenraid. Russell George AC: Nawr, dywedodd Rhian Davies o Rydaman wrthym nad oedd ei mab wedi gweld deintydd yn y pum mlynedd ers i’r ddeintyddfa GIG leol gau, a dywedodd fod y llythyr i ddweud wrthi fod y practis yn cau yn cynnig tri opsiwn ar gyfer practisau eraill. Roedd un o’r rheini 40 milltir i ffwrdd, felly dywedodd 'Rydym yn deulu o bedwar ac nid wyf eisiau mynd yn breifat, ond nid oes dewis gennyf.' O rywfaint o fy ngwaith achos fy hun, gwn nad yw 40 milltir yn llawer o gymharu â'r pellter y byddai’n rhaid i lawer o fy etholwyr deithio er mwyn cael triniaeth GIG. Yr hyn sy'n peri mwy fyth o bryder yw bod yna drydedd haen a haen gynyddol bellach hefyd: y rheini na allant gael deintydd GIG, ond na allant fforddio talu am driniaeth breifat. Nid oes ganddynt unrhyw ddarpariaeth o gwbl heblaw gwasanaethau deintyddol brys wrth gwrs. Clywsom hefyd gan deulu ym Mhowys a oedd wedi bod yn ceisio cael mynediad at ddeintydd GIG ers chwe blynedd. Cafodd un o'r plant ddamwain a malu ei dant, wedyn nid oedd dewis ganddynt heblaw cysylltu â 111 i gael triniaeth ddeintyddol frys. Yn anffodus, nid yw hon yn stori anghyffredin, ac mae’r pwysau costau byw yn debygol o waethygu'r broblem. Mae’n siomedig fod y gymuned ddeintyddol yn teimlo bod diffyg ymgynghori a gwybodaeth cyn ailddechrau'r rhaglen i ddiwygio’r contract deintyddol. Dywedwyd wrthym fod y diffyg rhybudd wedi peri cryn bryder i ddeintyddion nad oedd ganddynt fawr o amser i wneud penderfyniad gwybodus ynghylch derbyn cynnig y contract ai peidio. Mae’r Gweinidog, wrth gwrs, yn derbyn bod y cynnig i amrywio'r contract ar gyfer 2022-23 wedi’i gyhoeddi’n hwyrach nag y byddai wedi'i ddymuno oherwydd amgylchiadau eithriadol pandemig COVID-19. Fodd bynnag, wrth symud ymlaen, rwy’n sicr yn credu, ac mae’r pwyllgor yn credu, y dylai Llywodraeth Cymru, oni bai bod yr amgylchiadau’n eithriadol, sicrhau bod y broses ymgynghori ynghylch newidiadau posibl i’r contract deintyddol yn cael ei chynnal o leiaf chwe mis cyn y bwriedir cyflwyno’r diwygiadau. Credaf fod hwn yn fater gwirioneddol bwysig: canfu ein hymchwiliad nad oes darlun clir o nifer y bobl sy'n aros am driniaeth ddeintyddol. Felly, nid oes darlun clir o'r bobl sy'n aros am driniaeth ddeintyddol. Os ydym am fynd i’r afael o ddifrif ag anghydraddoldebau mynediad at wasanaethau deintyddiaeth y GIG, mae’n rhaid inni dargedu adnoddau yn y mannau lle mae’r angen mwyaf. Mae’n hynod o anodd gwneud hyn, os nad yn amhosibl, os nad oes gennym syniad faint o bobl sy’n aros i weld ddeintydd GIG. Credaf ei bod hefyd yn annerbyniol, ar ôl i bobl gael eu rhoi ar restr aros, y gallent fod yn aros hyd at 26 mis cyn cael apwyntiad. Mewn tystiolaeth lafar, nododd y Gweinidog rai o’r anawsterau sydd ynghlwm wrth greu rhestr aros i Gymru gyfan. Rwy’n falch, felly, fod y Gweinidog wedi gallu derbyn yr argymhelliad hwn a bod trafodaethau eisoes yn mynd rhagddynt gydag Iechyd a Gofal Digidol Cymru i ystyried y cynllun ar gyfer rhestr aros ddeintyddol Cymru gyfan. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai’r Gweinidog egluro amserlen y gwaith hwn. Mae data'n thema sy'n codi dro ar ôl tro yn ein holl waith ar y pwyllgor iechyd. Bob tro y byddwn yn sôn am ddiffyg data, rwy'n credu bod Jack Sargeant a minnau'n edrych ar draws yr ystafell bwyllgora ar ein gilydd, gan fod y thema hon yn codi dro ar ôl tro. Nid oedd yr ymchwiliad hwn yn eithriad yn hynny o beth ychwaith. Cesglir data ar nifer y cleifion sy'n derbyn triniaeth ddeintyddol GIG yn unig. Felly, mae’n anodd gwybod faint o angen heb ei ddiwallu a geir yn y boblogaeth gan na wyddom faint o bobl sy'n ceisio triniaeth breifat, neu sy'n cael gofal mewn argyfwng yn unig. Clywsom hefyd fod 14 o systemau meddalwedd gwahanol yn cael eu defnyddio mewn practisau ledled Cymru ar hyn o bryd, a galwodd ein hargymhelliad 6 ar Lywodraeth Cymru i roi cynllun clir ac amserlenni ar gyfer sut y bydd yn cyflwyno un system feddalwedd i’w defnyddio gan holl ddeintyddion Cymru. Ac er i'r argymhelliad hwn gael ei wrthod, rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo, mewn gwirionedd, i gynnal dadansoddiad o'r opsiynau o ran ei ymarferoldeb erbyn diwedd tymor yr haf 2023. Faint yw hynny? Dair wythnos i ffwrdd. Credaf fod pob un ohonom yn cyfri'r dyddiau. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai’r Gweinidog gadarnhau y bydd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r pwyllgor am ganlyniad hyn maes o law. Ni ddylid diystyru effaith negyddol y pandemig ar y gweithlu deintyddol, a hoffwn ddiolch, ar ran y pwyllgor, i’r gweithlu yn hynny o beth. Er ein bod wedi cael sicrwydd fod gwasanaethau ar waith i helpu gyda llesiant corfforol a meddyliol y gweithlu, fel pwyllgor rydym yn pryderu am y pwysau ar y gweithlu sy’n golygu bod y gwasanaethau hyn mor angenrheidiol. Felly, rydym am weld yr amodau gwaith a'r amodau gwasanaeth cywir ar waith i gefnogi iechyd meddwl a lles y gweithlu deintyddol. Ac er bod cyhoeddiad ffurfiol cynllun y gweithlu wedi’i ohirio o’r gwanwyn tan fis Gorffennaf 2023, y mis nesaf, byddwn yn croesawu sicrwydd y Gweinidog y bydd yn adlewyrchu’r newid yn y dyheadau o ran yr angen am fwy o gymysgedd sgiliau o fewn y gweithlu, fel y nodir yn ein hadroddiad. Clywsom hefyd sut y gallai gwneud mwy o ddefnydd o’r tîm gofal deintyddol ehangach gael effaith enfawr ar y gwaith o fynd i’r afael ag anawsterau i gael mynediad at driniaeth ddeintyddol GIG. Dywedwyd wrthym y byddai angen newidiadau i ddeddfwriaeth i alluogi therapyddion deintyddol i gael rhif perfformiwr, felly fe wnaethom argymell y dylai hyn ddigwydd fel mater o frys. Felly, roeddwn yn falch fod ymateb y Gweinidog i hyn yn mynd y tu hwnt i’r hyn y gallai ein hargymhelliad fod wedi gobeithio amdano. Ond yn dilyn cyhoeddiad gan GIG Lloegr y bydd therapyddion deintyddol a hylenyddion bellach yn cael cychwyn a chwblhau cyrsiau o driniaeth, mae cyngor cyfreithiol wedi cadarnhau y gellir efelychu hyn yng Nghymru, ac nad oes angen newidiadau deddfwriaethol mwyach. Felly, rwy'n siŵr fod y Gweinidog yn falch o hynny hefyd. Ond byddwn yn ddiolchgar pe gallai’r Gweinidog gadarnhau bod therapyddion bellach yn trin cleifion ag anghenion lefel is, gan ryddhau deintyddion, wrth gwrs, i ganolbwyntio ar gleifion ag anghenion mwy cymhleth. Ac yn olaf, hoffwn sôn am gyllid. Mae cyllidebau deintyddiaeth wedi cael eu capio ers tipyn go lew o amser. Felly, o ystyried y diffyg mynediad at ddeintyddiaeth GIG, effaith yr argyfwng costau byw, a’r anghydraddoldebau cynyddol o ran mynediad at wasanaethau, dylai Llywodraeth Cymru—rydym ni, fel pwyllgor, yn credu—adolygu i weld a yw’r lefelau ariannu presennol yn ddigonol i’r gwasanaeth gyflawni’r hyn y mae angen iddo’i gyflawni er mwyn lleihau’r ôl-groniad. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud asesiad o'r lefelau ariannu sydd eu hangen pan fydd y rhestr aros ganolog yn ei lle. Felly, credaf fod hynny'n angenrheidiol ac i'w groesawu. Felly, diolch, Lywydd. Edrychaf ymlaen at gyfraniadau’r Aelodau y prynhawn yma. Cefin Campbell MS: Diolch yn fawr iawn i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol am gynnal yr ymchwiliad yma i gyflwr deintyddiaeth yng Nghymru, ac mae’r adroddiad yn amlinellu’n glir fod deintyddiaeth mewn sefyllfa argyfyngus, yn arbennig efallai mewn ardaloedd gwledig, gyda phrinder apwyntiadau, diffyg gweithlu digonol, a chytundebau NHS yn cael eu rhoi nôl i’r bwrdd iechyd. Ac fel efallai pob Aelod yn y Siambr, dwi'n aml yn clywed am fwy o etholwyr sydd nawr heb ddeintydd NHS am y tro cyntaf yn eu bywydau—ac mae hynny'n cynnwys fi—neu etholwyr sydd wedi bod yn aros am flynyddoedd ar restr aros, a dwi'n pryderu'n arbennig am ranbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru, lle nad oes unrhyw ddeintydd bellach yn fodlon cymryd oedolion ymlaen ar eu rhestrau. A jest i ychwanegu at y broblem, fel y dywedodd Russell George, dŷn ni ddim wir yn deall maint y broblem o ran y rhestrau aros NHS. Dwi'n falch iawn bod y Llywodraeth wedi derbyn un o argymhellion y pwyllgor fod angen inni greu'r rhestr ganolog yma a bod angen i’r byrddau iechyd i fynd ati i gyflwyno’r data yna i’r Llywodraeth, achos heb y data, mae’n anodd cynllunio ar gyfer y dyfodol—anodd gwybod ble i gomisiynu gwasanaethau a ble mae angen recriwtio yn benodol o ran y bylchau. Felly, gaf i ofyn i'r Gweinidog beth yw’r diweddaraf am y dasg o greu rhestrau? Dwi hefyd yn poeni am y diffygion o ran y bylchau yn y gweithlu mewn rhai ardaloedd sydd yn amharu ar y gallu i gael apwyntiadau NHS. Mae’r Llywodraeth, dwi'n gwybod, wedi cyflwyno cynllun i geisio mynd i’r afael â hyn, yn arbennig mewn ardaloedd gwledig, ond rwy’n amau a fydd hyn efallai ar ei ben ei hun yn mynd yn ddigon pell. Dwi'n credu bod y Llywodraeth wedi cydnabod, yn ei hymateb i’r adroddiad, fod myfyrwyr sydd yn astudio mewn rhyw fan yn dueddol o aros yn yr ardal ble maen nhw wedi cael eu hyfforddiant. Felly, mewn cyfarfod yr wythnos diwethaf gyda bwrdd iechyd Hywel Dda, fe ofynnais y cwestiwn iddyn nhw a fyddai modd ystyried y posibilrwydd o sefydlu ysgol ddeintyddiaeth rhywle yng ngorllewin Cymru. Felly, Weinidog, i orffen y darn bach yma wrthyf i, a fyddech chi'n barod i gynnal trafodaethau gyda rhanddeiliaid allweddol er mwyn ystyried sefydlu ysgol ddeintyddol yn y gorllewin i gwrdd â’r heriau penodol sy'n wynebu ardaloedd gwledig? Diolch. Mike Hedges AC: Dyma enghraifft lle mae pwyllgorau'n gweithio'n dda: archwilio maes sydd angen ei graffu'n fanwl a chael trafodaeth gyhoeddus yn ei gylch. Fel llawer o Aelodau eraill, rwy'n cael nifer fawr o ymholiadau ynghylch mynediad at ddeintyddion, yn enwedig pan fo practis deintyddol lleol yn rhoi'r gorau i weld cleifion GIG, yn aml heb unrhyw rybudd. Mae'n siomedig fod adroddiad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd ar ddeintyddiaeth wedi rhybuddio na ellir targedu cefnogaeth yn y lle iawn i fynd i'r afael â'r ôl-groniad gan nad oes darlun clir o faint o bobl sy'n aros i weld deintydd GIG ar hyn o bryd. Er bod COVID-19 yn sicr o fod wedi cael effaith ddifrifol ar fynediad at ddeintyddiaeth y GIG, canfu'r adroddiad fod problemau hirsefydlog cyn y pandemig—a hynny, os caf ddweud, cyn i'r Gweinidog presennol ddod i'r swydd. Rydym yn siarad â'r Gweinidog presennol sydd wedi etifeddu hyn ynghyd ag ystod eang o broblemau eraill. Mae problemau o ran cael deintydd GIG. Mae nifer y practisau deintyddol yn lleihau, ac mewn rhai achosion, yn terfynu eu contractau GIG, gan gynnwys ar gyfer plant. Hoffwn i, ynghyd â llawer o bobl eraill, weld deintyddiaeth y GIG ar gael i bawb sydd ei eisiau, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi ar hynny. Mae deintyddion sy'n gwneud gwaith GIG wedi ymrwymo i egwyddorion y gwasanaeth iechyd gwladol. Roedd y materion a godwyd gan y deintyddion y cyfarfûm â nhw yn cynnwys y contract newydd a'r ffaith bod deintyddion wedi ymrwymo i'r contract heb y manylion, a ddaeth yn amlwg yn ddiweddarach. Blwyddyn ddysgu oedd hon i fod, ond nid yw'n ymddangos bod hynny wedi digwydd. Roedd y drafodaeth ar y cynnig ar ddeintyddiaeth ar 25 Mai yn ymddangos fel pe bai'n tynnu sylw at rywfaint o ddryswch ynghylch sut y diffinnir claf newydd. Mae un o fesuriadau presennol y rhaglen ddiwygio yn ymwneud yn benodol â beth yw'r diffiniad hwn. Os yw claf yn symud i bractis arall, ymddengys eu bod yn cael eu dangos fel claf newydd pan fyddant yn ymuno â'r practis newydd, hyd yn oed os oeddent yn glaf GIG yn y practis blaenorol. Rwy'n cefnogi argymhelliad Llywodraeth Cymru i sicrhau na ddylai'r ymgynghoriad ar newid posibl i'r contract deintyddol ddigwydd o fewn chwe mis i'r adeg y daw'r diwygiadau i rym, heblaw mewn amgylchiadau eithriadol. Mae angen i negodiadau wrando ar Gymdeithas Ddeintyddol Prydain—nid gosod contract. Mae angen cyngor ar y Gweinidog gan bobl sydd naill ai wrthi'n gweithio, neu sydd wedi gweithio, fel deintyddion GIG yn y gymuned, ac rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. Weithiau rydym yn rhoi bai ar y Gweinidog, ond nid yw peth o'r cyngor y mae'r Gweinidog yn ei gael o fudd. Enw'r system gontractau ddiweddaraf, a gyflwynwyd yn 2019, yw diwygio'r contract—wrth gwrs, bob tro y clywaf y termau 'diwygio' neu 'foderneiddio', rwy'n mynd yn chwys oer drosof—unwaith eto, digwyddodd hyn cyn i'r Gweinidog ddod i'w swydd. O dan y system, telir deintyddion am gyfres o unedau o weithgarwch deintyddol bob blwyddyn, sef 25 y cant o werth eu contract, gyda dangosyddion perfformiad allweddol eraill yn ffurfio'r 75 y cant arall, gyda'r pwyslais ar ofal ataliol a chanlyniadau i gleifion, sy'n dda, ond mae adfachu wedi creu pryderon enfawr i bractisau deintyddol. Mae yna ddryswch hefyd yn y gweithlu deintyddol lleol ynglŷn â sut mae'r metrigau'n gweithio—o ble y deilliant a pha dystiolaeth a geir o'u dilysrwydd. Mewn rhai achosion, mae'n amhosibl i rai practisau gyflawni rhai o'r metrigau. Er enghraifft, mae nifer targed y cleifion hanesyddol sydd i'w gweld mewn blwyddyn gontract yn seiliedig ar ganran o werth y contract. Mewn rhai practisau, mae nifer y cleifion hanesyddol yn is na'r targed, ac felly mae'n amhosibl ei gyflawni. Mae deintyddion yn awgrymu rhai atebion: contractau deintyddol a delir ar yr un gyfradd am bob eitem o driniaeth a ddarparir ganddynt, cynllun y pen wedi'i bwysoli—fe gofiwch mai dyna oedd yn arfer bod gennym—ac y dylid gwobrwyo deintyddion am weld cleifion risg uwch yn fwy rheolaidd a darparu triniaethau mwy cymhleth, sy'n cymryd mwy o amser. Cafwyd llwyddiant gyda diogelu dannedd plant, a hynny drwy'r Cynllun Gwên. Pan ymwelais ag ysgol cyn COVID a gofynnodd plentyn 10 oed yn St Thomas i mi, 'Beth yw llenwad?', i rywun fel fi sydd â mwy o amalgam mercwri yn fy ngheg nag unrhyw beth arall, roedd hwnnw'n llwyddiant ysgubol, ac rwy'n credu bod hwnnw wedi bod yn llwyddiant. Ond mae hynny, wrth gwrs, yn dyddio'n ôl i ddyddiau Edwina Hart. Mae'n ymddangos bod gennym fwlch yn y canol. Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y Cynllun Gwên yn cael ei adfer i lefelau cyn y pandemig cyn gynted â phosibl. Mae yna ffordd arall o wella iechyd deintyddol, sef fflworid yn y dŵr, fel y nododd y pwyllgor. Rwy'n cytuno â'r pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu ymchwil i'r gwerth i iechyd y cyhoedd ac agweddau tuag at gyflwyno fflworid i'r system ddŵr gyhoeddus yng Nghymru ac ymrwymo i gyhoeddi canfyddiadau'r ymchwil. Mae atal bob amser yn well na thrin. Mae yna brinder deintyddion cymwys yn gwneud gwaith deintyddol y GIG yng Nghymru. Mae'n debyg mai dyna'r rheswm pam ein bod yn cael y drafodaeth hon heddiw. Mae hyn, i mi, yn dangos bod angen ysgol ddeintyddol newydd yng Nghymru, ac rwyf wedi awgrymu Prifysgol Abertawe fel safle posibl yn y gorffennol, er fy mod yn siŵr y bydd pobl o'r gogledd yn awgrymu Bangor. Mae'n hollbwysig cael canolfan addysgu ddeintyddol arall yn fuan, ar safle lle mae gennym ysgol feddygol eisoes, ac os daw Bangor neu Abertawe yn gyntaf, daw'r llall yn ail. Yn olaf, yn dilyn Brexit byddwn wedi colli nifer fawr o ddeintyddion o dde a dwyrain Ewrop, gan gynnwys yn y practis deintyddol rwy'n mynd iddo. Beth sy'n cael ei wneud i ganiatáu i ddeintyddion cymwys o'r tu allan i'r UE ymarfer yng Nghymru? Samuel Kurtz MS: Dwi'n ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu heddiw. Samuel Kurtz MS: Mae mynediad at ddeintyddiaeth yn fater y gwn ei fod yn ffurfio'r rhan fwyaf o fewnflychau gwaith achos ein Haelodau, ac rwyf wedi siarad am y mater o'r blaen. Rhaid imi longyfarch y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar eu hadroddiad manwl, a ddarllenais gyda llawer o ddiddordeb, a nodaf yr argymhellion a wnaeth y pwyllgor a'r ymatebion a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru. Manteisiais hefyd ar y cyfle i ailddarllen y llythyr a dderbyniais ym mis Chwefror eleni gan bwyllgor deintyddol lleol Dyfed-Powys. Mae yna ychydig o bwyntiau yr hoffwn eu trafod. Yn gyntaf, mae argymhellion 1 a 2 yr adroddiad yn trafod yr angen am gyfnod ymgynghori digonol ar y contract newydd, yn ogystal â sicrhau bod y cydbwysedd cywir o apwyntiadau cleifion yn cael eu gosod a'u monitro, a dyma'r union bwyntiau a godwyd gyda mi gan y pwyllgor deintyddol lleol. Roeddent yn teimlo eu bod wedi wynebu, 'wltimatwm' i fwrw ymlaen â'r diwygiadau contract ym mis Mawrth 2020, er gwaethaf pryderon—a dyfynnaf eto—'am dargedau a fyddai'n cael eu gosod.' Roeddent yn dweud, 'Nid oedd tystiolaeth ar gael ar y pryd i ddangos sut y cafodd targedau contract eu creu, ac roeddem yn dal i aros am y dystiolaeth hon.' Y peth mwyaf pryderus oedd y farn, er gwaethaf y ffaith yr ymgynghorwyd â hwy, nad ystyriwyd yr adborth gan ddeintyddion mewn perthynas â'r contract newydd. Mae argymhelliad 10 yn cyfeirio at yr angen i greu mwy o leoedd hyfforddi, yn benodol yn yr achos hwn drwy agor ysgol ddeintyddol yng ngogledd Cymru. Mae'r deintyddion sydd wedi siarad â mi yn cydnabod yr angen i sicrhau bod mwy o leoedd hyfforddi ar gael i alluogi'r proffesiwn i dyfu, a hoffwn glywed barn y Gweinidog ynglŷn ag a ellid ystyried sefydlu ysgol ddeintyddol yng ngorllewin Cymru hefyd, ochr yn ochr ag ysgol ddeintyddol gogledd Cymru. Fel gyda llawer o rolau yn y maes meddygol, mae cyfleoedd cyflogaeth parhaol yn haws i'w llenwi'n agosach at lle mae'r myfyrwyr wedi hyfforddi, ac os oes carfannau rheolaidd o fyfyrwyr yn graddio yng ngorllewin Cymru, mae mwy o obaith y caiff y llefydd hynny eu llenwi. Mike Hedges AC: A wnewch chi dderbyn ymyriad? Samuel Kurtz MS: Rwy'n hapus i dderbyn ymyriad. Mike Hedges AC: A fyddech chi'n cytuno bod angen inni ei gael yn agos at ysgol feddygol, neu mewn ysgol feddygol, oherwydd y manteision i bobl sy'n gweithio rhwng y ddau? Samuel Kurtz MS: Rwy'n credu bod hwn yn gyfle hollol realistig. Rwy'n nodi bod fy mwrdd iechyd yn fwrdd iechyd prifysgol, ac mae gan orllewin Cymru nifer o lefydd gwag yn y maes deintyddol, ond yn bendant mae yna ystyriaeth a chryfder mewn cael y gwasanaethau hynny a'r hyfforddiant hwnnw mor agos at ei gilydd â phosibl. Yn olaf, gan symud ymlaen, Weinidog, hoffwn ofyn am rywfaint o eglurhad ar y sylw a wnaed gan Brif Weinidog Cymru i'r Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan mewn perthynas â deintyddiaeth. Rwy'n dyfynnu'r Prif Weinidog: 'Un o'r pethau y byddem yn hapus i'w harchwilio gyda gweddill y Deyrnas Unedig yw'r ffordd y daeth ein contract deintyddol newydd i rym ym mis Ebrill eleni, gan arwain at filoedd yn fwy o apwyntiadau GIG ar gyfer cleifion deintyddol, gan gynnwys yn ardal Hywel Dda, lle rwy'n credu bod bron i 10,000 yn rhagor o apwyntiadau ar gael o ganlyniad i'r contract newydd.' O ystyried galwad briffio bwrdd iechyd Hywel Dda yr wythnos diwethaf, ymddengys nad oedd arweinyddiaeth Hywel Dda yn cydnabod y dadansoddiad hwn. Byddwn yn ddiolchgar pe gellid cynnig sicrwydd fod tystiolaeth y Prif Weinidog yn adlewyrchiad cywir o'r sefyllfa, a hoffwn weld dadansoddiad o sut mae'r apwyntiadau ychwanegol hyn yn rhannu ar draws rhanbarth y bwrdd iechyd. Mae'n hanfodol fod y contract deintyddol newydd yn gwrando ar bobl ar lawr gwlad, er mwyn sicrhau ei fod yn darparu ar gyfer cleifion ar hyd a lled Cymru. Mae'n bwysig fod mynediad at ddeintyddiaeth yn gwella, a bod y Gweinidog, a Llywodraeth Cymru, yn llwyr sylweddoli difrifoldeb y sefyllfa rydym ynddi ar hyn o bryd, ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth eu bod yn deall difrifoldeb y sefyllfa. Mae adroddiad y pwyllgor yn mynd rywfaint o'r ffordd tuag at fynd i'r afael â rhai o'r materion hyn, ond mae bellach yn ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r sector i sicrhau bod newid yn digwydd a bod mynediad yn gwella. Diolch, Lywydd. Gareth Davies AS: Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma ar fater mor bwysig ac amserol sy'n wynebu'r mwyafrif o bobl yng Nghymru. Fel aelod o'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, hoffwn ddechrau fy sylwadau drwy ddiolch i bawb sydd wedi rhoi tystiolaeth i'r adroddiad deintyddol, a holl glercod, ymchwilwyr a staff y pwyllgor am ddod â'r cyfan at ei gilydd ar lefel weithredol. Mae llawer o drafodaethau i'w cael ynghylch deintyddiaeth a diffyg triniaeth gyflym, effeithiol ar gyfer problemau deintyddol yn y GIG, sydd wedi lleihau yn anffodus ers pandemig COVID-19 a chyn hynny. Mae'n un o'r pynciau mwyaf a godwyd gan etholwyr Dyffryn Clwyd, sy'n cysylltu'n rheolaidd â mi ynglŷn â'r diffyg mynediad at driniaeth yng ngwasanaethau deintyddol y GIG, yn enwedig canghennau Mydentist ym Mhractis Deintyddol Elwy yn y Rhyl ac ar y stryd fawr ym Mhrestatyn. Ni allaf bwysleisio digon pa mor bwysig yw iechyd y geg, gan ei fod yn cyfrannu at gymaint o fanteision iechyd ac esthetig, a hyd yn oed manteision canlyniadol i'r galon ac organau mawr eraill yn y corff. Un elfen o'r ddadl bellgyrhaeddol hon yr hoffwn ganolbwyntio arni heddiw, ac a glywsom mewn tystiolaeth yn y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yw'r contract GIG a gynigir i ddeintyddion gan Lywodraeth Cymru. Yr hyn rydym wedi'i glywed mewn tystiolaeth yw'r ffaith nad yw contract y GIG yn gallu cystadlu â chynnig y sector preifat. Ac o ystyried hyn gyda'r ffaith bod deintyddion yn y GIG yn ddarostyngedig i fwy o fiwrocratiaeth a rheolaeth ganol, mae'n methu cystadlu â'r sector preifat sy'n cynnig tâl gwell, telerau ac amodau gwell a llai o benaethiaid. I unrhyw un call, mae'n amlwg pam eu bod yn dewis dilyn gyrfa yn y sector preifat. Mae'n ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i gydnabod y realiti hwn, ac edrych ar sut mae contract y GIG yn cael ei greu, a sut y gall gystadlu orau gyda'r sector preifat i sicrhau bod gyrfaoedd ym maes deintyddiaeth y GIG yn cystadlu â'r sector preifat, ac yn annog darpar ddeintyddion i ddilyn gyrfa yn y sector cyhoeddus, neu hyd yn oed helpu i symud gweithwyr proffesiynol yn y sector preifat, a allai fod wedi eu denu i'r sector preifat mewn blynyddoedd a fu, yn ôl i mewn i'r GIG. Gadewch inni ganolbwyntio ar realiti gwleidyddol hyn am eiliad. Mae gennym Lywodraeth Lafur wrth y llyw yng Nghymru, ac mae hynny wedi bod yn wir ers dechrau datganoli yng Nghymru ym 1997 ac etholiadau cyntaf y Cynulliad ers 1999. Un o egwyddorion sylfaenol Aneurin Bevan, a chreu'r GIG ym 1948, oedd creu parch cydradd rhwng practisau iechyd a deintyddiaeth a'r sector preifat a fyddai'n rhoi cyfle i bob dyn, menyw a phlentyn gael mynediad at ofal iechyd o ansawdd uchel yn rhad ac am ddim pan fo angen. Cafodd hyn ei danseilio amser maith yn ôl gan Lywodraeth Lafur y DU o dan Tony Blair, a addawodd ym 1999 y byddai gan bob person yn y DU fynediad at ddeintydd GIG, a gorfod cyfaddef, chwe blynedd yn ddiweddarach, yn 2005, nad oedd dim y gallai ei wneud am y peth a chyfaddefodd ei fod wedi methu yn ei weledigaeth flaenorol. Yn 2006, ail-ysgrifennodd Llywodraeth Lafur y DU gontract y GIG. O dan yr hen system, câi deintyddion eu talu am y gwaith a wnaent, ac o dan y system newydd, câi ffi sefydlog o tua £80,000 y flwyddyn ei thalu iddynt am gyflawni hyn a hyn o unedau o weithgarwch deintyddol. Mae arnaf ofn fod y dull hwn o weithredu gan Blair wedi methu'n llwyr, a chafodd ei gondemnio gan rai o'i Aelodau Seneddol mwyaf ffyddlon ar y pryd hyd yn oed. Go brin ei bod yn enghraifft ddisglair o'r Blaid Lafur yn cyflawni egwyddorion sylfaenol 1948. Yr hyn rydym yn dechrau ei weld, mewn cyd-destun datganoledig, yw Llywodraeth Cymru yn ailadrodd camgymeriadau a wnaed 20 mlynedd yn ôl, oherwydd mae tystiolaeth yn awgrymu nad cyhuddiad gwleidyddol yn unig yw hyn, ond un a gefnogir gan dystiolaeth gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn yr hyn y mae gweithwyr proffesiynol yn dweud iddo ddigwydd o ganlyniad i bolisi Llywodraeth. Mae gennyf funud ar ôl, ond rwyf am gloi fy sylwadau drwy annog y Gweinidog i adolygu contract y GIG a gweithio mewn ffordd sydd o fudd i gleifion yng Nghymru yn hytrach na gwneud yr un camgymeriadau gwleidyddol ag a wnaed flynyddoedd yn ôl. Diolch. Laura Anne Jones AC: Fel rhywun nad yw'n aelod o'r pwyllgor, rwy'n ddiolchgar am y cyfle i siarad am hyn. Rwy'n croesawu'r adroddiad heddiw'n fawr, Lywydd, a hoffwn ddiolch i glercod y pwyllgor a'r Cadeirydd am weithio mor galed ar yr adroddiad hwn ac am eu hymrwymiad i hyn. Wrth gwrs, rwy'n cytuno â phopeth y mae Cadeirydd y pwyllgor newydd ei ddweud. Fel y dywed yr adroddiad, cafodd y pandemig COVID-19 effaith ddifrifol ar fynediad at wasanaethau deintyddol, ac mae hyn yn rhywbeth rwy'n ei gydnabod yn fy rhanbarth yn ne-ddwyrain Cymru. Mae'r adroddiad yn nodi'n briodol ei fod wedi creu ôl-groniad o gleifion sydd angen gofal a thriniaeth ddeintyddol. Rwy'n cydnabod llawer o'r hyn sydd wedi'i ddweud yn yr adroddiad hwn, ac rwy'n rhannu'r pryderon difrifol ynglŷn â chontractau deintyddol yn fy rhanbarth innau hefyd. Wrth siarad ag etholwr sydd wedi bod yn berchen ar bractis deintyddol ers degawd, nododd rai materion amlwg. Dywedodd fod y contract yn iawn pan oedd yn cael ei gyflwyno'n araf; roedd y cam profi'n caniatáu i ymarferwyr addasu. Ar ôl iddo gael ei orfodi drwodd ar ôl COVID, mae'r perchennog bellach yn wynebu'r posibilrwydd y caiff degau o filoedd o bunnoedd eu hadfachu gan Lywodraeth Cymru am beidio â chyrraedd y targedau, er eu bod ar y trywydd cywir i gyrraedd y targed. Deillia hyn o gost y practis am orfod gweithio am ddim. Ochr yn ochr â hyn, dywedodd fod prosesau olrhain data yn anghywir ac yn ddiffygiol, ac rwy'n falch fod yr adroddiad wedi cydnabod hyn ac wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru ystyried un rhestr aros ganolog ledled Cymru, a bod y Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad hwnnw. Er eu bod yn gweld 400 o gleifion newydd, dywedodd fy etholwr mai dim ond 200 sy'n ymddangos ar y system, gan mai dim ond ar ôl cwblhau'r driniaeth lawn y gallant fewnbynnu'r data, ond eto mae'r targedau ar gyfer niferoedd cleifion yn golygu nad oes digon o apwyntiadau i weld cleifion presennol, rhai newydd, a chwblhau'r driniaeth i gleifion sy'n dod yno am y tro cyntaf ac sydd angen apwyntiadau lluosog. Dywedodd y byddai tua 90 y cant o gleifion angen apwyntiadau lluosog, ac nid yw'r system newydd ond yn cyfnewid un ymarfer trin ffigurau am un arall; nid yw'n ystyried bod rhai cleifion yn nerfus iawn, neu heb weld deintydd ers blynyddoedd. Mae hyn yn golygu, wrth gwrs, y gall apwyntiadau un unigolyn gymryd dwywaith cymaint o amser ag apwyntiad unigolyn arall. Rwy'n falch fod yr adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio a yw'r lefelau presennol o gyllid yn ddigonol i fynd i'r afael â'r ôl-groniad o gleifion. Mae'r cyllid hwn, wrth gwrs, yn allweddol, fel y dywedwyd eisoes, ac mae ei angen yn fwy nag erioed os ydym am fynd i'r afael o ddifrif â'r argyfwng deintyddol yng Nghymru a'r diffyg mynediad y mae fy etholwyr yn ei ddisgrifio i mi. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gwrando ar argymhellion allweddol yr adroddiad hwn, ac yn ystyried difrifoldeb y sefyllfa y mae gwasanaethau deintyddol ledled Cymru yn ei hwynebu. Diolch. Darren Millar AC: Rwyf am wneud cyfraniad byr i'r ddadl bwysig hon ar ddyfodol deintyddiaeth y GIG. Yn anffodus, mae nifer o fy etholwyr wedi cael llythyrau yn ystod y misoedd diwethaf yn dweud nad yw eu practis deintyddol bellach yn mynd i weld cleifion GIG. Mae hynny wedi digwydd yn Rhuthun, ym Mhractis Deintyddol Rhuthun, lle mae 9,000 o gleifion wedi cael y llythyrau hynny, ac mae hefyd wedi digwydd yr wythnos diwethaf ym Mhractis Deintyddol White Gables ym Mae Colwyn, gyda miloedd yn rhagor o bobl yn cael eu siomi, a naill ai'n gorfod talu'n breifat am driniaeth y bydd rhai ohonynt prin yn gallu ei fforddio, neu beidio â chael deintydd o gwbl a gorfod dibynnu ar y gwasanaeth deintyddol brys. Yn amlwg, dyma ddechrau ecsodus, i bob golwg, o ddeintyddion GIG yn gadael deintyddiaeth GIG mewn ffordd nad ydym wedi'i gweld ers blynyddoedd lawer. Wrth gwrs, mae'r proffesiwn deintyddol, Cymdeithas Ddeintyddol Prydain, wedi rhybuddio y byddai hyn yn digwydd o ganlyniad i'r rhaglen ofnadwy o ddiwygio a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, rhaglen roedd pawb wedi gobeithio y byddai'n arwain at ddenu mwy o bobl i broffesiwn deintyddiaeth y GIG, mwy o bobl yn cael mwy o ddiogelwch gyda'u contractau fel y gallent weld mwy o gleifion. Nid yw'n ymddangos bod hynny wedi digwydd. Mae'r Gweinidog wedi cael ei rybuddio dro ar ôl tro fod y rhaglen honno bellach yn methu a bod angen ei hailwampio. Rwyf eisiau eich annog chi, Weinidog, i ailfeddwl a gweithio gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain i lunio dull gwahanol a newydd o wneud y contract, fel y gallwn gael cynnig deintyddiaeth GIG mwy cynaliadwy ledled Cymru y gall cleifion elwa ohono. Ac yn y cyfamser, Weinidog, mae'n gwbl hanfodol fod gennym wasanaeth deintyddol brys sy'n gweithio ac sy'n hawdd i bobl gael mynediad ato. Nid yw'n gweithio yng ngogledd Cymru ar hyn o bryd; mae yna bobl sy'n cysylltu'n rheolaidd â fy swyddfa etholaethol, sy'n dweud wrthyf eu bod yn wynebu rhwystrau a heriau enfawr wrth geisio cael mynediad at wasanaethau deintyddol sydd eu hangen arnynt. Maent naill ai'n cael eu cynghori i fynd at ddeintydd a thalu'n breifat, ac mae llawer ohonynt yn methu gwneud hynny, neu eistedd mewn poen, ac aros nes eu bod yn cyrraedd y trothwy lle maent yn gymwys i gael rhywfaint o driniaeth frys. Nid yw hynny'n ddigon da. Mae'n rhaid inni sicrhau bod gennym system sy'n canolbwyntio'n well ar fynd i'r afael ag anghenion pobl, a sicrhau y gallwn gael canolfannau y gall pobl fynd iddynt a chael mynediad at driniaeth ddeintyddol frys pan fydd ei hangen arnynt. Nid yw'r mynediad hwnnw ar gael yn ddigon hawdd iddynt ar hyn o bryd. Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gyfrannu nawr—Eluned Morgan. Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr. Cyn i mi ymateb, hoffwn gofnodi fy meddyliau a fy mhryderon am yr holl bobl sydd wedi bod yn rhan o'r digwyddiad difrifol iawn yn ysbyty Llwynhelyg heddiw. Hoffwn ddiolch i'r holl wasanaethau sy'n helpu i ymateb ar gymaint o frys. Hefyd, hoffwn gofnodi fy niolch i'r pwyllgor am yr adroddiad ar eu hymchwiliad i ddeintyddiaeth yng Nghymru. Fel pob Aelod o'r Senedd, rwyf wedi derbyn llawer o negeseuon e-bost gan etholwyr pryderus ynglŷn â mynediad at ddeintyddiaeth yn enwedig. Mae llawer i'w wneud i ddatrys problem mynediad at ddeintyddiaeth y GIG, ond rydym yn gweithio ar greu ateb cynaliadwy hirdymor sy'n cynnwys bwrw ymlaen â'r mwyafrif o'r argymhellion a wnaed yn adroddiad y pwyllgor. Ond mae'n rhaid imi ddweud wrthych nad oes ateb cyflym mewn perthynas â deintyddiaeth, ac er mwyn inni ddatrys y sefyllfa, bydd yn costio llawer iawn o arian sy'n anodd iawn dod o hyd iddo ar hyn o bryd. Nawr, ni allaf wneud cyfiawnder o ran ymateb i'r adroddiad mewn ychydig funudau, felly byddaf yn rhoi ymateb ysgrifenedig i'r llythyr a gefais gan Gadeirydd y pwyllgor, er mwyn ymhelaethu ar rai o'r atebion heddiw. Mae peth blagur gwyrdd i'w weld serch hynny, a hoffwn roi rhywfaint o amser heddiw i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd rydym wedi'i wneud gyda rhai o'r argymhellion rydych chi fel pwyllgor wedi'u gwneud ers imi roi fy ymateb ysgrifenedig i adroddiad mis Chwefror. Felly, yn gyntaf oll, ar y cymysgedd sgiliau, roedd hyn ar ein radar cyn ymchwiliad y pwyllgor, a bydd yr Aelodau wedi fy nghlywed yn dweud o'r blaen fod yn rhaid inni wneud gwell defnydd o sgiliau'r tîm deintyddol cyfan. Er mwyn hwyluso hyn, rydym eisoes wedi dadflocio'r mater rheoleiddiol a oedd yn atal hylenwyr a therapyddion deintyddol yn y gorffennol rhag darparu triniaeth yn annibynnol, heb fod angen i ddeintydd awdurdodi'r driniaeth, neu, i ddefnyddio'r term technegol, 'agor a chau triniaeth GIG'. Felly, mae hyn wedi'i wneud nawr heb fod angen rhoi rhif perfformiwr i'r aelodau hyn o'r tîm deintyddol, ac wrth inni symud ymlaen i ddatblygu contract deintyddol newydd, mae angen inni sicrhau ei fod yn darparu'r fframwaith cywir i annog a galluogi cymysgedd sgiliau o fewn timau deintyddol y GIG. Ar lefel ehangach, roedd y pwyllgor yn cydnabod yr anhawster i recriwtio pobl i ardaloedd gwledig—ac mae llawer o bobl wedi cyffwrdd â'r mater hwnnw yn benodol—ac i fynd i'r afael â'r mater penodol hwnnw, felly, mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi llunio cynnig gwell, sy'n anelu at annog hyfforddeion deintyddol y dyfodol i gwblhau eu blwyddyn sylfaen mewn practisau deintyddol ar hyd a lled cefn gwlad Cymru, yn hytrach nag yn yr ardaloedd trefol mwy poblogaidd. Felly, yn ogystal â chodiad cyflog o £5,000, bydd deintyddion sy'n manteisio ar y cynnig hefyd yn cael cefnogaeth academaidd a lles gwell drwy gydol y rhaglen, a gobeithio y bydd hyn yn helpu i gynyddu mynediad at ofal GIG i bobl leol yng nghefn gwlad Cymru. Ar hyn o bryd mae AaGIC hefyd yn datblygu cynllun gweithlu ar gyfer deintyddiaeth a fydd yn canolbwyntio, nid yn unig ar dyfu'r gweithlu, ond ar ei gadw hefyd. Nawr, yn gynharach eleni, cyhoeddais gynllun gweithredu cenedlaethol ar gyfer y gweithlu—roedd yn rhaid i hwnnw ddod yn gyntaf, felly fe wnaethom aros i hwnnw gael ei gyhoeddi yn gyntaf. Mae hwn yn ymrwymo i gyflawni cynllun gweithlu strategol ar gyfer deintyddiaeth erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon. Rwy'n sylweddoli nad yw hynny'n cyd-fynd ag argymhellion y pwyllgor o ran cyflymder, ond rwy'n credu bod yn rhaid inni wneud hyn yn iawn, ac mae'n rhaid inni sicrhau ein bod yn rhoi amser i wrando ar aelodau presennol y proffesiwn, ynghyd ag aelodau'r dyfodol, ynglŷn â'r hyn a fyddai'n gweithio a beth fyddai'n eu hannog i aros yn y GIG. A hefyd, mae yna seilwaith y mae angen inni feddwl amdano. Mae llawer o bobl wedi sôn am agor ysgolion deintyddol, ac yn y blaen; ni allwch wneud hynny dros nos—mae angen ichi weithio ar y pethau hynny gyda phrifysgolion, gydag addysg bellach. Felly, rwy'n credu ei fod yn cymryd mwy o amser na'r hyn y mae'r pwyllgor wedi'i roi i ni. Felly, mae AaGIC yn gweithio gydag israddedigion presennol i ddeall beth maent ei eisiau ar gyfer eu gyrfa mewn deintyddiaeth GIG yn y dyfodol, a'r hyn a fyddai'n eu hannog i aros yng Nghymru. A gadewch inni beidio ag anghofio ein bod eisoes wedi buddsoddi swm enfawr o arian yn y bobl hyn, ac rwy'n credu, ar ryw bwynt, fod yn rhaid inni feddwl am amodoldeb—os ydym wedi gwario cymaint o arian yn hyfforddi pobl, lle mae ein had-daliad ni, o ran yr hyn rydym wedi'i roi i mewn, fel trethdalwyr, i'r bobl hyn? Ac mae honno'n sgwrs rwy'n ei chael nawr gyda fy swyddogion, ac mae angen sgwrs lawer ehangach ar hynny yn fy marn i. Rwy'n credu mai'r safbwyntiau byd go iawn hyn fydd yn ein helpu i ddatblygu strategaeth ar gyfer y gweithlu sy'n mynd i wneud gwahaniaeth. Mae'n amlwg fod angen inni hyfforddi mwy o ddeintyddion a gweithwyr proffesiynol gofal deintyddol, ac rydym yn edrych ar hynny'n agos iawn ar hyn o bryd. At ei gilydd rwy'n cefnogi ysgol ddeintyddol newydd, ond rwy'n credu bod hwnnw'n ddatblygiad hirdymor. Bydd angen buddsoddiad sylweddol, ac ar hyn o bryd, rydym yn brin iawn o arian. Yn y cyfamser, rydym yn archwilio gyda Phrifysgol Caerdydd sut y gallwn gynyddu nifer y lleoedd israddedig ar gyfer deintyddiaeth a therapi deintyddol o fewn y cyfleusterau hyfforddi presennol, ac rydym yn obeithiol— Alun Davies AC: A wnewch chi dderbyn ymyriad, Weinidog? Eluned Morgan AC: Wrth gwrs. Alun Davies AC: Mae'r hyn rydych chi newydd ei ddweud am y capasiti i gynyddu lleoedd hyfforddi yn hynod ddiddorol, oherwydd credaf mai un o themâu ein dadleuon ar bob mater yn ymwneud ag iechyd dros yr 16 mlynedd y bûm yma yw'r gweithlu a'r anallu i hyfforddi gweithlu. Ac os edrychwn yn ôl ar 75 mlynedd o'r gwasanaeth iechyd gwladol, rydym yn gyson wedi methu hyfforddi gweithlu—bob amser roedd rhaid ichi ddod â phobl i mewn a oedd wedi hyfforddi dramor i gynnal a chefnogi ein holl weithgarwch iechyd. A fyddai'n bosibl i'r Llywodraeth arwain dadl ar y materion hyn, fel y gallwn ystyried, fel Senedd, sut y gallwn fuddsoddi mewn gweithlu, a sut y byddem yn talu am hynny? Oherwydd rwy'n credu y byddai'r gwrthbleidiau hefyd yn gwerthfawrogi'r cyfle i gael y sgwrs am yr angen i flaenoriaethu hyfforddi gweithlu proffesiynol i gynnal gwasanaethau iechyd ar gyfer y dyfodol. Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr. Wel, wrth gwrs, rydym yn hyfforddi mwy o bobl nag erioed o'r blaen. Rydym yn gwario £280 miliwn y flwyddyn ar hyfforddi pobl, felly rydym eisoes yn y system. Rwy'n awyddus i weld beth arall y gallwn ei wneud i sicrhau ein bod yn cael enillion ar y buddsoddiad hwnnw. Felly, mae gennym gynllun gweithlu—ac yn Lloegr, nid wyf yn credu eu bod wedi cael cynllun gweithlu ers 2003. Felly, mae gennym gynllun gweithlu. Mae gennym strategaeth erbyn hyn, mae gennym gynllun gweithredu ar gyfer y gweithlu erbyn hyn. Felly, mae hyn i gyd yn datblygu i sicrhau ein bod yn edrych ar hynny. Felly, mewn gwirionedd, mae gennym lawer o bethau ar waith. Gallem wneud llawer mwy pe bai gennym lawer mwy o arian, ond rwy'n credu bod rhai materion ehangach y mae angen inni siarad amdanynt, o ran, os ydym yn rhoi cymaint â hynny i mewn, a ydym yn hollol siŵr ein bod yn cael yr hyn rydym ei eisiau ohono, ac a ydynt yn aros gyda ni ar ôl i ni eu hyfforddi? Felly, rwy'n derbyn hynny, ac mae'n sicr yn rhywbeth rwyf wedi gofyn i fy swyddogion wneud ychydig mwy o waith arno. Eluned Morgan AC: Roedd un arall o'r argymhellion yn ymwneud ag adfer y gwasanaeth Cynllun Gwên mewn ysgolion. Dŷn ni'n gwybod bod y gwasanaeth yma wedi cael effaith bositif iawn ar iechyd deintyddol plant hyd at saith oed ers iddo gael ei sefydlu 13 blynedd yn ôl—a diolch i Mike am godi hynny. Mae'r adroddiad blynyddol ar gyfer y llynedd yn cael ei baratoi ar hyn o bryd, a dŷn ni'n hyderus y bydd camau sylweddol tuag at adferiad wedi cael eu cymryd. Fe wnaf i rannu'r adroddiad â'r Aelodau pan fydd hwnnw ar gael. Fe ddywedais i yn fy natganiadychydig fisoedd yn ôl mai'r grŵp oedran rŷm ni'n awyddus i ganolbwyntio arno nesaf yw plant oedran uwchradd. Mae hyn yn gyson ag un arall o argymhellion y pwyllgor. Dyma'r oed ffurfiannol pan fydd plant yn dechrau gwneud dewisiadau mwy annibynnol am yr hyn maen nhw yn ei fwyta ac yn ei yfed. Nes ymlaen y mis yma, bydd uned ddeintyddol symudol yn cael ei threialu ar safle Ysgol y Moelwyn ym Mlaenau Ffestiniog. Dros nifer o wythnosau, bydd pob plentyn yn yr ysgol yn cael cyfle i gael archwiliad dannedd a chyngor ar sut i gadw'r geg a'r dannedd yn iach, a chael eu cyfeirio ymlaen at unrhyw driniaeth sydd ei hangen. Mae hwn yn ddatblygiad dwi'n meddwl sy'n gyffrous iawn, a bydd yn cael ei gloriannu yn llawn i ddeall y budd i'r grŵp oedran penodol yma cyn symud ymlaen i gyflwyno'r ddarpariaeth yma yn fwy eang. Gallaf gadarnhau hefyd ein bod ni wedi dechrau'r broses a fydd yn arwain at drafodaeth ffurfiol am gontract ddeintyddol newydd. Mae'r mandad tair rhan sy'n nodi'r holl eitemau mae Llywodraeth Cymru, yr NHS a Chymdeithas Ddeintyddol Prydain yn dymuno eu trafod yn mynd drwy'r camau cymeradwyo. Nawr, dwi'n gwybod bydd hwn yn gyfnod heriol mewn mannau, ond dwi'n hyderus y bydd y broses negodi ei hun yn rhoi mecanwaith tryloyw i sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng anghenion a dymuniadau pawb sy'n cymryd rhan. Mae hefyd yn rhoi'r cyfle i nodi a chael gwared ar unrhyw faich gweinyddol neu ddyblygu sy'n gysylltiedig â darparu deintyddiaeth yr NHS, yn unol ag argymhelliad y pwyllgor. Nawr, rydych chi hefyd wedi sôn bod chi eisiau gweld data. Felly, mae angen inni godi'r data, sydd yn dod i mewn i'r pwysau gweinyddol yma. Felly, mae'n rhaid inni gael y balans yn iawn. Yn anochel, mae llawer o'r argymhellion yn yr adroddiad yn gysylltiedig â'r trafodaethau ar gyfer y cytundeb newydd. Dwi yn meddwl bod rhaid inni fynd ati i'w newid hi rhywfaint. Dwi wrthi yn ceisio siarad gyda deintyddion ar lawr gwlad jest i gael gwell syniad oddi wrthyn nhw sut maen nhw'n teimlo ar hyn o bryd. Dyma'r sylfaen, dwi'n meddwl, ar gyfer darparu gwasanaethau deintyddol gofal sylfaenol, ac, unwaith bydd hwn yn ei le, bydd e'n troi, dwi'n gobeithio, yn sail gadarn i fynd i'r afael â diwygio deintyddol ehangach sy'n ganolog i lawer o argymhellion y pwyllgor. Dwi'n cydnabod bod llawer i'w wneud i wella mynediad at ddeintyddiaeth yr NHS; mae'n un o fy mlaenoriaethau pennaf i. Byddaf i'n rhoi diweddariad rheolaidd i'r Aelodau ar y cynnydd ac ar y gwaith rŷm ni wedi ei wneud. Mae lot fawr i'w wneud. Byddem ni'n gallu gwneud lot mwy pe byddai mwy o arian gennym ni, ac mae hwnna yn broblem i ni. Mae sawl person wedi sôn am y ffaith bod problemau costau byw gyda lot o bobl ar hyn o bryd. Y ffaith yw yng Nghymru, ar gyfer band 3, mae angen talu £203. Yn Lloegr, mae angen talu £306. Felly, mae faint rŷm ni'n ei godi ar bobl i gael y driniaeth yn yr NHS lot yn llai yn fan hyn, a dwi yn meddwl bod hi'n werth dweud mai dim ond am dair blynedd roedd deintyddiaeth ar gael am ddim yn y wlad yma, o 1948 i 1951. Felly, dyw hi ddim wedi bod am ddim yn y wlad yma ers 1951, er bod gyda ni, wrth gwrs, ffordd yn y wlad yma o sicrhau bod y bobl sydd wirioneddol ddim yn gallu talu yn cael yr help sydd ei angen, a doedd 311,000 o bobl ddim wedi talu am y driniaeth llynedd o'r 1.3 miliwn a oedd wedi derbyn gwasanaeth gan yr NHS. Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair. Galwaf ar Russell George i ymateb i'r ddadl. Russell George AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Wrth imi wrando’n astud ar y Gweinidog, gallaf ddweud bod Janet Finch-Saunders, fy nghyd-Aelod wrth fy ymyl, yn pasio losinen i mi, felly meddyliais na ddylwn ei rhoi yn fy ngheg wrth ymateb i’r ddadl hon y prynhawn yma. [Chwerthin.] Ond a gaf fi ddiolch i’r Aelodau am gymryd rhan yn y ddadl hon, a diolch hefyd i dîm y pwyllgor, y tîm ymchwil, y tîm integredig ehangach a thîm allgymorth y Senedd am eu gwaith? Rwy'n cytuno â barn Cefin Campbell am y ffaith bod deintyddion mewn sefyllfa anodd iawn yng nghefn gwlad Cymru. Roeddwn yn gwybod nad oedd gan Bowys unrhyw ddeintydd GIG a oedd yn fodlon derbyn oedolion ar eu rhestrau aros; ni wyddwn fod hynny’n wir ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru i gyd, sy'n ardal lawer ehangach. Ond soniodd Cefin hefyd am bryderon ynglŷn â'r gweithlu, fel y gwnaeth eraill. Yna, roedd mater yn ymwneud â'r ysgol a chyfleusterau hyfforddi. Credaf fod gorllewin Cymru wedi achub y blaen wrth ofyn am hynny. Credaf fod Cefin wedi crybwyll hynny, a gwnaeth Sam Kurtz hefyd, a soniodd Mike Hedges am Abertawe, a waeth i minnau ofyn am un yng nghanolbarth Cymru hefyd. Ond na, rwy’n gwerthfawrogi ymateb y Gweinidog a'r wybodaeth ddiweddaraf yn ei hymateb ynglŷn â’r ysgol yng ngogleddCymru yn ei chyfraniad. Soniodd Mike am ddeintyddion yn ymrwymo i’r contract heb gael gwybodaeth glir yn ei gylch, ac wrth gwrs, roedd gennym argymhelliad ynghylch y pwynt hwnnw. Nodais fod Mike wedi dweud y byddai’n hoffi pe bai deintydd GIG ar gael i bawb, a chredaf y byddem wedi meddwl mai dyna’r norm ychydig flynyddoedd yn ôl. A bellach, dyna rydym yn gofyn amdano—dim ond hynny. Dylai hynny, wrth gwrs, fod yn ofyniad sylfaenol. A thynnodd Sam Kurtz sylw at yr ymgynghoriad annigonol ar ddiwygio deintyddol, a nododd Gareth Davies yr un peth hefyd o ran y contract GIG yn methu cystadlu â’r sector preifat, gyda Laura Anne Jones yn gwneud pwyntiau tebyg yn hynny o beth. Dechreuodd Darren Millar drwy ddweud ei fod yn mynd i wneud cyfraniad byr ac yna aeth ymlaen am bum munud a hanner, ond roedd Darren hefyd yn gwneud pwyntiau tebyg, a rhai heriol hefyd, gan wneud yr her briodol honno i weithio gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain, wrth gwrs, ar ddiwygio yn y dyfodol hefyd, a sicrhau bod digon o amser. Er bod COVID-19 wedi cael effaith ddifrifol ar ddeintyddiaeth y GIG yn anochel, credaf ei bod yn amlwg fod problemau hirsefydlog yn bodoli cyn y pandemig, pwynt a godwyd gan Mike Hedges a Laura Anne Jones hefyd. Ond os ydym o ddifrifam fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau mewn deintyddiaeth yn y GIG a gwella canlyniadau deintyddol i bobl ledled Cymru, mae angen inni gael mwy o ddata wedi'i ddadgyfuno. Rwy’n falch fod y Gweinidog wedi mynd ar drywydd hynny yn ddiweddarach yn ei chyfraniad, oherwydd heb ddata o’r fath, ni allwn nodi’r rhwystrau sy’n effeithio ar rai grwpiau nac asesu a yw’r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn mynd i gael yr effaith rydym am ei gweld. Felly, diolch, Weinidog. Fe fyddwch wedi derbyn y llythyr gennym ychydig ddyddiau yn ôl. Roeddem am anfon hwnnw atoch cyn y ddadl, a diolch am fynd ar drywydd rhai o’r pwyntiau, ond rwy’n ddiolchgar eich bod yn mynd i ymateb ymhellach i ni hefyd. Wrth gwrs, rwy’n cytuno nad oes ateb cyflym i lawer o’r materion a nodwyd gennym yn yr adroddiad a rhai o’r materion a nodwyd mewn perthynas â deintyddiaeth, ond wrth gwrs, credaf mai rhan o’r mater yw cynllun y gweithlu, y dywedoch chi y byddai ar gael erbyn diwedd y flwyddyn. Felly, diolch i’r Gweinidog am ei hymateb yn hynny o beth hefyd. Ond diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 9. Dadl Plaid Cymru: Datganoli cyfiawnder a phlismona Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths. Eitem 9, dadl Plaid Cymru, datganoli cyfiawnder a phlismona. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i wneud y cynnig. Cynnig NDM8300 Siân Gwenllian Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi, dros chwarter canrif ers datganoli, fod Cymru yn parhau i fod yr unig wlad ddatganoledig heb ei system gyfreithiol a'i phwerau dros ei lluoedd heddlu, er nad oes sail resymol dros hyn. 2. Yn credu: a) y dylid datganoli pwerau dros gyfiawnder a phlismona yn llawn i Gymru; a b) y gall sefydlu system gyfreithiol benodol yng Nghymru a gwneud heddluoedd Cymru yn gwbl atebol i'r Senedd fod yn gamau hanfodol ar hyd y ffordd i annibyniaeth. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ofyn yn ffurfiol am bwerau dros gyfiawnder a phlismona. Cynigiwyd y cynnig. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch, Dirprwy Lywydd, ac mae'n bleser gen i agor dadl Plaid Cymru y prynhawn yma, fy nadl gyntaf i fel arweinydd. Dwi'n falch bod y ddadl gyntaf dan fy arweinyddiaeth i ar fater sydd mor greiddiol o bwysig. Mae cyfiawnder yn fater sydd yn greiddiol i'n bywydau bob dydd ni. Mae'n effeithio ar ein cymunedau ni, ar ein dinasyddion ni, mewn cymaint o ffyrdd, ac mae'n ymwneud â thegwch, mae'n ymwneud â ni'n dyfeisio ein ffawd ein hunain. Yn sylfaenol, dim ond drwy sicrhau bod Cymru yn cael y grymoedd angenrheidiol y byddwn ni'n llwyddo i adeiladu cenedl decach, wyrddach, mwy ffyniannus ac uchelgeisiol. Rhun ap Iorwerth AC: Nid 'rhywbeth braf i'w gael' yw datganoli cyfiawnder a phlismona. Credaf fod hyn yn hanfodol, a chredaf ei bod yn niweidiol nad oes gennym y cyfrifoldebau hyn. Rwyf am ddechrau y prynhawn yma gyda geiriau arbenigwr academaidd blaenllaw ym maes cyfiawnder, Dr Rob Jones. Ei gasgliad syfrdanol wrth gyd-ysgrifennu The Welsh Criminal Justice System oedd: Rhun ap Iorwerth AC: 'Ar lawer o fesurau allweddol, fe welwn fod y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru’n perfformio hyd yn oed yn waeth na’r un yn Lloegr, gwlad sy’n haeddu cael ei hadnabod ymhlith y perfformwyr gwaethaf yng ngorllewin Ewrop. Gwelwn gyfraddau uwch o droseddau treisgar, data sy'n peri pryder ar hil yn y system drwyddi draw, cyfraddau carcharu sy'n uwch nag yn Lloegr, a chyfran uwch o’r boblogaeth sy'n ddarostyngedig i ryw fath o oruchwyliaeth brawf.' Wrth i Aelodau ar draws y Siambr ystyried y cyfraniadau heddiw a gwneud eu cyfraniadau eu hunain, rwy'n annog pawb i ofyn iddynt eu hunain, 'Sut y gall hyn fod yn dderbyniol?' Er bod Llywodraeth y DU yn rhoi polisïau ar waith sy’n ceisio mynd i’r afael â materion a all fod yn gyffredin yn Lloegr, ni all fod yn iawn—ni all byth fod yn dderbyniol—i ni yng Nghymru orfod etifeddu atebion honedig nad ydynt yn gweithio i ni yma yng Nghymru. Nawr, cyn imi droi at y diben, yr angen ymarferol i ddatganoli'r system gyfiawnder, hoffwn ddweud ychydig eiriau am y wleidyddiaeth. Ymrwymodd maniffesto Llafur Cymru 2021 i fynd ar drywydd yr achos dros ddatganoli cyfiawnder a phlismona, fel y'i nodwyd gan gomisiwn Thomas, ond serch hynny, yn y Siambr hon ddoe ddiwethaf, cymeradwyodd y Prif Weinidog gynnig gwahanol iawn a ddeilliodd o waith cyn-Brif Weinidog y DU, Gordon Brown, sef y byddai Llywodraeth Lafur yn San Steffan ond yn datganoli pwerau dros y gwasanaeth prawf a chyfiawnder ieuenctid yn unig i’r Senedd. Mae’n ganlyniad siomedig, a dweud y lleiaf, i gyfraniad Llafur i’r ddadl ar ddatganoli rhagor o bwerau. Rwy'n croesawu'r ffaith ein bod yn rhwyfo gyda’n gilydd i’r un cyfeiriad, ond mawredd, mae’n peri rhwystredigaeth i mi pan fydd un yn rhwyfo’n gynt na’r llall. Y canlyniad yw eich bod yn troi mewn cylchoedd yn y pen draw, onid ydych? Mae’r briwsion cyfansoddiadol a gynigir yn wahanol iawn i’r hyn a addawyd gan ragflaenydd y Prif Weinidog, a ddywedodd, wrth basio Deddf Cymru yn 2017, na fyddai ein setliad datganoli presennol byth yn sefydlog heb ymgysylltiad ar faterion sylfaenol cyfiawnder ac awdurdodaeth. A gaf fi annog Llywodraeth Cymru i fod mor uchelgeisiol â ninnau ar y meinciau hyn dros Gymru ar y mater penodol hwn? Ailadroddaf yr hyn a ddywedais ddoe: os na wnewch chi ofyn, ni wnewch chi gael. Oes, mae angen sicrhau bod darpar Brif Weinidog y DU, Keir Starmer, yn cadw at ymrwymiadau blaenorol a wnaed gan Lafur eu hunain, ond mae’n rhaid gofyn y cwestiynau ffurfiol i Weinidogion presennol y DU. Darllenais gyda chryn siom yr ateb a roddwyd i gwestiwn ysgrifenedig fy nghyfaill, yr Arglwydd Wigley, yn Nhŷ’r Arglwyddi, a ddatgelodd, yn ôl y Gweinidog, nad yw Llywodraeth Cymru wedi gofyn yn ffurfiol am drosglwyddo pwerau cyfiawnder a phlismona. Nawr, clywais yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog yma yn y Siambr ddoe, nad yw'n wir nad yw Llywodraeth Cymru wedi bod yn ceisio dylanwadu ar bolisi ar ddatganoli cyfiawnder, a gwn fod trafodaethau ar ddeddfu elfennau o gomisiwn Thomas wedi bod yn mynd rhagddynt, a rhoddodd y Prif Weinidog ddisgrifiad ddoe o rai o’r camau a gymerwyd. Ond gadewch imi ddweud hyn wrth y Cwnsler Cyffredinol heddiw: peidiwch â rhoi rheswm i Weinidogion Ceidwadol yn San Steffan ddweud na wnaed cais ffurfiol am ddatganoli plismona a chyfiawnder. A gadewch imi ofyn i'r Cwnsler Cyffredinol heddiw: ysgrifennwch at Lywodraeth y DU i wneud y cais ffurfiol hwnnw am ddatganoli pwerau dros blismona a chyfiawnder yn llawn, a phan gyhoeddir y llythyr hwnnw yma yng Nghymru, byddaf yn falch iawn o'i gymeradwyo, ac yna, os daw Keir Starmer yn Brif Weinidog nesaf y Deyrnas Unedig, byddwn yn sicrhau ei fod yn cadw at ei air ac yn gwireddu'r cais a wnaed gan y Cwnsler Cyffredinol yn enw Llywodraeth Cymru ac yn enw’r Senedd. Heb amheuaeth, mae cyfiawnder yn un o sylfeini'r broses o lunio polisi. Mae'n caniatáu i Lywodraethau reoli diogelwch eu pobl. Mae'n hanfodol er mwyn caniatáu i lunwyr polisi ddatblygu'r math o gymunedau y maent yn dymuno eu cael, ac wrth wneud hynny, i fynd i'r afael ag unrhyw broblemau sy'n amharu ar y weledigaeth honno. Heb bwerau dros gyfiawnder, mae rhwyg yn datblygu, lle mae gan Weinidogion Cymru gyfrifoldeb dros feysydd sy’n cysylltu’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol â chyfiawnder a phlismona. Fel y dywedodd yr Arglwydd Thomas yn glir pan gwblhaodd ei waith manwl—ac rydym yn ddiolchgar iddo am ei ymrwymiad i hyn—mae pobl yng Nghymru, meddai, yn cael eu hesgeuluso gan y system yn ei chyflwr presennol. Nid wyf yn credu y byddai llawer o bobl yn anghytuno, gobeithio, fod y ffordd y mae cyfrifoldebau wedi'u rhannu ar hyn o bryd rhwng San Steffan a Chaerdydd wedi creu cymhlethdod, dryswch ac anghydlyniaeth mewn sawl ffordd ym maes cyfiawnder a phlismona yng Nghymru. Ac nid yn unig ei fod yn gymhleth mewn ffordd fiwrocrataidd; mae'n cymhlethu bywydau pobl ac yn cael effaith andwyol ar fywydau pobl. Mae’n creu anawsterau ymarferol, mae’n effeithio ar fynediad at gyfiawnder, mae’n effeithio’n anghymesur ar fynediad at gyfiawnder i’r rhai sy’n dioddef yn sgil yr anghydraddoldebau sydd mor gyffredin yn ein cymdeithas. Rydym wedi gweld toriadau i gymorth cyfreithiol, mwy o bobl yn cynrychioli eu hunain yn y llys, gorddibyniaeth ar garcharu o gymharu ag adsefydlu, diffyg cyfleusterau i fenywod, a gor-gynrychiolaeth o bobl ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol o fewn y system cyfiawnder troseddol. Mae’r rhain yn bethau rwyf am ein gweld ni yng Nghymru yn gallu eu datrys. Maent yn ganlyniadau i benderfyniadau a wnaed mewn mannau eraill ond a roddir ar waith yma, boed ein bod yn hoffi hynny ai peidio. Mae’r Cwnsler Cyffredinol a minnau'n cytuno ar yr egwyddorion sy’n ymwneud â phlismona, yn sicr. Y prynhawn yma, roeddwn yn darllen geiriau’r Cwnsler Cyffredinol ei hun yn gynharach eleni. Mae'n 'rhesymegol, mae'n gwneud synnwyr', meddai am ddatganoli plismona, ac, yn ôl ym mis Chwefror, dywedodd fod pob comisiynydd heddlu a throseddu etholedig, yn cytuno y dylai ddigwydd; 'Rwy'n credu un diwrnod y bydd yn digwydd.' Wel, gadewch inni weld hyn yn digwydd ynghynt. Dylai fod yr un mor rhwystredig â minnau ynghylch y negeseuon a ddaw gan arweinyddiaeth y Blaid Lafur o dan Keir Starmer. Mae angen inni weld hyn yn digwydd. Rhun ap Iorwerth AC: Dwi'n falch iawn ein bod ni wedi gallu dod â'r ddadl yma ar lawr y Senedd y prynhawn ma. Dwi'n edrych ymlaen at glywed y cyfraniadau o bob ochr y Siambr. Dwi hefyd yn edrych ymlaen, wrth gwrs, i glywed ymateb y Cwnsler Cyffredinol, a dwi wir yn gobeithio y bydd y drafodaeth yma yn sbarduno rhywbeth o fewn Llywodraeth Cymru i fod eisiau cyflymu eu gweithredu ar yr hyn maen nhw'n ei ddweud yn eu maniffestos ac mor aml yn gyhoeddus. Ond gallwn ni ddim gadael i eiriau fod yn eiriau yn unig; y gweithredu sydd yn bwysig. Os ydy pob un wlad arall normal yn y byd sydd efo pwerau deddfu a rheolaeth dros bolisi cyfiawnder a phlismona yn ei chymryd hi'n ganiataol mai felly y dylai hi fod, pa reswm sydd yna i Gymru fod yn wahanol? A faint o ddifrod sy'n digwydd i Gymru a dinasyddion Cymru drwy beidio â chael y pwerau yna? Ystyriwch y ddau gwestiwn yna. Ac onid ydy atebion y ddau gwestiwn sylfaenol yna yn arwain yn naturiol at y casgliad mai datganoli cyfiawnder ydy'r unig ateb synhwyrol? Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Gwelliant 1—Lesley Griffiths Dileu popeth ar ôl is-bwynt 2(a) a rhoi yn ei le: y gall sefydlu system gyfreithiol benodol yng Nghymru a gwneud heddluoedd Cymru yn gwbl atebol i'r Senedd fod yn gamau hanfodol i sicrhau bod modd darparu cyfiawnder a phlismona yn well er budd pobl Cymru; a bod y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru wedi nodi'n glir pam y dylid datganoli pwerau dros gyfiawnder yn llawn a sefydlu awdurdodaeth gyfreithiol yng Nghymru. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i fynd ar drywydd yr achos dros ddatganoli plismona a chyfiawnder ac i baratoi ar ei gyfer. Cynigiwyd gwelliant 1. Mick Antoniw AC: Yn ffurfiol. Alun Davies AC: Rwy'n croesawu cyfraniad arweinydd newydd Plaid Cymru yn fawr, a hoffwn ei longyfarch ar gael ei ethol yr wythnos diwethaf a dymuno pob dymuniad da iddo ar gyfer y dyfodol yn y rôl honno. Mae datganoli plismona a chyfiawnder troseddol yn rhywbeth rydym wedi'i drafod yma ar sawl achlysur, ac mae'n bosibl dod o hyd i'r papur sigaréts annelwigo wahaniaeth rhwng meinciau Plaid Cymru a'r meinciau Llafur ar y mater hwn. Yn hytrach na cheisio gwneud hynny, fy nghyngor i fyddai ceisio undod a cheisio cytundeb ar y materion hyn, yn hytrach na cheisio ymraniad, gan fod hwn yn argyfwng. Mae'n argyfwng parhaus yn ein gwlad. Nid cysyniad academaidd na haniaethol mohono, rhywbeth i gyfreithwyr siarad amdano yn hwyr y nos, rhywbeth i anoracs cyfansoddiadol siarad amdano pan fyddant wedi mynd yn brin o bob cysyniad haniaethol arall i sgwrsio yn ei gylch. Mae hwn yn argyfwng sy'n effeithio ar bobl yn y wlad hon heddiw, yfory, yr wythnos nesaf, y mis nesaf, y flwyddyn nesaf, a menywod, rwy'n credu, sy'n dioddef waethaf yn sgil methiant y system hon. Mae gweinyddu cyfiawnder troseddol a phlismona yng Nghymru wedi torri. Mae wedi'i dorri—yn strwythurol—gan system na chafodd erioed mo'i chynllunio i weithio yng nghyd-destun hunanlywodraeth ddemocrataidd yng Nghymru. Dylem gydnabod hynny. Yr hyn y byddwn i'n ceisio'i wneud, a—. Rwyf wedi clywed y ddadl hon, ac yn aml iawn mae arnaf ofn ein bod yn cael dadleuon diffrwyth iawn ar brynhawn Mercher ynglŷn â'r mater hwn. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth o gwbl y bydd Mark Isherwood yn ymuno â'r ddadl mewn ychydig funudau a bydd yn dyfynnu araith a wnaeth yn 2018 neu 2017 a bydd yn dyfynnu ei araith eto o 2020 lle mae'n rhestru'r troseddau a gyflawnwyd gan bobl o Lannau Mersi neu rywle arall yng ngogledd Cymru. Mae'n iawn ac yn briodol ein bod yn trafod y materion hyn, Mark, ond mae'n rhaid inni gael trafodaeth fwy deallus hefyd. Os edrychwch ar blismona ar draws y Deyrnas Unedig, er enghraifft, mae wedi'i ddatganoli ym mhob gweinyddiaeth yn y Deyrnas Unedig, ac mae wedi'i ddatganoli mewn dinasoedd yn Lloegr, fel Manceinion a Llundain. Nid oes neb yn awgrymu bod y lleoedd hyn yn ynysoedd o drosedd heb unrhyw berthynas â lleoedd eraill. Nid oes neb yn awgrymu nad oes gan heddluoedd yng Nghymru unrhyw berthynas â heddluoedd dros y ffin nac mewn mannau eraill. Nid oes neb yn awgrymu nad ydym yn siarad â'n gilydd, nad ydym yn gweithio gyda'n gilydd. Nid oes neb yn awgrymu ein bod yn creu rhyw fath o len haearn ar draws ein ffiniau ac yn atal heddweision yma rhag siarad â chydweithwyr mewn mannau eraill. Nid oes neb yn awgrymu'r pethau hyn. Mae angen cydnabod y rhagdybiaethau bwriadol gyfeiliornus a gyflwynir i ddadlau'r achos yn erbyn datganoli am yr hyn ydynt. Rwy'n credu yma fod y Ceidwadwyr, a rhai pobl o fewn y Blaid Lafur a dweud y gwir, yn camgymryd yn sylfaenol beth mae hyn yn ei olygu. Rwyf am weld Teyrnas Unedig gref ac rwyf am weld Teyrnas Unedig sefydlog, ac mae'n debyg fod y ffurf anghymesur ar ddatganoli a oedd gennym yn y Deyrnas Unedig yn ôl yn y 1990au yn adlewyrchu dymuniadau pobl Cymru'n deg ym 1999, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod hynny. Ond nid yw'r hyn a adlewyrchai ein barn 25 mlynedd yn ôl yn adlewyrchu ein barn ynghylch strwythur llywodraeth heddiw, ac mae angen i lywodraeth symud ac mae angen i'r cyfansoddiad symud i gydnabod hynny. Yr hyn y mae hynny'n ei olygu yw bod datganoli cymesur, yn sicr ar ynys Prydain rhwng Cymru, yr Alban a gweddill y DU—a Lloegr—yn bwysig o ran strwythur y Deyrnas Unedig a galluogi'r Deyrnas Unedig i gael y llywodraethiant sydd ei angen arnom i gyd. Mae hwn yn bwynt rwyf am ei wneud i'n cyd-Aelodau Ceidwadol: camgymeriad yw drysu rhwng unoliaetholdeb a chanoliaetholdeb. Pe byddech chi wedi gwrando ar ddadl yn Nhŷ'r Cyffredin beth amser yn ôl, roedd gennych rai o unoliaethwyr ffyrnicaf Gogledd Iwerddon yn dadlau dros ddatganoli plismona a chyfiawnder i Gymru oherwydd eu bod yn cydnabod bod undeb cryf yn undeb lle mae gan bob rhan gyfansoddol o'r undeb hwnnw strwythurau tebyg a phwerau tebyg ar gael iddo, am fod hynny'n creu sefydlogrwydd o fewn yr undeb. Os oes gennych chi'r AS dros Strangford neu lle bynnag yn dadlau dros ddatganoli cyfiawnder a phlismona, gallwch fod yn eithaf sicr nad ydynt yn ei wneud oherwydd bod Sinn Fein yn ei gefnogi hefyd. Gallwch fod yn eithaf sicr hefyd eu bod yn deall pwysigrwydd datganoli'r materion hyn i'r undeb yn y dyfodol. Yr hyn rwy'n gobeithio y gallwn ei wneud—a hoffwn glywed ymateb y Cwnsler Cyffredinol i hyn—gan fod y Bil Dioddefwyr a Charcharorion ger bron y Senedd yn Llundain ar hyn o bryd: beth yw barn Llywodraeth Cymru ar gynnig cydsyniad deddfwriaethol yma? Mae'n ymddangos i mi y dylid deddfu llawer o gynnwys y Bil hwnnw yma ac y dylai adlewyrchu blaenoriaethau'r lle hwn a Llywodraeth Cymru, ac nid Llywodraeth yn Llundain nad yw'n cydnabod pwysigrwydd y materion hyn i bobl yma yng Nghymru a'r strwythurau sy'n bodoli yng Nghymru er mwyn cyflawni polisi— Diolch yn fawr, Alun. Gallwch chi orffen nawr. Alun Davies AC: Fe ddof â fy sylwadau i ben. Felly, er lles y bobl sy'n rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn y wlad hon, sydd ar hyn o bryd yn cael eu gwasanaethu mor wael gan gyfiawnder troseddol a phlismona, hoffwn ofyn i bob Aelod yn y Siambr bleidleisio dros hyn—i bleidleisio dros hyn oherwydd bydd yn cryfhau'r Deyrnas Unedig, ond bydd hefyd yn dechrau creu cydlyniant o ran polisi, cydlyniant o ran strwythur sy'n golygu y gallwn fynd i weithio ar ran y bobl sydd angen y gwaith hwn yn fwy nag eraill. Diolch. Mark Isherwood AC: Arweinydd newydd Plaid Cymru—llongyfarchiadau; yr un hen ddadleuon yn cael eu hailgylchu eto fyth a'r un siarad rhodresgar gan Alun Davies. Felly, fe wnaf innau ailgylchu fy nadleuon i ddangos bod yr alwad hon yn herio realiti. Wrth gwrs, Cymru yw'r unig wlad ddatganoledig o hyd heb ei system gyfreithiol a'i phwerau ei hun dros ei lluoedd heddlu, gan adlewyrchu'r sail resymegol dros hyn. Y ffordd orau o gydlynu materion plismona arbenigol fel gwrthderfysgaeth yw ar lefel y DU. Ymhellach, mae plismona yn yr Alban a Gogledd Iwerddon yn fater datganoledig, ond am resymau'n ymwneud â daearyddiaeth a phoblogaeth, mae'r sefyllfa yng Nghymru yn hollol wahanol. Cyn cyflwyno rheolaeth uniongyrchol ym 1972, yr hen Senedd Stormont oedd â chyfrifoldeb am blismona a chyfiawnder yng Ngogledd Iwerddon, a chadwodd Llywodraethau olynol y DU ymrwymiad i ail-ddatganoli plismona a chyfiawnder pan oedd amgylchiadau'n iawn i wneud hynny. Ymhellach, caiff Prydain a Gogledd Iwerddon eu gwahanu gan ddarn mawr o fôr. Mewn cyferbyniad, mae 48 y cant o bobl yng Nghymru yn byw o fewn 25 milltir i'r ffin â Lloegr, a 90 y cant ohonynt o fewn 50 milltir. Mewn cyferbyniad pellach, dim ond 5 y cant o boblogaeth gyfunol— Mark, a wnewch chi dderbyn ymyriad? Mark Isherwood AC: Ar ôl imi orffen y frawddeg. Dim ond 5 y cant o boblogaeth gyfunol yr Alban a Lloegr sy'n byw o fewn 50 milltir i'r ffin rhwng y gwledydd hynny. Mabon ap Gwynfor AS: Er mor ddiddorol yw'r ystadegau, beth yw'r gwahaniaeth rhwng Manceinion, felly, a gweddill Lloegr, a sut mae plismona wedi'i ddatganoli'n fwy ym Manceinion? Mark Isherwood AC: Mae gan y maer ym Manceinion, fel mewn mannau eraill, yr un pwerau â chomisiynydd yr heddlu a throseddu. A ydych chi'n galw am ganoli hynny yn Llywodraeth Cymru ac i'n comisiynwyr heddlu a throseddu rhanbarthol gael eu diddymu? Oherwydd dyna sut mae'n swnio. Er gwaethaf hyn, un cyfeiriad yn unig y mae adroddiad Thomas yn ei wneud at fater allweddol troseddolrwydd trawsffiniol, yng nghyd-destun llinellau cyffuriau, a'r unig ateb y mae'n ei gynnig yw cydweithio ar draws pedwar llu Cymru mewn cydweithrediad ag asiantaethau eraill, heb unrhyw gyfeiriad at gydweithio sefydledig â phartneriaid cyfagos ar draws y ffin trosedd a chyfiawnder anweledig â Lloegr. Ac er fy mod wedi gofyn dro ar ôl tro i Weinidogion Llywodraeth Cymru a fyddant yn comisiynu gwaith i unioni'r diffyg hwn, maent bob amser wedi osgoi a dargyfeirio yn enw tystiolaeth a arweinir gan bolisi. Fel y dysgais pan ymwelais â Titan, Uned Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol y Gogledd-orllewin, cydweithrediad rhwng Heddlu Gogledd Cymru a phum llu yng ngogledd-orllewin Lloegr, mae holl gynlluniau brys gogledd Cymru yn cael eu gwneud gyda gogledd-orllewin Lloegr. Mae 95 y cant neu fwy o droseddau yng ngogledd Cymru yn lleol neu'n gweithredu ar draws y ffin, o'r dwyrain i'r gorllewin. Nid oes gan Heddlu Gogledd Cymru unrhyw weithgarwch sylweddol yn gweithio ar sail Cymru gyfan ac anwybyddwyd y dystiolaeth a roddwyd i gomisiwn Thomas i raddau helaeth yn adroddiad y comisiwn. Wrth sôn am ei hadroddiad 'Sicrhau Cyfiawnder i Gymru' y llynedd, disgrifiodd Llywodraeth Cymru bolisi cyfiawnder penodol i Gymru 'yn seiliedig ar atal drwy fynd i’r afael â heriau cymdeithasol ac adsefydlu', a chyferbynnu hyn â dull sy'n canolbwyntio'n fwy ar gosbi, meddai, gan Lywodraeth y DU. Drwy wneud hynny, yn gyfleus iawn, fe anwybyddodd yr holl dystiolaeth i'r gwrthwyneb, pan fo Llywodraeth y DU wedi datgan dro ar ôl tro ei bod yn ffafrio polisi sy'n seiliedig ar atal trwy fynd i'r afael â heriau cymdeithasol ac adsefydlu. Anwybyddodd 'Bapur Gwyn Strategaeth Carchardai' Gweinyddiaeth Gyfiawnder y DU ar adsefydlu troseddwyr a lleihau troseddu, ei strategaeth ddioddefwyr i gysoni cefnogaeth i ddioddefwyr â natur newidiol troseddau, a'i gynllun datrys problemau gwerth £300 miliwn dros dair blynedd i gynorthwyo pob cyngor ledled Cymru a Lloegr i ddal ac atal troseddu ieuenctid yn gynharach nag erioed, a helpu i atal y plant a'r bobl ifanc hyn rhag bwrw ymlaen i droseddu pellach, mwy difrifol. Ar ben hynny, Llywodraeth y DU a gyhoeddodd strategaeth troseddwyr benywaidd i ddargyfeirio troseddwyr benywaidd bregus i ffwrdd o ddedfrydau byr o garchar lle bynnag y bo modd, buddsoddi mewn gwasanaethau cymunedol a threialu pum canolfan breswyl i fenywod, gan gynnwys un yng Nghymru. Fodd bynnag, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yma a ysgrifennodd wedyn at yr Aelodau, gan ddweud ei bod wedi bod yn gweithio'n agos gyda Gweinyddiaeth Gyfiawnder y DU ac yn datgan ei bod wedi cyhoeddi y byddai un o'r canolfannau hyn ger Abertawe yn ne Cymru. Wrth gwrs, fe wrthododd pwyllgor cynllunio Abertawe hyn wedyn. Mae pwerau comisiynwyr heddlu a throseddu gan feiri etholedig Llundain, Manceinion Fwyaf a Gorllewin Swydd Efrog, a dylent aros gyda chomisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru a pheidio â chael eu canoli yn Llywodraeth Cymru. Wrth gwrs, mae Llywodraeth y DU yn cydnabod bod datganoli wedi newid cyd-destun deddfwriaethol a pholisi plismona a chyfiawnder troseddol yng Nghymru, ac mae eisoes wedi sefydlu math o ddatganoli gweinyddol drwy swyddfeydd, unedau neu gyfarwyddiaethau Cymreig yn seiliedig ar gydweithrediad, gan gynnwys Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yng Nghymru, y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid yng Nghymru a Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF Cymru. Nid oes a wnelo datganoli neu beidio â datganoli â pholisïau a phersonoliaethau dros dro gwahanol lywodraethau ar bwynt penodol mewn amser. Mae polisïau pleidiau a pholisïau, personoliaethau a phleidiau llywodraeth mewn unrhyw ardal ddaearyddol yn newid dros amser. Mark, gorffennwch nawr, os gwelwch yn dda. Mark Isherwood AC: Fe ddof i ben. Ac ni ddylid caniatáu i ddymuniad Plaid Cymru i rannu ac ansefydlogi, nac awydd aflwyddiannus a rheolaethol Llywodraeth Lafur Cymru i fachu mwy fyth o bŵer, dynnu ein sylw oddi wrth wir anghenion Prydeinwyr ar ddwy ochr y ffin rhwng dwyrain a gorllewin, yng Nghymru a Lloegr. Peredur Owen Griffiths AS: Nid afreoleidd-dra cyfansoddiadol yn unig yw sefyllfa anarferol Cymru fel cenedl ddatganoledig heb system gyfreithiol ei hun; mae iddo ganlyniadau dwys a niweidiol i ansawdd cyfiawnder a phlismona. Mae'r gost o fod ynghlwm wrth system farnwrol Cymru a Lloegr, sy'n canolbwyntio'n anochel ar wneud penderfyniadau yn San Steffan, wedi'i dangos yn glir dros y 13 mlynedd diwethaf o gyni Torïaidd. Gadewch inni ddechrau gyda mynediad at gyfiawnder, sef un o'r materion allweddol a gafodd sylw yng nghomisiwn Thomas. Mae toriadau i gyllideb yr adran gyfiawnder yn Whitehall wedi arwain at leihad trychinebus yn y ddarpariaeth o gymorth cyfreithiol ar draws Cymru a Lloegr. Yn wir, mae Cymdeithas y Gyfraith wedi mynd â'r Llywodraeth i'r llys yn ddiweddar am fethu cynnal argymhelliad yr Adolygiad Annibynnol o Gymorth Cyfreithiol Troseddol i gynyddu ffioedd cymorth cyfreithiol o leiaf 15 y cant. Er enghraifft, rhwng 2012 a 2022, roedd nifer y swyddogion a oedd yn darparu cymorth ymgyfreitha yng Nghymru wedi gostwng o 175 i 106; o 180 i 122 ar gyfer eiriolwyr; o 248 i 160 ar gyfer cwmnïau cyfreithwyr; ac o 54 i 29 ar gyfer sefydliadau di-elw. Caiff y sefyllfa ei gwaethygu gan y ffaith bod y gweithlu cyfreithiol yng Nghymru hefyd yn un sy'n heneiddio. O'r herwydd, mae'n anochel y byddwn yn gweld mwy o grebachu yn y ddarpariaeth o wasanaethau cyfreithiol dros y blynyddoedd i ddod. Yng ngogledd Cymru, mae 48 y cant o gyfreithwyr ar ddyletswydd droseddol dros 50 oed; 49 y cant yn ne Cymru, 62 y cant yng ngorllewin Cymru a 64 y cant yng nghanolbarth Cymru. Canlyniad arall i doriadau i'r gyllideb gyfiawnder yn San Steffan fu ymddangosiad yr anialwch cyngor fel y'i gelwir—ardaloedd lle na cheir fawr o ddarpariaeth canolfannau cyngor cyfreithiol ar faterion fel gofal cymunedol, lles, addysg a mewnfudo. Yn hyn o beth, mae tirwedd gwasanaethau cyfreithiol yng Nghymru yn arbennig o ddiffrwyth. Mae ffigurau diweddaraf Cymdeithas y Gyfraith yn dangos nad oes gan 18 o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru unrhyw ganolfan cymorth cyfreithiol ar gyfer gofal cymunedol; nid oes gan 20 o'r 22 ganolfan cymorth cyfreithiol ar gyfer addysg, ac nid oes gan 21 o'r 22 ganolfan cymorth cyfreithiol ar gyfer lles. O ystyried y ffaith bod canolfannau o'r fath yn aml yn achubiaeth i aelwydydd tlotach y byddai cyngor cyfreithiol yn rhy ddrud iddynt fel arall, mae anialwch gwirioneddol Cymru yn hyn o beth yn creu perygl o ymgorffori anghydraddoldebau presennol o fewn y system gyfiawnder. Mae effaith cyni ar blismona wedi bod yn ddifrifol hefyd. Nid yw nifer y swyddogion heddlu cyfwerth ag amser llawn yng Nghymru ond newydd wella i'r lefel roedd arni yn 2010, ar ôl blynyddoedd o danariannu. Yn y cyfamser, mae nifer swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yng Nghymru a Lloegr ar ei lefel isaf ers 2006. Dylem ystyried hefyd i ba raddau y mae penderfyniadau yn San Steffan yn gosod pwysau enfawr ar gyllidebau heddluoedd. Mae'r pedwar heddlu yng Nghymru yn gorfod gwneud arbedion effeithlonrwydd dros y blynyddoedd nesaf, gyda Heddlu De Cymru— Mark Isherwood AC: A wnewch chi ildio? Peredur Owen Griffiths AS: Gadewch imi orffen y frawddeg hon. Mae'r holl heddluoedd yng Nghymru yn gorfod gwneud arbedion effeithlonrwydd dros y blynyddoedd nesaf, gyda Heddlu De Cymru ar hyn o bryd yn wynebu diffyg o £20 miliwn yn ei gyllideb. Ie, Mark. Mark Isherwood AC: A wnewch chi gydnabod y ffaith bod cyllideb cyni Alistair Darling yng ngwanwyn 2010 wedi cyflwyno toriadau i'r heddlu a barodd tan 2015, am iddo eu dyddio hyd at 2015, a bod cyllidebau heddlu wedi bod yn codi ers 2015? Peredur Owen Griffiths AS: Ond Llafur a Thori ydyw: yr un hen stori, felly, dyna ni. Mae elfen praesept yr heddlu o drethi cyngor hefyd wedi cynyddu'n sylweddol eleni er mwyn gwrthweithio toriadau i gyllid canolog. Yng Ngwent, mae'n 6.78 y cant, ac yn Nyfed-Powys, 7.75 y cant. Felly, mae gennym senario cywilyddus lle mae pobl Cymru yn gorfod rhoi mwy o'u harian prin yng nghanol argyfwng costau byw i wneud iawn am ganoli penderfyniadau gwario yn nwylo rhai sydd ag obsesiwn am ideoleg cyni yn San Steffan. Dangosodd arolwg diweddar hefyd fod 97 y cant o swyddogion heddlu gogledd Cymru yn credu bod eu triniaeth gan y Llywodraeth yn ddiweddar, yn enwedig mewn perthynas â chyllid, wedi niweidio eu morâl. Efallai na ddylem gael ein synnu gan y ffordd y mae'r Torïaid yn diystyru gwerth cyfiawnder. Wedi'r cyfan, mae plaid cyfraith a threfn fel y mae'n galw ei hun wedi gwneud torri rheolau yn modus operandi iddi hi ei hun yn ddiweddar. Ond mae'n annerbyniol fod pobl Cymru'n cael eu gorfodi i ddioddef safonau sy'n dirywio oherwydd y trefniadau cyfansoddiadol ideolegol sy'n bodoli yma ar hyn o bryd mewn perthynas â chyfiawnder a phlismona. Gallwn wneud yn well, ac rwy'n hyderus o hynny, os cawn gyfle. Diolch yn fawr. Mike Hedges AC: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rydym yn cael y trafodaethau hyn yn eithaf rheolaidd am ddatganoli plismona a'r system cyfiawnder troseddol. Rwy'n gwybod, oherwydd fe arweiniais rai ohonynt. Ym Mhrydain, rydym wedi cael datganoli tameidiog, ond yn UDA, yr Almaen, a'r rhan fwyaf o wledydd eraill, mae meysydd cyfrifoldeb naill ai'n cael eu datganoli neu eu cadw'n ganolog. Er enghraifft, yn UDA, mae gan California ac Efrog Newydd yr un meysydd cyfrifoldeb â Montana a New Jersey. Mae gennym ddatganoli anghymesur, ac fel y mae Sbaen wedi'i ddarganfod, mae hynny'n arwain at broblemau. Gyda datganoli, mae gennym y ddwy eithafiaeth: Plaid Cymru'n credu y gallant ennill mwy a mwy o bwerau tuag at ymwahanu; a'r gwrth-ddatganolwyr, yn bennaf yn y Blaid Geidwadol, yn credu y dylid gwrthwynebu pob cynnig ar ddatganoli pellach. Mae'n rhaid gwneud achos dros ddatganoli pob pŵer ychwanegol, sy'n golygu bod y pwerau sydd wedi'u datganoli i Gymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a meiri Lloegr yn amrywio'n sylweddol. Mae plismona wedi'i ddatganoli i'r Alban a Gogledd Iwerddon, a dim ond edrych ar hanes Gogledd Iwerddon sy'n rhaid inni ei wneud i sylweddoli bod hwnnw'n gam mawr iawn, i ddatganoli plismona i Ogledd Iwerddon. Cymru yw'r eithriad. Ym Manceinion Fwyaf a Gorllewin Swydd Efrog, mae pwerau'r comisiynydd heddlu a throseddu wedi cael eu cyfuno yn rôl y maer. Pam y dylai'r Alban, Gogledd Iwerddon, Manceinion Fwyaf a Gorllewin Swydd Efrog gael plismona wedi'i ddatganoli, ac nid Cymru? Mae llawer o'r ysgogiadau sy'n effeithio ar lefelau troseddu eisoes wedi'u datganoli i Gymru: diogelwch cymunedol, addysg, hyfforddiant, swyddi, gwasanaeth iechyd meddwl, triniaeth alcohol a chyffuriau, tai, cymunedau iach a llawer mwy—yn ogystal â gwasanaethau eraill. Mae mynd i'r afael â throseddu a lleihau troseddu ac aildroseddu yn golygu bod angen i'r heddlu weithio gyda gwasanaethau cyhoeddus eraill, sydd eisoes yn gweithredu ar wahanol lefelau ledled Cymru. Er enghraifft, mae angen ymyrraeth yr heddlu i gefnogi'r rhai â chyflyrau iechyd meddwl, cyn iddynt gyrraedd pwynt argyfwng ac ar ôl hynny, a phan fyddant wedi mynd i mewn i'r system cyfiawnder troseddol mae hynny'n aml yn golygu gweithio gyda GIG Cymru a byrddau iechyd lleol. Pe bai pwerau plismona wedi'u datganoli, byddai'n caniatáu llawer mwy o gyswllt rhwng y ddau wasanaeth yn lleol a chan Weinidogion a gweision sifil ar lefel strategol yng Nghymru, yn hytrach na rhwng Cymru a San Steffan. Mae potensial ar gyfer model Cymreig llwyddiannus, a all adeiladu ar gryfder datganoli heb ein torri i ffwrdd o'r Deyrnas Unedig. Nid wyf yn credu y dylai datganoli'r heddlu gynnwys yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, diogelwch cenedlaethol a gwrthderfysgaeth; dylent barhau ar lefel Brydeinig. Yn amlwg, mae angen i gydweithredu mewn plismona ymestyn nid yn unig i ynysoedd Prydain, ond hefyd i Ewrop a thu hwnt. Gwyddom nad yw trosedd a therfysgaeth yn cydnabod ffiniau, ac mae angen mesurau cydlynol arnom i sicrhau na all troseddwyr osgoi cyhuddiadau drwy ffoi dramor. Mae Llywodraeth Cymru wedi dangos eu cefnogaeth drwy fuddsoddi mewn swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ychwanegol, ac mae llawer ohonom yn cydnabod y gwaith da iawn y mae'r swyddogion cymorth cymunedol hyn yn ei wneud yn ein cymunedau. Yn amlwg, mae angen eithrio diogelwch cenedlaethol, fel y dywedais: mae angen gwneud ysbïo a therfysgaeth ar sail Brydeinig fan lleiaf. Mae angen i'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, asiantaeth sy'n ymladd troseddau, gyfeirio pwysau llawn y gyfraith at dorri nifer y troseddau difrifol a chyfundrefnol. Yr hyn y mae'n ei adael yw'r plismona o ddydd i ddydd a gyflawnir gan bedwar heddlu Cymru. Nid yw heddluoedd yn gweithio ar eu pen eu hunain. Maent yn gweithio'n agos gyda'r gwasanaethau tân ac ambiwlans, sydd ill dau wedi'u datganoli. Pan fyddwch yn ffonio 999, ni fydd neb yn gofyn i chi a ydych am gael gwasanaeth datganoledig neu heb ei ddatganoli. Dadl arall o blaid datganoli plismona yw'r gallu i gysylltu plismona'n well â gwasanaethau datganoledig eraill, megis cymorth i ddioddefwyr, cam-drin domestig a'r gwasanaeth iechyd. Gyda phlismona wedi'i ddatganoli i'r Alban a Gogledd Iwerddon, mae'n anghyson nad yw wedi'i ddatganoli yng Nghymru. Wrth edrych ar gyfandir Ewrop a Gogledd America, mae Cymru'n ymddangos fel eithriad ar draws y rhan fwyaf o'r byd democrataidd. Heblaw am reoli diogelwch cenedlaethol a throseddau difrifol, mae plismona'n cael ei gyflawni gan heddluoedd rhanbarthol neu leol. Mae gorfodi'r gyfraith yn yr Almaen yn digwydd o fewn yr 16 talaith ffederal. Mae plismona yn UDA yn digwydd drwy asiantaethau ffederal, megis y Swyddfa Ymchwilio Ffederal, FBI, sy'n gyfarwydd i bobl sy'n gwylio rhaglenni teledu Americanaidd, ond mae asiantaethau taleithiol fel patrol priffyrdd a phlismona lleol yn cael eu gwneud yn lleol. Yr hyn sydd gan y rhain yn gyffredin yw bod plismona lleol yn lleol, ac ymdrinnir â throseddau mawr a diogelwch cenedlaethol ar lefel genedlaethol. Credaf mai'r ffordd ymlaen yw datganoli'r rhan fwyaf o blismona i'r Senedd, ond i gadw Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol y DU a'r gwasanaethau diogelwch cenedlaethol yn ganolog. Cofiwch fod dinasoedd mawr Prydain wedi plismona eu hunain hyd at 1960. Roedd gennym bwyllgorau'r heddlu—roeddent hwy'n cael ei wneud. Pan gawsant eu gwladoli gan y Llywodraeth Geidwadol yn y 1950au, cafodd rheolaeth pwyllgorau heddlu lleol ei throsglwyddo i'r Swyddfa Gartref, a olygodd ein bod wedi colli llawer iawn o reolaeth leol. Ac rwy'n gwybod am awdurdodau heddlu—roeddwn i'n gwasanaethu ar un—ond nid oeddent yn agos at fod mor effeithiol â phwyllgorau'r heddlu. Dylem adfer yr hawl i blismona ein hunain a dychwelyd plismona lleol i Lywodraeth Cymru. Os gallant ei wneud yng Ngogledd Iwerddon, gyda'r hanes y maent wedi'i weld yng Ngogledd Iwerddon, ac anghydfodau a phobl yn saethu at yr heddlu, ac ati, am resymau gwleidyddol, nid oes unrhyw reswm pam na allwn ei gael yng Nghymru. Rhys ab Owen AS: Dwi o blaid datganoli cyfiawnder. Dwi'n grediniol y bydd yn gwella'r system gyfiawnder i bobl yng Nghymru. Dyna oedd barn bendant y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru. Roedd yr Arglwydd Thomas yn erbyn galw'r comisiwn yn 'gomisiwn Thomas', oherwydd roedd e eisiau pwysleisio arbenigedd yr holl gomisiynwyr. Roedd y comisiwn yn ffodus iawn i gael ei gadeirio gan y cyn brif ustus, ond roedd y comisiwn hefyd yn cynnwys arbenigwyr rhyngwladol ym maes cyfraith gyfansoddiadol, carchardai, y gwasanaeth prawf, y proffesiwn cyfreithiol a phlismona. Cafwyd arbenigedd hefyd wrth ddrafftio'r adroddiad oddi wrth arbenigwyr ym maes dioddefwyr a hawliau dynol. Doedd y comisiynwyr ddim yn aelodau typicalo fyrddau yng Nghymru. Doedden nhw ddim ychwaith yn ceisio gwthio rhyw agenda penodol. Doedden nhw ddim yn mouthpiece i Lywodraeth Cymru. Mae'r adroddiad yn feirniadol iawn o Lywodraeth Cymru mewn sawl man. Doedd dim cymhelliad ideolegol gyda'r comisiwn yma. Nid comisiwn o genedlaetholwyr oedd y rhain o gwbl. Fe wnaeth y comisiwn cyfiawnder argymell datganoli wedi iddyn nhw bwyso a mesur yn ofalus y dystiolaeth yn fanwl: 205 darn o dystiolaeth ysgrifenedig, 46 o sesiynau tystiolaeth lafar, ac 87 o sesiynau ymgysylltu; adroddiad gan arbenigwyr, wedi'i seilio ar dystiolaeth fanwl. Mae'n anhygoel, felly, fod y blaid Dorïaidd, a chymaint o fewn grŵp Llafur San Steffan, yn fodlon diystyru’r adroddiad. Rhys ab Owen AS: Mae'n amlwg nad yw'r Farwnes Bloomfield, yn ei hateb i'r Arglwydd Wigley yn dweud na chafwyd unrhyw achos darbwyllol sy'n dangos y byddai cyfiawnder yn gwella o gael ei ddatganoli i Gymru, wedi darllen yr adroddiad o gwbl. Rhys ab Owen AS: Maen nhw'n diystyru datganoli ar sail ideolegol, sy'n rhyfedd iawn, oherwydd mae Lord Hunt yn dweud, yn 1990, y gwnaeth e a Ken Clarke gytuno y byddai plismona yn cael ei ddatganoli i Swyddfa Cymru bryd hynny, ond ei fod e wedi cael ei rwystro gan bureaucracy yn Whitehall. Roedd ymateb Sir Robert Buckland yn dweud y cyfan wrth iddo dderbyn yr adroddiad—dim dadleuon cryf yn erbyn, jest bod awdurdod Cymru a Lloegr wedi gweithio ers canrifoedd, a dyna ni, i barhau. Wel, fel rŷn ni wedi clywed yn barod, dyw hynny jest ddim yn wir. Fel dywedodd Alun Davies a Mike Hedges, dwi'n methu gweld rhesymeg unrhyw unoliaethwr sy'n proffesu o fod o blaid datganoli i wrthwynebu datganoli cyfiawnder. Byddai'n creu system gymesur ledled Prydain. Dylai hynny arwain at drefn datganoli gliriach, ac arwain at lai o gecru rhwng llywodraethau, a byddai o gymorth i ddelio â phroblemau'r jagged edge, ac yn llawer haws i egluro egwyddorion ar sail gweinyddu cyfiawnder ledled y Deyrnas Unedig. Dyw'r system bresennol jest ddim yn gwneud sens. Ac rŷn ni'n gweld y problemau hynny. Rŷn ni'n gweld y diffyg atebolrwydd. Er enghraifft, dim ond traean o gyllideb yr heddlu yng Nghymru sy'n dod o San Steffan. Daw'r gweddill i gyd o Gymru. Ac yn 2017-18, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol oedd yn gyfrifol am bron i 40 y cant o gyllideb y system gyfiawnder yng Nghymru, a hynny ddim yn cynnwys gwariant ar Wasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd Cymru o fewn cyfraith deuluol, ddim yn cynnwys timau troseddwyr ifanc, nac addysg a gofal cymdeithasol mewn carchardai yng Nghymru. Mae'r diffyg atebolrwydd yn glir i'r gwariant sylweddol yma. Rhys ab Owen AS: Rwy'n cofio swyddogion Whitehall yn herio'r honiad mai Cymru oedd â'r boblogaeth carchardai fwyaf fesul y pen yng ngorllewin Ewrop. Pan ofynnwyd iddynt gefnogi eu honiad, fe wnaethant ddweud bod Guernsey yn waeth. Nawr, gyda phob parch i Guernsey, mae ei phoblogaeth yn llai na phoblogaeth Ynys Môn, ac mae'n anodd iawn cymharu nifer y boblogaeth carchardai fesul 100,000 ar ynys sydd ond â phoblogaeth o 64,000. Y gwir amdani, pan ffurfir polisi yn Whitehall, yw nad yw Cymru hyd yn oed ar y radar, heb sôn am y ffaith bod gan Gymru ei setliad datganoli ei hun. Dylem roi map o Gymru wrth fynedfa'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i'w hatgoffa am ein bodolaeth. Rwy'n cytuno â'r Prif Weinidog y bydd datganoli prawf a chyfiawnder ieuenctid yn gam cyntaf cyffrous, ond gwrthodwyd datganoli cyfiawnder yn dameidiog gan adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru; dim ond symud y rhwyg ychydig i'r ochr a wnâi hynny. Rwy'n annog fy nghyd-Aelodau Ceidwadol a'r rhai o fewn y Blaid Lafur yn Senedd y DU i ddarllen yr adroddiad, i roi ideoleg ddall i'r naill ochr ac i edrych yn ofalus ar y dystiolaeth. Mae'r dystiolaeth yn dangos yn glir fod angen datganoli cyfiawnder, ac mae'n fater o pryd, nid os. Rhys ab Owen AS: Gadewch inni ddangos yn glir heddiw i San Steffan, i lywodraeth Lafur yn y dyfodol, o bosib, mai barn mwyafrif mawr y Senedd hon yw y dylid datganoli cyfiawnder. Diolch yn fawr. Heledd Fychan AS: Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu hyd yma. I'r rhai ohonom ni sydd wedi gwneud y dadleuon o ran pa mor angenrheidiol yw hyn, mae'n un peth ein bod ni'n dweud hyn dro ar ôl tro; mae'n adeg rŵan i weithredu. A dyna oedd her Rhun: sut ydym ni'n sicrhau nad geiriau gwag mo'r rhain bellach? Oherwydd y bobl sydd yn dioddef pan does gennym ni ddim mo'r grym yma yng Nghymru ydy'n cymunedau ni, a'n rheidrwydd ni yma yn y Senedd ydy sicrhau'r gorau i'r cymunedau hynny. Mi glywsom ni gan Peredur effaith polisïau llymder ar yr heddlu yn benodol. Rydyn ni hefyd yn gwybod, o ran polisïau llymder, y straen aruthrol mae hyn wedi'i roi ar yr heddlu'n benodol—y toriadau i wasanaethau iechyd, ac yn arbennig gwasanaethau iechyd meddwl, er enghraifft—a faint o amser yr heddlu a PCSOs sy'n mynd i ymdrin efo achosion gan fod y gwasanaethau angenrheidiol yna ddim ar gael. Heledd Fychan AS: O ddydd i ddydd, rwy'n gweld yn y dref lle rwy'n byw, Pontypridd, y gwaith gwych sy'n cael ei wneud gan swyddogion yr heddlu a swyddogion cymorth cymunedol y heddlu i wneud ein tref yn lle gwell i fyw, wrth iddynt fynd y tu hwnt i'r galw i helpu'r gymuned trwy nifer o fentrau, ond yn yr un modd rwy'n gwybod eu bod dan bwysau, ac o'i roi'n syml, mae'n rhaid iddynt geisio llenwi'r bylchau sy'n cael eu gadael ar ôl gan wasanaethau fel clybiau ieuenctid. Maent yn treulio cymaint o amser oherwydd eu bod yn ceisio gweithio gyda system nad yw'n gweithio yn sylfaenol. Gwelwn y dirywiad mewn cyfraddau troseddu fel symptom o hyn: cyfanswm troseddau a gofnodwyd yng Nghymru ddiwedd mis Rhagfyr 2022 oedd 275,233, i fyny bron 25,000 o'r flwyddyn flaenorol. Mae hyn yn golygu bod cyfradd y troseddau yng Nghymru ar hyn o bryd yn 88.6 fesul 1,000 o bobl—y lefel uchaf ers i'r Swyddfa Ystadegau Gwladol gasglu data am y tro cyntaf yn 2015. Mae'n amlwg fod hyn yn rhan o duedd fwy hirdymor. Mae cyfraddau troseddu wedi codi bob blwyddyn yng Nghymru ers 2013, ac eithrio 2020, ac ar wahân i fyrgleriaethau a throseddau sy'n gysylltiedig â chyffuriau, bu cynnydd ym mhob categori troseddol yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda chynnydd sylweddol mewn lladradau, sef 33 y cant, dwyn beiciau ar 19 y cant, a dwyn o siopau ar 31 y cant, yn fwyaf arbennig. Yn anecdotaidd, rwy'n gwybod, o siarad â swyddogion heddlu a swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu fod y cysylltiad rhwng yr argyfwng costau byw a'r ystadegau hynny yn rhywbeth sy'n peri pryder enfawr. Mae'r ffaith ein bod ni'n troseddoli pobl am na allant fforddio pethau sylfaenol fel bwyd yn bryder nawr. Mae'r ffaith eu bod yn cael eu troseddoli am rai o'r penderfyniadau gwleidyddol sydd wedi arwain at y sefyllfa honno yn rhywbeth y dylem fyfyrio arno. Mae cyfradd troseddau treisgar yng Nghymru hefyd yn uwch na chyfartaledd y DU, sef 37.7 y cant fesul 1,000 o bobl, o'i gymharu â 35.8 yn flaenorol. Ar y cam hwn, mae'n werth myfyrio ar y sefyllfa yn yr Alban, lle mae cyfiawnder a phlismona wedi'u datganoli'n llawn. Dros y degawd diwethaf, mae troseddau a gofnodwyd yn yr Alban wedi gostwng at ei gilydd, ac ar hyn o bryd mae ar ei lefel isaf ers 1974. Ar ben hynny, roedd y gyfradd troseddu yn yr Alban ddiwedd mis Rhagfyr y llynedd oddeutu 52 fesul 1,000 o bobl. Mae'n werth deall ac archwilio ymhellach sut y gall gwahanol ddulliau gweithredu wneud gwahaniaeth, a sicrhau, pan fydd gennym y pwerau yma yng Nghymru—oherwydd rwy'n argyhoeddedig mai mater o pan fyddant gennym ydyw, yn hytrach nag os—bydd ein dull gweithredu yn un pwrpasol ar gyfer yr heriau sy'n ein hwynebu. Wedi'r cyfan, mae gennym system cyfiawnder troseddol sy'n gwneud cam â gormod o bobl. Mae gormod o Lywodraethau'r DU wedi ffafrio carcharu llawdrwm yn hytrach nag adsefydlu, sydd wedi'i bwysoli'n anghymesur yn erbyn rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed sy'n byw yma yng Nghymru heddiw. Ym mis Rhagfyr y llynedd, roedd y gyfran o'r boblogaeth yng Nghymru a oedd yn y carchar yn 5,154, neu 165.9 fesul 100,000 o boblogaeth Cymru. Mae'n un o'r cyfraddau uchaf yn Ewrop. Rydym yn gweld bod ein carchardai dan ormod o bwysau. Os edrychwn ar garchar Caerdydd, er enghraifft, mae'n orlawn: 138 y cant; Abertawe, 155 y cant. Ddeng mlynedd ar hugain ar ôl llofruddiaeth Stephen Lawrence, a ddatgelodd gymaint o hiliaeth sefydliadol a geid o fewn yr heddlu, gwelwn broblemau enfawr, gyda 27 y cant o garcharorion yng Nghymru a Lloegr yn 2022 yn nodi eu bod yn lleiafrifol ethnig, o'i gymharu â 13 y cant o'r boblogaeth gyffredinol. Rydym wedi gweld honiadau o gasineb at fenywod a hiliaeth yn Heddlu Gwent nad ydynt o bell ffordd yn achosion ynysig nac eithriadol ledled Cymru a Lloegr yn anffodus. Gallwn wneud cymaint yn well yma yng Nghymru—system sy'n gweithio i bobl ac sy'n dod o hyd i atebion. Ni allwn ganiatáu i Lywodraeth Geidwadol na Llywodraeth Lafur, os daw un ar ôl yr etholiad nesaf, barhau i wneud cam â'n cymunedau. Rwy'n gobeithio y gallwn weithio gyda'n gilydd fel Senedd nawr i fynnu'r pwerau hyn yn llawn. Joyce Watson AC: Rwyf am gefnogi'r egwyddor y dylid datganoli pwerau ar gyfiawnder a phlismona i Gymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fynd ar drywydd yr achos hwnnw a pharatoi ar gyfer datganoli'r heddlu a chyfiawnder. Mae pawb ohonom yma wedi gweld canlyniadau 13 mlynedd hir o fethiant Torïaidd—hyd yn oed ar y fainc honno, ni allant fod yn ddall i hynny. Maent wedi gweld esgeulustod, cyni, anghydraddoldeb, annhegwch, a system gyfreithiol sydd wedi torri o ganlyniad i'w polisïau. System aflwyddiannus, lle nad oes ond 1.3 y cant o achosion o drais rhywiol yn cael eu herlyn bellach; system doredig sydd wedi creu sgandalau fel Hillsborough, a brwydr 27 mlynedd dros gyfiawnder oherwydd absenoldeb cymorth cyfreithiol i gefnogi teuluoedd a dioddefwyr y drasiedi honno wrth iddynt geisio sicrhau llais iddynt eu hunain yn y system gyfiawnder, a'u galwad nawr am gyfraith Hillsborough, a hynny'n gwbl briodol. Yn yr 11 mlynedd ers Deddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012, rydym wedi gweld system gyfreithiol ddwy haen yn datblygu, gyda thorri cymorth cyfreithiol, ac amddifadu llawer o bobl Cymru o gyfiawnder. Mae mynediad at gyfiawnder a'r hawl i gyngor, cynrychiolaeth a chefnogaeth yn hawl ddynol sylfaenol. Mae'r cysylltiad rhwng cyfiawnder, mynediad at gyfiawnder a'n gwasanaethau cyhoeddus craidd yn allweddol i fynd i'r afael â thlodi, anfantais gymdeithasol ac anghydraddoldeb, a soniwyd am hynny nawr. Canfu comisiwn Thomas—mae'n ddrwg gennyf am ei alw'n gomisiwn Thomas—fod gwariant y pen ar gymorth cyfreithiol troseddol yn £11.50 yng Nghymru, o'i gymharu â £15 y pen yn Lloegr. Felly, pe bai'n cael ei ddatganoli a'n bod yn cael ein cyfran deg o gyllid, rwy'n cytuno'n llwyr y gallem ariannu cymorth cyfreithiol yn well. Byddem yn creu ein gwasanaeth cymorth a chyngor cyfreithiol Cymreig ein hunain, i wasanaethu pobl Cymru a darparu'r mynediad at gyfiawnder rydym i gyd yn credu ynddo. Mae unigolion sy'n wynebu erlyniad troseddol a charchar yn ofni y gallai cost ariannol amddiffyn eu hunain eu gwneud yn fethdalwyr, hyd yn oed os ydynt yn llwyddiannus. Gall hyn olygu bod pobl—ac mae wedi golygu bod pobl—yn pledio'n euog i droseddau nad ydynt wedi'u cyflawni er mwyn diogelu eu cartrefi a'u hasedau ar gyfer gweddill eu teulu. Mewn achosion o drais rhywiol, mae'r amser cymedrig rhwng trosedd a chwblhau achos bellach dros ddwy flynedd a hanner, gyda dim ond 1.3 y cant o achosion yn cael eu herlyn. Mae'r oedi enfawr yn arwain at roi hyder i droseddwyr sy'n peryglu erlyniadau, a chanlyniadau dinistriol i'r dioddefwyr hynny—sefyllfa gywilyddus sydd, yn gwbl onest, yn fwy cydnaws â'r bedwaredd ganrif ar bymtheg na'r unfed ganrif ar hugain. Er nad yw cyfiawnder wedi'i ddatganoli, ac er nad oes adnoddau ar ei gyfer i helpu'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd cael cymorth cyfreithiol, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi camau ar waith i gefnogi pobl, a'r llynedd, fe wnaeth sicrhau bod mwy na £10 miliwn o gyllid ar gael i wasanaethau'r gronfa gynghori sengl yng Nghymru. Rwy'n cytuno â'r Gweinidog y dylid datganoli pwerau dros gyfiawnder, ac y dylid sefydlu awdurdodaeth gyfreithiol yng Nghymru. Hefyd, mae'n rhaid imi wrthwynebu'r hyn y mae'r Torïaid yn ei ddadlau—na fyddai heddlu yn Lloegr, rywsut, yn gwybod ble mae'r llinell, neu na fyddai heddlu Cymreig yn gwybod ble mae'r ffiniau rhwng Cymru a Lloegr. Rwy'n siŵr eu bod yn llwyddo'n berffaith i wybod lle mae'r Alban yn gorffen a Lloegr yn dechrau, neu lle mae Lloegr yn gorffen a'r Alban yn dechrau. A dweud y gwir, os na fyddai rhywun yn gallu tynnu llinell ar fap neu ei ddeall, tybed a ddylent fod yn yr heddlu o gwbl. Delyth Jewell AC: Mae'r angen brys i ddatganoli pwerau dros gyfiawnder nid yn unig yn fater o egwyddor; fel y clywsom eisoes, mae angen gwneud hynny er mwyn sicrhau mwy o degwch i'n pobl, i helpu pobl pan fyddant ar eu mwyaf bregus. Rydym eisoes wedi clywed am hiliaeth sefydliadol mewn rhannau o'n system gyfiawnder bresennol; hoffwn ganolbwyntio fy sylwadau ar y ffyrdd y mae ein system bresennol nid yn unig yn gwneud cam â menywod, ond yn gwaethygu eu trawma. Gwn fod y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol wedi edrych ar hyn, ac wedi canfod diffyg cynnydd pryderus ers gwaith y Farwnes Corston yn y maes 16 mlynedd yn ôl. Mae'r pwyllgor wedi tynnu sylw at ba mor wrthgynhyrchiol yw dedfrydau byr o garchar i droseddwyr benywaidd—unwaith eto, daw hyn o'n system bresennol—gan nodi tystiolaeth gan yr Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai fod 60 y cant o'r dedfrydau carchar a roddwyd i fenywod yng Nghymru yn 2021 am gyfnodau llai na chwe mis. Bydd y rhain yn aml ar gyfer mân droseddau. Mae menywod yn fwy tebygol o fod yn brif ofalwyr plant, sy'n golygu y bydd eu carchariad yn peryglu eu teuluoedd. Ni fydd neb yn y teuluoedd hynny'n dod allan ohoni heb eu hanafu gan y profiad o wahanu, colled a thrawma—byddant yn cael eu rhwygo ar wahân. Ni all carchariad o chwe mis—unwaith eto, daw hyn o'r system bresennol—gael ei gymell gan unrhyw obaith o adsefydlu person o fewn y gymdeithas, neu o'u hannog i newid eu ffyrdd. Mae'n gosb, wedi'i rhoi i bobl sy'n aml yn troseddu am resymau cymhleth—ymdeimlad o anobaith oherwydd diofalwch neu gam-drin neu'r ffaith nad yw gwasanaethau cymorth wedi bod yno i'w cael ar lwybr gwell, neu'n wir yr argyfwng costau byw. Gellid osgoi cymaint o fân droseddau pe baem yn buddsoddi mewn gofalu am bobl yn hytrach na'u troseddoli. Ac mae'n fater o adnoddau yn ogystal â gwneud yr hyn sy'n iawn. Mae carchariadau byr yn llawer mwy tebygol yn ystadegol o arwain at aildroseddu. Mae elusen Women in Prison wedi canfod bod dros 70 y cant o fenywod sy'n cael eu rhyddhau ar ôl dedfrydau o lai na 12 mis o garchar yn aildroseddu o fewn blwyddyn, sy'n golygu nad oes neb yn dysgu unrhyw beth o'r profiad—mae'n gwneud pethau'n waeth, dyna i gyd, ac yn sefydlu cylch o ddiofalwch, cefnu a beio. Mae'r system hon yn gwneud cam gwael â menywod sydd wedi goroesi troseddau hefyd. Mae ystadegau Llywodraeth y DU yn dangos mai dim ond 1.9—. Rydym wedi clywed yr ystadegau dirdynnol ynglŷn â chyn lleied o'r achosion o drais rhywiol a gofnodwyd sy'n arwain at euogfarn. Mae bron i 70 y cant o oroeswyr trais rhywiol yn tynnu'n ôl o ymchwiliadau oherwydd eu bod wedi colli ffydd yn y system. Fel y mae'r Comisiynydd Cam-drin Domestig wedi canfod, mae'n system sy'n ail-drawmateiddio goroeswyr trais oherwydd diffyg cefnogaeth mewn llysoedd teulu a llysoedd troseddol. Rwy'n gwybod o fy mhrofiad o weithio gyda goroeswyr stelcian a rheolaeth drwy orfodaeth am yr effaith ddinistriol, ysgytwol y gall yr ail-drawmateiddio hwnnw ei chael—y cylch o ddiofalwch unwaith eto. Ddirprwy Lywydd, ni fydd datganoli cyfiawnder ynddo'i hun yn arwain yn awtomatig at newid, ond bydd trosglwyddo'r pwerau hynny, os caiff ei wneud gyda gwaith ar lawr gwlad, drwy fuddsoddi mewn gwasanaethau cymdeithasol, llochesau, hyfforddiant i'r heddlu, ac integreiddio'r gwasanaethau hyn yn fwy effeithiol, yn dechrau golygu y bydd llai o fenywod yn cwympo drwy'r bylchau mawr yn ein system. Rwy'n gwybod bod y grŵp trawsbleidiol ar fenywod wedi edrych ar hyn hefyd. Gall ddechrau ail-gydbwyso’rfantol, ac yn lle meddwl am gyfiawnder fel system gosbi, gall olygu ei bod yn system ar gyfer trugaredd yn lle hynny. Trugaredd yw'r hyn sydd mor aml ar goll o'n system gyfiawnder—y rhinwedd nad yw byth dan straen, fel y mae Portia yn ein hatgoffa, ac sy'n gallu tymheru cyfiawnder. Ac yn ogystal â thrugaredd, efallai y gallwn anelu i fod yn gymdeithas lle ceir dyhead am les cyffredinol, lle mae'r cyfrifoldeb am lesiant pobl eraill yn gonglfaen i'r ffordd rydym yn byw ein bywydau. Dyna sut y cawn gyfiawnder go iawn, oherwydd fel y dywedodd Helen Keller, 'Hyd nes y llenwir y mwyafrif mawr o bobl â'r ymdeimlad o gyfrifoldeb dros les ei gilydd, ni fydd modd sicrhau cyfiawnder cymdeithasol'. Felly, gadewch inni roi'r dulliau i ni ein hunain wneud y buddsoddiad hwnnw yn ein cyd-ddinasyddion, i wneud y dewisiadau a fydd yn gwneud ein cymdeithas yn lle llai diofal, yn lle mwy diogel, ac yn fwy na dim, yn lle trugarog. Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, Mick Antoniw. Mick Antoniw AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl bwysig hon? Rwy'n croesawu'r cyfle i drafod ac ystyried y materion hyn. Yn amlwg, rwy'n llongyfarch Rhun ar ei araith fawr gyntaf ar y mater hwn fel arweinydd Plaid Cymru, ac rwy'n tybio mai hon fydd yr araith gyntaf o lawer wrth i'r broses hon barhau.A gaf fi ddweud hefyd, o ran yr holl gyfraniadau sydd wedi cael eu gwneud heddiw, fy mod yn croesawu ehangder y rhain am eu bod yn codi cymaint o'r gwahanol agweddau ar y system gyfiawnder sydd wedi ein harwain at y farn o ran pam ei bod yn bwysig datganoli cyfiawnder? Ni allaf gyfeirio at bob un ohonynt ac nid wyf am ymateb i ddau ohonynt. Yr wythnos nesaf, rwy'n credu, byddaf yn annerch cyfarfod o Sefydliad Bevan, ac wrth gwrs, rwy'n gobeithio mynd ymhelaethu ymhellach yno ar y materion sy'n ymwneud â chydraddoldeb, cyfiawnder, cyfiawnder cymdeithasol a chysylltu'r rheini. Felly, heddiw, wrth ymateb i'r ddadl hon, mewn modd barnwrol da, rwy'n gobeithio troedio'r tir uchel yn foesol ac ymdrin â hanfod datganoli cyfiawnder. Rwy'n credu bod y rhan fwyaf ohonom yn y Siambr hon ar draws pob plaid yn cydnabod bod llawer o gytundeb ar yr angen i ddiwygio, moderneiddio a gwella'r modd y caiff cyfiawnder ei gweinyddu yng Nghymru. Wedi'r cyfan, a oes unrhyw un yn y Senedd hon nad ydynt am weld system gyfiawnder fwy trugarog, mwy effeithiol, tecach a hygyrch, ac un sy'n seiliedig ar dystiolaeth, fel y dylai pob agwedd ar gyfiawnder fod? System datrys problemau sy'n cael ei llywio gan drawma, sy'n gysylltiedig â gwasanaethau cyhoeddus eraill, ac sy'n canolbwyntio ar leihau troseddu, lleihau aildroseddu a diogelu'r cyhoedd. Lywydd, credwn mai prif amcan diwygio a datganoli cyfiawnder yw ei bod yn broses naturiol o ddatganoli sy'n ei gwneud hi'n bosibl cydlynu cyfiawnder â gwasanaethau cyhoeddus datganoledig eraill yn well, a gall arwain at system gyfiawnder well a thecach. Rwy'n cydnabod bod gan Aelodau Plaid Cymru gymhelliant ychwanegol yn hyn, ond ein barn ni yw nad oes gan ddatganoli cyfiawnder unrhyw beth i'w wneud ag annibyniaeth: mae'n ymwneud yn syml ac yn ddiamwys â darparu cyfiawnder yn well. Dyma ffocws Llywodraeth Cymru, ac mae'r rhesymeg sy'n sail i'r broses hon, nid yn unig yn berthnasol i Gymru, lle mae cymaint o'n gwasanaethau datganoledig wedi'u plethu'n synergyddol o fewn y system gyfiawnder, ond hefyd i ranbarthau Lloegr y credaf y byddent hefyd yn croesawu rhai o'r diwygiadau rydym yn sôn amdanynt, ac yn wir, yn paratoi ar gyfer eu gweithredu. Mae dros dair blynedd wedi bod ers i'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru argymell y dylid datganoli cyfiawnder a phlismona i Gymru ac y dylai polisi lleihau troseddau gael ei bennu yng Nghymru, er mwyn sicrhau bod materion cyfiawnder yn cael eu hintegreiddio o fewn yr un fframwaith polisi a deddfwriaethol ag iechyd, llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus a chymdeithasol eraill. Felly, mae safbwynt Llywodraeth Cymru yn glir: rydym yn cefnogi casgliadau'r comisiwn ac rydym wedi ymrwymo i fynd ar drywydd datganoli plismona a chyfiawnder. Ni allwn alinio'r ddarpariaeth ag anghenion a blaenoriaethau pobl a chymunedau Cymru hyd nes y bydd gennym drosolwg llawn o'r system gyfiawnder yng Nghymru. Mabon ap Gwynfor AS: A wnewch chi dderbyn ymyriad? Mick Antoniw AC: Gwnaf. Mabon ap Gwynfor AS: Rwy'n falch o glywed am eich ymrwymiad i ddatganoli plismona a chyfiawnder—mae hynny'n wych. A yw hynny'n wir am eich arweinydd, Keir Starmer, yn Llundain? Mick Antoniw AC: Mae Keir Starmer wedi rhoi ymrwymiad o gefnogaeth i adroddiad Gordon Brown. Mae adroddiad Gordon Brown yn ei gwneud yn gwbl glir nad oes pwerau sydd, er enghraifft, yn yr Alban na all Cymru eu cael hefyd. Yr hyn a wnaeth, a oedd yn bwysig iawn yn fy marn i, oedd ildio'n benodol i farn y comisiwn annibynnol ar ddyfodol Cymru, a fydd yn cynhyrchu ei adroddiad, a dywedodd y dylid ymgysylltu'n adeiladol â'r argymhellion ar ôl hynny. Rwy'n credu mai dyna'r ffordd gywir ymlaen. Wrth gwrs, fel y dywedwch, ceir yr elfen gyfansoddiadol. Y Senedd yw'r unig Senedd y gwyddom amdani yn y byd cyfraith gyffredin sy'n gallu deddfu heb yr awdurdodaeth i orfodi ei chyfreithiau ei hun. Felly, mae'r cynnig yn sôn yn benodol am ddatganoli plismona, ac rydym yn cytuno, wrth gwrs, fod hon yn elfen bwysig o'r datganoli sydd ei angen—fe wnaeth nid yn unig y comisiwn cyfiawnder, ond Silk cyn hynny, argymell datganoli plismona. Rwy'n gwneud y pwynt yma: mae'r pedwar comisiynydd heddlu a throseddu etholedig yng Nghymru, y rhai sydd â mandad democrataidd ac a etholwyd gan bobl Cymru, yn cefnogi'r achos dros ddatganoli plismona. Fe wneuthum yr achos yn gryf dros ddatganoli plismona pan ymddangosais gerbron y comisiwn ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru dan gadeiryddiaeth Laura McAllister a Rowan Williams, ac wrth gwrs rydym yn aros gyda diddordeb mawr i weld beth fydd barn y comisiwn. Nid yw ein gwrthwynebiad i'r rhan o'r cynnig gan Blaid Cymru yn deillio o'r gwahaniaeth ynglŷn â lle rydym yn gobeithio ei gyrraedd o ran datganoli cyfiawnder. Mae'r gwahaniaeth yn ymwneud â sut rydym yn cyrraedd yno a pham, ac er fy mod yn cytuno bod angen inni sefydlu awdurdodaeth Gymreig neilltuol yn ffurfiol a bod angen i blismona yng Nghymru fod yn gwbl atebol i'r Senedd, camgymeriad difrifol fyddai ceisio cysylltu hyn â safbwynt Plaid Cymru ar annibyniaeth. Nid yw'n rhyw fath o gam tuag at annibyniaeth, mae'n ymwneud â darparu cyfiawnder yn well. Synnwyr cyffredin yw sicrhau bod y gyfraith sy'n berthnasol yng Nghymru yn cael ei chydnabod yn ffurfiol fel cyfraith Cymru, yn union fel y dylid galw'r gyfraith sy'n berthnasol i Loegr yn gyfraith Lloegr. Myth yw'r syniad fod y gyfraith yr un fath ar draws tiriogaeth Cymru a Lloegr. Nid yw'r safbwynt hen ffasiwn hwnnw'n adlewyrchu realiti bellach, felly bydd cydnabod lle mae cyfreithiau'n berthnasol yn cael effaith fuddiol ar eglurder a hygyrchedd y gyfraith, nid yn unig i Gymru, ond hefyd i Loegr. Yr ail reswm pam ein bod yn gofyn am welliant yw oherwydd nad ydym yn cydnabod yr honiad fod angen rhyw fath o broses ffurfiol i alw am ddatganoli cyfiawnder. Nid oes proses benodol ar gyfer y pethau hyn. Nid oes unrhyw eiriau swyn a fydd, os cânt eu dweud yn gywir wrth Lywodraeth y DU, yn newid safbwynt Llywodraeth bresennol y DU. Mae eu pennau yn y tywod, nid ydynt yn gweld synnwyr. Er mwyn sicrhau newid, mae angen newid Llywodraeth y DU ac ethol Llywodraeth Lafur. Mae yna awgrym yn y cynnig hefyd, rywsut, nad ydym erioed wedi gofyn am ddatganoli cyfiawnder. Mae hynny braidd yn rhyfedd a dweud y gwir. Mae'r Llywodraeth hon wedi galw'n agored, yn gyson ac yn barhaus am ddatganoli cyfiawnder. Hefin David AC: A wnewch chi dderbyn ymyriad? Mick Antoniw AC: Gwnaf. Hefin David AC: Newydd weld memyn Plaid Cymru ar Twitter yn gynharach a oedd yn dweud y gwrthwyneb i hynny. Felly, rydych chi'n awgrymu mai anwiredd yw hynny. Mick Antoniw AC: Wel, rwy'n credu bod y Prif Weinidog wedi'i wneud yn glir ddoe, a chredaf ei fod yn amlwg i bawb yma, mai sylw gan Weinidog Ceidwadol yn Nhŷ’r Arglwyddi oedd hwnnw a'i fod yn gwbl ddi-sail ac yn gwbl anghywir. Rhun ap Iorwerth AC: A wnewch chi dderbyn ymyriad, i mi allu—? Mick Antoniw AC: Gwnaf, yn sicr. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch yn fawr iawn am dderbyn ymyriad er mwyn imi allu cyflwyno'r achos a wneuthum o'r blaen. Roedd hwn yn ateb ysgrifenedig. Efallai na fyddwch yn credu ei fod yn ateb ysgrifenedig sy'n adlewyrchu'r gwir, ond peidiwch â rhoi'r esgus iddynt. Ysgrifennwch lythyr. Ysgrifennwch lythyr heno: 'Iawn, os ydych chi'n dweud nad ydym wedi gofyn yn ffurfiol, rydym yn gwneud hynny drwy'r llythyr hwn', a byddaf yn fwy na pharod i'w gefnogi. Mick Antoniw AC: Gallaf eich sicrhau, drwy gydol yr holl waith sy'n mynd rhagddo o ran trafodaethau pan fo gwelliannau a chynigion yn mynd drwy Dŷ'r Arglwyddi, yn enwedig, mae'r safbwyntiau hynny'n cael eu gwneud yn glir iawn. Mae goblygiad y cysyniad nad ydym erioed wedi gofyn amdano, fel y dywedais, braidd yn rhyfedd, oherwydd rydym wedi galw'n barhaus am ddatganoli cyfiawnder.Fe wnaethom ni sefydlu'r comisiwn annibynnol ar gyfiawnder ac yn fwy diweddar fe wnaethom sefydlu'r comisiwn annibynnol ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru. Yn syth ar ôl etholiad cyffredinol 2019, ysgrifennodd Prif Weinidog Cymru at Brif Weinidog y DU yn cyflwyno'r achos unwaith eto dros ddatganoli cyfiawnder a chyllid teg ar gyfer cyfiawnder. Rydym wedi gwneud ein safbwynt, a safbwynt y Senedd hon, yn glir dro ar ôl tro, gyda nifer o Arglwydd Gangellorion dros y blynyddoedd ers i gomisiwn Thomas gael ei gyhoeddi. Mae'n siomedig iawn fod Llywodraeth y DU wedi anwybyddu'r mandad sydd gennym ar gyfer hyn gan bobl Cymru a'r modd y maent wedi diystyru'r system gyfiawnder ers dros 13 mlynedd, nid yn unig yng Nghymru ond yn y DU gyfan. Nid yw'r system gyfiawnder erioed wedi bod mewn cyflwr mwy enbyd o ganlyniad i 13 mlynedd o doriadau ac esgeulustod Torïaidd. I gloi, ein blaenoriaeth yw gweithredu adeiladol. Bydd yr Aelodau'n gwybod fy mod eisoes wedi croesawu cydnabyddiaeth comisiwn Brown nad oes rheswm mewn egwyddor pam na ellir datganoli materion sydd wedi'u datganoli yn yr Alban i Gymru, gan gynnwys cyfiawnder a phlismona. Mae comisiwn Brown yn argymell dechrau'r broses o ddatganoli cyfiawnder drwy ddatganoli gwasanaethau prawf a chyfiawnder ieuenctid, er eu bod yn dweud yn glir mai mater i bobl Cymru, drwy'r Senedd hon, yw penderfynu beth fydd dyfodol cyfansoddiadol Cymru. Gallaf ddweud wrth y Senedd hon, gyda newid ar fin digwydd yn y Llywodraeth, nad gwneud achos syml dros ddatganoli cyfiawnder yn unig a wnawn, ond fel Llywodraeth, rydym bellach yn paratoi ar gyfer datganoli gwasanaethau prawf a chyfiawnder ieuenctid, ac ar gyfer datganoli plismona wedyn. Cawn weld beth fydd yr argymhellion pellach gan y comisiwn cyfansoddiadol pan fydd yn adrodd yn ddiweddarach eleni. Ar 25 Ebrill eleni, cyhoeddais ddatganiad ar y cyd gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip yn amlinellu ein gwaith, a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd eto yr wythnos nesaf. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i ymateb i'r ddadl. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a diolch yn fawr iawn am bob cyfraniad ac i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ymateb o heddiw. Oes, mae yna lawer iawn o gytuno rhyngom ni yn y Siambr yma. Rydyn ni wedi clywed dadleuon mor gryf, onid ydyn ni, y prynhawn yma gan Peredur Owen Griffiths, Heledd Fychan, Alun Davies, Joyce Watson—geiriau cryf iawn—a Delyth Jewell yn egluro difrifoldeb bod heb y pwerau yma rydyn ni'n chwilio amdanyn nhw dros gyfiawnder a thros yr heddlu. Do, mi ddywedwyd flynyddoedd maith yn ôl erbyn hyn mai proses, nid digwyddiad oedd datganoli, ac mi oedd yna elfen o fod angen rhywfaint o amynedd wrth inni gychwyn ar y daith ddemocrataidd yma fel gwlad. Ond, mae hi 10 mlynedd erbyn hyn ers ail adroddiad Silk, neu bron iawn yn 10 mlynedd ers i ail adroddiad Silk nodi bod angen datganoli'r heddlu, ac rydyn ni'n dal i aros. Mae'r rhwystredigaeth yn naturiol yn tyfu, ac mae methiant i wella bywydau pobl yn mynd yn rhywbeth ddylai ein gwneud ni, fel Senedd ac fel gwleidyddion unigol, yn fwy a mwy diamynedd. Rhun ap Iorwerth AC: Rwy'n ddiolchgar i Mark Isherwood am fy llongyfarch o'r galon ar fy rôl newydd. 'Same old chestnuts', meddai. Gadewch imi ddweud wrthych sut olwg sydd ar ei gnau castan ef. [Chwerthin.] Maent yn edrych yn hen; maent yn edrych fel pe baent yn wynebu am yn ôl. A bod yn onest, roedd yn swnio fel rhywun nad oedd yn credu mewn datganoli nac yng nghydlyniaeth Cymru. Dywedodd fod Plaid Cymru yn rhannu ac yn ansefydlogi. Rhannu, pan oedd ei araith gyfan yn seiliedig ar rannu gogledd a de Cymru. Ansefydlogi—mae clywed Ceidwadwr yn cyhuddo eraill o ansefydlogi yn dangos diffyg hunanymwybyddiaeth ar raddfa anferthol. Gadewch inni ganolbwyntio ar pam ein bod yn siarad am ddatganoli cyfiawnder a phlismona heddiw, a'r angen i wneud hynny er mwyn gwella bywydau pobl yng Nghymru ac i fynd i'r afael â rhai o'r anghydraddoldebau sydd, fel y soniais yn gynharach, wedi arwain at anghysondebau mawr o ran mynediad at gyfiawnder ac yn y blaen—[Torri ar draws.] Ar bob cyfrif. Mark Isherwood AC: Mae eich cyd-Aelodau wedi cyfeirio at ddatganoli mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig sawl gwaith. Nid wyf am ailadrodd y dadleuon a wneuthum eto, ond a ydych chi'n ymwybodol fod gan yr Alban lai o heddweision nawr nag a fu ganddi ers 2008, fod nifer swyddogion yr heddlu yng Ngogledd Iwerddon wedi gostwng 7 y cant a bod naw o bob 10 o fenywod o Gymru sy'n cael eu rhyddhau o garchar Eastwood Park i wasanaethau datganoledig yng Nghymru yn mynd ymlaen i aildroseddu, o'i gymharu â dim ond un o bob 10 yn Lloegr, sy'n cael eu rhyddhau i wasanaethau yno? Rhun ap Iorwerth AC: Ar y ddau bwynt hwnnw, oni fyddai'n wych pe baem yn rhedeg y gwasanaeth carchardai a'r system gyfiawnder yma yng Nghymru, fel y gallwn unioni'r rheini? Ac rwy'n siŵr fod y rheini'n bwyntiau siarad mawr y gwnaethoch gyfeirio atynt yng Ngogledd Iwerddon a'r Alban. Oni fyddwn innau wrth fy modd yn gallu cael y drafodaeth honno ar yr hyn sy'n digwydd gyda phlismona yng Nghymru? Ar hyn o bryd nid ydym yn gallu gwneud hynny, oherwydd dywedir wrthym fod y system bresennol yn gweithio'n iawn. Nid wyf yn credu ei bod. Rhun ap Iorwerth AC: Yn fy ngweledigaeth bositif i o Gymru annibynnol, wrth gwrs, fyddai ddim angen cael y drafodaeth yma, achos mae gan bob gwlad normal ei system garchardai a'i system heddlu a'i system gyfiawnder ei hun. Mae'n teimlo'n od gorfod datgan rhywbeth sydd mor, mor amlwg. A dwi'n gwybod bod gen i waith argyhoeddi mwy o bobl o bendraw'r daith gyfansoddiadol honno, ond mae hi'n daith rydym ni arni ni. Nid salami slicing ydy hyn, Mike, a dwi'n siomedig braidd yn y sylwadau yna, achos dŷn ni yn sôn am rywbeth sydd yn gwbl, gwbl greiddiol i'n dyfodol ni fel cenedl. Rhun ap Iorwerth AC: Clywsom y Cwnsler Cyffredinol yn dweud nad oes gan hyn unrhyw beth i'w wneud ag annibyniaeth. Rwy'n cytuno bod angen y pwerau hyn arnom nawr, p'un a ydym yn annibynnol neu beidio—mae angen y pwerau hyn arnom ar unwaith—ond bydd yn rhan allweddol o greu'r ymdeimlad o fod yn genedl normal rwyf eisiau ei weld mor daer ar gyfer dyfodol Cymru. Ond boed yn ymwneud â newid cyfansoddiadol ac annibyniaeth, neu'n ymwneud â'r mater penodol o ddatganoli cyfiawnder a phlismona, gadewch inni atgoffa ein hunain nad ydym yn ei wneud oherwydd ein bod eisiau newid cyfansoddiadol er ei fwyn ei hun, ond oherwydd ein bod yn rhoi cynlluniau a chynigion ar waith a fyddai'n gwella pethau i bobl yng Nghymru. Dyna sydd wrth wraidd yr hyn rydym yn sôn amdano. I gloi, rwyf am ymateb i sylwadau'r Cwnsler Cyffredinol yn benodol. Wrth gwrs, mae'n iawn i ddweud bod yna lawer rydym yn cytuno arno. Ond y realiti gwleidyddol, wrth gwrs, yw bod ei ddyheadau ef, ac rwy'n credu eu bod yn ddilys ac rwy'n credu eu bod yn cyd-fynd â fy nyheadau i mewn sawl ffordd, yn groes i ddyheadau arweinydd ei blaid ei hun. A pha ddatganiadau bynnag y mae wedi'u gwneud yn ddiweddar yn cynnig geiriau cynnes mewn ymateb i adroddiad gan Gordon Brown, geiriau cynnes yn unig ydynt hyd nes y byddant yn dod yn addewidion gan Lywodraeth Lafur sy'n dod i mewn. Ac rwy'n gobeithio y bydd y Cwnsler Cyffredinol ei hun eisiau dal Prif Weinidog sy'n dod i mewn at ei air, fel rwyf innau'n dymuno ei wneud. Geiriau olaf, mewn ymateb i Alun Davies: rwy'n ddiolchgar iawn am ei sylwadau. Dywedodd ein bod yn wynebu argyfwng. 'Mae hwn yn argyfwng', meddai. Galwodd arnom i weithio gyda'n gilydd. Rwyf am eich atgoffa bod gwelliant y Llywodraeth heddiw yn galw am ddileu'r cymal: 'Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ofyn yn ffurfiol am bwerau dros gyfiawnder a phlismona.' Rwy'n derbyn eich bod yn credu bod cais eisoes wedi'i wneud. Gwnewch y cais eto. Os na ofynnwch, ni chewch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. Cyn i ni symud at y cyfnod pleidleisio— Hoffwn ymateb i'r pwynt o drefn a godwyd gan yr Aelod dros Flaenau Gwent yn gynharach y prynhawn yma. Rwyf wedi adolygu'r trawsgrifiad y prynhawn yma, ac yn gyntaf, rwy'n teimlo bod angen pwysleisio i'r holl Aelodau fod yn rhaid iddynt fod yn ystyriol iawn o'r defnydd o eiriau fel 'camarwain' a 'chamarweiniol' yn eu cyfraniadau. A phan nad yw'n gymwys, mae bob amser yn rhoi'r argraff o fod yn fwriadol, ac rwy'n siŵr nad oedd yn fwriadol. Rwyf wedi dod i'r casgliad, felly, fod yr Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed, yn ystod ei gwestiwn i'r Cwnsler Cyffredinol, wedi dweud bod y Prif Weinidog a'r Gweinidog iechyd wedi camarwain y Senedd heb gydnabod bod y Prif Weinidog wedi egluro ei sylwadau a bod y Gweinidog iechyd wedi cywiro'r cofnod pan dynnwyd ei sylw at yr anghywirdeb. Rwy'n siŵr fod yr Aelod wedi anghofio gwneud hynny'n anfwriadol, a bydd yn cytuno y dylai'r cofnod gydnabod y pwyntiau hyn nawr. Rwy'n gweld bod yr Aelod yn nodio, felly rwy'n gweld ei fod yn cytuno â hynny. Felly, mae wedi'i gofnodi. Diolch. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, symudaf yn syth at y cyfnod pleidleisio. 10. Cyfnod Pleidleisio Reit, bydd y bleidlais gyntaf heddiw ar eitem 9, dadl Plaid Cymru. Galwaf am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 10, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod. Eitem 9. Dadl Plaid Cymru. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 10, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0 Gwrthodwyd y cynnigCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, fel sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, rwy'n arfer fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, o blaid 25, neb yn ymatal, yn erbyn 26. Mae'r gwelliant wedi ei wrthod. Eitem 9. Dadl Plaid Cymru. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 25, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0 Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii). Gwrthodwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Gan nad yw'r Senedd wedi derbyn y cynnig heb ei ddiwygio nac wedi derbyn y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig, caiff y cynnig felly ei wrthod. Mae hynny'n gorffen pleidleisiau heddiw. 11. Dadl Fer: Ail-bwrpasu cyffuriau i drin clefydau prin Symudwn yn awr i'r ddadl fer, a galwaf ar Joel James i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganodd. A wnaiff y rhai sy'n gadael wneud hynny'n dawel os gwelwch yn dda. Joel James. Joel James MS: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Clefyd prin yw un sy'n cael ei gategoreiddio fel un sy'n effeithio ar lai nag un o bob 2,000 o bobl, ac yn anffodus, mae llawer o'r cyflyrau prin hyn yn mynd heb eu canfod am flynyddoedd. Y rheswm am hyn yw bod amrywiaeth eang o symptomau'n gysylltiedig â nhw, symptomau sy'n aml yn ymddangos fel pe na bai unrhyw gysylltiad rhyngddynt, ac er y gall clefydau prin fod yn bethau prin yn unigol, gyda'i gilydd maent yn gyffredin, gydag un o bob 17 o bobl yn cael eu heffeithio gan glefyd prin ar ryw adeg yn eu bywydau. Er bod rhai'n gallu parhau fel arfer am fod eu symptomau'n gymharol ysgafn, mae'r rhan fwyaf o ddioddefwyr yn wynebu bywydau anodd a chyfyngedig iawn. Er enghraifft, edrychwch ar y rhai sy'n dioddef o epidermolysis bullosa neu EB, cyflwr genetig prin sy'n achosi pothelli croen, y cyfeirir ato'n aml fel croen glöyn byw am ei fod mor fregus. Mae'r clefyd prin hwn yn achosi i'r croen bothellu a rhwygo gyda'r cyffyrddiad lleiaf. Mae'n achosi poen gydol oes ofnadwy a gall gael effaith ddinistriol ar les corfforol a meddyliol dioddefwyr. Mewn llawer o achosion, yn ogystal â'r cyflwr ei hun, rhaid i ddioddefwyr ddioddef sawl awr o rwymo a dadrwymo dyddiol i'r rhannau yr effeithir arnynt fwyaf, sy'n hynod boenus, gan fod y croen yn cael ei rwygo ymaith gyda'r rhwymyn. Ar ei ffurf fwyaf difrifol, mae EB hefyd yn effeithio ar y llygaid, lle mae amrantu'n arwain at boen dwys, a'r organau mewnol, lle mae bwyta ac yfed yn achosi problemau difrifol, ac mae angen gofal iechyd helaeth ar hyn oll. Mae llawer o bobl sy'n dioddef afiechydon prin fel EB hefyd yn treulio eu bywydau yng nghysgod eu cyflyrau. Hynny yw, mae'n effeithio ar sawl agwedd ar eu bywydau, yn eu hatal neu'n eu cyfyngu rhag cymdeithasu, rhag ffurfio perthnasoedd a rhag gallu gweithio neu deithio. Mae data arolwg wedi dangos bod 60 y cant o oedolion â chlefyd prin wedi dweud eu bod yn ei chael hi'n anodd cadw swydd gyflogedig, sy'n golygu, ar ben eu cyflyrau iechyd, fod yn rhaid iddynt hefyd boeni am arian neu golli eu swydd o bosibl, a methu dod o hyd i un arall. Ar ben hynny, yn ystod plentyndod y bydd bron i 70 y cant o glefydau prin yn dechrau, sy'n golygu bod plant sydd â'r clefydau hyn yn aml yn cael eu hamddifadu o'u plentyndod hefyd. Yn anffodus, ni cheir triniaeth drwyddedig ar gyfer 95 y cant o glefydau prin, sy'n golygu nid yn unig fod cleifion yn gorfod ymdopi â chanlyniadau dinistriol y cyflyrau hyn, mae'n rhaid iddynt fyw gyda'r wybodaeth hefyd fod yr unig driniaeth y gallant ddisgwyl ei chael wedi'i chyfyngu i ymdrin â'u symptomau, yn hytrach na'r clefyd ei hun. Gall y daith tuag at ddiagnosis fod yn hir a gall ymddangos yn aneffeithlon. Wrth aros am ddiagnosis, mae'n bosibl na fydd gofal addas ar gael i gleifion a'u teuluoedd yn anffodus. Gall cael diagnosis o unrhyw glefyd fod yn anodd iawn, a phan nad oes llawer o wybodaeth am y clefyd a chymhlethdod nifer o gyflyrau prin, mae'n aml yn heriol iawn i'w reoli, gan arwain at ddryswch ac ynysigrwydd pellach i'r dioddefwr. Yn aml caiff hyn ei waethygu gan y ffaith na fydd meddygon sy'n ceisio eu trin wedi clywed am y clefyd, o bosibl, ac felly, mewn llawer o achosion, nid oes dull cydgysylltiedig o drefnu gwasanaethau iechyd. Rwy'n credu y gallwn i gyd gytuno bod hyn yn gwbl frawychus i'r rhai sy'n dioddef, i feddwl na fydd y boen y gallech fod yn ei dioddef a'r symptomau sy'n parhau byth yn mynd i ddiflannu a bod y dyfodol rydych chi'n ei wynebu yn un lle mae'n bosibl iawn na fydd triniaeth feddygol ar gael i chi o gwbl. Joel James MS: A daw hyn â mi at bwynt y ddadl hon: rwyf eisiau codi ymwybyddiaeth o'r ffaith bod nifer syfrdanol o gyffuriau i'w cael sydd eisoes wedi pasio'r holl dreialon clinigol, wedi cyrraedd y farchnad ac sydd â'r potensial i drin miloedd o glefydau prin, ond nid ydym yn dyrannu digon o adnoddau i astudio sut y gellir addasu'r cyffuriau presennol hyn at ddibenion gwahanol. Er bod nifer o gyffuriau llwyddiannus wedi cael eu hail-bwrpasu ar gyfer clefydau prin—megis sirolimus i drin syndrom lymffosytig awto-imiwn, ALPS, a nitisinone, y cyffur trwyddedig cyntaf ar gyfer trin alcaptonwria, ar ôl cael eu defnyddio'n flaenorol ar gyfer tyrosinemia math 1—cawsant eu darganfod drwy hap yn bennaf. Mae addasu cyffuriau ar gyfer clefydau prin yn senario lle mae pawb yn ennill. Nid yn unig mae'r amserlen yn fyrrach o lawer ar gyfer datblygu cyffuriau a chostau datblygu'n is am fod llai o risg y byddant yn methu mewn treialon clinigol, maent hefyd yn cynnig posibilrwydd o driniaethau sy'n newid bywyd, sy'n lleddfu'n sylweddol neu'n gwella iechyd, heb fod angen aros degawdau cyn y gellir datblygu cyffur penodol ar gyfer eu cyflwr nhw. Rwy'n cydnabod bod cynlluniau Llywodraeth Cymru sydd eisoes ar waith, gan gynnwys cynllun gweithredu afiechydon prin Cymru 2022-2026, a'r gronfa triniaethau newydd gwerth £80 miliwn, wedi cynyddu mynediad at feddyginiaethau newydd arloesol yng Nghymru yn sylweddol, yn enwedig i ddioddefwyr ffibrosis systig a chlefydau Fabry, Gaucher a Batten. Rwyf hefyd yn ymwybodol o fframwaith afiechydon prin y DU, ac fel rhan o hyn yng Nghymru mae gennym y caffis genomig, a drefnir gan Barc Geneteg Cymru, sy'n gyfleoedd anffurfiol lle gall unigolion gyfarfod ag eraill a darganfod mwy am y datblygiadau newydd mewn meddygaeth genomig yng Nghymru. Mae gennym hefyd fenter seinfwrdd cleifion a'r cyhoedd dan arweiniad Partneriaeth Genomeg Cymru, GPW, sy'n helpu cleifion ac aelodau'r cyhoedd sydd â phrofiadau personol neu deuluol o glefydau prin. Fodd bynnag, wedi dweud hynny, ac er ei fod yn teimlo fel pe bai llawer yn digwydd, mae cymaint â 175,000 o ddioddefwyr clefydau prin yng Nghymru a fyddai, heb os, yn dadlau nad oes digon yn cael ei wneud, yn enwedig gan eu bod yn gwybod y gallai fod cyffuriau eisoes yn bodoli a allai leddfu'n sylweddol neu hyd yn oed wella eu cyflwr. Mae yna resymau mawr pam y dylem fod yn buddsoddi yn hyn. Nid yn unig y byddem yn gallu gwella ansawdd bywyd pobl sy'n dioddef o glefydau prin yn sylweddol, gallwn hefyd leihau faint o ofal sy'n rhaid i deulu a gwasanaethau cymdeithasol ei ddarparu. Ac nid yw hyn yn beth bach o bell ffordd: mae rhai clefydau prin, fel EB, fel y crybwyllais, yn caethiwo'r rhai sy'n dioddef a'r rhai sy'n gofalu amdanynt. Yn aml iawn, mae dioddefwyr yn gorfod teithio'n bell i gael triniaeth, sy'n cael effaith enfawr ar gyllid y teuluoedd, yn gorfod dod o hyd i ofal plant ar gyfer plant eraill efallai, yn gorfod cymryd amser i ffwrdd o'r gwaith, yn ogystal â thalu costau teithio, ac mae'n iawn ein bod yn defnyddio'r wybodaeth a'r cyffuriau sydd gennym eisoes hyd eithaf ein gallu—hyd eithaf ein gallu. Mae'n rhaid inni gofio ei bod yn hynod anodd ac yn annhebygol y byddai cyffuriau newydd yn cael eu datblygu ar gyfer nifer o'r 7,000 a mwy o glefydau prin sydd gennym. Yn gyntaf, prin yw'r cymhellion i gwmnïau wario symiau enfawr o arian ar ddatblygu cyffuriau a mynd ar drywydd trwyddedau ar gyfer poblogaeth mor fach o gleifion. Yn ail, mae'n rhaid i'r cyrff asesu technoleg iechyd, megis Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru a'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, sy'n gwneud y penderfyniadau ar gomisiynu a phrynu'r cyffuriau hyn, gydbwyso'r angen am driniaeth ar gyfer pob claf yn erbyn adnoddau penodedig, ac o ystyried nad yw'n agos mor gosteffeithiol i ddatblygu cyffuriau newydd ar gyfer y cleifion hyn, mae'n annhebygol y bydd llawer o gleifion byth yn eu cael. Er nad dyma'r rheswm pennaf dros fuddsoddi mewn ailbwrpasu cyffuriau, mae arbedion ariannol enfawr i'w gwneud i'r GIG hefyd. Mae'r gyllideb bresennol ar gyfer gwasanaethau arbenigol sy'n trin y cleifion hyn oddeutu 10 y cant o wariant y GIG ar hyn o bryd. Er enghraifft, mae rhywun sydd ag EB difrifol yn costio tua £46,000 y flwyddyn i'r GIG, a bydd rhyddhau rhai o'r adnoddau hynny, heb os, yn helpu'r GIG i ddarparu gwell gwasanaethau mewn mannau eraill. Mae gwaith ymchwil yng Ngholeg y Brenin, Llundain, wedi canfod, pan gafodd rhai cyffuriau eu hail-bwrpasu ar gyfer dioddefwyr EB, fod un o'r cyffuriau hyn wedi gwella clwyfau'n sylweddol, a lleihau'r ysfa i gosi 60 y cant, gan leihau'r amser rhwymo niweidiol dyddiol yn sylweddol. Canfuwyd hefyd fod hyn yn lleihau'r straen ar y teulu sy'n cefnogi'r claf, a'r amser oedd ei angen i ofalu amdanynt. Yn ei dro, arbedodd hyn amser ac arian i'r GIG, gan nad oedd angen cymaint o apwyntiadau cleifion allanol na chymaint o gyflenwadau meddygol. At hynny, adroddodd astudiaethau gan Ysgol Economeg a Gwyddor Wleidyddol Llundain yn 2016 a 2022 fod clefydau prin, fel EB unwaith eto, yn cael effaith economaidd ehangach, wrth i rieni ac aelodau'r teulu leihau eu cyfranogiad yn y farchnad lafur oherwydd eu bod yn gofalu'n anffurfiol am eu hanwyliaid. Hefyd, datgelodd yr un astudiaeth pa mor gyffredin oedd symptomau seicolegol a seiciatrig ymhlith y rhai ag EB a'u teuluoedd, a oedd yn ychwanegu costau ychwanegol sylweddol yn gysylltiedig â'r angen am ddarpariaeth iechyd meddwl. Mae yna ymdrechion aruthrol yn cael eu gwneud gan elusennau clefydau prin, fel DEBRA a Beacon, i enwi dau yn unig, sydd wedi gwneud llawer iawn i gynrychioli llais y claf, i rymuso'r teimlad o gymuned ymhlith dioddefwyr a dod o hyd i iachâd ar gyfer y clefydau hyn, ac mae hyn wedi bod yn hanfodol i helpu i ddeall llawer o'r cyflyrau. Mae DEBRA, er enghraifft, y mae'r Cymro Simon Weston CBE yn llywydd arno, yn arwain y ffordd o ran helpu i ddangos manteision codi arian ar gyfer treialon clinigol i brofi cyffuriau presennol ar gyfer EB, ac ar hyn o bryd mae'r elusen yn ceisio codi £5 miliwn ar gyfer profion clinigol. Efallai eich bod wedi gweld, yn y newyddion, yr ymdrechion gan y cyn bêl-droediwr gwych—ac un o arwyr Lerpwl, gallwn ychwanegu—Graeme Souness, sydd wedi codi dros £1 filiwn tuag at hyn drwy nofio'r Sianel yn ddiweddar. Ond i gloi, rwy'n teimlo na ddylem orfodi elusennau ac unigolion i wneud hyn i gyd ar eu pen eu hunain. Mae gennym ddyletswydd i helpu i sicrhau bod cleifion a'u teuluoedd ledled Cymru yn cael yr un gofal cyson, eu bod yn cael cyfle i gael gafael ar gyffuriau, ni waeth beth yw eu cyflwr, a'u bod yn cymryd rhan lawn yn y broses o ddeall eu cyflwr. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth y DU yn cyfarfod ag elusennau i drafod y posibilrwydd o ddarparu cyllid ar gyfer treialon clinigol i ail-bwrpasu cyffuriau. Rwy'n awyddus i wybod a fydd y Gweinidog iechyd yn cefnogi'r achos hwn drwy ysgrifennu at ei swyddog cyfatebol yn Llywodraeth y DU. Rwyf hefyd yn awyddus i wybod pa gymorth penodol a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth o glefydau prin, nid yn unig ymhlith y cyhoedd yng Nghymru, ond ymhlith gweithwyr gofal iechyd proffesiynol hefyd. Ac o ystyried y nifer uchel o bobl yng Nghymru a fydd yn cael eu heffeithio gan glefyd prin ar ryw adeg yn eu bywydau, rwyf hefyd yn awyddus i wybod pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i ddeall y llwybrau clinigol sydd eu hangen yn well, a sut maent yn bwriadu gwella'r broses o gasglu data pobl sydd â chlefydau prin, y gofal sydd ei angen arnynt a'r manteision o ail-bwrpasu cyffuriau ar eu cyfer. Diolch. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl. Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr. Hoffwn ddiolch i'r Aelod dros Ganol De Cymru am godi'r mater pwysig hwn. Hoffwn sicrhau'r Aelodau fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella bywydau'r rhai sydd â chlefydau prin. Gall afiechydon prin gyfyngu ar fywyd a bygwth bywyd, ac maent yn effeithio'n anghymesur ar blant, fel y nodwch. Ar ben hyn, gall cleifion a'u teuluoedd wynebu oes o ofal cymhleth. Ac rwy'n credu bod yr enghraifft a roesoch ar y dechrau'n gwneud i bawb ohonom sylweddoli pa mor bwysig yw dod o hyd i driniaethau i bobl sydd â chyflyrau mor wanychol. Felly, mae'n rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i helpu pobl sy'n wynebu diagnosis o glefyd prin. Ac un maes pwysig sy'n cael ei ystyried yw ail-bwrpasu meddyginiaethau sy'n bodoli'n barod i drin cyflyrau heblaw'r rhai y cawsant eu trwyddedu'n wreiddiol ar eu cyfer. Mae ail-bwrpasu meddyginiaethau'n cymryd llawer llai o amser nag y byddai dod â meddyginiaeth hollol newydd ar y farchnad, ac yn ystod y pandemig, fe wnaeth ail-bwrpasu meddyginiaethau i'w defnyddio fel triniaethau ar gyfer COVID ein helpu i reoli pobl â'r heintiau mwyaf difrifol ac achub bywydau, yn llythrennol. Gelwir defnydd o'r fath ar feddyginiaeth, lle profwyd effeithiolrwydd clinigol ar gyfer un cyflwr ond lle nad yw'r feddyginiaeth wedi'i thrwyddedu ar gyfer cyflwr newydd y gobeithiwn ei drin, yn 'ddefnydd all-drwydded'. Mae defnydd all-drwydded yn gyffredin yn y GIG. Mae ail-bwrpasu meddyginiaethau fel hyn yn digwydd bob dydd mewn ysbytai ac mewn gofal sylfaenol. Yng Nghymru, mae gennym brosesau ar waith i gefnogi mabwysiadu meddyginiaethau all-drwydded yn rheolaidd lle caiff ei gefnogi gan dystiolaeth. Mae'r broses hon yn dibynnu ar gyngor gan ein grwpiau cynghori arbenigol, gan gynnwys Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan a Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru, sy'n rhoi cyngor ar bob mater sy'n ymwneud â phresgripsiynu a meddyginiaethau. Pan ddefnyddir meddyginiaethau yn all-drwydded, nid ydynt yn addas ar gyfer ein dull arferol o bennu eu gwerth i'r GIG. Gall hyn fod oherwydd eu bod yn cael eu defnyddio mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn neu oherwydd nad oes data treialon clinigol ar gael i gefnogi trwyddedu meddyginiaethau ar gyfer y cyflyrau newydd. Nawr, er mwyn cefnogi'r defnydd gorau posibl o'r mathau hyn o feddyginiaethau, fe wnaethom ddatblygu proses Meddyginiaethau Cymru'n Un. Enghraifft o feddyginiaeth sydd ar gael drwy broses Cymru'n Un yw rituximab ar gyfer trin clefyd yr ysgyfaint interstitiaidd ffibrotig, cyflwr sy'n achosi creithio ac anystwythder yr ysgyfaint, sy'n ei gwneud hi'n anodd anadlu. Mae gan nifer fach o bobl yng Nghymru y clefyd ysgyfaint hwn, nad yw'n ymateb i driniaeth gonfensiynol. Nid yw ar gael fel mater o drefn yn Lloegr. Fodd bynnag, yng Nghymru, roeddem o'r farn fod yna angen heb ei ddiwallu a nodwyd carfan o gleifion a allai elwa o rituximab. Felly aseswyd y feddyginiaeth hon trwy broses Cymru'n Un, ac mae bellach ar gael fel mater o drefn yn GIG Cymru i helpu i wella bywydau pobl sy'n byw gyda chlefyd yr ysgyfaint interstitaidd ffibrotig. Wrth gefnogi cleifion drwy sicrhau cyngor cyson a mynediad at feddyginiaethau at ddefnydd all-drwydded—mae ganddynt rôl i'w chwarae yn rheoli rhai afiechydon—mae yna botensial i ail-bwrpasu fynd ymhellach. Ond mae ail-bwrpasu ar hyn o bryd yn dibynnu ar ddata arsylwadol a gesglir dros nifer o flynyddoedd o ddefnydd o feddyginiaeth y gallwn weld ohono fod y feddyginiaeth yn driniaeth effeithiol. Wrth bresgripsiynu meddyginiaeth yn y modd hwn, mae clinigydd yn cymryd cyfrifoldeb llawn am unrhyw risgiau sy'n gysylltiedig â thriniaeth, heb y sicrwydd o ddiogelwch ac effeithiolrwydd a ddarperir gan awdurdodiad marchnata a roddir gan reoleiddwyr meddyginiaethau fel yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd. Eluned Morgan AC: Yn anffodus, heb hap-dreialon wedi'u rheoli, does dim modd gwarantu y bydd triniaeth wedi ei hailbwrpasu yn gweithio'n effeithiol, ac felly dyw MHRA ddim yn gallu rhoi trwydded. I helpu i lenwi'r bwlch mewn tystiolaeth, cafodd y rhaglen ailbwrpasu meddyginiaethau y Deyrnas Unedig ei sefydlu yn 2019. Mae hwn yn bartneriaeth amlasiantaeth rhwng yr NHS, NICE, y sefydliad ymchwil gofal cymdeithasol ac iechyd, a'r MHRA. Nod y rhaglen yw chwilio am gyfleoedd i gryfhau'r sefyllfa o ran meddyginiaethau heb eu trwyddedu, neu off-label, sy'n cael eu defnyddio'n gyffredin yn yr NHS neu sy'n debygol o gael eu defnyddio—hynny yw, cryfhau o ran tystiolaeth trwyddedu, cyflenwad a bod yn gost-effeithiol. Mae yna botensial yn sicr i roi trwyddedau newydd yn gyflymach ar gyfer meddyginiaethau arloesol sydd wedi cael eu hailbwrpasu drwy gynllun llwybr trwyddedu a mynediad arloesol yr MHRA y mae Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan yn bartner iddo. Dwi'n croesawu ymdrechion i gefnogi ailbwrpasu drwy weithio gyda chynhyrchwyr sydd eisiau trwyddedu meddyginiaethau ar gyfer indications newydd. Pan fydd NICE neu'r Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan yn trwyddedu ac yn argymell meddyginiaethau, byddwn ni'n sicrhau eu bod nhw ar gael yn gyflym. Mae ein cronfa triniaethau newydd, sy'n hynod o lwyddiannus, yn sicrhau bod meddyginiaethau arloesol newydd ar gael i bawb yng Nghymru. Pan fydd meddyginiaethau wedi'u hailbwrpasu yn cael eu hargymell drwy ein proses Cymru'n Un, neu yn cael trwydded gan MHRA maes o law, bydd yr NHS yng Nghymru hefyd yn gwneud yn siŵr eu bod nhw ar gael fel mater o drefn. Fel dywedais i yn gynharach, mae ailbwrpasu yn gallu bod yn elfen arbennig o bwysig wrth drin clefydau mwy prin, ond dim ond un cam yw e ymysg nifer o gamau y mae angen eu cymryd i ymdrin ag anghenion cleifion sydd â chyflyrau mwy prin. Ym mis Mehefin y llynedd, cafodd gynllun gweithredu clefydau prin Cymru ei gyhoeddi. Mae hwn yn nodi nifer o flaenoriaethau sy'n anelu at wella hygyrchedd ac ansawdd y gofal sy'n cael ei roi i unigolion. Mae'r grŵp gweithredu clefydau prin yn gweithio tuag at gyflawni'r amcanion hyn ac, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, maen nhw wedi gwneud cynnydd ar bob un o'u blaenoriaethau. I gloi, dwi'n gobeithio fy mod i wedi dangos nid yn unig ein hymrwymiad i wella'r sefyllfa i bobl yng Nghymru sy'n byw gyda chlefydau prin, ond hefyd y trefniadau cadarn rŷn ni wedi eu rhoi ar waith i asesu meddyginiaethau at ddibenion eraill. Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Diolch, Weinidog, a diolch, Joel. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben Daeth y cyfarfod i ben am 18:39. QNR Cwestiynau i Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad Rhys ab Owen: Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol yn bwriadu eu cael â'r Prif Ustus newydd ynghylch datganoli cyfiawnder? Mick Antoniw: Rwy’n trafod cyfiawnder yng Nghymru gyda’r Arglwydd Brif Ustus yn aml, gan barchu annibyniaeth y farnwriaeth. Rwy’n edrych ymlaen i barhau â’r sgyrsiau hyn gyda’i olynydd, y Fonesig Sue Carr, pan fydd hi wedi dechrau yn y swydd. Huw Irranca-Davies: Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o oblygiadau Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)? Mick Antoniw: As currently drafted, the Bill could see UK Government Ministers given unfettered authority to legislate in devolved areas, contrary to the democratically established devolution settlement. We have consistently reiterated at both an official and ministerial level to the UK Government that our devolution settlement needs to be respected and preserved. John Griffiths: Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud tuag at ei nod o ddatganoli rhagor o bwerau i'r Senedd a Llywodraeth Cymru? Mick Antoniw: Although this UK Government continues to pursue a unilateral and aggressive approach to devolution, we will continue to seek the powers we need to allow us to properly protect our economy, our environment and improve the lives of the people of Wales. Cwestiynau i Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip Buffy Williams: Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith y bydd costau byw yn ei chael ar dlodi yn Rhondda y gaeaf hwn? Jane Hutt: Through our cost-of-living Cabinet committee and expert group, we are working with organisations such as the Bevan Foundation, National Energy Action and Public Health Wales to help us understand the impact poverty will have on communities in Wales this winter, including in Rhondda, and to inform our response. Heledd Fychan: Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cydweithio rhwng cymunedau yng Nghanol De Cymru a'r heddlu lleol, gan gynnwys swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru? Jane Hutt: Mae fy natganiad ysgrifenedig dyddiedig 26 Mai yn amlinellu'r trafodaethau a gawson ni gydag arweinwyr cymunedol yn Nhrelái a Chaerau, a gyda Chyngor Caerdydd a Heddlu De Cymru. Rydyn ni wedi ymrwymo i gyd-noddi'r gwaith o greu cynllun ar gyfer Trelái a Chaerau—un sy'n cael ei arwain gan y gymuned ei hun, ac a fydd yn mynd i'r afael ag anghenion hirdymor y gymuned. Peter Fox: Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â thlodi yng Nghymru? Jane Hutt: We are doing everything we can to support people through this cost-of-living crisis—helping them to access the financial support they are entitled to, providing targeted help to those who need it the most, and delivering programmes and schemes that help keep money in people’s pockets.
uk-hansard-senedd-cy
senedd2023-06-21
2024-06-01T00:00:00
{ "year": "2023", "language": "cy", "license": "Open Parliament Licence - https://www.parliament.uk/site-information/copyright-parliament/open-parliament-licence/" }
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. Datganiad gan y Llywydd Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Cyn i ni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rheini wedi eu nodi ar eich agenda. Hoffwn atgoffa'r Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod yma, ac yr un mor berthnasol i Aelodau yn y Siambr ag i'r rhai sy'n ymuno drwy gyswllt fideo. 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Peter Fox. Cefnogi Pobl sy'n Agored i Niwed Peter Fox AS: 1. Sut bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl sy'n agored i niwed dros fisoedd y gaeaf? OQ57008 Mark Drakeford AC: Llywydd, mae aelwydydd o dan bwysau ariannol digynsail o ganlyniad i'r pandemig, ein hymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd, costau byw cynyddol a thoriadau niweidiol i daliadau lles a gefnogwyd gan Lywodraeth y DU. Rydym ni'n mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau a all arwain at dlodi wrth helpu pobl i sicrhau'r incwm mwyaf a datblygu cadernid ariannol. Peter Fox AS: Diolch, Prif Weinidog, am yr ateb yna. Hoffwn groesawu'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo pobl agored i niwed, a hoffwn dalu teyrnged yn arbennig i'n helusennau a sefydliadau eraill yn y trydydd sector sy'n gwneud gwaith gwych i helpu ein cymunedau. Fel y byddwch chi'n gwybod, Prif Weinidog, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi pecyn cymorth gwerth £500 miliwn yn ddiweddar i helpu pobl drwy'r pandemig, yn ogystal â misoedd y gaeaf. Bydd yr arian hwn yn cael ei ddarparu i gynghorau yn Lloegr erbyn mis Hydref. Oherwydd hyn, bydd Cymru yn derbyn £25 miliwn yn ychwanegol. A wnewch chi gadarnhau sut bydd yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio i gynorthwyo teuluoedd ledled Cymru a pha un a fydd cynghorau yn cael yr arian hwn yn uniongyrchol fel y gallan nhw sicrhau bod cymorth yn cyrraedd y rhai sydd ei angen fwyaf? Diolch. Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Peter Fox am bwysigrwydd sefydliadau gwirfoddol a thrydydd sector sydd wedi gwneud cymaint i helpu teuluoedd a chymunedau dros gyfnod y pandemig yn ddiweddar. Ond gadewch i ni fod yn glir: mae Llywodraeth y DU yn tynnu £300 miliwn o bocedi rhai o'r teuluoedd tlotaf yng Nghymru ac yn cynnig £25 miliwn yn gyfnewid am hynny. Nid yw'n fargen o gwbl i'r teuluoedd agored i niwed hynny a'r cymorth y bydd ei angen arnyn nhw dros y gaeaf hwn. Nawr, rydym ni eisoes wedi darparu dros £25 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol yn ein cronfa cymorth dewisol, cronfa y cefnwyd arni gan y Blaid Geidwadol yn Lloegr, lle nad oes unrhyw hawl i gynllun mor genedlaethol wedi ei seilio ar reolau. Byddwn yn edrych i weld sut y gallwn ni ddefnyddio'r £25 miliwn i sicrhau'r effaith orau posibl, gan gynorthwyo'r ystod o sefydliadau sy'n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl, gan fod yn gwbl glir ynghylch y ffaith nad yw colli £300 miliwn a chael cynnig £25 miliwn i wneud iawn am hynny yn unrhyw fargen o gwbl. Delyth Jewell AC: Prif Weinidog, mae unigrwydd wedi bod yn broblem sylweddol i filoedd o bobl yn ystod y pandemig, ac wrth i ni ddechrau misoedd y gaeaf, gallai mwy o bobl deimlo eu bod wedi eu hynysu hyd yn oed yn fwy oddi wrth ffrindiau a theulu. Pan fydd pobl yn unig, gallan nhw fod mewn mwy o berygl o ynysu eu hunain oddi wrth wasanaethau hefyd, a gall hynny, yn ei dro, gael ei waethygu os oes rhwystrau eisoes i ddefnyddio'r gwasanaethau hynny, fel rhestrau aros hir. Rwy'n gwybod bod y Groes Goch wedi tynnu sylw at sut y gallai fod angen cymorth wedi ei deilwra ar bobl sy'n dioddef o unigrwydd pan fyddan nhw'n aros am driniaeth, cymorth nad yw'n ymwneud â'u salwch corfforol yn unig ond ag ymdopi â'r broses o aros, yn enwedig os yw hynny yn ymestyn yr amser cyn y gallan nhw ryngweithio â ffrindiau a theulu yn haws. Felly, Prif Weinidog, pa gymorth sydd ar waith, neu y gellid ei roi ar waith, os gwelwch yn dda, i helpu pobl ar restrau aros hir i ymdopi â'r ynysigrwydd y gallai hynny ei achosi iddyn nhw, yn ogystal â'r effaith ar eu hiechyd corfforol, wrth gwrs? Mark Drakeford AC: Llywydd, diolch i Delyth Jewell am y pwynt pwysig yna. Bydd hi'n gwybod bod rhai dadansoddwyr yn dweud y dylid ychwanegu unigrwydd at y pum cawr a nodwyd gan Beveridge ar ddechrau'r wladwriaeth les yn un o heriau polisi cymdeithasol mawr ein hoes. Rwy'n diolch iddi am yr hyn a ddywedodd am bwysigrwydd y Groes Goch. Bydd yn gwybod bod Llywodraeth Cymru, dros y gaeaf diwethaf, wedi ariannu cyfres o gamau gweithredu gan y Groes Goch ei hun i helpu i ddychwelyd pobl i'w cartrefi eu hunain ar ôl iddyn nhw gael eu rhyddhau—weithiau ar ôl cyfnod byr yn ymweld ag adran damweiniau ac achosion brys; weithiau ar ôl aros yn yr ysbyty—am yr union reswm o wneud yn siŵr bod gan y bobl hynny sy'n unig ac yn ynysig berson arall ochr yn ochr â nhw pan oedden nhw'n dychwelyd i'w cartrefi eu hunain, ac yn cael eu helpu i ymgartrefu a gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw bopeth yr oedd ei angen arnyn nhw. A gaf i gymeradwyo hefyd waith Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn y maes hwn? Rwy'n gwybod bod fy nghyd-Weinidog Julie Morgan wedi bod yn gweithio yn agos gyda'r comisiynydd a'i swyddfa i roi gwasanaethau ar waith i fynd i'r afael ag unigrwydd ymhlith hen bobl. Ac weithiau mae hyn yn gyfres syml iawn o drefniadau, yn y maes y cyfeiriodd Peter Fox ato, o'r sector gwirfoddol a'r trydydd sector—gall dim mwy na galwad ffôn syml i rywun nad yw'n clywed llais dynol arall o un diwrnod i'r llall, a chymryd diddordeb mewn sut mae'n teimlo a'r hyn y mae'n mynd drwyddo, wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl. A cheir llawer iawn o wirfoddolwyr erbyn hyn, ym mhob rhan o Gymru, sy'n cymryd rhan yn y mesurau syml ond effeithiol hynny a all wneud gwahaniaeth i unigrwydd. Sarah Murphy AS: Prif Weinidog, yn fy etholaeth i ym Mhen-y-bont ar Ogwr, rwyf i wedi bod yn holi trigolion am eu profiadau o gysylltu â gofal sylfaenol. Mae'r adborth wedi amrywio o 'dda iawn' i bobl a oedd yn teimlo eu bod nhw wedi aros yn rhy hir. Rwy'n pryderu y gallai hyn effeithio ar bobl agored i niwed yn arbennig yn ystod misoedd y gaeaf. Felly, sut gall Llywodraeth Cymru sicrhau bod gan ein meddygfeydd teulu y dechnoleg orau fel y gall pobl wneud apwyntiadau a chael gwasanaeth cyson ledled Pen-y-bont ar Ogwr? Mark Drakeford AC: Wel, diolch i Sarah Murphy am y pwynt yna. Gan fod gofal sylfaenol wedi dibynnu yn gwbl briodol ar ffyrdd technolegol o ddarparu cyngor a chanlyniadau triniaeth i bobl, mae'r angen i wneud yn siŵr bod y llwyfannau technolegol hynny yn effeithiol i bobl hyd yn oed yn bwysicach nag yr oedd o'r blaen. Yn rhan o'n trefniant mynediad gyda Phwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru, fe wnaethom ddarparu miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad newydd i gynorthwyo meddygfeydd teulu i wneud yn siŵr bod eu systemau ffôn, er enghraifft, yn addas ar gyfer y gymdeithas sydd ohoni. Rwy'n gwybod bod y darlun yn gymysg, yn y ffordd y mae'r Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr wedi sôn. Yn y pen draw, fel y bydd yn gwybod, contractwyr preifat yw'r rhain sy'n gwneud eu trefniadau eu hunain ar gyfer gwasanaethau teleffon. Fodd bynnag, rydym ni'n gweithio gyda nhw, ac rydym ni'n gweithio gyda Phwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru, gan gynnwys drwy gyllid ychwanegol, i geisio gwneud perfformiad y system gyfan cystal ag y mae ar gyfer y gorau. Ac rwy'n gwybod, o'r gwaith y mae hi wedi ei wneud yn ei hetholaeth ei hun, y gwnaeth hi ei rannu â mi, ei bod hi wedi dod o hyd i rai enghreifftiau da iawn lle mae pobl yn teimlo bod y gwasanaeth y maen nhw'n ei gael gan eu meddygfa eu hunain yn diwallu eu hanghenion yn dda iawn. Nawr mae angen i'r gweddill fod yn yr un sefyllfa. Staff Gofal Cymdeithasol Carolyn Thomas AS: 2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bargen deg i staff gofal cymdeithasol? OQ57009 Mark Drakeford AC: Diolch i Carolyn Thomas, Llywydd, am y cwestiwn yna. Y llynedd, fe wnaethom ni gynnull y fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol, i edrych ar sut y gellir gwella telerau ac amodau'r gweithlu. Rydym ni wedi ymrwymo i dalu'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol yn ystod y tymor Senedd hwn ac rydym ni'n gweithio gyda phartneriaid i fwrw ymlaen â hyn. Carolyn Thomas AS: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Lafur Cymru i greu gweithlu cryfach sy'n cael ei dalu yn well, ac yn arbennig y penderfyniad y dylid talu'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal ac y bydd hyn yn cael ei gyflawni yn ystod y Senedd bresennol. Mae trigolion sy'n gweithio yn y sector wedi cysylltu â mi gan ddweud eu bod yn caru eu swydd, ond yn ddealladwy, mae'r blynyddoedd diwethaf wedi cael effaith. Eglurodd un etholwr yn benodol ei bod hi wedi gweithio, y llynedd, Noswyl Nadolig, Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan, Nos Galan a Dydd Calan heb gyflog ychwanegol. A wnewch chi roi sicrwydd i'r trigolion hyn bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo yn llwyr i wella amodau gwaith, yn ogystal â thâl, i'r rhai sy'n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru, fel y gallan nhw barhau i ddarparu'r gofal rhagorol y dibynnir arnyn nhw amdano ac y maen nhw wir yn mwynhau ei wneud? Diolch. Mark Drakeford AC: Llywydd, rwy'n credu bod Carolyn Thomas yn gwneud pwynt pwysig iawn. Rydym ni wedi ymrwymo i'r cyflog byw gwirioneddol yn y sector gofal cymdeithasol ac i'w ariannu. Ond mae'r her o recriwtio a chadw'r gweithlu medrus ym maes gofal cymdeithasol yn fwy na mater o gyflog yn unig. Mae yn dibynnu, yn bendant, ar gynnig telerau ac amodau gwaith addas i bobl sy'n gwneud y gwaith hanfodol bwysig hwn. Nawr, yn ôl yn 2017, deddfodd y Senedd i ymdrin â rhai o'r enghreifftiau mwyaf dybryd o le nad oedd telerau ac amodau yn cael eu bodloni, gan gynnwys—bydd rhai Aelodau yn gyfarwydd â hyn—yr hyn a elwir yn arfer 'clipio', ac fe wnaethom ni ddeddfu i wneud rheoliadau yn gysylltiedig â'r arfer o gontractau dim oriau yn y system. Ac, yn wir, dros y pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu tâl salwch priodol i weithwyr gofal cymdeithasol gan ein bod ni'n gwybod nad oedd unrhyw beth hyd at 80 y cant o gyflogwyr yn darparu tâl salwch galwedigaethol yn y sector hwn. Nawr, mae'r fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol yn edrych ar y pecyn ehangach o ddiwygiadau sydd eu hangen os yw pobl yn y sector hwn yn mynd i gael eu gwerthfawrogi a'u cadw yn briodol. Ac rydym ni'n gwybod bod rhai cyflogwyr mewn gweithlu amrywiol dros ben sy'n sicr yn gwneud y peth iawn dros eu gweithwyr, ac rydym ni'n gwybod bod rhai sy'n parhau, er enghraifft, i ofyn i'w gweithwyr dalu am gostau eu gwisgoedd eu hunain, i dalu am gostau eu gwiriadau Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd eu hunain. Ac mewn sector lle mae'n rhaid i ni weithio yn galetach i wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu gwneud y swyddi hynny yn ddeniadol i bobl, ceir arferion o hyd nad ydyn nhw'n cefnogi'r gofyniad sector cyfan hwnnw. Felly, ein huchelgais yw gweithio gyda'r cyflogwyr gorau yn y sector, ac mae llawer ohonyn nhw yn bodoli, ac yna perswadio gweddill y cyflogwyr ym maes gofal cymdeithasol bod yn rhaid iddyn nhw wneud mwy, ochr yn ochr â'r arian y bydd Llywodraeth Cymru yn ei fuddsoddi mewn talu'r cyflog byw gwirioneddol, i wneud yn siŵr bod telerau ac amodau cyflogaeth pobl yn parhau i ddenu pobl i'r gwaith hanfodol hwn. Darren Millar AC: Prif Weinidog, un o'r pethau sydd wedi cael eu croesawu gan fy mhlaid i yw'r taliad ariannol ar gyfer gofal cymdeithasol—y taliad bonws—y mae llawer o bobl, wrth gwrs, yn ei gael yn eu pecynnau cyflog y mis hwn. Ond mae'n rhaid i'r taliadau bonws hynny gyrraedd pawb sy'n rhan o'r gweithlu gofal cymdeithasol hwnnw, sydd wedi bod yn gweithio ar y rheng flaen yn ystod y pandemig, ac mae hynny yn cynnwys gweithwyr eiriolaeth nad ydyn nhw'n cael eu cyflogi yn uniongyrchol gan awdurdodau lleol. Yn anffodus, rwyf i wedi cael gwybod gan Dewis—mae Canolfan Byw Annibynnol Dewis, sydd â swyddfeydd yn fy etholaeth i, ym Mae Colwyn, yn darparu gwasanaethau eiriolaeth i bobl â phroblemau iechyd meddwl ac anableddau ledled Conwy a sir Ddinbych gyfan—nad yw ei heiriolwyr yn gymwys i gael y taliad bonws, ond bod pobl mewn awdurdodau lleol cyfagos sy'n eiriolwyr ond yn gweithio i'r awdurdod lleol yn derbyn y taliadau hyn. Nid yw hynny, yn fy marn i, yn ymddangos fel chwarae teg iawn. A gaf i ofyn, Prif Weinidog, a wnewch chi ymchwilio i hyn er mwyn i'r bobl hynny sydd wedi bod yn gwneud gwaith gwerthfawr, yn mynd i gartrefi pobl ar adegau anodd iawn yn ystod y pandemig, gael y cyfle i elwa ar y taliadau bonws hyn i gydnabod eu gwaith? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, roedd Llywodraeth Cymru yn falch iawn o allu darparu taliad o £500 yn gynnar yn y pandemig, a £735 yn ddiweddarach yn y pandemig—£735 gan ein bod ni wedi methu â pherswadio Llywodraeth y DU i ganiatáu i'r taliad hwnnw gael ei wneud heb iddo fod yn destun cyfraniadau treth ac yswiriant gwladol. Mae 64,000 o weithwyr yn y sector wedi elwa ar y taliadau hynny. Rwyf i, wrth gwrs, yn fodlon ymchwilio i unrhyw anghysondeb, a byddaf i'n nodi'r pwynt y mae'r Aelod wedi ei wneud yn benodol, wrth gymeradwyo'r pwynt a wnaeth yn wreiddiol am y gydnabyddiaeth y bwriadwyd i'r taliadau hynny ei rhoi i bobl sy'n gwneud y swyddi hyn i ni yma yng Nghymru.FootnoteLink Gwybodaeth ychwanegol at y Cyfarfod Llawn (Saesneg yn unig) Peredur Owen Griffiths AS: Pan godais y mater o lai o ddarpariaeth canolfannau gofal dydd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar gyfer oedolion anabl a goblygiadau hyn i gleientiaid, eu teuluoedd a'u staff, fe wnaethoch chi gyfeirio'r mater at Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Wel, efallai ei fod yn gyd-ddigwyddiad, ond penderfynodd y weinyddiaeth Lafur yno gymryd cam yn ôl ac ymgynghori yn iawn ar y mater. Mae'r hen idiom Cymraeg 'taro'r post i'r pared glywed' yn dod i'r meddwl. Byddwch chi hefyd yn falch o glywed bod fy nghyd-Aelod Delyth Jewell a minnau wedi cyfarfod ag arweinydd y cyngor a'r aelod cabinet dros wasanaethau cymdeithasol ar y mater hwn ddoe. Yn ystod y cyfarfod hwnnw, fe wnaethon nhw bwysleisio bod recriwtio staff gofal cymdeithasol yn anodd ac y bydd yn parhau i fod felly tan fod cydraddoldeb rhwng eu cyflogau nhw a rhai staff y GIG. A wnewch chi gyflymu eich cynlluniau ar gyfer tâl tecach i weithwyr gofal cymdeithasol yng ngoleuni'r ffaith bod cyllidebau aelwydydd o dan bwysau a bod prisiau tanwydd y gaeaf yn cynyddu? Mark Drakeford AC: Rwy'n sicr yn cytuno y bydd pobl sy'n gweithio yn y sector yn teimlo effaith methiannau Llywodraeth y DU i reoli'r cynnydd i brisiau ynni, i brisiau bwyd, ac i fod â chynllun ymarferol ar gyfer y ffordd y mae'r Deyrnas Unedig wedi ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Arweiniodd Llywodraeth Cymru ymgyrch recriwtio lwyddiannus ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol ym mis Awst a mis Medi, ac rwyf i wedi gweld canlyniadau calonogol yr ymgyrch honno, digon calonogol i ni fod eisiau defnyddio'r ymgyrch eto ddiwedd y mis hwn a thua'r hydref a'r gaeaf i geisio gwneud popeth o fewn ein gallu i gyflwyno'r manteision niferus y mae pobl sy'n gweithio yn y sector yn eu teimlo o'r gwaith pwysig y maen nhw'n ei wneud. Rydym ni eisiau cyflwyno cyflog byw gwirioneddol, ond byddwn yn aros am gyngor y fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol o ran gwneud hynny, gan fod angen i ni fod yn hyderus y bydd yr arian y bydd pwrs y wlad yn ei ddarparu yn mynd yn uniongyrchol i becynnau cyflog y rhai y bwriedir iddyn nhw fod o fantais iddyn nhw. Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Ar ran y Ceidwadwyr, Paul Davies. Paul Davies AC: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, roedd hi'n Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd ddydd Sul diwethaf, a chyn i mi symud ymlaen i ofyn fy nghwestiynau, rwy'n siŵr y gwnewch chi a phawb yn y Siambr hon ymuno â mi i anfon ein dymuniadau gorau i'n cyd-Aelod Andrew R.T. Davies wrth iddo gymryd ychydig o amser nawr i ganolbwyntio ar ei iechyd ei hun. Rwy'n sylweddoli bod Llywodraeth Cymru wedi darparu rhywfaint o gyllid ychwanegol i ail-flaenoriaethu iechyd meddwl yng ngoleuni pandemig COVID-19. Fodd bynnag, y gwir amdani o hyd yw bod rhai pobl wedi bod heb apwyntiadau wyneb yn wyneb ers sawl mis bellach, ac nid yw rhai wedi gallu cael gafael ar gymorth arbenigol. Rwy'n sylweddoli y bydd datganiad yn ddiweddarach heddiw ar gynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', ond a wnewch chi ddweud wrthym ni pa gamau wedi eu targedu y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd bellach i sicrhau y gall y rhai y mae angen cymorth a chefnogaeth arnyn nhw gael mynediad at wasanaethau lle bynnag y maen nhw'n byw yng Nghymru? Mark Drakeford AC: Diolch i Paul Davies am y cwestiwn yna, ac wrth gwrs rwyf i'n sicr yn cysylltu fy hun â'r hyn a ddywedodd o ran anfon ein dymuniadau gorau ar ran Llywodraeth Cymru a'r Blaid Lafur at arweinydd yr wrthblaid. Rwy'n gobeithio ei weld yn ôl yn ei le yn y Siambr cyn gynted ag y mae'n teimlo y gall wneud hynny. Mae'r pwynt cyffredinol y mae Paul Davies yn ei godi yn un pwysig: roedd hi'n Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, fel y dywedodd, dros y penwythnos. Iechyd meddwl yw'r llinell gyllideb fwyaf o hyd yn y GIG cyfan yng Nghymru, ac yn gyffredinol mae ein byrddau iechyd yn gorwario'r swm o arian sy'n cael ei ddyrannu iddyn nhw at y diben hwnnw. Yr hyn y gwnaethom ni geisio ei wneud yn ystod y pandemig oedd cryfhau'r gwasanaethau dim atgyfeiriadau hynny, y gwasanaethau sylfaenol ac ataliol hynny y gall pobl eu cyrraedd heb orfod mynd drwy borthgeidwad yn y lle cyntaf, a chael cymorth pan fyddan nhw'n teimlo'r angen i wneud hynny gyntaf. Rydym ni'n canolbwyntio yn benodol ar hynny gyda phobl ifanc, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, yn ein buddsoddiad cynyddol mewn cwnsela mewn ysgolion, yn y gwaith yr ydym ni wedi ei wneud gyda'r gwasanaeth ieuenctid i wneud yn siŵr bod gweithwyr yno mor barod ag y gallan nhw fod i ymateb i anghenion pobl ifanc, ac yn ein hymrwymiad i'r dull ysgol gyfan. Mae'r galw am wasanaethau iechyd meddwl wedi cynyddu yn sylweddol yn ystod y pandemig ac mae'n rhaid i'r gallu i ddarparu'r gwasanaethau hynny wyneb yn wyneb ystyried yr amodau clinigol y mae'r gwasanaeth yn gweithredu ynddyn nhw. Ond rwy'n credu bod pobl ymroddedig a phenderfynol iawn ledled Cymru sy'n gweithio yn y gwasanaeth yn ceisio gwneud yn union yr hyn y mae Paul Davies wedi ei awgrymu. Paul Davies AC: Prif Weinidog, fel y byddwch chi'n ymwybodol, yn ogystal â chael trafferth yn cael gafael ar wasanaethau iechyd meddwl, ceir pobl ledled Cymru sy'n cael trafferth fawr yn cael gafael ar eu meddyg teulu hefyd, fel y soniwyd yn gynharach yn y sesiwn hon. Mae'r pandemig wedi amlygu'r ffaith nad oes digon o feddygon a staff ym maes gofal sylfaenol. Er fy mod i'n deall bod gweithgarwch recriwtio wedi digwydd, nid yw hynny'n fawr o gysur i'r cleifion hynny sy'n aros ddydd ar ôl dydd i drefnu apwyntiad i weld eu meddyg teulu. Rwy'n derbyn yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud yn gynharach, bod y darlun yn gymysg, ond mae llawer yn cael eu gadael yn aros am hyd at awr neu hyd yn oed yn hirach ar y ffôn i siarad â rhywun, a phan fyddan nhw'n cael ateb o'r diwedd, dywedir wrthyn nhw yn aml nad oes unrhyw apwyntiadau ar gael, ac i ffonio eto y diwrnod canlynol. Rydym ni'n gwybod y bu gostyngiad i nifer y meddygon teulu; yn ôl data Llywodraeth Cymru ei hun, rhwng 2018 a 2020, bu gostyngiad i nifer y meddygon teulu fesul 10,000 o'r boblogaeth yn nhri o'n saith bwrdd iechyd—ym myrddau iechyd Betsi Cadwaladr, Powys ac Aneurin Bevan. Felly, Prif Weinidog, gyda'r niferoedd poblogaeth yn yr ardaloedd hynny yn tyfu dros yr un cyfnod, pa asesiad ydych chi wedi ei wneud o'r effaith y mae'r gostyngiad i nifer y meddygon teulu yn yr ardaloedd hynny wedi ei chael ar ofal cleifion? Mark Drakeford AC: Yr asesiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yw na all dyfodol gofal sylfaenol ddibynnu ar feddygon teulu yn unig. Mae natur y boblogaeth meddygon teulu yn newid. Mae'r mathau o gontractau y mae pobl sy'n cyrraedd y byd gofal sylfaenol yn dymuno manteisio arnyn nhw yn newid, ac mae'n rhaid i ni newid gyda nhw. Mae'n rhaid i ni newid gyda nhw yn bennaf drwy ehangu'r amrywiaeth o leisiau proffesiynol sy'n gallu darparu gwasanaethau gofal sylfaenol. Ni fydd canolbwyntio ar feddygon teulu yn unig yn rhoi i ni y dyfodol cynaliadwy ar gyfer gofal sylfaenol sydd ei angen arnom ni yma yng Nghymru. Mae meddygon teulu yn parhau i fod yn hanfodol i'r tîm gofal sylfaenol hwnnw—ei arwain, yn gyfrifol am safonau clinigol, gwneud yn siŵr eu bod nhw'n gweld y bobl hynny dim ond meddyg teulu sy'n gallu eu gweld. Ond ar yr un pryd, byddan nhw'n goruchwylio timau ehangach sy'n cynnwys ffisiotherapyddion, fferyllwyr, nyrsys practis uwch a gweithwyr parafeddygol proffesiynol, y mae pob un ohonyn nhw'n gallu darparu gwasanaeth sy'n effeithiol yn glinigol i bobl y mae angen cyswllt gofal sylfaenol arnyn nhw. Dyna'r ffordd y byddwn ni'n dod o hyd i ddyfodol ar gyfer gofal sylfaenol sy'n diwallu anghenion poblogaeth Cymru ac a all, drwy'r cymysgedd hwnnw o weithwyr proffesiynol a fydd ar y rheng flaen, wneud yn siŵr bod y math cywir o gymorth ar gael i'r claf yn llawer cyflymach na phe baem ni'n dibynnu yn syml ar y model sydd wedi ein gwasanaethu ni yn dda hyd yma, ond sy'n cyrraedd diwedd ei ddefnyddioldeb unigryw. Paul Davies AC: Prif Weinidog, mae problem ddifrifol yma i gleifion sy'n ceisio cael gafael ar eu meddygon teulu. Mae Mair Hopkin o Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol wedi dweud bod yr argyfwng mewn meddygfeydd teulu wedi rhagflaenu COVID mewn gwirionedd, gyda llawer o gleifion yn ei chael hi'n anodd cael apwyntiad cyn y pandemig, ac yn gorfod aros sawl wythnos am apwyntiad. Rydym ni wedi clywed gan Dr Phil White, cadeirydd pwyllgor ymarferwyr cyffredinol Cymdeithas Feddygol Prydain—mae wedi dweud y bu problemau yn datblygu cyn COVID, yn sgil colli mwy o feddygon teulu i ymddeoliad cynnar. Ac mae meddygon eu hunain wedi tynnu sylw at yr effaith y mae hyn yn ei chael ar y system gyfan—meddygon fel Dr Oelmann, meddyg teulu ym meddygfa Clark Avenue yng Nghwmbrân, sydd wedi ei gwneud yn eglur nad mater o feddygon teulu yn unig ydyw, ei fod drwy'r system gyfan. Mae ôl-groniadau ym maes gofal eilaidd, y gwasanaeth ambiwlans, gofal cymdeithasol. Mae'n iawn wrth ddweud bod popeth wedi ei gysylltu, ac na ellir ystyried dim ohono ar ei ben ei hun. Mae'n mynd o gwmpas mewn cylch ac yn mynd yn fwy ac yn fwy anodd i staff, ac yn wir i gleifion. Felly, Prif Weinidog, a ydych chi'n derbyn barn Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol bod yr argyfwng mewn meddygfeydd teulu yn rhagflaenu COVID? Ac, o ystyried yr effaith y mae'r pandemig wedi ei chael, pa gamau brys wnaiff eich Llywodraeth chi eu cymryd i fynd i'r afael yn benodol â datblygu gofal sylfaenol yn y tymor seneddol hwn? O gofio mai un o nodau eich Llywodraeth chi a nodwyd yn adolygiad 'Cymru Iachach' oedd gwella profiad ac ansawdd y gofal i unigolion a theuluoedd, sut byddwch chi'n cyflawni hyn os bydd nifer y meddygon teulu yn parhau i ostwng, a'n poblogaeth yn parhau i dyfu? Mark Drakeford AC: Rwy'n cytuno â'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud am y pwysau sydd ar y system, ac maen nhw ym mhob rhan o'r system. Mae llawer o feddygon teulu wedi dewis ymddeol yn gynnar oherwydd y newidiadau i'w trefniadau pensiwn a gyflwynwyd gan ei Lywodraeth ef yn San Steffan, a oedd yn golygu nad oedd yn synhwyrol yn ariannol iddyn nhw barhau yn y swyddi yr oedden nhw wedi eu gwneud. Rydym ni wedi annog Llywodraeth y DU droeon i gael gwared ar y cymhellion gwrthnysig sydd wedi arwain at rai pobl yn tynnu eu hunain o'r gweithlu yn gynharach nag y bydden nhw wedi ei wneud fel arall. Mae dyfodol gwasanaethau meddygon teulu—meddygon teulu yn yr ystyr gul honno—wedi ei seilio ar ein gallu i recriwtio mwy o bobl i'r proffesiwn, ac i hyfforddi yma yng Nghymru. Bydd yn ymwybodol iawn o'r ffigurau iach iawn rydym ni wedi eu sicrhau yn ddiweddar o ran cyrraedd a rhagori ar y targedau roeddem ni wedi eu gosod ar gyfer meddygon teulu dan hyfforddiant yng Nghymru. Rwy'n credu mewn ateb i gwestiwn yr wythnos diwethaf i mi esbonio sut y byddai nifer y meddygon teulu dan hyfforddiant yn y gogledd yn cael ei chynyddu eto y flwyddyn nesaf. Nid meddygon teulu yn unig yw'r ateb cyfan i ofal sylfaenol, yn y ffordd yr wyf i wedi ei disgrifio eisoes, Llywydd, a'r hyn y byddwn ni'n ei wneud fel Llywodraeth yw buddsoddi yn y gronfa ehangach honno o weithwyr proffesiynol, gan newid natur gofal sylfaenol, sicrhau ei fod yn cyd-fynd â'r ffordd y mae pobl sy'n gweithio yn y maes yn ystyried eu dyfodol fel gweithwyr proffesiynol yma yng Nghymru, darparu meddygfeydd yr unfed ganrif ar hugain ar eu cyfer yn unol â'n hymrwymiad ymrwymo iddyn nhw yn ein maniffesto, a pharhau i ddathlu'r ymdrechion sy'n golygu bod miloedd ar filoedd o bobl, ddydd ar ôl dydd, yn cael eu trin yn llwyddiannus gan glinigwyr gofal sylfaenol yng Nghymru bob un dydd. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price. Adam Price AC: Diolch, Llywydd. I ddechrau, a gaf i ar ran fy mhlaid hefyd anfon ein negeseuon o gefnogaeth at Andrew R.T. Davies? Bydd llawer o bobl wedi cael eu calonogi a'u hysbrydoli ganddo yn siarad yn agored am yr heriau y mae'n eu hwynebu gyda'i les meddwl ac emosiynol ei hun, rhywbeth, wrth gwrs, y bydd llawer ohonom ni'n eu hwynebu ar wahanol adegau yn ein bywydau. Prif Weinidog, mae ASau yn San Steffan heddiw wedi disgrifio ymateb y DU i'r pandemig fel un o'r methiannau iechyd cyhoeddus gwaethaf yn hanes y DU. Rwy'n cytuno â'r asesiad damniol hwnnw. Prif Weinidog, a ydych chi? Mark Drakeford AC: Nid wyf i wedi cael cyfle i ddarllen yr adroddiad a gyhoeddwyd heddiw. Rwyf i wedi gweld adroddiadau papur newydd arno. Mae'n amlwg yn adroddiad sy'n haeddu ystyriaeth briodol, ac rwy'n bwriadu gwneud hynny. Nid wyf i mewn sefyllfa i gymeradwyo na gwadu unrhyw ddyfarniadau y mae Aelodau Seneddol wedi eu gwneud nes y byddaf i wedi cael cyfle i astudio'r hyn a fu ganddyn nhw i'w ddweud yn fanylach nag yr wyf i wedi cael cyfle i'w wneud hyd yn hyn. Adam Price AC: Prif Weinidog, ymysg canfyddiadau niferus yr adroddiad mae ei gasgliad bod penderfyniad Llywodraethau'r DU a Chymru i roi'r gorau i brofion cymunedol yn erbyn cyngor Sefydliad Iechyd y Byd ar 12 Mawrth 2020 yn gamgymeriad angheuol a arweiniodd at golli llawer o fywydau. Er gwaethaf y ffaith nad ydych chi wedi cael y cyfle i astudio'r adroddiad, a ydych chi'n cydnabod y feirniadaeth gyffredinol honno? A ydych chi'n derbyn y byddai wedi bod yn well yn ystod cyfnod cynnar hwnnw y pandemig i fod wedi dilyn eich polisi eich hun yng Nghymru, yn annibynnol ar San Steffan, yng nghyswllt hyn, fel y gwnaethoch chi yn wir ar gynifer o faterion eraill yn y camau diweddarach gyda chryn lwyddiant? Mark Drakeford AC: Diolch i Adam Price am hynna. Llywydd, gofynnwyd y cwestiwn i mi droeon, 'A oedd pethau y byddech chi wedi eu gwneud yn wahanol pe baech chi'n gwybod bryd hynny yr hyn rydych chi'n ei wybod nawr?' Rwy'n credu bod y cwestiwn hwnnw yn arbennig o berthnasol i gamau cynnar iawn hynny y coronafeirws, pan nad oeddem ni'n ymwybodol yn yr un ffordd o gynifer o bethau yr ydym ni wedi eu dysgu ers hynny, boed hynny'n brofion cymunedol neu yr enghraifft yr wyf i wedi ei rhoi amlaf, sef: pe baem ni wedi deall i ba raddau yr oedd y coronafeirws eisoes wedi ei sefydlu drwy'r Deyrnas Unedig, ac wedi deall pa mor gyflym y byddai'r feirws hwn yn lledaenu i rannau eraill ac i gymunedau eraill, byddem ni wedi gweithredu yn gynharach i gyflwyno rhai o'r mesurau a gyflwynwyd dim ond yn ail hanner mis Mawrth. Ond doedden ni ddim yn gwybod y pethau hynny bryd hynny. Roeddem ni'n dilyn y cyngor a gawsom ni ar y pryd. Wrth i'n gwybodaeth dyfu ac wrth i ni allu gwneud ein penderfyniadau annibynnol ein hunain oherwydd bod gennym ni'r sylfaen wybodaeth a ganiataodd i ni wneud hynny, fel y mae Adam Price yn ei ddweud, nid yw Llywodraeth Cymru wedi petruso cyn gwneud ein penderfyniadau ein hunain pan oeddem ni'n credu bod hynny er budd pennaf Cymru. Ond ar bob pwynt, rwy'n credu ei bod hi'n deg i bobl feddwl am: yr hyn yr oeddem ni'n ei wybod bryd hynny, yr hyn yr ydym ni'n ei wybod nawr, ac yng ngoleuni amgylchiadau ar y pryd, a wnaethom ni'r penderfyniadau gorau yr oeddem ni'n gallu eu gwneud? Adam Price AC: Rwy'n deall, wrth gwrs, y pwynt am ôl-ddoethineb, ond mae'n debyg mai craidd y mater yma oedd bod gan Sefydliad Iechyd y Byd y craffter ar y pryd i bwysleisio pwysigrwydd profion cymunedol. Yn wir, rwy'n cofio ein plaid ni yn beirniadu penderfyniad Llywodraeth Cymru i roi'r gorau i brofion cymunedol ar y pryd, ar y sail honno, oherwydd bod y cyngor yno a gadarnhawyd yn y pen draw mewn gwirionedd o ran ei bwysigrwydd. Yn 147 tudalen cyfan yr adroddiad, am y DU yn ei chyfanrwydd i bob golwg, rwy'n credu mai dim ond naw gwaith y cyfeirir at Gymru, ac mae'r rhan fwyaf o'r cyfeiriadau hynny yn y troednodiadau. Onid yw hynny yn hyrwyddo'r ddadl i Gymru gael ei hymchwiliad ei hun, oherwydd hebddo, os byddwn ni'n dirprwyo i San Steffan, bydd profiadau'r teuluoedd sydd wedi dioddef profedigaeth y gwnaethoch chi gyfarfod â nhw yr wythnos diwethaf, Prif Weinidog, yn cael eu hanghofio, a bydd y gwersi i Gymru a ddylai gael eu dysgu yn cael eu colli? Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, fel yr wyf i wedi ei ddweud, nid wyf i wedi cael cyfle iawn i astudio'r adroddiad, ond hyd yn oed o'r adroddiad papur newydd yr wyf i wedi ei weld, roedd yn ymddangos i mi ei fod yn cryfhau'r ddadl dros ymchwilio yn iawn i brofiad Cymru yng nghyd-destun ehangach y DU. Nid bwriad yr adroddiad hwn erioed, yn ôl yr hyn yr wyf i'n ei ddeall, oedd bod am y profiad yng Nghymru, yr Alban, na Gogledd Iwerddon, ond mae yn nodi yn eglur iawn y penderfyniadau a gafodd eu gwneud ar lefel y DU, a heb ddeall hynny, ni allwch chi ddeall y ffordd y cafodd penderfyniadau eu gwneud yma yng Nghymru. Ond gadewch i mi ailadrodd, oherwydd gwn fod yr Aelod wedi fy nghlywed i'n dweud hyn o'r blaen, fy mod i wedi bod yn eglur iawn gyda Llywodraeth y DU bod yn rhaid craffu ar benderfyniadau Llywodraeth Cymru, a'r rhai a wnaed gan gyrff perthnasol eraill yng Nghymru, o fewn ymchwiliad y DU gyfan mewn ffordd lawn a chynhwysfawr. Ni all ac ni ddylai Cymru fod yn ôl-ystyriaeth nac yn droednodyn mewn unrhyw ymchwiliad y DU gyfan. Nodais, fel y mae'n gwybod, yn fy llythyr at Michael Gove ar 10 Medi, gyfres o brofion y byddem ni'n eu defnyddio i roi'r hyder i ni, neu fel arall, fod profiad Cymru yn cael y sylw o fewn ymchwiliad ar lefel y DU y mae ei angen ac yn ei haeddu, fel bod y teuluoedd hynny yn cael yr atebion gorau posibl. Nawr, mae nifer o brofion ar y gorwel i Lywodraeth y DU yn hyn o beth. Nid wyf i wedi cael ateb i'r llythyr hwnnw eto, a byddaf yn edrych yn ofalus iawn arno pan fydd yn cyrraedd. Rwy'n gobeithio cael cyfarfod wyneb yn wyneb â Phrif Weinidog y DU yn ystod y diwrnodau nesaf, ac rwy'n bwriadu defnyddio'r cyfle hwnnw i wneud y pwyntiau hyn yn uniongyrchol iddo. Mae wedi addo i deuluoedd sydd wedi dioddef profedigaeth y bydd arweinydd yr ymchwiliad—rwyf i'n gobeithio mai'r barnwr fydd hynny—i oruchwylio'r ymchwiliad, yn cael ei benodi cyn y Nadolig. Byddwn i'n disgwyl i'r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon fod yn rhan briodol yn y penodiad hwnnw—nid darllen amdano mewn datganiad i'r wasg. Felly, ceir nifer o ffyrdd y gall Llywodraeth y DU, dros yr wythnosau nesaf, ddangos y bydd hwn yn ymchwiliad sy'n nodi'r camau a gymerwyd ar lefel y DU, gan ddarparu'r cyd-destun priodol felly i ddeall yr hyn a ddigwyddodd yng Nghymru, ond sy'n canolbwyntio ar brofiad Cymru, a fydd yn rhoi hyder i'r bobl a fydd yn edrych arno fod gweithredoedd Llywodraeth Cymru ac eraill wedi bod yn destun craffu llawn a thrwyadl a bod yr atebion i'r cwestiynau sydd gan bobl yn cael sylw priodol yn y broses. Triniaeth Canser Janet Finch-Saunders AC: 3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am driniaeth canser yng ngogledd Cymru? OQ57026 Mark Drakeford AC: Llywydd, mae gwasanaethau canser yn y gogledd yn parhau i adfer ar ôl y pandemig. Ym mis Gorffennaf eleni, er enghraifft, dechreuodd 374 o gleifion driniaeth canser ddiffiniol, ac mae hynny 114 yn fwy nag ym mis Gorffennaf y flwyddyn gynt. Janet Finch-Saunders AC: Diolch, Prif Weinidog, ac mae'n ddrwg gen i y bu'n rhaid i mi godi hyn gyda chi heddiw, ond dyna faint fy mhryderon. Prif Weinidog, mae amseroedd aros gwasanaeth diagnostig a therapi y GIG ar gyfer mis Gorffennaf eleni yn dangos cynnydd o un ar ddeg gwaith i nifer y bobl sy'n aros dros wyth wythnos am un o saith prawf allweddol a ddefnyddir i wneud diagnosis o ganser, ac yn syfrdanol, nid yw traean o gleifion yn rhanbarth Betsi Cadwaladr yn dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf yn y mis o fewn 62 diwrnod i'r amheuaeth gyntaf o fod â chanser. Rwyf i wedi cael sioc fawr yn ddiweddar o glywed am rai o fy etholwyr i a chleifion Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn darganfod eu bod nhw'n cael gwybod, ar rai achlysuron, am ddiagnosis canser ofnadwy sy'n newid bywydau, dros y ffôn yn hytrach na thrafodaeth bersonol wyneb yn wyneb, ac mae hyn wedi achosi llawer o bryder pellach i fy etholwyr i. Hyd yn oed yn fwy gofidus, rwy'n gwybod am un etholwr, yn dilyn diagnosis o ganser angheuol cam 4, na chafodd wybod hyd yn oed am yr opsiynau triniaeth a oedd ar gael ar adeg y diagnosis hwn, gan glywed yn hytrach y bydd atgyfeiriad yn cael ei wneud rywbryd yn y dyfodol i Wrecsam neu Lerpwl. Roedd hynny tan i mi gyfathrebu sawl gwaith ar ei ran. A wnewch chi ddod at gwestiwn nawr, Janet Finch-Saunders? Janet Finch-Saunders AC: Gallaf, wrth gwrs. Ochr yn ochr ag oedi cyn gwneud diagnosis, ceir bwlch sy'n peri pryder rhwng diagnosis a chael y driniaeth honno. Felly, pa gamau, Prif Weinidog, wnewch chi eu cymryd i sicrhau eich bod chi'n cau'r bwlch hwnnw rhwng diagnosis ofnadwy o ganser a'r opsiynau triniaeth sydd ar gael i'r rhai y mae'n effeithio arnyn nhw? Diolch, Llywydd. Mark Drakeford AC: Llywydd, diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Fel y byddwch chi'n deall, nid wyf i byth mewn sefyllfa i wneud sylwadau am gyfarfodydd unigol rhwng clinigwyr a'u cleifion. Rwy'n credu bod dau bwynt cyffredinol y mae'r Aelod yn eu gwneud yr hoffwn i roi sylw iddyn nhw. Mae hi'n iawn bod gwasanaethau diagnostig o dan bwysau aruthrol. Roeddem ni'n poeni ar lawr y Senedd yn ystod y pandemig am yr oedi cyn i bobl ddod ymlaen i roi gwybod i glinigwyr am eu cyflyrau. Diolch byth, rydym ni wedi cael rhywfaint o effaith ar hynny ac mae mwy o bobl yn dod yn eu blaenau, ond, wrth gwrs, pan fyddan nhw'n dod yn eu blaenau yn y niferoedd hynny, mae'n anochel ei fod yn rhoi systemau diagnostig dan bwysau. Bydd hi'n gwybod bod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi cymeradwyo achos busnes yn ddiweddar i dreialu tair canolfan diagnosis cyflym—un ym mhob un o'i dri phrif ysbyty—a'u bod nhw wrthi bellach yn recriwtio'r nyrsys arbenigol a'r amser radioleg y bydd ei angen arnyn nhw i agor y canolfannau diagnostig hynny yn gynnar, fel y maen nhw'n ei obeithio, yn y flwyddyn newydd. Felly, rwy'n gobeithio y bydd hynny yn gwneud gwahaniaeth i rai o'r unigolion y mae Janet Finch-Saunders wedi sôn amdanyn nhw y prynhawn yma. O ran sut y mae clinigwyr yn cyfathrebu eu diagnosis â phobl, nid wyf i'n credu ei bod hi'n bosibl, yn Siambr y Senedd, wneud rheolau cyffredinol ynghylch y ffordd orau o wneud hynny. Mae angen ei wneud mewn modd sensitif, wrth gwrs, ac mae angen ei wneud gyda budd pennaf y claf yn ganolog iddo. A bydd rhai cleifion, oni fydd, y mae'n well iddyn nhw gael sgwrs gyda'u clinigydd pan fyddan nhw yn eu cartrefi eu hunain, yn hytrach na gofyn iddyn nhw, yn sâl fel y maen nhw, i wneud teithiau anghyfleus i fannau eithaf pell i ffwrdd lle mae llawer o bobl sâl iawn eraill, i gael gwybod yr hyn y gall y clinigydd ei ddweud wrthyn nhw mewn sgwrs yn eu cartrefi eu hunain. Nawr, ni fydd hynny yn addas i bawb, rwy'n deall hynny yn llwyr, ond nid wyf i chwaith yn credu ei bod hi'n iawn dweud, mae'n debyg, y bydd yn well gan bawb wneud y daith honno i aros i weld rhywun i gael gwybod yr hyn y gallen nhw fod wedi cael ei wybod o dan amgylchiadau eraill. Mater i'r clinigydd, ar y cyd â'r claf, yw penderfynu ar y ffordd orau o wneud hynny. Ac mae'n rhaid i ni gael rhywfaint o ffydd yn ein clinigwyr eu bod nhw'n mynd ati i wneud hynny—maen nhw yn y busnes o drin pobl â chanser, wedi'r cyfan, dyna'r hyn y maen nhw wedi ymroi eu bywydau proffesiynol i'w wneud, a'u bod nhw'n gwneud hynny gan ystyried y sensitifrwydd hwnnw. Rheilffordd Treherbert Buffy Williams MS: 4. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith a wnaed ar reilffordd Treherbert yn y Rhondda fel rhan o fetro de Cymru? OQ57029 Mark Drakeford AC: Diolch i Buffy Williams am hynna, Llywydd. Mae'r gwaith trydaneiddio a signalau sydd ei angen i ddarparu pedwar gwasanaeth yr awr ar drenau newydd, gwyrddach ar reilffordd Treherbert bellach wedi dechrau a disgwylir iddo gael ei gwblhau ganol 2023. Buffy Williams MS: Diolch, Prif Weinidog. Bydd y metro yn gweddnewid y ffordd rydym ni'n teithio ar draws de Cymru, ac ni allwn i fod yn hapusach y bydd y Rhondda yn elwa ar y buddsoddiad o £0.25 biliwn. Rydym ni wedi cael problemau gwirioneddol ar reilffordd Treherbert yn y gorffennol, felly bydd gwasanaeth mwy modern, mwy gwyrdd a mwy dibynadwy yn y dyfodol o fudd gwirioneddol i drigolion Rhondda Fawr. Un o'r unig ranbarthau yn y de sydd wedi ei eithrio o'r cynlluniau ar hyn o bryd yw Rhondda Fach. Mae trigolion y Maerdy naill ai yn wynebu taith bws o ddwy awr i Gaerdydd neu'r drafferth o brynu tocynnau lluosog, gan dalu mwy na'r angen am y bws a'r trên. Rydym ni wedi cael bysiau trên yn cysylltu'r Rhondda Fach a'r Rhondda Fawr yn y gorffennol. Pa gamau wnaiff Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau bod trigolion Rhondda Fach yn elwa ar fetro de Cymru? Mark Drakeford AC: Diolch i'r Aelod am yr hyn a ddywedodd am effaith y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei ariannu ar drigolion Treherbert. Un o'r pethau, Llywydd, yr ydym ni'n sicr wedi ei ddysgu am y system metro yw ei bod hi wedi codi dyheadau llawer o gymunedau eraill sy'n dymuno bellach ran o'r buddsoddiad sydd eisoes yn digwydd. Cefais i gyfres o sgyrsiau gyda fy nghyd-Weinidog Ken Skates am y ffordd y gallem ni fanteisio ar y cyffro ynghylch y buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ym metro de Cymru, metro gogledd Cymru, y cynlluniau metro o amgylch Abertawe, i dynnu cymunedau eraill i mewn i'r darlun hwnnw yn y dyfodol. Rwy'n gwybod bod Trafnidiaeth Cymru yn gweithio ar syniadau i wella cysylltedd ar gyfer Rhondda Fach, i'r buddsoddiad sydd eisoes yn cael ei gynllunio a'i ddarparu ar gyfer pobl sy'n byw yn Nhreherbert. Rwy'n credu fy mod i'n gwybod bod—. Dywedwyd wrthyf pan wnes i ymweld â depo Ffynnon Taf beth bynnag, lle es i weld drosof fy hun rai o'r cerbydau newydd a fydd yn cael eu defnyddio yn y de, fod yr Aelod dros y Rhondda i fod i ymweld yno hefyd. Felly, rwy'n gwybod y bydd hi wedi gweld drosti ei hun y gwelliannau a ddaw yn sgil hynny. Wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud yn siŵr bod cynifer o gymunedau â phosibl yn gallu elwa ar yr hyn sy'n fuddsoddiad, wedi'r cyfan, o dros £700 miliwn. Nid wyf i'n hoffi defnyddio'r gair 'gweddnewid' yn rhy aml, Llywydd, gan fy mod i'n credu ei fod yn aml yn cael ei orddefnyddio. Ond, rwyf i wir yn credu y bydd y gwasanaethau, yn yr achos hwn, yn gweddnewid yr hyn sydd ar gael i bobl yn y cymunedau hynny. Tynnwyd cwestiwn 5 [OQ56994] yn ôl. Felly, cwestiwn 6—Russell George. Y Grid Ynni yn y Dyfodol Russell George AC: 6. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran datblygu cynllun strategol ar gyfer y grid ynni yn y dyfodol hyd at 2050? OQ56989 Mark Drakeford AC: Llywydd, mae angen cynllun hirdymor integredig ar gyfer y rhwydweithiau nwy a thrydan ar Gymru. Mae hyn yn hanfodol er mwyn cyflawni ein huchelgeisiau o ran y newid yn yr hinsawdd. Cyhoeddwyd y tendr am bartner annibynnol i arwain y gwaith hwn ar 29 Medi, a disgwylir i gontractwr gael ei benodi ym mis Tachwedd. Russell George AC: Diolch, Llywydd. Diolch, Prif Weinidog, am eich ateb. Gallaf i ddeall bod angen dull wedi ei gynllunio o ddatblygu rhwydweithiau grid, a mabwysiadu dull strategol. Gwelais y datganiad i'r wasg gan Lywodraeth Cymru fis diwethaf ynghylch mabwysiadu dull gweithredu ar y cyd, a Llywodraeth Cymru yn arwain o ran dwyn partïon perthnasol at ei gilydd i gael gafael ar dystiolaeth a'i chasglu, ac i ystyried senarios a chyngor. Yr hyn yr wyf i'n pryderu amdano, Prif Weinidog, yw bod yr holl bartïon yn cael eu dwyn ynghyd yn hyn o beth. Byddwch chi'n ymwybodol o'r hanes hirdymor yn fy etholaeth i o ran prosiect cysylltu canolbarth Cymru. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig, pan fyddwch chi yn dwyn partïon at ei gilydd, yw eich bod chi'n cynnwys yr holl bartneriaid, gan gynnwys grwpiau twristiaeth, busnesau y gallai effeithio arnyn nhw, yr Ymgyrch dros Ddiogelu Cymru Wledig a nifer o bartïon eraill. Mae'n ymddangos, hyd yn hyn—ac rwy'n gobeithio y gwnewch chi ddweud wrthyf fy mod i'n anghywir—mai'r unig bartïon sy'n cymryd rhan yw'r cwmnïau ynni adnewyddadwy eu hunain, dosbarthwyr rhwydwaith a'r Grid Cenedlaethol. A fydd cyfle i'r rhanddeiliaid eraill hyn yr wyf i wedi sôn amdanyn nhw hefyd fod yn rhan o'r darn hwn o waith y mae eich Llywodraeth yn arwain arno? Mark Drakeford AC: Diolch i Russell George am hynna. Diolch iddo am y cwestiwn, sydd, yn fy marn i, yn un o'r cwestiynau pwysig iawn ar y papur trefn heddiw. Mae Cymru wedi dioddef o'r ffordd y mae'r system bresennol wedi datblygu. Bydd yn gwybod mai'r ffordd y mae datblygiadau grid yng Nghymru wedi digwydd yw ar sail cais. Gwneir ceisiadau gan gwmnïau grid nwy a thrydan i Ofgem. Mae'r ceisiadau hyn yn cystadlu â'i gilydd am fuddsoddiad, ac mae Ofgem wedi gweithredu ar y sail y byddan nhw'n cytuno i gysylltiadau grid uwch dim ond pan fydd y galw eisoes yno ac yn cael ei ddangos. Nawr, diben menter Llywodraeth Cymru yw dod â'r cwmnïau hynny, y chwe chwmni hynny, o amgylch y bwrdd gyda Llywodraeth Cymru a gydag Ofgem i gynllunio'r dyfodol. A bydd yn rhaid i hynny, rwy'n credu, berswadio Ofgem i ariannu cysylltiadau grid lle rhagwelir y bydd galw yn ogystal â'r galw a ddangoswyd eisoes. Nawr, rwy'n derbyn y pwynt y mae Russell George wedi ei wneud ynghylch pwysigrwydd ystyried cyfres ehangach o fuddiannau ar y daith hon, ac rwy'n credu bod awydd gwirioneddol yng Nghymru ymysg cymunedau ac unigolion i fod yn rhan o'r ffordd yr ydym ni'n gwneud ein system ynni yn addas ar gyfer yr argyfwng newid yn yr hinsawdd sy'n ein hwynebu. Rwyf i wedi bod yn dilyn yn agos ddatblygiad Garn Fach sydd wedi ei gynnig ar gyfer etholaeth yr Aelod ei hun. Gwelais yn ddiweddar fod dros 400 o bobl wedi ymateb i'r broses cyn-ymgynghori a bod y gefnogaeth i gynigion Garn Fach yn fwy na'r rhai a oedd ag amheuon yn ei gylch o fwy na 2:1. Rwy'n credu bod hynny yn dweud wrthyf fod safbwyntiau yn newid yng Nghymru, a bod gan bobl ddealltwriaeth uwch heddiw o'r rhwymedigaeth sydd ar bob un ohonom ni i chwarae ein rhan o ran ymateb i'r her sydd eisoes ar garreg ein drws, a bod yn rhaid i ni allu gwneud hynny ym mhob rhan o Gymru, ac mae gwaith i'w wneud, fel y dywedodd yr Aelod, i wneud yn siŵr bod pob llais yn rhan o'r sgwrs honno, tra bod y sgwrs ei hun yn canolbwyntio yn gadarn ar wneud yn siŵr ein bod ni i gyd yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ymdrin â'r anawsterau yr ydym ni'n gwybod y mae'r blaned hon eisoes yn eu dioddef. Ôl-osod Cartrefi Rhent Cymdeithasol Jenny Rathbone AC: 7. Faint o gartrefi rhent cymdeithasol y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl y byddant wedi cael eu hôl-osod erbyn diwedd 2022 fel rhan o'r rhaglen i leihau allyriadau carbon o holl dai Cymru? OQ57028 Mark Drakeford AC: Llywydd, rydym ni wedi ymrwymo bron i £700 miliwn [Cywiriad: £70 miliwn]FootnoteLink i'n rhaglen ôl-osod wedi ei hoptimeiddio yn ystod y 18 mis diwethaf i archwilio'r ffordd orau o ddatgarboneiddio cartrefi yng Nghymru. Erbyn diwedd 2022, rhagwelir y bydd y buddsoddiad hwn wedi lleihau allyriadau o tua 5,000 o gartrefi cymdeithasol. Eglurhad gan y Prif Weinidog (Saesneg yn unig) Jenny Rathbone AC: Diolch yn fawr iawn, Prif Weinidog. Yr wythnos diwethaf, fe wnes i fanteisio ar y rhaglen Drysau Agored i ymweld â rhai o'r safleoedd adeiladu yn fy etholaeth i ac i weld y gwaith adeiladu gwych sy'n cael ei wneud. O gofio'r brys i greu'r swyddi sgiliau gwyrdd sydd eu hangen arnom ni i ôl-osod ein cartrefi sydd wedi eu hinswleiddio yn annigonol, yn enwedig rhag gwyntoedd oer toriadau'r Torïaid a methiant ein gwlad yn gyffredinol i gynhyrchu digon o ynni adnewyddadwy i'n hatal rhag bod yn rhan o'r crafangu hwn am nwy prin, roedd yn syndod mawr i mi nad oedd gan lawer o'r adeiladwyr medrus y gwnes i gyfarfod â nhw brentis bob amser yn gweithio ochr yn ochr â nhw. Gan fy mod i'n gwybod bod gennych chi'r uchelgais i ôl-osod yr holl gartrefi rhent cymdeithasol hyn, roeddwn i'n meddwl tybed beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i gyflymu datblygiad y rhaglen hon o ddatgarboneiddio ein holl gartrefi os nad oes gennym ni'r sgiliau sydd eu hangen arnom ni i wneud y gwaith. Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, rwy'n credu bod Jenny Rathbone yn gwneud cyfres o bwyntiau pwysig iawn. Yn union fel y mae gweithrediad y grid wedi cael ei adael i'r farchnad, felly hefyd y mae Llywodraeth bresennol y DU wedi llywio'r gwaith o ddiwallu anghenion ynni'r Deyrnas Unedig i raddau helaeth. Nid oedd yn wir hyd yn oed am Lywodraethau Ceidwadol blaenorol, a wnaeth, ar ddechrau'r degawd diwethaf, ddarparu'r tariffau bwydo i mewn sydd wedi arwain at dwf i ynni adnewyddadwy solar a gwynt yng Nghymru. Nawr, mae dull Llywodraeth Cymru yn wahanol iawn. Rydym ni'n edrych ar ddull gweithredu wedi ei gynllunio. Rydym ni'n disgwyl i Lywodraeth y DU wneud yn siŵr bod buddsoddiad gwirioneddol mewn technolegau morol, er enghraifft, fel y gallwn ni wneud yn siŵr nad ydym yn ddibynnol ar y ffaith bod prinder nwyddau ar gael yn y farchnad, gyda'r prisiau rydym ni'n eu gweld yn cael eu codi am nwy bellach. Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn arall, Llywydd, am y gadwyn gyflenwi ac am y sgiliau sy'n gysylltiedig â hi. Pe bai fy nghyd-Weinidog Julie James wedi bod yn ateb y cwestiwn hwn, byddech chi wedi clywed ei hangerdd at y ffordd y gall y rhaglen ôl-osod greu'r swyddi sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol. Nawr, bu effaith ar y rhaglen brentisiaethau yng Nghymru yn ystod y pandemig. Mae wedi bod yn anoddach gallu darparu'r profiadau ymarferol hynny i bobl ifanc sy'n caniatáu iddyn nhw gael y cymwysterau sydd eu hangen arnyn nhw. Ond, ochr yn ochr â gweddill yr economi, mae adferiad cryf yn hynny i gyd, ac yn sicr byddwn yn gweithio yn agos gyda'r sector i wneud yn siŵr, wrth i ni symud i adeiladu tai ar gyfer y dyfodol nad oes angen eu hôl-osod—ac mae hynny yn bwysig iawn—ond hefyd i weithio i ôl-osod cartrefi gofal cymdeithasol, eiddo rhent preifat ac eiddo preifat hefyd, bod y gweithlu medrus a chymwys sydd wedi ei baratoi i wneud hynny ar gael i fanteisio ar y cyfleoedd hynny ac i'n helpu ni i gyd yn yr her o fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd. Credyd Cynhwysol Huw Irranca-Davies AC: 8. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch atal y toriad mewn credyd cynhwysol, yn unol â'r hyn y gofynnwyd amdano gan arweinwyr y Llywodraethau datganoledig? OQ56987 Mark Drakeford AC: Llywydd, mae Llywodraeth y DU wedi dewis anwybyddu'r holl dystiolaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei darparu o'r caledi ariannol difrifol a achoswyd drwy dorri'r taliad hwnnw o £20 yr wythnos. Yn syml, ni ellir cyfiawnhau cymryd arian oddi wrth y bobl dlotaf yng Nghymru ar yr union adeg y maen nhw'n wynebu argyfwng cost byw difrifol. Huw Irranca-Davies AC: Diolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna, ac rwyf i'n wirioneddol yn poeni yn fawr iawn am yr hydref a'r gaeaf i fy etholwyr i, y mae rhai ohonyn nhw yn dibynnu ar gredyd cynhwysol i atodi eu cyflogau, y mae rhai ohonyn nhw yn ddi-waith, ond, i bob un ohonyn nhw, mae hyn yn gwneud y gwahaniaeth—mae'n fater o lwyddo neu fethu—rhwng mynd i ddyled a thlodi ac o bosibl digartrefedd. Byddwn i'n annog y Prif Weinidog i barhau â'i drafodaethau gyda Llywodraeth y DU i geisio dod o hyd i gyllid ychwanegol i'w gyfrannu ledled y DU at y cymunedau difreintiedig hyn a theuluoedd agored i niwed i'w diogelu drwy'r hydref a'r gaeaf a'r gwanwyn, a fydd yn hir ac yn galed. Ond byddwn i hefyd yn gofyn i'r Prif Weinidog: beth arall allwn ni ei wneud yng Nghymru, nid yn unig o ran cymorth, y mae wedi sôn amdano o'r blaen, ond o ran cyngor ategol—cyngor ar ddyled, cyngor ar ddigartrefedd, cyngor a chymorth argyfwng ledled Cymru—fel y gallwn ni fod yno o leiaf pan fydd pobl, yn anochel, yn wynebu'r cyfnod enbyd hwn y gaeaf hwn? Mark Drakeford AC: Llywydd, diolch i Huw Irranca-Davies am y cwestiwn yna. Mae wedi disgrifio yn fyw y cyfyng-gyngor a fydd yn wynebu cynifer o deuluoedd yma yng Nghymru. Amcangyfrifodd Sefydliad Joseph Rowntree yn ddiweddar y bydd prisiau tanwydd yn unig yn arwain i'r teuluoedd hynny—. I deulu o ddau o blant sy'n byw ar £20,000 y flwyddyn, bydd prisiau tanwydd yn unig yn gorfodi gofyniad ychwanegol o £3 yr wythnos ar eu cyllidebau. Ac yna pan fyddwch chi'n ystyried yr holl bwysau cost eraill yr ydym ni'n gwybod sy'n bodoli yn yr economi, bydd hynny yn £8 yr wythnos. Mae hynny dros £700 y flwyddyn, ar adeg pan fyddan nhw'n colli £1,000 o'r incwm cymedrol iawn sydd ar gael iddyn nhw. Wrth gwrs, byddwn ni'n parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU. Y toriad o £20 i gredyd cynhwysol yw'r toriad unigol mwyaf i les ers dros 70 mlynedd. Mae'n rhaid i chi fynd yn ôl i'r 1930au i ddod o hyd i Lywodraeth a oedd yn barod i lwytho'r baich o fynd i'r afael ag amgylchiadau ariannol y genedl ar ysgwyddau'r rhai lleiaf abl i'w hysgwyddo fel hyn. Nawr, yn ogystal â'r pethau eraill rydym ni'n eu gwneud, rwy'n cytuno yn llwyr â'r hyn a ddywedodd Huw Irranca-Davies, Llywydd, am yr angen i wneud yn siŵr bod cynifer o bobl â phosibl yng Nghymru yn cael y cymorth sydd eisoes yno yn y system, ac mae llawer iawn gormod o deuluoedd yng Nghymru yn colli allan ar y cymorth sydd ar gael. Fe wnaethom ni gynnal ymgyrch manteisio ar fudd-daliadau lles yn ôl ym mis Mawrth eleni; mae wedi arwain at gannoedd o filoedd o bunnoedd ychwanegol yn cael eu hawlio mewn budd-daliadau gan deuluoedd Cymru, ac rydym ni'n mynd i ailadrodd yr ymgyrch manteisio ar fudd-daliadau honno ddiwedd y mis hwn a thrwy weddill misoedd y gaeaf. Yna, mae'n rhaid i chi wneud yn siŵr, fel y dywedodd Huw Irranca-Davies, fod y cyfleusterau ar gael i ymdrin â'r galw ychwanegol a fydd yn cael ei gynhyrchu, ac rwy'n falch iawn o ddweud bod Llywodraeth Cymru yn mynd i ariannu 35 o gynghorwyr budd-daliadau lles cyfwerth ag amser llawn newydd ar gyfer cyngor Cymru fel bod y grym pobl ar gael, pan fydd yr ymgyrch yn arwain at fwy o bobl yn dod yn eu blaenau, i roi'r cyngor y bydd ei angen arnyn nhw. Bydd yr holl bobl hynny wedi eu recriwtio erbyn diwedd y mis hwn, a byddan nhw ar gael i wneud yn union yr hyn a ddywedodd Huw Irranca-Davies, Llywydd: i wneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud mwy i helpu pobl i gael y cymorth sydd ar gael o hyd, hyd yn oed wrth i'r llinyn cymorth pwysig iawn hwnnw gael ei gymryd oddi arnyn nhw. Ac yn olaf, cwestiwn 9—Joel James. Y Diwydiant Rasio Ceffylau Joel James MS: 9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y diwydiant rasio ceffylau yng Nghymru? OQ56993 Mark Drakeford AC: Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod gwerth economaidd y tri thrac rasio yng Nghymru, o Fangor Is-y-coed yn y gogledd i Ffos Las yn y de-orllewin a Chas-gwent yn y de-ddwyrain, a'r llawer iawn o bobl sy'n gweithio yn y diwydiant hwn. Joel James MS: Prif Weinidog, roedd hi'n Wythnos Genedlaethol y Ceffylau Rasio ledled y DU yn ystod yr wythnos a ddechreuodd ar 13 Medi, sydd â'r bwriad o arddangos llawer o'r agweddau hynod ddiddorol ar rasio ceffylau, ac agor drysau llawer o'r hyfforddwyr ceffylau i ddangos y safonau uchel o gariad, gofal a sylw y mae ceffylau rasio yn eu derbyn. Yn yr Alban a Lloegr, mae sefydliadau penodol wedi eu sefydlu i hyrwyddo rasio ceffylau ac i dynnu sylw at y manteision sydd ganddo i'w heconomi a'u diwydiant twristiaeth. Yn yr Alban, mae Scottish Racing yn hyrwyddo ac yn cefnogi ei phum cae rasio, gan gynorthwyo datblygiad diwydiant rasio ceffylau cynaliadwy a'i lwyddiant yn fyd-eang. Mae'r sefydliad yn hyrwyddo pob sector o'r diwydiant ac yn chwarae rhan annatod yn y gwaith o sicrhau ffyniant a chynaliadwyedd hirdymor i'r gamp yn yr Alban. Yn anffodus, yng Nghymru, nid oes gennym ni sefydliad o'r fath, ac eto mae gennym ni rai o'r hyfforddwyr gorau ym Mhrydain. Mae Tim Vaughan, er enghraifft, sy'n gweithredu ac yn berchen ar stabl rasio ym Mro Morgannwg, wedi hyfforddi ceffylau sydd wedi ennill llawer o rasys mawreddog, gan gynnwys Grand National yr Alban, ac rwy'n credu bod Cymru yn haeddu'r un lefel o gynrychiolaeth â gwledydd eraill yn y DU. Rwy'n hyderus y byddai sefydliad o'r fath sy'n hyrwyddo rasio ceffylau yng Nghymru yn sicr o fudd i'n heconomi a'n diwydiant yma yng Nghymru. Rwyf i hefyd yn hyderus y byddai cefnogaeth drawsbleidiol i sefydliad o'r fath. Gyda hyn mewn golwg, a wnaiff y Prif Weinidog ymrwymo i gyfarfod â mi a chynrychiolwyr angenrheidiol y diwydiant i archwilio'r posibilrwydd o sefydlu sefydliad penodol yng Nghymru? Diolch. Mark Drakeford AC: Wel, Llywydd, fe wnaf i feddwl yn ofalus am yr hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud y prynhawn yma. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu dros £1 miliwn o gyllid i'r diwydiant o'r gronfa diogelu chwaraeon gwylwyr yn ystod y pandemig, ac rwyf i wedi mwynhau llawer o ddiwrnodau da yn mynd i rasio ceffylau fy hun, felly rwy'n cydnabod yr hyn y mae'n ei ddweud am ei atyniad i bobl, ac yn enwedig yr hyn a ddywedodd am safonau'r diwydiant yma yng Nghymru. Bydd yn deall bod yn rhaid i'r Llywodraeth roi ei hegni lle'r ydym ni'n credu y mae'r angen mwyaf brys. Rwyf i a fy Ngweinidogion wedi canolbwyntio yr wythnos hon, Llywydd, ar y diwydiant dur a'r angen dybryd i roi cymorth iddo, gyda'i filiau ynni uchel, i gynnal y diwydiant hwnnw, gyda'r miloedd ar filoedd o bobl sy'n dibynnu arno yma yng Nghymru. Felly, er y gwnaf i, wrth gwrs, feddwl yn ofalus am yr hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud, yn y pen draw, mae'n rhaid i'r Llywodraeth benderfynu ble y gellir buddsoddi ei hegni a'i buddsoddiadau yn fwyaf ffrwythlon, ac mae dewisiadau i'w gwneud yn hynny o beth. Mae aelodau yn y Siambr, Prif Weinidog, yn awyddus iawn i gael gwybod a oeddech chi mewn gwirionedd yn marchogaeth y ceffylau a oedd yn cael eu rasio, neu a oeddech chi'n gwylio. [Chwerthin.] Fe wnawn ni feddwl amdano fel camp gwyliwr i chi, ond gallwch chi ein cywiro os oeddem ni'n anghywir. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Felly, eitem 2, y datganiad a chyhoeddiad busnes. Galwaf ar y Trefnydd i wneud y datganiad. Lesley Griffiths AC: Diolch, Lywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes y Cyfarfod Llawn yr wythnos hon. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos eistedd nesaf wedi ei nodi ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w gweld ymysg y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig. Laura Anne Jones AC: Gweinidog, a gaf i alw am ddatganiad brys gan y Gweinidog Addysg a'r Gymraeg ar barodrwydd ein hysgolion i weithredu'r cwricwlwm newydd? Ochr yn ochr â'r effaith amlwg y mae'r pandemig wedi ei chael, mae llawer o ysgolion yn ei chael hi'n anodd iawn ar hyn o bryd yn sgil absenoldebau staff, ac mae'n anodd dod o hyd i athrawon cyflenwi ar hyn o bryd oherwydd faint o athrawon sy'n hunan-ynysu ac wedi eu heintio â COVID eu hunain. Ac mae'n amlwg y bydd hyn yn effeithio ar ganlyniadau'r arolygiadau Estyn presennol wrth geisio mesur parodrwydd ysgolion ar gyfer y cwricwlwm newydd. Mae cyfarfodydd ysgol wedi bod yn llawn trafodaethau ar COVID yn hytrach na gweithredu'r cwricwlwm newydd hwn. Mae gormod o bwysau ar benaethiaid a'u timau ac mae angen cymorth ychwanegol arnyn nhw, felly byddwn i'n ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog ddod i'r Siambr i roi sylw i'r materion hyn. Lesley Griffiths AC: Diolch, Laura. Rydym ni ymhell ar ein ffordd ar y daith i wireddu ein cwricwlwm newydd yn ein hysgolion a lleoliadau eraill ledled Cymru. Wrth gwrs, mae'r pandemig wedi effeithio ar baratoadau ar gyfer diwygio. Mae canlyniadau'r arolwg diweddar gan Gyngor y Gweithlu Addysg, a gwasanaeth ymchwil cymdeithasol y Llywodraeth, yn dangos yr heriau sydd yn amlwg yn ein hwynebu ni oherwydd y pandemig. Ond mae ymrwymiad cryf iawn o hyd i'r diwygiadau hyn ledled y sector cyfan, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod gennym ni strwythur cenedlaethol clir iawn ar waith fel bod modd cefnogi'r gweithredu, ac, yn amlwg, mae angen ei ategu gan gefnogaeth ranbarthol a lleol gref. Mae'r ddogfen 'Cwricwlwm i Gymru: y daith i weithredu'r cwricwlwm', a gyhoeddwyd ar 22 Medi, yn nodi'r fframwaith hwnnw, ac rwy'n siŵr eich bod chi wedi cael cyfle i edrych ar hynny, ac mae'n cael ei gefnogi gan £7.24 miliwn o gyllid i ategu datblygiad y cwricwlwm yn y flwyddyn ariannol hon. Delyth Jewell AC: Trefnydd, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi cyflwyno newidiadau dros dro sylweddol i wasanaethau mamolaeth oherwydd prinder staff. Felly, mae geni yn y cartref wedi ei atal a bydd unedau wedi eu harwain gan fydwragedd yn Ysbyty Brenhinol Gwent, Nevill Hall, Ysbyty Aneurin Bevan ac Ysbyty Ystrad Fawr ar gau dros dro, gan ganoli'r holl wasanaethau geni yn Ysbyty'r Faenor yng Nghwmbrân. Mae'r bwrdd iechyd yn disgwyl y bydd y newidiadau hynny mewn grym tan 18 Hydref. Hoffwn i gael datganiad gan y Llywodraeth os gwelwch yn dda i ddweud wrthym ni ba gymorth sy'n cael ei gynnig i'r bwrdd iechyd i sicrhau na fydd effaith fel hyn ar lefelau staffio eto, yn enwedig wrth i ni fynd i fisoedd y gaeaf pan fydd COVID-19 yn debygol, yn anffodus, o fod yn fwy cyffredin yn ein cymunedau ni. Ac a oes modd i'r datganiad hwnnw hefyd amlinellu pa gymorth y gallai'r Llywodraeth ei roi drwy'r bwrdd iechyd i famau beichiog a'u teuluoedd, a fydd yn gorfod gwneud newidiadau i'w cynlluniau ar adeg sydd eisoes yn bryderus? Rwy'n meddwl yn arbennig am famau sydd wedi dewis cael genedigaethau yn y cartref neu enedigaethau lleol oherwydd genedigaethau trawmatig yn y gorffennol. Gallai hyn fod â goblygiadau difrifol iawn iddyn nhw, felly byddwn i'n ddiolchgar o wybod pa gymorth y byddai modd ei gynnig ar frys iddyn nhw ac, wrth gwrs, i bob teulu y bydd hyn yn effeithio arnyn nhw. Lesley Griffiths AC: Diolch. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog a'i swyddogion yn gweithio'n agos gyda'r bwrdd iechyd ar y mater hwn. Fe wnaethoch chi sôn, gobeithio, mai dim ond tan 18 Hydref y bydden nhw ar waith, felly ni fydd amser i gael datganiad gan y Llywodraeth, ond rwy'n siŵr petai gan y Gweinidog unrhyw beth newydd y mae'n dymuno rhoi gwybod i'r Aelodau amdano, bydd yn gwneud datganiad ysgrifenedig.FootnoteLink Gwybodaeth ychwanegol at y Cyfarfod Llawn (Saesneg yn unig) Alun Davies AC: A gaf i ofyn am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth os gwelwch yn dda? Yn gyntaf, ar oblygiadau penderfyniad y Goruchaf Lys yr wythnos diwethaf i ddyfarnu bod dwy Ddeddf yn yr Alban y tu hwnt i gymhwysedd. Roedd y Deddfau hynny yn cynnwys nifer o ddarpariaethau yr ydym ni eisoes wedi eu deddfu yn y lle hwn, yn enwedig ar le hawliau plant mewn deddfwriaeth. Mae'n ymddangos i mi fod hynny'n cysylltu'n uniongyrchol â deddfwriaeth sydd ar lyfr statud Cymru, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig i ni gael datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol i ddeall, yn ôl barn Llywodraeth Cymru, beth yw'r sefyllfa o ran cyfraith Cymru o ganlyniad i'r dyfarniad hwn gan y Goruchaf Lys. Ac, yn ail, a gaf i ddatganiad gan y Llywodraeth ar swyddogaeth bresennol cynigion cydsyniad deddfwriaethol? Rydym ni wedi arfer â chynigion cydsyniad deddfwriaethol yn y lle hwn, ond fel arfer mae tuedd iddyn nhw gyfeirio at faterion eithaf bach sydd naill ai'n effeithio ar gymhwysedd deddfwriaethol yma neu pan fo Llywodraeth Cymru yn ceisio deddfu deddfwriaeth ar fater cymharol fach yn rhan o broses y DU. Mae'n ymddangos i mi y bu cynnydd yn nifer y cynigion cydsyniad deddfwriaethol yn y Senedd hon, a hefyd gynnydd nid yn unig yn nifer y cynigion cydsyniad deddfwriaethol eu hunain, ond yn natur y cynigion cydsyniad deddfwriaethol hynny, lle mae gormod o ddeddfwriaeth, deddfwriaeth Cymru, yn cyrraedd y llyfr statud heb graffu priodol yn y lle hwn. Mae'n bwysig bod y Senedd hon yn cael cyfle i graffu ar yr holl ddeddfwriaeth sy'n effeithio ar Gymru o fewn meysydd datganoledig cyn iddo gyrraedd y llyfr statud. Ac mae'n bwysig, yn fy marn i, ein bod ni fel Senedd yn gallu deall y prosesau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu rhoi ar waith i sicrhau nad yw deddfwriaeth Cymru yn cyrraedd y llyfr statud heb unrhyw graffu o gwbl. Lesley Griffiths AC: Diolch. O ran eich pwynt cyntaf ynghylch penderfyniad y Goruchaf Lys, rwy'n gwybod bod y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad yn cael trafodaethau ar hyn o bryd i ddeall goblygiadau'r penderfyniad hwnnw. O ran cynigion cydsyniad deddfwriaethol, rwy'n credu ein bod ni wedi gweld nifer sylweddol—rwy'n credu bod gennym ni tua 14 y mae Llywodraeth Cymru yn ei ystyried ar hyn o bryd. Ar hyn o bryd, rwy'n credu mai dim ond tua saith ohonyn nhw y gallem ni argymell bod y Senedd yn eu cymeradwyo. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth y DU. Mae cymaint o ddeddfwriaeth yn dod drwodd ar hyn o bryd, ac yn amlwg ni all Llywodraeth Cymru ond prosesu, ac ni all y Senedd ond craffu ar hyn a hyn. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod Aelodau yn cael y cyfle hwnnw i graffu ar gynigion cydsyniad deddfwriaethol wrth iddyn nhw ddod drwodd. Sam Rowlands MS: Trefnydd, rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno bod gan ogledd Cymru enw da o'r radd flaenaf am gyflwyno digwyddiadau eithriadol a bod yn gyrchfan fyd-enwog. Ac yn dilyn pwynt y gwnes i ei godi gyda chi cyn yr haf, o ran cystadleuaeth Dinas Diwylliant y DU, rwy'n siŵr eich bod chi'n falch iawn o weld bod Wrecsam wedi cyrraedd y rhestr fer i gael ei henwi'n Ddinas Diwylliant y DU 2025, ynghyd â saith ymgeisydd arall ledled y Deyrnas Unedig. A byddwch chi'n gwybod yn fwy na neb, Trefnydd, y diwylliant gwych sydd gan Wrecsam i'w gynnig, gan gynnwys Clwb Pêl-droed Wrecsam, a'r Cae Ras hanesyddol yno hefyd; dyfrbont Pontcysyllte, sydd wedi derbyn statws treftadaeth y byd UNESCO; canolfan gymunedol ddiwylliannol Tŷ Pawb; theatrau, eglwysi, a llawer mwy, y byddwch chi'n gwbl ymwybodol ohonyn nhw. Ac wrth gwrs, yn ogystal â dod â manteision enfawr i Wrecsam, byddai ennill Dinas Diwylliant y DU hefyd yn dod â manteision enfawr i ogledd Cymru yn gyfan gwbl, ac yn wir ein gwlad yn ehangach, gan greu swyddi, ysgogi buddsoddiad, sicrhau manteision hirdymor. Byddwn i'n croesawu datganiad gan Lywodraeth Cymru, yn amlinellu ei chefnogaeth i gais Wrecsam i sicrhau teitl Dinas Diwylliant y DU, a chlywed sut y byddai Llywodraeth Cymru yn cydweithio ag awdurdodau lleol i sicrhau bod gan Wrecsam y cyfle gorau posibl i ennill cais Dinas Diwylliant y DU 2025. Lesley Griffiths AC: Diolch. Oeddwn, roeddwn i yn falch iawn o weld bod fy etholaeth i yn Wrecsam wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Dinas Diwylliant y DU. Rwy'n credu y bydd y cyhoeddiad yn cael ei wneud ym mis Mai y flwyddyn nesaf. Ac yn sicr, fel Llywodraeth Cymru, byddwn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i ystyried sut y gallwn ni gefnogi Wrecsam, ac rwy'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip, mewn trafodaethau ar hyn o bryd. Fe wnaethoch chi enwi llawer o leoedd yn yr etholaeth ac ychydig y tu allan, yn etholaeth De Clwyd—etholaeth Ken Skates—sydd â'r enw da gwych hwnnw, ond, yn hollol, dim llai na'r Cae Ras, rwy'n cytuno yn llwyr. Heledd Fychan AS: Trefnydd, dwi'n nodi'r datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd heddiw o ran diogelwch tomenni glo, gyda 33 yn fwy o domenni glo rŵan yn y categori risg uchaf, sef cyfanswm o 327. Wel, mae hyn eisoes wedi creu pryder mawr yn y cymunedau hynny sydd yn byw yng nghysgod tomenni glo, a hoffwn felly ofyn am ddatganiad pellach yn y Siambr hon gan y Gweinidog Newid Hinsawdd yn nodi pryd bydd lleoliad y tomenni hyn yn cael ei wneud yn wybyddus. Mae hyn yn gwestiwn sydd gan nifer o bobl sydd yn byw yn eu cysgod nhw. Hefyd, sut mae'r trafodaethau o ran ariannu'r gwaith yn mynd gyda Llywodraeth Prydain, ac a fydd yna ymgyrch benodol i godi ymwybyddiaeth o ran sut y gall y cyhoedd roi adroddiad os ydynt yn poeni am ddiogelwch tomen lo ac unrhyw newid, yn fwy na'r hyn a nodir yn y datganiad heddiw? Lesley Griffiths AC: Diolch. Ac fel yr ydych chi'n ei ddweud, cafodd y datganiad ysgrifenedig ei gyhoeddi ddoe, gan roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am ddiogelwch tipiau glo gan y Gweinidog Newid Hinsawdd. Mae llawer iawn o waith wedi ei wneud ar y darn hwn o waith—gwaith partneriaeth rhwng yr Awdurdod Glo, Llywodraeth y DU, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru. Ac fel yr ydych chi'n ei ddweud, y mae wedi ei nodi bod gan ragor o dipiau glo risg uchel. Mae gan awdurdodau lleol y data o ran ble mae'r rhain, yn amlwg. Fel yr ydych chi'n ei ddweud, mae yn peri pryder. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn peidio ag achosi hyd yn oed mwy o bryder i bobl. Byddwch chi'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno llinell gymorth—roedd yn amlwg yn fy mhortffolio i yn y tymor blaenorol. Mae'r trafodaethau ynghylch cyllid yn bwysig iawn, oherwydd bod hwn yn gyllid sylweddol. Ac yn amlwg, mae'n rhagflaenu datganoli—mae'n rhagflaenu 1999—felly, mae angen gwirioneddol i Lywodraeth y DU wella ei pherfformiad yn y maes hwn a sicrhau bod gennym ni'r arian sydd wir ei angen arnom i wneud y tipiau glo hyn yn ddiogel. Jenny Rathbone AC: O ystyried dadfuddsoddi parhaus y diwydiant bancio yn ein strydoedd mawr, ac, mewn rhai amgylchiadau, nad oes gennym ni hyd yn oed fenthyciwr dewis olaf yn ein swyddfeydd post—yn sicr nid oes gan rai o fy nghymunedau i swyddfa bost erbyn hyn—roeddwn i'n meddwl tybed a gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar sut y gallwn ni ddiogelu'r rhai sydd wedi eu hallgáu'n ddigidol, sy'n wirioneddol anghyfforddus â chymdeithas ddi-arian, ddi-bapur, i sicrhau bod ganddyn nhw le diogel o hyd i gadw eu cynilion ac y gallan nhw barhau i gael gafael ar arian parod heb orfod talu am y fraint. Lesley Griffiths AC: Diolch. Rydym ni'n bryderus iawn, fel Llywodraeth, am leihau gwasanaethau bancio ledled Cymru. Rydym ni wedi gweld nifer cynyddol o fanciau yn cau ledled y wlad. Felly, rydym ni yn parhau i ddefnyddio ein dylanwad, ar Lywodraeth y DU ac ar y sector bancio, i sicrhau bod gwasanaethau bancio'r stryd fawr yn cael eu cynnal. Nid wyf i'n credu bod hwn yn berthnasol i'r rhai sydd wedi eu hallgáu'n ddigidol yn unig; mae pob un ohonom ni'n dibynnu ar wasanaethau bancio. Rwy'n credu bod angen i bob un ohonom ni siarad â rhywun, onid oes, o bryd i'w gilydd, ond rwy'n credu eich bod chi wedi tynnu sylw at grŵp penodol y mae angen cymorth ychwanegol arnyn nhw. Rydym ni wedi gweld, rwy'n credu, fwy o fanciau yn cau oherwydd y pandemig, lle rydym ni wedi gweld unwaith eto arian parod yn cael ei ddefnyddio'n llai a llai, sydd unwaith eto yn effeithio ar bobl sydd wedi eu hallgáu'n ddigidol. Ac rydym ni'n ymwybodol bod nifer cynyddol o bobl yn bell iawn o wasanaethau bancio confensiynol, ac nid ydym ni eisiau gadael neb ar ei hôl hi mewn gwirionedd. Rydym ni hefyd wedi gweld—rwy'n credu i mi sôn am hyn pan ofynnwyd i mi am wasanaethau bancio o'r blaen—rydym ni wedi gweld gostyngiad yn nifer y peiriannau codi arian parod y mae modd eu defnyddio am ddim, er fy mod i'n credu ein bod ni wedi gweld cynnydd yn y rhai sy'n codi tâl. Felly, rydym ni wedi ymrwymo i gefnogi camau i greu banc cymunedol i Gymru, ac, ar hyn o bryd, rydym yn gweithio gyda'r sector preifat i ddatblygu cynigion yn unol â'r broses gymeradwyo reoleiddiol, ac rwy'n credu mai dyna fyddai'r adeg fwyaf amserol i gael datganiad. Altaf Hussain AS: Yn ddiweddar, es i ar ymweliad â chamlas Tenant yn Aberdulais i gwrdd â chynrychiolwyr ei pherchnogion ac aelodau o Ymddiriedolaeth Camlesi Castell-nedd a Thenant i drafod ei dyfodol, yn dilyn gostyngiad yn lefelau'r dŵr. Mae llawer o drigolion yn pryderu am ddyfodol y gamlas, ei seilwaith hanesyddol a'i swyddogaeth o ran cynnal bywyd gwyllt. Er bod materion i'w datrys gyda CNC a chyrff cyhoeddus eraill, mae yn fy atgoffa o bwysigrwydd ein camlesi i'n hamgylchedd, twristiaeth a lles. A wnaiff y Llywodraeth drefnu dadl i ni ystyried pwysigrwydd strategol ein camlesi, os gwelwch yn dda? Lesley Griffiths AC: Diolch. Rwy'n credu eich bod chi’n gwneud pwynt pwysig iawn am y rhan y mae camlesi'n ei chwarae, yn sicr o ran bioamrywiaeth, a byddwch chi'n ymwybodol ei bod yn COP15 yr wythnos hon, sydd yn tynnu sylw yn wirioneddol at fioamrywiaeth. Rydym ni yn gwneud amrywiaeth o ddatganiadau, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn gwneud un yn dilyn COP15, pan all gynnwys hynny. Ac, yn olaf, Joyce Watson. Joyce Watson AC: Diolch, Llywydd. Trefnydd, a gawn ni ddatganiad, ac rwy'n credu mai'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol sydd yn y sefyllfa orau i siarad amdano, ar yr angen dybryd i wneud aflonyddu rhywiol cyhoeddus yn drosedd benodol yng Nghymru a Lloegr? Fe wnes i gyfeirio ato yn fy nghwestiwn amserol diweddar i'r Gweinidog ar ddiogelwch menywod mewn mannau cyhoeddus. Ond, ers hynny, mae'n amlwg mai Prif Weinidog y DU ei hun yw'r rhwystr i ddiwygio. Yn ogystal â rhwystro cyfraith newydd ar aflonyddu, ymyrrodd Prif Weinidog y DU yn bersonol i geisio chwalu'r ymgais i wneud casineb at fenywod yn drosedd casineb. Daeth i'r amlwg y penwythnos hwn, fodd bynnag, fod Arglwyddi ac ASau Torïaidd yn bwriadu herio Johnson a bwrw ymlaen ag ymdrechion i newid y gyfraith honno. Rwy'n gwybod ei fod y tu hwnt i bwerau deddfwriaethol y sefydliad hwn, wrth gwrs, ond, yn union fel y mae diystyriaeth Boris Johnson o gasineb yn erbyn menywod ac aflonyddu ar sail rhywedd yn anfon neges gyhoeddus beryglus, dylai Llywodraeth Cymru wrthwynebu hynny a gwneud yr hyn y gall ei wneud i wireddu newid yn y gyfraith i amddiffyn menywod a merched Cymru. Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair. Lesley Griffiths AC: Diolch. Rwy'n credu, tra fy mod i wedi bod ar fy nhraed, fod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar droseddau casineb. Ond rydym ni wedi bod yn glir iawn nad yw'r drefn troseddau casineb bresennol sydd gennym ni yn addas i'r diben. Mae'n methu ag ymdrin â chasineb yn erbyn menywod, ac rwy'n credu bod hynny yn enghraifft bwysig lwyr o'r hyn sydd o'i le ar y gyfundrefn. Yn gynharach eleni, efallai eich bod chi'n ymwybodol, cytunodd Llywodraeth y DU i gynllun treialu, lle byddai'r heddlu'n cofnodi troseddau trais a gafodd eu hysgogi gan ryw neu rywedd unigolyn. Rwy'n credu bod angen i ni weld ychydig o gynnydd ar frys ar hyn. Rwy'n gwybod y bydd Llywodraeth y DU yn ystyried yr argymhellion a ddaw gan Gomisiwn y Gyfraith ar hyn, felly byddwn i'n annog Comisiwn y Gyfraith, yn gyntaf, i hwyluso'r adroddiad i Lywodraeth y DU, ac yna yn sicr byddwn i'n disgwyl i Lywodraeth y DU gyflwyno rhywfaint o gamau gweithredu ar yr argymhellion, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi ysgrifennu at Weinidogion y DU sawl gwaith i dynnu sylw at hyn. Diolch, Trefnydd. 3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Cynnydd ar y Cynllun Cyflawni ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’ Yr eitem nesaf yw datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: cynnydd ar y cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle. Lynne Neagle AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rydym ni wedi cwblhau 12 mis o ran ein cynllun cyflawni newydd, 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' ac rwy'n dymuno rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ein cynnydd ni. Fe ddiwygiwyd y cynllun cyflawni oherwydd y pandemig, wrth sylweddoli'r angen i'w addasu ar gyfer lefelau o anghenion sy'n esblygu. Mae'r cynllun yn un uchelgeisiol, ac yn sefydlu'r angen hanfodol am waith amlasiantaethol ar draws y Llywodraeth i gyflawni'r camau y cytunwyd arnyn nhw. I roi sicrwydd i ni a'n partneriaid ni am y cynnydd, rydym ni wedi comisiynu gwerthusiad o'n strategaeth 10 mlynedd. Fe fydd hwnnw'n rhoi asesiad annibynnol sy'n seiliedig ar dystiolaeth o'n cynnydd ni ac fe fydd yn llywio'r camau nesaf. Mae'r pandemig wedi gwneud i ni ganolbwyntio mwy ar yr angen i gyflymu'r gweithgarwch o ran rhai camau gweithredu yn y cynllun cyflawni. Rydym ni wedi cryfhau'r gefnogaeth i faterion iechyd meddwl lefel isel fel ymateb i'r cyfraddau uwch o bryder a welsom ni. Rydym ni wedi ehangu ein llinell gymorth CALL ni, sy'n cefnogi dros 100 o bobl y dydd, gan roi cyngor, cymorth neu ddim ond cynnig clust i wrando, yn aml. Am y tro cyntaf yng Nghymru, rydym ni wedi cyflwyno therapi gwybyddol ymddygiadol ar-lein. Mae'r cymorth digidol hwn yn cael ei oruchwylio gan glinigwyr ac mae wedi cael dros 12,000 o bobl yn cofrestru ar ei gyfer yn ei 12 mis cyntaf. Nid oes angen atgyfeiriad gan weithiwr iechyd proffesiynol, ac felly fe ellir cael gafael arno pan fydd angen amdano, gan gynnig cymorth amserol, gan dynnu pwysau oddi ar wasanaethau mwy arbenigol. Mae byrddau iechyd yn adrodd am gyfradd uwch o ddwyster a chymhlethdod o ran anghenion cleifion a mwy o alw am gymorth anghlinigol ar gyfer materion iechyd meddwl lefel is. Mae'r bwrdd cyflawni a goruchwylio gweinidogol, yr wyf i'n ei gadeirio, yn hanfodol ar gyfer deall y dystiolaeth a'r wybodaeth weithredol ddiweddaraf i sicrhau bod gwasanaethau yn gallu diwallu anghenion iechyd meddwl newidiol. Rydym ni'n trawsnewid yr ymateb i ofal argyfwng ac rydym ni ar y trywydd iawn i sefydlu safleoedd cyswllt unigol i ymateb i'r argyfwng iechyd meddwl ym mhob ardal bwrdd iechyd erbyn mis Ebrill 2022. Fe all unrhyw un eu defnyddio nhw, beth bynnag yw eu hoedran a'u hamgylchiadau, a bydd y rhain yn galluogi unigolion i gael gafael ar unwaith ar arwyddbyst, a gweithiwr iechyd meddwl hyfforddedig neu atgyfeiriad at wasanaethau arbenigol. Rydym ni wedi gwella trawsgludiad iechyd meddwl hefyd yn rhan o'r llwybr gofal argyfwng, gyda chynllun treialu yn cael ei redeg gan St John Cymru. Mae'r cymorth hwn wedi darparu cludiant i dros 400 o bobl eisoes, gydag amser ymateb cyfartalog o un awr. Mae ganddo'r potensial i leihau'r pwysau ar yr heddlu, y gwasanaeth ambiwlans a staff y gymuned iechyd meddwl wrth ddarparu cludiant priodol a charedig i'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Rydym ni wedi sefydlu'r uned mamau a babanod amenedigol arbenigol yn Nhonnau, ac mae honno'n gwneud gwahaniaeth sylweddol eisoes i famau newydd sydd ag angen cymorth fel hyn ac sy'n gallu cael gafael ar hwnnw'n nes i'w cartrefi erbyn hyn. Mae mwy i'w wneud eto, ac rwy'n benderfynol o weld cynnydd yng nghyfradd y byrddau iechyd sy'n cyrraedd safonau Coleg Brenhinol y Seiciatryddion ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol cymunedol ac ar gyfer cleifion mewnol. Mae'n rhaid i ni sicrhau bod gennym ni ddarpariaeth arbenigol ar gyfer mamau a babanod sy'n hygyrch i famau yn y gogledd, ac rwy'n benderfynol o weld hynny'n digwydd cyn gynted â phosibl. Mae'r cynllun cyflawni yn cynnwys camau gweithredu hefyd ynglŷn ag atal hunanladdiad, ac rydym ni'n gweithio gyda'r heddlu, y GIG ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i sefydlu system wyliadwriaeth amser real i Gymru. Iechyd Cyhoeddus Cymru a fydd yn cynnal honno, ac fe fydd y dull hwn yn hanfodol i'n hymdrechion ni o ran atal hunanladdiad ond i sicrhau ymateb amserol a phriodol hefyd i'r rhai sydd mewn profedigaeth oherwydd hunanladdiad yng Nghymru. Ategwyd yr holl welliannau hyn gan gynnydd mewn buddsoddiad o bron i £128 miliwn dros y pum mlynedd diwethaf i'r gyllideb a neilltuwyd ar gyfer iechyd meddwl. Dim ond eleni, rydym ni wedi darparu £42 miliwn ychwanegol, ac mae ein rhaglen lywodraethu ni'n parhau â'n hymrwymiad ni i flaenoriaethu buddsoddiad mewn iechyd meddwl. Fe wyddom ni mai'r gweithlu yw swm a sylwedd ein gwasanaethau ni yn y GIG, ac mae pwysau ar y gweithlu yn her wirioneddol o ran symud ymlaen. Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru ar y trywydd iawn i ymgynghori ar strategaeth hirdymor ar gyfer y gweithlu iechyd meddwl erbyn diwedd eleni, yn ogystal â sicrhau atebion mwy uniongyrchol i ymateb i'r galw. Mae gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol yn hanfodol bwysig i'r rhai sydd ag angen y gyfradd uwch honno o gymorth. Mae ein cynllun cyflawni ni'n tynnu sylw at y camau yr ydym ni'n eu cymryd i ddatblygu strategaeth ddiogel i gleifion mewnol a chymorth pellach ar gyfer ymyrraeth gynnar mewn gwasanaethau seicosis. Er hynny, dim ond un rhan yn unig o'r her yw darpariaeth arbenigol i gynnig y cymorth priodol ar yr adeg iawn yn y lle iawn. Drwy fabwysiadu dull o ymyrraeth ac atal yn gynnar, fe allwn ni ymateb i'r her hon a lleihau'r galw am wasanaethau arbenigol. Mae pob cyd-Aelod yn y Cabinet wedi cytuno y bydd effeithiau ar iechyd meddwl yn cael eu hystyried a byd cefnogaeth ar draws y Llywodraeth. Mae ein dull system gyfan ni'n enghraifft ymarferol dda o hyn, lle rwy'n gweithio yn agos gyda'r Gweinidog Addysg a'r Gymraeg i ysgogi cynnydd. Mae'r gwaith hwn, ynghyd â gweithredu ein fframwaith NEST ni drwy gyfrwng byrddau partneriaeth rhanbarthol, yn sail i'n dull ataliol tymor hwy. O ran cyflogaeth, rydym ni'n parhau i weithredu ar sail ystyried cyflogadwyedd fel elfen ddiogelu allweddol ar gyfer iechyd meddwl. Fe fyddwn ni'n parhau i roi cyngor a chymorth i gyflogwyr drwy'r rhaglen Cymru Iach ar Waith ac rydym ni wedi ehangu ein rhaglenni cyflogadwyedd iechyd mewn gwaith a'r tu allan i'r gwaith fel roedd y pandemig yn datblygu. Fe fydd y rhain yn dod yn bwysicach wrth i gymorth megis ffyrlo ddod i ben. O ran tai, rydym ni wedi sicrhau bod iechyd meddwl yn cael ei integreiddio yn rhan o raglenni allweddol, gan gynnwys y cynllun ailgartrefu cyflym drwy ddigartrefedd. Mae tlodi a chaledi ariannol yn sbardun i anhwylder meddyliol, ac rydym ni'n integreiddio ein dull ni o ymdrin â darpariaeth iechyd meddwl a chymorth gyda dyledion. Yn ystod blwyddyn gyntaf y gronfa gynghori sengl fe sicrhawyd bron i £44 miliwn o fudd-daliadau lles ychwanegol, ac mae hyn yn cynnwys cefnogi pobl â phroblemau iechyd meddwl. O ran deddfwriaeth, rydym ni wedi trafod yn eang y manteision posibl i Gymru yn sgil diwygiadau arfaethedig i Ddeddf Iechyd Meddwl y DU 1983 gyda phartneriaid a rhanddeiliaid. Fe fyddaf i'n ysgrifennu at Ysgrifennydd Iechyd Gwladol y DU i ystyried a ddylid ymestyn y ddeddfwriaeth a gyflwynwyd i ddiwygio'r Ddeddf i Gymru, ac eithrio'r cynigion hynny lle mae gennym fesurau diogelu cyfredol neu fwy cadarn ar waith eisoes—er enghraifft, ar gyfer cynllunio gofal a thriniaeth yng Nghymru. Fe fyddai hi'n rhaid gwneud hyn, wrth gwrs, mewn ffordd a fyddai'n parchu'r setliad datganoli a chonfensiwn Sewel. Fe fyddai amodol ar y Senedd yn pasio cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Fe fydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori yn fuan hefyd ar reoliadau newydd i Gymru ar gyfer cefnogi'r gwaith o weithredu'r mesurau i ddiogelu rhyddid, a fydd yn disodli'r mesurau cyfredol i ddiogelu rhag colli rhyddid. Fe fydd y mesurau diogelu pwysig hyn yn cynnig system fwy effeithiol, gan roi'r unigolyn sy'n cael ei amddifadu o'i ryddid wrth galon y broses o wneud penderfyniadau, ac fe fydd yn integreiddio'r mesurau i ddiogelu rhyddid yn well i gynllunio gofal, cymorth a thriniaeth bob dydd. Rwyf i wedi rhoi cipolwg i chi ar gyflawni yn y fan hon heddiw. Yn gyffredinol, o ystyried yr her sylweddol barhaus i wasanaethau, rydym ni'n gwneud cynnydd mawr o ran ein cynllun cyflawni ni, 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl'. Ac er fy mod i'n cael fy nghalonogi gan y cynnydd hwn, nid wyf i'n bychanu'r her barhaus sydd o'n blaenau ni. Eto i gyd, rwyf i wedi ymrwymo i sbarduno camau gweithredu ar draws y Llywodraeth a chyda rhanddeiliaid i wella iechyd meddwl a llesiant y genedl yn rhan o'n dull ehangach ni i gael adferiad wedi'r cyfnod anodd iawn hwn. Diolch yn fawr. Llefarydd y Ceidwadwyr, James Evans. James Evans MS: Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, diolch yn fawr am eich datganiad chi. Fe hoffwn i sôn am Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd a'r arwyddocâd sydd gan y diwrnod hwnnw i godi proffil y bobl hynny sy'n dioddef oherwydd cyflyrau iechyd meddwl. Ac rwyf i am ddymuno'r gorau ar goedd i'm cyfaill a'm cydweithiwr Andrew R.T. Davies, sydd gobeithio, yn brysio i wella, a'm cydweithiwr dewr Sam Kurtz hefyd, a fynegodd yn ddidwyll iawn yr wythnos diwethaf ei anawsterau ei hun gyda'i iechyd meddwl yn ystod y cyfnod clo. Rwy'n gobeithio, wrth godi anawsterau personol, y bydd hyn yn annog y bobl hynny sy'n dioddef yn dawel i geisio'r cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw. Gweinidog, fe adnewyddwyd y cynllun cyflawni iechyd meddwl, a pheth da yw i'r Llywodraeth ganolbwyntio ar weithio trawsadrannol, sy'n beth da i fynd i'r afael â phroblemau iechyd meddwl. Fe fydd hi'n rhaid i adrannau'r Llywodraeth i gyd ddod i'r adwy i ymdrin â hyn. Roeddech chi'n sôn eich bod chi wedi comisiynu gwerthusiad o'r strategaeth 10 mlynedd. A wnewch chi amlinellu pa fethodoleg a chraffu a ddefnyddir i sicrhau y gall y Senedd hon graffu ar y gwerthusiad pan gaiff hwnnw ei gyflwyno? Roeddech chi'n sôn hefyd fod angen cyflymu'r cynllun cyflawni, ac rwyf i'n cytuno yn llwyr â chi yn hynny o beth. Nid oes gennym ni amser i'w golli, ac mae gweithlu'r GIG yng Nghymru yn rhan allweddol o'r gwaith o sicrhau bod y cynllun cyflawni hwnnw'n cael ei gyflawni, a'i gyflawni ar garlam. Felly, Gweinidog, mae prinder recriwtio yn y gweithlu iechyd meddwl yn her. O ran cynlluniau'r gweithlu, yr wythnos diwethaf, roeddech chi'n dweud bod AaGIC yn gwneud cynnydd da o ran cynlluniau gweithlu tymor hwy. Felly, pryd ydych chi'n disgwyl i'r cynlluniau hyn gael eu cyhoeddi, a phan gaiff mwy o staff eu recriwtio, ym mha le y byddwch chi'n lleoli'r gweithwyr proffesiynol hyn? Roeddech chi'n sôn hefyd am y bwrdd cyflawni a goruchwylio yr ydych chi'n ei gadeirio ac rwyf i o'r farn fod hwn yn gam i'r cyfeiriad iawn, fel roeddech chi'n dweud, at sicrhau y gall gwasanaethau newid a diwallu'r anghenion o ran iechyd meddwl a ddaw i'r amlwg. Un peth a hepgorodd y datganiad yn fy marn i oedd safbwynt ar gymorth gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed i bobl ifanc. Fel rwyf i wedi dweud o'r blaen, mae nifer y bobl ifanc yn y ddalfa wedi cynyddu 666 y cant mewn pobl dan 16 oed sy'n cael eu dal ers mis Mawrth, ac fe ddiffiniwyd dwy ran o dair o'r rhain yn fenywaidd. Mae hwnnw'n ystadegyn brawychus, ac rwyf i'n credu y dylid ystyried hyn ar unwaith i geisio datrys y broblem hon. Mewn CAMHS, mae pedwar o bob saith o bobl yn adrodd mai llai na 50 y cant sydd wedi eu hasesu ar lefelau gwasanaeth cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol o fewn 28 diwrnod. Felly, a wnewch chi amlinellu pa ymdrechion a wnewch chi a'r bwrdd goruchwylio i ymchwilio ymhellach i'r ffigurau hyn a sicrhau bod y merched ifanc sydd wedi pasio ymyrraeth gynnar yn cael y gofal argyfwng hwnnw sydd ei angen arnyn nhw? Gyda hynny mewn golwg, mae canolfannau gofal argyfwng 24/7 yn hanfodol bwysig i sicrhau bod pobl yn cael y gofal ac yn yr amser priodol, fel roeddech chi'n dweud. Mae gofal brys yn hanfodol i helpu i achub bywydau pobl, a hefyd maen nhw'n lleihau'r pwysau ar wasanaethau ehangach, tybed pa gymorth arall y gellir ei roi i ddarparu'r canolfannau gofal argyfwng 24/7 hynny. Roeddech chi'n sôn am yr uned gofal mamau a babanod amenedigol yn Nhonnau, ac rwy'n croesawu hynny. Eto i gyd, rydych chi wedi dweud fod yna fylchau yn y gogledd. Felly, a wnewch chi amlinellu pa gynnydd a wnaethoch chi o ran llenwi'r bylchau, ac nid yn y gogledd yn unig, ond ar draws y canolbarth a'r gorllewin hefyd, fel bod y ddarpariaeth honno gennym ni ledled Cymru? Gweinidog, roeddech chi'n sôn hefyd am y gwaith gyda Llywodraeth y DU ynghylch yr angen i ddiweddaru'r Ddeddf Iechyd Meddwl, ac rwy'n croesawu'r gwaith traws-lywodraethol hwn ac o'r farn ei fod yn rhywbeth adeiladol iawn. Serch hynny, a ydych chi'n credu efallai y dylem ni ystyried cael Deddf iechyd meddwl wedi'i diweddaru yma yng Nghymru, a luniwyd yng Nghymru, a benderfynwyd gan y rhai sy'n llunio polisi yng Nghymru, i sicrhau bod gwasanaethau iechyd meddwl rhagorol gennym ni yma yng Nghymru? Fe wnaethoch chi grybwyll y rheoliadau diogelu rhyddid, ac rwy'n edrych ymlaen at weld y manylion hynny'n cael eu cyflwyno a chael trafodaethau ehangach gyda chi ynglŷn â hynny. Ac yn olaf, Gweinidog, a wnewch chi amlinellu eich prif flaenoriaethau chi nawr i wella gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru? Rwyf i o'r farn y byddai hi'n ardderchog i mi gael barnu neu arfarnu'r pump neu chwe phrif fesur a'r hyn yr ydych chi'n wir yn dymuno ei gyflawni yn ystod y tymor Seneddol cyntaf hwn. Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Lynne Neagle AC: Diolch yn fawr iawn i chi, James Evans. Roedd gennych chi gant a mil o gwestiynau a phwyntiau, ond, cyn i mi ddechrau ymateb i chi, a gaf innau fynegi fy nymuniadau gorau ar goedd i Andrew R.T. Davies am adferiad buan a dweud pa mor llesol i bawb yn fy marn i yw ei fod ef wedi dangos dewrder fel hyn wrth siarad, fel yn wir y gwnaeth Sam Kurtz yr wythnos diwethaf? Wrth wneud fel hyn, mae hynny'n helpu pawb. Felly, rwy'n anfon fy nymuniadau gorau iddo am adferiad buan. Os caf i ddechrau gyda'r pwyntiau a wnaeth James Evans am ein gwerthusiad ni o'r cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', mae hynny wedi dechrau eisoes, ac rydym ni wedi llunio cytundeb gyda phobl i gynnal y gwerthusiad hwnnw i ni mewn ffordd mor drylwyr ag y gallwn ni. Efallai y ceir ymgysylltu â rhanddeiliaid, ac ati, ac fe ddisgwylir i'r gwaith hwnnw ei hun gael ei gwblhau erbyn y flwyddyn nesaf—erbyn mis Medi 2022. Ac rwy'n credu wedyn y bydd yn rhaid i ni edrych ar yr hyn a ddysgwn ni o'r gwerthusiad hwnnw, oherwydd, yn amlwg, fe fydd yn rhaid i ni gael cynlluniau newydd wrth symud ymlaen. Ac rwy'n credu, bryd hynny, y byddem ni'n dymuno ymgysylltu â phwyllgorau perthnasol a chyda'r Senedd i sicrhau ein bod ni'n gwrando ar farn pawb yn hyn o beth hefyd. Ond mae hi'n hanfodol bwysig fod y cynllun a fabwysiadwn yn un a fydd yn gweithio i'r bobl a fydd yn cael y gwasanaethau. Roeddech chi'n sôn am y pwysau ar y gweithlu. Mae'r pwysau ar y gweithlu yn sylweddol iawn wir a dyma rywbeth yr wyf i'n canolbwyntio llawer o'm hamser a'm hymdrech arno. Fe fydd y cynllun yr ymgynghorir ag ef gan AaGIC a Gofal Cymdeithasol Cymru yn nodi mewn ffordd gynhwysfawr iawn, rwy'n gobeithio, y mannau hynny lle mae angen i ni fod â'r staff gwahanol. Fe wyddom ein bod ni wedi gweld rhywfaint o lwyddiant o ran denu seiciatryddion i ddod i weithio yng Nghymru, ond mae yna brinder mewn arbenigeddau eraill hefyd. Felly, fe ddylai'r darn cynhwysfawr hwnnw o waith sy'n cael ei wneud gan AaGIC roi'r darlun llawn hwnnw inni. Fe ddylai hynny gael ei gwblhau erbyn diwedd eleni, ac yna fe fyddwn ni'n ymgynghori. Ond nid ydym ni'n gorffwys ar ein bri yn y cyfamser. Mae AaGIC yn edrych ar ba gamau uniongyrchol y gallwn ni eu cymryd i lenwi swyddi gwag mewn ardaloedd lle mae prinder. Ac rwyf i wedi gofyn i swyddogion ystyried a allwn ni dreialu math o gymorth seicolegol—yn hytrach na chael seicolegwyr clinigol cwbl gymwysedig, y gallwn ni edrych ar ymyrraeth gynharach gyda chymorth seicoleg—sy'n cael ei defnyddio'n effeithiol iawn ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Fe fyddaf i'n cwrdd â nhw cyn bo hir i drafod yr hyn maen nhw'n ei wneud. O ran CAMHS, maen nhw'n parhau i fod yn brif flaenoriaeth i mi, yn union fel mae gweithredu'r diwygiadau system gyfan o 'Cadernid Meddwl' yn ganolog i'r hyn yr wyf yn ceisio ei wneud. Dyna pam yr wyf i wedi mynd i mewn i'r Llywodraeth, ac rwyf i wedi ymrwymo yn llwyr i gyflawni hynny. Rydym ni wedi gweld amrywiadau yn yr amser aros cyfartalog y bydd plant a phobl ifanc yn cael cymorth CAMHS arbenigol yn ystod y pandemig. Mae data dros y 12 mis diwethaf yn dangos mai 4.4 wythnos yw'r amser aros cyfartalog i gael apwyntiad cyntaf ar gyfer CAMHS arbenigol, ac mae hynny'n amrywio o dair i chwe wythnos. Mae'r data amseroedd aros diweddaraf ar gyfer darpariaethau iechyd meddwl sylfaenol i bobl ifanc dan 18 oed yn dangos bod 83 y cant o bobl ifanc wedi derbyn eu hasesiadau gwasanaeth iechyd meddwl sylfaenol lleol nhw o fewn wyth wythnos i'w hatgyfeirio. Fe welsom ni gynnydd sydyn yn yr atgyfeiriadau, ond diolch byth mae hynny bellach yn dangos arwyddion o arafu. Serch hynny, nid ydym ni'n hunanfodlon, ac mae sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu trin mewn ffordd amserol yn brif flaenoriaeth i mi. Rwy'n cyfarfod â'r is-gadeiryddion yn rheolaidd, mae swyddogion yn cael trafodaethau rheolaidd, parhaus fel hyn gyda byrddau iechyd i ysgogi perfformiad, a phan oedd gennyf bryderon penodol am berfformiad bwrdd iechyd, roeddwn yn cael cyfarfod arbennig yno i drafod eu perfformiad nhw a cheisio sicrwydd eu bod nhw'n mynd i'r afael â'r mater hwnnw gyda'r brys haeddiannol. Rwy'n nodi eich croeso chi i'r ddarpariaeth gofal argyfwng 24 awr. Rwy'n credu ein bod ni ar y trywydd iawn i gyflawni hynny. Mae hwn yn ymrwymiad mawr, yn newid mawr, ond rwy'n ffyddiog y byddwn ni'n cyrraedd yno erbyn diwedd eleni, ac fe fyddwn ni mewn sefyllfa bryd hynny lle bydd pobl yn gallu ffonio 111 ar gyfer gofal iechyd meddwl yng Nghymru. Ond ar lefel is na hynny, rydym ni'n cynnal ymarfer hefyd lle mae'r uned gyflawni wedi bod yn ymweld â'r holl fyrddau iechyd i drafod y gwasanaethau argyfwng sy'n gweithredu ar gyfer plant a phobl ifanc yn benodol, ond yn gyffredinol hefyd. Fe fyddan nhw'n gwneud argymhellion ynghylch beth arall y mae angen i ni ei wneud i wella'r cymorth argyfwng y tu hwnt i'r llinell ffôn honno. Felly, mae hon yn flaenoriaeth fawr i mi. Diolch i chi am eich croeso i'r cydweithio ar y Ddeddf Iechyd Meddwl. Yn amlwg, mae hi'n bwysig, lle gallwn ni weithio gyda Llywodraeth y DU mewn ffordd adeiladol, ein bod ni'n gwneud felly. Roeddech chi'n gofyn a ddylem ni fod â chyfraith newydd i Gymru o ran iechyd meddwl. Fy ateb gonest ac ystyriol i yw nad honno yw'r her sy'n ein hwynebu ni ar hyn o bryd. Rydym ni'n gwybod pa bethau sydd angen iddyn nhw ddigwydd. Mae gennym ni Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, a luniwyd yng Nghymru gan Aelod Ceidwadol, Jonathan Morgan, a ddygodd hynny drwy'r Senedd hon. Ein her ni yw sicrhau ein bod ni'n gweld cyflawniadau ledled y system gyfan. Felly, nid wyf i o'r farn mai ymwneud â deddfwriaeth y mae hynny fel y cyfryw, ond rydym ni'n hapus iawn i adeiladu ar y cyfleoedd deddfwriaethol sy'n codi lle maen nhw'n ymgyflwyno. Yn olaf, o ran fy mlaenoriaethau i, fy mlaenoriaeth i yw sicrhau bod pawb yng Nghymru, ond plant a phobl ifanc yn arbennig felly, yn gallu cael gafael ar gymorth iechyd meddwl amserol pan fydd ei angen arnyn nhw, a symud y system gyfan yng Nghymru, ar yr un pryd â hynny, tuag at un o atal ac ymyrryd yn gynnar, fel nad oes angen am y gwasanaethau arbenigol hynny ar gymaint o bobl yn y lle cyntaf. Felly, dyna sy'n ysgogi fy ngwaith i a'r hyn sy'n mynd â'm hamser i. Diolch i chi. Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mi wnaf i, os caf i, anfon fy nymuniadau gorau i Andrew R.T. Davies. Dwi eisiau gyrru dymuniadau gorau i bawb, wrth gwrs, sydd yn wynebu heriau tebyg lle bynnag y bôn nhw. Wrth gwrs, y gwir amdani ydy ein bod ni mewn sefyllfa freintiedig i allu gwneud llawer mwy na dymuno'n dda i bobl mewn geiriau. Mae Llywodraeth yn gallu gweithredu, rydym ni i gyd yn gallu dal y Llywodraeth i gyfrif, a bod yn benderfynol i beidio â bodloni tan ein bod ni'n gwybod bod gennym ni'r gwasanaethau yn eu lle y mae pobl Cymru eu hangen. Achos rydym ni yn wynebu argyfwng. Ac efallai mai'r peth sydd fwyaf rhwystredig ydy arafwch y cynnydd, er gwaethaf mor amlwg ydy'r argyfwng hwnnw. Lleiafrif sydd yn cael triniaeth o gwbl am iechyd meddwl, ac o'r rheini sydd yn cael triniaeth, mae llawer, wrth gwrs, yn gorfod aros yn rhy hir. Dwi yn croesawu, yn sicr, y ffaith bod adroddiad wedi cael ei gomisiynu gan y Dirprwy Weinidog i ddysgu mwy am lle mae'r cynnydd yn digwydd, lle dydy'r cynnydd ddim yn ddigwydd. Mi wnaf innau ychwanegu cwestiwn yn gofyn am eglurder, ychydig bach mwy, am y gwaith hwnnw. Pwy fydd yn gwneud hwnnw? Mae'n bwysig, dwi'n meddwl, gwybod bod yna olwg annibynnol yn mynd i fod yn cael ei gymryd ar hyn. Mi ddywedodd y Dirprwy Weinidog yn ei hateb eiliad yn ôl y bydd y gwaith wedi ei gwblhau erbyn—dwi'n meddwl mis Medi y flwyddyn nesaf ddywedoch chi. Fydd yr adrodd yn ôl yn digwydd erbyn mis Medi, ynteu gorffen y gwaith casglu fydd yn digwydd erbyn hynny? Achos eisiau annog pethau i symud ymlaen mor gyflym â phosibl ydw i. A hefyd, oherwydd y broblem rydym ni'n gwybod sydd gennym ni efo gwasanaethau gofal iechyd meddwl i blant a phobl ifanc, allaf i gael sicrwydd y bydd yr asesiad yn cynnwys beth sy'n digwydd o ran cynnydd ym maes cefnogaeth i blant a phobl ifanc, yn benodol? Rydym ni wedi cael rhestr gan y Dirprwy Weinidog heddiw o wahanol ffyrdd, yn cynnwys ambell i fenter newydd, mae pobl yn gallu cael mynediad at gefnogaeth. Dydy'r rheini ddim yn gweithio i bobl os dydyn nhw ddim yn gwybod amdanyn nhw, wrth gwrs, a dwi'n meddwl bod yna lawer o bobl sydd yn teimlo nad ydyn nhw'n gwybod lle i fynd i chwilio am gefnogaeth. Felly, tybed all y Dirprwy Weinidog ddweud wrthym ni pa waith sydd yn cael ei wneud i sicrhau bod yna gryfhau yn digwydd ar y signposting yna, sydd mor hanfodol er mwyn i bobl sydd â problem fechan, o bosib, rŵan, gael yr help amserol sydd ei angen arnyn nhw er mwyn atal, gobeithio, hynny rhag troi yn broblem fwy dwys a allai olygu angen triniaeth seiciatrig uwch. Yn olaf, dwi'n troi at ddata a thryloywder. Mae Mind Cymru wedi codi pryderon dros y blynyddoedd, mae'n rhaid dweud, ynglŷn â'r broses o gasglu'r data sydd ei angen i fesur cynnydd yn strategaeth y Llywodraeth, achos dydy'r set ddata graidd iechyd meddwl rydyn ni wedi bod yn ei ddisgwyl yn hir iawn amdani yn dal ddim yn weithredol. A dwi'n dweud ein bod ni'n disgwyl yn hir—dwi'n meddwl fy mod i'n iawn i ddweud bod y set ddata i fod yn barod yn wreiddiol erbyn mis Rhagfyr 2014. Wnaeth yr amserlen honno ddim cael ei chyrraedd. Mae wedi llithro eto, a dwi'n meddwl mai'r dyddiad sydd gennym ni bellach ydy y bydd o'n weithredol erbyn 2022. Felly, pa bryd? Dechrau 2022? Rydyn ni'n cael sicrwydd bod hyn yn mynd i gael ei weithredu y flwyddyn nesaf. Ydy'r Gweinidog yn derbyn mewn difrif nad oes posib mesur llwyddiant na chynnydd ar y strategaeth heb fod y mesuryddion a'r data craidd yn eu lle gennym ni? Lynne Neagle AC: Diolch am y cwestiynau yna, Rhun. Rwy'n llwyr gytuno ein bod ni mewn sefyllfa yn y Siambr hon lle y gallwn ni weithredu ac nid dim ond siarad am bethau, a dyna'n union yr wyf i'n awyddus i'w wneud. A gaf i gywiro camgymeriad a wneuthum i am ddyddiad cwblhau'r gwerthusiad o'r cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl'? Mis Ebrill 2022 fydd hynny, mewn gwirionedd. Roeddwn i'n cael trafferth i gael gafael ar fy mhapurau gynnau. Felly, yn gynharach nag y dywedais i. Ni allaf i weld unrhyw reswm pam na fydd yn barod bryd hynny, ac ni allaf weld unrhyw anhawster i sicrhau bod hwnnw ar gael. Yn sicr, gyda gwerthusiadau eraill a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, fe gyhoeddwyd y rhain a'u rhoi nhw ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, fe ddylwn i egluro mai gwerthusiad o'r cynllun cyflawni cyfan yw hwn, yr wyf i wedi ceisio rhoi rhagflas ohono i chi heddiw, ac nid yw'n cynnwys gwasanaethau iechyd meddwl uniongyrchol yn unig—mae'n cynnwys tai, cyngor ar fudd-daliadau, yr holl bethau hyn. Ni fyddwn i'n dymuno i chi feddwl mai dyma'r unig beth yr ydym ni'n ei wneud i dracio yr hyn sy'n digwydd mewn gwasanaethau iechyd meddwl. Fel y dywedais i yn y datganiad, rwy'n cadeirio bwrdd cyflawni a goruchwylio gweinidogol, a sefydlwyd mewn gwirionedd gan fy rhagflaenydd i, Eluned Morgan, oherwydd roeddem ni'n cydnabod bod angen cael goruchwyliaeth gryfach o'r system iechyd meddwl gyfan ni yng Nghymru. Mae hwnnw'n cyfarfod bob deufis, a chaiff ei gadeirio gennyf fi, ac mae gennyf adroddiad ar hynny ynglŷn â phob ffrwd waith unigol sy'n cael ei datblygu ar iechyd meddwl yng Nghymru. Mae'n rhaid i bob ffrwd waith unigol adrodd am yr hyn y mae'n ei wneud. Mae'n rhaid tynnu sylw at unrhyw risgiau, ac mae'n rhaid gwerthuso'r gwaith. Corff cymharol newydd yw hwn, ond rwy'n teimlo ei fod yn un sy'n magu stêm ac fe fydd yn helpu i roi'r sicrwydd hwnnw i ni, hefyd, wrth gwrs, fel mae'r gwerthusiad cyfunol o'r cynllun cyflawni yn ei wneud. Roeddech chi'n cyfeirio hefyd at CAMHS yn eich sylwadau. A gaf i eich sicrhau chi hefyd, yn ogystal â'r bwrdd cyflawni a goruchwylio gweinidogol, fod gennym ni'r grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol ar y dull system gyfan hefyd, a chaiff hwnnw ei gadeirio ar y cyd gan Jeremy Miles a minnau? Arferai hwnnw fod yn grŵp gorchwyl a gorffen ar y dull ysgol gyfan, ond yn dilyn 'Cadernid meddwl. Ddwy flynedd yn ddiweddarach', roeddem ni'n cydnabod, er bod llawer o ganolbwyntio ar y dull ysgol gyfan, fod angen i ni sicrhau nad oeddem ni'n arafu o ran y gwasanaethau mwy arbenigol. Felly, fe addaswyd y grŵp gorchwyl a gorffen hwnnw i gwmpasu'r system gyfan a fyddai'n effeithio ar blentyn, o'r ysgol hyd at y gwasanaethau haen 4. Rwy'n gobeithio bod hynny'n rhoi rhywfaint o sicrwydd i chi fod yna nifer o systemau ar waith i graffu ar berfformiad yn y maes hwn a'i sbarduno ymlaen. Roeddech chi'n sôn am y set ddata graidd, ac rwy'n cydnabod yn llwyr ei bod hi'n hanfodol i ni fod â data os ydym ni'n dymuno gwella gwasanaethau. Cyn i mi ddod yn Weinidog, roeddwn i fy hun yn galw yn gyson am y set ddata graidd. Nid wyf i'n cydnabod y dyddiad y dylid bod wedi ei gyflawni erbyn 2014, er fy mod i'n cydnabod nad ydym ni wedi gwneud cymaint o gynnydd ag y byddem ni wedi ei ddymuno, ac mae hynny'n rhannol oherwydd y pandemig. Ond dim ond i gadarnhau i'r Aelod, fe gafodd y gwaith hwn ei ail-lansio ym mis Medi fel bwrdd canlyniadau a mesurau iechyd meddwl, ac fe rannwydy gwaith hwn yn ddau gam, sy'n datblygu fframwaith canlyniadau iechyd meddwl integredig a chynllun cyfathrebu. Fe ddylid cwblhau'r gwaith hwnnw erbyn mis Mawrth 2022, ac yna fe fydd yna gyfnod o roi hynny ar waith. Ond i sicrhau'r Aelod hefyd fy mod i'n cydnabod ei safbwynt ef yn llwyr o ran yr angen am ddata cadarn ac fe fydd bwrw ymlaen â hynny'n flaenoriaeth i mi. Ken Skates AC: Diolch, Gweinidog, am gyflwyno'r datganiad pwysig hwn heddiw. Yn Aelod unigol o'r Senedd ac yn gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar iechyd meddwl hefyd, fe hoffwn i fynegi fy nymuniadau gorau i Andrew R.T. Davies a dweud pa mor drawiadol oedd ei ddiffuantrwydd ef, a diffuantrwydd Sam Kurtz yn wir, yr wythnos diwethaf. Fe ddywedodd C.S. Lewis un tro ein bod ni'n darllen er mwyn gwybod nad ydym ni ar ein pennau ein hunain, ac mae llawer o bobl a fydd wedi darllen sylwadau Andrew R.T. Davies yr wythnos diwethaf wedi cael cysur o wybod nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain. Gweinidog, fe aethom ni i mewn i'r pandemig COVID hwn gydag angen cynyddol i fynd i'r afael â salwch meddwl ac emosiynol ledled ein poblogaeth ni ac atal hynny, ac rydym ni'n codi o'r pandemig gyda'r angen hwnnw yn fwy dybryd a dwys, hyd yn oed, yn arbennig o ran plant a phobl ifanc, fel y gwnaethoch chi nodi heddiw. Yn wir, mae Barnardo's yn cynhyrchu arolwg ymarferwyr bob chwarter ledled y DU, ac ers mis Ebrill y llynedd, mae ymatebwyr wedi nodi'r cynnydd cyson mewn materion iechyd meddwl a llesiant ymhlith plant, pobl ifanc a theuluoedd fel y mater pwysicaf un. Ac wrth gwrs, yn y gweithle, fe wyddom ni fod presenoliaeth bellach yn costio mwy i fusnesau nag absenoliaeth. Mae tystiolaeth yn dod i'r amlwg hefyd sy'n cysylltu tuedd y corff i fod yn agored i gael canser ag effaith gyfunol ynysu cymdeithasol a chyfraddau uwch parhaus o cortisol sy'n dod yn sgil llawer o salwch meddwl yn ogystal â straen. Ac mae hyn yn amlygu ymhellach— A wnaiff yr Aelod ofyn ei gwestiwn nawr, os gwelwch chi'n dda? Ken Skates AC: Mae'n amlygu ymhellach yr angen i ni fynd i'r afael â salwch meddwl. Nawr, un cwestiwn yn benodol, o ran gweithio ar draws y Llywodraeth, ac rydych chi wedi cyfeirio at hyn heddiw, a wnewch chi ymhelaethu ar sut yr ydych chi'n gweithio gyda'r adrannau addysg ac economi yn arbennig i fynd i'r afael â salwch meddwl? Ac a wnewch chi nodi hefyd sut yr ydych chi'n hybu'r adnodd therapi gwybyddol ymddygiadol ar-lein sydd wedi bod mor boblogaidd hyd yma ac a fydd o werth amhrisiadwy i lawer iawn o bobl? Lynne Neagle AC: Diolch, Ken. A diolch hefyd am y gwaith yr ydych chi'n ei wneud wrth gadeirio'r grŵp trawsbleidiol, yr wyf i'n ei werthfawrogi yn fawr iawn hefyd. Fel y gwnaethoch chi dynnu sylw ato, mae'r ffaith bod y gwaith o ran iechyd meddwl yn digwydd ar draws y Llywodraeth yn gwbl hanfodol, ac mae llawer iawn o waith yn digwydd ar draws y Llywodraeth yn y maes hwn. Rwy'n gweithio yn agos gyda'r Gweinidog Addysg i ddarparu'r dull system gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl plant ac rwy'n teimlo ein bod ni'n gweld cynnydd da yn y maes hwn ac fe fyddwn ni'n clywed mwy am hynny cyn bo hir. Mae gennym ni nifer o brosiectau cyflogaeth hefyd a gynlluniwyd i gefnogi pobl sydd mewn perygl o adael cyflogaeth oherwydd bod ganddyn nhw broblemau iechyd meddwl, ac mae gennym ni raglen cymorth cymheiriaid hefyd a gynlluniwyd i sicrhau bod rhai o'r bobl sydd bellaf o'r gweithle yn gallu dychwelyd i gyflogaeth. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn nad ydym ni'n gorffwys yn y fan honno, ac rwy'n falch iawn o ddweud fy mod i wedi cael trafodaethau cadarnhaol iawn gyda chyd-Aelodau ar draws y Llywodraeth am yr angen i gydweithio ynglŷn ag iechyd meddwl. Rwy'n gweld iechyd meddwl yn fusnes i bawb yn y Llywodraeth. Rydym ni'n mabwysiadu dull gwahanol o ymdrin â'r gyllideb eleni, ac y byddwn ni'n cael trafodaethau thematig ac mae un o'r rhain wedi bod yn ymwneud â'r angen i ddiogelu cyllid ym maes iechyd meddwl a sicrhau nad yw penderfyniadau a wneir mewn adrannau eraill yn achosi anfantais i bobl â phroblemau iechyd meddwl. Felly, rwy'n credu ein bod ni'n gwneud cynnydd da. Roeddwn i'n cyfeirio hefyd at y materion o ran tai, ond mae llawer mwy y gallwn ni ei wneud ac rwyf i o'r farn ein bod ni'n eiddgar i gyd i wynebu'r her honno. A dim ond dweud—fe ddylwn i fod wedi dweud mewn ymateb i Rhun hefyd—ein bod ni'n cynyddu ein gweithgarwch ni i hybu'r cymorth haen 0 sydd ar gael. Mae'r llinell gymorth C.A.L.L. a SilverCloud ar y cyfryngau cymdeithasol wedi dod yn llawer mwy i'r amlwg. Fe wn i fod fy rhagflaenydd i, Eluned Morgan, wedi gofyn i fyrddau iechyd sicrhau eu bod nhw'n llawer mwy amlwg o ran hysbysebu sut y gall pawb gael gafael ar eu gwasanaethau nhw. Ond, wrth gwrs, mae mwy y gallwn ni ei wneud bob amser. Ond rwyf i'n canolbwyntio ar geisio gwella ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael ac mae llawer o gefnogaeth ar gael yno, yn enwedig ar yr haen 0 honno, yr ydym ni wedi buddsoddi llawer iawn ynddi hi. Altaf Hussain AS: Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i godi un neu ddau o gwestiynau ynglŷn â chynnydd o ran y cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' ac archwilio'r materion allweddol ar gyfer y cynllun nesaf. Rwyf i am gydnabod cyfraniad at y gwaith hwn hefyd gan y rhai sydd wedi byw trwy gyfnodau o salwch meddwl, am eu hegni a'u hymrwymiad nhw wrth ddarparu eu cyngor. Fy nghwestiynau i yw: er fy mod i'n croesawu'r diweddariad y prynhawn yma, a wnaiff y Gweinidog amlinellu sut yn union y mae'r rhai sydd wedi byw trwy gyfnodau o salwch meddwl wedi cyfrannu at y strategaeth iechyd meddwl ac unrhyw werthusiad o'r cynllun cyflawni? Fy ail gwestiwn i yw: rydych chi'n dweud yn eich datganiad y gallwn ni, drwy fabwysiadu dull ymyrryd ac atal cynnar, ymateb i'r her a lleihau'r galw ar wasanaethau arbenigol, a wnaiff y Gweinidog ystyried yr angen am wasanaethau damweiniau ac achosion brys iechyd meddwl i ddarparu'r ymyrraeth gynnar honno? Fy nhrydydd cwestiwn a fy un olaf i yw: fe hoffwn i groesawu'r gwaith sy'n cael ei wneud ar strategaeth hirdymor y gweithlu iechyd meddwl; a wnaiff y Gweinidog gadarnhau yn benodol pa fylchau o ran staffio y mae angen mynd i'r afael â nhw ac a oes gan y byrddau iechyd yr adnoddau ar gyfer recriwtio? Diolch i chi. Lynne Neagle AC: Diolch yn fawr iawn, Altaf Hussain, am y cwestiynau yna. Rydych chi yn llygad eich lle: mae profiad bywyd unigolion yn gwbl hanfodol, ac os ydym ni am gael polisïau effeithiol, mae'n rhaid i ni eu llunio nhw ar y cyd â phobl sydd â phrofiad bywyd. Mae gennym fewnbwn eisoes gan bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn gyffredinol, mewn gwirionedd, yn y gwaith yr ydym ni'n ei wneud. Mae'r grŵp rhanddeiliaid ieuenctid gennym ni sy'n llywio'r gwaith ym myd addysg. Rydym ni'n ymgynghori hefyd gyda Cymru Ifanc ynghylch iechyd meddwl, ac fe fyddaf i'n mynd i'w gweithdy nhw ar iechyd meddwl ymhen ychydig wythnosau. Ond, mae gennym ni bobl hefyd sydd â phrofiad bywyd sy'n ymwneud â'r cyngor partneriaeth, sy'n bwrw ymlaen â llawer o'r gwaith hwn ar draws y Llywodraeth hefyd. Ond, rwyf i bob amser yn agored i ystyried unrhyw beth arall y gallwn ni ei wneud i gael profiad bywyd pobl, ac un o'r meysydd y mae gennyf i ddiddordeb arbennig ynddo yw maes atal hunanladdiad, ac rwy'n credu bod gan bobl sydd â phrofiad bywyd swyddogaeth aruthrol yn y maes hwn. Roeddech chi'n sôn am adran damweiniau ac achosion brys iechyd meddwl. Yn fy marn i, mewn gwirionedd, nid ydym ni'n dymuno gweld pobl yn y fath gyflwr o argyfwng. Y lle olaf y byddem ni'n dymuno gweld pobl sydd mewn ing mawr yw mewn adran damweiniau ac achosion brys, mewn gwirionedd. Felly, yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud yw atal y problemau hynny rhag gwaethygu. Fe wyddom ni o'r gwaith a gomisiynwyd yn flaenorol gan Lywodraeth Cymru ar fynediad brys i wasanaethau'r GIG nad salwch meddwl yw llawer o'r problemau y mae pobl yn eu hymgyflwyno mewn argyfwng. Problemau dyled, tai, perthnasoedd ydyn nhw—y problemau bob dydd hynny sydd gan bawb ohonom ni ond sydd wedi mynd allan o reolaeth. Felly, ein dull ni o weithredu yw ceisio atal y problemau hynny a chefnogi pobl yn gynharach, ond gyda darpariaeth argyfwng ar gael pe byddai gwir angen hynny ar bobl. Fel y dywedais i mewn ymateb i James Evans, y gwaith manwl ar y bylchau yn y gweithlu ledled Cymru—. Mae hwn yn fater cymhleth oherwydd, yn amlwg, mae pob bwrdd iechyd yn wahanol. Mae ganddyn nhw boblogaethau gwahanol. Mae'r gwaith hwn yn cael ei wneud gan AaGIC a Gofal Cymdeithasol Cymru, a phan fyddan nhw wedi cwblhau'r gwaith hwn ac wedi llunio'r cynllun, yna fe fydd yn rhaid i ni edrych ar yr adnoddau. Ond, o'm rhan i, yn Weinidog, mae diogelu gweithlu yn her allweddol o ran cyflawni'r diwygiadau yr ydym ni'n awyddus i'w gweld. Felly, fe fyddaf i'n sicr yn gwneud popeth sydd yn fy ngallu i'ch sicrhau chi y byddwn ni'n dod o hyd i'r adnoddau y mae angen i ni eu cael. Mabon ap Gwynfor AS: Weinidog, 10 mlynedd yn ôl, profodd etholwr i fi ddirywiad yn ei iechyd meddwl, a olygodd ei fod o'n gorfod mynd am ofal arbenigol. Presgreibiwyd cyffuriau gwrthiselder a gwrthseicotig iddo, ac mae o wedi bod yn eu defnyddio nhw ers hynny. Ond, er hynny, dydy o ddim wedi cael adolygiad o'r feddyginiaeth yma ers y cyfnod cyntaf—dros 10 mlynedd. Aeth o am adolygiad i'r ysbyty lleol, ond dywedwyd wrtho y byddai'n rhaid iddo gael referral oddi wrth y meddyg teulu. Dywedodd y meddyg teulu yn ei dro ei fod o'n methu â'i helpu fo achos ei fod o'n methu â presgreibio neu addasu meddyginiaeth o'r fath. Roedd y claf mewn cylch seithug. A wnewch chi, Weinidog, felly sicrhau y byddwch chi'n rhoi canllawiau clir ynghylch pa mor aml y dylid adolygu meddyginiaeth wrthseicotig, a phwy all ei hadolygu, a bod cleifion sydd mewn sefyllfa fregus iawn yn derbyn dealltwriaeth glir a syml o natur y feddyginiaeth, pa mor aml y caiff ei hadolygu, a phwy fydd yn gwneud yr adolygu, gan osgoi sefyllfa ble mae claf yn cael ei wthio o un rhan o'r gwasanaeth i'r llall, heb fod neb yn cymryd cyfrifoldeb, a chleifion yn mynd ar goll yn y system? Lynne Neagle AC: Diolch yn fawr i chi am y cwestiwn yna, ac mae hi'n ddrwg iawn gennyf i glywed bod eich etholwr chi wedi cael profiad o'r fath. Yn amlwg, dyma rywbeth na ddylai fod wedi digwydd, a phe byddech chi'n ysgrifennu ataf i gyda manylion yr etholwr, fe fyddaf i'n sicr o geisio mynd ar drywydd hynny gyda'r bwrdd iechyd. Ond, rwy'n hapus iawn hefyd i edrych ar y mater ehangach y gwnaethoch chi ei godi ynghylch yr angen i gael arweiniad ar amseru, ac ati, ar gyfer adolygiadau o feddyginiaethau. Fe ddylai pawb gael adolygiadau cyson o'u meddyginiaethau nhw, boed hynny ar gyfer eu hiechyd corfforol neu feddyliol nhw, ac mae hwnnw'n ddiffyg difrifol os nad yw hynny wedi digwydd. Ond, yr hyn yr hoffwn ei ddweud hefyd yw, yr hyn y gwnaethoch chi ei ddisgrifio—y math hwnnw o gylch seithug o wasanaethau—yw'r hyn yr ydym ni, yn y Llywodraeth, wedi ymrwymo i'w ddirwyn i ben. Yn ein rhaglen lywodraethu ni, ni fydd yna ddrws anghywir i bobl â phroblemau iechyd meddwl. Mae hynny'n berthnasol i oedolion a phlant, a dyna'r hyn yr ydym ni'n awyddus i'w weld. Ond, pe byddech chi'n ysgrifennu ataf i, fe fyddwn i'n hapus iawn i fynd ar drywydd sefyllfa eich etholwr chi. Huw Irranca-Davies AC: Er fy mod i'n croesawu'r datganiad hwn, rwy'n nodi nad yw'r pethau hyn yn bodoli mewn rhyw wagle. Os cyflawnir yr uchelgais a'r camau gweithredu yn hyn o beth, fe fyddan nhw'n cael effaith wirioneddol, ddiriaethol ar ein hetholwyr ni, yn enwedig y rhai a oedd yn bresennol ym mwrdd crwn iechyd meddwl Pen-y-bont ar Ogwr a drefnwyd gan fy nghyfaill da, Sarah Murphy, y gwnaethom ni ei lywyddu ar y cyd yr wythnos diwethaf. Fe godwyd llawer o'r materion yr ydych chi wedi cyfeirio atyn nhw, yn rhyfedd iawn, yn yr adroddiad hwn: atgyfeiriadau; cyfeirio; a pharhad cyllid, yn rhyfedd iawn, ar gyfer rhai o'r sefydliadau cymorth ehangach sydd ar lawr gwlad. Felly, a gaf i ofyn i'r Gweinidog: pa lefel o ffydd sydd gennych chi y bydd ein hetholwyr ni yn ardal iechyd Cwm Taf yn cael mynediad at ymyrraeth gynnar yn gyflym ac yn amserol, sy'n rhywbeth allweddol, ond at wasanaethau acíwt hefyd? Beth all hi ei wneud i fonitro cynnydd yn y byrddau iechyd unigol, a rhannu'r data hynny gyda ni? Ac a wnaiff hi, fel dywedodd Aelodau eraill o'r Senedd, ymgysylltu yn uniongyrchol â phobl sydd â phrofiad bywyd gwirioneddol—gwrandewch ar eu profiad nhw ynghylch a yw pethau yn wir yn gwella ar y cyflymder y mae hi'n dymuno ei weld hefyd, ac y mae ein hetholwyr ni'n dymuno ei weld, yn sicr? Lynne Neagle AC: Diolch yn fawr iawn, Huw, ac a gaf i ddiolch i chi a Sarah am y bwrdd crwn y gwnaethoch chi ei drefnu? Rwyf i o'r farn fod pethau fel hyn yn gyfle arbennig o werthfawr i wrando ar brofiad bywyd felly ar lefel leol, ac rwy'n eich canmol chi'n fawr am wneud fel hyn. Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod yr hyn a ddywedwn ni yn y Siambr hon yn cael ei wireddu. Rwy'n gobeithio fy mod i wedi rhoi rhagflas o rai o'r dulliau sydd o fewn y Llywodraeth, o ran y bwrdd cyflawni a goruchwylio gweinidogol a'r cyrff eraill sydd gennym ni. Yn ogystal â hynny, rwy'n cyfarfod ag is-gadeiryddion yn rheolaidd. Rwyf i wedi dweud wrth y byrddau partneriaeth rhanbarthol fy mod i am ddod o gwmpas i ymweld â phob un ohonyn nhw i drafod sut y maen nhw'n datblygu ein fframwaith NEST ni, sef ein dull ymyrraeth gynnar allweddol ar gyfer plant a phobl ifanc. Ond rwyf i'n bwriadu gwneud mwy yn y maes hwn trwy'r amser, ac fe fyddaf i'n sicr yn cadw'r hyn y gwnaethoch chi ei ddweud mewn cof hefyd o ran profiad bywyd i sicrhau ein bod ni'n gwneud popeth sydd yn ein gallu i sicrhau bod lleisiau'r rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl yn cael eu clywed yn llawn wrth ddatblygu ein polisïau ni. Ac yn olaf, Laura Anne Jones. Laura Anne Jones AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r datganiad hwn a'r cynllun cyflawni oherwydd fe all iechyd meddwl effeithio ar unrhyw un, heb ystyried ei dras, ei oedran na'i grefydd, ac mae hi'n hanfodol ein bod ni'n mynd i'r afael â hyn ar fyrder a chyda rhywfaint o frys. Mae hi'n galonogol iawn i mi, mewn gwirionedd, fod y Llywodraeth hon wedi eich penodi chi, Lynne, yn Weinidog Iechyd Meddwl, oherwydd fe wn i eich bod chi wedi ymgyrchu amdano ers talwm, ac rydych chi'n gwrando ar bobl ar draws y Siambr ac rydych chi'n gweithredu yn hyn o beth. Felly, rwyf yn croesawu hynna, ac rwy'n croesawu eich pwyslais chi ar ataliaeth hefyd. Rwyf i o'r farn mai dyna'r peth cwbl briodol i'w wneud. Fe hoffwn i achub ar y cyfle hwn hefyd, Dirprwy Lywydd, i roi canmoliaeth i bawb a siaradodd yn y ddadl iechyd meddwl ddiwethaf yr wythnos diwethaf. Gartref yn sâl yr oeddwn i'n gwrando ar honno, yn anffodus, ac ni allwn i roi fy araith, ond roeddwn i'n ei hystyried hi'n rhywbeth gwirioneddol dda ac yn ddadl rymus iawn, mewn gwirionedd, ac rwy'n credu y bydd hi'n gwneud rhyw gymaint o wahaniaeth wrth symud ymlaen. A'r elfen honno o fod yn agored a diffuant a fydd yn gwneud yn gwbl siŵr na fydd iechyd meddwl bellach yn bwnc sy'n cael ei osgoi, onid e, Gweinidog, ac yn dangos y gall materion iechyd meddwl effeithio ar unrhyw un. Roeddwn i am ddweud wrth yr Aelodau yn fy araith i'r wythnos diwethaf—yr oeddwn i am ofyn iddyn nhw godi eu dwylo— A gaf i atgoffa Aelodau nad araith mo hon? Mae gennych chi gwestiwn i'w ofyn. Rydych chi'n mynd dros eich amser. Laura Anne Jones AC: —a yw salwch meddwl wedi effeithio arnyn nhw neu os ydyn nhw'n adnabod unrhyw un sydd wedi cael ei effeithio gan salwch meddwl ac wedi cael sioc o ddeall pwy sydd wedi dioddef hynny, oherwydd mae hi'n bwysig bod eich cynllun chi'n gallu dangos y gall hyn effeithio ar unrhyw un, yn unrhyw le, fel gydag Andrew R.T. Davies, ac yn sicrhau bod cymorth ar gael i bawb, ym mhobman. I'r perwyl hwn, Gweinidog, fe hoffwn i chi ystyried Bil sy'n mynd drwy Senedd bresennol y DU ar hyn o bryd. Mae hwnnw'n sicrhau bod cydraddoldeb rhwng iechyd meddwl ac iechyd corfforol, a sicrhau bod hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl yn rhan o'r holl hyfforddiant cymorth cyntaf yn ein busnesau ni ledled y DU. Felly, a wnewch chi sicrhau bod hynny'n ymestyn i Gymru, a'i fod yn digwydd yng Nghymru? Ac yna fe hoffwn i ddweud hefyd o ran eich gwaith mewn ysbytai, os caf i, yn gyflym— Mae eich amser chi ar ben—[Anghlywadwy.] Laura Anne Jones AC: —bod llecyn diogel ar gyfer cleifion cymorth cyntaf iechyd meddwl y glasoed mewn ysbytai. Diolch i chi. Lynne Neagle AC: Diolch, Laura, am y pwyntiau yna, a diolch i chi am eich geiriau caredig, ac rwy'n awyddus iawn i weithio yn drawsbleidiol i gyflawni'r agenda hon, ac rwy'n sicr yn adleisio eich pwyntiau cadarn chi ynglŷn â'r cyfraniad a wnaeth didwylledd pob un. Rwy'n credu y dylem ni fod â chydraddoldeb rhwng iechyd meddwl ac iechyd corfforol, a dyna'r hyn yr wyf i wedi galw amdano ers amser maith yn y Senedd hon, a dyna'n union yr wyf yn ceisio ei ysgogi. Rwy'n ymwybodol o'ch diddordeb chi mewn cymorth cyntaf ym maes iechyd meddwl. Rwy'n credu bod hwnnw'n un o blith amrywiaeth o ddulliau y gellir eu defnyddio nhw i gefnogi pobl, ond, yn y cyd-destun hwn o addysg, fe fyddwn i'n dweud bod yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yn llawer mwy sylfaenol a radical na hynny mewn gwirionedd, ac fe'i cynlluniwyd i atal pobl rhag bod ag angen am y cymorth cyntaf hwnnw o ran iechyd meddwl. Ystyr hyn yw ymgorffori atal ac ymyrryd yn gynnar yn llawer cynharach, mewn gwirionedd. Ond rwy'n hapus iawn i edrych ar y ddeddfwriaeth yr ydych chi'n cyfeirio ati hi, ond cofiwch, da chi, fod ymyrraeth gynnar ac atal yn gwbl greiddiol i'r hyn yr ydym ni'n ei wneud. Diolch, Dirprwy Weinidog. 4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cefnogi lles meddwl mewn addysg Yr eitem nesaf yw datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg— cefnogi lles meddwl mewn addysg. Galwaf ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles. Jeremy Miles AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae cefnogi lles emosiynol a meddyliol dysgwyr yn hanfodol os ydyn ni eisiau helpu pob person ifanc i gyflawni ei botensial. Rydyn ni yma yng Nghymru yn gweithredu'n gyflym. Eleni yn unig rydym wedi darparu lefelau cyllid uwch nag erioed i gefnogi dysgwyr. O ganlyniad, mae 24,000 yn rhagor o sesiynau cwnsela wedi helpu 6,000 yn rhagor o blant a phobl ifanc. Rydyn ni wedi darparu cyllid i gyflwyno trefniadau lles cyffredinol a threfniadau sydd wedi'u targedu i bron 30,000 o blant a phobl ifanc. Rydym wedi helpu hyfforddi dros 4,000 o staff ysgolion, ac rydym wrthi yn cyflwyno ein cynlluniau peilot mewn ysgolion ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl i blant a'r glasoed yn genedlaethol, gyda mwy na 100 o ymarferwyr iechyd meddwl cyfwerth ag amser llawn yn cynnig cefnogaeth yn uniongyrchol mewn ysgolion. Ond mae mwy eto i'w wneud. Mae cefnogi ysgolion i ddatblygu dull o fynd i'r afael â chwestiwn iechyd meddwl a lles ar lefel ysgol gyfan yn allweddol i'n strategaeth. Dyna sut y bydd modd gwneud y newidiadau sylfaenol y mae pob un ohonom ni am eu gweld ar draws ein system addysg. Cyhoeddwyd y fframwaith ar sefydlu dull ysgol gyfan ym mis Mawrth, ac rydym wedi ei wneud yn ganllaw statudol. Jeremy Miles AC: Mae hwn yn ddarn hirdymor o waith ac rwyf am sicrhau bod ein gwaith mewn ysgolion yn cael ei ailadrodd ar draws gwasanaethau cyhoeddus eraill ac ar draws cymunedau. Dyna pam rydym ni wedi sicrhau cysylltiadau cryf rhwng ein fframwaith dull ysgol gyfan a fframwaith NEST/NYTH Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc, sy'n ategu ein fframwaith ysgol gyfan drwy gryfhau ymateb ein partneriaid a'r system gyfan i les ein plant a'n pobl ifanc. Rwyf hefyd eisiau sicrhau bod ein gwaith llwyddiannus mewn ysgolion yn cael ei ymestyn ar draws y system addysg gyfan. Rwyf felly wedi nodi bod addysg bellach yn flaenoriaeth ar gyfer gweithredu pellach. Gwnaed buddsoddiad i gefnogi iechyd meddwl a lles staff a dysgwyr yn y sector addysg bellach, gyda bron i £7 miliwn wedi'i ddyrannu i gefnogi amrywiaeth o fentrau wedi'u teilwra. Mae rhan o'r buddsoddiad hwn hefyd wedi'i neilltuo ar gyfer y sectorau dysgu seiliedig ar waith a dysgu oedolion. Mae cyllid yn cael ei ddefnyddio i gefnogi prosiectau cenedlaethol, cydweithredol a sefydliadol, sy'n cynnwys hyfforddiant staff, mentora cyfoedion a chyflogi hyfforddwyr bugeiliol a swyddogion lles, yn ogystal â darparu cwnsela. Mae addysg uwch hefyd yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Rydym i gyd yn gwybod am yr heriau mae myfyrwyr wedi'u hwynebu ers dechrau'r pandemig. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi dyrannu £50 miliwn ychwanegol drwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i helpu prifysgolion i fynd i'r afael â chaledi myfyrwyr. Mae hyn yn cynnwys £10 miliwn i roi mwy o gymorth i fyfyrwyr sy'n wynebu anawsterau ariannol, emosiynol neu iechyd meddwl. Mae cymorth i fyfyrwyr mewn addysg uwch wedi'i deilwra i'w hanghenion, gan adlewyrchu eu statws fel oedolion annibynnol a chydnabod y pwysau penodol maen nhw’n eu hwynebu o ran byw'n annibynnol, rheoli eu harian eu hunain ac ymdopi â her astudio annibynnol. Rwyf am i uchelgais fod wrth wraidd ein gwaith ac, wrth feddwl am les meddyliol, corfforol a chymdeithasol ein pobl ifanc, mae'n iawn felly ein bod yn ystyried sut a phryd y byddwn yn dysgu. Felly, rydym wedi ymrwymo, yn y rhaglen ar gyfer y llywodraeth, i archwilio diwygio'r diwrnod ysgol a'r flwyddyn ysgol. Dydyn ni ddim wedi cael sgwrs ddifrifol am y ffordd rydyn ni'n strwythuro amser ysgol yng Nghymru ers degawdau. Mae hynny'n llawer rhy hir. Byddai mynd yn ôl i'r arfer heb ei drafod yn gyntaf yng nghyd-destun lles staff a dysgwyr, gan fynd i'r afael ag effaith anfantais ar gyrhaeddiad a diwygio'r cwricwlwm, yn gyfle wedi’i wastraffu. Rwy'n arwain gwaith ar rythm y diwrnod a'r flwyddyn ysgol, a bydd sgyrsiau gyda dysgwyr, gyda staff ysgolion, teuluoedd, cyflogwyr, undebau a chymunedau ledled y wlad dros yr wythnosau nesaf yn sail i'n gwaith ehangach. Gan ddechrau drwy siarad â phobl ifanc eu hunain, gweithlu'r ysgol a chynrychiolwyr busnes, ac yna ymgysylltiad cenedlaethol ehangach yn y cyfnod cyn y Nadolig, byddaf yn siarad yn uniongyrchol â'r rhai a all elwa fwyaf o ddiwygio ac a all ein helpu i lunio ein cynigion orau. Ar yr un pryd, rydym yn adolygu tystiolaeth y DU a thystiolaeth ryngwladol i nodi ffyrdd newydd o roi cyfleoedd i ddysgwyr ddysgu sgiliau newydd a chymryd rhan mewn gweithgareddau newydd. Gall y cyfleoedd hyn arwain at well lles emosiynol ac iechyd meddwl, mwy o gyfranogiad mewn gweithgareddau corfforol, arferion bwyta iachach, gwell sgiliau cymdeithasol, yn ogystal â lefelau uwch o hyder, parodrwydd ar gyfer yr ysgol— Mae'n ddrwg gennyf, Gweinidog. A gaf i atgoffa'r Aelodau, os gwelwch yn dda, i adael i'r Gweinidog siarad a pheidio â chael sgyrsiau preifat yn y Siambr, fel y gall eraill wrando? Mae'n ddrwg gennyf, Gweinidog. Jeremy Miles AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rhan bwysig o hyn yw alinio sut rydym yn cael mynediad at ddysgu gyda phatrymau byw modern. Mae'r gwaith bellach yn dechrau o ddifrif a byddaf yn cyhoeddi rhagor o fanylion dros yr wythnosau nesaf. I gloi, Dirprwy Lywydd, mae gennym ni yng Nghymru hanes balch o gefnogi iechyd a lles meddwl. A thrwy weithio ar draws y sector, gyda phartneriaid allweddol, byddwn yn parhau ar ein taith i gefnogi newid diwylliant ar draws ein system addysg, lle mae lles meddwl yn cael ei roi ar flaen ac wrth wraidd popeth rydyn ni'n ei wneud. Llefarydd y Ceidwadwyr, Laura Anne Jones. Laura Anne Jones AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r datganiad hwn, Gweinidog. Mae plant ledled Cymru wedi cael cyfnod anodd iawn dros y pandemig hwn, ac mae'r cyfnod wedi amlygu pa mor agored i niwed yw iechyd a lles meddwl ein plant drwy gynnwrf a newid sylweddol yn eu bywydau. Mae sicrhau bod pob mesur yno i'w cefnogi yn hollbwysig wrth i ni symud ymlaen, ac felly rwy'n croesawu unrhyw beth y gallech chi ei gyflwyno ar hyn o bryd yn hynny o beth. A diolch ichi am y gwaith yr ydych wedi'i wneud gyda Lynne Neagle arno. Mae angen yr holl gymorth posibl ar ein plant. Fel y gwnaethoch chi ei ddweud yn eich datganiad, fe wnaethoch chi amlinellu 100 o ymarferwyr iechyd meddwl penodol. Ydych chi’n credu y bydd hynny'n ddigon i gwmpasu pob ysgol, ac ydy'r nifer hwn yn ddigon sylweddol i gwmpasu'r holl ardaloedd daearyddol? Felly, hoffwn gael ychydig mwy o wybodaeth am hynny, os gwelwch yn dda. Wrth gwrs, rydym yn croesawu'r sesiynau cwnsela ychwanegol a hyfforddiant staff. Ond mae'n ddigon hawdd cael y ddarpariaeth ar waith a chael y ddarpariaeth ar gael i gyfeirio ati, ond mae angen i bobl gyfeirio'r plant hynny i'r cyfeiriad cywir yn y lle cyntaf. Felly, popeth yr wyf wedi'i ddweud o'r blaen—ac rydych chi wedi’i glywed droeon hefyd, Lynne—yw bod angen i ni gael llysgenhadon iechyd meddwl pwrpasol ledled grwpiau blwyddyn myfyrwyr a staff addysgu ym mhob un o'n hysgolion a'n darparwyr addysg, fel bod rhywun yno y gallwch fynd ato, a all eich cyfeirio i'r cyfeiriad cywir at y ddarpariaeth yr ydych yn ei darparu ac sy'n gallu chwilio am arwyddion y rhai sy'n yn ei chael hi'n anodd ac yn gofyn y cwestiwn hwnnw sy'n achub bywydau, 'Ydych chi'n iawn?' A hefyd rwyf yn croesawu'r hyn y gwnaethoch chi ei ddweud, bod rhywfaint o hyfforddiant staff wedi bod, fel y dywedais yn awr. Ond oherwydd faint o amser mae ein hathrawon yn ei dreulio gyda'n plant, sydd weithiau'n llawer mwy na rhieni, onid ydych yn cytuno â mi ei bod yn hen bryd i hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl fod yn rhan annatod o hyfforddiant yr holl athrawon, wrth symud ymlaen? Mae llawer o waith da yn digwydd yn ein hysgolion yn barod hefyd, fel y gwyddom ni. Mae'n bwysig bod pob amgylchedd dysgu yn parhau i siarad am iechyd meddwl, fel yma yn y Siambr hon, i sicrhau nad yw bellach yn bwnc tabŵ ac nad oes arnynt ofn cyfaddef i unrhyw broblemau iechyd meddwl na chredu eu bod yn wan oherwydd eu bod yn gwneud hynny, oherwydd mae'n dangos cryfder mawr i gyfaddef hyn ac i gael y cymorth hwnnw, a dyna'r neges mae angen i ni barhau i'w chyfleu. Rydym yn awr yn fwy ymwybodol nag erioed o'r achosion—yn enwedig ar ôl y pandemig hwn—o faterion iechyd meddwl, ond rydym hefyd yn fwy ymwybodol nag erioed o'r hyn y gallwn ei wneud i ddiogelu ein hiechyd meddwl. A fyddech yn cytuno â mi, Gweinidog, fod gweithgarwch corfforol a chymdeithasu bellach wedi'u cydnabod fel rhannau sylweddol a phwysig o fywyd yr ysgol, yn fwy felly nag erioed o'r blaen? Ac a fyddech yn cytuno â mi mai dyma'r amser i dderbyn pwysigrwydd gweithgarwch corfforol yn y cwricwlwm, buddsoddi ynddo a sicrhau bod ei bwysigrwydd yn cael ei gydnabod yn amserlen yr ysgol—felly, byddwn yn croesawu eich barn ar hynny—ac i sicrhau bod gan bob ysgol gyfleusterau pob tywydd, fel y gall gweithgarwch corfforol barhau, hyd yn oed yn ystod misoedd y gaeaf? Rwy'n nodi hefyd yr hyn a ddywedwch, eich bod yn gobeithio y bydd cyfle i blant ddatblygu arferion bwyta'n iachach, ac rwyf yn llwyr gefnogi hynny. Ond rwy'n gobeithio, ochr yn ochr â hynny, y bydd opsiynau bwyta'n iachach mewn prydau ysgol ar gael yn ein hysgolion—a barnu o opsiynau fy mab, nid yw mor dda â hynny. Felly, mae'n rhywbeth y mae angen i ni edrych arno'n bendant, os ydym o ddifrif am y rhan honno o les ein plant. Hefyd, fe wnaethoch chi ddweud eich bod am edrych ar strwythur yr ysgol yng Nghymru. Mae hyn wedi'i drafod yn anffurfiol ers blynyddoedd, fel y gwyddom ni, ond rwyf yn eich canmol am ddweud yn awr eich bod yn mynd i ymchwilio iddo, a gyda'r fath barch ato. Ond oherwydd, fel y gwyddom ni, byddai hyn yn newid mor sylweddol, pe baech yn dechrau newid oriau'r ysgol a phopeth arall, mae'n rhaid cael ymagwedd gyfannol at hyn. Gan fod yr effaith ganlyniadol o newid oriau ysgol yn enfawr, nid yn unig ar gyfer materion cludiant i'r ysgol, ond oriau gwaith rhieni, ar gyfer darpariaeth y blynyddoedd cynnar, oherwydd mae'n rhaid i'r cyfan gyd-fynd â'i gilydd i newid darpariaeth yr ysgol. Ond rwyf yn croesawu—. Unrhyw fath o estyniad i weithgareddau ar ôl ysgol, wrth gwrs, byddwn i'n eu croesawu. Ond hoffwn wybod eich syniadau cychwynnol—gwn eich bod yn ymchwilio iddo, ond eich syniadau cychwynnol—ar sut yr ydych yn gweld y diwrnod ysgol yn datblygu. Diolch. Jeremy Miles AC: Diolch i Laura Anne Jones am yr ystod eang honno o gwestiynau. Fe wnaf i geisio gwneud cyfiawnder ag ehangder a dyfnder y cwestiynau y gwnaeth hi ymdrin â nhw yn ei chyfraniad. O ran, yn gyntaf, y cwestiwn o recriwtio dros 100 o staff cyfwerth ag amser llawn i gefnogi gwaith cynlluniau treialu mewngymorth CAMHS ac ymyriadau eraill, rwy'n credu ei bod yn her cyrraedd y targed hwnnw ynddo'i hun, mewn gwirionedd. Mae'n nifer sylweddol o weithwyr proffesiynol ychwanegol i recriwtio i'r system mewn cyfnod cymharol fyr. Rwy'n credu mai'r profiad ar lawr gwlad yw bod y byrddau iechyd mewn gwahanol leoedd ar y daith, yn dibynnu ar eu cyfranogiad yn rhywfaint o waith y cynlluniau treialu hyd yma. Ond rwy'n credu, mewn gwirionedd, y bydd hynny'n gyfraniad sylweddol i'n hagenda yn y lle hwn. Rwy'n credu iddi wneud pwynt pwysig iawn o ran gwasanaethau cwnsela a'r amrywiaeth o fanteision y gallan nhw eu cynnig, ond hefyd rhai o'r heriau o ran cyflawni'r gweithredu ar y raddfa fwy honno. Soniais am rai o'r niferoedd yn fy natganiad, y bwriedir i'r cyllid eu cynnwys. Ochr yn ochr â hynny, gwn y bydd yn dawel ei meddwl o wybod bod adolygiad o'r gwasanaeth cwnsela'n digwydd hefyd, fel y gallwn ddysgu o hynny, a bydd hynny'n cael ei ddilyn yn fuan gan gyfres o ymgynghoriadau unigol gyda rhanddeiliaid ar draws y system, ac rwy'n credu hefyd y bydd sicrhau ein bod yn cipio profiadau ar draws y system yn bwysig. Bydd rhywfaint o'r cyllid ychwanegol sydd ar gael yn ymwneud â darparu hyfforddiant ychwanegol i gwnselwyr, llunio cysylltiadau â darparwyr gwasanaethau cydategol, lle maen nhw’n berthnasol, yn ogystal â mynd i'r afael â rhai o'r rhestrau aros, oherwydd, fel y bydd hi'n gwybod, mae galw sylweddol yn y system ar hyn o bryd. Felly, mae rhyw fath o ddull cyfannol yn cael ei ddefnyddio at hynny, darparu gwasanaethau cwnsela. Manteisiodd yr Aelod ar y cyfle yr oedd eisoes wedi'i gael gyda fy nghyd-Weinidog y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Lles i godi'r pwynt mae hi'n ei wneud yn aml am gymorth cyntaf iechyd meddwl. Nid wyf yn credu bod gennyf fawr ddim i'w ychwanegu at sylwadau fy nghyd-Aelod yma. Yr hyn nad ydym ni am ei wneud yw dilyn llwybr sy'n mynd â ni at ganlyniad llai uchelgeisiol nag y credaf fod y fframwaith yn mynd â ni tuag ato. Ac mewn gwirionedd, rydym ni'n rhannu'r uchelgais hon yn y Llywodraeth i sicrhau bod gennym y dull mwyaf uchelgeisiol o ymdrin ag iechyd meddwl mewn cyd-destun ysgol gyfan drwy bopeth a wnawn. Rydym yn ymwybodol bod amrywiaeth o adnoddau ac ymyriadau ar gael i arweinwyr ysgolion wrth wneud rhai o'r dyfarniadau a wnânt wrth weithredu'r dull ysgol gyfan. Ac felly, er mwyn eu helpu i lywio'r hyn a all fod yn ofod eithaf gorlawn, rwy'n credu, os ydych yn llunio barn am yr ymyriadau gorau, yr adnoddau gorau i'w defnyddio, rydym wedi comisiynu Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddatblygu pecyn cymorth o ymyriadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, a fydd yn cefnogi ysgolion i ddewis pa rai o'r ymyriadau lles sy'n cefnogi'r unigolyn orau—wyddoch chi, y cyfuniad o anghenion sydd ganddyn nhw ymhlith eu carfan. Cafodd y gwaith hwnnw ei oedi yn ystod cyfnod COVID, ond mae hynny wedi'i ailgychwyn yn awr, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n arf defnyddiol i ysgolion wrth fynd i'r afael â rhai o'r cwestiynau hyn. Rwy'n croesawu ei chefnogaeth i'n pwyslais ar weithgarwch corfforol yn y cwricwlwm newydd, ac yn wir wrth annog hynny yn y ddarpariaeth bresennol. Bydd yn gwybod ein bod wedi darparu £20 miliwn ychwanegol yn ddiweddar mewn cyllid i gefnogi'r gallu i gael gafael ar weithgareddau chwarae a chwaraeon, creadigol a mynegiannol, gan adeiladu ar yr Haf o Hwyl, drwy'r rhaglen adnewyddu a diwygio, a gwn ei bod hi'n rhannu fy angerdd am sicrhau bod pobl ifanc yn cael cyfleoedd i gefnogi eu lles yn gyffredinol drwy weithgareddau corfforol. Caeodd gyda rhai cwestiynau am ddiwygio'r diwrnod ysgol a'r flwyddyn ysgol. Fel y dywedais i, bydd y sgyrsiau gyda dysgwyr—byddwn ni'n dechrau gyda dysgwyr ac yna'r rhanddeiliaid eraill yr ydym yn gweithio gyda nhw drwy'r system—yn cael eu cynnal cyn diwedd eleni gyda'r bwriad o ymgynghori yn 2022. O'm safbwynt i, yr hyn yr wyf i am ei weld o ran y diwrnod ysgol yw darparu amrywiaeth o gyfleoedd i'n dysgwyr, gan adeiladu ar y pethau yr ydym wedi gweld sydd wedi gweithio yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a rhai o'n hymatebion eraill i'r pwysau mae COVID wedi'u rhoi ar ein pobl ifanc. Nawr, bydd rhywfaint o hynny'n ymwneud â dysgu, ond bydd rhywfaint ohono yn y ffordd yr oedd, rwy’n credu, yn gobeithio, o amgylch profiadau chwarae a diwylliannol, i gael set gyfoethocach o brofiadau i'n pobl ifanc. Mae llawer o enghreifftiau rhyngwladol y gallwn ni eu defnyddio. Mae rhai enghreifftiau o fewn y DU—rhannau eraill o'r DU—yn yr Alban ac yn Lloegr yn benodol, y byddwn ni'n eu defnyddio. Rydym eisoes yn cynnal gwerthusiad o rai o'r pethau hynny. Yn amlwg, bydd hynny'n rhan o'r sgwrs gyhoeddus ehangach sy'n dilyn. Llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell. Delyth Jewell AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch am y datganiad hefyd, Weinidog. Roeddwn i eisiau gofyn i chi am eco-bryder neu bryder yn ymwneud â'r argyfwng newid hinsawdd, sy'n effeithio ar niferoedd cynyddol o bobl ifanc. Fel byddwch chi'n ei wybod, mae hwn yn fater dwi wedi bod yn ceisio perswadio'r Llywodraeth i weithredu arno ers dechrau'r Senedd yma. Mae academyddion ym Mhrifysgol Caerfaddon wedi cynnal ymchwiliad mewn i'r maes, ac mae hwnna wedi ffeindio bod 60 y cant o bobl ifanc naill ai yn pryderu yn fawr neu yn pryderu yn enbyd am newid hinsawdd. Ac mae'r academyddion wedi pwysleisio bod eco-bryder yn ofn sydd yn gwbl resymegol a dealladwy. Felly, nid darbwyllo’r bobl ifanc sydd angen digwydd yma, ond eu cefnogi mewn ffordd. Allaf i ofyn ichi, plis, pa newidiadau yn y cwricwlwm y byddech chi'n fodlon ystyried eu cyflwyno er mwyn delio â'r ffenomenon yma o bryder newid hinsawdd, a hefyd i ddelio â'r tystiolaeth sydd wrth wraidd y pryder? Dwi'n meddwl bod angen cyfiawnhau y pryder hwn; mae angen dangos ein bod ni oll yn gwrando ar bobl ifanc am sut maen nhw'n teimlo, yn gwrando arnyn nhw hefyd ynglŷn â beth yw eu syniadau nhw, a gwneud iddyn nhw deimlo'n llai ynysig yn yr holl sefyllfa. Wrth gwrs, mae angen ffocysu ar y fframio, ar sut mae'r bobl ifanc yn dysgu am newid hinsawdd—nid dim ond am y trychinebau, ond hefyd y gweithrediad sydd gennym ni oll, neu'r agency sydd gyda ni. Buaswn i yn hoffi gweld mwy o gymorth hefyd ar gyfer athrawon, ac efallai mwy o hyfforddiant ar sut i ymdopi â'r pryder hwn sydd yn cael ei brofi gan fwy a mwy o blant. Mae hwn yn faes, Weinidog, lle dwi wir yn meddwl y byddem ni'n gallu gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau nifer fawr iawn o blant trwy wrando ar yr hyn maen nhw yn ei ddweud wrthym ni. Buaswn i wir yn hoffi gweld symudiad gan y Llywodraeth ar hyn. Buaswn i'n hapus iawn, a brwdfrydig, yn wir, i weithio gyda'r Llywodraeth yn y maes, a buaswn i wir yn awyddus i glywed eich barn chi ar beth gall gael ei wneud tu mewn i ysgolion i ddelio â'r eco-bryder yma. Ac yn olaf, Weinidog, yn ystyried bod newid hinsawdd yn un—wel, mae hi'n un sialens enfawr, nag yw hi, o fewn nifer o sialensau sydd yn wynebu'r genhedlaeth nesaf, sut ydy'r Llywodraeth yn bwriadu helpu plant i ddod dros straen y pandemig? Dwi'n gwybod i hyn gael ei grybwyll gan Laura Jones ychydig funudau yn ôl. Mae plant wedi colli amser gyda ffrindiau, maen nhw wedi gweld rhieni a pherthnasau yn dioddef, rhai wedi colli teulu. Fel gyda newid hinsawdd, dŷn ni'n gallu gweld yr effaith mae'r pandemig yn ei gael ar gymunedau cyfan, ac mae angen i'r bobl ifanc hyn allu prosesu sut maen nhw'n teimlo, i ddysgu am rannu profiadau a gallu dod trwy'r sefyllfa sydd yn sefyllfa mor anodd. So, sut ydy'r Llywodraeth yn mynd ati i wneud yn siŵr bod cymorth ar gael tu mewn i ysgolion i helpu gyda hyn, plis? Jeremy Miles AC: Diolch i Delyth Jewell am y cwestiynau ar ddau faes pwysig iawn. O ran y cwestiwn cyntaf, o ran eco-bryder, rwyf wedi cydnabod eisoes yn y trafodaethau rŷn ni wedi eu cael mor bwysig yw cymryd ystyriaeth o hyn, ac mae e'n rhan greiddiol o'r gwaith rŷn ni'n ei wneud eisoes, wrth gwrs, yn ein hysgolion, er mwyn sicrhau bod eco-bryder, fel ystod ehangach o bryderon, yn rhan o'r ddealltwriaeth o anghenion ein disgyblion ni. O ran beth yw'r rôl i hynny yn ein cwricwlwm, wel, mae'r cwricwlwm, wrth gwrs, yn darparu ystod eang o newidiadau sy'n mynd i gynorthwyo athrawon i allu cefnogi'n dysgwyr ni i fynd i'r afael â chwestiynau i wneud gyda newid hinsawdd yn gyffredinol, gydag eco-bryder fel rhan o hwnnw. Rwy'n cytuno'n llwyr â hi bod dealltwriaeth ehangach, nid yn unig o'r sialens, ond yr hyn gellid ei wneud fel unigolion, yn rhan bwysig o ymateb i'r cwestiwn yna o eco-bryder a'r cwestiynau llesiant ac iechyd meddwl sydd yn dod o hynny. Ond fe fyddwn i'n dadlau'n sicr iawn fod hynny'n greiddiol i'r cwricwlwm fel mae wedi'i ddylunio eisoes. Mae'n thema gyson drwy'r cwricwlwm yn ei gyfanrwydd, ac yn benodol yn y cyd-destun iechyd a llesiant fel maes o brofiad. Rŷn ni wrthi'n darparu adnoddau, wrth gwrs, ar gyfer y cwricwlwm newydd, a chefnogi'r sector i gomisiynu a datblygu adnoddau, a phwyslais ar adnoddau yng nghyd-destun newid hinsawdd yn rhan o hynny. Felly, fe wnaf i sicrhau ein bod ni'n darparu cefnogaeth i sicrhau adnoddau ym maes eco-bryder fel rhan ehangach o hwnnw. Roedd yr ail set o gwestiynau yn ymwneud â pha gefnogaeth rŷn ni'n ei darparu i ddelio ag impact y pandemig ar iechyd meddwl a llesiant ein pobl ifanc ni. Byddwn i'n ei chyfeirio hi at y gwaith roedd y Dirprwy Weinidog yn sôn amdano yn ei datganiad hi—ac rwyf wedi cyfeirio ato fe—o ran y fframwaith ysgol gyfan. Mae'n newid y diwylliant o fewn ysgol fel bod pob rhan o gymuned yr ysgol yn gweld pwysigrwydd yr agenda hon ac yn cael y sgiliau i allu darparu cefnogaeth i'n dysgwyr ni, ond i'r gweithlu addysg hefyd yn ehangach. Mae hynny'n ymateb sylfaenol i'r hyn sydd wedi digwydd dros y cyfnod diwethaf. Wrth gwrs, mae seiliau'r peth yn dod cyn cyfnod COVID, ond rwy'n credu ein bod ni gyd wedi dysgu pa mor bwysig mae hyn wedi bod yn ystod y flwyddyn i 18 mis diwethaf. Ac o ran y cynllun adnewyddu a diwygio, mae arian penodol wedi'i ddyrannu o fewn hynny er mwyn sicrhau gweithio ar lefel un wrth un, efallai, gyda rhai disgyblion sydd angen hynny, i ddarparu cefnogaeth benodol wedi'i theilwra i'w hanghenion personol nhw. Mae hwnna'n rhan o'r cynllun ehangach; mae lot o enghreifftiau eraill, wrth gwrs, yn y cynllun hwnnw, a byddwn i'n cyfeirio'r Aelod at y ddogfen honno. Vikki Howells AC: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw; mae gennyf ychydig o gwestiynau'n codi. Mae'n amlwg bod dull ysgol gyfan yn un sy'n sicrhau bod polisi wedi'i wreiddio ar draws bywyd yr ysgol, ac yn wir os yw wedi'i wneud yn dda, yna gall hynny fod yn wir. Fodd bynnag, mae perygl y gall dull ysgol gyfan, os nad yw wedi'i gynllunio'n dda a'i ddadansoddi'n ddigonol, roi mesurau ychwanegol ar athrawon gwirioneddol i ddarparu cymorth lles meddwl, yn ogystal â'u cwricwlwm presennol, heb neilltuo amser ychwanegol na hyfforddiant ychwanegol. Pa drafodaethau yr ydych chi wedi'u cael neu a ydych yn bwriadu eu cael gydag athrawon a'u hundebau llafur i sicrhau y gellir darparu digon o amser a hyfforddiant i ddarparu cymorth lles ystyrlon? Ac, yn ail, un o'r prif straen ar ein dysgwyr, nad yw efallai'n cael ei drafod mor eang ag y dylai fod, yw'r effaith mae straen athrawon yn ei chael arnynt. Mae'r addysgu'n cael ei gydnabod yn eang fel galwedigaeth sy'n achosi straen mawr; byddai'n naïf i ni feddwl nad yw athrawon yn cyfleu'r straen hwn i'w myfyrwyr ar adegau. Gall hyn fod o ran absenoldeb athrawon o ganlyniad i faterion iechyd meddwl, gwneud parhad ac ansawdd y dysgu yn anodd, neu fyfyrwyr yn sylwi ar straen athrawon yn ystod gwersi ac yn profi straen eu hunain o ganlyniad. Felly, pa waith sy'n cael ei wneud i gefnogi athrawon gyda'u problemau iechyd meddwl eu hunain, ac a yw'r Gweinidog yn cytuno â mi fod angen gwneud mwy yn y maes hwn? Jeremy Miles AC: Diolch i'r Aelod am y ddau gwestiwn pwysig hynny. Rwy'n credu bod darparu digon o gapasiti yn y system i allu darparu hyfforddiant a datblygu'r amgylchedd dysgu proffesiynol sydd ei angen yn amlwg yn hanfodol. Rhan o'r buddsoddiad yr ydym ni wedi'i wneud, wrth gwrs, dros y cyfnod diweddar yw gwella'r capasiti yn ein hysgolion i allu ymateb i rai o brif heriau COVID, ac mae hynny'n cynnwys cwestiynau am les, o safbwynt ein dysgwyr, ond hefyd o safbwynt yr addysgu a'r gweithlu addysg ehangach arall hefyd. Mae lles athrawon yn ddimensiwn hanfodol i hynny, yn y ffordd mae ei chwestiwn yn nodi. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi ariannu Cymorth Addysg, sydd, rwy'n siŵr y bydd hi'n ymwybodol, yn sefydliad elusennol sydd ag arbenigedd mewn darparu cymorth ar gyfer lles ar draws y proffesiwn addysg i ddarparu cymorth uniongyrchol i unigolion mewn ysgolion, ond hefyd i roi arweiniad a chyngor i athrawon, arweinwyr ysgolion a rheolwyr i roi'r offer iddynt wedyn i gefnogi eu staff. Mae rhywfaint o hynny, fel y dywedais i, yn ymwneud â chefnogaeth i unigolion, yn arbennig, efallai, yr ymarferwyr hynny sy'n gweithio mewn cyd-destunau heriol iawn. Mae rhywfaint ohono'n gymorth i'r ysgol ar sail systemig, gan eu helpu i greu gweithle sy'n iach yn feddyliol sydd o fudd i bob rhan o gymuned yr ysgol, ac mae rhywfaint o hynny wedi bod yn ymwneud â gweithdai llesiant sydd wedi'u trefnu ar gyfer diwrnodau HMS ac amrywiaeth o ymyriadau eraill. Felly, rwy'n gobeithio y bydd hynny'n rhoi lefel sylweddol o gefnogaeth i'r gweithlu addysgu o ran sut maen nhw'n datblygu'r dull ysgol gyfan ledled Cymru. Ac yn olaf, Jane Dodds. Jane Dodds AS: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. A gaf i hefyd gofnodi, ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, ein dymuniadau gorau i Andrew R.T. Davies yn ei adferiad a diolch iddo am ei ddatganiadau beiddgar a chlir iawn o ran ei iechyd meddwl? Gweinidog, hoffwn ddiolch i chi am gyflwyno'r ddadl a'r mater pwysig iawn hwn. Mae lles meddwl ein plant a'n pobl ifanc mor bwysig, ac rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn parhau â'r dull ysgol gyfan hwn o ymdrin â lles meddyliol, sy'n rhan annatod o'r cwricwlwm newydd, fel y datblygwyd gan eich rhagflaenydd, o blaid Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Kirsty Williams. Felly, diolch yn fawr iawn am broffilio hyn y prynhawn yma. Hoffwn dynnu sylw at y mater sy'n ymwneud â gwaith trawsbynciol, oherwydd mae 60 y cant o blant a phobl ifanc sy'n ceisio cael gafael ar wasanaethau iechyd meddwl arbenigol drwy CAMHS yn aros pedair wythnos neu fwy am eu hapwyntiad cyntaf a hynny ym mis Gorffennaf 2021. Bu cynnydd o tua 350 y cant i wasanaethau CAMHS ar ffigurau'r flwyddyn flaenorol. Felly, mae fy nghwestiwn a'r mater yn ymwneud mewn gwirionedd â sut y gallwn ni weithio ar draws iechyd ac addysg i sicrhau bod angen i barhau i gefnogi gwasanaethau CAMHS, ond hefyd sicrhau nad yw plant yn syrthio drwy'r craciau, drwy sicrhau bod gennym ddulliau ysgol gyfan digonol mewn ysgolion. Ac, yn ail, tybed a gaf i ofyn i chi a ydych chi wedi ystyried creu rhwydwaith o gymorth iechyd meddwl dros gyfnod o 24 awr, saith diwrnod yr wythnos i'n plant a'n pobl ifanc. Diolch. Diolch yn fawr iawn. Jeremy Miles AC: Diolch i Jane Dodds am y set honno o gwestiynau ac rwy'n ymuno â hi i dalu teyrnged i'm rhagflaenydd ac am ei hymrwymiad i ddiwygio'r cwricwlwm ac i agenda iechyd meddwl plant a phobl ifanc, a oedd yn flaenoriaeth ymroddedig iawn a sylweddol iawn iddi. Gobeithio y byddwch wedi clywed yn y cyfraniadau mae Lynne Neagle a minnau wedi'u gwneud yn y Siambr heddiw pa mor gydgysylltiedig yr ydym ni o fewn y Llywodraeth o ran yr ymyriadau y gellir eu gwneud o safbwynt iechyd ac o safbwynt addysg i geisio sicrhau bod y dull cydgysylltiedig hwnnw y mae'n ei nodi mor bwysig, ac yn dod hyd yn oed yn fwy felly, y realiti ar lawr gwlad. Rydym yn cadeirio'r grŵp gorchwyl a gorffen ar y cyd, fel yr oedd Lynne Neagle yn ei amlinellu'n gynharach, ac mae nifer o'r ymyriadau yn y gofod hwn yn deillio o weithio agos iawn rhwng yr adran iechyd a'r adran addysg, oherwydd rydym yn cydnabod mai hanfod y gwaith hwn yw sicrhau nad yw plant yn syrthio rhwng y craciau, os mynnwch chi, a bod gwasanaeth di-dor sy'n cefnogi plant a phobl ifanc yn eu holl anghenion iechyd a lles meddwl. Rwy'n hyderus mai cyflawni'r gwaith yr ydym yn ei wneud o safbwynt y Llywodraeth yw'r ffordd orau o gyrraedd y canlyniad hwnnw, ond mae heriau sylweddol yn y system o ran cyflawni hynny yn y ffordd y gwn ei bod yn ymwybodol, ac rwy'n gobeithio bod rhai o'r pethau yr ydym ni wedi'u hamlinellu heddiw yn y ddau ddatganiad a glywsoch chi hyd yn hyn, a'r rhai a fydd yn dilyn, yn dangos pa mor ymroddedig yw'r Llywodraeth i sicrhau bod pawb yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw ar gyfer eu hiechyd meddwl. Diolch, Gweinidog. Byddwn nawr yn atal y trafodion dros dro er mwyn caniatáu newidiadau yn y Siambr. Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny'n brydlon. Bydd y gloch yn cael ei chanu dau funud cyn i'r trafodion ailgychwyn. Dylai unrhyw Aelodau sy'n cyrraedd ar ôl y newid aros tan hynny cyn mynd i mewn i'r Siambr. Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:59. Ailymgynullodd y Senedd am 16:08, gyda'r Llywydd yn y Gadair. 5. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Natur, bioamrywiaeth a lleoedd lleol ar gyfer natur Yr eitem nawr, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar natur, bioamrywiaeth a lleoedd lleol ar gyfer natur. Dwi'n galw ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i wneud ei datganiad—Julie James. Julie James AC: Diolch, Llywydd. Mae'r amgylchedd naturiol yng Nghymru yn sail i'n llesiant. Mae gallu mynd i fyd natur a gweithredu gydag eraill i ofalu am natur o fudd i'n hiechyd meddwl. Mae'r cysylltiad sydd gennym yng Nghymru â'n tir a'n dyfroedd yn rhedeg yn ddwfn yn ein diwylliant. Mae'n ein gwneud ni pwy ydym ni. Er ein bod yn dibynnu ar natur am y cyfleoedd economaidd y mae'n eu darparu a'r amddiffyniad rhag llygredd a pheryglon naturiol, nid yw ein perthynas yn gwbl weithredol. Ni allwn grynhoi gwerth llawn natur ar fantolen ac ni allwn fforddio gadael i'r farchnad rydd benderfynu ar ei ffawd. Mae'r miloedd lawer o bobl ledled Cymru sydd eisoes yn cymryd camau i atal a gwrthdroi'r dirywiad mewn natur yn cael eu hysbrydoli gan awydd i drosglwyddo ein treftadaeth naturiol i gyflwr y gallwn fod yn falch ohono. Mae datblygu perthynas fwy cynaliadwy â byd natur yn dechrau yn ein cymunedau lleol. Nod y Llywodraeth hon yw cryfhau'r cysylltiadau rhwng cymunedau a natur drwy gynyddu'r cyfleoedd i bobl fod yn rhan o weithredu ar y cyd i ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur. Adlewyrchir y dull gweithredu hwn yn yr ystod eang o fentrau newydd yr ydym wedi'u datblygu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys ein coedwig genedlaethol, y cynllun ffermio cynaliadwy, ein gofynion sy'n arwain y byd i weithredu draenio cynaliadwy, y flaenoriaeth yr ydym ni'n ei rhoi i gynlluniau rheoli llifogydd sy'n seiliedig ar natur, ac eraill. Rydym hefyd wedi ymrwymo yn ystod y tymor hwn i ddatblygu mentrau pellach, gan gynnwys cynllun adfer cynefinoedd arfordirol, parc cenedlaethol newydd, a chefnogi dynodi dyfroedd ymdrochi mewndirol i adeiladu ar y safonau dŵr ymdrochi uchel a gyflawnwyd ar hyd arfordir Cymru. Rwyf i'n credu bod cyfleoedd i ddefnyddio'r dull yr ydym ni wedi'i ddefnyddio o ran safleoedd tai enghreifftiol i ddatblygu safleoedd adfer natur enghreifftiol, yn enwedig ar draws yr ardaloedd adnoddau natur cenedlaethol a nodwyd yn 'Cymru'r Dyfodol'. Nid yw'r camau hyn yn ymwneud â chynnal a gwella ein tirweddau, afonydd a moroedd yn unig, ond mae'n ymwneud â chysylltu cymunedau'n agosach atynt. Hoffwn dynnu sylw at ddau gynllun arbennig o bwysig yr ydym ni wedi'u datblygu gyda phartneriaid, a byddwn i'n annog pob Aelod o'r Senedd i gymryd diddordeb mawr mewn gweithgareddau sydd ar droed yn eu hardaloedd lleol ac i annog cymunedau i gymryd rhan a llunio'r gweithgareddau hynny yn y blynyddoedd i ddod. Lansiwyd y fenter Rhwydweithiau Natur yn gynharach eleni, a heddiw rwyf wedi cyhoeddi'r 29 prosiect cyntaf i gael cyllid, gan fod o fudd i fwy na 100 o gynefinoedd a rhywogaethau o arwyddocâd rhyngwladol. Mae'r prosiectau hyn yn cydnabod natur fel cyfres o rwydweithiau ar dir ac ar y môr y mae angen i ni eu cysylltu a'u tyfu i'w gwneud yn fwy cydnerth. Mae'r prosiectau yr ydym ni'n eu hariannu yn cynnwys cysylltu coetiroedd tameidiog i alluogi rhywogaethau i sefydlu cynefin dros ardaloedd mwy, lleihau llygredd ffosffad mewn afonydd i ddiogelu natur ymhell i lawr yr afon, a gwella cyflwr cynefinoedd i alluogi rhai o'n rhywogaethau mwyaf eiconig i gael mwy o ryddid i grwydro—y gylfinir, gloÿnnod byw britheg a maelgwn, er enghraifft. Yn hollbwysig, mae prosiectau'n harneisio egni cymunedau lleol—cefnogi gwyddoniaeth dinasyddion, cynnwys ysgolion, a darparu sgiliau a chyfleoedd hyfforddi. Yn yr ystyr hwn, mae Rhwydweithiau Natur yn rhwydweithiau ecolegol a hefyd yn rhwydweithiau o bobl sydd eu hangen i sicrhau ein bod yn gallu cynnal y camau gweithredu hyn ar natur i'r dyfodol. Yr ail fenter yr hoffwn i dynnu sylw ati yw'r cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, a lansiwyd ar ddechrau 2020 gyda'r nod o gefnogi cymunedau i greu natur ar eu stepen drws, gan weithio gydag awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol mawr a bach. Er bod Rhwydweithiau Natur yn cyflawni ar raddfa tirwedd, mae Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn cefnogi mesurau cymedrol a all wneud gwahaniaeth mawr ar lefel gymunedol, gan wella mynediad at natur drwy greu a gwella mannau gwyrdd sydd agosaf at le mae pobl yn byw ac yn gweithio, o dyfu bwyd cymunedol i arferion torri gwair sy'n ystyriol o natur. Er gwaethaf effaith y pandemig, roedd ymateb y cyhoedd i'r fenter hon yn aruthrol, a dyblodd maint y cynllun a mwy mewn ymateb i'r galw. Nid yn unig yr ydym ni'n bwriadu cynnal y lefel eithriadol o uchel hon o gyfranogiad y cyhoedd, ond rydym ni eisiau ei chynyddu hyd yn oed ymhellach, a byddwn i'n croesawu cyfraniadau gan Aelodau yma heddiw ynghylch cyfleoedd y maen nhw'n eu gweld i gyflawni hynny. Yn anffodus, mae ein gallu i gefnogi gweithredu hirdymor ar natur wedi'i danseilio gan gamreoli cyllid cyhoeddus gan Lywodraeth y DU. Drwy fethu â darparu cyllid amlflwydd, a methu â rhoi cyllid yn lle'r cyllid a gawsom yn y gorffennol gan yr Undeb Ewropeaidd, mae Llywodraeth y DU wedi gweithio yn erbyn adfer natur yng Nghymru. Gobeithio y bydd pob Aelod yn y Siambr heddiw yn ymuno â mi i alw ar Lywodraeth y DU i ddarparu setliad ariannu amlflwydd i Lywodraeth Cymru yn yr adolygiad nesaf o wariant, i'n galluogi ni i ddarparu cyllid amlflwydd i'n partneriaid a'n cymunedau, fel y gellir cynyddu effaith y camau y mae cymunedau Cymru yn eu cymryd ar natur hyd yn oed yn fwy. O'i rhan hi, mae Llywodraeth Cymru yn barod i lansio cynlluniau amlflwydd, gan gynnwys Rhwydweithiau Natur a Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, a all roi mwy o sicrwydd a llinell derfyn hirach ar gyfer cynllunio i'r rhai yr ydym yn eu hariannu, gan ganolbwyntio ar y blaenoriaethau hirdymor yr ydym yn eu datblygu gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, awdurdodau lleol a thrwy ein hymgysylltiad â'r trydydd sector. Rwy'n gobeithio y bydd Aelodau hefyd yn ymuno â mi i alw ar Lywodraeth y DU i anrhydeddu ei haddewid i sicrhau na fyddai Cymru geiniog yn waeth ei byd o ganlyniad i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, ac i ddarparu cyllid newydd llawn yn lle cyllid ar gyfer datblygu gwledig yr UE a rhaglenni LIFE yr UE. Eleni yn unig, mae Cymru ar ei cholled o ddegau o filiynau o bunnau o fuddsoddiad mewn natur ac yng nghefn gwlad Cymru. Yng nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd a natur, ac ar drothwy uwchgynadleddau byd-eang ar yr hinsawdd a natur, gan gynnwys COP26 yn Glasgow, mae'n rhaid i Lywodraeth y DU gydnabod pa mor frys yw'r sefyllfa a gwrthdroi ei phenderfyniad i amddifadu Cymru o'r buddsoddiadau hollbwysig hyn yn llesiant ein cymunedau. Mae'r wythnos hon yn nodi dechrau COP15, y confensiwn byd-eang ar amrywiaeth biolegol, sy'n bwriadu cytuno ar gyfres newydd o nodau ar gyfer adfer natur dros y degawd nesaf. Gallaf gadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi'r targed 30x30, a gynigir i'w drafod yn COP15, i ddiogelu 30 y cant o'n tir a'n moroedd erbyn 2030. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda chymunedau Cymru a'r Senedd i ddatblygu ein dull o gyflawni'r nod hwn. Bydd hyn yn gofyn am weithredu strategol, rheoleiddiol a deddfwriaethol, a dim ond Llywodraeth Cymru, gan weithio'n agos gyda'r Senedd, sy'n gallu cyflawni hyn. Bydd cyflawni'r nod hwn hefyd yn gofyn am weithredu ar y cyd ym mhob cymuned yng Nghymru, lle gall mentrau fel Rhwydweithiau Natur a Lleoedd Lleol ar gyfer Natur greu cyfleoedd i bobl gydweithio i ddiogelu a gwella ein treftadaeth naturiol, ac yn sgil hynny, ein hiechyd meddwl a'n llesiant ehangach. Diolch. Janet Finch-Saunders AC: Diolch ichi, Gweinidog, am y datganiad amserol hwn a'r llond arch Noa o weithgareddau a gyhoeddwyd gennych yn gynharach. Rwy'n credu y byddai'n ddiddorol i ni i gyd wybod mwy am y 29 prosiect, ond rwyf yn croesawu'r ffaith bod bron i 70 rhywogaeth a 50 math o gynefinoedd i'w gwarchod nawr. Gofynnaf i chi a ydych chi'n cytuno â mi y byddai'r 29 prosiect hyd yn oed yn fwy cyffrous pe gallem ddeall mwy am sut y byddan nhw'n cyfrannu at gyrraedd targed penodol a bennwyd gennym ni. Bedair wythnos ar ddeg ar ôl datgan argyfwng natur, ni fu unrhyw gamau hyd yma i weithredu ar alwadau'r Senedd hon i gyflwyno gofyniad wedi'i rwymo mewn cyfraith i wrthdroi colli bioamrywiaeth drwy dargedau statudol. Felly, a wnewch chi gytuno, Gweinidog, i gyflwyno rhywfaint o ddeddfwriaeth a rhoi'r targedau hynny mewn cyfraith? Mae'n amlwg ein bod i gyd yn cefnogi diogelu 30 y cant o'n tir a'n moroedd erbyn 2030. Nawr, rwy'n ymwybodol eich bod wedi dechrau rhoi grŵp cynghori technegol at ei gilydd i helpu i ddatblygu strategaethau allweddol. Erbyn pryd ydych chi'n bwriadu cael cynlluniau drafft yn barod i ni eu dadansoddi? Ac un cynllun, wrth gwrs, a gyhoeddwyd eisoes yw 'Tyfu Gyda'n Gilydd: Strategaeth ar gyfer cynyddu gorchudd coed yng Nghymru' NFU Cymru. Felly, ochr yn ochr â'n hatgoffa ni o'u nod uchelgeisiol o gyrraedd allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net ar gyfer amaethyddiaeth erbyn 2040, mae'n amlygu i bawb, cymaint y mae ein ffermwyr yn rhan o'r ateb. Gyda dros 80 y cant o'r tir yng Nghymru yn cael ei reoli gan ein ffermwyr, ffermio sy'n cynnig y cyfle mwyaf o ran y tir sydd ar gael ar gyfer plannu coed newydd. Fodd bynnag, a wnewch chi ymrwymo i weithio i sicrhau y bydd cynlluniau ar gyfer creu coetiroedd yn y dyfodol hefyd yn gwobrwyo ffermwyr i ddarparu ystod eang o fanteision cyhoeddus o'r tir, er enghraifft trwy blannu gwrychoedd, lleiniau cysgodi, coridorau nentydd, a diogelu a gwella dalfeydd carbon pwysig eraill, fel priddoedd, mawndiroedd a glaswelltir? Hyd yma, rydym wedi gwastraffu'r cyfle i Gymru fod yn arweinydd byd-eang ar lywodraethu amgylcheddol, gyda'r Alban a'r DU bellach yn ein goddiweddyd o ran diogelu'r amgylchedd. Felly, er fy mod yn gwybod eich bod wedi ymrwymo i gyflwyno trefniadau llywodraethu addas i Gymru, pam aros i'r Prif Weinidog neu'r Cwnsler Cyffredinol wneud datganiad ar raglen ddeddfwriaethol y flwyddyn nesaf? Pe bai deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno y tymor hwn, rwy'n siŵr y byddech yn dod o hyd i fomentwm a chefnogaeth sylweddol o bob cwr o'r Siambr hon. Rwy'n croesawu'r ymateb aruthrol i'r cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, a gallaf ymateb i'ch cais drwy awgrymu y gellid datblygu'r cynllun fel ei fod yn helpu cynghorau tref a chymuned ledled Cymru i dyfu dros eu cymuned drwy gymryd rhan yn Cymru yn ei Blodau 2022. Gall ysgolion gael mynediad rhwydd i hyn i weld yr ardaloedd o amgylch ein heglwysi a'n capeli, yn aml yn fynwentydd, yn dod yn fwy fyth o warchodfeydd natur ac yn lleoedd i orffwys a chofio. Yn olaf, er fy mod yn awyddus i gydweithredu â chi, rwy'n drist eich bod wedi penderfynu honni bod Llywodraeth y DU wedi gweithio yn erbyn adfer natur yng Nghymru. Fe wyddoch chi yn iawn, Gweinidog, fod Llywodraeth y DU yn rhoi Cymru wrth wraidd yr ymgyrch i ddarparu sero net ac ailgodi'n wyrddach. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo £90 miliwn i brosiectau arloesol ar gyfer Cymru, a'r mis diwethaf mae'n rhaid eich bod chi, yn arbennig, wedi bod yn falch iawn o weld bod Llywodraethau'r DU a Chymru wedi cymeradwyo £58.7 miliwn i helpu i sefydlu dinas-ranbarth Bae Abertawe fel arweinydd ym maes twf carbon isel a'r economi werdd. Felly, a yw eich ymosodiad ar Lywodraeth y DU yn arwydd eich bod nawr yn tynnu'n ôl rhag cydweithredu ar gynlluniau rhagorol, fel y rhaglen carbon isel, neu a ydym ni i gyd yn mynd i barhau i gydweithio dros Gymru, wrth symud ymlaen? Mae'n rhaid i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru weithredu'r dull strategol ar y cyd hwn. Maen nhw yn barod; ydych chi, Gweinidog? Diolch. Julie James AC: Fe wnaf i ddechrau lle y gorffennodd Janet a dweud ein bod ni, wrth gwrs, yn barod i gydweithio â Llywodraeth y DU os mai dim ond nhw oedd yn barod i weithio gyda ni. Soniodd Janet am rai o'r buddsoddiadau y mae'n dweud eu bod wedi'u gwneud ond, wrth gwrs, maen nhw i gyd yn fuddsoddiadau hanesyddol. Yr hyn nad ydyn nhw wedi'i wneud yw rhoi cyllid yn lle'r cyllid yr ydym wedi'i golli o'r Undeb Ewropeaidd, ac mae'n gwybod hynny cystal â mi hefyd. Byddai'n helpu Cymru'n fawr pe bai'n gallu sicrhau bod y Llywodraeth y mae'n ei chefnogi yn glynu wrth ei haddewid na ddylai Cymru fod ceiniog ar ei cholled o ganlyniad i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, ac mae'n gwybod yn iawn nad yw hynny'n wir ar hyn o bryd. O ran y pethau eraill y mae hi wedi'u gofyn imi, y targedau rhwymol yr wyf wedi'u trafod droeon eisoes yn y Senedd hon. Wrth gwrs, byddwn ni'n edrych ar dargedau rhwymol. Byddwn ni'n edrych ar hynny yng ngoleuni COP15 a COP26, yng ngoleuni lle mae'r gymuned fyd-eang, ac i sicrhau eu bod yn ymestyn ac yn gyraeddadwy. Felly, byddwn i'n hapus iawn i weithio gydag Aelodau'r Senedd i ddod i gytundeb ynghylch beth ddylai'r targedau hynny fod, a byddwn yn hapus iawn i ymrwymo i'r targedau hynny, oherwydd dyna'n union yr ydym yn ei ddymuno. Rydym eisiau targedau sy'n ymestyn ac yn rhwymol. Ond mae angen i ni sicrhau ein bod yn eu gosod yn y cyd-destun cywir ac ar y lefel gywir o ymestyn. Felly, byddwn yn hapus iawn i wneud hynny. O ran cynlluniau sy'n cael eu cyflwyno, rwyf wedi cael cyfarfodydd da iawn gyda'r undebau ffermwyr fy hun. Maen nhw wedi bod yn falch iawn o weithio gyda ni. Bydd ein cynllun yn cael ei osod yng nghyd-destun ein cynllun sero-net. Fel y gwyddoch chi, mae gennym ddyletswydd statudol i lunio cynllun o'r fath. Dylai'r cynllun gael ei lunio erbyn mis Rhagfyr, ond byddwn yn ei lunio cyn i ni fynd i COP26, fel y gallwn ei ddefnyddio fel llwyfan ar gyfer ein canolfan yno. Felly, byddwn ni'n cyhoeddi hynny yn yr wythnos ychydig cyn i COP26 ddechrau, felly rwy'n siŵr y bydd hi'n edrych ymlaen at hynny. O ran Cymru yn ei Blodau, wrth gwrs rydym ni'n hapus iawn i gefnogi pob un o'r mathau hynny o fentrau. Rwy'n cymeradwyo nifer y grwpiau cymunedol ledled Cymru sydd â diddordeb yn yr amgylchedd naturiol, drwy harddu'r trefi lle maen nhw'n byw, ond mewn gwirionedd, yn bwysicach o lawer, eu gwneud yn barod ar gyfer pryfed peillio a rhywogaethau eraill sydd fel arall yn ei chael hi'n anodd. Rwy'n falch iawn o ddweud bod Llywodraeth Cymru ei hun wedi gallu gosod nifer o flychau ystlumod, blychau gwenyn, a mathau eraill o bethau ar ei hystadau ac adeiladau'r Llywodraeth, felly rydym yn gweithredu'r un peth ag yr ydym yn gofyn i'n cymunedau ei wneud yn yr ysbryd hwnnw o 'dîm Cymru'. Delyth Jewell AC: A gaf i ddechrau drwy ddweud bod croeso i'r ymrwymiad i 30x30? Mae'n cael ei groesawu'n fawr, Gweinidog. Byddai'n ddefnyddiol cael mwy o fanylion. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu cynnydd tuag at yr ymrwymiad hwn, os gwelwch yn dda, a pha gamau y byddwch yn eu cymryd i sicrhau cyllid ychwanegol ar gyfer diogelu, adfer a chreu cynefinoedd, ac wrth gwrs yr angen tymor hirach am y gwaith monitro a chynnal a chadw sydd ei angen i gadw'r safleoedd hyn mewn cyflwr ecolegol da? Hefyd, ar y pwynt hwn, bydd sicrhau bod y gweithlu yno i gyflawni'r uchelgeisiau hyn yn hollbwysig, fel y gwn eich bod wedi'i nodi, felly byddwn i'n croesawu mwy o fanylion am y pwynt hwnnw, neu pryd y gallem ni ddisgwyl mwy o fanylion amdano. O ran y mater ehangach o dargedau sy'n ymwneud â cholli bioamrywiaeth, rwy'n cydnabod bod y dadleuon ynghylch targedau wedi'u hailadrodd droeon. Y rheswm am hynny yw ein bod wedi treulio llawer o amser yn sôn am dargedau bioamrywiaeth dros y misoedd diwethaf, ond mae'r Llywodraeth wedi bod yn petruso rhag ymrwymo, neu'n wir i ddatgelu unrhyw beth ynghylch y pwynt hwn. Mae Cymru, fel gweddill y byd, wedi methu â chymryd camau digonol i atal a gwrthdroi colli bioamrywiaeth a diogelu bywyd gwyllt. Rwy'n cydnabod, Gweinidog, fod hyn newydd gael ei drafod eto gan Janet, ac rwy'n nodi yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud mewn ymateb hefyd. Roeddwn yn dymuno ychwanegu fy llais at y pwyntiau hyn dim ond i atgoffa'r Siambr eu bod yn rhywogaethau sy'n dirywio yng Nghymru ar hyn o bryd neu sydd mewn perygl o ddiflannu, ac mae rhai rhywogaethau eisoes wedi mynd. Felly, y mwyaf cyflym, mae'n debyg, y gallwn ni weithredu ar hyn gorau oll. Dydw i ddim yn siŵr mai dyna'r ffordd ramadegol orau o'i fynegi ond rwy'n gobeithio bod hynny'n gwneud synnwyr. Gyda COP15 yn agor yr wythnos hon, mae dros 1,000 o fusnesau wedi cefnogi galwad fyd-eang i Lywodraethau roi polisïau ar waith i wrthdroi colli natur y degawd hwn. Mae prif swyddogion gweithredol cwmnïau, gan gynnwys Unilever a H&M wedi gofyn am dargedau uchelgeisiol, gan ddweud eu bod yn angenrheidiol i sbarduno buddsoddiad a thrawsnewid modelau busnes. A wnewch chi nodi, Gweinidog, yn sgil hyn, pa fath o gamau y gallwn ni eu disgwyl gan Lywodraeth Cymru, ac a wnewch chi amlinellu pryd y bydd modd gweld y llinell amser ar gyfer targedau a chwmpas tebygol y targedau hynny? Rwy'n nodi eto yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud mewn ymateb i Janet Finch-Saunders ar y pwynt hwn. Mae'r adolygiad Dasgupta diweddar wedi ailbwysleisio bod bioamrywiaeth yn rhan annatod o iechyd ecosystemau a gallu ecosystemau i ddarparu manteision hanfodol i gymdeithas. Mae colli bioamrywiaeth yn effeithio ar ein system cynnal bywyd. Mae'n galw am sicrhau bod cyllidebau'r Llywodraeth yn cyd-fynd ag anghenion natur, a bod cyllidebau adrannol ar draws sectorau yn sicrhau eu bod yn cyflawni dros natur. Felly, os yw'n bosibl cael mwy o fanylion am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i wireddu'r angen hwn, byddai hefyd yn ddefnyddiol iawn. A wnewch chi amlinellu, yn yr achos hwn, yn olaf, Gweinidog, pa gamau y bydd y Llywodraeth yn eu cymryd i weld natur yn cael ei blaenoriaethu mewn termau ariannol ac i wneud cyllidebau Llywodraeth Cymru yn gydnaws ag anghenion natur? Diolch. Julie James AC: Ie, diolch, Delyth. Roeddech chi'n ceisio fy nhemtio, fe wn i, dim ond yn ddiweddar iawn, i gytuno i'r targed 30x30, felly gwyddwn i y byddech chi'n falch iawn ein bod yn ymrwymo iddo heddiw. Mae'n ddrwg iawn gennyf na allwn i ei wneud pan oeddech yn gofyn i mi ei wneud ychydig yn gynharach. Wrth gwrs, yr hyn y byddwn ni yn ei wneud bryd hynny, mae'n un o'r targedau a gynigiwyd ar gyfer y fframwaith bioamrywiaeth ar ôl 2020—dyna'r broses COP15, a dim ond i atgoffa pawb, gwn eich bod chi eisoes yn gwybod, Delyth, mai dyna'r broses a oedd yn mynd i ddigwydd yn Tsieina ac a gafodd ei gohirio oherwydd pandemig COVID ac mae'n cael ei gwneud drwy ddulliau rhithwir ac yn gydweithredol ledled y byd erbyn hyn. Felly, mae ein swyddogion wedi bod yn gweithio gyda chymheiriaid eraill yn y DU, drwy Grŵp Bioamrywiaeth y Pedair Gwlad, i ddatblygu cyfres gyffredin o egwyddorion. Byddwn ni'n ceisio dynodi dynodiadau tirwedd ehangach hyd at y 30 y cant hwnnw. Nid yw'r 30 y cant yn derfyn uchaf, rwyf eisiau—. Nid dyna derfyn ein huchelgais, ond mae'n amlwg yn lle i ddechrau. Rydym hefyd eisiau bod yn siŵr iawn y byddwn yn effeithiol o ran gwella gan ddod â'r tiroedd yr ydym ni eisoes wedi gweithio arnyn nhw yn ôl i gyflwr cadwraeth da. A, Delyth, gwn eich bod yn gyfarwydd iawn â'm sylwadau amrywiol ar wastadeddau Gwent, er enghraifft, ac yn sicrhau bod holl wastadeddau Gwent yn dod yn ôl i gyflwr cadwraeth da. Felly, byddwn ni'n gweithio i edrych ar safleoedd a allai ddod yn brosiectau enghreifftiol, ar gyfer dod â'r gwaith gwyddonol gwirioneddol i sicrhau bod y tir yn ôl i gyflwr cadwraeth natur da, ond efallai'n edrych ar wahanol gyllid, ymgysylltu â'r gymuned, modelau yn debyg i fenter gymdeithasol hefyd, i sicrhau bod gennym fodel cynaliadwy wrth symud ymlaen y gallwn ei gyflwyno ledled Cymru. Felly, byddwn yn ceisio gweithio gyda phob arweinydd cymunedol, gan gynnwys Aelodau'r Senedd ac eraill ledled Cymru, i sicrhau ein bod yn ymgysylltu ac yn defnyddio, os mynnwch chi, bŵer ein cymunedau yn y grwpiau sydd eisoes ar gael. Rwyf wedi cwrdd â nifer fawr ohonyn nhw yn barod ac maen nhw'n ysbrydoli ac rydym yn sicr eisiau gweithio ochr yn ochr â hynny. Rydym hefyd yn rhan o broses ymgysylltu Caeredin â dinasoedd is-genedlaethol Llywodraethau, gwledydd bach ac awdurdodau lleol wrth gyflawni'r fframwaith ôl-2020, fel y'i gelwir, dros y degawd nesaf. Pan fyddwn ni wedi cyflawni'r darn hwnnw o waith, yna dyna'r amser i edrych ar y targedau. Felly, rwyf eisiau sicrhau eu bod yn ymestyn targedau. Yng ngoleuni'r gyfres fyd-eang honno o dargedau, rydym eisiau deall i le mae'r byd yn mynd fel y gallwn wthio'r ffiniau. Nid wyf eisiau gosod targedau nawr sydd wedyn yn troi allan i fod yn llai ymestynnol nag y gallen nhw fod, neu yn wir, gymaint mwy ymestynnol fel na allwn ni eu bodloni a bod pobl yn rhoi'r gorau iddi. Mae hyn yn ymwneud â defnyddio natur frys y sefyllfa ond heb fod yn gyngor anobaith, yn enwedig i'n pobl ifanc. Mae pobl yn cyfeirio drwy'r amser at y pryder gwirioneddol y mae pobl ifanc yn ei deimlo ynghylch maint y broblem sy'n ein hwynebu. Felly, mae hyn yn ymwneud â rhannu'n ddarnau tameidiog, ymestynnol ond cyraeddadwy i sicrhau bod pobl yn deall y gallan nhw chwarae eu rhan a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y byd. Felly, mae'n bwysig cael y targedau'n iawn. Felly, egwyddor y targedau—derbyniwyd nhw'n llwyr. Y darn o waith yr ydym ni yn ei wneud nawr ochr yn ochr â'r gwahanol brosesau eraill sy'n digwydd yn y byd yw sicrhau ein bod yn cael lefel y targed hwnnw'n iawn. Rwy'n hapus iawn i weithio gyda phobl ar draws y Senedd, a bydd ei phwyllgorau'n allweddol iawn i'n helpu i gyrraedd y lefel gywir o dargedau. O ran sut yr ydym ni'n mynd i fwrw ymlaen â'r gweddill, wel, mae gennym ni nifer o bethau'n digwydd ym mhob maes, mewn gwirionedd. Felly, rydym yn ceisio cefnogi prosiectau enghreifftiol; rydym yn gobeithio cefnogi ein grwpiau gwyddonol; rydym yn ceisio casglu cyngor yr ydym yn ei gael gan wyddonwyr amrywiol mewn ffordd dreuliadwy ar gyfer ffurfio polisi, yn union fel y gwnaethom yn ystod COVID, fe ddysgom ni lawer yn ystod pandemig COVID am weithio gyda'n gwyddonwyr, ein peirianwyr a'n pobl ymarferol. Felly, mae'n ymwneud â defnyddio'r mathau cywir o bobl i ddod i grwpiau herio er mwyn i'r Llywodraeth sicrhau ei bod yn rhoi cyngor i ni ond hefyd yn ein herio ni wrth lunio polisïau, ac eto, byddaf yn ceisio cydweithredu â'r Senedd a'i phwyllgorau a chithau i ddod â'r grwpiau hynny o bobl ymlaen a sicrhau eu bod yn addas i'r diben. A'r unig beth olaf yr oeddwn eisiau ei ddweud oedd bod gennym ni hefyd ddiddordeb mawr mewn deall yr hyn sydd eisoes ar gael yn y cymunedau a sicrhau y gallwn ni eu cefnogi mewn ffordd briodol, nid yn unig gyda chyllid, ond drwy gysylltiadau a llwyfannau polisi. Mike Hedges AC: Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad hwn, ac rwyf hefyd yn cytuno ei fod yn amserol iawn. Cytunaf â'r Gweinidog fod angen inni ddatblygu perthynas fwy cynaliadwy â'r byd naturiol a bod y berthynas yn dechrau yn ein cymunedau lleol. Mae angen i bob un o'n cymunedau fod yn rhan o weithredu ar y cyd i ymateb i'r newid hinsawdd ac argyfwng natur. Ni allwn ei adael i rywun arall; gall y rhai ohonom ni sydd â gerddi, blannu coed a chaniatáu i rannau o'n gerddi dyfu'n wyllt. Mae'r rhain yn gamau y gall pob un ohonom ni eu cymryd, neu gall bron pob un ohonom ni eu cymryd, nawr. Rwy'n croesawu hefyd menter y rhwydwaith natur, gyda'r 29 prosiect cyntaf o fudd i fwy na 100 o gynefinoedd a rhywogaethau o arwyddocâd rhyngwladol. Mae'n ddechrau da. A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi y dylai pob un ohonom ni sy'n gallu, blannu coed yn ein gerddi, a dylem adael rhywfaint o'n gerddi ni i dyfu'n wyllt? Fy mhrif bryder yw colli prif ysglyfaethwyr fel tylluanod a llwynogod, a fyddai, pe bai'n parhau, yn aflunio'r ecosystem. A yw'r Gweinidog yn rhannu fy mhryder, ac, os felly, pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r prif ysglyfaethwyr hyn? Oherwydd os nad oes gennych brif ysglyfaethwyr, mae gennych anifeiliaid yn is i lawr y gadwyn, fel llygod mawr, a fydd yn tyfu ac yn tyfu ac yn tyfu. Julie James AC: Diolch yn fawr iawn, Mike. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi. Un o'r pethau yr ydym ni'n bwriadu ei wneud cyn COP yw edrych i weld beth y gallwn ni ei wneud i gynorthwyo pobl i blannu coed, gan bwysleisio y goeden gywir yn y lle cywir. Felly, i bobl sy'n ddigon ffodus i fod â gerddi sy'n gallu cefnogi coed mawr, gallwn ni sicrhau y gallan nhw wneud hynny a chael cymorth i blannu'r coed hynny fel eu bod yn ffynnu ac yn tyfu. Gallwn hefyd sicrhau bod pobl yn cael gyngor ynghylch beth yw'r math cywir o goeden. Rydym hefyd—rwy'n dweud hyn wrth fynd heibio—wedi dechrau darn o waith gyda'r diwydiant yswiriant, oherwydd mae gan lawer o bobl yswiriant adeiladau sy'n dweud na ddylen nhw fod â choed o fewn nifer penodol o fetrau o'u tŷ. Nid ydym ni eisiau annog pobl i dorri coed i lawr heb ddeall yn iawn beth mae'r systemau gwreiddiau yn eu gwneud ac ati. Felly, mae'n ymwneud â'r goeden gywir yn y lle cywir at y diben cywir. Felly, byddwn ni'n sicr yn gwneud hynny. Byddwn hefyd yn cael golwg ar—. Wel, rydym eisoes yn cael golwg ar dir cyhoeddus yng Nghymru i sicrhau y bydd gan y bobl hynny nad oes ganddyn nhw erddi, y gallu hefyd i fynd i fan lle gallwn ni blannu perllannau cymunedol a mathau eraill o goed a phlanhigfeydd eraill. Mae gennyf ddiddordeb mawr yn y model ar y cyfandir, 'coedwig fach' fel y'i gelwir—coedwig berffaith, bioamrywiol o faint cwrt tennis. Felly, mae gennyf ddiddordeb mawr, yn enwedig ar gyfer ardaloedd trefol, yn yr hyn y gallwn ni ei wneud ar gyfer hynny ac rydym yn gweithio gydag ystod eang o bartneriaid, gan chwilio am safleoedd addas ar gyfer y mathau hynny o fentrau. O ran y prif ysglyfaethwyr, rydym yn sicr yn pryderu'n fawr bod prif ysglyfaethwyr, yn enwedig adar ysglyfaethus, yn cael eu diogelu ar draws tiroedd Cymru. Felly, mae angen inni weithio gyda'n cymunedau ffermio a chymunedau eraill i sicrhau eu bod yn deall beth yw'r peth iawn i'w wneud i sicrhau bod adar ysglyfaethus yn cael eu diogelu ac yn ffynnu, ac nad ydym yn targedu adar ysglyfaethus ar gam mewn cymunedau ffermio. Rydym wedi gweithio'n galed iawn eisoes ar brosiectau gwirioneddol wych fel—gwn eich bod yn gyfarwydd iawn ag ef, Mike—prosiect y barcud coch, cyflwyno'r barcud coch, sydd wedi bod yn enghraifft wirioneddol o'r hyn y gellir ei wneud pan fydd pobl yn gweithio gyda'i gilydd. Mae gennyf ddiddordeb mawr hefyd—ac nid wyf yn siarad ar ran y Llywodraeth yma, dim ond ar ran fi fy hun—mewn gwaith ailgyflwyno prif ysglyfaethwyr ledled y byd. Mae unrhyw un sydd wedi gweld y prosiect yn Yellowstone i ailgyflwyno'r bleiddiaid yn gwybod beth y gall y prif ysglyfaethwr ei wneud i adfer y dirwedd. Mewn rhannau eraill o'r DU, yn yr Alban, mae afancod wedi'u hailgyflwyno i rai tirweddau. Felly, byddwn ni'n sicr yn ceisio gweithio gyda'n tirfeddianwyr a'n gwyddonwyr a'n pobl natur i ddeall (a) sut i ddiogelu'r prif ysglyfaethwyr sydd gennym o hyd, a (b) lle, os yw'n bosibl, cyflwyno prif ysglyfaethwyr mewn mannau eraill yng Nghymru. Joel James MS: Fel y gŵyr y Gweinidog yn dda, nodwyd bod gan ecosystemau carbon glas botensial enfawr i storio carbon, ac arddangos cyfraddau claddu carbon hyd at 30 gwaith yn uwch na choedwigoedd, sydd, gyda llaw, yn cael cryn sylw anghymesur am eu gallu i storio carbon. Fel y gwyddom ni, mae gan Gymru arfordir hir iawn; mae ganddi fwy na 3 miliwn hectar o gynefin carbon glas, fel morfeydd heli arfordirol a gwelyau morwellt. Gallai eu hehangu nhw ac adfer safleoedd a feddiannwyd gan ffermydd a diwydiant, gynyddu'n aruthrol faint o garbon sy'n cael ei storio a helpu i gyrraedd ein targed carbon yn 2050. Heb amheuaeth fe fydd y Gweinidog yn gwybod am y cynllun treialu morwellt yn Dale, sir Benfro, lle dangoswyd bod plannu gwelyau morwellt yn cynnig llawer o fanteision yn ogystal â storio carbon, fel cynyddu bioamrywiaeth a helpu i gynnig seilwaith naturiol a chydnerth yn erbyn ymchwydd stormydd. Yn eich araith yr wythnos diwethaf, fe wnaethoch chi ddweud bod llawer o arian ar gael ar gyfer prosiectau plannu coed yng Nghymru. Heddiw, rydych wedi sôn am eich ymrwymiad i adfywio cynefinoedd arfordirol, a soniodd y Prif Weinidog heddiw hefyd am bwysigrwydd buddsoddi mewn technolegau morol. Gyda hyn mewn golwg, ac o ystyried y potensial i forwellt amsugno cymaint mwy o garbon na choed, a all y Gweinidog ymrwymo i flaenoriaethu ecosystemau carbon glas yn ariannol? Diolch. Julie James AC: Diolch, Joel. Rwy'n cydnabod yn llwyr bwysigrwydd y rhan y gall yr amgylchedd morol ei chwarae wrth fynd i'r afael â'r hinsawdd, ac rwyf wedi ymrwymo'n llwyr i sefydlu cynllun wedi'i dargedu ar gyfer adfer cynefinoedd arfordirol morwellt a morfa heli yn nhymor y Senedd hon. Byddwn yn gweithio'n galed i sefydlu prosiect rheoli pysgodfeydd cynaliadwy ar draws portffolios, gan weithio gyda'm cyd-Aelod Lesley Griffiths, gyda dull ecosystem o weithredu, fel y dangoswyd gan y—[Anghlywadwy.]—ddeddfwriaeth newydd, y credaf eich bod yn gyfarwydd â hi, ac a fydd yn dod i rym cyn bo hir. Mae'n amlwg bod angen i ni wneud hyn mewn cydweithrediad â nifer fawr o weithgareddau eraill o amgylch yr arfordir. Mae grŵp gweithredu a chynghori morol Cymru, sy'n fy nghynghori i, yn dechrau datblygu cynllun adfer glas ar gyfer tymor y Senedd nesaf, sy'n canolbwyntio ar weithredu ar gyfer ecosystemau morol cydnerth a'r twf y gallant ei gyflawni, yn union fel y dywedwch, drwy atebion sy'n seiliedig ar natur a datblygiadau yn y gymuned. Felly, rwy'n hapus iawn i gadarnhau ein bod yn wir yn edrych yn union ar hynny. Rydych chi'n llygad eich lle: mae adfer morwellt a morfa heli yn chwarae rhan enfawr yn y gwaith o ddal a rheoli carbon. Dim ond i ddweud ychydig am y pwynt am goed a wnaethoch chi, mae siarad am goed ychydig bach fel y Gronfa Bywyd Gwyllt y Byd yn sôn am bandas—y darn eiconig ohono. Nid dyma'r darn pwysicaf o reidrwydd; dyma'r darn mwyaf trawiadol. Felly, rydym ni'n gwbl ymwybodol bod dolydd glaswellt hir, cynefinoedd arfordirol, morfeydd heli, gwastadeddau Gwent, gorgorsydd, mawndiroedd—mae rhestr hir ofnadwy o fathau o dirwedd sy'n dal a storio carbon hefyd. Felly, rwyf eisiau sicrhau pawb, er mai coed yw'r darn eiconig ar y blaen, rydym yn gwbl ymwybodol nad nhw yw'r unig ateb, na hyd yn oed yr ateb mwyaf, mae'n debyg, ond nhw yw'r mwyaf eiconig. Heledd Fychan AS: Gweinidog, fe wnaethoch chi gyfeirio at ba mor fuddiol yw natur i iechyd meddwl yn ystod eich datganiad, ond rydym hefyd wedi gweld ac fe wnaethoch chi gyfeirio at bryder, ac rydym wedi gweld effaith negyddol yr argyfwng hinsawdd a natur ar iechyd meddwl pobl sy'n byw mewn cymunedau sydd eisoes wedi dioddef effaith y newidiadau hyn ac sy'n ofni dioddef yr un effaith eto. Gwn fod Delyth Jewell wedi codi hyn gyda'r Gweinidog addysg yn gynharach, ond hoffwn weld y pwyslais hwnnw ar y cymorth sydd ar gael a tybed a oes unrhyw gyllid ar gael i gefnogi iechyd meddwl pobl mewn cymunedau sydd mewn perygl fel rhan o gynigion. Roeddwn hefyd yn falch o glywed yn y datganiad eich bod yn blaenoriaethu cynlluniau rheoli llifogydd sy'n seiliedig ar natur mewn ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur. Fel yr ardal a gafodd ei tharo waethaf gan lifogydd yn 2020, pa gynlluniau penodol sydd gan Lywodraeth Cymru i ddefnyddio atebion sy'n seiliedig ar natur i liniaru llifogydd a pheryglon eraill sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd yn Rhondda Cynon Taf? A sut gellir grymuso cymunedau ar draws Rhondda Cynon Taf i fod yn rhan o gyflawni cynlluniau o'r fath? Mae llawer o'r camau gweithredu a'r ymateb i adferiad yn dilyn y llifogydd hyd yma wedi'u harwain gan sefydliadau neu awdurdodau yn hytrach na chael eu harwain gan y gymuned, gydag ychydig iawn o gyfathrebu â phreswylwyr neu ychydig iawn o gyfleoedd iddyn nhw fod yn rhan o weithredu ar y cyd. Pryd byddan nhw'n gweld hyn yn newid o'ch datganiad heddiw? Julie James AC: Diolch, Heledd. Mae'r rheina'n bwyntiau pwysig iawn. O ran y pwynt iechyd meddwl, byddaf yn sicr yn gweithio gyda fy nghyd-Aelodau Jeremy Miles a Lynne Neagle ar draws y Llywodraeth i sicrhau, gan fod gennym gynlluniau adfer natur yn y gymuned, ein bod yn sicrhau bod pobl yn cael eu cysylltu'n ôl â natur. Gwyddom fod y cysylltiad yn ôl â natur yn helpu gydag iechyd meddwl mewn gwirionedd, ac, fel y gwyddoch chi, mae cynllun ar draws y Llywodraeth i edrych ar y math hwnnw o bresgripsiynu cymdeithasol yn ogystal â sicrhau y gall pobl sydd wedi colli eu cysylltiad â natur ei ailddarganfod. Felly, rwy'n fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd wrth i ni fwrw ymlaen â rhai o'r materion hynny, ac rwy'n siŵr y bydd fy nghyd-Aelodau'n hapus iawn i wneud hynny hefyd. O ran rheoli llifogydd yn naturiol, rydym yn buddsoddi tua £3 miliwn dros dair blynedd mewn gwaith rheoli llifogydd fel rhan o'r rhaglen dreialu. Amcangyfrifwn y bydd y rhaglen yn helpu i leihau perygl llifogydd i tua 1,000 o eiddo, ac mae hefyd yn amlwg yn darparu manteision ehangach, fel creu a gwella cynefinoedd a gwella amwynderau cyhoeddus. Mae'r rhaglen yn cael ei hariannu 100 y cant ar hyn o bryd ac mae'n darparu cynllun dysgu rhagorol a fydd yn gwella ein darpariaeth ar gyfer rheoli llifogydd yn naturiol ledled Cymru yn y dyfodol. Ar hyn o bryd rydym wedi darparu cyllid ar gyfer 15 o brosiectau, sy'n cael eu darparu gan 10 awdurdod rheoli risg gwahanol ledled Cymru. Maen nhw'n gweithio mewn partneriaeth â thirfeddianwyr a rhanddeiliaid allweddol, megis Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru a Coed Cadw, i sicrhau'r manteision cydfuddiannol hynny. Pan fydd y cynlluniau treialu wedi'u cwblhau, byddwn ni'n gallu dysgu o hynny ac ymgysylltu â'n cymunedau ynghylch lle y dylai'r gyfres nesaf o'r prosiectau fod, gan fy mod yn sicr yn derbyn eich pwynt bod angen i'r cymunedau ymgysylltu'n llawn â'r prosiect yn eu hardal. Alun Davies AC: Rwy'n ddiolchgar ichi, Gweinidog, am y datganiad y prynhawn yma. Rwy'n credu ei fod yn cynnwys llawer o bethau y mae gennym yr hawl i edrych ymlaen atyn nhw. Hefyd, rwy'n ddiolchgar iawn ac yn falch o glywed eich ateb i Delyth Jewell yn gynharach yn y sesiwn hon, lle gwnaethoch chi amlinellu'r broses y byddwch yn bwriadu ei defnyddio i ddatblygu targedau; rwy'n credu bod hynny'n gwbl hanfodol o ran hybu'r rhaglen hon. Ond mae dau beth yr hoffwn i eu codi gyda chi y prynhawn yma: yn gyntaf oll, fy mhryder bod rhywfaint o ddiffyg cydlyniant mewn llawer o'r cynlluniau a'r prosiectau a'r rhaglenni y mae Llywodraeth Cymru yn eu llunio. Mae llawer o bethau da yn digwydd, ac mae llawer o gynlluniau da yn cael eu cyhoeddi, ond rwy'n poeni nad oes y cydlyniant rhwng cynlluniau a fyddai'n sicrhau eu bod mewn gwirionedd yn cyflawni'r uchelgeisiau y gallent fod yn eu cyflawni. Yr ail beth yw dynodiadau. Adolygodd Llywodraeth Cymru holl egwyddor dynodiadau rai blynyddoedd yn ôl; teimlais fod yr adroddiad yn adroddiad eithaf siomedig. A gwyddom nad yw dynodiadau ar eu pen eu hunain yn arwain at ddiogelu bioamrywiaeth, neu'n sicr mae ganddyn nhw hanes cymysg iawn wrth wneud hynny. Onid yw'n bryd inni adolygu eto'r dynodiadau a ddefnyddiwn i ddiogelu tir, natur a thirweddau yng Nghymru, i gael y math o gydlyniant o ddynodiadau a all atal colli bioamrywiaeth ac adfer cynefinoedd? Oherwydd, ar hyn o bryd, yr un peth y gallwn ni fod yn glir yn ei gylch yw nad yw'r ystod o ddulliau cyfreithiol sydd ar gael i ni yn cyflawni o ran colli bioamrywiaeth ledled y wlad. Julie James AC: Diolch, Alun. Ydw, rwy'n cymryd eich pwynt yn y fan yna, ac, mewn gwirionedd, yn ddigon diddorol, rwy'n cael ychydig o déjà vu yn y fan yma, oherwydd rwy'ncofio gofyn y cwestiwn hwn ichi pan oeddech chi yn Weinidog ac yr oeddwn i yn aelod o'r meinciau cefn, felly rydym wedi bod yn gweithio ar hyn ers peth amser. Felly, yr hyn yr ydym wedi'i ofyn yn awr—rwyf wedi gofyn i swyddogion archwilio'r hyn y gellir ei wneud i wella ymhellach y ffordd y mae awdurdodau ein parciau cenedlaethol yn arbennig yn rheoli'r ardaloedd gwarchodedig o fewn eu ffiniau. Mae nifer o ysgogiadau ar gael i ni i wneud hynny, a gwn y bydd y parciau cenedlaethol yn awyddus iawn i gamu ymlaen i wneud hynny hefyd. Felly, byddwn ni'n cynnal cyfres o gyfarfodydd yn enwedig gyda'r parciau cenedlaethol, ond hefyd yn edrych ar ein hardaloedd o harddwch naturiol eithriadol a'n hardaloedd gwarchodedig eraill, i weld beth y gallwn ni ei wneud i wella'r ffordd y caiff ein tirweddau dynodedig eu gwarchod. Ac, fel y dywedais i, nid yw hyn yn ymwneud â diogelu'r dirwedd yn unig, nid yw hyn yn ymwneud â pheidio â gwneud unrhyw ddifrod pellach; mae hyn yn ymwneud ag atal y difrod ac yna ei droi o gwmpas a dod â'r ardaloedd hynny'n ôl i gyflwr cadwraeth da, ac felly yn ôl i fwy o fioamrywiaeth. Cawsom adroddiad pryderus iawn dros y penwythnos am golli bioamrywiaeth—dylem ni i gyd fod yn bryderus iawn ynghylch hyn. Felly, mae angen inni edrych o ddifrif, nid yn unig ar beidio â gwneud unrhyw niwed pellach ond gwella ac adfer ein holl dirweddau dynodedig ledled Cymru. A byddwn i'n hapus iawn, Alun, i weithio gyda chi, Aelodau eraill y Senedd a'n pwyllgorau i sicrhau ein bod yn cael y gorau posib o'r hyn sydd gennym eisoes, ac, yn wir, edrych i weld a ddylem ni fod yn dynodi tirweddau eraill ledled Cymru. Mark Isherwood AC: Yn eich datganiad, rydych yn gyfeirio at wella 'wella cyflwr cynefinoedd i alluogi rhai o'n rhywogaethau mwyaf eiconig i gael mwy o ryddid i grwydro', ac roeddwn i'n ddiolchgar mai un o'r rhywogaethau a enwyd gennych chi oedd y gylfinir. Yn dilyn eich ymateb cadarnhaol a groesewir yn fawr i gynllun gweithredu Gylfinir Cymru ar gyfer adfer y gylfinir, a ydych yn cydnabod bod hyn yn ymwneud â llawer mwy na rhyddid i grwydro, sef bydd y gylfinir yn diflannu fel poblogaeth fridio yng Nghymru mewn dim ond 12 mlynedd, os na wnawn ni rywbeth ar frys, ond, os gwnawn ni rywbeth, bydd manteision lluosog ac amlrywogaeth yn cyfrannu'n gadarnhaol at gynaliadwyedd dros 80 o rywogaethau eraill, ac mae angen inni groesawu'r boblogaeth ffermio ledled Cymru sydd wedi ymuno â'r agenda hon, a gweithio gyda nhw ac asiantaethau eraill i wneud y goroesiad hwn yn flaenoriaeth i bawb? Julie James AC: Diolch, Mark. Roeddwn i'n falch iawn eich bod wedi hwyluso'r cyflwyniad i'r grŵp gylfinir i mi. Cawsom gyfarfod rhagorol, ac yr oeddem yn canu o'r un llyfr emynau o ran yr hyn y mae angen ei wneud. Fel y clywsoch chi yn fy natganiad, rwy'n chwilio am gynlluniau enghreifftiol ledled Cymru, lle mae grwpiau eisoes wedi dod ynghyd â chynllun da iawn ar gyfer yr hyn y maen nhw eisiau ei wneud. Pan wnes i gyfarfod â'r grŵp gylfinir, gofynnais iddyn nhw gael golwg arall ar eu cynllun a gweld a ellid ei ddwyn ymlaen, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at glywed yn ôl ganddyn nhw. Ac, fel y dywedais i, rwy'n ddiolchgar iawn i chi am weithredu'r cyflwyniad ac, yn wir, am fod yn hyrwyddwr y rhywogaeth. Jenny Rathbone AC: Rwy'n cytuno ei bod yn hawdd cael eich parlysu gan faint yr her sy'n ein hwynebu, gan mai'r DU bellach sydd â'r adnoddau natur prinnaf yn Ewrop. Nid yw arfer da bob amser yn teithio'n dda, ac felly roeddwn i'n tybio sut yr ydym ni'n mynd i rannu'r arfer da sy'n digwydd mewn gwahanol rannau o'n cymuned. Er enghraifft, nid wyf yn credu bod Rhwydweithiau Natur a Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn enwau cyfarwydd, ac mae angen iddyn nhw fod yn gyfarwydd iawn, ac mae angen i ni ymgysylltu â'r holl gyrff a ariennir yn gyhoeddus i fod yn rhan o'r gwaith hwn o achub y blaned. O ran manteision iechyd meddwl, yr wythnos diwethaf es i i ddiwrnod agored Adferiad Recovery, a gwelais y gwaith gwych sy'n digwydd, gyda phobl yn defnyddio garddio fel ffordd o ymdrin â'u dibyniaeth, ac mae'n ffordd bwerus iawn o helpu pobl ag argyfyngau iechyd meddwl. Y mis nesaf, byddaf yn gweithio gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gan blannu coed ffrwythau mewn ardaloedd cynnyrch ehangach sydd wedi eu hamddifadu yn fy nghymuned fel rhan o Blossom Watch, ac rwy'n ddiolchgar iawn iddyn nhw am y gwaith y maen nhw'n ei wneud. Ond rwyf hefyd am dynnu sylw at y gwaith sy'n cael ei wneud gan awdurdod lleol Brent, y dysgais amdano neithiwr mewn cyfarfod, y gwn fod eich Dirprwy Weinidog hefyd yn ymwneud ag e, lle y maen nhw'n defnyddio—. Mae'r ffaith bod gennym doriadau yng ngwariant awdurdodau lleol yn golygu eu bod yn torri llai o laswellt, ond maen nhw'n defnyddio hynny fel cyfle i blannu mwy o flodau a phlanhigion peillio, ac mae ganddyn nhw goridor gwenyn hyd yn oed. Mae ganddyn nhw hefyd gylchlythyr misol o fforwm Brent, sy'n sicrhau bod pawb yn y fforwm yn gwybod beth y mae pawb arall yn ei wneud. Tybed a oes unrhyw fath o ffordd electronig y gallem ni ei defnyddio i ledaenu arfer da yn weddol reolaidd. Julie James AC: Diolch yn fawr am hynna, Jenny; roedd Lee Waters yn rhan o hynny hefyd. Rydym yn sicr yn mynd i geisio dysgu unrhyw wersi y gallwn ni eu dysgu o hynny. Rydym ni eisiau i'n rhaglenni newydd ni fod yn enwau cyfarwydd. Cawsom ein calonogi'n fawr gan nifer y grwpiau cymunedol sydd eisoes wedi dod at ei gilydd i wneud hyn. Felly, mae gennym eisoes y 29 prosiect ledled Cymru. Pan fydd y cyllid yn cael ei gyflwyno, bydd pobl yn dod yn ymwybodol o'r cynlluniau oherwydd eu bod yn gynlluniau gwych; rwy'n gobeithio y bydd Aelodau'r Senedd yn chwarae eu rhan i'w rhoi nhw ar waith hefyd. Ond rydych yn llygad eich lle: yr hyn yr ydym ni eisiau ei wneud yw cymryd yr hyn a ddysgwn ni o'r holl brosiectau hyn ac yna helpu'r gyfres nesaf o grwpiau cymunedol i ddod at ei gilydd i gael gafael ar y cyllid ar gyfer hyn, ac yn wir, fel y dywedais i mewn ymateb, rwy'n credu i Delyth, nid yn unig y cyllid, ond y ffyrdd o'i drefnu, y ffyrdd o ymgysylltu, y ffyrdd y gallwch fanteisio ar wahanol fathau o gyllid. Roeddwn yn bresennol mewn gweithgor ar wastadeddau Gwent, dan gadeiryddiaeth ein cydweithiwr John Griffiths, yn ddiweddar iawn, ac roedd yn ddiddorol iawn gweld y sefydliadau gwahanol iawn a oedd wedi dod ynghyd yno gydag ef yn y gadair; gwahanol gynghreiriau o bobl yn dod at ei gilydd mewn arfer da i ennyn brwdfrydedd pobl i fynd allan a gwneud y gwaith corfforol mewn gwirionedd, ond mewn gwirionedd ar gyfer y rhai nad oedden nhw eisiau gwneud y rhan honno, gwneud cyfres gyfan o bethau eraill yn ymwneud â chyfathrebu a chyhoeddusrwydd, cynllunio a'r gweddill sy'n ymwneud â hynny. Felly, rwy'n credu bod llawer y gallwn ni ei ddysgu oddi wrth ein gilydd i wneud hynny. Mae nifer o gynlluniau rhagorol iawn ledled Cymru yn annog pobl nid yn unig i arddio eu gerddi eu hunain, ond i fynd allan i helpu eraill yn eu cymuned sy'n methu â gwneud hynny, ac rwy'n awyddus iawn i rannu arfer da ar y sail honno hefyd. Ac yn olaf ond nid lleiaf, mae'r holl fater sy'n ymwneud â phlannu perllannau cymunedol a choed ffrwythau o ddiddordeb gwirioneddol i ni, a byddwn ni'n gweithio'n galed ar hyn—y math o le ar gyfer y goeden gywir yn y lle cywir—i sicrhau y gallwn ni fod â choed ffrwythau wedi'u cynnwys yn nifer y coed yr ydym yn eu plannu ledled Cymru. John Griffiths AC: Diolch yn fawr am eich datganiad heddiw, Gweinidog. Rwy'n hoffi'n arbennig y lleoedd natur lleol a chysylltu pobl mewn cymunedau trefol, y mae'r rhan fwyaf o'n poblogaeth yn byw ynddyn nhw wrth gwrs, gyda natur, hyd y gallwn ni. Yng Nghasnewydd, mae cymuned ym Maendy, sydd dim ond dros yr afon o ganol y ddinas, a oedd heb ac sydd heb lawer o le gwyrdd o hyd, ond mae ganddyn nhw sefydliad, Maindee Unlimited, a changen o'r enw Gwyrddu Maendy, sy'n gwneud llawer o waith da iawn i greu gerddi a pherllannau at ddefnydd y gymuned, gan weithio gydag ysgolion i greu coridorau ar gyfer natur ger yr ysgol. Mae ganddyn nhw brosiect gyferbyn â llyfrgell Maendy, lle maen nhw wedi'u lleoli, i ddatblygu darn o dir a oedd unwaith, yn y bôn, yn doiled cyhoeddus gydag ychydig o dir o'i amgylch, o'r enw y triongl, i ddatblygu hwnnw ac, unwaith eto, i'w wyrddio ac i greu caffi cymunedol. Felly, maen nhw'n gwneud llawer o waith da iawn. A tybed, Gweinidog, pe bai grwpiau fel hynny, gyda hanes o gyflawni, yn elwa'n arbennig ar y cynlluniau a'r cyllid sydd ar gael, pan fyddan nhw'n cynrychioli ardaloedd sy'n brin iawn o fannau gwyrdd, ac mae Maendy hefyd yn amrywiol iawn yn ethnig. Mae ganddo lawer o broblemau cymdeithasol ac economaidd, ond mae gwella ansawdd bywyd drwy'r cynlluniau hyn yn gwbl hanfodol ac maen nhw'n gwneud camau pob person lleol yn sioncach o lawer. Dim ond un mater arall, Gweinidog, tybed a oes unrhyw waith y gallech chi ei wneud gyda Network Rail lle mae ganddyn nhw—unwaith eto, mewn ardaloedd trefol lle mae llawer o bobl yn byw—bontydd rheilffyrdd hyll iawn, mae'n deimlad anghynnes cerdded oddi tanyn nhw gan fod dŵr yn diferu yno, nid ydyn nhw wedi'u goleuo'n dda iawn, maen nhw'n ddi-liw ac yn annymunol— Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair. A wnaiff yr Aelod ddod i ben nawr? John Griffiths AC: Rwyf wedi ceisio gweithio gyda Network Rail er mwyn ceisio bywiogi rhywfaint ar yr ardal hon, gydag efallai artistiaid graffiti ac ati, ond maen nhw'n dweud oherwydd eu meini prawf, oni bai bod problem strwythurol, nad oes ganddyn nhw gyllid ar gyfer y mathau hynny o gynlluniau. Tybed a oes unrhyw beth y gallech chi ei wneud i weithio gyda nhw i fynd i'r afael â'r problemau a'r cyfyngiadau hynny. Julie James AC: Diolch, John. Wel, o ran yr un olaf yna, rwy'n hapus iawn i ddweud ein bod wedi cael llawer iawn o lwyddiant, gan wisgo fy het arall, yn Abertawe. Rydym wedi gwneud hynny'n union: rydym wedi cael gwaith artistiaid graffiti a goleuadau wedi'u gosod yn un o'r bwâu rheilffyrdd mawr sy'n cysylltu dwy ran o ganol Abertawe gyda'i gilydd, ac rwy'n fwy na pharod i'ch gwahodd i ddod i lawr a chael golwg arno a chael sgwrs gyda'r bobl o orsaf Abertawe a Network Rail a'n helpodd ni i wneud hynny. Felly, mae'n sicr yn bosibl, ac rwy'n fwy na pharod i siarad â nhw ar lefel strategol amdano hefyd. Mae llawer o bethau gwyrdd y gellir eu gwneud gyda'r bwâu hefyd, mewn gwirionedd, nid dim ond eu bywiogi, ac mae gan Network Rail lawer iawn o dir ar hyd ochrau ei gledrau, wrth gwrs, y gellir ei ddefnyddio ar gyfer coridorau natur a phryfed peillio. Felly, rwy'n awyddus iawn i wneud hynny. Bydd y 29 o brosiectau yr ydym newydd ddyfarnu cyllid ar eu cyfer yn cael eu defnyddio fel cynlluniau treialu, felly bydd cylchoedd ariannu eraill. Fel y dywedais i mewn ymateb i Janet Finch-Saunders, un o'r problemau mwyaf sydd gennym ni yw nad oes gennym gyllidebau amlflwydd ein hunain. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y cyd-Aelodau Ceidwadol sy'n gwrando ar hyn heddiw yn annog Llywodraeth y DU i roi mwy na setliad blwyddyn inni, fel y gallwn ni roi cyllid amlflwydd i mewn i gynorthwyo grwpiau fel yr un y sonioch chi amdano ym Maendy ac, yn wir, grŵp gwastadeddau Gwent, a fyddai'n elwa'n aruthrol ar rywfaint o gyllid amlflwydd, oherwydd rydym yn gwybod nad yw natur yn rhywbeth untro, mae'n ymwneud â'i hadennill, ei hadfer, ond yna, wrth gwrs, ei chynnal. Felly, mae angen i'r cyllid fod yn amlflwydd er mwyn gallu gwneud hynny. A, John, rwy'n hapus iawn i weithio gyda chi ac eraill ar draws y Senedd i helpu'r gwahanol grwpiau cymunedol sy'n dod at ei gilydd i wyrddu ein hardaloedd trefol, ac yn wir, mewn gwirionedd, i roi mynediad yn ein hardaloedd gwledig i'r cyllid sydd ar gael, ac, fel y dywedais, i ddod at ein gilydd mewn ffyrdd gwahanol ac arloesol o weithio i sicrhau y gallwn ni wella ein holl leoedd naturiol lleol. Carolyn Thomas AS: Rwy'n croesawu'n fawr y cyhoeddiad am gyllid heddiw. Ledled y DU, rydym wedi gweld gostyngiad o 44 y cant mewn 770 o rywogaethau o ganlyniad i golli cynefinoedd a heriau amgylcheddol. Mae'r gronfa rhwydweithiau natur yn dangos yn gwbl glir bod Llywodraeth Cymru yn arwain y ffordd o ran mynd i'r afael â'r argyfwng bioamrywiaeth a natur sy'n ein hwynebu. Mae angen trin yr argyfwng hinsawdd a natur gyda'r un brys. Rwy'n dweud hynny oherwydd, yn aml iawn, mae pobl yn sôn am leihau allyriadau carbon, ond yn anghofio'r argyfwng natur y mae angen ei drin yn yr un ffordd. Mae'r prosiectau hyn, sy'n cynnwys £1.5 miliwn ar gyfer Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, yn hanfodol er mwyn diogelu ein bioamrywiaeth yn ogystal â rhannu gwybodaeth am sut a pham y mae angen i ni ddiogelu ein dyfodol. Mae'r datganiad hefyd yn cydnabod grym cymunedau, sy'n hollbwysig, ac ers cael fy ethol, rwyf wedi cyfarfod â nifer o sefydliadau gwirfoddol ac wedi gweld y gwaith anhygoel y mae gwirfoddolwyr lleol yn ei wneud. Ond wrth wraidd hyn mae'n rhaid cael arweinydd cryf, ynghyd â chymorth cyllid craidd i helpu prosiectau cymunedol i ffynnu, a bydd y gronfa rhwydweithiau natur yn sicr yn darparu hyn. Yn ddiweddar ymwelais â Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru i glywed gan ymchwilwyr am y gwaith gwyddonol anhygoel y maen nhw'n ei wneud, gan achub pryfed peillio drwy ddefnyddio tystiolaeth DNA. Enghraifft arall o sut y mae ymchwil yng Nghymru— A wnaiff yr Aelod ofyn cwestiwn nawr, os gwelwch yn dda? Carolyn Thomas AS: —yn arwain y ffordd o ran mynd i'r afael â cholli bioamrywiaeth. Ond roeddwn yn bryderus o glywed y byddai dau o'r tri gwyddonydd y cyfarfûm â nhw yn gweld eu cyllid yn cael ei dorri, un ym mis Mawrth ac un ym mis Mehefin y flwyddyn nesaf, oherwydd daw o gronfa amaethyddol Ewrop, sy'n dod i ben. A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi fod yr arian a gyhoeddwyd heddiw yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru, sy'n wych, ond hefyd pryder ynghylch yr heriau y mae Brexit yn eu hachosi o ran cyllid Ewropeaidd a chynaliadwyedd yr ymchwil wyddonol bwysig iawn hon i fioamrywiaeth a'r ymchwil DNA? Diolch. Julie James AC: Diolch, Carolyn. Diolch yn fawr iawn. Rwyf i hefyd wedi ymweld â'r gerddi botaneg yn gymharol ddiweddar ac wedi gweld y prosiect gwirioneddol ragorol yr ydych chi'n sôn amdano. Mae'n fater o bryder mawr i ni nad yw Llywodraeth y DU wedi cadw ei haddewid i sicrhau nad yw Cymru geiniog yn waeth ei byd o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae prosiectau ymchwil fel yr hyn yr ydych chi newydd ei grybwyll yn sicr yn y rheng flaen o ran colli'r math hwnnw o gyllid, ac rydym ni'n gweithio'n galed iawn gyda nhw ac eraill i sicrhau bod modd gwneud yr hyn y gallwn ni ei wneud i wneud iawn am o leiaf rhan o hynny. Ond ni allaf i annog Aelodau yma ddigon, yn enwedig yr Aelodau Ceidwadol, i annog eu Llywodraeth i wneud mwy yn y lle hwn, oherwydd bod angen gwirioneddol iddyn nhw sicrhau nad yw Cymru yn waeth ei byd o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Ac, fel yr ydym ni'n sefyll heddiw, rydym ni'n sicr yn edrych fel ein bod ni yn llawer gwaeth ein byd. Fe wnes i ryfeddu'n fawr ar y banc hadau cenedlaethol a'r prosiect DNA i lawr yn y gerddi botaneg. Prosiectau fel hynny yw'r mathau o gyngor gwyddonol sydd ei angen arnom i allu cynorthwyo ein hawdurdodau lleol a'n tirfeddianwyr eraill ledled Cymru i ddeall beth y mae angen ei wneud i adfer ein bioamrywiaeth. Y banc hadau yno—rwy'n gwybod yr oeddech chi yno i edrych ar hyn hefyd, Carolyn, o leiaf yn rhannol. Un o'r pethau rwy'n credu y gwnaeth Jenny ei grybwyll oedd y mater ynghylch torri ymylon glaswellt, ac yn y blaen. Yn ogystal ag eisiau cynghorau i ystyried o ddifrif beidio â thorri'r ymylon glaswellt, rydym ni hefyd yn dymuno eu bod yn ystyried o ddifrif blannu rhywogaethau blodau gwyllt brodorol ar hyd yr ymylon hynny fel bod gennym ni goridorau pryfed peillio ar hyd ein llwybrau prifwythiennol. Mae'n bwysig iawn eu bod yn rhywogaethau hadau brodorol yn ogystal â phryfed peillio blodau gwyllt yn unig, am resymau amlwg, oherwydd ein bod ni'n awyddus i wella bioamrywiaeth naturiol ein rhywogaethau brodorol. Roeddwn i'n ymwybodol eich bod chi'n ymweld, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed mwy gennych chi am eich taith i lawr i'r gerddi botaneg maes o law, ac rwy'n gobeithio y gallwn ni ei ddefnyddio i lywio ein polisi ni wrth symud ymlaen. Ac yn olaf, Joyce Watson. Joyce Watson AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf i am ofyn cwestiwn—un cwestiwn—ac mae'n ymwneud â monitro. Yr unig reswm yr ydym ni i gyd yn gwybod bod natur wedi dirywio yw oherwydd yr astudiaethau hydredol sydd wedi digwydd sy'n dweud hynny wrthym ni. Ac rwyf i'n croesawu, yn amlwg, yr holl brosiectau newydd; maen nhw i'w croesawu. Ond, mae'n rhaid i ni beidio â cholli golwg ar yr hyn sydd gennym ni eisoes. Felly, mae fy nghwestiwn i chi yn glir iawn ac yn syml iawn: a oes arian ar gael, ac a fydd yr arian hwnnw yn cael ei fuddsoddi i barhau â'r astudiaethau hydredol hynny sy'n dweud wrthym ni ble'r ydym ni arni nawr, fel ein bod ni'n gwybod ein bod ni'n mynd i gyrraedd lle'r ydym ni eisiau bod? Julie James AC: Diolch, Joyce. Diolch yn fawr am hynny. Rwy'n falch iawn o gael y cwestiwn yna. Cefais i'r fraint yn ddiweddar o lansio adroddiad Elsevier gyda'r Prif Weinidog ar berfformiad ymchwil Cymru ar nodau datblygu cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig, ac yr oedd yn gyfarfod diddorol iawn. Rwyf i wedi gweld y map gorchudd tir ar gyfer Cymru o ganlyniad i gwrdd â'r gwyddonwyr a oedd yn bresennol yn y lansiad, ac mae ar gael i'r Aelodau—a gallwn ni sicrhau y caiff ei roi yn y Llyfrgell neu ei ddosbarthu—sy'n gwneud yn union fel yr ydych chi newydd ei awgrymu: mae'n dangos map byw o Gymru dros amser. Felly, mae'n dangos i ni y dirwedd yn newid, ble mae'r canopi, ble mae'r gwrychoedd a'r mannau gwyrdd, a sut mae'r blerdwf trefol yn newid natur y dirwedd yng Nghymru. Felly, rydych chi'n hollol gywir: mae angen i ni wybod yr hyn sydd gennym ni nawr er mwyn gallu diogelu'r hyn sydd gennym nawr a'i wella. Rydym ni hefyd yn gallu gweld o'r map hwn—ac mae arnaf i ofn ei fod yn eithaf amlwg—faint sydd wedi ei golli yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac felly mae'n agoriad llygad da. Felly, rwy'n argymell adroddiad Elsevier a'r mapiau i'r Aelodau, ac rwy'n ddiolchgar iawn, Joyce, i chi am roi'r cyfle i mi dynnu sylw ato. Diolch, Weinidog. 6. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar COVID-19 Eitem 6 nesaf, datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y wybodaeth ddiweddaraf am COVID-19. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan. Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Diolch yn fawr am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr am sefyllfa COVID a'n cynlluniau i gadw Cymru'n ddiogel yn ystod hydref a gaeaf anodd o'n blaenau. Nawr, cyn i mi roi fy niweddariad, hoffwn i gydnabod Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd a diolch i'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Lles am ei diweddariad ar gynnydd ein cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' yn gynharach heddiw. Mae iechyd meddwl yn agenda mor bwysig, ac yn fwy felly ar hyn o bryd nag erioed yn ystod y 18 mis diwethaf. Yn yr hyn a fu'n adeg ddigynsail, rwy'n gwybod mor ddwfn y mae cynifer o bobl wedi teimlo effaith y pandemig. A hoffwn i hefyd estyn fy nghyfarchion i arweinydd y blaid Dorïaidd, a fy mharch tuag ato am sôn yn y ffordd y gwnaeth ef ynghylch ei sefyllfa. Rwyf i wedi ymrwymo'n llwyr i wella iechyd a lles yng Nghymru ac mae'n gwbl briodol i Gymru gael Dirprwy Weinidog iechyd a lles penodol yn ysgogi'r mentrau hyn. Ddydd Gwener, cyhoeddodd y Prif Weinidog ganlyniad yr adolygiad 21 diwrnod, ac er ein bod ni'n parhau i fod ar lefel rhybudd 0, mae amddiffyniadau pwysig sydd wedi eu cynnal a'u cryfhau i'n cadw ni'n ddiogel. Mae'r coronafeirws yn dal i fod gyda ni; ers fy niweddariad diwethaf, roedd achosion wedi cynyddu. Mae gennym ni gyfraddau uchel iawn o'r coronafeirws yn ein cymunedau o hyd, ond rwy'n falch o ddweud bod y niferoedd wedi amrywio o amgylch tua 500 o achosion fesul 100,000 o bobl yn ystod yr wythnos diwethaf ac rydym ni wedi gweld tueddiadau amrywiol tebyg o ran derbyniadau i'r ysbyty, er bod niferoedd amlwg yn is na'r mis diwethaf. Felly, rydym ni o'r farn bod sefyllfa iechyd y cyhoedd yn sefydlog, er ein bod ni'n ymwybodol iawn y gallai hyn newid yn gyflym. Mae'r GIG yn dal i fod dan bwysau dwys. Mae ein gwasanaethau iechyd a gofal yn dal i wynebu pwysau adnoddau ac mae angen i bawb chwarae eu rhan o hyd a dilyn y canllawiau sydd ar waith i alluogi Cymru i aros ar agor o dan y lefel isaf o gyfyngiadau. Mae nifer uchel iawn o heintiau ymhlith pobl iau ac rydym ni'n monitro'r cysylltiadau rhwng ysgolion a throsglwyddo cymunedol. Yr wythnos diwethaf, fe wnaethom ni gyhoeddi cyngor ac arweiniad cryfach i ddysgwyr mewn ysgolion uwchradd a cholegau. Pan fydd aelod o'r cartref yn profi'n bositif am COVID-19, yn ogystal â'r cyngor presennol i gael prawf PCR ar ddiwrnodau dau ac wyth, yn y dyfodol, dylen nhw gynnal profion llif unffordd dyddiol am saith diwrnod. Drwy ddod o hyd i achosion positif a'u cadw ar wahân, gallwn ni helpu i roi'r gorau i drosglwyddo ymhellach. Rydym ni hefyd wedi dechrau'r rhaglen frechu ar gyfer pobl ifanc 12 i 15 oed. Mae ein rhaglen frechu anhygoel wedi helpu i wanhau'r cysylltiad rhwng haint a salwch difrifol. Brechu yw'r amddiffyniad gorau sydd gennym ni yn erbyn y coronafeirws. Mae ein strategaeth frechu newydd a gafodd ei chyhoeddi heddiw yn nodi sut y bydd y rhaglen frechu yn parhau i gyflawni'n effeithiol ac yn gyflym yn ystod misoedd yr hydref a'r gaeaf. Mae'r strategaeth yn canolbwyntio ar ddarparu brechlyn atgyfnerthu i'r bobl fwyaf agored i niwed, brechu plant a phobl ifanc a'n hegwyddor o adael neb ar ôl, gan gynnwys y bobl hynny sy'n feichiog. Dros yr haf, fe wnaethom ni weithio gyda byrddau iechyd i gynllunio'r cam nesaf hwn. Mae hyn wedi eu galluogi i symud yn gyflym pan gafodd cadarnhad o'r brechlyn atgyfnerthu a brechu plant ei gyhoeddi yn ddiweddar. Mae'r cyfnod newydd hwn yn rhoi gobaith i ni. Yr wythnos hon, rydym yn cyflwyno'r pàs COVID. Gyda'r cynnydd yn y niferoedd y gwnaethom ei weld fis diwethaf, rydym ni'n parhau i edrych ar fesurau i liniaru lledaeniad COVID drwy ein cymunedau. Nid oes yr un ohonom ni eisiau gweld busnesau'n gorfod cau eto. Wrth gwrs, byddwn ni'n adolygu'r mesurau hyn er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gymesur. Eluned Morgan AC: Ddydd Gwener, cyhoeddwyd diweddariad o’n cynllun rheoli coronafeirws, sy'n nodi'r prif ffyrdd y byddwn yn cadw Cymru'n ddiogel. Yn y bôn, y rhain yw: brechu, profi, olrhain a diogelu, a pharhau â'r mesurau sylfaenol sy'n dal yn bwysig, pethau y gallwn ni i gyd eu gwneud i amddiffyn ein hunain. Dyw ein cyngor ar brofi ddim wedi newid. Rydyn ni’n dal i ofyn ichi gymryd prawf PCR os ydych yn datblygu symptomau COVID-19, ac i hunanynysu os yw eich canlyniad yn bositif. Rydyn ni’n cadw golwg fanwl ar y niferoedd digynsail o bobl sy'n dod i gael eu profi yng Nghymru. Os bydd y lefel hon yn parhau, efallai y bydd angen inni wneud dewisiadau. Ond ar gyfer y cyfnod adolygu hwn, mae ein cyngor yn aros yr un peth. Profi yw'r ffordd orau o dorri'r gadwyn drosglwyddo. Mae'r mesurau sylfaenol rydyn ni i gyd wedi bod yn eu dilyn trwy gydol y pandemig yn dal yn bwysig: golchi eich dwylo, cadw eich pellter, a gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do. Mae'r rhain yn fesurau hanfodol a fydd yn ein cadw'n fwy diogel. Mae'r cynllun rheoli hefyd yn nodi dwy senario gynllunio ar gyfer y pandemig dros y gaeaf. Yn y senario gyntaf, COVID sefydlog, mae Cymru yn parhau i fod ar lefel rhybudd 0, gyda phob busnes yn gallu agor. Rŷn ni’n disgwyl mai dyma fydd y senario at y dyfodol, wrth inni ddod i arfer â byw gyda'r coronafeirws a symud allan o'r pandemig yn raddol. O dan y senario hon, os bydd cyfraddau achosion yn gostwng, byddai modd llacio’r mesurau. Ond, os byddan nhw’n codi, byddai modd cryfhau'r mesurau presennol. Mae'r ail senario, COVID brys, wedi'i chynllunio i ddelio â newidiadau sydyn i'r sefyllfa, fyddai’n gallu achosi cynnydd ym mhwysau’r pandemig ac yn rhoi pwysau llethol ar ein gwasanaeth iechyd. O dan y senario yma, byddai'r system lefelau rhybudd a'r cyfyngiadau yn cael eu defnyddio mewn ffordd gymesur, ond fel dewis olaf, i ddiogelu iechyd pobl, rheoli lledaeniad heintiau a diogelu'r gwasanaeth iechyd. Dirprwy Lywydd, mae gwaith modelu yn awgrymu ei bod yn ymddangos ein bod wedi pasio'r uchafbwynt hwn, ond allwn ni ddim fforddio llaesu dwylo ar yr adeg dyngedfennol hon. Yn y misoedd nesaf bydd bygythiadau eraill o heintiau anadlol eraill, fel RSV a’r fliw tymhorol, yn dod. Rŷn ni’n parhau i ganolbwyntio ar frechu yn erbyn yr heintiau hyn hefyd. Mae angen inni ofalu am ein hiechyd dros gyfnod y gaeaf hwn. Mae'n bwysig ein bod yn cymryd camau bach, sydd o fewn ein cyrraedd, i gadw’n iach ac osgoi mynd yn sâl. Mae hyn yn cynnwys cadw’n actif yn gorfforol, bwyta deiet cytbwys, cyfyngu ar faint o alcohol rŷn ni’n ei yfed, rhoi'r gorau i ysmygu, ac wrth gwrs gofalu am ein hiechyd meddwl. Byddwn yn gweithio gyda chanolfannau brechu, meddygfeydd a fferyllfeydd dros y gaeaf i godi ymwybyddiaeth o'r negeseuon hyn a chyfeirio pobl at y cymorth sydd ar gael ledled Cymru. Hoffwn i orffen ar nodyn cadarnhaol. Nid oes unrhyw newidiadau sylweddol i'r rheolau dros y tair wythnos nesaf, y tu hwnt i'r rhai yr oedden ni eisoes wedi'u cyhoeddi. Mae pawb wedi gweithio mor galed i amddiffyn eu hunain a'u hanwyliaid, ac mae'n gweithio. Rŷn ni’n newid cwrs y pandemig hwn gyda'n gilydd. Dydyn ni ddim allan o'r pandemig hwn eto—gall y sefyllfa newid yn gyflym—ond gyda'n gilydd, gallwn barhau â'r mesurau sydd ar waith i'n cadw ar y trywydd iawn, ac i ddiogelu ein gwasanaeth iechyd a diogelu ein gilydd. Diolch. Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George. Russell George AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw, ac a gaf i hefyd ategu sylwadau'r Gweinidog o ran iechyd meddwl a'r agenda bwysig yn hynny o beth hefyd? Gweinidog, fe wnaethoch chi sôn am eich cynllun gaeaf. Rwyf i wedi sôn droeon o'r blaen fod angen i ni gynnwys canolfannau diagnosis, a tybed a wnewch chi gadarnhau a fydd hynny'n cael ei gynnwys yn eich cynllun yr wythnos nesaf. Tybed pa ymdrechion yr ydych chi'n eu gwneud hefyd i sicrhau bod buddsoddi a rhannu adnoddau yn cael eu darparu i ofal sylfaenol i ryddhau pwysau ar feddygon teulu ac, yn y pen draw, gwasanaethau brys. Sut ydych chi hefyd yn mynd i ymdrin ag adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar wasanaethau ambiwlans? Byddaf i'n codi un maes nad yw'n cael ei grybwyll yn eich datganiad, sy'n absennol o'r datganiad heddiw, a hynny yw'r ymateb i'r Siambr hon ynghylch adroddiad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Senedd y DU ar ymdrin â phandemig COVID-19. Mae'r adroddiad hwn yn ymwneud bron yn gyfan gwbl ag ymateb Llywodraeth y DU, gan sôn am Gymru dim ond naw gwaith, ond mae'n dangos, yn fy marn i, frys yr angen am ymchwiliad sy'n benodol i Gymru. Drwy gydol y pandemig, mae'r Prif Weinidog wedi dweud dro ar ôl tro fod Cymru yn gwneud pethau'n wahanol. Fe wnaethoch chi eich hun sôn am yr un peth heddiw o ran yr union adroddiad yr wyf i newydd ei grybwyll. Felly, rwy'n gofyn: a wnewch chi sylw heddiw i'r Siambr am ymchwiliad sy'n benodol i Gymru yng nghyd-destun yr hyn yr wyf i newydd ei ddweud a'r adroddiad hwn heddiw? Mae penderfyniadau eich Llywodraeth, da neu ddrwg, wedi penderfynu ar ganlyniad y pandemig. O ran fy nghwestiwn nesaf, fe wnaf i godi ychydig o bwyntiau yma. Cymru sydd â'r gyfradd marwolaethau uchaf ledled y DU o ran COVID-19 o ran y boblogaeth. Dywedodd y Prif Weinidog mewn gwirionedd nad oedd yn gweld unrhyw werth mewn profi cartrefi gofal bythefnos lawn ar ôl i Lywodraeth y DU ehangu ei threfn brofi yn sylweddol. Dywedodd y Gweinidog iechyd ar y pryd: 'Nid wyf i'n deall y rhesymeg o ran sut...mae'n achub mwy o fywydau ar gyfer y ffordd y mae'r polisi profi wedi ei newid yn Lloegr'. Yna, dywedodd y Prif Weinidog nad oedd gorchuddion wyneb yn ateb i bob problem, bron i ddeufis ar ôl i Lywodraeth y DU gyflwyno masgiau wyneb gorfodol. Ac yn olaf, cafodd y Gweinidog iechyd blaenorol y cyfrifoldeb o leihau heintiau a oedd wedi eu dal mewn ysbytai rhag mynd drwy ein hysbytai y gaeaf diwethaf, gan ddweud bod gwersi wedi eu dysgu drwyddi draw, ac yn y pen draw, daeth bron i chwarter y marwolaethau o COVID o heintiau a gafodd eu dal mewn ysbytai. Mae'r materion hyn yma o ganlyniad i Gymru yn gwneud pethau'n wahanol. Bydd pethau da, bydd pethau drwg o ran Cymru yn gwneud pethau'n wahanol. Ond o'r meysydd yr wyf i wedi sôn yn benodol amdanyn nhw, yr wyf i wedi eu codi, a ydych chi' n credu y bydden nhw'n cael sylw digonol mewn ymchwiliad cyhoeddus ledled y DU? Hefyd, rwy'n credu bod angen i'ch Llywodraeth ddysgu gwersi o'r pandemig, fel yn wir y mae angen i bob Llywodraeth ledled y DU ei wneud, wrth gwrs. Ond cododd pwyllgor San Steffan bwynt perthnasol ond dilys iawn, yn fy marn i, i Lywodraeth Cymru, ac rwy'n dyfynnu yma: 'Mae'r ffaith bod dull y DU yn adlewyrchu consensws rhwng cynghorwyr gwyddonol swyddogol a'r Llywodraeth yn dangos rhywfaint o feddwl fel grŵp a oedd yn bresennol ar y pryd a oedd yn golygu nad oeddem ni mor agored i ddulliau a gafodd eu defnyddio mewn mannau eraill fel y dylem ni fod wedi ei wneud.' Felly, nid yn agored i farn arall. Rydym ni wedi clywed eto heddiw gennych chi a'r Prif Weinidog fod Cymru yn dilyn y wyddoniaeth. A oedd y Llywodraeth yn anghywir i fabwysiadu'r dull hwn? A'r cwestiwn olaf—[Torri ar draws.] Wel, mae hynny'n gwestiwn sy'n gwestiwn dilys i'w ofyn. Mae hwn yn gwestiwn wedi ei gyflwyno gan ymchwiliad traws—[Torri ar draws.] Rwy'n gallu gweld y Gweinidog yn chwerthin. Mae'n ddrwg gen i, ond roedd hwn yn gwestiwn a gafodd ei godi gan ymchwiliad o bob plaid yn San Steffan. Rwy'n credu ei fod yn gwestiwn dilys i'w ofyn. Nid wyf i'n gwneud awgrym; rwy'n gofyn y cwestiwn hwnnw yr wyf i'n credu bod angen ymdrin ag ef heddiw. Yn olaf, Gweinidog, fe wnaethoch chi sôn hefyd am basbortau COVID. Mae'r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol wedi cysylltu â mi, ac maen nhw wedi codi pwyntiau eithaf pwysig ynglŷn â phasys COVID. Mae pobl ag anableddau fel awtistiaeth mewn perygl o fod yn destun gwahaniaethu yw'r honiad y maen nhw'n ei wneud, oherwydd nad ydyn nhw'n gallu cael eu brechu neu eu profi oherwydd newidiadau mewn ymddygiad neu anawsterau synhwyraidd, a gall hyn achosi, wrth gwrs, fel y byddwch chi'n ei ddeall, straen os yw pobl yn y grwpiau hynny yn credu eu bod yn cael eu heithrio. Mae trefn arferol, wrth gwrs, yn bwysig iawn i bobl yn arbennig yn y grŵp hwnnw hefyd. Felly, a fydd eithriadau i bobl nad ydyn nhw'n gallu cael eu brechu neu eu profi am resymau meddygol, fel sy'n wir yn yr Alban, ac os na fydd, sut ydych chi'n bwriadu darparu ar gyfer y grwpiau penodol hyn o bobl, Gweinidog? Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr iawn. Diolch i chi am y cwestiynau yna. O ran cynllun y gaeaf, mae arnaf i ofn y bydd yn rhaid i chi aros i hynny gael ei gyhoeddi. Felly, cynnig da yn ceisio cael rhywfaint o wybodaeth gennym ni, ond byddwn ni'n rhoi gwybod i chi pan fyddwn ni'n barod i gyhoeddi hynny. Dim ond ychydig o ddyddiau eto sydd gennych chi i aros. Mae pwysau sylweddol ar feddygon teulu ar hyn o bryd. Mae hynny yn sicr. Dyna pam mae gennym ni raglen enfawr o gyhoeddusrwydd ar waith ar hyn o bryd, i geisio rhoi gwybod i'r cyhoedd am ble y gallan nhw fynd i gael cymorth. Mae dewisiadau eraill yn lle meddygon teulu, a gwnaethoch chi glywed y Prif Weinidog y bore yma—[Torri ar draws.] Dim ymyriadau—[Anghlywadwy.] Eluned Morgan AC: Gwnaethoch chi glywed y Prif Weinidog y bore yma yn sôn am y ffaith bod angen i ni, mewn gwirionedd, ddiddyfnu ein hunain oddi ar y dybiaeth hon y byddwch chi bob amser yn gweld meddyg teulu. Mae yna bobl sydd cystal, yr un mor gymwys, sy'n gallu ein cefnogi gyda'n hanghenion iechyd sy'n ddewisiadau eraill i feddygon teulu, ac mae angen i ni ddeall hynny. Fe wnaethoch chi sôn yn fyr iawn am wasanaethau ambiwlans. Mae'n amhosibl i mi fynd drwy'r holl bwyntiau yr oeddech chi wedi eu gwneud, ond rydych chi'n ymwybodol bod gennym ni raglen waith gyfan yr ydym ni'n ei chynnal o ran ambiwlansys, gan geisio gwella'r sefyllfa o ran ambiwlansys. Rydym ni wedi gwario £25 miliwn yn ychwanegol o ran cyllid rheolaidd, mae nifer enfawr o weithwyr ambiwlans wedi eu recriwtio, mae canolfannau gofal sylfaenol brys wedi eu creu—felly, mae llawer o bethau'n mynd rhagddynt i geisio tynnu'r pwysau oddi ar ein gwasanaethau ambiwlans. Gan droi at adroddiad y DU, ydych, rydych chi'n llygad eich lle, mae'n adroddiad sy'n ystyried y sefyllfa yn y DU, ond onid yw'n ddiddorol eich bod chi'n dod yn syth i mewn yma a cheisio taflu'r problemau atom ni yma yng Nghymru? Y ffaith yw eu bod yn amlinellu sefyllfa fel y ffaith y dylen nhw fod wedi mabwysiadu dull mwy gofalus. Wel, rwyf i'n credu y byddai'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn deall ein bod ni wedi defnyddio dull mwy gofalus nag sydd ganddyn nhw yn y DU. Y peth arall, wrth gwrs, yw ein bod ni yn cael trafodaethau yn ein Cabinet sy'n gadarn yn fy marn i ond sy'n barchus, ac nid ydym ni'n meddwl fel grŵp. Rhan o'r mater yn y DU yw bod cymaint o bwyslais wedi bod a chymaint o ganolbwyntio ar geisio cadw'r economi i fynd sydd weithiau wedi colli golwg ar bwysigrwydd iechyd y cyhoedd. Mae cael y cydbwysedd hwnnw yn iawn, yn fy marn i, wedi bod yn rhywbeth yr ydym ni wedi ceisio ei gael yn iawn yn y sefyllfa yng Nghymru. Y peth arall y maen nhw'n sôn amdano yn yr adroddiad hwn yw'r ffaith bod popeth, mewn gwirionedd, yn rhy ganolog. Mae ond angen i chi edrych ar y system brofi, olrhain a diogelu; y symiau hurt o arian y gwnaethon nhw eu gwario ar y system honno yn Lloegr, ar gwmnïau preifat sydd wedi bod yn gwbl aneffeithiol pan fyddwch chi'n eu cymharu nhw â ni yn gweithio mewn partneriaeth â llywodraeth leol i lywio system sydd wedi bod yn hynod effeithiol. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod pobl yn deall mewn gwirionedd nad ydym ni, fel Cymru, yn yr un sefyllfa. A byddwch chi'n ymwybodol hefyd fod y Prif Weinidog wedi gofyn i Michael Gove mewn llythyr nodi, 'Dyma'r pethau yr hoffem ni eich gweld chi'n ymdrin â nhw os bydd ymchwiliad cyhoeddus i'r DU—rydym ni eisiau i'r pethau hyn gael eu nodi.' Nawr, rydym ni'n dal i aros am ateb i'r llythyr hwnnw. Rwy'n credu ei bod yn gwbl glir, os oes parch tuag at edrych ar y math o fanylion y bydd y cyhoedd yng Nghymru yn dymuno eu gweld, ac y byddwn ni yn dymuno ei weld, yna rwy'n credu y byddwn ni'n gallu mynd gyda'r DU. Os nad yw hynny'n digwydd, yna wrth gwrs, nid ydym ni eisiau bod yn droednodyn yn ymchwiliad cyhoeddus y DU. Rwy'n credu bod hynny yn ddigon ar hynny. Diolch. Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rhun ap Iorwerth AC: Mae heddiw'n ddiwrnod eithaf sobreiddiol, onid yw, gyda chyhoeddi'r adroddiad hwnnw gan Aelodau Senedd y DU yn dweud mai ymateb Llywodraeth y DU i'r pandemig oedd un o'r methiannau iechyd cyhoeddus 'gwaethaf erioed'. Mae'r rheini yn eiriau eithaf cryf. Prin fod cyfeiriad at Gymru yn yr adroddiad hwnnw—byddaf i'n dychwelyd at hynny mewn eiliad—ond mae llawer o'r cwestiynau ynghylch yr ymateb i'r pandemig yr un mor berthnasol i Lywodraeth Cymru, wrth gwrs, gan gynnwys yr hyn a ddigwyddodd yn y dyddiau cynnar iawn hynny, ac mae cwestiynau wedi eu gofyn yn gyhoeddus heddiw ynghylch hynny, yma yn y Senedd gan fy nghyd-Aelod Adam Price, a hefyd gan newyddiadurwyr yn y gynhadledd i'r wasg yn gynharach. Rydym ni wedi clywed rhai ymatebion gwrthgyferbyniol ynghylch cyflymder yr ymateb yma yng Nghymru; y Prif Weinidog, yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog, yn dweud, 'Nid oeddem ni'n gwybod pa mor ddifrifol oedd hyn,' er fy mod i'n credu ein bod ni wedi gwybod, neu'r Gweinidog iechyd yn dweud, 'Roeddem ni yn gwybod, ond roedd yn anodd iawn i Gymru weithredu heb fod Lloegr yn gweithredu hefyd.' Nawr, nid wyf i'n siŵr sut yr ydych chi'n cysoni'r ddau ymateb hynny, ond y gwir amdani yw, nid yw'r cwestiynau hyn wedi eu gofyn yn fanwl. Mae Aelodau Seneddol yn San Steffan wedi rhoi cynnig arni, fel y dywedais i, yn yr adroddiad hwn, sy'n sôn am Gymru naw gwaith, rwy'n credu, mewn 147 o dudalennau. Ond mae'r rhain yn gwestiynau y mae'r cyhoedd yng Nghymru yn disgwyl iddyn nhw gael eu hystyried yn fanwl, a'r unig ffordd o wneud hynny, fel sydd wedi ei brofi eto, yn fy marn i, gan yr adroddiad hwn heddiw—. Y ffordd i wneud hynny'n fanwl ar y cwestiynau hyn am yr ymateb cychwynnol, a chymaint o'r cwestiynau ynghylch yr ymateb yn ystod y 18 mis diwethaf, yw cael ymchwiliad sy'n benodol i Gymru. Nawr, rwyf i wedi cyfarfod, droeon erbyn hyn, gan gynnwys unwaith yn bersonol â chynrychiolwyr o ymgyrch Teuluoedd mewn Profedigaeth dros Gyfiawnder Covid-19. Rwy'n falch bod y Prif Weinidog hefyd wedi cwrdd â nhw hefyd erbyn hyn. A'u dadl ganolog yw hyn. Mae'n syml iawn, iawn: mae'n rhaid craffu ar benderfyniadau sy'n cael eu gwneud yng Nghymru yng Nghymru. Mae'n egwyddor hawdd iawn, iawn i mi ei deall. Os gallaf i ei deall, rwy'n credu y gall y rhan fwyaf o bobl ei deall. Mae angen craffu ar benderfyniadau sy'n cael eu gwneud yng Nghymru yng Nghymru. Nawr, efallai y gall y Gweinidog ddweud wrthym ni yn awr a fu ymateb erbyn hyn, neu hyd yn oed gydnabyddiaeth i'r llythyr a ysgrifennodd y Prif Weinidog at Lywodraeth y DU yn gofyn am sicrwydd ynghylch pa ran y byddai i Gymru mewn ymchwiliad yn y DU ac y bydd yn cynnwys digon o bwyslais ar Gymru. Ac a gaf i ofyn, faint o amser y mae Llywodraeth Cymru yn barod i aros am ymateb cyn penderfynu, 'Wyddoch chi beth; bydd yn rhaid i ni wneud hyn ein hunain a sefydlu ymchwiliad i Gymru'? Dyma'r unig ateb. Hoffwn i ganolbwyntio, yn ail, ar un gair yr ydym ni wedi ei glywed ychydig o weithiau gan y Gweinidog heddiw: 'sefydlog'—mae'r sefyllfa yng Nghymru yn sefydlog ar hyn o bryd. A gaf i awgrymu, mewn gwirionedd, fod angen tri chategori arnom ni, nid dim ond 'COVID-sefydlog' a 'COVID-brys' wrth fynd i mewn i'r gaeaf hwn? Mae hyn yn fater brys. Mae hyn yn fater brys heddiw. Efallai fod angen 'COVID-argyfwng' arnom ni os bydd pethau'n gwaethygu hyd yn oed, ond rydym ni mewn sefyllfa frys. A gadewch i mi atgoffa pobl sut beth yw 'sefydlog'. Cymru ar hyn o bryd: dros 500 o achosion fesul 100,000 o bobl dros gyfnod o saith diwrnod—mae hynny'n waeth nag unrhyw genedl arall yn y DU; mae tair gwaith yn fwy, bron, na'r ffigur ar gyfer Iwerddon, bron i chwe gwaith yn fwy na'r gyfradd achosion ar gyfer yr Iseldiroedd, bron i 12 gwaith yn fwy na'r gyfradd achosion ar gyfer Ffrainc ac 20 gwaith yn fwy na'r gyfradd achosion ar gyfer Sbaen. Mae'r gyfradd achosion ar gyfer pobl dan 25 oed yng Nghymru ddwywaith yn fwy na'r cyfartaledd ar gyfer Cymru, sef bron i 1,000. Mae gan saith sir yng Nghymru, gan gynnwys yr un yr wyf i'n ei chynrychioli, gyfraddau achos o dros 1,000. Os nad yw hynny'n fater brys, wn i ddim beth sydd. Felly, efallai y caf i ofyn y cwestiynau hyn wrth gloi. Pryd mae strategaeth bresennol Llywodraeth Cymru yn rhagweld y byddwn ni'n gostwng i'r lefelau yn Ffrainc, yn Sbaen, yn yr Eidal ac mewn unrhyw wlad arall yng ngorllewin Ewrop y gallech chi sôn amdani? A yw cyrraedd yno cyn gynted â phosibl yn rhan o'r strategaeth hyd yn oed? Neu ai sefydlog, yn raddol, yw'r ffordd y bydd pethau'n cael eu trin o hyn ymlaen? Er enghraifft, fe wnaethom ni awgrymu yr wythnos diwethaf y gallem ni gryfhau system pasys COVID, efallai, fel modd cyflymu pethau. Pa dystiolaeth y gall y Gweinidog dynnu sylw ati i ddangos neu hyd yn oed awgrymu bod Llywodraeth Cymru yn ceisio gwneud popeth o fewn ei gallu i leihau'r cyfraddau achos hynny i lefelau ein partneriaid yng ngorllewin Ewrop, oherwydd— A wnaiff yr Aelod ddod i ben nawr? Rhun ap Iorwerth AC: —mae gweld y feirws yn mynd yn rhemp yn ysgolion Cymru ar hyn o bryd, a chlywed gan y rhieni sydd wedi ofni a gan yr athrawon sy'n ofni lefelau parhaus y feirws ymhlith pobl ifanc a phlant yn arbennig yn rhywbeth y mae angen gwirioneddol i ni barhau i ganolbwyntio arno? Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr. Nid wyf i'n siŵr pa gynhadledd i'r wasg yr oeddech chi'n gwrando arni, ond gallaf i eich sicrhau fy mod i'n glir iawn, fe'i gwnes i hi'n glir ei bod yn glefyd nad oeddem ni erioed wedi ei weld o'r blaen, nid oedd yr un ohonom ni'n gwybod pa effaith yr oedd yn mynd i'w chael, nid oedd yr un ohonom ni'n gwybod sut yr oedd yn mynd i ledaenu ac nid oedd yr un ohonom ni'n gwybod y gallech chi ledaenu'r broblem hon heb ddangos unrhyw symptomau. Rydym ni wedi trafod hyn o'r blaen o ran ymchwiliad i Gymru. Rydych chi'n gwybod ein safbwynt ni. Ein safbwynt ni yw yr hoffem ni gael golwg glir a chynhwysfawr iawn ar yr hyn sydd wedi digwydd yng Nghymru, ond ein bod ni eisiau gweld hynny yng nghyd-destun Llywodraeth y DU a'r hyn a ddigwyddodd yno. A'r rheswm am hynny yw, fel y gwelwyd heddiw yn sgil cyhoeddi'r adroddiad hwn, fod llawer iawn o orgyffwrdd rhwng yr hyn a oedd yn digwydd yn y DU a'r hyn a oedd yn digwydd yng Nghymru. Nawr, yr wythnos diwethaf, fe wnaeth y Prif Weinidog gwrdd â phobl a gollodd anwyliaid i'r coronafeirws. Roedd, rwy'n siŵr, yn gyfarfod sensitif ac anodd iawn a rhoddodd rywfaint o sicrwydd iddyn nhw yno, os nad yw Llywodraeth y DU yn gwrando ar Lywodraeth Cymru, yna, wrth gwrs, y bydd yn ailystyried y sefyllfa o ran ymchwiliad i Gymru. Ond nid dyna lle'r ydym ni. Byddai'n llai anghwrtais os byddem ni'n cael ateb i gwestiwn a llythyr at ein Prif Weinidog, ac yn amlwg, byddai hynny'n rhywbeth a fyddai'n ddefnyddiol iawn. Felly, os oes gennych chi unrhyw ffrindiau yn Llywodraeth y DU, gofynnwch iddyn nhw ei gyflymu, os na fyddai ots gennych chi. Rydych chi'n siarad â mi am frys; gadewch i mi ddweud wrthych chi am frys. Mae'r cyfraddau ymhlith pobl ifanc—rydych chi'n hollol gywir—yn eithriadol o uchel. Yr wythnos diwethaf, roeddech chi eisiau gohirio ac oedi oherwydd pàs COVID, oherwydd eich bod chi eisiau ei gryfhau. Nid yw hynny'n fater brys, mae hynny'n cymryd eich amser. Roeddem ni eisiau symud a diolch byth ein bod ni wedi gallu gwneud. Gadewch i mi fod yn glir, mae'r cyfraddau yn dechrau gostwng, ond mae'r cyfrifoldeb yma hefyd ar y cyhoedd i'n helpu ni. Maen nhw'n gwybod yr hyn y mae angen iddyn nhw ei wneud i gadw eu hunain yn ddiogel. Rydym ni i gyd yn gwybod beth yw ein cyfrifoldebau ein hunain yma, ond brechu yw un o'n dulliau allweddol o gadw pobl yn ddiogel, dyna pam mae gennym ni'r brechlyn atgyfnerthu sy'n cael ei roi ar hyn o bryd. Mae gennym ni'r bobl ifanc 12 i 15 oed yn cael eu brechu. Ac wrth gwrs, felly, mae gennym ni system profi, olrhain a diogelu gynhwysfawr iawn ar waith i geisio cwtogi ar ledaeniad y feirws. Felly, mae gennym ni lawer o ddulliau sydd ar gael i ni yr ydym ni'n eu defnyddio'n eang iawn i geisio mynd i'r afael â'r sefyllfa. Huw Irranca-Davies AC: Gweinidog, diolch i chi am eich datganiad. Rwy'n ailadrodd yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud yn eich paragraff gobennol: mae pawb wedi gweithio'n galed i amddiffyn eu hunain a'u hanwyliaid, ac mae'n gweithio. Rydym ni'n newid hynt y pandemig hwn gyda'n gilydd. Mae'n bwysig dweud hyn oherwydd bydd y nodyn atgoffa hwnnw i bobl am faint y maen nhw wedi ei wneud gyda'i gilydd a faint y mae'n rhaid i ni ei wneud o hyd i fynd drwy'r hydref a'r gaeaf hwn a'r gwanwyn nesaf hefyd—. Byddaf i'n mynd i leoliad yr wythnos hon am y tro cyntaf ers y pandemig. Byddaf i'n gwylio sioe. Ni fyddaf i'n dweud pa sioe oherwydd bydd fy nghefnogwyr i gyd yn dod yno ac yn fy heidio, mi wn i. Ond, maen nhw'n gofyn i mi wneud prawf llif unffordd. Nid yw'n broblem o gwbl. Os oes angen iddyn nhw weld fy nhystysgrif brechlyn dwbl, nid yw hynny'n broblem chwaith. Os yw hynny'n cadw'r lleoliad hwnnw ar agor drwy'r gaeaf a thrwy'r gwanwyn, ac yn cadw'r staff ac aelodau eraill y gynulleidfa yn ddiogel, yna wyddoch chi, mae hynny'n waith da. Mae hynny'n rhan o fy nghyfrifoldeb i hefyd. Ond, a gaf i ofyn i'r Gweinidog beth y mae'n ei wneud ledled y Llywodraeth ar hyn o bryd o ran dadansoddi cymdeithasol ac ymddygiadol? Nid y pethau technegol, nid y mesurau uniongyrchol, nid y rheoliadau ac yn y blaen, ond y dadansoddi hwnnw o'r hyn a fydd yn helpu pobl i wneud y peth iawn, ac i barhau i wneud y peth iawn. Mae canfyddiad o fygythiad wedi newid, ac mae hynny'n rhannol oherwydd llwyddiant cyflwyno'r brechlyn. Mae normau cymdeithasol yn symud rhywfaint. Ond, mae ffyrdd y mae modd gwneud hyn oherwydd ein bod ni wedi gwneud hynny cystal eisoes. Mae'r negeseuon, yr arweinyddiaeth, y cosbau weithiau— A wnaiff yr Aelod ddod i ben? Huw Irranca-Davies AC: Felly, rwy'n gofyn i'r Gweinidog pa waith y mae'n ei wneud ar wyddoniaeth gymdeithasol ac ymddygiadol i sicrhau y gallwn ni fynd drwy hyn i gyd gyda'n gilydd yn ddiogel. Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr, Huw. Diolch i chi am gydnabod, oherwydd y pasys COVID, ein bod ni, gobeithio, yn gallu cadw rhai o'r lleoliadau hynny ar agor a allai fod wedi wynebu cau fel arall. Yn sicr, yr hyn yr ydym ni'n falch iawn o'i weld yw bod cryn dipyn o wyddoniaeth gymdeithasol ac ymddygiadol wedi bod yn gysylltiedig â'n dull gweithredu cyfan yma. Mae gennym ni ymchwil gynhwysfawr sydd wedi ei wneud i'r hyn sy'n ysgogi pobl i ymddwyn mewn ffordd wahanol. Mae gennym ni ymgyrch weithredol iawn sydd wedi bod yn mynd rhagddi ers sawl wythnos bellach, 'Helpwch Ni i'ch Helpu Chi', sy'n ceisio helpu pobl i'w cyfeirio i'r lleoedd iawn ar gyfer cymorth, yn enwedig os ydyn nhw'n sâl, ond hefyd i wneud yn siŵr eu bod yn gofalu amdanyn nhw eu hunain y gaeaf hwn. Gallwn ni i gyd fwyta'n well. Gallwn ni i gyd fod yn fwy heini. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n deall ein cyfrifoldebau yn hyn hefyd. Hefyd, mae gennym ni ymgyrch 'Cadwch Gymru'n ddiogel y gaeaf hwn'. Felly, mae'n bwysig iawn bod pobl yn ymgysylltu â hynny. Pan fydd pobl yn cael eu brechiadau atgyfnerthu, rwy'n gobeithio y byddan nhw hefyd yn cael rhywfaint o gyngor o ran iechyd y cyhoedd a sut i amddiffyn eu hunain y gaeaf hwn. Heledd Fychan AS: Gweinidog, gwnaethoch chi sôn yn eich datganiad fod y GIG yn dal i fod dan bwysau dwys. Mae llawer o drigolion cwm Cynon wedi cysylltu â mi i godi pryderon bod yr adran damweiniau ac achosion brys sy'n lleol iddyn nhw yn Ysbyty'r Tywysog Charles wedi bod dan bwysau eithafol yn ystod y pandemig. Hyd yn oed yn awr wrth i ni siarad, mae amser cyfartalog o wyth awr a 15 munud i bobl gael eu gweld yno, a 70 o gleifion yn aros i gael eu gweld. Mae'r sefyllfa wedi gwaethygu ers cau'r uned mân anafiadau yn Ysbyty Cwm Cynon ers 8 Medi, a hynny oherwydd prinder staff. Heddiw, cefais adroddiad y bydd y cau dros dro hwn yn barhaol bellach. A yw'r Gweinidog yn gallu cadarnhau'r adroddiad hwn? Ac, os yw'n wir bod yr uned mân anafiadau yn cael ei chau'n barhaol, beth yw barn y Gweinidog ar fwrdd iechyd yn israddio gwasanaethau lleol yn barhaol yn ystod pandemig, ac yn ychwanegu at y pwysau ar wasanaethau eraill fel yr adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty'r Tywysog Charles? Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr, Heledd. A gaf i egluro bod ein gwasanaethau GIG o dan bwysau dwys ar hyn o bryd? Nid oherwydd nad ydyn nhw'n gweithio'n galed. Maen nhw'n gweithio'n eithriadol o galed, fel y maen nhw wedi ei wneud ers 18 mis. A bod yn onest, mae'r bobl hyn eisoes wedi blino'n lân. Mae llawer ohonyn nhw i ffwrdd o'r gwaith yn sâl. Mae gan lawer ohonyn nhw COVID. Felly, mae'n rhaid i chi ddeall, bob tro y bydd hynny'n digwydd, fod mwy o bwysau ar y bobl sy'n weddill. Felly, byddwn i'n gofyn i'r cyhoedd yng Nghymru weithredu'n synhwyrol a bod yn sensitif i'r ffaith bod y bobl ar ein rheng flaen bellach yn wynebu gaeaf anodd iawn, iawn. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni ddeall bod hynny'n golygu ein bod ni, weithiau, yn mynd i weld yr angen i grynhoi'r gwasanaethau hynny mewn rhai ardaloedd oherwydd y pwysau staff sy'n digwydd. Felly, rwyf i yn teimlo ei bod hi'n bwysig bod pobl yn deall, fel yr ydym ni wedi ei weld yr wythnos hon yn y de, fod unedau mamolaeth wir yn gorfod crynhoi eu hymdrechion yn fawr oherwydd y sefyllfa staffio honno. Felly, byddwn i'n gofyn i bobl, yn ystod y cyfnod hwn, fod yn oddefgar ynghylch y pwysau difrifol sydd ar ein systemau ar hyn o bryd. Yn olaf, Mabon ap Gwynfor. Mabon ap Gwynfor AS: Diolch, Dirprwy Lywydd. Weinidog, dwi’n meddwl eich bod chi a’r Llywodraeth yn bod braidd yn annheg yn dweud nad oedd neb yn gwybod beth oedd yn mynd i ddod dechrau’r flwyddyn ddiwethaf a'i fod o'n hawdd gwneud penderfyniadau ag edrych yn ôl—hindsight, fel roedd y Prif Weinidog wedi sôn heddiw. Dwi'n meddwl ein bod ni i gyd wedi gweld y lluniau'n dod o'r Eidal ar ddechrau'r flwyddyn, ac, yn wir, o Tsieina, ac roedd pawb efo syniad reit dda beth oedd o'n blaenau ni. Ond, yn fwy na hynny, diolch i'r Dr Moosa Qureshi, rydyn ni’n gwybod bod Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wedi cynnal ymarferiad trylwyr i baratoi am bandemig coronafeirws, a hynny bum mlynedd yn ôl, o’r enw Exercise Alice. Mae’n debyg bod yr ymarferiad yma wedi ein rhybuddio ni o'r angen am stociau PPE a’r angen am system olrhain cysylltiadau drylwyr, ymhlith nifer o bethau eraill. Ac os ydy’r adroddiad yn y Guardian i’w gredu, roedd Llywodraeth Cymru yn dystion i’r ymarferiad yma ac wedi derbyn yr argymhellion. Pam na wnaeth y Llywodraeth weithredu ar yr argymhellion, Weinidog? Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr. Rwy'n credu ei bod yn annheg dweud ein bod ni'n gwybod llawer am COVID pan gyrhaeddodd. Yr union ffaith nad oeddem ni'n gwybod am gryn dipyn y gallai pobl gario COVID a'u bod yn asymptomatig—roedd hynny yn rhywbeth y gwnaethom ni ei ddysgu yn llawer diweddarach, ar ôl iddo gyrraedd, i roi dim ond un enghraifft o bethau yr ydym ni wedi eu dysgu. Os byddwch chi'n darllen yr adroddiad sydd wedi dod o Dŷ'r Cyffredin heddiw, un o'r pethau mae yn ei ddweud yw bod cynllunio pandemig y DU wedi ei seilio'n rhy gul ac anhyblyg ar fodel ffliw a'i fod wedi methu â dysgu'r gwersi gan SARS, MERS ac Ebola. Nid yw'n sôn am yr adroddiad yr ydych chi'n sôn amdano. Felly, rwy'n credu y bydd yn ddiddorol gweld pam na wnaeth y pwyllgor hwn nodi'r adroddiad yr ydych chi'n sôn amdano. Felly, mae hynny'n sicr yn rhywbeth y byddaf i'n mynd i ymchwilio iddo ar ôl y cwestiwn hwn. Diolch, Gweinidog. Mae'n ymddangos bod—. A, mae gennym ni'r Gweinidog. 7. Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021 Eitem 7, Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021. Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i wneud y cynnig. Julie James. Cynnig NDM7796 Lesley Griffiths Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Medi 2021. Cynigiwyd y cynnig. Julie James AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn gyffredinol, nid yw pobl sy'n destun rheolaeth fewnfudo yn gymwys i gael tai cymdeithasol wedi eu dyrannu iddyn nhw, nac i gael cymorth digartrefedd. Mae Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014, a elwir yn 'rheoliadau 2014', yn rhagnodi dosbarthiadau o bersonau sydd, er eu bod nhw'n destun rheolaeth fewnfudo, yn cael eu hystyried yn gymwys i gael llety tai a chymorth tai. Maen nhw hefyd yn rhagnodi dosbarthiadau o bersonau a fyddai, er nad ydyn nhw'n destun rheolaeth mewnfudo, yn anghymwys serch hynny; er enghraifft, os nad oedden nhw'n preswylio yma'n arferol a'u bod nhw wedi dychwelyd yn ddiweddar. Bydd Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021—y rheoliadau hyn—yn darparu dau ddosbarth newydd o bobl sy'n destun rheolaeth fewnfudo sy'n gymwys i gael tai wedi eu dyrannu iddyn nhw a chyfle i gael cymorth tai. Pobl yw'r rhain sydd â fisa Dinesydd Prydeinig (Tramor) Hong Kong, neu Ddinesydd Prydeinig Tramor, sydd wedi mynd yn anghenus a bod newid wedi bod i'w statws mewnfudo gan eu galluogi i fanteisio ar arian cyhoeddus, a phobl sy'n dod i mewn i'r DU o Affganistan o dan rai cynlluniau neu bolisïau'r Swyddfa Gartref sydd wedi gadael Affganistan yn ddiweddar oherwydd cwymp Llywodraeth Affganistan. Fodd bynnag, ni fyddai'r rhai hynny sy'n destun ymgymeriad cynnal a chadw neu nawdd yn gymwys. Bydd y rheoliadau hyn hefyd yn darparu bod y rhai hynny sy'n cyrraedd o Affganistan ac nad ydyn nhw'n destun rheolaeth fewnfudo, ond a fyddai'n cael eu heithrio oherwydd ddiffyg preswylfa arferol, yn gymwys yn lle hynny i gael cymorth. Er hwylustod, rydym ni'n disgrifio'r rhai sy'n cyrraedd neu'n dychwelyd o Affganistan ac sydd wedi eu cynnwys o dan y rheoliadau hyn fel carfan o bobl sy'n dyfod/dychwelyd o Affganistan. Bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod Llywodraeth y DU wedi creu llwybr newydd i bobl o Hong Kong ddod i'r DU oherwydd deddfwriaeth diogelwch cenedlaethol Llywodraeth Tsieina a'r effaith y bydd yn ei chael ar hawliau a rhyddid pobl Hong Kong. Bydd yr Aelodau hefyd yn ymwybodol iawn o'r effaith a'r niwed sydd wedi dod yn sgil gorchfygu Llywodraeth Affganistan gan gyfundrefn y Taliban a sut mae hyn hefyd yn effeithio ar hawliau a rhyddid pobl Affganistan, yn enwedig y bobl hynny yn Affganistan a gefnogodd waith y DU yn eu gwlad, yn ogystal â menywod a merched, sydd wedi arwain at greu llwybr mewnfudo ar gyfer rhai o garfan o bobl sy'n dyfod/dychwelyd o Affganistan. Bydd y rheoliadau hyn yn sicrhau y bydd y garfan yn gymwys i gael cymorth o'r diwrnod cyntaf, yn hytrach na gorfod bod yn preswylio yma yn arferol. Er bod y cysylltiadau sy'n bodoli rhwng Hong Kong ac Affganistan â'r DU, a Chymru, drwy estyniad, yn wahanol iawn, maen nhw'n ddwfn ac yn hirsefydlog serch hynny. Mae'r cysylltiadau hynny yn golygu bod gennym ni ymrwymiad i bobl Hong Kong ac Affganistan, a dyma pam yr ydym ni'n dymuno cefnogi'r rhai sy'n dod yma ac y mae angen cymorth arnyn nhw. Mae llawer o ddeiliaid fisa Dinesydd Prydeinig Tramor a charfan o bobl sy'n dyfod/dychwelyd o Affganistan eisoes yn y wlad, felly rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn deall yr angen i ni ddiwygio rheoliadau 2014 rhag ofn y bydd angen tai neu gymorth tai ar y rhai sydd wedi gwneud Cymru yn gartref newydd iddyn nhw. Os bydd yr Aelodau yn cefnogi'r cynnig, bydd awdurdodau lleol yng Nghymru, gan weithio gyda'u partneriaid, yn gallu darparu'r cymorth a fydd yn ei gwneud yn haws i bobl o Hong Kong a charfan o bobl sy'n dyfod/dychwelyd o Affganistan ymgartrefu yng Nghymru. Diolch. Nid oes unrhyw siaradwyr ar gyfer yr eitem hon. Gweinidog, a ydych am ddweud unrhyw beth arall? Na. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 8. Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2020-21 Eitem 8, dadl ar adroddiad blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2020-21. Galwaf ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i wneud y cynnig. Jane Hutt. Cynnig NDM7797 Lesley Griffiths Cynnig bod y Senedd: Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2020-21. Cynigiwyd y cynnig. Jane Hutt AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gael y cyfle i drafod adroddiad blynyddol Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer 2020-21 heddiw. Ac mae cyhoeddi adroddiad blynyddol yr Athro Sally Holland yn gyfle pwysig i ni ganolbwyntio ar hawliau plant ar y cyd. Mae'n amser pwyso a mesur cynnydd ac ystyried galwadau'r comisiynydd i ni wneud mwy. Ac ni fu erioed blwyddyn arall fel y flwyddyn ddiwethaf, yn enwedig i blant a phobl ifanc. Mae effaith y pandemig yn parhau i effeithio ar eu bywydau a bywydau eu teuluoedd. Rwy'n hynod ddiolchgar i'r comisiynydd plant am ei rhan annibynnol mewn hyrwyddo hawliau plant yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae'r comisiynydd a'i thîm wedi blaenoriaethu anghenion pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru yn gyson, gan sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed a bod eu hawliau'n cael eu parchu. Mae hyn wedi bod yn amlwg yn yr ymgysylltu y mae'r comisiynydd plant wedi ei wneud gyda Llywodraeth Cymru yn ystod y pandemig. Mae'r comisiynydd wedi parhau i ganolbwyntio'n ddi-baid ar blant a phobl ifanc yn ystod yr argyfwng hwn, ac mae hi wedi gweithio'n adeiladol gyda Gweinidogion a swyddogion drwy gydol y cyfan. Ac mae hyn wedi ein galluogi ni i weithio trwy faterion anodd, gan sicrhau bod anghenion plant a phobl ifanc yn cael eu hystyried a bod eu hawliau'n cael eu diogelu. A hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r comisiynydd plant a'i thîm am eu gwaith ar arolygon 'Coronafeirws a Fi' ymhlith plant a phobl ifanc. Arweiniodd y comisiynydd, gan weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, y Senedd Ieuenctid a Phlant yng Nghymru, brosiect i glywed yn uniongyrchol sut roedd y pandemig yn effeithio ar agweddau iechyd, addysg a chymdeithasol ar fywydau pobl ifanc. Daeth bron i 44,000 o ymatebion i law ym mis Mai 2020 a mis Ionawr 2021, gan sicrhau bod lleisiau plant wedi eu clywed yn ystod y pandemig. Defnyddiodd y comisiynydd yr arolygon fel cyfle i wrando ar farn plant o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a phlant anabl. Amlygodd canfyddiadau'r arolwg sawl maes lle nad oedd cyfleoedd i blant a phobl ifanc ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig arfer eu hawliau yn gyfartal a'u cyfoedion gwyn yng Nghymru neu Brydain, ac roedd hyn yn cynnwys eu gallu i wneud ymarfer corff a chwarae, cadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu, ansicrwydd bwyd, a phryderon ynghylch goblygiadau ar eu dysgu. Mae'r canfyddiadau hyn yn dangos i ni'r rhan y mae hiliaeth, gwahaniaethu ac anfantais yn ei chwarae ym mhrofiadau'r bobl ifanc hyn, ac yn rhoi pwyslais i ni ar yr angen i ni gymryd camau yn y cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol ar gyfer Cymru wrth-hiliol. Cafodd canlyniadau'r holl arolygon eu defnyddio gan bob rhan o'r Llywodraeth, gan gynnwys pan oedd angen gwneud dewisiadau anodd ynghylch cyfyngiadau ar fywydau pob dydd plant. Hoffwn i ddiolch hefyd i'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol am ei gwaith helaeth gyda'r comisiynydd plant. Mae'r Dirprwy Weinidog yn cyfarfod yn rheolaidd â'r comisiynydd, a'r Prif Weinidog ac aelodau eraill o'r Cabinet yn yr un modd, ac mae'r ymgysylltu parhaus hwn wedi ein helpu ni i barhau i ganolbwyntio'n glir ar hawliau plant a phobl ifanc yn ein gwaith, yn enwedig yn ystod y pandemig. Cyhoeddodd y comisiynydd ei hadroddiad blynyddol ar gyfer 2020-21 yr wythnos diwethaf gyda nifer o alwadau i weithredu, gan gynnwys mewn cysylltiad ag iechyd meddwl, ac rwy'n gobeithio y gallwn ni ddefnyddio ein hamser ni heddiw i archwilio'r meysydd hynny lle mae'r comisiynydd wedi galw arnom ni i wneud mwy yn ein gwaith. Mae'r adroddiad yn amlinellu cyflawniadau ei swyddfa yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf a'u gweithgarwch parhaus i ymateb i'r pandemig, ac mae hyn yn cynnwys ei hadolygiad ffurfiol cyntaf o'r modd y mae Llywodraeth Cymru yn arfer ei swyddogaethau. Defnyddiodd ei phwerau ffurfiol mewn cysylltiad ag addysg ddewisol yn y cartref a diogelu mewn ysgolion annibynnol. Ymatebodd Llywodraeth Cymru i'w hadolygiad ym mis Mawrth eleni. Mae'r adroddiad blynyddol hwn yn cynnwys 18 o argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys argymhellion sy'n ymwneud â phlant â phrofiad o ofal, addysg, iechyd plant, y glasbrint cyfiawnder ieuenctid a'r strategaeth gofalwyr di-dâl. A bydd y ddadl hon heddiw yn rhoi cyfle i Aelodau'r Senedd fynegi eu barn ar adroddiad y comisiynydd a rhoi sylwadau ar y meysydd y mae'r comisiynydd wedi eu codi. Hoffwn i groesawu ehangder a dyfnder yr argymhellion. Fodd bynnag, ni fyddaf i'n trafod manylion ein hymateb iddyn nhw heddiw. Bydd y Prif Weinidog yn cyhoeddi ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad blynyddol y comisiynydd erbyn 30 Tachwedd. Cyn i'r Aelodau drafod yr adroddiad hwn, mae'n bwysig nodi bod pandemig y coronafeirws yn parhau i effeithio ar rai o'r argymhellion y mae'r comisiynydd wedi eu cyflwyno, ac mae rhai meysydd lle nad ydym ni wedi gweld y cynnydd y byddem ni wedi ei ddymuno oherwydd yr angen i oedi neu ailflaenoriaethu llwythi gwaith. Er gwaethaf hyn, mae ein bwriadau yn parhau i fod yn benderfynol. Rydym ni'n falch o'n hanes yng Nghymru, gyda Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn parhau i fod yn sail i'n polisi ar gyfer plant. Mae'n ganolog i'n dull gweithredu i wella canlyniadau plant, drwy eu helpu a'u cefnogi i gyflawni eu potensial llawn. Dirprwy Lywydd, hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i gydnabod bod cyfnod yr Athro Sally Holland fel comisiynydd yn dod i ben ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf, felly hwn fydd ei hadroddiad blynyddol olaf. Hoffwn i felly ddiolch i'r comisiynydd am bopeth y mae hi wedi ei wneud i gynorthwyo plant a phobl ifanc drwy gydol ei chyfnod o saith mlynedd yn y swydd. Mae hi wedi bod yn eiriolwr diflino ar ran plant a phobl ifanc ac yn hyrwyddwr eu hawliau a'u lles. Ar hyn o bryd rydym ni'n mynd drwy'r broses i benodi olynydd Sally ar sail drawsbleidiol, a nod y Prif Weinidog fydd gwneud cyhoeddiad yn y flwyddyn newydd. I gloi, rwy'n edrych ymlaen at y ddadl bwysig hon, wrth i ni ganolbwyntio ar adroddiad annibynnol y comisiynydd plant a'n cynnydd o ran cefnogi hawliau plant ledled Cymru. Mae rôl annibynnol y comisiynydd yn hanfodol, a byddwn ni'n parhau i weithio gyda'i swyddfa er budd pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru. Diolch. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, Jayne Bryant. Jayne Bryant AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gael siarad yn y ddadl hon yn y Cyfarfod Llawn am y tro cyntaf yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Rwy'n gobeithio datblygu gwaith y pwyllgor a'r Cadeirydd blaenorol, a ddangosodd, drwy gydol eu cyfnod pum mlynedd, werth craffu effeithiol gan y pwyllgor wrth gyflwyno newidiadau pwysig i wella bywydau plant a phobl ifanc yng Nghymru. Fel pwyllgor, nid ydym ni wedi cael cyfle eto i graffu ar adroddiad blynyddol y comisiynydd plant. Byddwn ni'n cynnal y sesiwn honno ar 18 Tachwedd. Gan mai hwn yw adroddiad blynyddol olaf y comisiynydd presennol, hoffwn i ddiolch iddi hi a'i thîm am eu holl waith yn ystod y chwe blynedd a hanner diwethaf i eirioli dros hawliau plant a phobl ifanc yng Nghymru. Hoffwn i hefyd adleisio geiriau'r comisiynydd plant, yn ei rhagair i'r adroddiad, i ddiolch i'r holl weithwyr rheng flaen hynny sydd wedi cefnogi, meithrin, addysgu a gofalu am blant a phobl ifanc drwy gydol y pandemig hwn, ac, wrth gwrs, i dalu teyrnged i'r bron i 700,000 o blant a phobl ifanc yng Nghymru sydd wedi dangos cadernid ymhell y tu hwnt i'w hoedran yn ystod y 18 mis diwethaf. Rydym ni i gyd yn ymwybodol bod Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn sail i'r holl waith y mae'r comisiynydd yn ei wneud. Mae'r hawl i blant fynegi eu barn ar bethau sy'n effeithio arnyn nhw, a bod eu barn yn cael ei hystyried pan fydd penderfyniadau'n cael eu gwneud, wedi ei deall yn dda. Ac, fel y soniodd y Gweinidog, mae'r arolygon 'Coronafeirws a Fi' y mae'r comisiynydd wedi eu cynnal yn ystod y pandemig, yn enghraifft brin iawn o hyn yn ymarferol, wrth i 44,000 o blant a phobl ifanc gyfrannu atyn nhw dros y cyfnod adrodd. A byddwn ni'n sicr yn ystyried rhai o'r canfyddiadau hyn wrth i ni geisio dyfeisio a mireinio ein cynllun strategol fel pwyllgor. Mae hefyd yn galonogol iawn gweld y comisiynydd yn dweud bod ei swyddfa, er gwaethaf y pandemig, wedi gallu cyflawni'r holl amcanion a fu cyn y pandemig, gan hefyd wneud gwaith ychwanegol a gododd oherwydd y pandemig. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi nifer o argymhellion ar draws amrywiaeth eang o feysydd polisi. Rwy'n siŵr, fel pwyllgor, y bydd rhai o'r rhain yn feysydd y byddwn ni'n eu harchwilio'n fanylach yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd nesaf. Heddiw, hoffwn i ofyn am ragor o fanylion gan Lywodraeth Cymru am sut y mae'n bwriadu ymateb i'r argymhellion hynny sy'n ymwneud â phlant mewn gofal. Rwy'n tynnu sylw at y rhain gan eu bod yn ymwneud ag ymrwymiadau clir y rhaglen lywodraethu. Mae'r rhaglen lywodraethu yn ymrwymo i ddileu elw preifat o ofal plant sy'n derbyn gofal. Mae'r comisiynydd yn galw am gyflwyno map ffordd erbyn mis Ebrill y flwyddyn nesaf i nodi'r amserlen a'r camau gweithredu ar gyfer cyflawni hyn. A wnaiff y Gweinidog nodi a fydd map ffordd o'r fath yn cael ei gyhoeddi o fewn yr amserlen, ac os na fydd, pam? Yn yr adroddiad blynyddol, mae'r comisiynydd yn galw ar y Llywodraeth i gyflwyno yn brydlon hawliau a pholisi statudol i'r rhai sy'n gadael gofal fel pecyn cydlynol. Rwy'n croesawu ymrwymiad y Dirprwy Weinidog yn ein pwyllgor yr wythnos diwethaf fod y Llywodraeth yn bwriadu deddfu yn nhymor y Senedd hon i sicrhau bod gan bob person sy'n gadael gofal hawl i gynghorydd personol hyd at 25 oed. A wnaiff y Gweinidog amlinellu heddiw pa elfennau eraill o'r pecyn cymorth y maen nhw'n bwriadu eu darparu i'r rhai sy'n gadael gofal? Unwaith eto, hoffwn i ddiolch i'r comisiynydd a'i thîm am eu holl waith caled, sydd wedi ei nodi yn yr adroddiad blynyddol. Mae rôl y comisiynydd fel hyrwyddwr annibynnol, sy'n eirioli dros hawliau a lles plant, wedi bod yn hollbwysig. Rwy'n edrych ymlaen at archwilio'r adroddiad yn fanylach gyda'r comisiynydd ac aelodau'r pwyllgor ar 18 Tachwedd. Diolch yn fawr. Joel James MS: Yn gyntaf, hoffwn i ddechrau trwy ddiolch i'r comisiynydd plant am ei holl waith caled a'i hymroddiad drwy gydol ei chyfnod yn y swydd. Hoffwn i ddiolch iddi hi a'i staff hefyd am baratoi'r adroddiad hwn. Yn anffodus, fel llawer o rannau eraill o gymdeithas, mae plant, yn enwedig plant sy'n agored i niwed y mae eu hamodau wedi eu gwaethygu o bosibl oherwydd y newidiadau sylweddol y maen nhw wedi eu hwynebu yn ystod pandemig COVID, wedi dioddef yn anghymesur, ac yn sicr caiff ei chydnabod bod y comisiynydd plant wedi ceisio yn wirioneddol i ymdrin â llawer o'r materion y maen nhw a'u teuluoedd wedi eu hwynebu. Yn wir, rwyf i wedi darllen adroddiad y comisiynydd â diddordeb mawr, ac mae'n braf iawn gweld y gofal a'r sylw y mae hi wedi bod yn eu rhoi i gynifer o agweddau ar les plant. A siarad yn bersonol, roeddwn i hefyd yn falch o weld sôn am y digwyddiad bord gron a gafodd ei gynnal yn gynharach eleni ac a roddodd lwyfan i bobl fyddar iau i leisio eu pryderon. Fel y gŵyr yr Aelodau efallai, rwyf i wedi siarad yn gyhoeddus am yr anawsterau clyw yr oeddwn i'n eu hwynebu wrth dyfu i fyny a'r effaith y mae wedi ei chael ar fy nysgu. Fel y gallwch chi ei weld o'r hyn rwy'n ei wisgo o amgylch fy ngwddf, mae'n dal yn rhywbeth sy'n cael effaith arnaf i, ac o ganlyniad rwy'n awyddus iawn i weld gwelliannau yn cael eu cyflawni yn y maes hwn. Felly, rwy'n deall, ers blynyddoedd lawer, fod y gymuned fyddar wedi rhannu eu rhwystredigaethau â swyddfa'r comisiynydd nad yw anghenion y gymuned yn cael sylw, ac er bod yr adroddiad yn tynnu sylw at rywfaint o ymgysylltu, serch hynny, ni wnaeth unrhyw argymhellion penodol ar gyfer plant byddar. Rwy'n credu bod hyn yn drueni, o ystyried faint o waith ac ymdrech a roddodd y gymuned fyddar ynddo i gael Llywodraeth Cymru i wneud darpariaeth ddigonol ar gyfer eu hanghenion. Felly, gyda hynny mewn golwg, hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i ailbwysleisio'r angen am siarter genedlaethol yng Nghymru i helpu i ddarparu gwasanaethau ac adnoddau, gan gynnwys addysg, ar gyfer plant a phobl ifanc fyddar a'u teuluoedd. Byddai siarter o'r fath yn galluogi awdurdodau lleol i gynllunio ac adnoddu cymorth o fewn fframwaith sydd wedi ei gydnabod yn genedlaethol ac yn helpu i sicrhau cysondeb darpariaeth ledled Cymru. Yn yr un modd, mae angen i ni gydnabod yn ffurfiol yng Nghymru mai Iaith Arwyddion Prydain yw iaith gyntaf pobl fyddar, ac mae angen i ni ymdrin ar frys â'r pryderon y maen nhw wedi eu codi ynghylch safon ac ansawdd Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer gweithwyr addysg proffesiynol arbenigol. Tua diwedd y pumed Senedd, cynigiodd fy nghyd-Aelod Mark Isherwood Fil sy'n ceisio sicrhau bod gan y gymuned fyddar a phobl sydd wedi colli eu clyw lais wrth gynllunio a darparu gwasanaethau i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion defnyddwyr gwasanaethau, gyda chamau gweithredu'n cynnwys sefydlu grŵp cynghori cenedlaethol Iaith Arwyddion Prydain, er enghraifft. Cafodd y Bil gefnogaeth drawsbleidiol, ac rwy'n gwybod ei bod yn un yr oedd llawer o bobl fyddar yn disgwyl yn eiddgar iddo gael ei gyflwyno, ond, yn anffodus, nid yw'r Llywodraeth wedi ei gyflwyno eto. Ar ran pawb sy'n dioddef o golli clyw a'u teuluoedd a'u cefnogwyr, a gaf i nawr alw ar y Llywodraeth hon i ymrwymo i gyflwyno Bil Iaith Arwyddion Prydain i Gymru yn ystod tymor hwn y Senedd? Mae diffyg cyfleoedd i dderbyn addysg, gwasanaethau iechyd, cyflogaeth a gwasanaethau cyhoeddus eraill i lawer o bobl fyddar sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a chaiff ei hadrodd yn eang fod canran fawr o bobl fyddar yn ei chael hi'n anodd cyflawni cyrhaeddiad addysgol uwch, a all effeithio arnyn nhw drwy gydol eu bywydau. O ystyried effaith yr hyn y gall cymorth priodol a chywir ei gyflawni i helpu plant byddar i fyw bywyd llawn ac egnïol, rwy'n credu ei bod yn hanfodol i ni roi hyn ar waith—y ddeddfwriaeth hon. Yn olaf, hoffwn i hefyd ymdrin â'r mater sydd wedi ei grybwyll yn adroddiad y comisiynydd ar faint o amser y mae Llywodraeth Cymru yn ei gymryd i gyflwyno hawliau a pholisïau statudol ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal fel pecyn cydlynol. Cytunodd y Llywodraeth ag argymhellion yr adroddiad 'Uchelgeisiau Cudd' yn 2017, sydd bron i bum mlynedd yn ôl, ac eto nid ydyn nhw wedi gweithredu'r diwygiadau hynny i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a gafodd eu cynnig o hyd. Yn yr un modd, gofynnodd ei chyd-grŵp gwasanaethau cymdeithasol a thai i'r Llywodraeth hefyd ddatblygu safonau cenedlaethol i fynd i'r afael â phryderon ynghylch ansawdd, digonolrwydd ac addasrwydd llety lled annibynnol ar gyfer pobl ifanc â phrofiad o ofal hyd at 25 oed, ond mae'n ymddangos bod y cynnydd ar y cynigion hyn wedi dod i ben. Dywedodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yn ei hadroddiad fod bwlch gweithredu rhwng y dyheadau sydd wedi eu nodi gan Lywodraeth Cymru mewn polisi a deddfwriaeth a'i hymrwymiad i weithredu a darparu adnoddau ar lawr gwlad. Ac mae'n ymddangos mai'r un stori sydd yma hefyd. Mae'r Gweinidog, rwy'n siŵr, yn ymwybodol iawn o ba mor amharchus yw hyn nid yn unig i bawb sydd wedi rhoi cymaint o amser ac ymdrech ar gais y Llywodraeth hon, ond i'r holl blant a phobl ifanc hynny sy'n cael cam hefyd o ran derbyn y gofal priodol sydd ei angen arnyn nhw. Mae'r Llywodraeth hon wedi cytuno i'r argymhellion y maen nhw wedi gofyn amdanyn nhw, ac eto nid ydych chi wedi gwneud fawr ddim o ran eu gweithredu. Rwy'n credu y dylai'r mater o ofalu am iechyd a lles ein plant a'n pobl ifanc oresgyn llinellau plaid wleidyddol, ond mae'r ffaith bod dal angen i'r comisiynydd alw am weithredu'r ddeddfwriaeth hon yn ffiaidd. A wnaiff y Gweinidog egluro i'r holl bobl ifanc hynny a fyddai wedi elwa ar weithredu'r ddeddfwriaeth hon sydd wedi ei hargymell pam mae'r Llywodraeth hon wedi methu yn barhaus â'i gweithredu? Rwyf i hefyd yn meddwl tybed a fyddai'r Gweinidog yn ddigon dewr mewn gwirionedd i ymddiheuro am hyn ac ailymrwymo i weithredu'r argymhellion y cytunwyd arnyn nhw mor bell yn ôl. Diolch. Siân Gwenllian AC: Diolch am y cyfle i drafod yr adroddiad yma. Hoffwn i ganolbwyntio ar agweddau penodol o'r adroddiad, rhai sydd angen sylw buan a rhai sydd heb gael sylw hyd yma y prynhawn yma. A hoffwn i gymryd y cyfle i holi'r Gweinidog am ei sylwadau, gan dderbyn, wrth gwrs, nad ydy'r ymateb llawn swyddogol ar gael eto. Trof yn gyntaf at blant sy'n cael eu hatal neu eu diarddel o'r ysgol. Sut yn y byd ei bod hi'n bosib fod angen diarddel plentyn tair oed, plentyn pump oed a phlentyn saith oed o'r ysgol? Sut bod angen diarddel 768 o blant tair i saith oed dros gyfnod o flwyddyn? Mae'r ffigurau yma gan y comisiynydd plant yn frawychus, ac mae'n amlwg nad yr un broses o ddiarddel a ddylai fod ar waith ar gyfer plant ifanc o'i chymharu â'r broses ar gyfer pobl ifanc hyd at 16 oed—er bod angen codi cwestiynau am y broses efo plant hŷn hefyd, gyda llaw. Ond, o ran y plant ieuengaf, mae'r comisiynydd wedi canfod bod un plentyn wedi cael ei ddiarddel 18 o weithiau mewn blwyddyn. Nid sôn am ystadegyn ydyn ni yn y fan yma, ond sôn am blentyn, ac mae'n hollol amlwg dydy diarddel plentyn dro ar ôl tro ddim yn mynd at wraidd y broblem nac yn ymateb i'w anghenion. Mae'r plant yma angen eu cefnogi, nid eu troi ymaith, ac mae'n rhaid i'r Llywodraeth roi polisi ar waith i atal diarddel plant dan wyth oed, ac mae angen adolygu'r canllawiau diarddel ar gyfer plant hŷn hefyd. Hoffwn i glywed y prynhawn yma fod hyn yn gonsýrn a bod yna waith ar droed i newid y sefyllfa. Maes arall sy'n peri pryder yn sgil adroddiad blynyddol y comisiynydd plant ydy diwygio gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid. Mae'r comisiynydd yn dweud yn glir iawn na fu digon o gynnydd. Ac yn allweddol, araf iawn a fu'r cynnydd tuag at y glasbrint cyfiawnder ieuenctid. Yn ystod y pandemig, fe dynnodd y comisiynydd sylw at blant a oedd yn cael eu cadw yn y ddalfa ac oedd yn colli eu hawliau. Felly, a gawn ni wybod beth ydy'r amserlen ar gyfer cyflwyno'r glasbrint yn llawn ac, yn y cyfamser, faint o bryder ydy hi i'r Gweinidog nad oes yna bwyslais ar ddulliau amgen yn hytrach nag anfon plant i'r ddalfa? Does yna ddim digon o gyfleon ar gyfer gwasanaethau adferol. Fe dynnodd y comisiynydd sylw hefyd at y broblem o blant o Gymru yn cael eu gosod yn y ddalfa yn Lloegr a byddai'n dda clywed pa gynnydd sydd wedi ei wneud efo'r broblem benodol yna. Troi at faes arall, sef cofrestru staff mewn ysgolion annibynnol efo Cyngor y Gweithlu Addysg, neu yn wir y diffyg cynnydd tuag at orfodi hyn er mwyn diogelu disgyblion, yn enwedig i ddiogelu merched rhag aflonyddu rhywiol. Mae'n fater o gonsýrn i'r comisiynydd ers tro, ac rwy'n rhannu'r consýrn. Mae Plaid Cymru wedi bod yn rhannu’r consýrn yma bod y Llywodraeth mor araf yn datrys y problemau cofrestru, felly byddai’n dda gwybod bod y Llywodraeth o’r diwedd yn mynd i weithredu deuddegfed argymhelliad adroddiad blynyddol y comisiynydd plant, a hynny er mwyn diogelu disgyblion ysgol yng Nghymru. A dwi'n troi yn olaf at fater arall o bryder, sef plant sydd yn cael eu dysgu gartref. Mae'r comisiynydd wedi dadlau nad ydy'r ddeddfwriaeth eilradd y mae'r Llywodraeth yn bwriadu ei chyflwyno ar addysg gartref ddewisol, nad ydy'r ddeddfwriaeth eilradd yma'n ddigonol, a dydy o ddim ychwaith yn mynd yn ddigon pell o safbwynt diogelu hawliau plant. Hoffwn i wybod beth ydy'r rhesymeg y tu ôl i beidio â dilyn cyngor y comisiynydd i ddod â deddfwriaeth gynradd ymlaen ar y pwnc yma. Dwi'n gwybod bod yna brinder amser o fewn y rhaglen ddeddfwriaethol, ond tybed oes yna resymau eraill dros fod mor amharod i weithredu'n gadarn yn y maes yma. Felly, hoffwn i glywed sylwadau'r Gweinidog ar y meysydd yma os gwelwch chi'n dda. A gaf i ddiolch yn fawr iawn i'r comisiynydd am ei gwaith diflino, yn dal ati i bwyso am y newidiadau sydd eu hangen? Y tristwch ydy ein bod ni'n dal wrthi yn eu trafod nhw, a'n bod ni'n dal angen gweld gweithredu. Jane Dodds. Allwn ni droi'r sain ymlaen? Diolch. Jane Dodds AS: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a hefyd dwi eisiau dweud diolch yn fawr iawn i Sally Holland hefyd. Jane Dodds AS: Diolch am eich holl waith, nid yn unig drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf, sydd wedi bod yn flwyddyn eithriadol o anodd, ond ers cael eich penodi yn 2015. Hoffwn ganolbwyntio ar un mater bach, ac eto, rwy'n gofyn i'r Gweinidog edrych ar fap ffordd ynglŷnâ'r mater penodol hwn, a phlant mewn gofal yw hynny. Mae nifer y plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru wedi cynyddu 38 y cant dros y degawd diwethaf i dros 6,000 o blant yn derbyn gofal yng Nghymru o fis Mawrth ddwy flynedd yn ôl, a disgwyliwn y bydd y ffigurau'n fwy diweddar yn dangos cynnydd ychwanegol. Galwodd y comisiynydd plant yn gyntaf ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar ofal preswyl yn 2016, ac er i'r argymhelliad hwn gael ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru yn 2017 a 2018, mae'r cynnydd o ran cymryd camau i ddiddymu elw mewn gwasanaethau gofal preswyl i blant wedi bod yn araf iawn. Fodd bynnag, rwy'n teimlo'n obeithiol y bydd gwaith ar y maes cymhleth hwn yn mynd rhagddo, yn enwedig ar ôl i'm cynnig deddfwriaethol ar yr union fater hwn fynd drwy'r Senedd cyn toriad yr haf. Yng ngwanwyn 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Bapur Gwyn ar 'Ail-gydbwyso gofal a chymorth', sy'n cynnig datblygu fframwaith gofal cymdeithasol cenedlaethol i osod arferion comisiynu teg i ddarparwyr. Mae hyn ynghyd ag addewid cryf gan Lafur Cymru i ddileu elw preifat o ofal plant sy'n derbyn gofal yn ystod tymor y Senedd hwn. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru yn awr gyflwyno'r map ffordd hwn erbyn 1 Ebrill 2022, a fydd yn nodi'r amserlenni a'r camau gweithredu y byddan nhw yn eu dechrau i gael gwared yn ddiogel ar wneud elw o ddarpariaeth gofal cymdeithasol plant. Felly, hoffwn ofyn i'r Gweinidog: pryd y cawn ni y map ffordd hwnnw i wireddu'r uchelgais hwn? Rwyf yn deall yn llwyr gymhlethdod y materion hyn ac nid wyf eisiau amharu ar y broses, ond mae angen i Lywodraeth Cymru gyflwyno cynigion ffurfiol. Diolch. Diolch yn fawr iawn. Gareth Davies AS: Noswaith dda, pawb. Hoffwn ddiolch i'r comisiynydd plant a'i staff am eu gwaith parhaus i ddiogelu hawliau plant Cymru, ac am yr ymroddiad y maen nhw wedi'i ddangos drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf. Fodd bynnag, mae gennyf broblem gyda'r safbwynt a gymerwyd dros ddarparwyr gofal annibynnol. Mae'r sector preifat yn darparu wyth o bob 10 lleoliad ar gyfer plant mewn gofal. O ystyried y twll du enfawr sy'n bodoli o ran cyllid ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, ni allwn ddisgwyl i'r sector cyhoeddus gamu i mewn. Roedd awdurdodau lleol eisoes yn cael trafferthion gyda phwysau cost cyn y pandemig. Mae gwasanaethau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yn cael eu tanariannu'n druenus a bydd diffygion ariannol yn llawer gwaeth wrth i ni ddod allan o'r pandemig. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi datgan bod awdurdodau lleol yn pryderu am y galw a roddir ar wasanaethau wrth i ni ddod allan o'r cyfnod clo. Mae ôl-groniad o achosion llys o hyd sy'n ychwanegu at yr heriau a wynebir wrth wneud lleoliadau priodol a chynaliadwy ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal. Heb ddarparwyr preifat, byddai'r sefyllfa'n llawer gwaeth. Er bod y sector preifat yn darparu 80 y cant o leoliadau, yr oeddem yn dal wedi gweld dros 365 o blant y tu allan i Gymru y llynedd, yn anffodus. Nid gyda'r darparwyr gofal y mae'r broblem, mae gyda'r system. Wedi'r cyfan, mae ein GIG a'n system ofal yn seiliedig ar yr egwyddor o sectorau cyhoeddus a phreifat yn gweithio law yn llaw â'i gilydd. Heb y sector preifat, ni fyddai gennym feddygon teulu, dim deintyddion, dim optegwyr, dim meddyginiaethau, a nifer fawr o blant a phobl ifanc heb unrhyw ofal. Diffyg cyllid ac, yn bwysicach na hynny, y galw yw'r prif faterion sy'n wynebu gofal plant. Yr wythnos diwethaf, amlinellodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ffaith amlwg: mae nifer y plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru wedi cynyddu dwy ran o dair ers 2004. Canfu Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru fod gan Gymru yn gyson nifer uwch o blant sy'n derbyn gofal na gweddill y DU, ac mae'r bwlch yn parhau i ehangu. Mae hefyd wedi canfod bod amrywiad lleol yn nifer y plant sy'n derbyn gofal, gyda'r niferoedd mewn rhai ardaloedd cyngor yn parhau i fod yn sefydlog neu'n gostwng. Canfuwyd bod rhywfaint o'r amrywiad yn deillio o wahanol arferion a pholisïau gwaith cymdeithasol ar draws cynghorau. Canfu'r ganolfan hefyd fod barnwyr Cymru yn fwy tebygol na'u cymheiriaid yn y DU o wneud gorchmynion sy'n caniatáu i gynghorau gymryd plant i ofal, ac rwy'n gofyn i Sally Holland a'i thîm ganolbwyntio ar fynd i'r afael â'r gwahaniaeth hwn. Pam mae plant yng Nghymru yn fwy tebygol o orfod derbyn gofal yn y pen draw? Rydym i gyd yn gwybod fod plant mewn gofal yn fwy tebygol o ddioddef canlyniadau gwaeth. Er ei bod yn iawn i ni wneud popeth o fewn ein gallu i wella cyfleoedd bywyd y rhai sy'n gadael gofal, y camau gorau y gallwn ni eu cymryd yw atal plant rhag mynd i ofal yn y lle cyntaf a chofio mai atal ddylai fod ein prif pwyslais. Diolch yn fawr iawn. Sioned Williams MS: Mae adroddiad blynyddol y comisiynydd plant yn nodi bod grwpiau o blant yn wynebu anghydraddoldeb ar hyn o bryd oherwydd amrywiaeth o ffactorau, ond hoffwn ganolbwyntio ar effaith tlodi. Rwy'n croesawu yr adroddiad hwn, ac anogaf Lywodraeth Cymru i ystyried ei hargymhellion gyda'r ymdeimlad o frys a awgrymir, yn enwedig o ran ehangu cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim. O ystyried penderfyniad creulon San Steffan i dorri credyd cynhwysol yr wythnos diwethaf gan £20, a'r diffyg diddordeb, mae'n ymddangos, wrth fynd i'r afael â thlodi tanwydd mewn gwirionedd, rydym yn gwybod y bydd plant Cymru yn dioddef y gaeaf hwn heb unrhyw fai arnyn nhw eu hunain. Mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd i lywodraethu er budd pobl Cymru, ac felly byddai methu ag amddiffyn y tlotaf a'r mwyaf agored i niwed rhag cyni y Torïaid yn ymwrthod yn llwyr â'r cyfrifoldeb sylfaenol hwn. Mae angen hefyd i Lywodraeth Cymru weithredu'r egwyddorion y mae'n honni ei bod yn eu cynrychioli—mae angen mabwysiadu'r egwyddor o gyffredinolrwydd, er enghraifft, a oedd yn hanfodol i sefydlu'r GIG a'r wladwriaeth les, os ydym ni am roi terfyn ar dlodi plant a'r anfanteision y mae'n eu hachosi, a amlinellir gan yr adroddiad hwn. O ran mynd i'r afael â thlodi plant, dywed yr adroddiad fod y comisiynydd wedi argymell bod y Llywodraeth yn cyhoeddi cynllun cyflawni, ond bod y Llywodraeth wedi gwrthod hyn. Mae'r adroddiad yn nodi bod y Llywodraeth wedi cynnal eu hadolygiad mewnol eu hunain o dlodi plant a chanfu nad oedd pawb yn cael eu hawliau llawn. Mae ymwybyddiaeth isel o hawliau, a waethygir gan rwystrau llythrennedd ac iaith, ac mae'r rhaglenni sydd wedi'u cyfyngu gan god post/ardal yn eithrio rhai pobl mewn angen. Byddai cyflwyno polisïau cyffredinol fel prydau ysgol am ddim i bob plentyn yn ysgolion y wladwriaeth yn gwneud llawer i fynd i'r afael â'r materion hyn. Mae'r enghraifft a roddwyd yn yr adroddiad o deulu a aeth heb unrhyw daliadau am brydau ysgol am ddim yn ystod y cyfyngiadau symud am chwe mis oherwydd mater trawsffiniol awdurdodau lleol a newidiadau i bolisi awdurdodau lleol yn dangos yn glir pam y byddai gweithredu system prydau ysgol am ddim cyffredinol yn sicrhau na fyddai unrhyw deuluoedd o Gymru yn cael eu hunain mewn angen fel hyn. Felly, rhaid gofyn y cwestiwn pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud hynny hyd yma, o ystyried ei hymrwymiad tybiedig i egwyddorion sosialaidd, y galwadau eang gan ymgyrchwyr gwrth-dlodi a hawliau plant i wneud hynny, a'r corff mawr a rhyngwladol o dystiolaeth sy'n cyfeirio at effaith drawsnewidiol prydau ysgol am ddim i bawb. Nid oes amheuaeth bod angen i'r Llywodraeth gymryd camau brys ar dlodi plant. Ni fydd mwy o'r un peth yn ddigon. Mae angen gweithredu beiddgar os ydym ni am roi terfyn ar y staen foesol hon ar ein cymdeithas. Ni allai argymhelliad adroddiad y comisiynydd plant y dylid mynd i'r afael ar frys â chymhwysedd prydau ysgol am ddim fod yn gliriach. Wrth i'r gaeaf agosáu a'r pwysau ar deuluoedd Cymru â phlant yn cael eu hamlygu mewn adroddiad ar ôl adroddiad, ac yn y Siambr hon dro ar ôl tro, mae angen i'r Llywodraeth osod targed statudol i leihau tlodi plant a gweithredu'n ddi-oedi i ymestyn cymhwysedd prydau ysgol am ddim, ac mae'n rhaid i hyn ddigwydd yn awr, wrth i deuluoedd Cymru sydd â phlant wynebu gaeaf caled ac anodd, mae eu costau byw yn codi wrth i'w hincwm gael ei dorri mor greulon. A all y Gweinidog roi sicrwydd i ni y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar hyn o'r diwedd? Diolch. David Rees AC: Galwaf ar y Gweinidog i ymateb i'r ddadl. Jane Hutt AC: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r holl Aelodau heddiw sydd wedi cyfrannu at y ddadl ar adroddiad blynyddol y Comisiynydd Plant. Hefyd, roedd yn bwysig iawn clywed gan Jayne Bryant, cadeirydd newydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, y bydd ei phwyllgor yn ystyried hyn ac yn ystyried yr argymhellion a'r adroddiad hefyd. Mae hyn i gyd yn mynd i helpu i'n hysbysu a'n harwain wrth i ni symud ymlaen. Hefyd, diolch i Jayne Bryant am gydnabod unwaith eto lais a swyddogaeth annibynnol, gref bwysig y comisiynydd plant ac, yn wir, y gydnabyddiaeth bod y comisiynydd plant a Chadeirydd pwyllgor y gweithwyr allweddol hynny yn y rheng flaen yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc, a chadernid, fel y mae'r comisiynydd plant wedi tynnu sylw ato yn yr adroddiad, ein plant a'n pobl ifanc drwy'r cyfnod mwyaf heriol hwn i'n cenhedlaeth ni ac i'w cenedlaethau nhw y mae gennym gymaint o gyfrifoldeb dros wrando arnyn nhw, dysgu ganddyn nhw a'u cefnogi. Felly, mae'n gwbl glir bod arolygon Coronafeirws a Fi yn bwysig iawn. Rwy'n diolch i Joel James am ei gydnabyddiaeth hefyd o swyddogaeth bwysig y comisiynydd plant, ac am gydnabod un maes penodol. Mae'n bwysig eich bod yn tynnu sylw at y bwrdd crwn a gynhaliwyd a chydnabod anghenion plant byddar. Er bod y ddadl hon yn ymwneud â'r adroddiad, byddaf yn sicr yn ymrwymo i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein gwaith a'n hymateb i siarter y BSL, a'r ymchwil sy'n cael ei wneud, wrth gwrs, ar ôl ymateb i ddadl Mark Isherwood yn y Senedd ddiwethaf. Rwy'n hapus iawn i ymateb ar wahân a diweddaru cydweithwyr ac Aelodau ar y mater hwnnw. Mae'r Aelodau wedi cyfeirio at argymhellion a meysydd pwysig lle disgwylir i Lywodraeth Cymru ymateb yn briodol ac yn llawn i'r argymhellion hynny, y byddwn yn eu gwneud maes o law, fel y dywedais i, erbyn diwedd mis Tachwedd. Ac rwy'n credu bod yr argymhelliad o ran hawliau statudol i'r rhai sy'n gadael gofal yn allweddol iawn i hyn, gan fod yr ail argymhelliad yn ein galw i 'fynd ati'n gyflym i gyflwyno hawliau statudol a pholisïau ar gyfer ymadawyr gofal, ar ffurf pecyn cydlynus.' Wrth gwrs, mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni wedi bod yn gweithio arno'n agos iawn. Er mwyn tawelu meddyliau cydweithwyr yma heddiw ac Aelodau'r Senedd, rydym wedi ymrwymo i ddeddfu yn nhymor y Senedd hwn i sicrhau bod gan bob un sy'n gadael gofal hawl i gynghorydd personol hyd at 25 oed. A gallwn ni wneud y newid hwn drwy reoliadau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ac mae amserlennu a blaenoriaethu is-ddeddfwriaeth yn cael ei ystyried ar hyn o bryd ar gyfer y tymor hwn, ac rydym yn rhagweld y bydd hyn yn cael ei ddatblygu yn 2022-23. Felly, mae hwn yn gyfle pwysig i dawelu meddyliau pobl. Wrth gwrs, rydym ni'n parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi'r rhai sy'n gadael gofal i fod yn oedolion ac i fod yn annibynnol, ac rydym yn awyddus i adeiladu ar y gwaith a wnaed yn ystod tymor diwethaf y Senedd a'r canlyniadau a gyflawnwyd. Mae hyn yn ymwneud â chyflawni'r ymrwymiad hwn i roi'r hawl statudol honno i'r rhai sy'n gadael gofal gael mynediad at gynghorydd personol hyd at 25 oed. Jane Hutt AC: Ac, wrth gwrs, mae materion allweddol a godwyd gan yr Aelodau heddiw. Cododd Siân Gwenllian y mater pwysig o ran yr argymhellion ynghylch gwaharddiadau ar gyfer ein plant ieuengaf yn y cyfnod sylfaen. Yn 2019, wrth gwrs, byddwch yn cofio i ni gyhoeddi canllawiau wedi'u diweddaru, a gyhoeddwyd yn ôl yn 2015, ar waharddiadau o ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion. Mae hwn yn nodi'r cymorth y mae'n rhaid i ysgolion ac awdurdodau lleol ei roi ar waith ar gyfer pob plentyn sydd wedi'i wahardd o'r ysgol ac o unedau cyfeirio disgyblion, ac mae'n hanfodol ein bod yn cael cymorth ac ymyrraeth gynnar nad yw'n gadael unrhyw blentyn ifanc wedi'i wahardd o addysg. Rwyf yn gwbl glir mai dim ond fel dewis olaf y dylid defnyddio gwaharddiad. Mae hyn yn ymwneud â thanategu'r ymrwymiad bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael addysg fel y gallan nhw ffynnu a llewyrchu mewn cymdeithas, ac felly yr ymyrraethgynnar a'r gefnogaeth gynnar hanfodol a phwysig hynny sy'n hollbwysig, ac rwy'n diolch i Siân Gwenllian am godi'r pwynt hwnnw. Ond hefyd, mae'n bwysig cydnabod y materion sy'n ymwneud â'r glasbrint cyfiawnder ieuenctid, ac rwy'n falch bod gennyf gyfrifoldebau, ond wrth gwrs mae cyfrifoldebau llawer o'r argymhellion hyn ar draws Llywodraeth Cymru ac yn cael eu rhannu ar y cyd o ran ein cyfrifoldebau. O ran symud ymlaen gyda'r glasbrint cyfiawnder ieuenctid, mae gennym gynlluniau gweithredu wedi'u diweddaru, amserlenni cyflawni prosiectau wedi'u hadnewyddu, ac fe'u cyhoeddwyd mewn ymgynghoriad â'n partneriaid ym mis Mawrth eleni, ond hefyd £500,000 ychwanegol i'r rhaglen glasbrint hefyd—partneriaeth gref wrth symud ymlaen. A gyda'r Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, a minnau, y cytunwyd i weithio gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i gyflawni canlyniad a fydd yn gweld plant yn y systemau lles a chyfiawnder yng Nghymru wedi'u cydleoli yn yr un adeilad a safle. Mae gennym raglen ar y cyd. Mae'r prosiect yn y ddalfa hefyd yn rhaglen ar y cyd. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn symud ymlaen, a gallaf hyd yn oed ymateb yn gadarnhaol heddiw o ran yr argymhellion hynny. Wrth gwrs, mae llawer yma; Ni allaf eu hateb i gyd, ond byddwn i'n gwneud hynny pan fydd gennym ein hadroddiad terfynol. Wrth gwrs, mae cydnabod y materion sy'n ymwneud ag ysgolion annibynnol, diogelu a lles pobl ifanc yn hollbwysig, ac mae angen i ni edrych ar hyn o ran pwysigrwydd cofrestru staff sy'n gweithio yn y sector ysgolion annibynnol gyda Cyngor Gweithlu Addysg, a fyddai'n ategu'r darpariaethau diogelu sydd eisoes ar waith. Wrth gwrs, addysg yn y cartref eto—argymhelliad arall gan y comisiynydd plant. A, Dirprwy Lywydd, fe wnaf ddweud bod hwn eto'n faes lle'r ydym yn gwneud cynnydd yn y maes hwn. Wrth gwrs, bu effaith COVID-19, fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol, ond mae'r gwaith, er bod yn rhaid ei oedi yn 2020, wedi'i ailgychwyn. Nawr, rwyf eisiau canolbwyntio o'r diwedd ar y ddau bwynt terfynol allweddol a wnaed gan Yr Aelodau. Rhoddodd Jane Dodds gefnogaeth bwerus iawn—fel y gwnaeth hi yn flaenorol—i'r argymhelliad o ran dileu gwneud elw o ofal plant sy'n derbyn gofal. Mae'n un o'r blaenoriaethau uchaf i'r Llywodraeth hon. Ac fe ddywedaf hynny wrth Gareth Davies—mae hynny o'r flaenoriaeth uchaf, ac rydym yn bwriadu dileu'r holl elw preifat o ofal plant o ran cartrefi gofal plant. Yn olaf, Sioned Williams, ie, wrth gwrs, rydym ni'n gweld y gwaith yr ydym ni'n ei wneud o ran prydau ysgol am ddim nid yn unig fel piler canolog i'n dull o fynd i'r afael â thlodi, ond hefyd yr adolygiad cymhwysedd. Rwy'n credu ei bod yn dda bod y comisiynydd plant, hefyd, yn cydnabod pwysigrwydd ein brecwast ysgol am ddim, lle'r oeddem yn arwain y ffordd drwy gyflwyno'r brecwast am ddim hwn mewn ysgolion cynradd yn 2004. Ond yn amlwg, bydd y pwyntiau pwysig a wnaed yn y ddadl hon heddiw, sy'n cwmpasu ystod eang o feysydd sy'n effeithio ar ein plant a'n pobl ifanc, yn hanfodol wrth i ni symud ymlaen i ymateb yn llawn i adroddiad y comisiynydd plant. A gaf i ddweud i gloi, mae gennym draddodiad balch iawn o roi hawliau plant wrth wraidd ein penderfyniadau? Mae adroddiad blynyddol y comisiynydd plant yn un o'r ffyrdd yr ydym ni'n cael ein dwyn i gyfrif, a dyna sydd wedi digwydd y prynhawn yma, sy'n bwysig o ran sut yr ydym ni'n cefnogi hawliau plant fel hawliau i blant a phobl ifanc. Rwyf eisiau sôn am y ffaith y bydd fy nghyd-Aelod Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, yn cyhoeddi cynllun hawliau plant diwygiedig Llywodraeth Cymru cyn diwedd y flwyddyn a bydd yn nodi'r trefniadau sydd gennym ar waith ar gyfer rhoi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn pan fydd Gweinidogion yn arfer unrhyw un o'u swyddogaethau. Yn olaf, Dirprwy Lywydd, rwy'n siŵr y byddwch chi i gyd eto'n ymuno â mi i ddiolch i'r comisiynydd, Sally Holland, am bopeth y mae hi wedi'i wneud i sicrhau bod pob plentyn yn gwybod am eu hawliau, sut i gael gafael ar yr hawliau hynny a sut i herio pan nad ydyn nhw yn derbyn yr hawliau hynny. Mae hi wedi gwneud hyn yn gyson yn ystod ei thymor yn y swydd a dymunwn yn dda iddi wrth iddi ddod i ddiwedd ei thymor. Diolch i chi, i gyd, am yr holl swyddogaethau yr ydych chi wedi'u chwarae heddiw yn y ddadl heddiw. Bydd ein hymateb ym mis Tachwedd yn dangos pa mor ddifrifol yr ydym yn cymryd ein hymrwymiad i hawliau plant. Rydym yn parchu argymhellion ac adroddiad ein comisiynydd plant. Diolch yn fawr. Diolch, Weinidog. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol a Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Daeth y cyfarfod i ben am 18:16. QNR Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru Rhianon Passmore: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella rhagolygon cyflogaeth pobl ifanc rhwng 16 a 18 oed yn Islwyn, nad ydynt mewn hyfforddiant na gwaith ar hyn o bryd? Mark Drakeford: We continue to support the employment prospects of young people through the young person's guarantee and the apprenticeship programme. Last week, the Minister for Economy confirmed completion of the procurement process for our exciting new programme for 16 to 18-year-olds, Jobs Growth Wales+. Jane Dodds: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddull Llywodraeth Cymru o fynd i'r afael â thlodi plant? Mark Drakeford: Our child poverty strategy sets out our objectives for improving outcomes for low-income families and mitigating the impact of poverty. The objectives will be delivered through our programme for government commitments to build a fairer, more equal Wales that provides children with the best start in life. Peredur Owen Griffiths: Sut mae'r Llywodraeth yn gwella trafnidiaeth gyhoeddus i gymunedau yn Nwyrain De Cymru? Mark Drakeford: Our strategy for the region is set out in the new Wales transport strategy, 'Llwybr Newydd', which aligns with the recommendations of the Lord Burns commission. Work has already commenced on the 58 recommendations, ranging from improvement of the south Wales main line to local measures.
uk-hansard-senedd-cy
senedd2021-10-12
2024-06-01T00:00:00
{ "year": "2021", "language": "cy", "license": "Open Parliament Licence - https://www.parliament.uk/site-information/copyright-parliament/open-parliament-licence/" }
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:29 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. Datganiad gan y Llywydd Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. A chyn i ni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, lle bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y cyfarfod yma heddiw, ac fe nodir y rhain yn eich agenda chi. Hoffwn atgoffa'r Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod yma, ac yr un mor berthnasol i Aelodau yn y Siambr ag ydyn nhw i'r Aelodau sy'n ymuno drwy gyswllt fideo. 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Russell George. Dyrannu Cyllid Russell George AC: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyrannu cyllid ar draws Llywodraeth Cymru yn sgil cyhoeddiad y Canghellor ynghylch £600 miliwn o symiau canlyniadol ychwanegol gan Lywodraeth y DU? OQ55901 Rebecca Evans AC: Hyd yn hyn yn y flwyddyn ariannol hon, rwyf wedi dyrannu mwy na £4 biliwn fel rhan o'n hymateb i COVID-19. Byddaf yn parhau i wneud penderfyniadau cyllido darbodus pellach ac yn dyrannu adnoddau pellach pan fydd eu hangen i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, yr economi ac unigolion. Russell George AC: Diolch am eich ateb, Weinidog. Ychydig wythnosau yn ôl, gofynnais y cwestiwn i’ch cyd-Aelod, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, ac awgrymodd, yn ddefnyddiol iawn, mai chi sydd yn y sefyllfa orau i ateb y cwestiwn. Rwy'n siŵr y byddech, wrth gwrs, yn croesawu'r £600 miliwn a ddyrannwyd gan y Canghellor y mis diwethaf mewn cyllid canlyniadol gwarantedig i Lywodraeth Cymru, ac mae hynny’n ychwanegol, wrth gwrs, at yr £1.1 biliwn a warantwyd gan Lywodraeth y DU yn gynharach eleni. Daw hynny â chyfanswm y cyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU i £5 biliwn i ymladd y pandemig yma yng Nghymru. Mae rhywfaint o bryder wedi bod ynghylch dosbarthiad amserol y cyllid hwn i fusnesau. A allwch ddweud wrthyf faint o'r cyllid hwn sy'n dal i fod yng nghoffrau Llywodraeth Cymru, yn hytrach na’n darparu'r gefnogaeth hanfodol honno i fusnesau a sefydliadau ledled Cymru yn ystod y pandemig hwn? Fe ddywedoch chi eich bod wedi dyrannu £4 biliwn hyd yn hyn, felly rwy'n cyfrif bod £1 biliwn arall eto i’w wario. A ydych yn cytuno â'r dadansoddiad hwnnw, a phryd y bydd yr arian hwnnw'n cyrraedd busnesau ar y rheng flaen? Rebecca Evans AC: Roeddwn yn falch iawn o allu negodi’r warant honno gyda Llywodraeth y DU mewn perthynas â chyllid ychwanegol ar gyfer COVID-19. Ond yr hyn nad ydym wedi'i dderbyn eto gan Lywodraeth y DU yw'r ymarfer cysoni hwnnw, a fydd yn ein cynorthwyo i ddeall beth yn union y mae'r warant honno ar ei gyfer. Oherwydd gadewch inni gofio, mae'r holl arian hwn yn cyfateb i’r gwariant ar fynd i'r afael â COVID-19 dros y ffin yn Lloegr—nid yw'n driniaeth arbennig na’n ffafr arbennig i Gymru. Ond mae'n rhaid i mi ddweud ein bod wedi pleidleisio a derbyn ein hail gyllideb atodol yr wythnos diwethaf er mwyn sicrhau cymaint o dryloywder â phosibl mewn perthynas â’r penderfyniadau a'r dyraniadau a wnawn yng Nghymru. A Chymru yw'r unig ran o'r DU sydd wedi cyhoeddi ail gyllideb atodol hyd yn hyn, i ddangos y cyllid sy'n cael ei ddarparu i unigolion, i fusnesau, ac i gymunedau, y GIG ac i lywodraeth leol hefyd. Yn yr ail gyllideb atodol, cafwyd cynnydd o £2.5 biliwn i adnoddau cyffredinol Cymru. Mae cyllid pellach i'w ddyrannu, ond wrth gwrs, nid ydym ond dwy ran o dair o'r ffordd drwy'r flwyddyn ariannol. Mae’r posibilrwydd o Brexit 'dim cytundeb' ar y gorwel, ac nid ydym yn gwybod eto beth fydd llwybr y pandemig rhwng nawr a'r gwanwyn. Felly, bydd dyraniadau pellach i'w gwneud, ond byddant yn amserol ac yn ymateb i'r amgylchiadau penodol y byddwn yn eu hwynebu. Huw Irranca-Davies AC: Weinidog, ychydig fisoedd yn ôl yn unig, gwelsom aelodau Cabinet Ceidwadol Llywodraeth y DU, a Phrif Weinidog y DU yn wir yn curo dwylo ac yn diolch i weithwyr allweddol bob dydd Iau am 8 p.m. ar garreg y drws—y tu allan i Rif 10 yn wir. Erbyn heddiw, gwyddom bellach fod y Canghellor yn bwriadu rhewi cyflogau rhai o'r gweithwyr allweddol hynny. Diolch byth na fydd hynny’n digwydd i weithwyr y GIG, a rhai gweithwyr eraill, ond bydd cyflogau llawer iawn o weithwyr y sector cyhoeddus sydd wedi bod ar y rheng flaen yn cael eu rhewi y flwyddyn nesaf. A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi, os gall Llywodraeth Dorïaidd y DU ddod o hyd i'r arian i roi cannoedd o filiynau o bunnoedd mewn contractau i’w ffrindiau am gyfarpar diogelu personol anaddas, does bosibl na allant ddod o hyd i arian i roi'r codiad cyflog y maent yn ei haeddu i weithwyr ein sector cyhoeddus—pob un ohonynt—y buont yn diolch iddynt bob wythnos, i gydnabod y ffordd y maent wedi cadw'r wlad i fynd yn ystod y pandemig? Rebecca Evans AC: Mae Huw Irranca-Davies yn llygad ei le, yn yr ystyr fod y dyraniadau a’r penderfyniadau a wneir gan Lywodraeth y DU yn adlewyrchiad o werthoedd Llywodraeth y DU i raddau helaeth, a’r pethau sydd bwysicaf iddynt. O'm rhan i, cyn adolygiad o wariant y Canghellor heddiw, ysgrifennais at y Canghellor yn ei annog i gadw rhag rhewi cyflogau'r sector cyhoeddus, ac i ddarparu’r cyllid sydd ei angen arnom yma yng Nghymru er mwyn diogelu iechyd, swyddi a chefnogi adferiad teg. Ac mae gwir angen i'r Trysorlys ddefnyddio'r holl ysgogiadau sydd ar gael iddo i gefnogi’r gweithwyr ar y rheng flaen sydd wedi gwneud cymaint drosom ni yng Nghymru a ledled y DU drwy gydol y pandemig hwn. Ac mae'r penderfyniad heddiw yn gosod gwahanol rannau o'r sector cyhoeddus yn erbyn ei gilydd, sy'n peri cryn bryder, ond yn amlwg, mae’n siomedig iawn ac yn ddiangen. Rhianon Passmore AC: Weinidog, mae Canghellor Trysorlys y DU nawr yn cyhoeddi cynlluniau gwariant Llywodraeth Dorïaidd y DU ar gyfer y flwyddyn i ddod, gyda'r adolygiad cynhwysfawr o wariant a ohiriwyd cyhyd. A ninnau'n ceisio sicrwydd a chynllunio ar gyfer tymor hwy ar draws asiantaethau rhynglywodraethol a llywodraeth leol yn ystod y cyfnod hwn, mae'n siomedig mai cynllun blwyddyn yw hwn o hyd. Ac wrth gwrs, yn naturiol, fel rhan o'r undeb, bydd Llywodraeth Cymru yn disgwyl cael arian sy'n gymesur ag unrhyw arian i Loegr, diolch i fformiwla Barnett, ac edrychaf ymlaen at weld y cyllid canlyniadol hwnnw’n dod i Gymru, er fy mod yn parhau i fod mewn penbleth ac yn methu deall pam nad yw Cymru ar hyn o bryd yn cael unrhyw beth o HS2. Weinidog, mae'n bwysig fod cynnig diwylliannol a cherddorol Cymru yn cael ei ddiogelu a'i gynnal dros y gaeaf COVID anodd hwn, ac er bod y gronfa adferiad diwylliannol wedi'i chroesawu ac wedi’i dihysbyddu, mae'n dal i hepgor categorïau eang, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio llenwi’r bylchau hynny. Felly, Weinidog, pa sylwadau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i'r Trysorlys ynglŷn ag incwm ychwanegol mawr ei angen i Gymru? A sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu rhoi rhagor o gefnogaeth ariannol i berfformio cerddoriaeth fyw yng Nghymru? Rebecca Evans AC: Mae'n bwysig iawn, fel y dywedais wrth Russell George, fod Llywodraeth Cymru yn cael canlyniadau'r ymarfer cysoni hwnnw, fel y gallwn ddeall ar gyfer beth yn union y mae'r cyllid canlyniadol rydym wedi’i dderbyn hyd yma, ac yna gallwn ddeall yn well p’un a fydd cyllid pellach yn cael ei ddarparu cyn diwedd y flwyddyn ariannol. Gwn fod rhai trafodaethau yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd ynglŷn â chefnogaeth bellach i'r sector diwylliannol, ac yn sicr, bydd hynny'n rhywbeth y byddwn yn awyddus i gael trafodaethau pellach yn ei gylch gydag Eluned Morgan a Dafydd Elis-Thomas. Dyw'r ail gwestiwn [OQ55934] ddim yn gallu cael ei ofyn am resymau technegol. Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau Felly, fe symudwn ni nawr i gwestiynau'r llefarwyr. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf—Nick Ramsay Nick Ramsay AC: Diolch, Lywydd. Weinidog, fel y gwyddom, mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi rhoi barn amodol ar gyfrifon Llywodraeth Cymru am y tro cyntaf erioed, gan i wariant o £739 miliwn gael ei hepgor mewn perthynas ag ymateb Llywodraeth Cymru i’r coronafeirws. Roedd hyn yn rhywbeth a drafodwyd gyda swyddogion yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ddydd Llun. Pe bai cost y cynlluniau cymorth i fusnesau wedi'i chynnwys yng nghyfrifon Llywodraeth Cymru, byddai hyn, i bob pwrpas, wedi troi'r tanwariant o £436 miliwn yn orwariant o £303 miliwn. Mae'n amlwg fod yma nifer o faterion cyfrifyddu sydd angen eu tacluso. Pa gamau sy'n cael eu cymryd i osgoi'r math hwn o beth rhag digwydd yn y dyfodol? Rebecca Evans AC: Wel, fel y gŵyr Nick Ramsay, drwy'r briff y mae wedi'i gael fel rhan o waith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, anghytundeb technegol yw hwn rhwng Llywodraeth Cymru a'r archwilydd o ran sut y dylid dosbarthu cyllid ar gyfer eleni, yn yr ystyr fod y cyllid wedi’i gyhoeddi a’i ddosbarthu mewn gwahanol flynyddoedd o bosibl. Felly, mae'n anghytundeb o ran sut y dylid codio pethau. Ond mae'n rhaid i mi ddweud, nid ni yw'r unig rai yn y sefyllfa hon. Credaf fod pob un o'r pedair Llywodraeth ledled y DU yn wynebu'r un penderfyniad. Ac yn sicr, nid ydym yn difaru gwneud y cyhoeddiad cynnar hwnnw ynghylch cymorth i fusnesau, fel y gallent gynllunio a pharatoi wrth i'r cyfyngiadau symud cyntaf ddod i rym yn ôl ym mis Mawrth. Nick Ramsay AC: Diolch, Weinidog. Fel y dywedwch, ac rwy’n cytuno, nid oes unrhyw amheuaeth fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud y peth iawn yn ymrwymo’r cyllid hwnnw i gefnogi busnesau ledled Cymru yn ystod y pandemig. Ond rwy'n siŵr y byddech yn cytuno ei bod yn bwysig rhoi cyfrif priodol o'r arian sy'n cael ei wario gan y Llywodraeth. Rwyf hefyd yn derbyn bod hwn yn fater technegol fel y dywedoch chi, ac yn fater technegol iawn i'r rhai ohonom a fu’n trafod ei fanylion ddydd Llun, ond serch hynny, mae’n fater digynsail, ac yn sicr yng nghyd-destun gweinyddiaethau datganoledig y DU, er, fel y dywedoch chi, efallai y bydd eraill yn wynebu hyn hefyd. Felly, fel rwyf wedi’i ddweud eisoes, mae angen tacluso hyn a sicrhau cytundeb cadarn gyda'r swyddfa archwilio. Tybed a allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn ag unrhyw drafodaethau a gawsoch gydag Archwilio Cymru ynglŷn â sut y gallem fynd ati yn y dyfodol i sicrhau nad yw'r mathau hyn o anghydfodau'n codi eto, neu i sicrhau bod gennym fecanwaith, yn wir, lle gall yr anghydfodau hynny gael eu datrys yn hawdd? Rebecca Evans AC: Yn bersonol, nid wyf wedi cael trafodaethau gydag Archwilio Cymru ynglŷn â’r mater hwn. Fel y dywedwch, mae'n fater technegol, a chredaf mai’r ffordd fwyaf addas o ymdrin ag ef yn yr achos hwn yw drwy swyddogion. Ond gwn fod swyddogion wedi cael trafodaethau sylweddol a hirfaith ynglŷn â’r mater, ac yn amlwg, byddem yn awyddus i osgoi ei weld yn digwydd eto yn y dyfodol. Nick Ramsay AC: Diolch, Weinidog. Gwn fod swyddogion wedi bod yn gweithio'n galed, fel y gwnaethom ddarganfod ddydd Llun, i geisio mynd i’r afael â hyn. Credaf fod hwn yn fater technegol, ond er lles enw da Llywodraeth Cymru yng nghyswllt cyfrifyddu, ac yn wir, er lles enw da’r gweinyddiaethau datganoledig eraill, os oes problem gyda'u cyfrifon hwythau hefyd, mae angen inni ymrwymo i gytundeb er mwyn sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto. Hefyd, ac yn olaf, o gofio y bydd y £739 miliwn eleni yn ymddangos yn helaeth yng nghyfrifon y flwyddyn nesaf o ystyried nad oedd yn y cyfrifon eleni, a oes tebygolrwydd cryf y bydd cyfrifon y flwyddyn nesaf yn rhai amodol hefyd, ac a gafwyd trafodaethau gyda'r archwilydd cyffredinol ynglŷn â beth y gellid ei wneud am hyn? Rebecca Evans AC: Rwy'n deall na fydd hynny'n digwydd y flwyddyn nesaf, a bod llinell wedi'i thynnu, os mynnwch, o dan y bennod hon. Ond cytunaf fod angen trafodaethau da rhwng swyddogion ac Archwilio Cymru, a bod rhai wedi’u cynnal eisoes, er mwyn egluro'r sefyllfa a sicrhau bod gan y ddwy ochr yr un ddealltwriaeth o'r rheolau a'r elfennau technegol rydym yn gweithredu oddi mewn iddynt. Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mi fydd y Gweinidog yn cytuno efo fi pa mor annigonol ydy pwerau fiscal Llywodraeth Cymru, a bod hynny wedi cael ei amlygu yn y pandemig presennol. A all y Gweinidog amlinellu pa opsiynau mae Llywodraeth Cymru wedi'u hystyried i gynyddu'r cyllid refeniw a chyllid cyfalaf sydd ar gael iddyn nhw i ddelio efo materion presennol yn ymwneud â'r pandemig, ac i adeiladu yn ôl yn well, fel rydyn ni i gyd yn dymuno ei weld yn digwydd? Rebecca Evans AC: Wel, fel y gŵyr Rhun ap Iorwerth, nid yw ein taith tuag at godi trethi yng Nghymru ond megis dechrau i raddau helaeth. Fodd bynnag, rydym wedi gallu defnyddio'r offer sydd ar gael inni yn ystod y pandemig, ac un enghraifft fyddai'r ffordd y gwnaethom drin cyhoeddiad diweddar y Canghellor ynghylch y dreth trafodiadau tir, neu dreth dir y dreth stamp fel y'i gelwir dros y ffin. Drwy wneud set wahanol o benderfyniadau yma yng Nghymru, bu modd inni ryddhau £30 miliwn o gyllid ychwanegol i’w dargedu at ddigartrefedd, sy'n bryder penodol yn ystod y pandemig. Felly, mae rhai pethau rydym wedi gallu eu gwneud. Gwnaethom benderfyniad bwriadol i beidio â chodi cyfraddau treth incwm Cymru. Pe byddem wedi eu codi un geiniog, byddai hynny wedi codi oddeutu £200 miliwn. Gwnaethom y penderfyniad i beidio â gwneud hynny gan inni wneud ymrwymiad i bobl Cymru ar ddechrau tymor y Senedd hon na fyddem yn codi cyfraddau treth incwm Cymru yn ystod y cyfnod hwnnw. Rhun ap Iorwerth AC: Â ninnau heb yr hyblygrwydd y byddwn i yn dymuno ei gael fel Cymru, fel gwlad annibynnol, hynny ydy, mi fydd angen i ni fod yn ddyfeisgar ynglŷn â sut i gynyddu ein capasiti ni i fuddsoddi yn nyfodol Cymru. Os gallaf i fynd â'r Gweinidog yn ôl i'w datganiad hi ar MIM yr wythnos diwethaf, dwi'n meddwl bod yna ambell gwestiwn heb ei ateb o bryd hynny. Mae trylowder yn gwbl, gwbl allweddol mewn perthynas â MIM. Mae o yn ymrwymiad hirdymor, mae yna gostau uwch yn ymwneud â nhw, a dydy cuddio tu ôl i bethau fel sensitifrwydd masnachol, commercial sensitivity, ddim yn ffordd i stopio sgrwtini o gontractau ac ati. Felly, mi fyddwn i'n licio gofyn, yn enw trylowyder, beth ydy'r cap elw, er enghraifft, sydd ar y cytundeb ysgolion efo Meridiam? Ac o gofio bod MIM yn esblygiad o PFI—mae'n dal i fod yn ffordd ddrud o wario; y Scottish Futures Trust yn sôn am ryw 23 y cant yn fwy na chyllido prosiectau drwy fenthyg yn y sector gyhoeddus—pa sicrwydd all y Gweinidog ei roi bod MIM yn esblygiad digon effeithiol o PFI, lle roedd yna lawer gormod o elw yn cael ei wneud am rhy ychydig o risg? Sut ydych chi'n gallu rhoi y sicrwydd nad ydyn ni'n talu dros yr odds am y cytundebau y mae'r Llywodraeth yn mynd i'w harwyddo ar ffurf MIM hefyd? Rebecca Evans AC: Fel y dywedais wrth Rhun ap Iorwerth yr wythnos diwethaf, gan fod y contract yn cynnwys gwybodaeth fasnachol sensitif, mae arnaf ofn nad ydym yn bwriadu ei gyhoeddi. Ond mae elfen o elw bob tro pan fyddwn yn caffael seilwaith. Yn yr achos hwn, fodd bynnag, bydd union swm yr elw hwnnw'n cael ei bennu gan berfformiad y cwmni dros oes y contract, a dyna un o fanteision cynllun y model buddsoddi cydfuddiannol, yn yr ystyr fod y tâl yn gysylltiedig i raddau helaeth â pherfformiad. Cafodd ansawdd a phris cyflwyniadau pob un o’r tri chynigydd ar y rhestr fer eu profi drwy’r ymarfer caffael, a chyflwynodd Meridiam y tendr mwyaf buddiol yn economaidd yn unol â Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015, felly gallaf yn sicr ddarparu’r sicrwydd hwnnw, ac fel y gŵyr Rhun ap Iorwerth, mae gan Lywodraeth Cymru ran yn yr ymarfer hwn hefyd, sy'n golygu y byddwn yn elwa ar unrhyw elw a wneir ynghyd â'r partneriaid eraill hynny. Rhun ap Iorwerth AC: Os caf droi, i gloi, at fath arall o fenthyca, cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys gynlluniau ar 9 Tachwedd i'r DU gyhoeddi ei bondiau gwyrdd cyntaf y flwyddyn nesaf, fel rhan o ymdrech i hyrwyddo statws dinas Llundain fel canolbwynt ariannol byd-eang ac i ariannu ymdrechion i ddatgarboneiddio. Pe bai Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei bondiau ei hun, rwy'n derbyn y byddai hynny’n cyfrif tuag at ei chap ar fenthyca, sy’n rhywbeth yr hoffem ei gynyddu, wrth gwrs; rwyf wedi gwneud fy sylwadau i'r Gweinidog ynglŷn â hynny. Maent hefyd yn derbyn y dystiolaeth a roddwyd gan Gerry Holtham i adolygiad y Pwyllgor Cyllid o ffynonellau cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru yng nghyswllt bondiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Ond credaf fod pwynt pwysig i'w wneud yma ynglŷn ag adeiladu cenedl a Llywodraeth Cymru yn dynodi ei hymrwymiad nid yn unig i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd ond hefyd ei huchelgais i sicrhau bod Cymru mewn sefyllfa i fod yn rhan o farchnad fyd-eang y bondiau hyn, sy’n werth biliynau o bunnoedd ac sy’n tyfu. A yw Llywodraeth Cymru wedi archwilio’r defnydd o fondiau gwyrdd, a rôl bosibl banc datblygu Cymru yn hyn? Gallwn weld KfW yr Almaen fel enghraifft—banc datblygu dan berchnogaeth gyhoeddus sy’n un o'r gweithredwyr pwysicaf yn y farchnad bondiau gwyrdd ar hyn o bryd. Rebecca Evans AC: Wel, fel y dywed Rhun ap Iorwerth, byddai unrhyw fondiau’n cyfrif tuag at ein benthyca fel Llywodraeth Cymru, ac wrth gwrs mae gennym y terfyn cyfanredol hwnnw o £1 biliwn ac uchafswm benthyca o £150 miliwn mewn unrhyw flwyddyn, sy’n swm cymharol fach o arian rhwng popeth. Bydd hefyd yn ymwybodol o'r trafodaethau rydym eisoes wedi’u cael, y bydd Llywodraeth Cymru bob amser yn ceisio defnyddio'r mathau rhataf o fenthyca yn gyntaf, ac wrth gwrs, mae bondiau ar y pen drutach, a dyna pam nad yw'n rhywbeth rydym wedi mynd ar ei drywydd hyd yn hyn. Ond rwy'n rhannu ei awydd i gael mwy o hyblygrwydd o ran benthyca, a chynyddu'r swm y gallem ei fenthyca bob blwyddyn, ond gan gynyddu'r ffigur cyfanredol cyffredinol hwnnw hefyd. Trethi Newydd Siân Gwenllian AC: 3. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i greu trethi newydd cyn diwedd y Senedd hon? OQ55933 Rebecca Evans AC: Gwnaf. Nid oes unrhyw gynlluniau i greu trethi newydd cyn diwedd tymor y Senedd hon. Siân Gwenllian AC: Roeddwn i'n amau efallai fyddai yna ddim amser, ond mae yna un dreth newydd, gweddol newydd, yn cael ei gweithredu yng Nghymru ers tua thair blynedd erbyn hyn, sef y dreth trafodiadau tir. Y bore yma, fe glywodd y Prif Weinidog a finnau gyflwyniadau dirdynnol a phwerus iawn gan drigolion o Ben Llŷn sydd yn cael eu prisio allan o'u cymunedau oherwydd cynnydd anferth mewn pryniant ail gartrefi. Fe allai cynyddu’r raddfa uwch o'r dreth trafodion tir gael ei ddefnyddio fel ffordd fechan o geisio lliniaru'r argyfwng ail gartrefi. Fedrwch chi esbonio pa gamau fyddai angen i'r Llywodraeth a chithau fel Gweinidog eu cymryd er mwyn cynyddu'r raddfa uwch yma—proses eithaf syml y gellid ei rhoi ar waith yn syth? Rebecca Evans AC: Diolch i Siân Gwenllian am ei chwestiwn, a hefyd am gael y cyfarfod gyda’r Prif Weinidog yn gynharach heddiw, ac edrychaf ymlaen at gael clywed ganddo yn nes ymlaen y prynhawn yma ynglŷn â’r cyfarfod penodol hwnnw hefyd. Mewn egwyddor, wrth gwrs, gallwn wneud newidiadau yn ystod y flwyddyn i'n treth trafodiadau tir. Rwy'n awyddus iawn—. Mae gennym drothwyon a chyfraddau’r dreth trafodiadau tir a gyhoeddwyd ychydig fisoedd yn ôl bellach, ac mewn perthynas â'r farchnad dai, credaf ei bod yn bwysig rhoi rhyw fath o sicrwydd, hyd at 31 Mawrth o leiaf. Felly, ni chredaf y byddwn am wneud newidiadau ar unwaith yn ystod y flwyddyn. Rwyf hefyd yn ymwybodol iawn o effaith ymddygiadol cyhoeddi newidiadau a fyddai’n cael eu cyflwyno yn nes ymlaen. Mae'r newidiadau ar hyn o bryd, sy'n ei gwneud yn fanteisiol i bobl brynu tai ar hyn o bryd, yn golygu, gobeithio, ein bod yn dod â thrafodiadau tir ymlaen o'r flwyddyn nesaf i'r flwyddyn ariannol hon, a fydd yn rhoi hwb i ni ac yn rhoi hwb i'r farchnad dai ac yn rhoi hwb i'r holl fusnesau sy'n dibynnu ar symud tŷ hefyd. Felly, ni fyddwn yn bwriadu rhoi cyfnod arweiniol hir ar gyfer unrhyw newidiadau yn y dreth trafodiadau tir am y rheswm penodol hwnnw. Suzy Davies AC: Weinidog, mae Aelodau, wrth gwrs, wedi codi cymorth i dwristiaeth yn amlach nag unrhyw sector arall ers mis Mawrth, ac a bod yn deg, mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod yr heriau hynny ac wedi ceisio ymateb i sawl un ohonynt. Ond mae'n amlwg fod unrhyw ddadl y byddai treth dwristiaeth yn codi arian i'w roi yn ôl yn y sector yn chwalu nawr. Os oes gennym fusnesau’n cau a darpar ymwelwyr yn peidio â dod—yn amlwg, byddant yn poeni am eu harian eu hunain beth bynnag—wel, mae'n amlwg na fydd unrhyw un yma i dalu'r dreth honno. Felly, os gwelwch yn dda, peidiwch â rhoi rheswm arall iddynt beidio â dod. Ni chredaf y byddwch yn mynd yn bell iawn gyda threthi yn ystod y tymor hwn, fel y dywedoch chi, ond a fydd eich cais i ddychwelyd i'r Llywodraeth yn cynnwys ymrwymiad i beidio â chodi treth dwristiaeth? Rebecca Evans AC: Wel, Lywydd, ni fyddaf yn gwneud unrhyw gyhoeddiadau maniffesto yn y Siambr y prynhawn yma, ond credaf fod cryn dipyn i'w ystyried mewn perthynas â’r dreth dwristiaeth. Mae'n sicr yn rhywbeth sy'n boblogaidd iawn gydag awdurdodau lleol, yn enwedig mewn ardaloedd twristaidd, sydd am wella eu cynnig twristiaeth. Ac er nad yw'r polisi wedi'i ddatblygu'n llawn eto, nid ydym wedi cynnal ymgynghoriad llawn arno, mae'n rhywbeth rydym yn ei ystyried mewn perthynas â'r pedwar maes trethiant a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog beth amser yn ôl. Felly, nid oes unrhyw gynlluniau ar gyfer y dyfodol agos. Fodd bynnag, credaf ei fod yn faes sy'n haeddu rhywfaint o ystyriaeth bellach. Rwy'n ymwybodol iawn o sefyllfa'r sector twristiaeth ar hyn o bryd a'r anawsterau y maent wedi'u hwynebu. Felly, yn amlwg, ni fyddai’n rhywbeth i’w ystyried ar unwaith, ond ni chredaf fod hynny’n golygu na ddylem gael y sgyrsiau hynny ynglŷn â beth allai fod yn briodol yn y dyfodol, pan fydd y sefyllfa'n well. Mandy Jones AC: Weinidog, ymddengys i mi fod angen i economi'r DU ymadfer, ac yn bwysicach, mae angen iddi dyfu. Mae’n rhaid i'r ymagwedd yn y dyfodol ymwneud i raddau mwy ag annog gwariant a thwf a hyder, a pheidio â rhwystro pob un o'r rhain drwy orfodi unrhyw feichiau treth uwch yng Nghymru. A ydych yn cytuno â'r datganiad hwnnw? Rebecca Evans AC: Byddwn wrth fy modd yn annog gwariant a thwf a hyder, ond credaf fod y Canghellor wedi tywallt ychydig o ddŵr oer ar hynny heddiw drwy gyhoeddi y bydd cyflogau gweithwyr y sector cyhoeddus yn cael eu rhewi—gweithwyr yn y sector cyhoeddus sy'n gwario eu harian yn yr economi leol ac a fydd yn poeni mwy fyth yn awr am eu harian yn y dyfodol hefyd. Felly, credaf y bydd hyn yn atal unrhyw wario y gallent fod wedi bwriadu’i wneud. Ond mae fy ymagwedd at drethiant yn un gwbl dryloyw a chynhwysol. Ac fe wyddoch fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei hegwyddorion treth, ac mae’r rheini’n ymwneud â chreu trethi yng nghyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, creu trethi sy'n deg, a chreu trethi sy'n syml i'w gweinyddu ac ati. Felly, mae ein hymagwedd yn glir iawn ac ni chredaf fod unrhyw beth i bobl ei ofni, gan ein bod yn canolbwyntio'n bendant ar greu agenda flaengar. Mike Hedges AC: Rwy’n derbyn y byddai’n anodd iawn cyflwyno trethi newydd cyn diwedd tymor y Senedd hon, sydd bedwar neu bum mis i ffwrdd yn unig, ond gall Llywodraeth Cymru wneud newidiadau i drethi presennol. A wnewch chi ystyried ychwanegu mwy o fandiau uwch at y dreth gyngor? Credaf ei bod yn warthus fod rhywun sy'n talu £400,000 am dŷ, neu rywun sydd â thŷ gwerth oddeutu £400,000, yn talu'r un dreth gyngor â rhywun sydd â thŷ sy’n werth £2.5 miliwn neu £3 miliwn. Hefyd, thema sy'n codi dro ar ôl tro—atal eiddo a adeiladir fel eiddo preswyl rhag cael eu cofrestru fel busnesau bach a chael rhyddhad ardrethi busnesau bach. Rebecca Evans AC: Diolch i Mike Hedges am godi hynny. Mae'r ddau fater hyn yn rhai y mae wedi'u codi gyda mi yn y gorffennol hefyd. Archwiliais yr awgrym cyntaf ynghylch ychwanegu bandiau ychwanegol i’r dreth gyngor, ond fe'm cynghorir na ellid gwneud hynny'n iawn heb gynnal ymarfer ailbrisio llawn ar ein holl anheddau domestig yma yng Nghymru, ac ni ellid cyflawni hynny cyn tymor nesaf y Senedd, felly nid yw'n rhywbeth y gallem ei wneud ar unwaith. Ac yn amlwg, ni ellid cynnig y newidiadau hynny i fandiau’r dreth gyngor heb ymgynghoriad llawn a sylweddol â thalwyr y dreth gyngor, awdurdodau lleol ac eraill a fyddai’n cael eu heffeithio. Mae ymarferion ailbrisio’n galw am waith sylweddol iawn ac maent yn costio degau o filiynau o bunnoedd, a deallaf eu bod yn cymryd oddeutu tair blynedd i'w cwblhau, gan ddefnyddio'r fethodoleg gyfredol. Ond wedi dweud hynny, gwnaethom gomisiynu'r ymchwil annibynnol gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, ac mae honno’n edrych ar beth fyddai effaith ailbrisio’r dreth gyngor, ac yn sicr, gallai sicrhau system fwy blaengar. Felly, byddwn yn edrych ar ganfyddiadau'r ymchwil a gomisiynwyd gennym ar gyfer y dreth gyngor ac ardrethi annomestig gyda'i gilydd yn y flwyddyn newydd, a chredaf mai mater i'r Llywodraeth nesaf fyddai penderfynu ar y ffordd ymlaen. Ond mae'n gynnig diddorol iawn. Ac yn yr un modd, byddai'r awgrym am gynyddu—credaf mai awgrym am gynyddu sydd y tu ôl i gwestiwn Mike—nifer y nosweithiau y mae'n rhaid gosod eiddo a’i hysbysebu os yw'n mynd i gael ei ddosbarthu’n eiddo gwyliau ar osod yn galw am ddeddfwriaeth hefyd. Felly, credaf y bydd yn anodd inni gymryd unrhyw gamau pellach sy'n galw am ddeddfwriaeth, o ystyried y pwysau ar ein hamserlen ddeddfwriaethol dros yr ychydig fisoedd nesaf. Cefnogi Ardal Pontypridd Mick Antoniw AC: 4. Pa gyllid ychwanegol y bydd y Gweinidog yn ei ddyrannu yn y gyllideb i gefnogi ardal Pontypridd yn sgil COVID-19? OQ55926 Rebecca Evans AC: Byddwn yn parhau i ymateb i heriau'r pandemig ac yn adeiladu ar y cyllid rydym eisoes wedi'i ddarparu eleni, gan gynnwys £70 miliwn i fusnesau yn Rhondda Cynon Taf, £50 miliwn i'r awdurdod lleol, a chyllid a ddarparwyd i'r trydydd sector a sefydliadau celfyddydol ym Mhontypridd. Mick Antoniw AC: Diolch am eich ateb, Weinidog. Rwyf newydd fod yn gwrando ar ddatganiad ariannol y Canghellor, ac yn y bôn, mae’r rhan gyntaf yn torri addewid ynglŷn â darparu arian yn lle arian yr UE, ac rydym yn cofio'r addewid, sef 'ni fydd Cymru'n colli ceiniog.’ Wel, mae'n wir—nid ydym wedi colli ceiniog, rydym wedi colli cannoedd o filiynau o bunnoedd. Yr ail ran yn amlwg yw'r sarhad ar lawer o weithwyr y sector cyhoeddus, gan fod eu cyflogau’n cael eu rhewi. Ond yn drydydd, gwnaeth Prif Weinidog y DU addewid i basio cyllid i ni ar gyfer difrod llifogydd i'r seilwaith. Weinidog, a allwch ddweud wrthym, a ydym wedi cael y cyllid a addawyd, neu a yw hwnnw’n addewid arall y mae’r Torïaid wedi’i dorri? Rebecca Evans AC: Mae arnaf ofn fod yn rhaid imi roi gwybod i Mick Antoniw nad ydym wedi cael yr arian a addawyd ar lawr Senedd y DU gan Brif Weinidog y DU i fynd i’r afael ag effaith y llifogydd a gawsom yn gynharach eleni yng Nghymru, llifogydd a effeithiodd arnom yn anghymesur o gymharu ag unrhyw le arall yn y DU. Cyn yr adolygiad o wariant heddiw, ysgrifennais at y Canghellor i ddweud bod hwn yn gyfle gwych iddo nodi ei ymateb i'r llifogydd yn ei gynlluniau ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith dros y blynyddoedd i ddod, a'n galluogi i gael sicrwydd o gyllid dros y blynyddoedd i ddod. Ond yn anffodus, syrthiodd hynny ar glustiau byddar. Mae gennyf gyfarfod wedi'i drefnu gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys ym mis Rhagfyr i drafod yr union fater hwn, ond credaf ei fod yn gyfle a gollwyd heddiw. Andrew RT Davies AC: Yn amlwg, cyfle a gollwyd i lawer o fusnesau yn Rhondda Cynon Taf, ac yn enwedig ardal Pontypridd, oedd y gallu i gael mynediad at gyllid Llywodraeth Cymru, a gaeodd ar ôl 24 awr. Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi dweud ei fod yn obeithiol y bydd rownd gyllido newydd ar gael. Pan gaeodd y cyllid ar ôl 24 awr, dywedodd fod y pot hwnnw o arian wedi’i ddihysbyddu’n llwyr, Weinidog cyllid. A ydych wedi cael cais gan Weinidog yr economi i ryddhau arian ychwanegol i'w adran fel y gallai’r nifer o fusnesau a fethodd gael y cymorth hwn wneud cynnig yn y dyfodol i gael y gefnogaeth honno i gynnal eu busnesau? Rebecca Evans AC: Wel, mae'n rhaid imi ddweud wrth yr Aelod fod 2,379 o daliadau gwerth dros £7 miliwn wedi'u gwneud o'r gronfa i fusnesau dan gyfyngiadau, gan gefnogi dros 22,000 o swyddi. Dyfarnwyd cyllid i gyfanswm o 750 o ficrofusnesau a mentrau bach a chanolig drwy'r gronfa cadernid economaidd, sef cyfanswm o £11.6 miliwn, ac mae 707 o daliadau gwerth cyfanswm o dros £1.9 miliwn wedi’i gwneud hyd yn hyn o gronfa cam 3 y gronfa cadernid economaidd i fusnesau dan gyfyngiadau. Ac mae pob un o’r rhain yn berthnasol i fusnesau yn RhCT. A thrwy grant ardrethi busnes annomestig COVID-19, mae cyfanswm o 3,767 o ddyfarniadau wedi'u prosesu i fusnesau, sef cyfanswm o £43.8 miliwn. Ac wrth gwrs, mae Banc Datblygu Cymru wedi bod yn brysur yn benthyca i fusnesau yn RhCT ac wedi darparu dros £6 miliwn i 66 o fusnesau, gan ddiogelu 900 o swyddi. Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn effeithiol ac yn brysur iawn yn cefnogi busnesau yn RhCT, fel y gwelwch o'r ffigurau yno. Yn amlwg, rydym am wneud mwy, ac rydym am ddeall yr heriau penodol sy'n ymwneud â cham 3 y gronfa cadernid economaidd yn well, ac rwy'n cael trafodaethau cyson gyda Gweinidog yr economi a thrafnidiaeth ynghylch cyllid yn y dyfodol a chymorth i fusnesau yn y dyfodol. Trafnidiaeth Cymru Mark Reckless AC: 5. Pa ddyraniadau cyllidebol ychwanegol y bydd y Gweinidog yn eu darparu i gefnogi Trafnidiaeth Cymru gan ei bod bellach wedi cymryd rheolaeth dros fasnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r gororau? OQ55928 Rebecca Evans AC: Rydym wedi sicrhau bod £113 miliwn yn ychwanegol, a gymeradwywyd gan y Senedd yr wythnos diwethaf yn yr ail gyllideb atodol, ar gael ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd. Rydym yn parhau i fonitro pa gyllid pellach y gallai fod ei angen ar gyfer gweithredu gwasanaethau tan ddiwedd y flwyddyn. Mark Reckless AC: Felly, mae Llywodraeth Cymru bellach, yn uniongyrchol, neu o leiaf drwy Trafnidiaeth Cymru, sy’n eiddo 100 y cant i Lywodraeth Cymru, yn talu arian eithaf sylweddol i sybsideiddio gwasanaethau yn Lloegr, gan gynnwys gorsafoedd nad oes mwy na llond llaw o deithwyr yn eu defnyddio o bosibl. Yn ogystal, Trafnidiaeth Cymru yw perchennog cyfleuster yr orsaf mewn gorsafoedd eithaf mawr yn Lloegr, fel Henffordd, Amwythig a Chaer. Mae Adran Drafnidiaeth y DU yn ystyried trosglwyddo’r cyfrifoldeb am y gorsafoedd hynny oddi wrth Trafnidiaeth Cymru. A yw hynny'n rhywbeth y byddai'r Gweinidog cyllid yn ei gefnogi, ac oni ddylai Llywodraeth y DU fod yn gwneud mwy yn y maes hwn nawr? Rebecca Evans AC: Dylai Llywodraeth y DU fod yn gwneud mwy o lawer yn y maes hwn. Rydym yn ymwybodol iawn fod Cymru, ers gormod o amser, wedi bod yng nghefn y ciw pan oedd Llywodraeth y DU yn buddsoddi yn y seilwaith rheilffyrdd, ac mae llawer o’r cerbydau rydym yn eu defnyddio ar hyn o bryd bron yn 40 oed. Ar sail yr ymrwymiadau sy'n hysbys ar gyfer y cyfnod rhwng 2019 a 2029, rydym yn amcangyfrif diffygion o hyd at £5.1 biliwn dros y cyfnod hwn. Mae’n rhaid imi ddweud fy mod hyd yn oed yn fwy pryderus nag erioed bellach am gyllid rheilffyrdd yng Nghymru o ganlyniad i'r adolygiad o wariant heddiw. Bydd yr Aelod yn gwybod bod fformiwla Barnett yn gweithio ar yr hyn a elwir yn ffactorau cydweddoldeb rhwng adrannau Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru mewn perthynas â phwy sy'n gyfrifol am beth, a fy nealltwriaeth i, er nad ydym wedi edrych eto ar y taenlenni yn dilyn datganiadau'r Canghellor, yw y bydd y ffactor ar gyfer yr Adran Drafnidiaeth yn cael ei dorri'n helaeth o ganlyniad i HS2. Felly, mae hynny'n peri cryn bryder. Yn anffodus, nid wyf wedi gweld y taenlenni sydd bob amser yn cael eu rhannu ar ôl i'r Canghellor wneud ei ddatganiad, gan fy mod wedi bod yma y prynhawn yma, ond cyn gynted ag y cawn gyfle ar ôl ateb cwestiynau, bydd gennym well dealltwriaeth o beth fydd y goblygiadau real i ni. Russell George AC: Weinidog, bydd Trafnidiaeth Cymru, wrth gwrs, yn ysgwyddo cryn dipyn o gyfrifoldebau ychwanegol dros y blynyddoedd i ddod. Nodaf fod Trafnidiaeth Cymru yn parhau i gyflogi nifer sylweddol o ymgynghorwyr allanol yn hytrach na defnyddio adnoddau mewnol Trafnidiaeth Cymru. Pan ofynnwyd iddo ynglŷn â hyn yr wythnos diwethaf, yr hyn a ddywedodd James Price, prif swyddog gweithredol Trafnidiaeth Cymru, oedd pe bai ganddynt lythyr cylch gwaith ar gyfer y tymor hwy, gallent i bob pwrpas ariannu sgiliau mewnol ychwanegol yn Trafnidiaeth Cymru, gan leihau’r angen am ymgynghorwyr allanol. Credaf mai’r awgrym yno yw y gellid arbed cryn dipyn o arian. A yw hyn yn rhywbeth rydych wedi'i drafod â'ch cyd-Aelod, Gweinidog yr economi a thrafnidiaeth? Rebecca Evans AC: Byddem bob amser wrth ein boddau’n rhoi sicrwydd mwy hirdymor i bartneriaid ynglŷn â’u cyllid, ac yn sicr, mae'n rhywbeth y mae'r Canghellor wedi gallu ei gynnig i ysgolion a'r GIG dros y ffin yn Lloegr, yn ogystal â phrosiectau seilwaith, ond nid yw wedi gallu cynnig yr un math o sicrwydd i ninnau. Felly, mae adolygiad o wariant un flwyddyn, yn dilyn rownd wariant un flwyddyn arall a gawsom y llynedd, yn golygu bod y sefyllfa'n anodd iawn o ran darparu unrhyw lefel o sicrwydd. Felly, ydw, rwy'n cael trafodaethau am drefniadau cyllido’r dyfodol gyda fy nghyd-Aelod Ken Skates, ac yn amlwg, bydd yn awyddus i gael mwy o syniad ynglŷn â chyllid ar gyfer y blynyddoedd i ddod, ac rydym yn ystyried model a allai ddarparu hynny, ond rwy'n ymwybodol iawn y byddai'n rhaid cael llawer iawn o hyblygrwydd yn hwnnw i ganiatáu inni ymateb i sefyllfaoedd annisgwyl. Er enghraifft, yn gynharach eleni, bu’n rhaid inni ddefnyddio'r hyblygrwydd mwyaf posibl gyda chyllidebau Llywodraeth Cymru i ailddyrannu cyllid er mwyn ymateb i COVID-19. Felly, mae'n drafodaeth rydym yn ei chael yn y cyd-destun hwnnw, a hefyd, mae'n rhaid i mi ddweud, yng nghyd-destun dyfodol cyllido rhanbarthol, ond unwaith eto, mae llawer yn dibynnu ar ganlyniad yr adolygiad o wariant heddiw o ran faint y byddwn yn gallu ei ddyrannu ar gyfer hynny. Y Gwyliau Treth Trafodion Tir Hefin David AC: 6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwyliau treth trafodion tir sydd ar waith yng Nghymru tan 31 Mawrth 2021? OQ55938 Rebecca Evans AC: Yr effaith y bwriedir i’r newidiadau dros dro i’r dreth trafodiadau tir ei chael oedd annog trafodiadau yn y farchnad dai yn ystod gweddill y flwyddyn ariannol hon. Mae'r data diweddaraf ar gyfer y dreth trafodiadau tir yn dangos tueddiadau cadarnhaol mewn trafodiadau a refeniw trethi o gymharu â misoedd cynnar y flwyddyn ariannol hon. Hefin David AC: Datgelodd adroddiad yn gynharach y mis hwn gan Halifax fod cyfartaledd prisiau tai yn y DU bellach yn £250,000. Daeth hyn ar ôl adroddiad y mis diwethaf gan Nationwide a ganfu fod prisiau tai’r DU yn codi ar eu cyfradd gyflymaf ers pum mlynedd, ac mae hyn wedi’i briodoli’n rhannol i ruthr i brynu cyn diwedd y seibiant rhag talu'r dreth stamp yn Lloegr y gwanwyn nesaf, tra'n bod ni yng Nghymru wedi mabwysiadu dull llawer tecach a mwy blaengar drwy'r dreth trafodiadau tir, sy'n adlewyrchu natur ein marchnad dai yn well. Gyda hynny mewn golwg, wrth inni agosáu at ddiwedd y seibiant rhag talu'r dreth trafodiadau tir yma yng Nghymru, a all y Gweinidog gadarnhau heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn nodi ei chynlluniau i ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol drwy gydol y broses er mwyn osgoi cynnydd mewn prisiau a fyddai’n rhoi pwysau ar dai fforddiadwy yn ardaloedd gogleddol yr etholaeth rwy’n ei chynrychioli? Rebecca Evans AC: Diolch i Hefin David am godi'r mater penodol hwnnw. Wrth inni agosáu at ddiwedd y flwyddyn, yn amlwg, byddaf yn awyddus i glywed barn fy nghyd-Aelodau yn y Siambr, ac i ymgysylltu hefyd â rhanddeiliaid ynghylch dyfodol posibl y dreth trafodiadau tir. Yn amlwg, rwy'n awyddus i beidio â gwneud cyhoeddiadau yn rhy bell ymlaen llaw, gan fod hynny'n arwain at sefyllfaoedd lle mae pobl yn ceisio rhagbrynu a newid amseriad eu pryniant er mwyn cael y fargen orau, sy'n beth cwbl ddealladwy i'w wneud, ond os ydych yn defnyddio trethi i geisio hybu ymddygiad penodol, mae'n amlwg fod rhai problemau ynghlwm wrth hynny. Felly, yn amlwg, rydym wedi ymrwymo'n llwyr i dryloywder mewn perthynas â'n polisi trethi, ac rwy’n awyddus i gael trafodaethau pellach gyda Hefin David ynghylch goblygiadau ac effeithiau penodol newidiadau i drethi yn ei etholaeth ef, yn enwedig yng ngogledd ardal Caerffili. Darren Millar AC: Weinidog, rydym wedi croesawu'r toriad i’r dreth trafodiadau tir, er ei fod yn doriad dros dro ac yn llai hael na’r hyn sy'n digwydd yn Lloegr. Ein polisi ers peth amser, wrth gwrs, yw codi trothwy’r dreth trafodiadau tir i £250,000 ar gyfer prynwyr tro cyntaf yn barhaol, yn hytrach na dros dro yn unig. Pa ystyriaeth rydych wedi'i rhoi i sicrhau bod hwn yn newid parhaol yn y dreth trafodiadau tir? Rebecca Evans AC: Mae rhesymau da iawn dros gael trothwyon gwahanol yng Nghymru o gymharu â Lloegr, ac maent yn ymwneud, yn fwyaf nodedig, â’r ffaith bod prisiau tai ar gyfartaledd yn wahanol iawn yma yng Nghymru. Felly, mae cyfartaledd prisiau tai yn Lloegr ar hyn o bryd yn £262,000, ac yng Nghymru, mae’n llawer llai na hynny, oddeutu £165,000. Felly, maent yn amlwg yn farchnadoedd tai gwahanol iawn, a chredaf ei bod yn gwbl briodol cael trothwyon gwahanol ar gyfer y dreth trafodiadau tir i adlewyrchu hynny. Datblygu Economaidd ym Mlaenau'r Cymoedd Alun Davies AC: 7. Pa ystyriaeth y bydd y Gweinidog yn ei rhoi i hyrwyddo datblygiad economaidd trefi ym Mlaenau'r Cymoedd wrth ddyrannu cyllid i bortffolio'r economi, trafnidiaeth a gogledd Cymru? OQ55929 Rebecca Evans AC: Mae trawsnewid trefi, cefnogi'r economi sylfaenol, uwchraddio seilwaith mawr a thargedu buddsoddiad newydd ar gyfer Blaenau’r Cymoedd yn flaenoriaethau pwysig i Lywodraeth Cymru. Yn ystod y pandemig, rydym wedi darparu dros £150 miliwn mewn cymorth i fusnesau i ddiogelu swyddi a busnesau ar draws Blaenau’r Cymoedd. Alun Davies AC: Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei hateb. Un maes lle rwy'n cytuno â Changhellor Trysorlys y DU, wrth iddo siarad heddiw yn Nhŷ'r Cyffredin, yw pan ddywedodd mai megis dechrau y mae'r argyfwng economaidd rydym yn ei wynebu o ganlyniad i'r pandemig coronafeirws. Pryd bynnag y ceir argyfwng economaidd, un o'r gwersi rydym wedi'u dysgu ym Mlaenau’r Cymoedd yw mai ni sy'n dwyn baich yr argyfwng hwnnw. Gwelsom hynny yn y 1980au wrth i Lywodraethau Thatcher ddinistrio’r diwydiannau trwm, fe’i gwelsom eto o ganlyniad i'r argyfwng ariannol byd-eang, ac rydym wedi dioddef 10 mlynedd o gyni Torïaidd sydd wedi rhwygo'r galon allan o'n cymunedau. Credaf fod pobl ar draws Blaenau’r Cymoedd yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am y gefnogaeth a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru, ar lefel uwch o lawer nag unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig. Ond wrth ymadfer wedi'r argyfwng hwn, a allwn sicrhau bod dyfodol trefi wrth wraidd y ffordd y mae'r Llywodraeth yn symud ymlaen, a sicrhau y ceir ffocws ar drefi fel Tredegar neu Lynebwy, Abertyleri neu Fryn-mawr, sydd wrth wraidd nid yn unig ein cymunedau lleol, ond ein heconomïau lleol hefyd, ac wrth hybu twf economaidd o ganlyniad i'r argyfwng hwn, y gallwn sicrhau ffocws cryf ar ddyfodol trefi? Rebecca Evans AC: Cytunaf yn llwyr y bydd angen inni adeiladu, yn y dyfodol, ar raglen Trawsnewid Trefi a sicrhau bod gennym ffocws cryf iawn ar drefi. Bydd canol trefi’n edrych yn wahanol yn y dyfodol, ond rwyf am iddynt edrych fel lleoedd bywiog serch hynny. Ac mae angen inni ystyried mwy o adfywio a arweinir gan dreftadaeth, ac mae rhai enghreifftiau gwych o hynny ar draws y Cymoedd. Mae adfywio a arweinir gan dai, yn fy marn i, hefyd yn bwysig iawn. Mae peth o'r gwaith y buom yn ei wneud eisoes sy'n ymwneud yn benodol â'r darlun adfer yn cynnwys darparu cyllid tuag at gynllun gwerth £1.3 miliwn i greu lleoliad gweithio hyblyg ar safle’r Gweithfeydd yng Nglynebwy. Credaf y bydd gweithio hyblyg yn bwysicach nag erioed yn awr. Ac rydym yn darparu cyllid tuag at gynllun gwerth £5.1 miliwn a fydd yn dod â busnesau newydd i Fryn-mawr. Ac mae rhywfaint o gyllid pellach hefyd i gefnogi prosiectau newydd yn Nhredegar, Bryn-mawr a Nant-y-glo. Credaf y bydd yr holl bethau hyn yn bwysig wrth inni geisio ymadfer wedi'r pandemig. Buddsoddi Strategol ym Mhreseli Sir Benfro Paul Davies AC: 8. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer buddsoddi strategol ym Mhreseli Sir Benfro? OQ55914 Rebecca Evans AC: Rydym yn buddsoddi ym mhob rhan o Gymru i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus, ein busnesau a'n cymunedau. Ymhlith y buddsoddiadau yn Sir Benfro mae £48.7 miliwn ar gyfer ysgol uwchradd newydd yn Hwlffordd a £40 miliwn ar gyfer gwelliannau i'r A40. Mae Cyngor Sir Penfro hefyd wedi derbyn dyraniad o £6.9 miliwn o gyllid targedu buddsoddiad mewn adfywio. Paul Davies AC: Weinidog, rwy'n ddiolchgar i chi am eich ateb. Nawr, rwy'n parhau i dderbyn sylwadau gan drigolion yng Nghwm Abergwaun yn fy etholaeth ynglŷn â diogelwch ar y ffyrdd yn eu cymuned leol. Ac er gwaethaf ymrwymiadau cadarnhaol gan Weinidogion blaenorol ar y mater hwn, nid yw’r gwelliannau i'r A487 yn yr ardal benodol hon wedi’u rhoi ar waith o hyd. Weinidog, pa sicrwydd y gallwch ei roi i bobl Cwm Abergwaun y bydd gwelliannau i'r gefnffordd yn cael eu cyflawni, ac a wnewch chi ymrwymo i weithio gyda Chyngor Sir Penfro a thrigolion lleol i sicrhau ateb parhaol i'r ardal leol, fel bod y rhan hon o Gymru'n cael y buddsoddiad strategol y mae'n ei haeddu? Rebecca Evans AC: Diolch i Paul Davies am ei gwestiwn. I gychwyn, credaf y dylwn ymrwymo i gael trafodaeth gyda Gweinidog yr economi a thrafnidiaeth, fel y gallaf gael gwell dealltwriaeth o’r materion sydd wedi rhwystro’r cynllun penodol hwnnw ar gyfer Cwm Abergwaun a'r A487 rhag mynd yn ei flaen. Ac yn olaf, cwestiwn 9, Janet Finch-Saunders. Portffolio'r Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Janet Finch-Saunders AC: 9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gostyngiad yng nghyfanswm y dyraniad refeniw a chyfalaf ar gyfer portffolio'r amgylchedd, ynni a materion gwledig yn yr ail gyllideb atodol ar gyfer 2020-21? OQ55909 Rebecca Evans AC: Yn yr ail gyllideb atodol, gostyngodd cyllideb cyfalaf y portffolio amgylchedd, ynni a materion gwledig £10.8 miliwn o ganlyniad i'r ymarfer i nodi'r cyllidebau cyfalaf a oedd yn debygol o danwario eleni oherwydd yr argyfwng coronafeirws ac y gellid, yn y lle cyntaf, eu haddasu at ddibenion gwahanol. Janet Finch-Saunders AC: Weinidog, mae'n ddrwg gennyf, ond credaf ei bod yn echrydus ac yn siomedig iawn eich bod wedi cytuno i ostyngiad o bron i £11 miliwn yn y dyraniad refeniw a chyfalaf ar gyfer yr amgylchedd a materion gwledig. Hoffwn gyfeirio at sefyllfa hyd yn oed yn waeth sy'n peri cryn bryder i mi a'r sector amaethyddol. Fel y gwyddoch, mae gan yr amgylchedd, ynni a materion gwledig adnoddau cronnus o £97 miliwn. Mae hyn yn cynnwys incwm o'r UE i gefnogi ffermwyr a chymunedau gwledig yng Nghymru. Mae ymdriniaeth hanesyddol Llywodraeth Cymru o arian ar gyfer cymorth i ffermwyr yn fethiant difrifol. Mewn gwirionedd, efallai eich bod yn cofio mai £828 miliwn oedd y gyllideb ar gyfer y cynllun datblygu gwledig yng Nghymru ar gyfer 2014-20. Nawr, er fy mod yn cydnabod y gellir gwario yn ystod y tair blynedd ar ôl cyfnod y rhaglen, roedd y cyllid hwnnw ar gyfer 2014-20 yn unig. Pam, felly, fod oddeutu £160 miliwn heb ei wario o hyd, a pha gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd ar frys i fynd i’r afael â’r camreoli cyllidebol hwn a’r methiant i fonitro, er mwyn sicrhau bod yr holl arian ar gael, ac ar gael yn awr, i’n holl ffermwyr sydd cymaint o angen cefnogaeth? Diolch. Rebecca Evans AC: Wel, dau beth pwysig yma. Mae'r cyntaf yn ymwneud â'r cyllid o £10.8 miliwn y nodwyd y gellid ei addasu at ddibenion gwahanol. Cyllid cyfalaf yn unig yw hwnnw—nid oedd yn refeniw—ac mae £9.5 miliwn ohono'n ymwneud ag atal ymbelydredd a llygredd. Mae'n ymwneud â llithriant eleni mewn perthynas â chynllun ansawdd aer glân cyngor Caerdydd i gadw at derfynau cyfreithiol ar gyfer nitrogen deuocsid o dan y cyfarwyddiadau ansawdd aer yr amgylchedd a roddwyd i gyngor Caerdydd a chyngor Caerffili. Amcangyfrifir fod llithriannau'r cynghorau hynny oddeutu £9.5 miliwn, ac mae hynny o ganlyniad i’r pandemig, a olygodd na fu modd bwrw ymlaen â gwaith ar yr un cyflymder. Roedd yr £1.3 miliwn arall tuag at alluogi adnoddau naturiol yng Nghymru, sef grant a ganolbwyntiai ar weithgareddau a chamau gweithredu cydweithredol i ddarparu gwelliant a gwytnwch amgylcheddol. Unwaith eto, oherwydd y pandemig coronafeirws, bu’n rhaid atal y prosiectau hynny yn ystod y cyfyngiadau symud. Felly, mae'r rhain i raddau helaeth yn ganlyniadau effaith y pandemig yn hytrach na dewisiadau bwriadol i oedi gwaith o fewn y portffolio pwysig hwnnw. Credaf fod yn rhaid inni gydnabod bod y pandemig wedi effeithio ar ein gallu i gyflawni mewn sawl maes, ac rydym wedi gallu addasu cyllid at ddibenion gwahanol. Fe fyddwch yn gyfarwydd â'r pecyn £320 miliwn a gyhoeddais yn ddiweddar iawn ar gyfer canolbwyntio ar geisio cychwyn ein hadferiad. Ond os ydym am sôn am fethiannau difrifol mewn perthynas â chyllid i ffermydd, cadarnhaodd y Canghellor heddiw mai £242 miliwn yn unig y bydd Cymru yn ei gael o gyllid yn lle’r polisi amaethyddol cyffredin, a golyga hyn fod Cymru £137 miliwn yn brin o'r cyllid roeddem yn disgwyl ei gael, sy'n dangos eu bod yn bradychu cefn gwlad Cymru. Wrth gwrs, yn eu maniffesto ar gyfer etholiad cyffredinol 2019, ymrwymodd Llywodraeth y DU i ddarparu cyllid llawn i ffermwyr wedi inni adael yr UE, a byddai Cymru fel arfer yn derbyn oddeutu £337 miliwn y flwyddyn drwy’r polisi amaethyddol cyffredin. Felly, os ydych yn chwilio am fethiant difrifol i reoli cyllid ac os ydych yn chwilio am enghraifft o fradychu’r diwydiant ffermio, rwy'n credu y gallwch ei weld yn yr union fan honno. Diolch i'r Gweinidog cyllid. 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg Yr eitem nesaf yw cwestiynau i'r Gweinidog Addysg, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Andrew R.T. Davies. Prifysgolion Andrew RT Davies AC: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynlluniau ar gyfer myfyrwyr yn dychwelyd i brifysgolion Cymru yn y flwyddyn newydd? OQ55924 Kirsty Williams AC: Diolch, Andrew. Mae Llywodraeth Cymru'n adolygu'r rheoliadau a'r canllawiau mewn perthynas â theithio yn ystod cyfnod y Nadolig a thu hwnt wrth inni barhau i fonitro cyfraddau trosglwyddiad yng Nghymru. Mae'n rhy gynnar i gadarnhau unrhyw drefniadau a fydd ar waith mewn perthynas â phrifysgolion yn y flwyddyn newydd. Andrew RT Davies AC: Diolch am eich ateb, Weinidog. Rwy'n derbyn bod prifysgolion yn sefydliadau annibynnol, ond yn amlwg, bu cryn dipyn o symud ymhlith fyfyrwyr ar ddechrau'r flwyddyn academaidd ym mis Medi, a hwn fydd yr ail gyfle i ailadrodd symud myfyrwyr yn y fath fodd, nid yn unig yng Nghymru, ond ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig, ac yn wir, myfyrwyr rhyngwladol. Clywais yr hyn a ddywedoch—rydych o’r farn ei bod yn rhy gynnar i gyhoeddi unrhyw beth pendant ar hyn o bryd—ond a allwch nodi unrhyw themâu sy'n dod i'r amlwg y gallai fod angen eu rhoi ar waith i groesawu myfyrwyr yn ôl ym mis Ionawr, yn enwedig o ran gofal bugeiliol? Yn amlwg, gwyddom fod mis Ionawr yn tueddu i arwain at bwysau wrth i fyfyrwyr ddychwelyd o dan amgylchiadau arferol, ond gyda'r sefyllfa eithriadol y mae myfyrwyr yn ei hwynebu ar hyn o bryd, bydd gofal bugeiliol i fyfyrwyr yn hollbwysig, a bydd y gwaith y gall y Llywodraeth ei wneud i gefnogi prifysgolion, drwy iechyd y cyhoedd ac ati, yn hanfodol bwysig yn fy marn i. Kirsty Williams AC: Diolch, Andrew. Fe ofynnoch chi am themâu sy'n dod i'r amlwg; rwy'n benderfynol o sicrhau cyn lleied â phosibl o darfu ar addysg myfyrwyr wrth gwrs, ond yn amlwg, mae angen inni fonitro hynny fel rhan o ymateb cyffredinol y Llywodraeth i'r pandemig yng nghyswllt iechyd y cyhoedd. Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'n prifysgolion ac undebau myfyrwyr, ac mae llawer o'r elfennau a fydd yn caniatáu i fyfyrwyr ddychwelyd adref ar gyfer y Nadolig yn elfennau pwysig yn ein cynlluniau ar gyfer dychwelyd yn y flwyddyn newydd, fel trefnu dyddiadau gwahanol i fyfyrwyr adael y campws. Yn amlwg, mae trefnu dyddiadau gwahanol ar gyfer dychwelyd yn rhywbeth rydym yn ei ystyried, yn ogystal â rôl hanfodol profion llif unffordd. Mae pob prifysgol yng Nghymru yn cymryd rhan yn y cynllun peilot ar gyfer profion llif unffordd. Yn amlwg, rydym am ddysgu'r gwersi o'r cynllun peilot hwnnw. Bydd y profion hynny'n parhau i gael eu cynnal yn y flwyddyn newydd, ac felly byddant yn cynorthwyo gydag unrhyw gynlluniau i sicrhau bod myfyrwyr yn dychwelyd yn ddiogel i'r campws. Mick Antoniw AC: Weinidog, a gaf fi ganmol y gwaith a wnaed ym Mhrifysgol De Cymru, nid yn unig ar arloesi gyda datblygiad offer profi a allai fod yn fasnachol hyfyw yn gynnar yn y flwyddyn newydd ac a allai wneud gwahaniaeth, ond hefyd y ffordd y mae'r brifysgol wedi datblygu cefnogaeth fugeiliol i'r myfyrwyr, yn sicr yn nhref Pontypridd, ac yn Nhrefforest, lle mae'r brifysgol wedi'i lleoli? Yn dilyn y cwestiwn diwethaf, yn amlwg, wynebwyd heriau mawr o ran cynnal profion ar fyfyrwyr wrth iddynt ddychwelyd adref, ac un o'r pryderon ac un o'r materion sy'n codi wrth i fyfyrwyr ddychwelyd, a chyda llawer o fyfyrwyr rhan-amser a myfyrwyr tramor, yw a fydd y gallu i brofi a chadw rheolaeth ar y pandemig COVID yn dal i fod yno. Pa fath o fesurau fydd ar waith, pa sgyrsiau sy'n mynd rhagddynt gyda Phrifysgol De Cymru er enghraifft, a phrifysgolion eraill, ac a oes unrhyw oblygiadau cyllidol a fyddai’n cynorthwyo prifysgolion i alluogi hyn i ddigwydd er lles pawb? Kirsty Williams AC: Diolch, Mick. Yn wir, hoffwn gofnodi fy niolch i'r prifysgolion—Prifysgol De Cymru, ac yn wir, ein holl sefydliadau addysg uwch—sydd wedi gweithio'n anhygoel o galed dros ddechrau'r flwyddyn academaidd hon i gynnal profiadau addysgol o safon, i ofalu am les eu myfyrwyr, ac i chwarae eu rhan yn rheoli’r perygl i iechyd y cyhoedd ynghanol pandemig byd-eang. A hoffwn ddiolch i'r myfyrwyr eu hunain, sy'n chwarae eu rhan drwy ddilyn y rheolau, gan gadw eu hunain a'u ffrindiau'n ddiogel. Rydym yn gweld cyfraddau'r achosion o'r feirws yn gostwng yn y rhan fwyaf o'n prifysgolion, ac mae hynny i’w groesawu’n fawr, a gobeithiwn y bydd y duedd honno'n parhau. Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'n his-gangellorion; yn wir, cyfarfûm â phob un ohonynt ddechrau’r wythnos hon i ystyried y profiadau hyd yn hyn ac i wneud yn siŵr fod mesurau ar waith i sicrhau diwedd llwyddiannus i’r tymor hwn ac i ddechrau cynllunio ar gyfer dychwelyd yn ddiogel ym mis Ionawr. Ac yn amlwg, rydym hefyd yn gweithio gyda’n cymheiriaid mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, o gofio bod llawer o'n myfyrwyr yn teithio i mewn ac allan o Gymru i Loegr, i'r Alban ac i Ogledd Iwerddon. Lle bo modd, rydym yn ceisio sicrhau bod gennym ddull cyffredin o reoli'r broses honno. Athrawon Cyflenwi Alun Davies AC: 2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer athrawon cyflenwi? OQ55916 Kirsty Williams AC: Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod cefnogaeth ar gael i athrawon cyflenwi. Mae hyn yn cynnwys cymorth ariannol, cyfleoedd cyflogaeth drwy raglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau, ac ariannu gwasanaeth i hyrwyddo iechyd meddwl a lles yn ystod pandemig COVID-19. Alun Davies AC: Rwy'n ddiolchgar i chi am hynny, Weinidog. Rwy'n ymwybodol fod Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n galed i sicrhau bod fframwaith o gymorth ar gael i athrawon cyflenwi ledled y wlad a thrwy gydol y flwyddyn. Ond bydd y Gweinidog hefyd yn ymwybodol fod athrawon cyflenwi wedi cael cyfnod anodd iawn drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf gyda'r pandemig a'r effaith y mae wedi'i chael ar eu gallu i gael gwaith. Ond mae hyn yn atgyfnerthu problem fwy sylfaenol gyda’r system athrawon cyflenwi. Gwyddom fod system dameidiog o asiantaethau preifat yn golygu nad oes system i athrawon cyflenwi gael gwaith digonol drwy gydol y flwyddyn. Efallai mai'r ffordd symlaf o sicrhau ein bod yn gallu cefnogi a chynnal gweithlu o athrawon cyflenwi yw sicrhau bod gan bob awdurdod lleol gofrestr leol o athrawon cyflenwi i sicrhau bod athrawon yn gallu dod o hyd i waith a bod ysgolion yn gallu dod o hyd i athrawon, a gwneud hynny mewn ffordd fwy cydlynol a strwythuredig. Kirsty Williams AC: Diolch, Alun. A gaf fi ddweud bod athrawon cyflenwi yn rhan bwysig iawn o'r gweithlu addysg yng Nghymru? Ond o dan reolaeth leol ar ysgolion, mae gan gyrff llywodraethu hyblygrwydd i benodi a defnyddio athrawon cyflenwi fel y gwelant orau. Nid oes unrhyw beth o gwbl i atal awdurdodau lleol ac ysgolion, fel cyflogwyr athrawon, rhag gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol eraill—gan gynnwys consortia rhanbarthol, o bosibl—i gefnogi model cydweithredol. Penderfyniad i’r awdurdodau lleol unigol fel cyflogwyr staff ysgolion fyddai gweithredu unrhyw restr awdurdod lleol, ac fel y dywedais, nid oes unrhyw beth i'w hatal rhag gwneud hynny nawr. Rydym yn parhau i gael trafodaethau gyda'n holl awdurdodau addysg lleol—neu eu hysgolion unigol, os ydynt yn defnyddio asiantaethau—i sicrhau nad ydynt yn tanseilio'r trefniadau fframwaith sydd gennym ar waith gyda'r asiantaethau hynny i dalu'r cyflogau cywir. Rwy'n ddiolchgar am ymrwymiad gan yr holl gyfarwyddwyr addysg, drwy Gymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru, y byddant yn cymryd camau i sicrhau bod ysgolion yn ymwybodol o'r cyfrifoldeb hwn ac na ddylent geisio tanseilio'r fframwaith rydym wedi’i roi ar waith. Angela Burns AC: Weinidog, clywais eich sylw agoriadol am y cymorth ariannol rydych yn ei roi i athrawon cyflenwi. A allech roi ychydig mwy o fanylion i ni yn ei gylch? Oherwydd mae un neu ddau wedi mynegi pryderon wrthyf ynglŷn â’r ffaith, os ydynt wedi bod mewn un ysgol—efallai eu bod wedi gwneud prosiect tymor byr am wythnos neu ddwy—nid ydynt wedi dechrau yn yr ysgol newydd eto, a'u bod wedi gorfod hunanynysu, nid oherwydd eu bod wedi cael COVID, ond oherwydd eu bod wedi bod mewn cysylltiad â rhywun yr amheuir eu bod wedi cael COVID, felly bu’n rhaid iddynt fynd drwy'r broses o hunanynysu—roeddent yn ei chael hi'n anodd iawn cael unrhyw fath o gymorth ariannol, ac roeddent yn poeni am yr hyn a fyddai’n digwydd i'w hincwm. Felly, pe gallech naill ai amlinellu hynny i ni nawr neu fy nghyfeirio at y lle iawn—oherwydd rwyf wedi edrych, ac ni allaf ddeall sut rydym yn cefnogi'r bobl sy'n cwympo drwy'r rhwyd yn y ffordd honno. Hoffwn gael golwg ar hynny a rhoi'r ateb i fy etholwyr. Kirsty Williams AC: Yn sicr. Gweithiodd Llywodraeth Cymru a'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol gydag asiantaethau ar ddechrau'r pandemig hwn i sicrhau y gallai pob un ohonynt roi eu staff ar ffyrlo o dan y cynllun cadw swyddi. Cadarnhaodd pob asiantaeth ar y fframwaith eu bod yn gallu cael mynediad at y cynllun ar gyfer staff cymwys, ac rydym yn deall eu bod wedi gwneud hynny tan ddiwedd yr haf. Rydym yn parhau i weithio ochr yn ochr â'n hasiantaethau i ddeall yr anawsterau y gallai athrawon cyflenwi fod yn eu hwynebu ar hyn o bryd, a byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod gyda manylion ychwanegol am gymorth a allai fod ar gael yn y sefyllfa bresennol.FootnoteLink Dylwn ddweud ein bod yn annog y rheini sy'n barod i weithio fel athrawon cyflenwi i achub ar gyfleoedd. Mae rhai o'r ysgolion sydd wedi cael eu gorfodi i gau wedi gorfod gwneud hynny oherwydd anallu i ddod o hyd i staff asiantaeth i gadw’r ysgolion ar agor. Rwy'n deall y gallai pobl fod yn amharod i gael gwaith mewn ardal lle maent yn teimlo bod cyfraddau trosglwyddiad COVID yn uchel, ond mae gwir angen staff cyflenwi arnom i weithio gyda ni ac i ddeall y rhesymau pam nad ydynt, o bosibl, yn teimlo y gallant, ar y pwynt hwn, ymgymryd ag aseiniadau os ydynt ar gael. Gwybodaeth ychwanegol at y Cyfarfod Llawn (Saesneg yn unig) Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau Cwestiynau nawr gan lefaryddion y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Suzy Davies. Suzy Davies AC: Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Clywsom neithiwr fod Cymwysterau Cymru wedi cael gwared ar arholiadau uned mis Ionawr mewn TGCh, llenyddiaeth Saesneg a llenyddiaeth Gymraeg, er y bydd arholiadau eraill—nid arholiadau sy’n cael eu hailsefyll yn unig—yn dal i gael eu cynnal. Tybed a allwch ddweud pam yr ystyrir bod cau ysgolion a cholegau yn cael llai o effaith ar ddysgu'r myfyrwyr sy'n sefyll arholiadau uned lefel 2 a 3 mewn iechyd a gofal cymdeithasol na'r rheini sy'n sefyll arholiadau llenyddiaeth a TGCh. Kirsty Williams AC: Mae Cymwysterau Cymru wedi gwahaniaethu rhwng cymwysterau etifeddol—dyma'r tro olaf i'r papurau hynny gael eu sefyll; ni fyddant yn cael eu cynnig mwyach—a'r papurau hynny y bydd cyfle gwahanol iddynt gael eu hasesu mewn ffordd wahanol. Suzy Davies AC: Diolch am eich ateb. Fy nealltwriaeth i yw y byddai rhai o'r TGAU etifeddol yn cael eu sefyll, ond dim ots. Hoffwn symud ymlaen yn awr at gau ysgolion, a gallaf weld bod pob grŵp blwyddyn ond un yn fy hen ysgol yn Aberdâr wedi’u hanfon adref i hunanynysu y diwrnod o'r blaen. Mae ysgolion yng Ngheredigion, wrth gwrs, yn cau am bythefnos, gan gynnwys ysgolion cynradd, a chefais fy synnu gan hynny, rhaid i mi ddweud, pan ddywedir wrthym dro ar ôl tro fod y risg o drosglwyddiad yn isel yn y lleoliadau hyn. Rydych wedi dweud wrthyf nad ydych yn casglu data ynglŷn ag a yw achosion positif mewn ysgolion wedi dod yno o'r gymuned, neu a ydynt o ganlyniad i drosglwyddiad yn yr ysgol, ac nid yw hynny'n helpu penaethiaid ysgolion i asesu’r perygl o drosglwyddiad yn yr ysgol. Mae'n amlwg nad yw’r diweddariad a gyhoeddwyd gennych i’r canllawiau—tua thair wythnos yn ôl bellach mae'n rhaid—i helpu ysgolion wedi cael unrhyw effaith ar leihau'r niferoedd sy’n cael eu hanfon adref y naill ffordd neu'r llall, ac nid yw'r rhaglen brofi ac olrhain wedi cael unrhyw effaith ychwaith. Felly, rwy’n deall pam eich bod wedi rhoi’r canllawiau newydd ar waith ar orchuddion wyneb mewn mannau cymunedol mewn ysgolion, ond pam eich bod wedi cymryd bod y cyngor yn y ddogfen a gawsoch gan y grŵp cyngor technegol yn golygu y dylai disgyblion eu gwisgo yn yr awyr agored ar dir yr ysgol? Kirsty Williams AC: Diolch, Suzy. Fel rydych wedi nodi’n gwbl gywir, rydym yn parhau i weld cyfnod o darfu sylweddol ar ein haddysg oherwydd y pandemig. Rydym yn gweithio gydag ysgolion i leihau'r tarfu hwnnw gymaint ag y gallwn. Rwy'n falch iawn fod ysgolion Sir Benfro a oedd ar gau ddechrau'r wythnos hon bellach mewn sefyllfa i ailagor. Cyfarfûm ddoe gyda’r prif swyddog addysg a phrif weithredwr Ceredigion i ddeall y broses o wneud penderfyniadau sydd wedi arwain at gau ysgolion yn yr ardal benodol honno. Mae'n hynod siomedig, onid ydyw, ac mae'n dangos yn amlwg iawn sut y gall dewisiadau a gweithredoedd unigolion yn y gymuned, a dewisiadau gwael, gael effaith ddinistriol, yn yr achos hwn, ar gynaliadwyedd addysg yn yr ardal benodol honno, ac yn ôl yr hyn a ddeallaf, Lywydd, ac fe fyddech yn ymwybodol iawn o hyn, ar y gwasanaeth tân ac achub sydd ar gael yn yr ardal honno. Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb—pob un ohonom—os ydym yn dymuno gweld ysgolion yn parhau ac addysg yn parhau, i wneud y peth iawn. Nawr, o ran masgiau wyneb ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd y tu allan i’r ystafell ddosbarth, gwyddom fod cyfathrebu a negeseuon clir yn elfen hanfodol o roi unrhyw fesurau lliniaru ar waith yn llwyddiannus. A chyda hyn mewn golwg, rydym yn awyddus i wneud mwy i gefnogi ein penaethiaid, i sicrhau bod y negeseuon yn glir, ac i sicrhau bod masgiau’n cael eu gwisgo a’u diosg mor anaml â phosibl. Felly, mae'r neges yn glir iawn: pan fyddwch mewn ystafell ddosbarth, nid oes raid i chi wisgo masg wyneb; os ydych y tu allan i'r ystafell ddosbarth, gwisgwch fasg wyneb. Suzy Davies AC: Wel, diolch am yr ymateb, ond nid oedd yn ateb fy nghwestiynau mewn gwirionedd ynghylch pam y dylech wisgo masg yn yr awyr agored. Pe baech wedi dweud wrthyf fod llawer o dystiolaeth fod disgyblion yn hel at ei gilydd ar iard yr ysgol ac yn camymddwyn, efallai y byddwn wedi bod yn barod i glywed eich tystiolaeth ynglŷn â hynny. Ond ddoe, er enghraifft, cysylltodd rhywun â mi—rhiant—i gwyno bod 30 o blant y tu allan ar iard, fel y'i galwodd, iard maint cae hoci, a dywedwyd wrthynt i gyd am wisgo gorchuddion wyneb. Nawr, yn amlwg, nid yw hynny'n syniad gwych. Felly, roeddwn yn gobeithio clywed rhywbeth am yr anawsterau, efallai, roedd athrawon yn eu profi wrth orfodi disgyblion i gadw pellter ar yr iard, a pham eu bod yn cael trafferth gwneud hynny, oherwydd nid wyf yn gweld pam y dylent. Yr awgrym yn awr, wrth gwrs, yw mai profion llif unffordd yw'r ffordd ymlaen. Nid wyf eisiau siarad am brofion yn gyffredinol, ond rwyf wedi cael gwybod am un achos penodol. Cefais weld ffurflen caniatâd rhieni un ysgol, yn gofyn i'w plentyn gael ei brofi. Nid yw'n dweud a fyddai'r plentyn hwnnw'n dal i gael mynychu'r ysgol pe na bai'r rhieni'n rhoi eu caniatâd. Felly nid wyf eisiau siarad am brofion yn gyffredinol, ond mewn perthynas â rhieni'n gwrthod rhoi caniatâd, a fyddwch yn gadael y penderfyniad hwn i ysgolion, neu a fyddwch chi'n dangos arweiniad ar hyn, ac yn gwneud y sefyllfa'n glir ynglŷn â'r hyn y dylai ysgolion ei wneud o dan yr amgylchiadau hynny? Kirsty Williams AC: Yn sicr. Ac a gaf fi ddweud wrth yr Aelod, mae'n sôn am ddisgyblion yn hel at ei gilydd—mae gennym lawer o ddisgyblion yn hel at ei gilydd mewn ysgolion. Fel y gallwch ddychmygu, rydym wedi derbyn nifer o adroddiadau gan ein hawdurdodau lleol am oedolion yn hel at ei gilydd wrth gatiau ysgol. Ac yn wir, ar yr iard chwarae, mae'r syniad fod pob plentyn yn rhedeg o gwmpas ac yn cadw 2 fetr oddi wrth ei gilydd, mae hwnnw'n syniad hyfryd, mae'n syniad hardd, ond gadewch i ni wynebu'r peth, nid dyna'n union sy'n digwydd. Mae disgyblion yn hel at ei gilydd mewn meysydd chwarae neu ar gaeau. Mae pob un o'n hysgolion yn wahanol. Mae gan rai ddigon o le yn yr awyr agored i gadw eu swigod mewn rhannau penodol y tu allan i'w hysgol; mae ysgolion eraill yn gorfod dod â swigod at ei gilydd yn yr awyr agored. Ac mae hwn yn fesur lliniarol arall rydym yn ei gyflwyno i geisio lleihau'r tarfu a chadw plant mewn ysgolion cyhyd ag y bo modd. Dylai pob un ohonom, hyd yn oed pan fyddwn y tu allan, geisio cadw pellter cymdeithasol, ac os na allwn gadw pellter cymdeithasol, neu os ydym yn dewis peidio—mae angen i bob un ohonom wisgo masgiau. Ac yn anffodus, rydym mewn sefyllfa nawr, lle rydym yn gweld y tarfu, ac rydym yn teimlo mai dyma'r prawf priodol. Mae profion llif unffordd yn ddatblygiad pwysig. Rydym yn bwriadu cyflwyno profion llif unffordd yn ein hysgolion o ganlyniad i gynllun peilot Merthyr Tudful. Ac o dan yr amgylchiadau hynny, nid ydym yn gorfodi neb i gael prawf. Maent yn gwbl wirfoddol, ac ni fyddem yn gorfodi plentyn, nac oedolyn, i gael prawf llif unffordd os nad ydynt yn dymuno gwneud hynny. Ond yn amlwg, wrth inni fynd drwy'r peilot a dysgu'r gwersi ar gyfer hynny, byddwn mewn gwell sefyllfa i wneud datganiadau polisi pan fyddwn yn gweld y dechnoleg honno, gobeithio, yn cael ei chyflwyno'n ehangach. Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian. Siân Gwenllian AC: Diolch yn fawr iawn. Dwi am ddechrau lle roeddech chi'n gorffen yn fanna, sef efo'r profion ar raddfa eang. Dwi'n ymwybodol eich bod chi'n gwneud gwaith ac yn ystyried cyflwyno rhaglen ar raddfa eang mewn ysgolion a cholegau, i ddisgyblion ac athrawon, ac yn cytuno'n llwyr bod angen rhaglen gynlluniedig o brofion i fynd rhagddi. Mae yna brofion mewn ysgolion yn ardal Lerpwl, a rydych chi newydd sôn am y cynllun peilot ym Merthyr. Mae'r undebau athrawon, yn gyffredinol, o blaid, dwi'n credu, a rhannau eraill o'r byd yn cynnal profion eang ar ddisgyblion a staff—Efrog Newydd, Vienna, Berlin, Nashville, Montreal. Oes yna rwystrau penodol i atal profi asymptomatig mewn ysgolion yng Nghymru? Hynny yw, pam fod o'n cymryd bach gormod o amser cyn bod hwn yn cael ei rowlio allan? A fyddwch chi'n targedu ardaloedd arbennig? Beth fydd eich meini prawf chi wrth rowlio'r rhaglen brofi eang yma allan? A beth yn union ydy'r amserlen? Kirsty Williams AC: Wel, rydym yn cyflwyno profion llif unffordd yn y gymuned addysg cyn gynted ag y byddant ar gael yn ehangach i Gymru. Felly, mae pob un o'n prifysgolion yn cymryd rhan yn y rhaglen beilot, cyn diwedd y flwyddyn academaidd, ac erbyn hyn mae gennym raglen Merthyr Tudful, lle rydym yn ceisio cynnal profion llif unffordd yn yr ysgol, yn ein hysgolion uwchradd ac yn y coleg lleol, a chyfathrebu â rhieni sy'n byw yn ardal Merthyr Tudful, ond y mae eu plant yn mynychu'r ysgol y tu allan i Ferthyr Tudful, i'w hannog i gymryd rhan yn rhaglen gymunedol y profion llif unffordd. Rydym yn ystyried ymestyn honno i gynnwys ardaloedd yn Rhondda Cynon Taf, o gofio bod honno, unwaith eto, yn ardal lle ceir nifer fawr o achosion, ac rydym yn dysgu'r gwersi a'r rhwystrau posibl a'r anawsterau o ran cyflwyno'r rhaglen hon yn yr ysgol. Ar ôl cyfarfod yr wythnos diwethaf â phenaethiaid yr ysgolion uwchradd ym Merthyr Tudful, pennaeth y coleg a'r prif swyddog addysg ym Merthyr Tudful, a gaf fi ddweud eu bod i gyd wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau bod y dechnoleg hon ar gael yn eu hysgolion? Mae'n rhan bwysig o ddeall yr hyn y mae'r clefyd yn ei wneud yn y gymuned, a gallai ein helpu hefyd, gyda'r sefyllfa y cyfeiriodd Suzy Davies ati, i ganiatáu i blant ddychwelyd i'r ysgol yn gynt, yn hytrach na chyfnod ynysu o 14 diwrnod os ystyrir eu bod wedi dod i gysylltiad â'r haint. Gall prawf dyddiol ganiatáu iddynt barhau i fod yn yr ysgol neu ganiatáu i athro barhau i fod yn yr ysgol, yn hytrach na chyfnod ynysu o 14 diwrnod. Felly, rydym yn edrych arno, nid yn unig o ran budd cymunedol ehangach, ond fel ffordd o gyfyngu ar darfu wrth symud ymlaen. Siân Gwenllian AC: Diolch yn fawr, a dwi'n siŵr eich bod chi'n cytuno gorau po gyntaf mae'r rhaglen yma'n cael ei rhowlio allan, yn enwedig o gofio bod yna lacio rhywfaint yn mynd i ddigwydd dros y Nadolig, ac mi fydd yr agwedd yma—y profi yma—yn hollbwysig ym mis Ionawr, wrth i ni symud ymlaen. Yn ogystal â'r profion ar raddfa eang, a'r gwisgo mygydau yr oeddem ni'n ei drafod yn gynharach, pa fesurau pellach ydych chi'n ystyried er mwyn cadw'r ysgolion ar agor, ond hynny mewn ffordd ddiogel? Er enghraifft, awyru adeiladau'n well. A oes yna ganllawiau manwl ynglŷn â hynny? Ac a fedrwch chi sôn am unrhyw fesurau arbennig i ddiogelu staff ysgolion sy'n fregus—y clinically vulnerable employees—? Mae'r ddau faes yma—mae'r undebau'n gofyn am eglurder yn eu cylch nhw. Ac wedyn, mae yna alw hefyd am ddosbarthiadau llai a rhoi system rota ddysgu ar waith, os bydd yr achosion yn cynyddu, wrth gwrs. Beth ydy eich barn chi am hynny? Ac, os ydy hwnnw'n mynd i ddod i mewn, yn amlwg, mi fydd angen cymorth ychwanegol ar gyfer dysgu o bell efo mwy o ddisgyblion adref. Kirsty Williams AC: Mae canllawiau gweithredol ar gael i bob ysgol a phob awdurdod addysg lleol, sy'n cynnwys cyfeiriad at awyru adeiladau. Dylai pob aelod o staff fod yn destun asesiad risg. Felly, dylai unrhyw wendidau sy'n gysylltiedig â'r unigolyn gael eu hystyried gan yr asesiad risg unigol a chan y cyflogwyr. O ran y system rota y mae'r Aelod wedi'i hawgrymu, yn amlwg, rydym wedi gofyn i ysgolion ac awdurdodau lleol baratoi ar gyfer nifer o senarios a allai gynnwys system rota, pe teimlid mai dyna'r cam angenrheidiol sydd ei angen i gadw rheolaeth ar y pandemig. Felly, mae'n cael ei adolygu'n barhaus, rhag ofn y bydd angen gwneud hynny. Siân Gwenllian AC: Diolch yn fawr. Ac, yn olaf, a gaf i droi at y COVID catch-up scheme? Mae yna amheuon ynglŷn â'r cynllun yma. Dydy o ddim yn glir iawn sut mae'r help yn cael ei dargedu, sut mae anghenion yn cael eu mesur, pa fonitro sydd yn digwydd. Yn amlwg, mae angen sicrhau bod yr arian yn cael ei ddefnyddio yn bwrpasol i ddelio efo'r colli addysgol sydd yn rhwym o fod yn digwydd ar hyn o bryd, ac sydd yn mynd i bara am rai misoedd. Felly, mi wnes i ofyn, y tro diwethaf yr oedd y sesiwn yma ymlaen, am ddiweddariad, a dydw i ddim wedi cael hwnna. Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig i ni gael gwybod yn union sut mae'r cynllun yma'n gweithredu, ac os oes yna unrhyw rwystrau efo fo, bod ni'n cael gwybod hynny hefyd. Kirsty Williams AC: Wel, rwy'n sicr yn cytuno â'r Aelod fod yr adnoddau'n cael eu gwario mewn ffordd bwrpasol, ac mae gennyf bob ffydd y bydd y penaethiaid sy'n gwneud penderfyniadau ar sut i wario'r arian hwn, oherwydd mater iddynt hwy yw penderfynu ar y ffordd orau o ddefnyddio'r arian sydd ar gael iddynt, hefyd wedi bod yn gwneud penderfyniadau i sicrhau bod yr adnoddau'n cael eu gwario mewn ffordd bwrpasol. O ran casglu data, rydym yn aros am y ffurflenni terfynol gan rai ysgolion unigol, a rhai awdurdodau addysg lleol unigol, ond rwy'n falch iawn o ddweud wrth yr Aelod fy mod yn fodlon iawn ein bod wedi cyrraedd ein targedau cychwynnol o tua 900 cyfwerth ag amser llawn. Ysgolion Arbennig David Melding AC: 3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau presenoldeb mewn ysgolion arbennig yn ystod argyfwng iechyd cyhoeddus COVID-19? OQ55920 Kirsty Williams AC: David, mae'r ansicrwydd sy'n deillio o'r pandemig coronafeirws yn arbennig o heriol i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol a'u teuluoedd, a'r rhai sy'n eu cefnogi ac yn gofalu amdanynt. Rwyf wedi ymrwymo i wneud popeth posibl i gefnogi'r dysgwyr, y rhieni a'r gofalwyr hyn yn ystod y cyfnod anodd hwn. David Melding AC: Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Tybed a ydych wedi cael cyfle i ystyried sylwadau'r Athro Sally Holland, y comisiynydd plant, i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn gynharach y mis hwn, a ddywedodd fod y gwasanaethau a gâi eu darparu o'r ysgolion a oedd yn cynnig presenoldeb amser llawn neu allgymorth gweithredol i hybiau nad oeddent prin yn bodoli, yn amrywio'n enfawr, yn ystod y cyfyngiadau symud yn sicr, a bod trefniadau teithio'n chwalu'n fynych fel nad oedd y myfyrwyr hyn yn gallu cyrraedd yr ysgol na'r hyb, a bod yn rhaid i ni sicrhau nad ydym yn gweld hyn yn digwydd eto mewn unrhyw aflonyddwch yn y dyfodol, a'n bod yn rhoi pwyslais mawr ar lefelau presenoldeb mewn ysgolion arbennig, oherwydd mae angen adennill llawer o dir. Kirsty Williams AC: Diolch, David. Rwy'n credu ei bod yn bwysig nodi, yn wahanol i awdurdodaethau eraill, na wnaethom ddiwygio unrhyw un o'n rheoliadau na'n cyfreithiau presennol sy'n ymwneud â gwasanaethau i blant ag anghenion dysgu ychwanegol. Ond rwy'n cytuno â chi, roedd y sefyllfa ar lawr gwlad yn dameidiog o ran gwahanol lefelau o gefnogaeth. Rwy'n ymwybodol o arferion rhagorol, ysgolion na wnaeth gau ac roedd y myfyrwyr yn eu mynychu bob dydd. Oherwydd yr union ystyriaethau hynny o'r profiadau yn y cyfnod cyntaf o gyfyngiadau symud yr arhosodd pob un o'n hysgolion arbennig ar agor yn ystod y cyfnod atal byr. Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair. Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd Jack Sargeant AC: 4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ysgolion yn cefnogi disgyblion ag anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd? OQ55908 Kirsty Williams AC: Diolch, Jack. Mae creu ysgolion cryf a chynhwysol sydd wedi ymrwymo i ragoriaeth, tegwch a llesiant yn un o amcanion allweddol y genhadaeth genedlaethol. Bydd ein diwygiadau i anghenion dysgu ychwanegol yn sicrhau y bydd pob dysgwr yn gallu cael mynediad at addysg o safon uchel er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd eu potensial llawn. Jack Sargeant AC: A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw? Yr wythnos diwethaf, ymwelais ag Ysgol Tŷ Ffynnon yn fy etholaeth i'w llongyfarch ar ddod yn ysgol gyntaf Cymru i ennill y wobr 'ysgol gyfeillgar i ADHD' gan y Sefydliad ADHD, sy'n gyflawniad gwych iawn. Weinidog, a wnewch chi fanteisio ar y cyfle hwn i longyfarch yr ysgol, a dweud sut y gall ysgolion ledled Cymru ddilyn arweiniad Ysgol Tŷ Ffynnon? Kirsty Williams AC: Diolch, Jack, am roi'r cyfle i mi gofnodi fy llongyfarchiadau diffuant i bawb sy'n ymwneud ag Ysgol Tŷ Ffynnon yn Sir y Fflint, sef yr ysgol gyntaf un yng Nghymru i gael y wobr hon. Mae'n dyst i waith caled ac ymroddiad tîm yr ysgol honno i ddod yn ymgorfforiad byw o'r addewid yng nghenhadaeth ein cenedl i sicrhau ysgolion cwbl gynhwysol sy'n ymdrechu i ddiwallu anghenion eu holl blant. Mark Isherwood AC: Gwnaeth argraff fawr arnaf hefyd pan ymwelais â'r ysgol honno fy hun. Mae'n esiampl y mae angen i eraill ei dilyn, oherwydd mae anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd, ADHD, yn gallu cuddio mewn amgylchedd addysg. Nid yw ADHD, neu gyflyrau cysylltiedig eraill, yn deillio o ganlyniad i faterion amgylcheddol na rhianta gwael. Sut felly rydych yn ymateb i etholwyr yn Sir y Fflint sydd â phlant mewn ysgolion eraill, y mae eu negeseuon e-bost yn ystod y mis diwethaf yn unig yn cynnwys hyn: 'Ni roddwyd cyfle i fy mab wneud penderfyniadau a oedd yn ei gwneud hi'n bosibl i'w ymddygiad gael ei archwilio'n llawn a chael ei roi ar restr aros am asesiad. Yn hytrach, unwaith eto, penderfynwyd mai mater rhianta ydoedd, ac nid ADHD, awtistiaeth na chyflyrau sy'n gysylltiedig â'r sbectrwm'; ac, 'Rwy'n gofalu am fachgen yn ei arddegau gydag anhwylderau yn y sbectrwm awtistig (ASD) ac ADHD. Mae'r ysgol wedi ein labelu fel rhai sydd â phroblemau rhianta ac wedi rhoi gwybod i'r gwasanaethau cymdeithasol amdanom, ac yn fy mhrofiad i, nid yw CAMHS yn darparu asesiad digonol yn amlinellu anghenion y plant, ac maent yn cyfaddef yn agored na fyddant yn ystyried ADHD tan o leiaf saith mlwydd oed. Y broblem sydd gennyf gyda hyn yw hanes genetig cryf o ASD ac ADHD yn ein teulu, a bod y ddau gyda'i gilydd i'w gweld yn wahanol iawn i'r naill gyflwr neu'r llall ar eu pen eu hunain'? Kirsty Williams AC: Wel, Mark, fel y clywsom gan Jack Sargeant, mae rhagoriaeth yn y maes hwn yn gyraeddadwy, ac rwy'n falch iawn o glywed eich bod chi eich hun wedi manteisio ar y cyfle i fynd i weld y rhagoriaeth honno drosoch eich hun. Mae hyfforddiant i weithwyr proffesiynol mewn perthynas ag amrywiaeth o anghenion dysgu ychwanegol yn rhan bwysig o'n rhaglen drawsnewid gwerth £20 miliwn ar gyfer ADY, ac rydym hefyd wedi comisiynu adolygiad capasiti annibynnol ar gyfer gwasanaethau niwroddatblygiadol. Mae eisoes wedi'i gomisiynu a bydd hwnnw'n ein helpu i lywio'r gwaith o ddatblygu gwasanaethau pellach, mewn lleoliadau addysgol, a'r tu allan iddynt, a bydd yr adolygiad hwnnw'n dechrau yn gynnar yn 2021. Y Cwricwlwm Newydd David J Rowlands AC: 5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu'r cwricwlwm newydd? OQ55941 Kirsty Williams AC: Diolch, David. Cyhoeddais ddogfen 'Y daith i 2022' fis diwethaf i helpu ysgolion i baratoi ar gyfer cynllunio a gweithredu'r cwricwlwm newydd. Bwriadaf gyhoeddi cynllun gweithredu'r cwricwlwm yn gynnar yn 2021 i nodi'r camau ehangach y byddwn yn eu cymryd i gefnogi ysgolion. David J Rowlands AC: Diolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw, ond rwy'n siŵr y bydd yn cytuno â mi fod rôl athrawon yn hollbwysig wrth weithredu'r cwricwlwm hwn. Felly, a yw'n wir, Weinidog, mai 30 y cant yn unig o'r athrawon a weithredodd y treial cwricwlwm newydd a'i cefnogai? Mae'r rhan fwyaf o'r athrawon rwyf wedi siarad â hwy'n dweud, os yw'r cwricwlwm yn cael ei lywio'n gyfan gwbl gan y pedwar diben, fod llawer o'r cynnwys sy'n gysylltiedig â phynciau traddodiadol yr ysgol yn y meysydd dysgu a phrofiad yn ddiangen i raddau helaeth. Os bydd athrawon, ar y llaw arall, yn blaenoriaethu'r meysydd dysgu a phrofiad, mae'r pedwar diben yn annhebygol o gael eu hateb. Felly, a all y Gweinidog roi sylwadau ar y broblem ymddangosiadol honno? Ac a allai'r Gweinidog ddweud wrthyf a yw'n bwriadu ymgynghori â'r cyhoedd ynglŷn â'r elfen addysg rhyw o fewn y cwricwlwm newydd? Kirsty Williams AC: Yn gyntaf oll, a gaf fi awgrymu bod yr Aelod yn darllen y Bil cwricwlwm ac asesu drafft os nad yw eisoes wedi gwneud hynny? Nid oes unrhyw broblem o gwbl. Ni all athrawon flaenoriaethu meysydd dysgu a phrofiad unigol, ac ni fydd ysgolion yn gallu gwneud hynny, oherwydd bod iddynt statws cyfartal o fewn y gyfraith. O ran ymgynghori, mae'n rhaid i mi ddweud eto wrth yr Aelod fod digon o gyfleoedd wedi bod i wneud sylwadau ar y Papur Gwyn sydd wedi arwain at y Bil, ac mae ymgynghoriadau penodol wedi bod mewn perthynas ag addysg rhyw a chydberthynas—nifer ohonynt, mewn gwirionedd, a mwy nag y byddwn yn ei hoffi, mae'n debyg. Felly, mae digon o gyfleoedd wedi bod i bobl gyfrannu at y broses hon. Rwy'n cydnabod, i rai athrawon—yn enwedig y rheini sydd dim ond wedi dysgu o dan egwyddorion cwricwlwm cenedlaethol, lle mae'r hyn sy'n rhaid iddynt ei addysgu wedi'i bennu ar eu cyfer, p'un a ydynt yn teimlo bod hynny er budd gorau'r plant sydd o'u blaenau neu beidio—gallai'r cwricwlwm newydd hwn fod yn her. Dyna pam fod y Llywodraeth hon yn buddsoddi'r symiau mwyaf erioed yn natblygiad proffesiynol ein hathrawon i'w paratoi ar gyfer newidiadau'r cwricwlwm. Nid wyf yn gwybod pa athrawon y mae'n cyfarfod â hwy, ond rwy'n siarad â phenaethiaid bob wythnos pan fyddaf yn gwneud y gwaith hwn, ac mae'n rhaid i mi ddweud wrtho fod cyffro mawr ynglŷn â chyflwyno'r cwricwlwm newydd hwn. Laura Anne Jones AC: Weinidog, bydd llwyddiant y cwricwlwm newydd yn dibynnu'n helaeth ar ba mor dda y mae athrawon ac aelodau eraill o staff ysgolion wedi gallu paratoi ar gyfer ei gyflwyno. O gofio bod bron i hanner blwyddyn academaidd wedi'i cholli yn gynharach eleni, a'n bod bellach yn gweld grwpiau blwyddyn cyfan yn cael eu tynnu o'r ysgol ar raddfa fawr—. Er enghraifft, gellid dadlau bod tynnu 1,000 o ddisgyblion o Ysgol Gyfun Caerllion ar hyn o bryd mewn grwpiau blwyddyn cyfan—7, 8, 9, 12 a 13—yn ddiangen, pan fo cynghorau eraill yn defnyddio systemau olrhain yn fwy effeithiol, ac nid yw hyn yn anghyffredin mewn rhannau eraill o ranbarth de-ddwyrain Cymru. Pa asesiad rydych wedi'i wneud o golli amser ysgol ar baratoadau ar gyfer cyflwyno'r cwricwlwm newydd, ac a ydych yn pryderu ynglŷn ag adroddiadau fod rhai undebau athrawon a chynghorau bellach yn trafod cau ysgolion wythnos yn gynnar i alluogi cyfnod ynysu o bythefnos cyn y Nadolig o gofio mai blaenoriaeth y Llywodraeth hon, yn amlwg, yw cadw plant yn yr ysgol gymaint â phosibl? Kirsty Williams AC: Wel, Laura, rydych yn llygad eich lle—blaenoriaeth y Llywodraeth hon yw lleihau'r ymyrraeth i addysg plant yn sgil y pandemig hwn. Yn ddiau, bu'r effaith ar ysgolion yn sylweddol yn ystod y cyfnod hwn, ond fel y mae Estyn wedi'i gadarnhau, mae llawer iawn o frwdfrydedd a chefnogaeth i ddiwygio'r cwricwlwm o hyd, ac maent hefyd yn dweud bod ysgolion wedi gwneud enillion pwysig wrth gynllunio a darparu dysg. Nawr, yn amlwg, rydych hefyd yn gywir yn dweud bod llawer o hyn yn dibynnu ar sgiliau ein hathrawon, ac yn sicr bu'n rhaid cyflwyno'r rhaglen datblygiad proffesiynol mewn ffordd wahanol i'r hyn roeddem wedi'i ddisgwyl yn wreiddiol. Ond fel y dywedais, mae'r dyddiau pan oedd pawb yn teithio i Gaerdydd i gael datblygiad proffesiynol drwy eistedd mewn darlithfa i wrando ar arbenigwr ar lwyfan, cyn mynd yn ôl i'r ysgolion yn brydlon ac anwybyddu popeth roeddent wedi'i glywed y diwrnod hwnnw—. Mae'n rhaid inni wneud pethau'n wahanol, ac rydym yn gwneud pethau'n wahanol, ac unwaith eto, o siarad â phenaethiaid, mae'r ffaith ein bod wedi gorfod cynnal ein holl gyfarfodydd ar-lein yn golygu eu bod bellach yn gallu cydweithio mewn ffordd sy'n eu cadw yn eu hysgolion ac yn caniatáu iddynt gysylltu'n haws, ac oherwydd ein bod wedi cael gwared ar rywfaint o faich gwaith papur i ysgolion ar hyn o bryd, mae'n rhoi cyfle iddynt ymgysylltu o ddifrif â'r cwricwlwm newydd. Lynne Neagle AC: Weinidog, credaf fod y cynlluniau i bob plentyn yng Nghymru gael hawl orfodol i addysg rhyw a chydberthynas sy'n briodol i'w datblygiad yn un o gryfderau mawr y cwricwlwm newydd. A wnewch chi fanteisio ar y cyfle hwn i gytuno â mi fod cael y ddarpariaeth honno'n hanfodol o safbwynt hawliau plant, a hefyd ei bod yn allweddol er mwyn sicrhau y gall plant a phobl ifanc gadw eu hunain yn ddiogel, ni waeth beth yw eu hoed? Kirsty Williams AC: Lynne, rwyf mor falch eich bod wedi gofyn y cwestiwn hwnnw heddiw o bob diwrnod, Diwrnod y Rhuban Gwyn, lle mae pawb yn y Siambr, gobeithio, yn uno yn eu penderfyniad i drechu trais yn erbyn menywod. Rwy'n siŵr y byddai pob un ohonom heddiw eisiau cofio'r menywod a gollodd eu bywydau yn sgil trais erchyll a'r menywod sy'n parhau i fyw gyda chanlyniadau'r trais hwnnw o ddydd i ddydd. A dyna'n union pam y mae angen inni sicrhau bod gan bob plentyn—pob plentyn—hawl i addysg cydberthynas yn ein cwricwlwm. Mae'n rhan annatod o'r ffordd y gallwn sicrhau y cyflawnir y dibenion hynny yn y cwricwlwm, gan gynnwys unigolion iach a hyderus sy'n barod i fod yn ddinasyddion gweithgar ac i fyw bywydau hapus a llwyddiannus. Mae cyfyngu ar hynny a dweud mai i rai plant yn unig y dylai'r ddarpariaeth honno fod ar gael yn esgeuluso ein dyletswydd yn fy marn i. Lledaeniad Coronafeirws yn Asymptomatig Leanne Wood AC: 6. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i atal y coronafeirws rhag lledaenu mewn ysgolion yn asymptomatig er mwyn amddiffyn athrawon a disgyblion? OQ55940 Kirsty Williams AC: Diolch, Leanne. Rwy'n parhau i gael fy arwain gan y cyngor gwyddonol a meddygol diweddaraf. Rydym wedi cytuno'n ddiweddar â sefydliadau addysg uwch ledled Cymru y byddwn yn manteisio ar y cyfle i dreialu profion asymptomatig ar fyfyrwyr a staff, ac rydym hefyd yn bwriadu cynnig profion i fyfyrwyr a staff mewn ysgolion uwchradd, yn ogystal â'r coleg lleol, fel rhan o'r rhaglen profi torfol ym Merthyr Tudful. Leanne Wood AC: Rwy'n croesawu'r argymhelliad y dylai pob disgybl ysgol, myfyriwr coleg, athro ac aelod o staff gael prawf coronafeirws o ystyried y niferoedd uchel o bobl sy'n asymptomatig, yn enwedig yn y grwpiau oedran iau. Dylai hyn fod wedi bod yn flaenoriaeth allweddol pan ailagorodd yr ysgolion cyn yr haf. Nawr, nid yw'r sefyllfa bresennol yn gynaliadwy. Fel y dywedodd un athro wrthyf, yr wythnos diwethaf, 'Mae disgwyl i ni gadw at ganllawiau COVID, sy'n hollol iawn, ond nid ydym wedi cael cynnig unrhyw brofion ac rwy'n dal i aros am y prawf gwrthgyrff hud a addawyd i ni. Rwyf wedi bod yn addysgu ers 12 mlynedd ac nid wyf erioed wedi teimlo mor syrffedus, mor flinedig ac wedi ymlâdd yn gorfforol ac yn emosiynol i'r fath raddau. Rwy'n ceisio dal y cyfan at ei gilydd er mwyn fy mhlant, ond ni allaf oddef llawer mwy. Rwyf ar fin torri.' Mae cymaint o athrawon yn ofnus ac yn bryderus am eu diogelwch eu hunain. Nawr, clywais yr hyn a ddywedoch chi'n gynharach am Ferthyr Tudful a'r gobeithion a oedd gennych ynglŷn â chyflwyno profi torfol yn Rhondda Cynon Taf, ond a wnewch chi roi atebion pendant a sicrwydd i athrawon a rhieni yn fy ardal ynglŷn â pha bryd y bydd profi torfol a phrofion rheolaidd yn debygol o fod ar gael mewn ysgolion yn Rhondda Cynon Taf ac mewn ardaloedd lle ceir nifer fawr o achosion? Kirsty Williams AC: Diolch, Leanne. Rwy'n cydnabod y straen aruthrol sydd wedi bod ar athrawon ers i ysgolion ailagor yn llawn ym mis Medi, yn union fel y straen aruthrol y mae pob un o'n gweithwyr sector cyhoeddus wedi'i wynebu. Hoffwn ddweud bod y dystiolaeth hyd yma o bapur diweddaraf y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau a phapur y gell cyngor technegol yn dweud, wrth edrych ar y boblogaeth addysgu fel rhan o'r boblogaeth ehangach, fod addysgu'n cael ei ystyried gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn broffesiwn risg isel. Wedi dweud hynny, mae gennym achosion o drosglwyddo mewn ysgolion, yn enwedig rhwng aelodau staff, ac mae hynny'n peri pryder, a dyna pam ei bod yn wirioneddol bwysig fod uwch dimau rheoli a llywodraethwyr yr ysgol mewn ysgolion penodol yn sicrhau bod yr holl gamau'n cael eu cymryd yn ddigonol i ddilyn y canllawiau gweithredu sydd ar gael. O ran profion gwrthgyrff, cynhaliwyd profion gwrthgyrff ymhlith sampl sylweddol briodol o athrawon, yn enwedig y rhai a oedd wedi bod yn gweithio mewn hybiau, gan gofio, wrth gwrs, na chafodd 500 o ysgolion yng Nghymru eu cau o gwbl. Felly, gwnaed hynny a chynhaliwyd profion gwrthgyrff dilynol ar yr unigolion hynny i'n helpu i ddeall yr epidemioleg y tu ôl i'r clefyd. Mae'n ddyddiau cynnar ar gyfer profion llif unffordd. Mae angen inni sicrhau bod y peilot yn ysgolion a cholegau Merthyr Tudful yn mynd yn dda. Mae trafodaethau gweithredol ar y gweill i symud y peilot hwnnw i ardaloedd yn Rhondda Cynon Taf, a chyn gynted ag y byddwn mewn sefyllfa i allu gweithio gydag awdurdodau addysg lleol ein hysgolion i gynnal profion llif unffordd pellach fel ffordd o ddiogelu a rhoi sicrwydd a chyfyngu ar aflonyddwch, byddaf yn dychwelyd i'r Siambr i roi manylion llawn ar hynny. Nid ydym mewn sefyllfa i wneud hynny heddiw. Jayne Bryant AC: Diolch i chi, Weinidog. Rwy'n llwyr werthfawrogi'r mesurau sydd wedi'u cymryd i atal lledaeniad COVID mewn ysgolion a pha mor anodd yw hi i benaethiaid a staff gadw swigod mor fach â grwpiau blwyddyn gyfan hyd yn oed. Fodd bynnag, yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydym yn dechrau gweld y broblem hon ar draws ysgolion uwchradd mwy o faint yn enwedig, ac yn fy etholaeth i ceir nifer o ysgolion lle mae un achos positif yn golygu bod cannoedd o blant yn gorfod hunanynysu am bythefnos. Mewn un achos, dychwelodd grŵp blwyddyn am ddau ddiwrnod yn unig cyn i achos arall gael ei nodi a bu'n rhaid iddynt ddechrau hunanynysu eto. Rwyf wedi cael nifer cynyddol o rieni'n cysylltu sy'n poeni'n ddealladwy am yr effaith y mae cyfnodau ynysu dilynol yn ei chael ar les ac addysg eu plant. Rwy'n llwyr ddeall y risg o drosglwyddiad ar draws swigod grwpiau blwyddyn, a'r gobeithion am brofion llif unffordd, a fyddai'n helpu. Fodd bynnag, mae'r sefyllfa bresennol yn peri pryder mawr gyda nifer yr achosion ar y lefelau presennol ac aflonyddwch yn cynyddu. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â hyn cyn gynted â phosibl? Kirsty Williams AC: Wel, Jayne, y peth gorau y gallwn ei wneud i leihau'r tarfu ar addysg yw gostwng lefelau trosglwyddo cymunedol ym mhob un o'n cymunedau, oherwydd trosglwyddo cymunedol sy'n arwain at achosion yn ein hysgolion a'r aflonyddwch rydych yn cyfeirio ato. Rydym yn gweithio ac yn darparu'r cyngor a'r enghreifftiau gorau o arferion da i bob ysgol mewn perthynas â swigod a'r hyn a olygir wrth gysylltiad agos er mwyn ceisio lleihau nifer y plant y gofynnir iddynt hunanynysu am y cyfnodau hyn. Weithiau, mae'n dibynnu ar y cyngor y mae timau profi, olrhain, diogelu lleol unigol yn ei roi i benaethiaid, ac weithiau mae'n dibynnu ar y ffordd y mae ysgolion wedi gweithredu eu swigod. Fel y dywedais, rydym yn rhoi cyngor parhaus i ysgolion ac i dimau profi, olrhain, diogelu lleol i leihau nifer y plant y gofynnir iddynt aros gartref. Yn wir, mae profion llif unffordd yn cynnig gobaith inni leihau'r aflonyddwch hwnnw, yn enwedig i'r rhai sy'n cael eu hystyried yn gysylltiadau ac nad oes ganddynt symptomau eu hunain, fel ffordd bosibl o weinyddu prawf dyddiol dros nifer o ddyddiau a fyddai wedyn yn caniatáu iddynt fynd i'r ysgol. Ond fel y dywedais, mae papur y Gell Cyngor Technegol yn gofyn i ni archwilio pa mor ymarferol fyddai cynnig rhaglen brofi asymptomatig. Nid yw'n syml, ac fel y dywedais, rydym yn awyddus i ddysgu'r gwersi gan ein prifysgolion a'n hysgolion cyn y gallwn gyflwyno hynny ymhellach. Gweithredu'r Cwricwlwm Newydd Helen Mary Jones AC: 7. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith y pandemig ar weithredu'r cwricwlwm newydd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ55923 Kirsty Williams AC: Diolch, Helen Mary. Eleni, fel y dywedais, mae pob un o'n hysgolion wedi wynebu heriau na welwyd eu tebyg o'r blaen, ond mae llawer yng nghanolbarth a gorllewin Cymru'n gwneud defnydd da o'r canllaw cwricwlwm newydd ac yn meddwl am eu datblygiadau cwricwlwm yn y dyfodol. Rwy'n deall bod mynediad ysgolion at gymorth a dysgu proffesiynol yn cynyddu yn y rhanbarth wrth i ni symud tuag at 2022. Helen Mary Jones AC: Rwy'n ddiolchgar i chi am eich ateb, Weinidog. Mae athrawes ifanc o Lanelli wedi cysylltu â mi, yn fy rhanbarth, yn frwdfrydig iawn am y cwricwlwm newydd mewn gwirionedd. Yr hyn a ddywedodd oedd 'Ni allaf aros.' Ond mae'n bryderus iawn na fydd hi wedi paratoi'n briodol, ac ar yr un pryd, yn poeni y bydd pethau eraill yn mynnu ei sylw, drwy orfod gweithio gymaint yn galetach gyda disgyblion, yn enwedig pan fyddwch yn gorfod ymdopi â dysgu cyfunol a phobl ifanc sydd angen dal i fyny. Os byddwn yn dilyn yr amserlen fel y mae, mae'n poeni'n fawr na fydd yn barod i gyflwyno'r cwricwlwm newydd yn y ffordd y mae eisiau ei wneud ar yr un pryd â pharatoi a darparu cymorth i'w phobl ifanc, gyda llawer ohonynt—. Mae yna broblemau emosiynol; mae'n athrawes ddosbarth, felly mae'n ymwneud yn helaeth â'r gefnogaeth honno. Mae wedi gofyn i mi godi hyn gyda chi'n uniongyrchol, Weinidog, nid oherwydd ei bod eisiau tanseilio proses y cwricwlwm newydd mewn unrhyw ffordd, ond oherwydd ei bod mor awyddus i wneud pethau'n iawn, ac nid yw'n siŵr, fel gweithiwr proffesiynol cymharol ifanc, y bydd yn gallu gwneud y ddau beth ar unwaith. Beth hoffech chi i mi ei ddweud wrthi? Kirsty Williams AC: Wel, yn gyntaf oll, a gaf fi ofyn i chi ddweud 'diolch' wrthi am yr hyn y mae'n ei wneud ar hyn o bryd? Mae ein GIG a'n staff gofal cymdeithasol wedi gwneud gwaith aruthrol ar ein rhan yn ystod y pandemig hwn, ac mae pobl yn aml yn anghofio bod ein haddysgwyr a gweithwyr addysg proffesiynol a'n gweithwyr ieuenctid hefyd ar y rheng flaen. Felly, dywedwch 'diolch' wrthi gennyf fi a 'diolch' am ei brwdfrydedd a'r addewid a ddaw yn sgil y cwricwlwm newydd. Ac rwy'n credu bod ei phryder yn nodweddiadol o'r proffesiynoldeb sydd gennym o fewn y gweithlu addysg yng Nghymru. Maent eisiau gwneud pethau'n iawn ac maent yn ofni'r canlyniadau os na fyddant yn llwyddo, oherwydd nid ydynt am wneud cam â'u disgyblion. Fel y dywedais, mae cymorth ariannol ar gael ar gyfer datblygiad proffesiynol. Rydym wedi darparu canllawiau ychwanegol fis diwethaf i ysgolion ddechrau meddwl sut y gallant gynllunio eu rhaglen wrth symud ymlaen. Bydd cyngor a chymorth pellach ar gael yn y flwyddyn newydd, a byddwn yn parhau i adolygu amserlen gweithredu'r cwricwlwm. Oherwydd y peth olaf y mae unrhyw un ohonom ei eisiau, gan fy nghynnwys i, a'r gweithiwr proffesiynol ymroddedig dan sylw, yw methu cael pethau'n iawn. Dyma gyfle unwaith mewn oes, y tro cyntaf erioed i'n cenedl gael ei chwricwlwm ei hun, ac rydym i gyd, gyda'n gilydd, eisiau cael pethau'n iawn. Paul Davies AC: Weinidog, mewn tystiolaeth i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Fil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru), dywedodd Mind Cymru yn gywir fod y cwricwlwm newydd yn gyfle unigryw i osod iechyd meddwl ein holl bobl ifanc ynghanol eu profiad dysgu a'u profiad ysgol. O gofio bod y pandemig hefyd wedi cael cymaint o effaith ar iechyd meddwl plant, a allwch chi ddweud wrthym sut y bydd Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu iechyd meddwl a llesiant yn y cwricwlwm newydd yn awr? Kirsty Williams AC: Yn sicr, Paul, ac yn wir, mae'r union bwynt a wnaethoch, fod rhoi sylw i lesiant plant, eu llesiant corfforol a'u llesiant meddyliol, yn awr yn fwy nag erioed, yn flaenoriaeth, a dyna pam fod llawer o ysgolion yn awyddus i barhau i ddilyn y cwricwlwm newydd, oherwydd o dan y maes dysgu a phrofiad 'iechyd a llesiant', a'r datganiadau 'yr hyn sy'n bwysig' sy'n sail iddo, mae hynny'n rhoi llawer iawn o le inni allu cyflwyno cwricwlwm i gefnogi iechyd meddwl a llesiant plant, er mwyn deall beth sy'n effeithio ar eu hiechyd meddwl a'u llesiant, a datblygu diwylliant o ymddygiad sy'n ceisio cymorth os yw pobl yn cael trafferth ac i chwalu rhywfaint o'r stigma a'r rhwystrau sydd, yn y gorffennol efallai, wedi atal plant a phobl ifanc rhag gofyn am gymorth. Ond wrth gwrs, nid yw gwersi eu hunain yn ddigon, a dyna pam y mae gennym agwedd ysgol gyfan tuag at iechyd meddwl a llesiant, lle mae angen i iechyd meddwl a llesiant pawb yn yr amgylchedd ysgol, gan gynnwys y staff sy'n gweithio yno, fod yn ystyriaeth allweddol. Sicrhau ein bod yn cael llesiant yn iawn yw'r bloc adeiladu allweddol cyntaf i wneud i ddysgu weithio ac i gael ysgol wirioneddol lwyddiannus. Felly, mae'n ymwneud â'r cwricwlwm, ond mae hefyd yn ymwneud â'r amgylchedd sy'n amgylchynu ein plant a'n gweithlu sy'n hybu llesiant ac yn cefnogi pobl os ydynt yn dechrau cael trafferth. Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Diolch. 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd Yr eitem nesaf ar yr agenda yw cwestiynau i Gomisiwn y Senedd, a bydd y cwestiwn cyntaf y prynhawn yma yn cael ei ateb gan y Comisiynydd Suzy Davies. Andrew R.T. Davies. Gwyliau Blynyddol Andrew RT Davies AC: 1. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am faint o wyliau blynyddol a gronnwyd gan staff a'r effaith a gaiff hyn ar ei gyllid? OQ55925 Suzy Davies AC: Diolch yn fawr iawn, Andrew. Rheolir gwyliau blynyddol yn weithredol er mwyn sicrhau bod staff yn cymryd cymaint o wyliau â phosibl er mwyn eu llesiant eu hunain ac er mwyn sicrhau bod busnes y Senedd yn parhau i fod yn gadarn. Fodd bynnag, fel y gallech ei ddychmygu, ers mis Mawrth eleni, mae effaith y pandemig wedi cynyddu'r galw ar staff yn sylweddol, gan gynnwys drwy'r toriadau, ac mae'r cyfleoedd i lawer o'r rheini gymryd gwyliau wedi lleihau'n sylweddol. Mae safon gyfrifyddu ryngwladol yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiwn roi cyfrif am gost gwyliau blynyddol nas defnyddiwyd ac a gronnwyd gan staff y Comisiwn ar 31 Mawrth, a gofyniad cyfrifyddu yw hwn, nid gofyniad am arian ychwanegol o gronfa gyfunol Cymru. Ac felly, yn fyr, er bod y Comisiwn yn ystyried y gofyniad am gyllideb atodol ar gyfer 2020-21 i dalu am y cynnydd hwn ar ôl 7 Rhagfyr, ni fydd iddo unrhyw effaith ariannol. Andrew RT Davies AC: Diolch am yr ateb hwnnw, Gomisiynydd, a byddwn yn ategu'r sylwadau rydych wedi'u cofnodi—pa mor bwysig yw hi i les staff eu bod yn cymryd eu gwyliau, ac yn bwysig, yr ymroddiad a'r gwaith caled y mae'r holl staff ar draws y Comisiwn wedi'i wneud i gefnogi Aelodau yn y cyfnod anodd hwn. Fe'm trawyd gan y datganiadau a wnaethoch adeg y gyllideb, pan gafodd ei gosod, fod hwn yn fater roedd y Comisiwn yn gorfod ymdrin ag ef, a byddwn yn ddiolchgar pe gallech roi syniad a fyddech chi, fel Comisiynydd, yn gallu dweud wrth yr Aelodau faint o amser gwyliau cronedig y mae'n rhaid gweithio drwyddo, oherwydd, yn amlwg, bydd hynny, yn y pen draw, ar ryw bwynt, yn cael effaith ar y gallu i gefnogi Aelodau yn eu rôl, ond yn bwysig, i Aelodau ddeall y pwysau y mae staff yn eu hwynebu pan nad ydynt wedi gallu cymryd y gwyliau y maent wedi'i gronni dros y pandemig. Suzy Davies AC: Diolch, Andrew. Ie, a gallwn roi'r ymrwymiad hwnnw. Wrth osod cyllideb atodol, yn amlwg, byddai'n rhaid inni egluro'r rheswm dros wneud hynny, a byddai hynny'n esbonio lefel y gwyliau cronedig a'r gwerth sydd ynghlwm wrth hynny. Ond a gaf fi ddiolch i chi am fanteisio ar y cyfle hwn i longyfarch, os hoffech, aelodau'r Comisiwn a'u staff, sydd, yn wir, wedi mynd y tu hwnt i'r galw, fel rydym ni fel Aelodau wedi'i wneud mewn gwirionedd, yn ystod cyfnod anodd iawn i sicrhau ein bod yn gwasanaethu pobl Cymru'n dda? Diolch. Diolch. Bydd cwestiwn 2 yn cael ei ateb gan y Comisiynydd David Rowlands. Mike Hedges. Cylchrediad Aer Mike Hedges AC: 2. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am gylchrediad aer yn y Senedd ac adeiladau Tŷ Hywel? OQ55936 David J Rowlands AC: Mae'r Senedd yn adeilad sy'n cael ei awyru'n naturiol, gan ddefnyddio ffenestri sy'n agor yn awtomatig ar gyfer y mannau agored a system bibellau awyr iach ar gyfer y Siambr, ystafelloedd pwyllgora a mannau caeedigeraill. Mae gan Dŷ Hywel system awyru sy'n dod ag aer ffres i fannau mewnol a system ar wahân sy'n echdynnu aer mewnol i'r tu allan. Mae gan Dŷ Hywel ffenestri y gellir eu hagor ar gyfer awyru hefyd. Mike Hedges AC: Rwy'n siŵr fod gan Dŷ Hywel ffenestri y gellir eu hagor mewn rhai mannau; nid wyf wedi fy argyhoeddi fod hynny'n wir am bob ystafell yn Nhŷ Hywel. Yr hyn yr hoffwn ei awgrymu yw bod y Comisiwn yn sicrhau bod pob ffenest yn agor fel y gall pobl agor ffenestri ac fel y gallwn osgoi'r sefyllfa a oedd yn arfer cael ei alw'n syndrom adeilad sâl, lle mae rhywun yn tisian ar un llawr a hwnnw'n cael ei gylchdroi o amgylch yr adeilad, a'n bod yn sicrhau bod y ffenestri'n agor a bod aer ffres yn dod i mewn a hen aer yn mynd allan. David J Rowlands AC: Wel, mewn gwirionedd, rydym wedi comisiynu rhai pethau o ran gosod ffenestri newydd yn y Senedd ym mhob rhan o Dŷ Hywel, ac rwy'n siŵr y bydd hynny'n cael ei ystyried pan fydd yn digwydd.Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig nodi, ar yr adeg hon, ers inni ddod yn ôl ym mis Medi, fod defnydd o'r ystâd wedi aros yn isel yn ystod y pandemig, gydag oddeutu 15 y cant o bobl yma ar ddiwrnodau gwaith. Mae hyn wedi sicrhau ein bod yn gallu cydymffurfio'n effeithiol â rheoliadau cadw pellter cymdeithasol a systemau eraill sydd ar waith i atal trosglwyddiad COVID yn unol â chanllawiau ac arferion gorau. Diolch. Bydd y cwestiynau canlynol yn cael eu hateb gan y Llywydd. Cwestiwn 3, Janet Finch-Saunders. Ymgysylltiad â Phlant a Phobl Ifanc Janet Finch-Saunders AC: 3. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am ei ymgysylltiad presennol â phlant a phobl ifanc yng Nghymru? OQ55913 Diolch am y cwestiwn. Mae'r pandemig wedi ei gwneud hi'n heriol i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc, yn enwedig trwy ysgolion a grwpiau ieuenctid. Mae rheoliadau yn ei gwneud hi'n amhosib inni groesawu ysgolion i'r Senedd neu i ymweld â nhw. Am ran o'r flwyddyn, felly, bu'r tîm yn canolbwyntio ar greu adnoddau y gall gweithwyr addysg proffesiynol eu defnyddio eu hunain. Fodd bynnag, ers mis Hydref, rydym wedi profi galw cynyddol am sesiynau rhithwir i ysgolion, a byddwn ni'n cynnig mwy o'r rheini yn yr wythnosau sydd i ddod. Rydym wedi cefnogi Senedd Ieuenctid Cymru i symud ei gweithgareddau ar-lein. Fe wnaethon nhw gyhoeddi adroddiadau ar wastraff sbwriel a phlastig, a chymorth iechyd emosiynol a meddyliol, ac fe wnes i gadeirio eu Cyfarfod Llawn diwethaf ar Zoom ar 14 Tachwedd. Fel rhan o'n cyfres o ddigwyddiadau GWLAD, fe wnaethom ni gynnal cyfarfod rhithwir yn edrych ar y dyfodol i bobl ifanc yng Nghymru a'u profiadau nhw o'r pandemig. Mae staff y Comisiwn wedi gweithio gyda phobl ifanc a gweithwyr addysg proffesiynol hefyd i gyd-gynhyrchu ystod o ddeunyddiau i hyrwyddo pleidleisio ar 16 ar gyfer etholiad fis Mai nesaf. Janet Finch-Saunders AC: Diolch, Lywydd. Fe fyddwch yn ymwybodol fy mod wedi codi pryderon o'r blaen ynghylch ymgysylltiad allanol â'n hetholwyr, ac yn wir aelodau iau o'n cymuned, heb ein cynnwys ni fel Aelodau etholedig yn wir, a heb ein cyfranogiad, ac mae hynny wedi parhau. Fodd bynnag, yng ngoleuni'r pandemig, rwy'n croesawu'r ffaith bod y Senedd yn cynnig sesiynau ar-lein i helpu pobl ifanc i ddeall yn well sut y mae ein democratiaeth yn gweithio, ac mae rhai o'r sesiynau'n swnio'n rhagorol, megis 'Cyflwyniad i'ch Senedd', 'Sut i fod yn ddinesydd gweithredol', ac 'Ein Senedd'. Mae sesiynau 'Fy mhleidlais gyntaf', sy'n canolbwyntio ar etholiadau'r Senedd a fydd yn digwydd ym mis Mai, lle bydd pobl ifanc 16 ac 17 oed yn gallu pleidleisio am y tro cyntaf yng Nghymru, yn swnio'n sesiynau da iawn, ac er fy mod yn cydnabod bod angen addysg cyn hyn—rwy'n credu ei bod yn hen bryd, mewn gwirionedd—rwy'n ei chael yn anodd gweld sut y gellir cyflawni hyn yn effeithiol heb gyfeirio at, a chynnwys ein holl bleidiau gwleidyddol yng Nghymru, a hoffwn weld Aelodau'n cymryd rhan. Felly, a allech chi egluro a yw'r swyddogion addysg sy'n cynghori'r myfyrwyr hyn yn y sesiwn 'Fy mhleidlais gyntaf'—? Sut y cânt eu haddysgu ynglŷn â'r gwahanol bleidiau gwleidyddol a'r system wleidyddol yn wir? Hefyd, pa fwriadau sydd gan y Senedd i gynorthwyo Aelodau sydd eisoes wedi'u hethol i fod yn rhan o rai o'r sesiynau hyn? Diolch. Wel, rwy'n siŵr y byddech yn cytuno, Janet Finch-Saunders, cyn yr etholiad, cyfnod rydym i gyd yn ei wynebu ar ôl y Nadolig, ei bod yn bwysig fod y sesiynau y mae'r Comisiwn yn eu cynnal, ac y mae ysgolion ac eraill yn eu cynnal mewn ysgolion, yn wleidyddol gytbwys ac yn cynnwys yr holl gynrychiolaeth wleidyddol at y diben hwnnw. Dyna pam fod y Senedd, wrth gynllunio ein hadnoddau ac adnoddau Llywodraeth Cymru sydd ar gael i bobl ifanc, gan weithio gyda'r Comisiwn Etholiadol hefyd, yn sicrhau bod cydbwysedd gwleidyddol teg yn y ddadl sy'n arwain at etholiadau. Rydym i gyd yn gwybod, fel Aelodau unigol, ein bod yn aml iawn yn cael ein gwahodd i ysgolion i gynnal hustyngau gwleidyddol yn y cyfnod sy'n arwain at etholiadau, a gobeithiwn y bydd y posibilrwydd hwnnw'n digwydd ar lefel leol hefyd. Mater i'r ysgolion yw cychwyn eu trafodaeth eu hunain, ond rwy'n gobeithio y bydd ysgolion mewn sefyllfa i wneud hynny.Mae'n ddigon posibl y bydd hynny'n digwydd mewn cyd-destun rhithwir o hyd erbyn mis Mai y flwyddyn nesaf, ond mae sicrhau bod gan ein pobl ifanc yr holl wybodaeth y maent ei hangen i'w hysbrydoli, ac yn ymarferol i fwrw eu pleidlais ym mis Mai y flwyddyn nesaf yn rhywbeth sy'n ein huno ni i gyd fel Aelodau etholedig, rwy'n credu, nawr ac yn y dyfodol. Trafodion y Senedd David Melding AC: 4. Pa fesurau sydd ar waith i hyrwyddo rhith-fynediad at drafodion y Senedd gan y cyhoedd? OQ55921 Er nad yw'n bosib i'r cyhoedd yn gyffredinol gael mynediad i gyfarfodydd ar hyn o bryd, rydym wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod gwaith y Senedd yn fwy hygyrch nag erioed drwy ddulliau eraill. Mae trafodion y Senedd sy'n cael eu dangos ar y teledu yn cael eu hyrwyddo ar draws ystod o sianeli. Rydym yn darparu llif darlledu i allfeydd newyddion, a bydd cwestiynau i'r Prif Weinidog yn aml yn cael eu darlledu ar BBC 2 Cymru ac ar BBC Parliament. Rydym hefyd yn ffrydio cwestiynau i'r Prif Weinidog ar gyfrifon Twitter y Senedd, ac yn trefnu bod modd gwylio cwestiynau i'r Prif Weinidog gydag iaith arwyddion ar y diwrnod canlynol hefyd. Mae Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau yn parhau i ddarparu blogiau o safon uchel i egluro materion allweddol o ran dadleuon sydd ar ddod yn y Senedd er mwyn gwneud y dadleuon yn fwy hygyrch, ac mae staff y Comisiwn wedi bod yn datblygu ffyrdd newydd o ymgysylltu yn rhithwir â'r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys rhith-deithiau newydd o amgylch yr adeilad, arddangosfeydd rhithwir a sesiynau cyflwyniad i'r Senedd ar-lein a gawsant eu lansio yn gynharach yn y mis yma. David Melding AC: Diolch i'r Llywydd am yr ateb hwnnw, ac rwy'n cymeradwyo'r arloesedd a welsom, rwy'n credu ei bod yn deg dweud, drwy gydol y cyfnod datganoli yng Nghymru, ac yn sicr yn ystod y pumed Senedd hon. Ac rwy'n gobeithio y byddwn yn adeiladu ar y llwyddiant hwn, oherwydd mae pob un ohonom eisiau dinasyddiaeth weithredol, fel y clywsom mewn atebion blaenorol. Ac mae'n ymddangos i mi, yn ogystal â gwylio ein trafodion, fod mwy o gyfleoedd drwy ddulliau rhithwir i ganiatáu i ddinasyddion gymryd rhan, i ryw raddau, mewn modd nad yw, efallai, mor fygythiol â rhoi tystiolaeth o flaen pwyllgor yn ffurfiol er enghraifft. Ac mae llawer rydym wedi'i wneud, ond yn y chweched Senedd, mae'n debyg bod llawer mwy y gallem ei wneud, a byddwn yn annog pwy bynnag a fydd wrth y llyw bryd hynny i edrych ar hyn yn ofalus iawn. Wel, yn bendant iawn, rwy'n credu bod profiad y chwe mis diwethaf, o ran sut rydym wedi cynnal ein sesiynau yma fel Siambr, trafodion y Senedd, ond yn bwysicaf oll yng ngwaith ein pwyllgorau, a'n defnydd o'r dull rhithwir o weithredu wedi galluogi ystod ehangach, mwy amrywiol, a mwy gwasgaredig yn ddaearyddol, o dystion a sesiynau tystiolaeth, ac mae'n bosibl ei fod wedi chwalu rhai o'r rhwystrau ffisegol a mathau eraill o rwystrau sy'n atal pobl rhag rhoi tystiolaeth neu gymryd rhan yn nhrafodion ein pwyllgorau. Felly rwy'n gobeithio'n fawr, ac yn fy nhrafodaethau gyda'r Fforwm Cadeiryddion, rydym i gyd wedi bod yn ymwybodol iawn o'r profiadau cadarnhaol niferus iawn a gawsom drwy ddefnyddio dull mwy rhithwir o weithredu dros y chwe mis diwethaf, ac mae'n rhaid i ni beidio â cholli golwg ar y rheini wrth i ni feddwl sut rydym yn llunio busnes ar gyfer y Senedd nesaf. Senedd Ieuenctid Cymru Helen Mary Jones AC: 5. A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei gefnogaeth ar gyfer gwaith Senedd Ieuenctid Cymru? OQ55904 Diolch. Mae Senedd Ieuenctid Cymru wedi cael hydref prysur, wrth i Aelodau nesáu at ddiwedd eu tymor yn y swydd. Cefnogodd y Comisiwn Aelodau o'r Senedd Ieuenctid i gynhyrchu a chyhoeddi dau adroddiad yn seiliedig ar waith eu pwyllgorau. Roedd un yn edrych ar gymorth iechyd emosiynol a meddwl a'r llall ar wastraff sbwriel a phlastig. Roedd cyfarfod olaf y Senedd Ieuenctid ar 14 Tachwedd, a fi gadeiriodd y sesiwn hynny. Roedd hefyd yn cynnwys cyfraniadau gan Weinidogion Llywodraeth Cymru, Cadeiryddion pwyllgorau'r Senedd a chomisiynwyr cenedlaethau'r dyfodol a phobl ifanc. Yn ychwanegol at hynny, mae Aelodau o'r Senedd ieuenctid wedi cael cefnogaeth i gynnal sesiynau craffu gydag ystod o Weinidogion, gan gynnwys y Prif Weinidog a'r Gweinidog iechyd i rannu eu profiad o'r coronafeirws yn ystod yr haf. Ac yn fwy diweddar, cynhaliodd rhai Aelodau sesiwn gyda'r Gweinidog Addysg i rannu eu barn, a barn pobl ifanc eraill, cyn cyhoeddiad y Gweinidog ar arholiadau. Ac fe fydd yna sesiwn bellach gyda rhai o'r seneddwyr ieuenctid yn cwrdd â'r Prif Weinidog nos Lun nesaf. Rwy'n gwybod y bydd y Senedd Ieuenctid yn parhau am ychydig fisoedd eto, ond hoffwn dalu teyrnged i waith caled yr Aelodau ifanc hynny ac i ddiolch am waith rhieni, ysgolion, sefydliadau partner a'n staff ni ein hunain wrth helpu i ddod â thri llinyn eu gwaith i gasgliad llwyddiannus. Helen Mary Jones AC: Dwi'n ddiolchgar iawn i'r Llywydd am yr ateb. Helen Mary Jones AC: Diolch yn fawr am yr ateb hwnnw. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni i gyd fod yn falch iawn o'r bobl ifanc a'r hyn y maent wedi'i gyflawni yn yr amgylchiadau anodd hyn, ac rwy'n credu y byddem i gyd eisiau diolch yn fawr iawn i'r staff sydd wedi eu galluogi i barhau â'u gwaith yn yr un ffordd, wrth gwrs, ag y mae staff y Senedd wedi ein galluogi i barhau â'n gwaith ninnau. Rwyf wedi bod yn bryderus, er hynny, am lesiant emosiynol yr Aelodau ifanc. Ni fydd eu profiad o fod yn Aelodau ifanc o'r Senedd fel roeddent wedi'i ddisgwyl. Felly, a allwch chi gadarnhau, Lywydd, fod aelodau o staff yma wedi bod mewn cysylltiad â'r gweithwyr proffesiynol—gweithwyr ieuenctid ac eraill—sy'n cefnogi'r bobl ifanc i wneud yn siŵr eu bod yn iawn? Yn ogystal â hynny, fel y dywedoch chi, mae'r tymor cyntaf wedi dod i ben, mae wedi bod yn hynod gynhyrchiol, maent wedi gwneud llawer iawn o waith ac rwy'n siŵr yr hoffem i gyd ddiolch iddynt. A allwch chi ddweud ychydig mwy wrthym am y camau sydd ar waith i baratoi ar gyfer yr etholiadau nesaf ar gyfer ein seneddwyr ifanc nesaf? Mae'n bosibl y bydd hynny'n cael ei wneud, wrth gwrs, mewn cyfnod heriol lle mae gan ysgolion a grwpiau ieuenctid lawer o gyfrifoldebauna fyddent fel arfer yn gorfod ymdopi â hwy. Felly, rwy'n gobeithio bod ystyriaeth a chynllunio'n digwydd mewn perthynas â'r ffordd y gallwn sicrhau bod ein Senedd Ieuenctid nesaf mor effeithiol ag y mae hon wedi bod. Wel, mae wedi bod yn un o uchafbwyntiau fy nghyfnod fel Llywydd i gadeirio digwyddiadau a chyfarfodydd Senedd Ieuenctid Cymru. Maent yn bobl ifanc ysbrydoledig sydd wedi bod eisiau cynrychioli pobl ifanc eraill a gwneud yn siŵr fod barn pobl ifanc yng Nghymru yn cael dylanwad arnom ni fel Senedd, ac mae wedi bod yn daith ysbrydoledig iddynt hwy ac i minnau hefyd, yn bendant. Felly, wrth gynllunio ar gyfer dyfodol hynny, dysgwn o brofiad y Senedd gyntaf, a byddwn yn llunio adroddiad etifeddiaeth, fel rydym yn ei wneud ar gyfer sawl agwedd ar waith y Senedd, i symud ymlaen i'r Senedd nesaf ac i baratoi i ethol y Senedd Ieuenctid nesaf yn ystod yr hydref y flwyddyn nesaf. Fel y dywedwch, mae'r 60 Aelod ifanc o'n Senedd Ieuenctid wedi profi'r pandemig, fel y gwnaeth pawb ohonom, ac maent wedi cael eu profiadau eu hunain o hynny. Mae staff ein Comisiwn, sydd wedi gweithio gyda hwy ar y pwyllgorau ac yn y Senedd yn Senedd Ieuenctid Cymru ei hun, wedi bod yn ymwybodol iawn o'r ffaith eu bod yn dod o wahanol amgylchiadau—pob un ohonynt—ac maent wedi cael cymorth, cymaint ag y gallwn, i'w galluogi i barhau â'u gwaith ym mha ffordd bynnag y gallent fel seneddwyr ieuenctid.Felly, mae wedi bod yn brofiad hynod gadarnhaol, ac rwy'n gobeithio bod hynny'n wir i'r 60 Aelod a gafodd eu hethol. Roeddent yn arloeswyr, a byddwn yn ethol ein hail Senedd Ieuenctid cyn bo hir, a chredaf ein bod wedi gwneud gwaith da fel Senedd yn cefnogi ein pobl ifanc a chaniatáu iddynt gael llais, ond yn arbennig hefyd, drwy wrando ar yr hyn roedd ganddynt i'w ddweud. A chwestiwn olaf y sesiwn hon yw cwestiwn 6, Alun Davies. Cylch Etholiadol y Senedd Alun Davies AC: 6. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am unrhyw gynlluniau i newid cylch etholiadol y Senedd? OQ55942 Does dim cynlluniau o'r fath gan Gomisiwn y Senedd i newid hyn ar hyn o bryd. Heblaw bod darpariaeth yn cael ei gwneud i'r gwrthwyneb, mae adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn rhagnodi bod yn rhaid cynnal etholiadau cyffredinol arferol i'r Senedd ar y dydd Iau cyntaf ym mis Mai, bum mlynedd yn dilyn yr etholiadau diwethaf i'r Senedd. O ganlyniad, dylid cynnal yr etholiad nesaf i'r Senedd ym mis Mai 2021. Alun Davies AC: Rwy'n ddiolchgar i'r Llywydd am yr ateb hwnnw. Credaf y bydd yn cytuno â mi ein bod angen mwy o ddemocratiaeth ac nid llai o ddemocratiaeth yng Nghymru, ac mae gwraidd y newid i'n cylch etholiadol, wrth gwrs, yn Neddf Seneddau Tymor Penodol 2011, ac mae'r ddeddfwriaeth ofnadwy honno wedi bod ar y llyfr statud ers degawd bellach. Yn y degawd hwnnw, wrth gwrs, rydym wedi cael tri etholiad cyffredinol yn y DU, sy'n ei gwneud yn gwbl ddiystyr, a'r unig ran o faniffesto'r Ceidwadwyr roeddwn yn ei groesawu y llynedd oedd ei ymrwymiad i ddiddymu'r Ddeddf Seneddau Tymor Penodol. Mae hynny'n dileu'r cyfiawnhad dros newid ein cylchoedd etholiadol wrth gwrs, ac mae'n dileu'r angen i wneud hynny. Mae llawer ohonom yma'n teimlo bod y lle hwn wedi eistedd yn rhy hir. Rydym angen etholiad yma, ac rydym angen cylch etholiadol sy'n darparu ar gyfer etholiadau rheolaidd bob pedair blynedd, fel y rhagwelwyd gan y rhai a luniodd gyfansoddiad Cymru. Mae'n bwysig, felly, fod y bobl sy'n sefyll etholiad l fis Mai nesaf yn deall mai am bedair blynedd yn unig ac nid pum mlynedd y dylai'r Senedd honno eistedd. Byddwn yn ddiolchgar pe bai comisiwn yn gweithio gydag Aelodau ar bob ochr i'r Siambrau—gallaf weld cefnogaeth arbennig o swnllyd oddi ar feinciau'r Ceidwadwyr, ac rwy'n croesawu hynny gyda llaw—a sicrhau ein bod yn gallu llunio deddfwriaeth i sicrhau ein bod yn dychwelyd at gylch pedair blynedd ar gyfer y Senedd hon, ar gyfer holl etholiadau Cymru, cyn gynted ag y caiff y Ddeddf Seneddau Tymor Penodol ei lluchio, yn briodol iawn, i fin hanes. Diolch am y cwestiwn atodol. Rwy'n credu y gallwn i gyd anadlu ochenaid o ryddhad nad oedd y Senedd hon yn eistedd am dymor pedair blynedd, neu fel arall byddem wedi gorfod cynllunio etholiad ar gyfer mis Mai 2020, ac nid wyf yn siŵr y byddem wedi gallu gwneud hynny ar y pryd, neu fe fyddai wedi dargyfeirio ein hegni y pryd hwnnw oddi wrth rywbeth arall a oedd yr un mor bwysig os nad yn bwysicach. O ran y dyfodol, fel y dywedais yn fy ymateb, mae angen newid deddfwriaethol i newid i dymor pedair blynedd. Clywaf y prynhawn yma, ac rwyf wedi gweld llawer o gyfeiriadau gan Aelodau at y ffaith y byddai'n well gan rai gael tymor pedair blynedd yn hytrach na thymor pum mlynedd, ac rwyf wedi eich clywed chi, Alun Davies, yn ei ddweud o'r blaen. Yn yr un ffordd, rwy'n agored i'r syniad hwnnw, yn bersonol yn sicr. Ond mater i'r broses wleidyddol yn y Senedd hon ac yn y Senedd nesaf fydd ymgymryd â'r ddeddfwriaeth honno os gwelir bod angen. Edrychaf ymlaen, felly, at ddarllen maniffestos pob plaid wleidyddol i weld a oes rhai ohonynt yn ei roi yn eu maniffestos ar gyfer Llywodraeth ac ar gyfer etholiad y Senedd fis Mai nesaf. Diolch, Lywydd. 4. Cwestiynau Amserol Cwestiynau amserol oedd eitem 4, ac nid oes unrhyw gwestiynau amserol wedi'u derbyn. 5. 90 Second Statements Felly, symudwn at eitem 5, sef y datganiadau 90 eiliad. Daw'r datganiad cyntaf yr wythnos hon gan Vikki Howells. Vikki Howells AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Tachwedd 2020 yw canmlwyddiant geni Elaine Morgan. Cyflawnodd Elaine, a aned i deulu glofaol, ryfeddodau yn ystod gyrfa hir, amrywiol a disglair. Enillodd ysgoloriaeth i Brifysgol Rhydychen, llwyddiant aruthrol i ferch glöwr yn y 1930au. Ar ôl graddio, gweithiodd Elaine i Gymdeithas Addysg y Gweithwyr, ac yna priododd â Morien, a oedd wedi ymladd yn erbyn y ffasgwyr yn Sbaen. Cafodd tri mab eu magu yng nghartref y teulu yn Aberpennar, wrth i Elaine gychwyn ar yrfa fel awdur i'r BBC. Ysgrifennodd addasiadau clodwiw o How Green was my Valley, The Life and Times of Lloyd George, a Testament of Youth ymhlith pethau eraill. Enillodd wobr Awdur y Flwyddyn am yr olaf, i fynd gyda sawl BAFTA, sawl Gwobr Urdd Awduron Prydain Fawr, ac ambell dlws rhyngwladol hyd yn oed. Hefyd, datblygodd a hyrwyddodd Elaine y ddamcaniaeth chwyldroadol ynghylch epa'r dŵr, gan gyhoeddi llawer o lyfrau ar y pwnc ac ennill gwobrau am ei chyfraniad at wybodaeth wyddonol. Yn ei 80au, ymgymerodd Elaine â her newydd fel colofnydd arobryn i'r Western Mail. Bu farw Elaine yn 2013. Saith mlynedd yn ddiweddarach, ceir bywgraffiad newydd o Elaine, a ysgrifennwyd yn ddiweddar gan yr hanesydd lleol Dr Daryl Leeworthy, a bwriad i godi cerflun i'w hanrhydeddu yn Aberpennar, yng nghanol y Cymoedd a'r cymunedau y llwyddodd i'w disgrifio mor fyw. Fel y nododd y newyddiadurwr Carolyn Hitt, newidiodd Elaine y byd o'i desg yn Aberpennar. Rhun ap Iorwerth AC: Eisiau dathlu gwirfoddolwyr ydw i. Fel Aelod Ynys Môn ac un o Gomisiynwyr y Senedd, dwi’n falch iawn bod y Senedd yn trefnu oriel o arwyr COVID sydd wedi gweithio’n ddiflino dros eu cymunedau. Mae pob Aelod wedi cael dewis pwy ddylai fod yn yr oriel, a beth wnes i oedd gofyn i bobl Ynys Môn ddewis, ac efo dros 40 o enwebiadau, mae’n amlwg faint o waith da sydd wedi cael ei wneud. Llongyfarchiadau i’r tri ddaeth i’r brig: y Gwalchmai Hotel, grŵp Caru Amlwch a Chippy Chippy yng Nghaergybi. Ond dwi’r un mor falch o waith Stayce Weeder a Matthew Southgate am helpu i ddarparu PPE; Gwyneth Parry a gwirfoddolwyr Rhosneigr; Eirian Huws a grwp cymunedol Bryngwran; Steve MacVicar a’r Seiriol Good Turn Scheme. Llinos Wyn yn Amlwch; Lisa Hall a gwirfoddolwyr Llangaffo; Roy Fyles a banc bwyd Môn; Julie Parkinson, Vaughan a Louise Evans, Pam Gannon a Delyth Jones-Williams o Sgowtiaid Llanfairpwll; a Sophie Mae Roe, saith oed, am ei gwaith codi arian. Roedd yna weithwyr iechyd a gofal: parafeddygon Amlwch; cartref Plas Garnedd; Dr Nia Allen, Llanfairpwll; Dr Claire Kilduff o Ysbyty Gwynedd. Mudiadau Neges, Medrwn Môn, Menter Môn, cyngor sir Môn, Môn CF, Cyngor ar Bopeth, Gwasanaeth Ieuenctid Môn a COVID-19 Mutual Aid Môn. Busnesau: Dylan’s; Mojo’s; Catch 22; The Codmother, Niwbwrch; yr Holland Hotel, Llanfachraeth; y cigydd Raymond Jones; Blas Mwy y Black Lion; yr Oyster Catcher; Siop Elis a Spar Beaumaris; ac Anglesey Outdoors am roi llety i weithwyr allweddol. I Môn FM; grwp Facebook Côr-ona; clwb gymnasteg Môn; ac ysgol ddawns Helen Barton, mae’ch gwaith chi wedi’i werthfawrogi. A’n olaf, i’r postmon Ben Williams a fu’n codi calonnau yn ei wisg ffansi. Diolch. Diolch, bawb ym Môn. Ond, ar ran y Senedd gyfan, diolch i bawb ledled Cymru am ddangos ein bod yn genedl o gymwynaswyr. Huw Irranca-Davies AC: Rhwng 30 Tachwedd a 6 Rhagfyr, rydym yn dathlu Wythnos Diogelwch Trydanol Cymru. Elusen Diogelwch Trydanol yn Gyntaf yw'r unig elusen yng Nghymru sy'n ymroddedig i leihau nifer yr anafiadau a'r marwolaethau a achosir gan drydan. Maent yn defnyddio Wythnos Diogelwch Trydanol i hyrwyddo diogelwch tân trydanol yn y cartref, gan godi ymwybyddiaeth o'r ffaith bod dros hanner yr holl danau damweiniol mewn tai yn cael eu hachosi gan drydan. Eleni, mae COVID-19 yn cyflwyno heriau newydd o ran diogelwch trydanol. Mae tystiolaeth fod pryderon COVID yn gwthio defnyddwyr Cymru o'r stryd fawr ac i farchnadoedd ar-lein, a gall hynny olygu eu bod yn prynu rhoddion peryglus. Mae ymchwil newydd gan Diogelwch Trydanol yn Gyntaf yn awgrymu y bydd 57 y cant o drigolion Cymru yn siopa ar-lein eleni, a dywedodd y rhan fwyaf o'r bobl hyn eu bod yn bwriadu siopa ar-lein oherwydd eu bod yn credu bod y gwefannau hyn yn fwy diogel na mynd i'r stryd fawr yn ystod y pandemig. Fodd bynnag, mae Diogelwch Trydanol yn Gyntaf yn pryderu bod defnyddwyr yn cyfnewid un risg am un arall, gan fod nifer o ymchwiliadau ar ran yr elusen wedi datgelu bod cynhyrchion trydanol peryglus ar werth ar y safleoedd hyn drwy drydydd partïon, a daeth ymchwiliadau Diogelwch Trydanol yn Gyntaf o hyd i eitemau trydanol anniogel ar werth dro ar ôl tro ar safleoedd yn cynnwys Amazon Marketplace, eBay, Wish.com ac eraill. Nid yw galwadau mynych ar farchnadoedd ar-lein i gymryd cyfrifoldeb am y cynhyrchion a werthir wedi arwain at gamau gweithredu sylweddol eto. Felly, mae'r elusen yn annog defnyddwyr i leihau eu perygl o brynu eitemau peryglus drwy gadw at siopau a gwefannau gweithgynhyrchwyr a manwerthwyr cyfarwydd y gellir ymddiried ynddynt, fel y rhai ar ein strydoedd mawr. Felly, yn ystod Wythnos Diogelwch Trydanol Cymru, gofynnwch i Siôn Corn ddod ag anrhegion trydanol diogel i chi eleni—ho, ho, ho! Delyth Jewell AC: Cafodd Jan Morris fywyd eithriadol, yn chwilota ac agor ffenestri ar fydoedd eraill gyda'i hysgrifennu, yn arloesi a chroesi tiroedd newydd ac agor drysau ar bosibiliadau. Bydd cynifer ohonom yn gyfarwydd â'i llyfrau atgofus am Fenis a Trieste, ond ei gwaith gwych TheMatter of Wales a arweiniodd ddarllenwyr i ddarganfod trysorau cudd ein gwlad ein hunain, ei hanobaith a'i herfeiddiwch. Gan ysgrifennu pan sefydlwyd y Senedd hon am y tro cyntaf, mae Jan yn ein gwahodd i fwrw cipolwg ar y wlad hon ar drothwy ei chyflawniad newydd, gyda lle a phobl yn dod at ei gilydd. Delyth Jewell AC: Cymuned oedd Cymru i Jan—cymuned a unwyd gan drasiedi a gobaith. Mewn erthygl a ysgrifennwyd yn 2011 i alarnadu dros y bywydau a gollwyd yng nglofa'r Gleision, dywedodd bod ei llygaid yn llawn dagrau wrth iddi estyn ei chariad o un pen o Gymru i'r llall—o Lanystumdwy ger afon Dwyfor i gyfeillion dieithr a oedd yn galaru yng nghwm Tawe. Teimlir y galar am golled Jan Morris ar draws Cymru—y fenyw anhygoel hon wnaeth dorri'r newyddion i'r byd bod Edmund Hillary wedi cyrraedd gwersyll cychwyn Everest. Nawr, yng ngeiriau ei mab Twm, mae hi wedi cychwyn ar ei siwrnai fwyaf. Hedd, perffaith hedd i chi, Jan, o un pen o Gymru i'r llall—o'r gwersyll cychwyn i gopa'r mynydd. Diolch. Rydym yn atal y trafodion nawr i ganiatáu newidiadau yn y Siambr. Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny'n gyflym. Bydd y gloch yn cael ei chanu ddwy funud cyn inni ailgychwyn ein trafodion. Diolch. Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:33. Ailymgynullodd y Senedd am 15:42, gyda'r Llywydd yn y Gadair. 6. Cynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil cynllun dychwelyd ernes a lleihau gwastraff Dyma ni yn ailgychwyn, a'r eitem nesaf yw'r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod. Bil cynllun dychwelyd ernes a lleihau gwastraff yw hwnnw, a dwi'n galw ar Janet Finch-Saunders i wneud y cynnig. Cynnig NDM7481 Janet Finch-Saunders Cefnogwyd gan Llyr Gruffydd Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil a fyddai'n gwneud darpariaethau i gyflwyno cynllun dychwelyd ernes a lleihau gwastraff yng Nghymru. 2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai: a) sefydlu cynllun dychwelyd ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd yng Nghymru, a fyddai'n golygu bod defnyddwyr yn talu ernes, yn ad-daladwy ar ôl dychwelyd y cynhwysydd; b) lleihau nifer y poteli plastig a gwydr untro, yn ogystal â caniau dur ac alwminiwm; c) ymateb i wastraff ailgylchadwy cynyddol, fel cyfarpar diogelu personol sy'n cael ei ddefnyddio yn y frwydr yn erbyn COVID-19, lle mae nifer cynyddol o eitemau'n cael eu taflu ac yn effeithio ar ein bywyd gwyllt a morol; a d) cynyddu atebolrwydd drwy sefydlu dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i osod adroddiad blynyddol gerbron Senedd Cymru yn manylu ar bolisïau penodol yr ymgymerwyd â hwy i leihau'r gwastraff ailgylchadwy a gaiff ei daflu i ffwrdd a'r effaith y mae'r rhain wedi'i chael o ran gwella amgylchedd naturiol Cymru. Cynigiwyd y cynnig. Janet Finch-Saunders AC: Diolch, Lywydd. Wrth wneud y cynnig deddfwriaethol hwn, hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod yng ngogledd Cymru, Llyr Gruffydd, am gefnogi hyn. Y llynedd, disgrifiodd Syr David Attenborough lygredd plastig fel trychineb sy'n datblygu. Mae ef, wrth gwrs, yn llygad ei le, gan y gallwn ac y dylem wneud mwy i osgoi'r broblem sy'n ein hwynebu. Amcangyfrifir ar hyn o bryd mai dim ond 77 y cant o boteli gwydr, 66 y cant o ganiau alwminiwm a 65 y cant o boteli diod plastig sy'n cael eu hailgylchu. Yn wir, mae taflu sbwriel yn bla ar Gymru gyfan. Rhwng mis Gorffennaf 2019 a mis Mehefin 2020, roedd 1,034 o achosion o dipio anghyfreithlon ar draws Sir Fynwy, 2,281 ar draws Caerffili a 2,816 ar draws Rhondda Cynon Taf. Plastig yw'r prif ddeunydd yn ein problem lygredd. Mae capiau poteli a chaeadau bellach o fewn y pum eitem a welir amlaf ar draethau Cymru, a chanfu dadansoddiad o'r ymgyrch casglu sbwriel a gynhaliais yn eithaf diweddar gyda'r Gymdeithas Cadwraeth Forol fod 55.9 y cant o'r eitemau a gasglwyd wedi'u gwneud o blastig neu bolystyren. Poteli ac eitemau cludfwyd oedd y mwyafrif llethol wrth gwrs. Gallwn fynd i'r afael â hyn drwy gyflwyno cynllun dychwelyd ernes. Mae llawer o'r Aelodau yma wedi trafod hyn ac wedi dweud eu bod wedi bod eisiau hyn ar hyd y ffordd, ond dyma ni yn dal i siarad am y peth ac yn dal i fod yn awyddus i'w weld. Yn wir, mae'r Alban yn arwain y ffordd, gan y bydd cynllun dychwelyd ernes yn cael ei gyflwyno yno o 1 Gorffennaf 2022. A gwn fod gan Lafur Cymru ddiddordeb, oherwydd roedd cynllun dychwelyd ernes yn rhan o'r ymgynghoriad ar 'Mwy nag Ailgylchu', a dynnodd sylw at bryderon megis yr honiad na ellid cymhwyso'r cynllun yn effeithlon yng Nghymru, yr ôl troed carbon posibl o sefydlu cynllun dychwelyd ernes, ac effeithiau ar ein awdurdodau lleol yn cyrraedd targedau ailgylchu. Ond nid ydynt yn cyfiawnhau unrhyw oedi pellach. Gallai'r cynllun dychwelyd ernes gynorthwyo awdurdodau lleol i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon. Canfu Pwyllgor Amgylchedd, Newid Hinsawdd a Diwygio Tir yr Alban fod manteision effeithlonrwydd casglu a chostau is am waredu deunyddiau yn gorbwyso costau cynllun dychwelyd ernes i awdurdodau lleol. Ac yn Ne Awstralia, golygodd y cynllun dychwelyd ernes fod ailgylchu ymyl y ffordd yn fwy proffidiol. Felly, byddai manteision mawr i'n hamgylchedd. Dywedodd Zero Waste Scotland y bydd cynllun yr Alban yn lleihau allyriadau cyfwerth â thua 4 miliwn tunnell o garbon deuocsid dros y 25 mlynedd nesaf. Mae gwneud caniau alwminiwm o hen rai yn defnyddio un rhan o ddeuddeg o'r ynni a ddefnyddir i gynhyrchu o ddeunydd crai, caiff 315 kg o garbon deuocsid ei arbed am bob tunnell o wydr a ailgylchir, a dangosodd arolwg gan Lywodraeth Cymru hyd yn oed fod tri chwarter yr oedolion yn cefnogi'r syniad o gynllun dychwelyd ernes, ac maent yn iawn i wneud hynny. Gallai'r cynllun dorri hyd at draean oddi ar gyfanswm sbwriel yng Nghymru. Nawr, rwy'n sylweddoli bod Llywodraeth Cymru yn gweithio ar y cyd â Lloegr a Gogledd Iwerddon, a bod paratoadau'n cael eu gwneud ar gyfer ail ymgynghoriad. Ond a oes angen un arall arnom i ddatblygu'r cynllun dychwelyd ernes yng Nghymru, cynllun rydym i gyd wedi cytuno arno o'r blaen? Bydd yr Aelodau'n gwybod bod yr eitem hon wedi bod yn bwnc sy'n codi'n gyson ers 2016—cyn hynny mewn gwirionedd—a dylent nodi llwyddiant y cynlluniau mewn mannau eraill, megis y Ffindir, yr Iseldiroedd, Norwy, Sweden, Denmarc a Croatia. Gwelodd Gwlad yr Iâ gyfradd ddychwelyd o 90 y cant yn 2014; yr Almaen 98 y cant yn 2016; a Lithwania, 92 y cant yn 2017. Felly, nod fy nghynnig yw adlewyrchu her arall sy'n perthyn i'n cyfnod ni: cyfarpar diogelu personol. Roedd ei angen arnom, ond yn sicr nid ydym wedi bod angen y gwastraff ohono. Mae menig Latex yn cymryd hyd at 100 mlynedd i fioddiraddio, ac eto ledled y byd, mae timau ymateb COVID angen dros 80 miliwn o fenig bob mis. Mae lle i arloesi, ac mae Meditech Gloves a Phrifysgol Cranfield wedi datblygu latecs naturiol, a fyddai ond yn cymryd ychydig wythnosau i fioddiraddio. Mae cwmni rheoleiddio gwastraff TerraCycle wedi creu rhaglen ailgylchu i gadw'r amgylchedd yn rhydd o gyfarpar diogelu personol, ac mae tîm o dan arweiniad Abertawe yn datblygu proses newydd o'r enw ffotoailffurfio, sy'n defnyddio golau'r haul i droi gwastraff na ellir ei ailgylchu yn danwydd hydrogen glân. Nawr, rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynllun Abertawe, ond mae angen inni wneud mwy i harneisio arloesedd o'r fath, yn enwedig gan ein bod bellach yn gweld mwy o fenig, masgiau a photeli diheintio yn addurno ein hamgylchedd. Rwyf hefyd yn rhannu pryderon Dŵr Cymru ynghylch gwaredu cadachau gwlyb plastig untro, sy'n cyfrannu at flocio tua 2,000 o carthffosydd bob mis. Ie, 2,000 bob mis. Dylai Llywodraeth Cymru gynnwys cadachau gwlyb yn y rhestr o eitemau sydd i'w gwahardd. Mae arnom angen camau pendant i sicrhau bod Cymru'n ddiwastraff erbyn 2050, ac mae arnom angen deddfwriaeth sy'n dangos bod y Senedd hon yn ymateb yn brydlon i alwadau gan y cyhoedd a'r argyfwng hinsawdd sy'n esblygu, a dyna'r rheswm dros fy nghynnig i sefydlu dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno adroddiad blynyddol. Lywydd, Aelodau o'r Senedd, agorais drwy gyfeirio at Syr David Attenborough, ac rwyf am gloi gyda'r sylwadau a wnaeth y llynedd: Mae'n hen bryd i ni droi ein sylw'n llawn at un o'r problemau mwyaf dybryd sy'n ein hwynebu heddiw— sef— osgoi'r argyfwng llygredd plastig, nid yn unig er lles iechyd ein planed, ond er lles pobl ledled y byd. Mae angen i bob un ohonom weithredu ar ei alwadau yn awr. Ac rwyf wedi dangos heddiw fod mwy y gallwn ac y dylem ei wneud yn awr yng Nghymru i helpu i osgoi'r argyfwng presennol. Diolch yn fawr. Llyr Gruffydd AC: Rwyf wedi cefnogi'r cynnig deddfwriaethol hwn am ddau reswm. Yn gyntaf, rwy'n cytuno y bu oedi annerbyniol cyn cyflwyno camau gweithredu ar yr agenda hon, ond hefyd, rwyf am i Gymru fynd ymhellach na'r hyn sy'n cael ei gynnig. Mae wedi bod yn rhwystredig iawn, mewn gwirionedd. Mae Llywodraeth Cymru wedi siarad llawer ers nifer o flynyddoedd ond nid yw wedi gweithredu. Mae'r Llywodraeth wedi bod yn siarad am hyn ers dros ddegawd. Cefais fy ethol yn 2011, a bryd hynny roedd sôn am weithredu ar gynllun dychwelyd ernes. Bron i ddegawd yn ddiweddarach, rydym yn dal i aros i'r ymyriadau hynny gael eu gwireddu. Nawr, rwy'n deall dymuniad y Llywodraeth i weithio ar y cyd â Llywodraeth y DU, ond wrth gwrs, mae wedi golygu oedi a gohirio difrifol. Rwy'n ystyried bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yr un mor euog o fethiant i weithredu'n gynt. Nawr, gwyddom o brofiadau diweddar wrth gwrs, pan fydd Cymru'n mynd ei ffordd ei hun, yn aml iawn gallwn wneud yn llawer gwell. Mae'r Alban, fel y clywsom, wedi mynd ei ffordd ei hun ar hyn, ac mae ganddi gynlluniau manwl eisoes ar waith ar gyfer 2022, gyda thargedau wedi'u pennu ar gyfer 2025. Felly, pam aros am San Steffan, dyna rwy'n ei ddweud. Roedd cynllun dychwelyd ernes, ymhlith pethau eraill, yn ymrwymiad clir ym maniffesto Plaid Cymru yn etholiad 2016, a phe baem ni wedi ffurfio Llywodraeth, rwy'n argyhoeddedig y byddai gennym gynllun ar waith eisoes. Ond mae penderfyniad Llafur i ddilyn y Torïaid yn San Steffan ar hyn yn amlwg wedi ein dal yn ôl. Nawr, mae Plaid Cymru wedi bod yn gyson glir ynglŷn â'n hymrwymiad i leihau gwastraff. Rydym am roi Cymru ar flaen yr economi gylchol, ac rydym am sicrhau Cymru ddiwastraff erbyn 2026, drwy gyfuniad o ddeddfwriaeth, mentrau polisi megis y cynllun dychwelyd ernes wrth gwrs, cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr, rhywbeth rydym yn dal i siarad amdano yn y Senedd, a'r defnydd o gyfreithiau cynllunio, ardollau a phwerau i godi trethi, ac ati ac ati. Gwyddom fod manteision cynllun dychwelyd ernes yn glir, fel y clywsom eisoes. Mae poteli, caniau a chaeadau diodydd yn cyfrannu at tua 10 y cant o'r holl sbwriel, ac mae tystiolaeth yn dangos mai cynllun dychwelyd ernes yw'r ffordd orau o leihau'r math hwnnw o wastraff ac wrth gwrs, i godi lefelau ailgylchu o safon. Nawr, y llynedd, roedd 45 o wledydd o gwmpas y byd eisoes wedi mabwysiadu'r system hon. Bu Norwy ac Awstralia yn ei wneud ers blynyddoedd lawer, gyda'r canlyniadau profedig yn dod i'r amlwg yn fuan iawn ar ôl ei gyflwyno i'r cyhoedd. Mae ymchwil gan WRAP Cymru yn amcangyfrif bod 400,000 tunnell o wastraff plastig yn cael ei gynhyrchu yng Nghymru bob blwyddyn, ac mae tua dwy ran o dair ohono'n wastraff deunydd pacio. Fel y clywsom, gallwch ychwanegu at hynny bellach yr epidemig newydd sy'n datblygu, sef gwastraff cyfarpar diogelu personol, yn enwedig masgiau wyneb a menig. Ymunais innau hefyd â'r Gymdeithas Cadwraeth Forol yn ddiweddar i lanhau traethau, lle daeth yn amlwg ar unwaith fod hon bellach yn broblem enfawr sy'n mynd i blagio ein hamgylchedd am flynyddoedd lawer. Felly, gwyddom i gyd beth sydd angen ei wneud. Mae'n fater o fwrw iddi i'w wneud. Yn hytrach na threulio degawd arall yn sôn am leihau gwastraff, a dim ond anelu at Gymru ddiwastraff, mae angen gweithredu pendant ar ailgylchu a lleihau gwastraff. Wrth ymateb i'r ddadl hon, dylai Llywodraeth Cymru o leiaf gydnabod y dylai'r camau y soniwyd amdanynt cyhyd fod ar waith eisoes. Ac wrth gwrs, yn hynny o beth, mae'r Llywodraeth hon yn sicr wedi gwneud cam â'n hamgylchedd. Alun Davies AC: A gaf fi ddweud cymaint rwy'n croesawu'r cynnig hwn gan Janet Finch-Saunders? Roeddwn yn cytuno â phob elfen o'r cyfraniad a wnaeth wrth gyflwyno'r ddadl hon y prynhawn yma. Nid wyf am geisio ailadrodd ei sylwadau a'i harsylwadau. Roeddwn yn cytuno â chyfraniad Llyr hefyd. Mae e'n hollol gywir. Mae yna un peth yn bendant rydym wedi'i ddysgu dros y blynyddoedd diwethaf, sef: pam aros am San Steffan? Gwyddom y byddant yn ein siomi. Dysgasom hynny'n gynharach heddiw, ac nid am y tro cyntaf. Mae rheoli ein gwastraff yn gwbl hanfodol os ydym am gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, a chyflawni'r weledigaeth sydd gennym ar gyfer ein cymunedau, ein trefi, ein pentrefi, ein gwlad a'n planed. Rydym i gyd wedi gweld y golygfeydd torcalonnus o lygredd, o ddyfnderoedd y cefnfor i uchelfannau Everest—fel y clywsom yn ystod yr wythnos ddiwethaf—lle mae plastigau'n llygru'r blaned ac yn llygru ac yn dinistrio ein bywyd gwyllt. Rhaid inni dderbyn cyfrifoldeb am hyn. Ni allwn ddweud, 'Fe arhoswn i'r Torïaid wneud rhywbeth', er fy mod, yn yr achos hwn, yn falch fod Ceidwadwr yn gwneud rhywbeth. Ac ni allwn ddweud nad ein cyfrifoldeb ni yw hyn. Rhaid inni weithredu ein hunain. Ond rwyf am i ni fynd ymhellach na'r hyn sy'n cael ei gynnig y prynhawn yma. Rwyf am weld Bil Cymru lân yn cael ei gyflwyno yn y Senedd nesaf i gynnwys deddfwriaeth—ac wedi'i wreiddio yn y cynllun dychwelyd ernes sy'n cael ei gynnig y prynhawn yma—ar gyfrifoldeb cynhyrchwyr, a ddylai fod wrth wraidd yr hyn rydym am ei weld, nid yn unig o ran glanhau ein gwlad ein hunain, ond hefyd yn y gwaith o ddarparu economi gylchol. Ond ceir problemau ehangach eraill hefyd. Mae angen inni sicrhau ein bod yn gwahardd allforio gwastraff trefol o'r Deyrnas Unedig ac nad oes unrhyw wastraff trefol yng Nghymru yn mynd i gefnforoedd y blaned hon. Nid yw'n ddigon da i ni ganmol ein hunain yma yn y Siambr hon ac mewn mannau eraill, a dweud bod gennym gyfraddau ailgylchu uchel, dweud ein bod yn dda iawn am reoli gwastraff, a gwybod drwy'r amser ein bod yn allforio gormod o'r gwastraff hwnnw i rannau eraill o'r byd. Rhaid inni wahardd hynny'n llwyr. Yn olaf, y pwynt y daeth Janet Finch-Saunders a Llyr Gruffydd i ben arno yw tipio anghyfreithlon. Mae hyn yn rhywbeth sy'n effeithio ar fy etholaeth, fy nghymuned, ac ar bob etholaeth a chymuned yn y wlad hon. Mae'n dorcalonnus cerdded drwy rai o'r ardaloedd gwledig harddaf yn y wlad hon a gweld effaith tipio anghyfreithlon. Rwyf wedi siarad â ffermwyr yn fy etholaeth fy hun sy'n anobeithio am yr hyn y maent yn ei weld. Siaradaf â phobl sy'n cerdded y bryniau o amgylch Blaenau Gwent bob wythnos o'r flwyddyn yn clirio'r sbwriel oddi yno. Mae'n amlwg i mi fod y fframweithiau statudol presennol sydd gennym ar waith i wahardd tipio anghyfreithlon yn aneffeithiol ac nad ydynt yn rhoi'r ateb rydym ei angen. Felly, mae angen inni edrych eto ar y fframwaith statudol sy'n ymwneud â thipio anghyfreithlon. Mae angen inni godi'r dirwyon, ac mae angen inni sicrhau ein bod yn gallu darparu'r math o wlad rydym i gyd am ei gweld i genedlaethau'r dyfodol. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr ac yn cymeradwyo a byddaf yn cefnogi'r cynnig deddfwriaethol y prynhawn yma. David J Rowlands AC: Byddaf yn cefnogi cynigion Janet Finch-Saunders a Llyr y prynhawn yma. Nid oes amheuaeth nad ydym i gyd yn ymwybodol o bla poteli a chaniau plastig sy'n sbwriel ar ein strydoedd ac a welir yn rhy aml o lawer yn rhai o'n lleoliadau harddaf, a mannau gwledig a glan môr. Credaf y byddai sbwriel o'r fath yn cael ei leihau'n sylweddol drwy gyflwyno cynllun dychwelyd ernes, yn enwedig ar gyfer poteli a chaniau plastig. Fodd bynnag, mae swm y blaendal a delir yn hanfodol i'w lwyddiant. Ni fydd pobl, yn enwedig yr ifanc, yn trafferthu dychwelyd yr eitemau hyn am 5c, dyweder. Rhaid i'r ernes a ddychwelir fod oddeutu 25c er mwyn i'r cynllun lwyddo. Bydd y rheini ohonom sy'n cofio ernes yn cael ei rhoi ar botel o lemonêd yn nodi y gallech brynu potel lawn am tua 11c—hen arian, hynny yw—a chael ernes o dair ceiniog yn ôl sef tua 25 y cant. Gobeithio na fyddaf yn colli'r rhai iau ohonoch gyda'r cysyniad hwn o hen arian. Felly, byddwn yn annog pwy bynnag sy'n cyflwyno deddfwriaeth ar gynlluniau dychwelyd ernes i ystyried y ffigurau hyn. Gyda rhywbeth fel 25c yr eitem, hyd yn oed pe bai nifer o bobl yn parhau i daflu eu caniau a'u poteli, byddai nifer yn fodlon casglu eitemau o'r fath am y gwobrau ariannol a fyddai'n dod yn sgil hyn. Os yw Llywodraeth Cymru am gyflwyno unrhyw ddeddfwriaeth yn y chweched tymor, gadewch iddo fod yn gynllun dychwelyd ernes. Gwyddom pa mor llwyddiannus oedd y tâl am fagiau plastig, felly gadewch i ni gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon gyda'r brys mwyaf. Diolch. Jenny Rathbone AC: Mae'r rhan fwyaf o fy etholwyr yn teimlo'n gryf iawn am y sbwriel sy'n anharddu ein cymunedau, ac rwyf am dalu teyrnged i'r holl wirfoddolwyr sy'n cymryd rhan mewn ymgyrchoedd casglu sbwriel yn rheolaidd i glirio'r llanast a grëwyd gan ychydig o bobl ddifeddwl. Roeddwn allan yn Llanedeyrn yr wythnos diwethaf gyda staff o gampws Cyncoed Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, a diolch iddynt am ddod allan yn y glaw. Ni fyddwch yn synnu clywed ein bod wedi codi llawer iawn o boteli a chaniau. Gobeithio y byddai cynllun dychwelyd ernes yn annog pobl i beidio â thaflu eitemau y gallant gael arian yn ôl amdanynt, ac yn benodol, byddai'n ennyn archwaeth entrepreneuraidd ein pobl ifanc, gobeithio. Dyna'n sicr sut yr ychwanegwn i at fy arian poced yn y gorffennol pell yn ôl. Fy nghwestiwn i'r sawl a wnaeth y cynnig yw hwn: gwyddom y byddai Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2019-21 yn atal y Senedd hon rhag gallu dileu plastig untro yn ystyrlon, gan na allem gymhwyso unrhyw fesur ar gyfer cwmnïau y tu allan i Gymru, a byddai hynny ar unwaith yn hepgor y brandiau diodydd swigod byd-eang hollbresennol sydd i'w gweld yn sbwriel ar ein tirwedd yn ogystal ag ar hysbysfyrddau. Felly, sut y byddai'r Bil marchnad fewnol yn llyffetheirio cynnig yr Aelod? A fyddech cystal â fy hargyhoeddi na fyddai'n arwain at ganlyniad gwrthgynhyrchiol a fyddai'n golygu bod diodydd sy'n cael eu potelu yng Nghymru ar hyn o bryd yn cael eu hadleoli dros y ffin er mwyn osgoi gorfod cymryd rhan mewn cynllun dychwelyd ernes. Sut y byddai eich deddfwriaeth arfaethedig yn goresgyn y Bil marchnad fewnol anghyfiawn ar y ffurf y mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi'i lunio? Suzy Davies AC: Hoffwn gofnodi fy nghefnogaeth i'r cynigion hyn hefyd. Ategaf yr hyn a ddywedodd Llyr am ymrwymiadau tebyg sy'n ymddangos mewn maniffestos a dogfennau polisi ers 2016, a chyn hynny. Felly, nid wyf yn credu ei bod yn annheg i mi dynnu sylw at y ffaith nad oes penderfyniad wedi'i wneud gan Lywodraeth Cymru yn y blynyddoedd a fu yn y cyfamser. Ac er y gallai cyfranwyr eraill fod eisiau beio hyn i gyd ar Lywodraeth y DU a chymaint o amser y maent yn ei gymryd, nid yw hynny'n osgoi'r ffaith mai Llywodraeth Cymru sy'n llusgo ar ôl pob un ohonynt. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cefnogi byrdwn y cynigion hyn ac yn anfon neges gref i'n hetholwyr y byddwn yn ceisio deddfwriaeth sylfaenol ar hyn yn y chweched Senedd, a gobeithio mai Janet fydd â'r ddeddfwriaeth sylfaenol honno. Mae gennyf fy marn fy hun ar ba mor dda y mae Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu ei rhaglen ddeddfwriaethol dros hyn yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Cawsom amser ar gyfer Bil ar hyn. Ond yn y cyfamser, rwy'n ddiolchgar i'r Dirprwy Weinidog am ei hymweliad rhithwir â RPC Tedeco-Gizeh, ffatri yn fy rhanbarth sy'n cynhyrchu cwpanau plastig untro i'r GIG ledled y DU—nid dyma'r cwpanau sy'n ymddangos yn y sbwriel roedd Jenny Rathbone yn sôn amdano. Roedd yn ymweliad pwysig, oherwydd dangosodd fod deddfwriaeth yn bodoli'n barod sy'n cyfyngu ar ailgylchu mathau penodol o blastig sydd wedi bod mewn cysylltiad â bwyd a diod. Ac felly rwy'n credu bod angen i ni fod yn glir mai dim ond sicrhau bod modd ailgylchu hwnnw ar hyn o bryd y mae'r cynllun hwn gan annog ymchwil ar yr un pryd i wahanol fathau o blastig y gellid eu defnyddio ar gyfer bwyd a diod. Yn sicr, roedd yr ymgynghoriadau'n ymwneud yn benodol â dau fath gwahanol o blastig. Mae'r cynnig yn cyfeirio at y nod ehangach o leihau gwastraff hefyd, a'r her newydd ynglŷn â sut rydym yn ymdrin â'r holl gyfarpar diogelu personol tafladwy. Credaf mai masgiau wyneb wedi'u taflu yw'r sbwriel stryd newydd ac wrth gwrs, maent yn cynnwys plastig. Sylwais yn arbennig ar gyfeiriad Janet at fywyd morol, ac rwy'n gobeithio y bydd cronfa planed las £0.5 biliwn y DU yn cynnwys ystyriaeth o'r math newydd hwn o sbwriel. Ond mae angen i Lywodraeth Cymru hefyd fwrw iddi ar ei chamau cyntaf ei hun i gyflawni unrhyw beth o dan y strategaeth ddiwastraff. Felly, fel y dywedodd Alun Davies rwy'n credu, rwy'n hapus i groesawu sgôr dda a chyfradd casgliadau ailgylchu uchel Cymru, ond dim ond casglu yw hynny; nid ydym yn clywed am yr hyn sy'n digwydd i'r deunydd ailgylchu ac mae gennym gyfrifoldeb yn hynny o beth, mwy hyd yn oed nag am gasglu'r deunydd ailgylchu yn y lle cyntaf. Yn olaf, mae cynllun ernes yn annog cyfrifoldeb personol a chredaf y byddai'n gweithio'n dda ochr yn ochr â chymhellion eraill y mae darparwyr diodydd yn eu cynnig ar hyn o bryd—felly, mynd â'ch cwpan eich hun i'w ddefnyddio ar gyfer diodydd tecawê, er enghraifft. Gair bach sydyn am gaffi gwych Hideout yng ngwarchodfa natur Cynffig, sy'n gwerthu coffi am bris rhatach os gwnewch hynny, ac mae'n cyd-fynd â rhyw fath o ddiwylliant ail-lenwi sy'n dechrau magu stêm, gydag ail-lenwi cynwysyddion llaeth yn edrych yn arbennig o boblogaidd ar hyn o bryd. Ac yn olaf, wrth gwrs, mae'n rhaid i Gomisiwn y Senedd gyhoeddi adroddiad blynyddol ar ei gamau polisi a weithredwyd i gyrraedd targedau cynaliadwyedd, oherwydd mae mwy iddo na chael gwared ar blastig untro yn unig, ac os gallwn wneud hynny, ni welaf pam na all Llywodraeth Cymru wneud hynny ar gyfer polisïau wedi'u cynllunio ar gyfer y wlad gyfan. Diolch. Mick Antoniw AC: Weinidog, rwy'n croesawu'r cynnig hwn. Mae'n ddadl rydym wedi'i chael droeon ar gynlluniau dychwelyd ernes, cynlluniau rwy'n eu cymeradwyo a'u cefnogi'n llwyr. Gwneuthum sylwadau droeon am fy mhlentyndod, lle roeddem, i bob pwrpas, yn cyfateb yn y 1960au i'r cod bar—hynny yw, roeddem yn casglu'r poteli, yn eu dychwelwyd a byddem yn cael yr arian, a byddai hwnnw'n mynd i'n pocedi. Mae'n ddiddorol iawn gweld sut y maent wedi cyflwyno peiriannau cod bar mewn gwledydd fel yr Almaen, lle byddwch yn dychwelyd y botel ar ôl ei phrynu a'i defnyddio, yn cael cod bar wrth i chi ei dychwelyd ac mae'n ad-dalu i'ch cyfrif banc yn syth gyda'r swm cyfatebol o ernes. Felly, ceir ffyrdd o'i wneud ac rwy'n cefnogi hynny'n fawr. A gaf fi hefyd wneud sylw ar dipio anghyfreithlon, oherwydd gwneuthum y pwynt yn y Senedd hon beth amser yn ôl, rwy'n credu, nad yw'r dirwyon yn ddigonol? Mae gennych gynghorau sy'n gwneud gwaith da yn erlyn y rhai sy'n cael eu dal yn tipio'n anghyfreithlon ac yn olrhain y rhai sy'n cael eu dal yn tipio'n anghyfreithlon, ond mae'r dirwyon yn chwerthinllyd a dweud y gwir. Yn fy marn i, dylid cynyddu'r dirwyon yn sylweddol a dylid cael mecanwaith hefyd ar gyfer adfer y gost o glirio'r safle lle mae'r tipio anghyfreithlon yn digwydd. Ond rwyf am ddod at y pwynt a gododd Jenny Rathbone, a chredaf ei fod yn un difrifol iawn. I bob pwrpas, nid yw cynllun dychwelyd ernes yn un y gallwn ei weithredu nawr os aiff y Bil marchnad fewnol drwodd, a chredaf fod yn rhaid i Janet Finch-Saunders gadarnhau y bydd hi a'r grŵp Ceidwadol yn gwrthwynebu'r Bil marchnad fewnol, a'r darpariaethau ynddo a fyddai mewn gwirionedd yn ein hatal rhag cyflwyno hyn. Oherwydd mae'n ddigon hawdd i ni sôn am gyflwyno rhywbeth y mae pawb ohonom yn ei gefnogi ac am ei weld yn digwydd, ac ar yr un pryd yn San Steffan, fod gennym Lywodraeth sy'n cyflwyno deddfwriaeth gaethiwus a fyddai'n ein hatal rhag gwneud yr hyn y mae pawb ohonom yn gwybod ein bod i gyd am ei wneud a bod gennym fandad i'w wneud yng Nghymru. Diolch, Lywydd. Mike Hedges AC: Yn gyntaf oll, a gaf fi ddiolch i Janet Finch-Saunders am ddod â hyn ger ein bron? Rwy'n gefnogwr i gynllun dychwelyd ernes ers tro byd. Cofiaf y blaendal 5c a 10c ar botel wydr o bopCorona, a gâi ei golchi a'i hailddefnyddio wedyn. Byddai honno'n ffordd wych o symud ymlaen. Roedd yn gweithio. Roedd pobl yn eu gadael; byddem ni fel plant yn eu casglu ac yn cael yr arian. Rydym yn dioddef o blastig rhad, sydd wedi arwain at gymdeithas sy'n taflu pethau, ac mae'r byd yn dioddef yn sgil hynny. Mae plastig yn rhad i'w weithgynhyrchu ac mae wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer mwy a mwy o gynwysyddion. Ychydig flynyddoedd yn ôl yn unig, deuai saws a finegr mewn poteli gwydr. Mae angen gwneud rhywbeth i atal plastig rhag bod yn gynnyrch rhad. Rwy'n cofio'r tro cyntaf i mi godi potel finegr blastig; roedd yn rhyfedd ei weld yn symud pan fyddwn yn ei gwasgu. Un ffordd o'i atal rhag bod mor rhad yw treth ar blastig, a gwn nad ydym yn sôn am hynny heddiw, ond rwy'n credu ei fod yn rhywbeth arall y mae angen edrych arno. Rydym wedi gweld yr ymddygiad yn newid yn sgil codi 5c am fag plastig untro, gan arwain at ostyngiad o dros 70 y cant yn nifer y bagiau plastig untro a ddarperir. Rwy'n cefnogi cyflwyno cynllun dychwelyd ernes, ar gyfer poteli diod plastig i ddechrau, ond wedyn gallech ei ehangu i gynnwys pob potel a chynhwysydd plastig, ac yna i bob cynhwysydd. Ni ellir caniatáu i blastig rhad tafladwy barhau. Mae gan bob un ohonom ddyletswydd i weithredu nawr i gefnogi'r blaned a chenedlaethau'r dyfodol. Er fy mod yn cefnogi cynllun dychwelyd ernes, byddai'n llawer gwell gennyf gael cynllun ledled y DU. Mae pobl sy'n prynu poteli yn Lloegr ac yn hawlio blaendal yng Nghymru yn amlwg yn destun pryder—ac rwy'n gweld y Gweinidog yno—pobl yng Nghaer yn dod â nifer fawr o boteli i Wrecsam, a allai olygu dim ond croesi'r ffordd mewn rhai achosion. Mae'r ateb syml o nodi poteli fel rhai Cymru neu Loegr yn annhebygol o ddigwydd. Nid oes unrhyw fudd i gynhyrchydd y botel na'r cynnyrch wneud hynny. Rwy'n cefnogi hyn heddiw, ond rwy'n gobeithio'n fawr y bydd yn cymell Llywodraeth San Steffan i weithredu. Mae'n rhaid inni wneud rhywbeth. Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i siarad—Lesley Griffiths. Lesley Griffiths AC: Diolch, Lywydd. Mae lleihau gwastraff, ailgylchu, taflu sbwriel a phlastig untro yn bwysig iawn i'n dinasyddion ac i bob un ohonom yn y Senedd hon. Mae ailgylchu wedi dod yn rhan o bwy ydym ni fel cenedl, ac mae'r ffaith ein bod wedi codi i'r trydydd safle yn y byd o ran ein cyfraddau ailgylchu yn deillio o'r gwaith partneriaeth rhwng y Llywodraeth, llywodraeth leol a phobl Cymru. Fel Llywodraeth, mae gennym gynlluniau uchelgeisiol i wneud mwy, felly rwy'n croesawu'r amcanion a'r teimladau sy'n sail i'r cynnig hwn. Ugain mlynedd yn ôl, dim ond 7 y cant oedd cyfradd ailgylchu Cymru, a thrwy ein gweithredoedd fel cenedl gyda'n gilydd, rydym wedi cyflawni cyfradd sydd bellach yn fwy na 60 y cant, ar ein ffordd tuag at y 100 y cant o ailgylchu rydym am ei weld erbyn 2050. I wneud hynny, mae gennym gynlluniau eang ar waith a fydd yn cyflawni llawer o newidiadau. Rydym newydd gwblhau ymgynghoriad ar wahardd naw eitem blastig untro, gan fynd ymhellach na chynigion tebyg yn Lloegr, a chyhoeddir y crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad cyn bo hir, a'n nod yw dod â'r gwaharddiad i rym y flwyddyn nesaf. Rydym hefyd yn datblygu gwaith ar gynllun dychwelyd ernes ar gynwysyddion diodydd, ac unwaith eto, byddwn yn cyhoeddi cynigion yn gynnar y flwyddyn nesaf. Ac rydym hefyd yn bwriadu cyhoeddi cynigion ar sut rydym yn mynd i'r afael â gwastraff deunydd pacio, drwy gynllun cyfrifoldeb cynhyrchwyr estynedig. Mae pwerau i Weinidogion Cymru gyflwyno'r ddau gynllun ochr yn ochr â rhai gwledydd datganoledig eraill wedi'u cynnwys ym Mil Amgylchedd y DU, sydd ar hyn o bryd yn y Cyfnod Pwyllgor yn Senedd y DU. Mae'r pwerau hefyd yn cynnwys y gallu i gyflwyno taliadau am eitemau plastig untro, lle bo'n briodol, er mwyn lleihau'r defnydd ohonynt. At hynny, er mwyn cynyddu lefelau ailgylchu ymhlith busnesau a sefydliadau eraill, rydym eisoes wedi ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth a fydd yn galw am wahanu eu gwastraff erbyn hydref 2021. A bydd hyn nid yn unig yn ei wneud yn haws ei ailgylchu, ond hefyd yn gwahardd deunydd ailgylchadwy rhag mynd i safleoedd tirlenwi ac i'w losgi. Fel eraill, rwy'n bryderus iawn ynglŷn â sbwriel eitemau defnydd sengl, ac mae'r defnydd ohonynt wedi cynyddu o ganlyniad i bandemig COVID. Mae tystiolaeth o arolwg sbwriel traeth blynyddol Prydain yn dangos gorchuddion wyneb a menig untro ar ein traethau hardd. Er mwyn mynd i'r afael â'r mater hwn, byddwn yn lansio ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol i annog pobl i wisgo gorchuddion wyneb y gellir eu hailddefnyddio lle bo'n bosibl, neu dylent gael gwared ar rai untro mewn modd cyfrifol. Soniodd Janet Finch-Saunders am y gwaith sy'n mynd rhagddo gyda Dŵr Cymru ar hyn o bryd yng nghyswllt cadachau gwlyb, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion drafod hyn i weld beth y gallwn ei wneud, oherwydd mae'n amlwg yn dod yn broblem enfawr ac yn rhywbeth y credaf fod yn rhaid inni ymdrin ag ef fel mater o frys. Mewn perthynas ag adroddiadau gorfodol, rydym wedi cyhoeddi cyfraddau ailgylchu ar gyfer Cymru bob blwyddyn ers datganoli, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Bydd y cynlluniau newydd ar gyfer dychwelyd ernes a chyfrifoldeb cynhyrchwyr estynedig hefyd yn cynnwys adroddiadau gorfodol, fel y gall pawb farnu llwyddiant y polisïau hyn. Ar dipio anghyfreithlon, mae hon yn agwedd sydd newydd ddod yn ôl yn rhan o fy mhortffolio, ac rwyf wedi gofyn eto i swyddogion barhau i edrych ar dipio anghyfreithlon, oherwydd mae'n sicr yn falltod ar ein cymunedau, a'r fframwaith y cyfeiriodd yr Aelodau ato. Nid wyf yn hollol siŵr pam fod cysylltiad rhwng hyn a photeli, oherwydd yn gyffredinol, mae tipio anghyfreithlon i'w weld yn ymwneud ag eitemau mwy o faint, ond unwaith eto, mae'n rhywbeth y mae'n rhaid inni barhau i wneud mwy yn ei gylch. Felly, er fy mod yn cytuno â'r amcanion sy'n sail i'r cynnig hwn, nid wyf yn credu bod angen Bil ar wahân, gan fod y pwerau perthnasol wedi'u cynnwys ym Mil Amgylchedd y DU, fel y dywedais. Yn anffodus, fodd bynnag, mae effaith gadarnhaol cynnwys y pwerau hyn ar gyfer Cymru yn cael ei leihau gan y darpariaethau ym Mil marchnad fewnol y DU, ac mae hyn yn golygu, heb ei ddiwygio, y bydd ein gallu i weithredu er budd Cymru yn gyfyngedig, ac mae perygl y bydd yn ein clymu wrth y safon gyffredin isaf yn y DU. Mae gennym hanes llwyddiannus iawn yn y maes hwn, sydd wedi golygu ein bod wedi symud ymlaen yn gyflymach nag unrhyw wlad arall yn y DU, ac mae bellach yn destun balchder, nid yn unig ymysg ein gilydd, ond ymhlith ein dinasyddion hefyd. Felly, nid wyf yn credu y dylid lleihau gallu Cymru i barhau i weithredu yn y maes hwn mewn unrhyw ffordd. Felly, rwy'n croesawu'r ddadl heddiw, Lywydd, a byddwn yn parhau i wrando ar farn yr Aelodau o'r Senedd wrth i'r cynigion a amlinellais gael eu datblygu ymhellach a'u gweithredu. Diolch. Janet Finch-Saunders nawr i ymateb i'r ddadl. Janet Finch-Saunders AC: Diolch, Lywydd, a diolch i'r Aelod am ymateb i'r ddadl—a chredaf ein bod yn croesawu'r ymatebion i'r ymgynghoriad sydd ar y ffordd—ac i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau rhagorol, lle roedd pawb yn cytuno, mewn gwirionedd, fod hyn yn rhywbeth y mae mawr ei angen ers cryn amser. Roedd rhai o'r sylwadau bachog a ddaeth o rai o'r cyfraniadau hynny, megis cyfrifoldeb personol, sgiliau entrepreneuraidd pobl ifanc, a nodwyd gan Jenny Rathbone—sgwarnog oedd y pwynt am y Bil marchnad fewnol yn fy marn i oherwydd, yn y pen draw, mae hyn yn ymwneud â Llywodraeth ddatganoledig a'r pwerau sydd gennym yma yng Nghymru. Rwy'n credu na allwn guddio—neu ni ddylai Llywodraeth Cymru yma fod yn cuddio—y tu ôl i'r Bil marchnad fewnol. Mae'r pwyntiau a gododd Alun Davies am dipio anghyfreithlon yn bwyntiau rhagorol. Nid yw'r fframwaith statudol yn ddigon cryf, ac mae angen i ni fynd ychydig pellach. Llyr Gruffydd yn dweud am y siarad, a nawr mae angen gweithredu—a hoffwn gofnodi fy niolch aruthrol am y gwaith y mae Syr David Attenborough yn ei wneud, ei angerdd, ei dosturi, a'i allu i gyfleu i'r byd pa mor bwysig yw gweithredu ar frys mewn perthynas â llygredd plastig. Hoffwn ofyn, ac mae Aelodau yn y Senedd hon yma heddiw—David Rowlands—hoffwn ofyn i'r holl Aelodau gefnogi'r cynnig deddfwriaethol hwn heddiw, rhowch eich cefnogaeth iddo, a gadewch inni symud ymlaen yn gadarnhaol. Wrth inni ddod i ddiwedd blwyddyn ofnadwy, gadewch inni gamu ymlaen yn gadarnhaol, gyda'n gilydd, fel un Senedd, a gadewch inni gyflwyno'r cynllun dychwelyd ernes hwn. Diolch yn fawr iawn. Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, ac felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 7. Dadl y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 2 yn enw Siân Gwenllian. Y ddadl nesaf yw dadl y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gweledig ar y fframwaith datblygu cenedlaethol. Dwi'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Mike Hedges. Cynnig NDM7487 Mike Hedges Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft, a osodwyd ar 21 Medi 2020. 2. Yn nodi, yn unol ag Adran 3 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015, fod cyfnod ystyried 60 diwrnod y Senedd wedi dechrau ar y diwrnod y gosodwyd drafft y Fframwaith yn y Senedd. 3. Yn nodi, yn unol ag Adran 3 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015, fod yn rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i unrhyw benderfyniad a basiwyd gan y Senedd ac unrhyw argymhelliad a wnaed gan un o bwyllgorau'r Senedd mewn perthynas â'r drafft yn ystod y cyfnod hwnnw o 60 diwrnod. Cynigiwyd y cynnig. Mike Hedges AC: Diolch, Lywydd. Rwy'n falch o allu siarad yn y ddadl hon dan arweiniad pwyllgor ar y fframwaith datblygu cenedlaethol drafft, a elwir bellach yn 'Cymru'r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040'. Bydd Aelodau o'r Senedd yn ymwybodol fod Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 yn nodi gweithdrefnau craffu ar gyfer y fframwaith datblygu cenedlaethol drafft. Mae'r Ddeddf yn cyfeirio at gyfnod ystyried yn y Senedd sy'n para am 60 diwrnod ar ôl gosod y fframwaith datblygu cenedlaethol drafft. Rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i unrhyw benderfyniad a gaiff ei basio gan y Senedd ac unrhyw argymhelliad a wneir gan bwyllgor Senedd yn ystod y cyfnod hwnnw. Mike Hedges AC: Daw'r cyfnod o 60 diwrnod i ben yfory. Y ddadl hon yw'r ail y byddwn wedi'i chael ar y fframwaith datblygu cenedlaethol drafft, yn dilyn dadl gan Lywodraeth Cymru yn gynnar iawn yn y cyfnod o 60 diwrnod. Diben y ddadl heddiw yw rhoi cyfle olaf i'r Senedd a'r Aelodau ystyried y fframwaith datblygu cenedlaethol drafft. Nid dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yw hon, er fy mod yn gobeithio y caiff ei llywio gan ein hargymhellion. Fel Cadeirydd y Pwyllgor, ni fyddaf yn mynd i'r afael â'r gwelliannau a gyflwynwyd gan yr Aelodau. Mae'n fwy priodol i'r Gweinidog wneud hynny. Cyhoeddodd y pwyllgor ein hadroddiad ddydd Llun. Ynddo, gwnaethom 26 o argymhellion ar draws sawl maes polisi. Cyn i mi fynd ymhellach, hoffwn ddiolch i bawb a roddodd o'u hamser i gyfrannu at waith y pwyllgor, naill ai drwy gyflwyniadau ysgrifenedig neu drwy ymddangos ger ein bron yn rhithwir. Hoffwn ddiolch hefyd i gynghorydd arbenigol y pwyllgor, Graeme Purves, am ei gymorth yn ystod y broses graffu. Mae 'Cymru'r Dyfodol' yn ddogfen bwysig; mae'n nodi fframwaith 20 mlynedd ar gyfer cynllunio a datblygu yng Nghymru. Os caiff ei wneud yn iawn, mae ganddo botensial i fynegi gweledigaeth feiddgar, hirdymor ar gyfer y wlad hon. Fel pwyllgor, rydym yn fodlon â 'Cymru'r Dyfodol' at ei gilydd. Gall pob aelod o'r pwyllgor dynnu sylw at elfennau y byddent am eu cryfhau, neu hyd yn oed eu dileu, ond yn gyffredinol, roeddem yn fodlon. Fodd bynnag, mynegodd un Aelod o'r pwyllgor ei wrthwynebiad i rai o'r polisïau yn 'Cymru'r Dyfodol' ac o ganlyniad, i agweddau ar gasgliadau ac argymhellion y pwyllgor. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn egluro ei resymau'n llawn cyn bo hir. Yr her gyffredinol y mae Llywodraeth Cymru yn ei hwynebu ar hyn o bryd yw sicrhau bod y fframwaith cynllunio 40 mlynedd hwn yn ddigon gwydn i allu ymateb i'r tair her fwyaf sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd: COVID ac unrhyw feirysau yn y dyfodol, Brexit, ac effeithiau newid hinsawdd. Mae'r Gweinidog wedi sicrhau'r pwyllgor bod 'Cymru'r Dyfodol' yn ddigon hyblyg a gwydn i ymateb i newidiadau cymdeithasol sy'n deillio o bandemig COVID-19. Ond credwn ei bod yn rhy gynnar i farnu effeithiau tymor canolig a hirdymor penderfyniadau sy'n cael eu gwneud yng ngoleuni'r pandemig. Er enghraifft, mae Gweinidogion Cymru wedi sôn am hyd at 30 y cant o weithwyr Cymru'n gweithio gartref. Gallai hyn newid yn sylfaenol y ffordd y mae ardaloedd fel canol trefi a chanol dinasoedd yn gweithredu. A bydd hyn yn effeithio ar seilwaith, tai a chysylltedd, ac yn sicr, y busnesau sy'n seiliedig ar ddarparu gwasanaethau i'r rhai sy'n gweithio mewn swyddfeydd yng nghanol dinasoedd. Mae angen i 'Cymru'r Dyfodol' allu adlewyrchu'r holl newidiadau hyn. Rydym wedi argymell y dylai 'Cymru'r Dyfodol' gynnwys datganiad clir i adlewyrchu'r gwersi a ddysgwyd o COVID-19 ac egluro sut y bydd yn cefnogi adferiad ôl-COVID-19. Roedd un o'n prif bryderon yn ymwneud â chynlluniau datblygu strategol. 'Cymru'r Dyfodol' fydd y lefel uchaf o gynllun strategol, i ddarparu fframwaith cynllunio cenedlaethol. Bydd cynlluniau datblygu strategol yn mynd rhwng y cynllun datblygu cenedlaethol a'r cynllun datblygu lleol. O ran hierarchaeth dogfennau cynllunio strategol, mae hyn yn gwneud synnwyr. Ond mae'r dull o weithredu'n cael ei lesteirio gan absenoldeb yr haen ganol o gynlluniau datblygu strategol. A dweud y gwir, nid yw awdurdodau lleol wedi dangos llawer o ddiddordeb mewn datblygu'r cynlluniau hyn hyd yma. Ond er mwyn i ddull Llywodraeth Cymru weithio, mae angen iddynt ddod yn weithredol cyn gynted â phosibl. Ceir un cymhlethdod ychwanegol. Bydd angen i awdurdodau lleol ddod at ei gilydd i ddatblygu'r cynlluniau hyn o dan Fil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), a basiwyd gan y Senedd hon yr wythnos diwethaf. Mae'r Bil yn darparu ar gyfer sefydlu cydbwyllgorau corfforaethol a fydd yn cynnwys cynrychiolwyr o fwy nag un awdurdod lleol i ddatblygu cynlluniau datblygu strategol. Wrth gwrs, mae mwy o gydweithredu rhwng awdurdodau lleol yn beth da mewn egwyddor, ond yr hyn nad ydym am ei gael yw cyfyngu anfwriadol ar atebolrwydd tuag at gymunedau lleol. Un feirniadaeth a glywsom am 'Cymru'r Dyfodol' oedd ei bod yn ymddangos, mewn mannau, fel pe bai'n ymestyn i dir y byddech yn disgwyl iddo gael ei gynnwys mewn cynlluniau datblygu strategol. Gobeithiwn y bydd hyn yn cael ei ailgydbwyso dros amser, wrth i gynlluniau datblygu strategol gael eu cyflwyno. Rwyf am droi yn fyr yn awr at rai o'r meysydd allweddol eraill rydym wedi ymdrin â hwy yn ein hadroddiad. Ynni: rydym wedi gwneud nifer o argymhellion manwl yn ein hadroddiad, ond mae'r prif bwynt rwyf am ei wneud yn un strategol. Credwn fod diffygion y grid yn rhwystro datblygiad strategol yng Nghymru. Os ydych am adeiladu fferm wynt neu os ydych am gael fferm solar, gwyddom fod angen i chi wneud hynny lle roedd gorsaf bŵer yn arfer bod, fel bod gennych fynediad at y grid. Mae hynny'n achosi problemau enfawr mewn llawer o ardaloedd. Mae'r Gweinidog wedi dweud y bydd 'Cymru'r Dyfodol' yn darparu sail ar gyfer trafodaethau pellach gyda'r Grid Cenedlaethol a chwmnïau dosbarthu. Rhaid i'r trafodaethau hyn ddigwydd fel mater o frys, neu fel arall mae 'Cymru'r Dyfodol' yn cael ei lesteirio o'r dechrau mewn perthynas ag ynni. Mae angen strategaeth i wella'r seilwaith trosglwyddo a dosbarthu trydan, gan gynnwys unrhyw seilwaith newydd sydd ei angen yng nghanolbarth Cymru. Rydym wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda'r Grid Cenedlaethol, cwmnïau dosbarthu trydan a'r diwydiant ynni adnewyddadwy i ddatblygu hyn ar fyrder. Ar dai, roeddem yn fodlon ar y cyfan â'r polisïau a nodir yn 'Cymru'r Dyfodol', ond rydym am gofnodi ein siom fod gwelliannau i Ran L y rheoliadau adeiladu wedi'u gohirio unwaith eto. Mae angen y gwelliannau hyn, ond mae parhau i ohirio'r newidiadau anochel yn destun pryder. Rydym wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu Rhan L ddiwygiedig y rheoliadau adeiladu fel y gall Llywodraeth nesaf Cymru, pwy bynnag y bydd, gyflwyno is-ddeddfwriaeth cyn gynted â phosibl yn dilyn etholiad 2021. Mae 'Cymru'r Dyfodol' yn sôn llawer am gysylltedd. Yn ein hadroddiad a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2019, dywedasom fod angen i 'Cymru'r Dyfodol' fynd i'r afael â'r cysylltedd gwael rhwng gogledd a de Cymru. Er iddo gael ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru, nid yw'n mynd yn ddigon pell. Mae gennym bryderon hefyd ynghylch cysylltedd â gorllewin Cymru, sy'n aml yn cael ei anghofio, ac eithrio gan y rhai sy'n gorfod teithio o sir Benfro i dde-ddwyrain Cymru. Credwn fod cysylltedd trafnidiaeth yn broblem strategol barhaus ar draws rhannau o Gymru. Mae 'Cymru'r Dyfodol' yn rhoi gormod o'r cyfrifoldeb am hyrwyddo gwell cysylltiadau rhyngranbarthol ar y rhanbarthau eu hunain. Rhaid i'r strategaeth drafnidiaeth genedlaethol newydd y mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori arni ar hyn o bryd fynd i'r afael â hyn. Yn olaf, gwnaethom nifer o argymhellion manwl am fioamrywiaeth a seilwaith gwyrdd, y goedwig genedlaethol a'r parciau cenedlaethol. Ar fater lleiniau glas, dywedodd cyfranwyr wrthym y dylai fod gan awdurdodau lleol fwy o ddisgresiwn na'r hyn a nodwyd yn 'Cymru'r Dyfodol' o ran pennu lleoliad a maint y lleiniau glas yn eu rhanbarthau. Fel pwyllgor, mae arnaf ofn na allem gytuno. Credwn fod lleiniau glas yn arf hanfodol i gyfyngu ar flerdwf trefol. Rydym wedi argymell y dylid cryfhau eu swyddogaeth, ac y dylid pwysleisio eu manteision yn 'Cymru'n Dyfodol'. I gloi, hoffwn orffen drwy ddiolch i'r Gweinidog am y ffordd adeiladol y mae hi a'i swyddogion wedi ymgysylltu â'r pwyllgor a'r ffordd ddefnyddiol y mae'r dogfennau niferus sy'n ymwneud â 'Cymru'r Dyfodol' wedi cael eu cyflwyno a'u hegluro. Pan gyhoeddodd y pwyllgor ei adroddiad ar 'Cymru'r Dyfodol' ym mis Tachwedd 2019, gwnaethom nodi 50 o gasgliadau gyda'r nod o wella'r fframwaith datblygu cenedlaethol. Derbyniwyd y rhan fwyaf o'n hargymhellion. Yn yr adroddiad hwn, rydym wedi gwneud 26 o argymhellion pellach. Edrychaf ymlaen at glywed ymateb y Gweinidog. Diolch. Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Dwi'n galw ar Llyr Gruffydd i gynnig gwelliannau 1 a 2, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Llyr Gruffydd. Gwelliant 1—Siân Gwenllian Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu o ran y model pedair rhanbarth diwygiedig yn Cymru'r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040: a) ei fod wedi cael ei ysbrydoli gan agenda Geidwadol, unoliaethol sy'n seiliedig ar gytundebau dinas a thwf Llywodraeth y DU; b) y byddai'n gyrru hollt drwy Gymru, gan rannu gogledd ein gwlad o'r de ac ni fyddai'n gwneud fawr ddim yn rhagweithiol i wella cysylltedd rhwng y gogledd a'r de; ac c)y byddai'n esgeuluso rhai o'r rhannau hynny o Gymru y mae angen eu hadfywio a'u datblygu fwyaf, sef yr arfordir gorllewinol a chymoedd y de. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddisodli'r model pedwar rhanbarth a gynigir yn Cymru'r Dyfodol: cynllun cenedlaethol 2040 gan, yn lle hynny, gael map rhanbarthol amgen o Gymru sy'n canolbwyntio ar wneud Cymru'n genedl gysylltiedig, cynaliadwy, ffyniannus a hunangynhaliol ym mhob ystyr. Gwelliant 2—Siân Gwenllian Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod Dr Neil Harris o Brifysgol Caerdydd, mewn tystiolaeth i Bwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Senedd, wedi crynhoi'r dull sy'n sail i Cymru’r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040 fel un sy'n seiliedig ar dwf sy'n canolbwyntio ar ardaloedd trefol a sefydlogrwydd mewn mannau eraill. Yn credu o ran y dull sy'n sail i Cymru'r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040: a) ei fod mewn perygl osefydlu'r methiant i ddosbarthu cyfoeth, twf a datblygiad mewn modd cyfartal ledled Cymru fel nodwedd barhaol o lywodraethu Cymru yn y cynllun hirdymor hwn; a b) y bydd yn arwain at orddatblygu yn yr ardaloedd sydd eisoes wedi'u blaenoriaethu fel lleoliadau a ffefrir ar gyfer datblygiadau preswyl sylweddol a datblygiadau sylweddol eraill, heb wneud fawr ddim i fynd i'r afael â'r angen am ddatblygu cynaliadwy mewn meysydd eraill gan gynnwys yr angen am dai cymdeithasol a fforddiadwy i gwrdd â'r argyfwng tai. Yn credu bod yn rhaid i'r system gynllunio yng Nghymru adlewyrchu'r angen am ddatblygiad addas yn y mannau cywir yn ôl angen lleol; rhoi mwy o lais i gymunedau mewn datblygiadau yn eu hardaloedd a bod yn rhaid i'r system gynllunio ganiatáu cynllunio cyfannol ar y lefel briodol, ond yn credu ei bod yn debygol y bydd trosglwyddo pŵer ac atebolrwydd dros gynllunio o awdurdodau lleol i gyd-bwyllgorau corfforaethol drwy gynlluniau datblygu strategol yn cyfyngu ymhellach ar y llais lleol mewn prosesau cynllunio. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddisodli'r dull sy'n sail i Cymru'r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040 ar hyn o bryd gan sefydlu dull amgen sy'n canolbwyntio ar ddosbarthu cyfoeth, pŵer a buddsoddiad yn gyfartal ledled Cymru drwy dargedu ymyrraeth a thwf yn yr ardaloedd mwyaf anghenus. Cynigiwyd gwelliannau 1 a 2. Llyr Gruffydd AC: Wel, diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mi allem ni dreulio, wrth gwrs, llawer o amser yn mynd drwy argymhellion unigol yn adroddiad y pwyllgor—llawer ohonyn nhw dwi'n cytuno â nhw—ond mae gen i broblemau mwy sylfaenol am gynsail y fframwaith datblygu, sydd, wrth gwrs, wedi eu hamlygu yn y gwelliannau y mae Plaid Cymru wedi eu cyflwyno, ac yn y ffaith bod adroddiad y pwyllgor, wrth gwrs, yn y pen draw, yn adroddiad lleiafrifol. Un o'r problemau sydd gyda fi, wrth gwrs, yw bod ôl-troed gofodol y fframwaith datblygu cenedlaethol yn wallus. Mae'n rhoi ar waith, yn fy marn i, weledigaeth Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig, y weledigaeth unoliaethol honno sy'n ymwreiddio neu'n 'entrench-io' dibyniaeth Cymru ar economi Lloegr. Mae yna bedair rhanbarth, wrth gwrs, wedi eu modelu ar ardaloedd bargeinion twf Boris Johnson, ac mae'n siom fod map Cymru'r dyfodol yn seiliedig, wrth gwrs, ar wasanaethu'r Northern Powerhouse, yBristol and Western Gateway a'r Midlands Engine—yr acsis gorllewin-dwyrain yma sy'n golygu, wrth gwrs, fod dyfodol economaidd Cymru yn mynd i fod yn seiliedig ar friwsion o fwrdd rhywun arall. Oes, mae angen cydweithio yn drawsffiniol i ddenu budd i Gymru o'r endidau hyn, wrth gwrs bod e, ond nid seilio holl weledigaeth 'Cymru'r Dyfodol' ar hynny. Ac mae'r methiant i flaenoriaethu adeiladu economi Cymru ynddo'i hun—in its own right—yn creu, wrth gwrs, mwy o ddibyniaethar benderfyniadau'r Ceidwadwyr yn Llundain a llai o debygolrwydd y bydd Cymru, wrth gwrs, yn gallu tyfu'n gryfach a sefyll ar ei thraed ei hun. Nawr, yn lle cynnig gweledigaeth sy'n dod â Chymru ynghyd, felly, mae Llafur, drwy wneud hyn, yn risgio gwthio de, canolbarth a gogledd Cymru ymhellach oddi wrth ei gilydd. Mae'n esgeuluso'r angen, yn fy marn i—yr angen dybryd—am well cysylltedd de a gogledd. Mi ddywedodd y Gweinidog yn ei thystiolaeth fod y fframwaith yn ddigon hyblyg i ymateb i bolisïau trafnidiaeth de-gogledd. Wel, nid ymateb i bolisïausydd angen, ond gyrru'r weledigaeth a'r polisïau uchelgeisiol yna sydd eu hangen arnon ni i uno Cymru. Ac mae hynny, wrth gwrs, yn cael ei adlewyrchu yn un o argymhellion y pwyllgor sy'n cyfeirio at y diffyg ffocws ar gysylltedd oddi fewn i Gymru. Yr ail broblem sylfaenol sydd gen i, wrth gwrs, yw'r modd y mae'r fframwaith datblygu cenedlaethol yma yn canoli twf mewn rhai ardaloedd penodol, a hynny'n anochel, wrth gwrs, wedyn, ar draul ardaloedd eraill. Ac mi dynnodd Dr Neil Harris, arbenigwr o Brifysgol Caerdydd, ein sylw ni yn y pwyllgor, yn ei dystiolaeth, at y ffaith bod y cynllun yn seiliedig ar dwf sy'n canolbwyntio twf ar ardaloedd trefol, ond wedyn dim ond yn sôn am sefydlogrwydd mewn mannau eraill. Nawr, nid dyna'r weledigaeth o rannu cyfoeth a chyfleodd yn gyfartal ar draws Cymru fyddem ni am ei weld. A'r methiant hwnnw i ddosbarthu cyfoeth, twf a datblygiad mewn modd cyfartal ledled Cymru yw un o'r nodweddion dwi am ei weld yn cael ei wyrdroi. Gallech chi ddadlau mai dyna yw un o fethiannau datganoli yn yr 20 mlynedd ddiwethaf. Ond yr hyn sy'n digwydd nawr, wrth gwrs, yw bod hynny'n cael ei wreiddio fel nodwedd barhaol o weledigaeth Llywodraeth Cymru hyd 2040. Does dim digon o bwyslais ar Arfor a'r angen am dwf yn y gorllewin, fel dwi wedi'i godi'n flaenorol gyda'r Gweinidog, na chwaith ar y Cymoedd fel endid penodol sydd angen ffocws cryfach arni, yn fy marn i. A'r risg hefyd yw, wrth gwrs, y bydd yr ardaloedd twf yma, yn y pen draw, yn wynebu gorddatblygiad. Rydym ni'n ei weld e'n digwydd mewn rhai rhannau o Gymru yn barod. Pan rydych chi'n edrych ar yr ardaloedd sydd wedi eu blaenoriaethu fel lleoliadau a ffefrir ar gyfer datblygiadau preswyl sylweddol, wel, wrth gwrs fod yna risg o orddatblygiad yn fanna, tra bod yna'n fawr ddim wedyn, wrth gwrs, ar y llaw arall, i fynd i'r afael â'r angen am ddatblygiad cynaliadwy mewn rhannau eraill o Gymru, yn enwedig pan mae'n dod, wrth gwrs, i'r angen am dai cymdeithasol a thai fforddiadwy i gwrdd â'r argyfwng tai. Mae yna broblemau hefyd, wrth gwrs, ynglŷn â'r natur o'r top i lawr pan mae'n dod i'r gyfundrefn gynllunio. Fe gawsom ni'r drafodaeth hynny adeg pasio Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 rai blynyddoedd yn ôl. Ond, wrth gwrs, mae hwn yn mynd â'r broblem i'r lefel nesaf drwy'r cynlluniau datblygu rhanbarthol, drwy ddibyniaeth ar y cydbwyllgorau corfforaethol yma sydd yn mynd â'r penderfyniadau allweddol yma yn bellach i ffwrdd o'r cymunedau fydd yn cael eu heffeithio gan y penderfyniadau. Felly, i gloi, gall Plaid Cymru ddim cefnogi y cynllun yma sy'n chwarae i ddwylo yr agenda unoliaethol ac i ddwylo agenda'r Ceidwadwyr yn Llundain, ac a fydd, wrth gwrs, yn gwanhau yn lle cryfhau Cymru fel endid economaidd, cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol, ac yn sgil hynny, rŷn ni'n teimlo'n gryf fod yn rhaid cyflwyno newidiadau sylweddol i fframwaith cynllunio cenedlaethol Cymru. Janet Finch-Saunders AC: Dyma'r ail dro i mi siarad am y fframwaith datblygu cenedlaethol, ac yn ystod y ddadl ddiwethaf amlinellais yn glir nifer o wendidau yn y fframwaith datblygu cenedlaethol. Yn ystod y pwyllgor, mae fy mhenderfyniad fod angen mynd i'r afael â'r rhain wedi cryfhau. Fel y dywedais o'r blaen, mae'r dull rhanbarthol presennol yn ddiffygiol, yn enwedig wrth edrych ar ogledd a chanolbarth Cymru. Argymhellais y dylid diwygio polisi 20, fel bod gogledd Cymru i gyd yn elwa, ac y dylid rhannu'r prif ffocws rhwng Wrecsam a Glannau Dyfrdwy a Chaernarfon, Bangor ac ardal y Fenai. Felly, erfyniaf arnoch i sicrhau bod gan ogledd-orllewin Cymru ardal dwf genedlaethol. Mae Plaid Cymru yn anghywir i alw am rywbeth yn lle'r model rhanbarthol—y broblem mewn gwirionedd yw lle mae'r ardaloedd twf cenedlaethol i fod. Felly, rhaid i mi fynegi fy rhwystredigaeth eto nad yw polisi 25 wedi'i ddiwygio i gyflwyno Aberystwyth fel prif ffocws ar gyfer buddsoddi. Mae 'Cymru'r Dyfodol' yn parhau i fethu sbarduno buddsoddiad i orllewin Cymru yn gyfan, a daw hyn â mi at fy nghefnogaeth i argymhelliad 10, fod angen datganiad clir yn awr ynglŷn â sut y bydd y strategaeth yn helpu i wella adferiad ôl-COVID. Oes, mae datganiad am y pandemig ynddo, ond mae gwir angen i chi ddangos sut y mae'r ddogfen wedi esblygu oherwydd y pandemig erchyll hwn. Er enghraifft, pe baech yn diwygio polisi 20 ac yn gweld mwy o ymdrech i fuddsoddi yng ngogledd-orllewin Cymru, gellid dweud eich bod yn ymateb i'r angen i hybu twf economaidd yn y rhanbarth yn dilyn y cynnydd o 114 y cant yn nifer yr hawliadau credyd cynhwysol yng Nghonwy, 117 y cant yn Ynys Môn a 147 y cant yng Ngwynedd. Yn yr un modd, mewn ymateb i COVID-19, rhoddir cryn bwyslais ar y cyfle i sicrhau adferiad gwyrdd. Nawr, mae'r Prif Weinidog, y Gwir Anrhydeddus Boris Johnson AS, wedi rhoi hwb gwych i feithrin chwyldro gwyrdd yn y DU. Nid yw'r strategaeth hon yn adlewyrchu unrhyw uchelgais o'r fath. Nawr, rwy'n cytuno ag argymhelliad 11 y pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda'r Grid Cenedlaethol, cwmnïau dosbarthu trydanol a'r diwydiant ynni adnewyddadwy i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o'r gwelliannau strategol y mae angen eu gwneud i seilwaith trosglwyddo a dosbarthu trydan. Byddwn yn mynd ymhellach hyd yn oed, ac yn gofyn i chi gynnwys ymrwymiad ym mholisi 17, os oes seilwaith grid newydd i gael ei adeiladu ar draws canolbarth Cymru, y bydd hwnnw'n cael ei osod o dan y ddaear. Dylid rhoi sylw hefyd i dystiolaeth lafar Hedd Roberts, a dynnodd sylw at yr angen i ddiogelu'r nifer gyfyngedig o safleoedd sy'n addas ar gyfer glanfeydd cebl. Byddai hynny'n helpu i sicrhau bod 'Cymru'r Dyfodol' yn gyson â'r cynllun morol cenedlaethol. Fel y mae cangen Trefaldwyn o Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig wedi nodi, mae angen rhoi mwy o bwyslais ar amrywiaeth o ynni adnewyddadwy, gan gynnwys ynni morol. Mae polisi 22 yn cyfeirio at yr angen am lain las o amgylch Wrecsam a Glannau Dyfrdwy, ac fe fyddwch yn ymwybodol fod ein pwyllgor wedi argymell y dylid cryfhau eu swyddogaeth. Rwy'n cytuno, ond rwy'n dal yn bryderus, y gallai nodi diogelwch polisi cryf ar gyfer y llain las mewn un gornel o Gymru gael effaith negyddol mewn mannau eraill. Er enghraifft, os ydych yn dymuno bod yn uniongyrchol, beth am ddiwygio polisi 22 fel ei fod yn diogelu'r ardal werdd o amgylch Llan-rhos yn Aberconwy? Unwaith eto, ymddengys mai dim ond dau gyfeiriad a geir at safleoedd tir llwyd yn y ddogfen gyfan. Dylem gael polisi sy'n rhoi blaenoriaeth i ddatblygu yn y mannau hynny. Dywedwyd wrthym yn glir fod parciau cenedlaethol yn wynebu heriau mawr, felly rwy'n cytuno ag argymhelliad 25 y dylid cael polisi penodol ar y mater, a dyma mae Cymdeithas Eryri eu hunain wedi'i argymell. Rwy'n cytuno y dylai polisi 12 gynnwys blaenoriaeth ychwanegol: cymorth ar gyfer mesurau i leihau dibyniaeth ar geir a hwyluso dulliau mwy gwyrdd o gael mynediad i'n cyrchfannau angori ar gyfer ymwelwyr mewn tirweddau dynodedig sy'n profi tagfeydd cronig ar y ffyrdd ar hyn o bryd, gan brofi'n fwy felly yn ystod cyfnod codi'r cyfyngiadau symud yn y pandemig COVID. Er eich bod yn derbyn argymhelliad y pwyllgor y dylai'r fframwaith fynd i'r afael â'r cysylltedd gwael rhwng gogledd a de Cymru, nid yw yno eto, gan fod llawer o gyfrifoldeb yn cael ei roi i'r rhanbarthau eu hunain. Yn olaf, hoffwn nodi fy siom fod 'Cymru'r Dyfodol' ym mholisïau 4 a 5 yn gadael dyfodol ardaloedd gwledig i gynlluniau datblygu strategol a lleol. Mae arwyddocâd cenedlaethol i faterion sy'n effeithio ar y Gymru wledig, ac fel y cyfryw, rwyf am ailadrodd galwadau i ddiwygio'r polisïau hynny fel eu bod yn hyrwyddo achub ein hysgolion a'n cyfleusterau gwledig, gwella ein ffyrdd B, arallgyfeirio ein ffermydd, a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda darparwyr cyfathrebu digidol i fynd i'r afael ag anghenion ardaloedd gwledig. Rwy'n eich annog i weithredu ar y galwadau adeiladol hyn, ac i fynd yn ôl i'r dechrau ar y fframwaith datblygu cenedlaethol hwn. Diolch. Jenny Rathbone AC: Mae llawer o bethau da yn y fersiwn ddiwygiedig o 'Cymru'r Dyfodol'. Mae llun yn dweud cymaint ag y gall mil o eiriau ei wneud, felly mae'r mapiau o barthau arfaethedig ar gyfer gwahanol weithgareddau i'w croesawu'n fawr, ac yn llawer haws i ddinasyddion ddeall sut y mae 'Cymru'r Dyfodol' yn berthnasol i'w gweledigaeth hwy ar gyfer llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Felly, rwy'n credu bod gwelliant sylweddol wedi bod ers yr iteriad cyntaf. Diolch yn fawr iawn am hynny, Weinidog. Hoffwn wneud dau bwynt. Yn gyntaf oll, mae'n hanfodol fod gan 'Cymru'r Dyfodol' neges gref a chlir fod yn rhaid inni gael lleiniau glas i atal y blerdwf trefol sy'n uno gwahanol gymunedau. Er enghraifft, rhaid inni gael llain las rhwng Caerdydd a Chaerffili, oherwydd fel arall, bydd datblygwyr bob amser am adeiladu ar gyrion Caerdydd, oherwydd gallant wneud mwy o arian drwy wneud hynny na thrwy adeiladu yng Nghaerffili, ac os nad oes gennym y math hwnnw o drefniant, mae'n tanseilio ein strategaeth ar gyfer datblygu cymunedau'r Cymoedd a sicrhau nad yw Caerdydd yn dod yn anghenfil o ddinas orlawn heb unrhyw fannau gwyrdd hygyrch. Yn yr un modd, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn diogelu'r gorlifdiroedd rhwng Caerdydd a Chasnewydd, i'w diogelu rhag archwaeth datblygwyr i adeiladu lle bynnag y gallant, cyhyd â'i fod ar safle maes glas, hyd yn oed os yw ar orlifdir. Ac mae'r ansicrwydd ynghylch ein cyflenwadau bwyd yn y dyfodol a fewnforir o gyfandir Ewrop yn ei gwneud yn bwysicach fyth ein bod yn gallu diogelu'r gorlifdir hwn fel man lle gallwn gynhyrchu bwyd ar gyfer Casnewydd a Chaerdydd, a gwella diogelwch ein cyflenwad bwyd drwy wneud hynny. Hoffwn hefyd i'r Gweinidog egluro graddau'r diogelwch a roddir i safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig. Dywedodd Ymddiriedolaethau Natur Cymru wrth y pwyllgor fod yn rhaid i SoDdGA fod yn gysegredig neu o leiaf gael yr un amddiffyniad ag y maent yn ei gael ar gyfandir Ewrop. A allem roi'r un camau asesu i SoDdGA Cymru â safleoedd Natura 2000, fel bod SoDdGA yn cael yr amddiffyniadau angenrheidiol rhag datblygu? Mae hyn yn ymddangos yn arbennig o bwysig, o ystyried y rhywogaethau a gollir ledled Cymru yn sgil llu o weithgareddau gan fodau dynol. Felly, a gawn ni nodi yn 'Cymru'r Dyfodol' fod asesiad rheoleiddio cynefinoedd yn ffordd reolaidd o brofi effaith unrhyw ddatblygiad arfaethedig ac ymchwilio i amcanion cadwraeth unrhyw gynnig penodol? Os barnir eu bod yn cael effaith sylweddol, gellid dilyn hyn drwy gynnal asesiad priodol i benderfynu a fyddai integriti'r safle yn cael ei niweidio. Os yw'r asesiad hwn, felly, yn dweud na fyddai modd osgoi effaith o'r fath, er gwaethaf ymdrechion lliniaru, mae'n ymddangos i mi mai'r unig ffordd y gallai datblygiad fynd rhagddo yw os nad oes atebion amgen i'w cael a bod rhesymau cymhellol dros ddiystyru budd y cyhoedd. Yn fwyaf diweddar, gwelsom gynnig i adeiladu ffordd liniaru i'r M4 yn mynd ar draws lefelau Gwent, a fyddai, wrth gwrs, wedi golygu bod y safle hwn a warchodir yn amgylcheddol yn cael ei oresgyn gan gerbydau, a fyddai wedi dinistrio rhinweddau'r safle. Os bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu safonau diwygiedig a mwy trwyadl, rwy'n gobeithio y gallant sicrhau nad ydym byth yn gweld cynnig o'r fath yn cael ei ystyried eto. Mae'n wych, wrth gwrs, fod y Prif Weinidog wedi penderfynu bod yr effaith ar yr amgylchedd yn y cynnig hwnnw yn llawer rhy fawr i ganiatáu iddo allu digwydd ac mae llawer o gynigion amgen eraill yn cael eu llunio nawr. Diolch. Helen Mary Jones AC: Rwy'n codi i gyfrannu at y ddadl hon fel Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu. Roeddem yn teimlo ei bod yn ddyletswydd arnom i gymryd tystiolaeth ar effeithiau posibl y fframwaith datblygu cenedlaethol ar y Gymraeg ac ar darged y Llywodraeth ei hun i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg. Cawsom dystiolaeth ar 15 Tachwedd ac rydym wedi ysgrifennu at y Gweinidog. Wrth gwrs, rydym yn aros am ei hymateb ffurfiol maes o law. Mae'n wir, ar lefel strategol genedlaethol, fod y fframwaith yn gwneud nifer o gyfeiriadau at y Gymraeg, ond ar lefel ranbarthol a gofodol, mae'r cyfeiriadau'n llawer mwy cyffredinol, ac at ei gilydd mae ein pwyllgor yn credu, a dangosodd y dystiolaeth a gyflwynwyd inni, fod perygl i hwn fod yn gyfle a gollwyd mewn perthynas â defnyddio ein cynlluniau gofodol fel gwlad i ddiogelu a sicrhau dyfodol ein hiaith genedlaethol. Mynegodd tystion nifer o bryderon ac rwyf am gyffwrdd â rhai ohonynt yn fyr. Roedd un pryder yn ymwneud ag atebolrwydd ar lefel ranbarthol. Mae'r fframwaith yn gwneud llawer iawn o'r angen i weithredu ar lefel ranbarthol, ac mae rhywfaint o reswm dros hynny, er bod gennyf fi'n bersonol bryderon am y rhanbarthau fel y'u nodir yn y fframwaith. Ond er enghraifft, nododd swyddfa Comisiynydd y Gymraeg fod ei goruchwyliaeth o ddyletswyddau statudol yn ymwneud ag endidau cyfreithiol a chyrff unigol, ac mae ymhell o fod yn glir i Gomisiynydd y Gymraeg sut y mae ei gyfrifoldebau cyfreithiol dros sicrhau bod y cyrff hynny'n gweithredu'n briodol yn y ddeddfwriaeth iaith Gymraeg—sut y bydd hynny'n cael ei gyflawni pan fyddant yn cydweithredu ar lefel ranbarthol. Ble mae'r cyfrifoldeb? Os oes rhaid iddo gyflwyno sylwadau am fethiant, ymhle ac i bwy y mae'n gwneud y sylwadau hynny? Nid yw'n glir sut y bydd y dull rhanbarthol, fel y'i nodir yn y fframwaith, yn cefnogi ac yn hyrwyddo'r Gymraeg, a hoffai'r pwyllgor i Lywodraeth Cymru ddangos yn llawer mwy eglur sut y mae'n bwriadu sicrhau mwy o dryloywder yng ngwaith y cyrff rhanbarthol a sut y gallant fod yn atebol. Maes arall lle cawsom dystiolaeth helaeth oedd tai a'r Gymraeg. Er mwyn i'r iaith gael dyfodol, gwyddom fod angen iddi gael cymunedau byw lle caiff ei siarad yn rheolaidd o ddydd i ddydd. Ac yn y cymunedau yn y gogledd a'r gorllewin, gwyddom fod mynediad at dai yn broblem enfawr. Bydd yr Aelodau'n cofio stori pennaeth ysgol gynradd y llynedd na allai fforddio prynu tŷ yng Ngwynedd a oedd o fewn 40 milltir i'r ysgol lle roedd yn byw—fod rhywun yn y swydd broffesiynol uwch honno'n methu fforddio cartref yn ei chymuned. Nawr, nid ydym yn teimlo bod hyn yn cael sylw digonol fel problem yn y fframwaith, a bydd effaith methu cael mynediad at dai fforddiadwy, ac yn hollbwysig, at dai cymdeithasol, yn rhwystro'r cymunedau hynny rhag gallu goroesi fel cymunedau byw, a'r effaith ar ddyfodol yr iaith. Rydym yn argymell y dylai'r cysylltiad rhwng tai cymdeithasol a thai fforddiadwy mewn ardaloedd Cymraeg, a'r effaith ar y Gymraeg, gael ei nodi'n llawer mwy trylwyr yn y ddogfen fframwaith. Rydym yn pryderu am y ffordd y cyfeirir at gymunedau gwledig yn y fframwaith fel cefnwlad i drefi a dinasoedd. Yn y cymunedau gwledig hynny y mae'r Gymraeg yn aml ar ei chryfaf, ac mae gweld cymunedau gwledig fel rhywbeth sy'n bodoli'n unig yng nghyd-destun y dref y maent yn ei hamgylchynu yn gamgymeriad go iawn yn ein barn ni. Hoffem i'r Llywodraeth fabwysiadu agwedd fwy cytbwys tuag at helpu canol trefi a chanolfannau gwledig i ffynnu, yn hytrach nag un sy'n canolbwyntio ar ganolfannau trefol gyda'u cefnwlad, fel pe bai'r ardal wledig, rywsut, yn perthyn i'r ddinas neu'r dref. Hoffem weld y fframwaith yn cael ei ddiweddaru i ystyried yr angen mwy am fynediad cyflym a dibynadwy at fand eang—unwaith eto, mae hwnnw'n hanfodol i alluogi pobl i weithio yn y cymunedau hynny. A mwy o wybodaeth gan y Llywodraeth am eu syniadau ynghylch hybiau lleol. Ac yn olaf, Lywydd, os caf sôn am faterion prif ffrydio'r iaith, mae angen cydnabod effaith y polisïau hyn ar y Gymraeg ar bob lefel o'r ddogfen, nid ar lefel strategol genedlaethol yn unig. Credwn hefyd fod angen gweld cysylltiadau cryfach â strategaethau eraill. Er enghraifft, ble mae'r cysylltiadau â'r cynlluniau Cymraeg mewn addysg? Sut y bydd y fframwaith yn cyfrannu at strategaeth 'Cymraeg 2050'? Mae angen nodi hyn i gyd, ac yna mae angen ei fonitro. Rydym wedi gofyn i'r Llywodraeth nodi sut y caiff y cyfraniad tuag at ganlyniadau 2050 ei fesur a'i fonitro os caiff y fframwaith ei gyflwyno, ac rydym wedi gofyn i lefel ranbarthol cynllunio gofodol yn y fframwaith fod yn ddigon hyblyg i ganiatáu twf partneriaethau sy'n mynd i'r afael â materion penodol. Er enghraifft, dylai'r siroedd lle mae'r Gymraeg yn iaith gymunedol allu cydweithio y tu hwnt i'r fframwaith fel y mae. Edrychwn ymlaen fel pwyllgor at ymateb ffurfiol y Gweinidog. Mae amser o hyd i fynd i'r afael â'n pryderon. Os na chânt sylw, bydd hwn yn gyfle a gollwyd i'r Llywodraeth roi cig go iawn ar esgyrn eu hymrwymiad i 'Cymraeg 2050', a bydd angen i Lywodraeth newydd ddiwygio'r fframwaith yn sylweddol os nad eir i'r afael â hyn. Joyce Watson AC: Fel Aelod o'r pwyllgor a fu'n craffu ar y Bil hwn, rwyf yma i wneud rhai sylwadau. Nid oes amheuaeth fod arnom angen cynllun datblygu cenedlaethol, ac o dan hynny, nid oes amheuaeth fod arnom angen cynllun datblygu strategol, mae'n debyg. Ond rwy'n mynd i godi fy llais i gefnogi cymunedau a allai deimlo eu bod wedi'u heithrio i ryw raddau o'r broses honno. Sylwaf fod gan y Bil llywodraeth leol ac etholiadau fecanwaith ar gyfer datblygu a sefydlu cynllun datblygu strategol, ac y byddai'n cael ei ddarparu gan gydbwyllgorau corfforaethol wedi'u cyfansoddi o gynrychiolwyr o fwy nag un awdurdod lleol. Er fy mod yn cefnogi hynny, rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn rhoi system a phroses ar waith i sicrhau bod y cynrychiolwyr hynny yn adlewyrchu barn ac egwyddorion y cymunedau lleol y maent yn eu gwasanaethu. A chredaf ei bod yn eithriadol o bwysig nad yw rhwystredigaethau'r Ddeddf gynllunio bresennol yn cael eu hailadrodd. Dro ar ôl tro gwelsom ddatblygiad yn methu mynd rhagddo am nad oedd cynllun datblygu lleol yn bodoli, ac mae'n amlwg nad yw hwnnw'n lle da i fod wrth geisio cael unrhyw fuddsoddiad i'r ardal honno. Rwyf am groesawu'r ffaith bod yr awdurdodau lleol cyfagos yn cael eu hystyried pan gaiff cynlluniau strategol eu llunio. Pan roddodd y Gweinidog dystiolaeth, nododd Ystradgynlais fel enghraifft yng nghanolbarth a gorllewin Cymru o ardal lle mae cysylltedd ag ardal bae dinas Abertawe cystal â'i chysylltedd yn ôl i'r ardal honno. Yn enwedig pan soniwn am Bowys a Cheredigion yn ymuno â'i gilydd mewn ardal datblygu economaidd, sydd, unwaith eto, yn rhywbeth rwy'n ei gefnogi, mae'n ymwneud â'r ardaloedd ymylol hynny sy'n ymuno ag ardaloedd eraill. Mae Powys yn enghraifft arbennig lle bydd, ar hyd ei hymylon hir iawn, yn ffinio â llawer o ardaloedd eraill, gan gynnwys rhannau o Loegr. Felly, mae'n bwysig iawn fod hynny'n cael ei nodi. Mae'r her fwyaf, wrth gwrs, wedi'i hamlinellu gydag adeiladu gwyrdd a glas yn ôl yn rhan o'r economi. Pan edrychwn ar yr ynni amgen sy'n rhan fawr o hyn, os edrychwn yn benodol ar y datblygiadau ynni ar y môr, bydd yn rhaid cael mynediad yn ôl i'r tir ym mhob achos. Gwn fod y Gweinidog wedi dweud yn gwbl glir fod yn rhaid darllen hyn ochr yn ochr â Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir (2009). Er hynny, mae'n rhaid i'r ddau weithio gyda'i gilydd. Fel arall, ni allwn gael yr ynni rydym i gyd yn gobeithio ei gael—yr ynni gwyrdd newydd—heb y cydgysylltiad hwnnw. Rhaid i mi ddweud fy mod yn cefnogi'r hyn y mae Jenny Rathbone, ac eraill, rwy'n credu, wedi'i ddweud yma heddiw, fod yn rhaid inni sicrhau integriti safleoedd Natura 2000 yn llwyr. Rhaid inni osgoi dirywiad bioamrywiaeth o ganlyniad i weithredu polisïau yn 'Cymru'r Dyfodol'. Nid yw byth yn mynd i fod yn ddigon da ein bod yn cynnal pethau fel y maent, oherwydd er mwyn cynnal pethau fel y maent, o ran bioamrywiaeth, dim ond ein cadw ar y droed ôl fydd hynny'n ei wneud, pan fo angen inni adfer yr hyn sydd gennym i gyflwr a arferai fodoli mewn gwirionedd, cyn iddo gael ei ddiraddio yn y lle cyntaf. Diolch. Russell George AC: A gaf fi ddiolch, yn gyntaf oll, i'r pwyllgor newid hinsawdd a materion gwledig am eu gwaith ar y fframwaith datblygu cenedlaethol? Mae gennyf rai sylwadau fy hun i'w gwneud, ac rwyf hefyd yn mynd i gyfeirio at Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, a fu'n craffu ar agweddau perthnasol ar y fframwaith datblygu cenedlaethol a oedd yn berthnasol i'r pwyllgor hwnnw. Ond dylwn ychwanegu nad wyf yn siarad yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y pwyllgor hwnnw heddiw. Cafwyd nifer o rowndiau o ymgynghoriadau, ac yn gyffredinol rwy'n croesawu nifer o newidiadau a gwelliannau sylweddol iawn a wnaed hyd at y pwynt hwn. Mae 'fodd bynnag' mawr yn dod yn ddiweddarach yn fy nghyfraniad. O ran Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, at ddibenion y fframwaith datblygu cenedlaethol, teimlem yn gryf mai'r ffordd orau o rannu Cymru yw'n bedwar rhanbarth, nid tri. Felly, roeddwn yn falch iawn fod y Llywodraeth wedi nodi hynny ac wedi cyflwyno model pedwar rhanbarth. Roedd hynny'n wirioneddol gadarnhaol. Yn ymateb y Llywodraeth i'r broses ymgynghori, sylwaf eu bod wedi gwrthod yn gryf farn y pwyllgor nad oedd uchelgais i'w weld yn y fframwaith datblygu cenedlaethol. Rwy'n credu bod hyn yn ddigalon. Credaf fod angen i ddogfen gynllunio genedlaethol allweddol fel hon osod agenda, ac mae angen iddi egluro'r llwybr y gallwn ei ddilyn i fynd i'r afael â heriau cenedlaethol fel anghydraddoldeb cymdeithasol ac economaidd. Rwy'n falch hefyd o weld bod y fframwaith datblygu cenedlaethol a ddiweddarwyd yn cynnwys cyfeiriad at yr economi sylfaenol. Nid oedd drafftiau cynharach yn cynnwys unrhyw gyfeiriad at yr economi sylfaenol, ac fe wnaeth dogfennau diweddarach hynny, felly newid cadarnhaol arall. Rwy'n dod nawr at y rhan a grybwyllais—y darn 'fodd bynnag'. Rwyf fi, fel llawer o bobl ledled canolbarth Cymru, yn siomedig tu hwnt ei bod yn ymddangos bod y sylwadau o bob rhan o gefn gwlad canolbarth Cymru wedi'u hanwybyddu, ac mai mewn ymgyrch ymddangosiadol i gynyddu gwynt ar y tir yn unig y cryfhawyd yr adran ynni adnewyddadwy. Rwy'n atgoffa'r Gweinidog am y protestiadau ym mis Mehefin 2011 a gynhaliwyd y tu allan i'r Senedd hon fis ar ôl i mi gael fy ethol. Daeth miloedd o bobl i brotestio, mewn dwsinau o fysiau a deithiodd o ganolbarth Cymru. Mae hyn yn arwydd fod Llywodraeth Cymru, unwaith eto, o'r farn fod y niwed enfawr i'n tirweddau yn dderbyniol, ond nid yw'n dderbyniol. Nid yw'n dderbyniol i mi ac nid yw'n dderbyniol i bobl canolbarth Cymru, ac mae'n amlwg fod Llywodraeth Cymru yn rhoi llawer mwy o goel ar lobïo gan ddatblygwyr ffermydd gwynt ar y tir na phoblogaeth cefn gwlad canolbarth Cymru, y bobl y maent i fod i'w cynrychioli. Gwrandewais yn astud iawn ar sylwadau Jenny Rathbone pan soniodd am y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn cael gwared ar ffordd liniaru'r M4 oherwydd ffactorau amgylcheddol. Onid yw'n ddiddorol fod hynny'n bwysig i'r Prif Weinidog mewn perthynas â'r prosiect penodol hwnnw, ond mae canolbarth Cymru'n stori wahanol? Yn y fframwaith datblygu cenedlaethol, ni chaiff unrhyw dystiolaeth nac amcan na rhesymeg ei hamlinellu ynglŷn â'r ardal ddynodedig, ac nid yw tirwedd yn nwydd y gellir ei wario, a phan gaiff ei difetha, caiff ei golli ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Unwaith eto, mae Llywodraeth Cymru wedi dewis rhoi llawer gormod o bwyslais ar wynt ar y tir. Gwn fod Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig wedi cyflwyno sylwadau cryf yn hyn o beth. Rwy'n mynd i dynnu sylw at rai ohonynt yn yr amser sydd gennyf ar ôl, ond mae twristiaeth yn hanfodol i'r economi wledig. Ym Mhowys, dyma'r cynhyrchydd cynnyrch domestig gros uchaf ond un, ar tua 11 y cant. Ni ellir anwybyddu pwynt gwerthu unigryw'r Gymru wledig fel tirwedd wych, ac nid mater o barciau cenedlaethol neu ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol yn unig yw hyn, ond yr amrywiaeth wych o dawelwch a golygfeydd panoramig helaeth heb eu difetha. Mae'r Gymru wledig yn denu twristiaeth drwy'r flwyddyn. Ac wrth gwrs, ceir barn negyddol am dyrbinau a llinellau trosglwyddo, sydd wedi'i dogfennu'n dda iawn. Yna ceir perygl llifogydd, sydd hefyd wedi'i nodi'n fanylach gan Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig, a maint yr hyn a gynigir, sut y byddai hynny'n newid llif dŵr ac yn arwain at ddifrod ehangach. Yna ceir cludiant tyrbinau, hefyd i ardaloedd gwledig anghysbell, ac mae hynny'n creu problemau logistaidd enfawr gyda ffyrdd cul a ffyrdd troellog serth a phontydd isel. Wedyn, wrth gwrs, ceir mater lleoliadau anghysbell sy'n galw am seilwaith trosglwyddo helaeth ar draws ardaloedd sylweddol o gefn gwlad hardd. Anwybyddir goblygiadau hyn i'r dirwedd yn y fframwaith datblygu cenedlaethol. Felly, rwy'n eich annog, Weinidog, i ystyried yn ofalus iawn eto yr hyn rwyf wedi'i amlinellu heddiw a safbwyntiau Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig. Mae angen inni gael mwy o bwyslais ar amrywiaeth lawer ehangach o ynni adnewyddadwy, gan gynnwys gwynt ar y môr yn hynny. Ddeng mlynedd yn ôl, galwodd pobl fy etholaeth am ddileu 'Nodyn Cyngor Technegol (Cymru) 8: Cynllunio ar gyfer Ynni Adnewyddadwy', a dywedodd Llywodraeth Cymru 'na'. Nawr maent yn cael gwared ar TAN 8, ond maent i bob pwrpas yn mabwysiadu rhywbeth sy'n waeth mewn perthynas â'r adran benodol hon o'r fframwaith datblygu cenedlaethol. Neil Hamilton AC: Fel Russell George, rwy'n pryderu'n fawr am effaith bosibl—effaith debygol yn wir—y fframwaith datblygu cenedlaethol ar dirweddau canolbarth a gorllewin Cymru. Rwy'n aelod brwdfrydig o Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig, a gwelaf yn y ddogfen hon nod sylfaenol Llywodraeth Cymru, sef dinistrio tirweddau canolbarth a gorllewin Cymru er mwyn cynnal ymarfer ymffrostio mewn rhinweddau mewn perthynas ag ynni adnewyddadwy. Mae darnau enfawr o Geredigion, Sir Gaerfyrddin a Phowys wedi'u dynodi ar gyfer solar a gwynt, ac ardaloedd mawr o Sir Benfro ar gyfer ffermydd solar. Rydym newydd dreulio peth amser y prynhawn yma yn trafod effeithiau llygredd plastig. Wel, gyda phlastig gallwch o leiaf ei godi a chael ei wared, ond pan fydd bryniau Cymru wedi'u gorchuddio â ffermydd gwynt a pharciau paneli solar, byddant yno am genhedlaeth neu fwy, ac fel y mae Russell George newydd ddweud, mae canolbarth a gorllewin Cymru yn dibynnu ar ei thirwedd i greu llawer iawn o'r gweithgarwch economaidd yn y rhanbarth. Mae twristiaeth yn hanfodol i economi Cymru yn yr ardaloedd hyn. Rwy'n credu ei bod yn erchyll y bydd Llywodraeth Cymru, sy'n bennaf drefol o ran ei chynrychiolaeth a'i buddiannau, yn diystyru buddiannau a barn pobl canolbarth a gorllewin Cymru. Yr hyn rydym yn ei weld yma yw canoli cynlluniau a phenderfyniadau cynllunio yn strategol. Bydd y fframwaith datblygu cenedlaethol a 'Polisi Cynllunio Cymru Argraffiad 10' yn diystyru unrhyw gynllun datblygu strategol y gellid ei ddatblygu a'r cynlluniau datblygu lleol sy'n bodoli ar hyn o bryd. Rydym eisoes wedi gweld hyn mewn nifer o achosion dadleuol. Mae Llywodraeth Cymru wedi diystyru'r farn leol mewn perthynas â fferm wynt yr Hendy ger Llandrindod, er enghraifft, lle gwrthododd yr awdurdod lleol y cynnig, gwrthododd yr arolygydd cynllunio a benodwyd gan y Gweinidog y cynnig ac mae'r Gweinidog newydd ei gymeradwyo serch hynny. Bydd y datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol sydd wrth wraidd hyn oll a nodir yn y fframwaith datblygu cenedlaethol yn golygu na fydd y bobl leol a'u cynrychiolwyr yn yr ardaloedd hyn yn cael gwneud unrhyw benderfyniadau ar lefel leol, a byddant yn cael eu gwneud yng Nghaerdydd yn y pen draw. Wyddoch chi, pan gyflwynwyd datganoli, roedd i fod i ddod â'r Llywodraeth yn nes at y bobl, ond nid wyf yn credu bod pobl canolbarth a gorllewin Cymru, a llai fyth o bobl gogledd Cymru, yn teimlo'n agosach at Gaerdydd nag at San Steffan. Ac felly, credaf y bydd canlyniad y fframwaith datblygu cenedlaethol hwn yn tanseilio ymhellach y gefnogaeth i ddatganoli, sydd wedi bod yn gwanhau beth bynnag yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol yw datblygiadau ffermydd gwynt o dros 10 MW, er enghraifft. O'i gymharu â Lloegr, mae hynny'n eithriadol o fach, oherwydd y ffigur trothwy yn Lloegr yw 50 MW. Beth y mae hyn yn ei olygu? Mae'n golygu bod rhagdybiaeth o blaid datblygu ar gyfer y mathau hyn o gynlluniau, a derbyn newid i'r dirwedd yn gysylltiedig â hynny. Wel, dyna ymadrodd da, onid e—'newid i'r dirwedd'. Wel, mae'n newid, onid yw, o gefn gwlad gogoneddus i ddatblygiadau tyrbinau gwynt enfawr a allai fod hyd at 250m o uchder. Ni allwch osgoi gweld y pethau hyn ac mae'n dinistrio unrhyw fwynhad o gefn gwlad yn llwyr ac rwy'n credu y bydd yn gyllell wedi'i hanelu at galon y diwydiant twristiaeth yng nghanolbarth a gorllewin Cymru. Mae'n drech na phwysigrwydd tirwedd, amwynder, treftadaeth, cadwraeth natur ac yn wir, y diwydiant twristiaeth ei hun. Ac fel y mae cangen Brycheiniog a Maesyfed o Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig, cangen rwy'n aelod ohoni, wedi nodi, mae deddfwriaeth flaenllaw ddiweddar wedi ymrwymo cyrff cyhoeddus Cymru i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, datblygu cynaliadwy a gwella ecosystemau gwydn, a hefyd i weithio tuag at nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, saith ohonynt. Wel, nid yw hyrwyddo datblygiadau ynni adnewyddadwy ar raddfa ddiwydiannol, gan gynnwys tyrbinau gwynt o hyd at 250m o uchder ar draws llawer o'r Gymru wledig, ynghyd â pholisi caniataol a fydd yn lleihau'r pwysau a roddir ar bryderon lleol, yn gydnaws ag amcanion Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 na Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol ei hun, na'r cynllun adfer natur yn wir. Felly, rwy'n credu bod gennym hadau trychineb gwirioneddol enfawr yma. Ac rydym wedi gweld cam-drin difrifol ar y system yn barod. Mae yna fferm wynt arall ger Llangurig o'r enw Bryn Blaen, y bydd yr Aelodau'n gyfarwydd iawn â hi rwy'n siŵr. Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar ei chyfer yn 2016 ac nid yw wedi cynhyrchu un watt o drydan, ond mae cyfrifon U and I Group PLC, y cwmni sy'n berchen arni yn y pen draw, ar gyfer 2019 yn dangos eu bod wedi cynhyrchu gwerth £4.7 miliwn o arian—arian trethdalwyr yw hwnnw yn y bôn, arian sydd wedi mynd i'w pocedi, allan o Gymru ac i Loegr, heb greu unrhyw fudd o safbwynt achub y blaned ychwaith. Camdriniaeth bur o'r farchnad ydyw. A dyna sy'n fy mhoeni am y cyfan— Bydd angen i chi ddod â'ch sylwadau i ben nawr, Neil Hamilton. Neil Hamilton AC: Iawn, Lywydd. Diolch yn fawr iawn. A dyna sy'n fy mhoeni am y polisi hwn; nid oes cymesuredd ynddo o gwbl. Gallwch gredu eich bod yn achub y blaned drwy ynni adnewyddadwy, ond nid ydych yn mynd i wneud hynny mewn ffordd dderbyniol yn fy marn i, ar draul llawer o amcanion dymunol eraill—yn bennaf oll, cadw a diogelu tirweddau Cymru wyllt. Mark Reckless AC: Mae tair rhan i'r cynnig hwn. Mae'r gyntaf yn nodi'r fframwaith datblygu cenedlaethol a osodwyd ar 21 Medi 2020. Mae'r ail yn nodi bod adran 3 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 yn rhoi cyfnod o 60 diwrnod i'r Senedd ei ystyried. Felly, mae heddiw'n 25 Tachwedd, mae'n debyg ein bod y tu allan i'r cyfnod statudol hwnnw, neu fod hynny'n dweud nad ydym yn nodi, neu, os nad ydym wedi deall y sefyllfa'n iawn, rwy'n gobeithio y bydd Mike yn rhoi gwybod i ni'n ddiweddarach beth yw'r sefyllfa ar hyn. A'r trydydd pwynt am Weinidogion Cymru yn gorfod ystyried unrhyw benderfyniad a basiwyd—gan mai dim ond cynnig 'i nodi' yw hwn, hyderaf y bydd y Gweinidog yn gwrando ar y ddadl ac yn rhoi ystyriaeth briodol i'r hyn a ddywedir. Mark Reckless AC: Wrth edrych drwy'r fframwaith hwn, rwy'n mwynhau ansawdd y ddogfen a rhai o'r mapiau; mae'n eithaf diddorol i'w ddarllen. Ond fe wnaeth ambell beth fy nharo. Un peth yr hoffwn ei ddyfynnu. Mae'n dweud: 'Dylid gwneud penderfyniadau clir ynghylch maint a lleoliad twf drwy lunio Cynllun Datblygu Strategol'. Mae'n ddatganiad gwladoliaethol iawn. Mae'n tybio mai'r hyn a wnawn, drwy'r cynllun hwn, yw sbarduno twf a phenderfynu ble y mae, ond mewn gwirionedd, mae llawer, os nad y rhan fwyaf, o hynny'n mynd i adlewyrchu penderfyniadau a wneir yn y sector preifat. A chredaf y byddai mwy o ostyngeiddrwydd wrth ysgrifennu hyn a dealltwriaeth o ba mor bwysig yw gweithredwyr preifat a'u hymdrechion i wneud elw, o'u cymharu â'r hyn yr hoffem ei roi mewn dogfen fel hon—yn ddelfrydol, dylai'r ddau weithio gyda'i gilydd. Yn yr adran ar dde-ddwyrain Cymru, gan gynnwys rhanbarth canol y de at y diben hwn, mae gennym ddatganiadau fel: 'Caerdydd fydd y prif anheddiad yn y rhanbarth o hyd, gyda’i thwf strategol yn y dyfodol yn cael ei lywio gan ei marchnadoedd tai a chyflogaeth cryf a bydd yn parhau â’i rôl fel prifddinas'. Nid wyf yn siŵr i ble mae hynny'n mynd â ni. Mae'r adran nesaf, serch hynny, yn dweud: 'Bydd angen i Gynlluniau Datblygu Strategol a Lleol ystyried y rhyngddibyniaeth rhwng Caerdydd a’r rhanbarth ehangach.' Ac mae hynny'n sicr yn iawn. A'r hyn a'm trawodd yn bennaf oedd y cynllun datblygu lleol, i ddechrau o leiaf, gyda Chaerffili a'r holl dai a godwyd tuag at y ffin â Chaerdydd, a dim ond trafnidiaeth ffyrdd ar gael i fynd â'r bobl hynny i swyddi yng Nghaerdydd, ac nid oedd hynny'n gydgysylltiedig.Yna cawn ddatganiad: 'Mae Caerdydd yn dibynnu ar bobl o bob rhan o’r rhanbarth ac mae sicrhau bod cymunedau o amgylch y Brifddinas yn fywiog, yn ffyniannus ac yn gysylltiedig yn helpu i gefnogi Caerdydd.' Wel ie, efallai, ac mae'n amlwg y bydd hynny'n cefnogi Caerdydd i'r graddau y mae'r ardaloedd hynny'n gysylltiedig â Chaerdydd a'n bod yn atgyfnerthu hynny ymhellach. Ond os yw'r cysylltiadau hynny mewn mannau eraill yn y rhanbarthau, efallai na fyddant yn gwneud hynny, ac os ydynt y tu allan i'r rhanbarth, ac nid i Gaerdydd, mae'n ddigon posibl na fyddant yn cefnogi Caerdydd, neu hyd yn oed yn mynd â thwf oddi wrthi. Felly, un enghraifft o hynny fyddai rheilffordd Glynebwy, ac a ddylai gwasanaethau arni ddod i Gaerdydd yn unig neu a ddylem hefyd gael o leiaf un yr awr i Gasnewydd. Ac os aiff hwnnw ymlaen wedyn i Gaerdydd, yn amlwg—os gwnewch un penderfyniad, mae'n cefnogi twf Caerdydd yn fwy nag un arall, lle gallech helpu i gael mwy o dwf yng Nghasnewydd a allai fod wedi bod yng Nghaerdydd fel arall. Yn yr un modd, mae'r cysylltiadau yn y rhanbarth y tu allan i'r rhanbarth hefyd yn bwysig, ac os cymerwn Gasnewydd fel enghraifft, gallai gwella'r cysylltiadau â Bryste fod o fudd mawr iawn i Gasnewydd. Ond mae'n annhebygol o gefnogi Caerdydd i'r un graddau os yw'n arwain at fwy o ffocws ar economi Casnewydd tuag at Fryste yn hytrach na Chaerdydd, er y byddai'n well gennym iddynt ategu ei gilydd wrth gwrs. Awn ymlaen i ddweud y dylai buddsoddiadau fod wedi'u 'lleoli yn y lleoedd mwyaf hygyrch a chynaliadwy yng nghyd-destun y rhanbarth cyfan', ond beth am y rhanbarthau eraill, beth am ardaloedd dros y ffin yn Lloegr? Clywais Siân Gwenllian yn cwyno yn gynharach am y ffordd roedd hyn yn canolbwyntio llawer gormod ar gysylltiadau rhwng y dwyrain a'r gorllewin a chrynoadau trawsffiniol, ac mewn gwirionedd, nid wyf yn gweld cymaint o hynny. Ac yn sicr, yn y rhan ar dde-ddwyrain Cymru, nid yw'n ymddangos ei fod yn cael ei grybwyll. Er enghraifft, dywedwn, 'Ar hyn o bryd mae Caerdydd yn mynd drwy gyfnod o dwf sylweddol o ran ei phoblogaeth a chyflogaeth, ond ni all y ddinas barhau i ehangu’n ddiderfyn heb effeithio’n sylweddol ar yr amgylchedd. Mae’n ddinas gryno sy’n agosáu at ei therfynau ffisegol', ac yn y cyd-destun hwnnw awn ymlaen wedyn i ddweud am Gasnewydd—neu mae'r Llywodraeth yn dweud—yn y ddogfen hon: 'Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o weld datblygu a thwf yng Nghasnewydd, a fydd yn galluogi’r ddinas i gyflawni ei photensial fel yr ail ganolbwynt i’r rhanbarth.' Felly, wrth gwrs, un rheswm y gallai Casnewydd dyfu yw oherwydd cyfyngiadau ar dwf yng Nghaerdydd, ond mae'n siŵr fod angen inni hefyd ystyried beth yw'r cyfyngiadau ar dwf ym Mryste. Ac fe welwch lain las lawer tynnach o amgylch Bryste, fe welwch lefelau llawer uwch o brisiau tai a chyfyngiadau sylweddol iawn ar ddatblygu. Felly, o leiaf ar gyfer Casnewydd ac ardaloedd eraill ger y ffin â Lloegr, mae angen inni ganolbwyntio ar sut rydym yn denu busnes oddi yno er mwyn cynyddu cyfoeth a ffyniant yn rhanbarth y de-ddwyrain, ac nid wyf yn credu ein bod yn gwneud digon o hynny ar hyn o bryd. Fodd bynnag, rwy'n canmol Llywodraeth Cymru yn yr ardaloedd lle—felly, Cymorth i Brynu, mae tua chwarter y gwariant, o leiaf hynny rwy'n credu, wedi bod ar eiddo o amgylch Casnewydd, gyda llawer ohono'n cartrefu pobl sydd wedyn yn cymudo i Fryste, er eu bod yn cefnogi sylfaen treth incwm Cymru. Yn yr un modd, credaf fod Ken Skates wedi gweithio'n galed iawn ar lobïo i wella gwasanaethau o Gaerdydd drwy Gasnewydd i Fryste, ac unwaith eto, byddai hynny o fudd i'r rhanbarth cyfan. Felly, er fy mod yn credu bod pethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud sy'n gweithio'n drawsffiniol i gefnogi'r twf hwnnw, nid yw'n ymddangos bod y ddogfen hon ei hun yn gwneud hynny i'r un graddau, ac mae'n ymddangos ei bod yn canolbwyntio'n rhanbarthol iawn o fewn yr is-rannau, yn hytrach na chwilio am y cyfleoedd i weithio'n drawsffiniol ac ysgogi ffyniant i Gymru. Diolch. Galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol nawr—Julie James. Julie James AC: Diolch, Lywydd. Rwy'n croesawu'r ddadl hon yn fawr a'r cyfraniadau a wnaethpwyd gan yr Aelodau heddiw. Nid dyma'r tro cyntaf inni drafod 'Cymru'r Dyfodol' na'r fframwaith datblygu cenedlaethol, felly bydd yr Aelodau'n gwybod fy mod o'r farn fod y cynllun hwn yn hanfodol i sicrhau bod ein system gynllunio'n canolbwyntio ar y materion mawr sy'n ein hwynebu. Mae'r ddadl hon unwaith eto'n profi bod gan bob un ohonom syniadau ynglŷn â sut y dylai'r system gynllunio weithredu, beth ddylai ei blaenoriaethau fod ac a fydd 'Cymru'r Dyfodol' yn cyflawni ein huchelgeisiau. Mae Aelodau wedi tynnu sylw at amrywiaeth o faterion yr eir i'r afael â hwy yn 'Cymru'r Dyfodol', gan gynnwys yr argyfwng hinsawdd, tai cymdeithasol a fforddiadwy, trafnidiaeth, yr economi, seilwaith gwyrdd, yr iaith Gymraeg, seilwaith digidol a'n cyflenwad ynni. Byddaf yn treulio'r ychydig fisoedd nesaf wrth gwrs yn myfyrio'n fanwl ar argymhellion y Senedd, ac oherwydd cyfyngiadau amser, ni allaf ymdrin â hwy i gyd yma, ond rwyf am roi sylw i ychydig o'r pwyntiau a godwyd hyd yma. Mynegodd Mike Hedges a nifer o rai eraill bryderon am allu'r cynllun i ymateb i COVID, ac er ei bod yn bwysig peidio â bod yn hunanfodlon wrth gwrs, mae hwn yn gynllun sydd wedi ymrwymo i wella iechyd a lles drwy'r system gynllunio gyfan. Bydd y polisïau ar seilwaith gwyrdd, teithio llesol a chanol y dref yn gyntaf yn hanfodol i helpu'r adferiad. Mewn perthynas â nifer o'r cyfraniadau, mae hefyd yn bwysig cofio nad 'Cymru'r Dyfodol' yw holl bolisi'r Llywodraeth. Nid yw'n disodli ein strategaethau mawr eraill, ond yn hytrach mae'n gweithio gyda hwy. Hefyd, Lywydd, mae'r Bil a basiwyd gennym yr wythnos diwethaf yn sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig fel cyrff corfforaethol, felly gallaf sicrhau'r Aelodau eu bod yn dod o dan holl bolisïau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y Gymraeg. Mae'n wych gweld y pwyllgor a Jenny Rathbone yn cydnabod gwerth cyflwyno'r llain las, yn y de-ddwyrain a'r gogledd-ddwyrain. Bydd y lleiniau glas, wrth gwrs, yn helpu i gyflawni amcanion creu lleoedd mewn lleoedd fel Casnewydd, Cas-gwent a Chwmbrân, yn Wrecsam a Glannau Dyfrdwy, a byddant yn sicrhau ein bod yn osgoi datblygu blerdwf anghyfrifol ar dir amaethyddol cynhyrchiol. Ac wrth gwrs, mae darparu tai fforddiadwy a thai cymdeithasol yn greiddiol i 'Cymru'r Dyfodol'. Yn wir, comisiynwyd data anghenion newydd gennym yn benodol ar gyfer cefnogi'r elfen honno. Lywydd, byddaf yn gwrthwynebu gwelliannau Plaid Cymru heddiw. Ymddengys nad ydynt wedi sylwi bod newidiadau wedi'u gwneud ar ôl ymgynghori ar y cynllun drafft, nac yn cydnabod rôl pwyllgorau trawsbleidiol a'u Haelodau eu hunain wrth iddynt ddadlau dros y newidiadau hynny. Cytunais o'r cychwyn cyntaf y dylai unrhyw ôl troed cynllunio rhanbarthol adlewyrchu ôl troed sy'n bodoli eisoes, yn hytrach na chreu un newydd. Fy marn yn wreiddiol oedd defnyddio ôl troed tri rhanbarth y cynllun gweithredu economaidd, ond cytunais i newid i'r ôl troed pedwar rhanbarth a ffafriai pwyllgorau'r Senedd ac awdurdodau lleol. Os caf, Lywydd, hoffwn dynnu sylw at ddau ymateb i'r ymgynghoriad ar y fframwaith datblygu cenedlaethol drafft. Dywedodd cyngor Ceredigion o dan arweiniad Plaid Cymru, ac rwy'n dyfynnu, 'Rhaid i'r fframwaith datblygu cenedlaethol gydnabod canolbarth Cymru fel rhanbarth ar wahân, gan ddefnyddio datblygiad pedwar bargen twf ar draws Cymru'. Yn y cyfamser, dywedodd Partneriaeth Twf Canolbarth Cymru, sydd, wrth gwrs, yn ymdrech ar y cyd rhwng cyngor Ceredigion a chyngor Powys, 'Y ffordd orau o fynd i'r afael â materion cynllunio strategol ledled canolbarth Cymru yw drwy gydweithio rhwng awdurdodau cynllunio lleol Ceredigion a Phowys.' Felly, Lywydd, rydym wedi gwrando'n astud ar yr hyn y mae'r rhanbarthau wedi'i ddweud wrthym. Ofnaf y byddai gwelliannau Plaid Cymru yn gwrth-ddweud barn y rhanbarthau, a byddwn yn eu gwrthwynebu am y rheswm hwnnw. Lywydd, mae'n debygol mai hon fydd y ddadl olaf ar y cynllun cyn ei gyhoeddi, felly mae'n ymddangos yn gyfle da i fyfyrio ychydig ar fy mhrofiad o ddatblygu 'Cymru'r Dyfodol' a dod ag ef i'r cam hwn. Teimlaf fod y broses wedi bod yn gyfuniad o weithio o fewn strwythurau presennol ac o allu cyflwyno syniadau newydd ac uchelgais newydd. Nid yw'r cynllun yn gosod polisi trosfwaol y Llywodraeth, ond yn hytrach mae'n nodi sut y gall y system gynllunio helpu i'w gyflawni. Er enghraifft, mae arnom eisiau poblogaeth ac amgylchedd iach, felly bydd y cynllun yn darparu mwy o fannau gwyrdd a lleoedd sy'n ein denu allan o'n ceir. Mae angen inni ddatgarboneiddio, ac felly mae'r cynllun yn canolbwyntio'r datblygiadau mwyaf ar yr ardaloedd lle ceir, neu lle gellir gwneud trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol yn fwyaf gwydn. Rydym eisiau economi deg a ffyniannus, felly mae gennym ardaloedd twf mawr ac rydym yn ceisio lledaenu datblygiad swyddi ar eu traws, yn hytrach na chanolbwyntio ar ganol y dinasoedd mwyaf. Mae ysgrifennu cynllun cenedlaethol yn weithred o gydbwyso rhwng gweithredu ar bob pwnc posibl a chofio mai cynllunio lleol yn aml yw'r lle gorau i fynd i'r afael â'r heriau. Mae hefyd yn gydbwysedd rhwng ailadrodd dogfen arall a pheidio ag anwybyddu pwnc. Rwyf hefyd wedi canfod bod pobl yn croesawu'r amserlen 20 mlynedd ar gyfer y cynllun, ond yn disgwyl atebion ar unwaith cyn gynted ag y cyhoeddir y cynllun. Mae llawer o bobl am gael cynllun sy'n hyblyg, ond yn anghyfforddus pan fydd canlyniadau'n ansicr. Mae ein polisïau ynni yn enghraifft wych o hyn. Rydym wedi datblygu polisïau sy'n seiliedig ar dystiolaeth a fydd yn helpu i gyflawni targedau cenedlaethol ar gyfer trydan o ffynonellau glân sy'n diogelu ein tirweddau dynodedig. Rydym wedi gwneud hyn tra'n gweithio gyda chymunedau a'r sector datblygu. Rydym wedi ystyried ein daearyddiaeth, wedi meddwl am yr hyn y bydd ei angen ymhen 20 mlynedd, a sut y gallai cymdeithas fod yn wahanol erbyn hynny. Edrychwyd ar ble mae'r seilwaith presennol, a lle ceir gweithlu medrus yn barod i fanteisio ar gyfleoedd newydd. Buom yn edrych ar ble y mae'n wyntog neu'n heulog ac yn meddwl am yr hyn y byddai cerbydau trydan yn ei olygu i'r galw. Roeddem yn cydnabod bod y system gynllunio a'i dyletswydd i weithredu er budd y cyhoedd yn codi materion nas rhagwelwyd, felly rydym wedi sicrhau bod mwy o opsiynau ar gael i ddatblygwyr nag y bydd eu hangen. Ac eto, dywedir wrthyf y dylai'r cynllun hwn fod yn fwy penodol o ran ble y bydd tyrbinau gwynt newydd yn mynd, canolbwyntio mwy ar wynt ar y môr, ar gynhyrchiant lleol a microgynhyrchu, ac y bydd prosiectau'n cymryd gormod o amser i ddwyn ffrwyth. Lywydd, potensial mawr y cynllun hwn yw'r ffaith bod y system gynllunio'n edrych ar ein holl faterion mawr—iechyd, yr economi, yr iaith Gymraeg, yr amgylchedd, yr argyfwng hinsawdd—ac yn credu y gall wneud rhywbeth i wella'r sefyllfa mewn ffordd gyfannol. Boed eich bod yn cytuno â chynnwys 'Cymru'r Dyfodol' neu beidio, mae pob penderfyniad a wnaed gennym wedi'i brofi drwy ymgynghori ffurfiol mewn digwyddiadau ymgysylltu â rhanddeiliaid a defnydd o asesiadau effaith. Mae gennym hefyd fframwaith monitro a fydd yn ein helpu i ystyried a mireinio'r cynllun dros amser. Mae cynnwys y cyhoedd mewn gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid wedi ein helpu i gyflawni cynllun yr ydym yn hyderus y bydd yn cael dylanwad mawr a chadarnhaol ar ein system gynllunio. Rwy'n croesawu'r craffu a wnaethpwyd ar y cynllun hwn, ac rwy'n edrych ymlaen at ystyried argymhellion y Senedd. Ym mis Chwefror byddaf yn cyhoeddi adroddiad yn nodi sut yr ymatebais i'r holl argymhellion, yn ogystal â fersiwn derfynol 'Cymru'r Dyfodol'. Diolch yn fawr. Galwaf ar Mike Hedges, Cadeirydd y pwyllgor, i ymateb i'r ddadl. Mike Hedges. Mike Hedges AC: Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl? A hoffwn ddiolch eto i'r Gweinidog. Nid wyf yn credu bod neb yn cytuno â 100 y cant ohono, ond mae llawer ohonom yn hoffi darnau ohono, a chredaf mai dyna'r hyn y byddwch yn ei gael yn y pen draw gyda dogfen o'r maint hwn. Mae'n bwysig i bawb yng Nghymru. I ymateb i Mark Reckless, mae gennym un diwrnod ar ôl, oherwydd, nid yw'r cyfnod yn ystod toriad yn cyfrif yn erbyn y 60 diwrnod. Mae'r weledigaeth o bedwar rhanbarth yng Nghymru yn cael ei llywio gan yr awdurdodau lleol yng Nghymru, nid gan San Steffan. Fel y dywedodd Julie James, mae hyn yn cynnwys Ceredigion a reolir gan Blaid Cymru. Maent yn gweld cymuned fuddiant o ran eu datblygiad lleol. Nod y bargeinion dinesig a'r bargeinion rhanbarthol yw gwella'r economi leol ac mae'n rhaid i'r cynllun datblygu strategol eu cefnogi. Rydym am i hyn weithio. Rydym yn sôn am swyddi ein plant a'n hwyrion. Mae Cymru wedi'r rhyfel wedi gweld twf ar arfordir gogledd a de Cymru. Mae hynny wedi'i ysgogi gan y sector preifat. Y tebygolrwydd yw mai'r sector preifat fydd yn ysgogi unrhyw dwf yn y dyfodol. Rwy'n siomedig nad yw pobl y byddwn yn eu disgrifio fel unoliaethwyr Cymreig yn derbyn rhanbarthau Cymru—rwy'n siomedig iawn am hynny, oherwydd rwy'n credu'n gryf ym mhwysigrwydd rhanbarth de-orllewin Cymru, nad yw'n annhebyg i un o'r teyrnasoedd hynafol. Mae lleiniau glas yn eithriadol o bwysig, ond roeddwn yn mynd i ddweud bod lletemau gwyrdd, sy'n atal cymunedau rhag uno, yn bwysicach mewn llawer o ardaloedd lle nad ydych am i'r gwahanol bentrefi uno, neu mewn ardaloedd trefol, lle nad ydych am i'r gwahanol gymunedau uno gyda'i gilydd. Roedd y dynodiad safle o ddiddordeb gwyddonol yn diogelu rhag datblygu; rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y ceir cytundeb cyffredinol yn ei gylch. Mae arnom angen i bob cynllun gwmpasu'r un ardaloedd. Mae gennym hanes yng Nghymru o bob Gweinidog yn datblygu eu hôl troed eu hunain, ac nid yw hynny o reidrwydd wedi gweithio er budd neb. Arferwn ddisgrifio Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot fel mannau Ianwsaidd, oherwydd weithiau byddem yn edrych tua'r dwyrain ac weithiau byddem yn edrych tua'r gorllewin. Credaf fod Helen Mary Jones wedi gwneud rhai pwyntiau da iawn am y Gymraeg, a dylai'r holl gynlluniau hyn gyd-fynd â'i gilydd. Ni ddylem gael y cynllun hwn mewn un man a chynllun arall mewn man arall, a 'Wel, nid oes a wnelontddim â'i gilydd am eu bod yn dod o wahanol seilos o fewn Llywodraeth Cymru.' Dylent i gyd gyd-fynd â'i gilydd. Mae angen i'r cynllun datblygu cenedlaethol a'r cynlluniau datblygu strategol gyd-fynd â'i gilydd hefyd, ond mae rhywbeth arall sy'n bwysig iawn i mi—ein bod yn sylweddoli mewn gwirionedd fod y môr a'r tir yn cyffwrdd â'i gilydd. Rwy'n gwybod ein bod wedi siarad cryn dipyn am hynny yn ein pwyllgor, ond mae'n bwysig iawn fod y cynllun morol yn cyd-fynd â'r cynllun datblygu cenedlaethol yn hytrach na chael ei ystyried yn rhywbeth cwbl ar wahân. Mae ynni bob amser yn ddadleuol: gwynt ar y tir neu wynt ar y môr, pŵer niwclear neu nwy—mae gan bob un gefnogwyr a gwrthwynebwyr, o fewn yr un blaid yn aml. Mae angen inni gael dadl ar ynni, a chredaf weithiau y gallai pleidiau wneud gyda'u dadleuon ynni eu hunain, ond credaf fod angen inni weld i ble rydym yn mynd gydag ynni. Yn gyffredinol, rwy'n credu bod hon yn ddogfen dda ac mae'r pedwar rhanbarth yn gweithio, ac rwy'n credu y bydd yn gweithio er budd economaidd Cymru. Efallai na fyddant yn cyd-fynd â syniad pawb o sut yr hoffent i bethau fod, ond maent yn cyd-fynd â fy marn i ar sut y bydd pethau. Diolch. Diolch. Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad i hynny. Felly, dwi'n gohirio'r pleidleisio ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. Cyn inni dorri am seibiant, a gaf fi hysbysu'r Aelodau fy mod wedi cael deall fod Aelodau wedi ceisio gwrthwynebu yn y ddadl flaenorol ar eitem 6, y cynnig deddfwriaethol? O ystyried bod llawer o'r Aelodau'n ceisio gwrthwynebu, ond fy mod wedi methu eu gweld i gyd ar Zoom, byddaf yn caniatáu pleidlais yn awr ar eitem 6 yn ystod y cyfnod pleidleisio. Ond am y tro, fe gawn seibiant byr. Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:16. Ailymgynullodd y Senedd am 17:23, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair. 8. Dadl y Ceidwadwyr: Effaith COVID-19 ar Wasanaethau Iechyd Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 2, 3, 4 a 5 yn enw Rebecca Evans, a gwelliant 6 yn enw Siân Gwenllian. O'r gorau. Felly, rydym yn ailymgynnull gydag eitem 8 ar ein hagenda, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig: effaith COVID-19 ar wasanaethau iechyd. A galwaf ar Andrew R.T. Davies i gyflwyno'r cynnig. Cynnig NDM7489 Darren Millar Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi adroddiad BBCWales Investigates a ddangosodd bod 10 gwaith yn fwy o gleifion yn aros am bob triniaeth yn GIG Cymru o gymharu â mis Medi 2019. 2. Yn nodi ymhellach y rhybudd gan arbenigwyr ac elusennau canser blaenllaw y gallai 2,000 o bobl farw oherwydd oedi sy'n gysylltiedig â COVID-19 yn GIG Cymru. 3. Yn cydnabod gwaith caled, ymroddiad ac ymrwymiad staff yn y sector gofal iechyd sy'n cefnogi cleifion nid yn unig â'r coronafeirws ond ag amrywiaeth o gyflyrau. 4. Yn gresynu at y ffaith bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi amcangyfrif y byddai'n cymryd tymor seneddol llawn i ailddechrau gwasanaethau arferol ac y byddai'n ffôl cael cynllun ar waith i fynd i'r afael â'r ôl-groniadmewn rhestrau aros. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) rhoi hwb i'r defnydd o ysbytai sy’n rhydd o COVID-19 ar unwaith, fel yr argymhellwyd gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon a'r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys; b) cynnal adolygiad brys o sut mae cleifion ysbyty yng Nghymru yn cael eu rhyddhau yn ystod y pandemig a gweithredu'r canfyddiadau hynny i fynd i'r afael â thagfeydd mewn ysbytai, fel yr argymhellwyd gan Goleg Brenhinol y Ffisigwyr; c) gwella ei threfn brofi'n sylweddol er mwyn cynyddu capasiti a sicrhau bod COVID-19 yn cael ei ynysu a'i gadw allan o ysbytai Cymru; d) cyflwyno cynllun adfer canser, fel y gwelir mewn rhannau eraill o'r DU, a chynyddu'r buddsoddiad yn y gwaith o gyflwyno canolfannau diagnostig cyflym ledled Cymru; e) gweithredu ymgyrch genedlaethol i sicrhau bod pobl sy'n amau bod ganddynt ganser, neuy mae angen iddynt fynd i'r ysbyty mewn argyfwng, yn parhau i wneud hynny. Cynigiwyd y cynnig. Andrew RT Davies AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n croesawu'r cyfle i gyflwyno'r cynnig yn enw Darren Millar ar y papur trefn y prynhawn yma. I'r rheini nad ydynt yn ymwybodol o drefniadau cyflwyno Cynulliad Cenedlaethol Cymru, neu Senedd Cymru fel y dylwn ei galw bellach, efallai y bydd y bobl hynny'n meddwl tybed pam nad ydym wedi rhoi'r amseroedd aros a gyhoeddwyd ddydd Iau diwethaf yn y cynnig. Ond fel y byddai pobl sy'n gwybod am y trefniadau cyflwyno'n gwybod, mae'n rhaid iddynt fod i mewn ar y prynhawn dydd Mercher. Felly, credaf ei bod yn werth inni ystyried yr hyn a ddywedodd y ffigurau hynny wrthym ddydd Iau diwethaf. Ac mae'r rhain yn ffigurau ledled y DU hefyd—rydym yn derbyn y pwynt fod pob GIG ledled y DU wedi gweld cynnydd enfawr yn yr amseroedd aros—ond yma, yng Nghymru, cynyddodd yr amseroedd aros 36 wythnos a mwy 597 y cant i 168,000 o bobl, a chynyddodd 26 i 36 wythnos 250 y cant, o 54,000 o bobl i 116,000. Dyna faint yr her sy'n ein hwynebu yma yng Nghymru, ni waeth pa Lywodraeth a ffurfir ar ôl mis Mai y flwyddyn nesaf. Mae hynny'n fwy na 0.5 miliwn o bobl ar restr aros yma yng Nghymru: mae 517,000 o bobl bellach ar restr aros. Ac wrth gwrs, ar gyfer triniaeth y mae hynny. Andrew RT Davies AC: Pan edrychwch ar amseroedd aros diagnostig a therapïau hefyd, bu naid sylweddol yn yr amseroedd aros hynny, a gwelwyd cynnydd mawr o rhwng 30,000 a 35,000 o bobl rhwng mis Mawrth a mis Hydref. Erbyn hyn mae 143,000 o bobl yn aros am apwyntiadau diagnostig a therapi yn GIG Cymru. Ac yn ddiddorol, ar y mathau hynny o rifau, mae'r niferoedd wedi tyfu'n sylweddol ers mis Mehefin a mis Gorffennaf eleni. Bu gostyngiad gwirioneddol yn rhai o'r ffigurau hynny ar ddechrau'r pandemig, gan nad oedd pobl yn symud ymlaen drwy'r gwasanaeth iechyd i gael yr apwyntiadau cychwynnol hynny. Felly, dyna faint yr her sy'n ein hwynebu, a dyna pam ein bod wedi cyflwyno'r cynnig y prynhawn yma, fel y gallwn, gobeithio, gael dadl, trafodaeth, ac ymdeimlad o'r hyn y mae Llywodraeth bresennol Cymru yn bwriadu ei wneud i fynd i'r afael â'r amseroedd aros hyn. Byddai'n hawdd treulio'r holl ddadl yn sôn am niferoedd a chynnydd canrannol a mynd ar goll yn y ffigurau hynny, ond mae'n bwysig pan fyddwn yn canolbwyntio ar y niferoedd fod pob un o'r pwyntiau canran roeddwn yn sôn amdanynt yn unigolyn, unigolyn yn eistedd ar restr aros nad yw, yn anffodus, wedi llwyddo i symud ymlaen drwy'r system. Mae'n hanfodol nad yw ein gwasanaeth iechyd yn dod yn wasanaeth COVID yn unig yn y pen draw. Rhaid iddo barhau i fod y gwasanaeth iechyd gwladol rydym yn ei drysori ac yn ei garu gymaint. Ac ar y pwynt hwn, rwy'n credu ei bod yn werth i bawb ohonom dalu teyrnged i ymroddiad ac ymrwymiad a phroffesiynoldeb y staff yn ein gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru sydd wedi mynd y tu hwnt i alw dyletswydd drwy gydol y pandemig, ac sydd eu hunain eisiau dychwelyd at y gwaith arferol o drin pobl yn y ddisgyblaeth iechyd y maent wedi'i hyfforddi ar ei chyfer ers cyhyd, er mwyn sicrhau ymdeimlad cymunedol fod y gwasanaeth iechyd yn cyflawni ar gyfer pob dyn, dynes a phlentyn yng Nghymru, a'n bod yn gwneud cynnydd gyda'r amseroedd aros. Byddai'n anghywir hefyd i mi beidio ag ymdrin â'r gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig, oherwydd roeddwn wedi gobeithio y gallem fod wedi cael cefnogaeth ehangach i'r cynnig sydd ger ein bron, ond rwy'n croesawu'r pwynt na chyflwynwyd unrhyw welliannau 'dileu popeth' i'r cynnig y prynhawn yma. Ond yn anffodus, ni fyddwn yn gallu derbyn gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, oherwydd credwn fod pwynt 1, sy'n sôn am yr amseroedd aros a'r cynnydd ddengwaith cymaint a amlygwyd gan BBC Wales, yn ffaith. Mae'n ffaith y bu cynnydd ddengwaith cymaint yn yr amseroedd aros hynny, a chredwn fod angen i hynny fod ar flaen y cynnig ac yn ganolog iddo. Mae gwelliant 2, a gyflwynir eto yn enw Rebecca Evans, yn ceisio dileu pwynt 4, ac mae'n ffaith bod y Gweinidog iechyd, yn anffodus, wedi dweud y byddai'n ffôl cael cynllun ar waith i fynd i'r afael ag ôl-groniad y rhestrau aros. Wel, fel rwyf wedi nodi yn yr ystadegau a gyflwynais heddiw, mae taer angen cynllun i ymdrin â'r amseroedd aros. Rwy'n derbyn y pwynt ein bod yn dal ynghanol y pandemig a bod misoedd lawer, yn anffodus—blynyddoedd efallai hyd yn oed—cyn y daw i ben, ond mae angen inni gynllunio ac mae angen inni sicrhau bod hyder gan y GIG, ynghyd â'r sector gofal, fod y canol yn cynnal y GIG mewn unrhyw ran o Gymru er mwyn sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu cychwyn eto a'n bod yn gallu dechrau mynd i'r afael â'r amseroedd aros hyn. Mae'n bwysig ein bod yn cael ysbytai COVID-ysgafn ar waith, ac mewn amgylchedd diogel, fod llawdriniaethau'n gallu mynd rhagddynt yn y pen draw o fewn GIG Cymru, a dyna pam na allwn gefnogi gwelliant 3 sy'n ceisio dileu'r pwynt hwnnw o'r cynnig y prynhawn yma. Ac yn anad dim felly, credwn fod angen cynllun adfer canser, fel y mae rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig wedi'i ddarparu ar gyfer eu GIG, er mwyn cael llwybr clir i wasanaethau canser yma yng Nghymru allu symud ymlaen a dychwelyd at y trywydd iawn. Oherwydd un peth y gwyddom am ganser yw bod ymyrraeth amserol yn hollbwysig—yn hollbwysig—i sicrhau canlyniad llwyddiannus i'r claf canser, i gael y canlyniad cywir o'r driniaeth a gawsant.Mae tystiolaeth ac adroddiadau newyddion Macmillan ei hun wedi tynnu sylw yn ddiweddar at y ffaith bod tua 2,900 o bobl yn cerdded o gwmpas gyda chanser heddiw am eu bod heb gael diagnosis, ac yn anffodus bydd hyd at 2,000 o bobl yn marw'n gynamserol am nad ydynt wedi gallu cael y driniaeth a mynd i mewn i'r system i gael diagnosis a mynd i'r afael â'r cyflwr y gallent fod yn ei wynebu. Mae hynny ynddo'i hun yn galw am weithredu ar frys gan y Gweinidog iechyd, ac felly dyna pam na fyddwn yn cefnogi gwelliant 4 yn enw'r Llywodraeth sy'n galw am ddileu pwynt (d) ein cynnig. Byddwn yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru, oherwydd credwn ei fod yn ychwanegu at y cynnig ac rydym yn croesawu'r dadansoddiad o amseroedd aros 10 mlynedd a'r gallu i ddeall yr hyn y mae angen inni ei wneud wrth symud ymlaen i wella gallu'r GIG i fynd i'r afael ag amseroedd aros fel y disgrifiais yn fy sylwadau agoriadol. Ond mae'n ymwneud â chomisiynu mwy o gapasiti; mae'n ymwneud ag edrych ar ffyrdd newydd o weithio; mae'n ymwneud â sefydlu ysbytai COVID-ysgafn; ac mae'n ymwneud â gwneud mwy o ddefnydd o wasanaethau cymunedol, yn hytrach na symud pobl i mewn i'r sector acíwt, lle gallwn fynd i'r afael â'r mater cyn gynted ag y bo modd drwy gynyddu gwariant ar adnoddau iechyd yn y gymuned yma yng Nghymru. Andrew RT Davies AC: Mae dadl a thrafodaeth i'w cael bob amser ynglŷn â pha arian sydd ar gael i'r GIG, a gwyddom fod symiau canlyniadol sylweddol—. Ac rwy'n derbyn bod y symiau canlyniadol hynny wedi dod, nid oherwydd ein bod yn achos arbennig a'n bod yn eu haeddu, ond oherwydd gwariant a ddigwyddodd mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig sydd wedi ysgogi fformiwla Barnett. Mae gwerth £1.6 biliwn o arian yn gorwedd yng nghyllideb Cymru eisoes, heb ei wario a heb ei ddyrannu. A heddiw, gyda'r adolygiad cynhwysfawr o wariant, bydd arian ychwanegol yn cyrraedd dwylo'r Gweinidog cyllid, a fydd, gobeithio, yn cael ei drosglwyddo i'r Gweinidog iechyd, fel y gellir comisiynu a chreu capasiti ychwanegol, a bod modd cynnwys y ffyrdd newydd hyn o weithio yn y GIG i ddechrau mynd i'r afael â'r amseroedd aros ofnadwy y mae llawer o bobl ledled Cymru yn eu hwynebu—y 0.5 miliwn o bobl ledled Cymru sydd ar restr aros y GIG heddiw. Pan wneir y dyraniad hwnnw, mae'n bwysig fod digon o gymorth staff cymorth yn cael ei roi ar waith i sicrhau bod y staff, ar ba lefel bynnag y maent o fewn y GIG, boed yn borthorion, yn lanhawyr neu'n feddygon ymgynghorol a niwrolegwyr, yno ac yn cael eu hystyried, oherwydd heb y staff, ni fydd gennych GIG sy'n cyflawni. A'r hyn rydym eisiau ei weld yw GIG sydd heb gael ei droi'n GIG adfer COVID yn unig ac sy'n GIG i ni i gyd, ym mha bynnag ran o Gymru rydym yn byw. Mae'n ffaith bod arolwg staff diweddar y Coleg Nyrsio Brenhinol wedi nodi bod 34 y cant o'r staff—nyrsys yn enwedig—yn teimlo nad oedd Llywodraeth Cymru yn eu gwerthfawrogi'n ddigonol. Dylwn ychwanegu mai dyna oedd y ffigur uchaf o dan unrhyw Lywodraeth yn y Deyrnas Unedig. Ac roedd 75 y cant o'r staff yn credu eu bod wedi gweld cynnydd yn y lefelau straen. Felly, bydd strategaeth staff i sicrhau bod cadw staff yn ganolog i'r hyn y mae ein byrddau iechyd yn ei wneud yn hanfodol i sicrhau ein bod yn darparu strwythur staffio a all ymateb i argyfwng COVID, yn ogystal ag ailagor ac ail-beiriannu gwasanaethau ar draws GIG Cymru yn ei gyfanrwydd. A chan adeiladu ar y cymorth hwnnw i staff, mae angen inni sicrhau bod gennym adnoddau profi ar waith i wneud yn siŵr, lle mae heintiau mewn ysbytai—. Yn anffodus, mae fy ardal ranbarthol i, ardal sy'n dod o dan fwrdd iechyd Cwm Taf, wedi gweld cynnydd enfawr yn nifer yr achosion a ddaliodd COVID yn yr ysbyty. Mae angen mwy o egni y tu ôl i'r cyfundrefnau profi yn ein hysbytai a chyda'n lleoliadau gofal, fel y gallwn ddychwelyd at amgylchedd gweithredol yn yr ysbytai hynny ac yn y cartrefi gofal. A chyda'r profion cyflym sydd bellach ar gael, mae'n ymddangos bod hyn yn newid sylfaenol o ran beth y gallwn ei wneud. Hoffwn annog y Gweinidog i sicrhau bod y profion hynny ar gael i GIG Cymru. Ond yn anad dim, rhaid i'r arweinyddiaeth ganolog y gall Llywodraeth Cymru ei darparu, gyda'r gwasanaeth sifil yma yng Nghaerdydd, a'r mynediad at adnoddau, gael ei sbarduno a'i pheiriannu i sicrhau bod y byrddau iechyd yn mynd ati'n weithredol i gynllunio er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau'n cael eu hail-beiriannu a'u hailagor. A dim ond yr adnodd canolog hwnnw—capasiti'r adnodd canolog hwnnw—fydd yn caniatáu i hyn ddigwydd. Mae angen inni sicrhau bod gennym ymgyrch negeseuon iechyd cyhoeddus gref fel bod pobl yn gwybod bod y GIG yn agored ac yn barod ar eich cyfer os bydd ei angen arnoch. Oherwydd gyda'r negeseuon a'r hyn rydym wedi mynd drwyddo yn y chwech i saith mis diwethaf, mae'n ffaith bod llawer o bobl—o'i roi'n blwmp ac yn blaen—yn ofni ymgysylltu â gwasanaethau, ac ni ddylai hynny ddigwydd. Mae angen inni ailadrodd yn gyson y neges fod y GIG yno ar eich cyfer, i chi gael y diagnosis hwnnw, i gael y driniaeth honno ac yn y pen draw, i ddychwelyd at ffordd arferol o fyw. Yn anffodus, mewn perthynas â gwasanaethau canser, mae Macmillan wedi nodi, er enghraifft, na fu ymgyrch gydgysylltiedig yma yng Nghymru ar wahân i ymgyrch fer ym mis Mehefin, yn wahanol i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Felly, mae gwaith i'w wneud yn y maes penodol hwnnw. Yn anad dim, yr hyn yr hoffwn ei weld hefyd yw cynllun cyflawni ar gyfer canser wedi'i ddarparu gan Lywodraeth Cymru, rhywbeth y maent wedi gwrthod ei wneud yn anffodus, yn ôl ateb ysgrifenedig ataf. Gwyddom fod y cynllun canser presennol yn dod i ben ddiwedd mis Rhagfyr eleni, a nododd yr ateb a gefais ddoe nad oes gwaith wedi'i wneud ar fformat ei gynllun olynol o hyd. Felly, pan fyddwn yn ystyried datblygu model mwy canolog yn y pen draw i gynorthwyo'r GIG yma yng Nghymru i gyflawni ar amseroedd aros, darparu cymorth i staff cymorth, darparu adnoddau, a'n bod yn edrych wedyn ar un rhan allweddol o'r gwasanaeth iechyd—yr adrannau canser yn ein hysbytai—bydd eu cynllun cyflawni eu hunain yn dod i ben ym mis Rhagfyr, ac nid oes cynllun olynol ar waith ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru. Mae angen i'r Llywodraeth ysgwyddo ei chyfrifoldeb, oherwydd, fel y dywedais, o ran gwasanaethau canser, gwyddom fod amser yn allweddol. A dyna pam rwy'n galw am gefnogaeth y prynhawn yma i'r cynnig fel y'i cyflwynwyd. Mae'n ffaith bod pob rhan o'r GIG, mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, yn wynebu amseroedd aros hir. Nid ydym yn anghytuno â hynny, ac nid ydym yn beio'r Llywodraeth am eiliad am atal y gwasanaethau hynny yn ôl ym mis Mawrth. Ond mae ailweithredu'r gwasanaethau hynny wedi bod yn arafach yma yng Nghymru nag mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, a'r arafwch hwnnw sydd wedi gwaethygu'r amseroedd aros a amlygwyd y glir gan y niferoedd y soniais amdanynt ar ddechrau'r ddadl hon—yn gyntaf oll yr wythnos diwethaf, pan gawsant eu cyhoeddi gyntaf, ac eto drwy eu hailadrodd yma yn y ddadl y prynhawn yma. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n gallu cefnogi'r cynnig fel y'i cyflwynwyd, heb ei ddiwygio, fel ei fod mor gryf ag y gall fod ac yn y pen draw yn crisialu difrifoldeb yr her sy'n ein hwynebu. Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi dethol chwe gwelliant i'r cynnig. A gaf fi alw ar Vaughan Gething i gynnig gwelliannau 1 i 5, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol? Gwelliant 1—Rebecca Evans Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn nodi bod yr ystadegau ar gyfer Cymru a gyhoeddwyd ar 19 Tachwedd yn dangos cynnydd o 11y cant yng nghyfanswm y niferoedd sy’n aros am driniaeth rhwng mis Medi 2019 a mis Medi 2020, ac mai nifer yr arosiadau dros y targed cenedlaethol o 36 wythnos sydd naw gwaith yn fwy, tuedd sydd i’w gweld ym mhob rhan o’r DU. Gwelliant 2—Rebecca Evans Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le: Yn gresynu y bydd Cymru, y DU, a’r byd yn byw gydag effeithiau COVID-19 am flynyddoedd lawer. Yn nodi bod cynlluniau’r GIG, tra mae COVID yn dal i fod yn ein cymuned, yn canolbwyntio ar gydbwyso darparu gwasanaethau COVID a gwasanaethau eraill yn ddiogel. Gwelliant 3—Rebecca Evans Dileu is-bwynt 5(a) a rhoi yn ei le: gweithio gyda chlinigwyr lleol i ddarparu modelau cyflawni sy’n gwneud y mwyaf o’r holl adnoddau i ddarparu gofal diogel o safon ar gyfer llwybrau COVID a llwybrau eraill ar gyfer cymunedau lleol. Gwelliant 4—Rebecca Evans Dileu is-bwynt 5(d) a rhoi yn ei le: parhau i weithio gyda’r rhwydwaith canser a’r GIG i sicrhau y gall gwasanaethau canser ateb galwadau newydd a’r galw presennol, a chytuno sut i fuddsoddi yn y dyfodol i wireddu’r ymrwymiad y cytunwyd arno ar gyfer profion diagnostig cyflym. Gwelliant 5—Rebecca Evans Yn is-bwynt 5(e) dileu 'gweithredu ymgyrch' a rhoi yn ei le 'parhau â’n hymgyrch'. Cynigiwyd gwelliannau 1, 2, 3, 4 a 5. Vaughan Gething AC: Cynigiwyd yn ffurfiol, Ddirprwy Lywydd. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig gwelliant 6, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian—Rhun. Gwelliant 6—Siân Gwenllian Ychwanegu is-bwyntiau newydd ar ddiwedd pwynt 5: 'cynnal adolygiad o berfformiad yn erbyn targedau amseroedd aros dros y degawd diwethaf i sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu am reoli rhestrau aros; ystyried defnyddio'r ysbytai Nightingale lle y bo'n bosibl i ddarparu capasiti ychwanegol i gleifion sy'n gwellayn dilyn llawdriniaeth er mwyn helpu i gynyddu llif drwy'r system.' Cynigiwyd gwelliant 6. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Dwi'n falch o gael y cyfle i ymateb i'r cynnig yma. Mae o'n gynnig rydyn ni ym Mhlaid Cymru yn cyd-fynd â fo yn gyffredinol. Dwi'n anghytuno efo'r geiriad mewn ambell i le—ardaloedd COVID-lite, er enghraifft, yn hytrach na COVID-free y mae Coleg Brenhinol y Llawfeddygon yn galw amdanyn nhw, sy'n fater eithaf pwysig. Ond, rydyn ni'n sicr yn cytuno efo'r bwriad yn y cynnig yma yn gyffredinol. Wrth gwrs, mi fyddwn ni'n pleidleisio yn erbyn y cynnig gwreiddiol er mwyn caniatáu pleidlais ar ein gwelliant ninnau. Ymhell cyn y pandemig, roeddem ni'n poeni am restrau aros hir. Fel llefarydd iechyd, mae o wedi bod yn un o destunau trafod mwyaf y blynyddoedd diwethaf. Fel cynrychiolydd etholaeth, dwi'n gwybod am wn i ddim faint o etholwyr sydd wedi cael gwybod bod yn rhaid iddyn nhw aros ymhell dros flwyddyn am driniaeth frys, hyd yn oed. Mi fydd o'n brofiad sy'n gyffredin i bawb ohonom ni yn y Senedd yma, dwi'n siŵr. Mae'r effaith ar gleifion yn fawr—nid yn unig yr effaith uniongyrchol o orfod byw efo salwch, yn aml iawn mewn poen, neu'n anghyfforddus, â'r pryder bod yr amser hir heb driniaeth yn creu difrod mwy, gan wneud y driniaeth yn y pen draw yn debyg o fod yn llai llwyddiannus—ond hefyd achos bod yr aros ei hun yn arwain at broblemau eraill. Mi gawsom ni adroddiad gwerthfawr gan y cynghorau iechyd yn ôl yn 2018, 'Ein bywydau ar stop', yn edrych ar effaith amseroedd aros ar ansawdd bywydau cleifion. Mae teitl yr adroddiad yn dweud y cyfan, mewn difrif. Rydyn ni'n sôn am effaith yr aros, nid yn unig ar iechyd corfforol, ond ar iechyd meddwl, ar unigrwydd, ar symudedd, y teimlad o golli urddas, yr effaith ar fywyd teulu, lle mae pobl hŷn a chyfrifoldebau gofal plant, er enghraifft, ac yn methu â gwneud hynny. Yn hynny o beth, dwi'n meddwl bod y Llywodraeth braidd yn annidwyll yn eu gwelliannau nhw. Mae angen i'r Llywodraeth gydnabod bod rhestrau aros yng Nghymru yn llawer rhy hir cyn yr argyfwng yma. Mae angen iddyn nhw beidio, mewn unrhyw ffordd, drio osgoi'r realiti bod perfformiad yn erbyn y mesurau am amseroedd aros wedi bod yn broblem ers amser maith. Ond, mae'r pandemig, wrth gwrs, wedi gwaethygu pethau. I lawer o bobl a oedd wedi bod yn aros yn barod cyn dechrau'r flwyddyn gythryblus yma, mi ddaeth pethau i stop. Pan wnaeth rhai triniaethau elective ailddechrau, mi glywsom bryderon bod yna anghysondeb ar draws Cymru yn nhermau mynediad at wasanaethau llawfeddygol. Ond, cofiwch nad dim ond aros am driniaethau am salwch neu anhwylder sydd wedi cael ei adnabod yn barod ydy'r broblem. Rydyn ni hefyd, yn allweddol, wedi gweld oedi mawr—ac atal yn llwyr ar adegau—yn y gwasanaeth diagnosis, sydd mor, mor bwysig. Ar ben hynny, wrth gwrs, mae llawer o bobl wedi dewis peidio â chwilio am gymorth meddygol oherwydd nerfusrwydd am ddal y feirws, neu am nad ydyn nhw eisiau bod yn fwrn ar y gwasanaeth iechyd mewn amser o argyfwng. Y canlyniad? Rydyn ni wedi clywed mudiadau canser fel Macmillan yn dweud wrthym ni eu bod nhw'n meddwl y gallai fod yn agos at 3,000 o bobl yng Nghymru yn debyg o fod yn byw efo canser heb ddiagnosis oherwydd effaith y coronafeirws. Felly, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn edrych ar sut i ddelio efo'r backlog yn y system, a delio efo'r ffaith bod llawer o bobl yn teimlo eu bod nhw wedi cael eu hanghofio. Mae o'n bwysig nid yn unig er mwyn y cleifion, ond er mwyn ein staff ymroddedig, yr ydym ni'n cael cyfle unwaith eto heddiw i ddiolch iddyn nhw. Mae angen safleoedd COVID-lite pwrpasol ar frys, efo profion rheolaidd ar staff a chleifion a stoc ddigonol o PPE i gadw capasiti elective i fynd drwy'r misoedd tyngedfennol nesaf. Eto, dwi'n defnyddio'r term 'COVID-lite' yn hytrach na 'rhydd o COVID', fel mae Coleg Brenhinol y Llawfeddygon yn ei ddweud, achos mewn difri does dim modd rhoi gwarant y gallwch chi gael gwared ar y feirws yn gyfan gwbl. Mae profion aml yn hanfodol er mwyn cynnal gwasanaethau llawfeddygol dewisol, cynllunio'r gweithlu, a diogelu safleoedd COVID-lite. Rhaid i staff gael eu profi'n rheolaidd hyd yn oed pan fyddan nhw'n asymptomatic. Rydyn ni wedi cyflwyno ein gwelliant ni mewn ysbryd o symud ymlaen, ac o basio hwnnw mi fyddwn ni, fel dwi wedi awgrymu, yn cefnogi'r cynnig ei hun. Rydyn ni yn meddwl bod angen adolygu'r targedau— Ymddengys ein bod wedi colli Rhun. Nid ydym wedi cael yr Aelod yn ôl, a chan ei fod yn brin o amser beth bynnag, rwy'n meddwl y dof â'i gasgliadau i ben ar ei ran a galw ar Janet Finch-Saunders. Janet Finch-Saunders AC: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Wrth ddechrau'r ddadl hon, hoffwn gofnodi eto'n bersonol, ac ar ein rhan ni fel Ceidwadwyr Cymreig, y diolch enfawr i holl staff y sector gofal iechyd am y gwaith caled, yr ymroddiad a'r ymrwymiad y maent yn parhau i'w dangos i gleifion Cymru. Nawr, gadewch inni fod yn onest, ni wnaeth y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru o dan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru ddechrau'r pandemig ar y droed flaen. Ni chyrhaeddwyd y targed o 95 y cant o gleifion yn treulio llai na phedair awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys erioed. Nid oedd amseroedd aros canser wedi'u cyrraedd ers 10 mlynedd. Roedd gan 42 y cant o bobl yng Nghymru angen nas diwallwyd am ffisiotherapi o'i gymharu â 30 y cant yn Lloegr, ac roedd gan Betsi Cadwaladr, fy mwrdd iechyd fy hun, amseroedd aros erchyll ym mis Chwefror: 508 o lwybrau cleifion yn aros dros 36 wythnos i ddechrau triniaeth clustiau, trwyn a gwddw, 903 ar gyfer wroleg, a 3,192 ar gyfer triniaeth trawma ac orthopedeg. Fel y dywedodd Andrew R.T. Davies yn hollol gywir, unigolion yw'r rhain. Mae eu bywydau'n cael eu effeithio'n ddyddiol. Yn anffodus, er gwaethaf ymdrechion diflino ein gweithwyr rheng flaen, mae effaith y pandemig ar yr unigolion hyn yn ddinistriol. Mae amseroedd aros i'r rhai sy'n aros mwy na 36 wythnos wedi cynyddu wyth gwaith; mae 168,944 o bobl wedi bod yn aros mwy na 36 wythnos am driniaeth. Yn wir, roedd cyfanswm y cleifion a oedd yn aros i ddechrau triniaeth erbyn diwedd Medi 2020 dros 0.5 miliwn. Nawr, fel y gŵyr y Gweinidog, rwyf wedi ysgrifennu ato droeon gydag etholwyr y cofnodwyd eu bod bellach wedi aros blynyddoedd am lawdriniaeth orthopedig, a rhaid inni nodi adroddiad BBC Wales, sy'n dangos cynnydd ddengwaith cymaint yn nifer y cleifion sy'n aros am driniaeth o unrhyw fath yn GIG Cymru o'i gymharu â mis Medi 2019. Nawr, nid canfyddiadau newydd yw'r rhain, ac nid ydym yn diystyru effaith COVID-19, ond mewn gwirionedd, cafwyd rhybuddion ynglŷn ag ôl-groniadau yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf. Dywedodd Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol fod cynnydd sylweddol yn nifer y marwolaethau o ganlyniad i strôc yn ystod yr epidemig ffliw yn y DU yn 2009. Felly, mae perygl y bydd y pwyslais amlwg ar gleifion COVID yn arwain at oedi triniaeth ar gyfer cyflyrau iechyd eraill os na chaniateir i gleifion droi at ofal sylfaenol. Tynnodd Asthma UK a Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint sylw at bryderon difrifol fod pobl â chlefyd cronig yr ysgyfaint mewn mwy o berygl o waethygiad y gellid ei atal yn eu hiechyd. Nododd Sefydliad Prydeinig y Galon y gallai'r gostyngiad o 20 y cant yn nifer y bobl a welir mewn ysbytai ledled Cymru yr amheuir eu bod wedi cael trawiad ar y galon ers y cyfyngiadau symud egluro'n rhannol y cynnydd yn nifer y marwolaethau na ellir eu priodoli i COVID-19 ar hyn o bryd. Nawr, er fy mod yn cytuno bod llawer o driniaethau wedi'u cau ar ddechrau'r cyfyngiadau symud, yn amlwg, er mwyn sicrhau diogelwch cleifion, mae angen gweithredu ar frys yn awr i ailddechrau rhai o'r gwasanaethau hyn. Yn wahanol i'r Gweinidog, credaf y byddai'n synhwyrol rhoi cynllun ar waith i fynd i'r afael ag ôl-groniad y rhestrau aros. Dylech roi hwb ar unwaith i'r defnydd o ysbytai sy'n rhydd o COVID. Fel yr argymhellwyd gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon a Choleg Brenhinol Meddygaeth Frys ledled y DU, gallai sefydlu ardaloedd ysbytai sy'n rhydd o COVID-19 atal 6,000 o farwolaethau diangen yn gysylltiedig â COVID-19—hyn ar ôl llawdriniaeth canser—dros y flwyddyn nesaf. Ar 31 Gorffennaf, cyhoeddodd GIG Lloegr drydydd cam ei ymateb i COVID-19, a oedd yn canolbwyntio'n benodol ar y capasiti sydd ar gael i sicrhau bod lefelau agos i'r arfer o wasanaethau iechyd nad ydynt yn rhai COVID yn dychwelyd. Ond o'i gymharu â hyn, rydym wedi gweld Llywodraeth Cymru yn ei chael hi'n anodd gweithredu'n gyflym. Felly, erbyn 28 Awst, nid oedd gwelyau cyffredinol ac acíwt ar gael mewn ysbytai maes. Roedd hyn yn wir am bron i ddau fis tan 15 Hydref, pan ddaeth 115 o welyau ar gael. Mae hynny'n llai na hanner y capasiti a welwyd ar anterth y pandemig. Mae'r methiant hwnnw i beidio â defnyddio capasiti ysbytai annibynnol a maes yn gyson, cyn yr ail don, wedi rhoi pwysau ar ein hysbytai presennol yn ystod yr ail don. Mae difrifoldeb y sefyllfa hon yn glir wrth inni ystyried y gallai 2,000 o bobl farw oherwydd oedi sy'n gysylltiedig â COVID yn GIG Cymru. Mae gan yr Alban a Lloegr gynlluniau adfer canser ar waith ers sawl mis, ond nid yma. Felly, rwy'n llwyr gefnogi'r galwadau am gynllun ac ymgyrch genedlaethol i sicrhau bod pobl sy'n amau bod ganddynt ganser a bod angen iddynt fynd i'r ysbyty yn gwneud hynny. Argymhellodd hyd yn oed Cymorth Canser Macmillan y mis diwethaf fod yn rhaid i chi ymrwymo i gynllun clir ac adnoddau i gefnogi'r gwaith o ddarparu capasiti ymchwydd. Hoffwn gloi drwy nodi bod y camau brys rydym yn gofyn amdanynt yn rhai ymarferol. Gwrthwynebiad adeiladol yw hwn. Caiff ei gefnogi gan sefydliadau iechyd, a gallwn roi hwb ymarferol hefyd i'r defnydd o ysbytai sy'n rhydd o COVID ledled Cymru drwy sicrhau bod gan fyrddau iechyd bolisïau clir ar fynd i'r afael â gofynion profi a'u hamlder ar gyfer staff a chleifion; cyflenwadau o gyfarpar diogelu personol a chyflenwadau llawfeddygol digonol a pholisïau clir ar ba bryd a sut i'w defnyddio; cydgysylltu lleol i sicrhau bod llwybrau gofal cleifion yn cael eu rheoli'n briodol; defnyddio ysbytai y sector annibynnol i hybu capasiti; ac ysbytai Nightingale i barhau'n weithredol. Os gwelwch yn dda, Weinidog, gadewch i bawb ohonom weithio gyda'n gilydd ym mhob man yn awr i ymdrin â'r sefyllfa sy'n ein hwynebu gyda COVID, ond gadewch i driniaethau arferol ysbytai y mae'r cyhoedd yng Nghymru eu hangen barhau a gadewch iddynt gael triniaethau mawr eu hangen. Diolch. Hefin David AC: Ddirprwy Lywydd, rwy'n croesawu'r ffordd adeiladol a difrifol y mae'r Ceidwadwyr wedi cyflwyno'r ddadl hon heddiw. Pan gaiff dadl ei chyflwyno yn y ffordd hon, dywedaf wrth yr Aelodau ar feinciau'r gwrthbleidiau fod hynny'n rhoi pwysau ar Aelodau meinciau cefn y Llywodraeth i gyfiawnhau pam y byddent yn cefnogi gwelliannau'r Llywodraeth. Ac mae cymaint â hynny'n bwysicach ein bod yn cyflwyno dadl gref pan gynhelir dadl yn y ffordd hon, ac mae'n ffordd dda o graffu. Ond mae'n rhaid i mi ddweud, wrth wraidd y ddadl hon mae angen i reoli'r feirws ac atal lledaeniad y feirws i leoliadau ysbytai, a dyna wrth gwrs oedd diben y cyngor SAGE a roddwyd i Lywodraeth y DU a Llywodraethau datganoledig cyn cyfyngiadau'r cyfnod atal byr a ddigwyddodd ddechrau mis Tachwedd. O edrych ar bwynt Rhif 4 yn y cynnig, sy'n sôn am ateb clir a gonest iawn y Gweinidog iechyd am y broblem sy'n wynebu rhestrau aros o ganlyniad i COVID, diben y cyngor hwnnw gan SAGE i gyflwyno cyfyngiadau cyfnod atal byr oedd mynd i'r afael â'r union broblem honno. A chredaf y byddai'r Ceidwadwyr yn cydnabod bellach wrth edrych yn ôl eu bod wedi gwneud camgymeriad yn peidio â chefnogi'r cyfnod atal byr ar y pryd, oherwydd, fel y gwelsom yn Lloegr, cyflwynwyd cyfyngiadau symud hirach a llymach er mwyn mynd i'r afael â'r broblem honno. A dyna sydd wrth wraidd y ddadl hon—cymryd y mesurau a chymryd y strategaethau a fydd yn caniatáu i'r feirws gael ei reoli. Ac mae'n ddrwg gennyf ddweud wrth Andrew R.T. Davies, pe caniateid i mi adael i chi ymyrryd, fe fyddwn yn gwneud hynny—fe wyddoch y byddwn—ond nid yw'r rheolau'n caniatáu hynny ar hyn o bryd. Felly, wrth edrych ar y sefyllfa, beth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud? Wel, yr wythnos diwethaf, cawsom ddatganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog iechyd am y llwybr canser sengl a gyflwynwyd ym mis Tachwedd 2018. A'r hyn y mae'n ei wneud yw sicrhau bod pob claf, ni waeth beth fo graddau'r amheuaeth, pob claf sy'n cael eu gweld fel achosion canser posibl, yn cael eu trin ar lwybr canser sengl. Felly, fel y dywedodd y Gweinidog iechyd yn ei ddatganiad, mae 'yn ffordd lawer cywirach o fesur yr amser y mae cleifion yn aros i gael triniaeth yn ein system iechyd.' Ond un o'r pethau a ddywedodd yn ei ddatganiad oedd, 'Bydd y Llwybr Canser Sengl yn ein galluogi i fynd i’r afael ag amrywiadau, a gwella canlyniadau a phrofiad y claf.' Rwy'n credu mai dyletswydd y Gweinidog iechyd nawr yw ymhelaethu ar hynny a rhoi mwy o wybodaeth i ni ynglŷn â sut y mae'r pethau hynny'n cael eu cyflawni, ac mae hwnnw'n bwynt allweddol yr hoffwn i'r Gweinidog iechyd fynd i'r afael ag ef. Ac o ran cymorth a thriniaeth canser, rhaid i mi ddweud, yn 2016, pan gefais fy ethol gyntaf, cyfarfûm â phrif weithredwr bwrdd iechyd Aneurin Bevan, a'i huchelgais oedd cyflwyno canolfan ragoriaeth canser y fron yn Ysbyty Ystrad Fawr. Rwy'n falch iawn o ddweud bellach y byddwn yn gweld honno'n agor y flwyddyn nesaf, a bydd honno ynddi'i hun—y ganolfan ragoriaeth—yn darparu gwasanaethau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gan sicrhau'r canlyniadau clinigol gorau, yn cynnwys triniaeth ddiagnostig bwrpasol ac ystafelloedd cwnsela a fydd yn gwneud diagnosis cyflymach yn bosibl. Ac yn wir, mae'r achos busnes a gyflwynwyd gan fwrdd iechyd Aneurin Bevan yn dweud y bydd y ganolfan newydd yn cynyddu'r ystod o lawdriniaeth y fron y gellir ei chyflawni fel achosion dydd o 30 y cant i 70 y cant. Mae hynny'n digwydd yn Ysbyty Ystrad Fawr—maent yn gorfod ymestyn yr ysbyty i'w wneud. Dyna gyllid Llywodraeth Cymru sy'n cefnogi cleifion sydd â chanser y fron. Ac rwy'n meddwl, felly, yr hoffwn gyflwyno fy nghyfraniad heddiw i etholwr, Dawn Wilson. Roedd Dawn Wilson yn byw yn Ystrad Mynach a chafodd ddiagnosis o ganser y fron yn 2017. Bu farw Dawn ar ddechrau Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron ar 1 Hydref eleni, a threuliodd y blynyddoedd ers iddi gael y diagnosis terfynol yn ymgyrchu dros eraill i'w hatal rhag gorfod wynebu'r sefyllfa roedd hi ynddi. I gefnogi'r ymgyrch, rwy'n gwisgo fy nhei binc heddiw. Fe gymerodd yr ymgyrch Know Your Lemons, a ddeilliodd o waith Corrine Beaumont yn America—cymerodd yr ymgyrch honno fel ymgyrch godi ymwybyddiaeth a'i chyflwyno i Gymru. Y syniad yw bod yna boster gyda chyfres o lemonau a gallwch edrych ar y lemonau ac maent yn dangos y math o ganser y fron y gellid gwneud diagnosis ohono o edrych ar siâp y lemwn. Ac mae'n ganllaw gweledol clir iawn. Llwyddodd Dawn i gael GIG Cymru i fabwysiadu hynny. Ymgyrch Dawn ym mlynyddoedd olaf ei bywyd a lwyddodd i gael GIG Cymru i fabwysiadu'r ymgyrch honno, a lansiodd Llywodraeth Cymru yr ymgyrch oherwydd Dawn Wilson. Felly, i gloi fy sylwadau, hoffwn inni gydnabod y cyfraniad a wnaeth, ei chyfraniad anhunanol ym mlynyddoedd olaf ei bywyd. Cyfarfûm â hi yma yn y Senedd ddwy flynedd yn ôl, ac euthum i'w thŷ yn Ystrad Mynach i siarad â hi am yr ymgyrch. Felly, mae'n bleser cyflwyno'r cyfraniad hwn iddi hi heddiw. Nick Ramsay AC: Mae'r pandemig wedi tynnu sylw at lawer o bethau am ein GIG—gwydnwch ein staff, eu hymrwymiad i gleifion yn yr oriau ychwanegol niferus y maent wedi gweithio, a'r hyblygrwydd y mae cynifer o staff wedi'i ddangos i helpu i roi'r ymateb i'r pandemig ar waith. Mae'r pandemig hefyd wedi tynnu sylw at rai o'r gwendidau mewn system sydd wedi bod yn gwegian ers peth amser. Yn ei chyfraniad, dywedodd Janet Finch-Saunders fod rhestrau aros ar gynnydd cyn i'r argyfwng iechyd cyhoeddus hwn ddechrau, a gwyddom fod yr ôl-groniad mor fawr erbyn hyn fel y bydd angen gweithredu am flynyddoedd i'w gael yn ôl i'r hyn ydyw'n arferol. Yn wir, cyfaddefodd prif weithredwr GIG Cymru y pwynt hwnnw yr wythnos diwethaf. Wrth i ni nesáu at y gaeaf, rwy'n pryderu y bydd rhestrau aros yn tyfu'n hirach, fel y maent bob amser yn ei wneud ar yr adeg hon o'r flwyddyn, yn enwedig wrth i'r GIG ganolbwyntio ar bwysau COVID-19 a phwysau'r gaeaf. Mae hyn ar ei fwyaf amlwg yn fy ardal i yn ne-ddwyrain Cymru. Bydd angen i'r bobl wybod nawr pryd y gallant ddisgwyl triniaeth nid yn unig ar gyfer materion arferol ond mynediad at driniaethau sy'n achub bywydau hefyd. Ym mis Medi eleni, roedd 26,974 o bobl yn aros am fwy na 36 wythnos i ddechrau eu triniaeth yn ne-ddwyrain Cymru, pan fo'r targed yn sero, o'i gymharu â dim ond 1,313 flwyddyn yn ôl. Mae'n amlwg yn gynnydd aruthrol. Amlinellodd Coleg Brenhinol y Llawfeddygon, yn eu tystiolaeth ddiweddar i'r ymchwiliad a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, fod ôl-groniad sylweddol o lawdriniaethau dewisol yn bodoli yng Nghymru cyn y pandemig COVID-19, ac y byddai wedi cynyddu'n anochel. Ym mis Ionawr 2020, dangosodd yr ystadegau diwethaf ar amseroedd aros cyn y pandemig fod bron i hanner miliwn o bobl yn aros i ddechrau triniaeth, gyda 76,862 yn aros mwy na 26 wythnos. Y perygl yw y bydd angen llawdriniaethau cymhleth ar lawer o gleifion os nad yw eu triniaeth yn digwydd yn amserol, gan arwain yn rhy aml, fel y gwyddom, at symptomau sy'n gwaethygu a dirywiad yn eu cyflwr. Ddirprwy Lywydd, ar sawl achlysur yn y Siambr hon, rwyf wedi croesawu'r gwaith o adeiladu ac agoriad ysbyty newydd yn ddiweddar, Ysbyty Prifysgol Grange yng Nghwmbrân. Dylem i gyd fod yn uchelgeisiol ynglŷn â diwygio'r modd y darperir gwasanaethau er mwyn diwallu anghenion cleifion yn well, gyda chyfleusterau newydd, ffocws ar fodelau gofal arloesol a'r diweddaraf mewn technoleg ac offer. Mae'r prosiect hwnnw wedi bod yn cael ei ddatblygu bellach ers ymhell dros 10 mlynedd—cyn i mi gael fy ethol i'r lle hwn rwy'n credu, cofiaf gymryd rhan yng nghyfarfodydd dyfodol clinigol Gwent ar y pryd—ac o'r diwedd mae gennym y cyfleuster rhagorol hwn. Ond os yw cyfleusterau newydd yn mynd i fod yn effeithiol, rhaid iddynt gael adnoddau priodol gyda'r lefel gywir o staff. Mae angen osgoi unrhyw risg o brinder, ac mae angen i bobl wybod bod modd cyrraedd yr ysbyty mewn car ac ar drafnidiaeth gyhoeddus, oherwydd mae'r materion hyn wedi'u dwyn i fy sylw yn ystod yr wythnosau diwethaf. Y broblem yw, mae croesawu capasiti newydd yn ddigwyddiad rhy anghyffredin, ac mae'r gwrthwyneb yn wir am broblem amseroedd aros a rhestrau aros cynyddol—nid ydynt yn anghyffredin, ac maent yn rhywbeth y bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru ymateb iddynt yn y gorffennol. Yn yr ail Gynulliad, cyflwynodd y Gweinidog iechyd ar y pryd gynllun yr ail gynnig i leihau'r rhestrau aros a'r amseroedd aros drwy gynnig triniaeth mewn mannau eraill yn y GIG a thu allan i Gymru yn y sector annibynnol. Bryd hynny, cafodd llawer o bobl eu trin yn gyflymach. Yn wir, rhwng mis Ebrill a mis Medi 2005, cynigiwyd ysbytai amgen yn y sector preifat i gyfanswm o 495 o bobl o Went gael eu llawdriniaethau. A bod yn deg â'r Llywodraeth ar y pryd, dangosodd barodrwydd i edrych y tu hwnt i safbwyntiau gwleidyddol cul ynglŷn â thrin pobl y tu allan i Gymru a thu allan i'r GIG, a sicrhau ateb ymarferol i gleifion bryd hynny. Yng ngoleuni'r ffaith bod capasiti theatr ledled Cymru heb fod cystal ag y gallai fod ers peth amser, a yw Llywodraeth Cymru wedi archwilio'r opsiwn o gynyddu capasiti tymor byr, gan weithio efallai gyda darparwyr y tu allan i Gymru a allai fod â chapasiti i fynd i'r afael â hyn? Er y bydd holl gyrff y GIG ledled y DU yn rheoli'r ymateb i'r pandemig, byddwn yn gofyn i'r Gweinidog nodi a oes capasiti'n bodoli mewn mannau eraill ac os yw'n bosibl, i gwmpasu rhyw fath o gynllun ail gynnig efallai—cam 2, os hoffech—i fynd i'r afael â'r argyfwng pwysig hwn. Os na, beth arall y gellir ei wneud i archwilio'r gallu i gynyddu'r capasiti ymchwydd blaenorol a gyflwynwyd yn ystod y cyfyngiadau symud ledled y DU i ddiogelu'r GIG rhag ofn y bydd niferoedd COVID-19 yn dechrau tanseilio capasiti'r GIG o ddifrif? Mae angen capasiti ychwanegol nawr i fynd i'r afael â chanlyniadau'r pandemig i filoedd o bobl y mae eu hangen am ofal y GIG yr un mor bwysig ag y bu yn y gorffennol. Dai Lloyd AC: Mae'r pandemig COVID wedi effeithio'n gwbl drychinebus ar lawer iawn o bobl. Collwyd bywydau o COVID ac am resymau heb gysylltiad â COVID, ac mae bywydau eraill wedi cael eu newid am byth, wedi'u cyffwrdd gan alar, colled a thrychineb. Mae eraill yn parhau i ddioddef effaith wanychol COVID hir, ac mae hyn i gyd yn berthnasol i gleifion a phobl ym mhobman, ond hefyd i staff y GIG a staff gofal. Mae rhai staff wedi colli eu bywydau drwy fynd i'r gwaith. Mae'r cynnig yn cydnabod gwaith caled, ymroddiad ac ymrwymiad staff yn y sector gofal iechyd, ond weithiau, mae'r geiriau hyn yn llithro allan heb oedi. Realiti COVID: yr arswyd ar y wardiau yn y dyddiau cynnar heb gyfarpar diogelu personol digonol a phrofion annigonol a pheidio â gwybod, wardiau'n llawn ofn, staff yn teimlo'n agored i niwed ac mewn perygl. Gwelsom wasanaeth iechyd a oedd eisoes dan bwysau yn mynd y tu hwnt i ddyletswydd, gweithlu blinedig yn ceisio dal i fyny gyda galw rheolaidd yn ystod misoedd tawel yr haf fel y'u gelwir, cyn cael eu hymestyn eto nawr wrth i nifer yr achosion godi, wrth i ddefnydd gwelyau mewn ysbytai godi ac wrth i welyau mewn unedau gofal dwys lenwi eto. Y tro hwn, ymdrinnir ag achosion COVID ac achosion nad ydynt yn rhai COVID, ond nid yw'r capasiti yno. Mae trosglwyddiad feirysol asymptomatig yn golygu ymdrechu i gael wardiau sy'n rhydd o COVID, ond mae wardiau sy'n rhydd o COVID yn her enfawr ac mae'n debyg na ellir cyflawni hynny ar hyn o bryd. COVID-ysgafn yw'r gorau y gellir ei gael. Oherwydd yr angen i newid yr holl gyfarpar diogelu personol drwy'r amser, rhwng pob claf, mae'r ergyd i lif cleifion wedi bod yn enfawr. Felly, mae yna restr hir o bethau i'w gwneud, ac mae'r gwahanol golegau brenhinol yn dweud wrthym beth i'w wneud. Mae 'n dal i fod angen i ni gael rheolaeth ar COVID, ac mae gan lawer o feddygon bryderon enfawr o hyd am wasanaeth profi ac olrhain a breifateiddiwyd Llywodraeth y DU, gyda rhai meddygon yn ei alw'n gamgymeriad angheuol. Creu system brofi ac olrhain o'r dechrau gan ddefnyddio cwmnïau preifat, heb fod unrhyw brofiad ym maes iechyd y cyhoedd gan yr un ohonynt, ynghanol pandemig, ar wahân i system brofi ac olrhain iechyd y cyhoedd y GIG a oedd yn bodoli eisoes—hynny yw, beth allai fynd o'i le? Mae system gysylltu hynod effeithlon yn hanfodol, ac mae ynysu â chymorth yn allweddol. Talu £800 i bobl hunanynysu, cysylltu â phobl sy'n hunanynysu yn rheolaidd bob dydd, trefnu llety mewn gwesty lle bo'n briodol—mae'n gweithio mewn gwledydd eraill. Rhaid cefnogi a galluogi'r hunanynysu er lles pob un ohonom. Mae profion ac olrhain cysylltiadau iechyd y cyhoedd a GIG lleol yn gweithio'n hynod o dda. Mae angen inni ymdrechu nid yn unig i wneud hynny, a diddymu system breifat y DU sydd wedi'i llesteirio gan oedi, camgymeriadau a methiant, gan arwain at olrhain oddeutu 20 i 30 y cant yn unig o bobl sy'n gysylltiadau, pobl a ddylai fod yn hunanynysu, hunanynysu go iawn. Mae'r gweddill yn lledaenu'r feirws o gwmpas heb wybod. Mae angen i ni ailgyfeirio adnoddau i iechyd y cyhoedd y GIG a meddygon teulu, gan brofi ac olrhain cysylltiadau fel rydym bob amser wedi'i wneud ar gyfer unrhyw glefyd heintus hysbysadwy arall dros y blynyddoedd—TB, malaria, salmonela, y frech goch ac yn y blaen ac yn y blaen. Cynnwys meddygon teulu yn y drefn brofi ac olrhain, cyflenwi ocsifesuryddion pwls i bobl a gofal sylfaenol. Gellir mynd i'r afael â COVID yn y gymuned yn ddiogel y tu allan i ysbytai, mae profi ac olrhain yma ar gyfer y tymor hir, felly gadewch i ni gynllunio'n iawn ar gyfer y tymor hir. Yn olaf, mae effaith drychinebusCOVID yn gyffredin i'r holl wasanaethau iechyd. Gwyddom am yr amseroedd aros hirach yma yng Nghymru. Dros y ffin, nid yw'r sefyllfa yn Lloegr dan arweiniad y Ceidwadwyr yn well—mae'n waeth, os rhywbeth. Cyrhaeddodd nifer y bobl yn Lloegr a oedd yn aros mwy na 52 wythnos am driniaeth ddewisol 139,545 ym mis Medi 2020. Nid yw hynny'n 10 gwaith yn fwy na'r flwyddyn flaenorol, nid yw'n 20 gwaith yn fwy na'r flwyddyn flaenorol, nid yw'n 50 gwaith yn fwy na'r flwyddyn flaenorol, mae'n 107 gwaith yn fwy na'r nifer ym mis Medi 2019. Mae brechlynnau'n ddarganfyddiad gwych, yn newid pethau'n llwyr, ond nid yw hynny'n digwydd eto. Mae gennym dymor salwch y gaeaf o hyd a phandemig COVID rhemp i fynd i'r afael ag ef yn gyntaf, gyda staff blinedig o dan bwysau ym mhobman. Gallwn i gyd wneud ein rhan. Mae angen i Lywodraeth Cymru roi trefn ar brofi ac olrhain cysylltiadau nawr, a chael hunanynysu â chymorth yn weithredol cyn gynted â phosibl. Mark Isherwood AC: Er fy mod yn derbyn nifer fawr o negeseuon e-bost ynglŷn ag oedi sy'n gysylltiedig â COVID yn GIG Cymru, mae pob un ohonynt yn cydnabod gwaith caled, ymroddiad ac ymrwymiad staff yn y sector gofal iechyd. Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn disgrifio'r cynnydd yn nifer y cleifion sy'n aros am bob triniaeth yn GIG Cymru o'i gymharu â mis Medi 2019 fel tuedd a welwyd ym mhob rhan o'r DU. Mae hyn yn wir wrth gwrs ac yn anochel. Fodd bynnag, er gwaethaf y gwaith gwych a wnaethpwyd gan GIG Cymru yn gofalu am bobl sydd wedi dal COVID-19, mae'r pandemig wedi tynnu sylw at broblemau yn ein GIG yng Nghymru o ganlyniad i dros ddau ddegawd o bolisïau Llafur Llywodraeth Cymru. Roedd niwroleg eisoes yn cael ei danariannu'n helaeth yng Nghymru cyn y pandemig, gyda bylchau mawr yn y gwasanaethau a ddarperir yn arwain at oedi o fisoedd, a blynyddoedd weithiau cyn cael diagnosis, diffyg gofal dilynol a chymorth cymunedol, yn ogystal â lefelau isel o fynediad at ofal arbenigol a gofal diwedd oes. O ran mynediad at wasanaethau a thriniaethau, dangosodd arolwg gan y Gymdeithas MS yn 2019 fod Cymru eisoes ar ei hôl hi o gymharu â gweddill y DU cyn y pandemig, gyda 42 y cant o bobl yng Nghymru ag angen nas diwallwyd am ffisiotherapi o'i gymharu â 30 y cant yn Lloegr, a bod 70 y cant o'r bobl yng Nghymru sy'n byw gydag MS heb gael unrhyw gymorth emosiynol na seicolegol , o'i gymharu â 13 y cant ledled y DU. Datgelodd arolwg Cynghrair Niwrolegol Cymru ar effaith y pandemig coronafeirws fod iddo oblygiadau mawr o ran darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i bobl sy'n byw gyda chyflyrau niwrolegol, gyda gwasanaethau a thriniaethau wedi eu gohirio neu eu hatal. Ar ôl i mi ofyn i'r Prif Weinidog yn gynharach y mis hwn pryd y bydd llawdriniaethau hanfodol yn ailddechrau ar gyfer plant neu oedolion ag epilepsi sy'n agored iawn i niwed, ysgrifennodd i ddweud nad yw llawdriniaethau epilepsi wedi dod i ben. Fodd bynnag, mae ystadegau episodau ysbyty yn dangos niferoedd llawer is ac amseroedd aros hwy ar gyfer llawdriniaethau a llawfeddygaeth i ysgogi'r nerf fagws yng Nghymru o'i gymharu â Lloegr. Dywedwyd wrthyf na fu unrhyw feddygfeydd ysgogi'r nerf fagws i oedolion, naill ai mewnblaniadau newydd neu ailosod batri, ers i'r pandemig ddechrau ym mis Mawrth, gan arwain at amddifadu pobl o'r llawdriniaeth a'r therapi hanfodol sydd eu hangen arnynt. Ym mis Awst, cyfarfûm ag ymgyrchwyr Cymorth Canser Macmillan ar-lein i drafod eu profiad o'r effaith ofidus y mae'r pandemig coronafeirws yn ei chael ar wasanaethau canser yng Nghymru. Mae Cymorth Canser Macmillan wedi nodi y bydd ôl-groniad Lloegr o gleifion canser yn cymryd llai o amser i fynd drwyddo nag yng Nghymru, lle roedd yr amser aros canolrifol i gleifion sy'n aros i ddechrau triniaeth ddiwedd mis Medi yn Lloegr yn llai na hanner yr hyn ydoedd yng Nghymru. Erbyn 29 Ebrill, sefydlwyd 21 o hybiau canser rhydd o COVID yn Lloegr, sy'n cael eu rhedeg gan gynghreiriau canser. Mae GIG yr Alban a GIG Gogledd Iwerddon hefyd wedi defnyddio capasiti ysbytai annibynnol i sefydlu hybiau canser rhydd o COVID. Fodd bynnag, fel y dywedodd Cymorth Canser Macmillan, mae Cymru ar ei hôl hi o gymharu â Lloegr mewn perthynas â sefydlu hybiau rhydd o COVID-19 i drin cleifion canser yng Nghymru. Mae gan yr Alban a Lloegr gynlluniau ar waith ers sawl mis i sicrhau bod cleifion canser yn cael eu gweld ac yn cael llawdriniaeth yn gyflym. Fodd bynnag, fel y dywedodd Cymorth Canser Macmillan, mae angen i Lywodraeth Cymru sefydlu cynllun adfer COVID-19 llawn ar gyfer gwasanaethau canser a mynd i'r afael ag ôl-groniad gofal canser na fydd ond yn parhau i dyfu bob tro y bydd tarfu ar wasanaethau canser yng Nghymru yn sgil y pandemig hwn. Mae eu hymchwil yn dangos y gallai tua 2,900 o bobl yng Nghymru fod yn byw gyda chanser heb gael diagnosis oherwydd y pandemig. Fel y dywedasant, mae'n gwbl amhriodol i Lywodraeth Cymru awgrymu y byddai cynllun ar gyfer clirio'r ôl-groniad canser sydd eisoes yn sylweddol yn 'ffôl'. Ni all canser aros i'r pandemig ddod i ben, meddant, ac mae Macmillan am sicrhau nad canser yw'r 'c' a anghofiwyd yn sgil y pandemig. Mae Ymchwil Canser Cymru wedi rhybuddio y gallai fod canser ar lawer o'r bobl na chafodd wahoddiad oherwydd yr oedi i wasanaethau sgrinio am ganser, pobl sy'n gohirio gweld eu meddyg teulu oherwydd eu bod ofn COVID-19 neu bobl sy'n pryderu ynglŷn ag ychwanegu at bwysau'r GIG. Oni chaiff hyn sylw'n gyflym, roeddent yn dweud y bydd y canlyniadau i gleifion yng Nghymru yn llai cadarnhaol, fod gan Gymru enw gwael eisoes mewn perthynas â chanlyniadau canser ac y bydd yn cael ei niweidio'n sylweddol yn y blynyddoedd i ddod, ac mai drwy gynllun adfer COVID-19 ar gyfer gwasanaethau canser y bydd Cymru'n gallu deall maint yr her ac yn gallu dwyn ynghyd y dulliau o bob rhan o Gymru. Fel y dywed ein cynnig felly, mae angen cynllun adfer canser ar Gymru, fel y gwelir mewn mannau eraill ledled y DU. Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol? Vaughan Gething AC: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl heddiw ac ymdrin â gwelliannau a sylwadau'r Llywodraeth a wnaethpwyd yn ystod y ddadl. Mae'n ffaith ein bod, cyn y pandemig COVID, wedi gweld pedair blynedd o welliant parhaus mewn amseroedd aros ledled Cymru. Yn y flwyddyn ddiwethaf, dilynodd cyflymder y gwelliant o ganlyniad uniongyrchol i'r materion treth a phensiwn ledled y DU. Fel pob gwlad, mae'r pandemig wedi effeithio ac yn parhau i effeithio ar ein gallu i drin pob claf mor effeithlon ag yr hoffem—pwyntiau a gafodd eu cydnabod a'u nodi'n dda yng nghyfraniad Dai Lloyd. Fel y dengys ystadegau mis Medi, mae llawer o gleifion bellach yn aros yn hwy o lawer. Mae'r ystadegau hynny'n dangos bod yr amseroedd aros dros 36 wythnos wedi cynyddu chwe gwaith rhwng mis Chwefror a mis Medi eleni. Fel rhannau eraill o'r DU, byddwn yn gweld cynnydd pellach wrth i ni ymateb i'r coronafeirws yn ystod yr argyfwng iechyd cyhoeddus hwn. Efallai y dylwn fynd i'r afael ar y pwynt hwn â rhai o'r sylwadau am y capasiti yn Lloegr neu'r sector annibynnol. Mae gennym eisoes drefniadau ar waith gyda'r sector annibynnol drwy gydol y pandemig. Rydym eisoes yn defnyddio gweithgarwch y sector annibynnol o bryd i'w gilydd i ymdrin â chynlluniau rhestrau aros. Nid oes dim yn newydd yn hynny. Fodd bynnag, mae'n annhebygol y bydd y capasiti a ddefnyddir yn rheolaidd yn system Lloegr ar gael i ni oherwydd maint sylweddol yr ôl-groniad y bydd yn rhaid iddynt ymdrin ag ef. Yn anffodus, fel yr amlygwyd yn ddiweddar yn adroddiad y cyngor iechyd cymuned ddoe, bydd cyflwr rhai cleifion yn gwaethygu tra byddant yn aros. Mae hyn yn atgyfnerthu'r angen i reoli lledaeniad y coronafeirws ac i gynyddu nifer y llawdriniaethau a gynlluniwyd mor ddiogel a chyflym â phosibl. Mae'r coronafeirws wedi effeithio ar bron bob agwedd ar ofal iechyd, o ddysgu sut i drin a gofalu am bobl sy'n ddifrifol wael gyda COVID, trin COVID hir—rydym yn dal i ddysgu mwy am y cyflwr—i wneud newidiadau ffisegol i glinigau, meddygfeydd a theatrau llawdriniaethau er mwyn diogelu staff a chleifion rhag y risg o ddal y feirws hynod heintus hwn. Ac rwy'n parhau i fod yn hynod ddiolchgar i'n GIG ymroddedig a'n staff gofal cymdeithasol am eu hymrwymiad a'u tosturi yn ystod y cyfnod digynsail hwn. Vaughan Gething AC: Yn y cyfweliad diweddar arBBC Wales Investigates, disgrifiais yn glir pam mai ein blaenoriaeth o reidrwydd yw ymateb i'r pandemig mewn ffordd strwythuredig a phwyllog. Mae hyn yn golygu datblygu dulliau i gefnogi'r cleifion sydd â'r angen mwyaf am driniaeth wedi'i chynllunio, a nodais hefyd ein bod eisoes yn edrych ar gamau ehangach i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae gennym ffordd ymlaen wedi'i chytuno ar lefel bwrdd iechyd ar gyfer trin COVID-19 a chynnal gwasanaethau hanfodol fel canser, ac yn sicr nid dyna'r 'c' a anghofiwyd yn ystod y pandemig hwn. Nodir y disgwyliadau hynny yn y fframwaith cynllunio chwarterol a drafodwyd gennym eto yn y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon heddiw. Mae canllawiau manwl o fewn hynny ar ganser a gwasanaethau cysylltiedig eraill, megis endosgopi. Felly, mae gan y byrddau iechyd gynlluniau ar waith i ymateb i hyn, ac rydym yn parhau i weithio'n agos gyda hwy wrth inni ddeall a monitro'r ddarpariaeth. Er hynny, mae'r pandemig wedi cael effaith dorcalonnus ar wasanaethau sy'n gofalu am bobl â chanser a thriniaethau eraill sy'n effeithio ar fywyd, ac mae ein prif swyddog meddygol wedi bod yn glir iawn fod sawl ffordd y bydd y pandemig yn achosi niwed, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol. A dylwn nodi sylwadau Hefin David am ei etholwr, Dawn Wilson, ar y pwynt hwn. Cyfarfûm â Dawn cyn cymeradwyo a chefnogi ymgyrch Know Your Lemons, ac rwy'n cydnabod yr effaith a gafodd, ac roedd yn weithred gwbl anhunanol ar ei rhan i dreulio gweddill ei hoes yn ymgyrchu dros eraill. Un neges allweddol yn ein cyfathrebiad cenedlaethol sydd ar y ffordd fydd parhau i amlygu ac atgyfnerthu'r angen i gleifion gysylltu â'n GIG gydag unrhyw arwyddion neu symptomau canser. Bydd hyn yn parhau yn yr ymgyrch newydd, Helpwch Ni i'ch Helpu Chi. Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid, fel Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac Undeb Rygbi Cymru i gefnogi ein negeseuon, gyda fideos ffocws, gan gynnwys rhai gan ffigyrau o'r byd pêl-droed a staff go iawn y GIG. Mae byrddau iechyd yn gorfod ymdrin â sefyllfa na welwyd ei thebyg o'r blaen, ac nid oes atebion gweithredol na moesegol syml i hyn. Mae popeth y gellir ei wneud yn cael ei wneud. Mae popeth y gellir ei ddarparu yn cael ei ddarparu. Ac rydym yn dal i ddysgu ac mae angen i ni addasu wrth i'n sylfaen dystiolaeth newid, wrth i'n gwybodaeth newid. Felly, mae'r Llywodraeth yn parhau i ganolbwyntio ar fynd i'r afael â'r maes pwysig hwn. Mae fy swyddogion yn parhau i weithio gyda chlinigwyr i nodi opsiynau ar gyfer sut y gall arian ychwanegol a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth y DU ein helpu i fynd i'r afael â'r heriau sylweddol a ddaw yn sgil oedi cyn cael triniaeth, nid yn unig dros y misoedd nesaf, ond dros dymor Senedd Cymru cyfan. Ein blaenoriaeth fydd lleihau'r risg o oedi a chefnogi blaenoriaethu clinigol. Fel y nododd prif weithredwr GIG Cymru yr wythnos diwethaf, mae angen mesurau diogelwch ychwanegol i ddiogelu cleifion a staff, ac maent yn parhau i fod yn flaenoriaeth gan fod nifer y cleifion sydd â COVID yn parhau i fod yn uchel ym mhob un o'n lleoliadau gofal iechyd mewn gofal sylfaenol ac eilaidd. Mae hyn yn effeithio ar y math o wasanaethau sydd ar gael i drin cleifion eraill yn ogystal â'u maint. Felly, rydym yn parhau i archwilio ffyrdd o sicrhau'r llif mwyaf posibl o gleifion i mewn ac allan o driniaeth. Mae hynny'n cynnwys adolygu trefniadau rhyddhau diogel o'r ysbyty a'r ffordd orau o ddefnyddio ein hystâd ysbytai a gofal sylfaenol, gan gynnwys ysbytai maes. Rwyf am ymdrin â'r opsiwn o ysbytai gwyrdd, neu fel y dywed y cynnig—ymadrodd gwahanol—ysbytai sy'n rhydd o COVID. Mae'n swnio'n syniad deniadol, ond nid yw'n hawdd ei wneud, ac rwy'n cytuno â Dai Lloyd nad wyf yn credu ei fod yn ateb ymarferol mewn gwirionedd. Er enghraifft, mae angen inni wybod pa effaith y byddai hyn yn ei chael ar fynediad lleol at wasanaethau brys, gan gynnwys gwasanaethau mân anafiadau, amseroedd teithio a straen ar adnoddau ambiwlans yn ystod y gaeaf. Yr ysbytai sy'n rhydd o COVID, fel y'u gelwir, a gefnogir gan y Torïaid—. Ac os ydynt o ddifrif am wneud hynny, mae angen inni fod yn glir ynglŷn â'r hyn y mae hynny'n ei olygu: felly, pa ysbyty yng ngogledd Cymru na fyddai ag adran damweiniau ac achosion brys mwyach? Ai Llwynhelyg neu Glangwili fyddai'n colli eu hadran damweiniau ac achosion brys neu fân anafiadau, neu lawdriniaeth frys, a sut y byddai mynediad mamolaeth yn cael ei drefnu? Oherwydd ym mhob un o'r pethau hyn, nid ydynt yn gydwedd ag ysbyty sy'n rhydd o COVID. Mae arnaf ofn nad yw'r slogan 'rhydd o COVID' yn ateb difrifol ac ymarferol i GIG Cymru nawr, ac mewn gwirionedd, mae Coleg Brenhinol y Llawfeddygon yng Nghymru wedi dweud yn glir fod ganddynt ddiddordeb mewn parthau COVID-ysgafn o fewn ein hystâd fel ateb ymarferol, fel y nododd Richard Johnson yn ddiweddar. A dylwn ei gwneud yn glir wrth gwrs, mewn perthynas â sylwadau Dr Lloyd am olrhain cysylltiadau, mae profi, olrhain, diogelu yng Nghymru yn gyhoeddus ac mae'n cyflawni i safon uchel. Mae gan ein hysbytai maes rôl i'w chwarae yn cefnogi capasiti a llif, ond nid yw'n bosibl darparu llwybrau dewisol mewn ysbyty maes. Ac rwy'n credu o bosibl nad oedd sylwadau ar y mater gan Janet Finch-Saunders yn ystyried nac yn deall yn llawn y rôl y gallant ei chwarae ac y byddant yn ei chwarae ar y cam hwn o'r pandemig. Er enghraifft, mae llawer o driniaethau'n galw am ofal ôl-lawfeddygol a chyfleusterau ychwanegol wrth gefn, gan gynnwys gofal dwys. Wrth gwrs, nid oes theatrau llawdriniaethau ar gael mewn ysbytai maes. Mae'r GIG wedi ymateb yn wych i'r argyfwng iechyd cyhoeddus mawr a digynsail hwn. Mae ein staff wedi dangos hyblygrwydd aruthrol i ddarparu gwasanaethau, i gleifion COVID a chleifion nad ydynt yn rhai COVID. A chredaf fod ein staff GIG a'u cydweithwyr ar draws y sector cyhoeddus yn haeddu codiad cyflog priodol i adlewyrchu hyn. Mae hynny'n golygu athrawon, cynorthwywyr addysgu, glanhawyr, cogyddion, swyddogion iechyd yr amgylchedd, a'u cydweithwyr ar draws llywodraeth leol, yr heddlu, a'r lluoedd arfog, sydd wedi helpu cymaint yn ein hymateb i COVID yma yng Nghymru a ledled y DU. Mae'r holl weision cyhoeddus hyn, a'u cydweithwyr, yn haeddu cymaint gwell na'r gic a gawsant heddiw gan y Canghellor. Byddwn ni yma yng Nghymru yn dal ati i weithio gyda'n GIG a'u partneriaid ac yn parhau i'w gwerthfawrogi, wrth inni barhau i wynebu heriau digynsail y pandemig hwn yn y misoedd nesaf, ac yn y blynyddoedd nesaf, a'r adferiad a fydd yn digwydd pan fydd y pandemig ar ben o'r diwedd. Diolch. Bwriadaf alw yn awr ar yr Aelodau sydd wedi gofyn am gael ymyriad. Rhun ap Iorwerth, sylwaf eich bod yn ôl gyda ni bellach; a ydych chi eisiau gwneud gwerth munud o ymyriad? Rhun ap Iorwerth AC: Diolch yn fawr iawn. Mae'n rhyfeddol ei bod hi wedi cymryd cymaint â saith neu wyth mis i golli trydan yn y tŷ ar ryw bwynt yn ystod sesiwn yn y Senedd, ond dwi'n falch o allu dod yn ôl. Yr oll oedd gen i ar ôl i'w wneud yn fy nghyfraniad i oedd cyfeirio at yr hyn roeddem ni'n trio ei wneud drwy'n gwelliant ni. Rydyn ni'n meddwl bod angen adolygu y targedau sy'n cael eu defnyddio i ystyried sut maen nhw'n annog ymddygiad yn y byrddau iechyd, ac os ydyn nhw'n mesur y pethau iawn. Roeddwn i hefyd am ddweud ein bod ni hefyd yn meddwl, am bod yr ysbytai enfys gennym ni i ddarparu capasiti, y dylem ni ddefnyddio hynny i hybu llif drwy'r system. Ac i wneud y pwynt i gloi, mae COVID yn argyfwng ynddo fo'i hun, ond mae o wedi creu argyfwng arall, wrth gwrs, allan o'r pwysau oedd eisoes yn y system. Mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni weld mwy o frys a gweithredu mwy pwrpasol i ymateb iddo fo. Ond, Dirprwy Lywydd, diolch am y cyfle i gau pen y mwdwl yn y ffordd yna. Diolch. Ac Andrew R.T. Davies. Andrew RT Davies AC: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Roeddwn am ailadrodd fy mod yn credu bod safbwynt y Ceidwadwyr ar gyfyngiadau'r cyfnod atal byr yn safbwynt cyson, a phe bai'r bleidlais honno'n dod heddiw, byddem yn sefyll wrth y bleidlais honno ac yn pleidleisio yr un ffordd. Oherwydd roedd cyngor SAGE ddiwedd mis Medi hefyd yn tynnu sylw at y ffaith nad oedd effeithiolrwydd a chanlyniadau cyfnod atal byr o'r fath, neu'r cyfyngiadau symud—beth bynnag y dymunwch ei alw—yn wybyddus, ac mewn gwirionedd mae'r niwed hwnnw'n llawer mwy. Rydym yn cefnogi cyfyngiadau i atal y feirws—nid ydym yn dweud na ddylid cael cyfyngiadau; rydym yn cefnogi hynny. Ac rydym yn cefnogi'r cyfyngiadau lleol, a fyddai wedi cael mwy o effaith na rhai o'r mesurau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyflwyno hyd yma. Felly roeddwn eisiau cofnodi hynny, oherwydd yn anffodus nid yw'r amodau gweithredu'n caniatáu'r ymyriad. [Torri ar draws.] Na, ni allwch wneud hynny, mae arnaf ofn; ni all neb ymateb i unrhyw ymyriad, mae arnaf ofn. Rwy'n mynd i alw ar Angela Burns i ymateb i'r ddadl. Angela. Angela Burns AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Nid oes gennyf lawer o amser, felly nid wyf yn mynd i allu crybwyll cyfraniadau unigol pawb. Hoffwn ddweud fy mod yn ddiolchgar iawn am y cywair y cynhaliwyd y rhan fwyaf o'r ddadl hon ynddo—yn anffodus nid y cyfan. Nid yw hyn yn ymwneud ag anelu cic at y GIG a'r bobl sy'n gweithio mor eithriadol o galed ynddo, na'r meddygon a'r nyrsys. Yn wir, nid yw hyd yn oed yn gic wedi'i hanelu at y Llywodraeth fel y cyfryw, oherwydd, gadewch inni fod yn glir, roedd y pandemig hwn yn rhywbeth na welodd yr un ohonom erioed mohono'n dod, ac mae llawer o bobl mewn llawer o sefydliadau, cyhoeddus a phreifat, wedi camu i'r adwy mewn ffordd na welwyd ei thebyg o'r blaen. Ac i bob un ohonynt, mae fy niolch yn enfawr. Ond y gwir bryder y tu ôl i hyn i gyd yw bod gennym fwy na COVID yn ein bywydau, mae gennym lawer o afiechydon eraill, llawer o glefydau eraill. Ac nid yw'n ymddangos bod gennym gynllun, a dyna'r hyn rydym yn galw amdano, ac rydym wedi galw amdano'n glir iawn yn ein gwelliant heddiw. Mae gan wahanol fyrddau iechyd ffyrdd gwahanol o ymdrin â'u rhan hwy ohono. Nid yw'n glir i gleifion. Felly, rwyf am nodi'n gyflym iawn pam y credaf fod angen cynllun arnom. Mae arnom angen cynllun i roi gobaith i gleifion. Mae gormod o bobl yn ysgrifennu at ormod ohonom yn rhy aml i ddweud na allant gael mynediad at driniaeth, maent yn poeni'n fawr, ni allant gael y diagnosis sydd ei angen arnynt, dywedwyd wrthynt y gallai fod canser arnynt, nad yw eu calon mewn cyflwr gwych, cawsant brawf coluddyn flwyddyn yn ôl ac maent i fod i gael prawf dilynol. Mae'r bobl yn ofnus, maent angen gwybod bod gan y Llywodraeth gynllun clir. Mae angen inni gael cynllun i gefnogi'r staff ymroddedig, a blinedig a dweud y gwir. Mae angen iddynt wybod bod yna ffordd ymlaen, nad COVID, COVID, COVID yn unig fydd hi. Mae angen inni gael cynllun i sicrhau bod yr holl fyrddau iechyd yn y lle iawn ar yr adeg iawn—nad oes gennym loteri cod post. Mae rhai byrddau iechyd wedi cyflawni'n eithriadol o dda yn ystod y pandemig hwn, ac eraill yn llai felly. Bydd cynllun clir ar sut rydym yn mynd i ddal i fyny gyda'r amseroedd aros hyn, gyda'r ôl-groniad hwn, yn helpu i godi pawb i'r un lefel a sicrhau tegwch. Mae arnom angen cynllun i fanteisio i'r eithaf ar sgiliau ac ymrwymiad y timau arbenigol, er mwyn rhoi hyder i'r gweithwyr proffesiynol. Rhaid inni gael cynllun i ateb pryderon ac ofnau'r sefydliadau niferus. Ni allaf eu rhestru i gyd, ond mae gennym Gynghrair Canser Cymru, mae gennym Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, Asthma UK, Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint, Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi, Sefydliad Prydeinig y Galon, Coleg Brenhinol y Llawfeddygon, y Gymdeithas Sglerosis Ymledol a Choleg Brenhinol y Seiciatryddion. Mae'r bobl hyn yn gwybod eu gwaith, ac maent yn codi pryderon am y diffyg cynllun. Mae angen inni gael cynllun i sicrhau ein bod yn gwneud cystal â'r gwledydd cartref eraill. Ac mae angen cynllun arnom i sicrhau bod y cydweithio rhanbarthol yn gweithio'n effeithiol iawn—os na allwch gael eich triniaeth yn Hywel Dda, fod modd i chi fynd i fyny'r ffordd. Os na allwch gael eich triniaeth yn Betsi Cadwaladr, gallwch fynd i fwrdd iechyd arall. A hyd yn oed yn bwysicach, Weinidog, os na allwch gael eich triniaeth yng Nghymru, y bydd eich porthgeidwaid yn camu lawr ac yn caniatáu i chi fynd i wledydd eraill lle gallai peth o'r driniaeth arbenigol hon fod ar gael o hyd. Mae fy amser ar ben, Weinidog, fel y mae fy amserydd—gall pawb ohonoch ei glywed mae'n debyg, ac nid wyf yn gwybod sut i'w ddiffodd—yn dweud. Hoffwn ddweud, nid yw'n fater o ddweud wrth y GIG, 'Nid ydych yn ei wneud yn dda.' Rydych chi wedi bod yn rhyfeddol. Ond mae'n ymwneud â dweud, 'Nid dim ond cadw ein llygaid ar dân mawr COVID yw ein dyletswydd ni nawr', oherwydd os nad edrychwn ar yr holl danau bach eraill sy'n parhau i losgi, hwy fydd y rhai a fydd yn llosgi ein hadeilad i'r llawr yn y pen draw, ac ni allwn fforddio hynny, ac nid yw ein dinasyddion yn haeddu hynny. Felly, gofynnaf i chi gefnogi'r cynnig heddiw. Diolch yn fawr iawn. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Clywais hynny, diolch. Rwy'n gohirio'r pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Ac yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, rwy'n atal y cyfarfod am bum munud cyn symud ymlaen at y cyfnod pleidleisio, ac yn ystod y cyfnod hwnnw bydd cymorth TG wrth law i helpu gydag unrhyw broblemau. Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 18:23. Ailymgynullodd y Senedd am 18:29, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair. 9. Cyfnod Pleidleisio Rydym yn awr wedi cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac mae'r bleidlais gyntaf heno ar y ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod, Bil cynllun dychwelyd ernes a lleihau gwastraff. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Janet Finch-Saunders. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 34, mae 18 yn ymatal, un yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil Cynllun Dychwelyd Ernes a Lleihau Gwastraff: O blaid: 34, Yn erbyn: 1, Ymatal: 18 Derbyniwyd y cynnigCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Symudwn yn awr at bleidlais ar ddadl y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar y fframwaith datblygu cenedlaethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant naw, un yn ymatal, 43 yn erbyn. Gan hynny, gwrthodir gwelliant 1. Dadl y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Gwelliant 1 (cyflwynwyd yn enw Sian Gwenllian): O blaid: 9, Yn erbyn: 43, Ymatal: 1 Gwrthodwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant naw, 10 yn ymatal, 34 yn erbyn. Gan hynny, gwrthodir gwelliant 2. Dadl y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Gwelliant 2 (cyflwynwyd yn enw Sian Gwenllian): O blaid: 9, Yn erbyn: 34, Ymatal: 10 Gwrthodwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 41, tri yn ymatal, naw yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig. Dadl y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 41, Yn erbyn: 9, Ymatal: 3 Derbyniwyd y cynnigCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Trown yn awr at bleidlais ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar effaith COVID-19 ar wasanaethau iechyd, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os gwrthodir y cynnig, pleidleisiwn ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 13, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Felly, gwrthodir y cynnig. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Effaith Covid-19 ar Wasanaethau Iechyd - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 13, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0 Gwrthodwyd y cynnigCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Pleidleisiwn ar y gwelliannau a galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 29, tri yn ymatal, 21 yn erbyn. Gan hynny, derbynnir gwelliant 1. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gwelliant 1 (Cyflwynwyd yn enw Rebecca Evans): O blaid: 29, Yn erbyn: 21, Ymatal: 3 Derbyniwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Galwaf am bleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 29, dau yn ymatal, 22 yn erbyn. Gan hynny, derbynnir gwelliant 2. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gwelliant 2 (Cyflwynwyd yn enw Rebecca Evans): O blaid: 29, Yn erbyn: 22, Ymatal: 2 Derbyniwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Galwaf am bleidlais ar welliant 3 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 29, tri yn ymatal, 21 yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 3. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gwelliant 3 (Cyflwynwyd yn enw Rebecca Evans): O blaid: 29, Yn erbyn: 21, Ymatal: 3 Derbyniwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Galwaf am bleidlais ar welliant 4 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 28, un yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 4. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gwelliant 4 (Cyflwynwyd yn enw Rebecca Evans): O blaid: 28, Yn erbyn: 24, Ymatal: 1 Derbyniwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Galwaf am bleidlais ar welliant 5, a gyflwynwyd yn yr enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 29, tri yn ymatal, 21 yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gwelliant 5 (Cyflwynwyd yn enw Rebecca Evans): O blaid: 29, Yn erbyn: 21, Ymatal: 3 Derbyniwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 6 a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 19, pedwar yn ymatal, 30 yn erbyn. Felly, gwrthodir gwelliant 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gwelliant 6 (Cyflwynwyd yn enw Sian Gwenllian): O blaid: 19, Yn erbyn: 30, Ymatal: 4 Gwrthodwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd. Cynnig NDM7489 fel y'i diwygiwyd: Cynnig bod y Senedd: 1.Yn nodi bod yr ystadegau ar gyfer Cymru a gyhoeddwyd ar 19 Tachwedd yn dangos cynnydd o 11y cant yng nghyfanswm y niferoedd sy’n aros am driniaeth rhwng mis Medi 2019 a mis Medi 2020, ac mai nifer yr arosiadau dros y targed cenedlaethol o 36 wythnos sydd naw gwaith yn fwy, tuedd sydd i’w gweld ym mhob rhan o’r DU. 2. Yn nodi ymhellach y rhybudd gan arbenigwyr ac elusennau canser blaenllaw y gallai 2,000 o bobl farw oherwydd oedi sy'n gysylltiedig â COVID-19 yn GIG Cymru. 3. Yn cydnabod gwaith caled, ymroddiad ac ymrwymiad staff yn y sector gofal iechyd sy'n cefnogi cleifion nid yn unig â'r coronafeirws ond ag amrywiaeth o gyflyrau. 4.Yn gresynu y bydd Cymru, y DU, a’r byd yn byw gydag effeithiau COVID-19 am flynyddoedd lawer. Yn nodi bod cynlluniau’r GIG, tra maeCOVID yn dal i fod yn ein cymuned, yn canolbwyntio ar gydbwyso darparu gwasanaethauCOVID a gwasanaethau eraill yn ddiogel. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a)gweithio gyda chlinigwyr lleol i ddarparu modelau cyflawni sy’n gwneud y mwyaf o’r holl adnoddau i ddarparu gofal diogel o safon ar gyfer llwybrau COVID a llwybrau eraill ar gyfer cymunedau lleol; b) cynnal adolygiad brys o sut mae cleifion ysbyty yng Nghymru yn cael eu rhyddhau yn ystod y pandemig a gweithredu'r canfyddiadau hynny i fynd i'r afael â thagfeydd mewn ysbytai, fel yr argymhellwyd gan Goleg Brenhinol y Ffisigwyr; c) gwella ei threfn brofi'n sylweddol er mwyn cynyddu capasiti a sicrhau bod COVID-19 yn cael ei ynysu a'i gadw allan o ysbytai Cymru; d)parhau i weithio gyda’r rhwydwaith canser a’r GIG i sicrhau y gall gwasanaethau canser ateb galwadau newydd a’r galw presennol, a chytuno sut i fuddsoddi yn y dyfodol i wireddu’r ymrwymiad y cytunwyd arno ar gyfer profion diagnostig cyflym; e)parhau â’n hymgyrchgenedlaethol i sicrhau bod pobl sy'n amau bod ganddynt ganser, neuy mae angen iddynt fynd i'r ysbyty mewn argyfwng, yn parhau i wneud hynny. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig fel y'i diwygiwyd 29, dau yn ymatal, 22 yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig fel y'i diwygiwyd. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 29, Yn erbyn: 22, Ymatal: 2 Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwydCliciwch i weld canlyniad y bleidlais 10. Dadl Fer: Gwasanaethau canser: Cynllun adfer ar ôl COVID-19 Symudwn yn awr at y ddadl fer. Galwaf ar David Rees i siarad am y pwnc y mae wedi'i ddewis. David. David Rees AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch i chi am hynny. Yn amlwg, daw'r ddadl hon ar adeg pan ydym newydd orffen dadl yn sôn am bwnc tebyg iawn, ond nid wyf yn ymddiheuro am hynny. Clywais y Gweinidog ac rwy'n siŵr y byddaf yn clywed rhagor o'r un atebion eto, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig inni fynd i'r afael â'r mater penodol hwn. Mae canser wedi cyffwrdd â phob un ohonom mewn rhyw ffordd, naill ai ni ein hunain neu rywun annwyl. Nid yw'n syndod pan ystyriwch fod un o bob dau ohonom yn debygol o ddatblygu canser ar ryw adeg yn ein bywydau. Bob blwyddyn mae tua 19,300 o bobl yn cael diagnosis o ganser yng Nghymru, ac yn anffodus mae tua 8,800 o farwolaethau canser. Dyma'r lladdwr mwyaf yng Nghymru, ac mae'n parhau i gael effaith aruthrol ar lawer o bobl. Fodd bynnag—. Mae'n ddrwg gennyf. Pan siaradais â'r Gweinidog—. Ymddiheuriadau, Ddirprwy Lywydd. Mae rheswm dros optimistiaeth, fodd bynnag, oherwydd mae cyfraddau goroesi canser wedi dyblu ers y 1970au, fel bod oddeutu ein hanner heddiw yn goroesi ein canser am 10 mlynedd neu fwy, ond gwyddom y gallwn, a bod rhaid inni, wneud yn well. Mae astudiaethau rhyngwladol fel y Bartneriaeth Ryngwladol Meincnodi Canser yn parhau i weld Cymru'n tangyflawni o gymharu â gwledydd tebyg. Pe gallem ddal i fyny â'r gwledydd gorau, gellid achub llawer mwy o fywydau. Pan siaradais ddiwethaf yn y Senedd am ganser, roedd y byd yn wahanol iawn. Roeddwn yno'n siarad yn y cnawd, yn hytrach na thrwy dechnoleg; gallwn eistedd yn agos at ffrindiau a chydweithwyr i gael pryd o fwyd. Nawr, mewn byd ôl-bandemig, rydym wedi gweld llawer o newidiadau i'n bywydau bob dydd o gymharu â'r hyn y byddem wedi bod yn ei wneud fisoedd yn unig yn ôl; bellach nid yw'n gyfrifol i wneud hynny. Fodd bynnag, nid yw canser wedi mynd i guddio yn ystod y pandemig hwn. Yn union fel y feirws, mae'n parhau i fod yn fygythiad i'n hiechyd. Yn yr un modd, nid yw'r dulliau a ddefnyddiwn i drin canser wedi newid, ac nid yw pwysigrwydd diagnosis cynnar wedi newid ychwaith. Mae effaith COVID-19 wedi bod yn wirioneddol ddifrifol ar ganser miloedd o bobl, ac efallai nad ydynt hyd yn oed yn gwybod hynny. Fis diwethaf, rhyddhaodd Cymorth Canser Macmillan adroddiad llwm iawn ar effaith COVID-19 ar ofal canser. Tynnodd sylw at y ffaith bod 31 y cant yn llai o gleifion nag arfer wedi mynd ar y llwybr canser sengl pan oedd y pandemig ar ei anterth. Dengys data gan Cancer Research UK fod tua 18,200 yn llai o atgyfeiriadau brys gan feddygon teulu yng Nghymru rhwng mis Mawrth a mis Awst 2020 ar gyfer achosion lle ceir amheuaeth o ganser, gyda'r gostyngiad mwyaf mewn atgyfeiriadau brys yn digwydd ym mis Ebrill—ar anterth y cyfyngiadau symud—pan oedd nifer yr atgyfeiriadau 63 y cant yn is nag ym mis Ebrill 2019. Mae'r amseroedd aros diweddaraf ar gyfer canser a ryddhawyd ar 19 Tachwedd yn dangos bod tua 7,100 o bobl a oedd wedi cael diagnosis o ganser wedi dechrau triniaeth rhwng mis Ebrill a mis Medi yng Nghymru—ffigur sydd tua 1,500 yn llai o bobl nag yn yr un cyfnod y flwyddyn flaenorol. Nododd yr un data mai dim ond 74 y cant o gleifion ag atgyfeiriad brys yn sgil amheuaeth o ganser a gafodd brawf a dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod ym mis Medi, a'r targed oedd 95 y cant. Mae hyn yn cymharu â'r 80 y cant o gleifion ag atgyfeiriad brys lle ceir amheuaeth o ganser a ddechreuodd y driniaeth ar yr un adeg y llynedd. A chanser yr ysgyfaint oedd yr arafaf i wella, o ran nifer yr atgyfeiriadau brys lle roedd amheuaeth o ganser—gostyngiad o bron 72 y cant ym mis Ebrill, a oedd yn dal i fod yn ostyngiad o 26 y cant ym mis Awst. Rhwng mis Mawrth a mis Awst, golygodd oedi rhaglenni sgrinio am ganser ledled y DU na wahoddwyd 3 miliwn o bobl i un o'r tair rhaglen sgrinio am ganser—y coluddyn, y fron, serfigol. Mae modelu gan Cancer Research UK yn awgrymu y byddai 55,600 o bobl fel arfer yn cael eu gwahodd bob mis i gymryd rhan yn un o'r tair rhaglen sgrinio ar gyfer canser yng Nghymru, gan arwain at ddiagnosis o 80 o ganserau fan lleiaf, ynghyd â newidiadau ychwanegol cyn-ganseraidd a gaiff eu canfod a'u trin. Nawr, dywedodd 40 y cant o ymatebwyr o Gymru fod profion canser y byddent fel arfer yn eu disgwyl wedi cael eu gohirio, eu canslo neu eu newid. Dywedodd tua 27 y cant fod eu triniaeth ar gyfer canser wedi'i heffeithio. Fel Aelodau eraill, rwyf wedi clywed llawer o brofiadau pobl yr effeithiwyd ar eu profion a'u triniaethau canser mewn rhyw ffordd gan COVID-19. Mae wedi achosi cryn bryder ac yn fwyaf gofidus, mae wedi achosi pryderon y gallai fod wedi effeithio'n negyddol ar y gobaith o oroesi canser. Yn ystod ton gyntaf y pandemig, cynyddodd nifer y bobl a oedd yn aros am endosgopi diagnostig o tua 11,900 erbyn diwedd mis Mawrth i tua 15,700 ddiwedd mis Gorffennaf. Fel y gwyddom i gyd, mae diagnosis cynnar yn hanfodol i wella cyfraddau goroesi canser yng Nghymru. Er enghraifft, pan wneir diagnosis o ganser y coluddyn cam 1, mae dros naw o bob 10 claf yn goroesi, ond mae'n gostwng i lai nag un o bob 10 os gwneir diagnosis ohono yng ngham 4. Amcangyfrifir y bydd hyn yn arwain at ôl-groniad o tua 2,900 o bobl heb gael diagnosis dros y cyfnod hwn o chwe mis. Mae'n hanfodol ein bod yn cynyddu capasiti diagnostig canser i o leiaf y lefel cyn y pandemig, rhag i ormod o gleifion fynd ar y llwybr ondgorfod aros am ddiagnosteg, a fydd—[Anghlywadwy.] Rwy'n credu ein bod yn cael problemau gyda'ch cysylltiad. David Rees AC: [Anghlywadwy.]—yn dal i fod â'r symptomau hynny, a allai fod yn ganser. Pan fyddant yn mynd i weld rhywun, y pryder yw os yw'n ganser, y byddai eu diagnosis yn canfod canser ar gam diweddarach, pan fydd llai o allu i'w drin. Bydd lleihau'r ôl-groniad hwn cyn gynted ac mor ddiogel â phosibl yn ychwanegu mwy o straen ar y gwasanaethau diagnostig. Mae angen capasiti ychwanegol a llenwi bylchau yn y gweithlu ar frys. Ddirprwy Lywydd, yr wythnos diwethaf cyhoeddodd y grŵp trawsbleidiol ar ganser yma yn y Senedd adroddiad ar amseroedd aros canser a gychwynnwyd ganddo cyn y pandemig. Yn dilyn uchafbwynt cyntaf y pandemig, ehangwyd cylch gorchwyl cychwynnol yr ymchwiliad i gynnwys dealltwriaeth o effaith y pandemig ar ddiagnosis a thriniaeth canser. I ddechrau, ceisiodd yr adroddiad asesu'r llwybr canser sengl, ac mae'n dal yn bwysig cadw golwg ar y llwybr canser sengl fel mesur sy'n gynhenid gadarnhaol. Byddai ailddechrau adrodd ar y llwybr canser sengl yn gyfle i ailgychwyn ac aildrefnu, yn enwedig ar gyfer y sgyrsiau ynglŷn â lle gellir a lle dylid gwneud gwelliannau ar gyfer llwybrau diagnostig. Rwy'n croesawu'n fawr y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf gan y Gweinidog ar ailgyflwyno'r llwybr canser sengl, ynghyd â ffigur targed y mae'n rhaid i fyrddau iechyd ei gyflawni. Mae hwn yn amlwg yn gam cadarnhaol i'r cyfeiriad cywir. Fodd bynnag, rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i dderbyn holl argymhellion yr adroddiad, ac yn arbennig i flaenoriaethu gofal a thriniaeth canser drwy ddarparu adnoddau ychwanegol i ymdopi â'r ôl-groniad. Mae'r adroddiad yn galw am gyhoeddi cynllun adfer canser COVID-19, yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi darparu gwasanaethau canser yn well, ac yn benodol, sut y byddai gwasanaethau diagnostig yn cael eu cefnogi i leihau'r ôl-groniad canser sy'n bodoli. Gallai hyn ei gwneud yn ofynnol i safleoedd gwyrdd sy'n ddiogel rhag COVID hybu capasiti a chynnal gwasanaethau, er fy mod yn cydnabod y sylwadau a wnaeth y Gweinidog yn y ddadl flaenorol nad oes sicrwydd o safleoedd rhydd o COVID oherwydd natur y feirws hwn. Mae angen profion COVID digonol ar gyfer staff a chleifion er mwyn cynnal safleoedd o'r fath a'u cadw mor rhydd o COVID â phosibl, a rhoi hyder i gleifion. Ochr yn ochr â hyn, mae angen ymgyrch gyfathrebu eang ar y cyfryngau torfol i annog pobl sydd â symptomau sy'n peri gofid i geisio cymorth gan feddyg teulu. Ac unwaith eto, gwn fod y Gweinidog wedi dweud y byddant yn gwneud hynny ac maent wedi cytuno ar hynny. Mae ei angen i annog pobl sydd â'r symptomau i barhau i geisio cymorth gan eu meddygon teulu, yn ogystal â rhoi sicrwydd y gellir gweld a thrin pobl yn ddiogel. Mae cynllun adfer ar ôl COVID ar gyfer gwasanaethau canser yn hanfodol er mwyn mynd i'r afael â'r sefyllfa yn y tymor byr, ond mae hefyd yn hanfodol fod hyn yn gweithredu fel rhagflaenydd i'r newid tymor hwy sydd ei angen ar gyfer diagnosteg canser. Bwriadwyd i'r cynllun cyflawni ar gyfer canser ar gyfer 2016 ddod i ben eleni, ac er bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei bwriad i ddatblygu olynydd i'r cynllun hwn, ni chafwyd rhagor o fanylion eto. Nawr, rwy'n sylweddoli bod y pandemig wedi cael blaenoriaeth gan swyddogion a bod yn rhaid i gynllun cyflawni newydd ystyried yn awr sut y byddai'n adeiladu ar y cynllun cyflawni presennol a'r cynllun adfer. Fodd bynnag, mae arnom angen strategaeth ganser newydd gynhwysfawr ar frys, gyda'r llwybr canser sengl yn elfen ganolog, strategaeth a fydd yn hanfodol i yrru'r agenda drawsnewid yn ei blaen ar adeg pan fo'r Gweinidog wedi cydnabod ein bod yn annhebygol o weld amseroedd aros ar gyfer llawer o wasanaethau'n dychwelyd i lefelau cyn COVID am flynyddoedd lawer. Nid wyf yn cuddio rhag y ffaith bod yr her sy'n wynebu gwasanaethau canser yn aruthrol. Roedd hi'n amlwg fod angen gwella diagnosis, triniaeth ac achosion canser cyn i'r pandemig daro. Ni fydd neb yn anghytuno bod COVID-19 wedi ein gwthio'n ôl ymhellach. Felly, mae angen i strategaeth ganser newydd fod yn feiddgar ac yn uchelgeisiol wrth fynd i'r afael â'r heriau hyn. Weinidog, fel fy nghyd-Aelodau i gyd, rwyf am sicrhau bod y GIG a byrddau iechyd lleol yn cael eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru i ymateb i'r heriau hyn. Mae'r coronafeirws wedi gafael yn y wlad ac wedi rhoi pwysau ar ein gweithwyr iechyd rheng flaen, ond yn anffodus, mae clefydau fel canser yn parhau i ymddangos drwy amrywiaeth eang o symptomau. Rhaid i bawb ohonom gofio bod angen cymorth emosiynol ar gleifion sy'n dioddef o ganser neu sy'n wynebu'r posibilrwydd o ddiagnosis o ganser hefyd, yn ogystal â thriniaeth ar gyfer y clefyd. Mae angen inni gynorthwyo ein byrddau iechyd lleol i gymryd camau i sicrhau bod yr egwyddorion personol hyn yn parhau i fod wrth wraidd gofal canser. Mae angen clustnodi arian ar gyfer yr holl ofal canser, yr agendâu iechyd corfforol a meddyliol, a sicrhau nad yw'n cael ei gyffwrdd wrth ystyried llif gwaith a threfniadau staffio. Mae canfod canser yn gynnar yn golygu trin canser yn gynnar. I bawb ledled Cymru, peidiwch ag anwybyddu eich symptomau; peidiwch ag ofni mynd i weld eich meddyg teulu; peidiwch ag oedi cyn ceisio cymorth. Hoffwn eich atgoffa bod llawer o adnoddau, ar-lein drwy wefan y GIG ac eraill, i'ch helpu yn eich penderfyniad i fynd at y meddyg. Ni fyddwch yn gwastraffu amser y GIG drwy gael diagnosis o'ch symptomau. Mae'r GIG yno i'ch cefnogi drwy ddiagnosis, hyd at driniaeth. Os nad yw eich symptomau newydd yn diflannu, mae angen i chi weld eich meddyg, a nodi unrhyw newidiadau sydd wedi digwydd neu gwestiynau a allai fod gennych ar bapur fel eich bod yn deall y sefyllfa'n glir. Rwyf am gloi fy nghyfraniad heddiw drwy fynegi fy niolch parhaus i'r staff ar draws y GIG yng Nghymru y mae eu hymdrechion aruthrol wedi anelu i gynnal gwasanaethau canser gymaint â phosibl yn yr amgylchiadau anoddaf y maent wedi'u hwynebu erioed mae'n debyg. Mae'r wyth mis diwethaf wedi bod yn annhebyg i unrhyw gyfnod arall iddynt hwy, a heb eu gwaith caled, eu hymroddiad i'w cleifion a'u hymrwymiad parhaus i sicrhau canlyniadau cadarnhaol ar gyfer y cleifion hynny, byddai'r effaith andwyol ar gleifion canser wedi bod hyd yn oed yn waeth. Felly, gyda'n gilydd, gadewch inni sicrhau bod ein GIG yn cael ei gefnogi; gadewch inni sicrhau bod ein gwasanaethau cymorth canser yn cael eu cefnogi; a gadewch inni sicrhau ein bod yn cynorthwyo ein gilydd i gael y diagnosis cynnar hwnnw. Diolch. Diolch. A gaf fi alw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl? Vaughan Gething. Vaughan Gething AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i David Rees am gyflwyno'r ddadl fer hon. Rwy'n croesawu gwaith y grŵp trawsbleidiol a'i adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. Mae'r adroddiad yn nodi'r heriau sy'n wynebu gofal a chanlyniadau canser yng nghyd-destun y pandemig. Rwy'n falch o weld bod llawer yn gyffredin rhwng argymhellion yr adroddiad a'n bwriadau ein hunain ar gyfer gwasanaethau canser. Er enghraifft, yr wythnos diwethaf, gwnaethom ailddechrau adrodd ar y llwybr canser sengl, fel roedd yr adroddiad yn galw amdano ac fel y crybwyllwyd gan David Rees yn ei gyflwyniad i'r ddadl. Mae'r ymrwymiadau a osodwyd gennym yn 2013 a 2017 yn ein cynlluniau cyflawni ar gyfer canser i wella gwasanaethau a chanlyniadau canser yn dal i sefyll heddiw. Nid ydym yn camu'n ôl o'r ymrwymiad hwnnw. Bydd ein dull newydd wedi'i gyhoeddi erbyn mis Mawrth, o ystyried effaith y pandemig. Mae cryn dipyn o gynnydd wedi'i wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a hoffwn dynnu sylw at y gwelliant cyson yn y canlyniadau. Unwaith eto, cydnabu David Rees y bu gwelliant yn y canlyniadau yma yng Nghymru. Ceir lefelau uchel iawn o brofiad cadarnhaol i gleifion. Rydym wedi cyflwyno llwybr canser sengl cyntaf y DU ac wedi gweld canolfannau diagnosteg cyflym yn datblygu. Ond mae llawer mwy i'w wneud o hyd. Mae maint her a chymhlethdod y newidiadau sydd eu hangen arnom yn sylweddol. Mewn blynyddoedd arferol, rydym yn gwneud diagnosis ar oddeutu 19,000 o achosion newydd yng Nghymru, caiff dros 450,000 o bobl eu sgrinio, ac rydym yn archwilio dros 120,000 o atgyfeiriadau lle ceir amheuaeth o ganser. Rydym yn dibynnu ar ein darparwyr gofal sylfaenol i nodi symptomau; ein gwasanaethau radioleg, endosgopi a phatholeg i wneud diagnosis; ein timau llawfeddygol, radiotherapi a chemotherapi i drin y clefyd; a'n timau nyrsio arbenigol gofal lliniarol a phartneriaid yn y trydydd sector i gefnogi a gofalu am bobl yn ystod y cyfnod anoddaf yn eu bywydau. Vaughan Gething AC: Mae darparu gwasanaethau canser yn cynnwys nifer o arbenigeddau ac ymyriadau, gyda llwybrau cleifion ar draws ffiniau sefydliadol. Mae hyn yn galw am berthynas waith agos, llwybrau gofal integredig a sylw arbennig i gynnal gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae'n bwysig fod gennym ddealltwriaeth gyffredin o sut i wella gwasanaethau a chanlyniadau canser. Gwyddom fod angen inni leihau cyfraddau ysmygu a gordewdra er mwyn canfod canser yn gynharach ac ar gam lle gellir ei drin yn haws, er mwyn darparu'r ymyriadau a'r therapïau diweddaraf sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn gyson, a chefnogi pobl yn iawn ar hyd y llwybr triniaeth. Mae'r rhain yn agweddau sylfaenol ar ein dull o weithredu. Cânt eu cefnogi neu eu galluogi gan fodelau gwasanaeth sy'n newid, datblygu gweithlu cynaliadwy ac wrth gwrs, y defnydd gorau o systemau digidol a data. Gwnaed gwaith pwysig a manwl ar yr agenda hon gan randdeiliaid ers blynyddoedd lawer yng Nghymru, ac mae llawer o gonsensws ynglŷn â'r ffordd orau ymlaen. Yr her yn awr yw manteisio ar hynny yn y blynyddoedd i ddod a gwneud y gwelliant sylweddol rydym i gyd am ei weld yn y canlyniadau. Er hynny—ac unwaith eto, mae David Rees yn cydnabod hyn a bod yn deg—nid oes dianc rhag effaith y pandemig. Mae'r prif swyddog meddygol wedi bod yn glir fod y pandemig yn achosi niwed mewn sawl ffordd. Mae mynediad at ofal iechyd arferol, gan gynnwys gofal canser yn yr achos hwn, yn un o'r ffyrdd lle mae niwed anuniongyrchol yn cael ei achosi. O'r cychwyn cyntaf, ein dull o weithredu fu ceisio diogelu cymaint o ofal canser â phosibl. Gweithiodd GIG Cymru yn eithriadol o galed i wneud hynny a darparu'r gofal brys sydd ei angen ar gynifer o bobl â phosibl. Fodd bynnag, rydym wedi gweld capasiti a chynhyrchiant mewn diagnosteg a thriniaeth canser yn lleihau'n sylweddol. Mae hyn wedi golygu bod nifer y bobl sy'n aros am driniaeth yn cynyddu ac mae'n debygol y bydd yna effaith ar ganlyniadau yn y blynyddoedd i ddod. Ymhlith yr argymhellion yn yr adroddiad mae datblygu cynllun adfer canser ar gyfer gweddill y pandemig. Rwy'n deall yr awydd am eglurder ar lefel genedlaethol, gan nodi faint o lawdriniaethau y mae angen eu gwneud, faint fydd yn cael eu gwneud, a pha mor hir y bydd yn ei gymryd i drin y rhai sy'n aros. Serch hynny, cyn gynted ag y byddwn yn rhoi'r ffigurau hynny ar bapur, y realiti yw bod y pandemig yn newid yr hyn sy'n bosibl. Mae'r gwahaniaeth rhwng pandemig wedi'i reoli'n dda a phandemig a reolir yn wael o ran faint o bobl y mae'n bosibl eu trin yn un arwyddocaol. Mae'n amlygu lle mae rheolaeth effeithiol ar y pandemig yr un mor bwysig i ganser a chyflyrau difrifol eraill sy'n bygwth bywyd. Rwy'n gwybod bod rhai wedi galw am glustnodi capasiti ar gyfer gofal canser, ac rwy'n deall hynny, ond fel y gwyddom i gyd, ac rwyf fi'n sicr yn deall mai Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wyf fi ac nid y Gweinidog gofal canser yn unig. Nid wyf am oruchwylio na byw mewn system iechyd lle mae'r Llywodraeth yn dweud, 'Os mai canser yw eich salwch sy'n bygwth bywyd, yna fe gewch eich trin, ond os mai'r salwch sy'n bygwth eich bywyd yw clefyd y galon neu rywbeth arall, mae llai o werth i'ch bywyd.' Dyna'r union gyfyng-gyngor moesegol a olygai ein bod wedi gwrthod yr ymdrechion blaenorol i gael gwarant canser benodol a fyddai wedi rhoi blaenoriaeth i ganser ar draul cyflyrau eraill. Ni chredaf mai dyna fyddai clinigwyr canser eu hunain am ei weld ychwaith. Felly, rwyf am fod yn glir, mae gan fyrddau iechyd gynlluniau manwl ar gyfer y gaeaf ynglŷn â sut y byddant yn cydbwyso'r anghenion sy'n cystadlu y bydd rhaid iddynt eu rheoli. Byddant yn blaenoriaethu cleifion yn ôl eu hanghenion clinigol, boed yn COVID neu'n rhywbeth heblaw COVID, canser neu rywbeth heblaw canser. Rhaid inni, ac fe fyddwn, yn parhau i edrych yn deg ac yn gyfartal i weld sut y defnyddiwn y capasiti sydd ar gael gennym i ofalu am bobl ledled Cymru. Ymrwymodd y Llywodraeth hon, ym mis Mawrth eleni, i gael cynllun cyflawni newydd ar gyfer canser, yn ogystal â chynlluniau ar gyfer y galon a strôc, gyda darpariaeth olynol erbyn mis Rhagfyr. Nawr, yn amlwg, mae'r pandemig wedi gwneud hynny'n amhosibl. Er na fu'n bosibl datblygu dull mor fanwl ag a nodir yn ein cynllun canser presennol, rydym wedi parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i nodi ein dyheadau ar gyfer cam nesaf y gwaith o ddatblygu a gwella gwasanaethau. Rwy'n awyddus inni ddysgu gwersi dull y cynllun cyflawni o fynd ati a chyflymder gweithredu yn enwedig. Rhaid inni barhau i esblygu ac adeiladu ar ein dull blaenorol, yn hytrach na chadw at yr un model yn union o reidrwydd. Mae'r ymrwymiad a wnaed yn 'Cymru Iachach' i fframwaith clinigol cenedlaethol ac i ddatganiadau ansawdd yn rhoi cyfleoedd newydd inni a all wthio agenda canser ymhellach ac yn gyflymach, a byddai ymgorffori dull yn yr ymrwymiadau hyn yn caniatáu i wasanaethau canser elwa o ddatblygiadau ehangach a gwella perfformiad cymharol llwybrau clefyd mewn cynlluniau ar gyfer y GIG. Nid yw hyn yn gam yn ôl o ran dull gweithredu, ond yn hytrach, yn fy marn i, mae'n naid ymlaen yn ein huchelgais. Byddai'n cynnwys datblygiadau newydd cyffrous o amgylch y gweithlu canser a chynllunio gwasanaethau canser, i'w hategu gan ddatblygiad y system gwybodaeth canser newydd a pharhau i wreiddio'r llwybr canser sengl. Rydym am gryfhau ein gwaith gyda gofal sylfaenol, ac yn fwy cyffredinol, ar ganfod canser yn gynharach. Mae gwaith hanfodol i'w wneud drwy ein rhaglenni endosgopi a delweddu. Rwyf am gyflwyno ein dull o gyflawni ymchwil canser, a gwireddu ein huchelgais ar gymorth cyfannol, ac mae'r rhain i gyd, wrth gwrs, yn gyson â'r argymhellion yn yr adroddiad trawsbleidiol. Ond fe gymerodd naw mis i adnewyddu'r cynllun cyflawni canser blaenorol y tro diwethaf, ac ni allwn fforddio aros am gyfnod tebyg yn awr cyn i ni roi cyfeiriad a pharhau i wella ar yr un cyflymder. Mae'n hanfodol ein bod yn nodi'r uchelgeisiau hyn ac yn symud yn gyflym i benderfynu sut y cânt eu cyflawni. Roedd maint yr her a'n hwynebai cyn y pandemig yn ddigon sylweddol, a rhaid inni ganolbwyntio ein sylw yn awr ar yr achos dros gyflymu a ffocws ar weithredu. Felly, unwaith eto, hoffwn ddiolch i'r rhai a weithiodd mor galed ar yr adroddiad, ac fel arfer, diolch i'r holl bobl sy'n gweithio ar draws ein system iechyd a gofal, yn ein GIG, ym maes gofal cymdeithasol a'n partneriaid yn y trydydd sector hefyd, am y cyfan y maent yn parhau i'w wneud i ddiwallu anghenion pobl y mae canser yn effeithio arnynt. Byddaf yn rhoi ystyriaeth ofalus i'r argymhellion yn yr adroddiad, ac rwy'n hapus i ysgrifennu at y grŵp trawsbleidiol i roi ymateb llawn i'w argymhellion. Diolch yn fawr am y cyfle i ymateb heno, a diolch am eich amser heno, Ddirprwy Lywydd. Diolch yn fawr iawn, a daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch. Daeth y cyfarfod i ben am 18:57. QNR Cwestiynau i Y Gweinidog Addysg Mike Hedges: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith y pandemig COVID-19 ar gyllidebau ysgolion? Kirsty Williams: COVID-19 has had a massive impact on our education system, and our priority is to continue to provide the best for education services. Welsh Government has responded by providing an overarching single fund to support local authorities dealing with the impacts, providing financial assistance for additional costs incurred in dealing with the pandemic. Dai Lloyd: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wella ysgolion yng Ngorllewin De Cymru? Kirsty Williams: In the October update to ‘Our national mission’, Welsh Government’s plan to deliver our new curriculum, we reiterated the importance of an evaluation, improvement and accountability system that is aligned to the principles of the Curriculum for Wales. Joyce Watson: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y mesurau diogel o ran COVID-19 sy'n cael eu cymryd mewn ysgolion uwchradd? Kirsty Williams: The operational guidance sets out the mitigating measures schools and settings should take. In responding to the latest SAGE and TAG report, I have strengthened the mitigating measures. All learners and staff in secondary schools and colleges should now wear face coverings everywhere outside of the classroom, including on school transport. Mark Reckless: Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud ynghylch i ba raddau y gallai myfyrwyr fod wedi syrthio ar ei hôl hi yn ystod cyfyngiadau symud sy'n gysylltiedig â'r coronafeirws? Kirsty Williams: Evidence from a range of sources—OECD, Estyn, the Sutton Trust—including those focusing on Wales, suggests most learners have been affected, with the most vulnerable most affected by the pandemic. In response, through our Accelerating Learning Programme, we are providing an additional £29 million to schools to support learners. Paul Davies: Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella safonau addysg yn Sir Benfro drwy'r pandemig COVID-19? Kirsty Williams: Welsh Government has provided Pembrokeshire local authority with a £562,788 grant to recruit, recover and raise standards. This will help Pembrokeshire schools provide extra support at years 11, 12 and 13, as well as for disadvantaged and vulnerable learners of all ages. Cwestiynau i Y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd Dai Lloyd: Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ynghylch sefyllfa ariannol Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe? Rebecca Evans: We have provided local authorities with more than £500 million to meet the additional financial pressures they are facing to maintain services associated with the pandemic. This includes £200,000 to Swansea Council to support the Wales National Pool with loss of income for quarter 1 via the local authority emergency hardship fund. David Rees: Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidogion y Trysorlys o fewn Llywodraeth y DU ynghylch manylion y gronfa ffyniant gyffredin? Rebecca Evans: The Treasury has not engaged meaningfully with us on this issue. I wrote to the Chancellor last month and have reiterated our positions again this week ahead of today’s spending review. It’s vital they respect devolution and honour long-standing commitments that Wales will not receive ‘a penny less’ of funding. Delyth Jewell: Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o werth am arian trosi'r A465 o Ddowlais Top i Hirwaun yn sgil amcanestyniadau bod y gost wedi cynyddu'n sylweddol? Rebecca Evans: Regular and robust assessment of value for money was undertaken throughout the procurement process, and the benefit-cost ratio of the project remains positive. The project will also deliver against several important policy objectives, including supporting those of the Valleys taskforce.
uk-hansard-senedd-cy
senedd2020-11-25
2024-06-01T00:00:00
{ "year": "2020", "language": "cy", "license": "Open Parliament Licence - https://www.parliament.uk/site-information/copyright-parliament/open-parliament-licence/" }
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. Datganiad gan y Llywydd Croeso, bawb, y prynhawn yma i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda chi. Dwi eisiau atgoffa'r Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod, ac yr un mor berthnasol i'r Aelodau yn y Siambr ag i'r rhai sy'n ymuno drwy gyswllt fideo. 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd Yr eitem gyntaf, felly, y prynhawn yma yw cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd, ac mae'r cwestiwn cyntaf, sydd i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog, gan Natasha Asghar. Trafnidiaeth Fwy Gwyrdd Natasha Asghar AS: 1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i annog trafnidiaeth fwy gwyrdd? OQ56949 Lee Waters AC: Diolch am eich cwestiwn. Mae ein strategaeth ar gyfer annog trafnidiaeth fwy gwyrdd wedi'i nodi'n glir yn 'Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021', sy'n ailadrodd ein hymrwymiad i gyflawni mwy o deithio llesol, mwy o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus a cherbydau allyriadau isel, a chreu cysylltiadau agosach rhwng cynlluniau defnydd tir a thrafnidiaeth yn unol â'r cynllun aer glân i Gymru. Natasha Asghar AS: Diolch, Ddirprwy Weinidog. Mae gennyf deimlad eich bod wedi mwynhau'r cwestiwn hwnnw. Mae arolygon gan y Ffederasiwn Busnesau Bach yng Nghymru yn dangos bod llawer o gwmnïau'n awyddus i ddefnyddio cerbydau trydan yn ystod y pump i 10 mlynedd nesaf, sy'n newyddion gwych. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, mae cost cerbydau trydan a diffyg seilwaith gwefru yn rhwystrau allweddol i fusnesau sy'n dymuno datgarboneiddio trafnidiaeth. Golyga'r gost hon fod busnesau bach mewn perygl o gael eu gadael allan o'r system gerbydau trydan, tra bo gan sefydliadau mwy o faint fwy o adnoddau, o bosibl, i gyflwyno'r dechnoleg newydd hon yn eu hamgylcheddau gwaith. Pa gynllun sydd gennych, Ddirprwy Weinidog, i gymell y newid i gerbydau trydan drwy gyflwyno cymhelliadau treth neu gynlluniau sgrapio fel sydd wedi digwydd yn y gorffennol? Lee Waters AC: Diolch am eich cwestiwn pwysig, ac yn amlwg, rydym mewn cyfnod o newid o'r motor tanio mewnol i geir trydan, ac mae Llywodraeth y DU wedi dweud na fyddwch yn gallu prynu ceir petrol neu ddiesel erbyn diwedd y degawd. Felly, mae hwn yn gynllun y bydd angen inni weithio'n agos arno gyda Llywodraeth y DU, oherwydd ar eich cwestiwn ynglŷn â chynlluniau sgrapio a chymelliadau treth, mae hynny'n amlwg yn rhywbeth y mae angen i Lywodraeth y DU fod yn ei wneud. Nid yw'n rhywbeth y mae gennym allu i'w wneud. Ond mae ystod o bethau y gallwn eu gwneud, a chan weithio gydag awdurdodau lleol, rydym ar fin cyhoeddi ein cynllun gweithredu ar gyfer gwefru cerbydau trydan yn ystod yr wythnosau nesaf, ac mae hwnnw'n nodi cyfres o bethau ymarferol yr ydym yn eu gwneud. Ar y pwynt ynghylch fforddiadwyedd y cerbydau ac argaeledd y seilwaith ar hyn o bryd, yn amlwg, rydym ar y don gyntaf o ddatblygu. Maent yn ddrud am eu bod yn geir newydd sbon. Nid oes marchnad wedi datblygu eto ar gyfer ceir ail-law, felly, dros amser, bydd hynny'n newid, yn amlwg. O ran y seilwaith gwefru, mae gan Gymru oddeutu 2 y cant o gerbydau trydan ac mae gennym oddeutu 3.5 y cant o'r seilwaith gwefru cyhoeddus. Felly, wrth i gromlin y galw godi, fel y mae'n dangos arwyddion cynyddol o wneud, mae'n amlwg fod angen inni gynyddu'r seilwaith gwefru. Mae hynny'n rhywbeth a gaiff ei arwain gan y sector preifat. Nid yw'r Llywodraeth yn darparu gorsafoedd petrol; nid wyf yn disgwyl iddi ddarparu cyfleusterau gwefru ar raddfa fawr. Dylem ganolbwyntio ar edrych ar ble fydd y farchnad yn methu, yn enwedig ar gyfer ardaloedd gwledig, fel sy'n digwydd gyda band eang, a mabwysiadu ymagwedd 'o'r tu allan i mewn'. Felly, mae gennym rôl i'w chwarae yn sicr, ond mae'n rôl i'w chwarae gyda llawer o rai eraill. Huw Irranca-Davies AC: Yn gyntaf, a gaf fi groesawu'r buddsoddiad y byddwn yn ei weld yn y seilwaith gwefru yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr, sef y £450,000 a fuddsoddir mewn cyfleusterau gwefru ar gyfer lleoedd parcio ar ymyl y palmant? Mae hynny i'w groesawu'n fawr. Ond a fyddai'r Gweinidog yn cytuno bod trafnidiaeth fwy gwyrdd hefyd yn cysylltu â'r hyn a wnawn gydag annog pobl i ddewis teithio llesol hefyd? Ac a fyddai’n croesawu’r ffaith y bydd y grŵp trawsbleidiol, y caf y fraint o’i gadeirio ac y mae llawer o'r Aelodau yma'n aelodau ohono, yn lansio'r pecyn cymorth i ysgolion newid i deithio llesol gyda’r grŵp teithio llesol ddydd Mawrth nesaf yn ysgol Penyrheol yng Ngorseinon, gyda’r pennaeth a'r disgyblion yno? Oherwydd dyna'r gyfrinach nid yn unig i sicrhau bod plant yn newid i feicio a cherdded i'r ysgol, ond hefyd i sicrhau nad yw rhieni'n gyrru eu plant i'r ysgol, ac yn dewis cerdded gyda hwy a dod o hyd i ddulliau amgen. Felly, mae a wnelo hyn â dod â cheir oddi ar y ffordd yn ogystal â newid i geir trydan. Lee Waters AC: Credaf fod hwnnw'n bwynt hollbwysig—rydym am wneud mwy na newid y fflyd bresennol o geir o fod yn geir petrol a diesel i fod yn geir trydan; rydym yn awyddus i weld llai o geir ar y ffordd, am bob math o resymau fod ceir yn achosi niwed. Ond rydym am roi dewis i bobl, a gallwn wneud hynny drwy ddarparu clybiau ceir trydan—rhywbeth rwy'n awyddus iawn i'w weld—gyda chymunedau'n cael mynediad hawdd at glwb ceir fel nad oes angen iddynt fod yn berchen ar fwy nag un car yn y teulu. Ond hefyd, rydym yn edrych ar newid—. Dyma yw hanfod newid dulliau teithio—newid o geir i ddulliau eraill, trafnidiaeth gyhoeddus, a theithio llesol ar gyfer teithiau lleol. Ac mae'n rhaid imi ganmol Huw Irranca-Davies am y gwaith a'r arweinyddiaeth y mae wedi'i dangos drwy'r grŵp teithio llesol. I'r Aelodau mwy newydd, sy'n dal i ymgynefino â grwpiau trawsbleidiol, byddwn yn dweud bod y grŵp trawsbleidiol ar deithio llesol ymhlith y mwyaf effeithiol, ac mae hynny i raddau helaeth oherwydd y cyfranogiad trawsbleidiol, y ffaith ei fod yn dod â grwpiau o bob rhan o Gymru ynghyd, ac oherwydd y berthynas agos sydd gan Huw Irranca-Davies â'r Llywodraeth, wrth iddo fwydo'r her honno i Weinidogion er mwyn ceisio sicrhau newid. Ac rwy'n falch iawn eich bod yn lansio'r pecyn cymorth i ysgolion, oherwydd yn amlwg, mae addasu'r patrwm presennol o deithiau i'r ysgol yn rhan hanfodol o newid dulliau teithio, a phob lwc iddo gyda'r lansiad hwnnw. Metro Gogledd Cymru Sam Rowlands MS: 2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd metro gogledd Cymru? OQ56973 Lee Waters AC: Gwnaf. Yn ddiweddar, cytunais i roi £9.3 miliwn yn ychwanegol o gyllid i awdurdodau lleol a Trafnidiaeth Cymru ar gyfer prosiectau sy'n cefnogi'r gwaith o ddatblygu a darparu metro gogledd Cymru, gan gynnwys gwelliannau i'r seilwaith bysiau, rheilffyrdd a theithio llesol ar draws y gogledd. Sam Rowlands MS: Diolch am eich diweddariadau ar gynnydd metro gogledd Cymru, Ddirprwy Weinidog. Ac rwy'n siŵr y bydd Aelodau o bob rhan o'r Siambr yn falch o weld y gwaith ar y prosiect hwn yn cyflymu, a'r buddion y gallai eu darparu i bobl gogledd Cymru. Cynigiwyd y cynlluniau hyn gyntaf yn 2016, i'w cyflawni oddeutu 2035—felly amserlen o bron i 20 mlynedd ar gyfer cyflawni metro gogledd Cymru. Nid wyf yn siŵr a yw hynny'n dderbyniol mwyach, yn sicr, a ninnau mewn argyfwng hinsawdd ac yn ceisio annog mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Felly, hoffwn ofyn i'r Dirprwy Weinidog beth y bydd yn ei wneud i gyflymu'r rhaglen waith ac i sicrhau ei bod yn ehangu yng ngogledd Cymru. Lee Waters AC: Diolch. Wel, mae'r metros, mewn gwahanol rannau o Gymru, ar wahanol gamau datblygu. Mae metro de Cymru, er enghraifft, wedi datblygu ymhellach, ac mae'n brosiect hynod gymhleth. Mae'r un yng ngogledd Cymru yn gymysgedd gwahanol o ddulliau teithio—mae llai o reilffyrdd nag sydd gennych yng Nghymoedd de Cymru, er enghraifft, felly mae gan fysiau rôl fwy o lawer i'w chwarae, fel sydd gan deithio llesol. Credaf mai un o'r heriau sydd gennym yw capasiti awdurdodau lleol. Cefais gyfarfod ag arweinwyr awdurdodau lleol y bore yma, ynghyd â gweddill fy nghyd-aelodau o'r Cabinet, a buom yn trafod hyn—sut y gallwn ddefnyddio’r cyd-bwyllgorau corfforedig i ddod â gwybodaeth ac arbenigedd a phobl at ei gilydd i geisio creu capasiti ychwanegol, gan weithio ochr yn ochr â Trafnidiaeth Cymru. Unwaith eto, mae gennym enghraifft yng Nghasnewydd, lle mae uned gyflawni Burns wedi creu model lle mae Trafnidiaeth Cymru, yr awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru yn cydweithio'n agos iawn i gyflawni'r cynlluniau a nodwyd yn adroddiad Burns. A chredaf y gallai hynny fod yn fodel ar gyfer y gogledd. Cefais gyfarfod ag is-grŵp trafnidiaeth Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru—dyna i chi lond ceg—fore dydd Gwener, lle bûm yn trafod yr union her hon, a gofynnais iddynt feddwl sut y byddent yn barod i gyfuno eu hadnoddau a sut y gallem eu helpu i ariannu hynny ac i sicrhau ei fod yn cael ei weithredu. Ond credaf fod gan fetro gogledd Cymru botensial enfawr. Bydd yn digwydd fesul cam, ond o ystyried pa mor hanfodol yw gweithreduar newid hinsawdd a newid dulliau teithio, mae'n ddatblygiad allweddol ar gyfer y rhanbarth. Carolyn Thomas AS: Fel cynghorydd yn sir y Fflint, a chyn-aelod o'r cabinet dros wasanaethau stryd a phriffyrdd, ac aelod hefyd o'r pwyllgor y sonioch chi amdano yn gynharach, rwy'n ymwybodol o'r cyllid sylweddol ledled y rhanbarth—cyllid ar gyfer y metro. Fodd bynnag, er mwyn codi ymwybyddiaeth a chynyddu ymgysylltiad ar draws gogledd Cymru, mae angen inni sicrhau bod gennym frand arbennig i gysylltu gorsafoedd y metro, trafnidiaeth ar fysiau, llwybrau beicio, a'r gwasanaethau parcio a theithio y mae Llywodraeth Cymru wedi'u hariannu, gan weithio gydag awdurdodau lleol. Byddai argraff arlunydd o'r gorsafoedd newydd arfaethedig yn dda iawn hefyd. Byddai'n helpu i godi ymwybyddiaeth a chynyddu ymgysylltiad â'n cymunedau ynghylch y gwaith sydd ar y gweill a'r gwaith a fydd yn mynd rhagddo yn y dyfodol. A wnaiff y Dirprwy Weinidog roi diweddariad ynglŷn ag arwyddion a brand y metro, gwaith yr oedd Trafnidiaeth Cymru i fod i arwain arno yn 2021? Diolch. Lee Waters AC: Wel, diolch am eich cwestiwn, ac rwy'n sicr yn cytuno â chi fod delweddau brand yn bwysig iawn i ennyn cynnwrf ymysg pobl fod newid yn dod, ac i roi ffydd i bobl fod newid yn dod hefyd. Felly, rwy'n derbyn y pwynt. Rwy'n trafod hyn gyda Trafnidiaeth Cymru yng nghyswllt metro de Cymru, felly rwy'n addo ychwanegu hynny at y sgyrsiau rwy'n eu cael ac i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod; credaf fod ei phwynt yn un cryf. Jack Sargeant AC: Diolch i fy nghyd-Aelod ar ochr arall y Siambr, Mr Rowlands, am gyflwyno'r cwestiwn pwysig hwn, ac rwy'n cytuno hefyd â fy nghyd-Aelod, Carolyn Thomas, oherwydd mae'n gwestiwn pwysig. Mae'n bwysig fod metro gogledd Cymru yn darparu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, a dyma'r rhwydwaith trafnidiaeth y mae gogledd Cymru yn ei haeddu, fel y cytuna'r Gweinidog. I drigolion Alun a Glannau Dyfrdwy, mae hyn yn ymwneud â sicrhau bod coridor sir y Fflint yn gweithredu fel asgwrn cefn i fetro gogledd Cymru, ond mae hefyd yn ymwneud â chreu canolfannau trafnidiaeth allweddol i gyflawni system aml-ddull a chwbl integredig. A yw'r Gweinidog yn cytuno bod creu coridor sir y Fflint yn hanfodol i sicrhau y bydd trigolion fy nghymuned, Alun a Glannau Dyfrdwy, yn elwa o fetro gogledd Cymru, sy'n brosiect pwysig iawn? Lee Waters AC: Wel, dylwn ganmol yr Aelod am ei ddyfeisgarwch yn ceisio cyflwyno'r mater yn y ffordd hon. Wrth gwrs, ffordd ddeuol ddwy lôn 13 cilometr yw coridor sir y Fflint, felly nid yw'n gwbl amlwg i mi ei bod yn rhan annatod o fetro gogledd Cymru, ac mae hefyd wedi'i chynnwys yng nghynllun yr adolygiad ffyrdd, ac ni allaf ragweld pa benderfyniadau y byddant yn eu gwneud, oherwydd yn amlwg, fel rhan o'r adolygiad, mae rôl gan gynlluniau ffyrdd newydd. Nid ydym yn diystyru adeiladu ffyrdd newydd, ond ni ddylai fod yn ateb diofyn i unrhyw broblem drafnidiaeth. Credaf mai dyna'r newid mawr sydd ei angen. Felly, rwy'n rhagweld gweld llai o lawer o gynlluniau ffyrdd, ac y bydd meini prawf a rhesymau clir iawn dros y cynlluniau ffyrdd a gaiff eu datblygu. Bydd cynllun yr adolygiad ffyrdd yn edrych i weld a yw coridor sir y Fflint yn bodloni'r profion hynny dros y flwyddyn nesaf. Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Janet Finch-Saunders. Janet Finch-Saunders AC: Diolch, Lywydd. Weinidog, fel y gwyddoch, dros y misoedd diwethaf, rwyf wedi bod yn hynod bryderus ynghylch nifer yr achosion o lygredd afon. Gwn nad fi yw'r unig un, gan fod nifer o achosion o lygredd wedi'u dwyn i fy sylw'n rheolaidd. Nawr, gadewch imi ddweud yn glir, ac er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, yn sicr, nid wyf yn pwyntio bys at ein ffermwyr. Nawr, ar ôl gwneud gwaith ymchwil, rwy’n poeni am nifer y gollyngiadau gan Dŵr Cymru a wnaed drwy bob gorlif carthffosiaeth cyfunol dros y pedair blynedd diwethaf. Mae'r canfyddiadau'n frawychus iawn. Nifer y gollyngiadau a gofnodwyd gan Dŵr Cymru gan ddefnyddio'r dull cyfrif blociau 12/24 yn 2018 oedd 48,158; 2019—73,517; 2020—104,482, a hyd yn hyn eleni, 59,275. Fel rwyf wedi'i ddweud dro ar ôl tro, ac fel y mae nifer yn ein grŵp wedi adleisio, mae un achos o lygredd yn un yn ormod. Nawr, er bod angen sicrhau ansawdd y data ar gyfer eleni, mae'r ffigurau'n dangos bod cyfanswm yr holl ollyngiadau cyn prosesu drwy'r dull cyfrif 12/24 awr yn 516,270.5 awr. Felly, os rhannwch hynny â 24, down at y ffaith syfrdanol fod Cymru wedi cael gwerth 21,511 diwrnod o ollyngiadau di-stop eleni yn unig. Felly, a fyddech yn cytuno, Weinidog, y gellir ystyried y sefyllfa mewn perthynas â gorlifoedd cyfunol yng Nghymru yn argyfwng bellach? Diolch. Julie James AC: Wel, Janet, rydych yn gwneud pwynt da iawn, sef bod nifer o resymau pam fod angen inni edrych ar achosion o lygredd dŵr ledled Cymru, ac wrth gwrs, ni ellir priodoli'r cyfan i'r un ffynhonnell. Felly, mae angen i bob un ohonom weithio gyda'n gilydd yn Nhîm Cymru i sicrhau ein bod yn lleihau unrhyw fath o ddigwyddiad llygredd sy'n effeithio ar ein lefelau trwythiad, dyfroedd ein hafonydd, ein dyfroedd mewndirol, neu yn wir, ein dyfroedd arfordirol, ac mae angen inni wneud hynny gyda'n gilydd. Felly, mae angen i bob sector weithio'n galed i wneud hynny. Mae angen i'n sectorau amaeth a ffermio weithio yr un mor galed â'r cwmnïau dŵr, yn amlwg, a'r cwmnïau carthffosiaeth, llygryddion diwydiannol ar lannau afonydd, a nifer fawr o bobl eraill sy'n dibynnu ar y cyrsiau dŵr, ac sydd angen i'r cyrsiau dŵr fod yn lân ac mewn cyflwr da. Mae nifer o bethau i'w dweud am hynny. Yn gyntaf, rydym yn gweithio'n galed iawn gyda'r cwmnïau dŵr ar hyn o bryd i sicrhau bod y mecanweithiau prisio a roddir ar waith yn caniatáu iddynt wneud y mathau cywir o fuddsoddiadau ar gyfer y dyfodol, fel y gallwn fuddsoddi yn y rhwydwaith a sicrhau ei fod yn effeithlon, yn effeithiol ac yn gweithio'n galed iawn. Rydym hefyd yn cynnal adolygiad o nifer o feysydd rheoleiddiol i sicrhau bod y dadansoddiad presennol o bwy sy'n gwneud beth yn nhermau rheoleiddio, a bod gan Lywodraeth Cymru, cwmnïau fel Dŵr Cymru, cwmnïau cyfleustodau ac ati, CNC, awdurdodau lleol—gan fod buddiant gan bob un ohonynt—fod ganddynt y lefel gywir o fecanweithiau rheoleiddio a chyflenwi yn eu priod leoedd, ac yn bwysicach fyth, eu bod yn ffitio gyda'i gilydd yn ddi-dor a gall pobl ddeall pwy sy'n gyfrifol am gyflawni beth ac am reoleiddio beth. Felly, mae hynny'n rhan ohono hefyd. Ac yna, fe fyddwch yn gwybod cystal â minnau fod gan bob un ohonom rywfaint o gyfrifoldeb personol am hyn hefyd, gan fod llawer o'r gollyngiadau carthion yn enwedig yn digwydd am fod pobl yn rhoi pethau cwbl amhriodol mewn carthffosydd. Felly, cefais sgwrs yr wythnos hon ynglŷn â'r hyn y gallwn ei wneud ar lefel y DU yn enwedig, a gallwch helpu gyda hyn—gwn eich bod yn teimlo yr un peth â mi—i sicrhau bod y labelu ar gynhyrchion yn gywir, fel nad oes gennym bethau fel cadachau gwlyb a ffyn cotwm a phethau felly, sy'n dweud 'bioddiraddadwy' pan nad ydynt yn fioddiraddiadwy mewn gwirionedd, neu'n dweud eu bod yn 'iawn i fflysio'—hyd yn oed yn waeth—pan nad ydynt, a gallwn sicrhau nad yw pobl yn tagu'r system gan achosi digwyddiadau. Felly, mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i wneud hyn, ond gallaf eich sicrhau ein bod yn fwy na pharod i gydweithio gyda chi a nifer o bobl eraill ledled Cymru, fel tîm, i sicrhau bod gennym y mathau cywir o ymatebion i'r mathau hyn o ddigwyddiadau. Janet Finch-Saunders AC: Diolch. Ac rwy'n falch iawn fy mod wedi llwyddo i sicrhau bod hynny wedi'i gofnodi, eich bod yn deall bod yna broblem gyda hynny. Ond i ddychwelyd yn benodol at ein cwmnïau dŵr, eleni mae 23 o wahanol leoliadau wedi cael gwerth dros 2,000 awr o ollyngiadau yr un, pum lleoliad wedi cael gwerth dros 3,000 awr a phedwar wedi cael gwerth dros 4,000 awr. Felly, roeddwn yn ddigon pryderus i ysgrifennu atoch, ac fe wnaethoch ymateb gan nodi, ac rwy'n dyfynnu, 'Mae Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda chwmnïau dŵr Cymru i ddatblygu cynlluniau rheoli draenio a dŵr gwastraff, a elwir hefyd yn DWMPs, ar gyfer y 25 mlynedd nesaf. Bydd y cynlluniau'n helpu i sicrhau bod ein cwmnïau dŵr yn buddsoddi'n strategol ac yn dryloyw mewn rhwydwaith trin dŵr gwastraff sy'n gadarn ac yn fforddiadwy yn hirdymor ac yn y tymor byr.' Nawr, yn ddiweddar, yn ein haber ger Deganwy, yn fy etholaeth, mae nifer fawr o drigolion wedi bod yn cwyno am garthffosiaeth amrwd yn arnofio ac arogl erchyll, ac fe wnaeth hyn barhau am beth amser. Felly, ar ôl tynnu sylw Dŵr Cymru at y broblem, ni chymerwyd camau ar unwaith, a chefais fy mherswadio oherwydd hynny i roi gwybod yn uniongyrchol i CNC am y sefyllfa. Ac mae'n ddrwg gennyf, ond mewn nifer o'r achosion hyn, Weinidog, ni ellir honni bod y camau gorfodi a gymerir gan CNC yn hanner digon cadarn. Ychydig wythnosau yn ôl, roedd ein ffermwyr yn cael eu beio am lygredd yn ein hafonydd, a chafodd system ormesol y parthau perygl nitradau ei rhoi ar waith. Felly, Weinidog, pa gamau sydd ar y gweill gennych i sicrhau bod ein cwmnïau dŵr—[Torri ar draws.]—yn chwarae rhan fwy cyfrifol eu hunain drwy beidio â chaniatáu—? A hoffech chi ymyrryd? [Torri ar draws.] Nid oes unrhyw ymyriadau mewn cwestiynau. Janet Finch-Saunders AC: A phan fyddant yn digwydd, fod y cwmnïau a CNC fel y rheoleiddiwr yn rhoi camau llymach ar waith. Julie James AC: Felly, unwaith eto, credaf fod eich casgliad yn ymestyn pethau braidd o'r set o ffeithiau a gyflwynwch. Felly, fel y dywedais yn fy ateb cyntaf, fe wnaf ei ailadrodd: mae llawer iawn o bobl, wrth gwrs, yn effeithio ar gyrsiau dŵr ac ansawdd dŵr ledled Cymru. Mae hynny'n cynnwys pob un ohonom, ein cymunedau, ein diwydiannau, a'r bobl sy'n defnyddio'r dŵr, ac sy'n ei ollwng i'n hafonydd. Mae'n cynnwys, wrth gwrs, y cwmnïau dŵr, ond mae hefyd yn cynnwys ffermwyr a busnesau amaeth, ac mae'n rhaid i bawb chwarae eu rhan. Mae'n rhaid i bawb leihau eu hallyriadau, mae'n rhaid i bawb fwrw ymlaen â ffordd fwy gwyrdd a glanach o ddefnyddio ein cyrsiau dŵr, neu ni fydd modd inni wella eu cyflwr a chynyddu ein bioamrywiaeth, ac ansawdd ein dŵr yn wir. Felly, wrth gwrs, bydd angen inni weithio gyda'n gilydd, ac fel y dywedais, rydym yn cynnal adolygiad o'n trefn reoleiddiol, y gwaith cyflawni, ac a yw lle dylai fod, a yw'n effeithiol ai peidio, a sut y gallwn gynyddu ein rheoleiddio a gallu ein partneriaid cyflenwi i wella ein cyrsiau dŵr. Felly, mae pawb ohonom yn ceisio cyrraedd yr un lle. Ond nid yw'n fater o bwyntio bys, mae'n rhaid i bawb chwarae eu rhan, ac mae hynny'n sicr yn cynnwys y ffermwyr. Janet Finch-Saunders AC: Diolch, Weinidog. Nawr, ar bwnc arall, rwy'n pryderu bod ceisiadau cynllunio wedi dod i stop oherwydd y targedau newydd ar gyfer llygredd ffosffad mewn afonydd. Mae'r Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi wedi dweud wrthyf fod y gwaith o gyflenwi pob cartref newydd, rhai fforddiadwy a rhai preifat, yn cael ei effeithio mewn nifer o awdurdodau, gan gynnwys Mynwy, Casnewydd, sir Gaerfyrddin, Wrecsam, sir y Fflint, Ceredigion, sir Benfro, parc cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Phowys. Mewn gwirionedd, mae ymateb ysgrifenedig Llywodraeth Cymru i'r strategaeth a ffefrir gan gyngor Mynwy ar gyfer eu cynllun datblygu lleol newydd yn nodi: 'Rhaid i'r Cynllun Adnau a'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd cysylltiedig ddangos niwtraliaeth maethynnau neu welliant er mwyn cael eu hystyried yn gadarn.' Er fy mod yn gyfarwydd â'r grŵp goruchwylio rheoli ardaloedd cadwraeth arbennig, yr is-grŵp cynllunio a bwrdd prosiect CNC gyda'i nifer o ffrydiau gwaith, a allwch chi egluro i mi sut y gall awdurdod cynllunio lleol ddangos niwtraliaeth maethynnau pan nad yw Llywodraeth Cymru wedi cytuno ar ddatrysiad neu gynnig unrhyw ganllawiau eto? Diolch. Julie James AC: Ie, felly, unwaith eto, mae a wnelo hyn â methu cael y gorau o ddau fyd. Felly, ni allwch ddweud eich bod o blaid gwneud rhywbeth i liniaru newid hinsawdd ac yna cwyno am bob mesur a roddwn ar waith er mwyn gwneud hynny. Felly, mae'n rhaid inni wneud pethau'n wahanol. Mae'n rhaid i gynghorau wneud ymdrech, ochr yn ochr â'r holl bartneriaid eraill. Ni allwn barhau i adeiladu'n ddifeddwl ar ein gorlifdiroedd, heb ystyried y llygredd, heb ystyried y systemau carthffosiaeth rydych newydd fod yn sôn amdanynt, heb ystyried gallu'r seilwaith i ymdopi â hynny a chadw ein cyrsiau dŵr yn lân. Felly, mae'n rhaid inni wneud pethau'n wahanol. Felly, mae a wnelo hyn â dod â grŵp o bobl ynghyd i sicrhau bod yr holl sefydliadau sydd ynghlwm wrth hyn—ac rydym eisoes wedi'u rhestru sawl gwaith heddiw—yn gweithio gyda'n gilydd yng Nghymru i sicrhau ein bod, pan fyddwn yn adeiladu pethau, yn eu hadeiladu i'r safonau cywir gyda'r systemau cywir ar waith, nad ydynt yn gorlwytho'r systemau carthffosiaeth cyfredol, nad ydynt yn rhoi pwysau ar y gweithfeydd trin gwastraff i'r graddau ein bod yn gweld y gollyngiadau rydych newydd fod yn sôn amdanynt, a'n bod yn gwneud hynny fel ein bod yn gwella ac yn cynyddu ansawdd y dŵr a bioamrywiaeth. Nid oes unrhyw ffordd arall ymlaen. Ni allwn gwyno na allwn adeiladu ar y naill law a dweud ar y llaw arall ein bod yn caru’r blaned ac eisiau gwneud rhywbeth yn ei gylch. Nid yw'r ddau beth yn gydnaws. Llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell. Delyth Jewell AC: Weinidog, hoffwn eich holi yn gyntaf ynglŷn â llywodraethu amgylcheddol. Mae Environmental Standards Scotland wedi cychwyn ar eu rôl statudol fel corff llywodraethu amgylcheddol annibynnol. Mae'r Alban hefyd wedi rhoi egwyddorion amgylcheddol craidd ar waith, gyda dyletswyddau a chanllawiau cysylltiedig, a disgwylir i Fil Amgylchedd San Steffan gael ei basio yn yr hydref gyda swyddfa diogelu'r amgylchedd i ddarparu trosolwg annibynnol yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae patrwm yn dod i'r amlwg ym mhobman arall. Argymhellodd rhanddeiliaid yng Nghymru gamau cyfatebol ar gyfer Cymru yng ngwanwyn 2020, ond ni chawsom ymrwymiad cadarn o hyd i amserlen ar gyfer deddfu, sy'n golygu bod gan Gymru fwlch llywodraethu amhenodol. Mae mynediad dinasyddion at gyfiawnder yn sgil torri deddfau amgylcheddol wedi'i leihau, ac nid yw'r amgylchedd yn cael ei amddiffyn cystal. Felly, Weinidog, a wnewch chi ymrwymo'n gadarn os gwelwch yn dda i gyflwyno'r ddeddfwriaeth a addawyd ar egwyddorion a threfniadau llywodraethu amgylcheddol yn ail flwyddyn y Senedd hon? Julie James AC: Diolch, Delyth. Rydych chi a minnau wedi trafod y mater hwn sawl gwaith, ac rwy'n llwyr ddeall yr hyn a ddywedwch. Wrth gwrs, gallem fod wedi ystyried ymuno â Llywodraeth y DU gyda'u trefniadau, ond roeddem o'r farn, ac rwy'n siŵr eich bod yn cytuno, nad yw'r trefniadau hynny'n gweddu i'r sefyllfa sydd gennym yma yng Nghymru, ac y byddai'n well o lawer pe bai gennym ein system ein hunain ar waith. Mae gennym drefniant dros dro yn ei le, fel y gwyddoch, ac rydym wedi ymrwymo i gyflwyno trefniadau llywodraethu sy'n addas i Gymru. Bydd y Prif Weinidog yn rhoi—wel, nid wyf yn siŵr ai’r Prif Weinidog neu’r Cwnsler Cyffredinol fydd yn gwneud hynny, ond bydd un ohonynt yn gwneud datganiad i’r Senedd cyn bo hir ynglŷn â blynyddoedd nesaf y rhaglen ddeddfwriaethol, a mater iddynt hwy yw gwneud hynny, nid i mi. Ond rydym yn gweithio'n galed iawn y tu ôl i'r llen i sicrhau bod gennym y gallu a'r sgil a'r ddawn i ddod â'r holl linynnau unigol ynghyd i sicrhau, pan fyddwn yn cyflwyno'r trefniadau llywodraethu drwy'r pwyllgorau craffu ac ar lawr y Senedd, eu bod yn addas at y diben. Felly, rwy’n derbyn yr hyn a ddywedwch yn llwyr, ond rydym yn y broses o weithio i sicrhau bod gennym yr holl drefniadau ar waith fel y gallwn gael y trefniadau llywodraethu gorau posibl ar gyfer Cymru. Oherwydd ein bod yn dymuno gwneud hynny, nid oeddwn yn credu ei bod yn briodol ymuno â system Lloegr yn yr achos hwn. Mae arnaf ofn fod hynny wedi arwain at oedi, ond credaf yn y pen draw mai dyna'r llwybr gorau. Delyth Jewell AC: Iawn. Edrychaf ymlaen at glywed y datganiad hwnnw pan ddaw. Delyth Jewell AC: Byddaf i'n gofyn y cwestiwn nesaf yn Gymraeg, Weinidog. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rŷn ni wedi gweld ymrwymiadau pwysig ar gyfer natur ar lefel y Deyrnas Unedig trwy addewid yr arweinwyr dros natur, y Glymblaid Uchelgais Uchel dros Natur a Phobl, a chompact natur G7 2030. Mae'r ymrwymiad i amddiffyn 30 y cant o dir a môr ar gyfer natur erbyn y flwyddyn 2030. Mae hynny'n garreg filltir allweddol. Mae'n cael ei gyfeirio ato fel 30 erbyn 30, ac mae'n cael ei gefnogi gan Lywodraethau'r Deyrnas Unedig a'r Alban ac mae wedi cael ei gymeradwyo yng Ngogledd Iwerddon. Os ydyn ni'n gweithredu nawr, gall hyn gael ei gyflawni. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud hynny'n glir hefyd, ond does dim datganiad o gefnogaeth i 30 erbyn 30 wedi dod eto gan Lywodraeth Cymru. A fyddech chi, Weinidog, plis yn gallu ymrwymo nawr i sicrhau amddiffyniad effeithiol o 30 y cant o dir a 30 y cant o'r môr yng Nghymru erbyn y flwyddyn yna, sef 2030? Julie James AC: Diolch, Delyth. Diolch yn fawr iawn. Rwy'n edmygu eich ymdrechion i wneud i mi ddatgan polisi Llywodraeth fel rhan o'r cwestiynau, ond rwyf am wrthsefyll y demtasiwn. Wrth gwrs, mae gennym gryn ddiddordeb mewn gallu ymuno â chynllun o'r fath; rydym yn edrych i weld a yw hynny'n rhywbeth yr ydym am ei wneud yn ffurfiol iawn yn y ffordd honno yma yng Nghymru, neu a oes llwybrau eraill i Gymru wneud hynny. Rydym yn benderfynol iawn o ddiogelu ein tirweddau naturiol ac yn benderfynol iawn, iawn o wella eu cyflwr. Felly, rwyf wedi cael amryw o gyfarfodydd gyda grwpiau ledled Cymru a chanddynt bryderon mewn perthynas â gwahanol fathau o dirweddau. Mae wedi bod yn addysg ac yn fraint siarad â phob un ohonynt. Felly, ardaloedd amrywiol fel tirweddau coediog, gwastadeddau Gwent, y gwair hir lle clywir cri'r gylfinir, y gorgorsydd, y gwlyptiroedd; mae gennym ystod o dirweddau sy'n galw am fuddsoddiad yn ogystal â chymorth, mae'n rhaid imi ddweud, i'r nifer canmoladwy o bobl sydd eisoes yn gweithio ledled Cymru i ddiogelu a gwella ein tirweddau. Byddwn mewn sefyllfa i ddweud rhywbeth wrth y Senedd maes o law, Lywydd, ond mae arnaf ofn, Delyth, fy mod am wrthsefyll y demtasiwn a gynigiwch i mi, y trysor a ddaliwch o fy mlaen i fy nghymell i'w wneud yn awr. Felly, nid wyf am wneud hynny yn awr, ond edrychaf ymlaen at allu cyhoeddi rhywbeth maes o law. Delyth Jewell AC: Diolch, Weinidog. Yn amlwg, mae gwneud ymrwymiadau o'r natur hon, maent yn symbolaidd, felly mae cymaint o'r egwyddorion hyn sy'n sail i'r ymrwymiadau'n hanfodol bwysig, felly nid wyf am ymddiheuro am alw arnoch i wneud ymrwymiad arall yn fy nghwestiwn olaf, sy’n ymwneud, mewn gwirionedd, â'r datganiad o argyfwng natur a wnaethom fel Senedd ym mis Mehefin, rhywbeth yr oedd pob un ohonom mor falch ohono fel carreg filltir arall. Roedd hynny'n elfen hanfodol o'r cynnig hwn a basiwyd, a alwai ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno gofynion sy'n rhwymo mewn cyfraith i wrthdroi colli bioamrywiaeth drwy dargedau statudol. Gwn eto fy mod yn gofyn i chi am dargedau ac ati, ond mae'r pethau hyn—fel y byddwch yn cytuno rwy'n siŵr—yn hynod bwysig wrth lywio'r ffordd y caiff y polisïau hyn eu rhoi ar waith. Byddai Bil ar egwyddorion a threfniadau llywodraethu amgylcheddol yn cynnig cyfrwng delfrydol i wneud hyn, ond Weinidog, yn eich gohebiaeth ddiweddar â'r pwyllgor newid hinsawdd pan oeddech yn cyfeirio at y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil Amgylchedd y DU, fe wnaethoch wrthod ymrwymo i achub ar y cyfle hanfodol hwn. Fe ddywedoch chi fod yn rhaid aros tan ar ôl y COP15 ym mis Mai 2022 cyn gwneud y penderfyniad hwnnw. Nawr, rwy'n deall, wrth gwrs, pam y byddech chi mewn sawl ffordd yn dymuno gweld canlyniad hynny, ond efallai nad yw aros yn rhywbeth y gallwn fforddio ei wneud. Mae Cymru ymhlith y gwledydd lle mae natur wedi teneuo fwyaf yn y byd. Does bosibl na allem arwain drwy osod nodau uchelgeisiol cyn COP15, a bwrw ymlaen â deddfwriaeth sylfaenol hanfodol i greu penawdau, fel y gallwn, ie, atal a dechrau gwrthdroi colli bioamrywiaeth yng Nghymru erbyn 2030, a sicrhau adferiad erbyn 2050. Felly, Weinidog, yr ymrwymiad olaf rwyf am alw arnoch i’w wneud yw: a wnewch chi ymrwymo i ddefnyddio’r Bil egwyddorion a threfniadau llywodraethu amgylcheddol i gyflwyno gofyniad sy'n rhwymo mewn cyfraith i wrthdroi colli bioamrywiaeth drwy dargedau statudol? Julie James AC: Unwaith eto, Delyth, rwyf am wrthsefyll eich galwad, mae arnaf ofn, ond rwyf yn ei deall, wrth gwrs. Rydym am sicrhau bod—. Rydym wedi datgan yr argyfwng natur; mae pob un ohonom yn cytuno â'r hyn a ddywedwch am golli bioamrywiaeth a'r angen i amddiffyn ein tirweddau, wrth gwrs ein bod. Yr hyn rydym am ei wneud yw sicrhau bod gennym y camau ar waith i ddiogelu a gwella'r tirweddau hynny. Wrth gwrs, byddwn yn gosod targedau—dyna sut y byddwch yn ein dwyn i gyfrif—ond nid yw'r targedau eu hunain yn gwneud unrhyw beth ond mesur a ydym yn llwyddo neu'n methu. Yr hyn sydd ei angen arnom yw cynlluniau gweithredu i sicrhau ein bod yn gwneud y gwaith, ac rwyf am wneud hynny gydag Aelodau o'r Senedd a'r pwyllgorau a chyda chynghorwyr gwyddonol allanol. Rydym yn cynnull grŵp cyngor technegol a fydd yn ein helpu i wneud hynny a chyda'r nifer fawr o grwpiau o arbenigwyr amatur ledled y wlad sydd wedi gweithio mor galed yn eu meysydd penodol, i ddeall a gwybod beth sydd angen ei wneud yn eu tirweddau penodol. Felly, nid wyf yn mynd i ruthro pethau; byddwn yn rhoi’r targedau ar waith fel y gellir ein dwyn i gyfrif, ond yn bwysicach fyth, byddwn yn gweithio’n galed iawn i sicrhau bod gennym y set gywir o gynlluniau gweithredu ledled Cymru i roi’r diogelwch a’r gwelliannau sydd eu hangen arnom ar waith, ac nid yw hynny'n rhywbeth y gallwn ei wneud yn gyflym. Rwyf am sicrhau bod y cynlluniau hynny'n gywir, nad ydynt yn arwain at ganlyniadau anfwriadol, a'n bod yn diogelu'r holl dirweddau iawn yn y lleoedd iawn. Felly, nid yw hwnnw'n ateb cyflym, ond mae'n ateb, ac rwy'n deall yn llwyr yr angen i roi targedau ar waith ar ôl inni gytuno ar y camau hynny, er mwyn sicrhau wedyn ein bod yn gwneud yr hyn a ddywedwn. Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Carolyn Thomas AS: 3. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddynodi Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn barc cenedlaethol? OQ56955 Julie James AC: Diolch am y cwestiwn, Carolyn. Rydym wedi ymrwymo i greu parc cenedlaethol newydd i Gymru ar gyfer ardal syfrdanol bryniau Clwyd a dyffryn Dyfrdwy. Mae gwaith ar y gweill gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i ddatblygu rhaglen enwebu gynhwysfawr a fydd yn cynnwys yr holl asesiadau, a'r gwaith ymgysylltu ac ymgynghori a fydd yn angenrheidiol. Carolyn Thomas AS: Diolch am eich ateb, Weinidog. Gwn fod llawer o bobl yn yr ardal leol yn gyffrous ynghylch y posibilrwydd o wneud yr enwebiad hwn, a fydd yn cydnabod harddwch a threftadaeth naturiol unigryw'r parc. Bydd yn rhoi hwb i reoli twristiaeth ac yn helpu i greu swyddi cynaliadwy. Yn 2000, cyflwynodd Llywodraeth Lafur yr Alban Ddeddf Parciau Cenedlaethol (Yr Alban) a oedd ond yn 41 tudalen o hyd, i fod yn weithdrefn symlach ar gyfer enwebu dau barc cenedlaethol yn yr Alban, y Cairngorms a Loch Lomond, a golygodd hynny mai pedair blynedd a gymerodd. Digwyddodd ymgynghoriad cyhoeddus yng nghamau 1 a 2 er hynny, sef un o'r prif gwestiynau sy'n codi, rwy'n credu. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr amserlen arfaethedig ar gyfer cyflawni statws y parc cenedlaethol? Rwy'n poeni y gallai gymryd amser hir. Diolch. Julie James AC: Diolch yn fawr iawn, Carolyn. Rwy'n rhannu eich pryder. Gofynnodd y Prif Weinidog a minnau i swyddogion gynnal ymarfer trwyadl iawn i edrych ar yr amrywiaeth o opsiynau deddfwriaethol ac anneddfwriaethol sydd ar gael i gyflawni'r nodau y dymunwn eu cyflawni. Cawsom gyngor cyfreithiol manwl iawn arno. Rydych yn llygad eich lle fod Deddf Parciau Cenedlaethol (yr Alban) wedi newid y prosesau enwebu yn yr Alban, ac yn dilyn hynny, roedd y broses enwebu'n gyflymach—oddeutu dwy i dair blynedd. Ond cymerodd y ddeddfwriaeth ei hun amser hir iawn i'w drafftio a'i chyflwyno, felly mae'n rhaid i chi ystyried y newid i'r ddeddfwriaeth sylfaenol yn ogystal â'r enwebiad. Yn gyffredinol yng Nghymru, rwy'n credu ein bod wedi penderfynu nad dyna'r ffordd gyflymaf o'i wneud, mae'n debyg, er fy mod yn deall y demtasiwn ac fe wnaethom edrych arno'n ofalus iawn. Rydym am wneud yr holl beth yn y tymor penodol hwn. Nid ydym am roi'r ddeddfwriaeth sylfaenol ar waith ac enwebu wedyn. Credwn ein bod wedi dod o hyd i ffordd o wneud hynny. Credwn ein bod wedi dod o hyd i ffordd o'i wneud gan sicrhau bod yr holl waith ymgysylltu ac ymgynghori cywir yn digwydd. Mae angen inni ystyried holl safbwyntiau pobl leol, ac yn y pen draw efallai na fyddwn yn ei wneud, os mai dyna fydd yr ymgynghoriad yn ei ddweud. Ond rydym yn gobeithio'n fawr y gallwn gyflwyno'r achos dros y parc cenedlaethol a'r diogelwch y mae'n eu cynnig, a'r cyfleoedd bywyd gwell i'r bobl sy'n byw o fewn y parc cenedlaethol hefyd. Ond rydym wedi edrych yn fanwl iawn ar beth yw'r ffordd gyflymaf o'i wneud, a chredaf ein bod wedi penderfynu mynd gyda'r system bresennol a'r prosesau sydd ynghlwm wrth hynny. Mark Isherwood AC: Ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei chynlluniau i droi ardal o harddwch naturiol eithriadol bryniau Clwyd a dyffryn Dyfrdwy yn barc cenedlaethol, mynegwyd pryderon wrthyf gan bobl y mae eu bywoliaeth yn seiliedig ar fusnesau ffermio da byw a thir yn yr ardal o harddwch naturiol eithriadol. Pa drafodaeth ac ymgysylltiad a gawsoch felly gyda phobl y mae eu bywoliaeth yn seiliedig ar fusnesau ffermio da byw a thir yn ardal o harddwch naturiol eithriadol bryniau Clwyd a dyffryn Dyfrdwy cyn gwneud eich cyhoeddiad? Os nad ydych wedi cael y drafodaeth honno, pa gynlluniau sydd gennych i gysylltu â hwy yn awr er mwyn sefydlu a mynd i'r afael â chwestiynau, anghenion a sefyllfaoedd ar lawr gwlad? Julie James AC: Diolch, Mark. Yn amlwg, uchelgais yw'r hyn sydd gennym yma, felly mae angen mynd drwy'r holl brosesau sydd eu hangen yn awr i weld a yw'r uchelgais yn un a rennir gyda'r bobl sy'n byw yn yr ardal y byddem yn awyddus iawn i'w gweld yn cael ei henwebu er mwyn iddi gael y diogelwch gwell a ddaw yn sgil hynny. Ond wrth gwrs, byddwn yn mynd drwy'r ymarferion ymgynghori'n ofalus ac yn sicrhau ein bod yn ymgysylltu mor eang â phosibl â'r holl bobl sy'n byw, yn gweithio ac yn chwarae yn ardal y parc cenedlaethol arfaethedig. Byddwn yn cychwyn ar y broses honno gyda meddwl hollol agored i sicrhau ein bod yn ystyried yr holl safbwyntiau, gan obeithio'n fawr ar yr un pryd y gallwn berswadio pobl y bydd y diogelwch a'r enwebiad ychwanegol y gall parc cenedlaethol eu cynnig yn gwella'r cynnig i dwristiaid a bywydau a bywoliaeth y bobl sy'n byw yn yr ardal. Mae honno'n broses y byddwn yn dechrau arni gyda phroses ymgynghori ac ymgysylltu lawn mewn golwg, ac yn amlwg byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd wrth i'r broses honno fynd rhagddi. Band Eang Cyflym Iawn Ken Skates AC: 4. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i gysylltu mwy o eiddo yng ngogledd Cymru â band eang cyflym iawn? OQ56945 Lee Waters AC: Diolch am y cwestiwn. Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am gysylltedd, ond rydym yn parhau i gamu i mewn i ddarparu cysylltedd. Mae 7,508 o adeiladau bellach wedi cael mynediad ffeibr llawn yng ngogledd Cymru o dan gynllun cyflwyno ffeibr llawn gwerth £56 miliwn Llywodraeth Cymru. Rydym yn parhau i ddarparu atebion cysylltedd drwy ein cronfa band eang lleol a'n cynllun mynediad band eang. Ken Skates AC: Mae hynny'n wych i'w glywed, Weinidog. O ystyried ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, a hefyd o ystyried y cynnydd enfawr yn nifer y bobl sy'n gweithio gartref neu o bell o ganlyniad i'r coronafeirws, a fyddech yn cytuno y dylid ystyried band eang yn wasanaeth cyffredinol, fel y Post Brenhinol, ac y dylai fod ar gael i bawb? Lee Waters AC: Dyna'r pwynt allweddol yn y ddadl sy'n rhaid inni barhau i'w bwysleisio. Mae hwn bellach yn wasanaeth cyfleustodau hanfodol. Clywaf gan Aelodau ar draws y Siambr am anawsterau y mae eu hetholwyr yn eu cael wrth geisio sicrhau cysylltedd, ac mae'n rhwystr gwirioneddol i allu cyflawni swyddogaethau hanfodol mewn cymdeithas. Ond oherwydd ideoleg neu syrthni, mae Llywodraeth y DU, sy'n gyfrifol am fand eang, yn gwrthod rhoi'r camau angenrheidiol ar waith i sicrhau bod gan bawb hawl i fod wedi'u cysylltu. O ganlyniad, gwelwn amrywiaeth o gynlluniau pragmatig yn cael eu dyfeisio i geisio datrys yr hyn sydd yn ei hanfod yn ddiffyg strwythurol. Fel y dywedwch, mae gan y Post Brenhinol, cwmni sy'n cael ei redeg yn breifat, rwymedigaeth gyfreithiol i ddarparu gwasanaeth i bawb am yr un gost, a rhaid i'r un peth ddigwydd gyda band eang. Laura Jones. Na. Fe symudaf ymlaen. Cwestiwn 5, Vikki Howells. Trafnidiaeth Gymunedol Vikki Howells AC: 5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o drafnidiaeth gymunedol yng Nghwm Cynon? OQ56960 Lee Waters AC: Ar hyn o bryd, caiff Cwm Cynon ei wasanaethu gan gynllun trafnidiaeth gymunedol a weithredir gan Accessible Caring Transport. Mae cyngor Rhondda Cynon Taf yn darparu cymorth ariannol ar gyfer y gwasanaeth hwn, gan ddefnyddio'r grant cynnal gwasanaethau bysiau a ddarperir gan Lywodraeth Cymru a'u harian eu hunain. Vikki Howells AC: Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae Accessible Caring Transport yn achubiaeth i'r rhai sydd angen trafnidiaeth gymunedol yn fy etholaeth i, ac mae wedi bod ar flaen y gad yn darparu cludiant i gleientiaid at ofal iechyd hanfodol yn ystod y pandemig. Fel y gŵyr y Dirprwy Weinidog, mae maniffesto Plaid Gydweithredol Cymru, 'Owning the Future', yn ymrwymo ASau Llafur a Chydweithredol fel fi i ddiogelu rôl anhepgor trafnidiaeth gymunedol. Felly, a wnaiff y Dirprwy Weinidog gytuno i gyfarfod â mi ac ASau Llafur a Chydweithredol eraill i drafod hyrwyddo a diogelu'r sector, yn ogystal â chyfle i annog twf darparwyr cydweithredol a mentrau cymdeithasol ym maes trafnidiaeth gymunedol yng Nghymru? Lee Waters AC: Wrth gwrs, byddwn yn hapus i gyfarfod â fy nghyd-Aelodau o Blaid Gydweithredol Cymru yn y Senedd i drafod hyn. Mae gan drafnidiaeth gymunedol ran bwysig i'w chwarae fel rhan o'r gymysgedd o atebion a welwn er mwyn newid dulliau teithio. Rydym yn treialu ein gwasanaeth bws Fflecsi ein hunain gyda Trafnidiaeth Cymru, gwasanaeth sy'n mabwysiadu egwyddor debyg i drafnidiaeth gymunedol, sef darparu hyblygrwydd er mwyn diwallu anghenion pobl, gan roi'r defnyddiwr yn gyntaf. Rwy'n ymwybodol fod Accessible Caring Transport yn etholaeth yr Aelod wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer y rhai sy'n ei chael yn anodd neu'n amhosibl defnyddio bysiau confensiynol, ac mae'n darparu bwlch pwysig yn y farchnad. Mae sut y gallwn barhau i wneud hyn a sut y gall Rhondda Cynon Taf fforddio parhau i'w wneud o ystyried yr heriau cyllidebol y mae pawb ohonom yn eu hwynebu, yn gwestiwn byw, a byddwn yn hapus iawn i drafod hynny gyda hi ac Aelodau eraill. Joel James MS: Fel y gŵyr y Dirprwy Weinidog, daeth y rhaglen Cysylltu Cymunedau i ben yn gynharach na'r disgwyl am nad oedd dull Llywodraeth Cymru o wahodd a dethol y prosiect yn cydymffurfio â gofynion rheoliadau Ewropeaidd. Mae'r rhaglen Cysylltu Cymunedau wedi bod yn achubiaeth i bobl fregus allu defnyddio gwasanaethau hanfodol, ac i gynnal lefel o ryddid na fyddent fel arall yn gallu ei mwynhau. Rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog yn cytuno bod angen sylweddol am gymorth i barhau i dyfu cyfleusterau teithio cymunedol, yn enwedig mewn lleoliadau gwledig a lled-wledig fel Bro Morgannwg a RhCT, lle gall cysylltiadau trafnidiaeth fod yn annibynadwy. A all y Dirprwy Weinidog amlinellu pa drafodaethau y mae wedi'u cael gyda'r gymdeithas dolenni cymunedol er mwyn darparu ffrwd newydd o gyllid ar gyfer teithio cymunedol? Diolch. Lee Waters AC: Bydd yn rhaid i mi ysgrifennu at yr Aelod ynglŷn â'r manylion hynny. Nid yw gennyf ar flaen fy mysedd yr eiliad hon. Fodd bynnag, mae'r pwynt cyffredinol y mae'n ei wneud yn un teg, fel y nodais yn awr, yn y cwestiwn, ac rwy'n hapus i fynd ar drywydd hynny.FootnoteLink Gwybodaeth ychwanegol at y Cyfarfod Llawn (Saesneg yn unig) Gwrthbwyso Carbon Cefin Campbell MS: 6. Pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru'n eu rhoi i gwmnïau sy'n defnyddio tir Cymru at ddibenion gwrthbwyso carbon? OQ56962 Julie James AC: Diolch am y cwestiwn. Julie James AC: Safon wirfoddol yw'r cod carbon coetiroedd ar gyfer prosiectau creu coetiroedd yn y DU. Fe'i cefnogir gan bob un o'r pedair Llywodraeth ac mae'n darparu mecanwaith i dirfeddianwyr allu cymryd rhan yn y farchnad garbon. Mae gwefan y cod yn rhoi arweiniad i brosiectau sydd â diddordeb mewn dal a storio carbon o goetiroedd. Cefin Campbell MS: Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Mae'n wir i ddweud bod cefnogaeth gyffredinol i amcan Llywodraeth Cymru i weld Cymru yn dod yn wlad garbon niwtral erbyn 2050, ond mae'n amlwg fod yna broblemau yn y farchnad garbon ar hyn o bryd, yn arbennig fel mae hyn yn effeithio ar ein tir amaethyddol. Mewn cyfres o atebion i gwestiynau ysgrifenedig wrthyf i, mae'r Llywodraeth wedi cadarnhau erbyn hyn fod arian cyhoeddus drwy gynllun Glastir yn mynd i gwmnïau y tu allan i Gymru er mwyn plannu coed. Mae ffermydd cyfan ar draws Cymru yn cael eu prynu at y diben hwn, gyda chwmnïau rhyngwladol yn gwerthu'r carbon ar y farchnad ryngwladol. Yn anffodus, pan fydd darn o dir fferm yn cael ei werthu fel hyn, nid yw'r tir yma ar gael bellach i ffermwyr Cymru ar gyfer gwrthbwyso carbon, a'r un mor bwysig, fydd e ddim ar gael chwaith i helpu Llywodraeth Cymru i gyrraedd yr amcan o fod yn net sero. Felly, beth yw'r ateb i'r broblem? Wel, mae'n bosib newid y system ariannu neu ddefnyddio'r system gynllunio. Felly, Weinidog, ydy Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod problem, ac ydych chi'n barod i gymryd camau drwy newid y system ariannu a'r system gynllunio i fynd i'r afael â hyn? Diolch yn fawr. Julie James AC: Rydym yn sicr yn cydnabod bod perygl o broblem go iawn yma, ond ar yr un pryd rydym yn rhoi cymorth i dirfeddianwyr ar hyn o bryd os ydynt am blannu coed ar eu tir, ac mae'n rhaid iddynt wneud hynny yn unol â chynllun plannu coed. Felly, ni allwch dorri unrhyw hen goeden ar unrhyw hen dir; rhaid i chi gael eich cynllun plannu coed wedi'i gymeradwyo. Mewn gwirionedd, un o'r pethau a drafodwyd gennym—. Mae fy nghyd-Aelod, Lee Waters, fel y gwyddoch, newydd wneud astudiaeth ddofn o goed, ac un o'r pethau a gododd ynddi oedd y gwrthwyneb llwyr i hynny, sef bod y cynlluniau plannu coed weithiau'n rhwystr i blannu coed. Mae'n amlwg fod yn rhaid inni gael y cydbwysedd yn iawn. I fod yn glir iawn cyn inni ddechrau'r sgwrs, nid ydym yn credu mai gwrthbwyso yw'r ffordd i fynd. Yn amlwg, yr hyn y dylech ei wneud yw lleihau eich allyriadau, felly nid yw'n iawn llygru cymaint ag y mynnwch a phlannu coed. Felly, rydym yn glir iawn fod gwrthbwyso ar gyfer cwmnïau sydd eisoes wedi lleihau eu hallyriadau i'r pwynt lle na ellir eu lleihau ymhellach gyda thechnolegau cyfredol, ac felly mae angen rhywfaint o wrthbwyso. Rydym yn rhan o grŵp y pedair gwlad ar goetiroedd ar hyn o bryd. Mae Llywodraeth yr Alban yn darparu'r ysgrifenyddiaeth ar ei gyfer. Rwy'n hapus iawn i siarad â Llywodraeth yr Alban, a fydd â phroblemau tebyg i ni. Yn sicr, nid ydym am weld tir amaethyddol da yn cael ei brynu at y diben hwn a'i orchuddio â choed heb unrhyw reswm da dros wneud hynny. Rydym am sicrhau bod y goeden gywir yn cael ei phlannu yn y lle iawn ar y tir cywir yng Nghymru, a bod tir amaethyddol da yn parhau i gael ei ddefnyddio ar gyfer cynhyrchu bwyd. Felly, byddwn yn edrych arno. Cefais gyfarfod da iawn gyda Undeb Amaethwyr Cymru yn gynharach hefyd ar yr union bwynt hwn. Rwy'n ymwybodol iawn o bryder pobl ynglŷn â hyn, felly byddwn yn parhau i'w fonitro. Nid oes llawer iawn ohono'n digwydd ar hyn o bryd, ond rwy'n gweld y perygl y gallai ddigwydd. Felly, byddwn yn parhau i'w fonitro. Rwyf hefyd yn awyddus iawn i edrych ar ffyrdd y gall Llywodraeth Cymru gaffael tir o'r math hwnnw at ddibenion cymunedol ac ar gyfer cynlluniau ffermwyr ifanc ac yn y blaen. Rwy'n hapus iawn i weithio gyda chi a chydag eraill i sicrhau bod gennym yr holl amddiffyniadau cywir ar waith, gan annog y bobl iawn i blannu'r goeden gywir yn y lle iawn. Y peth olaf yr hoffwn ei ddweud yw bod llawer o arian ar gael ar gyfer hyn. Hoffem helpu ein ffermwyr i ddenu'r arian hwnnw i'w ffermydd, unwaith eto er mwyn plannu'r goeden gywir yn y lle iawn at y diben cywir. Felly, nid nad ydym eisiau arian o'r farchnad masnachu allyriadau; rydym am ei gael yn y lle iawn ac i'r bobl iawn ac er budd y cymunedau cywir. Felly, mae cydbwysedd i'w daro yma. Rwy'n hapus iawn i weithio gyda chi ac eraill ledled Cymru i sicrhau ein bod yn cael y cydbwysedd cywir hwnnw—ein bod yn elwa ar arian sydd ar gael a'n bod yn ei ddefnyddio i'r perwyl cywir yng Nghymru. Cysondeb Landlordiaid Janet Finch-Saunders AC: Hoffwn ddatgan buddiant a chyfeirio'r Aelodau ac aelodau o'r cyhoedd at gategori 8, tir ac eiddo, ar fy nghofrestr buddiannau. Janet Finch-Saunders AC: 7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) (Diwygio) 2021 ar gysondeb landlordiaid yn y sector rhentu preifat? OQ56950 Julie James AC: Ie. Diolch, Janet. Bydd gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, fel y'i diwygiwyd yn ddiweddar gan Ddeddf 2021, yn cynyddu diogelwch deiliadaeth ac yn symleiddio'r ddeddfwriaeth ar rentu'n sylweddol, gan sicrhau bod yr holl hawliau a chyfrifoldebau allweddol yn cael eu nodi mewn contract ysgrifenedig. Bydd hyn yn cefnogi parhad ac o fudd i denantiaid a landlordiaid fel ei gilydd. Janet Finch-Saunders AC: Diolch. Ar adeg cymryd meddiant ar unrhyw gartref, gall landlord wynebu costau o fwy nag oddeutu £30,000 wrth ystyried rhent a gollwyd, ffioedd cyfreithiol ac yn aml, difrod y bydd angen ei gyfrifo. Wrth gwrs, bydd hynny'n digwydd pan nad yw tenantiaid yn cyflawni eu rhwymedigaethau hwy yn y les. Nawr, adroddir am oedi ar bob cam o'r broses o gymryd meddiant, gyda'r amser canolrifol yn 21.1 wythnos erbyn mis Mawrth 2020. Gyda'i gilydd, mae hyn yn arwain at ddiffyg hyder sylfaenol ein landlordiaid yn system y llysoedd fel y mae ac mae perygl o danseilio'r amddiffyniadau cyfreithiol ar gyfer gwneud iawn a roddwyd mewn grym i denantiaid drwy'r Ddeddf rhentu cartrefi. Nawr, fel y dywedodd Propertymark wrthyf, mae perygl gwirioneddol y bydd landlordiaid, yn enwedig y rhai sy'n berchen ar un eiddo, yn gadael y sector hwn sy'n darparu cartrefi mawr eu hangen. Nawr, ym mis Hydref y llynedd, argymhellodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y dylid cynnal ymchwiliad i'r angen am dribiwnlys tai annibynnol a phenodol yng Nghymru. Felly, Weinidog, a wnewch chi gadarnhau pa drafodaethau a gawsoch i adolygu'r posibilrwydd o ddatblygu tribiwnlys tai penodol i Gymru? Diolch. Julie James AC: Wel, wyddoch chi, Janet, weithiau, rwy'n teimlo ychydig yn flinedig o'r ffordd y mae'r Ceidwadwyr bob amser yn gwrthwynebu mesurau y dywedant eu bod yn mynd i atal cyflogaeth ar yr isafswm cyflog ac atal landlordiaid rhag dod i mewn i'r sector cartrefi rhent os oes unrhyw fath o reoleiddio, er gwaethaf yr holl dystiolaeth i'r gwrthwyneb. Felly, gadewch imi ddweud yn glir fod y ddeddfwriaeth rhentu cartrefi yn amlwg yn gwneud y broses o rentu'n decach ac yn fwy diogel, ond mae'n dal i fod gan landlordiaid ddulliau at eu defnydd o ennill meddiant lle caiff contract ei dorri. A hoffwn ddweud bod data gan Rhentu Doeth Cymru yn dangos inni fod y sector rhentu preifat yn tyfu ar hyn o bryd mewn gwirionedd ac nad yw'n crebachu, er gwaethaf yr holl rybuddion gennych chi ac eraill. Felly, roedd gennym 207,000 eiddo ym mis Rhagfyr 2019 ac mae gennym 216,000 ym mis Awst eleni. Mae nifer y landlordiaid cofrestredig hefyd wedi parhau i dyfu; roedd gennym 102,711 ar ddiwedd mis Rhagfyr 2019, 106,936 ar ddiwedd mis Rhagfyr 2020 a 107,059 ar ddiwedd mis Awst. Felly, fe welwch gynnydd parhaus yn nifer y landlordiaid ac nid gostyngiad, er gwaethaf proffwydoliaethau enbyd pobl ar y meinciau gyferbyn. Felly, nid yw'n wir o gwbl fod cyflwyno trwyddedu, cofrestru a systemau tecach yn atal landlordiaid. Ac fel y dywedaf yn barhaus, mae landlordiaid da yn hoffi rheoleiddio da, maent am gael eu digolledu'n deg am y cartrefi da iawn a ddarparant i bobl a'r cyfan a wnawn ni yw sicrhau bod yr arferion sy'n dwyn anfri ar y sector yn sgil gweithredoedd nifer fach iawn o unigolion yn cael eu dileu fel y gellir gwobrwyo ein landlordiaid da. Felly, rydym yn gweithio'n galed iawn i weithredu'r ddeddfwriaeth rhentu cartrefi, fel y dywedais. Rwy'n awyddus iawn i gyflawni ein hymrwymiad i gael o leiaf chwe mis o amser paratoi ar gyfer tenantiaid, landlordiaid ac eraill drwy roi'r dogfennau allweddol y byddant eu hangen iddynt, a bydd hyn yn dechrau digwydd dros y misoedd nesaf. Ar y tribiwnlys, rwy'n hapus iawn i barhau i edrych ar hynny. Nid wyf yn anghytuno â'r syniad o dribiwnlys tai mewn gwirionedd, ond mae'n rhaid ei osod yn ei gyd-destun, felly mae nifer o bethau eraill y bydd angen inni edrych arnynt ar yr un pryd. Ond nid wyf yn anghytuno ag egwyddor hynny mewn gwirionedd; mater o edrych ar y manylion fydd hi, fel bob amser. Lleihau Allyriadau Buffy Williams MS: 8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau allyriadau fel rhan o Gymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang? OQ56971 Julie James AC: Byddwn yn cyhoeddi ein cynllun cyflawni nesaf ar gyfer Cymru gyfan, sero-net Cymru, cyn COP26. Mae'r cynllun yn nodi'r camau sy'n rhaid i bob un ohonom eu cymryd drwy gydol tymor y Senedd hon, ac mae'n dechrau ein taith ddatgarboneiddio tuag at sero-net, gan gynnwys ein dull economi gylchol ar gyfer helpu i fynd i'r afael ag allyriadau defnydd. Buffy Williams MS: Nid yr argyfwng byd-eang nesaf yw'r argyfwng hinsawdd a natur; mae eisoes gyda ni. Nid yw'n broblem y gallwn ei gadael i'n plant a'u plant hwythau. Rhaid inni weithredu yn awr. Fel Llywodraeth, ni oedd y wlad gyntaf yn y DU i ddatgan argyfwng hinsawdd, i wahardd ffracio ac i osod mesurau effeithlonrwydd ynni mewn dros 60,000 o gartrefi fel rhan o'r degawd diwethaf o weithredu. Mae'r degawd nesaf o weithredu yn gwbl allweddol, ac mae gan bob un ohonom ein rhan i'w chwarae. Fel gwlad, rydym ar y blaen yn fyd-eang ym maes ailgylchu, ond mae rhwystrau gwirioneddol i drigolion yn ein cymunedau rhag gallu chwarae eu rhan yn y trawsnewidiad gwyrdd. Sut y bydd y Gweinidog nid yn unig yn annog ond yn cynorthwyo trigolion ledled Cymru i fyw bywyd gwyrddach? Julie James AC: Diolch, Buffy. Rwy'n cytuno'n llwyr. Mae her newid hinsawdd yn ei gwneud yn ofynnol i bawb weithredu a gweithredu ar unwaith, fel y dywedais dro ar ôl tro. Nid wyf yn ymddiheuro am wneud hynny, ac efallai ei bod hi'n werth i'r Aelodau arfer â fy nghlywed yn ei ddweud, oherwydd byddwn yn ei ddweud yn ofnadwy o aml dros y blynyddoedd nesaf. Rydym wedi dweud yn gwbl glir fod yn rhaid i'n cynllun Cymru sero-net fod yn gynllun i Gymru gyfan. Mae'n cynnwys addewidion i weithredu gan unigolion a sefydliadau ledled Cymru, yn ogystal â sut y gallant helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd. Rydym yn cydnabod y rôl hanfodol y mae ein cymunedau yn ei chwarae yn helpu i leihau allyriadau, yn ogystal ag ymdrin ag effeithiau newid hinsawdd ar eu bywydau hefyd. Felly, byddwn yn parhau i gefnogi sawl rhaglen grant i alluogi cymunedau i weithredu eu hunain. Felly, mae gennym y rhaglen camau cynaliadwy a gaiff ei rhedeg gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, a ariannir drwy'r cyllid cyfrifon segur. Cefais gyfarfod da iawn gyda hwy yn ddiweddar iawn ynglŷn â sut y gallwn ddenu'r arian hwnnw i Gymru. Mae gennym raglen adnewyddu Cymru, sy'n rhoi cymorth i gymunedau nodi a gweithredu ar newid hinsawdd, o brosiectau ynni adnewyddadwy, i brosiectau tyfu bwyd yn y gymuned a'r mentrau effeithlonrwydd ynni a nododd hi. A hefyd gall pobl roi camau ar waith eu hunain drwy gerdded a beicio mwy, cynyddu effeithlonrwydd ynni yn eu cartrefi, lleihau defnydd ac ailddefnyddio eitemau, prynu'n lleol a phrynu cynnyrch mwy cynaliadwy. Mae gennym nifer fawr o raglenni sy'n canolbwyntio ar gefnogi unigolion i gymryd y camau hynny. A hoffwn ddweud hyn hefyd wrth bobl ifanc Cymru sy'n gwrando heddiw—nid cyngor anobaith yw hyn. Gallwn newid hyn, ond rhaid inni wneud hynny, bob un ohonom, yn ein bywydau ein hunain ac yn ein cymunedau a gweithredu gyda'n gilydd. Felly, gyda'n gilydd gallwn yn bendant wneud gwahaniaeth a'n cyfrifoldeb ni yma yn y Senedd ac fel Llywodraeth yw rhoi'r platfformau ar waith i alluogi ein cymunedau i wneud y peth iawn. Diolch i'r Gweinidog. 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg, ac mae'r cwestiwn cyntafgan Jayne Bryant. Aflonyddu mewn Ysgolion Jayne Bryant AC: 1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod disgyblion yn cael eu hamddiffyn rhag aflonyddu mewn ysgolion? OQ56975 Jeremy Miles AC: Mae gennym amrywiaeth o ganllawiau a chymorth i sicrhau diogelwch plant a phobl ifanc. Rwyf hefyd wedi comisiynu Estyn i gynnal adolygiad o aflonyddu rhywiol gan gyfoedion mewn sefydliadau addysg, a bydd y canfyddiadau'n chwarae rhan bwysig yn cefnogi sefydliadau ac yn llywio polisi Llywodraeth Cymru. Jayne Bryant AC: Diolch am hynny, Weinidog. Mae gwefan Everyone's Invited, lle gall disgyblion adrodd yn ddienw am gamdriniaeth ac aflonyddu, wedi taflu goleuni ar broblem sylweddol. Mae dros 90 o ysgolion yng Nghymru wedi cael eu henwi yn yr ymgyrch ar-lein, ond mae'r realiti'n debygol o gynnwys llawer mwy. Mae tystiolaeth Everyone's Invited yn peri gofid mawr, gyda rhai disgyblion yn dweud bod merched mor ifanc ag 11 oed dan bwysau i anfon lluniau noeth neu dderbyn lluniau noeth nad ydynt mo'u heisiau gan fechgyn. Gwyddom fod Ofsted wedi casglu yn ei adolygiad yn Lloegr fod aflonyddu rhywiol wedi'i normaleiddio i bobl ifanc erbyn hyn, ac rwy'n falch ynglŷn â'r hyn y mae'r Gweinidog wedi'r ddweud a'i wneud gydag Estyn yn cynnal eu hadroddiad ar y mater. Wrth baratoi ar gyfer y canfyddiadau, pa fesurau ac adnoddau y mae'r Gweinidog yn paratoi i'w rhoi ar waith fel y gellir gweithredu ar y canfyddiadau cyn gynted â phosibl? Jeremy Miles AC: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol pwysig hwnnw, ac rwy'n rhannu gyda hi—. Roeddwn yn drist ac yn bryderus iawn wrth ddarllen y dystiolaeth ar wefan Everyone's Invited, ac mae unrhyw fath o aflonyddu, neu gam-drin yn wir, yn gwbl annerbyniol. Gwn y byddwn i gyd am i'r neges honno gael ei hanfon yn glir iawn o'r Siambr hon. Rydym wedi cyflwyno mesurau eisoes cyn yr adroddiad gan Estyn. Mae nifer o'r eitemau a nodwyd yn adroddiad Ofsted yn ymyriadau sydd eisoes yn digwydd yng Nghymru. Yn ogystal â'r rhai a oedd eisoes ar waith, ysgrifennais at bob un o'r ysgolion a nodwyd ar wefan Everyone's Invited. Ond rwyf am adleisio'r pwynt a wnaeth yr Aelod, ac mae'n bwynt pwysig iawn—rhaid inni beidio â chymryd yn ganiataol mai'r ysgolion hynny yw'r unig ysgolion lle gallai'r pethau hyn fod yn digwydd, ac mae llythyr wedi mynd at bob ysgol yng Nghymru i nodi'r camau y maent yn eu cymryd i ddiogelu eu dysgwyr. Yn ogystal â hynny, mae swyddogion yn fy adran yn gweithio, gydag awdurdodau lleol a chydag ysgolion unigol, i nodi arweinydd ar gyfer addysg rhyw a chydberthynas mewn dysgu proffesiynol a fydd yn helpu i gefnogi datblygiadau yn y maes hwn wrth inni dderbyn ein hadroddiad gan Estyn. Ac yn ychwanegol at hynny, yn ogystal â chomisiynu adnoddau ychwanegol yn y maes hwn i gefnogi ysgolion a dysgwyr, rydym wedi bod yn gweithio i sicrhau bod yr adnoddau sydd ar gael, ac sydd mewn llawer o achosion yn cael eu defnyddio'n eang iawn, mor hygyrch â phosibl i ysgolion ac i ddysgwyr. Ac yn olaf, wrth gwrs, mae amrywiaeth o linellau cymorth yn bodoli eisoes y gall unrhyw ddioddefwr aflonyddu neu gamdriniaeth gysylltu â hwy, ac maent yn rhoi cyngor personol a phenodol iawn. Ond fel y dywedais, bydd gennym gorff pellach o wybodaeth yn adroddiad Estyn a fydd yn ein helpu i siapio polisi y tu hwnt i hynny. Ken Skates AC: A allwch chi roi gwybod i'r Senedd am gamau sydd ar waith i hyrwyddo parch a thosturi yn yr ysgol, o ystyried y rôl hanfodol y mae'r ddau beth yn ei chwarae yn hyrwyddo lles ymhlith dysgwyr, ac yn creu dysgwyr hyderus na chânt eu dallu gan gywilydd yn ddiweddarach mewn bywyd? Ac a wnewch chi ymrwymo hefyd i adrodd i'r Senedd am unrhyw arfarniadau o'r manteision y gallai prydau ysgol am ddim i bawb eu cynnig mewn perthynas â dileu embaras a chywilydd yn yr ysgol? Jeremy Miles AC: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig hwnnw. Fel rhan o'r gwaith o gyflwyno rhan addysg rhyw a chydberthynas y cwricwlwm newydd yn effeithiol, ac yn ogystal â'r gwaith y bydd ysgolion yn ei wneud i wireddu'r maes iechyd a lles o ddysgu a phrofiad sy'n rhan annatod o'r cwricwlwm, mae hynny'n galw am arbenigedd, amser ac adnoddau arbenigol i sicrhau bod y math o amgylchedd cefnogol y mae'r Aelod yn cyfeirio ato yn ei gwestiwn ar gael yn yr ysgol ar gyfer ein dysgwyr, i gynnal eu hyder a'u hymdeimlad ohonynt eu hunain. Ym mis Mawrth eleni, fel y gŵyr yr Aelod, fe wnaethom gyhoeddi canllawiau statudol i ysgolion ar ddatblygu'r dull ysgol gyfan o ymdrin â lles dysgwyr, ac yng nghymuned ehangach yr ysgol yn wir. Mae rhan o hynny'n ymwneud â chynorthwyo ein pobl ifanc i feithrin gwytnwch drwy ddatblygu perthynas ymddiriedus ag eraill yn amgylchedd yr ysgol a thu hwnt, a hefyd i gefnogi athrawon, fel eu bod yn cael cymorth i allu ymdrin â materion y byddant yn dod ar eu traws a allai fod y tu hwnt i'w cymhwysedd uniongyrchol. Fel y gŵyr yr Aelod, mae gwaith eisoes ar y gweill mewn perthynas ag ymestyn cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim. Rwy'n awyddus iawn i rannu ein cynnydd yn y pethau hynny gyda'r Aelodau yn y Senedd maes o law. Ffermydd Teulu Cymraeg Adam Price AC: 2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch effaith ieithyddol ffermydd teulu Cymraeg yn cael eu gwerthu i gwmnïoedd er mwyn plannu coed ar gyfer rhaglenni gwrthbwyso carbon? OQ56943 Jeremy Miles AC: Rwy'n cynnal trafodaethau gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ar sawl mater sy'n berthnasol i'n portffolios, ac wedi cael trafodaeth benodol gyda'r Dirprwy Weinidog ar y cwestiwn penodol hwn. Mae cyflawni'n targedau adeiladu coetiroedd yn allweddol i'r maes newid hinsawdd ac yn creu ffynhonnell incwm newydd i ffermwyr, yn cynnwys ffermwyr sydd mewn teuluoedd sy'n siarad Cymraeg. Rŷn ni’n cydnabod na ddylai buddsoddiadau effeithio ar gymunedau, na chwaith newid y math o dirfeddianwyr. Adam Price AC: Roeddwn i'n synnu i glywed eich cyd-Weinidog gynnau yn dweud nad yw'r Llywodraeth yn meddwl bod hwn yn broblem anferth, achos dwi'n ymwybodol o 10 fferm yng nghyffiniau dyffryn Tywi'n unig sydd wedi cael eu prynu gan gwmnïau masnachol, a gwelon ni Undeb Amaethwyr Cymru yn dweud yr wythnos yma eu bod nhw yn gweld adroddiadau wythnosol. Dyma fersiwn amaethyddol y creisis ail gartrefi ehangach, oherwydd dyw teuluoedd fferm lleol ddim â'r capasiti ariannol i gystadlu gyda'r cwmnïoedd allanol yma, a beth dŷn ni'n ei weld ydy symudiad tuag at batrwm perchnogaeth tir sydd yn debycach i'r hyn welon ni yn y ganrif cyn y diwethaf. A dweud y gwir, mae'r potensial o ran diboblogi yn ymdebygu i'r hyn gwelon ni yn yr Alban gyda chliriadau'r ucheldiroedd yn y ddeunawfed ganrif. Ac, wrth gwrs, yn ddieithriad yn fy achos i, teuluoedd fferm Cymraeg oedd y rhain, ac mae hynny'n wir am y rhan fwyaf o'r ffermydd trwy Gymru oherwydd natur y diwydiant. Felly, colli tir, colli iaith. A allwn ni gael astudiaeth traw effaith gan yr uned gynllunio ieithyddol o fewn eich adran i weld yr effaith y gall hyn ei gael ar drosglwyddo iaith o fewn ein cymunedau Cymraeg ni? Jeremy Miles AC: Wel, mae'r newid yn economi cefn gwlad wrth gwrs yn elfen cwbl greiddiol o ran cynllunio polisi iaith, felly mae'r pethau yma o dan drosolwg cyson. Nid clywed yr hyn wnaeth yr Aelod ddweud gwnes i yn ateb y Gweinidog Newid Hinsawdd. Dyw e ddim yn glir eto beth yw maint y broblem. Dŷn ni ddim eisiau hwn i fod yn broblem, ac rŷn ni eisiau cydweithio gyda ffermwyr i sicrhau na fydd e yn broblem. O ran y gwerthuso rŷn ni wedi'i wneud eisoes o'r polisi, prin yw'r dystiolaeth ar hyn o bryd o ran newid perchnogaeth tir i fuddsoddwyr. Allan o dros 1,100 o gwsmeriaid, mae gan 35 o gwsmeriaid gyfeiriadau y tu allan i Gymru. Rŷm ni wedi gwneud gwaith i edrych ar o ble mae'r cynigion yma'n dod, ac mae 17 o'r 35 prosiect sydd wedi cael eu hariannu trwy gynllun grant coetir Cymru o dan 6 hectar, felly mae'n anhebygol, yn y cyd-destun hwnnw, mai cynrychioli buddsoddwyr mawr sydd am droi tir cyfan yn goetiroedd yw'r rheini. Ond mae'n bwysig, fel gwnes i ddweud yn gynharach, ein bod ni'n cadw golwg ar hyn ac, os oes tystiolaeth yn datblygu ei fod yn broblem, dyna rŷm ni eisiau ei gywiro. Janet Finch-Saunders. Janet Finch-Saunders AC: [Anghlywadwy.] Diolch am rannu hynny gyda mi. Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau Cwestiynau'r llefarwyr nesaf, felly. Llefarydd y Ceidwadwyr, Samuel Kurtz. Samuel Kurtz MS: Diolch, Llywydd. Weinidog, cysylltodd mudiad Mercher y Wawr â mi yn ddiweddar, yn mynegi pryder bod siaradwyr Cymraeg yn wynebu heriau o ran cynnal busnes bancio wyneb yn wyneb ac ar-lein trwy gyfrwng y Gymraeg. Pa gamau y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau bod busnesau ar draws Cymru yn gweithredu'n ddwyieithog? A pha gymorth ychwanegol sy'n cael ei gynnig i'r busnesau hynny sy'n methu â chydymffurfio â'r gofynion hyn? Jeremy Miles AC: Wel, mae gyda ni amryw ffyrdd o gefnogi busnesau ar draws Cymru i ddarparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg. Ac rwy’n talu teyrnged i’r gwaith y mae’r mentrau iaith yn ei wneud ym mhob cymuned yng Nghymru i gefnogi’r economi leol i ddarparu gwasanaethau o'r fath, ynghyd hefyd â gwasanaeth Helo Blod, sy’n darparu gwasanaeth cyfieithu a Helo Blod Lleol, sy’n gweithredu drwy’r mentrau iaith er mwyn gwneud yn union beth y mae'r Aelod yn sôn amdano fe. Ond hefyd, rwy'n ymwybodol iawn fod darpariaeth bancio yn cael ei gyfyngu mewn ardaloedd o Gymru. Rwy'n gwybod am enghreifftiau penodol o hynny ac mae hyn yn fater i fusnesau, ond fel y mae'r cwestiwn yn ei ddweud, hefyd i fudiadau yn ehangach na hynny. Rŷm ni wedi bod yn edrych, fel y mae'r Aelod yn gwybod, ar impact, dros y flwyddyn ddiwethaf, o newidiadau, gan gynnwys COVID, er enghraifft, ar fudiadau Cymraeg yn ein cymunedau ni ac mae cynllun gweithredu gyda ni yn delio â'r anghenion sydd yn codi yn sgil hynny. Samuel Kurtz MS: Diolch. Rydym i gyd yn cytuno ein bod am weld cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg ym mhob cornel o'r genedl. Yn aml, mae Dinbych-y-Pysgod, sydd yng nghanol fy etholaeth, yn cael ei ystyried yn gymuned draddodiadol Gymraeg ei hiaith, ond mae'r ysgol cyfrwng Cymraeg, Ysgol Hafan y Môr, wedi cael ei disgrifio gan y cynghorydd lleol fel 'bursting at the seams', ac mae Ysgol Caer Elen yn Hwlffordd hefyd yn orlawn. Gyda'r cynnydd yn y galw gan rieni i'w plant fynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg, sut mae'r Gweinidog yn bwriadu cefnogi'r galw cynyddol hwn a sicrhau nad yw cyllid ar gyfer y ddarpariaeth addysg bresennol yn cael ei effeithio? Jeremy Miles AC: Wel, mae'r Aelod yn llygad ei le wrth ddweud fod y galw am addysg Gymraeg mewn ysgolion mewn mannau yng Nghymru ddim yn cael ei ddiwallu, felly, yn sicr mae angen mwy o uchelgais yn y ddarpariaeth mewn amryw gymuned ar draws Cymru. Ar hyn o bryd, fel bydd yr Aelod yn gwybod, mae'r awdurdodau lleol yn gweithio ar eu cynlluniau strategol er mwyn darparu addysg Gymraeg yn eu hardaloedd nhw er mwyn i'r rhain ddod i rym erbyn yr amser hyn y flwyddyn nesaf, mwy neu lai. Rwy'n disgwyl gweld y rheini ym mis Ionawr. Maen nhw wedi bod yn gweithio ar y cyd gyda swyddogion yn Llywodraeth Cymru a chyda'i fforymau iaith lleol er mwyn sicrhau yr hyn rwyf i eisiau ei weld yn y cynlluniau hynny—eu bod nhw'n uchelgeisiol, ac nid yn unig eu bod nhw'n diwallu'r galw, ond eu bod nhw hefyd yn cyfrannu at greu'r galw, a'u bod yn esbonio ac yn gwerthu, fel petai, y syniad o addysg Gymraeg. Ond fel y mae'r Aelod yn ei ddweud, mewn amryw gymunedau, mae hynny'n digwydd eisoes—mae'r galw yn ehangach na'r ddarpariaeth. Felly, ynghyd â hynny, rŷm ni wedi, wrth gwrs, eleni darparu cronfa ehangach er mwyn adeiladu ysgolion cynradd Cymraeg ac rwyf yn gobeithio y bydd cynigion diddorol a chreadigol yn dod i wario'r arian hynny. Samuel Kurtz MS: Diolch. A phan wnaethoch eich datganiad ar 'Cymraeg 2050' cyn toriad yr haf, gofynnais y cwestiwn hwn i chi, ond yn anffodus ni chefais ateb iddo. Dywedoch chi eich bod am annog siaradwyr Cymraeg ifanc i ddychwelyd o brifysgol i helpu i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn ein hysgolion. Tynnais sylw at y ffaith bod hyn yn ei wneud yn fwy anodd i recriwtio athrawon o'r tu allan i Gymru, felly yn lleihau'r cymysgedd o ddoniau a chefndiroedd y mae athrawon newydd yn dod â nhw i'n hysgolion. A allwch chi egluro nawr sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau bod unrhyw un sy'n dymuno dysgu yng Nghymru,ond nad oes ganddo'r sgiliau iaith, yn gallu dod o hyd i swydd fel athro yng Nghymru? Diolch. Jeremy Miles AC: Wel, mae'n bosibl i bobl ddysgu yng Nghymru er nad oes gyda nhw sgiliau iaith penodol. Beth dŷn ni eisiau ei weld—. Ac mae gyda ni gynllun peilot yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i annog myfyrwyr yn ein prifysgolion ni i weithio fel athrawon drwy gyfrwng y Gymraeg neu ddysgu'r Gymraeg yn ein hysgolion ni. Byddwn ni'n cyhoeddi manylion pellach am y peilot hwnnw maes o law, ond mae'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian. Siân Gwenllian AC: Diolch, Lywydd. Mi oeddwn i'n falch iawn o weld bod niferoedd profion COVID positif mewn ysgolion wedi gostwng yn sylweddol yn ystod yr wythnos diwethaf—dwi'n siŵr eich bod chithau yn falch o weld hynny hefyd—gostyngiad o 44 y cant. Ond mae ysgolion yn parhau i fod mewn sefyllfa fregus iawn, wrth gwrs, efo rhai dosbarthiadau efo hanner y disgyblion wedi profi'n bositif am COVID. Mae prif gynghorydd gwyddonol Llywodraeth Cymru dros iechyd, Dr Rob Orford, wedi tynnu sylw at fater o bryder arall ar ben hyn, sef y gallai ail ymddangosiad afiechydon anadlol a gafodd eu hatal yn ystod y cyfnod clo diwethaf achosi problemau. Hynny yw, gall plant gael eu cyd-heintio efo COVID a salwch arall sy'n effeithio ar yr ysgyfaint ac yn y blaen—ffliw, annwyd ac ati. Mae hyn yn bryder. Fedrwch chi roi asesiad i ni, neu ydy'r Llywodraeth yn gwneud asesiad, o'r risg penodol yma, sy'n gysylltiedig efo diffyg imiwnedd ymhlith plant? Ac yn sgil hynny, pa gamau fyddwch chi'n eu cymryd i sicrhau bod ysgolion yn safleoedd diogel dros y gaeaf? Jeremy Miles AC: Wel, mae'r cynlluniau sydd gyda ni eisoes ar waith—y fframweithiau sy'n gweithio ym mhob rhan o Gymru—bwriad y polisi hwnnw, wrth gwrs, yw sicrhau bod ein hysgolion ni yn saff ar gyfer ein dysgwyr ni a'n hathrawon ni a'r gweithlu ehangach, a bod y mesurau sy'n cael eu cymryd yn ein hystafelloedd dosbarth ni ac yn ystâd ehangach yr ysgol yn adlewyrchu anghenion yr ysgol ei hun ond hefyd y cyd-destun iechyd lleol o ran iechyd cyhoeddus. O ran y pwynt penodol y gwnaeth yr Aelod ei godi ynglŷn â'r cyngor penodol, mi wnaf i ystyried hynny gyda'r gwyddonydd a gweld beth y gallaf i ei rannu gydag Aelodau yn ehangach am hynny. Siân Gwenllian AC: Diolch. Mi fyddai hynna'n ddefnyddiol iawn, a dwi'n siŵr eich bod chi'n cytuno efo fi bod awyru yn yr adeiladau ysgol yn hollbwysig, yn enwedig rŵan, o feddwl efallai bod yna gyd-heintio yn digwydd, sy'n gwneud y broblem yn waeth. Mi fuaswn i'n licio gofyn i chi am broblem arall ynglŷn â diogelwch ysgolion, sef asbestos, a beth ydy'ch ymateb chi i'r canfyddiad diweddar bod asbestos mewn 60 y cant o ysgolion Cymru. Mae gwybodaeth ddiweddar wedi datgelu bod yna fwy na 900 o ysgolion yn cynnwys asbestos. Felly, hoffwn i wybod pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu cynghorau sir ac ysgolion i fonitro, ac, yn bwysicach, i gael gwared ar asbestos. Jeremy Miles AC: Diolch am y cwestiwn pellach hwnnw. Trwy'r arianrevenue support grant dŷn ni'n ei ddarparu i awdurdodau lleol, mae'n bosib iddyn nhw ddefnyddio'r ffynhonnell arian honno i sicrhau bod eu hysgolion nhw'n mynd i'r afael â'r sefyllfa hon. Ond dŷn ni hefyd yn gweithio gyda'r Health and Safety Executive a chydag Ystadau Cymru i gefnogi arfer da i ddelio ag asbestos mewn ysgolion ac mewn adeiladau coleg hefyd. A dŷn ni hefyd yn darparu canllawiau penodol i awdurdodau lleol i'w helpu nhw i fynd i'r afael â'u cyfrifoldebau nhw o ran monitro, a, phan mae angen hynny, cael gwared ar asbestos yn eu hadeiladau nhw. Siân Gwenllian AC: Mi fyddwch chi'n gwerthfawrogi bod yr undebau yn benodol yn gofyn am weithredu brys ar y mater yma, ac yn gobeithio am newyddion i'r perwyl yna gennych chi yn fuan. O ganlyniad i'r pandemig, rydym ni'n gwybod bod ysgolion, staff a disgyblion wedi bod o dan bwysau anferth. Mae yna adroddiad diweddar gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru sy'n tynnu sylw at sut mae'r pandemig wedi effeithio ar les addysgwyr, yn enwedig ar yr arweinwyr yn yr ysgolion—eu lles nhw'n cael ei effeithio gan lwyth gwaith, mesurau atebolrwydd, y broses arolygu, materion staffio a phersonél, a hefyd, wrth gwrs, ariannu a rheoli cyllidebau. Mae yna faich gwaith aruthrol ar eu hysgwyddau nhw. Felly, a fedrwch chi amlinellu pa gamau byddwch chi'n eu cymryd i sicrhau lles arweinwyr ein hysgolion ni, a sut mae'r Llywodraeth yn mynd i fod yn ymateb i'r pwysau sy'n cael ei achosi ar draws ystod o feysydd o ganlyniad i lwyth gwaith arolygiadau a rheoli cyllidebau? Jeremy Miles AC: Wel, mae hyn yn gwestiwn pwysig iawn, a dwi eisiau cydnabod y pwysau mae prifathrawon ac athrawon o dan ar hyn o bryd, ac wedi bod dros y cyfnod o flwyddyn a mwy yn ddiweddar. Rôn i'n trafod bore dydd Mawrth gydag awdurdodau lleol ac undebau dysgu, a'r undebau gweithlu addysg mwy eang na hynny, ac yn gofyn iddyn nhw i basio ymlaen ein diolch ni fel Llywodraeth, ac, rwy'n siŵr, ein diolch ni fel Senedd, i'w gweithleoedd am yr hyn maen nhw wedi bod yn ei wneud mewn amgylchiadau anodd dros y flwyddyn ddiwethaf. O ran darpariaeth benodol i gefnogi llesiant ac iechyd meddwl arweinwyr ysgol, rŷn ni wedi bod yn gwneud amryw o bethau. Mae'r fframwaith ysgol gyfan ar gyfer llesiant yn cynnwys ymyraethau sydd yn cefnogi athrawon a phenaethiaid hefyd, gan gynnwys darpariaeth benodol gan Education Support ac eraill, er mwyn iddyn nhw hefyd gael gofod i allu delio â'r pwysau sydd wedi bod yn realiti iddyn nhw dros y flwyddyn ddiwethaf. O ran adnoddau pellach, rŷn ni wedi, wrth gwrs, trwy renew and reform, darparu symiau sylweddol o arian er mwyn recriwtio mwy o staff er mwyn codi ychydig o'r pwysau ar benaethiaid mewn ysgolion i ddelio yn benodol ag impact COVID. Felly, mae hynny wedi cael yr effaith o gynyddu darpariaeth a chynyddu capasiti yn ein hysgolion ni, a hefyd, o ran cwestiwn atebolrwydd ac asesiadau, bydd yr Aelod yn gwybod, wrth gwrs, am y camau gwnes i ddatgan yn ystod yr haf o ran codi rhai o'r gofynion hynny dros y cyfnod yma, gan ddeall yn iawn bod y pwysau sy'n dod yn sgil hynny, efallai nad oes croeso i hynny ar hyn o bryd wrth i ysgolion ddelio â sialensiau COVID hefyd. Ac ynghyd â hynny, mae gyda ni weithgor gydag awdurdodau lleol ac undebau sydd yn gweithio ar fesurau y gallwn ni eu cymryd i leihau gofynion biwrocrataidd efallai ar ein hysgolion ni er mwyn sicrhau ein bod ni'n codi'r hyn o bwysau y gallwn ni. Tynnwyd cwestiwn 3 [OQ56955] yn ôl. Cwestiwn 4, Jack Sargeant. Lleoliadau Annhraddodiadol Jack Sargeant AC: 4. Sut mae Llywodraeth Cymru'n galluogi dysgwyr i ddysgu mewn lleoliadau annhraddodiadol? OQ56968 Jeremy Miles AC: Mae ein cenhadaeth genedlaethol yn nodi ein hymrwymiad i lwyddiant a llesiant pob dysgwr. Mae addysg heblaw yn yr ysgol yn rhan integredig o'r continwwm addysg. Mae addysg heblaw yn yr ysgol yn ddarpariaeth addysg i blant a phobl ifanc sydd, am ba reswm bynnag, angen cymorth wedi'i deilwra y tu allan i ysgolion prif ffrwd. Jack Sargeant AC: Weinidog, diolch ichi am eich ateb. Mae'n fy atgoffa o ddau fater a godwyd gan drigolion Cymru sydd eisiau cael mynediad at addysg ond na allant wneud hynny. Ceisiodd un preswylydd yn Alun a Glannau Dyfrdwy wneud cymhwyster addysg ôl-raddedig yng ngholeg Cheshire East, sefydliad lle gall dysgwyr o rannau eraill o'r Deyrnas Unedig gael cyllid i'w fynychu, ond yn anffodus, nid ydym yn cydnabod y cwrs, ac er ei fod ar garreg ei drws, ni allai fynychu'r cwrs oherwydd hynny. Weinidog, fe fyddwch hefyd yn ymwybodol o bryderon a godwyd drwy un o ddeisebau'r Senedd—ac rwyf eisiau ei gwneud yn glir yma nad wyf yn siarad ar ran y pwyllgor; rwy'n siarad fel Aelod o'r Senedd. Ond nododd y ddeiseb honno nad yw cyllid ôl-raddedig ond yn gymwys ar gyfer prifysgolion traddodiadol, gan eithrio myfyrwyr sy'n dewis gwneud gradd Meistr mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg neu feddygaeth drwy ddarparwyr amgen. Weinidog, a ydych yn cytuno â mi mai'r sefydliad gorau yn aml yw'r un y gall y dysgwr gael mynediad ato, ac na ddylem osod rhwystrau yn ffordd pobl sy'n ceisio cael cymwysterau? Jeremy Miles AC: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Fel ym mhob rhan o'r DU—. Mae gan bob rhan o'r DU drefn lle mae darparwyr addysg yn gymwys i gael cymorth drwy'r trefniadau priodol ym mhob un o'r pedair gwlad, ac nid yw'r ffaith bod un sefydliad yn gallu bod yn gymwys yn un o'r gwledydd yn golygu'n awtomatig eu bod yn bodloni'r meini prawf ym mhob un o'r pedair gwlad. Byddai angen iddynt gyflwyno ceisiadau am gydnabyddiaeth mewn unrhyw wlad lle gwneir cais am gyllid. Fel y mae'r Aelod yn gwybod, CCAUC sy'n gyfrifol am lawer o'r broses mewn perthynas â'r cwestiynau hyn. Ar hyn o bryd, mae angen i ddarparwyr amgen wneud cais am ddynodiad penodol i'w cyrsiau er mwyn i fyfyrwyr o Gymru allu cael cymorth i fyfyrwyr. Pwrpas hynny wrth gwrs yw i ddiogelu'r pwrs cyhoeddus, ond i ddiogelu buddiannau myfyrwyr hefyd, fel y gallwn sicrhau bod y darparwyr yn gallu bodloni'r meini prawf perthnasol er budd y myfyrwyr eu hunain. Os oes unrhyw fyfyriwr unigol yng Nghymru yn pryderu am statws cwrs y gallent fod â diddordeb ynddo, byddwn yn argymell mai'r cam cyntaf yw cysylltu â darparwr y cwrs i wirio y bydd cymorth i fyfyrwyr ar gael cyn derbyn y lle hwnnw. Dyna'r adeg pan fydd modd gofyn unrhyw gwestiynau a allai godi. Sam Rowlands MS: Hoffwn ddiolch i Mr Sargeant hefyd am godi'r cwestiwn hwn y prynhawn yma. Fel y gwnaethoch ei gydnabod, Weinidog, i rai dysgwyr, nid dysgu traddodiadol mewn ysgolion yw'r dewis gorau iddynt bob amser. Mae llawer o bobl ifanc yn aml yn ffynnu mewn lleoliadau anhraddodiadol, sy'n eu galluogi i symud i fyny'r ysgol addysgol ar eu cyflymder eu hunain, a chanolbwyntio efallai ar feysydd diddordeb penodol sy'n fwy addas ar eu cyfer, ac yn wir, yn fy mhrofiad fy hun, roeddwn yn rhywun a addysgwyd gartref hyd at oedran ysgol uwchradd, a gwn o lygad y ffynnon pa mor dda y gall rhai lleoliadau anhraddodiadol weithio i rai teuluoedd. Efallai fod y canlyniad yn amheus yn fy achos i yma, ond yn sicr, roedd y profiad o fudd i fy nheulu. Ond wrth gwrs, mae llawer o'r cyfleoedd a gyflwynir gan leoliadau anhraddodiadol yn seiliedig ar ddewis rhieni. Felly, Weinidog, sut y byddwch yn parhau i gefnogi rhieni i allu dewis y lleoliad cywir i'w plant ddysgu yn y ffordd fwyaf effeithiol? Jeremy Miles AC: Wel, yng nghyd-destun y cwestiwn y mae'n ei godi am addysg ddewisol yn y cartref—ac rydym yn cydnabod y ffordd wylaidd y mae'n cyflwyno manteision hynny, rwy'n credu—hoffwn atgoffa'r Aelod, o bob un o'r pedair gwlad yn y DU, Cymru sy'n darparu'r cymorth mwyaf hael i'r gymuned addysg ddewisol yn y cartref. Mae'r cyllid ar gyfer y lefel honno o gymorth y flwyddyn hon oddeutu £1.7 miliwn. Fel y gŵyr, yn y Senedd flaenorol, cafwyd ymgynghoriad ar gyflwyno newidiadau i'r trefniadau rheoleiddio mewn perthynas ag addysg ddewisol yn y cartref er mwyn cefnogi awdurdodau lleol a'r gwaith y gallant ei wneud gyda rhieni sy'n dewis addysgu gartref. Rwy'n glir yn fy meddwl bod angen i hynny fod yn rhan o gynnig ehangach sy'n gallu cefnogi addysgwyr yn y cartref yn y ffordd y mae'n disgrifio, ac rwy'n falch iawn fod Cymru'n arwain y ffordd ar draws y DU gyda'r ddarpariaeth honno. Cofrestru i Bleidleisio Rhys ab Owen AS: 5. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Cwnsler Cyffredinol ynghylch gweithio gydag ysgolion a cholegau i sicrhau bod mwy o bobl ifanc yn cofrestru i bleidleisio? OQ56947 Jeremy Miles AC: Mae cefnogi pobl ifanc i arfer eu hawliau democrataidd yn flaenoriaeth, nid dim ond o ran addysg, ond er budd y Llywodraeth gyfan. Rwy'n trafod gyda’r Cwnsler Cyffredinol ffyrdd o gydweithio er mwyn cynyddu nifer y bobl ifanc 16 ac 17 oed sy’n cofrestru. Rhys ab Owen AS: Diolch yn fawr ichi, Weinidog, oherwydd mae e'n hollbwysig, onid yw e? Dyma pam rydym ni fan hyn—rydym ni'n trafod dyfodol y bobl ifanc yma, a siom fawr, siŵr o fod, i'r rhan fwyaf ohonom ni fan hyn heddiw, oedd cyn lleied o bobl ifanc wnaeth bleidleisio: hanner y bobl 16 ac 17. Llai na hanner wnaeth gofrestru i bleidleisio. Problem arall, wrth gwrs, yw'r hygyrchedd i bleidleisio. Dwi'n cofio siarad ag un ferch ifanc, 17 mlwydd oed, ar ôl i'r bocsys pleidleisio gau, yn dweud ei bod wedi methu â chael cyfle i bleidleisio. Aeth hi'n syth o'r ysgol i'w gwaith hi, ac, felly, heb gael cyfle i bleidleisio. Pa drafodaethau ydych chi, fel Llywodraeth, yn eu cael gydag ysgolion a cholegau er mwyn dangos i'r bobl ifanc y pwysigrwydd o bleidleisio, ond hefyd i wneud e'n fwy hygyrch iddyn nhw bleidleisio? Diolch yn fawr. Jeremy Miles AC: Wel, rwy'n rhannu diddordeb yr Aelod mewn sicrhau ein bod ni'n cynyddu lefel gofrestru pobl 16 ac 17. Rhyw 43 y cant o bobl yr oed hynny wnaeth gofrestru, o gymharu â rhyw 77 y cant o'r boblogaeth yn gyffredinol, felly mae'n sicr bod angen cefnogi'n pobl ifanc ni i allu cofrestru. Mae dwy elfen o ran y gwaith rydw i'n gallu ei wneud i sicrhau ein bod ni'n gwneud hynny. Mae rhan ohono fe ynghlwm â'r gwaith ar y cwricwlwm, a bydd yr Aelod yn gwybod, wrth gwrs, pa mor bwysig yw ymwybyddiaeth o'r cyd-destun democrataidd a'n sefydliadau ni yma yng Nghymru i ddelifo'r cwricwlwm mewn ffordd sydd yn cefnogi ein dysgwyr ni. Ond hefyd, mae gennym ni ambell ymyrraeth benodol ar waith, yn cynnwys, yn yr etholiad diwethaf—efallai fod yr Aelod yn gwybod am hyn—yn un o'r ysgolion yn ei ranbarth ef, beilot ar gyfer sicrhau bod disgyblion yn gallu cwestiynu gwleidyddion ar-lein, ac mae hynny wedi bod yn llwyddiannus. Rŷn ni wrthi'n gwerthuso'r peilot yna'n ffurfiol ar hyn o bryd gyda'r gobaith o allu ei ymestyn mewn ffordd sydd yn cefnogi'n hysgolion ar draws Cymru. Un o'r pethau eraill rŷn ni wedi bod yn ei wneud yw darparu ffynhonnell arian i bob awdurdod lleol yng Nghymru i allu cefnogi recriwtio pobl i gynyddu lefel gofrestru ymhlith pobl sydd newydd gael yr hawl, yn cynnwys pobl 16 ac 17, neu bobl sydd, ar y cyfan, ddim wedi dewis cofrestru. Felly, mae ymyraethau penodol ar waith o ran y cwricwlwm, ond hefyd o ran cefnogi disgyblion yn fwy uniongyrchol. Prosiectau Adeiladu Ysgolion Newydd Jenny Rathbone AC: 6. Sut mae'r Gweinidog yn sicrhau bod pob prosiect adeiladu ysgolion newydd yn ddi-garbon? OQ56953 Jeremy Miles AC: Mae gan y sector addysg rôl sylfaenol yn cefnogi ymateb Llywodraeth Cymru i'r argyfwng hinsawdd. Roeddwn yn trafod hyn mewn cyfarfod ag Aelodau eraill o'r Cabinet ac arweinwyr awdurdodau lleol y bore yma. Dyna pam y mae carbon sero-net yn ystyriaeth allweddol o dan fuddsoddiad y rhaglen ysgolion a cholegau ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, a pham y mae cyllid ychwanegol eisoes ar gael i gefnogi prosiectau peilot carbon sero-net mewn ysgolion. Jenny Rathbone AC: Nid wyf yn hollol siŵr a yw carbon sero-net yn ystyriaeth allweddol neu'n rhwymedigaeth ym mhob prosiect newydd, felly efallai y gallech egluro hynny. Roeddwn eisiau tynnu sylw at y ffaith fy mod, mewn bywyd blaenorol, yn arolygydd lleyg gydag Estyn, ac roeddwn mewn ysgol yn y Cymoedd—roedd hyn dros ddegawd yn ôl—a oedd wedi gosod pwmp gwres o'r ddaear yn ei adeilad newydd, ond roeddent yn dweud na wyddent sut i'w ddefnyddio, felly roeddent yn dal i ddefnyddio nwy. Nid oedd hynny'n ymwneud â'r hyn yr oeddem yn ei arolygu mewn gwirionedd, ond gadewais y lle gan feddwl, 'Mae hyn yn ofnadwy.' Rwy'n ymwybodol o ysgolion yng Nghaerdydd lle nad yw'r system ddŵr llwyd, er enghraifft, erioed wedi gweithio, neu mae'r systemau digidol ar gyfer rheoli adeiladu mor gymhleth fel nad oes neb yn gwybod sut i'w defnyddio. Felly, Weinidog, beth a wnewch i sicrhau bod awdurdodau lleol yn codi'r safon mewn gwirionedd ac yn sicrhau, pan fyddant yn cymeradwyo prosiectau, eu bod yn gwybod bod pob system yn yr adeilad yn gweithio'n iawn a bod y defnyddiwr terfynol, sef yr ysgol, yn gwybod sut i ddefnyddio'r offer hwn? Jeremy Miles AC: Credaf fod hwnnw'n bwynt pwysig iawn, os caf fi ddweud. Ar y pwynt cyntaf, mewn perthynas â charbon sero-net, rydym ar y daith i sicrhau bod pob ysgol yn ysgol carbon sero-net, ond yn amlwg, nid ydym yn agos at gyrraedd y lan ar hyn o bryd. Ein tasg fel Llywodraeth yw gwneud cynnydd mor gyflym â phosibl ar hyd y llwybr hwnnw. Y rôl y mae'r cynlluniau peilot yn ei chwarae yn hynny o beth yw ein helpu i fynd i'r afael â rhai o'r heriau a nodwyd gan yr Aelod yn ail ran ei chwestiwn, sef sut y gellir cyflawni rhai o'r gofynion polisi hynny'n ymarferol. Felly, mae cwestiynau yma am aeddfedrwydd peth o'r dechnoleg, am rai problemau capasiti y gadwyn gyflenwi. Mae pob un o'r rheini'n gyfyngiadau ymarferol ar ba mor gyflym y gallwn symud ar hyd y llwybr hwnnw. Ond dyna rôl y cynllun peilot—ein helpu i wneud hynny'n gyflymach. Ar yr ail bwynt, ynglŷn â sut y cysylltwn y gwaith o adeiladu'r adeilad â gweithrediad yr adeilad, fel y dywed ei chwestiwn, er mwyn cael gwerth llawn o'r buddsoddiad hwnnw a'r budd llawn yn amgylcheddol, mae angen inni sicrhau bod dealltwriaeth rhwng awdurdodau lleol a'u rheolwyr ystadau ynglŷn â sut y mae'r adeiladau di-garbon newydd yn gweithio. Un o'r materion y mae'r prosiectau peilot yn eu harchwilio yw sut y gallwn ddatblygu adnoddau addysgu a dysgu, i gefnogi'r ysgolion eu hunain a hefyd i ddarparu cymorth a hyfforddiant technegol i helpu'r staff i gynnal a gweithredu'r ysgolion mewn ffordd sy'n eu galluogi i fanteisio'n llawn ar y pethau hyn. Altaf Hussain AS: Weinidog, mae Llywodraeth Cymru wedi nodi targed lleihau allyriadau carbon o 37 y cant erbyn 2025, a 67 y cant erbyn 2030. Pa asesiadau y mae'r Gweinidog wedi'u gwneud o allbwn carbon presennol ein hysgolion a pha fuddsoddiad sydd ei angen ganddo i gynorthwyo pob ysgol i gyrraedd targedau lleihau allyriadau carbon ei Lywodraeth? Jeremy Miles AC: Wel, gan adleisio'r pwynt a godwyd yn y drafodaeth yn gynharach, yn sicr, gallwn wneud mwy o gyfraniad na'r hyn a wnawn ar hyn o bryd. Dyna pam ein bod wedi gosod polisi i ni ein hunain o sicrhau ein bod yn symud tuag at ysgolion carbon sero-net, ond mae angen gwneud hynny mewn ffordd y gellir ei chyflawni, ac mae'r cynlluniau peilot a lansiwyd gennym—mae un ym Mro Morgannwg, mae un yn sir y Fflint, mae tair ysgol yn Rhondda Cynon Taf yn cael eu hystyried o dan y trefniadau—yn ein helpu i ddeall beth arall sydd angen inni ei wneud a pha mor gyflym y gallwn symud ar hyd y llwybr i sicrhau bod yr ystâd ysgolion ym mhob rhan o Gymru yn manteisio ar y dechnoleg ddiweddaraf, y dulliau adeiladu diweddaraf, er mwyn cyflawni ei chyfraniad tuag at ddatgarboneiddio'r ystâdgyhoeddus yng Nghymru. Dal i Fyny ym Maes Addysg Darren Millar AC: 7. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddal i fyny ym maes addysg ar ôl y pandemig? OQ56966 Jeremy Miles AC: Lles a chynnydd ein dysgwyr yw fy mhrif flaenoriaeth. Mae'r cynllun adnewyddu a diwygio yn nodi sut y byddwn yn cefnogi'r dysgwyr yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan y pandemig. Rydym wedi dyrannu dros £160 miliwn tuag at y cymorth hwn y flwyddyn ariannol hon—mwy o wariant y pen i ddysgwyr nag unrhyw le arall yn y DU. Darren Millar AC: Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Rwy'n amlwg yn falch iawn fod gan Lywodraeth Cymru gynllun, ond mae'n bwysig iawn ein bod ni, fel Aelodau o'r Senedd, yn gallu monitro gweithrediad a chynnydd y cynllun hwnnw. A gaf fi ofyn, a fyddwch yn cyhoeddi cerrig milltir allweddol ac yn sicrhau bod adroddiadau rheolaidd ar gael i Aelodau o'r Senedd er mwyn sicrhau ein bod yn gallu mynd i'r afael â'r rhaglen ddal i fyny y mae angen iddi ddigwydd ar gyfer y bobl ifanc a'r plant ledled Cymru sydd wedi eu gadael ar ôl i'r fath raddau gyda'u haddysg yn ystod y pandemig? Jeremy Miles AC: A gaf fi annog yr Aelod efallai i fyfyrio ar y term 'dal i fyny'? Nid wyf yn siŵr mai dyna'r ffordd orau o gymell ein dysgwyr yng nghyd-destun y flwyddyn/18 mis y mae'r rhan fwyaf ohonynt wedi'u cael. Gwn fod rhannau eraill o'r DU wedi dewis y term hwnnw, ond rwy'n credu y bydd cynnig ffordd fwy cefnogol i ddysgwyr o ddisgrifio'r modd yr ydym yn ceisio eu helpu yn fwy effeithiol yn y pen draw. Ar y pwynt penodol y mae'n ei wneud serch hynny, am gynnydd yn erbyn y cynllun adnewyddu a diwygio, rwy'n credu fy mod am ei gyfeirio at y diweddariad a gyhoeddais ym mis Medi ynghylch gweithredu'r cynllun adnewyddu a diwygio, sy'n cynnwys ymrwymo adnoddau ychwanegol ar gyfer addysg drochi yn y Gymraeg, cymorth i athrawon newydd gymhwyso a chymorth ar gyfer adferiad dysgu. Felly, credaf fod hynny'n rhoi eglurhad iddo o'r sefyllfa ddiweddaraf o ran sut y mae'r cyllid yn cael ei ddefnyddio yn yr ysgolion. Gwn y bydd yn croesawu'r ffaith mai'r egwyddor sylfaenol ar gyfer y rhaglen hon yw sicrhau bod ysgolion eu hunain yn gwneud y dyfarniadau gorau posibl i gefnogi'r dysgwyr. Hwy sydd yn y sefyllfa orau i ddeall anghenion eu carfannau penodol, ac felly dyna yw egwyddor sylfaenol, os mynnwch, y ffrwd gyllido hon. Ond hefyd byddaf yn gwerthuso effaith y cynllun—mae hyn eisoes ar y gweill mewn gwirionedd—a byddaf yn hapus i rannu canlyniadau hynny gyda'r Aelodau maes o law wrth gwrs. Sioned Williams MS: Weinidog, rwyf wedi bod mewn cysylltiad â thad disgybl ag anghenion dysgu ychwanegol sydd wedi colli gwerth misoedd o'i addysg a'i ddatblygiad hollbwysig yn ystod y pandemig wrth gwrs, ac yn wahanol i'w blant eraill, ni fu cyfle i barhau ag addysg arbenigol iawn ei fab gartref. Nid yw'r awdurdod lleol wedi cynnig unrhyw hyfforddiant i rieni wneud hyn y tu allan i oriau gwaith arferol. A gaf fi ofyn felly pa ddarpariaethau adfer addysg penodol a wneir ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, sydd ond wedi gallu cael lefel gyfyngedig o ddysgu yn y cartref yn ystod y cyfyngiadau symud? Hefyd, a all Llywodraeth Cymru ddarparu pecynnau profion poer LAMP PCR anymwthiol rhad ac am ddim ar gyfer y cartref a phrofion cyfnodol ar gyfer yr ysgol i blant ag anghenion dysgu ychwanegol na allant wneud profion swab ymwthiol? Mae llawer o ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu hanfon adref ac yn gorfod ynysu, gan olygu eu bod yn colli mwy fyth o ysgol am na allant ddefnyddio'r dulliau profi ymwthiol er mwyn dychwelyd i'r ysgol yn ddiogel. Diolch. Jeremy Miles AC: Diolch i'r Aelod am ei ddau gwestiwn pwysig. Ar yr ail bwynt, byddaf yn ysgrifennu ati'n benodol ynglŷn â hynny, os caf. Ar y pwynt cyntaf, mae'r rhaglen adnewyddu a diwygio a nodais yn awr wedi'i phwysoli'n benodol i adlewyrchu anghenion disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgolion, felly mae'r cyllid sy'n dilyn hynny a'r dyraniad i ysgolion yn adlewyrchu hynny'n benodol a dylai fod ar gael i wneud darpariaeth benodol ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol. Rwy'n cydnabod yr heriau a ddisgrifia i'r etholwr a ysgrifennodd ati. Dyna un o'r rhesymau pam y dyrennir yr arian yn y ffordd honno. Safonau Uchel mewn Addysg Natasha Asghar AS: 8. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau bod safonau uchel mewn addysg yn cael eu cyflawni? OQ56951 Jeremy Miles AC: Cenhadaeth ein cenedl yw codi safonau addysg ar gyfer ein holl blant a phobl ifanc. Byddwn yn parhau i wneud hyn drwy ein rhaglen ddiwygio eang a buddsoddiad mwy nag erioed, yn ogystal â chymorth wedi'i dargedu ar gyfer carfannau penodol a dysgwyr difreintiedig ac agored i niwed. Natasha Asghar AS: Diolch, Weinidog. Yn dilyn sylw Jenny Rathbone am arolygiadau ysgolion, credaf fod arolygiadau ysgolion yn hanfodol i sicrhau bod darpariaeth addysg o safon uchel ar gael ledled Cymru. Fodd bynnag, mae ffigurau a gafwyd o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn dangos bod 189 o ysgolion wedi cael eu harolygu ddiwethaf rhwng saith a 10 mlynedd yn ôl, a 417 o ysgolion eraill wedi'u harolygu rhwng pump a saith mlynedd yn ôl. Arolygwyd un ysgol yng Nghymru dros 10 mlynedd yn ôl, Weinidog. Mae'r ffigurau hyn yn dangos bod arolygiadau ysgolion yn annigonol ymhell cyn y coronafeirws, sy'n golygu y gallai cannoedd o ysgolion ledled y wlad fod wedi bod yn tangyflawni ers blynyddoedd. Pa gamau y bydd y Gweinidog yn eu cymryd yn awr yng ngoleuni'r ffigurau hyn i sicrhau bod ysgolion yn cael eu harolygu'n iawn a bod pobl ifanc yn cael yr addysg y maent yn ei haeddu? Diolch. Jeremy Miles AC: Wel, credaf fy mod yn cytuno â phwynt yr Aelod ynghylch pa mor bwysig yw sicrhau bod ysgolion yn cael eu harolygu'n rheolaidd er mwyn darparu gwybodaeth i ni am atebolrwydd ysgolion yn ehangach. Fel y gŵyr, yn y dyfodol, o dan y cwricwlwm newydd, cynhelir arolygiadau'n llawer mwy rheolaidd. Ar hyn o bryd, fel y gŵyr, mae Estyn wedi atal eu rhaglen arolygu graidd ar gyfer y tymor hwn, i gydnabod yr heriau y mae ysgolion wedi eu hwynebu dros y 12 i 18 mis diwethaf. Yn ystod tymor y gwanwyn y flwyddyn nesaf, bydd Estyn yn dechrau treialu eu trefn arolygu newydd gydag ysgolion sy'n cymryd rhan yn y cynllun peilot hwnnw. Felly, bydd hynny'n darparu sylfaen wahanol, wrth symud ymlaen, ar gyfer y drefn arolygu honno. Ond yn sicr, rwy'n ategu'r pwynt a wnaeth am bwysigrwydd hynny fel rhan o’n proses atebolrwydd yn gyffredinol. Diolch i'r Gweinidog. Datganiad gan y Llywydd Cyn inni symud ymlaen at fusnes y Senedd, hoffwn i gyfeirio at y digwyddiadau ar yr ystad neithiwr. Dwi eisiau cadarnhau wrth Aelodau fod bygythiadau i ddiogelwch a lles Aelodau, ein staff ni a'n hymwelwyr yn gwbl annerbyniol, a bod gormod ohonoch wedi profi bygythiadau o'r math neithiwr wrth rai protestwyr. Mae yna le, wrth gwrs, i brotest di-drais—mae'r rhan fwyaf ohonon ni wedi cymryd rhan mewn protest o'r fath—ond mae protest fygythiol i les unigolion naill ai yma yn y Senedd neu unrhyw le yng Nghymru yn gwbl annerbyniol. Mi fydd yr awdurdodau perthnasol yn adolygu'r digwyddiadau neithiwr ac mi fyddaf i mewn sefyllfa i ddiweddaru Aelodau maes o law. A chan fy mod yn sôn am neithiwr, cefais gais gan Aelod i wneud datganiad personol mewn perthynas â'i absenoldeb o'r bleidlais neithiwr. Derbyniais y cais hwnnw ychydig cyn 1.30 p.m. heddiw. Nid oeddwn wedi cael amser i ystyried y cais hwnnw hyd yn oed, heb sôn am gytuno iddo, pan gafodd cynnwys y datganiad ei rannu gyda'r wasg ac ar Twitter ychydig cyn 2.15 p.m. Rwy’n ystyried y datganiad hwnnw'n wybodaeth gyhoeddus bellach ac nad oes angen ei wneud i’r Senedd mwyach. Rwyf am achub ar y cyfle, fodd bynnag, i ailadrodd wrth yr holl Aelodau mai cyfrifoldeb pob Aelod unigol yw sicrhau eu bod yn bresennol yn ddigon cynnar ac mewn pryd i bleidleisio lle bynnag y byddwch, ac yn enwedig os ydych yn pleidleisio o leoliad am y tro cyntaf. 3. Cwestiynau Amserol Dwi'n symud ymlaen nawr i'r cwestiynau amserol, ac mae'r cwestiwn cyntaf—yr unig gwestiwn—gan Sioned Williams. Credyd Cynhwysol Sioned Williams MS: 1. Beth mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i liniaru effeithiau penderfyniad Llywodraeth y DU i ddileu y cynnydd mewn credyd cynhwysol o heddiw ymlaen? TQ569 Jane Hutt AC: Wel, diolch yn fawr, Sioned Williams. Diolch am eich cwestiwn pwysig iawn. Mae Llywodraeth y DU wedi cyflawni'r weithred waethaf o ostwng y gwastad drwy dorri'r ychwanegiad o £20 at y credyd cynhwysol, gan gondemnio cannoedd o filoedd o deuluoedd gweithgar i fyw ar ffin tlodi. Ni fyddwn yn cefnu ar deuluoedd yng Nghymru. Bydd ein cronfa cymorth dewisol yn eu helpu i gadw eu cartrefi'n gynnes a bwydo eu plant. Sioned Williams MS: Diolch, Weinidog, a diolch, Llywydd, am dderbyn y cwestiwn amserol pwysig hwn. Sioned Williams MS: Daw’r ychwanegiad o £20 at y credyd cynhwysol i ben heddiw. Bydd y penderfyniad creulon hwn gan Lywodraeth Dorïaidd ddideimlad yn San Steffan yn effeithio ar dros 275,000 o aelwydydd tlotaf Cymru. Mae hynny'n un o bob pum cartref. Yn ôl Sefydliad Bevan, bydd yr effaith yn waeth ar deuluoedd Cymru, gan fod cyfran uwch o deuluoedd yma yn hawlio credyd cynhwysol neu gredyd treth gwaith. Ac i deuluoedd â phlant, effeithir ar bedwar o bob 10 teulu; dyna bedwar o bob 10 teulu â phlant yng Nghymru a fydd yn teimlo'n sydyn fod eu rhwyd ddiogelwch i'w gweld dipyn yn llai diogel o heddiw ymlaen. Daw'r toriad heddiw wrth i gostau byw yng Nghymru a chostau ynni aelwydydd godi—mae prisiau nwy'n uwch nag erioed heddiw yn y DU—ac mae dyledion aelwydydd yn dyfnhau. Yr ateb, yn ôl Llywodraeth San Steffan: gweithiwch ddwy awr yn ychwanegol. Ar wahân i galongaledwch llwyr y datganiad hwn, mae hefyd yn gwbl gyfeiliornus. Mae credyd cynhwysol yn fudd-dal graddedig, sy'n golygu bod eich taliad yn lleihau 63c am bob punt a enillwch, felly ar gyfer swydd sy'n talu £10 yr awr, bydd yn cymryd llawer mwy na dwy awr i ennill £20 yn ychwanegol. Ar ben hynny, mae swyddi gan 38 y cant o'r bobl sy'n hawlio credyd cynhwysol yng Nghymru. Maent yn dibynnu ar gredyd cynhwysol am nad yw eu gwaith yn talu digon. Roeddwn yn gwrando ar fam yn cael ei chyfweld ar Radio Wales y bore yma; mae hi a'i gŵr yn gweithio'n llawnamser. Maent ar gredyd cynhwysol; maent yn mynd i fod yn waeth eu byd. Dywedodd y bydd y toriad yn cyfateb i werth pedair wythnos o siopa bwyd. Gan fod dyletswydd gan Lywodraeth Cymru tuag at bobl Cymru, hoffwn wybod pa gynlluniau newydd penodol sydd gan Lywodraeth Cymru i liniaru effaith y penderfyniad trychinebus hwn ar ein teuluoedd tlotaf, a fydd hefyd, wrth gwrs, yn golygu bod £286 miliwn yn cael ei dynnu o'n heconomïau lleol. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi £500 miliwn ar gyfer cronfa gymorth i aelwydydd i helpu cartrefi agored i niwed dros y gaeaf, sydd wedi golygu bod £25 miliwn ar gael i Lywodraeth Cymru. Nid yw hyn, wrth gwrs, yn hanner digon o arian i lenwi'r twll creulon a grëwyd yn incwm yr aelwydydd tlotaf yn sgil dod â'r ychwanegiad at y credyd cynhwysol i ben, ac ni fydd yn diwallu anghenion y niferoedd cynyddol, yn anochel, o bobl sy'n wynebu tlodi tanwydd, sy'n fater o fywyd neu farwolaeth wrth i'r gaeaf agosáu. Felly, hoffwn wybod a fydd Llywodraeth Cymru'n defnyddio peth o'r arian hwn i helpu cwsmeriaid sy'n byw mewn tlodi tanwydd ac sydd mewn dyled i gwmnïau ynni yn enwedig, gan y bydd y penderfyniad heddiw wedi effeithio ar lawer ohonynt. Ac yn olaf, pryd y bydd Llywodraeth Cymru o’r diwedd yn cefnogi galwadau eang am ddatganoli pwerau lles i Gymru, fel y gallwn sicrhau bywyd gweddus i bawb, yn hytrach na gadael y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas ar drugaredd San Steffan am byth, rhywle nad yw byth yn mynd i roi blaenoriaeth i les pobl Cymru? Nid yw San Steffan erioed wedi malio am bobl Cymru, ac ni fydd byth yn gwneud hynny. Dewis gwleidyddol oedd cyflwyno'r toriad hwn; mae ffurfio system well yn galw am ewyllys wleidyddol. Pa bryd y gwnewch chi fel Llywodraeth benderfynu mai digon yw digon? Jane Hutt AC: Diolch yn fawr, Sioned Williams, a geiriau pwerus iawn, sy'n cael eu rhannu a'u hadleisio o ran yr hyn a ddywedoch ar yr ochr hon i'r Senedd. Rwy'n gwybod, ac rydych yn llygad eich lle, fod hwn yn benderfyniad creulon, ac ymateb y Canghellor, fel y dywedwch, i ddod â'r ychwanegiad i ben yw bod yn rhaid canolbwyntio ar swyddi, ond mae dros 97,000 o bobl sy'n derbyn credyd cynhwysol yng Nghymru yn gweithio, ac mae 76,000 o bobl ar gredyd cynhwysol yn y grŵp heb ofyniad i wneud unrhyw weithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith. Mae'r rheini'n bobl anabl a phobl a chanddynt gyfrifoldebau gofalu y mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi dweud na allant weithio; maent yn y grŵp heb ofyniad i wneud unrhyw weithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith. Pa mor greulon yw hi y bydd y bobl hynny hefyd yn colli'r incwm blynyddol hollbwysig o £1,040, ac oddeutu 275,000 o deuluoedd incwm isel yn colli cyfanswm o £286 miliwn? Ac mae'n rhaid i mi ddweud, ydy, wrth gwrs, mae'n golygu ei dynnu allan o'n heconomi hefyd. Y toriad arfaethedig fydd y gostyngiad mwyaf dros nos i gyfradd sylfaenol o nawdd cymdeithasol ers dechrau'r wladwriaeth les fodern dros 70 mlynedd yn ôl. Ac rwyf hefyd yn diolch i bawb, nid yn unig yma yn y Senedd, ond yn Stormont, San Steffan a Holyrood, lle mae pob un o'r pwyllgorau wedi cyfarfod a chondemnio hyn; comisiynwyr plant pob gwlad; nifer o elusennau a grwpiau ffydd; heb sôn am yr holl Geidwadwyr sydd yn erbyn hyn, gan gynnwys cyn Ysgrifenyddion Gwladol dros Waith a Phensiynau. A gaf fi ymateb i'ch cwestiynau penodol drwy ddweud bod y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf am y gronfa gymorth i aelwydydd gwerth £500 miliwn yn warthus? Pum miliwn ar hugain o bunnoedd i Gymru. Ni all byth wneud iawn am yr arian a gollwyd gan gannoedd o filoedd o deuluoedd ledled Cymru, felly rydym yn gweithio ar gynigion i sicrhau y gwerir yr arian yn y ffordd fwyaf effeithlon o ran effaith y toriad creulon hwn ar incwm eu haelwydydd. Felly, rwy'n ddiolchgar i chi am godi'r pwynt hwn heddiw. Oherwydd mewn gwirionedd, mae Ymddiriedolaeth Trussell wedi dweud, o ganlyniad i hyn, fod un o bob pedwar o bobl bellach yn dweud ei bod yn debygol iawn y bydd angen iddynt fynd heb brydau bwyd—64,000 o bobl yng Nghymru, hynny yw. Ac mae un o bob pump yn dweud ei bod yn debygol iawn na fyddant yn gallu fforddio cynhesu eu cartrefi y gaeaf hwn—61,000 o bobl yng Nghymru—a hynny cyn y codiad diweddaraf ym mhris tanwydd. Felly, yn gyflym iawn hefyd, ac rwyf eisoes wedi cyhoeddi ein bod yn ymestyn y gronfa cymorth dewisol sydd gennym yng Nghymru—£25.4 miliwn yn ychwanegol yn ystod y pandemig. Rydym yn ei hymestyn ac rydym hefyd yn cynnwys yr hyblygrwydd a ymgorfforwyd gennym yn y gronfa cymorth dewisol. Bydd hynny'n parhau tan y gwanwyn, ond bydd gennym hefyd—unwaith eto—ymgyrch genedlaethol i sicrhau bod pobl yn hawlio budd-daliadau, gan weithio gydag awdurdodau lleol a Cyngor ar Bopeth. Mae'n rhaid inni sicrhau bod pawb yn cael yr hyn y mae ganddynt hawl iddo. Felly, unwaith eto, ar eich pwynt olaf, mae'n rhaid inni sicrhau bod gennym system nawdd cymdeithasol a weinyddir gyda thrugaredd ac sy'n deg o ran y ffordd y mae'n trin pobl. Fe wyddoch ein bod yn asesu hyn yn ofalus mewn perthynas â'n sefyllfa yng Nghymru, ac wrth gwrs, gallai datganoli rhai pwerau sy'n ymwneud ag elfennau o nawdd cymdeithasol ddarparu ystod ehangach o offer inni allu trechu tlodi. Rydym wedi ymateb i hynny, wrth gwrs, ac i argymhellion y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yr arferai John Griffiths ei gadeirio. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny o ddefnydd i ddangos sut rydym yn ceisio ymateb i'r toriad creulon, diangen hwn i incwm a bywydau'r bobl dlotaf yng Nghymru, sydd, fel y dywedais, yn cyfrannu at ein heconomi, ein cymunedau, a'n cymdeithas. Mark Isherwood AC: Ym mis Ebrill 2020, fel ymateb un flwyddyn i bandemig COVID-19, rhoddwyd ychwanegiad dros dro o £20 yr wythnos i lwfans safonol y credyd cynhwysol. Yn ei gyllideb ym mis Mawrth 2021, cyhoeddodd Canghellor y DU estyniad i'r ychwanegiad dros dro hwn am chwe mis arall, ochr yn ochr â thaliadau ymlaen llaw eraill o'r credyd cynhwysol. O'r cychwyn, roedd yr ychwanegiad dros dro am amser cyfyngedig ac mae'n gamarweiniol esgus fel arall. Fel y dywedodd y Prif Weinidog ddoe ynglŷn â chodiad cyflog i'r GIG, ni all y Llywodraeth hudo arian o'r gwynt. Mae Llywodraeth y DU, a gyflwynodd becyn cymorth COVID gwerth £407 biliwn, gan gynnwys chwistrelliad o £9 biliwn i’n system les, a £2.14 biliwn yn ychwanegol i Lywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22, bellach yn canolbwyntio ar fuddsoddi mewn swyddi a sgiliau wrth inni ymadfer wedi'r pandemig. Yn ogystal â hyn, fel y clywsom, mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cyhoeddi cronfa gymorth newydd gwerth £500 miliwn i aelwydydd sydd ar gael i helpu'r rhai mwyaf anghenus wrth inni wynebu camau olaf yr adferiad, gobeithio, a bydd hwnnw'n cefnogi miliynau o aelwydydd. Bydd y Llywodraethau datganoledig yn cael £79 miliwn ohono, felly sut y bydd Llywodraeth Cymru'n sicrhau bod ei chyfran lawn o'r arian hwn yn helpu'r rhai mwyaf anghenus yng Nghymru? Jane Hutt AC: Rwy’n synnu nad yw Mark Isherwood wedi gwrando ar fy atebion i’r cwestiynau a ofynnwyd mor bwerus gan Sioned Williams y prynhawn yma. Gallaf ei atgoffa, efallai, mai Stephen Crabb, yr Aelod Seneddol Ceidwadol, a nododd mai'r gwir amdani yw, hyd yn oed pe cedwir y taliad o £20 yr wythnos, na fyddai hynny'n gwneud iawn am yr incwm y mae ein haelwydydd tlotaf wedi'i golli, oherwydd y toriadau difrifol flwyddyn ar ôl blwyddyn i'w budd-daliadau, a gyflwynwyd gan flynyddoedd o doriadau lles—blynyddoedd o doriadau lles, Mark Isherwood. Cyfaddefodd Stephen Crabb ei fod yn rhan o'r tîm hwnnw a wthiodd fwy o weithwyr i mewn i dlodi. Mae'n un o'ch cyd-Geidwadwyr yn San Steffan. Hefyd, a gaf fi dynnu sylw at y ffaith fy mod yn edrych ar ogledd Cymru ac Aberconwy, un etholaeth yn unig, lle mae 4,750 o aelwydydd yn hawlio credyd cynhwysol, a 45 y cant ohonynt yn gweithio? Bydd 2,756 o blant mewn aelwydydd a fydd yn colli'r £20 yr wythnos hwnnw. Mark, rydych chi bob amser yn siarad o blaid ac yn dadlau dros y trydydd sector yn eich cymuned. A ydych chi'n gwrando arnynt yng ngogledd Cymru? Joyce Watson AC: Diolch i'r Aelod am gyflwyno'r cwestiwn, gan ei fod yn bwysig tu hwnt ac mae hyn yn digwydd heddiw, yn awr, i deuluoedd. Fel y dywedodd y Gweinidog, dyma'r toriad mwyaf i fudd-daliadau ers 1945—un o'r rhai mwyaf erioed, a dweud y gwir. Ar ôl mwy na 10 mlynedd o doriadau Torïaidd—[Torri ar draws.] Newydd ddechrau ydw i. Ac ni chewch wneud ymyriad beth bynnag. Janet Finch-Saunders, os ydych am ofyn cwestiwn, rhowch gais i mewn. Joyce Watson AC: Ie, gwnewch hynny a chroeso—ar ôl mwy na 10 mlynedd o doriadau Torïaidd, pan fo gweithwyr eisoes yn wynebu gorfod dewis rhwng bwyta a gwresogi. Darllenais y llythyr gan y gweinyddiaethau datganoledig at Brif Weinidog y DU yn gofyn iddo wrthdroi'r penderfyniad hwnnw. Gwn ei fod wedi bod yn brysur yn dweud jôcs ym Manceinion, ond a yw wedi trafferthu ymateb i'r llythyr hwnnw? Oherwydd mae'r teuluoedd y mae'n eu gwneud yn dlotach heddiw yn haeddu atebion, ac nid perfformiad gan glown. Clywais Mark Isherwood yn dweud na all Llywodraethau hudo arian o'r awyr. Wel, hoffwn pe bai'n ystyried sut y mae pobl yn mynd i hudo bwyd ar eu bwrdd ac arian i'w roi yn eu mesuryddion nwy, gan mai dyna rydym yn sôn amdano yma heddiw mewn gwirionedd. Jane Hutt AC: Diolch yn fawr, Joyce Watson. Rwyf wedi ymateb i lawer o'r pwyntiau pwysig a dilys a wnaethoch. Credaf ei bod yn bwysig cydnabod y llythyr hwn a anfonwyd ar y cyd gan Brif Weinidog yr Alban, Prif Weinidog Cymru a Phrif Weinidog a dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon at Boris Johnson, yn galw arno, yn ei annog, i beidio â bwrw ymlaen â'r toriad cwbl ddiangen hwn. Yn y llythyr hwnnw, maent yn dweud 'bydd hyn yn cynyddu tlodi a chaledi heb sicrhau unrhyw fuddion cymdeithasol neu economaidd gwirioneddol. Dywedodd Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar Dlodi Eithafol a Hawliau Dynol—wrth alw arnoch i wrthdroi’r toriad hwn—er mwyn sicrhau gweithlu iach a chymwys, fod yn rhaid i’ch Llywodraeth ddarparu lefelau digonol o ddiogelwch cymdeithasol. Mae blynyddoedd o rewi budd-daliadau yn golygu nad yw Credyd Cynhwysol wedi codi i'r un graddau â chostau byw cynyddol.' Ac wrth gwrs, fel y dywedais, mae'r gronfa £500 miliwn a ddosbarthwyd ar sail ddewisol yn gwbl annigonol i wneud iawn am y diffyg o £6 biliwn mewn gwariant nawdd cymdeithasol a fydd yn deillio o'r toriad hwn. Jenny Rathbone AC: Mae'n gwbl amlwg fod Llywodraeth y DU yn troi clust fyddar hyd yn oed i apeliadau pobl o'u plaid eu hunain a chyn Ysgrifenyddion Gwladol dros Waith a Phensiynau. Felly, credaf fod yn rhaid inni ddibynnu ar yr hyn y gallwn ei wneud ein hunain. Yn amlwg, mae croeso mawr i'r cynnydd yn y gronfa cymorth dewisol, ond tybed pa sgyrsiau y gallech eu cael gyda'ch cyd-Aelodau yn y weinyddiaeth newid hinsawdd ynglŷn â sut y gallem gyflymu'r gwaith o ôl-osod tai cymdeithasol. Oherwydd yn amlwg, dyna lle mae nifer fawr iawn o'r rhai sy'n derbyn credyd cynhwysol yn byw, ac felly maent yn mynd i fod £20 yr wythnos yn waeth eu byd. Hefyd, beth y gallwn ei wneud i unioni, rywsut, yr anghydbwysedd llwyr yn y bwyd sy'n pydru ar goed ac ar fin cael ei ddifa mewn lluniau gwrthun ar y ffermydd am y rheswm syml na allwn gael y sgiliau cywir i unioni'r problemau sydd gennym gyda diogelwch ein cyflenwad bwyd? Felly, beth y gallwn ei wneud i sicrhau bod bwyd nad yw'n cael ei gasglu ar hyn o bryd yn cyrraedd y bobl sydd ei angen fwyaf? Jane Hutt AC: Diolch i Jenny Rathbone am ei chwestiwn pwysig. Mae gennym £25 miliwn wedi'i ddyrannu—fel y dywedais, swm gwarthus—i Gymru. Yr hyn y ceisiais ei wneud—. Cyn gynted ag y clywsom am y dyraniad hwnnw, rwyf wedi gofyn i bawb yn Llywodraeth Cymru, 'Beth ydyw?' Mae'n swm untro o arian; nid yw'n rheolaidd. Mae'n swm untro o arian, sef yr anoddaf i'w wario mewn modd cynaliadwy. Felly, mae pob Gweinidog yn ymateb o ran sut y credant y gallwn ddefnyddio'r cyllid hwnnw yn y ffordd fwyaf effeithiol, ac wrth gwrs, rwy'n siŵr y bydd eich pwyntiau heddiw'n werthfawr iawn i'r Gweinidog Newid Hinsawdd. Diolch i'r Gweinidog. 4. Datganiadau 90 eiliad Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiadau 90 eiliad, ac mae'r datganiad cyntaf y prynhawn yma gan Mike Hedges. Mike Hedges AC: Diolch, Lywydd. Mae cyfarwyddwr cerdd côr Orpheus Treforys, Joy Amman Davies, wedi ymddeol eleni ar ôl 30 mlynedd o wasanaeth gyda’r côr. Mae safon canu côr Orpheus Treforys yn fyd-enwog. Ganed Joy yng Nglanaman ac enillodd ysgoloriaeth i gael hyfforddiant piano yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru cyn mynychu Prifysgol Bangor. Ymunodd Joy â chôr Orpheus Treforys fel cyfeilydd ym 1991, ac yna yn 2007, daeth yn gyfarwyddwr cerdd y côr. Mae hi wedi gwneud cryn dipyn o deithio gyda'r côr, i leoliadau fel Neuadd Carnegie yn Efrog Newydd a Thŷ Opera Sydney. Yn ogystal â chôr Orpheus Treforys, mae hi wedi bod yn gyfeilydd gwadd i gorau eraill ac wedi cyfeilio i lawer o gantorion enwog o Gymru. Yn ystod y pandemig COVID, nid yw Joy wedi stopio, gan weithio mor galed ag erioed, a chynnal ymarferion ar-lein ddwywaith yr wythnos, a recordio caneuon yn rhithwir, gan ddenu dros 0.25 miliwn o wylwyr ar-lein. Mae ei chariad at y côr a chariad y côr tuag ati hithau yn amlwg iawn, a bydd y cantorion a'r rhai ohonom sy'n mynychu cyngherddau côr Orpheus Treforys yn rheolaidd yn ei gweld hi'n chwith iawn ar ei hôl. Hoffwn ddiolch i Joy yn gyhoeddus. Diolch am eich ymrwymiad, eich ymroddiad a'ch cariad at gerddoriaeth. Ni chredaf fod sŵn gwell i'w gael na chlywed côr Orpheus Treforys yn canu 'Myfanwy'. Heledd Fychan AS: Bythefnos yn ôl, daeth y newyddion trist am farw'r gyflwynwraig a'r cynhyrchydd radio Magi Dodd yn 44 mlwydd oed. Ganed a magwyd Magi ym Mhontypridd, lle bu'n ddisgybl yn Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Sion Norton ac Ysgol Rhydfelen, cyn mynd ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ar ddechrau'r ganrif hon, daeth yn llais cyfarwydd ar donfeddi Radio Cymru—ar raglenni C2 ac fel cyflwynydd Dodd Com—ac yn fwy diweddar bu'n cynhyrchu rhaglenni ac yn cyflwyno Cwis Pop ar Radio Cymru. Mae llu o bobl wedi talu teyrnged iddi, gyda phawb yn nodi ei hangerdd am Bontypridd ac am y sin roc Gymraeg, tra hefyd yn pwysleisio ei charedigrwydd a'i phersonoliaeth afieithus. Fe ysgogodd hi genhedlaeth a mwy o bobl i rannu ei chariad at gerddoriaeth Gymraeg, gan ddenu cynulleidfaoedd newydd i'r orsaf. Prin oedd y cyflwynwyr o’r Cymoedd ar Radio Cymru bryd hynny, ac fel y dywedodd Huw Meredydd Roberts: 'Fe ddaeth hi'n un o gyflwynwyr pwysicaf yr orsaf yn fy marn i—yn llais i genhedlaeth o bobl ifanc o gymoedd y de ar ein gwasanaeth cenedlaethol.' Bûm i weld mam Magi wythnos diwethaf, a dywedodd wrthyf am y caredigrwydd a'r cariad maent wedi ei dderbyn fel teulu gan bobl Pontypridd a thu hwnt, a'i fod fel petai fod pawb ym Mhontypridd wedi nabod Magi. Dwi ddim yn amau bod hyn yn wir. Bydd Pontypridd a Chymru yn lle tlotach hebddi, a hoffwn estyn fy nghydymdeimlad dwysaf i'w phartner, Aled, ei theulu, ei chydweithwyr a'i ffrindiau heddiw. Gorffwys mewn hedd, Magi. Natasha Asghar AS: Y mis hwn yw Mis Ymwybyddiaeth o Ganser y Fron. Amlygodd marwolaeth seren Girls Aloud, Sarah Harding, o ganser y fron yn ddiweddar, a hithau ond yn 39 mlwydd oed, pa mor eithriadol o bwysig yw gwneud popeth a allwn i frwydro yn erbyn y clefyd erchyll hwn. Mae'r pandemig wedi arwain at ostyngiad mawr yn nifer y bobl yr amheuir fod ganddynt ganser y fron sy'n cael eu cyfeirio at arbenigwr. Yn anffodus, cafodd gwasanaethau sgrinio eu hatal dros dro, ac er i driniaeth llawer o gleifion barhau heb newid, cafodd triniaethau eraill eu gohirio a'u canslo. Mae'n hanfodol felly fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag adran ganser y GIG ac elusennau canser i gefnogi adfer gwasanaethau canser y fron yn ogystal â chynllunio eu dyfodol hirdymor. Yn ddiweddar, cyhoeddodd GIG Lloegr y byddai'n ariannu archwiliad cenedlaethol o ganser metastatig y fron. Rwy'n deall bod GIG Cymru hefyd yn cael trafodaethau am gynnwys Cymru yn yr archwiliad, ac rwy'n mawr obeithio y gwneir penderfyniad cyn bo hir i gynnwys Cymru er mwyn mynd i'r afael â'r bylchau yn y gwasanaethau i gleifion canser y fron. Oherwydd ni waeth a ydych yn dad-cu neu'n fam-gu, yn fam, yn dad, yn ŵr, yn fab neu'n ferch, nid yw canser y fron yn gwahaniaethu, ac mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i weithio gyda'n gilydd a chefnogi'r rheini sy'n ymladd, edmygu'r goroeswyr, anrhydeddu'r rhai sy'n ein gadael, a gweithio i ganfod canser y fron, trin canser y fron, a chodi ymwybyddiaeth ohono yn y dyfodol. Diolch am y datganiadau yna. Cynnig i atal Rheolau Sefydlog er mwyn caniatáu dadl ar eitemau 5-8 Yr eitem nesaf, felly, yw'r cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro er mwyn caniatáu cynnal dadl ar y pedair eitem nesaf. Dwi'n galw ar Aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol—Siân Gwenllian. Cynnig NDM7802 Elin Jones Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8: Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(ii) a'r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NDM7798, NDM7799, NDM7800 ac NDM7801 gael ei hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher, 6 Hydref 2021. Cynigiwyd y cynnig. Siân Gwenllian AC: Cynnig yn ffurfiol. Y cynnig yw i atal Rheolau Sefydlog dros dro. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny? Dwi ddim yn gweld gwrthwynebiad, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai fod Aelod yn gwrthwynebu, caiff y pedwar cynnig o dan eitemau 5, 6, 7 ac 8 i sefydlu pwyllgorau a chytuno ar eu haelodaeth a threfniadau pleidleisio eu grwpio i gynnal dadl arnynt, ond gyda phleidleisiau ar wahân. Oes gwrthwynebiad i hynny? Nac oes. 5., 6., 7. & 8. Cynnig o dan Reol Sefydlog 16.1 i sefydlu Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog, Cynnig o dan Reol Sefydlog 16.1 i sefydlu Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog, Cynnig o dan Reol Sefydlog 16.5 i sefydlu Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd a Chynnig o dan Reolau Sefydlog 17.2T, 17.3, 33.6 a 33.8 i ethol aelodau a Chadeirydd i'r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd, i atal y Rheolau Sefydlog dros dro mewn cysylltiad â'r pwyllgor hwnnw, a chytuno ar drefniadau pleidleisio yn y pwyllgor Galwaf yn awr, felly, ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynigion yn ffurfiol—Siân Gwenllian. Cynnig NDM7798 Elin Jones Cynnig bod Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog i graffu ar waith y Prif Weinidog o safbwynt unrhyw fater sy'n berthnasol i'r gwaith o arfer swyddogaethau Llywodraeth Cymru. Cynnig NDM7799 Elin Jones Cynnig bod y Senedd: 1. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.2T, yn penderfynu na fydd Rheolau Sefydlog 17.2A i 17.2S (ethol cadeiryddion pwyllgorau) yn gymwys mewn perthynas â’rPwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog. 2. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol: a) John Griffiths (Llafur Cymru), Jenny Rathbone (Llafur Cymru), Jack Sargeant (Llafur Cymru), Paul Davies (Ceidwadwyr Cymreig), Russell George (Ceidwadwyr Cymreig) a Llyr Gruffydd (Plaid Cymru) yn aelodau o’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog; a b) David Rees (Dirprwy Lywydd) yn Gadeirydd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog. Cynnig NDM7801 Elin Jones Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.5: 1. Yn sefydlu Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd. 2. Yn cytuno mai cylch gwaith y Pwyllgor yw: a) ystyried y casgliadau a wnaed yn flaenorol gan y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd yn y Bumed Senedd fel y nodir yn ei adroddiad Diwygio'r Senedd: Y camau nesaf a osodwyd gerbron y Senedd ar 10 Medi 2020; b) erbyn 31 Mai 2022, gwneud argymhellion ar gyfer cyfarwyddiadau polisi ar Fil Llywodraeth Cymru i Ddiwygio'r Senedd. 3. Yn cytuno y caiff y Pwyllgor ei ddiddymu yn dilyn dadl yn y Cyfarfod Llawn ar ei adroddiad terfynol. Cynnig NDM7800 Elin Jones Cynnig bod y Senedd: 1. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.2T, yn penderfynu na fydd Rheolau Sefydlog 17.2A i 17.2S (ethol cadeiryddion pwyllgorau) yn gymwys mewn perthynas â’r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd. 2. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol: a) Jayne Bryant (Llafur Cymru), Darren Millar (Ceidwadwyr Cymreig), Siân Gwenllian (Plaid Cymru), a Jane Dodds (Democratiaid Rhyddfrydol) yn aelodau o'r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd; b) Elin Jones (Llywydd) fel aelod o'r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd; c) Huw Irranca-Davies (Llafur Cymru) yn Gadeirydd y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd. 3. Yn unol â Rheol Sefydlog 33.6 a 33.8, yn penderfynu na fydd Rheolau Sefydlog 17.37 i 17.39 yn gymwys mewn perthynas â’r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd. 4. Yn penderfynu, lle mae angen pleidlais i waredu busnes, y bydd pleidleisio yn y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd yn gweithredu fel a ganlyn: a) dim ond wrth arfer pleidlais fwrw y caiff y cadeirydd bleidleisio; b) ni chaiff y Llywydd bleidleisio; c) caiff pob aelod arall o'r Pwyllgor bleidleisio ac, os ydynt yn perthyn i grŵp gwleidyddol, mae pob aelod yn cael un bleidlais ar gyfer pob aelod o'r grŵp gwleidyddol y mae’n perthyn iddo (gan gynnwys ei hun a'r Llywydd a'r Dirprwy os yw’n aelodau o'i grŵp gwleidyddol); d) rhaid pasio penderfyniad i gytuno ar argymhellion i'r Senedd ar bleidlais lle mae'r aelodau sy'n pleidleisio o'i blaid yn cario o leiaf 40 pleidlais. Cynigiwyd y cynigion. Siân Gwenllian AC: Cynnig yn ffurfiol. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynigion? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Dwi ddim yn gweld gwrthwynebiad, felly mae'r cynigion yna wedi'u derbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Mi fyddwn ni nawr yn atal y trafodion dros dro er mwyn caniatáu ambell i newid yn y Siambr. Diolch yn fawr. Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:25. Ailymgynullodd y Senedd am 15:37, gyda'r Dirprwy Lywydd (David Rees) yn y Gadair. 9. Dadl Ceidwadwyr Cymreig: Iechyd Meddwl Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths, a gwelliant 2 yn enw Siân Gwenllian. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Nesaf yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Iechyd Meddwl. Galwaf ar Tom Giffard i wneud y cynnig. Cynnig NDM7793 Darren Millar Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi mai dydd Sul 10 Hydref yw diwrnod iechyd meddwl y byd. 2. Yn cydnabod effaith COVID-19 ar gymorth iechyd meddwl ac anghydraddoldebau iechyd meddwl. 3. Yn gresynu at y ffaith bod nifer y bobl ifanc sy'n dod i'r ysbyty gyda phroblemau hunan-niweidio wedi codi 39 y cant ers 2007. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys yn ei strategaeth iechyd meddwl 10 mlynedd newydd y flwyddyn nesaf: a) camau i weithredu argymhellion o adroddiadau Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Pumed Senedd, 'Cadernid Meddwl' a 'Cadernid Meddwl: Ddwy flynedd yn ddiweddarach'; b) adroddiadau blynyddol a phennu targedau ar gyfer amseroedd aros i gael triniaeth iechyd meddwl, gan gynnwys lleihau ôl-groniadau; c) cyflwyno canolfannau argyfwng iechyd meddwl 24 awr ar lefel genedlaethol; d) cynllun gweithlu iechyd meddwl clir. 5. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf iechyd meddwl newydd. Cynigiwyd y cynnig. Tom Giffard AS: Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon gan y Ceidwadwyr Cymreig heddiw ar destun iechyd meddwl a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Dydd Sul yma, 10 Hydref, yw Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd. Dylem fanteisio ar y cyfle hwn i fyfyrio ar ein hiechyd meddwl ein hunain, a iechyd meddwl ein ffrindiau a'n teulu, a'r hyn y gallwn ni fel Aelodau o'r Senedd ei wneud i hybu iechyd meddwl cadarnhaol ledled Cymru. Mae hefyd yn ddiwrnod lle mae angen i bob un ohonom ystyried a rhoi amser i ofyn i rywun sut y maent yn teimlo. Mae'n ddiwrnod pan ddylem anfon neges destun at hen ffrind, cael sgwrs Zoom gyda chydweithiwr neu gyfarfod am goffi gydag aelod o'r teulu. Efallai na fyddwch chi byth yn gwybod y gwahaniaeth y gall gweithred fach ei wneud i rywun sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl. Nid yw COVID-19 wedi bod yn garedig i'n hiechyd meddwl. Ac yn anffodus, rydym wedi gweld cynnydd sydyn yn nifer y plant ac oedolion sy'n dioddef. Byddai'n anghywir i mi beidio â dechrau drwy sôn am waith nifer fawr o elusennau iechyd meddwl ledled Cymru a'r DU sy'n gwneud gwaith gwych ym mhob un o'n cymunedau. Mae Mental Health Matters yn darparu gwasanaethau hanfodol, megis hybiau llesiant a grwpiau cefnogi cymheiriaid ar gyfer gorbryder ac iselder, tra bod y Samariaid yn gweithredu gwasanaeth llinell gymorth sydd ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn. Gwirfoddolwyr sy'n ateb y galwadau, a hwy yw'r arwyr di-glod sydd heb amheuaeth wedi achub bywydau di-rif ac sydd yno i ni yn ein hawr o angen, ac mae angen i ni fod yno iddynt hwy yn eu hawr hwythau o angen. Yng Nghymru, mae COVID-19 wedi amlygu anghydraddoldebau iechyd meddwl a oedd eisoes yn bodoli o dan Lywodraeth Lafur Cymru, gyda llawer o wasanaethau wedi eu hymestyn i'r eithaf, ôl-groniadau cynyddol a llai o bobl yn cael cymorth mawr ei angen. Amlinellodd Mind Cymru yn eu hadroddiad 'Rhy hir i aros' fod miloedd o bobl, hyd yn oed cyn y pandemig, yn aros yn hirach nag erioed i gael therapi seicolegol. Gwelsant na chyrhaeddwyd y targed o 80 y cant o bobl yn cael eu gweld o fewn 26 wythnos yn unrhyw un o'r 17 mis hyd at fis Awst 2020. Ond nid oes amheuaeth fod COVID-19 wedi gwneud y broblem yn waeth, oherwydd wrth gymharu mis Awst 2020 â'r un cyfnod yn 2019, tra bod nifer y bobl a oedd yn aros i ddechrau therapïau seicolegol wedi gostwng o 7,198 i 5,208, canfu Mind hefyd fod nifer y bobl sy'n aros yn hwy na 26 wythnos wedi codi 4 y cant, a bod y rhai sy'n aros yn hirach na blwyddyn wedi codi 17 y cant. Ac efallai nad yw hyd yn oed y gostyngiad yn nifer yr unigolion ar y rhestr aros yn newyddion mor dda ag y mae'n swnio. Mae'n golygu, yn ôl pob tebyg, fod llai o bobl yn gofyn am gymorth yn y lle cyntaf i gael yr help sydd ei angen arnynt, oherwydd y pandemig. Ac yn anffodus, mae pawb ohonom yn gwybod am yr effaith y mae'r cyfyngiadau symud wedi'i chael ar ein hiechyd meddwl, yn enwedig pobl iau. Yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf yn 2020, dywedodd dros hanner oedolion Cymru a thri chwarter y bobl ifanc fod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu at ei gilydd yn ystod misoedd cynnar y pandemig. Ac er bod pryder am y pandemig yn gyffredinol wedi lleihau ymhlith oedolion y DU, o 42 y cant ym mis Chwefror 2021, roedd unigrwydd wedi codi o 10 y cant ym mis Mawrth 2020 i 26 y cant flwyddyn yn ddiweddarach. Ac efallai'n fwyaf amlwg, roedd mwy na 10 marwolaeth ym mhob 100,000 o'r boblogaeth yn 2020 yn hunanladdiad, ac mae'r gyfradd honno yn aml dair i bedair gwaith yn uwch ymhlith dynion nag ymhlith menywod. Mae angen i'r strategaeth iechyd meddwl 10 mlynedd nesaf adlewyrchu'r newidiadau sylweddol a welsom yn y Gymru ôl-COVID. Rwy'n siŵr ein bod i gyd yn cytuno ein bod mewn sefyllfa wahanol iawn heddiw i ble'r oeddem ddwy flynedd yn ôl, ac mae angen i strategaeth newydd adlewyrchu hynny. Felly, yn y goleuni hwn, mae gwelliannau'r Llywodraeth heddiw yn siomedig iawn. Heddiw, mae gennym gyfle gwirioneddol i gyflwyno strategaeth hirdymor er mwyn sicrhau adolygiad priodol o wasanaethau iechyd meddwl fel eu bod yn addas ar gyfer heddiw a'r dyfodol. Felly, mae eu gweld wedi'u glastwreiddio gan welliannau'r Llywodraeth yn gyfle a gollwyd go iawn. Rydym angen targedau, ac rydym angen canlyniadau, a'r Senedd hon i allu dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif yn eu cylch. Ac mae arnaf ofn nad yw gwelliannau'r Llywodraeth yn cyflawni'r un o'r amcanion hynny. Mae ein cynnig yn adeiladol. Nid ydym yn ei gyflwyno heddiw i daflu bai ar y Llywodraeth nac unrhyw un arall. Er bod problemau amlwg yn y gwasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru cyn y pandemig, rydym i gyd yn cydnabod bod y flwyddyn a hanner ddiwethaf wedi rhoi straen anhygoel ar ein gwasanaethau iechyd meddwl. Mae angen diweddaru'r atebion i fynd i'r afael â'r broblem er mwyn adlewyrchu hynny, a dyna pam y galwaf ar bob Aelod o'r Senedd i gefnogi ein cynnig heddiw. Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle, i gynnig yn ffurfiol welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Gwelliant 1—Lesley Griffiths Dileu’r cyfan ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn nodi’r ymrwymiad i adolygu’r dystiolaeth, y data a’r ddarpariaeth gwasanaethau bresennol ar gyfer hunan-niweidio i bobl o bob oed yng Nghymru. Yn croesawu ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i’r canlynol: a) gweithredu argymhellion o adroddiadau Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Bumed Senedd, 'Cadernid Meddwl' a 'Cadernid Meddwl: Ddwy flynedd yn ddiweddarach'; b) cryfhau a chyhoeddi data amseroedd aros iechyd meddwl a gwella perfformiad ledled Cymru; c) cyflwyno cymorth argyfwng iechyd meddwl 24 awr ar lefel genedlaethol; d) cynllun gweithlu iechyd meddwl clir. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y diwygiadau i Ddeddf Iechyd Meddwl y DU yn addas ar gyfer Cymru ac yn gyson â deddfwriaeth berthnasol bresennol yng Nghymru. Cynigiwyd gwelliant 1. Lynne Neagle AC: Yn ffurfiol. Diolch. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig gwelliant 2 a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Gwelliant 2—Siân Gwenllian Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4: 'cyflwyno rhwydwaith o ganolfannau iechyd meddwl a lles ieuenctid ataliol'. Cynigiwyd gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi eisiau defnyddio'r cyfle yma, yn syml iawn, i erfyn ar y Llywodraeth a'r Gweinidog yma i godi'u gêm, i ddangos mwy o frys yn eu hymateb i'r argyfwng iechyd meddwl rydyn ni'n ei wynebu ar hyn o bryd. Ac mae'r Gweinidog ei hun, yn un, dwi'n gwybod, sy'n teimlo'n angerddol am y maes iechyd meddwl. Dyna pam ei bod hi yn ei swydd. Ond mae angen i'r angerdd hwnnw rŵan droi yn benderfynoldeb i weithredu o ddifri, ar raddfa fawr, heb unrhyw oedi. Mi gefnogaf i yn unrhyw ffordd y gwaith hwnnw. Rydyn ni wedi cydweithio, o'r blaen, ar bwyllgor. Does yna ddim rheswm pam na allwn ni i gyd, yn fan hyn, fod yn gwbl gytûn ar beth sydd angen ei wneud, er y byddwn ni, wrth gwrs, yn dod â syniadau gwahanol at y bwrdd ar sut i'w gyflawni o, ac mae'n bwysig ein bod ni, er mwyn symud ymlaen, yn rhannu syniadau. Mi gefnogwn ni'r cynnig Ceidwadol. Rydyn ni, ar y meinciau yma, wedi cynnig cynigion tebyg ein hunain yn y gorffennol. Dwi'n gobeithio gall pawb yma gefnogi ein gwelliant ninnau hefyd. Mwy am hwnnw yn y man. Dwi yn erfyn ar y Llywodraeth, achos mae'r argyfwng yn mynd yn waeth ac yn waeth. Yr wythnos yma eto, mi ddaeth y newyddion ataf i am berson ifanc arall yn colli eu bywyd ar ôl brwydro'n hir efo problemau iechyd meddwl. Dwi'n meddwl am y boen aeth y person yna drwyddo fo, a'r boen mae ei deulu o a'i ffrindiau yn mynd drwyddo fo rŵan. Dwi'n clywed, wedyn, am ferch o'r un ardal, oedd hefyd wedi colli'i bywyd yn ddiweddar. Dŷn ni'n gwybod am y straen mae'r pandemig wedi ei roi ar ein pobl ifanc ni. Maen nhw wedi colli gymaint: colli cerrig milltir pwysig yn eu bywydau; colli cwmnïaeth; colli normalrwydd; strwythur; colli addysg; ac, ie, colli mynediad at wasanaethau, oherwydd pwysau COVID ar y gwasanaethau hynny. Ond, wrth gwrs, mi oedd y diffyg cynaliadwyedd hwnnw a diffyg adnoddau mewn gwasanaethau iechyd meddwl yno ymhell cyn i'r feirws daro. Ydy hi'n dderbyniol bod bachgen ifanc o fy etholaeth i'n cael ei gynghori i fynd y tu allan i’w fwrdd iechyd ei hun i chwilio am gefnogaeth am anhwylder bwyta achos nad oes gan y meddyg teulu ddim hyder yn y ddarpariaeth yn lleol, ac wedyn yn gorfod disgwyl misoedd lawer am apwyntiad? Ac mae eraill, wrth gwrs, yn aros llawer hirach na misoedd—mae flynyddoedd yn gallu bod am apwyntiad am therapi ac ambell i driniaeth. Mae adroddiad cynnydd ar waith y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd, ‘Cadernid Meddwl’, a gyhoeddwyd bron union flwyddyn yn ôl rŵan, ddwy flynedd ar ôl cyhoeddi’r adroddiad gwreiddiol, yn dweud: ‘mae ein plant a phobl ifanc yn dal i gael trafferth dod o hyd i’r gefnogaeth ym maes iechyd emosiynol ac iechyd meddwl y mae ei hangen arnynt, boed ar adeg gynnar i helpu i atal problemau rhag datblygu, neu’n hwyrach, pan fydd pethau wedi gwaethygu a bod angen cymorth a gofal arbenigol.’ Rŵan, y Gweinidog iechyd meddwl presennol oedd yn cadeirio’r pwyllgor hwnnw ar y pryd, ac mi fydd hi, dwi yn reit siŵr, yn eiddgar i fwrw ymlaen i wireddu’r tri phwynt canolog yr oedd yn yr adroddiad hwnnw, a’r tri phwynt yr oedden nhw’n gofyn amdanyn nhw, sef bod angen gwneud mwy i wneud gwelliannau yn gyflymach; bod angen gweithio mewn modd system gyfan efo bob rhan o’r gwasanaeth yn chwarae ei rhan; a bod effaith y pandemig yn gwneud cynnydd yn fwy angenrheidiol nag erioed. Rydym ni wedi amlinellu rhai o’n syniadau penodol ni yn y gwelliant heddiw. Rydym ni’n galw eto am rwydwaith o ganolfannau llesiant ar draws Cymru lle gall pobl ifanc gael cefnogaeth cyn i broblemau dyfu yn broblemau acíwt. Ond heb os, ein nod ni, wrth gwrs, ydy gwella a chyflymu mynediad at ofal a thriniaeth ar bob lefel, ac, fel dwi’n dweud, mae’n rhaid i ni gyd fod â ffocws berffaith glir ar y nod yna. Mae yna berig, wrth gwrs, i welliant Llywodraeth, fel yr un sydd gennym ni’r heddiw yma, gael ei weld fel, ‘Peidiwch â phoeni, rydym ni’n gwneud popeth yn barod. Mae ein commitment ni yn ddigon clir.’ Ond dydy geiriau ddim yn ddigon. Plîs, Weinidog, dangoswch y commitment yna drwy weithredoedd rŵan ar gyfer y boblogaeth gyfan, ond yn enwedig ein pobl ifanc ni. John Griffiths AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Wrth fynd i'r afael â materion iechyd meddwl, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod pob sefydliad sy'n gallu chwarae rhan yn gwneud hynny, a bod pob sefydliad yn meddwl am yr hyn y gallant ei wneud i helpu'n weithredol, ac rwy'n falch iawn fod gennym glwb pêl-droed Casnewydd yn fy ardal leol sydd wedi bod yn awyddus iawn i wneud hynny. Maent wedi bod yn edrych ar sut y gallant estyn allan y tu hwnt i'w gweithgarwch craidd, fel petai, o fod yn glwb pêl-droed llwyddiannus—ac rwy'n gobeithio y cawn gryn lwyddiant ar y cae y tymor hwn. Maent yn estyn allan i'r gymuned, maent yn gwneud llawer o waith cymunedol, ac o ran iechyd meddwl, hwy oedd y pedwerydd clwb yng Nghynghrair Pêl-droed Lloegr i lofnodi siarter ar chwaraeon a hamdden a sut y gall pŵer chwaraeon a'r modelau rôl pwerus y gall pêl-droedwyr eu cynnig helpu gwaith iechyd meddwl. Felly, rwy'n credu ei bod yn galonogol iawn fod sefydliad fel clwb pêl-droed Casnewydd yn meddwl yn y ffordd honno. Hwy oedd y clwb pêl-droed cyntaf yng Nghymru i lofnodi'r siarter, a gobeithio y bydd eraill yn dilyn, ac maent yn benderfynol o'i wneud yn llwyddiant. Mae'n ymwneud â bod yn rhan o rwydwaith, gweithio gyda phartneriaid fel yr awdurdod lleol a'r gwasanaeth iechyd, cael yr holl bartneriaid i lofnodi addewid i fwrw ymlaen â gwaith ar y cyd a deall sut y gallant gydweithio'n effeithiol, a monitro'r gwaith hwnnw wedyn i sicrhau y gwneir cynnydd go iawn. Mae'n ymwneud â negeseuon cadarnhaol, trechu gwahaniaethu, a defnyddio pŵer y clwb pêl-droed a'r chwaraewyr pêl-droed. A chredaf ei fod yn bwysig i iechyd meddwl dynion yn enwedig, sy'n broblem benodol; mae dynion weithiau'n arbennig o amharod i siarad am iechyd meddwl, i gyfaddef eu bod yn fregus. A phan fyddant yn gweld modelau rôl pwerus, megis pêl-droedwyr, yn barod i wneud hynny, yn barod i rannu eu profiad a'u problemau, rwy'n credu o ddifrif y gall hynny fod yn bwerus iawn, ac rwy'n credu bod hynny'n cael ei ddangos. Mae ganddynt bobl sydd â chyfrifoldeb dynodedig o fewn y clwb i fwrw ymlaen â hyn. Maent wedi cysylltu â'r holl gynrychiolwyr gwleidyddol rheng flaen yn lleol, fel fi. Felly, mae'n datblygu'n gydymdrech sylweddol. A hoffwn dynnu sylw hefyd at waith Cyngor Dinas Casnewydd yn rhan o hyn, ond hefyd mewn perthynas â'u prosiect Arrow, sy'n gweithio'n arbennig gyda phobl ifanc ar eu problemau iechyd meddwl, ac yn gweithio gyda'r holl ysgolion yn yr ardal. Unwaith eto, rwy'n credu bod hynny'n cael ei gydnabod fel arfer da, ac mae'n enghraifft o sefydliad sy'n mynd gam ymhellach, gan wneud rhywbeth y tu hwnt i'w weithgareddau craidd, er mwyn deall heriau iechyd meddwl a helpu i'w trechu. Felly, os ydym o ddifrif am wneud y cynnydd sydd angen inni ei wneud yng Nghymru, rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog yn cytuno bod angen i'r holl sefydliadau a all ychwanegu at ymdrech gyfunol y gwasanaeth iechyd a phartneriaid allweddol gamu i'r adwy. Rhaid iddo fod yn fusnes i bawb, onid oes? Ac rwy'n credu bod sefydliadau fel clwb pêl-droed Casnewydd, Cyngor Dinas Casnewydd, yn dangos esiampl dda, ac rwy'n gobeithio y bydd llawer o rai eraill ledled Cymru yn efelychu eu gweithredoedd, a'u llwyddiant, gobeithio. Janet Finch-Saunders AC: Daw 'Cadernid Meddwl: Ddwy flynedd yn ddiweddarach' i'r casgliad yn glir fod effeithiau ehangach COVID-19 wedi effeithio'n sylweddol ar fywydau plant a'n pobl ifanc. Ac unwaith eto, rwy'n mynd i dalu teyrnged i Lynne Neagle am yr holl waith a wnaethoch gyda 'Cadernid Meddwl', a gwn am eich angerdd a'ch ymroddiad i weld gwelliant yn iechyd meddwl ein pobl ifanc. Mae arolwg Barnardo's o ymarferwyr y DU yn profi hyn, oherwydd nododd 95 y cant o'r 275 o ymatebwyr gynnydd yn nifer y plant a phobl ifanc sy'n wynebu problemau iechyd meddwl a llesiant. Ein dyletswydd i'n pobl ifanc yng Nghymru yw sicrhau y gweithredir ar yr holl alwadau yn yr adroddiad 'Ddwy flynedd yn ddiweddarach', megis gwella dulliau o gyfeirio, mynd i'r afael â'r bylchau yn y gwasanaeth, darpariaeth ar gyfer y lefel is, cymorth therapiwtig, a gwaith pellach ar fonitro ansawdd ac argaeledd gwasanaethau. Rhaid i'r un peth fod yn wir am y gwasanaethau i oedolion. Yn anffodus, yng ngogledd Cymru, ac yn fy etholaeth i, rwy'n gweld anghysonderau o'r fath yn wythnosol. Fe roddaf gipolwg i chi ar un o fy achosion, sy'n profi pa mor enbyd yw'r sefyllfa erbyn hyn. Am nad oes gan dîm iechyd meddwl cymunedol Conwy ddigon o weithwyr cymdeithasol o fewn y tîm, atgyfeiriwyd un o fy etholwyr bregus iawn at dîm llesiant cymunedol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Yn warthus, er bod CMHT—y tîm iechyd meddwl—yn ymwybodol o ganlyniad yr atgyfeiriad, cafodd unigolyn bregus ei ryddhau ganddynt o ofal. Mae'r awdurdod lleol bellach wedi cadarnhau na chawsant atgyfeiriad gan CMHT. Canfu adolygiad gyda seiciatrydd ymgynghorol y dylai'r unigolyn fod wedi cael cydlynydd gofal. Wrth inni siarad—ac er i mi ofyn dros y chwe wythnos diwethaf, ac er bod fy etholwr wedi'i ryddhau o ofal, fel rhan o fesurau COVID, dros 18 mis yn ôl—mae'r etholwr yn dal i fod ar y rhestr aros. Ac mae'r sefyllfa'n gwaethygu. Gan nad oes cydlynydd gofal, esboniwyd na ellir cael cynllun gofal a thriniaeth. Wel, mae'n ddrwg gennyf, ond eisteddais yma yn ystod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, lle mae'r cynlluniau hyn i fod yn weithredol ond nid yw hynny'n wir. Felly, mae'n safon warthus o ofal a sylw i unigolyn bregus iawn. Mae arnom angen adroddiadau blynyddol sy'n rhoi darlun gonest o ddifrifoldeb y sefyllfa ar lawr gwlad, ac mae angen inni helpu'r Senedd hon yng Nghymru i ddeall pa gamau sydd eu hangen i gefnogi gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol sy'n cynorthwyo ein cymunedau. Rwyf am weithio gyda Lynne ar hyn, ac rwyf wedi bod yn gwneud hynny hyd yma fel Aelod dros etholaeth. Rwyf am weld cynllun gweithlu iechyd meddwl clir, ac rwyf am weld strategaeth argyfwng yn cael ei rhoi ar waith ar gyfer y tymor byr. Yn rhan o hyn, rwy'n eich annog i gefnogi'r ymgyrch hon i weld gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol hyfforddedig ym mhob meddygfa ar draws ein hetholaethau. Unwaith eto, wrth siarad â meddygon teulu—siaradais ag un heddiw, ac fe ddywedodd, 'Ar yr adeg yr oedd gennym nyrs iechyd meddwl yn ein practis, golygai nad oedd raid inni atgyfeirio ymlaen; gallem drin pobl ar y pryd'. Felly, mae'r angen i yrru hyn yn ei flaen yn ddybryd wrth inni gofio—ac mae hyn yn drist iawn i'w ailadrodd—bod mwy na 3.2 miliwn o eitemau gwrth-iselder wedi'u presgripsiynu gan feddygon teulu yng Nghymru yn y chwe mis ar ôl y pandemig COVID, cynnydd o 115,660 o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, tra bod nifer y bobl a atgyfeiriwyd ar gyfer therapïau siarad wedi gostwng draean. Hoffwn gloi drwy atgoffa'r Senedd, ochr yn ochr â'r cynnydd torcalonnus o 40 y cant yn nifer y bobl ifanc sy'n mynd i'r ysbyty ar ôl hunan-niweidio, ein bod yn parhau i weld cyfradd hunanladdiad sy'n peri pryder yng Nghymru—10.3 marwolaeth fesul 100 y cant o'r boblogaeth yn 2020. A chefais nodyn yn fy mewnflwch heddiw gan y Samariaid sy'n sobreiddiol, a byddaf yn ei ddarllen yn llawnach yn nes ymlaen, ond maent yn pryderu'n fawr am yr achosion y maent yn ymdrin â hwy. Nawr, er fy mod yn deall, Ddirprwy Lywydd, fod amgylchiadau gwahanol yn achos pob un o'r 285 o fywydau a gollwyd, mae'n ffaith bod nifer y bywydau yr effeithir arnynt yn sylweddol uwch pan ystyriwch y teulu a'r anwyliaid sy'n cael eu gadael i ddygymod ar ôl digwyddiadau mor drasig. Nid yw'n iawn mai'r unig gyswllt swyddogol y bydd rhai teuluoedd yn ei gael yw swyddogion yr heddlu yn rhoi gwybod iddynt am y golled drasig, a dyna ni. Mae'r rhai sydd wedi cael profedigaeth yn sgil hunanladdiad yn dod yn grŵp mewn perygl eu hunain ac mae angen cymorth ymarferol arbenigol arnynt, ac nid yn unig yn syth wedyn. Er fy mod yn edrych ymlaen at weld cyhoeddi fframwaith cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu gofal profedigaeth yng Nghymru, mae astudiaeth interim gan Brifysgol Caerdydd wedi canfod bod angen lefelau uchel o gymorth emosiynol. A wnaiff yr Aelod ddirwyn i ben yn awr, os gwelwch yn dda? Janet Finch-Saunders AC: Iawn. Felly, gadewch i bawb ohonom gydweithio â'r Gweinidog, gyda'r Dirprwy Weinidog, yn drawsbleidiol, a sicrhau y gallwn ddychwelyd yma ymhen blwyddyn a gweld bod yr ystadegau ar gyfer y diffyg cefnogaeth wedi gostwng. Diolch. Delyth Jewell AC: Mae'n siŵr y dylai hapusrwydd plant fod yn un o'r metrigau y mae unrhyw Lywodraeth neu gymdeithas o ddifrif yn eu cylch. Nawr, nid yw bob amser yn hawdd mesur hapusrwydd na nodi sut y mae bodlonrwydd yn amlygu ei hun, ond pan fydd patrymau'n datblygu ac yn dal eu gafael, mae'n rhaid i bob un ohonom gymryd sylw. Y llynedd, cyhoeddwyd astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd a oedd wedi cyfweld â phlant mewn 35 o wledydd ym mhob cwr o'r byd. Gofynnodd yr astudiaeth iddynt pa mor hapus y teimlent gartref, yn yr ysgol, am eu dyfodol, amdanynt eu hunain, ac mewn sawl agwedd, plant Cymru oedd â rhai o'r sgoriau isaf. Digwyddodd y cyfweliadau ymhell cyn COVID, ac fel y mae Platfform wedi atgoffa'r Aelodau o'r Senedd wrth baratoi ar gyfer y ddadl heddiw, tarodd COVID-19 y rhai a oedd eisoes yn cael yr amser caletaf. Gwn ein bod i gyd wedi arfer clywed gwleidyddion yn siarad am ymchwil neu ystadegau neu ganfyddiadau, a'r duedd yw ein bod yn mynd yn fyddar iddynt, ond yr astudiaeth honno—dyma'r math o beth a ddylai ein hysgwyd a mynnu ein sylw. Dylai beri dychryn i ni. Oherwydd yn anffodus nid yw'r canfyddiadau'n unigryw. Mae 'Adroddiad Plentyndod Da 2021' gan Gymdeithas y Plant yn edrych ar atebion a roddwyd gan blant rhwng 10 a 15 oed i ddynodi pa mor hapus ydynt, ac roedd y sgoriau hapusrwydd cymedrig ar gyfer sut y mae'r plant hynny'n teimlo am fywyd yn gyffredinol, eu cyfeillgarwch ag eraill a'u hymddangosiad yn is na phan ddechreuodd yr arolwg yn 2009-10. Rwyf wedi bod yn edrych ar yr adroddiad, a rhai o'r amcangyfrifon mwyaf poenus y gellir eu hallosod ar gyfer plant Cymru yw bod tua 24,000 o blant yng Nghymru wedi nodi lefelau isel o hapusrwydd yn yr ysgol, a dywedodd 30,000 eu bod yn anhapus ynglŷn â'u hymddangosiad. Nawr, ceir materion cymdeithasol ehangach y dylid mynd i'r afael â hwy yma—ehangach nag y gall unrhyw un Lywodraeth ymdrin â hwy ar ei phen ei hun—yn ymwneud â'r pwyslais a osodwn ar ymddangosiad, yr effaith y gall Instagram a chylchgronau ei chael ar ddelwedd y corff a'r ffyrdd y gall bwlio fod yn waeth ar y platfformau hyn ac o'u oherwydd. Rhaid cydnabod a chynllunio ar frys i fynd i'r afael â'r pethau hynny a'u trechu, oherwydd rydym yn sôn yma am deimladau sy'n ddychrynllyd o gyffredin i gynifer o blant. Ond yn ehangach, beth y gallwn ei wneud i helpu plant a phobl ifanc gyda'u hiechyd meddwl? Ddirprwy Lywydd, mae ein gwelliant, fel y'i nodwyd, yn galw am gyflwyno rhwydwaith o ganolfannau iechyd meddwl a llesiant ataliol i ieuenctid. Dylai'r cymorth hwnnw yn y gymuned fodoli ochr yn ochr â chwnsela sydd ar gael mewn ysgolion, fel bod gan bobl ifanc rywle y gallant ymddiried ynddo i droi ato bob amser pan fyddant ond angen sgwrsio drwy eu problemau, rhywle lle maent yn teimlo'n ddiogel. Nawr, mae hyn yn cyd-fynd â'r hyn y mae Cymdeithas y Plant wedi galw amdano, sef hybiau mynediad agored sy'n cynnig cymorth galw heibio ar sail hunangyfeirio. Ond Ddirprwy Lywydd, beth am y plant a'r bobl ifanc sydd mewn argyfwng? Rwy'n gwybod bod y comisiynydd plant wedi cyhoeddi adroddiad yr wythnos hon yn pwysleisio'r angen am ofal argyfwng ar gyfer iechyd meddwl pobl ifanc. Tynnodd sylw at y ffaith nad yw ystafelloedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys yn lleoedd priodol i bobl ifanc orfod mynd iddynt pan fyddant mewn argyfwng, fod angen llochesau a chanolfannau argyfwng iechyd meddwl pwrpasol ar gyfer pobl ifanc, ac roedd hyn yn taro tant. Dywedodd y comisiynydd fod disgwyl yn rhy aml i blant a phobl ifanc ddilyn llwybrau anhyblyg nad ydynt bob amser yn gweithio iddynt, a wynebu amseroedd aros hir. Dywedais ar ddechrau fy sylwadau, Ddirprwy Lywydd, nad yw bob amser yn hawdd mesur hapusrwydd. Yn anffodus, ar adegau mae'n rhy hawdd mesur anhapusrwydd eithafol pan fydd yn arwain at argyfwng, ciwiau o bobl yn aros am wasanaethau wedi'u gorlethu, metrigau anobaith sy'n ymestyn o'n blaenau. Gwn fod y Llywodraeth am gael hyn yn iawn, gwn fod y Gweinidog eisiau hynny'n fawr, felly ochr yn ochr â'r angen ymarferol am ganolfannau argyfwng ar gyfer hybiau cymunedol, a gawn ni ailffocysu'r dangosyddion a ddefnyddiwn ar gyfer llesiant plant? Yn ogystal â'r pethau allanol y gallwn eu mesur, fel cyrhaeddiad, cyflogaeth a thai, a gawn ni dalu mwy o sylw i'r hyn y mae plant yn ei deimlo yn eu pennau, sut y maent yn ymdopi, yr hyn y maent yn ei ddweud wrthym am beth sy'n digwydd? A gawn ni ddilyn cyngor Cymdeithas y Plant a chynnwys y dangosyddion hynny yn y modd y cynhelir arolygon yng Nghymru i lywio polisi cyhoeddus, ie, ac i wrando ar y plant hynny, oherwydd efallai mai dyna'r ymyrraeth fwyaf pwerus y gallem ei gwneud? Altaf Hussain AS: Diolch am y cyfle i siarad yn y ddadl hon. Rwyf wedi dweud ar fwy nag un achlysur fod y pandemig COVID wedi amlygu'r gwendidau yn llawer o'n gwasanaethau, ac yn anffodus mae diffyg cynnydd ar ddatblygu gwasanaethau iechyd meddwl o'r radd flaenaf yn enghraifft arall o sut y mae'r wlad hon bellach yn ei chael hi'n anodd. Nid yw iechyd meddwl yn adnabod ffiniau, nid yw wedi'i gyfyngu i un rhan o'r boblogaeth. Gall effeithio ar unrhyw unigolyn, o ba statws bynnag, ac er bod llawer y gallwn ei wneud i gynnal iechyd meddwl da, weithiau gall realiti bywyd fod yn rhy llethol. Rwyf am ganolbwyntio fy sylwadau heddiw ar effaith iechyd meddwl ar blant a phobl ifanc, a phwysigrwydd cael hyn yn iawn. Mae pwyllgorau blaenorol y Senedd wedi canolbwyntio ar blant ac iechyd meddwl. Cyhoeddwyd yr adroddiad 'Cadernid Meddwl: Ddwy Flynedd yn Ddiweddarach' yn 2020, ac er bod rhai newidiadau cadarnhaol wedi'u gwneud i'r ddarpariaeth iechyd meddwl i blant a phobl ifanc, y casgliad oedd bod 'plant a phobl ifanc yn dal i gael trafferth dod o hyd i’r gefnogaeth ym maes iechyd emosiynol ac iechyd meddwl y mae ei hangen arnynt'. Dadleuodd y pwyllgor nad yw gwelliannau i wasanaethau iechyd meddwl yn digwydd yn ddigon cyflym, mae bylchau o fewn y gwasanaethau presennol, ac mae effaith y pandemig yn golygu bod yr angen am ffocws cryf ar iechyd emosiynol a meddyliol plant yn fwy hanfodol nag erioed. Gwn ein bod yn dyrannu llawer o arian i wasanaethau iechyd meddwl a'i bod yn her anodd yn hanesyddol i recriwtio'r nifer gywir o glinigwyr â'r cymysgedd cywir o sgiliau i wasanaethau iechyd meddwl. Mae hon yn broblem gyda'r gweithlu sy'n rhaid ei blaenoriaethu os ydym am allu ymateb i ofynion y presennol a'r dyfodol.Er bod Llywodraeth Cymru wedi datgan ei bod yn cymryd camau i ddeall galwadau a deall pa mor effeithiol yw'r llwybrau presennol, dangosodd canfyddiadau cynnar yr adroddiad yn glir fod plant a phobl ifanc yn ei chael yn anodd defnyddio'r gwasanaeth, am ei fod yn canolbwyntio gormod ar oedolion. Fel llawfeddyg orthopedig, dyma un o'r rhesymau pam fy mod eisiau inni fynd i'r afael â'r angen am ofal brys ar gyfer iechyd meddwl. Nid yw gwasanaethau'n adlewyrchu realiti bywyd. Os gall dyn dorri ei goes yn hwyr ar nos Sadwrn a chael ei drin gan glinigydd mewn adran ddamweiniau ac achosion brys, pam na all yr un egwyddor fod yn berthnasol i rywun sydd wedi dioddef niwed i'r meddwl? Gellir trwsio toriadau ac yn gorfforol, gorau po gyflymaf y caiff y toriadau hynny eu trin; mae'r un peth yn wir am salwch meddwl, mae'r gobaith o sefydlogi a gwella yn well os ymatebir iddynt yn gyflym. Nid oes gan y dyn sydd wedi torri ei goes fwy o hawl i gael cymorth na pherson ifanc yn ei arddegau y mae ei feddwl wedi torri. Nid oes ganddo fwy o hawl i gael cymorth parhaus i wella na pherson ifanc yn ei arddegau sydd angen cyfnod o gymorth ar gyfer ei iechyd meddwl. Nid oes ganddo fwy o hawl i gael blaenoriaeth pan fydd, ymhen chwe mis, yn torri ei goes arall na'r person yn ei arddegau sy'n cael pwl arall o salwch meddwl. Mae'n bryd inni fynd i'r afael â'r anghydbwysedd, a hynny ar frys. Diolch. Rhianon Passmore AC: Mae'r ddadl hon heddiw yn un hynod bwysig ac yn addas o ran ei hamseriad. Hyd yn oed cyn y pandemig, roedd un o bob pedwar o bobl yng Nghymru yn profi problemau iechyd meddwl, ac mae data'n dangos bod lefelau pryder o fewn y boblogaeth yn uwch nag yr oeddent chyn y pandemig. Mae COVID-19, wrth gwrs, wedi effeithio ar les meddyliol pob un ohonom, ond i'r rhai sydd â chyflyrau iechyd meddwl a oedd yn bodoli eisoes, mae'r pandemig wedi bod yn gyfnod arbennig o anodd. Gwyddom fod y pandemig wedi cael effaith sylweddol ar iechyd meddwl pobl ifanc, gyda lefelau pryder yn uwch nag yr oeddent, ac mae ymchwil yn dangos bod problemau iechyd meddwl fel arfer yn dechrau pan fo unigolion yn blant neu'n bobl ifanc. Felly, rwy'n croesawu—yn croesawu'n fawr—er gwaethaf cyni, y £5 miliwn ychwanegol o gyllid gan Lywodraeth Cymru i wella ac ehangu cwnsela mewn ysgolion, i ariannu awdurdodau lleol i recriwtio a hyfforddi cwnselwyr, i ariannu'r gwaith o ddatblygu hyfforddiant proffesiynol i staff ysgolion ar faterion llesiant, a gwella lles meddyliol plant. Fel cyn-athro, rwy'n gwybod pa mor bwysig yw hi ein bod yn darparu cymorth ychwanegol ar gyfer lles meddyliol pobl ifanc. Ac er bod darparu cymorth iechyd meddwl yn hanfodol, mae blaenoriaethu gwasanaethau i wella mesurau ataliol hefyd yn bwysig. Gydag incwm Cymru ar lefelau 2010 yn 2021, mae cyni yn bendant wedi ychwanegu at y pwysau ar wasanaethau, ar weithwyr cymdeithasol, ac ar dimau argyfwng iechyd meddwl. Ac i mi, a siarad yn bersonol, gwn fod cerddoriaeth yn hynod bwysig i fy lles meddyliol. Ond yn anffodus, nid yw honno'n fraint y gall pawb ei mwynhau heddiw ledled Cymru. Ni all y gwaith o wella iechyd meddwl fod yn adweithiol yn unig, mae'n rhaid iddo fod yn rhagweithiol ac yn gyfannol. Gwyddom eisoes fod gwella mynediad at y celfyddydau a chwaraeon, gan ein galluogi i fynegi ein creadigrwydd, yn gwella ein lles meddyliol, ac mae'n rhaid iddo fod yn rhan hanfodol o'n strategaeth gelfyddydol ehangach i wella iechyd meddwl. Rydym yn aros i'r gwaith sydd ar y ffordd ar y gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol ddod i ben, ac rwy'n annog buddioldeb a chraffter, a strategaeth gerddoriaeth genedlaethol i Gymru sy'n addas i'r diben, wedi'i hariannu'n dda ac sy'n darparu ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, llesiant a chenedlaethau'r dyfodol. Ac mae mwy y gallwn ac y dylem ei wneud. Rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno cymorth argyfwng iechyd meddwl 24 awr, ond mae'n rhaid i'r Torïaid gyferbyn gydnabod hefyd—mae'n rhaid iddynt gydnabod, ac nid ydynt yn gwneud hynny—fod ffactorau fel ansicrwydd incwm, diffyg arian a dyled yn effeithio'n gryf ar iechyd meddwl, ac mae'r rhai sydd eisoes ar incwm is yn fwy tebygol o brofi problemau iechyd meddwl. Mae'n destun pryder mawr, Ddirprwy Lywydd, i gloi, y bydd y toriad credyd cynhwysol o £20 gan Lywodraeth Dorïaidd y DU sy'n dod i rym heddiw—mae'r ddadl hon yn addas, fel y dywedais—yn cael effaith negyddol gref ar iechyd meddwl nifer fawr o'r bobl sy'n ei gael. Felly, Weinidog, pa sicrwydd y gallwch ei roi y bydd gwasanaethau'n cael eu gwella ledled Cymru, er gwaethaf cyllidebau cyni parhaus, i sicrhau nad oes neb dan anfantais o ran eu mynediad at wasanaethau oherwydd eu lleoliad? A pha sicrwydd y gallwch ei roi, Weinidog, y rhoddir blaenoriaeth i wasanaethau ataliol, gan gynnwys o fewn y strategaeth a'r gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol, i wella lles meddyliol cyfannol, wrth inni ymadfer wedi'r pandemig hwn a chamu i Gymru iachach a brafiach? Diolch. Darren Millar AC: Roeddwn wrth fy modd pan benodwyd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant newydd oherwydd gwn am ei hangerdd personol i fod eisiau mynd i'r afael â'r problemau a gawsom yn ein gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc dros y blynyddoedd, ac roeddwn yn aelod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg pan luniodd ei adroddiad 'Cadernid Meddwl'. Ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y Gweinidog yn gallu mynd i'r afael â llawer o'r pryderon sydd, yn anffodus, fel y mae pawb ohonom yn gwybod, yn parhau yn sgil yr adroddiad hwnnw. Derbyniwyd llawer o'r argymhellion gan Lywodraeth Cymru wrth gwrs, ac ni dderbyniwyd rhai eraill, er mawr ofid i Gadeirydd y pwyllgor ar y pryd. Ond yn gwbl amlwg, mae hyn yn rhywbeth y mae angen inni weithio arno ar sail drawsbleidiol i fynd i'r afael ag ef ac rydym bob amser wedi gwneud hynny mewn perthynas ag iechyd meddwl yn y Senedd hon dros y blynyddoedd. Mae fy etholaeth i, wrth gwrs, wedi'i lleoli yn yr ardal a wasanaethir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac mae'n destun gofid mawr i mi fod y bwrdd iechyd hwnnw wedi wynebu heriau mawr yn y gorffennol yn ei ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl, gyda'r gofal gwarthus a roddwyd i bobl oedrannus ar ward Tawel Fan yn uned Ablett. A hefyd, yn anffodus, mae problemau enfawr a sylweddol yn dal i fod yno. Mae'n parhau i fod yn destun mesurau arbennig i bob pwrpas, y lefel uchaf o ymyrraeth, mewn perthynas â'r heriau iechyd meddwl hynny sydd ganddo o hyd, er bod tua chwe blynedd ers i'r sefydliad gael ei wneud yn destun mesurau arbennig. Ddirprwy Weinidog, rwy'n credu y byddwn yn dibynnu arnoch chi i godi'r mater hwnnw'n uwch ar y rhestr flaenoriaethau, fel y gallwn sicrhau bod pobl gogledd Cymru yn cael y lefelau gofal a thriniaeth, mynediad at driniaeth, y maent yn ei haeddu. Gwyddom ar hyn o bryd—. Ydw, rwy'n hapus i dderbyn ymyriad. Jack Sargeant AC: Diolch, Darren Millar, am dderbyn yr ymyriad. Rwy'n croesawu'r ddadl hon. Mae Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd ar 10 Hydref, ond dylem gofio ei fod bob dydd mewn gwirionedd. Ac o ran lefel y cymorth a'r gwasanaethau, credaf fod yr Aelod yn iawn: mae angen inni fynd i'r afael â'r problemau hynny ac roeddwn yn falch hefyd fod y Gweinidog wedi cael y portffolio hwn, gyda'i hangerdd gwirioneddol. Dywedaf hyn fel rhywun sy'n ystadegyn go iawn o'r un o bob pedwar o bobl ag iechyd meddwl: a ydych chi'n cytuno â mi, mewn gwirionedd, fod gan bedwar o bob pedwar o bobl iechyd meddwl, ac ar rai dyddiau mae fy un i'n waeth na'ch un chi, ac fel arall, ac mae hwnnw'n fater y mae'n rhaid inni fynd i'r afael ag ef, ac fel rydych wedi'i awgrymu, mae angen gwella rhai gwasanaethau a'u gwneud yn fwy hygyrch? Mae yna lefel o wasanaeth, fel yr awgrymodd John Griffiths, gyda chlwb pêl-droed Casnewydd—clwb gwych—ond hefyd mae yna wasanaeth rydym yn ei ddarparu i'n gilydd, ac mae'r Aelod wedi codi fy nghalon ar fy nyddiau ofnadwy, pan nad oeddwn eisiau canolbwyntio ar y diwrnod, gyda choflaid syml a chwtsh. Mae hynny yr un mor bwysig. A ydych chi'n cytuno â hynny? Darren Millar AC: Rwy'n sicr yn cytuno fod cwtsh syml yn gwneud gwahaniaeth enfawr weithiau ac rwyf hefyd yn cydnabod bod pawb yn cael diwrnodau gwael gyda'u hiechyd meddwl. Gallant deimlo'n isel neu'n ofidus neu'n bryderus am bob math o bethau gwahanol. Ac mae'n rhaid inni gydnabod na ddylai fod stigma ynghlwm wrth iechyd meddwl gwael. Mae'n rhaid inni sicrhau, fel y dywedodd Altaf Hussain, ei fod yn cael yr un flaenoriaeth ag iechyd corfforol pobl ac yn anffodus nid yw hynny'n wir ar hyn o bryd. Hoffwn ddychwelyd at yr ystadegau yng ngogledd Cymru ar hyn o bryd, asesiadau iechyd meddwl o fewn 28 diwrnod i bobl o bob oedran: dim ond 59 y cant o bobl sy'n cael eu gweld o fewn y targed hwnnw. Ac i bobl ifanc, yn anffodus, Ddirprwy Weinidog, mae'n waeth byth: ychydig dros chwarter sy'n cael eu hasesu o fewn y targed hwnnw, y cyfnod o 28 diwrnod, ac mae hyn er gwaethaf y ffocws a roddwyd i'r mater dair blynedd yn ôl pan gyhoeddwyd yr adroddiad, 'Cadernid Meddwl'. Gwyddom hefyd fod un o bob pedwar o'r rheini'n aros am amser hir iawn am therapi ar ôl eu hasesu, hyd at 18 mis mewn rhai achosion yng ngogledd Cymru, ac yn amlwg nid yw hynny'n ddigon da pan fyddwn yn sôn am fywydau pobl ac eisiau eu harfogi â'r gallu i wella eu hiechyd meddwl drostynt eu hunain. Adeiladwyd yr uned CAMHS yn Abergele, gwasanaeth pobl ifanc gogledd Cymru, yn 2008. Fe'i hagorwyd gan Edwina Hart, y Gweinidog iechyd ar y pryd. Roedd 18 o welyau yn yr uned honno, ac mae 18 o welyau yn yr uned honno o hyd, ond nid yw erioed wedi'i defnyddio ar gapasiti llawn. Ar hyn o bryd, dim ond 12 o welyau sy'n cael eu defnyddio gan bobl sydd eu hangen, ac yn anffodus rydym yn dal i anfon pobl filltiroedd i ffwrdd dros y ffin i Loegr er mwyn iddynt gael gwasanaethau y gallent eu cael ar garreg eu drws yng ngogledd Cymru. Felly, hoffwn eich annog, Ddirprwy Weinidog: cadwch eich ffocws ar y mater hwn. Gwn yn bendant fod eich calon gyda phawb yn y Siambr hon yn eich awydd i fynd i'r afael â'r heriau hyn, ond byddai fy etholwyr a minnau'n ddiolchgar iawn pe baech yn rhoi amser i ganolbwyntio ar yr heriau sydd wedi bodoli'n gyson yng ngogledd Cymru ers chwe blynedd bellach. Gwyddom fod enghreifftiau o arferion da ledled y wlad, ond hoffem pe baent i'w gweld yn fwy cyson yn ein hardal ni. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle. Lynne Neagle AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi siarad heddiw. Rwy'n croesawu'r ddadl hon, a chyda Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yn agosáu, mae hwn yn gyfle da i drafod pwysigrwydd diogelu a chefnogi ein hiechyd meddwl a'n llesiant. Mae 12 mis wedi bod ers i ni ddechrau gweithredu ein cynllun cyflawni, 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', a ddiwygiwyd mewn ymateb i'r pandemig, ac rwy'n edrych ymlaen at adrodd ar ein cynnydd i'r Aelodau mewn datganiad yn y Siambr hon yr wythnos nesaf. Lynne Neagle AC: Mae'r pandemig wedi cael effaith fawr ar ein hiechyd meddwl ni i gyd mewn sawl ffordd wahanol iawn. Fel y mae Jack Sargeant wedi nodi, mae gan bob un ohonom iechyd meddwl, ac ar rai dyddiau mae'n dda, ar rai dyddiau nid yw cystal. Rydym wedi gweld bod rhai pobl wedi teimlo'n bryderus ac ynysig ac ar eu pen eu hunain yn ystod y cyfyngiadau symud a rhai pobl hefyd yn bryderus ynglŷn ag ailymuno â chymdeithas wrth i'r cyfyngiadau gael eu codi. I rai, gwyddom fod y pandemig yn gyfle i ailgysylltu â chymunedau, wrth i gymdogion gefnogi ei gilydd, ac wrth i deuluoedd allu treulio mwy o amser gyda'i gilydd. Dyna pam, er bod effaith COVID yn debygol o fod yn niweidiol, ei bod yn hanfodol inni ddeall yr effaith ar rai grwpiau mewn mwy o fanylder. Rydym yn parhau i gryfhau'r trefniadau a roddwyd ar waith ar ddechrau'r pandemig. Mae ein cymorth dadansoddi yn tynnu sylw at y dystiolaeth a'r canlyniadau diweddaraf o arolygon poblogaeth yng Nghymru a ledled y DU. Rydym wedi sefydlu bwrdd cyflawni a throsolwg y Gweinidog ar iechyd meddwl, a gadeirir gennyf fi'n bersonol. Mae'n rhoi mwy o sicrwydd i mi am y cynnydd a wneir ar gyflawni ein rhaglen waith iechyd meddwl, ond hefyd mae'n rhoi cyfle imi herio os teimlaf nad oes digon o gynnydd yn cael ei wneud neu nad yw pethau'n cael eu gwneud yn ddigon cyflym. Yn bwysig iawn, mae aelodaeth y bwrdd yn cynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru a'n gwasanaethau gwybodaeth a dadansoddi i gryfhau ein cymorth dadansoddol. Mae dadansoddi'n dangos, er bod lefelau pryder wedi aros yn uwch nag yr oeddent cyn y pandemig, ein bod wedi gweld amrywiadau, ac yn ddealladwy, mae lefelau pryder wedi gostwng wrth i gyfyngiadau gael eu llacio. Mae agweddau ar iechyd a llesiant personol, pryder am iechyd a llesiant pobl eraill, a chyllid personol i gyd wedi achosi pryderon i unigolion i wahanol raddau yn ystod y cyfyngiadau symud. Gwyddom hefyd nad yw'r effaith wedi'i theimlo'n gyson ar draws pob grŵp. Dengys ymatebion i arolygon fod rhai grwpiau o bobl, megis rhai â chyflyrau iechyd meddwl a oedd yn bodoli eisoes, oedolion ifanc, cymunedau du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, rhai ar aelwydydd incwm is a menywod, er enghraifft, yn adrodd am lefelau uwch o bryderon iechyd meddwl nag eraill, ac wedi gwneud hynny drwy gydol y pandemig. Gwyddom fod arolygon gan Gomisiynydd Plant Cymru hefyd yn tynnu sylw at yr effaith ar blant a phobl ifanc. Ym mis Hydref 2020, diwygiwyd ein cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' mewn ymateb i'r newidiadau hyn a thystiolaeth arall, ac mae bellach yn cynnwys ystod o gamau gweithredu newydd neu gamau gweithredu wedi'u cyflymu i ddarparu cymorth ychwanegol lle mae ei angen fwyaf.Yn fwyaf arbennig, rydym wedi cryfhau ac ehangu ein cynnig haen 0 i ddarparu mynediad agored at ystod o gymorth iechyd meddwl anghlinigol. Gellir cael mynediad at hwn dros y ffôn neu ar-lein ac nid oes angen atgyfeiriad gan weithiwr iechyd proffesiynol. Caiff llawer o'r cymorth hwn ei ddarparu gan y trydydd sector, a hoffwn ategu diolch Tom Giffard iddynt, ac maent hefyd mewn sefyllfa mor dda i gyrraedd y cymunedau mwyaf bregus ac sydd wedi'u hymyleiddio fwyaf ledled Cymru. Gwyddom hefyd, i rai grwpiau, fod goresgyn stigma wrth geisio cymorth iechyd meddwl yn arbennig o anodd. Felly, mae ein cynllun cyflawni ar gyfer iechyd meddwl yn cynnwys camau gweithredu penodol a oruchwylir gan is-grŵp stigma a gwahaniaethu ein bwrdd partneriaeth cenedlaethol ar gyfer iechyd meddwl. Mae hwn yn cynnwys grŵp gorchwyl a gorffen penodol ar gyfer pobl ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol sydd ar hyn o bryd yn adolygu pa gamau pellach sydd eu hangen i gynorthwyo cymunedau amrywiol i gael mynediad at gymorth iechyd meddwl. Mewn perthynas â'r cynnig heddiw, rwyf hefyd yn cydnabod yr angen i gryfhau ein trosolwg mewn ymateb i nifer yr achosion o hunan-niweidio yng Nghymru. Mae ymchwil a arweiniwyd gan Brifysgol Abertawe yn dangos, er ein bod wedi gweld cynnydd mewn hunan-niweidio ymhlith pobl ifanc dros y 10 mlynedd diwethaf, fod y niferoedd wedi gostwng ar draws pob oedran yn ystod y pandemig, yn seiliedig ar nifer y derbyniadau i'r ysbyty ac adrannau damweiniau ac achosion brys. Mae nifer yr achosion o hunan-niweidio bellach yn debyg i'r lefelau cyn y pandemig. Ond nid wyf yn hunanfodlon mewn unrhyw ffordd. Mae ymddygiad hunan-niweidio yn gymhleth, ac nid yw data derbyniadau'r GIG ond yn un elfen o'r wybodaeth sydd ei hangen arnom i ddeall lefelau hunan-niweidio yng Nghymru yn well. Fe wnawn bopeth yn ein gallu i leihau nifer yr achosion o hunan-niweidio. Gallaf gadarnhau bod uned gomisiynu gydweithredol GIG Cymru a Gwelliant Cymru yn sefydlu rhaglen waith i adolygu'r dystiolaeth a'r data i gefnogi ein dulliau o atal hunan-niweidio. Mewn ymateb i sylwadau Janet Finch-Saunders am gyfraddau hunanladdiad, a gaf fi sicrhau'r Aelod ein bod yn monitro cyfraddau hunanladdiad yn agos iawn fel sy'n digwydd ledled y DU? Mae'r dystiolaeth ar hyn o bryd yn awgrymu nad ydym yn gweld cynnydd yn y cyfraddau hunanladdiad o ganlyniad i'r pandemig, ond nid ydym mewn unrhyw ffordd yn hunanfodlon ynglŷn â hynny. Dyna pam ein bod yn cyflwyno ffordd o gadw gwyliadwriaeth mewn amser real fel y gallwn—[Torri ar draws.] Ewch chi. Janet Finch-Saunders AC: Diolch. Yn ddiweddar, mae Esgob Bangor wedi cysylltu â mi ac wedi nodi ei bryderon real, difrifol ynglŷn â nifer y bobl sy'n cyflawni hunanladdiad yng ngogledd Cymru. Yn fwyaf arbennig, mae wedi tynnu sylw at ddynion ifanc. A yw'n bosibl, felly—? Mae wedi gofyn—roeddwn am ysgrifennu atoch—a fyddech yn ystyried cynnal cyfarfod fel y gallwn drafod y pryderon hynny. Oherwydd os oes clerigwr yn dweud bod problem, yn amlwg, mae'n aelod gweithgar o'r gymuned, a chredaf y dylid rhoi ystyriaeth ddifrifol i'w bryderon. Lynne Neagle AC: Diolch am hynny, Janet. Byddwn yn hapus iawn i gyfarfod â'r unigolyn a grybwyllwch, ond dylwn ailbwysleisio nad ydym, diolch byth, yn gweld cynnydd yn y cyfraddau hunanladdiad ar hyn o bryd. Mae'n bwysig iawn fod pob un ohonom yn wirioneddol gyfrifol yn yr iaith a ddefnyddiwn ynglŷn â hunanladdiad, oherwydd pan soniwn am gyfraddau, mae pobl yn dweud pethau fel, 'Cyfraddau'n mynd drwy'r to', ac yn y blaen. Mae pobl fregus yn clywed hynny a gall ddylanwadu ar eu hymddygiad. Rydym yn cadw gwyliadwriaeth mewn amser real fel ein bod yn ymwybodol, heb orfod aros am gwestau, beth yw'r gyfradd hunanladdiad wirioneddol ar sail barhaus. Ac mae hyn hefyd yn golygu y gallwn roi cymorth ar unwaith i'r teuluoedd a'r bobl eraill sydd mewn profedigaeth o ganlyniad i hunanladdiad. Rydych yn llygad eich lle am effaith hunanladdiad; mae'n dinistrio teuluoedd, ffrindiau a chymunedau cyfan. Yr hyn rydym eisiau ei wneud—ac rwy'n hyderus ein bod yn gwneud cynnydd ar hynny—yw sefydlu llwybr profedigaeth ar ôl hunanladdiad a sicrhau ei fod ar gael i bawb y mae hunanladdiad yn effeithio arnynt. I droi, felly, at wasanaethau iechyd meddwl yn ystod y pandemig, fel y gŵyr yr Aelodau, maent wedi parhau i fod ar gael yn ystod y pandemig, ond mae amseroedd aros i gael cymorth wedi'u heffeithio ac nid yw rhai targedau wedi'u cyrraedd. Rydym yn cydnabod bod amseroedd aros ledled Cymru, yn enwedig i blant a phobl ifanc, yn her, ond gallaf sicrhau'r Aelodau fy mod yn benderfynol o fynd i'r afael â'r her honno fel mater o frys. Fodd bynnag, nid newid targedau na chreu rhai newydd yw'r ateb yma. Drwy fy nghysylltiad rheolaidd â byrddau iechyd, rwy'n pwyso arnynt gyda fy nghynlluniau i fynd i'r afael ag amseroedd aros, ac rwyf wedi mynd gam ymhellach pan fyddaf wedi teimlo bod y sefyllfa'n fwy difrifol, tra'n cydnabod nad yw hyn yn rhywbeth y gellir ei ddatrys dros nos. Ac fel y dywedais eisoes, rydym wedi buddsoddi'n helaeth yn ein cymorth mynediad agored haen 0. Ar yr un pryd, rwy'n benderfynol o ddatblygu ein dull system gyfan o ymyrraeth gynnar ac atal ar gyfer plant ac oedolion er mwyn sicrhau y gall pawb gael y cymorth cywir ar yr adeg gywir. Bydd hyn yn helpu i leddfu'r pwysau ar y gwasanaeth a lleihau amseroedd aros. Rydym yn gwneud cynnydd da o ran gwella gofal argyfwng, a byddaf yn rhoi rhagor o wybodaeth am hyn yn fy natganiad yr wythnos nesaf. Gallaf ailadrodd ein hymrwymiad i sicrhau bod un pwynt cyswllt iechyd meddwl 24/7 ar gael i bob oedran ym mhob ardal bwrdd iechyd erbyn mis Ebrill 2022. Fodd bynnag, un elfen yn unig yw ymateb y GIG yn yr ymateb trawslywodraethol ac amlasiantaethol ehangach sydd ei angen. Fel y dywedodd John Griffiths yn ei gyfraniad, mae iechyd meddwl yn fusnes i bawb. Rwy'n deall yn iawn fod sicrhau bod cael y gweithlu cywir ar waith yn hollbwysig, ac mae ein cynllun cyflawni ar gyfer iechyd meddwl yn cynnwys hyn fel nod sylfaenol. Yn ogystal ag ehangu'r gweithlu, rydym hefyd angen y cymysgedd cywir o weithwyr proffesiynol sy'n gallu darparu cymorth iechyd meddwl. Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru yn gwneud cynnydd da ar ddatblygu gweledigaeth a chynllun gweithlu trawsnewidiol mwy hirdymor ar gyfer iechyd meddwl a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Gwyddom fod y pandemig wedi cael effaith enfawr ar weithlu'r GIG yn ei gyfanrwydd, felly yn ogystal â'r gwaith blaengynllunio y mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn ei wneud, rwyf hefyd yn edrych ar beth arall y gallwn ei wneud yn awr i gryfhau ein gweithlu presennol yng ngoleuni'r pwysau presennol ar y gweithlu a'n rhagolwg o gynnydd yn y galw iechyd meddwl. Byddaf yn dweud mwy am hynny wrth y Siambr maes o law. Ddirprwy Weinidog, os gallwch ddirwyn i ben yn awr. Lynne Neagle AC: O, a yw fy amser wedi dod i ben? Rwyf wedi rhoi amser ychwanegol i chi oherwydd yr ymyriad, ond rydych wedi mynd ymhell y tu hwnt i hynny. Lynne Neagle AC: A gaf fi droi, felly, at welliant Plaid Cymru? Rwyf wedi trafod y cynlluniau hyn y mae Plaid Cymru yn eu cyflwyno gyda Rhun ap Iorwerth o'r blaen, ond credaf mai ein dull presennol o sicrhau bod cymorth ataliol yn cael ei ddarparu ar draws nifer o leoliadau—drwy ysgolion, colegau, clybiau ieuenctid a gwasanaethau, lle mae plant yn byw eu bywydau bob dydd—yw'r un cywir. Bydd ein fframwaith NYTH newydd, a gydgynhyrchir gyda phobl ifanc ledled Cymru, ynghyd â'n dull ysgol gyfan, yn cyflawni hynny. A gaf fi gloi, Ddirprwy Lywydd, drwy ddweud bod ysgogi newid a gwelliant mewn cymorth iechyd meddwl, yn enwedig i blant a phobl ifanc, wedi bod yn ganolog yn fy ngwaith yn y Senedd hon? O dan fy arweiniad i, cyhoeddwyd adroddiad 'Cadernid Meddwl' y pwyllgor plant a phobl ifanc. Rwy'n falch o'r newidiadau a ddaeth yn sgil yr adroddiad hwnnw, yn enwedig datblygu ein dull ysgol gyfan a rhoi ffocws cryf iawn ar ymyrraeth gynnar. Mae mwy o waith i'w wneud ar draws y system gyfan, ond gall yr Aelodau fod yn sicr fy mod yn gwbl benderfynol o gyflawni'r agenda hon ar gyfer plant ac oedolion yn fy rôl newydd yn y Llywodraeth. Diolch yn fawr. Galwaf ar Samuel Kurtz i ymateb i'r ddadl. Samuel Kurtz MS: Diolch i bob un Aelod am gyfrannu i'r ddadl ac i'r Dirprwy Weinidog am ymateb. Samuel Kurtz MS: Diolch i'r holl Aelodau am gymryd rhan, ac i'r Dirprwy Weinidog am ei hymateb a'i phenderfyniad diwyro i sicrhau'r newid angenrheidiol yn hyn o beth. Rydym yn sefyll yma ar adeg dyngedfennol, ac o ystyried bod y pwnc sy'n cael ei drafod heddiw mor berthnasol, byddwn ar fai pe na bawn yn rhannu fy stori bersonol fy hun. Fel yr Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy, rwyf finnau hefyd yn ystadegyn. Fel nifer o bobl y llynedd, yn ystod y cyfyngiadau symud, pan oedd newydd-deb gweithio gartref wedi pylu a phan nad oeddem ond yn gweld ffrindiau ar gwisiau galwadau Zoom, roeddwn yn teimlo'n ynysig ac yn unig, a châi hyn ei ddwysáu gan y ffaith fy mod yn byw ar fy mhen fy hun. Fel y soniodd Delyth Jewell, yr Aelod dros Ddwyrain De Cymru, mae'n anodd ei fesur, ac nid oeddwn yn sylweddoli bod hyn yn digwydd ar y pryd, fy mod yn cael trafferth. Roeddwn yn fyr fy nhymer ac yn bigog. Yn hytrach na mynd ar deithiau cerdded yn gynnar yn y bore, byddwn yn cuddio o dan y dwfe. Rwy'n edrych yn ôl yn awr ac yn sylweddoli, gydag eglurder llwyr, fod fy iechyd meddwl dan straen. Diolch byth, wrth i'r cyfyngiadau symud lacio, gallwn gyfarfod â ffrindiau a gwneud chwaraeon. Gwn mai cerddoriaeth oedd y peth i'r Aelod dros Islwyn; i mi, chwaraeon ydoedd. Teimlwn fy iechyd meddwl yn gwella ar unwaith. O siarad â ffrindiau a chydweithwyr, gwn nad fi oedd yr unig un a deimlai fel hyn yn ystod y cyfyngiadau symud. Ond mae'n dangos nad oes neb yn ddiogel rhag iechyd meddwl gwael. Bydd llawer ohonom, ar ryw adeg, yn dioddef i wahanol raddau. Fel y dywedodd Altaf Hussain, nid oes ffiniau i iechyd meddwl ac nid yw'n gwahaniaethu. Fodd bynnag, fel y nododd yr Aelod dros Orllewin De Cymru, Tom Giffard, yn briodol, roedd gwasanaethau iechyd meddwl Cymru yn ei chael hi'n anodd ymhell cyn COVID, ac fel y mae, rwy'n amau y bydd yr un anawsterau'n parhau ymhell ar ôl y pandemig. Dyna pam y mae'r cynnig hwn sydd gerbron yr Aelodau heddiw mor bwysig. Mae wedi bod yn anodd gwrando ar yr ystadegau niferus y prynhawn yma: bydd un o bob pedwar yn dioddef problemau iechyd meddwl ar ryw adeg yn eu bywydau; mae unigrwydd wedi cynyddu i 26 y cant yn ystod y pandemig; mae cynnydd sydyn wedi bod yn nifer y gwrth-iselyddion sy'n cael eu rhoi ar bresgripsiwn, fel y soniodd yr Aelod dros Aberconwy; a'r ffaith nad yw targed Llywodraeth Cymru o gyflawni 80 y cant o asesiadau gwasanaeth cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol o fewn 28 diwrnod wedi'i gyrraedd dros yr wyth mis diwethaf. O ganlyniad i hyn, gwelsom sefydliadau a arweinir gan y gymuned ledled Cymru yn arwain y ffordd drwy ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl sy'n achub bywydau. Hoffwn fanteisio ar y cyfle i dalu teyrnged i ddau sefydliad elusennol sy'n gwneud gwaith anhygoel yn cefnogi pobl gyda'u hiechyd meddwl. Yn sir Benfro, cafodd y cyn filwr Barry John syniad: helpu i gefnogi cyn-filwyr ein lluoedd arfog gyda'u hiechyd meddwl drwy therapi celf. O'r syniad hwnnw, ganed Oriel VC yn Noc Penfro a Hwlffordd. Gyda chefndir artistig Barry a'i gysylltiad â gwaith iechyd meddwl, fe welodd yr angen yn y gymuned am ei arbenigedd a'i brofiadau. Nawr, mae Oriel VC yn gweithio gyda chyn-filwyr, pobl hŷn, plant, ac unrhyw un sy'n teimlo bod angen amser arnynt i gymdeithasu a mynegi eu hunain drwy gelf. Yn genedlaethol, mae sefydliadau fel Sefydliad DPJ sy'n gweithio gyda'n cymuned amaethyddol, sector sydd â lefelau brawychus o uchel o broblemau iechyd meddwl, i roi cymorth i rannu'r baich i'r rhai sydd ei angen. Wedi trasiedi hunanladdiad Daniel Picton-Jones, penderfynodd ei weddw, Emma, greu'r sefydliad i gefnogi iechyd meddwl pobl yn y sector ffermio, i'r rheini sy'n teimlo'n union fel y teimlai Daniel, gan roi'r cymorth na wyddai ef sut i'w gael iddynt. Nid yw'r elusennau eithriadol hyn ond yn ddwy enghraifft ymhlith llawer sy'n darparu cymorth, arweiniad, clust i wrando a hyd yn oed ysgwydd i grio arni ar gyfer y rhai sydd ei hangen. Ac wrth ymateb i'r Aelod o Ddwyrain Casnewydd, mae'r hyn y mae clwb pêl-droed Casnewydd yn ei wneud yn wych. Gwn yn bersonol fod chwaraeon yn ysgogiad mor wych i wella iechyd meddwl. Ond ni ddylai fod yn rhaid i glybiau chwaraeon ac elusennau wneud y gwaith hwn ar eu pen eu hunain. Dyna pam y mae'r cynnig hwn mor bwysig—i gyflwyno canolfannau argyfwng iechyd meddwl 24 awr ar lefel genedlaethol, cynllun gweithlu iechyd meddwl clir ac adroddiadau blynyddol a thargedau ar gyfer amseroedd aros am driniaeth iechyd meddwl, gan gynnwys lleihau ôl-groniadau. Po fwyaf a ddysgwn am iechyd meddwl, yn wir, po fwyaf y siaradwn am iechyd meddwl, gorau oll y gallwn ddarparu cymorth defnyddiol wedi'i dargedu i'r rheini yn ein bywydau sy'n cael trafferth gyda chyflyrau iechyd meddwl. Mae'n iawn i beidio â bod yn iawn, ond nid yw'n iawn inni beidio â gwneud dim ynglŷn â'r ddarpariaeth iechyd meddwl. Ddirprwy Weinidog, rwy'n edrych ymlaen at eich datganiad ar y ddarpariaeth iechyd meddwl yn y dyfodol, ond heddiw, rwy'n annog yr holl Aelodau i bleidleisio dros y cynnig hwn. Diolch yn fawr. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Oes. Gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. 10. Dadl Plaid Cymru: Tâl gweithwyr gofal iechyd Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar, a gwelliant 2 yn enw Lesley Griffiths. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Yr eitem nesaf yw dadl Plaid Cymru ar dâl gweithwyr gofal iechyd.Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i wneud y cynnig. Cynnig NDM7791 Siân Gwenllian Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cefnogi ymdrechion Unite, Unsain a'r Coleg Nyrsio Brenhinol i sicrhau cyflog teg i bob gweithiwr gofal iechyd. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru, yn ei thrafodaethau presennol â'r undebau gofal iechyd, i ymrwymo i godiad cyflog mewn termau real uwchlaw'r hyn a gynigiwyd gan gorff adolygu cyflogau'r GIG. Cynigiwyd y cynnig. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rydym wedi diolch iddynt; rydym wedi eu cymeradwyo; rydym wedi dod i'w gwerthfawrogi yn fwy nag erioed efallai dros y 18 mis diwethaf. Ond ar ôl aberthu cymaint, mae gweithwyr iechyd a gofal y GIG ledled Cymru yn haeddu cael eu gwobrwyo’n iawn ac yn deg drwy eu cyflog. Y peth lleiaf y credwn y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud yw sefyll ochr yn ochr â gweithwyr gofal iechyd yng Nghymru ac ymrwymo i godiad uwch na'r hyn a gynigiwyd gan gorff adolygu cyflogau'r GIG, nad yw, wrth gwrs, yn cadw i fyny â chwyddiant hyd yn oed. Dyna pam ein bod yn cynnal y ddadl hon heddiw. Yr hyn a wnaeth profiadau'r pandemig wrth gwrs oedd atgyfnerthu'r hyn a wyddem eisoes am y GIG a'r gweithlu iechyd a gofal—gweithlu a oedd yn dioddef oherwydd prinder staff a morâl isel, a oedd yn gweithredu mewn amgylchedd heb ddigon o fuddsoddiad ac adnoddau. Nawr, ychwanegwch doriad cyflog mewn termau real at hynny, ac nid oes unrhyw ryfedd fod cymaint o weithwyr iechyd a gofal wedi pleidleisio drwy eu hundebau a’u cyrff cynrychioliadol i fynegi eu dicter ynglŷn â'r hyn a roddwyd iddynt. Ers pa bryd y mae Llywodraeth Cymru yn efelychu'r hyn a welsom gan Lywodraeth y DU, a gynigodd, wrth gwrs, yn gyntaf oll, y cynnig gwarthus hwnnw o 1 y cant, cyn ei gynyddu wedyn i 3 y cant? Credwn y dylai Llywodraeth Cymru wneud mwy na hynny. 'Nid yw arian yn tyfu ar goed', meddai'r Prif Weinidog. Mae'n llygad ei le, wrth gwrs, ond credaf y byddai methu buddsoddi, cefnogi, denu a chadw staff—y staff gorau, y mae eu hangen arnom—mewn iechyd a gofal yn creu perygl o ddinistrio unrhyw obaith o dwf, o forâl mewn iechyd a gofal, ac o feithrin y staff y dylem fod yn eu trysori. Mewn arolwg diweddar, nododd aelodau o Gonffederasiwn GIG Cymru mai recriwtio a chadw'r gweithlu yw un o'r prif heriau sy'n wynebu'r GIG yng Nghymru. Er mwyn sicrhau bod gyrfaoedd yn y GIG yn parhau i fod yn gynnig deniadol, er mwyn sicrhau bod y gweithlu'n parhau i fod yn awyddus i ddarparu gofal o fewn y GIG, a gallu fforddio gwneud hynny, mae angen i'r gweithlu wybod eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, ac mae cyflog teg yn ganolog i hynny. Yn ystod y pandemig, darparodd y gweithlu nyrsio yng Nghymru ofal clinigol cymhleth bob dydd—gan ddangos arweinyddiaeth; gan roi cymorth tosturiol i gydweithwyr, i gleifion a'u teuluoedd. Mae'n wir fod gweithwyr gofal iechyd bob amser wedi darparu'r lefel honno o ofal ac ymroddiad 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn. Ond ni allwn gymryd hynny'n ganiataol. Mae angen inni gydnabod bod prinder cronig o staff yng ngweithlu Cymru. Mae'n methu denu digon o unigolion i'r proffesiynau gofal iechyd; yn methu annog staff gofal iechyd i aros. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â'r prinder presennol yn y gweithlu a sicrhau bod y proffesiynau gofal iechyd yn opsiwn gyrfa deniadol—yn un sy'n talu'n dda ac wedi'i gefnogi'n ystyrlon. Mae cyflog teg yn ganolog i hynny. Mae Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru wedi arwain y frwydr i sicrhau bod nyrsys yng Nghymru'n cael cyflog sy'n cydnabod eu cyfraniad i gymdeithas, nid i'r GIG yn unig. Drwy gydol y pandemig, mae pob un ohonom wedi bod yn dyst i nyrsio ar ei fwyaf trawiadol—hynod drawiadol—ac wedi gweld, yn gwbl gywir, ei fod yn broffesiwn medrus iawn, sy'n haeddu cyflog teg, ac mae arnom ddyled enfawr i'r proffesiwn nyrsio, fel i weithwyr eraill ym mhob rhan o'r system iechyd a gofal. Ond erbyn hyn, maent yn teimlo nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi, a phwy all eu beio? Mae undebau a chyrff cynrychioliadol wedi cynnal ymgynghoriadau cyflog. Canfu ymgynghoriad cyflog gan Unsain Cymru fod 87 y cant o weithwyr gofal iechyd wedi pleidleisio i wrthwynebu'r cynnig; mae aelodau'r GIG o undeb Unite Cymru wedi pleidleisio i wrthod eu codiad cyflog o 3 y cant; dywedodd 93.9 y cant o aelodau Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru a bleidleisiodd eu bod yn credu bod y dyfarniad cyflog yn annerbyniol, gyda 6.1 y cant yn unig yn dweud ei fod yn dderbyniol. Y prynhawn yma, mae’r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi penderfynu cynnal pleidlais ddangosol ar weithredu diwydiannol yn Lloegr, gyda disgwyl i benderfyniad ar gyfer Cymru gael ei gyhoeddi cyn bo hir. Rydym yn clywed bod y Llywodraeth mewn trafodaethau gyda’r undebau, ac rwy'n gobeithio y bydd yr undebau’n llwyddiannus yn y trafodaethau hynny er lles y gweithwyr, er lles eu haelodau. Ac efallai y gall y Gweinidog gadarnhau heddiw fod y trafodaethau hynny'n cynnwys codiad cyflog ystyrlon—fod y posibilrwydd o godiad cyflog ystyrlon ar y bwrdd. Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol a'i aelodau wedi mynegi cryn rwystredigaeth ynghylch awgrymiadau eu bod rywsut wedi bod yn tynnu allan o drafodaethau gyda'r Llywodraeth; y Llywodraeth sydd wedi bod yn dweud, 'Nid ydych i drafod codiad cyflog ystyrlon'. Deallaf y bydd cyfarfod yn cael ei gynnal mor gynnar ag yfory, o bosibl, ac unwaith eto, efallai y gall y Gweinidog gadarnhau bod codiad cyflog ystyrlon ar y bwrdd. Mae mesurau eraill a ystyrir wrth edrych ar dâl ac amodau, mesurau fel mwy o wyliau blynyddol a thâl gwyliau, i'w croesawu wrth gwrs, ond does bosibl na all y Llywodraeth dderbyn, yn y pen draw, er mwyn dangos diolch a gwerthfawrogiad a chydnabyddiaeth o'r gwaith a wnaed gan ein gweithwyr iechyd a gofal, fod yn rhaid i hynny gynnwys codiad cyflog mewn termau real yn awr. Mae'n bryd gwobrwyo ein gweithwyr iechyd a gofal â chytundeb cyflog teg newydd. Rwyf i wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Russell George i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Gwelliant 1—Darren Millar Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod ymroddiad ac aberth holl staff y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. 2. Yn croesawu'r lefelau hanesyddol o gyllid gan Lywodraeth Ei Mawrhydi i bob rhanbarth a gwlad yn y DU, gan gynnwys Cymru, mewn cyllidebau olynol ac yn y frwydr yn erbyn COVID-19. 3. Yn nodi argymhellion corff adolygu cyflogau annibynnol y GIG yng Nghymru a phenderfyniad Llywodraeth Cymru i ddyfarnu codiad cyflog o 3 y cant i staff y GIG. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael ar frys ag amodau gwaith fel cymorth iechyd meddwl, cadw staff, uwchsgilio a llenwi bylchau staffio o fewn y GIG, er mwyn sicrhau bod gennym weithlu sy'n addas ar gyfer y dyfodol. Cynigiwyd gwelliant 1. Russell George AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch yn gyntaf i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, ac ychwanegu fy niolch innau i'r gweithwyr gofal iechyd sydd wedi cadw Cymru'n ddiogel ac wedi ymladd mor galed yn ystod y pandemig yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws? Rwy’n cynnig gwelliant 1, Ddirprwy Lywydd, yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar, a chredaf yn gryf, fel y mae pob un o'r Ceidwadwyr Cymreig yn ei gredu yma yn y Senedd, y dylai Llywodraeth Cymru gydnabod yn benodol ymroddiad holl staff y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Ni fyddem yn y sefyllfa hon heddiw oni bai am ymdrechion enfawr ein gweithwyr gofal iechyd. Credaf na fydd unrhyw amheuaeth ar draws y Siambr hon, Ddirprwy Lywydd, fod y GIG wedi bod dan bwysau aruthrol dros y 18 mis i ddwy flynedd ddiwethaf, a chredaf ei bod yn braf fod Llywodraeth y DU wedi darparu cyllid ychwanegol yn ystod y cyfnod hwnnw wrth gwrs, yn cynnwys £8.6 biliwn i ymladd y coronafeirws, y £2 biliwn ar gyfer blwyddyn ariannol 2021-22, ac wrth gwrs, yr £1.9 biliwn o gyllid ychwanegol y gall Llywodraeth Cymru ei wario ar y GIG dros y tair blynedd nesaf. O'm rhan i, credaf mai'r hyn yr hoffwn ei ddweud yn y cyfraniad hwn yw nad mater o gyflog yn unig yw gofalu am ein gweithwyr gofal iechyd. Mae honno'n elfen bwysig, ond credaf ei bod yn bwysig hefyd fod Llywodraeth Cymru'n mynd i'r afael ag amodau gwaith; cymorth iechyd meddwl—mae hyn yn dilyn y ddadl flaenorol a arweiniwyd gennym ni fel Ceidwadwyr Cymreig wrth gwrs; cadw staff; ac uwchsgilio bylchau staffio yn y GIG i sicrhau bod y gweithlu'n addas ar gyfer y dyfodol. Credaf mai'r hyn y dylem ei wneud yw ceisio ysgwyddo rhywfaint o'r pwysau, gan leddfu'r pwysau ar ein gweithwyr gofal iechyd drwy sicrhau y darperir nifer ddigonol o staff. Dyma un o'r rhesymau pam fy mod wedi cyflwyno Bil cyfamod GIG Cymru yn y bleidlais Aelodau yn ddiweddar. Byddai'r Bil hwn yn gwarantu y bydd y GIG yn parhau i fod mewn dwylo cyhoeddus, yn rhad ac am ddim i'w ddefnyddio, ac yn gwarantu bod staff y GIG bob amser yn cael y cyflog a argymhellir gan gorff adolygu cyflogau'r GIG, sy'n gorff annibynnol. Ac nid yn unig hyn, byddai'n ymdrechu hefyd wrth gwrs i wella llesiant staff gydag oriau gwaith mwy hyblyg, mwy o wyliau, mwy o fynediad at ofal plant a chymorth iechyd meddwl. Mae'r rhain yn gynlluniau pendant ar gyfer dyletswydd i gefnogi staff y GIG yn ystod eu gyrfaoedd. Mae fy nghyd-Aelodau a minnau wedi dweud y dylid trin gweithwyr rheng flaen yn wahanol o fewn y dyfarniad cyflog. Rydym wedi dadlau o'r blaen fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddarparu ymrwymiadau cyflog i'r proffesiwn nyrsio, sydd ar wahân i staff eraill y GIG, a dylai fod mai rôl i Lywodraeth Cymru yw siarad ag undebau a'r corff adolygu cyflogau annibynnol i drafod y posibiliadau hyn. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a GwasanaethauCymdeithasol, Eluned Morgan, i gynnig yn ffurfiol gwelliant 2 a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Gwelliant 2—Lesley Griffiths Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i ymgysylltu ag undebau llafur GIG Cymru gan gynnwys ynghylch cyflogau'r GIG. Cynigiwyd gwelliant 2. Eluned Morgan AC: Yn ffurfiol. Diolch. Hefin David. Hefin David AC: Gallaf gofio’r datganiad a wnaeth Joel James yn ystod y ddadl ar y Bil partneriaeth gymdeithasol, ac roedd yn ddatganiad eithaf cryf. Y geiriau a ddefnyddiodd, maent ar y sgrin gennyf yma: 'mae'r Llywodraeth hon yn poeni'n bennaf am ofalu am eu cyflogwyr undebau llafur.' A, 'Siawns na all y Dirprwy Weinidog weld bod problem amlwg o ran sut y bydd undebau llafur yn cael dylanwad gormodol ar bolisi'. Dyna'r geiriau a ddefnyddiwyd gan Aelod o feinciau’r Ceidwadwyr, ac ar y pryd, roedd gennyf bryderon dybryd am yr hyn a ddywedwyd, a mynegwyd llawer o bryderon yn y Siambr hon ynglŷn â hynny. Ond mae angen inni gofio mai'r undebau llafur yw cynrychiolwyr mwyaf effeithiol y gweithlu a welwyd yn y wlad hon. Rwyf wedi cael sgyrsiau gyda fy undeb llafur fy hun, Unsain, am y mater hwn, ac rwy'n falch iawn fy mod wedi cael y sgwrs honno, yn enwedig fel cadeirydd grŵp Unsain yr Aelodau o'r Senedd, ac rwy'n hwyluso cysylltiadau rhwng Aelodau o'r Senedd ac Unsain fel y gellir cael y trafodaethau hynny. Os oes beirniadaeth o'r Llywodraeth yn y mater hwn, ac rwy'n teimlo bod beirniadaeth, gallai'r undebau llafur—. Rwyf wedi dweud hyn wrth y Gweinidog fy hun yn breifat, fy mod yn teimlo y gallai'r undebau llafur fod wedi cymryd rhan fwy cynhwysfawr a dyfnach yn gynharach yn y broses hon. Credaf fod hwnnw'n fater y byddwn yn gobeithio y byddai'r Gweinidog yn ei gydnabod. A gwn fod system, corff annibynnol sy'n argymell cyflogau'r GIG ac sydd wedi'i sefydlu at y diben hwnnw, ond serch hynny, nid ydym yn dda i ddim os nad ydym yn gwrando ar y gweithlu, a'r corff sy'n cyflawni hynny yw'r undebau llafur. Felly, hoffwn pe bai'r Gweinidog yn ymateb ar y mater hwnnw. Er hynny, ddoe, yn yr ymateb i arweinydd Plaid Cymru, dywedodd y Prif Weinidog yn glir mai pot cyfyngedig o gyllid sydd ar gael, gyda llawer o alwadau arno, a dyna’n union pam fod Llywodraeth Cymru yn awyddus i gyflwyno diwygio cyfansoddiadol a gweld y cysyniad o ffederaliaeth radical a fyddai’n rhyddhau Llywodraeth Cymru i wneud yn union fel y dywedodd Rhun ap Iorwerth yn ei araith. Un o'r pethau yr hoffwn eu gweld, er enghraifft, yw ardoll Holtham, ond byddai'n rhaid inni weld pwerau wedi'u dosbarthu'n wahanol ar draws y Deyrnas Unedig hon er mwyn codi ardoll Holtham am ofal cymdeithasol. Mae'r Cynghorydd Carol Andrews yn gynghorydd Llafur ym Margoed, ond mae hi hefyd yn nyrs yn Ysbyty Ystrad Fawr. Tynnodd fy sylw at yr ymdrechion arwrol y mae hi a nyrsys eraill yn eu gwneud yno, yn enwedig drwy gyfnod COVID. Mae ei merch, Megan, newydd raddio gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn nyrsio, a bydd yn nyrs wych yn y dyfodol. Mae gweithwyr y GIG yn haeddu gwell cytundeb cyflog, ac rwy'n falch o glywed bod y drafodaeth honno'n parhau gyda Llywodraeth Cymru. Ac Unsain, yn hytrach na chyfarfod ag arweinydd Plaid Cymru, byddwn yn dweud wrth Unsain eu bod yn iawn i gyfarfod yn lle hynny â Llywodraeth Cymru, a pharhau â'r trafodaethau hynny, oherwydd fy mhryder yw, pan gynhelir trafodaethau gyda'r gwrthbleidiau, a'r pwyntiau hynny wedyn yn cael eu gwneud er mwyn sgorio pwyntiau gwleidyddol yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog, mae'n tynnu oddi ar ddifrifoldeb y mater hwn. Yr hyn sydd angen ei wneud, fel y mae'r Gweinidog yn ei wneud, yw parhau â'r sgwrs adeiladol honno. A gwn mai dyna sy'n digwydd gydag undebau cyfrifol, fel fy un i, Unsain, ac edrychwn ymlaen at glywed canlyniad hynny. Gwyddom fod potensial ar gyfer gweithredu diwydiannol; rwy’n annog y Gweinidog a’r undebau i weithio gyda’i gilydd i wneud popeth a allant i osgoi hynny. Cefin Campbell MS: Efallai dylwn i fod yn dechrau drwy ddatgan diddordeb: buodd fy ngwraig yn nyrsio ar hyd ei bywyd nes ei bod hi wedi gorfod ymddeol yn ddiweddar, ac mae llawer iawn o'r nyrsys oedd yn gweithio gyda hi yn parhau i fod yn ffrindiau agos i ni fel teulu. Ac oherwydd hynny, dwi wedi gweld, dwi wedi bod yn llygad-dyst i effaith y pandemig arnyn nhw fel nyrsys dros y 18 mis diwethaf. Ar lefel bersonol, dwi wedi gweld y straen maen nhw wedi'i ddioddef, yr heriau maen nhw wedi gorfod eu hwynebu, a'r blinder ofnadwy maen nhw nawr yn ei deimlo. Ac mae'r hyn dwi wedi'i weld yn cael ei gadarnhau gan arolwg diweddar gan yr RCN, sy'n dangos bod rhyw 38 y cant o nyrsys yn ystyried gadael y proffesiwn oherwydd amodau gwaith anodd a phwysau gwaith enbyd, gyda 58 y cant ohonyn nhw'n credu taw cyflog cwbl annigonol sydd wrth wraidd eu hanfodlonrwydd. Mae problemau cadw staff, methiant i recriwtio, fel rŷn ni wedi clywed yn barod, a'r ffaith bod cynifer i ffwrdd o'u gwaith oherwydd salwch, wedi gwaethygu'r sefyllfa i bwynt lle mae gennym erbyn hyn yng Nghymru argyfwng yn y maes iechyd a gofal. A does dim dwywaith yn fy meddwl i, felly, y byddai rhoi codiad cyflog mwy na'r 3 y cant sy'n cael ei argymell yn ffordd o gadw staff profiadol, drwy ddangos eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu, ynghyd â denu pobl ifanc i mewn i'r proffesiwn. Fel sydd wedi cael ei ddweud yn barod, mae cynnig 3 y cant o godiad cyflog i nyrsys yn golygu, mewn termau real, leihad yn eu cyflog, a hynny ar ben yr 1.25 y cant y byddan nhw'n gorfod ei dalu yn ychwanegol o yswiriant gwladol, a hefyd heb sôn am y cynnydd sylweddol mewn costau byw. Cefin Campbell MS: Ddirprwy Lywydd, bûm yn siarad neithiwr ag uwch brif nyrs, sydd wedi rhoi bron i 40 mlynedd o’i bywyd i’r GIG. Dywedodd wrthyf yn deimladwy iawn nad yw hi erioed, drwy gydol ei gyrfa hir, wedi teimlo mor isel, mor lluddedig a heb ei gwerthfawrogi. Dywedodd wrthyf sut yr oedd hi a'i chydweithwyr, yn ystod dyddiau cynnar y pandemig fel nyrs gymunedol, yn ymweld â chleifion heb gyfarpar diogelu personol digonol, heb wybod a oedd COVID ar y cleifion hynny, cleifion a oedd wedi'u rhyddhau o'r ysbyty yn aml, a pha mor ofnadwy o agored i niwed y teimlent. Ac eto, drwy hyn i gyd, fe wnaethant barhau heb ochel rhag eu rhwymedigaethau i'r cleifion yn eu gofal. Rhoddodd y gweithwyr iechyd dewr hyn eu bywydau eu hunain mewn perygl er mwyn achub bywydau eraill, a gweithio oriau hir, blinedig, ymhell y tu hwnt i'r hyn y gellid disgwyl iddynt ei wneud, i ofalu am bobl a oedd yn dibynnu'n llwyr arnynt. A gwelsom enghreifftiau dirifedi o aberth anhunanol ledled y wlad, ac mewn amgylchiadau gwaeth nag a welsom ers yr ail ryfel byd dangosodd ein gweithwyr iechyd stoiciaeth ac argyhoeddiad diarbed ac ysbrydoledig. A wnaiff yr Aelod ddirwyn i ben yn awr, os gwelwch yn dda? Cefin Campbell MS: Rwy'n dod at y diwedd. A phan oeddem yn clapio, fel y clywsom yn gynharach, rhoddwyd gobaith iddynt y byddai'r Llywodraethau, o'r diwedd, yn rhoi cyflog teg iddynt i gydnabod y tasgau heriol y maent yn eu cyflawni bob dydd. Ond yn anffodus, mae hynny wedi troi’n siom. Iddynt hwy, mae'r clapio byddarol ar garreg ein drysau wedi dod yn adlais pell wrth i'r anobaith a'r dadrithiad lifo'n ôl, gan nad oedd y clapio byth yn mynd i dalu eu biliau a'u morgais ac am y bwyd ar y bwrdd. Cefin Campbell MS: Felly—a dwi'n gorffen gyda hyn—does dim rhaid i bethau fod fel hyn. Byddai un penderfyniad gan y Llywodraeth i roi'r tâl sydd yn deilwng iddyn nhw yn newid y sefyllfa'n llwyr, yn rhoi'r haeddiant iddyn nhw y maen nhw i gyd yn eu haeddu. Diolch yn fawr iawn. Hefin David AC: Wel, byddwn wedi cymryd pedwar munud a hanner pe bawn yn gwybod fy mod yn mynd i'w gael. [Anghlywadwy.]—Aelodau i barchu'r Cadeirydd. Altaf Hussain. Altaf Hussain AS: Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi gweithio gyda nyrsys ar hyd fy oes, ac mae'n iawn ein bod yn cydnabod cyfraniad ein holl weithwyr gofal iechyd ar draws y GIG a gofal cymdeithasol. Gwyddom fod y 18 mis diwethaf wedi bod yn eithriadol o heriol. Fel cymaint o rai eraill yn ein gwasanaethau cyhoeddus, mae'r rheini ar y rheng flaen ym maes gofal wedi bod yn dyst i drasiedi ddynol y pandemig. Mae adroddiad corff adolygu cyflogau'r GIG, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf, yn adroddiad eithriadol o fanwl sy'n seiliedig ar gorff sylweddol o dystiolaeth, cyflwyniadau a dadansoddiadau. Mae'r ddogfen yn cynnwys amryw o bwyntiau a wnaed gan Weinidogion Cymru, a nododd y byddai penderfyniad yn cael ei wneud ynglŷn ag a fyddai unrhyw arian ychwanegol sydd ei angen yn dod o gyllidebau presennol maes o law. Mae pob un ohonom yn cydnabod y byddai angen i Weinidogion Cymru a fyddai'n gwneud unrhyw godiad pellach i gyflog staff ddod o hyd i'r arian hwnnw o'r cyllidebau presennol, ac yn eu tystiolaeth i'r adolygiad, dywedodd Llywodraeth Cymru, po uchaf y dyfarniad cyflog, yr anoddaf fyddai'r dewisiadau ynglŷn â sut i ddod o hyd iddo a blaenoriaethau eraill i GIG Cymru. Rwy’n falch fod Llywodraeth Geidwadol y DU nid yn unig wedi darparu £8.6 biliwn i Gymru yn yr ymdrech i frwydro yn erbyn y coronafeirws, yn ychwanegol at fwy na £2.1 biliwn ar gyfer blwyddyn ariannol 2021-22, ond eu bod wedi cyhoeddi hefyd y byddant yn buddsoddi £1.9 biliwn ychwanegol yn GIG Cymru dros y tair blynedd nesaf. Yn fy marn i, os yw Llywodraeth Cymru eisiau talu am godiadau pellach, prin y gallant ddweud eu bod yn brin o arian. Rwy'n cydnabod pa mor anodd yw hyn i lawer o staff sy'n credu y dylid gwobrwyo eu cyfraniad. Ddirprwy Lywydd, rwy'n teimlo yr un fath am ein staff gofal cymdeithasol hefyd. Yn y pandemig, i raddau helaeth fe anwybyddodd y cyfryngau a'r naratif gwleidyddol waith y rheini sy'n gofalu am lawer o bobl hŷn a oedd yn agosáu at ddiwedd eu bywydau oherwydd COVID-19, gan brofi'r trawma yn y sector cartrefi preswyl a chartrefi nyrsio, lle'r oedd trigolion yn marw ar gyfradd gyflymach, a lle daeth yr aelodau hynny o staff yn aelodau teuluol ar fenthyg yn yr oriau olaf hynny, wrth iddynt eu cysuro ar y diwedd. Datgelodd y pandemig pa mor wael yw ein cydnabyddiaeth o gyfraniad ein staff gofal cymdeithasol. Mae'n rhaid inni unioni hyn. Ac er fy mod yn croesawu'r cynigion i fynd i'r afael â chyflog fel rhan o drefniadau comisiynu newydd ar gyfer y gwasanaethau gofal cymdeithasol, mae angen inni fod yn gadarn wrth lywio mwy o arian tuag at gefnogi'r rhan hanfodol hon o'n sector iechyd a gofal. Diolch yn fawr iawn. Mabon ap Gwynfor AS: Eisoes, yn y Senedd yma, rydyn ni wedi trafod yr egwyddor o UBI a'r pwysigrwydd o roi urddas i bobl trwy eu bod nhw'n cael incwm digonol i fyw. Y Llywodraeth Lafur, wrth gwrs, ddaru gyflwyno'r isafswm cyflog er mwyn trio rhoi rhyw lefel o sicrwydd ac urddas i'r gweithlu. Mae'r egwyddor sylfaenol, felly, o gael cyflog teg am eich gwaith, gan roi urddas i bobl, wedi hen basio. Ond eto, dyma ni yn 2021 yn gorfod dadlau dros roi cyflogau teg i weithwyr—cyflog sy'n adlewyrchu eu gwaith, eu hymrwymiad a'u gallu, ac, yn wir, cyflog fydd yn denu pobl i yrfa o ofal. Mae dros hanner gweithlu y gwasanaeth iechyd yn brif gyfranwyr incwm i'w haelwydydd. Mae degau o filoedd o deuluoedd yng Nghymru yn ddibynnol ar gyflogau nyrsys er mwyn medru byw, cadw to uwch eu pennau a bwyd yn eu boliau. Yn fwy syfrdanol fyth, mae un o bob pump o'r gweithlu yn gorfod cael cyflogaeth arall ar ben gweithio i'r gwasanaeth iechyd. Onid yw hyn yn ei hun yn ddigon i ddangos pwysigrwydd cyflogaeth y gwasanaeth iechyd, ac nad yw cyflog bresennol y gweithlu yn ddigonol i nifer o bobl? Yn ôl ymchwil drylwyr y Royal Society for Arts, Manufactures and Commerce, mae bron i 60 y cant o weithlu y gwasanaeth iechyd yn methu â chael balans teg rhwng bywyd a gwaith, a hynny oherwydd eu bod nhw'n gweithio fwy o oriau nag maen nhw'n cael eu talu amdanyn nhw, ac yn aml yn gweithio sifftiau anghymdeithasol. Yn wir, mae tri chwarter y gweithlu nyrsio yn dweud eu bod nhw'n gweithio goramser, gan arwain at gynnydd mewn lefelau straen ac afiechydon meddwl, ynghyd â phroblemau eraill. Mae hyn, yn ei dro, yn gostus i'r gwasanaeth iechyd. Datgelodd cais rhyddid gwybodaeth i fwrdd iechyd y gogledd cyn y pandemig fod 77,000 o ddiwrnodau staff wedi cael eu colli o ganlyniad i straen, oedd yn gyfwerth â £5.5 miliwn i'r gwasanaeth. Does dim syndod felly fod nifer uchel o bobl yn gadael gweithlu'r gwasanaeth iechyd, ond mae'r pres yno ond yn cael ei roi i'r mannau anghywir. Mae hyn, yn ei dro, yn arwain at ddibyniaeth ar nyrsys asiantaeth a chostau llawer iawn uwch i'r gwasanaeth iechyd—degau o filiynau o bunnoedd y flwyddyn, ac yn cynyddu yn flynyddol. Bythefnos yn ôl cafwyd dadl yma am y gwasanaeth ambiwlans, a phawb yn gytûn fod y diffyg gwelyau yn yr ysbytai yn rhan greiddiol o'r broblem. Er mwyn diwallu hynny, rhaid wrth gwrs gael rhagor o nyrsys, ac mae'n wybyddus bellach, ers degawd a mwy, am y prinder staff nyrsio. Mae gwaith Anne Marie Rafferty'n dangos yn ddiymwad fod prinder nyrsys yn arwain at gynnydd yng nghyfradd marwolaethau ymhlith cleifion. Mae diffyg nyrsys yn arwain at fwy o ddamweiniau, camgymeriadau a chynnydd mewn heintiau. Ydyn ni'n wirioneddol yn disgwyl diwallu'r anghenion nyrsio heb roi cyflog teg iddyn nhw? A phwy yw'r bobl sydd yn dioddef mwyaf o'r ansicrwydd economaidd yma? Bydd yr Aelod yn dod i gasgliad nawr, os gwelwch yn dda. Mabon ap Gwynfor AS: Dwi'n dod i ben rŵan. Menywod, pobl ddu, pobl Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig eraill, sef y rhelyw sydd yn gwneud i fyny y gweithlu nyrsio. Dyma'r un garfan o bobl sydd ar waelod pob tabl anghyfiawnder a thegwch, ac, unwaith eto, dyma'r bobl sy'n dioddef oherwydd y polisi yma i fethu â'u talu nhw'n iawn. Dyma'r bobl sy'n cynnal ein gwasanaethau iechyd ni—hebddyn nhw byddai'r gwasanaeth yn dymchwel. Mae'n rhaid inni ddangos ein diolch nid trwy glapio, ond drwy roi tâl teg iddyn nhw. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. A gaf fi atgoffa’r Aelodau, pan ydym yn cael dadl 30 munud, mai tair munud yw'r cyfraniadau? Ac yn enwedig pan fydd eich plaid yn cyflwyno'r ddadl honno am 30 munud, cadwch at hynny fel y gall pawb gael cyfle i siarad. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan. Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am ddewis y pwnc hwn i'w drafod heddiw, gan ei fod yn caniatáu imi ailadrodd barn Llywodraeth Cymru ar y pwnc pwysig hwn. Nawr, mae'r 18 mis diwethaf wedi bod yn ddidrugaredd. Mae'r pandemig yn parhau i effeithio'n sylweddol ar gleifion a staff, a hoffwn dalu teyrnged heddiw a gofyn i'r Aelodau gydnabod y galwadau corfforol ac emosiynol anhygoel a wynebwyd gan ein gweithlu o ganlyniad i geisio ein cadw ni oll yn ddiogel. Nawr, er mwyn pennu codiadau cyflog, sefydlwyd proses adolygu cyflogau annibynnol. Mae llywodraethau, undebau llafur a chyflogwyr yn cyflwyno tystiolaeth i'r corff adolygu cyflogau er mwyn iddynt ei hystyried cyn gwneud eu hargymhellion. Mae Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi eu hannibyniaeth yn fawr, a gwnaed hynny'n glir eleni ar ôl i Lywodraeth Dorïaidd y DU, wrth gyflwyno eu tystiolaeth, orfodi cap mympwyol o 1 y cant ar yr hyn y dywedasant y byddent yn ei dalu i weithwyr y GIG. Cynhaliodd y corff adolygu cyflogau eu hasesiad annibynnol, ac argymell codiad o 3 y cant ar gyfer eleni. Ariannwyd argymhelliad y corff adolygu cyflogau o 3 y cant yma yng Nghymru o gyllid presennol adran iechyd Llywodraeth Cymru. Ni roddwyd unrhyw arian neu gyllid canlyniadol ychwanegol gan Lywodraeth Dorïaidd y DU tuag at ariannu cyflogau'r GIG. Rwy’n llwyr gefnogi’r angen am gyflog teg a fforddiadwy i weithwyr y GIG, ond yn anffodus, ni allaf wneud hyn heb gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Dorïaidd y DU, oherwydd, er mwyn cynyddu cyfradd cyflog sylfaenol— Darren Millar AC: A wnewch chi dderbyn ymyriad? Eluned Morgan AC: Gwnaf. Darren Millar AC: Diolch, rwy'n ddiolchgar iawn am hynny. A ydych yn cydnabod, o ganlyniad i'r setliad presennol gyda Llywodraeth y DU, fod Cymru'n derbyn oddeutu £1.20 am bob £1 ar gyfer y gwasanaeth iechyd datganoledig? Mae hynny'n eich galluogi, pe baech yn dymuno gwneud hynny, i roi 20 y cant yn ychwanegol at yr hyn a dalwch i aelodau staff ar hyn o bryd. A ydych yn derbyn—[Torri ar draws.] A ydych yn derbyn mai dyna'r—[Torri ar draws.] A ydych yn derbyn—[Torri ar draws.] Gallaf glywed yr heclo. Gallaf weld y Prif Weinidog yn gwenu. Ef yw'r un a darodd fargen gyda’r Trysorlys i gael yr iawndal hwnnw. Dyna'r gwir, dyna'r ffeithiau, a ydych yn derbyn bod gennych fwy o adnoddau na Llywodraeth y DU i dalu eich staff? Eluned Morgan AC: Ddim o gwbl. Yr hyn rwy'n ei wybod yw bod pobl yn y GIG sydd wedi bod yn gweithio'n galed drwy gydol y pandemig hwn yn haeddu eu dyfarniad cyflog o 3 y cant, a dylai fod wedi dod gan Lywodraeth y DU. Yn lle hynny, rydym wedi gorfod dod o hyd i'r arian o'r cyllidebau a oedd gennym yma eisoes. Golyga hynny ein bod i bob pwrpas wedi gorfod gwneud toriadau mewn meysydd eraill gan ein bod am sicrhau ein bod yn gwobrwyo'r bobl hyn sydd wedi bod yn gweithio mor galed drwy gydol y pandemig. Ac fe ddywedaf wrthych faint y byddai'n ei gostio. Er mwyn inni ddod o hyd i 1 y cant, bydd yn costio £50 miliwn y flwyddyn i ni. Bydd mynd ymhellach na 3 y cant yn eithriadol o anodd. Ac yn anffodus, yn wahanol i Blaid Cymru, nid oes gennym goeden arian hud i fynd i’r afael â hynny, a byddai’n ddiddorol iawn clywed gan Blaid Cymru beth yn union y byddent yn ei dorri er mwyn dod o hyd i’r cyllid ychwanegol y dywedant y byddent yn ei dalu, gan fod yn rhaid iddo ddod o gyllideb y GIG. Felly, beth y byddech chi'n ei dorri? Mae'n rhaid ichi fod o ddifrif ynglŷn â gwleidyddiaeth. Nid ydych o ddifrif. Mae a wnelo hyn ag iaith blaenoriaethau. Dyna y siaradai Aneurin Bevan amdano. Rydym yn gwybod am hynny. Rydym yn gwneud y penderfyniadau anodd hynny, nid ydych chi byth yn eu gwneud. Dywedwch wrthym beth y byddech chi'n ei dorri yn ei le. Nid ydych yn gwneud hynny. Rwy'n sicr yn deall cryfder teimladau staff a'u hundebau llafur. Rydym yn parhau i gyfarfod yn rheolaidd â chynrychiolwyr undebau llafur o'r rhan fwyaf o undebau'r GIG. A byddaf yn eu cyfarfod eto yfory. Ac maent hwy, a ninnau, yn cytuno, er gwaethaf yr amgylchiadau anodd iawn hyn, fod ein dull partneriaeth gymdeithasol yn darparu'r mecanwaith gorau posibl ar gyfer dod o hyd i'r ateb gorau posibl. Ac maent yn parhau i wthio’n galed iawn ar ran eu haelodau am fuddion ac ychwanegiadau i ategu'r cynnig o 3 y cant i staff gweithgar ac ymroddedig ein GIG. Ac er fy mod wedi ymrwymo i gyflog teg i GIG Cymru, mae gweithwyr gofal cymdeithasol hefyd wedi cyfrannu'n sylweddol tuag at ein cadw'n ddiogel yn ystod y pandemig, ac rydym yn ysu am recriwtio mwy o bobl i'r gwasanaeth gwerthfawr hwn, a fydd yn tynnu'r pwysau oddi ar staff y GIG. Ac yn wahanol i staff GIG Cymru, telir cyflogau is na'r cyflog byw gwirioneddol i lawer o weithwyr gofal cymdeithasol, ac mae'n rhaid i'w cyflog hwythau fod yn flaenoriaeth hefyd. Nid wyf am wrando ar unrhyw wersi gan y Torïaid ar y pwnc hwn. Nid ydynt wedi rhoi’r cyllid ychwanegol y dylem fod wedi’i gael i ni. Mae'r sgyrsiau'n parhau. Maent yn anodd, maent yn drylwyr, a byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid i sicrhau canlyniad teg i bawb. Ac wrth gwrs, mae pob un ohonom yn awyddus i osgoi anghydfod diwydiannol. Yn sicr, mae gweithwyr y GIG yn haeddu cael eu cydnabod am eu gwaith ar yr adeg hynod heriol hon, a byddwn yn gwneud ein gorau glas i roi'r hyn y maent ei eisiau o fewn yr hyn sydd ar gael i ni. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i ymateb i'r ddadl. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch am eich holl gyfraniadau, gan ddechrau gyda Russell George, a agorodd mewn ffordd bwyllog, drwy dalu teyrnged i'n gweithwyr iechyd. Ond nid yw hyn yn ymwneud â dangos ymrwymiad, geiriau caredig am y gweithlu; mae'n ymwneud â'u talu'n briodol. Ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r Gweinidog iechyd pan feirniadodd Lywodraeth y DU am ei gweithredoedd mewn perthynas â'i hamharodrwydd i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus drwy'r setliad i Gymru. A dweud y gwir, roedd cyfraniad Darren Millar yn un y gallai bachgen ysgol fod wedi'i wneud pan awgrymodd, rywsut, fod arian ychwanegol yn dod i Gymru drwy fformiwla Barnett ar gael i'w wario. Onid yw wedi clywed am anghenion—anghenion yng Nghymru sydd wedi'u dyfnhau gan weithredoedd ei Lywodraeth Geidwadol ef? Darren Millar AC: A wnewch chi dderbyn ymyriad? Rhun ap Iorwerth AC: Wrth gwrs. Darren Millar AC: Diolch. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod nad yw pob rhan o'r £1.20 am bob £1 a ddaw yn cael ei wario ar y gwasanaeth iechyd. Nid yw'r gwasanaeth iechyd yn derbyn y £1.20 yng Nghymru am bob £1 a werir, felly mae capasiti o fewn cyllideb Llywodraeth Cymru i fuddsoddi yn ein GIG ac i dalu staff y GIG yn wahanol, pe bai Llywodraeth Cymru yn dymuno gwneud hynny. Rhun ap Iorwerth AC: Ond eich dadl chi yw lladd ar Gymru a lladd ar ddatganoli, felly ni allwn fod o ddifrif yn ei chylch yn y cyd-destun hwn. Dywedodd y Gweinidog wrthym y dylai Plaid Cymru flaenoriaethu. Y fraint o fod yn Llywodraeth yw'r gallu i gyllidebu i flaenoriaethu, onid e? Ac yn sicr, mae'n rhaid i fuddsoddi yn ein hased mwyaf gwerthfawr, ein gweithlu iechyd a gofal, fod yn flaenoriaeth go iawn. Gwahoddodd y Gweinidog bob un ohonom i dalu teyrnged i weithwyr iechyd a gofal; mae hyn yn ymwneud â thalu teyrnged drwy gyflog teg. A diolch i'n gweithlu am eu gwaith, ond yn awr, maent angen cytundeb cyflog teg. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. 11. Dadl Plaid Cymru: Pwysau Gaeaf y GIG Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths. Eitem 11, dadl Plaid Cymru, pwysau gaeaf y gwasanaeth iechyd gwladol. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i wneud y cynnig. Cynnig NDM7792 Siân Gwenllian Cynnig bod y Senedd: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun gaeaf i fynd i'r afael â'r pwysau y mae'r GIG yn ei wynebu yn ystod misoedd y gaeaf. Cynigiwyd y cynnig. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rhun ap Iorwerth AC: Mae hon yn ddadl sydd wedi cael ei hysgogi gan dreigl amser, treigl amser efo problemau yn dwysáu o fewn ein gwasanaethau iechyd a gofal ni. Y gaeaf yn nesáu, yn wir y teimlad bod pwysau'r gaeaf yma yn barod, ac eto ein bod ni heb weld cynllun gan y Llywodraeth ar gyfer y gaeaf eleni. Fe lwyddon nhw i'w gyhoeddi fo yn amserol iawn erbyn canol Medi y llynedd a hynny wedi'r misoedd hynod, hynod heriol yna adeg y pandemig. Y gwir amdani ydy bod cleifion angen yr hyder bod cynllun mewn lle a bod staff angen gwybod bod y camau mewn lle i o leiaf drio tynnu'r pwysau oddi arnyn nhw dros y gaeaf. Does dim ots faint o weithiau rydyn ni'n talu teyrnged i staff, rydyn ni'n dweud y geiriau unwaith eto: a hynny am eu hymroddiad a'u haberth, a'u gwaith drwy'r cyfnod diweddar, dydy geiriau ddim yn gwneud y tro, rywsut. Dwi'n gwybod mai cefnogaeth mae staff yn chwilio amdano fo. Ers i ni gyflwyno'r cynnig yma, dwi yn falch bod y Llywodraeth wedi dweud bod y cynllun ar ei ffordd. Byddan nhw'n cyhoeddi cynllun y gaeaf ar 18 Hydref. Mi fyddwn ni'n disgwyl bron i bythefnos arall, ac mae yna, dwi'n gwybod, wir benbleth a siom ei bod hi wedi cymryd cyhyd, ond beth allwn ni wneud rŵan, wrth gwrs, efo pythefnos ar ôl, ydy trio dylanwadu ar y cynllun hwnnw, a beth rydyn ni eisiau ei wneud ydy amlinellu rhai o'r meysydd yna y mae rhanddeiliaid wedi dweud wrthym ni y maen nhw am eu gweld yn flaenoriaethau. Rydym ni wedi crynhoi'r mewnbwn hwnnw gan wahanol fudiadau a sefydliadau ar draws iechyd a gofal mewn i bump o feysydd rydyn ni'n credu sydd yn gwbl allweddol i'w cael yn iawn yn y cynllun y gaeaf yma, a dwi'n ddiolchgar iawn i'r rheini sydd wedi cyfrannu at y gwaith yma. Mae'r rhaglen bum pwynt sydd gennym ni yn dilyn, mewn difrif, siwrnai y claf drwy wasanaethau gofal, achos mae'n rhaid edrych ar y system gyfan. Yn gyntaf, mae eisiau canolbwyntio ar yr ataliol—dwi'n gobeithio y byddai'r Gweinidog yn cytuno efo hynny—a hefyd arwyddo pobl i'r llefydd iawn i dderbyn gofal. Mae pethau mor syml â rhaglenni grutio palmentydd yn gallu bod yn werthfawr o ran atal damweiniau, hyd yn oed; mae sicrhau bod pobl yn gynnes yn eu cartrefi yn bwysig er mwyn atal llawer o broblemau iechyd. Ac, wrth gwrs, pan fydd pobl yn mynd yn sâl, fel sydd yn anochel i lawer, mae eisiau gwneud yn siŵr bod y negeseuon ar sut i gael mynediad i wasanaethau yn hollol glir, yn annog pobl i beidio â galw ambiwlans neu fynd i uned achos brys oni bai bod gwir angen gwneud hynny, er enghraifft, a sicrhau bod y ffyrdd amgen o gael gofal yn cael eu cefnogi'n iawn. Mae'r ail bennawd gennym ni yn ymwneud â'r mynediad cyntaf un yna i ofal iechyd drwy ofal sylfaenol. Mae'n rhaid dod o hyd i ffyrdd o ryddhau amser staff iechyd i weld cleifion. Ymhlith y camau angenrheidiol yn fanna y mae cyflymu'r symudiadau at gyflwyno technoleg newydd—dadl yr ydym ni wedi'i chael yn y fan hon yn ddiweddar—yn cynnwys e-ragnodi, wrth gwrs. Mi all hyd yn oed mesurau fel dod â rhagor o staff, yn cynnwys meddygon teulu, yn ôl o ymddeoliad dros gyfnod y gaeaf fod yn rhywbeth y gellid gwneud gwaith brys arno fo. Ac mae sicrhau hefyd, dwi'n meddwl, mynediad i bobl hŷn at ofal sylfaenol yn allweddol, a dwi'n cyfeirio'r Gweinidog at adroddiad newydd gan Sefydliad Bevan mewn cydweithrediad efo Cynghrair Henoed Cymru, 'Mynediad pobl hŷn i wasanaethau meddyg teulu'. Mae'n ddogfen ymchwil bwysig iawn, dwi'n credu. Yn drydydd, cryfhau gwaith diagnostig a chyfeirio. Mae rhaid gweld parhad, er enghraifft, gwasanaethau sgrinio drwy'r gaeaf. Mae yna risg go iawn y gall cyfraddau goroesi canser lithro'n ôl am y tro cyntaf ers degawdau, ac mae'r gaeaf heb os yn hynny o beth yn creu sialensiau ychwanegol. Mae'n rhaid sicrhau bod gwasanaethau canser yn cael eu gwarchod y gaeaf yma, bod cleifion yn derbyn diagnosis a thriniaeth brydlon, ac wrth gwrs mae angen rhoi hyn yn y cyd-destun ehangach mwy hirdymor, yr angen am gynllun canser cenedlaethol. Mae materion y gweithlu yn gyffredinol yn faterion mwy hirdymor hefyd, ond mae eisiau rhywsut gallu blaenoriaethu'r elfen yna o gryfhau gweithlu sydd angen sylw rŵan, yn syth, y gaeaf yma. Y bedwaredd thema, yr her o gynyddu capasiti: dwi'n edrych ymlaen i glywed datganiad y Llywodraeth wythnos i ddydd Llun, a dwi'n gobeithio y bydd ymrwymiad i greu hybs COVID-lite cadarn yn rhan o hynny. Ac, yn olaf, mae trefniadau'r gaeaf yma o ran sicrhau llif cleifion drwy'r system iechyd ac ymlaen i ofal cymdeithasol yn bwysicach nag erioed. Mi glywn ni fwy am hynny gan fy nghyd-Aelod i yn y man. Rydyn ni wedi clywed am brofiadau pobl efo'r gwasanaeth ambiwlans, er enghraifft. Mewn un llythyr y cefais i yr wythnos yma, roedd rhywun wedi aros bron 24 awr am ambiwlans. Llif cleifion drwy'r system ydy'r broblem yn y fan honno. Rydyn ni i gyd wedi clywed profiadau tebyg. Does yna ddim cuddio'r her o'n blaenau ni y gaeaf yma. Mi fydd angen adnoddau sylweddol, ond mi fydd angen arloesedd syniadau hefyd. Felly, dwi'n edrych ymlaen at glywed y cyfraniadau y prynhawn yma. Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan, i gynnig yn ffurfiol welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Gwelliant 1—Lesley Griffiths Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd: Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynllun y gaeaf ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn yr wythnos sy'n dechrau ar 18 Hydref 2021. Cynigiwyd gwelliant 1. Eluned Morgan AC: Yn ffurfiol. Russell George AC: A gaf fi ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ail ddadl bwysig hon y prynhawn yma? Fel Ceidwadwyr Cymreig, rydym yn llwyr gefnogi cynnig Plaid Cymru, felly byddwn yn cefnogi hwnnw heddiw. Wrth gwrs, rydym ni fel Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn galw am gynllun pwysau gaeaf ers cryn dipyn o amser, felly nid oes amheuaeth nad yw'n gwbl hanfodol cael y cynllun hwnnw i ddangos i'r Senedd hon, i ddangos i bobl Cymru a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, beth yw cyfarwyddyd y Gweinidog i'n byrddau iechyd ar adeg pan wyddom nad oes digon o staff ar gael a phan fydd rheoli ac atal heintiau'n mynd yn anos. Yn drasig, y gaeaf diwethaf gwelsom bobl yn marw oherwydd trosglwyddiad COVID-19 o un ward i'r llall mewn mannau a ddylai fod yn ddiogel i gleifion, felly ni allwn fforddio caniatáu i hyn ddigwydd eto fel y gwnaeth y llynedd. Gwyddom fod rhestrau aros yn dal i fod yn hir iawn: mae un o bob pedwar yn dal i aros dros flwyddyn am driniaeth ac mewn cymhariaeth, yn Lloegr mae'r ffigur hwnnw'n un o bob 16. Felly, ni all cleifion Cymru sydd wedi bod yn aros dros flwyddyn fforddio aros yn hirach am driniaeth hanfodol, oherwydd gwyddom y rhesymau am hynny. Fel y gwnaeth Rhun wrth agor, rwy'n croesawu datganiad y Llywodraeth y byddant yn cyhoeddi eu cynllun ar 18 Hydref. Yr hyn y byddwn yn ei ddweud yw bod hynny fis yn ddiweddarach nag y'i cyhoeddwyd gan ragflaenydd y Gweinidog y llynedd, yn 2020, ac wrth gwrs daw'r cynllun ar ôl pwysau parhaus gan y gwrthbleidiau dros yr wythnosau diwethaf hefyd. Nawr, fel rhan o'r cynllun hwnnw, mae angen inni weld gweithredu'n digwydd mewn nifer o feysydd. Mae arnom angen y wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd hon yng Nghymru am y cynnydd y mae'r Gweinidog yn ei wneud ar y cynlluniau a gyflwynwyd gan fyrddau iechyd lleol ar gyfer hybiau rhydd o COVID; mae arnom angen diweddariad i'r Senedd hon yng Nghymru ar greu canolfannau diagnosis cymunedol, fel y gellir dod o hyd i'r rhai a allai fod â chanser neu gyflyrau eraill yn gyflym; mae arnom angen diweddariad i'r Senedd hon fel rhan o'r cynllun hwnnw ar gynnydd rhaglen brechiad atgyfnerthu COVID a ffliw, a sut y caiff hyn ei weithredu drwy gydol yr hydref a'r gaeaf; mae arnom angen y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â sut y mae ysbytai'n cynllunio ar gyfer rheoli ac atal heintiau'n well drwy gydol cyfnod y gaeaf; hefyd, wrth gwrs, mae angen inni gael y wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am gynlluniau ar gyfer gofal brys y gaeaf hwn. Credaf fod staff y GIG, cleifion ysbyty a chleifion Cymru yn gyffredinol angen sicrwydd fod gan Lywodraeth Cymru gynllun i'w cadw'n ddiogel y gaeaf hwn, felly fel Ceidwadwyr Cymreig byddwn yn cefnogi'r cynnig hwn heddiw. Diolch, Ddirprwy Lywydd. John Griffiths AC: Rwy'n dyfalu ein bod i gyd yn gyfarwydd â phwysau arferol y gaeaf sy'n dod gyda thymor y ffliw, a'r straen cyffredinol ar iechyd yn ystod y gaeaf, a'r effaith y mae hynny'n ei chael ar ein meddygfeydd a'n hysbytai. Y tro hwn, wrth gwrs, gyda COVID a'r ôl-groniad cynyddol o driniaethau, mae'r pwysau'n debygol o fod hyd yn oed yn fwy nag arfer. I mi, fel cynrychiolydd Dwyrain Casnewydd, Ddirprwy Lywydd, yr hyn a welaf yn awr yn fy mag post yw llawer o bryder ynghylch mynediad at wasanaethau meddygon teulu, ynghylch pethau sylfaenol fel y system ffôn a gallu cael apwyntiadau wyneb yn wyneb pan fo'n briodol. Mae'n amlwg fod rhai o'r problemau'n rhagflaenu'r pandemig, ond maent yn sicr wedi gwaethygu, a chredaf fod y cyngor iechyd cymuned, er enghraifft, wedi dangos tystiolaeth o hynny yn eu gwaith. Mae'n broblem sylfaenol, gyda phobl yn ffonio'n barhaus ac yn methu mynd drwodd ar y ffôn o fewn y cyfnod dynodedig pan gânt drefnu apwyntiad y diwrnod hwnnw. Pan lwyddant i fynd drwodd, mae'n rhy hwyr i drefnu apwyntiad y diwrnod hwnnw a dywedir wrthynt am ffonio yfory, ac yna byddant yn mynd drwy'r un profiad eto, ac yn amlwg, maent yn anobeithio ynglŷn â chael yr apwyntiad wyneb yn wyneb y maent am ei gael. Wrth gwrs, credaf fod hynny'n arwain at bwysau ychwanegol ar ofal heb ei drefnu adrannau damweiniau ac achosion brys mewn ysbytai, oherwydd bydd rhai pobl yn mynd i'r adran damweiniau ac achosion brys wedyn pan na ddylent wneud hynny. Ceir problemau pellach yno gyda rhyddhau o'r ysbytai ac argaeledd staff gofal cartref a chartrefi gofal. Mae'r fath goctel o broblemau'n bodoli ar hyn o bryd, ac i ryw raddau, roedd yn bodoli cyn y pandemig, ond mae'n sicr wedi gwaethygu o ganlyniad i COVID-19. Tybed beth y gall y Gweinidog ei ddweud heddiw am weithredu gan Lywodraeth Cymru ar hyn. I ba raddau y ceir asesiad o'r problemau hyn, gan weithio gyda'r byrddau iechyd lleol, i ddeall pa wasanaethau meddygon teulu sy'n cael problemau penodol, er enghraifft, gyda'u systemau ffôn, pa uwchraddio sy'n digwydd i'r systemau ffôn hynny er mwyn datrys y problemau, pa feddygfeydd meddygon teulu sy'n cael problemau penodol gyda darparu'r hyblygrwydd angenrheidiol mewn perthynas ag apwyntiadau wyneb yn wyneb, a beth sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â hynny? A sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r cyngor iechyd cymuned i ddeall y dystiolaeth a phrofiadau pobl? Rwy'n gwybod bod angen hyblygrwydd, Ddirprwy Lywydd. Mae rhai pobl eisiau defnyddio'r technolegau newydd i gyrchu gwasanaethau, ond mae rhai eisiau gwasanaethau wyneb yn wyneb, a phan fyddant yn briodol, mae'n amlwg fod angen eu darparu. Felly, byddwn yn ddiolchgar am rai ymatebion gan Lywodraeth Cymru i'r materion penodol hynny. Peredur Owen Griffiths AS: Mae pobl hŷn yn rhan fawr a phwysig o'm portffolio i ar gyfer Plaid Cymru. Yn ystod yr wythnos diwethaf, ces i gyfle i wneud webinar gyda'r comisiynydd pobl hŷn. Roedd yn sesiwn ar-lein a lansiodd adroddiad cyflwr y genedl gan y comisiynydd. Un o'r prif bwyntiau oedd yn cael ei wneud yn ystod y webinar oedd y dirywiad sylweddol yn iechyd corfforol a meddyliol pobl hŷn oherwydd y pandemig. Canfu'r adroddiad hefyd bod pobl hŷn wedi ei chael hi'n anodd cael gafael ar wasanaethau yn y gymuned, yn enwedig gwasanaethau iechyd a gofal, dros y 18 mis diwethaf. Roedd un ystadegyn yn yr adroddiad yn amlwg iawn i mi, sef bod llai na chwarter o bobl hŷn yn ei chael hi'n hawdd cael gafael ar wasanaethau iechyd ar-lein. O ystyried ein bod ni'n byw fwyfwy mewn oes ddigidol gyda llawer o wasanaethau a oedd unwaith yn wasanaethau wyneb yn wyneb yn mynd ar-lein, mae hyn yn golygu bod pobl hŷn yn cael eu hamddifadu fwyfwy a'u gwthio i ymylon cymdeithas. Dydyn ni'n methu â gadael i hyn barhau, a hoffwn glywed sut mae'r Llywodraeth hon yn bwriadu mynd i'r afael â'r broblem gynyddol yma. Peredur Owen Griffiths AS: Un agwedd ar iechyd sy'n fwy tebygol o effeithio ar bobl hŷn, ond sydd hefyd yn gallu taro pobl o unrhyw oed, yw gwasanaethau canser. Mae lle i wella yn y gwasanaethau hyn os ydym am sicrhau'r canlyniad gorau i gleifion. Byddai'n ddefnyddiol cael y wybodaeth ddiweddaraf am y camau nesaf ar gyfer y datganiad ansawdd ar ganser. Mae angen inni weld arweinyddiaeth gref ar gyfer canser yng Nghymru, a dylai cynlluniau clir gynnwys targedau a mecanweithiau uchelgeisiol ar gyfer olrhain cynnydd tuag at y tymor hwy. Mae Plaid Cymru hefyd am weld mwy o fuddsoddi mewn staff, offer a seilwaith os ydym am wella cyfraddau goroesi canser. Mae'r bylchau yng ngweithlu'r GIG yn parhau i fod yn bryder mawr sy'n llesteirio'r galw cynyddol ac ymdrechion i leihau amseroedd aros a gwella canlyniadau. Dylid buddsoddi yng ngweithlu'r GIG ar frys. Gwyddom fod y gaeaf yn dod bob blwyddyn, ac eto mae bob amser i'w weld fel pe bai'n dal Llywodraethau olynol ar y droed ôl. Rhaid cael ffordd o dorri'r cylch o un argyfwng y gaeaf ar ôl y llall. Credaf fod llawer mwy o gyfle i gyflawni mesurau ataliol, fel rhaglen raeanu fwy trwyadl a chynhwysfawr ar gyfer palmentydd. Bob gaeaf, mae llawer o bobl mewn adran damweiniau ac achosion brys am eu bod wedi torri esgyrn ar ôl llithro ar balmentydd rhewllyd. Bydd llawer o gynghorau'n ymatal rhag graeanu palmentydd a phrif lwybrau cerdded oni bai bod cyfnod hir o eira neu rew; nid oes ganddynt adnoddau i'w wneud. Yn fy mhrofiad fy hun fel cynghorydd cymuned, gwn mai diffyg adnoddau yw'r rheswm mwyaf cyffredin pam y bydd awdurdod lleol yn gwrthod gwneud hyn pan ofynnwn ar ran trigolion. Dylem ofalu am ein palmentydd yn ogystal â'n ffyrdd. Nid yw'n dderbyniol gofyn i bobl aros gartref yn ystod y tywydd oer oherwydd diffyg adnoddau. Drwy fod yn rhagweithiol ar hyn a rhoi adnoddau ac arweiniad i awdurdodau lleol weithredu arno, byddwn yn caniatáu i bobl fyw eu bywydau drwy gydol y gaeaf yn ogystal â lleddfu'r baich ar y GIG. Gobeithio y gall y Llywodraeth gefnogi hynny. Altaf Hussain AS: Rydych yn llygad eich lle; bob blwyddyn cawn aeaf. Mae cynllun diogelu ar gyfer y gaeaf yn rhywbeth rhesymol i ofyn amdano, ac fel y nododd cyd-Aelodau y prynhawn yma, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gosod ei hamcanion fel mater o drefn er mwyn i'n system iechyd a gofal allu ymateb i bwysau galw tymhorol cynyddol tra'n ceisio darparu gofal wedi'i gynllunio a llawdriniaethau. Yn wir, roedd cynllun o'r fath ar gael ar gyfer y cyfnod diweddaraf, 2020-21. Er iddo gael ei gyhoeddi yn ystod y pandemig ac mewn ymateb iddo i raddau helaeth, dangosodd fod gan y Llywodraeth rôl yn arwain a chefnogi ein gwasanaethau iechyd a gofal yn ystod cyfnod heriol. Yn fy marn i, mae arnom angen cynllun, targed cyflawn gydag adnoddau da, wedi'i dargedu at y mesurau y dylai ein swyddogion wybod eu bod yn mynd i weithio er mwyn sicrhau y gall iechyd a gofal gydweithio'n agosach wrth ymateb i'r galw. Gwyddom fod risg uwch y bydd angen i gleifion ffliw fynd i'r ysbyty. Byddai tymor y ffliw y llynedd wedi bod yn wannach oherwydd y mesurau a weithredwyd i ymdopi â COVID, megis cau lleoliadau cymdeithasol a phobl yn methu cymysgu yng nghartrefi ei gilydd neu wedi'u cyfyngu i raddau helaeth rhag gwneud hynny. Felly, er y byddai nifer yr achosion o'r ffliw wedi bod yn llai, bydd lefel yr imiwnedd hefyd yn is am y byddai llai o gyfle i gymysgu â theulu, ffrindiau a chydweithwyr. Bydd y risg, felly, o fwy o bobl yn mynd yn sâl eleni, ac yn fwy sâl, ychydig yn uwch nag mewn blynyddoedd blaenorol, ac mae angen cynllunio ar gyfer hynny. Rwyf hefyd am i'r Llywodraeth fod yn agored ac yn onest ynghylch niferoedd y bobl dros y gaeaf sy'n dal y ffliw a chael eu derbyn i'r ysbyty. I gefnogi ein system iechyd a gofal, credaf y dylai'r Llywodraeth ystyried amrywiaeth o gamau gweithredu. Rhif 1: asesu'r capasiti mewn gofal sylfaenol ac a oes angen gwelliannau tymor byr yn yr ystod o dimau amlddisgyblaethol i helpu i'n cael drwy gyfnod y gaeaf. Bydd llawer o bobl angen cael eu gweld mewn gofal sylfaenol, gan gynnwys y tu allan i oriau, felly mae sicrhau capasiti a chymysgedd sgiliau cywir yn hanfodol. Rhif 2: mae angen inni sicrhau hefyd fod cymorth ar gael i wella mesurau rhyddhau cynnar o ysbytai er mwyn lleihau hyd arosiadau mewn ysbytai acíwt a chymunedol, a lleihau'r straen ar reoli gwelyau. Rhif 3: mae angen inni nodi capasiti yn ein hysbytai ar gyfer y bobl fwyaf oedrannus y bydd angen eu derbyn, yn anffodus, mewn ymateb i'r ffliw. Yn absenoldeb cynllun penodol, a chan gymryd y bydd y Gweinidog y prynhawn yma yn diystyru'r galwadau hyn, byddaf am gael sicrwydd fod y Llywodraeth yn archwilio ystod o fesurau, gan roi ystyriaeth lawn i faint posibl yr her dros y misoedd nesaf. Mae pobl wedi bod yn rhybuddio am hyn ers peth amser; nawr yw'r amser i weithredu. Diolch. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan. Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr am y ddadl. Mae arnaf i ofn na fydd hi ddim yn bosibl i fi fanylu ar yr holl bwyntiau—nifer sydd yn ddilys iawn, dwi'n meddwl—yn ystod y pedair munud nesaf, ond mi gawn ni gyfle, gobeithio, unwaith y bydd y cynllun gaeaf yn cael ei chyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf. Eluned Morgan AC: Eleni, mae'r pwysau ar y system iechyd a gofal cymdeithasol wedi bod yn gwbl ddi-baid. Mae effaith uniongyrchol ac anuniongyrchol pandemig COVID-19 wedi ei gwneud hi'n anodd tu hwnt i staff rheng flaen ymroddedig. A gall y gaeaf hwn, unwaith eto, fod y mwyaf heriol yn hanes y GIG, gyda gofynion parhaus y pandemig a galwadau cynyddol am wasanaethau iechyd eraill—effaith feirysau anadlol y gaeaf, fel y mae Altaf Hussain newydd ei grybwyll, y bregusrwydd yn ein system gofal cymdeithasol y soniodd sawl un amdano, yr angen i barhau â mesurau rheoli atal heintiau, a gorflinder ymhlith staff y GIG, gyda rhai ohonynt yn absennol o'u gwaith gyda COVID. Amlinellir ein dull o reoli'r pandemig yng nghynllun rheoli'r coronafeirws, sy'n cael ei ddiwygio a'i ailgyhoeddi wrth i'r sefyllfa newid. Gwnaethom hefyd gyhoeddi dogfen edrych ymlaen ym mis Mawrth, yn dangos sut y byddem yn ailadeiladu'r GIG. Yng ngoleuni pwysau cynyddol, gwnaethom adolygu ac ailgyhoeddi ein fframwaith dewisiadau lleol yn ddiweddar i gefnogi penderfyniadau lleol i ddiogelu cleifion a staff. Ac mae disgwyliadau cynllunio yn cael eu cyfleu'n flynyddol i sefydliadau'r GIG drwy ein fframwaith cynllunio. Gofynnwyd i sefydliadau ledled Cymru weithio mewn partneriaeth i ddatblygu cynlluniau i fodloni gofynion iechyd a gofal cymdeithasol pobl Cymru yn ddiogel. Mae'r amrywiadau yng nghyfraddau achosion COVID-19 yn ychwanegu at gymhlethdod cynllunio gwasanaethau, ac mae angen inni barhau i fod yn barod i ymateb i amgylchiadau sy'n newid yn gyflym. Yn ddiweddarach y mis hwn, fel y gwyddoch, byddwn yn cyhoeddi ein cynllun gaeaf cynhwysfawr ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, i nodi ein blaenoriaethau mewn ymateb i bwysau disgwyliedig ac eithriadol y gaeaf. Mae'r blaenoriaethau hyn eisoes yn hysbys, a chyflawnir rhai ohonynt yn barod ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol, gyda ffocws ar leihau'r risg y bydd angen triniaeth ysbyty ar bobl a chadw pobl yn ddiogel ac yn iach. Rwy'n falch o ddweud bod llawer o'r pwyntiau y soniodd Rhun ap Iorwerth, yn sicr, amdanynt ynglŷn â'r angen i edrych ar atal, a sicrhau ein bod yn cyfeirio pobl i'r lleoedd iawn—mae llawer o hynny eisoes yn digwydd. Mae gennym ymgyrch Helpwch Ni i'ch Helpu Chi sy'n mynd i'r afael â'r materion y gofynnodd John Griffiths amdanynt: sut y mae dweud wrth bobl ble i fynd? Sut y mae cael pobl i ddefnyddio'r gwasanaethau cywir? Felly, mae llawer o hynny'n cael ei wneud eisoes, a gwyddom fod angen inni gadw'r ffocws ar leihau'r risg y bydd angen triniaeth ysbyty ar bobl a chadw pobl yn ddiogel ac yn iach. Daeth y Llywydd i’r Gadair. Eluned Morgan AC: Bydd y blaenoriaethau hyn yn cael eu cefnogi gan ein buddsoddiad o £140 miliwn ar gyfer adfer a £48 miliwn ar gyfer gofal cymdeithasol. Hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch o galon i'r staff iechyd a gofal cymdeithasol ym mhob cwr o Gymru. Maen nhw wedi gweithio'n ddiflino, gydag ymroddiad a thosturi, i ddarparu gwasanaethau drwy gydol y pandemig. Mae diogelu iechyd a lles ein staff yn un o'n prif flaenoriaethau ni y gaeaf hwn. Dwi'n edrych ymlaen at roi gwybodaeth fanylach pan fyddwn ni'n cyhoeddi ein cynllun gaeaf ni cyn hir. Rhun ap Iorwerth i ymateb i'r ddadl. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch yn fawr iawn, a diolch am gyfraniadau'r Aelodau ac ymateb y Gweinidog. Rydyn ni wedi clywed cyfeiriad at broblemau cyfarwydd iawn i bob un ohonom ni yma yn y Senedd, ac wedi clywed llawer o syniadau ar draws y pleidiau, a bod yn deg, ar gyfer yr ymateb y gellid ei roi mewn lle. O ran y Gweinidog, dwi ddim yn meddwl y byddem ni'n disgwyl mwy, ychydig ddyddiau, neu lai na phythefnos, cyn cyhoeddi'r cynllun ei hun, nag amlinelliad o rai o'r egwyddorion fydd yn cael eu dilyn ganddi, ac mi edrychwn ni ymlaen at weld cyhoeddi'r adroddiad hwnnw, hyd yn oed os ydw i'n gorfod ychwanegu'r geiriau 'o'r diwedd' ar ddiwedd hynny hefyd. Allwn ni ddim dod allan o'r gaeaf yma mewn gwaeth sefyllfa nag yr ydyn ni'n mynd i mewn iddo fo, mewn difrif, a hynny oherwydd cyflwr truenus gwasanaethau oherwydd y pwysau sydd wedi bod arnyn nhw. Bellach na hynny, mae'n rhaid, rhywsut, i'r gwasanaeth allu delio efo pwysau ychwanegol y gaeaf yma—gaeaf COVID arall, wrth gwrs—a dod allan ohono fo efo arwyddion clir, beth bynnag, bod sefyllfa gyffredinol gwasanaethau iechyd a gofal a'r prognosis ar gyfer y gwasanaethau hynny'n edrych yn well, a dyna'n sicr yr her sydd o'n blaenau ni. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, dwi'n gohirio'r eitem tan y bleidlais a fydd yn digwydd yn y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. Cyn cynnal y bleidlais, fe fyddwn ni'n cymryd toriad byr i sicrhau bod y dechnoleg a phopeth yn barod. Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:30. Ailymgynullodd y Senedd am 17:34, gyda'r Llywydd yn y Gadair. 12. Cyfnod Pleidleisio Felly, dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac mae'r bleidlais gyntaf ar eitem 9, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd meddwl. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 39 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei wrthod. Eitem 9 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 14, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0 Gwrthodwyd y cynnigCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Gwelliant 1, felly, yw'r bleidlais nesaf, ac os caiff gwelliant 1 ei dderbyn, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Dwi'n galw am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, 26 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 1 wedi'i dderbyn. Mae gwelliant 2 wed ei ddad-ddethol. Eitem 9 - Gwelliant 1 - cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 27, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0 Derbyniwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Dwi'n galw am bleidlais nawr, felly, ar y cynnig wedi'i ddiwygio. Cynnig NDM7793 fel y'i diwygiwyd: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi mai dydd Sul 10 Hydref yw diwrnod iechyd meddwl y byd. 2. Yn cydnabod effaith COVID-19 ar gymorth iechyd meddwl ac anghydraddoldebau iechyd meddwl. 3. Yn nodi’r ymrwymiad i adolygu’r dystiolaeth, y data a’r ddarpariaeth gwasanaethau bresennol ar gyfer hunan-niweidio i bobl o bob oed yng Nghymru. 4. Yn croesawu ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i’r canlynol: a) gweithredu argymhellion o adroddiadau Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Bumed Senedd, 'Cadernid Meddwl' a 'Cadernid Meddwl: Ddwy flynedd yn ddiweddarach'; b) cryfhau a chyhoeddi data amseroedd aros iechyd meddwl a gwella perfformiad ledled Cymru; c) cyflwyno cymorth argyfwng iechyd meddwl 24 awr ar lefel genedlaethol; d) cynllun gweithlu iechyd meddwl clir. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y diwygiadau i Ddeddf Iechyd Meddwl y DU yn addas ar gyfer Cymru ac yn gyson â deddfwriaeth berthnasol bresennol yng Nghymru. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 52, neb yn ymatal, un yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn. Eitem 9 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 52, Yn erbyn: 1, Ymatal: 0 Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwydCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Eitem 10 yw'r eitem nesaf i bleidleisio arno—dadl Plaid Cymru ar dâl gweithwyr gofal iechyd. Dwi'n galw am bleidlais felly ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 41 yn erbyn, felly mae'r cynnig wedi'i wrthod. Eitem 10 - Dadl Plaid Cymru - Tâl Gweithwyr Gofal Iechyd - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 12, Yn erbyn: 41, Ymatal: 0 Gwrthodwyd y cynnigCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Gwelliant 1 fydd nesaf, ac os caiff gwelliant 1 ei dderbyn, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Yn galw am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 39 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 1 wedi ei wrthod. Eitem 10 - Gwelliant 1 - Cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 14, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0 Gwrthodwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Gwelliant 2, felly, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, 26 yn erbyn, ac felly mae'r gwelliant yna wedi ei gymeradwyo. Eitem 10 - Gwelliant 2 - cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 27, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0 Derbyniwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Pleidlais, felly, i orffen, ar y cynnig wedi'i ddiwygio. Cynnig NDM7791 fel y'i diwygiwyd: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cefnogi ymdrechion Unite, Unsain a'r Coleg Nyrsio Brenhinol i sicrhau cyflog teg i bob gweithiwr gofal iechyd. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i ymgysylltu ag undebau llafur GIG Cymru gan gynnwys ynghylch cyflogau'r GIG. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, 14 yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi'i ddiwygio wedi ei dderbyn. Eitem 10 - Dadl Plaid Cymru - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 39, Yn erbyn: 0, Ymatal: 14 Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwydCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Y bleidlais nesaf ar eitem 11, sef dadl Plaid Cymru ar y pwysau gaeaf ar y gwasanaeth iechyd. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 27 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig heb ei dderbyn. Eitem 11 - Dadl Plaid Cymru - Pwysau Gaeaf y GIG - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 26, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0 Gwrthodwyd y cynnigCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Galwaf am bleidlais, felly, nawr, ar welliant 1, yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 53, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Mae gwelliant 1 wedi ei dderbyn. Eitem 11 - Gwelliant 1 - cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 53, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0 Derbyniwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Dwi'n galw, felly, nawr, am bleidlais ar y cynnig wedi'i ddiwygio. Cynnig NDM7792 fel y’i diwygiwyd: Cynnigbod y Senedd: Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynllun y gaeaf ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn yr wythnos sy'n dechrau ar 18 Hydref 2021. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 53, neb yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn. Eitem 11 - Dadl Plaid Cymru - cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 53, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwydCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Dyna ddiwedd ar y gyfres o bleidleisiau yn y cyfarfod yma. 13. Dadl Fer: Addas ar gyfer yr 21ain Ganrif: Sut y gall Cymru gwella'r gefnogaeth y mae'n ei rhoi i helpu pobl i oresgyn dibyniaeth ar sylweddau Fe fyddwn ni'n symud ymlaen yn awr i'r ddadl fer, yn enw Peredur Owen Griffiths. Fe wnawn ni gychwyn y ddadl fer mewn munud wrth i Aelodau adael y Siambr. Y ddadl fer, felly. Peredur Owen Griffiths. Peredur Owen Griffiths AS: Diolch, Llywydd. Mae Luke Fletcher a Jenny Rathbone wedi gofyn i gael munud o fy amser i, so dwi wedi cydsynio i hynny. Diolch yn fawr. Peredur Owen Griffiths AS: Aeth dros 40 mlynedd heibio ers i'r Unol Daleithiau ddatgan eu rhyfel yn erbyn cyffuriau. Ers hynny, mae gwahanol weinyddiaethau ar draws y byd wedi copïo'r uwch-bŵer ac wedi dilyn polisi o fabwysiadu dull llym o fynd i'r afael â chyffuriau, ond heb fawr o dystiolaeth ei fod yn trechu dibyniaeth, neu'n trechu'r gafael sydd gan gangiau troseddol ar yr ardaloedd lle maent yn gweithredu. Mae'r ffaith bod y rhyfel honedig hwn yn dal i gael ei ymladd, heb unrhyw ddiwedd yn y golwg, yn dweud rhywbeth. Mae'r DU, o dan wahanol Lywodraethau dros y blynyddoedd, wedi dilyn ôl troed ei chyfaill ar draws yr Iwerydd yn ôl y disgwyl, a hynny gyda chanlyniadau hawdd eu rhagweld. Mae marwolaethau cyffuriau yn parhau i fod yn ystyfnig o uchel mewn rhannau helaeth o'r DU. Rhaid inni gofio bod cost ddynol y tu ôl i bob marwolaeth, cost sy'n taro ffrindiau a theulu'r ymadawedig am flynyddoedd wedyn. Fel gyda phob ystadegyn, ni ddylem byth golli golwg ar y gost ddynol i gymdeithas ac i'n cymunedau, ac ni ddylem anghofio am y llanastr y mae'r polisi hwn yn ei achosi mewn gwledydd lle bydd cartelau cystadleuol yn ymladd yn ddyddiol dros gynhyrchiant cyffuriau. Mae Mecsico yn enghraifft wych o wlad sydd wedi'i dadsefydlogi o ganlyniad i'r polisi cyffuriau hwn. Yr hyn rwyf am ei wneud heno yw dadlau o blaid sgwrs genedlaethol sy'n ceisio sefydlu system well, fwy tosturiol wedi'i harwain gan brofiad o drin pobl sy'n gaeth i gyffuriau. Mae angen inni ddeall profiad bywyd yr holl bobl dan sylw, a rhoi ystyriaeth briodol i bob ateb posibl. Pa blaid bynnag a gynrychiolwch yn y Senedd, neu beth bynnag yw eich barn am gamddefnyddio sylweddau neu gaethiwed, rwy'n gobeithio y gallwn gytuno nad yw'r sefyllfa bresennol yn gweithio. Os nad ydych wedi eich argyhoeddi, efallai y gallech ofyn i chi'ch hun, os oedd y rhyfel yn erbyn cyffuriau'n gweithio, pam na ddaeth i ben genedlaethau yn ôl. I ddychwelyd at yr ystadegau, nid yw'r darlun yng Nghymru cynddrwg ag mewn rhannau o Loegr, yn ôl ystadegau diweddaraf 2020. Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, cofnododd Cymru ei chyfradd isaf o farwolaethau yn sgil camddefnyddio cyffuriau ers 2014. Roedd y gyfradd o 51.1 o farwolaethau ym mhob miliwn o bobl hefyd yn is na chyfradd Lloegr o 52.1 o farwolaethau ym mhob miliwn. Cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol gafeat pwysig wrth ryddhau'r ffigurau hyn, sef y gallai oedi yn y broses o gofrestru marwolaethau yng Nghymru fod wedi effeithio ar y ffigur. Fodd bynnag, ddegawd yn unig yn ôl, roedd gan Gymru gyfradd genedlaethol o farwolaethau yn sgil camddefnyddio cyffuriau a oedd yn uwch nag unrhyw ranbarth yn Lloegr. Felly, efallai fod marwolaethau cyffuriau i lawr yng Nghymru ar ôl cyrraedd uchafbwynt erchyll, ond maent yn dal i fod yn rhy uchel. A yw'n bosibl y gallai ymagwedd wahanol gynhyrchu canlyniadau gwell? A allai ymagwedd wahanol leihau nifer y marwolaethau, lleihau'r defnydd o gyffuriau a lleihau'r dylanwad niweidiol a gaiff gangiau cyffuriau ar ein cymunedau yng Nghymru? Mae un o'r enghreifftiau rhyngwladol mwyaf syfrdanol o ymarfer da i'w gweld ym Mhortiwgal. Roedd problem gyffuriau ddifrifol iawn yn arfer bodoli yno. Yn y ddau ddegawd ers iddynt ddad-droseddoli cyffuriau, maent wedi lleihau nifer y marwolaethau'n sylweddol yn ogystal â'r niwed sy'n gysylltiedig â chyffuriau. Yn sgil y penderfyniad ymwybodol hwn i ddatblygu dull o weithredu ar sail iechyd, caiff y rhai sy'n cael eu dal gyda chyffuriau at ddefnydd personol yn eu meddiant eu trin yn weinyddol yn hytrach na'u dedfrydu i garchar. Golyga hyn nad yw'n arwain at gofnod troseddol. Mae cyffuriau'n dal i gael eu cymryd oddi arnynt, a gall meddiant arwain at ddirwy neu wasanaeth cymunedol yn y pen draw. Pa mor fuddiol y gallai ymagwedd o'r fath fod yma yng Nghymru, lle mae gennym rai o'r cyfraddau carcharu uchaf yng ngorllewin Ewrop? A pha mor effeithiol y bu'r polisi ym Mhortiwgal? Fel y nododd gwefan Transform mewn erthygl ddiweddar ym mis Mai eleni, ac rwy'n dyfynnu, 'Yn 2001, roedd cyfraddau marwolaethau cyffuriau ym Mhortiwgal yn debyg iawn i gyfartaledd yr UE. Tra bod cyfraddau wedi gostwng ym Mhortiwgal yn sgil diwygio, cynyddu a wnaethant ar draws gweddill Ewrop yn yr un cyfnod o amser. O 2011 ymlaen mae Portiwgal a gweddill yr UE wedi dangos tueddiad tebyg, gan godi tan 2015/6—ond mae'r bwlch rhwng y ddau'n parhau i fod yn llawer mwy na'r hyn ydoedd cyn y diwygio. Mewn termau real, mae cyfraddau marwolaethau cyffuriau ym Mhortiwgal yn parhau i fod ymhlith rhai o'r isaf yn yr UE: 6 marwolaeth ym mhob miliwn ymhlith pobl 15-64 oed, o'i gymharu â chyfartaledd yr UE o 23.7 y miliwn (2019). Mae bron iawn yn amhosibl eu cymharu â'r 315 o farwolaethau y miliwn ymhlith rhai rhwng 15 a 64 oed a welwyd yn yr Alban, sydd dros 50 gwaith yn uwch na chyfraddau Portiwgal.' Diwedd y dyfyniad. Nid yw'n syndod fod gwledydd a rhanbarthau eraill ledled y byd yn dechrau sylwi ar y gwersi y gellir eu dysgu gan Bortiwgal. Nid wyf am i'r ddadl fer hon fod am gyffuriau anghyfreithlon yn unig, pan fo alcohol yn achosi cymaint o ddioddefaint mewn cymunedau a theuluoedd ledled Cymru. Byddwn ar fai pe na bawn yn sôn am alcohol pan fo ystadegau wedi awgrymu'n flaenorol fod oddeutu 10 o bobl yn marw bob wythnos yng Nghymru o achosion sy'n gysylltiedig ag alcohol. Amcangyfrifir hefyd fod oddeutu 60,000 o gleifion yn cael eu derbyn i'r ysbyty yng Nghymru oherwydd alcohol, gan gostio tua £159 miliwn y flwyddyn i'r GIG. Gyda'r GIG yn gwingo o dan y pwysau, rhaid bod dod o hyd i ffyrdd o fynd i'r afael ag effeithiau andwyol camddefnyddio alcohol yn flaenoriaeth. Rwyf am inni gyrraedd sefyllfa lle mae pobl sy'n cymryd y cam dewr o ofyn am gymorth i oresgyn caethiwed, boed ar gyfer cyffuriau neu ar gyfer alcohol, yn gwybod y bydd cymorth cynhwysfawr ar gael pan fydd ei angen arnynt. Nid wyf yn esgus fod yr holl atebion gennyf—nid wyf yn credu bod unrhyw un yn meddu ar yr holl atebion—ond hoffwn ddechrau trafodaeth yma heddiw ynglŷn â sut y gallem fynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau yn fwy effeithiol a sicrhau bod pobl sy'n gaeth yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i gael eu bywydau yn ôl ar y trywydd iawn. Rwyf am i'r gwahanol asiantaethau sy'n gyfrifol am gynorthwyo'r rhai sy'n camddefnyddio sylweddau ddod at ei gilydd yn rheolaidd i siarad am eu problemau a'u sylwadau gydag Aelodau o'r Senedd. Dyna pam rwy'n mynd ati i ddechrau grŵp trawsbleidiol ar gamddefnyddio sylweddau fel y gallwn ddatblygu arferion gorau. Rwyf wedi cael cefnogaeth asiantaethau allweddol fel Kaleidoscope eisoes, ond rwy'n gobeithio y bydd llawer o sefydliadau a ffigurau eraill yn ymuno â ni. Rwyf hefyd wedi cael cefnogaeth mwy na dau Aelod o'r Senedd o wahanol bleidiau i ffurfio'r grŵp trawsbleidiol; rwy'n gobeithio y bydd llawer mwy ohonoch yn ymuno. Yr hyn yr hoffwn i a fy mhlaid ei weld yw datganoli pwerau cyfiawnder i Gymru yn y pen draw, a phan fydd hynny'n digwydd, ein bod yn llunio system sy'n dosturiol, yn lleihau niwed ac yn rhyddhau'r gafael sydd gan lawer o gangiau troseddol ar y gwan a'r bregus yn ein cymunedau. I'r perwyl hwnnw, rwy'n gobeithio y gallwn ddibynnu ar eich cefnogaeth chi, Weinidog, i ymgysylltu â'r grŵp hwn a datblygu polisi sy'n ceisio cyflawni'r nodau hyn a dechrau sgwrs ehangach sy'n arwain at ddull mwy effeithiol o fynd i'r afael â cham-drin sylweddau, camddefnyddio sylweddau a dibyniaeth ar sylweddau. Diolch yn fawr. Luke Fletcher AS: Hoffwn ddiolch i Peredur am gyflwyno'r ddadl fer hon, a gallaf gadarnhau y byddaf yn edrych ymlaen yn fawr at ymuno â'i grŵp trawsbleidiol. Mae Peredur yn iawn; nid yw'r rhyfel yn erbyn cyffuriau'n gweithio ac nid yw erioed wedi gweithio. Rydym wedi bod ar y groesffordd hon ers dros bedwar degawd. Y gwir amdani yw bod ein hanallu i gael sgwrs aeddfed am gyffuriau wedi arwain at ddioddefaint yn fyd-eang—dioddefaint defnyddwyr, dioddefaint cymunedau wedi'u chwalu gan asiantaethau'r Llywodraeth a chartelau troseddol sy'n ymladd am bŵer dros y farchnad. Rwy'n llwyr gefnogi dad-droseddoli'r defnydd o gyffuriau. Mae'r dull llym o weithredu a fabwysiadwyd gennym fel cymdeithas ers degawdau yn troseddoli pobl a allai fod yn defnyddio cyffuriau'n feddyginiaethol neu fel adloniant heb niweidio eraill, ac nid yw troseddoli'r rhai sy'n gaeth yn gwneud dim i'w helpu i newid eu bywydau. Mae'n bwysig cofio nad yw dad-droseddoli yn cyfreithloni unrhyw gyffur. Yn hytrach, mae'n newid y modd y mae awdurdodau'n ymdrin â mân achosion o feddiant cyffuriau ac yn trin defnyddwyr fel rhai a allai fod yn fregus, yn hytrach na fel troseddwyr.Mae dad-droseddoli cyffuriau yn dileu'r stigma hwnnw ac yn cael cymorth i bobl pan fyddant fwyaf o'i angen. Mae gennym enghreifftiau megis Portiwgal, fel y nododd Peredur, sy'n dangos i ni sut y gallwn wneud i hyn weithio. A gwyddom yn union beth sydd ei angen i wneud iddo weithio. Ac unwaith eto, hoffwn ailadrodd y bydd Plaid Cymru yn cefnogi ac yn galw am ddatganoli rhagor o bwerau cyfiawnder fel y gallwn fynd i'r afael â'r broblem hon yn awr. Mae angen inni fwrw ymlaen â'r gwaith. Mae mor syml â hynny. Diolch. Jenny Rathbone AC: Ystadegau diddorol iawn o Bortiwgal, ond nid wyf yn argyhoeddedig ein bod yn y wlad hon yn carcharu pobl am ddefnyddio cyffuriau mewn gwirionedd; rwy'n credu ein bod yn carcharu pobl am ddelio cyffuriau. Ac rwy'n parhau'n ymrwymedig i wneud hynny, yn syml oherwydd mae'r niwed a wneir i'n pobl ifanc drwy eu tynnu i mewn i'r llinellau cyffuriau a dinistrio eu bywydau yn llwyr yn niweidiol tu hwnt. Ac felly nid wyf wedi fy argyhoeddi eto ynglŷn â'r achos dros ddad-droseddoli. A tybed a yw'n mynd i fod yn fwled hud beth bynnag, oherwydd mae caethiwed yn symptom o drallod. Nid oes llawer o wahaniaeth rhwng dibyniaeth ar gamblo, ar alcohol, ar gyffuriau presgripsiwn, ar bornograffi neu ar sylweddau sy'n anghyfreithlon ar hyn o bryd. Mae pob un ohonynt yn alwad am help, ac mae'n ymwneud â deall yn well sut y gallwn gael unigolion yn fwy gwydn yn emosiynol i'w galluogi i wrthsefyll y caethiwed sy'n peri iddynt geisio boddi eu tristwch ond sy'n gallu difa eu bywydau, yn llythrennol, a bywydau aelodau o'u teuluoedd hefyd. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid inni sicrhau bod gennym wasanaethau i helpu pobl i oresgyn eu caethiwed, sy'n gwbl bosibl. A chredaf y dylem dalu teyrnged i'r holl bobl sy'n gweithio gyda phobl gaeth o bob math i sicrhau eu bod yn gallu dod yn ddinasyddion gwell a byw bywydau gwell. Y Dirprwy Weinidog i ymateb i'r ddadl—Lynne Neagle. Lynne Neagle AC: Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i Peredur am gyflwyno'r ddadl hon heddiw ac am ei gyfraniad meddylgar iawn, a diolch hefyd i Luke Fletcher a Jenny Rathbone am eu cyfraniadau, a chadarnhau hefyd i Peredur fy mod yn hapus iawn i ymgysylltu â'i grŵp trawsbleidiol newydd ac yn edrych ymlaen at weithio gydag ef? Mae'n hanfodol ein bod yn atgyweirio effeithiau dinistriol camddefnyddio sylweddau i'r rhai sy'n ymladd caethiwed os ydym am helpu pobl i fyw bywyd y tu hwnt i hynny. Rhaid inni ddarparu cymorth a thriniaeth, a gweithio hefyd i chwalu stigma a rhoi gobaith i'r rhai a fydd, yng nghrafangau caethiwed, yn teimlo'r anobaith gwaethaf. Ers i mi ddod i'r swydd, rwyf wedi cyfarfod â nifer o bobl a sefydliadau sy'n ymwneud â'r maes camddefnyddio sylweddau, ac mae'r gwaith a lefel yr ymrwymiad yn y maes hwn wedi creu argraff fawr arnaf. Yn ystod y pandemig, gwnaed ymdrechion enfawr ac maent yn parhau i gael eu gwneud gan y rhai sy'n rhedeg gwasanaethau camddefnyddio sylweddau i sicrhau bod cymorth a chefnogaeth hanfodol yn parhau i gael eu darparu i rai o'r unigolion mwyaf agored i niwed yng Nghymru. Mae gwasanaethau camddefnyddio sylweddau wedi ymateb yn gyflym i addasu i heriau'r pandemig, ac rwyf am gofnodi fy niolch i'n partneriaid yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector am yr ymdrech aruthrol hon. Diwygiwyd ein cynllun cyflawni ar gyfer camddefnyddio sylweddau 2019-22 ym mis Ionawr, yng ngoleuni coronafeirws, i sicrhau bod y gwaith a gâi ei wneud ac sy'n parhau i gael ei wneud yn cyrraedd y lefel o angen sy'n esblygu. Mae ein byrddau cynllunio ardal a phartneriaid eraill yn ymdrechu i gyflawni'r camau gweithredu yn y cynllun, ac rwyf wedi ymrwymo i'w cefnogi i wneud hynny. Ac mae gan Lywodraeth Cymru hanes cryf o ymrwymiad i'r maes. Rydym yn buddsoddi bron i £55 miliwn yn ein hagenda camddefnyddio sylweddau bob blwyddyn. Dyrennir dros £25 miliwn ohono i'n byrddau cynllunio ardal camddefnyddio sylweddau ac mae bron i £21 miliwn wedi'i glustnodi ar gyfer helpu byrddau yng Nghymru. Mae byrddau cynllunio ardal yn gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau allweddol i gomisiynu gwasanaethau camddefnyddio sylweddau yn eu hardal leol, yn seiliedig ar angen lleol. Lynne Neagle AC: Yn 2020-21, gwnaethom sicrhau hefyd fod bron i £4.8 miliwn arall ar gael i gefnogi ein hymateb i'r pandemig. Roedd dros £3 miliwn ohono i gefnogi darparu buprenorffin chwistrelladwy hirweithredol cyflym, neu Buvidal fel y'i gelwir, i gyn-ddefnyddwyr heroin mewn perygl, rhywbeth y byddaf yn sôn amdano yn nes ymlaen. Roedd y gweddill yn cynnwys cyllid i gefnogi gofynion cyfarpar diogelu personol, lleoliadau adsefydlu preswyl ychwanegol a chronfa cynhwysiant digidol ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth a allai fod wedi eu hallgáu'n ddigidol. Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi diogelu a gwella'r gyllideb camddefnyddio sylweddau yng Nghymru, ac ni ellir dweud yr un peth am Lywodraethau mewn rhannau eraill o'r DU. Cyhoeddwyd adolygiad y Fonesig Carol Black o wasanaethau triniaeth yn Lloegr ym mis Gorffennaf, ac fel yn Lloegr, rydym eisoes wedi bwrw ymlaen ymhell ar lawer o'i hargymhellion. Mae ein cynllun cyflawni ar gyfer camddefnyddio sylweddau, rwy'n falch o ddweud, wedi'i wreiddio'n gadarn o fewn dull sy'n canolbwyntio ar iechyd a lleihau niwed. Rydym hefyd wedi diogelu ac wedi clustnodi ein cyllid camddefnyddio sylweddau, ac rydym yn gweithio'n agos gyda'r maes tai ac ar draws iechyd meddwl i fynd i'r afael â her anghenion sy'n cyd-ddigwydd ac anghenion cymhleth. Ar yr agenda sy'n cyd-ddigwydd, gydag iechyd meddwl a llesiant ehangach yn fy mhortffolio, rwy'n glir fod cyfleoedd da ar gael i barhau i wella drwy gydweithio yma ac ar draws y Llywodraeth, ac rwy'n benderfynol o wneud yr hyn a allaf i gyflawni hynny. Rwyf hefyd wedi ymrwymo i gefnogi gwaith y Gweinidog Newid Hinsawdd wrth inni adeiladu ar y llwyddiant dros y flwyddyn ddiwethaf i sicrhau ymagwedd 'pawb i mewn' wrth ymdrin â digartrefedd, ac y gellir darparu cymorth iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau cofleidiol. Roedd hwn yn ymgymeriad enfawr, a oedd yn cynnwys dros 2,000 o bobl ar y dechrau, gyda dros 800 angen gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, a hynny yn ystod misoedd cyntaf y pandemig yn unig. Roedd rhai o'r rhain yn newydd i wasanaethau a chanddynt yr anghenion mwyaf cymhleth. Mae cyfanswm o dros 13,300 o bobl wedi'u cartrefu ers dechrau'r pandemig, gyda dros 3,000 o atgyfeiriadau at wasanaethau camddefnyddio sylweddau. Rwy'n falch iawn o'n gwasanaethau camddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl, sy'n gweithio'n ddiflino i gefnogi'r bobl fwyaf bregus, ac rydym wrthi bellach yn datblygu'r dull ailgartrefu cyflym ar gyfer y dyfodol. Rydym eisoes wedi buddsoddi £1 filiwn ychwanegol y flwyddyn i fynd i'r afael ag anghenion cymhleth, ym maes camddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl fel ei gilydd, ar gyfer unigolion o fewn y gwasanaethau digartrefedd. Mae cyflwyno Buvidal, y soniais amdano'n gynharach, wedi lleihau'n sylweddol yr angen i ddefnyddwyr gwasanaeth fynychu fferyllfeydd a chlinigau cymunedol, gan ddiogelu eu hiechyd hwy ac iechyd gweithwyr allweddol. Mae dros 1,000 o ddefnyddwyr gwasanaeth bellach yn elwa o'r driniaeth hon, a cheir cryn dipyn o dystiolaeth anecdotaidd fod nifer yn profi canlyniadau llawer gwell. Yng Nghaerdydd, gwelsom y person cyntaf yn y DU yn cael y cymorth hwn drwy eu meddygfa, ac mae Cymru'n arwain y DU, os nad y byd, gyda'r driniaeth newydd arloesol hon. Cefais gyfle yn ddiweddar i gyfarfod â menyw ifanc a oedd wedi elwa o'r driniaeth hon, a chlywais yn uniongyrchol am yr effaith gwbl drawsnewidiol a gafodd arni hi. Mae adolygiad cyflym ar y gweill o'r driniaeth newydd hon, ei manteision a'i gwerth am arian, ar gyfer llywio polisi yn y dyfodol. Er bod hyd yn oed un farwolaeth sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau yn drasiedi ac yn un yn ormod, fe'm calonogwyd i weld bod data'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer mis Awst 2020, y cyfeiriodd Peredur ato eisoes, yn nodi'r gyfradd isaf ers 2014 o farwolaethau camddefnyddio cyffuriau yng Nghymru. Cymru oedd yr unig wlad yn y DU i weld nifer y marwolaethau camddefnyddio cyffuriau yn gostwng yn ystod 2020. Er ei bod yn braf gweld nifer y marwolaethau'n gostwng, byddwn yn gwerthuso'r ystadegau ar gyfer Cymru, gan ystyried ffactorau daearyddol, sylweddau a sefyllfaoedd, a byddwn yn gweithio'n agos gyda grwpiau lleihau niwed a byrddau cynllunio ardal er mwyn ffurfio ymateb polisi priodol i sicrhau gostyngiad pellach parhaus yn y dyfodol. Rhan allweddol arall o'n hagenda lleihau niwed yw ein menter nalocson genedlaethol, lle'r ydym wedi gwneud cynnydd rhagorol. Datblygiad pwysig mewn perthynas â nalocson yw'r gwaith a wnawn gyda'r heddlu i alluogi swyddogion i gario chwistrell trwyn nalocson tra ar ddyletswydd. Rydym hefyd wedi ariannu cynllun peilot lle'r oedd defnyddwyr cyffuriau'n dosbarthu nalocson i'w gilydd ar y strydoedd. Mae hyn wedi bod yn llwyddiannus iawn ac mae wedi arwain at ystyried ailadrodd y model ym mhob rhan o Gymru. Rydym yn dyrannu £1 filiwn o gyllid blynyddol wedi'i glustnodi ar gyfer darparu gwasanaethau adsefydlu a dadwenwyno preswyl haen 4. Ym mis Ebrill 2020, lansiwyd ein fframwaith triniaeth breswyl newydd, Rehab Cymru, sy'n cynnig dros 30 o leoliadau, gan gynnwys tri yng Nghymru. Mae Rehab Cymru yn darparu rhestr gymeradwy o ddarparwyr gwasanaethau adsefydlu preswyl a'r gallu i weld mathau o driniaeth, rhestri prisiau, lleoliadau ac adroddiadau arolygu er mwyn helpu defnyddwyr gwasanaeth a gweithwyr proffesiynol i ddewis. Ers cyflwyno ein fframwaith adsefydlu preswyl, gwnaed cyfanswm o 238 o atgyfeiriadau drwy Rehab Cymru, rhwng ei ddechrau ym mis Ebrill 2020 a mis Gorffennaf 2021. Fodd bynnag, rwy'n pryderu bod data dros dro ar farwolaethau sy'n deillio'n uniongyrchol o gamddefnyddio alcohol yn ystod 2020 yng Nghymru a Lloegr, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2021, yn dangos cynnydd sylweddol. Efallai fod llawer o ffactorau wedi cyfrannu at hyn, ac rydym yn ystyried y rheini. Fodd bynnag, tra'n bod yn aros am y ffigurau terfynol, rwy'n gobeithio y gallwn fynd i'r afael yn fwy effeithiol â'r broblem drwy weithredu isafbris uned ar gyfer alcohol, a chamau gweithredu fel datblygu'r fframwaith trin niwed i'r ymennydd sy'n gysylltiedig ag alcohol sydd i'w gyhoeddi cyn bo hir. Er fy mod yn croesawu'r cyfle i ymateb i'r ddadl hon ac amlinellu'r gwaith a'r canlyniadau cadarnhaol sy'n cael eu cyflawni, nid wyf yn hunanfodlon o gwbl; mae llawer mwy i'w wneud o hyd. Ond rwyf wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth, byddaf yn parhau i ddatblygu ein hymrwymiadau yn y cynllun cyflawni ar gyfer camddefnyddio sylweddau ac wrth gwrs, byddaf yn ystyried beth arall y gallai fod angen inni ei wneud wrth inni barhau i ymateb i'r pandemig a'i effeithiau ehangach. Diolch yn fawr. Dyna ddiwedd nawr, felly, ar ein gwaith ni am y dydd heddiw. Diolch yn fawr i bawb, a nos da. Daeth y cyfarfod i ben am 18:02. QNR Cwestiynau i Y Gweinidog Newid Hinsawdd Rhys ab Owen: Pryd fydd cronfa diogelwch adeiladau Cymru ar gael ar gyfer ceisiadau? Julie James: I am delighted to confirm that expressions of interest for the Welsh building safety fund passport scheme opened last Thursday. Peter Fox: Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu diwallu'r angen cynyddol ar gyfer cynhyrchu ynni ledled Cymru? Julie James: Our upcoming net zero Wales plan will set out our policies for reducing and managing demand, increasing energy efficiency and generating clean energy. Meeting demand resulting from increased electrification will mean building a more localised, flexible and smart system using a range of renewable sources of energy. Peredur Owen Griffiths: Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i atal llifogydd mewn cymunedau yn Nwyrain De Cymru? Julie James: This financial year the Welsh Government is investing £2.25 million in flood alleviation projects in South Wales East. This includes projects at various stages, from business case development through to construction. An interactive map showing the Welsh Government’s investment this year through the flood programme is published on our website. Cwestiynau i Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Sian Gwenllian: Pa asesiad sydd wedi ei wneud o effaith COVID-19 ar sgiliau iaith Gymraeg plant oed cynradd? Jeremy Miles: Mae’n rhy gynnar i ddweud beth fydd effaith tymor hir COVID-19 ar ddysgwyr, ond rŷn ni’n gweld arwyddion cadarnhaol bod dysgwyr yn adfer eu sgiliau iaith Cymraeg wedi dychwelyd i’r ysgol. Dwi am ddiolch i’n addysgwyr ar draws Cymru am eu gofal a’u hymroddiad i’w dysgwyr ar ôl cyfnod anodd iawn. Joyce Watson: Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi disgyblion difreintiedig yn y flwyddyn academaidd hon? Jeremy Miles: As stated in the new programme for government, we are committed to eliminate inequality at every level of society, which includes implementing policies in education that will give everyone the best life chances. We recognise that this will require radical action, innovative thinking and strong coordination and collaboration. Huw Irranca-Davies: Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu ar gyfer addysg alwedigaethol ôl-16 yn etholaeth Ogwr? Jeremy Miles: The Welsh Government provided significant suport in the financial year 2020-21 to support the education system’s response to COVID-19, which included £26.491 million to support learners to complete vocational qualifications as well as £5 million on supporting vocational learners returning to college to complete licence to practice qualifications. Cwestiynau i Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Joel James: Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael ag allyriadau CO2 o geir? Lee Waters: Llwybr Newydd: the Wales Transport Strategy 2021 reiterates our determination and sets out how we will reduce carbon emissions by encouraging more active travel, greater use of public transport and by supporting the uptake of low-emission vehicles.
uk-hansard-senedd-cy
senedd2021-10-06
2024-06-01T00:00:00
{ "year": "2021", "language": "cy", "license": "Open Parliament Licence - https://www.parliament.uk/site-information/copyright-parliament/open-parliament-licence/" }
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. Galw'r Aelodau i drefn. 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni yw'r cwestiynau i'r Gweinidog cyllid. Mae'r cwestiwn cyntaf [OAQ54853] wedi cael ei dynnu yn ôl, ac felly cwestiwn 2 gan Darren Millar. Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru Darren Millar AC: 2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21? OAQ54865 Alun Davies AC: 8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21? OAQ54878 Rebecca Evans AC: Lywydd, deallaf eich bod wedi rhoi eich caniatâd i gwestiynau 2 ac 8 gael eu grwpio. Mae cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn dilyn cylch gwario un flwyddyn Llywodraeth y DU, nad yw’n newid y sefyllfa o ran cyni. Bydd ein cyllideb yn 2020-21 £300 miliwn yn llai mewn termau real nag yn 2010-11, ond serch hynny, mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn Cymru fwy llewyrchus, fwy cyfartal a gwyrddach. Darren Millar AC: Wel, diolch i Lywodraeth y DU, wrth gwrs, mae gennych £600 miliwn yn ychwanegol yn y gyllideb ar gyfer 2021—2020, ydy hynny'n iawn—2020-21, o gymharu â'r flwyddyn ariannol flaenorol. Ac mae hynny'n rhoi cyfleoedd gwych i chi. Un o'r cyfleoedd hynny, wrth gwrs, yw lliniaru effaith y newid yn yr hinsawdd, yn enwedig ar arfordiroedd Cymru, lle ceir perygl o lifogydd. Nawr, croesawaf y buddsoddiad a ddarparwyd ar gyfer promenâd Hen Golwyn yn fy etholaeth yn ystod y misoedd diwethaf. Mae ychydig yn brin o'r swm y gofynnodd yr awdurdod lleol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, amdano er mwyn gwneud y gwaith priodol sy'n ofynnol yn y tymor hwy, ond bydd o leiaf yn gwneud rhywfaint o wahaniaeth i'r perygl llifogydd yn y gymuned honno. Ond wrth gwrs, mae rhannau eraill o arfordir gogledd Cymru mewn perygl hefyd, gan gynnwys ardal Tywyn a Bae Cinmel, a gafodd ei distrywio gan lifogydd 30 mlynedd yn ôl i eleni wrth gwrs. A gaf fi ofyn pa adnoddau penodol rydych wedi'u darparu ar gyfer amddiffynfeydd rhag llifogydd yng nghyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-2021, ac a fydd unrhyw gyfran o'r hyn a ddyrannwyd yn mynd tuag at wella'r amddiffynfeydd yn ardal Tywyn a Bae Cinmel, fel y gallwn atal y math o ddinistr a welsom 30 mlynedd yn ôl? Rebecca Evans AC: Rwy’n ddiolchgar am y cwestiwn, ac fel y gallais nodi yn fy natganiad ar y gyllideb ddrafft ddoe, cafwyd cyllid ychwanegol ar gyfer y flwyddyn nesaf i ddarparu cyllid i gefnogi cymunedau sydd mewn perygl arbennig yn sgil newid hinsawdd a llifogydd, ond mae hynny ar ben yr arian ychwanegol rydym yn ei ddarparu drwy ein rhaglen tai arloesol ar gyfer rheoli risg arfordirol. Ac mae honno’n rhaglen gwerth £150 miliwn yn ystod y Cynulliad hwn, sydd wedi’i chyhoeddi eisoes gan fy nghyd-Aelod, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig. Y cynlluniau rydym yn eu cefnogi, yn amlwg, yw’r rhai lle mae'r sylfaen dystiolaeth yn dweud bod yr angen mwyaf, ond yn amlwg, buaswn yn fwy na pharod i gael sgyrsiau gyda'r Aelodau os oes ganddynt bryderon penodol am ardaloedd yn eu hetholaethau eu hunain. Alun Davies AC: Rwy'n ddiolchgar i chi am yr ateb cynharach hwnnw, Weinidog. O ran y gyllideb gyffredinol, yn ystod ein sgwrs yn y Pwyllgor Cyllid cyn y Nadolig, gwnaethoch gadarnhau y byddai toriad mewn termau real i'r arian sydd ar gael i gefnogi ac i gynnal gwasanaethau bysiau ledled y wlad. Credaf y bydd hyn yn anodd iawn i lawer ohonom, gan fod Llywodraeth sydd wedi ymrwymo i achos newid hinsawdd—a chredaf i mi groesawu'r arian sydd ar gael ar gyfer polisi hinsawdd ddoe—ac sydd wedi ymrwymo hefyd i drafnidiaeth gyhoeddus, gyda'r ddeddfwriaeth y cyfeiriodd y Prif Weinidog ati ddoe, yn golygu bod angen i ni allu darparu cefnogaeth go iawn i drafnidiaeth gyhoeddus, ac yn arbennig, trafnidiaeth gyhoeddus mewn cymunedau fel y rhai rydych chi a mi yn eu cynrychioli. Mae llawer iawn o gyllid eisoes yn cael ei ddarparu i deithio llesol, a chefnogaf hynny; mae llawer iawn o gefnogaeth yn mynd i'r rheilffyrdd, a chefnogaf hynny hefyd. Ond rwy'n poeni fwy a mwy nad yw'r Llywodraeth yn ystyried gwasanaethau bysiau yn flaenoriaeth ddigonol. Bydd y ffaith y byddant yn cael eu torri mewn termau real yng nghyllideb y flwyddyn nesaf yn siom fawr i lawer ohonom ar bob ochr i'r Siambr hon. Buaswn yn ddiolchgar iawn felly, Weinidog, pe baech yn ystyried adolygu'r elfen hon o'r gyllideb i sicrhau bod gennym arian ar gael i gefnogi a chynnal y gwasanaethau bysiau sy'n cysylltu cymunedau bregus iawn weithiau â'r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Rebecca Evans AC: Wel, yn amlwg, bu’n rhaid gwneud penderfyniadau anodd o fewn portffolios unigol o ran y gallu i gynyddu cyllid ar gyfer elfennau penodol o'u cyllidebau, neu ddim ond gynnal y meysydd gwariant hynny. Ac fel y dywed Alun Davies yn gwbl gywir, mae’r gwariant o £25 miliwn wedi’i gynnal yn hytrach na’i gynyddu o ran y grant cymorth ar gyfer gwasanaethau bysiau. Ond wrth gwrs, dim ond un o'r ffyrdd rydym yn cefnogi gwasanaethau bysiau yng Nghymru yw'r grant cymorth ar gyfer gwasanaethau bysiau, ac awdurdodau lleol sy'n gyfrifol, yn gyffredinol, am benderfynu pa wasanaethau y dylid eu cefnogi'n ariannol gan ddefnyddio arian cyhoeddus, yn seiliedig ar eu hasesiadau o'r amgylchiadau ac anghenion lleol. Ac yn aml iawn, mae awdurdodau lleol yn darparu cyllid o'u grant cymorth refeniw eu hunain er mwyn cefnogi'r gwasanaethau bysiau lleol hynny a chynlluniau trafnidiaeth gymunedol hefyd. Ac wrth gwrs, bydd pob awdurdod lleol ledled Cymru wedi gweld cynnydd yn eu cyllideb yn y flwyddyn ariannol nesaf, fel y nodir yn y gyllideb ddrafft, sy'n rhywbeth y dylid ei gydnabod yn fy marn i. Ond ynghyd â hyn, rydym yn cefnogi'r rhwydwaith bysiau a chymunedau drwy ein cyllid ar gyfer rhwydwaith TrawsCymru o wasanaethau bysiau pellter hir, llinell Traveline Cymru ar gyfer Cymru gyfan, sy'n darparu gwybodaeth ar gynllunio teithiau, a gwaith Bus Users Cymru, sy'n cynrychioli teithwyr, ac wrth gwrs, y Gymdeithas Cludiant Cymunedol a Swyddfa Comisiynydd Traffig Cymru hefyd. Ac yn bwysig iawn, rydym yn parhau i gefnogi'r cynllun teithio ar fysiau ar gyfer pobl ifanc 16 i 21 oed, ac wrth gwrs, ein cynllun teithio ar fysiau hynod boblogaidd ar gyfer pobl hŷn a phobl anabl. Ac mae'r rheini'n bwysig, wrth gwrs, am eu bod yn cynyddu'r galw am fysiau, ac yn helpu i gadw'r gwasanaethau hynny'n gynaliadwy yn y tymor hwy. Mohammad Asghar. Mohammad Asghar (Oscar) AC: Mae'n ddrwg gennyf. Mae'n iawn. Fe symudaf ymlaen. Mohammad Asghar (Oscar) AC: Nid fi sydd i fynd, mae'n ddrwg gennyf. Cwestiwn 3, David Rowlands. Rheoli'r Gyllideb David J Rowlands AC: 3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn rheoli ei chyllideb? OAQ54852 Rebecca Evans AC: Mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu o fewn y drefn gyllidebol a bennir gan Lywodraeth y DU. Mae cyllidebau'n cael eu monitro'n agos gan swyddogion, ac mae hyn yn cynnwys rhagfynegi ac egluro amrywiannau yn y gyllideb. Rwy'n derbyn adroddiadau misol gan y cyfarwyddwr cyllid, ac yn trafod perfformiad ariannol gyda swyddogion. Rwy'n gyfrifol am gymeradwyo diwygiadau i'r gyllideb yn ystod y flwyddyn. David J Rowlands AC: Diolch am eich ateb, Weinidog. Hoffwn archwilio un agwedd ar eich cyllideb, sef y setliad llywodraeth leol. Mewn perthynas â hynny, hoffwn ddyfynnu rhai ffigurau i chi: 2 y cant, 4.2 y cant, a 6.5 y cant. Y ffigur cyntaf, 2 y cant, yw cyfradd chwyddiant y DU; yr ail ffigur, 4.2 y cant, yw'r cynnydd cyfartalog hael yn y gyllideb a ddyrannwyd gan eich Llywodraeth i awdurdodau lleol. Felly pam, Weinidog, fod y trydydd ffigur, 6.5 y cant, yn nodi'r cynnydd cyfartalog yn nhreth gyngor awdurdodau lleol? Onid yw hyn yn awgrymu rheolaeth ariannol wael gan awdurdodau lleol, ac a ddylech adolygu'ch dyfarniad yn unol â hynny? Rebecca Evans AC: Wel, wrth gwrs, mater i’r cynghorau lleol eu hunain yw pennu'r dreth gyngor. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi cydnabod bod y setliad y mae awdurdodau lleol wedi'i dderbyn eleni yn un eithriadol o dda. Ac rydym wedi gweithio'n agos iawn gyda CLlLC ac eraill wrth bennu'r gyllideb, a deall y pwysau sydd arnynt. A'n hymrwymiad ers y dechrau oedd rhoi'r setliad gorau posibl i awdurdodau lleol, a chredaf ei bod yn deg dweud bod llawer o awdurdodau lleol wedi cael siom ar yr ochr orau ynghylch y setliadau y maent wedi gallu eu derbyn. Ac mae rhai wedi nodi efallai na fydd y cynnydd yn y dreth gyngor yn eu hardaloedd lleol mor fawr ag y rhagwelwyd ganddynt i ddechrau, oherwydd y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi gallu ei rhoi. David Melding AC: Weinidog, mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru wedi dweud bod datgysylltiad o hyd rhwng dyraniadau'r gyllideb a'n dyheadau priodol iawn i ddod yn Gymru garbon isel a charbon niwtral. A sylwaf fod y pwyllgor hefyd wedi dweud y dylai'r gyllideb ddrafft egluro a dangos yn glir sut y bydd dyraniadau cyllid yn cefnogi'r flaenoriaeth ddatgarboneiddio. Felly, a allwn ddisgwyl y bydd cyllidebau'r dyfodol yn fwy tryloyw a chlir yn hyn o beth, neu a ydych yn credu bod cyllideb eleni yn enghraifft o ymarfer gorau? Rebecca Evans AC: Yn sicr, ni chredaf ein bod wedi cyrraedd y pwynt lle gallwn ddweud ein bod wedi cyflawni ymarfer gorau yn gyfan gwbl eto, ac mae hynny wedi bod yn glir iawn, gan ein bod wedi llunio cynllun uchelgeisiol i wella’r gyllideb. Rwy’n ei weld fel cynllun treigl pum mlynedd, o ran sut y gallwn ymdrechu’n barhaus i wella’r ffordd rydym yn gosod ein cyllideb a’r ffordd y gallwn ystyried ble rydym yn rhoi arian Llywodraeth Cymru—neu arian cyhoedd Cymru. O ran datblygu’r cynllun hwnnw i wella’r gyllideb, gwnaethom hynny gyda chomisiynydd cenedlaethau’r dyfodol, sydd, mae’n rhaid i mi ddweud, wedi canmol Llywodraeth Cymru am gymryd cam da tuag at greu Cymru wyrddach. Yn amlwg, rydym yn cydnabod bod gennym lawer i’w wneud o hyd. Ond mae'r cynllun hwnnw i wella’r gyllideb yn ystyried y gwiriwr siwrnai, a ddatblygwyd gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, ac mae hynny'n ymwneud â sut y gallwch ddangos yn ymarferol, a sut y gallwch sicrhau bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 wrth wraidd y gwaith o wneud penderfyniadau, drwy gydol proses y gyllideb, a’r gwaith o’i monitro a'i hasesu. Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar. Darren Millar AC: Diolch, Lywydd. Weinidog, a allwch ddweud wrthym sut y mae eich cyllideb ar gyfer y flwyddyn 2020-21 yn mynd i gefnogi busnesau Cymru? Rebecca Evans AC: Yn sicr. Ddoe ddiwethaf, fe gyhoeddais i, fel rhan o gyllideb 2020-21, y byddem yn parhau i ymestyn ein cynllun rhyddhad ardrethi'r stryd fawr ac ardrethi manwerthu i 2020-21. Felly, mae hynny’n fwy na £24 miliwn o gyllid, sy'n cefnogi dros 15,000 o fusnesau gyda'u hardrethi. Credaf fod hynny'n bwysig iawn, ond mewn gwirionedd, mae hynny ochr yn ochr â £213 miliwn o ryddhad arall i fusnesau yng Nghymru, sy'n golygu nad yw oddeutu hanner busnesau Cymru yn talu unrhyw ardrethi o gwbl. Darren Millar AC: Wel, wrth gwrs, rydym yn croesawu unrhyw ryddhad ardrethi busnes, ond y gwir amdani yw, er gwaethaf y rhyddhad hwnnw rydych yn ei ymestyn, ni sydd â’r drefn ardrethi busnes fwyaf cosbol yn y Deyrnas Unedig o hyd. Ac wrth gwrs, yn ogystal â’r ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain, mae gennym hefyd dreth trafodiadau tir uchel iawn ar gyfer eiddo anfasnachol, a byddant yn parhau i fod yn uwch na'r Alban a Lloegr hyd y gellir rhagweld. Pam na wnaethoch chi achub ar y cyfle i ystyried lleihau'r trethi hynny er mwyn hyrwyddo buddsoddiad ac i hyrwyddo busnes fel y crewyr cyfoeth yng Nghymru yn eich cyllideb, ac a wnewch chi ailystyried y safbwynt hwnnw cyn cyflwyno'r gyllideb derfynol i’r Siambr yn ddiweddarach yn y flwyddyn? Rebecca Evans AC: Wel, buaswn yn dechrau, wrth gwrs, drwy awgrymu bod Darren Millar yn anghywir i awgrymu bod gennym ardrethi busnes cosbol yng Nghymru, oherwydd mewn gwirionedd, ceir cyfran fwy o fusnesau yng Nghymru nad ydynt yn talu unrhyw ardrethi o gwbl nag a geir dros y ffin yn Lloegr. Ac mae'r man lle rydym yn pennu ein hardrethi busnes yn adlewyrchu'r ffaith bod ein gwerth ardrethol cyfartalog yng Nghymru yn wahanol i’r hyn a geir yn Lloegr. Felly, yn Lloegr, mae oddeutu £50,000, a dim ond £30,000 yng Nghymru, felly credaf ei bod ond yn deg fod ein system yn adlewyrchu'r gwahanol werthoedd ardrethol a'r darlun gwahanol sydd gennym yma yng Nghymru. O ran y dreth trafodiadau tir, yn amlwg, mae gennym gyfradd wahanol, uwch ar gyfer trethi amhreswyl. Ac mae'r rheini ar gyfer pryniannau dros £1 miliwn. Pan gyrhaeddwch £1.1 miliwn, mae'r dreth trafodiadau tir yn dechrau dod yn uwch na threth dir y dreth stamp. Wrth gwrs, cytunwyd ar y gyfradd honno gan y Cynulliad pan wnaethom bleidleisio ar hynny. Credaf ei bod yn bwysig cydnabod mai hon yw blwyddyn gyntaf yr ardrethi penodol hynny, felly rydym yn amlwg yn cadw llygad barcud arnynt, ond rydym hefyd yn cadw llygad barcud ar yr hyn sy'n digwydd yn Iwerddon a'r Alban hefyd. Oherwydd mae pob un ohonom wedi dilyn gwahanol lwybrau ac nid oes gennym unrhyw arwydd hyd yn hyn fod yr ardrethi hynny'n atal busnesau rhag lleoli yng Nghymru, oherwydd pan fydd busnesau'n lleoli, maent yn gwneud hynny am lu o resymau, a bydd y dreth trafodiadau tir yn un ohonynt, ond yn amlwg, bydd materion eraill fel sgiliau a chefnogaeth y Llywodraeth i fusnes yn ffactorau. Darren Millar AC: Wel, cawsoch gyfle euraidd, Weinidog—ac rydych wedi ei golli, a dweud y gwir—i ostwng y lluosydd ardrethi busnes a'i gwneud yn fwy deniadol i bobl ddod yma a buddsoddi yng Nghymru— £600 miliwn yn ychwanegol wedi'i ddarparu gan Lywodraeth y DU, grant bloc Cymru ar y lefel uchaf erioed. Ac wrth gwrs, er gwaethaf hyn, rydych yn disgwyl i ni gredu nad oes unrhyw beth y gallwch ei wneud i leihau effaith y trethi hynny ar fusnesau. Y gwir amdani yw bod gennym Lywodraeth yma nad yw’n rheoli ei gwariant yn iawn. Rydym wedi cael cost ychwanegol o £51 miliwn o ganlyniad i oedi a gorwario ar ffordd Blaenau'r Cymoedd, £221 miliwn wedi'i fuddsoddi mewn ardaloedd menter anghystadleuol, ac wrth gwrs, rydym wedi gweld—ac amlygwyd hyn eto ddoe ddiwethaf—degau o filiynau o bunnoedd bob blwyddyn yn mynd i mewn i dwll du i lawr y ffordd ym Maes Awyr Caerdydd. Nawr, gwyddom fod llawer o bobl, bob blwyddyn, ym mis Ionawr, yn achub ar y cyfle i fyfyrio a gwneud addunedau blwyddyn newydd. A gaf fi awgrymu adduned blwyddyn newydd i chi, sef rhoi’r gorau i wastraffu arian trethdalwyr a gwneud popeth y gallwch i gefnogi busnesau fel y crewyr cyfoeth yng Nghymru a fydd yn helpu i gynhyrchu’r incwm y dywed eich Llywodraeth fod ei angen yn enbyd? Rebecca Evans AC: O ran ein cefnogaeth i fusnes, credaf fod y ffigurau rydym eisoes wedi'u gweld ar gyfer y dreth trafodiadau tir yn siarad drostynt eu hunain, oherwydd ym mlwyddyn gyntaf y dreth trafodiadau tir, mae'r newidiadau i'r cyfraddau yn sicrhau ein bod yn parhau i fod yn atyniadol i fentrau masnachol. Ac o ganlyniad i'r cyfraddau treth newydd hyn, mae dros 90 y cant o drafodiadau amhreswyl yng Nghymru yn talu'r un faint neu lai o dreth nag y byddent dros y ffin yn Lloegr, ac rydym yn disgwyl i'r newidiadau hynny arwain at gynnydd mewn gweithgarwch masnachol yng Nghymru. Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth. Rhun ap Iorwerth AC: Weinidog, credaf ei bod yn gwbl afresymol fod yn rhaid craffu ar gyllideb Cymru ar gyfer y flwyddyn i ddod cyn i gynlluniau gwario Llywodraeth y DU, gan gynnwys manylion grant bloc Cymru, gael eu cyhoeddi. Disgwylir datganiad ar gyllideb y DU ar 11 Mawrth, ychydig ar ôl i'n gwaith craffu ar y gyllideb yma ddod i ben. Dyma enghraifft arall ar restr hirfaith a chynyddol o resymau pam nad yw San Steffan yn gweithio i Gymru. Ond ai dyma pam fod cyllideb Llywodraeth Cymru mor brin o uchelgais ac arloesedd? Rebecca Evans AC: Mae'n rhaid i mi ddweud, yr hyn sy'n brin o arloesedd ac yn brin o uchelgais, yn fy marn i, yw pan fydd y gwrthbleidiau'n cyhoeddi datganiadau i'r wasg a allai fod wedi'u hysgrifennu o'r blaen. Credaf ei bod bron yn rhagweladwy, onid yw, y bydd gwrthblaid yn dweud bod cyfle wedi'i golli neu eu bod yn siomedig? Beth am astudio a chraffu ar y gyllideb a herio pethau o ddifrif os ydych o'r farn y dylent fod yn wahanol? Beth am gynnig cyllidebau amgen? Beth am gynnig syniadau ar gyfer ffyrdd eraill y dylid gwario arian Llywodraeth Cymru? Credaf y byddai hynny'n gyfraniad mwy defnyddiol o lawer i'r ddadl. Rhun ap Iorwerth AC: Nid oes gennyf unrhyw syniad at ba ddatganiad i'r wasg y cyfeiriwch ato, ond byddaf yn parhau i graffu ar gyllideb Llywodraeth Cymru. Nid oes unrhyw newidiadau sylweddol i'w gweld ym meddylfryd y Llywodraeth; rheoli'r gyllideb, dyna a welwn. Credaf fod y newid yn yr hinsawdd yn un o'r meysydd lle mae eich Llywodraeth wedi methu dangos mewn ffordd ystyrlon sut y mae gwariant yn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd mewn gwirionedd—gwneud penderfyniadau mawr yn awr er ein lles hirdymor. Nawr, fel y nododd comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, ni all y Llywodraeth ddweud wrthym hyd yn oed sut y bydd eich cynlluniau gwario yn effeithio ar allyriadau carbon. Er mwyn gweld pam fod angen y math hwnnw o asesiad arnom, edrychwch ar y diweddariad i'r cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru ar gyfer 2019; mae'n dangos buddsoddiad o £1.56 biliwn ar ffyrdd o gymharu â buddsoddiad o £818 miliwn mewn trafnidiaeth gynaliadwy, sy'n awgrymu i mi y gallai elfennau o'ch cyllidebu fod yn tanseilio eich amcanion i gyrraedd sero-net o ran carbon mewn gwirionedd. Nawr, a wnewch chi fel Gweinidog roi sicrwydd inni y bydd pob cyllideb yn y dyfodol yn darparu asesiad effaith carbon? Ac o ystyried bod yn rhaid i ni ganolbwyntio mwy ar wariant ataliol ar draws meysydd gwario'r Llywodraeth, a wnewch chi ddarparu dogfen fanwl yn y dyfodol hefyd ar ble mae'r Llywodraeth yn gwario ar atal? Rebecca Evans AC: Cefais gyfle i drafod y mater penodol hwn gyda Gweinidog yr amgylchedd a materion gwledig y bore yma, gan ein bod yn awyddus i allu dangos y penderfyniadau a wnawn a'r effaith y maent yn ei chael ar ostwng lefelau carbon. Fodd bynnag, nid yw pethau mor syml â hynny mewn gwirionedd. Felly, er enghraifft, dim ond un rhan o'r darlun yw buddsoddi yn y seilwaith i gefnogi ceir trydan, gan y bydd y carbon sy'n cael ei arbed mewn gwirionedd o ganlyniad i hynny yn dibynnu ar y nifer sy'n defnyddio cerbydau trydan, ac mae hynny, mewn sawl ffordd, yn dibynnu ar wahanol ysgogiadau y bydd Llywodraeth y DU yn eu rhoi ar waith o ran treth. Felly, os gofynnwch i mi faint y byddwn yn ei arbed o ran carbon o ganlyniad i'n buddsoddiad mewn pwyntiau gwefru, er enghraifft, ni allwn ddweud. Gallwn ddweud sut y bydd ein buddsoddiad, er enghraifft, i newid y fflyd o lorïau sbwriel ledled Cymru yn arbed, gan y gallwn ddangos faint y mae pob lori yn ei allyrru. Felly, wrth gwrs, mae'n anodd iawn dangos asesiad effaith carbon llawn. Yn aml, arbed carbon yw'r prif reswm pam y byddwn yn gwneud pethau, ac yn aml, maent yn fuddion eilaidd i'r rhesymau pam ein bod yn gwneud pethau. Felly, mae'r llun yn hynod gymhleth. Ond yn amlwg, fel y nodwyd yn ein cynllun i wella'r gyllideb, byddwn yn parhau i ymdrechu i egluro'r penderfyniadau a wnawn o ran asesiadau effaith carbon. Ond mewn gwirionedd, efallai nad yw pethau mor syml ag yr awgrymodd yr Aelod. Rhun ap Iorwerth AC: Ond, Weinidog, os gaf i awgrymu, y gwir amdani ydy, wrth gwrs ei bod hi'n anodd i chi fesur yr impact, achos dydych chi ddim yn gwneud asesiadau impact. Felly, gofyn i chi ydw i, fel Llywodraeth, i wneud yn siŵr eich bod chi, mewn cyllidebau yn y dyfodol, yn gwneud asesiad o sut yn union mae'r penderfyniadau gwariant rydych chi yn eu cymryd yn mynd i gael impact ar ein huchelgeisiau ni o ran torri allbwn carbon. Cyfle wedi'i golli ydy'r gyllideb yma, fel y dywedais i ddoe. Mae yna rywfaint o ryddhad—dros dro y mae'r rhyddhad yna, dwi'n ofni—yn yr arian sydd ar gael i'w wario yn y flwyddyn ariannol nesaf, ond dydy'r cyfle ddim wedi cael ei gymryd i fuddsoddi go iawn rŵan yn yr hirdymor. Dŷn ni ddim yn meddwl yn ddigonol am lesiant ein cenedl yn yr hirdymor. Mae Plaid Cymru wedi ymrwymo yn barod i gyflwyno prosesau cyllidol llesol, yn cynnwys gwneud asesiadau carbon, er enghraifft. Does yna neb wir yn gweld hon fel cyllideb sy'n arloesi, cyllideb sy'n ennyn gobaith, yn dangos uchelgais ar gyfer dilyn llwybr newydd. Pa bryd fyddwch chi fel Gweinidog yn sylweddoli bod rheoli ynddo fo'i hun ddim yn ddigon? Rebecca Evans AC: Yn amlwg, buaswn yn anghytuno â'r hyn yr awgryma'r Aelod—fod y gyllideb hon yn cynrychioli busnes fel arfer. Wrth gwrs nad ydyw. Rydym yn gweld pecyn buddsoddi sylweddol mewn datgarboneiddio a bioamrywiaeth, ac mae'n flin gennyf na all ei groesawu. Felly, byddwn yn gweld £5 miliwn yn cael ei ddefnyddio i greu seilwaith gwyrdd mewn canol trefi ac annog bioamrywiaeth. Pa mor aml rydym yn sôn yn y Siambr hon am ba mor bwysig yw hi ein bod yn gwyrddu canol ein trefi? Mae gennym gronfa twf amgylcheddol benodol, a fydd yn gofalu am leoedd lleol ar gyfer natur ac yn annog ceisiadau i gefnogi atal dirywiad natur yn ein cymunedau lleol. Dywed yr Aelod mai cynllun yw hwn—wrth gwrs ei fod yn gynllun, ond mae'n rhan o becyn ehangach sy'n newid cyfeiriad ac yn newid ffocws ein cyllideb. Llefarydd Plaid Brexit, Mark Reckless. Mark Reckless AC: Diolch, Lywydd. Weinidog Cyllid, siaradais â chi ar y diwrnod y cyhoeddwyd y gyllideb a gwneuthum rai o'r pwyntiau rydym wedi'u clywed gan Rhun heddiw, ac yn rhannol ddoe. Ac rwy'n falch o glywed eich bod wedi cyfarfod â Lesley Griffiths y bore yma i ystyried rhai o'r materion hyn. Fodd bynnag, yn eich datganiad ddoe, fe ddywedoch chi eich bod yn buddsoddi yn y meysydd lle gallwn gael yr effaith fwyaf ar gyfer ein hamgylchedd. Yna, fe ddyfynnoch chi bedwar ohonynt: teithio llesol; fflyd fysiau trydan; ffyrdd newydd o adeiladu cartrefi; a'r goedwig genedlaethol. A gaf fi ofyn, sut y gwnaethoch flaenoriaethu'r meysydd hyn a phenderfynu faint i'w fuddsoddi ym mhob un o'r gwahanol feysydd? Rebecca Evans AC: Lluniwyd y cynlluniau penodol hyn yn rhan o'r gwaith trawslywodraethol a wnaethom, pan aeth pob Aelod o'r Llywodraeth i'r afael ag un o'n hwyth maes trawsbynciol, sy'n faes na fyddent yn ei oruchwylio fel arfer, ac yna fe wnaethant ymdrechu i weithio ar draws y Llywodraeth gyda chyd-Aelodau i chwilio am gyfleoedd ar gyfer syniadau newydd, meysydd gwario newydd, a allai wneud gwahaniaeth gwirioneddol, a'r meysydd lle dywed y dystiolaeth wrthym y gellir gwneud gwahaniaeth. Felly, dyma'r cynlluniau a gafwyd o ganlyniad i'r gwaith trawslywodraethol hwnnw. O edrych ar y dystiolaeth, nid oes angen inni wneud yr holl waith o gasglu tystiolaeth empirig ein hunain—dim ond edrych am enghreifftiau o arferion gorau yn fyd-eang o ran yr hyn y gwyddom sy'n gweithio, a chael cyngor gan Bwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd o ran yr hyn yr hoffent weld Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ei hymdrechion arno o ran datgarboneiddio a gostwng ein hallyriadau carbon ledled Cymru. Mark Reckless AC: Gallaf weld bod y Gweinidog yn awyddus i ddilyn arferion gorau. Ac i'r graddau fod Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd yn bodoli a bod ganddo restr o wahanol brosiectau y mae'n ystyried y gallant fod yn effeithiol, gallaf weld pam ei bod yn defnyddio hynny fel man cychwyn. Ond fel Gweinidog cyllid sy'n gwneud penderfyniad ynghylch faint o'n hadnoddau gwerthfawr i'w buddsoddi mewn meysydd penodol, i'r graddau y caiff hyn ei gyflwyno fel rhywbeth sy'n ymwneud â'r newid yn yr hinsawdd, does bosibl na fyddai'n hoffi gwneud y gwahaniaeth mwyaf y gallai ei wneud gyda'r swm o arian sydd ar gael iddi? Nid wyf yn gwybod ai'r asesiad effaith hinsawdd a awgrymodd Rhun yw'r ffordd iawn ai peidio. Ond does bosibl nad oes angen iddi wneud mwy o waith ar ddeall beth yw'r gwerth am ei harian—os bydd yn cael arian o'r fath—ym mhob un o'r gwahanol feysydd hyn? Er enghraifft, mae'n sôn am y goedwig genedlaethol—a rhwng popeth, ymddengys i mi ei bod yn fenter dda i blannu mwy o goed a chael coedwig genedlaethol a gweithio ar hynny yng Nghymru—ond beth yw cost gymharol hynny o gymharu ag un arall o’i mentrau, sef buddsoddi arian mewn plannu coed yn Uganda, o ystyried y gwahanol fathau o goed sy’n tyfu, pa mor gyflym y maent yn tyfu, faint o garbon deuocsid y maent yn ei amsugno, faint y mae’n ei gostio i’w plannu, a pha mor effeithiol y bydd y broses reoli mewn perthynas â hynny? Does bosibl nad oes angen i ni ystyried hynny? Mae hi'n sôn am y ffordd rydym yn adeiladu cartrefi newydd, ac mewn mannau eraill yn y gyllideb, mae'n pwysleisio pwysigrwydd cartrefi fforddiadwy. Ond oni allai fod cyfaddawd rhwng y ddau uchelgais gwahanol? Un maes lle mae tystiolaeth gref o effeithiolrwydd gwariant yn fy nhyb i yw effeithlonrwydd ynni ac inswleiddio cartrefi, lle rydych yn lleihau biliau ynni ar gyfer yr unigolyn dan sylw ac efallai'n cael rhywfaint o effaith hefyd o ran yr hyn y ceisia ei wneud ynglŷn â'r newid yn yr hinsawdd. Onid yw hwnnw'n faes y dylai fod yn buddsoddi arian ynddo, o gymharu â meysydd eraill a allai fod yn ddrytach? Er enghraifft, beth yw cost cael bws trydan o gymharu, dyweder, â buddsoddi mewn rhagor o fysiau, er enghraifft, ym Mlaenau Gwent? Gallai hynny sicrhau bod pobl yn dod allan o'u ceir neu ganiatáu iddynt deithio mewn ffyrdd na allent ei wneud fel arall. Os gwelwch yn dda, cyn cyllideb y flwyddyn nesaf o leiaf, a allwn gael ffordd fwy trylwyr o gynnal yr asesiadau hyn? Ac mae'n sôn am fod yn awyddus i fuddsoddi arian mewn cyfathrebu—tybiaf fod hynny'n golygu dweud wrth bobl pa mor wych yw Llywodraeth Cymru a'r hyn y mae'n ei wneud ar newid hinsawdd—ond a wnaiff hi ystyried cyfleu neges wirioneddol effeithiol? Un o'r pethau sy'n atal coed rhag cael eu plannu yw'r PAC, gan fod cymhorthdal yn cael ei roi i dir ffermio, ond nid i goetiroedd fel y cyfryw. Os yw hynny'n mynd i newid, sut y bydd yn rhoi cyhoeddusrwydd i hynny? Sut y bydd yn annog pobl i inswleiddio'u cartrefi, rhywbeth a fydd o fudd iddynt hwythau hefyd? A wnaiff hi weithio'n galetach i gydgysylltu a gwella polisi yn y maes hwn? Rebecca Evans AC: Credaf fod y ddau faes y canolbwyntiodd Mark Reckless arnynt—wel, dau o'r meysydd y canolbwyntiodd arnynt—yn ddau o'r meysydd lle nododd y dystiolaeth gan Bwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd y dylid canolbwyntio ymdrechion datgarboneiddio. Felly, un yw'r sector trafnidiaeth ffyrdd—un sy'n hanfodol i gyflawni targed o sero-net—ac felly, mewn ymateb i hynny a'r dystiolaeth a ddarparwyd gan Bwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd, mae dros £60 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol wedi'i dargedumewn datgarboneiddio wedi'i anelu'n uniongyrchol bellachat y sector trafnidiaeth yn ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Ac ynghyd â hynny, nododd Mark Reckless fod tai, gwresogi domestig ac ynni domestig yn feysydd pwysig i fynd i’r afael â hwy. Ac eto, dywed Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd fod hwnnw'n faes y dylem roi ein sylw iddo. Felly, mae'r gyllideb yn darparu £25 miliwn ychwanegol yn ein rhaglen tai arloesol i edrych ar hynny. Felly, rydym yn derbyn y dystiolaeth sy'n cael ei darparu i ni a'r argymhellion gan arbenigwyr ac yn eu defnyddio i lywio ein penderfyniadau cyllidebu. Yn amlwg, mae yna ffyrdd o gymharu pethau. Felly, cyfeiria Mark Reckless at y prosiect plannu coed uchelgeisiol sydd gennym yn Uganda, ac yna mae'n edrych ar y gwaith a wnawn yma yng Nghymru ar y goedwig genedlaethol. Ac yn amlwg, rydym am wneud y ddau beth. Gallwch gael mwy o werth am eich arian os mai yn Uganda'n unig y byddwch yn plannu'r coed hynny. Yn gyffredinol, mae'n rhatach i wneud hynny, maent yn tyfu'n gyflymach ac yn y blaen. Yn dibynnu ar ba fath o goed sy'n cael eu plannu, byddwch yn cael canlyniadau gwahanol o ran carbon. Ond i'r un graddau, rydym yn awyddus i blannu coed yng Nghymru, gan y gwyddom beth fydd y budd i'ch llesiant ac ati os cewch gyfle i gerdded drwy goed ac mewn coetiroedd. Felly, mae'n amlwg fod sawl budd i blannu coed, ac maent yn sicr yn bethau y byddem yn awyddus i'w gwneud yng Nghymru, er y gallech, yn dechnegol, gael mwy o werth am eich arian o'i wneud yn rhywle arall. Ariannu Gwasanaethau Deintyddol Dai Lloyd AC: 4. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch ariannu gwasanaethau deintyddol yn y dyfodol? OAQ54875 Rebecca Evans AC: Rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch ystod o faterion ariannol yn ei bortffolio, gan gynnwys materion sy'n effeithio ar ddarpariaeth gwasanaethau deintyddol. Dai Lloyd AC: Weinidog, mewn ymateb i ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i ddeintyddiaeth yng Nghymru, nid yw Llywodraeth Cymru wedi gallu ymrwymo'r un geiniog o fuddsoddiad newydd. Mae Cymdeithas Ddeintyddol Prydain wedi nodi: Ni fydd yr argyfwng sy'n wynebu deintyddiaeth y GIG yng Nghymru yn cael ei ddatrys gan ychydig eiriau cynnes. Eu geiriau hwy, nid fy rhai i. Felly, pa drafodaethau rydych yn eu cael gyda'r Gweinidog iechyd i sicrhau bod y diwygiadau angenrheidiol i'r contractau a recriwtio ychwanegol mewn perthynas â deintyddion yn cael eu cefnogi gan gyllid digonol ac ychwanegol? Rebecca Evans AC: Rwyf wedi cael nifer o drafodaethau gyda'r Gweinidog iechyd mewn perthynas â diwygio contractau ac ynglŷn â'r problemau sy'n wynebu deintyddiaeth ledled Cymru, gan y gwn fod hwn yn fater sy'n codi'n aml yn y Cynulliad. Rydym wedi cydnabod bod angen diwygio'r system gontractio bresennol, ac mae hynny'n rhywbeth rydym yn sicr yn mynd i'r afael ag ef, ac mae newidiadau sylweddol eisoes yn cael eu gwneud ac mae timau deintyddol yn croesawu'r newidiadau hynny. Rydym wedi dweud ein bod yn dymuno gweld nifer y practisau sy'n cymryd rhan yn y rhaglen ddiwygio yn cynyddu ymhellach, ac rydym bellach yn disgwyl gweld dros hanner y practisau yn rhan o'r rhaglen erbyn mis Hydref 2020. Ceir 132 ohonynt ar hyn o bryd, felly mae oddeutu 30 y cant o bractisau deintyddol yn cymryd rhan ar hyn o bryd. Yn amlwg, rydym hefyd yn ceisio mynd i'r afael â phroblemau gyda'r gweithlu a chadw staff. Mae rhan o hynny'n digwydd drwy'r rhaglenni hyfforddi rydym yn eu rhoi ar waith. Ceir cynnydd o flwyddyn i flwyddyn yn awr yn nifer y deintyddion sy'n darparu gofal y GIG yng Nghymru, ond rydym yn cydnabod bod recriwtio a chadw staff yn broblem benodol, yn enwedig mewn rhai rhannau o Gymru—gogledd Cymru, canolbarth Cymru a gorllewin Cymru, yn enwedig—ac mae hynny'n achosi cryn drafferth o ran llenwi swyddi gwag. Ond gallaf gadarnhau bod Addysg a Gwella Iechyd Cymru bellach yn edrych ar gomisiynu pecynnau addysg, niferoedd sy'n hyfforddi a hyfforddiant i ddatblygu’r gweithlu, ac ystyried a oes modelau gweithlu mwy effeithiol i ddarparu gwasanaethau a allai wella llwyth gwaith deintyddion a helpu i sicrhau bod practisau'n fwy cynaliadwy a'r yrfa'n fwy deniadol. Suzy Davies AC: Roedd yn ddiddorol clywed hynny, a dweud y gwir, ond mae'r diwygiadau contract hyn wedi bod yn mynd rhagddynt o ran cynlluniau peilot, neu gynnydd cyffredinol, ers oddeutu tair neu bedair blynedd bellach. O gofio bod y newid yn y contract yn ymwneud â helpu pobl i ddod yn well wrth ofalu am iechyd y geg, buaswn wedi meddwl y gallai fod llai o angen am wariant Llywodraeth Cymru, nid yn unig oherwydd llai o apwyntiadau diangen, ond hefyd llai o driniaethau ar gyfer difrod y gellir ei atal. Yn 2015-16, costiodd yr hen raglenni gofal deintyddol a gofal iechyd y geg £137 miliwn i Lywodraeth Cymru, ynghyd â'r refeniw o £33 miliwn o daliadau cleifion, sef 2.14 y cant o gyfanswm gwariant y GIG. Sut y mae hynny'n cymharu bellach â'r gwariant o dan y contract diwygiedig hwn a pha dystiolaeth a gawsoch gan y Gweinidog i gyfiawnhau'r newidiadau? Rebecca Evans AC: Eleni, rydym yn darparu dros £146 miliwn i GIG Cymru i ddarparu gwasanaethau deintyddol gofal sylfaenol. Rydym yn gweld cynnydd yn y defnydd o wasanaethau deintyddol, sy'n beth da. Felly, mae'r data diweddaraf a gyhoeddwyd yn dangos bod 1.7 miliwn o bobl yn defnyddio gwasanaethau deintyddiaeth gofal sylfaenol y GIG yn rheolaidd, ac mae hynny 42,000 yn fwy o bobl na phum mlynedd cyn y ffigurau diweddaraf. Bellach, mae gennym dros 1,500 o ddeintyddion yn gweithio yn y GIG yng Nghymru o gymharu â 1,439 yn ôl yn 2014, felly rydym yn gweld cynnydd yn raddol yn nifer y deintyddion, ond cynnydd cyfatebol hefyd yn nifer y cleifion sy'n defnyddio'r gwasanaethau hynny. Mike Hedges AC: Mae'n ddealladwy fod gan lawer o breswylwyr cartrefi gofal iechyd deintyddol gwael i gychwyn pan fyddant yn mynd i gartref gofal, gan eu bod yn aml yn mynd i gartref gofal gan fod eu hiechyd yn dirywio ac oherwydd diffyg symudedd. Gan fod mynediad deintyddol i blant ar lefel uwch nag erioed, ac fel y gwyddoch, rwy'n sôn yn rheolaidd iawn am ba mor dda yw Cynllun Gwên, a yw'r Gweinidog yn cytuno â mi ei bod yn newyddion gwych i bobl hŷn y bydd cyllideb rhaglen Gwên am Byth yn dyblu y flwyddyn nesaf, gan sicrhau bod y cynllun yn cyrraedd pob cartref gofal ledled Cymru? Rebecca Evans AC: Diolch i Mike Hedges am godi'r mater penodol, pwysig hwnnw ac am ei gefnogaeth gyson i Cynllun Gwên. Cofiaf, yn y sesiwn graffu ddiweddar ar gyllid, iddo gyfeirio ato fel un o'r enghreifftiau rhagorol o wariant gwirioneddol ataliol sydd gennym yng Nghymru. Credaf ei bod ond yn deg ein bod yn ceisio canolbwyntio ein hymdrechion er mwyn gwella iechyd y geg ac iechyd deintyddol pobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal, felly rwy'n falch iawn fod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi £0.25 miliwn yn ychwanegol i ymestyn rhaglen iechyd y geg Gwên am Byth—A Lasting Smile i'r flwyddyn nesaf, ac rydym yn dyblu'r cyllid sydd ar gael ar gyfer hynny bellach i sicrhau ei fod yn cael ei gyflwyno ym mhob cartref gofal yng Nghymru yn 2020. Rheoli Adnoddau Neil Hamilton AC: 5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn rheoli ei hadnoddau i sicrhau gwerth am arian ac effeithiolrwydd? OAQ54857 Rebecca Evans AC: Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod penderfyniadau gwariant yn cael eu llywio gan dystiolaeth gadarn a bod gwerth am arian yn cael ei ystyried wrth ddatblygu polisi. Rydym yn cyfeirio at ystod o ganllawiau i wneud y defnydd gorau o adnoddau cyhoeddus, gan gynnwys yr egwyddorion lefel uchel a nodir yn Llyfr Gwyrdd Trysorlys EM. Neil Hamilton AC: Gŵyr y Gweinidog nad oes prinder ymgeiswyr am fwy o wariant lle mae gwir angen, boed hynny'n golygu'r gwasanaeth iechyd neu leihau tlodi tanwydd neu beth bynnag. Credaf y bydd y rhan fwyaf o drethdalwyr Cymru yn crafu eu pennau, felly, pan fyddant yn darganfod y bydd £1.2 miliwn yn cael ei wario ar sefydliadau fel Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru—lle mae dwy ran o dair o'i hincwm yn cael ei wario ar gyflogau ei staff. O'r rhan o'i hincwm nad yw'n cael ei wario ar gyflogau staff, mae'n cefnogi sefydliadau fel Hub Cymru Affrica, sy'n derbyn £640,000 y flwyddyn. Nid yw'n darparu unrhyw gyfrifon ei hun, felly nid oes gennym unrhyw syniad faint o bobl y mae'n eu cyflogi na faint o gyflog y maent yn ei ennill, ac mae'n gwario'r arian nad yw'n ei wario ar gyflogau staff yn bennaf ar eitemau nad ydynt yn dod o Gymru neu endidau eraill, sydd eu hunain yn gwario'r arian yn bennafar gyflogau staff, fel y panel cynghori is-Sahara, sydd ag incwm o £68,000 y flwyddyn, a chostau staff o £74,000. Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gyfrifoldeb am gymorth tramor, datblygu tramor na pholisi tramor, felly pam rydym yn ymbleseru yn y sioe fawr hon o nodi rhinweddau a ariennir gan drethdalwyr ar gyfer gwleidyddion dosbarth canol ym Mae Caerdydd pan fo anghenion gwirioneddol y tu allan? Fel y mae'r blogiwr Jac o' the Northwedi'i ddisgrifio'n fwy bachog, o bosibl: Mae gan wlad â phobl ddigartref ar y strydoedd, lle mae plant yn mynd i'r ysgol yn llwglyd, lle mae pobl yn marw wrth aros am ambiwlansys, filiynau o bunnoedd i'w sbario, yn ôl pob golwg, fel y gall gweithredwyr diletantaiddo Loegr a gwleidyddion Cymreig diwerth deimlo'n well amdanynt eu hunain. Rebecca Evans AC: Mae Llywodraeth Cymru yn falch o fod yn Llywodraeth ryngwladol, fyd-eang sy'n cymryd ei chyfrifoldebau i'r blaned ac i eraill o ddifrif. Rydym yn gwbl falch o'r gwaith a wnawn drwy ein rhaglen Cymru o Blaid Affrica. Credaf y gallai apelio'n well at werthoedd yr Aelod pe byddwn yn gwneud y pwynt ei bod, mewn gwirionedd, yn fuddiol i ni os yw gwledydd tramor sy'n ei chael hi'n anodd ar hyn o bryd yn gallu ymdopi'n well mewn cymaint o ffyrdd. Mae heddwch dramor yn fuddiol i ni. Mae sicrhau bod gwledydd tramor yn gallu gwneud cyfraniad gwell at yr argyfwng hinsawdd yn fuddiol i ni. Felly, credaf efallai y gallai'r syniadau cul hynny helpu'r Aelod i ddeall pa mor bwysig yw ein rhaglen Cymru o Blaid Affrica. Mark Isherwood AC: Yn amlwg, mae rheoli adnoddau i sicrhau gwerth am arian ac effeithiolrwydd yn cynnwys chwarae, sy'n allweddol i iechyd a lles plant. Nododd yr adolygiad diweddar o asesiadau digonolrwydd chwarae a gynhaliwyd ar ran Llywodraeth Cymru gan Chwarae Cymru fod cyllid grant cyfleoedd chwarae Cymru gyfan gan Lywodraeth Cymru wedi arwain at fwy o weithgarwch i sicrhau cyfleoedd chwarae ledled Cymru, ac y dylai Llywodraeth Cymru fod yn glir ynghylch sut y dylid defnyddio buddsoddiadau gwrth-dlodi a buddsoddiadau eraill â ffocws i gefnogi digonolrwydd chwarae. Sut rydych yn ymateb, felly, i bryderon a godwyd gyda mi gan gynrychiolwyr y sector chwarae yr wythnos hon, sydd wedi cael gwybod na fydd y grant cyfleoedd chwarae Cymru gyfan yn parhau yn y flwyddyn ariannol nesaf; mai'r grant hwn yw'r unig beth sydd wedi bod yn cadw'r darnau olaf o seilwaith chwarae a gwaith chwarae i fynd ledled Cymru; a'u bod, fel sector, yn colli nifer o staff rhagorol sydd wedi gadael i fynd i feysydd eraill, ac er bod gwaith rhagorol yn mynd rhagddo mewn rhai ardaloedd, mae bylchau enfawr yn y seilwaith o hyd ac mae'r ddarpariaeth yn crebachu? Rebecca Evans AC: Rwy'n ymwybodol o waith da Chwarae Cymru. Rwyf wedi cael cyfle i weld rhai o'r pethau a wnânt yn lleol yn fy ardal fy hun. Yr hyn a ddywedaf yw nad wyf yn arbennig o gyfarwydd â'r grant penodol y cyfeiria'r Aelod ato, ond os ysgrifennwch ataf gyda mwy o wybodaeth, efallai y gallaf ei drafod gyda'r Gweinidog perthnasol sy'n gyfrifol. Effaith y Gyllideb ar Ogledd Cymru Llyr Gruffydd AC: 6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr effaith y bydd cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 yn ei chael ar Ogledd Cymru? OAQ54887 Rebecca Evans AC: Mae'r gyllideb yn buddsoddi ym mhob rhan o Gymru i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus, ein busnesau a'n cymunedau. Mae hyn yn cynnwys hwb o £20 miliwn i fetro gogledd Cymru ym mhortffolio Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, gan barhau â'n buddsoddiad mewn system drafnidiaeth integredig, fodern ac effeithlon ar gyfer y rhanbarth. Llyr Gruffydd AC: Diolch i chi am eich ateb. Byddwch chi'n ymwybodol, dwi'n siŵr, mae gen i nifer o gynlluniau ynni hydro yn fy etholaeth, a dwi wedi codi hyn gyda chi lawer gwaith yn y gorffennol. Mae yna ofid difrifol yn y sector, wrth gwrs, ynglŷn â'r sefyllfa treth fusnes annomestig, a'r effaith mae hynny'n ei gael ar y sector. Mae yna alwadau, ac mae ystyriaeth wedi bod, ynglŷn â newid y fethodoleg i gyfrifo lefel y dreth, neu, wrth gwrs, mae'r cynllun grant sydd wedi bod ar gael gan Lywodraeth i gynorthwyo'r cynlluniau yma, gyda'r taliadau hynny'n dod i ben ddiwedd y flwyddyn ariannol yma. Does yna ddim sicrwydd ynglŷn â beth fydd y trefniadau yn y flwyddyn ariannol nesaf ac mae hynny yn taflu cysgod difrifol dros y sector; mae'n creu ansicrwydd. Mae hynny, wrth gwrs, ar ôl gwrando arnoch chi'n dweud gymaint rydych chi'n ei wneud dros yr amgylchedd i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, yn codi cwestiwn, efallai, ynglŷn â pham nad ŷch wedi gallu rhoi ateb a sicrwydd i'r sector cyn hyn. Oes posib i ni glywed beth yw'r diweddaraf ynglŷn â hyn, ac allech chi roi sicrwydd i fi y byddwch chi'n gwneud popeth y gallwch chi i amddiffyn y sector rhag effeithiau gorfod talu'r dreth yma yn ei llawnder? Rebecca Evans AC: Rwy'n ddiolchgar i Llyr am godi'r mater hwn. Gwn fod ganddo gryn ddiddordeb yn y sector ynni dŵr, fel sydd gennyf innau a'r Gweinidog sy'n gyfrifol am ynni. Ar hyn o bryd, rydym yn aros am bapur gan gorff cynrychiadol y sector ynni dŵr, sy'n cyfeirio at y newidiadau posibl yn y fethodoleg a ddisgrifiwyd gennych, ond rwy'n agored i gael trafodaethau pellach, fel rwyf eisoes wedi dweud wrth y Gweinidog, mewn perthynas â chefnogaeth i'r sector y flwyddyn nesaf. Janet Finch-Saunders AC: Wrth groesawu’r cynnydd o £400 miliwn i iechyd a gofal cymdeithasol, mae'n rhaid i ni nodi bod hyn yn llai na’r gorwariant cronnol tair blynedd ar draws y GIG. Yng ngogledd Cymru, rydym wedi gweld diffygion uwch nag erioed o £20 miliwn ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn 2015-16; £30 miliwn yn 2016-17; £39 miliwn yn 2017-18; a £41 miliwn yn 2018-19. Mae'r methiannau hyn i fantoli'r gyllideb wedi digwydd er bod y bwrdd iechyd wedi derbyn £83 miliwn mewn cyllid mesurau arbennig. Nawr, fel y gwyddoch, Weinidog, nid oes golau ar y gorwel eto gan fod y bwrdd yn rhagweld diffyg o £35 miliwn ar gyfer 2019-20, gan fethu eich targed eich hun o £10 miliwn. Ers y mesurau arbennig, ni ellir dadlau bod y Gweinidog iechyd wedi goruchwylio, ac yn wir, wedi caniatáu i fwrdd iechyd sy'n perfformio'n wael ddod yn wactod ariannol enfawr. Pa sicrwydd y gallwch ei roi i mi y bydd arian a roddir i'r bwrdd iechyd hwn ar gyfer 2020-21 yn dod gyda strategaeth gadarn ar waith i gael gwared ar wariant gormodol ac amseroedd aros sydd hyd yn oed yn fwy gormodol? Rebecca Evans AC: Fel y soniais yn y datganiad ddoe, bydd y byrddau iechyd lleol ledled Cymru yn cyflwyno eu cynlluniau a’u cynigion ar gyfer 2020-21 erbyn diwedd y mis, a bydd y Gweinidog iechyd a’i swyddogion yn eu herio ac yn craffu arnynt yn ofalus, ac yna bydd y Gweinidog iechyd naill ai'n derbyn y cynlluniau neu fel arall wrth iddynt gael eu cyflwyno. Yn amlwg, bydd ffocws ar wella a ffocws ar werth am arian yn ganolog i'r ystyriaethau hynny. Mandy Jones AC: Weinidog, un o'r rhesymau pam y dewisais fynd i'r byd gwleidyddol oedd y canfyddiad nad yw gogledd Cymru yn cael eu cyfran deg o sylw, cyllid ac ystyriaeth o gymharu â'r de. Rydym wedi cael Gweinidog ar gyfer gogledd Cymru ers dros flwyddyn, nid yw wedi gwneud datganiad eto yn y rôl honno, ac a dweud y gwir, nid wyf fawr callach a yw'r canfyddiad hwnnw'n gywir. Weinidog, a allwch gadarnhau bod gogledd Cymru yn cael eu cyfran deg mewn gwirionedd a sut y gallwn ddweud hynny? Rebecca Evans AC: Wel, nid yw'n wir, wrth gwrs, nad yw gogledd Cymru yn cael eu cyfran deg o gyllid. Rwy'n edrych ar y ffigurau ar wariant cyfalaf sydd gennyf o'm blaen, ac maent yn dangos bod cyfanswm y gost ragamcanol ar wariant cyfalaf, yn y flwyddyn ddiweddaraf y mae gennym ffigurau ar ei chyfer, yn £2.5 miliwn, sef yr uchaf ond un o'r holl ranbarthau mewn gwirionedd. A dim ond y ffigur cyntaf sydd gennyf o'm blaen yw hwnnw. Felly, ni chredaf fod y ffigurau'n cefnogi hynny, ac er mawr siom i'r Aelod efallai, nid yw'r dadleuon hynny'n ddilys. Effalith y Gyllideb ar Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro Angela Burns AC: 7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith cyllideb Llywodraeth Cymru ar bobl Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OAQ54881 Rebecca Evans AC: Mae cyllideb ddrafft 2020-21 yn cyflawni ein haddewidion i bobl Cymru ac yn buddsoddi yn nyfodol ein planed. Er enghraifft, mae ein cynlluniau'n cynnwys cyllid i gwblhau'r buddsoddiad o £25 miliwn ar gyfer cam 2 y cynllun menywod a phlant yn ysbyty Glangwili. Angela Burns AC: Diolch am hynny, ac wrth gwrs, mae croeso mawr i'r £25 miliwn hwnnw i Glangwili. Ond mewn gwirionedd, hoffwn gael eglurder gennych heddiw ynglŷn â'r dyraniad a ddarperir yn y gyllideb i gynnal a diweddaru ystâd y GIG. Nid yw'n glir iawn yn y trosolwg ble a sut y gellid defnyddio'r cyllid cyfalaf hwnnw. Mae gennyf nifer o feddygfeydd yn fy ardal nad ydynt yn addas at y diben mwyach mewn gwirionedd. Rydym yn gofyn i ymarfer meddygol ddarparu mwy a mwy o wasanaethau i nifer fwy o bobl, gyda llawer ohonynt â chydafiacheddau, ac mae angen galluoedd mynediad arbennig arnynt ac mae arnom angen llu o weithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd angen adeiladau i weithio ynddynt. Yn y gorffennol, roedd gennym gronfa arbennig o oddeutu £10 miliwn y gallai meddygon teulu wneud cais iddi er mwyn adnewyddu eu hystâd. Mae'r gronfa honno wedi diflannu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Sylwaf fod £1.8 biliwn wedi'i ddyrannu i gynnal a thrawsnewid ystâd y GIG, ond nid yw'n glir i mi a fydd meddygon teulu hefyd yn gallu cael mynediad at yr £1.8 biliwn hwnnw ai peidio, neu a yw'n gyfan gwbl ar gyfer ymddiriedolaethau a byrddau iechyd. Rebecca Evans AC: Diolch i'r Aelod am ofyn y cwestiwn hwnnw. Os yw'n fodlon, efallai y gofynnaf i'r Gweinidog iechyd ddarparu ateb manwl i'r cwestiwn hwnnw.FootnoteLink Gwybodaeth ychwanegol at y Cyfarfod Llawn (Saesneg yn unig) Angela Burns AC: Ydw, wrth gwrs. Mae cwestiwn 8 wedi'i ofyn eisoes ac felly cwestiwn 9, Jack Sargeant. Grant Cymorth Tai Llywodraeth Cymru Jack Sargeant AC: 9. Pa ddyraniadau ychwanegol fydd ar gael i'r portffolio Tai a Llywodraeth Leol yn ystod y cylch cyllideb cyfredol i gefnogi Grant Cymorth Tai Llywodraeth Cymru? OAQ54868 Rebecca Evans AC: Yn unol â'r flaenoriaeth y mae'r Llywodraeth hon yn ei rhoi i gefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, ac er gwaethaf bron i ddegawd o gyni, mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn cynnal lefel y buddsoddiad yn y grant cymorth tai y flwyddyn nesaf ar £170 miliwn—mae'n ddrwg gennyf, £127 miliwn. Jack Sargeant AC: Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae'r grant cymorth tai yn un o'r amddiffyniadau gorau sydd gennym yn erbyn yr anhrefn parhaus a achosir gan gyni Torïaidd. Gellir gweld canlyniad blynyddoedd o ddihidrwydd Llywodraeth y DU ynghylch effaith eu polisïau lles ar ein strydoedd: lefelau cywilyddus o gysgu allan ledled y DU, nid yn unig yn ein dinasoedd, ond ym mhob un o'n cymunedau. Weinidog, mae cynghorau yng Nghymru yn defnyddio'r grant cymorth tai i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed. Os yw cyllideb mis Mawrth yn darparu unrhyw arian ychwanegol i Gymru, a wnewch chi ystyried rhyddhau mwy o arian i'r grant cymorth tai? Rebecca Evans AC: Mae Jack Sargeant yn cydnabod pwysigrwydd y grant cymorth tai, fel finnau, yn yr ystyr ei fod yn un o'r dulliau sydd gennym o atal digartrefedd yma yng Nghymru. Er ein bod wedi gallu cynnal cyllidebau ar y lefelau presennol, mae'n gywir i ddweud nad ydym, yn anffodus, wedi gallu darparu cynnydd mewn termau real i bob eitem yn y gyllideb. Mae'r pwysau'n parhau, wrth gwrs, wrth fynd i mewn i'r flwyddyn nesaf. Credaf fod ein cyflawniad yng Nghymru yn cymharu’n ffafriol â’r stori dros y ffin, lle cafodd rhaglen Cefnogi Pobl ei dadneilltuo, gan arwain at doriadau sylweddol yn y cyllid, yn ôl y Swyddfa Archwilio Genedlaethol. Ond wrth gwrs, pan gyhoeddir y gyllideb ar 11 Mawrth, byddwn yn gweld wedyn i ba raddau y bydd cyllid ychwanegol yn dod i Gymru, ac yn amlwg, bydd unrhyw newidiadau yn cael eu gwneud bryd hynny mewn cyllideb atodol gynnar, os yw'r newidiadau hynny'n sylweddol. Russell George AC: Weinidog, ymddengys fod y rhan fwyaf o'r arian ychwanegol i fynd i'r afael â digartrefedd wedi'i dargedu at Abertawe, Caerdydd, Casnewydd a Wrecsam. Felly, a gaf fi ofyn pa arian ychwanegol fydd yn cael ei ddarparu i gefnogi pobl ddigartref mewn awdurdodau lleol gwledig yn benodol, er enghraifft Powys? Rebecca Evans AC: Mae Russell George yn llygad ei le fod cyllid penodol yn mynd i Abertawe, Casnewydd, Caerdydd a Wrecsam, gan eu bod yn ardaloedd go iawn lle mae llawer o gysgu allan, ac mae pwysau sylweddol ar yr awdurdodau lleol hynny. Ond rydym yn llwyr gydnabod nad mewn dinasoedd ac ardaloedd trefol yn unig y mae digartrefedd yn digwydd, mae'n digwydd ledled Cymru, a dyna un o'r rhesymau pam fod y Gweinidog tai a llywodraeth leol newydd lansio ymgyrch sy'n cydnabod bod digartrefedd yn digwydd ledled Cymru, ac yn aml y gall fod yn fath cudd o ddigartrefedd. Felly, mae'n arbennig o bryderus am y bobl sy'n symud o un soffa i'r llall, er enghraifft. Felly, ceir cymorth ledled Cymru ar gyfer digartrefedd—mae'r cyllidebau digartrefedd hynny wedi'u cynnal ar £17.9 miliwn yn 2021. Ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn awyddus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth yn eich ardal benodol chi. Diolch i'r Gweinidog. 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol Y cwestiynau nesaf, felly, yw'r cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Darren Millar. Hawliau Dynol Darren Millar AC: 1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo hawliau dynol drwy ei strategaeth cysylltiadau rhyngwladol? OAQ54866 Eluned Morgan AC: Mae gwerthoedd ac egwyddorion clir yn sail i'r strategaeth ryngwladol, gan gynnwys pwyslais ar gefnogaeth i hawliau dynol. Mae gennym draddodiad hir a balch o fod yn genedl groesawgar i bobl o bob diwylliant a gwlad ac ymrwymiad hefyd i nodau cynaliadwyedd y Cenhedloedd Unedig. Darren Millar AC: A gaf fi gymeradwyo'r ymrwymiad a ddangoswyd gan Lywodraeth Cymru, ac yn wir, Llywodraeth y DU ar hawliau dynol a hyrwyddo'r hawliau hynny ym mhob cwr o'r byd? Wedi dweud hynny, rwy’n poeni ychydig fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn barod iawn ei chroeso iLywodraeth gomiwnyddol Fietnam dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig drwy gyswllt addysg Cymru-Fietnam. Nawr, yn wir—[Torri ar draws.] Yn wir, gosodwyd y carped coch gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ymweliad gan Weinidog addysg Fietnam y llynedd, lai na 12 mis yn ôl. Fel y gwyddoch, Weinidog, mae cyfundrefn Fietnam yn wladwriaeth heddlu, sy'n cael ei chyhuddo'n rheolaidd o fynd yn groes i hawliau dynol, yn enwedig mewn perthynas â'r gymuned Gristnogol leiafrifol yno. [Torri ar draws.] Credaf y dylai'r Gweinidog addysg gael ei haddysgu mewn perthynas â hawliau Cristnogion yn Fietnam, hawliau sy'n cael eu torri'n rheolaidd. Yn ôl yr elusen Open Doors, mae Fietnam yn un o’r 50 man gwaethaf yn y byd am erlid Cristnogion, gyda’r rheini o leiafrifoedd ethnig yn ei chael hi'n arbennig o anodd, wrth iddynt wynebu ymosodiadau treisgar, aflonyddwch, wrth i'w haddoldai gael eu dymchwel ac wrth iddynt gael eu carcharau. A gaf fi ofyn, fel y Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol, pa drafodaethau rydych wedi'u cael gyda Fietnam ynglŷn â'u record mewn perthynas â hawliau dynol, yn enwedig mewn perthynas â'r gymuned Gristnogol yno? A pha gamau rydych yn eu cymryd ar draws y Llywodraeth i sicrhau y ceir dull cydgysylltiedig o fynd i'r afael â'r materion hawliau dynol hyn gyda Gweinidogion, fel Gweinidog addysg Fietnam, pan fyddant yn ymweld yn y dyfodol? Eluned Morgan AC: Diolch, Darren. Rwy'n siomedig, gan y credaf y dylem fod yn falch iawn o'r ffaith ein bod yn datblygu perthynas addysg gref iawn â Fietnam. Y ffaith ein bod yn eu helpu i wella eu systemau addysg, ein bod yn annog mwy o bobl o'r wlad honno i ddod i astudio yng Nghymru, fod hon yn wlad llawn addewid a bod cyfleoedd i ni, felly, i helpu i ddylanwadu ar— Darren Millar AC: A ydych yn eu herio ar eu record mewn perthynas â hawliau dynol? Eluned Morgan AC: —gyfeiriad y wlad, yn bartneriaeth strategol bwysig iawn i ni, rwy'n credu— Darren Millar AC: A ydych yn eu herio ar eu record mewn perthynas â hawliau dynol? Eluned Morgan AC: —ei hystyried. A gaf fi—? Darren, rydych wedi gofyn eich cwestiwn ac mae'n rhaid i chi roi cyfle i'r Gweinidog ymateb i'r cwestiwn. Weinidog. Eluned Morgan AC: Credaf ei bod yn werth tanlinellu nad ni yn unig sydd â pherthynas â Fietnam, ond Llywodraeth y DU hefyd. Mae gan Lywodraeth Dorïaidd y DU berthynas agos iawn hefyd. Credaf fod yn rhaid inni gydnabod bod cysylltiadau rhyngwladol ym maes hawliau dynol bob amser yn gallu bod yn eithaf anodd, ond mae'n rhaid i chi wneud rhai penderfyniadau anodd weithiau, ac rydym wedi gwneud penderfyniad yn yr achos hwn ei bod o fudd adeiladol i ni a'n partneriaeth i sicrhau ein bod yn gweithio gyda Fietnam i'w helpu i ddatblygu eu system addysg. Huw Irranca-Davies AC: Yr hyn y buaswn yn cytuno â Darren yn ei gylch yw y dylai pob Llywodraeth—y Llywodraeth hon, Llywodraeth y DU, yr Undeb Ewropeaidd, pob Llywodraeth—sicrhau, fel y bo'n briodol, eu bod yn codi materion ynghylch hawliau dynol gydag unrhyw genedl—unrhyw genedl a phob cenedl. Ond mae'r un mor briodol, ac mae'n rhaid i ran o hynny, mae'n rhaid i mi ddweud, ymwneud â datblygu cysylltiadau lle gallwch gael y sgyrsiau hynny hefyd. Yr hyn yr hoffwn holi yn ei gylch—mae'n fater rwyf wedi'i godi eisoes, ond nid wyf wedi cael yr eglurder rwy'n chwilio amdano—yw materion rhyngwladol ehangach yn y dyfodol, ac yn enwedig mewn cytundebau masnach yn y dyfodol, lle rwy'n pryderu y byddwn yn gweld ymrwymiadau'n cael eu glastwreiddio, Darren, mewn perthynas â hawliau dynol, oherwydd i bob pwrpas, rydym wedi gweld hynny, yng nghytundebau Fietnam, lle mae'r hyn a oedd yn gyfreithiol rwymol o dan rwymedigaethau hawliau dynol cyfreithiol rwymol a chyfreithiol orfodadwy'r Undeb Ewropeaidd bellach wedi'u gosod mewn ffurf o eiriau ochr yn ochr ag ef. Felly, a gaf fi ofyn am gadarnhad y bydd llais Llywodraeth Cymru drwy'r Gweinidog yn nodi'n glir ein bod yn dymuno gweld rhwymedigaethau hawliau dynol rhwymol mewn unrhyw gytundebau masnach yn y dyfodol, boed gyda'r UDA, boed gyda Fietnam, boed gydag unrhyw un? A bydd angen i Lywodraeth y DU ddeall y byddant yn gorfodi'r mater. Eluned Morgan AC: Diolch, a chredaf ei bod yn werth tanlinellu, yn y gorffennol, fod maniffesto'r Ceidwadwyr yn dymuno diweddaru'r Ddeddf Hawliau Dynol—yn y gorffennol, roeddent yn dymuno cael gwared arni'n gyfan gwbl a chyflwyno bil hawliau Prydeinig yn ei lle. Mae'n rhaid i mi ddweud wrthych fod gennyf fwy o hyder yn y system sydd gennym ar hyn o bryd nag unrhyw system arall y maent yn debygol o'i chyflwyno, gan y credaf fod meincnodi rhyngwladol yn wirioneddol bwysig. Ac os yw'n dymuno bod mewn sefyllfa lle mae'r math o bobl y mae'n cymysgu â hwy—. Os yw'n dymuno ymbellhau oddi wrth y Ddeddf Hawliau Dynol, y bobl y bydd yn cymysgu â hwy, yr unig bobl yn y Cyngor Ewropeaidd, yw Belarws a Kazakhstan, a dyna'r llwybr rydym arno, o bosibl. Yn sicr, dyna oedd persbectif maniffesto'r Ceidwadwyr. Felly, gadewch inni fod yn glir pwy yw'r blaid sy'n awyddus i israddio hawliau dynol. Nawr, i ddod at eich cwestiwn, credaf yn gyntaf oll ei bod yn werth dweud nad yw hawliau dynol yn rhywbeth y darperir ar eu cyfer fel y cyfryw mewn cytundebau masnach. Yr hyn sy'n digwydd yw y cyfeirir atynt, ceir cyfeiriadau atynt, mewn cytundebau fframwaith ehangach, a'r hyn y byddem ni yn Llywodraeth Cymru yn dymuno'i weld yw cyfeiriad clir at y cytundebau fframwaith ehangach hynny a fyddai'n cynnwys hawliau dynol i sicrhau bod cysylltiad rhwng y polisïau masnach a'r sefyllfaoedd hawliau dynol ehangach hynny. Credaf ei bod hefyd yn werth nodi, fodd bynnag, fod nodau cynaliadwyedd y Cenhedloedd Unedig wedi awgrymu bod hawliau dynol yn hanfodol ar gyfer datblygu cynaliadwy. Felly, mae'n debyg y byddai meddwl y gallwch eu gwahanu'n gyfan gwbl yn anghywir hefyd. Hyrwyddo'r Defnydd o'r Gymraeg Vikki Howells AC: 2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Addysg ynghylch hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg drwy'r system addysg? OAQ54854 Eluned Morgan AC: Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â'r Gweinidog Addysg. Cawsom gyfarfod arall yr wythnos hon i drafod agweddau ar Cymraeg 2050 mewn perthynas â’i phortffolio, ac yn dilyn yr ymgynghoriad ar Reoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019 a’r canllawiau drafft cysylltiedig a fu'n destun ymgynghoriad, byddwn yn cynnal cynhadledd ym mis Mawrth i drafod cynllunio a hyrwyddo'r Gymraeg mewn addysg. Vikki Howells AC: Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae rhieni wedi cysylltu â mi, ac maent yn parhau i gysylltu â mi mewn niferoedd cynyddol, yn pryderu nad oes unrhyw ddosbarthiadau anghenion dysgu ychwanegol arwahanol mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn fy etholaeth, ac maent yn teimlo bod eu plant o dan anfantais ac yn methu cael mynediad at addysg yn eu hiaith ddewisol. Pa drafodaethau rydych wedi'u cael ynghylch sicrhau darpariaeth ddigonol o addysg ADY mewn dosbarthiadau arwahanol drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghwm Cynon, ond ledled Cymru hefyd? Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr iawn, Vikki. Dylwn roi gwybod i chi fod y Gweinidog addysg wedi cynnig cyfarfod â chi i drafod hyn ymhellach, ond er gwybodaeth, ceir darpariaeth yn y cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg newydd sy'n mynnu bod ADY yn cael eu hystyried. Felly, mae hynny'n rhywbeth sydd wedi'i gryfhau. Gwn fod hyn yn rhywbeth y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn ymwybodol ohono. Cawsant gyfarfod ym mis Rhagfyr. Felly, mae hwn yn fater y maent yn deall bod angen mynd i'r afael ag ef, ond yn sicr, mae'n rhywbeth y credaf y byddai'n peri pryder i ni, i feddwl na fyddai'r ddarpariaeth honno ar gael. Yn sicr, mae angen i ADY fod yn hygyrch drwy gyfrwng y Gymraeg fel y maent drwy gyfrwng y Saesneg. Paul Davies AC: Gweinidog, dwi'n siŵr y byddwch chi'n ymuno â fi wrth longyfarch Ysgol y Preseli yn fy etholaeth i sydd, fel dŷch chi'n gwybod, yn ysgol uwchradd Gymraeg sydd wedi cael ei graddio'n ail yng Nghymru yn ôl canllaw ysgolion The Sunday Times eleni am ei pherfformiad rhagorol. Nawr, mae'n bwysig bod ysgolion eraill yn dysgu oddi wrth ysgolion Cymraeg fel Ysgol y Preseli er mwyn hyrwyddo defnydd o'r Gymraeg drwy'r system addysg. Felly, allwch chi ddweud wrthym ni, yn y trafodaethau dŷch chi wedi'u cael ac yn cael gyda'r Gweinidog addysg, sut ydych chi fel Llywodraeth yn sicrhau bod ysgolion eraill yn gallu elwa o'r gwaith arbennig mae Ysgol y Preseli yn ei wneud i hyrwyddo'r Gymraeg? Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr. Gaf i hefyd longyfarch Ysgol y Preseli, sydd wedi bod yn datblygu dros y blynyddoedd? Dwi'n gwybod yn y gorffennol roedd reputation eithaf uchel gyda nhw. Aethon nhw i lawr tipyn bach ac maen nhw wedi codi unwaith eto a dŷn ni'n falch iawn o'r gwahaniaeth maen nhw'n ei wneud i'r disgyblion yn yr ardal yna. Wrth gwrs mae yna gyfle i ddysgu, ac un o'r pethau dŷn ni'n ei wneud yw sicrhau bod y rhwydweithiau yma ar draws y canolfannau yn rhoi cyfle i bobl i ddysgu oddi wrth ei gilydd, yn arbennig trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae hwn yn sicr yn rhywbeth sydd yn cael ei edrych arno yn yr ardal yna yn benodol. Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian. Siân Gwenllian AC: Diolch, Llywydd. Yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog ddoe, mi wnes i godi achos dyn oedrannus Cymraeg ei iaith o Ynys Môn sy'n byw efo dementia. Mae'r ffaith bod bwrdd iechyd sydd i fod yn gweithredu'n unol â'r safonau iaith hyd yn oed yn ystyried darparu gofal iddo yn Lloegr, lle, wrth gwrs, na fyddai yna wasanaeth Cymraeg ar gael, yn brawf gwbl ddiamheuol fod y safonau ar y byrddau iechyd yn ddiffygiol. O dan eich safonau chi fel maen nhw ar hyn o bryd, mae'r sefyllfa oedd yn wynebu'r gŵr o Fôn yn berffaith gyfreithlon a does dim gwarchodaeth gyfreithiol o gwbl i gleifion. Does bosib y dylai hi fod yn ddisgwyliad ar fwrdd iechyd i ddarparu gwasanaeth i gleifion bregus, megis cleifion dementia, yn eu hiaith gyntaf, ac na ddylai hi syrthio ar deuluoedd, gwleidyddion a grwpiau pwyso i ddiogelu hawliau dynol sylfaenol siaradwyr Cymraeg i wasanaeth yn eu hiaith. Ydych chi'n cytuno ag awgrym y Prif Weinidog ddoe fod yna ddiffygion sylfaenol i'r safonau iechyd a bod rhaid ail-ymweld â nhw ar fyrder? Eluned Morgan AC: Wel, gaf i ategu at yr hyn ddywedodd y Prif Weinidog ddoe? Mae'n anodd inni drafod materion personol ynglŷn ag un unigolyn, ond mae yn bwysig ein bod ni'n deall hefyd fod yna faterion clinigol ambell waith sydd yn golygu ei fod e'n ofynnol i bobl adael ein gwlad ni. Ond dwi yn cyd-fynd â'r Prif Weinidog wrth iddo ddweud bod angen inni gydnabod bod hawliau siaradwyr Cymraeg i gael eu materion nhw wedi ymdrin â nhw trwy gyfrwng y Gymraeg a'u gofal nhw trwy gyfrwng y Gymraeg yn rhywbeth rŷm ni'n ei weld fel rhywbeth elfennol a sylfaenol y dylem ni fod yn cael ein cynnig yng Nghymru. Siân Gwenllian AC: Yn ôl e-bostanfonoch chi i swyddogion yn holi cwestiynau cyn pasio'r safonau iechyd—. Mae'n dod yn amlwg, o ddarllen yr e-bost yna, eich bod chi'n gwbl effro i ddiffygion y safonau iechyd. Dwi'n dyfynnu—rydych chi'n gofyn hyn: Siân Gwenllian AC: Felly, hoffwn ddweud yn glir, os oes dynes fach 90 oed o Wynedd sy'n siarad Saesneg gwael yn mynd i'r ysbyty ac ar fin cael llawdriniaeth gymhleth, yn gyfreithiol, ni all ofyni rywun esbonio iddi beth sy'n digwydd yn Gymraeg, ac mai'r hyn rydym yn ei gynnig yw bod y bwrdd iechyd yn gwneud cynlluniau fel y gallant nodi i ba raddau y byddant yn gallu cynnal ymgynghoriadau clinigol yn y Gymraeg ymhen pum mlynedd, a allai olygu, yn ôl pob tebyg, na fyddant yn gallu gwneud hynny o hyd. Ac rydych yn mynd ymlaen i ddweud: Siân Gwenllian AC: Rydych chi'n dweud hyn: Siân Gwenllian AC: Credaf y bydd yn eithaf anodd perswadio pobl i dderbyn hyn. Unrhyw syniadau? Siân Gwenllian AC: Onid y gwir amdani ydy nad ydy polisi'ch Llywodraeth chi yn gallu gwarantu gwasanaeth Cymraeg sylfaenol i gleifion bregus heddiw, a'ch bod chi'n gwbl gywir yn eich dadansoddiad chi na fyddan nhw ar gael ymhen pum mlynedd chwaith, oni bai ein bod ni yn newid y safonau iechyd? Ac, fel y dywedoch chi eich hun, mae sefyllfa fel hyn yn tough selli bobl sy'n siarad Cymraeg. Eluned Morgan AC: Wel, dwi yn meddwl bod yna wahaniaethau ar draws y wlad. Dwi'n meddwl, os ŷch chi'n edrych ar rywle fel Betsi, bod ymrwymiad tuag at y Gymraeg yn rhywbeth nawr sydd yn cael ei weld fel rhywbeth sylfaenol. Dwi'n meddwl bod yn rhaid iddyn nhw ddarparu; mae'n rhaid iddyn nhw fod yn ymwybodol o beth yw gofynion iaith y cleifion sy'n dod i'w gweld nhw. A dwi yn meddwl bod yna newid wedi bod yn yr agwedd y tu fewn i'r adrannau iechyd sydd gyda ni ar draws Cymru. Siân Gwenllian AC: Wel, dwi'n siomedig iawn efo'r ateb yna. Rydyn ni yn sôn am fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn achos y gŵr efo dementia o Ynys Môn, fel mae'n digwydd. Felly, mae beth rydych chi'n ei ddweud yn anghywir. Diffyg arall y gwnaethoch chi ei adnabod yn y drafodaeth ynglŷn â'r safonau iechyd, cyn iddyn nhw gael eu pasio, oedd y diffyg sylw i gynllunio'r gweithlu meddygol drwy hyfforddi. Cyngor eich swyddogion chi ar y pryd oedd bod angen ymdrin efo hynny trwy gamau polisi, a dwi'n cytuno. Mae'n allweddol cynllunio'r gweithlu. Mi fyddai gosod targedau er mwyn sicrhau recriwtio nifer digonol o ymgeiswyr sy'n siarad Cymraeg ar gyrsiau o'r fath yn sicrhau fod gweithlu'r dyfodol wedi'i gynllunio ar sail anghenion pobl Cymru. A allwch chi gadarnhau y bydd eich Llywodraeth chi yn gwneud hynny? Achos, o beidio gwneud, y peryg ydy na fyddwn ni ddim nes i ddarparu'r gwasanaethau sy'n hanfodol o ran diogelwch, ac o ran ansawdd gofal pobl Cymru yn awr eu hangen. Eluned Morgan AC: Rŷn ni yn ymwybodol bod angen gwneud mwy o ran cynllunio ieithyddol, a dyna pam rŷn ni wedi dod ymlaen â phrosiect 2050. Bydd hwnnw yn dechrau gyda'r Llywodraeth yn edrych ar sut rŷn ni'n cynllunio'n ieithyddol y tu fewn i'r Llywodraeth, ac wedyn, wrth gwrs, yn sicrhau ein bod ni yn effeithiol tu fas i'r Llywodraeth, yn sicrhau ein bod ni'n gwthio rhai o'r cyfleoedd yna o ran y cyfleusterau cyhoeddus, i sicrhau bod nhw hefyd yn cymryd eu cyfrifoldeb nhw yn ystyrlon. Dwi yn meddwl hefyd ei bod hi'n bwysig i danlinellu ein bod ni wedi gofyn i Academi—sydd wedi ymrwymo i sicrhau fod arweinyddion y dyfodol tu fewn i'r Llywodraeth yn ymwybodol o'u dylanwad nhw, ac o'u cyfrifoldeb nhw tuag at yr iaith Gymraeg yn y ffordd maen nhw yn mynd i arwain yn ein canolfannau cyhoeddus ni yn y dyfodol. Llefarydd y Ceidwadwyr, David Melding. David Melding AC: Diolch yn fawr. Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol ein bod ynghanol y tymor gwobrau teledu a ffilm ledled y byd, ac rwy'n siŵr y byddwch yn awyddus i ymuno â mi i longyfarch Taron Egerton o Aberystwyth ar ei lwyddiant— Clywch, clywch. [Chwerthin.] David Melding AC: Roeddwn yn meddwl y byddai hyn yn eich plesio, Lywydd. Rwy'n ei longyfarch ar ei lwyddiant gwych hyd yn hyn. Ei ddawn yw gwneud i bobl gofio bod Cymru'n enwog fel magwrfa ar gyfer llwyddiant eithriadol ar y sgrin fawr, a hoffwn ddymuno'n dda iddo gyda'i yrfa yn y dyfodol. Er ei fod yn enghraifft wych o'r hyn y gallwn ei gyflawni yn niwydiant ffilm a theledu Cymru, at ei gilydd, Weinidog, credaf ei bod yn deg dweud nad ydym yn cyflawni ein potensial llawn ar hyn o bryd, yn enwedig o gymharu ein hunain â gwledydd eraill o faint tebyg. Mae gan Seland Newydd, er enghraifft, ddiwydiant ffilm a theledu ffyniannus sydd wedi'i adeiladu ar ei hatyniadau fel lleoliad ffisegol gwych—ac mae hynny'n gamp, yn amlwg, y gallem ei hefelychu. Mae'r diwydiant yno'n werth oddeutu £0.5 biliwn y flwyddyn i Seland Newydd. Nawr, nid wyf yn dweud y byddwn o reidrwydd yn anelu mor uchel â hynny, ond ar hyn o bryd, credaf ei bod yn deg dweud nad ydym wedi gwneud cystal ag y byddem wedi gobeithio dros y pum mlynedd diwethaf. Beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i hyrwyddo Cymru fel lleoliad penigamp ar gyfer y diwydiant ffilm gan fod y gyllideb buddsoddi yn y cyfryngau wedi'i chadw'n ôl? Eluned Morgan AC: A gaf fi hefyd longyfarch Taron Egerton? Rydym yn falch tu hwnt ohono, ac rydym yn edrych ymlaen at yr Oscars, lle rwy'n siŵr ein bod yn gobeithio y bydd yn cael ei wobrwyo hefyd. Bu o gymorth mawr i ni yn y Llywodraeth ddiwethaf, yn ein cynorthwyo i hyrwyddo Cymru fel lle i ddod i fuddsoddi mewn perthynas â theledu a ffilm, yn ôl ym mis Tachwedd. Felly, mae'n berthynas rydym yn falch iawn o'i chael. Ac wrth gwrs, mae'n rhaid inni hefyd danlinellu'r ffaith bod gennym ddau actor o Gymru yn serennu yn y prif rannau yn The Two Popes hefyd, sy'n ffilm wych y buaswn yn argymell eich bod yn ei gwylio. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn ymwybodol iawn o'r ffaith bod gennym enw da iawn bellach fel man lle gallwn greu rhaglenni teledu a ffilmiau o safon. Mewn perthyna â'r strategaeth ryngwladol y byddwn yn ei lansio yr wythnos nesaf, dyna pam mai un o'r tri sector rydym yn gobeithio y byddant yn hyrwyddo Cymru'n fawr, o ran sut rydym am gael ein gweld yn rhyngwladol, yw teledu a ffilm. Ac os edrychwch ar y datblygiadau dros y 10 mlynedd diwethaf, mae gennym bellach oddeutu 50,000 o bobl yn gweithio yn y diwydiant hwn, a chredaf fod hwnnw'n dwf o oddeutu 50 y cant dros y 10 mlynedd diwethaf. Felly, credaf ein bod yn mynd i'r cyfeiriad iawn, ond mae angen i ni ledaenu'r neges yn rhyngwladol, ac yn sicr, mae hynny'n rhywbeth rwy'n gobeithio ei wneud. David Melding AC: Diolch am eich ateb, Weinidog, a chredaf fod pob un ohonom yn rhannu'r uchelgais hwn, ond mae a wnelo hyn mewn gwirionedd â'r map i'n cael ni yno; oherwydd, os edrychwn ar y strategaeth ryngwladol ddrafft, mae'n denau iawn ar yr hyn a wnawn i adeiladu ar ein llwyddiant blaenorol i gyflawni ein potensial llawn o ran yr hyn y gallai trawsnewid diwydiannau creadigol teledu a ffilm, yn benodol, ei gyflawni. Ac unwaith eto, os edrychwch ar yr hyn y gall rhaglenni teledu ei wneud o ran cynhyrchu twristiaeth, mae rhaglenni fel Game of Thrones wedi cael effaith enfawr ar dwristiaeth yn Croatia a Gogledd Iwerddon, er enghraifft, a mannau eraill. Ac yn Seland Newydd, fel y soniais yn gynharach, mae rhan gyfan o’u heconomi dwristiaeth bellach yn seiliedig ar Tolkien a’r llwyddiant a gawsant yno yn sgil y cynhyrchiad The Lord of the Rings. Tybed a ydym yn mynd i gael manylion go iawn yn y strategaeth lawn, oherwydd ar hyn o bryd, ymddengys ei bod yn denau iawn. Ac mae hwn yn amlwg—rwy'n cytuno â chi—mae hwn yn amlwg yn faes lle gall Cymru gael gwir fantais gystadleuol, a dylem geisio gwireddu'r potensial llawn hwnnw ar unwaith. Eluned Morgan AC: Y Dirprwy Weinidog sy'n gyfrifol am faterion yn ymwneud â'r economi greadigol. Yr hyn y byddwch yn ei weld, yn fuan ar ôl lansio'r strategaeth ryngwladol, yw y bydd strategaeth Cymru Greadigol yn cael ei lansio, a bydd hwnnw'n gyfle i roi mwy o gig ar yr asgwrn, fel y gofynnoch chi amdano. A bydd hynny'n digwydd ochr yn ochr â'r strategaeth dwristiaeth hefyd, felly mae honno'n cael ei adnewyddu. Felly, credaf ei bod yn bwysig iawn ystyried y tair strategaeth gyda'i gilydd fel cyfle i ni weiddi. Ac wrth gwrs, mae His Dark Materials yn enghraifft arall lle mae Cymru bellach wedi gwerthu'r gyfres honno'n rhyngwladol, ac mae cyfle i ni sicrhau hefyd ein bod yn manteisio nid yn unig ar ba mor wych ydym ni'n dechnegol mewn perthynas â'r datblygiadau ffilm hyn, ond hefyd mae'n gyfle i ddangos ychydig o dirwedd Cymru hefyd. Dylai hynny annog mwy o dwristiaeth hefyd, gobeithio. David Melding AC: Weinidog, os caf droi at gynhyrchu domestig, mae 27 mlynedd wedi bod bellach ers i ffilm Gymraeg gael ei henwebu am Oscar; Hedd Wyn, yn 1993, sy'n ffilm wych iawn. Ac wrth gwrs, gall hyn fod yn rhan allweddol o'n strategaeth ryngwladol i bortreadu i Gymru fodern y diwylliant Cymraeg hanfodol rydym yn ei fwynhau yma. Nawr, yn ystod ymchwiliad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i'r maes hwn, roedd yna ganfyddiad fod ffilmiau Cymraeg yn fasnachol anhyfyw, ac roedd hynny'n ei gwneud yn anodd i gynhyrchwyr sicrhau cefnogaeth ariannol. Cafwyd beirniadaeth hefyd ynglŷn â'r fiwrocratiaeth sydd ynghlwm wrth hyn ac roedd llawer o bobl yn cwyno am ba mor rhwystredig oedd hynny, cyfreithiol gyfyngol, a disgrifiwyd gofynion eraill fel rhai beichus. Ond credaf fod y strategaeth ryngwladol yn caniatáu i ni fanteisio ar y mathau hyn o bethau hefyd. Ac onid oes lle i Lywodraeth Cymru wneud mwy o lawer i hyrwyddo ffilmiau Cymraeg ar gyfer y gynulleidfa ffilmiau artistig ac arbrofol ryngwladol, a allai arwain at fanteision enfawr o ran canfyddiad pobl ledled y byd o Gymru? Ac yn wir, mae'r gynulleidfa honno'n tueddu i gynnwys llawer iawn o ffurfwyr barn a phenderfynwyr. Eluned Morgan AC: Diolch, mae hynny'n gwbl gywir, ac roedd yn wych gweld Hedd Wyn yn cael ei henwebu yn y sefyllfa honno am Oscar. Ond bu sawl enghraifft cyn hynny. Fy swydd gyntaf oedd gwerthu animeiddio ar gyfer S4C a bu sawl achlysur pan gafodd cwmnïau cynhyrchu animeiddio S4C yng Nghymru lwyddiant yn yr arenâu rhyngwladol hynny hefyd. Credaf mai un o'r pethau sydd angen i ni eu gwneud yw edrych ar ble rydym mewn sefyllfa unigryw o ran teledu a ffilm, ac enghraifft o hynny yw sut rydym yn gwneud cynyrchiadau cefn wrth gefn. Felly, os ydych yn meddwl am rai o'r cynyrchiadau y mae S4C yn eu creu, maent yn gwneud fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg, ac mae hynny'n rhywbeth y credwn sy'n werth ei archwilio i weld a hoffai gwledydd eraill edrych ar sut y gwnawn hynny. Mae hyn yn rhywbeth rwyf wedi'i drafod gyda S4C a chyda rhai cwmnïau teledu eraill. Cynhaliais gyfarfod bwrdd crwn yn ddiweddar gyda phenaethiaid teledu a ffilm yng Nghymru i drafod hyn: beth yw'r peth unigryw y gall Cymru ei gynnig yn y maes hwn? Felly, un o'r pethau rwyf wedi bod yn ceisio'u gwneud yw ceisio penderfynu beth yn union yw'r neges pan fyddwn yn gwerthu teledu a ffilm i'r byd? Beth sy'n ein gwneud yn unigryw? Beth sy'n ein gwneud yn wahanol? Ac yn sicr, mae cynhyrchu cefn wrth gefn yn rhywbeth a nodwyd. Denu Digwyddiadau i Gymru Jayne Bryant AC: 3. A wnaiff y Gweinidog amlinellu strategaeth Llywodraeth Cymru i ddenu digwyddiadau i Gymru? OAQ54870 Eluned Morgan AC: Rydym yn gweithio'n rhagweithiol gyda phartneriaid yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol i nodi a cheisio cyflawni targedau hirdymor i ddenu digwyddiadau diwylliannol, digwyddiadau chwaraeon a digwyddiadau busnes mawr i gael eu cynnal ym mhob rhan o Gymru. Yn ogystal â hyn, rydym yn cefnogi sefydlu, twf a datblygiad ystod eang o ddigwyddiadau wedi'u trefnu yng Nghymru. Jayne Bryant AC: Diolch, Weinidog. Ym mis Rhagfyr y llynedd, cynhaliwyd digwyddiad personoliaeth chwaraeon y flwyddyn BBC Cymru yn y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol newydd yng Nghasnewydd. Roedd yn llwyddiant ysgubol ac roeddwn yn hynod falch o weld y digyffelyb Alun Wyn Jones yn ennill y brif wobr. Yn dilyn hyn, rwyf wedi ysgrifennu at y BBC a'r Ganolfan Gynadledda Ryngwladol yn eu hannog i ystyried y lleoliad ar gyfer cynnal digwyddiad personoliaeth chwaraeon y flwyddyn y DU. Mae tri o'r 13 o bersonoliaethau chwaraeon diwethaf y DU wedi bod yn Gymry, serch hynny, nid yw'r digwyddiad erioed wedi'i gynnal yng Nghymru, yr unig wlad yn y Deyrnas Unedig i beidio â gwneud hynny. Felly, nawr yw'r amser i unioni hyn. Mae Casnewydd, ynghyd â'r Ganolfan Gynadledda Ryngwladol, yn lle perffaith i gynnal digwyddiad personoliaeth chwaraeon y flwyddyn y DU y BBC, ac mae ganddi botensial enfawr ar gyfer digwyddiadau tebyg a'r buddion a ddaw yn eu sgil. A allwch roi eich cefnogaeth a dwyn perswâd er mwyn dod â'r digwyddiad i Gasnewydd a Chymru? Eluned Morgan AC: Am syniad gwych. Mae hynny'n sicr yn rhywbeth yr hoffwn fynd i'r afael ag ef. Rwy'n cael cyfarfodydd rheolaidd gyda'r Celtic Manor a'r bobl sy'n gyfrifol am y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol, ac yn sicr, mae hwnnw'n syniad gwych y byddaf yn bwrw ymlaen ag ef yn frwd. Diolch. Mohammad Asghar (Oscar) AC: Weinidog, efallai y cofiwch i mi eich holi ym mis Tachwedd y llynedd ynglŷn â sicrhau'r budd mwyaf posibl i Gymru yn sgil Gemau'r Gymanwlad 2022, sy'n cael eu cynnal yn Birmingham. Bryd hynny, fe gadarnhaoch chi eich bod wedi cyfarfod â threfnwyr y gemau i weld a allai rhai o'r timau sy'n cystadlu gael eu lleoli yma yng Nghymru. O gofio'ch ateb, a allwch ddweud a ydych wedi gwneud rhywfaint o gynnydd ar hyn i ddenu rhai o'r digwyddiadau chwaraeon eu hunain i gael eu cynnal yng Nghymru, neu a oes posibilrwydd o hyd y bydd hyn yn digwydd? Bydd ein sector lletygarwch yng Nghymru yn gwerthfawrogi'r wybodaeth ddiweddaraf gennych ar y mater hwn yn fawr. Eluned Morgan AC: Diolch. Wel, nid wyf wedi cael cyfarfod diweddar â phobl Gemau'r Gymanwlad, ond byddaf yn ceisio darganfod a ydynt wedi gwneud unrhyw gynnydd wrth geisio cael timau i leoli yma yng Nghymru. Felly, mae hyn yn amlwg yn rhywbeth y mae gennym gryn ddiddordeb mewn bwrw ymlaen ag ef, gan ein bod yn awyddus i sicrhau cymaint o ffocws ag y gallwn ar Gymru yn ystod y cyfnod hwnnw. Rwy'n ymwybodol fod gan Eisteddfod yr Urdd, er enghraifft, gysylltiad strategol bellach â thîm Cymru o ran hyrwyddo Cymru, ac maent yn defnyddio masgot yr Urdd fel y dull o hyrwyddo Cymru yn ystod Gemau'r Gymanwlad. Felly, fe af ar drywydd hynny a gweld a ydym wedi gwneud mwy o gynnydd wrth ddenu pobl i leoli yma. Delyth Jewell AC: Hoffwn holi'r Gweinidog ymhellach ar hynny, os caf, am unrhyw gynnig yn y dyfodol i gynnal Gemau’r Gymanwlad yma ac a ydych wedi dysgu neu siarad â Llywodraeth yr Alban am y buddion a ddaeth i’r Alban, nid yn unig o ran chwaraeon, ond hefyd y buddion diwylliannol a'r buddion i iechyd y cyhoedd a ddaeth i'r wlad honno ar ôl cynnal Gemau'r Gymanwlad. Yn amlwg, roeddem yn siomedig, ynghyd â miliynau—wel, miliynau yn rhyngwladol—o gefnogwyr chwaraeon pan fethodd y cynlluniau i geisio'u cynnal. Mae'r cynigion ar gyfer 2026 a 2030 wedi'u penderfynu ar yr un pryd, ond a allwch ymrwymo i sicrhau y gwneir gwaith yn awr i baratoi'r ffordd inni allu cynnig am gemau 2034? Eluned Morgan AC: Credaf fod 2034 yn ffrâm amser go hir, mae'n orwel eithaf pell i ni fod yn gweithio tuag ato. Mae'n rhaid bod yn glir fod yn rhaid cydbwyso hyn yn erbyn mentrau eraill sydd hefyd ar waith. Er enghraifft, mae Prif Weinidog newydd y DU wedi dweud ei fod yn awyddus iawn i gynnal cwpan pêl-droed y byd. Mae cyfleoedd i'w cael ac mae'n rhaid i ni benderfynu—ni allwn wneud popeth—pa un o'r rhain rydym am geisio amdanynt. Wrth gwrs, mae cynnal y digwyddiadau hyn yn ddrud, ond ceir cyfleoedd gwirioneddol hefyd. Mae cael sylw'r byd arnom yn gyfle na ddylem ei golli. Ond credaf fod 2034 yn rhy bell i ffwrdd yn ôl pob tebyg o ran yr hyn a wnawn i sganio'r gorwel. Mark Reckless AC: Un o fanteision y ganolfan gynadledda ryngwladol a chynnig rhagorol Jayne yw ei lleoliad ar ochr ddwyreiniol Casnewydd yn y Celtic Manor, fel nad oes angen i bobl sy'n dod i ddigwyddiadau yno o Loegr ar hyd y ffordd deithio drwy dwneli Bryn-glas. Oni fyddai adeiladu ffordd liniaru'r M4 yn strategaeth ehangach ar gyfer denu digwyddiadau i Gymru, er enghraifft i Gaerdydd, gan ei gwneud yn bosibl i fwy o bobl eu cyrraedd heb fod mewn tagfeydd hir iawn, sef yr hyn a ddigwyddodd unwaith eto dros gyfnod y Nadolig a'r flwyddyn newydd, a heddiw yn wir? Eluned Morgan AC: Wel, gwn fod y bobl sy'n gyfrifol am ddigwyddiadau yn y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol yn gweithio'n agos iawn gyda chyngor Caerdydd ac yn deall, mewn gwirionedd, os oes ganddynt ddigwyddiad mawr ac os nad oes ganddynt y capasiti, hyd yn oed gyda'r Celtic Manor a'r gwestai eraill cyfagos y maent yn berchen arnynt, fod angen iddynt rannu'r ffyniant ac maent yn awyddus i rannu'r ffyniant. Credaf fod y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol yn ddatblygiad cwbl unigryw i Gymru. Mae cyfle go iawn yma i ni ddod â phobl i Gymru i ddigwyddiadau busnes—cynhaliwyd cynhadledd y gofod yno fel un o'r digwyddiadau agoriadol, a bu'n llwyddiant ysgubol. Ond yr hyn sy'n digwydd gyda digwyddiadau busnes yw bod pobl yn dychwelyd fel ymwelwyr. Yn aml iawn, maent yn unigolion â gwerth net uchel sy'n awyddus, felly, i ddod i wario rhywfaint o arian yng Nghymru. Mae hynny'n sicr yn rhywbeth y mae gennym ddiddordeb ynddo. Byddwch wedi gweld yn ddiweddar ein bod yn falch iawn o weld y byddwn yn cynnal digwyddiad golff mawr yn yr ardal honno yn y dyfodol agos hefyd. Strategaeth Cysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru Leanne Wood AC: 4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gwerthoedd sy'n sail i strategaeth cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru? OAQ54873 Eluned Morgan AC: Bydd y strategaeth ryngwladol yn seiliedig ar set glir o werthoedd fel yr amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Wrth ei gwraidd, bydd yn hyrwyddo tair thema, sef creadigrwydd, cynaliadwyedd a thechnoleg, gyda'r gwerth craidd o hyrwyddo Cymru fel cenedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang. Leanne Wood AC: Nodaf eich sylwadau i ginio masnach ryngwladol cyntaf Siambr Fasnach De Cymru cyn y Nadolig. Yn eich araith, fe sonioch chi am y ffocws ar gloddio data a seiberddiogelwch, gan gyhoeddi mai Cymru yw'r clwstwr mwyaf ar gyfer cwmnïau seiber yn y DU. Nawr, mae taer angen swyddi, yn enwedig yn rhannau mwyaf difreintiedig ein gwlad, ac rwy'n cydnabod bod seiberddiogelwch yn sector sy'n tyfu'n gyflym ac y bydd yn chwarae rhan gynyddol bwysig yn y blynyddoedd i ddod. Ond yr hyn rwy'n ei chael yn anodd derbyn yw bod Llywodraeth Cymru yn ariannu mentrau seiberddiogelwch a gyflawnir gan gwmnïau sy'n ymwneud â'r fasnach arfau. Ystyriwch y ganolfan seiber £20 miliwn rydych wedi'i sefydlu gyda'r gwneuthurwr arfau o Ffrainc, Thales. Mae'r trefniant hwn yn golygu i bob pwrpas fod y Llywodraeth yn fuddsoddwr mewn cwmni sy'n cynhyrchu arfau ar gyfer cyfundrefnau gormesol fel Saudi Arabia. Credir hefyd fod Thales yn cyflenwi cydrannau ar gyfer tanciau Rwsiaidd. A ydych yn cytuno y dylai fod gennym gyfrifoldeb moesegol i fuddsoddi mewn cwmnïau nad ydynt yn ymwneud â'r busnes o gynhyrchu arfau a gynlluniwyd i anafu ac i ladd? Sut y mae hynny'n cyd-fynd â pholisïau'r Llywodraeth ar gyfer llesiant cenedlaethau'r dyfodol? Ac os nad ydych yn cytuno y dylai fod gennym gyfrifoldeb moesegol, a allwch egluro pam i'r Senedd hon? Eluned Morgan AC: Wel, nid wyf am gefnu ar ein hymrwymiad i gefnogi'r sector seiber yng Nghymru. Mae'n rhywbeth y credaf y dylem fod yn wirioneddol falch ohono, ynghyd â'r ffaith ein bod yn datblygu'r ganolfan seiber yng Nglynebwy, ardal ddifreintiedig tu hwnt, lle ceir ymrwymiad i helpu i ddatblygu cyfleuster addysg yno, lle cafwyd digwyddiadau i annog menywod, yn arbennig, i ymuno â'r sector seiberddiogelwch. Credaf fod hyn yn rhywbeth y dylem fod yn wirioneddol falch ohono, ac mae perygl, wrth gwrs, a phosibilrwydd fod cysylltiad i'w gael rhwng amddiffyn a meysydd eraill, ond credaf fod yn rhaid i chi ddeall hefyd fod angen seiberddiogelwch ar bob un ohonom. Mae ei angen arnom ar gyfer ein cyfrifiaduron yma. Mae ei angen ar ffatrïoedd. Mae ei angen arnoch i fynd ar awyren. Mae'n rhywbeth sy'n treiddio i bob agwedd o'n cymdeithas, ac os ydych yn meddwl y gallwch wahanu'r ddau beth, credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn deall pwysigrwydd seiberddiogelwch ym mhob agwedd o'n bywydau, bron â bod. David Melding AC: Lywydd, mae fy nghwestiwn ychydig yn llai rhyfelgar. [Chwerthin.] Os caf droi at Susie Ventris-Field, prif weithredwr Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, mae hi wedi tynnu sylw at ein cyflawniad dinesig gwych yng Nghymru mewn perthynas â hybu heddwch a chydsafiad rhyngwladol. Mae'n dyfynnu enghreifftiau fel y neges heddwch ac ewyllys da gan bobl ifanc Cymru, a fydd, yn yr ychydig flynyddoedd nesaf, yn cyrraedd ei chanmlwyddiant; yr apêl heddwch a wnaed yn 1924, pan lofnododd 40 y cant o fenywod Cymru ddeiseb i fenywod America yn galw arnynt i lobïo arlywydd America i ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd, a gallai hynny fod wedi arwain at ganlyniadau gwahanol iawn; a chysylltiadau hirsefydlog rhwng Cymru a Somalia, Uganda, Lesotho a lleoedd eraill; a sefydliadau fel mudiad gwrth apartheid Cymru. Yn amlwg, mae sefydliadau anllywodraethol a'r sector dinesig yn gyffredinol wedi chwarae rhan enfawr yn anffurfiol yn ein strategaeth gysylltiadau rhyngwladol, felly nawr, yn eich strategaeth ffurfiol, sut y byddwch yn cynnwys y sector hanfodol hwn wrth gyflawni eich strategaeth a'i datblygu yn y dyfodol? Eluned Morgan AC: Diolch. Wel, rydym wedi cael sgyrsiau hir gyda'r sector, maent yn sicr wedi gwneud llawer i'n helpu i ddatblygu'r strategaeth, a chredaf y dylem fod yn falch o'n cyflawniad yng Nghymru mewn perthynas â hyrwyddo heddwch. Fel y dywedwch, credaf y dylem fod yn wirioneddol falch o neges flynyddol yr Urdd i'r byd ac y dylem fod yn ei dathlu, yn sicr pan fyddant yn dathlu'r canmlwyddiant hwnnw yn 2021. O ran y pethau eraill rydym yn awyddus i'w datblygu, gŵyl ryngwladol Llangollen—ni ddylem anghofio iddi gael ei sefydlu'n wreiddiol gyda neges o heddwch yn rhan annatod ohoni. Gwn fod y Prif Weinidog yn awyddus iawn i weld a allwn adfywio hynny, ac rydym wedi bod yn siarad â'r trefnwyr yno i weld a ellir sicrhau bod hynny'n dod yn fwy canolog unwaith eto. Gwn hefyd fod Mererid Hopwood wedi gwneud cryn gynnydd yn datblygu’r academi heddwch, gan weithio gydag amryw brifysgolion ledled Cymru i weld beth y gellir ei wneud yn y maes hwnnw. Felly, credaf fod yna ddatblygiadau diddorol iawn yma y gallem fod yn adeiladu arnynt o ran y math o negeseuon y byddwn yn eu cyfleu ochr yn ochr â'n strategaeth ryngwladol. Gwariant ar Hybu'r Gymraeg Llyr Gruffydd AC: 5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau gwariant ar hybu'r Gymraeg yn y gyllideb ddrafft? OAQ54886 Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr. Mae'r gyllideb ddrafft 2020-21 yn cynnwys dros £37 miliwn i’r Gymraeg. O hyn, mae tua £13 miliwn yn canolbwyntio'n uniongyrchol ar weithgareddau hybu. Mae ein partneriaid grant yn chwarae rôl bwysig wrth gynnig cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r iaith. Rŷm ni'n falch o allu parhau i gyllido 27 partner a 52 papur bro. Llyr Gruffydd AC: Diolch am y rhestr yna. Mi wnaeth y Gweinidog cyllid, wrth gwrs, yn ystod y ddadl ar y gyllideb ddrafft ddoe, ddweudnad oedd cyllideb y Gymraeg yn mynd i gael ei thorri. Allech chi jest, o ran eglurder, felly, i ni, gadarnhau y bydd cynnydd yn unol â chwyddiant yn y gyllideb honno? Fel arall, wrth gwrs, mae yn doriad mewn termau real, onid yw e? Felly, dwi jest eisiau cadarnhad bod yna gynnydd yn unol â chwyddiant, o leiaf hynny, o safbwynt eich cyllideb chi ar gyfer y Gymraeg. Hefyd, dwi'n deall eich bod chi, y bore yma, wedi awgrymu yn y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu efallai y byddai'n ofynnol i chi dorri cyllideb Cymraeg i Oedolion er mwyn gallu cyfeirio peth o'r arian yna at liniaru effeithiau Brexit. Allech chi gadarnhau os ydy hynny yn rhywbeth ŷch chi wir yn ei ystyried, ac efallai esbonio pam targedu Cymraeg i Oedolion yn benodol, a pha elfennau eraill o'ch cyllideb chi y bydd yn cael eu torri am y rheswm hwnnw? Eluned Morgan AC: Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig bod pobl yn deall bod Cymraeg yn cael ei phrif-ffrydio ar draws y Llywodraeth, a'r ffaith yw dŷn ni ddim wedi gweld toriadau yn y cyllid i'r Gymraeg. Beth sydd wedi digwydd yw bod peth o'r gwariant a oedd yn y gyllideb ar gyfer y llinellau addysg wedi symud i linell arall, a dyna pam, efallai, roedd yna rywfaint o ddryswch ynglŷn ag os oedd toriad wedi bod. Rŷm ni wedi dod o hyd i £50,000 ychwanegol i dalu am gostau staff Comisiynydd y Gymraeg, ac rŷm ni hefyd wedi rhoi arian cyfalaf o £0.38 miliwn i'r comisiynydd fel ei fod e'n gallu cael system gyfrifiadurol newydd. Beth rŷm ni'n ei wneud—o ran edrych ar y gyllideb yn gyffredinol, un o'r pethau y gwnes i oedd gofyn i'r bobl sydd yn fy helpu i, i sicrhau ein bod ni ar y trywydd cywir, i edrych ar y cyfeiriad ac ar a ydym ni'n gwneud y pethau iawn o ran cyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr. Mi edrychem ni—. Beth oedd yn amlwg oedd ein bod ni'n gwario lot fwy na hanner y gyllideb sydd gen i ar hyfforddi Cymraeg i Oedolion. Felly, os ŷm ni'n gwneud hynny, mae'n rhaid inni sicrhau bod yr arian yn cael ei wario'n iawn a sicrhau ein bod ni'n cael gwerth am arian. Felly, i fi, beth sy'n bwysig yw ein bod ni yn gyson yn edrych ar a ydym ni'n gwario yn y llefydd cywir. Mae'n rhaid i fi ddweud yn hollol glir fy mod i'n falch iawn gyda'r gwaith y mae'r ganolfan dysgu yn ei wneud, ac mae tua 12,000 o bobl yn dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, ond rŷm ni yn rhoi tua £13 miliwn i'r ganolfan. Felly, mae hi'n gyfran eithaf mawr o'm cyllideb i. Dyna pam dwi eisiau jest craffu yn fwy manwl ar sut mae hynny'n cael ei wario. Suzy Davies AC: Efallai y gallaf i drio ymateb i'r cwestiwn yna, te. Er mwyn osgoi dyfodol o basio'r baich ar y pwnc yma, allech chi egluro'r newidiadau i gyllideb comisiynydd yr iaith Gymraeg y gellir eu priodoli'n uniongyrchol i'w gyfrifoldebau hyrwyddo newydd? Pa arian fydd yn cael ei gadw gan Lywodraeth Cymru am ei chyfrifoldebau hyrwyddo? Achos hoffwn i gadw llygad ar hyn ymlaen llaw. Allech chi hefyd ddweud a fydd cynnydd mewn cyllideb llywodraeth leol a gwasanaethau iechyd yn cynnwys arian ar gyfer gwella eu cydymffurfiad â safonau, gan gynnwys unrhyw gyfrifoldebau am hyrwyddo'r Gymraeg, neu a fyddant yn gallu cael gafael ar arian o brif grŵp gwariant y Gymraeg i'w wneud hynny? Eluned Morgan AC: Wel, rŷm ni wedi sicrhau ein bod ni'n cydweithredu lot yn well nawr gyda'r comisiynydd iaith. Felly, mae gyda ni memorandwm o ddealltwriaeth ynglŷn â phwy sy'n gwneud beth fel ein bod ni ddim yn dyblygu'r gwaith rŷm ni'n ei wneud fel Llywodraeth a'r gwaith mae e'n ei wneud fel comisiynydd. Dwi yn meddwl bod arbedion yn gallu cael eu gwneud, felly, yn y maes yna gan ein bod ni ddim, wedyn, yn dyblygu. O ran beth sy'n digwydd o ran iechyd, un o'r pethau rŷm ni wedi bod yn ei wneud yw helpu pobl i gael hyfforddi a dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r gyllideb yna ar hyn o bryd yn dod oddi wrthym ni ar gyfer iechyd. Roeddwn ni'n gobeithio yn y pen draw y bydd yr adran ei hunan yn cymryd y cyfrifoldeb dros hyfforddi pobl trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r un peth yn wir hefyd yn ymwneud â hyfforddi athrawon i addysgu pobl ifanc, er enghraifft. Felly, ar hyn o bryd, mae hwnna'n dod o dan y ganolfan dysgu genedlaethol, a ni sy'n ariannu hwnna; gobeithio, yn y tymor hir, bydd hwnna'n cael ei gymryd i mewn i'r adrannau eu hunain. Ymarferwyr Blynyddoedd Cynnar sy'n Siarad Cymraeg Jenny Rathbone AC: 6. Pa strategaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei defnyddio i gynyddu nifer yr ymarferwyr blynyddoedd cynnar sy'n siarad Cymraeg? OAQ54879 Eluned Morgan AC: Mae'r sector blynyddoedd cynnar yn hanfodol i'n nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg. Rydym yn gweithio ar raglenni fel Cynnydd ar gyfer Llwyddiant a Camau i ddatblygu sgiliau Cymraeg yn y gweithlu presennol a sicrhau bod y rhai sy'n ymuno â'r sector yn gallu defnyddio'r iaith yn hyderus. Jenny Rathbone AC: Diolch. Weinidog, fe fyddwch yn gwbl ymwybodol fod yna alw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg ar lefel gynradd ac uwchradd, ac yng ngoleuni'r duedd gynyddol honno, tybed pa ystyriaeth y mae'r Llywodraeth wedi'i rhoi i sicrhau cynnydd pellach yn nwyieithrwydd cymunedau Saesneg uniaith trwy sicrhau y byddai'r cynnig gofal plant estynedig, a oedd drwy gyfrwng y Gymraeg yn bennaf, yn rhoi'r gallu i blant tair a phedair oed amsugno dwyieithrwydd yn y ffordd y mae cath yn llarpio soseraid o laeth. Mae'n ymddangos i mi fod hwn yn gyfle a gollwyd yn y cynnig gofal plant i deuluoedd sydd i'w groesawu'n fawr a chost gofalu am blant ifanc, yn ogystal ag i'r plant hynny. Felly, o ystyried bod yr ymarferwyr blynyddoedd cynnar mewn lle fel Caerdydd yn dod o gymunedau Saesneg eu hiaith yn bennaf, tybed pa strategaeth y gellid ei defnyddio i sicrhau cynnydd cyflym yn nifer y bobl sy'n ymarferwyr blynyddoedd cynnar rhagorol yn ogystal â siaradwyr Cymraeg. Eluned Morgan AC: Mae'n rhaid i ni fod yn ymwybodol ein bod yn awyddus iawn i gyrraedd y targed hwn, ond er mwyn sicrhau bod hynny'n gweithio mae'n rhaid i ni sicrhau bod gennym y nifer iawn o bobl a all addysgu. Dyna pam y mae gennym 350 o ymarferwyra fydd yn elwa o'r rhaglen Camau. Mae honno’n cynnig hyfforddiant iaith Gymraeg gan ymarferwyr gofal plant a chwarae. Y gwir amdani yw bod gennym y cynnig gofal plant a thua 30 y cant o'r cynnig gofal plant hwnnw sydd drwy gyfrwng y Gymraeg. Felly, mae'n bwysig iawn fod pobl yn deall bod yna gyfle yno. Mae gennym y Mudiad Meithrin hefyd. Maent yn cyflawni rhaglen o'r enw Croesi'r Bont sef system drochi i sicrhau bod gan bobl sgiliau datblygu gofal plant. Datblygwyd diploma lefel 3 gyda’r Mudiad Meithrin, felly mae pobl yn mynd trwy'r system honno. Ac yna, ar ben hynny, mae ein swyddogion yn gweithio gyda'r Urdd ac mae ganddynt lawer o brofiad o brentisiaethau ac felly rydym yn ceisio eu cael i gyflogi mwy o brentisiaid trwy gyfrwng y Gymraeg i edrych yn benodol ar ofal plant. Arian y Loteri Dawn Bowden AC: 7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddosbarthiad arian y loteri yng Nghymru? OAQ54871 Dafydd Elis-Thomas AC: Diolch, Dawn. Dathlodd y Loteri Genedlaethol ei phen-blwydd yn 25 y llynedd. Ers 1994 mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol wedi cefnogi tua 50,000 o brosiectau ledled Cymru gyda buddsoddiadau gwerth bron i £1.75 biliwn. Mae hyn yn amlwg wedi cael effaith drawsnewidiol ar gyllid ar gyfer y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, achosion elusennol a phrosiectau cymunedol ledled Cymru. Dawn Bowden AC: Diolch am yr ymateb hwnnw, Ddirprwy Weinidog. Rwy’n gweld gwerth arian y loteri gyda fy llygaid fy hun yn fy etholaeth, yn enwedig pan fyddaf yn cyfarfod â grwpiau cymunedol a sefydliadau eraill sy'n fuddiolwyr lleol. Fodd bynnag, rwy'n awyddus i weld pob ymdrech yn cael ei gwneud i sicrhau mwy fyth o arian i'n cymunedau mwy difreintiedig. Felly, a allwch ddweud wrthyf beth arall y gellid ei wneud trwy eich rôl mewn perthynas â dosbarthu cyllid loteri i helpu i ddiwallu anghenion cymunedau fel Merthyr Tudful a Rhymni yn benodol? Dafydd Elis-Thomas AC: Wel, rwy'n falch o gadarnhau bod gwariant y loteri ym Merthyr Tudful a Rhymni, fel y gwyddoch, dros £13 miliwn dros gyfnod y gwariant hwnnw ac mae 70 o brosiectau wedi'u cwblhau neu wrthi'n cael eu cyflawni. Ac fe fyddwch yn gwybod, am ein bod wedi ymweld â rhai o'r prosiectau hyn gyda'n gilydd, am y gwaith pwysig a wnaed ac sy'n dal i gael ei ddatblygu yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa, y dyfarnwyd arian iddi ar gyfer prosiect clyweledol ym mis Ionawr 2018. Nawr, o ran parc Cyfarthfa, mae cais prosiect Ailddarganfod Parc Cyfarthfa, a gyflwynwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, yn dal i fod yn agored i drafodaeth bellach—gallaf gadarnhau hyn—rhwng y cyngor bwrdeistref a'r loteri. Ac rwy'n gobeithio y deuir o hyd i ffordd o gyflawni hyn oherwydd, yn amlwg, mae budd cymunedol yn un o’r meini prawf sy’n dangos effeithiolrwydd gwariant loteri. Byddaf yn parhau i sicrhau, yn fy nhrafodaeth gyda'r Loteri Genedlaethol yng Nghymru—byddaf yn cyfarfod â'r cadeirydd a'r prif weithredwr yn rheolaidd iawn, ac fe wnaf yn siŵr bod yr agweddau hyn yn cael eu trafod yn llawn yn ein cyfarfod nesaf. Digwyddiadau Chwaraeon Mawr Angela Burns AC: 8. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i adeiladu ar waddol digwyddiadau chwaraeon mawr a gynhelir yng Nghymru? OAQ54882 Eluned Morgan AC: Rydym wedi ymrwymo i adeiladu ar lwyddiant Cymru yn cynnal digwyddiadau mawr ac yn gweithio'n rhagweithiol gyda pherchnogion digwyddiadau o Gymru, y DU ac yn rhyngwladol i sicrhau'r buddion ehangach mwyaf posibl o ddigwyddiadau chwaraeon, digwyddiadau diwylliannol neu ddigwyddiadau busnes i gymunedau ledled Cymru. Angela Burns AC: Weinidog, fel y gwyddoch, dros y blynyddoedd diwethaf, mae de Sir Benfro a Dinbych-y-pysgod yn enwedig wedi dod yn amlwg iawn yn y gymuned triathlon gyda chynnal digwyddiad Ironman Cymru—un o'r heriau chwaraeon anoddaf yng nghalendr Ironman. Bob mis Medi, mae miloedd o bobl yn heidio i'r ardal i gystadlu yn y gystadleuaeth, sy'n cynnig slotiau cymhwyso ar gyfer digwyddiad pencampwriaeth y byd yn Hawaii. Cynhelir y digwyddiad dros un penwythnos o'r flwyddyn yn unig, ond mae'n denu cystadleuwyr o bob cwr o'r byd. Pa ymdrechion y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i harneisio’r sylw rhyngwladol y mae’r ardal yn ei gael bob mis Medi ac i sicrhau bod gwaddol y digwyddiad hwn yn cael ei wireddu trwy gydol y flwyddyn ac ar gyfer y genhedlaeth nesaf o gystadleuwyr Ironman posibl yn lleol? Ac os caf, Weinidog, wrth siarad am y genhedlaeth nesaf o ddarpar gystadleuwyr Ironman, a gaf fi ofyn ichi ymuno â mi i longyfarch fy etholwr Cameron Tallis? Mae Cameron yn byw ym Mhenfro, mae'n mynd i Goleg Sir Benfro, ac yn 18 oed a phedwar diwrnod, yn 2019, ef oedd yr Ironman Cymru ieuengaf erioed. Eluned Morgan AC: Wel, fe hoffwn ei longyfarch. Rwy'n credu ei bod yn rhyfeddol y gall unrhyw un gyrraedd unrhyw le yn agos at hyn. Mae'n rhyfeddol o ystyried yr hyn sy'n rhaid iddynt ei gyflawni. Fe gyflawnodd fy nghefnder y ras eleni ac roedd y stamina sydd ei angen arnoch i’w wneud yn anhygoel, ac maent yn dechrau ar ryw adeg chwerthinllyd o'r bore hefyd. Felly, llongyfarchiadau i unrhyw un sy'n cyrraedd unrhyw le'n agos at hyn. Rwy'n siŵr bod gan bob un ohonom addunedau blwyddyn newydd, ond nid yw hyn yn un o fy addunedau i. [Chwerthin.] Tynnwyd cwestiwn 9 [OAQ54860] yn ôl. Cwestiwn 10—Dai Lloyd. Atyniadau Twristiaeth yng Ngorllewin De Cymru Dai Lloyd AC: 10. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyrwyddo atyniadau twristiaeth yng Ngorllewin De Cymru? OAQ54874 Dafydd Elis-Thomas AC: Diolch yn fawr am y cwestiwn. Mae de-orllewin Cymru yn gyrchfan arbennig i ymwelwyr. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi er mwyn gwella ansawdd yr hyn y gall yr ardal ei gynnig ac mae wedi ymrwymo i barhau i ddatblygu twristiaeth yno a thrwy Gymru. Dai Lloyd AC: Gweinidog, gan fod Cymru wedi cyrraedd pencampwriaeth pêl-droed yr Ewros y flwyddyn yma eto, mae hyn yn gyfle gwych i hyrwyddo Cymru i dwristiaid—rwy'n gobeithio y buasech chi'n cytuno. Mae busnesau yn fy rhanbarth i, yng Ngorllewin De Cymru, eisoes wedi gofyn beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddefnyddio'r bencampwriaeth bwysig yma i hyrwyddo'n atyniadau gwych, nid dim ond yn lleol yng Ngorllewin De Cymru ond ledled Cymru gyfan. A allwch chi amlinellu gwaith y Llywodraeth ar hyn ac awgrymu ffyrdd y gall busnesau lleol fod yn rhan o unrhyw ymgyrch farchnata tra bo Cymru yn ennill pencampwriaeth bêl-droed? Dafydd Elis-Thomas AC: Diolch yn fawr am y sylw yna. Fe wnaf i eich sicrhau chi y byddaf yn trafod hyn yn benodol gyda'r gymdeithas bêl-droed a chyda Chwaraeon Cymru i weld pa fodd y gallwn ni'n arbennig ddatblygu'r agweddau cymunedol, oherwydd un o'r llwyddiannau sydd yn dilyn proffil uchel i dimau rhyngwladol, mewn rygbi ac mewn chwaraeon eraill, ac mewn pêl-droed yn benodol yn yr achos yma, yw bod pêl-droed cymunedol, a diddordeb mewn pêl-droed, yn gallu cynyddu a datblygu. Dwi'n eich sicrhau chi y bydd hynny'n cael ei osod ar agenda'r drafodaeth, fel bod cyllid Llywodraeth Cymru tuag at y gymdeithas bêl-droed a'r cyngor chwaraeon hefyd yn effeithio ar ddiddordeb cymunedol, ac yn cynhyrfu rhagor o ddiddordeb cymunedol yn y maes, gan gynnwys pêl-droed menywod, sydd yn ddatblygiad yr wyf wedi'i fwynhau'n arbennig yn ystod fy nghyfnod fel Gweinidog. Ac yn olaf, cwestiwn 11—Rhun ap Iorwerth. Adnoddau Pêl-droed 3G Cymunedol Rhun ap Iorwerth AC: 11. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fuddsoddi mewn adnoddau pêl-droed 3G cymunedol? OAQ54851 Dafydd Elis-Thomas AC: Diolch yn fawr am y sylw yna. Rydym ni wedi buddsoddi'n sylweddol yn barod drwy Chwaraeon Cymru, sy'n arwain ein buddsoddiad mewn caeau pêl-droed 3G ac artiffisial. Maen nhw wedi buddsoddi£3.731 miliwn yn y grŵp cyfleusterau chwaraeon cydweithredol, sy'n cynnwys Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Undeb Rygbi Cymru a Hoci Cymru. Mae hyn wedi helpu Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru i sefydlu 77 o gaeau chwarae 3G yng Nghymru. Y targed yw creu 100 o'r caeau yma erbyn 2024. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch yn fawr iawn am yr ymateb yna, a dwi am eich annog chi i fuddsoddi ymhellach ac i fuddsoddi'n benodol yn Ynys Môn. Gan gyfeirio at y cwestiwn blaenorol ynglŷn â phêl-droed rhyngwladol, fydd yna ddim pêl-droed rhyngwladol heb bêl-droed llwyddiannus yn ein pentrefi a'n trefi ni ym mhob cwr o Gymru. Dwi'n edrych ymlaen at ddilyn tîm Cymru draw i Azerbaijan yn nes ymlaen eleni, ond fyddwn ni ddim yn gallu gwneud hynny mewn blynyddoedd i ddod heb fuddsoddi yn y grass roots fel petai. Mae yna gae 3G bendigedig yn Llangefni, mae yna fuddsoddiad yn mynd i fod mewn uwchraddio adnoddau ym Mhorthaethwy. Mae gwirioneddol angen caeau 3G newydd yng Nghaergybi ac yn Amlwch. Dwi wedi cynnal cyfarfodydd yn barod efo aelodau o'r cymunedau hynny sy'n barod i wneud beth bynnag sydd ei angen i ddod â'r buddsoddiad i mewn. Mae'r cyngor sir â chynllun dros y blynyddoedd nesaf o wneud buddsoddiad, ond mae angen y buddsoddiad rŵan. Gaf i ofyn am ymrwymiad gan y Llywodraeth i weithio efo fi ac eraill a'r cyngor sir a grwpiau cymunedol, cwmnïau budd cymunedol, yn Ynys Môn i wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu chwilio am bob ffordd i dynnu'r arian i mewn i ddod â'r adnoddau yma sy'n hanfodol, nid dim ond ar gyfer dyfodol y gêm brydferth ond ar gyfer ein hiechyd ni fel cenedl? Dafydd Elis-Thomas AC: Yn naturiol, rydw i'n mynd i gytuno efo hynny. Ces i'r cyfle i agor maes newydd ym Mharc Eirias yn y sir dwi'n byw ynddi, a dwi'n gwybod pa mor bwysig ydy'r adnodd yma ar gyfer pob math o chwaraeon lle mae'r meysydd yma'n addas. Felly, beth wnaf i ydy cyfleu'r hyn sydd wedi'i ddweud yma heddiw i Chwaraeon Cymru a gofyn am adroddiad pellach ar y cynnydd y maen nhw'n ei wneud yn Ynys Môn yn arbennig. Ac rydw i'n derbyn nad yw hi'n bosibl i gael pêl-droed rhyngwladol yng Nghymru os nad ydy o'n cynnwys y fam ynys yn ogystal. Diolch i'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog am gwblhau'r holl gwestiynau ar eu cyfer nhw y prynhawn yma. 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Mae'r cwestiynau nesaf i Gomisiwn y Cynulliad, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Jack Sargeant, ac i'w ateb gan Joyce Watson. Jack Sargeant. Y Cynllun Achredu Rhuban Gwyn Jack Sargeant AC: 1. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am gyfranogiad yn y cynllun achredu Rhuban Gwyn? OAQ54867 Joyce Watson AC: Diolch am y cwestiwn hwnnw, ac mae'r Comisiwn yn cefnogi Diwrnod y Rhuban Gwyn bob blwyddyn drwy ganiatáu i'r ystâd gael ei defnyddio ar gyfer digwyddiad a drefnwyd gennyf ers 2007. Caiff hynny ei hysbysebu ar draws yr ystâd. Gosodir hysbysiadau ar fewnrwydi Aelodau a staff, a chodir arian drwy werthu'r rhubanau gwyn yn Nhŷ Hywel ac yn y Senedd, heb sôn am y ffordd y mae llawer o'r Aelodau yma, ers 2007, wedi ymgyrchu'n frwd ac wedi hyrwyddo achos y Rhuban Gwyn. Jack Sargeant AC: Diolch ichi am yr ateb hwnnw, ac rwy'n eich canmol am eich gwaith caled dros y blynyddoedd lawer, ers 2007—mae wedi bod yn allweddol yn y gwaith o godi proffil yr ymgyrch yma yng Nghymru, a chefais y fraint o siarad yn y digwyddiad y buoch yn helpu i'w gynnal yn y Senedd y llynedd. Fel y gwyddoch, fel y gŵyr yr Aelodau, yn dilyn marwolaeth drasig fy nhad, rwyf wedi ymrwymo i barhau â'i waith caled i gefnogi'r ymgyrch bwysig hon, felly i mi mae'n ymddangos yn rhesymegol mai ein cam nesaf yw i'r sefydliad hwn, y Senedd hon, ddilyn ôl traed cynghorau fel fy un i yn Sir y Fflint a Chyngor Tref Cei Connah a chael ei hachredu'n llawn. Felly, a wnaiff y Comisiwn gyfarfod â mi a'r ymgyrch Rhuban Gwyn i wneud yn siŵr bod hyn yn digwydd yn y dyfodol? Diolch. Joyce Watson AC: Rydym wedi ymrwymo i fynd ar drywydd hyn yn ystod y flwyddyn sydd i ddod, oherwydd y llynedd canolbwyntiodd y Comisiwn ar urddas a pharch yn y gweithle yn gyffredinol, ac mae hynny'n cynnwys llesiant, cydraddoldeb hil a rhyw fel rhai o'r eitemau hynny, ac mae'r gwaith hwnnw'n cael ei adolygu. Cyfarfûm â phrif weithredwr newydd y Rhuban Gwyn—gwneuthum hynny ym mis Tachwedd—a thrafodais eu cynllun achredu. Ac o'r drafodaeth honno, canfûm eu bod yn adolygu'r cynllun hwnnw mewn gwirionedd. Gan ein bod hefyd yn adolygu ein cynllun ni, roedd i'w weld yn gwneud rhywfaint o synnwyr i aros tan y flwyddyn nesaf, ar ôl i'r adolygiad hwnnw gael ei wneud, pan allwn asesu'r cynlluniau sydd gennym i roi'r ddau at ei gilydd a symud ymlaen yn gadarnhaol y flwyddyn nesaf. Diolch i'r Comisiynydd. 4. Cwestiynau Amserol Y cwestiynau amserol sydd nesaf. Mae'r cwestiwn cyntaf i'r Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth, a'r cwestiwn i'w ofyn gan David Rees. Tata Steel David Rees AC: 1. Yn dilyn y sylwadau a wnaed gan gadeirydd grŵp Tata Sons, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau dyfodol cynhyrchu dur yng Nghymru ym Mhort Talbot? 374 Ken Skates AC: A gaf fi ddiolch i Dai Rees am ei gwestiwn a'i sicrhau y byddwn yn parhau i ymgysylltu â Tata Steel ar bob lefel i drafod sut y gallwn gefnogi cynaliadwyedd hirdymor gweithfeydd dur yng Nghymru, gan gynnwys safle Port Talbot wrth gwrs? David Rees AC: A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei ateb? Ddydd Sul, yn The Sunday Times, nododd y cyfweliad a gyhoeddwyd gyda Mr Natarajan Chandrasekaran—cadeirydd Tata Sons, sef rhiant-gwmni Tata Steel—yn glir na fyddent i bob pwrpas yn ystyried cynnal colledion yn y cynhyrchiant dur y tu allan i India. Yr hyn a ddywedodd oedd, 'Pam y dylai India barhau i ariannu colledion o'r fath?'. Nawr, nid yw hyn yn newydd i'r gweithlu, rwy'n tybio. Cyfarfûm â'r undebau wrth gwrs, cyfarfûm â'r rheolwyr ac yn amlwg maent yn deall mai ymwneud â chreu cynaliadwyedd roedd y rhaglen drawsnewid fel bod eu busnes yn gallu bod yn hunangynhaliol yn y dyfodol. Fodd bynnag, dyma sioc arall i’r gweithlu, gan ei gwneud yn glir iawn iddynt beth yw’r heriau sydd o’u blaenau yn dilyn y cyhoeddiad cyn y Nadolig y bydd 1,000 o swyddi’n cael eu colli yn y DU drwy Tata. Mae'n creu mwy o ansicrwydd yn y gweithlu. Mae'r gweithlu wedi gwneud cymaint ag y gallant, i bob pwrpas. Maent yn gwneud popeth posibl i sicrhau bod cynhyrchiant yn gwella. Maent yn gwneud popeth posibl i wneud y cynhyrchion ar gyfer pen uchaf y farchnad. Efallai ei bod hi'n bryd bellach i Lywodraeth y DU wneud penderfyniad p'un a yw am gael diwydiant cynhyrchu dur yn y DU. Rwyf hefyd yn gwerthfawrogi gweithredoedd Llywodraeth Cymru hyd yma. Rydych chi wedi bod yn gefnogol i ddiwydiant dur Cymru. Ond daw pwynt bellach lle mae'n rhaid i chi wneud argymhellion a galwadau cryf ar Lywodraeth y DU. A wnewch chi alw ar Lywodraeth y DU yn awr, boed yn ysgrifenedig neu drwy fynd i’w gweld, a chan gynnwys y Prif Weinidog, i ailgychwyn y cyngor dur, i gael yr agenda drafod hon ar waith fel y gallwn siarad am ddyfodol dur y DU er mwyn cael cytundeb y sector dur wedi'i gytuno gyda'r Ysgrifennydd Gwladol? Efallai y gallwch wahodd yr Ysgrifennydd Gwladol i ddod i drafodaethau yng ngwaith Port Talbot ei hun fel y gall weld yn y fan a'r lle beth yw pwysigrwydd dur i economi Cymru. Ac efallai y gallech chi eich hun fynd i India i gyfarfod â Mr Chandrasekaran i drafod sut ddyfodol sydd i Tata yng Nghymru, oherwydd mae hwn yn ddiwydiant allweddol, nid yn unig i fy nghymunedau i ond i lawer o gymunedau ledled Cymru. Felly, mae angen inni sicrhau y gallwn ddiogelu dur, ond yn anffodus, nid yw'r dulliau ar gyfer gwneud hynny yn eich dwylo chi—y rhan fwyaf ohonynt—maent yn nwylo Llywodraeth y DU, ac mae'n rhaid i ni eu cael hwy i wneud rhywbeth. Ken Skates AC: Rwy’n cytuno'n llwyr â'r hyn y mae Dai Rees wedi'i ddweud. Nid wyf yn credu y byddai llawer o wledydd yn unrhyw le ar y blaned yn barod i roi'r gorau i'w gallu i gynhyrchu dur a hoffwn annog Llywodraeth y DU i ddangos cyn gynted â phosibl nad yw'n fodlon troi ei chefn ar allu Prydain i gynhyrchu dur chwaith. Roedd y cyfweliad, fel y dywedodd Dai Rees, yn cynnwys datganiad sy'n hollol gyson â datganiadau blaenorol gan Tata Steel, gan gynnwys y rhai sydd wedi'u cynnwys yn nogfennau'r cynllun trawsnewid. Nawr, rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud bod cymuned cynhyrchu dur Ewrop yn wynebu ystod eang o heriau enfawr. Ond yma yn y DU, gall Llywodraeth y DU weithredu tri cham fwy neu lai ar unwaith i fynd i'r afael â'r pwysau sydd ar Tata yn y DU a llawer iawn o gwmnïau cynhyrchu dur a chwmnïau ynni dwysedd uchel eraill. Yn gyntaf oll, rhaid iddynt weithredu ar brisiau ynni uchel ac anwadal, fel y mae Dai Rees wedi nodi.Yn ail, rhaid iddynt gyflawni bargen y sector dur.Ac yn drydydd, fel y bûm yn galw amdano ers amser maith, rhaid iddynt gynnull y cyfarfod a ganslwyd o’r bwrdd crwn ar ddur ar gyfer y DU. Ddydd Llun yr wythnos hon, cyfarfûm â Gweinidogion Llywodraeth y DU a phwysleisio eto yr angen iddynt weithredu ar unwaith ar y prisiau ynni uchel hynny sy'n gwneud cynhyrchu dur yn y DU yn anghynhyrchiol, ac sydd hefyd yn effeithio ar gystadleurwydd y sylfaen yma yn y DU. Rhaid iddynt weithredu'n fuan oherwydd, fel y mae'r cyfweliad hwnnw wedi'i ddangos i lawer o ddarllenwyr yn ôl pob tebyg, mae’r amynedd yn brin ynghylch y ffordd nad yw Llywodraeth y DU yn gweithredu. Russell George AC: A gaf fi gytuno â rhywfaint o'r hyn y mae David Rees wedi'i ddweud o ran y sylwadau siomedig gan y cadeirydd? Mae hynny'n amlwg yn mynd i fod yn destun pryder i'r gweithlu o 4,000 yn Tata Steel. Yn amlwg, mae rolau yma ar gyfer Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU; mae gan y ddwy Lywodraeth ysgogiadau at eu defnydd. Tybed a fyddai'r Gweinidog yn croesawu'r camau y mae Llywodraeth y DU wedi'u cymryd i ddigolledu gweithgynhyrchwyr ynni-ddwys am gostau ynni adnewyddadwy a chostau polisïau newid hinsawdd. A fyddai'r Gweinidog hefyd yn cytuno â mi nad yw'r broblem gyda'r diwydiant dur yn gyfyngedig i un peth, nid yw'n gyfyngedig i drydan yn unig, mae yna nifer o broblemau, a'r brif broblem yw pris isel dur yn rhyngwladol yn sgil gorgapasiti byd-eang? Ceir mater ardrethi busnes hefyd, ac roeddwn yn meddwl tybed a allai'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ar unrhyw gamau pellach y gall eu cymryd mewn perthynas â lleddfu ardrethi busnes i'r diwydiant. Y llynedd, naill ai mewn datganiad neu mewn cwestiwn fel hwn, fe sonioch chi sut y gallai cyhoeddiad Tata effeithio ar weithwyr medrus ym Mhort Talbot a gweithfeydd eraill yng Nghymru. Fe sonioch chi y byddai'n ychydig fisoedd cyn y gellid cynnal dadansoddiad fesul swyddogaeth—credaf mai dyna oedd y geiriau. Ychydig fisoedd yn ddiweddarach, tybed a ydych wedi cael unrhyw ddiweddariad ganddynt, neu os nad ydych, pryd rydych chi'n disgwyl y gallai hynny ddigwydd. A throi at beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, ers mis Tachwedd, pan ofynnais y cwestiwn—roedd yn sôn rhywbeth am ardrethi busnes eto. Ond beth arall, ar wahân i ardrethi busnes, y credwch chi y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu'r diwydiant i fod yn strwythurol gystadleuol yma yng Nghymru? Mae'r etholiad cyffredinol wedi bod, a chan fod Brexit yn mynd i ddigwydd, tybed pa drafodaethau a gawsoch gyda Llywodraeth newydd y DU—rwy'n sylweddoli nad oes llawer o amser wedi bod ers i'r Llywodraeth honno ddod i rym—ar ailedrych ar y pryderon ynghylch cystadleuaeth a fynegwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd ynglŷn â'r uno arfaethedig. Hefyd, mewn byd ar ôl Brexit, byddai rhai'n dadlau bod rhywfaint o hyblygrwydd ynghylch rheoliadau allyriadau presennol yr UE, a tybed beth yw barn Llywodraeth Cymru ar ddarparu hyblygrwydd ychwanegol dros reoliadau allyriadau ar gyfer y diwydiant dur, gan ystyried datganiad argyfwng hinsawdd Llywodraeth Cymru hefyd wrth gwrs. Tybed beth yw eich barn ar hynny. Ac yn olaf, beth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i ddiweddaru canllawiau caffael cyhoeddus yn adrannau Llywodraeth Cymru er mwyn gallu ystyried unrhyw ffactorau amgylcheddol wrth i Lywodraeth Cymru gaffael dur? Ken Skates AC: A gaf fi ddiolch i Russell George am ei gwestiynau? Er fy mod yn cydnabod bod rhywfaint o gamau wedi'u cymryd gan Lywodraeth y DU, yn ôl y diwydiant ei hun, mae'r gweithredu hwnnw'n annigonol, boed ar ffurf y gronfa a sefydlwyd ar gyfer cwmnïau ynni dwys, neu'r fenter dur gwyrdd. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n gwbl hanfodol yw ei bod yn gwrando ar y sector mewn cyfarfod bwrdd crwn wedi'i ailgynnull ac yn gweithredu ar sail yr hyn a ddywedant, yr hyn y mae'r busnesau hynny'n dweud sydd ei angen yn y DU. Ar sail yr hyn a glywaf yn gyson, y broblem fwyaf sy'n eu hwynebu yw prisiau ynni cyfnewidiol sy'n aml yn rhy uchel. Rwy'n disgwyl adborth y mis nesaf ar y rolau y bydd cyhoeddiad Tata cyn y Nadolig yn effeithio arnynt. Os caf unrhyw wybodaeth cyn mis Chwefror, byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau yn unol â hynny wrth gwrs. Meysydd eraill o gymorth y tu hwnt i ardrethi busnes, efallai—sy'n fater y bydd fy nghyd-Aelod, y Gweinidog cyllid, yn rhoi llawer o sylw iddo—rydym yn ystyried cymorth pellach wrth gwrs ar gyfer cyfleoedd ymchwil a datblygu er mwyn sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar dechnolegau newydd a'r rhai sy'n dod i'r amlwg yma ac y gellir gweithgynhyrchu cynhyrchion newydd yma yng Nghymru ac y gellir cynhyrchu'r dur ar eu cyfer ym Mhort Talbot. Yn ôl pob tebyg, ni fydd Tata'n ailedrych ar yr uno, ac felly mae'n annhebygol iawn yr ailedrychir ar benderfyniad Comisiwn yr UE. Fodd bynnag, yn ystod y trafodaethau y byddaf yn eu cael gyda Tata yn ystod yr wythnosau nesaf, mae hwn yn fater y byddaf yn ei godi gyda hwy. O ran allyriadau, mae gwir angen lleihau allyriadau carbon ledled Cymru a ledled y byd, a dyna pam y buom yn buddsoddi mewn adeiladau gorsaf bŵer gwell o fewn y gwaith ym Mhort Talbot a pham ein bod, drwy'r galwadau i weithredu yn y cynllun gweithredu economaidd, yn buddsoddi yn y gwaith o ddatgarboneiddio diwydiant, a gweithgynhyrchu yn benodol. Hoffwn annog Llywodraeth y DU i helpu yn hyn o beth drwy sicrhau bod strategaeth ddiwydiannol y DU a'r heriau amrywiol y mae'n eu cefnogi o fudd i Gymru lawn cymaint ag y mae o fudd i rannau eraill o'r DU. Yn olaf, ar gaffael, a'r mater hynod bwysig y mae'r Aelod yn ei godi, fe fydd yn gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid wedi cyhoeddi hysbysiad cyngor caffael ym mis Ionawr y llynedd sy'n cefnogi'r broses o gyrchu a chaffael dur cynaliadwy mewn prosiectau adeiladu a seilwaith yng Nghymru. Yn ogystal, ers ei lansio, mae Gwerth Cymru wedi bod yn hyrwyddo manteision llofnodi'r siarter dur—Llywodraeth Cymru oedd y cyntaf i lofnodi'r siarter dur—i awdurdodau lleol ledled Cymru, drwy gyswllt uniongyrchol a thrwy sesiynau grŵp, yn y gogledd ac yn y de. Jack Sargeant AC: Weinidog, mae dyfodol y gweithfeydd ym Mhort Talbot ac yn Shotton yn gysylltiedig drwy'r gadwyn gynhyrchu, ac rwy'n sefyll yn gadarn gyda fy nghyd-Aelod, David Rees, yn fy nghefnogaeth i'r gweithlu ym Mhort Talbot a'r gweithwyr dur ledled Cymru. Mae'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru bob amser wedi cefnogi'r diwydiant dur, ac unwaith eto rhaid inni ddangos pa mor bwysig ydyw i Gymru. Nawr, mae parhau i gefnogi ac ariannu'r gwaith o hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o weithwyr dur, gan uwchsgilio'r gweithlu presennol ar yr un pryd, yn allweddol i'r gefnogaeth honno. Byddai hyn yn anfon neges glir fod Cymru wedi ymrwymo i ddyfodol ei diwydiant dur. A wnewch chi addo parhau'r cyllid a'r gefnogaeth honno? Hefyd, a wnewch chi ddefnyddio eich amser heddiw, Weinidog, i gofnodi eich rhwystredigaeth gyda Llywodraeth Geidwadol y DU yn San Steffan, sydd wedi methu'n llwyr â chefnogi'r diwydiant dros y blynyddoedd? Mae fy etholwyr wedi gweld hyn yn fwy na neb, ers dros 20 mlynedd. A wnewch chi alw arnynt i ddilyn eich arweiniad yn Llywodraeth Cymru a dod yn ôl at y bwrdd a dangos y gefnogaeth sydd ei hangen o'r diwedd i achub ein dur? Ken Skates AC: A gaf fi ddiolch i Jack Sargeant am ei gwestiynau a'i gyfraniad? Mae Llywodraeth y DU wedi bod yn gwneud datganiadau diweddar iawn a fyddai'n awgrymu ei bod yn barod i fod yn fwy ymyraethol nag y bu ers 2010. Hoffwn eu hannog i ddefnyddio dur a'r angen i ymyrryd yn yr hyn sy'n digwydd i ddiwydiant dur y DU i ddangos parodrwydd i fod yn fwy rhagweithiol er mwyn achub swyddi gwerthfawr, medrus, sy'n talu'n dda. Bydd y Prif Weinidog a minnau'n ymweld â Tata yn Shotton gyda'n gilydd yn ystod yr wythnosau nesaf. Rwy'n edrych ymlaen at dderbyn yr Aelod yno, siarad gyda'r rheolwyr, gydag undebau, gyda'r gweithlu, ac yn arbennig, at drafod cyfleoedd ar gyfer y safle. Wrth gwrs, ceir potensial ar gyfer canolfan logisteg Heathrow yn Tata yn Shotton, rhywbeth a allai ddod â chyfleoedd enfawr i'r ardal. Ond rwy'n awyddus hefyd i gefnogi'r rôl y gallai Llywodraeth Cymru ei chynnig mewn perthynas â hyfforddiant sgiliau. Rydym eisoes wedi cyflwyno ac wedi defnyddio £11.7 miliwn ar gyfer hyfforddiant sgiliau yn Tata ar draws ei safleoedd, ac mae hynny wedi gwneud gwahaniaeth mawr i gyfleoedd bywyd pobl a gyflogir yn y cwmni. Rwy'n awyddus i wneud yn siŵr ein bod yn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i bobl ailsgilio ac i uwchsgilio yn unol â hynny. Rhun ap Iorwerth AC: Mae'r sylwadau hyn gan bennaeth Tata yn amlwg yn peri pryder mawr. Hoffwn ailadrodd yn fyr un o'r sylwadau a wnaed gan David Rees. Fe fyddwch yn gwybod fy mod wedi bod yn galw am uwchgynhadledd diwydiant i Gymru. Pwysleisiodd yr Aelod dros Aberafan yn awr yr angen i ddod ag elfennau o ddiwydiant dur y DU a rhanddeiliaid allweddol at ei gilydd ar y lefel uchaf, a boed hynny'n golygu cyngor dur neu'r math o uwchgynhadledd y bûm yn siarad amdani, nid siopau siarad yw'r rhain. Mae'r rhain yn ymwneud â phwysleisio pwysigrwydd y sectorau hyn a'r angen i weithredu ar frys. A wnaiff Llywodraeth Cymru alw'n benodol yn awr am ailgynnull y cyngor hwnnw gyda sedd i Lywodraeth Cymru o gwmpas y bwrdd er mwyn dadlau bob amser dros bwysigrwydd y diwydiant dur i Gymru? Nid yw'n ymwneud ag ynni yn unig, wrth gwrs, ond mae angen ynni rhad arnom ar gyfer dur. Mae arnom angen ynni rhad a glân ar gyfer dur. Mae angen inni lanhau'r diwydiant dur, ac mae'n amlwg fod ein hamser yn brin. Ken Skates AC: A gaf fi fod yn gwbl glir gyda'r Aelodau? Rydym wedi galw dro ar ôl tro am gynnull cyfarfod o gyngor dur y DU. Ysgrifennais at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ar 25 Tachwedd yn ei hannog ar frys i ailgynnull cyfarfod o'r bwrdd crwn a ganslwyd ar ddur yn y DU, cyfarfod a oedd wedi'i ganiatáu yn dilyn fy ngheisiadau brys yn gynharach yn yr hydref. Cafwyd galwadau ffôn gyda'r Ysgrifennydd Gwladol hefyd, lle dadleuais dros ddwyn ynghyd arweinwyr allweddol y diwydiant i sicrhau ein bod yn archwilio pob cyfle i wella cydnerthedd y sector yn y DU. Hoffwn ailadrodd heddiw fod taer angen ailgynnull cyngor dur y DU; rhaid inni sicrhau bod y bobl iawn o amgylch y bwrdd i drafod y camau y gallai Llywodraethau eu cymryd ar bob lefel ledled y DU i helpu'r diwydiant. Ac mae'r Aelod yn iawn. Rwy’n credu bod angen cynnull arweinwyr y diwydiant yn ehangach hefyd i drafod dyfodol gweithgynhyrchu yng Nghymru, a dyna pam y cytunais, cyn y Nadolig, i gynnal uwchgynhadledd weithgynhyrchu. Bydd honno'n digwydd y gaeaf hwn yn y Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch ym Mrychdyn. A dyma pam y cynhaliais uwchgynhadledd fodurol hefyd cyn y Nadolig ynghylch dyfodol y diwydiant modurol yng Nghymru, ac roedd honno’n hynod gynhyrchiol. A byddwn yn sicrhau ein bod yn gwneud ein gorau glas i achub y diwydiant dur, a gweithgynhyrchu yn fwy cyffredinol yng Nghymru. Yn olaf, John Griffiths. John Griffiths AC: Diolch, Lywydd. Weinidog, yng Nghasnewydd wrth gwrs mae gennym safle Llanwern, sydd wedi'i integreiddio â Phort Talbot. Fel y dywedodd Dai Rees a Jack Sargeant eisoes, gwelir y gweithgarwch Tata hyn yn ei gyfanrwydd i raddau helaeth. Felly, rydym yn pryderu llawer am y swyddi yn Llanwern, a hefyd, wrth gwrs, ar hyn o bryd, y swyddi yng ngwaith Orb. Mae'r gwaith ar stop, gyda darpar brynwyr yn dal mewn trafodaethau â Tata ynghylch y defnydd posibl o’r safle hwnnw yn y dyfodol. Fe sonioch chi am Lywodraeth y DU yn gweithredu dull mwy ymyraethol yn awr. Ceir achos cryf iawn yn fy marn i dros ddiwydiant cerbydau trydan yn y DU, gyda gwaith dur Orb yn cyflenwi’r dur trydan ar gyfer gweithgarwch o’r fath, lle gallem gael manteision gwirioneddol o ran yr hyn sy’n sicr o fod yn ddiwydiant twf enfawr ar gyfer y dyfodol. Byddai dull ymyraethol gan Lywodraeth y DU yn deall hynny; byddai'n sicrhau bod y gefnogaeth angenrheidiol yn cael ei rhoi i'r darpar brynwyr a Tata Steel, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru a'r undebau llafur er mwyn gwireddu dyfodol hyfyw ac addawol. Felly, yn ogystal â nodi’r achos yn fwy cyffredinol, fel y mae’r Aelodau wedi galw amdano eisoes heddiw, Weinidog, a wnewch chi sicrhau bod gwaith Orb, a'r sefyllfa yno, yn ogystal â Llanwern, yn flaenllaw yn eich trafodaethau gyda Tata, gyda Llywodraeth y DU, gyda'r undebau llafur, a'r holl elfennau eraill yn y materion hyn? Ken Skates AC: Diolch i John Griffiths am ei gwestiynau a'i gyfraniad, ac rwy’n ei sicrhau bod Orb yn wir yn flaenllaw yn ein cyfathrebiadau â Tata, a’n trafodaethau â Llywodraeth y DU hefyd. Rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol, os ydynt am ymyrryd, nad â geiriau cynnes yn unig y byddant yn ymyrryd, ond gydag arian caled. Ac yn y pen draw, ni fyddai angen swm enfawr o arian gan Lywodraeth y DU i Orb drwy’r gronfa her ddiwydiannol i allu sicrhau dyfodol iddo, yn enwedig mewn perthynas â gweithgynhyrchu cerbydau trydan. Ac ar hyn o bryd, fel y gŵyr John Griffiths, nid yw Orb yn gwneud y duroedd datblygedig a ddefnyddir ar gyfer cerbydau trydan, ond mae cynnig Syndex yn amlinellu'r gwaith y byddai ei angen er mwyn symud y safle ymlaen i wneud duroedd heb raen cyfeiriedig yn ogystal â duroedd â graen cyfeiriedig. Nawr, fe wnaethom ymweld â’r ffatri Orb gyda'r Prif Weinidog a Jayne Bryant ganol mis Tachwedd. Cyfarfuom â chynrychiolwyr yr undebau llafur; cyfarfuom â'r gweithlu, a buom yn trafod y cyfleoedd ar gyfer y safle, sy'n real iawn. Rwy'n falch o ddweud y bydd Tata yn parhau i drafod unrhyw gyfle i sicrhau bod gweithgynhyrchiant yn parhau gydag unrhyw ddarpar brynwyr, a byddwn yn gwneud popeth a allwn i sicrhau bod y sgyrsiau hynny'n gynhyrchiol yn y pen draw. Diolch i'r Gweinidog. Cwestiwn nawr i'r Gweinidog iechyd, ac mae'r cwestiwn hynny gan Helen Mary Jones. Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Helen Mary Jones AC: 2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd yn dilyn penderfyniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ganslo llawdriniaethau cleifion mewnol ddydd Llun 6 Ionawr 2020 yn ysbytai Bronglais, Glangwili, ysbyty'r Tywysog Philip a Llwynhelyg? 375 Vaughan Gething AC: Diolch. Fe ddechreuaf trwy ailadrodd fy niolch, ynghyd â diolch y Prif Weinidog ddoe, i'n staff ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol mewn cyfnod o bwysau gwirioneddol eithriadol. Mae pob gaeaf yn creu anawsterau, ond gwelsom bwysau eithriadol ar draws ein system ar ddiwedd cyfnod y Nadolig ac ar ddechrau mis Ionawr. Heb eu hymroddiad, ni fyddem yn gallu darparu’r lefel o ofal sy'n dal i gael ei darparu ledled Cymru. Roedd y penderfyniad i ohirio llawdriniaethau cleifion mewnol yn Hywel Dda yn benderfyniad gweithredol a chlinigol a wnaed gan y bwrdd iechyd i sicrhau na châi diogelwch cleifion mo'i beryglu. Mae fy swyddogion wedi bod yn cyfathrebu'n rheolaidd â'r bwrdd iechyd i sicrhau eu bod yn gweithredu'r holl gamau angenrheidiol i'w galluogi i isgyfeirio mor gyflym ac mor ddiogel â phosibl. Helen Mary Jones AC: Diolch i'r Gweinidog am ei ateb. Ac wrth gwrs, rwy'n siŵr y byddem i gyd yn cytuno â'i sylwadau am y gwaith rhagorol y mae'r staff yn ei wneud o dan amgylchiadau anodd iawn. Ond tybed sut y byddai'n ymateb i alwad y Coleg Nyrsio Brenhinol ddoe i ailedrych ar faint y pwysau hyn. Tybed sut y byddai'n ymateb i Dr Philip Banfield, BMA Cymru, sy'n dweud—ac rwy'n dyfynnu — eu bod yn poeni o ddifrif am effaith llwyth gwaith a phwysau ar weithlu a staff y GIG ar hyn o bryd. Mae'n mynd rhagddo i ddweud bod gwir berygl y caiff bywydau eu colli'n ddiangen. Hoffwn wybod hefyd beth fyddai gan y Gweinidog i'w ddweud wrth fy etholwyr, ac etholwyr Aelodau eraill yma, sydd wedi cael eu llawdriniaethau wedi'u gohirio. Gwyddom—a dylwn fod yn glir, Lywydd: nid wyf yn beirniadu'r penderfyniad y mae'r bwrdd iechyd wedi'i wneud; os nad yw'r gwasanaethau'n ddiogel, nid oedd dewis ganddynt. Ond tybed a hoffai'r Gweinidog ymuno â mi i fynegi ei ofid i gleifion fod eu llawdriniaethau—gyda rhai ohonynt wedi bod yn aros amdanynt ers amser maith, a rhai ohonynt mewn poen difrifol iawn—wedi gorfod cael eu gohirio. Buaswn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog roi gwybod i ni beth yw'r sefyllfa mewn perthynas â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, oherwydd fy nealltwriaeth i yw eu bod wedi gohirio rhai llawdriniaethau a gynlluniwyd heddiw. Cafodd ei awgrymu i mi hefyd nad oes gan Betsi Cadwaladr gynllun y cytunwyd arno gyda Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â phwysau'r gaeaf. A tybed a all y Gweinidog ddweud wrthym a yw hynny'n wir ai peidio, ac a ydynt, mewn gwirionedd, wedi cael eu cyfran o'r adnoddau ychwanegol y mae wedi'u rhoi i mewn. Sonia'r Gweinidog am bwysau eithriadol, a hoffwn ddweud wrth y Gweinidog unwaith eto fod y gaeaf yn dod bob blwyddyn, fel y mae norofeirws, fel y mae'r ffliw. Mae'r pethau hyn yn hollol ragweladwy. Wrth gael ei holi am y materion hyn ddoe, disgrifiodd y Prif Weinidog y trefniadau a oedd ar waith gyda'r bwrdd iechyd fel rhai 'gwydn'. Wel, hoffwn awgrymu ei fod yn dod i ardal bwrdd iechyd Hywel Dda i esbonio hynny i fy etholwyr, oherwydd nid yw'n edrych fel set o drefniadau gwydn neu dderbyniol i mi. Ac yn bwysicaf oll efallai, Lywydd, pa sicrwydd y gall y Gweinidog ei roi inni fod y math o ddull pob-system y mae'r BMA yn gofyn amdano—? Mae angen inni weld cynnydd ar frys yn nifer y gwelyau. Yn y tymor hwy, mae'r neges yn aros yr un fath—rhaid i ni gynyddu lefelau staffio mewn lleoliadau gofal iechyd ac mewn cymunedau. Tybed beth y gall ei wneud i dawelu ein meddyliau na fyddwn yn cael y sgwrs hon yn y Siambr hon ar yr adeg hon y flwyddyn nesaf. Ac yn bwysicach, beth y gall ei wneud i sicrhau'r staff rheng flaen y mae'n siarad mor gynnes amdanynt, a chleifion, na fyddant yn y sefyllfa hon? Vaughan Gething AC: Wel, mae ystod eang o gwestiynau yn y fan honno, Lywydd; fe geisiaf ymdrin â'r pwyntiau fel y cawsant eu rhoi. Y man cychwyn yw ein bod yn gwybod, wrth gwrs, fod pwysau ychwanegol yn dod dros y gaeaf, ac mai dechrau Ionawr yw'r amser anoddaf oll, gyda'r pwysau sy'n deillio o ddiwedd un cyfnod gŵyl, pobl sydd wedi gohirio eu gofal, pobl sydd wedi mynd adref ynghanol hynny, ac angen triniaeth bellach wedyn. Nid yn ein hysbytai'n unig y mae'n digwydd chwaith—mae hon yn her wirioneddol mewn gofal sylfaenol hefyd. Ac mae'r hyn a welwn yn Hywel Dda, gyda chanslo gweithgaredd cleifion mewnol, yn symptom o'r pwysau ar y system gyfan. Ac o ran disgrifio'r pwysau ar y system gyfan, adroddwyd bod naw o'r 11 mis diwethaf yn 2019 yn rhai lle cafwyd mwy o weithgarwch nag a welwyd erioed o'r blaen—naw o'r 11 mis a gofnodwyd. Dyna raddfa'r galw ar ein system. Gyda phob parch, y gaeaf diwethaf, ni fyddai neb yn yr ystafell hon wedi rhagweld gweithgarwch o'r fath. Yr hyn sy'n cael ei wneud yw cynllun ar gyfer y gaeaf ym mhob bwrdd iechyd. Nid oes gennyf syniad o ble y daeth y syniad na cheir unrhyw gynllun ar gyfer Betsi Cadwaladr, ac mae hi braidd yn anodd i mi ymdrin â ffuglen a dychymyg. Ond yn sicr, ceir cynllun ar gyfer y gaeaf ar draws gogledd Cymru—cafodd ei gytuno, nid yn unig o fewn y gwasanaeth iechyd, ond materion uniongyrchol o dan reolaeth y gwasanaeth iechyd, a'u cyfran, y mae pob bwrdd iechyd, gan gynnwys gogledd Cymru, wedi'i dderbyn o'r £30 miliwn o arian ar gyfer heriau'r gaeaf, ond y cynllun ar y cyd a gyflawnir gan y bwrdd partneriaeth rhanbarthol ar gyfer beth i'w wneud ar draws y system gyfan. Mae hynny'n cynnwys mwy o welyau—a chyhoeddais cyn y toriad fod hynny'n golygu oddeutu 400 o wlâu ychwanegol ar draws y system. Dyna faint ysbyty cyffredinol dosbarth mawr o gapasiti ychwanegol sydd wedi'i roi i mewn i'r system. Mae hynny'n cynnwys capasiti ychwanegol yn Hywel Dda. O ran y sgyrsiau sy'n digwydd gyda staff, gwnaeth Cymdeithas Feddygol Prydain eu sylwadau ar y ffordd i uwchgynhadledd glinigol y mae fy swyddogion yn ei chynnal heddiw—sy'n cynnwys y Coleg Nyrsio Brenhinol a rhanddeiliaid eraill—i archwilio realiti ein sefyllfa, yr ymateb, a beth arall sy'n bosibl ar lefel genedlaethol. Ac o ran lle Hywel Dda yn hynny, maent mewn sefyllfa yn awr lle maent yn gweld mwy o gynnydd yn cael ei wneud ar ryddhau cleifion i o leiaf dri o'r pedwar safle, oherwydd y gwaith y maent yn ei wneud ac oherwydd gweithredu cynllun y gaeaf, ond yn fwy na hynny, oherwydd y berthynas sy'n bodoli rhwng y bwrdd iechyd a'r awdurdodau lleol. A heb fod y berthynas honno mewn lle llawer gwell nag mewn gaeafau a fu, byddem yn annhebygol o weld y cleifion hynny'n cael eu rhyddhau. Mae'n broblem system gyfan ac mae'n ymateb system gyfan yn awr, ac mae'r diwygio parhaus rwyf wedi siarad amdano'n rheolaidd ac sy'n ofynnol er mwyn sicrhau bod gennym gapasiti ychwanegol, a gofal cartref a phreswyl, sy'n cynnwys iechyd a gofal cymdeithasol yn cydweithio i ddarparu hynny. Ac mae hefyd yn ymwneud â sut rydym yn dewis defnyddio'r system wrth inni barhau i weld mwy o alw'n cael ei yrru i mewn i'n system. Mae angen inni edrych eto ar sut rydym yn ei ddiwallu ac yn ei gynllunio. Ac o gofio'r holl uchafsymiau ac isafsymiau gweithgarwch, mae angen inni gydnabod nad ydym yn debygol o weld lleihad sylweddol yn y galw. Mae'n ymwneud â sut rydym yn ymdrin â'r galw hwnnw i wneud yn siŵr nad yw diogelwch cleifion yn cael ei beryglu, a dyna'n union pam mai dyna oedd y peth iawn i Hywel Dda ei wneud, gyda'r holl wahanol risgiau cysylltiedig, i wneud yn siŵr eu bod yn blaenoriaethu'r bobl sydd â'r angen mwyaf yn gyntaf. Angela Burns AC: Waw, ble mae dechrau? Soniwn am y gair 'diogelwch', sydd wedi cael ei ddefnyddio unwaith neu ddwy, ond gadewch inni fod yn glir, y gwelyau yn Hywel Dda—mae'r llawdriniaethau wedi'u canslo oherwydd bod y ward orthopedig yn Ysbyty'r Tywysog Philip wedi'i chau i driniaeth orthopedig, i lawdriniaeth ddewisol, ac maent yn rhoi achosion meddygol i mewn yno. Mae hynny'n cynnwys nifer enfawr o broblemau gyda llawdriniaeth ddewisol. Ceir diffyg eglurder gan reolwyr Hywel Dda y siaradais â hwy heddiw ynglŷn â pham y canslwyd llawdriniaethau yn ysbytai Bronglais, Llwynhelyg a Glangwili, ond maent yn eglur iawn ynglŷn â pham y cawsant eu canslo yn Ysbyty'r Tywysog Philip. Mae wardiau llawdriniaeth ddewisol y Tywysog Philip yn cael eu defnyddio ar gyfer achosion meddygol am eu bod yn dweud eu bod wedi cael mwy o gynnydd mewn achosion meddygol. Nawr, pan siaradais â'r prif weithredwr yn gynharach, a thrafod hyn gydag ef, un o'r pethau a deimlais yn gryf iawn oedd fy mod yn derbyn bod cynlluniau pwysau'r gaeaf ar waith gyda phob un o'r byrddau iechyd, ond ni chredaf eu bod yn ddigon dychmygus nac yn adeiladu digon o gapasiti wrth gefn. Gwyddom beth yw'r tueddiadau; gwyddom beth yw'r tueddiadau trwy gydol y flwyddyn. Weinidog, fe wnaethoch ofyn iddynt gyflwyno cynlluniau pwysau'r gaeaf. Fe roesoch chi £30 miliwn ychwanegol. Ond wrth wrando, ac fe wnes i wrando'n ofalus, mae'n ymddangos bod yna 'nid wyf yn gwybod beth yw'r pwysau' go iawn o ran a oeddent yn teimlo nad oedd ganddynt gyllid i'w wneud, neu a oedd yn fater o 'beth am inni gynhyrchu'r cynllun gaeaf a gawsom y llynedd. Fe chwythwn y llwch oddi arno, ei gynyddu ychydig a'i ail-lunio'. Ond mae'n fater—llawer iawn ohono—o ddiffyg cynllunio wrth gefn, y braster ychwanegol yn y system, lle rydym wedi gorfod cau wardiau triniaethau dewisol cyfan. Byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn deall gennych beth y gellir ei wneud i sicrhau bod y data'n cael ei ddadansoddi go iawn. Oherwydd, unwaith eto, pan siaradais â'r prif weithredwr, dywedodd y byddent yn edrych ar yr hyn sydd wedi digwydd—byddent yn edrych i weld pam yr achoswyd y sefyllfa hon, ond fe wnaeth rhywun y penderfyniad i atal y llawdriniaethau ddydd Llun a dydd Mawrth ac eto heddiw. Felly, mae rhywun eisoes yn gwybod y data hwnnw. Felly, ni allaf ddeall pam nad yw'r data ar gael ar hyn o bryd o ran beth yw'r rheswm sylfaenol. Tybed a allech geisio annog y bwrdd iechyd, a Betsi Cadwaladr yn awr, i sicrhau bod rhaglen gref iawn yn cael ei sefydlu i ddal i fyny â llawdriniaethau dewisol. A gadewch i ni fod yn glir, gyfeillion: nid sôn am gluniau a phengliniau yn unig a wnawn; yn Hywel Dda, mae rhestr aros o 19.4 mis ar gyfer hynny eisoes. Felly, dychmygwch eich bod yn meddwl eich bod yn mynd i gael eich pengliniau wedi'u gwneud, a pwff, mae'n rhaid i chi aros eto. Ond mae'n cynnwys llawdriniaeth torgest fentrigl, llawdriniaeth fariatrig, llawdriniaeth wrth-adlifo—mae pob math o lawdriniaethau dewisol wedi cael eu canslo gyda rhestri aros o hyd at 15 mis. Felly, rydym yn mynd i wneud ein rhestrau aros yn hirach. Felly, Weinidog, a allech edrych ar yr hyn y gellid ei wneud yn y byrddau iechyd lle maent wedi gorfod canslo llawdriniaethau er mwyn iddynt allu cyflymu rhaglen dal i fyny fel y caiff ein hamseroedd aros gyfle i wella yn hytrach na'u hymestyn? Yn olaf, rwy'n credu mai'r eliffant yn yr ystafell yw bod angen i wasanaethau cymdeithasol fod ar alwad saith diwrnod yr wythnos drwy'r flwyddyn, fel ein gwasanaethau iechyd. Ar alwad o ran gallu lleddfu oedi wrth drosglwyddo gofal, oherwydd, eto, wrth siarad â'r bwrdd iechyd, maent yn dweud na allant gael pobl allan o'r ysbyty, oherwydd er bod ganddynt berthynas dda â gwasanaethau cymdeithasol, yn ystod cyfnodau fel y Nadolig a'r flwyddyn newydd a gwyliau banc, mae pobl yn cael gwyliau wrth gwrs, ac yn briodol felly. Nid oes neb yn dweud, 'Mae'n rhaid i chi weithio drwy'r amser', ond mae'n rhaid inni gael system ar waith lle ceir staff wrth gefn fel bod y gwaith arferol o ryddhau pobl, a fyddai yn ei dro yn rhyddhau gwelyau i alluogi pobl sy'n dod i mewn drwy'r drws blaen i fynd i'r ysbyty, yn gallu parhau'n ddiymdroi. Oherwydd, unwaith eto, yr hyn a ddywedwyd wrthyf yw mai rhan o'r broblem yw na allant gael pobl oddi yno. Mae angen i hynny fod yn rhan o'r cynllunio ar gyfer y gaeaf lle ceir ychydig mwy o weithwyr gofal cymdeithasol ar ddyletswydd i sicrhau bod pobl yn cael eu rhyddhau. Hoffwn glywed eich barn ar hynny. Ac yn olaf, hoffwn ychwanegu fy mod yn credu bod y staff wedi gwneud gwaith gwych a hoffwn ddweud bod y prif weithredwr yn hollol glir, yn fy sgwrs gydag ef yn gynharach, fod staff wedi dod i mewn, eu bod wedi dod i mewn ar eu dyddiau gwyliau, maent wedi gweithio goramser, maent wedi cyfyngu ar eu gwyliau er mwyn ceisio helpu gyda hyn. Felly, nid yw'n ymwneud â'r ymdrech a'r ymrwymiad a'r ymroddiad rheng flaen, mae'n ymwneud â sicrhau bod yr ochr gynllunio a'r ochr gynllunio wrth gefn yn well ac yn fwy ystwyth er mwyn atal hyn rhag digwydd y flwyddyn nesaf. Vaughan Gething AC: Wel, rwy'n deall pam y mae Angela wedi gofyn ystod o gwestiynau, ond rwy'n credu bod nifer o'r casgliadau y daeth iddynt yn hynod annheg a chredaf y dylai edrych arnynt eto. Rwy'n hapus iawn i fynd drwy pam rwy'n credu hynny. Mae'n hawdd iawn dweud bod hyn oll yn ymwneud â chynllunio ac ag anallu i gyflawni ac nad yw'r cynlluniau'n ddigon dychmygus. Mewn gwirionedd, credaf fod hynny'n annheg iawn, oherwydd, os edrychwch ar y cynlluniau ar gyfer y gaeaf hwn, maent yn wahanol, maent wedi dysgu gwersi o'r gaeaf diwethaf. Dechreuodd y cynllunio ar gyfer y gaeaf yn ystod y gwanwyn y llynedd er mwyn dysgu'r gwersi—beth ddigwyddodd y gaeaf diwethaf, beth oedd yn llwyddiannus. Dyna pam ein bod wedi cynyddu capasiti mewn nifer o feysydd y gaeaf hwn. Dyna pam rydym wedi cyflawni ymrwymiadau'r Groes Goch, dyna pam y mae'r cynllun Gofal a Thrwsio wedi parhau. Dyma pam hefyd eu bod wedi cynnwys capasiti ychwanegol yn fwriadol gyda phartneriaid ar draws awdurdodau lleol. Y peth hawsaf i'w ddweud yw, 'Gallwch fod yn fwy dychmygus a gallech wneud mwy'. Mewn gwirionedd, ni allwch ond gwneud nifer gyfyngedig o bethau â rhestr gyfyngedig o adnoddau, ac nid dim ond arian yw hynny, ond pobl. Ac mewn gwirionedd, o ran eich sylwadau am ofal cymdeithasol, mae gofal cymdeithasol eisoes yn gweithio saith diwrnod yr wythnos. Ac mewn gwirionedd, nid y cyfnod rhwng y Nadolig a'r flwyddyn newydd yw'r cyfnod problemus fel y cyfryw, oherwydd rydym eisoes yn gweld ysbytai'n gweld pobl yn gadael dros y cyfnod hwnnw, ac mae'r her ar y pwynt hwn yn ystod y pythefnos nesaf. Ac mewn gwirionedd, mae'r her yn ymwneud mewn gwirionedd â chapasiti o fewn y system gofal cymdeithasol ehangach, mewn gofal cartref a gofal preswyl. Yng ngorllewin Cymru yn arbennig, ond mewn rhannau eraill o'r wlad—nid Cymru'n unig ond ar draws gweddill y DU hefyd—mae breuder rhannau o ofal cartref a phreswyl yn broblem wirioneddol ac yn ffactor gyfyngol go iawn o ran gallu cael pobl allan o'r ysbyty ac i'w cartref eu hunain, boed y cartref hwnnw'n stryd mewn cymuned rydych chi neu fi yn byw ynddi neu'n gyfleuster gofal preswyl. Felly, ceir her wirioneddol ynglŷn â sut rydym yn gwneud hynny a dyna pam y mae diwygio mwy hirdymor mor bwysig ar gyfer y dyfodol, oherwydd i ddychwelyd at y flwyddyn nesaf, mae hynny'n ymwneud â pha mor llwyddiannus y gallwn fod wrth gomisiynu capasiti sy'n gynaliadwy ac o'r ansawdd y byddai pawb ohonom yn ei ddymuno i'n teuluoedd ein hunain pan fyddwn yn darparu ar gyfer y cyhoedd yn ehangach. Fodd bynnag, dyna pam rwy'n credu ei bod yn gwbl briodol fod y bwrdd iechyd wedi cyhoeddi eu bod am wneud archwiliad dwfn gwrthrychol o'r penderfyniadau a wneir dros y penwythnos hwn ac yn ystod y dyddiau diwethaf. Nid yw hynny'n golygu bod y penderfyniadau hynny'n anghywir o ran y wybodaeth sydd ar gael, ond mae'n ymwneud â bod eisiau dysgu yn awr a pheidio ag aros i adolygu hyn ymhen chwe mis, ond dysgu, gydag ychydig bellter, yn wrthrychol, sut y cafodd y penderfyniadau eu gwneud, a oes pethau y gallem fod wedi'u gwneud yn wahanol, felly nid yw'n golygu dysgu ar gyfer y flwyddyn nesaf, ond ar gyfer yr wythnos nesaf a'r mis nesaf. A dyna'n sicr yw'r peth iawn i'w wneud. Yn wir, pe na baent yn gwneud hynny, byddai beirniadaeth yn y Siambr hon am beidio â chyflawni'r broses honno ar bwynt agos i'r digwyddiadau mewn amser. Rwy'n credu bod arweinwyr y bwrdd iechyd, ynghyd â staff rheng flaen, yn gwneud y peth iawn. Ac mae'n gyfnod eithriadol o amser gydag ymateb eithriadol gan ein staff. Edrychaf ymlaen at weld isgyfeirio'n digwydd a byddwch chi ac eraill yn gallu edrych ar eich etholaeth a gweld bod llawdriniaeth ddewisol wedi dychwelyd i lefelau mwy arferol. Ond nid wyf yn mynd i feirniadu'r bwrdd iechyd am gamgymeriadau lle nad wyf yn credu ei bod yn deg beirniadu, a dyna pam nad wyf yn cytuno â'r ystod o gasgliadau y daeth Angela Burns iddynt. Joyce Watson AC: Y peth cyntaf rwyf am ei wneud yw diolch i'r holl staff sy'n gweithio'n anhygoel o galed i roi cymorth ymroddedig i'r rhai sydd ei angen a chydnabod eu bod yn gwbl ymrwymedig i ddiwallu anghenion eu cleifion. Rwyf am ddechrau gyda hynny oherwydd teimlaf fod hynny'n bwysig ac yn gysur iddynt ein bod yn cydnabod hynny. Darllenais yr e-bost gan Dr Philip Banfield o BMA Cymru a'r pryderon a fynegwyd ganddo, oherwydd rwy'n tybio ei fod wedi ei anfon at nifer ohonom. Ond rwyf hefyd yn ymwybodol o'r trallod i gleifion sydd wedi bod yn aros am lawdriniaeth, beth bynnag fo'r llawdriniaeth honno, a bod pobl yn mynd yn bryderus ac yna'i bod yn cael ei chanslo. Felly, rwyf am gofnodi fy mod yn cydnabod hynny; rwy'n siŵr bod pawb yn yr ystafell hon yn cydnabod hynny. Felly, hoffwn geisio symud hyn ymlaen yn awr, a chafwyd ambell awgrym yn natganiad Dr Phil Banfield. Ac mae'n galw am angen brys i ehangu nifer y gwelyau sydd ar gael fel un ateb posibl i symud pobl drwy'r system. Nid wyf yn gwybod beth yw eich safbwyntiau ar hynny, ond hoffwn eu clywed. Gwn eich bod wedi darparu capasiti ychwanegol yn Hywel Dda, fel y gwnaethoch ledled Cymru, ac unwaith eto mae hynny'n newyddion i'w groesawu. Ond rwy'n credu mai'r prif beth—a lle rwy'n cytuno ag Angela—yw na ddylai'r bobl sydd heb gael llawdriniaeth y tro hwn gael eu gwthio i waelod y rhestr ond eu bod yn aros lle'r oeddent, ar frig y rhestr. Ac os oes unrhyw ffordd o gwbl y gallwn ni yng Nghymru, ble bynnag y bo, gyflawni'r llawdriniaethau hyn yn gynt neu o leiaf gynnig y posibilrwydd hwnnw i'r unigolion fel eu bod yn gweld diwedd ar yr hyn y maent yn gobeithio ei ddatrys yn eu pecyn gofal a'u llawdriniaeth—. Felly, dyna'r cwestiynau yr hoffwn eu gwybod ac rwy'n deall hefyd y bydd cyfarfod ar y cyd rhyngoch chi a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i edrych ar symud ymlaen yn gyflymach ac yn fwy gofalus ar yr her gofal cartref y mae pawb ohonom yn ymwybodol ohoni ac sydd wedi'i gwaethygu wrth i lawer o'r unigolion sy'n gweithio yn y sector hwnnw deimlo nad oes croeso iddynt fel ymateb i Brexit. Felly, rydym yn fwy prin o staff yn awr nag o'r blaen hyd yn oed. Vaughan Gething AC: Mae Joyce Watson yn gwneud pwynt teg am y realiti o fod eisiau recriwtio staff a phobl sy'n gweithio ym maes gofal cartref a phreswyl, ac rydym yn dibynnu ar amrywiaeth o bobl o'r tu allan i'r DU i wneud hynny. Felly, mae unrhyw rwystrau i recriwtio'r bobl hynny, sy'n aml o dan gap mewnfudo arfaethedig y Llywodraeth, yn broblem wirioneddol i bawb ohonom ym mhob un o wledydd y DU. Pe baem yn cael y sgwrs hon yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, byddech yn gweld darparwyr ac aelodau etholedig yn mynegi'r un pryderon yn union am yr effaith ymarferol ar wasanaethau iechyd a gofal. O ran yr hyn y gallwn ei reoli a'r hyn y gallwn ei wneud, rwy'n falch o gadarnhau i Joyce Watson y bydd pobl y gohiriwyd eu llawdriniaethau gan y gwasanaeth iechyd yn cael eu hysbysu o ddyddiad cynnar yn fuan i'r llawdriniaeth honno gael ei haildrefnu. Nid yw'r llawdriniaethau wedi'u canslo a'u symud i waelod y rhestr. Mae'n rhan o'r hyn a wnawn pan fydd y gwasanaeth iechyd yn dweud bod angen iddo ohirio llawdriniaeth; byddant yn cael cynnig dyddiad newydd a buan yn awtomatig. Ac wrth gwrs, rwyf am dynnu sylw, fel y mae'r bwrdd iechyd wedi ei wneud, at y ffaith ei bod hi'n ddrwg iawn gennyf ac rwy'n deall yr effaith ar unigolion sydd wedi bod yn edrych ymlaen, yn aml gyda rhywfaint o bryder, at lawdriniaeth, a'i chael wedi'i gohirio wedyn. Nid yw honno'n sefyllfa bleserus i fod ynddi, ac eto gwyddom yn wrthrychol hefyd fod y bobl sy'n cael gofal brys ac sy'n cael llawdriniaeth ganser—pe na baem yn blaenoriaethu'r bobl hynny, byddem yn iawn i gael ein beirniadu am beidio â gwneud hynny ar draws y system. O ran yr heriau a'r ateb posibl y mae Phil Banfield wedi'i awgrymu—dywedodd ei fod yn ateb posibl—mae mwy o welyau yn aml yn ateb deniadol. Mae gennym gapasiti ymchwydd, felly, fel y dywedais yn gynharach, ceir 400 o welyau ychwanegol ar draws y system iechyd a gofal—gwelyau neu'r hyn sy'n cyfateb i welyau. Os ydym am gynyddu capasiti'n barhaol, yr her yw bod angen inni ddeall i ba ddiben, sut rydym yn staffio hynny, fel bod gennym staff parhaol i allu gwneud hynny, ac eto, mewn gwirionedd, pan fydd y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys yn siarad am yr hyn y maent am ei weld i ryddhau'r hyn y maent yn cyfeirio ato fel bloc gadael, nid sôn am fwy o feddygon ymgynghorol yn unig a wnânt—ac mae'n nodweddiadol fod pawb yn gofyn am fwy o'u haelodau eu hunain—ond maent yn dweud eu bod am weld buddsoddi mewn gofal cymdeithasol ac yn y system gofal cymdeithasol, oherwydd eu bod yn cydnabod nad problem wrth ddrws blaen y system acíwt yn ein hysbytai yn unig yw hon, mae'n her sy'n ymwneud â phobl yn cael eu cadw gartref yn ddiogel, ond hefyd o ran gallu mynd i'w cartrefi eu hunain gyda phecyn gofal a chymorth. Byddwch wedi gweld yn y gyllideb ddrafft fod y gyllideb iechyd eto eleni wedi rhoi swm bwriadol o arian tuag at ofal cymdeithasol. Rwyf wedi cynyddu'r swm hwnnw o arian o fewn y gyllideb. Mae hefyd yn ymwneud â pham y rhoddwn arian i fyrddau partneriaeth rhanbarthol sy'n ei gwneud yn ofynnol i iechyd a gofal cymdeithasol gydweithio â phartneriaid eraill, a dyna yw'r newid i'r system sydd angen inni ei weld yn parhau'n gyflym er mwyn ceisio sicrhau y gallwn ymdrin â'r problemau hyn mor effeithiolac mor gyflym â phosibl, oherwydd nid ydynt yn mynd i ddiflannu. Neil Hamilton AC: Cawn y sesiynau ymchwiliol hyn mor aml oherwydd pwysau eithriadol ar y gwasanaeth iechyd, ond mae hynny'n dangos bod y pwysau eithriadol wedi dod yn drefn arferol mewn rhai ffyrdd a dyna'r broblem systemig sydd gennym yma. Mae llawdriniaethau wedi cael eu canslo yn awr am y trydydd diwrnod yn olynol yn Hywel Dda a gellid maddau i bobl, felly, am feddwl y dylem newid enw'r bwrdd iechyd i Hywel Ddim Mor Dda. Nid wyf yn meddwl bod unrhyw un—yn sicr, nid wyf fi—yn cwestiynu ymrwymiad y staff a'r rheolwyr yn Hywel Dda i wneud pethau'n well, ac maent wedi bod yn gweithio'n galed iawn ers y newid i'r drefn er mwyn gwella pethau ac wedi cael llawer o lwyddiant yn fy marn i. Yn amlwg, mae ffordd bell i fynd o hyd, ond mae yna broblem systemig, nid yn unig yn Hywel Dda. Dangosodd ffigurau a gyhoeddwyd y mis diwethaf fod perfformiad damweiniau ac achosion brys mewn ysbytai ledled Cymru yn waeth nag erioed am y trydydd mis yn olynol a bod gwasanaeth ambiwlans Cymru wedi methu cyrraedd ei darged amser ymateb am y tro cyntaf mewn pedair blynedd. Mae Dr Banfield, sydd wedi cael ei grybwyll sawl gwaith yn y sesiwn hon y prynhawn yma, wedi dweud nad un person sydd ar fai am hyn. Dywedodd ei bod yn broblem gyda'r system. Ac meddai: Rydym yn clywed adroddiadau am lawdriniaeth ganser yn cael ei chanslo yn awr hefyd drwy wahanol ysbytai yng Nghymru. Clywaf yr hyn a ddywedodd y Gweinidog am y cwestiwn gwelyau funud yn ôl, ond unwaith eto, mae Dr Banfield yn gwneud pwynt elfennol yn fy marn i, sef bod gwelyau llawfeddygol yn llawn o gleifion meddygol ac mae hynny'n rhoi'r math anghywir o glaf yn y gwely ysbyty anghywir ar yr adeg anghywir ac mae'n amlwg nad ydynt yn cael y gofal y dylent ei gael. Nid oes neb yn disgwyl i unrhyw un yn y gwasanaeth iechyd allu proffwydo'n berffaith, a bydd pethau'n mynd o chwith, yn aml am resymau damweiniol na allai neb fod wedi'u rhagweld, felly mae'n rhaid inni fod yn rhesymol ynglŷn â hyn. Ond fel y dywedodd Helen Mary Jones o'r dechrau, rydym yn gwybod bod y gaeaf yn digwydd bob blwyddyn a bod pwysau eithriadol yn debygol o daro, a chlywais y Prif Weinidog yn dweud ddoe, 'Wel, fe wyddem fod hyn yn dod beth bynnag. Dyna pam nad oeddem wedi cynllunio llawdriniaethau ar gyfer yr wythnos diwethaf.' Wel, os felly, does bosibl na allem fod wedi bod ychydig yn fy manwl gywir yn ein rhagfynegiadau o'r math o bwysau a fyddai'n cael eu hychwanegu ar ben yr hyn a oedd yn y system beth bynnag. Mae'r Gweinidog yn dod yma mor rheolaidd yn awr fel bod ganddo ryw olwg barod i ildio i'w dynged ar ei wyneb wrth ateb y pwyntiau sydd gan bawb ohonom i'w gwneud. A phe bai yn ein lle ni, heb amheuaeth byddai'n eu gwneud yn yr un ffordd â ni. Unwaith eto, nid wyf yn amau ei ymrwymiad i wella'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru o gwbl, ond mae'n rhaid gwneud rhywbeth. Rhaid darparu mwy o arian rywsut yn ogystal â rhyw fath o welliannau ar y lefel micro ym mhob un o'r byrddau iechyd sy'n dioddef o'r mathau hyn o broblemau systemig. Mae Hywel Dda wedi bod mewn sefyllfa anodd, mae wedi bod yn gwneud gwelliannau, ond yn amlwg mae ffordd bell i fynd eto. Gobeithio y gwnaiff y Gweinidog ei orau i sicrhau bod bwrdd iechyd Hywel Dda yn cael yr adnoddau sydd eu hangen arno i ymdopi â'r pwysau y mae wedi bod yn eu dioddef. Vaughan Gething AC: Wel, rydym wedi darparu cymorth sylweddol fel Llywodraeth i'r system iechyd a gofal cymdeithasol, wedi cynnal buddsoddiad sy'n uwch na'r symiau canlyniadol o arian. Felly, o ran cymorth ariannol, mae'r Llywodraeth hon yn bendant wedi—. Ac mae hynny'n wrthrychol ddiymwad: mae ffigurau'r Trysorlys ei hun yn dangos ein bod yn parhau i roi mwy o arian tuag at ein system iechyd ac iechyd a gofal na Lloegr, ac rydym wedi cynnal y buddsoddiad hwnnw at ddiben bwriadol. Mae a wnelo â mwy nag arian. Fel y dywedais ar sawl achlysur arall, mae'n ymwneud â sut y mae rhannau iechyd a gofal cymdeithasol y system yn gweithio gyda'i gilydd. Mae Cymdeithas Feddygol Prydain a'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn cydnabod ei fod yn gymhleth. Nid yw mor syml â dweud, 'Rhowch fwy o arian ac ymdrechwch yn galetach a bydd popeth yn iawn.' Mae'n ymwneud â lefel a natur y galw, ac un o'r enghreifftiau gorau o'r modd y mae'r galw hwnnw wedi cynyddu yn ei gymhlethdod yw bod y galwadau coch y mae'r gwasanaeth ambiwlans yn ymateb iddynt—. Pan wneuthum y penderfyniad i newid y statws galwadau coch, cafwyd rhywfaint o feirniadaeth—mae peth beirniadaeth o hyd bob hyn a hyn—a geisiai awgrymu bod a wnelo hynny mewn gwirionedd â newid y ffigurau i fy siwtio i. Fe ddigwyddodd yn sgil adolygiad clinigol, wedi'i gefnogi gan ein staff rheng flaen, gyda chefnogaeth pob cyfarwyddwr meddygol yng Nghymru. Mae gennym gategori newydd, diffiniad newydd i gyrraedd y bobl salaf. Dyna pam fod yna gategori coch newydd. Ac eto, yn awr, mae gennym 15 y cant yn fwy o alwadau coch i'r gwasanaeth ambiwlans na'r gaeaf diwethaf, a thros y tri mis diwethaf cafwyd nifer uwch nag erioed o alwadau coch. Mae'r rhain yn bobl sâl iawn sydd angen gofal ysbyty. Felly, mae'r proffil galw wedi newid ers y gaeaf diwethaf. Felly, hanfod yr her yw'r holl fesuriadau a gymerwyd gennym y gaeaf diwethaf, y mesuriadau ychwanegol a gymerir gennym ar hyn o bryd, a'n gallu i gael pobl allan o'r system ysbytai ac i ofal cymdeithasol. Dyna pam y mae breuder gofal cartref a phreswyl yn gymaint o fygythiad a phroblem, sef pam ein bod yn edrych mwy ar iechyd a gofal cymdeithasol yn agosach at ei gilydd. Ac fe ddywedaf eto, heb y berthynas well a'r camau y mae'n rhaid i lywodraeth leol eu cymryd ochr yn ochr â'r gwasanaeth iechyd—mae'r pethau hynny'n digwydd yn awr, wrth imi siarad, i gael mwy o bobl allan o'r ysbyty—byddai'r broblem hon yn waeth o lawer. Ond nid yw wedi'i orffen. Yn sicr, nid wyf yn hunanfodlon nac yn hapus fy myd, oherwydd rwy'n cydnabod bod hynny'n golygu nad yw profiad rhai pobl yr hyn y dylai fod. A'r nifer fach o lawdriniaethau a gynlluniwyd a oedd i fod i ddigwydd ond nad ydynt wedi digwydd—y system yn cynllunio ar gyfer yr hyn y gall ddisgwyl ei weld yw hynny. Ond mae'r rhain yn dderbyniol o hyd, serch hynny, y tu hwnt i'r gweithgarwch a gynlluniwyd. Felly, bydd yr archwiliad dwfn y soniais amdano, y cyfeiriodd Angela Burns ato, yn digwydd. Fe fydd yn ddefnyddiol nid yn unig ar gyfer Hywel Dda ond ar gyfer rhannau eraill o'n system hefyd. Ac rwy'n edrych ymlaen at ateb cwestiynau tebyg yr wythnos nesaf yn ôl pob tebyg pan fyddaf yn gwneud datganiad ar bwysau'r gaeaf. Diolch i'r Gweinidog. 5. Datganiadau 90 Eiliad Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiadau 90 eiliad. Un datganiad sydd heddiw, ac mae'r datganiad hynny gan Russell George. Russell George AC: Diolch, Lywydd. Cyrhaeddodd yr Angel Cyllyll Oriel Davies Gallery yn y Drenewydd ddydd Sadwrn. Dyma'r lleoliad cyntaf yng Nghymru i groesawu'r cerflun wrth iddo barhau ar ei daith ar draws y DU, a bydd yn aros yn y Drenewydd tan ddiwedd mis Ionawr, mewn ymdrech i roi diwedd ar droseddau cyllyll ac ymddygiad treisgar. Yn ffodus, nid oes gan Bowys broblem ddifrifol gyda throseddau cyllyll, ond mae'r Angel Cyllyll yn bodoli hefyd i weithredu yn erbyn bwlio a llinellau cyffuriau ac ymosodiadau eraill. Cludwyd yr angel o Ganolfan Gwaith Haearn Prydain yng Nghroesoswallt, a nod y cerflun, sydd wedi'i greu'n gyfan gwbl o gyllyll, yw codi ymwybyddiaethy gymdeithas o droseddau cyllyll. Ar ôl cysylltu â heddluoedd, gosodwyd 200 o fanciau cyllyll mewn lleoliadau ar draws y wlad a dechreuodd y broses o greu'r Angel Cyllyll. Cafodd y seremoni ddydd Sadwrn diwethaf i groesawu'r AngelCyllyll i'r Drenewydd ei harwain gan y Cynghorydd Joy Jones, sydd wedi gweithio'n galed iawn hefyd gyda Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, a Chyngor Sir Powys i ddod â'r cerflun i'r Drenewydd. Felly, hoffwn dalu teyrnged iddi hi a phawb arall sydd wedi gweithio i sicrhau hyn. Roedd y nifer a ddaeth i weld y cerflun yn y Drenewydd yn anhygoel ac roedd yn dangos yr effaith y mae'r Angel Cyllyll yn ei chael ym mhob man y mae'n mynd, gan gyfleu neges gwrth-drais. Ac am weddill y mis hwn, mae Cyngor Sir Powys yn cynnal amryw o weithdai a rhaglenni addysgol, ac mae'r ymgyrch yn cynnwys ysgolion a grwpiau ieuenctid hefyd. Heb gymorth y cyhoedd, ni all y cerflun cenedlaethol yn erbyn trais ac ymddygiad ymosodol gyfleu ei neges i'r rhai y bwriadwyd iddi eu cyrraedd. Felly, os ydych yn y Drenewydd neu'n mynd heibio i'r Drenewydd y mis hwn, ewch i weld yr Angel Cyllyll. 6. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Waith y Pwyllgor Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad am y wybodaeth ddiweddaraf am waith y pwyllgor hynny. Dwi'n galw ar y Cadeirydd i wneud ei datganiad—Dawn Bowden. Dawn Bowden AC: Diolch, Lywydd. Sefydlwyd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad gan y Cynulliad Cenedlaethol hwn ym mis Medi 2019 i archwilio argymhellion y panel arbenigol ar ddiwygio etholiadol y Cynulliad. Bydd yr Aelodau'n cofio i'r panel arbenigol, yn 2017, adrodd ar amrywiaeth eang o faterion, ond yn greiddiol i'w waith roedd cydnabyddiaeth fod angen i'r Cynulliad a'i Aelodau allu cyflawni ein cyfrifoldebau'n effeithiol os ydym i wasanaethu'r bobl a gynrychiolwn yn briodol. Daeth y panel arbenigol i'r casgliad, ar drothwy cyfnod newydd ar ddatganoli yng Nghymru, na all y Cynulliad barhau fel y mae heb beryglu ei allu i gyflawni dros y bobl a'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu. Mae argymhellion y panel arbenigol ar bleidleisiau i bobl ifanc 16 ac 17 oed wedi cael eu rhoi ar waith gan y Bil Senedd ac etholiadau. Ein rôl fel pwyllgor yw archwilio gweddill yr argymhellion, sy'n cynnwys amrywiaeth o faterion pwysig. Mae'r rhain yn cynnwys: maint y Cynulliad; ei amrywiaeth; sut y caiff Aelodau eu hethol; a'r ardaloedd rydym yn eu cynrychioli. Gellir ystyried y rhain yn faterion cymhleth a thechnegol, ond rhaid inni helpu i barhau â dadl gyhoeddus wybodus gan eu bod wrth wraidd ein democratiaeth sy'n dal i ddatblygu yng Nghymru. Fel pwyllgor, byddwn yn edrych ar bob mater yn ei dro. Ni welwn unrhyw angen i fynd dros y tir blaenorol, felly, wrth gyflawni ein gwaith, byddwn yn cydgrynhoi ac yn ychwanegu at y dystiolaeth sy'n bodoli, gan ddefnyddio gwaith y panel arbenigol fel ein pwynt cychwynnol. Credaf y bydd y sgyrsiau rydym yn eu cael ac unrhyw argymhellion a wnawn yn fwyaf effeithiol os byddant yn ategu gweledigaeth hirdymor ar gyfer y Senedd ac yn seiliedig ar sylfaen eang o gefnogaeth wleidyddol a chyhoeddus. Er mwyn cyflawni hyn, bydd y pwyllgor yn edrych tuag allan ac yn agored ei feddwl. Byddwn yn darparu gwybodaeth gywir a hygyrch, yn chwilio am dystiolaeth ac yn casglu safbwyntiau. Byddwn yn defnyddio ystod eang o ddulliau i gasglu tystiolaeth ac yn gwrando'n ofalus ar farn pobl. Mae'r rhan fwyaf ohonom yn y Siambr hon wedi ymwneud â'r sefydliad hwn neu wedi bod yn rhan ohono ers ei ddyddiau cynnar, ond rhaid inni gofio hefyd na fydd pobl iau—gan gynnwys y rhai 16 a 17 oed a gaiff yr hawl i bleidleisio am y tro cyntaf yn 2021—erioed wedi adnabod Cymru heb ddatganoli. Er mwyn sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed yn ystod ein gwaith, rydym yn edrych ar opsiynau ar gyfer gweithio gyda Senedd Ieuenctid Cymru ac ar gyfer ymgysylltu â phobl ifanc ledled Cymru drwy dimau addysg ac allgymorth y Cynulliad. Felly, mae heddiw'n foment allweddol yng ngwaith y pwyllgor. Ers i chi bleidleisio i greu'r pwyllgor hwn, rydym yn ymwybodol fod y rhan fwyaf o'n trafodaethau wedi bod yn breifat, wrth inni gael cyfarwyddyd technegol a thrafod y rhaglen waith rydym yn ei chyflwyno heddiw. Mae'r datganiad hwn yn awr yn rhoi cyfle i rannu ein cynlluniau â chi. Heddiw, rydym wedi cyhoeddi ein dull gweithredu strategol, gan nodi ein nodau a'n hamcanion ar gyfer y misoedd i ddod, yn ogystal â'r cylch gorchwyl ar gyfer pob un o'n hymchwiliadau. Gobeithio y bydd hyn yn darparu eglurder ynglŷn â sut y byddwn yn archwilio'r tri mater allweddol yn ein cylch gwaith. Rydym hefyd wedi lansio ein hymgynghoriad cyntaf heddiw. Rydym yn gofyn am dystiolaeth gan y gymuned etholiadol, pleidiau gwleidyddol a rhanddeiliaid eraill i lywio ein gwaith ar systemau etholiadol, ffiniau, a mecanweithiau adolygu ffiniau. Yn ogystal â chasglu tystiolaeth ysgrifenedig ffurfiol, mae arnom eisiau i bawb allu dilyn ein gwaith a dweud wrthym beth y maent yn ei feddwl. I hwyluso hyn, byddwn yn defnyddio platfform ymgysylltu digidol 'Eich Cymru Chi' i rannu gwybodaeth am ein gwaith ac i roi cyfleoedd i bobl gynnig eu syniadau a'u hadborth ar sail barhaus. Gobeithiaf y byddwch chi, fel Aelodau, yn annog pobl yn eich etholaethau a'ch rhanbarthau i ymgysylltu â'n gwaith yn y modd hwn. Rwy'n falch heddiw o fod wedi gallu amlinellu ein rhaglen waith uchelgeisiol a chynhwysfawr y bwriadwn ei chwblhau erbyn hydref 2020. Yn wir, mae ein gwaith eisoes wedi dechrau, gyda sesiwn dystiolaeth ym mis Rhagfyr gyda'r Llywydd, a thrafodaethau gyda rhanddeiliaid yn gynharach yr wythnos hon. Rydym yn bwrw iddi ar ein gorchwyl gydag ymdeimlad o realaeth gan ein bod yn gwybod bod ystod o safbwyntiau gwahanol ymhlith yr Aelodau sy'n bresennol yma heddiw. Yn ddiau, bydd amrywiaeth o safbwyntiau hefyd ymhlith y rhai a fydd yn eistedd yn y seddi hyn yn y Cynulliad nesaf, ac ymhlith yr etholwyr y byddant yn eu cynrychioli. Mae pob un ohonom yn bwrw iddi ar y materion hyn mewn perthynas â'n safbwyntiau gwahanol, ond gobeithiwn y cawn drafodaeth ystyrlon gyda'r pleidiau gwleidyddol ac o fewn y pleidiau, yn ogystal â'r bobl y mae pawb ohonom yn ceisio'u cynrychioli. Nid ydym yn bychanu'r dasg, ond byddwn yn bwrw iddi'n frwdfrydig. Fan lleiaf, ein bwriad yw y bydd ein casgliadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn cynnig trywydd ar gyfer diwygio, a fydd, gobeithio, yn helpu pleidiau gwleidyddol wrth iddynt ystyried eu maniffestos ar gyfer 2021 ac yn sicrhau'r cyfle gorau posibl i gonsensws ymddangos ar ffordd ymlaen. Fel pwyllgor, mae gennym dasg heriol o'n blaenau, ond mae gennym hefyd gyfle gwirioneddol a chyffrous i gyfrannu at y ddemocratiaeth barhaus a ffyniannus yng Nghymru. Diolch yn fawr. Delyth Jewell AC: Rwy'n croesawu sefydlu'r pwyllgor hwn, ac rwy'n falch iawn o gael bod yn aelod ohono. Er hynny, mae'n drueni na ddaw unrhyw newidiadau a argymhellwn i rym tan o leiaf 2026. Mae'n fwy hanfodol byth ein bod yn gweithio ar draws y pleidiau i gael hwn yn brosiect y gall pawb yn y Senedd deimlo ei fod yn perthyn iddynt—ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd meinciau'r Ceidwadwyr yn teimlo y gallant ychwanegu Aelod i'n plith. Nawr, fel y dywedodd Dawn Bowden, bydd y pwyllgor yn edrych yn rhannol ar sut y gallwn fynd i'r afael â'r diffyg capasiti sydd gennym yn y lle hwn, i ganiatáu inni fod yn fwy arloesol, i wneud mwy o waith trawsbleidiol, i wneud gwaith craffu mwy effeithiol, ac i ganiatáu i Aelodau'r Senedd hon ddatblygu arbenigedd mewn meysydd penodol. Nawr, Lywydd, nid yw hyn yn ymwneud â chynyddu niferoedd er mwyn cynyddu niferoedd; mae'n golygu sicrhau y gall y Senedd hon gyflawni'n llawn nid yn unig ei photensial ond ei dyletswydd i fod yn Senedd genedlaethol go iawn i Gymru. Dod yn ddeddfwrfa sy'n adlewyrchu'r bobl y mae'n eu cynrychioli, Senedd lle gall pobl Cymru weld eu hunain nid yn unig yn cael sylw, ond hefyd yn cael eu henghreifftio, Senedd lle gallai unrhyw un yng Nghymru weld pobl sy'n edrych yn debyg iddynt hwy, yn meddu ar nodweddion tebyg iddynt hwy. Oherwydd bydd ein pwyllgor hefyd yn ystyried sut y gallai'r cynnydd yn nifer yr Aelodau arwain at fwy o amrywiaeth yn y lle hwn. Wedi'r cyfan, mae mwy nag un ystyr i'r gair 'represent'. Gall olygu gweithredu neu siarad ar ran neu gyflwyno'n swyddogol ar ran person neu grŵp arall o bobl, ond gall hefyd olygu bod yn ganlyniad i rywbeth neu fod yn rhywbeth. Pan fyddwn yn cael ein hethol i'r Senedd hon, cawn yr anrhydedd aruthrol o siarad ar ran a phleidleisio er budd ein hetholwyr. Hyd yma, a chyda rhai eithriadau, gwelwyd diffyg amrywiaeth siomedig yn ein plith. Dyma ein cyfle i unioni'r sefyllfa. Dychmygwch Senedd lle mae pob person sy'n byw yng Nghymru yn cydnabod y Senedd fel lle sy'n berthnasol ac yn perthyn iddynt hwy. Nawr, oni fyddai hynny'n newid y gallem i gyd fod yn falch ohono? David J Rowlands AC: Er bod fy mhlaid yn barod i gymryd rhan mewn trafodaeth a dadl ar y cynnydd yn nifer Aelodau'r Cynulliad a'r materion eraill sy'n rhan o gylch gwaith y pwyllgor, credwn fod yn rhaid cael archwiliad cadarn a chynhwysfawr o rôl a llwyth gwaith yr Aelodau Cynulliad presennol ar hyn o bryd, archwiliad sydd hefyd yn ystyried y cynnydd yn llwyth gwaith y Cynulliad yn ei gyfanrwydd. Byddai hyn wedyn yn dynodi a oes galw am ehangu i 80 neu 90 o Aelodau Cynulliad, fel y rhagwelwyd yn adroddiad y pwyllgor arbenigol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru. Yn anad dim, rhaid i'r Cymry eu hunain gael eu hargyhoeddi, drwy'r dadleuon a gyflwynir, fod ehangu o'r fath nid yn unig yn ddymunol ond yn anorfod. Fel plaid, rydym wedi dewis bod yn rhan o'r broses drwy ein cynrychiolaeth ar y pwyllgor diwygio etholiadol oherwydd credwn y dylai newidiadau mor ddramatig i strwythur y Cynulliad fod yn ddarostyngedig i'w harchwilio'n drylwyr. Fel y mae Cadeirydd y pwyllgor wedi'i amlinellu, mae'r pwyllgor yn benderfynol o ymgysylltu â phawb y bydd y newidiadau'n effeithio arnynt, a bydd hyn, yn anad dim, yn cynnwys y cyhoedd yng Nghymru yn gyffredinol. Er mwyn cyflawni'r nodau hyn, rydym wedi nodi sut y bwriadwn hwyluso'r ymgysylltiad hwn ac yn wir, rydym eisoes wedi dechrau ar y broses gyda thrafodaethau cychwynnol â chadeirydd y panel arbenigol ar ddiwygio etholiadol y Cynulliad, Laura McAllister, ei swyddogion, a'r Llywydd a'i staff. Rydym hefyd wedi cynnal digwyddiad bwrdd crwn gyda rhanddeiliaid perthnasol. Wrth gwrs, nid yw ein trafodaethau wedi'u cyfyngu i'r cynnydd yn nifer yr ACau. Mae dau gynnig pwysig arall y byddwn yn edrych arnynt yn fanwl. Y cyntaf o'r rhain yw pa newidiadau y gellir eu gwneud i gynyddu amrywiaeth yn y Cynulliad, a'r ail yw diwygio etholiadol. Hynny yw, y dull o ethol Aelodau'r Cynulliad, a bydd hyn yn cynnwys unrhyw newidiadau arfaethedig i ffiniau y gallai fod eu hangen er mwyn gweithredu newidiadau i'r system etholiadol a ddewisir. O ystyried ein trafodaethau hyd yn hyn, rwy'n argyhoeddedig fod gennym Gadeirydd pwyllgor hynod gymwys yn Dawn Bowden, a cheir awydd pendant ymhlith y pleidiau sydd wedi dewis cymryd rhan yn y broses hon i ddod i gonsensws ar y ffordd ymlaen. Diolch. Fy nghamgymeriad i: dylwn fod wedi gofyn i Gadeirydd y pwyllgor ymateb i'r datganiadau a wnaethpwyd gan Delyth Jewell a David Rowlands. Datganiad ydyw, nid dadl, ac rwyf wedi drysu fy hun. Felly, os caf ofyn i Gadeirydd y pwyllgor ymateb i'r datganiadau sydd eisoes wedi'u gwneud— Dawn Bowden AC: Diolch, Lywydd. —ac fe geisiaf roi trefn arnaf fy hun. [Chwerthin.] Dawn Bowden AC: Mae'n iawn, roeddwn i'n aros am y cwestiynau, ac roeddent yn ddatganiadau cefnogol iawn, felly diolch i chi'ch dau am hynny. A gaf fi ymdrin yn gyntaf â'r pwynt a wnaeth Delyth Jewell am ddiffyg Aelod Ceidwadol ar y pwyllgor? Rwy'n credu y buaswn innau hefyd ac aelodau eraill o'r pwyllgor yn croesawu'n fawr pe bai'r Blaid Geidwadol yn adolygu eu safbwynt ar hynny. Cefais sgyrsiau gydag arweinydd y grŵp Ceidwadol, a gwn fod y grŵp Ceidwadol yn awyddus iawn i fod yn rhan o waith y pwyllgor, ac yn sicr barn y pwyllgor yw bod angen inni estyn allan at bob plaid wleidyddol, hyd yn oed y rhai nad ydynt ar y pwyllgor a gofyn am eu safbwyntiau, a byddwn yn ceisio gwneud hynny. Ond wrth gwrs, gall y pwyllgor newid ei aelodaeth ar unrhyw adeg, ac os yw'r Ceidwadwyr yn cynnig rhywun i fod yn aelod o'r pwyllgor a gweithio gyda ni, yna credaf y gall y Pwyllgor Busnes edrych ar hynny a gwneud argymhellion i'r Cynulliad, a gallwn dderbyn aelod ychwanegol, felly rwy'n mawr obeithio y bydd hynny'n digwydd. Y materion eraill sydd wedi'u nodi yw materion yn ymwneud â chapasiti, amrywiaeth a chraffu. Yn sicr, o ran capasiti, fel y disgrifiwyd gan David Rowlands, rydym eisoes wedi cael trafodaeth bwrdd crwn gyda rhai rhanddeiliaid cychwynnol, a sefydliadau trydydd parti oedd y rhain yn bennaf a'r cyfryngau a oedd yn cydweithio'n agos iawn â'r Cynulliad, ac roeddent yn gallu rhoi eu harsylwadau inni ynglŷn â sut y maent yn gweithio gyda'r Cynulliad. Roeddwn yn meddwl mai'r hyn a oedd yn ddiddorol am hynny oedd y modd y gallent gyferbynnu a chymharu sut y gallant ryngweithio ag Aelodau Seneddol yn San Steffan a'r modd na allant ryngweithio â ni yn yr un modd, oherwydd ein diffyg capasiti, ein diffyg niferoedd, ein hargaeledd ac yn y blaen, a'r angen i ni allu arbenigo mewn meysydd penodol. Unwaith eto, cyfeiriwyd at y ffaith nad yw Aelodau Seneddol ond yn eistedd ar un pwyllgor yn aml iawn, ac rwy'n credu, Lywydd, pan roesoch dystiolaeth, eich bod wedi crybwyll y ffaith nad yw oddeutu 100 o'r Aelodau Seneddol yn eistedd ar unrhyw bwyllgor o gwbl Felly, mae hynny'n rhoi llawer mwy o gyfle i'r Aelodau Seneddol allu arbenigo, i ganolbwyntio ar feysydd penodol, nag y gallwn ni fel Aelodau Cynulliad. Rwy'n credu mai un o'r pethau sydd wedi dod i'r amlwg yn glir yn y wybodaeth a gawsom hyd yn hyn er mwyn ein galluogi i graffu'n fwy effeithiol—ac wedi'r cyfan, dyna ddylai'r Cynulliad fod yma i'w wneud, craffu ar y Llywodraeth—yw bod angen i ni gael y capasiti i allu gwneud hynny. Pwynt arall a ddeilliodd o'r trafodaethau y credaf ei fod yn deilwng o sylw yma oedd ein bod yn dweud yn barhaus fod gennym 60 o Aelodau, ond mewn gwirionedd, tua 45 sydd gennym mewn gwirionedd, oherwydd mae 15 yn y Llywodraeth, ac felly, 45 o Aelodau sydd gennym ar gael felly i wneud gwaith pwyllgor, gwaith y Comisiwn a gwaith craffu. Felly, mae angen inni edrych arno yn y cyd-destun hwnnw. Ond rwy'n credu mai un o'r agweddau allweddol i ni, a rhywbeth rwy'n credu bod pob un ohonom wedi'i nodi, yw bod gennym lawer iawn o waith i'w wneud gyda'r cyhoedd. Bydd hynny'n bwysig eithriadol inni mewn perthynas â sicrhau agwedd eangfrydig ar ran y pwyllgor, sut yr ymgysylltwn ag aelodau o'r cyhoedd, sut yr eglurwn wrthynt beth y mae'r lle hwn yn ei wneud, a sut y gallant ddylanwadu ar hynny a sut y gallant ein gwneud yn fwy effeithiol. Huw Irranca-Davies AC: A gaf fi groesawu'r datganiad gan y Cadeirydd heddiw, ac wrth wneud hynny, hoffwn ddiolch iddi hi a fy nghyd-Aelodau ar y pwyllgor am y ffordd golegol, agored, ddidwyll ac ymgysylltiol iawn yr aethom ati gyda'n gilydd i wneud gwaith y pwyllgor? Er y gallwn oll gyflwyno ein syniadau ein hunain, ac weithiau, ein rhagdybiaethau ein hunain, mae pawb ohonom wedi ymrwymo i fod yn agored ac i ystyried y dystiolaeth wrth iddi gael ei chyflwyno. Mae'r rhain yn faterion gwleidyddol dyrys: archwilio'r achos dros ragor o ddiwygio etholiadol, dros gael Aelodau Cynulliad ychwanegol a materion cysylltiedig. Ond ein dyletswydd fel pwyllgor yw archwilio'r materion hyn mewn modd ystyrlon, hyddysg ac wedi'i arwain gan dystiolaeth, ac rydym yn gwneud hynny. Nawr, mae sawl rhan i'r strategaeth sy'n sail i'r ymchwiliad a nododd y Cadeirydd yn ei datganiad heddiw ac yn y dogfennau ategol sydd ar y wefan, ond un o'r agweddau pwysicaf yw cysylltu â'r cyhoedd a'u hysbysu er mwyn helpu i lunio ein gwaith fel pwyllgor. Felly, fy nghwestiwn cyntaf i'n Cadeirydd yw gofyn a all ymhelaethu ar ein dull o ymgysylltu â dinasyddion Cymru a gofyn am eu barn wybodus ar faterion megis y nifer orau o Aelodau Cynulliad ar gyfer y Senedd hon, a'r system etholiadol a ddefnyddir, a materion eraill. Mae'r ymgysylltiad hwn, yn gynnar ac yn gyson drwy'r broses, hefyd yn bwysig wrth sefydlu a ellir cyflwyno ac ennill y ddadl dros ddiwygio pellach, gan fod cefnogaeth eang cymdeithas ddinesig ac etholwyr gwybodus yn bwysig wrth ddatblygu unrhyw ddiwygiadau yn y dyfodol. Huw Irranca-Davies AC: Nawr, fel y dywedodd y Cadeirydd yn ei sylwadau agoriadol, bydd unrhyw argymhellion a wnawn yn fwyaf effeithiol os ydynt wedi'u gwreiddio mewn cefnogaeth wleidyddol a chyhoeddus eang ei sail. Felly, mae ymgysylltu â'r cyhoedd ar y cam hwn a thrwy'r cyfan yn hollbwysig, ond mae'r ymgysylltiad gwleidyddol yn bwysig hefyd, mae'n rhaid i mi ddweud. Felly, fy ail gwestiwn i'n Cadeirydd yw holi a fydd—a sut y bydd—yn parhau i drafod â'r holl bleidiau gwleidyddol yn y Senedd, yn ogystal â'r elfennau gwleidyddol arwyddocaol eraill yng Nghymru nad ydynt wedi'u cynrychioli yma, er mwyn gallu bwydo eu safbwyntiau hwy i mewn hefyd, ond fel y gallant weld ac ymwneud â'r dystiolaeth a glywn. Yn benodol—mae wedi cael ei grybwyll yn barod—rwy'n chwilio am gadarnhad gan y Cadeirydd fod yna sedd, yn wir, wrth fwrdd y pwyllgor ar gyfer yr holl brif bleidiau gwleidyddol a gynrychiolir yma, a byddem am weld y sedd las wag honno yn cael ei llenwi gan Aelod galluog, ystyrlon a chraff o'r meinciau yn union gyferbyn â mi yma, ac y bydd yn parhau, ar ran y pwyllgor, fel y byddaf i'n bersonol yn ei wneud, i annog llenwi'r sedd honno, fel y gallwn oll ymwneud â'r dystiolaeth gyda'n gilydd, ni waeth beth fo'n safbwyntiau unigol neu ein safbwyntiau pleidiol wleidyddol. Yn sicr, dyna'r dasg fwyaf sylfaenol sydd gennym fel deddfwyr a llunwyr polisïau—ymgodymu â'r cwestiynau anodd hyn gyda'n gilydd. Rwyf o ddifrif yn gweld colli llais a chyfraniad fy nghyd-Aelodau ar draws y llawr ar y pwyllgor hwn, ac rwy'n siŵr bod y blaid honno, a fu, o dan Disraeli ac o dan Gladstone, yn ymgodymu ag anhawster, ond mae'n rhaid i mi ddweud yn hyderus hefyd, gyda phethau fel y cwestiwn Gwyddelig, fel ymestyn yr etholfraint, a diwygio seneddol mawr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae'n fwy na galluog a hyderus, rhaid imi ddweud—. Rwy'n edrych ar unigolion gyferbyn yn awr, byddai unrhyw un o'r Aelodau hynny'n gallu cymryd rhan yn y pwyllgor bach amser cyfyngedig ar ddiwygio etholiadol. [Torri ar draws.] Rwy'n gwneud fy ngorau i annog hyn, Lywydd. Byddent yn fwy na galluog, o'r blaid honno, i ymwneud â'r pwyllgor bach amser cyfyngedig ar ddiwygio etholiadol yn yr unfed ganrif ar hugain. A gaf fi hefyd ofyn i'r Cadeirydd ymhelaethu ychydig ar drefn, amserlen, y pwyllgor gorchwyl a gorffen hwn i bob pwrpas? Yn y pen draw, mae gwneud unrhyw benderfyniadau terfynol ar ddiwygio etholiadol yn mynd i fod yn nwylo holl Aelodau'r Senedd yma, wedi'u llywio gan y cyhoedd a'u pleidiau eu hunain, ond hefyd yn cael eu llywio gan waith y pwyllgor hwn. Felly, a all amlinellu ei barn gyffredinol, fel Cadeirydd y pwyllgor, ar ba bryd y mae'n rhaid i'n hargymhellion ddod i'r amlwg er mwyn galluogi'r Senedd hon i'w hystyried yn gynhyrchiol, ac a fydd hi'n trafod gyda'r Llywydd, Llywodraeth Cymru ac arweinwyr y pleidiau o bob plaid sut y mae'r amserlen hon yn galluogi unrhyw gynigion ar gyfer diwygio y gellir eu cyflwyno, os yw'r dystiolaeth yn ei gefnogi ac os teimlir y gall cynigion ennyn cefnogaeth y Senedd, yn yr amserlen sy'n caniatáu i gynulliadau'r Senedd hon neu Seneddau yn y dyfodol wneud y paratoadau angenrheidiol, y ddeddfwriaeth angenrheidiol, os yw'n briodol, a'i chyflwyno? Yn olaf, a gaf fi ofyn i'r Cadeirydd am ei barn ar rywfaint o'r dystiolaeth a glywsom eisoes? Crybwyllodd hyn funud yn ôl—ar y goblygiadau i berfformiad ac effeithiolrwydd y Senedd hon ac ar ein dulliau o weithio a'n hwythnos waith, neu ar yr hyn y gallai fod yn rhaid inni ddewis peidio â'i wneud â'n pwerau presennol, heb sôn am bwerau nad ydym yn eu defnyddio ar hyn o bryd, neu unrhyw bwerau yn y dyfodol, os byddwn yn dewis peidio â chyflawni newidiadau pellach a allai gynyddu capasiti ac amrywiaeth o ran cynrychiolaeth i adlewyrchu hyn yn llawn, ein gwlad, ein Senedd Cymru. Rydym eisoes wedi clywed tystiolaeth ar hyn ac roedd yn ddiddorol iawn clywed beth y mae'r sefydliadau sy'n ymgysylltu â ni'n rheolaidd ac yn ein lobïo ar faterion pwysig iechyd a'r amgylchedd a chymaint o bethau eraill, yn ei feddwl fyddai goblygiadau dewis peidio â bwrw ymlaen â rhyw fath o ddiwygio etholiadol a fyddai'n cynyddu capasiti ac amrywiaeth y lle hwn. A fyddai'n dymuno ymhelaethu ar hynny? Dawn Bowden AC: Ie, Diolch, Huw, fe gymeraf hynny gan ddechrau ar y diwedd. Y pwynt olaf a wnaethoch am y goblygiadau i'n perfformiad, yn fy marn i, yn ôl y dystiolaeth gyfyngedig a gawsom hyd yn hyn, roedd y dystiolaeth a gawsom yn gyson ac yn glir iawn o ran y goblygiadau i ni. Os deuwn at bwynt lle na allwn ehangu maint y Cynulliad hwn, credaf ei bod yn amlwg i bawb y siaradasom â hwy hyd yma y bydd yn rhaid i'r ffordd y mae'r Cynulliad yn gweithio newid yn ddramatig. Ac mae'n debyg y bydd yn rhaid cael rhai argymhellion y byddai llawer o Aelodau'r lle hwn yn eu hystyried yn annymunol. Ac os dywedaf wrthych mai un o'r pethau a awgrymwyd i ni hyd yn oed, a fyddai'n eithriadol o annymunol i mi ac i'r rhan fwyaf o'r Aelodau yn yr ystafell hon, oedd y gallai fod yn rhaid inni oedi datganoli ei hun os nad ydym mewn sefyllfa i gyflawni ein swyddogaethau'n effeithiol. Yr hyn roedd y bobl hynny'n sôn amdano oedd y byddai'n rhaid inni ddweud, o ran pwerau pellach, os na allwn ymgymryd â rhagor o bwerau'n fwy effeithiol, efallai y bydd yn rhaid inni ddweud na allwn ac efallai y bydd yn rhaid inni edrych ar y pwerau sydd gennym eisoes a dweud na allwn bellach fwrw ymlaen â'r pwerau hynny oni allwn eu gwneud yn effeithiol. Nawr, nid wyf yn dweud bod hynny'n rhywbeth roedd y pwyllgor yn cytuno ag ef, nid wyf yn dweud y byddai hynny o reidrwydd yn un o'n hargymhellion; yr hyn rwy'n ei ddweud wrthych yw bod hwnnw'n un o'r awgrymiadau a gyflwynwyd gan bobl sy'n ymgysylltu â ni ac roeddent yn dweud y byddai angen inni roi ystyriaeth ddifrifol i hyn. Agweddau eraill ar ein gwaith y byddai'n rhaid inni edrych arnynt yw ein hwythnos waith, sawl diwrnod yr wythnos y bydd y Cynulliad hwn yn eistedd, pa mor hir fydd ein dyddiau, faint o bwyllgorau sy'n cyfarfod, a oes angen inni uno rhai o'n pwyllgorau, a allwn anfon pobl adref ar ddydd Iau neu a oes raid i bobl aros yma bum niwrnod yr wythnos, a phob un o'r mathau hyn o bethau. Os ydym o ddifrif ynghylch bod yn gorff deddfu sydd o ddifrif ynghylch craffu ar waith y Llywodraeth hon, oni fyddwn yn ehangu'r capasiti, bydd yn rhaid inni wneud rhai penderfyniadau anodd ac annymunol iawn. O ran yr amserlenni, yr amserlen rydym yn gweithio arni ar hyn o bryd yw llunio argymhellion y pwyllgor cyn toriad yr haf eleni gyda'r bwriad o ddod yn ôl i'r Cynulliad ar gyfer dadl yn sesiwn yr hydref—felly, cyn toriad yr hydref ym mis Hydref. Dyna'r math o amserlen rydym yn gweithio iddi. Gallai lithro, neu beidio. Nid wyf yn gwybod faint o ryddid fyddai gan y pwyllgor i lithro yn ei amserlen oherwydd bod y penderfyniad hwnnw wedi'i wneud gan y Cynulliad hwn o ran, wyddoch chi, mai grŵp gorchwyl a gorffen ag iddo amser cyfyngedig yw hwn. Rwy'n credu bod angen inni weithio yn ôl yr amserlen honno. Mae'n rhaid i mi ddweud bod clercod y pwyllgor—. A gaf fi ddiolch o galon i glercod y pwyllgor sydd wedi gweithio'n galed iawn ar gynhyrchu amserlen ar ein cyfer, gan nodi'n glir iawn y darnau o dystiolaeth sydd angen inni eu casglu a'r grwpiau y mae angen inni siarad â hwy yn ystod ein gwaith? Daw hynny â mi at y pwynt a godwyd gennych, Huw, a chrybwyllais ef yn fy ateb blaenorol, ynghylch ymgysylltiad ac ymwneud â dinasyddion. Yr hyn rydym yn ei gynnig o ran ymgysylltu â dinasyddion yw ein bod yn sefydlu cynulliad dinasyddion. Y rheswm pam ein bod wedi cynnig sefydlu cynulliad dinasyddion yw bod hynny'n rhoi'r cyfle gorau inni gael sampl cynrychiadol iawn o'r etholaeth ehangach o ran oedran, rhyw, lleoliad, iaith—Cymraeg, Saesneg ac ati—y gallwn eu dwyn ynghyd gyda safbwyntiau amrywiol, safbwyntiau gwleidyddol amrywiol, a gellir gwneud hynny'n eithaf gwyddonol, ein bod yn cael pobl at ei gilydd mewn math o senedd fach, math o gynulliad dinasyddion. Ond, ac mae hwn yn 'ond' mawr, mae hwnnw'n ymarfer costus iawn. Byddem yn ceisio gwneud hynny—. Rydym wedi trafod gyda'r clercod sut y gallem wneud hynny yn y ffordd fwyaf costeffeithiol. Felly, rydym wedi edrych ar ben isaf y raddfa, ond hyd yn oed ar ben isaf y raddfa, nid yw'r swm o arian y byddai ei angen i redeg cynulliad dinasyddion yn ansylweddol. Ond os ydym o ddifrif ynglŷn â'i wneud, ac os ydym o ddifrif eisiau gwneud yn siŵr ein bod yn cael barn wybodus gan y cyhoedd, teimlwn y byddai'n arian sy'n werth ei wario. A deallaf y bydd Comisiwn y Cynulliad yn edrych ar hynny ar 27 Ionawr i gymeradwyo ein cais am gynulliad i ddinasyddion, gobeithio. Os na chawn gynulliad dinasyddion, bydd yn rhaid inni edrych ar ffyrdd eraill o ymgysylltu â'r cyhoedd, a gallai hynny ddigwydd drwy grwpiau ffocws, gallai ddigwydd drwy arolygon barn, gallai ddigwydd drwy ffyrdd eraill o ymgysylltu. Ond rydym yn awyddus iawn i symud ar hyd y ffordd hon o ymgynghori'n ystyriol iawn gyda phobl ar draws ystod eang o safbwyntiau ac yn y blaen. Felly, y pwynt arall y credaf i chi ei godi, Huw, oedd yr un am y sedd agored i'r Blaid Geidwadol, ac unwaith eto, rwy'n ailadrodd yr hyn a ddywedais wrth ymateb i Delyth Jewell: mae'r sedd yno i'r Blaid Geidwadol allu ymuno. Gobeithio y gallwn barhau â'n sgyrsiau â hwy, y byddant yn ymgysylltu â gwaith y pwyllgor hwn ac y byddant yn adolygu ac yn ystyried eu penderfyniad ac yn dychwelyd atom gyda safbwynt mwy cadarnhaol yn y dyfodol. Hefin David AC: Fe ymunaf ag Aelodau eraill yn y Siambr i ddweud pobl mor hyfryd yw'r Ceidwadwyr a pha mor wych fyddai eu gweld yn ymwneud â hyn. Llyr, peidiwch â dweud, 'Peidiwch â mynd mor bell â hynny'—rwy'n credu y byddai'n beth da iawn pe baent yn cymryd rhan. [Chwerthin.] Lywydd, fe ddefnyddiaf eich geiriau chi i'r pwyllgor, ac mae'r Cadeirydd eisoes wedi sôn am hyn. Fe ddywedoch chi am ASau San Steffan fod dros 100 o'r dros 600 o Aelodau Seneddol heb fod yn aelodau o unrhyw bwyllgorau o gwbl, ac yn eich geiriau chi, fe ddywedoch chi nad ydynt yn cymryd unrhyw ran yn y Llywodraeth na'r wrthblaid, ac—. Nid wyf yn gwybod beth y maent yn ei wneud. Fe ddywedoch chi: Nid wyf yn gwybod sut beth yw'r bywyd hwnnw, dod i'r Senedd a pheidio â chael dim i'w wneud am yr wythnos. Ac mae hynny'n bell iawn o'n profiadau ni. Mae hynny'n bell iawn o brofiad pob un yn y Siambr hon, a ninnau ar ddau neu fwy o bwyllgorau, yn treulio penwythnosau'n ceisio deall ein papurau ar gyfer dau bwyllgor yr wythnos ganlynol, i'r rheini ohonom sydd ar bwyllgorau. Ac ni allaf ddychmygu, felly, sut y mae Gweinidogion y Llywodraeth yn cydbwyso gwaith etholaethol a bod mewn Llywodraeth. Mae'n rhaid ei fod yn uffern llwyr o ran cydbwysedd gwaith a bywyd. Ni allaf ddychmygu bod yn y sefyllfa honno byth, yn enwedig gyda dau o blant ifanc. Ni allaf ddychmygu sut y caiff ei wneud gyda'r niferoedd sydd gennym ar hyn o bryd a'r llwyth gwaith sydd gennym ar hyn o bryd. Ond o ran y ddadl fwy poblogaidd dros berswadio pobl, credaf fod angen ichi ddweud wrth bobl, 'Os yw Gweinidog Llywodraeth yn destun craffu, beth fyddai orau gennych? A fyddai'n well gennych iddynt gael llawer o bobl yn craffu ar yr hyn a wnânt, neu lai o bobl yn craffu ar yr hyn a wnânt?' A buaswn yn dweud y byddai pobl yn dweud, 'Wel, byddai'n well gennyf fod llawer o bobl yn arbenigwyr mewn meysydd bach, cyfyngedig yn craffu ar y Llywodraeth, yn hytrach na bod ychydig o bobl yn ceisio gwneud popeth.' Rwy'n credu eich bod yn cael craffu gwell gyda mwy o Aelodau—[Torri ar draws.]—a hefyd mae dyfnder y craffu yn dod yn well yn ogystal. Mae'n ddrwg gennyf, buaswn wrth fy modd yn derbyn ymyriad, ond datganiad ydyw, felly ni allaf wneud hynny. Ond nid wyf yn gwybod beth rydych newydd ei ddweud, Janet Finch-Saunders, mae'n ddrwg gennyf. A'r mater arall yw tegwch etholiadol ac eglurder. Tegwch etholiadol ac eglurder. Rwyf wedi cael cwynion, Delyth Jewell, gan etholwyr yn Nelson sydd wedi dweud eu bod wedi derbyn taflenni gan Blaid Cymru yn dweud nad fi oedd yr Aelod Cynulliad mwyach ac mai Delyth Jewell oedd yr Aelod Cynulliad. Ac roeddent yn cwyno wrthyf, 'Pa bryd y rhoesoch chi'r gorau iddi?' Wel, wrth gwrs, nid dyna a wnaethoch, dim ond dosbarthu taflen wnaethoch chi, yn dweud, 'Fi yw'r Aelod Cynulliad dros Ddwyrain De Cymru ac rwyf yma i'ch helpu.' Wrth gwrs mai dyna a wnaethoch, nid wyf yn credu i chi wneud unrhyw beth o'i le. Delyth, pe baech chi wedi gwneud unrhyw beth o'i le, buaswn wedi mynd yn syth at y comisiynydd safonau. [Chwerthin.] Delyth Jewell AC: Rwy'n gwrthwynebu hyn. [Chwerthin.] Hefin David AC: Ond yr hyn a wnaethoch oedd y peth iawn i'w wneud—roeddech yn Aelod Cynulliad newydd ac roeddech yn cyflwyno'ch hun i bobl yn Nelson. Ond mae'r bobl yn Nelson wedi drysu—roeddent yn credu bod yna Aelod Cynulliad newydd a fy mod i, rywsut, wedi rhoi'r gorau iddi. Nid oedd pobl yn deall bod ganddynt fwy nag un Aelod Cynulliad yn eu cynrychioli gyda'r system ddeuol hon. Nid yw'r system etholiadol honno'n gweithio ac mae angen ei newid. Credaf y dylai hynny fod yn rhan o'r hyn sy'n cael ei ystyried, a chredaf mai'r unig ffordd y gallwch ddadlau dros fwy o Aelodau Cynulliad yw drwy i chi ddadlau hefyd dros ddiwygio etholiadol sy'n fwy cynrychiadol o'r gymdeithas y ceisiwn ei chynrychioli. Mewn etholaeth aml-Aelod—a defnyddio'r model y mae Laura McAllister yn ei gynnig, rwy'n tybio—y math o etholaeth a fyddai gennym yng Nghaerffili, efallai y byddech chi a minnau'n Aelodau Cynulliad yn cynrychioli'r un etholaeth. Wel, mae hynny'n iawn, oherwydd felly mae gennych esboniad clir ynglŷn â pham roeddech chi yno, yr hyn roeddech yn ei wneud yno, a buaswn yn dadlau hefyd y byddai'n gorfodi pleidiau i gydweithio'n well nag y mae'r system bresennol yn ei wneud. A hefyd, byddai'n fwy cynrychiadol o ganran y bleidlais, oherwydd ar hyn o bryd, hyd yn oed gyda system D'Hondt, nid yw'r Cynulliad hwn yn etholiadol gynrychiadol o ganrannau. Felly, nid yw'n gweithio ar hyn o bryd, ac rwy'n annog—. Gwn fod aelodau'r pwyllgor wedi cymryd cam yn ôl rhag arddel y safbwyntiau eithaf beiddgar hyn, ond rwy'n dadlau o blaid y safbwyntiau hyn—. Fel Aelod mainc gefn o'r Cynulliad, dadleuaf o blaid y safbwyntiau hyn. Credaf y dylech fod yn edrych yn fanwl ar system etholiadol decach, mwy o Aelodau Cynulliad yn ysgwyddo mwy o rolau craffu, a hynny'n cael ei gydbwyso ar draws Siambr fwy cytbwys, a chredaf y gallwn ennill y ddadl honno'n gyhoeddus, yn enwedig heb unrhyw Aelodau o'r Senedd Ewropeaidd a llai o Aelodau Seneddol yn ôl pob tebyg, yn y dyfodol. Credaf y gellir ennill y ddadl honno os ydym yn ddigon beiddgar ac yn cyflwyno'r dadleuon hynny. Hefyd, os oes gennych ddemocratiaeth gynrychiadol dda, ni fydd angen yn y dyfodol am ddemocratiaeth uniongyrchol, oherwydd bydd eich democratiaeth gynrychiadol yn weithredol. Gallwn ymdopi â'r rhaniadau ar ran y gymdeithas. Nid oes raid inni drosglwyddo'r rhaniadau hynny i ddinasyddion ar ffurf refferenda yn y dyfodol—[Torri ar draws.]—buaswn yn dadlau. Buaswn yn dadlau. Mark Reckless, nid wyf yn dadlau ar ran fy mhlaid. Felly, gyda'r achosion hyn yn cael eu gwneud, fy nghwestiwn i chi, Dawn, yw: mae ymgynghoriad eich pwyllgor yn agor ar 19 Chwefror—roeddwn yn ei chael yn eithaf anodd dod o hyd i fanylion yr ymgynghoriad hwnnw ar y wefan, felly credaf y byddai'n ddefnyddiol gwneud hynny'n fwy hwylus i'r defnyddiwr. A hefyd, sut y byddwch yn gwneud hyn—? Nid yw'r geiriau a ddefnyddiwyd yn yr ymgynghoriad y math o eiriau y buaswn i, er enghraifft, yn gallu eu rhannu ar Facebook. Sut rydych chi'n mynd i gael pobl i ymateb i'r ymgynghoriad hwnnw yn y lle cyntaf? Oherwydd os yw'r holl ddadleuon rwyf wedi'u cyflwyno yn mynd i fod allan yno, mae'n rhaid ei wneud yn hygyrch, ac nid wyf yn credu bod yr ymgynghoriad cyntaf hwnnw o reidrwydd mor hygyrch—er gwaethaf cynulliad y bobl—nid wyf yn credu bod yr ymgynghoriad cyntaf hwnnw mor hygyrch ag y gallai fod. Dawn Bowden AC: Diolch am y sylwadau hynny, Hefin. Rwy'n credu bod llawer yn hynny y byddai'r pwyllgor yn cytuno ag ef. Nawr, yr hyn nad wyf yn mynd i'w wneud fel Cadeirydd y pwyllgor, ac nid oes neb o aelodau'r pwyllgor ar hyn o bryd yn mynd i ddweud beth rydym ni'n credu ddylai ddigwydd neu a fydd yn digwydd mewn perthynas â diwygio etholiadol, ond mae diwygio etholiadol yn rhan o'r briff sydd gan y pwyllgor. Felly, byddwn yn edrych—. Rydym eisoes wedi cael y Gymdeithas Diwygio Etholiadol yn dod i mewn i roi briff technegol inni ar y gwahanol fathau o system bleidleisio. Fe fyddwch yn gwybod bod adroddiad Laura McAllister, adroddiad y panel arbenigol, wedi gwneud argymhelliad ynglŷn â symud oddi wrth y system D'Hondt sydd gennym ar hyn o bryd am yr union reswm y siaradoch chi amdano: y math gwahanol o AC a'r dryswch y mae hynny'n ei achosi. Rwy'n gwybod, fel AC dros etholaeth, fy mod yn gwneud pethau'n wahanol iawn i'r ffordd y mae AC rhanbarthol yn gweithio. Felly, nodwyd hynny yn adroddiad y panel arbenigol. Roedd hynny'n rhywbeth nad oedd pobl, yn gyffredinol, yn ei ffafrio wrth symud ymlaen. Roeddent am gael mwy o eglurder ynghylch y modd y caiff pobl eu hethol. Roeddent am gael eglurder o ran gwybod pwy oedd eu Haelod Cynulliad. Felly, bydd rhan o'r gwaith y byddwn yn edrych arno yn canolbwyntio ar ddiwygio etholiadol, ac ynghyd â diwygio etholiadol wrth gwrs, bydd yn rhaid cael trafodaeth ynghylch ffiniau etholiadol. Nawr, at ddibenion y panel arbenigol—ac roedd honno'n ffordd bragmatig o fynd ati oherwydd ar y pryd roedd gobaith, rwy'n credu, y byddai'r argymhellion wedi bod yn weithredol ar gyfer etholiadau 2021. Yn amlwg, nid yw hynny'n digwydd. Fel dull pragmatig o fynd i'r afael â hynny, awgrymodd y panel arbenigol y dylid gefeillio etholaethau, ac y byddai fy etholaeth wedi'i gefeillio â'ch un chi. Felly, Hef, gallech chi a minnau fod wedi bod yn Aelodau yn yr un etholaeth, gyda Delyth a phwy a ŵyr pwy arall. Ond roedd honno'n ffordd bragmatig o'i wneud lle byddem ond wedi lleihau nifer yr etholaethau ond wedi dyblu'r maint, a chynyddu nifer yr Aelodau sy'n cynrychioli pob etholaeth mewn system STV—pleidlais sengl drosglwyddadwy. Felly, mae hynny i gyd yn bethau i'r pwyllgor eu hystyried ac mae'n rhaid i ni gael mwy o dystiolaeth ynglŷn â hynny. Byddwn yn clywed tystiolaeth gan bleidiau gwleidyddol am hynny, oherwydd gwyddom fod gan bleidiau gwleidyddol wahanol safbwyntiau ar hynny, ac mae gan bobl o fewn y pleidiau gwleidyddol safbwyntiau gwahanol ar hynny, ac fe fyddwch yn gwybod, Hefin, yn ein plaid ni, fod gan lawer o bobl safbwyntiau gwahanol iawn ynglŷn â beth yw'r system bleidleisio orau—[Torri ar draws.] Ie, yn sicr, oherwydd rhaid i ni fod—. Rhaid inni fyw yn y byd go iawn a rhaid inni gydnabod mai gwleidyddiaeth yw hyn, a rhaid inni gydnabod y bydd pleidiau gwleidyddol yn edrych i weld pa system y credant y bydd yn eu ffafrio fwyaf. Nawr, réal politique yw hynny. Felly, rhaid inni ystyried hynny. Ond rydym wedi dweud—ac fel y dywedais yn fy natganiad agoriadol—o'r cychwyn cyntaf bydd gennym feddwl agored ynglŷn â hyn, a byddwn yn seilio ein hargymhellion ar dystiolaeth a gyflwynir i ni sy'n dangos beth fyddai'r ffordd orau ymlaen. O ran ffiniau etholiadol, un o'r pethau sydd wedi'u datganoli i ni yw'r gallu i osod ein ffiniau ein hunain, ond nid oes gennym ddeddfwriaeth sylfaenol ar waith eto i'n galluogi i wneud hynny. Felly, mae'r cymhwysedd gennym, ond nid y broses ddeddfwriaethol ar gyfer gwneud hynny. Felly, byddai'n rhaid inni roi hynny ar waith hefyd. Byddai'n rhaid cyflwyno deddfwriaeth drwy'r Cynulliad i'n galluogi i sefydlu ein comisiwn ffiniau ein hunain i benderfynu ar ein ffiniau ein hunain. Felly, bydd hynny, unwaith eto, yn un o'r meysydd gwaith y bydd y pwyllgor yn edrych arnynt—felly, diwygio etholiadol, ffiniau etholiadol. Y pwynt olaf a wnaethoch, rwy'n credu, oedd yr un ynglŷn â sicrhau bod yr ymgynghoriadau'n hwylus i ddefnyddwyr. Rwy'n derbyn hynny, rwy'n derbyn eich pwynt, a byddaf yn cael trafodaeth gyda chlercod y pwyllgor ynglŷn â sut y gallem eu gwneud ychydig yn haws i'r defnyddiwr, ac edrych efallai ar rywfaint o'r iaith a ddefnyddir hefyd, yn sicr, pan fyddwn yn gwneud yr ymgynghoriadau mwy allanol gyda'r cyhoedd, yn hytrach nag ymgynghoriadau gyda sefydliadau sy'n gweithio gyda ni'n rheolaidd. Rwy'n siŵr y bydd hynny'n bwysig iawn, felly rwy'n hapus i edrych ar hynny. Mae’r amser ar ben ar gyfer y datganiad hwn, ond galwaf ar y ddau siaradwr sy'n weddill i roi cyfraniadau byr. Janet Finch-Saunders. Janet Finch-Saunders AC: Diolch yn fawr,Lywydd.Rwy’n ddryslyd braidd—rwy’n codi i wneud sylwadau personol yn awr, mewn gwirionedd, ac rwy’n teimlo bod hyn wedi rhoi cyfle i mi, gyda chi’n cyflwyno hyn, Dawn.Yn sicr, fel Aelod sy'n teithio o ogledd Cymru, ar gost fawr i'r trethdalwr mewn gwirionedd—pedair, pedair awr a hanner ar y trên, yno ac yn ôl—pan fyddaf yma, yn amlwg, rwyf am lenwi'r amser yn y ffordd orau sy’n bosibl. Mae dau beth yn eich datganiad heddiw yn peri pryder i mi.Yn gyntaf, cawsom refferendwm yn 2011, y refferendwm pleidlais amgen—ai dwy fil ac—?[Torri ar draws.] Na, na, ond roedd yn refferendwm er hynny: fe siaradodd y bobl, penderfynodd y bobl ar y system bleidleisio roeddent ei heisiau, ac i mi felAelod drosAberconwy, gydag iechyd ac addysg a'r pryderon sydd ganddynt yno, nid yw'n cael lle blaenllaw ar eu graddfa Richter o’r hyn y dylem fod yn ei wneud yma. Ond fe sonioch chi am fwy o graffu. Nawr, siom arall sydd gennyf, pan fyddwn wedi teithio i lawr yma, yw bod sesiwn gwestiynau'r Prif Weinidog yn arfer bod yn awr, yna cafodd ei byrhau'n fuan iawn i 45 munud. Yn bersonol, rwy’n teimlo y gallem fod yn gwneud mwy yn yr amser rydym yma—y rhifau a roddir inni. Yn eithaf aml, gofynnir i mi yn fy etholaeth, lle mae pobl wedi troi at Senedd.tv, 'Pam y mae'r meinciau bob amser yn wag neu mai ychydig iawn o bobl sydd ar y meinciau hynny?' Rwy'n mynd i bwyllgorau lle mae pobl ar un pwyllgor yn unig, ac nid ydynt yn mynychu’r pwyllgor yn rheolaidd. Rwy'n credu o ddifrif, a hoffwn ofyn—fy nghwestiwn pennaf yw: beth neu bwy yn y sefydliad hwn a fyddai'n edrych efallai ar sut y gallem wneud mwy o ddefnydd o'r amser rydym ni fel Aelodau Cynulliad yma, a pheidio â dal i edrych bob amser ar sut y gallwn gynyddu'r gost i'r trethdalwr? Aelodau, Cymru sydd â'r nifer uchaf o wleidyddion yn Ewrop, yn ôl yr hyn a ddeallaf o astudiaeth a wneuthum.Felly, rwy'n credu, mewn gwirionedd, cyn inni ddechrau dweud, 'Mwy, mwy, mwy—mwy o gost i'r trethdalwr', dylem edrych—[Torri ar draws.] Rwy'n gofyn— Mae'r Aelod yn ceisio cyfrannu at y drafodaeth bwysig hon.Caniatewch iddi barhau. Janet Finch-Saunders AC: Ac rwy'n gofyn y cwestiwn: pa ystyriaethau rydych chi wedi'u rhoi i wneud i'r Cynulliad hwn wneud gwell defnydd o’r Aelodau'r Cynulliad sydd yma mewn gwirionedd ? Diolch. Cyn i Gadeirydd y pwyllgor ymateb, ar gyfer y cofnod, ni allaf gofio amser pan oedd sesiwn gwestiynau'r Prif Weinidog yn para 45 munud. Efallai mai 45 munud sy’n cael ei neilltuo ar ei chyfer, ond ni fu'n 45 munud ers amser go hir. Gadeirydd y pwyllgor. Dawn Bowden AC: Diolch, Lywydd. Fe gadwaf fy ymateb yn gryno iawn. Janet, rydych chi'n llygad eich lle, ac rwy'n credu fy mod i wedi cyffwrdd â hyn yn gynharach mewn ymateb, ynglŷn ag edrych ar—ymateb i Huw Irranca-Davies ydoedd mewn gwirionedd. Un o'r pethau y bydd y pwyllgor yn ei wneud yw edrych ar y ffordd y gweithiwn, oherwydd hyd yn oed os ydym yn cael cytundeb ar argymell Cynulliad mwy o faint, a bod y Cynulliad yn pleidleisio dros hynny, a'n bod yn ei gael, a bod y Llywodraeth nesaf yn cymeradwyo hynny—oherwydd nid y Llywodraeth hon fydd hi; Llywodraeth nesaf Cymru fydd yn bwrw ymlaen â hynny—bydd cyfnod o bum mlynedd o hyd pan fyddwn yn gweithio gyda 60 Aelod. Felly, nid yw'r status quo yn opsiwn o ran sut rydym yn gweithio ar hyn o bryd. Dyna oedd y farn a fynegwyd gan nifer o bobl, ac felly bydd hynny'n un o'r pethau—. Bydd hynny'n un o'r pethau y bydd yn rhaid i ni eu hystyried o'r dystiolaeth a gesglir gennym: os na symudwn at nifer fwy o Aelodau Cynulliad, byddem yn ceisio gwneud argymhellion ynglŷn â sut y gallai'r Cynulliad weithredu'n wahanol, oherwydd ni all barhau i weithredu yn y ffordd y mae’n gwneud yn awr, gyda'r nifer bresennol o Aelodau. Alun Davies AC: A gaf fi bwysleisio'r angen am gyflymder wrth ddadlau a dod i gasgliad ar y materion hyn? Yn yr 20 mlynedd ers cyflwyno llywodraeth ddemocrataidd yng Nghymru rydym wedi cael yr hyn sy'n ymddangos i mi yn gasgliad toreithiog o gomisiynau a phwyllgorau, ac o ran archwiliadau gan rai o feddyliau mwyaf y wlad hon—meddwl mwy nag sydd gen i yn sicr. Ac os yw pawb—[Chwerthin.] Rwy'n derbyn nad yw hynny'n gosod y bar yn arbennig o uchel. Ond mae'r holl bobl sydd wedi astudio'r mater hwn wedi dod i'r un casgliad. Mae eu casgliadau wedi bod ychydig yn wahanol mewn mân faterion, ond daethant i'r un casgliad—nad oes gan y lle hwn adnoddau na chapasiti i wneud ei waith yn briodol, a chaiff ei ethol mewn ffordd nad yw'n galw am gysylltiad y bobl â'r broses wleidyddol. Cefais sioc ddoe, wrth siarad â'r Gymdeithas Diwygio Etholiadol, pan ddysgais fod 52 y cant o'r bobl a bleidleisiodd yn yr etholiad cyffredinol y mis diwethaf wedi pleidleisio dros ymgeiswyr a gollodd—ni chafodd rhywun y gwnaethant bleidleisio drostynt mo'u hethol.Ni wnaeth 52 y cant—mwyafrif ybobl a bleidleisiodd yn yr etholiad cyffredinol y mis diwethaf—ethol rhywun roeddent am eu gweld yn eu cynrychioli.Mae hynny'n gondemniad llwyr o system y cyntaf i'r felin. Ond gwyddom hefyd—gwyddom hefyd—fod y system aelod ychwanegol a weithredwn yma hefyd yn creu datgysylltiad rhwng y bobl y ceisiwn eu cynrychioli a'r lle hwn. Gwyddom nad yw pobl yn gwerthfawrogi nac yn deall y system ddwy haen gyda system y rhestr. Gwyddom fod pobl yn ei chael hi'n anodd deall weithiau pwy sy'n eu cynrychioli, yn yr un ffordd ag y mae fy nghyd-Aelod o Gaerffili wedi'i egluro y prynhawn yma. Rydym hefyd yn gwybod nad yw system y rhestr yn gweithio, a'i bod wedi torri. Gwyddom hynny o ddigwyddiadau yn y lle hwn dros y tair blynedd diwethaf. Nid yw'n darparu'r cymesuredd y ceisiai ei sicrhau. Felly mae'r system sydd gennym yn creu datgysylltiad, mae wedi torri, nid yw'n gweithio, ac felly mae angen newid. Y peth hawsaf yn y byd—y peth hawsaf oll—yw camu'n ôl a chreu sloganau, gwneud dadleuon hawdd a diog. Ond gadewch imi ddweud hyn wrth y rhai sy'n gwneud hynny: nid y Llywodraeth yw'r bobl a fydd o reidrwydd yn elwa o'r diwygio hwn. Y lle hwn, a ni fel seneddwyr fydd yn elwa, oherwydd byddwn yn gallu craffu ar y Llywodraeth mewn ffordd fwy trylwyr nag y gallwn ei wneud heddiw. Bydd gennym amser a lle i gynrychioli ein hetholwyr mewn ffordd fwy trylwyr. Ar hyn o bryd, buaswn yn dadlau mai'r Llywodraeth hon yma yw'r Llywodraeth sy’n ddarostyngedig i leiaf o graffu o bob gwlad yn y Deyrnas Unedig, a hi ddylai fod y Llywodraeth y creffir arni fwyaf. [Torri ar draws.] Yr wrthblaid, Darren, ddylai fod yn gwneud hynny. Gwnaeth Darren y ddadl ddoe na ddylai’r gwrthbleidiau wrthwynebu Llywodraethau, dadl ddewr iawn yn fy marn i i rywun sydd wedi bod yn yr wrthblaid ers 13 blynedd ei gwneud, ond yr wrthblaid fydd yn elwa’n fawr o’r diwygio, nid y Llywodraeth. A chredaf fod yn rhaid inni wneud hynny. Ac rwyf hefyd yn credu—a gwn fy mod yn profi eich amynedd eto, Lywydd—fod gennym ni, fel seneddwyr, gyfrifoldeb uwch na dim ond edrych ar fudd a mantais wleidyddol bersonol a phleidiol. Fel seneddwyr, mae gennym ddyletswydd a chyfrifoldeb i sicrhau bod y lle hwn yn gweithio’n iawn i bobl y wlad hon, ac mae hwnnw’n gyfrifoldeb rwy’n gobeithio fy mod bob amser wedi bod o ddifrif yn ei gylch tra bûm yn Aelod yma. Credaf fod Janet Finch-Saunders yn gywir ar rai pethau. Rwy'n credu bod yna newidiadau sydd angen inni eu gwneud i'r ffordd y mae'r lle hwn yn gweithredu, nid yn unig er mwyn cynyddu'r cyfleoedd sydd gennym yma i sicrhau newid. Ond credaf, er enghraifft, y dylem newid y ffordd rydym yn cyflawni cyllideb y Llywodraeth. Dylai fod gennym broses ddeddfwriaethol i graffu mwy ar y Llywodraeth, i wneud i'r Llywodraeth weithio'n galetach i gael ei ffordd, ond ni allwn wneud hynny os nad oes gennym gapasiti i gyflawni hynny. Credaf hefyd y dylem fod yn rhoi mwy o bwysau ar y Llywodraeth i ddeddfu, mewn ffordd. Rwyf wedi ysgrifennu at y Gweinidog heddiw ynglŷn â chyfraith Lucy, a gofyn pam nad yw hynny'n cael ei gyflawni mor gyflym ag y dylai. Ond ni allwch ddadlau nad yw'r Llywodraeth yn gweithio'n ddigon caled a dadlau wedyn fod angen llai o graffu arni. Ni allwch wneud hynny. Mae hynny'n golygu’n bendant fod angen i chi wneud newidiadau i'r ffordd rydym yn gweithredu yma, ac yn enwedig pan fo gennym system unsiambr. Ond ni allwch wneud hynny os nad ydych chi, ar yr un pryd, yn dadlau dros gael y capasiti a'r strwythurau a'r adnoddau ar waith i wneud y mwyaf o'r gwaith a wnawn fel seneddwyr. Dawn Bowden AC: Diolch am y sylwadau hynny, Alun. Dim llawer yno i anghytuno ag ef, heblaw dweud yn amlwg nad ydym eto wedi gorffen ein trafodaethau ac felly nid ydym wedi dod i gasgliadau ar nifer o'r materion rydych chi'n eu codi. Fy sylw olaf mewn gwirionedd yw dweud ein bod yn chwilio am dystiolaeth a sylwadau gan bleidiau gwleidyddol y tu mewn a'r tu allan i'r lle hwn. Rydym hefyd yn gofyn am dystiolaeth a sylwadau gan aelodau unigol pleidiau gwleidyddol ac Aelodau. Felly, mae croeso i unrhyw Aelod unigol sy'n dymuno gwneud sylwadau ar unrhyw un o'r pwyntiau a godwyd heddiw wneud hynny. Gallwch ei wneud trwy'r wefan neu gallwch ei wneud trwy ysgrifennu ataf yn bersonol. Byddaf hefyd yn sicrhau fy mod ar gael i siarad ag unrhyw Aelod o'r lle hwn sy'n dymuno siarad â mi’n bersonol am unrhyw un o'r materion a godwyd heddiw a gwaith y pwyllgor, a byddaf yn cynnwys hynny i gyd yn nhrafodaethau'r pwyllgor dros yr ychydig fisoedd nesaf. Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair. Diolch yn fawr iawn. 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Adfywio Cymunedol Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans, a gwelliant 2 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Eitem 7 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar adfywio cymunedol.Galwaf ar Mark Isherwood i gyflwyno’r cynnig. Cynnig NDM7221 Darren Millar Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu at fethiant rhaglen Cymunedau yn Gyntaf Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru. 2. Yn cydnabod yr angen i gyflawni, yn ymarferol, dull cydgynhyrchiol o adfywio cymunedol, gyda chyfraniad y gymuned at gyd-gynllunio a chyd-ddarparu gwasanaethau lleol. 3. Yn cydnabod yr heriau penodol y mae trefi glan môr a threfi marchnad yn eu hwynebu gyda chyfraddau uwch o siopau gwag a lefelau uwch o amddifadedd nag mewn rhannau eraill o Gymru. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cronfeydd trefi glan môr a threfi marchnad i gefnogi'r gwaith o adfywio mewn cymunedau ledled Cymru. Cynigiwyd y cynnig. Mark Isherwood AC: Diolch. Mae ein cynnig yn cynnig bod y Senedd hon yn gresynu at fethiant rhaglen Cymunedau yn Gyntaf Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â thlodi yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru. Fel llawer, rhoddais fy nghefnogaeth i'r rhaglen drechu tlodi honno pan gafodd ei lansio oherwydd dywedwyd wrthym ei bod yn ymwneud â grymuso a pherchnogaeth gymunedol go iawn. Fodd bynnag, datblygodd pryderon wrth i dystiolaeth dyfu nad oedd y rhaglen yn cyflawni'r canlyniadau gwell sydd eu hangen ar bobl yn yr ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf. Wyth mlynedd yn ôl, gwrthododd Llywodraeth Cymru adroddiad Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Chanolfan Rhagoriaeth Adfywio Cymru, 'Cymunedau yn Gyntaf—Ffordd Ymlaen', a ganfu y dylai cyfranogiad y gymuned wrth gyd-gynllunio a chyd-ddarparu gwasanaethau lleol fod yn ganolog i unrhyw raglen olynol ar gyfer trechu tlodi. Bum mlynedd yn ddiweddarach, ac ar ôl gwario bron i £0.5 biliwn arno, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn dod â Cymunedau yn Gyntaf i ben yn raddol, ar ôl methu gostwng prif gyfraddau tlodi na chynyddu ffyniant cymharol yng Nghymru. Fel y dywedodd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Chanolfan Rhagoriaeth Adfywio Cymru yn 2011, 'mae angen i unrhyw raglen sy’n olynu Cymunedau yn Gyntaf greu’r amodau i symud o raglen llywodraeth o’r brig i lawr i strategaeth sy’n cael ei harwain gan y gymuned ar gyfer mynd i’r afael ag amddifadedd a hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol.' Fel y canfu astudiaeth ddofn Canolfan Rhagoriaeth Adfywio Cymru 2014 yn Nhredegar, Yn y blynyddoedd diwethaf mae'r agenda grymuso cymunedol wedi'i fframio fwyfwy o fewn y dull cydgynhyrchu, a, dylai gwaith llywodraethu ar gyfer lleoedd gwydn a chynaliadwy geisio denu dinasyddion lleol i gymryd rhan, gan fynnu persbectif gwahanol iawn i'r ymagwedd arferol tuag at bŵer ar lefel gymunedol ac yn ddibynnolar allu parod ac agored i rannu pŵer a gweithio tuag at amcanion cyffredin. Fel y canfu adroddiad 'Cymunedau yn Gyntaf: yr hyn a ddysgwyd' y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau 2017, hanes cymysg oedd i Cymunedau yn Gyntaf oherwydd roedd gormod o amrywioldeb ledled Cymru, a fframweithiau rheoli perfformiad annigonol. Fel y nododd Sefydliad Bevan yn 2017, Ni wnaeth Cymunedau yn Gyntaf ostwng y prif gyfraddau tlodi yn y mwyafrif helaeth o gymunedau, a llai fyth drwy Gymru gyfan. Mae Oxfam Cymru wedi galw’n benodol ar Lywodraeth Cymru i ymgorffori’r dull bywoliaeth gynaliadwy ym mhob polisi a gwasanaeth yng Nghymru, gan helpu pobl i nodi eu cryfderau eu hunain er mwyn mynd i’r afael â’r problemau sylfaenol sy’n eu hatal hwy a’u cymunedau rhag cyrraedd eu potensial.Fel y dywed Sefydliad Bevan, os yw pobl yn teimlo bod polisïau’n cael eu gorfodi arnynt, nid yw'r polisïau'n gweithio a dylid cynhyrchu rhaglen newydd gyda chymunedau, nid ei chyfeirio o'r brig i lawr. Yn yr adroddiad ‘Valuing place’, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, ac sy’n seiliedig ar ymchwil mewn tair cymuned, gan gynnwys Cei Connah, canfuwyd y dylai sefydlu rhwydweithiau lleol i gydgysylltu pobl sydd am weithredu’n lleol fod yn flaenoriaeth. Yn bersonol, cefais y pleser o weithio gyda meddygon teulu lleol a chydgynhyrchwyr newid trydydd sector ar Lannau Dyfrdwy i geisio gwneud hyn. Mark Isherwood AC: Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn wrthwynebus i weithredu agenda hawliau cymunedol Deddf Lleoliaeth 2011, a fyddai’n cynorthwyo ymgysylltiad cymunedol. Er bod yr amcanion llesiant yn Neddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cynnwys pobl yn cyfrannu at eu cymuned a chael eu hysbysu, eu cynnwys a'u clywed, yn rhy aml nid yw hyn wedi digwydd, naill ai oherwydd nad yw pobl mewn grym eisiau ei rannu neu oherwydd methiant i ddeall y bydd darparu gwasanaethau fel hyn yn creu gwasanaethau mwy effeithlon ac effeithiol. Mae polisi Llywodraeth y DU ar faterion heb eu datganoli yn berthnasol ledled y DU, ond dim ond Cymru sydd wedi cael Llywodraeth Lafur ers bron i 21 mlynedd. Nododd adroddiad Joseph Rowntree ar dlodi yn y DU a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2018 mai Cymru, o bedair gwlad y DU, sydd wedi bod â’r cyfraddau uchaf o dlodi yn gyson dros yr 20 mlynedd diwethaf. Ddau fis yn gynt, canfu sesiwn friffio 'State of Wales' Sefydliad Bevan fod cyfradd tlodi incwm cymharol yng Nghymru yn uwch na'r gyfradd yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban; roedd cyfran yr oedolion o oedran gweithio a oedd yn byw mewn tlodi yng Nghymru yn uwch nag unrhyw wlad arall yn y DU; ac roedd cyfradd tlodi pensiynwyr yng Nghymru yn llawer uwch nag yng ngwledydd eraill y DU. Fis Mai diwethaf, nododd y Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant mai Cymru oedd yr unig wlad yn y DU i weld cynnydd mewn tlodi plant yn y flwyddyn flaenorol i 29 y cant. Wel, roedd lefelau tlodi plant yng Nghymru eisoes wedi cyrraedd y lefel honno yn 2007—y lefel tlodi plant uchaf yn y DU—ar ôl degawd o Lywodraeth Lafur y DU, wyth mlynedd o Lywodraeth Lafur Cymru a chyn y gellid beio hyn i gyd ar y cwymp ariannol neu Lywodraeth y DU ar ôl 2010. Er gwaethaf biliynau o gyllid strwythurol y bwriedid iddo gau'r bwlch ffyniant cymharol, mae ffigurau a gyhoeddwyd y mis diwethaf yn dangos mai Cymru sydd â'r ffyniant isaf y pen o hyd ymhlith gwledydd y DU ar ddim ond 72.8 y cant o lefel y DU. Datgelodd cyhoeddiad bob pum mlynedd o fynegai amddifadedd lluosog Cymru fis Tachwedd diwethaf fod llawer o'r wardiau ar y gwaelod wedi bod ymhlith y pum gwaelod, neu ychydig bach uwchben hynny, ddeng mlynedd a 15 mlynedd cyn hynny hefyd. Mae Age Alliance Cymru wedi mynegi pryder dro ar ôl tro fod y trydydd sector wedi cael ei weld fel elfen nad yw’n chwarae llawer o ran, gydag ond ychydig o gyfranogiad strategol yn y gronfa gofal integredig os o gwbl, a fawr ddim mewnbwn wrth gynllunio rhaglenni. Er bod Llywodraeth Cymru wedi hyrwyddo gwasanaethau atal ac ymyrraeth gynnar dro ar ôl tro, mae ei gweithredoedd, yn ymarferol, wedi arwain at ddiddymu gwasanaethau ymyrraeth gynnar ac atal allweddol y trydydd sector ar gost ychwanegol enfawr i iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Nododd adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru fis Medi diwethaf fod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i ganolbwyntio ar atal ac ymyrraeth gynnar, a darparu ystod ehangach o wasanaethau yn y gymuned trwy bartneriaethau a gwaith amlasiantaethol, ond adroddodd fod amrywio eang o ran argaeledd, gwelededd, hygyrchedd ac ansawdd y wybodaeth a ddarperir gan awdurdodau lleol yn arwain at ddefnydd anghyson ledled Cymru.Roeddent yn dweud y dylai cynghorau gynnwys partneriaid trydydd sector wrth gydgynhyrchu atebion ataliol i ddiwallu anghenion pobl a sicrhau bod gan bobl fynediad teg at y gwasanaethau hyn. Wel, mae pob plaid wleidyddol brif ffrwd eisiau trechu tlodi. Mae Llafur yn honni mai dim ond y wladwriaeth a all warantu tegwch, ac wrth gwrs, mae'r wladwriaeth yn allweddol. Ond mae eu dull canolog o'r brig i lawr yn llawn bwriadau da ond yn methu’n ddrwg. Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn deall mai dim ond trwy rymuso pobl o ddifrif i gyflawni eu potensial ac i gymryd perchnogaeth yn eu cymunedau eu hunain y sicrheir cyfiawnder cymdeithasol.Mae Llafur yn gosod cyfyngiadau ar yr hyn y gall y sector gwirfoddol, mentrau cymdeithasol a grwpiau cymunedol ei wneud. Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn cydnabod mai'r entrepreneuriaid cymdeithasol a'r trechwyr tlodi hyn sy'n gallu dod o hyd i’r atebion ar gyfer problemau hirdymor ein cymunedau mwyaf difreintiedig—gallant hwy lwyddo lle mae'r wladwriaeth ar ei phen ei hun yn methu. Mae ein cynnig yn argymell bod y Senedd hon yn cydnabod yr angen i ddarparu dull cydgynhyrchiol o adfywio cymunedol yn ymarferol, gyda’r gymuned yn cyfrannu yn y gwaith o gyd-gynllunio a chyd-ddarparu gwasanaethau lleol. Mae hyn yn golygu mabwysiadu arferion gorau rhyngwladol, gan alluogi pobl a gweithwyr proffesiynol i rannu pŵer a chydweithio mewn perthynas gyfartal i wneud gwasanaethau cyhoeddus yn fwy effeithiol a pherthnasol a datgloi cryfderau cymunedol i adeiladu cymunedau cryfach ar gyfer y dyfodol. Fel y mae Sefydliad Bevan yn pwysleisio, mae damcaniaeth newid sy'n adeiladu ar asedau pobl ac yn eu galluogi i wella eu bywydau yn fwy effeithiol na diwallu anghenion neu fynd i'r afael â diffygion. Dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ar ganlyniadau hirdymor nid mewnbynnau tymor byr, a dylid cydgynhyrchu rhaglenni gan gymunedau a gweithwyr proffesiynol, gan bwyso ar dystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio. Mae ein cynnig yn argymell bod y Senedd hon yn cydnabod yr heriau arbennig a wynebir gan drefi glan môr a threfi marchnad sydd â chyfraddau uwch o adeiladau manwerthu gwag a lefelau uwch o amddifadedd na rhannau eraill o Gymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cronfeydd ar gyfer trefi glan môr a threfi marchnad i gefnogi adfywio mewn cymunedau ledled Cymru. Mae pump o'r 10 ardal fwyaf difreintiedig yng Nghymru wedi'u lleoli mewn trefi, gan gynnwys y Rhyl, Merthyr Tudful a Wrecsam. Fel y mae Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru wedi dadlau, mae trefi’n allweddol i'r ffordd y mae Cymru’n gweithio, gyda threfi bach yng Nghymru yn cynnwys bron 40 y cant o boblogaeth y wlad, ac maent yn dweud bod angen dull newydd o fynd ati ar ein strydoedd mawr, sy’n dioddef o dan bwysau nifer o broblemau, ac rydym bellach wedi cyrraedd amser tyngedfennol ar y busnesau hyn. Felly byddai Llywodraeth Geidwadol Gymreig yn sefydlu cronfa ar gyfer trefi glan môr a chronfa ar gyfer trefi marchnad i helpu i adfywio cymunedau lleol Cymru, gyda £200 miliwn i'w fuddsoddi yn ein hardaloedd lleol dros dymor o bum mlynedd. Bydd y cronfeydd hyn, a fyddai’n galluogi cymunedau i benderfynu sut y dylid buddsoddi’r gronfa yn eu hardal leol, yn helpu i gefnogi gwasanaethau a busnesau lleol hanfodol ac yn pwysleisio ymrwymiad y Ceidwadwyr Cymreig i lefelu buddsoddiad ledled Cymru ac adfer trefi a chymunedau Cymru. Fel y mae Consortiwm Manwerthu Cymru yn nodi, Cymru sydd â'r lluosydd ardrethi annomestig uchaf ym Mhrydain a chyfradd siopau gwag uwch nag unrhyw ran arall o'r DU. Er mai rhyddhad ardrethi 100 y cant ar eiddo manwerthu hyd at werth ardrethol o £9,100 yn unig y mae Llafur yn ei ddarparu, byddai Llywodraeth Geidwadol yng Nghymru yn ymestyn hyn i £15,000. Mae gwelliant Llywodraeth Cymru yn cydnabod rôl bwysig ardaloedd gwella busnes. Ond mae eu gwefan yn nodi mai 24 o’r rhain yn unig sy’n bodoli neu sy’n cael eu datblygu yng Nghymru, mai tan fis Mawrth 2020 yn unig y mae cymorth ar gael, ac mai cyllid o hyd at £30,000 yn unig sydd ar gael ar gyfer pob ardal. Digon yw digon. Fel y mae tystiolaeth yn cadarnhau dro ar ôl tro, mae croesawu'r chwyldro cydgynhyrchu yn ein trefi a'n cymunedau bob amser yn well na dulliau o'r brig i lawr o ymgysylltu â'r gymuned. Ar ôl 20 mlynedd, mae angen newid go iawn. Diolch.Rwyf wedi dewis y ddau welliant i'r cynnig.Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol.A gaf fi ofyn i'r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol? Gwelliant 1—Rebecca Evans Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu’r buddsoddiad o £800m i adfywio cymunedau a chanol trefi rhwng 2014 a 2022. 2. Yn nodi’r cymorth sy’n cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru i fusnesau lleol mewn trefi ledled Cymru, gan gynnwys pecyn cynhwysfawr o ryddhad ardrethi annomestig, i roi sylw i eiddo gwag ar y stryd fawr. 3. Yn cydnabod rôl bwysig Ardaloedd Gwella Busnes wrth helpu busnesau a chymunedau i gydweithio i ddarparu atebion ar lawr gwlad a helpu i adfywio eu hardaloedd lleol. Cynigiwyd gwelliant 1. Hannah Blythyn AC: Yn ffurfiol. Yn ffurfiol, diolch.A gaf fi alw ar Leanne Wood i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enwRhunapIorwerth? Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn gresynu at bolisïau budd-daliadau Llywodraeth y DU, yn enwedig Credyd Cynhwysol, sydd wedi cynyddu tlodi fel y nodwyd gan y Cenhedloedd Unedig yn Adroddiad y Rapporteur Arbennig ar dlodi eithafol a hawliau dynol. Yn cydnabod effeithiau niweidiol llymder ar adfywio cymunedol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi mentrau cymunedol i wrthdroi ei effeithiau. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyd-ddatblygu'r gwaith o adfywio'r stryd fawr a pholisi trafnidiaeth leol fel ffordd o wella adfywio cymunedol. Cynigiwyd gwelliant 2. Leanne Wood AC: Diolch. Caf fy syfrdanu unwaith eto i weld y Torïaid yn cyflwyno cynnig yn y Senedd hon yn gresynu at dlodi ac amddifadedd. Beth nesaf? Beth allwn ni ei ddisgwyl nesaf? A allwn ni ddisgwyl gweld cynnig ganddynt yn gresynu at gyfalafiaeth efallai? Nawr, mae gennyf lawer iawn o gydymdeimlad â dadleuon sy'n dwyn y Llywodraeth Lafur hon i gyfrif am eu methiant i gael rhaglen wrth-dlodi amgen yn lle Cymunedau yn Gyntaf, ac yn wir am eu methiant i gael strategaeth lleihau tlodi o gwbl. Buaswn yn cydymdeimlo hefyd â dadleuon sy’n dangos methiant truenus y Llywodraeth hon, ar ôl bod mewn grym am yr 20 mlynedd gyfan ers datganoli, i wneud unrhyw beth mwy na tholc bach yn y gwaith o oresgyn y tlodi a wynebir gan bobl yn ein hen ardaloedd diwydiannol, yr ardaloedd sydd wedi bod mewn tlodi dwfn ac anhydrin ers i Margaret Thatcher fynd ati'n fwriadol i'n dad-ddiwydiannu. Mae'r rhain yn fethiannau sydd wedi cael effeithiau eang a dwfn ac mae'r effeithiau hynny’n dal i gael eu teimlo heddiw. Rhaid imi ddweud serch hynny mai hyfdrapur yw amlinellu'r methiannau hyn heb edrych yn y drych. Mae polisïau budd-daliadau’r Torïaid yn San Steffan wedi cael eu beirniadu’n hallt gan rapporteur arbennig y Cenhedloedd Unedig a disgrifiwyd effaith y mesurau hynny yn y Siambr gan lawer o'r Aelodau ar sawl achlysur. Mae pawb ohonom yn deall pam y mae cymaint mwy o bobl yn cael eu gorfodi i fyw ar y strydoedd. Canlyniad uniongyrchol i bolisïau eich Llywodraeth chi ydyw. Ac eto fe ddowch yma a gwneud sioe o boeni am dlodi yng Nghymru. Yn y ddadl sy'n dilyn, bydd Plaid Cymru yn amlinellu mesurau ymarferol ac effeithiol i fynd i'r afael â thlodi plant yn arbennig. Mae y tu hwnt i sgandal fod cyfraddau marwolaethau plant, a chyfraddau marwolaeth cyffredinol mewn gwirionedd, yn gwaethygu yng Nghymru a Lloegr, tra bod cyfraddau marwolaeth plant yn gwella yn yr Alban. Mae hynny'n golygu bod pobl yn marw'n iau yma. Deillia hynny'n rhannol o’r ffaith ein bod wedi byw drwy 12 mlynedd o gyni, ond mae'n fwy na hynny, neu byddai cyfraddau marwolaeth yr Alban yr un fath â'r rhai ar gyfer Cymru a Lloegr. Ond mae gan yr Alban Lywodraeth sy’n meddu ar strategaeth i drechu tlodi, sy’n cynnwys blaenoriaethu buddsoddiad mewn gwasanaethau mamolaeth a blynyddoedd cynnar, ac mae’r buddsoddiad hwnnw’n talu ar ei ganfed. Nid yw tlodi'n ffenomen naturiol. Nid yw tlodi'n anochel. Caiff ei greu’n fwriadol gan bolisi a gellir ei leihau. Gellir ei atal hyd yn oed gydag ewyllys wleidyddol. Ond nid wyf yn gweld yr ewyllys honno yn y Llywodraeth yma. Ac rwy'n gweld y gwrthwyneb llwyr i hynny gan y blaid sy'n cael ei rhedeg gan eich Llywodraeth chi ar ben arall yr M4. Gallwn oresgyn tlodi, ond fel rwy’n ei weld, ni allwn ddibynnu ar y Blaid Lafur na'r Torïaid i wneud hynny. Ni fydd yn digwydd heblaw ein bod yn penderfynu ei wneud drosom ein hunain. Mike Hedges AC: Anaml y bydd diwrnod yn mynd heibio pan nad wyf yn gresynu at y ffaith bod cynlluniau Cymunedau yn Gyntaf wedi dod i ben yn fy etholaeth. Yn gyntaf, roedd unrhyw un a gredai y byddai cynllun £30 miliwn y flwyddyn yn dileu tlodi naill ai’n or-optimistaidd neu’n twyllo’i hun. Adleisir hyn gan y dystiolaeth a roddodd cyngor Caerffili i bwyllgor Cynulliad pan oeddem yn edrych arno. A gaf fi ddweud bod disgwyl i un rhaglen leihau tlodi ar ei phen ei hun yn naïf ac yn afrealistig? Ni fyddwch byth yn dileu tlodi, tlodi o un genhedlaeth i’r llall, gydag un rhaglen wrth-dlodi. Roedd yn llwyddiannus iawn mewn rhai pethau a heb fod mor llwyddiannus mewn pethau eraill, ond economeg sy'n gyfrifol am dlodi yn y bôn. Mae rhaglenni gwrth-dlodi a rhaglenni cymorth cyflogaeth i gyd yn iawn, ond oni bai fod gennych economi gadarn, ni fyddwn byth yn dileu tlodi. Rydym hefyd yn gwybod mai'r peth cyntaf y mae mwyafrif y bobl sy'n byw mewn ardal homogenaidd dlawd yn ei wneud i gynyddu eu hincwm yn ddigonol, yw symud, ac mae gennym enghreifftiau o hynny nid yn unig yng Nghymru ond yn Lloegr hefyd. Rydym yn gwybod beth yw nodweddion cymunedau tlawd: iechyd gwael;nifer uchel o bobl ar fudd-daliadau;y rhai nad ydynt ar fudd-daliadau, a cheir mwy a mwy ohonynt, ar gyflog isel iawn ar yr isafswm cyflog, ac yn hollbwysig, yn gweithio oriau gwarantedig isel, gan arwain at incwm isel ac amrywiol, ac mae llawer yn mynd trwy broblemau difrifol y mis hwn gan eu bod yn cael 30 a 40 o oriau'r mis diwethaf ac maent bellach i lawr i'w saith a 10 awr warantedig y mis hwn;cyrhaeddiad addysgol isel yn gyffredinol;fawr ddim llyfrau yn y cartref;gyda llawer yn teimlo na all pethau wella. Lle mae gennych ardal sydd dan anfantais cymysgryw, i ddyfynnu tystiolaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i'r un pwyllgor, os edrychwch ar yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, ganddynt hwy y mae fwyaf o rannau o’r system lle y mae angen ymyrraeth, felly maent angen dull amlasiantaethol, gwaith dwys, i roi’r holl ddarnau yn ôl, a sicrhau eu bod yn gweithio eto. Mewn ardal fwy cefnog, lle y mae gennych bocedi llai o dlodi, nid yw’r system wedi torri i’r un graddau, ac felly, bydd angen llai o ymyriadau—ymyriadau mwy penodol—i helpu’r bobl hynny yn ôl ar eu traed. Dywedodd cyngor Ynys Môn: Mae’r rhaglen wedi cael llwyddiant wrth newid a gwella bywydau unigolion drwy eu cynorthwyo i mewn i hyfforddiant, gwirfoddoli a chyfleoedd gwaith a gwella eu sgiliau byw. I ddyfynnu Cyngor Abertawe: Mae gwasanaethau hygyrch yn y gymuned yn caniatáu i staff ddeall cymunedau, gan adeiladu cysylltiadau ac ymddiriedaeth a chynorthwyo pobl sydd wedi ymddieithrio i gymryd rhan a defnyddio gwasanaethau na fyddent wedi ei wneud fel arall. Roedd llwyddiannau cymunedol yn cynnwys: iechyd; rhaglenni colli pwysau; rhaglenni gwella deiet; rhaglenni rhoi'r gorau i ysmygu; rhaglenni ymarfer corff—rwyf o'r farn fod atal afiechyd yn bwysicach na gweld iechyd fel system driniaeth, a dyna beth rydym yn ei wneud: rhoi mwy o arian tuag at iechyd, trin mwy o bobl, ond gadewch inni gael llai o bobl angen triniaeth. Ar dlodi, roedd prosiect a oedd yn ceisio helpu pobl trwy leihau eu biliau cyfleustodau. Mewn cyfarfod pwyllgor y bore yma, roeddem yn siarad am y ffaith fod Nyth ac Arbed wedi gwneud llawer o waith i wella’r adeiladau, a safon ansawdd tai Cymru, ond mae pobl yn dal i dalu llawer mwy os ydynt yn dlawd. Fel y dywedais ar fwy nag un achlysur: mae bod yn dlawd yn ddrud iawn. Mae'r swm y mae pobl yn ei dalu pan fyddant yn gorfod rhoi cardiau yn y system er mwyn cael nwy a thrydan yn fwy o lawer na'r hyn rydym ni yn yr ystafell hon yn ei dalu. Yn wir, rwyf wedi dweud, unwaith eto ar fwy nag un achlysur: mae gennyf etholwyr sy'n gwario mwy o arian ar wresogi i fod yn oer na'r hyn rwy'n ei dalu i fod yn gynnes. Mae gennym brosiectau sy'n didoli ac yn ailgylchu dillad nad oes mo'u heisiau. Ceir llawer o waith, nid yn Abertawe yn unig, gwnaed gwaith da yn Sir Ddinbych, fel y gwyddoch, Ddirprwy Lywydd, ar ailgylchu dillad mewn ysgolion. Mae'r mathau hyn o bethau yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Roedd prosiect yn hyrwyddo undeb credyd lleol a chael pobl allan o fenthyciadau stepen y drws, ac mae benthyciadau stepen y drws yn broblem enfawr i lawer iawn o bobl; lle mae rhywun yn dod a chynnig arian iddynt ac yn sydyn, mae'n mynd i gostio llawer iawn iddynt yn y pen draw. Mae addysg a chyrhaeddiad addysgol isel yn un o brif achosion tlodi. Roedd prosiectau'n blaenoriaethu gwella cyrhaeddiad addysgol drwy helpu oedolion i ddychwelyd at addysg; prosiectau dysgu fel teulu mewn partneriaeth ag ysgolion lleol; grwpiau rhieni a phlant bach gyda'r nod o wella datblygiad a dysgu plant meithrin; clwb gwaith cartref i roi cymorth i blant gyda'u gwaith cartref. Mae cymdeithas wedi gwaethygu llawer er pan oeddwn yn blentyn yn byw mewn cymuned dlawd iawn. Gallwn wneud popeth a wnâi unrhyw un arall oherwydd gallwn fynd i'r llyfrgell leol. Nid oedd gan neb well mynediad at lyfrau na fi. Erbyn heddiw, mae gennych chi bobl gyda'u dyfeisiau electronig yn eu hystafell wely, pan fyddai pobl fel fi, pe bawn i'n byw yno yn awr, yn wynebu taith ar droed o ddwy filltir er mwyn cyrraedd y llyfrgell. Roedd yna gynllun hefyd a oedd yn annog amgylchedd dysgu o fewn y teulu ac yn y cartref. Roedd Cymunedau yn Gyntaf, mewn sawl ffordd, yn gynllun rhagorol, ac roedd yn ddiwrnod trist iawn pan benderfynodd Llywodraeth Cymru gael gwared ag ef heb gyflwyno dim i gymryd ei le mewn perthynas â'r pethau hynny sydd o wir bwys: gwella cyfleoedd bywyd i'r rheini yn ein cymunedau tlotaf. Mohammad Asghar (Oscar) AC: Rydym i gyd yn dymuno gweld y stryd fawr yn brysur yng nghanol ein trefi. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen busnesau lleol ffyniannus ac ymgysylltiad cadarnhaol rhwng ein cymunedau a'u strydoedd mawr. Fodd bynnag, y realiti trist yw bod llawer o'n strydoedd mawr mewn argyfwng heddiw. Mae gormod o siopau yng nghanol trefi Cymru yn wag. Mae ffigurau Consortiwm Manwerthu Cymru yn dangos bod gan Gymru, yn y chwarter diweddaraf, gyfradd siopau manwerthu gwag o fwy na 13.4 y cant. Dyna gyfradd uwch o siopau gwag nag unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig. Ceir llawer o resymau dros y dirywiad yn ein strydoedd mawr: mae newidiadau i ffyrdd o fyw pobl wedi golygu newidiadau i'r ffyrdd y maent yn siopa; mae datblygiadau siopau ar gyrion y dref, mewn rhai achosion, wedi cael effaith andwyol ar ganol trefi ledled Cymru: mae siopwyr yn hoffi ac yn gwerthfawrogi'r cyfleustra a'r dewis a gynigir gan siopau ar gyrion y dref, gyda manteision parcio am ddim; e-fasnach yw un o'r marchnadoedd sy'n tyfu gyflymaf yn Ewrop, gyda mwy a mwy o fusnes yn digwydd ar y rhyngrwyd. Mae'r holl ffactorau hyn yn cyfuno i gynyddu'r pwysau ar ein strydoedd mawr. Heb weithredu, byddant yn diflannu, Ddirprwy Lywydd. Ni allant oroesi heb gymorth. Mae arnom angen pecyn o fesurau i gefnogi busnesau a chymunedau lleol. Mae hynny'n golygu mynd i'r afael ag ardrethi annomestig. Cafodd datganiad ysgrifenedig Llywodraeth Cymru ddoe ar ryddhad ardrethi groeso yma. Fodd bynnag, mae busnesau lleol yng Nghymru yn dal i gael eu llesteirio gan ardrethi annomestig uchel sy'n tagu'r broses o greu busnesau ac yn llesteirio eu twf. Mae ardrethi annomestig yng Nghymru yn codi dros £1 biliwn. Mae diffyg cefnogaeth gan y Llywodraeth wedi golygu bod siopau gwag yn difetha canol ein trefi. Mae hyn yn creu'r perygl o fandaliaeth a throseddu, gan ychwanegu at ymddangosiad dilewyrch ein cymunedau. Fel y mae'r Ffederasiwn Busnesau Bach yn cydnabod: er mwyn i adnewyddu ddigwydd, mae angen i ganol trefi feddwl mwy am fusnes ac mae angen iddynt ddysgu oddi wrth ein cystadleuwyr, fel y gwledydd datganoledig eraill. Mae ymddygiad a disgwyliadau defnyddwyr wedi newid ac mae arnom angen dull mwy gwybodus o reoli canol trefi. Credaf fod gan ardaloedd gwella busnes ran hollbwysig i'w chwarae yn y gwaith o adfywio ein strydoedd mawr, ond mae'n ymwneud â mwy na siopau'n unig. Mae gan hamdden a gwasanaethau rolau hanfodol i'w chwarae. Mae angen sicrhau cydbwysedd rhwng siopau mawr, siopau bach, gwasanaethau hamdden, caffis, bariau a bwytai, yn ogystal â thai. Mae angen strategaeth ar gyfer trefi sy'n mynd y tu hwnt i'r strategaeth adfywio wedi'i thargedu a amlinellwyd yn Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru, un sy'n cydnabod y problemau penodol sy'n wynebu ein trefi glan môr a'n trefi marchnad ac sy'n rhoi'r cymorth manwerthu y mae'r cymunedau hyn ei angen ac yn ei haeddu. Byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn rhyddhau potensial Cymru drwy sefydlu cronfa ar gyfer ein trefi marchnad a'n trefi glan môr a fyddai'n werth £200 miliwn dros bum mlynedd. Byddai'r ymrwymiad cyllid hwn yn llawer mwy uchelgeisiol na strategaeth adfywio gyfredol o'r brig i lawr Llywodraeth Cymru a byddai'n galluogi'r cymunedau hyn i dyfu a ffynnu. Ddirprwy Lywydd, mae taer angen adfywio ein strydoedd mawr fel canolfannau ar gyfer twf economaidd ac mae angen inni weithredu yn awr. Yn olaf, fel mater o ffaith, Weinidogion, ers 2014-17, mae £124 miliwn wedi cael ei wario ar 18 o ardaloedd. Pa ddatblygiad a gafwyd yno? Cyllid yr UE—£ 150 miliwn yn y chwech neu saith mlynedd diwethaf, a £100 miliwn ar gyfer y cynllun adfywio cenedlaethol y dylid ei barhau tan 2021. Pa ddatblygiad a gafwyd yn yr ardaloedd hynny? A yw'r siopau gwag ar y stryd fawr yn gwella? Na, maent yn gwaethygu, yn enwedig yn fy rhanbarth i yn ne-ddwyrain Cymru—rydym yn dioddef yn enbyd. Mae'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn y Deyrnas Unedig yn fy rhanbarth i. Rwy'n credu ei fod yn destun cywilydd mawr i ni yma. Rydym yn gwneud llawer o siarad—. Clywais ein cyd-Aelod ar yr ochr arall i'r fainc yma'n sôn am y beiau hyn i gyd yn mynd drosodd i Lundain. Nid yw hynny'n wir. Bron £370 miliwn yn y saith mlynedd diwethaf ac i ble'r aeth yr arian? Adfywio ar gyfer cymunedau lleol—beth ddigwyddodd yno? Mae llawer o siopau gwag o hyd—. Nid wyf eisiau dysgu gwersi gan Blaid Cymru. Cafwyd enghraifft ganddynt o gyfraith y Cenhedloedd Unedig a'r ochr arall i'r bont. Pam na allant ofyn i'r Llywodraeth wneud yn siŵr eu bod yn darparu'r gwasanaeth gorau posibl i'n cymunedau? Dylem adfywio ein cymunedau tlawd ym mhob cwr o dde-ddwyrain Cymru. Mark Reckless AC: Rwy'n gwrthwynebu'r cynnig am wahanol resymau'n gysylltiedig â phob un o'r pedwar pwynt. Y pwynt cyntaf, rwy'n credu ei bod yn ddigon teg gresynu at fethiant rhaglen Cymunedau yn Gyntaf Llywodraeth Cymru, ond mae llawer iawn o raglenni Llywodraeth Cymru wedi methu mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, ond yn gyffredinol, maent yn llusgo ymlaen heb i'r Llywodraeth gyfaddef y methiant. Yn yr achos hwn—ac rwy'n credu eu bod yn haeddu rhywfaint o glod am hyn—wynebodd Llywodraeth Cymru yr her, asesodd y rhaglen, daeth i'r casgliad nad oedd wedi gweithio yn ôl y bwriad a chafodd ei dirwyn i ben. Fel y clywsoch gan Mike, mae llawer o wrthwynebiad wedi bod mewn cylchoedd Llafur a chan bobl sy'n rhan o'r gwaith o gyflwyno'r rhaglen i'r hyn a wnaethant. Rwyf wedi clywed Ken Skates yn siarad rhywfaint am ddull amgen a ffocws ar dwf economaidd, ond rwy'n credu ei bod yn anfoesgar peidio â chydnabod ymateb y Llywodraeth yn yr achos hwn. Mae pwynt 2 yn cydnabod yr angen i weithredu dull cydgynhyrchiol yn ymarferol. Edrychais ar y gair 'co-productive' ac roedd Dictionary.com yn dweud 'no response' ac yn yr Oxford English Dictionary yn y llyfrgell, nid yw 'co-productive' i'w weld ynddo. Clywais ychydig o'r hyn roedd Mark yn ei ddweud ac mae'n awyddus i ymyrryd, felly rwy'n falch o ildio. Mark Isherwood AC: A gaf fi eich cyfeirio at Cydgynhyrchu Cymru, y Rhwydwaith Cydgynhyrchu ar gyfer Cymru, yr arian enfawr a gawsant gan y loteri i gyflawni'r prosiect hwnnw ac edrych ar ystyr ryngwladol 'Cydgynhyrchu', gydag 'C' fawr? Fe'i lansiwyd yn wreiddiol yng Ngorllewin Awstralia tua 30 mlynedd yn ôl a bu'n llwyddiannus tu hwnt yn rhyngwladol ers hynny. Mark Reckless AC: Diolch iddo am y cymorth. Mae 'Co-produce' yn Dictionary.com, ond nid yw 'co-productive' yno, dim ond 'co-produce'. Mae'n dweud, cynhyrchu (ffilm, drama, ac ati) mewn cydweithrediad ag eraill. Beth bynnag, rwy'n casglu bod ganddo rywbeth i'w wneud â chynnwys y gymuned a chydgynllunio a chyd-ddarparu gwasanaethau lleol ac mae hynny'n beth da, ond nid yw'r gair 'cydgynhyrchiol' ei hun yn un rwy'n gyfarwydd ag ef. Yn fwy perthnasol, rwy'n credu, wrth edrych ar bwynt 3, credaf fod yna amwysedd go iawn ynglŷn â phwynt 3. Nid wyf yn siŵr a yw'r Ceidwadwyr yn dweud y dylai trefi glan môr a threfi marchnad mewn rhannau mwy difreintiedig o Gymru gael mwy o gymorth. Nid wyf yn siŵr a ydynt yn dweud bod angen cymorth ar drefi glan môr a threfi marchnad penodol, lle ceir problem arbennig o ran amddifadedd, neu nid wyf yn siŵr a ydynt yn gwneud pwynt neu honiad fod trefi glan môr a threfi marchnad yn fwy difreintiedig na rhannau eraill o Gymru, ac os felly, mae gennyf gydymdeimlad â Leanne Wood a'i chyfeiriad at ein cymunedau diwydiannol ac ôl-ddiwydiannol, a allai ymddangos fel pe baent wedi'u heithrio o'r diffiniad hwn. Fe ildiaf, unwaith eto, i Darren Millar y tro hwn. Darren Millar AC: Nid yw'n golygu nad ydym yn cydnabod, wrth gwrs, fod yna dlodi y tu allan i drefi glan môr a threfi marchnad, ond yn aml ceir heriau arbennig sy'n wynebu trefi glan môr a threfi marchnad y carem roi sylw iddynt, a chanolbwyntio ar eu hadfywio. Yn aml iawn, mae Llywodraethau blaenorol yng Nghymru wedi anwybyddu'r rheini yn y gorffennol, ac mae'n rhywbeth rydym am ei weld yn cael sylw. Mark Reckless AC: Rwy'n llongyfarch yr Aelod ar ei waith dros gyfnod hir o amser, yn cyflwyno'r achos dros drefi glan môr, ac rwy'n llongyfarch y Ceidwadwyr, sy'n cynrychioli ychydig yn fwy, ar lefel San Steffan o leiaf, nag y gwnaent o'r blaen. Ond nid yw pob tref glan môr yn ddifreintiedig. Nid wyf yn siŵr a fyddwn yn clywed gan David Melding—efallai y bydd yn cyflwyno'r achos dros Benarth, ond nid wyf yn siŵr, fel categori, fod trefi glan môr o reidrwydd yn fwy difreintiedig, ac nid wyf yn deall y cysylltiad â threfi marchnad. Efallai y bydd ehangu cwmpas y cynnig yn cael mwy o gefnogaeth ar draws y grŵp Ceidwadol, ond ar y cyfan, nid wyf yn cysylltu trefi marchnad fel rhai sydd, ar gyfartaledd, ac nid y gair cyntaf sy'n dod i fy meddwl mewn perthynas â threfi marchnad, yw amddifadedd. Rwy'n siŵr bod pocedi o amddifadedd mewn trefi marchnad, ac rwy'n siŵr bod rhai trefi marchnad yn fwy difreintiedig nag eraill, ond rwy'n pryderu bod y syniad o sefydlu cronfa newydd arbennig ar gyfer trefi glan môr a threfi marchnad, (1) yn fiwrocrataidd, ac efallai fod cronfa a strwythur newydd ar gyfer gwneud hyn yn mynd dros ben llestri, a (2) a yw'r holl drefi glan môr a threfi marchnad—a ydym am weld y budd hwnnw'n cael ei ledaenu ar y sail eu bod yn ddifreintiedig? Felly, beth yw'r trefi marchnad? Rydym angen diffiniad. Mae gennym restr gan Croeso Cymru o 21 o drefi marchnad, ac mae gennyf lyfr arbennig o wych adref ers rhai blynyddoedd, sefMarket Town Wales, gan David Williams, ac mae yntau hefyd yn rhoi rhestr, o 25 yn ei achos ef, a rhyw fath o ddiffiniad. Mae'n dweud bod tua 50 o drefi yng Nghymru lle mae gennych lythrennu maint canolig ar y map. Roedd rhai'n safleoedd amddiffynnol, ac eraill—yn benodol, mae'n eithrio trefi hirfain maes glo de Cymru, cymunedau chwarelyddol Eryri, a chanolfannau diwydiannol gogledd-ddwyrain Cymru. Felly mae pob un o'r rheini wedi'u heithrio o'i ddiffiniad o drefi marchnad. Nid wyf yn siŵr a yw'r Ceidwadwyr am eu heithrio o'u diffiniad hwy, nac o'r budd a geir yn y cronfeydd hyn, ond rwy'n cwestiynu a yw'r cynnig hwn fel y'i hysgrifennwyd yn un a ddylai gael cefnogaeth, neu a gafodd ei ystyried mor drylwyr ag y gellid bod wedi'i wneud. Diolch. Angela Burns AC: Hoffwn ganolbwyntio fy nghyfraniad heddiw ar yr heriau sy'n wynebu trefi glan môr a threfi marchnad, ac mae gennyf lawer ohonynt yn fy etholaeth, ac edrych i weld pa opsiynau sydd ar gael i helpu i adfywio cymunedau o'r fath ledled Cymru. Byddaf yn rhoi sylw i'ch cwestiwn mewn munud, Mark Reckless, os ydych chi'n barod i aros gyda mi. Weinidog, fel y gwyddom, ledled Cymru, rydym wedi ein bendithio ag ardaloedd cefn gwlad prydferth, trefi hanesyddol a chymunedau bywiog, ac mae trefi fel Arberth, y Bont-faen a Chonwy yn denu ymwelwyr yn rheolaidd ac yn cael eu canmol yn fawr. Ond er bod gennym y trysorau hyn, ceir digon o drefi a phentrefi ledled y wlad sydd wedi wynebu adegau anodd, ac mae'n ymddangos nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw strategaeth glir i ymdrin â hynny. Dywedodd Pwyllgor Dethol Tŷ'r Arglwyddi ar adfywio trefi a chymunedau glan môr fod glan y môr a'n treftadaeth arfordirol yn rhan hanfodol o asedau gorau ein gwlad, ac wrth gwrs, rwy'n cynrychioli etholaeth ag iddi arfordir hir, ac mae'n ddyletswydd arnaf i sicrhau y manteisir i'r eithaf ar yr ased hwn ac y caiff ei ddefnyddio'n briodol. Nid wyf eisiau mynd yn ôl i'r gorffennol, lle mae pob un ohonom yn dychmygu sgipio i lawr y stryd fawr mewn trefi marchnad gan edrych ar y byd drwy sbectol binc, gyda basgedi ar ein breichiau, a gallu mynd i mewn i siop y pobydda siop y crydd a'r gweddill oll i gyd. Ond rwy'n mynd i honni, gyda'r cymorth cywir, y gall trefi marchnad a threfi glan môr addasu gyda'r oes, gwneud defnydd o'r pwyntiau gwerthu unigryw sydd ganddynt, a ffynnu a thyfu yn yr unfed ganrif ar hugain. Caniatewch i mi ganolbwyntio ar fy etholaeth i, lle mae gennym gymunedau fel Talacharn, gyda'i gysylltiadau ag un o awduron mwyaf Cymru, a thua'r gorllewin i Ddinbych-y-pysgod, sydd wedi modelu ei hun go iawn fel cyrchfan drwy gydol y flwyddyn, gyda digwyddiad amlwg yr Ironman y cyfeiriaisato yn gynharach, ac wrth gwrs, trefi Penfro, sef man geni Harri Tudur, a Doc Penfro, gyda hanes milwrol cyfoethog iawn. Er bod gan bob un o'r trefi hyn eu pwyntiau gwerthu unigryw, maent yn dal i wynebu heriau mewn sector manwerthu sy'n newid. Cyn y Nadolig, bûm mewn ffair Nadolig ragorol yng nghastell Penfro. Mae'n denu ymwelwyr o bell ac agos, ond wrth imi gerdded yn ôl at fy nghar ar ben arall stryd fawr Penfro, cefais fy nharo gan y dirywiad yn y stryd fawr honno dros y 15 mlynedd ers i mi fod yn byw yno. Arferai fod yn stryd fawr fywiog, brysur, ac roedd ganddi archfarchnad yng nghanol y dref, ond erbyn hyn, nid oes ond siopau betio, siopau elusen, ac mae popeth arall wedi'i fordio i raddau helaeth. Ac rwy'n meddwl tybed beth allwn ni ei wneud i ddod â'r math hwnnw o fywyd yn ôl i stryd fawr o'r fath, oherwydd os nad Penfro, fe fydd yn digwydd yn Noc Penfro, ac yna yn Arberth, a fu'n un o drysorau mawr Sir Benfro ers amser maith, a Hendy-gwyn ar Daf, sy'n marw ar ei thraed, ac mae Sanclêr yn mynd yr un ffordd. Nawr, soniais am hyn mewn cwestiwn i Weinidog yr economi cyn y Nadolig, a dywedwyd wrthyf fod Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo menter canol y dref yn gyntaf, gan annog mwy o ardaloedd gwella busnes, ac annog pobl i ganolbwyntio ar hyrwyddiadau fel Dydd Sadwrn y Busnesau Bach. Ond Weinidog, nid wyf yn teimlo bod yr ymateb hwn yn mynd i'r afael yn ddigonol â'r problemau a wynebir. Mae'n ymwneud â mwy na'r arlwy o siopau a'r amodau y mae angen edrych arnynt, ac mae angen edrych ar agweddau sylfaenol eraill ar fywyd mewn cymunedau gwledig, cymunedau glan môr neu drefi marchnad. A buaswn yn argymell y gallai rhywun ddewis mynd i astudio adroddiadau Ymddiriedolaeth Carnegie ar drefi glan môr a threfi marchnad, yn enwedig trefi glan môr, oherwydd mae'r pwyntiau a wnânt yn nodi eu bod, o ran eu natur arfordirol, yn tueddu i fod ymhellach oddi wrth y canolfannau llywodraethu; maent yn tueddu i fod yn fwy ynysig; maent yn tueddu i fod yn fwy gwledig. Ac mae Ymddiriedolaeth Carnegie wedi nodi'n glir iawn y problemau amlwg a phenodol y mae trefi glan môr a threfi marchnad bach ar gyrion yr arfordir yn eu hwynebu. A dyna lle gwnaethom edrych am lawer iawn o'n hymchwil, a buaswn yn hapus iawn i rannu hynny gydag unrhyw un wrth symud ymlaen. Dyna pam y byddai Llywodraeth Geidwadol yng Nghymru yn ystyried sefydlu cronfa ar gyfer trefi glan môr a chronfa ar gyfer trefi marchnad i helpu i adfywio cymunedau lleol, gyda £200 miliwn wedi'i glustnodi i'w fuddsoddi dros gyfnod o bum mlynedd. Weinidog, ein nod fyddai—a byddem yn hoffi pe bai hyn yn nod i chi—sicrhau mwy o degwch mewn perthynas â buddsoddi rhwng ein trefi a'n dinasoedd. Hoffem roi mwy o bŵer i gymunedau lleol gymryd rheolaeth ar eu hymdrechion adfywio lleol. Rydym am fabwysiadu'r agenda hawliau cymunedol a sefydlwyd gan Ddeddf Lleoliaeth 2011. Credwn y bydd trefi cryf yn helpu i ddatblygu cymunedau cryf, a bydd cymunedau cydlynus ac ymgysylltiol yn helpu i wella'r ardal gyfan er budd pawb. Ac mae i hynny effaith ganlyniadol aruthrol ar addysg ac iechyd ac ysgogiad economaidd. Ac felly, rydym yn annog y Llywodraeth Cymru yn gryf i edrych ar hyn. [Anghlywadwy.]—yr amser hefyd. Angela Burns AC: Rwy'n gwybod. Yn olaf, gadewch imi sôn yn fyr am bwysigrwydd marchnata ein trefi a'n cymunedau'n well. Rwyf eisoes wedi sôn am y digwyddiad Ironman a gynhelir yn Ninbych-y-pysgod. Dylem fod yn edrych mwy o lawer ar farchnata cyrchfannau; mae hynny'n rhywbeth sy'n addas iawn ar gyfer trefi marchnad a threfi glan môr. Yn fyr, mae gennym lawer o drefi gyda hanesion unigryw ac amrywiol. Maent yn tueddu i fod yn y lleoedd pellennig. Ni ellir canolbwyntio'n unig ar ddinasoedd mawr, ar gytrefi enfawr. Mae angen ychydig bach o hynny arnom i helpu, oherwydd os cerddwch drwy rannau gwledig o Gymru, os cerddwch drwy rai o'r trefi hyn, a heb fod mor wledig hyd yn oed, fel y gwyddoch eich hun, Ddirprwy Lywydd, ond ar hyd arfordir gogledd Cymru, mae prinder—. Mae strydoedd mawr wedi cau; mae gwynt yn chwibanu drwy'r strydoedd gwag hyn. Mae gennym gynllun i wneud gwahaniaeth, a hoffem i chi ein helpu i wneud hynny. Huw Irranca-Davies AC: Diolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl hon o dan y teitl 'adfywio cymunedol', ac am resymau y byddaf yn ymhelaethu arnynt mewn munud, ni fyddaf yn cefnogi'r cynnig yn eu henw; byddaf yn cefnogi cynnig y Llywodraeth. Ond mewn gwirionedd, nid yw rhai o'r nodweddion rydych wedi sôn amdanynt sy'n effeithio ar drefi arfordirol—nid pob un ohonynt, ond rhai trefi arfordirol—yn annhebyg i'r un nodweddion sy'n effeithio ar gymunedau'r Cymoedd. Ac mae'n rhyfedd, yn y drafodaeth y mae Mark Reckless newydd ei chael ynglŷn â'r hyn sy'n diffinio tref farchnad—wel, yn rhyfedd ddigon, mae trefi marchnad hefyd yn bodoli mewn rhannau o gymoedd de Cymru yn ogystal; nid trefi marchnad enfawr ydynt, ond marchnadoedd. Mae Maesteg ei hun ag enw fel cyrchfan tref farchnad, ond mae'n llawer o bethau eraill heblaw hynny hefyd. Ond rwyf am siarad â chi am rai o'r atebion posibl wrth symud ymlaen, ac rwy'n credu bod rhai o'r rhain yn perthyn i leoedd penodol. Maent yn ymwneud â phobl a lleoedd a balchder, a nodi'r hyn sy'n unigryw ac yn arbennig am ardaloedd penodol i ni allu adeiladu arno. Oherwydd gwn fod gennyf yn fy ardal i—ac rwy'n mynd i fod yn blwyfol iawn, oherwydd rwy'n mynd i gyflwyno rhyw fath o restr ddymuniadau i'r Llywodraeth wrth symud ymlaen hefyd—asedau go iawn y gallwn adeiladu arnynt mewn gwahanol ardaloedd. Mae fy Nghymoedd yn wahanol i'w gilyddmewn gwirionedd. Fe ildiaf. Angela Burns AC: Roeddwn am egluro un peth. Rwy'n deall nad oes angen y math hwnnw o gymorth ar bob tref arfordirol. Ond fel y gwnawn mewn sawl man yng ngweddill Cymru, gallwch gael cronfa a dweud beth yw'r meini prawf cymhwyso. Ac rydych yn gwneud y pwynt am drefi'r Cymoedd, ond mae'r adroddiad yn glir iawn: Mae eu lleoliad ar gyrion y wlad yn eu gosod ar gyrion yr economi, gan ddod â phroblemau cymdeithasol canlyniadol. Mae'r cyfuniad hwn o heriau yn teilyngu sylw a chefnogaeth bwrpasol. Nid fy ngeiriau i—gwaith ymchwil yw hwn. Ac felly, fel ardaloedd eraill yng Nghymru, mae angen inni gael rhaglen dda a phwrpasol ar gyfer y mathau hynny o ardaloedd. Huw Irranca-Davies AC: Ac yn wir, mae'n ddadl y mae cyn-gydweithwyr i mi yn San Steffan a gynrychiolai'r ardaloedd glan môr hynny wedi ei chyflwyno'n eithaf cryf, dro ar ôl tro. Ac mae rhai o'r rhain yn ardaloedd ariannu thematig, a heb fod yn gyfyngedig i gyrchfannau gwyliau arfordirol. Felly, mae pethau fel yr hyn a fodolai unwaith—Cronfa Swyddi'r Dyfodol, a phethau fel hynny, gyda Llywodraeth y DU—roedd y rheini'n bethau a ddiflannodd wedi hynny, ond cafwyd cyllid gan Lywodraeth Cymru yn eu lle. Fe drof at rai ohonynt yn awr, oherwydd credaf y gall rhai ohonynt fod yn thematig yn hytrach nag arfordirol yn unig, ac yn y blaen. Ac wrth ddweud hyn, ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac o safbwynt cymoedd gogledd Pen-y-bont ar Ogwr, buaswn yn dweud nad ydym yn ganolog i lawer o'r mentrau hyn—tueddwn i fod ar un pen i'r bwrdd iechyd, tueddwn i fod ar un pen i ddinas-ranbarth Caerdydd, ar un pen i'r metro, ac ati, ac ati—felly mae'n rhaid i ni weiddi'n uchel iawn a dadlau'r achos. Ond o fewn yr hyn sydd ar gael, rydym wedi bod yn eithaf llwyddiannus, ond mae angen i ni wneud mwy. Felly gadewch i mi droi at rai o'r rhain. Os edrychwch, er enghraifft, ar gymoedd Garw ac Ogwr yn benodol, ceir angen dirfawr am adnewyddu dinesig—adeiladau gwag, siopau gwag sydd wedi bod yno ers amser maith. Nawr, mae'r math o ymagwedd sydd gan Gyngor Rhondda Cynon Taf, ymagwedd y maent wedi bod yn arwain arni mewn gwirionedd, o ran adfywio gofodol go iawn—trawsnewid ffisegol—sydd nid yn unig yn gwneud siopau ac unedau ond hefyd yn gwneud llety a thai uwchben, byddem yn bendant yn elwa o hynny, a mynd ati i'w wneud yn yr ardaloedd hyn yn y Cymoedd. Mae'r gwaith adfywio rydym yn mynd i'w wneud gyda rhywfaint o'r arian Ewropeaidd olaf ar Neuadd y Dref Maesteg, gan ei newid o fod yn neuadd y dref hen ffasiwn—mae wedi bod yn lleoliad gwych ers blynyddoedd lawer, ond ei throi'n ganolfan a lleoliad diwylliannol go iawn a fydd yn gwneud amrywiaeth o bethau dinesig yno, a phethau diwylliannol. Bydd honno'n ganolfan go iawn i'r gymuned honno, ac mae iddi botensial gwirioneddol, gan weithio gyda'r coleg a chydag eraill, i wneud llawer iawn mwy. Mae safle Heol Ewenni, y bydd Gweinidogion yn gwybod amdano am fy mod yn rhygnu ymlaen am hyn, bron â bod yn 8 hectar o faint yng nghanol Maesteg. Mae wedi bod yn wag ers cymaint o amser erbyn hyn. Mae problemau'n ymwneud â materion adfer tir ynghlwm wrth y safle, ond maent wedi bod yno ers tro. Rwy'n credu bod dwy neu dair o adrannau'r Llywodraeth yn rhan o'r broses o edrych arno, ond mae angen i ni dynnu'r cyfan at ei gilydd yn awr. Oherwydd gallai hwnnw fod yn safle busnes a phreswyl amlddefnydd, ac yn y blaen, yng nghanol un o'n prif gymoedd. I ni, mae trafnidiaeth yn fater pwysig wrth sôn am adfywio cymunedau. Ac mae ar draws y cymoedd, yn ogystal ag i fyny ac i lawr y cymoedd. Felly, gorau po gyntaf y gallwn ddatrys materion yn ymwneud â'r rheilffyrdd a bysiau cyflym, ac ail-reoleiddio'r bysiau fel y gallwn benderfynu i ble mae'r llwybrau'n mynd, a sicrhau bod pobl yn cyrraedd y gwaith ar yr adeg y mae angen iddynt gyrraedd eu gwaith, mae hynny'n hanfodol yn ogystal. Nid wyf yn siŵr am yr amser gan i mi dderbyn ymyriad, ac rwyf wedi mynd ymhell y tu hwnt. Buaswn yn dweud mai'r elfen arall, a grybwyllwyd mewn perthynas â threfi glan môr hefyd, yw'r potensial o ran twristiaeth a diwylliant, oherwydd mae gennym brofiad awyr agored gwych. Os gwnewch ffigwr wyth o Bontycymer yng nghanol cwm Garw i fyny un ochr i'r rhewglai, ac i lawr yr ochr llall, a mynd i fyny yn eich ôl a rownd, rydych newydd wneud cylched mor ymestynnol ag unrhyw ddiwrnod ar y Tour du Mont Blanc yn yr Alpau Ffrengig. Felly mae angen inni wneud mwy o hynny. Ac mae nifer y beicwyr rhyngwladol sy'n defnyddio mynydd y Bwlch a chwm Ogwr fel eu hardal hyfforddi—i fyny'r bryn hwnnw ac yn ôl i lawr yr ochr arall hefyd. Felly mae angen i ni wneud mwy o hyn. Ond mae gennym rai o'r arfau sydd ar gael i ni; yr hyn sydd ei angen arnom yw'r uwchgynllunio i wneud i hyn weithio. Ac rwy'n tybio, gyda rhai o'r meysydd thematig hyn, ei fod yn ymwneud lawn cymaint â'r hyn sydd angen inni ei wneud mewn ardaloedd glan môr hefyd. Mae'n golygu edrych ar ba gyllid sydd ar gael, a oes angen mwy—oes, yn bendant—ond yr hyn sydd ar gael yn awr. Ac un o'r pethau yr hoffwn ei ddweud hefyd, yn y dyfodol, un o'r agweddau—wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd—yw edrych ar yr hyn y cyfeiriwyd ato ddoe, sef hyblygrwydd ychwanegol y gellid ei ddefnyddio yn y meysydd thematig hynny i wella mwy o flaenoriaethau rhanbarthol a lleol. Gallai hynny olygu nad oes arnom angen cronfa glan môr, yr hyn sydd ei angen yw mwy o hyblygrwydd i bobl benderfynu beth sy'n bwysig yn eu hardaloedd. Janet Finch-Saunders AC: Mae bron 40 y cant o boblogaeth Cymru yn byw mewn trefi bach yng Nghymru. Mewn etholaethau fel Aberconwy, mae'r boblogaeth gyfan bron yn dibynnu ar drefi, megis Llanfairfechan, Llanrwst, Conwy, Penmaen-mawr, Betws-y-coed, a Llandudno wrth gwrs, ar gyfer bancio, siopau, llyfrgelloedd a llawer o ddiwydiannau gwasanaeth eraill. Yn wir, canfu Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru mai dim ond 8 y cant o'r boblogaeth sy'n teimlo nad yw trefi'n berthnasol bellach. Byddem yn elwa'n fawr o ofalu am ein trefi yn Aberconwy ac yng Nghymru, ac adeiladu ein strydoedd mawr, grymuso ein hentrepreneuriaid, cynyddu ein refeniw treth, a chreu mwy o arian yn gyffredinol ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus a sicrhau gwaith cyflogedig i fwy o bobl. Yn anffodus, fodd bynnag, mae llawer o drefi'n wynebu heriau, fel strydoedd mawr sy'n ei chael hi'n anodd. Yn y chwarter diweddaraf, roedd gan Gymru gyfradd siopau gwag o 13.4 y cant. Mae'r gyfradd hon o siopau gwag yn fwy nag unrhyw ran arall o'r DU, ac yn ystod y pedair wythnos rhwng mis Medi a mis Hydref y llynedd, bu gostyngiad o 5.2 y cant yn niferoedd yr ymwelwyr yn gyffredinol o gymharu â 2018. Fel Llywodraeth, rhaid i chi roi camau ar waith ar fyrder i helpu ein busnesau, ein strydoedd mawr a'n cymunedau. Caiff busnesau yng Nghymru eu llesteirio gan ardrethi annomestig uchel, gyda chwmnïau o Gymru'n gorfod rhoi mwy na hanner eu rhent blynyddol amcangyfrifedig mewn trethi—52.6c am bob £1. Mae'n bryd ichi ddilyn arweiniad y Ceidwadwyr Cymreig, a'n galwadau parhaus i fabwysiadu polisi o hyd at £15,000 ar gyfer rhyddhad ardrethi o 100 y cant. Byddai hyn yn sicrhau twf busnes go iawn. Yn fwy felly, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar siopau bach, bûm yn gweithio gyda llawer o bobl eraill i geisio sicrhau diwygiadau go iawn mewn perthynas â rhyddhad ardrethi, er enghraifft drwy uno'r rhyddhad ardrethi i fusnesau bach, y stryd fawr a'r gyfradd ddisgresiynol. A ydych chi erioed wedi siarad â busnes sydd wedi ceisio cael mynediad at yr arian mawr ei angen hwn? Mae'n deg dweud bod canol rhai trefi wedi elwa o Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid. Fodd bynnag, soniais eisoes am Aberconwy a swm y refeniw ardrethi busnes a ddaw i mewn i Gymru, ac eto, mae'r buddsoddiad mewn adfywio yng ngogledd Cymru wedi'i gytuno a'i ddyrannu ar draws y rhanbarth, gyda'r cyllid buddsoddi'n canolbwyntio ar fannau y tu allan Aberconwy yn bennaf. Ac mae hynny i'w weld mewn llythyr ataf gan y Gweinidog. Felly, ni fydd yn syndod i chi, felly, fy mod yn cytuno â chanfyddiadau Pwyllgor Dethol Tŷ'r Arglwyddi ar Adfywio Trefi a Chymunedau Glan Môr fod trefi glan môr wedi'u hesgeuluso ers gormod o amser. Yn wir, mae pump o'r 10 ardal fwyaf difreintiedig yng Nghymru i'w gweld mewn trefi. Ac mae mynegai amddifadedd lluosog Cymru wedi dangos bod pocedi o amddifadedd uchel ar hyd arfordir gogledd Cymru. Mae angen inni helpu'r busnesau ynddynt i ffynnu a datblygu a rhoi llais i gymunedau ar eu cynnydd eu hunain. Er enghraifft, drwy gydgynhyrchu—diolch i Mark Isherwood am sicrhau lle pendant iddo yng Nghofnod y Trafodion—gallem weld pobl yn darparu ac yn derbyn gwasanaethau—[Torri ar draws.] A hoffech imi dderbyn ymyriad? Na. Parhewch. Anwybyddwch y synau, a pharhewch. Janet Finch-Saunders AC: —yn rhannu cyfrifoldeb a gweithio mewn perthynas gyfartal. Nawr, yn ôl asesiad Ymddiriedolaeth Carnegie UK 2019, mae eich polisïau prif ffrwd yn canolbwyntio ar gydweithio yn hytrach na chydgynhyrchu trawsnewidiol. Ceir methiant i ymgysylltu'n ddigonol â chymunedau. Mae problemau o ran gweithredu Deddf Lleoliaeth 2011—fel y nododd fy nghyd-Aelod, Angela Burns, yma heddiw—yn brawf o hyn, gan nad yw'r darpariaethau wedi cael eu gorfodi, megis yr hawl i her gymunedol, i gyflwyno datganiadau o ddiddordeb ar gyfer gweithredu gwasanaethau awdurdod lleol ac i wneud cais am asedau sydd o werth i'r gymuned. Mae'r rhain yn bethau y gallwch eu gwneud yn Lloegr, ond nid yng Nghymru. Ceir camau symlach y gallwch eu cymryd i annog cydgynhyrchu, fel y newidiadau a argymhellir gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol: proses gyllidebol gyfranogol, cynnwys pobl yn gynnar yn y broses o ddatblygu gwasanaethau, a chyd-ddatblygu mannau cymunedol— Mae eich amser bron ar ben. Janet Finch-Saunders AC: Mae fy amser bron ar ben. Mae yna ewyllys i gynnwys cymunedau yn y gwaith o adfywio a datblygu trefi yn Aberconwy, ond mae trigolion yn wynebu rhwystrau. O ganlyniad, rwy'n cefnogi'r galwadau ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cronfeydd ar gyfer trefi glan môr a threfi marchnad. Mae'r dulliau gennych, mae'r arian gennych hyd yn oed. Os gwelwch yn dda, gweithiwch gyda'n perchnogion busnesau, a chyda'n gilydd yn y bartneriaeth honno bydd gennym lawer mwy o arian ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus. Entrepreneuriaeth, cyflogaeth ac uchelgais—dyna sydd ei angen ar Gymru, ac yn anffodus mae'n brin ohonynt ar hyn o bryd. Jenny Rathbone AC: Nid yw 'dim bargen' wedi diflannu, mae wedi cael ei ohirio, dyna i gyd, felly bydd yn rhaid inni fod yn ddychmygus iawn yn y ffordd y bwriadwn ddiogelu ein cymunedau. Fel y mae'r rapporteur arbennig yn rhybuddio, bydd yn effeithio ar yr aelodau mwyaf agored i niwed a mwyaf difreintiedig o'r gymdeithas, y bobl leiaf abl i ymdopi â newidiadau ac a fydd yn dioddef yr ergyd fwyaf. Felly, bydd yn rhaid i ni ddibynnu ar ein dyfeisgarwch i greu a chadw cyfoeth yng Nghymru os ydym am osgoi'r anfodlonrwydd sylweddol ymhlith y cyhoedd, y rhaniadau pellach, a'r ansefydlogrwydd hyd yn oed y mae'r rapporteur arbennig yn rhybuddio yn eu cylch. Roedd yn ddiddorol gwrando ar Huw Irranca-Davies yn sôn am safle Heol Ewenni, oherwydd buaswn yn argymell ei fod yn edrych ar gynllun Goldsmith yn Norwich, sydd ynghanol Norwich ac a enillodd wobr Stirling, ac mae wedi bod yn ffordd wych o adfywio ardal ynghanol tref. Dyna'r math o beth yr hoffwn ei weld. Teimlaf fod cynllunio da yn hanfodol i waith adfywio da, oherwydd gallwch weld sut y mae trefi glan môr fel Llandudno, Conwy, Aberaeron, ac ati, wedi'u cynllunio'n dda, a dyna pam eu bod yn parhau i ffynnu a bod pobl yn parhau i fod eisiau byw yno. Gorfodwyd penderfyniadau cynllunio trychinebus ar ardaloedd eraill ac o ganlyniad, maent wedi dioddef. Felly, mae angen inni sicrhau bod gennym gynllunio gwirioneddol dda o ran y ffordd y datblygwn ein trefi yn y dyfodol. Rwy'n hyderus y gallwn wneud pethau cyffrous iawn yn awr gan fod gennym yr holl enghreifftiau da o'r rhaglen tai arloesol, ac mae angen i ni sicrhau ein bod yn adeiladu ar hynny. Wrth gerdded o amgylch fy etholaeth yn ystod y ddau neu dri mis diwethaf, bûm yn meddwl llawer ynglŷn â pham y mae rhai pobl yn cadw eu gerddi blaen yn dwt ac yn daclus tra bod eraill yn meddwl ei bod hi'n iawn eu defnyddio fel toiled i gŵn neu domen sbwriel. Ac rwy'n credu bod hwn yn fater pwysig iawn i bobl sy'n byw mewn cymunedau. Pam y dylai pobl orfod dioddef hunanoldeb a diogi pobl eraill? Felly, rwy'n credu bod yna her wirioneddol i bob awdurdod lleol sicrhau bod pob preswylydd yn ymfalchïo yn eu cymdogaeth ac yn chwarae eu rhan yn hytrach na gadael i bobl eraill wneud hynny. Yn yr achos gwaethaf, mae pobl yn dweud, 'Pam nad yw'r cyngor wedi gwneud unrhyw beth am y sbwriel?' Nid yw'r cyngor yn taflu'r sbwriel, mewn gwirionedd. Felly, yn ogystal â dathlu'r gwaith y mae'r casglwyr sbwriel gwirfoddol yn ei wneud, wedi ei gydlynu gan Cadwch Gymru'n Daclus—ac rwy'n credu bod hon yn enghraifft dda iawn o swm bach iawn o arian a fuddsoddwyd yn Cadw Cymru'n Daclus i gydlynu'r casglwyr sbwriel gwirfoddol hyn, a hebddo, byddai ein cymunedau yn dlotach o lawer—credaf fod llawer y gallwn ei ddysgu o leoedd fel Wigan, lle mae'r Wigan Deal wedi cynnwys y gymuned gyfan drwy eu cael i ddweud beth sy'n bwysig iddynt a sut y gallwn oll ymfalchïo yn ein cymuned a bod yn rhan ohoni a sicrhau ein bod yn meddwl ei fod—. Maent wedi'u cael i ddweud, 'Gyda'n gilydd, rydym am greu lle glân a gwyrdd y mae pawb ohonom yn gofalu amdano ac yn ei fwynhau.' Ac rwy'n credu bod angen inni wneud hynny ym mhob un o'n cymunedau i sicrhau ein bod i gyd yn gwneud hynny. Rwyf hefyd am ganmol y gwaith a wneir gan gyngor Abertawe i sicrhau bod pawb yn cymryd rhan mewn ailgylchu, oherwydd nid yw'n deg os yw 80 y cant o bobl yn ailgylchu a bod 10 y cant yn dweud, 'Nid wyf am drafferthu; rwy'n mynd i'w roi yn y bag du', ac mae hynny'n cynyddu'r gost i gynghorau o gael gwared ar y bagiau du. Felly, rwy'n credu bod y gwaith a wneir gan y swyddogion ailgylchu dan hyfforddiant ar archwilio bagiau du a siarad â phreswylwyr a dweud, 'Wyddoch chi, cewch ddirwy os na fyddwch yn newid eich ffyrdd' wedi arbed £300,000 mewn ychydig fisoedd. A dyna'r math o beth yr hoffwn weld pob awdurdod lleol yn ei wneud. Pam y mae'r rhan fwyaf ohonom yn ailgylchu a rhai pobl nad ydynt yn ailgylchu? Yn amlwg, gall fod problemau iechyd meddwl neu anawsterau dysgu, ac mae'n rhaid ystyried y rheini, ond mewn rhai achosion diogi llwyr ydyw a 'Nid wyf am drafferthu', a dyna'r math o beth na allwn ei dderbyn. Felly, rwy'n croesawu'r ddadl hon. Rwy'n falch iawn fod Mike Hedges wedi rhoi diwedd ar y ffug ddadleuon ynglŷn â Cymunedau yn Gyntaf. Nid oedd Cymunedau yn Gyntaf yn gweithio'n dda, ond gallai fod wedi'i ddiwygio yn fy marn i, ac yn sicr mae angen rhaglenni dileu tlodi arnom i barhau i sicrhau bod gennym gymdeithas fwy cydlynol. Fel arall, rydym yn creu problemau ar gyfer y dyfodol. Diolch.A gaf fi alw yn awr ar y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn? Hannah Blythyn AC: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu heddiw, gydag ystod eang o gyfraniadau meddylgar a niferus i'r ddadl a'r drafodaeth bellgyrhaeddol hon? Siaradasom gryn dipyn heddiw am gefnogi ein pobl a'n lleoedd a phwysigrwydd cefnogi a galluogi'r ymdeimlad hwnnw o falchder yn ein cymunedau, a bod buddsoddi mewn cymunedau yn ymwneud â mwy na'r manteision economaidd yn unig, ond y manteision ehangach o ddod â chymunedau at ei gilydd a chynyddu cymunedau cydlynus. Mae Llywodraeth Cymru am i'n cymunedau a'n trefi gael dyfodol gwych yn ogystal â gorffennol gwych gyda'r llu o drefi hanesyddol y gallwn ymffrostio ynddynt yng Nghymru. Ac rydym wedi cydnabod, ac mae pobl wedi cydnabod yn y ddadl hon heddiw, fod rôl a phwrpas ein trefi'n newid a bod angen i ni ymateb i'r her honno er mwyn ail-greu ac ailddyfeisio ein cymunedau a'n canol trefi. Dyna pam y mae'r Llywodraeth hon yn darparu cefnogaeth adfywio sylweddol i dros 50 o drefi a chymunedau ledled Cymru, gan ryddhau £800 miliwn o fuddsoddiad rhwng 2014 a 2022. Boed yn hen gapeli neu'n neuaddau tref sydd wedi'u hesgeuluso, sinemâu sy'n dadfeilio neu neuaddau bingo sydd bellach yn segur, boed yn stryd fawr sy'n wynebu anawsterau neu'n eiddo adfeiliedig, mae ein buddsoddiad yn helpu i roi bywyd newydd iddynt. Gallai hynny fod ar ffurf swyddfeydd neu ganolfannau menter, canolfannau cymunedol neu ofal neu gyfleusterau hamdden neu ddigwyddiadau, gwell cynigion manwerthu a hyd yn oed cartrefi newydd. Ac rydym wedi clywed gan Huw Irranca-Davies am yr hyn sy'n digwydd gyda neuadd y dref Maesteg hefyd. Felly, rydym yn helpu cymunedau i ail-greu canol eu trefi a'u hadeiladau ar gyfer heriau'r unfed ganrif ar hugain. Mae'r cynnig gwreiddiol yn awgrymu braidd nad yw trefi glan môr a threfi marchnad yn elwa ar y buddsoddiad hwn ar hyn o bryd er bod llawer ohonynt yn sicr yn gwneud hynny. Yng ngogledd Cymru, mae Bae Colwyn yn cael dros £3 miliwn o fuddsoddiad adfywio i weddnewid adeiladau canol y dref a sicrhau bod gofod llawr masnachol gwag yn cael ei ddefnyddio unwaith eto. Mae'n rhywbeth rwyf wedi'i weld drosof fy hun a'r gwahaniaeth y mae hynny'n ei wneud i'r nifer sy'n dod i'r dref hefyd. Ac ychydig ar hyd yr arfordir—buddsoddiad enfawr yn y Rhyl. Mae'n cynnwys ailddatblygu eiddo helaeth sydd wedi dirywio ynghanol y dref ac addasu'r promenâd, gyda llawer mwy ar y gweill, ac nid dweud hynny am fod y Dirprwy Lywydd yn y gadair rwyf fi. [Torri ar draws.] [Chwerthin.] Gwerth rhoi cynnig arni. Yn y Barri, rydym yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu adeilad y Goods Shed, gan greu 120 o swyddi, swyddfeydd a gofod cymunedol a chynnig bwyd a hamdden yn sgil hynny. Rydym hefyd yn darparu bron i £1 filiwn er mwyn gwella gofod masnachol a manwerthu ac i drawsnewid gofod mewn eiddo masnachol at ddefnydd preswyl a chronfa fenthyg o £1 filiwn dan brosiectau cefnogi tai cymdeithasol ynghanol y dref. Gan droi'n fyr at drefi marchnad ac ychydig o enghreifftiau: yn Hwlffordd, rydym wedi rhoi cefnogaeth mewn egwyddor i brosiect £3 miliwn a mwy i adnewyddu a thrawsnewid siop adrannol Ocky White yn emporiwm bwyd, a benthyciad o £2.75 miliwn ychwanegol, sy'n darparu 23 o unedau preswyl, ardal fenter ieuenctid a masnachu ac adnewyddu maes parcio aml-lawr i gynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol y dref. Yng nghanolbarth Cymru, mae chwe thref farchnad yn elwa o £2.14 miliwn i wella eiddo ynghanol y trefi a sicrhau bod eiddo gwag yn cael ei ddefnyddio unwaith eto. Ac mae Llanbedr Pont Steffan a'r Drenewydd hefyd wedi sicrhau cyllid ar gyfer prosiectau, gyda gwerth cyfunol o £5 miliwn. Ac yn Llanbedr Pont Steffan, bydd Canolfan Dulais a ailddatblygwyd yn darparu gwasanaethau cymunedol ynghyd â chanolfan fenter sy'n canolbwyntio ar ofal ac a fydd yn hybu nifer yr ymwelwyr â chanol y dref a chyflogaeth. Gall trefi glan môr hefyd fanteisio ar ein cronfa cymunedau arfordirol, sydd wedi darparu £16 miliwn i ardaloedd arfordirol ers 2011. Rydym wedi sôn am wahanol gronfeydd heddiw ac rwy'n meddwl mai un o'r pethau rydym wedi—. Ni fuaswn yn dweud bod gennym ddigon o arian, ond credaf fod gennym ddigon o gronfeydd ac mewn gwirionedd, mae'n debyg fod gennym ormod. Ac mae gennyf fwy o ddiddordeb mewn gweld sut y gallwn atgyfnerthu rhai ohonynt yn hytrach na chreu rhai newydd a gwneud y gorau o'u heffaith mewn trefi a chymunedau ar hyd a lled y wlad. Rydym yn darparu llawer o gymorth, ond mae blynyddoedd o gyni ac effaith ar ein cyllid yn golygu na allwn ymyrryd ym mhobman yn anffodus. Felly, rydym am helpu i rymuso cymunedau i gymryd yr awenau. Mae adroddiad diweddar Ymddiriedolaeth Carnegie UK, 'Turnaround Towns UK', yn tynnu sylw at drawsnewid Aberteifi o fod yn dref farchnad a oedd yn methu i fod yn enghraifft o ymarfer gorau drwy ddefnyddio ei hasedau ffisegol a hanesyddol. Mae Aberteifi wedi elwa ar ein cymorth ond mae hefyd yn dangos pwysigrwydd grymuso arweinwyr lleol sy'n adnabod eu trefi ac sy'n allweddol i ysgogi newid. Maent hefyd yn gwneud yn fawr o dechnoleg ddigidol i helpu i yrru hyn i gyd ymlaen. Mae'r Llywodraeth yn cefnogi ac yn ymgysylltu â'n cymunedau, fel y dangoswyd gan dasglu'r Cymoedd, sydd wedi gweithio gyda chymunedau i ddatblygu cynlluniau a syniadau sy'n helpu i fynd i'r afael â'r heriau a wynebir gan gymunedau, ond sydd hefyd yn dathlu ac yn adeiladu ar eu cryfder. Rwy'n awyddus i symud ymlaen i edrych ar sut y gwnawn rymuso cymunedau yn well i fod yn rhan o hyn, a chynnwys cynghorau tref a chymuned a sefydliadau cymunedol eraill. Rydym yn gweithio i ddatblygu dulliau newydd o gefnogi ein cymunedau drwy Brexit a thu hwnt, gan adeiladu ar brofiadau megis dull LEADER a phwyso ar y rhaglen datblygu gwledig. Bydd gan gymunedau lais yn y ffordd y caiff buddsoddiad rhanbarthol ei dargedu yn eu hardaloedd lleol yn y dyfodol. Mae cyfundrefn drethi a lles a blynyddoedd o gyni Llywodraeth y DU wedi cael effaith enfawr ar gyfraddau tlodi yng Nghymru. Mae'r Llywodraeth hon wedi gweithredu ar draws y Llywodraeth i drechu tlodi ac ar ein cynllun gweithredu economaidd a'n rhaglenni megis Dechrau'n Deg, Cymunedau am Waith ac mae'r grant datblygu disgyblion a Teuluoedd yn Gyntaf yn hanfodol i leihau'r bwlch rhwng ein hardaloedd difreintiedig a mwy ffyniannus. Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo'n gadarn i gynorthwyo a chefnogi ein trefi a'n cymunedau nid yn unig i oroesi ond i ffynnu. Yn sicr, nid ydym yn hunanfodlon a gallwn bob amser adeiladu ar yr hyn rydym yn ei wneud eisoes. Rwy'n bwriadu dweud mwy yn yr wythnosau nesaf yn y Siambr ynglŷn â sut rydym yn cefnogi ein cymunedau i symud ymlaen i gael dyfodol gwych yn ogystal â gorffennol gwych. Diolch. A gaf fi alw ar David Melding i ymateb i'r ddadl? David Melding AC: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i bawb am gymryd rhan yn y ddadl hon? Llawer o gyfraniadau—ni lwyddaf i fynd trwyddynt i gyd. Dechreuodd Mark gyda'i frwdfrydedd arferol a'r gafael llwyr sydd ganddo ar y pwnc am ei fod wedi golygu cymaint iddo drwy gydol ei yrfa fel Aelod o'r Cynulliad, lle mae wedi hyrwyddo'r holl gysyniad o gydgyflwyno, cydgynhyrchu a bod hynny'n ganolog i adfywio cymunedol. Yn ddiweddarach, mewn cyfraniad braidd yn rhyfedd, rhaid i mi ddweud, gan Mark Reckless, dywedwyd wrthym nad yw 'cydgynhyrchiol' yn air. Roedd y cyfrifiadur yn dweud 'na' pan edrychodd Mark arno. [Chwerthin.] Wel, nid wyf yn gwybod ble rydych chi wedi bod dros y pedair blynedd diwethaf, Mark, ond ni allech fod wedi gwrando ar unrhyw un o gyfraniadau bendigedig Mr Isherwood. Ac mae wedi bod yn siarad am gydgynhyrchu'n llawer hwy na phedair blynedd hefyd, felly gadewch i mi ddweud wrthych, mae yno, mae wedi'i sefydlu fel idiom wych ac un y dylem ei chyflawni. Gyda'i haelioni nodweddiadol a'i chwilio cyson am gonsensws, condemniodd Leanne haerllugrwydd Plaid Geidwadol Cymru am hyd yn oed gyflwyno'r ddadl hon a chawsom ein hatgoffa ganddi mai bai Mrs Thatcher oedd y cwbl ac yna cynigiodd rai awgrymiadau braidd yn amwys ynglŷn â sut y byddai'n ymdrin â newid strwythurol, gan anghofio y byddai annibyniaeth yn ein gosod ar ddiffyg o 25 y cant ar ein gwariant flwyddyn ar ôl blwyddyn o'r cychwyn. Ond beth bynnag, fe adawaf i'r blaid gyferbyn ymdrin â'r anghysonderau hyn. Dywedodd Mike mai mater o economeg yw tlodi—wel, yn y bôn, nid wyf yn credu y byddai llawer yn anghytuno â hynny—ac roedd yn amheus ynglŷn â rhaglenni gwrth-dlodi unigol i geisio troi'r llanw economaidd hwnnw. Ac yna yn ei araith, aeth ymlaen i ddangos sut y gallai dulliau penodol o weithredu sicrhau manteision mawr—cynlluniau hyfforddiant dychwelyd i'r gwaith, cyrhaeddiad addysgol a llawer o rai eraill. Felly, nid oeddwn yn siŵr iawn ble roeddech ar ddiwedd eich cyfraniad, Mike, ond roeddwn yn meddwl ei fod yn dangos beth y gallai cynlluniau adfywio cymunedol cydlynol a phenodol ei wneud i uwchsgilio ein dinasyddion. Soniodd Oscar am yr angen am strydoedd mawr prysur a'r cyfraddau uchel presennol o siopau gwag sydd gennym mewn llawer gormod o'n trefi, ac mae hyn yn rhywbeth a nodwyd gan siaradwyr eraill hefyd. Mewn rhan arall o'i gyfraniad, canmolodd Mark y cysyniad o ddiswyddiadau, ac y dylem fod yn cyfyngu'n ddramatig ar raglenni'r Llywodraeth nad ydynt yn gweithio. Wel, wyddoch chi, mae hynny'n wir, ond roeddem yn galw am raglen adfywio cymunedol effeithiol. Roeddem yn ymwybodol iawn o'r problemau gyda chynllun Llywodraeth Cymru. Felly, dyna oedd ffocws ein dadl. Yna, gwrthododd Angela ymosodiad epistemolegol Mark ar drefi glan môr a threfi marchnad. Roedd hon yn dipyn o thema gan Mr Reckless y prynhawn yma, wrth iddo chwilio am ddiffiniadau. Ond roeddwn o'r farn fod Angela wedi ymdrin ag ymarferoldeb y materion hyn, ac wedi cyfeirio at yr adroddiad ardderchog hwnnw gan bwyllgor dethol Tŷ'r Arglwyddi, ac yna'r angen i farchnata cyrchfannau. Mae'r straeon llwyddiant yn anhygoel, a'r trefi sydd heb gyflawni hynny eto—mae ganddynt botensial mawr i wneud yr un peth. Cawsom awgrym o hyn gan Huw, rwy'n credu, pan oedd yn sôn am ailddatblygu neuadd y dref Maesteg, a'i statws fel canolbwynt. Mae'n fy atgoffa o fy nhref enedigol, Castell-nedd—nid neuadd y dref, ond Neuadd Gwyn, lle gwelwyd enghraifft wych o hynny yn fy marn i. Dywedodd Janet fod 40 y cant o boblogaeth Cymru'n byw mewn trefi bach. Nid oes gennyf syniad a yw hynny'n wir, ond fe wnaeth yr honiad argraff fawr arnaf beth bynnag, ac mae'n ein hatgoffa pa mor bwysig yw hyn i'n bywyd cymunedol. Mae'r Ffederasiwn Busnesau Bach wedi dweud pa mor bwysig yw trefi i'n dyfodol economaidd, ac rydym i gyd yn cytuno. Ymhellach ar y thema hon, efallai, soniodd Jenny Rathbone pa mor bwysig yw cynllunio da a sut y mae ei angen wrth fynd ati i adfywio a datblygu trefi, ac rwy'n sicr yn cytuno â hynny. Yna gorffennodd y Gweinidog gydag amddiffyniad digyffro o bolisi'r Llywodraeth, ac rwy'n diolch iddi am ei hymagwedd. Roedd yn un eithaf adeiladol, ac rwy'n siŵr eich bod wedi gwrando ar y ddadl y prynhawn yma, ac rwy'n gobeithio y gallwn weld adfywio cymunedol mwy effeithiol, a fyddai'n ennyn cefnogaeth ar bob ochr i'r Cynulliad wrth gwrs. Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. 8. Dadl Plaid Cymru: Teuluoedd Incwm Isel Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans. Symudwn at eitem 8 ar yr agenda y prynhawn yma, sef dadl Plaid Cymru ar deuluoedd incwm isel, a galwaf ar Adam Price i gyflwyno'r cynnig. Cynnig NDM7224 Rhun ap Iorwerth Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno taliad o £35 yr wythnos i bob plentyn mewn teuluoedd incwm isel yng Nghymru. Cynigiwyd y cynnig. Adam Price AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i gyflwyno'r cynnig hwn ar dlodi plant, sy'n asio'n daclus iawn—yn gwbl annisgwyl, ond yn ffodus—â pheth o thema'r ddadl ddiwethaf. Tlodi plant yw un o'r problemau mwyaf cyson sy'n ein hwynebu fel cymdeithas. Yng Nghymru mae tlodi plant cymharol wedi bod mewn band rhwng 36 y cant a 28 y cant o'r holl blant yng Nghymru ers 20 mlynedd fwy neu lai—tua thraean o'r cyfanswm. Yn y flwyddyn ddiweddaraf y mae gennym ffigurau un flwyddyn ar ei chyfer, yn ôl y Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant, Cymru oedd yr unig wlad yn y DU i weld cynnydd o 1 y cant mewn tlodi plant, i fyny i 29.3 y cant, sy'n cyfateb i 206,000 o blant ledled Cymru. Wrth gwrs, y rhagolwg ar gyfer Cymru, ac yn wir ar draws y DU, yw y bydd y duedd hon o gynnydd mewn tlodi plant yn parhau. Mae rhai rhagolygon yn rhagweld y bydd yn codi i 39 y cant ym mlynyddoedd cynnar y degawd sy'n dod. Rwy'n meddwl ar y lefel ehangaf y gallech ddweud mae'n debyg mai'r methiant ar fater tlodi plant yw un o'r methiannau mwyaf yn ein gwleidyddiaeth. Efallai fod rhai ohonoch yn cofio'r Tony Blair ifanc, ym mis Mawrth 1999, yn mynd draw i Neuadd Toynbee, a oedd ei hun yn symbol o ymdrechion adfywio yn y rhan honno o Lundain dros genedlaethau lawer, ac yn cyhoeddi mai hon oedd y genhedlaeth gyntaf erioed i gael gwared ar dlodi plant yn llwyr. Ac wrth gwrs, cawsom yr ymrwymiad polisi wedyn i ddileu tlodi plant o fewn 20 mlynedd, a chredaf ei bod bob amser yn talu inni atgoffa ein hunain ynglŷn â pheth o'r iaith oreurog honno: 'Ni ddylai bod yn dlawd fod yn ddedfryd oes. Mae angen inni dorri cylch anfantais.' Wel, nid yw'r cylch hwnnw wedi'i dorri, a chredaf fod hynny'n rhywbeth inni ei ystyried. Y syniad sydd wrth wraidd y cynnig hwn, mewn gwirionedd, yw p'un a oes angen newid radical yn ein meddylfryd ac yn ein hymarfer, oherwydd, yn amlwg, credaf ei bod yn deg dweud nad yw'r polisïau presennol wedi gweithio, ac mae hynny wedi bod yn wir dros weinyddiaethau olynol y ddwy blaid wleidyddol yn San Steffan. Nawr, yn amlwg, bron drwy ddiffiniad, yr hyn sy'n achosi tlodi plant yw diffyg incwm. Daw incwm yn bennaf o ddwy ffynhonnell yn ein cymdeithas—cyflogaeth a budd-daliadau Llywodraeth. Nawr, rydym yn gyfarwydd iawn wrth gwrs â'r naratif sy'n cyfeirio at effaith diffyg gwaith ar gynnal tlodi rhwng cenedlaethau, ond mewn gwirionedd, os edrychwch ar y dystiolaeth, y gostyngiad a oedd yno rhwng 2000 a 2010, i roi—. Digwyddodd gostyngiad bach ond arwyddocaol yn lefelau tlodi plant, ond roedd yn deillio bron yn gyfan gwbl o'r newidiadau mewn budd-daliadau, nid unrhyw newid yn yr economi ehangach a'r farchnad lafur, ac felly, yn bennaf, o gyflwyno'r credyd treth i deuluoedd sy'n gweithio a newidiadau eraill i'r system fudd-daliadau. Fel arall, mae'r cynnydd a welwn yn awr yn ymwneud bron yn llwyr â chyni, a'r gostyngiad yn y gyllideb les a newidiadau cysylltiedig ers 2010. Yr achosion allweddol yno, wrth gwrs, oedd rhewi budd-daliadau, y methiant i gynyddu nawdd cymdeithasol i bobl o oedran gweithio yn unol â chostau byw. Rhagwelir y bydd budd-dal plant, er enghraifft, achubiaeth i lawer o deuluoedd sydd â phlant, wedi colli 23 y cant o'i werth erbyn eleni o'i gymharu â lle'r oedd yn 2010. Yn ogystal â hynny felly, mae gennych y cap ar fudd-daliadau, gan gyfyngu ar gyfanswm y budd-daliadau i aelwydydd o oedran gweithio, ac yna, yn drydydd, y terfyn dau blentyn sy'n cyfyngu credyd treth, budd-dal tai, credyd cynhwysol i ddau blentyn ym mhob teulu. Nawr, mae'r rheini'n amlwg i gyd yn bolisïau San Steffan, ac yn amlwg, roedd llawer o'r sylw y llynedd ar newidiadau yn y polisïau hynny yn San Steffan a fyddai'n deillio o newid Llywodraeth. Wel, nid yw hynny'n mynd i ddigwydd nawr, ac nid yw'n mynd i ddigwydd am bum mlynedd o leiaf, ac rwy'n mentro dyfalu ei bod hi'n debygol y bydd gennym Lywodraeth Geidwadol yn San Steffan am ddegawd fan lleiaf, o ystyried y rhifyddeg wleidyddol sy'n ein hwynebu. Felly, nid wyf yn meddwl y daw ateb o'r cyfeiriad hwnnw. Rwy'n hapus i ildio. Huw Irranca-Davies AC: Efallai eich bod yn iawn, a chroesawaf y ffordd gynhwysfawr yr aethoch drwy rai o'r polisïau sydd gan San Steffan. Efallai eich bod yn iawn na fyddant yn newid, ond mae'n ddiddorol fod rhai o'r ASau hynny a etholwyd mewn ardaloedd Llafur yn flaenorol yn mynd i gael etholwyr yn heidio i'w cymorthfeydd yn awr gan ddangos realiti hyn yn glir iddynt. Felly, nid wyf yn credu y dylem anobeithio, pe bai'r Cynulliad hwn yn anfon neges gydunol i San Steffan yn y gyllideb sydd i ddod ym mis Mawrth, i edrych ar y materion hynny mewn perthynas ag (1) yr etholwyr agored i niwed sydd ar fudd-daliadau, a'r hyn y byddai ei angen i unioni rhywfaint o hynny, ond yn ail, yr hen ffaith syml o wneud i waith dalu. Adam Price AC: Rwy'n sicr yn cytuno ag ysbryd y pwynt rydych yn ei wneud, y dylem yn bendant ddwyn San Steffan i gyfrif a pharhau i wneud hynny'n groch iawn. Ond mae'n debyg mai rhesymeg fy nadl yw bod yn rhaid inni ofyn i ni'n hunain beth y gallwn ei wneud yma nawr, oherwydd nid wyf yn credu ei bod hi'n debygol y daw achubiaeth yn fuan o San Steffan. Nawr, yn ei hanfod, rydym wedi cael dwy elfen o ddull gwrth-dlodi yng Nghymru. Mae un ohonynt wedi canolbwyntio ar ymyrryd yn uniongyrchol yn yr economi, felly gostwng nifer y teuluoedd mewn aelwydydd heb waith, gan alluogi mwy o fenywod i ymuno â'r gweithlu, er enghraifft, a chodi lefelau cyflog y rhai sydd mewn gwaith sy'n gweithio yn yr economi sylfaenol. Yr ail fath o bolisi, felly, yw darparu gwasanaethau wedi eu targedu'n uniongyrchol at blant mewn tlodi, pethau fel y grant amddifadedd disgyblion, llawer o'r rhaglenni y mae'r Llywodraeth, mae'n debyg, yn cyfeirio atynt yn ei gwelliant wrth gyfeirio at y £1 biliwn a werir—bob blwyddyn rwy'n tybio—fel y mae'n dweud yn ei adroddiad cynnydd ar dlodi plant ym mis Rhagfyr. Y broblem gyda'r cyntaf, yr her gyda'r dull blaenorol o ymyrryd yn uniongyrchol yn yr economi, yw bod y math hwnnw o newid strwythurol dwfn yn cymryd amser i ddwyn ffrwyth. Ac felly, tra rydych yn aros i'r newid strwythurol hwnnw ddigwydd wrth gwrs, wedyn bydd gennych chi genhedlaeth gyfan o blant sydd wedi tyfu i fyny gyda phroblemau tlodi. Mae'n bwysig, mae'n hollbwysig, ond nid yw'n mynd i ddarparu'r rhyddhad uniongyrchol hwnnw. Y broblem gyda'r olaf, trwy ddiffiniad bron, yw y bwriedir iddo fod yn fesur lliniarol. Felly, mae'n ymdrin ag effeithiau, canlyniadau, symptomau tlodi, nid yr achosion sylfaenol. Ac mae hyn yn ein harwain at y drafodaeth ynglŷn ag a oes angen dull gweithredu newydd arnom, a fyddai, yn y bôn, ar ffurf taliad plant Cymru, yn golygu trosglwyddiad arian parod sy'n daladwy'n uniongyrchol i deuluoedd incwm isel eu hunain. Nawr, mae'n amlwg fod cwestiynau dilys yn codi ynglŷn â'r manylion, a gallwn droi at rai ohonynt yn nes ymlaen—lefel y taliad, pwy fyddai'n gymwys, y pwerau neu'r cytundebau gyda Llywodraeth y DU y byddai eu hangen arnom er mwyn gwneud hyn mor effeithiol â phosibl. Ond cwestiynau eilradd yw'r rhain yn y bôn. Y cwestiwn cyntaf allweddol yw: a ydym yn cytuno mewn egwyddor y byddai hwn yn bolisi cadarnhaol ac y gallai gael effaith fwy na rhai o'r dulliau amgen y cyfeiriais atynt yn gynharach? Nawr, nid yw'n syniad gwreiddiol. Mae'n seiliedig ar daliad plant yr Alban o £10 a fydd yn cael ei gyflwyno yn ddiweddarach eleni i deuluoedd incwm isel. Dechreuodd hynny fel syniad gan y gynghrair o grwpiau gwrth-dlodi yn yr Alban, gyda'r ymgyrch Give Me Five i ychwanegu £5 at y budd-dal plant bob wythnos. Awgrymai'r gwaith modelu arno y byddai hynny hyd yn oed yn codi 30,000 o blant allan o dlodi yn yr Alban. Mae hynny'n dangos mai symiau cymharol fychan—symiau bach i ni efallai—ond gall symiau cymharol fach o arian gael effaith enfawr pan fyddwn yn sôn am deuluoedd sy'n byw ar y llinell dlodi. O'r syniad hwn, datblygodd y syniad o daliad plant yn yr Alban wedi'i osod ar gyfradd uwch ond nad yw'n awtomatig, felly byddai'n rhaid gwneud cais amdano. Amcangyfrifir hefyd y bydd yn cael effaith debyg i godi 30,000 o blant allan o dlodi. Cost y polisi yw tua £180 miliwn—£180 miliwn allan o gyllideb Llywodraeth yr Alban o dros £40 biliwn. Wel, wyddoch chi, os yw'n flaenoriaeth, ac mae'n amlwg fod tlodi plant yn flaenoriaeth i Lywodraeth yr Alban, roeddent wedi asesu bod hwnnw'n bris gwerth ei dalu o ystyried yr effaith y mae'n mynd i'w chael ar y niferoedd hynny. Mae'r dystiolaeth academaidd yn gryf iawn. Mae arian yn gwneud gwahaniaeth i ganlyniadau hirdymor plant. Mae plant tlotach yn cael canlyniadau bywyd gwaeth o ran eu hiechyd, eu cyflawniad addysgol, eu cyflogaeth yn y dyfodol a'u rhagolygon incwm eu hunain. Daw hwnnw'n gylch o anfantais sy'n pontio'r cenedlaethau, ac mae tlodi'n cynyddu lefelau straen a phryder, mae rhieni'n llai abl i fuddsoddi yn y nwyddau a'r gwasanaethau sydd eu hangen ar blant ar gyfer eu datblygiad eu hunain. A'r—[Torri ar draws.] Iawn, fe ildiaf. Joyce Watson AC: Diolch ichi am dderbyn ymyriad. Hoffwn ofyn i chi: rwy'n cytuno bod angen inni liniaru tlodi plant, wrth gwrs fy mod, ond rwy'n edrych ar The Oxford Review of Economic Policy yn 2010 ac mae'n rhaid imi gywiro datganiad a wnaethoch, sef bod Llafur mewn grym—. Rhwng 1996 pan ddaethom i rym a 2010 pan adawsom, cafwyd gostyngiad enfawr mewn tlodi i bensiynwyr, i deuluoedd â phlant, ac i'r plant eu hunain. Y cwestiwn rwyf am ei ofyn yw—. Mae hynny wedi'i briodoli—a gallaf anfon dolen atoch i'r erthygl, gan nad ydych fel pe baech yn gwybod amdani—i'r cynnydd yn yr arian a roesom tuag at y system fudd-daliadau yn hytrach na'r gostyngiad sydd wedi digwydd. Felly, mae angen inni ystyried y dulliau sydd gennym, a chydnabod ar yr un pryd y dulliau nad ydynt yn ein dwylo ni ac sy'n effeithio arnom. Adam Price AC: Cytunaf yn llwyr â chi. Yr achos rwy'n ei wneud, edrychwch, yw y dylem greu ein hofferyn ein hunain oherwydd, fel y dywedodd yr adolygiad systematig mwyaf yn y maes hwn gan Sefydliad Joseph Rowntree, polisïau cymorth incwm fel taliad plant Cymru yw'r offerynnau polisi amlbwrpas gorau oherwydd eu heffaith gronnol ar draws cymaint o agweddau ar fywydau plant a theuluoedd. Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Cymunedau a Llywodraeth Leol wedi awgrymu bod Llywodraeth Cymru yn gofyn am y pŵer i greu budd-daliadau newydd. Mae hynny'n golygu y gallem wneud yr hyn y mae Llywodraeth yr Alban yn ei wneud yn ddiweddarach eleni. Rwy'n meddwl, wyddoch chi, y math o ffigurau rydym yn sôn amdanynt, codi degau o filoedd o blant allan o dlodi ar unwaith, dyna fyddai un o'r effeithiau mwyaf y gallai Llywodraeth Cymru ei chael ar fywydau cymaint o bobl, a hoffwn annog yr Aelodau i gefnogi ysbryd y cynnig hwn. Gadewch inni fwrw ati i gyrraedd y targed o ddileu tlodi plant a osodwyd 20 mlynedd yn ôl. Diolch. Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig a galwaf ar y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol. Gwelliant 1—Rebecca Evans Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu’r degawd o gyni dan Lywodraeth y DU a’i rhaglen o ddiwygiadau lles, sydd wedi arwain at gynnydd mewn tlodi plant yng Nghymru. 2. Yn nodi’r mesurau gwerth £1bn y mae Llywodraeth Cymru wedi’u gosod yn eu lle i helpu teuluoedd incwm isel a threchu tlodi. Cynigiwyd gwelliant 1. Hannah Blythyn AC: Yn ffurfiol. Diolch. Rhianon Passmore. Rhianon Passmore AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Felly, codaf i gefnogi gwelliant 1, a gyflwynwyd gan Rebecca Evans AC. Treuliais lawer o amser cyn hyn, fel llawer o rai eraill, yn dadlau ac yn trafod yn y Siambr hon y llu o bolisïau creulon a phwrpasol sydd wedi mynd i mewn i'r hyn a elwir yn doriadau cyni i rwyd y system les. Ond heddiw byddai'n braf, rwy'n credu, pe bai'r cenedlaetholwyr sy'n siarad ar feinciau Plaid Cymru yn cydnabod y gwerth £1 biliwn o fesurau y mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi'u rhoi ar waith i gefnogi teuluoedd incwm isel a threchu tlodi. Ac yn ddiau mae cynnig Plaid Cymru i gyflwyno taliad o £35 yr wythnos am bob plentyn mewn teuluoedd incwm isel yng Nghymru yn ddiddorol ac yn bachu'r penawdau, ond yn y manylion y mae'r drwg bob amser. Fe wyddom—gadewch inni fod yn onest—fod y cenedlaetholwyr yn hoff o ddynwared cenedlaetholwyr yr Alban, ac felly mae Plaid Cymru naill ai'n gwbl anymwybodol neu'n fodlon iawn i anwybyddu'r ffaith bod Llywodraeth yr Alban yn defnyddio—nid yw wedi cael ei grybwyll—pwerau newydd a ddatganolwyd i Senedd yr Alban mewn perthynas â gweinyddu lles. Nid yw'r pwerau a ddefnyddiodd yr Alban i gyflwyno taliadau plant yn yr Alban, fel y dywedwyd, wedi cael eu datganoli i Gymru. Felly, pe bai Llywodraeth Cymru yn ystyried cyflwyno rhywbeth tebyg yng Nghymru, mae'n amlwg y byddai angen i Lywodraeth y DU gytuno i drosglwyddo'r pwerau hyn, ac yn anffodus, maent yn ymddangos yn llawer mwy parod i gipio pwerau Cymru yn ôl. Yn wir, mae datganoli rheolaeth weinyddol dros fudd-daliadau lles i'r Cynulliad yn sicr yn rhywbeth y mae Plaid Cymru yn ei ddymuno, fel y maent wedi dangos heddiw eto, ond credaf fod angen inni edrych ar y dystiolaeth, ac mae angen inni wynebu'r gwir, o gofio'r hyn a ddigwyddodd pan ddatganolodd Llywodraeth Dorïaidd y DU fudd-dal y dreth gyngor, pan wnaethant drosglwyddo'r pwerau hynny, a chwtogi'r arian. Byddai angen ystyried unrhyw gam i'r cyfeiriad hwn yn ofalus iawn. Ni chredaf ei bod hi'n iawn i ni syrthio i'r fagl o feddwl y byddai cael rheolaeth weinyddol neu weithredol ar nawdd cymdeithasol yn yr un modd yn rhoi cyfle i ni wella canlyniadau cymdeithasol ac economaidd i bobl Cymru. Rydym wedi dysgu trwy brofiad na fyddai Llywodraeth Cymru yn cael lefelau digonol— Leanne Wood AC: A wnewch chi dderbyn ymyriad? Rhianon Passmore AC: —o gyllid gan Lywodraeth y DU i gefnogi'r rhai a fyddai angen y system les. Rwy'n awyddus iawn i wneud fy mhwyntiau, ond yn fyr, iawn. Leanne Wood AC: Nid yw'n glir o'ch dadl a ydych o blaid datganoli gweinyddu budd-daliadau neu yn erbyn. Rhianon Passmore AC: Fe ddof at y pwynt hwnnw, os caf. Leanne Wood AC: Mae'n gwestiwn eithaf syml. Rhianon Passmore AC: Mewn gwirionedd, gallai olygu llai o gefnogaeth i ddinasyddion yr effeithir arnynt. Fe ddof at y pwynt rydych yn ei wneud. Ni all Llafur Cymru fod yn asiantauar ran Llywodraeth Dorïaidd y DU yng Nghymru. Byddai cael rheolaeth weinyddol mewn meysydd penodol yn golygu gweithredu polisïau rydym yn anghytuno'n sylfaenol â hwy, gan wybod am y niwed y byddent yn ei achosi i'r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas ar eu rhan. Unwaith eto, mae Plaid Cymru yn barod i achub croen Llywodraeth Dorïaidd y DU drwy alw ar Lywodraeth Cymru i wneud iawn am y diffyg cyllid a achoswyd yn uniongyrchol gan gyni a diwygiadau lles y Torïaid. Os yw Plaid Cymru am helpu plant yng Nghymru sydd ar incwm isel yn ymarferol—a dyna'r pwynt, yn ymarferol—fe wyddant sut y gallant wneud hyn: gallwch gefnogi, a chroesawu, ac egluro, a chyfleu i'r cyhoedd y mesurau, ein mesurau gwrth-dlodi, yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Lafur Cymru. [Torri ar draws.] Byddai hyn yn—[Torri ar draws.] Gwleidyddiaeth aeddfed fyddai hyn. [Torri ar draws.] Fe wyddoch fod cyllideb Llywodraeth Lafur Cymru yn cynnwys—ac nid wyf yn mynd i ddarllen y cynigion drafft; nid wyf am wneud hynny. Fe wyddoch y bydd Llafur Cymru yn parhau i frwydro yn erbyn hyn, yn glaf ac yn iach, oherwydd ein bod yn credu mewn cefnogi a pheidio â niweidio ein dinasyddion. Felly, ddirprwy gadeirydd, polisïau Torïaidd sydd wedi atgyfnerthu a chreu'r tlodi dyfnaf mewn canrif, a Llafur Cymru fydd yn parhau i'w ymladd yn ymarferol ar lawr gwlad. Diolch. Leanne Wood. Leanne Wood AC: Diolch, Lywydd. Mae un o bob tri o blant Cymru'n byw mewn tlodi, ac mae'r ffigur hwn yn codi, ac mae'n gondemniad damniol o effaith agenda gyni greulon y Ceidwadwyr a thoriadau i les yn sgil hynny, ac 20 mlynedd o lywodraethu aneffeithlon gan Lafur Cymru. Mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi nodi, os nad oes unrhyw newid, fod y ffigur tlodi plant yn debygol o gynyddu i 40 y cant o holl blant Cymru yn byw mewn tlodi erbyn 2020—eleni, hynny yw—ac mae diwygio lles yn ffactor pwysig. Pryd bynnag y cyflwynir cynigion radical i fynd i'r afael â hyn, ymateb ceidwadwyr, yn y Blaid Geidwadol a'r Blaid Lafur, yw gofyn yn rhethregol, 'Faint y mae hyn yn ei gostio?' Cwestiwn gydag is-destun, 'Faint o dreth rydych chi'n mynd i godi ar fy incwm mawr i dalu am y cynllun ar gyfer pobl dlawd?' Felly, mae'n werth gosod rhywfaint o gyd-destun ar gyfer hyn yn gyntaf. Mae tlodi'n costio £3.6 biliwn o wariant cyhoeddus i Gymru o ran ei ganlyniadau bob blwyddyn. Er enghraifft, mae gwariant ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn ymdrin â'r afiechydon a achosir gan dlodi. Ac wrth gwrs, bydd y gost o dalu £35 yr wythnos am bob plentyn ar aelwyd incwm isel yn amrywio yn dibynnu ar sut rydym yn diffinio incwm isel a pha mor benodol y mae angen i ni fod. Gydag amcangyfrif o 200,000 o blant yn byw mewn tlodi, byddai rhoi'r taliad i bob plentyn mewn tlodi yn costio oddeutu £364 miliwn y flwyddyn, er y gallai opsiynau eraill i ddiffinio cymhwysedd olygu bod y bil yn cynyddu neu'n lleihau'n sylweddol. Ar hyn o bryd, rydym am gadw'r holl opsiynau ar y bwrdd am ein bod eisiau lleihau tlodi plant, a thra na fydd gennym bwerau dros weinyddu lles, bydd angen inni negodi â'r Adran Gwaith a Phensiynau fel na fyddai'r taliad arian parod yn cael ei dynnu o fudd-daliadau eraill—ac ni fuaswn yn synnu pe bai'r adran benodol honno'n ddigon milain i wneud hynny. Ond mae'r egwyddor o ychwanegu at incwm yr aelwydydd sy'n ennill y lefelau isaf o gyflog yn un a ddylai gael consensws gwleidyddol, yn seiliedig ar y dystiolaeth o'i heffeithiolrwydd. Mae rhai rhannau o'r cyfryngau yn y DU wedi bod yn ymladd rhyfel propaganda di-baid i argyhoeddi pobl bod y problemau economaidd sy'n eu hwynebu naill ai'n fai ar fewnfudwyr neu'r tlawd anhaeddiannol, da i ddim, yn hytrach na Wall Street yn amnewid diffyg credyd. Mae ychwanegu at incwm teuluoedd incwm isel yn gweithio. Mae hyd yn oed y cylchgrawn Americanaidd asgell dde The Atlantic yn cefnogi'r egwyddor hon, ac mae'n dadlau: Mewn llawer o achosion, mae rhaglenni arian parod yn llawer mwy effeithiol na throsglwyddiadau mewn nwyddau wrth droi doleri a wariwyd yn ganlyniadau cadarnhaol. Nid oes yr un o'r rhaglenni a werthuswyd o bob rhan o'r byd yn gweld bod taliadau arian parod yn arwain at fwy o ddefnydd o dybaco neu alcohol fel y byddai'r propaganda rhagfarnllyd bob amser yn dymuno i bobl ei gredu. Dengys y dystiolaeth fod y rhaglenni hyn yn rhatach na dewisiadau amgen. Felly, y ffyrdd rhataf a mwyaf effeithiol o fynd i'r afael â'r problemau a achosir gan incymau isel yw sicrhau bod yr incwm hwnnw'n uwch. Pwy fyddai wedi meddwl y fath beth? Felly, gyda Chymru'n profi'r cyfraddau uchaf o dlodi plant yn y DU, ac 20 mlynedd o fentrau aflwyddiannus a chyfyngu ar yr hyn y dylai Cymru fod wedi bod yn ei wneud, onid yw'n bryd bellach am newid radical i'n dull o weithredu? Mae Plaid Cymru'n credu hynny. Janet Finch-Saunders AC: Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon, sydd, unwaith eto, yn ailadrodd y problemau sy'n wynebu teuluoedd a grybwyllwyd yn nadl y Ceidwadwyr Cymreig ar gymunedau lleol yn gynharach. Gan siarad am welliant Llywodraeth Cymru, mae'n rhagweladwy, gwaetha'r modd, ei fod unwaith eto wedi ceisio symud y bai am ei methiant ei hun i leihau anghydraddoldeb yng Nghymru, gan ailadrodd ei dadl dreuliedig ei hun am gyni yn lle hynny, yn hytrach nag ysgwyddo cyfrifoldeb am ei gweithredoedd ei hun. Dawn Bowden AC: A wnewch chi dderbyn ymyriad? Janet Finch-Saunders AC: Na wnaf. Mae'n ddrwg gennyf, mae gennyf lawer i fynd drwyddo. Y gwir amdani yw bod Llywodraeth Lafur wedi bod mewn grym yng Nghymru ers 1999, wedi'i chynnal yn y gorffennol, gellid dadlau, gan Blaid Cymru hefyd. Ond pa gynnydd a wnaed? Mae adroddiad diweddar gan Sefydliad Joseph Rowntree yn dangos, o bedair gwlad y DU, mai Cymru sydd wedi bod â'r gyfradd dlodi uchaf yn gyson ers 20 mlynedd. Hyd yn oed cyn y cwymp ariannol, dengys ffigurau mai yng Nghymru roedd y lefelau uchaf o dlodi plant yn y DU: 29 y cant yn 2007 a 32 y cant yn 2008. Yn y cyfamser, mae Dileu Tlodi Plant yn dangos mai Cymru oedd yr unig wlad yn y DU i weld cynnydd yn lefel tlodi plant, gyda 29.3 y cant o blant yn byw mewn tlodi yn 2017-18. Gwariwyd bron i £500 miliwn ar Cymunedau yn Gyntaf, ond canfu Sefydliad Bevan na wnaeth ostwng prif gyfraddau tlodi yn y mwyafrif llethol o gymunedau, a llai fyth yng Nghymru gyfan. Ym mis Hydref 2018 nododd papur briffio Sefydliad Bevan ar dlodi yng Nghymru mai Cymru oedd â'r boblogaeth fwyaf o unigolion yn byw mewn tlodi yn y DU cyn cyfrif costau tai. Rhwng 2014 a 2017, roedd cyfran yr oedolion o oedran gweithio a oedd yn byw mewn tlodi yng Nghymru yn uwch nag mewn unrhyw wlad arall yn y DU, ac roedd y gyfradd tlodi ymhlith pensiynwyr yng Nghymru yn llawer uwch nag yng ngwledydd eraill y DU. Mae hyn, wrth gwrs, wedi'i waethygu gan y ffaith mai gan Gymru y mae'r cyflogau isaf a'r lefel uchaf o gontractau cyflogaeth nad ydynt yn barhaol ym Mhrydain gyfan. Helen Mary Jones AC: A wnewch chi dderbyn ymyriad, Janet? Janet Finch-Saunders AC: Iawn, o'r gorau. Helen Mary Jones AC: Rwy'n ddiolchgar iawn. Diolch. Nid wyf yn anghytuno â'r hyn a ddywedoch chi, ond a fyddech hefyd yn cydnabod effaith y newidiadau i fudd-daliadau, fel yr amlinellodd Adam Price yn ei araith? Ac a gaf fi ofyn i chi, fel rhywun y gwn ei bod yn Geidwadwr egwyddorol, i fynd yn ôl at eich cyd-aelodau Ceidwadol yn Llundain a gofyn iddynt gael gwared â'r rheol dau blentyn, yr hyn a alwn yn 'gymal trais'? Mae'n arswydus o greulon. Beth bynnag yw ein barn am ymddygiad y rhieni, nid y trydydd plentyn sy'n gyfrifol am y ffaith ei fod wedi'i eni i deulu tlawd. A gaf fi ofyn i chi wneud hynny os gwelwch yn dda? Oherwydd rwy'n credu o ddifrif eich bod yn poeni am hyn, ond rwy'n meddwl nad yw llawer o'ch cydweithwyr yn Llundain yn deall effaith y rheol ofnadwy honno. Does bosibl eich bod chi'n cytuno bod yn rhaid i fenyw orfod honni iddi gael ei threisio gan ei gŵr er mwyn gallu cael arian ar gyfer ei thrydydd plentyn? Janet Finch-Saunders AC: Diolch, Helen Mary Jones. Er bod cynnig Plaid Cymru yn ychwanegu cywair mwy adeiladol yn y ddadl hon, mae'n anodd craffu ar y cynigion, y costau a'r sylfaen dystiolaeth a ddefnyddiwyd. Fodd bynnag, nid yw gwneud dim mwy na darparu rhagor o arian yn sicrhau manteision hirdymor go iawn i fywydau pobl bob amser. Er bod incwm yn chwarae rhan bwysig yn atal tlodi, mae melin drafod Policy Exchange yn awgrymu ein bod, drwy ganolbwyntio ar drosglwyddiadau lles ac incwm, yn trin symptomau'r broblem yn hytrach na mynd i'r afael ag achosion dyfnach incwm isel a thlodi, gan gynnwys: diweithdra, safonau addysgol gwael, diffyg sgiliau a phroblemau cymdeithasol megis camddefnyddio sylweddau. Er mwyn mynd i'r afael â'r materion hyn mae angen ymateb ar ran y Llywodraeth sy'n canolbwyntio mwy ar y gymuned. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw'n gyson am gydgynhyrchu gwasanaethau lleol er mwyn grymuso cymunedau lleol a chreu gwladwriaeth sy'n galluogi. Dadleuwyd hyn yn angerddol gan Mark Isherwood yn y ddadl flaenorol a cheir rhai enghreifftiau cadarnhaol o hyn yng Nghymru. Nod dull bywoliaeth gynaliadwy Oxfam yw gwella bywydau'r rhai sy'n profi tlodi ac anfantais, gan ganolbwyntio ar ddull cyfranogol sy'n seiliedig ar y gydnabyddiaeth fod gan bawb asedau y gellir eu datblygu i'w helpu i wella eu bywydau. Mae Oxfam wedi gweithio mewn partneriaeth â'r Adran Gwaith a Phensiynau i wreiddio'r dull bywoliaeth gynaliadwy o fewn yr Adran Gwaith a Phensiynau yng Nghymru drwy ddarparu hyfforddiant ar gyfer staff, gyda 50 y cant o'r staff hyfforddedig a samplwyd yn dangos lefelau uwch o foddhad defnyddwyr neu'n nodi gwell canlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaethau. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn cydnabod pwysigrwydd buddsoddi ym mhobl Cymru i helpu i fynd i'r afael â'r anghyfiawnder sy'n wynebu cymunedau. Byddem yn sefydlu cronfa ar gyfer trefi glan môr a chronfa ar gyfer trefi marchnad i fynd i'r afael ag amddifadedd yn ein trefi, gan alluogi cymunedau i ariannu'r gwasanaethau y mae pobl leol eu hangen yn well. Byddem yn canolbwyntio ar fuddsoddi yn sgiliau pobl i'w galluogi i gael swyddi mwy medrus sy'n talu'n dda—gan roi £20 miliwn ychwanegol tuag at addysg bellach—a byddem hefyd yn ariannu mwy o ofal plant o ansawdd uchel er mwyn galluogi rhieni i fanteisio ar gyfleoedd gwaith i gynnal eu teuluoedd. Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn diogelu incwm teuluoedd gweithgar a bydd yn codi'r trothwy yswiriant cenedlaethol i £9,500 ac yn cynyddu'r cyflog byw 6.2 y cant o fis Ebrill 2020. Llywodraeth Geidwadol sy'n rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl. Mae'r ddadl hon wedi rhoi cyfle defnyddiol i drafod rhai o'r problemau sy'n wynebu teuluoedd ledled Cymru, megis incwm isel a thlodi. A ydych chi'n dirwyn i ben, os gwelwch yn dda? Janet Finch-Saunders AC: Ydw. Fodd bynnag, os ydym am fynd i'r afael â'r materion hyn, rhaid inni ganolbwyntio ar ganlyniadau hirdymor, yn hytrach na mewnbynnau tymor byr, a grymuso unigolion a chymunedau i gyd-gynllunio gwasanaethau lleol sy'n diwallu eu hanghenion. Diolch i Blaid Cymru am eich dadl heddiw. John Griffiths AC: Yn amlwg, mae tlodi a thlodi plant yng Nghymru yn faterion arwyddocaol iawn i ni ac i'r rhai sy'n ymwneud â chyfiawnder cymdeithasol sydd wrth wraidd y cynnydd y mae angen inni ei wneud yng Nghymru. Felly, rwy'n croesawu'r ddadl hon heddiw a'r ffocws y mae'n ei ganiatáu yma yn y Siambr. Dylem fod yn trafod y materion hyn a dylem fod yn edrych ar y ffyrdd mwyaf effeithiol ymlaen a ffyrdd newydd posibl o fynd i'r afael â'r problemau hyn. Mae'n anodd, a chredaf ein bod wedi cydnabod hynny ar hyd yr amser, o gofio bod llawer o'r dulliau a fyddai'n ein galluogi i drechu tlodi'n fwy effeithiol yng Nghymru yn nwylo Llywodraeth y DU. A phan fydd Llywodraeth y DU yn Llywodraeth Dorïaidd, rydym yn gweld y canlyniadau. Rydym wedi gweld y canlyniadau drwy gydol y blynyddoedd o gyni, ac ofnaf y byddwn yn gweld canlyniadau Llywodraeth Boris Johnson yn y DU dros y blynyddoedd i ddod. Felly, credaf fod angen inni edrych i weld beth y gallwn ei wneud yma yng Nghymru gyda'r pwerau sydd gennym ar hyn o bryd, ond hefyd pa ddatganoli pellach a allai ddigwydd i ychwanegu dulliau o weithredu at y rhai sydd ar gael i ni ar hyn o bryd, i Lywodraeth Cymru ac i'r Cynulliad. Dyna pam y mae'r pwyllgor rwy'n ei gadeirio, sef y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, wedi gwneud gwaith ar y system fudd-daliadau. Oherwydd, fel y clywsom eisoes, mae'r system fudd-daliadau yn rhan bwysig iawn o'r darlun cyffredinol; oherwydd, oes, mae angen inni gynyddu incwm teuluoedd tlawd ac mae angen inni hefyd leihau'r arian sy'n rhaid iddynt ei wario. Mae sefydliadau fel Sefydliad Joseph Rowntree a Sefydliad Bevan wedi gwneud y pwyntiau hynny'n gwbl glir. Felly, un ffordd o wella incwm teuluoedd tlawd yng Nghymru fyddai gwella'r system budd-daliadau lles. Wyddoch chi, mae rhai pethau o dan ein rheolaeth ar hyn o bryd, a gallem gyflwyno gofynion newydd—er enghraifft, o ran y nifer sy'n manteisio ar fudd-daliadau. Rwy'n credu bod cryn dipyn o waith i'w wneud ar hynny o hyd. Yn ein hadroddiad, rydym yn edrych ar y posibilrwydd o gyflwyno dyletswydd ar awdurdodau lleol gydag arian angenrheidiol, er mwyn iddynt allu chwarae mwy o ran. Rydym hefyd yn ystyried sut y gallwn wella'r nifer sy'n manteisio ar fudd-daliadau yng Nghymru yn gyffredinol. Rydym yn edrych ar gredyd cynhwysol. Rwy'n credu ein bod yn gwybod bod diffygion y credyd cynhwysol wedi'u cydnabod yn eang gan asiantaethau ac elusennau yng Nghymru sy'n ceisio mynd i'r afael â'r materion hyn a chyflwyno gwelliannau. Wyddoch chi, yr aros am daliad cychwynnol, taliadau misol yn hytrach na phob pythefnos, y diffyg dewis i hawlwyr budd-daliadau o ran hyblygrwydd—er enghraifft, i sicrhau bod yr elfen budd-dal tai yn cael ei thalu'n uniongyrchol i'r landlord lle credant y byddai hynny fanteisiol iddynt—ac yn wir, yn rhannu taliadau rhwng cyplau lle ceir problemau mewn perthynas a rheoli drwy orfodaeth efallai. Mae llawer o hyblygrwydd y gellid ei gyflwyno pe bai gan Lywodraeth Cymru bŵer i wneud hynny, yn hytrach na cheisio negodi rhywbeth gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau. Oes, mae yna bosibiliadau o ran budd-daliadau newydd, o ran datganoli'r budd-daliadau presennol. Gwyddom fod y rheolau a'r rheoliadau sy'n ymwneud â sancsiynau'n broblemus, a chredaf y gallem gael dull llawer gwell o weithredu pe bai gennym bŵer i newid hynny yma yng Nghymru. Mae'r broses asesu ar gyfer budd-daliadau salwch ac anabledd yn bell o fod yn briodol, ac mae canran yr apeliadau llwyddiannus yn dangos yn eithaf clir y diffygion yn y broses gychwynnol. Wyddoch chi, mae llawer iawn mwy y gellid ei wneud. Rydym yn archwilio hynny i gyd a llawer mwy yn ein hadroddiad. Mae gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb, fe wyddom hynny, oherwydd mae Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â'i gwaith ei hun ar rai o'r agweddau hyn, a gwn fod ganddi ddiddordeb mawr yn adroddiad y pwyllgor. Maes o law, wrth gwrs, bydd gennym ymateb Llywodraeth Cymru pan fydd y gwaith pellach—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf? A wnewch chi dderbyn ymyriad? John Griffiths AC: Gwnaf, yn wir. Huw Irranca-Davies AC: Yn fyr. Tybed a yw wedi cael amser i fyfyrio ar un o'r cynigion mwy radical neu drafodaethau a gododd, sef: os yw'r undeb yn parhau fel y mae, ymddengys nad yw nofio yn erbyn y llif fel hyn yn erbyn yr hyn a wna Llywodraeth y DU yn barch cydradd, yn parchu'r hyn sy'n digwydd, yn cydweddu â'n polisïau. Felly, byddai'n ddiddorol gweld, ar fecanweithiau'r cyd-Weinidogion ac yn y blaen, a oes ffordd o ymgorffori lles a budd-daliadau a'r system nawdd cymdeithasol o fewn hynny. Felly, pe bai Gweinidogion y DU yn cyflwyno cynigion radical, gallem ddweud wrthynt, 'Wel, fe ddywedaf wrthych beth fydd yn ei wneud yng Nghymru, felly mae arnom eisiau rhyw fecanwaith digolledu i ymdrin â hynny mewn gwirionedd'. Nawr, nid wyf yn dweud y byddai hyn yn digwydd, ond beth mae'n ei feddwl o hynny? John Griffiths AC: Wel, hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod, Huw, am yr ymyriad hwnnw. Rydym yn edrych ar hynny yn yr adroddiad, fel y gwyddoch, Huw, a gwn eich bod yn awyddus iawn i ystyried y dull hwnnw o weithredu yn ystod gwaith y pwyllgor. Felly, rydym yn cydnabod bod angen edrych ar lais cryfach yng Nghymru. Pan ddaw'n bryd inni drafod yr adroddiad, rwy'n siŵr y byddwch yn cymryd rhan ac y byddwn yn clywed safbwyntiau amrywiol ar hynny efallai. Ond wyddoch chi, ynghyd â llais Cymreig cryfach yn y system fel y mae'n bodoli ar hyn o bryd, mae angen inni edrych ar ddatganoli, fel y disgrifiais—a thu hwnt i hynny yn wir. Ac fel y dywedaf, mae hynny i gyd wedi'i nodi yn yr adroddiad. Cawn ymateb Llywodraeth Cymru a dadl maes o law, ond credaf fod y rhain yn faterion y mae angen eu hystyried a'u harchwilio'n ofalus iawn, o gofio pwysigrwydd taliadau budd-daliadau lles i rai o'r bobl dlotaf a'r teuluoedd tlotaf yn ein cymunedau. Pe na baem yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i'r materion hyn, nid wyf yn credu y byddem yn gwasanaethu'r cymunedau hynny cystal ag y gallem. Siân Gwenllian AC: Mae lleihau’r cynnydd mewn tlodi plant yng Nghymru, gan anelu at ddileu tlodi plant yn llwyr, yn haeddu sylw llawn gan Lywodraeth ein gwlad—sylw llawn, blaenoriaeth uchel a gweithredu brys. Yn anffodus, nid dyna’r sefyllfa. Siomedig iawn oedd clywed y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y bore yma yn dweud nad oedd hi yn hyderus o gwbl fod modd gwella ar sefyllfa argyfyngus ble mae 29 y cant o blant Cymru yn byw mewn tlodi. Bron fel ei bod hi wedi rhoi’r ffidil yn y to yn llwyr gan luchio’r bai ar newidiadau lles y Llywodraeth yn Llundain.Nid gwaith Llywodraeth ydy rhoi’r ffidil yn y to; gwaith Llywodraeth ydy troi pob carreg—gweithio'n ddiflino i ganfod atebion a rhoi’r arweiniad cwbl glir er mwyn gyrru newid. Dydw i felly ddim wedi fy argyhoeddi o gwbwl fod y Llywodraeth yma yn wirioneddol ceisio mynd at wraidd y broblem. Does yna ddim hyd yn oed strategaeth draws-Lywodraeth ar daclo tlodi. I mi, mae hynny yn dweud y cwbl. Fe gollwyd cyfle, yn fy marn i, i wneud gwahaniaeth efo'r cynllun gofal plant 30-awr. Mae hwn yn gynllun cwbl wallus. Mae o'n gynllun sy'n cau allan plant o rai o deuluoedd tlotaf Cymru ac yn wir yn gosod y plant hynny o dan anfantais o gymharu â’u cyfoedion. Oherwydd dydy plant o deuluoedd lle nad ydy’r rhieni yn gweithio yn gymwys ar ei gyfer. Pam yn y byd y byddai Llywodraeth sy’n ceisio dileu tlodi plant yn blaenoriaethu plant o deuluoedd lle mae rhieni mewn gwaith o flaen plant lle nad ydy'r rhieni yn gweithio? Pam y byddai Llywodraeth sydd am ddileu tlodi plant yn gwahaniaethu yn erbyn rhieni sy’n fyfyrwyr a rheini ar gontractau dim oriau? Mae’r cynllun wedi wynebu sawl tro trwstan yn barod, ac wedi ei feirniadu gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a gan y Comisiynydd Plant am nad oedd yn gymwys i bawb. Mi ddoeth yna dro trwstan pellach pan roedd rhaid rhoi heibio’r bwriad o’i weinyddu drwy Gyllid a Thollau ei Mawrhydi, ac fe wastraffwyd £1 miliwn yn y broses, ac erbyn hyn, yr awdurdodau lleol sydd yn ysgwyddo’r bach gweinyddol, er mai dros dro ydy'r trefniant hynny a does yna ddim sicrwydd i'r tymor hir. Ac yna, fe ddangosodd gwerthusiad o’r cynllun fod dryswch pellach wedi codi wrth i rieni orfod talu am ofal yn ystod y gwyliau pan oedden nhw dan yr argraff ei fod o ar gael am ddim. Fe gafodd un rhiant sioc anferth o dderbyn bil am dros £800 am ofal plant un mis yn ystod yr haf ar ôl peidio â sylweddoli bod ei hawl hi wedi dod i ben. Mae yna ddryswch hefyd am sut mae’r cynnig yn effeithio ar gredydau treth a materion efo rhieni hunangyflogedig yn profi eu cymhwysedd ar gyfer y cynllun. Dyma beth ydy traed moch go iawn. Mi fyddai Llywodraeth Plaid Cymru yn sicrhau bod gofal plant ar gael i bob plentyn. Mae mynediad at ofal ac addysg blynyddoedd cynnar o ansawdd yn allweddol yn y dasg o ddileu tlodi plant. Mae o hefyd yn allweddol ar gyfer cau’r bwlch cyrhaeddiad. Yn ogystal â chyflwyno’r taliad plant wythnosol, fe fyddai gan Blaid Cymru bolisïau priodol eraill yn cynnwys polisi gofal plant a blynyddoedd cynnar uchelgeisiol a phell-gyrrhaeddol. Ac fe fyddem ni yn mynnu datganoli gweinyddu'r gyfundrefn les i Gymru. Mi fyddai gan Lywodraeth Plaid Cymru yr ewyllys, yr egni a’r tân yn ein boliau i fynd ati i daclo tlodi plant, gan roi iddo fo'r flaenoriaeth uchaf posib. Gwnawn ni ddim—fedrwn ni ddim jest derbyn sefyllfa lle rhagwelir y bydd 39 y cant o blant Cymru yn byw mewn tlodi erbyn 2022. Fe fyddwn ni yn mynd ati i daclo'r mater ac yn rhoi'r flaenoriaeth iddo mae o yn ei haeddu. Joyce Watson AC: Mae hi wedi bod yn ddadl ddiddorol, ond rydym 20 mlynedd i mewn i'r ganrif hon ac ers troad y mileniwm, mae 2020 wedi bod ar y gorwel, ac mae wedi bod ym meddyliau'r mwyafrif o bobl yn goelcerth ac yn gyrchfan i bob math o bolisïau a dyheadau. Ac rydym yma, felly mae'n werth myfyrio ar yr hyn a gyflawnwyd, a’r hyn a allai fod eto i'w wneud. Felly, 20 mlynedd yn ôl, roedd 223,000 o aelwydydd di-waith yng Nghymru; heddiw, mae'n 182,000—gostyngiad o bron 20 y cant. Nid yw hynny'n ei wneud yn ffigur da; mae'n ei wneud yn ffigur gwell. Ond y duedd fawr yn yr amser hwnnw fu'r cynnydd mewn tlodi mewn gwaith, cymaint felly fel bod mwy o blant mewn tlodi bellach mewn cartrefi sy'n gweithio nag mewn rhai di-waith. A beth yw'r rheswm am hynny? Y rheswm yw bod y Llywodraeth Dorïaidd yn y DU yn y degawd diwethaf wedi gorfodi newidiadau cosbol i fudd-daliadau a newidiadau treth sy'n golygu nid yn unig nad yw bod yn ddi-waith yn talu, ond yn aml, nid yw gweithio’n talu chwaith. Mae aelwydydd un rhiant sy'n gweithio yn arbennig o agored i dlodi, ac erbyn hyn mae gennym Brif Weinidog a fu unwaith yn dadlau y dylid gorfodi amddifadrwydd sicr ar raddfa Fictoraidd ar 'ferched ifanc' i wneud iddynt feddwl ddwywaith ynglŷn â chael babi. Daw hynny o geg dyn na all hyd yn oed ddweud, neu sy'n gwrthod dweud, faint o blant sydd ganddo. Ond mae wedi cael yr hyn roedd ei eisiau, oherwydd rhieni sengl bellach yw bron i chwarter y rhai sy’n defnyddio banciau bwyd yr ystyrir bod bron bob un ohonynt yn byw mewn amddifadrwydd. Hyd at 2012, yn oes Fictoria y byddai'r gair 'amddifadrwydd' yn ymddangos. [Torri ar draws.] Gallwch edrych am y dyfyniad; fe anfonaf y ddolen atoch. Felly, yn anffodus, y gwir amdani yw y bydd angen i Lywodraeth Cymru barhau i liniaru effaith tlodi sy'n cael ei bweru gan y Torïaid yn y blynyddoedd i ddod. Mae hynny'n golygu parhau â'r gwaith da ar bethau fel y cyflog cymdeithasol, gofal plant am ddim—beth bynnag fo'i broblemau, ni fyddwn yn cefnu arno—yn ogystal â pholisïau strwythurol ar sgiliau, addysg a datblygu economaidd. A bydd cadw mwy o arian ym mhocedi pobl yn rhan hanfodol o hynny. Dylem geisio ehangu’r nifer fawr o bolisïau sy'n cefnogi pobl, a chlywsom gyd-Aelodau yn siarad yma heddiw am syniadau a pholisïau sy'n cefnogi pobl; polisïau sy'n eu helpu i gadw'r arian yn eu pocedi. Roeddwn am sôn yn benodol heddiw am bwysigrwydd cymunedau cryf fel clustog yn erbyn cymdeithas. Cyn y Nadolig, cyhoeddodd elusen Ymddiriedolaeth Trussell ei hadroddiad 'State of Hunger'. Nid yw'n syndod iddo ddod o hyd i dystiolaeth glir fod maint ac amseriad pum newid allweddol i fudd-daliadau, sef sancsiynau, Credyd Cynhwysol, ‘treth ystafell wely’, lefelau budd-daliadau, asesiadau Taliad Annibyniaeth Personol, wedi arwain at effeithiau sylweddol ac arwyddocaol ar y defnydd o fanciau bwyd. Felly, beth wnaeth y Torïaid? Fe wnaethant bensaer hynny, Iain Duncan Smith, yn farchog yn anrhydeddau'r flwyddyn newydd. Felly, mae'n amlwg eu bod wedi newid, onid ydynt? Profiadau bywyd heriol ac afiechyd oedd y rhesymau eraill dros y newidiadau hynny, yn ogystal â diffyg cymorth anffurfiol, a dyma lle gallwn wneud rhai newidiadau. Fel yr eglura'r adroddiad, roedd mwyafrif helaeth y bobl a gyfeiriwyd at fanciau bwyd naill ai wedi dihysbyddu'r cymorth gan deulu neu ffrindiau, yn meddu ar rwydwaith cymdeithasol heb fawr o adnoddau, neu wedi methu cael hyd i gymorth oherwydd ynysu cymdeithasol. Yn sicr, gallwn gamu i'r bwlch hwnnw. Felly, o ran rhoi’r cymorth hwnnw, mater i ni fydd hynny, oherwydd mae un peth yn sicr yn fy meddwl: mae'n annhebygol iawn y bydd Llywodraeth y DU—ac maent yn gwadu hynny yn y fan acw—yn helpu i newid unrhyw beth. Nid yw’r dyn rwyf newydd ei ddyfynnu’n mynd i newid eu meddyliau na’u teimladau’n sydyn. Ei eiriau ef nid fy rhai i yw'r geiriau hynny. Felly, yn onest, byddem yn ffôl braidd pe baem yn meddwl, yng Nghymru, fod y Torïaid yn San Steffan, dan arweiniad dyn sy'n credu y dylem gosbi menywod i'w hatal rhag cael babi, yn mynd i fod yn dosturiol rywsut—fe anfonaf y ddolen atoch—ynglŷn â dyfodol yr union bobl hynny. Diolch.A gaf fi alw yn awr ar y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn? Hannah Blythyn AC: Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd, ac rwy’n croesawu’r cyfle i ymateb i'r ddadl hon heddiw yn lle'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. Rydym yn gwybod bod dadansoddiad a wnaed ar gyfer y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn amcangyfrif y bydd tlodi cymharol plant yng Nghymru yn cynyddu'n sylweddol dros y blynyddoedd i ddod, gan wthio 50,000 o blant ychwanegol i dlodi o bosibl erbyn 2021-22. Fel y clywsom heddiw, nid yw ond yn iawn y dylai hyn fod yn destun pryder i bob un ohonom ni waeth beth yw ein plaid neu ein swydd. Dylai un plentyn mewn tlodi fod yn un yn ormod bob amser. Ac er nad yw’r Ceidwadwyr Cymreig eisiau ei glywed, fel y clywsom dro ar ôl tro, nid yw effaith ddinistriol cyni a diwygio lles yn newyddion ffug; mae'n realiti anffodus, eglur ac erchyll i lawer gormod o bobl. Mae'r rhes o doriadau lles creulon wedi newid yn sylweddol yr hyn a ddylai fod yn rhwyd ​​ddiogelwch yn system sy'n cosbi pobl sydd ei hangen ac yn dibynnu arni pan fyddant fwyaf o’i hangen. Ac fel y clywsom heddiw, yn ystod y ddadl heddiw, mae'r diwygiadau lles hyn wedi gweld dileu budd-dal plant i'r trydydd plentyn, toriadau i fudd-daliadau anabledd a chreu cyfundefn o sancsiynau niweidiol. Mae'r cynnig a gyflwynwyd gan Blaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno taliad o £35 yr wythnos ar gyfer pob plentyn mewn teuluoedd incwm isel yng Nghymru. Mae'n bolisi diddorol, ond fe'i cyflwynir i ryw raddau fel ateb i bob problem i liniaru anghydraddoldeb sylfaenol a systemig yn llwyr. Fel y noda Adam Price, mae’n amlwg fod angen mwy o fanylder ac mae cwestiynau dilys i'w gofyn ynglŷn â'r manylion hynny. Clywsom ei fod wedi'i fodelu ar y cynllun y mae Llywodraeth yr Alban yn bwriadu ei weithredu, lle bydd £10 yr wythnos yn cael ei dalu ar gyfer pob plentyn mewn teuluoedd incwm isel, a bydd yn cael ei gyflwyno i deuluoedd cymwys erbyn diwedd 2022. Gall Llywodraeth yr Alban weithredu eu polisi am fod ganddynt y cymhwysedd deddfwriaethol sy’n angenrheidiol i ddiwygio budd-daliadau nad ydynt yn ddibynnol ar yswiriant cenedlaethol. Nid yw Llywodraeth Cymru yn meddu ar y cymhwysedd hwn, felly pe baem yn gwneud hyn, byddai angen dull amgen arnom i’w weithredu. Gallai'r dull hwnnw fod â goblygiadau i hawliau budd-daliadau yng Nghymru, gan y byddai'n cael ei drin fel incwm ychwanegol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, ac ni fyddem am weld sefyllfa a fyddai mynd ag arian oddi wrth deuluoedd incwm isel. Wrth gwrs, gallem ofyn am y cymhwysedd i ddiwygio budd-daliadau, ond mae angen gwneud hyn gyda’n llygaid yn agored i unrhyw ganlyniadau anfwriadol nad oes mo'u heisiau. Fel y clywsom Aelodau'n dweud heddiw, pe na bai cyllid yn dilyn y cyfrifoldeb, byddai angen i'r adnoddau ddod o rywle arall ac o wneud hynny ni fyddem am roi'r baich hwnnw ar y rhai lleiaf abl i'w ysgwyddo. Clywsom heddiw am yr amcangyfrif o gost y polisi. Rhoddwyd amcangyfrifon cychwynnol y byddai polisi o'r fath yn cyrraedd oddeutu 240,000 i 300,000 o blant, gan edrych ar gyfrifiadau bras cychwynnol o £525 miliwn—i fyny at £25.25 miliwn y flwyddyn. Dyna arian y byddai'n rhaid dod o hyd iddo o rywle arall. Rwy'n credu bod John Griffiths wedi gwneud pwyntiau pwysig o ran y gwaith y mae’r pwyllgor wedi’i wneud a hefyd y gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ar sut yr edrychwn ar y posibilrwydd o ddatganoli gweinyddu lles, ac ar yr un pryd, sut y gwnawn y defnydd gorau posibl o'r pwerau a'r adnoddau sydd ar gael inni ar hyn o bryd. Dyna pam y mae ein cynnig diwygiedig yn nodi bod y Llywodraeth hon yn buddsoddi bron i £1 biliwn mewn ystod eang o fesurau sy'n cyfrannu at drechu tlodi. Mae hyn yn cynnwys £244 miliwn bob blwyddyn yng nghynllun gostyngiad y dreth gyngor, gydag un o bob pum aelwyd yn elwa o ostyngiad yn y dreth gyngor; mwy na £125 miliwn yn y grant cymorth tai; a chymorth blynyddoedd cynnar parhaus i blant a theuluoedd trwy'r grant plant a chymunedau, sy'n cynnwys cyllid ar gyfer Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau’n Deg. Yn ogystal, rydym wedi dyrannu mwy na £19 miliwn yn 2020-21 ar gyfer pecyn o fesurau wedi'u targedu'n benodol i helpu rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, sy'n cynnwys pobl sy'n byw mewn tlodi. Lle mae'r Llywodraeth wedi cymryd camau uniongyrchol i ddylanwadu ar fywydau teuluoedd a phlant ledled Cymru, dengys y dystiolaeth inni fod y polisïau'n cael effaith gadarnhaol ar achosion sylfaenol tlodi ac anghydraddoldeb. Erbyn hyn mae 300,000 yn fwy o bobl yn gweithio yng Nghymru ers 1999 ac mae cyfran y bobl o oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau wedi mwy na haneru. Ers datganoli, mae nifer yr aelwydydd di-waith yng Nghymru wedi gostwng, fel y clywsom, o 223,000 i 173,000, ac mae ein cynllun gweithredu economaidd wedi'i gynllunio'n benodol i gefnogi’r gwaith o sicrhau economi gref, wydn a deinamig. Ochr yn ochr â'r polisïau a'r cynlluniau hyn, rydym wedi datblygu cymorth trawslywodraethol i unigolion a theuluoedd er mwyn darparu cyflog cymdeithasol mwy hael. Mae hyn yn cynnwys gwerth cyfwerth ag arian parod sy'n arwain at adael mwy o arian ym mhocedi dinasyddion Cymru; cymorth sy'n golygu bod rhai teuluoedd yng Nghymru fwy na £2,000 y flwyddyn yn well eu byd nag y byddent fel arall. Rydym hefyd yn cynnal adolygiad o'r holl raglenni a gwasanaethau a ariennir gan Lywodraeth Cymru i sicrhau eu bod yn cael yr effaith fwyaf ar fywydau plant sy'n byw mewn tlodi.Bydd hyn yn helpu i lywio’r modd y blaenoriaethwn ein cyllid i gefnogi rhaglenni wrth symud ymlaen, a byddwn yn gwneud cyhoeddiad pellach pan fydd yr adolygiad wedi'i gwblhau yn y gwanwyn.Ond gadewch i ni fod yn glir, Ddirprwy Lywydd, nid ydym yn hunanfodlon o bell ffordd a byddwn yn parhau i ddefnyddio'r holl ddulliau ac opsiynau sydd ar gael i alluogi a grymuso unigolion, aelwydydd a chymunedau ledled y wlad.Rwy’n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig diwygiedig.Diolchynfawr. Diolch. A gaf fi alw ar Adam Price i ymateb i'r ddadl? Adam Price AC: Dechreuodd y ddadl gyda Rhianon Passmore yn canolbwyntio ar y cwestiwn a oes gennym y pŵer. Hynny yw, pan benderfynodd Rhodri Morgan fod Llywodraeth Cymru yn mynd i ychwanegu at y gronfa ymddiriedolaeth plant, ni welais lawer o drafod na hunanymholi bryd hynny; dyna oedd y peth iawn i'w wneud ac os nad oedd gennych chi'r pŵer, fe fyddech yn gofyn amdano. A dyna'r ymagwedd Calman yn awr. A chredaf eich bod ar ei hôl hi braidd, Rhianon, hyd yn oed o fewn eich plaid eich hun, oherwydd roedd John Griffiths yn adlewyrchu esblygiad meddwl ar ochr y Blaid Lafur i’r cwestiwn. Rwy’n credu bod y ffaith bod y Llywodraeth wedi penderfynu gohirio ei hymateb i argymhellion adroddiadau'r pwyllgor sy'n ymwneud â datganoli lles oherwydd eu bod eisiau cael ymateb Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn awgrymu bod yna newid meddwl. Rhianon Passmore a gododd— Adam Price AC: Mae arnaf ofn fod fy amser yn gyfyngedig iawn. Rwy’n meddwl mai Leanne a dynnodd sylw at y cyfoeth o dystiolaeth a geir yn rhyngwladol ar werth taliadau trosglwyddo arian parod yn hytrach na thaliadau o fath arall. Mae dadl yn mynd rhagddi wrth gwrs rhwng manteision gwasanaethau sylfaenol cyffredinol ac incwm sylfaenol cyffredinol, y cyflog cymdeithasol y cyfeiriodd Joyce Watson ato, ond mae'r dystiolaeth yn eithaf ysgubol mewn gwirionedd fod taliadau trosglwyddo gan y wladwriaeth i deuluoedd incwm isel yn ganolog i greu gwladwriaeth les. Mae’n gwneud gwahaniaeth materol enfawr i fywydau pobl mewn pob math o ffyrdd: mae'n lleihau iselder ôl-enedigol; mae'n lleihau ysmygu yn ystod beichiogrwydd; mewn gwirionedd, mae’n cadw plant yn fyw am mai tlodi yw un o'r ffactorau allweddol yng nghyfraddau marwolaethau cynnar plant o dan un oed. Felly, mae iddo ganlyniadau cadarnhaol enfawr yn gyffredinol. Credaf fodSiânGwenllian wedi ein hatgoffa bod y methiant y cyfeiriais ato—methiant Llywodraeth y DU i gyrraedd y targed 20 mlynedd—hefyd yn fethiant yma yng Nghymru, oherwydd, wrth gwrs, mabwysiadwyd y targed hwnnw tua 2003, a chafodd ei ddileu yn 2016. Rwy'n deall y cyd-destun i hynny, ond mae gennym gyfle yn awr i wynebu’r her a derbyn nad yw’r atebion yn mynd i ddod o San Steffan, ac mewn gwirionedd gallwn ddysgu gwersi o'r model y maeLlywodraethyr Albanyn ei ddatblygu, edrych ar y gwersi yno a mynd hyd yn oed ymhellach na hwy o ran lefel y budd rydym yn siarad amdano. Wrth gwrs ei bod hi'n iawn, fel y dywedodd y Gweinidog, na all taliad plant yng Nghymru fod yn ateb i bob problem. Wrth gwrs fod yn rhaid i chi fabwysiadu ymagwedd gynhwysfawr tuag at leihau tlodi, ond mae'r holl dystiolaeth yn dweud yn gynyddol fod yn rhaid i daliadau trosglwyddo fod yn ddull canolog gan unrhyw Lywodraeth. A phan fo gennym Lywodraeth yn San Steffan nad yw'n cyflawni ei chyfrifoldebau, mae'n rhaid inni lenwi'r gwactod hwnnw, onid oes? Hynny yw, dyna pam y cawsom ein creu: ar gyfer yr union amgylchiadau hyn. Roedd y dadleuon yn yr adroddiad yn erbyn datganoli lles yn ddiddorol, ac roedd rhai ohonynt yn canolbwyntio ar 'undod cymdeithasol' fel y'i gelwir. Wel, yn gynyddol, nid yw’n undod cymdeithasol mwyach; mae'n undod gwrthgymdeithasol—ydy? Hynny yw, mae'r math o newidiadau yn y polisïau budd-daliadau ac ati yn mynd â ni i sefyllfa, fel y clywsom, lle gallem weld hyd at 40 y cant o'n plant yn byw mewn tlodi. Felly, mae'r syniad hwn mewn gwirionedd yn rhan o'r pecyn sydd ei angen arnom yn awr i ddiogelu ein plant. Oherwydd, ni all y plant hyn fforddio aros pum mlynedd i ethol Llywodraeth Lafur yn San Steffan, neu 10 mlynedd yn y senario waethaf y mae rhai yn y Blaid Lafur yn pwyntio ati, yn dibynnu ar ganlyniad yr etholiad ar gyfer yr arweinyddiaeth yn ôl pob tebyg. Edrychwch, ni all y plant hynny fforddio aros, bydd yn rhaid iddynt fyw gyda chanlyniadau hynny am genedlaethau. Gallwn wneud gwahaniaeth. Gadewch i ni edrych ar y pwerau dros les, ond yn enwedig y syniad hwn o greu taliad plant yng Nghymru a fydd yn profi gwerth creu'r sefydliad hwn yn y lle cyntaf. Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. 9. Cyfnod Pleidleisio Rydym wedi cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, rwy'n bwriadu symud ymlaen at y bleidlais gyntaf. Y bleidlais gyntaf y prynhawn yma, felly, yw'r un ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar adfywio cymunedol. Galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 11, un yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig a symudwn ymlaen i bleidleisio ar y gwelliannau. NDM7221 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 11, Yn erbyn: 37, Ymatal: 1 Gwrthodwyd y cynnigCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid gwelliant 1, 27, neb yn ymatal, 22 yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 1 a chaiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. NDM7221 - Gwelliant 1: O blaid: 27, Yn erbyn: 22, Ymatal: 0 Derbyniwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd. Cynnig NDM7221 fel y'i diwygiwyd: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu’r buddsoddiad o £800m i adfywio cymunedau a chanol trefi rhwng 2014 a 2022. 2. Yn nodi’r cymorth sy’n cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru i fusnesau lleol mewn trefi ledled Cymru, gan gynnwys pecyn cynhwysfawr o ryddhad ardrethi annomestig, i roi sylw i eiddo gwag ar y stryd fawr. 3. Yn cydnabod rôl bwysig Ardaloedd Gwella Busnes wrth helpu busnesau a chymunedau i gydweithio i ddarparu atebion ar lawr gwlad a helpu i adfywio eu hardaloedd lleol. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig fel y'i diwygiwyd 27, neb yn ymatal, 22 yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig fel y'i diwygiwyd. NDM7221 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 27, Yn erbyn: 22, Ymatal: 0 Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwydCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar ddadl Plaid Cymru ar deuluoedd incwm isel. Unwaith eto, galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Unwaith eto, os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig, wyth, neb yn ymatal, 41 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig a symudwn ymlaen i bleidleisio ar y gwelliant. NDM7224 - Dadl Plaid Cymru - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 8, Yn erbyn: 41, Ymatal: 0 Gwrthodwyd y cynnigCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 26, neb yn ymatal, 23 yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 1. NDM7224 - Gwelliant 1: O blaid: 26, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0 Derbyniwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd. Cynnig NDM7224 fel y'i diwygiwyd: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu’r degawd o gyni dan Lywodraeth y DU a’i rhaglen o ddiwygiadau lles, sydd wedi arwain at gynnydd mewn tlodi plant yng Nghymru. 2. Yn nodi’r mesurau gwerth £1bn y mae Llywodraeth Cymru wedi’u gosod yn eu lle i helpu teuluoedd incwm isel a threchu tlodi. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig fel y'i diwygiwyd 27, neb yn ymatal, 22 yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig fel y'i diwygiwyd. NDM7224 - Dadl Plaid Cymru - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 27, Yn erbyn: 22, Ymatal: 0 Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwydCliciwch i weld canlyniad y bleidlais 10. Dadl Fer: Cymru Dairieithog: Y gwerth i Gymru o addysgu ieithoedd tramor modern Symudwn yn awr at y ddadl fer. Galwaf ar Suzy Davies i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddi. Suzy. Suzy Davies AC: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Yn 2012, gyda chaniatâd Angela Burns, a oedd yn llefarydd yr wrthblaid ar addysg ar y pryd, gwneuthum rywbeth rwy’n meddwl bellach tybed a oedd wedi’i ganiatáu mewn gwirionedd, oherwydd lansiais ein polisi Cymru dairieithog ar y maes yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac fe wneuthum hynny yn Ffrangeg, a dyna pam nad wyf yn siŵr a oedd yr hyn a wneuthum o fewn y rheolau. Fe newidiais i'r Gymraeg yn eithaf cyflym, mae'n rhaid i mi ddweud, yn rhannol oherwydd bod y cyfryngau a oedd yn bresennol yn edrych mor syfrdan. Nawr, nid wyf yn siŵr y byddai'r wasg leol mewn gwledydd bach eraill wedi cael cymaint o sioc mewn sefyllfa debyg. Nid yw cynefindra ag ieithoedd eraill, os nad dealltwriaeth o ieithoedd eraill, yn rhywbeth sy’n peri syndod mewn rhannau eraill o'r byd; nid yw'n digwydd. Suzy Davies AC: Fodd bynnag, sut bynnag yr edrychwch arno—yn ddiwylliannol, yn economaidd neu'n syml o ran gwell cyd-ddealltwriaeth rhyngom â’n cyd-ddyn—rydym o dan anfantais. Rydym yn llai nag y gallem fod, ac yng Nghymru ni allwn fforddio bod yn llai nag y gallem fod. Ac mewn gwirionedd, mae gennym fantais nad ydym yn ei hyrwyddo nac yn ei gwerthfawrogi ddigon. Yn ddamcaniaethol o leiaf, ni yw'r genedl hyblyg yn ieithyddol yn y Deyrnas Unedig hon. Mae nifer gynyddol ohonom yn bwrw ymaith y flanced gysur Saesneg yn unig ac yn dod yn llai poenus ynglŷn â chael dwy iaith genedlaethol at ein defnydd. Mae'n siŵr bod gweddill y byd yn pendroni pam fod cael dwy iaith genedlaethol yn peri pryder inni beth bynnag, ond rwy'n credu fy mod i'n mynd o flaen fy hun braidd. Y rheswm y deuthum â hyn i'r Siambr heddiw yw oherwydd fy mod yn credu ein bod, am nifer o resymau’n rhannu pryder gwirioneddol am y dirywiad yn ein gallu ar lefel y boblogaeth i gyfathrebu mewn ieithoedd heblaw ein rhai ni.Ymddengys hefyd fod cryn gonsensws rhyngomni fel Ceidwadwyr Cymreig, a’r Llywodraeth yn wir, ac yn hynny, rwy’n cynnwysGweinidogion addysgblaenorol, ynghylch cyflwyno trydedd iaith i mewn i fywydau plant yn yr ysgol gynradd.Wrth gwrs, i rai o'n plant lwcus, nid eu trydedd iaith fydd hi, gallai fod yn bedwaredd neu hyd yn oed yn bumed iaith iddynt. A bydd, fe fydd yna bobl o hyd sy'n beio'r dirywiad mewn sgiliau ieithoedd tramor modern ar gynnwys Cymraeg gorfodol yn ein cwricwlwm, ond mae hynny'n anwybyddu’r ffaith bod rhannau eraill o'r DU hefyd wedi ymrwymo i roi tair iaith i blant a'u bod yn wynebu problemau heb fod yn annhebyg o ran y nifer sy’n astudio tair iaith. Prin fod y canllawiau ar ddysgu ieithoedd tramor modern wedi newid ers 2008. Ni wnaeth adolygiadau thematig Estyn ar y pryd, ac eto yn 2016, baentio'r darlun gorau, gan ddweud i bob pwrpas fod y brwdfrydedd a'r bwriadau da ym mlwyddyn 7, efallai blwyddyn 8, yn diflannu’n eithaf cyflym yn sgil nifer o ffactorau o restr o resymau a roddir: ansawdd addysgu amrywiol; rhy ychydig o wersi; rhy ychydig o athrawon sydd â'r iaith yn brif ddisgyblaeth; y safonau mewn ysgol yn fwy cyffredinol efallai; problemau gyda'r amserlen opsiynau yng nghyfnod allweddol 4—rwy'n credu ein bod i gyd yn gyfarwydd â hynny; bagloriaeth Cymru; cydweithredu annigonol ag ysgolion eraill; proffil economaidd-gymdeithasol disgyblion; p'un a yw'r ysgol yn gyfrwng Saesneg neu Gymraeg; cefnogaeth anghyson gan awdurdodau lleol; agwedd arweinwyr ysgolion a chynghorwyr gyrfaoedd tuag at astudio ieithoedd tramor modern—dim ond 17 y cant sy'n rhoi negeseuon cadarnhaol ar werth ieithoedd tramor modern; ac wrth gwrs y canfyddiad, a chanfyddiad yn unig ydyw, fod ieithoedd yn rhy anodd. Nawr, i'r disgyblion sy'n penderfynu parhau i astudio iaith yng nghyfnod allweddol 4 a chyfnod allweddol 5 ac ymlaen, mae eu safonau cyflawniad yn eithaf uchel. Efallai y bydd athrawon y carfannau hynny’n teimlo eu bod yn lwcus, gan eu bod yn cael y plant â'r ddawn fwyaf i astudio’r pwnc a'r awydd mwyaf i'w astudio, ac felly dylem ddisgwyl i’r cyflawniad fod yn uchel. Ond mae'r agwedd, 'Iaith elitaidd yw hon'—ac rwy'n defnyddio'r gair hwnnw yn ei ystyr fwyaf cadarnhaol—yn creu ei ganlyniadau negyddol ei hun. Os bydd y galw’n gostwng am na chaiff ieithoedd modern eu hystyried yn hygyrch i bawb yn y ffordd y mae Llywodraethau olynol wedi ceisio gwneud y gwyddorau’n hygyrch i bawb, bydd nifer y bobl ddisglair sydd eisiau dysgu ieithoedd tramor modern yn gostwng hefyd. Weinidog, rydym wedi trafod y targedau rydych chi wedi'u rhoi i Gyngor y Gweithlu Addysg i geisio dod â myfyrwyr newydd i mewn i hyfforddi fel athrawon ieithoedd tramor modern. Nid ydynt yn hynod o uchelgeisiol, ond ni chânt eu cyrraedd chwaith. Nid yw'n fath o gylch dirinwedd, mae'n fwy o droell ddirinwedd tuag i lawr, ac mae'n rhywbeth y mae pawb eisiau ei weld yn dod i ben. Felly, yn eich ymateb, Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch yn cyfeirio at hon fel problem y tu allan i Gymru, ac rwy’n derbyn hynny’n llwyr, fod Dyfodol Byd-eang wedi cyflawni rhywbeth, ond gobeithio nad oes ots gennych os cymerwn hynny fel ffaith, oherwydd dadl fer yw hon lle nad wyf yn ymosod ond yn hytrach, rwy'n gobeithio rhannu sylwadau a dysgu beth a ddysgwyd gennych yn eich profiad hyd yma o geisio gwyrdroi'r gostyngiad yn y nifer sy'n astudio ieithoedd tramor modern a sut y mae wedi llywio'r cwricwlwm newydd, lle rydych chi'n gobeithio a lle rydym ni’n gobeithio y bydd maes dysgu a phrofiad newydd ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu yn creu rhywfaint o newid go iawn. Nawr, cyfathrebu. Rwy'n credu mai’r hyn sydd wedi fy nharo o'r holl ymchwil ac adroddiadau a ddarllenais, ac rwy'n siŵr bod y Gweinidog a'i swyddogion wedi cael cyfle i ddarllen llawer mwy, naill ai gan Estyn, Sefydliad Gertner, y British Council, Gorwel, y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, llwyth o'r UE, erthyglau meddygol, blogiau, beth bynnag y bo, y neges sy'n dod drwodd yn uchel ac yn eglur yw mai dulliau cyfathrebu yw ieithoedd yn anad dim arall. Ond nid dyna sut mae'n teimlo pan fyddwch yn eu hastudio yn yr ysgol. Ac eto, eu diben fel dull o gyfathrebu, sy'n gwneud eu haddysgu mor werthfawr ac yn arbennig o werthfawr i Gymru, yw bod angen i ni gyfathrebu â'r byd. Ac rwy'n cydnabod yn y maes dysgu a phrofiad hwnnw fod llawer o'r hyn a ddarllenais am y pwnc wedi’i seilio ar gryfder amlieithrwydd ar gyfer cyfathrebu. Heb y gallu i gyfathrebu a deall beth mae eraill yn ceisio'i gyfleu inni, sut y gallwn ni ddysgu dod yn gyfranogwyr mentrus yn ein bywydau ein hunain, dod yn ddinasyddion moesegol yn y byd neu ddatblygu perthynas gadarnhaol ag eraill? Suzy Davies AC: Ond wrth edrych ar nodau'r maes dysgu a phrofiad hwnnw ac edrych ar yr hyn sy'n cyfateb yn yr Alban hefyd, mae'r ymrwymiad i sicrhau bod ein plant yn caffael gallu mewn ieithoedd eraill mewn unrhyw ffordd y gellir ei chymharu â'r iaith y maent yn tyfu i fyny gyda hi—mae'n dal yn eithaf anodd dod o hyd iddo. Nid wyf yn dweud nad yw yno, ond rwy'n ei chael hi'n anodd ei weld. Gyda mwy o ymreolaeth, wrth gwrs, bydd gan rai ysgolion le a rhyddid i godi statws ieithoedd tramor modern yn eu hysgolion fel sgiliau cyfathrebu, yn ogystal â dysgu mwy ffurfiol a phenodol. Ond bydd eraill yn ei ddefnyddio i adael iddo lithro i'r lefel dderbyniol isaf, oherwydd gadewch inni gofio mai dim ond 17 y cant o arweinwyr ysgolion sy'n rhoi negeseuon cadarnhaol ar ddysgu ieithoedd tramor modern. Os ydym am eu hachub, rwy'n credu bod angen cam ychwanegol arnom, sef cam atebolrwydd. Weinidog, rwy'n deall eich cymhellion dros newid yr atebolrwydd, ac ydw, rwy'n cytuno â chi, mae angen iddo fod yn ystyrlon. Wrth edrych ar y cwricwlwm newydd fel cyfle newydd ar gyfer ieithoedd tramor modern, rwy'n gobeithio y byddwch yn edrych nid yn unig ar sut y mae ysgolion yn dysgu ieithoedd tramor modern ac i faint o bobl, ond ar sut y mae ysgolion yn defnyddio ieithoedd tramor modern, ac rwy'n meddwl tybed a ellid cynnwys hyn yng ngwaith Estyn, y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a'r rhaglen ryngwladol asesu myfyrwyr, os yw'n berthnasol, ac nid wyf yn gwybod sut y mae hynny'n gweithio a dweud y gwir, ond yn sicr y gofynion atebolrwydd mewnol. Rwyf eisoes yn gofyn inni feithrin gallu mewn dwy iaith genedlaethol yn ein plant ieuengaf, ac ni allaf weld pam na ellir cymhwyso'r un egwyddor o ddefnyddio iaith, nid dysgu amdani'n unig, ar gyfer trydedd iaith hefyd. Felly, byddaf yn edrych eto ar yr ymchwil ar yr adegau gorau yn natblygiad plentyn ar gyfer caffael iaith, ond rwy'n gobeithio y gallwch fy helpu yma, Weinidog. Er fy mod yn cydnabod bod pob un o'n plant—ac rwy'n golygu pob un ohonynt—mewn perygl cynyddol o drosglwyddo iaith lafar salach mewn oes lle mae pob oedran yn sownd wrth y sgrin, ac y bydd datblygiad lleferydd a dealltwriaeth rhai plant yn arafach am amryw o resymau, rydym yn dal fel pe baem yn methu'r man delfrydol hwnnw pan fydd plentyn yn amsugno fwyaf ar gyfer caffael mwy nag un iaith. Felly, rwy'n awgrymu—o leiaf, rwy'n credu fy mod ar hyn o bryd—fod angen i'r elfen ieithoedd tramor modern o faes dysgu a phrofiad ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu ddigwydd yn llawer cynt nag a welwn ar hyn o bryd. Felly, hoffwn glywed ychydig mwy ynglŷn â pham nad yw cyfleoedd yn y cyfnod sylfaen presennol wedi cael eu nodi hyd yma oherwydd bydd pawb ohonom yn gwybod am enghreifftiau o ysgolion unigol lle mae arweinwyr yr ysgol yn frwd iawn ynglŷn â hyn, a'r dystiolaeth yno, yn yr achosion lle ceir cydweithio rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd, fod plant oedran cynradd yn mynd â'r diwylliant ieithoedd hwnnw gyda hwy i mewn i flwyddyn 7. Felly, rwy'n credu bod gwir angen inni fynd i wraidd y rheswm pam nad oes mwy o ysgolion cynradd wedi bachu ar y cyfle hwn, oherwydd bydd hynny'n rhoi cipolwg inni ar sut i hybu pwysigrwydd y sgìl bywyd hwn mewn cwricwla lleol ac yn ein helpu i ddwyn ysgolion i gyfrif mewn ffordd ystyrlon, ynghylch llwyddiant neu fel arall helpu pobl ifanc i fod o leiaf yn hyderus, a hyd yn oed yn well, yn gymwys mewn tair iaith. Felly, pam y mae hyn yn bwysig i Gymru? Wel, rwy'n credu bod yna resymau y byddwn i gyd yn eu coleddu, beth bynnag yw ein blaenoriaethau gwleidyddol. Rydym yn dysgu iaith mewn gwahanol ffyrdd ar wahanol adegau yn ein bywydau ac yn defnyddio gwahanol rannau o'r ymennydd. Mae effeithiau gwybyddol hyn a mireinio gwahanol fathau o sgiliau dysgu wedi'u dogfennu'n dda bellach a'u cadarnhau dros gyfnodau adolygu ac astudio sy'n argyhoeddi, nid yn unig ar gyfer plant ysgol, ond ar gyfer y rheini sydd mewn perygl o gael dementia a cholli sgiliau gwybyddol eraill hefyd. Nawr, wrth gwrs, nid yw hynny'n golygu y byddai siarad nifer o ieithoedd wedi fy ngwneud yn well pêl-droediwr yn yr ysgol—wel, nid wyf yn meddwl y byddai'n fy ngwneud yn well pêl-droediwr o gwbl. Y rheswm pam fod gennyf lefel O mewn Lladin yw oherwydd ei fod yn ddewis arall yn lle gwneud hoci. [Chwerthin.] Ond gallai fod wedi fy helpu gyda sgiliau meddwl yn wahanol a sgiliau dysgu, a fyddai wedi fy helpu i hyfforddi neu reoli tîm, dangos empathi neu gymell a disgyblu tîm, strategeiddio'n well, deall cyllid clwb yn well, ac yn gynyddol, mae'n ymddangos i mi, cyfathrebu â'r bodau dynol yn y tîm yn eu hieithoedd eu hunain, gan eu gwneud yn gyfforddus, a theimlo'u bod wedi'u cynnwys yn rhan o rywbeth mwy ac yn ymrwymedig i gyfranogi mewn rhywbeth sy'n effeithio ar lwyddiant eraill—yn union y math o ganlyniad rydym ei eisiau o'r cwricwlwm newydd, a chaiff ei grisialu yno yn y dysgu sut i gyfathrebu mewn mwy nag un iaith. Ond rwy'n Geidwadwr, ac felly rwyf am orffen ar rai pwyntiau ynglŷn â'r economi. Gall mwy o gyfranogwyr mewn economi ffyniannus helpu i wella buddsoddiad mewn gwasanaethau cyhoeddus gan leihau'r ddibyniaeth arnynt, felly mae hyn yn wirioneddol bwysig, ac mae popeth a ddywedwn ynglŷn â sut y mae amlieithrwydd yn helpu i allu deall pobl eraill, am fwynhau a dysgu o wahanol ddiwylliannau, dod yn ddinasyddion y byd yn ogystal â'n cynefin ein hunain, mae'r rhain yn nodau ynddynt eu hunain, ond maent hefyd yn gwbl berthnasol i helpu Cymru i ffynnu'n economaidd. Roeddwn yn gwrando ddoe ar y sesiwn ar fasnach ryngwladol a'ch pryderon, fel person amlieithog eich hun, Weinidog, ynglŷn â pholisi America yn gyntaf, gadael y farchnad sengl ac yn y blaen. Mae'n fyd mawr; rhaid inni ddefnyddio'r hyn sydd gennym i gael y gorau ohono. Ac felly mae hynny'n golygu mwy nag allforio rhagor o'r nwyddau wedi'u gweithgynhyrchu y mae pobl eu heisiau; mae'n ymwneud â dod o hyd i ffordd o wneud yn siŵr mai ein cynnyrch ni y mae pobl eu heisiau mewn marchnad gynnyrch hynod gystadleuol a chynyddol safonedig. Ac mae hynny'n ymwneud â pherthynas pobl â'i gilydd. Mae'n ymwneud â chyfathrebu. Os ydym am i'n diwydiant lletygarwch ac ymwelwyr dyfu, nid yn unig o ran nifer ymwelwyr, ond hefyd o ran statws, a fydd yn gwneud y diwydiant yn ddeniadol i'n pobl fwyaf disglair a mwyaf mentrus, mae egluro bod sgiliau penodol mewn mwy nag un iaith yn ased enfawr yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni ei gyfleu. Unwaith eto, mae cysylltiadau'n adeiladu busnesau, yn enwedig yn ein diwydiannau gwasanaeth, yn enwedig yn y mathau o fusnesau sydd gennym yng Nghymru eisoes. Oherwydd mae hyn oll yn ymwneud â mwy na chwmnïau rhyngwladol neu'r mathau o is-ganghennau ffatrïoedd roedd Mike Hedges yn sôn amdanynt ddoe. Mae amlieithrwydd wedi meithrin masnach a chyfnewid syniadau ers cyfnod yr henfyd ac mae ymgyrch Prydain i ddod o hyd i farchnadoedd newydd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd yn debygol o arwain at anghenion ieithyddol newydd. Bydd cwmnïau sy'n ymateb i'r her hon yn dibynnu ar gronfa sgiliau amlieithog ar gyfer masnach drawsffiniol. Mae llawer o bobl Prydain yn honni eu bod yn wael am siarad ieithoedd heblaw Saesneg. Mae ystadegau cyfredol Llywodraeth y DU yn dangos bod y DU eisoes yn colli tua 3.5 y cant o'i chynnyrch domestig gros bob blwyddyn o ganlyniad i brinder sgiliau iaith yn y gweithlu. Er bod busnesau'n ystyried bod y gallu i siarad Saesneg yn anhepgor, canfu astudiaeth gan yr UE mai dim ond 29 y cant o'u holl alw yn y dyfodol am sgiliau ieithoedd tramor oedd yn ymwneud â'r Saesneg. Y parodrwydd i ddefnyddio ieithoedd oedd yn bwysig i'r cysylltiadau masnach, a rhoddai hynny fantais i fusnesau ym marchnadoedd cynnyrch lle nad oedd llawer i'w ddewis rhwng cynnyrch un wlad a chynnyrch gwlad arall. Ac roedd yr adroddiad hwnnw hefyd yn dangos bod 945,000 o fusnesau bach a chanolig yn Ewrop yn colli masnach oherwydd diffyg cymhwysedd ieithyddol. Economi busnesau bach a chanolig yw Cymru. Mae'n economi sy'n dod yn fwy cyfarwydd â manteision ei hyblygrwydd ieithyddol, gyda'i hieithoedd swyddogol ei hun, a hyd yn oed wrth edrych ar hyn drwy lens economïau sylfaenol a chylchol, nid yw'r economi leol yn elwa os bydd y plymwr lleol neu'r cigydd lleol neu'r cwmni glanhau lleol yn methu cynnig gwasanaethau i'r gwesty lleol am fod y gwesty ar gau am na allai gystadlu â chadwyni â staff amlieithog rhugl a wnâi i'w cleientiaid busnes a hamdden deimlo o ganlyniad i hynny eu bod yn cael eu gwerthfawrogi'n fwy ac yn fwy cyfforddus. I orffen, ac rwy'n gobeithio, Ddirprwy Lywydd, y byddwch yn rhoi amser ar gyfer un neu ddau o siaradwyr eraill— Wel, mae'n rhaid i chi eu henwi. Suzy Davies AC: Gwnaf, ond fe wnaf hynny ar y diwedd. Iawn. Wel, o'r gorau, ond rydych chi ar 13:30, felly mae gennych funud a hanner, yn y bôn. Suzy Davies AC: Iawn. Wel, i orffen felly, rwyf am ddychwelyd at y pwynt hwnnw yn 2012, pan wneuthum y cyhoeddiad polisi yn yr Eisteddfod. Y prif reswm pam fy mod wedi newid i'r Gymraeg mewn gwirionedd oedd oherwydd fy mod wedi anghofio'r rhan fwyaf o fy Ffrangeg. Mae'n rhyfedd i mi mai fy ail iaith bellach yw Cymraeg ac nid un o'r rhai a ddysgais yn yr ysgol neu rywle arall, nid yn unig am ei bod yn bwysig i fy ffrindiau a fy nheulu, ond am fod cwsmeriaid, cleientiaid a chydweithwyr yn gwerthfawrogi'r ffaith fy mod yn siarad yr iaith oedd yn bwysig iddynt hwy. Os gwnewch hynny'n wir ar gyfer Ffrangeg neu Almaeneg neu Sbaeneg neu Bortiwgaleg y bobl neu beth bynnag y bo, mae gennym rywbeth gwirioneddol arbennig i'w gynnig i'n plant ysgol. Ar hynny, rwy'n gobeithio y byddwch yn hael, a rhoi munud i Mike Hedges, Ddirprwy Lywydd, ac un i Darren Millar hefyd. Bydd yn ddiddorol gweld y ddau ohonynt yn gwneud eu cyfraniadau mewn munud. Fe rown gynnig arni. Huw Irranca-Davies. Mike Hedges AC: Fi. Mae'n ddrwg gennyf. Mike Hedges. Mae'n ddrwg gennyf. Mike Hedges AC: Rwy'n eithaf da. Rwy'n tynnu hynny'n ôl, oherwydd mae Mike yn dda iawn. [Chwerthin.] Mike Hedges AC: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i Suzy Davies am roi munud i mi yn y ddadl hon, ond hefyd am ei chyflwyno? Hoffwn ganolbwyntio ar ddewisiadau TGAU. Heb TGAU mewn iaith dramor, mae'n annhebygol y bydd disgyblion yn mynd ymlaen i astudio safon uwch neu radd yn yr iaith dramor honno. Mewn ysgol cyfrwng Cymraeg bydd disgybl yn astudio iaith a llenyddiaeth Gymraeg, iaith a llenyddiaeth Saesneg, mathemateg, gwyddoniaeth ddwbl a bagloriaeth Cymru. Byddant yn cael eu gadael gyda thri neu bedwar o bynciau eraill i'w dewis o'r gwahanol grwpiau sydd ar gael. A yw'n syndod bod y niferoedd sy'n astudio TGAU Ffrangeg ac Almaeneg wedi gostwng? Mae Tueddiadau Ieithoedd Cymru yn datgan mai dim ond 2 y cant o ddisgyblion Cymru sy'n astudio TGAU mewn iaith heblaw Cymraeg neu Saesneg. Gallaf roi rhai atebion posibl: caniatewch i ddisgyblion wneud un pwnc gwyddonol a dwy iaith fodern; gwnewch iaith fodern yn orfodol ar gyfer TGAU; neu gallwn barhau fel rydym a chymryd yn ganiataol y bydd pawb yn y byd yn siarad Saesneg, yn enwedig os siaradwn yn uchel. Darren Millar AC: Roeddwn eisiau llongyfarch Suzy ar araith agoriadol aruthrol a dweud yn syml nad ysgol yw'r unig gyfle, wrth gwrs, i ddysgu ail iaith. Rwy'n defnyddio ap ar hyn o bryd, Mango Languages, i geisio dysgu ychydig o Arabeg Lefantaidd er mwyn i mi allu cyfathrebu â rhai o fy ffrindiau yn y dwyrain canol, ac mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn credu bod y dechnoleg sydd ar gael i ni yn gwneud dysgu iaith newydd yn fwy hygyrch nag erioed o'r blaen. Un o'r pethau sy'n cael ei wneud mewn rhannau o'r Unol Daleithiau ar hyn o bryd ac yn rhai o wledydd eraill Ewrop, gan gynnwys Gweriniaeth Iwerddon, yw bod apiau fel Mango Languages ar gael i'r cyhoedd drwy'r rhwydwaith llyfrgelloedd fel y gallant fod yn hygyrch i aelodau o'r cyhoedd eu defnyddio am ddim, ac roeddwn i'n meddwl, Weinidog—efallai nad yw'n gyfrifoldeb uniongyrchol i chi—tybed a yw hyn yn rhywbeth y gallech ei drafod gyda'ch cyd-Weinidogion yn y Cabinet fel dull o ddod â ni i mewn i'r unfed ganrif ar hugain o ran y ffordd y defnyddiwn y technolegau newydd hyn i ddysgu ieithoedd newydd a rhoi ail gyfle i bobl na chafodd gyfle yn yr ysgol. A gaf fi alw ar y Gweinidog Addysg i ymateb i'r ddadl? Kirsty Williams. Kirsty Williams AC: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Suzy Davies am gyflwyno'r ddadl hon i'r Siambr heddiw a dechrau drwy ddweud fy mod yn credu nid yn unig mewn gweld Cymru yn dod yn genedl dairieithog, ond yn wlad amlieithog. Heb ystyried y newidiadau gwleidyddol sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd, rwy'n cydnabod pwysigrwydd addysgu ieithoedd rhyngwladol yn ein system addysg. Rwy'n ymroddedig i sicrhau bod ein dysgwyr yn profi'r ystod o fanteision sy'n deillio o ddysgu ieithoedd rhyngwladol, yn enwedig ar adeg pan fo'n bwysicach nag erioed fod gan ein gweithlu yn y dyfodol sgiliau iaith i allu cystadlu yn y farchnad fyd-eang—dadl a wnaed gan Suzy yn ei haraith agoriadol. Rwyf hefyd yn derbyn bod heriau gwirioneddol yn gysylltiedig â dysgu iaith ryngwladol, a dyna pam, o dan gwricwlwm newydd trawsnewidiol Cymru, y bydd pob dysgwr yn dechrau profi ieithoedd rhyngwladol o oedran llawer cynharach. Fel y dywedwyd, daw'r cwricwlwm newydd â dysgu ieithoedd at ei gilydd ym maes dysgu a phrofiad ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu. Bydd hyn yn rhoi cyfle i athrawon yng Nghymru ddatblygu a rhannu arbenigedd mewn dysgu iaith i roi'r cyfle gorau i'n plant a'n pobl ifanc ddatblygu sgiliau cyfathrebu yn y Gymraeg a'r Saesneg ac mewn ieithoedd rhyngwladol. Yn ein cwricwlwm newydd, caiff ieithoedd tramor modern eu cynnwys yn yr adran ieithoedd rhyngwladol a bydd dysgwyr yn profi ieithoedd rhyngwladol gyda disgwyliadau clir o ran eu cynnydd tra byddant yn yr ysgol gynradd. Bydd strwythur ein cwricwlwm newydd yn cynnig cyfleoedd cyffrous i greu polisi amlieithog cyfoethog ac effeithiol ar gyfer addysg iaith yng Nghymru. Bydd dysgu am ieithoedd a diwylliant yn chwarae rhan hollbwysig yn ein nod o ddatblygu dysgwyr uchelgeisiol a galluog sy'n barod i fod yn ddinasyddion Cymru a'r byd. Bydd y maes dysgu a phrofiad hwn yn annog dysgwyr i fod yn ymwybodol o'r cysylltiadau rhwng ieithoedd wrth iddynt ddatblygu gwerthfawrogiad o darddiad geiriau a diddordeb mewn patrymau iaith. Byddant yn cael eu hannog i drosglwyddo'r hyn y maent wedi'i ddysgu ynglŷn â sut y mae ieithoedd yn gweithio, er enghraifft yn y Gymraeg neu'r Saesneg, i ddysgu a defnyddio'r profiad hwnnw wrth gaffael a dysgu ieithoedd rhyngwladol. Credaf y bydd y dull amlieithog hwn yn tanio brwdfrydedd dysgwyr ac yn rhoi sylfaen gadarn i ddiddordeb gydol oes yn sgil hynny mewn dysgu ieithoedd a llenyddiaeth o Gymru a'r byd. Er mwyn meithrin gallu yn y system, eleni rhoddais £188,000 i gonsortia rhanbarthol er mwyn iddynt allu cynorthwyo ysgolion cynradd i ddatblygu eu darpariaeth iaith cyn cyflwyno'r cwricwlwm newydd. Mae'n galonogol iawn fod ein hysgolion cynradd eisoes yn cynyddu eu darpariaeth ieithoedd tramor modern, ac rwyf wedi cefnogi hyn drwy roi rhagor o arian ychwanegol i athrawon ysgolion cynradd gymryd rhan yng nghynllun LXT y Brifysgol Agored ar gyfer dysgu sut i addysgu ieithoedd yn yr ysgol gynradd, sy'n cynnig cyrsiau i ddechreuwyr mewn Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg a Mandarin, ond rwyf hefyd yn ymwybodol iawn o'r gostyngiad yn nifer y dysgwyr sy'n astudio ieithoedd tramor modern mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru. Ac mae Suzy'n iawn, nid ydym ar ein pen ein hunain yn hyn, mae'n rhan o ddirywiad cyffredinol ar draws y Deyrnas Unedig, ac mae'r rhesymau am hynny'n niferus ac weithiau'n eithaf cymhleth. Nawr, dyna pam, ers 2015, fod dros £2.5 miliwn wedi cael ei fuddsoddi yn rhaglen Dyfodol Byd-eang Llywodraeth Cymru i wella a hyrwyddo ieithoedd tramor. Mae'r cyllid hwn wedi arwain at ganolfannau rhagoriaeth newydd, lle mae ysgolion yn gweithio mewn partneriaeth â phrifysgolion a phartneriaid i wella'r profiad addysgu a dysgu. Eleni, yn ogystal â pharhau i ariannu ein rhaglen fentora myfyrwyr ieithoedd tramor modern sydd wedi ennill gwobrau, rhaglen sy'n anelu at gynyddu nifer y bobl sy'n astudio ieithoedd ar lefel TGAU, rwyf hefyd yn ariannu cynllun peilot ar gyfer rhaglen fentora myfyrwyr ieithoedd tramor modern gyda'r nod penodol o gynyddu'r nifer sy'n astudio ieithoedd tuag at safon uwch hefyd. Kirsty Williams AC: Nawr, mae Suzy'n iawn, mae rhannau o Dyfodol Byd-eang wedi cyflawni a cheir rhannau o Dyfodol Byd-eang lle nad ydym wedi gweld y cynnydd y byddem yn dymuno ei weld. Dyna pam y byddaf yn cyhoeddi dull newydd o gyflawni rhaglen Dyfodol Byd-eang ym mis Ebrill eleni. A byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid i gefnogi ein hysgolion wrth i ni drosglwyddo i'n cwricwlwm newydd. Rhaid inni beidio ag anghofio, pan fo disgyblion yn dewis astudio—ac i fod yn deg â Suzy, fe wnaeth hi gyfeirio at hyn—y myfyrwyr hynny sy'n dewis ieithoedd tramor modern, wel, maent yn gwneud yn wirioneddol dda mewn gwirionedd. Cefais fy nghalonogi'n arbennig gan gyrhaeddiad rhagorol myfyrwyr ieithoedd tramor modern, sy'n dyst nid yn unig i'w gwaith caled, ond hefyd i'r addysg ieithoedd tramor modern rhagorol y mae'r myfyrwyr hyn yn ei chael. Roeddwn wrth fy modd fod athrawon ysgol gynradd Sant Paul yr Eglwys yng Nghymru yng Nghaerdydd ac Ysgol Osbaston yr Eglwys yng Nghymru yn Nhrefynwy wedi cael eu cydnabod yng Ngwobrau Athrawon Almaeneg 2019 am eu cyfraniad rhagorol i addysgu Almaeneg yn y sector cynradd, sy'n dangos bod ymarfer rhagorol i'w weld yma yng Nghymru eisoes, ond mae angen inni adeiladu arno. Yn y tymor hwy, bydd cymwysterau Cymraeg, Saesneg ac ieithoedd rhyngwladol yn newid hefyd ac mae angen inni weithio'n agos gyda Cymwysterau Cymru i ystyried sut y dylai cymwysterau newid yn unol â'r cwricwlwm newydd er mwyn mynd i'r afael â'r dull mwy cyfannol o ddysgu ieithoedd. Ac fel chi, Suzy, rwy'n credu y dylai fod pwyslais ar siarad a chyfathrebu yn hytrach na'r hyn sy'n digwydd weithiau yn y system bresennol o bosibl, lle ceir pwyslais ar ysgrifennu a darllen, yn hytrach na'ch gallu i gyfathrebu â bod dynol arall a gallu dangos cymhwysedd yn eich gallu i gyfathrebu ar lafar gyda gwahanol bobl. Rydym yn symud oddi wrth system atebolrwydd sydd â phwyslais anghymesur nad yw'n ddefnyddiol ar rai mesurau perfformiad unigol i hyrwyddo'r defnydd o ystod ehangach o wybodaeth sy'n crisialu cynnydd ein holl ddysgwyr yn well a'r cyfan o'u dysgu a'u profiad a'n huchelgeisiau o fewn y cwricwlwm newydd. Ochr yn ochr â hyn, rydym wedi bod yn datblygu trefniadau gwerthuso a gwella newydd a fydd yn cefnogi'r broses o roi cwricwlwm Cymru ar waith, a bydd yn seiliedig ar yr egwyddorion a ganlyn—dylent fod yn deg, yn gydlynol, yn gymesur ac yn dryloyw. Rydym yn cychwyn ar gynllun strategol tair blynedd ar gyfer treialu, datblygu a gweithredu'r trefniadau newydd hyn. Drwy amlygu agweddau ar y trefniadau gwerthuso a gwella eleni, byddwn yn gallu profi agweddau ar y trefniadau newydd a bydd hyn yn rhoi eglurder ynghylch y gwahanol rolau a chyfrifoldebau wrth symud ymlaen. Bydd y trefniadau newydd yn cefnogi ein nod i godi safonau, gan leihau'r bwlch cyrhaeddiad ac fel Suzy, rwy'n pryderu wrth weld bod ieithoedd yn cael eu hystyried ar gyfer math penodol o fyfyriwr, yn hytrach na'u bod o werth i bob myfyriwr, ac fel bob amser, Ddirprwy Lywydd, yn canolbwyntio ar ddarparu system addysg sy'n destun balchder cenedlaethol ac sy'n ennyn hyder y cyhoedd. I gloi, hoffwn ddweud bod ieithoedd yn hanfodol ac yn bwysig iawn i ffyniant Cymru yn y dyfodol ac i'n dylanwad yng ngweddill y byd. Rwy'n cydnabod yr her yn y tymor byr, ac wrth i'n newidiadau ddechrau cael effaith, bydd angen inni ddyblu ein hymdrechion gyda phartneriaid ar yr agenda hon, gan ddeall rhai o'r rhesymau go iawn pam y mae myfyrwyr yn dewis peidio ag astudio pynciau TGAU—ac mae Mike Hedges yn iawn, weithiau mae materion amserlennu yn broblem—hyrwyddo ieithoedd, a'r canfyddiad fod cymwysterau TGAU iaith yn anodd. Bydd yr Aelod yn ymwybodol fod rhai newidiadau eisoes wedi'u gwneud yn Lloegr o ran graddio TGAU Ffrangeg ac Almaeneg, er nad Sbaeneg, ac mae Cymwysterau Cymru a Chyd-bwyllgor Addysg Cymru yn edrych ar y systemau hynny o fewn ein system ni, gan fod canfyddiad yn aml fod gwneud y cymwysterau TGAU hyn yn anodd a bod pethau haws a ffyrdd haws o gael eich gradd A* drwy ddewis pynciau eraill. Ond oni bai ein bod yn cyfathrebu â myfyrwyr ynglŷn â phwysigrwydd y pynciau hyn a'r cyfleoedd gwych a all ddeillio o ennill cymwysterau o'r fath, ni fyddwn yn gwneud cynnydd pellach. Ac felly byddwn am ystyried hynny, fel y dywedais, yn ein fersiwn newydd o Dyfodol Byd-eang, a gaiff ei chyhoeddi yn nes ymlaen eleni. Rwy'n deall, ac yn wir, rwy'n gresynu at fy methiant fy hun yn hyn o beth, ond mae Darren yn iawn, nid yw byth yn rhy hwyr, ac fel yntau, gallwch ddod o hyd i mi weithiau, pan fyddaf adref gyda'r nos, ar fy ap Duolingo yn ymarfer ychydig o Gymraeg ac ychydig o Espagnol. Ond mae ffordd bell i fynd. Byddaf yn codi mater mynediad at apiau dysgu ar-lein gyda'r Gweinidogion perthnasol. Yn sicr mae'r ffordd y gallwn helpu pob plentyn i gaffael ieithoedd a defnyddio apiau o fewn y system addysg yn rhywbeth y bydd angen inni ei groesawu'n rhan o'n dyfodol wrth symud ymlaen. Ond i gloi, Ddirprwy Lywydd, rwy'n ddiolchgar i Suzy Davies am gyflwyno'r ddadl hon. Credaf fod consensws yma fod hyn yn bwysig i ddyfodol Cymru a chredaf y gall ein cwricwlwm newydd a'r pwyslais ar gyflwyno dysgu iaith yn llawer cynharach ym mywyd y plentyn ein helpu i oresgyn rhai o'r problemau rydym yn bendant wedi'u gweld, a byddwn yn parhau i fynd i'r afael â hwy gyda phenderfyniad. Diolch yn fawr. Diolch. Diolch yn fawr iawn, a daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch. Daeth y cyfarfod i ben am 19:20. QNR Cwestiynau i Y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd Mark Isherwood: Pa ystyriaeth wnaiff y Gweinidog ei rhoi i ariannu gwasanaethau ymyrraeth gynnar wrth ddyrannu cyllideb 2020-21? Rebecca Evans: Funding early intervention services has been an important consideration in allocating the 2020-21 budget. For example, in 2020-21 we have doubled funding for our whole-school approach to mental health to £5 million, invested £5.5 million to support Healthy Weight: Healthy Wales and invested an additional £3.5 million for the Flying Start approach. Huw Irranca-Davies: Beth yw blaenoriaethau gwario Llywodraeth Cymru yn Ogwr? Rebecca Evans: We are investing in Ogmore through developments including INEOS Automotive and the new Tirion residential development, which I visited last month. We have also allocated £3 million for the new National Imaging Academy for Wales at Pencoed, and £3.5 million to redevelop Maesteg town hall, in line with our Valleys taskforce work.
uk-hansard-senedd-cy
senedd2020-01-08
2024-06-01T00:00:00
{ "year": "2020", "language": "cy", "license": "Open Parliament Licence - https://www.parliament.uk/site-information/copyright-parliament/open-parliament-licence/" }
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Prynhawn da a chroeso i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, ac mae'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma gan Peredur Owen Griffiths. Awdurdodau Lleol Peredur Owen Griffiths AS: 1. Pa adnoddau ariannol ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn eu darparu i awdurdodau lleol i'w helpu i ddelio â'r argyfwng costau byw? OQ58608 Rebecca Evans AC: Yn yr adolygiad o wariant, gwnaethom y defnydd mwyaf posibl o'r holl gyllid a oedd ar gael i ni. Blaenoriaethais gyllid ar gyfer llywodraeth leol yng nghyllideb Cymru fel bod pob awdurdod yng Nghymru yn cael cynnydd o fwy nag 8.4 y cant yn eu cyllid. Peredur Owen Griffiths AS: Diolch am yr ateb. Peredur Owen Griffiths AS: Mae pobl yn ofni'r posibilrwydd o fethu fforddio'r pethau sylfaenol y gaeaf hwn, ac nid oes ganddynt lawer o ffydd y bydd Prif Weinidog hynod gyfoethog yn gwneud unrhyw beth drostynt. Yn absenoldeb cymorth digonol gan San Steffan, mae angen defnyddio'r cronfeydd sydd gan awdurdodau lleol wrth gefn ar gyfer diwrnodau glawog. Yn anffodus, mae gennych awdurdodau lleol fel Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, sy'n cael ei redeg gan Lafur, yn cadw cronfeydd enfawr gwerth £180 miliwn wrth gefn. Cynyddodd y pentwr hwn o arian, sy’n fwy na chronfeydd wrth gefn yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru, £16 miliwn yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf yn unig. Dyma pam fod fy nghyd-aelod o Blaid Cymru, y cynghorydd Greg Ead, wedi galw am gynyddu cronfa galedi costau byw cyngor sir Caerffili o £3 miliwn i £10 miliwn. A ddylai’r Llywodraeth osod terfyn ar feintiau cronfeydd wrth gefn er mwyn atal awdurdodau lleol Scrooge-aidd rhag eistedd ar gronfeydd enfawr o arian? Rebecca Evans AC: Nid wyf yn siŵr a yw hynny'n ddisgrifiad teg o awdurdodau lleol a'r ffordd y maent yn ymdrin â'u cronfeydd wrth gefn. Ond a bod yn gwbl onest, rwy’n falch fod awdurdodau lleol, yn gyffredinol, mewn sefyllfa well o lawer nag y byddent wedi bod fel arall, ac mae hynny’n rhannol oherwydd y £50 miliwn ychwanegol a ddarparwyd gennym i lywodraeth leol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Ac roedd hynny i'w helpu i reoli eu cyllideb mewn ymateb i bwysau cynyddol chwyddiant a phwysau ar wasanaethau roeddent yn ei nodi ac yn ei deimlo bryd hynny. Ond credaf fod angen inni feddwl am gronfeydd wrth gefn mewn perthynas â chyllideb gyffredinol llywodraeth leol. Ac yn sicr, ar lefel Cymru gyfan, y dehongliad ehangaf o gronfeydd wrth gefn defnyddiadwy—a chredaf fod hwnnw'n bwynt pwysig—yw 26 y cant o gyfanswm y gwariant blynyddol. Felly, dim ond tri mis o ddarpariaeth ar gyfer holl gostau llywodraeth leol yw hynny. Felly, rwy'n falch fod awdurdodau lleol mewn lle gwell nag y byddent wedi bod fel arall diolch i'r cyllid ychwanegol y bu modd i ni ei ddarparu. Ond ar yr un pryd, mae'n rhaid imi ddweud bod cronfeydd wrth gefn defnyddiadwy yn wahanol i sefyllfa cronfeydd wrth gefn cyffredinol, oherwydd, wrth gwrs, bydd awdurdodau lleol wedi clustnodi cyllid ar gyfer gwahanol bethau, yn enwedig ein buddsoddiad yn y rhaglen cymunedau dysgu cynaliadwy a'r rhaglen ysgolion newydd ac ati. Tom Giffard AS: Diolch i Peredur Owen Griffiths am gyflwyno’r cwestiwn hwn. Roeddwn yn awyddus i sôn hefyd am y pwynt ynglŷn â chronfeydd wrth gefn, gan y credaf ei fod yn bwysig, ac rydych yn llygad eich lle—nid yw pobl o reidrwydd yn deall y diffiniad o gronfeydd wrth gefn defnyddiadwy, yn enwedig y cynghorau sy’n eu galw’n gronfeydd wrth gefn defnyddiadwy ac yna byth yn eu defnyddio. Felly, yn fy rhanbarth i, Gorllewin De Cymru, roedd gan gynghorau Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe, yn 2019-20, gyfanswm o £288 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn. Yn 2021, cynyddodd y ffigur hwnnw i £400 miliwn. A wnewch chi egluro pam fod y tri chyngor hynny, dau ohonynt yn cael eu rhedeg gan eich plaid, wedi ychwanegu £110 miliwn at eu cronfeydd defnyddiadwy mewn blwyddyn, ac a ydych chi'n cefnogi hynny? Rebecca Evans AC: Yn sicr, gallaf egluro hynny, Lywydd, a'r rheswm yw ‘y pandemig’, a dyna un o’r rhesymau pam y darparwyd cyllid ychwanegol sylweddol i lywodraeth leol drwy’r pandemig. Ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd awdurdodau lleol, o ystyried y bwlch enfawr yn y cyllid y maent wedi'i nodi, nid yn unig ar gyfer eleni, ond ar gyfer y blynyddoedd i ddod hefyd, yn edrych ar y cronfeydd wrth gefn hynny. Ond gadewch inni gofio, dim ond unwaith y gallwch wario’r cronfeydd wrth gefn hynny, felly pan fyddaf yn clywed galwadau, er enghraifft, am gynyddu cyflogau a phwysau eraill, dim ond unwaith y gallwch ddefnyddio’r cronfeydd wrth gefn hynny, a gwn y bydd awdurdodau lleol yn awyddus i ddefnyddio'r cronfeydd hynny'n ofalus iawn. Ond nid wyf yn ymddiheuro o gwbl am ddarparu cyllid ychwanegol sylweddol i awdurdodau lleol drwy'r pandemig, ac a dweud y gwir, rwy'n falch eu bod mewn sefyllfa well nag y byddent wedi bod fel arall pe baem wedi penderfynu peidio â gwneud hynny. Huw Irranca-Davies AC: Yn y pythefnos diwethaf, roedd Tom Giffard a minnau mewn sesiwn friffio gydag arweinwyr llywodraeth leol o’n hardal ni, ond hefyd ar lefel genedlaethol yng Nghymru, yn cael asesiad eithaf di-flewyn ar dafod am gyflwr difrifol cyllid awdurdodau lleol. Ac wrth gwrs, gwyddom hefyd fod hyn yn wir ar draws y sector gwirfoddol a'r trydydd sector hefyd, ar adeg pan nad yw'r angen am y gwasanaethau cyhoeddus hynny a chyrhaeddiad y trydydd sector i'r cymunedau erioed wedi bod mor ddifrifol. Felly, a gaf fi ofyn i chi, gan anghofio'r sôn am y cronfeydd wrth gefn, sydd a dweud y gwir, os ydynt ar gael, a bod ychydig o arian ynddynt, yn mynd i gael eu defnyddio'n eithaf cyflym bellach, sut y gallwn dargedu adnoddau gan Lywodraeth Cymru, i sicrhau, ar draws y sectorau, fod awdurdodau lleol a sefydliadau lleol, rhanbarthol a hefyd y trydydd sector yn mynd i'r afael â'r argyfwng costau byw ac yn cydweithio er mwyn gwneud hynny, gan y gwyddom y bydd yn rhaid inni wneud i'r arian hwn, boed yn gronfeydd wrth gefn ai peidio, ymestyn yn llawer pellach nag erioed o'r blaen? Rebecca Evans AC: Cytunaf yn llwyr fod yn rhaid i’r ymagwedd fod yn un o bartneriaeth gymdeithasol o ran mynd i’r afael â’r argyfwng costau byw. A dyma un o'r rhesymau pam fod y Prif Weinidog wedi sefydlu is-bwyllgor Cabinet ar gostau byw, is-bwyllgor rwyf fi a Gweinidogion eraill yn ei fynychu, ond rydym hefyd yn gwahodd cynrychiolwyr o'r trydydd sector, llywodraeth leol, a phartneriaid cymdeithasol eraill i'r cyfarfodydd hynny, i sicrhau ein bod oll yn tynnu i'r un cyfeiriad ac yn gwneud y mwyaf o'n hadnoddau mewn ffyrdd sy'n ategu ein gilydd. Felly, hoffwn roi sicrwydd i'm cyd-Aelodau mai dyna'n union yw'r dull a fabwysiadir gennym. A chredaf y gallwn edrych hefyd ar rywfaint o’r gwaith y bûm yn ei wneud yn ddiweddar ar ein hymagwedd at bolisi grantiau. O'r blaen, byddai gennym grantiau un flwyddyn, a byddai hynny’n anodd iawn i’r trydydd sector yn enwedig, ond hefyd i eraill, gan gynnwys llywodraeth leol, o ran gallu cael golwg fwy hirdymor a strategol ar sut y maent yn gwario'u harian. Felly, rydym bellach wedi caniatáu i grantiau bara hyd at bum mlynedd—os gallant dreiglo o un flwyddyn i'r llall, ac mae'n rhaid iddynt fodloni profion meincnodi a diwydrwydd dyladwy eraill hefyd. Ond credaf fod hynny wedi helpu i roi’r olwg fwy hirdymor honno, sydd hefyd wedyn yn darparu gwell gwerth am arian. Jane Dodds AS: Gaf i ddiolch hefyd i Peredur am godi'r mater yma? Jane Dodds AS: Prynhawn da, Weinidog. Ers y pandemig, mae llawer o'n gweithwyr gofal wedi'i chael hi'n anodd cael deupen llinyn ynghyd, ac rwy'n siŵr fod llawer ohonom wedi clywed am y sefyllfa y mae'r rhai sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n rhoi gofal ynddi. Ym mis Gorffennaf, gwnaeth gweinyddiaeth newydd Cyngor Sir Powys—grŵp o bleidiau gwleidyddol: Democratiaid Rhyddfrydol, Llafur a Gwyrddion; ac mae angen inni weithio gyda'n gilydd ar hyn, ni ddylai cyllid llywodraeth leol ymwneud â gwleidyddiaeth bleidiol, gan fod pob un ohonom yn adnabod y bobl sy'n derbyn y gwasanaethau hynny—godi costau teithio i 45c y filltir, yn unol â chostau teithio gweithwyr yr awdurdod lleol. Costiodd y pecyn hwnnw oddeutu £150,000 i’w roi ar waith, Weinidog. Pa ystyriaeth a roddwyd gennych chi, y Llywodraeth, i gefnogi awdurdodau lleol i barhau â’r cyllid hwnnw ar gyfer gweithwyr gofal, i sicrhau eu bod yn darparu gofal cymdeithasol hanfodol i bobl agored i niwed? Diolch yn fawr iawn. Rebecca Evans AC: Felly, yn y lle cyntaf, rydym yn ceisio cael Llywodraeth y DU i ddeall pa mor bwysig o fewn CThEM yw codi'r taliad fesul milltir mewn perthynas â theithio sy'n gysylltiedig â gwaith. Felly, dyna'r ffordd gyntaf y ceisiwn fynd i'r afael â hyn, a gwn fod swyddogion fy nghyd-Aelod, Vaughan Gething, wedi bod yn weithgar yn eu trafodaethau gyda CThEM ynglŷn â hyn. Mae fy swyddogion innau wedi codi'r mater gyda'r Trysorlys hefyd, a fy mwriad yw codi'r mater gyda Phrif Ysgrifennydd newydd y Trysorlys maes o law yn ogystal. Cyngor Sir Fynwy John Griffiths AC: 2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r arweinyddiaeth etholedig newydd yng Nghyngor Sir Fynwy? OQ58622 Rebecca Evans AC: Cynhaliais gyfarfod rhagarweiniol gyda'r arweinydd newydd ym mis Awst. Ac rwyf hefyd yn cyfarfod â'r holl arweinwyr yn rheolaidd drwy ein cyfarfodydd bob pythefnos gyda bwrdd gweithredol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac ar wahân ar faterion fel diwygio trethiant. Rwyf hefyd wedi trafod heriau ariannol llywodraeth leol gyda dirprwy arweinydd sir Fynwy drwy’r is-grŵp cyllid. John Griffiths AC: Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol fod Dwyrain Casnewydd yn cynnwys ardal Glannau Hafren, sy’n rhan o ardal Cyngor Sir Fynwy. Roeddwn yn falch iawn o weld Llafur yn ennill rheolaeth ar y cyngor yno ym mis Mai, am y tro cyntaf ers canol y 1990au. Gwn fod gan yr arweinydd newydd, Mary Ann Brocklesby, a’i chabinet gynlluniau uchelgeisiol i fynd i’r afael â’r bwlch fforddiadwyedd mewn tai yn sir Fynwy. Mae’r ardal wedi dioddef yn sgil tanfuddsoddi hanesyddol mewn tai fforddiadwy, ac wedi bod yn or-ddibynnol ar landlordiaid preifat. Yn ddiweddar, cymeradwyodd y cyngor Llafur newydd gynlluniau ar gyfer tai fforddiadwy 100 y cant ar hen safle ysgol Cil-y-coed, a Chymdeithas Tai Sir Fynwy oedd y cynigydd a ffafrir. Mae hyn yn dangos uchelgais a gwaith cyngor newydd sir Fynwy, Weinidog. Ond tybed sut y gallwch chi fel Gweinidog cyllid, gan weithio gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd, weithio'n agos gyda'r arweinyddiaeth newydd, i'w cefnogi yn eu huchelgeisiau am fwy o dai fforddiadwy yn yr ardal hon? Rebecca Evans AC: Rwy'n ddiolchgar i John Griffiths am godi’r mater hwn, ac rwy'n cydnabod yr hyn y mae’n ei ddweud o ran y ffaith bod prisiau eiddo'n uwch na’r cyfartaledd yn sir Fynwy, ac yn amlwg, mae cysylltiadau rhwng cyfleoedd gwaith a phrisiau tai uwch. Ond gall prisiau eiddo gael eu hystumio, wrth gwrs, gan berchnogaeth ail gartrefi, a hefyd gan nifer sylweddol o lety gwyliau tymor byr mewn ardal, a dyna pam fod y gwaith a wnawn mewn partneriaeth â Phlaid Cymru i fynd i’r afael â sefyllfa ail gartrefi yn wirioneddol bwysig, a chredaf y bydd yn cael effaith yn sir Fynwy. Ond wrth gwrs, mae'n bwysig fod tai cymdeithasol o ansawdd da a thai fforddiadwy yn y sector rhentu preifat ar gael yn yr ardaloedd hyn, a chynlluniau fel yr hyn rydych wedi'i ddisgrifio, y gwn ei fod bellach wedi'i gadarnhau gan weinyddiaeth newydd Cyngor Sir Fynwy, yw’r union fath o uchelgais y mae’r Llywodraeth Cymru hon am ei weld er mwyn diwallu anghenion ein dinasyddion. Felly, gallaf roi sicrwydd i John Griffiths y byddaf i a’m cyd-Aelod, y Gweinidog Newid Hinsawdd, yn bendant yn awyddus i gefnogi sir Fynwy yn eu huchelgeisiau. Peter Fox AS: Diolch i John Griffiths am godi hyn, a chroesawaf y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio o'r newydd ar sir Fynwy; yn anffodus, ni ddigwyddodd hynny am 13 mlynedd pan oeddwn yn arweinydd. Ac rwyf hefyd yn falch iawn fod y weinyddiaeth Lafur newydd yn bwrw ymlaen â'r cynlluniau a roddwyd ar waith gennym ni, felly diolch iddynt. Weinidog, fe fyddwch yn gwybod fy mod wedi rhoi pwyslais cyson, drwy gydol fy amser mewn llywodraeth leol, ac ers imi fod yma, ar bwysigrwydd ariannu teg, ac rwyf wedi herio’r fformiwla ariannu bresennol sawl gwaith. A gwn mai dim ond ddoe y dywedodd y Prif Weinidog, os yw llywodraeth leol yn dymuno cael newid i'r fformiwla, os byddant yn gofyn amdano, y byddwch yn gwneud hynny. Nawr, gwyddom na fydd tyrcïodyn pleidleisio dros y Nadolig, ac mae gan sawl arweinydd hyd at £208 miliwn o gronfeydd wrth gefn, tra bo gan eraill £30 miliwn o gronfeydd wrth gefn yn unig. Nid ydynt yn mynd i bleidleisio dros rywbeth sy'n disodli hynny. A gaf fi ofyn i chi, Weinidog, a wnewch chi gymryd y cam cyntaf a galw comisiwn annibynnol ar y fformiwla ariannu? Gwyddom mai dim ond un gacen sydd, a'i bod yn annhebygol o fynd yn fwy, ond mae rhai pobl yn cael tafelli enfawr, ac mae eraill yn cael briwsion. Nid yw hynny’n deg, a chyfrifoldeb y Llywodraeth hon, gan weithio gydag awdurdodau lleol, yw newid hynny. A wnewch chi hynny? A wnewch chi alw'r comisiwn hwnnw? Rebecca Evans AC: Wel, Lywydd, mae’r cyllid refeniw craidd a ddarparwn i awdurdodau lleol bob blwyddyn yn cael ei ddosbarthu yn ôl angen cymharol, gan ddefnyddio fformiwla sy'n ystyried llwyth o wybodaeth am nodweddion demograffig, ffisegol, economaidd a chymdeithasol yr awdurdodau hynny. Ac nid oes unrhyw dystiolaeth o gwbl fod unrhyw awdurdod, neu grŵp o awdurdodau, sydd ag unrhyw nodweddion daearyddol neu gymdeithasol penodol o dan anfantais yn sgil y fformiwla ariannu llywodraeth leol honno. Nid oes a wnelo hyn ag agenda wleidyddol. Nid oes a wnelo hyn â dylanwad gwleidyddol, a chaiff ei lywio gan ddata. Ac mewn gwirionedd, caiff y fformiwla ei gosod gan 70 o wahanol ddangosyddion o'r angen i wario, a chaiff y rhan fwyaf o hynny, sef 72 y cant o’r cyllid, ei ddiweddaru’n flynyddol. Ac wrth gwrs, i sicrhau lefel o annibyniaeth, mae gennym aelodau annibynnol yn yr is-grŵp dosbarthu i sicrhau nad oes tuedd o blaid nac yn erbyn buddiannau unrhyw awdurdod unigol. Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Sam Rowlands. Sam Rowlands MS: Diolch, Lywydd, a phrynhawn da, Weinidog. Fel y gwelsoch, o bosibl, ar y cyfryngau cymdeithasol dros y penwythnos, Weinidog, gwnaed gwerth cannoedd o bunnoedd o ddifrod i gar unigolyn a fu'n ymgeisydd etholiadol i gyngor Casnewydd yn 2022, ac nid dyna’r ymosodiad cyntaf ar ei eiddo, gyda'i gartref yn cael ei dargedu, hoelion yn cael eu gwthio i mewn i deiars ei gar, a throlio ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod yr etholiadau cyngor a Senedd diweddar. Felly, o ystyried hyn, Weinidog, beth yw eich barn ynglŷn ag ymgeiswyr cynghorau, sy’n ddigon dewr i gynrychioli eu cymunedau, sy'n gorfod ymdopi â’r gamdriniaeth ffiaidd hon? Rebecca Evans AC: Yn gyntaf oll, hoffwn ddweud—a gwn fod Sam Rowlands yn cytuno â mi ar hyn—fod yn rhaid inni barchu unrhyw un sy’n cynnig eu hunain fel ymgeisydd ar gyfer etholiad cyngor cymuned, cyngor tref neu gyngor sir, gan ei bod yn cymryd elfen o ddewrder i wneud hynny. Ac mae cam-drin unrhyw ymgeisydd yn gwbl annerbyniol, ac mae'n rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i atal hynny. Un o'r pethau rwy'n falch iawn inni allu eu gwneud oedd sicrhau ein bod yn cael gwared ar yr angen i ymgeiswyr ddarparu eu cyfeiriad cartref yn gyhoeddus, sydd, yn fy marn i, yn darparu lefel o ddiogelwch a sicrwydd, er y gwn fod ymgeiswyr yn aml yn adnabyddus iawn beth bynnag yn eu cymunedau, felly mae’n rhaid inni gadw hynny mewn cof. Ac rydym hefyd yn gwneud gwaith ar hyn o bryd i edrych ar arolwg a wnaethom o aelodau'r cyhoedd i fesur eu dealltwriaeth o gynghorwyr a'r rôl y mae cynghorwyr yn chwarae yn eu cymunedau, i weld beth arall y gallwn ei wneud i helpu pobl i ddeall rôl cynghorwyr yn well, a gobeithio y gallai hynny fynd i'r afael â'r bwlch rhwng diffyg dealltwriaeth rhai pobl a’r ymroddiad gwirioneddol aruthrol sydd gan bobl i'r rolau hyn. Ac ni waeth a gânt eu hethol ai peidio yn y pen draw, credaf fod yn rhaid inni roi parch dyledus i'r bobl hynny am gynnig eu hunain. Sam Rowlands MS: Diolch am eich ymateb, Weinidog, ac am amlinellu rhai o’r camau gweithredu sydd eisoes ar y gweill. Yn amlwg, nid mater diweddar neu fater unigol i un ymgeisydd yn unig yw hwn. Yn etholiadau mis Mai, gwelsom baent yn cael ei daflu dros geir a oedd yn eiddo i gynghorydd hirsefydlog yn Abertawe, a arweiniodd at ddifrod parhaol; gwelsom ddau gynghorydd yng Nghaerffili yn derbyn llythyrau difrïol, yn eu galw'n bob math o bethau, a bu'n rhaid i’r heddlu ymyrryd; yn ogystal, rhannodd cynghorydd o Gaerdydd, a oedd wedi bod yn gynghorydd yma ers amser maith, straeon erchyll am beth o’r gamdriniaeth y bu’n rhaid iddi ei hwynebu dros y blynyddoedd diwethaf. Felly, rydych eisoes wedi amlinellu rywfaint o'r gwaith a wnewch a'r camau a roddir ar waith gennych. Byddai'n dda gennyf ddeall pryd y disgwyliwch iddo ddwyn ffrwyth, a phryd y gallwn ddisgwyl gweld nid yn unig dealltwriaeth o'r mater, ond y camau gweithredu hynny'n cael eu rhoi ar waith, gan fod hyn yn bwysig iawn, fel y dywedwch, ac fel y mae pob un ohonom yn cytuno, ein bod yn amddiffyn ein cynghorwyr lleol, ein hymgeiswyr lleol, rhag yr ymddygiad ffiaidd hwn. Rebecca Evans AC: Credaf mai un o'r pethau pwysig y mae'n rhaid inni eu gwneud hefyd yw helpu cynghorwyr i ddeall nad yw'r math hwn o ymddygiad yn dderbyniol, oherwydd yn aml, mae tueddiad ar ran cynrychiolwyr etholedig i feddwl bod camdriniaeth yn rhan o'r swydd, ac ni ddylai fod o gwbl, a gwn fod pob un ohonom yn deall hynny yn y Siambr hon. A dyna un o'r rhesymau, unwaith eto, pam ein bod wedi adnewyddu 'Canllaw'r cynghorydd da' yn ddiweddar, ac mae hwnnw'n ymwneud i raddau helaeth â helpu'r cynghorwyr hynny i ddeall yr hyn sy'n dderbyniol a'r hyn nad yw'n dderbyniol, o ran yr ymateb a gânt, ac o bosibl, y gamdriniaeth a gânt, ac mae hefyd felly yn eu helpu i ddeall pa gymorth a allai fod ar gael iddynt. Felly, byddech yn disgwyl i awdurdodau lleol unigol roi cynlluniau priodol ar waith i gefnogi lles a llesiant y cynghorwyr hynny, ond hefyd i weithio mewn partneriaeth yn lleol â’r heddlu, a all ddarparu cymorth a chyngor ychwanegol, fel y bo'r angen, ar gyfer mathau mwy difrifol o gamdriniaeth, a thrais, bron iawn, mewn rhai achosion, fel yr hyn a ddisgrifiwyd gennych. Samuel Kurtz MS: Ie. Diolch unwaith eto am hynny, Weinidog, ac mae’n braf gweld hynny. Rwy'n siŵr fod pob un ohonom o amgylch y Siambr hon yn cytuno bod angen gwneud mwy a bod mwy'n cael ei wneud i sicrhau bod ein hymgeiswyr a'n haelodau etholedig yn cael eu hamddiffyn yn briodol. Ond unwaith eto, yn etholiad mis Mai, gwelsom 74 o seddi un ymgeisydd, gyda llawer o bobl yn awgrymu nad ydynt yn fodlon sefyll gan eu bod yn ofni, ar adegau, y gamdriniaeth a'r ymddygiad tuag at ymgeiswyr. Wrth gwrs, mae'r lefel hon o ddemocratiaeth mor hanfodol nid yn unig ar gyfer darparu gwasanaethau, ond hefyd fel enghraifft o unigolion etholedig yn gallu gwneud y penderfyniadau hynny'n ddiduedd. Cawsom garfan newydd o gynghorwyr yn cael eu hethol yn etholiadau mis Mai, felly tybed pa waith y gallech fod yn ei wneud gyda hwy i sicrhau eu bod, yn eu swyddi etholedig erbyn hyn, yn teimlo'n hyderus i wneud rhai o'r penderfyniadau anodd hynny heb fygythiad gan bob math o bobl sydd, yn anffodus, yn rhan o'n cymuned? Rebecca Evans AC: Diolch unwaith eto am eich cwestiwn pwysig. Fel chithau, roeddwn yn siomedig gyda lefel y seddi un ymgeisydd. Credaf fod cael seddi a ymleddir a rhoi dewis i bobl leol yn beth cadarnhaol iawn, a dyna pam fod y gwaith a wnawn drwy ein rhaglen amrywiaeth a democratiaeth mor bwysig i ehangu mynediad at swyddi etholedig i bawb yn ein cymuned. Rydym wedi cyflwyno ein cronfa mynediad i swyddi etholedig, a fydd, gobeithio, yn cefnogi ystod ehangach o bobl i ddod yn ymgeiswyr, a chawsom rywfaint o lwyddiant gyda hynny. Fe'i gweinyddwyd yn yr etholiad diwethaf gan Anabledd Cymru, ond rydym yn ystyried bellach pa nodweddion gwarchodedig eraill y gallwn eu cynnwys yn y gwaith ehangach hwnnw hefyd. Ond gwn fod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac awdurdodau lleol unigol yn gweithio’n galed i gynorthwyo cynghorwyr newydd i ddeall y pethau hyn, a gobeithio, i’w cyfeirio at gymorth lleol os ydynt yn teimlo dan fygythiad neu eu bod yn cael eu tanseilio mewn unrhyw ffordd yn eu rôl benodol, ond rwy'n fwy na pharod i gael sgyrsiau pellach, os oes syniadau da ynglŷn â beth arall y gallwn ni neu awdurdodau lleol ei wneud yn y maes pwysig hwn. Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd. Llyr Gruffydd AC: Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Gyda'i gilydd, mae'r pwysau ariannol sy'n cronni yn y system llywodraeth leol y tu hwnt i unrhyw beth a welsom erioed, yn ôl pob tebyg, er bod pwysau yn y flwyddyn ariannol gyfredol wedi'u gwrthbwyso i raddau gan setliad gwell na'r disgwyl ar gyfer eleni. Mae hynny'n teimlo fel byd gwahanol, onid ydyw—wyth mis yn ôl yn unig, pan gadarnhawyd y setliad hwnnw o 9.4 y cant. Mae'n dod yn amlwg fod cynghorau lleol yng Nghymru eleni o bosibl yn wynebu pwysau ychwanegol o dros £0.25 biliwn yn ystod y flwyddyn, a disgwylir diffyg cronnol o dros £800 miliwn erbyn diwedd y cylch gwariant neu gyllido tair blynedd hwn. Mae pob awdurdod bellach yn nodi bylchau yn eu cyllideb, ac ar wahân i brofiad misoedd cynnar y pandemig COVID efallai, mae’r pwysau hyn sy’n cael ei wynebu yn ddigynsail. Felly, ni ellir gorbwysleisio’r risgiau i holl wasanaethau llywodraeth leol, gan gynnwys gwasanaethau statudol pwysig, megis addysg a gofal cymdeithasol. Felly, os yw’r gwasanaethau statudol hynny, fel sy’n cael ei awgrymu, yn wynebu toriadau sylweddol, pa drafodaethau a gawsoch, neu pa ystyriaeth a roddwch i gynghori awdurdodau lleol ynghylch pa wasanaethau statudol y dylent eu blaenoriaethu? Oherwydd mae llawer o'r cynghorau'n dweud wrthyf fod angen arweiniad clir arnynt gan Lywodraeth Cymru. Mewn hinsawdd lle na allant gyflawni'r hyn y disgwylir iddynt ei gyflawni, y neges a gaf yw bod gwir angen i Lywodraeth Cymru nodi'n glir beth y mae disgwyl i gynghorau ei flaenoriaethu er mwyn diogelu gwasanaethau allweddol. Rebecca Evans AC: Wel, rwyf wedi cael cyfle i drafod y materion hyn yn fanwl gydag arweinwyr awdurdodau lleol yn ddiweddar iawn. Felly, fel rydych wedi'i glywed, rydym bellach yn cael cyfarfodydd gydag arweinwyr awdurdodau lleol bob pythefnos. Yn y cyfarfod yr wythnos diwethaf, mewn gwirionedd, un o'r eitemau mwyaf oedd pwysau cyllidebol, a gwnaethant roi'r ffigurau hynny i mi yn y cyfarfod hwnnw. Cafodd yr is-grŵp cyllid gyfarfod hefyd, yr wythnos diwethaf neu’r wythnos cyn hynny, lle buom yn ymchwilio unwaith eto i’r ffigurau hynny’n fanylach. Yn amlwg, maent yn peri cryn bryder o ran y pwysau a wynebir. Felly, dywedir wrthyf fod y meysydd allweddol yn cynnwys chwyddo cyflogau, costau ynni, ysgolion, gofal cymdeithasol, yr ymateb i’r sefyllfa yn Wcráin a materion ymfudo ehangach, ochr yn ochr â thai, digartrefedd, ac wrth gwrs, buddsoddiad cyfalaf a’r buddsoddiad cysylltiedig yn y newid yn yr hinsawdd—felly, llawer o feysydd pwysig yno. Mae rhai nad ydynt yn statudol, ond serch hynny, maent yn gwbl hanfodol. Felly, rydym yn cael trafodaethau gydag awdurdodau lleol i weld beth y gallwn ei wneud yn ymarferol i’w cefnogi. Efallai mai un o’r pethau hynny fyddai eu cynorthwyo gyda'r ymarfer blaenoriaethu yn lleol. Rydym hefyd yn edrych ar y grantiau a ddarparwn i lywodraeth leol. Felly, caiff £1.2 biliwn o grantiau eu darparu i lywodraeth leol bob blwyddyn, ac mae llywodraeth leol yn dadlau efallai y dylai rhai o’r rheini fynd i’r grant cynnal refeniw yn hytrach na thrwy grantiau penodol, felly rwyf wedi dweud y byddwn yn trefnu trafodaethau â pha bynnag Weinidogion perthnasol sydd angen eu cynnwys. A hefyd, edrych eto ar gyfalafu rhai costau—maent wedi gofyn inni edrych ar hynny. Felly, rydym wedi mynd yn ôl at lywodraeth leol i ofyn am ragor o fanylion ynghylch y trafodaethau hynny. Felly, yn amlwg, rydym yn rhoi cymaint o gymorth ag y gallwn i lywodraeth leol ar adeg sy'n peri cryn bryder iddynt hwy ac i ninnau. Llyr Gruffydd AC: Iawn, wel, rydych chi'n blaenoriaethu popeth bron iawn, felly nid wyf yn siŵr a yw hynny'n bosibl, ond rwy'n falch fod yr ymgysylltu a'r drafodaeth yn digwydd, gan fod y neges yn glir fod angen iddynt wybod beth yw blaenoriaethau'r Llywodraeth ynghylch yr hyn y gofynnwch iddynt ei gyflawni o dan yr amgylchiadau hyn. Rwy’n falch ichi ddweud eich bod yn edrych ar yr hyn y gallwch ‘ei wneud yn ymarferol’—eich geiriau chi—i gefnogi cynghorau lleol, gan eu bod yn ymwybodol iawn hefyd fod cyfrifoldebau a rolau a dyletswyddau ychwanegol yn dod tuag atynt gan Lywodraeth Cymru drwy reoliadau, drwy ddeddfwriaeth ac ati. Maent yn gweld pethau fel gorfodi’r gwaharddiad ar blastig untro, y gwn fod pob un ohonom—llawer iawn ohonom—am ei weld yn cael ei roi ar waith. Mae'n bur debyg y gallai hynny arwain at gostau ychwanegol. Meiddiaf ddweud bod rhoi'r terfyn cyflymder 20 mya ar waith hefyd yn golygu gwaith ychwanegol y mae angen ei wneud. Felly, mae cynghorau'n dweud yn glir, heb adnoddau ychwanegol, fod yn rhaid i rywbeth arall fynd. Felly, a wnewch chi gadarnhau eich bod wedi ymrwymo naill ai i ddarparu'r adnoddau ychwanegol i gyflawni'r dyletswyddau newydd y mae'r Llywodraeth yn gofyn i awdurdodau lleol eu cyflawni, neu os nad ydych yn darparu'r adnoddau ychwanegol hynny, a ydych yn trafod beth arall nad oes angen iddynt ei wneud er mwyn rhyddhau’r capasiti i gyflawni’r dyletswyddau ychwanegol hynny, neu'n wir, a yw’r Llywodraeth yn camu'n ôl, ac edrych ar y darlun ehangach, ac yn mynd ati'n rhagweithiol i amlinellu'r gwaith o gyflawni cyfrifoldebau newydd er mwyn ysgafnhau'r baich gwaith? Rebecca Evans AC: Gallaf weld bod llefarydd Plaid Cymru a minnau wedi bod yn cael yr un sgyrsiau ag arweinwyr llywodraeth leol yn ddiweddar, a’ch bod yn clywed yr un neges â minnau i raddau helaeth, sy’n beth cadarnhaol yn fy marn i. Unwaith eto, dyna un o'r pethau eraill rydym yn edrych arnynt o ran yr hyn y gallwn ei wneud yn ymarferol i gefnogi llywodraeth leol mewn perthynas â'r disgwyliadau ychwanegol a osodwn ar lywodraeth leol, y pethau ychwanegol y gofynnwn iddynt eu gwneud, gan archwilio gyda hwy yn awr beth yn benodol—. Felly, rydych wedi enwi un neu ddau o'r meysydd penodol hynny, ond rydym wedi gofyn i swyddogion archwilio gyda llywodraeth leol beth yn benodol sy'n rhoi pwysau ychwanegol ar eu hadnoddau, ar eu hamser, ar eu cyllid ac ati, i weld a oes rhywbeth y gallwn ei wneud yn ymarferol i'w helpu yn y cyswllt hwnnw hefyd. Felly, hoffwn roi sicrwydd i chi fod y trafodaethau hynny’n fyw iawn ar hyn o bryd. Costau Ynni Uwch Luke Fletcher AS: 3. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i sut y gall helpu awdurdodau lleol i ddyfeisio cynlluniau wrth gefn i liniaru costau ynni uwch? OQ58616 Rebecca Evans AC: Mae costau ynni cynyddol yn peri cryn bryder i gymunedau lleol, ac rydym yn galw ar Lywodraeth y DU i roi camau ar waith i atal y cynnydd. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth ar draws y sector cyhoeddus drwy fuddsoddi mewn sgiliau, effeithlonrwydd ynni, ymchwil, arloesi, datgarboneiddio a dyfodol ynni adnewyddadwy i Gymru. Luke Fletcher AS: Diolch, Weinidog. Mae Huw eisoes wedi sôn am y cyfarfod ar y cyd y gwnaethom ni fel Aelodau Gorllewin De Cymru ei fynychu gydag arweinwyr cynghorau ar draws ein rhanbarth, a hoffwn ddiolch i Mike Hedges am drefnu'r cyfarfod hwnnw. Mae realiti’r sefyllfa'n enbyd. Rydym yn wynebu toriadau mawr i wasanaethau cynghorau. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn wynebu, er enghraifft, her ariannol ddigynsail dros y blynyddoedd nesaf, ac maent yn amcangyfrif y gallai fod angen gostyngiadau gwariant o hyd at £20 miliwn yng nghyfnod ariannol 2023-24 er mwyn cydbwyso'r gyllideb. Nawr, er fy mod yn byw mewn gobaith y bydd y gyllideb sydd bellach wedi'i gohirio yn darparu rhywfaint o ryddhad—rwy'n hoffi meddwl fy mod yn optimistaidd bob hyn a hyn—pa waith y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud gydag awdurdodau lleol i'w helpu i reoli eu cyllidebau, ond hefyd i helpu ein darparwyr trydydd sector a sefydliadau gwirfoddol i reoli eu cyllidebau hwythau? Mae'n gyfnod anodd, mae pethau ar fin mynd yn anoddach, ond mae adegau fel hyn hefyd yn galw am gydweithio ar bob lefel i ddiogelu ein hetholwyr. Rebecca Evans AC: Rwy'n ategu eich diolch i Mike Hedges am drefnu’r drafodaeth. Gallaf ddweud ei bod yn drafodaeth a gafodd lawer o effaith, a hynny nid yn unig ar sail y papur trefn ar gyfer y cwestiynau heddiw; gwelaf fod y trafodaethau a gawsoch gyda llywodraeth leol wedi cael effaith wirioneddol o ran rhoi syniad clir i chi o'r mathau o bwysau sydd arnynt a'r bylchau y maent yn ceisio mynd i'r afael â hwy yn eu cyllidebau. Gwn eich bod yn arbennig o bryderus am gost ynni, ac rydym yn gweithio'n agos iawn gydag awdurdodau lleol. Mae'r awdurdodau lleol eu hunain mewn gwell sefyllfa yn y flwyddyn ariannol hon yn yr ystyr fod y rhan fwyaf ohonynt yn prynu eu hynni gan Wasanaeth Masnachol y Goron, felly maent wedi'u hamddiffyn yn y flwyddyn ariannol hon rhag prisiau ynni byd-eang anwadal. Ond ar hyn o bryd rydym yn asesu'r effaith ar brisiau a chyllidebau ar gyfer 2023-24, ac mae ein gweithwyr caffael proffesiynol yn Llywodraeth Cymru wrthi'n gweithio gyda chyflenwyr a Gwasanaeth Masnachol y Goron i gefnogi awdurdodau lleol fel y gallant gynllunio gyda rhywfaint o hyder o leiaf o ran y ffigurau ar gyfer y flwyddyn nesaf. Gan fod llawer o gontractau awdurdodau lleol eisoes wedi’u cytuno, credaf ein bod yn llai pryderus eleni, fel y dywedaf, ond mae gennym bryderon gwirioneddol ar gyfer y flwyddyn nesaf, a dyma pam ei bod yn wirioneddol bwysig fod adolygiad ynni Llywodraeth y DU yn cael ei gwblhau'n gyflym, fel y gallwn roi'r hyder hwnnw, ond hefyd ei fod o ddifrif yn ystyried yr effaith ar lywodraeth leol ac ar y trydydd sector, fel y nodwyd gennych, ac yn caniatáu iddynt barhau i ddarparu’r gwasanaethau hanfodol y maent yn eu darparu. Rwy’n siŵr fod pob un ohonom wedi cael trafodaethau ynglŷn â chost dim ond cadw’r goleuadau ymlaen mewn ysgolion, er enghraifft, sydd wedi mynd drwy’r to ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Felly, gwn fod y trafodaethau hynny’n fyw, a hoffwn roi sicrwydd i chi fod ein tîm caffael yn rhan o hynny. Altaf Hussain AS: Weinidog, awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am bennu cyllidebau ysgolion, ac ynni yw un o’r costau mawr y mae ein hysgolion yn eu hwynebu. Mewn llawer o ysgolion, gwelwn hen foeleri mawr sy'n ddrud iawn i'w rhedeg. Pa asesiadau a wnaethoch gydag awdurdodau lleol o’r costau sy’n wynebu ysgolion bellach wrth inni edrych tua'r chwe mis a’r 12 mis nesaf? A pha fesurau sydd dan ystyriaeth gennych i sicrhau y gall ein hysgolion gadw’n gynnes? Diolch. Rebecca Evans AC: Wel, wrth gwrs, y peth gorau a allai ddigwydd, mewn perthynas â chadw ysgolion yn gynnes, fyddai i Lywodraeth y DU gamu i'r adwy. [Torri ar draws.] Rwy'n clywed y Ceidwadwyr yn griddfan yn uchel, ond dyna fyddai'r ateb gorau i sicrhau bod yna bris fforddiadwy am ynni mewn ysgolion. Ni fyddai hynny'n golygu bod Llywodraeth Cymru'n ymwrthod â'i chyfrifoldeb. Nid cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw camu i'r adwy mewn perthynas â phrisiau ynni. Ni allai Llywodraeth Cymru gyflwyno treth ffawdelw, hyd yn oed pe bai eisiau gwneud hynny, oherwydd nid oes gennym y pwerau i wneud hynny. Mae hwnnw'n rhywbeth y dylai Llywodraeth y DU fod yn ei wneud ar hyn o bryd. Yn ffodus, rydym wedi cael trafodaethau am gronfeydd wrth gefn yn gynharach yn y sesiwn gwestiynau hon, ac mae cronfeydd wrth gefn mewn ysgolion yn edrych yn iach. Felly, bydd rhai ysgolion yn gallu gwneud buddsoddiadau ac yn gallu ystyried sut i ddefnyddio'r cronfeydd wrth gefn hynny i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw. Wedi dweud hynny, rwy'n ymwybodol iawn nad yw'r sefyllfa bositif mewn perthynas â chronfeydd wrth gefn mewn ysgolion yn unffurf ledled Cymru, ac mae yna ysgolion nad oes ganddynt y cronfeydd wrth gefn sylweddol hynny y byddant eisiau dibynnu arnynt. Mae cwestiwn 4 [OQ58605] wedi ei dynnu nôl. Cwestiwn 5, Heledd Fychan. Gwasanaethau Statudol yng Nghanol De Cymru Heledd Fychan AS: 5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol yng Nghanol De Cymru i gynnal eu gwasanaethau statudol? OQ58625 Rebecca Evans AC: Eleni, mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid refeniw heb ei neilltuo o dros £5.1 biliwn, a thros £1 biliwn mewn cyllid grant penodol i gefnogi gwasanaethau statudol ac anstatudol awdurdodau lleol. Heledd Fychan AS: Diolch. Roeddwn yn cyfeirio, yn arbennig, at yr awdurdodau o fewn fy rhanbarth. Heledd Fychan AS: Un ddarpariaeth statudol hanfodol yw gwasanaethau cymdeithasol, ac, yn benodol, gofal. Gwyddom fod problemau dirfawr o ran recriwtio gofalwyr. O’r herwydd, mae mwy a mwy o unigolion yn dod yn ofalwyr di-dâl er mwyn gofalu am eu hanwyliaid, ac yn wynebu caledi ariannol o’r herwydd. A oes unrhyw drafodaethau wedi bod gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru o ran ymestyn y cymorth ariannol costau byw i bob gofalwr di-dâl, nid dim ond y 10 y cant sydd yn derbyn lwfans gofalwyr ar y funud? Yn bellach, a oes modd gwneud mwy i hyrwyddo ei bod hi’n bosibl i ofalwyr di-dâl dderbyn taliad uniongyrchol i ddarparu gofal, hyd yn oed os ydynt yn byw ar yr un aelwyd, os nad yw’n bosibl canfod gofal amgen? Mae nifer o deuluoedd o dan yr argraff nad yw hyn yn bosibl, ond y gwir amdani yw bod hawl gan awdurdodau lleol i ganiatáu hyn gyda thystiolaeth briodol. Felly, a oes trafodaethau wedi bod gyda'r gymdeithas llywodraeth leol hefyd am hyn? Rebecca Evans AC: Gwn fod y Gweinidog gwasanaethau cymdeithasol yn bresennol yn y cyfarfod diweddar am y pwysau cyllidebol sy'n wynebu arweinwyr awdurdodau lleol, a llwyddasant i ddechrau'r trafodaethau, o leiaf, ar y pwysau a'r pryderon penodol ynghylch gofal cymdeithasol. Ond rwy'n credu bod y pwynt a wnewch yn gysylltiedig â'r ymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi' sydd ar y gweill gennym ar hyn o bryd, oherwydd, fel y dywedwch, ceir digonedd o bobl nad ydynt yn ymwybodol eu bod yn gallu hawlio lwfans gofalwyr. Ceir llawer o bobl nad ydynt yn ymwybodol eu bod yn gallu hawlio taliadau uniongyrchol, felly mae'n bwysig ein bod yn ymgymryd â chymaint o waith ag y gallwn i sicrhau bod pobl yn hawlio popeth y mae ganddynt hawl iddo, yn enwedig yn ystod y cyfnod anodd hwn. Felly, byddwn, fe fyddwn yn dyblu ein hymdrechion yn hynny o beth. Joel James MS: Weinidog, fel y gwyddoch ac fel sydd eisoes wedi'i godi gan sawl Aelod yn y Siambr, mae gan awdurdodau lleol yng Nghymru gronfeydd wrth gefn defnyddiadwy helaeth yn eu coffrau. Ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2020-21, ffurfient gyfanswm o dros £2.1 biliwn, cynnydd o £600 miliwn ers y flwyddyn flaenorol, gyda rhai awdurdodau lleol, megis fy awdurdod lleol i yn Rhondda Cynon Taf, yn meddu ar ychydig o dan £208 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn defnyddiadwy. Fe fyddwch yn ymwybodol hefyd fod y cyfrifiad ar gyfer y swm y bydd awdurdodau lleol yn ei dderbyn o'r grant cynnal refeniw yn rhagdybio nad oes defnydd o'r cronfeydd ariannol hyn nac ychwanegiadau atynt. Mae hyn yn golygu, yn y pen draw, Weinidog, fod awdurdodau lleol yn cael eu cymell i barhau i gynyddu cyfraddau treth gyngor o flwyddyn i flwyddyn, a chadw arian heb unrhyw effaith ariannol ar y grant cynnal refeniw gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn hefyd yn golygu bod y rhai sy'n talu'r dreth gyngor yn cael eu taro'n galed flwyddyn ar ôl blwyddyn gan filiau treth gyngor uwch, er mwyn i gynghorau allu parhau i gynyddu eu cronfeydd ariannol wrth gefn. Gyda hyn mewn golwg, Weinidog, pa asesiad a wnaethoch o gyfyngu ar faint o gronfeydd wrth gefn defnyddiadwy y gall cyngor eu cadw cyn i'r grant cynnal refeniw gael ei effeithio? A pha asesiad effaith a wnaethoch o'r anfantais y mae aelwydydd yn ei hwynebu pan fo awdurdodau lleol yn parhau i gynyddu eu cyfraddau treth gyngor er bod ganddynt gronfeydd defnyddiadwy mor sylweddol? Nid wyf yn siŵr a yw'r Gweinidog yn gallu clywed. A glywsoch chi hynny? Rebecca Evans AC: Clywais y— Roedd llawer o sgwrsio'n digwydd ar yr un meinciau â'r Aelod a oedd yn gofyn y cwestiwn. A glywsoch chi? Rebecca Evans AC: Do. Deallais 90 y cant— Y Gweinidog i ymateb. Rebecca Evans AC: —felly rwy'n credu ein bod ni'n iawn. Gallwch ateb y cwestiwn. Maent bellach yn cweryla dros bwy oedd yn cael y sgwrs. [Chwerthin.] Weinidog. Weinidog. Rebecca Evans AC: Iawn. Felly, i ateb y cwestiwn ar gronfeydd wrth gefn: rwy'n credu ei fod yn beth cadarnhaol fod gan lywodraeth leol gronfeydd sylweddol wrth gefn wrth inni nesu at argyfwng costau byw. A gadewch i ni gofio, pan oeddem yn trafod y gyllideb y llynedd, roeddem yn siarad am y setliad gwell yn y flwyddyn gyntaf o'r adolygiad o wariant tair blynedd, a ddarparodd gynnydd o dros 9 y cant yn y gyllideb i awdurdodau lleol. Ond fe wnaethom siarad, hyd yn oed bryd hynny, pan nad oedd gennym gysyniad go iawn o faint yr argyfwng costau byw a oedd yn ein hwynebu, am y ffaith bod blynyddoedd 2 a 3 o'r adolygiad o wariant am fod yn anodd, felly rwy'n credu ei bod yn hollol iawn fod awdurdodau lleol yn edrych yn awr i weld sut y gallant ddefnyddio'u cronfeydd wrth gefn mewn ffordd briodol i helpu i reoli rhywfaint o'r pwysau arbennig hwnnw. Rwy'n credu mai lle awdurdodau lleol yw penderfynu ar ba raddfa y maent yn gosod eu treth gyngor; mae'n rhan bwysig iawn o ddemocratiaeth leol, ac rwy'n credu mai mewn amgylchiadau eithafol yn unig y byddem yn camu i mewn i ddweud wrth awdurdodau lleol beth i'w wneud ar y dreth gyngor. Rwy'n credu ei fod yn offeryn pwysig y dylid ei ddefnyddio ar sail leol. Cyllido Awdurdodau Lleol yng Ngorllewin De Cymru Sioned Williams MS: 6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar gyllido awdurdodau lleol yng Ngorllewin De Cymru? OQ58621 Rebecca Evans AC: Byddaf yn parhau i flaenoriaethu cyllid ar gyfer pob awdurdod lleol yng Nghymru drwy gynhyrchu fformiwla ddosbarthu dryloyw a theg ar gyfer y setliad llywodraeth leol ar y cyd â'n partneriaid llywodraeth leol. Sioned Williams MS: Diolch, Weinidog. Mewn llythyr diweddar, gofynnodd arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot i mi bwyso am fwy o adnoddau ychwanegol er mwyn galluogi'r cyngor i barhau i gefnogi ei gymunedau drwy'r argyfyngau presennol. Mae'n cymharu'r argyfwng costau byw presennol ag argyfwng COVID, pan ddangosodd llywodraeth leol dro ar ôl tro sut y mae mewn sefyllfa unigryw i ymateb i anghenion lleol. Ond mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn amcangyfrif eu bod yn wynebu pwysau heb eu cyllido o £10 miliwn yn ystod y flwyddyn hon, a £24 miliwn yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf. Ar yr un pryd, wrth gwrs, mae effaith barhaus y pandemig a'r argyfwng economaidd presennol wedi arwain at gynnydd digynsail yn y galw ar wasanaethau. Er enghraifft, mae'r nifer sy'n manteisio ar wasanaeth opsiynau tai Cyngor Castell-nedd Port Talbot 400 y cant yn uwch na'r nifer cyn y pandemig, mae cysylltiadau â gwasanaethau cymdeithasol plant 300 y cant yn uwch, a mynychais yr un cyfarfod CLlLC rhanbarthol yr wythnos diwethaf, lle cafodd yr un sefyllfa ddiflas ei hailadrodd a'i hamlinellu. Felly, sut y mae'r Gweinidog yn bwriadu sicrhau bod ein hawdurdodau lleol yn gallu cynnal gwasanaethau craidd? Gwyddom fod drws Rhif 10 Stryd Downing wedi'i gau'n dynn yn wyneb Cymru, felly pa ateb y bydd arweinwyr cynghorau Gorllewin De Cymru yn ei gael o Fae Caerdydd? Nid yw codi'r dreth gyngor yn opsiwn blaengar, felly pa ffyrdd eraill sydd yna i godi'r refeniw angenrheidiol? Rebecca Evans AC: Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn, ac rwy'n cydnabod y tebygrwydd rhwng argyfwng y pandemig a'r argyfwng costau byw. Yr hyn sy'n wahanol, wrth gwrs, yw bod y pandemig wedi denu arian ychwanegol sylweddol i'n helpu i'w reoli, ond nid ydym wedi cael cyllid ychwanegol sylweddol i'n helpu i reoli'r argyfwng costau byw. Ac rwyf am ei gwneud yn glir iawn ein bod wedi dyrannu'r holl gyllid sydd ar gael. Felly, byddwch wedi gweld ein cyllideb eleni: roedd gennym gronfa fach wrth gefn ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Y flwyddyn nesaf, rydym wedi dyrannu popeth, felly byddwn yn rheoli unrhyw wariant ychwanegol drwy gronfa wrth gefn Cymru a honno'n unig, ac mae'r un peth yn wir am y flwyddyn ganlynol. Felly, mae gennym orwariant ar y rhaglen cyfalaf, sy'n amlwg dan lawer o bwysau yn y lle cyntaf, a phan wnaethom osod honno, nid oeddem yn sylweddoli y byddai Llywodraeth y DU yn cymryd £30 miliwn yn ôl er mwyn cefnogi arfau ar gyfer Wcráin. Felly, mae'r gyllideb wedi'i hymestyn yn eithriadol; nid oes cyllid ychwanegol sylweddol i'w ddyrannu, felly mae'n rhaid i ni obeithio bod Llywodraeth y DU yn gwneud y peth iawn yn ei adolygiad o wariant—mae'n ddrwg gennyf, yn ei gyllideb yn yr hydref pan fydd yn ymddangos—ac yn darparu'r cyllid ychwanegol y mae awdurdodau'n galw amdano, ac mae'n rhaid imi ddweud, y mae'r gwasanaeth iechyd hefyd yn galw amdano yn y sefyllfa hon. Felly, rydym yn aros am hynny gyda diddordeb. Mae'n drueni ei fod wedi cael ei wthio'n ôl, oherwydd mae hynny wedi gwneud y gwaith o gynllunio ein cyllideb ein hunain yn llawer anos, ac mae'n ei gwneud yn anos wedyn i ni ddarparu'r math o sicrwydd y mae arweinydd Castell-nedd Port Talbot, ac arweinwyr eraill, yn ei geisio gennym ar hyn o bryd. Polisi Treth Rhys ab Owen AS: 7. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i ddiwygio polisi treth oherwydd yr argyfwng costau byw? OQ58603 Rebecca Evans AC: Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed drwy'r argyfwng costau byw hwn gan ddefnyddio ein hysgogiadau cyllid a pholisi. Fel rhan o broses y gyllideb, byddaf yn ystyried sut y gallwn barhau i gefnogi ein pobl fwyaf agored i niwed drwy'r argyfwng costau byw. Rhys ab Owen AS: Diolch yn fawr, Weinidog. Mae gan ein ffrindiau yn yr Alban fwy o ysgogiadau at eu defnydd na ni. Mae ganddynt system dreth incwm flaengar, a gyflwynwyd gan Lywodraeth SNP Yr Alban, sy'n sicrhau bod y rhai ar incwm is yn talu llai o dreth nag mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig, gan gefnogi gwasanaethau cyhoeddus cryfach tra'u bod yn diogelu'r rhai ar incwm is; system dreth decach lle mae'r rhai sydd â'r ysgwyddau lletaf yn ysgwyddo'r rhan fwyaf o'r pwysau. Rwy'n gobeithio, Weinidog, y byddwch yn codi hyn gyda'ch cymheiriaid, gyda Chabinet yr wrthblaid yn San Steffan, fel y bydd gan Gymru hefyd bwerau i amrywio'r bandiau treth. A fyddai'r Gweinidog yn cytuno na ddylem gael ein gadael ar ôl gan ein ffrindiau Albanaidd wrth iddynt greu cenedl decach yno? Rebecca Evans AC: Wel, mae'n wir fod gennym system wahanol, ac wrth gwrs, dim ond yn 2016 y cafodd ein system ni ei chytuno. Ers ychydig flynyddoedd yn unig y buom yn casglu cyfraddau treth incwm Cymru, felly ar y cychwyn o leiaf, rwy'n credu ei bod yn bwysig gadael i'r system ymsefydlu, ond hefyd er mwyn deall beth fyddai'r goblygiadau o gael system fandio fwy blaengar, fel y dywedwch. Felly, mae'n drafodaeth ddiddorol y dylem fod yn ei chael, gan ystyried hefyd beth fyddai'r goblygiadau i'r derbyniadau treth cyffredinol yma yng Nghymru a pha opsiynau a allai fod ar gael i ni. Felly, wyddoch chi, mae gwaith yn mynd rhagddo i ystyried dyfodol y Deyrnas Unedig, gan gynnwys ysgogiadau cyllidol, ac rwy'n credu bod hynny'n chwarae rhan dda yn y trafodaethau hynny. Andrew RT Davies AC: Gan adeiladu ar y pwerau treth sydd gennych, Weinidog cyllid, a ydych mewn sefyllfa y prynhawn yma i'n hysbysu, am bob ceiniog y gallech geisio ei chodi, os mai dyna oedd eich cyngor i'r Cabinet yn y cyfnod o osod cyllidebau, faint o arian ychwanegol a fyddai'n dod i goffrau Llywodraeth Cymru yn y trothwy 45c a 40c, ac fel arall, pob ceiniog y gallech ei thynnu, beth fyddai'r golled i'r Trysorlys yma yng Nghymru? Ac unrhyw gysyniadau ymddygiadol y gallech fod wedi'u modelu yn eich cyngor i'r Cabinet, a fyddech yn sicrhau eu bod ar gael fel bod yr Aelodau'n cael y ffeithiau llawn wrth ystyried y pwerau treth? Rebecca Evans AC: Wel, Lywydd, mae gennym ganllaw cyflym i gyfraddau treth incwm Cymru a gyhoeddwyd yn 2021, felly mae hwnnw ar gael i bob cyd-Aelod edrych arno a'i ddefnyddio. Mae ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru, ac mae'n dangos effeithiau newidiadau i gyfraddau Cymreig o refeniw treth incwm datganoledig. Felly, rydych yn gallu chwarae o gwmpas ag ef ac edrych ar wahanol bethau. Ond er eglurder, pe baem yn codi neu'n gostwng cyfradd sylfaenol treth incwm 1 geiniog ar gyfer y flwyddyn nesaf, byddai'n cael effaith o £220 miliwn; ar gyfer y gyfradd uwch, byddai'n £33 miliwn; a'r gyfradd ychwanegol, £5 miliwn. Ac wrth gwrs, fe fydd effeithiau ymddygiadol o bosibl. Nid oes gennym syniad clir iawn o beth fyddai'r effeithiau ymddygiadol; mae'n debyg y byddai'r effeithiau ymddygiadol hynny ond yn berthnasol yn y gyfradd ychwanegol, beth bynnag, oherwydd mae'r bobl hynny'n tueddu i fod yn bobl fwy symudol o bosibl a chanddynt opsiynau gwahanol ar gyfer strwythuro eu materion treth. Ond wrth gwrs, gwn fod y Pwyllgor Cyllid blaenorol wedi gwneud gwaith diddorol a edrychodd ar botensial pobl yn symud ar draws ffiniau er mwyn osgoi cynnydd mewn cyfraddau ychwanegol o dreth incwm. Felly, mae'r holl wybodaeth honno ar gael, ac rwy'n argymell canllaw cyflym cyfraddau treth incwm Cymru i gyd-Aelodau sydd eisiau darganfod ychydig mwy am oblygiadau posibl gwahanol ddewisiadau. Ond dylwn ddweud y bydd unrhyw ddewis a wnawn yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â'n cyllideb ddrafft ar 13 Rhagfyr. Datganiad Cyllidol Llywodraeth y DU Jack Sargeant AC: 8. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith datganiad cyllidol Llywodraeth y DU ar Alun a Glannau Dyfrdwy? OQ58609 Rebecca Evans AC: Er gwaethaf gwrthdroi sawl elfen o'r gyllideb fach, mae'r difrod wedi'i wneud. Mae cartrefi a busnesau yn Alun a Glannau Dyfrdwy a mannau eraill yn wynebu costau benthyca uwch a mwy o ansicrwydd economaidd. Rydym bellach yn wynebu'r posibilrwydd o fwy o gyni yn ein gwasanaethau cyhoeddus sydd eisoes dan bwysau. Jack Sargeant AC: Diolch am eich ymateb, Weinidog. Mae'r blaid Dorïaidd eisiau i bawb ohonom esgus mai plaid Dorïaidd wahanol a chwalodd yr economi gyda rhoddion byrbwyll. [Torri ar draws.] Boed yn Geidwadwyr neu'n Dorïaid, maent i gyd o dan yr un het. Nawr, fe wnaethant chwalu'r economi gyda'u rhoddion i filiwnyddion a biliwnyddion ychydig wythnosau'n ôl yn unig. Weinidog, rydych yn iawn; mae'r difrod wedi'i wneud yn dilyn y datganiad cyllidol mwyaf trychinebus. Roeddent yn benderfynol wedyn o achosi mwy o ansicrwydd yn y cyllidebau gyda'u datganiad Calan Gaeaf fel y'i gelwid, ond daeth yn amlwg heddiw y byddant yn ein dychryn rywbryd tua diwedd mis Tachwedd. Ond yn y cyfamser, gyda'r holl nonsens ar goridorau San Steffan, gyda'r ymrafael rhyngddynt am bŵer, mae trigolion Alun a Glannau Dyfrdwy yn ei chael hi'n anodd. Maent angen sicrwydd, Weinidog. A ydych yn cytuno â mi mai'r peth olaf un sydd ei angen arnynt yw'r dos ychwanegol o gyni Torïaidd sy'n nesu tuag atynt? Rebecca Evans AC: Rwy'n cytuno'n llwyr â Jack Sargeant, ac rwy'n cytuno â'i ddadansoddiad hefyd, oherwydd mae gennym weinyddiaeth newydd yn San Steffan, ond nid oes gennym lechen lân o gwbl, oherwydd mae olion bysedd y Prif Weinidog a'r Canghellor ar hyd yr argyfwng economaidd y mae pawb ohonom yn ei wynebu ar hyn o bryd. Ac mae Jack Sargeant yn iawn eto; ei etholwyr sy'n teimlo'r boen. Byddant yn ei theimlo drwy'r cynnydd yn eu taliadau morgais, a byddant yn ei theimlo os nad yw budd-daliadau'n codi yn unol â chwyddiant. Felly, rwy'n credu mai'r peth olaf sydd ei angen arnom yw rhagor o gyni ar hyn o bryd, ond mater arall yn llwyr yw i ba raddau y mae Llywodraeth y DU hyd yn oed yn clywed hynny. Ac yn olaf, cwestiwn 9. Joyce Watson. Trefniadau Ariannu ar ôl yr UE Joyce Watson AC: 9. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â threfniadau ariannu ar ôl yr UE? OQ58617 Rebecca Evans AC: Mae Llywodraeth y DU wedi anwybyddu Llywodraeth Cymru a'r Senedd hon mewn perthynas ag ariannu ar ôl yr UE. Mae eu cynlluniau diffygiol a thoriad ariannol o £1.1 biliwn yn cael effaith ddifrifol ar ystod o sectorau yn ogystal â swyddi a thwf. Rwyf wedi codi hyn dro ar ôl tro gyda Gweinidogion y DU a byddaf yn parhau i wneud hynny. Joyce Watson AC: Dywedodd Pwyllgor Cyllid y Senedd y mis hwn fod Cymru mewn perygl o fod ar ei cholled yn ariannol os yw Llywodraeth y DU yn methu cydweithio â Llywodraeth Cymru ar gyllid ar ôl yr UE. Mae hynny er gwaethaf yr addewidion Torïaidd niferus na fyddai Cymru yn derbyn yr un geiniog yn llai o ganlyniad i Brexit. Yn amlwg, mae'n rhaid inni sicrhau'r cydweithrediad hwnnw gan Lywodraeth y DU a rhaid i'r Torïaid anrhydeddu eu haddewid. Ond a ydych yn cytuno â mi, Weinidog, fod Cymru eisoes ar ei cholled? Mae cyn-Lywodraethwr Banc Lloegr wedi tynnu sylw at y ffaith bod economi Prydain yn 90 y cant o faint economi'r Almaen yn 2016. Erbyn hyn mae'n llai na 70 y cant. Ac mae dadansoddiad gan y Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd yn cyfrifo bod Brexit wedi arwain at ostyngiad o 16 y cant mewn masnach o'r DU i'r UE. Felly, yn ogystal â setliad cyllid teg i Gymru, a ydych yn cytuno bod angen ailadeiladu cysylltiadau economaidd Prydain gyda'n partner masnachu mwyaf a lleihau rhwystrau i fasnachu, a hynny ar frys? Rebecca Evans AC: Ydw, rwy'n cytuno â'r pwyntiau hynny, oherwydd yn fy marn i mae effaith Brexit wedi cael ei guddio'n fawr gan y pandemig ac yn awr gan yr argyfwng costau byw. Rwy'n credu bod yr enghraifft a nodoch chi, sy'n cymharu ein sefyllfa gyda'r Almaen, yn dangos y difrod y mae Brexit wedi'i wneud ac y bydd yn parhau i'w wneud oni bai bod Llywodraeth y DU yn mabwysiadu ymagwedd wahanol tuag at fasnachu gyda'n partneriaid masnachu pwysicaf. Rwy'n credu bod y mater ynglŷn â chyllid newydd yr UE yn un pwysig hefyd. Fe gawsom addewid na fyddem geiniog yn waeth ein byd. Wel, mae hynny'n wir; rydym £1.1 biliwn yn waeth ein byd yn sgil y diffyg cyllid Ewropeaidd sydd ar gael. Mae'r gronfa ffyniant gyffredin wedi bod yn fethiant llwyr fel cyllid newydd. Yn ogystal â chael bwlch ariannu, nid oes unrhyw gyllid wedi dod i Gymru eto, ond wrth gwrs pe baem yn dal i fod yn rhan o'r UE byddai'r rhaglenni UE hynny eisoes wedi dechrau ym mis Ionawr 2021. Ac nid yn unig hynny; byddent wedi bod yn rhaglenni dros nifer o flynyddoedd, a fyddai wedi caniatáu defnydd o'r cyllid hwnnw mewn modd mwy strategol, yn hytrach nag ariannu hoff brosiectau bach ar draws Cymru a benderfynwyd gan Weinidogion yn San Steffan. [Torri ar draws.] Rwy'n clywed y Ceidwadwyr y tu ôl i mi, ond rwy'n ei chael hi'n eithaf chwerthinllyd fod unrhyw un yn dal i fod yn fodlon amddiffyn y sefyllfa bresennol, lle rydym yn waeth ein byd yn ariannol, a'n henw da ar draws y byd wedi'i ddifrodi gan y Blaid Geidwadol, ac na fydd modd ei adfer am gryn dipyn o amser. Diolch i'r Gweinidog cyllid. 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Yr eitem nesaf yw cwestiynau i'r Gweinidog materion gwledig a'r gogledd. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Samuel Kurtz. Perchnogaeth Gyfrifol ar Gŵn Samuel Kurtz MS: 1. Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu i annog perchnogaeth gyfrifol ar gŵn? OQ58618 Lesley Griffiths AC: Mae cod ymarfer Llywodraeth Cymru ar les cŵn yn hysbysu perchnogion am eu rhwymedigaethau'n ymwneud â rheoli eu cŵn a'r deddfwriaethau sy'n llywodraethu, ac mae llawer ohonynt. Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar gyflwyno mesurau diogelu pellach drwy'r Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir). Samuel Kurtz MS: Diolch. Cefais gyfle yn ddiweddar, a phleser yn wir, o ymweld â Dogs Trust Cymru yn eu canolfan ailgartrefu o'r radd flaenaf yma ym Mae Caerdydd. Mae'r tîm yn gwneud gwaith rhyfeddol o adsefydlu, cysuro ac ailgartrefu'r cŵn, sydd, am amryw o resymau wedi'u gadael gan eu perchnogion blaenorol. Tra oeddwn yn y ganolfan, cyfarfûm â nifer o gŵn da a oedd, yn anffodus, wedi dioddef camdriniaeth. Yn wir, mae elusen arall, yr RSPCA, wedi galw ers tro am roi eu gweithgareddau ymchwilio ac erlyn ar sail ffurfiol a fyddai'n grymuso swyddogion rheng flaen i ymyrryd ynghynt, gan leihau'r ddibyniaeth ar awdurdodau lleol a heddluoedd. O ystyried hyn, a gaf fi eich annog i ystyried yr argymhelliad hwn fel bod ein hanifeiliaid anwes annwyl teuluol yn destun ymyrraeth cyn i'r senarios gwaethaf ddigwydd? Diolch. Lesley Griffiths AC: Ie, yn hollol, mae hyn yn rhywbeth rydym yn ei ystyried. Rwyf wedi cael sawl cyfarfod gyda'r RSPCA ac mae swyddogion hefyd wedi cyfarfod â hwy. Rydym wedi bod yn edrych ar enghreifftiau lle mae gwledydd eraill wedi cael y pwerau hynny gyda'u trydydd sector. Hoffwn ddweud fy mod yn cytuno'n llwyr â chi mewn perthynas â Dogs Trust Cymru; mae'n un o fy hoff lefydd i ymweld â hwy. Ffliw Adar Gareth Davies AS: 2. Beth yw cynllun Llywodraeth Cymru i leihau'r risg o achosion o ffliw adar yn Sir Ddinbych? OQ58600 Lesley Griffiths AC: Ar 17 Hydref, cyflwynodd Llywodraeth Cymru, ynghyd â gweinyddiaethau eraill yn y DU, barth atal ffliw adar. Mae hyn yn berthnasol i Gymru gyfan ac yn gosod rhwymedigaethau cyfreithiol ar geidwaid adar i ddilyn mesurau bioddiogelwch llym. Bioddiogelwch da yw'r amddiffyniad gorau ar gyfer atal ffliw adar mewn adar a gedwir. Gareth Davies AS: Diolch yn fawr iawn am yr ateb hwnnw, Weinidog. Rwy'n siŵr eich bod yn fwy nag ymwybodol o'r peryglon y mae ffliw adar yn eu hachosi, ac rwy'n croesawu'r camau gan Lywodraeth Cymru i atal ei ledaeniad drwy osod y parth gwyliadwriaeth 10 km o gwmpas y safle heintiedig. Fel y gwelsom gyda COVID, os cymerir camau gweithredu cadarn yn syth gellir sicrhau nad yw'r broblem yn gwaethygu, a galwaf ar Lywodraeth Cymru i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r achosion hyn yn uniongyrchol. Er nad yw ffliw adar yn effeithio ar bobl fel arfer, gall y niwed y gallai ei wneud i'r gadwyn gyflenwi dofednod gyfrannu at chwyddo prisiau wyau a chyw iâr ar adeg pan fo cost y cynhyrchion hyn yn cynyddu oherwydd pwysau costau byw. Felly, beth y mae'r Gweinidog yn ei wneud i sicrhau nad yw ffliw adar yn lledaenu ledled Cymru, i wneud yn siŵr nad yw'n amharu ar gyflenwad dofednod ac nad yw prisiau'n codi ymhellach i fy etholwyr yn sir Ddinbych? Lesley Griffiths AC: Mae'n debyg y dylwn ddweud i gychwyn nad oes unrhyw achosion o ffliw adar wedi bod mewn adar sy'n cael eu cadw yn sir Ddinbych yn ystod y cyfnod 2021-22 neu'n wir yn ystod y cyfnod presennol o achosion yn 2022-23, ond mae wedi bod yn ddi-baid ar draws y DU. Nid ydym wedi cael seibiant o gwbl. Fel arfer, rydym yn cael peth seibiant yn ystod misoedd yr haf, ond nid ydym wedi cael unrhyw doriad o gwbl. Gallaf eich sicrhau fy mod yn gweithio'n agos iawn â Llywodraeth y DU mewn perthynas â hyn. Yn wir, ysgrifennais at George Eustice, yn ôl ym mis Chwefror neu fis Mawrth eleni, pan welsom achosion sylweddol yn swydd Lincoln yn Lloegr, rwy'n credu, ac roeddwn yn poeni'n arbennig am y rheini ac yn meddwl tybed a oedd rhywbeth y gallem ei wneud i weithio gyda'n gilydd. Yn amlwg, rydym wedi cael dau Ysgrifennydd Gwladol DEFRA arall ers hynny, ond mae'n rhywbeth y byddaf yn ei godi'n syth gyda'r Ysgrifennydd Gwladol newydd, oherwydd rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y mae angen inni edrych arno ar draws y DU. Fe wnaethoch chi sôn am iechyd y cyhoedd, ac yn amlwg mae risg y feirws i iechyd y cyhoedd yn isel iawn, ond mae'n cael effaith ac mae'n cael effaith hefyd ar ieir maes, er enghraifft, pan ydym wedi gorfod rhoi adar dan do. Felly, gallaf sicrhau'r Aelodau yn llwyr fod hyn yn rhywbeth rydym yn edrych arno'n ddyddiol. Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Samuel Kurtz. Samuel Kurtz MS: Weinidog, a gaf fi ddechrau drwy dalu teyrnged i Christianne Glossop, a wasanaethodd fel prif swyddog milfeddygol Cymru am 17 mlynedd cyn iddi roi'r gorau iddi yn gynharach y mis hwn? Mae hi wedi gwasanaethu dan nifer o Weinidogion materion gwledig, ac rwy'n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi i gofnodi ein diolch am ei gwasanaeth a dymuno'r gorau iddi ar gyfer y dyfodol. Hefyd, hoffwn gyfeirio'r Aelodau at fy nghofrestr buddiannau. Bythefnos yn ôl, wrth drafod adroddiad parthau perygl nitradau'r Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig, gofynnais sawl cwestiwn na chafodd eu hateb, ynghylch effaith achosion TB yn benodol. O ystyried hyn, a gaf fi ofyn am eglurhad y bydd ffermwyr sydd â chyfyngiadau symud yn cael mynd y tu hwnt i'r terfyn nitrad o 170 kg yr hectar? Fel y gwyddoch, nid yw ffermwyr o dan gyfyngiadau TB yn cael symud gwartheg, sy'n golygu y bydd niferoedd stoc yn anochel yn cynyddu, ac felly bydd y ffermwr yn torri eich rheoliadau dŵr. Gallai ufuddhau i un set o reolau olygu eu bod yn torri set arall o reolau. A oes unrhyw eithriadau ar gyfer achosion o TB mewn buchesi, neu a yw hyn yn rhywbeth i'w ystyried yn yr ymgynghoriad trwyddedu ar gyfer y rhanddirymiad 250 kg yr hectar? A pha bryd y gallwn ni ddisgwyl gweld yr ymgynghoriad yn dechrau, gan fod amser yn mynd yn ei flaen? Lesley Griffiths AC: Diolch. Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei eiriau caredig am Christianne Glossop sy'n gadael ei swydd fel prif swyddog milfeddygol cyntaf Cymru ar ôl 17 mlynedd. Yn sicr fe fydd hi'n gadael esgidiau mawr i'w llenwi. Rwy'n gwybod y bydd hi'n falch iawn o glywed eich sylwadau. Ar y cwestiwn ynglŷn â ffermydd sydd ag achosion o TB, mae hyn yn rhywbeth rydym yn ei ystyried, a bydd yn cael ei ystyried yn y cynllun y byddwn yn ei gyflwyno. Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei lansio y mis nesaf. Rydym yn dal i weithio gyda Phlaid Cymru fel rhan o'r cytundeb cydweithio ar baratoi'r ymgynghoriad hwnnw. Samuel Kurtz MS: Rwy'n ddiolchgar am hynny. Yn ail, wrth graffu ar y Bil amaethyddiaeth, mae'r pwyllgor rwy'n rhan ohono wedi cymryd tystiolaeth gan undebau ffermio a sefydliadau amgylcheddol anllywodraethol, ac er bod gwahaniaeth barn, ceir consensws a chytundeb cyffredinol. Ond ar ôl derbyn tystiolaeth gan Gymdeithas y Ffermwyr Tenant a Chymdeithas Cominwyr Mynydd Eglwysilan, Mynydd Meio a Chraig Evan Leyshon, mae yna rwystredigaeth ddofn ynglŷn â'r ffaith mai cyfeiriad cyfyngedig yn unig a geir at ffermwyr tenant a thir comin yn y Bil amaethyddiaeth ei hun. Er bod gweithgor tenantiaeth wedi'i sefydlu, a wnewch chi ymrwymo i greu gweithgor ar gyfer tir comin, i sicrhau bod y rhai sy'n ffermio ac yn mwynhau tir comin, sydd bron yn 10 y cant o dir Cymru, yn gallu siapio a chyfrannu at y Bil Amaethyddiaeth? Lesley Griffiths AC: Rwy'n credu ei bod yn dda iawn gweld cymeradwyaeth yr undebau amaeth a'r sefydliadau amgylcheddol anllywodraethol, fel y dywedoch chi, yn ogystal â'r gymeradwyaeth drawsbleidiol, os mynnwch chi, i'r ffordd y mae'r Bil amaethyddiaeth wedi dechrau. Rwy'n gwybod y bydd gwelliannau'n cael eu cyflwyno, ac unwaith eto, rydym yn gweithio gyda Phlaid Cymru fel rhan o'r cytundeb cydweithio i gyflwyno gwelliannau gan y Llywodraeth ar y cam nesaf. Mae ffermwyr tenant yn rhan bwysig iawn; fe wyddoch fod nifer fawr o'n ffermwyr yn ffermwyr tenant yma yng Nghymru. Roedd hynny'n rhan o'r rheswm dros sefydlu'r gweithgor. Oherwydd yn sicr, mae fy nhrafodaethau gyda hwy dros y chwe blynedd diwethaf, wrth inni sefydlu'r cynllun ffermio cynaliadwy a'r Bil amaethyddiaeth, yn dangos bod gan ffermwyr tenant bryderon gwahanol a phenodol iawn yn hynny o beth. O ran tir comin, nid ydym wedi meddwl am gael grŵp penodol ond mae'n sicr yn rhywbeth y gallaf edrych arno. Nid wyf yn dweud y byddaf yn cyflwyno grŵp arall, ond rwy'n credu, unwaith eto, fod yna faterion sy'n benodol iawn i dir comin, a byddwn yn hapus iawn i sicrhau bod fy swyddogion yn siarad â phobl os ydynt yn credu bod ganddynt unrhyw beth nad yw wedi cael ei ystyried yn barod gennym ni. Samuel Kurtz MS: Byddwn yn dweud wrthych chi a'ch swyddogion fod y dystiolaeth a roddwyd gan yr Aelod a oedd yn cynrychioli tir comin yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf yn eithriadol. Byddwn yn eich annog chi a'ch tîm i edrych ar hynny fel man cychwyn i bryderon y rhai sy'n gysylltiedig â thir comin. Ac yn olaf, Weinidog, rwy'n siŵr eich bod yn rhannu fy llawenydd wrth weld twf sector gweithgynhyrchu bwyd a diod Cymru, gyda chynnydd o 10.2 y cant yn nhrosiant 2021, o £4.9 biliwn i £5.4 biliwn. Er bod y pandemig wedi tarfu ar bethau, mae'r sector wedi bwrw drwyddi ac wedi tyfu a helpu economïau lleol i ffynnu a chreu swyddi newydd i bobl leol. Mynychais ddigwyddiad yn Stryd Downing yn ddiweddar hefyd i nodi allforio cig oen o Gymru a Phrydain, yn dilyn bwlch o 30 mlynedd, i Unol Daleithiau America, gyda'r cludiant cyntaf yn dod o Dunbia yn Llanybydder yn sir Gaerfyrddin—gan roi cig oen Cymru yn ôl ar y fwydlen yn America. Uchelgais Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yw sicrhau cynnydd o 30 y cant yn allforion bwyd-amaeth y DU erbyn diwedd y degawd. A ydych yn rhannu'r uchelgais hwn, ac os felly, pa ddarpariaeth sy'n bodoli o fewn y Bil amaethyddiaeth i sicrhau bod allforion bwyd a diod Cymru'n parhau i dyfu? Lesley Griffiths AC: Rwy'n credu mai fi yw cefnogwr mwyaf brwd y cynhyrchwyr bwyd a diod Cymreig sydd gennym. Rwyf wedi sicrhau eu bod yn cael blaenoriaeth ers imi gael y portffolio hwn. Rydym newydd fod yn SIAL ym Mharis, a neithiwr cynhaliwyd digwyddiad yn Qatar, cyn cwpan y byd, i wneud yn siŵr fod pobl yn ymwybodol o fwyd a diod Cymreig yno hefyd. Ar eich cwestiwn penodol mewn perthynas â'r Unol Daleithiau, roeddwn yn falch iawn o weld ein bod bellach yn gallu allforio cig oen Cymreig i'r Unol Daleithiau am y tro cyntaf ers 30 mlynedd. Yn anffodus, mae'n dal i fod bum mlynedd, mae'n debyg, yn hwyrach nag y byddem wedi'i ddymuno. Roeddem bron yno pan ddaeth Donald Trump yn Arlywydd felly mae'n wych ein bod wedi llwyddo i'w wneud yn awr. Rwy'n gweithio'n agos iawn ac yn cefnogi Hybu Cig Cymru, fel y gwyddoch, i wneud yn siŵr eu bod yn gweithio gyda'r Unol Daleithiau i sicrhau ein bod yn gwneud ein gorau i sicrhau bod ein cig oen Cymreig ym mhobman yn America, rwy'n credu ei bod yn deg dweud. Yn amlwg, mae bwyd yn gwbl ganolog i'r Bil amaethyddiaeth—a chynhyrchu bwyd cynaliadwy hefyd. Felly, mae hyn yn berthnasol i bob math o gig ac i'n holl fwyd a diod Cymreig. Llefarydd Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor. Mabon ap Gwynfor AS: Diolch, Lywydd. Fe wnaeth grŵp cynghori newydd y Gweinidog ar bysgodfeydd Cymru gyfarfod am y tro cyntaf ym mis Gorffennaf. Ymhlith y blaenoriaethau a drafodwyd oedd y cynllun ariannu pysgodfeydd—yn lle cronfa pysgodfeydd yr UE. Ond mae yna bryderon fod y cynigion ar gyfer cynllun ariannu pysgodfeydd Cymru yn syrthio'n fyr o'r cynllun cronfa pysgodfeydd arforol Ewropeaidd blaenorol a'r cynllun pysgodfeydd a physgod cregyn cyfatebol yn Lloegr. Mae cynllun ariannu pysgodfeydd Cymru wrthi'n cael ei ddatblygu ac mae eisoes y tu ôl i Loegr o ran ei weithrediad. Felly mae pysgodfeydd a busnesau dyframaethu dan anfantais yma a cheir pryderon pellach nad yw cynllun ariannu pysgodfeydd Cymru yn adlewyrchu'r gefnogaeth a'r ymyriadau wedi'u targedu sydd eu hangen i gyflawni amcanion statudol Deddf Pysgodfeydd y DU 2020. Mae'r cynigion presennol yn cynnig cronfeydd refeniw sy'n cyfyngu felly ar allu pysgotwyr Cymru a chynhyrchwyr bwyd môr eraill i gyfrannu at y gofynion sy'n ei gwneud hi'n bosibl trosglwyddo'n effeithiol er mwyn cyflawni amcanion y Ddeddf pysgodfeydd ac ymrwymiadau sero net ehangach. A yw'r Gweinidog yn cydnabod y pryderon hyn, a sut y bydd yn sicrhau bod cynllun ariannu pysgodfeydd Cymru yn cyfeirio'r cymorth a'r ymyriadau angenrheidiol wedi'u targedu sy'n ofynnol er mwyn cyflawni amcanion statudol Deddf Pysgodfeydd y DU 2020? Lesley Griffiths AC: Wel, mae sicrhau bod yr arian a ddaw yn lle cronfa'r môr a physgodfeydd Ewrop yn gywir, yn briodol, yn bwrpasol—ei fod yn mynd i ble y mae angen iddo fynd. Mae'n un o'r rhesymau pam y newidiais fformat grŵp cynghori'r Gweinidog. Roeddwn yn meddwl bod hynny'n bwysig iawn i wneud yn siŵr—. Roedd yr un blaenorol mewn bodolaeth ers tua 10 mlynedd ac yn amlwg, mae'r byd wedi newid ac roeddwn yn meddwl ei bod hi'n bwysig iawn fod gennym grŵp a fyddai'n fy nghynghori i a swyddogion ar sut i sicrhau cyllid yn lle cronfa'r môr a physgodfeydd Ewrop. Fel y dywedwch, fe wnaeth y grŵp gyfarfod ar 14 Gorffennaf. Mae'r cyfarfod nesaf y mis nesaf. Byddaf yn sicrhau bod y cwynion neu'r materion rydych newydd eu dwyn i fy sylw yn cael eu hystyried, os nad ydynt yn cael eu hystyried, er fy mod yn credu ei bod yn annhebygol iawn nad yw'r hyn a ddaw yn lle cronfa'r môr a physgodfeydd Ewrop ar yr agenda, ond byddaf yn sicrhau ei fod. Oherwydd rydych chi'n gywir: mae angen ei wneud yn y ffordd fwyaf priodol. Ond i mi, beth sy'n bwysig iawn—mae ychydig fel y cynllun ffermio cynaliadwy—yw bod angen inni ei wneud drwy gydgynhyrchu gyda'n pysgotwyr a chyda'r sector ehangach. Ac yn hollol, y rheswm dros gael grŵp cynghori'r Gweinidog yw er mwyn sicrhau bod pawb yn gallu cyfrannu. Mabon ap Gwynfor AS: Diolch am yr ymateb. Wel, gan barhau â thema cyllid ar gyfer pysgota a dyframaethu, mae gan gronfa bwyd môr y DU gyllid o £100 miliwn o dan dair colofn: gwyddoniaeth ac arloesi, seilwaith, sgiliau a hyfforddiant. Mae cynllun ariannu pysgodfeydd Cymru yn tynnu sylw'n briodol at yr angen i sicrhau bod cymaint ag y bo modd o gronfa bwyd môr y DU sy'n werth £100 miliwn yn dod i Gymru. Mewn egwyddor, mae hyn yn swnio'n synhwyrol, ond yn ymarferol, nid oes gan bysgotwyr yng Nghymru na'r cyrff sy'n cynrychioli pysgota fodd o lywio prosesau cronfa'r DU. Felly, mae'n annhebygol y bydd y sector yn elwa ohono. Dylai Cymru elwa o £8 miliwn o gronfa'r DU, a fyddai, ynghyd ag arian Cymru o £6.2 miliwn, yn drawsnewidiol i gynnig bwyd môr Cymru a'r gadwyn gyflenwi gyfan. Mae colofn gwyddoniaeth ac arloesi cronfa'r DU yn sicr yn rhoi cyfle i'r sector pysgota, ond mae colofnau eraill yn gyfyngedig i borthladdoedd, harbwrs a chyfleusterau prosesu a sefydliadau hyfforddi, gan adael fawr ddim ar gyfer ein sector dal pysgod. Mae'n anodd gweld sut y byddai cynllun Cymru'n denu unrhyw gyllid o golofnau cronfa bwyd môr y DU. Gallai diwydiant bwyd môr Cymru fod dan anfantais ddifrifol oherwydd rhwystrau rhag cael mynediad at gronfa bwyd môr y DU, a allai olygu bod arian heb ei wario yn dychwelyd i'r Trysorlys neu weinyddiaethau eraill. Felly, a yw'r Gweinidog yn cytuno â'r pryderon a fynegwyd gan y sector, ac os felly, sut y bydd Llywodraeth Cymru'n helpu i sicrhau y gall sector pysgota Cymru sicrhau cymaint â phosibl o'r cyllid sydd ar gael o dan gronfa bwyd môr y DU? Lesley Griffiths AC: Rwy'n cydnabod hynny'n llwyr, a chodwyd y pryderon hynny'n gynnar iawn—yr adeg hon y llynedd, mae'n debyg, pan gyhoeddodd Llywodraeth y DU eu cynllun bwyd môr. Rwy'n credu ei fod yn ddryslyd iawn, oherwydd byddai wedi bod yn well pe baent wedi rhoi ein cyfran o'r cyllid roedd gennym hawl i'w gael a gallem ni benderfynu beth i'w wneud gyda'r cyllid hwnnw a sut y byddem yn gweithio gyda'r sector i ddyrannu'r cyllid hwnnw. Felly, rwy'n credu iddo greu llawer o ddryswch ar y cychwyn. Felly, rydym wedi cytuno ar ddull o gyrchu'r cyllid hwnnw gan Lywodraeth y DU fel nad yw ein pysgotwyr ni'n cael eu hamddifadu ohono, a bod gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd. Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy James Evans MS: 3. Sut fydd y cynllun ffermio cynaliadwy newydd o fudd i ffermwyr tenant ifanc ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OQ58614 Lesley Griffiths AC: Diolch. Bwriad y cynllun ffermio cynaliadwy yw gwobrwyo pob math o ffermwr, gan gynnwys ffermwyr tenant sy'n rheoli'r tir, er mwyn sicrhau canlyniadau amgylcheddol ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy. Bydd hyn yn sicrhau bod gennym sector amaethyddol cynaliadwy a gwydn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. James Evans MS: Diolch am hynny, Weinidog. Mae llawer o ffermwyr tenant ifanc yn fy etholaeth yn credu bod y cynigion fel y maent wedi'u drafftio ar hyn o bryd o fewn y cynllun ffermio cynaliadwy yn dal i ogwyddo'n helaeth tuag at berchnogaeth ar dir. Mae tenantiaid, teuluoedd ffermio ifanc fel arfer sydd ar y gris cyntaf ar yr ysgol ffermio, yn gorfod ymdrin â gwahanol fathau o landlordiaid, o'r ffermwr lleol sydd wedi ymddeol, i sefydliadau mawr, fel yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae nifer o ffermwyr ifanc yn rhentu tir, boed hynny drwy gytundebau pori neu denantiaethau busnes fferm, a'r tenantiaid yw'r rhai sy'n ysgwyddo'r risgiau busnes ariannol ar y tir. Felly, Weinidog, a ydych chi'n fodlon fod y cynigion a nodir yn y cynllun ffermio cynaliadwy yn caniatáu i ffermwyr tenant fynd i mewn i hynny ar yr un lefel â pherchnogion tir, a bod y cynllun yn diogelu ffermwyr tenant ifanc actif a'u teuluoedd rhag y perygl o gael eu troi allan gan rai landlordiaid, fel y gallant wrthbwyso eu carbon a chyrraedd targedau amgylcheddol? Lesley Griffiths AC: Ydw, ond hoffwn nodi ein bod yn dal i edrych ar lunio'r cynllun ffermio cynaliadwy. Mae'r arolwg yn dal ar agor tan 21 Tachwedd, felly cofiwch annog eich holl gymheiriaid i sicrhau eu bod yn cwblhau'r arolwg a gadewch inni glywed eu barn. Rwyf wedi dweud ar hyd yr amser, os nad yw'n gweithio i ffermwyr tenant, ni fydd yn gweithio i unrhyw un, oherwydd maent yr un mor bwysig â ffermwyr tir, fel y dywedwch; ffermwyr tenant sy'n ffermio traean o'n tir yma yng Nghymru, felly mae hyn yn bwysig iawn. Ac rwyf wedi bod yn glir iawn fod yn rhaid i'r cynllun weithio iddynt hwy. Fe wnaethoch chi sôn am ffermwyr ifanc yn enwedig, a'r rheswm ein bod ni'n cyflwyno'r gefnogaeth mewn ffordd wahanol i sut oedd pethau pan oeddem yn yr Undeb Ewropeaidd yw oherwydd ein bod yn gwybod y bydd ein cenhedlaeth nesaf o ffermwyr yn ffermio mewn hinsawdd a than amodau llawer iawn caletach nag a wnawn ni yn awr. Ond rwy'n awyddus i barhau i weithio gyda ffermwyr tenant—rwyf eisiau gwneud hynny'n glir iawn. A byddwch wedi fy nghlywed yn dweud mewn ateb cynharach i un o'n cyd-Aelodau ein bod wedi cael y gweithgor tenantiaeth i edrych yn benodol ar sut y mae'r gweithredoedd—. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r pyramid o gamau gweithredu sydd gennym yn y cynllun ffermio cynaliadwy. Mae'n bwysig iawn fod pob cam gweithredu yn gweithio i ffermwyr tenant, yn yr un ffordd â'r rhai sy'n berchen ar y tir. Rasio Milgwn Luke Fletcher AS: 4. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am safbwynt y Llywodraeth ar rasio milgwn? OQ58630 Delyth Jewell AC: 5. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud mewn perthynas â'i bwriad datganedig i ystyried rheoleiddio rasio milgwn? OQ58627 Lesley Griffiths AC: Lywydd, rwy'n deall eich bod wedi rhoi caniatâd i gwestiynau 4 a 5 gael eu grwpio. Nid wyf wedi celu fy awydd i fynd i'r afael â phryderon yn ymwneud â lles milgwn rasio yng Nghymru. Mae ein cynllun lles anifeiliaid yn nodi sut y byddwn yn ystyried cyflwyno mesurau pellach. Rwy'n edrych ymlaen at ganlyniad y ddeiseb ddiweddar, sydd dan ystyriaeth y Pwyllgor Deisebau ar hyn o bryd. Luke Fletcher AS: Diolch am yr ymateb, Weinidog. Luke Fletcher AS: Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog hefyd am ei diddordeb cyson yn y mater hwn. Mae'n siŵr fod y Gweinidog yn ymwybodol o'r cynlluniau presennol yng Nghaerffili i newid y trac annibynnol yno i un a gaiff ei reoleiddio gan Fwrdd Milgwn Prydain. Un pryder sydd gennyf, pryder a rannaf gydag Aelodau eraill yn y Siambr, yn ogystal â Hope Rescue, Achub Milgwn Cymru, Dogs Trust, Blue Cross a'r RSPCA, yw na fydd y rheoliad hwnnw, yn enwedig os yw'n fater o ddim ond copïo'r hyn sydd gennym yn Lloegr, yn atal yr anafiadau a'r marwolaethau. Gwyddom, er enghraifft, fod 2,000 o gŵn wedi marw rhwng 2018 a 2021, a bod 18,000 arall wedi eu hanafu ar draciau trwyddedig. Rwyf fi ac eraill yn ceisio deall i ba gyfeiriad y mae'r Llywodraeth yn gwyro ar hyn o bryd—ai tuag at reoleiddio, neu tuag at waharddiad? Lesley Griffiths AC: Diolch. Rwy'n deall eich bod chi hefyd yn dal ati i bwyso mewn perthynas â'r mater hwn, ac edrychaf ymlaen at gyfarfodâ chi a Jane Dodds, yr wythnos ar ôl toriad, rwy'n credu, i drafod y sefyllfa'n fwy manwl. Wrth reswm, rwy'n ymwybodol o gynlluniau'r un trac milgwn sy'n dal i fod gennym yma yng Nghymru. Fel y gwyddoch, ysgrifennais at y perchennog yn ôl ym mis Mawrth, ac nid wyf wedi cael ymateb. Yr wythnos hon, ysgrifennais at y rheolwr newydd, i ofyn ambell gwestiwn, a hefyd i ofyn am gyfarfod gydag ef. Yn amlwg, mae yna gais cynllunio gerbron Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, a bydd hwnnw'n fater iddynt hwy edrych arno, ac yn amlwg, ni allaf wneud sylw mewn perthynas â hynny. Fel y gwyddoch, fel rhan o'n cynllun lles anifeiliaid a gyhoeddais flwyddyn yn ôl—rydym yn nesu at flwyddyn ers cyhoeddi'r cynllun hwnnw—a oedd yn nodi'r hyn a wnawn mewn perthynas ag iechyd a lles anifeiliaid dros dymor y Llywodraeth hon, roeddem yn edrych ar weithgareddau trwyddedu sy'n cynnwys anifeiliaid, ac mae hynny'n cynnwys milgwn rasio. Fel y dywedaf yn fy ateb i chi, rwy'n ymwybodol fod yna ddeiseb—mae'n ddrwg gennyf, roeddwn yn chwilio am y Cadeirydd—gerbron y Pwyllgor Deisebau; rwy'n deall bod honno wedi denu 35,000 o lofnodion erbyn hyn. Felly, gallwch weld cryfder teimladau pobl ynglŷn â hynny, ond yn amlwg, fel Llywodraeth, fe gawn olwg ar hynny. Felly, tra byddwn yn aros am ymateb gan y Pwyllgor Deisebau, nid wyf yn credu ei bod yn briodol imi wneud sylw pellach. Delyth Jewell AC: Mae rasio milgwn yn broblem sy'n poeni llawer o fy etholwyr. Rwyf wedi cael e-byst dirifedi ynglŷn â'r cynlluniau i ehangu'r unig drac yng Nghymru yn sir Caerffili. Fel y dywedoch chi, Weinidog, mae 35,000 o bobl—mwy na hynny—wedi llofnodi deiseb yn galw am waharddiad. Mae'r pryderon a leisiwyd ganddynt yn cynnwys y ffaith bod cannoedd o filgwn yn marw ym Mhrydain bob blwyddyn oherwydd yr arfer. Mae miloedd yn cael anafiadau sy'n arwain at golli eu coesau. Mae perygl y bydd methu cael milfeddyg cymwys ar y trac yn achosi dioddefaint diangen, ac mae'n rhaid ailgartrefu miloedd o gŵn bob blwyddyn, gyda'r costau'n cael eu talu gan elusennau a'r cyhoedd. Fe ddywedoch chi ar ôl i chi gael eich penodi, Weinidog, y byddech chi'n blaenoriaethu'r mater hwn yn gynnar yn nhymor y Senedd, ac rwyf wedi bod yn gwrando ar yr hyn a ddywedoch chi wrth fy nghyd-Aelod Luke Fletcher. Pa gamau rydych chi'n eu cymryd i berswadio'r cyngor ynghylch yr angen i gynnal ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i les anifeiliaid fel rhan o'r broses gynllunio, ac a wnewch chi gadarnhau, os nad ydych yn fodlon fod lles cŵn yn cael ei flaenoriaethu, y byddwch yn barod i weithredu'n uniongyrchol i'w diogelu? Lesley Griffiths AC: Mater i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yw'r cais cynllunio. Ni fyddai'n iawn i mi ymyrryd, nac unrhyw Weinidog Cymreig arall. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig iawn—a dyma'r hyn y gofynnais am sicrwydd yn ei gylch gan gyngor Caerffili—yw bod yr arolygiadau dirybudd yn parhau. A hyd yma, rhwng mis Chwefror 2020 a mis Awst eleni, rwy'n gwybod bod wyth arolygiad dirybudd wedi'u cynnal, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn eu bod yn parhau. Rwy'n gwybod, ar brydiau, fod milfeddygon hefyd wedi mynychu'r arolygiadau dirybudd hynny, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod yr awdurdod lleol yn parhau i wneud hynny, ac yn amlwg, fod unrhyw faterion sy'n peri pryder yn cael sylw. Ond rwy'n credu eich bod chi'n nodi pwynt pwysig iawn, a gallwch weld o'ch bag post eich hun fel Aelod o'r Senedd—ac fel y dywedasom, mae'r Pwyllgor Deisebau wedi cael 35,000 o lofnodion—pa mor gryf yw'r teimladau ynglŷn â'r mater hwn. Rwyf fi bob amser wedi bod yn bryderus, yn enwedig am les y cŵn, a'r anafiadau y gallant ac y maent yn eu dioddef. Weithiau, mae'r canlyniadau'n ddifrifol iawn. Felly, fel y dywedaf, mae'n rhywbeth rydym yn edrych arno'n ofalus iawn, a chawn weld beth a ddaw o'r Pwyllgor Deisebau hefyd. Janet Finch-Saunders AC: Weinidog, nid oes angen imi eich atgoffa bod dros 2,000 o filgwn wedi marw a bron i 18,000 o anafiadau wedi digwydd ym Mhrydain rhwng 2018 a 2021. Yn 2021, roedd 4,422 o anafiadau ar draciau trwyddedig, 307 marwolaeth ym Mhrydain, ac roedd 39 y cant o'r rheini ar y trac hwn. Rydym wedi sôn am yr un trac rasio annibynnol. Ers mis Ebrill 2018, mae Hope Rescue a'u partneriaid achub wedi cymryd bron i 200 o gŵn. Rydych chi eich hun wedi sôn am eich teimladau ynglŷn â'r cŵn hyn. Erbyn hyn, digon yw digon. Rwy'n tybio bod cefnogaeth drawsbleidiol i hyn. Pe bawn i'n Weinidog, ni fyddwn yn cael aelod o'r wrthblaid yn gofyn i mi: pam nad ydych chi wedi gwneud unrhyw beth tan nawr? Deiseb ac arni 35,000 o lofnodion—mae hynny'n nifer fawr o bobl ar draws Cymru. Dyna ddigon ar y creulondeb hwn. A wnewch chi fwrw iddi yn awr i weithredu gwaharddiad? Diolch. Lesley Griffiths AC: Wel, pe baech chi'n Weinidog, byddech chi'n cydnabod na allwch fynd o gwmpas yn gwahardd pethau; mae'n rhaid cael tystiolaeth ac mae'n rhaid ichi gael ymgynghoriadau, ac mae hwn yn un o'r pethau rydym yn edrych arnynt. Fe fyddwch yn gwybod am y ddeiseb. Ar ôl bod yn Gadeirydd eich hun, fe fyddwch yn ymwybodol o'r broses yr awn drwyddi gyda hynny. Fe fyddwch wedi darllen, rwy'n siŵr, y cynllun lles anifeiliaid sy'n cynnwys trwyddedu gweithgareddau, ac mae hynny'n cynnwys milgwn rasio. Rwyf fi, a fy swyddogion yn sicr, yn cadw mewn cysylltiad agos iawn â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ynglŷn ag arolygiadau. Cyfarfûm â phrif weithredwr Bwrdd Milgwn Prydain. Rwy'n ceisio cael cyfarfod gyda pherchennog a rheolwr trac rasio Valley. Rwy'n meddwl fy mod wedi ysgrifennu at y perchennog ddwywaith, ac ni chefais ymateb. Felly, gallwch fod yn sicr fy mod yn parhau i wneud popeth a allaf o fewn y cyfyngiadau arnaf innau hefyd. Jane Dodds AS: Prynhawn da, Weinidog. Mae'n rhaid i mi ddatgan buddiant. Fel y gwyddoch, rwy'n berchen ar filgi achub fy hun—Arthur 10 oed, sydd wedi bod gyda ni ers ychydig dros ddwy flynedd bellach. Nid oedd modd ailgartrefu Arthur oherwydd ei lefelau uchel o orbryder. Daeth Arthur atom gydag anafiadau sylweddol; mae ganddo anaf i'w wddf o syrthio ar y trac rasio, ac rydym bellach yn gweld ei goesau cefn yn gwanychu, yn anffodus, sy'n golygu na fydd Arthur gyda ni am lawer iawn o amser eto, a'r rheswm am hynny i raddau helaeth, mae'n debyg, yw'r creulondeb a brofodd ar y trac rasio. Rydym yn gwybod bod Bwrdd Milgwn Prydain am feddiannu trac rasio Valley. Y llynedd fe wnaeth Bwrdd Milgwn Prydain—eleni, mae'n ddrwg gennyf—. Ym mis Gorffennaf, roedd llawer ohonom yn y Sioe Frenhinol. Roedd y tymheredd yn y Sioe Frenhinol—beth oeddent—yn 25, 28 gradd Celsius. Yn ystod yr wythnos honno, cynhaliodd Bwrdd Milgwn Prydain rasys ar ddau drac; fe wnaethant orfodi'r cŵn i rasio yn y gwres hwnnw. Nid oes diddordeb gan Fwrdd Milgwn Prydain mewn gofalu am eu cŵn; maent yn greulon i'w cŵn drwy'r broses hon. Felly, hoffwn apelio arnoch, beth sy'n atal Llywodraeth Cymru rhag gwahardd rasio milgwn, fel y gwnaethant yn wych gyda maglau a thrapiau glud? Gadewch inni ddangos i'r byd beth y gallwn ei wneud. Diolch yn fawr iawn. Lesley Griffiths AC: Diolch. Rwy'n sicr yn edrych ymlaen at y ffotograffau y byddwch yn anfon ataf o Arthur, ac mae'n ddrwg gennyf glywed fod ei gyflwr yn dirywio, oherwydd, fel y dywedwch, nid y marwolaethau'n unig ydyw, ond yr anafiadau y mae'r anifeiliaid hyn yn eu cael. Rwy'n meddwl fy mod wedi ateb rhan o'ch cwestiwn yn fy ateb i Janet Finch-Saunders. Mae'n rhaid inni fynd drwy broses. Rydym wedi ymrwymo i drwyddedu, ond yn amlwg, wrth imi glywed am fwy a mwy o bryderon—. Ac mae'n ddrwg iawn gennyf glywed—. Mewn gwirionedd, roedd hi'n 38 gradd Celsius yn ystod wythnos y Sioe Frenhinol, felly gallwch weld, mae gorfodi cŵn i redeg yn y gwres hwnnw'n hollol amhriodol. Altaf Hussain AS: Weinidog, mae'r anifeiliaid addfwyn, sensitif hyn yn haeddu pob gwarchodaeth y gallwn ei rhoi, a dyna pam y mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gydweithio i amddiffyn a diogelu lles yr anifeiliaid annwyl hyn. Yn ddiweddar, cyflwynodd Llywodraeth y DU Ddeddf Lles Anifeiliaid (Ymdeimladoldeb) 2022, a fydd yn sicrhau bod pob penderfyniad polisi i'w hystyried mewn perthynas â'r effaith ar les anifeiliaid fel bodau ymdeimladol. Pa gamau a roddir ar waith gennych i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn ystyried effaith ei pholisïau ar anifeiliaid ymdeimladol fel milgwn? Diolch. Lesley Griffiths AC: Diolch. Wel, mae swyddogion wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth y DU ar y ddeddfwriaeth hon. Rydym yn cydnabod yn llwyr fod anifeiliaid yn fodau ymdeimladol, ac nid wyf yn credu y gallaf ateb yn fwy manwl nag y gwneuthum i atebion blaenorol. Mannau Gwyrdd Cymunedol Rhys ab Owen AS: 6. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd er mwyn sicrhau bod gan ddatblygiadau tai newydd fannau gwyrdd cymunedol? OQ58602 Lesley Griffiths AC: Diolch. Rwy'n cynnal trafodaethau rheolaidd gyda fy holl gyd-aelodau o'r Cabinet ar faterion sy'n ymwneud â fy mhortffolio. Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi ymrwymo i hyrwyddo lleoedd o ansawdd ac i ddatblygiadau tai newydd gael seilwaith digonol, gan gynnwys mannau gwyrdd. Rhys ab Owen AS: Diolch yn fawr, Weinidog. Roeddwn i'n gweld yn ddiweddar cyhoeddiad ym Madrid eu bod nhw'n mynd i gael mannau gwyrdd agored o amgylch y ddinas yna, ac mae ymgyrchydd lleol yng Nghaerdydd, Steffan Webb, yn trio gwneud rhywbeth tebyg fan hyn. Mae parciau gwych yng Nghaerdydd, ond roedd y mwyafrif llethol wedi cael eu hagor yn oes Fictoria. Mae modd creu parciau newydd yng Nghaerdydd, mewn llefydd fel Llaneirwg a Sain Ffagan. Byddai hyn yn creu ardaloedd hyfryd i bobl leol, byddai'n sicrhau llain las o amgylch y ddinas, a byddai hefyd yn amddiffyniad naturiol i lifogydd. Sut mae modd, Weinidog, i chi gydweithio ag eraill i sicrhau ein bod ni'n cael parciau newydd yn yr unfed ganrif ar hugain yng Nghaerdydd? Lesley Griffiths AC: Diolch. Rwyf bob amser yn meddwl bod Caerdydd yn ddinas werdd iawn. Fel y dywedwch, mae llawer o barciau hardd yma. Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau gydag unrhyw awdurdod lleol yn dod ataf mewn perthynas â pharciau newydd ers i hyn ddod yn ôl i fy mhortffolio wrth gwrs, ond yn sicr byddem yn awyddus iawn i edrych ar rinweddau unrhyw gynnig a gâi ei gyflwyno. Joel James MS: Weinidog, fel y gwyddoch, cafwyd cynnig ar gyfer gorsaf bwmpio carthion newydd ar fan gwyrdd cymunedol parc Hailey yng Nghaerdydd er mwyn gwasanaethu anghenion datblygiad newydd Plasdŵr. Daeth y cynigion gerbron oherwydd bod datblygwyr yr ystad dai newydd wedi methu gwneud darpariaeth ddigonol, ac mae gwrthwynebiad ffyrnig i'r cynigion gan grwpiau lleol, fel YGC Rebel Mams, sydd wedi cael eu gorfodi i godi dros £50,000 i fynd â'r awdurdod lleol i adolygiad barnwrol, a'r cyfan am eu bod am ddiogelu'r mannau gwyrdd cyfyngedig sydd ar gael iddynt ar gyfer eu plant a'u cymuned, ac oherwydd eu bod yn teimlo na ddylent gael eu gorfodi i ysgwyddo'r baich oherwydd anallu Cyngor Caerdydd i weithio gyda datblygwyr ar gynllunio anghenion ystadau tai newydd. Weinidog, mae mannau gwyrdd yn brin iawn yng Nghaerdydd, ac mae Cyngor Caerdydd yn benderfynol o gael gwared arnynt pryd bynnag a lle bynnag y bo modd yn wyneb gwrthwynebiad ffyrnig trigolion sy'n gwybod y bydd y mannau hyn yn cael eu colli iddynt am byth. Felly, rwy'n gofyn, Weinidog, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i annog Cyngor Caerdydd i beidio â gosod y tir ym mharc Hailey ar brydles i Dŵr Cymru fel y gellir atal gwaith carthffosiaeth, ac a wnewch chi gynnig ymrwymiad y bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd yn gweithio gydag awdurdodau lleol i gynllunio datblygiadau'n well, gan eu hatal yn eu tro rhag cael gwared â'n mannau gwyrdd cymunedol olaf yn ein hardaloedd trefol? Diolch. Lesley Griffiths AC: Byddai'n rhaid i chi godi hynny'n uniongyrchol gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd. Yn amlwg, mater i Gyngor Caerdydd yw'r hyn y cyfeiriwch ato; hwy yw'r awdurdod cynllunio lleol. Ni fyddai'n briodol i unrhyw Weinidog Cymreig wneud sylw ar deilyngdod unrhyw gynnig, er enghraifft, gan y gallai ddod gerbron Gweinidogion Cymru rywbryd yn y dyfodol. Ffliw Adar Cefin Campbell MS: 7. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am fesurau Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â lledaeniad ffliw adar yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ58624 Lesley Griffiths AC: Pan fydd achos o ffliw adar yn cael ei gadarnhau mewn unrhyw safle yng Nghymru, mae mesurau llym i reoli afiechydon yn cael eu rhoi ar waith ar unwaith i atal lledaeniad pellach. Cyflwynodd Llywodraeth Cymru barth atal ffliw adar ar 17 Hydref, sy'n ei gwneud yn ofyniad gorfodol i geidwaid adar ddilyn mesurau bioddiogelwch llym. Cefin Campbell MS: Diolch yn fawr iawn. Mae'r mesurau yna, wrth gwrs, yn cael eu croesawu achos mae'r straen cyfredol o'r ffliw adar yn cael ei gydnabod fel y gwaethaf sydd wedi digwydd yma yn ynysoedd Prydain, gyda'r newyddion diweddar yn Norfolk bod yna rhyw 0.5 miliwn o ieir wedi cael eu difa o ganlyniad i'r haint, a phryder ymhlith y diwydiant bod hyn yn mynd i gael effaith ar nifer y twrcwn fydd ar gael ar gyfer y Nadolig. Ond, yn ogystal â'r sector amaeth, mae lledaeniad yr haint ac effaith hynny ar fywyd gwyllt hefyd yn ddifrifol iawn, gyda rhyw 10,000 o wyddau môr wedi cael eu lladd gan yr haint y llynedd wrth iddyn nhw fudo o'r Arctig i Brydain. Yn ddiweddar, rydyn ni wedi clywed am effaith hyn ar y mulfrain, cormorants, ar Ynys Gwales yn sir Benfro. Rydyn ni'n gwybod am bwysigrwydd arfordir gorllewin Cymru o ran adar môr a gwarchodfeydd natur pwysig. Felly, gyda phryderon am y lledaeniad yma y gaeaf hwn a'r berthynas rhwng y sector amaeth a bywyd gwyllt, ydy'r Gweinidog yn gallu ein sicrhau ni fod ymdrechion ac adnoddau i fynd i'r afael â'r ffliw yma yn y sector amaeth yn mynd law yn llaw gydag ymdrechion i ddiogelu ein bywyd gwyllt rhag yr haint? Lesley Griffiths AC: Gallaf yn sicr, ac rwy'n gweithio'n agos iawn gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â'r mater hwn hefyd. Cyhoeddodd y strategaeth liniaru ar gyfer ffliw adar mewn adar gwyllt yng Nghymru a Lloegr yn ôl ym mis Awst, rwy'n credu, a hynny er mwyn galluogi elusennau cadwraeth a rheolwyr tir— yn amlwg, mae hynny'n cynnwys y sector amaethyddol—i ymateb yn effeithiol a chyson i ffliw adar mewn adar gwyllt. Paul Davies AC: Fel rwy'n deall, mae achos o ffliw adar wedi bod yn fy etholaeth, ac mae'n hollbwysig, felly, fod popeth yn cael ei wneud i atal yr afiechyd rhag lledaenu ymhellach ar draws sir Benfro ac yn wir ar draws gweddill Cymru. Wrth gwrs, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru'n cydweithio gyda Llywodraethau eraill ledled y DU ar y mater hwn. Felly, a wnaiff y Gweinidog roi gwybod inni am y trafodaethau diweddaraf y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraethau eraill y DU ynghylch achosion o ffliw adar yn y DU, a beth arall y gellir ei wneud i fonitro'r clefyd penodol hwn ledled y DU oherwydd, fel y gwyddoch wrth gwrs, nid yw clefydau'n adnabod ffiniau? Lesley Griffiths AC: Efallai eich bod wedi fy nghlywed yn dweud mewn ateb cynharach i Gareth Davies ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gweithio gyda gweinyddiaethau eraill y DU, yn enwedig Llywodraeth y DU. Fel y dywedais, roeddem yn gweithio ar hyn gyda George Eustice yn ôl ar ddechrau'r flwyddyn. Yn anffodus, ni chyfarfûm â'r Ysgrifennydd Gwladol DEFRA a adawodd y Llywodraeth ddoe, ond byddaf yn sicr yn ysgrifennu at Thérèse Coffey ynghylch y mater. Bioddiogelwch yw'r amddiffyniad pwysicaf sydd gennym mewn perthynas â ffliw adar. Yn sicr, roedd rhai o'r achosion a welsom, a soniais am y rhai yn swydd Lincoln, mewn safleoedd mawr ar ddechrau'r flwyddyn, felly roeddem i gyd yn bryderus iawn am yr elfen fioddiogelwch. Felly, os oes unrhyw neges y gallaf ei rhoi, oherwydd mae'n amlwg yn fater enfawr lle nad ydym wedi cael unrhyw seibiant o gwbl mewn gwirionedd—rydym wedi parhau i gael achosion newydd o ffliw adar drwy gydol yr haf, ac mae'r tymor cyfrif newydd yn dechrau ar 1 Hydref, ac rydym newydd fynd yn syth i mewn i hynny—. Felly, rwy'n credu bod y neges honno'n bwysig iawn, ond mae'n bwynt difrifol iawn fod yn rhaid inni weithio gyda'n gilydd, oherwydd, fel y dywedwch, mae adar yn hedfan; nid ydynt yn gweld ffiniau ac mae mor hawdd i'r afiechyd drosglwyddo, ac mewn adar gwyllt hefyd, yn amlwg. Soniais am y gwaith y mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn ei wneud ar hynny, ond rwy'n gobeithio y bydd gennym grŵp rhyngweinidogol fel mater o frys, a bydd yn rhywbeth y byddaf yn ei godi, ac rwy'n hapus iawn i adrodd yn ôl i'r Aelodau. Cymorth Ariannol ar ôl y Polisi Amaethyddol Cyffredin Hefin David AC: 8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth ariannol i ffermwyr Cymru ar ôl y polisi amaethyddol cyffredin? OQ58611 Lesley Griffiths AC: Diolch. Ym mis Gorffennaf, cyhoeddais amlinelliad o'r cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig. Mae cynigion y cynllun yn arwydd o newid mawr yn y ffordd y bydd ffermwyr Cymru'n cael eu cefnogi. Bydd y cynllun yn allweddol i gefnogi ffermwyr Cymru i chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o greu amgylchedd mwy gwydn ac economi wledig fwy gwydn. Hefin David AC: Mae fy nghwestiwn yn codi, fel ambell gwestiwn arall heddiw, yn sgil y craffu a wnawn ar Fil amaeth Cymru yn y pwyllgorau. Yn fwyaf penodol, un o'r materion a godwyd yr wythnos diwethaf oedd cyllid ar gyfer y gadwyn gyflenwi yn ogystal â'r hyn a dargedir yn uniongyrchol at ffermwyr, ac rydym yn gwybod bod y gadwyn gyflenwi'n amrywiol—mae'n cynnwys lladd-dai, pacwyr cig, prosesau bwyd a diod yr holl ffordd i'r cwsmer. Yr hyn roeddem yn ei ofyn i'n tystion, a'r hyn yr hoffwn i'r Gweinidog wneud sylwadau arno heddiw efallai, yw sut y bydd yr arian hwnnw'n cael ei rannu ar draws y gadwyn gyflenwi, a sut y bydd hi'n sicrhau, ar ôl y PAC, na fydd cyllid yn cael ei rannu'n rhy denau ac y bydd yn cael ei dargedu yn y mannau cywir. Lesley Griffiths AC: Diolch. Rwy'n credu imi gael fy holi am hynny yn sicr, rwy'n credu mai Sam Kurtz a ofynnodd i mi am hynny yn y pwyllgor, ac mae'n bwynt pwysig iawn. Ond fe fyddwch yn deall ar hyn o bryd nad wyf hyd yn oed yn gwybod beth yw fy nghyllideb, felly mae'n anodd iawn rhoi unrhyw sicrwydd i chi. Mae'n bwysig fod yr arian sydd gennym yn cael ei gyfeirio at ffermwyr, ond wrth gwrs, bydd y gweithgareddau atodol y cyfeiriwn atynt yn rhan o'r gadwyn gyflenwi honno, ac wrth inni edrych ar y camau gweithredu o fewn y cynllun ffermio cynaliadwy. Mae'n debyg ei fod ychydig fel colofn 1 a cholofn 2 yn awr; byddwn yn edrych ar sut y dyrannwn y cyllid hwnnw. Ond fel y dywedaf, mae'n rhy gynnar ar hyn o bryd i ddweud sut y byddwn yn ei ddyrannu am na wyddom beth yw ein cyllideb. I mi, y person y mae'n rhaid iddo elwa yn y pen draw yw'r ffermwr actif. Peter Fox AS: Mae Sam Kurtz a James Evans eisoes wedi siarad am sefyllfa'r tenantiaid, ac mae'n rhaid imi dynnu sylw'r Aelodau at fy muddiannau gan fy mod yn ffermwr actif. Ond soniodd Sam hefyd am dir comin, a hoffwn wthio ychydig ymhellach ar hynny, oherwydd mae tir comin ar hyn o bryd yn ardal gymwys at bwrpas cynllun y taliad sylfaenol, sy'n hanfodol i lawer o fusnesau ar draws Cymru. Mae ffermwyr yn gofyn, 'A fydd tir comin yn cael ei gynnwys yn haen gyffredinol y cynllun newydd, i gydnabod na fydd yn bosibl i ddeiliaid hawliau comin gyflawni llawer o'r camau cyffredinol arfaethedig ar dir comin?' Weinidog, roeddwn i'n meddwl tybed pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod y cynllun newydd yn parhau i hybu rheolaeth actif ar dir comin drwy bori a mesurau amaethyddol cynaliadwy eraill. Lesley Griffiths AC: Rwy'n mynd yn ôl at yr hyn roeddwn yn ei ddweud mewn ateb cynharach: rydym yn dal ar gam cyd-gynllunio'r cynllun ffermio cynaliadwy, felly nawr yw'r amser i sicrhau bod pawb yn cyflwyno'u safbwyntiau. Soniais am yr arolwg—mae hwnnw'n agored tan 21 Tachwedd. Gofynnwch i unrhyw un sy'n cysylltu â chi gyda phryderon i sicrhau eu bod yn cwblhau'r arolwg. Mae gennym y tair haen, fel y dywedwch, a'r haen gyffredinol y credaf y gallwn i gyd ragdybio y bydd yn haen fwyaf o'r tair. Felly, mae'n gwbl hanfodol fod unrhyw un a oedd yn rhan o gynllun y taliad sylfaenol—. Rwyf eisiau i gymaint o ffermwyr â phosibl allu manteisio ar y cynllun ffermio cynaliadwy, ac yn amlwg, mae hynny'n cynnwys ffermwyr ar dir comin. Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy John Griffiths AC: 9. Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi ei wneud o effaith cynllun ffermio cynaliadwy Llywodraeth Cymru ar wastadeddau Gwent? OQ58623 Lesley Griffiths AC: Bydd y cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig yn cefnogi ffermwyr a rheolwyr tir eraill i gydweithio i ddarparu atebion sy'n seiliedig ar natur ar lefel tirwedd. Mae gwastadeddau Gwent yn enghraifft wych lle gall mabwysiadu arferion rheoli tir cynaliadwy gefnogi busnesau fferm gwydn a gwella'r amgylchedd ar gyfer pobl a bywyd gwyllt. John Griffiths AC: Diolch yn fawr, Weinidog, am gydnabod gwerth yr hyn a fu'n digwydd ar wastadeddau Gwent. Y mis diwethaf, roeddwn yn falch o gael siarad yng nghynhadledd Cynnal Gwastadeddau Gwent yn Redwick, pentref bach hanesyddol yn ardal Dwyrain Casnewydd. Cafodd gwastadeddau Gwent eu hadfer o'r môr adeg y Rhufeiniaid, ac mae ganddynt system cyrsiau dŵr unigryw a hanesyddol sy'n cynnwys amrywiaeth fawr o gynefinoedd, gan gynnwys llygoden y dŵr ar gors Magwyr. Maent yn cynnwys llawer o dir ffermio cynhyrchiol hefyd. Mae'n bwysig ein bod yn gweithio'n agos gyda ffermwyr a sefydliadau eraill ar y gwastadeddau i gynhyrchu'r bwyd sydd ei angen, adfer natur, gwrthsefyll newid hinsawdd a gwella ansawdd dŵr. Mae hyn yn cynnwys adfer y ffosydd, peillio helyg, adfer perllannau, ond hefyd adfer glaswelltiroedd llawn rhywogaethau a chreu gwyndynnydd llysieuol. Weinidog, a wnewch chi ddweud sut y bydd cynllun ffermio cynaliadwy Llywodraeth Cymru yn helpu i gyrraedd y nodau hyn? Lesley Griffiths AC: Diolch. Wel, byddwn yn dychmygu y bydd yr haen gydweithredol—. Rydym newydd fod yn cyfeirio at dair haen y cynllun ffermio cynaliadwy, a byddwn yn tybio y bydd haen gydweithredol y cynllun yn gallu cynnig cymorth i brosiectau ar lefel tirwedd ar wastadeddau Gwent, fel y nodwyd gennych yn awr, neu o fewn y gadwyn gyflenwi, fel y gallant gyflawni mewn perthynas â'r blaenoriaethau lleol a chenedlaethol hynny y cyfeirioch chi atynt. Gwn ein bod—wel, rydych chi, fel cadeirydd gweithgor gwastadeddau Gwent—yn edrych ar gynllun gwella strategol, a fydd ar gael yn y flwyddyn newydd, rwy'n credu, ac yna, byddwn yn dod allan o'r cyfnod cyd-gynllunio. Credaf ei bod yn wirioneddol bwysig inni edrych ar y cynllun hwnnw i weld sut y bydd yn cyd-fynd â’r cynllun ffermio cynaliadwy. Ac yn olaf, cwestiwm 10, Vikki Howells. Safonau Lles Anifeiliaid Vikki Howells AC: 10. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Llywodraeth Cymru i wella safonau lles anifeiliaid? OQ58604 Lesley Griffiths AC: Diolch. Mae ein blaenoriaethau ar gyfer lles anifeiliaid wedi’u nodi yn ein cynllun lles anifeiliaid ar gyfer Cymru. Mae’n cynnwys amserlen ar gyfer cyflawni camau gweithredu allweddol yn erbyn y pedwar ymrwymiad sy'n ymwneud â lles anifeiliaid yn ein rhaglen lywodraethu, a chamau gweithredu ar gyfer ein blaenoriaethau lles anifeiliaid eraill. Vikki Howells AC: Diolch, Weinidog. Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i reoleiddio sefydliadau lles anifeiliaid i’w groesawu’n fawr ac mae wedi cael cefnogaeth gan gyrff lles anifeiliaid er mwyn helpu i sicrhau bod arferion gorau’n cael eu mabwysiadu. Mae rheoleiddio’r sefydliadau hyn hefyd yn bwysig, gan fod hynny'n cau bwlch y gall gwerthwyr trydydd parti fanteisio arno yng nghyfraith Lucy. O ystyried pwysigrwydd y rheoliad hwn, a wnewch chi roi unrhyw ddiweddariadau ar ei gynnydd? Lesley Griffiths AC: Diolch. Ni allaf roi unrhyw ddiweddariad penodol i chi, oherwydd, fel y gwyddoch, rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol ar hyn o bryd i ddatblygu dogfen o fewn y cynllun lles anifeiliaid i edrych ar yr holl ddeddfwriaeth drwyddedu bresennol sy'n canolbwyntio ar les anifeiliaid—fel y gallwch ddychmygu, mae hwnnw’nwaith go arwyddocaol, ond yr hyn y bydd y gwaith hwnnw'n ei wneud yw mesur ble mae'r bylchau—ac yna nodi cynigion ar gyfer y gwelliannau trwyddedu wrth symud ymlaen. Cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus yn ôl yr angen, ac yn amlwg, nid wyf am achub y blaen ar ganlyniadau’r ymarfer hwnnw. Diolch i'r Gweinidog. Ac fel y dywedwyd eisoes gan Samuel Kurtz a’r Gweinidog, a gaf innau ddiolch i’r prif swyddog milfeddygol wrth iddi symud ymlaen o’i rôl? Fel cyn-Weinidog materion gwledig fy hun, gwn yn iawn am yr ymrwymiad 100 y cant a ddangosodd Christianne Glossop i’w rôl, ond hefyd, wrth gwrs, wrth weithio ar draws y pleidiau gwleidyddol a chyda phwyllgorau a’r Senedd yn gyffredinol, ac rwy'n siŵr, ar ran y Senedd, ein bod yn dymuno'n dda iddi gyda beth bynnag a ddaw nesaf, gan fy mod yn siŵr fod llawer i ddod. Felly, diolch i Christianne Glossop am ei gwaith bendigedig. 3. Cwestiynau Amserol Cwestiynau amserol sydd nesaf, ac mae'r cwestiwn heddiw gan Sioned Williams ac i'w ateb gan y Trefnydd. Sioned Williams. Cynlluniau Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot Sioned Williams MS: 1. A wnaiff y Llywodraeth ddatganiad yn dilyn dyfarniad yr Uchel Lys ar gynlluniau addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot? TQ670 Lesley Griffiths AC: Diolch. Mae cyswllt etholaethol gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg, felly rwy’n ymateb ar ran Llywodraeth Cymru. Deallaf fod y cyngor wedi nodi dyfarniad y llys mewn perthynas â chynnig cwm Tawe a'u bod yn ystyried eu camau nesaf. Mae gan y cyngor gyfnod o amser i benderfynu a fydd yn apelio, felly mae angen i unrhyw ystyriaeth bellach aros am benderfyniad y cyngor. Sioned Williams MS: Diolch. Yn dilyn cais am adolygiad barnwrol gan Rhieni dros Addysg Gymraeg, fe ddyfarnodd yr Uchel Lys ddydd Llun fod penderfyniad Cyngor Castell-nedd Port Talbot i agor ysgol enfawr newydd cyfrwng Saesneg ym Mhontardawe yn anghyfreithlon am iddyn nhw fod wedi methu ag asesu effaith hyn ar y Gymraeg ac yn benodol ar addysg Gymraeg. Mae'r dyfarniad wedi'i ddisgrifio fel un o bwys cenedlaethol gan Gwion Lewis, y bargyfreithiwr a gyflwynodd yr achos, gan ei fod yn golygu, meddai, y bydd nawr angen i gynlluniau sydd ddim yn ymwneud yn uniongyrchol â'r Gymraeg ac addysg Gymraeg asesu eu heffaith ar y Gymraeg. Tra bod y dyfarniad yn newyddion da i gwm Tawe, mae'n codi cwestiynau ynghylch y safbwynt a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru ar y mater. Ymateb y Llywodraeth i'r achos oedd ei bod hi'n fater i'r awdurdod lleol, ond, cyn i wleidyddion fel fi a chyrff fel RhAG a Dyfodol i'r Iaith dynnu sylw at y mater, o gymeradwyo'r cynllun busnes amlinellol roedd y Llywodraeth yn amlwg yn ddigon bodlon ar y cychwyn gyda'r modd y gwnaed yr ymgynghoriad ac yn cytuno â'r hyn a alwyd gan y barnwr yn gamddehongliad o bolisïau’r Llywodraeth ei hun o ran trefniadaeth ysgolion a'r polisi 'Cymraeg 2050'. Hoffwn ofyn, felly, i'r Llywodraeth ymchwilio i'r ffaith nad oedd dealltwriaeth gan yr adran addysg o'i pholisi ei hun a sicrhau bod cefnogaeth ymarferol, drawsadrannol i'r polisi 'Cymraeg 2050'. Sut bydd y Llywodraeth yn sicrhau bod holl gynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg a rhaglenni cyfalaf yn cynnwys ystyriaeth briodol o ran effaith pob datblygiad ar y Gymraeg a hefyd sicrhau dealltwriaeth a chapasiti o fewn awdurdodau lleol o ran cynllunio twf y Gymraeg ar draws pob adran? Yn olaf, er mwyn cefnogi'r newid cyfeiriad sydd ei angen yn yr achos penodol yma, a fydd y Llywodraeth yn ymrwymo i ystyried clustnodi'r arian a addawyd i'r cynllun gwallus a niweidiol hwn i'r Gymraeg i gynllunio ad-drefnu addysg amgen na fydd yn niweidio'r Gymraeg yn y fath fodd, cyhyd â bod y cynlluniau yn cwrdd â gofynion y cynllun cyllido rhaglen cymunedau dysgu cynaliadwy? Lesley Griffiths AC: Diolch. Wel, wrth symud ymlaen, yn amlwg, bydd swyddogion Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn gweithio gyda’r awdurdod lleol. Yn amlwg, bydd rhaid iddynt ystyried yr hyn a gyflwynir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Fel y dywedaf, y peth nesaf iddynt, yn amlwg, yw ymateb. Fy nealltwriaeth i yw bod swyddogion wedi edrych ar y cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg ac wedi'u hystyried yn y ffordd yr awgrymwyd gennych. Mewn perthynas â chyllid, credaf fod Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir iawn wrth yr awdurdod lleol, pe bai’r prosiect yn newid, y byddai angen iddynt ailgyflwyno achos busnes wrth gwrs, ac yna byddai swyddogion y Gweinidog yn ei ystyried eto. Tom Giffard AS: Weinidog, credaf ei bod yn bwysig inni bwysleisio yma mai'r bwriad oedd i hon fod yn ysgol yr unfed ganrif ar hugain o’r radd flaenaf gyda chyfleusterau lleol ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol a phwll nofio newydd hefyd, rhywbeth y mae ei angen yn fawr yn y gymuned. Ond yr hyn y mae’n rhaid ei wneud yn glir yw’r ffaith bod angen canllawiau cliriach ar awdurdodau lleol efallai pan fyddant yn ymgynghori ar faterion fel y rhain. Y dyfarniad hwn—ac mae'n werth nodi ei fod ar un o'r tri chyhuddiad—oedd bod y cyngor wedi ymddwyn yn anghyfreithlon drwy, ac rwy'n dyfynnu, 'fethu ymgynghori ymhellach ar ôl derbyn yr asesiad o'r effaith ar y Gymraeg gyda'i ymgynghoriad.' Cau'r dyfyniad. Felly, yr hyn sydd ei angen arnom yn awr yw arwydd cliriach gan y cyngor ynglŷn â'i gamau nesaf, fel y gall roi rhywfaint o eglurder i ysgolion, disgyblion a rhieni yn ysgolion Alltwen, Llan-giwg a Godre’r Graig ar hyn o bryd. Felly, o ystyried y gallai’r dyfarniad hwn arwain at oblygiadau pellach o ran ad-drefnu ysgolion eraill ledled Cymru a rhaglenni ysgolion yr unfed ganrif ar hugain mewn ardaloedd cynghorau eraill, pa sicrwydd y gall Llywodraeth Cymru ei roi na fydd y dyfarniad hwn yn effeithio ar gynlluniau sydd ar y gweill mewn mannau eraill, a pha wersi y gellir eu dysgu o'r dyfarniad hwn ar Gyngor Castell-nedd Port Talbot? Lesley Griffiths AC: Wel, fel y dywedais yn fy ateb i Sioned Williams, y cam nesaf fydd i’r cyngor ymateb; mater iddynt hwy, wedyn, yw dod at Lywodraeth Cymru gyda'u camau nesaf. Rwy’n siŵr fod y Gweinidog—. Fel y soniais ar ddechrau fy ateb, yn amlwg, mae cyswllt etholaethol gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg, felly, yn amlwg, os yw’n rhywbeth penodol i’w wneud â’r etholaeth, bydd y Prif Weinidog yn ei ystyried. Ond ar eich pwynt cyffredinol ynghylch canllawiau, rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog a'i swyddogion yn edrych ar y canllawiau i weld a oes unrhyw beth y gellid bod wedi'i wneud i osgoi hyn. P'un a fydd—. Rwy'n siŵr y gellir dysgu gwersi bob amser, oni ellir, o bethau fel hyn. Ac unwaith eto, rwy'n siŵr y bydd swyddogion yn ystyried hynny. Diolch i'r Trefnydd. 4. Datganiadau 90 Eiliad Yr eitem nesaf yw'r datganiadau 90 eiliad. Un yn unig heddiw. Natasha Asghar. Natasha Asghar AS: Diolch, Lywydd. Ar ôl bod yn Aelod am gyfnod byr o amser, nid oes gennyf amheuaeth nad yw’r Aelodau yma yn credu ym manteision gwych cymdeithas amlddiwylliannol ac aml-ffydd, a dyna pam fy mod yn falch o allu goleuo’r Siambr ynghylch pwysigrwydd Diwali yma yng Nghymru. Yn fwy adnabyddus fel gŵyl y goleuadau, ac yn deillio o'r gair Sansgrit, Deepawali, sy'n golygu 'rhes o oleuadau', mae Diwali'n adnabyddus am y lampau clai y mae'r rhai sy'n dathlu'r ŵyl yn eu cynnau a'u gosod y tu allan, neu'n dibynnu ar y tywydd, yn eu cartrefi. Eleni, dechreuodd Diwali ar ddydd Llun 24 Hydref. Caiff yr ŵyl ei dathlu gan fwy na biliwn o bobl o amrywiaeth o wahanol grefyddau ar draws India a'i diaspora, gan gynnwys Hindŵiaid, Jainiaid, Bwdhyddion a Sikhiaid, ac er bod gan bob un ohonynt eu credoau unigol eu hunain ynghylch gwreiddiau'r ŵyl, mae'n dal i gynrychioli'r un fuddugoliaeth symbolaidd, sef goleuni dros dywyllwch, da dros ddrwg a gwybodaeth dros anwybodaeth. Mae'r diwrnod cyntaf yn dynodi Dhanteras, er clod i'r dduwies Lakshmi. Diwrnod dau—credir, ar y diwrnod hwnnw, fod Kali, duwies Shakti, neu gryfder, wedi lladd y demon Narakasura. Y trydydd diwrnod yw'r mwyaf o bum diwrnod Diwali. Mae pedwerydd diwrnod Diwali yn nodi diwrnod cyntaf y flwyddyn newydd, a diwrnod pump, y diwrnod olaf, yw Bhai Duj, sy'n dathlu'r cwlwm rhwng brodyr a chwiorydd. Mae pum diwrnod Diwali yn cael eu dathlu gyda gweddïau, gwleddoedd, tân gwyllt, aduniadau teuluol a rhoddion elusennol. Er bod gan wahanol ranbarthau India a'i chrefyddau wahanol chwedlau am weithredoedd arwrol yr ymgnawdoliadau, mae dathlu Diwali yn cynrychioli'r golau mewnol sy'n diogelu pob aelwyd ac unigolyn rhag tywyllwch ysbrydol. Mae’n ddathliad mor bwysig i’r gymuned Hindŵaidd, sy’n rhan annatod o’r holl gymunedau yma yng Nghymru, felly, ar ran yr holl Aelodau o Senedd Cymru, diwali ki dheron shubh kamnayein, sy’n golygu ‘Diwali hapus i bawb sy'n dathlu'. Diolch. Diwali hapus i bawb, ie, wir. 5. Cynnig i ethol Cadeirydd Dros Dro y Cyfarfodydd Llawn Yr eitem nesaf, felly, yw'r cynnig i ethol Cadeirydd dros dro i'r Cyfarfodydd Llawn, a dwi'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol. Cynnig NDM8114 Elin Jones Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 6.23A, yn ethol Paul Davies fel Cadeirydd Dros Dro y Cyfarfodydd Llawn. Cynigiwyd y cynnig. Lesley Griffiths AC: Yn ffurfiol. Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? A oeddech yn gwrthwynebu? Member of the Senedd: Na, roeddwn yn codi llaw ar—[Anghlywadwy.] O, iawn. Iawn. [Chwerthin.] Efallai y dylech ystyried eich amseru wrth godi llaw y tro nesaf. Felly, i gadarnhau, nid oes unrhyw wrthwynebiadau, ac felly, derbyniwyd y cynnig. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Llongyfarchiadau i Paul Davies ar gael ei ethol yn Gadeirydd dros dro. 6. Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn ceisio cytundeb y Senedd i gyflwyno Bil Aelod—Bil Addysg Awyr Agored (Cymru) Yr eitem nesaf, felly, yw'r cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn ceisio cytundeb y Senedd i gyflwyno Bil Aelod. Bil addysg awyr agored (Cymru) yw hwnnw. Dwi'n galw ar Sam Rowlands i wneud y cynnig. Sam Rowlands. Cynnig NDM8069 Sam Rowlands Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91: Yn cytuno y caiff Sam Rowlands MS gyflwyno Bil i roi effaith i'r wybodaeth a gaiff ei chynnwys yn y Memorandwm Esboniadol a gyhoeddwyd ar 17 Awst 2022 o dan Reol Sefydlog 26.91A. Cynigiwyd y cynnig. Sam Rowlands MS: Diolch, Lywydd, ac a gaf fi ddweud yn gyntaf ei bod yn bleser ceisio cytundeb y Senedd heddiw imi gyflwyno fy Mil Aelod, Bil addysg awyr agored (Cymru)? Fel y gŵyr yr Aelodau, yn ôl ym mis Gorffennaf, cefais fy newis drwy bleidlais Aelodau i gyflwyno Bil. Yn amlwg, ers mis Gorffennaf, nid oes llawer iawn wedi digwydd ym myd gwleidyddiaeth yn y DU, ond rwyf fi yn sicr wedi bod yn brysur iawn, gan weithio gyda chynrychiolwyr o'r sector addysg a gweithgareddau awyr agored, prifysgolion, cynghorau, Aelodau o'r Senedd, ysgolion a disgyblion ar gyflwyno'r hyn sydd nid yn unig yn Fil hynod gyffrous yn fy marn i, ond un a fydd hefyd yn sicrhau ystod o fanteision hirdymor. Yn ôl ym mis Gorffennaf, cefais y pleser o gyhoeddi memorandwm esboniadol 16 tudalen, a oedd yn archwilio amcanion polisi’r Bil hwn a’r gefnogaeth a ddaeth i law i’r Bil, ynghyd â’r ffactorau ariannol i’w hystyried. Rwy'n siŵr fod pob Aelod eisoes yn gwybod hyn, gan fy mod yn siŵr fod pob un ohonom wedi darllen pob gair ohono; serch hynny, bydd yr Aelodau'n falch o nodi y byddaf yn trafod y pwyntiau o'r memorandwm esboniadol drwy fy nghyfraniad heddiw, lle byddaf yn dechrau drwy amlinellu beth yw'r Bil, yn ail, byddaf yn amlinellu pam fod addysg awyr agored mor bwysig, byddaf yn esbonio pam fod angen y Bil hwn, byddaf yn egluro agweddau ariannol y Bil hefyd, ac yn olaf, byddaf yn amlinellu'r camau nesaf, yn fy marn i, ar gyfer bwrw ymlaen â'r cynnig hwn. Felly, yn fyr, bydd y Bil yn sefydlu dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i sicrhau bod pobl ifanc Cymru yn cael cyfle i gymryd rhan mewn ymweliad addysg awyr agored preswyl wythnos o hyd, pedair noson, ar ryw adeg yn ystod eu gyrfa ysgol. Bydd hyn yn cael ei roi ar waith drwy sicrhau bod cyllid yn cael ei ddarparu i alluogi awdurdodau lleol ac ysgolion i gynnig y profiadau hyn i’n holl bobl ifanc, a fyddai'n para, fel y dywedais, am o leiaf wythnos—pedair noson—ar ryw adeg yn ystod eu blynyddoedd yn yr ysgol. Wrth gwrs, rwy’n siŵr y bydd llawer o'r Aelodau’n meddwl: o’r holl gynigion polisi y gallwn fod wedi ceisio'u cyflwyno, pam y dewisais addysg awyr agored? Y prif reswm y tu ôl i hyn yw fy argyhoeddiad sylfaenol ynghylch pwysigrwydd addysg awyr agored i addysg a datblygiad cyffredinol plentyn. Fy nyhead i, a dyhead llawer o Aelodau’r Senedd, rwy'n credu, yw y dylai plant, ni waeth beth fo'u cefndir economaidd-gymdeithasol, eu hanghenion dysgu ychwanegol, eu cefndir diwylliannol neu eu lleoliad daearyddol, gael mwynhau’r manteision gwych a hirhoedlog y gall addysg awyr agored eu cynnig. Yn ogystal â hyn, rwyf fi ac Aelodau o bob rhan o’r Siambr wedi gweithio gyda’r sector gweithgareddau awyr agored dan gadeiryddiaeth ragorol Huw Irranca-Davies o grŵp trawsbleidiol y sector gweithgareddau awyr agored, a fu'n gymorth i mi ac aelodau’r grŵp trawsbleidiol i ddeall gwir fanteision addysg awyr agored. Rwy’n siŵr y bydd llawer o Aelodau’r Senedd yn cofio bod ar ymweliadau preswyl addysg awyr agored, gan greu atgofion, magu hyder a pharatoi ein hunain ar gyfer degawdau i ddod. Yn anffodus, rwyf hefyd yn siŵr fod yna Aelodau yma na fyddant wedi cael cyfle i gael y profiad anhygoel hwn eu hunain. Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair. Sam Rowlands MS: Yn wir, mae ymchwil diweddar a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, ac a gyhoeddwyd drwy Hwb, wedi nodi bod addysg awyr agored yn arwain at fanteision pendant i blant a phobl ifanc o ran eu hiechyd a’u lles corfforol, ond hefyd eu hiechyd meddwl. Yn ogystal â hyn, canfu ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru fod gan addysg awyr agored fanteision eithriadol o ran dysgu personol a chymdeithasol, datblygiad gwybyddol a gwerthfawrogiad o’n hamgylchedd, a chyda’n hargyfwng hinsawdd, mae hyn yn bwysicach yn awr nag erioed. Ynghyd â hyn, mae ymchwil o bob rhan o’r byd wedi nodi ymhellach, os yw plentyn yn profi'r manteision hyn yn ifanc, y bydd hynny'n cael effaith arnynt am weddill eu hoes, gan wneud gwahaniaeth parhaol. Ymhellach, mae maes dysgu a phrofiad iechyd a lles y Cwricwlwm i Gymru yn cynnwys datganiadau o'r 'hyn sy'n bwysig', sy'n rhoi pwys ar ymateb i brofiadau, gwneud penderfyniadau a dylanwadau cymdeithasol. Mae'r rhain oll yn elfennau sylfaenol o addysg awyr agored, fel y'u gwireddir yn llawn drwy brofiad preswyl o addysg awyr agored. Hoffwn symud ymlaen yn awr at y rhesymau pam fod angen y Bil yma yng Nghymru, a’r hyn y mae’r ymchwil a’r ystadegau a gyhoeddwyd yn ei ddweud wrthym. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i'r ysgolion a'r sefydliadau sy'n darparu addysg awyr agored ar hyn o bryd, gyda'r gwaith gwych sy'n mynd rhagddo i alluogi hyn i ddigwydd. Y brif resymeg y tu ôl i’m Bil yw nad yw’r holl waith da hwn y mae ysgolion a sefydliadau'n ei wneud ar hyn o bryd yn mynd yn ddigon pell, gan ei fod yn cael ei ystyried yn rhywbeth sy'n cyfoethogi yn hytrach na'n rhan hanfodol o addysg, gyda sawl rhan o’n cymunedau ar eu colled oherwydd cyfyngiadau ariannol, ble maent yn byw neu eu cefndir teuluol, a byddaf yn sôn am hynny mewn mwy o fanylder yn y man. Fel y gŵyr yr Aelodau, yr wythnos diwethaf, gyda chymorth y sector addysg awyr agored a thîm ymchwil y Senedd, cyhoeddais bapur ystadegol sy’n amlinellu’n gryno yr hyn a welwn ar hyn o bryd gyda’r rhai sy’n cymryd rhan mewn addysg awyr agored, oherwydd, yn anffodus, nid oedd unrhyw ystadegau swyddogol ynghylch nifer yr ymweliadau preswyl addysg awyr agored neu faint o’n plant a’n pobl ifanc yng Nghymru sy’n cael yr ystod glir o fanteision y maent yn eu darparu. Mae’r papur ystadegol hwn wedi cynnal arolwg o 350 o ysgolion ar draws 18 o awdurdodau lleol Cymru, a thrwy weithio gyda Phanel Cynghorwyr Addysg Awyr Agored Cymru, cesglais ddata sy’n dangos pedwar canfyddiad allweddol. Yn gyntaf, mewn dros draean o ysgolion Cymru, o’r plant y cynigir cyfle iddynt gymryd rhan mewn ymweliadau preswyl addysg awyr agored, mae llai na 75 y cant o blant yn cymryd rhan. Yn ail, nododd 60 y cant o'r ysgolion y gwnaed arolwg ohonynt mai rhesymau ariannol yw'r prif rwystr rhag cymryd rhan mewn ymweliadau preswyl addysg awyr agored. Yn drydydd, nid yw dros un o bob pump o ysgolion Cymru yn cynnig cymhorthdal ​​i deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd yn ariannol. Ac yn bedwerydd, mae ymchwil cychwynnol wedi awgrymu hefyd y bydd mwy o blant o ardaloedd mwy cefnog yn cymryd rhan mewn ymweliadau addysg awyr agored, tra bo'r rheini mewn ardaloedd llai cefnog yn cymryd rhan yn llai aml. Yn wir, canfu canlyniadau'r arolwg fod 65 y cant o ysgolion ym Mlaenau Gwent wedi nodi cyfyngiadau ariannol fel problem; yng Nghaerffili, nododd 70 y cant o ysgolion fod cyfyngiadau ariannol yn broblem; ac yn Rhondda Cynon Taf, nododd 75 y cant o'r ysgolion fod cyfyngiadau ariannol yn broblem, tra bo 45 y cant yn unig yn amlinellu hyn fel problem yn sir Fynwy. Yn ogystal, yn ystod y broses hon, un peth allweddol a nodais yw’r ffaith anffodus mai ymweliad addysg awyr agored, mewn gwirionedd, yw’r unig gyfle o bosibl y caiff rhai o’ch pobl ifanc weld y tu hwnt i’r cymunedau y maent yn byw ynddynt, ac i gael profiad o rywbeth newydd. Felly, gyda fy mhapur ystadegol, rwy'n siŵr fod dilynwyr brwd fy nghyfrif Twitter a fy nhudalen Facebook wedi gweld dwy erthygl allweddol a rannais yr haf hwn mewn perthynas ag addysg awyr agored. Yn gyntaf, canfu ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe, a gyhoeddwyd drwy BBC Cymru, fod plant yng Nghymru ymhlith y plant lleiaf heini yn y byd, gydag ymchwilwyr yn rhoi F am ffitrwydd i blant a phobl ifanc Cymru. Canfu ail erthygl gan y BBC, a oedd yn cynnwys ymchwil gan Chwaraeon Cymru, fod plant yn cymryd rhan mewn llai o chwaraeon nag a wnaent bedair blynedd yn ôl, gyda 36 y cant o blant heb fod yn gwneud unrhyw weithgareddau y tu allan i’w gwersi addysg gorfforol yn yr ysgol, o gymharu â 28 y cant bedair blynedd yn ôl yn unig. Rwy'n siŵr y gall pob Aelod o bob rhan o'r Siambr gytuno nad yw'n iawn nad yw cyfran sylweddol o'n pobl ifanc ledled Cymru yn cael cyfle i gymryd rhan mewn rhywbeth sydd mor fuddiol, naill ai oherwydd o ble maent yn dod neu sefyllfa ariannol eu teulu. Credaf na allwn sefyll yn ôl a gadael i'n plant fynd yn llai iach a’n pobl ifanc i beidio â chymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored, ac nid yw’n dderbyniol inni eistedd yma a pheidio â gwneud dim ynglŷn â'r peth. Gan symud ymlaen at y costau ariannol, y gwn fod yr Aelodau’n awyddus i’w deall yn well, a chredaf ei bod ond yn deg ein bod yn rhoi sylw i'r mater hwn hefyd. Mae’r ymchwil a’r ddealltwriaeth gychwynnol wedi dangos y byddai hyn yn costio rhwng £9.9 miliwn a £13.6 miliwn i’w ariannu, sef oddeutu 0.06 y cant o gyfanswm cyllideb Llywodraeth Cymru. Serch hynny, ar ôl i'r Bil gael ei roi mewn grym, credaf y byddem yn gweld manteision ariannol o ganlyniad iddo mewn gwirionedd, gydag arbedion i wasanaethau cyhoeddus drwy welliannau i iechyd, llesiant, gwasanaethau iechyd meddwl a chanlyniadau addysg, ynghyd â gwell gwerthfawrogiad o’r amgylchedd. Yn ogystal â hynny, byddai cyflwyno a chefnogi’r Bil hwn yn cyfrannu at bedwar diben allweddol Cwricwlwm i Gymru Llywodraeth Cymru: byddem yn gweld dysgwyr hyd yn oed yn fwy uchelgeisiol a galluog sy'n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes; byddem yn gweld cyfranwyr mentrus a chreadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith; byddem yn gweld dinasyddion mwy moesegol a gwybodus sy’n barod i fod yn ddinasyddion Cymru a’r byd; ac yn olaf, byddem yn gweld unigolion iachach a hyderus sy’n barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas. Hoffwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau hefyd ynglŷn â sut y mae hyn yn gweithio mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Fel y bydd rhai yn gwybod, mae Bil addysg awyr agored yn gweithio'i ffordd drwy Senedd yr Alban ar hyn o bryd, ac mae wedi bod yn hynod ddefnyddiol siarad â chymheiriaid yno a deall bod cefnogaeth drawsbleidiol yno hefyd i gynnig o'r fath. Mae hefyd yn bwysig amlinellu’r cymorth sy’n dod o’r sector addysg awyr agored mewn perthynas â’r Bil hwn, oherwydd er imi fod yn gweithio arno dros y tri mis diwethaf, ni allaf honni o gwbl fy mod yn arbenigwr, yn wahanol i’r rheini yn y sector addysg awyr agored, sy'n byw, yn anadlu ac yn gweithio addysg awyr agored o ddydd i ddydd. A bydd yr Aelodau’n nodi, gan fy mod yn siŵr eu bod wedi darllen y memorandwm esboniadol, yn adran 41, y gefnogaeth gref gan sefydliadau awyr agored blaenllaw ledled Cymru, gan gynnwys Urdd Gobaith Cymru, y Sefydliad Dysgu yn yr Awyr Agored, Cyngor Cymru ar gyfer Dysgu yn yr Awyr Agored, y Panel Cynghorwyr Addysg Awyr Agored a'r Cerddwyr. Ddirprwy Lywydd, mae yna nifer o sefydliadau y gallwn barhau i'w rhestru, ond mae llawer iawn o gefnogaeth i'r Bil hwn. Hefyd, hoffwn fynegi fy nealltwriaeth a'r realiti fod angen gwneud llawer mwy o waith gyda’r Bil hwn. Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, rwyf fi a llawer o bobl eraill wedi dod o hyd i lawer o waith a data arwyddocaol yn ymwneud â pham fod angen y Bil, ond wrth gwrs, mae angen gwneud mwy i ddeall hyn yn llawn. A dyna pam y credaf fod rôl hollbwysig i Aelodau’r wrthblaid ac Aelodau meinciau cefn y Senedd hon allu gweithio’n drawsbleidiol i gyflwyno newidiadau cadarnhaol a pharhaol a fydd yn ategu’r gwaith sy’n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru. Mae’n hollbwysig nodi hefyd, drwy gefnogi’r cynnig heddiw, ei fod yn caniatáu imi ddechrau’r broses o weithio’n ddiflino dros y flwyddyn nesaf, law yn llaw â’r sector awyr agored, i gasglu mwy o dystiolaeth a data ynghylch yr angen am ymweliadau preswyl addysg awyr agored, ac o ganlyniad, i gyflwyno hyn i'r Senedd ymhen blwyddyn. Ond mae'n bwysig ailadrodd y gellir defnyddio pleidlais heddiw fel cyfle i Aelod o'r meinciau cefn a'r wrthblaid geisio cyflwyno deddfwriaeth bwysig a fydd yn sicrhau newidiadau parhaol ac yn ategu gwaith Llywodraeth Cymru. Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i'r holl sefydliadau a staff sydd wedi gweithio'n ddiflino i fy helpu i gynhyrchu memorandwm esboniadol y Bil, y papur ystadegol, ynghyd â chrynodeb o'r Bil. Ond hoffwn ddiolch hefyd i'r Aelodau ar draws y Senedd am roi amser o’u hamserlenni prysur i drafod y Bil hwn gyda mi, ynghyd â’r Gweinidog addysg, yr edrychaf ymlaen at glywed ganddo yn ddiweddarach yn y ddadl hon, a’i drafodaethau cadarnhaol hyd yn hyn. Edrychaf ymlaen at gyfraniadau’r Aelodau i’r cynnig heddiw, ac rwy'n croesawu trafodaethau a chwestiynau ynglŷn â fy nghynigion. Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles. Jeremy Miles AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae dysgu yn yr awyr agored yn elfen sylfaenol o ran lles ein plant a'n pobl ifanc. Mae'n ffordd o'u helpu nhw i gadw'n iach yn gorfforol ac yn gallu helpu gyda'u lles meddyliol ac emosiynol hefyd. Mae'n caniatáu iddyn nhw ymwneud â'r byd o'u cwmpas, gan roi cyfle iddyn nhw brofi rhyfeddodau natur. Dyna pam mae ein cwricwlwm newydd yn pwysleisio rôl dysgu yn yr awyr agored ar draws y cwricwlwm, mewn meysydd fel iechyd a lles, gwyddoniaeth a thechnoleg, y dyniaethau, a'r celfyddydau mynegiannol. Mae hyn yn cael ei wneud yn gwbl glir yn y canllawiau statudol y mae'n rhaid i bob ysgol eu hystyried wrth ddatblygu eu cwricwlwm. Mae'n hanfodol i blant a phobl ifanc gael profiadau o ddysgu yn yr awyr agored drwy gydol eu hamser yn yr ysgol, ac i'r profiadau hynny fod yn rhai difyr a chofiadwy. Mae canllawiau statudol y Cwricwlwm i Gymru'n pwysleisio pwysigrwydd yr amgylchedd dysgu fel ysgogwr allweddol yn y cwricwlwm, ac yn nodi y dylai dysgwyr o bob oed brofi cyfleoedd dysgu dilys dan do ac yn yr awyr agored. Mae'r egwyddorion addysgeg sy'n cael eu hamlinellu yn y canllawiau hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd dysgu yn yr awyr agored. Mae disgwyliad clir, felly, y dylai dysgwyr fwynhau'r awyr agored yn rheolaidd. Mae ein canllawiau statudol ar sicrhau dull ysgol gyfan o edrych ar les emosiynol a meddyliol hefyd yn tynnu sylw at y cysylltiad rhwng lles corfforol a meddyliol, manteision dysgu yn yr awyr agored, a chael mynediad at fannau yn yr awyr agored. Felly, rwy'n awyddus iawn i gydweithio â'r Aelod a phobl eraill sydd â buddiant ar ffyrdd o gryfhau, cefnogi a pharhau i ddatblygu'r cyfraniad y mae addysg yn yr awyr agored yn ei wneud i'r hawl i ddysgu yng Nghymru, a datblygiad ein plant a'n pobl ifanc. Jeremy Miles AC: Wrth gwrs, mae'n bwysig pwysleisio, Ddirprwy Lywydd, fod gan wahanol ddysgwyr anghenion gwahanol. Rydym yn awyddus i rymuso ysgolion i ddewis y profiadau dysgu awyr agored sy'n cefnogi eu dysgwyr hwy orau yn eu cyd-destun penodol. Bydd hynny—ac yn gwbl briodol—yn edrych yn wahanol ar gyfer gwahanol ddysgwyr, gyda chyd-destunau gwahanol i wahanol oedrannau. Er mwyn bod yn llwyddiannus, mae'n rhaid i'n hymdrechion i hyrwyddo dysgu yn yr awyr agored, y mae pob un ohonom yn cytuno eu bod yn hanfodol, gydnabod hyn. Mae angen inni sicrhau hefyd fod mynediad dysgwyr at ddysgu yn yr awyr agored yn rhywbeth sy’n digwydd drwy gydol eu hamser yn yr ysgol. Mae angen i ddysgwyr gael profiadau cofiadwy a difyr parhaus o ddysgu yn yr awyr agored a fydd yn datblygu'r ymddygiadau a'r agweddau sy'n meithrin cariad gydol oes at yr awyr agored. Y pryder cyntaf sydd gennyf gyda’r Bil arfaethedig yw ei fod yn bwriadu gwneud un dull o ddarparu dysgu a phrofiad awyr agored yn ddyletswydd statudol. Dull y cwricwlwm newydd yng Nghymru yw sicrhau bod profiadau’r dysgwr yn adlewyrchu anghenion y dysgwr hwnnw mor agos â phosibl. Nid yw hynny’n cael ei adlewyrchu yn y dull y mae’r Bil yn ei argymell. Fy ail bryder, un y mae’r Aelod wedi’i ragweld yn ei gyfraniad agoriadol, yw bod y costau’n sylweddol. Mae memorandwm esboniadol yr Aelod yn amcangyfrif y bydd y bil ar gyfer hyn oddeutu £10 miliwn i £13.6 miliwn. Byddai ein dadansoddiad cynnar yn ei roi'n nes at £18 miliwn. Ond y naill ffordd neu'r llall, o ystyried yr hinsawdd economaidd bresennol, mae hyn yn creu pwysau sylweddol iawn arall ar gronfa gyllid sydd eisoes dan lawer o bwysau. Gŵyr pob un ohonom fod y rhagolygon ar gyfer cyllid cyhoeddus dros yr ychydig flynyddoedd nesaf yn llwm dros ben. Mae pwysau chwyddiant ar ein cyllid presennol gan Lywodraeth y DU yn golygu ein bod yn cael cryn dipyn yn llai am ein harian yn awr nag y byddem wedi’i gael pan gafodd ei ddyrannu, ac nid oes fawr ddim arwydd y bydd y pwysau hwn yn lleddfu yn y tymor byr i’r tymor canolig. Yn wir, mae yna senario real iawn lle gallem wynebu toriadau dyfnach byth i’n cyllideb. Ar adeg pan ydym yn gwneud popeth a allwn i leihau’r baich ariannol ar ysgolion a rhieni, ni allaf ychwanegu mwy o bwysau ar bwrs y wlad, ni waeth faint o gydymdeimlad sydd gennyf ag amcanion cyffredinol y Bil arfaethedig. Yn y dyfodol, pan fyddwn yn cyrraedd adeg pan nad yw’r dewisiadau cyllidol mor llwm, efallai y bydd modd inni gael trafodaeth wahanol, ond yn yr hinsawdd sydd ohoni, nid yw hynny’n bosibl. Fodd bynnag, ar ôl cyfarfod ar fwy nag un achlysur yn ddiweddar â’r Aelod a chydag aelodau o’r grŵp trawsbleidiol ar gyfer y sector gweithgareddau awyr agored, gwn fod llawer iawn o egni, profiad ac arbenigedd ar gael i ni. Mae’r cynnig wedi dod ag egni o’r newydd i’r drafodaeth ar rinweddau dysgu yn yr awyr agored, a hoffwn weithio gyda’r sector, ochr yn ochr â fy swyddogion ac addysgwyr, ar ffyrdd o annog mwy o ddysgu yn yr awyr agored, gan gynnwys profiadau preswyl awyr agored, mewn ffordd y gellir ei chyflawni'n ymarferol. Gallai meysydd y gellid eu harchwilio, er enghraifft, gynnwys gwell cymorth dysgu proffesiynol i addysgwyr, addysg gychwynnol i athrawon, adnoddau a deunyddiau ategol, a rhannu arferion da, gan gynnwys helpu i fynd i’r afael â rhai o’r rhwystrau y mae ysgolion yn eu hwynebu neu’n eu canfod. Byddai dull o’r fath yn gwneud addysgwyr yn ganolog i'r sgwrs ynglŷn â'r hyn sy’n gweithio orau ar gyfer dysgu yn yr awyr agored, a sut y gellir gwneud hyn. Gyda’r ewyllys gorau yn y byd, wrth gwrs, bydd llai o gapasiti i wneud yr holl waith da hwnnw os ydym hefyd yn gweithio gyda’r Aelod ar y Bil, ond byddwn yn gobeithio y gallem o leiaf wneud rhywfaint o gynnydd. Gwn o’n trafodaethau gyda’r Aelod y byddai’n awyddus i gydweithio, ac rwy'n croesawu hynny. I gloi, Ddirprwy Lywydd, ni all y Llywodraeth gefnogi’r Bil, ond rydym yn cynnig dull amgen, o fewn egwyddorion ein cwricwlwm, i weithio yn lle hynny gyda’r Aelod ac eraill ar ddatblygu pecyn o fesurau y gellir eu rhoi ar waith yn gyflym, ar unwaith, gyda’r nod o gryfhau effaith addysg awyr agored a mynediad at addysg awyr agored i bob un o’n dysgwyr yng Nghymru, heb roi pwysau diangen ar y gronfa sy'n ei hariannu, cronfa sydd eisoes dan bwysau. Diolch yn fawr. Huw Irranca-Davies AC: Diolch i Sam am gyflwyno'r cynnig deddfwriaethol hwn. Mae'n hen bryd ein bod yn gwyntyllu manteision addysg a gweithgarwch awyr agored yn y Senedd. Daw'n amserol iawn yn sgil y cwricwlwm newydd, sydd wedi'i lunio gan sylweddoliad pellach o fanteision eang dysgu yn yr awyr agored. Yn wir, mae canllawiau cwricwlwm Llywodraeth Cymru yn nodi y gall dysgu yn yr awyr agored arwain at lefelau uchel o lesiant, hyder ac ymgysylltiad; mae'n cefnogi datblygiad cymdeithasol, emosiynol, ysbrydol a chorfforol; mae'n rhoi cyfleoedd i ysbrydoli synnwyr o barch a rhyfeddod, i ymgysylltu a chysylltu â byd natur, i archwilio'r cysyniad o gynaliadwyedd mewn ffordd ymarferol; ac i archwilio potensial corfforol person ifanc, gan ddatblygu eu gallu i asesu a phrofi risg, a helpu i ddatblygu gwytnwch a hyder. Felly, rydym ar dir ffrwythlon, lle mae pawb, o Lywodraeth Cymru i addysgwyr rheng flaen, yn ymgyrchu i fynd â'n disgyblion, ein pobl ifanc, allan i'r awyr agored. Mae arferion y blynyddoedd cynnar wedi'u gwreiddio ynom. Os ydym yn cymryd rhan weithredol yn yr awyr agored yn blant, mae'n aros gyda ni. Yn yr ysgol gynradd, bûm yn ddigon ffodus i ymweld â Llangrannog am wythnos, a hefyd canolfan addysg awyr agored yn y Gŵyr, yn dysgu am ystumllynnoedd a chladdfeydd cynhanesyddol. Yn yr ysgol uwchradd, aethom i'r Bala, ac fe aethom i ganŵio a dringo. Aeth ein hathrawes ddaearyddiaeth â ni i sgrialu dros fynyddoedd a chymoedd gogledd Cymru, i astudio marianau rhewlifol, cribau, drymlinau a pheirannau. Fe ddysgasom drwy brofiad personol gyda gwobrau Dug Caeredin, i lefel aur, sut i fentro i'r awyr agored yn ddiogel ym mhob tywydd, a darllen mapiau a'r bryniau o'n blaenau, yn yr hen ffordd. Ac erbyn imi adael yr ysgol, gallwn ymddiried ynof fy hun, a phobl eraill yn gallu ymddiried ynof fi, i gerdded yn ôl yn yr eira a'r lleuad llawn ar hyd crib Fan Hir, neu hyd yn oed i gerdded yr Alpau na chefais eu cerdded yn berson ifanc oherwydd bod yn rhaid talu ffi i wneud hynny. Rwyf wedi bod yno bellach, ac rwyf wedi cael y crys-T, yn llythrennol. Erbyn hyn, a minnau bron yn 60 oed, rwy'n dal i ysu i adael y Siambr a mynd i gerdded mynyddoedd, neu lwybr arfordir Cymru, neu ganŵio'r Cleddau hyd yn oed. Mae arosiadau preswyl yn fwy cyffrous i berson ifanc na'r gwibdeithiau dydd gorau hyd yn oed. Mae aros oddi cartref gyda'ch cyfoedion, gyda thiwtoriaid ac athrawon arbenigol a phrofiadol, yn brofiad dyfnach a mwy parhaol. Dyna'r gwahaniaeth rhwng trochi eich traed yn nant y mynydd a throchi ben ac ysgwydd mewn llyn ar fynydd. Gyda fy nghefndir fy hun, ond hefyd fel cadeirydd presennol grŵp trawsbleidiol y sector gweithgareddau awyr agored, y mae Sam yn aelod amlwg ohono—ac mae llawer o sefydliadau awyr agored Cymru yn aelodau ohono mewn gwirionedd, ac mae'n debyg eu bod wedi ei helpu i ddrafftio'r cynnig deddfwriaethol—mae gennyf gydymdeimlad greddfol â hyn. Ond mae yna gwestiynau real ac anodd i'w hateb, a bydd Sam yn cydnabod hyn, cwestiynau nad ydynt yn ymwneud â bwriad da nac egwyddor y cynnig, ond sy'n mynd at wraidd yr ymarferoldeb ar yr adeg hon. Mae costau ac amser deddfwriaethol yn arbennig—ac mae'r Gweinidog wedi cyffwrdd â hwy—ymhlith y rhain. Nid yw'r cynnig yn glir ar gostau eto, yn ddigon dealladwy. Mae'n amcangyfrif £10 miliwn i £15 miliwn, ond gallai fod yn fwy. Mae arwyddocâd dwysach i'r costau ar hyn o bryd, ar adeg pan wyddom fod ysgolion, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru ei hun o dan bwysau dwys. Rydym yn rhagweld y gallai pethau fynd yn llawer gwaeth. Rwy'n tybio bod mandadu ysgolion, awdurdodau lleol neu Lywodraeth Cymru i ddod o hyd i £10 miliwn neu £15 miliwn arall, neu fwy, ar gyfer arosiadau preswyl ar hyn o bryd—cost a fyddai, rhaid i mi ddweud, mewn amseroedd gwell, yn cael ei ystyried yn arian wedi'i wario'n dda—yn arian nad yw ar gael yn hawdd ar hyn o bryd, pan allai ysgolion, ar yr un pryd, fod yn wynebu penderfyniadau ynglŷn ag a ddylid diswyddo staff yr hydref hwn, nid yn unig i ba raddau y gallant fforddio codi cyflogau. Mae'r ail fater yn ymwneud ag amser deddfwriaethol a llwyth deddfwriaethol aruthrol y Llywodraeth a'r Senedd, a'r Comisiwn yn wir. Mae gennym y ddeddfwriaeth a wnaed yng Nghymru, sy'n mynd o nerth i nerth wrth i'r rhaglen lywodraethu ac ymrwymiadau'r cytundeb cydweithio ddod i rym; y nifer digynsail o gynigion cydsyniad deddfwriaethol sy'n llifo o'r ddeddfwriaeth a wnaed yng Nghymru a Lloegr, sy'n tarddu o San Steffan; parhad y ddeddfwriaeth ôl-Brexit hirfaith a deddfwriaeth y pandemig—hyn i gyd a'r ddeddfwriaeth sydd ar y gweill mewn perthynas â Gogledd Iwerddon a'r rhuthr byrbwyll i ddiddymu cyfreithiau a gadwyd yn ôl gan yr UE o'r llyfr statud erbyn Rhagfyr 2023, sy'n cynnwys oddeutu 2,400 o reoliadau, ond nid ydym yn siŵr o'r union nifer. Nid yw'r llwyth gwaith deddfwriaethol erioed wedi gweld y fath bwysau; na chyllid ysgolion a chyllid cyhoeddus ychwaith. Ni fu amser mwy heriol erioed i gyflwyno Bil, Sam, ac rwy'n dweud hynny fel rhywun sy'n gefnogol i weld mwy o ddeddfwriaeth meinciau cefn yn rhan o'n rhaglen ddeddfwriaethol. Os yw'r realiti rwy'n ei ddisgrifio yn gywir, Weinidog, mae cyfrifoldeb arnoch chi i egluro sut y gellir bwrw ymlaen ag ysbryd, os nad llythren, y cynnig hwn o leiaf, sydd â bwriad da. Rydych wedi dechrau gwisgo cnawd am hynny. Os nad oes gennym arian na chapasiti deddfwriaethol ar hyn o bryd, mae'n siŵr na fydd hynny bob amser yn wir. Byddwn i ac eraill yn dadlau y dylai ein plant a'n pobl ifanc gael mynediad at yr awyr agored fel defod newid byd—ac rwy'n dweud hyn mewn prif lythrennau—i sicrhau eu bod yn gallu mwynhau ac archwilio'r awyr agored drwy gydol eu hoes mewn modd diogel a chyda'r holl fanteision a ddaw yn sgil hynny. Weinidog, rydych wedi cydnabod yn eich datganiad y gallai profiad preswyl yn yr awyr agored fod yn rhan o fywyd pob plentyn neu berson, ac os yw'r amseru'n anghywir yn awr, ac nad yw'r drws wedi'i gau am byth ar gynnig o'r fath, y bydd y Llywodraeth yn bwrw iddi i weithio gyda'r sefydliadau sy'n cefnogi'r cynnig, y cynigydd, Sam, a'r grŵp trawsbleidiol i feddwl am ffyrdd o annog mwy o ddefnydd o brofiadau awyr agored, a bydd hyn yn edrych ar gael gwared ar rwystrau go iawn neu ganfyddedig i ddefnydd ysgolion o sefydliadau preswyl awyr agored, ond ar unwaith, ffyrdd y gall y sector weithio gyda'r cwricwlwm newydd i sicrhau cymaint â phosibl o gyfleoedd iddynt hwy ac i ddysgwyr. Yn olaf, Weinidog, wrth orffen hoffwn ofyn i chi wneud pob ymdrech—. Rwy'n gwybod eich bod wedi ymgysylltu'n adeiladol â Sam, ac mae yntau wedi ymateb yn yr un modd. Rwyf eisiau i chi barhau â'r ddeialog honno gyda Sam, gyda'r sector addysg a gweithgareddau awyr agored ehangach, ac os caf awgrymu, gyda'r grŵp trawsbleidiol hefyd, oherwydd mae hon yn ddeddfwriaeth ag iddi fwriadau da, hyd yn oed os yw'r amseru'n anodd. Heledd Fychan AS: Diolch, Sam, am ddod â hyn ger ein bron ni. Heledd Fychan AS: Nid wyf yn dilyn eich cyfrifon Twitter a Facebook yn frwd, rhaid imi gyfaddef; rwy'n hoffi edrych ar ôl fy mhwysedd gwaed. [Chwerthin.] Ond rwyf wedi gweld yr ymchwil y cyfeirioch chi ati, ac yn sicr gallwn i gyd ailadrodd y manteision dirifedi sy'n gysylltiedig ag addysg awyr agored. Fel y soniodd Huw, mae llawer ohonom wedi cael y pleser o fod yn Llangrannog, Glan-llyn—mae pob un o'r rheini'n brofiadau amhrisiadwy, ac rwy'n siŵr yr hoffem weld pob plentyn a pherson ifanc yn cael y cyfle hwnnw. Byddwn yn eich cefnogi i fwrw ymlaen â'r Bil. Rydym yn credu ei bod yn bwysig fod rhai o'r materion a godwyd yn cael eu harchwilio ymhellach. Wrth gwrs, mae gennym gwestiynau ynghylch y cyllid. Mae yna rai cwestiynau a amlinellais pan wnaethom gyfarfod a thrafod rhai o'r pethau ymarferol, ond credwn ei fod yn haeddu cael amser ychwanegol a ffocws ychwanegol er mwyn i ni ddeall pwy sy'n cael manteisio ar y cyfle hwn a phwy nad yw'n cael gwneud hynny, pa risgiau sy'n codi o'r argyfwng costau byw gydag awdurdodau lleol o ran y rhai sy'n cael eu hamddifadu o'r profiadau hyn ar hyn o bryd, oherwydd ni allwn gymryd hynny'n ganiataol. Yn fwyaf arbennig, y peth a'n hargyhoeddodd yn fawr oedd bod y dystiolaeth yn dangos, yn bryderus, fod dwbl canran y plant sy'n byw yn yr awdurdodau lleol mwyaf cefnog yn mynychu ymweliadau preswyl addysg awyr agored o gymharu â disgyblion yn yr awdurdodau lleol sydd â'r lefelau uchaf o amddifadedd. Os ydym yn sôn am sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd dylai hynny olygu pawb, nid yn unig y rhai mwyaf cefnog a'r rhai sy'n gallu fforddio gwneud hynny. Felly, hyd yn oed os yw'n fater o edrych ar sut y darparwn ar gyfer teuluoedd sy'n derbyn grantiau ar gyfer gwisgoedd ysgol ac yn y blaen, byddem wrth ein boddau'n gweld hyn yn cael ei ehangu fel bod mwy o blant a phobl ifanc yn gallu elwa. Rwy'n credu bod yna bethau y gallwn eu plethu i mewn i'r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg hefyd, a'n cytundeb i weithio ar Fil addysg y Gymraeg, oherwydd mae'r cyfle y mae addysg awyr agored yn ei ddarparu i blant a phobl ifanc fwynhau drwy gyfrwng y Gymraeg yn allweddol i hyn hefyd, i allu bod yng Nglan-llyn mewn canŵ a mwynhau drwy gyfrwng y Gymraeg, i gael yr holl brofiadau sy'n cyfoethogi bywyd. Oherwydd mae'r profiadau addysg awyr agored hyn ar gyfer mwy na'r rhai sydd mewn addysg Gymraeg ar hyn o bryd yn unig. Os ydym o ddifrif am y Gymraeg fel continwwm sengl, mae hyn yn rhoi cyfle gwych i gyflwyno'r Gymraeg y tu allan i'r dosbarth, mewn ffordd hwyliog a deniadol. Gwn fod yr Urdd wedi cofleidio'r cyfleoedd a ddarparir gan y Bil hwn yn arbennig. Oni fyddai'n rhyfeddol pe bai pob plentyn yng Nghymru yn cael cyfle i fynd i Wersyll yr Urdd yma yng Nghaerdydd, neu Langrannog neu Lan-llyn, a chael y profiad hwyliog hwnnw drwy gyfrwng y Gymraeg? Mae hyn i gyd yn bosibl. Rydym yn credu bod rhai pethau—. Wrth gwrs, cyllid yw'r peth mwyaf heriol. Mae penderfynu ar y cyllidebau ar gyfer ymweliadau preswyl a llunio cynllun cynhwysfawr i gyd yn bwysig, ond rydym yn cytuno â'r egwyddor, ni waeth beth fo'u hincwm teuluol neu ddemograffeg, y dylai pob plentyn a pherson ifanc gael y cyfle hwn. Mae angen i ni ystyried ymgysylltiad athrawon hefyd wrth gwrs. Mae athrawon, yn aml iawn, yn trefnu mentrau o'r fath yn ychwanegol at yr hyn y maent yn ei wneud eisoes. Mae'n amlwg yn golygu amser i ffwrdd o'r ystafell ddosbarth hefyd, ond maent yn ei ystyried yn werthfawr, felly hoffem weld undebau athrawon yn rhan o'r gwaith wrth iddo fynd rhagddo. Ond rydym yn dymuno pob lwc i chi ac edrychwn ymlaen at ymgysylltu'n fwy cadarnhaol, os eir ymlaen â hyn. Laura Anne Jones AC: Rwy'n fwy na pharod i sefyll yma a chefnogi'r Bil hwn heddiw, a hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod Sam Rowlands am ei gyflwyno. Roeddwn wrth fy modd yn clywed agwedd gadarnhaol Plaid Cymru ar draws y Siambr hefyd. Roeddwn wrth fy modd pan welais fod y Bil hwn wedi'i lunio, oherwydd gwn fod yr Aelod dros Ogledd Cymru yn angerddol, fel finnau, ynglŷn â sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael y cyfle hwn—yn sicr fe gefais i'r cyfle pan oeddwn i'n iau—i gymryd rhan mewn ymweliad preswyl addysg awyr agored wythnos o hyd ar ryw adeg yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol, gan sicrhau eu bod hwythau hefyd yn gallu dysgu sgiliau newydd a gwerthfawrogiad o'r awyr agored efallai, yn ogystal â chael budd ohono o ran ymarfer corff. Mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru a llywodraethau i ddilyn yn neilltuo arian i gyflawni'r nod hwn, fel y gellir sicrhau bod ein hawdurdodau lleol a'n hysgolion yn gallu cyflwyno'r profiadau cyffrous hyn i'n pobl ifanc, hyd yn oed pan ydym yn wynebu amseroedd economaidd anodd. Mae manteision ymweliadau preswyl addysg awyr agored i bobl ifanc yn glir i bawb eu gweld. Yn ogystal â'r mwynhad amlwg ar wynebau ein pobl ifanc, maent yn ffordd o greu perthynas agosach â'u cyfoedion, rhannu profiadau gyda ffrindiau, hyrwyddo ffyrdd iachach o fyw, gwella iechyd meddwl, a gwella canlyniadau addysgol yn aml. Nid yw'n iawn fod pobl ifanc o ardaloedd llai cefnog yn cael eu hamddifadu o'r cyfleoedd hyn, fel sy'n digwydd mewn sawl rhan o fy rhanbarth yn ne-ddwyrain Cymru, ac ni ddylai ddibynnu ar ble' rydych yn byw na pha ysgol rydych yn ei mynychu. Mae llawer ohonom, fel fi, yn aml yn cymryd y cyfleoedd a'r profiadau a gawsom wrth dyfu i fyny yn ganiataol, pan fo llawer o blant a phobl ifanc ledled Cymru heb gael yr un profiadau. Mae'r Bil yn gwneud llawer i sicrhau tegwch ledled Cymru, gan sicrhau cyfle cyfartal, a gwneud yn siŵr nad oes gennym loteri cod post rhwng un cyngor a'r llall i gael profiadau fel hyn. Fel y dywedodd Sam Rowlands, pe bai pob plentyn yn cael ei ariannu'n llawn i gymryd rhan yn y gweithgareddau hyn, roedd yr amcangyfrifon cychwynnol o'r gost rhwng £10 miliwn a £15 miliwn, llai na 0.06 y cant o gyllideb Llywodraeth Cymru, er eich bod yn rhagweld y bydd yn fwy, Weinidog. Yn sicr, mae'n ymddangos i mi mai pris cymharol fach fyddai hynny i'w dalu am y canlyniadau addysg a llesiant i'n plant a fyddai'n deillio ohono. Yn amlwg, mae angen i'r arian ddod o'r canol, ac ni ddylai fod yn gyfrifoldeb i'n hawdurdodau lleol. Ond yn enwedig ar ôl y pandemig, gwelsom y buddsoddiad mewn cyfleusterau awyr agored a mannau awyr agored, a'r cynnydd mewn dysgu awyr agored, a'r ffaith bod ysgolion yn defnyddio'r amgylcheddau dysgu hynny i raddau llawer mwy erbyn hyn, a'r manteision y maent wedi'u creu ledled Cymru. Fel Gweinidog addysg yr wrthblaid, rwy'n falch o weld syniadau fel hyn yn dod i'r Senedd, gan wella'r hyn sydd yno eisoes, a hoffwn ddiolch i Sam Rowlands am gyflwyno'r Bil hwn heddiw. Rwy'n ei gefnogi'n llawn. Rwy'n gobeithio y gall y Siambr weithio'n adeiladol ar y Bil i sicrhau nad yw pobl ifanc yn cael eu hamddifadu. Rwyf eisiau gwneud un pwynt terfynol. Roeddwn eisiau gwneud yn siŵr ei bod yn glir i bawb mai cyfle y tu allan i'r ysgol y mae Sam yn ei gynnig, nid cyfle yn yr ysgol, fel y gwnaethoch chi ei amlinellu, Weinidog. Mae'r ddau'n bwysig, ac fel y dywedodd Huw yn gwbl briodol, profiad hirhoedlog dyfnach sy'n cael ei gynnig yma. Rwy'n eich annog chi i gyd heddiw i gefnogi'r cynnig hwn a'r Bil y mae Sam wedi'i gyflwyno. Diolch. Jane Dodds AS: Rwy'n sefyll yma fel rhywun sydd â meddwl agored iawn. Rwyf am fod yn onest, nid wyf wedi penderfynu sut rwyf am bleidleisio, ac rwy'n deall y gallai fy mhleidlais olygu parhad neu ddiwedd hyn heddiw. Felly, rwy'n sefyll yma i rannu ambell i safbwynt. Ar y naill law, diolch am wneud hyn, Sam. Rwy'n hoffi cyffredinoliaeth y peth. Rwy'n hoffi'r ffaith ei fod yn apelio at bawb, boed yn gyfoethog neu'n dlawd, ac nad yw'n gwahaniaethu. Mewn gwirionedd, dyna mae rhai ohonom yn ei gredu mewn perthynas ag incwm sylfaenol cyffredinol—y dylem i gyd gael yr isafswm incwm. Felly, byddwn yn cefnogi cyffredinoliaeth y peth. Nid wyf yn credu bod unrhyw un yma—neb yma—yn anghytuno â'r egwyddor, felly nid oes angen unrhyw dystiolaeth bellach yn fy marn i. Nid oes angen unrhyw ddadleuon pellach sy'n dweud wrthym i gyd sut y gwnaethom elwa o allu mynd i ffwrdd neu sut y mae eraill wedi elwa o hynny. Rwy'n meddwl am brofiad Huw Irranca-Davies yn Llangrannog. Euthum innau i Langrannog, ond nid oes unrhyw beth o gwbl y gallwn ei ddefnyddio o'r profiad hwnnw yn fy mywyd fel oedolyn. Nid yw hynny'n golygu nad oeddwn wrth fy modd gyda'r profiad, ac rwy'n credu y dylai pawb gael y profiad hwnnw. Mae'n wych fod gennych chi hynny. Ond rwy'n credu bod yna heriau enfawr yma. Fe wnaeth Sam siarad rhywfaint am hynny, ond mae gennym ni i gyd dai rydym yn eu cynnal, ac mae Llywodraeth Cymru a Gweinidogion y Cabinet yma i gydbwyso'r cyllidebau. Os gwariwn arian ar hyn, beth sy'n gorfod mynd? Deunaw miliwn o bunnoedd, a mwy o bosibl, oherwydd mae'n ymwneud â chapasiti, ac nid capasiti staff Llywodraeth Cymru yn unig, gallai capasiti staff ein hawdurdod lleol gael ei effeithio gan hyn. Felly, byddwn yn falch o glywed mwy am hynny yn y ddadl hon er mwyn imi allu penderfynu. Nawr, gadewch inni edrych ar yr hyn sy'n wynebu ysgolion, nid fan hyn yn unig—wel, yng Nghymru, mae gennym faterion penodol—ond ledled y DU. Nid oes gennym ddigon o athrawon ac rydym eisiau rhoi cyflog gwell iddynt. Nid oes gennym ddigon o gynorthwywyr dosbarth ac rydym eisiau rhoi cyflog gwell iddynt. Rydym yn gwybod, mewn ysgolion—ac mae hwn yn brosiect bach sydd gennyf—mae gan blant bydredd dannedd drwg iawn, ac rydym eisiau gweld gwelliant yn hynny ar lawr gwlad. Hyd yn oed gyda'r Cynllun Gwên yng Nghymru, mae rhwng 2 y cant a 5 y cant o blant dan saith oed yn mynd i'r ysbyty—mae dwbl hynny'n mynd i'r ysbyty i gael tynnu eu dannedd. Maent yn cael anesthetig ac yn cael eu derbyn i'r ysbyty. Felly, dyma rai o'r blaenoriaethau. Aeth rhai ohonom i dderbyniad Cymdeithas Cŵn Tywys y Deillion a chlywsom am gymhwyswyr. Pobl ydynt a ddylai fod yn gweithio gyda phlant sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg ar draws ein hysgolion yng Nghymru er mwyn eu helpu i allu bwrw ymlaen â'u bywydau. Dim ond 10 ohonynt sydd i'w cael yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae hynny'n golygu nad yw plant sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg yn gallu bwrw ymlaen â'u bywydau. Dyna rai o'r heriau sy'n cael eu hwynebu ar draws y DU. Yn ogystal, ac rwy'n falch o gefnogi hyn, mae Cymru wedi ymrwymo i brydau ysgol am ddim i blant. Nid wyf yn gwybod sut y byddwn yn gallu ariannu'r heriau hynny yn ogystal â'r hyn rydych yn ei gyflwyno, Sam. Felly, hoffwn glywed gennych, wrth i chi grynhoi, beth sydd am orfod mynd—yn llythrennol, beth y byddwn yn cael gwared arno, beth y byddwn yn ei daflu ymaith, os ydym am gefnogi hyn. Diolch yn fawr iawn. [Torri ar draws.] O mae'n ddrwg gennyf. Cewch, fe gewch chi ymyrryd. Na, roeddech chi wedi gorffen. Samuel Kurtz. Samuel Kurtz MS: Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n llongyfarch Sam Rowlands ar ei lwyddiant yn y bleidlais ac rwy'n ddiolchgar am y cyfle i siarad yn y ddadl hon ar ei Fil Addysg Awyr Agored (Cymru). Fel rhywun a oedd yn ddigon ffodus i dyfu i fyny mewn ardal wledig yn sir Benfro gyda chefn gwlad y tu allan i ddrws y tŷ, roeddwn bob amser yn ddigon ffodus i allu mwynhau ein byd natur yn llawn. Yn wir, mae'r cysylltiad pwysig hwnnw â'n hamgylchedd yn un na ddylem ei danbrisio. Nid yn unig oherwydd ei fod yn meithrin twf a myfyrdod, ond oherwydd ei fod yn datblygu parch ac yn dysgu am bwysigrwydd ein cefn gwlad, bywyd gwledig, bwyd, ffermio a bywyd gwyllt—gan ddatblygu ein dealltwriaeth a chryfhau ein hymdrechion i amddiffyn a chadw. Yn wahanol i rai o fy nghyd-ddisgyblion, datblygodd fy nghariad tuag at yr awyr agored o oedran cynnar, ond nid yw pob plentyn yn gallu profi cefn gwlad yn yr un ffordd ag y gwneuthum i. Gadewch inni fod yn glir, mae mynd ag addysg allan i'r awyr agored yn golygu dod â byd natur i mewn i'r ystafell ddosbarth, a thrwy wneud hynny, gallwch wella ansawdd a gwerth addysg plentyn. Ond oherwydd hynny mae angen inni sicrhau bod gan bob plentyn fynediad cyfartal at yr awyr agored. I mi a llawer o fy nghyd-ddisgyblion, teithiau i Lan-llyn a Llangrannog, y soniodd Aelodau eraill amdanynt heddiw, gwersylloedd yr Urdd, a wnaeth iddynt werthfawrogi gwerth natur yn llwyr. Felly, rwy'n falch iawn o glywed gan Sam fod yr Urdd yn cefnogi'r Bil hwn. Nid dyna'r tro cyntaf i mi a fy ffrindiau fod oddi cartref, ond i lawer, dyna oedd y tro cyntaf iddynt hwy gael cyfle i brofi'r awyr agored go iawn. O gaiacio ar draws Llyn Tegid, fel y soniodd Heledd, i deithiau cerdded natur a byw yn y gwyllt yn Llangrannog, chwaraeodd y cyfleoedd hyn ran allweddol yn fy natblygiad i a datblygiad fy ffrindiau nad oeddent mor ffodus â mi ac nad oeddent wedi profi pleserau a manteision ein hamgylchedd naturiol. Fodd bynnag, nid yw pob person ifanc yn cael y cyfle hwn. Drwy gymeradwyo'r Bil hwn, gallwn sicrhau bod pob plentyn, ni waeth beth fo'u cefndir, yn gallu darganfod a syrthio mewn cariad â chefn gwlad. Ac fel y clywsom gan gyd-Aelodau, mae manteision hyn yn ddiguro. Boed yn wella iechyd corfforol a llesiant meddyliol, datblygu dysgu personol a chymdeithasol gwell, ochr yn ochr â'r twf mewn datblygiad gwybyddol—mae'r cyfan yn gwella cyrhaeddiad addysgol a safonau addysgu. Mae'r effaith y gall addysg awyr agored ei chael ar ein pobl ifanc yn mynd ymhell y tu hwnt i'r hyn y gellir ei ddysgu mewn ystafell ddosbarth. Mae darganfod ein hawyr agored yn dod â chefn gwlad, ffermio, bywyd gwyllt a bywyd gwledig i mewn i'r ystafell ddosbarth ac ar hyn o bryd gallwn sicrhau bod gan bob plentyn fynediad di-ben-draw at y cyfleoedd hyn, o'r math y mae ein haddysg yn eu darparu. Wrth ymateb i'r Aelod blaenorol, pryderon Jane Dodds ynghylch y Bil hwn, byddwn yn erfyn arni i gynnig ei chefnogaeth i Sam ar y cam hwn fel y gellir gwneud rhagor o waith ar hyn i weld sut y gellir ei wneud, ac rwy'n credu bod yr arbedion nawdd y soniodd Sam amdanynt ar y dechrau wrth agor y ddadl hon, lle byddai arian yn cael ei arbed mewn mannau eraill drwy gael plant iachach, plant mwy addysgedig—rwy'n credu mai dyna lle mae'r gwir werth ym Mil Sam heddiw. Felly, rwy'n erfyn arnoch i'w gefnogi ar y cam hwn fel bod modd casglu tystiolaeth bellach ac fel y gellir cael mwy o drafodaeth ynglŷn â hyn. Rwy'n canmol Sam am ei ddiwydrwydd, ei ymroddiad a'i benderfyniad wrth fwrw ymlaen â'r Bil hwn, ac nid wyf yn petruso o gwbl rhag cynnig fy nghefnogaeth lawn iddo ef a'r Bil. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Carolyn Thomas AS: Rhaid i mi ddweud bod yna amcanion canmoladwy i'r cynnig hwn, a diolch, Sam, am gyflwyno'r mater hwn i'w drafod. Rwy'n credu bod dysgu sgiliau newydd yn ein hamgylchedd awyr agored, sgiliau fel annibyniaeth a meithrinperthynas well ag eraill mewn diwrnod mewn gwersyll neu weithgaredd awyr agored yn rhai a gofiwch, ac mae'n wych ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol a llesiant. Nid wyf yn cofio mynd i un gyda'r ysgol, ond euthum gyda'r Brownis a'r ysgol Sul, ac rwy'n cofio darllen i blant a oedd yn gweld colli eu rhieni, ac rwy'n gwybod bod hwnnw'n fater sydd wedi cael ei godi—mae bod i ffwrdd oddi wrth rhieni yn dipyn o broblem hefyd, ond mae'n dda i fagu hyder. Rwy'n credu ei bod mor bwysig i blant gysylltu â byd natur, achos os nad ydynt yn gwneud hynny'n blentyn, ni fyddant yn gwneud hynny'n oedolyn. Felly, mae hynny'n bwysig iawn wrth symud ymlaen. Ac o gofio bod yna argyfwng natur yn ogystal ag argyfwng hinsawdd, rwy'n credu y byddwn yn hoffi i unrhyw raglen a'r cwricwlwm addysgu plant am bwysigrwydd amrywiaeth o fywyd gwyllt a chynefinoedd, cysylltu â natur, ac rwy'n credu bod menter ysgolion y goedwig yn dda iawn. Felly, credaf y byddai'n gynnig gwych iawn pe bai'r cyllid yn bodoli, ac mae'r sefyllfa'n enbyd. Ac yn ôl y Prif Weinidog newydd, bydd yn mynd i fod yn waeth byth, ac rwy'n credu bod angen wynebu gwirioneddau yma. Fel y gwyddoch, roeddwn yn gynghorydd yn sir y Fflint am 14 mlynedd ac roeddwn yn aelod o'r pwyllgor craffu ar addysg, ac rwy'n cofio, pan oeddem yn edrych ar doriadau cyllid dros y blynyddoedd, ein bod wedi edrych ar y gost o roi'r arian hwnnw i'r canolfannau addysg awyr agored. Rwy'n gwybod bod pob awdurdod yn arfer rhoi tuag at Pentre-llyn-cymmer a Nant Bwlch yr Haearn, ond yn y diwedd, roedd yn rhaid inni edrych ar gyllid craidd addysg, felly roedd yn rhaid inni dorri'r cyllid hwnnw fesul tipyn, ac roedd hynny'n ofnadwy. Rwy'n cofio, yn ystod y cyni hwnnw, bob blwyddyn, roeddem yn torri 30 y cant oddi ar bob cyllideb, ac rwy'n cofio bod yn y siambr yn wynebu aelodau'r gwrthbleidiau wrth imi geisio cyflwyno taliadau gwastraff gardd a chynnydd i ffioedd parcio, ond roedd fy nghyd-aelodau cabinet yn dweud wrthyf, 'Naill ai hynny, neu dorri ar addysg.' Nawr, ni allwn dorri ar addysg, oherwydd mae mor bwysig, ond rwy'n gwybod bod awdurdodau lleol eraill wedi gwneud ac mae arnaf ofn, Sam, fod Conwy wedi torri'r cyllid craidd ar gyfer addysg gan achosi problemau enbyd yno, lle bu'n rhaid iddynt gael gwared ar gynorthwywyr addysgu a staff, ac ni allaf gefnogi hyn os na fydd yr arian hwnnw gennym yn y dyfodol. Mae cynghorau'n wynebu mwy byth o doriadau cyllid yn awr oherwydd yr hyn sydd wedi digwydd dros yr wythnosau diwethaf, oherwydd cynnydd ym mhris tanwydd, pwysau chwyddiant, ac mae pobl yn sôn am fynd ar streic. Rwy'n gwybod bod Caerdydd yn wynebu bwlch cyllid o £53 miliwn, sir y Fflint £26 miliwn, mae Conwy mewn sefyllfa debyg, ac rwy'n credu bod sir Ddinbych oddeutu £10 miliwn. Mae'n bryderus iawn. Maent yn edrych ar resymoli meysydd chwarae hyd yn oed—meysydd chwarae; mae eu hangen arnom fel bod plant yn gallu chwarae'n lleol. Cau pyllau nofio, cynnal hawliau tramwy cyhoeddus a gwasanaethau cefn gwlad—roedd rheini ar y bwrdd i'w torri pan oeddwn yn aelod cabinet—mynediad at hawliau tramwy a pharciau gwledig. Felly, heb y rheini, beth a wnawn? A dyna sydd ar y bwrdd yn awr. Mae'n peri cymaint o bryder. Rydym mewn sefyllfa mor enbyd. Mae plant yn llwglyd ac yn oer. Mae'n fater o flaenoriaethu, a dyma pam—. Diolch byth ein bod wedi sicrhau prydau ysgol am ddim i bawb; mae hynny'n gymaint pwysicach.Mae ysgolion yn edrych ar ofal cofleidiol, ar ddarparu'r gofal plant hwnnw fel y gall mamau fynd allan i weithio hefyd—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, mae pethau'n llifo'n dda ar hyn o bryd—ac ar ddod yn ganolfannau clyd. Mae hynny mor bwysig. Mae addysg bellach yn darparu brecwast oherwydd bod yna bobl yn mynychu'r rheini sy'n llwglyd. Oedolion ifanc sy'n llwgu yw'r rhain—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, nid oedd hwnnw'n ymyriad priodol, felly ni wnaf ateb. Wrth siarad yn fyr ag aelod addysg o CLlLC— Rwy'n credu bod yr Aelod wedi dweud na fydd yn derbyn yr ymyriad. Gadewch iddi orffen ei haraith. Carolyn Thomas AS: —dywedodd wrthyf fod Llywodraeth Cymru, serch hynny, yn darparu cyllid grant datblygu disgyblion, felly maent yn defnyddio'r arian hwnnw i alluogi'r rhai sy'n cael prydau ysgol am ddim i ymweld â chanolfannau addysg ar hyn o bryd. Felly, a allai'r Gweinidog roi gwybod i mi a yw'r cyllid hwnnw'n cael ei dorri, oherwydd mae'n hanfodol. Fel y dywedais, nid oes adnoddau gan ysgolion. Nid nawr yw'r amser ar gyfer hyn. Mae Llywodraeth y DU, Llywodraeth y Torïaid, yn sôn am fwy o doriadau ariannol, a'r toriadau ariannol hynny sy'n achosi problemau yma. Mae Llywodraeth Cymru'n gwario dros 90 y cant o'i chyllideb ar gyllido gwasanaethau cyhoeddus. [Torri ar draws.] Dim o gwbl. Ac rwy'n gobeithio y bydd Sam Rowlands a'r Ceidwadwyr yn cefnogi cyllid gwasanaethau cyhoeddus ac nid toriadau pellach wrth symud ymlaen. Dyna pam rwyf bob amser yn siarad yn erbyn cyni a thoriadau i gyllid gwasanaethau cyhoeddus. Dyna pam roeddwn eisiau dod yn aelod o'r blaid hon—i godi llais dros hynny. Nid nawr yw'r amser. Rwy'n cefnogi'r syniad ohono, ond nid nawr yw'r amser iawn, ac rwy'n gobeithio i mi eich argyhoeddi chi gyda'r pwyntiau hyn, oherwydd rwy'n teimlo'n gryf iawn am y peth. Diolch yn fawr iawn. Y siaradwr olaf yw Peter Fox. Peter Fox AS: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddweud y byddaf yn cefnogi'r cynnig hwn heddiw, ac rwy'n croesawu'r cynnig a gyflwynwyd gan Sam. Gwn fy hun faint o waith sy'n mynd i mewn i lunio Bil allan o ddim byd, ac rwy'n teimlo'n gryf fod eich memorandwm esboniadol yn rhagorol ac yn crynhoi pam fod angen y ddeddfwriaeth flaengar hon. Fel sydd wedi'i nodi yn y ddadl, mae addysg awyr agored yn rhan mor bwysig o ddatblygiad person ifanc. Mae'r sgiliau ymarferol a geir o'r fath brofiad yn fuddiol ar gyfer yn nes ymlaen mewn bywyd. Mae hefyd yn helpu i wella eu llesiant corfforol a meddyliol, ond hefyd i ddatblygu eu hannibyniaeth. Felly, ni ddylai pobl ifanc orfod cael eu hamddifadu o gyfleoedd o'r fath. Rwy'n gwybod yn bersonol sut y mae fy—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, roeddwn yn meddwl eich bod chi eisiau ymyrryd. Jenny Rathbone AC: Diolch yn fawr iawn i chi am dderbyn yr ymyriad, oherwydd fel cyn-arweinydd cyngor sir Fynwy, fe fyddwch yn ymwybodol fod y grant datblygu disgyblion yn un o'r ffyrdd y mae cyllid i fod i gael ei gyfeirio tuag at roi cyfleoedd i bobl ifanc na all eu teuluoedd fforddio talu amdanynt eu hunain. Felly, ar ôl gwrando'n astud ar yr hyn a ddywedodd Sam Rowlands am y ddeddf gofal gwrthgyfartal sydd gennym yma, sef mai rhai o'r awdurdodau lleol mwyaf difreintiedig yw'r rhai sy'n cael leiaf o addysg awyr agored, mae'n amlwg yn broblem fawr. Ond mae'n rhaid inni ofyn, 'A yw ysgolion yn defnyddio'u grantiau datblygu disgyblion yn briodol?' ac yn ogystal â hynny, mae'n rhaid inni ystyried pa mor dda yr awn i'r afael â'r ddeddf gofal gwrthgyfartal mewn perthynas â niferoedd y sefydliadau gwirfoddol sy'n cefnogi ysgolion i gynnal y mathau hyn o dripiau awyr agored, oherwydd rydym yn gwybod bod elusennau'n llawer llai tebygol o fod yn gweithredu mewn ardaloedd tlawd nag mewn ardaloedd sy'n well eu byd. Peter Fox AS: Diolch i chi, Jenny, ac rwy'n cydnabod eich pwynt yn llwyr ac roedd rhai pwyntiau da o ran sut y gellid defnyddio'r cymorth hwnnw. Rwyf am droi at gyllid llywodraeth leol yn y man, ond yn gyntaf hoffwn orffen y pwynt roeddwn yn ei wneud yn gynharach. Rwy'n gwybod yn bersonol sut mae fy mhlant fy hun a nifer o blant eraill yn sir Fynwy wedi elwa o'u cyfnod yng nghanolfan addysg awyr agored Gilwern a Pharc Hilston. Roedd Tal-y-bont yn arfer bod yn ganolfan addysg awyr agored hefyd, yn eiddo i Gasnewydd ond dan ofal sir Fynwy. Ac fe euthum fy hun yn fachgen ifanc, oddeutu 50 mlynedd yn ôl, i Langrannog hefyd, oherwydd cefais fy magu yng Nghaerfyrddin. Ond pan oeddwn yn arweinydd Cyngor Sir Fynwy, roeddwn bob amser yn sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn cael eu diogelu, hyd yn oed ar adegau pan oeddem yn wynebu setliadau heriol, ac rydym bob amser wedi cael setliadau heriol yn sir Fynwy. Rwyf wedi cael fy siomi'n fawr dros y blynyddoedd diwethaf pan fo awdurdodau lleol cyfagos, sy'n cael llawer mwy o arian na sir Fynwy, yn tynnu'n ôl o'r gwasanaeth addysg hwnnw yng Ngwent a gadael sir Fynwy ar ei phen ei hun i ysgwyddo'r cyfrifoldeb, ond fe wnaethom ei gadw i fynd. Felly, mae'n bwysig fod awdurdodau lleol yn ogystal ag ysgolion yn dangos ymrwymiad i ddatblygiad pobl ifanc, ac yn amlwg roedd hwnnw'n cael ei dynnu allan mewn rhai ardaloedd, ac roedd ganddynt yr adnoddau i'w wneud; fe wnaethant ddewis peidio. Felly, fel y mae'r enghraifft honno'n dangos, yn anffodus nid yw pob person ifanc yn cael cyfle cyfartal i gael addysg awyr agored, ac mae'r papur ymchwil a gyhoeddwyd gan Sam yn tynnu sylw pellach at y rhwystrau i addysg o'r fath: roedd 60 y cant o'r ysgolion a arolygwyd yn nodi rhesymau ariannol; nid yw 23 ysgol yn cynnig unrhyw gymorth i deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd yn ariannol, a'r rhwystr mwyaf o bell ffordd i addysg awyr agored oedd anallu teuluoedd i dalu. Nawr, rwy'n gwybod ein bod mewn cyfnod heriol, ond mae'n rhaid i chi gofio y byddai'r Bil hwn, pe bai'n cael Cydsyniad Brenhinol, yn dod i rym mewn oddeutu dwy neu dair blynedd, ac rydym yn siarad am arian a chyfyngiadau ariannol sydd gennym ar hyn o bryd. Weithiau, rhaid i chi ddod o hyd i resymau pam y gall pethau ddigwydd, nid pam na allant ddigwydd. A dyna un o'r problemau mwyaf y deuthum ar eu traws ers i mi ddod yma i Gynulliad Cymru—i'r Senedd, yn hytrach—sef ein bod yn dod o hyd i resymau pam na all pethau ddigwydd a pham, Jane, ein bod yn ceisio cyfnewid 'Beth allwch chi ei wneud?' am 'Beth na allwch chi ei wneud?' Weithiau, mae'n rhaid ichi wneud i bethau ddigwydd. Mae pobl yn gwneud i bethau ddigwydd neu mae pobl yn atal pethau rhag digwydd, a dyna sy'n digwydd yn rhy aml. Mae'n rhaid ichi ragweld, edrych i'r dyfodol, sut y gallwch wella cenedlaethau'r dyfodol, oherwydd ni fydd y cyfnod anodd hwn yn para am byth. Edrychwch ymlaen, edrychwch tua'r dyfodol, edrychwch tuag at genedlaethau'r dyfodol. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod yn cefnogi'r Bil hwn. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru a'r Gweinidog yn rhyngweithio mwy â Sam wrth symud ymlaen. Rwy'n siomedig na all y Llywodraeth gefnogi'r Bil, a gwn y bydd mwy o waith ac ymgysylltiad yn digwydd. Ond rwy'n gofyn i chi, Jane, fel y gwnaeth Sam, i ystyried yn ofalus. Rydych mewn sefyllfa freintiedig iawn, yn dal y bleidlais fwrw mewn sawl ffordd ar benderfyniadau yma. Mae'n gyfrifoldeb mawr. Peidiwch â mygu cyfleoedd cenedlaethau'r dyfodol; rhowch gyfle iddynt anadlu. Lywydd, dyna gloi fy nadl, ac rwy'n cefnogi'r Bil. Galwaf ar Sam Rowlands i ymateb i'r ddadl. Sam Rowlands MS: Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddweud pa mor wych oedd gwrando ar Aelodau o bob rhan o'r Siambr y prynhawn yma yn nodi eu barn a'u cefnogaeth, mewn egwyddor fan lleiaf, am y syniadau sy'n sail i'r Bil addysg awyr agored (Cymru). Mae bob amser yn ddiddorol clywed am brofiadau Aelodau yn yr awyr agored wych a'r manteision a gawsant yn tyfu i fyny ac yn yr ysgol hefyd. Rwyf am ailadrodd ambell bwynt a godwyd heddiw gan Aelodau yn ystod y ddadl a'r drafodaeth, ac mae'n ein hatgoffa bod manteision iechyd a lles i addysg awyr agored, ynghyd â gwerthfawrogiad o'r byd rydym yn byw ynddo, ein hamgylchedd, sy'n sicr â'r gallu i ddylanwadu ar ein pobl ifanc yn y pen draw. Cawsom ein hatgoffa hefyd fod yr ystadegau a'r data'n dangos, yn anffodus, nad oes digon o'n pobl ifanc yn gallu cyfranogi, a chyfyngiadau ariannol yw'r rheswm am hynny yn bennaf. Wrth gwrs, clywsom drwy gydol y ddadl am bryderon yr Aelodau ynghylch amseru a chostau, ac maent yn bryderon pwysig iawn. Ond fel yr amlinellais wrth agor y ddadl heddiw, rwy'n argyhoeddedig y byddai arbedion mwy hirdymor o safbwynt iechyd corfforol ac iechyd meddwl a llesiant. Rwy'n credu y byddai arbedion i'w hennill drwy'r ffordd y mae ein pobl ifanc yn ymgysylltu â'r amgylchedd yn ehangach. Ac fel y mae'r Aelodau eisoes wedi nodi yma heddiw, holl bwrpas hyn yma heddiw yw er mwyn fy ngalluogi i, gan weithio gydag eraill, i edrych ar y manylion, i ddeall yn iawn beth yw'r cyfleoedd a sut y gellir ariannu hynny wedyn ac efallai o ble y gall yr arbedion ddod hefyd. Ac fel yr amlinellodd Peter Fox eiliad yn ôl, mae Biliau, fel y gwyddom, yn cymryd blynyddoedd i fynd drwy'r broses. Felly, er bod yna bryderon uniongyrchol yma a nawr, yn sicr, rwy'n deall hynny, ond drwy roi 12 mis i mi gael golwg ar y manylion hyn, gwneud yr ymchwil yn briodol a dod yn ôl a mynd drwy'r broses, mae gennym gyfle gwych i wneud gwahaniaeth, gwahaniaeth a fydd yn para'n hir, ym mywydau ein pobl ifanc. Rwy'n ymwybodol o'r amser, Ddirprwy Lywydd, felly wrth gloi hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cefnogi'r Bil hyd yma heddiw. Yn sicr, Weinidog, diolch am eich ymwneud chi drwy'r broses hon hefyd. Rwy'n edrych ymlaen at weld hynny'n parhau. Mae Aelodau'r Senedd, tîm cymorth y Senedd, cynghorau, yr addysg awyr agored, a llawer o rai eraill wedi darparu llawer iawn o gefnogaeth hyd yma, ac rwy'n gobeithio bod Aelodau o bob rhan o'r Siambr wedi clywed heddiw ac yn deall y pethau cadarnhaol y gallai'r Bil hwn eu darparu, a chaniatáu i mi gyflwyno'r Bil hwn yn y dyfodol a chyflawni'r gwaith sydd angen ei wneud i sicrhau manteision a fydd yn para'n hir i'n pobl ifanc a'n cymunedau ar hyd a lled Cymru. Diolch yn fawr iawn. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. 7. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod—Bil Manteisio ar Fudd-daliadau Eitem 7 sydd nesaf, dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod, Bil manteisio ar fudd-daliadau, a galwaf ar Sioned Williams i wneud y cynnig. Cynnig NDM8108 Sioned Williams Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil defnyddio budd-daliadau. 2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai: a) sicrhau bod mwy o arian yn dod i bocedi pobl Cymru drwy gynyddu'r defnydd o daliadau cymorth Cymreig a thaliadau cymorth awdurdodau lleol; b) gosod dyletswydd ar bob sefydliad sector cyhoeddus i hyrwyddo i'r eithaf y defnydd o fudd-daliadau Cymreig a budd-daliadau awdurdodau lleol; c) ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus symleiddio a sicrhau cysondeb drwy Gymru o ran y dull o ymgeisio am fudd-daliadau o'r fath. Cynigiwyd y cynnig. Sioned Williams MS: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn ddiweddar gofynnodd etholwr sy'n ei chael hi'n anodd talu ei biliau, 'Beth yw pwynt Llywodraeth Cymru os na allant ein helpu?' Mae'n gwestiwn dilys, oherwydd pa les yw datganoli os ydym yn ddi-rym i warchod ein dinasyddion mwyaf bregus fan lleiaf? Mae'r cynnig sydd o'ch blaen yn ffordd o wneud y pwerau sydd gennym, yr adnoddau y gallwn eu defnyddio, yn fwy effeithlon ac effeithiol drwy sicrhau bod pob punt—pob punt Gymreig o gefnogaeth sy'n cael ei chynnig—yn cyrraedd pocedi pobl mor hawdd a chyflym â phosibl. Mae'r diffygion, y gwahaniaethau, a dros y degawd diwethaf o reolaeth y Torïaid yn San Steffan, y creulondeb llwyr sy'n nodweddu system les y DU wedi achosi caledi i ddegau o filoedd o Gymry ac wedi arwain at orfodi Llywodraeth Cymru i gamu i'r adwy lle mae San Steffan wedi gwneud cam â Chymru. Rhoddodd Deddf yr Alban 2016 bwerau newydd i'r Alban mewn perthynas â nawdd cymdeithasol, gan gynnwys cyfrifoldeb dros fudd-daliadau penodol, y mae Llywodraeth yr Alban yn eu defnyddio i greu system nawdd cymdeithasol yn yr Alban yn seiliedig ar urddas, tegwch a pharch. Mae Plaid Cymru wedi ymgyrchu ers tro byd dros ddatganoli gweinyddu lles i Gymru, ac rydym yn falch o symud ymlaen ar y mater hwn drwy ein cytundeb cydweithio gyda Llywodraeth Cymru. Ond tra byddwn yn aros am gynnydd ar yr uchelgais hwnnw, mae'r cymorth sydd ar gael o goffrau Cymru wedi bod yn cynyddu'n gyflym ac felly'n esblygu'n glytwaith o daliadau a ddarparir yn bennaf gan yr awdurdodau lleol, er nad yn llwyr. Weithiau mae'r taliadau'n ddarostyngedig i brawf modd, weithiau'n gysylltiedig â budd-daliadau penodol, gydag amodau cymhwysedd amrywiol, gwahanol ffurflenni a rheoleidd-dra talu, a dulliau o wneud ceisiadau ar wahân i'w gilydd yn bennaf, dulliau sy'n aml yn gymhleth. Gadewch inni edrych ar y cynlluniau sydd ar gael i helpu gyda biliau tanwydd er enghraifft. Yng Nghymru, mae gennym gynllun cymorth tanwydd y gaeaf, a ailenwyd yn ddiweddar yn ei ail gyfnod cyflwyno o'r mis Medi hwn yn gynllun cymorth tanwydd Cymru. Gall aelwydydd cymwys ar fudd-daliadau penodol rhwng misoedd penodol hawlio taliad ariannol untro gan eu hawdurdod lleol. Mae hyn yn wahanol i'r taliad tanwydd y gaeaf a'r taliad tywydd oer sy'n cael ei gynnig gan Lywodraeth y DU. Mae'r cynllun talebau tanwydd yn fath newydd o gymorth i ddarparu cymorth mewn argyfwng i aelwydydd sy'n gorfod talu ymlaen llaw am eu hynni, gan ddarparu talebau ychwanegol i'r rhai ar fesuryddion rhagdalu a gwasanaeth argyfwng i aelwydydd nad ydynt ar y grid nwy. Ond ni allwch wneud cais; rhaid i aelwydydd gael eu cyfeirio. Mae'r gronfa cymorth dewisol yn darparu dau fath o grant, ac mae un ohonynt, y taliad cymorth mewn argyfwng, ar gael tan ddiwedd mis Mawrth i helpu aelwydydd nad ydynt ar y grid nwy sy'n dioddef caledi ariannol i dalu am olew ychwanegol ac LPG. Mae'r rhai sydd angen cymorth brys tuag at nwy ychwanegol a mesuryddion rhagdalu trydan yn gallu cael cymorth hefyd, ond os chwiliwch chi am y gronfa cymorth dewisol ar Google, fe gewch dudalen Llywodraeth Cymru nad yw'n crybwyll hyn o gwbl. Unwaith eto, rhaid i geisiadau gael eu gwneud drwy weithiwr cymorth. Felly, fe welwch sut mae pethau: amodau cymhwysedd gwahanol, rheolau gwahanol, prosesau gwahanol ar gyfer gwneud ceisiadau. Ac mae hyn i gyd i fod i helpu pobl sydd mewn argyfwng, sydd, i fod yn onest, heb fod yn y lle iawn yn feddyliol i fynd ar drywydd hyn i gyd tra'u bod yn poeni sut i gadw eu plant yn gynnes. A dim ond cymorth gyda thanwydd yw hyn. Mae Sefydliad Bevan yn dadlau dros yr angen am system fudd-daliadau Gymreig a gwasanaethau datganoledig. Mae ei ymchwil i'r ffordd y cafodd y taliadau cymorth, lwfansau a grantiau Llywodraeth Cymru ac awdurdod lleol hyn eu gweinyddu yn awgrymu y gallai newidiadau i gynlluniau unigol a'u hintegreiddio'n system ddi-dor gynyddu eu cyrhaeddiad a'u heffaith. Pan wnaeth y galwadau hyn am y tro cyntaf, roedd yna 12 grant a lwfans gwahanol, pob un yn cael eu gweinyddu ar wahân, felly, hyd yn oed pan oedd meini prawf cymhwysedd yr un fath, roedd rhaid i bobl wneud cais am bob math o gymorth ar wahân. Fel yn achos yr enghraifft a roddais ynghylch taliadau cymorth tanwydd, mae llawer mwy wedi'u cyflwyno neu gymhwysedd wedi'u ehangu ers dechrau'r pandemig a'r argyfwng costau byw. Ac felly dim ond cynyddu y mae'r sail a'r ddadl dros greu un system integredig ddi-dor. Ac nid yw cymorth yn gymorth os nad ydych chi'n gwybod ei fod yno neu os nad yw'n hygyrch. Roedd yr arolwg diweddaraf gan Plant yng Nghymru yn cynnwys y farn hon gan un ymarferydd sy'n gweithio gyda phlant a theuluoedd: 'Nid yw’n ddigon i ddweud bod pobl heb wybodaeth am yr hyn y gallan nhw ei hawlio. Fyddai llawer o’r bobl agored i niwed rwyf fi’n eu gweld yn methu cael hyd i ffordd trwy’r system gymhleth hon heb lawer o gefnogaeth barhaus.' Dylem gofio hynny wrth nodi bod llai na hanner yr aelwydydd cymwys wedi gwneud cais am rownd gyntaf y cynllun cymorth tanwydd y gaeaf. Mae mudiadau fel Home Start Cymru, sy'n gweithio ar draws 18 awdurdod lleol i gefnogi teuluoedd â phlant, yn cytuno bod angen gwella a symleiddio'r sefyllfa. Mewn cyfarfod diweddar o grŵp trawsbleidiol y Senedd ar dlodi, fe wnaethant rannu safbwyntiau o'u prosiect Cefnogi Pobl Caerffili. Dywedodd un fam nad oedd hi'n gwybod bod dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am y taliad costau byw ac felly ei bod ar ei cholled. Dywedodd un arall, 'Cefais daliad o £326 i mewn yr wythnos o'r blaen. Nid wyf yn siŵr ar gyfer beth y mae. Ond mae'r cyfeiriad ar fy nghyfrif banc yn dweud mai dim ond rhif ydyw.' Rhannodd staff pa mor anodd yw cefnogi teuluoedd gyda system mor gymhleth i'w llywio. Un broblem gyffredin yw bod cynghorwyr yn dweud na allant weithredu ar ran teuluoedd i helpu i ddatrys pethau fel hawliadau gostyngiadau'r dreth gyngor; mae angen caniatâd ysgrifenedig. Ac rwy'n credu bod y dyfyniad canlynol gan weithiwr cymorth yn crisialu'r angen am newid fel y mae'r cynnig yn ei argymell: 'Tad sengl oedd un o'r bobl a gefnogais. Er ei fod yn cael credyd cynhwysol ac yn dibynnu ar fanciau bwyd, roedd wedi bod yn talu swm llawn y dreth gyngor ers 14 mis. Fe ganfyddais nad yw cynghorwyr y dreth gyngor yn gofyn a ydych chi ar fudd-daliadau.' Gwyddom mai ôl-ddyledion y dreth gyngor yw'r broblem ddyledion fwyaf i aelwydydd Cymru. Byddai cysylltu cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor â chymhwysedd i gael credyd cynhwysol yn atal pobl rhag mynd i ddyled. Byddai manteision yn sgil gostwng costau gweinyddu a chapasiti'n cael ei ryddhau i awdurdodau lleol a chynghorwyr allu hyrwyddo budd-daliadau, gan roi hwb pellach i'r nifer sy'n eu cael. Wrth ateb cwestiynau blaenorol yn y Senedd ar wella a sicrhau bod y nifer mwyaf o bobl yn eu cael, nododd y Gweinidog y gwaith parhaus, megis gweithio gydag awdurdodau lleol i archwilio sut y gellid datblygu un pwynt mynediad a rhannu arferion gorau drwy gyhoeddi pecyn cymorth ar sut i symleiddio'r broses ymgeisio. Mae'r Llywodraeth hefyd wedi dweud y gall awdurdodau lleol sicrhau pasbort i'r rhai sy'n gymwys ar gyfer y cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor i gynllun cymorth tanwydd Cymru, ond mae llai na hanner ein hawdurdodau lleol yn gwneud hynny. Mae angen dull cyfannol, system gyfan. Mae'r Gweinidog wedi siarad am y gwaith ar greu siarter ar gyfer darparu'r taliadau hyn. Ac rwy'n croesawu'r ffaith bod ymchwil yn cael ei wneud gan Policy in Practice, a ariennir gan sawl sefydliad, i edrych ar sut y gellir cyflawni dull cyffredin a fyddai'n arwain at ddull 'dim drws anghywir' y gwyddom ei fod mor hanfodol ac effeithiol. Fy nadl i yn hyn o beth yw na fydd siarter, sef canllawiau i bob pwrpas, yn ddigon. Ni fydd yn osgoi loteri cod post; ni fydd yn osgoi'r tyllau yn y rhwyd ddiogelwch hollbwysig honno. Mae angen troedle statudol cadarn ar gyfer system sy'n seiliedig ar hawliau a fydd yn sicrhau cydlyniad ac effeithiolrwydd, ac yn caniatáu i bobl wneud cais am yr holl gymorth y mae ganddynt hawl i'w gael mewn un lle. Ac yng Nghymru, mae gan Lywodraeth Cymru bwerau rheoleiddio dros lywodraeth leol, felly mae modd cyflawni hyn. Byddai cost i greu system sy'n siarad â'r holl systemau sydd angen iddi siarad â hwy, ond mae'r manteision yn amlwg. Yn bwysicaf oll, bydd yn helpu'r rhai sydd angen pob un geiniog o help i gadw'r gwres ymlaen, i gadw'r golau ymlaen, i roi dillad am y plant a bwyd yn eu boliau. Diolch. Jenny Rathbone AC: Cyfraniad diddorol gan Sioned Williams, ac rwy'n rhannu eich angerdd ynghylch sicrhau bod pawb yn cael yr hyn mae ganddynt hawl iddo, ond hynny, wrth gwrs, yw prif sail cynigion Llywodraeth Cymru i geisio helpu pobl drwy'r cyfnod hynod anodd hwn. Dyna pam y mae gennym 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi'. Felly, rwy'n bendant yn cefnogi datganoli gweinyddu budd-daliadau i Gymru, fel yr argymhellwyd gan Sefydliad Bevan, oherwydd rwy'n deall y manteision a ddaeth yn sgil hynny yn yr Alban. Ynghanol yr argyfwng costau byw na fu ei debyg o'r blaen, mae'n edrych yn ddeniadol iawn i gyflwyno Bil o'r fath yma, ond a yw o fewn cwmpas ein pwerau ac a fydd ei angen os oes Llywodraeth yn y dyfodol yn mynd i gytuno i ddatganoli budd-daliadau? Yn amlwg, mae angen inni wella'r hyn a wnawn ar hyn o bryd, oherwydd mae llawer gormod o bobl yn dioddef yn ddychrynllyd iawn. Ac ar hyn o bryd, mae elusennau, er enghraifft, yn codi'r faner goch dros niferoedd y bobl sy'n cael eu gorfodi i gael mesuryddion rhagdalu am ddim rheswm heblaw eu bod wedi mynd i ddyled ar eu trefniadau presennol. Mae hyn yn destun pryder mawr, ac yn rhywbeth y dylem wneud rhywbeth yn ei gylch yn ôl pob tebyg, oherwydd mae datgysylltu drwy'r drws cefn yn gwbl annerbyniol. Ni fyddem yn gwneud hyn mewn perthynas â dyled dŵr, ac nid oes angen inni ei wneud mewn perthynas â galluogi pobl i gadw'n gynnes a chadw'r golau ymlaen. Ond p'un a oes angen deddfwriaeth arnom i wella'r sefyllfa ai peidio, neu p'un a oes angen cyfarwyddyd pellach arnom gan Lywodraeth Cymru i wella asesiadau awdurdodau lleol o'r mater hwn. Roeddwn yn bryderus iawn o glywed Sioned yn dweud bod llai na hanner yr awdurdodau lleol yn sicrhau pasbort i'r rheini sy'n derbyn budd-dal gostyngiad y dreth gyngor i fudd-daliadau eraill, fel cynllun taliad tanwydd y gaeaf yng Nghymru. Mae hynny'n peri pryder, oherwydd rwy'n gwybod yn sicr nad yw hynny'n digwydd yng Nghaerdydd lle'r oedd holl denantiaid y cyngor, er enghraifft, wedi cael pasbort awtomatig i gynllun taliadau tanwydd y gaeaf Cymru y llynedd. Nawr, nid oedd y nifer a'i câi y llynedd yn 100 y cant, oherwydd yn amlwg roedd yn rhywbeth a wnaethpwyd mewn amser byr iawn, ond gan fod Llywodraeth Cymru wedi ymestyn y cynllun i gynnwys nifer mwy o aelwydydd erbyn hyn—400,000 o aelwydydd incwm isel ar gyfer y gaeaf sydd i ddod—er i'r cynllun ddechrau ar 26 Medi, rwy'n synnu'n fawr fod yn agos at hanner nifer y bobl gymwys eisoes wedi manteisio ar yr hawl. Yn amlwg mae hynny'n adlewyrchu'r angen, ond mae hefyd yn adlewyrchu cymhwysedd pobl i sicrhau eu bod yn ei gael. Rwy'n credu bod prydau ysgol am ddim i bawb yn gyfle a gollwyd i gael sgwrs briodol gyda rhieni ynglŷn ag a ydynt yn hawlio popeth y mae ganddynt hawl iddo mewn gwirionedd, oherwydd rwy'n gwybod bod awdurdodau lleol yn Lloegr wedi cynyddu'r nifer sy'n manteisio ar fudd-daliadau yn aruthrol o ganlyniad i gael y sgwrs honno— Jenny, mae angen i chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda. Jenny Rathbone AC: —am hyn. Yn olaf, os yw cynigion Gordon Brown ar gyfer diwygio cyfansoddiadol yn cynnwys datganoli gweinyddu budd-daliadau i Gymru, a'u bod yn cael eu derbyn gan Lywodraeth yn y dyfodol, a fyddem angen y ddeddfwriaeth hon felly? Ac yn y cyfamser, sut y gallwn wella'r rhan y mae awdurdodau cyhoeddus yn ei chwarae yn y mater pwysig hwn? Mark Isherwood AC: Ym mis Ionawr 2019, lansiodd Sefydliad Bevan ei brosiect ar system fudd-daliadau Cymru, gyda'r nod o ddatblygu fframwaith cydlynol a symlach o help yng Nghymru. Roeddent yn dweud hyn: 'Mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol Cymru yn darparu nifer o gynlluniau gwahanol sy'n amrywio o ddarparu prydau ysgol am ddim i daliadau tai dewisol.' Roeddent yn ychwanegu: 'Ar hyn o bryd, mae pob un o'r cynlluniau hyn yn cael eu hystyried fel rhai ar wahân i'w gilydd, sy'n golygu bod yn rhaid i hawlwyr wneud ceisiadau lluosog yn aml i gael yr holl gymorth ychwanegol Cymreig y mae ganddynt hawl i'w gael, ac yn creu aneffeithlonrwydd yn y system.' Wrth siarad yn seminar fforwm polisi Cymru ar leihau tlodi yng Nghymru, diwygio lles, dulliau lleol o weithredu a strategaethau hirdymor ym mis Mawrth 2019, nodais fod Cartrefi Cymunedol Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb yn gadarnhaol i'w galwad ar Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i weithio gyda'r Ganolfan Byd Gwaith yng Nghymru er mwyn cydleoli gwasanaethau a'i gwneud yn bosibl i geisiadau am fudd-daliadau awdurdodau lleol gael eu gwneud ar yr un pryd â'r credyd cynhwysol. Wrth siarad yma ym mis Medi 2020, yn y drafodaeth ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Budd-daliadau yng Nghymru: opsiynau i'w cyflawni'n well', roeddwn yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhellion y dylai sefydlu '"system fudd-daliadau Gymreig" gydlynol ac integredig ar gyfer yr holl fudd-daliadau sy’n seiliedig ar brawf modd y mae’n gyfrifol amdanynt... [wedi] eu cydgynhyrchu gyda phobl sy’n hawlio’r budd-daliadau hyn a’r cyhoedd ehangach yng Nghymru' 'a'i fod yn defnyddio pecyn cymorth dull bywoliaethau cynaliadwy Oxfam'. Ychwanegais, fodd bynnag, 'Mae angen i ni droi geiriau yn weithredu go iawn yn awr fel bod pethau'n cael eu gwneud gyda phobl o'r diwedd yn hytrach nag iddyn nhw.' 'Dywed Llywodraeth Cymru ei bod yn cwblhau'r camau sydd i'w cymryd yn dilyn ei hadolygiad o'i rhaglenni a'i gwasanaethau presennol'— ac— 'ni fydd datblygu cyfres o egwyddorion a gwerthoedd ar gyfer seilio system fudd-daliadau Gymreig arnynt a mynd i'r afael â thlodi'n ehangach yn llwyddo heb gynnwys dinasyddion yn y canol.' Mae hynny dros ddwy flynedd yn ôl. Wrth siarad yma ym mis Ionawr 2021, gofynnais i'r Prif Weinidog sut roedd yn ymateb i alwadau gan Sefydliad Bevan, Cyngor ar Bopeth Cymru a Cartrefi Cymunedol Cymru ar Lywodraeth Cymru i sefydlu un pwynt mynediad ar gyfer budd-daliadau a chynlluniau cymorth a weinyddir yng Nghymru. Wrth siarad yma ym mis Gorffennaf 2021, fe heriais Lywodraeth Cymru am y camau a gymerodd i sefydlu system fudd-daliadau Gymreig gydlynol ac integredig, fel yr argymhellwyd yn adroddiad pwyllgor 2019 ar fudd-daliadau yng Nghymru. Gofynnais i'r Trefnydd, a oedd yn ateb cwestiynau ar ran y Prif Weinidog, 'pa gamau mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd ers hynny i droi ei geiriau yn weithredu go iawn'. Byddwn yn falch o gefnogi'r cynnig fel y'i drafftiwyd yn unol â hynny. Luke Fletcher AS: Rwy'n credu bod Sioned wedi taro'r hoelen ar ei phen pan ddywedodd nad yw cymorth yn gymorth os nad ydych yn gwybod ei fod yno. Hoffwn ddiolch iddi am gyflwyno'r cynnig hwn. Y gwir amdani yw y ceir llawer o bobl nad ydynt yn manteisio ar y budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt—budd-daliadau y maent eu hangen yn ddybryd. Rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd ar y Llywodraeth i chwilio am y rhai sydd mewn angen a pheidio â disgwyl i'r rhai sydd mewn angen gamu ymlaen. Ceir stigma cynhenid wrth hawlio unrhyw gymorth; rydym wedi gweld adroddiadau dirifedi'n tynnu sylw at hyn. Clywsom fod y fiwrocratiaeth wrth wneud cais yn gweithredu fel rhwystr; unwaith eto, ceir adroddiadau dirifedi'n tynnu sylw at hyn. Fel y soniodd Sioned, nid yw pobl yn y lle iawn yn feddyliol ac nid oes ganddynt amser i chwilio am ystod fawr o gymorth gan wahanol ddarparwyr. Dyna pam rwy'n cefnogi egwyddor cyffredinoliaeth, dyna pam rwy'n credu mewn prydau ysgol am ddim i bawb a dyna pam rwy'n credu bod gwasanaethau sylfaenol cyffredinol yn hanfodol. Rwy'n credu—yn credu'n gryf—y dylai unrhyw gymdeithas sy'n dosturiol fynd ati i sicrhau bod gan bawb fynediad at yr hanfodion. Os ydym yn mynd i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw, os ydym yn mynd i ddeffro o hunllef neoryddfrydol y DU heddiw, mae angen atebion radical, wedi'u seilio ar gyffredinoliaeth. Rwy'n gweld hwn fel cynnig sy'n mynd â ni i'r cyfeiriad cywir ac rwy'n cefnogi cynnig fy nghyfaill yn llwyr. Carolyn Thomas AS: Bûm mewn tair seminar costau byw yng ngogledd Cymru yn ddiweddar, a chyfathrebu ynghylch pa fudd y mae gan bobl hawl iddo oedd y broblem fwyaf. Cafwyd amrywiaeth o awgrymiadau: gwiriwr grant ar-lein, argraffu rhif cyngor CAB ar fagiau presgripsiwn o'r fferyllfa, cael cynghorwyr cymunedol sy'n dod i adnabod y rhai sy'n anodd eu cyrraedd yn y gymuned a rhif un pwynt mynediad, a hoffwn i'r Llywodraeth ysgrifennu at bawb, fel y gwnaethant yn ystod y pandemig—dyna fy awgrym i hefyd. Trafodwyd hefyd fod angen i drigolion a sefydliadau wybod beth sy'n digwydd. Mae angen inni wneud i bob cyswllt gyfrif, felly mae hynny'n golygu cynghorwyr; swyddfeydd cyngor ar bopeth; gofal cymdeithasol cynghorau; adrannau tai, refeniw a budd-daliadau; a swyddogion cronfa'r loteri. Mae'r rhestr yn parhau: meddygon, banciau bwyd, ymwelwyr iechyd a nyrsys ardal. Mae darparu budd-daliadau yn flêr, yn fiwrocrataidd ac yn gostus. Mae awdurdodau lleol yn brin o staff; gwelais awdurdod lleol yn hysbysebu am 12 o staff budd-daliadau newydd, ond roedd pob un o'r rheini ar gyflogau isel hefyd, felly nid yw hynny'n helpu. Ond yn y bôn, pe bai ychwanegiad i'r credyd cynhwysol; pe bai gennym incwm sylfaenol cyffredinol; pe bai cynnydd yn incwm pawb i gyd-fynd â chwyddiant; a phe bai gwasanaethau cyhoeddus, sy'n gyflogwyr mawr yng Nghymru, yn cael eu hariannu'n iawn, yn hytrach na chael eu torri flwyddyn ar ôl blwyddyn, byddai gan bobl arian yn eu pocedi i'w wario yn yr economi leol. Byddai hynny'n sicr yn well. Rwy'n gwrando ac yn dysgu, ac mae'r rhai sydd ag arian yn ei gadw, tra bod y rhai sydd heb lawer o arian yn fwy hael ac yn ei wario—byddant yn prynu tocynnau raffl a byddant yn helpu'r gymuned, gan wario pob ceiniog olaf o'u harian yn helpu eraill, nid yn ei gelcio. Os nad yw'r newid hwnnw'n digwydd, mae angen inni ddatganoli nawdd cymdeithasol. Rwy'n credu bod angen newid sylfaenol. Mae angen inni gael gwared ar y system fudd-daliadau a biwrocratiaeth unwaith ac am byth. Beth bynnag, diolch. Galwaf ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt. Jane Hutt AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch am y cyfle i ymateb i'r ddadl hon ar y cynnig ar gyfer Bil manteisio ar fudd-daliadau. Rwy'n croesawu'r cyfle y mae'r ddadl hon yn ei roi i adrodd ar y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella'r nifer sy'n manteisio ar fudd-daliadau ac i adrodd ar y ffyrdd rydym yn gyrru hyn yn ei flaen, mewn cydweithrediad â'n hawdurdodau lleol, yn enwedig. Ni fu erioed mor hanfodol fod pobl yn cael eu hannog i hawlio pob punt y mae ganddynt hawl i'w hawlio. Drwy ein dull gwneud i bob cyswllt gyfrif, rydym yn mabwysiadu safbwynt rhagweithiol ar gyfer adnabod cymhwysedd ar gyfer budd-daliadau, gan ganolbwyntio ar y gwasanaethau cyhoeddus y mae pobl yn eu defnyddio fwyaf. Ac fel y dywedodd yr Aelod sy'n cyflwyno'r cynnig, mae ein budd-daliadau Cymreig, sy'n cynnwys cymorth fel prydau ysgol am ddim, grant datblygu disgyblion—mynediad, y cynllun gostyngiad y dreth gyngor, y gronfa cymorth dewisol a thalebau Dechrau Iach, yn achubiaeth i gannoedd o filoedd o bobl yn ystod yr argyfwng costau byw gwaethaf ers dros 40 mlynedd. Eleni, mae ein cronfa cymorth dewisol wedi cefnogi bron i 148,000 o unigolion bregus gyda mwy na £16.5 miliwn o ddyfarniadau, caiff help tuag at filiau'r dreth gyngor ei hawlio gan 268,000 o bobl, ac mae 73,024 o blant yn cael prydau ysgol am ddim, ac mae'n bwysig ein bod yn cofnodi hynny. Jane Hutt AC: Mae ymwybyddiaeth o'r cymorth ariannol sydd ar gael, boed wedi'i ddatganoli neu heb ei ddatganoli, yn cynyddu mewn cartrefi ar draws Cymru oherwydd llwyddiant ymgyrchoedd fel 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi'. Mae dros 9,000 o bobl hyd yma yn cael cymorth i hawlio dros £2.6 miliwn o incwm ychwanegol yn yr adroddiadau diweddaraf, ac rwy'n diolch i'n partneriaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, am eu cefnogaeth i'n hymgyrch gyda'n gilydd i annog pobl ledled Cymru i hawlio'r hyn y mae ganddynt hawl iddo drwy hyrwyddo ein deunyddiau ymgyrchu. Ond er ein bod yn gwneud gwaith rhagorol gyda'n gilydd i godi ymwybyddiaeth, rwy'n cydnabod bod mwy y gallwn ei wneud i symleiddio system fudd-daliadau Cymru, a dyna lle rydym yn canolbwyntio ein gweithredoedd. Ar hyn o bryd, bydd unigolion yn aml yn gorfod llenwi sawl ffurflen sy'n gofyn am wybodaeth debyg ond sydd angen eu hanfon at adrannau gwahanol. Rwy'n gwybod bod hyn yn rhwystro pobl rhag manteisio ar eu hawliau, a dyna pam y mae Llywodraeth Cymru a'n partneriaid yn gwbl ymrwymedig i weledigaeth gyffredin o system fudd-daliadau Gymreig sydd ag un pwynt cyswllt, lle nad oes raid i unigolyn ddweud ei stori fwy nag unwaith. Mae'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yn gweithio gyda fy swyddogion i wneud gwaith archwilio a nodi atebion a fydd yn caniatáu ar gyfer system gydlynol, unedig, ac rwy'n croesawu'r ymchwil ar wahân sy'n cael ei harwain gan Sefydliad Bevan ar y rhwystrau rhag hawlio budd-daliadau Cymreig. Fodd bynnag, tra byddwn yn gweithio tuag at y nod hwn, rydym yn parhau i gyflawni gwelliannau. Rydym yn benderfynol o sicrhau bod y dull o weinyddu budd-daliadau Cymreig yn un sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn dosturiol, yn seiliedig ar hawliau. Mae'r gwaith a wnawn i symleiddio system fudd-daliadau Cymru yn cefnogi ein cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru ar ddatganoli gweinyddu lles ac archwilio'r seilwaith angenrheidiol sydd ei angen i baratoi ar gyfer hyn. Elfen hanfodol o'r gwaith hwn yw'r siarter fudd-daliadau, cyfres sylfaenol o egwyddorion ar gyfer system fudd-daliadau Gymreig y gwnaethom ei chreu gyda rhanddeiliaid o'n grŵp uchafu incwm. Rydym bellach yn bwrw ymlaen â'n siarter o'r cychwyn cyntaf hyd at ei gweithrediad drwy ymgysylltu â phobl sy'n hawlio budd-daliadau Cymreig a phartneriaid cyflawni. I gyd-fynd â siarter fudd-daliadau, mae gennym becyn cymorth arferion gorau ar gyfer awdurdodau lleol, sy'n cynnig awgrymiadau ymarferol ac arweiniad ar weinyddu budd-daliadau Cymreig. Rydym wedi datblygu'r pecyn cymorth hwnnw mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, gan ddefnyddio'u profiad ymarferol a gweithredol. Credwn mai gweithio ar y cyd â'n cydweithwyr llywodraeth leol yw'r ffordd fwyaf priodol o gyflwyno'r pecyn cymorth yn effeithiol, ac rydym yn gweithio gyda hwy i rannu a chyfnewid arferion da i hybu'r nifer sy'n manteisio ar fudd-daliadau yng Nghymru. Yn ddiweddar, gwelsom nifer o enghreifftiau o arferion gorau, o daliadau newydd yn cael eu darparu gan awdurdodau lleol, yn fwyaf arbennig gydag awtomeiddio'r taliad costau byw o £150, a anfonwyd yn uniongyrchol at unigolion cymwys mewn llawer o achosion heb fod angen iddynt wneud cais—dull sydd bellach wedi'i fabwysiadu gan awdurdodau o dan gynllun cymorth tanwydd presennol Llywodraeth Cymru. Fel y dywedodd Jenny Rathbone, mae dros 185,000 o daliadau eisoes wedi eu talu mewn llai na mis. Felly, rwy'n ddiolchgar i bawb sydd wedi bod yn rhan o hyn, boed yn gweithio ar y rheng flaen yn helpu unigolion i hawlio budd-daliadau Cymreig, neu'n gyfrifol am weinyddu'r budd-daliadau hynny, am eu hymrwymiad parhaus i sicrhau bod pobl ledled Cymru yn gallu hawlio'r hyn sydd ar gael iddynt. Dyna lle rydym yn canolbwyntio ein hymdrechion. Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, ni allaf siarad mewn dadl ar fudd-daliadau heb sôn am yr aelwydydd ledled Cymru sy'n wynebu trafferthion ariannol dyddiol, gyda'r lefel uchaf o chwyddiant ers dros 40 mlynedd. Rwy'n gwybod y bydd holl Aelodau'r Senedd ar draws y Siambr yn ymuno â'm galwad ar y Canghellor i wneud y peth iawn a chadarnhau na fyddant yn torri eu haddewidion blaenorol, ac y byddant yn uwchraddio'r holl fudd-daliadau nawdd cymdeithasol 10.1 y cant o fis Ebrill y flwyddyn nesaf. Diolch. Sioned, fe ddefnyddioch yr holl amser a neilltuwyd i chi ar gyfer agor a chloi i agor y sesiwn, ond rwyf wedi cytuno i neilltuo munud ychwanegol ichi gloi'r sesiwn, felly rwyf am roi amser ichi wneud hynny yn awr. Sioned Williams MS: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n anodd pan ydych ar Zoom a phan fo gennych COVID. Hoffwn ddweud wrth Jenny, sy'n dymuno aros, na all teuluoedd aros. Byddai’n well gennyf wrando ar y rheini a chanddynt brofiad bywyd, yn hytrach na Gordon Brown, ynghylch yr atebion sydd eu hangen. Mark Isherwood, diolch am eich cefnogaeth. Rwy’n cytuno nad yw’r rhain yn syniadau newydd. Mae'n hen bryd gweithredu. Dychmygwch pe bai hyn wedi bod ar waith ychydig flynyddoedd yn ôl, cyn i'r pandemig a'r argyfwng costau byw daro. Clywsom yn y cwestiynau yn gynharach heddiw i Rebecca Evans fod awdurdodau lleol dan gymaint o bwysau; dylem wneud popeth a allwn i'w helpu i ehangu a rhyddhau eu capasiti, a byddai hyn yn gwneud hynny. Gwyddom fod Cyngor ar Bopeth yn nodi cynnydd o 200 y cant, ac roedd hynny yn ôl ar ddiwedd mis Awst a dechrau mis Medi. Mae angen inni ryddhau capasiti’r gweithwyr cymorth hynny i wneud mwy na llenwi ffurflenni. Weinidog, rwy'n cydnabod yr ymdrech y mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud ar wneud y gorau o incwm gyda 'Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi' ac ati, ond gwyddom nad yw canllawiau bob amser yn ddigon. Rydym wedi gweld, pan fuom yn siarad am gost y diwrnod ysgol, nad yw canllawiau ar wisg ysgol bob amser yn cael eu dilyn, a dyna pam nad yw 'mewn llawer o achosion' yn ddigon da. Dyna pam fod angen y math hwn o ddeddfwriaeth—er mwyn rhoi hyn oll ar sylfaen statudol. Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at y ddadl. Diolch yn fawr. Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Rwyf wedi clywed gwrthwynebiad, felly gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. 8. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg—'Mae’n effeithio ar bawb: Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr' Eitem 8 heddiw yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Mae’n effeithio ar bawb: Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Jayne Bryant. Cynnig NDM8112 Jayne Bryant Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ‘Mae’n effeithio ar bawb: Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Gorffennaf 2022. Cynigiwyd y cynnig. Jayne Bryant AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cyn imi ddechrau fy sylwadau agoriadol, dylwn rybuddio unrhyw un sy’n gwrando ar y ddadl heddiw y byddaf yn siarad mewn ffordd gyffredinol am aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith plant a phobl ifanc. Efallai y bydd rhywfaint o'r hyn rwyf fi ac eraill yn sôn amdano'n peri gofid i rai pobl. Fe ddechreuaf drwy ddweud yn glir beth yn union rwy'n ei olygu wrth sôn am 'aflonyddu rhywiol'. Rwy'n golygu gwneud sylwadau rhywiol, jôcs, a sylwadau cas i achosi cywilydd, gofid neu ddychryn; rwy'n golygu tynnu lluniau o dan ddillad unigolyn heb yn wybod iddynt; rwy'n golygu rhannu lluniau neu fideos noeth o rywun heb eu caniatâd, neu anfon lluniau neu fideos rhywiol na ofynnwyd amdanynt. Wrth ddweud aflonyddu rhywiol, nid wyf yn golygu 'tynnu coes'. Nid 'bechgyn yn bod yn fechgyn' yw aflonyddu rhywiol, beth bynnag y mae hynny'n ei olygu. Nid bwlio mohono, chwaith. Pan fyddaf yn sôn am aflonyddu rhywiol, rwy'n sôn am fath o drais rhywiol. Lansiwyd yr ymchwiliad hwn gennym oherwydd canfyddiadau brawychus adroddiad thematig Estyn, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2021, ochr yn ochr â phryderon a fynegwyd wrthyf gan gynrychiolwyr heddluoedd yng Nghymru. Cawsom dystiolaeth lafar ac ysgrifenedig gan weithwyr proffesiynol, sefydliadau a Llywodraeth Cymru rhwng mis Chwefror a mis Mai eleni. Hefyd, fe wnaethom lansio arolwg wedi'i anelu at blant a phobl ifanc i ofyn iddynt pa newid roeddent am ei weld i leihau aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion mewn ysgolion a cholegau. Roedd y dystiolaeth hynod gyson a gawsom yn disgrifio cefndir torcalonnus i ddysgu llawer o blant a phobl ifanc: chwibanu, sylwadau cas, cam-drin geiriol homoffobig a thrawsffobig yn ystod y diwrnod ysgol. Ac mae'r broblem yn waeth y tu allan i'r diwrnod ysgol. Mae'r sylwadau sarhaus hynny'n parhau ar apiau negeseua a'r cyfryngau cymdeithasol. Ochr yn ochr â’r sylwadau hynny, mae dysgwyr yn derbyn cymaint o ddelweddau rhywiol na ofynnwyd amdanynt fel bod llawer o bobl ifanc wedi eu dadsensiteiddio i gamdriniaeth drwy ddelweddau. Mae'r broblem mor gyffredin fel bod llawer o ferched a menywod ifanc yn ei hystyried yn rhan o fywyd normal. Dylai hynny ddychryn pob un ohonom yma. Oherwydd mae effaith aflonyddu rhywiol yn sylweddol ac yn hirhoedlog. Mae'n effeithio ar iechyd meddwl a chyrhaeddiad addysgol pobl ifanc. Gall amharu ar hunanhyder, achosi i bobl ymwrthod ag addysg a chymdeithas, arwain at gamddefnyddio sylweddau, hunan-niweidio a hyd yn oed ceisio lladd eu hunain. Mae'r risgiau hyn yn uwch i'n dysgwyr mwyaf agored i niwed. Mae'r ffaith bod aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr mor gyffredin mewn ysgolion a cholegau yn adlewyrchiad o gymdeithas yn fwy cyffredinol. Mae rhywiaeth, homoffobia a thrawsffobia wedi’u gwreiddio’n ddwfn mewn ysgolion, yn union fel y maent yn ein cymdeithas yn gyffredinol. Mae pornograffi sy'n dangos rhyw afrealistig, afiach neu dreisgar hyd yn oed ar gael yn hawdd, a dyma'r addysg rhyw gyntaf y mae llawer o bobl ifanc yn ei chael. Ac er bod y cyfryngau cymdeithasol ac apiau negeseua'n darparu cyfleoedd gwych i bobl gyfathrebu a chadw mewn cysylltiad, gallant greu pwysau ar bobl ifanc i edrych neu ymddwyn mewn ffordd benodol. Gallant fod yn gyfrwng ar gyfer aflonyddu rhywiol drwy ei gwneud yn hawdd rhannu delweddau rhywiol. Jayne Bryant AC: Mae achosion aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn hynod gymhleth. Am y rheswm hwnnw, ychydig iawn o werth a welwn mewn beio unrhyw un am ei achosion sylfaenol. Ond rydym yn glir fel pwyllgor fod angen i lawer o bethau newid. Clywsom dro ar ôl tro gan weithwyr proffesiynol a chan bobl ifanc, er gwaethaf pocedi o arferion da, fod addysg rhyw a pherthnasoedd yn wael yn gyffredinol. Clywsom nad oedd yn cael ei darparu'n ddigon da, ei bod yn annigonol, o ansawdd gwael, ac weithiau hyd yn oed yn gwbl absennol. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod disgyblion yn cael eu haddysgu am achosion sylfaenol aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion. Clywsom dro ar ôl tro fod y cwricwlwm newydd yn gyfle i wella addysg rhyw a pherthnasoedd. Gobeithiwn y caiff ei botensial ei wireddu. Ond ni fydd unrhyw blentyn sydd ym mlwyddyn 8 neu uwch ar hyn o bryd—y rhai yn y perygl mwyaf o wynebu aflonyddu rhywiol gan gyfoedion—byth yn cael eu haddysgu o dan y cwricwlwm newydd. Felly, boed yn yr hen gwricwlwm neu'r cwricwlwm newydd, mae'n rhaid i newid ddigwydd yn gyflym er lles pob dysgwr. Clywsom hefyd gan bobl ifanc fod staff ysgolion yn aml yn bychanu eu profiadau o aflonyddu rhywiol, yn diystyru eu pryderon, neu hyd yn oed yn anwybyddu arwyddion ei fod yn digwydd yn llwyr. Mae'n rhaid i bob ysgol ddweud yn gwbl glir wrth eu dysgwyr fod aflonyddu rhywiol yn annerbyniol. Mae'n rhaid iddynt ymateb i adroddiadau o ddifrif, yn brydlon ac yn gyson. Rydym wedi gofyn i Estyn ddiwygio eu fframwaith arolygu ar gyfer ysgolion a cholegau i sicrhau eu bod yn canolbwyntio ar ba mor dda y mae sefydliadau addysg yn cadw cofnodion o aflonyddu rhywiol, sut y maent yn ymateb i honiadau o aflonyddu rhywiol, ac yn cefnogi dysgwyr sydd wedi’i wynebu. Ond rydym yn deall nad yw llawer o staff ysgolion yn teimlo eu bod wedi cael hyfforddiant digonol i allu ymateb i aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn hyderus. Nid yw'n hawdd sgwrsio â phobl ifanc am ymddygiad rhywiol afiach. Mae angen cefnogaeth ar staff ysgolion. Rydym wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid wedi'i glustnodi ar gyfer hyfforddiant i bob aelod o staff ysgolion, nid staff addysgu'n unig, i nodi achosion o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion, ymateb iddynt a rhoi gwybod amdanynt. At ei gilydd, gwnaethom 24 o argymhellion yn ein hadroddiad, ac rwyf eisoes wedi crybwyll rhai ohonynt, ond cyn imi droi at fy nghyd-Aelodau ar draws y Senedd ac yn y Llywodraeth am eu cyfraniadau, hoffwn ychwanegu ychydig rhagor. Efallai mai’r pwysicaf yw bod yn rhaid i bobl ifanc fod yn ganolog i'r gwaith o ddatblygu ymateb Llywodraeth Cymru i aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ar ffurf bwrdd cynghori pobl ifanc. Ein gobaith yw y bydd y bwrdd hwn yn llywio camau gweithredu mewn perthynas â rhai argymhellion allweddol: ymgyrch codi ymwybyddiaeth genedlaethol wedi’i thargedu at ddysgwyr a’u teuluoedd; adolygiad o'r cymorth a gynigir i ddioddefwyr aflonyddu rhywiol; a datblygu cronfa o ddulliau effeithiol o ddarparu addysg rhyw a pherthnasoedd. Ni wyddom ddigon am raddfa a natur aflonyddu rhywiol mewn ysgolion cynradd a cholegau. Clywsom y gall ddechrau ymhlith plant mor ifanc â naw oed, sy'n peri cryn bryder. Rydym wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad sy’n addas i'r oedran o aflonyddu rhywiol mewn ysgolion cynradd. Roedd Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo i adolygiad tebyg mewn colegau, gwaith hollbwysig y mae pob un ohonom yn falch ei fod ar y gweill. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu ailddatgan ymrwymiad y Llywodraeth i fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr yma heddiw yn y Senedd, ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y gwaith a wnaethpwyd hyd yma a’r amserlen ar gyfer y gwaith sydd i ddod i roi’r argymhellion a dderbynnir ar waith. Hefyd, hoffwn gyflwyno rhai pryderon i’r Gweinidog a godwyd gyda ni gan randdeiliaid pan ofynnwyd am adborth ar ymateb Llywodraeth Cymru i’n hadroddiad. Y cyntaf: a wnaiff y Gweinidog gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod effaith aflonyddu rhywiol ar bobl ifanc a’r effaith hirdymor y gall ei chael ar fywyd plentyn, hyd yn oed os nad yw wedi'i gategoreiddio fel profiad niweidiol yn ystod plentyndod? Yn ail: nad yw'r cyllid a ddarperir ar gyfer hyfforddiant i staff ysgolion ar roi gwybod am achosion o aflonyddu rhywiol ac ymateb iddynt yn dod ar draul cefnogaeth a hyfforddiant mawr eu hangen i staff ysgolion mewn meysydd eraill. Ac yn olaf, a wnaiff y Gweinidog roi sicrwydd i ni y bydd pobl ifanc yn rhan ystyrlon ac uniongyrchol o'r gwaith o gyd-ddatblygu ymateb y Llywodraeth i aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion, o weithio ar yr ymgyrch codi ymwybyddiaeth genedlaethol i ddatblygu set o sesiynau ar arferion gorau i ysgolion eu haddysgu am effaith aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion? Edrychaf ymlaen at glywed y cyfraniadau gan aelodau’r pwyllgor a’r holl Aelodau ar draws y Senedd, a chan y Gweinidog. Diolch yn fawr. Laura Anne Jones AC: Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Gadeirydd ein pwyllgor, Jayne Bryant, am ei holl waith caled yn ystod yr adroddiad hwn, ac wrth gwrs, i’r clercod a’r staff a fu mor fedrus wrth gynorthwyo’r pwyllgor yn ein gwaith, gan ein galluogi i gwblhau'r adolygiad pwysig hwn, a hynny mor gyflym. Roedd yn amlwg fod angen inni gwblhau'r adolygiad hwn yn gyflym i ddeall y materion a hefyd i greu ymwybyddiaeth o’r hyn sy’n digwydd yn y Senedd hon, yn Llywodraeth Cymru a ledled Cymru, o ran yr hyn sy’n digwydd yn ein hysgolion—natur erchyll y peth a’r ffaith ei bod yn broblem sy’n tyfu ac a fydd yn parhau i dyfu oni bai ein bod yn gweithredu ar unwaith. Ddirprwy Lywydd, fe wnaeth adroddiad Estyn ar aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith disgyblion ysgolion uwchradd yng Nghymru, '"Dydyn ni ddim yn dweud wrth ein hathrawon"', helpu i lywio, fel y dywedodd ein Cadeirydd, ac ysgogi'r adroddiad hwn. Yn frawychus, canfu fod hanner ein holl ddisgyblion yn dweud eu bod wedi cael profiad personol o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ar ryw ffurf, a dywedodd tri chwarter ein holl ddisgyblion eu bod wedi'i weld yn digwydd i ddisgyblion eraill, gyda’r mathau mwyaf cyffredin o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn ystod y diwrnod ysgol. Gall effaith aflonyddu rhywiol ar ddysgwyr fod mor ddifrifol fel ei bod nid yn unig yn effeithio ar eu dysgu, ond hefyd ar eu perthynas ag eraill, iechyd meddwl, rhagolygon bywyd, ac mewn achosion difrifol, gall arwain at hunan-niweidio a hunanladdiad. Ar ddechrau’r broses hon, cyfarfu ein Cadeirydd, Jayne Bryant, â chynrychiolwyr yr heddlu fis Tachwedd diwethaf, lle clywodd am bryder penodol yr heddlu ynghylch aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion, sydd wedi dod yn fwyfwy cyffredin, yn enwedig ar-lein. Roedd hyn yn cyd-daro â pharatoadau Estyn i adrodd ar ei ymchwiliad i aflonyddu rhwng cyfoedion ymhlith disgyblion ysgolion uwchradd. Amlygodd yr adroddiad, a gyhoeddwyd ar 8 Rhagfyr 2021, anferthedd y broblem. Mae'n gyffredin mewn ysgolion, i'r fath raddau, fel yr amlinellodd ein Cadeirydd, nes ei fod wedi'i normaleiddio, sy'n peri cryn bryder. Mae'n amlwg o'n canfyddiadau nad yw pobl ifanc yn teimlo'n gyfforddus yn dweud wrth staff ysgolion am eu problemau, ac mae ysgolion yn ei chael hi'n anodd ymateb pan gânt wybod am yr achosion hynny. Mae’r aflonyddu hwn yn digwydd y tu hwnt i oriau ysgol, fel y nododd ein Cadeirydd hefyd, gan dreiddio i fywydau pobl ifanc ar-lein ac yn yr ysgol, rhywbeth a waethygwyd gan y pandemig, fel y dengys ein canfyddiadau. Fel y dywedir yn y rhagair, er inni edrych o ddifrif ar y mater bryd hynny, wrth imi edrych yn ôl chwe mis yn ddiweddarach, mae’n amlwg i mi ein bod wedi tanamcangyfrif anferthedd y broblem. Canfu Estyn fod 61 y cant o ddisgyblion benywaidd a 29 y cant o ddisgyblion gwrywaidd wedi wynebu aflonyddu rhywiol— James Evans MS: A wnewch chi dderbyn ymyriad? Laura Anne Jones AC: Gwnaf, wrth gwrs. James Evans MS: Hoffwn i dalu teyrnged hefyd i fy nghyd-Aelod Jayne Bryant am ei gwaith rhagorol yn cadeirio'r pwyllgor rwy'n aelod ohono. Hoffwn godi’r pwynt eich bod yn sôn am wrywod sydd hefyd yn wynebu aflonyddu rhywiol. Rwy’n siŵr y byddech yn cytuno â mi, ac eraill sy’n aelodau o'r pwyllgor hwnnw, na ddylai unrhyw un fod ag ofn rhoi gwybod os ydynt yn wynebu aflonyddu rhywiol, yn enwedig dynion ifanc sy’n teimlo stigma os ydynt yn rhoi gwybod. Rwy'n siŵr y byddech yn cytuno, os oes unrhyw un yn wynebu aflonyddu rhywiol, ni waeth beth fo'u rhywedd, dylent roi gwybod i'r awdurdodau cywir. Laura Anne Jones AC: Yn sicr. Mae fy nghyd-Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn. Yr hyn sy'n peri pryder hefyd yw bod y niferoedd a welsom, a'r dystiolaeth rydym wedi'i chasglu, yn tanamcangyfrif y broblem yn ôl pob tebyg, o ran yr hyn a welwn. Ymhellach, er na wnaeth Estyn ystyried aflonyddu rhywiol mewn ysgolion cynradd neu golegau, fe wnaeth eu hymchwiliad eu hargyhoeddi ei bod yn debygol fod aflonyddu rhywiol yn gyffredin yn y ddau le. Clywodd ein pwyllgor yr un peth hefyd. Mae dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol hefyd mewn perygl, ac er nad oes data cadarn wedi'i gaffael eto i atgyfnerthu'r pwynt, mae ganddynt reswm dros gredu bod grwpiau eraill o ddysgwyr mewn perygl hefyd. Mae achosion aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn gymhleth. Maent yn cynnwys agweddau cymdeithasol sydd wedi'u gwreiddio'n ddwfn, ac sydd wedi'u cryfhau gan bornograffi, y cyfryngau cymdeithasol, ac yn y blynyddoedd diwethaf, y pandemig. Maent yn faterion diwylliannol sydd wedi’u gwreiddio ac sy’n ymestyn ymhell y tu hwnt i gylch gwaith y pwyllgor a chwmpas yr ymchwiliad hwn. Mae’n broblem ar draws y gymdeithas gyfan. Mae angen i Lywodraeth Cymru, y Senedd, awdurdodau lleol, ysgolion, elusennau, rhieni, teuluoedd, pob un ohonom, weithredu ar y cyd i ddadnormaleiddio’r ymddygiadau niweidiol hyn. Gwn fod y Gweinidog yma heddiw ac y bydd yn ymateb i’r ddadl, ac rwyf am ofyn a wnaiff sicrhau bod yr ymgyrch ymwybyddiaeth gan Lywodraeth Cymru yn cael ei chreu a’i gweithredu yn ein hysgolion cyn gynted â phosibl. Dim ond drwy addysg ac ymwybyddiaeth briodol y bydd pobl ifanc yn deall y broblem go iawn, yn gallu mynd i'r afael â hi, ac yn gwybod hefyd sut i gael y cymorth sydd ei angen arnynt. Cawsom awgrymiadau rhagorol gan y bobl ifanc a roddodd dystiolaeth i'n pwyllgor, a gwelaf fod y Cadeirydd yn nodio'i phen, mae'n sicr yn werth edrych ar hynny—eu syniadau ar gyfer posteri a'r cyfryngau cymdeithasol ac yn y blaen. O’r dystiolaeth a roddwyd, ac o fod yn ymwybodol fel rhiant i blentyn sydd newydd adael yr ysgol gynradd yn ddiweddar, mae’n amlwg fod achosion o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn digwydd yn y grwpiau blynyddoedd 5 a 6 hynny hefyd, gan ein bod wedi cael tystiolaeth yn ein pwyllgor sy'n profi hynny. Byddwn yn ddiolchgar i’r Gweinidog pe gallai sicrhau bod unrhyw ymgyrch yn cyrraedd y grwpiau hynny mewn ysgolion cynradd, wrth gwrs, gyda’r cynnwys yn addas i’r oedran, fel y gallwn fynd i'r afael â'r ymddygiad hwnnw cyn gynted â phosibl. Mae 24 o argymhellion wedi’u gwneud yn yr adroddiad, sy’n ymdrin ag ystod o faterion, gyda’r gobaith y bydd Llywodraeth Cymru, Estyn, a chyrff eraill sy’n ymwneud â'r mater yn eu cael ac yn bwrw ymlaen â phethau mewn modd adeiladol. Rydym ni, y Ceidwadwyr Cymreig, yn croesawu argymhellion y pwyllgor ac yn llwyr gefnogi’r gofynion a’r argymhellion pwysig i Lywodraeth Cymru. Credwn fod aflonyddu rhywiol ar unrhyw ffurf yn gwbl annerbyniol, a chredwn fod yn rhaid iddi fod yn flaenoriaeth lwyr i Lywodraeth Cymru sicrhau nad yw ysgolion yng Nghymru yn amgylchedd lle mae pobl ifanc yn cael eu gwneud i deimlo’n anniogel, a lle gall aflonyddu rhywiol a thrais rhywiol ffynnu. Diolch. Sioned Williams MS: Yr hyn a oedd yn amlwg i ni o'r dystiolaeth a glywsom ni fel pwyllgor oedd bod aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion mor gyffredin fel ei fod yn cael ei dderbyn fel ymddygiad normal. Hwnna oedd y peth mwyaf trawiadol i fi, yn sicr, a bod ysgolion hefyd yn cael trafferth i ddelio gyda hyn yn effeithiol. Mae'r effaith yn un sydd, mewn rhai achosion, yn effeithio'n ddifrifol ar les, cyrhaeddiad ac iechyd dysgwyr.Fel dywedodd Laura Anne Jones, roedd yr hyn y clywson ni gan y bobl ifanc eu hunain yn hynod werthfawr, a'u syniadau ynglŷn â sut dylid delio gyda'r broblem—pethau syml ond amlwg, fel bod angen poster i esbonio beth sy'n dderbyniol a beth sydd ddim yn dderbyniol. Mae Plaid Cymru yn cefnogi prif argymhellion yr adroddiad, sef ymgyrch genedlaethol i godi ymwybyddiaeth gyda phrofiad a barn pobl ifanc yn ganolog iddi hi, a'r galwadau ar Lywodraeth Cymru ac Estyn i sicrhau bod ysgolion yn ymateb yn well, yn cadw cofnodion gwell, ac yn cefnogi disgyblion yn well, yn ogystal â'r angen i gynnal adolygiad o'r sefyllfa yn ein hysgolion cynradd, achos mae'r agweddau sy'n creu'r broblem hon yn dechrau amlygu eu hunain o oedran ifanc, ac fe gawson ni dystiolaeth o hynny yn ein hymchwiliad. Mae mwyafrif llethol y rhai sy'n profi'r aflonyddu yn ferched, ac mae disgyblion LHDTC+ a disgyblion eraill sydd â nodweddion lleiafrifol hefyd yn fwy tebygol o brofi aflonyddu. Roedd yn glir o'n hymchwiliad bod achos yr aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn gymhleth, ond roedd yn eglur bod agweddau cymdeithasol wrth wraidd hyn, sydd, yn anad dim, yn gyfrifol am greu'r amgylchiadau sy'n arwain at yr achosion yma tu fewn a thu hwnt i gatiau'r ysgol a choleg. Mae Plaid Cymru yn llwyr gefnogi rôl y cod addysg cyd-berthynas a rhywioldeb o fewn y cwricwlwm newydd i fynd i'r afael â hyn, ond mae angen gwneud mwy nawr dros y dysgwyr na fydd yn elwa o'r ymgais yma i newid dealltwriaeth ein plant er gwell o ran hyn.Mae'r cymorth sydd ar gael i'r rhai sy'n dioddef aflonyddu rhywiol yn dameidiog, yn anghyson, ac mae safon gyffredinol yr addysg rhyw a chydberthynas yn annerbyniol mewn nifer o ysgolion. I wella hyn, mae angen gwell hyfforddiant i holl staff ysgol ar bwnc sy'n anodd i nifer, ac yn anweledig i eraill, ac mae hyn yn fater brys. Mae'n dda bod y Llywodraeth wedi derbyn y rhan fwyaf o'r argymhellion, ond hoffwn dynnu sylw at un y mae Stonewall Cymru wedi bod yn tanlinellu ers tro ac sydd o hyd heb ei wireddu, sef y dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau statudol cenedlaethol traws ar gyfer ysgolion erbyn mis Ionawr nesaf. Mae'r adroddiad yma yn dangos yn eglur pam fo'r oedi'n annerbyniol ac yn niweidiol, ac felly hoffwn ofyn i'r Gweinidog beth yw'r cynnydd o ran hyn. Fel y noda'r adroddiad, nid drwy'n system addysg yn unig y gwaredwn ni ar yr agweddau niweidiol sy'n cael mynegiant yn yr aflonyddu rhywiol yma. Mae gan wleidyddiaeth, y cyfryngau, a chymdeithas yn fwy eang gyfrifoldeb i beidio a chaniatáu na derbyn agweddau misogynistaidd neu rhywiaethol,neu unrhyw iaith neu ymddygiad sy'n bychanu neu'n manteisio ar sail hunaniaeth neu rywedd. Rhaid i ni gydweithio i ddadnormaleiddio yr hyn sydd wedi ei normaleiddio, hyd yn oed ymysg ein plant lleiaf. Mae'r adroddiad a'i argymhellion yn wirioneddol bwysig os ydym o ddifrif am greu cymdeithas sy'n gydradd, yn iach ac yn ddiogel i'n pobl ifanc. Jack Sargeant AC: A gaf fi ddiolch i’r holl Aelodau am gyfrannu, nid yn unig at y ddadl heddiw, ond hefyd at yr adroddiad anodd ond pwysig iawn hwn, dan arweiniad medrus y Cadeirydd, Jayne Bryant? Ond nid pwyllgor Jayne yw'r unig bwyllgor sy'n mynd i'r afael â'r mater penodol hwn. Cyflwynwyd deiseb gan Hanna Andersen i'r Pwyllgor Deisebau rwy’n ei gadeirio ar ôl i’r adroddiad penodol hwn gael ei gyhoeddi, gyda chyfanswm o 417 o lofnodion. Mae'r ddeiseb honno bellach wedi cau, o ran casglu llofnodion, a bydd yn dod gerbron y pwyllgor yn nes ymlaen yn y flwyddyn, ond hoffwn achub ar y cyfle i nodi teitl y ddeiseb a rhai o uchafbwyntiau’r testun. Teitl y ddeiseb yw, 'Rhaid gweithredu ar unwaith i roi terfyn ar aflonyddu rhywiol yn HOLL ysgolion Cymru, nid ysgolion uwchradd yn unig'. Ac mae’n mynd ymlaen i amlygu ac awgrymu bod y dystiolaeth yn dangos bod aflonyddu hefyd yn rhemp mewn ysgolion cynradd a cholegau. Nawr, nodaf, yn sylwadau agoriadol y Cadeirydd, y bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu hyn mewn colegau, ond mae testun y ddeiseb yn nodi, 'Ni allwn aros am ragor o ymchwiliadau cyn gweithredu. Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y camau a gymerir yn sgil yr adroddiad yn cael eu hymestyn ar unwaith i gynnwys pob lleoliad, a hynny er mwyn cadw dysgwyr yn ddiogel rhag aflonyddu rhywiol drwy gydol eu haddysg'. Mae’r ddeiseb ei hun yn sôn am yr adroddiad gan Estyn a grybwyllodd Laura Anne Jones y prynhawn yma, ac nid wyf am ailadrodd hynny. Lywydd, mae'r hyn y gallaf ei ddweud am y ddeiseb, ac ynglŷn â pha gamau y bydd aelodau'r pwyllgor a'r pwyllgor cyfan yn penderfynu eu cymryd mewn perthynas â'r ddeiseb hon, yn amlwg yn gyfyngedig iawn, ond roeddwn yn credu ei bod yn iawn ac yn gyfle da i wneud dau beth: gwneud y ddadl hon yn ymwybodol o’r teimladau cryf a fynegwyd gan ddeisebwyr, yn ogystal â rhoi cyfle i’r Gweinidog ymateb, efallai, cyn i’r ddeiseb ddod i fy mhwyllgor, ac i roi camau ar waith sy’n cadw dysgwyr yn ddiogel ym mhob un o’r lleoliadau hynny, ac nid mewn ysgolion uwchradd yn unig. Diolch. Joyce Watson AC: Hoffwn ddiolch i’r pwyllgor am yr adroddiad a’r holl bobl sydd wedi cyfrannu ato. Hoffwn ddiolch yn arbennig i fudiad Everyone's Invited am daflu goleuni ar fynychder aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion. Roeddwn yn falch o ddarllen bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i fabwysiadu diffiniad Estyn o aflonyddu rhywiol, fel yr argymhellir yn yr adroddiad. Fel y mae'r adroddiad yn nodi, mae aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion mor gyffredin ymhlith plant oed ysgol a phobl ifanc fel ei fod wedi'i normaleiddio. Mae hynny’n hynod bryderus. Efallai na fydd llawer o blant a phobl ifanc hyd yn oed yn sylweddoli mai aflonyddu rhywiol yw'r hyn y maent yn ei ddioddef. Felly, mae cael diffiniad clir yn bwysig iawn. Bydd yn helpu i egluro pa ymddygiad a ystyrir yn aflonyddu rhywiol, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny’n helpu disgyblion i deimlo eu bod wedi’u grymuso i roi gwybod i athrawon, rhieni ac unrhyw sefydliad arall am ddigwyddiadau. Credaf hefyd y bydd yn rhoi eglurder i’r rheini y mae plant a phobl ifanc yn ymddiried ynddynt fod yr unigolyn yn dioddef aflonyddu rhywiol yn hytrach na'n cael eu bwlio, er enghraifft. Mae’r adroddiad yn nodi bod llawer o bobl ifanc yn teimlo y dylid cael mwy o addysg ar y pwnc, a bydd cael diffiniad yn arbennig o ddefnyddiol wrth gyflwyno addysg ar aflonyddu rhywiol mewn ysgolion. A hoffwn wybod a yw Llywodraeth Cymru wedi cael unrhyw drafodaeth gydag asiantaethau eraill ynghylch mabwysiadu'r un diffiniad, gan mai gweithio cydgysylltiedig sy'n mynd i ysgogi newid. Yn ôl y rhestr o ysgolion ar wefan Everyone's Invited, cafwyd tystiolaeth gan ddisgyblion ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru. Wrth symud ymlaen, credaf y bydd yn hanfodol cael adroddiadau gonest a rheolaidd ym mhob ardal awdurdod lleol; rhaid mynd ati i annog ysgolion i roi gwybod am ddigwyddiadau i'r awdurdod lleol; ac mae'n rhaid cael cefnogaeth ar gyfer yr ysgol a'r disgybl sy'n rhoi gwybod am aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion. Fel y gwyddom, mae cyfran enfawr o aflonyddu rhywiol yn digwydd ar-lein. Mae cael mynediad at blatfformau negeseua ar y cyfryngau cymdeithasol wedi'i gwneud yn llawer haws i ddisgyblion aflonyddu, a chael eu targedu gan aflonyddu. Mae'n bosibl na fydd unigolyn sy'n cael eu targedu hyd yn oed yn mynychu'r un ysgol neu goleg â'r unigolyn sy'n aflonyddu. Felly, credaf y byddai’n hynod fuddiol i blant a phobl ifanc gael canllawiau clir ar sut i roi gwybod am ddigwyddiadau yn yr achosion hynny. Mae gweithio gyda’n gilydd a chyda’n plant a’n pobl ifanc yn hollbwysig. Weinidog, pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ymateb i’r rôl y mae cyfryngau cymdeithasol a bod ar-lein yn ei chwarae mewn aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion? Ac yn olaf, mae'n hanfodol fod plant yn cael eu haddysgu ac yn deall sut i barchu ei gilydd, a gwn fod y cwricwlwm newydd yn bwriadu gwneud hynny, oherwydd os na fydd hynny'n digwydd—ac mae'r dystiolaeth hon yn peri cryn bryder—os yw hyn yn cael ei ystyried yn ymddygiad normal, y plant hynny fydd oedolion yfory, a bydd y safbwyntiau niweidiol hyn yn aros gyda hwy yn ystod eu hoes. Felly, diolch yn fawr iawn i’r pwyllgor am hyn, ac edrychaf ymlaen at ymateb y Gweinidog. Jenny Rathbone AC: Credaf fod hwn yn adroddiad pwysig iawn, a chredaf ei fod yn amserol iawn hefyd. Ond fel y dywedodd Laura Anne Jones, rwy'n credu bod lefel yr aflonyddu rhywiol mor gyffredin fel bod gwir angen ymateb ar draws y gymdeithas gyfan. Ond mae'n bendant yn ategu pwysigrwydd addysg orfodol ar berthnasoedd a rhywioldeb, gan fod angen addysgu pobl ifanc ar sut i gadw eu hunain yn ddiogel. Mae'r bwystfilod drwg hyn, sy'n gyfleus iawn i bob un ohonom, mae rhieni'n rhoi'r pethau hyn i'w plant heb sylweddoli beth maent yn rhoi mynediad iddynt ato. Cytunaf yn llwyr â lle rydych yn sôn am bwysigrwydd cael dull gweithredu cyson mewn perthynas â ffonau symudol yn yr ysgol, gan nad oes unrhyw reswm o gwbl pam y dylai unrhyw un gael ffôn symudol ymlaen pan fyddant mewn gwersi. Gallant eu cadw yn eu bagiau fel eu bod ganddynt pan fyddant yn mynd adref, ond ni ddylent gael eu gweld yn yr ysgol, a dylent gael eu cymryd oddi arnynt os cânt eu gweld, yn fy marn i. Credaf hefyd fod eich pwyslais ar gadw cofnodion da, yn ogystal ag addysg perthnasoedd a rhywioldeb o ansawdd, yn gwbl hanfodol, oherwydd oni bai bod gan ysgolion ddull sy'n ystyriol o drawma o ymdrin â phroblemau ymddygiad unigolyn ifanc, neu'n wir, eu habsenoldeb o'r ysgol, nid yw'r ysgol yn deall beth sy'n digwydd. Yn syml iawn, mae'n rhaid iddynt sicrhau bod pobl ifanc yn gwybod bod yr ysgol yn lle diogel lle gallant ddweud wrth bobl beth sy'n digwydd iddynt, oherwydd y dystiolaeth yn yr ysgol lle rwy'n llywodraethwr oedd mai'r ysgol yw'r lle mwyaf diogel yn eu bywydau mewn gwirionedd. Yn anffodus, maent yn wynebu aflonyddu gartref ac ar drafnidiaeth gyhoeddus, er enghraifft. Roeddwn yn falch iawn heddiw o gael ymateb i lythyr a ysgrifennais at Bws Caerdydd am yr adroddiadau o aflonyddu rhywiol ar fysiau, ac roedd yn llythyr gwirioneddol wych, a ddywedodd eu bod yn rhoi sylw difrifol i'r mater, fod eu hystafell reoli yn rheoli beth yn union sy’n digwydd ar bob bws, a’u bod yn mynd i ysgrifennu at ddarparwyr trafnidiaeth gyhoeddus eraill fel bod gennym ddull system gyfan mewn perthynas â thrafnidiaeth gyhoeddus. Felly, credaf fod hynny i'w groesawu'n fawr. Ond beth bynnag, diolch yn fawr iawn i’r pwyllgor am ei waith ar hyn, ac yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth sy’n mynd i fod yn waith parhaus i ni. Galwaf ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles. Jeremy Miles AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf am ddiolch, os caf i, i aelodau'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am eu hadroddiad nhw. Mae ymchwiliadau fel hyn yn helpu i gadw'r sgyrsiau pwysig yma ar frig yr agenda, a hoffwn i sôn heddiw am rai o'r camau rŷn ni'n eu cymryd. Yn gyntaf, mae'n bwysig nad ydyn ni'n diystyru pŵer lleisiau plant a phobl ifanc sy'n herio'r arfer o'r normaleiddio rŷn ni wedi sôn amdano fe heddiw—normaleiddio aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion. Cafodd hyn ei wneud yn arbennig o amlwg i fi mewn digwyddiad diweddar a gafodd ei gynnal gan grŵp trawsbleidiol y Senedd ar atal cam-drin plant yn rhywiol, a ches i'r cyfle o glywed gan bobl ifanc sydd wedi defnyddio eu profiad personol nhw i greu newid go iawn. Dyna pam mae'n bwysig i sicrhau bod lleisiau plant a phobl ifanc yn rhan hanfodol o bopeth rŷn ni'n ei wneud. Ac rŷn ni'n gweithio gyda sefydliadau partner ar y ffordd orau o gyflawni hynny ac yn cytuno bod angen sefydlu bwrdd ymgynghorol a bod ganddyn nhw rôl lawn, fel y gwnaeth Jayne Bryant ofyn i fi ei gydnabod. Rwy'n cydnabod hefyd fod aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn fater cymdeithasol ehangach a bod gan rieni, gofalwyr a theuluoedd rôl allweddol i'w chwarae wrth gefnogi pobl ifanc. Byddwn ni hefyd yn datblygu negeseuon i rieni a gofalwyr am sut i ddelio ag aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion. Mae gan ysgolion a lleoliadau rôl bwysig i'w chwarae hefyd wrth greu amgylcheddau diogel, gan helpu sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu mwynhau cydberthnasau iach a diogel. Mae addysg cydberthynas a rhywioldeb yn ofyniad statudol i bob dysgwr o dan y cwricwlwm newydd. Bydd y maes hwn yn chwarae rôl gadarnhaol, gan ddiogelu a helpu pob plentyn a pherson ifanc i ddeall ymddygiad a sefyllfaoedd a allai eu rhoi mewn perygl o niwed, fel eu bod yn gwybod beth i'w wneud i gadw'n ddiogel a sut i ofyn am help. Jeremy Miles AC: Mae technolegau digidol wedi newid y ffordd y mae pawb ohonom yn cyfathrebu, ac mae hyn yn arbennig o wir am bobl ifanc, fel rydym newydd glywed yng nghyfraniad Jenny Rathbone. Mae aflonyddu rhywiol ar-lein yn cwmpasu ystod eang o ymddygiadau, ac rwy'n cydnabod yr her y mae hyn yn ei chreu i ysgolion. Fe ymwelais ag ysgol yn ddiweddar sydd wedi bod yn gweithio gyda bechgyn, yn yr achos hwnnw, ar ddeall effaith rhannu delweddau ar-lein, er enghraifft, ac ysgol arall lle mae merched yn codi ymwybyddiaeth gydag eraill o'r aflonyddu ar-lein roeddent wedi'i brofi yn yr ysgol a'r tu allan. Ac unwaith eto, mewn ymateb i'r pwynt y mae Joyce Watson ac eraill wedi'i wneud, mae adran 'cadw'n ddiogel ar-lein' Hwb yn rhoi gwybodaeth, arweiniad a chyfleoedd hyfforddi i ysgolion ar ystod eang o faterion diogelwch ar-lein. Mae'n hanfodol bwysig fod y gweithlu addysg yn cael cyfleoedd hyfforddi a datblygu i'w cynorthwyo i adnabod, ymateb i ac adrodd am aflonyddu rhywiol gan gyfoedion. Cyn bo hir, byddwn yn treialu cwrs hyfforddi pwrpasol ar aflonyddu rhywiol ar-lein i ddarparwyr addysg, a bydd yn cael ei gyflwyno ledled Cymru wedyn. Gofynnwyd i mi am arian dysgu proffesiynol. Mae ysgolion eisoes yn cael grantiau sydd wedi'u neilltuo ar gyfer dysgu proffesiynol fel nad yw'r arian hwnnw ar draul ffynonellau cyllid eraill, fel y gofynnodd Jayne Bryant i mi gadarnhau. Ac maent yn derbyn arweiniad yn ogystal ar sut y gallant fuddsoddi yn y dysgu proffesiynol hwnnw. Byddwn hefyd yn adolygu'r adnoddau addysg cydberthynas a rhywioldeb ac yn ceisio nodi adnoddau effeithiol pellach a all gefnogi'r gwaith o ddarparu addysg cydberthynas a rhywioldeb yn effeithiol. Mae angen clir i adrodd yn fwy cadarn am achosion o aflonyddu rhywiol mewn lleoliadau addysg. Gwyddom nad oes gan blant a phobl ifanc hyder bob amser i adrodd am achosion wrth eu hathrawon, yn aml oherwydd eu bod yn poeni na fydd yn cael ei gymryd o ddifrif. O'r herwydd, ceir diffyg gwybodaeth am raddfa wirioneddol y broblem, yn ogystal â diffyg cysondeb, fel y buom yn ei drafod, yn y systemau adrodd, ac felly, yn ei dro, wrth gasglu data. Cefais fy siomi o glywed bod ein disgyblion LHDTC+ yn cael profiadau personol sylweddol o aflonyddu geiriol homoffobig ac mai dyma'r math mwyaf cyffredin o aflonyddu mewn llawer o ysgolion. Mae unrhyw fath o fwlio yn gwbl annerbyniol, gan gynnwys aflonyddu a bwlio oherwydd rhywioldeb neu hunaniaeth rhywedd unigolyn. Bydd llawer ohonom sydd wedi tyfu i fyny'n hoyw wedi cael profiadau ein hunain o hyn yn yr ysgol. Nid oes lle iddo mewn cymdeithas, mewn ysgolion nac ym mywydau ein pobl ifanc, ac rydym wedi ymrwymo i newid y realiti hwnnw i'n disgyblion LHDTC+. Rydym eisoes yn gwneud newidiadau i'n canllawiau gwrth-fwlio, 'Hawliau, parch, cydraddoldeb', mewn perthynas ag aflonyddu hiliol a bwlio mewn ysgolion, a byddwn hefyd yn ystyried sut y gellir ehangu'r gwaith hwnnw'n effeithiol i gynnwys adrodd cadarn, cofnodi a chasglu data o aflonyddu rhywiol gan gyfoedion, gan gynnwys aflonyddu homoffobig a bwlio. Bydd cynhwysiant a chefnogaeth LHDTC+ hefyd yn cael sylw mewn canllawiau newydd i gynorthwyo lleoliadau addysg i ymgorffori diwylliant o gynhwysiant, gwrth-wahaniaethu a hawliau. Mae'n amlwg o'n hymgysylltiad ag awdurdodau lleol, addysgwyr, athrawon a phobl ifanc fod angen arweiniad ychwanegol ar ysgolion am y ffordd orau o gefnogi plant a phobl ifanc LHDTC+, yn enwedig rhai sy'n draws neu'n anneuaidd. Mewn ymateb i gwestiwn Sioned Williams mae'r canllawiau'n cael eu datblygu ar hyn o bryd ac rydym yn rhagweld y cânt eu cyhoeddi yng ngwanwyn 2023. Gwyddom nad yw aflonyddu rhywiol gan gyfoedion wedi'i gyfyngu i ysgolion uwchradd ac rydym yn glir fod angen gweithredu ar draws pob lleoliad, fel y nododd Jack Sargeant yn ei gyfraniad. Mae gwell dealltwriaeth o'r ffyrdd y caiff hyn ei brofi ar wahanol oedrannau'n bwysig er mwyn sicrhau ein bod yn ymateb gydag ymyriadau priodol ac wedi'u teilwra, felly rydym wedi comisiynu adolygiad thematig gan Estyn ar aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn y sector addysg bellach. Mae'r adolygiad hwnnw ar y gweill ar hyn o bryd ac mae disgwyl iddo adrodd yn y gwanwyn y flwyddyn nesaf. Rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio argymhellion Estyn i fod yn sylfaen i raglen waith benodol i fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol mewn addysg bellach. Mae angen gwell dealltwriaeth hefyd o brofiadau plant o fwlio ar sail rhyw neu aflonyddu rhywiol mewn lleoliadau cynradd, ac rydym ar hyn o bryd yn ystyried cwmpas yr adolygiad hwn. Er y bydd gwaith pellach yn helpu i sicrhau bod gennym bolisi ac ymyriadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, nid yw hyn yn ein hatal rhag gweithredu nawr. Mae fy swyddogion yn gweithio gydag ystod o randdeiliaid, gan gynnwys yr heddlu, i ddatblygu cynllun gweithredu amlasiantaeth, a bydd y cynllun yn amlinellu'r camau y bydd Llywodraeth Cymru a'n partneriaid yn eu cymryd i atal ac ymateb i aflonyddu rhywiol gan gyfoedion mewn lleoliadau addysg. Bydd yn ategu'r gwaith ar atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol, gan gynnwys ymddygiad rhywiol niweidiol a chamfanteisio rhywiol ar blant, a gallaf gadarnhau, mewn ymateb i gwestiwn Joyce Watson, y bydd yn mabwysiadu ar sail amlasiantaethol y diffiniad o 'aflonyddu rhywiol' a ddefnyddir gan Estyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i'r weledigaeth o roi diwedd ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru. Gall hyn gael effaith enfawr ar ferched a menywod ifanc, ac yn wir ar bob plentyn a pherson ifanc, sy'n gallu effeithio ar eu llesiant a'u perthynas â'u cyfoedion. Ar 24 Mai, gwnaethom gyhoeddi strategaeth genedlaethol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, sy'n cynyddu ymwybyddiaeth mewn plant, pobl ifanc ac oedolion o bwysigrwydd perthnasoedd diogel, cyfartal ac iach, ac yn eu grymuso i wneud dewisiadau personol cadarnhaol. Byddwn yn mabwysiadu dull trawslywodraethol o sicrhau ei llwyddiant. Yn olaf, gofynnodd Jayne Bryant i mi gydnabod effaith hirdymor aflonyddu rhywiol gan gyfoedion, hyd yn oed lle mae hynny y tu allan i'r diffiniad o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Roedd hwn yn fater a nodwyd yn adolygiad 2020. Un o'r argymhellion oedd i'r Llywodraeth edrych yn fwy cyfannol ar fynd i'r afael â niwed a thrawma yn ystod plentyndod, a bydd gwaith y cynllun profiadau niweidiol yn ystod plentyndod sydd wedi bod ar y gweill yn cael ei adeiladu ar sylfaen dystiolaeth o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, ond yn cydnabod ffynonellau eraill o niwed, a bydd hynny'n cynnwys aflonyddu rhywiol gan gyfoedion. Heddiw amlinellais rai yn unig o'r camau y byddwn yn eu cymryd, ond byddwn yn parhau i wrando ac i weithio gyda'n rhanddeiliaid a'n partneriaid er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn esblygu ein dull o sicrhau bod ein gwaith yn cael yr effaith fwyaf. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i ymateb i'r ddadl. Jayne Bryant. Jayne Bryant AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon heddiw. Rwy'n meddwl iddi fod yn un bwysig iawn, ac rwy'n gwerthfawrogi'r holl gyfraniadau'n fawr. Hoffwn gofnodi yn gyntaf oll fy niolch a diolch y pwyllgor i'r tîm clercio ac ymchwil, sydd wedi bod yn wych drwy gydol yr ymchwiliad hwn, yn ogystal â'n tîm allgymorth, a hoffwn ddiolch i holl aelodau'r pwyllgor am eu hymrwymiad a'u sylw i fanylion wrth gynhyrchu adroddiad mor bwysig, ac rwy'n adleisio geiriau Laura Jones yn llwyr ynglŷn â pha mor gyflym yr aethpwyd i'r afael â'r adroddiad hwn, ac rwy'n credu bod hynny'n dangos pa mor bwysig yr ystyriai'r pwyllgor y mater penodol hwn. Felly, hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau am y gwaith a wnaethant. Hefyd rwyf am ddweud bod James wedi gwneud pwynt pwysig iawn—James Evans—ynglŷn â bod hwn yn fater i bawb, ac y dylai pawb yr effeithir arnynt gamu ymlaen, a dyna pam mai enw ein hadroddiad yw 'Mae'n effeithio ar bawb', ac rwy'n credu bod Estyn wedi dweud wrthym fod 29 y cant o ddisgyblion ysgolion uwchradd gwrywaidd wedi profi aflonyddu. Er ei fod yn is na'r ffigur ar gyfer merched, mae hynny'n dal i fod bron yn draean yr holl fechgyn, sy'n amlwg yn annerbyniol. Hefyd, os caf ailadrodd un o bwyntiau Sioned ynglŷn â'r brys ynghylch hyn, ac na fydd y cwricwlwm newydd, yn anffodus, yn helpu unrhyw blentyn sydd ym mlwyddyn 8 neu'n uwch ar hyn o bryd. Rwy'n gwybod imi grybwyll hynny yn fy sylwadau agoriadol, ond hoffwn ailadrodd y neges honno i'r Gweinidog. Daeth y Llywydd i’r Gadair. Jayne Bryant AC: Ar y pwyntiau a wnaeth Jack Sargeant, hoffwn ddiolch yn gyntaf i'r deisebydd am y pwyntiau pwysig a godwyd yn y ddeiseb, ond efallai y byddai'n ddefnyddiol pe bawn i'n helpu i egluro pam nad oedd y pwyllgor yn teimlo y gallem ymestyn ein hargymhellion i ysgolion cynradd. Fe wyddom, ac fe glywsom yn ein hymchwiliad dro ar ôl tro, fod aflonyddu rhywiol yn debygol o ddechrau yn yr ysgolion cynradd, ond ni roddodd y dystiolaeth a gasglwyd gennym yn ystod yr ymchwiliad ddarlun digon clir o ba mor gyffredin yw aflonyddu rhywiol na natur aflonyddu rhywiol mewn ysgolion cynradd i allu gwneud argymhelliad hyddysg i Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut i fynd i'r afael â'r mater. Roedd y pwyllgor o'r farn fod mynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol yn y sector cynradd yn cyflwyno llawer o heriau sy'n wahanol i'r modd yr eir i'r afael ag ef yn y sector uwchradd, felly nid oeddem yn teimlo'n hyderus fel pwyllgor i ymestyn ein hargymhellion, sy'n seiliedig ar ymchwil ar blant oedran uwchradd, i blant sy'n llawer iau. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny'n helpu i egluro pam nad oedd ein hargymhellion yn cynnwys plant ysgol gynradd, ond yn amlwg, rydym yn falch iawn fod y gwaith hwnnw'n digwydd. Clywsom gan Joyce, a soniodd y Gweinidog hefyd, am lais pobl ifanc. Clywsom gan bobl ifanc am yr atebion a'r hyn y teimlent hwy fod angen iddo newid. Cawsom dros 100 o ymatebion i'n harolwg ar-lein, ac yn bendant, fe wnaeth y safbwyntiau hynny roi ffurf i'n hargymhellion. Dylanwadwyd ar ymchwiliad y pwyllgor hefyd gan y nifer o dystebau personol dienw ar wefan Everyone's Invited, a thystiolaeth wreiddiol Estyn, sef sylfaen ein hymchwiliad. Felly, i roi syniad—wyddoch chi, rydym eisiau rhoi lleisiau pobl ifanc wrth galon popeth a wnawn. Felly, hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd i'n hymchwiliad. Roedd safon y dystiolaeth ysgrifenedig a llafar a gawsom gan bawb, yr academyddion, elusennau, ysgolion a chyrff cyhoeddus eraill, yn eithriadol o uchel. Hoffwn hefyd gofnodi fy niolch i Weinidog y Gymraeg ac Addysg ac i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol am eu hymwneud adeiladol â'n hymchwiliad a'u hymateb cadarnhaol i'n hadroddiad. Rwy'n falch iawn fod y Gweinidog wedi gallu ateb rhai o'r cwestiynau a ofynnwyd gan bobl o'r tu allan yn ogystal â'n hargymhellion. Mae hynny'n gadarnhaol iawn; diolch. Rwy'n dweud yn rhagair y Cadeirydd i'r adroddiad hefyd ein bod wedi gofyn llawer gan Lywodraeth Cymru, ac mae hynny'n wir. Rydym wedi gofyn llawer gan Lywodraeth Cymru oherwydd yr holl dystiolaeth gan Gymry ifanc ar wefan Everyone's Invited, a gyflwynwyd gan ddisgyblion ysgol ar draws Cymru a thu hwnt, oherwydd yr hyn a ddywedodd plant mewn ysgolion ar draws Cymru wrth Estyn, ac oherwydd yr hyn y mae plant mewn ysgolion ar draws Prydain wedi bod yn dweud wrth unrhyw un sy'n gofyn iddynt ers blynyddoedd maith. Ni ellir dal ysgolion yn gyfrifol am aflonyddu rhywiol. Rhaid i ni ysgwyddo cyfrifoldeb am ddadnormaleiddio'r ymddygiadau a'r rhagdybiaethau niweidiol sy'n sail iddo. Ond maent yn lleoedd delfrydol i ddechrau ar y broses honno o ddadnormaleiddio, ac maent yn safleoedd ar gyfer ymyrraeth gynnar a chymorth effeithiol, o ansawdd uchel i ddysgwyr yr aflonyddwyd arnynt. Bydd fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor a minnau'n rhoi sylw manwl i'r modd y bydd Llywodraeth Cymru'n gweithredu'r argymhellion yn ein hadroddiad i wneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod hynny'n digwydd. Rwyf wedi cadw fy niolch mwyaf at y diwedd. I'r llu o bobl ifanc ledled Cymru a ymatebodd i'n harolwg: diolch am rannu eich safbwyntiau ar yr hyn roedd angen ei newid. I Ebonie, Glenn, Jake a Sophie a'ch darlithwyr: diolch am eich gwaith caled a'ch arbenigedd yn dadansoddi ein hymatebion ymgysylltu a chynhyrchu fideo'n crynhoi'r canfyddiadau hynny. Roeddem yn gwerthfawrogi eich argymhellion i ni, ac mewn gwirionedd, dylai pob Aelod weld hwnnw a'i rannu mor eang â phosibl. Fel y dywedodd Laura Jones yn ei chyfraniad, fe wnaethant ein herio go iawn pan oedd gennym ambell syniad, felly rydym yn gwybod bod eu lleisiau mor bwysig yn y gwaith sy'n digwydd drwy Lywodraeth Cymru nawr. Ac i'n Seneddwr Ieuenctid Cymru, Ffion Williams, a siaradodd mor ddewr, mor huawdl ac mor argyhoeddiadol ag ITV Cymru am ei phrofiadau ei hun o aflonyddu rhywiol mewn cyfweliad yn dilyn lansiad ein hadroddiad. I blant a phobl ifanc ledled Cymru yn fwy cyffredinol: rwy'n gwybod nad dyma ddiwedd y sgwrs, ac na fydd newid yn digwydd dros nos. Ond mae gennych bob hawl i ddisgwyl y byddwn ni, fel eich cynrychiolwyr etholedig, yn gwneud mwy i atal aflonyddu rhywiol mewn ysgolion a cholegau. Nid yw'n normal, nid yw'n iawn ac mae'n rhaid iddo stopio. Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Ac felly, mae'r cynnig yn cael ei dderbyn. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Strôc Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths. Yr eitem nesaf yw eitem 9,a dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar strôc yw hon. Dwi'n galw ar Mark Isherwood i wneud y cynnig. Mark Isherwood. Cynnig NDM8113 Darren Millar Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod Diwrnod Strôc y Byd yn cael ei gynnal ar 29 Hydref 2022. 2. Yn cydnabod yr ymateb brys sydd ei angen i atal perygl i fywyd pobl sy'n dioddef strôc. 3. Yn cyfarwyddo'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn unol â Rheol Sefydlog 17.2, i gynnal adolygiad i fanteision a heriau ail-gategoreiddio strôc fel 'coch: galwadau sy'n bygwth bywyd ar unwaith' o dan y Model Ymateb Clinigol. Cynigiwyd y cynnig. Mark Isherwood AC: Diolch, Lywydd. Mae ein cynnig heddiw yn argymell bod y Senedd yn nodi bod Diwrnod Strôc y Byd yn cael ei gynnal ar 29 Hydref 2022, yn cydnabod yr ymateb brys sydd ei angen i atal perygl i fywyd pobl sy'n dioddef strôc, ac yn cyfarwyddo Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd i gynnal adolygiad o fanteision a heriau ail-gategoreiddio strôc fel coch, galwadau sy'n peryglu bywyd ar unwaith, o dan y model ymateb clinigol. Cynhelir Diwrnod Strôc y Byd ar 29 Hydref bob blwyddyn. Mae'n gyfle i godi ymwybyddiaeth o natur ddifrifol a chyfraddau uchel strôc, ac i siarad am ffyrdd y gallwn leihau baich strôc drwy well ymwybyddiaeth gyhoeddus o ffactorau risg ac arwyddion strôc. Mae hefyd yn gyfle i ddadlau dros gamau gan wneuthurwyr penderfyniadau ar lefel fyd-eang, ranbarthol a chenedlaethol, sy'n hanfodol i wella gwaith i atal strôc, mynediad at driniaeth acíwt a chefnogaeth i oroeswyr a'r rhai sy'n gofalu. Ar gyfer 2021 a 2022, mae'r ymgyrch yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o arwyddion strôc a'r angen am driniaeth strôc amserol o ansawdd da. Ar draws y DU, mae strôc yn digwydd bob pum munud. Amcangyfrifir bod 7,400 o bobl y flwyddyn yng Nghymru yn cael strôc—y pedwerydd prif achos marwolaeth yng Nghymru. Hefyd, mae 70,000 o oroeswyr strôc yn byw yng Nghymru, a heb ymyrraeth gynnar a diagnosis, mae perygl o niwed sylweddol i'r claf, neu farwolaeth, yn cynyddu—a hynny'n sylweddol. Yn ôl y Gymdeithas Strôc, ceir tri math gwahanol o strôc: isgemig, y math mwyaf cyffredin o strôc, a geir mewn tua 85 y cant o achosion, ac a achosir gan rwystr sy'n torri'r cyflenwad gwaed i'r ymennydd; gwaedlifol, a achosir gan waedu yn yr ymennydd neu o'i amgylch ac sy'n digwydd mewn 15 y cant o achosion—dyma'r math mwyaf difrifol o strôc; a phwl o isgemia dros dro, a elwir hefyd yn strôc fach, lle nad yw'r symptomau ond yn para am gyfnod byr. Mae strôc yn gyflwr lle mae'r awr euraidd yn hanfodol. Mae gan rai cyflyrau acíwt, gan gynnwys strôc, 60 munud lle mae'n rhaid cael gofal diffiniol. Gall ymateb diweddarach gynyddu niwed, gan gynnwys niwed i'r ymennydd, anabledd corfforol a marwolaethau, yn sylweddol. Mae safonau ansawdd ar gyfer strôc mewn oedolion, a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, hefyd yn tynnu sylw at y ffaith y dylai cleifion sydd wedi cael strôc acíwt gael triniaeth ddelweddu'r ymennydd o fewn awr i gyrraedd yr ysbyty os oes ganddynt unrhyw ddangosyddion ar gyfer delweddu ar unwaith. Mae NICE a'r Gymdeithas Strôc yn argymell defnyddio thrombolysis, neu feddyginiaeth chwalu clotiau, o fewn pedair awr a hanner i gael strôc isgemig. Yn ôl cyngor y GIG, mae alteplase, y feddyginiaeth a ddefnyddir ar gyfer triniaeth, yn fwyaf effeithiol os yw'n dechrau cyn gynted â phosib ar ôl i'r strôc ddigwydd, ac yn sicr o fewn pedair awr a hanner. Mae'r GIG yn nodi ymhellach nad argymhellir meddyginiaeth fel y cyfryw os oes mwy na phedair awr a hanner wedi mynd heibio, gan nad yw'n glir pa mor fuddiol yw hi pan gaiff ei defnyddio ar ôl yr amser hwn, a'i bod yn hanfodol gwneud sgan ar yr ymennydd i gadarnhau diagnosis o strôc isgemig, gan y gall y feddyginiaeth wneud gwaedu sy'n digwydd mewn strôc waedlifol yn waeth. Mae data diweddaraf y Rhaglen Archwilio Genedlaethol ar gyfer Strôc Sentinel, neu ddata SSNAP, sy'n dangos perfformiad mewn ysbytai ar reoli strôc ar draws Cymru a Lloegr, yn tynnu sylw at ostyngiad mewn gofal priodol i gleifion strôc. Ar ôl cyrraedd yr ysbyty, rhaid sganio cleifion strôc o fewn awr yn ôl NICE, ac eto fe wnaeth tri ysbyty yng Nghymru gymryd mwy o amser na'r amser targed hwn i sganio claf. Mae data SSNAP, sy'n sgorio ymatebion GIG Cymru i ddangosyddion allweddol, megis amser i sganio, amser i driniaeth ac amser i gael mynediad i unedau strôc, yn tynnu sylw at rai tueddiadau pryderus yn ysbytai Cymru. Mae eu sgoriau'n amrywio o A, neu ysbyty sy'n bodloni'r safonau uchaf i bron bob claf, i E, neu ysbyty nad yw'n cyrraedd y safonau uchaf i bron pob claf. Y sgoriau cyffredinol diweddaraf ar gyfer ysbytai Cymru oedd D i bob ysbyty heblaw am Lwynhelyg, a sgoriodd C, gyda phob un o'r tri ysbyty dosbarth yng ngogledd Cymru, er enghraifft, yn sgorio E ar gyfer derbyn i unedau strôc yn y ffigyrau diweddaraf a ryddhawyd. Mark Isherwood AC: Mae'r data SSNAP diweddaraf hefyd yn dangos ei bod yn cymryd chwe awr a 35 munud ar gyfartaledd rhwng dechrau strôc a chyrraedd yr ysbyty yng Nghymru, o'i gymharu â thair awr a 41 munud yn Lloegr a dwy awr a 41 munud yng Ngogledd Iwerddon. Mae hyn yn effeithio ar yr amser mae'n ei gymryd i gleifion gael sgan, gyda chleifion yng Nghymru'n cael eu sganio ychydig dros wyth awr ar ôl i'w symptomau ddechrau, o'i gymharu â 4.4 awr yn Lloegr a 3.3 yng Ngogledd Iwerddon. Mae model ymateb clinigol presennol Cymru yn dynodi strôc fel galwad ymateb oren, sy'n ddifrifol ond heb fod yn peryglu bywyd ar unwaith. Ers 2015, nid oes unrhyw amser targed wedi bod ar gyfer galwadau oren, sy'n golygu bod cleifion yn aml yn gallu aros sawl awr i ambiwlans ymateb. Er i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru gadarnhau y bydd ymateb gwahanol yn cael ei wneud ar gyfer strociau gwaedlifol, gan nodi yn 2020 y byddant yn aml yn gogwyddo i'r categori coch oherwydd eu difrifoldeb, lleiafrif yw'r mathau hyn o strôc, fel y dywedais, sef 15 y cant o achosion strôc. Ymhellach, dywedodd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, er nad oedd unrhyw amseroedd targed, fod yr amseroedd ymateb delfrydol ar gyfer categorïau oren 1 a 2 tua 20 munud a 30 i 40 munud yn y drefn honno. O ystyried difrifoldeb strociau isgemig, sef y mwyafrif o achosion, a dirywiad amseroedd ymateb oren, dylid ailedrych ar hyn. Canfu'r adolygiad diwethaf o alwadau ymateb oren, a gynhaliwyd yn 2018, fod y model ymateb clinigol yn ffordd ddilys a diogel o ddarparu gwasanaethau ambiwlans, ac nad yw'n ymddangos bod yr amser a dreulir yn aros am ymateb ambiwlans yn y categori oren yn cyfateb i ganlyniadau gwaeth. Ond erbyn 2020, a'r cyfnod cyn y pandemig, dywedodd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru fod perfformiad oren yn parhau i beri pryder. Ers COVID-19, mae amseroedd ymateb oren wedi dirywio'n sylweddol, gydag amser aros canolrifol o awr a 35 munud ym mis Medi—y mis diwethaf—2022. O gymharu amseroedd delfrydol categori oren 1 a 2 Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, dim ond 12.6 y cant o amseroedd oren cyffredinol a gyrhaeddodd o fewn 20 munud, a 25.2 y cant o fewn 40 munud. Cymerodd 64.3 y cant—bron i ddwy ran o dair—dros awr i ymateb. Fe wnaeth GIG Lloegr ail-gategoreiddio galwadau targed brys ambiwlansys yn 2017, gyda strôc yn cael ei gategoreiddio'n 'argyfwng', gydag amser targed o 18 munud a 90 y cant o alwadau mewn 40 munud. Ym mis Medi 2022, roedd yr amser ymateb cymedrig ar gyfer ambiwlansys categori 2 yn Lloegr yn 47 munud a 59 eiliad. O ystyried y pandemig a'r pwysau dilynol ar ambiwlansys ac adrannau damweiniau ac achosion brys, rhaid ailedrych ar addasrwydd galwadau oren ar gyfer cleifion strôc yng Nghymru. O fis Ebrill i fis Mehefin 2022, roedd llai na hanner y cleifion strôc yng Nghymru—46.1 y cant—yn cyrraedd yr ysbyty mewn ambiwlans, i lawr o 75 y cant ym mis Ionawr i fis Mawrth 2021. Er nad yw'r Gymdeithas Strôc o blaid ail-gategoreiddio galwadau oren, gan ddatgan, 'Mae'n well i gleifion strôc gael y cerbyd ymateb mwyaf priodol' —ambiwlans a all fynd â hwy i'r ysbyty, yn hytrach na dim ond y cerbyd cyntaf sydd ar gael, sydd efallai'n methu eu cludo i'r ysbyty i gael y driniaeth sydd ei hangen arnynt—mae'n cefnogi ymchwiliad pwyllgor i amseroedd ymateb ambiwlans ar gyfer strôc yng Nghymru, a fyddai'n archwilio'r mater yn fanylach. Maent yn ychwanegu y dylai'r adolygiad edrych ar brofiadau cleifion strôc o'r alwad ffôn i driniaeth, er mwyn deall sut y gellir gwella'r llwybr. Cred y Ceidwadwyr Cymreig na ddylai'r Gymdeithas Strôc gael ei gorfodi i ddewis rhwng ymateb cyflym gan gerbyd amhriodol ac ymateb araf gan ambiwlans achub bywyd, ac y dylid gallu addasu'r system i sicrhau bod ambiwlans yn cael ei anfon pan fo amheuaeth o strôc, yn amodol ar y modelu angenrheidiol. Awgrymwyd y dylid cysylltu ambell ambiwlans, er enghraifft, â'r adran meddygaeth strôc drwy linell ffôn uniongyrchol, a phwysleisiodd y dylai adsefydlu ddechrau cyn gynted ag y bydd claf yn cyrraedd yr ysbyty. Mae'r Gymdeithas Strôc hefyd wedi galw am adnewyddu ymgyrch y prawf wyneb, braich, lleferydd, amser gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Cafodd ymgyrch FAST—face, arms, speech, time—ei lansio ledled y DU yn 2009 i wella ymwybyddiaeth o symptomau strôc ac annog y rhai sy'n profi'r rhain i ffonio 999 cyn gynted â phosibl. Mae gweithredu'n gyflym yn rhoi'r cyfle gorau i'r person sy'n cael strôc oroesi a gwella. Ond er i ymgyrch FAST gael ei chynnal yn Lloegr a Gogledd Iwerddon yn 2021, cafodd ei chynnal ddiwethaf yng Nghymru yn 2018. Yn ôl dadansoddiad o'r ymgyrch yn Lloegr, ar ôl cael gweld y deunyddiau o 2021, soniodd bron i ddwy ran o dair o'r rhai a oedd mewn perygl am yr angen i weithredu fel neges i'r ymgyrch, a soniodd dwy ran o dair am yr angen i ffonio 999 neu i ofyn am help. Canfu modelu fod yr ymgyrch yn gosteffeithiol iawn, ac ers ei lansio yn 2009 mae wedi darparu 4,000 o driniaethau thrombolysis ychwanegol, gan ddarparu 1,137 o flynyddoedd bywyd a addaswyd yn ôl ansawdd, ac elw ar fuddsoddiad o £8.98 ar gyfer pob £1 a wariwyd. Drwy gydol y pandemig, mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn galw'n adeiladol ar Lywodraeth Cymru i weithredu mewn sawl maes i helpu'r GIG yng Nghymru i wella ar ôl COVID-19. Wrth i Gymru a'r GIG geisio dod allan o'r pandemig, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu ymagwedd drawsbleidiol yn llawn. Diolch yn fawr. Dwi wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar y Gweinidog iechyd i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1. Gwelliant 1—Lesley Griffiths Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le: Yn nodi sefydlu Bwrdd y Rhaglen Strôc yn ddiweddar i ysgogi gwelliannau mewn gwasanaethau ac i sicrhau canlyniadau gwell i bobl yng Nghymru o ran strôc. Cynigiwyd gwelliant 1. Eluned Morgan AC: Yn ffurfiol. Jenny Rathbone. Na, Rhun ap Iorwerth. Mae'n ddrwg gennyf, Jenny. Fe'ch dychrynais i chi, braidd. Fe ddychrynais fy hun hefyd. Rhun ap Iorwerth. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch i'r Ceidwadwyr am ddod â'r testun yma o'n blaenau ni heddiw. Dwi ddim yn siŵr am y cynnig yn ei gyfanrwydd. Fe ddown ni draw at hynny mewn eiliad, ond o ran y pwynt canolog, yr hyn sydd gennym ni yng nghymalau 1 a 2 yn y cynnig heddiw yma, ydy, mae hi'n Ddiwrnod Strôc y Byd ddydd Sadwrn 29 Hydref, ac mae'n bwysig bachu ar gyfle fel hyn bob amser i atgoffa ein hunain o'r effaith y mae strôc yn ei gael o fewn ein teuluoedd ni, o fewn ein cymunedau ni, a'r hyn y gallwn ni ei wneud a'r hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod ein hymateb ni cyn gryfed ac mor effeithiol ag y gall o fod. Cymal 2, wrth gwrs, rydyn ni yn adnabod ac yn cydnabod bod angen ymateb brys pan fydd rhywun yn cael strôc er mwyn ceisio dylanwadu ar yr outcomesgorau i'r person hwnnw. Strôc ydy'r pedwerydd prif achos marwolaeth yng Nghymru. Mae'r cyfraddau goroesi wedi gwella, ac mae hynny i'w groesawu wrth i dechnolegau yn fyd-eang wella. Mae'n bwysig nodi, serch hynny, fod eich siawns chi o oroesi llawer mwy os nad ydych chi'n byw mewn tlodi, ac mae hwn yn un arall o'r meysydd yna lle mae anghyfartaledd mewn iechyd yn cael effaith go iawn ar eich siawns chi i oroesi os ydy'r gwaethaf yn digwydd. Ond rydyn ni'n gwybod bod yna lawer mwy sydd angen ei wneud i wella'r gwasanaeth sy'n cael ei gynnig yng Nghymru ar ôl strôc. Mae angen sicrhau bod goroeswyr yn cael cefnogaeth well, yn cael eu hadolygiadau chwe mis, yn cael gwasanaethau i ailadeiladu eu bywydau mewn rhai ffyrdd. Mae angen ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, ac yn y blaen, er mwyn sicrhau bod y gefnogaeth yna i bobl sydd yn dioddef strôc. Ond hefyd, wrth gwrs, mae'r elfen yma rydyn ni'n ei gweld yn y cynnig o frys—yr angen am ymateb mor fuan â phosibl pan fydd strôc yn digwydd. Rydyn ni'n gweld yr ystadegau sydd yn dangos i ni, ar gyfartaledd, ei bod hi'n cymryd chwech awr a hanner rhwng dechrau'r strôc a chyrraedd ysbyty yng Nghymru, a bod hynny'n sylweddol hirach na'r hyn rydyn ni'n ei weld mewn rhannau eraill o'r ynysoedd yma. Dwi'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn ei sylwadau hi yn cydnabod nad ydy hynny'n ddigon da, a bod angen gwella'r perfformiad hwnnw yn sylweddol. Mi wnaf i dynnu sylw yn fan hyn, o ran ymateb cyflym, i'r ffaith bod ambiwlans awyr Cymru yn nodi ar eu gwefan nhw fod ymateb i strôc yn un o'r gwasanaethau y maen nhw'n ei gynnig. Mae hynny'n cael ei nodi'n glir iawn ar eu gwefan nhw. Dwi'n tynnu sylw at hynny, wrth gwrs, oherwydd y pryderon mewn rhannau o Gymru—yn y canolbarth ac yn y gogledd-orllewin yn arbennig—bod y syniadau sydd ar y bwrdd ar gyfer ad-drefnu gwasanaethau ambiwlans yn mynd i olygu bod pobl yn yr ardaloedd anoddaf i'w cyrraedd yn mynd i orfod aros yn hirach i A&E eu cyrraedd nhw, achos dyna, wrth gwrs, ydy'r ambiwlans awyr. Mi wnaf droi at gymal 3. Dwi'n gweld hwn, mae'n rhaid i mi ddweud, yn gymal od. Dwi'n gallu gweld bod llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd a gofal ddim yn ei sedd y prynhawn yma, am ba bynnag reswm, ond beth sydd gennym ni ydy cynnig gan ei blaid yn gorchymyn y pwyllgor iechyd i edrych ar faterion yn ymwneud â strôc a'r ymateb i strôc. Fel aelod o'r pwyllgor iechyd, dwi'n gweld hynny braidd yn od. Dwi'n berffaith hapus, wrth reswm, i'r pwyllgor iechyd—os ydyn ni'n gallu gwneud amser; mae'n bosib y gallwn ni gael sgwrs efo'r Cadeirydd am hynny—edrych ar y maes yma, ond dwi yn ei gweld hi'n broses od bod hyn yn cael ei gyflwyno yn y ffordd yma. Mi wnaf droi yn sydyn at welliant y Llywodraeth. Dwi wedi cael profiad diddorol iawn yn paratoi am y sesiwn yma heddiw, gan nad ydw i'n gallu dod o hyd i unrhyw wybodaeth o gwbl ynglŷn â beth ydy'r bwrdd rhaglen strôc mae'r Llywodraeth yn cyfeirio ato fo, ac yn dweud sydd yn mynd i wneud cyfraniad mawr at yr ymateb i strôc yng Nghymru. Does yna ddim gwybodaeth ar gael yn unrhyw le ynglŷn ag ydy o'n bodoli eto, pwy sydd ar y bwrdd yma, felly dwi'n edrych ymlaen yn arw i'r Gweinidog ein addysgu ni ar hynny. Ond mae o'n dweud wrthym ni, lle mae yna gamau yn cael eu cymryd, siawns bod angen i Lywodraeth Cymru egluro beth ydy'r camau hynny. Doedd hyd yn oed elusennau ddim yn medru dweud wrthym ni beth oedd y bwrdd yma. Mi wrandawaf i'n astud. Ond mi allwn ni i gyd fod yn gwbl, gwbl gytûn bod angen gwneud mwy i sicrhau bod pobl sydd yn dioddef o strôc yng Nghymru yn cael cefnogaeth frys, a'r gefnogaeth orau posib. Samuel Kurtz MS: Rwy'n ddiolchgar i fy nghyd-Aelodau am gyflwyno'r cynnig hwn, yn enwedig o gofio ei bod yn Ddiwrnod Strôc y Byd 2022 ddydd Sadwrn. Fel y soniodd Mark Isherwood yn ei sylwadau agoriadol, ar gyfartaledd, bydd 7,400 o bobl yn cael strôc bob blwyddyn yng Nghymru, a dyna yw'r pedwerydd prif achos marwolaeth yn y wlad hon. Felly, ni ellir bychanu pwysigrwydd gwasanaethau strôc cyflym o ansawdd rhagorol, nid yn unig ar gyfer cefnogi a thrin cleifion, ond yng nghyd-destun ehangach y pwysau ar y system iechyd a gofal cymdeithasol. Ond er mwyn i hyn fod yn wir, mae angen ailwampio'r system gyfan. Rydym wedi clywed y prynhawn yma am bwysigrwydd y 60 munud cyntaf ar ôl strôc. Yn yr amser hwnnw, gall ymyrraeth triniaeth olygu'r gwahaniaeth rhwng adferiad llwyddiannus a niwed na ellir ei wella. Ac os ydych yn byw mewn ardal wledig fel Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, mae pa mor gyraeddadwy yw'r targed hwn yn peri pryder enfawr. Ers 2015, ni fu unrhyw amser targed ar gyfer argyfyngau strôc, sy'n golygu bod cleifion sy'n dangos symptomau FAST yn aml yn gorfod aros sawl awr i ambiwlans ymateb i'w galwad. Ac fel y clywsom yn ystod y ddadl, nid oes gan gleifion strôc oriau i aros. Mae angen i'r Llywodraeth adolygu ei model ymateb clinigol, ac mae angen iddi hefyd sicrhau bod gwasanaethau o ansawdd ar waith i gefnogi unigolyn drwy eu cynllun gweithredu ar gyfer triniaeth strôc. Yn anffodus, nid oes yr un o'r pethau hyn yn digwydd ar hyn o bryd. Dros yr wythnosau diwethaf, cefais y pleser o gyfarfod â Grŵp Strôc Caerfyrddin a Chymdeithas Strôc y DU ar risiau'r Senedd i drafod effeithiolrwydd yr acronym FAST, pwysigrwydd gwasanaethau strôc o ansawdd, a gweinyddu mynediad cyflym at ofal iechyd. Fodd bynnag, ar ôl adolygu'r data SSNAP diweddaraf ar gyfer gorllewin Cymru—y rhaglen archwilio genedlaethol ar gyfer strôc sentinel—lle mae gwasanaethau'n cael eu graddio o A i E yn dibynnu ar eu hansawdd, mae'n amlwg nad yw gwasanaethau strôc ledled y wlad wedi cael y ffocws a'r cyllid sydd ei angen arnynt. Mae data SSNAP ar gyfer Ysbyty Llwynhelyg yn categoreiddio pedwar o'u chwe sgôr fel rhai sydd y tu allan i'r parth gwyrdd derbyniol, gyda'u sgôr 'mynediad at uned strôc' yn sgorio E, sef y radd isaf bosibl. Yn Ysbyty Glangwili, cafodd 'mynediad at uned strôc' a gwasanaethau thrombolysis sgôr o E. Ac yn Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli, cafodd tri gwasanaeth—mynediad at uned strôc, thrombolysis a gwasanaethau therapi galwedigaethol—sgôr o E unwaith eto, Weinidog. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno nad yw hynny'n ddigon da, ac mae hyn yn digwydd yn ein rhanbarth ni fel Aelodau. Gadewch inni fod yn glir: yn sicr nid staff ymroddedig y GIG sydd ar fai am y sefyllfa a ddisgrifiais y prynhawn yma; cyfrifoldeb y Llywodraeth yw hyn. Ond os ydym am roi'r cyfle gorau am adferiad i unrhyw glaf sy'n dioddef strôc, rhaid inni sicrhau bod gwasanaethau strôc yn gyffredinol o'r ansawdd gorau posibl. Dyma ein cyfle i ailwampio gwasanaethau strôc yng Nghymru a sicrhau bod gan bob person, beth bynnag fo'u cod post, fynediad rhagorol at wasanaethau o'r radd flaenaf, a all wneud yr ymyriadau angenrheidiol i atal niwed na ellir ei wella yn dilyn strôc ddifrifol. Gyda hynny, hoffwn annog pob cyd-Aelod yn y Siambr hon i bleidleisio o blaid y cynnig hwn y prynhawn yma. Diolch. James Evans MS: Mae gan fy etholwyr berthynas heriol gyda gwasanaethau strôc, yn wahanol i'r rhai mewn sawl rhan arall o Gymru, a hynny oherwydd nad oes gennym ysbyty cyffredinol dosbarth ym Mhowys. Mae natur wledig Brycheiniog a Sir Faesyfed a diffyg darpariaeth gwasanaethau strôc yn golygu bod cael triniaeth yn anos i fy etholwyr, ac mae'n rhaid i nifer ohonynt deithio dros y ffin i swydd Henffordd a swydd Gaerwrangon i gael triniaeth.Cafodd cyfanswm o 150 o bobl ym Mhowys eu derbyn i'r ysbyty yn Lloegr ar ôl cael strôc yn 2021-22. Meddyliwch am y gwahaniaeth y gallai fod wedi ei wneud i'r bobl hynny pe gallent fod wedi cael eu trin yn nes at adref. Fel y mae'r Gweinidog yn gwybod, bûm yn galw am uned strôc acíwt ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed ers amser hir, i sicrhau bod pobl yn cael triniaeth amserol yn ein cymunedau. Byddai hyn yn hwb enfawr i bobl yn fy ardal sydd mewn angen dybryd am ddarpariaeth strôc fodern ac effeithiol. Gyda strôc, mae'r eiliadau a'r munudau'n bwysig. Mae'r ffaith bod pobl o Bowys yn gorfod mynd dros y ffin am driniaeth yn golygu baich diangen o ran amser i'r bobl sydd wedi dioddef. Mae'r amseroedd teithio hir oherwydd diffyg ysbyty ym Mhowys, fel y dywedais, yn gwneud marwolaeth ac anabledd yn fwy tebygol, oherwydd mae amser yn achub bywydau. Roeddwn yn dawelach fy meddwl yr wythnos diwethaf, rwy'n credu, ar ôl eich clywed chi, Weinidog iechyd, yn dweud bod gennych gynlluniau ar y gweill ar gyfer gwasanaethau strôc rhanbarthol, ond mae fy nhrigolion angen gwybod faint o bobl yn y rheini fydd yn gallu aros yng Nghymru am driniaeth yn lle mynd i Loegr. Oherwydd gorau po agosaf i adref y gallwn gael triniaeth strôc, ac rwy'n credu yr hoffwn glywed mwy o eglurder gennych chi ynghylch pryd y gwelwn y rheini'n dwyn ffrwyth. Gan mai strôc yw'r pedwerydd prif achos marwolaeth yng Nghymru, mae'n hanfodol fod pobl y canolbarth yn cael triniaeth dda, amserol ac nad ydynt yn cael eu hanwybyddu. Rhaid i ddarpariaeth strôc fod yn flaenoriaeth, a phan edrychwn ar amseroedd ymateb ambiwlansys ledled Cymru, mae'n ymddangos i mi ac i eraill nad yw hyn yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd. Dyna pam y mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am adolygiad o fanteision a heriau ail-gategoreiddio galwadau strôc fel rhai coch yn lle oren. Mae hynny'n rhywbeth rwy'n gobeithio y gall y pwyllgor iechyd edrych arno. Byddai hyn yn gydnabyddiaeth o'r heriau enfawr y mae strôc yn eu hachosi ac yn gam mawr ymlaen ar y ffordd i ddatrys y broblem, a fydd yn gwaethygu cyn ei bod yn gwella. Diolch, Lywydd. Jenny Rathbone AC: Rwy'n credu bod hon yn ddadl bwysig, oherwydd, fel sydd eisoes wedi'i gydnabod, dyma'r pedwerydd prif achos marwolaeth, felly mae'n amlwg yn rhywbeth y mae angen inni ei gael yn iawn. Ond byddwn yn gochel rhag syniad James Evans y gallem gael ysbyty cyffredinol dosbarth ym Mhowys a fyddai'n darparu gofal o'r ansawdd rydych ei angen pan fydd rhywun yn cael strôc. [Torri ar draws.] Os wyf wedi eich camddeall, rwy'n hapus i dderbyn ymyriad. James Evans MS: Nid oeddwn yn dweud bod angen ysbyty cyffredinol dosbarth ym Mhowys; hoffwn weld un, ond rwy'n cydnabod yr heriau o wneud hynny. Yr hyn yr hoffwn ei weld mewn gwirionedd yw mwy o'r gwasanaethau hynny'n cael eu darparu, megis canolfan gofal strôc, yn ein hysbytai bwthyn bach neu yn ein hunedau mân anafiadau, fel y gallwn gael y gwasanaethau hynny'n nes at adref ac nad oes raid i bobl deithio dros 40 munud mewn car. Jenny Rathbone AC: Gallai fod yn ddigon posibl darparu'r math o wasanaethau adsefydlu sydd gennych mewn golwg mewn ysbyty bwthyn, ond ni fydd yn bosibl darparu rhagoriaeth glinigol oni bai bod gennych fàs critigol o gleifion i'w gyfiawnhau. Mae'n bwysig iawn fod gennym unedau strôc ar gael i'n holl boblogaethau o fewn pellter gyrru rhesymol, ond nid oes amheuaeth, os ydych yn cael strôc, fod angen ichi fynd i uned strôc, a dyna ddiwedd arni. Dyna ddylai'r ambiwlans ei wneud—ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn ein sicrhau mai dyna maent yn ei wneud—oherwydd mae'n golygu ei bod yn llawer mwy tebygol y bydd claf yn goroesi ac y cyfyngir ar unrhyw anabledd. Mae hon yn ddadl bwysig, ac rwy'n credu ei bod yn ddefnydd da o Ddiwrnod Strôc y Byd ddydd Sadwrn i dynnu sylw at y mater. Ond mae'n rhaid imi ddweud, rwy'n cael peth trafferth gyda faint o wybodaeth a gawsom gan y Gymdeithas Strôc. Roeddwn yn eithaf pryderus pan gefais yr wybodaeth fod fy uned strôc ar gyfer fy mhoblogaeth yng Nghaerdydd a'r Fro wedi cael sgôr cyffredinol o D. Ond pan ofynnais am fwy o wybodaeth i ddeall beth yn union oedd yn digwydd, cefais fy nghyfeirio at y fethodoleg, cawl yr wyddor; nid yw hyn o gymorth. Rwyf angen disgrifiad syml o beth sydd angen inni ei wneud. Ac er fy mod yn cydnabod bod y gwasanaethau ffisiotherapi, y gwasanaethau lleferydd ac iaith, therapi galwedigaethol, yn dda iawn, a'r gwasanaethau sganio hefyd, y mater allweddol yw pa mor gyflym y gallwch gael thrombolysis pan fyddwch newydd gael strôc. Daw hynny â ni'n ôl at y gwelliant. Nid wyf wedi fy argyhoeddi, mae arnaf ofn, mai ail-gategoreiddio strôc yn goch, yn yr un categori â galwadau lle mae bywyd yn y fantol, yw'r cam cywir ar y pwynt hwn, oherwydd, yn gwbl onest, os ydym yn ychwanegu strôc at y rhestr goch, yng nghyd-destun presennol y pwysau sydd ar wasanaethau, ofnaf y byddai hynny'n golygu y byddai pobl eraill ar y rhestr goch yn marw. Nid wyf eisiau codi bwganod ynghylch hyn, ond rwy'n credu—. Rwy'n cydnabod, fodd bynnag, fod cynnig y Torïaid yn mabwysiadu agwedd ragofalus drwy awgrymu ein bod yn cyfeirio'r mater hwn at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i adolygu manteision ei ail-gategoreiddio, ond nid oes unrhyw beth yn atal y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol rhag gwneud hynny beth bynnag, os ydynt yn dymuno. Rwy'n credu ei bod yn bwysicach deall yn iawn sut y mae'r grŵp gweithredu ar gyfer strôc, a sefydlwyd yn 2013, wedi bod yn gweithio i sicrhau bod yr holl unedau strôc yng Nghymru yn cyrraedd y safon angenrheidiol, a sut y mae'r bwrdd gweithredu ar gyfer strôc, a gyhoeddwyd mewn datganiad ysgrifenedig ym mis Medi y llynedd, am newid pethau mewn gwirionedd. Oherwydd nid wyf yn gwybod unrhyw beth pellach am y bwrdd gweithredu ar gyfer strôc. Fel Rhun, rwyf wedi cael trafferth dod o hyd i wybodaeth am y peth. Rwy'n credu bod hon yn ddadl bwysig iawn, ac yn amlwg yn un y mae ein hetholwyr eisiau inni dalu sylw iddi. Ond er mwyn cael unedau strôc o ansawdd uchel, rwy'n credu bod angen inni fod yn glir fod angen inni eu cael, nid ym mhob ysbyty dosbarth; mae angen inni gael unedau strôc wedi'u gwasgaru'n ddaearyddol, fel bod y boblogaeth gyfan yn gallu cyrraedd un, ond mae'n rhaid gallu cyfiawnhau hynny ar gyfer poblogaeth yr ardal honno os ydych eisiau'r ansawdd y byddai pawb yn ei ddymuno pe bai eu hanwyliaid neu eu hetholwyr yn cael strôc. Rwy'n edrych ymlaen at glywed cyfraniadau'r Gweinidog. Rwyf eisiau clywed ychydig bach mwy am yr hyn y mae Dr Shakeel Ahmad, sef arweinydd clinigol cenedlaethol Cymru ar gyfer strôc, wedi bod yn ei wneud. Nodaf hefyd fod cynhadledd ar gyfer y DU yn Lerpwl ddiwedd mis Tachwedd, ac rwy'n gobeithio y bydd rhai o'n clinigwyr o Gymru yn mynychu honno, oherwydd mae hyn yn rhywbeth sydd yr un mor bwysig i bobl ar yr ochr arall i'r ffin. Mae gwelliannau enfawr wedi bod yn y ffordd y gofalwn am gleifion strôc, ond yn amlwg, mae mwy i'w ddysgu bob amser. Janet Finch-Saunders AC: Nodwyd eisoes bod tua 7,000 o bobl yn cael strôc yng Nghymru bob blwyddyn, ac mae hynny'n gyfystyr â thref gyfan yn cael strôc bob blwyddyn. Ar gyfartaledd, mae'n cymryd 6 awr 35 munud rhwng dechrau strôc a chyrraedd ysbyty yng Nghymru. Cymharwch hynny â 3 awr 41 munud yn Lloegr, a 2 awr 41 munud yng Ngogledd Iwerddon. Mae sôn wedi bod am yr angen am yr awr euraidd. Rai blynyddoedd yn ôl, cafodd perthynas i mi strôc, ac yn y dyddiau hynny roedd hi bron yn ddisgwyliedig y byddai'n cael ei ystyried yn fater brys. Mae data'r rhaglen archwilio genedlaethol ar gyfer strôc sentinel, sy'n sgorio ymatebion GIG Cymru i ddangosyddion allweddol megis amser i sgan, amser i driniaeth, amser i dderbyn i unedau strôc, yn tynnu sylw at dueddiadau pryderus yn ysbytai gogledd Cymru. O gofio mai'r sgôr waethaf bosibl yw E, nid yw Wrecsam nac Ysbyty Glan Clwyd wedi gweld unrhyw welliant yn eu sgoriau SSNAP, sef D, ers 2021. Yn wir, cymerodd Ysbyty Glan Clwyd fwy nag awr ar gyfartaledd i sganio cleifion strôc. Wrth ystyried mai strôc yw'r pedwerydd prif achos marwolaeth, nid yw'n syndod fod gennyf etholwyr sy'n bryderus iawn ynglŷn ag a fyddai ambiwlans yn cyrraedd mewn pryd, a hyd yn oed pe bai'n gwneud hynny, faint y byddai'n ei gymryd i gael sgan wedyn. Un ysbyty'n unig yng Nghymru a lwyddodd i sicrhau bod cleifion yn cael mynediad at uned strôc o fewn y targed o bedair awr, ac yn ôl y Gymdeithas Strôc, mae'r amser y mae'n ei gymryd i gleifion gyrraedd ysbyty yn effeithio ar yr amser y mae'n ei gymryd i gleifion gael sgan. Mae cleifion yng Nghymru'n cael eu sganio ychydig dros wyth awr ar ôl i'w symptomau gychwyn. Felly, mae'n rhaid inni gael cleifion i'r ysbyty yn gynt ac mae angen sganiau cyflymach arnom. Ers 2015, mae'r Llywodraeth Lafur Gymreig hon wedi israddio amseroedd ymateb ambiwlansys ar gyfer cleifion lle'r amheuir strôc i oren, heb unrhyw amser targed ar gyfer cyrraedd. Mae gan wasanaethau ambiwlans Lloegr, sydd â chategori penodol ar gyfer cleifion lle'r amheuir strôc, amser ymateb cymedrig o 47 munud a 59 eiliad. Yma yng Nghymru, mae galwadau oren yn cymryd awr a 35 munud ar gyfartaledd i gyrraedd gyda chleifion—'ar gyfartaledd' mae'n dweud; gallaf ddweud wrthych fy mod yn gwybod am enghreifftiau yn ddiweddar iawn, lle bu farw etholwr i mi oherwydd, wel, roedd yn rhy hwyr. Os yw'n hwy na 60 munud, mae'r risg o niwed, gan gynnwys niwed i'r ymennydd, anabledd corfforol a marwolaethau yn gallu cynyddu'n sylweddol. Erbyn 2020, a'r cyfnod cyn y pandemig, dywedodd hyd yn oed Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru fod perfformiad oren yn dal i beri pryder. O ganlyniad, mae'n rhesymol inni bleidleisio i gyfarwyddo'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gynnal adolygiad o fanteision a heriau ail-gategoreiddio galwadau strôc fel rhai coch—galwadau lle mae bywyd yn y fantol o dan y model ymateb clinigol. Ac rwy'n siarad fel Aelod etholedig lle mae gennym niferoedd uwch o hen bobl, yn amlwg, rwy'n siarad ar ran fy etholwyr yn Aberconwy. Bydd hynny'n rhoi cyfle teg i glywed gan fyrddau iechyd a gweithwyr proffesiynol, gan alluogi Senedd Cymru hon a'ch Llywodraeth i wneud y penderfyniad gorau a fydd hefyd yn orau i gleifion. Felly, mae gennyf gwestiwn ac esboniad, Weinidog, ynglŷn â pham nad oes arbenigwr thrombectomi yng ngogledd Cymru. Dim ond dau sydd wedi'u cyflogi, ac mae'r ddau ohonynt yng Nghaerdydd. Mae Betsi Cadwaladr yn anfon cleifion i Ysbyty Walton. Fel yr amlinellir gan ymgyrch Saving Brains y Gymdeithas Strôc, gallai thrombectomi leihau'r perygl o anableddau fel parlys neu ddallineb yn sylweddol, a gallai hefyd arbed £47,000 y claf i'r GIG dros bum mlynedd. Cafodd llai nag 1 y cant o gleifion strôc yng Nghymru thrombectomi yn 2021. Felly, nid yw'n ddigon da. Rhyngom, dylem allu cytuno i weithio gyda byrddau iechyd i gyflawni gwell na hynny a sefydlu cynllun gweithlu fel bod gan ogledd Cymru ei arbenigwr ei hun hefyd. Eto i gyd, mae gennym lai o wasanaethau na'r de, ac rydym yn gorfod dibynnu ar Loegr, ond rwyf eisiau dweud bod Walton yn eithriadol o dda. Er hynny, rydym wedi cael datganoli ers bron i 25 mlynedd. Weinidog, fel y gallwch ddychmygu, mae hon yn ddadl sy'n agos iawn at galonnau fy nghyd-Aelodau ar feinciau'r Ceidwadwyr Cymreig, ond mae hefyd yn agos at galonnau a meddyliau fy etholwyr yn Aberconwy, a llawer iawn o bobl ledled Cymru. Gwn eich bod yn gwrando ar yr hyn a ddywedwn yma; os gwelwch yn dda, ar y mater hwn, astudiwch y cynnig yn ofalus a gwnewch yr hyn a allwch i helpu ein dioddefwyr strôc. Diolch. Natasha Asghar AS: Yn anffodus, nid yw'n rhoi pleser imi ddweud fy mod yn ymwybodol iawn o ba mor ddifrifol y gall strôc fod. Cafodd fy mam strôc beth amser yn ôl a diolch byth, drwy weithredu'n gyflym, fe lwyddasom i gyfyngu ar y niwed a achosodd. Yn gyflym trodd yr hyn a ddechreuodd fel cur pen—yn ei geiriau hi, meigryn a symptomau tebyg i ffliw—yn rhywbeth gwirioneddol sinistr. Ac ar ôl i fy mam gael ei rhuthro i'r ysbyty gyda thri chlot ar ei hymennydd, ac ar ôl aros yn yr ysbyty am bythefnos a chael ffisiotherapi a therapi lleferydd helaeth iawn, a barhaodd am fisoedd, fe lwyddodd i wella'n eithaf da. Pe na baem wedi gweithredu'n gyflym a mynd â hi i'r ysbyty mewn pryd, byddai'r canlyniad wedi bod yn hollol wahanol, ac nid wyf dan unrhyw gamargraff y gallai fod wedi marw. Fel y mae pawb yn gwybod, gorau po gyntaf y gweithredwch pan fo rhywun yn cael strôc. Rydym i gyd wedi clywed am yr acronym FAST—wyneb, breichiau, lleferydd ac amser—mewn perthynas â strôc, ac mae'n werth ei gofio, a dim ond ar ôl i fy mam gael ei strôc y deuthum yn ymwybodol o'r awr euraidd y mae llawer o fy nghyd-Aelodau wedi siarad amdani heddiw mewn perthynas â strôc. Mae'r tebygolrwydd o gael niwed difrifol neu niwed na ellir ei wella yn ystod strôc yn cynyddu'n aruthrol os nad yw'r claf yn cael triniaeth ddiffiniol o fewn y 60 munud cyntaf. Ond yn rhyfeddol, yng Nghymru, mae'n cymryd mwy na chwe awr a 30 munud ar gyfartaledd rhwng dechrau symptomau strôc a chyrraedd yr ysbyty. O'i gymharu, mae'n cymryd ychydig dros dair awr a 40 munud yn Lloegr, a dwy awr a 41 munud yng Ngogledd Iwerddon. Amcangyfrifir bod 7,400 o bobl y flwyddyn yn cael strôc yng Nghymru, ac mae'n hanfodol ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod mwy o gleifion yn cael eu gweld cyn gynted â phosibl, oherwydd mae'n fater o fywyd neu farwolaeth. Mae llawer o alwadau 999 lle'r amheuir strôc yng Nghymru yn cyrraedd ar ôl yr awr euraidd, ers i'r Llywodraeth Lafur yma israddio gwasanaethau ambiwlans lle'r amheuir strôc i oren. Fel y dywedais yn gynharach, mae gweithredu'n gyflym yn hollbwysig, ac ni allaf bwysleisio pa mor ddiolchgar wyf fi i'r parafeddygon a ddaeth i roi cymorth i ni, a'r rheini sy'n parhau i helpu pobl sy'n cael strôc. Ond o ystyried bod galwadau oren yng Nghymru'n cymryd awr a 35 munud ar gyfartaledd i gyrraedd cleifion, gadewch inni fod yn onest, nid yw mor gyflym â hynny o gwbl. Mae addysg yn allweddol i wella canlyniadau i bobl sy'n dioddef strôc. Mae angen ymdrech enfawr i wneud yn siŵr fod pobl yn gwybod pa mor bwysig yw cael sylw meddygol os ydynt yn arddangos symptomau strôc. Flynyddoedd lawer yn ôl, pan oeddwn yn gweithio i'r Aelod rhanbarthol dros Ddwyrain De Cymru, trefnodd ddigwyddiad strôc i bob un o'i etholwyr gyda chymorth ac mewn cydweithrediad â'r Gymdeithas Strôc i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r symptomau a'r heriau y mae rhywun yn eu profi wrth gael strôc. Roedd yn llwyddiant ysgubol ac fe gafodd ei werthfawrogi'n fawr gan drigolion de-ddwyrain Cymru, ond yn anffodus nid yw'r Senedd yn caniatáu i ddigwyddiadau o'r fath ddigwydd rhagor, sy'n drueni mawr. Mae angen adolygiad o'r manteision a'r heriau o ail-gategoreiddio galwadau strôc fel rhai coch yn lle oren, Weinidog, a hynny ar frys. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd Gweinidogion Llafur a chyd-Aelodau yma yn y Senedd heddiw yn gwrando ar yr hyn rwyf fi ac Aelodau eraill wedi'i ddweud heddiw ac yn gweithredu'n gyflym i achub bywydau. Diolch. Y Gweinidog iechyd, nawr, i gyfrannu i'r ddadl. Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr, Lywydd. Yn gyntaf, rwyf eisiau diolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r mater pwysig hwn i'r Siambr heddiw, a'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl. Rwyf wedi gwrando'n astud ar bob siaradwr, ac mae llawer o bwyntiau pwysig wedi cael eu gwneud. Strôc, fel y dywedodd Mark Isherwood, yw'r pedwerydd prif achos marwolaeth yng Nghymru, ac mae'n cael effaith hirdymor sylweddol ar oroeswyr, ac mae yna 70,000 ohonynt yng Nghymru. Mae ymateb ambiwlansys i strôc yn un elfen o ofal strôc yng Nghymru. Mae elfennau pwysig eraill yn cynnwys sut rydym yn trawsnewid ein model ar gyfer gwasanaethau strôc ar draws y system, ac yn codi ymwybyddiaeth o symptomau strôc ymhlith y cyhoedd. Mae gwasanaeth ambiwlans Cymru yn cydnabod bod strôc yn gyflwr a all beryglu bywyd, a'i nod bob amser yw ymateb cyn gynted â phosibl, ac rwy'n cytuno nad yw'r perfformiad presennol yn ddigon da. Ond i gleifion strôc, nid amser yn unig sy'n bwysig; mae'n fater hefyd o wneud yn siŵr eu bod yn cael yr ymateb mwyaf priodol a mynediad cyflym at y gwasanaethau arbenigol cywir. Gallai cleifion strôc brofi unrhyw gyfuniad o ystod o symptomau corfforol a niwrolegol. Y symptomau hyn fydd yn ysgogi'r alwad 999, a difrifoldeb cymharol y symptomau hyn fydd yn llywio'r modd y bydd yr alwad yn cael ei chategoreiddio gan y gwasanaeth ambiwlans. Mae gwasanaeth ambiwlans Cymru yn adolygu'r drefn o flaenoriaethu galwadau yn barhaus drwy ei grŵp meddalwedd asesu blaenoriaethau clinigol, sy'n cynnwys uwch glinigwyr a rheolwyr gweithredol. Mae gan y grŵp gylch o adolygiadau rheolaidd wedi'u cynllunio, ond bydd hefyd yn gwneud adolygiadau ad hoc mewn ymateb i dystiolaeth glinigol sy'n dod i'r amlwg. Mae hon yn broses debyg i ymddiriedolaethau eraill y DU, a'i nod yw sicrhau bod cleifion yn parhau i gael yr ymateb mwyaf priodol i ddiwallu eu hanghenion clinigol, yn seiliedig ar y canllawiau clinigol diweddaraf. Cafodd y model ymateb clinigol ei lunio gan glinigwyr blaenllaw, ac mae'n rhaid i benderfyniadau ar flaenoriaethu galwadau gael eu gwneud bob amser gan glinigwyr ar sail y dystiolaeth glinigol ddiweddaraf. Nid cyfrifoldeb aelodau'r pwyllgor, nac unrhyw un arall nad oes ganddynt yr wybodaeth arbenigol honno, yw penderfynu beth sy'n digwydd mewn perthynas â materion o'r fath. Pan gyflwynwyd y model ymateb clinigol am y tro cyntaf yn 2015, gwnaed hynny ar y sail y byddai 5 y cant o alwadau ar gyfartaledd yn y categori coch. A fyddai gan y pwyllgor ddiddordeb hefyd mewn dweud wrth y gwasanaethau ambiwlans pa gyflyrau eraill fydd yn cael eu hisraddio o'r categori coch presennol? Rwy'n amau'n fawr. A gaf fi fod yn glir? Ni wnaeth Llywodraeth Cymru israddio galwadau lle'r amheuir strôc i oren. Cyn hynny, rhoddwyd yr un lefel o flaenoriaeth i bob galwad, ni waeth beth fo'r difrifoldeb clinigol. Felly, cyn y newidiadau, yn ddamcaniaethol, rhoddwyd yr un amser ymateb i ataliad y galon â'r ddannoedd. Felly, cyflwynodd y gwasanaeth ambiwlans bedwar categori newydd er mwyn sicrhau bod pobl sydd angen ymateb cyflymach yn cael ymateb cyflymach. Fel y dywedaf, y targed oedd i 5 y cant o'r holl alwadau gael eu categoreiddio'n goch.Ond mae galwadau coch wedi bod mor uchel â 10.5 y cant yn ystod y misoedd diwethaf—mwy na dwywaith yr hyn y cynlluniwyd y model ar ei gyfer, a dangosydd clir fod y gwasanaeth ambiwlans yn ymateb yn gynyddol i bobl sydd â chyflyrau mwy cymhleth ac acíwt. Awgrymodd Mark Isherwood fod gan wasanaeth ambiwlans Lloegr, sydd â chategori penodol ar gyfer cleifion lle'r amheuir strôc, amser ymateb cymedrig o 47 munud, ond nid yw hyn yn wir. Nid oes categori ar wahân na dynodedig ar gyfer strôc yn Lloegr. Er bod y categorïau a'r codau o fewn y categorïau hyn yn wahanol rhwng modelau Cymru a Lloegr, mae galwadau'n cael eu blaenoriaethu yn yr un modd yn y ddau fodel. Hynny yw, yn ôl difrifoldeb clinigol cymharol. Fel ni, nid oes ganddynt hwy un reol bendant ar gyfer pob strôc. Gwyddom fod angen inni wneud mwy i wella prydlondeb ymatebion ambiwlansys i bob galwad, ac mae gennym gynllun gwella gwasanaethau ambiwlans cenedlaethol ar waith i gynyddu capasiti ambiwlansys, gwella'r ymateb i bobl sydd â chyflyrau lle mae amser o'r pwys mwyaf, a lleihau oedi wrth drosglwyddo cleifion o ambiwlansys. Rydym wedi buddsoddi £3 miliwn i alluogi Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i recriwtio 100 yn rhagor o staff rheng flaen, a hynny ar ben y 263 y maent wedi'u recriwtio yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Rwyf hefyd wedi bod yn hynod o glir yn fy nisgwyliadau i fyrddau iechyd fynd i'r afael ag oedi wrth drosglwyddo cleifion, sy'n cael effaith sylweddol ar argaeledd ambiwlansys i ymateb i alwadau yn y gymuned. Mark Isherwood AC: A wnewch chi ildio? Eluned Morgan AC: Gwnaf. Mark Isherwood AC: Er eglurder, fe ddywedoch chi, rwy'n credu, fy mod wedi dweud bod categori arbennig ar gyfer strôc yn Lloegr a bod 47 munud—. Na, yr hyn a ddywedais oedd eu bod wedi ail-gategoreiddio galwadau strôc fel galwadau argyfwng yng nghategori 2, ac roedd gan gategori 2, yn ei gyfanrwydd, amser ymateb o 47 munud a 59 eiliad. Eluned Morgan AC: Felly, mae fy mhwynt yn sefyll, sef nad oes un reol bendant mewn perthynas â strôc yn Lloegr nac yng Nghymru. Felly, mae adolygiad McClelland, a ysgogodd y newid i'r model ymateb clinigol, wedi nodi bod gwasanaeth ambiwlans Cymru wedi bod yn destun mwy o adolygiadau nag unrhyw ran arall o'r GIG yng Nghymru a bod y craffu hwn yn cyfrannu at y problemau sy'n wynebu'r sefydliad. Daeth i'r casgliad y gall cylch parhaus o adolygiadau fod yn aflonyddgar, yn wrthgynhyrchiol ac nad yw'n debygol iawn o arwain at welliant sylweddol i gleifion. Ni ddaeth yr adolygiad oren a gynhaliwyd gan glinigwyr yn 2018 o hyd i unrhyw dystiolaeth glinigol i gefnogi ail-gategoreiddio'r holl alwadau strôc i'r categori coch. Ni fyddai modd cyfiawnhau adolygiad arall o'r gwasanaeth ambiwlans i ysgogi newid hyd nes y bydd corff o dystiolaeth i gefnogi newid o'r fath. Eluned Morgan AC: Dwi am sôn nawr am yr elfennau eraill gwnes i grybwyll. Cafodd y datganiad ansawdd ar gyfer strôc ei gyhoeddi ym mis Medi 2021. Mae'n nodi 20 o nodweddion ansawdd ar gyfer gwasanaethau strôc. Ym mis Mehefin 2022, fe wnaeth prif weithredwyr y byrddau iechyd gefnogi sefydlu bwrdd rhaglen strôc genedlaethol, ac fe fydd y bwrdd yn ategu ac adeiladu ar waith y grŵp gweithredu ar gyfer strôc. Bydd hefyd yn sicrhau cysondeb o ran sefydlu canolfannau strôc ranbarthol cynhwysfawr, a oedd yn arfer cael eu galw’n unedau strôc dra acíwt, a rhwydweithiau strôc weithredol rhanbarthol. Mae'r bwrdd hwn bellach wedi'i sefydlu. Cafodd y cyfarfod cyntaf ei gynnal ar 13 Hydref. Mae'n cael ei gadeirio gan Mark Hackett, prif swyddog gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae’r aelodau’n cynnwys uwch gynrychiolwyr o'r byrddau iechyd, ymddiriedolaeth gwasanaethau ambiwlans Cymru, swyddfa comisiynwyr gwasanaethau ambiwlans Cymru, y Gymdeithas Strôc, cynghorau iechyd cymunedol a Llywodraeth Cymru. Mae'r bwrdd yn cael ei gefnogi gan dîm rhaglen craidd, gan gynnwys yr arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer strôc yng Nghymru, Dr Shakeel Ahmad. Dyma’r mecanwaith a fydd yn goruchwylio ac yn ysgogi’r trawsnewid sydd ei angen i sefydlu model cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau strôc yng Nghymru, gan gynnwys edrych i mewn i thrombectomi. Fe fydd yn sicrhau ein bod yn cyrraedd safonau cenedlaethol ac yn gwella canlyniadau i gleifion sydd wedi cael strôc. Dwi wedi clywed galwad Rhun ap Iorwerth a Jenny fod angen gwella’r cyfathrebu â’r cyhoedd gan y bwrdd yma. Mae gennym ni i gyd rôl i’w chwarae, ac mae Llywodraeth Cymru yn croesawu pob cyfle i godi ymwybyddiaeth o strôc fel bod pobl yn gyfarwydd â’r symptomau ac yn gallu ymateb yn gyflym. Cefais gyfarfod â’r Gymdeithas Strôc bythefnos yn ôl, ac rŷm ni'n gweithio’n agos gyda nhw i hyrwyddo Diwrnod Strôc y Byd ar 29 Hydref, ac rŷn ni'n edrych ar gyfleoedd eraill i godi ymwybyddiaeth o symptomau strôc, yn cynnwys ymgyrch FAST. I gloi, hoffwn i sicrhau'r Siambr fod gwella canlyniadau strôc yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, a dwi'n annog y Siambr i gefnogi'r cynnig gyda'r gwelliant a gafodd ei gyflwyno gan Lesley Griffiths. Diolch. Gareth Davies i ymateb i'r ddadl. Gareth Davies AS: Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma a chau'r ddadl yn wir. Rwy'n teimlo'n eithaf angerddol ynglŷn â strôc, a dweud y gwir, achos dyna oedd fy ngwaith cyn imi gael fy ethol i'r Senedd. Rydym yn siarad am rai o symptomau mwyaf cyfarwydd strôc. Gall gynnwys lleferydd aneglur, colli cryfder ar un ochr i'r corff; dyna'r symptomau mwyaf cyfarwydd. Ond os ydych chi eisiau gweld rhai o'r ystod o symptomau strôc, byddwn yn annog unrhyw un i dreulio diwrnod mewn uned strôc neu gyfleuster adsefydlu i weld realiti rhai o'r achosion hyn. Yn y sefyllfaoedd gwaethaf, gall pobl golli eu symudedd, gallant golli eu holl ryddid a'u hannibyniaeth, maent angen eu bwydo, maent yn colli eu holl nerth i wneud eu gofal personol eu hunain, maent angen i rywun roi cawod iddynt, maent angen i rywun eu golchi. Dyna'r pethau gwaethaf. A 24, 48 awr cyn hynny, roeddent yn byw bywyd normal, fel rydym ni i gyd yn ei wneud yn awr, ac i fynd o hynny, i'r pegwn arall hwnnw, dyna pam rwy'n pwysleisio pwysigrwydd ymyrraeth gynnar y prynhawn yma, y thrombolysis, y ffisiotherapi a chael y pethau hynny yn eu lle cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau cymaint o lwyddiant â phosibl wrth adsefydlu. Weithiau, nid oes modd gwneud hynny, dyna realiti'r peth; weithiau mae achosion strôc yn rhy acíwt i allu cyflawni unrhyw adsefydlu, ond lle gallwn wneud hynny, dylem fynd ati o ddifrif i fuddsoddi mewn gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, ffisiotherapi, therapi galwedigaethol a thrombolysis i wneud yn siŵr ein bod yn rhoi'r cyfle gorau i bobl gael adferiad llawn ac adfer rhywfaint o annibyniaeth ac urddas yn eu bywydau. Agorodd Mark Isherwood y ddadl drwy dynnu sylw at y ffaith ei bod yn Ddiwrnod Strôc y Byd ddydd Sadwrn, y nawfed ar hugain, a phwysleisiodd bwysigrwydd ymwybyddiaeth gyhoeddus ar draws pob lefel o'r system iechyd. Soniodd Rhun ap Iorwerth mai dyma'r pedwerydd prif achos marwolaeth, ac adleisiwyd hynny mewn llawer o'r cyfraniadau eraill y prynhawn yma, ac unwaith eto, pwysigrwydd gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn y system gofal iechyd i gynyddu potensial adsefydlu i'r eithaf. Soniodd Sam Kurtz am rai o'r pethau lleol yn ei etholaeth, gan gynnwys Grŵp Strôc Caerfyrddin, a rhai o'r ystadegau lleol yn ysbytai Llwynhelyg a Glangwili, ac yna fe soniodd James Evans am ei etholaeth ef a rhai o'r problemau ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed wrth i'w drigolion lleol orfod mynd dros y ffin i Loegr, lle gallai fod ychydig mwy o ddarpariaeth leol er mwyn i bobl ym Mhowys gael y driniaeth y maent yn ei haeddu. Nid oeddwn yn cytuno gyda datganiad Jenny Rathbone ynglŷn â pheidio â'i gynnwys ar y rhestr goch. Mae'n siarad drosto'i hun; dyma'r pedwerydd lladdwr mwyaf, Jenny, felly mae hynny'n siarad drosto'i hun am bwysigrwydd gwneud hyn yn flaenoriaeth. Jenny Rathbone AC: Rwy'n credu eich bod chi'n ceisio cymharu dau beth gwahanol yno. Mae'n ymwneud â'r cyflymder y mae angen ichi gael ambiwlans at rywun sy'n tagu, o'i gymharu â'r cyflymder y mae angen ichi gyrraedd rhywun sy'n cael strôc. Nid wyf yn meddwl y dylem ni benderfynu beth ddylai'r canllawiau fod ar gyfer y gwasanaeth ambiwlans. Caiff hynny ei wneud gan glinigwyr. Rwy'n meddwl bod angen inni wella gwasanaethau strôc, ond nid wyf yn meddwl bod hynny'n mynd—[Anghlywadwy.] Dyna olygfa ardderchog o'ch cefn ar y camera yno, Jenny, ond clywyd eich llais ar feicroffon Gareth, felly mae'r cyfan wedi'i gofnodi. Mae'n iawn. Gareth Davies. Gareth Davies AS: Diolch, Lywydd. A phwynt teg, Jenny, a dyna pam rwy'n gobeithio y byddwch yn pleidleisio dros ein cynnig i fynd ag ef i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol lle gallwn gymryd tystiolaeth gan y bobl gywir, a gobeithio y byddant hwy'n adleisio ein geiriau. Soniodd Janet Finch-Saunders am ystadegau yng ngogledd Cymru, yn enwedig ar gleifion hŷn yn ei hetholaeth yn Aberconwy, ac fel cyn-weithiwr yn Ysbyty Cyffredinol Llandudno yn yr unedau adsefydlu, rwy'n deall ac yn gwerthfawrogi'r gwaith sy'n digwydd yn Llandudno a'ch etholaeth. Felly, rwy'n llwyr gefnogi'r staff gweithgar yno sy'n gwneud gwaith da yno bob dydd o'r flwyddyn. Soniodd Natasha am rai o'r profiadau personol a gafodd hi gyda strôc wedi'r hyn a brofodd ei mam, ac mae'n dda gweld ei bod yn gwella'n dda ac yn ôl mewn iechyd da. Weinidog, fe ddywedoch chi wrth agor eich ymateb i'r ddadl eich bod yn credu nad yw'r perfformiad yn ddigon da. Wel, mae gennym gyfle y prynhawn yma i wneud rhywbeth yn ei gylch mewn gwirionedd, felly gadewch inni fod yn uchelgeisiol, gadewch inni ddangos i bobl Cymru ein bod ar ochr dioddefwyr strôc a chael hyn ar restr goch yr ambiwlans, oherwydd mae dioddefwyr strôc yn haeddu gweld Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar unwaith i ystyried eu poen fel blaenoriaeth goch os ydynt hwy neu unrhyw un yn dioddef strôc fel bod modd eu trin yn gyflymach, iddynt gael mwy o obaith o oroesi a bod ar ffordd gadarn i adferiad ac annibyniaeth. Hoffwn gau drwy annog pawb i gefnogi ein cynnig heb welliant y prynhawn yma. Diolch. Y cynnig, felly, yw y dylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fe fyddwn ni'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. 10. Cyfnod Pleidleisio Dyma ni yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio ac, oni bai bod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, dwi'n symud yn syth i'r cyfnod pleidleisio. Does yna ddim cais i ganu'r gloch. Felly, mae'r bleidlais gyntaf ar eitem 6 ar y cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn ceisio cytundeb y Senedd i gyflwyno Bil gan Aelod, sef y Bil addysg awyr agored (Cymru). Dwi'n galw am bleidlais, felly, ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Sam Rowlands. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, yn ymatal un, yn erbyn 24. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn. Eitem 6. Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn ceisio cytundeb y Senedd i gyflwyno Bil Aelod—Bil Addysg Awyr Agored (Cymru): O blaid: 25, Yn erbyn: 24, Ymatal: 1 Derbyniwyd y cynnigCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Yr eitem nesaf yw'r bleidlais ar y ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod ar Fil manteisio ar fudd-daliadau. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, yn enw Sioned Williams. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 30, 19 yn ymatal, un yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn. Eitem 7. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod—Bil Manteisio ar Fudd-daliadau: O blaid: 30, Yn erbyn: 1, Ymatal: 19 Derbyniwyd y cynnigCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Eitem 9 yw'r eitem nesaf, dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar strôc yw'r eitem yma. Mae'r bleidlais gyntaf ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod. Eitem 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—strôc. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 14, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0 Gwrthodwyd y cynnigCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, neb yn ymatal, 14 yn erbyn. Mae gwelliant 1 wedi'i dderbyn. Eitem 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—strôc. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 36, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0 Derbyniwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Y bleidlais olaf, felly, ar y cynnig wedi'i ddiwygio. Cynnig NDM8113 fel y'i diwygiwyd Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod Diwrnod Strôc y Byd yn cael ei gynnal ar 29 Hydref 2022. 2. Yn cydnabod yr ymateb brys sydd ei angen i atal perygl i fywyd pobl sy'n dioddef strôc. 3. Yn nodi sefydlu Bwrdd y Rhaglen Strôc yn ddiweddar i ysgogi gwelliannau mewn gwasanaethau ac i sicrhau canlyniadau gwell i bobl yng Nghymru o ran strôc. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 50, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn. Eitem 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—strôc. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 50, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0 Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwydCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Dyna ddiwedd ar bob pleidlais. 11. Dadl Fer: Ariannu dyfodol Cymru: Buddsoddi mewn prifysgolion i sbarduno twf economaidd Dyma ni, felly, yn cyrraedd y ddadl fer. Os gall Aelodau sy'n gadael y Siambr wneud hynny'n dawel, fe ofynnaf i Tom Giffard gyflwyno ei ddadl fer. Tom Giffard. Tom Giffard AS: Diolch yn fawr iawn i chi, Llywydd. Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair. Tom Giffard AS: Rwyf wedi rhoi pedwar munud o fy amser, i Peter Fox, Mike Hedges, James Evans a Laura Jones ar gyfer y ddadl hon. Yn gyntaf oll, rwyf am gofnodi fy niolch i bawb yn y British Heart Foundation, yn enwedig Gemma Roberts, am dynnu sylw at yr ymgyrch bwysig hon ac am eu gwaith yn fy helpu i ddod â'r ddadl hon i'r Senedd heddiw. Mae ymchwil, datblygu ac arloesi yn gwbl hanfodol i unrhyw economi ffyniannus. Mae gan ymchwil allu i gefnogi ein hadferiad economaidd o bandemig COVID-19. Mae yna gyfleoedd enfawr i ddod ag arian a thalent i mewn i Gymru. Ond ar hyn o bryd, mae Cymru'n methu manteisio ar y cyfleoedd hyn, ac rydym yn methu manteisio arnynt am nad yw ein prifysgolion yn cael digon o gyllid. Ni ddylid tanbrisio'r rôl y mae ymchwil yn ei chwarae yn ein heconomi. Mae'r rhai sy'n derbyn arian ymchwil yn prynu nwyddau a gwasanaethau er mwyn gwneud eu gwaith ymchwil. Mae hynny ynddo'i hun yn creu gweithgarwch yn eu cadwyni cyflenwi ac ar draws economi Cymru gyfan. Mae ymchwil yn hybu allbwn a chynhyrchiant mewn economi gyda thechnolegau, meddyginiaethau a phrosesau newydd. Ac wrth i ddulliau a thechnolegau newydd gael eu darganfod, mae gwybodaeth yn gorlifo i'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector. Mae hyn yn hybu cynhyrchiant a thwf economaidd ac yn y pen draw, gallai helpu i sbarduno adferiad economaidd newydd. Ond os yw Cymru'n mynd i elwa ar fanteision ymchwil, mae angen i'n prifysgolion sicrhau buddsoddiad allanol ac ennill ceisiadau cystadleuol am gyllid, ac i wneud hyn, mae angen seilwaith ar ein prifysgolion, a dyletswydd Llywodraeth Cymru yw ariannu'r seilwaith hwnnw. Nid yw Cymru'n cyflawni ei photensial mewn ymchwil feddygol. Mae gennym brifysgolion o'r radd flaenaf, ond ni chânt eu hariannu'n briodol gan Lywodraeth Cymru. Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, o dair gwlad ddatganoledig y DU, a phob un o naw rhanbarth Lloegr, Cymru sydd â'r gwariant isaf yn gyfrannol ar ymchwil a datblygu. Ni sy'n perfformio salaf o 12 gwlad a rhanbarth y DU. Dim ond 2 y cant o'r gwariant ymchwil a datblygu yn y DU sydd yng Nghymru. Rydym yn ffurfio bron i 5 y cant o'r boblogaeth, felly oni ddylem gael 5 y cant o'r gwariant ymchwil? Dim ond 3 y cant o gyllid cystadleuol y mae Cymru'n ei ennill, ond unwaith eto, rydym yn ffurfio 5 y cant o boblogaeth y DU, felly dylem fod yn ennill o leiaf 5 y cant o gyllid cystadleuol. Ond oherwydd lefelau isel o fuddsoddiad ym mhrifysgolion Cymru, nid ydym yn denu cyfran ein poblogaeth o gyllid. Mae buddsoddiad isel yn atal llwyddiant economaidd a chyfraniad ymchwil i'n hadferiad economaidd. Ond nid problem newydd yw hon. Yn 2018, comisiynodd Llywodraeth Cymru ei hun adolygiad o'r amgylchedd ymchwil. Adolygiad Reid oedd hwnnw, a chanfu fod lefelau isel o gyllid seilwaith ym mhrifysgolion Cymru wedi bod yn ffynhonnell, ac rwy'n dyfynnu, 'gwendid strwythurol dros ddau ddegawd'. Tom Giffard AS: Bellach, mae pedair blynedd ers cyhoeddi'r adolygiad hwnnw ac ni fu cynnydd o hyd yn y cyllid gan Lywodraeth Cymru i'w godi i'r un lefel â gweddill y Deyrnas Unedig. Sut y gall ein prifysgolion gystadlu pan ydym yn parhau i fuddsoddi llai ynddynt na'r Alban neu Loegr? Rydym i gyd yn cystadlu am yr un ffrydiau ariannu, ond mae Cymru dan anfantais sylweddol—anfantais a achosir gan ddadfuddsoddi mewn termau real yn ein prifysgolion. Yn hanesyddol, mae ymchwil yng Nghymru wedi dibynnu ar gyllid gan yr Undeb Ewropeaidd, ond hyd yn oed gydag arian o'r UE roedd Cymru'n dal i fod dan anfantais o'i chymharu â gwledydd eraill y DU oherwydd lefelau isel o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru mewn seilwaith. Yn adolygiad Reid 2018, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, tynnodd sylw at y ffaith y dylai ffrydiau ariannu Llywodraeth Cymru gymryd lle ffrydiau ariannu'r UE ar y pryd. Byddai hyn yn cefnogi llwyddiant wrth gystadlu am gyllid ledled y DU ac yn denu lefelau uchel o fuddsoddiad busnes. Ond nid yw'r argymhelliad hwn wedi'i weithredu o hyd. Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru sy'n gweinyddu arian seilwaith i brifysgolion ar ran Llywodraeth Cymru. Roedd eu cyllideb ar gyfer 2022-23 yn £81.7 miliwn. Pro rata, pe bai prifysgolion Cymru'n cael eu cefnogi i gystadlu â Lloegr, byddai'r cyllid yng Nghymru oddeutu £100 miliwn. Mae hynny'n ddiffyg o £18 miliwn o gyllid ar gyfer seilwaith hanfodol. Mae'r diffyg hwnnw'n golygu nad oes gan brifysgolion Cymru y seilwaith hanfodol sydd ei angen arnynt, ac ni allant gystadlu â phrifysgolion eraill ar draws y DU am arian. Mae hynny'n lleihau nifer y grantiau sy'n dod i mewn i Gymru yn ddramatig, ac yn cyfyngu ar y manteision posibl i economi Cymru o ymchwil a datblygu. Mae ymchwil feddygol yn enghraifft wych o hynny. Mae ymchwil feddygol nid yn unig yn achub bywydau yn y dyfodol ond mae'n tanio ein heconomi nawr, ac mae pobl Cymru'n cytuno: yn ddiweddar adroddodd British Heart Foundation Cymru fod cymaint ag 82% o bobl yng Nghymru yn credu ei bod hi'n bwysig i Gymru fod yn gwneud ymchwil feddygol. Yn ogystal â darparu llu o fanteision i gleifion, mae ymchwil feddygol, gan gynnwys ymchwil feddygol a ariennir gan elusennau, yn gwbl hanfodol i'n heconomi. Mae modelu a gafodd ei gomisiynu gan y BHF yn awgrymu bod ymchwil feddygol a ariennir gan elusennau yn chwarae rôl hanfodol yn economi Cymru ac mae ganddi botensial hefyd i sbarduno twf economaidd. Roedd ymchwil gan Sefydliad Fraser of Allander ym Mhrifysgol Strathclyde yn amcangyfrif mai cyllid elusennol yw 35 y cant o'r holl gyllid ymchwil feddygol trydydd sector a sector cyhoeddus yng Nghymru, gyda chyllid ymchwil gweithredol o £21 miliwn yn 2018. Yn ôl y sefydliad, yn 2019, roedd cyllid ymchwil feddygol gan elusennau yng Nghymru yn cefnogi gwerth £86 miliwn o allbwn a £55 miliwn o werth ychwanegol gros. Hefyd, canfu'r sefydliad, a gafodd ei gomisiynu gan British Heart Foundation, ei bod yn debygol fod gan bob £1 filiwn a werir ar ymchwil feddygol gan elusennau fanteision sylweddol fwy i'r economi na'r buddsoddiad cyfartalog yng Nghymru, sy'n golygu bod buddsoddi mewn ymchwil yn werth ardderchog am arian. Mae pob £1 filiwn a werir ar gyllid ymchwil feddygol yng Nghymru gan elusennau'n cefnogi £2.3 miliwn mewn allbwn a £1.47 miliwn mewn gwerth ychwaegol gros. Mae'r ffigyrau hynny'n golygu bod lluosyddion cyllid ymchwil feddygol yng Nghymru gan elusennau yn debygol o fod yn debyg i rai sectorau gyda'r lluosyddion gwerth ychwanegol gros uchaf yng Nghymru, gan wneud buddsoddi mewn denu ymchwil feddygol a ariennir gan elusennau i Gymru yn werth ardderchog am arian. Gall cynnydd mewn ymchwil a ariennir gan y Llywodraeth a'r trydydd sector gynyddu cyllid y sector preifat hefyd. Mae cynyddu buddsoddiad gan y sector cyhoeddus a'r trydydd sector 1 y cant yn creu bron yr un cynnydd yng ngwariant y sector preifat o fewn blwyddyn. O'i roi mewn ffordd arall, bydd unrhyw beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei roi i mewn yn debygol o ddenu arian cyfatebol gan y diwydiant o fewn blwyddyn. Dywedodd y British Heart Foundation hefyd fod ymchwil feddygol a ariennir gan elusennau yn cefnogi creu swyddi mewn sectorau medrus fel addysg, ymchwil a datblygu, iechyd a gwaith cymdeithasol a pheirianneg. Mae'r cyflogau hyn, yn amlwg, yn cael eu gwario wedyn yn ein cymunedau lleol, busnesau lleol ac economïau lleol. Ar hyn o bryd, mae ymchwil feddygol sy'n cael ei hariannu gan elusennau yn cefnogi 975 o swyddi cyfwerth ag amser llawn yng Nghymru, hyd yn oed gyda Chymru'n tangyflawni o ran denu cyllid ymchwil. Dychmygwch y manteision pe bai Llywodraeth Cymru'n buddsoddi ac yn sicrhau bod Cymru'n cyrraedd ei photensial o ran denu'r cyllid hwnnw i Gymru. Mae'r Sefydliad Ffiseg hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu cyllid ymchwil cysylltiedig ag ansawdd Mae data'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos nad yw cyllid cysylltiedig ag ansawdd yng Nghymru wedi cadw gyfuwch â chwyddiant ers 2008, ac mae Llywodraeth Yr Alban wedi llwyddo i gynnal neu gynyddu cyllid cysylltiedig ag ansawdd dros yr un cyfnod o amser. Nodaf fod y methiant i gadw gyfuwch â chwyddiant yn rhagflaenu Brexit a dadleuon ynghylch dileu cronfeydd strwythurol. Ânt rhagddynt i ddweud hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi diddymu cyllid pwrpasol ar gyfer arloesi ac ymgysylltu yn 2014-15 ac fe gafodd y cyllid ei adfer yn 2018-19 ar £7.5 miliwn, ac erbyn hyn mae'n £15 miliwn y flwyddyn. Ond mae hynny'n is na'r £25 miliwn a gafodd ei argymell yn adolygiad Reid a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru. Daw eu pryderon yn rhannol o ganfyddiadau arolwg economeg Cyd-ffederasiwn Diwydiant Prydain o arloeswyr ffiseg. Canfu fod arloeswyr ffiseg Cymru yn cydweithio'n fwy rheolaidd â phrifysgolion nag arloeswyr yn y DU gyfan. Gyda 54 y cant o arloeswyr Cymru'n dweud bod gwell cyfleoedd i gydweithio yn sbardun allweddol i'w cynlluniau i gynyddu buddsoddiad, gallai'r partneriaethau hyn fod yn ganolog i wireddu nodau ymchwil a datblygu ac arloesi. Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i ennill o leiaf cyfran poblogaeth Cymru o gyllid cystadleuol allanol—hynny yw, 5 y cant o gyllid cystadleuol allanol y DU. Ond er mwyn gwneud hyn, mae angen i Lywodraeth Cymru gynyddu ei buddsoddiad ei hun. Mae gwir angen i brifysgolion Cymru weld cynnydd mawr yn y cyllid ar gyfer seilwaith a ddarparir gan Lywodraeth Cymru. Heb yr un cymorth â gweddill y DU, ni fydd prifysgolion Cymru ac ymchwilwyr Cymru yn gallu cystadlu'n deg am gyllid ar gyfer y DU gyfan. Byddem yn colli manteision ymchwil feddygol, a'r cyfle hefyd i adfer yr economi a thwf economaidd. Mae yna anghydraddoldeb o ran cyllido ymchwil yn y DU, ac rwy'n credu mai dyletswydd Llywodraeth Cymru yw mynd i'r afael â hynny. Peter Fox AS: A gaf fi ddiolch i chi, Tom Giffard, am gyflwyno'r ddadl hon a rhoi ychydig o amser i mi? Rwy'n credu bod pob un ohonom yn y Siambr yn cytuno â'r syniad fod ymchwil, datblygu ac arloesi yn sbardun pwysig i dwf economaidd a ffyniant, ac wrth gwrs mae prifysgolion yn allweddol i hyn. Nawr, mae yna newyddion da. Nodwyd bod Cymru'n chwaraewr cyson o gryf o fewn ymchwil ac arloesi rhyngwladol a rhanbarthol, ac mae ystadegau diweddar yn dangos bod gan Gymru gyfran uwch o gyhoeddiadau academaidd ymhlith y cyhoeddiadau byd-eang a ddyfynnir amlaf o'u cymharu ag unrhyw ran arall o'r DU. Ond fel y soniodd fy nghyd-Aelod yn ei gyfraniad, mae mwy y gallwn ei wneud i gynorthwyo prifysgolion i hybu eu galluoedd. Yn un peth, rwy'n credu ein bod angen mwy o ffocws. Felly, pa feysydd penodol rydym yn eu harwain, a pha feysydd yr hoffem dyfu ynddynt? Mae'r sylw hwn wedi cael ei wneud am strategaeth arloesedd Llywodraeth Cymru. Mae negeseuon cyffredinol y strategaeth, er yn ganmoladwy, yn eithaf eang. Drwy fod â mwy ffocws ac yn fwy penodol, gallwn ei gwneud yn haws i brifysgolion, a Chymru yn wir, ddatblygu a chynyddu maint y syniadau newydd sydd eu hangen arnom. A gwelsom enghreifftiau o ba mor dda y gall hyn weithio. Er enghraifft, mae bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd wedi buddsoddi i ddatblygu'r diwydiant lled-ddargludyddion cyfansawdd, gan flaenoriaethu buddsoddi mewn ymchwil a datblygu a chefnogi busnesau arloesol, ac mae pawb ohonom wedi gweld prifysgolion dangos diddordeb yn y buddsoddiad hwn, gyda'r Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn cael ei sefydlu ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae angen inni sicrhau ein bod yn gwneud mwy na buddsoddi mewn ymchwil ac arloesedd yn unig, mae angen inni hefyd greu synergeddau rhwng y byd academaidd a busnesau i sicrhau bod eu hanghenion a'u blaenoriaethau'n cyd-fynd â'i gilydd. Diolch. Mike Hedges AC: Diolch i Tom Giffard am roi munud i mi yn y ddadl hon. Mae rhanbarthau a gwledydd llwyddiannus yn y byd yn defnyddio eu prifysgolion fel sbardun economaidd—Caergrawnt, Bryste a swydd Warwick, ymhlith eraill yn Lloegr, ac mae Califfornia, Denmarc a'r Almaen, sy'n llwyddiannus yn economaidd, yn elwa o'u prifysgolion, megis Stanford, Heidelberg ac Aarhus. Mae gennym brifysgolion rhagorol yng Nghymru. Mae angen inni eu defnyddio'n fwy effeithiol. Mae datblygu parciau gwyddoniaeth gan brifysgolion a datblygu ysgolion entrepreneuriaeth prifysgolion wedi helpu i ddatblygu economïau ledled y byd. Un maes twf pwysig yn economi'r byd yw gwyddorau bywyd. Rhaid i hyn fod yn flaenoriaeth. Mae i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ond mae'n rhaid iddo chwarae rhan bwysicach mewn gwirionedd. Gall prifysgolion chwarae rhan allweddol yn datblygu diwydiant gwyddorau bywyd Cymru ymhellach. Ac yn wahanol i rannau eraill o'r DU, nid yw'r buddsoddiad mewn gweithgarwch wedi'i ganoli mewn un ardal neu ranbarth cyfoethog yn unig. Mae twf y sector gwyddorau bywyd yng Nghymru yn rhychwantu hyd a lled y wlad, o gynaeafu colagen sglefrod môr yn y gorllewin i sefydliad blaengar ar gyfer prostheteg babandod yn y gogledd. Os gall hyn weithio, mae angen inni wneud iddo weithio. James Evans MS: Hoffwn ddiolch i Tom Giffard am roi munud o'i amser i mi ddau funud cyn i'r ddadl hon ddechrau. [Chwerthin.] Mae cyllid ymchwil yn hanfodol i ddatrys rhai o'r problemau mawr sydd gennym yn y byd, ac wrth i gyd-Aelodau yn y Siambr eistedd drwy'r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) yn ddiweddar, roedd yn amlwg o gasglu tystiolaeth fod yna ffocws gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ac eraill efallai na fyddai sefydlu'r comisiwn newydd yn canolbwyntio digon o'i amser a'i adnoddau ar ymchwil. Felly, hoffwn ofyn cwestiwn uniongyrchol i'r Gweinidog y gallai fod eisiau ei ateb. Hoffwn wybod pa drafodaethau a gawsoch gyda swyddogion CCAUC a Llywodraeth Cymru ynglŷn â sefydlu'r comisiwn newydd, a pha ffocws a chyllid y maent yn mynd i'w roi i ymchwil feddygol, oherwydd mae hynny'n mynd i fod yn hanfodol os ydym yn mynd i ddatrys rhai o'r problemau sydd gennym yn y byd heddiw. Laura Anne Jones AC: Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod Tom Giffard am ganiatáu munud i mi yn ystod y ddadl fer hon heddiw. Mae angen canolbwyntio'n gadarn ar fuddsoddi ym mhrifysgolion Cymru i ysgogi economi Cymru, a gwella ymchwil a datblygu. Mae'r ymgyrch newydd a'r adroddiad ar ariannu dyfodol Cymru gan British Heart Foundation Cymru yn tynnu sylw at sut y bydd ariannu ein prifysgolion disglair yn briodol yn gwella ymchwil feddygol ac yn sbarduno twf economaidd, dwy fuddugoliaeth fawr a rhesymau dros fuddsoddi. Fel y dywedodd Tom Giffard yn gynharach, mae gan Gymru oddeutu 5 y cant o boblogaeth y DU, ond dim ond 2 y cant o wariant ymchwil a datblygu y DU. Gwelsom bwysigrwydd ymchwil a datblygu ac arloesi yn ystod y pandemig. Mae angen inni fuddsoddi mewn ymchwil a all ein datblygu'n sylweddol yn feddygol ac mewn sawl ffordd arall, a byddwn yn gobeithio, fel James, y bydd y comisiwn newydd ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil yn ceisio mynd i'r afael â hyn wrth symud ymlaen. Mae angen i Lywodraeth Cymru gefnogi ein prifysgolion er mwyn iddynt allu bod yn fwy cystadleuol, fel y gallant fod mewn sefyllfa well i ennill y ceisiadau allanol a cheisiadau am gyllid yn y dyfodol. Mae cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer ymchwil cysylltiedig ag ansawdd yn llawer rhy isel ar adeg pan ddylent fod yn buddsoddi yn nyfodol Cymru. Rydym i gyd yn gwybod bod cyllid cysylltiedig ag ansawdd gan Lywodraeth Cymru yn talu am bethau nad yw grantiau'n talu amdanynt—seilwaith staff a biliau cyfleustodau, ac rwy'n siŵr fod hynny'n bryder arbennig iddynt ar hyn o bryd. Ac wrth gwrs, mae ymchwil a datblygu'n effeithio ar dwf yn uniongyrchol. Felly, diolch i chi, Tom, am adael inni dynnu sylw at hyn heddiw. Galwaf ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg i ymateb i'r ddadl. Jeremy Miles AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae prifysgolion yn elfen hanfodol o'n economi ni, gan gynhyrchu dros £5 miliwn o allbwn bob blwyddyn. Maen nhw'n sefydliadau angori ac yn chwarae rhan hollbwysig yn eu hardal leol drwy gynnig cyfleoedd am swyddi a chadwyni cyflenwi, a phoblogaethau amrywiol o fyfyrwyra staff. Mae eu cyfraniad hefyd yn cael ei deimlo ar draws Cymru a thu hwnt drwy eu gwaith blaengar ar ymchwil, arloesi a datblygu sgiliau. Mae Llywodraeth Cymru yn ymfalchïo yn ei buddsoddiad a'i chefnogaeth i'n prifysgolion. Rŷm ni wedi cynyddu cyllidebau Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru tua 82 y cant, gan eu galluogi nhw i ailgyflwyno cyllid arloesi ac ymgysylltu a chynyddu lefel y cyllid a roddir i ymchwil ar sail ei ansawdd. Mae cyfanswm cyllid ymchwil ac arloesi Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ar gyfer blwyddyn academaidd 2022-23 bellach bron yn £103 miliwn. Mae canlyniadau fframwaith rhagoriaeth ymchwil 2021 yn dangos yr effaith ardderchog y mae prifysgolion Cymru yn eu cael. Barnwyd bod 83 y cant o'r gwaith ymchwil a gafodd ei gyflwyno yn arwain y byd, neu yn rhagorol yn rhyngwladol. Mae'r sylfaen ymchwil hon yn ysgogi lledaenu gwybodaeth, arloesi technolegol a mewnfuddsoddiad. Fel y bydd yr Aelodau yn gwybod, mae ymchwil mewn prifysgolion yn cael ei ariannu drwy gymysgedd o arian gan fusnesau, elusennau a sefydliadau cymunedol, yn ogystal â Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd. Mi ddof yn ôl at fater cyllid Ewropeaidd yn y man. Yn y cyfnod heriol ariannol sydd ohoni, mae'n hanfodol i sector ymchwil ac arloesi Cymru gydweithio ar flaenoriaethau cyffredin, a chanolbwyntio ar daclo'r heriau mwyaf rŷm ni'n eu wynebu fel cenedl. Rydym ni wedi buddsoddi £2 filiwn eleni yn rhwydwaith arloesi Cymru, a gafodd ei sefydlu er mwyn hwyluso cydweithio a phartneriaeth rhwng prifysgolion yng Nghymru a thu hwnt, gydag amrywiaeth eang o gyrff sector cyhoeddus, sector preifat a thrydydd sector. Wrth gwrs, mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn bartner allweddol wrth fuddsoddi mewn prifysgolion, ac fe fyddwn ni'n parhau i weithio gyda nhw er mwyn gweld sut y gallwn ni ddatblygu'n strategol y ffordd y caiff cyllid ymchwil ei ddyrannu er mwyn ennill grantiau o ffynonellau eraill. Rwy'n croesawu agwedd ymarferol a hyblyg y sector a'i barodrwydd i gydweithio er mwyn bod yn fwy cystadleuol o ran y Deyrnas Unedig. Drwy gydweithio, fe fyddwn ni'n sicrhau'r gwerth mwyaf o gyllid ymchwil Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i gefnogi ymchwil ac arloesi.Yn y dyfodol, y bydd cyllid prifysgolion yn dod o dan y comisiwn newydd ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil. Mewn ateb i James Evans, bydd disgwyl i'r comisiwn chwarae rhan allweddol yn y system ymchwil, gan weithio'n agos gyda chynghorau ymchwil y Deyrnas Unedig. Bydd yn parhau gyda gwaith Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ar gynyddu'r swm o gyllid ymchwil y Deyrnas Unedig sydd yn dod i Gymru. Jeremy Miles AC: Wrth gwrs, nid drwy ymchwil ac arloesi'n unig y mae prifysgolion yn cael effaith economaidd. Maent yn sefydliadau angori ac yn gyflogwyr sylweddol. Yn 2019-20, roedd un ym mhob 20 swydd yng Nghymru yn gysylltiedig â gweithgarwch prifysgol. Câi dros 21,700 o swyddi eu darparu gan brifysgolion Cymru, gyda 19,600 yn rhagor o swyddi wedi'u creu mewn diwydiannau eraill drwy effaith ganlyniadol addysg uwch. Rwy'n falch fod prifysgolion yng Nghymru yn talu'r cyflog byw, a byddwn yn annog mwy o gaffael lleol a rhanbarthol. Bydd twf eleni yn nifer yr israddedigion yn cael effaith economaidd ar unwaith mewn cymunedau lleol, a diolch i'n diwygiadau blaengar i gyllid myfyrwyr, mae nifer yr ôl-raddedigion yn parhau i gynyddu, gan drosi'n ymchwilwyr ac arloeswyr y dyfodol yn y blynyddoedd i ddod, gan greu ei effaith economaidd ei hun. Mae lefelau sgiliau'n cydberthyn yn glir i dwf economaidd, ac rydym yn buddsoddi yn ein prifysgolion i ddarparu addysg ran-amser, mwy o weithgaredd ôl-raddedig, prentisiaethau gradd, a'r cyfan ochr yn ochr â'u cynnig craidd. Rydym wedi buddsoddi mewn cynllun peilot microgymwysterau, ehangu llefydd meddygol drwy ysgol feddygol newydd gogledd Cymru, a pharhau i fuddsoddi mewn pynciau cost uwch, fel cyrsiau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Rydym yn sicrhau bod Cymru'n cael ei gweld fel cyrchfan sy'n denu myfyrwyr ac ymchwilwyr rhyngwladol i astudio, a bod ein partneriaethau rhyngwladol hefyd yn gallu parhau a thyfu. Mae ein mentrau Taith a Global Wales yn enghreifftiau da o'n gwaith yn y maes hwn. Dywedais y byddwn yn dychwelyd at fater arian Ewropeaidd. Rwy'n siŵr fod pawb yma'n pryderu am golli'r arian ymchwil a datblygu Ewropeaidd. Drwy wrthod rhoi arian yn lle'r cronfeydd hyn, mae Llywodraeth y DU yn gadael bwlch cyllid, gan danseilio cystadleurwydd yn ystod cyfnod o newid aruthrol. Rwy'n gwbl glir fod rhaid inni weld lefelau ariannu sy'n cyfateb fan lleiaf i'r rhai roeddem yn eu cael yn hanesyddol yn dychwelyd i Gymru. Er mwyn sicrhau mwy o fuddsoddi a dychwelyd i lefelau cyllid hanesyddol fan lleiaf, mae angen cefnogaeth uniongyrchol a chydweithrediad Llywodraeth y DU a'i hadrannau a'i hasiantaethau, yn enwedig yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ac Ymchwil ac Arloesi yn y DU, i weithio mewn partneriaeth ar benderfyniadau sy'n effeithio ar Gymru. Rhaid i Lywodraeth y DU wella'r berthynas gyda'r UE er mwyn sicrhau cyfranogiad llawn y DU yn Horizon Europe, fel y cytunwyd o dan y cytundeb masnach a chydweithredu. Mae cysylltiad â'r rhaglen o fantais i'r pedair gwlad, ac fe wneuthum y pwynt hwn yn gadarn dros y deuddydd diwethaf yn fy ymweliadau â Brwsel. Ein barn gadarn ni yw mai deialog a thrafod yw'r unig lwybr i ganlyniad cadarnhaol a fyddai'n atal niwed o sylwedd i economi Cymru. Fel y dywedodd adroddiad diweddar gan grŵp Russell, 'Bydd methiant i sicrhau cysylltiad â Horizon, Euratom a Copernicus yn cyfyngu'n sylweddol ar atyniad y DU fel cyrchfan ar gyfer talent a buddsoddiad.' Os na all Llywodraeth y DU gyflawni'r hyn y cytunwyd arno yn y cytundeb masnach a chydweithredu, rhaid i ni adeiladu perthynas agos, hirdymor gyda Horizon Europe fel trydedd wlad. Mae hyn yn hollbwysig i'n heconomi. Efallai y gall yr Aelod siarad â'i gymheiriaid yn San Steffan ynghylch rhai o'r materion hyn. Maes arall lle roedd cyllid Ewropeaidd yn bwysig yw arloesi, sydd mor hanfodol i'n datblygiad economaidd. O dan drefniadau Llywodraeth y DU, mae cyllideb Cymru'n colli dros £1.1 biliwn o gyllid newydd yn lle cyllid yr UE. Rydym yn gwybod bod cynlluniau fel arbenigedd SMART wedi bod yn effeithiol iawn wrth gefnogi cydweithio effeithiol rhwng ymchwil a diwydiant. Mae'r rhain yn cydnabod yr ymdrech ar y cyd rhwng partïon, gan arwain at wobrau a rennir, yn enwedig cynhyrchiant eiddo deallusol, y manteisiwyd arno i greu effaith economaidd a chymdeithasol i'r holl bartneriaid. Ddirprwy Lywydd, mae'r Llywodraeth hon o'r farn fod prifysgolion yn rhan greiddiol o seilwaith economaidd ac addysgol Cymru, ac rydym wedi buddsoddi'n unol â hynny, gan gefnogi ymchwil ac arloesi, datblygu sgiliau a lledaenu gwybodaeth. Rydym wedi gweithio gyda'r sector i ddarparu'r cyflog byw go iawn, wedi annog arloesedd a chaffael a gwell ymgysylltiad â'r gymuned drwy weithgarwch cenhadaeth ddinesig. Mae buddsoddi yn ein prifysgolion yn fuddsoddiad mewn pobl, mewn ymchwilwyr, mewn staff cymorth, mewn technegwyr, mewn darlithwyr. Mae'n fuddsoddiad yn ein heconomi, mewn un ymhob 20 swydd drwy Gymru; mae'n fuddsoddiad yn ein myfyrwyr a'u dyfodol, yn y sgiliau ar gyfer Cymru yn yr unfed ganrif ar hugain. Rwyf am orffen, Ddirprwy Lywydd, drwy ailddatgan mai rhan o fy ngweledigaeth ar gyfer addysg uwch yw sefydliadau neilltuol yn gweithio mewn partneriaeth. Drwy gydweithio, gallant wneud y gorau o'r buddsoddiad sylweddol a gânt, a thrwy gydweithio, byddant yn parhau i wneud cyfraniad sylweddol i dwf economaidd. Diolch i'r Gweinidog. A daw hynny â thrafodion heddiw i ben, ac rwy'n gobeithio y bydd pawb yn cael cyfle i orffwys yn ystod ein toriad. Daeth y cyfarfod i ben am 18:35.
uk-hansard-senedd-cy
senedd2022-10-26
2024-06-01T00:00:00
{ "year": "2022", "language": "cy", "license": "Open Parliament Licence - https://www.parliament.uk/site-information/copyright-parliament/open-parliament-licence/" }
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd Y Llywydd / The Llywydd: Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma, a'r cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd sydd gyntaf y prynhawn yma. Mae cwestiwn 1 [OQ60703] wedi'i dynnu yn ôl. Cwestiwn 2 fydd gyntaf, felly. Sioned Williams. Trafnidiaeth Gyhoeddus yng Ngorllewin De Cymru Sioned Williams AS: 2. Sut mae'r Llywodraeth yn cefnogi trafnidiaeth gyhoeddus yng Ngorllewin De Cymru? OQ60682 Lee Waters AC: Diolch am y cwestiwn. Lee Waters AC: Mae cyflawni ein gweledigaeth ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus sy’n ddiogel, yn fforddiadwy ac yn hawdd ei defnyddio ledled Cymru yn flaenoriaeth i ni o hyd. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu lefelau uchel o gymorthdaliadau cyhoeddus i gefnogi trafnidiaeth gyhoeddus. Sioned Williams AS: Diolch, Weinidog. Mewn adroddiad a drafodwyd y bore yma gan gyd-bwyllgor corfforedig de-orllewin Cymru ynghylch eu cynllun trafnidiaeth rhanbarthol, dywedasant nad yw’r rhwydwaith trafnidiaeth presennol yn gwasanaethu pobl y rhanbarth yn ddigonol, a bod hyn yn cyfrannu at ganlyniadau gwael, gan gynnwys cyfyngu ar fynediad at gyflogaeth, afiechyd, effeithiau amgylcheddol negyddol ac allgáu cymdeithasol, ac yn nes ymlaen, mae'n dweud bod gwasanaethau rheilffyrdd a bysiau yn darparu cysylltiadau allweddol rhwng prif ardaloedd poblogaeth, ond mai ychydig o fuddsoddiad a wnaed ynddynt yn y gorffennol diweddar. Ac ar adeg, wrth gwrs, pan fydd economi’r rhanbarth yn cael ei heffeithio’n fawr gan y bygythiad i swyddi yn Tata Steel, bydd system drafnidiaeth annigonol yn gwaethygu’r heriau economaidd ac yn dyfnhau anghydraddoldebau cymdeithasol. Cafwyd rhywfaint o newyddion da yn ddiweddar wrth i'r weinyddiaeth glymblaid yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot lwyddo i ailgyflwyno nifer o lwybrau bysiau a dorrwyd yn gynharach yn y flwyddyn—rhai yr oeddwn wedi cyfeirio atynt yn faenorol yn y Siambr—ac mae’r gwaith parhaus ar fetro bae Abertawe a gorllewin Cymru wedi arwain at nifer o argymhellion ymarferol. Fodd bynnag, er na ellir gwadu'r dystiolaeth o gynnydd ar fetro de Cymru wrth deithio drwy gymunedau cyfagos y Cymoedd, ni wnaed unrhyw gynnydd gweledol tebyg i lawer o’r cymunedau rwy'n eu cynrychioli. Felly, a all y Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am gynnydd metro bae Abertawe ac amserlenni ar gyfer pryd y gall trigolion ddisgwyl gweld gwelliannau? Diolch. Lee Waters AC: Diolch, a chan fy mod innau hefyd yn cynrychioli ardal yn y de-orllewin, rwy'n cytuno ynghylch pwysigrwydd metro de Cymru. Rydym bob amser wedi dweud y bydd yn rhaid inni gyflwyno'r metros yn eu trefn, ac rydym yn dechrau gyda metro de-ddwyrain Cymru, ac mae’r gwaith yn mynd rhagddo ar un y gogledd, ac i raddau arafach, ar un y de. Ac mae hyn yn digwydd ochr yn ochr â’r cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol y gofynnir iddynt gael eu datblygu gan y cydbwyllgorau corfforedig. Rydym bellach wedi addasu'r timau datblygu a oedd gennym ar gyfer y metro, gan gynnwys yr un yn y de-orllewin, i fod yn dimau trafnidiaeth rhanbarthol i weithio gyda’r awdurdodau lleol. Felly, mae Trafnidiaeth Cymru yn darparu’r arbenigedd a’r capasiti i awdurdodau lleol sy’n aml yn cael trafferth gyda hynny er mwyn datblygu cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol a chynlluniau datblygu rhanbarthol aml-ddull priodol sy’n cyd-fynd â thargedau newid dulliau teithio 'Llwybr Newydd' a’r cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth. Felly, mae’r gwaith hwnnw’n mynd rhagddo. Maent wedi nodi nifer o gynlluniau yn y de-orllewin. Rwy'n falch fod y gwaith hefyd yn mynd rhagddo ar hyb trafnidiaeth newydd i Gastell-nedd, a fydd yn creu canolfan drafnidiaeth integredig gerllaw gorsaf reilffordd Castell-nedd, sy'n golygu adleoli'r orsaf fysiau bresennol, gan y gwyddom fod integreiddio rhwng y ddau ddull teithio, a'i gwneud yn hawdd gwneud hynny, yn rhan wirioneddol bwysig o berswadio pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Felly, edrychaf ymlaen at weld y cyd-bwyllgor corfforedig yn gweithredu ar y dadansoddiad hwnnw ac yn llunio cyfres o gynlluniau y byddwn wedyn yn ystyried eu hariannu fel rhan o’r cylch cyllido nesaf. Altaf Hussain AS: Weinidog, mae llawer o gymunedau ar draws fy rhanbarth wedi eu hynysu am eu bod wedi colli cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig yn fy mhentref i, Pen-y-fai, lle nad oes gwasanaeth bws i Ben-y-bont ar Ogwr na Phorthcawl. Er gwaethaf ymdrechion y cyngor cymuned, mae ein pentref yn parhau i fod heb gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus nac unrhyw lwybrau teithio llesol. Cerbydau preifat yw’r unig opsiwn i drigolion o hyd, ac nid yw'r opsiwn hwnnw gan bawb, yn enwedig ein poblogaeth oedrannus. Weinidog, beth fydd eich Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod pobl sy’n byw y tu allan i drefi a dinasoedd yn cael mynediad cyfartal at drafnidiaeth gyhoeddus? Lee Waters AC: Wel, credaf fod Altaf Hussain yn crynhoi'n berffaith beth yw canlyniadau dadreoleiddio’r diwydiant bysiau yn y 1980au, lle nad yw llwybrau’n cael eu cynnig ar sail angen cymdeithasol, ond yn seiliedig ar ble gall cwmnïau preifat wneud elw, a chredaf fod y model preifateiddiedig hwnnw'n amlwg wedi methu, gan nad yw’r hyn yr addawodd ei gyflawni, sef dewis ychwanegol i deithwyr, wedi digwydd, ac mae Altaf Hussian yn rhoi enghraifft dda iawn o ble mae pobl wedi'u gadael heb unrhyw ddewis o gwbl. Ac rwyf am i bobl gael dewis go iawn. Ar hyn o bryd, yn y pentref y mae'n byw ynddo, mae'n swnio fel pe na bai unrhyw ddewis gennych oni bai fod gennych gar, ac mae'n amlwg nad yw hynny'n iawn. Nid ydym am orfodi pobl i wneud dewisiadau; rydym am roi opsiynau go iawn a dewisiadau amgen go iawn i bobl. Yn yr wythnosau nesaf, byddaf yn cyhoeddi papur ar drafnidiaeth gynaliadwy mewn ardaloedd gwledig, gan y gallwn edrych ar ddigonedd o enghreifftiau rhyngwladol o ardaloedd llawer teneuach eu poblogaeth na Chymru, lle mae ganddynt gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus da. Ac mae hwnnw'n ddewis y gall llywodraethau ei wneud; nid yw'n anochel fod ardaloedd gwledig yn gwbl ddibynnol ar geir. Mae amrywiaeth o bethau y gellir eu gwneud, a dyna y gobeithiaf y bydd y cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol yn caniatáu inni ei wneud. Wrth gwrs, bydd hynny'n dibynnu ar gyllid yn y dyfodol, ac mae angen inni wario mwy o arian ar drafnidiaeth gyhoeddus, sef un o'r rhesymau pam y gwnaethom gomisiynu'r adolygiad ffyrdd, a wrthwynebwyd mor groch gan ei feinciau ef. Ond os ydym am i bobl gael mwy o ddewis, rydym yn cydnabod bod yn rhaid inni fuddsoddi yn y dewisiadau hynny, yn hytrach na buddsoddi yn y gyfres ddiddiwedd o gynlluniau ffyrdd yn unig, gan mai dyna ble fydd y ddibyniaeth ar geir y mae'n ei disgrifio yn parhau. Huw Irranca-Davies AC: Weinidog, trefnais gyfarfod cyhoeddus tair awr o hyd yn ddiweddar, gyda Trafnidiaeth Cymru a Network Rail, a fynychwyd gan dros 60 o bobl o bob rhan o Ogwr a’r cyffiniau, a nododd eu pryderon yn gwrtais ond yn glir—gan mai pobl felly ydym ni—am y gwasanaeth ar reilffordd Maesteg-Caerdydd a'n gobeithion am welliannau. Yn y cyfamser, mae cerbydau rheilffyrdd newydd wedi dechrau cael eu cyflwyno'n raddol yr wythnos hon, sy’n wych ac i'w groesawu, ond rydym yn parhau i gael problemau gyda phrydlondeb a chanslo gwasanaethau, felly edrychwn ymlaen at gael cyfarfod arall gyda Trafnidiaeth Cymru a Network Rail cyn bo hir. Hefyd, fodd bynnag, fe godwyd y galw hirhoedlog am wasanaeth bob hanner awr, y bûm yn dadlau o'i blaid ers cyn imi ddod i’r Senedd. Weinidog, rydych chi a’ch rhagflaenwyr wedi cyfarfod â mi ac arweinydd y cyngor, Huw David, i drafod hyn o'r blaen. Er clod iddynt, ac o ganlyniad i’r cyfarfodydd hynny, gwn fod Trafnidiaeth Cymru a Network Rail wedi llunio cynigion ar gyfer gwasanaeth bob hanner awr. Ond y maen tramgwydd bob amser yw cyllid, sy'n gysylltiedig â digideiddio'r signalau yn Nhondu, fel y gallwn gael gwared ar y blwch signal Fictoraidd a'r ffaith bod angen trosglwyddo allwedd o law i law, a gwelliannau eraill yn Nhondu. Ac mae angen i’r cyllid hwnnw ddod gan Network Rail UK. Felly, Weinidog, sut y gallwch ein helpu i fwrw ymlaen â’r trafodaethau hynny ar lefel y DU, yn ogystal ag ar lefel Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, fel y gallwn gael y buddsoddiad y bu ei angen ers degawdau yn hyn, a fydd wedyn yn ein galluogi i fwrw ymlaen â gwasanaeth bob hanner awr? Lee Waters AC: Diolch am eich cwestiwn. Mae'n llygad ei le—mae wedi dadlau'n gyson ynghylch pwysigrwydd y cynllun, ac rwyf wedi gallu cyfarfod ag ef ar un neu ddau achlysur i'w drafod. Credaf mai'r broblem sylfaenol yma, ac rydym wedi gweld hyn mewn rhannau eraill o Gymru, yw ein bod yn rhan o ardal fuddsoddi o'r enw'r 'rhanbarth gorllewinol' o fewn Network Rail. Felly, rydym ni, ynghyd â Llundain a Penzance, oll yn cystadlu am yr un pot o arian, ac mae’r dadansoddiad economaidd y mae’r Adran Drafnidiaeth yn ei ddefnyddio i gyfiawnhau cynlluniau rheilffyrdd—math o ddadansoddiad cost a budd—bob amser yn mynd i ffafrio cynlluniau yn yr ardaloedd mwyaf poblog. Felly, pan fo cynllun i Faesteg yn cystadlu yn erbyn cynllun yn nyffryn Tafwys, o ystyried dwysedd poblogaeth ac economi’r gwahanol ardaloedd hynny, mae bob amser yn mynd i fod tuag at waelod y rhestr, a dyna sydd wedi digwydd dro ar ôl tro. Nawr, nodaf fod Gweinidog Trafnidiaeth y DU yn Lloegr yn cyhoeddi ei Fil rheilffyrdd newydd, i sefydlu’r gwaith o greu corff newydd Great British Railways, sy'n feddwl arweiniol ei hun ar lefel y DU, ac rydym yn cytuno bod hynny'n synhwyrol. Ond yn hytrach na throsglwyddo swyddogaethau presennol yr Ysgrifennydd Gwladol i'r corff hwnnw, rydym am weld diwygio. Yn y pen draw, hoffem weld pwerau a chyllid rheilffyrdd yn cael eu datganoli'n llawn, fel yr argymhellodd comisiwn McAllister-Williams. Ond fel mesur interim, rydym am i Gymru gael yr hyn sydd gan yr Alban, sef ei rhanbarth ei hun o fewn Network Rail, fel y gallwn nodi'r blaenoriaethau ar gyfer ble caiff buddsoddiad ei wneud. Mae rheilffordd Glynebwy yn enghraifft wych o reilffordd nad oedd yn bodloni meini prawf yr Adran Drafnidiaeth yn 2008 pan gafodd ei hadeiladu. Fe wnaethom ei hadeiladu gan ddefnyddio cyllid datganoledig. Roedd y galw'n llawer uwch na'r disgwyl, ac rydym bellach wedi gallu gwella'r gwasanaeth hwnnw ymhellach. Nawr, ni fyddai hynny’n digwydd o dan system draddodiadol Network Rail, ac mae arnaf ofn fod Maesteg wedi dioddef tynged debyg. Felly, mae angen is-adran ar wahân ar gyfer Cymru yn Network Rail, gyda chyllid ac ymreolaeth i Gymru wneud ein dewisiadau ein hunain ynglŷn â ble i fuddsoddi. Ac yna hefyd, wrth gwrs, mae arnom angen y cyllid ychwanegol ar gyfer rheilffyrdd, sy'n faes nad yw wedi'i ddatganoli, gan nad yw Cymru wedi'i gwasanaethu'n ddigonol ers degawdau. Ar y pwynt penodol y mae’n ei wneud, byddwn yn fwy na pharod i gynnull cyfarfod gyda Network Rail, arweinydd cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd Huw David, ac yntau i gyflwyno’r achos eto i Network Rail er mwyn iddynt allu deall amgylchiadau Maesteg a pha mor bwysig fyddai gwasanaeth bob hanner awr. Y Llywydd / The Llywydd: Dwi wedi cytuno i gais gan y Dirprwy Weinidog i grwpio cwestiynau 3 a 5. Cwestiwn 3, felly—Llyr Gruffydd. Llwybrau Bysiau yn y Gogledd Llyr Gruffydd AC: 3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth llwybrau bysiau yng ngogledd Cymru? OQ60698 Mabon ap Gwynfor AS: 5. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar wasanaethau bysus yng nghymunedau gogledd Cymru? OQ60701 Lee Waters AC: Lywydd, deallaf eich bod wedi caniatáu i gwestiynau 3 a 5 gael eu grwpio. Rydym yn gweithio’n gyflym i drawsnewid ansawdd bysiau lleol i wasanaethu cymunedau ledled Cymru. Cyn y Bil bysiau y gobeithiwn ei gyflwyno yn ddiweddarach eleni, rydym yn parhau i ddarparu cyllid ychwanegol i awdurdodau lleol a Trafnidiaeth Cymru ar gyfer gwella gwasanaethau presennol ar draws y rhanbarth. Llyr Gruffydd AC: Wel, diolch i chi. Ac wrth i chi ystyried y gwaith yna o wella gwasanaethau, fe wnaf i eich atgoffa chi fod yna flwyddyn erbyn hyn ers i'r gwasanaeth bws T19 rhwng Blaenau Ffestiniog a Llandudno gael ei golli. Mi oedd e, wrth gwrs, yn gwasanaethu cymunedau reit ar hyd dyffryn Conwy, o Flaenau Ffestiniog i Ddolwyddelan, Betws-y-coed, Llanrwst, a lawr y dyffryn i'r arfordir. Nawr, pan gollwyd y gwasanaeth, fe ddywedwyd wrth drigolion lleol i ddefnyddio'r trên lleol, sydd ddim, wrth gwrs, yn rhedeg hanner mor aml ac sydd wedi bod yn anwadal iawn yn y blynyddoedd diwethaf oherwydd bod stormydd wedi golchi llwybr y trên i ffwrdd. Nawr, rŷn ni mewn sefyllfa lle mae yna henoed a thrigolion bregus yn ei chael hi'n anodd bellach heb y bws i gael mynediad i wasanaethau, megis mynd lawr i Gonwy neu Landudno i weld eu meddyg, neu i'r ysbyty, neu i gael mynediad at wasanaethau eraill. Ac i nodi blwyddyn ers colli'r gwasanaeth, mi wnaeth tri chynghorydd Plaid Cymru—y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn o Flaenau Ffestiniog, Liz Roberts o ward Betws-y-coed, a Nia Clwyd Owen o Lanrwst—gerdded y 30 milltir, gerdded y llwybr y byddai'r bws wedi bod yn ei ddilyn tan flwyddyn yn ôl. Nawr, mae'r ffaith bod hynny'n digwydd flwyddyn gyfan ar ôl colli'r gwasanaeth, i fi, yn adlewyrchu gymaint o golled oedd cau y llwybr yna. Felly, a gaf i ofyn i chi, Ddirprwy Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i weithio gyda'r awdurdodau lleol perthnasol a gyda darparwyr posib i geisio adfer y gwasanaeth yna, oherwydd does dim amheuaeth bod mawr, mawr ei angen e yn nyffryn Conwy? Lee Waters AC: Diolch. Wel, rwy’n cytuno nad yw’r rhwydwaith bysiau presennol cystal ag yr hoffem iddo fod. Credaf ein bod wedi sôn droeon yn y Siambr hon am y pwysau sy'n wynebu'r diwydiant bysiau o ganlyniad i lai o ddefnyddwyr a chostau cynyddol a phrinder gyrwyr, yn ogystal â'r gwasanaeth tameidiog wedi'i fasnacheiddio y soniais amdano mewn perthynas â'r cwestiwn yn gynharach. Fel rhan o’n cytundeb â Phlaid Cymru, rydym wedi nodi £46 miliwn ychwanegol ar ben y cymhorthdal presennol o oddeutu £200 miliwn eleni er mwyn cefnogi gwasanaethau bysiau. Ac mae hynny'n cynnwys gwasanaeth TrawsCymru, sy'n darparu gwasanaeth rhagorol i'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu, gyda bysiau modern a phrisiau is a chysylltedd tocynnau. Felly, lle mae’r gwasanaethau yno, mae’r gwasanaethau’n dda, ond mae yna fannau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu. Ac rydym am weithio gyda'r consortia rhanbarthol, gan fod darparu bysiau sy'n angenrheidiol yn gymdeithasol yn parhau i fod yn gyfrifoldeb cyfreithiol i awdurdodau lleol, ac mae ganddynt allu eu hunain i godi arian a darparu'r gwasanaethau hynny eu hunain. Mae ganddynt y pŵer hwnnw, ac mae ganddynt y ddyletswydd gyfreithiol honno. Felly, mae angen inni gydweithio â nhw i weld beth y gallwn ei wneud gyda'n gilydd i ddarparu ar gyfer pobl y rhanbarth. Rydym wedi creu’r hyn rydym yn eu galw’n 'sgrymiau bysiau rhanbarthol' i ddod ag awdurdodau lleol, Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru ynghyd i gynllunio, cyn masnachfreinio, lle byddai rhwydweithiau bysiau'n mynd yn ddelfrydol. Mae cyllid yn gyfyngiad, ac ar hyn o bryd, gan fod nifer y defnyddwyr yn dal i fod yn isel, nid yw’r rhain yn fasnachol hyfyw, a dim ond gyda chefnogaeth y cyhoedd y gallant redeg mewn llawer o achosion, ac mae'r cymorth y gallwn ei roi yn gyfyngedig. Ond rwy'n fwy na pharod i edrych gyda'r sgrym ranbarthol ar gyfer gogledd Cymru i ddeall pa ddarpariaeth y gellir ei gwneud ar gyfer y pentrefi hynny, ac rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu at yr Aelod gyda'r manylion. Y Llywydd / The Llywydd: Mabon ap Gwynfor. Mabon ap Gwynfor AS: Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch i'r Dirprwy Weinidog am yr ateb mae e newydd ei roi i Llyr. Dwi'n mynd i fynd ar hyd yr un trywydd oherwydd, fel dywedodd Llyr, mae'r T19 wedi profi i fod yn andros o bwysig i gymuned Blaenau Ffestiniog dwi'n ei chynrychioli, ac, yn wir, i ddyffryn Conwy ac eraill. Roeddwn i'n darllen yn ddiweddar adroddiad gan Age Cymru, a oedd yn rhybuddio bod pobl oedrannus yn enwedig yn mynd i fod yn dioddef mwy o unigrwydd yn sgil llwybrau bysys yn cau a phobl yn methu cael mynediad at wasanaethau. Dyna rŷn ni wedi'i weld ym Mlaenau Ffestiniog—pobl hŷn yn methu mynd i fyny i Landudno. Ond yn ogystal â'r bobl hŷn, rŷn ni wedi gweld pobl ifanc yn methu mynd i'r ysgol yn Llanrwst ac, felly, yn gorfod defnyddio ceir, sydd, fel bydd y Dirprwy Weinidog yn parchu, dwi'n siŵr, ddim yn llesol i'r amgylchedd. Dwi'n falch clywed bod y Dirprwy Weinidog yn dweud y bydd y Llywodraeth yn edrych i roi mwy o bres i awdurdodau lleol er mwyn cael gwell darpariaeth bysys, a bod gyda chi'r peth sgrym yma roeddech chi'n cyfeirio ato rŵan. Ond, fel dywedodd Llyr, mae yna flwyddyn gyfan a rhagor wedi mynd ers i'r T19 gau. Dwi'n cael ar ddeall, pan oedd y gwasanaeth yna, oedd yn X19, wedi troi i fod yn wasanaeth T TrawsCymru, ei fod o fod i dderbyn mwy o bres; doedd o ddim wedi. Dwi hefyd wedi cael ar ddeall, flwyddyn a rhagor yn ôl, fod cwmni Alpine wedi cynnig cydweithio â'r awdurdodau a'r Llywodraeth er mwyn ffeindio datrysiad, ond does yna ddim cydweithio wedi bod. Felly, mae'n siom bod yna flwyddyn wedi mynd heibio— Y Llywydd / The Llywydd: Allwn ni gael cwestiwn, plis? Mabon ap Gwynfor AS: —mi ddof at y cwestiwn nawr, diolch, Llywydd—a bod yna ddim byd wedi digwydd. Felly, eisiau ymrwymiad ydw i eich bod chi nid yn unig yn barod i fynd at y sgrym yma roeddech chi'n sôn amdano, ond i gydweithio â darparwyr lleol er mwyn ffeindio datrysiad amgen i'r angen ar gyfer Blaenau Ffestiniog a dyffryn Conwy. Lee Waters AC: Wel, yn wir, rwy'n atgoffa'r Aelod o’r hyn a ddywedais wrth ei gyd-Aelod. Mae gan awdurdodau lleol gyfrifoldeb cyfreithiol i ddarparu gwasanaethau bws sy'n angenrheidiol yn gymdeithasol. Felly, yn hytrach na disgwyl i Lywodraeth Cymru yn unig fynd i’r afael â’r problemau yn ei ardal, mae angen iddo droi hefyd at ei awdurdodau lleol ei hun. Nawr, mae pob un ohonom yn wynebu’r un pwysau ariannol, ac nid oes dim o hyn yn hawdd, ac mae pob un ohonom yn wynebu diffygion y system breifateiddiedig. Rydym wedi cyflwyno’r gwasanaeth bws T22 newydd yn ddiweddar, sy’n cysylltu Blaenau Ffestiniog â Chaernarfon, a gwasanaethau hyblyg newydd yn ardaloedd Dolgellau a Machynlleth, ac maent wedi cael eu croesawu'n fawr. Mae Trafnidiaeth Cymru, wrth gynllunio, wedi bod yn edrych ar greu rhwydweithiau rhanbarthol cryf sy’n gwella amseroedd teithio ac yn cysylltu â chyfnewidfeydd allweddol. Felly, fel y dywedaf, lle mae’r gwasanaethau ar waith, mae’r adborth gan gwsmeriaid a theithwyr yn gadarnhaol iawn. Ond mae bylchau, ac yn aml, mae hynny'n digwydd am fod y defnydd yn yr ardaloedd hynny’n isel iawn, ac mae’r cymhorthdal sydd ei angen yn un nad yw gennym i'w roi ar hyn o bryd, ac mae’r rhain yn sgyrsiau rydym wedi’u cael gyda Phlaid Cymru, fel rhan o gytundeb y gyllideb. Rydych yn gwybod yn iawn am y sefyllfa sy'n ein hwynebu. Mae ein cronfeydd yn gyfyngedig, ac rydym wedi cytuno ar flaenoriaethau ar y cyd ar gyfer y cronfeydd hynny, ac fe wnaethom gytuno i edrych ar gyllid bysiau, ac yn wir, fe wnaethom ddod o hyd i £46 miliwn ychwanegol. Nid yw hwnnw’n mynd mor bell ag y byddai pob un ohonom am iddo fynd, a chredaf mai dyna pam fod angen inni weithio gydag awdurdodau lleol i weld pa adnoddau eraill y gellid eu defnyddio i wella’r rhwydwaith. Ac wrth inni symud tuag at fasnachfreinio, byddwn yn cyhoeddi cynllun yn yr ychydig wythnosau nesaf i nodi'r camau manwl nesaf tuag at fasnachfreinio. Gobeithiwn y bydd modd inni gael rhwydweithiau bysiau mwy cynhwysfawr, ond bydd hynny, unwaith eto, bob amser yn dibynnu ar y cyllid. Rydym o'r farn fod masnachfreinio yn system fwy effeithlon ynddi'i hun. Felly, bydd mwy o arian yn mynd i wasanaethau, yn hytrach nag elw, ond bydd cyfyngiadau bob amser. A’r peth gorau y gall pob un ohonom ei wneud i wella gwasanaethau bysiau yw annog pobl i ddefnyddio’r rhai sy’n bodoli, gan fod hynny wedyn yn creu’r achos dros fuddsoddiad pellach. Mark Isherwood AC: Wel, wrth eich holi yma fis diwethaf, dyfynnais Bysiau Arriva Cymru, y dywedodd eu pennaeth masnachol ar gyfer gogledd-orllewin Lloegr a Chymru wrthyf, a dyfynnaf: 'Fel y trafodwyd yn Wrecsam, nid yw Arriva eisiau newid gwasanaethau, ond mae'n rhaid iddynt oherwydd 20 mya…oherwydd 20 mya, mae'r bysiau'n cymryd mwy o amser i weithredu ledled gogledd Cymru, felly bu'n rhaid inni wneud newidiadau sydd wedi arwain at dorri llwybrau, lleihau amlder ac adnoddau ychwanegol i ymdopi â'r amseroedd teithio newydd sydd eu hangen.' Mewn ymateb, fe ddywedoch chi wrthyf eich bod yn awyddus iawn i ymgysylltu â nhw. Roeddent yn dweud wrthyf hefyd, gyda Deddf Gwasanaethau Bysiau 2017 a masnachfreinio bysiau yn Lloegr, fod Manceinion wedi gorfod gwario £75 miliwn i £100 miliwn i lansio hyn yno, a bod Manceinion hefyd wedi gorfod cyflwyno praesept bysiau'r dreth gyngor, ac roeddent yn gofyn sut roedd Llywodraeth Cymru yn mynd i ariannu masnachfreinio bysiau yng Nghymru, pan nad oes ganddynt ddigon o arian i ariannu'r rhwydwaith presennol, lle 'mae angen i'r bobl wybod'. Felly, pa ymgysylltu a wnaethoch gyda Bysiau Arriva Cymru ers y mis diwethaf? A sut ydych chi'n mynd i ariannu cost ychwanegol masnachfreinio bysiau yng Nghymru? Lee Waters AC: Iawn, felly, a ddeallaf o gwestiwn yr Aelod nad yw o blaid masnachfreinio, oherwydd bod hynny'n galw am fuddsoddi? Nid ydym yn cyflwyno'r un system â Manceinion; rydym yn cyflwyno system wahanol, a fydd yn seiliedig ar fasnachfreinio rhanbarthol, a bydd yn digwydd o dan system un meddwl arweiniol, a bydd gan Trafnidiaeth Cymru a’r consortia rhanbarthol rôl allweddol wrth gynllunio hynny. Nawr, bûm yn siarad â’r timau yn Trafnidiaeth Cymru, sydd wedi bod yn gweithio gydag Arriva, i ddeall union natur y sgyrsiau a gawsom gyda nhw ynglŷn â chynlluniau cyflwyno 20 mya. Ni chredaf ei bod yn deg nac yn gywir i Arriva feio'r newidiadau i'r amserlen ar y terfyn 20 mya. Mae cwmnïau eraill wedi llwyddo i gynllunio hynny heb ganlyniadau mor andwyol. Ond mae ardaloedd lle mae'r llwybrau'n teithio ar hyd ffyrdd y gellir dadlau y gellid eu troi'n ôl i 30 mya. Nawr, mae gennym awdurdodau lleol yng ngogledd Cymru nad ydynt wedi defnyddio’r disgresiwn sydd ganddynt o dan y canllawiau presennol i gyflwyno eithriadau, a chredaf mai mater iddynt hwy yw esbonio pam. Yn hytrach na bod Arriva'n beio'r polisi, credaf y gellid bod wedi cynllunio ei weithrediad lleol yn yr ardaloedd hynny yn well gydag Arriva. Mae hyn yn rhan o’r adolygiad sy’n mynd rhagddo ac y gwnaethom gyhoeddi adroddiad interim ohono heddiw, ac mae hwnnw’n dweud bod angen ichi edrych ar lwybrau bysiau fel rhan o fersiwn estynedig o’r canllawiau newydd, i atgoffa’r awdurdodau lleol o’r disgresiwn sydd ganddynt. Ni chredaf mai’r ateb cywir bob amser yw troi llwybrau a ffyrdd a strydoedd lle mae pobl a thraffig yn cymysgu yn ôl i 30 mya pan fydd y cerbydau trymaf yn gallu teithio’n gyflym ar hyd-ddynt. Nid dyna’r ateb cywir bob amser. Gallwn gael gwell llif i amserlenni bysiau drwy fesurau blaenoriaeth i fysiau, ac mae hynny'n golygu gwneud rhai penderfyniadau anodd yr wyf yn amau'n fawr y byddai'r Aelod anrhydeddus—o, o ble y daeth hynny—yn eu cefnogi. Felly, mae'n hawdd rhefru am yr angen i newid, ond mae'n rhaid ichi hefyd wneud y pethau angenrheidiol ar lawr gwlad i ganiatáu i'r newid hwnnw ddigwydd. Mae rhoi mesurau blaenoriaeth i fysiau yn allweddol ar gyfer gwneud bysiau’n fwy dibynadwy, a fydd yn caniatáu ar gyfer mwy o deithwyr a mwy o lwybrau. Credaf fod cwestiwn am rai o’r llwybrau manwl sydd gan Arriva a pha un a oes angen newid y canllawiau ar rai o’r llwybrau hynny ai peidio, ond fel y dywedais wrtho y tro diwethaf, fe wnaeth cwmnïau bysiau eraill ragweld y newidiadau a oedd ar y ffordd a newid eu hamserlenni ymlaen llaw. Ac o ystyried y gwahanol bwysau sydd ar y gwasanaeth bysiau, nid yw beio’r cyfan ar y terfyn 20 mya yn iawn, a chredaf ei fod yn anniffuant, a hoffwn atgoffa’r Aelod, oni bai am Lywodraeth Cymru, na fyddai Arriva mewn busnes. Felly, ni chredaf ei bod yn feirniadaeth deg. Credaf fod llawer mwy y tu ôl i hyn. Mae rhywfaint o'u pryder yn deg, ynglŷn â'r ffordd nad yw'r gwasanaethau bysiau wedi'u cynllunio o amgylch yr eithriadau, ac mae hynny'n rhywbeth y mae angen i'r awdurdodau lleol a ninnau edrych arno. Diolch. Gareth Davies AS: Mae mynediad at wasanaethau bws yn hanfodol i bobl yn Nyffryn Clwyd i fynd o A i B a chefnogi'r economi leol. Rhywbeth sydd wedi amharu’n ddifrifol ar hynny yn fy etholaeth i yw polisi 20 mya diofyn Llywodraeth Cymru, gan fod Bysiau Arriva Cymru—[Torri ar draws.]. Yn ddiweddar, mae Bysiau Arriva Cymru, mae'n rhaid imi ailadrodd, wedi cael gwared ar arosfannau ar lwybr yr X51, gan gynnwys ger siop ffatri Tweedmill, gan ei bod yn cymryd gormod o amser, yn y bôn, i fynd o’r Rhyl i Ddinbych a'r ffordd arall o dan y terfyn 20 mya, gan mai dim ond 0.6 y cant—ie, unwaith eto, rwy'n ailadrodd, 0.6 y cant—o ffyrdd yn y sir sydd wedi'u heithrio rhag y polisi llym hwn. Felly, pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o effaith economaidd a logistaidd y polisi 20 mya diofyn ar bobl a busnesau yn fy etholaeth, a pha waith a thrafodaethau sy'n mynd rhagddynt gennych gyda’r cyrff perthnasol i ddiogelu gwasanaethau bysiau i bobl yn sir Ddinbych y mae eich anwybodaeth ar y mater hwn wedi gwneud tro gwael iawn â nhw? Lee Waters AC: Wel, Lywydd, fe wneuthum lithro’n gynharach i beth o iaith od San Steffan—nid wyf yn gwybod o ble y daeth hynny—felly gadewch imi ddefnyddio ymadrodd yn iaith San Steffan yn fwy bwriadol wrth ateb Gareth Davies: cyfeiriaf yr Aelod at yr ateb a roddais eiliad yn ôl. Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau Y Llywydd / The Llywydd: Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf—Janet Finch-Saunders. Janet Finch-Saunders AC: Diolch, Lywydd. Hoffwn ddatgan buddiant oherwydd bod fy llety, y telir amdano gan Gomisiwn y Senedd, yn un o'r eiddo y mae'r mater cladin tân yn effeithio arnynt. Nawr, mae bron i flwyddyn ers i ddatblygwyr mawr yng Nghymru gytuno i'r cytundeb cyfreithiol rwymol sy'n eu hymrwymo i wneud gwaith diogelwch tân ar adeiladau canolig ac uchel iawn ledled y wlad. Fis Tachwedd diwethaf, Weinidog, fe roesoch wybod i Senedd Cymru fod 34 o adeiladau â gwaith cyweirio ar y gweill, ac amcangyfrifir y bydd gwaith ar 34 o adeiladau eraill yn dechrau eleni. Dywed preswylwyr wrthyf mai dim ond un adeilad sydd wedi'i gwblhau o ganlyniad i'r contract. Felly, nid yw'n syndod fod Cladiators Cymru yn gresynu'r ffaith eich bod yn dal i geisio penderfynu sut i adrodd ar y diffyg cynnydd ar 70 a mwy o safleoedd. O gofio'r broses fonitro chwarterol, a wnewch chi nodi faint o brosiectau cyweirio sydd wedi'u cwblhau o ganlyniad i'r cytundeb datblygwyr? Julie James AC: Yn sicr, Janet. Unwaith eto, credaf fod gennych broblem fach yno gyda rhai o'r ystadegau a ddyfynnwch. Mae gennym lwybr cyweirio ar gyfer pob adeilad sydd â phroblem tân yng Nghymru—gwahanol iawn i’r hyn sy'n digwydd dros y ffin—ac nid yw’r llwybrau hynny at waith cyweirio'n ei gwneud yn ofynnol i lesddeiliaid unigol neu grwpiau o lesddeiliaid gychwyn achos cyfreithiol er mwyn cael eu hawliau, gan mai barn Llywodraeth Cymru, bob amser, yw na ddylent orfod gwneud hynny, ac rydym wedi ymyrryd ar eu rhan, yn gwbl briodol. Felly, yn dibynnu ar y math o adeilad yr ydych yn byw ynddo, mae pedwar math yr ydym yn edrych arnynt. Felly, gyda thai cymdeithasol, rydym yn y broses o'u cyweirio. Mae'r rhan fwyaf ohonynt eisoes wedi'u cyweirio, neu mae'r gwaith ar y gweill. Ar gyfer adeiladau datblygwyr mawr, mae gennym nifer fawr ohonynt yn cael eu cyweirio ar hyn o bryd. Mae rhai ohonynt yn dal i fod ar y cam arolygu ac arolygu ymwthiol, ac rydym wedi cael rhywfaint o drafferth, mae'n wir, gyda rhai o'r asiantau rheoli, gyda chael mynediad at yr eiddo hynny, ac rwyf wedi cael nifer o gyfarfodydd gyda'r asiantau rheoli hynny. Nid yw'r wybodaeth gennyf wrth law, ond rwy'n fwy na pharod i rannu gyda chi, ac os ydych wedi cofrestru ar gyfer y cylchlythyr misol, fe fyddwch yn gwybod beth bynnag—nid wyf yn cofio faint yn union o'r rheini sydd yn y broses honno. Nid wyf am geisio dyfalu, ond mae gennym nifer sy'n dal i fod yn y broses honno, ond mae'n nifer bach—yn sicr, mae'n llai na 10. Yna, mae gennym ddau lwybr arall at waith cyweirio. Mae gennym yr adeiladau amddifad, lle, unwaith eto, mae gennym adeiladau nad oes datblygwr mawr yn gysylltiedig â hwy, neu a adeiladwyd fwy na 30 mlynedd yn ôl, felly nid yw'n bosibl i'r datblygwyr wneud y gwaith cyweirio hwnnw. Mae Llywodraeth Cymru yn talu'n llawn am y rheini, ac rydym yn y broses o gyweirio nifer ohonynt, ac mae rhai ohonynt yn dal i fynd drwy’r broses o gael y deiliad, yr asiantiaid rheoli, a’r rhydd-ddeiliaid i gytuno i'r arolygon ymwthiol sy'n angenrheidiol i ddechrau'r gwaith, ond mae nifer fawr ohonynt hefyd yn cael eu cyweirio. Ac yna, mae'r pedwerydd categori, sef adeiladau a adeiladwyd gan ddatblygwyr llai. Nid yw pob un o'r datblygwyr llai yn ddatblygwyr bach—maent yn enwau y byddech yn eu hadnabod—ond efallai mai dim ond un adeilad y maent wedi'i wneud yng Nghymru. Ac mae rhai ohonynt yn ddatblygwyr bach a chanolig, sy'n cyflenwi swyddi ac arbenigedd adeiladu hanfodol yn eu hardal leol, ac rydym am fod yn sicr iawn nad ydym yn eu gwthio i ddwylo'r gweinyddwyr o ganlyniad i fod yn awyddus iddynt gyweirio'r adeiladau, felly rydym yn negodi cyfran deg gyda nhw o’r swm o arian y bydd yn ei gymryd i wneud y gwaith cyweirio, ar un adeilad yn aml iawn, a bydd Llywodraeth Cymru yn talu'r gwahaniaeth drwy gyllid grant neu fenthyciadau adenilladwy, yn dibynnu ar amgylchiadau'r cwmni. Felly, byddwn yn dweud bod gennym lwybr at waith cyweirio ar gyfer pob un o'r adeiladau hynny. Nid yw'n bosibl clicio fy mysedd a chyweirio pob un ohonynt ar unwaith, oherwydd yn syml iawn, nid oes gennym y cadwyni cyflenwi na'r gweithlu adeiladu i wneud hynny. Ond gallwn ddweud wrthych, ar gyfer pob adeilad unigol, ble yn union y mae arni yn y rhaglen honno, a beth sy'n digwydd. Pe byddech yn cofrestru ar gyfer y newyddlen fisol, byddech yn gwybod hynny, ond rwy’n fwy na pharod i anfon y manylion atoch, neu’n wir, Lywydd, rwy’n fwy na pharod i roi’r manylion hynny yn y llyfrgell os hoffai pob Aelod eu gweld. Janet Finch-Saunders AC: Diolch am eich ateb cynhwysfawr. Sylwais, unwaith eto, ar y pwyslais ar y tai cymdeithasol, ond nid oedd llawer o bobl sydd wedi mynd allan i brynu eiddo yn ymwybodol o'r broblem cladin tân. Yn wir, a minnau wedi cyfeirio at fy eiddo fy hun lle rwy'n aros yma yng Nghaerdydd, dim ond pan ddechreuodd staff patrôl hyfforddedig ddod draw yn rheolaidd y gofynnais, 'Pam ydych chi yma?', a dywedasant, 'Mae hwn yn un o'r—'. Felly, nid oeddem ni fel tenantiaid, neu'n wir, bobl sy'n prynu'r fflatiau hyn, yn gwybod bod ganddynt y problemau hyn, felly rwy'n bryderus iawn. Fel y saif pethau, mae'r trigolion yn dal yn gaeth i'r adeiladau anniogel hyn. Ychydig llai na dwy flynedd ers cyhoeddi manylion y cynllun cymorth i lesddeiliaid, dim ond un lesddeiliad yr wyf yn ymwybodol ohonynt sydd wedi cwblhau’r broses werthu. Nawr, yn ôl yr elusen lesddeiliaid, cymerodd 18 mis hir a llafurus i’r lesddeiliad dan sylw werthu ei chartref i gymdeithas dai yng Nghymru. Oes, mae ambell werthiant arall ar y gweill, ond o'm rhan i, ymddengys bod y cynllun hwn braidd yn gostus, ac nid yw'n arwain at y canlyniadau y dylai. Pa gamau rydych chi'n eu cymryd i wneud y cynllun cymorth i lesddeiliaid yn fwy deniadol i breswylwyr? Julie James AC: Mae hwnnw'n bwynt da iawn mewn gwirionedd, gan inni ddechrau gyda set eithaf cyfyngol o feini prawf ar gyfer hynny oherwydd, a dweud y gwir, nid oedd gennym unrhyw syniad faint o bobl a allai fod yn awyddus i fanteisio ar y cynllun. Ac mewn gwirionedd, bob tri i chwe mis o'r cynllun hwnnw, Janet, rydym wedi diwygio'r meini prawf i'w ehangu. Felly, mae'n gynllun llawer mwy eang nag ar y dechrau, ac rydym wedi ysgrifennu'n ôl at bawb a ymgeisiodd yn y gyfran gyntaf ac a fu'n aflwyddiannus oherwydd y meini prawf gwreiddiol, llym iawn i ddweud, 'Gwnewch gais eto gan ein bod wedi llacio'r meini prawf.' Felly, er enghraifft, pan ddechreuom, roeddem yn dweud na allai pobl a oedd wedi prynu'r fflat fel eiddo buddsoddi, gyda'u pot ymddeol efallai, gael mynediad at y cynllun, ond rydym wedi ei lacio, a gallant gael mynediad ato bellach. Felly, mae mwy o bobl yn gymwys. Ond nid wyf yn anghytuno ei fod yn gyfyngol iawn i gychwyn. Rydym hefyd wedi dechrau edrych i weld a allwn brynu'r fflatiau'n gyfan gwbl drwy landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, nid oherwydd bod y tenantiaid mewn caledi unigol, sef yr hyn y bwriadwyd y cynllun ar ei gyfer yn wreiddiol—a byddwch chi a minnau wedi cael llawer o lythyrau torcalonnus gan bobl a’u prynodd fel cartrefi cychwynnol ac sydd bellach wedi cael plant ac ni allant werthu ac yn y blaen, felly roeddem am helpu pobl yn yr amgylchiadau hynny—ond mewn gwirionedd, nid oes unrhyw beth i'n hatal rhag prynu’r eiddo lle mae angen llety ar landlord cymdeithasol cofrestredig yn yr ardal honno ac mae’n gallu eu caffael, ac mae gennym gynllun caffael ar gyfer pob landlord cymdeithasol ledled Cymru, a all brynu eiddo â thenantiaid, os yw hynny’n briodol, a’u cymryd drosodd, ac mae hynny’n wir am fflatiau a thai ledled Cymru. Felly, mae hynny ar gael hefyd. Rwy’n falch iawn o ddweud bod canllawiau Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig ar gael yng Nghymru bellach hefyd, felly dylai wneud y broses o werthu’n fasnachol yn llawer iawn haws. Felly, rydym yn gobeithio ei weld—. Dim ond am y mis a hanner diwethaf y mae wedi bod ar gael, felly rydym yn mawr obeithio, y gwanwyn nesaf—. Mae'r farchnad eiddo bob amser yn brysur yn y gwanwyn, felly, rydym yn gobeithio y bydd y canllawiau Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig yn ei gwneud yn llawer iawn haws i bobl werthu, gan y bydd hynny'n caniatáu i fwy o fenthycwyr fenthyca ar y tai, a dyna fu'r broblem; rydym wedi cael benthycwyr morgeisi sydd wedi bod yn amharod i fenthyca ar yr eiddo. Felly, rydym yn mawr obeithio y bydd hynny'n ei gwneud yn haws, ac rwyf wedi cael—. Mae fy swyddogion, yn sicr, wedi cael llawer o gyfarfodydd; rwyf wedi cael un cyfarfod gyda benthycwyr i geisio deall sut i ryddhau'r farchnad fenthyca, felly mae gennym werthiannau masnachol hefyd. Felly, rwy’n derbyn yn llwyr ei bod yn anos ei wneud ar y dechrau. Rydym wedi llacio'r cynllun gryn dipyn. Gall pobl gael mynediad ato, unwaith eto, drwy’r un newyddlen, ac rwy'n mawr obeithio gweld y gwerthiannau hynny’n cyflymu nawr gan ein bod wedi llacio’r meini prawf. Janet Finch-Saunders AC: Diolch, Weinidog. Wrth gwrs, mynegwyd pryderon wrthyf nad oes unrhyw ddatblygwr wedi defnyddio'r cynllun benthyciadau diogelwch adeiladau gwerth £20 miliwn. A yw hynny'n eich poeni? A phan feddyliwch fod dros chwe blynedd bellach ers trychineb Grenfell, mae'n warthus nad yw rhai datblygwyr sy'n gallu fforddio cyweirio adeiladau preifat yn ymgysylltu fel y dylent wneud. Nawr, wrth gwrs, mae Llywodraeth y DU wedi dweud—Michael Gove, mae'r Gwir Anrhydeddus Michael Gove AS wedi nodi—, lle ceir ymarfer gwael gan ddatblygwyr ar hyn, na fyddant yn gallu adeiladu eto. A ydych chi'n rhannu'r syniadau hynny? A fyddech chi'n mynd mor bell â hynny, pe byddech chi'n gweld bod datblygwyr wedi cefnu ar eu cyfrifoldebau, gan adael blociau o fflatiau yn llawn o drigolion mewn sefyllfa druenus? A wnewch chi fod yn llym a mynd ar drywydd camau deddfwriaethol i wahardd datblygwyr sydd heb gwblhau gwaith cyweirio diogelwch adeiladau? Ac fel y nododd Ripped Off By Redrow yn gynharach y mis hwn, mae cyferbyniad syfrdanol rhwng cyflymder datblygiad tai newydd Redrow a chwsmeriaid sy'n dioddef ers amser hir ac angen gwaith cyweirio. Pam y gallant symud yn gyflym iawn wrth adeiladu cartrefi newydd, ond na allant symud yr un mor gyflym i gyflawni eu rhwymedigaethau blaenorol a gwneud y cartrefi hyn yn ddiogel? Diolch. Julie James AC: Felly, Janet, rwy'n deall rhwystredigaeth pobl sy'n gallu gweld cartrefi newydd yn cael eu codi gan yr un cwmni a adeiladodd y bloc y maent ynddo sydd â'r problemau, ond yn amlwg mae setiau sgiliau ac anawsterau cyweirio bloc o 11 llawr sydd â phobl yn byw ynddo yn hollol wahanol i adeiladu adeilad newydd; mae'n set hollol wahanol o broblemau. Rwy'n gwybod nad yw pobl eisiau clywed hynny, ond mae'n wir. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â chi y dylai unrhyw ddatblygwr nad yw wedi camu ymlaen a chofrestru ar gyfer y cytundeb, llofnodi'r contractau cyfreithiol rwymol a chyflawni ei rwymedigaethau o dan y contract, gael ei atal rhag gwneud hynny. Yma yng Nghymru, yn ffodus, mae pob cwmni adeiladu mawr sydd ag adeilad neu set o adeiladau yng Nghymru wedi llofnodi'r cytundeb a'r contractau cyfreithiol rwymol, ac rydym yn y broses honno. Mae'n rhwystredig o araf cael yr arolygon ymwthiol wedi'u gwneud; rydym wedi cael pob math o broblemau gyda hynny. Rydym wedi bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol. Er enghraifft, yn aml mae angen gorchmynion cau ffyrdd arnoch i gael y sgaffaldiau—wyddoch chi, mae llawer o bethau eraill yn digwydd. Rydym wedi bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau y gallwn gyflawni'r gwaith hwnnw lle mae'r adeiladau hynny. Dylwn ddweud, Lywydd, gan fod Janet Finch-Saunders wedi dweud ei bod hi'n byw mewn adeilad yr effeithiwyd arno pan fydd hi yma yng Nghaerdydd yn ystod yr wythnos, mae hynny'n wir amdanaf innau hefyd. Ac mae gan lawer o'r adeiladau y broblem honno, felly rydym yn parhau i ddweud wrth bobl am gofrestru ar gyfer y cylchlythyr, rydym yn parhau i ysgrifennu at yr asiantau rheoli a thrwy Rhentu Doeth Cymru, drwy'r landlordiaid, i sicrhau ein bod yn cyrraedd cymaint o denantiaid â phosibl. Ac fel rwy'n dweud bob tro, os gallwch chi annog unrhyw un sy'n cael ei effeithio i gofrestru ar gyfer y cylchlythyr a bod mewn cysylltiad â'r tîm yn unigol, maent yn hapus iawn i gael sgyrsiau unigol gyda thenantiaid; mae llawer o bobl wedi manteisio ar hynny. Ac rwyf wedi cyfarfod â nifer fawr iawn o grwpiau tenantiaid. Mae gennym gyfarfod rhanddeiliaid tenantiaid—rwy'n cyfarfod â nhw'n aml iawn. Rwyf wedi cyfarfod â'r grŵp Cladiators; rwyf wedi cyfarfod â grwpiau adeiladu unigol ac yn y blaen. Felly, rydym yn gwneud ein gorau i sicrhau ei fod yn mynd mor gyflym â phosibl. Ond fe ddywedaf mai fy mhrif awydd yw ei weld yn cael ei wneud yn iawn y tro hwn, a'r tro hwn, pan gaiff ei gyweirio, gall y bobl hynny fod yn hollol sicr eu bod, y tro hwn, yn byw mewn adeilad sydd wedi cael ei gyweirio'n iawn ac y gallant fynd yn ôl i fyw eu bywyd arferol. Y Llywydd / The Llywydd: Llefarydd Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor. Mabon ap Gwynfor AS: Diolch yn fawr iawn. Er gwaethaf y pwysau digynsail ar y sector digartrefedd, gyda'r data diweddaraf yn dangos bod 11,317 o unigolion mewn llety dros dro, mae cyflogau yn y sector digartrefedd a chymorth tai wedi cael eu gwthio i lawr i lefelau annerbyniol, ac mae gweithwyr rheng flaen yn cael eu gwthio i fyw mewn tlodi. Mae tystiolaeth yn dangos bod 41 y cant o weithwyr yn cael llai na'r isafswm cyflog newydd, ac mae dwy ran o dair yn cael llai na'r cyflog byw gwirioneddol newydd. Mae hyn wedi golygu bod llawer yn ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd, gyda 56 y cant yn ei chael hi'n anodd talu eu biliau, a 12 y cant yn teimlo mewn mwy o berygl o ddigartrefedd eu hunain. Rwy'n siŵr fod y Gweinidog yn deall bod hyn yn tanlinellu maint y broblem, pan fo'r gweithwyr sy'n ymateb i ddigartrefedd yn ei wynebu eu hunain. Mae'n amlwg y bydd y diffyg cynnydd i'r grant cymorth tai yn y gyllideb ddrafft yn gwneud hyn yn waeth, a bod cefnogaeth i weithwyr yn druenus o annigonol o ganlyniad. Yng ngoleuni'r trafferthion amlwg sy'n wynebu gweithwyr yn y sector, a yw'r Gweinidog yn credu ei bod yn deg fod gweithwyr gofal wedi cael eu cefnogi â chynnydd cyflog byw gwirioneddol, ond nad yw gweithwyr cymorth digartrefedd rheng flaen yn cael hynny? Julie James AC: Ie, diolch am godi'r mater pwysig hwn, Mabon. Fel y dywedais lawer gwaith, pe byddwn i mewn unrhyw fodd wedi gallu codi'r grant cymorth tai, fe fyddwn wedi gwneud hynny. Rydym yn dal i gael sgyrsiau'n fewnol i weld a ellir gwneud unrhyw beth rhwng y gyllideb ddrafft a'r gyllideb derfynol, ond fel y gwyddoch yn iawn, bu'n rhaid inni flaenoriaethu nifer o bethau. Felly, i fod yn glir iawn, fe wnaethom gynnal y grant cymorth tai ar £166.8 miliwn, sef lefel 2023-24. Gwn fod ei adael yn arian gwastad yn achosi problemau; nid wyf yn ceisio dianc rhag y ffaith mai hynny sy'n achosi'r problemau hyn. Ond roedd hi'n anodd iawn ei gadw'n wastad o ystyried maint y broblem sydd gennym ar draws y Llywodraeth. Felly, oherwydd ein bod wedi diogelu'r gwasanaeth hwnnw, bu'n rhaid inni dorri gwasanaethau eraill, a byddai'n dda iawn gan bawb ohonom pe na bai hynny wedi digwydd. Rwy'n dal i geisio gweld a allwn wneud rhywbeth. Nid yw hwnnw'n addewid mewn unrhyw ffordd, i fod yn glir, ond rydym yn dal i geisio gweld a allwn ei wneud. Mae yna bethau eraill y gallwn eu gwneud hefyd. Felly, rydym wedi rhoi cyllid refeniw ychwanegol o dros £2 filiwn i'r gyllideb cymorth ac atal digartrefedd. Byddwn yn cynyddu'r cyllidebau cyfalaf i gyflymu'r rhaglen adeiladu tai cymdeithasol, oherwydd, wrth gwrs, mae'r cyflenwad yn rhan fawr o'r broblem hon hefyd. Byddwn yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol. Felly, yn amlwg, mae'n rhaid i bobl gael yr isafswm cyflog cenedlaethol. Felly, byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau y gall hynny ddigwydd. Ond hoffwn yn fawr iawn eu gweld yn talu'r cyflog byw gwirioneddol. Hoffem yn fawr iawn pe bai hynny'n digwydd. Mae'r rhain yn weithwyr yr oeddwn yn hynod falch ohonynt yn ystod y pandemig, fel y dylai pawb yng Nghymru fod yn falch ohonynt, oherwydd eu bod wedi cyflawni camp ryfeddol, i gael pawb i mewn ac yn ddiogel mewn cyfnod byr iawn. Maent yn bobl ryfeddol. Maent yn sicr yn haeddu cael y cyflog byw gwirioneddol a chael eu talu'n iawn. Felly, rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol fel consortia ac fel rhan o'r rhaglen ddigartrefedd gyffredinol i sicrhau y gallwn wneud yr hyn a allwn. Ond wyddoch chi, o ystyried bod y gyllideb gyffredinol £1.3 biliwn yn llai mewn termau real, mae'r rhain wedi bod yn benderfyniadau ofnadwy i'w gwneud. Nid wyf yn ceisio ei esgusodi mewn unrhyw ffordd, ond roedd yn ymdrech go fawr i'w gadw'n arian gwastad. Os gallwn gynyddu'r arian hwnnw, byddwn yn gwneud hynny. A thrwy weithio gyda Phlaid Cymru, os gallwn ddod o hyd i ryw ffordd o wneud hynny yn y cytundeb cydweithio, byddwn yn fwy na pharod i gael y trafodaethau hynny. Mabon ap Gwynfor AS: Diolch am yr ymateb. Ydy, mae'n arian gwastad eleni, ond mae'n dal i fod ddegau o filiynau yn llai na'r hyn ydoedd 20 mlynedd yn ôl. Ac a gaf i eich atgoffa bod y Llywodraeth wedi addo talu cyflog teg iddynt. Ddoe, yn ei ymateb i gwestiwn gan Rhun ap Iorwerth, gwadodd y Prif Weinidog fod hwn yn addewid a wnaeth. Ac eto yn ei faniffesto ei hun ar gyfer yr arweinyddiaeth yn 2018, nododd yn glir, ac rwy'n dyfynnu, y byddai'n: 'Bwrw ymlaen â'r Comisiwn Gwaith Teg a'r camau sydd angen inni eu cymryd i sicrhau bod Cymru yn genedl waith teg – a thalu'r cyflog byw gwirioneddolym mhob cwmni sy'n cael arian cyhoeddus fel cam cyntaf', sy'n cynnwys gweithwyr digartrefedd a chymorth tai, mae'n siŵr. Ymrwymodd maniffesto a rhaglen lywodraethu'r Blaid Lafur i dalu'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal, ond yn ystod y pandemig y soniodd y Gweinidog amdano, cafodd gweithwyr digartrefedd a chymorth tai eu cynnwys yn y diffiniad o weithwyr gofal at ddibenion grŵp blaenoriaeth brechu 2, mynediad at gyfarpar diogelu personol, cynllun gwella tâl salwch statudol a phethau eraill. Roedd Llywodraeth Cymru yn hapus i ddefnyddio'r diffiniad hwn wrth anfon gweithwyr cymorth digartrefedd a chymorth tai rheng flaen i mewn i bandemig. Felly, a yw'r Gweinidog yn derbyn bod hwn yn addewid a wnaed gan y Prif Weinidog, ac y dylai'r Llywodraeth anrhydeddu'r addewidion a wnaethant a chynyddu'r grant cymorth tai fel bod gweithwyr yn cael y cyflog byw gwirioneddol fan lleiaf am y gwaith cymhleth ac anodd, gwaith sy'n achub bywydau, y maent yn ei wneud? Julie James AC: Felly, Mabon, fel y dywedais wrthych eisoes, rwy'n derbyn yn llwyr fod y gweithwyr hyn yn hollbwysig yn yr ymateb i'r pandemig, ac maent yn weithwyr rheng flaen medrus iawn sy'n haeddu cael eu talu'n briodol. Ac fel y dywedais hefyd, rwyf eisoes wedi cyfarfod â chyfarwyddwr Cymorth Cymru; cyfarfûm â hi ym mis Ionawr i drafod rhai o'r pwyntiau rydych chi'n eu codi ac fe amlygodd y risgiau i'r sector, risgiau yr ydym yn ymwybodol iawn ohonynt. Felly, byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol i weld beth y gellir ei wneud gyda'r contractau, ac mae tri cham i hyn, oherwydd mae yna gontractau'n bodoli eisoes y bydd angen eu haddasu, ac mae proses gaffael newydd. Nid gweithwyr sy'n cael eu cyflogi'n uniongyrchol yw'r rhain, at ei gilydd. Dyna yw ambell un ohonynt—lleiafrif bach iawn ohonynt—ond mae'r rhan fwyaf ohonynt yn weithlu dan gontract. Felly, mae ychydig yn fwy cymhleth na thalu gweithlu a gyflogir yn uniongyrchol. Nid yw hynny'n esgus; rwy'n dweud hynny fel ffaith, mewn gwirionedd. Felly, byddwn yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol i weld beth y gallwn ei wneud, oherwydd heb y gweithwyr hyn bydd gennym lawer o—. Mae'r rhaglen atal digartrefedd yn hanfodol oherwydd mae gennym 1,000 o bobl y mis o hyd ledled Cymru yn ddigartref. Mae cadw pobl yn eu cartrefi, a phan fyddwn wedi eu hailgartrefu, sicrhau eu bod yn aros yn y cartrefi hynny a bod ganddynt y sgíl a'r gefnogaeth angenrheidiol, yn hanfodol i'r rhaglen. Felly, nid wyf yn dadlau gyda chi yn ei gylch. Ond gwirionedd y mater yw bod dod o hyd i'r arian i'w wneud yn anodd tu hwnt. Felly, rwy'n dal i fod yn y broses o geisio dod o hyd i arian ychwanegol. Ni allaf addo hynny ar hyn o bryd, ond rydym yn edrych yn galed iawn i weld a allwn ddod o hyd iddo, ac rwy'n hapus iawn i weithio gyda chi i weld a ellid dod o hyd i'r arian hwnnw. Gwasanaethau Bysiau yn y De-ddwyrain Peredur Owen Griffiths AS: 4. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau bysiau yn ne-ddwyrain Cymru? OQ60710 Lee Waters AC: Diolch. Rydym yn gweithio’ngyflym i gyflwyno'r Bil bysiau newydd i Gymru yn nes ymlaen yn y flwyddyn i drawsnewid y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu ledled Cymru, ac rwy'n gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol i ddatblygu cynllun rhwydwaith bysiau newydd ar gyfer de-ddwyrain Cymru. Peredur Owen Griffiths AS: Diolch am yr ateb yna. Peredur Owen Griffiths AS: Yn ddiweddar, cafodd fy swyddfa wybod bod y cysylltiad bws uniongyrchol rhwng y Coed Duon ac Ysbyty'r Faenor wedi'i ddiddymu ar ôl i'ch cyllid Llywodraeth ddod i ben. Mae hyn yn newyddion siomedig, a adleisir ar draws y pleidiau, nid yn unig i bobl ardal y Coed Duon ond hefyd yn Nhrecelyn, Crymlyn, Llanhiledd, Hafodyrynys, Pont-y-pŵl a Griffithstown, gan fod y bws yn stopio yn y cymunedau hyn ar y ffordd. Ar wahân i fod yn ergyd fawr o ran hygyrchedd yr ysbyty, mae hefyd yn ergyd fawr i'n hymdrechion i leddfu'r argyfwng hinsawdd. I lawer o bobl rwy'n eu cynrychioli yn fy rhanbarth, y gwir amdani yw mai car preifat yw'r unig opsiwn ymarferol ar gyfer mynd i ac o Ysbyty'r Faenor. I fy etholwyr sydd heb gar, a allant obeithio am well na dau neu fwy o fysiau y mae'n rhaid iddynt eu dal os ydynt am gyrraedd Ysbyty'r Faenor yn y dyfodol? Ac a allwch chi hefyd roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae unrhyw werthusiad o gynlluniau peilot yng Nghasnewydd neu rywle arall yn y de-ddwyrain wedi'i wneud o'ch cynlluniau trafnidiaeth gyhoeddus? Lee Waters AC: Diolch. Wel, mae enghraifft Ysbyty'r Faenor yn un ddiddorol iawn ac yn astudiaeth achos o fath, rwy'n credu, o'r hyn sydd o'i le ar ein system bresennol a'r hyn y mae angen i'n system newydd ei wneud yn wahanol. Nawr, penderfynodd y sector masnachol nad oeddent yn credu bod galw am fynd i Ysbyty'r Faenor o'r cymunedau yn y Coed Duon ond hefyd ym Mlaenau Gwent, ac felly ni wnaethant ddarparu unrhyw wasanaethau pan agorodd yr ysbyty. Ceir gwasanaeth o Ysbyty'r Faenor i Gwmbrân ac i Gasnewydd, lle mae cysylltiadau ar gael, ond nid gwasanaethau bws uniongyrchol. Er mwyn defnyddio ein pwerau ymyrraeth, rhaid mai'r prawf cyntaf yw: a yw'r sector masnachol wedi ceisio a methu? Felly, yn yr achos hwn, roedd wedi gwneud hynny. Yr ail yw: a yw'r awdurdod lleol o dan ei ddyletswydd gyfreithiol i ddarparu llwybrau sy'n angenrheidiol yn gymdeithasol wedi ceisio a methu? Ac yn yr achos hwn, nid oedd unrhyw awydd gan yr awdurdodau lleol i ymyrryd a darparu eu cefnogaeth eu hunain i wasanaeth bws, felly aethom ati wedyn i ddefnyddio ein pwerau ymyrryd, na ellir ond ei gyfiawnhau mewn amgylchiadau cyfyng o dan y fframwaith cyfreithiol cymhleth iawn y mae preifateiddio bysiau yn ei nodi. Felly, fe wnaethom ariannu treial chwe mis, a ddangosodd fod y galw'n isel iawn, fel y dywedodd y gweithredwr masnachol yn y lle cyntaf mewn gwirionedd. Cafodd tua 10 o deithwyr y dydd eu gollwng yn Ysbyty'r Faenor ar y llwybr o'r Coed Duon. Nawr, efallai ei fod angen mwy na chwe mis er mwyn iddo sefydlu ac i bobl wybod amdano. Oherwydd nad oedd gwasanaethau bws pan agorodd yr ysbyty gyntaf, efallai fod pobl wedi dod i arfer â gyrru, a bod patrymau ymddygiad gwahanol wedi'u sefydlu. Mae'n debyg na fyddwn ni'n gwybod. Ar ôl ystyried, rwy'n credu y dylem fod wedi ei dendro am fwy o amser na chwe mis, ond mae cyllid bob amser yn dynn iawn. Rwy'n credu mai'r peth allweddol nawr yw dysgu'r wers wrth inni lunio'r mapiau ar gyfer masnachfreinio, a'n bod yn nodi bod llwybrau at wasanaethau cyhoeddus allweddol yn angenrheidiol yn gymdeithasol, ac yn cael eu cynnwys yn y contractau y mae Trafnidiaeth Cymru yn eu dyfarnu i'r sawl sy'n dal y fasnachfraint. Felly, rwyf wedi gofyn i Trafnidiaeth Cymru edrych yn benodol ar yr achos hwn, yr enghraifft hon, a chadw hynny mewn cof wrth iddynt lunio eu rhwydweithiau ar gyfer pan fydd masnachfreinio'n digwydd. Natasha Asghar AS: Rwy'n cytuno'n llwyr gyda Peredur, fod angen gwell trafnidiaeth gyhoeddus i Ysbyty'r Faenor, ac mae'n fater a godais sawl gwaith yma yn y Siambr. Ddirprwy Weinidog, yr allwedd i wella gwasanaethau bysiau yw annog mwy o bobl yn ôl arnynt yn y lle cyntaf. Dro ar ôl tro, rwyf wedi gofyn ac wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cap ar bris tocynnau, yn enwedig ar ôl gweld pa mor llwyddiannus y bu dros y ffin. Yn Lloegr, mae nifer y teithiau bws wedi cynyddu 19.3 y cant yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2023, ac eto mae fy ngalwadau wedi disgyn ar glustiau byddar gyda'r Llywodraeth yn mynnu nad oes digon o arian. Ac mae'n ymddangos nad oes digon o arian i alluogi pobl ifanc i deithio am ddim ar fysiau, sy'n rhywbeth yr wyf wedi ei gefnogi, ac y byddaf yn ei gefnogi, ac y credaf y byddai'n sicr yn dod â llawer o fanteision i'r diwydiant. Felly, Ddirprwy Weinidog, rwyf wedi gwrando ar lawer o'r atebion rydych wedi'u rhoi i nifer o fy nghyd-Aelodau yma heddiw, a gwn eich bod wrth eich bodd yn rhoi'r bai ar Margaret Thatcher am bob gofid dan haul, ond rydych chi wedi bod wrth y llyw ers 25 mlynedd yma yng Nghymru. Nid oes unrhyw un arall y gallwch eu beio heblaw chi eich hun ar hyn. Felly, os ydych yn amharod i wario arian i gymell teithio ar fysiau, sut yn union y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i hybu teithio ar fysiau? Lee Waters AC: Wel, rydym yn bodoli o fewn y fframwaith deddfwriaethol sydd wedi'i osod yn San Steffan, felly mae hynny'n ffaith, ac rydym yn bodoli o fewn system ariannu sydd wedi'i llunio yn San Steffan—mae hynny hefyd yn ffaith. Ac mae'r ffordd y mae fformiwla Barnett yn gweithio ar hyn o bryd ac yn cael ei dehongli gan y Trysorlys a'r Adran Drafnidiaeth yn golygu na chawsom gyfran o'r arian a roddwyd tuag at fysiau i gael pris tocynnau £2 yn Lloegr. Byddwn wedi bod wrth fy modd yn gwneud yr un peth, ac rwyf wedi dweud yn y Siambr hon lawer gwaith y byddem wedi bod eisiau gostwng prisiau tocynnau i dâl cyffredinol o £1, a chael cytundeb y Cabinet i hynny. Hyd nes i Liz Truss chwalu'r economi, roedd gobaith bach y gallem fod wedi gwneud hynny, ond nid yw'r arian ar gael i'w wneud nawr wrth inni wynebu bwlch o £1.2 biliwn yn ein cyllid y flwyddyn ariannol hon. Felly, dyma'r ffeithiau y mae'n rhaid imi weithio gyda nhw, ac wrth gwrs rwy'n awyddus iawn i gynyddu nifer y bobl sy'n teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus. Dyna sydd yn y targedau a osodais yn 'Llwybr Newydd', dyna sy'n gyson â'n targedau newid hinsawdd. Rydym yn mynd i'r afael â rhywfaint o hynny drwy'r ffordd y cynlluniwn y system fysiau, ond mae angen inni gael yr arian i allu ei wneud hefyd. Hefin David AC: Yn ei ymateb i Peredur Owen Griffiths, dywedodd y Dirprwy Weinidog mai 11 o deithwyr y dydd ar gyfartaledd oedd ar y bws i Ysbyty'r Faenor. Mae Stagecoach wedi dweud wrthyf ei fod yn 36 o deithwyr y dydd mewn gwirionedd, nad yw, unwaith eto, yn ei wneud yn hyfyw, ond rwy'n dal i feddwl bod angen inni gael adolygiad o'r cynllun peilot hwnnw. Fy ngweledigaeth oedd y byddai'n dod yn rhan o raglen estynedig a fyddai'n ymestyn yn nes ymlaen i gynnwys fy etholaeth i, a hefyd i lwybrau nad oedd wedi'u cynnwys ar hyn o bryd, ac roedd yn siomedig yn rhannol, rwy'n tybio, nad oedd effaith chwyddiant, ond hefyd effaith yr adolygiad o'r gwasanaeth, wedi caniatáu iddo barhau. Mae etholwyr wedi cysylltu â mi hefyd i ddweud eu bod yn poeni am newidiadau i drafnidiaeth i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, a hefyd problemau yng nghwm Aber, Bedwas, Tretomas a Machen, ac o Fargoed hefyd. Felly, ddydd Gwener 1 Mawrth, byddaf yn cynnal cymhorthfa i ddefnyddwyr bysiau yn Neuadd y Gweithwyr Bedwas yng Nghaerffili. Hoffwn drosglwyddo'r wybodaeth ohoni i'r Gweinidog. Ddydd Gwener yma hefyd rwy'n cyfarfod gyda Stagecoach, cyn y gymhorthfa. Pa wybodaeth y gall y Gweinidog ei rhoi i mi cyn fy nghyfarfod gyda Stagecoach, a fy nghyfarfod gyda'r trigolion ar 1 Mawrth, i roi sicrwydd iddynt fod y problemau presennol gyda'r gwasanaethau bysiau yn rhai dros dro, a'n bod yn mynd i weld newid yn y dyfodol? Lee Waters AC: Diolch. Rwy'n hapus i wirio'r ffigurau a ddyfynnodd, oherwydd maent yn wahanol i'r rhai y mae Stagecoach wedi eu darparu i mi. Ond y pwynt yw, p'un a yw'n 10 neu 30, roedd y niferoedd yn fach. Serch hynny, mae'n angenrheidiol yn gymdeithasol ac rydym am gefnogi gwasanaethau bysiau sy'n angenrheidiol yn gymdeithasol ac fel y soniais, mae angen inni gael y system a'r cyllid i'n galluogi i wneud hynny. Rwy'n credu ein bod i gyd yn cytuno ar draws y Siambr hon ynglŷn â phwysigrwydd gwasanaeth bws da. Rwy'n awyddus iawn i gael yr adborth gan Hefin David o'r gymhorthfa fysiau y mae'n ei chynnal yn ei etholaeth, ac rwy'n ei ganmol am wneud hynny. Mae'n bwysig iawn ein bod yn gwrando, nid yn unig ar deithwyr presennol, ond y rhai yr ydym am eu hannog i ddefnyddio'r bysiau, a bydd yr adborth hwnnw'n ddefnyddiol iawn i mi wedyn i'w drosglwyddo i Trafnidiaeth Cymru wrth iddynt lunio'r system wedi'i masnachfreinio. Rwy'n credu mai'r neges i'w rhoi i etholwyr yw bod angen i fwy o bobl ddefnyddio bysiau, i'w gwneud yn fwy hyfyw ac i leihau faint o gymhorthdal sydd ei angen, ac mae angen inni fwydo'r wybodaeth allweddol ynghylch y mannau y mae pobl eisiau cysylltiad â nhw i mewn i'r system y mae Trafnidiaeth Cymru yn ei llunio ar gyfer masnachfreinio. Bydd Trafnidiaeth Cymru yn defnyddio data o ffonau symudol, felly rydym yn gwybod ble mae pobl yn teithio ar hyn o bryd, a bydd honno'n set ddata allweddol a ddefnyddir i lunio'r rhwydweithiau, ond mae angen i hynny hefyd fod yn seiliedig ar adborth dinasyddion yn ogystal. Felly, rwy'n awyddus iawn i fynd ar drywydd hyn gyda Hefin David i ddeall yr adborth a ddaw gan ei etholwyr. Y Llywydd / The Llywydd: Cwestiwn 6 sydd nesaf, Darren Millar. Darren Millar AC: Diolch yn fawr iawn. Rwy'n ymddiheuro, Lywydd, ond nid wyf yn barod. Y Llywydd / The Llywydd: Wel, rwy'n ddiolchgar iawn am eich gonestrwydd. Darren Millar AC: Gallaf ei ddarllen nawr, os yw hynny'n iawn? Y Llywydd / The Llywydd: Iawn, rydych chi wedi prynu digon o amser nawr i ddarllen eich cwestiwn. Diogelwch ar y Rhwydwaith Cefnffyrdd Darren Millar AC: 6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella diogelwch priffyrdd ar y rhwydwaith cefnffyrdd? OQ60690 Lee Waters AC: Diolch yn fawr iawn, ac nid oeddwn erioed wedi meddwl y byddwn yn gweld y dydd y gwelwn Darren Millar yn gwrido. [Chwerthin.] Lywydd, rydym o ddifrif ynghylch diogelwch y cyhoedd sy'n teithio ac mae gennym raglen o welliannau wedi'i thargedu i fynd i'r afael â mannau lle ceir llawer o wrthdrawiadau anafiadau personol ar y rhwydwaith ffyrdd strategol. Darren Millar AC: Diolch am eich ymateb. Mae'r A494 yn felltith ym mywydau rhai pobl, yn enwedig ym mhentref Llanferres yn sir Ddinbych. Mae'n bentref lle mae'r terfyn cyflymder ar hyd yr A494 yn 40 mya. A dyma bentref a welodd nifer fawr o ddamweiniau bron â digwydd; mae llawer o bobl yn teimlo bod y terfyn cyflymder yn rhy uchel. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud diogelwch ar y ffyrdd yn flaenoriaeth. Rydych chi wedi bod yn gostwng cyfyngiadau cyflymder ar ffyrdd lleol, ond nid ydym wedi gweld llawer o ostyngiadau i derfynau cyflymder ar y rhwydwaith cefnffyrdd. Dyma ardal lle mae angen gostwng y cyflymder i 30 mya, ac rwy'n annog Llywodraeth Cymru i edrych ar y cyflymder priodol yn y pentref hwnnw, a gweithredu cyn gynted â phosibl. A allwch chi fy sicrhau y byddwch chi'n rhoi cyfarwyddyd i'ch swyddogion wneud hynny? Lee Waters AC: Wel, rwy'n cytuno'n llwyr y dylem edrych ar aneddiadau mewn ardaloedd gwledig neu ar hyd y rhwydwaith cefnffyrdd yn union yn yr un ffordd ag y gwnawn ar y rhwydwaith ffyrdd lleol, lle mae gennym 20 mya diofyn fel y gwyddoch pan fodlonir yr amodau ar gyfer hynny. Nid wyf yn siŵr pam ei fod yn cefnogi cyflymder o 30 mya mewn ardal adeiledig, nid 20 mya, fel gyda gweddill y system. Cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig i'r Aelodau neithiwr, yn nodi canlyniadau interim monitro'r 20 mya, a chanlyniadau interim yr adolygiad y gwnaethom ofyn am ei gynnal i'r ffordd y caiff ei weithredu. Un o gasgliadau'r adolygiad interim hwnnw yw y dylid cynnal adolygiad pellach nawr o derfynau cyflymder, yn y math o amgylchiadau y mae Darren Millar wedi'u nodi, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n rhan o'u hadroddiad terfynol. Lle mae gennym bentrefi, lle ceir ysgolion, lle ceir siopau, lle ceir tai, lle ceir canolfannau cymunedol, rwy'n credu y dylid edrych ar yr un meini prawf sydd gennym ar gyfer cymunedau ar ffyrdd lleol ar gefnffyrdd hefyd, fel y gallwn gael cyfyngiadau cyflymder mwy diogel ac arafach mewn ardaloedd lle mae pobl a thraffig yn cymysgu. Llifogydd yn Sir y Fflint Jack Sargeant AC: 7. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid yn ei ddarparu i amddiffyn cymunedau yn Sir y Fflint rhag llifogydd? OQ60696 Julie James AC: Diolch am y cwestiwn, Jack Sargeant. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'n hawdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru fel yr awdurdodau rheoli perygl llifogydd arweiniol. Rydym yn annog yr awdurdodau rheoli perygl i gyflwyno cynlluniau arfaethedig am gyllid o dan ein rhaglen rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol, a byddaf yn cyhoeddi rhaglen y flwyddyn nesaf ym mis Mawrth. Jack Sargeant AC: Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog, ac am yr ymateb a roesoch imi mewn gohebiaeth ysgrifenedig ychydig wythnosau yn ôl ar y mater hwn, ac edrychaf ymlaen at eich datganiad ar y rhaglen rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol. Ar sawl achlysur codais y problemau llifogydd yn lleol yn sir y Fflint ac rwy'n credu fy mod wedi gwneud fy safbwynt yn eithaf clir o'r blaen, Weinidog, fod angen i'r gwaith a nodwyd eisoes ddigwydd yn sir y Fflint cyn gynted â phosibl, ynghyd ag unrhyw waith ychwanegol i nodi mesurau pellach i ddiogelu cymunedau. A gaf i ofyn i chi, wrth i chi ystyried y rhaglen waith, i sicrhau bod y ffaith bod ardaloedd fel Mancot, Sandycroft a Brychdyn wedi dioddef llifogydd fwy nag unwaith yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn cael ei ystyried wrth lunio'r rhaglen fuddsoddi eleni? Julie James AC: Diolch yn fawr am hynny, Jack. Ac rwy'n gwybod yn iawn pa mor ddinistriol y gall effeithiau llifogydd fod ar gartrefi a bywoliaeth pobl, ac ar fywydau ac ar blant. Rwyf wedi cyfarfod â nifer sydd wedi dioddef trawma mawr yn eu sgil, felly hoffwn gydymdeimlo unwaith eto ag unrhyw un sydd wedi cael eu heffeithio gan y llifogydd diweddar yn ystod y gaeaf hwn. Ac rwy'n gwybod bod storm Babet wedi effeithio'n fawr ar eich etholwyr yn ôl ym mis Hydref, ac rwy'n cydymdeimlo'n fawr. Rydym wedi bod yn gweithio gyda'r holl awdurdodau rheoli perygl ac rwy'n ymwybodol fod Cyngor Sir y Fflint wedi cyflwyno nifer o geisiadau am gyllid yn y rownd ganlynol. Rwy'n ofni na allaf roi unrhyw sicrwydd heddiw ynghylch pa gynlluniau fydd yn derbyn cyllid ar yr adeg hon, ond rwy'n hapus iawn i gadarnhau bod effeithiau'r llifogydd diweddar yn cael eu hystyried yn drylwyr pan fyddwn yn blaenoriaethu buddsoddiad drwy'r rhaglen llifogydd. A byddaf yn cyhoeddi'r rhaglen ar 19 Mawrth. Ynni Niwclear Ken Skates AC: 8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y sector ynni niwclear yng Nghymru? OQ60707 Julie James AC: Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn, Ken. Mae ynni niwclear yn dod o fewn portffolio Gweinidog yr Economi yn llwyr, Lywydd, ond fe wnaf fy ngorau i ateb y cwestiwn beth bynnag. Mae'n debyg fod yna dri chyhoeddiad diweddar sy'n helpu i lunio polisi a darpariaeth niwclear hyd at 2050 ledled y DU a Chymru. Bydd Great British Nuclear yn allweddol i gyflawni prosiectau ar sawl safle, ond mae ei sefydlu yn effeithio ar ddyfodol Cwmni Egino, yn ogystal ag ar y potensial ar gyfer prosiectau yn Nhrawsfynydd ac Wylfa. Ken Skates AC: Diolch yn fawr am eich ateb, Weinidog. Mae'r sector niwclear ledled Cymru'n gryf iawn wrth gwrs ac yn enwedig yn y gogledd lle mae'n rhan o'r bwa niwclear bywiog, ac mae gennym lawer o fuddsoddwyr yn y rhanbarth. Ac mae yna siarad o'r newydd am adweithydd niwclear newydd posibl yn Wylfa. A allwch chi ein sicrhau bod Llywodraeth Cymru wedi asesu anghenion buddsoddwyr presennol a darpar fuddsoddwyr yn y sector fel rhan o ymgyrch ynni glân, fel ein bod yn gallu rhoi cymorth sy'n cyd-fynd â beth bynnag a allai fod ar gael gan lywodraeth leol a Llywodraeth y DU? Julie James AC: Diolch yn fawr iawn am hynny, Ken. Rwy'n deall o drafodaethau gyda datblygwyr ac aelodau fforwm niwclear Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf fod y gofyniad allweddol ar gyfer buddsoddwyr presennol a darpar fuddsoddwyr yn ymwneud â'r angen am bobl fedrus a safleoedd addas. Ac yn y sector niwclear yn enwedig, mae buddsoddwyr hefyd yn awyddus i sicrhau sefydlogrwydd a chysondeb ym mholisi'r Llywodraeth er mwyn ennyn hyder a gwytnwch y farchnad. Rydym yn falch iawn fod penderfyniad Westinghouse i leoli ei swyddogaeth datgomisiynu yn y DU yn M-SParc ar Ynys Môn, yn ogystal â'r buddsoddiad Boccard y cyfeiriwyd ato ar Lannau Dyfrdwy, wedi codi o asesiad gan y ddau gwmni o argaeledd personél medrus a safleoedd addas yn lleol, amgylchedd cefnogol Llywodraeth Cymru a'r cyfleoedd prosiect posibl yn y dyfodol yng ngogledd Cymru. Rwy'n credu bod hon yn enghraifft dda iawn, unwaith eto, o dîm Cymru'n dod at ei gilydd i arddangos y sgiliau a'r lleoliad da iawn, a safbwynt polisi Llywodraeth sefydlog ar hyn, yn wahanol i'r hyn a welsom dros y ffin. Cyhoeddir adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar 'Ynni niwclear ac economi Cymru' heddiw a bydd yr argymhellion a gynhwysir ynddo yn cael eu hystyried yn ofalus wrth inni edrych i weld sut ddyfodol a allai fod i Cwmni Egino yn enwedig, o ystyried canlyniad yr adroddiad hwnnw. Y Llywydd / The Llywydd: Yn olaf, cwestiwn 9, John Griffiths. Gwyrddu Ardaloedd Trefol John Griffiths AC: 9. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith ei pholisïau ar gyfer gwyrddu ardaloedd trefol? OQ60705 Julie James AC: Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn hwnnw, John Griffiths. Mae gan Lywodraeth Cymru amrywiaeth o fentrau i wella mannau gwyrdd trefol, fel Coetiroedd Bach a'r grant cymorth rhandiroedd. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd gwerthuso darpariaeth. Mae Lleoedd Lleol ar gyfer Natur er enghraifft wedi comisiynu adolygiad i werthuso effeithiau cymdeithasol y rhaglen rhwng 2020 a 2025. John Griffiths AC: Diolch am hynny, Weinidog. Mae'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn byw mewn ardaloedd trefol a chredaf fod gwyrddu'r amgylchedd trefol hwnnw—yr amgylchedd sydd ar garreg eu drws—yn bwysig iawn i ansawdd eu bywydau, a hefyd yn bwysig iawn ar gyfer ennyn cefnogaeth i bolisïau amgylcheddol Llywodraeth Cymru a'r ymdrechion i fynd i'r afael â newid hinsawdd a datblygu'r math o newid ymddygiadol y mae angen i ni ei weld. Yn fy etholaeth i, Weinidog, mae gennym Gwyrddu Maendy fel sefydliad sydd wedi manteisio ar y cyllid sydd ar gael i greu ardaloedd gwyrdd hygyrch, gan droi mannau a oedd wedi eu hesgeuluso ac yn ddolur llygad yn amwynderau nawr i bobl leol sy'n hygyrch ac yn cael eu mwynhau'n fawr. Mae'n sicr yn dibynnu ar frwdfrydedd ein gwirfoddolwyr a'u hymrwymiad a'r amser y maent yn barod i'w roi. Felly, a fyddech chi'n cytuno â mi, Weinidog, fod angen inni weld mwy o'r gweithgarwch a'r cynnydd hwn yng Nghymru, ac a fydd Llywodraeth Cymru a phartneriaid yn parhau i ddarparu'r cyllid i wneud hynny'n bosibl? Julie James AC: Diolch yn fawr iawn. Rwy'n cytuno'n llwyr—mae'n hyfryd iawn gweld cymunedau lleol yn cymryd rhan yn y gwaith o wyrddu eu mannau trefol. Ac yn wir, mewn trefi marchnad ledled Cymru, rydym hefyd yn gweld amgylcheddau lled-drefol yn cael yr un driniaeth. Rhwng 2023 a 2025, bydd Casnewydd yn cael £61,000 o dan y grant cymorth rhandiroedd, ac rwy'n deall eu bod yn bwriadu dod â 14 llain sydd wedi tyfu'n wyllt ar Ffordd Cae Perllan a Market Garden yn ôl i ddefnydd. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd hynny'n golygu bod llawer mwy o bobl yn cael cyfle i dyfu eu llysiau a'u blodau eu hunain ac yn y blaen. Hefyd, mae'n hyfryd iawn gweld lleiniau sydd wedi tyfu'n wyllt yn cael eu defnyddio unwaith eto. Yn ddiweddar, roeddwn gyda Jayne Bryant mewn rhan ychydig yn wahanol o Gasnewydd ac roeddem yn edrych ar gynllun ar hyd glan yr afon yno, ac mae gennyf ddiddordeb mawr mewn gweld beth y gellir ei wneud. Mae gan ganol Casnewydd gynlluniau gwyrddu hyfryd iawn hefyd. Felly, mae'n amlwg ei fod o ddiddordeb mawr i bobl dwyrain a gorllewin Casnewydd, sy'n hyfryd i'w weld. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi gwobrau'r Faner Werdd hefyd. Rydym yn rhoi achrediad i barciau a mannau agored sy'n hygyrch i'r cyhoedd i hyrwyddo safonau rheoli da ac arferion gorau. Mae 280 o safleoedd wedi'u gwobrwyo ledled Cymru, gan gynnwys saith yng Nghasnewydd, ac mae dau ohonynt yn safleoedd sydd newydd eu gwobrwyo. Mae pwll Llyswyry ac ardal gymunedol pwll pentref Trefesgob hefyd newydd dderbyn gwobrau'r Faner Werdd. Felly, rwy'n credu, John, ei bod yn deg dweud bod Casnewydd yn enghraifft wych iawn o'r hyn y gellir ei wneud pan fo cymunedau'n cofleidio'u hamgylchedd naturiol o ddifrif, ac effaith polisi o'r fath ar iechyd meddwl a newid hinsawdd a bioamrywiaeth. Rwy'n credu y dylid canmol pobl Casnewydd am gofleidio'r cynlluniau hyn. Y Llywydd / The Llywydd: Diolch i'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog. 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg Y Llywydd / The Llywydd: Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg sydd nesaf. Mae cwestiwn 1 [OQ60709] wedi ei dynnu yn ôl. Gofal Plant drwy Gyfrwng y Gymraeg Jayne Bryant AC: 2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog yn eu cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch argaeledd darpariaeth gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg? OQ60711 Jeremy Miles AC: Rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r aelod dynodedig o Blaid Cymru am ein hymrwymiad yn ein cynllun gweithredu 'Cymraeg 2050' i ehangu'r ddarpariaeth feithrin drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda'n partneriaid i gynyddu argaeledd darpariaeth gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg. Jayne Bryant AC: Diolch, Weinidog. Yr hydref diwethaf, fe wnaethoch chi ymuno â mi i groesawu agor meithrinfa Wibli Wobli, y feithrinfa gofal dydd Gymraeg gyntaf yng Nghasnewydd. Yn drasig, llosgodd adeilad y feithrinfa yn Nhŷ-du mewn tân fis diwethaf. Mae sylfaenydd y feithrinfa, Natasha Baker, a'i thîm, wedi bod yn gweithio'n andros o galed ers hynny, a'r wythnos hon agorwyd lleoliad dros dro yn Ysgol Gynradd Parc Tredegar. Rwy'n hyderus iawn y bydd Wibli Wobli yn goresgyn yr anffawd, ond mae eu profiad wedi tynnu sylw at y diffyg darpariaeth gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg yn fy etholaeth. Weinidog, rydym i gyd eisiau cyrraedd carreg filltir 'Cymraeg 2050'. Mae manteision dysgu Cymraeg yn ifanc yn cael eu cydnabod yn eang, yn enwedig i blant nad yw eu rhieni'n siarad yr iaith gartref. Beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi lleoliadau Cymraeg, yn enwedig mewn cymunedau Saesneg eu hiaith? Jeremy Miles AC: Mae'r Aelod yn iawn i ddweud fy mod yn falch iawn o groesawu sefydlu Wibli Wobli y llynedd, fel y dywedodd, ac roeddwn yn arbennig o drist o glywed am y tân dinistriol a ddigwyddodd yn gynharach eleni. Rwy'n falch o glywed yr hyn y mae hi wedi'i ddweud heddiw am y camau y mae'r feithrinfa wedi'u cymryd i ailsefydlu, ac rwy'n dymuno'r gorau iddynt gyda'r gwaith hynod bwysig hwnnw. O ran cwestiwn yr Aelod, rydym yn parhau i weithio'n agos gyda'r Mudiad Meithrin ac awdurdodau lleol i gynyddu argaeledd darpariaeth gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg drwy fuddsoddi yn y gweithlu ac mewn adeiladu lleoliadau newydd ledled Cymru. Ers 2022, rydym wedi darparu cyllid ychwanegol o tua £3.7 miliwn i'n partneriaid gofal plant, CWLWM, i ddarparu hyfforddiant Cymraeg ychwanegol a phwrpasol, gan gynnwys mwy o hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n cynnig cefnogaeth bwrpasol i leoliadau cyfrwng Cymraeg, ac i leoliadau cyfrwng Saesneg sydd am gynyddu eu defnydd o'r Gymraeg. Mae hyn yn ychwanegol at y rhaglen gyfalaf gwerth £70 miliwn a ddarparwyd gennym i sicrhau ein bod yn cryfhau ac yn cefnogi'r sector gofal plant yng Nghymru, a hynny, i adlewyrchu'r pwynt a wnaeth yr Aelod nawr, gyda phwyslais arbennig ar gryfhau'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ym mhob cymuned yng Nghymru. Samuel Kurtz AS: Nid yw tref Penfro yn fy etholaeth fel arfer yn cael ei hystyried yn dref Gymraeg, ond mae ysgol gynradd Gymraeg newydd yn cael ei hadeiladu yn yr ardal, a bydd yn sicr yn helpu i ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg, sydd i'w groesawu. Fodd bynnag, a gaf fi ofyn pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru'n ei roi i sicrhau bod plant cyn oed ysgol, a fydd yn y pen draw yn mynd i ysgol cyfrwng Cymraeg, yn gallu profi'r Gymraeg hyd yn oed os nad ydynt yn dod o deulu iaith Gymraeg? Jeremy Miles AC: Diolch i Sam Kurtz am y cwestiwn. Mae'r pwynt y mae e'n ei wneud yn bwynt pwysig. Dyna'n union yw pwrpas y gyllideb rŷn ni'n ei darparu i Mudiad Meithrin, ond hefyd i CWLWM, fel eu bod nhw'n gallu darparu'r hyfforddiant angenrheidiol i'r gweithlu, fel ein bod ni'n sicrhau nid yn unig bod lleoliadau'n gallu agor ond eu bod nhw'n gallu cael eu staffio gan bobl sy'n gymwys i wneud hynny. Ers dechrau'r flwyddyn hon, mae tua 15 y cant o leoliadau gofal plant yn cael eu diffinio fel rhai sy'n cael eu darparu trwy gyfrwng y Gymraeg, a thua 11 y cant yn dweud eu bod yn defnyddio'r ddwy iaith yn eu lleoliadau. Felly, mae hynny'n rhywbeth sydd i'w ddathlu. Mae hefyd 21 y cant o'r gweithlu yn y sector yn dweud eu bod nhw'n siarad Cymraeg yn hyderus, a thua 20 y cant pellach na hynny yn dweud eu bod nhw'n gallu siarad rhywfaint o Gymraeg. Felly, mae'r darlun hwnnw'n cynyddu hefyd. Cefnogi Dysgwyr Natasha Asghar AS: 3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi dysgwyr yn Nwyrain De Cymru? OQ60693 Jeremy Miles AC: Rydym yn parhau i ddarparu cymorth i ddysgwyr yn Nwyrain De Cymru, gan gynnwys £8 miliwn o gyllid tuag at anghenion dysgu ychwanegol, gwerth £12.2 miliwn o gyllid drwy ein rhaglen prydau ysgol am ddim i bawb, a gwerth £43 miliwn o gyllid ar gyfer prosiectau addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Natasha Asghar AS: Diolch yn fawr iawn am eich ateb, Weinidog. Daeth yr ymgynghoriad ar gyfer y newidiadau arfaethedig i'r flwyddyn ysgol i ben yr wythnos diwethaf, ac fel llawer o Aelodau eraill yn y Siambr rwy'n siŵr, mae fy mewnflwch wedi bod yn llawn o negeseuon gan etholwyr yn mynegi eu pryderon ynghylch y mater hwn. Yn gyntaf, bydd y newidiadau a argymhellir yn rhwystro'r gwaith o recriwtio athrawon Cymraeg, sydd eisoes ar ei hôl hi o gymharu â lle dylai fod, gan y byddent yn colli amser gwyliau gwerthfawr yn paratoi ar gyfer tymor newydd, ac nid oes rhaid i athrawon dros y ffin ymdrin â hynny. Bydd y newidiadau hefyd yn cynyddu costau i rieni, gan y bydd yn rhaid iddynt dalu am wres ac adloniant dan do ychwanegol, gan y bydd eu plant adref am fwy o amser, gyda mwy o wyliau dros y misoedd oerach. Bydd hyn yn sicr yn cael effaith ganlyniadol, a byddwn hefyd yn gweld gostyngiad yn y manteision hanfodol i addysg awyr agored. Ochr yn ochr â hyn, Weinidog, bydd yn rhaid i'n hathrawon ymladd yn galetach am wyliau blynyddol mawr ei angen, yn ystod cyfnod gwyliau byrrach yn yr haf, tra bod yr holl newidiadau arfaethedig yn ergyd drychinebus i'r economi a'r sectorau gwledig, gyda cholled o £1 filiwn i Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru o'r effaith uniongyrchol ar y Sioe Frenhinol, a gwyliau'r haf sy'n sail i'n diwydiant twristiaeth yng Nghymru. Felly, Weinidog, gan y bydd y newidiadau arfaethedig hyn yn y flwyddyn ysgol yn sicr o gael effaith negyddol ar bron pob rhan o gymdeithas, a wnewch chi'r peth iawn a chael gwared ar y cynlluniau wrth symud ymlaen? Diolch. Jeremy Miles AC: Nid wyf yn cydnabod disgrifiad braidd yn llwm yr Aelod o'r diwygiadau arfaethedig fel y'u disgrifir yn yr ymgynghoriad. Rwy'n siarad ag athrawon drwy'r amser, ac maent yn dweud wrthyf mai un o'u prif bryderon yw hyd tymor yr hydref, ac mae'n heriol dros ben i'r staff a'r disgyblion. Mae athrawon hefyd yn dweud wrthyf drwy'r amser fod y ffaith bod gwyliau'r Pasg yn newid yn ei gwneud hi'n llawer anos cynllunio ar gyfer eu cwricwlwm a chynllunio eu gwersi. Felly, mae nifer o fanteision i athrawon o'r cynigion a nodir yn y ddogfen ymgynghorol. Fel y bydd hi'n gwybod, mae'r cymhelliant y tu ôl i'r ymgynghoriad yn ymwneud â sicrhau bod y dysgwyr sy'n lleiaf abl i sicrhau bod eu dysgu'n cael ei gynnal dros yr haf—[Torri ar draws.] Y Llywydd / The Llywydd: John Griffiths. John Griffiths AC: Diolch, Lywydd. Un datblygiad pwysig iawn i ddysgwyr yn ne-ddwyrain Cymru, Weinidog, yw adleoli campws Coleg Gwent Casnewydd i ganol y ddinas. Bydd hyn yn sicrhau bod dysgu'n cael ei arddangos i'r gymuned ehangach yng Nghasnewydd, ac rwy'n credu y bydd yn arwain at lwybrau cynnydd da iawn—at addysg uwch hefyd yn wir, gyda champws Prifysgol De Cymru Casnewydd ar garreg y drws. Rwy'n gwybod eich bod yn croesawu ac yn cefnogi'r datblygiad pwysig hwn, Weinidog. Felly, a wnewch chi ategu fy awydd i'w weld yn mynd rhagddo mewn modd mor amserol â phosibl? Rwy'n credu ein bod i gyd yn awyddus iawn i weld y cyfleuster newydd pwysig hwnnw'n cael ei ddatblygu a'i agor. Jeremy Miles AC: Rwy'n credu ei fod yn gynnig cyffrous. Fel y bydd John Griffiths yn gwybod o'n trafodaethau blaenorol ynghylch hyn, rwy'n frwdfrydig iawn am y peth, ac rwy'n mawr obeithio y bydd ein swyddogion, ynghyd â swyddogion y coleg a'r awdurdod lleol, yn gallu gwneud cynnydd i wireddu'r uchelgeisiau y mae'r cynllun yn eu disgrifio. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn o safbwynt gwelededd dysgu, fel y dywed, ond hefyd o ran lleoliad y prosiect, sydd, rwy'n credu, yn symbolaidd ynddo'i hun. Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau Y Llywydd / The Llywydd: Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Laura Anne Jones. Laura Anne Jones AC: Diolch, Lywydd. A fyddai'r Gweinidog yn cytuno â mi a'r ddirprwyaeth drawsbleidiol gyntaf sydd newydd ddychwelyd o Ynysoedd Falkland y gallai cryfhau'r berthynas rhwng Cymru ac Ynysoedd Falkland—y porth i Antarctica—roi cyfle unigryw i ddysgwyr Cymru ac y gallai fod yn ffordd wych o alluogi ein dysgwyr yng Nghymru i gael gwell dealltwriaeth o'r hyn sy'n digwydd i'n hamgylchedd yn fyd-eang? Fel Llywodraeth sy'n rhoi'r amgylchedd ar frig eich rhestr o flaenoriaethau, a fyddai'r Gweinidog yn barod i gael trafodaethau gyda Llywodraeth Ynysoedd Falkland a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu, efallai, prosiect amgylcheddol a fyddai'n cyd-fynd â'n cwricwlwm newydd, sy'n cysylltu ysgolion yn Stanley, eu bywyd gwyllt, a'u hagosrwydd at Antarctica, i ehangu gorwelion ein dysgwyr yng Nghymru ac i ddyfnhau eu dealltwriaeth o'r byd, gyda hyd yn oed y posibilrwydd o rannu'r Gymraeg o ystyried y nifer fawr o Gymry y gwnaethom eu cyfarfod ar yr ynys? Diolch. Jeremy Miles AC: Diolch i Laura Anne Jones am y cwestiwn diddorol hwnnw. Rwy'n gwybod o fy nhrafodaethau gyda fy nghyd-Aelod Alun Davies fod y daith i Ynysoedd Falkland yn ddiddorol iawn, ac roedd y cyfleoedd amgylcheddol, rwy'n credu, yn glir, fel rwy'n deall. Rwy'n credu bod yr hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud yn ddiddorol iawn mewn gwirionedd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig i'n pobl ifanc gael dealltwriaeth glir o'r byd naturiol o'u cwmpas, yr argyfwng hinsawdd, yr argyfwng natur, a sut y gallwn gyfrannu at y gwaith o fynd i'r afael â hynny. Fe fydd hefyd yn gwybod bod hon yn Llywodraeth sy'n hyrwyddo cysylltiadau rhyngwladol rhwng ysgolion, yn enwedig, yn fwyaf diweddar, drwy ein rhaglen Taith, sydd wedi galluogi llawer o ysgolion yng Nghymru i feithrin perthynas ag ysgolion mewn mannau eraill. Mae rhai o'r rheini wedi golygu teithiau cyfnewid yn y cnawd, a llawer mwy ohonynt wedi golygu ymgysylltu ar-lein, o bell, ac rwy'n credu y byddai'n ddiddorol archwilio'r posibilrwydd y mae'r Aelod wedi'i godi heddiw. Laura Anne Jones AC: Diolch, Weinidog, rwy'n gwerthfawrogi'r sylwadau hynny. Ers dros flwyddyn bellach, rwyf wedi mynegi fy mhryderon wrthych ynglŷn â thangyflawniad addysgol ymysg bechgyn gwyn dosbarth gweithiol yng Nghymru. Felly, Weinidog, a allwch chi ddychmygu fy syndod pan glywais eich sylwadau yn ddiweddar yn addo y byddai Llywodraeth Cymru o dan eich arweinyddiaeth yn gwneud mwy i helpu bechgyn gwyn dosbarth gweithiol i ffynnu a chyflawni eu potensial llawn? Gwych. Mae'n hen bryd. Bechgyn gwyn dosbarth gweithiol yw'r rhai mwyaf tebygol o fethu pasio TGAU Saesneg neu fathemateg, a nhw yw'r rhai lleiaf tebygol o fynd i brifysgol, gyda'u niferoedd wedi gostwng 10 y cant dros y 10 mlynedd diwethaf. Rydych chi nawr yn addo cau'r bwlch addysgol ar eu cyfer yn eich addewidion maniffesto, ond eto rydych wedi methu gwneud hynny yn ystod eich cyfnod fel Gweinidog addysg. Mae'r diffyg ffocws ar y grŵp hwn o ddynion, gennych chi a Llywodraeth Lafur Cymru, wedi arwain at ganlyniadau negyddol iawn iddynt. Ni allwn ac ni ddylem daflu cenhedlaeth o ddynion gwyn dosbarth gweithiol i fin hanes. Weinidog, rydym yn gweld yr addewidion newydd hyn gennych, ac eto rydych wedi bod yn gyfrifol am addysg ers bron i bedair blynedd. Nid ydych wedi darparu unrhyw ffocws nac unrhyw gynllun i fynd i'r afael â'r anfantais sy'n wynebu bechgyn dosbarth gweithiol. Weinidog, pam eich bod wedi eistedd ar eich dwylo drwy'r holl amser hwn, a pham ei bod wedi cymryd ymgyrch arweinyddiaeth i fynd i'r afael â chenhedlaeth goll o fechgyn dosbarth gweithiol yng Nghymru? Jeremy Miles AC: Rwy'n cymeradwyo'r Aelod am ei diwydrwydd wrth ddilyn fy ymgyrch arweinyddiaeth. Pe bai'n dangos cymaint o ddiwydrwydd wrth edrych ar yr hyn y mae'r Llywodraeth wedi bod yn ei wneud yn y maes polisi hwn ers imi ddod yn Weinidog, rwy'n credu y byddai hynny hyd yn oed yn well. Fe fydd hi'n cofio—ac rwy'n siŵr y bydd wedi darllen—yr araith a roddais i Sefydliad Bevan tua dwy flynedd yn ôl, a oedd yn nodi cynllun, ac rydym wedi bod yn dilyn y cynllun hwnnw ers hynny. Mae iddo nifer o elfennau. Mae'n sôn am bwysigrwydd ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned, am ennyn diddordeb rhieni yn nysgu eu plant. Ymwelais ag ysgol yn etholaeth John Griffiths yn ddiweddar a oedd yn gwneud yn dda iawn yn y ffordd honno drwy ddysgu rhieni i goginio a dod â nhw i mewn i'r ysgol a chryfhau'r berthynas â chymuned yr ysgol. Fe fydd hi'n gwybod hefyd am y gwaith a wnawn ar ddarparu cwricwlwm sy'n cyffroi ein holl ddysgwyr ac sy'n ei gwneud hi'n bosibl i bob un ohonynt gyflawni eu potensial. Fe fydd hi'n gwybod, rwy'n credu, am y buddsoddiad a wnaethom mewn addysg gychwynnol i athrawon i sicrhau bod athrawon yn deall y strategaethau sydd fwyaf tebygol o lwyddo, a'r dysgu proffesiynol rydym wedi'i gomisiynu i'w cefnogi ar eu taith ddysgu proffesiynol yn dilyn hynny. Fe fydd hi'n gwybod, rwy'n credu, am yr ymgysylltiad a gawsom gyda'r Sefydliad Gwaddol Addysgol, gan gynnwys, yn ddiweddar, ffurfio partneriaeth â nhw fel y byddant yn ein helpu gyda mentrau arbennig o lwyddiannus mewn ysgolion. Ac rwy'n gwybod y bydd wedi dilyn hynt y rhaglen pencampwyr cyrhaeddiad, a dreialwyd gennym yn llwyddiannus, gan baru ysgolion sydd wedi dangos llwyddiant arbennig yn y maes gyda'r ysgolion sydd wedi'i chael yn fwyaf heriol. Rwy'n gobeithio'n fawr y byddwn yn gallu parhau â'r cynllun peilot hwnnw y flwyddyn nesaf. Rwy'n gwybod ei bod hi'n hoff iawn o ganlyniadau'r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr, ac mae hi'n barod iawn i'w dyfynnu pan fyddant yn cefnogi ei hachos, ond rwy'n gwybod, o'i hastudiaeth fanwl ohonynt, y bydd wedi sylweddoli bod Cymru wedi bod yn cau'r bwlch cyrhaeddiad hwnnw mewn gwirionedd. Nid wyf yn hawlio unrhyw glod am hynny. Digwyddodd yn llawer cynt ar ôl imi ddod yn Weinidog. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig cadw llygad ar y dystiolaeth, yn ogystal â chadw llygad ar y wleidyddiaeth. Laura Anne Jones AC: Ac eto, mae'r niferoedd yn parhau i ostwng, onid ydynt, Weinidog, o'u cymharu â gweddill y DU? Ac mae'r bechgyn gwyn dosbarth gweithiol hynny yng Nghymru yn parhau i fod dan anfantais enfawr o gymharu â'u cyfoedion. Weinidog, unwaith eto, rydych wedi methu mynd i'r afael â methiannau eich cyfnod yn y swydd yn eich ymateb. Ymddengys bod hynny wedi dod yn thema i'n trafodaethau dros y blynyddoedd diwethaf. Ers i chi ddod yn Weinidog addysg yn 2021, rydych chi wedi torri cyllidebau addysg hyd at yr asgwrn, flwyddyn ar ôl blwyddyn—gostyngiadau yn nhermau arian parod, eleni, o hyd at £56 miliwn. Rydych wedi methu mynd i'r afael â'r argyfwng recriwtio a chadw athrawon yng Nghymru. Mae cynnydd amlwg wedi bod mewn ymddygiad gwael a thrais yn ein hystafelloedd dosbarth yng Nghymru, gyda dros 5,000 o ddigwyddiadau yn ystod y pum mlynedd diwethaf, ac mae'r ffigur hwnnw'n cynyddu. Absenoliaeth—mae'n dal i godi. Cludiant i'r ysgol—nid yw'n ddigonol o hyd. Nid oes cynllun cenedlaethol i fynd i'r afael ag iechyd meddwl yn ein hysgolion nac i rannu arferion gorau. Mae safonau addysg ar eu lefel isaf erioed, gyda Chymru ar waelod safleoedd PISA, ymhell y tu ôl i'n cymheiriaid yn y DU, gyda Chymru'n gostwng i'w lefelau isaf erioed mewn mathemateg, darllen a gwyddoniaeth, islaw cyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd hyd yn oed, tra bod sgoriau Lloegr yn dal i berfformio'n well na sgoriau gorau Cymru ers i ni ymuno yn 2006. Ac fe allwn i barhau, ond yn syml iawn, Weinidog, rydych chi wedi gwneud cam â chenhedlaeth o ddysgwyr ledled Cymru, yn enwedig y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae ysgolion wedi bod yn ymbil ers blynyddoedd am fwy o arian ar gyfer staff, ar gyfer hyfforddiant, ar gyfer adnoddau. Nid yw'n gyflawniad i fod yn falch ohono. Yn amlwg, nid yw addysg yn flaenoriaeth i chi, Weinidog, na'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru. Weinidog, ar y cyflawniad hwn yn unig, a ydych chi wir yn credu eich bod chi'n gymwys i fod yn Brif Weinidog nesaf Cymru? Jeremy Miles AC: Wel, diolch i'r Aelod am hyd a lled ei chwestiynau. Cyffyrddodd â phob agwedd ar bolisi addysg, bron. Yn anffodus, nid oedd llawer o'i chyfraniad yn seiliedig ar ffeithiau mewn unrhyw fodd. Hoffwn pe bai'n talu mwy o sylw i ganlyniadau go iawn ein system addysg a'r gwaith caled anhygoel y mae ein hathrawon ac arweinwyr ein hysgolion yn ei wneud bob dydd, a hynny dan amgylchiadau heriol iawn yn aml, i sicrhau eu bod yn rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob unigolyn ifanc yng Nghymru. A hoffwn alw arni i roi mwy o gefnogaeth iddynt yn y gwaith gwych y maent yn ei wneud. Y Llywydd / The Llywydd: Llefarydd Plaid Cymru, Heledd Fychan. Heledd Fychan AS: Diolch, Llywydd. Wythnos diwethaf, fe gyhoeddodd UCAS eu data diweddaraf, sy’n dangos lleihad yn nifer y ceisiadau gan bobl yng Nghymru am le mewn prifysgol. Cymru hefyd sydd â'r gyfradd ymgeisio isaf o unrhyw un o wledydd y Deyrnas Unedig. Nid yn unig hynny, mae’r data hefyd yn dangos lleihad yn y nifer sy’n ymgeisio am lefydd ar gyrsiau lle mae dirfawr angen mwy o bobl arnom gyda’r sgiliau hynny, megis meddygaeth a deintyddiaeth, lle mae yna leihad o 7 y cant, a chyrsiau bydwreigiaeth, lle mae lleihad o 12 y cant, sy’n 400 cais, o gymharu â 750 cais yn 2021. Beth yw eich ymateb chi i’r data yma? A beth ydych chi’n gwneud i sicrhau ein bod ni’n denu mwy o fyfyrwyr ar gyrsiau sy’n gyfan gwbl hanfodol o ran llenwi swyddi angenrheidiol yma yng Nghymru? Jeremy Miles AC: Wel, mae'r Aelod yn gofyn cwestiwn teg. Fe wnes i gael cyfarfod gydag UCAS ddoe, fel mae'n digwydd, i gael y drafodaeth benodol hon ar beth mwy gallwn ni wneud i sicrhau bod mynediad i addysg uwch yn hafal i bawb. Fel mae'r Aelod yn gwybod, mae gyda ni waith eisoes ar y gweill i wneud hynny. Mae'r gwaith rydyn ni'n gwneud ar y cyd gyda Phlaid Cymru o ran cynllun Seren yn cyfrannu rhywfaint at hynny, ond hefyd y ffaith ein bod ni'n darparu'r gefnogaeth ariannol fwyaf o unrhyw ran o'r Deyrnas Gyfunol o ran costau byw i fyfyrwyr. Rŷn ni'n gwybod mai hynny sydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf i'r penderfyniad a ydych chi'n mynd i astudio mewn prifysgol. Ond hefyd, fel bydd yr Aelod, dwi'n credu, yn gwybod, ers y llynedd, rŷn ni wedi newid y rheoliadau yma yng Nghymru i sicrhau bod statws cymhwysedd myfyriwr am brydau bwyd am ddim yn gallu cael ei rannu'n gyfrinachol gyda phrifysgol er mwyn sicrhau bod y darlun cyflawn o gyflawniad yr unigolyn yn cael ei gymryd i mewn i ystyriaeth. Felly, mae gwaith ar y gweill yn barod, ac mae hi'n iawn i ddweud bod angen sicrhau ein bod ni'n mynd i'r afael â hyn. Mae'r darlun ychydig yn fwy cymhleth na'r hyn y mae hi'n disgrifio. Mae hyn yn ffactor mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig hefyd. O ran y darlun meddygol, mae hi'n gwybod ein bod ni wedi cynnal bwrsari'r gwasanaeth iechyd y flwyddyn yma eto. Mae hynny'n gwneud gwahaniaeth. Mae'r darlun o ran recriwtio i astudio ar gyfer nyrsio a rhai o'r swyddogaethau eraill y mae'r Aelod wedi sôn amdanynt heddiw, yn anffodus, yn rhywbeth sydd yn gyffredin ar draws y Deyrnas Gyfunol. Felly, mae angen gweithio ar y cyd i sicrhau ein bod ni'n denu mwy i'r gwaith pwysig hwn. Heledd Fychan AS: Diolch, Weinidog. Dwi'n siwr eich bod chi'n deall mai munud sydd gen i i ofyn cwestiwn i chi, felly mae trio cael y data i gyd yn anodd yn y munud hwnnw. Ond, mae un elfen arall o'r data yn dangos bod nifer y dynion sy'n ymgeisio wedi gostwng 2 y cant, tra bod nifer y menywod sy'n gwneud cais mewn prifysgol wedi gostwng ddwywaith gymaint, 4 y cant, a hefyd fod yna leihad yn nifer y rhai sydd â chyfrifoldebau gofal—wedi disgyn—ac rydyn ni'n gwybod nad oes gan rai prifysgolion bethau fel crèche ac ati i'w cynnig erbyn hyn. Mae bylchau sylweddol rhwng y rhywiau ar draws rhai o bynciau allweddol STEM hefyd, lle mae menywod yn aml yn cael eu tangynrychioli, fel y gwyddorau milfeddygol, mathemategol, biolegol a chwaraeon. Fodd bynnag, yng nghyllideb ddrafft ddiweddaraf Llywodraeth Cymru, rydyn ni wedi gweld cyllid sy'n helpu i annog myfyrwyr i astudio rhai o'r pynciau hyn yn cael ei dorri, yn arbennig o ran ôl-radd. O ystyried y pwysigrwydd rydych chi wedi'i roi ar gydraddoldeb wrth ymgeisio i fod yn Brif Weinidog nesaf Cymru, sut ydych chi'n bwriadu unioni'r gwahaniaethau sy'n cael eu hamlygu mewn addysg, fel y rhai dwi wedi'u crybwyll, heb y cyllid angenrheidiol? Jeremy Miles AC: Jyst i fod yn eglur am un peth, nid 'yn cynnwys' cyrsiau ôl-raddedig ond 'yn unig' mewn cyrsiau ôl-raddedig y mae'r toriad hwnnw wedi digwydd, a'r rheswm anffodus am hynny yw'r pwysau ar ein cyllideb ni. Felly, mae popeth rŷn ni'n gwybod o ran pryd rydych chi'n gwario'r arian ar lwybr addysg unigolyn a pha impact rydych chi'n gallu ei gael yn pwyntio tuag at wario a buddsoddi cyn gynted ag y gallwch chi—felly, yn y blynyddoedd cynnar a'r blynyddoedd ysgol. Mi oedd rhaid imi wneud dewis, yn sgil y pwysau sydd ar gyllideb Llywodraeth Cymru, i dorri hynny ac i sicrhau mai benthyciadau nid grantiau sydd ar gael i fyfyrwyr ôl-raddedig nawr er mwyn inni allu gwarchod mynediad at raddau cyntaf a, hefyd, sicrhau buddsoddiad yn ein hysgolion ni. Does dim un Gweinidog eisiau gwneud y penderfyniad hwnnw, ond rwy'n sicr, o fewn yr ystod o benderfyniadau oedd ar gael, mai dyna'r fersiwn fwyaf blaengar o'r ffordd y gallem ni fuddsoddi'r arian oedd ar gael. Ysgol Ddeintyddol ym Mhrifysgol Bangor Sian Gwenllian AC: 4. Pa drafodaethau mae’r Gweinidog yn eu cael efo’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â sefydlu ysgol ddeintyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor? OQ60677 Jeremy Miles AC: Dwi’n trafod amryw o faterion gyda’r Gweinidog iechyd, gan gynnwys deintyddiaeth. Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn gyfrifol am ddatblygu cynllun deintyddiaeth ar gyfer y gweithlu, a bydd yn parhau i asesu’r cyfleoedd hyfforddi sydd ar gael, gan gynnwys p’un a oes angen ysgol ddeintyddiaeth ychwanegol. Sian Gwenllian AC: Mae'n wych gweld yr ysgol feddygol ym Mhrifysgol Bangor yn mynd o nerth i nerth, efo'r myfyrwyr cyntaf i wneud eu holl gwrs ym Mangor yn cychwyn fis Medi nesaf. Mae'r brifysgol yn rhan hollbwysig o wead economaidd a chymdeithasol y gogledd-orllewin, a does yna ddim dwywaith fod sefydlu ysgol feddygol yn dyrchafu statws y brifysgol ymhellach. O siarad efo'r staff academaidd yno, sefydlu ysgol ddeintyddiaeth ydy'r cam naturiol nesaf ar y daith i wneud Bangor yn ganolfan ragoriaeth astudiaethau iechyd. Mi fyddai hyfforddi deintyddion yn yr ardal hefyd yn helpu i wella'r gwasanaeth deintyddol ac yn denu mwy o ddeintyddion i'r ardal, ac rydyn ni newydd fod yn trafod pa mor brin ydy deintyddion yng Nghymru. A wnewch chi, felly, barhau efo'r trafodaethau cychwynnol ynghylch sefydlu ysgol ddeintyddol ym Mangor a bwrw ati'n egnïol i wneud yr achos dros hynny? Jeremy Miles AC: Diolch i Siân Gwenllian am y cwestiwn. Mae Prifysgol Bangor, wrth gwrs, yn darparu addysg o ran gofal deintyddol yn ehangach na deintyddion ar hyn o bryd, ac yn gwneud hynny'n llwyddiannus iawn, ac fel yr oedd hi'n ei ddweud, rŷn ni gyd yn edrych ymlaen at weld y cohort cyntaf o fyfyrwyr yn cychwyn yn yr ysgol feddygol o fis Medi ymlaen. Mae datblygiadau cyffrous eraill, wrth gwrs, yng ngogledd Cymru, o ran yr academi ddeintyddol sydd o dan awenau'r bwrdd iechyd lleol. Felly, mae datblygiad arloesol yn digwydd eisoes yn y rhanbarth. Rwy'n gweld budd i ysgol ddeintyddol yng Nghymru—un newydd. Allaf i ddim rhoi unrhyw ymrwymiad i'r Aelod am amseru na lleoliad yr ysgol honno, ond, yn sicr, byddai hynny'n ddatblygiad cadarnhaol maes o law. Sam Rowlands AS: Rwy'n ddiolchgar i Siân Gwenllian am godi'r mater pwysig hwn yma y prynhawn yma, gan nad yw'n or-ddweud i ddweud bod argyfwng deintyddiaeth yng ngogledd Cymru yn enwedig. Yn wir, yn Ynys Môn yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae practis lleol yno wedi dweud wrth ei 10,000 o gleifion deintyddol y GIG fod yr holl archwiliadau rheolaidd yn cael eu hatal am y tro, ac mae hynny'n rhoi syniad i chi o raddfa'r broblem yno. Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi fod hyfforddiant yn ffordd allweddol o ddod o hyd i ateb i'r broblem ddeintyddiaeth ar hyn o bryd? Rwy'n sicr yn croesawu'r sylwadau a wnaethoch nawr, yn nodi eich cefnogaeth i ysgol ddeintyddol rywle yng ngogledd Cymru, ac yn sicr, byddai Bangor yn gwneud llawer o synnwyr, gyda'r gwaith presennol gyda'r ysgol feddygol yno. Felly, hoffwn wybod, Weinidog, pa waith y gallech fod yn ystyried ei wneud i sicrhau y byddai athrawon, cyfleusterau a buddsoddiad o safon yn cael eu denu at gynnig fel hwn, fel y gallwn gael strategaeth hirdymor ar gyfer deintyddiaeth yng ngogledd Cymru. Jeremy Miles AC: Wel, rwy'n awyddus i beidio â chrwydro i gyfrifoldebau portffolio'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ond yn amlwg, mae'r angen i hyfforddi mwy o ddeintyddion a gweithwyr proffesiynol gofal deintyddol yn rhywbeth yr ydym yn edrych arno'n agos iawn ar hyn o bryd. Rydym eisoes wedi buddsoddi ym Mhrifysgol Bangor a datblygu cyfadran Cymru gyfan o weithwyr proffesiynol gofal deintyddol, ac mae'r garfan gyntaf o 12 myfyriwr bellach yn eu hail flwyddyn astudio, fel y gŵyr Sam Rowlands. I fod yn glir, ni wneuthum unrhyw ymrwymiad, ychwaith, mewn perthynas ag amseru na lleoliad yr ysgol ddeintyddol, mae arnaf ofn, ond rwy'n credu y byddai ysgol ddeintyddol newydd, ar ryw adeg, yn ddatblygiad buddiol. Rwy'n canmol y gwaith sy'n digwydd yn yr academi. Rwy'n credu bod hwnnw'n gyfle cyffrous iawn ar gyfer hyfforddiant ac ymarfer hefyd. Jane Dodds AS: Diolch i Siân am godi hyn. Jane Dodds AS: Ni fyddwch yn synnu clywed fy mod am adleisio galwadau Sam a Siân i edrych ar sut y gallwn ddatblygu lleoedd hyfforddi deintyddion yng ngogledd Cymru. Un o'r agweddau yr hoffwn inni feddwl amdani yw'r iaith Gymraeg a'r ffaith bod angen i ni fod yn arweinwyr, yn enwedig yng ngogledd Cymru, wrth ddatblygu'r ffordd yr ydym yn hyfforddi ein harbenigwyr, yn enwedig ein deintyddion, yn y Gymraeg. Mae'r potensial o gael lleoedd hyfforddi ym Mangor yn cynnig hynny. Gwyddom fod dadansoddiad o weithlu deintyddol Cymru yn 2012 wedi canfod bod 58 y cant o raddedigion deintyddol Cymru a wnaeth eu hyfforddiant sylfaenol yng Nghymru wedi ymuno â'r gweithlu lleol. Felly, rydym yn gwybod bod cydberthynas uniongyrchol rhwng lle maent yn hyfforddi a lle maent yn aros. Ac i ni yma yng Nghymru, ac yn y gogledd yn enwedig lle mae gennym nifer uchel o siaradwyr Cymraeg, yn enwedig pobl hŷn sydd ond yn siarad Cymraeg, mae'n teimlo'n bwysig ein bod yn symud yr agenda honno yn ei blaen cyn gynted â phosibl. Felly, hoffwn adleisio'r galwadau hynny ond hefyd hoffwn glywed eich syniadau chi ynglŷn â sut y gallwn sicrhau bod ein cyrsiau'n gweithio tuag at gael pobl i siarad Cymraeg a darparu triniaethau yn y Gymraeg hefyd. Diolch yn fawr iawn. Jeremy Miles AC: Wel, mae gallu ymarfer fel deintydd neu fel clinigydd o unrhyw fath drwy gyfrwng y Gymraeg yn bwysig iawn o safbwynt y proffesiwn, ond hefyd, yn bwysicaf oll, o safbwynt yr unigolyn sy'n derbyn gofal, sydd â pherffaith hawl i wneud pa bynnag ddewis y maent yn dymuno ei wneud o ran yr iaith y byddai'n well ganddynt dderbyn gofal ynddi. Gwyddom mai dyna'r rheswm y tu ôl i'r strategaeth 'Mwy na geiriau' sydd gan y gwasanaeth iechyd yn ehangach yn y maes hwn. Felly, rwy'n cydnabod ac yn cytuno'n llwyr â hynny. Ac mae'r gwaith y mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn ei wneud er mwyn sicrhau bod opsiynau ar gael i bobl astudio meddygaeth a deintyddiaeth drwy gyfrwng y Gymraeg yn gwbl wych ac yn ddatblygiad cadarnhaol iawn. Rwyf hefyd yn cytuno â'r pwynt a wnaeth yr Aelod ynglŷn â sicrhau bod mwy o leoedd hyfforddi ar gael a bod mwy o leoedd ar gael mewn prifysgolion. Rydym wedi gwneud hynny ym maes meddygaeth wrth gwrs ac ym maes deintyddiaeth dros y blynyddoedd diwethaf, gyda'r pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud mewn golwg, ein bod yn gobeithio, drwy wneud hynny, y gallwn gadw pobl i ymarfer yma yng Nghymru, a lle bynnag y bo'n bosibl, i wneud hynny, fel y mae'n dweud, drwy gyfrwng y Gymraeg. TAAU a Chyflogwyr Huw Irranca-Davies AC: 5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cynnwys cyflogwyr wrth ddatblygu TAAU? OQ60675 Jeremy Miles AC: Ymgynghorodd Cymwysterau Cymru ar eu cynigion llawn yng ngwanwyn 2023, a derbyniwyd ymatebion gan ystod o wahanol sefydliadau gan gynnwys cyflogwyr, ond hefyd gweithwyr addysg proffesiynol, rhieni a gofalwyr. Byddaf yn cyhoeddi ein hymgynghoriad ar ddysgu 14-16 yn fuan iawn ac rydym hefyd wedi ymgysylltu'n agos â grwpiau cyflogwyr wrth ddatblygu hwnnw. Huw Irranca-Davies AC: Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae'n hanfodol fod cyflogwyr yn ymwneud yn agos â'r gwaith o ddatblygu a gweithredu'r cymwysterau newydd cyffrous hyn. Nawr, mae datblygu'r TAAU newydd yng Nghymru yn gam mawr ymlaen er mwyn sicrhau bod llwybrau dysgu technegol, galwedigaethol a phroffesiynol yn cael yr un statws â TGAU, gan ganiatáu i fyfyrwyr, o dan y cymwysterau newydd hyn a'r cwricwlwm newydd, lywio'r llwybrau dysgu a gyrfa cywir ar eu cyfer nhw, gan gynnwys, mae'n rhaid i mi ddweud, dewis a dethol o opsiynau yn y llwybrau TAAU a TGAU. A yw'n credu, fel fi, fod parch cydradd i'r TAAU a'r TGAU yn nod dymunol ynddo'i hun, gan y bydd yn rhoi hyder i ddysgwyr wneud y gorau o'u sgiliau a'u doniau eu hunain drwy ddewis eu llwybr eu hunain, sy'n fwyaf addas i'w breuddwydion a'u dyheadau eu hunain, ac un canlyniad pendant i hynny fydd gweld cyflawniadau dysgwyr mewn TAAU a TGAU yn cael amlygrwydd cyfartal, ac yn achos dathlu cyfartal yn seremonïau gwobrwyo ysgolion a cholegau ar hyd a lled Cymru? Jeremy Miles AC: Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn mae Huw Irranca-Davies wedi'i ddweud. Rydym yn siarad llawer, onid ydym, am barch cydradd rhwng cymwysterau galwedigaethol ac academaidd? Rwy'n credu bod cael chwaer frandiau, os mynnwch, TGAU a TAAU yn rhan o sut y gellir cyfathrebu hynny, yr ymdeimlad eu bod yn gyfartal, fel y maent. Felly, rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn, ac rwy'n cytuno ag ef, byddwn yn gobeithio gweld pobl yn dewis a dethol, fel y mae'n dweud. Gyda'r ystod newydd o gymwysterau TGAU mewn meysydd newydd sy'n teimlo'n fwy cymhwysol, efallai, na rhai o'r cymwysterau TGAU traddodiadol, credaf fod cyfle cyffrous iawn i ddysgwr gael portffolio o gymwysterau sy'n wirioneddol adlewyrchu'r hyn sy'n rhoi pleser arbennig iddynt, a'u llwybr gyrfa yn y dyfodol efallai. Mewn gwirionedd, roedd cyflogwyr yn dweud wrthym fod y llu o gymwysterau galwedigaethol y mae TAAU wedi'u cynllunio i fod yn fersiwn symlach ohonynt weithiau'n ddryslyd i gyflogwyr, dim ond oherwydd eu hehangder yn fwy na dim. Felly, mae cael cynnig ag iddo fwy o ffocws ac ymdeimlad o gydraddoldeb clir yn wirioneddol bwysig. Darren Millar AC: Diolch am yr ymateb i Huw Irranca-Davies, Weinidog. Rwyf innau hefyd yn frwd fy nghefnogaeth i gyflwyno'r TAAU. Rwy'n credu eu bod yn gyfle i sicrhau parch cydradd â chymwysterau academaidd. Ond wrth gwrs, y peth pwysig yw y bydd llawer o bobl nid yn unig yn byw a gweithio yng Nghymru ar ôl iddynt adael sefydliad addysg—bydd rhai ohonynt am fynd ymlaen i astudio cymwysterau galwedigaethol ymhellach yn Lloegr, yr Alban neu rannau eraill o'r DU, ac yn wir, i mewn i fyd gwaith yn y llefydd hynny hefyd. Felly, pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda chyflogwyr i sicrhau bod pobl ledled y Deyrnas Unedig yn ymwybodol o werth y cymwysterau newydd hyn, pan gânt eu cyflwyno, ac nad ydynt yn rhywbeth y mae cyflogwyr Cymru yn unig yn ei gydnabod? Jeremy Miles AC: Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig, ac mae'n bwysig pan fydd diwygiadau'n digwydd yng Nghymru a hefyd pan fydd diwygiadau'n digwydd yn Lloegr, fel yn achos y lefelau T yn fwyaf diweddar, fod natur benodol cymwysterau galwedigaethol, a TGAU yn y cyd-destun hwn hefyd, yn cael ei chydnabod a'u bod yn gludadwy yn yr ystyr honno; mae'n bwysig tu hwnt. Felly, rwy'n gwybod bod Cymwysterau Cymru, fel y rheoleiddiwr cymwysterau, yn ymgysylltu'n drylwyr a rheolaidd iawn â'r rheoleiddwyr arholiadau eraill ledled y DU i sicrhau bod pobl yn deall, ym mhob rhan o'r DU, fod y cymwysterau'n gydradd ac yn gludadwy. Ond yn y gwaith cynllunio a'r gwaith a wnaethom fel Llywodraeth ynghylch y cynnig 14-16 yn ehangach, yn ogystal ag ymgysylltu â chyflogwyr, rydym wedi ymgysylltu â sefydliadau cyflogwyr ledled y DU, megis Ffederasiwn y Busnesau Bach neu Gydffederasiwn Diwydiant Prydain, sy'n gallu sicrhau bod cynulleidfa ehangach ar gyfer y syniad yng Nghymru, ac yn Lloegr hefyd, rwy'n credu. Yr Eisteddfod Genedlaethol Heledd Fychan AS: 6. Sut mae Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda Eisteddfod Genedlaethol Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i sicrhau gwaddol o ran y Gymraeg yn sgil yr Eisteddfod yn dod i'r ardal eleni? OQ60683 Jeremy Miles AC: Rŷn ni’n cydweithio’n agos â’r Eisteddfod Genedlaethol a’r cyngor wrth iddyn nhw barhau i gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn Rhondda Cynon Taf eleni. Mae’r Eisteddfod, wrth gwrs, yn llawer mwy na gŵyl; mae’n brosiect tair blynedd sy’n sicrhau gwaddol ieithyddol, diwylliannol ac economaidd hollbwysig hwnnw. Mae’n fraint gallu cefnogi prosiect sy’n gwireddu hynny. Heledd Fychan AS: Diolch, Weinidog. Fel dŷch chi'n gallu dychmygu, dwi'n siŵr, mae yna gynnwrf aruthrol yn yr ardal fod yr Eisteddfod yn dod, a dwi'n gobeithio y bydd pawb yma yn dod i Bontypridd ym mis Awst eleni. Does yna ddim Eisteddfod Genedlaethol wedi bod am ddegawdau yn yr ardal, a nifer erioed wedi profi beth ydy Eisteddfod, felly mae hi'n dalcen caled o ran ceisio argyhoeddi pobl o bwysigrwydd Eisteddfod a'r gwaddol amlwg hwnnw dŷn ni'n gyfarwydd efo fo mewn ardaloedd eraill. Un o'r prif bryderon ydy ei bod hi'n digwydd ym mharc Ynysangharad, sy'n barc gwych yng nghanol tref Pontypridd, ond sydd hefyd yn cael ei ddefnyddio gan filoedd o bobl yn ddyddiol, yn arbennig yn ystod y gwyliau haf. Mae yna nifer o bethau negyddol yn cael eu dweud am yr Eisteddfod ar y funud oherwydd bod y parc am fod ar gau am, o bosib, nifer o wythnosau oherwydd yr Eisteddfod yn dod. Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda’r Eisteddfod mewn blynyddoedd yn y gorffennol i sicrhau mynediad am ddim i drigolion lleol neu gael prisiau rhatach. Oes yna unrhyw gynlluniau eleni er mwyn sicrhau bod y gwaddol hwnnw mewn ardal sy’n allweddol o ran twf y Gymraeg yn cael ei wireddu? Jeremy Miles AC: Wel, mae brwdfrydedd lleol yn uchel iawn am yr ŵyl. Rŷn ni’n gwybod am y gwaith sy’n digwydd i sicrhau bod cymunedau lleol yn deall beth yw’r cynnig sydd ar gael gyda’r Eisteddfod. Felly, mae taith Maes B yn cael ei chynnal yn yr ysgolion dros y misoedd nesaf. Bydd pob disgybl blwyddyn 6 a 7 ymhob ysgol yn cael y cyfle i fwynhau sioe am yr Eisteddfod yn rhad ac am ddim, a chynnal gweithdai Merched yn Gwneud Miwsig i annog merched 16 i 25 i ymddiddori mwy mewn cerddoriaeth Gymraeg. Mae gwobrau busnes lleol, ac mae gwaith yn digwydd gyda Interlink er mwyn cynyddu gwirfoddoli. Felly, mewn amryw o ffyrdd, mae’r Eisteddfod eisoes yn cael dylanwad ac yn ymestyn i’r cymunedau cyfagos yn barod, ac mae hynny’n beth positif iawn, ac wrth wneud hynny, yn y pen draw, rŷn ni’n sicrhau’r gwaddol hollbwysig hwnnw. O ran Eisteddfod fforddiadwy, Eisteddfod am ddim, dwi’n credu y gwnaeth yr Aelod sôn, fel y mae hi’n gwybod, mae cyllideb Llywodraeth Cymru o dan bwysau sylweddol iawn. Dwi wedi siarad yn barod gyda phrif weithredwr yr Eisteddfod am sefyllfa’r Eisteddfod ym Mhontypridd, ac mae swyddogion wedi gofyn i’r Eisteddfod a’i phartneriaid am opsiynau posib i ni eu hystyried. Gallaf i ddim ymrwymo i unrhyw beth ar hyn o bryd, ond mae’r trafodaethau hynny yn digwydd yn barod. Addysg Blynyddoedd Cynnar John Griffiths AC: 7. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith ei pholisïau ar addysg blynyddoedd cynnar? OQ60704 Jeremy Miles AC: Rydym yn ymgysylltu'n rheolaidd ag addysgwyr blynyddoedd cynnar, darparwyr gofal plant a'n partneriaid, gan gynnwys Estyn, awdurdodau lleol, a sefydliadau ymbarél fel Mudiad Meithrin, i ddeall ein llwyddiannau a'n heriau yn y blynyddoedd cynnar yn y ffordd orau, ac i barhau i ymateb i anghenion y sector. John Griffiths AC: Diolch am hynny, Weinidog. Rwy'n credu ei bod yn amlwg o ddigonedd o dystiolaeth pa mor bwysig yw'r blynyddoedd cynnar, a gwn ei fod yn un o flaenoriaethau trawsbynciol Llywodraeth Cymru, ac rwy'n credu y dylid diffinio dim i saith oed fel y blynyddoedd cynnar hynny. Ac rydym yn gwybod o fewn hynny fod y tair blynedd gyntaf yn arbennig o bwysig, o ystyried y twf niwrolegol cyflym yn ystod yr oedrannau hynny. Mae'n amlwg, onid yw, Weinidog, fel y dywedais, gyda digonedd o dystiolaeth, fod buddsoddi yn y blynyddoedd cynnar yn creu manteision gydol oes. Mae'n fuddsoddiad sy'n creu manteision hirdymor mewn gwirionedd. O ystyried hynny, a allech chi roi blas i ni o farn Llywodraeth Cymru a'ch barn chi, Weinidog, ynglŷn â'r modd yr adeiladwn ar y buddsoddiad a wnaethom eisoes i flaenoriaethu'r blynyddoedd hyn sydd mor hollbwysig? Jeremy Miles AC: Rwy'n cytuno â'r hyn y mae John Griffiths yn ei ddweud am bwysigrwydd darpariaeth y blynyddoedd cynnar iawn i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob un o'n pobl ifanc. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yw dull cydgysylltiedig o weithredu ar chwarae plentyndod cynnar, ac ar ddysgu a gofalu, y math o ddull yr ydym yn ei gefnogi fel Llywodraeth ac y gobeithiaf y byddwn yn parhau i'w gefnogi. Dyna'r ffordd orau, rwy'n credu, o gefnogi meithrin, dysgu, datblygiad pob plentyn dim i bum mlwydd oed yng Nghymru. Rwy'n falch iawn ein bod wedi ehangu darpariaeth Dechrau'n Deg, ac rydym yn sicr ar y trywydd iawn i sicrhau ein bod yn darparu mynediad i 9,500 o blant eraill dwyflwydd oed. Ac rwy'n credu bod hynny'n wych, ac rwy'n credu bod gallu gwneud hynny y tu allan i'r cyfyngiadau daearyddol, sydd wedi bod yno am resymau amlwg hyd yma, yn gadarnhaol iawn. Ac eleni a'r flwyddyn nesaf rydym yn buddsoddi £46 miliwn yn yr ehangu, ac fe wyddom fod y cynnig y mae Dechrau'n Deg yn ei ddarparu ar ffurf y pecyn cymorth ychwanegol hwnnw, yn seiliedig ar dystiolaeth dda iawn ac yn effeithiol iawn wrth gefnogi plant ifanc a'u rhieni. Ar y llaw arall, mae gennym gynnig gofal plant sydd, fel y gwyddoch, yn darparu hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant a ariennir gan y Llywodraeth. Ac rwy'n credu mai'r allwedd yw cryfhau nawr ac adeiladu ar ddarpariaeth addysg gynnar gyffredinol a sicrhau ein bod yn canolbwyntio, ar y dechrau o leiaf, ar ehangu'r cynnig i'n plant dwyflwydd oed, ac adeiladu ar hynny. Cyllidebau Addysg Janet Finch-Saunders AC: 8. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ynghylch y toriadau addysg a gynigiwyd gan ei gabinet? OQ60686 Jeremy Miles AC: Mae'n hanfodol fod sianeli cyfathrebu yn weithredol, yn enwedig mewn cyfnod heriol yn ariannol. Rwy'n ymgysylltu'n agos â llywodraeth leol ar faterion cyllidebol ac yn cyfarfod ag arweinwyr drwy'r is-grŵp cyllid a grwpiau eraill, fel y bo'n briodol. Byddaf hefyd yn ymweld ag ysgolion i wrando'n uniongyrchol ar brofiadau ariannu penaethiaid. Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair. Janet Finch-Saunders AC: Diolch. O ganlyniad i setliad gwael iawn Llywodraeth Cymru i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, maent bellach yn eistedd mewn twll gwerth £25 miliwn ac yn bwriadu codi'r dreth gyngor gymaint ag 11 y cant, o bosibl. Dyna oedd yr uchaf ar 9.9 y cant y llynedd. Nawr, fe fyddwch yn ymwybodol fod nifer o benaethiaid wedi ysgrifennu i ofyn am ein cefnogaeth—sut y gallwn ganiatáu i'r toriadau addysg hyn ddigwydd. Nawr, roedd stori gan un o fy etholwyr yn sefyll allan i mi, a dywedodd fod merch 16 oed wedi ceisio cyflawni hunanladdiad oherwydd ei hiechyd meddwl ofnadwy. Mae'n esbonio, oni bai am y gwasanaeth bugeiliol a ddarparwyd gan yr ysgol, na fyddai wedi gallu dal ati am lawer hirach. Siaradais â'r pennaeth y bore yma a dywedodd nawr, gyda'r cwricwlwm ychwanegol, gyda'r holl bethau eraill sy'n cael eu cyflwyno, rheoliadau a lle rydych chi'n rhoi beichiau ar eu hysgwyddau, eu bod yn rhedeg yn brin o arian yn gyflym. Bydd y toriadau hyn yn peryglu'r gwasanaethau hanfodol hyn. Beth ydych chi'n mynd i'w wneud i fynd i'r afael â'r toriadau hyn gyda'ch Cabinet eich hun a sicrhau bod setliad ariannu gwell yn dod i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy? Diolch. Jeremy Miles AC: Diolch i Janet Finch-Saunders am y cwestiwn. Rydym wedi blaenoriaethu diogelu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen craidd, gan gynnwys ysgolion, drwy ddiogelu'r cynnydd dangosol a ddynodwyd gennym ar gyfer llywodraeth leol, sef 3.1 y cant yn gyffredinol. Fe fydd hi'n gwybod, yn fwyaf arbennig yn achos Conwy a nifer fach o awdurdodau lleol, fod y Llywodraeth wedi darparu cyllid ychwanegol—£1.3 miliwn yn achos Conwy—i sicrhau na fydd yr un awdurdod yn cael llai na chynnydd o 2 y cant, a thrwy hynny'n cyflwyno cyllid gwaelodol effeithiol eleni, o ystyried effaith y dyraniad a'r fformiwla a fyddai wedi golygu fel arall fod y lefel o 2 y cant wedi'i thorri. Bydd setliad terfynol 2024-25 yn cael ei gyhoeddi ar 27 Chwefror, a bydd yn cynnwys cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU, sydd wedi arwain at ddyraniad canlyniadol o tua £25 miliwn i Gymru. Mae hwn yn cael ei ddyrannu i lywodraeth leol yn llawn, gyda rhan o'r cyllid yn cael ei ddefnyddio i adfer grant y gweithlu gofal cymdeithasol a'r gweddill yn cael ei ddyrannu i'r grant cynnal refeniw fel rhan o'r setliad, a fydd wedyn yn galluogi cynghorau i gynnal y pwysau hwn ym maes gofal cymdeithasol ac mewn addysg. Rwyf am ei hatgoffa, er hynny, hyd yn oed ar adegau pan fo Llywodraeth Cymru wedi diogelu cyllidebau awdurdodau lleol yn gyfan gwbl, fod Conwy o dan y weinyddiaeth Geidwadol flaenorol wedi torri dros 3 y cant oddi ar gyllidebau ysgolion. Ac os nad yw'n fy nghredu i, gall ofyn i'w chyd-Aelod y tu ôl iddi, a oedd yn arweinydd ar yr adeg y digwyddodd hynny. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Ac yn olaf, cwestiwn 9, Sioned Williams. Cefnogi Dysgwyr Ôl-16 sydd ag Anableddau Dysgu Sioned Williams AS: 9. Sut mae'r Llywodraeth yn cefnogi dysgwyr ôl-16 sydd ag anableddau dysgu yng Ngorllewin De Cymru? OQ60679 Jeremy Miles AC: Mae’r system anghenion dysgu ychwanegol yn cefnogi dysgwyr i fyny at 25 oed sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yng Ngorllewin De Cymru. Yng nghyllideb ddrafft y flwyddyn nesaf, dwi wedi diogelu ein buddsoddiad sylweddol yn narpariaeth ADY ôl-16 gydag £19.8 miliwn i golegau addysg bellach ac £13.8 miliwn i leoliadau arbenigol ôl-16. Sioned Williams AS: Diolch, Weinidog. Ysgrifennais atoch yn ddiweddar, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar anabledd dysgu, ac yn y llythyr fe godais nifer o faterion y credai'r grŵp fod angen mynd i'r afael â nhw er mwyn sicrhau nad yw pobl ifanc ag anabledd dysgu dan anfantais annheg wrth geisio cael mynediad at addysg ôl-16, sydd, wrth gwrs, yn gallu cael effaith sylweddol ar eu hiechyd meddwl a'u lles, yn ogystal â'u haddysg a'u rhagolygon gyrfa. Ac yn eich ymateb, fel y gwnaethoch chi nawr, fe ddywedoch chi eich bod wedi diogelu cyllid ar gyfer darpariaeth ADY ôl-16 a lleoliadau arbenigol yn y gyllideb ddrafft. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyfrifol am wneud penderfyniadau ynghylch ariannu lleoliadau i bobl ifanc sydd angen y mynediad hwnnw at ddarpariaeth arbenigol, ond bydd hyn yn newid fel rhan o'r system ADY, gyda chyfrifoldeb a chyllid yn cael eu trosglwyddo i awdurdodau lleol. Felly, a allwch chi gadarnhau pryd y bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi trefniadau ar gyfer y ffordd y bydd cyllid ar gyfer dysgwyr a allai fod angen y lleoliadau hynny mewn colegau arbenigol yn cael ei ddiogelu pan fydd y cyllid wedi'i ddatganoli'n llawn i awdurdodau lleol, er mwyn sicrhau bod pob dysgwr yn gallu cael mynediad at y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd ei hangen arnynt yn unol â'u cyfoedion llai anabl? Diolch. Jeremy Miles AC: Yn sicr. Dyma yw'r flwyddyn gyntaf y bydd y diwygiadau ADY newydd yn cael eu cyflwyno ar ôl 16 wrth gwrs, felly dyma ddechrau'r broses honno o eleni ymlaen. Felly, ar un ystyr, mae'n ddyddiau cynnar ar weithredu'r gyfundrefn ADY ôl-16, ond mae'r arweinydd gweithredu cenedlaethol wedi bod yn gweithio'n agos gyda cholegau—swydd sy'n cael ei chynnal o fewn ColegauCymru—ac rwy'n credu, ar lawr gwlad, fod hynny wedi golygu bod colegau wedi gallu addasu'n eithaf cyflym i'w cyfrifoldebau newydd ac maent wedi gallu ailstrwythuro eu trefniadau lle bu'n rhaid, hyfforddi staff a datblygu gwell darpariaeth ddysgu ychwanegol, ac yn bwysig, maent wedi gweithio ar y prosesau pontio a fydd yn sicrhau bod y lefel gywir o gymorth yno i bobl ifanc wrth iddynt symud o ysgol i goleg. Mae hi'n iawn i ddweud y bydd y cyfrifoldeb yn cael ei drosglwyddo gan Lywodraeth Cymru i gynghorau mewn perthynas â'r cyllid ar gyfer cefnogi'r bobl ifanc hyn. Byddwn yn parhau i ddiogelu ac ariannu lleoliadau ôl-16 arbenigol ar gyfer y bobl ifanc nad ydynt eto wedi symud i'r system ADY, ac rydym wedi rhoi trefniadau a chanllawiau interim ar waith i awdurdodau lleol wneud penderfyniadau ar leoliadau i'r rhai sy'n symud i'r system ADY o 2023 tan 2024-25. Y disgwyl yw y bydd cyllid llawn yn cael ei drosglwyddo i awdurdodau lleol erbyn diwedd blwyddyn ysgol 2024-25, ac rydym ar hyn o bryd yn trafod gydag awdurdodau lleol sut i weithredu hyn yn y ffordd orau, a phan ddaw'r trafodaethau hynny i ben, byddaf yn gallu darparu rhagor o wybodaeth. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Diolch i'r Gweinidog. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Sam Rowlands, pwynt o drefn. Sam Rowlands AS: Ie. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n siŵr fod y Gweinidog yn anfwriadol wedi dweud rhywbeth eiliad yn ôl nad oedd yn gywir wrth gyfeirio ataf i—y toriad o 3 y cant i ysgolion yng Nghonwy o'r blaen—fel arweinydd y cyngor. Digwyddodd hynny dan arweiniad Gareth Jones, cyn-Aelod Plaid Cymru o'r Cynulliad hwn fel yr oedd ar y pryd. Felly, rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog yn hoffi cywiro hynny. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Diolch am nodi hynny, Sam. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn ystyried hynny'n ofalus iawn ac mae'n ddigon posibl y daw yn ôl atom ar hynny, ond mae wedi'i gofnodi. 3. Cwestiynau Amserol Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Eitem 3, cwestiynau amserol. Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau amserol. 4. Datganiadau 90 Eiliad Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Felly, symudwnymlaen at eitem 4, datganiadau 90 eiliad, ac mae'r datganiad gyntaf gan Peter Fox. Peter Fox AS: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Eleni, rydym yn coffáu pum mlynedd ar hugain ers agor Hosbis Plant Tŷ Hafan, sy'n cefnogi plant sy'n ddifrifol wael a'u teuluoedd ar draws de a gorllewin Cymru. Nid yn unig eu bod wedi gofalu am 1,051 o blant ers agor eu drysau, gan ddarparu seibiant, therapi ac eiriolaeth, erbyn hyn mae ganddynt 17 o siopau ledled Cymru, gyda chyfanswm o 517 o wirfoddolwyr ar draws eu gwasanaeth. Mae angen gwaith Tŷ Hafan nawr yn fwy nag erioed gan fod nifer y plant â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd yng Nghymru wedi cynyddu 25 y cant yn ystod y degawd diwethaf. Heddiw, yma yng Nghymru, mae 3,655 o blant yn dioddef o gyflwr sy'n cyfyngu ar fywyd, gydag oedran cyfartalog atgyfeiriad i Tŷ Hafan yn ddim ond blwydd oed. O hyn, mae'n amlwg y bydd gwaith Tŷ Hafan yn parhau i fod yn bwysicach fyth yn ein cymdeithas, a rhaid parhau'r cyllid i'w redeg. Fel Aelodau'r Senedd, ein cyfrifoldeb ni hefyd yw sicrhau ein bod yn hyrwyddo eu gwaith i gyrraedd plant yn ein cymunedau ein hunain. I gloi, ni ellir gorbwysleisio maint eu gwaith dros blant a theuluoedd, ac rwy'n teimlo'n freintiedig yn coffáu eu pen-blwydd yn bump ar hugain oed yma yn y Senedd heddiw. Janet Finch-Saunders AC: Rydym yn ffodus iawn heddiw i fyw mewn cymdeithas gynhwysol a charedig. Mae pobl o bob cefndir a gallu yn cymryd rhan yn y gymdeithas o ddydd i ddydd. Fodd bynnag, er bod y newid hwn yn gadarnhaol, mae mwy y gallwn ei wneud. Yn anffodus, mae stigma o hyd yn gysylltiedig â rhai sydd ag anableddau ac anghenion addysgol arbennig. Gyda dros 63,000 o blant yn ein hysgolion yng Nghymru ag anghenion addysgol arbennig, mae'n hanfodol ein bod yn parhau i agor cyfleoedd iddynt ac annog y parch y maent yn ei haeddu. Dyma pam y mae etholwr i mi, Sylvia Harper, ac un arall o fy etholwyr, Holly Morgan, 15 oed, wedi creu cyfres o lyfrau gyda'r nod o greu ymwybyddiaeth ac i geisio creu gwell dealltwriaeth rhwng plant ag anghenion arbennig a'r rhai heb anghenion arbennig. Fel yr eglura Sylvia: 'Ar ôl sylwi ar y bwlio a'r plagio y mae fy nau or-ŵyr wedi gorfod ei ddioddef dros y blynyddoedd diwethaf, sylweddolais ei fod yn deillio o gamddealltwriaeth.' Mae'r gyfres o lyfrau'n ymdrin â phynciau fel byddardod, dallineb, awtistiaeth ac anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd. Maent yn lliwgar, yn llachar ac yn fywiog ac mae ganddynt gydbwysedd o destun a lluniau i gynorthwyo dealltwriaeth o'r straeon hyn. Rwy'n credu y dylai'r llyfrau hyn fod ym mhob meithrinfa ac ysgol ledled Cymru, a dyma yw eu huchelgais yn wir. Mae angen help arnynt i gyflawni hyn, felly hoffwn ofyn i'r Aelodau edrych ar y llyfrau hyn yn eich etholaethau eich hun. Gwelaf botensial yma am stori Gymreig wych—un ag iddi ddechreuadau bach a fydd yn meithrin rhinweddau parch, cydnabyddiaeth a chyfrifoldeb ymhellach. Diolch. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Diolch i chi'ch dau. 5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, 'Ymchwiliad i lywodraethiant y DU a’r UE' Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Eitem 5 heddiw yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, 'Ymchwiliad i lywodraethiant y DU a'r UE'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Huw Irranca-Davies. Cynnig NDM8488 Huw Irranca-Davies Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad sef 'Ymchwiliad i lywodraethiant y DU a’r UE', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Tachwedd 2023. Cynigiwyd y cynnig. Huw Irranca-Davies AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae perthynas y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd yn dal i fod o bwys mawr i ddinasyddion Cymru, ac yn parhau i effeithio ar sawl agwedd ar ein bywydau bob dydd. Ers i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd bedair blynedd yn ôl, mae strwythurau newydd a chymhleth wedi dod i'r amlwg o dan y cytundeb ymadael a'r cytundeb masnach a chydweithredu, o ran llywodraethu'r berthynas rhwng y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd. Y Senedd a Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am roi agweddau mawr o'r cytundebau hyn ar waith, gan eu bod yn trawstorri meysydd polisi neu feysydd diddordeb datganoledig sylweddol. Mae datblygu'r strwythurau newydd a'u rhoi ar waith wedi golygu negodi ac addasu'n barhaus, wrth i'r ddwy ochr fynd i'r afael â hyd a lled y newidiadau yn ein perthynas. Nid syndod, felly, yw fod llawer o'r ffocws wedi bod ar yr hyn sydd wedi'i gynnwys yn y berthynas rhwng y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd, a'r cytundebau sy'n ei llywodraethu, yn hytrach na'r modd y caiff ei rheoli a phwy all ddweud eu dweud o ran y penderfyniadau a wneir. Huw Irranca-Davies AC: Ceisiodd ein hymchwiliad ystyried a mynd i'r afael â materion eithaf sylfaenol cynrychiolaeth ac ymgysylltu a gwneud penderfyniadau, ac awgrymu sut y gellid gwneud gwelliannau. Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb a roddodd amser i gyfrannu drwy ddarparu tystiolaeth am eu safbwyntiau a'u profiadau, gan gynnwys yn ystod ymweliad â Brwsel ym mis Medi y llynedd. Clywsom yn glir gan dystion yn y DU ac yn yr UE fod llofnodi fframwaith Windsor, y saib yn y trafodaethau a ddaeth yn sgil etholiadau ar y ddwy ochr, a'r adolygiad sydd ar y ffordd o weithrediad y cytundeb masnach a chydweithredu, wedi creu cyfle prin i fyfyrio ar yr hyn y mae Cymru a'r DU ei eisiau o'i pherthynas â'r UE yn y dyfodol. Teimlwn y dylem fanteisio ar y cyfle hwn i ystyried sut mae'r berthynas wedi gweithio hyd yma ac i gymryd camau cadarnhaol ac adeiladol i wella ei rheolaeth yn y dyfodol. Er ei bod yn cytuno ag ysbryd ein hadroddiad, dim ond pump o'r 20 argymhelliad a gyfeiriwyd tuag ati y mae Llywodraeth Cymru wedi'u derbyn yn llawn. Mae hynny braidd yn siomedig o ystyried yr hyn y credwn ei fod yn gyfle sydd gennym, ond rwy'n dal i fod yn obeithiol y bydd canlyniadau cadarnhaol yn deillio o'r argymhellion a wnaethom. Dywedodd tystion wrthym fod rôl Llywodraethau datganoledig mewn penderfyniadau ynghylch y DU a'r UE wedi lleihau ar ôl Brexit. Mae hyn yn groes i'r pŵer sylweddol sydd gan strwythurau llywodraethiant y cytundebau, sy'n caniatáu i benderfyniadau gael eu gwneud a allai gyfyngu ar y defnydd o bwerau datganoledig gan Weinidogion Cymru a'r Senedd. Felly, daethom i'r casgliad fod achos cymhellol a chadarnhaol dros ddychwelyd at sefyllfa lle'r ymgynghorir â Llywodraethau datganoledig yn briodol ar feysydd o fewn eu cyfrifoldeb. Bydd gwell dealltwriaeth o faterion datganoledig ar bob lefel yn darparu gwybodaeth ymarferol bwysig, profiad a thystiolaeth i Lywodraeth y DU, gan gynnwys ar rwystrau posibl i weithredu, yn ogystal ag osgoi costau ac oedi diangen. Huw Irranca-Davies AC: Mae gan bob un o bedair Llywodraeth y DU eu harbenigedd a'u profiad eu hunain y gallant eu cynnig i'r bwrdd. Yn wir, cyn i'r DU adael yr UE, roedd hi'n arfer cyffredin i'r Llywodraethau datganoledig gymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu safbwynt y DU ar gynigion yr UE. Ni ddylid tanbrisio gwerth yr arbenigedd cyfunol hwn. Gallai darparu ymgysylltiad a mewnbwn mwy ystyrlon i'r Llywodraethau datganoledig gynhyrchu syniadau ac atebion a fyddai'n fuddiol i'r DU gyfan. Yn aml mae galwadau am fwy o rôl i ddeddfwrfeydd datganoledig a Llywodraethau yn y strwythurau newydd wedi arwain at honiadau y bydd dull o'r fath rywsut yn tanseilio safbwynt y DU, neu fod anhawster y penderfyniadau sydd angen eu gwneud yn golygu bod angen canoli mwy ac un llais, ond mae hyn yn methu'r achos adeiladol sydd i'w wneud dros amrywiaeth o leisiau ar y ddwy ochr. Mae gwahaniaethau mewn daearyddiaeth, hanesion, economïau a diwylliannau yn golygu bod y cenhedloedd a'r rhanbarthau ac ardaloedd o'r DU a'r UE wedi datblygu eu gwybodaeth eu hunain a'u hatebion eu hunain. Felly, mae tystiolaeth gref i gefnogi'r angen am rôl well i Lywodraethau datganoledig yn y strwythurau llywodraethiant. Efallai fod y berthynas rynglywodraethol a chytundeb ar y berthynas rhwng y DU a'r UE wedi dirywio ar ôl Brexit, ond gellid eu gwella'n hawdd, felly mae ein hadroddiad yn nodi cyfres o argymhellion ar sut y gellid cynnwys mwy o leisiau yn y dyfodol, gan ddatblygu'r berthynas rhwng y DU a'r UE. Gellir cyflawni tri cham ar unwaith. Yn gyntaf, adolygiad brys gan Lywodraethau'r DU o egwyddorion a thelerau ymgysylltiad y Llywodraethau datganoledig â'r berthynas rhwng y DU a'r UE, a mabwysiadu memorandwm cyd-ddealltwriaeth newydd ar yr union fater hwn. Yn ail, dylid galw cyfarfodydd y Grŵp Rhyngweinidogol ar Gysylltiadau rhwng y DU a'r UE ymhell cyn cyfarfodydd allweddol y DU a'r UE i alluogi ymgynghori ac ymgysylltu priodol â'r Llywodraethau datganoledig. Ac yn ogystal, dylid rhoi cyfle i'r Llywodraethau datganoledig awgrymu eitemau agenda i'w trafod rhwng y DU a'r UE. Rydym yn credu bod hwnnw'n ddull aeddfed o weithio. Ac yn drydydd, mae'r pwyllgor yn cefnogi galwad Llywodraeth Cymru iddo gael rôl lawnach yn strwythurau llywodraethiant y cytundeb masnach a chydweithredu, ac i gael statws sylwedydd mewn cyfarfodydd llywodraethiant o dan y cytundeb ymadael pan drafodir materion sy'n ymwneud â Chymru, megis porthladdoedd a materion eraill. Mae Prif Weinidog Cymru wedi derbyn mewn egwyddor ein hargymhellion ar gyfer gwelliannau i'r strwythurau rhynglywodraethol, ond mae'n dweud nad yw'n disgwyl gweld cynnydd arnynt gyda Llywodraeth bresennol y DU. Fodd bynnag, rydym yn dal i fod yn argyhoeddedig fod llawer i'w ennill o hyd o fabwysiadu ymagwedd gadarnhaol a rhagweithiol tuag at berswadio eraill o'r manteision a ddaw yn sgil newidiadau o'r fath. Felly, rydym yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn uchelgeisiol dros y 12 mis nesaf wrth geisio'r gwelliannau a awgrymwn, gan fanteisio ar y cyfle prin a gyflwynwyd i ni nawr. Nododd rhanddeiliaid yng Nghymru ac ym Mrwsel nad oeddent yn gwybod beth yw blaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer y berthynas rhwng y DU a'r UE ac yn ystod cyfnod o adnoddau cyfyngedig, ei bod hyd yn oed yn bwysicach iddynt allu gwneud hyn i ganolbwyntio eu hymdrechion eu hunain i gefnogi cyflawniad blaenoriaethau Cymru. Felly, os yw Cymru am wneud y mwyaf o'r cyfle y mae'r 12 mis nesaf yn ei roi i ni, mae'n hanfodol dod o hyd i fecanwaith i fynegi blaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru yn glir mewn ffordd agored a thryloyw iawn. Mae awydd clir iddynt wneud hynny gan randdeiliaid y gwnaethom siarad â nhw. Byddai hyn yn galluogi pob corff a phob sefydliad i weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i gyflawni canlyniadau cadarnhaol a diriaethol i gymunedau ledled Cymru. Roeddem yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru fynegi'r blaenoriaethau hyn yn glir, naill ai mewn strategaeth benodol neu mewn strategaeth ryngwladol newydd, a hefyd y dylai Llywodraeth Cymru ddechrau ymgynghori â chymdeithas sifil a rhanddeiliaid yng Nghymru ar y blaenoriaethau hyn a'i gweledigaeth ar unwaith. A chyda llaw, mae hyn yn adleisio galwadau tebyg a wnaed gan bwyllgor diwylliant y Senedd hefyd wrth gwrs. Nawr, mae'r Prif Weinidog wedi dweud nad oes angen strategaeth benodol ar gyfer yr UE, ond bydd diweddariad ysgafn o'r strategaeth ryngwladol cyn diwedd tymor y Senedd hon yn gwneud dimensiwn Ewropeaidd y strategaeth yn fwy eglur. Mae'n wir, fel y dywed y Prif Weinidog, nad oes llawer yn debygol o ddigwydd o ran y berthynas rhwng y DU a'r UE yn ystod y 12 mis nesaf. Rydym yn deall hynny. Fodd bynnag, dyna'n union pam y dylid gwneud gwaith nawr i ddatblygu'r blaenoriaethau ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, fel bod Cymru yn y sefyllfa orau bosibl i nodi ei safbwyntiau pan fydd busnes yn dychwelyd i normal. Rydym yn gobeithio y bydd adnewyddu'r strategaeth ryngwladol yn digwydd yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach yn nhymor y Senedd hon. Hoffwn gyffwrdd ag un agwedd arall ar ein hadroddiad cyn tynnu fy sylwadau agoriadol i ben. Mae tystiolaeth a gasglodd y pwyllgor yng Nghymru ac ym Mrwsel yn dangos gwerth cyngor ac ymgysylltiad cymdeithas sifil wrth reoli'r berthynas rhwng y DU a'r UE. Busnesau a sefydliadau ar lawr gwlad sy'n teimlo effaith rhwystrau ymarferol yn gyntaf, ac yn aml, nhw sydd â'r rhan fwyaf o'r atebion. Felly, byddai Llywodraeth Cymru a'r Senedd yn gwneud anghymwynas â Chymru os nad ydynt yn ymgysylltu'n well â'r grwpiau hyn ar y mater. Ar hyn o bryd, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yw'r unig lais penodol o Gymru ar y grŵp cymdeithas sifil a sefydlwyd o dan y cytundeb masnach a chydweithredu. Yr unig reswm y mae'n gallu ei fynychu yw oherwydd cyllid grant a allai ddod i ben eleni, ac ni all hyn fod yn sefyllfa gynaliadwy yn y tymor hir. Felly, fe wnaethom argymell y dylai Llywodraeth Cymru ail-gyfansoddi grŵp cynghori Ewropeaidd sy'n addas ar gyfer yr amgylchiadau presennol i lywio ei gwaith Ewropeaidd, a dylai alw ar Lywodraeth y DU i ddarparu cyllid i sefydliadau'r DU sy'n cymryd rhan yn strwythurau cymdeithas sifil y DU a'r UE ac yn absenoldeb cyllid o'r fath, dylai ystyried rhoi cefnogaeth ei hun. Huw Irranca-Davies AC: Sylwaf, Dirprwy Lywydd, fod y Prif Weinidog yn dweud na fydd yn rhoi blaenoriaeth i ddwyn mater y grŵp cynghori newydd yn ei flaen, gan mai mater i’w olynydd ei ystyried yw hynny. Byddwn yn sicr yn parhau i eirioli’n gryf dros gynnull y grŵp hwn, a dŷn ni'n edrych ymlaen at godi’r materion hyn gyda’i olynydd ar yr adeg briodol. Rydym yn croesawu’r ymateb gan y Llywydd ar ran Comisiwn y Senedd, sy’n nodi bod swyddogion Comisiwn y Senedd yn hapus i archwilio ein hargymhellion ar gefnogi ymgysylltiad cymdeithas sifil pellach â’r pwyllgor, Cadeiryddion pwyllgorau perthnasol eraill ac Aelodau’r Senedd sydd â rolau perthnasol. Ein gobaith yw y bydd hyn yn cynnig cyfle i wneud yn siŵr bod y lleisiau pwysig hyn yn cael eu clywed. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. James Evans AS: Hoffwn ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad am roi trosolwg trylwyr iawn o’r hyn a nodir yn ein hadroddiad. Mae'n debyg ei fod wedi dweud llawer o'r hyn yr oeddwn innau am ei ddweud, felly bydd yn rhaid imi fyrfyfyrio rywfaint. Hoffwn ddiolch hefyd i holl staff y pwyllgor a helpodd i ddwyn hyn ynghyd, oherwydd hebddynt, ni fyddem yn gallu gwneud gwaith o'r fath, a hefyd y bobl y cyfarfuom â nhw yn ystod ein sesiynau casglu tystiolaeth, gan fod siarad â’r arbenigwyr hynny a phobl allan yno sy'n gwybod am beth maent yn sôn bob amser yn dda iawn i bobl fel fi, nad ydym, efallai, yn arbenigwyr ym maes llywodraethiant yr UE neu negodiadau. Ond fel yr amlinellodd Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, mae ein perthynas â’r UE yn y dyfodol yn parhau i fod yn un o’r cysylltiadau rhyngwladol pwysicaf sydd gennym. Wedi inni adael yr UE bedair blynedd yn ôl, nid yw’r broses i gyrraedd lle rydym arni wedi bod yn un esmwyth iawn—mae wedi bod braidd yn anwastad ac yn anodd weithiau—ond credaf ein bod mewn lle llawer mwy sefydlog. Ac fel pwyllgor, nid ein rôl ni yw gwneud sylwadau ar sut olwg a ddylai fod ar y negodi, ond ein rôl ni yw edrych ar ffyrdd diriaethol o sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed yn yr UE ac yn Llywodraeth y DU, ac yn enwedig gyda’r adolygiad sydd ar ffordd o’r cytundeb masnach a chydweithredu, mae angen inni sicrhau bod Llywodraeth Cymru a’r Senedd hon yn cael cymaint o gyfle â phosibl i gyfrannu at hynny. Mae’r trefniadau llywodraethiant yn elfen allweddol ar gyfer sicrhau bod gan Gymru lais. Dywedir wrthym y gallai Comisiwn yr UE a Llywodraeth y DU wneud penderfyniadau unochrog a allai newid y cytundeb ymadael a’r cytundeb masnach a chydweithredu heb unrhyw oruchwyliaeth seneddol ddatganoledig. Nid yw hynny'n iawn, a dyna sydd angen i ni ei sicrhau drwy'r hyn rydym wedi'i wneud drwy argymhellion, y gobeithiwn y bydd y Llywodraeth yn bwrw ymlaen â nhw, y gallwn gael dweud ein dweud mewn rhai o'r negodiadau hyn er mwyn sicrhau, gyda rhai o'r meysydd y mae gan yr UE nawr a Llywodraeth y DU bŵer drosom yma, fod gennym fwy o fewnbwn yn hynny o beth er mwyn sicrhau ei fod er budd gorau Cymru. Dyna pam ei bod yn hollbwysig inni fonitro'n agos iawn y newidiadau—mae hynny yn ein hadroddiad—i gyfraith yr UE a allai effeithio ar fusnesau yma yng Nghymru a ledled y DU, gan fod angen inni sicrhau nad oes unrhyw un o’n busnesau yma yn cael eu heffeithio’n andwyol gan newidiadau i gyfraith yr UE. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod yn chwarae rhan allweddol yn Ewrop er mwyn sicrhau nad oes unrhyw beth yn newid er anfantais i ni yma. Dywedwyd drwy gydol yr ymchwiliad, a chan bobl y cyfarfuom â nhw, fod newidiadau gwleidyddol mwy diweddar yn San Steffan wedi caniatáu cyfnod mwy sefydlog rhwng y DU a’r UE. Pan oeddem ym Mrwsel, roedd yn dweud y cyfan fod pawb y gwnaethom gyfarfod â nhw wedi dweud nad yw wedi bod yn hawdd ers inni bleidleisio i adael, ond ymddengys bellach fod parodrwydd a ffocws gan y ddwy ochr—gan Lywodraeth y DU a'r Comisiwn Ewropeaidd—i wneud i'r cytundeb hwn weithio, er lles y ddwy ochr. Fel pwyllgor, roedd pob un ohonom yn teimlo bod y berthynas sefydlog newydd yn rhoi cyfle inni ailedrych ar y strwythurau llywodraethiant, a sut y gallwn chwarae rhan fwy gweithredol o fewn y strwythurau presennol, fel y gwn fod y Cadeirydd a fy nghyd-Aelod, Alun Davies, ac Aelodau eraill, yn ei wneud. Gwnaeth y pwyllgor nifer o argymhellion i’r Llywodraeth, a hoffwn ganolbwyntio ar rai ohonynt. Mae argymhelliad 3 yn nodi ein safbwynt ein bod yn credu y dylid rhoi statws llawn i Lywodraeth Cymru ar y cyngor partneriaeth, ac y dylai barhau i gael statws sylwedydd yn yr holl gyfarfodydd perthnasol. Credwn fod hyn yn bwysig iawn, gan ein bod yn awyddus i sicrhau bod llais y Llywodraeth ddatganoledig yma yng Nghymru yn cael ei glywed—ac nid ni yma yng Nghymru yn unig, ond y gweinyddiaethau datganoledig yn yr Alban, ac yng Ngogledd Iwerddon hefyd—i sicrhau eich bod yn cael cyfle i gymryd rhan mewn unrhyw benderfyniadau a wneir er mwyn sicrhau nad ydym yn cael ein hanghofio. Mae argymhelliad 5 yn galw am femorandwm cyd-ddealltwriaeth newydd ar gyfer y Grŵp Rhyngweinidogol ar Gysylltiadau’r DU a’r UE, fel ei bod yn amlwg pa lefel o ymgysylltiad sydd gan y gweinyddiaethau datganoledig, gan fod y model presennol yn ad hoc iawn. O'r hyn y cawn ein harwain i gredu, weithiau mae Gweinidogion yn cael eu cynnwys, weithiau nid ydynt yn cael eu cynnwys mewn pethau, ac ni chredaf fod honno'n ffordd briodol o weithredu cytundeb neu gytundeb masnach. Mae argymhelliad 11 yn gofyn am gyfranogiad uniongyrchol Llywodraeth Cymru yn rhwydweithiau’r UE. Credaf fod bod yn rhan o rai o’r rhwydweithiau hyn yn hanfodol i Gymru os ydym am lwyddo fel cenedl hefyd, i sicrhau ein bod yn rhannu gwybodaeth rhwng sefydliadau. Soniodd Alun Davies am rywbeth pan oedd yn Ynysoedd Falkland, am bont fyw—rwy'n siŵr y bydd yn sôn am hynny eto—ynglŷn â'r modd y byddwn yn siarad rhwng sefydliadau. Mae’n gadarnhaol iawn fod y DU wedi ailymuno â rhwydwaith Horizon hefyd, fel y gallwn rannu gwybodaeth yno. A byddwn yn annog llunwyr polisi mewn mannau eraill i edrych ar sefydliadau eraill yr UE y gallwn ymuno â nhw, gan y credaf mai dyna'r ffordd orau o ddysgu a meithrin arbenigedd. Ni allwn ailddyfeisio'r olwyn yma, ond os gallwn ddysgu o rywle arall, mae hynny hefyd yn bwysig iawn. Mae argymhelliad 14 hefyd yn sôn am dryloywder, a’r angen i Lywodraeth Cymru fod yn fwy agored gyda’r Senedd ynglŷn â’r cyfarfodydd a gânt pan fyddant yn sôn am y berthynas rhwng y DU a’r UE. Ac rwy'n credu y byddai’n ein helpu ni yma fel Senedd, a’r holl bwyllgorau perthnasol, i wybod mwy am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud a’r weledigaeth sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gweithio o fewn yr Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol. Gwn nad yw’r ddau ymgeisydd yn y ras am yr arweinyddiaeth yma, ond fel y dywedodd y Cadeirydd, byddai’n ddiddorol iawn gwybod, pan fydd gennym Brif Weinidog newydd yma, beth yw ei weledigaeth a beth yw eu gweledigaeth ar gyfer y berthynas yn y dyfodol. Ond fel y mae nifer o argymhellion yn galw amdano hefyd, mater i Aelodau o'r Senedd yw ymgysylltu’n weithredol o fewn yr UE a’i strwythurau. Fel y dywedais o'r blaen, efallai ein bod wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd—a gallaf weld fy mod yn profi amynedd y Dirprwy Lywydd yma gyda'r amser—efallai ein bod wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, ond nid ydym wedi gadael Ewrop. Ac os yw llais Cymru i gael ei glywed, rwy'n credu bod angen inni gael cymaint o gyfle i fynd i Frwsel, i fynd i wledydd Ewrop, i ddadlau'r achos dros Gymru, i ddweud sut y gallwn helpu i lunio rhai o bolisïau’r dyfodol o fewn yr UE. Ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth, nid i'r Llywodraeth efallai, ond i'r Comisiwn yma, i edrych ar sut y gallwn fynd ati'n weithredol i wneud hynny. Ac yn olaf—rwy'n dirwyn i ben, Ddirprwy Lywydd; dyma fy mhwynt olaf—mae'n debyg mai hwn fydd yr adroddiad olaf gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad y byddaf yn gwneud sylwadau arno, wel, efallai, ond cawn weld. Felly, hoffwn achub ar y cyfle i ddiolch i’r holl glercod, y tîm ymchwil, a’r tîm cyfreithiol yn y Senedd am eu holl gymorth a chefnogaeth pan oeddwn yn aelod o’r pwyllgor. Edrychaf ymlaen at glywed ymateb y Llywodraeth, a’r holl Aelodau eraill a fydd yn ymateb i’r adroddiad hwn. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: I gadarnhau, gallwch wneud sylwadau ar unrhyw adroddiad yn y Siambr fel Aelod o’r Senedd. Adam Price. Adam Price AC: Gan fod y Cadeirydd wedi gwneud gwaith mor gampus yn gosod gorolwg cynhwysfawr i ni o gynnwys yr adroddiad, dwi ond yn mynd i ganolbwyntio ar dri neu bedwar o'r 23 o argymhellion yn yr adroddiad. Mi oedd argymhelliad 2 yn gofyn i Lywodraeth Cymru nodi sut y maen nhw'n monitro datblygiadau polisi a deddfwriaethol yr Undeb Ewropeaidd ers i ni adael. Ac mi roedd hi ychydig bach yn siomedig, mae'n rhaid i fi ddweud, i ddarllen ymateb y Llywodraeth, yn dweud, gan nad yw'r Deyrnas Unedig yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd mwyach, nad yw'r Llywodraeth yn monitro datblygiadau polisi a datblygiadau deddfwriaethol yn yr Undeb Ewropeaidd fel mater o drefn. Mae'n syndod i mi oherwydd, fel roeddwn i bob amser yn pwysleisio, wrth gwrs, a nifer ohonom ni yn y lle yma, dyma yw'r farchnad fwyaf pwysig i Gymru. Felly, mae e'n dal yn arwyddocaol iawn, os ydyn ni eisiau cael mynediad i'r farchnad yna, i wybod beth sy'n digwydd o ran rheoleiddio. Mi oeddem ni hefyd, y rhai ohonom ni oedd yn gwrthwynebu gadael yr Undeb Ewropeaidd, yn pwyntio mas y perygl bod safonau amgylcheddol a safonau o ran gwarchod cwsmeriaid, ac yn y blaen, yn mynd i ostwng o adael. Wel, un ffordd o sicrhau bod hynny ddim yn digwydd—gymaint ag y medrwn i o fewn y cyfyngiadau sydd arnom ni—ydy cael golwg ar beth mae'r Undeb Ewropeaidd yn ei wneud o'r newydd, fel petai. Ac, wrth gwrs, yn adran 11 y Ddeddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 y gwnaethon ni ei phasio yn y lle yma, mi oedd yna gymal a fyddai wedi golygu bod gan Weinidogion Cymru y pŵer i alinio rheoliadau wedi'u datganoli i Gymru o hyd o'r newydd, ar ôl gadael. Yn anffodus, gwnaethon ni ddileu'r Ddeddf honno, ond yn yr Alban, wrth gwrs, maen nhw wedi'i chadw hi, ac yn adran 1 eu Deddf parhad nhw, mae ganddyn nhw'r pŵer i barhau i alinio rheoliadau yn yr Alban gyda rheoliadau o'r newydd yn yr Undeb Ewropeaidd. Ac oherwydd hynny, mae'r pwyllgor sydd yn lled gyfatebol i'n pwyllgor ni yn Senedd yr Alban wedi creu tracker—EU law tracker—sydd yn cael ei gydlynu gan Queen's University Belfast, sydd yn cynhyrchu adroddiadau rheolaidd. Mae'r un cyntaf newydd gael ei gyhoeddi ym mis Medi ac mae e'n gosod mas yn glir iawn yr holl gyfreithiau newydd sydd wedi'u pasio gan yr Undeb Ewropeaidd. Wel, pam nag ŷn ni jest yn defnyddio'r wybodaeth hynny? Mae'n dangos, er enghraifft, y llynedd, dim ond—. Mae'r niferoedd yn gymharol isel, a dweud y gwir. Dim ond dau gyfarwyddeb—directive—newydd oedd wedi cael eu pasio y llynedd yn yr Undeb Ewropeaidd. Felly, dyw e ddim yn nifer rhy eang. Mi oedd yna lot o newidiadau technegol, ond o ran y prif newidiadau, mae modd eu tracio nhw. Pam nag ŷn ni yn manteisio ar y cyfleon i adeiladu ar y gwaith sydd yn yr Alban? Jest yn fyr iawn, o ran argymhelliad 11 ynglŷn â Chymru yn cymryd rhan mewn rhwydweithiau Ewropeaidd er mwyn gwneud yn iawn am yr hyn dŷn ni wedi'i golli o ran dylanwad ac yn y blaen, mae'r Llywodraeth, wrth gwrs, yn nodi yn ei hymateb fod Llywodraeth Cymru yn aelod o rwydweithiau fel Cynhadledd y Rhanbarthau Morol Ymylol ac yn y blaen, ond mae yna rwydweithiau pwysig y gallen ni fod yn aelodau ohonyn nhw dŷn ni ddim ar hyn o bryd. Y prif un ar gyfer rhanbarthau, neu genhedloedd di-wladwriaeth, ydy'r Assembly of European Regions. Pam nad yw Cymru yn aelodau o hwnna? Mae yna gyfle i'r Senedd hon. Mae'r Conference of European Regional Legislative Assemblies, yn cynrychioli seneddau rhanbarthol, yn ystyried gwahodd rhanbarthau sydd y tu fas i'r Undeb Ewropeaidd i fod yn associate members o CALRE ac yn y blaen. So, mae yna gyfleoedd i ni. Beth am i ni archwilio'r posibiliadau hynny? A hefyd, gan gytuno gyda sylwadau fy nghyn-gyd-Aelod, mae'n bwysig hefyd bod Aelodau'r Senedd yn cael eu hannog i fynd i Frwsel. Yn ymateb y Llywydd i'r adroddiad, mi oedd e'n syndod ac yn siom i ddarllen mai dim ond un Aelod o'r Senedd sydd wedi ymweld â Brwsel yn ystod y Senedd hon. Mae'n rhaid i ni gefnogi ac annog cymaint o Aelodau'r Senedd, mewn gwahanol ddulliau, i fynd yno er mwyn sicrhau bod Cymru'n dal ar yr agenda. Alun Davies AC: Rwy’n ddiolchgar i’r Cadeirydd ac aelodau’r pwyllgor am y ffordd y maent wedi disgrifio’r adroddiad a’i gasgliadau. Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad, fel y mae eraill wedi’i wneud, drwy ddiolch i’r ysgrifenyddiaeth a’r tystion a’n helpodd i ysgrifennu a pharatoi a chyhoeddi’r adroddiad hwn. Fel sydd newydd ei ddweud, mae’r adroddiad hwn, mewn sawl ffordd, yn mynd at wraidd ein llywodraethiant a’r ffordd y cawn ein llywodraethu yng Nghymru heddiw. Rydym wedi dod i gasgliadau ar nifer o wahanol elfennau a themâu y credaf y dylai'r Senedd hon roi ystyriaeth iddynt yn eu cyfanrwydd. Alun Davies AC: Y thema gyntaf yw'r newid mewn grym. Mae pob un ohonom yn cofio’r sloganau 'Adfer rheolaeth' yn 2016. Ond y gwir amdani yw bod rheolaeth wedi symud o ddemocratiaeth seneddol i ddictad gweithredol, ac nid yw hynny’n iawn. Mae gan y Senedd hon lai o oruchwyliaeth dros y materion sydd dan sylw yn y berthynas rhwng yr UE a’r DU nag a oedd ganddi cyn i’r DU adael yr UE. Nid yw hynny'n iawn. Yn hytrach, mae gennym we gymhleth o strwythurau newydd, ac wrth gwrs, po fwyaf cymhleth yw strwythur, y lleiaf atebol ydyw, yr anoddaf yw hi iddo fod yn dryloyw. A'r hyn y mae hynny'n ei olygu yw bod llai o gyfle i ni, fel Aelodau, ddarparu trosolwg seneddol o'r strwythurau hynny a'r penderfyniadau a wneir gan aelodau'r strwythurau hynny. Felly, rydym wedi gweld llywodraethiant ein perthynas â’r UE, a oedd yn arfer digwydd yn heulwen agored y ddadl ddemocrataidd, yn symud i gysgodion y gwasanaeth sifil a phenderfyniadau a wneir rhwng Gweinidogion y Llywodraeth. Mae’r ddemocratiaeth a addawyd i ni wedi diflannu, ac mae hynny’n rhywbeth y mae angen inni fynd i'r afael ag ef fel Senedd. Mae’r diffyg tryloywder hwnnw’n amlwg yn y trefniadau newydd drwyddi draw. Mae ein gallu i ddeall pa benderfyniadau sy'n cael eu trafod hyd yn oed yn gyfyngedig, heb sôn am fod â gallu wedyn i ddylanwadu ar y penderfyniadau hynny a rhoi ffurf iddynt. Fel rhan o’r UE, fel aelod llawn o’r UE, roedd ein pobl yn y cyfarfodydd, nid yn y coridorau'n unig; roeddent yn y cyfarfodydd yn gwneud penderfyniadau. Heddiw, prin y gallwn gael gafael ar bàs i fynd i mewn i'r adeilad. Nid yw ein gallu i ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n cael effaith alldiriogaethol wirioneddol ar bobl yng Nghymru heddiw wedi’i leihau, mae wedi’i ddileu. Ac mae hynny'n rhywbeth y mae angen inni ei gydnabod. Ond rydym hefyd wedi gweld pŵer yn cael ei drosglwyddo. Rydym wedi gweld cymhwysedd ar nifer o faterion gwahanol yn symud o’r fan hon i San Steffan, ac nid yw hynny wedi digwydd drwy ddadl ddemocrataidd na thrwy benderfyniad, mae wedi digwydd drwy ddileu hawliau’r lle hwn i ddeddfu mewn ffordd y mae pobl Cymru yn dymuno'i gweld ac wedi'i cheisio drwy refferendwm. Mae hynny’n rhywbeth sydd wedi digwydd heb fawr o graffu, ac mae hynny’n rhywbeth arall y mae angen inni fynd i'r afael ag ef. O edrych ar yr adroddiad a’r potensial i’r lle hwn a Llywodraeth Cymru fwrw ymlaen â’r materion hyn, credaf yn gyntaf oll mai un peth y dylem ei wneud yw talu teyrnged i waith Derek Vaughan. Mae penodi Derek Vaughan fel cynrychiolydd Llywodraeth Cymru ym Mrwsel yn rhywbeth sydd wedi talu ar ei ganfed droeon. Mae Derek yn adnabyddus yn y sefydliadau ac mewn gwahanol rannau o’r Undeb Ewropeaidd, ac mae’n gwneud gwaith gwych yn sicrhau bod Cymru’n cael ei chynrychioli yng nghanol Brwsel. Ond mae angen inni fynd ymhellach na hyn. Rwy'n cytuno'n gryf â’r pwyntiau a wnaed gan Adam Price yn ei gyfraniad, a hefyd y pwyntiau a wnaed gan James Evans yn ei gyfraniad yntau, o ran y ffordd y mae angen inni edrych ar sut rydym yn llunio penderfyniadau ac yn deall penderfyniadau, ac mae hynny’n golygu mwy o fuddsoddiad. Edrychaf ymlaen at ymateb y Cwnsler Cyffredinol ar ran y Llywodraeth, ond sylwais fod y Llywodraeth yn llawer mwy awyddus i dderbyn argymhellion lle roedd ganddynt ddylanwad cyfyngedig, yn hytrach nag argymhellion a fyddai wedi golygu camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n gobeithio y gwelwn fwy o weithredu gan Lywodraeth Cymru a mwy o weithredu rhagweithiol gan Lywodraeth Cymru i sicrhau ein bod yn buddsoddi i ddeall dynameg y broses o wneud penderfyniadau o fewn sefydliadau’r UE. Ond hefyd, mae pethau y mae angen i ni eu gwneud yma. Mae angen inni edrych yn ofalus ar ryngseneddoliaeth. Mae angen inni edrych yn ofalus ar sut rydym yn gweithio gyda seneddau a seneddwyr eraill, yn y Deyrnas Unedig ac ar draws yr Undeb Ewropeaidd. Mae cyfleoedd inni greu mathau newydd o atebolrwydd, mathau newydd o oruchwyliaeth, mathau newydd o dryloywder, er mwyn sicrhau bod y bobl yr ydym yn eu cynrychioli a’u barn yn cael eu cynrychioli pan fydd penderfyniadau’n cael eu gwneud. Felly, mae cyfleoedd yma i ni hefyd. Fe wnaf orffen ar y pwynt hwn, Ddirprwy Lywydd. Mae gan Gomisiwn y Senedd hon gyfrifoldeb absoliwt i sicrhau bod Aelodau’n gallu treulio amser yn gweithio ym Mrwsel a bod pwyllgorau’n ymweld â Brwsel, ond mae angen inni sicrhau hefyd fod gennym agenda ar gyfer y gwaith hwnnw. Amlinellodd Cadeirydd y pwyllgor, wrth gyflwyno’r adroddiad, yr amser sydd ar gael i ni, ac mae gennym gyfleoedd. Gydag etholiadau Ewropeaidd yn cael eu cynnal ym mis Mehefin eleni, etholiad cyffredinol y DU yn cael ei gynnal yn ddiweddarach yn y flwyddyn, a newid posibl yn Llywodraeth y DU, mae gennym gyfle nawr i newid ein hymagwedd ac i newid y ffordd yr ymgysylltwn â'n sefydliadau Ewropeaidd. Mae'r adolygiad o'r cytundeb masnach a chydweithredu y flwyddyn nesaf yn gyfle inni wneud hynny. Mae'n gyfle na allwn fforddio ei wastraffu. Delyth Jewell AC: Buaswn i'n hoffi rhoi fy niolch i i Gadeirydd y pwyllgor yma ac i aelodau'r pwyllgor am y gwaith hollbwysig yma maen nhw wedi'i wneud gyda'r adroddiad hwn. Delyth Jewell AC: Pan ddeuthum i’r Senedd gyntaf yn 2019, Ddirprwy Lywydd, roedd Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a minnau'n eistedd gyda’n gilydd, ochr yn ochr ag Aelodau eraill, ar y pwyllgor materion allanol, ac fe wnaethom edrych bryd hynny ar y byd ôl-Brexit, a oedd yn llawn ansicrwydd a phethau anhysbys, a phum mlynedd yn ddiweddarach, mae'r ddau ohonom yn cadeirio pwyllgorau sy'n craffu ar y realiti nad oeddem yn gwybod amdano ac na allem fod wedi gwybod amdano bryd hynny. Yn gyntaf, cawsom y cytundeb ymadael ac yna'r cytundeb masnach a chydweithredu. Sefydlodd y ddau dros 30 o fforymau newydd i’r DU a’r UE drafod eu perthynas, ac nid oedd y naill na’r llall yn darparu ar gyfer cynrychioli Cymru. Ers 2021, mae’r pwyllgor a gadeiriaf wedi gwneud nifer o sylwadau sy’n ategu ac yn cryfhau canfyddiadau'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad. Rydym yn cytuno bod statws sylwedydd i gynrychiolwyr datganoledig yn y cynulliad partneriaeth seneddol yn anfoddhaol, ac rydym wedi adleisio ei alwad am eu cyfranogiad llawn. Mae ein pwyllgor wedi cefnogi ceisiadau Llywodraeth Cymru i fynychu cyfarfodydd cyd-bwyllgorau lle caiff materion sydd o bwys i Gymru eu trafod, fel y mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad wedi'i wneud. Mae Llywodraeth Cymru y tu allan i’r cyfarfodydd hyn o hyd, yn methu cynrychioli Cymru mewn materion allweddol sy'n ymwneud ag ynys Iwerddon, gan gynnwys protocol Gogledd Iwerddon a fframwaith Windsor. Ddirprwy Lywydd, fel y pwyllgor sy'n gyfrifol am gysylltiadau rhyngwladol, mae perthynas Cymru ag Iwerddon, ein cymydog rhyngwladol agosaf, yn un sy'n agos iawn at ein calonnau, yn enwedig ers ein hymchwiliad i'r berthynas rhwng y ddwy wlad. Rydym hefyd wedi galw am strategaeth benodol ar gyfer yr UE gan Lywodraeth Cymru, ac i’r UE gael statws 'perthynas flaenoriaethol' yn ei strategaeth ryngwladol. Yn gynnar yn y chweched Senedd, fe wnaethom leisio pryderon fod heriau a wynebir gan randdeiliaid wrth ymgysylltu yn y berthynas rhwng yr UE a'r DU wedi arwain at lai o gynrychiolaeth mewn perthynas â buddiannau Cymru, ac y gallai hynny leihau ymhellach yn y dyfodol. Am y rheswm hwnnw, credaf fod ymateb Comisiwn y Senedd i adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i ymgysylltu â sefydliadau cymdeithas sifil a’i gynnig i weithio gyda chadeiryddion pwyllgorau i’w groesawu’n fawr. Yn gynharach y mis hwn, dechreuodd ein pwyllgor ein hymchwiliad newydd i ddiwylliant a’r berthynas newydd â’r UE. Mae cymhlethdodau’r cytundeb masnach a chydweithredu yn y byd ôl-Brexit eisoes wedi dod i'r amlwg, hyd yn oed yn y cyfnod cynnar hwn. Credaf y bydd llawer o'r gwaith sydd wedi'i drafod y prynhawn yma, a wnaed gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, yn cyfoethogi ein dealltwriaeth o'r fframweithiau sy'n sail i hyn oll. Wrth gloi, hoffwn ddiolch unwaith eto i’r pwyllgor am y gwaith hynod arwyddocaol hwn, a chofnodi cefnogaeth ein pwyllgor unwaith eto i’r hyn a wnânt. Rwy’n fwy argyhoeddedig nag erioed o’r angen am lais i Gymru yn y berthynas rhwng y DU a’r UE. Rhys ab Owen AS: Hoffwn i hefyd ategu fy niolch i'r pwyllgor am yr adroddiad pwysig yma, ac i'r Prif Weinidog am ei ymateb. Fodd bynnag, mae'n ymddangos bod y pwyllgor a Llywodraeth Cymru yn cymryd safbwyntiau gwahanol iawn wrth ymdrin â'r materion. Er i'r pwyllgor ddangos bod cynrychiolaeth llywodraethau datganoledig ar lwyfan ryngwladol wedi gwaethygu ers Brexit, nid yw'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru eisiau cynhyrfu'r dyfroedd gan eu bod nhw'n cymryd yn ganiataol y bydd gan y Llywodraeth San Steffan nesaf berthynas well pan fo'n dod i faterion rhynglywodraethol. Gall hynny ymddangos yn rhesymol ar un llaw, oherwydd mae'r berthynas rhynglywodraethol rhwng Parc Cathays a Whitehall wedi cyrraedd man isel iawn yn ystod y blynyddoedd diweddaraf. Mae hynny hefyd yn wir, wrth gwrs, am y berthynas gyda'r Undeb Ewropeaidd. Ond ni ddylid seilio perthynas ar ba blaid wleidyddol sydd mewn grym. Nid dyna'r ffordd i osod seiliau i berthynas rynglywodraethol iach. Newid mae Llywodraethau. Newid mae personau. Dyna yw natur bywyd; dyna yw natur gwleidyddiaeth. Mae angen gosod seiliau sy'n gynaliadwy yn y tymor hir, pwy bynnag sydd mewn grym, sy'n sicrhau bod llais Cymru, fel rhan o'r amrywiaeth o leisiau, fel y dywedodd Huw Irranca-Davies, yn cael eu clywed. Rhys ab Owen AS: Ddirprwy Lywydd, os caf, hoffwn wneud dau bwynt arall. Mae argymhelliad 21 yn dweud y dylai Llywodraeth y DU sicrhau cymorth ariannol priodol i sefydliadau Cymru gymryd rhan yng ngrŵp cynghori domestig a fforwm cymdeithas sifil y DU. Fel y dywedodd Huw Irranca-Davies, mae llais sefydliadau Cymru mor bwysig ar lefel Ewropeaidd. Yn anffodus, yn ei ymateb, dywedodd y Prif Weinidog fod Llywodraeth y DU eisoes wedi cadarnhau nad ydynt yn fodlon darparu cyllid o’r fath. Mae hyn, Ddirprwy Lywydd, yn anghyfartaledd pŵer amlwg, gan y bydd yn golygu bod sefydliadau Cymru yn cael eu torri allan o sgyrsiau pwysig, a bydd hyn yn effeithio ar ein cynrychiolaeth ar y lefel ryngwladol. Yn ail, hoffwn adleisio sylwadau Alun Davies ynghylch rôl Derek Vaughan fel cynrychiolydd Llywodraeth Cymru yn Ewrop. Fe wnaeth y Prif Weinidog gydnabod, yn ei ymateb, fod cael cynrychiolydd yn Ewrop wedi bod o fudd mawr i Gymru. Mae wedi caniatáu i Weinidogion Cymru gael pàs i mewn i Senedd Ewrop. Mae wedi gwneud cyfarfodydd yn bosibl gyda’r Comisiwn Ewropeaidd, ac mae wedi gwella ein gwelededd ledled yr Undeb Ewropeaidd. Yn amlwg, roedd y lefel hon o ymgysylltiad yn hollbwysig yn ystod Brexit, ond mae'n sicr ei bod hyd yn oed yn bwysicach nawr ein bod wedi gadael. Wedi’r cyfan, yr Undeb Ewropeaidd yw ein partner allforio mwyaf o bell ffordd. Gwelaf fod y contract ar gyfer y rôl hon yn dod i ben ddiwedd y flwyddyn, ac nid oes unrhyw sôn am ei hymestyn. Fel y dywedodd James Evans, nid ydym wedi gadael Ewrop. Dyma fy nghwestiwn, yn syml iawn: o ystyried y diffyg democrataidd y mae Alun Davies wedi sôn yn angerddol amdano, o gofio nad oes gennym bellach Aelodau Cymreig o Senedd Ewrop, a bod rôl y cynrychiolydd yn dod i ben yn ôl pob golwg, pwy fydd yn siarad ar ran Cymru yn yr Undeb Ewropeaidd? Diolch yn fawr. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, Mick Antoniw. Mick Antoniw AC: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy’n ddiolchgar i’r pwyllgor am yr adroddiad pwysig, trwyadl a manwl hwn, ac i’r Aelodau sydd wedi siarad. Byddaf yn ymateb i’r amryfal bwyntiau yn y man. Gadewch imi ddechrau drwy ddweud pa mor falch ydw i fod y pwyllgor yn cydnabod y cytundeb masnach a chydweithredu fel y sylfaen hollbwysig ar gyfer y berthynas economaidd hanfodol sydd gan Gymru a gweddill y Deyrnas Unedig gyda'r Undeb Ewropeaidd o hyd. Er bod y cytundeb hwnnw'n ddewis amgen gwael i sicrhau’r buddion economaidd a'r effeithlonrwydd a gawsom fel aelod o'r Undeb Ewropeaidd, dyma'r unig ddewis sydd gennym, ac mae'n rhaid i ni sicrhau ei fod yn gweithio cystal â phosibl. Fe welwch o ymateb Llywodraeth Cymru ein bod yn cytuno â llawer o'r hyn sydd yn yr adroddiad a'r ffocws defnyddiol y mae’n ei roi. Mick Antoniw AC: Gadewch imi sôn yn gyntaf am y cyd-destun ehangach. Mae’r adroddiad yn amlygu nad yw’r gwaith ar berthynas newydd rhwng y DU a’r UE wedi'i gwblhau. O'n rhan ni, yng Nghymru, mae angen inni barhau i ddiogelu ein safonau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol, a cheisio gwelliannau hefyd i'r status quo lle gallwn. Mae'n rhaid inni wneud hyn yn rhannol drwy ein perthynas ein hunain â Llywodraeth y DU. Mae'r cytundeb masnach a chydweithredu wedi datblygu'n barhaus ers iddo gael ei lunio o dan amgylchiadau anodd ychydig dros dair blynedd yn ôl. Mae cysylltiadau rhwng Llywodraeth y DU â’r UE yn sicr wedi gwella gyda chytuno fframwaith Windsor flwyddyn yn ôl. Rwyf am achub ar y cyfle unwaith eto i groesawu adferiad gweithrediaeth weithredol yng Ngogledd Iwerddon. Hyderwn y gellir gwneud i hyn oll weithio heb ansefydlogi’r cytundeb masnach a chydweithredu na fframwaith Windsor. Mick Antoniw AC: Os caf droi at yr adroddiad ei hun a chanolbwyntio ar bedair perthynas sydd gan Lywodraeth Cymru, yn gyntaf gyda'r Senedd, yna gyda Llywodraeth y DU a Llywodraethau datganoledig eraill, gyda rhanddeiliaid a chymdeithas sifil, a hefyd gyda'r UE. Yn gyntaf, ymgysylltiad Llywodraeth Cymru â'r Senedd. Wel, wrth gwrs, rydym yn awyddus i weithio gyda'r Senedd i wneud y mwyaf o fuddiannau Cymru yn y berthynas sy'n esblygu rhwng y DU a'r UE. Ac rydym yn cefnogi darparu'r wybodaeth gywiraf a mwyaf diweddar ar weithrediad y cytundeb masnach a chydweithredu. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, nid yw system y DU yn ddigon effeithlon i ganiatáu i hynny ddigwydd. Mae angen inni hefyd gydnabod y gall cyfarfodydd gynnwys trafodaethau sensitif lle nad yw tryloywder llawn bob amser yn bosibl. Mae ein perthynas â Llywodraeth y DU a Llywodraethau datganoledig eraill yn allweddol i sicrhau bod buddiannau Cymru'n cael eu hadlewyrchu yn y cytundeb masnach a chydweithredu. Gadewch imi fod yn onest heb fod yn rhy feirniadol o Lywodraeth y DU: cafodd negodiadau'r cytundeb masnach a chydweithredu eu rhuthro, yn ogystal â'i weithrediad cychwynnol, ac nid oedd digon o amser i ddatblygu systemau da i'w gefnogi. Nid oedd yn glir ar y pryd fod gan Lywodraeth y DU ar y pryd ddiddordeb mewn ymgysylltu â Llywodraethau datganoledig i wneud i'r system weithio gyda setliadau datganoli. Rwy'n falch ein bod bellach mewn cyfnod mwy adeiladol, er bod angen parhau i wneud gwelliannau. O ran fy nhrydedd thema, ymgysylltiad Llywodraeth Cymru â rhanddeiliaid a chymdeithas sifil, hoffwn egluro ein bod wedi ymrwymo i wneud hyn mor llawn ac mor ddifrifol â phosibl, o fewn yr holl gyfyngiadau sydd gennym. Yn anffodus, nid yw Llywodraeth y DU wedi rhoi ymgysylltiad rhanddeiliaid wrth wraidd ei dull o weithredu'r cytundeb masnach a chydweithredu. Byddwn yn pwyso ar Lywodraeth y DU i wneud mwy, ac mae'r adroddiad yn offeryn defnyddiol iawn i ni wneud hynny ac mae'n ddadansoddiad defnyddiol iawn. Ar y cyfan, rwy'n falch iawn fod mewnbwn effeithiol o Gymru i grŵp cynghori domestig y DU. Yn olaf, wrth edrych ar berthynas Cymru â'r UE, mae'n ddiwylliannol amlwg ac yn fater o ffaith daearyddol fod Cymru'n parhau i fod yn genedl Ewropeaidd. Mae cyfuno hynny â'n cyd-ddibyniaeth economaidd barhaus yn golygu bod yn rhaid i ni barhau i geisio bod wedi ein halinio'n agos ac yn ddiplomataidd gysylltiedig â'r UE a'i Lywodraethau rhanbarthol a chenedlaethol cyfansoddol. Os caf orffen drwy ailadrodd yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog eisoes. Byddem yn falch iawn o weld newidiadau cadarnhaol yng ngweithrediad y cytundeb masnach a chydweithredu, a'r berthynas ehangach rhwng y DU a'r UE. Ond i fod yn hollol onest, yn realistig ni fydd hynny'n gallu digwydd yn barhaol tan ar ôl etholiadau'r UE a'r DU dros y flwyddyn i ddod. Mae'r rhain yn darparu cyfleoedd gwirioneddol ar y ddwy ochr ar gyfer ymgysylltiad mwy newydd ac ysbryd mwy cadarnhaol wrth edrych tua'r dyfodol, a byddwn yn gwneud popeth a allwn i hwyluso a chefnogi hynny. Os caf wneud sylwadau ar rai o'r pwyntiau a wnaed, oherwydd mae hon yn ddadl barhaus ac mae llawer o gyfleoedd, ac mae'r adroddiad hwn yn gyfraniad defnyddiol a phwysig iawn i hynny. Hoffwn ddweud fy mod yn croesawu'r pwynt a wnaed y dylem gael statws llawn yng nghyngor partneriaeth Pwyllgor y Rhanbarthau. Pan oeddwn yn cynrychioli Cymru ar Bwyllgor y Rhanbarthau, fe wneuthum wthio a gwthio, pan oeddem yn gwybod ein bod ni'n gadael yr UE, i sicrhau y byddai hynny'n digwydd. Fodd bynnag, cafodd hynny ei rwystro gan Lywodraeth y DU. Nid oeddent eisiau i ni gael y llais hwnnw a chawsom ein hatal rhag gwneud hynny. Ar y pwyntiau eraill, fe wnaeth Alun rai pwyntiau pwysig iawn, rwy'n credu, ar y newid mewn grym, ac mae hynny'n glir iawn o'r adroddiad yn rhai o'r cyfeiriadau a wneir yn yr adroddiad. Nodais sylwadau Dr Elin Royles, a ddyfynnwyd yn yr adroddiad yn dweud bod gadael yr UE wedi lleihau gallu Llywodraeth Cymru i ddylanwadu ar Lywodraeth y DU a'r UE, ac mae hynny'n glir iawn. Mae'r statws is-genedlaethol a oedd gennym bellach wedi mynd, ond mae angen statws amgen arnom er mwyn atgyfodi'r rôl benodol honno. Ni fydd hynny'n digwydd gyda'r Llywodraeth bresennol. Gwnaeth Adam Price rai pwyntiau pwysig ar fonitro. Rwy'n eithaf cyfarwydd ac rwyf wedi cael trafodaethau gyda chi am y sefyllfa gyda'r monitro sy'n digwydd yn yr Alban. Wrth gwrs, mae yna fonitro'n digwydd o ran y portffolios penodol iawn o fewn Llywodraeth Cymru sy'n berthnasol ac sy'n arsylwi ac yn cadw llygad ar yr hyn sy'n digwydd yn Ewrop, a'r perthnasedd yno. Ond dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf—ac rwy'n credu y byddai pawb yn cydnabod—mae yna lawer iawn o bwysau mewn perthynas â monitro'r hyn a oedd yn digwydd hyd yn oed ar lefel Llywodraeth y DU o ran yr agweddau a oedd yn effeithio ar Gymru. Ac rwy'n gwybod, hyd yn oed o ochr yr Alban, fod tswnami o ddata a gwybodaeth am ddigwyddiadau sy'n digwydd o fewn yr Undeb Ewropeaidd, sydd wrth gwrs yn broses barhaus dros nifer o flynyddoedd, ac felly mae'r gallu i dynnu o hynny yr hyn sy'n berthnasol a sut i ddefnyddio'r wybodaeth honno ac yna ei throsi'n ddeddfwriaeth neu gamau amgen yn rhywbeth sydd wedi peri cryn anhawster. Un pwynt a wnaed sydd, unwaith eto, yn bwysig iawn yn fy marn i, yw'r cysylltiadau â'r holl grwpiau amrywiol ac yn y blaen sy'n bodoli o fewn yr Undeb Ewropeaidd, ac rydym yn aelodau o rai ohonynt, ond wrth gwrs mae'r rheini'n bethau yr ydym eisiau gwneud y mwyaf ohonynt. A gaf i ddweud, mewn perthynas ag ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad, fod nifer benodol o argymhellion wedi cael eu derbyn yn llawn, ond roedd llawer ohonynt mewn egwyddor, ac rwy'n credu mai'r rheswm am hynny yw oherwydd bod cymaint ohono'n waith sydd ar y gweill, ac mae cymaint o ffactorau eraill wedi bod ar lefel y DU a'r UE sydd wedi cael effaith? Ond mae hwn yn waith sydd ar y gweill, ac ar yr holl bwyntiau a grybwyllwyd, rwy'n siŵr mai ychydig iawn o anghytundeb a gafwyd ynghylch y trywydd yr ydym yn awyddus i'w ddilyn. Felly, i gloi, hoffwn ddiolch i'r Aelodau sydd wedi dangos diddordeb yn yr adroddiad a'n hymateb. Mae'r adroddiad yn gyfraniad pwysig. Mae'n rhaid inni adeiladu a chynnal presenoldeb effeithiol, hunaniaeth gyda'r Undeb Ewropeaidd, ac mae'n rhaid inni symud ymlaen i'r cyfeiriad hwnnw, gyda newidiadau, gobeithio, mewn Llywodraeth newydd. Os bydd hynny'n digwydd, bydd cyfleoedd mawr i adfer rhai o'r pwyntiau statws a grybwyllwyd gennym. Bydd gennym ymgysylltiad mwy adeiladol hefyd. Diolch yn fawr. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Galwaf ar Huw Irranca-Davies i ymateb i'r ddadl. Huw Irranca-Davies AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at ddadl dda iawn y prynhawn yma, ac am sylwadau clo'r Cwnsler Cyffredinol hefyd? Yr hyn y gwnaethom geisio ei wneud yn yr adroddiad hwn—. A chyda llaw, nid ydym ar ein pen ein hunain yn cyflwyno adroddiadau i'r maes hwn; mae gennym bwyllgorau yn Senedd y DU a Senedd yr Alban sydd wedi cynhyrchu gwaith yn y maes hwn, fel y mae Senedd Ewrop, Pwyllgor y Rhanbarthau, a Phwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop a sefydliadau cymdeithas sifil eraill wedi'i wneud hefyd. Mae hwn yn bwnc llosg, ac rwy'n credu ein bod yn dychwelyd at gynsail ein hadroddiad, sef bod gennym un adeg, yn y flwyddyn i ddod mae'n debyg, pan allwn edrych ar y gwersi a ddysgwyd gennym dros y pedair blynedd diwethaf, fel y disgrifiodd y Cwnsler Cyffredinol, tswnami o wybodaeth, a gorlwyth mewn gwirionedd o wybodaeth a pholisi ac yn y blaen sydd wedi digwydd, a newidiadau, ond cyfle nawr i ailddechrau a dweud, 'Wel, sut y gallwn ni sicrhau bod llais Cymru a lleisiau'r Alban a Gogledd Iwerddon yn cael eu clywed go iawn?' Ac mae yna elfen o weithio gyda'n gilydd hefyd. Hoffwn droi at un neu ddau o'r pwyntiau hynny mewn eiliad, ond bwriad ein hadroddiad heddiw yw dweud bod gennym gyfle i hyrwyddo'r ddadl hon y mae angen inni ei chael, a gadewch imi gyffwrdd, felly, wrth ddweud hynny, ar rai o'r pwyntiau hyn. Yn gyntaf oll, James, rwy'n ymddiheuro am ddwyn rhywfaint o'ch cynnwys yn fy sylwadau agoriadol yno, ond unwaith eto, fe wnaethoch chi dynnu sylw, fel y gwnaeth eraill, at y cyfle sydd gennym dros y 12 mis nesaf, ac fe wnaethoch bwysleisio pwysigrwydd ymgysylltu â sefydliadau'r UE, fel y gwnaeth Adam, y tu hwnt i sefydliadau sefydledig yr UE i mewn i'r rhwydwaith ehangach o gyrff a sefydliadau Ewropeaidd hefyd. Rwy'n credu bod angen inni feddwl yn greadigol ynglŷn â sut y gallwn chwyddo llais Cymru drwy feddwl ychydig yn fwy dychmygus. Fe wnaethoch chi siarad hefyd, fel y gwnaeth eraill—ac mae pwynt pwysig yma ar gyfer y ddadl y prynhawn yma—am ein rôl ni fel Aelodau unigol o'r Senedd, nid yn unig i fynd allan i Frwsel, ond wrth ymgysylltu â llu o rwydweithiau sydd gennym i chwyddo llais Cymru, a sicrhau ei fod yn cael ei glywed fel seneddwyr. Ac ni ddylem fod yn swil wrth wneud hynny. Rydym weithiau'n rhy swil ac yn poeni'n ormodol am yr ymgysylltiad allanol hwnnw. Mae hon yn Senedd i bobl Cymru. Mae angen inni sicrhau bod ein llais yn cael ei glywed yn rhyngwladol, gan gynnwys yn ein marchnad agosaf a mwyaf hefyd. A hoffwn ddweud bod croeso bob amser i chi gyfrannu at unrhyw adroddiad neu unrhyw ddadl y mae'r pwyllgor hwn yn ei wneud, ac roeddem yn gwerthfawrogi eich gwasanaeth arno hefyd. Yn briodol iawn, cyffyrddodd Adam â phwysigrwydd sganio'r gorwel, a chredaf fod y ddadl y prynhawn yma, gan gynnwys cyfraniad Delyth hefyd, wedi dangos y cyfoeth o brofiad a'r mewnwelediad sy'n rhan o hyn, gan gynnwys yn ein pwyllgor ein hunain. Mae hwn yn fater pwysig, ac roeddem yn arfer gwneud hynny, mewn gwirionedd. Roeddem yn arfer sganio'r gorwel. Mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ymateb drwy ddweud, 'Wel, rydym yn wynebu tswnami', yn ei eiriau ef, ar hyn o bryd. Wel, nawr yw'r amser, mewn gwirionedd, i edrych ar bwy arall yn yr ynysoedd hyn sy'n ei wneud yn dda, ac a allwn ni ymgysylltu â nhw? Ac rwy'n credu bod rhywbeth yno, Gwnsler Cyffredinol, ynglŷn â sut y gallwn gydweithio â chenhedloedd datganoledig eraill i weld beth sy'n dod o sefydliadau'r UE y gallwn naill ai alinio ag ef, neu, fel arall, ei ragweld ac ymateb yn rhagweithiol iddo. Fe wnaethoch chi hefyd adleisio'r galwadau, 'Ewch i Frwsel—ewch i Frwsel.' Gwrandewch, mae'r neges honno'n gwbl glir yn ein hadroddiad. Rydym wedi bod yn glir iawn am hyn. Mae seneddwyr yr Alban yn ei wneud yn eithriadol o dda. Maent wrth eu bodd yn bomio'r Undeb Ewropeaidd a'r sefydliadau â chariad, ac maent yn ei wneud am reswm da iawn hefyd. Felly, mae'n alwad glir, mae'n rhaid imi ddweud. Alun, ni allaf ailadrodd eich troeadau ymadrodd, ond nodais un neu ddau ohonynt: 'heulwen agored y ddadl ddemocrataidd', a'r perygl o symud o graffu seneddol ac yn y blaen i ddictad gweithredol. Mae'n ymadrodd gwych. [Torri ar draws.] Mae fy amser eisoes wedi dirwyn i ben. Ond roedd tryloywder—[Torri ar draws.] A oes gennyf amser? Mae'n ddrwg gennyf, mae fy amser wedi dod i ben—mae'n ddrwg gennyf, James. Roedd tryloywder yn bwynt allweddol i ni, a dywedwyd wrthym, Ddirprwy Lywydd, fod y strwythurau newydd sydd wedi dod i'r amlwg yr un mor dryloyw â blwch du ar hyn o bryd: mae agendâu yn aml yn denau iawn ac yn ymddangos ar wahanol adegau ymlaen llaw. Felly, mae angen inni weithio ar hynny. Mae hwn yn waith sydd ar y gweill. Ni allaf grybwyll yr holl gyfraniadau, mae arnaf ofn. Delyth, rwy'n croesawu eich cefnogaeth i rôl lawnach yn y Cynulliad Partneriaeth Seneddol, rôl lawnach i Lywodraeth Cymru ar faterion y cytundeb masnach a chydweithredu, gan adleisio rhai o'n hadroddiadau o'ch rôl fel Cadeirydd y pwyllgor. A nododd Rhys ab Owen hefyd pa mor bwysig yw ymgysylltiad cymdeithas sifil, a dywedodd Rhys pa mor bwysig yw sicrhau bod ganddo'r adnoddau cywir. Ac fe wnaeth y Cwnsler Cyffredinol y pwynt hwnnw. Mae angen i Lywodraeth y DU gamu i'r adwy, ond os na wnânt hynny, mae angen inni ddod o hyd i ffordd arall iddynt ymgysylltu'n briodol. A siaradodd nifer o bobl am berson rydych chi'n ei adnabod yn dda, Ddirprwy Lywydd, Derek Vaughan, a sôn am yr hyn sydd gan y dyfodol i'w gynnig mewn sefyllfa UE ôl-Derek Vaughan. Wel, mae angen inni feddwl am hynny, ac mae'r pwyllgor hwn wedi meddwl am hynny. Oherwydd nid yw'n ymwneud â'r unigolyn fel y cyfryw, ond y rôl, a'r hyn y mae'n ei wneud yno, y rhwydweithio ac yn y blaen. Felly, yn olaf, Gwnsler Cyffredinol, rydym yn gwybod mai gwaith ar y gweill yw hwn, ond byddem yn dweud wrthych, gadewch inni beidio â gwastraffu'r 12 mis sydd i ddod. Gadewch inni ddefnyddio rhai o'r syniadau sydd wedi cael eu cynhyrchu yn y ddadl heddiw, a chan bwyllgorau a seneddwyr eraill, a gweld a allwn ni feddwl am syniadau y gallwn eu defnyddio, yn dilyn etholiadau seneddol yr UE, yr etholiad cyffredinol, pan fydd rhywun arall yn eistedd yn sedd y Prif Weinidog, i chwyddo llais Cymru, oherwydd rydym wedi gwneud y meddwl eisoes. Diolch i holl aelodau'r pwyllgor. Diolch i'r tîm pwyllgor ardderchog sydd gennym y tu ôl i ni hefyd, ac i'r holl dystion unwaith eto. A diolch am eich amynedd, Ddirprwy Lywydd. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Rydych chi wedi fy nal ar ddiwrnod da. [Chwerthin.] Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Heledd Fychan. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Eitem 6 heddiw yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Galwaf ar Gareth Davies i wneud y cynnig. Cynnig NDM8489 Darren Millar Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod gwaith ac ymroddiad staff gweithgar ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. 2. Yn nodi: a) bod 27 Chwefror 2024 yn nodi blwyddyn ers i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gael ei roi yn ôl mewn mesurau arbennig; b) bod y bwrdd iechyd yn destun mesurau arbennig yn flaenorol rhwng 8 Mehefin 2015 a 24 Tachwedd 2020, lai na 6 mis cyn etholiadau'r Senedd yn 2021; ac c) bod y bwrdd iechyd wedi treulio mwy o amser mewn mesurau arbennig nag unrhyw sefydliad GIG arall yn hanes y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. 3. Yn gresynu nad yw cleifion a staff wedi gweld y gwelliannau gofynnol eto ers i'r bwrdd gael ei roi mewn mesurau arbennig. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) gwrando ar bryderon gweithwyr proffesiynol gofal iechyd pan godir pryderon am ansawdd gwasanaethau; a b) sicrhau bod cleifion yng Ngogledd Cymru yn cael y gofal iechyd amserol, o ansawdd uchel y maent yn ei haeddu. Cynigiwyd y cynnig. Gareth Davies AS: Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n falch o gael agor y ddadl hon heddiw, er fy mod yn difaru'r ffaith bod rhaid i ni wneud hynny. Ar ôl gweithio i'r GIG ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am 11 mlynedd, rwy'n falch o'r gwaith a wnaed yn ystod fy amser gyda'r bwrdd, ac rwyf o ddifrif eisiau'r gorau i Betsi, yn bennaf er lles cleifion. Rwyf hefyd eisiau diolch i staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am eu gwaith caled a'u hymroddiad wrth wynebu pwysau cynyddol, ac rwyf wedi clywed etholwyr, mor ddiweddar â'r wythnos hon, yn canmol staff clinigol yn Ysbyty Glan Clwyd. Ond rwyf hefyd yn aml yn clywed pryderon yn cael eu codi am reolaeth y bwrdd iechyd a'i strwythur rheoli pendrwm. Hoffwn yn wir pe bawn i'n sefyll yma y prynhawn yma yn canmol llwyddiannau a gwelliannau'r bwrdd iechyd, ond yn anffodus, flwyddyn ers i'r bwrdd iechyd gael ei wneud yn destun mesurau arbennig, nid yw'r gwelliannau priodol wedi'u gwneud. Mewn gwirionedd, nid ydym yn agos at weld y gwelliannau y dylem fod yn eu gweld ar ôl blwyddyn o fod yn destun mesurau arbennig. Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am hyn. Roedd swydd y prif weithredwr yn wag am bron i flwyddyn yn Betsi, ond nid ydym wedi gweld yr arweinyddiaeth angenrheidiol gan Lywodraeth Cymru ychwaith. A caniatewch imi amlinellu rhai o'r methiannau hyn. Mae'r bwrdd iechyd wedi treulio mwy o amser yn destun mesurau arbennig nag unrhyw sefydliad GIG arall yn hanes ein gwasanaeth iechyd, felly, yn amlwg, mae angen ail-werthuso atebion Llywodraeth Cymru i'r llu o broblemau yn y bwrdd iechyd, oherwydd fel y gwelsom nid yw'r dull presennol wedi gweithio. Yn 2019 newidiodd y bwrdd iechyd ei fodel gofal ar gyfer gwasanaethau fasgwlaidd, gan arwain at Arolygaeth Gofal Iechyd Cymru yn datgan yn 2022 fod angen gwelliant sylweddol ar wasanaethau fasgwlaidd. Mae pethau wedi dechrau gwella, ond mae gwasanaethau fasgwlaidd yn is na'r safon o hyd, rhywbeth y cyfeiriodd yr uwch grwner John Gittins ato yn anuniongyrchol yn dilyn cwestau i bedair marwolaeth cleifion fasgwlaidd ym mwrdd iechyd Betsi. Mae perfformiad Betsi mewn perthynas ag iechyd meddwl a llesiant yn ofnadwy a dyn a ŵyr sut y gallwn ddisgwyl gwelliannau pan fo'r gyllideb iechyd meddwl wedi'i thorri 8.8 y cant. Ym mis Tachwedd 2023, roedd ychydig o dan 175,000 o gleifion yn aros i ddechrau triniaeth yn Betsi, gyda miloedd o'r cleifion hyn ar lwybr canser. Dyna'r ail ffigur gwaethaf yng Nghymru. Mae data diweddar yn datgelu bod Cymru gyfan ymhlith y gwaethaf o ran goroesi canser. Mae disgwyliad oes yng Nghymru wedi bod yn gostwng ers 2012, ac mae'r rhain yn ystadegau gwirioneddol dorcalonnus. Mae problemau parhaus hefyd gyda recriwtio a chadw staff yn y gweithle. Betsi Cadwaladr sydd â'r amseroedd aros gwaethaf—ac rydym yn gwybod bod amseroedd aros yn broblem barhaus yng Nghymru—ac mae data o fis Rhagfyr 2023 yn dangos mai dim ond 83 y cant o gleifion a welwyd o fewn y targed amser aros o 12 awr, sydd dros 10 y cant y tu ôl i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Gallwn sefyll yma hyd dragwyddoldeb yn rhestru problemau a methiannau enbyd y bwrdd iechyd ac rwy'n siŵr y byddwn yn clywed mwy gan fy nghyd-Aelodau yn ddiweddarach yn y ddadl hon. Ond beth fyddem ni, y Ceidwadwyr Cymreig, yn ei wneud i ddatrys y problemau hyn? Yn gyntaf, byddem yn gwario'r codiad Barnett llawn y mae Llywodraeth Cymru yn ei dderbyn ar gyfer iechyd a byddem yn ei wario ar iechyd—rhywbeth y gallai Llywodraeth Cymru ei gyflawni drwy gael gwared ar y prosiectau porthi balchder sydd wedi'u hamseru'n wael fel y gwariant arfaethedig o £120 miliwn ar fwy o wleidyddion a'r polisi 20mya cyffredinol. Byddem yn gwario'r arian hwn ar feddygon a nyrsys yn lle hynny. Dylem wrando ar bryderon gweithwyr proffesiynol gofal iechyd i sicrhau bod cleifion yng ngogledd Cymru yn cael y gofal iechyd o ansawdd uchel y maent yn ei haeddu ac y maent yn talu amdano, ac yn cael eu trin mewn modd amserol. Rydym yn cefnogi galwadau am ymchwiliad annibynnol i weithrediad y gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru ac i ddeddfu cynllun gweithlu sy'n cynnwys ad-daliad ffioedd dysgu i weithwyr gofal iechyd i ddatrys y problemau recriwtio a chadw. I gloi, Ddirprwy Lywydd, mae angen i Lywodraeth Cymru ddechrau gwrando ar gleifion a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd ynghylch ansawdd y gwasanaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Fe fyddwch yn clywed sut mae'r bwrdd iechyd yn methu yn erbyn y rhan fwyaf o fetrigau. Mae'r ffigurau—rwy'n siŵr eich bod yn gyfarwydd â llawer ohonynt—yn ddigon i droi eich gwallt yn wyn. Mae'r bwrdd wedi bod i mewn ac allan o fesurau arbennig ers 2015, ac i nodi blwyddyn ers y tro diweddaraf iddo gael ei osod mewn mesurau arbennig, mae angen cydnabod bod angen newid meddylfryd yn sylweddol, ac yn bwysicaf oll, mae angen gweithredu. Edrychaf ymlaen at glywed y cyfraniadau gan yr Aelodau eraill yn y ddadl hon. Diolch. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Gwelliant 1—Lesley Griffiths Dileu popeth ar ôl 2(a) a rhoi yn ei le: bod rhaid i unrhyw benderfyniad i uwchgyfeirio neu isgyfeirio sefydliad GIG fod yn seiliedig ar ystyriaeth briodol o ystod helaeth o ffactorau a thystiolaeth ffeithiol; Yn nodi ymhellach: a) y gwnaeth adolygiad dilynol Archwilio Cymru o effeithiolrwydd y Bwrdd gydnabod gwelliant o ran sefydlogrwydd y Bwrdd a dod i’r casgliad nad yw’r camweithrediad yn y Bwrdd a ddisgrifiwyd yn ei adroddiad blaenorol i’w weld mwyach; a b) bod perfformiad ar gyfer gofal a gynlluniwyd wedi gwella ers mis Chwefror 2023, gydag 1.5 pwynt canran o welliant yn erbyn y targed 26 wythnos, 15.5 y cant o ostyngiad yn nifer y bobl sy’n aros dros 52 wythnos am apwyntiad claf allanol cyntaf a’r nifer lleiaf o bobl yn aros cyfanswm o dros 104 wythnos ers mis Awst 2021. Yn cydnabod: a) bod Llywodraeth Cymru yn sylweddoli bod heriau sylweddol yn dal i fod; a b) bod Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi’r bwrdd iechyd a’i ddwyn i gyfrif i sicrhau ei fod yn gwrando ar bryderon gweithwyr gofal iechyd proffesiynol pan godir pryderon ynghylch ansawdd gwasanaethau ac yn darparu’r gofal iechyd amserol, o ansawdd uchel y mae cleifion yng Ngogledd Cymru yn ei haeddu. Cynigiwyd gwelliant 1. Eluned Morgan AC: Yn ffurfiol. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Galwaf ar Llyr Gruffydd i gynnig gwelliannau 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Gwelliant 2—Heledd Fychan Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4: cyhoeddi proses ddad-ddwysáu glir, gan gynnwys egluro pwy sy'n cyfrannu at y broses ddad-ddwysáu a phwy fyddai'n gwneud y penderfyniad terfynol, tra hefyd yn darparu esboniad o'r penderfyniad; Gwelliant 3—Heledd Fychan Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu penodiad Dyfed Edwards fel Cadeirydd newydd y Bwrdd Iechyd ac yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i ddarparu amserlen glir ar gyfer penodi cyflenwad llawn o gyfarwyddwyr gweithredol ac aelodau annibynnol. Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3. Llyr Gruffydd AC: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. A dwi eisiau cychwyn yn union yn yr un lle â lle mae'r cynnig yn cychwyn, wrth gwrs, drwy gydnabod y gwaith a'r ymroddiad gan holl staff y bwrdd iechyd—nid dim ond y rhai yn y rheng flaen, os caf i ddweud, ond y rhai sy'n darparu gwasanaethau cefnogol hefyd—oherwydd dwi wedi dweud sawl tro maen nhw'n mynd y tu hwnt i'r filltir ychwanegol yna yn aml iawn ac yn gwneud hynny er gwaethaf yr holl broblemau, wrth gwrs, a'r holl fethiannau, yn enwedig ar lefel reolaethol, fel rŷn ni wedi gweld yn y gorffennol. Ac mae yn anodd credu bod blwyddyn wedi mynd ers i'r bwrdd ffeindio'i hun yn ôl mewn mesurau arbennig, a hynny, wrth gwrs, am yr eilwaith ar ôl treulio bron i bum mlynedd mewn mesurau arbennig i fyny at 2020. Bryd hynny, wrth gwrs, roedd yna gwestiwn am faint o effaith gafodd y mesurau arbennig mewn gwirionedd. Oherwydd mi gymerodd y sefyllfa yn rhy hir o lawer i adfer ei hunan, gyda'r bwrdd yn dal i fynd o un creisis i'r llall, gyda'r penderfyniad hefyd yn y pen draw i dynnu'r bwrdd allan o fesurau arbennig dim ond chwe mis cyn etholiad yn codi pob math o amheuon ynglŷn â'r cymhelliad i wneud hynny. Ond y cwestiwn nawr, wrth gwrs, yw: beth sy'n wahanol y tro yma? Ydy'r sefyllfa yn wahanol y tro hwn? Dwi eisoes wedi rhoi ar y record fy mod i'n teimlo bod yr awyrgylch wedi newid rhywfaint, ac mae hynny, wrth gwrs, yn ei hunan yn beth cadarnhaol. Mae llawer o hynny o ganlyniad i waith aelodau newydd yr uwch dîm reoli, yn bennaf y cadeirydd newydd, Dyfed Edwards, a'r prif weithredwr newydd, Carol Shillabeer. Mae adroddiad dilynol yr archwilydd cyffredinol yn nodi bod, a dwi'n dyfynnu, 'sefyllfa fwy sefydlog' a pherthnasoedd gwaith ymhlith uwch arweinwyr 'yn fwy cadarnhaol' ar y cyfan nawr o'i gymharu â'r trosiant yn aelodaeth y bwrdd a ddarganfuwyd gan yr adroddiad cychwynnol yna yn gynnar yn 2023, a bod y diolch am hynny oherwydd yr amgylchedd mwy cadarnhaol sydd bellach yn amlwg o fewn y bwrdd. Dwi wedi bod yn dyst i hynny fy hun. Dwi wedi cyfeirio yn y gorffennol at un enghraifft, y cyfarfod cyhoeddus gwnes i ei drefnu ym Metws-y-Coed gyda Llais er mwyn trio mynd i'r afael â'r ffaith bod y meddygon teulu yn fanna yn rhoi'r feddygfa i fyny. Mi ddaeth y cadeirydd i gyfarfod cyhoeddus gyda 200 o drigolion lleol, mi ddaeth y prif weithredwr ac mi ddaeth pennaeth yr adran berthnasol. Fyddai hynny ddim wedi digwydd, o reidrwydd, yn y gorffennol, ac roedd yr engagement uniongyrchol yna i wynebu'r cyhoedd, fod yn dryloyw a bod yn barod i fod yn atebol yn chwa o awyr iach, yn fy nheimlad i. Felly, mae'r arwyddion cynnar yn bositif, ond, wrth gwrs, mi gymerith hi amser i'r diwylliant newydd yna dreiddio lawr, rwy'n teimlo, drwy holl haenau'r bwrdd iechyd. Mi oedd y Gweinidog yn cyfeirio ddoe at rai gwelliannau o ddydd i ddydd hefyd, fod nifer y cleifion sy'n aros dros dair blynedd am driniaeth wedi gostwng a nifer y bobl sy'n aros dros wyth wythnos am apwyntiad diagnostig wedi gostwng hefyd. Llyr Gruffydd AC: Ac er ein bod yn gweld y ffigurau hyn yn gostwng, wrth gwrs, mae'n debyg fod y ffaith bod y setiau data hyn yn bodoli yn y lle cyntaf yn annerbyniol, onid yw, oherwydd maent yn golygu bod cleifion yn dal i aros dros dair blynedd am driniaeth a dros wyth wythnos am apwyntiad diagnostig, ac maent yn amseroedd aros sylweddol na ddylai unrhyw berson orfod eu dioddef. Nawr, er mwyn gweld y gwelliannau angenrheidiol ym mherfformiad y bwrdd iechyd, pwysleisiodd yr archwilydd cyffredinol yr angen am apwyntiadau pellach i sicrhau bod y bwrdd yn gweithio ar gapasiti llawn cyn gynted â phosibl. Mae wedi bod yn 12 mis; mae yna rannau hanfodol o'r strwythur sefydliadol nad ydynt yn eu lle o hyd. Dywedodd y Gweinidog wrthym ddoe, er tegwch, ei bod yn aros am argymhellion ar y pedwar aelod annibynnol olaf, a fydd yn cael eu cyhoeddi'n fuan iawn, rwy'n credu. Efallai y gallech ddweud wrthym beth mae hynny'n ei olygu wrth ichi ymateb i'r ddadl. Mae hynny'n cyfateb i ganfyddiadau adroddiad yr archwilydd cyffredinol, wrth gwrs, ond yr hyn yr hoffwn ei ofyn yw: gan fod penodi aelodau'r bwrdd mor bwysig i weithrediad effeithiol y bwrdd iechyd, mae'n rhwystredig, onid ydyw, ac yn siomedig, mae'n rhaid imi ddweud, ei bod wedi cymryd dros 12 mis i hynny ddigwydd, oherwydd, drwy beidio â phenodi'r aelodau hynny, yna, yn amlwg, yn sylfaenol mae'r daith honno tuag at welliant wedi'i dal yn ôl i raddau mwy nag y byddai llawer ohonom wedi'i ddymuno. Mae pob un ohonom yng Nghymru, wrth gwrs, yn rhannu'r un nod o sicrhau bod Betsi mewn sefyllfa lle gellir ei dynnu allan o fesurau arbennig, ond mae'n rhaid ei wneud pan fydd yn barod i hynny ddigwydd, ac fe wnaeth y Gweinidog, er tegwch, gydnabod hynny yn y datganiad ddoe. Rwy'n credu eich bod wedi dweud y byddant yn dod allan o fesurau arbennig pan fyddant yn barod i ddod allan o fesurau arbennig, nid cyn hynny. Nid wyf yn siŵr a yw hynny'n rhyw fath o awgrym eich bod yn derbyn efallai, eich bod wedi sylweddoli o'r diwedd, eu bod wedi'u tynnu allan o fesurau arbennig ychydig yn gynamserol y tro diwethaf. Ond wrth gwrs, nid yw hynny'n rheswm i unrhyw un eistedd yn ôl a thynnu eu troed oddi ar y sbardun ychwaith, felly mae'n siomedig, mae'n debyg, ei bod wedi cymryd blwyddyn gyfan i benodi bwrdd llawn. Rwy'n deall y gallai fod rhesymau am hynny, ond does bosibl nad yw 12 mis yn fwy na digon o amser i gael trefn ar hynny. Yn yr un modd, ddoe, ac rwyf am orffen gyda hyn, dywedodd y Gweinidog fod yna gyfres o amodau cynaliadwyedd y mae'n rhaid i'r bwrdd eu cyrraedd cyn ystyried isgyfeirio; byddai'r rhain yn cynnwys gweledigaeth strategol a newid diwylliant. Ond dywedodd hefyd, yn ystod y misoedd nesaf, y byddai'n ategu'r amodau hyn â meini prawf isgyfeirio. Felly, rydym wedi bod yn destun mesurau arbennig ers blwyddyn bellach ac nid oes meini prawf allweddol ar waith. Nawr, rwy'n gwybod eich bod yn ôl pob tebyg yn aros i'r bwrdd newydd fod yn ei le er mwyn iddynt gael perchnogaeth ar hynny, ond unwaith eto, rwy'n credu bod 12 mis—blwyddyn gyfan—inni allu mynegi sut beth yw hynny yn annerbyniol, ac mae'r pwynt hwnnw'n cael ei wneud, gobeithio, yn y gwelliant arall a wnawn. Diolch. Sam Rowlands AS: Rwy'n falch o allu cymryd rhan yn y ddadl bwysig hon heddiw, oherwydd, fel y clywsom, mae bron i flwyddyn ers i fwrdd iechyd gogledd Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gael ei osod yn ei fersiwn ddiweddaraf o fesurau arbennig. Mae'n bwysig cofio mai dim ond y fersiwn ddiweddaraf o stori go druenus yw hon. Dechreuodd y fersiwn ddiweddaraf—yr union ddyddiad—ar 27 Chwefror 2023, ond rydym yn edrych, ers haf 2015, ar sefyllfa debyg yn ffurfiol ymhell cyn hynny o ran yr hyn yr oedd Aelodau'r lle hwn yn ei godi gyda Gweinidogion. Ac fel y mae Gareth Davies eisoes wedi'i amlinellu, mae hwn yn fwrdd iechyd sydd wedi treulio mwy o amser mewn mesurau arbennig nag unrhyw sefydliad GIG arall yn hanes y gwasanaeth iechyd gwladol. Fel Cymro balch, mae hynny'n codi cywilydd arnaf, mewn gwirionedd, fod gennym y cyflawniad truenus hwnnw yng Nghymru o fod â bwrdd iechyd sydd wedi treulio mwy o amser mewn mesurau arbennig nag unrhyw fwrdd iechyd yn hanes y GIG. Amlygir y bennod ddiweddaraf yn y stori druenus hon drwy adroddiad Archwilio Cymru unwaith eto, sydd â rhai pethau cadarnhaol ynddo. Mae'n dangos lefel o gynnydd y mae'n rhaid ei gydnabod, ond mae'n dal i sôn am heriau sylfaenol y mae'r bwrdd iechyd yn eu hwynebu. Mae cyfeiriadau yno o hyd at benodiadau o parhaol, bwrdd cydlynol ac unedig a materion personél parhaus. Mae hyn, i mi, yn tynnu sylw at rai problemau sylweddol o hyd o fewn y strwythur rheoli nad ydynt wedi'u datrys yn llawn. Nawr, gwn y bydd y Gweinidog eisiau tynnu sylw at y cynnydd—ac rwy'n deall hynny, Weinidog—pan fyddwch chi'n siarad ymhen ychydig, ond credaf y dylech chi hefyd geisio cydnabod nad yw'r canlyniadau yn agos at ble y dylent fod. Yr un sy'n fy nharo fwyaf ar hyn o bryd yw ein hadrannau damweiniau ac achosion brys, lle nad oes ond 83 y cant o gleifion yn cael eu gweld o fewn y targed amser aros o 12 awr. Mae hynny'n golygu bod bron 20 y cant o bobl yn gorfod aros mwy na 12 awr yn ein hadrannau damweiniau ac achosion brys. Nid yw honno'n sefyllfa y mae unrhyw un ohonom eisiau bod ynddi ac ni ddylai ein trigolion dderbyn hynny ychwaith. Nawr, mae pwynt 1 o'n cynnig heddiw yn cydnabod gwaith ac ymroddiad staff gweithgar y bwrdd iechyd, a hynny'n briodol, a gadewch inni gofnodi hynny, oherwydd mae'n bwysig iawn ein bod yn parhau i dynnu sylw at eu gwaith caled. Ond yn anffodus, maent yn gweithio mewn amgylchedd sy'n eu llyffetheirio, ac mae hyn, i mi, oherwydd y strwythur sydd wedi bod ar waith ers llawer gormod o amser yn nhrefniadau rheoli'r bwrdd iechyd. Ond hefyd mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru a Gweinidogion Llywodraeth Cymru fod yn atebol hefyd. Nawr, deallaf fod Gweinidogion yn y gorffennol wedi tynnu sylw at gyfrifoldeb ar lefel y bwrdd iechyd neu reolwyr mewn byrddau iechyd, sy'n gwbl gywir; mae cyfrifoldeb yno. Ond yn y pen draw, i ni fel seneddwyr, mae'r atebolrwydd yma yn y lle hwn. Fel gwaith a ddirprwywyd i Gymru, mae'r atebolrwydd yma gyda Gweinidogion yn Llywodraeth Cymru. A dyma'r Llywodraeth Cymru, fel y nododd Llyr Gruffydd eiliad yn ôl, a dynnodd Betsi allan o fesurau arbennig ychydig cyn yr etholiad diwethaf a'u gwneud yn destun mesurau arbennig unwaith eto yn eithaf buan wedyn—camgymeriad amlwg. Ac mae Gareth Davies eisoes wedi tynnu sylw at yr hyn y byddem yn ei wneud fel Ceidwadwyr, sef ei ariannu'n briodol gyda'r swm llawn o gyllid y mae Llywodraeth Cymru yn ei gael gan Lywodraeth y DU, gan drethdalwyr. Tanariannu Llafur sy'n achosi i bobl ddioddef yng ngogledd Cymru. Ddwy flynedd yn ôl, gosododd Llywodraeth Cymru darged na ddylai unrhyw un aros wyth wythnos neu fwy am brawf diagnostig, sy'n darged gwych ac mae'n bwysig iawn, ond ym mis Tachwedd y llynedd, roedd cymaint â 40 y cant o arosiadau yn hwy na'r targed wyth wythnos—47,000 o bobl yn aros yn hwy na'r targed sydd yn ei le. Y pwynt fan hyn yw nad wyf yn credu bod Llywodraeth Cymru yn deall—y profiadau y mae fy nhrigolion yn eu hwynebu, o un dydd i'r llall, yng ngogledd Cymru. Rwy'n credu mai rhywbeth arall sy'n amlygu'r broblem yw'r ddadl arweinyddiaeth ddiweddar a gynhaliwyd yn yr Wyddgrug rhwng Mr Gething a Mr Miles, wrth iddynt geisio denu cefnogaeth o blith ffyddloniaid Llafur yn yr Wyddgrug. Yn y ddadl honno, ni chafwyd unrhyw gwestiwn am y GIG. Yn ôl yr hyn a ddeallaf mewn gwirionedd, cafodd cwestiynau eu hidlo ac nid oedd unrhyw gwestiwn yn y ddadl honno yn ymwneud â'r GIG. Felly, o ran deall y broblem a deall yr hyn y mae trigolion gogledd Cymru yn ei wynebu, rwy'n credu bod peidio â chynnwys unrhyw gwestiwn am y GIG yn rhywbeth y dylai'r Blaid Lafur fyfyrio arno yma yng Nghymru. Gyda'r crynodeb hwnnw mewn golwg, Ddirprwy Lywydd, hoffwn annog pob Aelod i gefnogi'r Ceidwadwyr Cymreig, a fyddai'n gwneud y peth iawn i bobl yng ngogledd Cymru. Jack Sargeant AC: Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i allu siarad yn y ddadl bwysig hon. Lywydd, hoffwn ddechrau drwy adleisio galwadau cyd-Aelodau ar draws y Siambr i ddiolch i'r rhai sy'n mynd i mewn ddydd ar ôl dydd, ac yn mynd y tu hwnt i'r galw ddydd ar ôl dydd i gefnogi trigolion yn Alun a Glannau Dyfrdwy ac ar draws gogledd Cymru. Fel y mae llawer o Aelodau eisoes wedi dweud y prynhawn yma, mae gwaith achos iechyd yn gyfran sylweddol o'm llwyth gwaith fy hun fel Aelod o'r Senedd dros Alun a Glannau Dyfrdwy, ac mae'r cyfrifoldeb am ddarparu'r gwasanaethau y mae fy nhrigolion yn dibynnu arnynt ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Fel y dywedais yn natganiad y Gweinidog ddoe, er bod y rhan fwyaf o drigolion yn edrych ar ddarpariaeth iechyd drwy lens pa un a allant gael apwyntiad meddyg teulu neu beidio, pa mor hir y maent hwy a'u hanwyliaid yn aros am driniaeth a mynediad at bethau fel gofal deintyddol, mae llawer hefyd yn ymwybodol iawn o berfformiad y bwrdd iechyd. Rwy'n siŵr na fyddai'r Gweinidog eisiau imi ddweud hyn mewn unrhyw ffordd arall na rhoi siwgrar y bilsen, ond mae yna rwystredigaeth go iawn ynghylch methiannau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn y gorffennol, boed mewn perthynas â gwasanaethau iechyd meddwl, mynediad at feddygon teulu, amseroedd aros neu, fel y nodwyd mewn adroddiadau blaenorol, Lywydd, camweithrediad y bwrdd iechyd. Rydym i gyd yn gwybod, mae'r Gweinidog yn gwybod hefyd, nad yw wedi bod yn ddigon da. Dyma'r rhesymau pam fod y bwrdd iechyd wedi i mewn ac allan ac i mewn i fesurau arbennig wedyn, ac mae'n amlwg fod y problemau'n ddwfn. Rwy'n croesawu adroddiad yr archwilydd cyffredinol sy'n dweud bod cynnydd wedi'i wneud, ond pan fyddaf yn siarad â thrigolion a gweithwyr gofal iechyd yng ngogledd Cymru, maent yn dal yn glir fod yn rhaid gwneud llawer mwy o gynnydd a bod yn rhaid ei wneud yn gyson ac yn gyflym. Mae angen cynllun clir arnom ar gyfer hynny, mae angen cynllun fel y gallwn wneud y bwrdd iechyd yn atebol, ac mae hynny'n dechrau gyda sicrhau bod y bobl iawn mewn swyddi ar lefel y bwrdd fel y gallant 'sefydlogi'r llong', fel y dywedodd y Gweinidog ddoe. Rwy'n falch fod y swyddi ar y bwrdd yn cael eu llenwi. Dylai'r pethau hyn fod wedi digwydd beth amser yn ôl, ond rwy'n gobeithio nawr ein bod wedi troi'r gornel ar hynny o'r diwedd. Lywydd, mae mwy na 20,000 o bobl yn gweithio i'r bwrdd iechyd, ac mae cannoedd o filoedd o bobl yn dibynnu arno. Maent yn nodi cynnydd yn ôl sut y gallant gael mynediad at wasanaethau, ac ni ddylem golli golwg ar hyn. Yr hyn yr ydym yn sôn amdano yma heddiw yw sicrhau ein bod yn ysgogi gwelliant o ran mynediad a chanlyniadau. Dyna mae fy nhrigolion yn Alun a Glannau Dyfrdwy yn ei ddisgwyl ac yn ei haeddu; dyna rwyf innau'n ei ddisgwyl hefyd. Mewn ymateb i'r datganiad ddoe, a'm cyfraniad i'r ymateb ddoe, pan ofynnais i'r Gweinidog a oedd fy mlaenoriaethau i a blaenoriaethau fy nhrigolion yr un fath â blaenoriaethau'r Gweinidog a Llywodraeth Cymru, roeddwn yn arbennig o falch o glywed eu bod. Diolch yn fawr. Janet Finch-Saunders AC: Wel, fe wyddom fwy fyth ers ddoe fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dal i wynebu problemau enfawr. Fel y nododd fy nghyd-Aelod Darren Millar, roedd adroddiad newydd, a gyhoeddwyd ddoe ddiwethaf gan y pwyllgor ansawdd, diogelwch a phrofiad, yn nodi risgiau enfawr i ddiogelwch cleifion: silindrau ocsigen heb eu cysylltu'n gywir, gan olygu nad oedd cleifion yn cael ocsigen; ôl-groniadau difrifol mewn wroleg, a llwybrau cleifion heb eu gweithredu oherwydd lefelau staffio enbyd; a 1,133 o lythyrau a nodwyd yn ystod chwiliad fel rhai wedi'u harddweud gan glinigwyr ond heb eu hanfon eto, gyda'r hynaf ohonynt yn dwyn y dyddiad 13 Mehefin 2023. Roedd rhai o'r llythyrau hynny wedi'u bwriadu ar ein cyfer ni, yn dilyn cwynion gan etholwyr a godwyd gennym ac na chawsom unrhyw ymatebion iddynt. Yn fwyaf brawychus, wrth chwilio'r swyddfa, nodwyd bod 100 a mwy o adroddiadau radioleg, atgyfeiriadau mewnol ac adroddiadau histoleg, tua 300 gyda'i gilydd, wedi cael eu nodi fel rhai heb eu hadolygu na'u gweithredu. Nid yw hyn yn dderbyniol o gwbl. Ni ellir gwadu bod gwasanaethau cyhoeddus allweddol wedi gwaethygu dros y blynyddoedd diwethaf dan arweiniad y Prif Weinidog, Mark Drakeford, gydag amseroedd aros yn y fath anhrefn. Ar hyn o bryd, mae pedair gwaith cymaint o drigolion Cymru yn aros mwy na blwyddyn am driniaeth o'i gymharu â'r rhai yn Lloegr, a chynnydd syfrdanol o 40 y cant yn nifer y cleifion yng Nghymru sydd bellach yn ceisio triniaeth mewn ysbytai yn Lloegr. Mae lefel yr hyder mor isel erbyn hyn yn ein bwrdd iechyd. Gallwch weld pam pan fo cleifion yng Nghymru yn aros chwe wythnos yn hwy ar gyfartaledd i gael llawdriniaethau, ac eto mae gennyf etholwyr a oedd yn aros dwy flynedd cyn COVID, sy'n dal i aros am lawdriniaethau nawr. Mae hyn yn dangos i mi pa mor araf y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymateb i'r argyfwng ym mwrdd iechyd Betsi. Yn benodol, caf fy atgoffa o Ysbyty Bryn y Neuadd yn Llanfairfechan, lle, ym mis Chwefror, y gwneuthum feirniadu methiant Llywodraeth Cymru i drafod ac ymdrin â'r ôl-groniad gwerth £27.7 miliwn o waith atgyweirio, gyda 70 y cant o lefel y llawr a ddefnyddir wedi ei gofnodi'n anaddas yn ymarferol. Dyma ysbyty sy'n trin rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, gyda llawer ohonynt ag anghenion iechyd cymhleth. Rwyf wedi gofyn am gael ymweld â'r lle sawl gwaith dros y 12 mis diwethaf, heb lwyddiant. Felly, gallaf fynd i ymweld ag unrhyw ysbyty unrhyw bryd, ond rwyf wedi gofyn sawl gwaith am gael ymweld â Bryn y Neuadd. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld cymaint o adroddiadau erchyll a gwarthus. Cynhaliwyd deg adolygiad, gyda phob un yn tynnu sylw at y problemau sylweddol y clywn amdanynt eto y prynhawn yma. Mae'n anhygoel faint mae'r adolygiadau hyn yn ei gostio i'r trethdalwr, a hoffwn pe gallech gadarnhau heddiw, Weinidog, faint o arian trethdalwyr sydd eisoes wedi'i wario ar y mesurau arbennig dros y 12 mis diwethaf. Er gwaethaf yr holl ymchwilio ac arolygu, ymddengys nad yw Llywodraeth Cymru yn agosach at ddeall y problemau ehangach. Y mwyaf difrifol yn fy marn i yw adroddiad Ernst & Young. Datgelodd yr ymchwiliad fod y tîm cyllid wedi cofnodi gwybodaeth anghywir yn fwriadol yn y cyfrifon, gan briodoli gwariant ar gam i un flwyddyn ariannol, yn hytrach nag adlewyrchu'r dosbarthiad yn gywir dros nifer o flynyddoedd. Mae fy etholwyr yn dal i ofyn, Weinidog: beth sy'n digwydd am hynny? Beth sy'n digwydd am y sgandal ynghylch y £122 miliwn? Nid yw'n adeg dda i fwrdd iechyd Betsi o hyd, ond rwy'n ailadrodd fy mod yn ddiolchgar nawr am y gwaith sy'n cael ei wneud gan Carol Shillabeer, y prif weithredwr, Dyfed Edwards, a thîm, ar ryw adeg i ddod, gobeithio, tîm sy'n gweithio'n dda, gyda chynllun da. Cawn ein gadael â rhestrau aros hwy nag erioed a'r canlyniadau dilynol i gyfraddau goroesi. Mae'r disgwyliad oes yng Nghymru wedi bod yn gostwng ers 2012, gyda Chymru y trydydd isaf yn y DU. Gwnaethom alwadau yn ôl ym mis Ionawr i uned mân anafiadau Llandudno gael rhywfaint o'r £2.7 miliwn a ryddhawyd. Rwy'n cydymdeimlo'n fawr â Darren Millar, Gareth Davies, Sam Rowlands, ein holl Aelodau yng ngogledd Cymru sy'n codi'r materion hyn, gydag addewidion o unedau mân anafiadau eraill ac adrannau brys mewn mannau eraill. Mae'r ysbytai llai hyn yn wirioneddol hanfodol wrth ymladd y pwysau sy'n wynebu ein byrddau iechyd. Rydym ni, y Ceidwadwyr Cymreig, yn awyddus i fynd i'r afael â'r problemau sylfaenol sydd ar waith yma. Mae angen gweithredu ar frys i gwblhau penodiadau parhaol i'r bwrdd er mwyn sicrhau capasiti llawn. Mae angen arweinyddiaeth gref arnom. Mae problemau llywodraethu wedi parhau yn y bwrdd ers 2012. Mae angen prawf cymhellol arnom fod y Llywodraeth—a chi fel y Gweinidog—wedi dysgu'r gwersi angenrheidiol sy'n dangos ein bod yn cefnu ar batrwm o gamweithrediad wedi'i normaleiddio— Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Mae angen ichi orffen nawr, Janet, os gwelwch yn dda. Janet Finch-Saunders AC: —a safonau sy'n gostwng. Digon yw digon. Mae Cymru, a fy etholwyr, ac etholwyr ar draws gogledd Cymru, yn haeddu gwell. Mabon ap Gwynfor AS: Fel y soniais ddoe, Betsi Cadwaladr ydy fy mwrdd iechyd i, sydd â'r cyfrifoldeb arswydus o ofalu am fy anwyliaid—fy ngwraig, fy mhlant a’m teulu estynedig—yn ystod eu horiau mwyaf anghenus. Felly, mi fyddaf i'n fythol ddiolchgar i’r bydwragedd gwyrthiol a ddaeth â fy mhlant i i’r byd yn Ysbyty Maelor Wrecsam, a’r nyrsys a roddodd ofal tyner i Nain a Taid yn ystod eu dyddiau olaf, heb sôn am Dr Thomas a Dr. Liddell, sydd yno ar ein cyfer ni fel teulu bob tro. Felly, pan fydd pethau yn mynd o'i le, nid y cleifion yn unig sydd yn dioddef, ond mae’r gweithlu rhagorol yn dioddef hefyd. Pan grëwyd y bwrdd iechyd yma 15 mlynedd yn ôl, roedd yn amlwg y byddai yna broblemau cychwynnol wrth i dri bwrdd iechyd uno a chreu un. Ond er bod yna 15 mlynedd wedi mynd, mae’r rhwygiadau yna yn parhau i fodoli, ac mae hyn yn rhan greiddiol o fethiant y bwrdd a methiant y Llywodraeth i adnabod y gwendidau a mynd i’r afael â’r gwendidau oedd yno o’r cychwyn cyntaf un. Yn gyntaf, ofnaf nad yw’r Llywodraeth yn rhoi digon o bwyslais ar ganlyniadau iechyd, gyda llawer gormod o bwyslais yn cael ei roi ar ddatrysiadau tymor byr, heb fod yna ddigon o sylw yn cael ei roi i ddatblygu strategaeth hirdymor. Yn ail, mae'n amlwg hefyd bod ymyrraeth gynnar yn brin iawn yma, sydd wedi normaleiddio a chaniatáu i wasanaethau iechyd fethu. Mae’r ddarpariaeth iechyd meddwl yn enghraifft berffaith o hyn. Ac yn drydydd, mae’r Llywodraeth wedi methu â chyflwyno gweledigaeth i ni o sut dylai gwasanaeth iechyd fod yn y gogledd. Nid yw'r Llywodraeth hyd yn oed wedi esbonio beth mae llwyddiant yn edrych fel yng nghyd-destun y bwrdd. Ystyriwch, mae dros flwyddyn bellach ers i’r bwrdd gael ei roi yn ôl i mewn i fesurau arbennig a dim ond rŵan mae’r Gweinidog yn dechrau meddwl am greu fframwaith ar gyfer isgyfeirio. Dyma ddywedodd y Gweinidog yn ei hymateb i fi ddoe: Mabon ap Gwynfor AS: '[rwy'n] mynd i ategu'r amodau cynaliadwyedd hynny gydag amodau dad-ddwysáu clir yn ystod y misoedd nesaf'. Mabon ap Gwynfor AS: Mewn difri calon, ystyriwch am eiliad beth mae hyn yn ei ddweud wrthym ni. Mae hi dros flwyddyn ers i’r bwrdd gael ei roi mewn i fesurau arbennig a dim ond rŵan mae’r Gweinidog yn meddwl am ddechrau gosod amodau isgyfeirio ar gyfer y bwrdd. Does dim syndod fod y bwrdd yn methu. Mae’n teimlo weithiau fel ei fod yn cael ei osod i fyny er mwyn methu. Sut mae'n bosib i’r bwrdd fynd ati gyda brys i fynd i’r afael â’r problemau os nad oes ganddyn nhw'r fframwaith clir yna gyda’r cerrig milltir angenrheidiol mewn lle er mwyn dod allan o fesurau arbennig ac adeiladu tuag at ddyfodol mwy llewyrchus? Yn hytrach na cheisio mân reoli pob dim mae’r bwrdd yn ei wneud o ddydd i ddydd a llesteirio gallu'r bwrdd i fod yn arloesol ac yn hyblyg, dylai’r Gweinidog geisio datblygu dealltwriaeth o anghenion iechyd a lles y rhanbarth a chydweithio efo'r bwrdd newydd deinamig i greu cynllun strategaeth hirdymor gyda cherrig milltir clir ar hyd y daith i fesur llwyddiant a thwf. Heb hyn, yna dwi'n ofni mai rhygnu ymlaen o un argyfwng i'r llall y byddwn ni, gyda staff yn colli hyder a chleifion yn parhau i ddioddef. Daw hyn â ni yn olaf i edrych ar y newid angenrheidiol mewn diwylliant, a hynny'n newid o’r brig, sef y Llywodraeth. Yn hytrach na’r agwedd o ddiymadferthwch dysgedig sydd wedi ymdreiddio drwy holl waith y Llywodraeth ac yn ei dro wedi llygru’r bwrdd iechyd, mae'n rhaid gweld newid yn yr agwedd yma i un sydd yn anelu am y gorau ac yn dangos hyder yn ein gallu ni yma i ddarparu'r gofal gorau posib yn unol â’r angen yn y rhanbarth, a hynny mewn amgylchedd unigryw gogledd Cymru. Diolch. Mark Isherwood AC: Wel, gadewch imi ddechrau drwy ddiolch i staff adrannau awdioleg, lleferydd ac iaith a sgrinio fasgwlaidd y bwrdd iechyd am y gwasanaeth rhagorol y maent wedi'i roi i mi yn bersonol dros y misoedd diwethaf. Fodd bynnag, nid yw fy mhrofiad personol gyda rhai o'r adrannau wedi bod cystal. Rwyf hefyd yn nodi ymateb gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ynghylch etholwr, a oedd yn cynnwys fod ymchwiliad wedi dod i'r casgliad fod yr holl ambiwlansys brys a oedd ar ddyletswydd yn ystod y cylch galwadau 999 yn rhoi sylw i gleifion eraill yn y gymuned neu wedi gorfod oedi yn ysbytai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn aros i drosglwyddo cleifion o ambiwlansys brys i staff ysbytai. Yn anffodus, mae Gweinidogion Llafur wedi diystyru a dirmygu ein rhybuddion yn seiliedig ar dystiolaeth am y bwrdd iechyd hwn dros nifer fawr o flynyddoedd. Ar bob achlysur, fe wnaethant osgoi cyfrifoldeb drwy ein cyhuddo o ddifrïo ein GIG a'r staff yng Nghymru, pan oeddem yn hytrach yn codi llais oherwydd bod staff, cleifion a theuluoedd wedi gofyn i ni wneud hynny. Wrth sôn am adroddiad Archwilio Cymru yr wythnos diwethaf ar gamau dilynol ar effeithiolrwydd bwrdd gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, dywedodd yr archwilydd cyffredinol 'Mae'n galonogol gweld nad yw'r camweithrediad o fewn uwch arweinyddiaeth y bwrdd iechyd a ddisgrifiwyd gennym y llynedd bellach yn bresennol.' Er gwaethaf hyn, dywedodd wrthyf wedyn fod yr adroddiad yn mynd ymlaen i ddweud yn hollol glir fod heriau sylfaenol yn parhau. Mae'r rhain yn cynnwys yr angen i adeiladu tîm gweithredol gyda'r gallu a'r profiad i fynd i'r afael â'r heriau gweithredol sylweddol y mae'r bwrdd iechyd yn eu hwynebu o hyd, a'r angen i gryfhau'r ffordd y mae swyddogion gweithredol yn rhoi sicrwydd i'r bwrdd a'i bwyllgorau. Dywedodd ei bod yn bwysig pwysleisio hefyd fod ei adroddiad yn canolbwyntio ar effeithiolrwydd y bwrdd yn unig ac nid effeithiolrwydd y sefydliad ehangach nac yn wir ar feysydd gwasanaeth penodol, fel iechyd meddwl neu wroleg. Pwysleisiodd Archwilio Cymru yn ogystal fod angen gweithredu pellach mewn nifer o feysydd o hyd. Mae'r problemau craidd bob amser o fewn y weithrediaeth. Roedd y llythyr a anfonais at y bwrdd iechyd ym mis Mawrth 2022, fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, yn cynnwys y ffaith ein bod yn siomedig ynghylch diffyg perchnogaeth y weithrediaeth ar broblemau'r bwrdd iechyd a'i chyfrifoldeb amdanynt. A chan gyfeirio at adroddiadau amrywiol, gan gynnwys adroddiadau Holden, Ockenden, HASCAS a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, dywedasom ein bod hefyd yn pryderu am bresenoldeb parhaus swyddogion gweithredol a rheolwyr yn y bwrdd iechyd a gafodd eu beirniadu yng nghasgliadau'r adroddiadau hyn ac ynghylch eu gallu i gyflawni'r newid mewnol sydd ei angen. Ni chawsom ymateb i'r pryderon hyn. Yng nghyfarfod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar 3 Mai 2023, cawsom dystiolaeth hefyd gan John Gallanders a John Cunliffe yn dilyn eu hymddiswyddiad gorfodol fel aelodau anweithredol annibynnol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gan y Gweinidog ar 27 Chwefror 2023. Clywsom fod yr ymddiswyddo gorfodol wedi dilyn ymdrechion gan aelodau annibynnol y bwrdd iechyd i ddwyn y prif weithredwr a'r uwch dîm rheoli i gyfrif drwy her a chraffu pwrpasol pan nad oeddent yn barod i oddef perfformiad gwael mwyach ac amharodrwydd rhai aelodau gweithredol o'r bwrdd i gael eu dwyn i gyfrif. Felly, mae'r cwestiynau canolog am y swyddogaeth hon o fewn y bwrdd iechyd yn parhau heb eu hateb. A yw'r aelodau gweithredol hynny y cyfeirir atynt yn dal yn eu swyddi neu'n dal i allu dylanwadu fel arall ar lywodraethiant a/neu reoli timau staff? Os ydynt, ai dyma'r un cydweithwyr y cyfeirir atynt yn y datganiad a gefais ar ran y cyn-aelodau annibynnol o'r bwrdd iechyd yn dilyn eu hymddiswyddiad gorfodol, datganiad a rannais â'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, lle nodai fod rhai swyddogion gweithredol gyda bwriadau da wedi cael eu pardduo a'u tanseilio gan ymddygiad eu cydweithwyr, i'r fath raddau fel bod y tîm ei hun wedi dod yn gamweithredol ac yn aneffeithiol fel grŵp? Os mai'r rheini ydynt, ai dyma'r un aelodau gweithredol sy'n gyfrifol am rwystro atebolrwydd, claddu adroddiadau a bwlio chwythwyr chwiban dros fwy na degawd? Mae swyddogaeth, effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd yn galw am dryloywder ac atebolrwydd, ac mae angen ffeithiau cadarn arnom am hyn yn unol â hynny. Nid mater hanesyddol yn unig yw hyn. Ddydd Iau diwethaf, ysgrifennwyd ataf ynghylch y sefyllfa yn y gwasanaethau wroleg. Roedd yn cynnwys, 'Nid yw'n syndod fod y weithrediaeth berthnasol wedi gohirio adolygiad y coleg brenhinol nawr ers dros 12 mis'. Fe wnaethant chwiliad o'r swyddfa a dod o hyd i broblemau enfawr: y dylai cleifion fod wedi bod yn cael triniaeth, ond nad yw'r adroddiadau a'r llythyrau wedi cael eu prosesu. Roedd yr aelodau annibynnol a gafodd eu diswyddo yn gwybod am y sefyllfa; edrychwch ar gofnodion 12 mis yn ôl, pan oedd swyddogion gweithredol yn gwneud esgusodion i'w cadw'n dawel. Dyna graidd y broblem. Diolch yn fawr. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Galwaf ar y GweinidogIechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan. Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gael y cyfle i ymateb i'r ddadl hon y prynhawn yma ac i barhau â'r drafodaeth ynghylch Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Ddoe, nodais rai o'r gwelliannau a wnaed dros y 12 mis diwethaf, a heddiw byddaf yn tynnu sylw at nifer o newidiadau i'r gwasanaeth a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar bobl gogledd Cymru. Ond rwyf am adleisio'r sylwadau a wnaed gan siaradwyr eraill ynghylch ymrwymiad ac ymroddiad y mwy na 20,000 o staff sy'n gweithio yn y bwrdd iechyd. Maent yn rhan annatod o daith wella'r bwrdd iechyd. Er ei bod yn wir fod y bwrdd iechyd wedi bod mewn statws uwchgyfeirio ers nifer o flynyddoedd, credaf y byddai pawb yn y Siambr yn cytuno mai fy mhenderfyniad i uwchgyfeirio'r bwrdd i fesurau arbennig bron i flwyddyn yn ôl oedd y penderfyniad cywir. Fel y dywedais ddoe, nid oes gennyf unrhyw fwriad o isgyfeirio'r bwrdd iechyd i lefel 4, sef 'ymyrraeth wedi'i thargedu', hyd nes fy mod yn hollol siŵr fod y problemau difrifol a phethau sy'n ysgogi perfformiad, llywodraethiant, arweinyddiaeth a diwylliant gwael yn cael eu datrys. Fel y gwneuthum eich atgoffa ddoe, nodais gyfres o amodau cynaliadwyedd y llynedd y bydd angen eu bodloni cyn y gellir ystyried unrhyw isgyfeirio. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn nodi bod llawer iawn o waith wedi'i wneud dros y flwyddyn ddiwethaf. Y peth allweddol yr oeddem am ei nodi, yn erbyn set glir iawn o dargedau mesuradwy, oedd bod y bwrdd wedi sefydlogi. Felly, nid yw'n fater o fod heb fframwaith i weithio ohono; rydym wedi cael fframwaith sydd wedi'i fonitro'n arbennig o agos y buom yn gweithio oddi tano dros y flwyddyn ddiwethaf, a dim ond nawr y ceir sefydlogrwydd inni allu symud ymlaen i'r nesaf. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n annheg iawn nodi bod yna awgrym nad ydym wedi ei gyrraedd tan nawr; mae'n ddull pwrpasol iawn. Rwy'n credu bod yna arwyddion go iawn fod y bwrdd iechyd yn dechrau newid er gwell. Fel y nododd pobl, mae adroddiad dilynol Archwilio Cymru ar effeithiolrwydd y bwrdd yn dangos bod y bwrdd iechyd yn symud i'r cyfeiriad cywir, gyda mwy o sefydlogrwydd a gwell perthynas weithio. Mae'n ddiddorol gweld bod Llais, sefydliad sydd bob amser wedi bod yn barod i feirniadu'r bwrdd iechyd yn y gorffennol, hefyd wedi cydnabod bod pethau wedi newid. Rwy'n sylweddoli er hynny fod ffordd bell i fynd cyn y gallwn adfer hyder llawer o bobl yng ngogledd Cymru yn eu gwasanaeth iechyd. Ond mae miloedd ar filoedd ar filoedd o bobl bob wythnos sy'n cael gwasanaeth rhagorol. Eluned Morgan AC: Dros y flwyddyn ddiwethaf, bu llawer o newidiadau o fewn y bwrdd iechyd, gyda chymorth a chyngor yn cael eu darparu gan gynghorwyr annibynnol arbenigol. Bu newid mewn arweinyddiaeth a dull o weithredu gyda phrif weithredwr newydd. Do, fe gymerodd amser i gael prif weithredwr parhaol yn y swydd, ond mewn gwirionedd roedd y prif weithredwr dros dro yn ei swydd y diwrnod canlynol pan wnaethom gyhoeddi mesurau arbennig. Mae gennym gadeirydd, is-gadeirydd, aelodau annibynnol newydd ar y bwrdd. Maent i gyd wedi ymrwymo i wella ffyrdd o weithio, trin cyllid a gwella ansawdd y gofal a ddarperir, a phrofiadau cleifion a'u teuluoedd. Gwn fod llawer ohonoch yn awyddus i weld newidiadau i'r tîm gweithredol, ac mae'r rhain yn digwydd. Bydd y cyfarwyddwr llywodraethiant corfforaethol yn dechrau ym mis Ebrill a bydd recriwtio i swyddi cyfarwyddwr y gweithlu a datblygu sefydliadol, prif swyddog gweithredu a chyfarwyddwr therapïau yn dechrau yn yr wythnosau nesaf. Ond mae yna bobl eraill sydd eisoes wedi eu penodi i swyddi ac sy'n trawsnewid y sefydliad. Mae angen i bawb ohonom gefnogi'r bwrdd iechyd. Mae angen inni ddechrau siarad am y pethau da sy'n cael eu cyflawni i godi ysbryd y staff yn y gwasanaeth a hyder y cyhoedd, ac wrth gwrs mae angen inni hefyd ganolbwyntio ar welliannau yn y pethau sy'n peri pryder. Mae nifer o ffyrdd newydd o weithio yn eu lle, gan gynnwys estyniad i uned gofal ôl-anesthesia yn Ysbyty Maelor Wrecsam ar gyfer pobl sydd angen gofal arbenigol ar ôl llawdriniaeth. Mae uned cymorth anadlol wyth gwely wedi'i hagor yn Ysbyty Glan Clwyd i gefnogi pobl â phroblemau anadlu sydd angen arsylw rheolaidd ond nad oes angen gofal dibyniaeth uchel arnynt. Roedd hi'n anhygoel gweld sut oedd honno'n gweithio ar ymweliad diweddar. Mae llawdriniaeth laser arloesol yn cael ei defnyddio i dynnu cerrig arennau, ac mae'r tîm orthopedig yn Ysbyty Gwynedd wedi cyflawni dros 100 o lawdriniaethau i osod pengliniau newydd gan ddefnyddio technoleg robotig. Roeddwn yn falch o glywed hefyd fod meddygon dan hyfforddiant wedi nodi mai adran frys Ysbyty Gwynedd yw'r lle gorau i hyfforddi yn y Deyrnas Unedig gyfan. Ysbyty Maelor Wrecsam yw'r cyntaf yng Nghymru i ddefnyddio triniaeth laser newydd arloesol i gael gwared ar diwmorau'r bledren neu rannau amheus, ac mae hyn yn mynd i wella canlyniadau a phrofiad pobl. Mae canolfan adfer strôc newydd wedi agor yn Ysbyty Cyffredinol Llandudno i sicrhau bod cleifion yn cael y cyfle gorau i wella'n dda ar ôl cael strôc. Mae dull peilot syth-i-brawf wedi'i gyflwyno fel bod cleifion yn cael prawf mpMRI yn gynt ar ôl cael eu hatgyfeirio am ddiagnosteg lle'r amheuir canser. Gellir gweld pobl yn gyflymach, a chael sgan MRI tua 18 diwrnod ar ôl atgyfeiriad gan feddyg teulu. Roedd penderfyniad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i isgyfeirio gwasanaethau fasgwlaiddo fod yn wasanaeth sydd angen gwelliant sylweddol fis Mehefin diwethaf yn galonogol, ac rwy'n falch o glywed bod fy nghyd-Aelod Mark wedi cael gwasanaeth da yn yr adran fasgwlaidd honno. Roedd yr asesiad sicrwydd dilynol gan weithrediaeth y GIG hefyd yn nodi bod y gwasanaeth yn gwneud y gwelliannau gofynnol, ac edrychaf ymlaen at ganlyniad adolygiad pellach o nodiadau achos, sydd i fod i gyflwyno adroddiad ym mis Mawrth. Y llynedd, roedd amseroedd aros ar gyfer orthopedeg ar draws Betsi Cadwaladr yn sylweddol, gyda 2,472 o gleifion yn aros dros 104 wythnos. Mae amseroedd aros ar gyfer llwybrau orthopedig wedi gwella, gyda 1,100 o lwybrau cleifion bellach yn aros dros 104 wythnos. Mae ffordd bell i fynd o hyd, ond mae'n welliant o 52 y cant ers iddynt gael eu rhoi mewn mesurau arbennig ym mis Chwefror. Mae gwaith wedi dechrau ar yr hyb orthopedig newydd yn Llandudno, ac mae disgwyl i hwnnw weithredu ar gapasiti llawn yn gynnar yn 2025. Y nod yw darparu 1,900 o driniaethau orthopedig y flwyddyn. Mae arweinyddiaeth a rheolaeth y gwasanaeth iechyd meddwl, gan gynnwys gwasanaethau plant a'r glasoed, yn parhau i fod yn fregus, ond byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed lle cafodd Gareth y syniad fod y gwasanaeth wedi ei dorri 8 y cant. Fe wnaethom glustnodi'r gyllideb iechyd meddwl yn y gyllideb, ac fe wnaeth fy nghyd-Aelod, Lynne Neagle, sicrhau nad oedd hwnnw'n cael ei ddileu. Wrth gwrs, rydym yn gwybod bod mwy i'w wneud yno, ond cafwyd nifer o arolygiadau AGIC cadarnhaol dros y 12 mis diwethaf, gan awgrymu bod y gwasanaeth yn sefydlogi. Mae perfformiad yn erbyn y gwahanol fesurau— Mabon ap Gwynfor AS: A wnaiff y Gweinidog dderbyn ymyriad? Eluned Morgan AC: Os nad oes ots gennych, fe wnaf orffeny rhan ar iechyd meddwl. Mae perfformiad yn erbyn y gwahanol fesurau ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl oedolion a phlant a'r glasoed wedi gwella yn gyffredinol, er bod rhai heriau'n parhau wrth gwrs. Rwy'n hapus i dderbyn ymyriad. Mabon ap Gwynfor AS: Diolch. Er fy mod yn derbyn eich bod yn dweud bod cyllid ar gyfer iechyd meddwl wedi'i glustnodi, onid ydych yn derbyn bod y bwrdd iechyd, a byrddau iechyd eraill o ran hynny, yn gwario llawer mwy ar wasanaethau iechyd meddwl na'r hyn sydd wedi'i glustnodi? Felly, fe allech chi gael sefyllfa o hyd lle mae'r cyllid wedi ei dorri o'r man lle'r oedd y llynedd, oherwydd mai dim ond sylfaen i fynd ohoni yw'r arian sydd wedi'i glustnodi. Eluned Morgan AC: Cafwyd cynnydd o £25 miliwn yn yr arian sydd wedi'i glustnodi er gwaethaf ein sefyllfa ariannol enbyd, felly rwy'n credu ei bod yn werth nodi ein bod wedi ymrwymo'n llwyr i hyn. Mae'n un o'r blaenoriaethau rwyf bob amser yn eu gosod ar gyfer y byrddau iechyd: ein bod yn gwbl benderfynol o sicrhau bod iechyd meddwl yn cael yr un sylw ag iechyd corfforol. Mae gennym bellach wasanaeth '111 pwyso 2', sy'n trawsnewid y ffordd y mae pobl yn rhyngweithio. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn dad-feddygoli ein dull o ymdrin ag iechyd meddwl. Ni allaf gofio pwy siaradodd yn gynharach am yr angen i ymyrryd yn gynnar mewn perthynas ag iechyd meddwl, ond dyna'r union ddull o weithredu y mae fy nghyd-Aelod Lynne Neagle yn ei hyrwyddo'n gadarn iawn. Roeddech chi yma ar gyfer y ddadl ddoe mewn perthynas ag iechyd meddwl; fe fyddwch yn gwybod mai dyna'n union lle rydym yn mynd. Eluned Morgan AC: Dwi'n gwybod faint o amser mae pobl wedi gorfod aros am apwyntiadau, gofal a thriniaeth yn y flwyddyn ddiwethaf, a dwi'n gwybod bod hynny wedi bod yn rhwystredig, ond mae yna resymau i fod yn obeithiol. Rhaid inni bob amser gofio bod miloedd o bobl ar draws y gogledd yn cael gofal iechyd, cymorth a thriniaeth o ansawdd uchel bob wythnos, ac mae'r diolch am hynny achos ymroddiad ac arbenigedd staff y bwrdd iechyd. Ar gyfer cleifion sy'n aros am ofal wedi'i gynllunio, mae nifer y bobl sy'n aros 52 wythnos am apwyntiad claf allanol cyntaf wedi gostwng 15.4 y cant, ac mae nifer y bobl sy'n aros 104 wythnos am driniaeth wedi gostwng 24.9 y cant ers mis Chwefror 2023. Mae nifer y cleifion sy'n aros mwy nag wyth wythnos am brawf diagnostig wedi gostwng yn sylweddol, gyda 5,943 o bobl yn aros ym mis Tachwedd 2023, o gymharu gyda 10,000 ym mis Mai 2023. Mae gofal argyfwng, wrth gwrs, yn parhau yn her, a does dim syndod wrth inni weld faint o bobl sydd yn dod mewn i'r emergency department. Mae pobl yn dal i aros am rhy hir i gael eu gweld. Mae'r perfformiad yn erbyn y targed pedair awr yn gyson yn is na’r lefel y byddem ni'n ei disgwyl. Er bod gwelliant wedi bod o ran lleihau oedi o bedair awr wrth drosglwyddo cleifion o ambiwlans, mae angen cryn welliant o hyd. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Weinidog, mae'n rhaid ichi orffen nawr. Eluned Morgan AC: Diolch yn fawr. Mae yna gymaint o bethau, dwi'n meddwl, wedi gwella yn ystod y flwyddyn. Mae'r sefydlogrwydd yna o ran y bwrdd nawr, ond beth sydd angen nawr yw gwellhad sydd yn barhaol. Dwi yn meddwl bod y newid diwylliant sydd wedi dod o dop y sefydliad yn golygu bod pethau ar y trywydd cywir. Mae ffordd bell i fynd, ond, yn sicr, fel Llywodraeth, rŷn ni'n cadw golwg, ac rŷn ni yna i helpu’r bwrdd iechyd. Yn y pen draw, mae'n rhaid i'r bwrdd iechyd wneud y gwaith yna ei hun. Diolch yn fawr. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Dwi'n galw ar Darren Millar i ymateb i'r ddadl. Darren Millar AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n credu ei bod wedi bod yn ddadl dda y prynhawn yma, gan siarad am yr heriau sydd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a chydnabod gwaith caled iawn staff rheng flaen y GIG a phrofiadau cadarnhaol llawer o gleifion. Rydych chi'n hollol gywir, Weinidog; mae llawer o bobl yn cael profiadau cadarnhaol. Rwy'n meddwl mai'r broblem gyda bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yw ei fod yn anghyson. Mae'n anghyson o un ysbyty i'r llall. Mae'n anghyson o un adran i'r llall. Ac o ganlyniad i hynny, mae gennym lu o broblemau y mae'r bwrdd iechyd yn dal i ymgodymu â nhw, bron i 10 mlynedd ers iddo gael ei roi mewn mesurau arbennig am y tro cyntaf—naw mlynedd o leiaf. Ac mae'n rhaid inni eich dwyn chi i gyfrif. Rwy'n gwybod eich bod yn hoffi trosglwyddo'r bai i'r bwrdd iechyd a'u beio nhw am bethau sy'n mynd o'i le, ac chymryd y clod am y pethau sy'n mynd yn iawn. Dyna natur Llywodraeth Cymru, mae arnaf ofn. Ond y gwir amdani yw bod angen mwy o dryloywder arnom. Mae ein hetholwyr yn dweud wrthym am eu profiadau, ac nid ydynt yn cyd-fynd â'r argraff gadarnhaol iawn rydych chi'n ei rhoi o welliant yn y bwrdd iechyd. Yn anffodus, mae llawer o bobl yn dal i aros dros dair blynedd am driniaeth, ac fel y nodais ddoe, dywedodd y bwrdd iechyd wrthym yr wythnos hon eu bod o'r diwedd wedi dileu arosiadau chwe blynedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn y bwrdd iechyd. Nawr, ni allaf ddirnad sut y gall hynny fod wedi cael ei adael i ddatblygu, ond os na welwn yr wybodaeth i allu eich herio, ac os nad ydych chi'n gweld yr wybodaeth am amseroedd aros o chwe blynedd, pum mlynedd, pedair blynedd, sut ar y ddaear yr awn i'r afael â'r heriau yn y bwrdd iechyd hwnnw? Oherwydd rhaid ichi wybod beth rydych chi'n ymdrin ag ef er mwyn ichi allu canolbwyntio sylw ac adnoddau ar fynd i'r afael ag ef, ac rwy'n ofni nad oes unrhyw dryloywder. Dywedodd y bwrdd iechyd wrthym wrth gwrs, fel y dywedais wrthych ddoe, fod 10 adolygiad wedi'u cwblhau, 10 adroddiad wedi'u derbyn, 10 swp o argymhellion wedi'u gwneud, a'u bod yn gweithio i'w gweithredu. Nid oes unrhyw un o'r adolygiadau hynny wedi'u rhyddhau i'r cyhoedd, na'u rhannu gydag Aelodau'r Senedd hon. Rydym am eu dwyn i gyfrif am weithredu'r rheini. Rwy'n hyderus eu bod wedi cael eu darparu i Lywodraeth Cymru, ac rwy'n credu y dylech chi gyhoeddi'r rheini a dweud y gwir. O ystyried ei fod mewn mesurau arbennig, dylech gyfarwyddo'r bwrdd i gyhoeddi'r adolygiadau hynny er mwyn i ni eu gweld. Ac mae gennym y straeon arswyd ofnadwy hyn yn dod i'r amlwg o hyd fel y broblem weinyddu ocsigen y cyfeiriodd Janet Finch-Saunders ati, a'r llythyrau wroleg a'r sganiau a oedd wedi mynd ar goll. Gwyddom fod o leiaf 62 o'r 100 a mwy o sganiau yn annormal. Nid wyf yn gwybod a yw hynny wedi achosi niwed i gleifion o ganlyniad i oedi cyn iddynt gael mynediad at driniaeth a gofal, ond yn amlwg mae hynny'n bryder, ac i mi, mae'r ffaith bod hynny wedi cael ei adael i ddatblygu am gyfnod o dros 12 mis, tra bod y bwrdd mewn mesurau arbennig, yn awgrymu i mi fod mesurau arbennig yn rwtsh ac nad ydynt yn gweithio mewn gwirionedd, ac nad ydych yn cael y ffocws sydd ei angen ar y bwrdd iechyd er mwyn sicrhau bod ei swyddogaethau gweinyddol yn gweithio. Yr hyn na allaf ei ddeall yw pam fod yr wybodaeth gan Aelodau'r Senedd sy'n dod at y bwrdd iechyd gyda chwynion—. Rydym yn gwybod am y rhannau o'n bag post a'r rhannau o'r gwasanaethau yng ngogledd Cymru y cawn gwynion amdanynt, a gallaf ddweud wrthych, nid ydym yn cael unrhyw gwynion, fel y dywedodd Mark Isherwood, am y gwasanaethau awdioleg, oherwydd maent yn rhagorol, ond rydym yn cael llawer o gwynion am wasanaethau iechyd meddwl, rydym yn cael llawer o gwynion am wasanaethau wroleg, rydym yn cael llawer o gwynion am yr amseroedd aros rhy hir y mae'n rhaid i bobl eu dioddef er mwyn cael eu profion, eu triniaeth a'r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt. Byddwn wedi gobeithio y byddai'r arolygiaeth gofal iechyd a Llywodraeth Cymru yn wir yn gofyn i ni helpu i'ch cyfeirio i'r cyfeiriad cywir fel y gallwch ymchwilio i'r pryderon sydd yno, a dyna pam na allaf ddeall pam ei bod wedi cymryd cyhyd iddynt sylweddoli bod problem yn yr adran wroleg, oherwydd rwyf wedi bod yn ysgrifennu atynt ers blynyddoedd am yr adran honno. O ran iechyd meddwl, rydym yn dal i aros i'r adolygiad o adolygiadau gael ei gyhoeddi. Roedd i fod i gael ei gwblhau erbyn diwedd y llynedd; rwy'n dal i fod heb ei weld. Mae mis Mawrth yn nesáu. Fe ddywedoch chi wrthym eich bod yn mynd i wneud pethau'n gyflym er mwyn gwella'r sefyllfa yno. Yn sicr nid yw'n teimlo fel pe bai pethau wedi bod yn symud yn gyflym, mae arnaf ofn. Rydym hefyd yn gwybod bod adolygiad wroleg wedi'i gomisiynu gan aelodau blaenorol y bwrdd. Mae hwnnw ar silff yn rhywle, yn ôl pob tebyg—nid ydym wedi ei weld. Felly, mae'n ymddangos i mi mai'r unig dro y gwelwn adolygiad yw os oes ganddo newyddion da i'w ddweud wrthym, nid os oes ynddo fanylion erchyll i'w rhannu gyda ni, ac mae angen inni weld y ddau oherwydd mae angen inni gael y cydbwysedd. Dyna pam rwy'n dweud bod angen Llywodraeth fwy tryloyw arnom. Rydym eisiau eich helpu i wneud y gwaith yr ydych am ei wneud a'r gwaith yr ydym eisiau i chi ei wneud, sef gwella'r bwrdd iechyd. [Torri ar draws.] Rwy'n hapus i dderbyn yr ymyriad. Eluned Morgan AC: Diolch. Wel, rwy'n gwybod bod 10 adolygiad, fel y dywedwch, wedi'u comisiynu. Mae pedwar ohonynt wedi cael eu cyhoeddi mewn gwirionedd, felly mater i chi yw mynd i edrych ar y rheini, oherwydd maent allan yno ac maent wedi cael eu cyhoeddi, a bydd y lleill yn cael eu cyhoeddi ar ôl iddynt gyflwyno adroddiad, pan fydd y pwyllgor wedi penderfynu. Felly, nid oes diffyg tryloywder yma, ond os ydynt wedi cael eu cyhoeddi, nid ydym yn mynd i'w rhoi yn eich dwylo—gallwch fynd i chwilio amdanynt. Maent allan yno, maent yn barod. Mae yna dryloywder. Darren Millar AC: Wrth gwrs, dylem dreulio oriau yn chwilio drwy wefan y bwrdd iechyd, yn chwilio am yr adolygiadau hyn er mwyn dod o hyd iddynt, fel y gallwn edrych arnynt. A hoffwn ddweud hyn: un feirniadaeth flaenorol o'r bwrdd iechyd, mewn gwirionedd, oedd na allwch weld y coed gan brennau ym mhapurau'r bwrdd, felly nid oes gennyf syniad sut rydych chi'n disgwyl i ni gael amser i fynd i chwilio drwy'r rhyngrwyd i geisio dod o hyd i adroddiadau. A gadewch imi ddweud wrthych, rwy'n disgwyl i chi fel Llywodraeth gyhoeddi'r pethau hyn a thynnu sylw pawb atynt. Dyna rydym yn ei ddisgwyl gan ein Gweinidogion. Rydym eisiau atebolrwydd tryloyw. [Torri ar draws.] Rydym eisiau atebolrwydd a thryloywder. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: A wnaiff yr Aelodau ganiatáu i'r siaradwr siarad os gwelwch yn dda? Darren Millar AC: Rydym eisiau atebolrwydd a thryloywder. Nawr, rydych chi wedi siarad hefyd am yr heriau sydd gan y bwrdd iechyd mewn sawl maes. Rwyf wedi siarad am wroleg, rwyf wedi siarad am wasanaethau iechyd meddwl. Un arall, wrth gwrs, yw'r adran frys—rhai o'r adrannau brys sy'n perfformio waethaf yn y Deyrnas Unedig gyfan, mae arnaf ofn, yn enwedig yng Glan Clwyd a Maelor Wrecsam. Nid yw'n rhywbeth y dylem fod yn falch ohono; mae'n rhaid inni eu gwella. Un o'r atebion, 10 mlynedd yn ôl, y dywedodd y Llywodraeth hon ei bod yn mynd i'w weithredu er mwyn gwella'r sefyllfa honno oedd datblygu uned mân anafiadau newydd ac ysbyty cymunedol newydd yn y Rhyl. Ble rydym arni? Rydym yn dal i ddisgwyl. Ac rydych chi'n dal i daflu'r bai yn ôl at y bwrdd iechyd, gan ddweud, 'Rydym yn aros i'r bwrdd iechyd wneud hyn.' Dylech fod yn mynd ar eu holau. Dylech fod yn gwasgu arnynt i gyflwyno cynllun y credwch y gallwch fuddsoddi ynddo. Os ydych chi'n addo uned mân anafiadau newydd i'r cyhoedd, i dynnu pwysau oddi ar yr adran frys i lawr y ffordd, mae arnaf ofn y dylech gyflawni. Dylech roi eich arian ar eich gair a bwrw ymlaen i gyflawni'r pethau hyn. Nid ydym wedi gweld hynny ers 10 mlynedd. Ac nid yw gogledd Cymru wedi bod yn cael ei chyfran deg o fuddsoddiad cyfalaf ychwaith, Weinidog, o'i gymharu â byrddau iechyd eraill ar draws y wlad. Rydym wedi cael ein gadael ymhell ar ôl. Rhan o hynny yw bod bron pob cynllun y ceisiodd y tîm gweithredol ei gyflwyno, i wella'r sefyllfa a gwella perfformiad, wedi'i daro'n ôl dan y trefniadau uwchgyfeirio blaenorol. Felly, dyna pam rwy'n cytuno bod angen mwy o ryddid i arloesi ymhlith y tîm gweithredol a'r bwrdd iechyd, er mwyn mynd i'r afael â'r heriau sy'n eu hwynebu, gan mai atebion lleol fydd yn cyflawni'r gwelliannau sydd angen inni eu gweld. Felly, rwy'n gofyn i chi, Weinidog, gadewch inni fod yn fwy tryloyw, gadewch inni weld y da a'r drwg. Fe wnaethoch chi ddarllen rhestr hir o bethau gwych oedd yn digwydd yn y bwrdd iechyd, ac rwy'n eu canmol. Rwyf am ddathlu'r pethau hynny hefyd. Ond mae yna restr hir o bethau gwael iawn, profiadau gwael iawn y mae ein cleifion yng ngogledd Cymru yn gorfod ymgodymu â nhw, na ddylent fod wedi gorfod eu goddef cyhyd. Mae angen inni ddadwleidyddoli'r penderfyniadau ynglŷn â phryd i wneud pethau'n destun mesurau arbennig a phryd i'w tynnu allan o fesurau arbennig. Nid chi ddylai wneud y penderfyniadau hynny, dylai fod proses annibynnol ar gyfer cyrraedd y penderfyniadau hynny. A dim ond wedyn, pan fyddwn yn dechrau gweld y gwelliannau ym mhrofiadau cleifion yng ngogledd Cymru, y cawn hyder fod y bwrdd iechyd hwn wedi troi'r gornel ac yn dilyn trywydd newydd i lwyddiant. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Y cwestiwn yw: a ddylid deryn y cynnig heb ei ddiwygio? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Dwi wedi clywed gwrthwynebiad, felly gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. 7. Dadl Plaid Cymru: Ymchwiliad COVID penodol i Gymru Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Eitem 7 sydd nesaf: dadl Plaid Cymru ar ymchwiliad COVID penodol i Gymru. Galwaf ar Mabon ap Gwynfor i wneud y cynnig. Cynnig NDM8483 Heledd Fychan Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bydd Modiwl 2B o Ymchwiliad Covid y DU yn clywed tystiolaeth yng Nghymru rhwng 27 Chwefror a 14 Mawrth 2024. 2. Yn credu: a) bod Modiwl 2B o ymchwiliad Covid y DU: ‘Gwneud penderfyniadau gwleidyddol a gweinyddol craidd yng Nghymru’ yn annigonol i alluogi Llywodraeth Cymru ac asiantaethau eraill i ddysgu gwersi o’r ymateb i’r pandemig yng Nghymru; b) nad yw'r rhestr cyfranogwyr craidd ar gyfer gwrandawiadau Ymchwiliad Covid y DU yn cynnwys yr ystod lawn o sefydliadau perthnasol Cymreig; c) ni all Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru asesu'r ystod lawn o faterion sy'n gysylltiedig â'r modd roedd Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â'r pandemig; d) bod methiant i sefydlu ymchwiliad Covid penodol i Gymru yn tanseilio datganoli; e) bod ymchwiliad Covid penodol i Gymru yn hawl sylfaenol i bawb a gollodd anwyliaid oherwydd Covid. 3. Yn cydnabod pwysigrwydd Ymchwiliad Covid y DU wrth nodi sut y dylanwadodd penderfyniadau gan Lywodraeth y DU ar ymateb Covid yng Nghymru. 4. Yn gresynu nad yw Llywodraeth Cymru, yn wahanol i Lywodraeth yr Alban, wedi sefydlu ymchwiliad penodol i Gymru i archwilio’n llawn weithredoedd a phenderfyniadau Llywodraeth Cymru cyn, yn ystod ac ar ôl y pandemig. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu ymchwiliad Covid Cymru dan arweiniad barnwr. Cynigiwyd y cynnig. Mabon ap Gwynfor AS: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Boed eich bod yn blentyn ysgol a orfodwyd i addasu i ddulliau dysgu newydd ac anghyfarwydd, yn berchennog busnes y bu'n rhaid iddo lywio drwy ddirgryniadau digynsail yn ein heconomi, yn weithiwr a osodwyd ar gynlluniau ffyrlo, yn rhywun y dioddefodd ei iechyd meddwl yn ystod cyfnodau o gyfyngiadau symud a'r hunanynysu, yn ddioddefwr effeithiau gwanychol COVID hir, neu'n bwysicaf oll, yn galaru am un o'r 12,500 o unigolion a fu farw yng Nghymru o ganlyniad i'r clefyd hwn, fe wnaeth pandemig y coronafeirws gyffwrdd â bywydau pob un ohonom. Mae wedi trawsnewid ein cymdeithas yn ddi-droi'n-ôl, a bydd ei waddol gyda ni am flynyddoedd i ddod. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol y bydd gwrandawiadau cyhoeddus modiwl 2B ymchwiliad COVID y DU yn cael eu cynnal yma yng Nghaerdydd o ddiwedd y mis hwn, pan fydd y penderfyniadau gwleidyddol a wnaed gan Llywodraeth hon yn cael eu craffu. Ond er ein bod yn croesawu'r ffocws newydd ar faterion penodol i Gymru, mae wedi bod yn amlwg ers peth amser nad yw cwmpas ymchwiliad y DU yn ddigonol i gynnwys pob elfen o'r ffordd y cafodd y pandemig ei drin yng Nghymru. Dim ond ymchwiliad llawn i Gymru sy'n gallu cyflawni hyn, ac mae rheidrwydd democrataidd a moesol ar Lywodraeth Cymru i wrando ar yr alwad yn y cynnig heddiw. Mabon ap Gwynfor AS: Pan siaradwn am gyfyngiadau ymchwiliad y DU, nid ydym yn ceisio bychanu ei waith. Yn hytrach, rydym yn adlewyrchu'r realiti ymarferol na fydd ymchwiliad cyfyngedig o'r math hwn sy'n ymdrin â phedair gwlad wahanol a ymdriniodd â'r pandemig yn eu ffordd eu hunain byth yn gallu dadansoddi pob mater yn llawn, rhywbeth y mae Heather Hallett, cadeirydd ymchwiliad y DU, wedi ei gydnabod yn barod o'r cychwyn cyntaf. Ac o safbwynt Cymru, caiff hyn ei danlinellu gan y ffaith mai dim ond un prynhawn, o'r cannoedd o oriau o wrandawiadau cyhoeddus sydd eisoes wedi digwydd, a neilltuwyd hyd yma i dystiolaeth swyddogion a Gweinidogion Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn werth ystyried yr ystod eang o sefydliadau yng Nghymru a fyddai'n sicr â mewnwelediad gwerthfawr i'r modd yr ymdriniwyd â'r pandemig, ond sydd serch hynny wedi cael eu hamddifadu o statws cyd-gyfranogwyr yn ymchwiliad y DU, yn bennaf oherwydd cyfyngiadau cynhenid cwmpas ymchwiliad y DU mewn perthynas â materion penodol i Gymru. Mae'r ymateb i'r sylwadau a wnaed gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro am statws cyd-gyfranogwyr, a soniai na fyddai'r bwrdd iechyd yn cael y lefel o ffocws y credent yn wreiddiol y byddent yn ei chael, yn dangos y pwynt hwn yn berffaith. Fe wnaeth Llywodraeth yr Alban gydnabod y perygl yn gynnar wrth gwrs y byddai ymchwiliad y DU yn anwybyddu materion datganoledig, ac felly rhoddodd fuddiannau'r cyhoedd yn gadarn o flaen eu rhai eu hunain drwy sefydlu ymchwiliad COVID-19 yr Alban. Dyma beth yw atebolrwydd priodol a llywodraethu cyfrifol. Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi mynd ati'n hwyr yn y dydd i fynd i'r afael â phryderon ynghylch bylchau yn ymchwiliad y DU drwy greu'r pwyllgor dibenion arbennig, ac rydym yn aros i glywed ei ganfyddiadau gyda diddordeb mawr. Ond o ran ei natur, rôl adweithiol yn unig y gall y pwyllgor ei chwarae mewn perthynas â chwrs ymchwiliad y DU, yn hytrach na dadansoddi dimensiwn Cymreig y pandemig mewn modd rhagweithiol. Gall fod yn flynyddoedd lawer cyn i ddyfarniad rhannol hyd yn oed o sut y cafodd pethau eu trin yng Nghymru ddechrau dod i'r amlwg, ac erbyn hynny bydd rhai, os nad pob un, o'r prif wneuthurwyr penderfyniadau wedi gadael y byd gwleidyddol. Dywedais ar ddechrau fy nghyfraniad fod achos democrataidd a moesol dros sefydlu ymchwiliad Cymreig llawn. Mae'r cyntaf yn ymwneud yn sylfaenol ag uniondeb y setliad datganoli. Trwy gydol y pandemig, mynnodd Llywodraeth Cymru ei hawl i wneud pethau'n wahanol ac roeddent yn iawn i wneud hynny. Trwy ddefnyddio'r pwerau datganoledig sydd ar gael iddynt, fe wnaethant fabwysiadu dull neilltuol ar sail tystiolaeth o weithredu mesurau diogelwch cyhoeddus, wedi'u teilwra i nodweddion penodol poblogaeth Cymru. Roedd hyn, wrth gwrs, yn gwrthgyferbynnu'n sylweddol â thrybestod, anghysondeb a byrbwylltra trychinebus gweinyddiaeth Boris Johnson, ac fe ddaeth â pheth canmoliaeth i Brif Weinidog Cymru. Ond byddai'n gwbl anonest esgus na wnaed camgymeriadau mawr yma yng Nghymru. Daw'r oedi cyn profi preswylwyr cartrefi gofal i'r meddwl yn syth, ac mae'r Cymry'n haeddu esboniadau gonest ac agored ynglŷn â'r amgylchiadau a arweiniodd at y camgymeriadau hyn. Felly, mae'n gwbl ragrithiol mynnu ymwahanu o bolisi'r DU i ddilyn dull wedi'i deilwra ar gyfer Cymru ar y naill law, gan osgoi craffu wedi'i deilwra ar ganlyniadau'r gweithredoedd hynny ar y llaw arall. Ar ben hynny, mae'n gwneud anghymwynas sylweddol ag achos datganoli trwy greu'r argraff na all y Senedd hon ddwyn ei hun i gyfrif am y deddfau sy'n cael eu pasio yma. Os ydym am i ddatganoli yng Nghymru ddod i oed chwarter canrif ers ei dechreuadau cynnar, mae'n sicr fod galluogi hunanymholiad a hunanwerthuso'r penderfyniadau a wneir yn ein Senedd genedlaethol yn rhagofyniad. Ond hyd yn oed os nad yw'r achos democrataidd dros ymchwiliad llawn yn taro deuddeg gyda'r holl Aelodau yma heddiw, mae'n rhaid ichi gydnabod yr achos moesol cryf dros wrando ar leisiau'r rhai a ddioddefodd fwyaf yn ystod y pandemig. Ar y pwynt hwn, hoffwn dalu teyrnged i ymgyrchu diflino'r grŵp COVID-19 Bereaved Families for Justice Cymru. Bydd unrhyw un sydd wedi gweld eu gwaith manwl a fforensig yn gwybod nad oes fawr o leisiau eraill yn fwy cymwys i roi barn am rinweddau ymchwiliad y DU. Ac maent wedi bod yn glir na all roi'r atebion iddynt, na'r clo y maent wedi bod yn ei geisio ers sawl blwyddyn. Mae'n hen bryd cywiro'r anghyfiawnder hwn. Ein cyfrifoldeb i bobl Cymru, ac yn enwedig y rhai a gollodd anwyliaid, yw ystyried gwaddol y pandemig yn agored ac yn onest drwy ymchwiliad annibynnol llawn yng Nghymru. Dyna pam fy mod yn annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Russell George i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Gwelliant 1—Darren Millar Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny: Yn cydnabod bod y Senedd, oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod sefydlu ymchwiliad Covid yng Nghymru, wedi sefydlu pwyllgor arbennig i geisio cael atebion i deuluoedd a ffrindiau'r rhai a fu farw yn ystod y pandemig. Cynigiwyd gwelliant 1. Russell George AC: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar. Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, a dweud a nodi, fel Ceidwadwyr Cymreig, y byddwn yn cefnogi'r cynnig. Hoffwn adleisio sylwadau Mabon ap Gwynfor hefyd am grŵp COVID-19 Bereaved Families for Justice Cymru, oherwydd maent wedi gweithio'n ddiflino, ar gost a thraul i'w hunain, yn eu cyfraniadau tuag at ymchwiliad COVID y DU, ac maent wedi ymgyrchu drwyddi draw i sefydlu ymchwiliad COVID penodol i Gymru. Hoffwn gofnodi fy niolch iddynt, nid yn unig am eu gwaith fel y nodais, ond hefyd am eu gwaith gydag Aelodau'r Senedd hon drwy eu cefnogaethi ni. Nawr, mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn galw am ymchwiliad COVID annibynnol i Gymru ers blynyddoedd wrth gwrs. Roedd y Prif Weinidog ac aelodau eraill o'r Llywodraeth yn aml yn dweud yn ystod y pandemig, 'Rydym yn gwneud pethau'n wahanol yng Nghymru', ac roedd hawl gan y Llywodraeth i wneud hynny. Dyna hawl y Llywodraeth etholedig, gwneud yr hyn yr ystyriant ei fod er lles pobl Cymru. Ond dylent hefyd dderbyn craffu ar y llwybr gwahanol a'r trywydd a ddilynwyd ganddynt. Roedd datganoli'n ymwneud â dod â phenderfyniadau'n agosach at bobl Cymru, felly mae gwrthod ymchwiliad COVID penodol i Gymru yn tanseilio datganoli yn y pen draw. Mae datganoli wedi golygu bod amryw o Lywodraethau dros y 25 mlynedd diwethaf, dan Lafur neu arweiniad Llafur, wedi bod yn gyfrifol am GIG Cymru—am 25 mlynedd—ac o ganlyniad, wedi bod yn gyfrifol am barodrwydd ar gyfer y pandemig hefyd. Mae'r Llywodraeth, wrth gwrs, wedi gwrthod ymchwiliad penodol i Gymru dro ar ôl tro, gan ddweud eu bod yn credu bod ymchwiliad y DU yn ddigonol, er bod Llywodraeth yr Alban wedi penderfynu cyflwyno ymchwiliad COVID penodol yn yr Alban sy'n cydweithredu gydag ymchwiliad COVID y DU. Nawr, mynnodd Prif Weinidog Cymru y byddai ymchwiliad y DU yn ddigonol. Dyna a ddywedodd. Dywedodd y Prif Weinidog y byddai ymchwiliad y DU yn ddigonol, er gwaethaf cyfaddefiad y Farwnes Hallett ei hun nad oes digon o amser i edrych ar bob mater a gwerthuso'r sefyllfa yng Nghymru yn llawn. Mae hyn yn cysylltu'n uniongyrchol â 2(c) yn y cynnig heddiw. Daeth y Llywydd i’r Gadair. Russell George AC: Nawr, fe wnaed camgymeriadau gan Lywodraeth Cymru. Fe wnaed camgymeriadau gan Lywodraeth y DU ar gyfer Lloegr. Fe wnaed camgymeriadau yn yr Alban. Fe wnaed penderfyniadau cywir yng Nghymru, Lloegr a'r Alban hefyd. Ond dyna bwynt ymchwiliad cyhoeddus—dysgu ble y gwnaed camgymeriadau a bod yn ymwybodol hefyd a gallu rhannu arfer da pan fydd yn digwydd. Mae'r prif gwnsler i ymchwiliad cyhoeddus y DU, Hugo Keith CB, wedi dweud bod methiannau sylweddol o hyd mewn perthynas â pharodrwydd Llywodraeth Cymru ar gyfer y pandemig, gan nodi diffyg gwytnwch o ran cynllunio a phrinder adnoddau a methiant i ddiweddaru polisïau. Nawr, mae'r Prif Weinidog wedi cyfaddef nad oedd Llywodraeth Cymru mor barod ag y dylent fod. Mae Gweinidogion y Llywodraeth yn hoffi dweud, onid ydynt, 'Rydym yn hoffi gwneud pethau'n wahanol yng Nghymru', ac mae hynny wrth gwrs yn wir nawr hefyd yn y ffordd y mae'r Llywodraeth yn osgoi craffu, ac maent yn osgoi craffu drwy beidio â chytuno i ymchwiliad cyhoeddus. Nawr, fel Ceidwadwyr Cymreig, dim ond un gwelliant i'r cynnig a wnaethom heddiw, sef i gydnabod, oherwydd bod Llywodraeth Cymru yn gwrthod sefydlu ymchwiliad COVID i Gymru, fod y Senedd wedi sefydlu pwyllgor arbennig i geisio cael atebion i deuluoedd a ffrindiau'r rhai a fu farw yn ystod y pandemig. Ond fy marn i a'r Ceidwadwyr Cymreig o hyd yw mai'r ffordd orau o gael yr atebion y mae'r teuluoedd sy'n galaru a phobl Cymru yn eu haeddu yw drwy ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i Gymru dan arweiniad barnwr. Diolch, Lywydd. Adam Price AC: Mae'r Senedd wedi sefydlu pwyllgor diben arbennig yr wyf yn aelod ohono fel dewis arall yn lle ymchwiliad COVID penodol i Gymru. Mae ein hatebion mewn gwleidyddiaeth yn aml yn dod ar ffurf cyfaddawd anrhydeddus, ond yn ymarferol, ac fel y mae wedi'i gyfansoddi ar hyn o bryd, bydd y pwyllgor hwn yn ei chael hi'n anodd cael yr effaith y mae angen iddo ei chael. Rwy'n talu teyrnged i'r gwaith a wnaed gan glercod y pwyllgor, sy'n rhagorol, ac ni ddylid dehongli fy sylwadau mewn unrhyw ffordd fel beirniadaeth o fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor. Ar hyn o bryd rydym yn archwilio ffyrdd y gallwn gryfhau ein prosesau ac felly'r cynnyrch terfynol, ond hyd yn oed gyda'r newidiadau hyn, bydd y pwyllgor yn parhau i fod yn ddewis amgen gwael yn lle'r hyn sydd ei angen mewn gwirionedd. Nawr, mae gan graffu seneddol rôl hanfodol bwysig. Fel seneddwyr, rydym yn ei hyrwyddo, a hynny'n briodol. Ond mae'r pwyllgor hwn mewn perygl o'i ddibrisio'n anfwriadol, oherwydd cawsom dasg heb yr offer i'w chyflawni. Beth yw cyfyngiadau ymchwiliad seneddol yn hytrach nag ymchwiliad cyhoeddus? Wel, yn gyntaf, mae yna gyfyngiad o ran adnoddau. Nid oes gennym y timau o gyfreithwyr ac ymchwilwyr yn mynd drwy'r cannoedd o filoedd o ddarnau unigol o dystiolaeth y byddai ymchwiliad cyhoeddus yn gallu eu cyfarwyddo. Yr ail broblem yw nad yw'r pwerau sydd gennym i orfodi tystion i ymddangos ac i fynnu dogfennau wedi'u nodi mor glir â'r rhai a geir ar gyfer ymchwiliad. Cawn weld eto a fydd ein pwyllgor yn cael mynediad dirwystr i'r holl dystiolaeth Gymreig a gyflwynwyd i ymchwiliad y DU. A fydd Llywodraeth Cymru eisiau i wleidyddion o bleidiau eraill ddarllen y cofnod cyflawn o negeseuon testun a WhatsApp, ac efallai na fydd gan rai ohonynt unrhyw beth i'w wneud â'r pandemig? Mae gan gyfranogwyr craidd i ymchwiliad y DU fynediad o'r fath ac o'r herwydd, nhw yw'r bobl fwyaf gwybodus yng Nghymru erbyn hyn—llawer mwy gwybodus na'r rhan fwyaf ohonom ni. Yn weithdrefnol, ni roddir tystiolaeth i'n pwyllgor dan lw. Wedi'i wasgu i mewn i fore yma neu brynhawn acw, amser cyfyngedig a gawn i archwilio materion yn fanwl gyda thystion, gyda'r Aelodau'n cael ychydig funudau yr un yn unig ar gyfer eu maes holi penodedig. Cymharwch a chyferbynnwch hynny â chwestiynau a ofynnir gan gwnsleriaid, yn cynnwys dadansoddiad hirfaith fforensig o gofnodion dogfennol neu dystiolaeth tystion eraill. Rwy'n ofni mai'r hyn a gawn yn y pen draw fydd proses a chynnyrch terfynol na fydd yn ennyn hyder y cyhoedd mewn unrhyw fodd. Byddai hynny'n drychineb i enw da'r sefydliad hwn, a byddai'n anghymwynas enfawr â'r bobl yr ydym i fod i'w cynrychioli. Rydym mewn lle amhosibl. Dro ar ôl tro mae'r Llywodraeth wedi gwrthod sefydlu ymchwiliad cyhoeddus, ac mae hynny'n ein gadael gydag ymchwiliad pwyllgor sydd, fel y mae ei feirniaid mwyaf angerddol yn ei ddweud, yn anaddas i'r diben ar hyn o bryd. Ond nid yw'r ffaith bod y Llywodraeth yn gwrthod sefydlu ymchwiliad cyhoeddus o dan Ddeddf Ymchwiliadau 2005 yn golygu na allwn ni weithredu fel Senedd. Mae gennym bŵer ein hunain i sefydlu comisiwn ymchwiliad seneddol. Dyna y penderfynodd Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi ei wneud ar y cyd yn 2012, yn dilyn yr argyfwng ariannol, wrth sefydlu'r Comisiwn Seneddol ar Safonau Bancio. Sefydlwyd y comisiwn hwnnw nid gan y Llywodraeth, ond gan y Senedd. Aeth y tu hwnt i ymchwiliad pwyllgor dethol traddodiadol gan fod ganddo aelodau o'r comisiwn nad oeddent yn wleidyddion, roedd ganddo lawer mwy o adnoddau ar gael iddo, defnyddiai'r pwerau seneddol i anfon am bapurau a phersonau mewn ffordd fwy systematig, a galluogai gwnsleriaid i ofyn cwestiynau ochr yn ochr ag aelodau'r comisiwn. Felly, fy nghynnig, fy awgrym, os bydd y cynnig hwn heno yn methu eto oherwydd bod y Llywodraeth yn parhau i wrthod ymchwiliad cyhoeddus, yw bod grŵp, efallai o uwch Aelodau meinciau cefn, o bob ochr i'r Senedd, yn llunio cynnig ar gyfer comisiwn ymchwilio seneddol sy'n mynd y tu hwnt i delerau a chyfyngiadau cul y pwyllgor presennol. Nid wyf yn gwybod a allai cynnig o'r fath ddenu mwyafrif yn y Senedd hon, ond dyna'r isafswm sy'n angenrheidiol i ennyn hyder y bobl a gynrychiolir gennym. Altaf Hussain AS: Fel aelod o Bwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru byddech yn disgwyl i mi amddiffyn ein pwyllgor, ond ni allaf wneud hynny. Ac mae'r pwyllgor diben arbennig fel defnyddio plastr i drin clwyf gwael. Nid yw'n gwneud iawn mewn unrhyw ffordd am y ffaith bod angen ymchwiliad cyhoeddus annibynnol dan arweiniad barnwr i'r modd yr ymdriniodd Llywodraeth Cymru â phandemig COVID-19. Nid oes unrhyw ffordd y gall ein pwyllgor gymryd lle gwaith yr ymchwiliad cyhoeddus penodedig. Mae hyd yn oed ein tasg o nodi'r bylchau a adawyd gan ymchwiliad COVID-19 y DU yn gamp bron yn amhosibl. Nawr, nid wyf yn deall beth yw ystyr 'bwlch'. Bwlch rhwng beth? Fel arfer mae gennych chi rywbeth fel bwlch rhwng dau gar, bwlch tân, bwlch rhwng dau dŷ, ond yma nid oes gennyf unrhyw beth o gwbl, felly rhaid holi a yw'r derminoleg yn gywir. Nid oes gennym fynediad at y swm helaeth o wybodaeth a ddarperir i gyfranogwyr craidd yr ymchwiliad COVID. Ni chawn wysio tystion, ni allwn hyd yn oed fynnu bod y Prif Weinidog neu'r cyn Weinidog iechyd yn dod o'n blaenau i esbonio eu gweithredoedd, neu eu diffyg gweithredoedd. Y cyfan y gallwn ei wneud yw aros i ymchwiliad COVID-19 y DU adrodd a cheisio canfod beth y maent wedi methu ei gynnwys. Sut, nid wyf yn gwybod. Ac fe fyddant yn methu cynnwys pethau. Yr wythnos nesaf bydd tîm yr ymchwiliad yn gadael Llundain am westy rhad ar gyrion Caerdydd i gynnal gwrandawiadau cyhoeddus ar y camau gweithredu a'r penderfyniadau a wnaed yng Nghymru mewn perthynas â'r pandemig. Dros gyfnod o dair wythnos yn unig, byddant yn ceisio hidlo blynyddoedd o gynlluniau cyn pandemig ac archwilio'n fanwl bob penderfyniad a wnaed ynglŷn â COVID, y niferoedd o achosion ac achub bywydau yng Nghymru. Nid yw'n bosibl deall pynciau mor bwysig mewn cyfnod mor fyr, ond dyna beth y mae ymchwiliad y DU yn bwriadu ei wneud. Rydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr wedi dadlau ers tro ynghylch yr angen am ymchwiliad cyhoeddus penodol yng Nghymru. Dyma'r unig ffordd y bydd pobl Cymru'n cael atebion. Dyma'r unig ffordd y gallwn fod yn sicr fod Cymru'n barod i ymdrin â chlefyd X, y pandemig nesaf. Mae'r arbenigwyr i gyd yn cytuno nad yw'n achos o os, ond yn hytrach o pryd y bydd y pandemig nesaf yn taro, ac os nad ydym wedi dysgu gwersi COVID, sut y gallwn ni fod yn sicr ein bod wedi gwneud y paratoadau cywir? Yn anffodus, mae gan ein Llywodraeth fwy o ddiddordeb mewn osgoi craffu na sicrhau y gall ein gwlad ymdopi â phandemigau yn y dyfodol. Gwnaed penderfyniadau yng Nghymru a gafodd effaith uniongyrchol ar lwybr y clefyd yng Nghymru, ac mae gan y cyhoedd yng Nghymru hawl i fynnu archwiliad manwl o'r penderfyniadau hynny. Nid yw hynny'n rhywbeth a all ddigwydd fel is-fodiwl o ymchwiliad ehangach yn y DU, ac ni all un o bwyllgorau arbennig y Senedd ei wneud, ni waeth pa mor dda yw'r bwriad. Mae'r Alban wedi cydnabod hyn ac yn cynnal eu hymchwiliad eu hunain ochr yn ochr â'r un ar gyfer y DU. Pam na allwn ni? Beth ydych chi'n ei ofni, Brif Weinidog? Mae Cymru'n haeddu atebion. Rydym yn mynnu ymchwiliad cyhoeddus annibynnol dan arweiniad barnwr, ac rwy'n annog fy nghyd-Aelodau i gefnogi'r cynnig. Diolch yn fawr iawn. Heledd Fychan AS: Wrth gwrs, mae angen ymchwiliad COVID ledled y DU. Ac wrth gwrs, mae angen i Gymru gymryd rhan. Ond fel rydym wedi ei ddweud yn gyson i gefnogi teuluoedd mewn profedigaeth yn sgil COVID, mae angen ymchwiliad COVID penodol i Gymru hefyd, yn union fel sy'n digwydd yn yr Alban. Pam? Cafodd penderfyniadau a effeithiodd ar bobl sy'n byw yng Nghymru eu gwneud yng Nghymru gan Weinidogion Llywodraeth Cymru. Roeddent mewn sefyllfa ddiflas, yn gorfod gwneud penderfyniadau arwyddocaol yn gyflym ac mewn amgylchiadau a oedd yn newid yn barhaus. Roedd rhai penderfyniadau'n rhai cywir, rhai yn anghywir, ac mae'n hanfodol fod gwersi'n cael eu dysgu fel ein bod yn fwy parod fel gwlad pan fydd y pandemig nesaf yn cyrraedd i amddiffyn a chefnogi cymaint o'n dinasyddion â phosibl. Yn fy marn i, mae osgoi craffu nid yn unig yn anghyfrifol ond yn sarhaus i bawb a gollodd anwyliaid yn ystod y pandemig, neu y newidiwyd eu bywydau ganddo. Nid yw'r amser a ddyrennir i Gymru i graffu ar ddwy flynedd o benderfyniadau yn ddigon. Fel llefarydd Plaid Cymru dros addysg, hoffwn ganolbwyntio'n benodol ar yr effaith a gafodd y pandemig ar blant a phobl ifanc, a pham mae angen ymchwiliad arnom a fydd yn cwmpasu addysg. Mae'n annhebygol y bydd goblygiadau cau ysgolion, tarfu ar ddysgu, diffyg addysgu wyneb yn wyneb a chyfyngiadau ar ryngweithio cymdeithasol yn cael eu deall yn llawn am flynyddoedd lawer. Ond heb amheuaeth, yn ystod cyfnod mor arwyddocaol i ddatblygiad personol, wynebodd cenhedlaeth gyfan yng Nghymru galedi, o ddisgyblion oed cynradd i fyfyrwyr prifysgol, ac yn anochel byddant yn cario'r profiad hwnnw gyda nhw drwy gydol eu bywydau yn y dyfodol. Daeth hyn yn amlwg yn ystod blwyddyn gyntaf y pandemig, pan ganfu adroddiad gan Gomisiynydd Plant Cymru fod 54 y cant o bobl ifanc rhwng 12 a 18 oed yn poeni ynglŷn â chael eu gadael ar ôl gyda'u dysgu, ac roedd 52 y cant yn poeni sut y byddai'r pandemig yn effeithio ar ganlyniadau eu harholiadau. Ers hynny, cafwyd nifer o astudiaethau'n dangos effaith barhaus y pandemig ar les pobl ifanc. Mae adroddiad gan y rhwydwaith ymchwil iechyd ysgolion ym Mhrifysgol Caerdydd wedi canfod bod bron i chwarter y dysgwyr mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru wedi nodi bod ganddynt lefelau uchel iawn o symptomau iechyd meddwl yn y blynyddoedd yn dilyn COVID-19, ac mae hyn wedi cael ei waethygu gan y ffaith bod amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol yn sylweddol hirach i blant Cymru o'i gymharu ag oedolion, gan fod y Llywodraeth yn gyson wedi methu cyrraedd ei tharged o ddarparu atgyfeiriadau i o leiaf 80 y cant o blant a phobl ifanc o fewn 28 diwrnod. Nid yw'n syndod, felly, fod adroddiad 'Llesiant Cymru' ar gyfer 2023 wedi datgelu tuedd ar i lawr ym moddhad bywyd pobl ifanc 11 i 16 oed rhwng 2017-18 a 2021-22. Yn y cyfamser, canfu arolwg aelodau diweddar Plant yng Nghymru ar effaith a gwaddol COVID-19 fod 70 y cant o'i aelodau, sy'n cynnwys Barnardo's Cymru, Mudiad Meithrin a Blynyddoedd Cynnar Cymru, wedi cofnodi heriau i'w gwaith yn cefnogi plant oherwydd ôl-effeithiau'r pandemig. Gwyddom fod anghydraddoldebau cymdeithasol wedi bod yn thema gyson yn y cyd-destun hwn, gydag absenoldeb yn sgil-gynnyrch hir-barhaol yn sgil y pandemig ac yn anghymesur o amlwg ymhlith y grwpiau cymdeithasol mwyaf difreintiedig. Mae Llywodraeth Cymru yn aml yn gyflym i nodi effaith COVID wrth esbonio ei chyflawniad mewn materion fel cyrhaeddiad addysgol, fel y gwelsom yn ddiweddar gyda datganiad y Gweinidog addysg ar ganlyniadau PISA siomedig Cymru. Rwy'n llwyr dderbyn natur hynod aflonyddgar y pandemig yn hyn o beth, ac y byddai unrhyw lywodraeth wedi cael trafferth rheoli'r canlyniadauparhaus, ond rhagrith amlwg yw i'r Llywodraeth hon briodoli cymaint o'i methiannau i effaith COVID ond i wrthod ymchwiliad i amgylchiadau penodol rheoli'r pandemig yma yng Nghymru. Mae arnom ddyletswydd i'n pobl ifanc i sicrhau bod eu profiadau o'r pandemig yn cael gwrandawiad teg, a dyna pam y credaf yn gryf fod y modd y mae'r Llywodraeth hon yn gwrthod sefydlu ymchwiliad i Gymru yn esgeuluso'i dyletswydd iddynt. Ni ddylem fyth ofni craffu. Ni ddylem fyth ofni cyfaddef, fel gwleidyddion, pan fyddwn yn cael pethau'n anghywir; mae'n anochel mewn pandemig. Mae osgoi craffu yn anghyfrifol. Mae angen inni ddysgu gwersi a'u cymhwyso, ac rwy'n cefnogi'r teuluoedd sydd mewn profedigaeth yn sgil COVID yn llwyr, ac rwy'n drist drostynt fod yn rhaid iddynt ymladd dros gyfiawnder a gallu cael y straeon hyn wedi'u clywed, a'r gwersi wedi'u dysgu. Delyth Jewell AC: Mae ein cymdeithas yn dal i ddod i delerau â phopeth a gollwyd yn ystod pandemig COVID. Rydym i gyd yn addasu, mewn gwahanol ffyrdd; bydd yr addasu hwnnw'n parhau am flynyddoedd, rwy'n siŵr. Byddai'n well gan gymaint o bobl anghofio, yn ddealladwy, byddai'n well gennym symud ymlaen—rhoi'r gorau i siarad amdano. Ond onid ydych chi'n gweld? Mae hynny'n bradychu'r cof am y rhai a gollwyd, y bobl a oedd mor annwyl, yr holl rai rydym yn dal i alaru drostynt, y rhai anlwcus, y rhai yr oedd eu systemau imiwnedd dan fygythiad, y rhai yr oedd eu diogelwch, eu hawl i fyw, dan fygythiad. Gadewch inni beidio ag anghofio'r dideimladrwydd didaro gyda sefydlu'r ymadrodd 'cyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes', fel pe bai hynny'n gosod rhai marwolaethau ar wahân, fel pe baent yn cael eu cyfrif yn wahanol. Ond roeddent i gyd yn cyfrif cymaint â'i gilydd. Bywydau cyfan, cymhleth a blêr a byw a gwir, boed wedi'u cloi mewn cartrefi gofal neu y tu ôl i'w pedair wal eu hunain, roeddent yn bwysig ac werth cymaint â'i gilydd. Pan ganiatawyd i'r ymadrodd hwnnw ennill tir yn y fath ffordd, cymerwyd rhywbeth oddi arnom ninnau hefyd. Mae cymaint o gwestiynau'n parhau i fod heb eu hateb. Yng ngwanwyn 2020, fe geisiais ac fe fethais ddeall pam fod oedi cyn cydnabod y ffaith y gellid trosglwyddo COVID yn asymptomatig; pam na chafodd preswylwyr cartrefi gofal eu profi am COVID wrth adael yr ysbyty. Siaradais â rheolwyr cartrefi gofal a oedd yn credu bod rhai o'u preswylwyr wedi marw o ganlyniad i'r polisi hwnnw. Ni ddylai mynnu atebion am y penderfyniadau hynny fod yn ddadleuol. Fel y nifer brawychus o uchel o bobl, collais innau hefyd rywun annwyl a oedd yn byw mewn cartref gofal. Bu farw cymaint o bobl ar eu pen eu hunain ac mae yna ymdeimlad o hyd fod y gwirioneddau anghyfforddus am eu marwolaethau wedi cael eu sgubo dan ryw garped. I'r teuluoedd mewn profedigaeth, mae'n hunllef nad ydynt erioed wedi deffro ohoni oherwydd y cwestiynau sy'n parhau heb eu hateb: pam y cafodd y newidiadau yn ymwneud â phrofi eu gohirio yng Nghymru, gan adael cymaint o bobl yn agored i niwed; pam y tynnwyd ffotograffau ar wardiau ac mewn corffdai, ac yna eu cyhoeddi, ffotograffau o'u perthnasau'n marw; ac efallai, yn fwyaf pwysig nawr, pam fod cymorth profedigaeth i'r teuluoedd sy'n galaru yn parhau i fod mor anghyson ledled Cymru, pan nad yw'r trawma y maent yn ei ddioddef yn dangos unrhyw arwydd o wella. Mae bygythiad pandemigau yn y dyfodol yn cynyddu gyda'n hinsawdd newidiol. Mae'n rhaid i adeiladu gwytnwch a pharodrwydd ar gyfer ein dyfodol ddechrau o ddifrif nawr, a byddai sefydlu ymchwiliad Cymreig yn helpu i osod y sylfeini hynny er mwyn ein dyfodol. Oherwydd, Lywydd, nid mater o daflu bai yw hyn—pwy fyddai'n elwa o hynny? Roedd yna bethau a gawsom yn iawn yn ystod y pandemig, a phethau eraill a wnaethom yn anghywir. Os ydym am ddysgu o'r pethau a wnaethom yn anghywir, dylid cydnabod y camgymeriadau hynny i sicrhau eu bod yn werth rhywbeth. Nid yw'n fater o dalu'r pwyth yn ôl, na sgorio unrhyw bwyntiau; fe wnaeth pawb golli, nid oes unrhyw sgôr arall. Ond rywsut, yng nghanol y siartiau a'r pwyntiau canran, yr ystadegau llym, mae'n rhaid inni ddod o hyd i ateb sy'n caniatáu inni edrych yn ôl ar y blynyddoedd hynny, nid yn unig drwy wyddoniaeth, ond cysur hefyd, parodrwydd i ddod at ein gilydd eto, oherwydd mae gennym gymaint i ddod i delerau ag ef o hyd: y dewisiadau a wnaed, nid yn unig yn genedlaethol, ond yn bersonol; y pethau y gwnaethom eu methu, y gwnaethom eu colli. Lywydd, edrychais i weld beth yw'r diffiniad o 'ddoethineb' cyn y ddadl hon. Un o'r diffiniadau yw 'corff o wybodaeth a phrofiad sy'n datblygu o fewn cymdeithas neu gyfnod penodol'. Mae yna ddyfnder o ddoethineb y gallem barhau i'w gaffael—sy'n rhaid inni ei gaffael—o flynyddoedd y pandemig. Y profiadau a wnaeth ein clymu gyda'n gilydd a'n cadw i gyd ar wahân ar yr un pryd. Dwyster y trychineb y gwnaethom ei dioddef. Y gost yr ydym i gyd yn dal i'w chyfrif. Ni ddylem fod yn ceisio dial na gweld bai, dylem fod yn ceisio doethineb, wedi'i ganfod drwy dristwch a phoen ac yn fwy hanfodol oherwydd hynny. Cyd-ddealltwriaeth. Ymgodymu â'r hyn a ddigwyddodd. Cymryd stoc. Cyfrif y gallwn gytuno arno. Cofnod a fyddai'n cyfrif mwy na chyfanswm yr holl ystadegau hynny. Cofnod o'r hyn a ddigwyddodd sy'n rhoi lle i bob stori. Nid cyhuddiad, ond cydbwysedd, wedi'i ysgrifennu gyda doethineb ac yn gyson â gwersi o'n gorffennol. Sioned Williams AS: Roedd yna adeg pan oeddem yn cyfeirio at y pandemig fel y gwastatäwr mawr, digwyddiad trychinebus a fyddai'n mynd y tu hwnt i rwystrau cymdeithasol ac yn effeithio ar bob un ohonom yn gyfartal—os gall y Prif Weinidog ddal COVID, gallwn i gyd ddal COVID. Ond mae profiad y pedair blynedd diwethaf ers yr achosion cyntaf wedi dangos yn glir mai camsyniad yw hwn, ac yn hytrach, mae effaith y pandemig wedi ymwreiddio a gwaethygu anghydraddoldebau dwfn a chroestoriadol yn ein cymdeithas, yn enwedig ar hyd llinellau dosbarth, hil, rhywedd ac anabledd. Sioned Williams AS: Mae'r effaith anghyfartal yn amlwg yn syth pan fo cyfraddau marwolaethau yng Nghymru yn cael eu hasesu yn ôl lefelau amddifadedd. Yn syml, mae hyn yn golygu bod y risg o farw o COVID dros 80 y cant yn uwch ar aelwydydd tlotach, o'i gymharu â'r rhai mwyaf cefnog. Roedd yr anghysondeb hwn hyd yn oed yn fwy amlwg ar anterth y pandemig. Felly, na, nid oedd yn wastatäwr o gwbl. Fe wyddom fod tlodi yn eich gwneud yn sâl, fod tlodi'n lladd, ac roedd y pandemig yn dangos hyn yn llythrennol iawn a hynny ar raddfa erchyll. Un mesur yn unig o gyfraniad y pandemig at ehangu anghydraddoldebau cymdeithasol yw cyfraddau marwolaeth. Roedd effaith y pandemig ar ganlyniadau iechyd meddwl, er enghraifft, yn anghymesur o uchel ymhlith pobl ddu a lleiafrifoedd ethnig, a oedd 55 y cant yn fwy tebygol o nodi broblemau'n gysylltiedig â thrallod meddwl o gymharu ag unigolion gwyn yn ystod ton gyntaf y pandemig. Daw patrwm tebyg i'r amlwg mewn perthynas â lefelau incwm. Er bod yr enillwyr incwm uchaf yng Nghymru wedi profi dirywiad o 6.5 y cant yn eu hiechyd meddwl yn ystod COVID, y ffigur cyfartalog ar gyfer y rhai yn y cwintel incwm isaf oedd 39 y cant. Roedd pobl ar incwm isel neu bobl a oedd eisoes yn debygol o fod yn byw o fewn y trothwy tlodi, neu'n agos iddo, saith gwaith yn fwy tebygol o fod yn gweithio mewn sector a gafodd ei gau'n llwyr yn ystod y pandemig, ac am nad oedd oddeutu 10 y cant o weithlu Cymru, a oedd yn fwy tebygol o fod yn fenywod neu'n bobl anabl, yn ennill digon i fod yn gymwys i gael tâl salwch statudol, roedd y posibilrwydd o orfod hunanynysu i'r enillwyr hynny yn golygu dewis erchyll rhwng rhoi eu hiechyd mewn perygl neu beryglu eu gallu i dalu biliau. Mae'n werth cofio hefyd fod yr argyfwng costau byw presennol, sy'n cael yr effaith fwyaf ar sectorau mwyaf difreintiedig ein cymdeithas, yn rhannol yn sgil-gynnyrch yr aflonyddwch economaidd a'r anhrefn a achoswyd gan y pandemig. Fel y cyfryw, byddai sefydlu ymchwiliad llawn i Gymru nid yn unig yn taflu goleuni ar gamau blaenorol gan y Llywodraeth, gallai hefyd ddarparu llwyfan ar gyfer sgwrs gyhoeddus hanfodol ar effaith barhaus a chyrydol anghydraddoldebau yn ein cymdeithas ac ar y gwahanol grwpiau yn ein cymdeithas, y mae llawer ohonynt yn dioddef anfantais groestoriadol. Er nad oes gennym ddata penodol i Gymru ar y mater hwn, mae'n amlwg fod y pandemig wedi creu risg anghymesur i iechyd pobl ddu a lleiafrifoedd ethnig. Er enghraifft, roedd dynion du 2.2 gwaith yn fwy tebygol o farw o COVID na dynion gwyn. Roedd menywod du un a hanner gwaith yn fwy tebygol o farw o COVID na menywod gwyn. Ac fel mae'r adroddiad 'Drws ar Glo' wedi'i ddangos mor bwerus i ni, roedd 68 y cant o'r marwolaethau COVID-19 ymhlith pobl anabl yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn dangos sut y cyfrannodd ffactorau cymdeithasol, gan gynnwys gwahaniaethu, tai gwael, tlodi, statws cyflogaeth, sefydliadu, diffyg cyfarpar diogelu personol, gwasanaethau gwael a bylchog, gwybodaeth gyhoeddus anhygyrch a dryslyd ac amgylchiadau personol yn sylweddol at y ffigur hwn. Galwodd yr adroddiad ar Lywodraeth Cymru i sefydlu ymchwiliad cenedlaethol i ffactorau a effeithiodd ar farwolaethau gwahanol grwpiau yn ystod y pandemig, gan gynnwys pobl anabl, yn ogystal â galw ar Lywodraeth y DU i lansio ymchwiliad ehangach ar draws y pedair gwlad. Ni châi ei weld fel naill ai/neu, ac nid yw'n naill ai/neu. Galwodd yr adroddiad am ymchwiliad yng Nghymru, nid yn unig i adolygu tystiolaeth ac argymhellion yr adroddiad ac eraill tebyg iddo, ond hefyd i allu datblygu datrysiadau a chamau y gellir eu gorfodi'n gyfreithiol, oherwydd roedd yr hyn a ddigwyddodd yn gywilyddus, ac ni ddylid caniatáu iddo ddigwydd eto. Felly, sut y gallwn ni sicrhau hynny? Wel, drwy sicrhau bod y Llywodraeth yn gwneud popeth yn ei gallu i ddysgu'r gwersi anodd hynny—fel y dywedodd Delyth Jewell, yr hyn a wnaed yn iawn, yr hyn a wnaed yn anghywir—oherwydd mae dyletswydd ar y Llywodraeth i wneud hynny, dyletswydd i'r rhai a gollodd eu bywydau, dyletswydd i'r rhai a gollodd eu hanwyliaid. Roedd cymaint o sôn am ailadeiladu'n well. Mae'r lefelau anghydraddoldeb croestoriadol a welwn yng Nghymru yn mynnu ein bod yn ceisio gwneud hynny, ond heb ymchwiliad cynhwysfawr i Gymru, nid oes gennym yr wybodaeth lawn sydd ei hangen arnom i allu gwneud hynny. Y Llywydd / The Llywydd: Y Cwnsler Cyffredinol nawr i gyfrannu i'r ddadl—Mick Antoniw. Mick Antoniw AC: Llywydd, mae Llywodraeth Cymru wedi dangos ymrwymiad clir wrth y broses o graffu a dysgu gwersi o bandemig COVID-19. Pan fydd gwrandawiadau ymchwiliad COVID-19 y Deyrnas Unedig yn dod i Gymru yr wythnos nesaf ar gyfer modiwl 2B, mae’n naturiol y bydd mwy o ffocws ar y camau gweithredu a’r penderfyniadau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru. Bydd hwn yn gyfnod heriol eto i bawb a gollodd rywun annwyl neu a gafodd eu heffeithio fel arall gan y pandemig. Llywydd, dwi eisiau cymryd y cyfle yma i estyn fy nghydymdeimlad i bawb sy'n dal i alaru am golli perthynas neu ffrind. Mick Antoniw AC: Lywydd, er y bydd yr ymchwiliad yn cael ei gynnal yng Nghymru am yr ychydig wythnosau nesaf, mae'n bwysig nad ydym yn ystyried y gwrandawiadau hyn fel yr unig droeon y bydd digwyddiadau yng Nghymru yn cael eu harchwilio'n agos yn ystod yr ymchwiliad hwn. Mae'n anghywir tybio mai'r wybodaeth a welwyd ac a glywyd yn ystod y cyfnod hwn yw'r unig ddeunydd am Gymru y bydd y cadeirydd yn ei ystyried. Mae'r cadeirydd wedi bod yn glir iawn yn y gwrandawiadau presennol ar gyfer modiwl 2 y bydd yn ystyried yr ystod lawn o ddeunydd a ddarperir, gan gynnwys yr holl ddatganiadau ysgrifenedig a thystiolaeth ddogfennol, cyn dod i unrhyw gasgliadau. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno miloedd lawer o ddogfennau a dros 70 o ddatganiadau ar gyfer modiwl 2B yn unig. Rydym wedi gwneud a byddwn yn parhau i wneud cyfraniadau i'r dystiolaeth a gesglir ar gyfer holl waith yr ymchwiliad ym mhob un o'r modiwlau. Rwyf am droi nawr at fater statws cyfranogwr craidd. Mater i gadeirydd yr ymchwiliad yw penderfynu, yn seiliedig ar set benodol iawn o feini prawf, sydd wedi'i chyhoeddi, pwy ddylai fod yn gyfranogwr craidd. Nid yw cael statws cyfranogwr craidd neu beidio yn effeithio ar allu'r cadeirydd i ofyn am wybodaeth ysgrifenedig, neu glywed tystiolaeth gan unrhyw unigolyn neu sefydliad. Mae'r cadeirydd wedi gofyn am dystiolaeth gan y rheini yng Nghymru nad ydynt yn gyfranogwyr craidd ym modiwl 2B, ac fel y gwelsom yn ystod y modiwl cyntaf, gallwn ddisgwyl i ddeunydd gael ei gyflwyno gan unigolion neu sefydliadau o bob rhan o Gymru, ymhell y tu hwnt i'r rhai sydd ar y rhestr cyfranogwyr craidd. Mae'r ymchwiliad hefyd wedi bod yn rhagweithiol wrth ystyried barn teuluoedd mewn profedigaeth a'r cyhoedd o'r cychwyn cyntaf. Cynhaliodd ymgynghoriad cyhoeddus dros bedair wythnos i drafod ei gylch gorchwyl a chyfarfu â mwy na 150 o deuluoedd mewn profedigaeth o bob rhan o'r DU a chynrychiolwyr o sawl sector. Cymru oedd man cychwyny cadeirydd yn ystod y broses hon. Mae'r ymchwiliad wedi sefydlu prosiect Every Story Matters i gasglu profiad personol pobl, ac wrth deithio ar hyd a lled y DU y llynedd, ymwelodd yr ymchwiliad â Wrecsam a Rhuthun ym mis Tachwedd. Lywydd, mae ymchwiliad COVID-19 y DU yn ymchwiliad i Gymru, lawn cymaint ag y mae'n ymchwiliad i Loegr neu unrhyw wlad arall yn y DU. Fel Llywodraeth, rydym yn glir mai cymryd rhan mewn ymchwiliad ar gyfer y DU gyfan yw'r dull cywir a'r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau craffu llawn a phriodol ar weithredoedd a phrofiadau yma yng Nghymru yn ystod y pandemig mewn ffordd a fydd yn ein galluogi i ddysgu gwersi pwysig ar gyfer y dyfodol. Heledd Fychan AS: Nid wyf yn credu ein bod yn dadlau yn erbyn cymryd rhan yn ymchwiliad y DU mewn unrhyw ffordd; wrth gwrs y dylem wneud hynny. Yr hyn yr ydym yn dadlau drosto yw cydraddoldeb. Pam y credwch fod yr Alban yn gwneud hyn? A yw'n ddibwynt eu bod yn ei wneud? A ydych chi'n meddwl eu bod yn gwastraffu eu hamser neu a ydych chi'n gweld bod gwerth yn yr hyn a wnânt yn yr Alban? Rydym yn galw am gydraddoldeb, dyna i gyd. Oherwydd nid yw'n bosibl iddynt edrych ar yr holl faterion sy'n codi drwy'r ymchwiliad hwn ar gyfer y DU gyfan, oherwydd maent yn edrych ar benderfyniadau'r DU, yn bennaf. Mae teuluoedd mewn profedigaeth eisiau sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed. Nid yw'r ymchwiliad ar gyfer y DU gyfan yn cynnig yr un cyfle yn yr un ffordd ag sy'n digwydd yn yr Alban. Mick Antoniw AC: Rwyf wedi bod yn dilyn hynt ymchwiliad yr Alban hyd at fis Hydref 2022, pan ymddiswyddodd y cadeirydd a'r pedwar cwnsler o ymchwiliad yr Alban. Yn amlwg, mater i Lywodraeth yr Alban yw darparu esboniad ynghylch eu hymchwiliad a'u blaenoriaethau. Nid wyf wedi fy argyhoeddi y bydd yn ychwanegu unrhyw beth sylweddol y tu hwnt i'r hyn a gaiff ei gasglu o ymchwiliad y DU. Mae gan yr ymchwiliad allu, pwerau a grym i oruchwylio natur gydgysylltiedig y penderfyniadau a wnaed ar draws y pedair gwlad. Cymerodd Llywodraeth Cymru ran weithredol wrth lunio'r cylch gorchwyl ar gyfer ymchwiliad y DU, gan gynnwys mewnbwn gan deuluoedd mewn profedigaeth yng Nghymru, i nodi'r hyn y byddem yn disgwyl ei weld i sicrhau bod Cymru'n cael ei chynnwys yn llawn. Rydym yn dal i fod ar gam cymharol gynnar yn yr ymchwiliad. Rydym hanner ffordd drwy'r gwrandawiadau yn yr ail fodiwl, ac mae'r ymchwiliad yn paratoi i gyhoeddi ei adroddiad mewn perthynas â'r modiwl cyntaf yn fuan. Ond cyn cynnal unrhyw wrandawiad ym modiwl 2B, mae'r cynnig hwn yn datgan yn gynamserol na fydd yn ddigon da. Mae ffocws rhai yn y Siambr hon, nid ar yr hyn y gall, ac y bydd Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 y Senedd yn ei wneud, ond unwaith eto ar yr hyn na fydd yn ei wneud cyn iddo hyd yn oed gael cyfle i ddechrau ar ei waith. Rwy'n credu bod yn rhaid inni osgoi rhagdybiaethau cynamserol, ac mae'n rhaid inni ganiatáu i'r ymchwiliad a'r pwyllgor gwblhau eu gwaith maes o law. Ni fydd y Llywodraeth yn cytuno i'r cynnig hwn nac yn cefnogi gwelliannau iddo, ac rwy'n annog yr Aelodau eraill i wneud yr un peth. Diolch. [Torri ar draws.] Y Llywydd / The Llywydd: Rwy'n credu bod y Gweinidog newydd orffen. Mark Isherwood AC: A ydych chi wedi gorffen, Weinidog? Y Llywydd / The Llywydd: Ydy, mae wedi gorffen. Mae'r ffeil yn cau. Y Llywydd / The Llywydd: Mabon ap Gwynfor nawr i ymateb i'r ddadl. Y Llywydd / The Llywydd: Gallech roi cynnig arall arni, Mr Isherwood. [Chwerthin.] Mabon ap Gwynfor AS: Diolch. Mi wnaf i wahodd Mark i gyfrannu os ydy o eisiau gwneud cyfraniad. Y Llywydd / The Llywydd: Na, mae'n iawn. Gadewch i Mabon ap Gwynfor barhau. Mabon ap Gwynfor AS: Diolch yn fawr iawn i bawb am gyfrannu at y ddadl yma. Mae wedi bod yn ddadl bwerus iawn, a dwi'n argyhoeddedig bod yr achos wedi cael ei roi am yr angen am ymchwiliad cyhoeddus annibynnol Cymreig. Fel y dywedodd un o'r cyfranwyr—dwi'n meddwl mai Delyth ddywedodd hyn—nid pwrpas ein cynnig ni yma, nid pwrpas sefydlu ymchwiliad annibynnol, ydy pwyntio bys a chanfod bai. A dyna'r broblem efo gwleidyddiaeth, onid e, yn enwedig y wleidyddiaeth rydyn ni'n ei harfer fan hyn yng Nghymru, neu yn y Deyrnas Gyfunol, sef yr ofn yma i gydnabod bod bai ar rywun neu fod camgymeriadau wedi cael eu gwneud a'r ofn o sut mae hwnna'n mynd i effeithio o bosib yn wleidyddol ar bobl. Ond rydyn ni i gyd, bob un ohonon ni yma, rhai oedd wedi eu hethol a rhai oedd heb eu hethol, wedi chwarae rhan yn y broses yna o greu penderfyniadau, ac mae angen inni i gyd ddysgu'r gwersi yna wrth symud ymlaen. Dwi felly yn siomedig clywed y Cwnsler Cyffredinol yn dweud ei fod yn gwbl hyderus fod yr ymchwiliad Prydeinig yn mynd i edrych ar yr hyn ddigwyddodd yng Nghymru yn ei gyfanrwydd ac mi fydd o felly yn ddigonol. Mae'n berffaith amlwg na fydd yn ddigon. [Torri ar draws.] Mi wnaf i ildio. Mark Isherwood AC: A ydych chi'n rhannu fy mhryder fod COVID-19 Bereaved Families for Justice Cymru a'u bargyfreithwyr, wrth siarad yn y Senedd, wedi gwrthddweud yn uniongyrchol yr hyn y mae'r Cwnsler Cyffredinol newydd ei ddweud ac rydych chi newydd ei ail-ddyfynnuganddo? Mabon ap Gwynfor AS: Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Mae hyd yn oed cadeirydd ymchwiliad y DU, fel sydd wedi ei ddatgan sawl gwaith yn y ddadl heddiw, wedi dweud yn glir nad yw ymchwiliad y DU yn ddigonol ac nad yw'n gallu ymdrin â phopeth ac nad yw'n gallu edrych ar y manylion yng Nghymru. Fel y dywedais, mae'n ymwneud â mwy na thaflu bai; fe ddigwyddodd rhai pethau da yng Nghymru. Rwy'n meddwl yn benodol am Geredigion a'r hyn a wnaeth Cyngor Sir Ceredigion. Rwy'n cofio darllen penawdau mewn papurau newydd ar draws y DU yn nodi'r pethau da a wnaed yng Ngheredigion—gwersi da y gallwn eu dysgu, yn ogystal â rhai o'r camgymeriadau a gafodd eu gwneud. A'r gwir amdani yw—ac ni allaf gofio pa Aelod a wnaeth y pwynt hwn; efallai mai Altaf a'i gwnaeth—fe fydd hyn yn digwydd eto. Rydym yn gwybod ein bod yn wynebu pandemig arall—efallai'n fuan, efallai nad yn ein hoes ni, ond fe fyddwn yn wynebu pandemig arall. Ac os ydym am ei wynebu'n hyderus, mae angen inni ddysgu'r gwersi o'r hyn a wnaethom yma yng Nghymru. Rydym yn meddwl am y ffaith ein bod ni, yng Nghymru, wedi caniatáu i bobl ddychwelyd i'w cartrefi gofal. Ai dyna'r penderfyniad cywir? O edrych yn ôl, mae'n debyg nad dyna oedd y penderfyniad cywir, ond heb ymchwiliad llawn ni fyddwn yn gwybod yn iawn. Rwy'n meddwl am fy mab, y bu'n rhaid iddo fynychu'r ysgol drwy Zoom. A oedd ffordd arall o wneud hynny, o addysgu ein plant yn ystod cyfnod o bandemig, yn ystod cyfyngiadau symud? Nid ydym yn gwybod ar hyn o bryd. Y cyfyngiadau symud eu hunain—a oedd hyd y cyfyngiadau symud yn briodol, a ellid bod wedi eu gwneud mewn ffordd arall? Mewn rhannau o Gymru, gwn fod y Llywodraeth wedi cyflwyno cyfyngiadau symud lleol. Ai dyna'r penderfyniad cywir ar y pryd? A ddylem fod wedi lledaenu hynny fwy ai peidio? Mae angen dysgu'r gwersi hyn. Fe wyddom inni gael Ymarfer Cygnus yma yng Nghymru yn ôl yn 2015; pa wersi a ddysgwyd o Cygnus ac a gawsant eu rhoi ar waith? A yw'r gwersi hynny wedi eu dysgu wrth symud ymlaen? Er enghraifft, yng Nghymru ar hyn o bryd, gwyddom nad yw ysbytai'n sicrhau bod staff yn gwisgo masgiau FFP2 a FFP3. Mae'r rheini'n wersi y dylid bod wedi'u dysgu yn sicr, ond nid ar hyn o bryd, yn amlwg, felly beth yw'r sefyllfa o ran dysgu arferion gorau ac arferion gwael o'r profiadau hynny? Rwy'n credu bod Adam wedi gwneud cyfraniad pwysig iawn am y syniad o ddatblygu a sefydlu comisiwn seneddol, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae angen i bob un ohonom ei ystyried ac y dylai'r Llywodraeth edrych arno gyda diddordeb. Mae'n sicr yn opsiwn i ni gael rhywbeth, ochr yn ochr ag ymchwiliad, a fydd yn edrych ar yr holl wersi a ddysgwyd o'r profiadau COVID sydd gennym. Ac yn olaf, rwy'n credu bod y Cwnsler Cyffredinol wedi dweud rhywbeth pwysig yn gynharach, fe wnaethoch chi ddweud y bydd yn brofiad anodd i bawb, ac fe wnaethoch chi gydymdeimlo. Rwy'n credu bod angen i bawb ohonom feddwl am yr iaith a ddefnyddiwn. Dros y dyddiau diwethaf, clywais aelodau o'r Llywodraeth yn dweud eu bod yn edrych ymlaen at roi tystiolaeth i'r ymchwiliad COVID yng Nghaerdydd. Nid yw teuluoedd mewn profedigaeth yn edrych ymlaen. Mae hyn yn ail-gymell y boen i'r teuluoedd hynny. Byddwn yn annog pobl i ystyried yr iaith y maent yn ei defnyddio yn ofalus. Nid yw'n rhywbeth i edrych ymlaen ato; mae'n rheidrwydd, mae'n rhywbeth y mae'n rhaid iddynt ei wneud a gwneud hynny gydag urddas a chyda doethineb. Felly, gobeithio y gwnewch chi ystyried y geiriau a ddefnyddiwch fel aelodau'r Llywodraeth pan fyddwch chi'n siarad â'r camerâu ar y mater hwn. Felly, mae'r achos wedi'i wneud. Mae'n gwbl glir ein bod angen ymchwiliad annibynnol yma yng Nghymru. Mae dwy ochr y Siambr, o ran y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru, wedi dweud yn glir ein bod yn cefnogi hyn, a byddwn yn annog aelodau eraill o'r Blaid Lafur yn ogystal i gefnogi'r cynnig sydd ger ein bron heddiw. Diolch yn fawr iawn. Y Llywydd / The Llywydd: Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Oes, mae yna wrthwynebiad, felly, fe wnawnni atal y bleidlais tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. 8. Cyfnod Pleidleisio Y Llywydd / The Llywydd: Rŷn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oes nad oes yna dri Aelod sy'n gofyn i fi ganu'r gloch, mi wnawn ni symud yn syth i'r pleidleisio. Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Dwi'n galw am bleidlais yn gyntaf ar y cynnig heb ei ddiwygio yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 37 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i wrthod. Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 16, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0 Gwrthodwyd y cynnigCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Y Llywydd / The Llywydd: Pleidlais ar welliant 1 sydd nesaf. Os bydd gwelliant 1 yn cael ei dderbyn, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-dethol. Pleidlais ar welliant 1, felly, yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal, ac felly byddaf yn defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn y gwelliant. Felly, mae'r gwelliant yn cwympo, gyda 27 pleidlais o blaid a 28 pleidlais yn erbyn. Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 27, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0 Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii). Gwrthodwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Y Llywydd / The Llywydd: Gwelliant 2 sydd nesaf. Mae gwelliant 2 yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal, ac felly dwi'n defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn y gwelliant. Mae'r gwelliant yn cael ei drechu, gyda 27 pleidlais o blaid a 28 pleidlais yn erbyn. Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 27, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0 Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii). Gwrthodwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Y Llywydd / The Llywydd: Gwelliant 3 sydd nesaf, yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal. Fe fyddaf i'n defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn y gwelliant, felly mae'r gwelliant yn cwympo, gyda 27 o blaid a 28 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 3 a phob gwelliant wedi ei wrthod, a'r cynnig, ac felly does dim byd wedi cael ei dderbyn o dan yr eitem yna. Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 27, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0 Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii). Gwrthodwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Y Llywydd / The Llywydd: Eitem 7 fydd y pleidleisiau nesaf. Dadl Plaid Cymru oedd hon ar ymchwiliad COVID penodol i Gymru. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal. Dwi'n defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn y cynnig, ac felly canlyniad y bleidlais yna yw bod 27 o blaid, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Mae'r cynnig heb ei ddiwygio wedi ei wrthod. Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - Ymchwiliad COVID penodol i Gymru. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 27, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0 Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii). Gwrthodwyd y cynnigCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Y Llywydd / The Llywydd: Y bleidlais nesaf fydd ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal 38 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 1 wedi ei wrthod. Felly, mae'r gwelliant wedi ei wrthod a'r cynnig wedi ei wrthod, a does dim byd wedi ei dderbyn o dan eitem 7. Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - Ymchwiliad COVID penodol i Gymru. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 16, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0 Gwrthodwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Y Llywydd / The Llywydd: Dyna ni. Dyna ddiwedd ar y cyfnod pleidleisio. 9. Dadl Fer: Pwysigrwydd llais Cymru yn yr ymgyrch dros heddwch—Dathlu canmlwyddiant cyflwyno deiseb heddwch menywod Cymru i'r Arlywydd Coolidge a rôl Cymru wrth godi llais dros heddwch heddiw Y Llywydd / The Llywydd: Ond nid dyna'r diwedd ar ein busnes ni y prynhawn yma. Fe fydd yna ddadl fer i'w chyflwyno gan Sioned Williams. I'r rhai ohonoch chi sy'n gadael— Y Llywydd / The Llywydd: —os gallai'r rhai ohonoch sy'n gadael wneud hynny'n dawel. Sioned Williams i gyflwyno ei dadl. Y Llywydd / The Llywydd: Felly, Sioned Williams i gyflwyno'r ddadl. Sioned Williams AS: Diolch yn fawr, Llywydd. Union ganrif yn ôl i'r mis hwn, ym mis Chwefror 1924, glaniodd bedair Cymraes yn Efrog Newydd, gan ddal tusw o gennin pedr, cofeb rwymedig yn cynnwys apêl am heddwch, a deiseb wedi'i llofnodi gan 390,296 o fenywod Cymru. Eu nod oedd eu cyflwyno i ferched Unol Daleithiau America, gan ofyn iddynt ddefnyddio eu dylanwad i annog Llywodraeth yr Unol Daleithiau i ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd fel modd o osgoi gwrthdaro yn y dyfodol, ac erchyllterau'r rhyfel byd yr oeddent newydd ei brofi. Nod fy nadl heddiw yw nodi canmlwyddiant yr ymgyrch ryfeddol hon a gofyn beth yw ei harwyddocâd i Gymru heddiw. Ganrif yn ddiweddarach, mae prosiect Hawlio Heddwch yn archwilio'r cwestiwn hwn, yn ogystal â sicrhau bod y stori ryfeddol hon yn cael ei chofio am genedlaethau i ddod. Hoffwn ddiolch i Ffion Fielding, rheolwr prosiect Hawlio Heddwch, am ei chymorth wrth baratoi'r ddadl, a byddaf yn rhoi amser i Carolyn Thomas, Jane Dodds, Mabon ap Gwynfor a Heledd Fychan i gyfrannu hefyd. Union ganrif yn ôl i heddiw, 21 Chwefror 1924, roedd gan Annie Hughes Griffiths, Mary Ellis, Gladys Thomas ac Elined Pryce apwyntiad arbennig iawn gyda'r Arlywydd Calvin Coolidge yn y Tŷ Gwyn yn Washington DC. Fe ddangoson nhw yr apêl iddo, y ddogfen fawreddog wedi'i hysgrifennu'n hyfryd ac wedi'i rhwymo mewn lledr Moroco. Hoffwn ddyfynnu y paragraff olaf, sydd mor rymus, yn y cyfieithiad Cymraeg gwreiddiol ohono a wnaed adeg yr apêl, fel ei bod yn gallu cael ei darllen yn iaith pob aelwyd yng Nghymru. 'Mae'r dyfodol yn llawn gobaith os y gwnawn ni, ferched y genhedlaeth hon, ein rhan. I ni y rhoddwyd cyfle ac y mae y cyfle yn gyfrifoldeb. Galwyd arnom i roddi o'n hanwyliaid ac ni feiddiwn eu bradychu hwy trwy wrthod gorffen y gwaith a ddechreuasant. "Heb ddig at ungwr," yn ol geiriau anfarwol yr Arlywydd Lincoln, "gan garu pawb, yn gadarn yn y gwirionedd, fel y rhoddo Dduw i ni weld y gwirionedd," apeliwn atoch, Ferched Unol Daleithiau’r America, yn eich amser da eich hunain, ac ar hyd y llwybrau a fo oreu gennych, i'n cynorthwyo yn ein hymdrech i drosglwyddo i'r oesau a ddêl fyd di-ryfel yn dreftadaeth dragywydd.' Sioned Williams AS: Roedd y ddeiseb, yn ei chist dderw, eisoes wedi'i chyflwyno i ferched America mewn derbyniad mawreddog yn y Biltmore Hotel, Efrog Newydd, ychydig ddyddiau ynghynt. Fodd bynnag, yn eu cyfarfod gyda'r Arlywydd Coolidge, fe lwyddodd y pedair Cymraes gael addewid ganddo y byddai'r llofnodion yn cael eu cadw yn amgueddfa'r Smithsonian am byth, a rhoddwyd copi o'r apêl iddo. Nod yr ymgyrch oedd ysbrydoli a dylanwadu ar Lywodraeth yr Unol Daleithiau i chwarae ei rhan yn Llys Parhaol Cyfiawnder Rhyngwladol fel y gellid datrys gwrthdaro rhyngwladol drwy'r gyfraith yn hytrach na thrwy drais. Doedd yr apêl ddim yn un i lywodraethau, ond i fenywod cyffredin America i ddefnyddio eu dylanwad, i berswadio eu Llywodraeth i ymuno â'r ymgais gynnar hon i wneud deddfau rhyngwladol yn fodd o sicrhau heddwch. Ac er i'r ymgyrch ddenu llawer iawn o sylw yn y wasg ar y pryd, roedd yr ymgyrch hon fwy neu lai wedi mynd yn angof. Ac yn y Smithsonian, arhosodd y ddeiseb yn ei chist, tan 2023. Beth, felly, yw hanes partneriaeth ac ymgyrch Hawlio Heddwch a ddaeth â'r ddeiseb yma, y crair yma, a'r apêl yn ôl i'n sylw? Dechreuodd y gwaith a arweiniodd at y prosiect sawl blwyddyn yn ôl gyda darganfod y gofeb hardd yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd, pencadlys elusen Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru. Ond nid tan i brosiect treftadaeth heddwch blaenorol, Cymru dros Heddwch, gael cyllid i ddechrau archwilio'r straeon hyn, gyda chymorth gwirfoddolwyr, y dechreuwyd deall effaith lawn y ddeiseb. Roedd deiseb heddwch merched Cymru yn un o sawl ymgyrch a lansiwyd gan Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru, oedd yn rhyw fath o glwb cefnogwyr ar gyfer egwyddorion Cynghrair y Cenhedloedd. Erbyn y 1920au, byddai Undeb cynghrair y genedl Gymreig yn dod yn un o sefydliadau aelodaeth mwyaf Cymru, gyda dros 1,000 o ganghennau cymunedol lleol a 61,000 o aelodau yn ymgyrchu'n frwd ar faterion rhyngwladol y dydd. Ac ar adeg pan nad oedd gan fwyafrif menywod Cymru yr hawl i bleidleisio, roedd y ddeiseb heddwch yn un o’r ychydig iawn o gyfleoedd gafodd menywod cyffredin i leisio'u barn. Rhwng Mai 1923 ac Ionawr 1924, roedd 400 o drefnwyr deisebu ledled Cymru, yn dod o bob cefndir, yn siaradwyr Cymraeg ac yn ddi-Gymraeg, o bob enwad, o bob lliw gwleidyddol. Mae hanesion am drefnwyr yn cerdded milltiroedd dim ond i gyrraedd at un ffermdy. Casglwyd 390,296 o lofnodion, sef tua 30 y cant, un mewn chwech, o boblogaeth menywod Cymru ar y pryd. Yn y blynyddoedd wedi ailddarganfod y gofeb, tyfodd y diddordeb yn yr hanes. Dechreuodd grŵp o ferched, o'r enw Heddwch Nain-Mamgu, ymgyrch i gofio'r hanes, i ddod o hyd i'r ddeiseb, gyda'r nod o ddefnyddio hi fel modd o ymgysylltu pobl heddiw â materion yn ymwneud â heddwch a gwrthdaro. Y grŵp hwn a gysylltodd â'n sefydliadau cenedlaethol—y llyfrgell genedlaethol, Amgueddfa Cymru—a diolch i’r momentwm a grëwyd ganddynt, a'u penderfyniad llwyr, y cychwynnodd y prosiect. Dros y blynyddoedd nesaf, dan gydlyniad Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru ac Academi Heddwch Cymru, drwy gysylltiadau yn Washington, drwy waith ymchwil aelodau Archif Menywod Cymru, a phenderfyniad unigolion, rhoddwyd yr hanes at ei gilydd. Tipyn o orchest. Y datblygiad mawr oedd sicrhau cytundeb gan amgueddfa’r Smithsonian nid yn unig i gefnogi digideiddio’r enwau, ond hefyd i gynnig rhoi'r ddeiseb gyfan yn ôl i Gymru ar gyfer astudiaeth bellach dan ofal y llyfrgell genedlaethol. A chroesawyd y gist dderw a'i chynnwys mor arbennig yn ôl i Gymru ym mis Ebrill y llynedd. Ar hyn o bryd, mae staff y llyfrgell genedlaethol yn gweithio eu ffordd drwy 33 o flychau o ddeisebau, i'w gwarchod, eu sganio, eu catalogio, tagio eu lleoliadau, ac yn gyffredinol mynd i'r afael â dogfen a fyddai, yn ôl y sôn ar y pryd, yn ymestyn i 7 milltir o hyd, o un pen i'r llall. Mae cannoedd o wirfoddolwyr wedi'u recriwtio i helpu i drawsgrifio'r holl enwau i gronfa ddata chwiliadwy a fydd yn darparu adnodd mor werthfawr ac unigryw i ymchwilwyr y dyfodol, ac i ni ddinasyddion Cymru heddiw. Ac yn eu plith mae un llofnod arbennig. Doeddwn i ddim yn disgwyl canfod unrhyw un oedd yn perthyn i fi ar y ddeiseb. Roedd fy mhedair hen fam-gu yn wragedd i lowyr yn Rhymni a Fochriw, heb fedru cael addysg tu hwnt i'w ysgol gynradd, yn brwydro bob dydd i gadw'r blaidd wrth y drws. Sut byddai gan y menywod hyn amser i ystyried materion mawr y dydd fel pwysigrwydd heddwch rhyngwladol? Ond rôn i'n anghywir. Dyna enw fy hen fam-gu: Bessie Evans, Price Street, Rhymni, mam-gu fy nhad, Philip, mam fy mam-gu Nansi—yr unig fam-gu ces i'r fraint o adnabod ac a oedd yn ddylanwad enfawr arnaf i o ran hanfod fy ngwleidyddiaeth. Bu hi farw yn 1944 yn 69 oed, a dwi'n gwybod tipyn amdani. Roedd hi'n cymryd golch mewn i ennill bach mwy o arian i'r teulu o bump. Roedd hi'n fenyw fawr, gref, fel fi, yn gadarn ei chredoau, yn aelod ffyddlon o gapel Methodistaidd Ebenezer Twyn-Carno, Rhymni, ac roedd gweld ei henw hi ynghyd ag enwau ei dwy ferch hynaf, bopa Miriam a bopa Elizabeth, chwiorydd fy mam-gu, yn wefr ac, yn amlwg, yn emosiynol. Roedd hefyd yn neges bwysig a chlir o'r gorffennol: llais fy nghynfamau yn galw arnaf i drwy'r degawdau ac yn ateb fy nghwestiwn. Roedden nhw wedi llofnodi'r ddeiseb yma am eu bod nhw'n deall i'r dim mai pobl gyffredin, dlawd, fel nhw oedd yn talu pris uchel rhyfel, am eu bod nhw'n deall i'r dim bwysigrwydd cymdeithas, cydweithredu, a, thrwy eu ffydd Gristnogol, anghydffurfiol, fod rhaid gweithredu, bod angen i Gymru godi ei llais fel cenedl ar lwyfan y byd. Mae hanes rhyfeddol a balch y ddeiseb yn anfon neges atom yng Nghymru heddiw am bwysigrwydd gweithredu, am bwysigrwydd cymryd safiad, ac am draddodiad hir a balch Cymru, a merched Cymru yn benodol, o godi llais ar faterion rhyngwladol. Gallwn feddwl am rôl Cymru wrth ymgyrchu dros ddiddymu caethwasanaeth, a menywod fel Jessie Donaldson o Abertawe, a deithiodd i Cincinatti i sefydlu tŷ diogel i gaethweision oedd ar ffo, a'r chwiorydd Sarah a Blanche Hilditch a groesawodd Frederick Douglass i Wrecsam. Roeddwn ar orymdaith heddwch yn Abertawe yn ddiweddar yn galw am gadoediad ar unwaith yn Gaza. Cydgerddais gyda menywod a fu yng Nghomin Greenham, a chyd-aelodau o CND. Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar drais yn erbyn menywod a phlant, rwyf wedi ysgrifennu at ein dwy Llywodraeth yn pwysleisio'r ffaith taw menywod a phlant sydd wedi dioddef yn bennaf yn sgil ymosodiadau Israel ar Gaza, a'u hannog i alw'n glir ac yn gyhoeddus am gadoediad am byth. Felly, o gofio hanes y ddeiseb hon, pam nad yw Llywodraeth Cymru'n teimlo y gallai wneud hynny? Roedd hi'n siarad yn huawdl iawn am y sefyllfa yn Wcráin ddoe. Clywais ddau Aelod yn datgan eu barn yn glir, felly pam y tawelwch am ryfel Gaza? Ni ddylem ymdrin â’r ddeiseb hon fel darn o hanes yn unig, heb archwilio ei harwyddocâd a'i hysbrydoliaeth heddiw. Y rheswm y mae geiriau'r apêl yn atseinio gymaint yw eu bod nhw'r un mor bwysig heddiw ag yr oeddent ganrif yn ôl. Os ŷn ni'n galw ein hunain yn genedl noddfa, pam ddim cenedl heddwch? Mae modd, wrth gwrs, gweld y ddeiseb fel methiant. Ni ymunodd America â Chynghrair y Cenhedloedd, a bu rhyfel byd arall, ac mae rhyfeloedd yn parhau, ond y ffaith yw bod awydd cymaint o'n cynfamau ni, yn deisyfu heddwch, yn mynnu gweithredu yn enw heddwch, yn eithriadol o rymus ynddo ei hun ac yn neges glir i'n Llywodraeth ni heddiw. Felly, sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu sicrhau na fydd y ddeiseb fyth yn mynd yn angof eto, a, thu hwnt i'r digwyddiadau a phrosiectau gwych a fydd yn digwydd eleni i nodi'r canmlwyddiant, sut bydd y Llywodraeth yn sicrhau bod ei heffaith a'i neges yn parhau'n ddylanwad arnom a chenedlaethau'r dyfodol wedi i'r dathliadau ddod i ben ym mis Hydref? Dylai Cymru fod yn falch o'i threftadaeth a'r rôl y mae wedi'i chwarae wrth arwain y gwaith o geisio heddwch rhyngwladol, a chefnogi'r strwythurau i geisio sicrhau hynny. Sut ydym ni'n sicrhau bod y traddodiad balch a phwysig hwn yn parhau hyd heddiw? Mewn erthygl ynThe Guardian, mae Dr Rowan Williams yn tynnu cymhariaeth rhwng yr hyn y mae'r ddeiseb yn dweud am sut roedd pobl Cymru yn fodlon cymryd cyfrifoldeb dros a chael hyder yn eu gallu i newid pethau, a gwaith y comisiwn ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru. Dywed: Sioned Williams AS: 'Mae’n hen bryd buddsoddi’n fwy dychmygus mewn rhwydweithiau cydgynghorol lleol ac mewn addysg ddinesig barhaus—yn y gobaith o feithrin yr hyder a ysbrydolodd Annie a’i chymheiriaid, yr hyder fod yr hyn a ddywedent ac a wnaent yn gallu newid pethau, ac y gellir dwyn y rheini sydd mewn grym i gyfrif gan gyhoedd gwybodus, beirniadol a gobeithiol.' Sioned Williams AS: A yw'r Llywodraeth yn fodlon derbyn ei argymhelliad, ac os yw, sut gall hynny gael ei wireddu? Sut bydd llwyddiant yn edrych? Carolyn Thomas AS: Diolch i Sioned Williams am ddod â’r ddadl fer bwysig hon i’r Senedd, ar adeg pan fo lleisiau dros heddwch yn ein cymunedau a’n sefydliadau gwleidyddol yn bwysicach nag erioed. Mae gan Gymru hanes balch o fod yn genedl heddwch. Rydym yn genedl noddfa. Mae deiseb heddwch menywod Cymru yn enghraifft wych o’r traddodiad Cymreig hynod, oesol hwnnw, a mwynheais ddarllen yr arddangosfa yn yr Eisteddfod am yr hanes y llynedd, yn dathlu 100 mlynedd. Heddiw, rydym yn byw mewn byd mwy anwadal nag erioed, gyda datblygiadau technolegol yn caniatáu i lawer o weithredoedd rhyfel gael eu cyflawni fel pe baent yn fawr mwy nag efelychiad rhithwir, ond gyda chanlyniadau yr un mor angheuol â gwrthdaro arfog traddodiadol. Mae’r byd anwadal hwnnw’n galw am lais byd-eang dros heddwch, sy'n cynnwys y Senedd hon, a dyna pam fod ein pleidlais ddiweddar dros gadoediad ar unwaith yn Gaza mor bwysig, ac wrth symud ymlaen, dyna pam fod yn rhaid inni barhau i gofio ysbryd menywod Cymru a siarad heddiw o blaid heddwch ac atebion heddychlon. Y Llywydd / The Llywydd: Jane Dodds. Jane Dodds AS: Diolch yn fawr iawn, a diolch i Sioned hefyd. Jane Dodds AS: Comin Greenham, y neiniau yn yr Ariannin, y menywod yn Iran—mae'r rhain oll yn lleoedd ac yn adegau lle mae menywod wedi chwarae rhan arwyddocaol wrth sicrhau heddwch hirbarhaol. Ac os edrychwn ar ymchwil, mae'n dangos y gall menywod newid y darlun o ryfel ledled y byd. Dangosodd astudiaeth o 40 o brosesau heddwch mewn 35 o wledydd dros y tri degawd diwethaf y deuir i gytundeb bron bob amser pan oedd grwpiau menywod yn gallu dylanwadu’n effeithiol ar y broses heddwch. Pan nad oedd menywod yn rhan o'r broses, roedd y gyfradd a ddeuai i gytundeb yn llawer iawn is. Nid oes angen imi ddweud bod menywod yn chwarae rhan mor bwysig wrth sicrhau heddwch, a dyna mae'n rhaid inni ei ddathlu, yn ogystal â'r menywod gwych hyn a adawodd Gymru. Jane Dodds AS: Diolch yn fawr iawn i chi i gyd. Mabon ap Gwynfor AS: Diolch am y ddadl yma, achos dwi'n cofio nôl yn 2007, ddaru i fi gyflwyno darlith yng Nghaernarfon ynghylchheddwch a hanes heddwch, ac mae gan Gymru hanes balch iawn mewn heddwch. Ac yn gwneud yr ymchwil, roeddwn i'n darllen am Evan Rees, ysgrifennydd cyntaf y Gymdeithas Heddwch, nôl yn 1816; darllen am yr apostol heddwch o Dregaron, Henry Richard—dyn mawr, wrth gwrs, ar y pryd; a George M.Ll. Davies, cymeriad mawr arall. Ond yn gwbl nodweddiadol o unrhyw lyfrau hanes, dynion oedden nhw i gyd, ac roedd y menywod ar goll o'n hanes ni, tan, wrth gwrs, i rywun feddwl am chwiorydd Greenham, mam yn eu plith, oedd wedi sefyll fyny dros heddwch byd-eang, a nawr hyn, sydd wedi dod i'r golwg, yr hyn roeddet ti, Sioned, yn sôn amdano, sef y chwiorydd yma oedd wedi sicrhau bod y ddeiseb yma mor llwyddiannus, gan fynd â hi i America a rhoi'r achos heddwch ymlaen. Felly, mae gan draddodiad heddwch hanes balch fan hyn yng Nghymru, a heddiw rŷn ni'n gweld pobl fel Awel Irene, Mererid Hopwood, Jill Evans, Bethan Siân Jones, ac yn y blaen, yn gwthio'r agenda ymlaen, a'r academi heddwch wedi cael ei chreu oherwydd y gwaith gan y chwiorydd hynny. Felly, mae'r traddodiad yna'n parhau. Dwi mor falch ohono fo, a dyna pam fod yn rhaid i ni fan hyn yn Senedd genedlaethol Cymru barhau i sefyll fyny dros heddwch byd-eang, a gwneud yn siŵr bod ein Llywodraeth ni hefyd yn gwneud yr un peth a sicrhau bod Cymru yn sefyll lan dros drueiniaid Gaza ac Wcráin, fel mae'r Llywodraeth wedi gwneud heddiw. Diolch yn fawr i ti, Sioned. Heledd Fychan AS: Diolch, Sioned, am ddod â hyn ger ein bron. Mae o mor bwysig ein bod ni'n diolch i bawb sydd wedi bod ynghlwm efo'r prosiect yma. Ond hefyd mae'n ein hatgoffa ni pa mor bwysig ydy ein casgliadau cenedlaethol ni, a'r sgiliau sydd o fewn y llyfrgell genedlaethol ac ati, sy'n caniatáu i'r prosiect yma ddigwydd. Dŷn ni wedi clywed bygythiadau oherwydd y toriadau sydd i'r llyfrgell genedlaethol. Mae'n rhaid inni ddiogelu'n treftadaeth, oherwydd mae'r cysylltiad pwerus rhyngot ti yn bersonol a'r ddeiseb yna—meddylia fod pawb, pob merch ifanc yng Nghymru sydd efo perthynas, yn cael canfod hynny, a beth fyddai hynny'n golygu o ran democratiaeth, yr ymdeimlad yma fod gan bawb rym a llais, beth bynnag fo'u rôl nhw. Mae'n neges bwerus. Mae'n rhaid inni warchod ein treftadaeth ni oherwydd beth mae'n golygu ar gyfer rŵan, ac yn y cyd-destun rhyngwladol, mae'n allweddol bwysig ein bod ni'n deall nad Cymru fach mohonom ni—Cymru fawr lle mae llais pawb yn cyfrif, a dyna rym y ddeiseb yma i'n hysgogi ni bod yn rhaid inni godi llais rŵan hefyd. Y Llywydd / The Llywydd: Y Prif Weinidog nawr i ymateb i'r ddadl. Mark Drakeford. Mark Drakeford AC: Llywydd, diolch yn fawr, a diolch i Sioned Williams a phob un sydd wedi cyfrannu at ddadl bwysig ac ysbrydoledig hefyd. Mark Drakeford AC: Lywydd, rwy'n edrych ar ffotograff o'r pedair menyw a aeth â'r ddeiseb heddwch draw i America. Mae uwchben yr erthygl gan Dr Rowan Williams y cyfeiriodd Sioned Williams ati. Dyna nhw, y pedair ohonynt. Maent yn anhygoel. Maent yn edrych yn benderfynol. A phan welais y ffotograff gyntaf, roeddwn yn gwybod ei fod yn fy atgoffa o rywbeth, a sylweddolais mai'r rheswm am hynny oedd fy mod yn edrych arnynt bob wythnos ar draws y bwrdd yng Nghabinet Llywodraeth Cymru. Ac efallai fod hynny'n rhannol am fod disgynyddion uniongyrchol i'r bobl hynny. Dil, hen fodryb Eluned Morgan, oedd trefnydd y ddeiseb yn sir Benfro, ac fel y dywedodd Sioned Williams hefyd, bydd llawer iawn o deuluoedd heddiw yn darganfod, gyda’r adnodd gwych newydd hwn, fod ganddynt gysylltiad â gweithredoedd y criw anhygoel hwnnw o fenywod 100 mlynedd yn ôl. Fel y clywsoch, cyflwynwyd y ddeiseb heddwch i’r Arlywydd Calvin Coolidge, 'silent Cal', fel y'i gelwid am ei fod yn gŵr cynnil ei eiriau, un o’r 16 o Arlywyddion America o dras Cymreig. Ac un o’r dogfennau mwyaf trawiadol a welais yn yr archif yn Aberystwyth nawr yw hanes y menywod am y cyfarfod yn y Swyddfa Hirgron yn y Tŷ Gwyn, lle mae’r Arlywydd Coolidge yn eu hatgoffa o’i hanes Cymreig a’i linach Gymreig ei hun. Wrth gwrs, Lywydd, pan aeth dynion a menywod o Gymru i America yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roeddent yn weriniaethwyr. Roeddent yn weriniaethwyr am eu bod yn perthyn i blaid ddiwygio Lincoln, a ddiddymodd gaethwasiaeth. Erbyn cyrraedd 1923, roedd Calvin Coolidge ei hun yn weriniaethwr mwy traddodiadol mewn termau economaidd, ond roedd yn dal i fod yn gefnogwr cryf i'r bleidlais i fenywod ac yn selog iawn ei gefnogaeth i gydraddoldeb hiliol. Ei Lywodraeth ef a roddodd Ddeddf Ddinasyddiaeth yr Indiaid 1924 ar y llyfr statud yn America, y Ddeddf gyntaf i warantu dinasyddiaeth yr Unol Daleithiau i Americanwyr Brodorol. Roedd yn ŵr cynnil ei eiriau, fel y dywedais. Galwodd gynhadledd i'r wasg i gyhoeddi na fyddai'n sefyll eto i'w ethol yn Arlywydd. Pan oedd y wasg wedi ymgynnull, cafodd y drws ei gloi, a rhoddodd ddarn o bapur i bob un ohonynt, a'u gwahodd i'w agor. Fe wnaethant droi'r papur drosodd, ac arno, roedd yn dweud, 'Nid wyf yn dewis cynnig am yr Arlywyddiaeth.' Pan ofynnwyd iddo a oedd ganddo unrhyw beth pellach yr hoffai ei ychwanegu, dywedodd, yn syml iawn, 'Nac oes', a dyna ddiwedd y gynhadledd i'r wasg. Felly, rwy'n credu bod gwersi da i’w dysgu, hyd yn oed ar ôl yr holl flynyddoedd. Nawr, roedd y ddeiseb heddwch, wrth gwrs, yn adwaith i gyflafan y rhyfel byd cyntaf, adwaith a oedd yn ddwys iawn ledled Ewrop. Roedd yr Urdd, y clywsom amdani eisoes heno—ac fe ddywedaf fwy amdani yn y man—ei hun yn un o lu o fudiadau ieuenctid a sefydlwyd yng nghysgod y gyflafan. Ac yma yng Nghymru, wrth gwrs, roedd yn fudiad di-iwnifform—fe gofiwch am y mudiadau ieuenctid mawr cyn y rhyfel, y Sgowtiaid, Brigâd y Bechgyn, y Geidiaid; roedd pob un ohonynt yn fudiadau iwnifform—ac roedd yn fudiad a oedd yn agored i ddynion a menywod ifanc. Roedd yn rhan o'r mudiad heddwch byd-eang gwych hwnnw. Yr un tarddiad sydd i’r ddeiseb heddwch, ond mae gan y mudiad heddwch yng Nghymru, fel y clywsom, wreiddiau llawer dyfnach. Yn yr erthygl gan Rowan Williams, mae’n ein hatgoffa mai gŵr cyntaf Annie Hughes Griffiths oedd Tom Ellis, yr AS Rhyddfrydol y ceir cerflun ohono yn y Bala o hyd, y gobaith coll mawr hwnnw o fudiad Cymru Fydd, mudiad a oedd yn rhagflaenydd i ddatganoli ac i’r Senedd heddiw. Cyn Tom Ellis, ac yn gyfoeswr iddo yn wir, oedd y brodor o Dregaron, Henry Richard, yr apostol heddwch, gŵr a fu’n ysgrifennydd i’r Gymdeithas Heddwch ym mlwyddyn y chwyldroadau Ewropeaidd yn 1848, ac a ddaeth yn Aelod Seneddol dros Ferthyr Tudful. Mark Drakeford AC: Roedd y 1920au cynnar yn gyfnod o newid aruthrol. Yma yng Nghymru, ym 1921, yn is-etholiad Caerffili, etholwyd yr AS cyntaf a fu’n wrthwynebydd cydwybodol yn ystod y rhyfel byd cyntaf. Mae'n anhygoel meddwl, onid yw, am Morgan Jones, a dreuliodd y rhyfel byd cyntaf yn y carchar yn Wormwood Scrubs, a chwta dair blynedd yn ddiweddarach, fe'i hetholwyd yn AS Llafur dros Gaerffili, ac ar sail y dyhead hwnnw am heddwch. Mae bywgraffiad gwych ohono gan ei olynydd, Wayne David, os nad yw fy nghyd-Aelodau wedi cael cyfle i'w ddarllen. Roedd hynny ym 1921. Ym 1922, sefydlwyd Urdd Gobaith Cymru. Ym 1923, y ddeiseb heddwch, ac ym 1924, ei chyhoeddi yn y Tŷ Gwyn, a chyhoeddi un o'r pamffledi cyntaf a luniwyd gan gyngor cenedlaethol Cymru o Gynghrair y Cenhedloedd. Mae’r pamffled hwnnw’n deyrnged i fywyd Henry Richard, ac fe’i cynhyrchwyd gan y cyngor hwnnw, dan gadeiryddiaeth David Davies Llandinam, yr Arglwydd Davies, a ariannodd y deml heddwch, y clywsom amdani heno hefyd. Mae'r deisebwyr a'r ddeiseb yn rhan o'r dreftadaeth gyfoethog iawn honno o ymwneud y Cymry mewn mudiadau heddwch. Ond credaf y dylem oedi am eiliad, gan fod mwy nag un edefyn yn hanes Cymru hefyd. Yn union fel yr aeth menywod o Abertawe i Cincinnati i fod yn rhan o lwybr rhyddid caethweision yn America, dilynwyd diwedd y rhyfel byd cyntaf yng Nghymru gan derfysgoedd hil yng Nghasnewydd ac yng Nghaerdydd. Rhyfel a ddechreuodd, fel y dywed Aled Eirug yn ei lyfr, The Opposition to the Great War in Wales 1914-1918, drwy ddangos pa mor gyflym y cafodd traddodiad heddychlon anghydffurfiaeth Gymreig y bedwaredd ganrif ar bymtheg ei wyrdroi yn y brwdfrydedd cychwynnol hwnnw dros y rhyfel mawr. Ym 1914, ni chynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol oherwydd y dathliadau wrth i'r Deyrnas Unedig ymuno â'r rhyfel mawr. Nod dydd Gŵyl Dewi y flwyddyn honno oedd codi arian ar gyfer ymdrech y rhyfel. Ym 1916, penodwyd yr unig Gymro erioed i ddod yn Brif Weinidog y DU, David Lloyd George, a chafodd ei benodi er mwyn arwain Cymru a’r Deyrnas Unedig drwy’r rhyfel. Fel y dywedaf, daeth y rhyfel i ben fel y dechreuodd—dechreuodd gydag Ivor Novello, brodor o Heol y Bont-faen yn fy etholaeth i, yr oedd ei eiriau a’i gân, 'Keep the Home-Fires Burning', yn hynod boblogaidd yn nyddiau cynnar y rhyfel. 'They were summoned from the hillside, / They were called in from the glen, / And the country found them ready / At the stirring call for men'. Oes, mae gan Gymru hanes balch o ymwneud â mudiadau heddwch, ond mae mwy nag un edefyn yn hanes Cymru, ac nid ydym yn gwneud cyfiawnder â'n hanes os ydym yn anwybyddu'r ffaith, mewn sawl man ac ar sawl achlysur, fod brwdfrydedd dros ryfela hefyd wedi bod yn rhan o'n hanes. Lywydd, i ddychwelyd at y brif stori, fel y dywedodd Mabon ap Gwynfor, os nad ydych chi'n ofalus, pan ddechreuwch sôn am y cyfnod hwn yn ein hanes, rydych chi'n tueddu i siarad am ddynion yn unig, fel y gwnes i hyd yma. Ac eto, hanes menywod oedd hwn, menywod allan yn casglu llofnodion ar gyfer y ddeiseb heddwch honno. Felly, hoffwn sôn am dair menyw o blith nifer o rai eraill y gellid bod wedi sôn amdanynt, i nodi’r cyfraniad ehangach hwnnw. Mark Drakeford AC: Agorwyd y Deml Heddwch ym 1938, felly lai na dwy flynedd cyn dechrau'r Ail Ryfel Byd. Fe'i hagorwyd gan Mrs Minnie James o Ddowlais, menyw a gollodd ei thri mab yn y rhyfel rhwng 1914 a 1918. Dywedodd hyn ar risiau'r Deml Heddwch: 'Yn enw menywod Cymru mae'n fraint gennyf agor yr adeilad. Rwy'n ei gyflwyno er cof am y dynion dewr o bob gwlad a roddodd eu bywydau yn y rhyfel a oedd i fod i roi diwedd ar ryfeloedd.' Wel, fel y dywedodd Mabon, ni wnaeth hynny o gwbl, fel y gwelwyd yn fuan iawn wedyn, ond nid oedd hynny'n golygu nad oedd ymdrechion y deisebwyr ac ymdrechion Minnie James a'r rhai a safai wrth ei hochr ar y grisiau y diwrnod hwnnw yn rhai pwysig ac arwyddocaol. Mae'r AS benywaidd cyntaf sydd â chysylltiadau Cymreig yn aml yn cael ei hanwybyddu yn ein hanes ein hunain. Rydym yn anghofio bod Edith Picton-Turbervill, a oedd yn Aelod Seneddol dros y Wrekin ychydig dros y ffin yn y Llywodraeth Lafur fer honno rhwng 1929 a 1931 yn dod yn wreiddiol o Briordy Ewenni ym Mro Morgannwg. Roedd hi'n dod o deulu aristocrataidd, ond roedd hi'n sosialydd ac roedd hi'n swffragét a threuliodd ei chyfnod byr yn Nhŷ'r Cyffredin i raddau helaeth yn mynd ar drywydd materion menywod. Mae'n debyg mai hi yw'r fenyw gyntaf o Gymru erioed i gael darn o ddeddfwriaeth ar y llyfr statud, pan aeth ati i hyrwyddo a pherswadio Tŷ'r Cyffredin i basio Bil Dedfryd o Farwolaeth (Mamau Beichiog), a lwyddodd i ddiddymu'r gosb eithaf i fenywod beichiog yn y Deyrnas Unedig. Ac am eiliad—oherwydd, fel y dywedodd Sioned, gall hon fod yn daith emosiynol pan feddyliwn am y bywydau hyn a'r hyn a wnaethant a'r hyn yr oeddent yn ei olygu—rwy'n mynd i ddweud rhywbeth, am eiliad, am Mrs Morgan. Fe ddeuthum i Gaerdydd ym 1979, ac yn gynnar iawn yn y 1990au, penderfynodd grŵp hynaws o ynadon fod angen help ar blentyn 12 oed o'r enw John Morgan, a daeth yr help annhebygol iawn a gafodd drwy fy ymddangosiad i, yn fy ugeiniau cynnar. Bob wythnos, byddwn yn esgyn y lloriau niferus yn y bloc o fflatiau ar ystad Hollybush yn yr Eglwys Newydd, oherwydd roedd John yn byw gyda'i nain, Mrs Morgan, a oedd mor hen â'r ganrif, ac yn ei 80au cynnar, roedd hi wedi dod i ofalu am ei hŵyr. Ac nid wyf yn meddwl imi fod yn llawer o help i John, ond rwy'n gobeithio fy mod wedi rhoi ychydig bach o help i Mrs Morgan, pe bai ond am fy mod i'n gynulleidfa i'r straeon yr oedd hi bob amser yn awyddus i'w hadrodd. A phan oeddwn i'n eistedd yn ei hystafell fyw, roedd yna ddau beth roedd hi angen eu dweud wrthyf bob amser. Y cyntaf oedd ei hatgasedd dwfn a pharhaus tuag at y Prif Weinidog Margaret Thatcher. Roeddwn i'n ystyried Mrs Thatcher yn atgas, ond roedd atgasedd Mrs Morgan yn ddyfnach na fy un i bob tro. A'r ail stori roedd hi am ei hadrodd oedd sut y byddai hi, fel merch 16 oed, ym 1916, yn mynd ar dram yng Nghaerdydd ac yn teithio i lawr i'r bae i weithio mewn ffatri arfau fel rhan o ymdrech y rhyfel. Roedd Mrs Morgan yn swffragét a oedd wedi mynd ar orymdeithiau yng Nghaerdydd, ac roedd hi'n sosialydd hefyd. Roedd hi'n bendant yn un o'r bobl hynny rydych chi'n eu dychmygu'n arwyddo'r ddeiseb heddwch, ac ymhell i mewn i'n bywydau ni, roedd y bobl hynny'n dal i ymladd dros yr achosion blaengar yr oedd y deisebwyr eu hunain wedi ymgynnull i'w hyrwyddo yn ôl yn y 1920au. I ble mae hyn oll yn ein harwain ni heddiw, Lywydd? Wel, mae'n ein harwain at Gymru sydd, yn fy marn i, yn parhau i fod yn ymroddedig i achos heddwch, cenedl noddfa, ein deddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol, ein buddsoddiad yn yr Academi Heddwch, gyda'i darlith heddwch flynyddol, y buddsoddiad a wnawn yn rhaglen Taith i alluogi pobl ifanc o Gymru i gyfarfod â phobl ifanc o rannau eraill o'r byd, ac i groesawu pobl ifanc o rannau eraill o'r byd yma i Gymru. A gwaith parhaus yr Urdd wrth gwrs. Nawr, roeddwn i'n ddigon ffodus i fynd gyda'r Urdd i Ganolfan Heddwch Nobel yn 2022 i ddathlu'r 100fed neges heddwch, neges heddwch ac ewyllys da gan bobl ifanc Cymru i bobl ifanc y byd. Cyrhaeddodd y neges honno 10 miliwn o bobl eraill ledled y byd. Eleni, wrth gwrs, bwriad yr Urdd yw i'r ddeiseb heddwch fod yn destun y neges flynyddol yn 2024. Lywydd, roeddwn i eisiau gorffen gyda dwy stori gyferbyniol, y ddwy o'r ychydig fisoedd diwethaf. Yn ystod yr hydref y llynedd, euthum i Lyn-nedd. Euthum i wasanaeth, gwasanaeth a oedd, fel y dywedai'r daflen, yn un i gofio a chydnabod y cywilydd a'r anghyfiawnder a ddioddefodd y Preifat William Jones yn ystod y rhyfel byd cyntaf. Roedd yn un o recriwtiaid Kitchener i'r fyddin, yn aelod o nawfed fataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, a chyrhaeddodd yn ôl i Gastell-nedd ar daith na allai neb ei deall ac na allai roi cyfrif amdani. Roedd wedi dianc o'r rhyfel. Cafodd ei arestio gan Gymry. Cafodd ei drosglwyddo i'r awdurdodau. Cafodd—mae'n rhaid imi feddwl am y gair cywir—cafodd ei ddienyddio fel enciliwr yn y rhyfel byd cyntaf. Roedd yn 17 mlwydd oed, a fwy na 100 mlynedd yn ddiweddarach, a diolch i waith gwych yr hanesydd lleol a'r ymgyrchydd Robert King, rhoddwyd ei enw ar y gofeb yno yng Nglyn-nedd gyda'r holl rai eraill o'r pentref hwnnw a gollodd eu bywydau yn y rhyfel byd cyntaf. Dyna ei goffadwriaeth. Ychydig fisoedd yn ddiweddarach, gosodwyd plac glas yn Aberystwyth, plac glas i goffáu gwaith y deisebwyr a'r holl bobl yr oeddent wedi eu cymell ledled Cymru i roi eu henwau ar y ddeiseb honno, ochr arall i hanes Cymru, ochr arall i'n perthynas â rhyfela a heddwch. Mewn mis neu ddau, dyna'r gwaethaf a'r gorau o'n hanes. Rwy'n siŵr mai uchelgais y rhan fwyaf o Aelodau'r Senedd yw y byddem, yn ein hamser ni, a phan gawn y cyfle hwnnw, yn hoffi bod ar ochr orau ein hanes. Dyna pam mae'r ddadl fer hon wedi bod mor werthfawr y prynhawn yma. Lywydd, diolch yn fawr. Y Llywydd / The Llywydd: Diolch yn fawr i'r Prif Weinidog, a diolch i bawb am gyfrannu i'r ddadl arbennig yna. Nos da i chi i gyd. Daeth y cyfarfod i ben am 18:39. QNR Cwestiynau i Y Gweinidog Newid Hinsawdd Joel James: A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar yr amserlen ar gyfer gweithredu cynllun wedi'i dargedu i adfer morwellt? Julie James: I remain fully dedicated to our Programme for Government commitment to develop a targeted seagrass restoration scheme. We are working closely with stakeholders, such as Project Seagrass and WWF, to identify critical interventions. I am convening a roundtable event next month, further discussing actions and support we need to undertake. Cwestiynau i Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Jane Dodds: Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i sut y byddai newidiadau i'r flwyddyn ysgol yn effeithio ar dwristiaeth wledig a'r economi yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? Jeremy Miles: The recent consultation on Reform of the School Year provided an opportunity for everyone across Wales to share their views on the proposals. The findings, including information on any impacts, will now be considered carefully. Mark Isherwood: A wnaiff y Gweinidog gadarnhau polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer gwahardd o'r ysgol yng Nghymru? Jeremy Miles: Welsh Government guidance is clear that exclusion should be a matter of last resort when a wide range of other strategies have been tried without success. Cwestiynau i Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Janet Finch-Saunders: Pa wersi y mae Llywodraeth Cymru wedi'u dysgu o'r cap ar renti yn yr Alban? Lee Waters: Evidence on the impacts of the rent cap in Scotland has been submitted in response to our Green Paper Consultation on housing adequacy and fair rents. This is being considered, alongside other evidence, to inform the development of a White Paper to be published later this year. Jenny Rathbone: Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i godi isafswm effeithlonrwydd gwres tai rhent preifat? Lee Waters: Homes that are rented privately are required to meet the Domestic Minimum Efficient Standards set by the UK Government. We continue to work with UK Government to understand how these standards can be set, to increase the requirements of private sector landlords and increase the quality of Welsh housing.
uk-hansard-senedd-cy
senedd2024-02-21
2024-06-01T00:00:00
{ "year": "2024", "language": "cy", "license": "Open Parliament Licence - https://www.parliament.uk/site-information/copyright-parliament/open-parliament-licence/" }
Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd. Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. Datganiad gan y Llywydd Y Llywydd / The Llywydd: Prynhawn da. Cyn i ni gymryd yr eitem gyntaf ar yr agenda y prynhawn yma, a gaf i hysbysu Aelodau, wrth gwrs, taw 25 mlynedd i ddoe y cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Cynulliad yn Siambr Tŷ Hywel? A, dros nos, fe ddaeth y newydd bod un o'r Aelodau a etholwyd i'r Cynulliad hynny wedi ein gadael ni. Roedd Owen John Thomas yn Aelod Plaid Cymru dros Ganol De Cymru. Mi ddaeth yn llais ac acen gref Caerdydd yn nhrafodaethau'r Cynulliad cyntaf hynny. Gwnaeth gyfraniad arbennig drwy ei oes i dwf addysg Gymraeg yn y brifddinas, ac mi oedd yn un o sylfaenwyr clwb enwog Ifor Bach yn y brifddinas. Mae'n cydymdeimladau ni oll fel Senedd, dwi'n siŵr, gyda theulu Owen John Thomas a'i gyfeillion oll. 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog Y Llywydd / The Llywydd: Yr eitem nesaf, felly—yr un gyntaf—fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Sam Rowlands. Darpariaeth Gofal Iechyd yng Ngogledd Cymru Sam Rowlands AS: 1. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth gofal iechyd yng ngogledd Cymru? OQ61115 Vaughan Gething AC: Thank you. Healthcare overall in north Wales is not where I, nor indeed the staff delivering those services, would want it to be. As part of the special measures escalation, the Welsh Government is working closely with Betsi Cadwaladr University Health Board to improve access to the safe and timely health and care that the people of north Wales deserve. Sam Rowlands AS: Well, thank you for your response, First Minister. And, Llywydd, the First Minister will be aware that, just last week, a black alert was issued in the north Wales health board because hospitals could not cope with the bank holiday levels of demand, and, sadly, this is far too often an occurrence for the residents that I represent in north Wales. And you'll also be aware that, of course, just before the last Senedd election, you felt it right to pull that health board out of special measures, and, then, inevitably, very quickly after the Senedd elections, the health board went straight back into special measures. Now, things are as bad as they ever have been for the residents that I represent in north Wales, and I shared in this Chamber last week the example of one of my residents who is, sadly, terminally ill with cancer, who had to wait more than 24 hours in an A&E department. So, First Minister, because of the regularity of these occurrences, and because of the severity of the issues that my residents are suffering, would you not think that now is the time for an independent review of the health board, so that the people that I represent can get the healthcare that they deserve? Vaughan Gething AC: Thank you for the question. Before I deal with the substance of the points, there is a broader point that I want to make, that I hope will have support across the Chamber, because it's just over a week or so ago that there was a case of measles identified following someone who attended Wrexham Maelor. That actual 24-year-old was not vaccinated; they were visiting and actually attended from England to come to the hospital. There's a broader point here—and I think I made this in response to Peter Fox previously—about measles vaccination. It is a serious issue for people across all sides in this Chamber and beyond to encourage adults who are unvaccinated, or under-vaccinated, as well as children, to get vaccinated, because there is a real issue with the scale of measles outbreaks across the country, and it shows that, whilst we have a better position on vaccination than England, we're not immune to the challenges that do exist. On your questions about, in particular, unscheduled and emergency care, this is an area where we know there's further improvement that is required. I can't comment on individual waits, but I recognise, as indeed does the Cabinet Secretary, that there are too many people who have an experience of waiting too long in an emergency department, or, indeed, an experience that we would not wish for our own loved ones as well. That's why there's a range of improvement action that is taking place. There's some extra resource available. So, there's £2 million for the health board in the financial year that we're just entering, and, indeed, in January, the Cabinet Secretary announced money for the whole of Wales, and Betsi Cadwaladr got the largest share of that. There's quite a lot of work that is being done on trying to make sure that people get to the most appropriate point for their care—so, for example, the same-day emergency service that has been created since Eluned Morgan became the Cabinet Secretary and the additional roll-out of urgent primary care that has taken place across north Wales. Those are thousands of people who are getting seen in a more prompt manner because that is the right thing to do for them. What we actually have is both the twin challenges of needing to transform our system whilst at the same time seeing demand increase. I think, in February this year, compared to a year before, there's been a 24 per cent increase in demand coming in through our emergency departments, and that's a huge additional wave of demand that we need to be able to see and cope with. What makes that much harder is that we're not able to get people out of hospital when they're medically fit for discharge. And the Member will know, as a former leader of a local authority, that this is joint work between health and local government, to make sure thatwhen the hospital is no longer the right place for their care, those people can leave. In north Wales, there are regularly more than 300 people who are medically fit for discharge but can't leave. To give context to that, that's about two thirds of the entire bed space in Ysbyty Glan Clwyd. Now, it's in the interest of all of us to work together because, for that person who is in the wrong place, it's actually not a great experience for them, they're actually then subject to additional risks of decommissioning, and the Member will know this from his own time when he had a real job before politics, and actually thinking about the need to make sure that people are properly able to get around and about. So, this is a shared challenge for the two biggest sectors of the public sector, and, crucially, for those individuals as well. Those are the issues we face, and that is what we're going to carry on focusing on with our attention, together with partners and stakeholders. Mabon ap Gwynfor AS: Un o'r problemau amlwg yn y ddarpariaeth gofal iechyd gennym ni yn y gogledd ydy'r rhestrau aros hirfaith. Cymerwch gleifion syndromau Ehlers-Danlos, er enghraifft. Dros y ffin yn Lloegr, mae cleifion yno yn cael eu cyfeirio yn syth at arbenigwyr, ond mae cleifion Ehlers-Danlos yng ngogledd Cymru yn gorfod gwneud cais am ariannu claf unigol, sydd, yn amlach na pheidio, yn cael ei wrthod, sydd felly, yn ei dro, yn golygu eu bod nhw’n mynd heb y gofal angenrheidiol ar gyfer cyflwr difrifol. Ydych chi, Brif Weinidog, yn credu ei bod hi'n iawn bod cleifion Ehlers-Danlos yn gorfod dioddef fel hyn yn y gogledd, ac a wnewch chi ymrwymo i sicrhau bod cleifion gogledd Cymru—a Chymru gyfan, yn wir—yn cael eu cyfeirio'n syth, heb orfod oedi a gwneud ceisiadau am ariannu unigol? Vaughan Gething AC: I'm not aware of the individual issue the Member raises. If he writes to me and the Cabinet Secretary for health, we'll happily look into that to see if there is a system-wide change that we could make. Actually, when it comes to access to new medication, we actually do better in Wales than in other parts of the UK. The new treatment fund, which I was proud that we introduced at the start of the last Senedd term, has made a real difference in getting new treatments available promptly and consistently across Wales. If that isn't the case in the area that the Member refers to, then I'd be interested in how we can look at that to understand if there is improvement action that we can take not just for north Wales, but across the whole country. Carolyn Thomas AS: There is a lot of positivity happening as well in the NHS—a lot of people are being seen, and I welcome investment in north Wales, with the new orthopaedic unit being built, well-being hubs, investment in community provision, and extended hours to minor injury units, which is making a difference. I also welcome the new medical school for north Wales, and the new medical training centre for nurses, paramedics and other allied health professionals in Wrexham. And there are training pathways for social healthcare learners at Coleg Llandrillo, which is really positive. Recruitment and retention is really important. I don't want to keep talking the NHS down. However, I am concerned about the retention of staff. I've heard that a dermatologist has recently left to work in the private sector, which we don't want to happen. Betsi employs 19,000 people, and it's really important to the local economy as well, as an employer. So, to improve retention, we need to look at working conditions—offering flexibility, through reduced hours, perhaps, and job shares, would be a good way forward, if possible. First Minister, do you agree that, by investing in people, we can grow both our healthcare workforce and our local economy? Thank you. Vaughan Gething AC: Thank you for the question. I think it's important to reflect, as the Member does, that, whilst there are challenges on healthcare delivery in north Wales, which we acknowledge—that's why there's the special measures framework, and it's why the Cabinet Secretary spends a lot of her time poring over the detail of the improvements that are still required—for most people, they actually have a good experience of healthcare, and that is because of the fantastic work that our staff do, the dedication and the skill they have, and the continued transformation and improvement we're seeking to make. I'm glad the Member made the point about the importance of the health board as an employer in the economy. Nearly 20,000 people being employed has a significant impact in local economies, right across the area. And I do think that's, therefore, about how you retain staff. It is about what we're doing to invest in the future—our current staff want to see investment in the future, for them to stay. I'm very proud of the steps that this Government has taken to help create a new medical school. We've worked with other partners in doing that in the past, in conversation with Plaid Cymru and others, but we are delivering a budget to make sure that that happens. And in the autumn of this year, the first intake to Bangor medical school will take place, the first direct students, and, by 2029, it will have reached its full capacity—doctors trained in Wales, for Wales. And that is important for our current medical and allied workforce as well, to see that investment taking place. That goes alongside the point the Member finished on, about having a flexible approach to conditions. As our workforce shifts and trains, as our expectations have done—. It used to be the case that doctors expected to work punishingly long hours during their training. They accepted that as part of what happened, and yet, actually, none of us, I think, would now say that it's acceptable for doctors to work those extraordinary hours. And doctors are humans who want to have other relationships too. So, a flexible approach, where possible, to meet the needs of the patient and the person is what we do want our NHS to progressively undertake and deliver. It's a point well made. I hope the Member will see good examples of that in the health service across north Wales and beyond. Plant Oedran Ysgol Gynradd sy'n gallu Nofio Jenny Rathbone AC: 2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu nifer y plant oedran ysgol gynradd sy'n gallu nofio? OQ61121 Vaughan Gething AC: Thank you for the question. Across the Welsh Government, officials are working closely with both Swim Wales and Water Safety Wales to raise the profile of swimming within the Curriculum for Wales and to support primary school learners with swimming skills and water safety education. Jenny Rathbone AC: First Minister, you may have seen the data from Swim Wales, which shows that only one in six or 16 per cent of children can swim. This is a really serious issue for my constituents, particularly up in Pentwyn, where we have a handy lake that children can drown in, but no swimming pool has been available to them since COVID. We still haven't seen the local authority commissioning the refurbishment of the pool, and the earliest it's going to reopen might be the summer of 2025. In the meantime, schools are having to shell out very large sums of money—up to £4,000—to ensure that children get their curriculum entitlement to learn how to swim. So, I wondered what you think the Government can do to accelerate the need to ensure that every child can swim, particularly in the most disadvantaged areas, where people are not being taken on holiday, because families, simply, don't have the money to go on holiday, and, in the summer, they are hugely at risk of water being available to drown in. Vaughan Gething AC: There's a serious point the Member raises. For many people, swimming is a leisure activity or is an activity for exercise. It's also a skill for life. So, I'm delighted that my own son has taken up the lessons that have been provided through his school. It's a real positive to see that skill for life that children learn early. And I particularly think about my own example. I learnt to swim as an adult. I was in my 30s when I learnt to swim, and I was concerned about the fact that, if I was in water that I could not stand up in, I could not move two or three metres to get myself to safety. So, I learnt to swim in the old Splott pool in Cardiff, which has now been refurbished. There's a new pool with a library and a hub of additional advice services around it. And my understanding is that's what Cardiff Council are looking to do with Pentwyn pool, where they're engaging with the public now on the design for not just a new pool, but the services to go around it. That's part of the answer, together with the work we are doing with schools across the country, including in Cardiff, to make sure that the statutory guidance for the new curriculum about making sure that children can be safe around water is taken up, together with the funding we do provide to local authorities to make sure that free swimming lessons are available. I think about six in 10 Cardiff primary schools do provide free swimming lessons, and I'd be interested in a conversation with the local authority about where those schools are and how that is rolled out to provide those opportunities progressively to a wider group of primary school-aged children. This a key lesson for life, and I would like to see other children take up that opportunity and not have to learn as an adult, as I did. James Evans AS: First Minister, as Jenny Rathbone highlighted, the low proficiency amongst children swimming in Wales is, I think, dangerously low. And we do see and hear on the media of young people who lose their lives unnecessarily because they can't swim, or they don't know any safety techniques when they do fall into water and then they get into trouble, and unfortunately they drown. So, First Minister, what plans does the Welsh Government have to make swimming mandatory within the curriculum to make sure that our young people are educated about how to swim, and to make sure that no young person dies unnecessarily in water because they have not got any techniques to make them able to save their own life? Vaughan Gething AC: I think there are two slightly different things here. The first is, as I said in response to the Member for Cardiff Central, that, actually, we do have clear guidance in the national curriculum about making this available. The challenge is making sure that's taken up progressively—so, we do provide money to support that—and then having the facility that's available to nearby communities, because, practically, if you need to travel a significant amount of time—. I think time more than distance is the issue, because you can move a short distance as the crow flies in our cities but it can actually take a long time to travel. So, the redevelopment of Pentwyn is really important for that section of Jenny Rathbone's constituency. It's one of the least advantaged communities in the capital city. So, the practical access is part of that. I think the second point is a point that the Member raises quite correctly, and that's not just about access to swimming lessons; it's about water safety and, in particular, understanding when water isn't safe to enter, even if you are a competent swimmer—that's both what's underneath the water as well as the fact that going into cold water can be dangerous for people of all ages. So, that's the point about not just working with Swim Wales, but also Water Safety Wales, to try to educate our children and young people to understand what being safe around water really does mean, as well as the joy of learning the life skill of being able to swim. Sioned Williams AS: Prif Weinidog, you've recognised this afternoon the importance of swimming and swimming lessons for all ages, but you will be aware that a number of pools in communities across Wales have closed, either due to revenue costs or because of their physical condition. This really is a question of access, I think. Pontardawe swimming pool in Neath Port Talbot is due to close in August because its life has expired after 50 years and its condition has deteriorated to the extent where it would be dangerous to continue operating. I'm glad that Neath Port Talbot council will be commissioning a feasibility study into building a replacement pool—refurbishment isn't an option. Will the First Minister state what existing funding support is available for the provision of swimming pools by local authorities and leisure trusts in Wales? What new capital funding can be made available to support the building of new and environmentally sustainable pools, which are essential for the health and well-being and safety, as you pointed out, of communities like those of Pontardawe and the Swansea and Aman valleys? Vaughan Gething AC: We do provide capital support through Sport Wales to help with some of this. Our challenge, though, is the scale of the capital we have available to us and the scale of the challenge we face. Because the Member is right: a number of the assets that communities have been used to using are coming to the end of their lives, and there is therefore a need to think about the capital investment that's required and the point the Member makes around the sustainability of those buildings. The buildings we'd build today would be quite different to the buildings of 50 years ago and how they're made generally sustainable. There is, of course, lots of innovation taking place around local authorities—Rhondda Cynon Taf, for example, is having open-water pools available. It's not something that I'd choose to do, but there are others who want to do it. It's about the access to the opportunity. Our work with local authorities would have to be bound by the realities of their budgets. Every Member in this room knows that we don't have the resource in terms of revenue or capital that we'd like to have, so this will require sustained investment over a longer period of time, it will require a different settlement on what we're able to generate in capital terms to support local government and communities with the aspirations that I know that they do have. Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau Y Llywydd / The Llywydd: Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies. Andrew R.T. Davies AC: Thank you, Presiding Officer. Could I first of all identify with your opening remarks about Owen John Thomas and his commitment to this Welsh Parliament, and obviously to public service throughout his whole life? I extend the Conservatives' condolences to his family at this very difficult time for them as well. First Minister, the residents around the landfill site at Withyhedge are really having a nightmare of a situation inflicted on them. The smells, the odours, are unbearable for residents in this part of west Wales. They've now had two public health warnings, one in March and one as recently as Friday, about the stench and the impact that could have on public health in the area. It's not unreasonable to ask the question, as many residents have, and as my colleague for the constituency Paul Davies has: why are they having to put up with this awful situation that seems to be going on for ever and a day? Can you answer that simple question, so that they can have confidence that there will be action taken to address the appalling environment that they're having to bring their children up in and live and breathe every day? Vaughan Gething AC: I think it's important that improvement action is taken to resolve the issue. I've had the same conversations with regional Members in my own group about making sure that action is taken, indeed, the issues that Paul Davies will have raised as well. So, the advice from Public Health Wales that was issued in March is the same as has been recently issued about how to take measures whilst the issue is still unresolved. My understanding is that NRW are taking action to both monitor and to require improvement, and the key point here is that the operator meets those requirements. Equally, I understand they've installed monitoring equipment that NRW then take the readings from to see if they're actually taking the steps they're required to do. So, it's what I'd expect of any operator. The regulatory requirements are there, in place, for exactly this reason, and that's why NRW need to keep on making sure that action is taken and that they then communicate with the public about whether that action has been met. Andrew R.T. Davies AC: I'm sure you'll want to put it on the record, First Minister, that you do have a conflict of interest, because the owner of this landfill site is David Neal of Dauson Environmental Group. And that is the issue here. It is all well and good putting monitoring services in there, but two deadlines, as I said in my opening remarks, have been missed; today is another deadline, as I understand it, that has been set to see improvement in that particular area. Regrettably, I have spoken to people over the last 10 days, and one individual said that, at 6.30 in the morning, the smell was so strong, they were on all fours throwing their guts up. Those were their words. And last Friday, I was talking to another resident of the area who said that he's actually had people not come in to work, to work on his farm, because the smell is so atrocious there. Now, it's all well and good you saying that monitoring measures have been put in place, but this has been going on now for many months, and it looks as if it could continue for many months more. That isn't acceptable. Would you want that on your doorstep in Penarth, because if it's not good enough for you, why is it good enough for the people in west Wales to have to put up with? Vaughan Gething AC: I think there are a number of different points that are being made there. I've been clear about where I can and can't act and where there's a conflict of interest. I haven't taken any action in this instance. I was responding to the Member's question about what's happening by making it very clear that NRW, as the regulator, need to take the required action. I'm not aware that a single member of the Government has attempted to influence the action of NRW; it is for them to undertake the required action to ensure that improvement is delivered, and that's the very clear position of the whole Government. I wouldn't expect any community to simply tolerate what is happening. That's why action needs to be taken. That's why it needs to be led by the regulator, to be clear about when requirement is undertaken and what will happen, whether that required action is undertaken to time or not. That's the important point here. There's no moving away from required improvement, and I expect the regulator to act as it should do in this and any other instance, regardless of the operator. Andrew R.T. Davies AC: No declaration, First Minister. Any other Member would have to make that declaration. On the third question, in your answer, I hope you will make that declaration, because that's going to the core of what many people in the locality perceive as influence and making sure that things aren't remediated as quickly as possible. That tip needs to shut. It has been run very badly, and residents are being affected in their everyday lives. That is just not good enough. I wouldn't tolerate it on my doorstep, and I certainly wouldn't tolerate it in my electoral area, and I'd be putting in all the possible support I could for residents to try to make sure that they had this situation addressed. Will you send a clear message that the Welsh Government will deal with this, will work with the regulator and the local authority to make sure that this is brought to a conclusion in a timely manner, and that residents will not feel as if they're in some environmental vortex that is dragging them down and making their lives a misery? Give that commitment and send that message if you would today, so that the residents can have hope. Vaughan Gething AC: I think it's important to address the two points. The first is that, if I'm conflicted out, then I can't answer the question. And, actually, my record, which has been updated and is available, from Dauson, that's clear and it's on the public record. There's no lack of clarity or honesty about that. The second point, after being clear about the declaration, is that I don't think that it does prevent me from setting out that the Government's position is that the issue needs to be resolved properly in accordance with the requirements of the regulator, and of course as soon as possible. As I said in answer to your second question, it would not be acceptable in any community in the country for the issue not to be resolved, whether it's in my constituency or a different part of the country. That's why I say again that the regulator, NRW, needs to act to make sure that improvement is undertaken and that they have the assurance that that has been completed. That's my very clear expectation. If the regulator wants to talk to the Government, they can of course speak to the Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs, but they would not need to come to me, and if they did, I would have to tell them that I cannot undertake any action in this matter. But I can set out the overall position on what the Government expects in any instance where action is required by NRW or any other regulator. Y Llywydd / The Llywydd: Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch, ac rwyf innau'n ategu geiriau’r Llywydd wrth dalu teyrnged i Owen John Thomas, cymwynaswr ac ymgyrchydd mor frwd dros ei gymuned a dros y Gymraeg a Chymreictod yn y brifddinas. Ac wrth inni gydymdeimlo efo'i anwyliaid a'i deulu heddiw, rydyn ni'n cofio ei gyfraniad at Blaid Cymru ac at ddyfodol Cymru. Mae yna ddywediad yn y Gymraeg, onid oes, 'gorau arf, arf dysg', ac mae o mor wir, onid ydy, fod codi safonau addysg yn gorfod bod yn un o brif arfau Cymru wrth drio dod â mwy o lewyrch i'n gwlad ni. Ond rydyn ni'n gweld yn y dyddiau diwethaf yma gymaint o'r min sydd wedi cael ei golli oddi ar allu'r sector addysg uwch i fod ar flaen y gad yn hynny o beth: Aberystwyth yn wynebu colli cymaint â 200 o swyddi wrth drio gwneud arbedion o £15 miliwn; is-ganghellor Caerdydd yn sôn am £35 miliwn o ddiffyg yn ei chyllideb eleni. Mae’n sefyllfa argyfyngus, a ni ydy'r unig genedl yn y Deyrnas Unedig sy’n mynd am yn ôl o ran cyfranogiad ein myfyrwyr ni yn ein sector addysg uwch. Mae cannoedd o swyddi dan fygythiad, ein heconomi o dan fygythiad. A all y Prif Weinidog ddweud wrthym ni pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael o ran ailflaenoriaethu adnoddau er mwyn gallu cynnig pecyn i ni gael ein prifysgolion ni drwy’r storm yma? Vaughan Gething AC: I want to start by just noting Owen John Thomas’s contribution—O.J., as I knew him when I was a researcher in the first year of the National Assembly, as it then was. I always found him kind and courteous in my dealings with him, and I wish him and his family well. On your point around higher education, we have of course taken a range of steps in the last budget around funding, and there’s a separate point about that that I think is beyond funding, because I don’t think that participation is simply about the level of fees. However, we have taken the difficult decision to actually permit higher education to undertake fee increases to try to generate further income for the sector. There is a need to consider the amount of resource that can go into higher education, together with every other part of our public realm. HE institutions are independent institutions, but they do receive funding from the public purse because of the wider impact of what they provide. They’re also, of course, coping with the reality that they’ve lost a significant chunk of income in the way that former EU funds were then repurposed and centralised in the UK Government, and higher education was deliberately designed out of access to those funds. That has meant, as we’ve discussed before, that high-quality research jobs have been lost to Welsh institutions, and that is part of the financial challenge that they now face. You’ll be hearing later on this afternoon from the education Secretary about priorities for education, and I know that post-16 participation is something that we are keen to see further progress made on, and that is in all forms of post-16 participation, higher and further education, as well as people going into the world of work. To get that right, we’ve actually got to look further into the system and earlier on. It is both the change that takes place at the top of primary school and also what people’s aspirations are for the future, and whether we're getting more of our young people to undertake post-16 education, with all of the opportunities it can provide for them and indeed the country. Our economic mission and the opportunities we have from renewable energy and the new economy that we can create will rely on the skills that people will need, which they will need to acquire from both further and higher education. So, we're clear that we do want to see participation rates turned around and increase. You'll hear more, not just today, but in the next two years and beyond about how we will seek to do that. Rhun ap Iorwerth AC: I agree with much of that description of the situation, though I would expect more of an urgent response to the crisis that we are facing. One element that the First Minister referred to, falling numbers of international students, certainly has had a significant impact on university finances, and a further threat comes from the Tories' attitude towards immigration. But despite myths peddled by the Tory right, the Migration Advisory Committee concluded today that there is no evidence of widespread abuse of the UK's graduate visa route. They think the graduate visa entitlement allowing international students to work for two or three years after graduating should remain in place. Obviously, that was welcomed by the sector today, as abolishing the graduate visa would spell financial disaster for Welsh universities. But the sector remains concerned that the Tories will cherry-pick elements of the report to satisfy the appetite of its right wing. Can the First Minister assure the Senedd that he will demand a guarantee from his party leader that any move by the Tories to end the graduate visa scheme would be reversed by Labour if it forms a Government, or better still, can he give a guarantee today? Vaughan Gething AC: I just want to go back to the starting point on action to be taken. The education Secretary has a statement to this Chamber later today, and I expect there'll be not just comments but questions around post-16 participation, so I'm not here to spike the statement that is about to be delivered this afternoon. I'm sure the education Secretary wouldn't thank me if I attempted to do so. On your broader point, though, about graduate visas, I think it is good news that there is evidence today, clear evidence, that there is no real picture of graduate visas being abused. I would like to see the UK Government taking account of that evidence and moving back from the path that it has set out upon. This is both an issue about the financial picture for higher education across the UK, not just in here Wales, but the model that actually is undercutting how institutions are able to run, to balance their books. But, more than that, I go back to my own experience as an Aberystwyth alumni—it's where, of course, I met the Llywydd when I was still a member of the Aberystwyth higher education community. It's not just the money; I went to university with 80 different nationalities. It is part of the learning experience, not just what takes place in a lecture hall or a seminar room. Meeting and greeting and being part of a community within an international sphere is part of that learning experience we should not surrender. So, yes, I of course want to see that carry on. I expect you'll see positive news on this and a number of other fronts in the future UK Labour manifesto. I'm very clear that the evidence there is no abuse should lead to a change in Government policy.And finally, with regard to what Esther McVey says, this is an example of where real common sense would lead to a welcome change in Government policy. Rhun ap Iorwerth AC: So, it's crossing fingers and hoping for the best. The bottom line is we can't allow the future of higher education in Wales to be at the mercy of Westminster, be that a Tory Government or, dare I say it, a Labour Government with Natalie Elphicke so warmly welcomed into its ranks. Professor Paul Boyle, chair of Universities Wales, warned the Welsh Affairs Committee last month that 'the impact of any changes to the Graduate Route will be magnified in Wales, as international student growth in Wales has not matched that of the UK'. Our late colleague Steffan Lewis was always a champion of promoting Wales to the world, and he said back in 2017that it's a matter of great regret that Westminister policies have damaged our reputation here as a destination for international students. He was reflecting then on the recommendations by an all-party group at Westminster that there'd be real benefits to devolving elements of immigration policy. I agree with Steffan that devolving student visas could benefit Welsh universities and our economy. Goodness knows we need a boost now. So, does the First Minister agree with Steffanand myself, or would he rather let the Tories in Westminster decide? Vaughan Gething AC: I think whenever you talk about devolution, you need to be clear about the financial consequences. We've had painful experience of Tory Governments devolving responsibilities and reducing budgets. The council tax benefit scheme was a perfect example: devolution with a 10 per cent budget cut and the pressure that put on the rest of our services and our ability to support the economy. So, I'm always interested in a conversation about where powers best lie and to make sure we have the resource to be able to exercise those powers effectively. I think the broader point here is that there could and should be a positive offer from the UK for international higher education, but also for home-grown students as well: the learning environment that they go into, how it's funded and the opportunities in the wider world of work that it provides. That's what I'm interested in, and I'm very proud of the work that I have done and other Ministers have done in promoting Wales in the wider world. Our higher and further education is a big part of that. When I was in India recently, I was on the cusp of a trade mission, and we actually had one of our larger further education colleges there. It's still a high-value offer, and, in fact, Indian students are the highest by proportion group of students that come into higher and further education in Wales. So, it is still a real success story. I believe we can have a Government in the UK that doesn't seek to trash our reputation, that keeps its word and wants to have a different set of relationships with the wider world that will benefit Wales and Britain. We already do that, and I see that work myself. I believe that in the future we can persuade the people of Wales to vote for that as well. I believe two Labour Governments working together for Wales and Britain will improve life here and give us the tools to do the job and have real and reliable partners in the UK Government. I'll be proud to go out and make that case to the people of Wales in the coming months whenever that election comes. Pwerdai Nwy Newydd yn Arfon Sian Gwenllian AC: 3. Beth yw polisi'r Llywodraeth ar bwerdai nwy newydd yn Arfon? OQ61090 Vaughan Gething AC: I can't comment on any specific application. However, our general policy does not support the construction of new fossil fuelpower plants as they are a source of additional greenhouse gas emissions. Sian Gwenllian AC: Mae yna bryder yn lleol y bydd cais yn cael ei gyflwyno ar gyfer gorsaf drydan yn cael ei bweru gan nwy mewn hen chwarel yng Nghaernarfon. Fel rydych chi'n ei ddweud, fedrwch chi ddim trafod cynlluniau unigol, ond mi fuaswn i'n hoffi gwybod beth yn union ydy safbwynt polisi'r Llywodraeth ar ddatblygiadau o'r math. Roedd safbwynt y cyn Brif Weinidog yn ddiamwys yn erbyn pan wnes i godi'r mater efo fo'n ddiweddar. Wrth ateb cwestiwn gen i ar lawr y Senedd, fe ddyfynodd y cyn Weinidog Newid Hinsawdd, a oedd yn dweud hyn: 'Lle bo galw ar Lywodraeth Cymru i benderfynu ar gynigion yn y dyfodol i adeiladu gorsafoedd cynhyrchu ynni...yng Nghymru, bwriad Gweinidogion Cymru yw cadw rhagdybiaeth gryf yn erbyn gorsafoedd ynni tanwydd ffosil newydd....Bydd gan y rhagdybiaeth hon hefyd effaith ar annog penderfynwyr lleol i beidio â chydsynio i orsafoedd tanwydd ffosil newydd ar raddfa fach.' Mi fyddwn i'n hoffi cael eich safbwynt chi yn glir ar y cofnod, i glywed eich bod chi'n parhau i arddel y safbwynt yna yr un mor ddiamwys ag oedd yr arweinyddiaeth o'ch blaen chi. Vaughan Gething AC: The starting position is a presumption against the development of new fossil fuelled power plants. The challenge will be that, of course, Ministers have to judge everything on its merits. I don't want to get drawn into the individual application. It's worth, though, reflecting that there are 36 weeks for making a decision on developments of national significance, which is why I won't get drawn into the individual applications beyond restating Government policy on this matter. So, it's a live acceptance of a valid application and we will need to understand the total proposals for a Minister to then determine. Julie James is the planning Minister, but we need to understand that Welsh Ministers should not go on the record and comment in any way that could be seen as making individual comments around the application. But I'm happy to restate the policy position of the Government. Mark Isherwood AC: Plans to create gas-fired plants in Arfon have referred to the need to shift away from a dependency on fossil fuels to generate energy. The International Energy Agency defines energy security as the uninterrupted availability of energy sources at an affordable price. Current levels of energy technology and infrastructure necessitate back-up for intermittent renewable energy, which remains dependent upon fossil fuels, primarily gas. This is likely to remain the case for much of the transition period to a carbon-neutral future, and it would be a disservice to the public to pretend otherwise. It's understood that the proposed gas-fired power plant on Caernarfon's former Seiont Brickworks quarry site would be a short-term operating reserved plant or peaking plant. This would provide rapid response and balanced demand, particularly when wind and solar outputs are low. How does the Welsh Government propose to ensure energy security during the years of transition to a carbon-neutral future in order to ensure that people can stay warm, fed and hydrated without interruption? Vaughan Gething AC: As the Member knows, I can't and won't comment on the individual application. I recognise the fact that he's talked about it in some detail and I won't respond to any of that. Gas is the predominant peaking technology; hydro and battery storage are also in use as well. That is a fact and a reality. None of that moves away from the position I've set out that there is a presumption against new fossil-fuel-powered production in Wales. Each application must be considered on its merits, which is exactly what will happen with any application the Member has raised today or may do in the future. I do not want to commit myself to any form or indication of support or otherwise for the application the Member has mentioned at some length. Gweinidog Penodol ar gyfer Babanod, Plant a Phobl Ifanc Jane Dodds AS: 4. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r rhesymau pam nad oes Gweinidog penodol ar gyfer babanod, plant a phobl ifanc yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd? OQ61109 Vaughan Gething AC: Thank you for the question. I have appointed a Minister for Mental Health and Early Years, and I should note that it is Mental Health Awareness Week this week. Jayne Bryant's portfolio also covers areas related to children, young people and families. However, the duties set out in the Rights of Children and Young Persons (Wales) Measure 2011 apply to, and are the responsibility of, all Welsh Ministers. Jane Dodds AS: Thank you for your response. I would also like to associate myself, on behalf of the Welsh Liberal Democrats, with extending our sympathies to the family of Owen John Thomas as well. Diolch yn fawr iawn. I am very clear that the appointment of Jayne Bryant in the role of dedicated Minister for Mental Health and Early Years is really positive. But it isn't the same as having a dedicated Minister for babies, children and young people. I was encouraged to hear you say that the Government is dedicated to the eradication of child poverty, but we are frustrated that there is no Minister totally responsible for overseeing this aim in your Government. The Equality and Social Justice Committee, in its report 'Calling time on child poverty: how Wales can do better', noted that our current efforts in Wales in tackling child poverty lack strategic cohesion, focused leadership and clear accountability. So, let's learn from other countries, perhaps. If we look at New Zealand, Ireland and Norway, each has a dedicated Minister leading child poverty strategy. And, crucially, they outperform Wales in terms of the numbers of children living in poverty: in Ireland, 14 per cent; in New Zealand, 12 per cent; and in Norway, we have 11 per cent. And that's compared to the shocking 29 per cent that it's operating at here in Wales. We know that Wales does not have total powers to eradicate child poverty, but it does have some. So, I would like to hear from you why we can't be as good as the other countries, and why we need to put up with child poverty in Wales being at 29 per cent. Diolch yn fawr iawn. Vaughan Gething AC: Thank you for the question. With respect, I don't agree that the design of Government and the titles of Ministers will resolve all of this as an issue. The lead Minister in the Government is Lesley Griffiths, as the Cabinet Secretary for Culture and Social Justice. This is an area where more than one portfolio needs to make a contribution to have the sort of impact that everyone, I think, in this Chamber would want to have. It is about marshalling the range of different contributions that we make in different portfolios, from what we are doing on Flying Start—a real success story compared to the disinvestment in Sure Start that has taken place since 2010 in England, a genuine Welsh success story with really positive outcomes—to the pupil development grant that we provide. There's the work that we have done, and that I'm proud that we have done, on making free school meals free for every child in primary school, and the additional support that we provide to help people with school uniforms and additional items around the school day. These are practical measures that we take within our powers. The Member will know that not all of the levers are in our hands, and I'm glad that she mentioned that. She will have seen this up close during her time in Westminster, when Conservatives continued to make tax and benefit changes that they knew full well would worsen the picture on child poverty. I am proud that she was on the right side of that argument then, and still is today. It is why we both need to see the action that we can take here in Wales, alongside a future UK administration that is prepared to look again at deliberate choices that made more of our children poor—to grow up in a life of poverty; more working-age adults in poverty; more children with an adult in their home who is living in poverty as well. Our economic future is a part of this, together with the changes that I belive are necessary for tax and benefits. I look forward to working with what I hope will be a much more enlightened UK Government, which has a real commitment to making progress on child poverty, as we did in the first decade of devolution, when two Governments that were committed to taking action on this made real steps to lift hundreds of thousands of children across the UK, and thousands of children here in Wales, out of child poverty. I believe that we can do that again. Gareth Davies AS: It's an interesting question that Jane Dodds raises today. But since we don't have a Minister for babies and young people, I would like to know what work the Welsh Government is doing to help parents of infants that have been discharged from special care baby units. I would also like to put on record my admiration and gratitude for the incredible work that doctors and nurses carry out in these units, such as the state-of-the-art sub-regional neonatal intensive care centreat Glan Clwyd Hospital in my constituency. I'm sure that the First Minister will share these sentiments, and it's great to see that investment paying dividends for north Wales. But I would like to know how the Welsh Government is supporting parents of newborns that have recently been discharged from a special care baby unit. Motherhood and fatherhood is hard enough as it is, but for mothers and fathers of more vulnerable infants, this can be a particularly overwhelming experience. Thank you. Vaughan Gething AC: Well, I welcome the Members recognition of the investment that previous Welsh Labour Governments made in delivering the SuRNICC unit, not just the physical infrastructure, but the people required to staff that unit and to the quality—. It's a welcome recognition of the point that Carolyn Thomas was making about the fact that there are regular instances of high-quality care right across our NHS, including in north Wales, of course. The support that is provided comes from what we look to do with our teams of midwives and, indeed, the additional support that can be provided through our community nursing team as well. I know that the support that we had from the health visitor was really important for us, and when you have additional need in the child you bring home, you expect there to be additional support, which is what that health service aims to provide. That's what I expect in every part of the country. The Member has a difference experience, and he's welcome to raise that with Ministers across the health department field, but I hope the constituents in north Wales and every part of the country do have a level of care and expertise from the midwifery and health visitor family that tries to help them with the most difficult but also the most exciting steps in your journey as a parent. Meithrin Ymddiriedaeth mewn Gwleidyddiaeth a Gwleidyddion Tom Giffard AS: 5. Pa effaith y mae'r Prif Weinidog yn disgwyl i Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) ei chael o ran meithrin ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth a gwleidyddion? OQ61106 Vaughan Gething AC: The Senedd Cymru (Members and Elections) Bill will significantly enhance the scrutiny capacity of the Senedd. The public placed their trust in all Members upon election, including those who hold ministerial office, and those who will hold Ministers to account even more effectively through scrutiny of policy choices, legislation and spending plans, with a larger and fit-for-purpose Senedd. Tom Giffard AS: Thank you, First Minister. Last week the Llywydd noted that, on marking 25 years of devolution, this was a people's Seneddand not a politicians' Parliament. In fact, she said it wasn't Sam Kurtz's Parliament, and I do agree with that. [Laughter.] Now, many people who have raised issues around this Bill with me have mentioned not only, obviously, the increase in the number of politicians, but a number of changes they feel takes that, if you like, sentiment away from the people of Wales and makes it less like the people's Parliament that it should be, whether it's the change to the voting system, whether it's enacting the changes without a referendum, or, indeed, the various amendments that were not supported by the Government to introduce a system of recall for Members where electors feel that their mandate should not continue. Now, I understand from what the Counsel General said last week that there does appear to be a degree of cross-party support for the system of a recall. Can you assure the Senedd that that will be in place ahead of the next Senedd elections in 2026? Vaughan Gething AC: Well, the starting point is that I disagree with the Member's claim that the Bill that we have passed to reform this Senedd will take our Parliament away from the people. I believe absolutely that people will still see a Parliament that works for them and with them. It is about the job that we do as elected Members to ensure that people feel welcome in what will happen. And if you look around the gallery, you see many people from parts of Wales who have come here to see these proceedings directly themselves—exactly what you would wish. And, actually, our colleagues in Westminster are kept further apart from people in the way that that Parliament operates. We're a much more open institution, and I hope we can keep that in the future as we expand and deliver on the mandate that came in multiple manifestos from the last election. On your broader point around recall, the Government will work constructively with all parties and, indeed, the standards commission, on the work that they are doing, taking account, of course, of the comments made in Adam Price's amendments, which I'm pleased he didn't move to a vote, because I want to work with people, around the points on deception and honesty. Those have to be things, I think, that take account of the standards process. It may well not be Government legislation that delivers a change, but we are committed to work constructively with all parties to try to have this issue resolved before the next Senedd election, so it is in place so people understand the measures that would bite if Members fell significantly below the standards of conduct that we all should expect of each other. Adam Price AC: Collapsing trust in politics is a problem for Parliaments in many parts of the world, but I think it's important to acknowledge that we are by no means immune from those questions of integrity, of credibility and accountability in this Chamber. If the First Minister accepts that, isn't it, I think, the urgent task of not just maintaining, but restoring trust in politics? It's not something, surely, that we can defer, or, indeed, delegate to a future Senedd. We have to show leadership and take responsibility in getting it right in this Senedd. So, the question to the First Minister is this: is he prepared to commit to bringing forward or facilitating legislation to address the primary legislative changes that are needed in relation to recall and deliberate deception, not in a future Senedd, but in this one? Vaughan Gething AC: I believe that's what I said, and I'm happy to restate: we will work with all parties in this place to try to have a workable answer that we can actually use and implement. I think it’s more likely, on this issue, that it should be a committee Bill rather than a Government Bill, but we will work alongside people to try to make sure that is delivered, delivered properly and delivered in this Senedd to apply to the next Senedd. I want this in place before people go to the polls, so everyone understands the rules that are in place and the expectations that people have to meet. This is a package, I believe, that will go alongside Senedd reform. So, yes, I want it done within this Senedd, I want it done properly, and I want it to be done a basis where there’s genuine cross-party support for the measures that I believe we will put in place. And I hope, as I say, for the support of Members of all parties to do so. Unedau Cyfeirio Disgyblion Janet Finch-Saunders AC: 6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y defnydd o unedau cyfeirio disgyblion yng Nghymru? OQ61114 Vaughan Gething AC: Thank you for the question. Pupil referral units are crucial in ensuring that all children receive the education they are entitled to as they can provide more one-to-one learning and a more focused approach to support the needs of the child or young person in question. Janet Finch-Saunders AC: Diolch. Only last week we were talking about the huge number of school absences in Wales, which is frankly quite shocking. Now, according to Estyn’s latest annual report, there are 22 pupil referral units in Wales providing support to 969 students. During the 2022-23 academic year, 2,396 pupils accessed some kind of education otherwise than at school provision. The most commonly used settings were PRUs, having nearly 50 per cent of all enrolments. According to Estyn, too, since the pandemic local authorities have reported increases in referral rates. However, in Aberconwy, we have reached the point now where all provision is full. I know of a school where the local authority is unable to provide any waiting times; it’s indefinite if you have a child that needs to go to a pupil referral unit. The head himself, now, is trying to look at establishing their own PRU, and I’ll be writing to the education Minister to support this. First Minister, there is an urgent need to create more capacity in our PRUs, not just serving Aberconwy, but across Wales. How will you work with schools and the local authorities to ensure that children and young people are not left feeling disenfranchised from the Welsh education system, and make sure that, where those children need a pupil referral unit, to help them to get the basic knowledge and learning that they require, they can do so in Wales? Diolch yn fawr. Vaughan Gething AC: The Member raises a genuinely serious issue, and I do recognise it. I'm sure that Members in their regions and constituencies will recognise the additional challenges that our schools are facing. There are a significant number of societal challenges that you see within schools at primary and secondary. Some of that is from the pandemic, some of that comes from other sources, too, but you see them in all of our schools. It's an additional challenge for staff in schools and, indeed, for the learning environment. That's why, when the education Secretary sets out reforms, you'll see a focus on the things that we need to do to help improve outcomes for all of our learners and how health and well-being underpin all of that. There is, though—. I think the Member mentioned attendance. We're making some progress on attendance. We're now over 90 per cent. The challenge, though, is that, actually, for some of our learners, likely to be our least advantaged learners, we still haven't made the same progress. There's more to do on this, and this is work that the Government needs to do alongside local authorities. It isn't an area to wave a big stick; it is an area where we need to work alongside them, because every local authority will understand the pressures they face. Regardless of the political leadership, members in every ward will have the same challenges and want to see action taken. So, for those children and young people where the school isn't the right environment for them, they can be properly supported to have the best possible educational outcomes to make sure they have a proper platform for life outside of school. So, that's the work we'll be doing alongside them. Cyflwyno Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol Joyce Watson AC: 7. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gyflwyno gwasanaeth gofal cenedlaethol? OQ61089 Vaughan Gething AC: Thank you for the question. A number of key activity areas withinstage 1 of our initial implementation plan have already progressed at pace through our 'Rebalancing Care and Support' programme. That includes establishing a national office for care and support. Research activities and, indeed, the question of the future funding of social care are planned to commence. And, of course, we may have more funding available to us in the nearer term depending on the budgets available to this institution. Joyce Watson AC: And you're absolutely right to say that the important first step to that national care service for Wales was the launch of the new national office for care and support. That important service will play an important role in supporting the chief social care officer to deliver on the national care service for Wales. And from what I understand, it will also play a key role in implementing the national commissioning framework for care and support in Wales. First Minister, do you agree that we maintain the action that is under way to direct resources where they're needed the most in order to provide outcomes and meet the needs of our older population? Vaughan Gething AC: Thank you for the question. I want to start by recognising and paying tribute to the work that Julie Morgan did when she was a member of the Government on taking forward this reform and improvement area. Dawn Bowden will now lead on the work that still needs to be done to deliver a national care service, and I believe it will make a big difference for older adults, but also, alongside the reforms that will be commencing, more of that will take place next week for children and young people that will also access the social care system. We know that the system we have at the moment needs significant improvement and transformation. I believe a national care service with national standards, clarity on what the requirements are to look after our staff, clarity on the service that people could and should expect will make a significant difference in both making better use of money but also a better experience and better outcomes for people regardless of what stage of their life they're at. I would like to see that significant transformation, the change in the resources required, continue to take place. We're getting ready to do so. I believe that's another good reason to want to have a change in Government at a UK level. We'd be much better off in being able to undertake this reform if we could take account of the interaction with the tax and benefit system that affects people of all ages. Having a UK Government prepared to come along with us on this transformation and reform journey would, I believe, have a longer lasting approach to this so that we could actually take steps and much more rapidly too. Y Llywydd / The Llywydd: Yn olaf, cwestiwn 8, Luke Fletcher. Tata Luke Fletcher AS: 8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniadau ei gyfarfod â Tata ym Mumbai? OQ61118 Vaughan Gething AC: I had a pragmatic and candid meeting with the chief executive and managing director and the chief financial officer from Tata Steel in Mumbai on Friday last week. I will be making an oral statement about the visit later today. Luke Fletcher AS: Diolch am yr ateb. Luke Fletcher AS: And I'll declare, Llywydd, that I'm a member of the Port Talbot transition board before asking my question, because it does revolve around some of the work of that transition board. Now, prior to the First Minister's visit to Mumbai, the Government and the further education sector were none the wiser as to who exactly would be at risk if Tata were to go ahead with their proposals. Now, if the transition board is to do its work properly, we need all the information on the table so that we can then plan for any potential outcome that may come from any Tata announcement. So, has that position changed and has Tata provided that information to the Government, and will, then, the Government provide that to the transition board so that it may do its work? Vaughan Gething AC: There's plainly more to do. I was very clear about the need to have information about the direct workforce and, indeed, contractors as well. I know we'll go through this in more detail later on today. There is a question, though, not just about information but about how the transition board is constructed and whether it's the right vehicle to do the work that is required to support workers who could find themselves out of a job. And as we know, the outline plans that are in public would see significant job losses before the end of this calendar year. It's a matter of real concern to Members across the Chamber, real concern to myself and the economy and energy Cabinet Secretary who met trade unions last week. But much more so—and we should never forget this—it's a matter of real concern to thousands of workers and their families as we speak today. Y Llywydd / The Llywydd: Diolch i'r Prif Weinidog. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Y Llywydd / The Llywydd: Yr eitem nesaf fydd y datganiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny. Jane Hutt. Jane Hutt AC: Diolch, Llywydd. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon. Yn nes ymlaen y prynhawn yma, bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad ar Tata Steel. Mae busnes drafft y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiada chyhoeddiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig. Darren Millar AC: Trefnydd, can I call for a statement from the Cabinet Secretary for climate change, please, in order that we can receive an update on the Welsh Government's approach to recycling? You'll be aware that the UK Government announced last week its simpler recycling plan, which will enable local authorities and others to take a different approach to recycling, which enables all of the dry recyclables to be co-mingled. Now, this is something that happens still in Denbighshire—part of my constituency—where all of the dry recyclables can go into one bin. It's very simple, it's easy for the public to understand, and it stops all of the bin clutter that we see outside many people's homes, on many streets, and particularly in areas where you've got high densities of population in flats. In addition to that, they're extending the opportunity for businesses to follow that route, as many businesses already do in Wales. Now, Denbighshire had recycling rates—using that system—of 66 per cent in the year 2022-23. That's higher than Gwynedd, Ynys Môn, Wrexham, Rhondda Cynon Taf, Caerphilly, Merthyr Tydfiland a whole host of other local authorities that are required to separate their recycling at the kerbside. So, will the Welsh Government consider trying to simplify the recycling system across Wales, so that homes and businesses can co-mingle their dry recyclable waste, still achieve very high recycling rates across the country, but in a much simpler way for them to be able to deploy? Jane Hutt AC: Well, thank you for that important question. This is a question where I'm really pleased to acknowledge—and I'm sure you will do, as you have, Darren—the huge success of Wales, of course, led by the Welsh Government, but as a result of all the partnership working with our local authorities, and, indeed, our communities and citizens. So, we are right at the top of the world league in terms of recycling rates. And, yes, of course, that has meant local authorities learning from each other and taking pace. In my constituency, we don't have co-mingling, and it all works extremely well and very effectively as well. But it is important that we recognise that we have made not just great progress—we've been leaders in terms of recycling in Wales—but also, obviously, others have learnt from us, and that's where we can learn from any developments, but I think learning from us is the way it's happened with recycling. Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair. Heledd Fychan AS: Trefnydd, mae nifer o etholwyr wedi cysylltu gyda mi yn sgil y cyhoeddiad gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru fod ei rhaglen gwersi actio a cherddoriaeth ar gyfer plant a phobl ifanc yn debygol o ddod i ben oherwydd y sefyllfa gyllidol yn y coleg. Mae sôn yn y datganiad gan y coleg am gydweithio â Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru ar gynlluniau amgen, ond does dim manylion pellach o ran hynny. Hoffwn ofyn, felly, am ddatganiad llafar neu ysgrifenedig gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol o ran y cyhoeddiad hwn, ac unrhyw drafodaethau mae hi wedi eu cael gyda'r coleg. Gyda gymaint o blant a phobl ifanc wedi'u heffeithio—nifer ohonyn nhw'n derbyn bwrsariaeth—mae hyn yn rhywbeth a allai gael effaith andwyol arnyn nhw a'u datblygiad fel cerddorion ac actorion i'r dyfodol. Jane Hutt AC: Diolch yn fawr, Heledd Fychan, and I'm very aware of this recent announcement and the consultation on proposals to end some of the provision from the Royal Welsh College of Music and Drama in terms of working with young people, which could impact on Saturday music class provision, and also just to recognise that we need to look at this in the context of our national plan for music education. The Royal Welsh College of Music and Drama has stated that it remains fully committed to providing opportunities in music for young people and to creating pathways into professional training, and it will be continuing to deliver a number of areas of project work, including weekend immersive workshops in music, the national open youth orchestra residency and holiday courses. But I think, as I said, it's also recognising that it has to align with our national plan for music education, particularly for learners who want to progress in playing an instrument. And it's a key partner organisation for our national music service, in terms of the national music service's model, and, of course, the college principal is chair of the advisory board to the service. So, obviously, it's an autonomous, independent body, the Royal Welsh College of Music and Drama, and it does take its own decisions, but, of course, we then work together to see ways in which they can focus on those links with the national plan for music education and the national music service. Paul Davies AC: Trefnydd, I'm once again requesting an urgent statement, but, this time, from the Cabinet Secretary for Health and Social Care, regarding the ongoing situation at Withyhedge landfill site. Now, I heard the First Minister's response to the leader of the opposition earlier, and his replies did not fill me with confidence at all. Now, on Friday afternoon, Public Health Wales issued a statement, saying that odours and emissions from the site could be harmful to people's health and advising people to seek medical advice, which is something my constituents and I have suspected all along. Where has Public Health Wales been until now? There has been a problem at Withyhedge landfill site for months, and now it's looking increasingly likely that the community has been subject to toxic emissions. I've stood up in this Chamber week after week to raise this on behalf of my constituents, and there has been little support from this Government. Well, enough is enough. Welsh Government Cabinet Secretaries cannot stand back and wash their hands of this. There must be an urgent statement outlining exactly what the Welsh Government is going to do to support the community and stop this dangerous operator from harming people even further. Jane Hutt AC: Diolch yn fawr, Paul Davies. You have raised this issue on a number of occasions at the business statement, and, indeed, the First Minister responded in full to the leader of the opposition. We recognise Public Health Wales's response and its statement last week, and, most importantly, recognise the concern amongst the local community and the need for that swift action, because, and it's been described vividly, of what that means for that community and people living alongside it. Now, you will be aware that Natural Resources Wales have increased their presence on site; they are continuing to update the community via their website as activities progress. Enforcement notices have been served on the landfill operator, who has to cover all exposed waste and complete landfill engineering work to contain and collect landfill gas. That's the important outcome we are seeking. And if the landfill operator fails to comply with the final deadline of the notice, NRW will take appropriate enforcement action, in line with their enforcement and prosecution policy. So, again, I can assure the Member, and the Chamber, that NRW is responding, as a priority, to resolve the issue, and we do encourage residents, and, indeed, elected representatives, to continue to report any incidences of odour to them, because that, actually, helps inform the effectiveness of tackling this issue of onsite activity by NRW. Jane Dodds AS: Good afternoon, Trefnydd. I'd like to request, please, a statement from the Cabinet Secretary for Health and Social Care regarding the concerning state of dentistry waiting lists across Wales. Some good news from Powys Teaching Health Board in terms of children waiting for an NHS dentist: there has been a significant improvement. The figures now stand at 84 children only waiting for an NHS dentist, but we must remember that that is still 84 children. But the number of adults in Powys waiting for an NHS dentist stands at 4,200, which is a staggering number. One of the issues is this lack of centralised data and a central Wales waiting list. When I raised this issue first with the First Minister, he conceded that there had been delays in rolling out this national unified waiting list, but provided no timeline. So, I was just wondering if I could have an indication from the Cabinet Secretary of when we would have a centralised waiting list for NHS dentists in Wales. Diolch yn fawr iawn. Jane Hutt AC: Diolch yn fawr, Jane Dodds, am eich cwestiwn pwysig iawn. Jane Hutt AC: This is important, and it's helpful that you have acknowledged that there has been action taken, and we see dental services being available to children, reducing those waiting lists, which is where we know the priority will be in terms of meeting children's needs. But, of course, there are adults as well. We have to make sure that we get consistency across Wales in terms of developing dental services. So, you will be aware that the Cabinet Secretary has commissioned Digital Health and Care Wales to develop an all-Wales digital solution, and this leads us to this prospect in terms of centralised waiting lists, an all-Wales solution, and it will provide people wishing to access routine dental care with a single and consistent way to register their interest. The system prototype was due to be completed by the end of the last financial year. I can confirm that the system now is due to be tested from mid July by Powys teaching health board, in your region. So, it will roll out across Wales, once the test has been completed and lessons learned from that process have been implemented. But this is a really positive step forward and, of course, it will benefit—. It's being tested in Powys, but will benefit the whole of Wales in terms of access to dental services. Gareth Davies AS: I would like a statement from the Cabinet Secretary for Culture and Social Justice regarding a segment produced by S4C on Rhyl in my constituency that aired back in April. The segment was from a television programme called Hansh, and was intended for viewers to be given an insight into, quote, 'the wild world of strippers', unquote. The segment started with a montage of selectively edited vox pops, with people using obscene language to denigrate and traduce Rhyl. And I'm no Mary Whitehouse by any stretch and by no means a prude, and I have no issue with the subject of the episode; indeed, every industry deserves representation. But I do think it's disappointing that a public service broadcaster would choose to portray my constituency as seedy, playing into harmful stereotypes about the town that we are working hard to change. I know that S4C is an independent public body, appointed by the UK Government, but, as a Welsh language public service broadcaster, we should have some say over its content and running, particularly when the content insults the people it's attempting to entertain or educate. [Interruption.] So, could the Cabinet Secretary outline the view of the Welsh Government on this particular S4C programme, and outline what representations are made to the channel regarding its content? Jane Hutt AC: Well, I do think, has been echoed around the Chamber, and, as you said, S4C is an independent public broadcaster. I think you've made your views known, and presumably you've conveyed your views to the public broadcaster, and I think that's the appropriate route to take. Delyth Jewell AC: The Redhouse building in Merthyr Tydfil has been forced to close its doors. I'd appreciate a statement setting out the importance of keeping venues like this open. The building is vitally important for residents. It was the town hall, more recently it's been an arts centre, but it's also proof of the area's past. It was built at a time when Merthyr was at the centre of world industry, and the area in front of it was the scene of the Merthyr Rising. Surely, there's an intervention that the Government can make here. The venue is owned by a local housing association, but the arts centre it houses is run by a leisure trust. Transferring the business has apparently been stalled because of questions over financial viability. The reason I'd like a Government statement is that something similar happened recently with the Aberfan community centre. Now, that venue's future now looks more secure, in part, I think, because of public anger. But the people of these valleys keep getting things taken from them: their services, their assets, their jobs. There are jobs at the Redhouse at risk right now. So, can a statement, please, acknowledge the importance of keeping these buildings in use for the community, so that they don't turn into relics, they aren't just testament to what we used to be, but that they are protected for our future? Jane Hutt AC: Diolch yn fawr am eich cwestiwn. Jane Hutt AC: These are buildings of our heritage, aren't they? And indeed, I'm not sure about that particular building, but I suspect it has over the years benefited from not only public funding via the local authority and, indeed, Welsh Government, but also from European funding, for which there was a huge programme for regenerating and preserving and refurbishing these buildings. And, of course, when they do provide those services and those facilities, like the arts facility that you describe, that is where community use and access to those services must be protected, if at all possible, but we are in such difficult financial times in terms of public finances. But, of course, there are community asset transfer options. I don't know how much the community and, indeed, management and trustees have accessed services from, for example, the local council for voluntary services, but I think it would be good if you could certainly write to the Cabinet Secretary for Culture and Social Justice, so that all avenues could be explored on behalf of that facility in your constituency, in your region. Laura Anne Jones AC: Trefnydd, I would like to request a statement from the Cabinet Secretary for Culture and Social Justice, please. Welsh National Opera is currently engulfed in a crisis that threatens its future as our flagship arts organisation and only full-time opera company here in Wales. Welsh National Opera is the jewel in Wales's crown. It is the largest arts employer, created in the 1940s by a group of doctors, miners and teachers who wished to build a performing ensemble that would live up to our reputation as the land of song. Welsh National Opera currently stands on a precipice, having received cuts from both the arts councils of Wales and England that amount to 25 per cent of its yearly budget. This is clearly completely untenable. Unless further financial help can be found, WNO is going to be forced to make its orchestra and chorus, the beating heart of the company, part time. It's scaling back its touring venues and has already offered voluntary redundancy to the rest of the company. This will result in a loss of vital skills across the organisation. Without increased funding in the short term, WNO will be unable to continue to deliver a substantial offer of opera education and engagement in wellness programmes, providing artistic, community, educational and health benefits across our communities the length and breadth of Wales. The quality and output of Wales's flagship arts organisation will be severely diluted in the UK and beyond. It is crucial that the Cabinet Secretary comes to the Chamber with a statement that informs us of her recent discussions with the UK Government and also eases the current fears and ensures that the long-term future of Welsh National Opera is no longer in doubt. Diolch. Jane Hutt AC: Diolch, Laura Anne Jones. This was raised in the business statement, certainly, last week as well. Obviously, there have been high-profile, public questions and concerns raised about Welsh National Opera, which we dearly, dearly treasure. Wales's culture and sport sectors are an integral part of our society and well-being, and they enrich our communities and inspire future generations. We do recognise as a Welsh Government the social, cultural and economic value of the arts sector in Wales, including opera. But, of course, as you know, Welsh Government funding for the arts is channelled through the Arts Council of Wales. With our arm's-length funding principle, the investment review, of course, was an issue for the Arts Council of Wales. We don't interfere with the Arts Council of Wales's funding decisions. So, that's led to very difficult decisions when it comes to funding, but I note that opera is receiving 71 per cent of the total spend on the music sector for 2024-25. But, of course, as you've said and as has been acknowledged, the budget cut from Arts Council England has had an adverse impact as well, and, of course, that has an impact in terms of touring opportunities for Welsh National Opera. I think this is something where we need to take account of what is emerging. Of course, the Cabinet Secretary for Culture and Social Justice is engaging in her role, and recognising that this is something where we need to look at the really dire situation we are in in terms of funding—up to £700 million less in Wales in real terms, of our budget, as a result of UK Government cuts has meant these extremely difficult decisions have emanated. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Ac yn olaf, Sam Rowlands. Sam Rowlands AS: Thank you, Deputy Presiding Officer. Trefnydd, I'd like to call for a statement from the Cabinet Secretary for health outlining actions to deal with the recent increase in cases of whooping cough. Currently, we're experiencing a peak year for the infection, with some of the highest rates causing concern in babies under three months old, who are a particularly vulnerable group, and five of those babies have sadly died as a result of the infection so far this year. Recent data published by the UK Health Security Agency showed over 1,300 cases confirmed in March alone, which is deeply concerning. We know some of this cause is linked to fewer children receiving their vaccines. Indeed, around only 93 per cent of children have received their six-in-one vaccinations up until now. I think it would be important for this Senedd to receive an update from the Cabinet Secretary on whooping cough numbers and how the Welsh Government is working to bring down any increases in those numbers and make sure that preventative measures are in place in order to protect people, and in particular babies, here in Wales. Jane Hutt AC: Well, thank you very much for that question, because it is really important, as the First Minister said earlier on, that we encourage the uptake of vaccination. And, in fact, you've done that very ably this afternoon. He was referring to the measles outbreak in Aneurin Bevan University Health Board and that single case in north Wales, which shows that we have got to increase the awareness and uptake of vaccination. And, on whooping cough, I haven't got any details about the prevalence or emergence of whooping cough as an issue in terms of numbers of cases, but I will certainly draw this to the attention of the Cabinet Secretary. But, again, thank you for raising awareness this afternoon in raising this question. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Diolch i'r Trefnydd. 3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Ein cenhadaeth genedlaethol—cyflawni blaenoriaethau addysg Cymru Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Eitem 3 heddiw yw'r datganiad gan Ysgrifenydd y Cabinet dros Addysg: ein cenhadaeth genedlaethol—cyflawni blaenoriaethau addysg Cymru. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle. Lynne Neagle AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. It's a privilege for me to have been asked by the First Minister to serve as Cabinet Secretary for Education, a role that comes with unique opportunities to make a difference in the lives of people across Wales, especially children and young people.I am clear that I do not underestimate the profound responsibilities that come with this role, and I am in no way complacent about the scale of the challenge. We have embarked on a significant package of reforms to transform the lives and opportunities of young people, but, at the same time, we must still focus on helping learners and staff to overcome the impact of the pandemic. There is excellence in every part of our system, but I am absolutely clear that we need to aim higher. In particular, we need to raise levels of attainment and close the gap for the poorest children in Wales. And the amazing staff in our schools, colleges and universities want a system that is more joined up and fit to help them face the future challenges of education. I hope Members will know me well enough to know that my starting point will always be the best interests of our learners, and in particular our children and young people. I will lead an education system that puts them first. When I accepted this job, the First Minister was clear that he wanted a system that was focused on delivering sustained improvement in educational attainment so that every learner could fulfil their potential. Today, I want to set out some of the steps I will take to meet this challenge. I know we can’t do everything overnight, so it is important that, as the Cabinet Secretary, I am clear about the priorities for the immediate future. My first message is that good mental health will be the platform on which our education system will be built. In my previous role as Deputy Minister for Mental Health and Well-being, I was pleased to work with my predecessor, Jeremy Miles, to introduce the whole-school approach to mental health, which I will continue to champion in my new role. It is fundamental to tackling the issues we have with attainment and attendance. It will continue to be a top priority for the Welsh Government. While I know the importance of good mental health and well-being for learners and staff, I also know that no single issue can be looked at in isolation. Reform and improvement must be aimed at creating a whole system that works for all learners. My job will be to make the whole system work together. I want to be clear that I remain completely committed to the progress of Curriculum for Wales. I have seen first hand the outstanding work already happening in our schools through embracing the opportunities of the new curriculum. But, I have also heard clearly that schools want more support to make sure everyone is equipped to get it right. I will prioritise support on curriculum design, progression and assessment. I will work with teachers to ensure the right support reaches their classrooms and that they have the knowledge, resources and confidence to ensure that every learner and every part of Wales feels the benefit of the curriculum. Last week, I gave evidence to the Children, Young People and Education Committee and participated in a Petitions Committee debate, both on additional learning needs reform, a vitally important but complex strand of work.It is vital we all work together to implement a system of ALN support that delivers for learners and which both parents and school staff can navigate. As I set out last week, a focus on ALN reform has been among my first priorities. I want to ensure firm legislative foundations are in place, and I want to strengthen implementation by improving the consistency of the approach being taken. Collaboration, challenge and partnership working are key to driving forward improvement. I want the whole system working together to improve standards and to raise attainment, and to be ambitious for every single learner. Alongside overall improvements in attainment, it is vital that we close the attainment gap faced by our most disadvantaged learners. I will never accept that children from poorer backgrounds should settle for worse outcomes than their peers or learners elsewhere. I am committed to enhancing our understanding of the attainment gap and identifying where interventions can be best targeted to have maximum impact. I remain committed to the school improvement partnership programme, which is taking forward the findings of the strategic review of education partners in Wales. We are working with all of our partners to take the next step towards a self-improving system, focused on improving learning outcomes in Wales through a more collaborative and partnership-based approach. To be successful, we need to accelerate progress in some key areas: firstly, a strong professional learning offer that supports teachers and is focused on improving the quality of teaching and learning; secondly, a strengthening of school leadership to ensure every school sets the right culture for learners and staff; and maximising impact by getting the basics right, with a continued focus on improving literacy, numeracy and digital skills, including through the mathematics and numeracy plan. I expect every part of the system to be working towards the common goal of improving attainment, particularly within the poorest communities. Of course, no amount of reform or improvement in our schools can be achieved without the dedicated and talented school workforce. I am committed to listening and working in partnership with the workforce, as we move forward with this programme of work. Our conversations will not always be easy, but I know that we share the same goal: delivering the best possible outcomes for children and young people. And the Welsh language continues to be a priority for this Government, and we will continue to work closely with partners to ensure that all young people achieve Welsh language skills required for life and work. The consultation on reform of the school year recently closed, with one of the largest-ever responses to a Welsh Government consultation. It is important these responses are fully considered, and I will update the Senedd on the next steps in due course. But I want to be clear that post-16 education is also a priority for me, and it is vital that we raise participation levels across further and higher education, including vocational education and training. The new Commission for Tertiary Education and Research will be a vital partner in achieving our ambitions for a more connected and co-ordinated tertiary sector, with high-quality education and world-leading research at its heart. I will focus on improving routes into vocational education and training, including ensuring parity of esteem, creating a clear 14-19 pathway for learners and raising participation across all areas. I also want to recognise the pressures our colleges and universities are currently facing. Many of these pressures are not unique to Wales and represent a wider set of challenges. I want us to work together, including hearing the voices of students, in responding to these challenges. It has often been said in recent years that education in Wales is on a journey. I commit to always doing my best to steer education in the right direction and get us on track. Diolch. Tom Giffard AS: Can I thank the Cabinet Secretary for her statement today? But, I'm afraid to say that was a business-as-usual statement for an education system that is crying out for change. Wales's education priorities are clear: they want to make sure that, when their children go through our education system, they get a world-class education. We know all too well that PISA scores aren't anywhere near as high as they should be, and whilst we're seeing success stories elsewhere in the United Kingdom in educational attainment, after 25 years of this Welsh Labour Government, we sit at the bottom of the league tables in every single subject, and things seem to only be getting worse, Cabinet Secretary. We heard that the latest set of reforms would change everything: 'We just need to give things time to bed in, and we'll see those improvements.' But we've heard that time and time and time again from Welsh Labour Ministers, and things only seem to be going in the wrong direction. For example, back in 2009, the then education Minister, Leighton Andrews, said that the PISA results for that year were, and I quote, 'a wake-up call to an education system in Wales that had become complacent'. Well, fast forward 15 years, and the results today are even worse. So, if the system was complacent then, what is it today? There are significant problems with the latest set of changes adopted by this Welsh Labour Government. The Government has taken a decision to adopt a skills-based approach over a knowledge-based approach in our curriculum, and it seems that the UK Labour Party are intent on taking the same road. The problem with it, however, is that whilst the focus on a knowledge-based approach has paid dividends for pupils in England, the landmark Institute for Fiscal Studies report on education in Wales makes clear, and I quote, that 'declines have happened in essentially every country that has adopted such skills-based curricula'. But yet that seems to be the model that the Welsh Government are intent on pursuing for our children. Dirprwy Lywydd, it isn't good enough. But, looking again at that IFS report, it makes clear that the differences in educational outcomes are not as a result of funding or even of poverty levels. The reason educational outcomes are worse here in Wales than anywhere else in the UK are, and I quote, 'differences in policy and approach.' In short, where the Welsh Labour Government tinkers with the education system, it almost inevitably leads to worse outcomes for our young people. So, how will the Cabinet Secretary ensure that she's the exception and not the rule when it comes to this Welsh Labour Government and its failure to deliver on Wales's education priorities? It would be remiss of me if I didn't touch on ALN reform in the education sector. As you stated in your statement, Cabinet Secretary, you attended the CYPE committee last week to discuss it, as well as responding to a Petitions Committee debate on the topic, and you admitted that there was much to do in terms of getting those reforms right, and that many aspects hadn't worked as intended so far. But what worried me during that committee appearance was that much was made of the fact that the changes that you felt needed to happen wouldn't be able to be undertaken until the right data was made available. The problem was that the work of identifying exactly what data was required didn't appear to have started yet, let alone compiling and then assessing it, so it suggests that this may not be a quick process, and as you know, six months, a year, two years, can be an eternity in a child's life and can have a profound impact on their life chances. Your statement today, and your response to that committee, leave me concerned that you aren't looking at the need to fix the clear issues with ALN reform with the urgency that it so clearly deserves. Finally, I just want to say that I think this statement today is emblematic of this Welsh Labour Government more widely. Whilst we heard warm words on educational attainment, mental health, ALN, the curriculum, post-16 education and so on, what we didn't hear was a single target, time frame, number, to judge any of those warm words against. How can we be expected to take this Cabinet Secretary's word at face value that things are going to improve when learners and teaching staff across Wales have heard exactly the same thing for 25 years? The evidence sadly suggests that education policy under this Welsh Labour Government is heading in the wrong direction. Wales's education priorities are clear. We don't want warm words; we want a plan, a plan to turn around the damage done to our Welsh education system by successive Welsh Labour Governments, so when can we expect one? Lynne Neagle AC: Can I thank Tom Giffard for his comments and questions, and say to him very clearly that I too want a world-class education system in the same way as everybody else in Wales does? I'm a parent, I can see the importance of having a high-quality education, and we want the best for all our children and young people. I haven't been in any way complacent on the PISA results. I have said that they were disappointing. It is important to recognise that our PISA results were improving ahead of the pandemic, and I think it's also very important, given that you're putting so much weight on the IFS report, to be clear that the young people tested in those PISA tests had not been through our new curriculum. However, I am taking the messages in the IFS report seriously, even if I don't agree with all of their assessment. You seem to be suggesting that we should pause all our reforms. I think that is a ridiculous proposition because we are now teaching Curriculum for Wales in all our schools. It still hasn't been fully rolled out. I have been very clear in what I said to the committee last week, and what I've said today, that I think we have more work to do in supporting schools who are finding it more challenging to deliver the new curriculum. Some schools are flying with it, but others have said to me, 'We need more support with that.' So, I am looking to deliver that support. It is just not the case that we are valuing skills over a knowledge-based curriculum. That is a misunderstanding of the curriculum. Our new curriculum absolutely has a focus on knowledge, but, very importantly, on the discerning use of knowledge. We want our learners not just to have that knowledge, but to be able to take it and use it in different situations in their lives. In terms of ALN reform, I have to say that I don't really think you were listening to what I said in the committee last week, although I'm glad that you did hear me and quote back to me today my point about a year being a long time in the life of a child, because I said that to emphasise how urgently I am committed to addressing this problem. I highlighted the challenges we've got with data. I know from my time as a health Minister that data is really important to drive good policy. We are developing a work stream to make sure that we have all the data that we need. But at no point did I say that we wouldn't be taking forward improvements without the data. I explained to the committee that I have got a twin-track approach on this now. It involves a more consistent delivery of ALN across Wales, working with local authorities and schools, who are already working really hard to deliver this complex reform. But I also indicated that I recognise, based on what the president of the tribunal had said, that we had some work to do in making sure that the law was easily understandable for our partners. So, I made it clear that I would be taking forward that work immediately, to make sure that we get immediate improvements, while also looking at some legal clarification. Just in terms of your final points on targets. The statement today is about priorities. I've been very clear that raising attainment and school standards is a priority for me. We are working on a plan that will be on the lines that I've described, which are around things like improved curriculum design, assessment, progression and a strong focus on literacy and numeracy. And, to underpin that, we are developing a whole information ecosystem that will tell us how our schools are doing. And that will build on what we're already doing with our personalised assessments. I've only been in post seven weeks; I think it's a little bit early for me to be thinking about targets. My priority is to get this right for children and young people, not to look for easy straplines. Heledd Fychan AS: It's quite difficult to disagree with your statement today. I appreciate that you are new, but you have been, previously, Chair of the Senedd's Children, Young People and Education Committee in the fifth Senedd and you've been part of the Cabinet, so I do think it's fair that we ask for more timescales and so on. I would appreciate it if you could commit today to when we will see that level of detail because, obviously, this isn't a post-election, new initiative for Welsh Government, and it's crucial that we do see progress, because after all what I didn't, I'm sorry, hear from your statement was the level of urgency required. The First Minister, in response to Rhun ap Iorwerth earlier, said that he didn't want to spoil your statement or any announcements. I'm afraid that I was expecting more, and I'm sure higher education institutions would have been expecting more, given what we've seen. The fact that some universities might close, the fact that some courses aren't running that are crucial in terms of our skills, these are urgent questions and I'd like to see urgent action from you. Warm words and listening are not enough at this point, I'm afraid. There's a recruitment and retention crisis. You mentioned strong professional learning, but what I would like to know is: how are we going to attract teachers, because we know that those bursaries that have been in place haven't always been taken up, that money has been made available to meet some of the budgetary pressures? So, with 75 per cent of teachers having contemplated leaving the profession according to the NASUWT survey in 2022-23, and 78 per cent of them stating that they do not recommend teaching as a career to friends and family, how are we going to turn things around? The workforce are crucial, yet we're failing to recruit and retain teachers. Violence, both verbal and physical, in schools is increasing. Education and support is often described as a postcode lottery, and this is particularly true in terms of Welsh education and additional learning needs support. And when we look in terms of school absences increasing, the attainment gap widening, a decrease in the number of 16 to 18-year-olds participating in education and subsequently a decrease in the number of young people living in Wales applying to university, I'm afraid we can't wait. On the new curriculum, the one thing that you mentioned whilst you were giving evidence last week was about creating a scaffold around schools. Well, you'll be aware that much of the support has been provided by regional consortia in recent years, but this approach has been proposed to end, following the ongoing review of school improvement services. I'd like to know if you can confirm today what the Welsh Government approach is to the review, and what scaffolding will be available to schools if the consortium model disappears. And specifically, what lessons in terms of the new curriculum are being learnt from Scotland, so that we understand that those curriculum reforms that we were excited about are actually being delivered, to have that impact for our pupils? Because I hear from parents and teachers that they are still uncertain, and what that might mean then in terms of the impact on education. We can't experiment on those children. We need to get it right the first time around. And we know that teachers are asking for more time, more training, and yet we're at a point where schools are failing to recruit teachers for some of these subjects, so it is really concerning. You heard, earlier, Rhun ap Iorwerth ask in terms of the Migration Advisory Committee's review, and that it had found today that there is no widespread evidence that the post-study visa is being abused. So, can I ask, therefore, how are you going to be working with the universities in these challenging circumstances? I've got a number of questions, I'm afraid, Cabinet Secretary, and I think one of the things—. If you will allow me, after reflecting on all of your responses today, I will be writing to you as education spokesperson, and perhaps rather than try and cover everything today, I would appreciate an opportunity to discuss with you about some of the urgent things that need to be prioritised, and how we ensure that it's not just listening, but actually taking action on all these issues. Lynne Neagle AC: Thank you very much, Heledd, and of course I recognise that this isn't a post-election statement and that I did chair the committee, which I finished three years ago, but I did feel it was important, coming new into post, that I had time to take stock of what's happening, to listen to as many teachers, school staff, children and young people and others as I can. But it is absolutely about taking action as well. In terms of timescales, I plan to set out a more detailed plan on raising attainment and school standards during this term, so hopefully before the summer, anyway, you'll be able to have more information on that. You've raised the recruitment and retention problems with me previously, last week in questions. I do recognise the challenges. I hope that you also recognise that we're working really hard as a Government to promote teaching as an exciting, engaging profession to work in. I think the Curriculum for Wales will help with that. It's next-level teaching and learning, as far as I can see, and I think it would be really appealing for staff to have that agency, working with our new curriculum. But, in addition, we have invested money in the various bursaries that we have. That’s always challenging when we’re struggling with finances, but we’ve continued to do that. Just to say that I am acutely aware of the pressures that schools are facing, that they’ve got a huge range of societal problems coming into the classroom, that there are challenges with behaviour. You’ve referred to violence; I met with the schools partnership council this morning and we had a really good discussion about behaviour. I’m going to be doing some more work with them on that to make sure that we give them every support they need on that, not just through things like our new behaviour toolkit, but more generally to look at what we can do to make sure that we support them. And we’ve talked before about things like education support, which is providing support for their well-being. In terms of ALN, you heard me acknowledge last week—I think I was pretty candid with the committee—the challenges that we’re facing, and you’ve heard me say to Tom today that I’m really committed to accelerating that work really quickly and that I’m very happy to provide further updates. Officials are currently working up with me a plan on taking forward those two areas of work, and I can provide a further update in due course. In terms of the new curriculum, I did talk in the committee about scaffolding. I’m planning to make an oral statement to the Senedd in July, which is the annual report on the new curriculum, and I’ll set out more detail then. But what has been made clear to me from the conversations I’ve been having and officials have been having is that schools would like more national professional learning for curriculum design, building on the success of the curriculum design pilot programme. So, we’re refining this and expanding access to high-quality professional learning, which will be available from the autumn. They would like simplified detail on what progression looks like to help schools understand expectations at different points. They would like some examples of curriculum content, what topics and context could be developed across the curriculum. This is about bringing the curriculum to life for schools. We’re looking at templates to support schools and teacher planning, both for designing curricula and also assessing the progress learners are making, and better support for schools to build a shared understanding of learners’ progress, to raise the bar of evaluations of progress across schools and enable a more consistent level of challenge across schools’ curricula. But I do have to be clear that some schools are flying with the curriculum, and we don’t want to inhibit the schools that are doing really, really well with it; this is about supporting the ones who need a bit of extra support with what they’re doing. You referred to the MAC review: I did meet with the Migration Advisory Committee a few weeks ago to talk about their plans, their review of the graduate route, which I was really worried about. I was very clear to them that further restrictions like that would be hugely damaging to higher education in Wales. I am really pleased that they have recommended not making further changes to that, and I will be making representations to the UK Government to urge them to listen to the review. This is also a policy that they’ve taken forward in haste, and that isn’t a good way to make policy. I know how deeply concerned in the discussions I’ve had with universities they are about the impact of the falling numbers of overseas students, so we absolutely have to prioritise this. And just to conclude by saying I’m very happy either for you to write me or if you want to sit down and have a discussion to allow more time to do that. I’m very happy to do that. Alun Davies AC: I welcome very much the statement you've made this afternoon, Minister. There are two issues I would like to raise with you this afternoon. First of all is additional learning needs. You will remember that I was the Minister who was responsible for taking through the legislation to reform additional learning needs in Wales. I think it was about five or six years ago now we faced each other across the committee table. It's fair to say that I'm pretty disappointed with the way it's been delivered since then, and I would value the opportunity to discuss with you, Minister, why it's taken so long to get some of these things right and to ensure that pupils and learners with additional learning needs have their needs met in the way that the legislation foresees. The second matter isabout Blaenau Gwent. You'll be aware that headteachers from across the borough along with counties elsewhere in Wales have written to all parents talking about the impact of austerity on schools and the impact that falling budgets is having both on schools' ability to deliver the curriculum, but also the richness of the school experience for pupils in the borough and elsewhere. I'd be grateful if, Minister, we could meet to discuss how the Welsh Government can work with local authorities to ensure that all our children have the rich educational experience that everybody has a right to expect and how we can ensure that every child is able to meet the whole of their potential. Lynne Neagle AC: Can I thank Alun Davies for his questions? Indeed, I remember you taking the legislation through. I think it is important that we remember it is a complex reform, it's a nought to 25 system that provides a unified plan for children and young people, rather than the system of special educational needs where we had those three tiers of support. For that reason, we have undertaken it in a phased way, moving different groups of learners from SEN to the new ALN system, and I think that is the right thing to do. It's important to get it right, and as you heard me say today, there are some challenges in terms of consistent implementation of the legislation that are a priority for me to resolve. In terms of the issues you've raised about headteachers in Blaenau Gwent, obviously, the cause of that is austerity, as you've rightly pointed out. I just wanted to say that I really recognise the pressures that schools are under and how difficult things are at the moment. Our budget in the Welsh Government is worth £700 million less than it was at the time of the last spending review. We had a very difficult budget round where the decision was made to prioritise health and social care, along with schools through local government. So, we did uplift the funding for local government for schools. Also, the money that we put into the local authority education grant was £379 million, so we have done our utmost, even within the really difficult financial situation we're in, to protect that funding. But I don't want to give any impression that I don't recognise how challenging it is for schools, and we're continuing to work with schools and local authorities. Of course, they all work together as well through the budget fora. But I'm very happy to have a further discussion with you about that. Sioned Williams AS: Child poverty exists in every part of Wales, causing serious and lifelong harm to our nation's future. We know poverty has a huge impact on learning. Children in poverty are more likely to underachieve, miss out on extracurricular activities and experience bullying at school. It was disappointing to hear no reference to reducing the costs of the school day in your list of priorities, because, Cabinet Secretary, there are no-cost changes that could really make a difference. For example, although the Welsh Government has issued statutory guidance for school governing bodies on uniforms that covers issues of affordability, the only requirement is to have regard for the needs of children from disadvantaged backgrounds. According to Children in Wales, 79 per cent of those who responded to their latest survey said they still have to wear a school badge or logo, despite the guidance—79 per cent—and they say that banning logos would put £75 on average back in the pockets of families. Banning non-uniform days would address poverty-related bullying and absences. So, Cabinet Secretary, will you therefore considering implementing these two simple steps, and what further new measures are you considering to alleviate the impact of the cost of the school day on the growing attainment gap? Diolch. Lynne Neagle AC: Thank you very much, Sioned, for those very important points. Obviously, I had a limited amount of time in the statement, and I've tried to cover what ground I can, but I recognise how vital those links are between poverty and children's experience in school, and the cost of the school day is incredibly important. I'm sure you would acknowledge that, through the work that we've done together with yourselves, providing free school meals for all primary school children, which has been very effectively rolled out, is putting money into the pockets of hard-pressed families. We've got our school essentials grant, and that's apart from all the academic ways in which we're trying to tackle that attainment gap. Thank you for raising the school uniform guidance. This is an issue that I feel very strongly about and always have. I know that Children in Wales are doing really important work on this and that they're working with families around the impact of poverty. I hadn't seen that figure about the badges; I do think that is really important. I will follow that up with Children in Wales and look at what more we can do in that space. You'll be aware that schools told us that they thought a uniform was important, it's about belonging, which is completely understandable. But I do think it's really important that all schools really think about the impact of the uniform on household budgets. And if other children are anything like my son—. I was keeping the school uniform shop in business, because he lost things practically every week— Sioned Williams AS: You can afford to replace those things. Lynne Neagle AC: Yes, absolutely. I do recognise that. What I'm saying to you is that I am taking this very seriously; I will take it away and have a look at what more we can do. Obviously, my predecessor reviewed the guidance, but I hear your concerns about the extent to which that is being implemented. I personally think it's really important; I don't want any children to be feeling the effect of stigma in the classroom. Jenny Rathbone AC: Congratulations, Minister. As the former Minister for public health, I know that you know that obesity is a major challenge, and the strategies you used for raising the uptake of families entitled to the healthy eating vouchers mean that I'm absolutely confident that you will make your mark on this portfolio. You absolutely understand that obesity is a major challenge, in particular the sobering fact that six in 10 children arrive at school, aged five, overweight, and half of those are obese. On our important investment in universal primary free school meals, I believe that the uptake is about 70 per cent. What conversations will you have with headteachers to try and embed getting children to grow, taste and cook the food that is going to help them grow and thrive into the curriculum? And secondly, on secondary schools, how will you deal with the really serious shortage of students in STEM subjects and the way in which secondary schools are having to apply a dog-eat-dog competition in trying to obtain maths, science, engineering and technology teachers, when, without these specialisms, it's impossible for the child to get the entitlement that they have? This feels like a really wicked issue and one that I do hope you'll have time to think of a solution to. Lynne Neagle AC: Thank you very much, Jenny. I know that you are really passionate about tackling obesity and I think there are lots of opportunities for me to link up the work that I did in my previous role with the Minister for health, who has now taken on the responsibility for that. The statistics that you've highlighted are really stark. As I said, the roll-out of the universal free school meals has gone really well. I believe the figures are well over 70 per cent now, but I would need to check that. I know that all bar three local authorities have fully implemented it and those other three will have implemented it by September, which is really good news. But it is a massive investment and we do have to get the biggest bang for our buck in terms of health with this. That's one of the reasons that one of the things we're going to be doing is reviewing the healthy food regulations to make sure that children and young people are getting a healthy meal at the same time. So, there's some further work to do there, and officials are working on that. Your point on STEM subjects is really well made and, as you're aware, we also have shortages in STEM teachers, which is obviously a critical issue that we need to address. And the bursaries that I mentioned in another answer are also available to people choosing to study STEM subjects. So, we're doing what we can to try and address those shortages. Luke Fletcher AS: Thank you, Cabinet Secretary, for setting out your priorities. Now, we know that Wales is facing a significant skills gap—an issue that was highlighted in the Welsh Government's own 2022 employer survey, and an issue that's worsening over time. Now, what I was concerned about, as part of that statement, is that there is no single document that sets out the Government's detailed strategy on post-compulsory education and skills—something that actually would be of benefit, not just to education leavers, but also to those who are looking to transition into another sector of the economy at a later stage in life. So, will the Cabinet Secretary outline whether we can expect clearer skills planning from this Government, and what role will the Cabinet Secretary for the Economy, Energy and Welsh Language play alongside you in putting that plan together? Lynne Neagle AC: Thank you very much, Luke, and I know this is an area that you're passionate about. I'm sure you also wouldn't have expected me to set out all of the detail in the statement. I've been very clear that one of the issues that I'm most concerned about is our participation rates post-16, which do not fare favourably in comparison with the rest of the UK. Having that parity of esteem, building that skills base is vital. Working with employers to make sure that we can match the skills that employers need as well is crucial, and I will be working very closely with Jeremy Miles on this. Obviously, some of this sits in his portfolio. The new commission as well is a really good opportunity to get a more coherent picture on this, and really join up the working and get this right. Rhianon Passmore AC: So, Cabinet Secretary, on behalf of Islwyn, may I firstly welcome you to your post, and place on record my appreciation for your visit to Islwyn on one of your earliest engagements as Cabinet Secretary for Education, and also for your listening approach to the significant challenges and priorities ahead? It was wonderful to welcome you to Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon for its official opening in Cwmcarn—a Victorian school that my own child attended. Cabinet Secretary, the Welsh Government has led the way on capital investment in our school buildings in a desert of capital investment to Wales, transforming, through twenty-first century schools, the new, for instance, Welsh school in Cwmcarn, thorough the sustainable communities for learning programme, and I also hugely welcome the facilities for learners with additional learning needs included in the Welsh Government's announcement last week of a further £20 million for schools to improve additional learning facilities. So, post COVID, and still in a time of so-called austerity, can you as Cabinet Secretary outline how this investment will help deliver your overall priorities of sustained improvement in education attainment, and your specific priorities on supporting learners with additional learning needs? And also will you please, if you may, comment to this place on the sudden announcement of the imminent closure at the Royal Welsh College of Music and Drama of its junior department—the pipeline of excellence, renowned for its equity and access for all, and where a visually impaired student of mine attended and flourished in full? Lynne Neagle AC: Thank you very much, Rhianon. It was a real pleasure to be in your constituency for the opening of that lovely school—really great to see the fruits of that huge investment. And we've invested well over £2 billion in our school buildings in Wales, and that compares very favourably to the choices made over the border. As you've highlighted, I announced an extra £20 million for ALN capital funding last week. That will be for local authorities and schools to plan the spending of in partnership with us. When I went to make the announcement at Ysgol Gymraeg Gwaun y Nant in Barry, I was able to see the new unit that they'd established there. Schools will have different needs, really. It might be for special units. It might be for equipment and what have you. So, I think it is very much about responding to local need. In terms of the Royal Welsh College of Music and Drama announcement, can I say that I was very grateful to them for keeping me updated? I really do recognise how very difficult the financial pressures are facing higher education institutions in Wales, and recognise the really important work that they do. I know that they have plans to ensure that they do continue really valuable work with children and young people, and I've asked to be kept updated on that. As you're aware, we are committed as a Government to ensuring that children and young people have those musical opportunities—and you've been a massive champion of that work—and our £13 million national music service is making sure that every child has the opportunity to play a musical instrument, sing and make music. And I'm really committed to ensuring that that work continues. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Ac yn olaf, Adam Price. Adam Price AC: My colleague Heledd Fychan mentioned physical and mental and verbal violence in schools. That needed to be a priority, I think, addressing that, before the horrific incident in Ysgol Dyffryn Aman, but it's even more urgent and pressing now. That's why I was frankly surprised, exasperated, disappointed when I, after having had a conversation with the staff in the school, called for a national review of school safety, and the response from the Welsh Government spokesperson was that there were no plans for such a review. The staff, the students and parents of Ysgol Dyffryn Aman—they expect that review, they deserve that review, and that's true of school communities throughout Wales. The physical and mental scars of that incident are serious enough, but it could have been far worse, and unless we conduct that national review, I fear for what might happen in the future. I did write to your predecessor about concerns the school had in relation to policies in this area before the incident, and you may want to look at that correspondence and, indeed, correspondence between some of the school leadership and your officials, before making a final decision. But I urge you, Cabinet Secretary, school communities need this national review of school safety. Lynne Neagle AC: Thank you very much, Adam. Can I say again how much I commend the way that Ysgol Dyffryn Aman and the local authority and the local emergency services responded to that incredibly difficult situation? I really do recognise the impact that that will have had on everybody involved, and that that will be a long-term impact, and I've been very clear that, as a Government, we are there to provide any support that they need. They've put in place a really comprehensive package of support anyway, for the school community, but I've been clear that, if they need any more, we will provide that for them. I think I'm aware of what you're talking about, although I haven't seen the letter that you're referring to, because somebody at the school did raise some concerns with me recently, about some aspects of policy around exclusion. So, I am looking at that. And I've also said that we will learn the lessons from what's happened there. It's really important that—. Obviously, this is subject to a criminal investigation now. It has to be handled sensitively, but I have got no doubt that there will be lessons to learn from it. And when you talk about a national review of policy, I was with our trade union partners and the Association of Directors of Education in Wales and the Welsh Local Government Association this morning; they are all looking at their policies for critical incidents, checking that they're working, making sure that they're up to date. So, that work is actually happening. And I made the commitment this morning to our trade union partners that I am taking this work really seriously, in terms of that support that we put in place, to make sure that schools are safe, supportive places, for school staff and for young people. You know yourself, Adam, that the issues around school behaviour are really complex. There are societal issues that are coming into the school, and I think it's really important to join up things like the work we're doing on mental health with that work on behaviour. But just to assure you, I am taking this very seriously. We are making sure that all areas are updating their policies and that they're being practised and everything. So, I'm not really sure how that differs, really, from a national review, if it's just the way you're describing it, because that work is happening. Everybody has taken what's happened really, really seriously. A few days after what happened in Ysgol Dyffryn Aman, there was a lockdown in Blaenau Gwent as well, following an incident there. So, you know, this is very uppermost in all our minds, so just to give you that assurance. Daeth y Llywydd i’r Gadair. Y Llywydd / The Llywydd: Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. Diolch yn fawr. 4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Dyfodol ffermio yng Nghymru Y Llywydd / The Llywydd: Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar ddyfodol ffermio yng Nghymru. Felly, Huw Irranca-Davies i wneud y datganiad yma. Huw Irranca-Davies AC: Diolch, Llywydd. Fy ngweledigaeth yw dyfodol llwyddiannus i ffermio yng Nghymru, cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, gofalu am ein hamgylchedd ac atgyfnerthu ein cymunedau gwledig. Bydd y cynllun ffermio cynaliadwy yn cynorthwyo ffermwyr i gyflawni'r amcanion hyn. Fy mwriad yw dwyn pobl ynghyd, gwrando a gweithio mewn partneriaeth. Huw Irranca-Davies AC: I have seen a draft of the analysis of over 1,200 consultation responses, and I want to thank everyone who took the time to respond. I expect to publish the analysis and the Government response in June, but it is already clear that some changes are needed.As set out previously, I am setting up a ministerial round-table to engage on what those changes should be. This will have farmers at the heart of the conversation, alongside others who have an interest in delivery of the benefits farming provides. The round-table will work at pace to identify areas of agreement and focus on areas where more work is required. Responding to Plaid Cymru, as part of the co-operation agreement, the farming unions and others, the scheme is designed to support all farmers in Wales with an annual baseline payment, in return for universal actions, replacing the basic payment scheme. These universal actions will provide a platform for farmers to do more through voluntary optional and collaborative actions, which will help farmers realise economic, environmental and social benefits aligned to our sustainable land management objectives and in support of our national and international commitments. The SFS must be accessible to all farmers and provide the right level of support to help with business resilience. This is why we will include payment for the wider benefits farming provides, going beyond income forgone and costs incurred, to recognise social value. The round-table will help find an appropriate payment methodology, consider the outcomes from the carbon sequestration review and the updated economic assessment based on the revised scheme. The scheme will support farmers to work with the supply chain to meet changing consumer demands and create new market opportunities. It will focus on food production, but lever the opportunities from timber and sustainable management of the land, such as green finance and carbon sequestration, in support of protecting our communities, our language and our culture. My commitment to engagement, and to give farmers the time to consider the consequences for their businesses before deciding on joining the scheme, will necessitate a change in the implementation timetable. We will not introduce the scheme until it’s ready. We will initiate a SFS preparatory phase in 2025 to demonstrate the benefits of the proposed universal actions through knowledge transfer, targeted activity and financial support. This will better prepare farmers for entry into the scheme from the start of the proposed transition period in 2026. There'll be engagement with farmers on a data confirmation exercise, to provide an accurate picture of the habitat and the tree cover across all farms. Under the 2024 Habitat Wales scheme, we saw an increase in the area of habitat land under management. So, building on this, I’ll explore giving more farmers the opportunity to access support in 2025, including support to organic farmers. Existing schemes, such as the small grants schemes, will continue to support infrastructure changes, and we're working on a new integrated natural resources scheme, building on previous landscape scale collaboration. Initially, the aim is to support the development of proposals for further funding. We will focus on schemes that align with SFS and that are expected to provide support in future as optional and collaborative actions. We intend to undertake activity on sites of special scientific interestand to promote the opportunities of tree cover on farms. We will develop proposals for further optional and collaborative actions, with the aim of introducing these as soon as possible. And through Farming Connect, we will work on knowledge transfer, focusing on on-farm efficiencies and activity that aligns to SFS. To provide certainty, my intention is for BPS to be available in 2025, with the proposed SFS transition period starting from 2026. I will make announcements on the 2025 BPS ceiling and details of the preparatory phase in due course. Maintaining high standards of animal health and welfare is essential to a thriving agriculture sector. I want Wales to be recognised for its exemplary standards of animal welfare and I'll say more on my plans in due course. I have heard, of course, first-hand the devastating impact that TB has on farms. We remain fully committed to eradicating TB in Wales by 2041. Partnership working is crucial to reaching our shared goal of a TB-free Wales. As part of our five-year TB delivery plan, the technical advisory group is considering on-farm slaughter of TB reactors as its very first priority. I will be updating Members later this week on progress. The agricultural pollution regulations are designed to tackle the causes of agricultural pollution in Wales. I have heard concerns about how the regulations aim to achieve this. We have initiated the four-year review of the regulations, and I want to identify if changes are needed. I will soon make an announcement on an independent chair for that review. I have heard also about the impacts on the mental health and well-being of farmers and their families, and we will continue to work with the charities that provide such excellent support to our farmers. The food and drink industry in Wales had a turnover from farm to fork exceeding £22 billion in 2022. My vision is for a vibrant industry with a global reputation for excellence. We want to be one of the most environmentally and socially responsible supply chains in the world, and we will continue to support Welsh food and drink businesses, including through Food Innovation Wales and Blas Cymru. Huw Irranca-Davies AC: Mae ein polisïau sy'n gysylltiedig â bwyd yn canolbwyntio ar gydweithio, gwaith partneriaeth a llesiant. Rwy'n bwriadu cyhoeddi 'Bwyd o Bwys: Cymru', sy'n amlinellu ein polisïau sy'n gysylltiedig â bwyd a sut maen nhw'n cefnogi cynhyrchwyr, gan gynnwys ffermwyr, a'r gadwyn gyflenwi i sicrhau bod mwy o gynnyrch o Gymru ar gael. Rwyf am weld Cymru ar flaen y gad mewn diwydiant amaethyddol ffyniannus ac arloesol, ac rwyf wedi ymrwymo i wrando a gweithio mewn partneriaeth i gyflawni hyn. Diolch yn fawr iawn, Llywydd. James Evans AS: I'd like to thank the Cabinet Secretary for your statement this afternoon, also your written statement this morning, and for speaking with me prior to the release of these statements earlier today. Can I just say that it is encouraging from you, Cabinet Secretary, that you have taken on board the concerns that I have raised with you on the future of farming support here in Wales? I believe it is a positive step to show that you are listening to the industry, the unions and those 12,500 people who responded to the consultation. The delay on the implementation of the sustainable farming scheme and committing to the rolling forward of BPS until 2025, is something that I and the Welsh Conservatives have called for, and we're very pleased to see that this is happening to give that longer-term security for our farmers across Wales. However, for this scheme to be truly successful, ensuring a broad range of voices is heard is crucial. Therefore, I have some key questions regarding future collaboration and stakeholder engagement. I'm interested, Cabinet Secretary, in how the ministerial round-table is going to be structured to guarantee balance and representation from all farming sectors and relevant stakeholders, including those with specific concerns about aspects of the sustainable farming scheme. Can you also inform us today of what date you intend for this round-table to start? You said last week that you'd burn the midnight oil to make sure we get these things delivered at pace. So, it would be very interesting to know what timescales you've set on setting this up. Can you give some assurance to the industry as well that, when people partake in these groups, their voices are going to be listened to? Because something that came through during the co-design phase was that people fed into this, and it wasn't listened to. So, I'd like some assurances from you that they are going to be listened to. The announcement that you made this morning mentioned the sustainable farming scheme, including payments for social value, and this is a very interesting concept. But I think clarity on what that is is actually needed, because I do hope that this is a real positive shift and that, at long last, the Government here recognises that farming adds social value to Wales in terms of environmental, cultural and also economic value to our communities. We also know that the impact of the initial sustainable farming scheme was devastating for our farm businesses, with 5,500 job losses across the industry. So, I'd be very interested to know—I know Llyr Gruffydd has asked you this question as well—when are we going to see an updated impact assessment, because, if we're having changes to the scheme, obviously we're going to need a new impact assessment to see what any changes are going to do. As I said earlier, I and my group welcome the extension to BPS into 2025. This does provide some degree of certainty for our farm businesses. I know you said you'll be making an announcement in due course, but I think people today will want to know what that BPS rate is going to be. Will it remain unchanged into 2025, and what additional schemes, like woodland creation, are also going to be carried forward, going forward into 2025? This pause does give us that opportunity to look at these proposals again, and we do need to see substantive changes to the sustainable farming scheme, because, in its current form, it doesn't work. But, if we need to get it to work, it needs to work for all farmers right across Wales, because the farmers that I speak to, and I'm sure the farmers who you've been speaking to, Cabinet Secretary, still have issues around the tree planting, around common land, around tenant farmers, around SSSIs and some of the universal actions, which some farmers find insulting and overly bureaucratic. And we do need to have some more detail from you about how you intend these changes to feed into your ministerial round-table to make sure that those changes are actually going to be implemented by Government so that, actually, the industry can get on board and actually deliver this scheme for you. The statement mentions considering the outcomes from the carbon sequestration review for informing payment methodologies. What I'd like to know is: will the review look beyond the sequestration of trees and consider all different types of grass and also hedgerows, because that hasn't actually been looked at before, and I think that we need to have a big piece of work around the carbon sequestration of grass? I was going to talk about animal welfare, but you said you'll be telling us about that in due course. And also you're going to be making a statement, hopefully, on TB. I hope it's being made to this Chamber, and not written, because I think it gives us an opportunity to scrutinise any work that you're doing. Cabinet Secretary, I've only got about 30 seconds left, but, from my point of view, this announcement today is welcome. It has been welcomed by the unions, and the people I've spoken to on the phone—my friends and colleagues that I've got in the industry—welcome it as well. And I put an open offer to you, Cabinet Secretary: I'm willing to work with you in a very open and pragmatic and constructive way to make sure that we can have a scheme that delivers for our farmers. But, as I said earlier, we do need to see fundamental change if we're going to make it work. Because that's what I want to see. I want to see a scheme that works, that delivers for future generations, delivers for our farmers now and ensures we have a vibrant rural economy in Wales, because doing that will deliver all the environmental, cultural and biodiversity benefits that you want to see and also the thriving farm businesses that I'm sure everybody around this Chamber wants to see as well. Diolch. Huw Irranca-Davies AC: James, thank you very much, and thank you for your comments welcoming the announcement that was made on the way forward. And, just to say, it is a way forward. I used a rugby analogy earlier on in an interview. A lot of what we are doing now is the preparation for the roll-out of a scheme where there is actually a lot of agreement already—the framework, the objectives, not only in terms of food production, but also social value, environmental imperatives, climate change imperatives—but it's right to actually do some more work on those areas that have been identified in the consultation, which indeed—. We haven't seen the final, the full analysis of the consultation, but I've seen some of the interim findings, and it's pretty clear and obvious where those areas where we need a bit more work are. But it is some more work, and that's where the ministerial round-table becomes very important. And the way that that is working, the reason it is a ministerial round-table, is that there'll be a lot of work behind the scenes, not only with farmers and with the farming unions and so on, but also with the environmental and the wildlife groups as well, to make sure that we get the details right so that then we can proceed and we proceed in a way that all farmers can be part of this, because we need farmers to feel that they want to step up to the mark and be part of this, but we also need to deliver those wider imperatives. You covered such a lot of ground there, James, but, just to say, very briefly, many of the issues that you covered are exactly the ones that the ministerial round-table, and the work that goes underneath it, is designed to flesh out. So, I am not going to pre-empt it. So, when you talked about timescales, you will not have to wait long until we make announcements, both on the membership but also on the way that that ministerial round-table will take all this work forward, including, by the way, the streams underneath it. There are two or three areas that we want to bring forward underneath. One of those, by the way, is on sequestration, and it is trees and more. Because arguments have been put forward to say that there are other ways also to do sequestration. We need to test those arguments as well—not just accept them; we need to test them. So, I think that's the work that needs to be done. We will be making a subsequent announcement on TB, as you say. Economic impact: one of the conversations that we've had with the farmers' unions is that it was right for Welsh Government to put in front of the public the economic analysis that we had, but it was actually two years out of date, and it was based on a previous iteration of proposals. It wasn't even based on the most recent ones. However, we need to do an updated economic analysis, but the economic analysis needs to be done when we know the details of what that scheme will look like, and not before. Because we need to say to farmers, 'Well, here's the economic analysis, and here are the tools that we're going to lead through this transition as well.' And some of this could be actually creating new opportunities within our rural areas as well. So, many of the things that you covered there are things that the ministerial round-table will—. And just one final, just to clarify: this isn't a pause whatsoever. There is actually work to be done now, in order that we can get to a point where everybody's on board with the detail of the full roll-out of a sustainable farming scheme that will be there, I think, if we get this right, for the generation ahead. It'll be dynamic, but, if we get this right, in this seven, eight years after EU withdrawal, then we put certainty, not just on farming, but on what we are trying to do as well with landscape management, on climate change and biodiversity and everything else, for many years to come. But thank you, James, for the welcome of this. Llyr Gruffydd AC: Diolch yn fawr, Lywydd, ac a gaf i hefyd groesawu'r datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet y prynhawn yma? Rwy’n credu ei fod yn taro cywair pragmatig a synhwyrol, ac dwi’n diolch i chi am hynny. Mae’n ymateb yn bositif i nifer o alwadau Plaid Cymru. Dwi wedi codi nifer o’r pwyntiau yma yn y Siambr, ac dwi’n gwybod—ac dwi eisiau diolch i Cefin Campbell hefyd, fel yr Aelod dynodedig fel rhan o’r cytundeb cydweithio—fod nifer o’r materion yma wedi cael eu trafod yn helaeth, ac dwi’n diolch i Cefin am gael y maen i’r wal ar nifer ohonyn nhw. Llyr Gruffydd AC: Now, Plaid Cymru has been insistent and consistent as well in our call for a delay in the implementation. So, clearly, it’s something that I raised with your predecessor. She pushed back, saying that she wouldn’t accept it. I know initially that you were saying that maybe you could proceed with some elements where there was agreement, and others maybe would need more work. Well, I think that this is the right call, and I welcome the delay that you have outlined today. The sustainable farming scheme will have an impact on generations of farming, and I think that we all know, deep down, that we have to get it right and not get it done quickly. Even if it means another year of uncertainty, another year of, some would say, unnecessary delay, I think that that 12-month period will be less painful than maybe 12 years and more of making the wrong choices. So, it is the right call, and I thank you for being willing to make that call. So, it is an opportunity, as I say, to step back and reflect—not pause, because you’re saying that it’s not a pause, so I'll run along with that one, if that’s what you wish. But it is an opportunity to make necessary changes and to ensure, certainly, a buy-in, a greater buy-in, from the farming sector than we have seen so far, but also to make sure that we have scheme that is sustainable, in that it works for farming and for nature. I think as much as we're refining or amending or changing elements, we're also, hopefully, using this process to build a consensus, a greater consensus, around the action that, collectively, we all need to take. So, I welcome the round-table approach. I think, again, that bringing those voices together is important. It is key that those with lived experience of farming sit around that table, because they will be able to tell us what works on the ground, and I think maybe that’s something that we maybe missed somewhat in the past. But I want to ask you specifically: can you therefore confirm that your intention now is to no longer demand 10 per cent tree cover from all participants of the scheme? Clearly, you're looking at a broader range of options. That sounds to me like taking the insistence on 10 per cent off the table. It may work for some, but it will now not be a prerequisite of being part of the scheme. Maybe you could confirm that for us. You referenced the universal actions in your statement. Are you still looking at 17 universal actions, because it read more like a wish list than a practical expectation of the sector, to be honest? Is there, as the round-table and these other groups do their work, now an admittance that maybe you need to rationalise that somewhat? You reference that you'll develop proposals for further optional and collaborative actions with the aim of introducing these as soon as possible—that's what you say. Are you, therefore, saying that there is a possibility now that maybe those elements, or parts of those aspects of the scheme, could well be introduced at the same time as the universal elements in 2026? Because I know many in the sector, particularly in the environmental sector, would be concerned that that is where a lot of the heavy lifting in terms of achieving for nature will happen, but by delaying the universal, we may well be inadvertently delaying the collaborative and the optional aspects. People still need to know how much money we're talking about. We can design a scheme, we can talk about principles, but until people know how that practically impacts the viability of their business on an economic level, and, of course, how that impacts how ambitious we really can be in terms of nature and the environment, then it's difficult, isn't it? We're floundering a little bit when it comes to knowing whether we're in or not. So, that further delay, I suppose, doesn't mean that you can articulate in any more solid form what kind of figures we are talking about, but it would be good to understand maybe whether you feel you can do more on that front. Llyr Gruffydd AC: Mae'r ffocws cryfach ar y gwerth cymdeithasol i amaethyddiaeth yn rhywbeth rŷn ni fel plaid wedi bod yn galw amdano fe yn helaeth iawn. Dwi'n meddwl ei bod hi'n iawn ac yn deg fod yna gydnabyddiaeth ariannol i'r cyfraniad cymdeithasol, diwylliannol ac ieithyddol mae'r sector yn ei wneud. Nawr, mae beth mae hwnna'n edrych fel, wrth gwrs, yn mynd i fod yn destun trafodaeth, ond dwi eisiau rhoi ar record, gan ein bod ni fel plaid wedi sicrhau bod hwnna yn y Ddeddf amaeth, ein bod ni'n falch iawn gweld y pwyslais rŷch chi'n ei roi arno fe yn y cynllun. Yn olaf, rydych chi'n cyfeirio at y grŵp cynghori technegol ar TB. Wrth gwrs, ystyried difa ar y fferm yw'r peth cyntaf. Mae nifer ohonom ni eisiau gweld newidiadau amgenach a mwy pellgyrhaeddol, ond mae hwnna yn flaenoriaeth. Rydych chi'n awgrymu y byddwch chi'n gwneud datganiad yn nes ymlaen yr wythnos yma. Allwch chi ddweud wrthym ni a fydd yna newid yn digwydd ar y ffrynt yna o fewn wythnosau, a ddim o fewn misoedd? Diolch. Huw Irranca-Davies AC: Diolch yn fawr, Llyr. You've raised again many issues there, but can I thank you just for welcoming the pragmatic and sensible approach, as you described it, of the way forward? Because we do have to design a scheme that, when it is ready to go, brings everybody with it, and that does, by the way, include all those people out there who support the wildlife and environmental ambitions, including amongst the farming community, as well as the farming community themselves who are going to be so integral to delivering this, and building the consensus that you mentioned is the way forward. Just to pick up on a few of the things that you said there, in terms of funding, I'm pleased that we've announced today that we will actually take forward the BPS funding currently, to give some certainty going forward. Now, in doing so, I have to say that I'm asking those in the Chamber behind me to be good and strong behind me, and make representations as well, because we're going to be asking the UK Government to provide at least the same level of funding as we received this financial year, plus inflation, plus more, if they'd like to give it to us, please. The Bill is £339.6 million, please, plus inflation, and anything else they want to throw in. We are working—our officials are working internally, and with colleagues in other administrations—to develop our funding ask. We do know, of course, that that still leaves a short of what we had anticipated when all those great debates were going on about leaving the EU, but we have the funding package that we have and we've got to work with it. And fair play to the farming unions as well, even though you have voices saying, 'Well, get it from somewhere else', those arguments, they do accept that we've got to actually put the ask somewhere else here, to assist with that. But by announcing that the BPS will continue for 2025 now, I'm trying to give as much certainty as I can without knowing the future budget position, but it's a clear statement of our intent. So, I'll try to make an announcement on other details, such as the ceiling, in due course, but it won't be too long, hopefully, there. The other aspects I wanted to touch on—. You talked about trees and carbon sequestration. Carbon sequestration actions in the scheme is an example that I think does need and does merit further consideration. So, I've confirmed that we're convening a carbon sequestration evidence review panel, which will feed up into the ministerial round-table. I expect the group of partners undertaking this work with us to focus on the evidence associated with actions to support additional carbon sequestration, and the scale of opportunity that we may have in Wales. Now, I'm going to await the outputs of that work before taking any decisions, and whilst it might be slightly frustrating, there's a reason we're going to set some of these in path to actually lift up then to the ministerial round-table. But I will keep Members informed as it comes in front of us. I don't want to pre-empt it. But trees on farms, let's be absolutely clear: they've got multiple benefits other than carbon sequestration. That includes, by the way, some that are often not mentioned, such as shelter for livestock, the reduction of flood risk and improving water quality. There are many positive reasons for farms to consider tree planting, and indeed many do, and many do want to go further. I'd simply say as well that we are already and will continue offering the grants for woodland creation through the woodland creation planning scheme and the woodland creation grant scheme, because these will continue to be available, and we'll be actively promoting them through the preparatory phase. There's no reason for anyone considering planting trees on their land to delay that decision if they want to proceed. So, this is not that we're pausing everything, we're stopping everything; we want to go ahead with that. You raised a lot of items there. The phasing of the universal, optional and collaborative approaches, this is a really interesting one for the ministerial round-table. Because there are, and I remember when we were in the climate change committee at that evidence session, there were different views put forward. One of the things within the funding envelope we have to do in this preparatory phase is decide where the optimal mix is here of those universal parts of it alongside those other ones, which could indeed take us much further in terms of biodiversity, environmental gain, climate change, flood alleviation and so on. But we're going to have to consider very carefully where the right balance lies, because ideally we would just want a heap more funding to do a heap lot more, but we haven't got it, so that's where the ministerial round-table, and ultimately I, will have to make some decisions. And it is worth saying, Llywydd, as well, that I don't think this is going to be plain sailing, easy sailing. There will be some points where it's going to be for me as Cabinet Secretary to sign off and say, 'This is now where we go and where we stand', but to pick up that overarching point that you made, we will do this in an open, collegiate, co-operative manner, working together. When we come to difficult points, that's what I get paid for. But we'll do it based on the evidence we see and the arguments put forward, and that's why it is worth taking just that little bit more time to get this right. But thank you, Llyr, for the other points you raised, the ministerial round-table will bring them forward for discussion. Jenny Rathbone AC: Thank you. I just wanted to ask you about trees and soil health. The WWF seminar that took place two weeks ago, which you weren't able to attend, which Llyr Huws Gruffydd was chairing—I don't recall seeing James Evans there—and I think that some of the important messages that came from that—[Interruption.] Some of the important messages that came from that were the work done by Niels Corfield to demonstrate that, if you want to make a weatherproof farm, you need to plant trees, you need to deal with soil compaction so that you don't have excessive run-off, and instead you have healthier soils that are absorbing much more of the inundations of water that we're getting increasingly.Also, we heard from two farmers who were making more money by having reduced the amount of stock they had on their farms, and therefore they had less cost from having to buy in fodder for their animals, relying more on the grass, which was of a better quality as a result of having to deal with less stock on it. I just wonder how much conversation you're having with the farming unions to ensure that all farmers know that these are strategies we all have to do, because I'm absolutely happy with pausing to get it right, but the climate emergency will not wait. So, how is this preparatory phase to demonstrate the benefits of these universal actions going to deter people from unsustainable farming practices, like phosphate pollution from farming going into our rivers and seas? And how will it encourage farmers to tackle soil compaction and excessive run-off, and also, most seriously, soil loss? Because once it's gone, it's gone forever. We're told that there only are another 40 or 60 harvests in the soil, and therefore this is urgently needed to get change across the board. Huw Irranca-Davies AC: Jenny, thank you so much for that question. Do you know, I, like you, am something of a fanatic about soil health, and the way that delivers multiple benefits? And we see it when it goes wrong as well, when you don't have soil, when you just have mud, and you have fields where the run-off is just taking that down into the streams below. Soil health, I can tell you, is part of the deliberations that go forward now in this preparatory phase. I've come this morning from a visit to a farm not far from here—Sealands Farm, a family-run farm. Some of the work that they are doing that they're quite evangelical about as a family is the way that they're already working—in anticipation, in some ways, of where we should be heading—with multiple diverse crops and rotation, in order to deliver not only nitrogen and feeding the soil and enriching it, and so on and so forth, but doing it in a very scientific and intelligent way, and they've been doing it for some years. It's also bringing down their costs on the farm because what they're doing is using their own crops to feed. They're using it not quite in a closed-farm system, but reducing their reliance on bringing in very expensive outside alternatives and petrochemical-based alternatives, or overdosing their own farm. It's quite scientific, what they're doing. And what they said to me was that this is not unusual now in farming; there are more and more farms doing this. So, what we need to do as part of the SFS and the wider approach to good sustainable farming in Wales is to make that approach much more normal, because we know that there are parts of Wales or individual farms where that isn't happening. So, how do we then lift them up and inform them, help them, mentor them, educate them, give them the correct advice, so that they can also do it as well? Soil health is going to be critical to the way we go forward, and not least because of exactly what you've said: it also gives the resilience as well. So, rather than having mud that's being washed away, you have good soil that holds the water, holds the nutrients, and is less costly in the long run to maintain. But what farmers will say to me is they need the support to make that happen, not just in the advice, but actually in the way that we design the scheme as well. Soil health is key, often forgotten about by wider civil society out there, but critical in the way we take forward good farming in Wales. Russell George AC: Minister, thank you for your statement today. I don't think I picked it up earlier on, but does the Government still intend to pursue the data confirmation exercise this summer, and if so, can you confirm when that will begin? On 10 per cent tree planting, I just want to make sure that I've got the answer that you gave correct in my own mind. I think the answer was that 10 per cent remains part of the proposed scheme, but there's a greater willingness to change and introduce more flexibility—so, have I got that right—through your ministerial round-table. And in regards to TB, it's a devastating disease, it has a devastating impact on farming families and it's cruel in farming stock and also in wildlife as well. I note in your statement today that you mention again the eradication of TB in Wales by 2041. So, my question is: is that ambitious enough? Can there be a greater ambition in bringing forward that date? You also talk about your TB delivery plan and the technical advisory group. So, my final question there is: to what extent will the technical advisory group drive your decision making? Because, for me, many decisions are perhaps not for the advisory group; they're political decisions, such as the decision to cull affected wildlife, which I really do believe needs to be part of the overall package to eradicate TB. And that seems to be more of a political decision for you, rather than the technical advisory group, and that's why I ask about the extent of you taking your decision making from the advisory group. Huw Irranca-Davies AC: Thank you very much, Russell. First of all, on the carbon sequestration and the 10 per cent trees, we've set up a panel deliberately to look at that. So, as opposed to ruling anything out, we want to consider those other options as part of that work that others have suggested might be good other ways of doing it. I think quite a lot of people here previously have been signatories to the hedges and edges campaign, and so on and so forth, but there are other options being put forward, including what we can do, actually, in well-managed soil and pastureland, which is quite interesting. So, I think these are the things that need to be explored in there. So, rather than focusing purely at the moment on 10 per cent trees, let's give that work stream the freedom to actually go and look at these, and bottom it out properly. Because some of them might be viable and others might not be, but let's properly bottom it out there. On the data confirmation exercise, yes, this is key to it, going forward. One of the advantages we had, even though there were some concerns that the HWS may not have the uptake it did, actually, it's been really gratifying to see the response to the HWS, and it has helped, additionally, with some data coming forward. But we know that farmers are saying that some of that isn't accurate, so part of this process will actually be going back to farmers to say, 'Here's what we have, here's our mapping, now can you help us actually fill in the dots or contradict what is actually on that data there, that data there?' and so on. That's going to be integral to this, because if we can get to the point where we have good, accurate data, then we're in a much better position to help farmers and say to them, 'We don't have to do this again and again and again; we'll now know by the end of this preparatory phase.' One the TB eradication by 2041, I think that is really ambitious. It's often said within this Chamber, 'Look at what's happened in England' and so on, but, actually, the trajectory, over the last 10 years, that we've looked at in Wales, and the decline in herd incidence, has been significant as well, so we're doing some things right here, and we often don't say that we're doing some things right. And some of that is based on this much greater partnership model of working, of giving the autonomy to the farmer, working with on-farm vets and so on, the sorts of things that we see now. Part of it is going to be driven, I have to say now, by, as you rightly say, the TB advisory group, headed by Glyn Hewinson, who chairs part of the Sêr Cymru programme, the TB centre of excellence in Aberystwyth. I've had some discussions with him already; I've made clear, when I've spoken before, saying it's for them now to lift up their advice, as they go forward, to the programme board on TB eradication. Sorry, I realise I haven't addressed the issue on could we be more ambitious. If I thought we could—. But I'm not sure that either side of the border or whatever—. It's quite an ambitious task. If we can eradicate by 2041, if we can do it early, brilliant, but let's see what the TB advisory group actually bring forward as the way forward. The first thing that they've been looking at—and I'm waiting for the official advice to come up—is the on-farm slaughter, which has been a major issue for many farmers, not least the emotional issue and the impact of standing by as their cattle are slaughtered, with calves in, on the farm in front of them. I'm hoping to have that advice very soon. But where they go from there is where they go from there. They have the expertise, and there's really good—. I don't want to misuse this phrase now, but there's really good farming pedigree and long reach within the people on the TAG as well, but they lift it up, then, to the partnership board, where there is significant direct farming representatives, and ex officio members of the farming unions are on that as well. So, let's see what they bring forward. I'm not going to direct them or misdirect them or whatever. Let's see what they bring forward, but they've got a lot of work cut out in front of them. Mabon ap Gwynfor AS: Dwi am fynd ar ôl dau beth yn benodol, un ohonyn nhw’n dilyn cwestiwn yr wythnos diwethaf ddaru'r Ysgrifennydd Cabinet ofyn i fi ailofyn yr wythnos yma, felly gobeithio y byddwn ni mewn sefyllfa i gael ychydig yn fwy o wybodaeth, ac mae hynny ynghylch y BVD. Roedd yna waith da yn cael ei wneud efo cynllun gwaredu BVD yn flaenorol, ond, yn anffodus, fe gollwyd momentwm ar hynny wrth i'r rhaglen ddirwyn i ben. Mae angen deddfwriaeth er mwyn sicrhau bod profi yn digwydd a bod hyn yn cael ei ariannu yn llawn. Roeddem ni'n disgwyl cyhoeddiad cyn y Pasg, ond rydym ni'n dal i aros. Felly, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet osod allan yr amserlen ar gyfer unrhyw Fil i'r perwyl yma, a rhoi sicrhad y bydd y Bil, o'i fabwysiadu, yn cael ei gefnogi gyda'r arian cywir er mwyn sicrhau ei lwyddiant? Yn olaf, i ddilyn trywydd cwestiynau Russell George, mae ffermwyr yn fy etholaeth i wedi gorfod difa gwartheg oherwydd y dicáu yn ystod yr wythnosau diwethaf yma. Mae'n brofiad newydd i ffermydd ym Meirionnydd. Mae'r ffermwyr yna yn gwrando y prynhawn yma er mwyn cael y sicrwydd eich bod chi, yr Ysgrifennydd Cabinet newydd, yn deall difrifoldeb y sefyllfa y maen nhw'n ei hwynebu ac eich bod chi'n barod i weithredu yn unol â'r gwyddoniaeth. Hynny ydy, ydych chi'n barod i fynd i'r afael â hwn drwy ddifa moch daear mewn modd wedi'i dargedu? Fedrwch chi roi sicrwydd eich bod chi'n deall yr her sydd yn wynebu'r ffermwyr yma, a'ch bod chi'n mynd i ymateb i'w hanghenion nhw? Diolch. Huw Irranca-Davies AC: Diolch yn fawr iawn, Mabon. Can I turn, first of all, to the BVD issue? I can give you a further update to the question you raised the other day. First of all,we fully understand and appreciate the very serious impact of BVD, not just on standards of animal health and welfare, but also the impact of the disease on production and the serious economic costs as well to farm businesses. Eradicating BVD in Wales will bring significant benefits to cattle health and productivity, but also to cattle welfare, farm profitability, and also, by the way, carbon footprint. This summer, Welsh Government will make the BVD Wales Order; we'll bring that forward to facilitate an industry-led approach to eradicating the disease. I can bring more detail forward on that subsequently, Mabon, if that's of help, but we will actually bring that forward. On BTB, I've met with so many farmers now who have been confronted with the emotional turmoil—that's to understate it—of having to go through not just the regularity of TB testing and so on, but also the slaughter, including the on-farm slaughter of cattle. We have to find a way through this. But the programme for government commitment is very clear: it's actually working on the sorts of things that we've done within the Pembrokeshire pathway, working in partnership, using the very best science et cetera; it is exploring the use, as we have done, indeed, of things such as badger vaccination and also supporting the moves to bring forward, ultimately, if we can do it, with the right test to identify that it works, cattle vaccination as well, inevitably. That has to be part of the overall 2041 approach there. But can I just reiterate what I said to Russell? Our programme for government commitment is very, very clear, but we've set up the TAG with Glyn Hewinson for a very good reason, because it has expertise on there that can bring forward their ideas on where we go next in Wales. I simply want to reiterate one thing here, because people will often raise eyebrows when I say, 'Well, we are doing some good stuff in Wales', and I would say to Members, please contact me and I'll direct you to some of the stuff that we do on the ground, where farmers who are involved in some of these projects are really persuaded that some of the groundbreaking stuff we're doing in Wales is the right one. But, just to be clear, from 2012, which is the year before badger control policy in England, to 2023, on the latest published data, the herd incidence in England decreased from 9.8 to 7.3; it was a 26 per cent decrease. In Wales, over the same period, herd incidence decreased from 10 to 6.8. It's a 31.3 per cent decrease. I simply put that on record—those are Department for Environment, Food and Rural Affairs figures, by the way—to say that we are doing things differently in Wales, in line with our programme for government, but we're also succeeding in many ways. The advisory group needs to say, 'Well, where do we go next then?', 'Where is the next way forward?', and that's the right way to do it, I think: to say to them, 'Work with the farming community. Work with the veterinary service and with others. Work with that wide experience you have to lift up ideas on where we go next.' Jane Dodds AS: I also echo the welcome by others in the room to the reset, as I see it, of the sustainable farming scheme. Really, this is about working in partnership with our farming communities and our rural communities as well. The planned 2025 preparatory period in particular will be crucial for that really robust dialogue with farmers and other stakeholders. I just have three questions, if that's all right. The first is around the 17 universal actions. You've explained a little bit about the fact that they will be part of a stakeholder group, a working group, but can you just confirm, in your view, will the 17 universal actions still apply to every single farm? Because that is one of the key issues. In regard to the 10 per cent tree cover, you've talked about it potentially including hedgerows et cetera, and that it has to be evidence based, but in that evidence, will you be listening to farmers as well, many of whom have got a surfeit of evidence and information—farmers like Gary Jones in Llangadog in Carmarthenshire, who has really robust evidence? And my third question, which is a really general one, is can you tell us what 'good' looks like at the end of 2025 to tell you that it proceeds in full to 2026. Diolch yn fawr iawn. Huw Irranca-Davies AC: That's a great final question there, Jane. Thank you. I like your terminology there on a 'reset'. There's an enormous amount of work been done on this already—seven years of discussions, consultations, roadshows, whatever. We've got to a place where we do have a lot of agreement—I keep saying this; we genuinely do—on the broad framework, the high-level objectives, and many details of the scheme as well. So, 'reset' is quite a nice way of putting it. I think that analogy of saying, 'Let's just take a little bit more time to get all the details right' links me to what 'good' looks like at the very end. Let me just touch on the 17 universal actions. One of the things that was clear from what I've read already, the read-out I've had so far—not the full read-out, but the read-out I've had from the consultation—was that many farmers saw complexity within the 17 actions. They worried about would this mean more bureaucracy. Some of them weren't understandable to the farmers either. They went, 'What does this mean?' I think we've got a job, the ministerial group here that this will be lifted up to, to look at those and to see, of those, are they all the right ones, but also are they ones that need better explaining, are they ones that we need to work with farmers to say, 'Well, how do we explain this better? What is this all about?' and so on. So, I'm not saying we're taking any of this out, but I think there's a job of work to actually look at them individually and go through and say, 'Well, if this is going to be something that you take away, outside of a consultation, and say, "Here's a toolkit for farmers", then how do you better present that so it doesn’t look so complex and bureaucratic and so on?' On the tree cover, will we listen to farmers? Yes, absolutely. And that's why we have set up this carbon sequestration group. But we will also listen, by the way, to those ideas that are coming as well from wildlife and environmental groups on other ways. It's not just coming from one direction. There's been some interesting conversations I've had over the last month and previously on other ways we can take forward carbon sequestration on land throughout Wales, which include trees, but could actually go in other areas as well. But, again, I come back the point that we have to bottom this out with evidence. It can't be just good ideas and aspirations. We have to know that these are going to be effective as well. On what 'good' looks like when we get to the end of the preparatory phase, what 'good' looks like will be that, as a result of the process we've gone through, there is good agreement and a coalition of the willing to go forward with this. That's one aspect of what 'good' looks like. And the second aspect of what 'good' looks like is it achieves all those objectives that we're trying to do, so we come out the other end with a scheme that, yes, is good for those higher standards of food production, animal welfare, soil, water quality, and all those wider public benefits, including tackling climate change and promoting biodiversity as well. That's what 'good' looks like, but it has to be as well something that we've designed together and that there is a willingness from people to take forward together as well. That doesn't mean that 'good' looks like everybody being in total agreement on every single issue. That is not going to happen, I can guarantee you now. But if we're all standing at the end of this process and saying, 'We've got broad agreement. We think this is going to be not just good, but it's going to be good for Wales'—. Because other people have said to me, 'Why don't we look at other schemes elsewhere?' One of the things that the farming unions and others have said is that, actually, what we need is something that is bespoke to Wales, the type of farming we have, the type of landscape we have, the type of environment we have. That's what 'good' will look like. Y Llywydd / The Llywydd: We're way over time on this statement and the time the Government has allocated for it, so if we can have concise questions, and also concise answers. Alun Davies AC: I very much welcome your appointment, Minister. I very much welcome the way in which you've hit the ground running. The announcement that you made today, I think, demonstrates a real willingness to move forward, but to do so in conversation with people affected. I actually fear that you're going to spend most of the next few years protecting Welsh agriculture from the impact of Brexit. We've seen that the UK Government has sold Welsh farmers down the road with their trade deals. We also see the way that bureaucracy and barriers are being placed to trade for Welsh agriculture. So, I hope that, in the work that you take forward, Minister, you will ensure that protection of Welsh farmers from the impact of Brexit is at the heart of that. But I also hope, Minister, that you won't lose momentum through the next period, because you've demonstrated a willingness to listen, to talk, to discuss, to debate, to have the conversation acrossthe whole of Wales about what our ambitions and our visions are for agriculture. But we need momentum to deliver that. We need to set those targets, to set those objectives, and then move forward together to deliver that. And the momentum you've created in the last few weeks is going to be essential to drive that policy forward through the next few years. Huw Irranca-Davies AC: Alun, thank you very much. I will take that compliment, and particularly from a former agricultural Minister himself, and the time I genuinely enjoyed working with you when I was UK environment Minister and we sat across the table in Brussels and so on—sometimes we're in danger of harking back to those days a bit too much. I can hear the grumbling going on already so I won't. Your point on lots of momentum is absolutely key. Look, I've only been in post, I think, for four weeks now, or whatever, but I said from the word go that we would listen, we would engage, and then we would get on with it. So, don't let anybody be under any mistake that this, as has sometimes been referred to today mistakenly, is a pause, a delay or whatever. It ain't. It's a part of the process going forward, with farmers, with the wildlife and environmental organisations, with Welsh wider society, with rural groups and organisations who are so concerned about getting this right. There is no loss of momentum. We've set out a timescale that we need to go forward, but the direction of travel is very, very clear, and we will get on with this and we will do it together, Alun. Diolch yn fawr. Samuel Kurtz AS: Thank you very much, Cabinet Secretary, for your statement. Can I first start by thanking NFU Cymru, Farmers Union of Wales, the Tenant Farmers Association, common land associations, the Nature Friendly Farming Network, CLA Cymru, the organisers of the Welshpool mart protest and the mart protest in Carmarthen, and the organisers of the protest that took place on the steps of the Senedd? For three years, I've been plugging away with your predecessor, trying to get changes to the sustainable farming scheme, and it is only when the sector woke up and acknowledged that these big changes were coming, and saw the reality of what was being asked of them by the roadshows that were being held, that Welsh Government finally took notice and has brought forward a delay, which I believe is an acknowledgement that, up until this point, Welsh Government has been missing the mark when it's been coming to this sustainable farming scheme policy. But one thing that I want to touch on, just briefly, in terms of the Habitat Wales scheme is the roll-out of that, riddled with errors, as you mentioned, where farmers weren't able to upload habitat data of their own farm to the system, which sometimes had been undertaken by Farming Connect. That's a breakdown in the data element of farming policy, which needs to be rectified. I've written to you previously about land mapping as well, and the apps available on that. And also around greenwashing and afforestation, of outside agencies buying up Welsh agricultural land, to totally afforest an area for greenwashing, and offsetting their conscience by not changing their business model but planting trees across a large swathe of agricultural land. I think that needs to be addressed, because there are specific cases in my constituency, around Llanboidy, and other areas as well. How can that be addressed through the sustainable farming scheme? Huw Irranca-Davies AC: Thank you, Sam. Listen, I'd echo the thanks to all those organisations who made submissions to the consultation but who also engaged, including in the run-up to the protest. And I've said previously, I think, in terms of Senedd Cymru, Welsh Parliament, people actually protesting outside we should welcome. It's part of the political engagement. We really should. And then we should listen to what's being said. It's not that we take everything on face value, but we should listen and engage. That's part of being a proper, mature Parliament. In terms of the consultation, can I just put on record my thanks to Lesley Griffiths and her officials for all the work that they've done? They've taken some brickbats, particularly when the protests were going on and so on, but there was a genuine, meaningful approach to engage. It was a genuine consultation as well. I think that's reflected in my ability to come in now, at this timely juncture, and just reflect on it and think, 'Right, well, how do we take it forward?' It was a genuine consultation. But the points you make on HWS and the data and the mapping are well made. We do need to get this right going forward, and that will be of help not only to the sustainable farming scheme itself, but actually to wider land management in Wales going forward for many years to come. We haven't got it right. The HWS, curiously, as I mentioned earlier on—the take-up has been greater than expected, which is really good. But what it means now is that we can use some of the things that have come forward to go back to farmers and say, 'Right, what's wrong here?', as well as the other mapping that we have. So, there's work to be done on that. And finally, your point on greenwashing—you are so right. One of the areas that we are interested in, beyond SFS, is whether we can look at a real scheme with integrity, with real ethical integrity within it, that could lever funds that are beyond the taxpayer funds into enabling farmers to do more, and it could be within biodiversity schemes, landscape management schemes, it could be within tree planting, but not on productive land, yes, but, of course, farmers make commercial decisions as well, they do. But we’ve got to make sure that what is being done in Wales is to the benefit of those land managers, landowners and local communities in Wales. That’s it. So, we need to think collectively about how we can bring forward something that does that, because there is scope. We’re talking about a scheme that is predicated upon, if you like, public funds going into developing the support and the sort of farming we want to see in future, and the sort of food production and the wider benefits. Beyond that, there could well be a quantum of funding out there that if we design something correctly, that could be quite interesting, and there could be more that we could do. There could be more we can do in biodiversity and environmental gain et cetera, et cetera, but getting that right, not having greenwashing, not selling it to outside bodies. So, there's a piece of work to be done. Vikki Howells AC: Thank you for statement today, Cabinet Secretary. Back in early March, I addressed a packed-out meeting of local farmers in Penderyn who wanted to share with me their hopes and their fears regarding the proposed sustainable farming scheme. The overall message from them was that Welsh Government needed to pause and reflect in order to get this new scheme right for farmers and right for Wales. I’ve already been in touch with some of them this morning and they all very much welcomed the news that you are indeed pausing and reflecting on this crucial scheme. So, I have two questions for you today. Firstly, how are you ensuring that your ministerial round-table captures views from the diverse strands of our farming communities? I’m thinking, for example, of common land farmers, tenant farmers and non-unionised farmers too. And, secondly, I note your reference to developing proposals for further optional and collaborative actions. Now, farmers that I’ve talked to would really welcome this. And as part of this work, Cabinet Secretary, would you consider some of the approaches used under previous schemes such as Tir Gofal and Glastir, which many farmers believe worked well for them? Huw Irranca-Davies AC: Thank you, Vikki, and thank you for those suggestions as well. We will certainly consider, going forward, how we get that balance right with the optional collaborative, and where we can learn from previous schemes. And we will certainly make sure that in the membership of the ministerial round-table, going forward, that the interests of those who are tenant farmers but also those who farm common land—sometimes there’s an overlap with those two as well there, in your own constituency, similar to mine. We’ll make sure that there is representation on that as well. We do need to make sure that the membership of that is fully reflective of the farming community and its diversity, but also of those wildlife and environmental groups as well, because I think key to holding this together is getting everybody in the same room and saying, ‘Let’s get to see where we agree and let’s see where we need to do further work', and that’s what this is all about today. Y Llywydd / The Llywydd: Finally, Laura Anne Jones. Laura Anne Jones AC: Diolch. Thank you for your statement, Cabinet Secretary. It certainly is encouraging, and I want to believe what you say, and I really hope that I can when more detail comes forward in future months. You’ve released this today on World FarmersDay, so I just want to reiterate the importance of the farmers, and that it takes enormous dedication, passion and hard work to be a farmer. Not only that you have to be master of all trades, not just one, being a farmer is something that’s often underestimated, unless you see it first-hand like I did, growing up and having a father that I hardly saw unless I spent time on the farm myself. But they are masters; I didn’t appreciate until I was older the variety of skills that they have, and those include, of course, getting the best out of the land, preserving hedgerows, planting trees. And it’s nothing new. Farmers have the knowledge, the expertise, and they now have to be an integral part of getting this SFS right. And I want to seek assurances from you today, Minister, that you will involve farmers and that there will be a degree of common sense now, and reality attached and decisions being made, and that when it comes to cross-border issues, you will work with the UK Government to iron those out, and that if we look towards the longer term goal, which is a fantastic goal of improving soil health, then those farmers will be subsidised if they are going to lose money from having fewer crops or something to do so, which can happen. So, I just want to reiterate the importance of getting this SFS right for the whole of the agricultural community; economically, socially, environmentally it’s so important. And I thank you, and I welcome your statement today. We have great hopes for you, Minister. Please don’t let us down. [Laughter.] Huw Irranca-Davies AC: Okay, no pressure. [Laughter.] Look, I can give you that genuine assurance that the work in some ways only starts today, because, now,this is really the business end of delivering an SFS that is not only coherent and comprehensive, and sets an approach now for a generation, going forward, but also brings everybody with us. There's a job of work to be done with that. It's interesting that the First Minister has now joined us, and you've touched on your knowledge and background within farming. The First Minister himself also has referred to his background as well. I've got family within farming on my wife's side as well, and very different types of farming, both in Italy and in Wales, and dairy production. My own constituency, similar to Vikki—we often say, Vikki and I, we evangelise about the fact that when you look up to the hills, round about four tenths of our constituencies are upland hill farming, much of it common land, some of it tenanted, but multigenerational farmers as well. Coming off Sealands farm this morning, seeing the work they're doing, which almost looks to the future—they're actually quite well ahead in many areas—you think of all the good work that is going on and we need to make that, then, commonplace through the way that we design this scheme. Just finally, on your matter on cross-border issues, I genuinely do—you wouldn't be surprised for me to say this as a former UK parliamentarian. I want to make sure that we do work well across borders on farming, but also on a range of issues as well. But I want that to be reciprocal, whether that is to do with actually having our input from other Cabinet Secretaries on trade deals and the implications for our farmers, financial settlements around the quantum of funds we will get going into farming and other matters as well, and also how we can share practice. I think all of those argue for a good, pragmatic, grown-up approach to actually working across, with other devolved nations as well as with the UK Government. Thank you very much. Y Llywydd / The Llywydd: Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. 5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar: Gwella iechyd meddwl yng Nghymru Y Llywydd / The Llywydd: Eitem 5 sydd nesaf, datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar ar wella iechyd meddwl yng Nghymru. Y Gweinidog, felly, Jayne Bryant. Jayne Bryant AC: Diolch, Llywydd.I’m really pleased that my first ministerial statement is about improving mental health in Wales as we mark Mental Health Awareness Week.The theme for this year’s event is ‘Movement: moving more for our mental health’.This week highlights the connection between the positive benefits physical activity can have on our mental health.Too often, we only talk about the impact it can have on our physical health, but we know that being active, moving, in whatever way we're able to, is really important to support our mental health and well-being. When we talk about physical activity, many of us will conjure up images of lifting weights in gyms, running marathons or organised team sports. But while it can be all of those things, physical activity is also about working with your own body to incorporate movement into our daily routines. The Chief Medical Officer for Wales recommends that working-age adults do around 150 minutes of moderate, or 75 minutes of vigorous, exercise a week. There are different recommendations for other age groups and for disabled people. But the message is clear: whatever you are able to do, benefits are achieved at levels below or above those guidelines. Doing something every day has a positive impact on our physical and mental health. It could be about taking the stairs instead of the lift, doing the parkrun, going for a walk in your local community or doing some yoga. Our 'Healthy Weight: Healthy Wales' strategy acknowledges this link between physical movement and mental well-being and supports it through a range of interventions. Our 60-plus active leisure scheme, supported by £500,000 of Welsh Government funding, helps to increase physical activity levels, confidence, strength and balance, as well as providing opportunities to increase interactions and reduce social isolation, which we know is a risk factor for poorer mental health and well-being. We have also invested in supporting the Football Association of Wales and the English Football League Trust in rolling out the Fit Fans programme to football clubs across Wales.With programmes up and running in Cardiff, Swansea, Newport and Wrexham, and projects in Aberystwyth and Newtown in the pipeline, early assessments show positive results.The schemes are not just supporting increased physical activity and weight loss, but also improvements in mental well-being.I look forward to receiving the fuller evaluation in due course. Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair. Jayne Bryant AC: We're currently consulting on our new mental health and well-being strategy, which sets out our vision for the next 10 years. Now, I want to pay tribute to the huge amount of work my predecessor, Lynne Neagle, has done in this portfolio, particularly in developing the new mental health and suicide prevention strategies and rolling out the '111 press 2' service. The new mental health strategy has a real focus on prevention, to protect and improve our mental health and well-being. This includes by being more physically active. It also highlights the interconnection between the range of things that we can do to protect our mental health. For instance, joining a local walking group to be more active also helps us feel part of a community, to connect with people and engage with nature. Such interconnectedness demonstrates that improving mental health must be a cross-Government approach to ensure that people have the knowledge, understanding and opportunity to empower them to take action. I am committed to continuing to drive this approach across Welsh Government Another priority for me is to change how we talk about and understand our mental health.Mental health has become a term that is used to describe a wide range of issues and circumstances and is often linked to NHS services, but many people don’t need specialist mental health support, and there is a range of easy-to-access services where you can get additional support, without the need for a referral from a healthcare professional. Every health board website has links to resources that can provide help and support. Mental Health Awareness Week is a good opportunity for us to reflect on what we can do change the narrative around mental health. I am, of course, committed to ensuring that mental health services are accessible to all those who need this support and to reducing waiting times. I think it’s vital that we take a preventative approach and we work across services to support the wide range of issues that can impact our mental health and well-being. We all have a role to play in improving mental health and well-being. Moving more this Mental Health Awareness Week and encouraging others to do the same is a good place to start. Diolch. Gareth Davies AS: Thank you very much for your statement this afternoon, Minister. I welcome you to your new role. I hope that you're getting to grips with the portfolio, because, certainly from the shadow side of things, it's been quite a challenge taking on some new responsibilities. I'd just like to thank my predecessor as well, James Evans, for the commitment and passion that he shared on this subject and I hope I can do it some justice from my end of the bargain as well. But thanks again for your statement this afternoon. We're speaking on this issue during Mental Health Awareness Week, so it's important that, whilst addressing the challenges in mental health treatment in Wales, we also recognise our responsibility to raise awareness, remove the social stigma regarding poor mental health and recognise that it touches everyone's life, in one way or another, with one in four of us experiencing a mental health problem every year. There are logistical challenges that I would like to address, but also areas that mental health strategies can better address. On the logistical challenges, waiting times for children's mental health support are disgraceful. A freedom of information request that we submitted revealed that children in Wales are waiting almost two years for mental health treatment; a wait of this time means that the problems that these children are presenting with will significantly become more complex and difficult to address if not dealt with in a timely fashion. In the Cardiff and Vale University Health Board, someone waited a year and two months to be seen for the first time and, in Swansea Bay University Health Board, someone waited 59 weeks for their first appointment. We shouldn't be shy about the fact that this can sometimes be the difference between life and death, and some of these young people are very vulnerable. Mind Cymru have also described these figures as very concerning. Although, overall, those on a patient pathway waiting longer than four weeks for their first child and adolescent mental health services appointment has been reducing, which is welcome news, the shocking outlier cases are a concern. And not just the outliers, but follow-up appointments are a critical issue to be addressed. There also should be some recognition of certain groups in society that are more prone to mental health challenges than others, such as those from ethnic minority communities, the elderly, the young, LGBTQ+, neurodivergent and those living in poverty. Men are also disproportionately affected by suicide, with three quarters, or 75 per cent, of all suicides being men. The unique mental health difficulties that many farmers and members of rural communities have been raised in the Senedd before by my colleague James Evans and other Members also. So, there is no one-size-fits-all strategy. Care must sometimes be tailored to the needs of certain demographics, and this is something that the mental health strategy currently fails to do. Child mental health services need the most attention, not just with the disgraceful waiting times that I have laid out, but also the Welsh Government's strategy. There has been a failure to address the so-called missing middle, with a huge gulf of children in this category who do not meet the threshold for medical diagnosis or a CAMHS referral, but for whom social prescribing or community therapy is a more appropriate remedy. Many mental health experts have also highlighted that, when the appropriate treatment for children in the missing middle is provided, it will often prevent these children from developing from more complex issues and becoming a CAMHS case. Also, many experts draw attention to how children's mental health treatment will be cut off at the age of 18, with resources suddenly withdrawn without consideration of the fact that they are still a vulnerable young person with a developing brain, and in need of continued support. There are also gross failings in the Swansea Bay University Health Board, which apologised after a patient absconded from a secure unit and went on to fatally attack their father in the family home—negligence with devastating consequences. Healthcare Inspectorate Wales has consistently found and said that care and treatment plans, or CTPs, are of poor quality, are not being co-produced, and are not being completed in accordance with primary legislation. The proposed new mental health strategy does not do enough to identify or detail what actions need to be taken, and we need to see some new ideas from the Welsh Government. We hear today what they are going to do to improve waiting times for children's mental health treatment, but we need to hear how the Welsh Government plans to address the missing middle—a large number of children who have, sadly, slipped through the net. We would like to see an independent review into all the tragic deaths of mental health patients, and to see the Minister address the recommendations of the Healthcare Inspectorate Wales report. In light of the current challenges that the Welsh Government is facing with all of these issues, I think that it would be appropriate to hear some contrition for the 8.8 per cent cut to the Welsh Government's mental health budget, which was a terrible decision at the worst possible time. I look forward to hearing your response. Thank you very much. Jayne Bryant AC: Diolch yn fawr, Gareth. Thank you very much for your kind words at the start, and I welcome you to your post as well. So, we've both come to this portfolio, and I'm sure that we'll work together on lots of issues that I am sure that we can get behind. I'm really looking forward to working with you on that, so welcome to this. I understand that you've got a lot to get to grips with, just like me, on this, so thank you for your kind words. I, too, would like to pay tribute to your predecessor as well, James Evans, who I know campaigns strongly on this issue and worked really hard on that portfolio as well, and I'm sure that you'll do that justice as well. So, thank you for mentioning James, as it gives me an opportunity to say that. You've given me lots of points to answer on that first question, and I'm sure that we'll come on to those. The first point that you made was around young people. I think that it's really important that we—. And I, again, mention Lynne Neagle and all the work that she's done in this area in the past and I know she'll continue to do in her role as Cabinet Secretary. But I just want to reiterate that protecting young people's mental health is an absolute priority for us as a Government. We must not lose sight of that. You certainly mentioned a few points on mental health waiting times. Most young people referred to mental health services will be seen within four weeks, and all health boards have plans in place to reduce waiting times. We continue to invest in a range of support to reduce the need for more specialist services, like online access to mental health and support in schools. There's a lot to do, and I can assure you that I'll be keeping my eye on that as well, and I look forward to working with you on that, as with others. You also mentioned some points around the draft strategy. It gives me an opportunity to mention the draft strategy that's out for consultation at the moment. The consultation closes on 11 June. I hope that you can encourage as many people as possible to contribute to that strategy, because it's important that we do everything we can to move forward in that space. So, again, a reminder that it's 11 June that that consultation closes, and it's our draft mental health and well-being strategy. There's also a new draft suicide and self-harm prevention strategy, which is also out for consultation at the same time. Our policy aim of early intervention and prevention is really to help upstream, to prevent those with a mental health related need requiring specialist case, whilst, at the same time, improving access to specialist care when that is clinically needed. We've included a focus on the particular needs of those with a severe and enduring mental health illness within the draft mental health and well-being strategy as well. But this is a really important area that we need to get right. You also mentioned particular groups, and I just wanted to say a bit about farming, which you touched on. We've just heard from the Cabinet Secretary as well. One of the events that I was fortunate to go to myself a few weeks ago was an event hosted here in the Senedd, and there a really interesting presentation by a group in Powys, Mamwlad, and it was really good to hear about the work they've been doing, trying to work with farmers and the farming community in that area. It's a project in collaboration between Care and Repair in Powys and Age Cymru Powys, and I'd really encourage you to take a look at that as well. I think it's really important to pick out those areas where there's some really good work, and I'm sure I'll learn more about those positive benefits. I've also spoken to farmers in my own community, in my personal capacity as a Senedd Member, in an area where you don't—it's an urban area—often think of many farmers in particular, and some of the isolation that they might feel. So, it is really important that we remember those groups, and it's important that we do all we can to raise awareness within the farming industry of the importance of looking after mental and physical health. Mabon ap Gwynfor AS: Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad y prynhawn yma. Hoffwn i gychwyn drwy ei llongyfarch hi ar ei phenodiad i'r rôl yma, a dwi'n edrych ymlaen i gydweithio efo hi ar fater sydd mor bwysig. Mabon ap Gwynfor AS: Before going after specific policy areas or issues, it's worth highlighting one issue that should underpin all others when dealing with broader mental health issues: all new strategies and policy initiatives need to be underpinned by a robust mental health data set. Mind Cymru has recommended developing an effective and transparent set of national indicators, both output and outcome, on mental health, to guide investment and prioritisation. This is also the case for ensuring greater transparency around how the investment made by the Welsh Government, or health boards and other public sector organisations, is making the biggest possible impact. So, can the Minister explain what actions she will be taking to ensure improved data sets and data gathering? Every time we've had a statement or a debate in this Siambr on mental health, I've made a point of urging the Government to concentrate on perinatal mental health. I therefore welcome the fact that the Minister is Minister for Mental Health and Early Years, and how the First Minister put great emphasis on the importance of the first 1,000 days of a child's life during his leadership campaign. But this is where that rhetoric is now tested. That first 1,000 days of a baby's life starts with having a healthy mother and, sadly, far too often, new mothers are left to look after themselves and suffer in silence. New and expectant parents are disproportionately at risk of experiencing poor mental health, with up to one in five mums affected in the UK, and one in 10 dads also experience mental health problems during the perinatal period. If left untreated, perinatal mental health problems can have a devastating impact on the mental and physical health of mums, partners and babies. While there has been positive progress in establishing specialist perinatal mental health services in Wales, worrying gaps remain, and none of the seven perinatal mental health services in Wales currently meet the 100 per cent of type 1 national College Centre for Quality Improvement standards. The latest MBRRACE-UK report on the confidential inquiry into maternal deaths in the UK and Ireland has shown that 40 per cent of maternal deaths in the first postnatal year are due to mental ill health, and that suicide remains the leading cause of direct maternal death in the first postnatal year. So, how will a new mental health strategy for Wales deal in particular with the issue of perinatal mental health? Looking next at rural communities, which you touched on earlier, I might also suggest the need for a particular and tailored approach to tackling poor mental health in our rural communities. A 2023 survey by the Farm Safety Foundation found that 94 per cent of farmers under 40 believe that serious mental health problems are the main challenges facing the sector. According to the Farmers Union of Wales, paperwork and animal health were key causes of stress for farmers. So, will a new mental health strategy seek to deal with the causes and consequences of poor mental health in rural areas, and how will the Minister work with the Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs, and indeed other members of the Cabinet, to deliver this? The Minister referred to the 60-plus active leisure scheme, and how proud the Government is of the scheme. Can she confirm that the budget for this scheme hasn’t changed over the last year, and that that budget will be maintained moving forward? Finally, to touch on the majority of the statement made today, I note that the statement puts great responsibility on individuals to look after their health by taking physical exercise. This follows the Cabinet Secretary’s regular statements calling on people to take personal responsibility. However, we know that people’s mental health is linked to their childhood experiences and their economic circumstances, such as poverty and deprivation, so does the Minister not agree that this Government should do more to tackle poverty, domestic violence and other key factors that would help in our ambition to improve people’s mental health, instead of putting blame on individuals? Thank you. Jayne Bryant AC: Diolch, Mabon, and thank you very much as well. I’m really looking forward to working with you in this brief, so thank you for your welcome as well. Diolch yn fawr. On your points around data and the mental health programme, we have provided £2.2 million to establish a strategic mental health programme within the NHS Wales Executive, which will drive improvements in the quality, safety and performance of services, and reduce variation in services. Within the strategy, we’re clear that to deliver both effective and person-centred services, we need to drive improvements within our care and treatment planning, and this will be a key focus of the strategic programme for mental health. You mentioned the first 1,000 days and the importance of that, and thank you for raising that and also the important issue around perinatal mental health. I know that you have a keen interest in that, and I appreciate you acknowledging the work that’s gone ahead on specialist perinatal mental health and the progress that’s been made on that. We remain committed to improving perinatal mental health services. This is a priority area for action within the refreshed 'Together for Mental Health' delivery plan. Since 2015, we’ve invested in specialist perinatal mental health. There are now services in every health board area and over £3 million of mental health service improvement funding is supporting these services annually. Health boards are also working towards meeting the relevant Royal College of Psychiatrists' quality standards, and we have made service improvement funding available in order to support that. The national clinical lead for perinatal mental health is leading the national network’s work programme. This includes the development of a fully integrated care pathway and supporting health boards to work towards meeting the Royal College of Psychiatrists' quality standards. So, there is work going on in that area and we will continue to do that. On the point you made around the 60-plus active leisure scheme, promoting physical activity amongst older people is facilitated through that scheme. Our 'Healthy Weight: Healthy Wales' delivery plan commits to the scheme via an investment of £500,000 per annum, and we also provide that transformation programme funding of over £500,000 across 2022-23, 2023-24 to the Football Association of Wales for the Fit Fans programme, which I have already mentioned. So, there is a lot of work going on in this area, but we will continue to progress that. Vikki Howells AC: Thank you, Minister, for your statement and I'm delighted to welcome you to your role. I'd like to begin with social prescribing, which I feel has a really important role to play in improving mental health, and one that especially fits with this year's theme of movement in mind. I've seen the benefits of this time and again through the excellent work of Cynon Valley Organic Adventures in Abercynon, and I know that Jan and her team would be delighted to welcome you, Minister, if you ever wanted to visit. So, for my first question I'd like to ask: in the context of the national framework for social prescribing, how is Welsh Government working not only to increase opportunities for social prescribing, but also awareness of the benefits of social prescribing too? Secondly, I was privileged to join New Horizons Mental Health in Aberdare this morning for their event to mark Mental Health Awareness Week. It was a celebration of the importance of positive mental health, but also a recognition of the important role that charities and other grass-roots organisations play in supporting people in the community. So, how can Welsh Government best support and engage with local groups such as those, so that they can help the people living around them in turn? Thank you. Jayne Bryant AC: Thank you for that question, Vikki, and I appreciate your kind comments at the start. Diolch yn fawr. You're absolutely right: social prescribing is really important. It's woven into the fabric of what Welsh Government does in terms of empowering people and communities. It really is key. I'm very happy to visit any place that you think would be really helpful for me to learn from and to see, so I look forward to doing that with you. We're clear within this strategy on the absolutely vital role that the third sector will play in its implementation. We've developed the strategy with the understanding that there will be a need to be aware of setting priorities, ensuring the best use of existing resources and an opportunity to be clear about what we can realistically deliver. And we can only do that by working together, and working together with the third sector. So, they're an important partner and I hope that you will encourage them to take part in the consultation that is out, which closes on 11 June, because it is really important that we get as many voices through that consultation as possible. Diolch yn fawr. James Evans AS: Minister, I'd also like to welcome you to your place and out of all the ministerial appointments, this was the one that I was actually quite looking forward to with all the work that you and I did together on the Children, Young People and Education Committee. I know of your commitment to improving the mental health of young people across Wales. I also look forward to working with you on the development of my mental health standards of care (Wales) Bill, which I'm looking forward to having positive, proactive engagement with the Welsh Government on, and I look forward to following that work with you. My question, Minister, is around waiting lists. We are seeing the amount of people waiting for a first appointment for the child and adolescent mental health service going up—I think Cwm Taf Morgannwg is the worst health board across Wales—but it does beg the question: how long are young people in Wales waiting for their follow-up appointment? And I think that's something that the Welsh Government currently doesn't hold in data terms, and I think that's something that the Welsh Government should look at, because, yes, we can get them their first appointment, but if they don't get the follow-up appointment they're actually still going to be in the situation that they come into the system in. So, I'd be interested in hearing your thoughts on that and whether that's something that you'd be keen to look at the new Minister for mental health. Jayne Bryant AC: Diolch yn fawr, James, and thank you very much, and I know this is an area, as I said, that you're very interested in and you've worked on over the last few years, in particular. I look forward to working with you on the work that you're doing on the Bill. We look forward to seeing some more detail around the proposals, and I know that you have invited me to a round-table. So, I look forward to attending that round-table in due course. Absolutely, I've heard your comments previously on CAMHS and your concerns around that second appointment, the follow-up appointment. We're providing £13.6 million this year to support schools to implement the whole-school approach to mental health and well-being. This will enable schools to expand and improve school counselling, deliver universal and targeted well-being interventions, and train school staff on well-being. It also will enable continued support to health boards, to provide CAMHS school in-reach across Wales, with dedicated mental health practitioners available in schools, providing consultation, liaison, advice and training. So, you know, there are things that we're looking at, and I look forward to continuing to work with you on this. Heledd Fychan AS: Gaf i ofyn, os gwelwch yn dda, Weinidog, pa effaith ydych chi'n gweld mae'r toriadau wedi'u cael ar yr hyn rydych chi'n gallu ei gynnig? Rydych chi'n sôn am bwysigrwydd y trydydd sector, ond mae o ar ei liniau, a nifer o'r gwasanaethau yma'n methu â chael eu cynnal, er yn chwarae rôl hanfodol o ran gwella iechyd meddwl. Dwi wedi cael briff gan Chwaraeon ColegauCymru ynglŷn â'r arian hollbwysig mae'r sector yn ei gael ar y funud, ond fel y byddwch chi'n gwybod, mae'r cynnydd yn y nifer o bobl ifanc sydd angen cefnogaeth wedi bod yn aruthrol, ac mae yna ansicrwydd o ran parhad yr arian hwnnw. Hefyd o ran y cynllun 60-plws, dwi'n meddwl ichi ddweud yn eich ymateb i Mabon ap Gwynfor mai £0.5 miliwn sydd ar gael—toriad o'r £1 miliwn oedd ar gael yn flaenorol. Dwi'n gwybod, yn fy rhanbarth i, fod rhai o'r gweithgareddau hynny wedi gorfod dod i ben. Felly, beth fyddwn i'n hoffi ei wybod ydy—. Rhai o'r pethau rydych chi'n eu henwi, dwi'n gwybod yn barod fod y rhain wedi'u torri, felly sut ydym ni am gynnal y lefel o gefnogaeth a chynyddu? Ac yn arbennig, os caf i, os gwelwch yn dda, Dirprwy Lywydd, jest gofyn pryd y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i'r Senedd Ieuenctid a'r hyn gwnaethon nhw yn eu hadroddiad 'Meddyliau Iau o Bwys'. Dwy flynedd yn ddiweddarach, does dim ymateb ffurfiol wedi bod; mae'n hollbwysig bod hwnna'n dod. Pryd y cân nhw eu hymateb? Jayne Bryant AC: Diolch yn fawr, Heledd, and thank you very much for your questions. Obviously, we're in very difficult financial times, and the severe budgetary constraints that the Welsh Government is facing are very real, and I know that that pressure then is put on other organisations, and you mentioned the importance of the third sector, as I have mentioned. You know, we've seen the stress on that particular sector. We are aware of that and I realise that is a very real issue. Due to the budgetary pressures, we've reduced centrally held funds by around £6 million, alongside not retaining the planned £15 million due to be included in centrally held funds for mental health, to ensure that most funding reaches those front-line services. Whilst the financial position remains challenging, we do remain committed to supporting the most vulnerable. We have invested significantly in open-access support at a national level. This provides easy access to mental health support for all, without the need for a referral from a health professional. The aim is to reduce the pressure on more specialist mental health services. And your point around Sport Wales funding and the issue around that, I will be working with other Cabinet colleagues around these sorts of issues, because it is important it's across Government as well. So, I can assure you that I'll work with Cabinet colleagues on some of those points that you've raised. The point around the Welsh Youth Parliament, in my previous role, I attended both of those sessions here in the Siambr, with the Youth Parliament, and I heard the voices very loudly, and they've been consistent over a number of years on the issues that they've raised. I'm new into this post in terms of where we are with that, so I will look into that and respond as well. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Ac yn olaf, Laura Anne Jones. Laura Anne Jones AC: Thank you. Minister, I too want to welcome you to your portfolio, and I'll watch with interest what you do with it, considering the knowledge that you have. As a fantastic former chairman of the children and young people's committee, you'll know that we've been told that there is money, apparently, to tackle mental health in schools, but schools I've visited across Wales haven't seen this money. Not only that, there has been no national approach to helping our children and young people, whilst there's been a massive rise in health problems. No national strategy, no guidance, every school has a different approach—some good, some concerningly poor. One school in my own region, in the city that we both represent, have enlisted the help of a third-party organisation, Mind Cymru, originally to be there for one day a week. But due to the high demand in that school—and many schools would chomp at the bit for this—they've increased that provision to five days a week. Minister, when are we going to see some help,some guidance and a consistent approach across Wales to tackling mental health challenges in our schools, and what are your thoughts on using third-party organisations? Will you take firm action to share the best practice that is happening across Wales, and how will you work with the Cabinet Secretary for Education to achieve this? Diolch. Jayne Bryant AC: Thank you very much, Laura. I really appreciate your warm words of welcome, and I look forward to working with you in an area that I know you feel very passionately about. As I said, protecting young people's mental health is a priority for us, it continues to be a priority for us. We are providing £13.6 million this year to support schools to implement that whole-school approach. This will enable schools to expand and improve those services such as school counselling, to deliver universal and targeted well-being interventions, and to train staff. So, there is work going on. You said that there's some really good examples as well, and I look forward to learning about and seeing some of those examples in practice. I'll also be working very closely with the Cabinet Secretary for Education. I know that you're aware of her commitment in this area as well. So, I can assure you that already we have looked at how we can work closely together, and we will continue to do that. Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Diolch i'r Gweinidog. 6. Datganiad gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol: Ein gweledigaeth ar gyfer gofal maeth yng Nghymru Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding Officer: Eitem 6 yw datganiad gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol: ein gweledigaeth ar gyfer gofal maeth yng Nghymru. Galwaf ar y Gweinidog Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden. Dawn Bowden AC: Diolch, Dirprwy Lywydd, a phrynhawn da. I very much welcome the opportunity to make my first statement as Minister for Social Care about our vision for foster care in Wales. As we enter Foster Care Fortnight, this is a real opportunity to celebrate the progress that we're making to improve fostering services and to highlight the important work foster carers do to give children and young people a loving home. There are more than 7,000 children in the care of local authorities in Wales, and many have experienced abuse and neglect. These children are among the most vulnerable in our society, and they deserve the best possible future. It's our policy to try to keep families together wherever we can, but sometimes it's not possible for children to remain with their families, so foster care is a way of offering children and young people a safe and nurturing home when their birth families are unable to do so. Our vision is for all children in foster care in Wales to have stable lives, to have trusted relationships, to feel cared for, and to benefit from high-quality foster care for as long as they need it, allowing them to make a successful transition to adulthood and independence. In the short time that I've been the Minister for Social Care, I've been impressed by what I've learned about the work that's been done to improve the fostering sector, and I want to pay tribute to the dedication and commitment of my predecessor, Julie Morgan, who has done much to promote and improve fostering. This work has been done in the face of pressures on public sector finances and the cost-of-living crisis, which has had such a huge impact on families all over Wales. Dirprwy Lywydd, at the heart of these improvements has been Foster Wales. Launched in July 2021, Foster Wales is a collaborative national network of the 22 local authority fostering teams across Wales. Its main aim is to improve the ability of local authority fostering services to recruit and retain foster carers so that we can rebalance service provision, address demands, and ultimately improve the quality of placement choice for children. But it also offers so much more. Foster Wales provides an opportunity to ensure local authority fostering services in Wales continue to develop and adapt to improve outcomes for children. Supporting Foster Wales is one of our key programme for government commitments, and we have provided £3.7 million towards its development. This funding has supported a range of new initiatives to raise the public profile and awareness of fostering, and to improve the offer for our existing foster carers. We know that we need to continually recruit more foster carers, especially if children are to be looked after in the right place, by the right people, with the right skills to meet their needs. Foster Wales is key to this and is working towards the ambitious target of recruiting an extra 800 foster families by 2026. To help raise awarenessof foster care and encourage people to consider fostering, it has undertaken several campaigns, all of which represent the voice of children and young people in care. Our efforts are having a positive effect. The awareness of the Foster Wales brand has significantly increased, and local authorities are receiving more enquiries from potential foster carers. But retention of foster carers is just as important, and we have directed significant investment towards this. Offering consistent support to our foster carers is key to retaining their expertise. Foster Wales has launched the national commitment, which is an agreed package of training, support and rewards enjoyed by every one of our foster carers in Wales. And I know that our local authorities are continuing to work hard to ensure the components outlined within this commitment are delivered on a consistent basis. In response to feedback from foster carers, we’ve also developed a learning and development framework, which offers a consistent approach across Wales. And I'm pleased that foster carers are able to access these opportunities that meet their professional and personal needs, alongside supporting them to provide high-quality care for children and young people. At the heart of our retention policy is the need to treat foster carers as equal and valued members of the team around the child. We're continuing to fund the foster well-being programme, which is delivered by the Fostering Network and promotes equality of status by bringing together all the professional networks involved in supporting children who are looked after, including foster carers. Income is often an important consideration for families thinking about or continuing fostering, and I believe that those who care for our children should be adequately resourced to cover the costs of the children in their care. We are in the process of undertaking a comprehensive piece of work to identify the costs of introducing a new approach to fostering allowances that focuses on the actual costs of caring for a child. I understand and recognise how ambitious our programme of work has been, and the progress we've made to date has been considerable. It's thanks to the energy and the commitment of dedicated staff from across our fostering regions, our third sector partners and our foster carersthat we've been able to achieve so much. However, there's more we can and should be doing to ensure our fostering services in Wales are as effective and efficient as they can be. We've seen the beginnings of a transformation in foster care, and I'm committed to continuing to review our policies and practices in Wales, to ensure that our foster families and fostering services have the support they need to guarantee the best outcomes for the children in their care. I'm very much looking forward to continuing our journey to develop an effective, co-ordinated Wales-wide approach to transforming our foster care services, and ultimately building better futures for our children here in Wales. Diolch yn fawr. Altaf Hussain AS: Thank you for your statement, Minister. I welcome you to your new role, and I'm looking forward to working with you. I'm delighted to help highlight Foster Care Fortnight and celebrate the role of foster carers in Wales. Foster carers transform the lives of children and young people who, through no fault of their own, enter the care system. It is right that we put on record our sincere thanks to everyone involved in fostering. Sadly, in the past decade, we have seen the number of looked-after children increase by over a third. Yet, at the same time, we have seen a decrease in the number of foster carers. While I welcome the Minister's commitment to recruit an extra 800 foster families by 2026, we need action now. According to the Fostering Network, we need around 400 more fostering families today in order to provide care for children and young people across Wales. We also have an issue with the high turnover in children's social care work teams. Only half of all foster carers have had the same supervised social worker over the past two years, with some families having a staggering four or more. This lack of continuity has a dramatic effect on the child and the foster family. We have to ensurethat not only do we have sufficient foster carers, but also a sufficient social care workforce to support them. Minister, what steps are you taking to ensure that Wales recruits enough social workers to meet case loads? We know that, according to Social Care Wales, 42 per cent of all children's services social workers work primarily for an agency. What assessment have you made of the impact providing agency staff is having on children's services budgets across Wales? I welcome your commitment to the retention of foster carers. One of the biggest asks for foster families is official recognition. The Fostering Network has long called for a national register of foster carers, which would improve their status, both within the sector and in the public eye. Minister, can you provide an update on the Welsh Government's position on such a register? Will you support its urgent introduction? I also welcome the commitment to looking at the fostering allowances. Minister, can you confirm whether or not you are looking at the harmonised rates suggested by Pro Bono Economics and the Fostering Network? Can you also confirm whether allowances are to be harmonised across Wales or left to the individual children's services departments? Finally, Minister, we have had two successful pilots of a scheme that uses foster carers to support families to safely keep their children at home with them. This edge-of-care prevention programme has proven successful at keeping children out of care. Children's services are under tremendous pressure, and we have seen large delays in section 47 assessments in some parts of the country. The Step Up Step Down programme could help alleviate some of that pressure. Minister, do you have any plans to roll out this programme across Wales? Thank you again for your statement, and I look forward to working with you to improve fostering services in Wales. Diolch yn fawr iawn. Dawn Bowden AC: Thank you, Altaf, for those comments, and the number of very important points that you've made. Can I start by joining you in thanking all of those foster carers who provide that invaluable service, as you say, to some of the most vulnerable children in our society? It is a concern to all of us, isn't it, to see the number of children in care in Wales. Per head of the children's population, we have more children in care in Wales than in any other part of the UK. I don't believe for one moment that that is because the children in Wales are any different to the rest of the UK. But we have to take a very different approach to the way in which we look after those children on the edge of care and coming into care. And that's why the recruitment campaigns that we've been doing around foster carers are so important. There has been a significant number of those recruitment campaigns, and we are seeing some results from that, as I said in my statement. We're seeing an increased number of expressions of interest to come into foster care, but we need to translate those expressions of interest into people actually coming forward and taking up that responsibility. But just as important to that is retaining those foster carers in the system. And I say that's important because we have a transformation of children's services programme in Wales, which comprises lots of radical reform about the way that we deal with children's services up to and including children who are looked after. And part of that transformation programme is that we try to keep as many of those children out of residential care as we possibly can. In order to do that, we have to do a number of things, one of which you've already touched on, and that's keeping children at home. That's working with families and carers to enable those children to stay safely in the families that they were either born into or that they live with. If we can do that, then obviously that takes the pressure off the children's residential service, Dawn Bowden AC: the children's residential service, which we know is a major problem for us in terms of the number of places available. We need to keep children in their own communities, and we know that that is problematic. So many children, when they go into care, are placed into residential care that is a long way from where they live, is out of county; sometimes it's even in England. So, all of that we have to look at within the transformation of children's services programme that we have. We're in the early stages of that programme, but it can be transformational if it works. And all of that is leading to various pieces of legislation that we're going to introduce. I will be introducing the social care Bill next week, which will move towards the elimination of profit in children's services. We think that that is hugely important, because we think that any income and any fees associated with children's care should be reinvested into children's care and not given out as dividends to shareholders. And I'm afraid we're seeing too many hedge companies and so on moving into that space at the moment, seeing the children's care sector as a place to make a quick buck. So, the national register, Altaf, that you talked about, that's really important. It's something that the sector has called for for a long time, and I just want to reaffirm that I'm committed to considering introducing a national register. We need to work with the sector on that and take all of those views into account. We've had initial discussions with the fostering network around that. We've got to do it in consultation with the sector, because it isn't straightforward. It is quite complex, but it is something that needs to be undertaken in a timely and controlled way, ensuring that it's going to be properly resourced. But, I'm very committed to working towards that. Sioned Williams AS: Diolch am y datganiad, Weinidog. Rwy'n falch o nodi hefyd, ar ran Plaid Cymru, pwysigrwydd Pythefnos Gofal Maeth ac, wrth gwrs, gwerth amhrisiadwy gofalwyr maeth. Mae Plaid Cymru hefyd yn falch o'r cynnydd sydd wedi'i wneud trwy'r cytundeb cydweithio, cynnydd roedd mawr ei angen i gymryd camau tuag at waredu ar elw mewn gofal. Ac mae'n bwysig bod lleisiau plant a phobl ifanc wrth galon yr hyn sy'n digwydd i wella'r gofal maen nhw'n ei dderbyn yng Nghymru. Mae bron yn flwyddyn yn union ers i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gyhoeddi adroddiad ar ddiwygio radical o fewn y sector gofal. Roeddwn i'n aelod o'r pwyllgor ar y pryd, ac fe glywon ni yn uniongyrchol gan blant a phobl ifanc am eu profiadau o ofal—nifer yn teimlo'n gryf iawn bod rhai gofalwyr maeth wedi eu cymell yn ormodol gan elw. A mynegwyd hyn yn glir gan aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, Rosemary Squires, un o fy etholwyr i o Abertawe, a phwysleisiodd yn ei geiriau syml ond grymus hi, 'Pobl ŷm ni, nid elw'. Fe ddywedoch chi yn eich datganiad, Weinidog, bod y plant yma yn ein gofal fel rhieni corfforaethol ymhlith aelodau mwyaf bregus ein cymdeithas, eu bod nhw, yn eich geiriau chi, yn haeddu'r dyfodol gorau posib. Felly, o gofio y gwnaeth y pwyllgor waith manwl ar yr hyn a fyddai'n gwella eu profiad o fod mewn gofal mewn modd gwirioneddol radical, ac o ystyried y gwnaeth y Llywodraeth wrthod pob argymhelliad o ran y diwygiadau radical hynny roeddwn i am eu gweld, namyn un, a ydych chi'n hyderus bod y gwaith sy'n cael ei gyflawni yn ddigonol i gwrdd â'r her a osodwyd gan y bobl ifanc a lywiodd gwaith y pwyllgor? Fedrwch chi roi gwybod i ni sut mae'r adroddiad hwnnw wedi llywio eich gweledigaeth chi o ran maethu yn benodol? Fe wnaeth Altaf Hussain godi'r mater o'r gofrestr, a gwnaethoch chi ddweud bod y gwaith ar hynny yn gorfod mynd rhagddo. Wel, fel rhan o ymateb y Llywodraeth i adroddiad y pwyllgor, fe gytunodd y Llywodraeth i ddatblygu cofrestr genedlaethol achos byddai'n rhywbeth a fyddai'n codi statws a chydnabyddiaeth ar eu cyfer, yn gwella diogelu plant a chynnig darlun gwell o'r ddarpariaeth a'r gefnogaeth sydd ar gael ar draws Cymru. Mae'n flwyddyn ers inni gael yr ymrwymiad yna, felly allwn ni gael diweddariad ar yn union beth sy'n digwydd, achos roedd yn swnio fel bod dim lot wedi digwydd o ran hynny? Ac o ran y cynlluniau sydd ar droed gwnaethoch chi restru heddiw a'r buddsoddiad yna sydd wedi'i wneud, sut bydd cynnydd yn cael ei fesur a sut y byddwch chi'n gwerthuso effeithiolrwydd y cynlluniau yma? Roedd eich rhagflaenydd, Julie Morgan, yn frwd iawn dros y siarter rhianta corfforaethol. Oes modd ichi roi Sioned Williams AS: Oes modd i chi roi enghreifftiau inni o sut y mae’r siarter wedi gwella’r gwasanaethau y mae plant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal yn eu derbyn gan gyrff cyhoeddus? Ac o gofio ei bod hi’n siarter wirfoddol, oes yna gysondeb nawr awr ar draws Cymru? Fe wnaethoch chi hefyd sôn fanna datganiad am y targed yma sydd gan Faethu Cymru o recriwtio 800 o deuluoedd maeth erbyn 2026. Mae’r Rhwydwaith Maethu yn dweud bod Cymru 400 o leiaf yn brin o ofalwyr maeth ar hyn o bryd; felly mi wnaethoch chi ddweud bod yna gynnydd yn hyn o beth, ond wnaethon ni ddim cael lot o eglurder o ran faint o gynnydd. Felly, o ystyried bod Maethu Cymru wedi bod wrthi nawr ers rhai blynyddoedd, oes modd i chi roi syniad inni o pa mor agos ydym ni at gyrraedd y nod yna o 800? Fe sonioch chi hefyd am y broses yma sy’n mynd rhagddi o ran edrych ar ffocws newydd ar gyfer lwfansau maethu, gan y dylai’r rhai sy’n gofalu dderbyn cyllid ddigonol i ddarparu’r gofal gorau posib. Wel, eto, fe glywon ni’r union eiriau hyn gan eich rhagflaenydd ddwy flynedd yn ôl mewn ymateb i gwestiwn gan Heledd Fychan, felly pa waith sydd wedi cael ei wneud eisoes ar hyn? Liciwn i wybod ychydig bach mwy o fanylion, os gwelwch yn dda; a hefyd pryd fydd y gwaith, ydych chi’n meddwl, yn cael ei gwblhau? Ac yn olaf, hoffwn i wybod sut yr ydych yn sicrhau bod barn plant a phobl ifanc sydd mewn gofal yn cael eu clywed o ran datblygiad ac effeithioldeb y cynlluniau newydd yma. A yw maint eu huchelgais nhw yn y cynlluniau yma yn cwrdd â dyheadau’r bobl ifanc, a’n dyletswydd ni fel rhieni corfforaethol i sicrhau i’r bobl ifanc yma y tegwch a’r dyfodol gwell y maen nhw’n ei haeddu? Diolch. Dawn Bowden AC: Diolch yn fawr iawn, Sioned, for those very important points and questions and can I say how appreciative I am of the work that we have done with Plaid Cymru to deliver the programme for government commitments around the transforming children’s services programme? Because that will be transformational, in my view, when we are able to deliver all of the policies that are contained therein. These things don’t happen overnight and I know you understand that. These are long-term programmes with a particular aim. In terms of the eliminating profit from child residential childcare, we’re talking about a 10-year programme to move from where we are now to where we want to be. We know that that will take some time in terms of the transition from where we are now to getting profit out of the sector. All of those organisations that are in the sector for profit, we want as many of those to transfer into the third sector or to the not-for-profit model. Some of them may be prepared to do that; a number of them and a bigger reward. We’re working on the basis that a number of them won’t, and so therefore, we have to have alternatives in place, and as I said in my response to Altaf Hussain, foster carers will be critical and crucial in that, in delivering the kind of care that we would want to see that keeps them out of residential services. I know that my predecessor Julie Morgan was very grateful to the children and young people’s committee, as am I, in terms of the work that was done and I’ve had conversations with Jayne Bryant who was the previous Chair of that committee, so we’ve been able to catch up on a number of pieces of work that you did on the radical reform, and the evidence from that inquiry was hugely important, and I don’t want anybody to think that we haven’t taken any notice of what those children said in that committee in public, because that was very, very important evidence for us. And the fact that we didn’t accept all of the recommendations—we actually accepted in part or in whole around 20 of the recommendations—[Interruption.]—. Yes, albeit what we didn’t accept was that there was the need to do a lot of that through legislation. So, I think it’s important to say that what we were looking at in the evidence that the committee had was that our programme, that radical programme that we’re trying to transform children services in, and which Plaid Cymru have been very much part of, a lot of those areas of work that we’re doing there is informed by the evidence that those young people gave to that committee. The fact that it’s not necessarily in legislation doesn’t mean that it isn’t being utilised and it’s not going to form part of our work. You’ve asked particularly about the national fostering register, and I briefly responded to Altaf, and as I say, I’ll repeat what I said then. Dawn Bowden AC: what I said then. We do know, and we are aware, that stakeholders have been asking for this for some time, and although there are a lot of benefits to introducing a national register, we do have to take a balanced view in terms of whether or not we adopt that. As I said, although I'm committed to considering the introduction of such a register, we do have to work with the sector and take all those views into account when deciding whether or not that is the right way forward. We are in discussions with The Fostering Network around that. We're undertaking a scoping exercise to establish what a national register could actually look like, whether there are any legislative requirements attached to that and what the operational feasibility of that might be. So, we'll continue down that road, it's something that I'm keen to continue looking at, and we'll report back in due course. The other thing—sorry, Altaf, you did raise it and I didn't specifically answer it, but I'll answer it from Sioned instead—is around the financial support for foster carers. It's important to say, isn't it, that foster carers come into foster caring for the right reasons. They don't come into it for the money, but when they do come into it, we have to make sure that they are properly remunerated for what they're doing and that the level of allowance that they get is commensurate with the type of child that they're looking after. There are differences in how much a child costs. You know if you've had children yourself that at different stages of their life—mine are adults now, they cost me more than they did when they were babies. This is how it is. And so we have to take all of that into account. The payments for foster carers, as you will know, are diverse, right the way across Wales. So, although we have the national minimum allowance, which is the same in every local authority, we do see differences in each local authority. Some local authorities introduce additional benefits to go alongside the national minimum allowance, so we do see some authorities that reduce council tax, that give free access to leisure services, provide free car parking. They give birthday allowances and Christmas allowances and so on. But it's not consistent across the 22 local authorities, and that's part of the work that we are looking at. We commissioned a report to have a look at that, we also asked Foster Wales to undertake a comprehensive piece of work to identify the costs of introducing a new approach to fostering allowances, and, at the moment, we are in the process of analysing those reports. That isn't going to come without a cost, and there's no point me standing here and just saying that we can deliver huge increases in those allowances, but we do want to make them more equitable—[Interruption.]—and we do want to—. Yes, we absolutely do want to make sure that there's a fair allowance and there's an equitable allowance and that it's consistent across the 22 authorities. So, that's a piece of work that is ongoing. I'm trying to think what else you asked me. Measures—how we'd measure that. So, as part of the standard grant monitoring arrangements, we've got regular meetings with Foster Wales and members of its governance board to discuss performance and metrics. Foster Wales is also a member of the transformation delivery group, which has been established to lead and drive forward the delivery of our transformation programme. That group has established two work streams to look at data metrics to drive and monitor progress, as well as early intervention and prevention to ensure join-up and effective delivery. But, ultimately, what I would say is we will know that our programme has been delivered successfully if we see fewer children in care, we see fewer children being placed in care far away from home or out of county and we see that we have more foster carers coming into our networks so that children can have a more acceptable looked-after life, if you like, in a family setting. So, that's how I would like to see all of that happening, and I think that was everything that you asked. I think I covered everything, anyway, but thank you, Sioned. Julie Morgan AC: Thank you very much to the Minister for making this very important statement today during Foster Care Fortnight. I'd also like to start off by putting on record my thanks to all the foster carers, whose impact on children can be transformational. So, I'll just very briefly touch on a couple of matters. One of the big issues that care-experienced young people have said to me, during the lots of contacts that I've had with them, about foster care is they consistently bring up the issue of not having enough flexibility in their day-to-day life. They raise the issue of not being able to stay away overnight without getting permission from the social worker, which I don't think is actually necessary, but they still have this perception and that's what's happened, and the ability to go to after-school clubs and going out for tea. I wondered if there was anything you could think of that would help make that more flexible. That was one of the issues that the young people brought up. The other issue was the importance of being placed with sisters and brothers and how crucial that was and, again, that is very important to the young people. That was one of their big, important issues. And then, finally—I think Altaf Hussain did raise this—the step-up, step-down programme piloted in Pembrokeshire. I know that the Welsh Government's ambition is to keep children at home and I wondered if you had any measure of how successful that was and whether you are going to be able to extend it. Dawn Bowden AC: Can I thank you, Julie, for those questions? And again, thank you so much for the work that you've done already in this field; I feel like I'm coming in on the back of somebody who is making my job an awful lot easier, because of everything that you did in the lead up to me being appointed as a Minister. So, diolch yn fawr for that. The first thing I would say is that, this morning, actually, I was at the national fostering network round-table and, having that opportunity to sit down and talk directly with foster carers, I don't think there's anything that can substitute for that. You can have briefings from officials and you can talk to people, but actually being sat around a table in the same room, with people who are giving you their lived experience of the kind of things that they have to deal with—. It was interesting that somebody actually raised that very point this morning about—. If you can believe this, they had a child in their care who needed an emergency dental appointment and they took them to the hospital, but, because they weren't the parent or the legal guardian of the child, the hospital couldn't perform the procedure. Now, it was sorted out, but it was an unnecessary delay when this child needed some treatment, because the foster carer didn't have that authority to do it. So, there's all this stuff around that delegated authority, isn't there, and making sure that local authorities, really, are aware of the importance of reducing the unnecessary bureaucracy around that. We know that we've got legislation and supporting guidance that ensures that foster carers are authorised to make those kinds of everyday decisions about their foster child, wherever it is possible. The key to this is about social workers liaising more closely with the foster parents, and, again, I heard stories this morning of where that doesn't always work very effectively. We are in the process of delivering a national framework that you'll be familiar with and that has got to be—if it does nothing else, it has got to be—about having a consistency of approach across all 22 authorities, much like in my response to Sioned Williams around the foster carer allowances. The way in which social services interact with foster carers and the support that they give needs to be consistent as well. So, I think that's another key piece of work that we need to make sure that we develop, and deliver the kinds of outcomes that you're talking about, particularly when we're talking about—. You know, children are children and they need to play with other children and they shouldn't have things like that put as a barrier in the way, to stop them doing that, going and having interaction with friends and so on. You talked about the step-up, step-down pilot—and sorry, Altaf, you did raise this as well—but, again, as part of our transformation of children's services programme, we take the view that, no matter where children live, we want to support them to remain with their families, where possible, with fewer children and young people entering into care. So, we did work alongside the Fostering Network and our statutory sector, as you say, to launch this pilot in Pembrokeshire to support vulnerable families. That pilot offers a very innovative approach to supporting families on the edge of care by providing specialist, highly trained family support to foster carers, who can provide time-limited and preventative support to those families in need, helping them to stay together. Now, I understand that the pilot is going very well, but it was only launched in November last year. So, it’s still early days and too soon to have done any significant evaluation yet. However, I do plan to visit Northern Ireland soon to learn more about the success of the programme there, as we're looking to the future roll-out across Wales. So, hopefully, I'll be in a position to come back to the Senedd and report on progress on that roll-out in the not-too-distant future. Daeth y Llywydd i’r Gadair. Y Llywydd / The Llywydd: Finally, Jane Dodds. Jane Dodds AS: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Thank you so muchfor your statement on this really important issue, and I would also like to record my thanks to all foster carers. They are awesome. I, myself, have been responsible for placing children with foster carers at any time of the day or night. They receive children that they often know very, very little about. These are, sadly, traumatised and vulnerable children, who we leave with them, and they do an amazing job. I’m pleased to hear that you have in your view the step-up, step-down programme, because that will be transformational to keep children at home, but to make sure that our foster carers feel part of a child’s life. Having taken them on at their most vulnerable point, it’s so rewarding then to see, hopefully, them returning home, and being part of that. I would just like to ask you this one specific question. Given all that we've said about foster carers, they need to be paid. They need to be salaried. They should not have to not be paid when they don’t have children with them, which is the current situation. It’s unacceptable. We would not accept that people, when they have holidays, are not getting paid. So, I would like you, in your consideration—I don’t expect an answer now, because I know we've overrun—to please look at salaried foster carer schemes. Thank you. Diolch yn fawr iawn. Dawn Bowden AC: Thank you, Jane Dodds, for that. Just on that very specific question, I'm certainly happy to look at that. We are looking at the whole process of payment for foster carers. We are looking at the harmonisation of formal foster carers with kinship carers, because we know that there are differentials between those as well. I don't know that we have a specific piece of work on salaried foster carers just yet, but I will certainly take that back and discuss that with officials and come back to you and let you know. Thank you. Y Llywydd / The Llywydd: Diolch i'r Gweinidog. 7. Datganiad gan y Prif Weinidog: Tata Steel Y Llywydd / The Llywydd: Yr eitem nesaf fydd y datganiad gan y Prif Weinidog ar Tata Steel. Vaughan Gething, felly, i wneud y datganiad. Vaughan Gething AC: Diolch, Llywydd. As Members are aware, I travelled to Mumbai on Thursday 9 May to meet with the managing director and the chief financial officer of Tata Steel. They will ultimately decide the future of the Tata's Welsh facilities. We discussed the significance of the steel sector to Wales and the rest of the UK, together with its essential contribution to economic growth and our collective security. During extensive talks, I strongly emphasised the need to avoid compulsory redundancies across Welsh sites and the importance of maintaining their downstream operations. I want to ensure that production levels are fully maintained, with a longer term future at Trostre, Shotton, Llanwern and Caerphilly. As a UK general election could arrive as soon as this summer, I reiterated the Welsh Government's call for the company not to make irreversible choices ahead of an election that could materially change the industry's future. We have consistently and proudly made the case from the Welsh Government that Wales deserves the best deal for steel, not the cheapest deal. It is disappointing that the formal consultation has now concluded, and, as a result, we have to plan on the basis that blast furnace 5 will close in June, and to make preparations for blast furnace 4 closing by the end of September. Negotiations on wider issues affecting the workforce with the steel trades unions are ongoing. Vaughan Gething AC: The Cabinet Secretary for the Economy, Energy and Welsh Language and I will maintain a close dialogue with trade union colleagues on this matter. The Cabinet Secretary is arranging a visit to Llanwern to discuss in further detail how we can best support the priorities of the workforce as talks continue. As well as urging an approach that avoids compulsory redundancies, it is important that workers who remain with the company are rewarded with pay that recognises their skills, talent and dedication.The Welsh Government continues to engage with the transition board. We will press the case for rapid action from partners over the coming months. To focus our support measures, we require detailed information on those affected by transition plans in order to ensure that support can be provided quickly to employees and suppliers. The supply chain within Wales is significant and reaches beyond steel communities directly. The company has agreed to share this information, and I look forward to the Welsh Government working with them and our wider partners on these crucial details that will impact on the lives of thousands of workers and businesses. In the course of our talks, I also highlighted the difficulties of dealing effectively with the current UK Government and stressed once more that we still do not know the conditions of the £500 million grant from the UK Government. This is an unacceptable situation for any Welsh Government to find itself in. I still find it remarkable that the UK Government's Business Secretary refused to meet with me at any point in my time as the Economy Minister, and has more recently failed to engage in the transition process. I recognise the widespread impact that this planned transition will have if Tata implement their publicly stated plan. It will affect communities and people right across Wales. That is why we have urged the business to think again, if they are determined to act ahead of a general election, then they must ensure that current production levels are maintained across the entire downstream operation. It is welcome that, during our talks, the company set out that they have and will have sufficient reserves of hot-rolled coil and slab to guarantee the current production levels of all their downstream operations. That will be hugely important to the workforce at Trostre, Shotton, Llanwern and Caerphilly. I've also asked for clarity on Tata's plans for the electric arc furnace build, including, of course, the importance of using Welsh companies as much as possible, supporting local jobs, to build and develop the process. We will work with businesses to explore how the Welsh Government can encourage the urgent work required to maximise the potential investment and employment this can bring to steel communities and Wales as a whole. It is a fact that there is still community concern that the EAF may not be built. I made clear to Tata that clarity on the planning process is, therefore, important. I raised concerns over the quality of the air-produced steel and discussed the need to ensure that customers can rely on steel produced through this process. I understand that research, development and innovation projects will be in place to ensure that all their current operations can be supported, and we will, of course, be monitoring progress on this matter very carefully. We discussed important areas of shared interest, including investment opportunities in and around Port Talbot and collaboration with Welsh universities, particularly Swansea, on all areas of green steel production. This includes scrap processing and construction, amongst other priorities. I was able to highlight the significant investment and jobs opportunity represented by the Global Centre of Rail Excellencein Onllwyn, and I am pleased to confirm that the company agreed to consider a memorandum of understanding with GCRE. Welsh Government officials and Tata senior executives are meeting in Onllwyn today to discuss this MOU. I hope that this work can lead to quality employment opportunities for workers who will be affected directly by the transition. The final issue I raised was my concern over funding for the Steel and Metals Institute in Swansea, which is so critical to finding innovative ways of supporting green steel production. I'm pleased to confirm that the company has agreed to consider funding a significant number of positions. My officials will be taking this work forward over the coming weeks, Vaughan Gething AC: my officials will be taking forward this work over the coming weeks, of course with the economy and energy Secretary, who is the lead Minister in the Government for our work with Tata. Llywydd, it remains the view of this Government that the outcome we are facing and the loss it represents was preventable, and is still preventable. For many years, the Welsh Government has made the case for a fully fledged UK industrial strategy that prizes our sovereign assets and links business investment to long-term growth beyond London and the south-east. This is the fundamental shift that is required to unlock the ambition of our steel industry, and what we should all expect from any UK Government—a level of ambition and practical support that our steelworkers deserve and I believe our country needs. Steel is the thread that will run through the economy of today and tomorrow. The UK Government was asked whether it has the ambition to make Wales and the UK the centre of that greener future. So far, it is impossible to describe the answer as anything other than 'no'. Talented Welsh workers make high-quality Welsh steel, and their work is good for growth and good for security. They deserve the backing of an ambitious Government with the tools to back them. Thank you, Llywydd. Andrew R.T. Davies AC: First Minister, thank you for your statement this afternoon. If anyone wants to try and understand the gravity of the situation, the BBC headline this morning on the 2,000 job losses reaching into the communities of Aberavon and the surrounding area, not just the steelworkers, but also the subcontractors, the community facilities that rely, obviously, on such a big employer—it will be a massive, detrimental, I would suggest, transformation in the short term. I've put on record the Welsh Conservatives' position that we would have liked to have seen at least one of those blast furnaces staying open until, obviously, the arc furnaces had come into existence and profitable production. I do take issue with your point that you say that the UK Government doesn't have ambition when it comes to steel. By putting £500 million on the table and working with Tata Steel, that is making sure that Wales will stay at the forefront of steel-making production here in Wales. But that doesn't underestimate the very serious short-term consequences of the Tata announcement back in September. I think I've heard you say, First Minister, the you regret that the business Secretary has never visited the plant. She was there in September with the Secretary of State when, sadly, that disappointing news about the closure of the blast furnaces was being announced, and also then highlighting the news of the £500 million of UK Government investment, along with the £100 million that has been put on the table for the transition board. It would be worth trying to understand—you make much play of the general election coming in the coming months—have you had discussions with the front bench in Westminster of your own party, and have you sought assurances from that front bench? Those assurances clearly are not strong enough to convince the company to actually stay their hand and ultimately wait, if there were to be a change of government, which I hope there won't be—I hope that the Conservatives win that general election. But clearly, you went to Mumbai with a set of proposals. Were those proposals identified as Keir Starmer's proposals, that he would adopt if he was to be the Prime Minister? Why did Tata Steel not feel confident enough to say, 'Okay, we'll take you at your word, First Minister. There is an alternative here', rather than proceed with what is on the table, £500 million of UK Government money with two arc furnaces protecting jobs and making sure that Wales will be at the forefront of steel-making production? I also heard you, in response to the Plaid Cymru Member for South Wales West earlier this afternoon, questioning the structure of the transition board. It's the first time I've heard you raise concerns about the transition board and the way it has been constructed. You were vice-chairman of that, I think, when you were Minister of the economy. I believe the new Minister is the current vice-chairman of that. I struggle to see why, if you had such a big role to play in establishing that transition board, you are now casting doubt on its ability to deliver for the workers who sadly will be losing their jobs in Port Talbot, and obviously making best use of that money that the UK Government has put on the table. Andrew R.T. Davies AC: that the UK Government has put on the table. I'd also like to try and understand from your statement this afternoon what type of data you are trying to secure off Tata Steel to try and understand a) about the directly-employed employees affected by, obviously, this announcement, but equally important is the subcontractors who most probably tally up to the same number as those who are directly employed who are sadly going to be losing their livelihoods. So, could I try and understand, and I support you and the Government in their efforts in trying to get hold of this data to, obviously, tailor the support that the Government is potentially able to put on the table, which notably at the moment, I think I'm correct in saying there is no Welsh Government money allocated to support for retraining purposes; all that retraining is coming out of the transition board money identified by the UK Government. You highlighted the Global Centre of Rail Excellence, and the memorandum of understanding that you hope might be crafted between Tata Steel and the global centre of excellence. Could you highlight a little bit more as to what tangible benefits you would like to see coming from that memorandum of understanding? I hope that it is speedily put in place and there are direct benefits to local communities, that might well benefit from direct investment from Tata if they are going to put money into that global centre of excellence. And also, you talk about the institute of steel and the proposals that you put before the Tata representatives that you met in Mumbai about investing in the institute. Could you elaborate a little bit more on exactly what your proposals were and what they are considering making available to the institute, so that we can have the best possible opportunity to cement south Wales's position at the forefront of green steel making? I appreciate there's a political discussion here going on, but, equally, there will be that investment in the site at Port Talbot. There will be security for steel making going forward, and sadly in the short term, it is going to be very challenging but it will rely on co-operative working to make sure that that transition to the arc furnaces is done as smoothly and as timely as possible to secure that steel making capacity here in south Wales. Vaughan Gething AC: Look, I'll try and respond constructively to a range of the points that were made. The challenge that we face is one where we're actually maximising the unity in this Chamber, helping to give us a stronger place to be. In a conversation with both the UK Government and, indeed, with the company, that's where it really was welcomed—the Conservatives voted in favour of the motion when, to be fair, Paul Davies was economy spokesperson for the Welsh Conservatives, in favour of a motion about wanting to see a blast furnace retained on the site. There are lots of good arguments for that, both the direct economic impact of the potentially eye-watering job losses in addition to our sovereign interests and why I do not think it is the right thing for any UK Government of any shade to sign up to a future where we could be the only G7 country that cannot make primary steel. We are then reliant on competitor economies to provide that steel that we still need, and for the foreseeable future, that is likely to be the case.That then means the economic value is generated somewhere else, as well as the nature of the relationships that go alongside that. So, it was welcome that Welsh Conservatives agreed with every other party in this place that that was the right thing to do. We want to have a constructive engagement with the transition board. The challenge is that whilst the transition board gets a number of partners into the room, some of the points that are made here and immediately after transition board meetings take just away from our most constructive and positive areas of engagement. We will need a board that can act quickly and recognises that the board isn't there to control all other actors. And I've made this point before that when there are significant unemployment events, Welsh Government, our officials across a range of teams have worked in a really nimble and proactive way with colleagues in Jobcentre Plus. So, there hasn't been a difference between the two different Government, and we've always worked with whoever leads that local authority. And that's been a real strength. That's exactly what we need to see happen here, but the scale of the challenge is even greater. If the transition board isn't nimble enough to do that, then actually we won't see the support that should be deployed in a manner that it could and should be. And the money that the UK Government have put on the table is welcome, but if we're going to see Vaughan Gething AC: but if we're going to see the worst-case scenario delivered, then I'm afraid it won't be enough, and the time frame that's envisaged isn't going to deal with what we need. The Welsh Government has already identified, across a range of our areas, the levers that we can use, from the changes already made to the threshold for support for personal learning accounts; it's been changed specifically to take account of the Tata workforce; the fact that we have ReAct funding that has been reworked; The fact there is Communities4Work funding; the fact that we continue to support the apprenticeship framework. And one of our key asks is making sure that apprenticeships have the public assurance that their apprenticeships will be seen to conclusion. These are practical things, backed up by real Welsh Government resources, at a time when everyone knows our resources are particularly pressured, after 14 years of our budget being reduced in real terms, and that's just the undeniable truth. And yet, we are prepared to do everything we could and should do, within the budgets available, to support that workforce. And I do wish that the Welsh Government would have the support of Welsh Conservatives in standing up for this workforce rather than constantly trying to find a way to attack the Welsh Government and our desire to see those workers have the decent future that they deserve. I'm afraid I don't share his view that this is just a short-term transition. And if Andrew R.T. Davies disagrees, he should go and talk to people from Shotton, he should go and talk to people who remember Ebbw Vale being a steel town and what happened when that transition took place. All of those challenges show that this is a longer term challenge, not simply a short-term event. A number of skilled workers could find immediate employment. The challenge will be, will it be at the same rate, will they be able to stay in their communities for that work to happen? The next challenge is that wider group of workers, and that's why both the economy Secretary and myself have been very clear about the need to access the information about the current workforce as soon as possible, but crucially, the contractor workforce. And I am a little frustrated at the fact that, even now, we don't have access to that information. There are contractors who are making choices now about their current workforce. Tata know who their contractors are, and they could share that information with us. We've never broken a confidence when it comes to information provided to us, and we've always managed to work in a really constructive way. We could and should be able to work with the local authorities, plural, who are most directly affected, with those contractors, with Jobcentre Plus, and with the company, to actually help those workers who are being directly affected now. We're not able to do that because the information hasn't be provided to us. I've been given the assurance that will be provided within days, and that will allow us to try and do the right thing for workers now as well as those who will be affected, potentially, in the future. We'll then have a much wider challenge about the impact on a wider workforce, those people reliant on the significant spend. That's why, not just the direct workforce but, potentially, 7,000 to 9,000 extra jobs are affected by the change we're talking about. And if Tata proceed on their current plans, we need to be clear the greatest job losses will take place after the second blast furnace is closed, and those job losses could take place in the run-up to the end of the calendar year. So, October, November and December could be the three months with the biggest job losses in the run-up to Christmas and the new year. I think that is a situation that we should avoid if at all possible. It's why I continue to make both the case for a longer transition and make the case to wait for a general election that is imminent. And I spoke to Keir Starmer before flying up—we're very clear that the UK Labour position is that the £0.5 billion on the table now is added to by £2.5 billion in a green steel transformation fund. A significant additional investment that is available for the capital, and also a manifesto that I think will see a need to invest in the future of steel making; we need more steel, not less, in our future. The reality is, though, that I think the company are choosing to want to implement their plan before a general election. And they're not publicly going to move away from that. Whilst there hasn't been a general election, they're not about to say in public they will of course change their mind. It's important that we carry on making the case, though. If we're not prepared to fight for these jobs and for the sector, who is going to do it? Because that isn't the message we're getting from UK Ministers at present. I want to see that change, and I want the maximum impact from people across this Chamber, to try and deliver the best outcome for Welsh workers, and I believe the best outcome for the UK in retaining this key sovereign asset. Luke Fletcher AS: Genuinely, I held out some hope that you'd return with something substantial, First Minister. Luke Fletcher AS: with something substantial, First Minister. And I say 'substantial' because, to be fair, you've highlighted some things in your statement. I mean, one was the potential for Tata to fund some researchers in Swansea University, but it was to consider funding—it wasn't actually delivering anything, was it? Let's be honest here: the time to go to India had long passed. Now, we first heard rumblings about the possible closure of the blast furnaces and job losses in Port Talbot last year. Where was the urgency then? The bosses of Tata were in the UK two weeks ago. Why didn't you meet with them then? Did you ask for a meeting? Now, as far as I can see now, you went to India with no specific asks, no inclination from Tata that anything would change as a result of your visit, so what was the purpose? If anything, based on your statement, you've wasted time, to be quite frank. Now, what is now happening at Port Talbot is monumental policy failure at both a UK Government and Welsh Government level over several years, if not decades. After all, we have been in this situation before, haven't we? A multinational company holding both Governments to ransom, looking for Government bung. For Tata, it's been a semi-regular occurrence. Now, you said in your statement that Tata should wait until after the next general election. Now, it's a line repeated time and time again. Well, at the election will be too late. You said it yourself: blast furnace 5 closed by June, four in September. We need action now. And what is Labour's offer exactly? Three billion pounds for steel, not just for Port Talbot but for the entire UK. Perhaps the First Minister could actually clarify the £2.5 billion or £2.6 billion that he mentioned to the leader of the opposition just now, because last time I checked, that wasn't Labour's policy. Now, we were quick enough to criticise the sum on the table from UK Government. I mean, scratch the surface of the £3 billion and you'll quickly realise that it's not much better if we were to divide that amongst all the steel sites in the UK. So, £3 billion for the entire UK when on the continent they're investing upwards of £2.6 billion in single sites. Now, let's be clear: once the blast furnaces are turned off, that's it, you can't turn them back on, they're not like the computers that we have in front of us here. Tata won't wait around for what would potentially be the same level of financial support, nor will they hang on for an election that nobody knows when it's actually going to happen. Now, I'll repeat what I said last week: all parties in this Chamber have said that the blast furnaces should stay open; we had that reiterated by the leader of the opposition, that we need a genuine transition period, so what are we going to do? There are three options, as far as I can see it, that are on the table, just like last week: nationalisation, preservation, or managed decline. By the way, I'd welcome other options if there are any for consideration. That's why I submitted a no-named-day motion; let's debate these options, and let's come to a decision, because so far, all I've heard from both Governments is meek acceptance of the impending loss of up to 10,000 jobs in my region, and that simply is not acceptable: no fight, no desire, no passion, only fear of rocking the boat. Meanwhile, Tata isn't rocking the boat, they're capsizing it. Vaughan Gething AC: I don't accept virtually all of what the Member has said, and I regret the tone and the manner in which it's been put. This Government has fought for the steel sector over a number of years. Since the proposals were made, we have worked alongside trade unions and their representatives, not just in national office, but the reps within the workplace as well. The steelworkers themselves, they're genuine experts in how to run the site. If you were to talk to a group of steelworkers and their reps, I don't think they would say that this Government has not fought for them and is not continuing to fight for them; I don't think you would find that they believe that the time to go to India has long since passed. We've been working with steel trade unions in understanding the nature of the negotiations they're having and when ministerial intervention could make a difference. And, in fact, when the leadership of Tata were here for two days, they were in talks with the steel trade unions, that's what they were doing. And we need to understand what is taking place within those negotiations, how we use our influence. That's why the economy and energy sector had a conversation with the steel trade unions last week, to understand where things have gone. That's why we had to make immediate choices about whether to go to Mumbai or not. I believe any First Minister of any party would, should, and must have gone to Mumbai in the time frame that I did. It is the right thing to do Vaughan Gething AC: right thing to. And I'm proud to have done so, and prouder still to keep on making the case and fighting for the investment that I believe could make a difference. And I reject the way that he categorised investment in key sectors of the economy as a bung for private industry. That sort of language will not go down well with the workforce who work there. You could say the same thing about lots of our other anchor employers. You wouldn't talk about the investment in skills in Airbus as a bung for the company to stay here. It's part of a grown-up relationship we need to have about how to grow our economy and secure work and investment in here for the communities that we are privileged to represent. And when it comes to the future of the EAF, I think it's really important that we recognise that an EAF is part of the future. There will be more EAF production, and I think that's the right thing to see happen. As a Government, we always have to be able to and prepared to do more than one thing at the same time. That's making the case for the future we want, and preparing for the futures that could come down to us. No-one would forgive us if we did not make preparations for Tata to implement the plan they're talking about publicly. That's exactly what we're doing. It is not acceptance that that will simply happen, and we are going along or just coalescing in that. Our fight is a genuine one for the future, and I'd hope that, within and outside the Chamber, we can get back to having as joined-up a response as possible to maximise the impact that this Parliament and this Government can make for a future that I believe our steel workers deserve. David Rees AC: Can I thank the First Minister for his statement? But not just for his statement. The people I talk to in Port Talbot—my neighbours, friends, colleagues—are thankful for you actually going out to Mumbai and showing leadership because, so far, we've not seen that from the UK Government. So, thank you very much for that. And I'm very much for putting a strong case for primary steel making to be kept here in Wales, and specifically in Port Talbot, because that seems to be something the UK Government has lost sight of. I've heard this afternoon some comments, but let me just be clear, people in Port Talbot, the steel workers of Port Talbot welcome your actions and this Government's actions. They are disappointed in the UK Government's failures, and they are angry at Tata themselves for actually making decisions to close down those blast furnaces without justification. This is not a green agenda—this is a financial decision by Tata. Can I make it clear on that? They are looking at their money side of it, not at the community side of it, not looking at the people side of it. And that's important to remind people of. Now, we all know the devastating impact this will have on the workforce—2,800 that's been mentioned. Make it clear, as somebody said, it's about 9,000. The supply chain, contractors. Some contractors are already laying off people now, before even the blast furnaces shut down, because that's important. But, for this Government, let's think back to what we can be doing. I thank you for the PLA, because I know it pushed the agenda on the PLA, and making sure Tata workers and contractors are able to have that now and access that funding, because it's all about training and development where we can help them go somewhere else. The disappointment is people are already leaving now. They're going to work in England now. We're losing that economy now. That's really hugely damaging to our local economy. Now, just a couple of quick questions, because I know my time is up. The transition board, you mentioned that. Will you make sure that the Treasury release that £80 million? Because, so far, it's going nowhere. We've now had notification from Tata's contribution of £20 million, and they've already said where they will spend it, how they will spend it, and how they will manage it. I've not heard that from the UK Government yet, so we need a commitment at the next transition board, because I sit on it, and someone else in this Chamber. We need that commitment that they will spend it, not just talk about it, and spend it quickly, because the workforce is going in a month’s time. And as you've said, in September, most of it—we don't want to be still talking in September, 'Oh, where will we spend this?' We want commitments now. So, can you please ensure that that commitment is given? And, secondly, will you please ensure that Tata put forward the planning application for the EAF because, as you say, there are workers in the steel works who do not believe the EAF will come? We need to see an application going in for planning so that we can have confidence that they will actually deliver the EAF. Vaughan Gething AC: Thank you for the comments and the questions. I completely agree with David Rees—we should not be the only G7 country who surrenders our capacity to make primary steel. That is a sovereign issue for the UK Government. And there was a deal on the table that was available three years ago, and it would have been a better deal at the time, with a better glide path and, actually, I believe it would have had more workers still in employment with a different future, and we could have taken a step forward Vaughan Gething AC: taken a step forward on having increased electric arc production alongside a more secure future for blast furnace production as well. My concern there was—. I recognise the point the Member has made about the anger within the community that is real, and not just within the workforce but on a wider level, and I know that is directed at both the UK Government and the company. I have never lost sight of the people directly in the middle of all of this: the workforce in Tata, the contractors who know they're reliant on the business continuing, and people in the wider community who know if you take out lots of well-paid workers from that economy, it will have an impact on all of them. I mentioned earlier the realities of different steel-making towns and the future that they have been left with. I don't want to see that for Port Talbot or indeed for the remaining works in Llanwern, and I want to see Trostre and Shotton have a healthy future with the operations they have, which is why it was so important to make the point about providing the slab and the coil for their future. But on your point around contractors, I think I am very clear that we need the information about that, and people are being made redundant now. It's why the information is so important and so time critical. I also want to be clear about future training packages and what they could look like. Some workers will have skills in the business that aren't accredited, so they can't go and get a job with a different employer if they don't have the accreditation for this. The training will be really important to allow people to move on, and again, some of that could and should be decent work that's available. We don't yet have a plan for the £80 million, and I've seen that Tata have indicated how they want to spend their £20 million they've put on the table. It's part of the reason why I said what I said before about the nimbleness and the speed of the transition board being able to make choices. Some of those choices will be required in the nearer future and with a rhythm that won't wait for a monthly meeting. We're going to need to have something that designs and brings together the different stakeholders with decision-making powers and responsibility, to understand how that resource will be used—not planned to be used, but will actually be used—and the transition board needs to recognise that it can't do all of that through the current pattern of meetings. That's a practical point that isn't politically controversial, I think. You either want the money to be used well, alongside the resource that we and other partners have, or you don't, and I think it would be the wrong thing to try to stick to a pattern that is convenient if you're going to the meeting, not convenient if you want to see the right outcomes for the workforce. And I take on board the Member's EAF planning application. Even in outline, it would be a helpful signal to the wider community that the EAF is going to be built, because if the blast furnace production ceases, there will be a gap of several years before you can have EAF production, and if you're importing steel to be rolled, there are always going to be concerns about whether, actually, the wider production will come on board. The sooner that concrete signal is sent out, the better. Tom Giffard AS: The First Minister says he never lost sight of the workforce in Port Talbot and I'm glad to hear that, but let's remind ourselves of his record. The UK Government has put £80 million on the table for that transition board to support workers. Tata themselves have put £20 million. He and his Government, Llywydd, have put nothing—not one single penny to support workers through that transition board. That's his record in terms of supporting steel workers in Port Talbot. Now, his only solution—. He's gone to Mumbai, and frankly, it doesn't sound like he's secured anything from that meeting. He's been on that trip. So, the only thing that he could seem to point at as a potential solution appears to be a general election, and this £3 billion, which is fine, but the First Minister has now been asked twice to confirm the proportion of that £3 billion that would be spent specifically in Port Talbot, because if he can't make that clear to us in the Senedd, he certainly didn't make it clear in Mumbai to Tata. So, can you confirm the exact proportion of that £3 billion earmarked for Port Talbot? Vaughan Gething AC: Well, I think the tone of that contribution will really grate with families who are going to sleep anxiously and understanding whether there are people on their side in the fight for their future. I just think the Member should every now and again consider not just whether there are interesting clips for Welsh Conservative social media, but actually your wider responsibilities. I don't think you're getting anywhere close to those. It is simply not true to say that the Welsh Government has not supported Tata financially, although we are not prepared to invest in the future of the workforce if the job losses that are currently being proposed go ahead. I have mentioned it more than once: personal learning accounts, the ReAct programme, Communities for Work, what we're doing with apprenticeships—there is a wide range of measures that we are prepared to take to support that workforce, as we have done in every other significant Vaughan Gething AC: the proposals and the impact on contractors, because those people would otherwise be lost, and we'll only see them if they engage in our services, rather than proactively engaging with them. So, this isn't just a matter of job loss, it is much more than that, and I want to see a future for Port Talbot that is a proud one, that builds on the legacy they have, rather than simply saying, 'We've done our bit', and at the end of the year, we're no longer there. That, I'm afraid, is what could happen if we only have the transition board process to work through, with a finite sum of money and the time frame that Tata are currently describing to deliver all of those significant redundancies. John Griffiths AC: First Minister, I know that you're fully aware of the importance of Llanwern too—the regional economy, the people directly employed at the plant, the contractors, the suppliers and the spend in the local economy. The average age at Llanwern now is, I think, in the early thirties, and, of course, there are a number of apprentices there. So, it's easy to understand why there's a great deal of concern locally about the future of the plant, given the projected job losses that will come towards us in the future. It is integrated with Port Talbot, as you also know, of course, First Minister. And I think that gives a lot of concern about the work of the transition board, just to make sure that Llanwern is fully considered, appropriately considered in the work of that board and the decisions that are made. It was good to hear you talking about the monitoring of research and development in terms of the quality of steel that an electric arc furnace would produce, because, obviously, the automotive aspect of production at Llanwern is very much allied to that quality of steel. And, very good to hear that you will be visiting Llanwern soon, as well. But I just wonder if you could give some assurances about the work of the transition board, specifically in terms of the issues that Llanwern has. Vaughan Gething AC: I'm very happy to give the Member the assurance that we continue to take an interest not just in Port Talbot, but in all of the downstream businesses, and Llanwern in particular, because in the proposals that Tata have made public, they expect there will be direct job losses in Llanwern in two to three years. Actually, the business at Llanwern, in particular its engagement with the auto sector, is highly regarded and it's an area where, if you look at the future needs of the UK economy and the way that vehicles will change, we'll still need those vehicles and we'll still need steel in them as well. So, I do think there's a case to be made and it was part of the discussion about what future investment in all of those downstream businesses looks like. And it's why it was so important to make the ask and to get the commitment for coil and slab to be provided for downstream businesses. If you're waiting for an electric arc and you're potentially waiting for two or three years, or potentially more than three years, actually, where does that supply come from for those downstream operations and the hundreds of jobs on each of those sites that are directly employed, as well as all of the indirect ones? And then also, what do you do—which is why the research point is important—in generating the right type of steel? It's also why I think the UK should not be the only G7 country not able to make primary steel. You're reliant on other parts of the world, potentially on other steel companies from Tata's point of view, because if a carbon border mechanism does come in at some point in 2027, they won't have the option of importing from India, that'll all have to come from the Netherlands, and will they have the capacity to do that? Now, that's a practical challenge that I think needs to be worked through so that there's real confidence that those businesses won't be moved away. Because the quality of what comes from Shotton, Caerphilly, Trostre and Llanwern is highly regarded. The company recognises that and crucially, their customers do as well. There's a finer point that I think it's worth making. It's your point around the people with responsibilities. I think lots of people think that the steel workforce is an ageing workforce and actually, that hasn't been true for a long time. So, if these changes are made, lots of people with ongoing and real material responsibilities and financial liabilities could lose their jobs. If you're in your thirties, it's entirely possible that you have a house, with rent or with a mortgage, with children, with other bills to pay, and if you lose that employment, how long can a redundancy package make sure that you're still able to meet those responsibilities? The dislocation, socially and economically, is really significant. And that's also why we have consistently made the case in and around the transition board to make sure that, if people are made redundant, there's a route to having proper financial advice that is reputable, because we have seen in the past, when people have large redundancy payments made, that it doesn't generate the best behaviour from people who see that as an opportunity to make money in an unscrupulous manner.
uk-hansard-senedd-cy
senedd2024-05-14
2024-06-01T00:00:00
{ "year": "2024", "language": "cy", "license": "Open Parliament Licence - https://www.parliament.uk/site-information/copyright-parliament/open-parliament-licence/" }
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:29 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. Galwaf y Cynulliad Cenedlaethol i drefn. 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg. Eitem 1 yw cwestiynau i’r Prif Weinidog, a’r cwestiwn cyntaf, Nick Ramsay. <p>Diwygio Llywodraeth Leol</p> Nick Ramsay AC: 1. A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddiwygio llywodraeth leol? OAQ(5)0020(FM) Carwyn Jones AC: Gwnaf. Dros yr ychydig wythnosau a misoedd nesaf, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn cyfarfod ag arweinwyr llywodraeth leol a rhanddeiliaid eraill i wrando ar eu barn, cyn ystyried yr ymagwedd hirdymor tuag at ddiwygio llywodraeth leol, a chaiff datganiad ei wneud maes o law. Nick Ramsay AC: Dyna ateb calonogol iawn, Brif Weinidog. Rydych yn ddyn craff ac rydych yn siŵr o fod wedi sylwi fy mod wedi bod yn gwrthwynebu’r cynlluniau i ddiddymu Sir Fynwy fel rhan o’r ad-drefnu llywodraeth leol a argymhellwyd gan Lywodraeth ddiwethaf Cymru. Nawr bod y Gweinidog sy’n gyfrifol am y cynlluniau hyn wedi symud ymlaen at bethau gwell, onid yw’n adeg dda i fynd yn ôl i’r cychwyn a meddwl am gynllun y gallwn ni, gynghorwyr, a’r cyhoedd ei gefnogi? Rwy’n fwy na pharod i gyfarfod â chi am beint rywbryd i drafod hyn. [Chwerthin.] Carwyn Jones AC: Wel, rwy’n meddwl mai gwell yw cadw’r pethau hyn yn ffurfiol, ond diolch i’r Aelod am y gwahoddiad, er hynny. Wel, ie, bydd y trafodaethau hynny nawr yn dechrau. Mae’n ymddangos bod cytundeb cyffredinol fod angen symud ymlaen â diwygio llywodraeth leol ond ceir safbwyntiau gwahanol ynglŷn â pha fodd y dylid gwneud hynny. A bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cynnal trafodaethau ar hyn dros yr ychydig wythnosau a misoedd nesaf. Rhianon Passmore AC: Brif Weinidog, nododd Archwilydd Cyffredinol Cymru yn ei adroddiad, ‘Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus 2015’, y llynedd, fod Cymru, ers i Lywodraeth y DU osod ei rhaglen galedi yn adolygiad o wariant 2010, wedi gorfod rheoli toriad o £1.2 miliwn—mae’n ddrwg gennyf, dywedaf hynny eto, toriad o £1.2 biliwn yn y cyllid. Er gwaethaf toriadau Torïaidd llym o’r fath, mae awdurdodau lleol a chynghorau Cymru wedi parhau—[Torri ar draws.] Lywydd, os caf, maent wedi parhau i sefyll dros gymunedau Cymru. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cryfder ei argyhoeddiad a’i ymrwymiad i flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi darpariaeth effeithiol ac effeithlon llywodraeth leol o wasanaethau cyhoeddus? Carwyn Jones AC: Gwnaf, fe wnaf hynny. Gwn fod llywodraeth leol wedi wynebu heriau enfawr wrth ddelio â’r toriadau a orfodwyd arnom gan San Steffan, ac maent wedi ceisio gwasanaethu eu cymunedau’n dda. Wrth gwrs, mae yna feysydd lle gellir cael mwy o gydweithredu, yn fy marn i, a meysydd lle gellir cryfhau cysondeb yn well ar draws llywodraeth leol yng Nghymru, ac rwy’n gwybod bod yr Ysgrifennydd yn awyddus i arwain ar hyn, mewn trafodaethau gyda phleidiau eraill ac yn wir, gydag arweinwyr llywodraeth leol dros y misoedd nesaf. Neil McEvoy AC: Gyda’r cyfle i ddiwygio llywodraeth leol, a fydd y Prif Weinidog yn cymryd camau ar frys i sicrhau y rhoddir strwythur rhanbarthol newydd ar waith, er mwyn caniatáu i gynlluniau datblygu lleol diffygiol, gyda defnydd diangen o safleoedd maes glas, gael eu newid er mwyn osgoi blerdwf trefol wedi’i arwain gan ddatblygwyr? Oherwydd, os cofiwch, ar 24 Ebrill 2012, Brif Weinidog, fe ddywedoch mai anwiredd llwyr oedd eich bod wedi cyhoeddi cynlluniau i adeiladu ar safleoedd maes glas Caerdydd. Fe’i galwoch yn gelwydd pur, ond codwyd embaras arnoch gan eich plaid eich hun, a gyhoeddodd gynlluniau wedyn i adeiladu ar safleoedd maes glas Caerdydd. Fe wnaethoch ein camarwain ni i gyd. A wnewch chi yn awr wneud iawn am eich cam yn llygaid y cyhoedd a gweithredu polisi Plaid Cymru arall eto? Carwyn Jones AC: Wel, mae wedi cael y ffrae hon o’r blaen. Nid wyf wedi gwneud unrhyw gyhoeddiad o’r fath erioed, fel Gweinidog, nac yn wir fel arweinydd unrhyw blaid, ac mae’n gwybod hynny’n iawn. Mae’n crybwyll pwynt pwysig. Mae’n bwynt a godwyd, yn wir, gan fy nghyd-Aelod, Hefin David hefyd, yr Aelod dros Gaerffili, sef nad yw datblygu cynlluniau datblygu lleol ar wahân i’w gilydd yn realistig. Mae synnwyr helaeth mewn cael fframwaith datblygu strategol, yn enwedig ar draws de-ddwyrain Cymru lle mae pwysau mawr. Mae Caerdydd yn ddinas sy’n tyfu’n gryf iawn a dylem groesawu hynny. Serch hynny, mae angen i ni sicrhau bod fframwaith rhanbarthol priodol ar waith er mwyn cynllunio ar gyfer twf y gwahanol rannau o Gymru yn ystod y blynyddoedd nesaf. <p>Dinas-ranbarth Bae Abertawe</p> Mike Hedges AC: 2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddinas-ranbarth Bae Abertawe? OAQ(5)0023(FM) Carwyn Jones AC: Gwnaf. Mae bwrdd dinas-ranbarth bae Abertawe yn parhau i arwain ar alinio a chydweithio rhanbarthol er mwyn cyflawni dyheadau a rennir ar gyfer swyddi a thwf. Mike Hedges AC: Diolch i’r Prif Weinidog am yr ymateb hwnnw. Rwy’n meddwl ein bod yn cytuno bod gan ddinas-ranbarth bae Abertawe gyfeiriad teithio clir. Rwy’n credu ym mhwysigrwydd dinas-ranbarthau fel sbardunau economaidd. Mae Caerdydd wedi derbyn cyllid y cytunwyd arno ar gyfer ei bargen ddinesig. A all y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â chyllid ar gyfer dinas-ranbarth Abertawe, gan gynnwys y fargen ddinesig? Carwyn Jones AC: Gallaf, wrth gwrs. Gwn fod Syr Terry Matthews a’r bwrdd wedi datblygu cynnig cychwynnol ar gyfer bargen ddinesig, sydd wedi’i chyflwyno i ni a Llywodraeth y DU. Mae’n ceisio swm o tua £500 miliwn dros 20 mlynedd, ac yn wir, mae’r cynnig yn amlinellu grym trawsnewidiol cysylltedd digidol i gyflymu twf yn y rhanbarth, a ledled Cymru ac yn wir, gweddill y DU. Felly, mae’r cyflwyniad hwnnw wedi’i wneud. Rydym yn awr, wrth gwrs, yn dymuno symud ymlaen gyda bargen ddinesig sy’n debyg i’r un y cytunwyd arni ar gyfer y prifddinas-ranbarth. Dai Lloyd AC: Byddwch chi’n ymwybodol, yn naturiol, Brif Weinidog, o ddatblygiad cyffrous y campws newydd ym mae Abertawe—Prifysgol Abertawe, felly. A, hefyd, byddwch chi’n ymwybodol o’r buddsoddiad anferthol sydd wedi bod yn y campws newydd yna, a’r rhan helaeth o hwnnw’n dod o arian Ewrop. Felly, a fyddech chi’n cytuno efo fi y byddai’r fath fuddsoddiad yn amhosib petai Cymru y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd? Carwyn Jones AC: Mae hynny’n iawn, ac mae’n wir i ddweud, heb i’r arian yna fod ar gael, na fyddai’r campws yna nawr. Suzy Davies AC: Mae partneriaeth sgiliau bae Abertawe yn gonsortiwm dysgu seiliedig ar waith sydd wedi’i alw’n bennaf yn ddigonol yn unig gan Estyn. Gyda’r fath obeithion am botensial economaidd dinas-ranbarth bae Abertawe, beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod y rhai sy’n gyfrifol am drosi talent yn sgiliau dymunol yn cyflawni’r amcanion hynny mewn gwirionedd? Carwyn Jones AC: Credaf fod hynny yn digwydd. Mae bwrdd y dinas-ranbarth yn gwybod yn iawn mai’r allwedd i ddenu buddsoddiad yw sicrhau bod sgiliau ar gael fel y gall y buddsoddiad hwnnw ddigwydd. Un o’r cwestiynau a ofynnir yn aml i mi gan fuddsoddwyr posibl pan fyddaf yn mynd dramor yw, ‘A oes gennych y sgiliau sydd eu hangen arnom er mwyn i ni ffynnu yn eich gwlad?’, ac rydym yn gallu rhoi’r sicrwydd hwnnw iddynt. Os edrychwn, er enghraifft, ar gampws Prifysgol Abertawe, y gwn ei fod, fel y bydd fy nghyfaill, David Rees, yn fy atgoffa, yn etholaeth Aberafan, mae’n fuddsoddiad sylweddol yn nyfodol bae Abertawe—campws hynod bwysig ac arwydd bod y rhan honno o Gymru, fel y genedl gyfan yn wir, yn gyfan gwbl o ddifrif ynghylch y ddarpariaeth addysg a sgiliau. Caroline Jones AC: Brif Weinidog, er mwyn i’r dinas-ranbarth weithio yn y modd mwyaf effeithiol, mae gofyn am fwy o gydweithredu ymhlith y partneriaid llywodraeth leol. Roedd eich cynigion ad-drefnu llywodraeth leol blaenorol yn anghydnaws â map y dinas-ranbarth. A fydd eich cynigion newydd ar gyfer uno llywodraeth leol yn ystyried yr angen i Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot gydweithio’n agosach â Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro? Carwyn Jones AC: Wel, byddai angen hynny beth bynnag. Mae dinas-ranbarth bae Abertawe yn croesi ffiniau. Rydym yn gwybod nad yw ffiniau gwleidyddol yn cyd-fynd â ffiniau economaidd. Dyna pam y mae’r fargen ddinesig yn y prifddinas-ranbarth yn cynnwys 10 awdurdod lleol, gan adlewyrchu, wrth gwrs, y rhanbarth economaidd, a chan adlewyrchu’r angen i awdurdodau lleol weithio gyda’i gilydd i gyflawni ffyniant ar gyfer eu holl ddinasyddion. <p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p> Galwaf nawr ar arweinwyr y pleidiau i holi’r Prif Weinidog ac, yn gyntaf, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies. Andrew RT Davies AC: Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, yn y cytundeb a gyrhaeddoch i ffurfio’r glymblaid rhwng Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol sydd gennym fel Llywodraeth yma yng Nghymru heddiw, cafodd rhan o faniffesto’r Democratiaid Rhyddfrydol ynglŷn â lleihau maint dosbarthiadau ei chynnwys yn eich rhaglen lywodraethu. Cost hynny oedd tua £42 miliwn, neu £42 miliwn oedd yr amcangyfrif. Yn eich maniffesto eich hunain, fe ddywedoch y byddai’r Llywodraeth Lafur, pe câi ei hethol, yn darparu £100 miliwn i addysg dros oes y Cynulliad. A fydd y £42 miliwn hwn yn arian ychwanegol y bydd yn rhaid dod o hyd iddo er mwyn ei roi yn y gyllideb addysg, neu a yw’n rhan o’ch ymrwymiad cyfan o £100 miliwn? Carwyn Jones AC: Rydym yn falch o addo’r £100 miliwn fel prif addewid yn ein maniffesto etholiadol. Clustnodir yr arian ar gyfer gwella addysg. Mae’n fater yn awr, wrth gwrs, i’r Llywodraeth a’r Ysgrifennydd archwilio sut y gellir bwrw ymlaen ar fater maint dosbarthiadau. Andrew RT Davies AC: Sylwaf nad ateboch y cwestiwn, oherwydd rwy’n credu ei bod yn bwysig deall hyn: a fyddwch yn darparu arian ychwanegol at ymrwymiad eich maniffesto i gyflawni’r ymrwymiad newydd hwn rydych wedi’i gynnwys yn eich rhaglen lywodraethu? Mae’n gwestiwn hollol deg, oherwydd byddwn yn gobeithio, cyn i chi gytuno i hyn, eich bod wedi’i roi drwy beiriant y gwasanaeth sifil, fel petai, a gweld beth fyddai’r ymrwymiad, oherwydd nid yw £42 miliwn yn swm bach o arian. Felly, mae’n ateb syml: a fydd £42 miliwn ychwanegol yn cael ei ddarparu i’r gyllideb addysg i gyflawni’r ymrwymiad hwn, neu a oes rhaid iddo ddod o’ch blaenoriaethau presennol a nodwyd gennych yn eich cyllideb eich hun? Carwyn Jones AC: Na, gellir cyflawni’r ymrwymiad y tu allan i’r pot o £100 miliwn. Andrew RT Davies AC: Felly, bydd arian newydd yn dod i’r gyllideb addysg i gyflawni’r ymrwymiad hwn. Rwy’n credu mai dyna’r pwynt roeddech yn ei wneud. Ond mae eich ymgynghorydd addysg, David Reynolds, wedi nodi efallai nad dyna’r defnydd gorau o arian i godi lefelau cyrhaeddiad addysg. Ond os ydych yn ysgol, yn bennaeth, ac yn gorff llywodraethol, er mwyn bodloni’r gofyniad hwn, a fyddai’n golygu y bydd rhaid i chi greu ystafelloedd dosbarth ychwanegol, cael athrawon newydd, neu a fydd yn golygu isrannu dosbarthiadau’n unig i fodloni’r gofyniad sydd wedi’i dderbyn gan eich Llywodraeth? Credaf ei bod yn bwysig deall yn union sut y gweithredir hyn, fel bod llywodraethwyr a phenaethiaid yn gwybod (a) y bydd yr arian yn dod er mwyn cyflawni’r ymrwymiad, ond yn ail, y byddant yn gallu ei gyflawni o fewn yr ystadau ysgol presennol sydd ganddynt. Neu a fyddwch yn darparu arian cyfalaf ychwanegol ar gyfer unrhyw waith adeiladu y gallai fod ei angen? Carwyn Jones AC: Mae’r rhain yn faterion sy’n cael eu harchwilio wrth i ni geisio symud y polisi yn ei flaen. Un o’r pethau rydym yn ymfalchïo ynddynt yw’r ffaith ein bod wedi adeiladu cymaint o ysgolion newydd ledled Cymru, ein bod wedi adnewyddu cynifer o ysgolion ledled Cymru ac y bydd rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn parhau. Yn gynyddol ledled Cymru, rydym yn gweld mwy a mwy o blant, a mwy a mwy o athrawon, yn cael eu dysgu mewn cyfleusterau sy’n briodol ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, ar ôl cymaint o flynyddoedd yn y 1980au a’r 1990au o ddadfuddsoddi a thanfuddsoddi yn ein hysgolion. Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton. Neil Hamilton AC: Diolch yn fawr iawn, Lywydd.Nearly three years ago, the Prime Minister, David Cameron, described the congestion on the M4 corridor as like a foot on the windpipe of the Welsh economy. That coupled with the tolls on the Severn bridge, which act as a kind of tax on jobs and prosperity in south Wales, requires us to take immediate or very quick action, at any rate, to solve these two problems. As a result of the agreement that the Welsh Government has now reached with Plaid Cymru, it seems that we’ve kicked the solution to the problems of the M4 into the long grass. I wonder if the First Minister could perhaps put some kind of a timescale on coming up with a solution. Carwyn Jones AC: Wel, nid wyf yn cytuno ei fod wedi’i roi i’r naill ochr. Ceir cydnabyddiaeth gyffredinol fod angen ateb i’r problemau sy’n ymwneud â thwnelau Bryn-glas. Mae’r broses o ran y llwybr du’n parhau, ond mae angen ymchwiliad priodol i hynny—mae angen ei archwilio’n briodol. Rwy’n awyddus i opsiynau eraill gael eu harchwilio hefyd fel rhan o’r broses gyhoeddus honno. Rwyf o blaid y tryloywder y byddai hynny’n ei ddarparu. O ran tollau’r Hafren, nid ni sy’n eu rheoli. Rydym yn credu mai ni ddylai eu rheoli a phe baem yn eu rheoli, byddem yn diddymu’r tollau. Neil Hamilton AC: Rwy’n derbyn yr ail bwynt a wnaeth y Prif Weinidog a chaiff gefnogaeth lawn fy mhlaid, yn sicr, wrth geisio cael gwared ar y cyfyngiad mawr hwn ar ddatblygu economaidd yn ne Cymru. Ond o ran prosiect yr M4, aeth fy mhlaid i mewn i’r etholiad diwethaf ar sail cefnogi’r llwybr glas yn hytrach na’r llwybr du. Ein barn ni yw y byddai’r llwybr du yn well na dim llwybr, ac nid ydym am fod mewn sefyllfa, fel rydym wedi’i chael ers blynyddoedd lawer bellach mewn perthynas ag ehangu Maes Awyr Heathrow, lle ceir siarad diddiwedd a dim gweithredu. Felly, mae’n ymddangos i mi fod yr argymhelliad i orfodi ymchwiliad cyhoeddus pellach yn debygol o greu oedi diderfyn, fel na fydd y problemau ond yn gwaethygu fwyfwy. Felly, mae’r ateb i broblemau’r diwydiant dur wedi’i gyfyngu’n rhannol gan yr anhawster hwn hefyd. Carwyn Jones AC: Na, mae hwn yn ofyniad cyfreithiol; nid yw’n rhywbeth y gallwn ddianc rhagddo heb fygythiad o adolygiad barnwrol ac ni fyddem eisiau dianc rhagddo. Mae’n rhan o’r broses o symud ymlaen gydag ateb i broblem twnelau Bryn-glas. Nid wyf yn credu ei fod yn effeithio ar y diwydiant dur mewn unrhyw ffordd o fath yn y byd, ond mae’n iawn dweud, i lawer o fusnesau ac yn wir, pan edrychwyd ar ddod â digwyddiadau mawr i Gaerdydd, mae problem tagfeydd yn nhwnelau Bryn-glas yn codi. Y broblem arall, wrth gwrs, os yw’r tollau ar bont Hafren yn diflannu, yw y byddai’r brêc naturiol ar draffig sy’n bodoli yno yn pentyrru ar dwnelau Bryn-glas, gan wneud y sefyllfa’n waeth. Felly, nid oes ateb hawdd ar wahân i edrych ar ffyrdd o osgoi’r twneli hynny. Neil Hamilton AC: Rwy’n derbyn rhesymeg hynny. Rwyf fi ond eisiau dweud wrth y Prif Weinidog ein bod wedi dod i’r lle hwn i fod yn adeiladol yn yr wrthblaid ac rydym am chwarae’r math o rôl y mae Plaid Cymru’n honni yn awr ei bod yn ei chwarae mewn perthynas â datblygu polisi Llywodraeth, ac felly rwyf eisiau dweud, o ran y llwybr du neu’r llwybr glas, fod fy mhlaid yn barod i gynnal trafodaethau gyda’r Llywodraeth. Fel y dywedais yn gynharach, rydym yn credu bod y llwybr du yn well na dim llwybr ac felly, os yw hwn yn angenrheidiol er mwyn dadflocio’r dagfa, yna rydym yn barod i chwarae ein rhan ynddo. Carwyn Jones AC: Rwy’n clywed yr hyn y mae arweinydd UKIP wedi’i ddweud. Mae’n bwysig fod y broses yn awr yn symud yn ei blaen. Mae’n bwysig fod y broses mor dryloyw â phosibl. Mae’n bwysig fod y Llywodraeth yn ufuddhau i’r gyfraith, a dyna pam y mae gennym y broses sydd gennym. Rwyf wedi edrych ar hyn yn eithaf manwl a’r casgliad rwyf wedi dod iddo yw ei bod yn anodd gweld dewis arall yn lle’r llwybr du. Mae gan eraill farn wahanol, ac mae’n bwysig felly fod y broses a ddilynir yn dryloyw ac yn cymryd yr amser priodol er mwyn i arolygydd adrodd a rhoi canfyddiadau sy’n dryloyw i bawb eu gweld. Arweinydd yr wrthblaid, Leanne Wood. Leanne Wood AC: Diolch, Lywydd. Wel, mae’n edrych fel pe baech yn mynd i allu taro bargen gydag UKIP, Brif Weinidog, ar ddyfodol y llwybr du. Diddorol iawn. [Chwerthin.]Neithiwr, cafwyd dadl deledu ar refferendwm yr UE, a chwalodd y system cofrestru pleidleiswyr yn union cyn yr amser cau, sef hanner nos. A wnewch chi ymuno â mi ac eraill i alw am ymestyn yr amser i gofrestru pleidleiswyr ar-lein, er mwyn sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn cael cymryd rhan yn y refferendwm ar yr hyn a fydd yn un o’r cwestiynau pwysicaf sy’n wynebu dyfodol ein gwlad? Carwyn Jones AC: Rwy’n cytuno’n llwyr â’r hyn y mae arweinydd yr wrthblaid wedi’i ddweud. Nid yw’n dderbyniol gwrthod hawl pobl i bleidleisio oherwydd problem dechnolegol. Rwyf yn y broses o ysgrifennu at y Prif Weinidog ynglŷn â hyn, er ei bod yn ymddangos ei fod wedi dynodi, yn gynharach y prynhawn yma, y byddai’r amser cau yn cael ei ymestyn. Mae’n bwysig yn awr, wrth gwrs, gwneud yn siŵr (a) fod hynny’n digwydd, a (b) ein bod yn deall sut y gall hynny ddigwydd. Leanne Wood AC: Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Fe fyddwch yn cofio sut y collodd cyn-weithwyr ASW yma yng Nghaerdydd eu pensiynau pan aeth eu cwmni i’r wal ychydig flynyddoedd yn ôl. Bodolaeth un o gyfarwyddebau’r UE yn 1980 y daeth fy nghyd-Aelod Adam Price o hyd iddi pan oedd yn AS Plaid Cymru, a orfododd y Llywodraeth—Llywodraeth Lafur oedd hi ar y pryd—i greu’r cynllun cymorth ariannol a’r gronfa diogelu pensiynau. Er nad aeth honno cyn belled ag y byddem wedi’i ddymuno—90 y cant yn unig o’r pensiwn a warantai ac nid oedd yn fynegrifol—o ystyried y marciau cwestiwn presennol dros ddyfodol pensiynau’r gweithwyr dur, heb y mesurau diogelu hanfodol hyn gan yr Undeb Ewropeaidd, a fyddech yn cytuno y byddai llawer o weithwyr yng Nghymru heddiw yn waeth eu byd nag y maent yn awr? Carwyn Jones AC: Byddwn, mae hynny’n gywir. Rwy’n credu mai o dan erthygl 8 y confensiwn y rhoddwyd y camau ar waith, os cofiaf yn iawn, yn y llys yn 2007. Ac ydi, mae’n gywir dweud, o ganlyniad i ddehongliad y llys o gyfraith Ewropeaidd, cafodd mesur diogelu pellach ei roi ar waith ar gyfer y pensiynwyr hynny. Mae’n wir yn enghraifft o’r modd y mae’r Undeb Ewropeaidd, yn y ffordd hon ymysg nifer o ffyrdd eraill, wedi diogelu a gwella hawliau gweithwyr yng Nghymru. Leanne Wood AC: Diolch, Brif Weinidog. Nawr, mae llawer o’r ddadl hyd yn hyn wedi ymwneud mwy â chodi bwganod nag â darparu gwybodaeth gywir i bobl allu dewis yn wybodus ar ei sail. A wnewch chi ymuno â mi i gondemnio gwleidyddiaeth ‘chwiban y ci’ y dde eithafol sy’n ceisio cymell delweddaeth hiliol ac ecsbloetio ofnau pobl gyda datganiadau sy’n awgrymu bod pleidlais i aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn cynyddu’r risg i fenywod o gael eu treisio? Carwyn Jones AC: Cefais fy syfrdanu a fy nychryn gan y sylw hwnnw. Nid wyf wedi fy synnu ganddo, ond mae arweinydd yr wrthblaid yn hollol gywir, mae’n sylw syfrdanol. Byddai’n gweddu’n dda i’r 1930au, mewn gwirionedd—gwleidyddiaeth y 1930au, a dweud y gwir, a rhai o’r pleidiau a fodolai bryd hynny. Y gwir amdani, yn anffodus, yw bod y ddadl ar ein haelodaeth o’r refferendwm Ewropeaidd wedi gorboethi—ac rwy’n dweud hyn: rwy’n credu ei fod yn wir ar y ddwy ochr yn Llundain. Mae’n dechrau edrych fel ffrae rhwng bechgyn ysgol fonedd ar y ddwy ochr, a chredaf fod pobl gyffredin a’u barn yn cael eu hanwybyddu. Wel, os caf ddweud, fel rhywun, fel hithau, a aeth i ysgol gyfun, sy’n cynrychioli hen gymuned lofaol, yn rhannol yn fy achos i o leiaf, ac sy’n cynrychioli pobl gyffredin sy’n gweithio, ni fyddwn yn dymuno ein gweld yn gadael a gweld y bobl hynny’n colli gwaith yn sgil y bleidlais? <p>Newid yn yr Hinsawdd</p> Eluned Morgan AC: 3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu i fynd i’r afael â phroblem newid yn yr hinsawdd? OAQ(5)0030(FM) Carwyn Jones AC: Ar ôl cyflwyno dwy Ddeddf arloesol, sef Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, i sicrhau bod Cymru’n cael deddfwriaeth i ddelio’n effeithiol â’r newid yn yr hinsawdd, rŷm ni nawr yn ymrwymo i’w gweithredu nhw’n llawn. Eluned Morgan AC: Diolch am yr ymateb yna. Mae’n amlwg bod newid hinsawdd eisoes yn cael effaith ar lot o’n cymunedau ni, yn arbennig yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, gydag ardaloedd fel Powys a Thal-y-bont wedi dioddef llifogydd. A fyddai’r Prif Weinidog yn cytuno y byddai hi o fudd i Gymru sicrhau ein bod ni’n parchu cyfreithiau Ewropeaidd sy’n mynnu y dylem ni gael egni adnewyddadwy ac y dylem ni gadw at y targedau yna, a’i bod hi’n gwneud synnwyr inni gydweithredu â’n cymdogion Ewropeaidd ni, a bod hynny’n rheswm arall pam y dylai pobl bleidleisio dros aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd ar 23 Mehefin? Carwyn Jones AC: Mae hynny’n iawn. Mae’n wir i ddweud, wrth gwrs, fod y Deyrnas Unedig wedi cael ei llusgo i sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei lanhau ac i sicrhau bod yr afonydd a hefyd y môr a’r awyr yn well na beth oedd yn wir 30 mlynedd yn ôl. Rwy’n cofio, fel rhywun oedd yn pysgota lot fel bachgen, fod yr Afon Taf yng Nghaerdydd yn wael dros ben; roedd braidd dim ynddi hi. Erbyn hyn, wrth gwrs, mae yna eogiaid yn oifad—’nofio’ dylwn i ddweud—lan yr afon, ac mae hynny’n dangos faint o les sydd wedi cael ei wneud i’n hamgylchedd ni o achos y cyfreithiau Ewropeaidd sydd wedi sicrhau bod y Deyrnas Unedig yn cael amgylchedd llawer yn well nag o’r blaen. Simon Thomas AC: Brif Weinidog, fe ddaeth y fenyw a oedd yn gyfrifol am y trafodaethau ym Mharis, trafodaethau’r COP, Christiana Figueres, i Gymru’r wythnos diwethaf. Fe ddaeth i siarad yng Ngŵyl y Gelli ac fe soniodd hi yn huawdl iawn am yr angen i Lywodraeth, busnesau a’r sector gwirfoddol, os liciwch chi, sector y gymdeithas sifil, i gydweithio â’n gilydd i wireddu’r freuddwyd a grëwyd yn y trafodaethau ym Mharis.Fe ddywedodd hi hefyd, yn blwmp ac yn blaen, fod cynnydd o 2 y cant—cynnydd, mae’n ddrwg gen i, o 2 radd Celsius yn y tymheredd, yn ôl y diwydiant yswirio ei hunan, yn ‘systematically uninsurable’. Ac felly mae Paris, wrth gwrs, yn ceisio cael 1.5 gradd fel y cynnydd mwyaf posib. A ydych chi, felly, ar ran Llywodraeth Cymru yn ymrwymo’ch Llywodraeth chithau i gynnydd o ddim mwy na 1.5 gradd? Carwyn Jones AC: Mae hwn yn rhywbeth inni ei ystyried, wrth gwrs. Mae’n bwysig dros ben ein bod ni’n sicrhau hefyd fod yna weithredu’n cymryd lle ar draws y byd. Rŷm ni’n gallu chwarae ein rhan, wrth gwrs—rŷm ni wedi gwneud hynny o achos y ddeddfwriaeth sydd wedi cael ei phasio. Ond hefyd, nid oes pwynt inni leihau beth ŷm ni’n ei wneud ynglŷn â newid hinsawdd os yw pethau’n mynd yn waeth mewn gwlad arall. Felly, dyna pam mae hi mor bwysig sicrhau bod gweithredu’n cymryd lle ar draws y byd a’n bod ni’n chwarae rhan hanfodol yn hynny. A gaf i dorri ar eich traws chi, Brif Weinidog? Rwy’n meddwl bod y cyfieithu ddim yn gweithio—. Na, mae’r cyfieithu nôl yn gweithio. Felly, mae’n ddrwg gen i dorri ar eich traws chi, ond am funud roeddech ond yn cael eich deall mewn un iaith. Felly, os wnewch chi jest ddweud tamaid bach o beth ddywedoch chi nawr— Carwyn Jones AC: Mae’n rhaid i fi gofio nawr beth ddywedais i. [Chwerthin.] A dywedwch yr un peth yr eildro. [Chwerthin.] Carwyn Jones AC: Mae’n bwysig dros ben ein bod ni yng Nghymru yn chwarae ein rhan. Mae’n bwysig hefyd, wrth gwrs, fod pob gwlad yn y byd yn chwarae ei rhan. Nid yw’n ddigonol i ni leihau beth yr ŷm ni’n ei wneud, os yw pethau’n gwaethygu mewn gwlad arall, a dyna pam mae mor bwysig, wrth gwrs, i sicrhau ein bod ni’n gweld gweithredu’n cymryd lle ar draws y byd a’n bod ni yng Nghymru yn chwarae rhan hanfodol. Diolch yn fawr. Perffaith. Russell George. Russell George AC: Brif Weinidog, mae’r cysylltiad rhwng llygredd aer ac afiechyd, a hyd yn oed marwolaeth gynamserol, yn hysbys. Gyda hyn mewn golwg, tybed a allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf i mi ynglŷn â beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella ansawdd aer ledled Cymru, yn enwedig yn ein dinasoedd mawr yn y dyfodol. Carwyn Jones AC: Wel, un ffordd o wella’r amgylchedd, wrth gwrs, ac allyriadau yn wir, yw buddsoddi mwy mewn ynni cynaliadwy, a gwn fod hwnnw’n fater sy’n codi yn ei ran ef o’r byd. Mae’n amlwg fod rhai ffurfiau ar ynni sy’n llygru llawer llai nag eraill, a dyna’r trywydd sy’n rhaid i ni a’r byd ei ddilyn yn y dyfodol. Un ffordd o fuddsoddi ymhellach, wrth gwrs, er mwyn lleihau allyriadau carbon yw buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus. Mae metro de-ddwyrain Cymru yn enghraifft o hynny, fel y bydd systemau metro eraill ledled Cymru, yn Abertawe ac yn wir, yng ngogledd-ddwyrain Cymru i ddechrau. Mae yna ffyrdd eraill hefyd, wrth gwrs, o leihau allyriadau. Er enghraifft, os oes gennych broblemau gyda thraffig, lle mae traffig yn segur am beth amser neu’n symud yn araf ar ffordd benodol, bydd ffordd osgoi yn helpu. Rwy’n siŵr y bydd yn gwybod hynny, wrth gwrs, o ystyried y ffaith fod ffordd osgoi’r Drenewydd yn mynd rhagddi. Bydd hynny’n helpu i leihau allyriadau, rwy’n siŵr, yn ei etholaeth. <p>Aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd</p> Rhianon Passmore AC: 4. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut mae parhad aelodaeth y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd yn effeithio yn ei hanfod ar economi Islwyn? OAQ(5)0036(FM) Carwyn Jones AC: Wel, mae aelodaeth o’r UE a mynediad parhaus i farchnad sengl o dros 500 miliwn o bobl yn rhoi manteision enfawr i bobl Islwyn, a Chymru yn wir. Mae tua 40 y cant o’n hallforion yn mynd yno, mae’n helpu i gyllido buddsoddiadau hirdymor yn y seilwaith ac yn cefnogi ffermio yng Nghymru. Rhianon Passmore AC: Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Yn ogystal â’r 190,000 o swyddi yng Nghymru yn unig sy’n dibynnu’n uniongyrchol ar gyllid gan yr UE, mae fy etholwyr hefyd yn elwa ar yr hawliau pwysig a gafwyd yn sgil aelodaeth y DU o’r Undeb Ewropeaidd, boed hynny’n absenoldeb â thâl—[Torri ar draws.] Esgusodwch fi—amser o’r gwaith mewn argyfwng, toriadau egwyl yn ystod y dydd, deddfwriaeth iechyd a diogelwch, a gallaf fynd ymlaen. Rydych hefyd wedi sôn am drethiant mewn perthynas â thariffau y byddai’r blaid gyferbyn yn hoffi eu dadlwytho ar Gymru. Gallwn fynd ymlaen ac ymlaen. Yn wyneb hyn—a dyma fy nghwestiwn, Lywydd—beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i amddiffyn hawliau gweithwyr yn wyneb Thatcherwyr ailanedig yn y Siambr hon a fyddai’n ein gyrru yn ôl i’r 1980au? Carwyn Jones AC: Wel, rwy’n gwybod bod yr economegwyr sy’n cefnogi Prydain yn gadael yr UE yn tueddu i fod, gadewch i ni ddweud, yn lleiafol eu hagwedd tuag at ddiogelu hawliau gweithwyr. Mae arch-Thatcherwyr o’r 1980au yn wir yn bobl nad ydynt yn credu bod gweithgynhyrchu yn bwysig. Dyna’r hyn rwyf wedi’i glywed gan yr Athro Minford, er enghraifft. Dyna y mae ef wedi’i awgrymu. Dyma’r realiti: rwy’n mynd dramor a phan ddof â buddsoddiad i Gymru—ac rydym wedi llwyddo i wneud hynny—mae’r prif gwestiwn a ofynnant yn ymwneud ag aelodaeth o’r UE. Nid oes ganddynt ddiddordeb mewn dod i Gymru. Nid oes ganddynt ddiddordeb mewn dod i’r DU. Mae ganddynt ddiddordeb mewn cael mynediad i’r farchnad o 500 miliwn. Os na allwn gynnig y mynediad hwnnw, ni ddaw’r buddsoddiad. Dywedir mai ein harian ni yw hwn. Nid arian Cymru ydyw. Dyma arian sy’n dod i Gymru o Frwsel a fyddai’n mynd o Frwsel i Lundain yn lle hynny. Gallwn warantu, oherwydd gwyddom yn y Siambr hon, os cyflwynwch y dyn canol, bydd y dyn canol yn cymryd cyfran. Mae Cymru’n elwa. Mae’n fuddiolwr net, a byddai’r arian hwnnw’n mynd i Lundain yn hytrach na dod i Gymru. O leiaf gyda’r sefyllfa sydd gennym yn awr, mae’n gywir dweud bod yr arian hwnnw’n dod i Gymru, ac mae’n sicr na fyddai’r arian hwnnw’n dod i Gymru yn y dyfodol ac y byddai pobl Cymru ar eu colled. Steffan Lewis AC: Bydd y Prif Weinidog yn gwybod am Ffordd Goedwig Cwmcarn, atyniad sy’n gaffaeliad i ardal Islwyn ac un sydd wedi elwa ar gyllid yr Undeb Ewropeaidd. Er mwyn goresgyn anawsterau diweddar ar Ffordd Goedwig Cwmcarn, a yw’r Prif Weinidog yn cytuno y gallai cyllid Ewropeaidd yn y dyfodol fod yn allweddol, ac a fyddai’n cytuno ymhellach ac yn ymrwymo i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gweithio i ddatgloi’r holl ffynonellau cyllid posibl i sicrhau dyfodol i Ffordd Goedwig Cwmcarn? Carwyn Jones AC: Yn bendant. Rwy’n gwybod bod problemau wedi bod ar y ffordd goedwig gyda chlefydau coed yn y gorffennol. Mae’n atyniad hynod ddefnyddiol i etholaeth Islwyn, ac rydym yn gwybod bod angen i ni allu manteisio ar yr holl botiau sydd ar gael i ni er mwyn hybu i’r eithaf yr effaith ar yr economi leol y mae’r ffordd yn ei darparu. Mohammad Asghar (Oscar) AC: Brif Weinidog, rhwng 2014 a 2020, bydd Cymru yn elwa ar oddeutu £1.8 biliwn o fuddsoddiad y cronfeydd strwythurol Ewropeaidd i gefnogi cymunedau megis Islwyn. O ystyried y rhybuddion diweddar y gallai’r cyllid hwn ddod i ben ar ôl 2020, hyd yn oed os yw’r DU yn aros yn yr Undeb Ewropeaidd, pa gamau a gymerwch i sicrhau bod dyfodol i gyllid strwythurol Ewropeaidd ar gyfer Cymru? Carwyn Jones AC: Ni fydd cyllid strwythurol Ewropeaidd yno o gwbl ddiwedd y mis hwn os yw pethau’n mynd y ffordd na fyddwn eisiau iddynt fynd. Nid oes unrhyw sicrwydd o gwbl y byddai’r arian hwnnw’n cael ei ddarparu gan Lundain. Gwyddom fod ein ffermwyr yn cael £260 miliwn y flwyddyn. Nid yw hwnnw’n arian sydd gennym y gallwn ei roi, ond caiff yr arian hwnnw ei ddarparu i’n ffermwyr er hynny. Nid oes unrhyw ffordd y gellir bwrw ymlaen â metro de-ddwyrain Cymru oni bai ein bod yn gallu cael mynediad at arian Ewropeaidd neu bot cyfwerth. Nid wyf yn credu y bydd Llywodraeth y DU yn darparu’r arian, geiniog am geiniog, punt am bunt, y byddai pobl Cymru yn ei golli o ganlyniad i adael yr UE. David J Rowlands AC: Yn amlwg, rydym i gyd yn gwybod nad oes y fath beth ag arian Ewropeaidd; arian Prydeinig ydyw, sy’n dod yn ôl i ni ar ôl iddynt ddwyn ei hanner. Ond a gaf fi ddweud, efallai nad yw’r Prif Weinidog yn ymwybodol fod pobl yn ystyried mai Islwyn yw’r etholaeth fwyaf Ewrosgeptig yng Nghymru? A allwch chi feio’r etholaeth? Er enghraifft, llafur mudol, bron yn gyfan gwbl, sy’n cael ei gyflogi gan y rhan fwyaf o’r ffatrïoedd ar ystâd Oakdale yn Islwyn, fel sy’n wir, wrth gwrs, drwy Gymoedd y de benbaladr. A hoffech chi roi sylwadau ar hynny, os gwelwch yn dda? Carwyn Jones AC: Gallaf. Mae yna fentrau yng Nghymru, fel lladd-dy St Merryn, a fyddai’n cau oni bai am y ffaith eu bod yn gallu gwneud defnydd o rai gweithwyr mudol fan lleiaf. Ac mae’n golygu bod pobl sy’n byw yn yr ardal yn gallu cadw swydd a fyddai fel arall yn cael ei cholli iddynt. Ceir digon o enghreifftiau. General Dynamics. Mae’n sôn am Oakdale. At ei gilydd, mae General Dynamics yn cyflogi pobl sy’n lleol i’r ardal, ac maent yn gyflogwr pwysig yn yr ardal. Y realiti yw ei fod yn gweld pethau o safbwynt Llundain; rwy’n gweld pethau o safbwynt Cymru. A’r gwir amdani yw ein bod yn cael arian o Ewrop. Byddai’r arian hwnnw’n aros yn Llundain—ni fyddech yn ei weld. Ni fyddem yn ei weld yng Nghymru i’r un graddau. Mae’n wir ein bod ni yng Nghymru yn cael mwy yn ôl o’r Undeb Ewropeaidd nag a rown i mewn, ac rwy’n gweld pethau o safbwynt Cymreig ac o safbwynt sicrhau ein bod yn cael ffyniant a mynediad i farchnadoedd ar gyfer pobl Cymru. <p>Cau Llysoedd</p> Simon Thomas AC: 5. Pa drafodaethau mae’r Prif Weinidog wedi eu cynnal ynglŷn â llysoedd yng Nghymru sydd wedi eu clustnodi i gau gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder? OAQ(5)0027(FM)[W] Carwyn Jones AC: Bydd y rhaglen cau llysoedd yn cael effaith niweidiol sylweddol ar fynediad at gyfiawnder yng Nghymru. Rŷm ni wedi anfon ymateb trwyadl at Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ac er bod y penderfyniad wedi cael ei wneud, mae hwnnw’n rhywbeth yr ydym ni wedi gwasgu’n gryf arno er mwyn er mwyn sicrhau bod yna ddigon o lysoedd yng Nghymru. Ond, yn anffodus, nid felly yw barn Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Simon Thomas AC: Diolch, Brif Weinidog. Yn anffodus, un o’r llysoedd sydd wedi’i glustnodi ac sy’n mynd i gau yw’r prif lys yng Nghaerfyrddin, yng nghanol tref Caerfyrddin, sy’n adeilad hanesyddol i dref Caerfyrddin gyfan. Nawr bod y penderfyniad yna wedi’i gymryd, mae’r bobl yn y dref yn awyddus eu bod nhw’n cymryd yn ôl berchnogaeth o’r adeilad hwnnw ac yn ei droi’n rhyw fath o adnodd i’r dref—lle yn llawn hanes, wrth gwrs, ac yn llawn hanes cyfiawnder yn y dref yn ogystal. A oes modd i’r Llywodraeth fod yn lladmerydd ar ran y cyngor sir a’r cyngor tref i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder gan nad yw’r llythyrau rydw i wedi’u hysgrifennu wedi cael unrhyw ymateb o gwbl ganddyn nhw, i sicrhau bod trafodaethau yn dechrau er mwyn gweld os oes modd cadw’r adeilad yma er lles pobl Caerfyrddin? Carwyn Jones AC: Wel, mae’r adeilad ei hunan, wrth gwrs, yn hen adeilad. I fi, mae’n adeilad pwysig; dyna’r adeilad lle y gwnes i erlyn am y tro diwethaf yn Llys y Goron, sawl blwyddyn yn ôl nawr. So, mae yna rai sydd yn y carchar—wel, dim rhagor, nid wyf yn credu, o’m hachos i. Nid wyf yn credu bod hynny’n lot fawr o help ynglŷn â chefnogaeth yn y pen draw, ond, na. A gaf i ofyn, felly, i’r Aelod i ysgrifennu ataf fi ac fe wnaf i wrth gwrs ysgrifennu at y Llywodraeth yn Llundain er mwyn sicrhau bod yna ateb ac er mwyn sicrhau bod yna fodd i bobl leol gymryd drosodd adeilad sydd yn hollbwysig i etifeddiaeth a hanes y dref? Mick Antoniw AC: Brif Weinidog, yn y sesiwn ddiwethaf buom yn trafod y rhaglen gau llysoedd a thynnais eich sylw’n benodol at fater llys ynadon Pontypridd, yn fwy o safbwynt yr hyn sydd, o amgylch Cymru, yn ymarfer torri costau gyda llysoedd, ond mae’n fater sy’n cyfyngu ar fynediad at gyfiawnder i rai o’r cymunedau tlotaf a mwyaf agored i niwed. Brif Weinidog, tybed ai nawr yw’r amser i Lywodraeth Cymru o leiaf gynnal adolygiad o effaith rhai o’r penderfyniadau hynny a wnaed gan Lywodraeth y DU ar ein cymunedau? Mewn gwirionedd, nid ydym erioed wedi cael atebion priodol i’r pwyntiau a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad, a oedd i’w weld yn fwy o siarâd nag ymgynghoriad go iawn, ond mae materion difrifol iawn yn codi mewn perthynas â mynediad at gyfiawnder. Un peth yw pasio deddfau a chael yr holl gyfiawnder yn y byd; os na all pobl gael mynediad ato, nid ydynt yn cael unrhyw gyfiawnder o gwbl, ac mae Llywodraeth y DU wedi gwneud cam llwyr â ni yn hyn o beth. Carwyn Jones AC: Un o egwyddorion sylfaenol cyfraith Cymru tan 1536, ac egwyddor sylfaenol o’r hyn y byddem yn awr yn ei ddisgrifio, mae’n debyg, fel cyfraith Cymru a Lloegr ers hynny, yw bod cyfiawnder yn dod at y bobl. Dyna’r rheswm pam y mae ynadon yr Uchel Lys yn teithio o gwmpas. Yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf awgrymir yn awr fod rhaid i bobl gyrchu cyfiawnder, a theithio pellter hir, a phan fyddant yn cyrraedd, nid ydynt yn cael cynrychiolaeth chwaith, tra’u bod wrthi. Mae hynny’n dangos faint o ddirywiad a fu yn y system gyfiawnder, ond rwy’n cytuno’n llwyr ag ef fod angen adolygu’r effaith ar bobl, oherwydd fel rhywun a fu’n gweithio yn y llysoedd am lawer iawn o flynyddoedd, ni allaf weld dim yn awr ond pethau’n arafu a chyfiawnder naill ai’n cael ei wadu neu ei ohirio i ormod o bobl. David Melding AC: Brif Weinidog, rwy’n gwybod bod gennych gysylltiad teuluol agos iawn â Gogledd Iwerddon a thybed, ar eich ymweliadau â Gogledd Iwerddon, a ydych wedi sylwi ar bolisi Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon i gydgrynhoi cymaint o adeiladau gweinyddol, llywodraeth leol a chyfreithiol, ac adeiladau gwasanaethau cyhoeddus, ag y bo modd, fel y gallant gael canolfannau sy’n cynnal mynediad i’r dinesydd. A yw hwn efallai yn fodel y gallech edrych arno gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod cynifer o lysoedd ac adeiladau tribiwnlys yn aros ar agor? Carwyn Jones AC: Credaf fod hynny’n gwneud synnwyr perffaith. O ran y llysoedd troseddol, wrth gwrs, mae angen iddynt gael celloedd wrth law, felly maent mewn categori gwahanol i’r llysoedd sirol, sydd wedi bod mewn adeiladau gweinyddol ers blynyddoedd lawer ar draws Cymru. Ond rwy’n credu bod yr awgrym o rannu adeilad neu gyfleusterau penodol yn gwneud synnwyr perffaith er mwyn darparu gwasanaeth cydgysylltiedig a chyson i’r cyhoedd. <p>Gweithgareddau’r Tasglu Dur</p> David Rees AC: 6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am weithgareddau’r tasglu dur ers diddymiad y Pedwerydd Cynulliad? OAQ(5)0032(FM) Carwyn Jones AC: Ie, gwn fod hyn, wrth gwrs, yn fater o bwys mawr i’r Aelod a’i etholaeth, ond byddaf yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf ychydig yn nes ymlaen ar lawr y Cynulliad ar Tata Steel yn gyffredinol ac ar waith y tasglu yn ystod fy natganiad llafar. David Rees AC: Diolch i’r Prif Weinidog am ei ateb, ac arhosaf i glywed rhai o’r pwyntiau, ond un o’r materion rwyf am dynnu sylw ato yw’r ffaith, ers y cyhoeddiad ym mis Ionawr am golli 1,000 o swyddi, gyda 750 ohonynt yn fy etholaeth i, yng ngwaith Port Talbot, ein bod wedi gweld y rhan fwyaf o’r swyddi hynny’n mynd go iawn, ac ar ddiwedd y mis hwn bydd gweddill y swyddi hynny’n mynd. Nawr, mae’r rhannau cynharach wedi bod drwy ddiswyddo gwirfoddol neu ymddeoliad cynnar, ond mae’r pentwr nesaf o swyddi sy’n mynd i gael eu colli yn mynd i gynnwys diswyddiadau gorfodol. Hoffwn wybod a yw’r tasglu yn awr yn paratoi ar gyfer y cyfnod hwn o golli swyddi i helpu’r bobl sy’n mynd i fod allan o waith, a’u teuluoedd yn arbennig, a fydd yn wynebu amser heriol dros y misoedd nesaf. Carwyn Jones AC: Rydym yn ymwybodol iawn, wrth gwrs, o’r angen i gefnogi’r rheini sydd wedi colli eu swyddi o ganlyniad i’r cyhoeddiad a wnaed eisoes. A byddaf yn ymdrin â hynny’n rhan o’r datganiad, os caf. Bethan Sayed AC: Brif Weinidog, yng nghofnodion blaenorol y tasglu nodais fod Nick Bourne wedi cynnig creu seminar ar ddympio dur fel y gallai’r cwmnïau dur ddod at ei gilydd i drafod y posibiliadau hynny. Yn bersonol rwy’n teimlo fod hynny’n fwy perthnasol nag erioed o ystyried ein bod yn clywed llawer o anwireddau amlwg gan rai yn y Cynulliad hwn mewn perthynas â dympio dur o Tsieina. A yw’r seminar honno’n mynd i ddigwydd, ac os ydyw, a allwch ddweud wrthyf beth fydd yn digwydd gyda’r seminar a phwy fydd ynghlwm â hi fel y gallwn gael trafodaeth genedlaethol ar adeg hollbwysig, cyn y bleidlais ar Ewrop? Carwyn Jones AC: Nid wyf yn gwybod am y seminar, ond byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod gyda mwy o fanylion am hynny. Mae’n tynnu sylw at bwynt pwysig, wrth gwrs, sef tegwch yn y farchnad. Nid y Comisiwn Ewropeaidd a roddodd feto ar y syniad o dariffau, ond Llywodraeth y DU—rhywbeth y credaf eu bod yn ei ddifaru bellach. Mae Llywodraethau eraill wedi gwneud hyn; nid oes unrhyw reswm pam na ddylai Ewrop wneud yr un peth. Yr unig beth rydym yn edrych amdano, wrth gwrs, hi a minnau, ac wrth gwrs, yr Aelod dros Aberafan, yw tegwch i’n gweithwyr dur. <p>Ymchwiliad i Ddigwyddiadau Orgreave</p> Mick Antoniw AC: 7. A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried gwneud sylwadau i Lywodraeth y DU i gefnogi galwadau glowyr Cymru ac undeb NUM De Cymru am ymchwiliad i ddigwyddiadau Orgreave ym mis Mehefin 1984? OAQ(5)0026(FM) Carwyn Jones AC: Mater i Lywodraeth y DU yw hwn wrth gwrs ond byddaf yn ystyried ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref i weld a yw wedi gwneud penderfyniad ynglŷn â’r angen am ymchwiliad. Mick Antoniw AC: Diolch i chi am eich ateb, Brif Weinidog. Cyfarfûm â’r Ysgrifennydd Cartref fel aelod o’r Orgreave Truth and Justice Campaign ac mewn gwirionedd, cawsom gyfarfod cadarnhaol iawn gyda hi ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf. Ers hynny, rhoddwyd cyflwyniadau manwl iawn gerbron. Wrth gwrs, ers hynny, cafwyd dyfarniad Hillsborough ac wrth gwrs, y cysylltiad uniongyrchol rhwng digwyddiadau yn Orgreave a’r ffordd y cafodd tystiolaeth ei defnyddio neu ei chamddefnyddio—maent yn ddigwyddiadau tebyg iawn, gyda’r un gwnstabliaeth, unwaith eto, yn Hillsborough—yn amlwg yn creu cysylltiad arwyddocaol iawn. Mae Andy Burnham AS wedi rhoi ei gefnogaeth i ymchwiliad, ac mae Prif Gwnstabl Cynorthwyol De Swydd Efrog wedi croesawu un, ac rwy’n deall yn awr fod y pedwar comisiynydd heddlu a throseddu yng Nghymru hefyd yn gefnogol i’r angen am ymchwiliad i’r mater hwn. A gaf fi ofyn i’r Prif Weinidog sicrhau y bydd unrhyw sylwadau a wneir yn cefnogi’r angen i gael ymchwiliad i anghyfiawnder ers amser maith sy’n dal i fod ym meddyliau llawer o gyn-lowyr o dde Cymru? Carwyn Jones AC: Rhaid i mi ddweud fy mod yn credu bod yna achos cryf dros ymchwiliad o’r fath. Gwelsom oll yr hyn a ddigwyddodd gyda Hillsborough, a faint o amser a gymerodd i’r gwirionedd ddod allan. Yn fy marn i, mae’n rhaid i’r un peth ddigwydd gydag Orgreave. Nid oedd y 1980au yn gyfnod o dryloywder, gyda Llywodraeth nad oedd yn credu mewn parchu hawliau pobl. Wel, mae’n rhaid i’r gwir ddod allan, ac mae ymchwiliad yn un ffordd o wneud hynny. Adam Price AC: Fel mab i löwr oedd yn Orgreave yn ystod y streic, a gaf i ategu’n gryf iawn alwad Mick Antoniw ar gyfer ymchwiliad llawn? A fyddai’r Prif Weinidog yn cytuno hefyd fod eisiau i’r cylch gorchwyl fod mor eang ag sy’n bosib, er enghraifft, i edrych ar yr honiadau ynglŷn â defnydd y lluoedd arfog ar y pryd, i edrych ar gydlynu datganiadau gan yr heddlu, wrth gwrs, a oedd wedi digwydd yn achos Hillsborough, a’r defnydd, wrth gwrs, o’r cyfryngau i gamarwain pobl ynglŷn â’r hyn ddigwyddodd, yn achos Hillsborough gyda ‘The Sun’, ac yn achos Orgreave, wrth gwrs, y BBC? Carwyn Jones AC: Mae hynny’n iawn, wrth gwrs; rwy’n gwybod y stori ynglŷn â beth ddigwyddodd yn y fanna. Beth sy’n bwysig dros ben yw ein bod ni’n gallu gweld y gwir, bod yna ymchwiliad, ein bod ni’n deall beth yn gymwys digwyddodd, ac felly beth wnaeth ddim digwydd. Ond, beth sy’n bwysig yw bod y gwirionedd yn cael ei roi o flaen pobl Prydain er mwyn eu bod nhw’n gallu ystyried beth ddigwyddodd 30 mlynedd yn ôl. <p>Pencampwriaeth Bêl-droed Ewrop 2016 </p> Rhun ap Iorwerth AC: 8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am waddol Pencampwriaethau Pêl-droed Ewropeaidd 2016 i Gymru? OAQ(5)0037(FM)[W] Carwyn Jones AC: The Football Association of Wales and the Welsh Football Trust are planning to use Euro 2016 as a catalyst to improve Welsh football and there will be a statement later this afternoon on this. May I take this opportunity, therefore, to wish the team very well, on behalf of the whole National Assembly for Wales? We’ve ensured that we are there, but it would be a great pleasure to see some wins over the ensuing weeks, particularly of course on 16 June, next week. Rhun ap Iorwerth AC: Mi wnaf i ategu’r geiriau yna gan y Prif Weinidog wrth i ni droi at fater Ewropeaidd yr ydym ni i gyd yma yn y Siambr yn gallu cytuno arno fo. Rwy’n gwybod ein bod ni i gyd yma yn dymuno’n dda iawn i’r tîm cenedlaethol. Mi fyddech chi’n ei gweld hi’n od iawn pe na bawn i’n cyfeirio at y cyfraniadau arbennig gan y rhai o Ynys Môn i’r tîm cenedlaethol, ac rwy’n falch iawn o allu dymuno’n dda iawn i Osian Roberts, fel aelod o’r tîm hyfforddi, ac i Wayne Hennessey hefyd yn y gôl. Mi wnaf grybwyll y gwaith y tu ôl i’r llenni gan Trefor Lloyd Hughes yn y blynyddoedd diwethaf hefyd. Ond, a ydy’r Prif Weinidog yn cytuno bod angen defnyddio rŵan llwyddiant y garfan yma, a’r llwyddiant mawr a ddaw gobeithio yn Ffrainc, fel llwyfan, a’n bod ni yn defnyddio’r garfan fel ‘role model’ nid yn unig i hybu proffil Cymru ac i hybu pêl-droed fel camp, ond hefyd i hybu gweithgaredd corfforol sy’n rhywbeth mor bwysig, wrth gwrs, i iechyd ein poblogaeth ni? Carwyn Jones AC: Mae yna ddau beth fan hyn sy’n bwysig: yn gyntaf, wrth gwrs, sicrhau bod pobl ifanc yn chwarae chwaraeon ac yn gweld pêl-droed fel rhywbeth i’w wneud er mwyn helpu eu hiechyd nhw ac, yn ail, wrth gwrs, sicrhau bod proffil Cymru yn cael ei godi nid dim ond yn Ewrop, ond ar draws y byd. Fe welon ni beth ddigwyddodd gyda Gweriniaeth Iwerddon yn 1990 pan aethon nhw i gwpan y byd. Gwnaeth e fyd o wahaniaeth i’w heconomi nhw a hefyd i’w twristiaeth nhw. Ces i gyfarfod yr wythnos hon gyda swyddogion i weld pa fath o baratoadau sydd wedi cael eu gwneud er mwyn sicrhau bod proffil Cymru yn cael ei godi yn Ffrainc. Mae’r paratoadau hynny yn symud ymlaen yn dda, nid dim ond ym Mharis, wrth gwrs, ond yn y tair dinas lle mae’r gemau yn cael eu chwarae—wel, y tair gêm gyntaf sy’n cael eu chwarae—ar ran tîm Cymru. Jayne Bryant AC: Yn ein pobl ifanc y gwelir etifeddiaeth llwyddiant pêl-droed Cymru. Yng Nghasnewydd, mae gennym 1,699 o chwaraewyr iau egnïol yn chwarae mewn 140 o dimau ac 16 o glybiau. Yn ogystal â hyn, mae gennym system academi lwyddiannus yn Sir Casnewydd, sy’n cefnogi ac yn datblygu sêr ein hyfory. A wnaiff y Prif Weinidog sicrhau y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda’r FAW i gefnogi a meithrin talent ein sêr pêl-droed yng Nghymru ar gyfer y dyfodol? Carwyn Jones AC: Yn bendant. Roedd yn bleser gennyf agor yr academi yng Nghasnewydd, yr academi genedlaethol. Darparwyd cymorth ariannol gennym i’r FAW er mwyn ei sefydlu. Mae’n hynod o bwysig fod gennym gyfleusterau modern gyda mynediad at hyfforddiant da ar lefel elitaidd chwaraeon er mwyn sicrhau lefel uchel o berfformiad. Ond mae’n bwysig hefyd i ni wneud yn siŵr fod y cyfleusterau yn eu lle i annog pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon ar bob lefel a dyna’n union y byddwn yn parhau i’w wneud, gan weithio gyda sefydliadau fel Chwaraeon Cymru. Mark Isherwood AC: Yn gynharach yr wythnos hon, dywedodd cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam, Spencer Harris: ‘Mae cael Cymru yn y Pencampwriaethau Ewropeaidd yn enfawr i glwb fel ni... Cymru mewn pencampwriaeth yw’r cyfle perffaith i helpu ein clwb.’ Felly, sut y bydd eich Llywodraeth yn gweithio gyda phobl fel Spencer Harris i sicrhau bod yr etifeddiaeth honno—etifeddiaeth Ewro 2016—yn cyrraedd Wrecsam a phob cwr o Gymru? Carwyn Jones AC: Mae’n bwysig deall hynny, a dyna pam y buom yn gweithio gyda’r FAW a’r ymddiriedolaeth i sicrhau bod llwyddiant disgwyliedig tîm Cymru yn cael ei adlewyrchu ar draws pob cwr o’n cenedl, ond yn arbennig wrth gwrs, ei fod yn cael ei weld fel cymorth i ysgogi buddsoddiad yn yr economi a thwristiaeth ym mhob rhan o Gymru am fisoedd a blynyddoedd i ddod. Gareth Bennett AC: Mae’n dda clywed bod yr awdurdodau pêl-droed yng Nghymru yn bwriadu defnyddio pencampwriaethau Ewrop fel ffordd o greu etifeddiaeth i chwaraeon yng Nghymru yn y dyfodol, ac rwy’n gobeithio bod hynny’n digwydd mewn gwirionedd. Ond yn y tymor byr, cyn i ni sefydlu’r etifeddiaeth, mae’r digwyddiad ei hun. Mae’n newyddion da fod gennym barthau cefnogwyr yn cael eu creu bellach yn Abertawe ac yng Nghaerdydd, fel y gall mwy o bobl gymryd rhan go iawn ym mwynhad y cyhoedd o gemau’r Ewro. A yw’n werth ystyried a allai’r Llywodraeth gefnogi parthau cefnogwyr tebyg mewn canolfannau poblogaeth mawr yn rhanbarthau eraill Cymru? [Torri ar draws.]Iawn, diolch. Carwyn Jones AC: Un o’r problemau gyda pharthau cefnogwyr—. Rwyf wedi gweld rhywbeth gan Gaerdydd ac rwy’n credu bod gan Abertawe ac efallai Casnewydd gynlluniau tebyg—nid ydynt wedi gofyn am gymorth gan y Llywodraeth. O’n safbwynt ni, wrth gwrs, mae’n rhaid i ni fod yn ofalus. Os ydym yn cynnig cymorth i un, rhaid iddo fod yn gymorth i bawb ac mae terfyn, wrth gwrs, ar faint o gymorth ariannol y gellir ei gynnig. Ond rwy’n croesawu’r ffaith fod parthau cefnogwyr yn cael eu sefydlu ac y byddant yn cael eu sefydlu ar draws nifer o drefi a dinasoedd yng Nghymru. Diolch, Brif Weinidog. 2. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Eitem 2 ar yr agenda yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes ac rwyf yn galw ar Jane Hutt. Jane Hutt AC: Mae busnes yr wythnos hon fel y’i nodir yn agenda’r Cyfarfod Llawn gyda datganiadau llafar gan y Llywodraeth ar Fesur Cymru, Tata Steel a phencampwriaeth pêl-droed Ewrop. Yn ogystal, mae’r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i drefnu cynnig gweithdrefnol i ethol Comisiynwyr y Cynulliad, sy’n ei gwneud yn ofynnol i ni atal y Rheolau Sefydlog. Mae’r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir yn y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd i’w weld ymhlith papurau’r cyfarfod, ac sydd ar gael i’r Aelodau yn electronig. Lynne Neagle AC: Weinidog, hoffwn ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar yr anghydfod diwydiannol parhaus rhwng Amgueddfa Cymru ac Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol. Fel y gwyddoch, mae’r staff wedi bod ar streic am gyfnod amhenodol ers 21 Ebrill. Rwy’n credu bod y staff yn dioddef caledi o ganlyniad i hynny, yn enwedig yn Big Pit lle mae’r streic wedi bod yn gadarn; mae’r amgueddfa wedi bod ar gau ers nifer o wythnosau, ac rwy’n talu teyrnged i’r staff am yr ymrwymiad y maent wedi’i ddangos. Croesawaf ymdrechion cynnar yr Ysgrifennydd newydd i ddatrys yr anghydfod hwn yn fawr, ond mae angen ei ddatrys ar frys bellach, a byddwn yn ddiolchgar pe bai’n fodlon rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cynulliad am ei ymdrechion. Jane Hutt AC: Diolch i Lynne Neagle am y cwestiwn hwnnw i’r datganiad busnes. Fel rydych wedi cydnabod, mae’r Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet yn dangos diddordeb brwd iawn yn y cynnydd a wneir yn y mater hwn. Maent yn ymwybodol fod cyfarfodydd diweddar wedi’u cynnal rhwng yr amgueddfa genedlaethol ac Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol, ac mae’r amgueddfa genedlaethol wedi cadarnhau ei bod wedi gwneud cynnig gryn dipyn yn well i’r Undeb dros y penwythnos, a chynhelir cyfarfod i drafod y cynnig hwn y prynhawn yma. Felly, arhoswn i weld beth fydd canlyniad y cyfarfod, wrth gwrs, a gobeithio y gellir dod i gytundeb er mwyn dod â’r anghydfod hir hwn i ben. Simon Thomas AC: Gan mai dyma’r datganiad busnes cyntaf i ni ei gael ers rhai wythnosau, mae gennyf un neu ddau o bethau yr hoffwn eu gofyn i’r Gweinidog Busnes ac rwy’n gobeithio y byddwn yn clywed gan y Llywodraeth yn ystod y pythefnos nesaf. Yn gyntaf rwyf am ddweud fy mod yn cefnogi’r hyn y mae Lynne Neagle newydd alw amdano, ac wrth gwrs, mae’r streic hon yn effeithio ar amgueddfeydd ledled Cymru, mewn gwirionedd, a llawer o amgueddfeydd mewn rhannau gwledig o Gymru yn ogystal. Rwy’n hyderus, Weinidog Busnes, y bydd Cymru yn pleidleisio dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd, ond mae’n bosibl y bydd y DU yn pleidleisio dros adael. A allwch ddweud a yw’r Llywodraeth yn paratoi unrhyw gynlluniau wrth gefn pe baem yn cael pleidlais dros ‘adael’ ac effaith a sioc hynny i economi Cymru? A yw’n bosibl cael datganiad, felly, ar unrhyw gynlluniau wrth gefn y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud cyn y canlyniad posibl hwnnw? Yr ail fater sydd wedi dod ar yr agenda yn ddiweddar iawn yw’r gostyngiad pellach ym mhrisiau llaeth i ffermwyr Cymru. Nid yw hon yn sefyllfa hawdd i’w datrys—rwy’n deall ac yn gwerthfawrogi hynny—ond rwy’n meddwl y byddem oll yn gwerthfawrogi datganiad buan gan yr Ysgrifennydd newydd ynglŷn â phrisiau llaeth, cefnogaeth i’r diwydiant llaeth yng Nghymru, ac yn benodol, rwy’n credu, pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda’r banciau, sydd wedi rhoi benthyg yn eithaf hael dros y blynyddoedd ar gyfraddau llog isel i lawer o ffermwyr llaeth, ond sydd bellach yn profi, wrth gwrs, rhai anawsterau llif arian go iawn, ac mae’r banciau, mewn rhai achosion, braidd yn llawdrwm mewn perthynas â rhai o’r ad-daliadau hynny. Ac rwy’n credu bod gan Lywodraeth Cymru ran i’w chwarae mewn trafodaethau gyda banciau a’r diwydiant llaeth yn y cyd-destun hwnnw. Rwy’n credu bod y pwynt olaf yr hoffwn ei wneud yn deillio, a bod yn deg, o’r cwestiwn a ofynnodd Arweinydd y blaid Geidwadol ynglŷn â pholisi presennol y Llywodraeth o leihau maint dosbarthiadau i ddisgyblion meithrin. Edrychais yn ofalus iawn ar hyn pan oeddwn yn gyfrifol am bolisi addysg Plaid Cymru, ac ni chefais fy argyhoeddi gan y dystiolaeth. Ond hoffwn weld y dystiolaeth sydd gan Lywodraeth Cymru bellach i gyfiawnhau’r gwariant hwn mewn perthynas â gwariant arall sy’n llawer mwy gwerthfawr, yn fy marn i, i fuddsoddi yn y proffesiwn ei hun a sgiliau a safonau datblygu addysgwyr proffesiynol—nid yn unig athrawon ond cynorthwywyr dosbarth yn ogystal. Felly, rwy’n gobeithio y gallwn gael datganiad buan gan yr Ysgrifennydd addysg newydd—rwy’n ei chroesawu i’w lle—ac y bydd y datganiad buan hwnnw’n nodi’r dystiolaeth ar gyfer y polisi hwn sydd gan y Llywodraeth bresennol bellach. Jane Hutt AC: Diolch yn fawr i Simon Thomas am ei gwestiynau cyntaf i’r datganiad busnes yn y pumed Cynulliad hwn. Wrth gwrs, bydd Simon Thomas yn amlwg yn ymwybodol o’n sefyllfa ddatganedig fel Llywodraeth Cymru mai’r hyn sydd orau i Gymru yw bod yn aelod o’r Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd, ac yn amlwg, rydym yn gobeithio y bydd hynny’n cael ei adlewyrchu yng nghanlyniad y refferendwm ar 23 Mehefin. Mae’n bwysig iawn, wrth gwrs, ein bod hefyd yn tynnu sylw at yr effaith niweidiol, ac rydym wedi cael cyfle i rannu rhai o’r pwyntiau hynny sy’n peri pryder y prynhawn yma, fel sy’n briodol. Rwy’n meddwl mai dyna ble byddwn am ganolbwyntio ein hymdrechion ar hyn o bryd. O ran eich ail bwynt am brisiau llaeth, rwy’n gwybod bod yr Ysgrifennydd dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig eisoes wedi gallu dechrau trafodaethau gyda chynrychiolwyr yr undebau ffermio, ac edrych ar faterion allweddol sy’n wynebu ac yn peri pryder i’r sector ffermio. Ac wrth gwrs, bydd y rhain yn faterion y bydd yn edrych arnynt yn ofalus iawn. Wrth gwrs, o ran lleihau maint dosbarthiadau babanod i lai na 25 o ddisgyblion, mae’n fater pwysig iawn i rieni ac wrth gwrs, gall effeithio’n gadarnhaol iawn ar lwyth gwaith athrawon. Mae’n faes blaenoriaeth i Lywodraeth Cymru; mae’n deillio o’n cytundeb blaengar a gydlofnodwyd gyda’r Prif Weinidog a Kirsty Williams, ac yn awr, fel y mae’r Prif Weinidog eisoes wedi dweud wrth ateb cwestiynau y prynhawn yma, bydd hyn yn amlwg yn cael ei ddwyn ymlaen yn y ffordd orau ar gyfer cyflawni hynny. Vikki Howells AC: Arweinydd y tŷ, os gwelwch yn dda a allem gael datganiad am fancio tir gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant? Mae bancio tir yn broblem go iawn yn fy etholaeth yng Nghwm Cynon a ledled Cymru, gyda safleoedd pwysig mewn llawer o drefi a phentrefi yn cael eu cadw, a thrwy hynny’n rhwystro’r adfywio a allai roi hwb i adeiladu tai, creu swyddi newydd a gwella ein hamgylchedd trefol. Roeddwn yn falch fod maniffesto Llafur Cymru yn cynnwys ymrwymiad i ystyried opsiynau i fynd i’r afael â bancio tir ac rwy’n awyddus i gael gwybodaeth bellach ynglŷn â sut y mae Llywodraeth Cymru am fynd i’r afael â’r broblem hon. Jane Hutt AC: Diolch i’r Aelod dros Gwm Cynon am y cwestiwn pwysig hwn. Mae’n hanfodol, wrth gwrs, ein bod yn cynyddu lefelau adeiladu tai ac yn cefnogi cyflogaeth o ganlyniad i hynny—blaenoriaethau allweddol, wrth gwrs, i Lywodraeth Cymru. Mae adeiladwyr tai yng Nghymru yn mynnu nad ydynt yn bancio tir ac nid yw’r model busnes yn caniatáu iddynt ddal gafael ar asedau nad ydynt yn gweithio iddynt. Mae angen i ni wneud yn siŵr fod y defnydd gorau’n cael ei wneud o dir o ran cyflymu’r gyfradd adeiladu tai, gan gynnwys, wrth gwrs, yn eich etholaeth chi. Rydym yn gwneud gwaith pellach ar archwilio a yw bancio tir yn broblem sylweddol yng Nghymru a bydd hynny’n cynnwys ailystyried a oes modd dysgu gwersi o adolygiad Barker o’r cyflenwad tai—roedd hynny yn ôl yn 2004—ac adolygiad Lyons 2014. Roedd hwnnw’n gwneud argymhellion penodol iawn ac wrth gwrs, byddwn yn ymateb i’r rheini—rydym yn ymateb i’r rheini, ond byddwn yn edrych eto i weld a yw hon yn broblem sylweddol. Felly, diolch i Vikki Howells am ofyn y cwestiwn. Andrew RT Davies AC: A gaf fi eich llongyfarch, Weinidog—Ysgrifennydd y Cabinet, dylwn ddweud—ar eich penodiad, neu eich ailbenodiad i’r Cabinet? Hoffwn ddau ddatganiad gennych, os caf—ac rwy’n datgan buddiant fel partner mewn busnes ffermio. Y cyntaf, yn amlwg, yw datganiad ar yr hyn y bydd Ysgrifennydd newydd y Cabinet yn ei wneud i geisio sicrhau perthynas waith well gyda’r undebau ffermio i fynd i’r afael â’r pwysau ar y pris wrth gât y fferm ar hyn o bryd, ac yn arbennig y pwysau parhaus, fel y soniodd yr Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, yn y sector llaeth. Mae pwysau enfawr yno, ac rwy’n gwybod ein bod wedi cael adolygiad ac rydym wedi cael dadansoddiad gan Lywodraethau blaenorol, ond mae rôl gystadleuol y gallai’r Llywodraeth ei chwarae yma drwy weithio gyda’r cynllun datblygu gwledig, a’r mesurau o fewn y cynllun datblygu gwledig, i gynorthwyo rhywfaint o fuddsoddiad mewn capasiti prosesu. Byddwn yn ddiolchgar iawn pe bai modd cael datganiad manwl lle gellid nodi llinell amser yn y datganiad o ran darparu cymorth i’r sector llaeth. Ac yn ail, i gefnogi llawer o fusnesau amaethyddol a llawer o fusnesau bach hefyd sy’n edrych am brosiectau microgynhyrchu—mae’r gallu i gael cysylltiad â’r grid yn broblem enfawr, ac yn aml iawn, yr ymateb symlaf gan Western Power Distribution a’r gweithredwr rhwydwaith dosbarthu arall yng ngogledd Cymru yw dweud ‘na’, ac yn sydyn bydd ffrwd incwm amgen y gellid ei dwyn i mewn i fusnes, ac a fyddai’n helpu’r busnes hwnnw drwy gyfnod anodd neu i barhau i ehangu a chreu swyddi newydd, yn cael ei thorri cyn iddo gael ei draed oddi ar y ddaear. Byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet gyflwyno datganiad ynglŷn â pha drafodaethau y mae hi a’i swyddogion yn eu cael gyda gweithredwyr rhwydwaith dosbarthu yng Nghymru i weld sut y gallant gyflwyno cynllun cynhwysfawr i gynyddu capasiti grid, fel bod llawer o brosiectau microgynhyrchu yn gallu cysylltu â’r grid a cheisio refeniw amgen o’r fath, rhywbeth a allai wneud y gwahaniaeth rhwng bod y busnes hwnnw’n parhau’n hyfyw a’i fod yn methu. Jane Hutt AC: Diolch i Andrew R.T. Davies am ei gwestiynau ac am ei sylwadau croesawgar. Rwy’n falch iawn o ymateb fod Ysgrifennydd y Cabinet eisoes wedi cyfarfod yn gyflym â’r undebau ffermio ac wedi cael ymateb da iawn, ac mae wedi gallu rhannu pwyntiau agenda allweddol, sydd, wrth gwrs, yn cynnwys y rhai rydych yn tynnu sylw atynt heddiw. Rwyf eisoes wedi gwneud sylwadau ar y ffaith fod prisiau llaeth wedi bod ar yr agenda, ond hefyd y capasiti o ran y grid ac mae’r cyfleoedd mewn perthynas â microfusnesau yn fater allweddol rwy’n gwybod y bydd yn awyddus i’w ddatblygu’n rhan o’i chyfrifoldebau newydd, yn ogystal â phwysigrwydd sicrhau y gall hyn alluogi’r busnesau hynny i ddatblygu, yn enwedig mewn ardal wledig. Julie Morgan AC: A gaf fi ychwanegu fy nghefnogaeth i sylwadau Lynne Neagle am y streic yn yr amgueddfa? Rwy’n credu bod gwir angen datrys hyn ar frys. Yn dilyn y ddadl a’r trafodaethau a gafwyd yn y cwestiynau i’r Prif Weinidog, a fyddai’n bosibl cael dadl yn amser y Llywodraeth am weithrediad y Bil cynllunio ac yn benodol, yr elfen cynllunio strategol a gafodd ei chynnwys yn y Bil hwnnw? Mae fy nghyd-Aelod, Hefin David, yr Aelod Cynulliad dros Gaerffili, a minnau wedi bod yn bryderus iawn ynghylch y posibilrwydd o ddatblygu ar fynydd Caerffili. Rydym yn awyddus nid yn unig i warchod yr amgylchedd unigryw, ond hefyd i ymdrin â’r cynnydd posibl mewn traffig a thagfeydd. Mae’n ymddangos yn bwysig iawn y dylid edrych yn strategol ar yr ardal gyfan. Felly, a fyddai’n bosibl cael dadl yn amser y Llywodraeth er mwyn edrych ar y mater hwn? Jane Hutt AC: Diolch i Julie Morgan am y cwestiwn pwysig hwnnw. Wrth gwrs, mae Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 yn darparu’r fframwaith deddfwriaethol hwnnw. Mae’n galluogi grŵp o awdurdodau lleol i baratoi cynllun datblygu strategol ac felly bydd yn ymdrin â rhai o’r materion trawsffiniol rydych yn tynnu sylw atynt gyda’ch cyd-Aelod, Hefin David, yng nghyd-destun Caerffili a’r agosrwydd at fynydd Caerffili. Felly, un ffordd ymlaen wrth gwrs, yw gwneud defnydd mwy effeithlon o adnoddau. Mae’n un o fanteision allweddol y dull strategol o gynllunio. Ond rwy’n credu y byddwn yn dweud o ran cynnydd fod cynnydd da wedi’i wneud ar weithredu’r gwelliannau i’r system gynllunio, gyda dwy ran o dair o’r darpariaethau eisoes wedi’u cychwyn a’u cynnal gan yr is-ddeddfwriaeth angenrheidiol. Felly, rwy’n siŵr y byddai diweddariad yn briodol. Llyr Gruffydd AC: Cyn gofyn cwestiwn a gwneud fy sylw, a gaf i ddatgan diddordeb gan fod fy ngwraig yn ddiweddar iawn wedi cael ei gwneud yn bartner ym musnes ffermio ei theulu? Ond yr hyn y byddwn i’n gofyn amdano yw datganiad buan gan Ysgrifennydd yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar ddynesiad y Llywodraeth newydd tuag at fynd i afael â TB mewn gwartheg. Nawr, wrth ymateb i gwestiwn yn y Siambr yma bythefnos yn ôl, mi ddywedodd y Prif Weinidog, ac rwy’n dyfynnu:‘Un o’r pethau cyntaf y bydd y Gweinidog yn canolbwyntio arno fydd y camau nesaf o ran ymdrin â TB mewn gwartheg.’Rŷm ni’n gwybod, wrth gwrs, fod y polisi brechu ar stop. Rŷm ni’n gwybod hefyd fod tystiolaeth newydd yn dod o gyfeiriad Lloegr, lle mae yna bolisi o ddifa moch daear, ac mae yna wersi, yn amlwg, i’w dysgu yn hynny o beth. Felly, mi fyddwn i’n gofyn i chi sicrhau bod yna ddatganiad buan iawn yn dod ar bolisi’r Llywodraeth newydd yn y maes yma. Jane Hutt AC: Diolch i’r Aelod am y cwestiwn hwn. Mae Llywodraeth Cymru, fel y gwyddoch, wedi ymrwymo i ddull wedi’i arwain gan wyddoniaeth o ddileu TB mewn gwartheg. Mae ein rhaglen dileu TB gynhwysfawr yn cynnwys cynnal profion blynyddol ar wartheg, mesurau bioddiogelwch llym a mesurau rheoli symudiadau, a nod y dull hwn yw mynd i’r afael â holl ffynonellau’r haint. Wrth gwrs, rydym yn ymwybodol y bydd hwn yn fater i Ysgrifennydd y Cabinet wrth iddi fynd ati i ddechrau ystyried y sefyllfa. Joyce Watson AC: Weinidog, a allwn gael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar gwmni bysiau Silcox? Fe fyddwch yn gwybod bod y cwmni 134 mlwydd oed yn Noc Penfro wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr ddydd Llun a bod hynny wedi arwain at golli tua 40 o swyddi. Wrth gwrs, mae’n drist iawn fod cwmni gyda’r fath hanes a gwreiddiau yn y gymuned wedi rhoi’r gorau i fasnachu. Serch hynny, rhaid i ni roi sylw yn awr i’r rhai yr effeithiwyd arnynt yn sgil colli swyddi a diogelu’r gwasanaethau roedd Silcox yn eu gweithredu yn Sir Benfro, yn enwedig cludiant i’r ysgol a gwasanaethau bws lleol hanfodol. Tybed felly, Weinidog, a allwn gael datganiad a fyddai’n rhoi rhywfaint o sicrwydd i’r gymuned honno ein bod o ddifrif ynghylch y pryderon hynny yma. Jane Hutt AC: Mae Joyce Watson wedi tynnu sylw, yn briodol, y prynhawn yma mewn cwestiwn i’r datganiad busnes fel ein bod yn ymwybodol, nid yn unig o’r effaith bosibl o ran y colli swyddi a gwasanaethau yn ei rhanbarth—ac yn amlwg, wrth gwrs, mae hwn yn fater y bydd yr Ysgrifennydd dros yr Economi a’r Seilwaith yn edrych arno yn rhan o’i gyfrifoldebau newydd. Darren Millar AC: Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd a gwasanaethau cymdeithasol i ddarparu’r newyddion diweddaraf i’r tŷ am y mesurau arbennig a’u heffaith yn ardal bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr? Bydd y Gweinidog yn gwybod bod 12 mis bellach ers i’r bwrdd gael ei wneud yn destun mesurau arbennig ac ers cyhoeddi adroddiad gwarthus ar ofal iechyd meddwl ar ward Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd. Ac eto, yn ôl y papurau diweddaru a ddarparwyd i gyfarfod diweddaraf y bwrdd iechyd, nid oes unrhyw strategaeth iechyd meddwl ar waith o hyd ar gyfer y bwrdd iechyd, ac nid yw’r naill na’r llall o’r ddau adolygiad a gomisiynwyd gan y bwrdd ar ganlyniad sgandal Tawel Fan wedi’i gwblhau. Nid oes neb wedi colli ei swydd o ganlyniad i’r sefyllfa ofnadwy a ddigwyddodd ar y ward honno, ac mae’n hen bryd i rywun dalu am hyn. A allwn gael y wybodaeth ddiweddaraf ar frys er mwyn i ni allu ystyried hyn, gan fy mod yn credu bod pobl gogledd Cymru yn haeddu llawer gwell? Jane Hutt AC: Wel, mae’n amlwg yn flaenoriaeth allweddol i’r Ysgrifennydd iechyd newydd. Ac wrth gwrs, nid yn unig y mae wedi gwneud yn siŵr mai un o’r pethau a gâi’r flaenoriaeth gyntaf ganddo oedd ymweld â Betsi Cadwaladr—mewn gwirionedd, rydym hefyd wedi cael ymateb da iawn gan gadeirydd Betsi Cadwaladr, o ran y cynnydd a wnaed o ganlyniad i’r ffaith ein bod wedi ysgwyddo’r cyfrifoldeb allweddol hwnnw fel Llywodraeth Cymru. Ond, hynny yw, yn amlwg, mae’n rhaid i ni gydnabod y ffaith hefyd fod y bwrdd iechyd wedi rhoi camau ar waith i wella ei ymateb i bryderon a chwynion cleifion, wedi adolygu ei drefniadau llywodraethu a’i brosesau, ac wedi ymgysylltu’n llawer llawnach ac yn fwy effeithiol—ac mae angen i chi glywed fy ymateb i’ch cwestiwn, Darren Millar—ac wedi gwella, wrth gwrs, yr ymgysylltiad clir—ymgysylltiad pwysig—â’r cyhoedd, a’r staff hefyd, ac roedd yn ystyried hyn, yn amlwg, fel mater o flaenoriaeth. Ac er mwyn y cleifion, wrth gwrs, mae’n rhaid i ni ymateb i’r pryderon hynny. Ac, yn olaf, Hefin David. Hefin David AC: Hoffwn ychwanegu fy llais at gais Julie Morgan am ddadl ar Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015. Byddwn yn dweud ei bod yn glod i Lywodraeth Cymru ei bod eisoes wedi pasio’r ddeddfwriaeth angenrheidiol i greu cynlluniau datblygu strategol. Ond yn benodol yn y ddadl, hoffwn weld trafodaeth ar y cynllun strategol ar gyfer de-ddwyrain Cymru, gan gynnwys y 10 awdurdod lleol. Rwy’n teimlo nad yw cynlluniau datblygu lleol yn cysylltu’n dda iawn, ac mae’r broses gynllunio strategol yn ffordd o ddatrys y pwysau anochel ar awdurdodau lleol.Ac un gair am y ffordd y dylid cynnal y ddadl; rwy’n meddwl y gallem fod yn adeiladol yn y ddadl hon. Nid yw’n broblem ar gyfer gwleidyddiaeth plaid, a dyna pam y synnais yn gynharach, yn ystod cwestiynau i’r Prif Weinidog, fod Neil McEvoy—gŵr tawel yn ôl yr hyn a glywais—wedi penderfynu ei gwneud yn ddadl rhwng pleidiau gwleidyddol. Nid wyf yn credu bod angen iddi fod yn ddadl rhwng pleidiau gwleidyddol—[Torri ar draws.] Nid wyf yn credu bod angen iddi fod yn ddadl rhwng pleidiau gwleidyddol; rwy’n meddwl y gall fod yn ddadl adeiladol. Yr unig ffordd rydym yn mynd i ddatrys y broblem hon yw drwy weithio gyda’n gilydd, ar draws y pleidiau. Felly, hoffwn i ni fyfyrio ar hynny pan fyddwn yn cynnal y ddadl. Jane Hutt AC: Wel, diolch i’r Aelod dros Gaerffili am y cwestiwn hwnnw. Wrth gwrs, ni cheir enghraifft well o’r modd y mae awdurdodau lleol wedi gweithio gyda’i gilydd nag a welwyd gyda datblygiad llwyddiannus y fargen ddinesig, y 10 awdurdod lleol, sydd hefyd o ganlyniad i ymgysylltiad trawsbleidiol rhwng arweinwyr awdurdodau lleol ar y lefel honno—ar lefel ranbarthol. Ond rwy’n credu eich bod wedi gwneud pwynt pwysig, o ran y ddeddfwriaeth. Mae’n ymwneud â rhoi cynllun ar waith, ac mae gennym y cyfle hwnnw yn awr, cyfle a all adlewyrchu egwyddorion democratiaeth leol, a mater i’r awdurdodau lleol yw cydweithio a chyflwyno cynigion i Lywodraeth Cymru, ac wrth gwrs, byddem yn croesawu hynny yn rhan o’r dull strategol o ddatblygu o ganlyniad i’n Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 newydd y llwyddwyd i’w chael. Diolch, Weinidog. 3. 3. Datganiad: Bil Cymru Rwy’n symud ymlaen at yr eitem nesaf ar yr agenda, sef datganiad gan y Prif Weinidog ar Fesur Cymru. Rwy’n galw ar Carwyn Jones. Carwyn Jones AC: Lywydd, hoffwn wneud datganiad am Fil Cymru Llywodraeth y DU, a gyflwynwyd yn y Senedd ddoe.Prin fod angen dweud bod y Bil hwn yn hanfodol bwysig i Gymru, a bydd yr Aelodau’n ymwybodol ei fod wedi cael hanes cythryblus ers cyhoeddi’r ymgnawdoliad blaenorol ar gyfer craffu cyn y broses ddeddfu fis Hydref diwethaf. Ym mis Tachwedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru feirniadaeth fanwl a ddaeth i’r casgliad nad oedd y Bil yn addas at y diben, a byddai’n cyflwyno cyfyngiadau ar gymhwysedd y Cynulliad a fyddai’n anghyson â mandad refferendwm 2011. Cefnogodd rhanddeiliaid arbenigol a Phwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad y dadansoddiad hwnnw ym mis Mawrth. Argymhellodd y Pwyllgor Materion Cymreig y dylid oedi taith y Bil i’w gwneud hi’n bosibl gwneud gwaith sylweddol pellach cyn ei gyflwyno, a’r Bil a gyhoeddwyd ddoe yw ffrwyth y gwaith hwnnw.Rhaid i mi ddweud, Lywydd, fod y Bil newydd yn bell o fod yn berffaith, ac mae angen gweithio ar lawer o fanylion pwysig o hyd, ond mae’n well na’r drafft blaenorol. Mae wedi elwa o drafodaeth gyda swyddogion Llywodraeth Cymru, ac mae’r trafodaethau hynny’n parhau. Buaswn wedi hoffi ei weld yn cael ei gyflwyno’n ddiweddarach i ganiatáu i fwy o gynnydd gael ei wneud, ond mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi fy sicrhau y bydd y trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ar fanylion yn parhau, ac y dylai fod lle i ailystyried darpariaethau’r Bil yn sylweddol eto yn ystod ei daith.Ar sail hynny, rwy’n gallu rhoi croeso gofalus i’r drafft hwn. Rwy’n cydnabod bod cynnydd wedi’i wneud, ond bydd angen gwelliannau pellach ar nifer o faterion allweddol. Rwyf wedi gwneud hynny’n glir i’r Ysgrifennydd Gwladol, a byddaf yn ysgrifennu ato i nodi’r safbwyntiau hyn yn fanwl. Ond a gaf fi amlinellu’n fyr y cynnydd cadarnhaol a wnaed, a chrynhoi’r materion pwysicaf sydd eto i’w gwneud? Mae’r Bil yn cynnwys darpariaethau ar gyfer pwerau newydd mewn meysydd fel etholiadau, caniatadau ynni, trafnidiaeth a thrwyddedau morol. Rydym wedi croesawu’r rhain bob amser, ac mae’r drafft wedi’i wella. Nid yw’r darpariaethau cyfansoddiadol, sy’n ymdrin â pharhauster y Cynulliad a chonfensiwn Sewel wedi newid o ran eu sylwedd ac maent i’w croesawu at ei gilydd, er nad yw darpariaethau Sewel, fel yn yr Alban, yn cynnwys yr holl amgylchiadau lle mae angen cydsyniad y Cynulliad, yn anffodus. Mae dileu’r cyfyngiadau sydd wedi dyddio ar drefniadau mewnol y Cynulliad yn newid i’w groesawu hefyd wrth gwrs. Roedd un o’r problemau mwyaf gyda’r drafft cynharach o’r Bil yn codi o’r darpariaethau a oedd yn ailgastio’r model rhoi pwerau yn fodel cadw pwerau. Roedd Llywodraeth y DU wedi dadlau bod diogelu awdurdodaeth ar y cyd Cymru a Lloegr o fewn y model newydd yn galw am osod cyfyngiadau newydd ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad. Roedd hwn yn gyfyngiad annerbyniol ac anymarferol ar y cymhwysedd presennol, a oedd yn cynyddu cymhlethdod ac ansicrwydd ym mhwerau’r Cynulliad yn fawr. Mae’r Bil newydd yn welliant sylweddol, a bydd gan y Cynulliad bwerau helaeth i addasu’r gyfraith breifat a chyfraith droseddol mewn perthynas â materion o fewn ei gymhwysedd. Mae’n dal i fod angen cryn dipyn o waith manwl pellach ar y darpariaethau hyn i sicrhau rhywfaint o gysondeb, cydlyniad ac ymarferoldeb cyffredinol, ond maent yn dangos cynnydd cadarnhaol. Ar yr un pryd, fodd bynnag, wrth ymestyn cymhwysedd y Cynulliad i feysydd newydd o’r gyfraith, bydd y Bil yn rhoi ffocws cliriach ar y tensiwn o fewn yr awdurdodaeth sengl a oedd yn amlwg yn y drafft gwreiddiol. Yn ein tystiolaeth graffu cyn deddfu atodol, dadleuasom dros awdurdodaeth ar wahân fel ateb i’r tensiwn hwn, a chyhoeddasom Fil drafft amgen, a oedd yn darparu ateb mwy hirdymor a chynaliadwy. Mae’r Bil drafft diwygiedig yn ei gwneud yn gwbl eglur y bydd y gwahaniaeth rhwng y gyfraith sy’n gymwys yng Nghymru a’r gyfraith sy’n gymwys yn Lloegr yn parhau i dyfu dros gyfnod o amser hyd at y pwynt lle y bydd awdurdodaeth benodol neu ar wahân i Gymru yn anochel. Byddaf yn parhau i ddadlau bod rhaid mynd i’r afael â’r mater hwn yn y Bil os yw’n mynd i fod yn gwbl gredadwy fel setliad hirdymor i Gymru. Nawr, os nad yw Llywodraeth y DU yn gweld ei ffordd yn glir tuag at ateb cyflawn yn y Bil hwn, dylai o leiaf roi trefniadau ar waith sy’n paratoi’r ffordd ar gyfer ateb mwy hirdymor.Mae’r Bil newydd hefyd yn dynodi rhywfaint o welliant mewn perthynas â chaniatadau Gweinidogion Llywodraeth y DU sydd eu hangen ar gyfer Biliau’r Cynulliad. Croesewir y lleihad yn yr angen am ganiatadau o’r fath, ond unwaith eto, mae yna gryn gymhlethdod, ac mae angen gwaith pellach cyn y bydd yn bosibl dweud a yw’r canlyniad cyffredinol yn dderbyniol ac yn ymarferol. Hefyd gwnaed cynnydd ar leihau nifer a chwmpas y cymalau cadw, ond byddwn yn pwyso am welliannau i gael gwared ar sawl un sy’n parhau, gan gynnwys, er enghraifft, ardoll seilwaith cymunedol a thrwyddedu alcohol.Soniaf yn fyr am y materion eraill pwysicaf mewn perthynas â’r Bil. Mae’n dileu’r darpariaethau refferendwm yn Neddf Cymru 2014, gan olygu y byddai’r Trysorlys, drwy Orchymyn, yn gallu dechrau datganoli treth incwm heb ganiatâd y Cynulliad na Gweinidogion Cymru. Rwyf wedi dweud yn glir na fyddaf yn gallu cefnogi datganoli treth incwm heb fframwaith cyllidol cyffredinol clir drwy gytundeb y ddwy Lywodraeth, ac y bydd y cytundeb hwn yn rhagamod i gefnogi cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil. Credaf fod hynny’n gwbl resymol, lle ceir cytundeb y ddwy ochr. Mae darpariaethau’r Bil ar gyfer dŵr yn annerbyniol fel y maent—nid ydynt yn cyflawni ymrwymiadau Dydd Gŵyl Dewi. Mae cyflogau athrawon yn parhau i fod yn gymal cadw yn y Bil, yn sgil trafodaethau sy’n parhau ar y trosglwyddo cyllid sydd ei angen i gefnogi datganoli, er bod cytundeb ar ddatganoli mewn egwyddor. Ni fydd yn syndod i’r Aelodau fy nghlywed yn dweud bod yr amcangyfrif a roddwn ar y gost o gymryd cyflog ac amodau athrawon rywfaint yn wahanol i’r hyn y mae Llywodraeth y DU yn barod i’w gynnig. Ac mae’n rhaid i’r holl faterion hynny gael sylw. I gloi, rwy’n croesawu’r cynnydd a wnaed hyd yn hyn, ond mae angen cryn dipyn o welliant pellach i wneud y Bil yn addas i’r diben ac yn addas i’r Cynulliad ystyried rhoi ei ganiatâd. Lle y gallwn ddod i gytundeb, bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno gwelliannau. Yn anochel, bydd anghytundeb yn parhau ynghylch rhai materion sylfaenol, megis ar ddatganoli plismona—digon da i’r Alban, Gogledd Iwerddon, Llundain a Manceinion, ond nid i Gymru yn ôl pob golwg—lle bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i bwyso ac i annog trafodaeth Seneddol.Lywydd, yn ystod y Cynulliad diwethaf, ceisiais ddatblygu’r drafodaeth ar y setliad datganoli cyn belled ag y bo modd drwy gonsensws trawsbleidiol. Byddaf yn parhau i ddefnyddio’r dull hwnnw o weithredu a byddaf yn rhannu fy llythyr at yr Ysgrifennydd Gwladol yn ymateb i’r Bil gydag arweinwyr y pleidiau yma ac yn San Steffan. Mae llawer o waith i’w wneud o fewn amserlen dynn ac rwy’n gobeithio y gallwn weithio gyda’n gilydd, ar draws y pleidiau, i gael y canlyniad gorau i Gymru. Leanne Wood AC: Ddoe, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru y byddai’r Bil Cymru newydd yn sicrhau bod ein democratiaeth yn dod i oed drwy Fil sy’n darparu sefydlogrwydd ac atebolrwydd. Mae’n ymddangos i Blaid Cymru fod geiriau Llywodraeth y DU, unwaith eto, yn rhai gwag. Bydd y Bil Cymru newydd yn cadarnhau statws Cymru fel y perthynas tlawd yn yr undeb, gan gyfyngu ar allu ein Llywodraeth a etholwyd yn ddemocrataidd rhag gweithredu er budd y bobl y’i hetholwyd i’w cynrychioli, gan gadw cymaint o bŵer â phosibl yng nghoridorau Whitehall, gan ddatganoli cyn lleied ag y bo modd. Ydy, mae’n welliant ar yr hyn a oedd gennym o’r blaen, ac wrth gwrs mae agweddau ar hyn y dylid eu croesawu. Fodd bynnag, mae Plaid Cymru o’r farn nad oes unrhyw reswm pam na ddylid ymddiried yn ein pobl i reoli eu materion eu hunain pan ymddiriedir cymaint yn fwy ym mhobl yr Alban i reoli eu materion hwy.Brif Weinidog, rydych wedi argymell dro ar ôl tro y dylai Cymru gael ei thrin ar y sail ei bod yn gyfartal â gwledydd datganoledig eraill y Deyrnas Unedig. Yng ngweddill y byd sy’n arddel y gyfraith gyffredin, mae gan ddeddfwrfeydd eu hawdurdodaethau cyfreithiol eu hunain; mae Cymru yn unigryw yn yr ystyr honno, gan fod ganddi ddeddfwrfa ddatganoledig, ond ar gyfer rhan o awdurdodaeth Cymru a Lloegr yn unig. Mae gan yr Alban a Gogledd Iwerddon eu hawdurdodaethau cyfreithiol penodol eu hunain, ac eto mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn dal i wrthod cydnabod yr angen i Gymru gael ei hawdurdodaeth gyfreithiol ei hun—newid a gefnogir gan gorff o arbenigwyr cyfreithiol, academyddion a gwleidyddion. Buaswn yn ddiolchgar felly am gael gwybod pa asesiadau a wnaethoch, Brif Weinidog, i gynnal eich safbwynt, a safbwynt Plaid Cymru a’r holl arbenigwyr cyfreithiol, y dylai Cymru gael ei hawdurdodaeth gyfreithiol ei hun. Yn dilyn ymlaen o hynny, mae’r Bil newydd yn cynnwys adran newydd nad oedd yn y Bil Cymru drafft ac nid yw ychwaith wedi’i chynnwys yn y goddefebau ar gyfer yr Alban neu Ogledd Iwerddon. Yr adran y cyfeiriaf ati yw adran 10 y Bil—asesiadau o’r effaith ar gyfiawnder. Er y gallai’r adran hon ymddangos yn ddiniwed ar wyneb y Bil, mae gennym bryderon y gallai weithredu fel rhwystr i bwerau deddfwriaethol y Cynulliad. Sut y gallwn wneud yn siŵr nad y profion angenrheidrwydd wedi’u gwanhau yw hyn, ac na fydd yn gweithredu fel mecanwaith rhwystro yn erbyn deddfau a wneir yma?Mewn ymateb i’r adran hon o’r Bil, mae’r Athro Richard Wyn Jones, arbenigwr blaenllaw ar ddatganoli, wedi dweud y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn y pen draw yn gallu anwybyddu deddfwriaeth a basiwyd gan y Cynulliad a etholwyd yn ddemocrataidd. Mae’n feddylfryd sy’n gweld y Cynulliad fel deddfwrfa ail ddosbarth. Nid oes darpariaeth debyg yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon na Senedd yr Alban. Pa asesiad a wnaethoch, Brif Weinidog, o’r cadernid y gallai newid yr adran hon ei gael o ran arwain at roi feto ar ddeddfau Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol?Mae yna faterion eraill y byddem yn dymuno rhoi sylw iddynt yma. Un diddordeb arbennig sydd gennym, yn enwedig ers etholiadau’r comisiynwyr heddlu a throseddu, yw datganoli’r heddlu, a byddwn yn dychwelyd at y cwestiwn hwnnw yn nes ymlaen. Ond fy nghwestiwn olaf i chi, Brif Weinidog yw: o ran datganoli’r system etholiadol, a fyddech yn barod i ddynodi pa system etholiadol y byddech chi’n bersonol yn ei ffafrio ar gyfer etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol yn y dyfodol? A fyddech yn cytuno â mi fod angen diwygio’r system er mwyn sicrhau bod etholiadau yn y dyfodol yn adlewyrchu ewyllys pobl Cymru yn well? A yw hyn yn rhywbeth y byddech yn barod i’w ystyried ar yr adeg briodol? Carwyn Jones AC: A gaf fi ddiolch i arweinydd yr wrthblaid am y cwestiynau hynny, a’r olaf efallai yn fwy direidus na’r gweddill? Gallaf ddweud wrthi, wrth gwrs, fod gan y pleidiau safbwyntiau gwahanol iawn ynglŷn â sut y dylai’r system etholiadol fod ac yn wir, yr hyn y dylai maint y Cynulliad hwn fod, ond nid oes unrhyw reswm pam na ellir cynnal trafodaethau ynglŷn â beth sydd gan y dyfodol i’w gynnig pan ddatganolir y pwerau hynny.Mae’n gwybod fy mod i wedi dweud, fel hithau, lawer gwaith yn wir, nad oes cyfiawnhad dros drin Cymru mewn ffordd israddol, fel un o wledydd cyfansoddol pedair gwlad y DU. Nid yw’r Bil hwn yn mynd cyn belled ag y dylai i ddarparu sicrwydd yn hynny o beth—nid oes amheuaeth am hynny. Pam y dylai Cymru gael ei thrin yn wahanol i’r Alban a Gogledd Iwerddon o ran dull o weithredu? Nid wyf erioed wedi bod yn un i ddadlau, wrth gwrs, fod Cymru, mewn rhyw ffordd, yn wahanol i Ogledd Iwerddon sydd â hanner ein poblogaeth, na’n wir i’r Alban o ran dull gwahanol o weithredu. Ar y pwynt ynglŷn â’r awdurdodaeth, un o’r pethau sy’n rhaid i mi ei ddweud wrth yr Aelodau yw na ddylent gymryd yn ganiataol fod y Bil hwn yn cael ei ysgogi mewn unrhyw fodd gan ryw fath o resymeg. Y realiti yw y gallem gyrraedd sefyllfa yn y pen draw lle bydd troseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus yn cael eu creu yng Nghymru ac yn cael eu plismona wedyn gan wasanaeth yr heddlu nad yw’n atebol yng Nghymru a bydd unrhyw un a gafwyd yn euog yn mynd i system gyfiawnder ac o bosibl, i garchardai na chânt eu rhedeg gan Lywodraeth Cymru. Nid oes unrhyw resymeg yn hynny o gwbl. Os caiff y rhan helaeth o’r gyfraith droseddol ei datganoli, fel sy’n debygol, ac eithrio rhai troseddau—tua 20 mae’n debyg—unwaith eto, bydd gennym sefyllfa lle bydd y ddadl dros gadw awdurdodaeth sengl yn gwanhau’n sylweddol eto yn fy marn i.Rydym wedi cyflwyno’r hyn y credwn sy’n ateb hollol resymegol ac ymarferol, sef y byddai’r awdurdodaeth gyfreithiol yn dod yn ffurfiol wahanol, fel y mae yng Ngogledd Iwerddon, fel y mae yn yr Alban, neu Ynys Manaw, Jersey neu Guernsey, neu o leiaf 50 o awdurdodaethau yn yr Unol Daleithiau. Nid yw’n gam mawr ymlaen yn yr ystyr hwnnw; nid oes newid mawr o ryw fath, mae’n ei gwneud yn haws o ran deddfu, ond rydym yn rhannu’r system llysoedd. Gallem, yn realistig yn fy marn i, gael system o rannu llysoedd gyda Lloegr, lle mae’r gweithdrefnau bron yr un fath, lle rhennir y costau’n briodol, ac eto, wrth gwrs, byddai gennym y rhyddid i basio deddfau yng Nghymru. Rwy’n credu bod honno’n ffordd bragmataidd a synhwyrol ymlaen, a byddaf yn parhau i annog yr Ysgrifennydd Gwladol i ystyried hynny. Oni bai bod rhywfaint o symud ar yr awdurdodaeth neu blismona, mae’r setliad hwn yn gam ymlaen, ond nid yw’n gadarn ac nid yw’n gynaliadwy.Fy ngobaith mawr oedd y byddem yn cael deddfwriaeth a fyddai at ei gilydd yn setlo mater statws cyfansoddiadol Cymru am rai blynyddoedd i ddod. Bydd ganddi hi a minnau wahanol safbwyntiau, efallai, ar yr hyn fydd diwedd y daith, ond er hynny, byddai wedi setlo’r ddadl am rai blynyddoedd. Ond nid dyna a gawn, er fy mod yn cydnabod, wrth gwrs, fod cynnydd wedi’i wneud yma. Nid wyf yn deall pam y mae plismona yn fater mor dotemaidd. Mae gan yr Alban drefn felly, a Gogledd Iwerddon, a Llundain, ond nid yw Cymru yn ei chael. Pan fyddaf yn gofyn y cwestiwn, yr ateb a roddir i mi yw, ‘Wel, mae’n llinell goch i ni’. Nid oes unrhyw sail resymegol drosto a lle Llywodraeth y DU yw esbonio hynny. Ar asesiadau o’r effaith ar gyfiawnder, nid wyf yn ei weld yn union yn yr un ffordd. Wrth gwrs, ni fyddwn am i’r Ysgrifennydd Gwladol gael unrhyw bwerau i roi feto ar ddeddfwriaeth sy’n cael ei chreu gan y ddeddfwrfa etholedig hon, ond mae’r profion effaith ar gyfiawnder yn debyg, yn fy marn i—nid wyf yn dadlau o’u plaid—i asesiadau effaith rheoleiddiol lle rydym yn pasio deddf ac yn dweud, ‘Wel dyma’r effaith y bydd yn ei chael ar y llysoedd’. Dyna ni. Nid oes dim arall o gwbl y gellid eu defnyddio ar ei gyfer. Nid ydynt yn sail i ryw fath o feto gan San Steffan dros gyfraith Cymru. Byddai’n ddogfen y byddai angen ei chynhyrchu, ond ni allai dim byd pellach ddod o’r peth. Dyna fy nehongliad ohono ac nid wyf yn eu hamddiffyn, ond nid wyf yn credu ei fod yn bwynt mor anodd â hynny, er na fyddwn yn eu ffafrio’n arbennig fel sydd wedi cael ei awgrymu o bosibl. Nid wyf yn credu y byddai unrhyw broses—neu ni allaf weld unrhyw broses—lle gallai Llywodraeth y DU ddefnyddio asesiad o’r effaith ar gyfiawnder nad oedd yn cytuno ag ef er mwyn atal cyfraith Cymru rhag cael ei rhoi ar y llyfr statud.Bydd llawer mwy o gyfle, wrth gwrs, i edrych ar fanylion y Bil arfaethedig yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf. Rwy’n gobeithio na fydd yr amserlen yn San Steffan mor frysiog nes ei gwneud yn broblematig iawn i gynnwys gwelliannau, gan fod angen gwelliannau. Er enghraifft, os yw’r drefn gyhoeddus yn mynd i gael ei datganoli a bod y gyfraith ar faterion trefn gyhoeddus, trwyddedu alcohol, heb ei datganoli, pan fo’r ddau ohonynt, i mi, mor agos at ei gilydd, ai amryfusedd yn unig yw hynny neu a oes rhyw fath o reswm rhesymegol dros hynny? Y rheswm a roddwyd i mi dros y misoedd diwethaf am beidio â datganoli trwyddedu yw ei fod yn rhan anwahanadwy o faterion trefn gyhoeddus. Wel, os yw materion trefn gyhoeddus wedi’u datganoli, yna dylai trwyddedu fod wedi’i ddatganoli hefyd.Mae angen mwy o gyfle, wrth gwrs, dros yr ychydig ddyddiau nesaf, i bleidiau edrych ar fanylion y ddeddfwriaeth. Mae angen i ni ymchwilio’n fwy trylwyr i rai meysydd i weld beth yn union y maent yn ei olygu. Wedi dweud hynny, nid yw’r cerbyd wedi torri i’r fath raddau â’r cerbyd diwethaf a gyflwynwyd i ni, ond mae angen gwneud llawer o waith ar yr injan a’r seddi a’r olwynion. Dyna’n union sydd angen i ni ei wneud dros yr ychydig wythnosau nesaf. O leiaf nid oedd yn rhywbeth a ymddangosodd heb injan a heb olwynion, sef yr hyn oedd y Bil diwethaf. Edrychaf ymlaen, wrth gwrs, at weithio gyda’r pleidiau eraill i wneud yn siŵr fod gennym rywbeth sy’n gydlynol, yn synhwyrol, yn deg ac yn anad dim, yn gynaliadwy. Andrew RT Davies AC: Diolch yn fawr am eich datganiad, Brif Weinidog. Hoffwn innau hefyd ganmol yr Ysgrifennydd Gwladol am y ffordd y mae wedi cymryd rhan yn y broses cyn cyhoeddi’r Bil hwn, drwy gyfarfod â phob plaid yn y Siambr hon a llawer ar y tu allan i’r Siambr ac i fyny yn San Steffan, er mwyn cyflwyno Bil sy’n eithriadol o wahanol, ddywedwn ni, i’r Bil drafft y dadleuwyd yn ei gylch ac a drafodwyd yn y Siambr hon rai misoedd yn ôl. Rwy’n meddwl fod gennym Fil a fydd yn cynyddu cyfrifoldebau’r Cynulliad hwn yn ddramatig ac yn y pen draw, er budd cyflawniad gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru, ond yn wir, yr economi ac yn anad dim, enw da’r Cynulliad hwn. Rwy’n meddwl bod angen i ni achub ar y cyfle hwn i sicrhau bod y Bil yn symud ymlaen mewn modd amserol gan fod angen i rai o’r darpariaethau hyn gyrraedd yma yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach.Rwy’n clywed yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog am blismona, ond a fyddai’n cytuno, ar blismona, na ddylai hynny weithredu fel rhwystr rhag dod i gonsensws er mwyn i’r Bil hwn fynd yn ei flaen a mynd ati i gyflawni rhai o’r pethau eraill a fyddai’n amlwg yn elwa, megis yr etholiadau, megis caniatadau ynni, caniatadau morol, ac yn y blaen, sydd eu hangen yn ddirfawr er mwyn cynyddu gallu’r lle hwn i ddeddfu o blaid pobl Cymru?Rwyf hefyd yn clywed yr hyn y mae’r Prif Weinidog yn ei ddweud am gyflogau athrawon, ac rwy’n anghytuno ag ef ar y mater penodol hwnnw. Rwyf wedi bod yn aelod o lawer o bwyllgorau a hefyd wedi bod mewn hustyngau lle y siaradodd Gweinidogion Llafur blaenorol yn helaeth ynglŷn â sut na fyddent eisiau cyflogau athrawon. Yn wir, dadleuodd Leighton Andrews, gynt o’r plwyf hwn, yn chwyrn yn erbyn y cyn lefarydd addysg, Nerys Evans, yn etholiad 2011 ynglŷn â pham na ddylid datganoli cyflogau athrawon i’r sefydliad hwn, gan ei fod yn gam tuag at gyflogau rhanbarthol, y mae, felly. Byddwn yn falch iawn o ddeall pam y mae’r Prif Weinidog mor awyddus i weld cyflogau athrawon yn cael eu datganoli. Oni fyddai’n dweud y byddai hynny’n gam tuag at greu strwythur cyflogau rhanbarthol y gellid ei ymestyn i feysydd eraill o wasanaeth cyhoeddus? Unwaith eto, byddwn yn gobeithio’n fawr iawn na fyddai’r Prif Weinidog yn gweld hwn fel rhwystr arall y gellid ei roi ar waith i atal y Bil rhag symud ymlaen mewn modd amserol drwy Dŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi.Cytunaf yn llwyr â’r fframwaith cyllidol y mae’r Prif Weinidog wedi’i grybwyll yn ei ddatganiad. Mae angen rhoi hynny ar waith i wneud yn siŵr fod y cyfnod pontio ar bwerau treth incwm ar gyfer unrhyw Lywodraeth Cymru yn y dyfodol yn gynhwysfawr, a bod angen iddo roi sicrwydd ac yn anad dim, fod angen iddo wneud yn siŵr nad yw Cymru ar ei cholled. Byddaf yn gweithio gydag ef ar hynny i sicrhau nad yw hynny’n digwydd, ac unrhyw drafodaethau y byddai’n hoffi’u cael ar hynny ac unrhyw gymorth, credaf fod hwnnw’n waith caib a rhaw hanfodol lle gall pob arweinydd yn y Siambr geisio sicrhau consensws a mynd yn y pen draw at y Trysorlys ac at Weinidogion Llywodraeth mewn ffordd unedig, oherwydd mewn gwirionedd, yr hyn a welsom yn y pedwerydd Cynulliad oedd ein bod yn cyflawni llawer iawn mwy pan fo’r Siambr hon yn siarad ag un llais. Rwy’n meddwl bod y gwelliant ar y Bil hwn wedi’i gyflawni’n fawr drwy’r llais unedig a ddaeth o’r Cynulliad hwn pan gawsom y ddadl yma a phan bleidleisiodd y Cynulliad cyfan ar deilyngdod, neu fel arall fel y digwyddodd, y Bil drafft gwreiddiol a gyflwynwyd i’w drafod gan y Siambr hon.Rwy’n nodi’r symud ar yr awdurdodaeth ar wahân. Rwy’n anghytuno ag arweinydd Plaid Cymru pan ddywed fod pob arbenigwr cyfreithiol eisiau awdurdodaeth ar wahân. Efallai fy mod wedi camglywed, ond rwy’n meddwl eich bod wedi dweud ‘pob’. Mae yna gorff o bobl sydd eisiau awdurdodaeth ar wahân, mae yna gorff o bobl sydd eisiau i’r sefyllfa bresennol barhau, ac mae yna gorff o bobl sy’n ddigon hapus i symud i’r sail hon o awdurdodaeth benodol tra bo corff cyfraith Cymru yn esblygu ac yn datblygu. Rwy’n meddwl ein bod wedi symud yn sylweddol i’r cyfeiriad cywir, ac rwy’n credu y dylid croesawu’r symudiad hwnnw’n fawr, ac mae’n gynnydd y gellir ei wella ymhellach wrth i gorff cyfraith Cymru dyfu yn y blynyddoedd nesaf.Ond fel y dywedais, rwyf am weld y Bil Cymru hwn yn dechrau ar ei daith drwy Dŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi fel y gallwn, yn y pen draw, gael y cyfrifoldebau ehangach a fydd yn galluogi’r Llywodraeth a’r ddeddfwrfa i fwrw ymlaen â’r gwaith o wneud yr hyn y mae pobl Cymru wedi ein hethol i’w wneud, sef ceisio gwelliannau mewn cymunedau a bywydau ar draws Cymru gyfan. Rwy’n gobeithio’n fawr y gallwn weithio i adeiladu proses gyflym ar gyfer gweithredu Bil Cymru a lansiwyd ddoe. Carwyn Jones AC: A gaf fi ddiolch i arweinydd y Ceidwadwyr am ei sylwadau? Rwy’n cydnabod bod yr ymgysylltiad wedi bod yn llawer gwell. Rwy’n credu ei bod yn deg dweud hynny. Yn sicr, cafwyd ymgysylltiad llawer gwell â Swyddfa Cymru, ond roedd yn anos ei gael ag adrannau fel y Weinyddiaeth Gyfiawnder, oherwydd, mewn rhai adrannau, mae eu Gweinidogion yn rhywle arall ar hyn o bryd, ac nid yw’n hawdd dod o hyd iddynt am resymau y bydd yn gwybod amdanynt.Ar blismona, mae hwn yn fater rhyfedd. Sut y gellir cael setliad parhaol lle mae gennych wasanaeth heddlu wedi’i ddatganoli ar draws y DU, ond nid yng Nghymru, lle rwy’n credu ​​y byddai’r pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu o blaid datganoli plismona—cawsant oll eu hethol—a lle pleidleisiodd pobl Cymru, at ei gilydd, dros bleidiau sydd am weld datganoli plismona? Felly, nid yw fel pe bai yna ymchwydd barn yng Nghymru nad ydynt am weld datganoli plismona. Bydd gofyn i’r heddlu, yn ystod y 10, 20 mlynedd nesaf, blismona deddfau gwahanol iawn, o bosibl, yng Nghymru a Lloegr. I mi, nid yw hynny’n gwneud llawer iawn o synnwyr. Mae yna rai meysydd lle nad yw’n gwneud synnwyr eu datganoli: ymdrin â diogelwch cenedlaethol neu droseddau cyfundrefnol—wrth gwrs hynny. Mae yna rai materion y mae angen ymdrin â hwy, yn fy marn i, ar draws y DU. Yn wir, y realiti yw nad yw’n digwydd ar hyn o bryd, ond dylai ddigwydd yn y dyfodol. Felly, ceir rhai meysydd o blismona y gallaf weld bod modd eu trin yn well ar lefel y DU, ac yn wir, ar lefel Ewropeaidd a’r byd, o ran hynny.Ar gyflog ac amodau athrawon, roedd i’w weld yn rhoi’r argraff ei fod yn erbyn datganoli cyflog ac amodau athrawon. Nid dyna farn ei blaid yn San Steffan, sydd wedi cytuno, mewn egwyddor, i’r datganoli ddigwydd. Mae’n rhyfedd, unwaith eto, fod popeth mewn addysg wedi’i ddatganoli heblaw cyflog ac amodau. Ceir enghreifftiau mewn meysydd eraill yn y sector cyhoeddus lle mae cyflog ac amodau wedi’u datganoli. Nid yw’n anarferol. Mae’n sôn am gyflogau rhanbarthol. Wel, cofiwch, wrth gwrs, nid oes unrhyw gyflog ac amodau i’r DU—ni fu erioed. Mae cyflog ac amodau wedi’u datganoli yng Ngogledd Iwerddon ac maent wedi’u datganoli yn yr Alban. Os mai’r pryder erioed oedd y byddai cyflog ac amodau yng Nghymru rywsut yn waeth nag yn unman arall yn y DU, yn bendant nid dyna fyddwn i na neb arall yn y Siambr hon, fe dybiaf, yn dymuno ei weld wrth gwrs. Ond yr hyn y mae’n ein galluogi i’w wneud yw llunio pecyn cydlynus o hyfforddiant, cyflog ac amodau yn y blynyddoedd nesaf ar gyfer ein hathrawon, nad yw’n bosibl ar hyn o bryd, ond sy’n bosibl ac wedi’i wneud, mewn gwirionedd, yn yr Alban. Felly, i ni yng Nghymru, mae yna gyfle yno.Ar fater awdurdodaeth, o ran pobl gyffredin, gallaf weld nad yw hyn yn rhywbeth sy’n gwneud i bobl orymdeithio yn y strydoedd. Dyma’r unig awdurdodaeth cyfraith gyffredin yn unrhyw le ar y blaned lle ceir dwy ddeddfwrfa yn yr un awdurdodaeth. Nid yw’n bodoli yn unman arall o gwbl yn y byd. Pam y mae hynny’n bwysig? Oherwydd ei fod yn arwain at ddryswch. Darluniodd Simon Thomas y pwynt yn y Cynulliad blaenorol pan ddywedodd fod etholwr wedi dod i’w weld ac wedi gofyn pam nad oedd Bil a oedd, ar yr olwg gyntaf, yn gymwys yng Nghymru a Lloegr, ond yn gymwys yn Lloegr yn unig. Pan fyddwn yn newid y gyfraith, y realiti yw nad ydym yn newid neu’n creu cyfraith Cymru, rydym yn newid cyfraith Cymru a Lloegr fel y mae’n gymwys yng Nghymru. Mae’n ffordd hynod o gymhleth o wneud rhywbeth syml iawn mewn gwirionedd. Cafodd ei wneud yng Ngogledd Iwerddon heb gwestiwn. Cafodd ei wneud yn yr Alban—mae bob amser wedi bod yno yn yr Alban.Yn hanes y Gymanwlad, pa bryd bynnag y bydd Senedd yn cael ei chreu, boed yn annibynnol neu’n ymreolaethol, mae’r awdurdodaeth wedi dilyn bob amser, ac eithrio yng Nghymru. Nawr, unwaith eto, nid yw’r ddadl y dylai Cymru fod yn wahanol mewn rhyw ffordd, yn dal dŵr yn fy marn i. Rwy’n credu bod gwerth yn y ddadl nad ydym, ar hyn o bryd yn sicr, neu efallai am flynyddoedd lawer i ddod, yn dymuno creu system llysoedd ar wahân, fel yr Alban a Gogledd Iwerddon, gyda’r gost sy’n gysylltiedig â hynny. Rwy’n credu bod honno’n ddadl ddilys a chryf, ond bydd angen ymdrin â’r mater hwn yn y blynyddoedd i ddod. Mae’n drueni nad ymdrinnir â hynny yn awr cyn iddo ddod yn broblem yn ystod y pump neu 10 mlynedd nesaf.Serch hynny, byddwn yn parhau i ymgysylltu, wrth gwrs. Rwyf am gyrraedd pwynt lle bydd gennym Fil sy’n mynd â ni yn ein blaenau o ran pwerau datganoledig. Rwy’n tybio ​y bydd yna rai meysydd lle ceir anghytundeb na chaiff ei ddatrys, ond rwy’n gobeithio y gellir cyfyngu cymaint â phosibl ar y meysydd hynny. Neil Hamilton AC: Brif Weinidog, diolch i chi am eich datganiad, ac fel chithau, rwy’n rhoi croeso gofalus i’r Bil, am fod fy mhlaid yn blaid sy’n credu mewn datganoli. Ymwneud â hynny y mae ein cyfraniad i’r ddadl ar yr UE: datganoli pwerau yn ôl o Frwsel i San Steffan neu i Gaerdydd. Ond yng nghyd-destun y Bil penodol hwn, fel y byddwch yn gwybod, mae cymal 16 yn ymwneud â chyflwyno pwerau i amrywio trethi, ond yn dileu’r gofyniad sydd yn y ddeddfwriaeth gyfredol i gynnal refferendwm cyn rhoi’r pwerau hynny mewn grym. Mae eich datganiad yn dweud eich bod yn gwrthwynebu datganoli’r pwerau hyn heb ganiatâd y Cynulliad neu Weinidogion Cymru a fyddai’n golygu felly eu bod yn cael eu gosod gan Weinidogion y Trysorlys. Wel, rwy’n cytuno â hynny i’r graddau hyn: os nad oes refferendwm i fod yna rwy’n sicr yn credu y dylai Cynulliad Cymru gael yr hawl i wneud y penderfyniad hwnnw. Ond ni welaf unrhyw reswm pam na ddylid gweithredu’r ddarpariaeth, sydd yn y gyfraith bresennol, i ymgynghori â phobl Cymru. Dyna oedd yr addewid a roddwyd cyn i’r Ddeddf Cymru ddiwethaf gael Cydsyniad Brenhinol. Mae hyn bellach yn fater o dorri gair i bobl Cymru. Mae’n benderfyniad mawr oherwydd nid yn unig gallai fod pwerau i amrywio trethi, ond wrth gwrs, gallai fod pwerau i godi trethi. Ni fyddai dim yn waeth i iechyd economi Cymru, yn fy marn i, na gwneud yr hyn y mae llawer o Lywodraethau Llafur wedi’i wneud yn ystod fy oes i—gosod cyfraddau trethi cosbedigaethol, sy’n dinistrio potensial creu cyfoeth economi Cymru.Mae’r asesiad effaith sy’n dod gyda Bil Cymru yn dweud yn ddigyffro fod y ddadl bellach wedi symud yn ei blaen ac felly nad oes angen i ni gael y refferendwm hwn. Ni roddir unrhyw gyfiawnhad yn yr asesiad effaith dros y newid hwn, ac rwy’n gofyn i’r Prif Weinidog, sy’n ddemocrat honedig, i ymgynghori â phobl Cymru cyn iddo gydsynio i roi pwerau i amrywio trethi yn nwylo’r Cynulliad hwn. Carwyn Jones AC: Wel, roedd nifer o’r pleidiau yn y Siambr hon—a’i un ef, a bod yn deg—yn cynnwys argymhellion ar ddyfodol pwerau i amrywio’r dreth incwm yn eu maniffestos yn yr etholiad, a rhoddodd pobl Cymru eu dyfarniad. O safbwynt fy mhlaid i, dywedasom na fyddem yn cynyddu baich treth incwm ar bobl yn ystod y tymor Cynulliad hwn. Aeth pobl i’r etholiad gan wybod hynny. Ni phleidleisodd niferoedd enfawr dros bleidiau a ddywedodd, ‘Rydym yn erbyn cael pwerau rhannol i amrywio treth incwm yng Nghymru’, na’n wir dros bleidiau a oedd yn mynnu y dylid cynnal refferendwm. Y pwynt yw hwn: mae’r Alban wedi cael cynnig pwerau amrywio trethi llawer mwy sylweddol na Chymru, heb unrhyw refferendwm; mae pwerau amrywio trethi wedi’u cynnig i Ogledd Iwerddon, yn enwedig mewn perthynas â’r dreth gorfforaeth, sy’n arwyddocaol iawn o ran yr hyn a allai ddigwydd yno—eto heb refferendwm. A oes gwir angen refferendwm bob tro y bydd newid yn y setliad datganoli? [Torri ar draws.] Wel, gwnaed yr addewid gan Lywodraeth y DU, nid gennym ni. Er mwyn i Lywodraeth y DU egluro ei safbwynt, eglurodd yr holl bleidiau eu safbwyntiau yn yr etholiad y mis diwethaf a mynegodd yr etholwyr eu barn. Nid oedd yr etholwyr o’r farn eu bod yn dymuno pleidleisio dros bleidiau a ddymunai gael refferendwm na’n wir dros bleidiau a oedd yn gwrthwynebu pwerau i amrywio treth incwm. Rhaid defnyddio’r pŵer yn ddoeth. Rwy’n deall hynny. Mae’n sôn am adeg pan oedd cyfraddau treth incwm yn gosbedigaethol. Roeddwn i yn yr ysgol gynradd ar y pryd, felly rwy’n derbyn ei air o brofiad ar hynny. Ond yn sicr, nid fy mhrofiad o Lywodraethau Llafur diweddar oedd eu bod yn cyflwyno cyfraddau treth cosbedigaethol, ac ni fyddem eisiau gwneud hynny. Yr hyn y mae’n ei wneud, wrth gwrs, yw rhoi cyfle i ni greu ffrwd refeniw y gallwn fenthyg yn ddoeth yn ei herbyn. Os na chawn bwerau i amrywio treth incwm, ni allwn fenthyg arian ac ni fyddwn yn gallu adeiladu ffordd liniaru’r M4. Felly, mewn gwirionedd, mae pwerau i amrywio treth incwm yn arwain at gynlluniau mwy nag y byddai gennym obaith o dalu amdanynt fel arall. Yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon mae’n arferol, gyda’r pwerau benthyca sydd gan y Llywodraethau hynny, i fenthyca arian ar gyfer cynlluniau mawr. Os na chawn y gallu i wneud hynny, ni allwn wneud unrhyw beth gyda seilwaith trafnidiaeth mawr, er bod yn rhaid defnyddio’r pwerau’n ddoeth ac yn synhwyrol, wrth gwrs, ar ran pobl Cymru. Mae gen i saith siaradwr arall. Os ydych i gyd yn gryno ac yn fyr gyda’ch cwestiynau, rwy’n gobeithio mynd drwy bob un ohonoch. Mick Antoniw. Mick Antoniw AC: Brif Weinidog, rwy’n meddwl bod rhaid i ni groesawu tôn datganiad Ysgrifennydd Gwladol Cymru am ei fod yn dangos parodrwydd i weithio i wella er mwyn cyflawni amcan cyffredin sef deddfwriaeth sy’n gweithio mewn gwirionedd. Os bydd hynny’n digwydd mewn gwirionedd, yna bydd hynny’n beth da. A gaf fi ddweud fod gennyf bryderon sylweddol am yr ymagwedd tuag at fater awdurdodaeth? Oherwydd, i mi, mae’n mynd at wraidd y ddeddfwriaeth ac nid ydym eisiau sefyllfa lle mae’n rhaid i ni geisio mynd ati’n barhaus i ddehongli’r berthynas rhwng ein pwerau, deddfau Cymru a Lloegr, a’r pwynt ynghylch awdurdodaeth. Roedd honno’n broblem y cafodd Ysgrifennydd Gwladol diwethaf Cymru gryn anhawster â hi. Cafwyd ymgais yn y Bil drafft hwn i ymdrin â hynny, ond ceir darn braidd yn rhyfedd yn y ddeddfwriaeth, sy’n dweud mai’r pwrpas yw‘cydnabod gallu’r Cynulliad a Gweinidogion Cymru i wneud cyfraith sy’n ffurfio rhan o gyfraith Cymru a Lloegr.’Nawr, mae’n ymddangos i mi mai dim ond parhau camddealltwriaeth sylfaenol ynghylch mater awdurdodaeth y mae hynny’n ei wneud. Nid oes unrhyw ddirgelwch yn perthyn iddo, nac unrhyw swyn. Y cyfan yw awdurdodaeth Cymru a Lloegr yn y bôn yw deddfau a basiwyd yn San Steffan wedi’u cymhwyso i Gymru a Lloegr fel yr ardal lle mae’r awdurdodaeth yn bodoli, ond bellach mae gennym ddeddfwrfa ychwanegol, sef Cymru. Os ydym yn mynd i gydnabod a chreu fframwaith drwy statud sy’n dweud, ‘Rydym yn cydnabod bodolaeth benodol deddfwriaeth Gymreig’, ni all fod o fewn cyfraith Cymru a Lloegr, gan fod gennych Senedd y DU, sydd bellach yn eistedd—ac mae gennych bleidleisiau Seisnig ar gyfer deddfau Seisnig—fel Senedd Seisnig i bob pwrpas yn pasio deddfwriaeth ar gyfer Lloegr yn unig, ac nid yr hyn a basiwn ni yn unig yw’r ddeddfwriaeth sy’n cael ei phasio yng Nghymru, ond mae’n cynnwys y ddeddfwriaeth sy’n cael ei phasio yn San Steffan, ond sydd ond yn gymwys yn Lloegr neu heb fod yn gymwys yng Nghymru. Ac oni bai fod y gwrth-ddweud sylfaenol hwnnw’n cael ei ddatrys mewn gwirionedd, rydym yn mynd i barhau i gael y dadleuon hyn; ni fyddwn yn datrys hyn a byddwn yn ei drafod flwyddyn ar ôl blwyddyn, ac mae hynny’n rhywbeth rydym yn amlwg am weld diwedd arno. Ac mae’r un broblem yn parhau. Rwy’n clywed yr hyn a ddywedwch mewn perthynas â’r asesiadau effaith cyfreithiol, ac rwy’n meddwl eich bod yn hollol gywir yn eu cylch o ran eu heffaith, ond os oes gennych un ar gyfer deddfwriaeth Gymreig, dylech gael un ar gyfer deddfwriaeth Seisnig yn ogystal. Felly, mae’n fater o gael y cydbwysedd hwnnw’n iawn.Nawr, rwy’n meddwl bod y mater yn garbwl i ryw raddau, gan mai’r cynnig gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru yw sefydlu pwyllgor a fydd yn edrych i mewn i hyn mewn gwirionedd. Nawr, fy mhryder mwyaf yw bod gennym bwyllgor sy’n mynd i ystyried rhywbeth rwyf fi’n sicr yn meddwl, ac rwy’n credu bod llawer o bobl yn meddwl, sy’n hanfodol er mwyn cael y ddeddfwriaeth hon yn iawn, ac mae angen amserlen ar ei gyfer. Mae arnom angen fframwaith iddo weithio o’i fewn, oherwydd mae angen i ni ddatrys hyn fel rhan o’r ddeddfwriaeth hon. Ni all fod yn rhywbeth sy’n rhaid ei ychwanegu yn nes ymlaen. Roeddwn yn meddwl tybed pa drafodaethau y gallech fod wedi neu y byddwch yn gallu eu cael mewn perthynas â’r cynnig penodol hwn gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar ffurfiad y pwyllgor, yr amserlen a’r fframwaith y mae’n mynd i weithio o’i fewn. Carwyn Jones AC: A gaf fi ddiolch i’r Aelod am y ffordd y mae wedi egluro cymhlethdod y sefyllfa bresennol yn ei ffordd ei hun? Nid yw’r Ysgrifennydd Gwladol wedi cyflwyno unrhyw amserlen. Yr hyn sy’n rhyfedd yw nad oes neb wedi dadlau y bydd yr awdurdodaeth yn para am byth. Mae pawb yn dweud y bydd yn rhaid iddi newid ar ryw adeg yn y dyfodol. Y cwestiwn yw, a ddylid ymdrin â’r mater hwnnw yn awr neu ar adeg pan nad oes cymaint o bwysau i wneud iddo ddigwydd yn gyflym? A hanes datganoli yng Nghymru yw bod camau’n cael eu rhoi ar waith pan fo’r pwysau’n cynyddu, yn hytrach na bod camau’n cael eu rhoi ar waith cyn i’r pwysau ymddangos. Mae’n iawn dweud nad mater totemaidd yw hwn. Nid yw’r DU yn bodoli fel awdurdodaeth; nid yw erioed wedi bod yn un. Mae’r Alban wedi bodoli erioed fel awdurdodaeth ar wahân, a Gogledd Iwerddon ers 1920, Cymru a Lloegr ers 1536 yn unig. Mae’n amser hir, ond ers 1536 yn unig, ac ers hynny, sefydlwyd deddfwrfa yma yng Nghymru. Ar y sail honno, mae’r awdurdodaeth fel arfer yn dilyn y ddeddfwrfa, ond nid dyna’r sefyllfa y maent ynddi yn awr. Mae bron fel pe baent yn ceisio gwneud i’r deddfau ffitio’r awdurdodaeth, yn hytrach na fel arall. Y broblem gyda’r Bil blaenorol oedd mai diben y cyfyngiadau a gâi eu gosod, a oedd mewn gwirionedd yn mynd â ni yn ôl at y sefyllfa cyn 2011, oedd ceisio gwasgu cyfraith Cymru a Lloegr i awdurdodaeth Cymru a Lloegr. Nawr mae’n ymddangos bod gennym sefyllfa lle bydd yr awdurdodaeth yn bodoli mewn enw’n unig i raddau helaeth, ond dros y blynyddoedd, mewn llawer o feysydd, bydd deddfau go wahanol yn cael eu creu. Yn fy marn i, nid yw hwnnw’n ateb cadarn. Gallwch ei reoli yn y tymor byr, o bosibl, ond yn y tymor hwy, nid yw’n mynd i ddigwydd. Rydym eisoes mewn sefyllfa—rwyf wedi gwrando ar farnwyr sydd wedi dweud hyn wrthyf—lle mae cyfreithwyr, boed yn gyfreithwyr neu’n fargyfreithwyr, wedi dod i Gymru ac wedi dadlau’r gyfraith anghywir am eu bod yn cymryd yn ganiataol eu bod yn yr un awdurdodaeth, a bod y gyfraith yr un fath. Nawr, byddwn yn gosod gorchymyn costau a wastraffwyd arnynt—os yw hynny’n swnio’n rhy llym, efallai mai dyna pam nad wyf yn farnwr—er mwyn cyfleu’r neges. Ond mae honno’n broblem yn awr, ac oni bai yr ymdrinnir â mater yr awdurdodaeth mewn rhyw ffordd—nid o reidrwydd awdurdodaeth ar wahân, ond awdurdodaeth benodol—bydd y broblem yn parhau yn y dyfodol. Dafydd Elis-Thomas AC: Diolch i’r Prif Weinidog am ei ddatganiad. Roeddwn i wedi gobeithio, Brif Weinidog, mai hwn fyddai’r darn olaf o ddeddfwriaeth y byddai’r Deyrnas Unedig, yn y Senedd yr wyf i hefyd yn mynd iddi yn achlysurol, yn ei phasio ar gyfer cyfansoddiad Cymru. Ond mae’n ymddangos imi nad ydym ni wedi cyrraedd y fan honno eto. Felly, rwyf am osod—wrth ofyn cwestiwn i chi, a gofyn am eich cefnogaeth wrth ateb—rwyf am osod her i’r cyfeillion i lawr y tu hwnt i Paddington i ddefnyddio’r amser rhwng y drafodaeth yma heddiw, sef y drafodaeth gyhoeddus gyntaf, lawn ar y Bil yma, a Thrydydd Darlleniad yn Nhŷ’r Arglwyddi ar ddiwedd y broses a bod y Bil wedi pasio, i ddiwygio’r Bil yma’n ddigonol fel y gall fod yn ddeddfwriaeth gyfansoddiadol lawn i newid amgylchiadau Cymru.Rwy’n meddwl bod yna ddigon o hadau yn y Bil yma i hynny ddigwydd. Rwy’n ffeindio, er enghraifft—a dim ond un enghraifft a chwestiwn byr—gydnabyddiaeth o gyfraith Cymru. Wel, rydym yn gwybod bod yna gyfraith Cymru achos rydym yn ei gwneud fan hyn. Felly, diolch yn fawr San Steffan am gydnabod bod y fath beth â chyfraith Cymru. Ond mae’n rhaid inni symud ymhellach na hyn. Felly, a allwch chi ddweud wrthym sut yr ydych chi’n bwriadu adrodd yn ôl ar eich trafodaethau diddorol gyda’r Ysgrifennydd Gwladol a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystod y cyfnod rhwng beth rydym yn ei wneud heddiw a diwedd y broses seneddol yma er mwyn inni gyrraedd lle yr wyf i a chithau eisiau cyrraedd, rwy’n gwybod: cael Deddf weddol derfynol, gweddol glir, fel ein bod ni ddim yn dod yn ôl i ddeddfu ar gyfansoddiad Cymru bob tair blynedd? Carwyn Jones AC: Wel, a gaf i ddiolch am y cwestiwn? Mae’n wir i ddweud bod yna gyfle fan hyn i greu setliad cyfansoddiadol cynaliadwy. Mae’r Bil yn mynd peth o’r ffordd tuag at hynny, ond nid yr holl ffordd. I fi, beth sy’n bwysig yw bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn derbyn bod yna faterion yn y Mesur ar hyn o bryd sydd eisiau cael eu datrys. Fel gwnes i sôn amdano yn gynharach, byddaf i’n ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol. Gwnaf yn siŵr y bydd yr arweinwyr yn y tŷ hwn yn gweld y llythyr hynny, ac wrth gwrs unrhyw ymateb. Mae’n bwysig dros ben bod Aelodau yn gwybod beth yw taith y drafodaeth dros yr wythnosau nesaf, gan fod yr amserlen yn mynd i fod yn fyr iawn. Huw Irranca-Davies AC: Rwy’n falch iawn, fel y Prif Weinidog, o roi croeso gofalus iawn i’r cam hwn ymlaen, ond mae’n ymddangos fel pe bai bob amser yn gam ychydig yn betrusgar, prin yn dal i fyny â lle dylem fod. Felly, byddwn yn sicr yn annog y Prif Weinidog—ac rwy’n credu ei bod yn ymddangos mai dyma ewyllys y Siambr heddiw—i wthio’n galed yn y trafodaethau, i weithio gyda chydweithwyr yn San Steffan, nid yn unig gyda Swyddfa Cymru, ond gyda chydweithwyr eraill, i geisio cael mwy allan o hyn, oherwydd, yn sicr, roedd ar flaen y gad, pan ymddangosodd y Bil Cymru diwethaf, o ran y feirniadaeth ymhlith y gymdeithas ddinesig yng Nghymru ac eraill. Nid oedd neb yn hoff ohono, roedd yn dioddef o ddiffyg maeth, ac yn y pen draw, cafodd ei adael yn yr anialwch cyfansoddiadol. Mae hwn yn gyfle, fel y mae’r gŵr bonheddig gyferbyn sydd hefyd â phrofiad o San Steffan newydd ei ddweud, i wneud rhywbeth da i bobl Cymru, nid yn unig er mwyn arbed embaras Gweinidogion Swyddfa Cymru. Byddwn yn ei gefnogi i’r eithaf i fwrw iddi gyda’r neges honno, gan fod pethau da yn y Bil hwn, ond nid yw’n agos at ble mae angen iddo fod eto. Carwyn Jones AC: A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei sylwadau? Yr anhawster gyda’r Bil diwethaf, yn y bôn, oedd bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi ysgrifennu at adrannau eraill Whitehall a dweud, ‘Beth ddylid ei ddatganoli yn eich barn chi?’ Nawr, rhaid eu bod wedi meddwl ei bod hi’n Nadolig ar y pwynt hwnnw, a chawsom y Bil a gawsom, Bil a oedd yn anwybyddu hyd yn oed yr hyn a oedd wedi digwydd yn 2011 gyda chanlyniad ysgubol y refferendwm. Dyna pam ein bod wedi cael y Bil hwnnw. Mae’r Bil hwn wedi myfyrio ar y ddau brif fater cyfansoddiadol—mater caniatadau a mater deddfwriaeth a’n gallu i greu deddfwriaeth yn rhydd. Mae hynny wedi’i wneud, a chroesawaf hynny. Felly, mae ei strwythur yn llawer mwy diogel na strwythur y Bil blaenorol, ond mae llawer o waith i’w wneud ar y manylion. David Melding AC: A gaf fi groesawu tôn y Prif Weinidog, a hefyd ei uchelgais i weithio gyda Llywodraeth y DU i gyflawni darn cynhwysfawr iawn o gyfraith gyfansoddiadol yn awr? Os aiff y Bil hwn ymlaen i’r llyfr statud, dyma fydd y bedwaredd Ddeddf Cymru mewn 20 mlynedd, ac rwy’n meddwl fy mod wedi dweud o’r blaen nad yw’r rhan fwyaf o bobl yn newid eu ceir mor gyflym â hynny, felly nid yw cael newidiadau mor aml mewn cyfraith gyfansoddiadol sylfaenol yn rhywbeth i’w argymell yn arbennig, yn amlwg. A gaf fi roi croeso cynnes i ddiwedd y prawf angenrheidrwydd? Yn yr araith ar yr adroddiad Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn y Siambr hon ym mis Mawrth—mae’n ddrwg gennyf, ym mis Ionawr—nodais fod yr Americanwyr wedi ymdrin â’r math hwn o gysyniad yn 1819 ac wedi symud ymlaen i sicrhau sefydlogrwydd mawr yn eu cyfansoddiad drwy beidio â chydnabod profion o’r fath. Rwyf hefyd yn croesawu’r ffaith fod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi lleihau’r nifer o gymalau cadw. Mae hyn i’w groesawu. Roedd gennym dros 250—roedd yn anodd iawn eu cyfrif, mewn gwirionedd—ond yn awr, rwy’n meddwl mai ychydig o dan 200 sydd gennym. Ond byddwn yn argymell ein bod yn mynd yn ôl at y cysyniad sylfaenol o fodel cadw pwerau, sef neilltuo i Lywodraeth ganolog y pwerau sydd eu hangen arno i weithredu—ac rwy’n defnyddio ‘Llywodraeth ganolog’ yn y cyd-destun hwn i olygu Llywodraeth y DU. Fel yr awgrymoch, rwy’n credu mai mynd ati o’r cyfeiriad arall a wnaeth Whitehall, ac mae angen i hynny newid, er mwyn iddynt gydnabod cadernid a pharhauster y setliad datganoledig mewn gwirionedd. Mae gormod o gymalau cadw o hyd, ac nid yw’r egwyddor sydd angen i ni ei chymhwyso wedi’i chymhwyso’n llawn hyd yma. Roedd eich disgrifiad yn hynod o briodol mewn perthynas â thrwyddedu. A dweud y gwir, os na allwch ganiatáu i ddeddfwrfa genedlaethol ymdrin â thrwyddedu, a’ch bod yn credu bod yna broblem sylfaenol, yna rwy’n meddwl bod gennych anhawster mawr gyda’r ffordd rydych yn ymateb i’r cwestiwn cyfansoddiadol dan sylw yn ei gyfanrwydd. A gaf fi ddweud i gloi fy mod yn credu mai rhan o fod yn oedolyn yw byw gyda pharadocs? Mae’n her barhaus. Ond mae’n anodd deall mai allbwn y ddeddfwrfa hon yw cyfraith Cymru a Lloegr, pan fo’n amlwg mai cyfraith Cymru yn unig yw hi. Nawr, dyna’r sefyllfa, ac rwy’n meddwl bod ceisio egluro materion technegol cyfreithiol y modd rydym yn llunio cyfraith yn astrus iawn, ac ni all arwain at feddwl clir. Ond rwyf am wneud pwynt ymarferol yma, oherwydd rwy’n meddwl bod geiriau’r Prif Weinidog i’w croesawu’n gynnes, ac yn dangos ei fod yn mynd i weithio gyda Llywodraeth y DU i egluro’r ymgais hon i wneud cyfraith Cymru yn fwy penodol a rheoli canlyniadau gweinyddol ac ymarferol corff cynyddol o gyfraith benodol Gymreig. Ac mae’n fater o gael barnwyr sydd wedi’u hyfforddi’n gymwys i glywed achosion yn awr yng Nghymru, a’r cyfreithwyr sy’n dadlau’r achosion hynny hefyd. Nid yw hwn yn fater dibwys, gan fod ein cyfraith yn mynd i fod yn fwyfwy gwahanol, a thros faterion hynod o bwysig—cyfeiriodd rhywun yn gynharach yn y cwestiynau at ein deddf gynllunio newydd—felly mae’n rhaid i hyn gael ei wneud. A dylwn ddweud, wrth i ni fynd ar hyd y llwybr hwnnw, ac er tegwch i’r proffesiwn cyfreithiol, maent eisoes wedi cydnabod hyn, bydd yn gynyddol anodd i ni anwybyddu realiti’r gwahanu sydd bellach yn digwydd. Ar y pwynt hwnnw rwy’n tybied y byddwn oll yn cydnabod ein bod wedi cyrraedd awdurdodaeth ar wahân. Carwyn Jones AC: A gaf fi ddiolch i’r Aelod, fel erioed, am ei sylwadau? Un o’r materion a godwyd sy’n peri pryder i mi yw cyfreithwyr yng Nghymru yn dweud, ‘Wel, os ydym yn awdurdodaeth ar wahân, a yw hynny’n golygu na fyddwn yn gallu ymarfer yn Lloegr?’ Nid yw hynny’n wir. Mae’n gwbl arferol i gyfreithwyr ymarfer ar draws awdurdodaethau cyfraith gyffredin. Pan oeddwn yn ymarfer, roedd yn bosibl ymarfer yng Ngogledd Iwerddon cyn belled â’ch bod yn ymuno â bar Gogledd Iwerddon, a oedd yn £70, rwy’n meddwl, yn y dyddiau hynny, ac yna gallech ymarfer. Cyn belled â’ch bod yn ymuno â’r gymdeithas broffesiynol briodol, nid oedd unrhyw rwystr i ymarfer o gwbl. Mae’r Alban yn fater hollol wahanol, gan fod cyfraith yr Alban yn llawer agosach at gyfraith yr Almaen, Sbaen neu Ffrainc, o ran hynny, nag ydyw i gyfraith Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Felly, nid oes rhwystr i hynny ac ni fyddwn am greu sefyllfa lle byddai’n anodd i gwmnïau cyfreithwyr o Gymru gael gwaith y tu allan i Gymru. Mae hynny’n bwysig i’n heconomi. Nid dyna y mae awdurdodaeth ei wneud. Mae’n ei gwneud yn haws cymhwyso deddfau ac yn haws i’r cyhoedd eu deall, ond yn sicr nid yw’n ei gwneud yn anos i gwmnïau weithredu. Er enghraifft, dros y 10 neu 15 mlynedd diwethaf yn Belfast, mae llawer o gwmnïau o Lundain wedi symud i mewn, ac mae Gogledd Iwerddon yn awdurdodaeth hollol ar wahân. Nid ydynt wedi gweld hynny’n rhwystr i ymarfer yng Ngogledd Iwerddon. Felly, rwy’n credu bod honno’n ddadl y gellir ei datrys, o ran y proffesiwn cyfreithiol. Julie Morgan AC: Rwy’n croesawu’r newidiadau yn y Bil drafft newydd. Nid wyf yn credu ei fod yn mynd yn ddigon pell, ond rwy’n meddwl bod rhywfaint o gynnydd wedi’i wneud, felly mae’n groeso gofalus. Mae gennyf ychydig o gwestiynau cyflym. Rwy’n meddwl bod croeso cyffredinol i’r ffaith fod trefniadau etholiadol yn mynd i gael eu datganoli i’r Cynulliad hwn, ac rwy’n edrych ymlaen at yr amser pan fydd modd i’r Cynulliad bleidleisio dros bleidleisiau ar gyfer rhai 16 a 17 oed yn etholiadau’r Cynulliad. Rwy’n credu mai dyna un o’r pethau gwych yn y Bil na ddylem ei anghofio: y bydd gennym y pŵer hwnnw. A gaf fi ofyn hyn i’r Prif Weinidog: a fyddai’n rhoi’r pŵer i ni alluogi awdurdodau lleol i gael pleidleisiau i rai 16 a 17 oed? Felly, roeddwn i’n meddwl tybed a allai’r Prif Weinidog ateb y cwestiwn hwnnw hefyd.O ran mater plismona, rwy’n credu ei bod yn siomedig iawn nad oes unrhyw symud wedi bod ar fater plismona a byddwn yn gofyn i’r Prif Weinidog wneud popeth yn ei allu yn ystod y cyfnod trafod ar gyfer y Bil hwn i geisio newid meddyliau Llywodraeth San Steffan gan nad oes esboniad drosto, yn enwedig o ystyried y ffaith fod plismona wedi’i ddatganoli i bob un o’r cyrff datganoledig eraill. Yn olaf, tybed a allai fynd i’r afael â mater cyfiawnder ieuenctid. Yn ôl yr hyn a ddeallaf ar hyn o bryd, Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am wasanaethau cyfiawnder ieuenctid, ond nid y system cyfiawnder ieuenctid, a chredaf fod hynny’n ddryslyd iawn ac yn rhywbeth y gellid ei wneud yn gliriach yn syml iawn, yn ôl pob tebyg. A yw’n bosibl gwneud hynny yn y trafodaethau ar y Bil hwn? Carwyn Jones AC: A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei sylwadau? Mae hi bob amser wedi bod yn bybyr ei chefnogaeth, wrth gwrs, i bleidleisiau ar gyfer rhai 16 a 17 oed. Byddai hynny o fewn pŵer y Cynulliad hwn o ran etholiadau’r Cynulliad. O ran etholiadau llywodraeth leol, o’r hyn a gofiaf am y Bil diwethaf, yn sicr, roedd etholfraint llywodraeth leol yn fater a gadwyd yn ôl. Byddai’n rhaid i mi edrych i weld a yw hynny wedi’i wneud yn gliriach yn y Bil hwn. Mae’n glir o’n rhan ninnau, ond nid yw’n glir o ran etholiadau llywodraeth leol. Yn amlwg, rwy’n croesawu ei sylwadau ar blismona. Ar gyfiawnder ieuenctid, dylai’r polisi a’r system fod gyda’i gilydd yn fy marn i a byddwn yn parhau i ddadlau dros hynny gyda Llywodraeth y DU. Nathan Gill AC: Diolch yn fawr, Brif Weinidog. I’r rhan fwyaf o bobl Cymru, rwy’n credu nad yw rhai o’r materion ym Mil Cymru, materion rydym i gyd yn eu trafod ac yr ymddengys ein bod yn meddwl eu bod yn bwysig iawn, yn faterion y maent yn pryderu yn eu cylch go iawn. Yr un mater pwysig y mae bron bawb yn mynd i fod yn bryderus amdano, a’r mater rwy’n ei ofni, yw’r pwerau codi trethi a’r posibilrwydd o’u cael heb refferendwm. Yn 2011, pan gawsom y refferendwm ar bwerau pellach, dywedwyd wrthym bryd hynny nad oedd yn ymwneud â chael mwy o ACau ac nid oedd yn ymwneud â phwerau codi trethi: ymarfer tacluso ydoedd. Yn awr cawn wybod bod gan y ddwy Lywodraeth—y Llywodraeth yma a’r Llywodraeth yn San Steffan—gonsensws cysurus rhyngddynt a’u bod wedi penderfynu nad oes gwir angen i ni gyflwyno hyn gerbron pobl Cymru. Wel, mae Leanne Wood ei hun newydd sôn bod yn rhaid glynu at ewyllys pobl Cymru, a siaradodd Andrew R.T. Davies am y ffaith fod yn rhaid i’r tŷ hwn siarad ag un llais. Nid yw’r tŷ hwn yn siarad ag un llais. Mae saith AC UKIP yma ac nid ydym yn cytuno—[Torri ar draws.] Nid ydym yn cytuno y dylid cael pwerau codi trethi heb refferendwm. Y flwyddyn nesaf, ceir etholiad i bob aelwyd yng Nghymru, ar gyfer y cynghorau. Yn 2017, mae etholiad ar gyfer pob cyngor. Os ydych am arbed arian, os ydych am fod yn ddemocrataidd a’ch bod am roi llais i bobl Cymru ar y mater hollbwysig hwn, pam na chawn ni refferendwm ar yr un pryd yn union a chaniatáu i bobl Cymru leisio’u barn? A ydym am i’r Llywodraeth hon yma gael pŵer dros eu pyrsau a’u waledi? Nid wyf fi yn bersonol am weld hynny. Carwyn Jones AC: Wel, y bobl sydd wedi ein hethol ni yma. Sefais ar y maniffesto yn fy etholaeth gan gynnwys polisïau ar bwerau amrywio treth incwm a chefais fy ethol fel y cafodd—[Torri ar draws.] Cefais fy ethol, yn y pen draw, yn fy etholaeth. [Chwerthin.] Ac etholwyd pob Aelod yma, yn wir. Ond y pwynt yw hwn: gofynnwyd i bobl Cymru am eu barn ar hyn y mis diwethaf ac maent wedi mynegi eu barn. Cafodd eich plaid saith sedd—do, mae hynny’n wir—ond mae 60 o Aelodau yma felly ni chafwyd ymchwydd o gefnogaeth enfawr i’ch plaid, er fy mod yn cydnabod eich bod, wrth gwrs, wedi cynyddu eich cefnogaeth ac mae’n amlwg yn y ffaith fod yna saith ohonoch yma. Rhaid i mi ddweud, wrth gwrs, nad oes gan eich plaid hanes cadarn o gefnogi datganoli. Roeddech chi a minnau gyda’n gilydd yn y Coed Duon yn ystod refferendwm 2011 ac roeddech yn gwrthwynebu pwerau deddfu sylfaenol ar y pryd. Roedd eich plaid, dros dri etholiad cyntaf y Cynulliad, o leiaf, yn gwrthwynebu bodolaeth y Cynulliad. Nawr, mae newid wedi bod. Iawn, rwy’n derbyn hynny. Ond i lawer o’ch aelodau, gwn nad yw bodolaeth y Cynulliad ynddo’i hun yn rhywbeth y maent yn gyfforddus ag ef. Duw a ŵyr, gwelsom lawer o’r llythyrau a anfonodd rhai ohonynt dros y blynyddoedd i rai o’r papurau newydd: nid oeddent yn arbennig o hapus gyda’r Cynulliad, Cymru na’r iaith Gymraeg. Mae hynny wedi newid. Rwy’n derbyn y pwynt a wnewch heddiw eich bod yn ceisio datblygu setliad datganoli sy’n fwy cadarn, ond y pwynt rwy’n ei wneud yw hyn: yn yr Alban, ni fu refferendwm ac nid yw UKIP wedi galw am refferendwm ychwaith ar y pwerau eang y bydd yr Alban yn eu cael i amrywio trethi. Yng Ngogledd Iwerddon, lle mae’r dreth gorfforaeth yn cael ei datganoli, unwaith eto, nid yw UKIP wedi galw am refferendwm yng Ngogledd Iwerddon. Felly, beth sy’n gwneud Cymru yn wahanol, yn enwedig o ystyried y ffaith fod pob plaid yn eu maniffestos wedi ymdrin â’r mater hwn, a bod pobl Cymru wedi penderfynu eu bod yn dymuno cefnogi pleidiau—a hynny gyda mwyafrif llethol—a fyddai’n dymuno gweld pwerau amrywio trethi wedi’u datganoli, ac a fyddai’n mynd ati’n benodol i wneud yn siŵr fod y pwerau hynny, pan fyddant yn cyrraedd, yn cael eu defnyddio’n ddoeth? Ond rwy’n dweud wrtho eto: heb bwerau amrywio trethi, ni chawn ffordd liniaru’r M4; nid oes unrhyw ffordd o gael un heb y llall. Diolch, Brif Weinidog. 4. 4. Datganiad: Tata Steel Rwy’n symud i’r eitem nesaf ar yr agenda, sef datganiad gan y Prif Weinidog ar Tata Steel, ac rwy’n galw ar y Prif Weinidog, Carwyn Jones. Carwyn Jones AC: Lywydd, cafodd y Cynulliad hwn ei ailymgynnull yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad, yn rhannol ar fy nghais i, ond yn ei hanfod, i gydnabod y pryderon dwys sydd gan gymunedau dur ledled Cymru ac yn wir, pob un ohonom yn y Siambr hon ynghylch dyfodol gweithfeydd Tata. Ers hynny, rwyf wedi cael llawer o drafodaethau gyda Tata, Llywodraeth y DU, undebau llafur a phrynwyr a buddsoddwyr posibl. Heddiw, hoffwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Siambr am y sefyllfa fel y mae a’r cynnydd sy’n cael ei wneud.Mae’r Aelodau’n gwybod fy mod wedi bod yn Mumbai ychydig wythnosau yn ôl i barhau fy neialog gyda Tata ynglŷn â’r broses werthu. Trwy gydol y broses hon, fy mhrif bryder yw gweithlu Tata, y cymunedau dur a’r angen i sicrhau diwydiant dur hirdymor a chynaliadwy ar gyfer holl weithrediadau Tata yng Nghymru. Dyma’r achos rwyf wedi’i gyflwyno’n gyson ac yn uniongyrchol i uwch arweinwyr Tata.Bydd yr Aelodau’n deall yn iawn fod cyfrinachedd masnachol yn cyfyngu ar yr hyn y gellir ei ddweud mewn unrhyw fanylder, ond gallaf gadarnhau bod ein trafodaethau wedi bod yn adeiladol ac yn arwyddocaol, a safbwynt Tata o hyd yw mai ei flaenoriaeth yw cynnal proses werthu sy’n sicrhau canlyniad cadarnhaol. Ac mae Tata bellach yn y broses o werthuso’r cynigion y mae wedi’u cael. Nawr, pa benderfyniad bynnag a wneir gan Tata, rydym yn barod i gefnogi unrhyw gynigwyr sy’n mynd drwodd i’r cam nesaf a fydd yn arwain at gadw swyddi a chynhyrchiant dur cynaliadwy yng Nghymru. Ddydd Mercher diwethaf, gwelsom lansio British Steel, wedi i Greybull Capital brynu is-adran cynhyrchion hir Ewropeaidd Tata, sydd wedi’i leoli’n bennaf yn Scunthorpe. Mae hynny’n cynnig rhai rhesymau cadarn dros fod yn hyderus fod yna ddyfodol hyfyw i wneud dur yng Nghymru a’r DU yn ehangach, a dyna y mae Llywodraeth Cymru, ac yn wir y Cynulliad hwn, wedi bod yn ei ddweud ar hyd yr amser.Y bore yma, mynychodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ei gyfarfod cyntaf o Gyngor Dur Llywodraeth y DU. Mae gwaith y Cyngor Dur yn cael ei ddatblygu drwy bedwar gweithgor sy’n ystyried nid yn unig sut rydym yn ymateb i’r argyfwng dur presennol, ond cynaliadwyedd hirdymor gwneud dur. Mae ein swyddogion mewn cysylltiad dyddiol â Llywodraeth y DU a hefyd yn mynychu pedair ffrwd waith y Cyngor Dur.Yn y cyfamser, mae gwaith ein tasglu Tata Steel yn parhau; cynhaliodd ei gyfarfod diweddaraf ar 9 Mai. Darperir cymorth a chyngor gan y Ganolfan Byd Gwaith, gan weithio’n agos gyda Tata, Gyrfa Cymru, Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill. Cafwyd ymateb cadarnhaol i’r sesiynau ymwybyddiaeth, gyda thua 300 yn mynychu hyd yn hyn. Ar 28 Ebrill, cynhaliwyd ffair swyddi a fynychwyd gan 38 o weithwyr o galibr uchel, ac mae cynlluniau ar y gweill ar gyfer ffair swyddi arall. Roedd cynrychiolwyr undebau yn gadarnhaol ynglŷn â’r cymorth a ddarparwyd hyd yn hyn.Mae’r tasglu yn cydnabod y bydd angen cyfathrebu’n barhaus â chyn-weithwyr dros y misoedd nesaf, gan na fydd rhai unigolion yn awyddus i dderbyn cynigion o gymorth ar unwaith. Cynlluniwyd sesiynau cyngor pellach ar gyfer mis Mehefin a mis Gorffennaf, a bydd y rhain yn cael eu hagor i’r gadwyn gyflenwi fel y bo’n briodol. Mae ffrydiau gwaith y tasglu hefyd yn parhau â’u gwaith. Mae’r ffrwd waith iechyd yn asesu tystiolaeth ar ba effaith a geir ar wasanaethau sylfaenol a chymunedol. Cynlluniwyd gweithdai cymunedol hefyd i ddarparu gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael i’r rhai yr effeithiwyd arnynt o ganlyniad i gael eu diswyddo ac aelodau o’r teuluoedd ehangach. Mae’r ffrydiau gwaith hyfforddiant a sgiliau, a busnes a’r gadwyn gyflenwi hefyd yn gweithio’n agos gyda’i gilydd, gan gysylltu hefyd, wrth gwrs, â gwaith y ffrwd waith iechyd. Mae’n helpu i sicrhau bod ystyriaeth lawn yn cael ei rhoi i gymorth ar gyfer unigolion sy’n gweithio yn y gadwyn gyflenwi, yn ogystal â gweithwyr uniongyrchol Tata. Lywydd, mae Busnes Cymru ar hyn o bryd yn gweithio gyda 60 o brif gwmnïau cyflenwi Tata ar sail un i un, ac mae’n dod â chefnogaeth ehangach i mewn, gan gynnwys cymorth sgiliau a hyfforddiant yn ôl yr angen.A gaf fi droi at gaffael? O ran caffael, rydym yn parhau i ddadansoddi’r cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru, sy’n darparu gwelededd i’n rhaglen a’n prosiectau blaenoriaeth, er mwyn sefydlu rhagolwg o’r angen am ddur yn y dyfodol. Bydd y gwaith hwn yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir i ddarparu eglurder ynghylch y gofynion hynny. Mae gwaith hefyd wedi symud ymlaen yn dda ar gryfhau ein polisi caffael, a fydd yn egluro pwysigrwydd agor cyfleoedd i gyflenwyr dur yn y DU.Yn ein dogfennau contract cludiant, rydym wedi gwthio pethau ymhellach eto o ran y defnydd o ddur y DU. Nid yn unig ein bod yn datgan bod yn rhaid i gontractwr sicrhau bod y deunyddiau sy’n cael eu defnyddio ganddo a’i is-gontractwyr yn cydymffurfio â gofynion BES 6001, ond rydym hefyd wedi datgan yn benodol fod Llywodraeth Cymru yn disgwyl na fydd contractwr yn defnyddio dur wedi’i ddympio o farchnadoedd tramor ar gyfer unrhyw ddur sy’n cael ei ddefnyddio ar y prosiect.Gan symud i feysydd eraill o gefnogaeth, rydym wedi cyflwyno’r ardal fenter ym Mhort Talbot. Daw hyn yn sgil trafodaethau defnyddiol gyda chyngor Castell-nedd Port Talbot, y gymuned fusnes, a’r tasglu, gan bwyso ar arbenigedd y sector preifat drwy fwrdd yr ardal fenter, a gadeirir gan Roger Maggs, a hoffwn nodi ei gyfraniad arbennig yn gyhoeddus.Lywydd, mae gweithwyr dur yn gwneud eu gwaith mewn amodau anodd, ac mae pensiwn diogel yn fudd hanfodol. Lansiodd Llywodraeth y DU ymgynghoriad ar 26 Mai ar opsiynau ar gyfer darparu diogelwch i gynllun pensiwn Dur Prydain. Nid yw pensiynau wedi’u datganoli, ond rwy’n gwbl glir fod yn rhaid diogelu uniondeb y cynllun pensiwn, a rhaid i’r ymddiriedolwyr, Tata a Llywodraeth y DU weithio gyda’i gilydd i sicrhau canlyniad teg a phriodol i aelodau’r cynllun.Lywydd, mae’r Llywodraeth hon yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i wneud popeth posibl i sicrhau canlyniad llwyddiannus i broses werthu Tata. Mae hon yn flaenoriaeth i ni i gyd, ac rwy’n ddiolchgar am y gefnogaeth drawsbleidiol sylweddol i’n cymunedau dur, a byddaf, wrth gwrs, yn parhau i sicrhau bod yr Aelodau’n parhau i gael y wybodaeth ddiweddaraf. Adam Price AC: Diolch yn fawr, Brif Weinidog, am gopi ymlaen llaw o’r datganiad. Mae Llywodraeth y DU yn ôl y sôn yn rhoi pwysau sylweddol ar Tata i newid ei benderfyniad i werthu ei asedau yn y DU yn gyfnewid am ddileu ei rwymedigaeth diffyg pensiwn a benthyciad o £900 miliwn. A allai’r Prif Weinidog egluro a chofnodi ei ddealltwriaeth o ba mor wir yw hynny? Ac a yw’n deall ac o bosibl hyd yn oed yn rhannu amheuon naturiol y gweithlu ynglŷn ag a yw cwmni sydd wedi ffafrio ei ffatri yn IJmuiden yn hytrach na Phort Talbot dro ar ôl tro—yn fwyaf diweddar drwy wrthod yn llwyr y cynllun achub ychydig fisoedd yn ôl—yn gallu bod ag unrhyw ymrwymiad hirdymor credadwy i gynhyrchiant dur yng Nghymru? Rhaid i mi ddweud y gallai unrhyw un sydd wedi gweld cynllun McKinsey gael eu gorfodi i ddod i’r casgliad fod y ffordd y cafodd Port Talbot ei gamreoli gan Tata Steel Europe ar y lefel honno yn ffactor sy’n cyfrannu at ddifrifoldeb y problemau a’i hwynebai. Yn sicr, nid yw trosglwyddo’r allweddi yn ôl i’r union bobl hyn sy’n gwneud penderfyniadau dros bennau rheolwyr a gweithwyr lleol yn rhywbeth y dylem ni yng Nghymru fod yn fodlon ei gefnogi, lle ceir dewisiadau eraill gwell mewn perchnogaeth leol.A fyddai’r Prif Weinidog hefyd yn derbyn y byddai caniatáu i gwmni rhyngwladol byd-eang gydag adnoddau eithriadol fel Tata, a wnaeth tua £4 biliwn o elw net y llynedd, i droi cefn ar ei gyfrifoldebau pensiwn yn creu perygl moesol drwy osod cynsail a fyddai’n caniatáu i gwmnïau trawswladol eraill wneud yr un fath? A yw hefyd yn pryderu—fel minnau—fod dymuniad ymddangosiadol Downing Street i daro bargen gyflym a thwyllodrus o syml drwy’r drws cefn gyda Tata, yn hytrach na phroses werthu deg a thryloyw, wedi’i yrru gan awydd am newyddion da yn wleidyddol cyn 23 Mehefin, yn lle buddiannau hirdymor yr economi a chymunedau dur? Er ei fod ef a minnau yn rhannu’r un dyhead am ganlyniad tebyg o ran y refferendwm, a yw’n cytuno beth bynnag, gan nad yw’r ymgynghoriad ar y newidiadau arfaethedig i fynegeio’r gronfa bensiwn y cyfeiriodd ati yn cau hyd nes 23 Mehefin, y byddai’n rhy fuan i unrhyw benderfyniad terfynol gael ei wneud mewn perthynas â Tata cyn y dyddiad hwnnw?Yn olaf, o weld bod Tata bellach, yn rhyfedd ddigon, mae’n ymddangos, mewn sefyllfa i farnu ai hwy neu un o’r cynigwyr ddylai dderbyn buddsoddiad cyhoeddus sylweddol sy’n cael ei gynnig, pan fydd yn cyfarfod â Tata nesaf, a allai ofyn, er mwyn sicrhau proses briodol o dryloyw, a fyddent yn derbyn ac yn caniatáu i’r Cyngor Dur y cyfeiriodd ato i gomisiynu asesiad cwbl annibynnol o’r opsiynau sydd ar y bwrdd ar hyn o bryd o ran eu cost a’u budd, nid yn unig i Tata, ond i’r cyhoedd—y trethdalwr a’r gweithiwr dur fel ei gilydd? Carwyn Jones AC: A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiynau? Nid oes fawr ddim y byddwn yn anghytuno yn ei gylch. Yr hyn sy’n gwbl hanfodol yw bod yna ddyfodol cynaliadwy hirdymor a diogel i’n swyddi dur. Mae’n wir fod Tata wedi dweud eu bod yn dymuno gwerthu; dyna yw safbwynt eu bwrdd o hyd. Nid wyf yn siŵr fod hwnnw o reidrwydd yn safbwynt a fydd yn para am byth, os caf ei roi felly. Gallaf ddychmygu y byddai’r gweithwyr ym Mhort Talbot a’r gweithfeydd eraill yn poeni pe bai’n wir fod Tata yn mynd i barhau heb i warantau gael eu rhoi ynghylch beth fyddai cynlluniau Tata yn y dyfodol. Pe bai Llywodraeth y DU yn rhoi cymorth ariannol ar y bwrdd, byddwn yn disgwyl iddynt—ac nid wyf wedi clywed am unrhyw swm penodol—dderbyn gwarantau ynghylch buddsoddiad Tata yn asedau dur Cymru yn y dyfodol yn gyfnewid am hynny. Mae’n ymddangos i mi y byddai’n anodd amddiffyn unrhyw gamau i wneud fel arall. O ran y cynllun pensiwn, mae’n llygad ei le: sefydlwyd y gronfa diogelu pensiynau i ymdrin â chronfeydd pensiwn sydd wedi methu, i bob pwrpas, am fod y busnes sy’n noddi wedi methu. Nid dyna a ddigwyddodd yma. Ni fyddem, beth bynnag, o blaid gweld cronfa bensiwn Dur Prydain yn mynd i mewn i’r gronfa diogelu pensiynau. Mae’r dewis arall a gyflwynwyd yn dal i fod yn hynod o anodd o ran y buddiolwyr, a’r neges y bydd yn ei chyfleu. Er enghraifft, os ceir bargen lle bydd Tata yn parhau, lle ceir cymorth ariannol sylweddol i Tata, a lle bydd y rhwymedigaethau pensiwn yn cael eu dileu, y neges i bob busnes arall yn y DU yw, ‘Wel, gadewch i ni wneud yr un peth’ ac nid wyf yn credu y gall cyllid cyhoeddus ymdopi â hynny. Ar ddechrau’r broses hon, y bwriad bob amser oedd y byddai mater pensiynau yn cael ei ddatrys er mwyn cynorthwyo cynigydd newydd a phrynwr newydd. Mae gwneud hynny ar gyfer cwmni sy’n bodoli eisoes yn llawn o beryglon, fel y mae’n gywir i ddweud. Rwy’n gobeithio nad yw Llywodraeth y DU yn ystyried ystyriaethau gwleidyddol ar hyn o bryd, ond yn hytrach, eu bod yn ystyried dyfodol ein swyddi a’n cymunedau yma yng Nghymru, ac mewn mannau eraill yn y DU. Mae’n anodd gweld ar hyn o bryd a allai’r Cyngor Dur gynnal asesiad annibynnol, o ystyried maint y cytundebau peidio â datgelu sydd ar waith mewn perthynas â’r saith cynigydd. Mae’n hynod o bwysig, fodd bynnag, fod y broses geisiadau yn cael ei harchwilio’n fanwl. Mae Tata wedi fy sicrhau y bydd hynny’n digwydd, y byddant yn edrych ar y cynigion yn ofalus iawn, ac yn y pen draw, wrth gwrs, mae gan Tata enw da yn fyd-eang. Bydd colli’r enw da hwnnw’n gostus iddynt, ac maent yn gwybod hynny. Felly, yn fy marn i, beth bynnag yw’r canlyniad—a’r canlyniad rwyf fi eisiau yw dyfodol cynaliadwy a diogel—bydd angen i Tata ddangos eu bod wedi rhoi chwarae teg i’r gweithlu a’u bod wedi creu’r amodau a fydd yn golygu bod dyfodol i’r diwydiant. Ac fel y dywedais, mae’r enw da hwnnw yn werth rhywbeth iddynt. Roeddent yn pwysleisio hynny wrthyf yn y cyfarfodydd y maent wedi’u cael. Mae’r ffaith fod yr amserlen wedi ymestyn yn galonogol i’r graddau ei fod yn golygu bod Tata yn edrych o ddifrif ar y ceisiadau, yn fy marn i, ond fel y bydd yn gwybod, mae nifer o rwystrau sy’n rhaid eu goresgyn eto. Mae’r gefnogaeth a gynigiwn fel Llywodraeth yn dal i fod yno. Rwyf wedi siarad ar sawl achlysur â dau o’r cynigwyr ac wedi gwrando ar eu cynlluniau, ac yn fy marn i, mae’r ddau gynigydd fel ei gilydd o ddifrif ynghylch eu cynigion. Rwy’n dweud unwaith eto ei bod yn bwysig i Tata roi ystyriaeth lawn i’r cynigion, a’u bod yn anelu i werthu’r asedau am bris teg a sicrhau dyfodol i’n cymunedau dur, ac mae’n hanfodol fod Llywodraeth y DU yn ystyried y tymor hir, yn hytrach na meddwl bod ateb tymor byr yn gadarn, gan nad yw hynny’n wir. Mae angen i ni feddwl, nid am yr ychydig fisoedd nesaf, na’n wir am y ddwy neu dair blynedd nesaf, ond am y ffordd rydym yn adeiladu’r dyfodol i’n diwydiant dur ar gyfer y degawd nesaf a thu hwnt. Andrew RT Davies AC: Brif Weinidog, diolch i chi am eich datganiad, a’r datganiadau blaenorol a wnaethoch i’r tŷ hwn, yn amlwg, y datganiadau ysgrifenedig a llafar. Rwy’n eich canmol am fynd allan i Mumbai, gyda Sajid Javid, a sefyll yno fel dwy Lywodraeth ysgwydd yn ysgwydd i ofyn am sicrwydd gan Tata Steel. Byddwn yn falch o ddeall yn union ar ba lefel y cynhaliwyd y cyfarfodydd hynny rhyngoch chi a Tata Steel, er mwyn i hynny, wrth gwrs, ar y sicrwydd a roddwyd, allu rhoi rhywfaint o eglurder i ni ynglŷn â pha lefel o fewn y cwmni roeddent yn trosglwyddo’r sicrwydd hwnnw yn ôl i chi, oherwydd rwy’n credu ei bod yn hanfodol i ni ddeall y strwythur y mae Tata yn ei ddefnyddio, (a) i werthuso’r cynigion a (b) i sicrhau canlyniad llwyddiannus o’r broses hon.Rwy’n anghytuno â sylwadau’r siaradwr blaenorol am safbwyntiau Llywodraeth y DU a tharo bargeinion drwy’r drws cefn. O’r Prif Weinidog i lawr, credaf fod pawb wedi siarad am ddiogelwch hirdymor a phwysigrwydd y diwydiant dur yma yn y Deyrnas Unedig i economi’r DU o ddiwydiant dur, yn hytrach na chynnal rhywbeth am dair neu bedair wythnos yn unig. O ystyried ymrwymiad y Prif Weinidog, Sajid Javid, a Llywodraeth y DU, ynghyd â Llywodraeth y Prif Weinidog ei hun, rwy’n credu bod yna barodrwydd i wneud yn siŵr fod hon yn fargen hirdymor yn hytrach na rhywbeth a fydd yn llosgi’n ddim ar ôl cyfnod byr iawn. Yn wir, roedd llawer o’r sylwadau mewn datganiadau blaenorol yn ymwneud â’r union faterion hynny, nad ydym yn dymuno gweld prynwr yn mynd i unrhyw un o’r safleoedd hyn—gan nad yw’n ymwneud â Phort Talbot yn unig, mae yna lawer o safleoedd eraill yng Nghymru a hefyd ar draws y DU—a datgymalu’r safleoedd a gostwng allbwn y safleoedd hynny. Rwy’n gobeithio eich bod wedi cael sicrwydd gan Tata eu bod, wrth werthuso’r ceisiadau, yn anelu i sicrhau dyfodol hirdymor pob un o’r safleoedd, ac yn wir, natur integredig y gwaith sydd ganddynt yma yn y Deyrnas Unedig, gan fod llawer o’r safleoedd lloeren, gawn ni ddweud, yn amlwg yn dibynnu ar gadw gwaith Port Talbot ac ar wneud yn siŵr fod allbwn yn parhau ar y lefelau cynhyrchu presennol a lefelau cynyddol yn y dyfodol.Felly, byddwn yn ddiolchgar hefyd, pe bai Tata yn rhannu unrhyw wybodaeth gyda chi ynglŷn â hyfywedd y cynigion a ddaeth i law—. Fe ddywedoch fod saith cynnig ar y bwrdd ac rwy’n gwerthfawrogi bod yna gytundebau peidio â datgelu yno am resymau’n ymwneud â chyfrinachedd, ond a ydych mewn sefyllfa i roi rhagor o eglurder ynghylch cryfder y cynigion hynny a dynameg y cynigion, yn benodol ynghylch y dull cwmni cyfan o weithredu, neu a yw cryn dipyn o’r cynigion hynny ond yn edrych ar y gwahanol opsiynau ar eu pen eu hunain?Hefyd, hoffwn wybod gan y Prif Weinidog ynglŷn â’r gwaith y mae ei Lywodraeth yn arbennig wedi’i wneud ynglŷn ag ardrethi busnes. Rydych wedi dweud bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn ceisio ailwerthuso’r sail y gallent fod yn gweithio gyda—arni, dylwn ddweud—ar gyfer cyflwyno pecyn ardrethi busnes gwell. Oherwydd eich dealltwriaeth, y tro diwethaf i chi annerch y tŷ hwn, oedd mai pecyn bach iawn fyddai Llywodraeth Cymru wedi gallu ei gynnig, ond rwyf wedi gweld yn y wasg ac wedi eich clywed yn dweud o’r blaen fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gwneud gwaith, ac rwy’n tybio mai’r gwaith hwnnw yw trafod gyda’r Comisiwn Ewropeaidd a thrafod gyda Llywodraeth San Steffan pa fath o becyn gwell y gallech ei gyflwyno, a byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn gwybod a wnaed rhagor o gynnydd ar y pecyn ardrethi busnes y gallech fod yn ei gyflwyno.Hoffwn wybod hefyd: beth y mae’r ymadrodd ‘dur wedi’i ddympio’ yn ei olygu i’r Prif Weinidog? Mae nifer o’r Aelodau yn y tŷ hwn ac yn y wasg wedi canolbwyntio’n llwyr ar agweddau Tsieineaidd ar ddympio dur, er bod dur wedi’i ddympio o Rwsia ar y farchnad, a dur wedi’i ddympio o Dde Corea hefyd. A oes yna ddealltwriaeth bron, pan fyddwch yn ymdrin â chontractau—gan eich bod yn sôn yn eich datganiad am ei wneud yn rhan o derminoleg contractau a’r disgwyliad na fyddai dur wedi’i ddympio’n cael ei ddefnyddio yng nghontractau’r Llywodraeth? A ydych yn bod yn wlad-benodol? A oes yna gategori rydych yn canolbwyntio arno? Credaf fod hynny’n bwysig i’w wybod hefyd. O ran y pensiynau a’r rhwymedigaethau pensiwn, rwy’n credu y byddai pawb yn cytuno â’r teimlad a nodwyd gennych yn eich datganiad, Brif Weinidog. Dyma faes sy’n llawn o heriau, ond rydym yn deall, yn amlwg, fod rhwymedigaethau pensiwn yn rhwystr mawr—i unrhyw brynwr llwyddiannus ysgwyddo’r rhwymedigaeth honno. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech ymhelaethu ar yr iaith a ddefnyddioch yn eich datganiad i ddeall yn glir ble mae Llywodraeth Cymru yn sefyll mewn perthynas â’r cynigion sydd yn yr ymgynghoriad ac a yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi argymhelliad penodol yn ffurfiol er mwyn cynorthwyo i liniaru rhai o’r rhwymedigaethau hynny ar gyfer unrhyw rai sy’n prynu’r safleoedd yn y dyfodol fel y gellir meddiannu’r safleoedd a gwarantu cynhyrchiant a sicrwydd swydd i’r gweithwyr ar y safleoedd, pa un a ydynt yn safle-benodol neu’n wir ar draws y diwydiant dur yn ei gyfanrwydd. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, ymddiriedolwyr y gronfa bensiwn a ofynnodd am yr ymgynghoriad ac yn amlwg, mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno’r ymgynghoriad hwnnw. Rwy’n credu bod angen i ni wybod yn glir ble mae Llywodraeth Cymru yn sefyll ar yr ymgynghoriad hwnnw a beth yw opsiwn dewisol Llywodraeth Cymru, gan ei fod yn rhan mor annatod o gwblhau gwerthiant y gweithfeydd dur yn llwyddiannus. Yr un pwynt olaf yr hoffwn ei wneud hefyd yw eich bod yn cyffwrdd yn eich datganiad ar y cyfleoedd ailhyfforddi. Crybwyllwyd hyn gan David Rees, yr Aelod dros Aberafan. Yn anffodus, beth bynnag fydd canlyniad y broses werthu, bu diswyddiadau ar y safleoedd—yn enwedig Port Talbot—a chyhoeddwyd diswyddiadau ar safleoedd dur eraill—Llanwern yn arbennig. Mae’n bwysig deall bod y pecynnau hyfforddi a roddwyd ar waith yn bodloni gofynion y rhybuddion diswyddo a gyflwynwyd a’r gweithwyr fydd angen eu cadw a’u cynorthwyo. A ydych yn hyderus y bydd y pecynnau sydd ar waith yn diwallu anghenion y gweithwyr hynny ac yn benodol, mewn ffordd a fydd yn eu cael yn ôl i gyflogaeth mewn modd amserol? Diolch, Brif Weinidog. Carwyn Jones AC: Diolch i arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig am ei gwestiwn. Roedd y cyfarfod a gefais ym Mumbai gydag uwch weithredwyr ac un aelod o fwrdd Tata. Parhaodd y cyfarfod am beth amser. Archwiliwyd nifer o faterion gennym, ac un ohonynt, er enghraifft, oedd pa gymorth pellach y gellid ei gynnig gydag ardrethi busnes ac mae hynny’n rhywbeth rydym yn edrych arno. Yr anhawster, wrth gwrs, yw sut rydych yn teilwra cymorth i un fenter benodol heb agor y drws i bobl eraill hefyd, a sut rydych yn creu sefyllfa fel yna yn deg ac mewn modd fforddiadwy. Mae’r trafodaethau hynny’n parhau.O ran dur wedi’i ddympio, byddwn fel arfer yn diffinio hynny fel dur sy’n eithaf aml yn cael ei werthu ar farchnad yn is na’r gost o’i gynhyrchu, weithiau drwy gymhorthdal ​​refeniw a ddarperir gan y llywodraeth lle caiff y dur ei gynhyrchu, y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd, ond sydd wedyn yn gwerthu’n rhatach na chynhyrchiant dur mewn marchnad benodol nad yw’n denu cymhorthdal ​​refeniw. Dyna un o’r diffiniadau y gallwch ei roi i ddur wedi’i ddympio. Gwyddom fod y broblem sydd wedi digwydd yn y farchnad fyd-eang yn deillio o arafu economi Tsieina. Mae’r Tsieineaid wedi cynhyrchu dur na all eu heconomi eu hunain ei amsugno ac felly maent yn ei werthu mewn marchnadoedd eraill, ac mae hynny’n achosi i bris dur y byd ddisgyn, sy’n golygu mai’r mentrau dur gyda’r amodau mwyaf anodd a heriol sydd wedi’i chael hi anoddaf. Yn y DU, gwyddom fod prisiau ynni yn uchel, mae’r bunt, er ei bod bellach yn disgyn yn eithaf cyflym, wedi bod yn uwch nag erioed, sydd wedi’i gwneud hi’n anodd allforio ac wrth gwrs, y trefniadau tariff a roddwyd ar waith gan farchnadoedd eraill o amgylch y byd.Ar bensiynau, nid ydym eto wedi rhoi ein barn ar beth fyddai ein dewis gorau. Yn wreiddiol, yr argymhelliad a wneuthum oedd, pe bai prynwr newydd yn dod i mewn, yna byddid yn ymdrin â’r cynllun pensiwn mewn ffordd debyg i’r ffordd yr ymdrinwyd â chynllun pensiwn Glo Prydain er mwyn gwneud glo yn fwy deniadol ar gyfer preifateiddio; mewn geiriau eraill, ei dynnu allan o’r hafaliad er mwyn i Lywodraeth y DU gael cyfran—a gwyddom fod Llywodraeth y DU yn gwneud yn eithaf da o’r pensiwn hwnnw ar hyn o bryd—er mwyn gwarantu buddion y bobl yn y cynllun pensiwn, ond hefyd er mwyn cael gwared ar y cynllun pensiwn o’r hafaliad i brynwr newydd. Byddwn yn dadlau ei bod yn llawer mwy cymhleth os yw’r gwaith yn parhau o dan yr un perchennog. Mae’n gywir dweud mai’r ymddiriedolwyr a ofynnodd am yr adolygiad—rhaid iddynt wneud hynny o dan y gyfraith, a dyna pam y dechreuodd y broses. Rwy’n meddwl fy mod wedi rhoi rhai manylion am yr hyn a wnaed i helpu pobl sy’n cael eu diswyddo. Er nad yw’r union ffigurau gennym eto, mae’n ymddangos y bydd nifer sylweddol yn ymddeol yn gynnar, a byddant mewn oed i allu gwneud hynny. Hyd yn hyn, fel y soniais yn gynharach, mae rhai wedi derbyn cymorth. Ond er mwyn gwneud yn siŵr fod y rhai nad ydynt yn dod i gael cymorth yn syth yn cael help yn y dyfodol, fel y dywedais yn gynharach yn y datganiad, dros y mis hwn a’r mis nesaf, bydd y cymorth hwnnw yn parhau i fod ar gael. Neil Hamilton AC: Cymeradwyaf y Prif Weinidog ar ei ddatganiad. Yn benodol rwy’n ategu’n frwd ei sylwadau am Roger Maggs, cadeirydd Excalibur a ffrind ysgol i mi flynyddoedd lawer yn ôl yn Nyffryn Aman. Ac rwy’n cymeradwyo popeth a ddywedodd Adam Price—cynnyrch nodedig arall o fy hen ysgol—yn ei ymateb i’ch datganiad hefyd am y gronfa bensiwn yn Tata. Fe sonioch, funud yn ôl, y gellid ymdrin â hyn yn yr un modd ag yr ymdriniwyd â chronfa bensiwn Glo Prydain, ond y gwahaniaeth rhwng y ddau fater, wrth gwrs, yw bod diffyg yng nghronfa bensiwn Tata ac mae gwarged enfawr yng nghronfa bensiwn Glo Prydain, ac mae’r Llywodraeth wedi seiffno swm mawr iawn o arian oddi arni at ei dibenion ei hun. Ni ellir caniatáu i Tata gerdded yn rhydd o’u cyfrifoldebau i weithwyr dur Port Talbot a mannau eraill. Mae’r gronfa bensiwn ar hyn o bryd yn werth tua £14.5 biliwn a cheir diffyg, rwy’n deall, o tua £500 miliwn. Nid dyma’r unig asedau y mae Tata yn berchen arnynt yn y Deyrnas Unedig. Wrth gwrs, maent yn berchen ar Jaguar Land Rover ac roedd elw Jaguar Land Rover am y flwyddyn ddiwethaf yr adroddwyd yn ei chylch yn £3.6 biliwn. Felly, gall Tata fforddio llenwi’r twll yn y gronfa bensiwn ddur ym Mhort Talbot ac mewn mannau eraill yn iawn, ac rwy’n meddwl y dylid mynnu eu bod yn ysgwyddo’u cyfrifoldebau. Rwy’n sicr yn cymeradwyo’r pwynt a wnaeth Adam Price am berygl moesol. Ategaf ymdrechion y Prif Weinidog yn frwd, gan gynnwys mynd i Mumbai, i geisio datrys yr argyfwng hwn, ond wrth gwrs, mae wedi’i gyfyngu gan y terfynau ar ei bwerau, fel yn wir y mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn San Steffan. Dywedodd y Gweinidog yn ei ddatganiad mai ei brif bryder oedd bod angen i gymunedau dur sicrhau diwydiant dur cynaliadwy hirdymor ar gyfer holl weithfeydd Tata yng Nghymru, ond yn anffodus, wrth gwrs, nid yw’n gallu gwneud hynny am fod prisiau ynni yn wlad hon 50 y cant yn uwch nag mewn mannau eraill yn yr UE ac nid ydym wedi llwyddo i orfodi—[Torri ar draws.] Dogfen Unite ei hun sy’n dweud hyn—yr undeb llafur—felly gallwch gymryd eu gair hwy am hyn neu godi’r peth gyda hwy os ydych yn anghytuno. Ac o ran tariffau ar ddur, rydym wedi cael ymateb pathetig o annigonol gan y Comisiwn Ewropeaidd ac ymateb hyd yn oed yn fwy pathetig o annigonol gan Lywodraeth y DU gan mai’r cyfan y mae Comisiynwyr yr UE yn ei argymell yw tariff o 24 cant, ond mae’r Unol Daleithiau wedi rhoi tariff o 522 y cant ar ddur wedi’i rolio’n oer, sy’n elfen hanfodol o gynhyrchu ym Mhort Talbot. Mae yna bosibilrwydd hefyd, wrth gwrs, y gellid dod o hyd i brynwr newydd ar gyfer yr asedau dur hynny. Byddai Llywodraeth Prydain wedi’i chyfyngu’n druenus o ran faint o gymorth y gallai ei roi i brynwr newydd a byddai wedi’i chyfyngu hyd yn oed yn fwy os yw Tata yn cadw perchnogaeth oherwydd rheolau cymorth gwladwriaethol yr UE. Yn yr un modd, yn y datganiad, dywedodd y Prif Weinidog mewn perthynas â dogfennau contractau cludiant, fod Llywodraeth Cymru yn disgwyl na fyddai unrhyw gontractwyr yn defnyddio dur wedi’i ddympio o farchnad dramor. Wel, nid yw disgwyliad, wrth gwrs, yn werth y papur y mae wedi’i argraffu arno. Nid oes unrhyw bŵer cyfreithiol yn Llywodraeth y DU neu Lywodraeth Prydain i’w gwneud yn ofynnol i ddefnyddwyr dur yn y wlad hon eithrio dur wedi’i ddympio o’r hyn a wnant. Felly, yn anffodus, yr hyn rydym yn ei wynebu, oherwydd ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd, yw bod y Llywodraeth naill ai yn San Steffan neu yng Nghaerdydd yn ddi-rym i allu gwneud y penderfyniadau sy’n hanfodol i barhau i gynhyrchu dur yn ne Cymru. Ac rwy’n ofni ein bod yn union fel ysbrydion yn y wledd. Rydym yn siarad yma heddiw fel pe baem yn gallu gwneud rhywbeth am y broblem hon, ond mewn gwirionedd, ni allwn wneud dim. Ar 23 Mehefin, cawn gyfle i wneud y penderfyniad sy’n rhoi liferi grym yn ôl yn nwylo Gweinidogion fel y Prif Weinidog yma yng Nghaerdydd ac yn wir y Prif Weinidog yn San Steffan. Carwyn Jones AC: Yn gyntaf oll, diolch i arweinydd UKIP am rai o’i sylwadau. Mae’n gywir, yn wir, ynghylch prisiau ynni. Rydym wedi bod yn dweud hyn wrth Lywodraeth y DU dros y pum mlynedd ddiwethaf. Mae’n gywir dweud—rwyf wedi siarad â Celsa, er enghraifft, sydd wedi dweud wrthyf fod prisiau ynni yn yr Almaen 20 y cant yn is ac yn Sbaen, 37 y cant yn is. Pam? Dyna natur marchnad ynni’r DU. Dyna’r broblem; nid yw’n ddim i’w wneud â’r UE—mae’n ymwneud â’r ffordd y mae’r DU wedi ei strwythuro. Yr hyn y maent yn ei ddweud wrthyf, yn y bôn, yw eu bod yn cael cynnig tariffau a fyddai’n cael eu cynnig i ddefnyddwyr domestig. Yn yr Almaen a Sbaen ceir gostyngiadau i ddiwydiannau ynni-ddwys, ond nid yn y DU. Mae marchnad ynni’r DU yn ddirgel, yn anhydraidd ac nid yw’n dryloyw am ei bod yn gwbl glir fod prisiau ynni yn ddrutach yma. Nid fi’n unig sy’n dweud hynny; mae unrhyw ddiwydiant ynni-ddwys yn dweud hyn: maent yn rhatach mewn mannau eraill yn Ewrop. Mae angen mynd i’r afael â hyn. Gwnaed rhywfaint o gynnydd yn hynny o beth, ond nid yw’n ddigon, yn fy marn i.Mae’n gywir i ddweud na ddylai Tata droi cefn ar ei gyfrifoldebau. Nid yw wedi nodi y bydd yn gwneud hynny. Mae wedi nodi i mi, wrth gwrs, fod ei enw da yn bwysig o amgylch y byd. Mae’r math o gymorth y gallwn ei gynnig yn hynod ddeniadol i unrhyw ddarpar brynwr—yr arian y gallwn ei roi ar y bwrdd fel Llywodraeth Cymru; yr adnoddau sylweddol y gall Llywodraeth y DU eu rhoi ar y bwrdd hefyd. Mae’r rhain i gyd yn cydymffurfio’n berffaith â rheolau cymorth gwladwriaethol. Yr hyn na allwn ei wneud yw cynnig cymhorthdal refeniw parhaus—mae hynny’n wir—ond mae’n rhaid i ni gofio, yn y pen draw, fod dur angen marchnad. Nid yw’r DU yn ddigon mawr i ddarparu marchnad ar ei phen ei hun ar gyfer dur Prydain. Pe baem y tu allan i’r farchnad Ewropeaidd, byddai’r rhwystrau tariff yn codi a byddai hynny’n golygu y byddai dur o Brydain yn ddrutach wrth iddo ddod i mewn i’r farchnad Ewropeaidd. Nodais yr hyn a ddywedodd yr Athro Patrick Minford—dyna’r eilwaith i mi ei grybwyll yn y Siambr hon heddiw—pan soniodd mai ei ddull ef o fynd ati fyddai na ddylai fod unrhyw rwystrau o gwbl i nwyddau ddod i mewn i’r DU. Ni fyddai ganddo unrhyw dariffau ar unrhyw beth sy’n dod i mewn i’r DU, hyd yn oed os yw gwledydd eraill yn gosod rhwystrau tariff eu hunain. Nid wyf yn credu bod hynny’n synhwyrol—. Mae’n rhywun sy’n cael ei gyflwyno fel economegydd ar ran yr ymgyrch dros adael yr UE. Dyna’i farn ef; nid wyf yn cytuno â’r farn honno. Yn fy marn i, mae angen i chi gael mynediad at gymaint o farchnadoedd mawr ag y bo modd, a byddai gadael yr UE, yn enwedig gyda dur, yn creu risg o osod tariffau sylweddol rhag i ddur Prydain fynd i mewn i’r farchnad Ewropeaidd. Cawn y ddadl honno eto. Nid yw’n ddadl y mae Tata wedi’i defnyddio wrth gwrs; eu barn hwy yw eu bod yn waith Ewropeaidd. Yn wir, mae llawer o’r asedau yng Nghymru, fel Shotton, er enghraifft, yn cysylltu’n agos iawn â gweithfeydd mewn mannau eraill yn Ewrop, a byddai hynny’n eithaf anodd ei ddatod. Yr hyn sy’n gywir i’w ddweud yw bod yr holl weithfeydd yng Nghymru yn gysylltiedig â Phort Talbot. Un o’r pryderon oedd y byddai ymgais i ddewis y gorau o blith y gweithfeydd hynny—y byddai gweithfeydd fel Orb, fel Llanwern, fel Shotton, fel Trostre, y felin rolio ym Mhort Talbot, sy’n gwneud arian, y byddai’r rheini yn cael eu dewis ac y byddai’r pen trwm ym Mhort Talbot yn mynd. Ond fel y dywedais yn y Siambr hon o’r blaen, y gwirionedd yw mai dur o Bort Talbot sy’n cyflenwi’r holl weithfeydd hynny. Byddai’n cymryd tua chwe mis iddynt ddod o hyd i ffynhonnell o ddur o rywle arall. Yn y cyfamser, maent yn dibynnu ar stociau, maent yn mynd i fod yn diswyddo pobl ac maent yn mynd i ddechrau colli cwsmeriaid. Felly, maent yn dibynnu ar Bort Talbot i wneud dur i gyflenwi’r gweithfeydd hyn. O’n safbwynt ni, i ailbwysleisio hyn, rydym o’r farn y dylai holl asedau Tata yng Nghymru gael eu prynu fel pecyn ac na ddylid dewis y gorau’n unig. Cwestiynau cryno o hyn ymlaen ac efallai y gallaf fynd drwy bob un o’r naw siaradwr. Hannah Blythyn. Hannah Blythyn AC: Diolch. Diolch am y wybodaeth ddiweddaraf, Brif Weinidog. Mae llawer o fy etholwyr mewn cymunedau ar draws Sir y Fflint yn pryderu’n ddealladwy am ddyfodol y safle yn Shotton ac yn ofni ei fod yn aml yn mynd ar goll yn yr holl benawdau. Mae gan Shotton ddau fusnes llwyddiannus, hyfyw a phroffidiol sydd wedi codi, bron fel ffenics o ludw’r diswyddiadau torfol yn y 1980au na welwyd eu tebyg cyn hynny. Mae gan Shotton ddyfodol disglair gyda’r gefnogaeth gywir, ac ar y nodyn hwnnw, rhaid i mi ganmol yr arweinyddiaeth rydych wedi’i dangos ar hyn ac mae’r arweinyddiaeth honno, rwy’n gwybod, yn cael ei chydnabod gan y gweithlu yno. Rwyf wedi cydgysylltu cyfarfodydd â rheolwyr a’r undebau llafur ar safle Shotton ac yn adnabod y gweithlu hyblyg, gweithgar a medrus iawn. Brif Weinidog, a gaf fi ofyn i chi barhau i sicrhau nad yw Shotton yn cael ei anghofio a bod y gweithlu yno yn cael y wybodaeth ddiweddaraf yn llawn? Carwyn Jones AC: Gallaf roi sicrwydd pendant fod hynny’n wir am Shotton, am Drostre ac yn wir, y gwaith yng Nghasnewydd hefyd. Gwn fod rhywfaint o ofn ymhlith y gweithwyr hynny, pa bryd bynnag y siaredir am ddur, mai am Bort Talbot y sonnir bob amser. Yno mae’r cyflogwr mwyaf, wrth gwrs, ond gwyddom fod ein holl weithfeydd dur yng Nghymru yn hynod o bwysig a gwyddom eu bod yn gyd-ddibynnol. Bydd yr Aelod yn gwybod fy mod wedi ymweld â Shotton yn fuan iawn ar ôl y cyhoeddiad; gwnes yr un peth gyda’r holl weithfeydd ledled Cymru a byddaf yn parhau i wneud yn siŵr fod y diwydiant dur yng Nghymru yn cael ei weld fel un diwydiant cyfan sy’n rhaid ei brynu yn ei gyfanrwydd, a’i ddatblygu, a buddsoddi ynddo yn y dyfodol. Bethan Sayed AC: Rwy’n ddiolchgar i’r Prif Weinidog am gyflwyno’r datganiad hwn ac rwy’n cytuno â rhai o’r sylwadau sydd wedi’u crybwyll yma heddiw, er y byddwn yn hoffi dweud, mewn perthynas â dympio dur, mae Llywodraeth y DU eisoes wedi gwrthod mesurau pellach ar ddympio dur o’r blaen, ac felly, pe baem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, byddech yn disgwyl gwrthwynebiad ar y lefel honno. Felly, ni allaf ddeall y rhesymeg yn y ddadl heddiw fod Llywodraeth y DU rywsut yn fwy cefnogol i osod tariffau uwch ar ddur o Tsieina.Yr hyn sy’n peri pryder arbennig i mi yw’r cynsail y gallai Llywodraeth y DU fod yn ei osod gyda’r gronfa bensiwn, fel y crybwyllwyd yn gynharach. Mae’r ddadl ynghylch perygl moesol yn un a ailadroddwyd droeon gyda Gweinidogion a’u swyddogion wrth ymdrin ag achosion ASW a Visteon, a’r cyfan yn ofer—disgynnodd ein rhybuddion ar glustiau byddar yn Whitehall. Ond roeddwn eisiau canolbwyntio’n fyr ar y ddynameg fewnol yn Tata fel y soniodd gweithwyr dur wrthyf amdani. A yw’r Prif Weinidog wedi clywed bod swyddogion o Tata Europe wedi mynychu cyfarfod neuadd y dref ym Mhort Talbot yn y pythefnos diwethaf, lle codasant ar eu traed i feirniadu’r gweithlu’n hallt, gan beri i’r ddirprwyaeth ar ran yr undebau llafur godi a cherdded allan? Mae’n ymddangos mai dyma’r pryder diweddaraf ynghylch arweinyddiaeth Tata Europe a’i hymddygiad cyn ac yn ystod y cyfnod hwn.Fe fyddwch yn gwybod ei bod yn cynnwys rheolwyr Hoogovens yn bennaf—y cwmni a gafodd ei achub i bob pwrpas rhag mynd yn fethdalwr drwy uno Corus a Dur Prydain. Ers i Tata brynu Corus, mae gweithwyr dur yn dweud bod gwaith IJmuiden wedi cael y rhan fwyaf o’r buddsoddiad, gan gynnwys yr un math o fuddsoddiad y mae Plaid Cymru wedi’i grybwyll mewn perthynas â gorsaf ynni newydd, yn bennaf oherwydd y rheolwyr o’r Iseldiroedd a’r dylanwad sydd ganddynt. A yw hynny’n rhywbeth rydych chi wedi’i glywed, Brif Weinidog?Hefyd, honnwyd bod sefyllfa ariannol Port Talbot wedi’i gwneud i edrych yn waeth nag oedd hi i bob pwrpas, gan fod cost deunyddiau ar gyfer y ddau safle gwneud dur wedi’u harchebu ar gyfer Port Talbot yn unig. Felly, clywais am un enghraifft o lwyth o fwyn haearn a arhosodd yng Nghymru yn gyntaf cyn mynd i’r Iseldiroedd, gyda’r gost gyfan yn cael ei thalu gan safle Port Talbot. A yw hynny’n rhywbeth rydych wedi’i glywed, Brif Weinidog?Wedyn, wrth gwrs, daw fy nghwestiwn at y llyfr archebion. Cyn belled ag y gwyddom, mae hwn wedi’i ganoli yn yr Iseldiroedd. Mae hyn yn destun cryn bryder i fy etholwyr sy’n ei weld fel cyfle i Tata Europe ddewis y contractau gorau er nad ydynt, fel rwy’n clywed, yn gallu cyflawni rhai ohonynt, gan adael Port Talbot a gweddill y gweithfeydd yn y DU i fethu. Felly, hoffwn wybod a yw Llywodraeth Cymru wedi holi ble mae’r llyfr archebion ac wedi cwestiynu’r rhesymeg dros ei symud i’r Iseldiroedd, ac a wnaed ymdrechion gennych chi neu eich swyddogion i ddychwelyd y llyfr archebion cyn unrhyw werthiant posibl. A oes gennym sicrwydd gan y cwmni ei fod yn barod i agor ei lyfrau i ddarpar brynwyr ar gyfer cyfnod diwydrwydd dyladwy unrhyw werthiant? Rwy’n meddwl bod y rhain yn gwestiynau sydd angen eu hateb, er mwyn y gweithlu yn arbennig, sydd wedi crybwyll y pwyntiau hyn wrthyf, ond hefyd er mwyn y diwydiant dur ehangach yma yn y DU. Carwyn Jones AC: Rwyf wedi clywed llawer o’r sylwadau y mae’r Aelod wedi’u gwneud, fel mater IJmuiden. Nid oeddwn yn ymwybodol o’r cyfarfod yn neuadd y dref, er fy mod wedi clywed rhywbeth am yr hyn a oedd wedi digwydd, ond nid oeddwn yn ymwybodol mai ym Mhort Talbot y digwyddodd hynny. Rwyf wedi clywed bod Port Talbot wedi cael ei wneud i edrych yn waeth nag y mae. Nid oes gennyf unrhyw dystiolaeth i gefnogi hynny, ond rwyf wedi clywed hynny’n cael ei ddweud. Rwyf wedi clywed, er enghraifft, fod yna broblemau gyda’r porthladd, ac yn benodol y ffïoedd a godir gan y cwmni sy’n berchen ar y porthladd. Pam yn y byd y mae busnes ar wahân yn berchen ar y porthladd o gymharu â’r gwaith dur, dim ond y Torïaid yn yr 1980au allai esbonio hynny i chi, ond dyna yw’r sefyllfa yn y fan honno serch hynny. Soniwyd wrthyf am broblemau gyda’r taliadau yn y porthladd. Felly, mae yna nifer o faterion wedi codi lle nad oes ateb hawdd. O ran y llyfr archebion, wel, wrth gwrs, byddai’n rhaid i unrhyw brynwr roi diwydrwydd dyladwy ar waith beth bynnag. Nid oes neb yn mynd i brynu asedau neu brynu busnes heb edrych ar y llyfrau. Mae’n deg dweud y cafwyd buddsoddiad yn y diwydiant dur yng Nghymru, yn enwedig ym Mhort Talbot. Gwelsom ffwrnais chwyth Rhif 5 yn cael ei hailadeiladu. Rydym wedi rhoi cynnig ar y bwrdd mewn perthynas â’r pwerdy. Buom yn gweithio gyda’r cwmni dair blynedd yn ôl yn edrych i weld a ellid tyllu cloddfa o fewn ffiniau’r gwaith dur. Felly, mae’r holl bethau hyn wedi cael eu harchwilio. Mae ymchwil a datblygu yn fater arall. Mae angen i ni wneud yn siŵr, wrth i ni edrych ar ddyfodol y diwydiant dur yn ystod y blynyddoedd nesaf, fod capasiti ymchwil a datblygu yn bodoli yng Nghymru. Gwn fod Prifysgol Abertawe wedi dangos diddordeb yn hynny, ac rydym yn awyddus i weithio i sicrhau bod capasiti ymchwil a datblygu yn bodoli yng Nghymru. Rydym wedi llwyddo dros y blynyddoedd diwethaf i ddenu mwy o ymchwil a datblygu i Gymru i ychwanegu at y gweithgynhyrchu a wnawn a bydd yr un peth yn bwysig ar gyfer dur yn y dyfodol.Felly, mae’r holl waith hwn yn cael ei wneud. Cafodd llawer o’r materion a grybwyllwyd ganddi eu dwyn i fy sylw i ac eraill. Rwy’n clywed bod Port Talbot yn awr yn llwyddo i adennill costau ar ôl bod yn colli £1 miliwn y dydd dri mis yn ôl, sy’n newid cyfeiriad sylweddol, ond wrth gwrs, bydd angen sicrhau, wrth i’r broses werthu fynd rhagddi, fod yna ddealltwriaeth o’r hyn yw’r sefyllfa ariannol go iawn mewn perthynas â’r diwydiant dur yng Nghymru. David Rees AC: Brif Weinidog, hoffwn ddiolch i chi am eich datganiad heddiw. Mae’n amlwg yn bwysig sicrhau nad yr Aelodau yn y Cynulliad hwn yn unig sy’n cael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y drafodaeth gyda Tata, ond bod fy etholwyr a’r gweithwyr dur yn fy etholaeth mewn gwirionedd yn gwbl ymwybodol o’r hyn rydym yn ceisio ei wneud. Roedd yr Aelod dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn llygad ei le yn rhai o’i gwestiynau fod rhai o’r liferi hynny yn Llundain, yn anffodus, ac mae rhai o’r pryderon sydd gennym—a daethant at hyn yn hwyr yn y dydd, mae’n ddrwg gennyf ddweud—yn ymwneud â hwy ac mae gwir angen i ni fynd i’r afael â hynny.Amlygodd Bethan Jenkins un neu ddau o bwyntiau, nad wyf am eu hailadrodd, felly rwyf am osgoi hynny os gallaf. Ond mae cwestiwn yn codi ynghylch hyder y gweithlu yn Tata. Ar hyn o bryd, mae yna ddiffyg hyder llwyr ymhlith y gweithlu yn Tata. Rwy’n credu mai’r hyn y byddem yn ei ddymuno gan Lywodraeth Cymru yw sicrwydd y bydd yn gweithio gyda phrynwyr sy’n dod i mewn er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r diwydiant dur, nid yn unig ym Mhort Talbot, ond yn yr holl weithfeydd eraill ar draws Cymru, i wneud yn siŵr fod dur yn dod ac yn parhau i fod yn ffactor pwysig yn strategaeth ddiwydiannol y DU. A ydych wedi cael trafodaethau gyda Llywodraeth y DU hefyd ar strategaeth ddiwydiannol? Cerddais gyda’r gweithwyr dur yn Llundain bythefnos yn ôl lle roeddent yn galw am strategaeth ddiwydiannol ar gyfer dur i Lywodraeth y DU, ac maent yn dal i’w gweld yn brin o ymdrech yn Llywodraeth y DU yn hynny o beth.Fe sonioch am y porthladdoedd. A ydych wedi cael trafodaethau gyda Chymdeithas Porthladdoedd Prydain ar y defnydd o’r porthladd a’r cysylltiad rhwng y porthladd a’r gwaith dur? Felly, mae’n fater o sut y gallwn weithio gyda Tata Steel neu ei brynwyr i sicrhau bod y mewnbynnau sy’n dod drwy’r dociau yn gallu gweithio mewn gwirionedd mewn pris arall effeithiol iawn?Brif Weinidog, fe dynnoch chi sylw at y colledion hefyd. Rwyf innau hefyd wedi cael gwybod bod y colledion yn llawer is ac yn gweithio tuag at adennill costau, ac mae’n bosibl y bydd ffigurau mis Mai yn adennill costau mewn gwirionedd. Felly, rydym yn awr yn cyrraedd sefyllfa mewn gwirionedd lle mae’r diwydiant yn dod yn gynnig hyfyw a deniadol i unrhyw brynwr, ac rwy’n credu mai dyna un o’r rhesymau pam y mae Tata bellach yn sylweddoli eu bod wedi gwneud camgymeriad mawr ym mis Ionawr pan wnaethant y cyhoeddiadau hynny, ac un mwy fyth ym mis Mawrth.Ond gadewch i ni fynd yn ôl hefyd at y cwestiwn a ofynnais yn y cwestiynau i’r Prif Weinidog mewn perthynas â’r tasglu a’r gefnogaeth a roddir i’r gweithwyr sydd naill ai wedi colli eu swyddi ar y pwynt hwn, neu ar fin colli eu swyddi yn ystod yr wythnosau nesaf. A allwch roi sicrwydd nid yn unig fod y pecynnau hyfforddi ar waith, ond y bydd yna gyfleoedd gwaith? Oherwydd gallwn hyfforddi cynifer o bobl ag y dymunwn, ond os nad oes cyfleoedd iddynt gael gwaith yna’r cyfan fydd yn digwydd fydd eu bod, ymhen ychydig wythnosau, yn wynebu heriau gwneud dim ond eistedd gartref. Mae angen i ni sicrhau bod yr ardal fenter yn dod yn weithfan lwyddiannus, fod y pecynnau a’r ffrydiau gwaith y buom yn sôn amdanynt gyda’r tasglu ar gyfer edrych ar fusnesau yn denu buddsoddiad a swyddi mewn gwirionedd fel bod y bobl hynny, ar ôl cael eu hyfforddi, yn gallu cael gwaith. Mae hynny’n hollbwysig iddynt. Y peth olaf y maent am ei wneud yw cael eu hyfforddi a dychwelyd i’w cartrefi wedyn heb swydd. Mae’n hanfodol eu bod yn cael yr urddas hwnnw.Ac a ydych wedi cael trafodaethau gyda’n ASEau a’r elfennau Ewropeaidd? Oherwydd fe wrthododd Senedd Ewrop y ddadl ar statws economi’r farchnad yn bendant iawn, ac roeddwn yn siomedig o glywed pa mor negyddol oedd arweinydd UKIP ynglŷn â dur go iawn. Mae yna lawer o agweddau cadarnhaol yn ein tref, mae yna lawer o uchelgais a gobaith yn ein tref, ac nid ydym am weld y darluniau negyddol sy’n cael eu cynhyrchu gan y blaid honno.Nawr, y cwestiwn arall am Roger Maggs—roeddech yn ei ganmol, ond wrth gwrs, mae hefyd yn gadeirydd yr ardal fenter. A allwch roi eglurhad i ni ynglŷn â’r gwahaniad rhwng y ddwy swyddogaeth sydd ganddo, gydag Excalibur a’r ardal fenter, er mwyn sicrhau ein bod yn symud ymlaen gyda’n gilydd ac mewn modd cadarnhaol?Y pwynt olaf, Brif Weinidog: rwyf am eich canmol am yr arweinyddiaeth rydych wedi’i rhoi dros y cyfnod hwn. O ystyried yr ymgyrch etholiadol, pan oedd ei hangen arnom, yn sicr fe ddangosoch yr arweinyddiaeth gref roeddem ei hangen yn ein tref a’n hetholaeth. Fe ddangosoch i weddill y DU beth y gellir ei wneud. Rwyf ond yn gobeithio y bydd eraill yn dilyn eich esiampl. Carwyn Jones AC: Wel, a gaf fi ddiolch i’r Aelod am y geiriau caredig ac a gaf fi ymateb drwy ddweud ei fod wedi bod yn ymgyrchydd pybyr a brwd dros y bobl y mae’n eu cynrychioli? Rwy’n gwybod hyn fy hun drwy’r galwadau ffôn hwyr y nos a gefais ganddo, ac mae’n rhywun sydd wedi bod yn awyddus iawn i ddiogelu eu buddiannau. Rwy’n credu ei fod yn gwbl gywir i ddweud bod yna ddiffyg hyder ymhlith gweithwyr Tata—sut y gallai beidio â bod—oherwydd mae’r dyfodol yn ansicr o hyd. Nid oes neb yn gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd, ac mae pobl yn siŵr o deimlo ansicrwydd, heb wybod beth fydd gan y dyfodol i’w gynnig.O ran strategaeth ddiwydiannol, nid yw hynny’n rhywbeth y mae Llywodraeth y DU wedi’i gyflwyno. Maent wedi canolbwyntio ar y mater dan sylw. Rwy’n meddwl ei bod yn iawn dweud y gallent fod wedi sylweddoli beth oedd yn digwydd yn gyflymach. Wedi dweud hynny, rwy’n credu ei bod yn deg dweud eu bod yn ceisio dod o hyd i ateb ac yn sicr, mae Sajid Javid wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd â mi er mwyn esbonio’r hyn y mae wedi bod yn ei wneud, felly mae’n rhaid i mi gydnabod hynny. Hynny yw, roedd yn eithaf rhyfeddol, drwy’r ymgyrch etholiadol ar ei hyd, ni wnaed unrhyw elw gwleidyddol o’r mater mewn unrhyw ffordd, ac rwy’n credu bod hynny’n adlewyrchu’r hyn y byddai pobl Port Talbot ei eisiau—y pleidiau gwleidyddol yn gweithio gyda’i gilydd yn drefnus i ddod o hyd i ateb i bawb.O ran Cymdeithas Porthladdoedd Prydain, nid yw’r porthladdoedd wedi’u datganoli eto, wrth gwrs, ond fe fyddant. Mae’n rhyfedd fod gennym borthladd ym Mhort Talbot sydd i bob pwrpas ond yn bodoli ar gyfer y gwaith dur, ac a fyddai mewn byd rhesymol, yn eiddo i’r cwmni sy’n berchen ar y gwaith dur. Nid felly y mae. Felly, i bob pwrpas, nid oes llawer iawn o ddewis heblaw dod â’r glo a’r mwyn haearn i mewn drwy’r porthladd. Yn realistig, ni all fynd i unrhyw le arall. Dywedwyd wrthyf, gan un o’r cynigwyr yn bendant, fod pryder ynghylch y gost o ddefnyddio’r porthladd. Nid yw’n ddefnyddiol o ran y dyfodol, ac mae hynny’n rhywbeth y mae Llywodraeth y DU ei hun wedi’i ddweud, ac roeddent yn cael trafodaethau gyda Chymdeithas Porthladdoedd Prydain i wneud yn siŵr fod y porthladd yn rhesymol o ran yr hyn roedd yn ei godi i ddod â deunyddiau crai drwyddo. Wrth gwrs, rwyf wedi bod mewn cysylltiad â Derek Vaughan. Mae’r Aelod yn gywir i ddweud nad yw statws economi marchnad wedi’i gytuno mewn perthynas â Tsieina am nifer fawr o resymau. Gofynnodd, wrth gwrs, am y bobl y mae hyn yn effeithio arnynt—cymorth yn enwedig. Rwyf wedi amlinellu eisoes beth sydd ar gael. Mae’n iawn dweud bod angen datblygu’r ardal fenter yn gyflym—rydym yn cydnabod hynny—ac mae’n iawn dweud bod y sgiliau’n bwysig, ond hefyd mae’r swyddi sy’n briodol i’r sgiliau hynny yn bwysig. I gyflawni hynny y cynlluniwyd yr ardal fenter. Hyd yn hyn, mae’r niferoedd sy’n dod ymlaen wedi bod yn eithaf isel, gan adlewyrchu, rwy’n credu, sefyllfa lle mae llawer o’r rhai sydd wedi dewis diswyddo gwirfoddol yn awyddus i ymddeol, ond yr hyn nad ydym yn ei wybod yw a oes pobl yn dal i fod heb ddod ymlaen eto i gael y gefnogaeth a’r cymorth sydd eu hangen arnynt. Byddwn yn barod i helpu’r bobl sy’n gweithio ym Mhort Talbot ac mewn rhannau eraill o’r diwydiant yng Nghymru i’w helpu i ailhyfforddi a chael y swyddi sydd eu hangen arnynt. Suzy Davies AC: Diolch i chi am eich datganiad, Brif Weinidog, yn enwedig eich sylwadau ynglŷn â chaffael. Yn eich datganiad fe sonioch am ymrwymiad i ddiwydiant dur cynaliadwy hirdymor ac fe gadarnhaoch i Neil Hamilton, yn ddiweddarach yn y ddadl heddiw, fod hynny’n cynnwys yr hyn a alwoch yn ben trwm y gwaith ym Mhort Talbot. Eto i gyd, ychydig ddiwrnodau yn ôl yn ‘The Guardian’ adroddwyd nad oedd unrhyw un o’r cynigwyr yn gwarantu dyfodol hirdymor ar gyfer Port Talbot a’u bod yn chwilio am arian parod gan Tata yn ogystal â gan y ddwy Lywodraeth. A ydych chi’n credu felly na ddylai unrhyw gais nad yw’n cynnwys dyfodol i’r ffwrneisi chwyth oroesi asesiad y broses geisiadau sy’n cael ei chynnal gan Tata ar hyn o bryd?Fe ddywedoch hefyd yn eich datganiad mai blaenoriaeth Tata yw cynnal gwerthiant. Mae’n fy mhoeni eu bod wedi cadarnhau wrthych, ac fel y sonioch yn y ddadl a gynhaliwyd gennym yn ystod y toriad, fod Tata wedi dweud wrthych y byddai’n llawer gwell ganddynt beidio â gwerthu. Dywedasant wrth yr Ysgrifennydd Gwladol, Sajid Javid, mor bell yn ôl â’r Nadolig, rwy’n meddwl, eu bod yn bwriadu gwerthu ac yn awr, hyd yn oed yr wythnos hon, mae Tata yn dynodi efallai nad ydynt am werthu Port Talbot wedi’r cyfan. Rwy’n rhannu barn Aelodau eraill yn y Siambr hon ynglŷn ag anniffuantrwydd Tata, efallai, os gallaf ei alw’n hynny. Felly, yn eich trafodaethau adeiladol ac arwyddocaol, fel rydych yn eu galw, a’ch awgrym eich bod yn barod i gefnogi unrhyw gynigydd, a allai gynnwys Tata wrth gwrs, gan gofio eu bod wedi nodi efallai y byddant am ddal gafael ar ran o’r gwaith yma yng Nghymru, pa eglurder a gwarantau rydych wedi’u sicrhau, neu’n debygol o sicrhau, o ystyried y ffaith eich bod yn barod i ymrwymo £60 miliwn neu fwy o arian y gallai Llywodraeth Cymru ei wario mewn mannau eraill, pan fuoch yn siarad â’r cyrff hynny?Yna’n drydydd, os oes gennych amser i ateb hyn, wrth dargedu cymorth swyddi, pa sgyrsiau penodol a gawsoch gyda bwrdd dinas-ranbarth bae Abertawe ynghylch nodi natur wedi’i thargedu y cynnig y mae’r ymgysylltiad â’r tasglu wedi gallu ei ddarparu hyd yn hyn? Oherwydd, yn amlwg, nid edrych am unrhyw swydd y byddem yn ei wneud ar gyfer y gweithwyr dur hyn, ond swyddi sydd â dyfodol iddynt hefyd. Carwyn Jones AC: O ran y cwestiynau a ofynnwyd, o ran y pen trwm, mae’r ddau gynigydd y bûm mewn cysylltiad â hwy yn dymuno cadw’r pen trwm. Mae ganddynt ymagweddau gwahanol tuag ato, ac mae hyn yn gyhoeddus—mae’n hysbys fod un o’r cynigwyr am edrych ar y defnydd o sgrap yn y dyfodol, yn hytrach na mwyn haearn. Byddai’r cynigydd arall yn cadw’r broses fel y mae. Er hynny, byddai’r pen trwm ym Mhort Talbot yn parhau. Mae’n gwestiwn anoddach, rwy’n meddwl, os gofynnir i gynigwyr warantu y bydd pob swydd yn aros. Nid wyf yn credu y gall cynigwyr gynnig sicrwydd o’r fath ar hyn o bryd, ond gallant gynnig y sicrwydd—y ddau rwyf wedi siarad â hwy—y bydd y pen trwm yn parhau, ac mae hynny’n hynod o bwysig. Oherwydd os yw’r pen trwm yn mynd, ni fydd byth yn cael ei adfer. Nawr, pan fydd cyflwr y farchnad yn parhau i wella, mae’n bosibl cyflogi mwy o bobl wedyn, ac mae hynny’n bwysig. Felly, mae diogelwch yno i’r pen trwm.Ni fyddem yn cefnogi cynnig a fyddai, mewn unrhyw ffordd, yn cynnwys rhoi diwedd ar gynhyrchu dur ym Mhort Talbot oherwydd dyna ble mae rhan sylweddol o’r gwaith, ac yna bydd yn cael effaith niweidiol ar weddill y gweithfeydd o amgylch Cymru mewn perthynas â thunplat, Tata Steel Colors ac arbenigwyr fel Orb yn Llanwern.Cyn y Nadolig, mewn cyfarfod a gefais, fe’i gwnaed yn glir i mi nad oedd gwerthiant yn debygol—a’i fod yn fater o fwrw ymlaen neu gau. Ar ôl y Nadolig, newidiodd y sefyllfa. Gwell hynny na chau, mae hynny’n wir, ond mae’n iawn dweud y bu newid meddwl yn Tata ar yr adeg honno. Nawr rydym mewn sefyllfa lle mae gwerthiant yn debygol. Cyn y Nadolig, yr arwyddion oedd bod ystyriaeth ddifrifol yn cael ei rhoi i adroddiad McKinsey ac y byddid yn edrych o ddifrif ar newid cyfeiriad. Ni awgrymwyd cyn y Nadolig fod cau’n debygol, os gallaf ei roi felly, ond yn sicr nid oedd gwerthiant yn debygol ar unrhyw adeg cyn yr amser hwnnw. Rydym yn gwybod mai dyna sy’n digwydd nawr. Wrth gwrs, mae’r pecyn rydym wedi’i roi ar y bwrdd wedi’i fwriadu yn bennaf ar gyfer cynigwyr newydd. Roedd hynny ar adeg pan na chredid y byddai Tata am aros beth bynnag. Nid oes amheuaeth y bydd angen rhoi rhai gwarantau o ran unrhyw help gan y Llywodraeth, boed yn Llywodraeth y DU neu’n Llywodraeth Cymru. Ni allwn roi arian ar y bwrdd a gweld, mewn blwyddyn neu ddwy, fod arian wedi diflannu i bob pwrpas oherwydd bod yr asedau’n cael eu lleihau o ran nifer swyddi ac o ran cynhyrchu, ac mae hynny yr un mor berthnasol i Lywodraeth y DU ag i ninnau. Ac rydym yn cydnabod hynny, a bod yn deg, gan y byddai angen gwneud hynny.Os daw cynigydd newydd gerbron sy’n wneuthurwr dur sefydledig, byddai’n dybiaeth resymol y byddant am barhau i wneud dur beth bynnag. Os oes gennych dynnwyr asedau’n dod i mewn, yna yn amlwg bydd yna broses wahanol iawn o feddwl ar waith. Nid yw byth yn glir, wrth gwrs, lle mae gennych weithredwr presennol, beth fydd eu bwriad yn y dyfodol, ac fe fydd angen, ar ran y gweithlu ac ar ran y pwrs cyhoeddus, cael gwarantau penodol ynghylch buddsoddiad yn y dyfodol a chynllun i’r dyfodol ar gyfer diwydiant dur Cymru.O ran cymorth swyddi, unwaith eto, mae hynny’n rhywbeth y bydd y dinas-ranbarth yn edrych arno. Bydd yr Aelod yn gwybod bod gennym broses sefydledig ar gyfer delio â sefyllfaoedd fel hyn, sy’n cynnwys nifer o sefydliadau’n dod at ei gilydd i gynnig y gefnogaeth honno. Mae’n hollol hanfodol, wrth gwrs, mai’r sgiliau sy’n cael eu cynnig yw’r sgiliau sydd eu hangen yn yr economi leol ac wrth gwrs, bydd mewnbwn defnyddiol iawn gan fwrdd y dinas-ranbarth o safbwynt gallu asesu pa sgiliau sydd angen eu darparu er mwyn i bobl gael y swyddi diogel sydd eu hangen arnynt. Ac yn olaf, John Griffiths. John Griffiths AC: Diolch, Lywydd. Diolch yn fawr, Brif Weinidog, am eich cydnabyddiaeth o safle a sefyllfa Casnewydd yn y darlun cyffredinol o’r diwydiant dur yng Nghymru. Fe fyddwch yn gwybod o’ch ymweliad diweddar â Llanwern am y dur o’r safon uchaf sy’n cael ei gynhyrchu yn ffatri Zodiac, er enghraifft, ar gyfer y diwydiant ceir yn y DU a thu hwnt. Yn ddiweddar, ymwelais hefyd â gwaith dur Orb, lle mae eu duroedd trydanol o’r safon orau ac yn cael eu hallforio ar draws y byd. Mae’n allweddol fod Orb yn rhoi gwerth mawr ar eu partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Dywedasant wrthyf am y berthynas oedd wedi’i hadeiladu a’r gefnogaeth a gânt o ran eu cynhyrchiant a’u prosesau a hyfforddiant sgiliau, a’u bod yn awyddus iawn i adeiladu ar hynny ac ymgysylltu ymhellach. Yn ddiweddar, cyfarfûm â Liberty Steel gyda Jayne Bryant fel AC dros Orllewin Casnewydd a dau AS Casnewydd, ac yn yr un modd, maent yn awyddus iawn i ymgysylltu ac fel y gwyddoch, mae ganddynt gynlluniau uchelgeisiol iawn, nid yn unig ar gyfer dur, ond hefyd ym maes ynni adnewyddadwy, môr-lynnoedd llanw, a throi gorsaf bŵer sy’n defnyddio glo i ddefnyddio biomas. Felly, maent yn uchelgeisiol iawn yn wir, a dywedodd pob un o’r cynhyrchwyr dur hyn yng Nghasnewydd wrthyf, Brif Weinidog, ac wrth y cynrychiolwyr gwleidyddol eraill pa mor awyddus ydynt i adeiladu ar y berthynas sy’n bodoli gyda Llywodraeth Cymru a sicrhau, drwy gefnogaeth a phartneriaeth a buddsoddi, ein bod yn gwneud yn siŵr fod dur yng Nghasnewydd nid yn unig yn meddu ar yr hanes gwych sy’n cael ei gydnabod yn eang, ond fod ganddo ddyfodol cryf iawn hefyd. Felly, hoffwn eich sicrwydd pellach heddiw fod Llywodraeth Cymru o’r un farn ac y bydd yn gweithio gyda phob un ohonom fel cynrychiolwyr gwleidyddol lleol i sicrhau ein bod yn symud ymlaen mewn partneriaeth â’r cwmnïau dur hynny. Carwyn Jones AC: Yn hollol, a gwn fod yr Aelod wedi bod hyrwyddo’r diwydiant dur yn huawdl yn ei ddinas. Wrth gwrs, rydym yn gwybod bod gan Gasnewydd farchnad allforio sylweddol hefyd—mae tua 30 y cant o’r dur a gynhyrchir yn cael ei allforio ac maent yn llwyddiannus ac yn broffidiol. Mae’n hynod o bwysig fod ffyniant a chynaliadwyedd yr holl safleoedd yng Nghymru yn y dyfodol yn cael sylw. Ond unwaith eto, maent i gyd yn gysylltiedig â Phort Talbot a’r dur sy’n cael ei wneud ym Mhort Talbot sy’n bwydo’r gwaith a gyflawnant. Felly, gallaf roi sicrwydd i’r gweithwyr yn Shotton, yn Nhrostre, yng Nghasnewydd ac wrth gwrs, ym Mhort Talbot ein bod yn gweld y diwydiant dur yn integredig yng Nghymru, yn broffidiol yng Nghymru, ac yn meddu ar ddyfodol yng Nghymru, ac wrth gwrs, byddwn yn parhau i siarad dros bawb o’r gweithwyr hynny. Diolch, Brif Weinidog. 5. 5. Datganiad: Pencampwriaeth Bêl-droed Ewrop Yr eitem nesaf ar yr agenda yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar y pencampwriaethau pêl-droed Ewropeaidd, ac rwy’n galw ar Ken Skates. Ken Skates AC: Diolch i chi, Lywydd. Fel y gŵyr yr Aelodau, yr wythnos hon bydd pymthegfed Pencampwriaeth UEFA Ewrop yn dechrau yn Ffrainc ac rwyf wrth fy modd y bydd Cymru, eleni, yn un o’r gwledydd sy’n cymryd rhan yn y bencampwriaeth sydd newydd ei ymestyn i 24 tîm. Ar ran Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad hwn, a gaf fi ddechrau drwy longyfarch tîm Cymru ar yr hyn a fu’n ymgyrch hynod lwyddiannus i ennill eu lle a dymuno pob lwc iddynt hefyd ar gyfer y bencampwriaeth sydd i ddod?Wrth gwrs, dyma gemau terfynol y bencampwriaeth fawr gyntaf i Gymru gystadlu ynddi ers 1958. Bydd llawer ohonom yn cofio’n eithaf clir y gyfres boenus o siomedigaethau y mae’r tîm wedi’u profi dros y blynyddoedd ac felly gyda phleser mawr, a balchder yn wir, fe welsom y tîm yn cyrraedd y bencampwriaeth eleni. O dan gyfarwyddyd Chris Coleman, mae’r garfan wedi dangos cadernid, penderfyniad a gwaith tîm gwych ac nid yw ond yn deg i ni gofnodi ein cydnabyddiaeth o’r arweinyddiaeth y mae ei dîm hyfforddi a’r FAW wedi’i dangos yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae llwyddo i fynd drwodd i’r rowndiau terfynol yn deyrnged addas i Gary Speed, a helpodd i osod llawer o sylfeini llwyddiant presennol y tîm ac a gâi ei barchu a’i edmygu gan gymaint o bobl ledled Cymru. Bydd gêm gyntaf Cymru yn erbyn Slofacia yn dechrau am 6 pm amser y DU ddydd Sadwrn 11 Mehefin yn Bordeaux, gyda gemau grŵp pellach yn cael eu chwarae yn erbyn Lloegr yn Lens am 2 pm ddydd Iau Mehefin 16, a’r gêm grŵp olaf yn erbyn Rwsia, yn dechrau am 8 pm ddydd Llun 20 Mehefin yn Toulouse. Y bencampwriaeth Ewropeaidd yw un o’r digwyddiadau chwaraeon sydd â’r proffil uchaf yn y byd. Yn Ewro 2012 cafwyd cynulleidfa deledu gyfunol o 1.9 biliwn i gyd a bydd y proffil byd-eang y bydd Cymru yn ei gael yn yr wythnosau nesaf yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i fanteisio i’r eithaf arno.Ochr yn ochr â’r gwledydd eraill sy’n cystadlu yn Ewro 2016, bydd Cymru’n cael ei chynrychioli mewn Pentref Ewropeaidd ym Mharis, a drefnwyd gan swyddfa maer y ddinas. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio’n agos gyda hwy a chyda Llysgenhadaeth Prydain, ond yn sgil y llifogydd diweddar yn y ddinas gohiriwyd agoriad y pentref, yn anffodus, oherwydd ei lleoliad ar lan yr afon Seine. Mae ein meddyliau gyda’r rhai ym Mharis sydd wedi gweithio’n galed i baratoi’r Pentref Ewropeaidd mewn pryd. Pan fydd y pentref yn agor, bydd y stondin a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru yn arddangos rhai o gyrchfannau twristiaid amrywiol a chyffrous ein gwlad a mannau antur, i ddathlu ein Blwyddyn Antur ac i ddarparu presenoldeb arbennig i Gymru yng nghanol prifddinas Ffrainc ac ochr yn ochr â gwledydd eraill.Mae canolfan gyfryngau tîm Cymru wedi’i lleoli yng nghanolfan y tîm yn Llydaw—lleoliad addas o ystyried y berthynas hirsefydlog rhwng Cymru a Llydaw. Bydd hysbysebion am Gymru mewn nifer o ieithoedd yn cael eu harddangos yn ystod y bencampwriaeth, a bydd gwybodaeth am Gymru yn cael ei darparu i’r mwy na 300 amcangyfrifedig o gyfryngau rhyngwladol a fydd yn cofnodi taith Cymru yn y bencampwriaeth. Mae Croeso Cymru hefyd wedi trefnu i fideos hyrwyddo gael eu dangos ar y sgriniau yn y parthau cefnogwyr arbennig yn Toulouse a Bordeaux, y disgwylir iddynt ddenu cefnogwyr o bob cwr o Ewrop. Yn nes at adref, bydd adeiladau eiconig Cymru, gan gynnwys cestyll Cadw, wedi’u goleuo’n goch i gefnogi’r tîm yn ystod y gemau grŵp. Mae’r galw am docynnau ynddo’i hun yn brawf o faint y mae’r wlad gyfan yn bwriadu bod yn rhan o’r pencampwriaethau. Disgwylir i oddeutu 30,000 o gefnogwyr Cymru deithio i Ffrainc. Mae’r FAW wedi dweud yn glir fod y cefnogwyr wedi chwarae rhan enfawr yn y llwyddiant hwn a byddant, rwy’n sicr, yn cyfrannu eu hangerdd i’r bencampwriaeth. Mae Cymru yn chwarae gemau grŵp yn erbyn Slofacia yn Bordeaux a Rwsia yn Toulouse—dinasoedd go fawr gyda digon i ddiddanu’r cefnogwyr. Fodd bynnag, mae gêm Cymru yn erbyn Lloegr yn cael ei chwarae yn Lens, tref gryn dipyn yn llai. Nawr, er fy mod yn siŵr y bydd trigolion Lens yr un mor groesawgar tuag at y cefnogwyr ag unrhyw le arall yn Ffrainc, y tu allan i’r stadiwm nid oes llawer o leoedd ar gael i wylio’r gêm. Rwy’n llwyr gefnogi’r negeseuon a roddwyd i gefnogwyr Cymru gan yr heddlu na ddylent deithio i Lens os nad oes ganddynt docynnau i’r gêm. Rydym i gyd yn ymwybodol o’r amgylchedd diogelwch presennol, yn y DU ac yn Ffrainc. Mae angen i gefnogwyr adael digon o amser i deithio i gemau gan y bydd mesurau diogelwch ychwanegol. Dylent roi gwybod i’r heddlu am unrhyw beth amheus. Y cyngor cryf yw y dylid cymryd sylw o gyngor teithio’r Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad, a fydd yn cael ei ddiweddaru ar ei wefan drwy gydol y bencampwriaeth. Mae’r heddlu hefyd wedi cynghori bod angen i gefnogwyr archebu llety ymlaen llaw ac edrych ar ôl eu pasbortau, ac maent wedi pwysleisio bod y cefnogwyr yn gweithredu fel llysgenhadon ar ran ein gwlad. Rwy’n llwyr gefnogi’r pwynt olaf. Rwy’n gobeithio y bydd cefnogwyr Cymru yn teithio i Ffrainc i fwynhau eu hunain, i wneud ffrindiau ac i wneud argraff gadarnhaol barhaol o Gymru ar y bobl y maent yn eu cyfarfod.Mae hwn yn amser gwych i fod yn gefnogwr pêl-droed yng Nghymru ac yn amser cyffrous i fod yn Ysgrifennydd y Cabinet gyda chyfrifoldeb dros ddigwyddiadau mawr. Ceir teimlad gwirioneddol mai dim ond dechrau yw mynd drwodd i’r rowndiau terfynol i’r grŵp talentog hwn o chwaraewyr. Rwyf fi, yn bendant, yn methu ag aros i weld y tîm yn rhedeg allan ar y cae yn Bordeaux ac yn cynrychioli Cymru ar lwyfan y byd. Mae’r tîm, y chwaraewyr a’r holl gefnogwyr yn sicr wedi cofleidio’r thema ‘Gorau Chwarae Cyd Chwarae’, a gwn ein bod i gyd yn ymfalchïo yn llwyddiant y tîm. Mae’r genedl gyfan y tu ôl iddynt. Neil McEvoy AC: Mae pawb yng ngrŵp y Blaid yn dymuno taith lwyddiannus, bleserus a diogel i Ffrainc i dîm pêl-droed Cymru a’r holl gefnogwyr. Mae cyrraedd rowndiau terfynol Ewro 2016 yn gwireddu breuddwyd i lawer ohonom, ac mae cyflawniad y chwaraewyr, y rheolwr a’r FAW wedi bod yn enfawr, ac rwy’n gobeithio’n fawr y byddant yn mynd i Ffrainc, yn chwarae pêl-droed gyda gwên ar eu hwynebau ac yn ein gwneud ni i gyd yn falch ohonynt. Rwy’n falch eich bod wedi sôn hefyd am gyfraniad enfawr Gary Speed. Mae pawb yma’n gwybod bod chwaraeon mor bwysig i Gymru, felly rwyf ychydig yn ddryslyd ynghylch ymagwedd y Llywodraeth, mewn gwirionedd. Ar y naill law, mae gennym Weinidog ar gyfer chwaraeon elitaidd, ac ar y llaw arall mae gennym Weinidog dros chwaraeon ar lawr gwlad. Un cwestiwn: er mwyn cyrraedd y lefel elitaidd mewn chwaraeon onid ydych yn sylweddoli eich bod angen chwaraeon ar lawr gwlad? Mae hollti’r portffolio yn dweud wrthyf nad ydych ormod o ddifrif ynglŷn â hyn. Felly, y cwestiwn cyntaf, mewn gwirionedd, yw: a allech ddweud wrthyf beth yw chwaraeon elitaidd? Yn ail, i symud ymlaen, filltir i lawr y ffordd mae yna gae pob tywydd, sydd wedi’i gloi ac yn wag, ac nid oes neb yn chwarae arno, bron byth. Mae’r plant lleol yn Grangetown wedi’u cloi allan, mewn rhai achosion gyda’u hwynebau’n gwasgu yn erbyn y ffens, yn methu â chwarae oherwydd bod cyngor Llafur Caerdydd eisiau iddynt dalu rhwng £34 a £39 yr awr. O ran chwaraeon elitaidd, sut y mae Gareth Bale yfory yn mynd i fod yn bêl-droediwr elitaidd os nad yw ef neu hi yn gallu defnyddio caeau chwarae am eu bod yn costio gormod? [Torri ar draws.] Felly, a wnewch chi ymuno â mi ar ymweliad â Channel View i siarad â’r plant a’r rhieni? Hefyd, ar lefel ymarferol prosiect etifeddiaeth Ewro 2016, a wnewch chi gomisiynu archwiliad o’r holl gyfleusterau chwaraeon ar hyd a lled Cymru, gyda golwg ar ddatblygu cynlluniau i gael cyfleusterau wedi’u defnyddio er mwyn hyrwyddo datblygiad chwaraeon elitaidd a gwella iechyd y cyhoedd?Finalement, je dirais bonne chance à nos garçons en France et ‘Allez les rouges’. Merci. Thank you. Ken Skates AC: Diolch i’r Aelod am ei gyfraniad a dweud, i lawer ohonom, mai dyma’r tro cyntaf erioed mewn gwirionedd i ni weld ymgyrch sgwad genedlaethol Cymru ar lwyfan y byd, felly mae’n mynd i fod yn dro cyntaf mewn bywyd i lawer ohonom ac rwy’n siŵr ein bod yn gyffrous iawn am hynny. Ar y pwynt olaf ynglŷn â chynnal archwiliad o gyfleusterau ledled Cymru—rwy’n maddau i’r Aelod am nad oedd yn y Siambr hon ar yr adeg honno—cafodd ei gynnal mewn gwirionedd tuag at ddiwedd y Cynulliad blaenorol. Felly, mae’r gwaith hwnnw wedi’i wneud ar y cyd â Chwaraeon Cymru. O ran ffïoedd caeau chwarae, mae hwn wedi bod yn fater dadleuol ar draws Cymru, yn enwedig yn ystod y 12 mis diwethaf, ond fel y soniodd fy nghyd-Aelod Lee Waters yn gywir, mae hefyd wedi bod yn broblem yn ei ran ef o Gymru, yn Sir Gaerfyrddin. Efallai y gallem ymweld ag un o’r caeau chwarae yno hefyd.O ran chwaraeon elitaidd a chwaraeon ar lawr gwlad, dylai’r Aelod fod yn ymwybodol bellach fod y ddau yn nwylo Gweinidogion gyda chyllidebau llawn; nid oedd hynny’n wir o’r blaen. Felly, mewn gwirionedd, byddwn wedi meddwl y byddai’n croesawu’r ffaith fod gennym ddau o bobl wrth fwrdd y Cabinet bellach sydd â diddordeb mewn hyrwyddo chwaraeon ar lefel gymunedol a chwaraeon ar lefel elitaidd. Mae chwaraeon ar lawr gwlad yn ymwneud â mwy na hamdden a chwaraeon elitaidd yn unig, mae hefyd yn ymwneud â chefnogi iechyd a lles. Drwy ei roi yn nwylo Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, credaf y gallwn ehangu chwaraeon ar lawr gwlad i gynnwys pob math o weithgarwch corfforol sy’n hybu iechyd a lles yng Nghymru. Russell George AC: Yn gyntaf, hoffwn groesawu’r Ysgrifennydd y Cabinet i’w rôl newydd a diolch iddo am y datganiad y prynhawn yma ar y pencampwriaethau pêl-droed Ewropeaidd sydd ar y gorwel. Am y tro cyntaf ers 1958—ymhell cyn i mi gael fy ngeni—bydd pobl ar draws Cymru yn cael cyfle i wylio ein tîm gyda balchder mewn pencampwriaeth bêl-droed fawr, a hoffwn ymuno â chi i ddymuno’r gorau i Chris Coleman a thîm pêl-droed Cymru. Rwy’n siŵr y bydd y Siambr gyfan yn cytuno y byddwn yn ymfalchïo yn nhîm Cymru a’n bod yn gobeithio y bydd holl wledydd cartref y DU yn aros yn Ewrop mor hir â phosibl.A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau felly y bydd cefnogwyr ym mhob rhan o Gymru yn gallu mwynhau’r bencampwriaeth mewn parthau cefnogwyr ar draws y wlad? Yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd ymwelodd bron 150,000 o bobl â pharthau cefnogwyr ym Mharc yr Arfau Caerdydd, ond cafwyd peth pryder ymhlith cefnogwyr ym mhob rhan o Gymru na fydd parthau cefnogwyr yn cael eu defnyddio i’r un graddau yn ystod Ewro 2016. Felly, hoffwn wybod pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd i annog awdurdodau lleol, FAW a sefydliadau partner eraill i sefydlu parthau cefnogwyr er mwyn i gymunedau ledled Cymru allu cefnogi tîm Cymru a rhannu’r profiad gyda’i gilydd. Wrth gwrs, bydd yn hwb enfawr i’r chwaraewyr allan yn Ffrainc i wybod bod cefnogwyr yn ôl adref y tu ôl iddynt. Yn ail, mae digwyddiadau chwaraeon mawr yn creu diddordeb a galw am weithgareddau chwaraeon ar lefel iau ac ar lawr gwlad. Felly, byddwn yn awgrymu y dylid defnyddio cynnydd sydyn yn y diddordeb i wella iechyd ein cenedl. Mae yna gyfle euraidd i hybu cyfranogiad mewn chwaraeon fel y gallwn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf a gwella iechyd y cyhoedd yn gyffredinol. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd i ddefnyddio Ewro 2016 fel modd o hybu rhinweddau ffordd egnïol o fyw a manteision eraill gweithgareddau chwaraeon i iechyd? Yn drydydd, fe gyfeirioch at y posibilrwydd o fygythiadau i ddiogelwch yn y pencampwriaethau. A gaf fi gefnogi’n llawn eich cyngor i wylwyr fod yn wyliadwrus a chymryd sylw o gyngor y Swyddfa Dramor a Chymanwlad? Fodd bynnag, byddwn yn ddiolchgar pe gallai Llywodraeth Cymru amlinellu pa drafodaethau a gafodd gyda Llywodraeth y DU a chyda Llywodraeth Ffrainc yn dilyn datganiadau gan Scotland Yard ac eraill yng ngweinyddiaeth fewnol Ffrainc ei bod yn amhosibl gwarantu diogelwch cefnogwyr sy’n teithio i Ffrainc. Ac yn olaf, mae gan lwyddiant tîm pêl-droed Cymru, yn amlwg, botensial i ddod â manteision economaidd i Gymru. Rydych wedi darparu rhai manylion yn eich datganiad, ond efallai y gallech hefyd roi sylwadau ar sut y mae gan y digwyddiad hwn botensial i gynnal digwyddiadau chwaraeon mawr yn y dyfodol i sicrhau y bydd llwyddiant Cymru yn Ewro 2016 yn creu etifeddiaeth barhaus. Ar ran grŵp y Ceidwadwyr Cymreig, Lywydd, hoffwn ymuno ag eraill i ddymuno pob llwyddiant i dîm Cymru. Ken Skates AC: Hoffwn ddiolch i Russell George am ei gyfraniad gwerthfawr ac am ei eiriau caredig, ac edrychaf ymlaen at weithio gydag ef yn y pumed Cynulliad hefyd. Os caf grybwyll y pwynt olaf ynglŷn â hyrwyddo Cymru yn y dyfodol, dim ond dechrau yw hyn, wrth gwrs, ar yr hyn rwy’n ei weld fel cyfnod euraidd i bêl-droed Cymru ac i Gymru yn hyrwyddo’r gêm ar lwyfan byd-eang, oherwydd y flwyddyn nesaf, wrth gwrs, yng Nghaerdydd y cynhelir rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr—y diwrnod mwyaf yn y calendr chwaraeon. Bydd yn achlysur enfawr ac mae hwn yn gyfle perffaith i fynd ymlaen i sôn am achlysur pêl-droed mawreddog arall. O ran parthau cefnogwyr, rwyf wrth fy modd fod Caerdydd ac Abertawe yn trefnu parthau cefnogwyr ar gyfer y bencampwriaeth. Rwy’n ymwybodol fod llawer o’r Aelodau wedi cysylltu â’u hawdurdodau lleol eu hunain i bwyso arnynt i wneud yr un peth, gan gynnwys fy nghyd-Aelod o Wrecsam, sydd wedi bod mewn cysylltiad â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Nid wyf yn ymwybodol fod awdurdodau lleol eraill wedi cytuno i greu parthau cefnogwyr. Ond yn sicr mae fy swyddogion wedi bod mewn cysylltiad ag awdurdodau lleol a chyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru er mwyn trafod ble a pha fathau o gynulliadau cyhoeddus y gellid eu trefnu. Rwy’n credu ei bod yn werth dweud ar y pwynt hwn, fodd bynnag, fod y bencampwriaeth hefyd yn cynnig cyfle gwych i dafarndai a thai bwyta i fanteisio ar y digwyddiadau, a bragdai yn wir. Felly, lle cynhelir parthau cefnogwyr o’r fath, byddwn yn annog trefnwyr, pan a phryd y bo modd, i sicrhau bod cyflenwyr a gwasanaethau lleol o Gymru yn manteisio ar y cyfleoedd hynny. O ran ein hyrwyddiad, hoffwn roi gwybod i’r Aelodau mai fy mwriad—dywedaf ‘os a phan’ fyddwn yn mynd drwodd i’r camau bwrw allan—yw agor yr holl safleoedd Cadw ar y Sul cyntaf ar ôl mynd drwodd i roi mynediad am ddim i bawb, fel yr hyn y gallech ei alw’n ‘ddydd Sul y dathlu’ yn ystod y bencampwriaeth. Rwy’n credu ei fod yn dangos pwysigrwydd y bencampwriaeth i Gymru, ac yn rhoi cyfle i bobl o bob oed brofi peth o’n treftadaeth wych, sef yr hyn y mae cymaint o bobl yn dod i Gymru i’w brofi.O ran etifeddiaeth y bencampwriaeth a beth rydym yn ei wneud i gefnogi datblygiad y gêm ar lefel llawr gwlad yn arbennig, rydym yn buddsoddi rhywbeth tebyg i £1 filiwn y flwyddyn mewn pêl-droed ar lawr gwlad drwy Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru, a hoffwn gofnodi fy niolch iddynt am wneud gwaith gwych, nid yn unig o ran hyrwyddo’r gêm, ond yn ymgysylltu â llawer o bobl ifanc a allai ymddieithrio o addysg fel arall. A thrwy wneud hynny, maent yn eu cadw mewn addysg ac yn gwneud yn siŵr eu bod yn cael addysg dda. Nawr, gan edrych tua’r dyfodol, mae Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru yn bwriadu defnyddio’r ffaith fod y tîm wedi mynd drwodd i rowndiau terfynol Ewro 2016 fel catalydd i symud yn nes at eu gweledigaeth o bêl-droed fel rhywbeth sy’n fwy na gêm, a bydd pedwar llwybr cyflawni yn arwain at wneud pêl-droed yn gryfach ac yn fwy cynaliadwy yng Nghymru, a phêl-droed yn galluogi cymunedau i weddnewid. Mae’r pedwar llwybr yn cynnwys hybu clybiau ar lawr gwlad, ac felly ceir uchelgais, er enghraifft, i greu 100 o ddyddiau recriwtio pêl-droed cymunedol ar draws Cymru yn ystod yr haf. Mae tri deg o ddyddiadau wedi’u pennu hyd yn hyn, ond bydd hyn yn help sylweddol i glybiau ar lawr gwlad. Yr ail elfen yw hybu cyfranogiad mewn gweithgareddau hamdden o fewn y gymuned. Ac felly, yn hyn o beth, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi lansio Cwpan y Bobl, sef cystadleuaeth hamdden genedlaethol bump bob ochr gyda phum grŵp cyfranogol, gan gynnwys grŵp i ddynion a menywod hŷn, grŵp iau, grŵp pêl-droed cerdded, a chyfranogiad pobl anabl hefyd, i wneud yn siŵr ei fod yn wirioneddol gynhwysol. Y drydedd elfen yw cyfranogiad hamdden o fewn amgylchedd yr ysgol, ac unwaith eto, mae Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru, a Lidl hefyd, yn gwneud gwaith rhagorol yn y cyswllt hwn. A’r pedwerydd yw defnyddio pêl-droed fel arf i ysbrydoli a chynorthwyo addysg, ac efallai eich bod yn ymwybodol o lansiad rhaglen addysg ysgolion cynradd Ewro 2016, sydd ar gael i ysgolion cynradd gan CBAC ar Hwb. Gareth Bennett AC: Mae’n gyflawniad sylweddol i sgwad Cymru fynd drwodd i rowndiau terfynol pencampwriaeth fawr am y tro cyntaf mewn 58 mlynedd, felly hoffwn ychwanegu llongyfarchiadau grŵp UKIP Cymru at rai pawb arall am lwyddo i gyrraedd yno i Chris Coleman a’i dîm a’r garfan. Mae’n dda gweld ystyriaeth yn cael ei rhoi i chwaraeon ar lawr gwlad yn y dyfodol gyda’r buddsoddiad yn Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru, ac rwy’n gobeithio y bydd hynny’n parhau. Drwy gydol y bencampwriaeth efallai y byddai’n syniad—efallai y gall y Gweinidog ddweud wrthyf a ellir cyflawni hyn—pe bai modd i bob adeilad cyhoeddus yng Nghymru chwifio baner Cymru cyhyd ag y bydd Cymru’n rhan o’r bencampwriaeth mewn gwirionedd. Mae’n bosibl y gallai fod yn fwy trawiadol pe baem yn cael gwared ar faneri’r UE yn y cyfamser oherwydd wedyn byddai’n fwy amlwg, a phwy a ŵyr, erbyn i’r bencampwriaeth ddod i ben, efallai na fydd angen i ni eu codi byth eto. [Chwerthin.] Ken Skates AC: Pe baent yn tynnu’r faner Ewropeaidd mewn rhai mannau, mae arnaf ofn y gallent gael eu taflu a’u hystyried yn sbwriel yn y strydoedd, ac yna efallai y bydd gennym wleidyddion yn cyhuddo mewnfudwyr o’i wneud. [Chwerthin.] Byddwn yn croesawu’r modd y mae’r Aelod wedi cofleidio’r ysbryd cenedlaethol rydym yn ei deimlo ar hyd a lled Cymru, ac ar wahân i ddweud y byddwn yn annog pob adeilad cyhoeddus i godi baner Cymru uwch eu pennau, hoffwn nodi yn ogystal, mewn perthynas â sylwadau Russell George ynglŷn â diogelwch, ein bod mewn cysylltiad rheolaidd â’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad ynghylch bygythiad terfysgaeth, a’r angen i gefnogwyr ymddwyn ar eu gorau mewn gemau. Byddwn yn annog yr holl gefnogwyr i edrych yn rheolaidd ar wefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad. Mae yna adran o’r enw ‘Be on the Ball’ ar y wefan, a byddwn yn annog yr holl gefnogwyr sy’n teithio i Ffrainc i gadw llygad manwl arni. Mike Hedges AC: Roeddwn wedi dechrau ofni na fyddai Cymru byth eto yn ennill ei lle mewn pencampwriaeth fawr yn ystod fy oes. Blwydd oed oeddwn i pan aethant drwodd i’r rowndiau terfynol ym 1958; mae’n debyg na fyddai’r rhan fwyaf o’r Aelodau yn y Siambr hon wedi’u geni. Ond mae’n gamp aruthrol i Gymru gyrraedd pencampwriaeth fawr, ac rwy’n falch dros ben eu bod wedi gwneud hynny.Credaf fod angen i ni edrych arno, nid yn unig fel rhywbeth sy’n dda i forâl ac yn dda i hunanhyder yng Nghymru, ac mae hynny’n wir, ond am yr effaith y mae’n mynd i’w chael ar hyrwyddo Cymru. Mewn sawl rhan o’r byd mae Abertawe yn hynod o adnabyddus oherwydd llwyddiant eu tîm pêl-droed. Hynny yw, faint fyddai wedi’i gostio mewn gwirionedd i gael yr un lefel o gyhoeddusrwydd â’r hyn y mae Cymru yn mynd i gael ar y teledu ac mewn papurau newydd print dros yr wythnosau nesaf, a thros y bencampwriaeth gyfan gobeithio? Rwy’n cofio Gwlad Groeg yn ei hennill, rwy’n cofio Denmarc yn ei hennill, felly nid ydym yn gofyn am yr amhosibl. Faint fyddai’n ei gostio mewn gwirionedd i gael y lefel honno o gyhoeddusrwydd i Gymru ag a gawn yn awr? Ond a gaf fi ychwanegu ple, ac rwy’n credu ei bod yn debyg iawn i’r hyn roedd Neil McEvoy yn ei ddweud? Credaf fod angen i ni gael mwy o gaeau chwarae 3G a 4G yng Nghymru oherwydd mae angen i ni gryfhau pêl-droed ar lawr gwlad, ac mae angen cael mwy o bobl ifanc yn ei chwarae a’r cyfle iddynt wneud hynny. Rwy’n edrych ymlaen at weld tîm pêl-droed y menywod hefyd yn mynd drwodd ac rwy’n siomedig iawn eu bod wedi colli 2-0 neithiwr i Norwich—Norwy, mae’n ddrwg gennyf—sy’n golygu na allant fynd drwodd yn awr. Rwy’n siomedig am hynny, ond credaf, gyda’r cynnydd y mae pêl-droed menywod wedi’i wneud yng Nghymru, y cynnydd y mae pêl-droed dynion wedi’i wneud yng Nghymru, rydym yn sicr yn cyflawni’n well na’r disgwyl a byddwn yn gobeithio y gallwn gael rhagor o gaeau chwarae 3G a 4G allan yno, er mwyn cael mwy o bobl i chwarae am fwy o’r amser. Oherwydd efallai nad ydych wedi sylwi, ond yn y gaeaf yng Nghymru mae’n mynd yn ofnadwy o wlyb ac nid oes modd chwarae ar rai o’r caeau glaswellt am gyfnod hir o amser. Ken Skates AC: A gaf fi ddiolch i Mike Hedges am ei gyfraniad? Nid oeddwn wedi sylweddoli nad oedd ond yn flwydd oed yn 1958; rwy’n gwybod ei oedran yn awr. Byddai’r cyfwerth hysbysebu yn llawer iawn o filiynau o bunnoedd ar gyfer y bencampwriaeth. Yn wir, pan lansiwyd y Flwyddyn Antur gennym ar ddechrau’r flwyddyn hon, fe gyfrifasom, yn y 72 awr gyntaf, fod y cyfwerth hysbysebu drwy hyrwyddo Cymru yn 2016 fel Blwyddyn Antur yn unig, wedi dod i gyfanswm o fwy na £800,000 yn fyd-eang, gyda’r sylw a gafodd yn y wasg. Felly, rwy’n meddwl ei bod yn debygol y byddai talu am hyrwyddo o’r math y mae Cymru yn mynd i’w fwynhau yn ystod y bencampwriaeth yn anfforddiadwy. Bydd yr Aelod hefyd yn ymwybodol o’r cydweithio sy’n digwydd rhwng Undeb Rygbi Cymru, Hoci Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn y gwaith o greu 100 o gaeau chwarae 3G newydd ledled Cymru—[Torri ar draws.]—mewn safleoedd allweddol, gan gynnwys, mae’r Aelod yn iawn, yng Nglannau Dyfrdwy. Mae hyn yn cysylltu â phwynt a grybwyllwyd gan Neil McEvoy am yr angen am ymagwedd strategol i sicrhau bod pobl yn gallu gwneud defnydd o gyfleusterau modern mor agos at eu cymunedau ag y bo modd. O ran hyrwyddo Cymru, yn ychwanegol at y gwerth anhygoel y bydd hyn yn ei greu i ni o ran y cyfwerth hysbysebu i Gymru fel cyrchfan i dwristiaid, rwy’n falch ein bod yn gallu mynd â rhai profiadau sy’n rymus ac yn unigryw i Ffrainc hefyd. Felly, er enghraifft, yn y Pentref Ewropeaidd sy’n cael ei lwyfannu ym Mharis, yn y parth Cymreig, bydd yna brofiad rhithwir i alluogi ymwelwyr â Pharis i wibio ar draws amgylchedd diwydiannol a naturiol gogledd Cymru. Huw Irranca-Davies AC: A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ddatganiad da a chynhwysfawr iawn? Mae’n rhaid i mi gyfaddef ar y dechrau mai bachwr aflwyddiannus wyf fi. Rwy’n un o ddilynwyr y ffurf wasgedig ar bêl-droed ac yn methu â deall y rheolau’n iawn o hyd, ond byddaf yn gwylio a byddaf yn cefnogi ein tîm. Mae yna ddau ganlyniad rwy’n chwilio amdanynt o’n camp hynod yn mynd drwodd i’r bencampwriaeth Ewropeaidd. Un yw mai hyn bellach—ymhell y tu hwnt i rygbi, ymhell y tu hwnt i unrhyw gamp arall—yw llwyfan y byd ar gyfer y gamp fwyaf, y cyrhaeddiad enfawr sydd ganddi—. Rwy’n gobeithio, o ran yr effaith uniongyrchol ar fwytai a chaffis a bariau a mannau eraill, ond hefyd o ran effaith fwy hirdymor hyrwyddo twristiaeth i Gymru, y lle gwych hwn sydd gennym, y baradwys antur hon i dwristiaid sydd gennym yng Nghymru, ond hefyd paradwys chwaraeon yn ogystal—dyna un o’r canlyniadau, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dangos rhai o’r mentrau gwych sydd eisoes ar y gweill ar hynny. Yr ail yw i’r timau hynny—ac mae llawer mwy o dimau pêl-droed na thimau rygbi yn fy nghwr i o’r byd, mae’n rhaid i mi ddweud—yn y Gilfach Goch a Chwm Ogwr, Llangeinwyr, Maesteg, Caerau, mae pob un o’r timau hynny’n mynd i elwa, rwy’n siŵr, o’r cyfranogiad llawr gwlad hwnnw—a’u hiechyd a’u lles—drwy weld hyn ar y teledu. Ac mae’n rhaid i mi ddweud hefyd, carfan a thîm merched iau Cymru sydd wedi cael blwyddyn mor llwyddiannus hefyd. Maent yn hyfforddi yng Ngholeg Pen-y-bont, ar gampws Pencoed yn fy etholaeth. Ond hoffwn roi’r nodyn hwn o obaith hefyd i’r aficionados pêl-droed yma a gofyn i’r Gweinidog a fyddai’n cytuno â mi y gall fod adegau pan fydd ambell Ddafydd yn curo ambell Oliath. Mae tîm rygbi ieuenctid Nantyffyllon—mae fy nhri mab wedi chwarae i’r tîm hwnnw—maent newydd ennill cwpan cynghrair Cymru—eu cynghrair eu hunain—a hefyd cwpan Cymru, gan guro ar y ffordd yno, gydag ymddiheuriadau i gyd-Aelodau, Caerffili, Pontypridd, Pen-y-bont a sawl tîm arall hefyd. Fe all Dafydd guro Goliath. Na adewch i ni roi’r gorau i obeithio. Dyma ein pencampwriaeth Ewrop ni. [Chwerthin.] Ken Skates AC: Wel, mae’r Aelod yn gwbl iawn. Dyma bencampwriaeth lle gall ambell Ddafydd fod yn hynod o lwyddiannus. Rydym wedi gweld rhai rhyfeddodau mawr mewn pencampwriaethau diweddar gyda chenhedloedd fel Denmarc a Gwlad Groeg yn eu hennill. Mewn gwirionedd, os edrychwn ar safle Cymru a’r timau eraill yn y grŵp, gwelwn fod Cymru ar hyn o bryd yn safle 26 drwy’r byd, a Slofacia yn safle 24, Lloegr yn safle 11—roeddem ar y blaen i Loegr heb fod yn hir yn ôl—a Rwsia yn safle 29. Mae’n un o’r grwpiau mwyaf cywasgedig a bydd yn anodd iawn rhagweld canlyniad llawer o’r gemau. Felly, rwy’n credu’n gryf os mai Cymru yw Dafydd yn y bencampwriaeth hon, Dafydd fydd fwyaf llwyddiannus.O ran twristiaeth, rydym yn gwneud yn well nag erioed yng Nghymru ar hyn o bryd, ac rwy’n falch iawn fod Ewro 2016, ac yn 2017, rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr, yn gymorth i hyrwyddo Cymru 2017 fel Blwyddyn y Chwedlau, a fydd unwaith eto yn fy marn i yn elwa i’r eithaf ar ein natur unigryw fel lle sy’n meddu ar ddiwylliant a threftadaeth wych. Felly, rwy’n gyffrous iawn am hynny hefyd. O ran llawr gwlad a rôl Ymddiriedolaeth Bêl-Droed Cymru yn hyrwyddo—. Ac rwy’n meddwl eich bod yn hollol gywir i nodi gêm y merched. Erbyn hyn mae 3,500 o chwaraewyr cofrestredig o dan 18 oed yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae 1,465 o chwaraewyr benywaidd sy’n oedolion, felly gallwn weld bod twf aruthrol wedi digwydd. Ond mae gan Ymddiriedolaeth Bêl-Droed Cymru uchelgais mawr yn hyn o beth. Eu nod yw tyfu’r gêm. Maent ar hyn o bryd wedi ennill statws safon aur y gymdeithas o dan siarter llawr gwlad UEFA i gydnabod maint a safon y rhaglenni a gyflwynwyd. Ac mae’n ddiddorol i’r Aelodau nodi mai Cymru yw’r genedl gyntaf i ddarparu addysg ar-lein sy’n denu hyfforddwyr o’r radd flaenaf i’n cyrsiau, gan gynnwys Thierry Henry. Hefin David AC: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n amau ​​ein bod yn cefnogi Cymru’n unfrydol fel ein tîm ar gyfer y bencampwriaeth hon, ni waeth pwy mae rhai o’r Aelodau wedi cefnogi yn y gorffennol. Serch hynny, bydd llawer o’r Aelodau yn ymwybodol o achosion a gafodd lawer o sylw o fanwerthwyr mawr yng Nghymru sy’n hyrwyddo tîm pêl-droed Lloegr yn eu siopau ac ar eu nwyddau. Yn amlwg, nid yw hyn yn ddelfrydol, yn enwedig gan fod Cymru yn mynd i fod yn chwarae Lloegr yn y bencampwriaeth. Rhaid i mi hefyd dalu teyrnged i Lindsay Whittle, rhagflaenydd Steffan Lewis, oherwydd, pan ddarganfu fod Panini yn gwerthu llyfrau sticeri Lloegr yn Tesco ac nid llyfrau sticeri Cymru, roedd yn dringo’r waliau, a gall unrhyw un sy’n adnabod Lindsay Whittle ddychmygu hynny. [Chwerthin.]A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu cael unrhyw sgyrsiau gyda sefydliadau manwerthu masnachol mawr ynghylch priodoldeb hyrwyddo tîm pêl-droed Lloegr yng Nghymru yn ystod Ewro 2016? A wnaiff eu hatgoffa i weithredu’n fwy sensitif mewn perthynas â nwyddau eu siopau er mwyn i ni i gyd gefnogi Cymru a dymuno’n dda iddynt yn ystod y mis i ddod? Ken Skates AC: Mae’r Aelod yn crybwyll pwynt pwysig, ond byddwn yn dweud y byddwn yn hoffi gweld ymwelwyr â Chymru o Loegr yn gallu prynu eitemau pêl-droed sy’n cario baner Cymru yn ogystal â baner Lloegr os ydynt yn dymuno er mwyn gwella economi Cymru. Rwy’n ymwybodol fod yna siopau—ac mae wedi bod yn fater cynhennus—wedi bod yn gwerthu nwyddau Seisnig, yn enwedig yng ngogledd-ddwyrain Cymru, lle mae’r ffin yn hydraidd iawn. Nid yw hyn yn newydd i’r digwyddiad hwn; mae hwn yn fater sydd wedi bod yn digwydd ers blynyddoedd lawer. Rwy’n credu mai’r peth allweddol i ni fel gwleidyddion yw cofio mai hwn yw’r cyfle cyntaf i Gymru gystadlu ers 1958 ac yn hytrach na chanolbwyntio ar yr hyn y gallai gwledydd eraill fod yn ei wneud, gadewch i ni ganolbwyntio ar yr hyn y mae Cymru wedi’i gyflawni a’r hyn y dylai Cymru fod yn ei wneud a dathlu llwyddiant carfan Cymru. Yn olaf, Jenny Rathbone. Jenny Rathbone AC: Rwy’n cytuno â chi y dylem fod yn canolbwyntio ar lwyddiant ein tîm ein hunain. Rydych wedi crybwyll eisoes y bydd parth cefnogwyr yn Abertawe a Chaerdydd, ac rwy’n falch iawn o longyfarch cyngor Caerdydd ar ddenu’r nawdd i gael parth cefnogwyr ym mharc Bute ar gyfer y tri digwyddiad. Roeddwn am sôn wrthych pa mor bwysig yw ei wneud yn ddigwyddiad sy’n ystyriol o deuluoedd fel y gall pobl ddod â’r teulu cyfan, yn ddiogel o ddeall fod hwn yn mynd i fod yn ddigwyddiad y byddant eisiau i’w plant fynd iddo. Rwyf ychydig yn bryderus ynghylch adroddiadau yn y wasg na chaniateir unrhyw fwyd neu ddiod yn y parth cefnogwyr, ac roeddwn yn meddwl tybed a oedd hwn yn gyfle i geisio gorfodi pobl i brynu lluniaeth drud pan fo’n hynod o bwysig fod pobl yn yfed dŵr os yw’n boeth. Roeddwn yn meddwl tybed a allech edrych ar hynny a gwneud yn siŵr nad yw’n gyfle i fynd ag arian oddi wrth bobl yn hytrach na dathlu llwyddiant ein tîm. Ken Skates AC: Iawn. A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei chyfraniad? Mae’n gwbl hanfodol, yn enwedig yn ystod y cyfnodau poeth hyn, fod pobl yn yfed cymaint o ddŵr ag o alcohol. Mater i Gyngor Dinas Caerdydd yw pwy sydd ganddynt yn gwerthu lluniaeth, ond fel y dywedais ychydig yn gynharach, rwy’n credu ei bod yn bwysig i gynhyrchwyr Cymru a chyflenwyr o Gymru gael pob cyfle i fanteisio ar y digwyddiad.Mae’r Aelod yn iawn, o ran ymddygiad y cefnogwyr, nid y chwaraewyr yn unig sy’n llysgenhadon dros Gymru tramor, ond y cefnogwyr hefyd—y rhai sy’n teithio dramor a’r rhai sy’n aros yng Nghymru—felly, byddwn yn eu hannog i gyflwyno Cymru yn y ffordd orau a mwyaf parchus posibl ac i ymatal rhag yfed gormod. Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet. 6. 6. Cynnig i Atal Rheol Sefydlog Yr eitem nesaf yw’r cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro er mwyn caniatáu cynnal dadl ar yr eitem nesaf o fusnes. Rwy’n galw ar aelod o’r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig. Cynnig NNDM6017 Elin JonesCynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:Yn atal y rhan honno o Reol Sefydlog 7.1 sy’n ei gwneud yn ofynnol i ystyried cynnig i benodi aelodau’r Comisiwn heb fod yn fwy na 10 diwrnod ar ôl penodi’r Pwyllgor Busnes, er mwyn caniatáu i NNDM6018 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 8 Mehefin 2016. Cynigiwyd y cynnig. Paul Davies AC: Yn ffurfiol. Mae’r cynnig wedi’i wneud. Mark Reckless. Mark Reckless AC: Diolch, Lywydd. Rydych yn newydd i’ch rôl, fel rwyf fi i’r Cynulliad hwn, ac nid yw fy sylwadau ar y Rheolau Sefydlog yn adlewyrchiad arnoch chi na’ch swydd. Yn wir, rwy’n gwerthfawrogi’r sgyrsiau adeiladol rydym wedi’u cael ar y broblem.Nid oes dianc rhag y ffaith ein bod ar hyn o bryd yn torri ein Rheolau Sefydlog, ac nid yw’n lle cyfforddus i unrhyw ddeddfwrfa fod. Fel egwyddor, mae gennym dryloywder ac mae gennym atebolrwydd. Rwy’n deall efallai na fydd llawer o’n hetholwyr yn darllen y Rheolau Sefydlog hyn, ond rwy’n credu ei bod yn bwysig i’r rhai a allai fod am ymgysylltu â’r Cynulliad a’n gweithdrefnau allu cyfeirio at y ddogfen hon yn y ffordd rwyf wedi ceisio ei wneud, er mwyn deall y gweithdrefnau a’r rheolau rydym yn eu cymhwyso yn y lle hwn. Mae’n ofynnol i ni benodi Comisiwn y Cynulliad o fewn 10 diwrnod i benodi ein Pwyllgor Busnes. Rydym bellach 14 diwrnod ar ôl hynny ac wedi torri’r gofyniad hwnnw. Mae gennym faterion pwysig i Gomisiwn y Cynulliad, er enghraifft mewn perthynas â’r refferendwm Ewropeaidd a rhai o’r materion cyfreithiol sy’n ymwneud â hynny a neilltuaeth. Mae gennym yn awr, yn eitem 6, gynnig rwy’n ei ystyried yn amwys. Mae’n datgan ei fod ‘yn atal y rhan honno o Reol Sefydlog 7.1 sy’n ei gwneud yn ofynnol i ystyried cynnig i benodi aelodau’r Comisiwn heb fod yn fwy na 10 diwrnod ar ôl penodi’r Pwyllgor Busnes’. Yn ôl pob tebyg nid ydym ond yn atal y rhan honno sydd â’r gofyniad 10 diwrnod, yn hytrach na’r holl destun rwyf newydd ei ddarllen. Wedyn, yn eitem 7, bydd gennym gyfeiriad yn ôl at‘yn unol â Rheol Sefydlog 7.1’,sydd, wrth gwrs, newydd ei atal gennym i raddau braidd yn annirnadwy neu amwys. Yr hyn rydym yn amlwg yn ei wneud yw gweithredu fel sy’n ofynnol yn adran 27 o Ddeddf Llywodraeth Cymru, ond rwy’n poeni, lle nad ydym yn gweithredu o dan y Rheolau Sefydlog, ein bod yn eu diwygio mewn ffordd sy’n amwys, ac ni ddylem fod yn y fan hon. Rwyf wedi clywed amryw o bobl â statws uchel yn y lle hwn yn cyfeirio, yn amrywio, at ddehongliadau hyblyg neu bragmataidd o’r Rheolau Sefydlog, ac rwy’n gwneud y pwynt fod hon yn sail ddifrifol ar gyfer gweithdrefn. Dylai’r rheolau gael eu cyhoeddi, dylent fod yn glir, dylai ein hetholwyr allu eu gweld a dylai’r rhai ohonom sy’n edrych ar y pethau hyn allu dibynnu arnynt fel arweiniad i sut y bydd busnes yn cael ei wneud yn y lle hwn mewn gwirionedd.Pan gyfarfuom 14 diwrnod yn ôl, yr opsiwn y credwn y dylem fod wedi’i ddewis fyddai gohirio’r ein trafodion er mwyn caniatáu i’r Pwyllgor Busnes ddod o hyd i gynnig i benodi Comisiwn y Cynulliad a dod yn ôl wedyn i gytuno ar y cynnig. Pe na baem wedi gwneud hynny, gallem fod wedi cael cynnig i atal Rheolau Sefydlog, neu’r rhan berthnasol—10 diwrnod gwaith efallai yn hytrach na 10 diwrnod—yn benodol yn ôl yr angen, yn hytrach na’u gadael i ni eu tramgwyddo, yna ceisio’u diwygio’n unig i unioni hynny wedyn, yn ôl pob golwg. Nid wyf yn bwriadu gwrthwynebu unrhyw un o’r cynigion hyn, ond roeddwn eisiau dweud hynny ar gyfer y cofnod. Diolch. A gaf i ddiolch i’r Aelod am gyfrannu at y ddadl ar y cynnig yma? Rwy’n cytuno nad yw’n ddelfrydol bod angen atal y Rheolau Sefydlog fel hyn. Fodd bynnag, fe weithiodd amgylchiadau yn ein herbyn ni y tro yma. Fe roedd y Pwyllgor Busnes, fel mae’r Aelod yn ymwybodol, yn ei hystyried hi’n anffodus nad oedd modd cydymffurfio â’r Rheolau Sefydlog ar yr achlysur yma, ond fe wnaeth y Pwyllgor Busnes gytuno i adolygu’r terfyn amser 10 diwrnod sydd wedi arwain at y sefyllfa o gynnig gohirio’r Rheolau Sefydlog yn yr achos yma. Felly, rwy’n ddiolchgar i’r Aelod am wneud y sylwadau hynny.Rwy’n symud felly nawr i’r cwestiwn a ddylid derbyn y cynnig i atal y Rheolau Sefydlog dros dro. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid oes gwrthwynebiad, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 7. 7. Cynnig i Benodi Comisiwn y Cynulliad Yr eitem nesaf, felly, yw’r cynnig i benodi Comisiwn y Cynulliad. Rwy’n galw ar aelod o’r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig hwnnw. Cynnig NNDM6018 Elin JonesCynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 7.1, yn penodi Joyce Watson (Llafur Cymru), Dai Lloyd (Plaid Cymru), Suzy Davies (Ceidwadwyr Cymreig) a Caroline Jones (UKIP Cymru) yn aelodau o Gomisiwn y Cynulliad. Cynigiwyd y cynnig. Paul Davies AC: Yn ffurfiol. Diolch. Rwy’n gofyn, felly, a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny? Os na, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Felly, fe ddaw trafodion y dydd i ben. Daeth y cyfarfod i ben am 16:56. QNR Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru Bethan Sayed: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am drefniadau traffig ym Mhort Talbot? Mark Drakeford: Y prif fater ynghylch traffig ym Mhort Tablot yw’r posibilrwydd o gau cyffordd 41. Rŷm ni wrthi’n cynnal dadansoddiad pellach cyn penderfynu ar y ffordd orau ymlaen. Neil Hamilton: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am weinyddu Cynllun y Taliad Sylfaenol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? Mark Drakeford: The basic payment scheme is administered across Wales. Currently 99 per cent of eligible farm businesses in Wales have had a payment. The 2016 online single application form has been a resounding success, with almost 100 per cent of BPS applications received using Rural Payments Wales Online. Janet Finch-Saunders: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ad-drefnu llywodraeth leol? Mark Drakeford: Over the next few weeks and months, the Cabinet Secretary for Finance and Local Government will be meeting local government leaders and other stakeholders and listening to their views before considering the long-term approach to local government reform. A statement on our intentions will be made in due course. Paul Davies: Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau iechyd yn Sir Benfro? Mark Drakeford: Mae Llywodraeth Cymru’n parhau i gydweithio â’r bwrdd iechyd a phartneriaid eraill i wella mynediad at wasanaethau, ac ansawdd a diogelwch gwasanaethau, yn sir Benfro a ledled Cymru. Mae hyn yn cael ei gefnogi gan fuddsoddiad ychwanegol gwerth mwy na £0.5 biliwn yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn ystod 2015-16. Suzy Davies: Pa feini prawf a ddefnyddia Llywodraeth Cymru i gyfrif gwerth effaith gwariant Croeso Cymru ar economi Cymru? Mark Drakeford: Mae effaith gwariant Croeso Cymru ar economi Cymru yn cael ei asesu mewn sawl ffordd, gan gynnwys gwariant ychwanegol gan dwristiaid o ganlyniad i waith marchnata Croeso Cymru, gwariant gan ymwelwyr sy’n aros dros nos yng Nghymru wedi ei fesur yn arolwg twristiaeth Prydain Fawr a’r arolwg teithwyr rhyngwladol, ac ystadegau sectorau blaenoriaeth Llywodraeth Cymru sy’n asesu perfformiad pob un o’n sectorau blaenoriaeth, gan gynnwys twristiaeth. Darren Millar: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau casglu gwastraff llywodraeth leol? Mark Drakeford: Excellent progress is being made by local authorities. The provisional recycling rate reached 59 per cent across Wales for the year to December 2015. We are number one in the UK, fourth in Europe—a testament to the hard work of local councils and residents across Wales. Yr Arglwydd / Lord Elis-Thomas: Pa bryd y bydd y Prif Weinidog yn cwrdd nesaf ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru? Mark Drakeford: Fe wnes i gwrdd ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru ddydd Llun.
uk-hansard-senedd-cy
senedd2016-06-08
2024-06-01T00:00:00
{ "year": "2016", "language": "cy", "license": "Open Parliament Licence - https://www.parliament.uk/site-information/copyright-parliament/open-parliament-licence/" }
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. Galw'r Aelodau i drefn. 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog Yr eitem gyntaf yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac rydw i wedi derbyn gwybodaeth, o dan Reol Sefydlog 12.58, y bydd arweinydd y tŷ, Julie James, yn ateb cwestiynau ar ran y Prif Weinidog. Cwestiwn 1—Mark Isherwood. Ffyniant Economaidd yng Ngogledd Cymru Mark Isherwood AC: 1. Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer cynyddu ffyniant economaidd yng Ngogledd Cymru? OAQ52981 Julie James AC: Mae ein cynllun gweithredu economaidd 'Ffyniant i Bawb' yn nodi sut yr ydym ni'n bwriadu cefnogi economi Cymru dros y degawd nesaf a thu hwnt, a sut y gallwn gyfuno'r adnoddau, yr arbenigedd a'r wybodaeth sydd gennym ni yng Nghymru i gryfhau ein sylfeini economaidd a diogelu economi Cymru ar gyfer y dyfodol. Mark Isherwood AC: Diolch. Ym mis Mawrth 2016, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bod yn agor y drws i fargen twf ar gyfer y gogledd, a galwodd ar Lywodraeth Cymru i ddatganoli pwerau i lawr a buddsoddi yn y rhanbarth yn rhan o'r fargen. Cyflwynwyd y cais i'r ddwy Lywodraeth fis Rhagfyr diwethaf, gan gynnwys galwadau i Lywodraeth Cymru ddirprwyo pwerau i'r gogledd, fel y gallai weithredu mewn swyddogaeth weithredol mewn meysydd penodol. Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU o £120 miliwn ar gyfer y fargen twf, sut ydych chi'n ymateb i'r datganiadau a wnaed o'r llwyfan yngnghynhadledd bargen twf y gogledd ar 1 Tachwedd, a drefnwyd gan y bwrdd uchelgais economaidd, 'Rydym ni wedi clywed am ymrwymiad Llywodraeth y DU ond yn poeni am yr ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru mewn sefyllfa mwg a drychau.' Felly, ble mae'r arian, pryd bydd yn cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru, ac a fydd hyn yn derbyn y cais neu yn hytrach yn dylunio system, fel y mae'n ymddangos yw'r gwir, lle mae Llywodraeth Cymru yn parhau ifod â'r ysgogiadauhynny, ac nad yw'r galwadau i ddirprwyo yn mynd o'i phlaid o anghenraid? Julie James AC: Nid yw hwnnw'n ddarlun yr ydym ni'n ei adnabod. Mae trafodaethau rhwng partneriaid y gogledd a Llywodraethau Cymru a'r DU yn symud ymlaen yn dda ar gynnig twf y gogledd. Roedd swyddogion o'r ddwy Lywodraeth a phartneriaid yn y gogledd yn bresennol mewn gweithdy yr wythnos diwethaf i drafod a chytuno ar becyn o gynigion a'r camau nesaf i alluogi cyflawniad y cytundeb. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn cyfarfod â phartneriaid ddydd Gwener yr wythnos hon, rwy'n credu, a bydd hynny i gyd yn rhan annatod o'r weledigaeth gyffredinol ar gyfer y gogledd. Felly, o'n safbwynt ni, heblaw'r ffaith nad yw Llywodraeth y DU wedi darparu'r pecyn cyfan o arian yr oeddem ni'n ei ddisgwyl, mae'r fargen yn mynd rhagddi'n dda. Llyr Gruffydd AC: Rydym i gyd yn edrych ymlaen am gyhoeddiad cynnar ynglŷn ag unrhyw gefnogaeth y byddai'r Llywodraeth yn ei roi i'r gwaith yna, wrth gwrs, ond os ydym ni o ddifrif ynglŷn â ffyniant economaidd gogledd Cymru, yna byddai Brexit ddim yn digwydd o gwbl. Julie James AC: Mae'n ddrwg gen i, Llyr, mae fy mheth cyfieithu'n ysbeidiol, mae arna i ofn. A allwch chi fenthyg un y Gweinidog cyllid? [Chwerthin.] Julie James AC: Mae'n ddrwg gen i. Rhoddwn gynnig arall arni. Llyr Gruffydd. Llyr Gruffydd AC: Diolch yn fawr. Roeddwn i jest yn gwneud y pwynt y byddwn ni i gyd yn edrych ymlaen at glywed cyhoeddiad buan, gobeithio, gan yr Ysgrifennydd Cabinet ynglŷn ag unrhyw gefnogaeth y bydd y Llywodraeth yn ei rhoi i'r cynllun twf yn y gogledd. Ond y pwynt roeddwn i eisiau ei wneud oedd: os ydym ni o ddifrif ynglŷn â ffyniant economaidd yn y gogledd, yna byddai Brexit ddim yn digwydd o gwbl. Ac rŷm ni wedi gweld, drwy adroddiad gan y London School of Economicsyn ddiweddar iawn nawr, wrth gwrs, yrimpact y bydd sawl senariogwahanol yn ei gael. Ond o gofio, wrth gwrs, dibyniaetheconomi gogledd Cymru ar weithgynhyrchu, ar y sector amaeth a bwyd, a phwysigrwydd strategol porthladd Caergybi, onid yw hi'n glir bod aros o fewn y farchnad sengl yn gwbl greiddiol yn hyn o beth? Ac a allwch chi ddweud wrthymni beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau, nid yn unig bod Llywodraeth Prydain yn barod i gadarnhau hynny, ond bod eich plaid chi eich hunan yn San Steffan yn barod i ddadlau dros hynny? Julie James AC: Ydy, mae'n eglur bod y cytundeb negodi presennol y mae Prif Weinidog y DU yn ei geisio, trwy unrhyw ddull angenrheidiol, i ennyn rhywfaint o gefnogaeth y mae wir ei hangen arno yn annoeth o ganlyniad i'w llinellau coch. Mae hi wedi dysgu rhyw fymryn o'n cynigion, ond llawer rhy ychydig ac yn llawer rhy hwyr. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod mai'r cwbl y mae'r rhagolygon diweddar o nifer o ffynonellau yn ei wneud yw tanlinellu rhagolygon economaidd Brexit 'dim cytundeb' a chaled, ac mae unrhyw Brexit sy'n ein tynnu ni allan o'r farchnad sengl a'r undeb tollau yn peri problemau hefyd. Adroddiad 'A Yw Cymru'n Decach?' John Griffiths AC: 2. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd mewn ymateb i adroddiad Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru 2018, 'A yw Cymru'n decach?'? OAQ52990 Julie James AC: Diolch am y cwestiwn yna. Rwy'n ddiolchgar iawn am yr adroddiad, sy'n cynnig tystiolaeth werthfawr i gefnogi ymdrechion ein holl gyrff cyhoeddus i leihau anghydraddoldeb yng Nghymru. Cefais gyfarfod yn ddiweddar gyda chomisiynydd Cymru i drafod yr heriau a nodwyd, ac mae swyddogion wrthi'n ystyried yr argymhellion yn eithaf manwl ar hyn o bryd. John Griffiths AC: Arweinydd y tŷ, mae dewis gwleidyddol Llywodraeth Dorïaidd y DU o gyni cyllidol yn achosi mwy a mwy o ofid a chaledi i'n cymunedau—tlodi cynyddol, digartrefedd a chysgu ar y stryd, ciwio mewn banciau bwyd, salwch meddwl a chorfforol. Hyni gydym mhumed economi fwyaf y byd. Mae'r Athro Philip Alston, adroddwr y CU ar dlodi a hawliau dynol, newydd gyhoeddi adroddiad, sy'n hollol ddamniol, ynghylch natur ddideimlad ac angharedig polisïau Llywodraeth y DU, gan wneud i'r rhai sy'n agored i niwed dalu'r pris am ei methiannau. Ac mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cyhoeddi ei adroddiad ar degwch yng Nghymru, sy'n dangos gwahaniaethu ac anfantais yn taro cymunedau tlotach, pobl anabl, menywod a lleiafrifoedd ethnig. Rydym ni'n gwybod mai Llywodraeth y DU sy'n rheoli llawer o'r dulliau ar gyfer datrys y sefyllfa hon, ond, wrth gwrs, mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldebau allweddol hefyd. Felly, arweinydd y tŷ, a wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried ymhellach nawr sut y gall hisicrhau'r pwyslais mwyaf manwl posibl ar fynd i'r afael â thlodi, gyda thargedau penodol, monitro a gwerthuso ar waith, ac ystyried ymhellach y materion yn yr achos dros ddatganoli gweinyddu budd-daliadau lles, o ystyried effaith cyflwyno credyd cynhwysol yng Nghymru? Julie James AC: Mae swyddogion yn edrych yn ofalus iawn ar yr adroddiad ac yn fanwl iawn—y pwyslais mwyaf manwl posibl, fel y mae John Griffiths yn ei ddweud—gyda golwg iddo gael ei gyfrannu at fersiwn nesaf ein cynllun cydraddoldeb strategol, ac, yn wir, yn y ffordd yr oedd y cynllun cydraddoldeb strategol blaenorol yn seiliedig ar yr adroddiad 'A yw Cymru'n Decach?' blaenorol. Rydym ni'n falch iawn ein bod ni wedi gallu gweithio ar y cyd â'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn hynny o beth. Rwyf i hefyd wedi cynnal nifer o gyfarfodydd gyda swyddogion eraill o'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, gyda'm bwrdd rheoli, er enghraifft, yn fy nghyfrifoldebau portffolio, yn edrych i weld beth allwn ni ei wneud i fynd ar drywydd rhai o'r data sydd eu hangen arnom ni, er mwyn gallu bwrw ymlaen â rhai o'r materion hynny. Mae adroddiad yr Athro Philip Alston yn adleisio'r hyn yr ydym ni wedi bod yn ei ddweud o'r cychwyn bod tystiolaeth gref gan amrywiaeth o sefydliadau uchel eu parch, gan gynnwys pwyllgorau seneddol a Swyddfa Archwilio Genedlaethol, fel y dywedodd John Griffiths, bod y DU yn gwbl benderfynol o gyflwyno ei pholisïau diwygio lles a threthi niweidiol, sy'n gwbl atchweliadol, ac yr ydym ni'n eu gresynu. Mae gennym ni nifer o fesurau y gallwn ni eu rhoi ar waith i geisio lleddfu'r rheini, ond, yn anffodus, nid yw'rysgogiadau ar gael i ni gael gwared arnyn nhwyn llwyr. Hoffwn dynnu sylw at ddau beth yr ydym ni'n awyddus iawn i'w wneud, sef gwneud yn siŵr bod gwaith sy'n talu'n dda, drwy ein comisiwn gwaith teg, ynbendant ar frig yr agenda yng Nghymru, gan ein bod ni'n gwybod mai dyna'r llwybr gorau allan o dlodi, a hefyd sicrhau bod popeth yr ydym ni'n ei wneud yn cymrydanghenion y bobl hynny â'r holl nodweddion gwarchodedig i ystyriaeth. Felly, ein hymgynghoriad diweddar ar gyfer gweithredu ar anabledd, er enghraifft, sy'n dal ar agor—a byddwn yn annog ynbendant bodholl Aelodau'r Cynulliad, Llywydd, yn ymateb iddo. Mohammad Asghar (Oscar) AC: Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu 100,000 o brentisiaethau yn ystod y tymor hwn. Fodd bynnag, canfu adroddiad 'A yw Cymru'n Decach?', mewn prentisiaethau, bod gwahanu cryf ar sail rhyw yn parhau, bod lleiafrifoedd ethnig wedi'u tangynrychioli a bod cynrychiolaeth pobl anabl yn arbennig o isel. Beth mae'r Prif Weinidog dros dro—eich Llywodraeth chi—yn ei wneud i fynd i'r afael â gwahanu ar sail rhyw ac i hybu rhagolygon cyflogaeth lleiafrifoedd ethnig a phobl anabl drwy'r system brentisiaeth yn y wlad hon? Julie James AC: Rydym ni wedi penodi hyrwyddwr cydraddoldeb i weithio gyda'n darparwyr prentisiaeth er mwyn gwneud hynny, ac mae'r Gweinidog wedi bod yn gweithio'n galed iawn i sicrhau ein bod ni'n cael cynrychiolaeth dda iawn o'r holl grwpiau nodweddion gwarchodedig yn arbennig. Mae mater cymdeithasol ehangach ar waith o ran gwahanu ar sail rhyw, felly rydych chi'n gweld llawer iawn mwy o fenywod mewn lleoliadau cymdeithasol, llawer iawn mwy o ddynion mewn lleoliadau peirianneg caled, ac mae hwnnw'nddarlun cymdeithasol eang ar draws cymdeithas y DU. Rydym ni wedi bod yn rhedeg nifer o ymgyrchoedd, a hoffwn dynnu sylw at yr ymgyrch Dyma Fi, yn ymwneud â stereoteipio ar sail rhyw, i geisio lledaenu'r neges y dylai pobl geisio fod y person y maen nhw eisiau ei fod ac nid rhywbeth sydd wedi'i bennu ymlaen llaw gan eu rhyw, yn arbennig, neu unrhyw nodwedd arall. Os nad yw'r Aelod wedi gweld yr ymgyrch honno, rwy'n ei hargymell iddo—bu'n un o'r rhai mwyaf llwyddiannus yr ydym ni wedi eu cael o ran cyrhaeddiad. Rydym ni'n parhau i fod wedi ymrwymo'n llwyr i weithio'n galed iawn ar roi terfyn ar stereoteipio ar sail rhyw, ac felly anghydraddoldeb ar sail rhyw, o gymdeithas Cymru. Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid—Paul Davies. Paul Davies AC: Diolch, Llywydd. Arweinydd y tŷ, a ydych chi'n credu ei bod hi'n iawn bod corff cyhoeddus pwysig yn gallu gweithredu heb roi sylw dyledus i fframweithiau cyfreithiol neu arian trethdalwyr? Julie James AC: Nac ydw,wrth gwrs nad ydw i, ac wn i ddim beth mae e'n cyfeirio ato. Ond, na, yn gyffredinol, wrth gwrs, yr ateb i hynny fyddai 'wrth gwrs nad ydw i'. Paul Davies AC: Wel, rydw i'n falch ei bod hi'n cytuno â hynny, oherwydd mae gyda ni sefydliad yma yng Nghymru sydd yn gweithredu heb roi sylw dyledus i fframweithiau cyfreithiol neu arian trethdalwyr. Fel y gwyddoch, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am gatalog o fethiannau sydd â chanlyniadau difrifol ar gyfer y rheolaeth gynaliadwy o adnoddau Cymru. Nid yn unig y mae cyfrifon y corff wedi cael eu cymhwyso yn nhair o'r pum mlynedd mae e wedi bod yn weithredol, ond mae e hefyd wedi colli £1 filiwn o arian cyhoeddus i drethdalwyr. Mewn adroddiad damniol ar gyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru, mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi codi pryderon nad yw'r sefydliad yn derbyn cyfrifoldeb am ei fethiannau a'i fod wedi diystyrunifer o argymhellion gan adroddiadau'r archwilydd cyffredinol. Pan ofynnais i i'r Prif Weinidog nôl ym mis Hydref, roedd e o'r farn bod y sefydliad yma yn addas i'r pwrpas. Felly, a ydych chi fel Llywodraeth nawr yn dal i gredu bod y sefydliad yma yn addas i'w ddiben? Julie James AC: Rwy'n credu bod cyfundrefn reoli newydd yn Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ateb cwestiynau am hyn, fel y mae'r Prif Weinidog wedi ei wneud, ar sawl achlysur. Byddai newid y sefydliad nawr yn newid sefydliadol enfawr, yn ychwanegol i rai o'r heriau eraill y mae'r Aelod wedi cyfeirio atyn nhw. Dim ond newydd—yn ddiweddar iawn o safbwynt sefydliadol—benodi prif weithredwr newydd ydym ni, mae gennym ni fwrdd newydd, pum aelod newydd o'r bwrdd a chadeirydd dros dro newydd. Rwy'n credu ei bod hi'n amser gadael iddyn nhw fwrw ymlaen â'r dasg a pheidio â chyflwyno cyfres arall o heriau sefydliadol ar ben yr hyn sydd ganddyn nhw eisoes. Paul Davies AC: Arweinydd y tŷ, rydw i'n teimlo nad ydych chi'n derbyn graddfa'r mater yma. Mae hwn yn sefydliad sy'n methu: mae'n methu i wella ar ei berfformiad ac i ddysgu o'i gamgymeriadau difrifol, mae'n methu â dilyn ei ofynion statudol a chyfreithiol, ac mae'n methu â chyflawni gwerth am arian i drethdalwyr Cymru. Mae'n amlwg nad oes gan eich Llywodraeth chi unrhyw strategaeth ar waith i ddelio â'r sefydliad hwn, ac mae hyd yn oed un Aelod o'ch plaid chi wedi disgrifio Cyfoeth Naturiol Cymru fel 'allan o reolaeth'. Mae llawer ohonom ni yn dal pryderon difrifol am allu eich Llywodraeth chi i reoli gwasanaethau cyhoeddus, gyda'n bwrdd iechyd mwyaf mewn mesurau arbennig, ynghyd ag 19 o ysgolion. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn sefydliad cyhoeddus arall o dan eich rheolaeth chi sy'n methu â chyflawni. Felly, arweinydd y tŷ, ar ran pawb sy'n gwerthfawrogi ac sy'n dibynnu ar adnoddau naturiol Cymru, a wnewch chi nawr alw amser ar y sefydliad hwn, sy'n amlwg yn methu, â sicrhau bod y digwyddiad yma yn cael ei ddiwygio'n gyfan gwbl? Julie James AC: Fel y dywedais, rwy'n credu mai dyna fyddai'r dull cwbl anghywir o ymateb i her sefydliadol. Mae'r Aelod yn awyddus iawn i dynnu sylw at rai o'r agweddau negyddol ac, yn sicr, mae gan y sefydliad nifer o bethau y mae angen iddo fynd i'r afael â nhw, a bwriedir i'w drefniadau rheoli newydd fynd i'r afael â nhw. Ond rwy'n credu bod dwy ochr i bob stori. Mae'n bwysig cofio, yn ystod storm Callum, er enghraifft, bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi darparu prosiectau a gafodd glod rhyngwladol i helpu gyda materion ymatebwyr brys, gydag amddiffyn rhag llifogydd, gyda lliniaru. Mae'n rheoli 7 y cant o arwynebedd tir Cymru ac yn cyflogi 1,900 o staff. Mae'n bwysig bod rheolwyr y sefydliad hwnnw yn cael cyfle i gynefino a datrys ei broblemau. Rwy'n credu fy mod i'n iawn wrth ddyfynnu cadfridog Rhufeinig yn dweud y gellir cyflwyno'r argraff o newid, dim ond drwy symud y byrddau o gwmpas. Yr hyn sydd ei angen arnoch mewn gwirionedd yw newid gwirioneddol i'r strwythur rheoli ac rydym ni'n credu erbyn hyn bod gennym ni'r tîm rheoli ar waith i wneud hynny. Arweinydd Plaid Cymru—Adam Price. Adam Price AC: Diolch, Llywydd. Yn ôl ym mis Ionawr, dywedodd y Prif Weinidog yn y Siambr hon bod eich Llywodraeth yn gwrthwynebu preifateiddio yn y GIG yn llwyr gan gymharu hynny â'r sefyllfa yn Lloegr. Mewn gwirionedd, polisi'r Llywodraeth pan benodwyd Carwyn Jones yn Brif Weinidog i ddechrau oedd diddymu'n raddol y defnydd o'r sector preifat yn llwyr erbyn 2011. Pa gamau ydych chi'n eu cymryd heddiw i sicrhau nad yw byrddau iechyd yn caniatáu i ddarparwyr sector preifat gynyddu eu dylanwad yma yng Nghymru? Julie James AC: Ie, rydym ni'n gwbl ymrwymedig i wneud yn siŵr bod y gwasanaeth iechyd gwladol yn seiliedig ar ei egwyddorion sylfaenol,ac yn cael ei ddarparu fellygan staff sector cyhoeddus pan fo hynny'n bosibl o gwblac yn rhad ac am ddim ar y pwynt darparu. Adam Price AC: Mae'n gydnabyddedig iawn bod hanes eich Llywodraeth o ran amseroedd aros y GIG ymhell o fod yn foddhaol. Er enghraifft, mae'r archwilydd cyffredinol wedi adrodd yn ddiweddar y bu cynnydd o 55 y cant ers 2015 i nifer y cleifion y caiff eu hapwyntiadau dilynol eu gohirio ddwywaith cyn hired ag y dylent. Nawr, mae radioleg yn un maes lle mae targedau yn cael eu bodloni ar hyn o bryd, ond mae hyn oherwydd bod byrddau iechyd fwyfwy yn cynnig contractau allanol i'r sector preifat. Mae adroddiad yr archwilydd cyffredinol yn nodi bod perfformiad o ran amseroedd aros wedi cael ei helpu trwy sicrhau capasiti ychwanegol o'r sector preifat mewn ymateb i'r hyn y mae'n ei ddisgrifio fel 'anawsterau o ran recriwtio a chadw staff, oherwydd bod y cyfarpar sganio’n hen ac yn annigonol, ac oherwydd gwendidau TG' yn y GIG. Onid yw'n wir bod yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd yn bolisi o breifateiddio llechwraidd fel plastr i guddio problemau strwythurol tymor hwy yn y GIG yng Nghymru? Julie James AC: Wel, ni allwn anghytuno mwy gyda'r Aelod a dweud y gwir. Yn amlwg, mae'n rhaid i ni drefnu i wasanaethau gael eu darparu yn y modd gorau posibl, ond ceir egwyddor eglur, benderfynol, a fynegwyd yn gyhoeddus, agored a thryloyw yn y fantol, sef: pan fo hynny'n bosibl, rydym ni'n eu darparu gan staff sector cyhoeddus, yn rhad ac am ddim ar y pwynt darparu. Yn amlwg, ceir rhai achosion lle mae'n rhaid i ni ddefnyddio darparwyr sector preifat yn y tymor byr fel trefniant wrth gefn i wneud yn siŵr bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu, a'r Aelod fyddai'r cyntaf i sefyll ar ei draed a'n beirniadu ni pe na byddem ni'n gwneud hynny. Ond mae'n amlwg nad oes llwybr i breifateiddio ar sail eang, fel y mae ef yn ei awgrymu. Adam Price AC: Wel, edrychwch, arweinydd y tŷ, efallai fod dadl, yn amlwg, dros ddefnyddio capasiti sector preifat mewn argyfwng, ond nid dyna sut yr ydych chi'n adeiladu GIG cynaliadwy. Mae cynllunio hirdymor yn ei gwneud yn ofynnol i chi hyfforddi'r gweithlu, prynu'r offer sydd ei angen, fel bod y capasiti gennych chi i fodloni'r gofynion yn y dyfodol. Nawr, mewn gwirionedd, mae gwariant ar y defnydd o ddarparwyr sector preifat wedi cynyddu'n sylweddol ers i'ch Llywodraeth chi fod mewn grym. Yn 2011, roedd yn £14 miliwn; y llynedd, roedd yn £38.5 miliwn. Nawr, mae hynny'n gynnydd o 260 y cant dros y saith mlynedd diwethaf. Mae'r Blaid Lafur yn Lloegr, o dan Jeremy Corbyn, wedi addo rhoi terfyn ar y defnydd o ddarpariaeth sector preifat yn y GIG yn llwyr; dyna oedd y polisi yma. Onid yw hwn yn achos arall o Lafur yn dweud un peth fel yr wrthblaid yn San Steffan ac yn gwneudi'r gwrthwyneb mewn Llywodraeth yma yng Nghymru? A gadewch i ni—[Torri ar draws.] Gadewch i ni roi—[Torri ar draws.] Gadewch i ni roi Jeremy Corbyn o'r neilltu am eiliad. Onid ydych chi'n cefnu ar werthoedd Bevan a'ch gweledigaeth eich hun? Julie James AC: Wel, Llywydd, ni allaf wneud dim gwell nag ailadrodd yr hyn a ddywedais: wrth gwrs nad ydym ni'n gwneud hynny. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i ddarparu'r GIG fel gwasanaeth cyhoeddus rhad ac am ddim ar y pwynt o ddefnydd. Wrth gwrs mae'n rhaid i ni ddefnyddio contractwyr preifat weithiau i ymateb i anawsterau gwasanaeth ac wrth gwrs rydym ni'n gwneud yn union fel yr awgrymodd y dylem ni ei wneud, sef hyfforddi'r nifer fwyaf o staff y gallwnyn ynifer fwyaf o leoedd hyfforddi y bu gennym ni erioed er mwyn cyflawni hynny. Ac, mewn gwirionedd, rydym ni'n sefyll ochr yn ochr â'r Blaid Lafur ar lefel y DU yn hyn o beth. Mae preifateiddio'r GIG yn gwbl wrthun i ni, ac yn sicr nid dyna egwyddor na pholisi'r Llywodraeth hon. Arweinydd grŵp UKIP, Gareth Bennett. Gareth Bennett AC: Diolch, Llywydd. Dros y penwythnos, cefais y pleser o ddefnyddio gwasanaethau rheilffordd lleol ar draws gogledd Lloegr a'r Alban. Roedd y trenau'n rhedeg yn brydlon, roedd gwasanaethau yn cysylltu â'i gilydd, ac roedd digonedd o seddi i bobl eistedd arnynt. Onid yw'n deg i ddweud nad yw pobl sy'n defnyddio trenau yng Nghymru yncael yr un driniaeth. Arweinydd y tŷ, a ydych chi a'ch Llywodraeth yn cytuno'n llwyr â chyfarwyddwr gwasanaethau cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru, Bethan Jelfs, pan ddywedodd yn ddiweddar bod yn rhaid i gwsmeriaid rannu poen y tarfu diweddar ar y rheilffyrdd? Julie James AC: Nac ydym. Wrth gwrs, mae'n hynod ddrwg gennym, fel y mae llawer o bobl wedi ei ddweud yn y Siambr yn ystod yr wythnos ddiwethaf, ganfod ein hunain yn y sefyllfa lle mae Trafnidiaeth Cymru wedi etifeddu fflyd o drenau, is-safonol iawn ac nid yr hyn y byddem ni'n ei ddisgwyl i raddau helaeth—a dweud y gwir, oherwydd y blynyddoedd ar flynyddoedd ar flynyddoedd o danfuddsoddi gan y sector preifat. Felly, mae gennym ni gynllun adfer cadarn iawn ar waith. Cafodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth gyfarfod gyda phrif swyddog gweithredol Trafnidiaeth Cymru yr wythnos diwethaf i geisio sicrwydd bod y cynllun adfer hwnnw yno. Cadarnhawyd yn y cyfarfod hwnnw bod Trafnidiaeth Cymru a Network Rail wedi rhoi cynllun adfer llawn ar waith i reoli'r sefyllfa ac y byddwn yn cael diweddariadau rheolaidd gan brif swyddog gweithredol Trafnidiaeth Cymru ar gynnydd o'i gymharu â'r cynllun hwnnw. Mae'r peirianwyr o Trafnidiaeth Cymru a Network Rail yn gweithio bob awr o'r dydd i ailddechrau gwasanaethau cyn gynted â phosibl. Ychydig yn llai na mis yn unig y bu'r fasnachfraint gennym ni; ni allwn gywiro tanfuddsoddiad 15 mlynedd mewn pedair wythnos. Gareth Bennett AC: Ie, rwy'n sylweddoli bod problemau a gafodd eu hetifeddu gan Trafnidiaeth Cymru, wrth gwrs, ond rwy'n meddwl tybed a yw rhai o'r pethau y mae Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn gyfrifol amdanyn nhw yn ddiweddar yn anawsterau a grëwyd ganddyn nhw eu hunain. Er enghraifft, rhoddwyd llawer o sylw i'r ffaith fod tua 25 i 30 y cant o'r fflyd ar gyfer Cymru a'r gororau wedi cael ei dynnu'n ôl i'w archwilio a'i drwsio. Wrth gwrs, rwy'n sylweddoli bod olwynion trên yn gwisgo, a allai gael ei waethygu gan ddail ar y rheilffordd yn ystod yr hydref mewn unrhyw flwyddyn. O ystyried bod hwn yn anhawster a wynebir gan bob masnachfraint rheilffordd bob blwyddyn, siawns mai'r ffordd y dylai swyddogion Trafnidiaeth Cymru, sy'n cael eu talu'n dda, fod yn ymdrin â hyn yw trwy ddisgwyl a rhagweld y broblem hon, ac yna cynllunio ar ei chyfer ymlaen llaw. Nid yw'r rhan fwyaf o ddefnyddwyr y rheilffyrdd yn gallu deall pam mae'n rhaid tynnu 25 y cant o'r fflyd yn ôl i gyd ar yr un pryd yr hydref hwn. Pam na ellid eu tynnu'n ôl fesul tipyn, tua 5 y cant ar y tro dros bum wythnos, dyweder, yn hytrach na 25 y cant i gyd ar unwaith mewn wythnos? Julie James AC: A dweud y gwir, mae Trafnidiaeth Cymru wedi gwneud gwaith cwbl wych, ac mae 10 y cant o'r fflyd yn weithredol eto. Felly, rwy'n credu, mewn gwirionedd, y dylid eu canmol am gyflymder eu hymateb. Yn amlwg, ceir problemau gwirioneddol gyda chadw trenau i weithredu nad ydyn nhw'nddigon da, ac nid oes rhaid i mi eu hailadrodd i'r Aelod. Rydym ni'n gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr bod y fflyd yn weithredol eto. Fel y dywedais, mae'r cynllun adfer gweithredol ar waith; mae Ysgrifennydd y Cabinet yncael diweddariadau rheolaidd. Rydym ni'n awyddus iawn i wneud yn siŵr bod y gwasanaeth i bobl Cymru cystal ag y gall fod wrth i ni gyrraedd yr hydref. Gareth Bennett AC: Wel, rwy'n falch o glywed hynny, arweinydd y tŷ, ac rwy'n gobeithio y bydd y fflyd yn ôl mewn cyflwr da mewn da bryd i'r teithwyr, ac rwy'n gobeithio y bydd y teithwyr yn mwynhau buddion hynny. Fodd bynnag, nid ynghylch oediadau trên yn unigy mae teithwyr yn teimlo'nrhwystredig ar hyn o bryd. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rwyf i wedi cael cwynion gan etholwyr y bu ciwiau hir o deithwyr yng Nghaerdydd yn ystod oriau brig y bore yn ymestyn ar draws yr orsaf. Mae'r ciwiau yn cynnwys teithwyr sydd wedi cwblhau eu teithiau, ond nad oeddent yn gallu prynu tocyn yn eu gorsaf reilffordd gychwynnol na chan aelod o staff ar y trên, felly bu'n rhaid iddyn nhw fynd at y cownter teithiau na thalwyd amdanynt yng ngorsaf Caerdydd Canolog. Roedd yr amser yr oedd hi'n ei gymryd i gyrraedd blaen y ciw hwn weithiau'n 20 munud i 30 munud ar gyfartaledd. Nawr, roedd gennym ni broblemau gyda'r gweithredwr blaenorol, Trenau Arriva Cymru,pan oedden nhw'nbygwth codi dirwy o gannoedd o bunnoedd ar bobl amnad oeddganddyn nhw docynnau dilys ac wedyn, wrth gwrs, daeth i'r amlwg bod llawer o'r peiriannau tocynnau yn eu gorsafoedd nad ydynt wedi eustaffio, ddim yn gweithio mewn gwirionedd. Felly, mae'n ymddangos erbyn hyn ein bod ni'n mynd trwy anrhefn tocynnau newydd sbon gyda'r gweithredwr newydd. Nawr, gwn mai dyddiau cynnar yw hi, arweinydd y tŷ—rydym ni i gyd yn derbyn hynny—ond beth allwch chi ei wneud i sicrhau defnyddwyr rheilffyrdd nad yw'r gwasanaeth newydd yn mynd ibarhau i ailadrodd holl broblemau'r hen un? Julie James AC: Mae symud i'r system ddi-docyn yr ydych chi'n ei gweld yn rhan bwysig o'r fasnachfraint newydd—. Os ewch chi i Transport for London, er enghraifft, mae bron pob un o'r gwasanaethau yn ddi-docyn, felly byddwnni'n symud tuag at hynny. Mae'r buddsoddiad yn sicr yno. Dyna'n sicr yw'r bwriad—symud i weithrediadau di-docyn mor gyflym â phosibl. Gwella Signal Ffonau Symudol yng Nghanolbarth Cymru Russell George AC: 3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar wella signal ffonau symudol yng nghanolbarth Cymru? OAQ53016 Julie James AC: Gwnaf. Mae gwaith yn parhau ar ddarpariaeth ein cynllun gweithredu symudol. Mae hyn yn cynnwys cyhoeddi ein dogfen 'Polisi Cynllunio Cymru' newydd yn fuan iawn, sy'n cydnabod pwysigrwydd economaidd signal symudol a hawliau datblygu priodol a ganiateir ar gyfer seilwaith ffonau symudol. Russell George AC: Diolch am eich ateb, arweinydd y tŷ. Wrth gwrs, nid yw'r cynllun gweithredu symudol yr ydych chi'n sôn amdano wedi cyflawni unrhyw gamau pendant hyd yma. Rydym ni wedi gweld polisi a chanllawiau cynllunio yn cael eu diweddaru yn yr Alban ac yn Lloegr hefyd. Mae hynny wedi helpu i baratoi'r ffordd ar gyfer cyflwyno 5G ac wedi helpu i gyflymu'r broses ar gyfer mastiau ffonau symudol newydd. Mae adroddiad a gomisiynwyd gennych chi ar hawliau datblygu a ganiateir o ran telathrebu symudol yn argymell cynnydd i uchder mastiau ffonau symudol i 20 metr neu 25 metr, er gwaethaf y ffaith eich bod chi wedi dweud yn y gorffennol nad oes unrhyw dystiolaeth i gefnogi hyn. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y statws o ran gweithredu'r argymhellion hyn, ac ymrwymo i ddyddiad cyhoeddus pan fydd y diwygiadau hyn yn cael eu cyflawni? Julie James AC: Gallaf. Yr hyn a ddywedais mewn gwirionedd, os cofiwch chi, oedd ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n gwneud yn siŵr bod yr hyn yr ydym ni'n ei argymell yng Nghymru yn addas i'w ddiben yng Nghymru, yn enwedig yn ein parciau cenedlaethol hardd iawn. Roeddem ni'n sicr eisiau sicrhau bod pobl Cymru yn hapus iawn â'r hyn yr oeddem ni'n ei gynnig o ran seilwaith. Russell George, rydych chi a minnau wedi cael y sgyrsiau hyn yn aml iawn dros y blynyddoedd diwethaf. Byddwn yn cyhoeddi 'Polisi Cynllunio Cymru' newydd yn fuan; bydd hwnnw'n nodi rhai o'r gwahanol hawliau datblygu a ganiateir fel y dywedasoch. Ceir nifer o bethau eraill yr ydym ni'n dal i'w trafod yn y cynllun gweithredu symudol ynghylch y ffordd y defnyddir y seilwaith hwnnw, ac ni wnaf eu hailadrodd yn y fan yma, gan y bydd y Llywydd yn dechrau tapio ei bysedd ar y ddesg. Ond ceir nifer fawr o bethau a fydd yn cael eu hystyried yn y fan yna, cyfres ohonyn nhwyr ydym ni'n gobeithioy byddantyn helpu. Ond, yn y pen draw, nid yw hyn wedi'i ddatganoli i Gymru. Yn y pen draw, yr hyn sydd ei angen arnom ni yw camau gweithredu gan Lywodraeth y DU i— Russell George AC: Cwestiwn cynllunio yw hwn. Julie James AC: Ie, mae polisi cynllunio wedi'i ddatganoli i Gymru, ond ni fydd hynny'n—. Nid yw'n fwled arian. Yr hyn a fyddai'n fwled arian yw cyflwyno signal daearyddol 100 y cant i weithredwyr ffonau symudol ledled Cymru, neu, os nad yw hynny'n mynd i gael ei wneud yn y gwerthiannau sbectrwm, yna caniatáu trawsrwydweithio mewn ardaloedd gwledig. Mae hwn yn destun cryn drafodaeth rhyngom. Os na fyddwn ni'n gwneud hynny, ni fyddwn byth yn cael y signal y mae ef, rwy'n gwybod, wir ei eisiau, ac yn sicr ar yr ochr hon i'r tŷ yr ydym ni wir ei eisiau. Helen Mary Jones AC: Arweinydd y tŷ, ddoe yn y ffair aeaf cyhoeddais ddogfen ymgynghori ar ddyfodol economaidd i Bowys. Ac yno yn y sioe, a hefyd mewn negeseuon e-bost yr wyf i wedi eu derbyn ers hynny, rwyf wedi cael llawer o ohebiaeth yn tynnu sylw at yr anawsterau a wynebir gyda'r mynediad gwael at 4G yn ardaloedd y Drenewydd a Llanidloes. Nawr, rwy'n sylweddoli o'ch ymateb i Russell George bod rhai elfennau o'r agenda hon nad ydyn nhwwedi'u datganoli, ond beth arall allwch chi ei wneud, oherwydd mae'r busnesau hynny yn dweud wrthym ni bod y mynediad symudol gwaelyn cael effaith wirioneddolar eu gallu i ehangu? Julie James AC: Ie, ac mae gen i bob cydymdeimlad â nhw. Yn anffodus, gwerthwyd y sbectrwm 4G yn y fath fodd fel y gallwch chi ei gadw a byth ei ddefnyddio, ac mae hynny'n rhan fawr o'r drafodaeth gyda Llywodraeth y DU am werthu sbectrwm yn y dyfodol, oherwydd nid ydym ni'n meddwl mai gallu ei brynu ac yna ei gadw a byth gwneud dim byd ag ef yw'r ffordd ymlaen am resymau amlwg. Rydym ni'n bwriadu, fodd bynnag, gwneud yn siŵr y gallwn ni wneud y defnydd mwyaf posibl o adeiladau cyhoeddus, mannau cyhoeddus, a'r technolegau newydd sy'n croesi ar draws symudol a band eang, fel y gallwn, er enghraifft, ddarlledu signal Wi-Fi oddi ar adeiladau cyhoeddus. Felly, rydym ni'nystyried ynweithredol i weld beth arall y gallwn ni ei wneud i alluogi, er enghraifft, galwadau Wi-Fi. Yn anffodus, ni allwn newid y sefyllfa 4G, ond rydym ni'n lobïo Ofcom a Llywodraeth y DU yn gyson i newid y ffordd y cedwir y sbectrwm ac i newid y signalau rhwymedigaeth ddaearyddol yn hynny, oherwydd mae nhw'n gwbl anobeithiol ar hyn o bryd. Tynnwyd cwestiwn4 [OAQ53014] yn ôl.Cwestiwn 5, felly—Leanne Wood. Defnyddio Canabis at Ddibenion Meddyginiaethol Leanne Wood AC: 5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar ddefnyddio canabis at ddibenion meddyginiaethol? OAQ52980 Julie James AC: Gwnaf. Newidiodd y gyfraith ar ganabis meddyginiaethol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban ar 1 Tachwedd 2018.Caiff meddygon arbenigol benderfynu erbyn hyn a ddylid rhagnodi cynhyrchion seiliedig ar ganabis i'w defnyddio ar sail feddyginiaethol pan fo hynny'n briodol yn glinigol. Leanne Wood AC: Fel yr ydych chi wedi ei ddweud, o 1 Tachwedd 2018, mae newidiadau i'r ddeddfwriaeth camddefnyddio cyffuriau wedicaniatáu i gynhyrchion seiliedig ar ganabis didrwydded gael eu rhagnodi gan rai meddygon at ddefnydd meddyginiaethol lle ceir angen clinigol arbennig. Ar y pryd, dywedodd ein prif swyddog fferyllol, Andrew Evans, bod nifer y bobl yng Nghymru y byddai canabis meddyginiaethol yn cael ei ragnodi iddynt yn debygol o fod yn fach iawn. Mae'r canllawiau dros dro a gyhoeddwyd yn gyfyngol, ac mae elusennau fel y Gymdeithas MS yn dweud na fydd dim yn newid yn y tymor byr i'r 10,000 o bobl yn y DU sy'n byw gyda MS a allai gael rhyddhad o boen a gwingiadau'r cyhyrau trwy ddefnyddio canabis meddyginiaethol. Nawr, mae Sativex wedi'i drwyddedu ar gyfer y driniaeth o sbastigedd yn unig, ac wedyn nid yw ond ar gael i grŵp bach o bobl sy'n byw gydag MS sy'n bodloni'r meini prawf. Nawr bod y ddeddfwriaeth wedi cael ei newid, a all y GIG yng Nghymrusicrhau bodcanabis meddyginiaetholar gael i bawb a fyddai'n elwa arno, neu a oes angen i ni barhau i hongian ar gynffonau'r GIG yn Lloegr? Ac a wnaiff Llywodraeth Cymru adolygu'r canllawiau dros dro ar ragnodi canabis meddyginiaethol fel nad yw mynediad at y driniaeth wedi ei gyfyngu mor llym? Julie James AC: Ie, rwy'n rhannu pryder yr Aelod. Rydym ni i gyd wedi cael etholwyr sydd wedi bod yn cysylltu â ni ynghylch y defnydd o ganabis meddyginiaethol. Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig cyflwyno'r sefyllfa wirioneddol fel yr ydym ni'n ei gweld. Felly, cyn y newid i'r gyfraith, gellid rhagnodi Sativex i drin sbastigedd a sglerosis ymledol, pan oedd hynny'n briodol yn glinigol. Ar hyn o bryd, mae saith cwmni fferyllol yn datblygu oddeutu 21 o feddyginiaethau newydd sy'n cynnwys deilliadau canabis neu gyfansoddion canabis synthetig. Wrth i bob meddyginiaeth fod yn barod, bydd yn mynd drwy'r prosesau hirsefydlog sydd ar waith i sicrhau ei bod yn ddiogel ac yn effeithiol ac yn briodol i'w defnyddio. Y prosesau rheoli ansawdd, yn amlwg yw'r ffordd fwyaf diogel i roi mynediad i gleifion at y cyfansoddyn meddygol gweithredol mewn canabis. Mae'r Aelod yn gwybod yn iawn nad yw dosbarthiad cyfreithiol cyffuriau yn fater sydd wedi'i ddatganoli i Gymru. Mae'n dal i fod yn gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU, ac mae'n rhywbeth na allwn ni gymryd camau annibynnol arno. Ond, rydym ni'n credu ei bod hi'n fwyaf priodol edrych ar sail y DU gyfan ar gyfer y defnydd o ganabis meddyginiaethol ac, wrth i'r sail dystiolaeth dyfu ac wrth i'r cynhyrchion sydd ar gael gynyddu, yna bydd y meddyginiaethau sydd ar gael, wrth gwrs, ar gael yn fwy eang yng Nghymru, fel y byddant mewn rhannau eraill o'r DU. Darren Millar AC: Arweinydd y tŷ, gall camddefnyddio canabis, wrth gwrs, fod yn beryglus dros ben. Gall fod yn llwybr i sylweddau llawer caletach, a all arwain at ddifetha bywydau pobl. A wnewch chi ymuno â mi felly i gondemnio gweithredoedd comisiynydd heddlu a throseddugogledd Cymru, Arfon Jones, am ei ymddygiad anghyfrifol o ymweld â chlybiau canabis, sy'n hyrwyddo gweithgarwch anghyfreithlon, gan gynnwys bod yn ŵr gwadd ar 23 Hydref mewn clwb canabis preifat yn Llundain? Mae'r math hwn o ymddygiad yn anfon negeseuon cymysg, a dweud y gwir, i bobl ifanc yn ein gwlad. Ac aydych chi'n cytuno y dylai comisiynwyr heddlu gynorthwyo pobl a'r heddlu i gynnal y gyfraith mewn gwirionedd, nid annog pobl i'w thorri? Julie James AC: Wel, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn peidio â chymysgu'r defnydd o ganabis meddyginiaethol â'r defnydd anghyfreithlon o gyffur rhagnodedig. Felly, nid wyf i'n mynd i fynd i lawr y twll cwningen y mae'r Aelod wedi ei agor o fy mlaen. Rwy'n credu ei bod yn bwysig dros bengwahaniaethu ynamlwg iawn rhwng y defnydd o gyffuriau anghyfreithlon—sef yr hyn y mae'r Aelod yn sôn amdano—a diben y cwestiwn hwn, sef trafody canabis meddyginiaethol sydd ar gael yn GIG Cymru. Gofal Iechyd yn y Gymuned yng Ngogledd Cymru Llyr Gruffydd AC: 6. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effeithiolrwydd gofal iechyd yn y gymuned yng Ngogledd Cymru? OAQ53018 Julie James AC: Nodir ein dull gweithredu ar iechyd a llesiant yn ein cymunedau yn ein model gofal sylfaenol ar gyfer Cymru. Yn y gogledd, rydym ni'n disgwyl i'r bwrdd iechyd ac awdurdodau lleol gydweithredu ag amrywiaeth eang o ddarparwyr gwasanaeth i gynllunio a darparu gofal iechyd a llesiant effeithiol a di-dor. Llyr Gruffydd AC: Fe gofiwch chi, rydw i'n siŵr, bum mlynedd yn ôl, fe gaewyd nifer o ysbytai cymunedol yn y gogledd, gan symud i drefn newydd o ofal yn y gymuned trwy gyflwyno'r gwasanaethhome enhancedcare—HECS yw'r acronym sy'n cael ei ddefnyddio—a oedd yn cael ei werthu fel cyfundrefn fwy effeithiol, a byddai rhywun yn disgwyl, felly, fod modd inni allu mesur unrhyw lwyddiant sydd wedi cael ei gyflawni yn y cyfnod yna. Ond mae'n glir erbyn hyn nad oes posib mesur llwyddiant neu fethiant yrapproachnewydd yma oherwydd nad oes yna ddim record gyson o faint o gleifion sydd yn derbyn HECSar draws bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr; nid yw'r bwrdd yn gwybod faint o gleifion sy'n derbyn HECSar hyn o bryd; nid oes dim record o gost y gwasanaeth yn cael ei chadw; ac er mai'r bwriad yw cadw claf ar HECSam ddim ond pythefnos, nid oes dim record lawn yn cael ei chadw o ba hyd y mae cleifion yn derbyn HECS. Yn wir, rydw i wedi gweld tystiolaeth fod rhai cleifion wedi derbyn HECSam dros 10 wythnos. Nawr, mae'n ymddangos i fi bod hyn yn llanast llwyr. Felly, pam bod eich Llywodraeth chi wedi caniatáui ogledd Cymru gael trefn newydd o ofal iechyd heb sicrhau bod modd i fesur llwyddiant neu effeithlonrwydd y broses honno, ac a allwch chi ddweud wrthym ni a ydych chi'n hyderus bod y gyfundrefn newydd yma'n gweithio? Julie James AC: Mae gen i ofn nad wyf i'n ymwybodol o'r manylion y mae'r Aelod wedi cyfeirio atynt yn y fan yna. Byddwn yn ddiolchgar iawn pe byddai'n ysgrifennu at y Prif Weinidog, a byddwn yn cael ymateb manwl iddo cyn gynted â phosibl. Janet Finch-Saunders AC: Mae gwasanaethau gofal cymunedol a sylfaenol yn chwarae rhan hanfodol i leihau derbyniadau i'r ysbyty. Wrth i ni nesáu at fisoedd y gaeaf, mae'n hanfodol bod y gwasanaethau hyn yn cael eu cryfhau i gynnig dewisarall gwirioneddol a diogel yn hytrach na gofal ysbyty, yn enwedig i'n pobl hŷn, ac mae'n rhaid i hyn gynnwys timau cymorth gofal cymunedol amlddisgyblaeth cwbl gydlynol. Nawr, rydym ni'n gwybod, o werthusiad blwyddyn diwethaf o gynllunio ar gyfer y gaeaf, na wnaeth mentrau fel gwasanaethau eiddilwch, sy'n hanfodol i leihau derbyniadau i'r ysbyty, ddarparu mor effeithiol ag y gallent neu y dylent fod wedi ei wneud ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Sut ydych chi, fel Llywodraeth, yn sicrhau bod cyllid pwysau'r gaeaf yn cyrraedd y gwasanaethau hyn i gynyddu capasiti a chydnerthedd mewn gwasanaethau cymunedol y gaeaf hwn ledled Cymru, a sut gwnewch chi sicrhau bod ysbyty yn y cartref yn driniaeth a gofal diogel yn y cartref, mewn gwirionedd? Julie James AC: Cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet ei ddatganiad parodrwydd ar gyfer y gaeaf yn ddiweddar, gan wneud yn siŵr ein bod ni mor gydnerth â phosibl wrth i ni nesáu at fisoedd y gaeaf. Derbyniwyd cynlluniau darpariaeth y gaeaf integredig gan bob bwrdd iechyd, ac mae swyddogion, uned gyflawni GIG Cymru a'r rhaglen genedlaethol ar gyfer gofal heb ei drefnu wedi craffu arnynt yn ofalus, a darparwyd adborth i hysbysu gwelliant pellach i'r cynlluniau cyn cyfnody gaeaf. Rydym ni mor ffyddiog, felly, ag y gallwn fod, ein bod ni'n barod ar gyfer y gaeaf sydd i ddod, ond bydd yr holl Aelodau yn ymwybodol o'r pryderon a'r straen y gall y gaeaf eu hachosi i'r GIG, ac efallai y byddai'n ddoeth i bob un ohonom ni wneud yn siŵr bod ein hetholwyr yncael y neges y dylen nhwfynd at y darparwr gofal iechyd priodol, y fferyllfa gymunedol, pan fo hynny'n briodol, y meddyg teulu, pan fo hynny'n briodol, a pheidio â mynd yn syth i adran damweiniau ac achosion brys pan fydd ganddyn nhw broblemau eraill, fel y gallwn ni sicrhau ein bod ni'n cael gaeaf mor ddidrafferth â phosibl. Tagfeydd yng Nghasnewydd a'r Cyffiniau Jayne Bryant AC: 7. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leddfu tagfeydd yng Nghasnewydd a'r cyffiniau? OAQ52994 Julie James AC: Rydym ni'n cymryd camau sylweddol i fynd i'r afael â thagfeydd a gwella dibynadwyedd amser teithiau ledled Cymru, drwy ein prosiectau seilwaith ffyrdd, ein rhaglen mannau cyfyng a gwelliannau i drafnidiaeth gyhoeddus. Jayne Bryant AC: Diolch, arweinydd y tŷ. Ni ellir gwadu bod rhwydwaith ffyrdd Casnewydd o dan straen. Mae unrhyw ddigwyddiad neu dagfeydd trwm ar yr M4 yn cael effaith sylweddol, nid yn unig ar y brif ffordd i Gymru, ond sgil-effaith ddifrifol ar ffyrdd lleol. Mae hefyd yn achosi i draffig sy'n teithio drwy'r ddinas ar yr M4, fel cerbydau nwyddau trwm ac eraill, i orlifo allan i ffyrdd Casnewydd. Yr wythnos nesaf, bydd tollau pontydd Hafren, yn cael eu diddymu o'r diwedd. Heb unrhyw gamau lliniaru, bydd hyn yn rhoi pwysau ychwanegol ar y dagfa yn nhwnelau Bryn-glas. Bydd ansawdd aer sydd eisoes yn wael oherwydd traffig llonydd ddim ond yn gwaethygu. Gyda chwmnïau bysiau yn ei chael yn anodd ymdopi yn ystod tagfeydd trwm a'r tarfu presennol ar y trenau, prin iawn yw'r dewisiadau eraill i bobl leol. Pa waith paratoi sy'n cael ei wneud i helpu i leddfu tagfeydd ar rwydwaith ffyrdd sydd eisoes mewn trafferthion ar ôl diddymu'r tollau? Julie James AC: Diolch am y cwestiwn pwysig iawn yna. Rydym ni wedi bod yn cynnal cyfres o astudiaethau ar fesurau i fynd i'r afael â mannau cyfyng ar y rhannau o'r rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd lle ceir y mwyaf o dagfeydd. Mae'r astudiaethau hynny wedi cychwyn, a chyn gynted ag y bydd y canlyniadau gennym ni, byddwn yn cymryd camau ar eu sail. Mae angen i'n rhwydwaith trafnidiaeth fod yn gynaliadwy, yn amlwg, fel y mae'r Aelod yn ei nodi'n briodol. Bwriedir i'r astudiaethau o fannau cyfyng ystyried amrywiaeth o atebion i broblemau tagfeydd ar draws yr holl ystod o bethau sydd ar gael, o drafnidiaeth gyhoeddus i fesurau teithio llesol, er enghraifft. Rydym ni'n parhau i gynorthwyo awdurdodau lleol i fynd i'r afael â materion lleol allweddol yn ymwneud â thagfeydd trwy ddarparu cymorth ariannol a gweithio ar y cyd. Gwnaed nifer o bethau eraill ar y brif ffordd, fel y mae'n galw'r M4, yn gwbl briodol. Cyffordd 28 yr M4—cwblhawyd y gwaith adeiladu yn ystod hydref 2018, sy'n cynrychioli buddsoddiad o £13.7 miliwn yn yr ardal honno, a gwnaed gwaith ailwampio gwerth £40 miliwn ar dwnelau Bryn-glas yn ddiweddar i sicrhau bod y twnelau yn cydymffurfio â safonau dylunio cyfredol. Hefyd, gwnaed gwaith cynnal a chadw hanfodol ar bont afon Wysg a thraphont Malpas. Bydd yr Aelod yn ymwybodol, wrth gwrs, o'n sefyllfa o ran coridor yr M4 o amgylch Casnewydd. Mae'r ymchwiliad cyhoeddus blwyddyn o hyd newydd orffen, ac rydym ni'n aros am gyngor gan gyfreithwyr i'r ymchwiliad cyhoeddus gael ei ddarparu i'r Weithrediaeth pan fydd hwnnw wedi ei gwblhau. Rydym ni'n gobeithio y bydd y broses honno'n parhau, ac yna, fel y mae'r Llywydd yn gwybod, rydym ni'n gobeithio cael dadl yn amser y Cyfarfod Llawn, fel yr addawyd, ar yr M4. Mark Reckless AC: Rwy'n sylwi bod y Gweinidog wedi siarad am funud a hanner cyn i chi sôn am ffordd liniaru'r M4, ac rwy'n gobeithio y byddwn ni'n cael y ddadl hon yr wythnos nesaf, fel yr awgrymwyd gennych, rwy'n credu, mewn sesiwn flaenorol. Rwy'n meddwl tybed, o ystyried bod y Prif Weinidog wedi gweithio mor galed i sicrhau nad yw'n rhagfarnu ei safbwynt fel y gall ystyried yr ymchwiliad mewn modd diduedd ac yna gwneud y penderfyniad cynllunio, onid yw'n bwysig ein bod yn caniatáu iddo wneud y penderfyniad cynllunio hwnnw, hyd yn oed os oes rhaid i Brif Weinidog newydd yn Llywodraeth Cymru, serch hynny, wedyn, benderfynu a ddylid gwario'r arian ar fwrw ymlaen â'r caniatâd hwnnw os yw'n ei roi? Julie James AC: Wel, na, nid dyna sut mae'r ochr gyfreithiol yn gweithio; penderfyniad gweithredol i'r Llywodraeth yw hwn. Felly, os nad y Llywodraeth, yna, yn amlwg, ni all ei wneud. Fodd bynnag, rydym ni'n gweithio'n galed iawn ar hyn o bryd, fel yr wyf i wedi ei ddweud droeon—rydym ni'n gweithio'n galed iawn ar hyn o bryd i wneud yn siŵr y bydd yr holl gyngor cyfreithiol a'r holl gyngor arall sydd ei angen i sicrhau y gall y penderfyniad gael ei ystyried yn briodol a'i wneud yng ngoleuni'r holl wybodaeth berthnasol a fydd ar gael. Cyn gynted ag y bydd ar gael, yna bydd y Prif Weinidog yn gallurhoi ei feddwl ar hynny. Nid oes unrhyw sicrwydd ynghylch canlyniad hynny; mae angen i'r Prif Weinidog wneud ei ddyfarniad ynghylch hynny pan fydd ganddo'r holl wybodaeth honno o'i flaen. Ar ôl i hynny gael ei wneud, yna gall symud ymlaen i gamau nesaf y gyfres o faterion cyfreithiol cymhleth iawn, iawn sy'n gysylltiedig ag ef. Steffan Lewis AC: Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i sefydliadau fel Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent a Chyfeillion y Ddaear Cymru am eu gwrthwynebiad llafar i lwybr du arfaethedig y Llywodraeth ar gyfer yr M4 o amgylch Casnewydd, na fydd, fel yr ydym ni i gyd yn gwybod, yn gwneud dim i leddfu tagfeydd o gwmpas y ddinas nac yn yr ardal ehangach. Nodaf iddi gymryd cryn dipyn o amser i arweinydd y tŷ gyfeirio at y llwybr du yn ei hateb, ond tybed a wnaiff hi achub ar y cyfle hwn nawr i gytuno â mi y byddem ni'n llawer gwell ein byd, yn ariannol ac yn amgylcheddol, drwy fuddsoddi arian a glustnodwyd ar gyfer y llwybr du ar gamau olaf y system fetro yn hytrach, a gwella cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus rhwng cymunedau'r de-ddwyrain. Julie James AC: Fel y dywedais, mae'r Llywodraeth mewn proses gyfreithiol; nid fy lle i yw amharu ar y broses gyfreithiol. Mae'r broses gyfreithiol yn broses sefydlog yr wyf i wedi ei hesbonio ar sawl achlysur; rwy'n hapus i'w hesbonio eto. Y rheswm y cymerais i ychydig o amser i gyfeirio at yr M4 oedd y ffaith fy mod i'n credu bod angen i'r Aelodau ddeall bod hon yn amrywiaeth o fesurau;mae cyfres o bethau sy'n digwydd ar draws y rhwydwaith ffyrdd yn yr ardal honno yn ogystal â ledled Cymru, ac nid datblygu obsesiwn gydag un prosiect yw'r sefyllfa yr ydym ni eisiau bod ynddi o reidrwydd. Mae'n brosiect pwysig iawn, wrth gwrs ei fod. Ceir proses gyfreithiol yr ydym ni ynddi, mae'r broses gyfreithiol yn ddiwrthdro, mae'n rhaid i ni ei dilyn i'w chasgliad, beth bynnag fydd hwnnw, ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn cymryd rhan yn y ddadl pan fydd hi'n cael ei chynnal. Mick Antoniw AC: Arweinydd y tŷ, un o'r materion, o ran mynd i'r afael â mannau cyfyng, wrth gwrs, yw mai'r cwbl yr ydych chi'n ei wneud yn aml yw rhyddhau traffig i fynd ymlaen i'r man cyfyng nesaf. Un o'r mannau cyfyng nesaf ymhellach ymlaen o'r lleoliad hwnnw, wrth gwrs, yw'r A470, a gydnabyddir erbyn hyn, a dweud y gwir, fel y rhan brysuraf o Gymru sydd â phroblemau llygredd difrifol iawn. A fyddech chi'n cytuno â mi mai'r ateb yn y pen draw i'n problemau ar y ffyrdd yw datblygu a chynnal system trafnidiaeth gyhoeddus sy'n rhoi cyfle i bobl i beidio â gorfod gyrru ar ffyrdd i gyrraedd lle maen nhw angen mynd, gan ddefnyddio system trafnidiaeth gyhoeddus ddiogel ac effeithlon a chyfforddus? Julie James AC: Byddwn, ac fel y dywedais, pwysleisiais fod astudiaethau mannau cyfyng wedi'u cynllunio i ystyried amrywiaeth o atebion i broblemau tagfeydd—nid adeiladu ffyrdd yn unig, ond popeth, o drafnidiaeth gyhoeddus i deithio llesol. Mae angen cyfres lawn o fesurau i leihau tagfeydd yn y rhan fwyaf o rannau o Gymru, nid obsesiwn ag un rhan o hynny. Ansawdd Aer Jenny Rathbone AC: 8. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i fabwysiadu terfynau ansawdd aer Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer allyriadau o ronynnau? OAQ52997 Julie James AC: Rydym yn ystyried pobdewis i wella ansawdd aer yng Nghymru. Yn rhan o'r rhaglen aer glân, mae Gweinidog yr Amgylchedd wedi sefydlu prosiect tystiolaeth, arloesedd a gwelliannau ar gyfer ansawdd aer, a fydd yn ystyried y defnydd ymarferol o ganllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer llygredd aer yng Nghymru. Jenny Rathbone AC: Arweinydd y tŷ, rwy'n siŵr y byddwch chi'n ymwybodol bod hwn yn fater pwysig iawn sy'n ymwneud â phryderon fy nghyd-Aelod dros Orllewin Casnewydd, sef bod llygredd a thagfeydd yn faterion difrifol dros ben pan ddaw i iechyd y cyhoedd. Efallai y byddwch yn ymwybodol bod adroddiad fis diwethaf, a gyhoeddwyd gan sefydliad iechyd y cyhoedd ynLloegr, ar effeithiau amlygiad hirdymor ar afiachusrwydd cardiofasgwlaidd h.y. mae'n lladd mwy ohonom ni nag y mae angen iddo. Ac er y mynegwyd llawer o bryder ynghylch y lefelau o ocsidau nitrogen yn yr amgylchedd, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n ystyried gronynnau mewn cyfuniad â nhw, oherwydd gronynnau sydd fwyaf niweidiol, gan eu bod nhw'n treiddio'r fentriglau lleiaf, ac yn enwedig yr effaith ar blant. Felly, byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallech chi ddweud wrthyf pa ystyriaeth, os o gwbl, y mae'r Llywodraeth wedi ei rhoi hyd yma i fabwysiadu terfynau Sefydliad Iechyd y Byd, sy'n amlwg yn sylweddol well na therfynau'r Undeb Ewropeaidd. Julie James AC: Gallaf, yn sicr. Yn rhan o'r rhaglen aer glân a sefydlwyd yr haf hwn, fel yr wyf i newydd ei ddweud, sefydlwyd prosiect tystiolaeth, arloesedd a gwelliannau ar gyferansawdd aer. Bydd hwnnw'n edrych ar ganllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer llygredd aer a'u holl effeithiau posibl, ac ar gyfer eu mabwysiadu o bosibl yng Nghymru. Mae'r canllawiau yn seiliedig ar gasgliadau gwyddonol am agweddau iechyd cyhoeddus llygredd aer yn unig, ac nid ydynt yn ystyried ymarferoldeb technegol nac agweddau economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol ar gyflawni'r lefelau hynny. Felly, mae gennym ni swyddogion yn asesu agweddau ymarferol o'r fath ar hyn o bryd fel y gallwn seilio targedau yn y dyfodol ar dystiolaeth, i sicrhau eu bod yn cyflawni'r newid mwyaf effeithiol, gan helpu i gyflawni ein nodau llesiant. Mae gennym ni fynediad at amrywiaeth eang o ysgogiadau eisoes i fwrw ymlaen â chamau i wella ansawdd aer, gan gynnwys cynllunio, seilwaith, deddfwriaeth, rheoliadau a mesurau cyfathrebu. Mae'r Gweinidog wedi nodi y byddem yn ystyried deddfu hefyd, os byddwn yn canfod nad yw'r gyfres honno o fesurau yn ddigonol ar gyfer gweithredu'r safonau yn ymarferol. Andrew RT Davies AC: Yn ôl ym mis Mawrth, arweinydd y tŷ,gofynnais i'r Prif Weinidog pa swyddogaeth arweinyddiaeth yr oedd Llywodraeth Cymru yn ei chymryd i leihau marwolaethau cynamserol drwy ansawdd aer gwael. Rydym ni'n gwybod bod 2,000 o bobl y flwyddyn yn marw'n gynamserol bob blwyddyn drwy ansawdd aer gwael yma yng Nghymru. Mae hynny'n 6 y cant o'r holl farwolaethau yng Nghymru, neu bump bob dydd. Mae'r rheini'n ffigurau mawr dros ben y maehanfodol i ni fynd i'r afael â nhw, a phan fyddwch chi'n siarad â sefydliadau penodol, maen nhw'n dweud bod gwaith da yn cael ei wneud yn annibynnol, ond nid mewn modd cydlynol. A fyddai'r Llywodraeth yn ddigonmeddwl agored i gynnal uwchgynhadledd o'r holl bartneriaid perthnasol i geisio bwrw ymlaen â'r agenda hon, fel y gallwn ni weld, erbyn 2021, pan fydd yCynulliad hwn yn torri ar gyfer yr etholiadau, welliant gwirioneddol i'r ffigurau hynny a gostyngiad sylweddol i'r marwolaethau cynamserol drwy ansawdd aer gwael yma yng Nghymru? Julie James AC: Byddem. Fel y dywedais, mae gennym ni'r astudiaethau sy'n cael eu cynnal ar hyn o bryd, ac rwy'n siŵr, ar ôl i ni gytuno ar rai o'r agweddau ymarferol, y byddwn ni'n ymgynghori ar ffordd ymlaen ar hynny. Ni allaf siarad ar gyfer y maes penodol hwn, ond fel rheol byddem yn ceisio ymgynghori ac ymgysylltu ag amrywiaeth mor eang o randdeiliaid â phosibl—yn enwedigy rhai â gwybodaeth arbenigol am sut i weithredu safonau ymarferol mewn aer glân, sef, wedi'r cyfan, fel mae'r Aelod yn ei nodi, yr hyn yr ydym ni i gyd ei eisiau. Llyr Gruffydd AC: Wel, mae aer budr yn lladd ein dinasyddion, ac mae'n difetha bywydau ein plant. Nawr, mae Plaid Cymru wedi amlinellu rhai o'n cynigion o ran mynd i'r afael ag allyriadau o gerbydau, monitro llygredd, ffioedd llygredd a thagfeydd, creu ardaloedd aer glân, ondgan hefyd roi'r sail gyfreithiol honno sydd ei hangen arnyn nhw. Nawr, soniasoch efallai y byddwch chi'n ei ystyried. Wel,rwyf yn eich annog, os gwelwch yn dda, fel Llywodraeth, i gefnogi cynigion Plaid Cymru ar gyfer Bil aer glân i Gymru. Julie James AC: Ie, fel y dywedais, mae gennym ni amrywiaeth o fesurau ar waith, ac mae angen i ni edrych i weld beth y gallwn ni ei wneud gydag ysgogiadau cyfredol, gan gynnwys bod gennym ni—. Er enghraifft, ymgynghorwyd yn gynharach eleni ar fynd i'r afael â chrynodiadau nitrogen deuocsid ar ymyl y ffordd. Roedd y ddogfen honno'n nodi sut y byddwn yn lleihau crynodiadau o nitrogen deuocsid o amgylch ffyrdd yng Nghymru lle mae lefelau yn uwch na'r terfyn. Bydd y cynllun hwnnw'n cael ei gyhoeddi erbyn diwedd y mis hwn. Mae gennym ni fframwaith ardal aer glân Cymru hefyd. Bydd y fframwaith terfynol yn cael ei gyhoeddi erbyn diwedd y flwyddyn. Mae gennym ni nifer o astudiaethau eraill ac ati, fel y dywedais, ar y gweill. Yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw cael y gyfres fwyaf gynhwysfawr o fesurau ar waith ac yna edrych i weld beth y gellid ei ychwanegudrwy gael Deddf aer glân. Yn sicr, nid yw hynny oddi ar y bwrdd, ond efallai na fydd yn angenrheidiol. Yr hyn yr hoffem ni ei wneud yn sicr yw bwrw ymlaen â phethau cyn gynted â phosibl. Diolch i arweinydd y tŷ, yn ateb ar ran y Prif Weinidog. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Nawr, yr eitem nesaf yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes gan arweinydd y tŷ, Julie James. Julie James AC: Diolch, Llywydd. Yr unig newid i fusnes yr wythnos hon yw lleihau'r amser sydd wedi ei neilltuo ar gyfer holi'r Cwnsler Cyffredinol yfory. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi ei amlinellu yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, y gellir eu gweld ymysg papurau'r cyfarfod syddar gael i'r Aelodau yn electronig. Andrew RT Davies AC: Arweinydd y tŷ, a gaf i edrych eto ar drafodaeth yr M4 sydd newydd gael ei chynnal yng nghwestiynau’r Prif Weinidog? Yn ystod cyfarfod y pwyllgor amgylchedd a chynaliadwyedd yr wythnos diwethaf, roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth o’n blaen ni. Amlinellodd yn glir mai penderfyniad y Prif Weinidog a’r Prif Weinidog yn unig yw’r penderfyniad cynllunio. Nid penderfyniad y mae'r Llywodraeth gyfan yn gyd-gyfrifol amdano yw hyn, sef yr hyn y gwnaethoch chi ei fynegi yn eich ymateb inni. Ond, dywedodd hefyd wrth aelodau’r pwyllgor bod cred o fewn y Llywodraeth y byddai dadl ar 4 Rhagfyr, ac y byddai’r adroddiad ar gael i Aelodau o'r sefydliad hwn yr wythnos hon. Mae'n adroddiad 580 o dudalennau, fel yr wyf yn deall. Chi yw arweinydd y tŷ, sy'n gyfrifol am fusnes y Llywodraeth. Os bydd y ddadl honno yn cael ei chynnal ddydd Mawrth nesaf, byddai’n rhaid ichi gyflwyno’r ddadl honno heddiw. A wnewch chi gadarnhau a fydd y ddadl honno yn cael ei chyflwyno heddiw, ac y bydd yr adroddiad yn cael ei ryddhau fel y gall yr Aelodau edrych drosto yn ystod y dyddiau nesaf? Neu, ai'r gwir amdani yw na fydd y ddadl hon yn gweld golau dydd yn awr o dan y Prif Weinidog presennol hwn, ac na fydd y ddadl honno yn debygol o gael ei chynnal yma cyn tymor y gwanwyn? Fel y dywedais, mae cymaint o nodiadau ac ymatebion cyferbyniol i gwestiynau y mae angen eglurder arnom. Dyma’r prosiect seilwaith mwyaf y mae Llywodraeth Cymru wedi ymgymryd ag ef, neu y bydd wedi ymgymryd ag ef o bosibl, ers 1999. Rhwng Ysgrifennydd y Cabinet, chithau, a’r Prif Weinidog ei hun, mae cymaint o wahanol sefyllfaoedd yn ymffurfio fel ein bod ni, yr Aelodau, angen eglurder gan y Llywodraeth yn ystod y camau gweithredu. Byddwn yn gofyn hefyd, yng ngoleuni’r profiadau gwael parhaus y mae pobl yn eu cael ar y rheilffyrdd, i Ysgrifennydd y Cabinet ei hun gyflwyno datganiad sy'n amlinellu yn llwyr yr hyn a ddigwyddodd yn ystod y broses o drosglwyddo rhwng Trenau Arriva a gweithredwr y fasnachfraint newydd. Ceir tystiolaeth, gan Ysgrifennydd y Cabinet ei hun a chan Drafnidiaeth Cymru, nad dyna oedd y trosglwyddiad mwyaf delfrydol y gellid ei wneud. Ond eto, roedd y dyddiad hwn yn adnabyddus i lawer o bobl; roedd yn hysbys i bawb, mewn gwirionedd. Mae hyd yn oed y datganiad a gawsom ni yr wythnos diwethaf gan Drafnidiaeth Cymru yn cyfeirio at y ffaith nad oedd y storfeydd ar gyfer darnau sbâr yr hyn y dylent fod yn sicr, a'u bod yn annigonol. Mae angen inni ddeall, gan ein bod ni i gyd yn cael negeseuon e-bost, gohebiaeth dros y ffôn, profiadau wyneb yn wyneb gyda’r cyhoedd sy'n teithio ynghylch y sefyllfa erchyll y mae llawer o bobl wedi eu gadael ynddi. Nid yw'n deg ar y cyhoedd sy’n teithio, heb sôn am Aelodau’r sefydliad hwn, na allwn ni roi'r atebion iddyn nhw y maen nhw’n eu haeddu . Rwyf yn ddiolchgar am y datganiad a ddaeth gan Drafnidiaeth Cymru yr wythnos diwethaf. Ond, pe bai hon yn stori newyddion gadarnhaol, rwyf yn siŵr y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud datganiad ynghylch y trosglwyddiad cychwynnol a’r chwe wythnos yn y cyfamser. Felly, gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth os gwelwch yn dda sy’n amlinellu'r union gyfrifoldebau y mae’r Llywodraeth wedi ymgymryd â nhw i ddatrys y broblem hon? Julie James AC: Ynghylch yr M4, fe geisiaf fod mor glir ag y gallaf. Rydym ni mewn proses gyfreithiol. Rydym ni wedi cael ymchwiliad lleol. Mae’r Llywodraeth wedi cael yr adroddiad hwnnw. Mae'n amodol ar gyngor swyddogol a chyngor cyfreithiol. Ar ôl cael y cyngor swyddogol a chyfreithiol a chwblhau'r cliriadau, caiff ei gyflwyno i'r Prif Weinidog ar gyfer ei benderfyniad gweithredol yntau. Nid penderfyniad y Cabinet ar y cyd mohono; penderfyniad gweithredol y Prif Weinidog ydyw. Unwaith y bydd hynny wedi ei wneud, i fod yn glir, rwyf wedi ei gwneud hi’n glir iawn, oherwydd maint y prosiect a'r diddordeb ledled Cymru, yn wahanol i unrhyw brosiect priffyrdd arall, y byddwn ni'n cyflwyno dadl yn amser y Llywodraeth. Mae peth posibilrwydd o hyd y gallem ni wneud hynny ddydd Llun nesaf. Byddai'n rhaid inni gael caniatád y Llywydd i wneud hynny. Trafodwyd yn y Pwyllgor Busnes y bore 'ma bod hyn yn bosibilrwydd o hyd. Fodd bynnag, fel y dywedais o'r blaen, os nad yw hynny'n bosibl—os nad yw hynny'n bosibl gan nad ydym ni wedi cyrraedd y pwynt hwnnw yn y broses—yna byddwn yn gweld beth arall y gellir ei wneud. Os cyrhaeddwn ni ddiwedd tymor y Cynulliad hwn, yna byddaf yn argymell i’r Prif Weinidog newydd, pwy bynnag y bydd ef neu hi, fod ymrwymiad y Llywodraeth hon yn cael ei anrhydeddu, bod y ddadl honno yn cael ei chyflwyno, ac ni allaf weld unrhyw reswm pam na allai hynny ddigwydd. Ond mae’n rhaid i hyn ddigwydd yn y drefn gywir. Ni allwn ni gael dadl yn amser y Cynulliad cyn gwneud y Gorchmynion, oherwydd nid yw hynny'n ystyriaeth berthnasol o’r ffordd y mae'n rhaid gwneud y penderfyniad hwnnw. Felly, bydd yn rhaid cael cyfres glir iawn o brosesau, a bydd yn rhaid i ddadl y Cynulliad ddod ar yr adeg iawn yn ystod y broses honno. Felly, mae posibilrwydd o hyd y gallem ni wneud hynny ddydd Mawrth nesaf, ond, os gallwn ni wneud hynny, byddwn yn gwneud hynny. Os na allwn ni, yna bydd yn rhaid inni weld beth arall y gellir ei wneud. Rydym ni'n ymrwymedig iawn i'r ddadl, ond mae'n rhaid i hynny fod ar yr adeg briodol yn ystod y broses. Mae'r broses yn hynod o gymhleth. Mae’r holl bethau y mae’n rhaid eu gwneud fel y gall y Prif Weinidog wneud y penderfyniad hwnnw yn gyfreithlon, gan roi sylw i'r holl ystyriaethau perthnasol, yn hynod o gymhleth. Felly, mae angen inni gael y broses yn gywir, ac mae arnom ni angen symud ymlaen at y ddadl. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny'n glir. Nid wyf yn gwybod sut i’w ddweud yn gliriach na hynny. O ran Trafnidiaeth Cymru, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi mynegi imi ei fod yn hapus iawn i sicrhau bod Trafnidiaeth Cymru yn rhoi diweddariad wythnosol i'r holl Aelodau ynghylch ble'r ydym ni arni gyda'r trefniadau pontio a’r trosglwyddiad. Felly, byddaf yn gwneud yn siŵr bod hynny'n digwydd. Dai Lloyd AC: Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd yCabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch meddygfeydd teulu, os gwelwch yn dda? Fel y byddwch yn ymwybodol, mae meddygon teulu sy'n gontractwyr annibynnolhefyd yn berchen ar euhadeiladau eu hunain yndraddodiadol, a chofiaf yn dda, yn feddyg teulu ifanc, ydisgwylir ichi gaelyr hyn sydd, yneffeithiol, ynailforgaisar feddygfadeulu ar yr un prydâ morgais ar eich cartref teuluol. Nawr, yn ddiweddar, rwyf wedi cael sylwadau i'r perwyl, pan rydych chi'n gwibio20 i 30 mlynedd yn eich blaen, pan fomeddygon teulu yn ymddeol, neu'n ymddeol yn gynnar, neu'n symud yn eu blaenau, gan adael y meddygon teulu sy'n weddill gydag adeilad sy'nanoddei werthu yn aml,gydag ecwiti negyddol a chosbauadbrynu cynnar, bod modd cael colledion ariannol enfawr yn ystody cyfnod anodd hwn. Ac maepobl yn meddwl tybed pam nad yw meddygon teulu yn dymunobod yn gontractwyr annibynnol sy'n berchen ar eu meddygfeydd eu hunain mwyach. Nawr, mae gan yGIG yn Lloegr system iawndal ar gyfer meddygon teulu mewn amgylchiadau tebyg. Meddygon teulu sydd wedi rhoi oes o wasanaeth i'w cymunedau sy'n wynebu colledion ariannol enfawr os mai nhw yw'rrhaiolafmewnmeddygfa deulu ar ôl i'rpartneriaid eraill adael. Nid ydym ni'n disgwyl i feddygon ymgynghorol mewn ysbytaifod âchyfran ariannol orfodol yn eich ysbyty cyffredinol dosbarth arferol neu ganolfan gofal arbenigol trydyddol, a byddwn yn gwerthfawrogi datganiad gan Ysgrifennydd yCabinet i egluro pethau. Diolch yn fawr iawn. Julie James AC: Ie, mae'r Aelod yn tynnu sylw at broblem benodol gyda'r system bresennol lle mae meddygon teulu yn gontractwyr annibynnol. Rydym ni'n gweld symudiad tuag at lai obractisau meddygon teulu sy'n fwyo ran maint gyda chymysgedd sgiliau ehangach o weithwyr iechyd proffesiynol sy'n darparu amrywiaeth ehangach o ofal iechyd ynlleol, ac mae hynny'n rhannol oherwydd yr hyn y mae'r Aelod yn ei ddweudynghylch ymrwymiadau ariannol ac ati. Rydym ni yn meddiannu practisaumewn rhai amgylchiadau os caiff y practisau hynny eu rheoli, ynenwediggan fody dueddo ddefnyddio staff locwm sy'n costio mwy ac ati yn datblygu. Felly, mae'n gywiri dynnu sylw at hynny. Rydym ni'n gweithio'n agos gyda Chymdeithas Feddygol Prydain a chydweithwyr yn GIG Cymru ar raglen diwygio contractau i fynd i'r afael â sut y mae contractau yn gweithredu, sy'n eigwneudhi'n fwy cynaliadwyi feddygon teulu o ran cyflawni'r camau gweithredu. Mae nifer y practisau meddygon teulu yngostwng yn raddol, ac mae hynny'n duedd.Yn rhan o'r trafodaethau hynny, rydym ni'n edrych i weld beth y gellir ei wneud i liniaru'r amgylchiadau hynnyy mae'r Aelod yn tynnu sylw atynt. Julie Morgan AC: Roeddwn i'n bwriaducodi'r mater o asid ffolig. Mae Llywodraeth y DU, fel y byddarweinydd y tŷ yn ymwybodol, wedicyhoeddi ei chynlluniau i atgyfnerthu blawd ag asid ffolig yn ddiweddari leihau spina bifida anamau geniataliadwy eraill sy'ngysylltiedigâ lefelau isel oasid ffolig. Credaf ein bod ni'n gwybod boddaublentyn yr wythnos yn y DU, ar hyn o bryd, yn cael eu geni gyda namau geni ataliadwy. Mae'n newyddion da iawnbodLlywodraeth y DU wedi cyhoeddi hyn, ac rwy'n gwybod fod hyn yn rhywbeth y mae Gweinidogion Cymru a'r Alban wedi lobïo drosto, ac rwy'n tybio y bydd hyn yn berthnasol i holl gynhyrchwyr blawd y DU. Ond roeddwn i'n meddwl tybed a fyddai'n bosibl cael datganiad yng Nghymrui egluro y bydd hyn yn berthnasol i Gymru a sut y bydd yn cysylltu â'n dyletswyddaui reoleiddiobwyd a'n cyfrifoldebau dros safonau bwyd, oherwydd rwy'n credu, yn amlwg, bod hyn yn rhywbeth y mae mamau yn benodolangen ei wybod. Julie James AC: Ie, mae'r Aelod yn tynnu sylw at faes hynod o bwysig. Rydym ni'n croesawu'n fawr iawn y cyhoeddiad cadarnhaol gan Lywodraeth y DU i atgyfnerthu blawd ag asid ffolig. Rydym ni wedi bod yn galw ers amser hir i fwrw ymlaen â hyn, ac mae Ysgrifennodd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ysgrifennu llythyr ar y cyd â Llywodraeth yr Alban ddoe igadarnhau ein cefnogaeth a hyrwyddogweithredu cyflym yn hyn o beth. Nodwnmai'ramseriad disgwyliedigar gyfer yr ymgynghoriad yw dechrau2019, abod swyddogion wedi dechrau deialog cadarnhaol i hyrwyddo'r ymgynghoriad drwy'r Deyrnas Unedig.Rydym ni'n gwybod hefydnad yw'r Pwyllgor ar Wenwyndra Cemegion mewn Bwyd, Nwyddau Defnyddwyr a'r Amgylcheddwedi gwneud adroddiad swyddogolynghylch y lefel uchaf o asid ffolig eto, ond rydym ni o'r farnna ddylid oedi'r broses ymgynghori gyda bwriad o gytuno ar ddull gweithredu unffurf i gyflwyno deddfwriaeth ledled y DU cyn gynted â phosib. Mohammad Asghar (Oscar) AC: Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon ar ganlyniadau'r arolwg diweddaraf ynglŷn â chwaraeon mewn ysgolion? Yn ôl yr arolwg, mae'r bwlch rhwng plant o'r ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon wedi ehangu yn ystod y tair blynedd diwethaf. Mae nifer y plant sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon y tu allan i'r ysgol dair gwaith yr wythnos neu fwy wedi aros yn ddigyfnewid ers 2015, ac mae'r gwahaniaethau rhwng y rhywiau rhwng bechgyn a merched yn parhau i fod yr un fath. Mae'r mwynhad o chwaraeon, yn yr ysgol a'r tu allan i'r ysgol, wedi gostwng, ac fel y mae prif weithredwr Chwaraeon Cymru wedi dweud, heb hynny, nid oes ganddyn nhw unrhyw obaith o gael perthynas gadarnhaol gydol oes â chwaraeon. Os gwelwch yn dda, gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog ar yr hyn y gellir ei wneud i annog mwy o ddisgyblion i gymryd rhan mewn chwaraeon yng Nghymru, os gwelwch yn dda? Julie James AC: Mae'r Aelod yn amlygu rhan bwysig iawn o'r cwricwlwm, a bydd yr Aelod yn ymwybodol, yn rhan o ddiwygiadau Donaldsoni'r cwricwlwm,ein bodni'n cyflwyno cwricwlwm newydd a rhan fawr iawn o hynny yw bod yn ddinesydd iach a gweithgar yng Nghymru. Rydym ni'n gobeithio yn fawr iawn y bydd hynny'n golygu y bydd chwaraeon yn rhan llawer mwy creiddiol o'r cwricwlwm. Bydd yr Aelod yn ymwybodol y buom ni'n arbrofi gyda'r rhaglen milltir y diwrnod ar gyfer ysgolion cynradd, ac ati. Felly mae'n amlygu rhan bwysig iawn o gyflwyno'r cwricwlwm newydd. Mae'n rhan bwysig iawn o'n cynllunio ar gyfer y dyfodol ar gyfer ysgolion gyda'r nod o sicrhau bod ein plant, fel maen nhw'n dod allan o'n hysgolion, yn cyfrannu at gymdeithas Cymru mewn modd iach a gweithgar, fel yr ydym ni'n dymuno iddyn nhw ei wneud. Vikki Howells AC: Arweinydd y tŷ, fe hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad heddiw. Rwy'n parhau iymdrin â swmp mawr o waith achos sy'n ymwneud â phroblemau a achosir gan ystadau tai sydd heb eu mabwysiadu. Yn wir, byddwn i'n dweud maihyn yw'relfen fwyaf yn fy mag post, ac rwy'n gwybod fod Aelodau eraill yCynulliadyn gweld materion tebyg. Beth amser yn ôl, yn ystod dadl ar ffyrdd nad oedden nhw wedieu mabwysiadu, cyhoeddodd Ysgrifennyddyr economi a thrafnidiaeth y byddai'n sefydlu tasglu i edrych ar y mater hwn.A gawn ni ddatganiad i ddiweddaru'r Aelodau ar y gwaith hwn? Yn ail, cyfarfûm yn ddiweddar â chynrychiolydd yr ymgyrchWAVE 70/30. Mae'r ymgyrch honno'n canolbwyntio arddileucamdriniaeth plant drwy ataliaeth sylfaenol. Mae eu hateb, sef cynnig cymorth i rieni a darpar rieni cyn y bydd niwed yn digwydd yncyd-fynd yn dda â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, felly gawn niddiweddariad gan yGweinidogion ar y gwaith i hyrwyddomagu plant yngadarnhaol? Julie James AC: Ie, yn wir. Gan ymdrin â nhw tuag yn ôl, mae swyddogion wedi cwrdd â George Hosking, sylfaenydd a phrif swyddog gweithredol WAVE Trust, ar sawl achlysur i drafod y gwaith, gan gynnwys yr ymgyrch 70/30 y mae'r Aelod yn ei amlygu, a gwaith ynglŷn â phrofiadau plentyndod andwyol. Mae'r cyfarfodydd wedi rhoi cyfleoedd i swyddogion rannu gwybodaeth gyda WAVE Trust ynghylch polisïau a rhaglenni allweddol Llywodraeth Cymru o ran rhoi cymorth i deuluoedd. Rydym ni'n rhagweld y bydd gennym ni ddiddordeb cyffredin gyda WAVE Trust ac y bydd trafodaethau yn parhau. Mae dull yr ymgyrch yn gwbl gydnaws â nodau ac amcanion ein rhaglenni Dechrau'n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf, yn ogystalag ymgyrchmagu plant yngadarnhaol Llywodraeth Cymru,'Magu plant. Rhowch amser iddo'. Rydym ni'n gefnogol iawn i'r ymgyrch ac yn credu bod gan y gwasanaethau a ddarperirygallu i ategu'r gwaith a wnaed eisoes gan y Llywodraeth, ac rydym ni'n hapus i weithio ochr yn ochr â'r prosiect. O ran ffyrddnad ydyn nhw wedieu mabwysiadu, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi bod yn edrych ar rai o'r materion ers peth amser, ar y cyd â'r Gweinidogdros dai, y Gweinidog dros gynllunio a nifer o bobl eraill yn y Llywodraeth. Byddaf yn gwirio gyda nhw ble'r ydym ni arni gyda'r gwaith hwnnw a sut mae pethau'n bwrw ymlaen a byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod yn unol â hynny. Mark Isherwood AC: A gaf i ofyn am un datganiad ynglŷn â gwasanaethau rheilffyrdd yn y gogledd? Euthum i gyfarfod cyffredinol blynyddol Cymdeithas Defnyddwyr Rheilffordd Wrecsam-Bidston ddydd Sadwrn, lle cyfeiriodd y Cadeirydd ni at ddiweddariadau teithio byw Trafnidiaeth Cymru ddydd Sadwrn, a ddangosodd, ac eithrio mân achosion o oedi rhwng Caerdydd a'r Amwythig a rhwng Caerdydd ac Abertawe, fod holl wasanaethau eraill y de yn wasanaethau da, tra bod oedi difrifol rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog a rhwng Caer a Chryw, ac roedd amserlen Wrecsam-Bidston wedi ei newid—h.y. wedi ei dileu. Ddoe, ysgrifennodd yr aelod gweithredoldros drafnidiaeth yn Wrecsamat Ysgrifennydd yCabinet. Byddwch yn ymwybodol,yn dilyn y penderfyniad gan Drafnidiaeth Cymrunad oedd gwasanaethau trênyn gweithredu rhwng Wrecsam a Bidston y penwythnos diwethaf, oherwydd ychwanegu at wasanaethau rheilffyrdd yn y de oherwydd digwyddiad chwaraeon, nidymgynghorwydag unrhywranddeiliaid yn y fan yma ymlaen llaw ac ni chawsant eu hysbysu'n uniongyrchol o hynny, nac wedyn y penderfyniad i ddileu a chwtogi ar yr amserlen a oedd eisoes wedi ei chwtogi dros y penwythnos heb unrhyw drafodaeth gyda'r rhanddeiliaid. Rydym ni'n gwybod fod cadeirydd gweithgor trafnidiaeth Neston, arben arall y llinell, wedi e-bostioddydd Gwener—eu sefyllfa yn Nestonam dair blynedd oedd y dylai'r llinellgyfan gaelei gweithredu gan Merseytravel,gan y byddai'r darn rhwngBidston a Shotton, o leiaf, meddent, yn gallu cael y gwasanaethau o ansawdd uchel y maen nhw'n eu darparu. Ac, yn olaf, ddydd Gwener, derbyniodd fy swyddfa alwad ffôn gan rywun o'r tu mewn sy'n gysylltiedig ârheilffyrdd, chwythwr chwiban, a oedd yn dymuno aros yn ddienw, a ddywedoddwrthyf fody rhan fwyaf o'r trenau wedi eudileu gan nad oeddrhai sbâr ar gael pan gymerodd Lywodraeth Cymru yr awenau, a bod yr offer a'r darnau sbâr wedi eu cymryd gan Arriva. Felly, mae arnom ni angengwybod pam nawnaeth y gweithredwr sylwi ary darnausbâr colledig hyn a'u darparu, a pham na roddwyd mynediad at durniau olwynion yn ei lle. Eto, clywsom ddydd Sadwrn, yn rhy hwyr,nad oeddmynediadi Cryw, Bryste na Taunton. Ond gwyddomhefyd mai'resgusdros yr holl drenaunad ydynt ar y llinellau ywprinder turniau olwynion. A oes ateb cynaliadwy ar waith, neu ai problem untro yw hyn, ac a fydd hyn yn datrys y broblem? Nid wyfeisiauymateb byr. Rwy'n gofyn am ddatganiad gweinidogol i'r Cynulliad hwn fel y gallwn ni fynd at wraidd yr amrywgwestiynau hynsy'n cael eu codi gan randdeiliaid pryderus iawn. Julie James AC: Fel y dywedais, y sefyllfa llenad yw'rstoc ar y cledrau—fel y dywedais mewn ateb i gwestiynau'r Prif Weinidog, mae gennym ni 10 y cant o'r stoc honno ar waith eto. Ac mewn ymateb i Andrew R.T. Davies, fe wnaethom ni ddweud y byddwn yngwneud trefniadaui Drafnidiaeth Cymru roi diweddariad wythnosol i'r Aelodau ar y sefyllfa ledled Cymru, a byddaf yn gwneud yn siŵrbod yrAelod yn cael ei gynnwys yn hynny, yn amlwg. Mick Antoniw AC: Arweinydd y tŷ, rwy'n gofyn am ddatganiad ar ddau fater. Y cyntaf yw: byddwch yn ymwybodol o adroddiad Undeb y Cerddorion, sy'n codi'r mater oddiffyg mynediad at gerddoriaeth,nawr, sy'n effeithio arrannau cyfan ogymunedau, ac unigolion, yn enwedigpobl o gefndiroedd mwy difreintiedig. Byddaidatganiadsy'n dadansoddi'radroddiad hwnnw gannodi a yw'rcasgliadau hynny hefyd yn berthnasol i Gymrumewn gwirioneddyn ddefnyddiol iawn. Ac yn ail, hoffwn ofyn am ddatganiad ar y trafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch darparu gwybodaeth i Aelodau Seneddol ac Aelodau'r Cynulliad o wahanol Seneddau. Dyma'r rheswm: mae pob un ohonom ni yn gynrychiolwyr seneddol; rydym yn codi materion ar ran ein hetholwyr. Mae gennyf faterion yr wyf wedi gorfod eu codi gyda'r Swyddfa Gartref. Gwrthododd y Swyddfa Gartref ymateb i Aelodau o Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Pe baem yn arddel yr egwyddor dant am ddant gan gyfeirio at gyfrifoldebau datganoledig rhwng y Seneddau priodol, yna byddai busnes yn chwalu, byddai etholwyr yn cael bargen wael o ran cynrychiolaeth. Ac mae'n ymddangos i mi fod hwn yn fater pwysig, bod y Swyddfa Gartref wedi arddel y safbwynt o wrthod ymgysylltu ag Aelodau Cynulliad Cymru yn llwyr. Pe baem yn gwneud hynny mewn meysydd eraill, byddai gennym ni ganlyniadau sylweddol iawn. Yn amlwg, nid ydym ni'n dymuno hynny. Mae'n ymddangos i mi fod hyn yn fater y mae arno angen ei ddatrys rhwng Llywodraethau. Julie James AC: Ie, a dweud y gwir, mae hyn ynrhywbeth yr wyf eisoes wedi ei godi gyda'r Llywydd. Lefel Comisiwn i Gomisiwn ydyw, rwy'n credu. Ac rydym ni wedi caelpeth trafodaeth ynghylch trefniadau dwyochrog. Bydd Aelodau wedi gweldyngnghyfathrebudiweddar Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi,ynghylch cyfraddau treth yngNghymru, a'r ohebiaeth a anfonwyd at bob un oAelodau'r Cynulliad—ynghylch CThEM yn gwneud trefniadau iymdrin ag Aelodau'r Cynulliadwrth godi materionsy'nymwneud â'rdreth Gymreig. Rydym ni wedi cael sgwrs debyg am y Swyddfa Gartref athrefniadau dwyochrog eraillynghylch mynediad i adeiladau a chyfleusterau ac ati. Ac rwyf yn credu bod hwn ynfater y bydd y Llywydd yn dymuno rhoi sylw iddoyn y dyfodol; rydym ni wedi caelpeth trafodaeth am y peth. O ran y trefniadau cerddoriaeth, mae'r aelod yn amlygu'r rhan difrifol iawn o ddiwylliant a chymdeithas Cymru. Rwy'n gwybod ei fod ef eihun yn chwaraewrukelele a banjobrwd—roeddwn yn meddwl y byddwn ynsôn am hynny yn ei gwmni. Rydym yn cydnabod yn llwyry pwysau presennol sy'n wynebu gwasanaethau cerddoriaeth a'r angen i wneud rhywbeth cyn gyntedâ phosib. Dyna pam fod Ysgrifennydd y Cabinetwedi cyflwyno cyllid ychwanegol o £3 miliwn dros y ddwy flynedd nesafi ddarparucerddoriaeth ledled Cymru. Mae cynigion yn cael eu hystyried ar hyn o bryd ynglŷn â sut i wario'r arian, a disgwylir cyhoeddiad ynglŷn â hynny yn fuan iawn. Jenny Rathbone AC: Tybed a allem ni gael datganiad gan y Llywodraeth ynglŷn ag ymdrin â'r diwydiant hapchwarae yn ei gyfanrwydd. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Comisiwn Hapchwarae ei adroddiad blynyddol ar y mater o bobl ifanc a hapchwarae, ac, yn bryderus, dyma'r gweithgaredd mwyaf niweidiol bellachy maepobl ifanc hyd at 16 oed yn ei wneud. Felly, mae hyn bellach ynfwy o broblem nag yfed alcohol ymysg poblo dan 16 mlwydd oed. Rhai o'r pryderon a fynegwyd yn y grŵp trawsbleidiol ddydd Mawrth diwethaf oedd nad yw 90 y cant o'r tafarndai yn cymryd camau i atal pobl ifanc sy'n defnyddio eu peiriannau ffrwythau. Mae'n cymryd hyd at hanner awr cyn iddyn nhw wneud unrhyw beth, ac yn y cyfamser, wrth gwrs, mae'r holl arianwedi diflannu. Felly, rwy'ngwerthfawrogi bodyprif swyddog meddygol yn cymryd y mater hwnyn ddifrifol iawn, ond mae'n ymddangos imi hefydmaimater rheoleiddioli awdurdodau lleol ywsicrhau bod tafarndai,osyw'r peiriannau ffrwythau ofnadwyhyn ganddyn nhw,yn goruchwylio pwy sy'n eu defnyddio. Hefyd, credaf fodmater cyffredinol ynglŷn â'r ffordd y maecwmnïauhapchwarae yn treiddio—drwy'r cyfryngau cymdeithasol, drwy weithgareddau chwaraeon—i ymenydd pobl ifanc, bod hapchwarae yn rhywbeth cŵl i'w wneud. Ac rydym ni wedi gweldmewn gwaith ymchwil a gynhyrchwyd yn Awstralia bod hyn ynffordd eithaf dychrynllyd y maeymenyddiau plant yn cael eu dylanwadu arnynt. Felly, tybed a gawn ni ddatganiad iweld bod y Llywodraeth yn cymryd hyn o ddifrif fel y dylem ni fod wedi ei wneud gydag ysmygu tua 30 mlynedd yn ôl. Julie James AC: Mae'r Aelod yn tynnu sylw at fater sydd o gryn bryder, ym mhob rhan o'r Siambr, i bawb. Yn gynharach eleni, fe ysgrifennais i ar y cyd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at yr Awdurdod Safonau Hysbysebu am y llwyth o hysbysebion hapchwarae ar y teledu, a thrwy'r cyfryngau cymdeithasol ac ar-lein—ar gyfer y rhai ohonom ni sy'n ymhél â gemau, mae'n drwch drwy'r diwydiant—yn enwedig yn y ffordd y maen nhw'n ceisio dylanwadu ar bobl hawdd manteisio arnyn nhw, ac yn enwedig plant a phobl ifanc yn yr hysbysebion hynny. Rhoddwyd eu hymateb yn Llyfrgell yr Aelodau, ac rwyf wedi cyfarfod ers hynny â'r Awdurdod Safonau Hysbysebu i drafod y mater o ddyfeisiau symudol sy'n cael eu rhannu, a sut maen nhw'n gwybod pwy sy'n cael eu targedu ganddyn nhw. Maen nhw'n hollol o ddifri ynghylch hynny, rwy'n falch o ddweud. Fel Llywodraeth, rydym ni wedi bod yn gweithio gydag adrannau gwahanol i weld beth y gallwn ni ei wneud i leihau a mynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â hapchwarae. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cynllunio i wneud datganiad maes o law, sy'n amlinellu'r hyn a wnaed hyd yma, a beth arall y gallwn ni ei wneud. Rydym ni'n hollol o ddifri ynglŷn â hyn. Mae'r Aelod yn llygad ei le i dynnu sylw at yr anawsterau, ac mae'r gwaith sy'n cael ei wneud yn Senedd y DU ar derfynellau betioods sefydlog gan gyd-Aelodau Llafur wedi mynd peth o'r ffordd i fynd i'r afael â hyn hefyd. Diolch i arweinydd y tŷ. 3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Y diweddaraf am Gynllun Cyflawni Ein Cymoedd, Ein Dyfodol Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ar y wybodaeth ddiweddaraf am gynllun cyflawni Ein Cymoedd, Ein Dyfodol. Rydw i'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad—Alun Davies. Alun Davies AC: Diolch yn fawr iawn, Llywydd, ac rwy'n ddiolchgar i chi am roi'r cyfle hwn i hysbysu'r Aelodau am yr addasiadau diweddaraf yr ydym ni wedi'u gwneud i'n huchelgeisiau a'n cynlluniau ar gyfer Cymoedd y De. Nodir hyn yn y cynllun cyflawni 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol'. Dim ond ychydig fisoedd yn ôl, ym mis Gorffennaf, cefais y pleser o roi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau am y 12 mis cyntaf o gynnydd ers inni gyhoeddi 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol'. Ers hynny, mae'r Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De wedi bod yn adolygu ei waith a'r mwy na 60 o gamau gweithredu a nodwyd gennym ni yn y cynllun cyflawni, i sicrhau eu bod yn dal yn addas at y diben, ac y byddant yn parhau i gyfrannu at ein tair blaenoriaeth gynhwysfawr. Bydd Aelodau yn cofio bod y tair blaenoriaeth sydd wrth wraidd gwaith y tasglu yn seiliedig ar yr adborth a gawsom ni gan bobl sy'n byw ac yn gweithio yn y Cymoedd. Fe wnaethon nhw ddweud wrthym ni eu bod eisiau swyddi da a'r sgiliau i'w gwneud nhw, gwell gwasanaethau cyhoeddus a gwelliannau, a phwyslais ar eu cymuned leol. Mae diweddariad eleni ynglŷn â'r cynllun cyflawni wedi canolbwyntio ar y meysydd hynny, sy'n ychwanegu gwerth gwirioneddol i gymunedau yn y Cymoedd. Rydym ni wedi nodi camau gweithredu a rhaglenni newydd a fydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol dros y 12 mis nesaf, megis canolbwyntio ar fanteisio i'r eithaf ar y buddsoddiad ar goridor yr A465 ar gyfer cymunedau lleol sy'n ffinio â'r datblygiad pwysig hwn. Rydym ni'n gwybod fod gan y cysylltiadau trafnidiaeth gwell ar gyfer Blaenau'r Cymoedd y potensial i esgor ar ddatblygiadau tai newydd a thwristiaeth, cyfleoedd gwaith newydd a datblygu economaidd ar gyfer y rhanbarth. Mae angen mesur a deall y buddsoddi yn y gwaith o ddeuoli'r ffordd hon yng nghyd-destun y cynnydd mewn gweithgarwch economaidd a chreu cyfleoedd newydd, a fydd yn deillio o'r gwaith deuoli ar yr A465. Mae'r tasglu wedi bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid a phartneriaid i ganfod ac adeiladu ar y cyfleoedd hyn ar gyfer buddsoddi sy'n gysylltiedig â'r prosiect deuoli. Dros y 12 mis nesaf, byddwn yn parhau â'r gwaith hwn i ddatblygu meysydd blaenoriaeth ar gyfer Blaenau'r Cymoedd. Dirprwy Lywydd, yn ddiweddar, cyhoeddais gronfa gyfalaf gwerth £25 miliwn i gefnogi saith canolbwynt strategol dros y ddwy flynedd nesaf. Mae'r awdurdodau lleol yn yr ardaloedd canolbwynt hyn wedi arwain y gwaith o ddatblygu'r glasbrintiau ar gyfer gwelliannau hirdymor ym mhob canolbwynt strategol. Gan weithio gydag awdurdodau'r Cymoedd a bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd byddwn yn cadarnhau manylion pellach am y cynlluniau ar gyfer y saith canolbwynt yn y flwyddyn newydd. Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair. Alun Davies AC: Rwy'n falch o ddweud ein bod ni wedi sicrhau bod arian datblygu ar gael ar gyfer rhai o'r awdurdodau lleol yn yr ardaloedd canolbwynt strategol. Bydd hyn yn comisiynu dichonoldeb a dyluniad canolfannau trafnidiaeth integredig newydd, gan ddisodli, lle bo angen, cyfnewidfeydd bws a rheilffyrdd presennol a gwella seilwaith a chysylltedd, a fydd yn cynnwys y safleoedd datblygu allweddol o ran y metro. Bydd y cynlluniau hefyd yn ystyried yr uchelgeisiau adfywio ehangach ar gyfer yr ardaloedd hyn. Mae cymorth busnes yn parhau i fod yn faes allweddol i ni. Rydym ni eisiau annog hwyluso entrepreneuriaeth a menter ymhlith unigolion, busnesau a chymunedau yn y Cymoedd. Rwyf wedi darparu cyllid ar gyfer ymgyrch benodol i gefnogi busnesau sy'n adnabod ac yn cyfuno llwyddiannau yng nghymunedau'r Cymoedd. Rwyf hefyd wedi dyrannu cyllid ar gyfer prosiect treialu i gefnogi rhwydwaith cymheiriaid ar gyfer sylfaenwyr neu arweinwyr busnesau yn y Cymoedd sydd â'r potensial i dyfu. Mae manteisio ar dechnoleg ddigidol yn chwarae rhan bwysig yn y cynllun diwygiedig hwn. Rydym ni wedi cynnwys tri chynllun treialu ar gyfer y Cymoedd, y bydd ffrwd waith digidol y tasglu yn eu goruchwylio. Bydd y tasglu yn gweithio gyda Thrafnidiaeth Cymru i sicrhau bod ei raglen trafnidiaeth ymatebol integredig newydd yn gwneud yn siŵr fod pobl o bob rhan o'r Cymoedd yn cyrraedd ac yn gadael eu hapwyntiadau iechyd yn fwy effeithiol, a byddwn yn datblygu ap i gefnogi hyn. Byddwn hefyd yn treialu'rrhaglen Wi-Fi i Fi–ffordd gyffrous o ddefnyddio band eang y sector cyhoeddus i greu llecynnau Wi-Fi cymunedol i'w defnyddio gan bawb yn y fro. Unwaith eto, caiff ap ei greu, fydd yn dangos ble mae'r llecynnau hyn yn y Cymoedd. Rydym ni hefyd yn buddsoddi yn yr offeryn mapio Cymru gyfan 'Lle'. Byddwn yn datblygu ei swyddogaethau a'i gynnwys fel ei bod hi'n hawdd cyrchu llawer iawn o ddata defnyddiol fel modd o roi canllaw ac anogaethi fuddsoddi yn y Cymoedd. Dirprwy Lywydd, y mis diwethaf rhoddais yr wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ynglŷn â chreu parc rhanbarthol yn y Cymoedd a'n huchelgais i ddefnyddio'r parc i gryfhau delwedd genedlaethol a rhyngwladol y rhanbarth. Y mis diwethaf cyhoeddais brosbectws, yn gwahodd eraill i helpu i lunio'r meddylfryd y bydd y parc rhanbarthol hwn yn seiliedig arno. Bu croeso brwd i'r prosbectws yn y fan yma a ledled y Cymoedd. Hefyd cafwyd cydsyniad trawiadol bod angen inni gydweithio gan roi pwyslais ar y Cymoedd yn eu cyfanrwydd er mwyn llwyddo. Rydym ni wedi diweddaru'r adran 'Fy nghymuned' yn y cynllun cyflawni er mwyn gyflawni cam cyntaf parc rhanbarthol y Cymoedd, gan ganolbwyntio ar y tair thema tirwedd, sef; diwylliant a hunaniaeth; hamdden a lles; ac yna cymunedau a menter. Wrth wraidd ein cynlluniau ar gyfer y parc rhanbarthol mae'r lleoliadau porth ledled y Cymoedd, a fydd yn helpu i adrodd hanes y Cymoedd hyn. Bydd y safleoedd porth hyn yn annog pobl i fod yn fwy egnïol ac i archwilio tirweddau hardd y Cymoedd. Rwyf wedi dweud fy mod yn bwriadu cyhoeddi lleoliad cyntaf y pyrth hyn erbyn diwedd y flwyddyn a chyflawni cyfnod 1 erbyn gwanwyn 2019. Dirprwy Lywydd, gan weithio'n agos gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill yn y Cymoedd, rwy'n falch o allu cyhoeddi heddiw y bydd Parc Gwledig Cwm Dâr, Castell Caerffili, coedwig Cwmcarn, Canolfan Ymwelwyr Treftadaeth y Byd Blaenafon—[Torri ar draws.]—Ni allaf glywed hynna—Parc Cyfarthfa a Pharc Gwledig Bryngarw ymhlith y safleoedd porth hynny. Byddaf yn cyhoeddi safleoedd pellach yn yr wythnosau nesaf. Caiff y £7 miliwn o arian cyfalaf ar gyfer datblygu parc rhanbarthol y Cymoedd, y cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2019-20, ei fuddsoddi yn y pyrth hyn a'r llwybrau eiconig sy'n cysylltu'r Cymoedd. Caiff y cynlluniau manwl ar gyfer defnyddio'r holl ddyraniad hwnnw eu cyhoeddi maes o law. Un o nodweddion diffiniol tasglu'r Cymoedd yw ei ymgysylltiad parhaus gyda phobl sy'n byw ac yn gweithio yn y Cymoedd. Mae hi wedi bod yn bwysig iawn i bob un ohonom ni i siarad a gwrando ar bobl a chymunedau lleol. Dyna sut y cafodd y cynllun hwn ei ddatblygu a'i lunio. Bydd y cyswllt hwnnw yn parhau i fod wrth wraidd ein dull o weithredu. Bydd y tasglu hefyd yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru yn ei chyfanrwydd a gyda'r ddwy fargen ddinesig. Rydym ni eisiau sbarduno nid yn unig newid yn y Cymoedd, ond creu Llywodraeth mwy cydgysylltiedig sy'n cydweithio i ddarparu ar gyfer y bobl yr ydym ni'n eu cynrychioli. Mae'r cynllun cyflenwi hwn yn croesi ffiniau holl adrannau Llywodraeth Cymru a chyfrifoldebau pob un o'm cydweithwyr yn y Cabinet. Fe hoffwn i ddiolch i bob un o fy nghydweithwyr a'u hadrannau am eu hymrwymiad i'r agenda yma. Dirprwy Lywydd, rydym ni eisiau i'r cynllun hwn ddiwallu anghenion ac uchelgeisiau pobl sy'n byw ac yn gweithio yn y Cymoedd a'u disgwyliadau. Mae'r tasglu eisoes wedi dechrau gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a pharhaol i Gymoedd y de, a bydd yn parhau i wneud hynny. Mark Isherwood AC: Rydych chi'n dweud mai un o nodweddion diffiniol gwaith y tasglu gweinidogol ar gyfer Cymoedd y de fu ei ymgysylltiad parhaus gyda phobl sy'n byw ac yn gweithio yn y Cymoedd, gan bwysleisio pwysigrwydd siarad gyda a gwrando ar bobl a chymunedau lleol. Wrth gwrs, mae cyd-gynhyrchu, sydd mewn deddfwriaeth yng Nghymru, yn mynd ymhellach, i raddau helaeth iawn o ran y ddyletswydd gynaliadwyedd a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac mae hynny'n cynnwys cyd-ddylunio a chyd-ddarparu gwasanaethau, rhannu grym a gweithio mewn partneriaeth gyfartal. Felly, a yw hyn yn mynd y tu hwnt i siarad a gwrando, ac, os felly, sut ydych chi'n sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu cynllunio a'u darparu yn seiliedig ar gydraddoldeb grym gyda phobl leol, cymunedau lleol a sefydliadau lleol? Wrth gwrs, mae gorllewin Cymru a'r Cymoedd, sydd, yn anffodus, wedi parhau i gynhyrchu'r gwerth isaf o ran nwyddau a gwasanaethau y pen o holl ranbarthau neu ardaloedd y DU, yn cynnwys pedair sir yn y gogledd, ac mae'r rhaglen hon yn mynd i'r afael â rhai yng Nghymoedd y de yn unig. Pam hynny? Neu a yw hynny oherwydd eich bod yn credu, o bosib yn gywir, bod y mentrau yn y gogledd y mae'r fargen dwf, y weledigaeth dwf, y cynnig twf yn seiliedig arnynt, yn cyflawni hynny? Ac, os ydych chi yn credu hynny, ac mai dyna'r rheswm pam mae pedair sir y gogledd wedi'u heithrio, pa ystyriaeth a roesoch chi i'r ffordd y mae chwe sir y gogledd, y sector busnes a'r byd academaidd wedi dod at ei gilydd a, gydag un llais, wedi cyflwyno eu cynigion ar gyfer y rhanbarth hwnnw a chau'r bwlch ffyniant yn y fan yna? Mae adroddiad cynnydd 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' 2018 Llywodraeth Cymru, mae'n rhaid imi ddweud, yn dipyn o gymysgedd dethol o bolisïau a rhaglenni Llywodraeth Cymru wedi eu taflu ynghyd. Fel y mae'n dweud yn gwbl briodol: mae angen mwy o swyddi da a chyfleoedd i gael sgiliau, a'ch bod wedi ymrwymo i archwilio'r dewisiadau i dargedu buddsoddiad a chreu ardaloedd canolbwynt strategol newydd, yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw yn eich datganiad fel ardaloedd lle mae arian cyhoeddus yn canolbwyntio ar ddarparu cyfleoedd i'r sector preifat fuddsoddi a chreu swyddi newydd. Felly, sut mae'r sector preifat wedi'i gynnwys o fewn hynny, nid yn unig fel rhywun i siarad ag ef a gwrando arno, ond yng nghyd-destun, fel yn y gogledd, lle cydweithir ar yr atebion hynny ar gyfer darparu rhywbeth ar y cyd? Rydych chi'n cyfeirio yn yr adroddiad hwn at adran wybodaeth a gwasanaethau dadansoddol Llywodraeth Cymru gan nodi ardaloedd ledled Cymoedd y de lle'r oedd y mwyaf o botensial economaidd. Unwaith eto, yn yr un modd, sut maen nhw wedi gweithio gyda'r sector busnes a'r trydydd sector i lunio'u casgliadau, neu a ydyn nhw wedi gwneud hyn drwy ddim ond siarad a gwrando ar bobl? Rydych chi'n cyfeirio at gynllun cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth eleni. Wrth gwrs, rydym ni'n deall nad oes disgwyl iddo gael ei gyflwyno tan y flwyddyn nesaf, er bod amrywiaeth o raglenni cyflogaeth bellach ar waith yng Nghymru, megis y rhaglenni a gyflwynir drwy'r Adran Gwaith a Phensiynau a Remploy. Rydym ni'n gwybod o ymatebion blaenorol yn y Siambr hon gan Aelodau Llywodraeth Cymru bod Llywodraeth Cymru wedi cael mewnbwn i'r rhaglenni hynny. Felly, a wnewch chi ddweud wrthym ni os a sut, felly, mae'r cynlluniau Prydeinig hynny sy'n gweithredu yng Nghymru gyda mewnbwn Llywodraeth Cymru wedi cael neu sut fyddan nhw'n cael eu hymgorffori i'r gwaith yn 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol'? Rydych chi'n cyfeirio, yn yr adroddiad, at Glynrhedynog yn datblygu canolfan ag amrywiaeth o wasanaethau cymunedol, ac rwyf wrth fy modd yn clywed hynny—mae hynny'n swnio'n wych. Ond a wnewch chi roi ystyriaeth i waith Dr Karen Sankey yn Wrecsam, y mae adran iechyd Llywodraeth Cymru, rwy'n gwybod, wedi cyfeirio at ei gwaith, sydd wedi datblygu model canolfan gymunedol i ddwyn ynghyd a mynd i'r afael ag anghenion corfforol, seicolegol a chymdeithasol y bobl yn y gymuned honno, gan gynnwys y rhai ar y strydoedd, fel model arfer gorau? Rydych chi'n cyfeirio at weithredwyr cyfrif ar gyfer ysgolion uwchradd ac at weithio gyda Gyrfa Cymru. Unwaith eto, sut fydd hynny'n ymdrin â'r pryder y soniwyd amdano pan nad oedd Gyrfa Cymru yn gallu hwyluso disgyblion mewn ysgolion i ymweld â gweithleoedd er mwyn cael profiad gwaith ymarferol mwyach? A ydym ni'n sôn am ddim ond o fewn ysgolion, ac, os felly, sut y bydd hynny'n integreiddio gyda'r busnesau eu hunain? Dau gwestiwn byr iawn, iawn yn weddill, ac yna byddaf wedi gorffen. Metro de Cymru—rydych chi'n cyfeirio at raglen hirdymor. Pa mor hirdymor, mewn gwirionedd, ydych chi'n ei olygu yn hyn o beth, mewn trafodaethau gyda'ch cyd-Aelodau? Oherwydd rydym ni wedi clywed sôn am y pethau hyn, ac maen nhw'n swnio'n gadarnhaol iawn, ac, er nad wyf i'n byw yn y de, rwy'n dymuno'r gorau i'r bobl sy'n byw yno, ond pryd ydych chi'n rhagweld y caiff hyn ei weithredu mewn gwirionedd? Yn olaf, rydych chi'n cyfeirio yn yr adroddiad at y targedau o 20,000 o dai fforddiadwy—wrth gwrs, mae hynny'n cynnwys prynu cartref, mae'n cynnwys rhent canolradd, a darpariaeth gan ystod o ddarparwyr. Felly, pa asesiad ar y cyd o anghenion tai sy'n greiddiol i hyn, nid yn unig o ran canfod nifer yr unedau sydd eu hangen ar bobl yn y boblogaeth, ond y math a'r amrywiaeth o eiddo, boed hwnnw'n rhent cymdeithasol, rhent canolraddol, prynu'n rhad, am bris llawn y farchnad neu fel arall? Diolch. Alun Davies AC: Diolch yn fawr iawn. Mae'n ymddangos bod llefarydd y Ceidwadwyr wedi cynllwynio i ofyn yr un cwestiwn hanner dwsin o weithiau. Fe wnaf i geisio ei ateb unwaith yn unig. O ran sut yr ydym ni'n mynd ati, rydym ni'n ceisio cynnwys pobl o'r adeg lle'r ydym ni'n dechrau hyd at yr adeg y byddwn ni'n datblygu ein cysyniadau ac yn cyflwyno'r cysyniadau hynny. Does dim—. Gofynnodd ar nifer o achlysuron yn y cyfraniad hwnnw am gyd-gynhyrchu yng ngwahanol feysydd ein gwaith, ond mae'r cyfan o'r hyn yr ydym ni'n ei wneud yn ymwneud â gweithio gyda phobl. Nid yw'n eiddo i Lywodraeth Cymru; mae ynglŷn â Llywodraeth Cymru yn gweithredu fel catalydd, gan ddod â phobl at ei gilydd er mwyn inni allu defnyddio nid yn unig grym Llywodraeth ond creadigrwydd pobl ac uchelgais a gweledigaeth pobl sy'n byw yn y Cymoedd a ledled y Cymoedd. Gofynnodd gwestiwn penodol ar gynlluniau'r DU a chynlluniau cyflogadwyedd y DU. Rwy'n siomedig nad yw'n deall bod rheolwr rhanbarthol Yr Adran Gwaith a Phensiynau mewn gwirionedd yn aelod o'r tasglu. Felly, mae'r holl faterion hyn yn rhan greiddiol mewn gwirionedd o'n trafodaethau a'n dadleuon. Mae hyn yn rhan sylfaenol o'r hyn yr ydym ni'n ei wneud. Mae'n dweud ei fod yn gymysgedd dethol o gynlluniau—mae pobl yn greadigol, ac nid yw creadigrwydd bob amser yn lân ac yn daclus, mae arnaf iofn. Ond gadewch i mi ddweud hyn wrtho; mae gennym ni nifer o entrepreneuriaid wedi eu cynrychioli ar y tasglu hefyd, ac mae'r ffrydiau gwaith yr ydym ni'n eu datblygu ar y tasglu eu hunain yn dod â phobl at ei gilydd ac yn galluogi pobl i wneud cyfraniad ac i ymgymryd â swyddogaethau gwahanol. Felly, nid yw hyn yn fater o rannu ein gwaith yn gategorïau, yn y ffordd y mae llefarydd y Ceidwadwyr wedi ceisio ei wneud; mae hyn yn sylfaenol ynglŷn â beth mewn gwirionedd sydd gan y tasglu wrth ei wraidd, wrth ei galon. O ran y ffordd yr ydym ni'n bwrw ymlaen â phethau, rydym ni'n ceisio bod yn fwy dyfeisgar neu greadigol yn y ffordd yr ydym ni'n siarad ac yn y ffordd yr ydym ni'n cyfathrebu â phobl. Rwyf wedi buddsoddi llawer o amser, boed hynny mewn cyfarfodydd cyhoeddus, yn siarad â grwpiau llai o bobl—. Yr wythnos diwethaf, roeddwn i ym Mlaenafon yn cynnal digwyddiad Facebook byw, yn siarad â phobl ac yn ateb eu cwestiynau ar y cyfryngau cymdeithasol. Rydym ni'n gwneud hyn mewn nifer o ffyrdd gwahanol dros gyfnod o amser. Rwyf yn sylwi bod llefarydd y Ceidwadwyr ar gyfer y materion hyn yn ceisio sawl gwaith yn ei gyfraniadau yn y fan yma i roi rhannau o Gymru benben â'i gilydd—rhanbarth yn erbyn rhanbarth, cymuned yn erbyn cymuned. Byddai'n dda gennyf petai'n ymatal rhag gwneud hynny. Mae'n bychanu ei hun a'i gyfraniadau. Nid yw hyn yn fater o Gymoedd y de yn cael unrhyw fath o driniaeth ffafriol dros ran arall o'r wlad—mae hyn yn ymwneud â mynd i'r afael â thlodi; mae'n ymwneud â mynd i'r afael â'r tlodi sy'n bodoli yn y lleoedd hyn. Mae'n aelod o blaid sydd wedi cyfrannu'n sylweddol at greu'r tlodi hwnnw. I'r rhai ohonom ni a fagwyd yng Nghymoedd y de, rydym ni wedi gweld beth wnaeth Llywodraethau Ceidwadol—Llywodraethau Ceidwadol olynol y DU—i ni. Ni wnaethon nhw ddim byd i gefnogi ein cymunedau, ond popeth i danseilio ein cymunedau. [Torri ar draws.] Fe wnaethon nhw bopeth i gael gwared ar y sylfaen economaidd yr hyn yr ydym ni'n ceisio'i wneud. Mae hyn ynglŷn ag unioni'r cydbwysedd hwnnw. Mae hyn ynglŷn ag unioni'r cydbwysedd hwnnw a mynd i'r afael â'r tlodi hwnnw. Rwy'n ei glywed, Dirprwy Lywydd, yn galw o'i sedd. Nid yw hyn ynglŷn â gosod y gogledd yn erbyn y de neu'r dwyrain yn erbyn y gorllewin. Pan fo'n gwneud hynny, mae'n bychanu ei hun. Ac ni fyddaf yn caniatáu iddo wneud hynny i'r cynllun hwn nac i fychanu'r hyn yr ydym ni'n ceisio'i wneud. Nid oes a wnelo hyn â gosod cymuned yn erbyn cymuned, mae'n ymwneud â mynd i'r afael â thlodi, ac rwy'n gwybod bod y Ceidwadwyr yn cael anhawster gyda'r cysyniad hwnnw, ond dyna beth yr etholwyd y Llywodraeth hon i'w wneud. Leanne Wood AC: Nid wyf yn argyhoeddedig bod y datganiad hwn yn cyflwyno unrhyw beth newydd i'n sylw ni heddiw, ac rwy'n credu mai'r dystiolaeth o hynny yw'r ymosodiad a wnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet rai munudau'n ôl. Ysgrifennydd Cabinet, mae'n ymddangos eich bod wastad yn ymosod pan nad oes gennych chi unrhyw atebion. Beth bynnag, fe wnaethoch chi orffen eich datganiad heddiw drwy ddweud bod y cynllun cyflawni sydd ger ein bron heddiw yn cynnwys holl adrannau Llywodraeth Cymru a holl bortffolios eich cydweithwyr yn y Cabinet, felly fe wnaf i achub ar y cyfle hwn i ofyn rhai cwestiynau heddiw ynglŷn â sut mae agenda polisi ehangach Llywodraeth Cymru yn effeithio ar yr uchelgeisiau a nodwyd gennych chi yn eich cynllun. Elfen bwysig o gefnogi blaenoriaeth 1 y cynllun cyflawni, sef creu swyddi o ansawdd da a'r sgiliau i'w gwneud nhw, yw, fel y soniwch chi, cynnig gofal plant Llywodraeth Cymru. Nawr, mae'r cynnig hwn yn darparu 30 awr o addysg gynnar a gofal plant am ddim i rieni sy'n gweithio sydd â phlant tair a phedair blwydd oed am 48 o wythnosau'r flwyddyn. Fel y mae fy nghyd-Aelod Plaid Cymru Llyr Gruffydd wedi dadlau'n gyson, drwy gyfyngu'r cynnig o ddarpariaeth gofal plant am ddim i rieni sy'n gweithio yn unig, rydych chi'n creu rhwystr sylweddol arall i rieni economaidd anweithgar rhag dychwelyd i'r gwaith. Mae'r comisiynydd plant wedi cefnogi hyn hefyd, a dywedodd y bydd plant rhieni nad ydyn nhw'n gweithio yn llithro ymhellach fyth ar ôl eu cyfoedion os cânt eu heithrio o'r ddarpariaeth hon. Diben eich targed o helpu 7,000 o bobl ddi-waith ac economaidd anweithgar yn y Cymoedd i gael gwaith oedd er mwyn ichi allu dod â'r rhannau hynny o'r awdurdodau lleol dan sylw sy'n cynnwys y Cymoedd i'r un lefel â gweddill Cymru. Ysgrifennydd y Cabinet, ni fydd cynnig gofal plant eich Llywodraeth yn cefnogi'r nod hwn. Yn wir, bydd yn gwneud y sefyllfa yn y Cymoedd hyd yn oed yn waeth, gan arwain at hyd yn oed mwy o deuluoedd yn cael eu hesgeuluso. Felly, fel aelod o'r Llywodraeth, pa sylwadau a ydych chi wedi eu gwneud i'ch cyd-Aelodau i bwyso arnyn nhw i ehangu'r cynnig gofal plant i bob rhiant yng Nghymru? Y broblem yn llawer o gymunedau'r Cymoedd yw nid nifer y swyddi, ond ansawdd y swyddi hynny. Mae'n ymwneud â natur sgiliau isel a chyflog isel llawer o'r swyddi hynny a'r ffaith bod llawer gormod ohonyn nhw yn swyddi ansicr. Mae'r targed o gefnogi 7,000 o bobl i gael gwaith erbyn 2021, wrth gwrs, i'w groesawu. Fodd bynnag, heb ddod â diwydiannau newydd a datblygu'r rhai sy'n bodoli eisoes i dyfu ymhellach, mae'n bosib iawn y byddwch chi'n cefnogi 7,000 o bobl i gael gwaith ar un llaw, ond gallai natur ansicr y farchnad lafur yn y Cymoedd arwain at golli'r swyddi hynny mewn mannau eraill yn yr un ardal. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet roi ffigur targed o faint o swyddi a gaiff eu sicrhau yn ystod y cyfnod hyd at 2021 hefyd? Yr wythnos diwethaf, collodd Llywodraeth Cymru bleidlais yn y Cynulliad yn galw am ddim mwy o doriadau i addysg bellach a dysgu gydol oes, sector sydd wedi bod yn darged parhaus ar gyfer y toriadau, erbyn hyn, dros lawer iawn o flynyddoedd. Os ydym ni o ddifrif am wrthdroi'r dirywiad hirdymor yn economi Cymru a chodi sgiliau, incwm a chynhyrchiant, yna mae'r sector addysg bellach yn gwbl hanfodol. Bydd elfen fawr o agenda sgiliau cynllun cyflawni'r tasglu yn dibynnu'n helaeth ar gynllun cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru, er enghraifft, a fydd yn gosod gofynion a disgwyliadau ar y colegau a'r sector dysgu a sgiliau ehangach fel partneriaid cyflawni hollbwysig. Fodd bynnag, mewn gwirionedd, ni all neb ddwyn y maen i'r wal gyda'r teimladau a'r cynlluniau hyn pan nad yw'r cyllid ar gael i gefnogi'r blaenoriaethau hyn. Felly, pa mor ffyddiog ydych chi fod arian ar gael i ddarparu'r hyfforddiant gofynnol i uwchsgilio gweithlu'r Cymoedd? Nawr, rwy'n sicr nad oes angen imi esbonio i neb pa mor anodd yw hi i deithio ar reilffyrdd y Cymoedd ar hyn o bryd. Ni all hyn barhau fel y mae pethau ar hyn o bryd. Dyna pam rwy'n croesawu'r arian datblygu a sicrhawyd i gomisiynu dichonoldeb a dyluniad canolfannau trafnidiaeth integredig newydd i hwyluso cyfleoedd teithio i'r canolbwyntiau strategol newydd. Yn benodol, rwy'n croesawu'r ymrwymiad i edrych ar welliannau yn y seilwaith yn rhan o'r gwaith o ddatblygu'r metro.Mae llawer o'r pwyslais gyda datblygiad y metro yn y Cymoedd ynglŷn â sut orau i gysylltu cymunedau yn y Cymoedd â Chaerdydd, yn hytrach nag ystyried sut yr ydym ni'n cysylltu'r Cymoedd â'i gilydd. Ni chynhwyswyd y syniad ar gyfer llinell gylch y Cymoedd yn ystod cam nesaf datblygiad y metro. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymrwymo i sicrhau y bydd rhan o'r cyllid datblygu yn mynd tuag at ddichonoldeb parhau i ystyried creu llinell gylch ar gyfer y Cymoedd? Alun Davies AC: Rwy'n ddiolchgar i lefarydd Plaid Cymru am ei chwestiynau. Rwy'n meddwl yn ôl ac yn sylwi pan atebais gwestiynau ar achlysur blaenorol—rwy'n credu, y llynedd—ymosodwyd arnaf gan Blaid Cymru am gynnwys materion polisi yn y cynllun a oedd wedi eu targedu'n uniongyrchol at y Cymoedd, a sylwaf y prynhawn yma ei bod hi wedi penderfynu canolbwyntio ar yr holl faterion polisi hynny nad ydyn nhw'n canolbwyntio'n uniongyrchol ar y Cymoedd. Rwy'n pendroni ynglŷn â hynny oherwydd—[Torri ar draws.] Dywedais yn y paragraff cyntaf, oherwydd— Leanne Wood AC: A allwch chi wneud iddo ateb y cwestiynau, Dirprwy Lywydd, yn hytrach na—[Anghlywadwy.] Datganiad ydyw, ac mae cyfle i'r Gweinidog ateb y cwestiynau yn y ffordd y mae ef eisiau eu hateb. Os nad yw hynny'n dderbyniol, yna mae dulliau eraill y gallech chi eu defnyddio. Alun Davies AC: Fe wnaf i ddweud wrth yr Aelod fy mod i wedi gwrando ar ei chwestiynau, ac efallai y gwnaiff hi wrando ar fy atebion i. O ran y cynnig gofal plant, mae'n ymrwymiad maniffesto ac yn ymrwymiad rhaglen lywodraethu ar gyfer y Llywodraeth hon, ac fe gaiff ei ddarparu yn y ffordd a ddisgrifir, a bydd yn parhau i gael ei ddarparu yn y ffordd a ddisgrifir. Mae, rwy'n credu, yn un o'r cynigion gofal plant mwyaf uchelgeisiol a hael yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig, ac nid wyf yn ymddiheuro am fuddsoddi mewn gofal plant. Ac fel Gweinidog ar ddechrau'r Llywodraeth hon, fe wnes i chwarae fy rhan yn datblygu'r cyfleoedd ar gyfer y cynnig gofal plant, a gwelais y gwahaniaeth yr oedd yn ei wneud i fywydau pobl ar hyd a lled y Cymoedd ac mewn mannau eraill. Gadewch imi ddweud hyn hefyd wrth yr Aelod: Os yw hi wedi darllen y cynllun cyflawni diwygiedig, bydd hi'n gwybod ein bod ni hefyd yn mynd ymhellach na dim ond cynnig cyfleusterau a chyfleoedd gofal plant. Rydym ni hefyd yn mynd i'r afael â phrofiadau plentyndod andwyol y bydd llawer o blant sy'n cael eu magu yn y Cymoedd yn eu hwynebu yn eu bywydau. Rydym ni hefyd yn siarad â'r heddlu ynghylch sut y gallwn ni sicrhau y gwneir hynny mewn ffordd gynhwysfawr, ac rydym ni'n bwriadu mynd i'r afael â phrofiadau plant sy'n cael eu magu, weithiau, mewn rhai cartrefi anodd iawn. Felly, rydym ni yn buddsoddi nid yn unig yn y cynnig gofal plant—ac rwy'n gwrthod ei beirniadaeth ohono—ond mewn gwirionedd rydym ni'n buddsoddi mewn dull mwy cynhwysfawr o ymdrin â'r blynyddoedd cynnar hefyd. Felly, rydym ni'n mynd ymhellach na'r awgrym y mae hi wedi ei wneud. Mae hi'n ein beirniadu ni am fabwysiadu targed o 7,000 o bobl i gael gwaith, yn hytrach na, rwy'n credu mai'r sylw yr oedd hi yn ei wneud oedd hyn, creu targed creu swyddi. Mae'r hyn y mae'r targed hwn yn ei wneud yn glir iawn, iawn. Mae'n sicrhau bod gan y Cymoedd yr un proffil economaidd a'r proffil cymdeithasol â rhannau eraill o'r wlad. Rwyf wedi dweud, Dirprwy Lywydd, yn fy ateb i lefarydd y Ceidwadwyr mai'r rheswm pam yr ydym ni wedi sefydlu'r tasglu hwn yw er mwyn trechu'r tlodi sy'n bodoli yng Nghymoedd y de, a'r bobl yr effeithir arnyn nhw gan y tlodi hwnnw, a'r bobl yr ydym ni'n ceisio sicrhau y gallan nhw ddychwelyd i'r gwaith, ac i gael y math o waith yr ydym ni eisiau iddyn nhw ei gael. Rwy'n ymwybodol iawn—rwy'n ymwybodol o fy etholaeth fy hun ac rwy'n ymwybodol o'r gwaith hwn—o effaith tangyflogaeth yn y Cymoedd, ac effaith gwaith cyflogedig gwael yn y Cymoedd. Rydym ni'n cydnabod hynny. Rydym ni'n cydnabod—a dyna pam mae'r Llywodraeth hon yn ymrwymedig i sicrhau fod Cymru yn genedl waith teg fel ein bod ni yn gweithio gyda'r byd busnes, a'n bod ni yn gweithio gyda phob sector o'r economi, ac yn buddsoddi yn yr economi sylfaenol i greu gwaith i bobl mewn gwirionedd. Ond rwy'n amddiffyn y targed o 7,000 o bobl yn dod yn economaidd weithgar yn y modd hwn, oherwydd dyna beth yn ôl y cyngor a gawsom ni fyddai'n gwneud y mwyaf i fuddsoddi ym mhobl a chymunedau Cymoedd y de. Mae gennym ni'r arian ar gyfer hyn, ac mae gennym ni'r cyllid ar gyfer y cyfleoedd hyfforddi ac ar gyfer y metro. Ond gadewch i mi ddweud hyn—gadewch imi fod yn gwbl glir wrth wneud hyn—yr hyn yr ydym ni wedi ceisio ei wneud dros y flwyddyn ddiwethaf yw sicrhau ein bod ni nid yn unig yn rhoi atebolrwydd wrth wraidd yr hyn yr ydym ni'n ei wneud, ond ein bod ni mewn gwirionedd yn cysylltu ein targedau â hynny hefyd fel bod Aelodau yn gallu dod yma i holi ynghylch beth yr ydym ni'n ei wneud a'r hyn yr ydym ni'n ei gyflawni. Ond mae'n rhaid gwneud hynny ar sail y cynlluniau yr ydym ni'n eu cyhoeddi a'r targedau yr ydym ni yn eu gosod. Rwy'n credu bod y targedau yn uchelgeisiol a blaengar ac yn dangos mai'r Llywodraeth hon a Llafur Cymru sydd â gweledigaeth uchelgeisiol, wirioneddol ar gyfer Cymoedd y de. Hefin David AC: Ar 16 Tachwedd, ymwelais â Chanolfan Arloesi Menter Cymru, sydd ym Mharc Busnes Caerffili, y dyfarnwyd arian Llywodraeth Cymru iddi'n ddiweddar er mwyn iddiddod yn ganolfan fenter ranbarthol i annog a chefnogi entrepreneuriaeth, gan gysylltu â phob math o bartneriaid o'r prifysgolion, busnesau lleol, colegau a Banc Datblygu Cymru. Mae hefyd yn cysylltu â chanolfannau ategol, sydd i'w cadarnhau, yn ôl y cynllun datblygu, ac fe hoffwn i glywed mwy am hynny. Os yw'n mynd i fod yn llwyddiannus, mae angen i Ganolfan Arloesi Menter Cymru gefnogi uchelgais y Gweinidog ar gyfer cysylltedd, y cyfeiriwyd ato eisoes, a helpu i adnabod partneriaid allweddol. Pan ymwelais â Chanolfan Arloesi Menter Cymru, fe wnaethon nhw ddangosffeithlun imi a oedd yn dangos y busnesau a oedd yn cysylltu â nhw. Roedd yn ddiddorol ei fod yn fath o siâp T ar ei ben i lawr oherwydd y ffaith yw mai busnesau ar hyd coridor yr M4 ac yna Cwm Rhymni oedd yn cysylltu â Chaerdydd, a dim llawer y tu allan i'r ardal honno. Felly, ceir her yn sicr i gael y cymunedau gwahanol hynny i gysylltu â Chanolfan Arloesi Menter Cymru. Rwyf yn arbennig eisiau gweld busnesau o Fargoed a Senghennydd yn cysylltu â Chanolfan Arloesi Menter Cymru, ond hefyd busnesau o gymunedau ledled y Cymoedd. Rydym ni'n gweld bod gan y mwyafrif helaeth o fusnesau ddiddordeb yn y rhannau deheuol; mae angen inni gysylltu'r Cymoedd gogleddol. Felly, beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i annog hyn? Sylwaf yn ei ddatganiad ei fod yn sôn am ymgyrch benodol i gefnogi busnesau. A all ymhelaethu ychydig ynglŷn â beth y mae'n ei olygu wrth hynny a hefyd beth y mae'n ei olygu wrth y rhwydwaith cymheiriaid y cyfeiriodd ato yn ei ddatganiad? Byddai ymhelaethu ar y pethau hynny hefyd yn helpu Aelodau i ddeall sut yr ydym ni'n mynd i ddatblygu cymunedau a busnesau yn y Cymoedd gogleddol. Alun Davies AC: Mae datblygu buddsoddiad yn y Cymoedd gogleddol yn sylw sydd wedi'i grybwyll droeon gan yr Aelod dros Gaerffili yn ystod ei amser yma, ac mae'n rhywbeth yr wyf yn amlwg yn ei rannu am resymau sy'n glir.Rydym ni wedi trafod Cwm Rhymni gyda'r Aelod dros Ferthyr Tudful a Rhymni hefyd. Mae hi'n bwysig ein bod ni'n gallu ymestyn allan y tu hwnt i rannau deheuol Cymoedd y De, a dyna pam ein bod ni'n rhoi cynllun datblygu ar waith sy'n edrych yn benodol ar fanteisio i'r eithaf ar effaith prosiect deuoli ffordd yr A465, ac mae angen inni allu darparu hynny yn ystod y chwe mis nesaf. O ran Canolfan Arloesi Menter Cymru, rydw i wedi cyfarfod â Chanolfan Arloesi Menter Cymru yn amlwg, ac mae gennym ni gynrychiolydd ar y tasglu sy'n bwrw ymlaen â'r cynlluniau ar entrepreneuriaeth. Yr hyn yr ydym ni'n gobeithio gallu ei wneud yw defnyddio model Canolfan Arloesi Menter Cymru i allu ymestyn hynny i rannau o'r rhanbarth yn y de-ddwyrain lle nad oes gennym ni gyfleuster tebyg, a'r hyn yr wyf i'n ei obeithio y gallwn ni ei wneud yw defnyddio unigolion sy'n entrepreneuriaid yn eu hawl eu hunain i fentora a gweithio gyda busnesau er mwyn darparu'r math o gymorth a chefnogaeth sydd wedi'i deilwra ar gyfer pob busnes unigol. Felly, mae ynglŷn â mynd ati gan bwyll i sicrhau bod pobl sy'n sefydlu a rhedeg busnesau bach yn cael yr union gymorth sydd ei angen arnyn nhw—nid y cymorth yr ydym ni'n credu sydd ei angen arnyn nhw—ac mae hynny'n gwbl hanfodol. Yr hyn yr wyf i yn gobeithio y gallwn ni ei wneud yw defnyddio model Canolfan Arloesi Menter Cymru yng Nghaerffili i allu mynd ati yn yr un modd yn union mewn rhannau eraill o'r de-ddwyrain. Mae gennyf ddau siaradwr arall y mae eu meysydd, rwy'n credu, wedi cael eu crybwyll yn natganiad y Gweinidog. Felly, rhoddaf gyfle iddyn nhw ymateb, ond os gallan nhw fod yn gryno, byddai hynny o gymorth. Vikki Howells. Vikki Howells AC: Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n croesawu eich sylwadau ynghylch defnyddio coridor Blaenau'r Cymoedd fel arf ar gyfer datblygu economaidd. Mae hen safle Glofa'r Tŵr yn Hirwaun yn ddelfrydol ar gyfer y dibenion hyn ac, fel y gwyddoch chi, mae'n cael ei adfer ar hyn o bryd. Pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda'r tîm sy'n adfywio Glofa'r Tŵr ynglŷn â sut y gall tasglu'r Cymoedd helpu i fanteisio ar botensial enfawr y safle hwn? Yn ail, roedd yn dda clywed am y pyrth darganfod a'r sôn am Barc Gwledig Cwm Dâr yn benodol. Rwy'n cytuno â chi—rwy'n credu y byddai'n lleoliad ardderchog ar gyfer hynny. Rwy'n falch o weld y bydd hefyd yn ategu hyn drwy neilltuo llinell iddo yn y gyllideb. Pryd fydd cynlluniau manwl ar gyfer hyn ar gael? Alun Davies AC: Rwy'n gobeithio y byddan nhw ar gael yn fuan yn y flwyddyn newydd—yn y flwyddyn newydd nesaf. Byddwn yn disgwyl y byddem ni'n gallu gwneud cyhoeddiadau manylach ym mis Ionawr neu Chwefror 2019. Rwy'n sicr eisiau inni fod mewn sefyllfa i allu gwneud y buddsoddiadau hynny yn y flwyddyn ariannol gyfredol. Felly, rwyf eisiau inni symud ymlaen yn weddol gyflym yn hynny o beth. Rwyf hefyd eisiau gallu cyhoeddi safleoedd darganfod pellach yn yr wythnosau nesaf, o bosib cyn y Nadolig, ond yn sicr yn gynnar yn y flwyddyn newydd, y byddwn ni'n gallu adeiladu ar y sail yr ydym ni'n gallu gwneud y cyhoeddiadau hyn heddiw. Felly, rwyf eisiau bwrw iddi yn weddol gyflym i symud ymlaen â hyn. Credaf hefyd fod angen i ni greu strwythur mwy o lawer ar gyfer parc rhanbarthol y Cymoedd o ran sut y bydd yn cyflawni mewn gwirionedd beth fydd ei botensial, ac rwy'n gobeithio y gellir rhoi strwythur ar waith ar unwaith ar ôl y Nadolig hefyd, ac yn sicr yn chwarter cyntaf 2019. O ran Glofa'r Tŵr, cynrychiolwyd Glofa'r Tŵr yn y seminar a oedd gennym ni, a sbardunodd, os mynnwch chi, y gwaith yr ydym ni'n ei wneud ar goridor yr A465 yn y gwanwyn. Maen nhw'n amlwg wedi cael gwybod y diweddaraf am y gwaith a wneir gan y grŵp o bobl yr wyf wedi eu gwahodd i ddatblygu cynllun datblygu economaidd ar gyfer Blaenau'r Cymoedd, ac rwy'n cytuno gyda'r Aelod dros Gwm Cynon, bod safle Glofa'r Tŵr yn safle pwysig, ac rwy'n ei weld fel safle strategol bwysig ar gyfer dyfodol coridor yr A465. Yn olaf, Rhianon Passmore. Rhianon Passmore AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, fel yr Aelod Cynulliad dros Islwyn, croesawaf yn fawr y cyhoeddiad o £7 miliwn ar gyfer parc rhanbarthol y Cymoedd, ac rwy'n croesawu'n fawr y bydd Ffordd Coedwig Cwmcarn ymysg y don gyntaf o brosiectau y pyrth darganfod i'w cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru. Bydd yr Aelodau'n gwybod pa mor werthfawr yw Ffordd Coedwig hanesyddol Cwmcarn yn fy etholaeth i: mae'n un o'r perlau yng nghoron Cymru, ac mae'n newyddion da iawn, yn wir, ar gyfer fy etholaeth. Dyma'n union y gwaith partneriaeth effeithiol rhwng Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a phartïon eraill yn gweithio gyda'i gilydd—hyd yn oed yn yr oes hon o gyni Torïaidd, y gall llywodraeth leol, Llywodraeth Cymru a'u sefydliadau partner wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn ein cymunedau. A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn barod i gyfarfod â mi ar Ffordd Coedwig Cwmcarn a chwrdd â chynrychiolwyr cyfeillion Ffordd Coedwig Cwmcarn i ledaenu'r gair hwn am botensial trawsnewidiol gwirioneddol y pyrth darganfod i bobl Islwyn? Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn ymchwilio yn fanylach i'r canolfannau trafnidiaeth lleol newydd a grybwyllwyd ac a nodwyd gan Lywodraeth Cymru, a fydd o fantais uniongyrchol i gymunedau Islwyn, ac fel yr wyf i wedi dweud, mae fy etholaeth yn frwdfrydig iawn i gael cysylltedd gwell ac ychwanegol rhwng y Cymoedd, ac rwy'n gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni fel Aelodau mewn cryn fanylder ynglŷn â sut y bydd y gwaith pwysig hwn yn datblygu wrth i'r misoedd fynd rhagddynt. Diolch, Dirprwy Lywydd. Alun Davies AC: Rwy'n sicr yn hapus, Dirprwy Lywydd, i gyfarfod Aelodau unigol neu grwpiau o Aelodau er mwyn eu diweddaru ar y gwaith hwn wrth iddo ddatblygu dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Rwy'n sicr yn hapus iawn, iawn i wneud hynny, ac rwyf hefyd yn falch iawn o ymweld â Ffordd Coedwig Cwmcarn gyda'r Aelod. Rwy'n gobeithio nad oes gwahaniaeth ganddi os byddaf yn dod â'm teulu gyda fi. Rydym ni wastad wedi mwynhau'r rhan honno o'r byd. Mae'n lle gwych i deuluoedd allu ymlacio a mwynhau amgylchedd a thirwedd gwych Cymoedd y de. Rydym ni'n ffodus iawn i gynrychioli lleoedd o'r fath, ac rwy'n credu y dylem ni i gyd ymfalchio'n fawr yn amgylchedd a thirwedd y Cymoedd, a dweud wrth y byd bod Cymoedd y de yn lle arbennig iawn, iawn i fod, i weld, i ymweld, i fyw, i weithio. Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. 4. Datganiad gan Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip: Y diweddaraf am Weithredu'r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) Eitem 4 ar ein hagenda yw datganiad gan arweinydd y Tŷ: y diweddaraf am weithredu'r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru), a galwaf ar arweinydd y Tŷ, Julie James. Julie James AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o roi diweddariad i Aelodau'r Cynulliad am y cynnydd sylweddol a wnaed ers y daeth y Ddeddf trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i rym yn 2015. Mae'r ddau adroddiad blynyddol a gyhoeddwyd ers imi ymgymryd â'r portffolio hwn yn rhoi rhagor o fanylion am y cynnydd hwn. Mae ein strategaeth genedlaethol a gyhoeddwyd yn 2016 yn amlinellu chwe amcan. Cynlluniwyd yr amcanion hyn er mwyn galluogi cydymffurfio, i'r graddau y mae ein pwerau yn caniatáu, gyda Chonfensiwn Cyngor Ewrop ar atal a mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a thrais domestig, neu Gonfensiwn Istanbwl. Mae'r fframwaith cyflawni, a gyhoeddwyd gennym ni ym mis Gorffennaf 2018, yn esbonio sut fyddwn ni'n gweithio gydag amrywiol adrannau'r Llywodraeth i gyflawni pob un o'r chwe amcan. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, neu VAWDASV. Mae'n acronym amhosib, Dirprwy Lywydd, ond VAWDASV, fel y'i gelwir. Rydym ni eisiau gwella ymateb y sector cyhoeddus i'r materion hyn, a thrwy addysg, grymuso ac ymgysylltu, rydym ni'n herio agweddau ac ymddygiadau ym mhob haen o gymdeithas. Mae angen inni gydweithio i amddiffyn y rhai sydd ar hyn o bryd yn dioddef VAWDASV. Mae ein fframwaith hyfforddi cenedlaethol, er enghraifft, yn sicrhau, am y tro cyntaf, bod safonau wedi'u gosod ynglŷn â hyfforddiant i weithwyr proffesiynol i'w helpu i adnabod pwy sydd mewn perygl. Y llynedd, fe wnaethom ni gyhoeddi canllawiau drafft a chyflwyno hyfforddiant 'holi a gweithredu'. Mae 'holi a gweithredu' yn broses o ymholi penodol i'w arfer gan weithwyr proffesiynol rheng flaen. Mae'r hyfforddiant wedi ei ddatblygu gyda goroeswyr, ac felly mae'n seiliedig ar brofiadau y mae pobl wedi byw drwyddyn nhw. Mae ganddo'r potensial i newid ac i achub bywydau, ac mae adborth gan y gwaith mabwysiadu cynnar yn dangos ei fod yn gwneud hyn. Rydym ni wedi hyfforddi dros 135,000 o bobl ledled Cymru drwy hyfforddiant e-ddysgu ac wyneb yn wyneb. Dyna 135,000 o weithwyr proffesiynol sydd yn fwy gwybodus, yn fwy ymwybodol ac yn fwy hyderus i ymateb i'r rhai sy'n dioddef VAWDASV. Rydym ni wedi cyhoeddi cyfres o ffilmiau ar gyfer arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus i godi ymwybyddiaeth o VAWDASV. Mae'r ffilmiau hyn wedi cael eu gweld dros 6,500 o weithiau. Rydym ni'n codi ymwybyddiaeth ymhlith plant a phobl ifanc ac yn eu haddysgu ynghylch sut beth yw perthnas iach. Nod y gwaith hwn yw eu hatal rhag bod yn ddioddefwyr, neu hyd yn oed rhag cyflawni'r fath weithredoedd.Mae llawer o ysgolion yn cyflawni hyn drwy gyfrwng prosiect Sbectrwm a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Rydym ni hefyd yn cryfhau ein canllawiau ar gyfer ysgolion i gynnwys cysylltiadau i gefnogaeth briodol. Bydd hyn yn adeiladu ar ein canllaw arfer da o ran ymdrin ag addysg mewn modd cynhwysfawr, a hefyd ein canllawiau ar gyfer llywodraethwyr ysgol. Bydd cyflwyniad y cwricwlwm newydd yn 2022 yn cynnig cyfle i ddarparu addysg rhywioldeb a pherthnasoedd mewn ffordd hollol wahanol i addysg ryw draddodiadol. Does dim rhaid i ysgolion aros neu gyflwyno hynny'n ffurfiol os ydyn nhw'n teimlo'n ddigon cymwys i wneud hynny cyn hynny. Mae un o'm swyddogion yn cyd-gadeirio grŵp arweinyddiaeth ar anffurfio organau rhywiol merched, trais ar sail anrhydedd a phriodas orfodol gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron a BAWSO. Mae'r grŵp hwn wedi datblygu fframwaith cyflawni er mwyn mynd i'r afael â thrais ar sail anrhydedd fel y'i gelwir, gan ddarparu'r cymorth gorau posib i oroeswyr. Mae'r grŵp wedi bod yn allweddol hefyd yn cefnogi clinig lles menywod arbenigol cyntaf Cymru ar gyfer y rhai yr effeithir arnynt gan anffurfio organau cenhedlu benywod. Rydym ni'n gweithio o dan gytundeb cydweithredu â Gwasanaeth Carchar Ei Mawrhydi a'r Gwasanaeth Prawf i wella'r dull o weithio gyda'r rhai sy'n cyflawni'r troseddau hyn. Mae hyn yn cysylltu â'r fframwaith i gefnogi newid cadarnhaol ar gyfer y rhai hynny sydd mewn perygl o droseddu yng Nghymru. Mae'r rhwydwaith gwasanaethau tramgwyddwyr sydd newydd ei ffurfio yn cymryd rhan mewn digwyddiadau rhannu arferion rheolaidd, ac mae adolygiad tystiolaeth cyflym ynglŷn â beth sy'n gweithio gyda'r rhai sy'n cyflawni cam-drin domestig i fod i gael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr. Fis nesaf, byddaf yn lansio safonau gwasanaeth tramgwyddwyr newydd i gefnogi gwasanaethau a chomisiynwyr i weithio'n ddiogel ac effeithiol. Rydym ni wedi cynnal ymarfer mapio o wasanaethau tramgwyddwyr yng Ngwent ac yn rhannu'r hyn a ddysgwyd ag ardaloedd eraill. Rydym ni'n mynd i'r afael â stereoteipio ar sail rhyw drwy ein hymgyrch cyfathrebu, Dyma Fi. Gall stereoteipio ar sail rhyw arwain at anghydraddoldeb rhwng y rhywiau, sydd wrth wraidd trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Rydym ni wedi seilio ein hymgyrchoedd ar sylwadau goroeswyr, a'u geiriau nhw, wedi eu lleisio gan actorion, sy'n darparu negeseuon grymus am effaith rhywun dim ond yn gofyn, 'Ydy popeth yn iawn?' yn ein hymgyrch Paid Cadw'n Dawel. Mae gweithio gyda goroeswyr yn rhan annatod o'r darparu. Rydym ni eisiau i'r rhai hynny sydd â phrofiad bywyd o hyn gael llais wrth ddatblygu a darparu polisi, cyllid a deddfwriaeth. Dyna pam y byddwn ni'n treialu panel goroeswr cenedlaethol y flwyddyn nesaf ac yn gwneud mwy o waith ynglŷn â sut beth ddylai'r fframwaith ymgysylltu â goroeswr fod. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ariannu'r wefan a'r llinell gymorth Byw Heb Ofn. Mae'r rhain yn rhoi cymorth cyfrinachol 24-awr, gwybodaeth a chyngor i fenywod, dynion a phlant sy'n cael eu cam-drin. Mae hefyd yno ar gyfer pobl eraill sy'n poeni ac ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda dioddefwyr a goroeswyr. Cefnogir dynion drwy'r prosiect Dyn a llinell gymorth i ddynion. Rydym ni'n gweithio gydag ymgynghorwyr cenedlaethol a rhanddeiliaid allweddol i ddatblygu dangosyddion cenedlaethol y byddant yn fodd o fesur cynnydd at ddibenion y Ddeddf. Byddwn yn ymgynghori ar y rhain erbyn diwedd y flwyddyn ac yn cyhoeddi'r dangosyddion terfynol erbyn mis Mai 2019. Rydym ni wedi darparu canllawiau i gefnogi'r byrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol i gyhoeddi eu strategaethau lleol yn gyntaf. Mae ein cynghorwyr cenedlaethol yn adolygu'r rhain ac yn adrodd yn ôl ar sut y gall hyn wella cyflawni.Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddodd y Prif Weinidog y byddai'n comisiynu adolygiad dan arweiniad arbenigol i ddarpariaeth lloches a gwasanaethau trais rhywiol yng Nghymru. Bydd yr adolygiad yn ceisio defnyddio'r gorau o'r dulliau rhyngwladol yn sail i'r model yng Nghymru o gymorth i ddioddefwyr ymosodiadau rhywiol a cham-drin domestig. Mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn arswydus o gyffredin, nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y byd. Mae ein deddfwriaeth yn torri tir newydd, ond ni fydd dim yn newid dros nos; mae'r materion hyn wedi ymwreiddio'n rhy ddwfn. Rydym ni'n gwneud cynnydd, fodd bynnag, ac rwyf eisiau i'r cynnydd sydd wedi'i wneud dros y tair blynedd diwethaf ers cyflwyno'r Ddeddf gael ei gydnabod. Rwy'n benderfynol y bydd Cymru'n gwireddu ei huchelgais i fod y lle mwyaf diogel ar gyfer menywod yn Ewrop. Diolch. Mark Isherwood AC: Diolch am eich datganiad. Rydych chi'n dweud bod safonau'n cael eu pennu ar gyfer hyfforddi gweithwyr proffesiynol, ac yn cyfeirio at 135,000 o bobl wedi'u hyfforddi. Wrth gwrs, mae hyfforddiant yn ddigwyddiad yn hytrach nag yn broses, ac nid yw ymwybyddiaeth yr un fath â deall a derbyn materion wrth inni gamu i'r dyfodol. Felly, sut ydych chi'n bwriadu sefydlu hyn, nid fel digwyddiad hyfforddi ar-lein neu wyneb yn wyneb unwaith yn unig, ond fel ymwybyddiaeth a newid diwylliannol parhaus? Mark Isherwood AC: Rydych chi'n cyfeirio at addysg perthnasoedd iach i blant a phobl ifanc, yn eu hatal rhag dod yn ddioddefwyr neu dramgwyddwyr, a chyflwyno addysg am berthnasoedd a rhywioldeb mewn ysgolion o 2022, ond nad oes yn rhaid i ysgolion aros tan y cyflwyniad ffurfiol os ydyn nhw'n teimlo eu bod wedi eu paratoi'n ddigonol cyn hynny i wneud hyn. Pan holais chi ynglŷn â hyn yn ddiweddar yn y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, nodais fod yna raglenni fel y rhaglen Hafan Cymru ar waith mewn ysgolion. Rwy'n credu bod y ddau ohonom ni wedi bod allan gyda nhw ac i hynny greu argraff arnom ni. Cyfeiriais y bûm i'n gweithio gyda Jocelyn Davies a Peter Black yng Nghyfnod 4 y Ddeddf, yn bygwth, o bosib, ei atal pe byddem ni heb gael sicrwydd ynglŷn ag addysg ar berthnasoedd iach—neu, rydych chi'n awr yn ei aralleirio ar ffurf y term newydd yr ydych chi'n ei ddefnyddio, 'addysg perthnasoedd a rhywioldeb'—mewn ysgolion. Dywedais nad oeddem ni'n cefnogi hyn ar y sail y byddem ni'n aros saith mlynedd amdano, gan roi'r dewis i ysgolion, os maen nhw'n dymuno, yn y cyfamser. Felly, sut ydych chi wedi gweithredu ar yr hyn a ddywedwyd gennych chi wrthyf i yn y pwyllgor, sef nad oeddech chi wedi cael y sgwrs gyda Kirsty Williams am y saith mlynedd, felly y byddech chi'n dychwelyd ac yn cael y sgwrs honno, oherwydd ei bod hi'n syndod i chi bryd hynny? Rydych chi'n cyfeirio at waith y grŵp arweinyddiaeth ar anffurfio organau rhywiol merched, trais ar sail anrhydedd a phriodas orfodol, a'u bod wedi datblygu fframwaith gweithredu er mwyn mynd i'r afael â thrais ar sail anrhydedd, fel y'i gelwir. Sut mae'r fframwaith gweithredu hwnnw yn troi yn weithredu? Allech chi roi ychydig mwy o wybodaeth inni ynglŷn â beth fydd yn cael ei wneud, pwy sy'n gwneud hynny, ble, pryd a sut y caiff ei fonitro? Rydych chi'n cyfeirio at raglenni tramgwyddwyr. Fe wnes i hefyd, gyda chefnogaeth rhai o'r gwrthbleidiau eraill yn ystod hynt y Ddeddf, gyflwyno gwelliannau, a drechwyd gan y Llywodraeth, a galw ar i raglenni tramgwyddwyr fod yn rhan o'r Ddeddf. Ar y pryd, dywedwyd wrthym ni gan y Gweinidog nad oedd unrhyw gynlluniau achrededig ar gael yng Nghymru. Y gwir amdani oedd bod cynllun iau o'r fath yn bodoli; dyna gynllun Relate Cymru, sydd hefyd wedi'i fabwysiadu gan ddarparwyr amrywiol eraill ledled Cymru. Rydych chi'n cyfeirio at gytundeb cydweithredu â Gwasanaeth Carchar ei Mawrhydi a'r Gwasanaeth Prawf. Wel, cefais sicrwydd y byddai Llywodraeth Cymru yn gweithredu o ran rhaglenni tramgwyddwyr cyn carcharu. Felly, a allwch chi gadarnhau bod y safonau gwasanaeth tramgwyddwyr newydd y byddwn chi yn eu lansio i gefnogi comisiynwyr a gwasanaethau y mis nesaf hefyd yn ymateb i'r angen am rhaglenni tramgwyddwyr cyn carcharu, a sut y byddant yn adlewyrchu'r safonau achrededig Respect, y cyflwynwyd tystiolaeth yn ei gylch i'r grŵp trawsbleidiol ar drais yn erbyn menywod a phlant rai misoedd yn ôl, gan ddarparu fframwaith sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer gweithio gyda'r rhai sy'n cyflawni trais domestig a cham-drin? A hefyd, mae eu technegau newydd yn gweithio gyda phobl ifanc sy'n defnyddio trais ac yn cam-drin aelod o'r teulu, yn gweithio gyda menywod sy'n defnyddio trais yn erbyn dynion, ac yn gweithio gyda'r rhai mewn perthnasau o'r un rhyw, y gwnaethon nhw hefyd ddweud wrth y grŵp trawsbleidiol amdano. Rydych chi'n cyfeirio at y wefan Byw Heb Ofn, a dynion yn cael eu cefnogi drwy'r prosiect Dyn a llinell gymorth i ddynion. Wrth gwrs, fyddech chi ddim yn cyfeirio dioddefwr neu oroeswr sy'n fenyw at elusen sy'n cael ei redeg gan ddynion, ac yn ystod hynt y Ddeddf, cyflwynais welliant arall a oedd yn galw am yr hyn yr oedd Cymorth i Fenywod Cymru wedi galw amdano yn y gorffennol, sef strategaeth rhyw-benodol ar gyfer dynion a menywod. Unwaith eto, dywedodd y Gweinidog na fyddai hyn yn y Ddeddf, ond y byddai'r angen hwnnw yn cael sylw yn y dyfodol. Felly, o ystyried bod Heddlu Gogledd Cymru bellach wedi cyhoeddi bod chwarter eu hachosion o gam-drin domestig yn cynnwys dynion, a bod arolwg troseddu Lloegr yn nodi bod 42 y cant o'r achosion y maen nhw'n ymdrin â nhw bellach yn effeithio ar ddynion, a bod tri chwarter o achosion o hunanladdiad yn ddynion, sut fyddwch chi'n gweithio hefyd gyda rhai elusennau gwych fel KIM Inspire yn Nhreffynnon, yr ydych chi efallai wedi clywed amdani ac a fyddai wrth eu boddau pe byddech chi'n ymweld, a ddechreuodd drwy gefnogi menywod sydd angen cefnogaeth iechyd meddwl yn eu cymuned? Maen nhw bellach wedi eu sefydlu a recriwtio dynion i gyflwyno eu KIM 4 HIM, sy'n torri tir newydd, a sefydlwyd gan grŵp menywod gwych ond sy'n ymgorffori dynion i'w gyflawni. Ac, wrth gwrs, dyna waith DASU, yr uned diogelwch cam-drin domestig ar Lannau Dyfrdwy, a oedd hefyd yn arloesol, flynyddoedd lawer yn ôl, yn ehangu eu gwasanaethau i gynnwys dynion yn ogystal â menywod, sy'n gweithio gyda'i gilydd gan gefnogi ei gilydd. Julie James AC: Iawn. Wel, fe wnaf i fy ngorau gyda'r rhestr hir iawn yna o faterion yr ydych chi wedi sôn amdanyn nhw. O ran bod yr hyfforddiant yn ddigwyddiad ac nid yn broses—rwy'n credu ichi ddweud—mae'n fframwaith hyfforddi. Felly, rydym ni'n cyflwyno agweddau penodol ar y fframwaith hyfforddiant. Felly, er enghraifft, mae 'gofyn a gweithredu' yn rhan o'r fframwaith. Felly, mae'r fframwaith hyfforddi cenedlaethol yn bodoli, y mae'r rhaglen hyfforddiant yn rhan ohono, a'u holl ddiben yw eu bod yn broses a bod pobl yn parhau i wneud cynnydd â'u gwybodaeth, fel ei fod yn set effeithiol o gymwysterau proffesiynol. Ond hefyd, mewn gwirionedd, mae'n gyfres o alluoedd a sgiliau y dylai fod gan bob gweithiwr rheng flaen. Gwnaed argraff arbennig arnaf pan euthum, er enghraifft, i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, sydd wedi rhoi'r hyfforddiant i gyd i bob un o'u diffoddwyr tân oherwydd bod diffoddwyr tân yn cael eu parchu ac yn cael mynd i mewn i dai pobl. Maen nhw wedi cael eu hyfforddi i edrych am arwyddion o drais domestig a thrais rhywiol, ac mae hynny wedi bod yn llwyddiannus iawn ac fe gafodd hynny argraff fawr iawn arnaf. Felly, credaf y gallaf dawelu meddwl yr Aelod ein bod yn ymwybodol iawn ei fod yn fframwaith ac nid yn ddigwyddiad. O ran y mater ysgolion a gododd gyda mi yn y pwyllgor, gyda fy sgwrs ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, mae gennym ni hynny yn y dyddiadur ond dydym ni ddim wedi cyfarfod eto mewn gwirionedd. Ond, fel y dywedais wrtho, rydym ni'n gwneud yn siŵr bod y rhaglenni yr ydym ni'n eu hariannu ar hyn o bryd, fel y dywedais yn y pwyllgor, yn dal i fod yno ac y gall ysgolion sydd wedi datblygu arbenigedd o ganlyniad i'r rhaglenni hynny ac ati gyflwyno'r cwricwlwm newydd cyn gynted â phosib. Cyn gynted ag yr wyf wedi cael cyfarfod gyda Kirsty Williams, byddaf yn rhoi gwybod iddo. Nid wyf eto wedi llwyddo i wneud hynny oherwydd pwysau dyddiadur. O ran rhaglenni tramgwyddwyr, rydym ni'n gweithio gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd i wneud asesiad tystiolaeth cyflym o'r hyn sy'n gweithio gyda'r rhai sy'n cyflawni cam-drin domestig, a gyhoeddir yn fuan. Byddwn yn ymgynghori ar ganllawiau drafft ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio gyda thramgwyddwyr, ac rydym ni'n gweithio gyda byrddau VAWDASV rhanbarthol i sicrhau yr adlewyrchir gwaith gyda thramgwyddwyr yn ddiogel ac effeithio yn eu strategaethau. Felly, byddwn yn disgwyl gweld ymgynghoriad ar hynny cyn bo hir. O ran y materion y soniodd amdanyn nhw bod chwarter yr achosion o gam-drin domestig yn ddynion, Dirprwy Lywydd, heb ddiystyru am eiliad y dynion sy'n dioddef trais yn y cartref—oherwydd mae pob trais domestig yn broses wrthun yn ein cymdeithas—mae ynglŷn â graddfa'r cam-drin. Mae dwy fenyw yr wythnos yn cael eu lladd gan eu partneriaid. Mae hynny ymhell o fod yn wir ar gyfer dynion sy'n adrodd am gam-drin domestig. Mae hynny heb fod yn amharchus i'r bobl hynny sydd, oherwydd nid dyna yw fy mwriad. Ond, yn amlwg, nid yw maint y broblem yn ddim byd tebyg i'r ffigurau a ddyfynnwyd gan yr Aelod yn eich arwain i gredu. Mae llawer llai o dynion yn adrodd am gam-drin—mae'n cyffredinoli, rwy'n gwybod—ar lefel is o lawer na merched. Mae menywod yn ei oddef lawer yn hwy, ac mae'r cam-drin yn waeth o lawer ac yn llawer mwy treisgar. Felly, mae'n rhaid inni gael ymateb cymesur i wahanol fathau o gam-drin. Mae gennym ni'r llinellau cymorth a'r prosiectau sy'n cael eu noddi, ond byddai'n gamgymeriad meddwl bod angen rhyw fath o gydraddoldeb yn y ddarpariaeth o ganlyniad i rai o'r ystadegau a ddyfynnwyd gan yr Aelod. Leanne Wood AC: Arweinydd y tŷ, byddwn yn annog bod yn ofalus wrth drafod pwy sy'n darparu gwasanaethau. Fel cyn swyddog prawf a gweithiwr cymorth ar gyfer Cymorth i Fenywod, byddwn yn dweud, wrth gwrs, bod pob trais a cham-drin ym mhob perthynas yn anghywir, ond rwyf hefyd yn ymwybodol iawn o bobl sy'n cyflawni camdriniaeth sy'n dweud eu bod yn dioddef cam-drin i guddio'u gweithredoedd. Felly, wrth ystyried ariannu'r gwasanaethau, byddwn eisiau bod yn fodlon bod gwiriadau priodol yn digwydd i osgoi'r math hwn o sefyllfa lle caiff pobl sy'n cyflawni camdriniaeth eu hariannu yn gyhoeddus a niweidio ymhellach. Felly, sut y gallwn ni sicrhau bod y rhai sy'n cael arian ar gyfer darpariaeth y gwasanaethau hyn yn ddilys? Rwy'n synnu, tair blynedd a hanner ers cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon, bod y cam sylfaenol o fapio gwasanaethau eto i ddigwydd. Rydym ni'n gwybod o'r sefydliadau sy'n darparu'r gwasanaethau hyn bod diffygion anferth yn y ddarpariaeth gwasanaeth, ac fe all toriadau i Lywodraeth Leol wneud y sefyllfa hon yn waeth. Ond, nid ydym ni'n gwybod graddau hynny oherwydd ni allwn ni ddilyn y llinellau cyllideb yn iawn i ddangos hyn. Fel y soniais wrthych chi yn y pwyllgor, rwy'n bryderus ynghylch y ddarpariaeth ar gyfer plant yn hyn i gyd. Pan oeddwn yn gweithio i Cymorth i Fenywod yn y 1990au, roeddem ni'n ymgyrchu am gyllid craidd ar gyfer gwasanaethau plant. Os nad yw plant yn cael y cyfle i weithio drwy effaith y cam-drin domestig sy'n digwydd rhwng eu rhieni, mae perygl inni weld patrymau'r ymddygiad hwnnw yn cael eu hailadrodd. Fe wnes i grybwyll pryderon hefyd wrthych chi am addysgu perthnasoedd, rheolaeth, caniatâd ac ati yn yr ysgol. Mae'r angen yna i ddechrau ar oedran ifanc iawn, ond ni fydd hyn yn digwydd yn awr, rydym ni wedi clywed, tan 2022—wyth mlynedd ers cyflwyno'r ddeddfwriaeth. Mae hynny'n dweud wrthyf i nad yw'r mater hwn yn flaenoriaeth i'ch Llywodraeth. Ni allwn ni aros i werth tair blynedd arall o niwed posib ddigwydd cyn inni ymdrin â hyn ymhlith pobl ifanc. Ac mae'r gwaith sy'n cael ei wneud gan y trydydd sector, er mor rhagorol y gallai fod, yn wych, ond nid yw'n ddigon—nid yw'n ddigon cynhwysfawr. Felly, fy nghwestiynau yw: a wnewch chi sicrhau bod y gwasanaethau cam-drin domestig i blant yn cael arian craidd? Rwy'n gwybod ichi ddweud y caiff hyn ei gwmpasu gan yr adolygiad o wasanaethau, ond nid wyf yn credu y cafwyd cyfeiriad penodol at wasanaethau plant yn y datganiad hwnnw. A fyddwch chi'n gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i gyflwyno'r newidiadau cwricwlwm hynny? Rwy'n croesawu cyhoeddiad y Prif Weinidog i gomisiynu adolygiad arbenigol o ddarpariaeth lloches a gwasanaethau trais rhywiol yng Nghymru. Mae'n hwyr glas gwneud hynny. Mae gennym ni gymaint o bobl nad ydyn nhw'n cael y cymorth y mae arnyn nhw ei angen pan fyddan nhw'n gofyn amdano, a cheir llawer iawn mwy nad ydyn nhw'n gofyn am gymorth tan yn llawer, llawer iawn hwyrach. Ac rydym ni'n siomi'r holl bobl hyn drwy beidio â rhoi cyllid digonol i wasanaethau sy'n gallu helpu pobl i ailadeiladu eu bywydau ar ôl digwyddiad trawmatig. Felly, cwestiwn arall, wedyn, yw: pryd ydym ni'n debygol o weld casgliad yr adolygiad hwnnw? Ac yn bwysicach, pryd fyddwn ni'n gweld adnoddau ychwanegol yn cael eu dyrannu i ariannu gwasanaethau ychwanegol? Ac mae fy nghwestiwn olaf yn gwestiwn a ofynnais ichi yn y pwyllgor, ond chefais i ddim ateb iddo yno, felly efallai y caf i un yma. Yn 2016, dywedodd cynghorydd cenedlaethol blaenorol fod canllawiau comisiynu yn hanfodol i bwrpas y Ddeddf. Felly, pryd caiff y canllawiau hynny eu cyhoeddi? Julie James AC: Fe wnaf i geisio gweithio fy ffordd drwy'r rhestr yna o gwestiynau. Mae'r darn ynglŷn â chymesuredd yn bwysig iawn i ni. Felly, fel y dywedais i, mae'n rhaid i ni edrych yn ofalus ar bwy sy'n darparu pa wasanaethau a beth yw'r ymateb cymesur i lefelau amrywiol—[Torri ar draws.] Ie. Felly, er enghraifft, mae llawer o ddarparwyr sy'n ymdrin â menywod sy'n ceisio lloches rhag cam-drin domestig hefyd yn ceisio lloches oherwydd eu bod wedi dioddef trais rhywiol, er enghraifft. Mae'r ddau beth yn mynd law yn llaw â menywod—nid cymaint felly gyda dynion sydd wedi goroesi cam-drin domestig. A heb fod yn ddiystyriol o gwbl o ddynion sy'n dod ymlaen, fel y dywedais, mae nifer y dynion sy'n dod ymlaen—mae'n cyffredinoli, wrth gwrs, ac mae hynny bob amser yn annymunol, ond, yn gyffredinol, mae'n llawer llai felly. Felly, rydym ni'n gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr y cawn ni ymateb cymesur ac arian cymesur o ganlyniad i hynny. O na bai gennym ni ddigon o arian i ariannu pob agwedd arno, ond does gennym ni ddim, felly mae ymateb cymesur yn bwysig iawn i ni. Fel rhan o'n model ariannu cynaliadwy, rydym ni'n edrych i weld sut yr ydym ni'n gweithio'n gyffredinol gyda gwasanaethau rhanbarthol. Am y tro cyntaf erioed, bu'n rhaid i awdurdodau lleol gyflwyno cynllun a map o'u gwasanaethau. Felly, dyma'r tro cyntaf yr ydym ni'n ymateb i hynny. Rydym ni wedi gweithio'n galed iawn, yn enwedig mewn ardal dreialu yng Ngwent, sy'n llawer mwy datblygedig o ran eu cydweithio yn y maes hwn, i weld beth fydd yn gweithio ac na fydd hyn yn gweithio. Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud ein bod ni wedi cael rhai canlyniadau anfwriadol o rai o'r trefniadau ariannu yr ydym ni wedi eu rhoi ar waith. Felly, er enghraifft, rydym ni'n gofyn i bobl gydweithio, ac yna rydym ni'n gofyn iddyn nhw gyflwyno ail dendr ar gyfer gwasanaethau, y mae'r pwynt gwerthu unigryw y maen nhw'n ei ailgyflwyno yn rhan o'r cydweithio. Felly, yn amlwg, ceir canlyniadau anfwriadol o ran arferion yn hynny o beth, ac rydym ni'n gweithio'n galed iawn i oresgyn hynny. Ac mae rhai o'r consortia rhanbarthol wedi gwneud awgrymiadau cryf a chynaliadwy iawn rwy'n credu ar gyfer hynny. Mae'r ymgynghorwyr cenedlaethol yn cadeirio'r trafodaethau hynny ac rwy'n siŵr y gallwn ni gynnig model mwy cynaliadwy ar gyfer hynny. Rwy'n cytuno â hi mewn gwirionedd am y gwasanaethau mapio. Dyna ddiben gofyn i'r awdurdodau lleol ddod ymlaen yn y modd yma gyda'u cynllun ar gyfer y gwasanaethau a'n hymateb i hynny. Mae'r Prif Weinidog wedi cyhoeddi ei adolygiad a arweinir gan arbenigwyr. Rwy'n awyddus iawn i weld llais y goroeswr sy'n elfen greiddiol o hynny. Mae'n bwysig bod yr arbenigwyr yno i roi'r cyngor hwnnw inni, ond, fel y dywedais, rydym ni eisiau gweld goroeswyr wrth galon yr adolygiadau o wasanaethau, oherwydd rydym ni'n gwybod faint yr ydym ni'n ei ddysgu o'r hyn a ddigwyddodd iddyn nhw, a lle y gallasem ni fod wedi ymyrryd yn gynharach, a beth oedd yn gweithio iddyn nhw a beth oedd ddim. Roeddwn yn falch iawn o fod yn lansiad gwasanaeth a ariennir gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru gyda Mark Drakeford, fy nghyd-Aelod, yr wythnos diwethaf—Threshold DAS—lle pwysleisiwyd hynny. Cefais y fraint a'r pleser o gyfarfod pedwar o'r goroeswyr yno, a soniodd wrthym ni am eu profiad a beth fyddai wedi bod o gymorth iddyn nhw. Ac mae'n bwysig iawn yn wir inni wneud hynny. Rhan o adolygu'r polisi i gael cyfatebiaeth rhwng y rhywiau, sy'n mynd ar yr un pryd hefyd—ni fydd hi'n syndod i neb yma, os ydych chi wedi darllen cam 1 yr adolygiad, mae i'w weld yno, ond mae cam 2 yr adolygiad yn edrych hefyd ar adnoddau a'r broses gyllidebu yn rhan o'r adolygiad hwnnw, ac rwy'n siŵr y bydd hyn yn dod i'r amlwg. Un o'r pethau yr ydym ni eisiau edrych arno yw sut ydym ni'n mesur ymyriadau ar draws Llywodraeth Cymru, a pha effaith ydym ni'n edrych arno o ran beth mae'r ymyriadau hynny yn eu cyflawni, ac nid yw hynny wedi'i wneud yn union felly o'r blaen, felly rwy'n awyddus iawn i gwblhau hynny. A bydd y canllawiau ar gael yn fuan iawn. Does arnaf i ddim eisiau rhoi dyddiad pendant i chi, ond rwy'n obeithiol y bydd yn fuan iawn. John Griffiths. John Griffiths AC: Diolch, Dirprwy Lywydd— Julie James AC: Mae'n ddrwg gennyf—esgusodwch fi, John. Ar y cwricwlwm, nid wyf byth wedi caely cyfarfod gyda Kirsty Williams, a chyn gynted ag y bydd ef gennyf, byddaf yn adrodd i'r holl Aelodau o ran ble'r ydym gydahynny. Mae'n ddrwg gennyf, John. John Griffiths — fe geisiwn eto. [Chwerthin.] John Griffiths AC: Dim problem o gwbl. Arweinydd y tŷ, fel y byddwchyn gwybod, mae'r pwyllgor yr wyf yn Gadeirydd arno,y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn cymrydymagwedd gyffredinol ar gyfer dychwelyd yr adroddiadau ac, yn wir, y ddeddfwriaeth yr ydym wedi craffu arni, i wneud yn siŵr bod ygweithredu yn cyrraedd y safon briodol, ac mae hynny'n cynnwys y darn penodol hwn o ddeddfwriaeth. Felly, un agwedd yr ydym ni wedi bod yn bryderus amdani, fel y soniodd Leanne Wood,yw'r canllawiau comisiynu statudol, a phrydlondeb bwrw ymlaengyda hynny. Ac fel y dywedodd Leanne Wood hefyd, roedd y cynghoryddcenedlaethol blaenorol wedi dweud, ryw ddwy flynedd yn ôl rwy'n credu, fod cyhoeddi'r canllawiau statudol yn allweddolat ddiben y Ddeddf, a'i bod hi'n bryderus iawn ar y pryd nad oedd unrhywamserlen wedi ei chadarnhauar gyfer cyhoeddi'r canllawiau hynny. Ac, yn wir, yn absenoldeb hynny, cynhyrchodd Ymddiriedolaeth Banc Lloyds a Chymorth i Ferched Cymru ganllawiau anstatudol. Felly, yn syml, bydd gennyfddiddordeb mewn unrhyw beth pellach y gallwch ei ddweud o ran gwneud yn siŵr bod y materion hynny yn cael eu datrys yn foddhaol. Hefyd, o ran y strategaethau lleol, arweinydd y tŷ, mewn sesiwn dystiolaeth ddiweddar, roeddech wedi dweud bod y strategaethau drafft igyd wedi eucyhoeddierbyn y dyddiad cau a osodwyd yn y ddeddfwriaeth, sef mis Mai eleni rwyf yn credu. Ond tybed a oes unrhyw ganlyniadau cyfreithiol o ran ystrategaethau lleol hynnynad ydynt yn cael eu cyhoeddiyn eu ffurfiau terfynolerbyn y dyddiad cau hwnnw ym mis Mai, o ystyried bod y dyddiad cau hwnnw wedi ei nodiyn y ddeddfwriaeth. Rwyf yn meddwl tybed a fydd amserlen ar gyfer y fframwaith cyflawni, gan fy mod i'n credu ynamlwgbodhynny'nbwysig iawn tuagat y cynnydd y mae'n rhaid ei wneud. Ac yn olaf, ar adolygudarpariaeth lloches, tybeda allechroi rhywfaint o eglurder ynghylch sut y bydd yr adolygiad, a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog, yn gweithio ochr yn ochr â'r model ariannu cynaliadwy. Julie James AC: Fe ddechreuaf yn y fan yna, gan y bydd hynny'n caniatáu imi siarad am y ddau gyda'i gilydd. Rydym wedi sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen o randdeiliaid i ddatblygu model ariannu cynaliadwy, ar ôl yr holl waith a wnaethom, fel y dywedais yn fy ateb i Leanne Wood, o amgylch y seilwaith angenrheidiol i ranbartholi’r comisiynu. Ac wedyn, fe wnaethom sylwi, o ganlyniad i gyflwyniadau amrywiol, o bob cwr o Gymru, nad oedd pobl mewn sefyllfa i wneud hynny, a bod anawsterau amrywiol yn bodoli. Felly, yn hytrach na bwrw ymlaen â hynny—rydym yn awyddus iawn i hyn weithio, yn y pen draw, felly yr hyn a wnaethom oedd cefnu ychydig bach. Ac mae’r grŵp gorchwyl a gorffen yn cael ei gadeirio gan un o’r ymgynghorwyr cenedlaethol, Yasmin Khan, gyda bwriad o’n cael ni i weithio allan y model ariannu cynaliadwy y mae pawb sy’n gysylltiedig â’r sector mewn gwirionedd yn ei gefnogi ac yn cytuno ag ef. Felly, fe wnaeth yr amserlen lithro, ond credais ei bod hi’n llawer pwysicach cael y model ariannu cynaliadwy hwnnw na chael yr amserlen anhyblyg ac yna bod heb rywbeth a oedd yn gweithio. O ran a oedd cosb neu ganlyniad i'r ffaith nad oedden nhw wedi gwneud hynny, roedd yn rhaid inni ystyried hynny, gan nad oeddwn i’n credu, y lle yr ydym ynddo yn y cylch, bod hynny’n ymateb cymesur. Felly, fe wnaethom benderfynu nad oedd hynny’n ymateb cymesur yn yr achos hwn. Fodd bynnag, mae'n bosibl cael hynny os na fydd yr amserlen yn cael ei bodloni mewn fersiynau pellach. Ond o ystyried lle'r ydym arni yn y Ddeddf, a bod hyn yn faes newydd ac ati, ac o ystyried eu bod nhw wedi cyflwyno eu drafftiau, nid oeddem ni’n credu bod hynny’n ymateb cymesur. Ond mae'n bosibl gwneud hynny yn ddiweddarach yn y cylch os oes gennym rywun nad yw’n cynhyrchu mewn da bryd. O ran y ddarpariaeth lloches, rydym yn bwriadu edrych ar yr asesiad o’r angen sy’n dod yn ôl o’r awdurdodau lleol, beth sy’n cael ei ariannu ar hyn o bryd, sut y mae’r map yn edrych a sut mae hynny'n cyfateb. Mae hyn yn faes cymhleth iawn, oherwydd nid cyllid Llywodraeth Cymru yn unig yw ef—ceir llwyth o setiau cyllid eraill: mae llawer o elusennau sy’n ariannu yn y maes hwn, mae treth tamponau Llywodraeth y DU yn ariannu yn y maes hwn, ac mae nifer o bethau eraill yn gwneud. Felly, yr hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud yw rhoi set o gyllidebau gyda’i gilydd a fydd yn caniatáu i bobl gael y gorau o'r jig-so hwnnw gan ryw fath o ddarparu llwybr drwyddo, gan nad ydych chi eisiau gorfod cael doethuriaeth mewn sut y mae peth o hynny’n dod at ei gilydd er mwyn bod yn gallu cael gafael arno, ac i atal y gystadleuaeth gyson am symiau bach o arian sy'n digwydd mewn grwpiau o bobl yr hoffem gael cydweithrediad ganddyn nhw. Felly, nid grŵp gorchwyl a gorffen bach y mae ymgynghorwyr cenedlaethol yn ei gadeirio mohono, ond dywedir wrthyf fod pethau’n mynd yn dda iawn, ac rydym yn obeithiol iawn y bydd gennym fodel ariannu hynod gynaliadwy yn dod allan ohono. David J Rowlands AC: Caiff fy niddordeb yn y pwnc hwn ei ysgogi gan y blynyddoedd lawer a dreuliais fel ynad heddwch, lle gwelais yn uniongyrchol effaith ofnadwy trais yn y cartref, nid ar y dioddefwyr yn unig, ond hefyd ar y teuluoedd. Felly, a gaf i ddiolch i arweinydd y tŷ am ei datganiad? Mae'n braf gweld y camau a gymerir gan Lywodraeth Cymru i ddileu’r troseddau ffiaidd hyn. Croesawyd Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, ac roedd yn ddarn o ddeddfwriaeth yr oedd angen mawr amdano. Rwyf hefyd yn meddwl ei bod hi’n iawn cydnabod y nifer o ymyriadau a mentrau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cyflwyno ers y Ddeddf, gan gynnwys strategaeth genedlaethol a’i chwe amcan a gyhoeddwyd yn 2016, ac mae arweinydd y tŷ yn sôn am y llinell gymorth a’r wefan Byw Heb Ofn. Byddai cael ffigurau ynghylch effeithiolrwydd y ddau ymyriad hyn o ddiddordeb ynghyd â lefel y rhyngweithio gan ddioddefwyr â'r ddau wasanaeth ar-lein hyn. Arweinydd y tŷ, ers blynyddoedd lawer, roedd trais yn y cartref yn cael ei anwybyddu gan yr heddlu a'r gymdeithas yn gyffredinol, gan ei weld fel ‘materion teuluol’ yn aml. Diolch byth, nad yw hynny bellach yn wir. Cydnabyddir bellach nad yw trais yn y cartref yn effeithio ar y teuluoedd yn unig, ond hefyd ar gymdeithas yn gyffredinol. Mae pobl sy'n tyfu i fyny gyda thrais yn y cartref yn aml yn mynd â’r trais hwnnw gyda nhw i’w gweithgareddau cymdeithasol ehangach, ac mae'r rhai sy'n gweld trais yn y cartref yn rheolaidd yn llawer mwy tebygol o'i ystyried yn ymddygiad arferol ac maen nhw’n adlewyrchu hynny yn aml yn eu perthnasoedd domestig eu hunain. Ffactor allweddol wrth amddiffyn dioddefwyr trais yn y cartref yw darparu ymyriadau i’w helpu nhw i ddianc o berthnasoedd o'r fath. Mae’n rhaid iddyn nhw fod yn siŵr os byddan nhw’n gadael amgylchedd camdriniol, y byddan nhw’n cael eu hamddiffyn rhag eu camdriniwr ac y bydd lloches ddiogel yn cael ei darparu ar eu cyfer nhw, ac nid ar eu cyfer nhw yn unig ond hefyd ar gyfer unrhyw blant sydd ganddyn nhw. Mae’n rhaid iddyn nhw fod yn hyderus hefyd y bydd eu sefyllfa yn cael ei deall ac y bydd y gyfraith yn gweithredu yn erbyn y drwgweithredwyr mewn modd priodol.Arweinydd y tŷ, mae’n rhaid inni sicrhau bod niferoedd digonol o lochesi i gymryd unrhyw, a phob, dioddefwr trais yn y cartref. Arweinydd y tŷ, roeddech yn sôn mai Heddlu Gwent yw’r heddlu cyntaf yng Nghymru i gynnig cymorth arbenigol 24 awr i ddioddefwyr trais yn y cartref. Bydd ganddyn nhw, yn ystafell reoli’r heddlu, dîm o bedwar swyddog gwaith allanol pendant sydd wedi eu hyfforddi yn arbennig ac a fydd yn gweithio gyda phobl sy'n dod ymlaen fel dioddefwyr trosedd o'r fath yn unig. Mae hyn yn ymateb cadarnhaol at y ffaith bod Heddlu Gwent yn derbyn tua 12,000 o alwadau trais yn y cartref y flwyddyn. Ond gwyddom, mae'n debyg, bod llawer mwy o ddioddefwyr allan yna sydd, oherwydd ofn dialedd, yn methu â chrybwyll camdriniaeth o'r fath. Y gobaith yw y bydd heddluoedd eraill yng Nghymru yn dilyn yr esiampl ragorol hon. Efallai y gall arweinydd y tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ar le y mae heddluoedd eraill o ran hynny. Mae’n rhaid i bob un ohonom chwarae ein rhan, yn Aelodau’r Cynulliad ac yn ddinasyddion cyffredin, gan helpu i ddileu'r arfer drwg yma. Mae cam-drin domestig yn drais a thrais o'r math gwaethaf, gan ei fod yn aml yn digwydd i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Mae’n rhaid inni anfon neges glir na oddefir hyn yn y gymdeithas yng Nghymru. Julie James AC: Wel, ie, diolch ichi am y sylwadau hynny. Rwyf yn dymuno talu teyrnged i’n cyn gyd-Aelod Jeff Cuthbert, sy’n gomisiynydd heddlu a throsedd, sydd wedi mynd â’i angerdd gydag ef i Heddlu Gwent, ac mae Heddlu Gwent yn sicr wedi bod yn ddelfryd ymddwyn da yn hyn o beth, ac y fe yw comisiynydd arweiniol yr heddlu yn y maes hwn. Rydym yn gweithio'n agos iawn gydag ef i wneud yn siŵr ein bod ni’n deall beth sy'n gweithio, ac, fel y dywedais, Gwent yw un o'r ardaloedd yr ydym wedi bod yn edrych arno i weld sut i gyflwyno'r comisiynu rhanbarthol, oherwydd natur ddatblygedig eu trefniadau. Cododd David Rowlands bwynt diddorol ynghylch data. Mater i ni yw hynny, ac un o'r rhesymau pam rydym yn gwneud yr adolygiad y cyhoeddodd y Prif Weinidog yw i wneud yn siŵr bod y data cywir i gyd gennym a, lle nad yw ef gennym, rydym yn gwybod ymlaen llaw nad yw ef gennym a gallwn roi’r trefniadau cywir ar waith fel y gallwn gasglu’r data hwnnw. A daw’r data hwnnw o bob man: o adnoddau damweiniau ac achosion brys, gan feddygon teulu, o raglenni, o linellau cymorth, ac yn y blaen. Felly, dyna un o lawer o ddibenion yr adolygiad. Ac o ran yr ymddygiad arferol a’r rhaglenni tramgwyddwyr yn unig, gwyddom eu bod nhw’n gweithio. Ar ôl yr ymgyrch This Is Me, fe gawsom ni fwy o ddefnydd o’r wefan Byw Heb Ofn gan dros 6,000 y cant. Felly, roedd ef yn wir yn gweithio. Saith miliwn o argraffiadau drwy hysbysebion teledu a radio, cynnydd sylweddol yn nefnydd ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i gyd—felly, mae hynny'n dda iawn. Rydym hefyd yn gwybod bod galwadau i'r llinell gymorth gan bobl eraill sy’n bryderus yn ystod yr ymgyrch Paid Cadw'n Dawel wedi dyblu o'i gymharu â'r un cyfnod y flwyddyn flaenorol. Felly, gwyddom eu bod nhw’n gweithio ac rydym yn casglu data i ddangos hynny. Y peth olaf i'w ddweud yw bydd ymgyrchoedd yn y dyfodol yn canolbwyntio ar reolaeth gymhellol. Ddirprwy Lywydd, rwyf wedi gweld y bwrdd stori ar gyfer hynny; cyffwrddodd fi hyd at ddagrau, mae’n rhaid imi ddweud. Rydym yn lansio’r rhai hynny fis Ionawr ac rydym yn disgwyl treiddiad tebyg gan gyrraedd pob rhan o’r farchnad i ddyblu ein hymdrechion i ddweud yr hyn a ddywedodd David Rowlands, sef bod yr ymddygiad hwn yn annerbyniol mewn unrhyw gymdeithas waraidd, heb sôn am Gymru. Ac, yn olaf, Joyce Watson. Joyce Watson AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch ichi am eich diweddariad heddiw, arweinydd y tŷ. Gwyddom i gyd mai dydd Sul diwethaf oedd Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod a bydd 16 diwrnod o weithredu. Ceir llawer o ymgyrchu parhaus a chodi ymwybyddiaeth am bethau fel ymgyrch y Rhuban Gwyn, a byddaf yn gwneud un o'r rhai hynny unwaith eto gyda Sefydliad y Merched yn Aberystwyth ddydd Gwener. Ond yr hyn nad yw’n digwydd yw—nifer yr achosion o drais yn y cartref a dwy fenyw sy’n marw bob wythnos, nid yw’r nifer hwnnw’n lleihau. Nid oes gostyngiad o gwbl yn y ffigurau hynny, ac mae’r ffigurau hynny yn cynrychioli pobl. Maen nhw’n cynrychioli unigolion a theuluoedd ac anwyliaid sy'n cael eu colli. Felly, mae hyn yn fy arwain i ofyn y cwestiwn: er fy mod i’n cydnabod yr holl waith da yr ydym yn ei roi i mewn i’r ysgolion yn awr, yn addysgu plant am faterion parch yn gynnar pan eu bod nhw’n gallu deall hynny; mae’r gwaith yr ydym yn ei wneud y tu hwnt i hynny o ran clybiau eraill, clybiau cymdeithasol, clybiau chwaraeon, clybiau ieuenctid nad ydynt yn gysylltiedig ag ysgolion, sut allwn ni drosglwyddo'r neges honno i gymunedau mewn ffordd wahanol? Oherwydd, mae hi'n amlwg bod rhaid inni newid y ffordd y mae pobl yn ymddwyn, ac mae'r ffordd y mae pobl yn ymddwyn yn amlwg yn dechrau gyda phobl ifanc. Y ffigur arall nad yw'n ymddangos yn aml iawn yw'r un y dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wrthyf amdano yr wythnos diwethaf, eu bod nhw’n cael 60 o alwadau bob mis ynghylch bygythiadau llosgi bwriadol. Ac, os edrychwch chi ar ffigurau'r DU ynghylch trais yn y cartref, mae 40 y cant ohonyn nhw o ganlyniad i ymosodiadau llosgi bwriadol. Felly, dyna fy nau gwestiwn: un am y gwasanaethau tân ac achub eraill yn ymgymryd â’r gwaith da iawn sydd wedi ei sbarduno gan Huw Jakeway yn y de, a’r llall am ehangu, gymaint â phosibl, yr effaith a’r dylanwad y gallwn eu cael ar bobl ynghylch materion parch. Julie James AC: Ie, ac, fel arfer—mae Joyce Watson wedi hyrwyddo hyn ers blynyddoedd maith. Eich holl yrfa wleidyddol, rydych wedi hyrwyddo hyn, a da o beth yw hynny. Ac mae'n destun pryder nad yw’r ffigurau’n symud. Mae angen llawer mwy o effaith ar y cyd, ar draws ein cymdeithas, ar hyn. Mae’n rhan o'r rheswm pam rydym yn rhedeg y darn ynghylch stereoteipio ar sail rhyw, gan fy mod i’n credu—. Mae rhai pobl, rydym wedi cael rhai sylwadau sy’n gofyn beth sydd gan hyn i wneud â’r peth. Ond, mewn gwirionedd, mae angen inni ddeall achos sylfaenol rhai o'r materion hyn, a rhan fawr o'r achos sylfaenol yw bod pobl yn cael eu gorfodi i fod yn esiamplau ymddygiad nad ydyn nhw’n dymuno bod, nid ydyn nhw’n bodloni’r disgwyliadau, ac maen nhw’n gwneud i bobl ddioddef o ddifrif yn eu hiechyd meddwl, ac mae hynny'n arwain at y mathau hyn o raglenni. Felly, allwn i ddim cytuno â chi yn fwy. Rydym ni'n cael sgyrsiau gyda'n prifysgolion ynghylch rhedeg rhaglenni cydsyniad gorfodol cyn i bobl gofrestru, er enghraifft, a byddwn i’n hoffi talu teyrnged i Brifysgol Caerdydd, sydd eisoes wedi gwneud hynny, a byddem ni’n hoffi gweld hynny’n ymestyn yn gyffredinol, a chael sgyrsiau gorfodol ynghylch cydsyniad ar gyfer pobl ifanc mewn ysgolion wrth iddyn nhw ddechrau ymwneud â gweithgarwch rhywiol yn rhan o'r cwricwlwm newydd, ac, fel y dywedais, byddaf yn siarad gyda Kirsty ynghylch amseriad hynny, a’r hyn y gallwn ni ei wneud am y peth. Ond mae hi’n gwneud pwynt da iawn, a byddaf yn codi hynny gyda'r cynghorwyr cenedlaethol hefyd, ynghylch sut y gallwn, er enghraifft, gael ein rhaglen diogelu ac ymgysylltu â phobl ifanc i gymryd rhan yn y mater hwn, gan ei bod hi’n hollol gywir: mae’n rhaid cael y sgyrsiau cydsyniad hynny allan yn y gymdeithas. Yn anffodus, gan wisgo fy het data a digidol, ceir nifer cynyddol o ddynion ifanc sy’n gaeth i bornograffi ar-lein, ac mae hynny'n fater difrifol hefyd. Rydym yn gweld cynnydd mewn rhai mathau o ymddygiad sy'n gysylltiedig â hynny. Felly, mae hyn—rydych yn llygad eich lle: mae arnom angen gwneud hyn yn gyffredin mewn cymdeithas, ac mae’r holl fater ynghylch profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, addysgu plant nad yw’r hyn y maen nhw’n ei brofi yn arferol nac yn gywir, a bod ganddyn nhw hawliau, a bod ein dull addysgol cyfan sy’n seiliedig ar hawliau, yn y lle hwn hefyd. Credaf, felly, bod arnom angen dull Llywodraeth gyfan i weithio hyn allan, a chredaf fod yr adolygiad rhyw yn ein gwthio i'r cyfeiriad hwnnw yn fawr iawn hefyd, ac mae hi'n hollol gywir wrth dynnu sylw at hynny. Diolch yn fawr iawn i chi, arweinydd y tŷ. Diolch. 5. Dadl: 'Astudiaeth Ddichonoldeb i Oriel Gelf Gyfoes i Gymru' ac 'Astudiaeth Ddichonoldeb i Amgueddfa Chwaraeon i Gymru' Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar, a gwelliannau 2, 3, 4 a 5 yn enw Rhun ap Iorwerth. Yr eitem nesaf yw'r ddadl 'Astudiaeth Ddichonoldeb i Oriel Gelf Gyfoes i Gymru' ac 'Astudiaeth Ddichonoldeb i Amgueddfa Chwaraeon i Gymru'. Galwaf ar y Gweinidog, Dafydd Elis-Thomas. Cynnig NDM6873Julie James Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cyhoeddi’r astudiaethau dichonoldeb ar 'Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru— Astudiaeth Ddichonoldeb' ac 'Amgueddfa Chwaraeon i Gymru—Astudiaeth Ddichonoldeb'. 2. Yn croesawu’r dadansoddi a’r argymhellion yn y ddau adroddiad, ynghyd â’r cyfleoedd a’r heriau sydd ynghlwm wrthynt. 3. Yn cydnabod bod gofyn gwneud rhagor o waith cyn y gall penderfyniadau gael eu gwneud ynghylch camau gweithredu yn y dyfodol. Cynigiwyd y cynnig. Dafydd Elis-Thomas AC: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Nid yw 'dichonoldeb' yn air hawdd i'w yngan yn Gymraeg nag yn Saesneg, ond mae'n fraint gen i gyflwyno'r ddadl yma a dathlu'r ffaith ein bod ni'n genedl sy'n gyforiog o hanes a diwylliant, ble mae ein hanes a'n treftadaeth ni yn elfennau pwysig yn ein cymeriad fel cenedl. Ac, o ganlyniad i hynny, mae'r ffordd yr ydym ni yn cyfleu ein hunain drwy gelf a chwaraeon bob amser yn fater trafodaeth yn ein plith ni. Yn yr achos yma, mi fu'r ymgynghorwyr ar gyfer y ddwy astudiaeth yma yn gweithio am flwyddyn, a mwy na hynny, ac mae'r adroddiadau terfynol bellach wedi'u cyhoeddi, ac rydw i wedi cael cyfle i'w hastudio nhw. Mi fyddaf i'n cyfeirio ar rai o'r prif argymhellion, ond beth rydym ni'n ceisio amdani ydy nid chwilio am atebion hawdd na sydyn, ond rhoi cyfle i bobl gyfrannu i'r drafodaeth, ac mae'r ddadl yma yn amser y Llywodraeth yn rhan o hynny. Rydym ni am geisio sicrhau—a dyma ydy'r prif amcan—fod pobl Cymru yn cael gafael ac yn gallu cymryd rhan a mwynhau ein celf a diwylliant byrlymus, a'n bod ni'n cynyddu'r gyfranogaeth honno. I'r pwrpas yma, fe ymgynghorwyd â rhanddeiliaid o bob math—arbenigwyr yn eu maes, pobl â diddordeb arbennig mewn amgueddfeydd a chelf—ac mae'r argymhellion yn y ddau adroddiad yn deillio o'r trafodaethau hynny. I edrych yn gyntaf gyda'r astudiaeth chwaraeon, amgueddfa bêl-droed genedlaethol oedd symbyliad cychwyn yr astudiaeth yma yn wreiddiol, ond, yn fuan iawn, fe ledwyd y briff yn ehangach i ystyried treftadaeth chwaraeon o bob math, ond bod pêl-droed yn parhau yn elfen ganolog yn yr argymhellion. Felly, mae'n bwysig ein bod ni yn cofio am yr ystod o gemau hanesyddol a oedd yn cael eu chwarae yng Nghymru, yn sail i'r gemau modern megis rygbi a phêl-droed a snwcer a bocsio, heb anghofio am bwysigrwydd y cynnydd sylweddol mewn pêl-rwyd ymhlith menywod, a'r diddordeb byw a newydd, oherwydd llwyddiant pobl fel Geraint Thomas, mewn beicio ac yna athletau a nofio yn ogystal. Mae gennym ni sêr yn y byd chwaraeon, ac mae'r sêr yr un mor bwysig ag yw cyfranogaeth y boblogaeth yn gyffredinol.Ac mae'n rhaid i mi ddweudfy mod i wedi canfod yn y trafodaethaurwyf i wedi eu cael gyda'r adran sy'n gyfrifol am y maes yma yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig fod yna fwy o ddiddordebgennym ni yng Nghymru—ac mae polisi'r Llywodraeth yn adlewyrchu hynny—mewn cynyddu cyfranogaeth a llai o bwyslais, o bosib, ar gyfrif medalau. Ac rydw i'n meddwl bod hynny yn beth iach. Daeth y Llywydd i’r Gadair. Dafydd Elis-Thomas AC: Mae'r adroddiadau yma, fel y dywedais i, yn benllanw sgyrsiau a chyfraniadau gan sefydliadau ac unigolion, ac mae'r prif gyrff llywodraethu wedi cyfrannu, gan gofio bod gennym ni dros 60 o gyrff llywodraethu ar yr holl amrywiolchwaraeon yng Nghymru, ac mae'r dystiolaeth yn adlewyrchu barn y rheini. Mae yna argymhelliad pendant i fuddsoddi yn Wrecsamyn yr adroddiad i alluogi datblygu'r amgueddfayno yn amgueddfa bêl-droed. Ac mae'r argymhelliad hefyd yn mynd ymlaen yn y panel i sôn am banel arbenigol ar dreftadaeth chwaraeon i gryfhaugweledigaeth genedlaethol a fframweithiau yn codi o hynny.Ac yna mae'rargymhelliad pwysig bod yna gampau eraill yn haeddu sylw a bodyn rhaid ceisio ffyrdd eraill o wneud hynny yn hytrach na chreu rhagor o amgueddfeydd i wahanol fathau o chwaraeon. Mae yna gyfeiriad penodolwedi cael ei wneud at yr awdurdod lleol yn Wrecsam yn yr adroddiad, ac mae'n amlwg nad mater i Lywodraeth Cymru benderfynu ffordd ymlaen ar ei phen ei hun ydy hwn. Rydw i wedi ceisio pob cyfle—ac rydw i'n cael llawer ohonyn nhw, wrth gwrs—i drafod o gwmpas achlysuron chwaraeoni geisio gweld beth yw'r farn a beth yw'r ymdeimladyn gyffredinolyn y sectoryng Nghymru. Mae'r un peth yn wir gyda'r adroddiad celf gyfoes. Dyma'r adeg o'r flwyddyn y mae yna lawer o arddangosfeyddcelf o bobmath yn digwydd ac rydw i wedi cael cyflei weld y diwylliant celf gyfoes iach a bywiog o bob math ar draws Cymru yn ystod y misoedd diwethaf, o'r amgueddfeydda'r orielaumawr drwoddi'r datblygiad diddorolsy'n digwydd bellach mewn llawer o orielau preifat, llai, a'r orielau rhanbarthol, safonol, megis y Mostyn yn y gogledd a Glyn y Weddw a Glynn Vivian yn Abertawe. Mae hyn i gyd wedi cael ei gydnabodyn glir yn yr adroddiad ac efallai mai un o'r argymhellion mwyaf rhybuddiol i mi fel Gweinidog oedd nad ydym yn creu gormod o gynnwrf nac unrhyw fath o anwastadrwyddyn y ddarpariaeth bresennolsy'n bod. Ac rydw i'n meddwl bod hynny yn allweddolbwysig. Mae'r argymhellion yn eithaf clir. Y cam cyntaf ydy'r hyn a elwir yn gynfas cenedlaethol comisiynu gweithiau newydd ledled Cymru i greu diddordeb, gydag artistiaidyn gweithio ochr yn ochr â chymunedaulleol; y cam o fuddsoddi yn y seilwaith sydd gennym yn barod gan ddarparu dull cyflenwi sy'n agor y casgliadau cenedlaethol ac yn cynnig gweithiau newydd i gynulleidfaoedd ar draws y wlad; ac yna y trydydd argymhelliad i sefydlu pencadlys celf gyfoes cenedlaethol yn ofod parhaol ac yn llwyfan bywiog. Wel, mae'r model yma sydd wedi'i awgrymu yn yr adroddiad yn un cymhleth, ond mae o'n un y gallwn ni feddwl am ei ddatblygu mewn sawl ffordd wahanol, gan gysylltu hynny â pha adnoddau sydd ar gael.Fel gyda'r astudiaethau chwaraeon, mae'r cyfan yn dibynnu ar weithredu mewn partneriaeth, yn fy marn i, ac mi fyddaf i yn ceisio gwneud hynny os caf i'r cyfle i barhau yn y swydd yma ac i weithredu ar yr argymhellion.Mae'r astudiaeth yn codi allan o ymgynghoriad, gwybodaeth a dealltwriaeth arbenigol ac rydw i'n ddiolchgar iawn i'r rhai a wnaeth y gwaith, a hefyd i'r holl garedigion chwaraeon a charedigion celf mas fanna sydd wedi cymryd diddordeb yn y broses yma, ac rydw i'n edrychymlaen at glywedbeth a ddywedir ymhellachyn y ddadl yma heddiw. Rwyf wedi dethol y pump gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar David Melding i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwydyn enw Darren Millar—David Melding. Gwelliant 1—Darren Millar Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle: Yn cydnabod gwerth y dadansoddiad a ddarparwyd yn y ddau adroddiad fel sail ar gyfer ymgysylltu cyhoeddus helaeth; Yn croesawu'r argymhellion ar gyfer paneli arbenigol i wella sut y caiff treftadaeth chwaraeon a chelfyddydol Cymru ei chydnabod a'i diogelu. Yn credu bod yn rhaid i benderfyniadau ar weithredu yn y dyfodol adlewyrchu uchelgais i greu rhywbeth ffres ac sy'n arwain y byd. Cynigiwyd gwelliant 1. David Melding AC: Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon ac yn ei chroesawu hi. Hoffwn ddiolch i'r rhai sydd wedi cymryd rhan yn y gwaith o gynhyrchu'r ddau adroddiad hyn. Mae'n waith trylwyr iawn ac yn fy marn i mae'n sail ardderchog ar gyfer dewisiadau i'w datblygu yn y dyfodol. Rwyf i o'r farn hefyd y bydd llawer o dir cyffredin o ran y materion hyn, ac rwy'n edrych ymlaen at ddatblygu cynigion penodol. Ni fyddwn mewn gwirionedd yn cefnogi cynnig y Llywodraeth, a'r unig reswm am hynny yw na chredaf fod digon o ganolbwyntio ar yr argymhellioni'w cymeradwyo yn y modd hwnnw. Nid wyf yn credu mai dyna yw eu diben, mewn gwirionedd. Maen nhw'n ein cyfeirio ni i gyfeiriad penodol. Rwy'n awyddus iawn ein bod yn bwrw ymlaen â rhywfaint o ymgysylltu cyhoeddus, oherwydd mae'r meysydd hyn yn galw am hynny i raddau helaeth iawn. Mae celfyddyd gyfoes yn adeiladu ar draddodiad gwych yn yr ugeinfed ganrif, sy'n rhywbeth y mae gwaith Peter Lord wedi ei ddangos rwy'n credu—sef bod gennym ni enw rhagorol yn y celfyddydau gweledol sy'n caelei esgeuluso'n aml. Rydym hefyd, yn y 15 i 20 mlynedd diwethaf, wedi gweld llwyddiant anhygoel gwobr Artes Mundi, sydd wedi ein rhoi ni ar y map yn rhyngwladol. Ond, mae angen inni ganolbwyntio nawr ar gelfyddyd gyfoes Cymru, ac ar chwaraeon yn yr un modd. Mae'r rhain yn faterion sy'n hawlio ymgysylltu cyhoeddus helaeth iawn. Felly, a gaf i siarad am yr oriel gelf gyfoes yn gyntaf? Rwy'n credu mai'r mater canolog i'w ddatrys yma yw a oes angen adeilad newydd mawreddog proffil uchel, ac mae'n rhaid i mi ddweud, yn fy marn i, fod angen hynny. Os felly, a ddylai fod yn amcan cyntaf unrhyw strategaeth neu'n ddiweddglo o bosib i strategaeth "prif ganolfan a lloerennau", sef yr hyn, i ryw raddau, sy'n brif fyrdwn yr adroddiad hwnnw yr ydym yn ei drafod y prynhawn yma? Rwy'n credu bod Adam Price wedi dod ag egni anhygoel i'r ddadl hon pan wnaeth ef ein herio ni i feddwl yn nhermau amgueddfeydd Guggenheim yn Bilbao neu yn Efrog Newydd—y strwythurau anhygoel hynny. Efallai y gallwnwneud cystal â'r rheini, neu falle ddim, onddyna ddylaifod yn uchelgais inni yn y lle cyntaf. Yna, fe soniodd am rywle fel Port Talbot. Mae'n ystyriaeth gyfoes ardderchog ac yn adeiladu ar rai traddodiadau diweddar o ran cyflawniad celfyddydol. Efallai nad yn y fan honno y cawn ni'r ateb, ond credaf mai yn y fan honno y dylai'r ystyriaeth fod i ryw raddau. Fel y dywed yr adroddiad, mae'r materion hyn yn golygu risgiau mawr. Nid oes gennym hanes diweddar hapus iawn o ran cyfleusterau ar gyfer darpariaeth celfyddyd gyfoes. Nid wyf yn arbennig o awyddus i sôn am fethiannau prosiectau'r gorffennol, ond mae hwn yn faes heriol. Mae hefyd yn guriad calon i waith artistig creadigolein cenhedlaeth bresennol, felly fe ddylai gael flaenoriaeth uchel iawn, iawn. Yn anad dim, rwy'n credu bod angen inni gael gweld rhywbeth newydd, rhywbeth gweladwy sy'n arwain yn fyd-eang. Os na ddechreuwn ni gyda'r uchelgais hwnnw, nid wyf yn hollol siŵr y gallwn fynd i'r lle yr ydym yn dymuno bod ynddo. Er tegwch, mae'r adroddiad yn defnyddio'r termau hyn, ac rydym yn bendant yn dymuno cael model ffederal, gwasgaredig yn rhan o'r strategaeth. Ond rwy'n credu mai'r adeilad urddasol hwnnw yw'r peth y mae angen inni ei ystyried, a chanolbwyntio ar hynny. O ran chwaraeon, unwaith eto, mae'r adroddiad yn cyfeirio at y risgiau, yn enwedig ynglŷn â breuder ariannol. Mae profiad yr Alban yn ddadlennol iawn yn y fan hon, rwy'n credu. Rwyf i'n bersonolo'r farn y dylid edrych ar chwaraeon yn gyffredinol yn hytrach nag ar bêl-droed yn benodol. Rwy'n credu bod pawb yma o'r farn bod angencael amgueddfa genedlaethol nodedig, neu un arall, wedi ei lleoli yn y gogledd. Ni allaf feddwl am le gwellna Wrecsam ar ei chyfer, felly rwy'n hoffi'r agwedd honno ar yr hyn yr ydym yn ei ystyried. Dyna pam y byddwn yn cefnogi gwelliannau 2 a 5 Plaid Cymru. Ond unwaith eto, rwy'n credu bod angen inni ystyried y mater hwn yn drwyadl iawn, er nad yw chwaraeon yn ei ystyr ddiwylliannol yn cael yr amlygrwydd y dylai. Rwy'n credu ei fod yn ffactor enfawr ym mywyd ein cenedl. Ac er bod pob un ohonom ni'n ei fwynhau o ran yr hyn sy'n digwydd ar unrhyw adeg arbennig, mae ei effaith ar y gymdeithas yn ddwys iawn ac mae angen archwilio hynny, ei ddathlu a'i ystyried yn y ffordd honno hefyd. Felly, mae angen edrych ar y pethau hyn mewn ffordd uchelgeisiol iawn hefyd. Yn olaf, a gaf i ddweud fy mod yn hoffi syniadau'r paneli ac yn edrych ymlaen at eu gwaith nhw? A dyna'r math o ymgysylltu a ddylai fod gennym ni yn rhan annatod o'n system. Rwy'n credu y byddwn ni'n dod o hyd i gonsensws ar y materion hyn, ond mae angen dadl fywiog i roi cychwyn arni. Diolch. Galwaf ar LlyrGruffydd i gynnig gwelliannau 2, 3, 4 a 5 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth— Llyr Gruffydd. Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth Ychwanegu ar ôl pwynt 2: Yn croesawu’r argymhelliad y dylid sefydlu Amgueddfa Bêl-droed Genedlaethol yn Wrecsam. Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i weithredu argymhellion craidd yr adroddiad, 'Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru—Astudiaeth Dichonoldeb', yn eu cyfanrwydd, gan gynnwys adeiladu pencadlys cenedlaethol parhaol ar gyfer Oriel Gelf Gyfoes i Gymru. Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 3: Yn croesawu’r argymhelliad y dylid gweithio tuag at adeiladu pencadlys cenedlaethol parhaol ar gyfer Oriel Gelf Gyfoes i Gymru. Gwelliant 5—Rhun ap Iorwerth Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 3: Yn galw ar i Lywodraeth Cymru ymrwymo i weithredu argymhelliad canolog yr adroddiad, 'Amgueddfa Chwaraeon i Gymru—Astudiaeth Ddichonoldeb', y dylid creu amgueddfa bêl-droed genedlaethol yn Wrecsam. Cynigiwyd gwelliannau 2, 3, 4 a 5. Llyr Gruffydd AC: Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y gwelliannau yn enw Plaid Cymru. Mi fyddaf i'n trafod yr elfen amgueddfa bêl-droed yn benodol, ac mi fydd Adam Price yn ymhelaethu ar yr oriel gelf gyfoes. Felly, gwelliant 2 a gwelliant 5 ydy'r rhai rydw i am ganolbwyntio arnyn nhw ac, wrth gwrs, rydym ni'n awyddus nid yn unig i nodi ond i groesawu argymhelliad canolog yr astudiaeth achos ar yr amgueddfa bêl-droed genedlaethol a hefyd, wrth gwrs, i symud ymlaen i weithredu ar yr argymhellion hynny o greu'r amgueddfa bêl-droed rydym ni i gyd am ei gweld. Wrth gwrs, mae wedi bod yn uchelgais inni fel plaid i wireddu hyn ac rydym ni'n falch bod yr astudiaeth yn cadarnhau'n huchelgais ni yn y lle cyntaf bod angen amgueddfa bêl-droed genedlaethol i Gymru, ac yn ail, bod yr amgueddfa honno yn cael ei lleoli yn Wrecsam ac felly yn hynny o beth, rydym ni'n croesawu'r astudiaeth fel cam sylweddol ymlaen. Llyr Gruffydd AC: Mae canfyddiadau'r adroddiad yn gyfiawnhad o'r ymgyrch a lansiwyd dair blynedd yn ôl, pan drafodais i a chyd-Aelodau Plaid Cymru hyn yn gyhoeddus gyntaf, ochr yn ochr â chyfarwyddwyr Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam, pan lansiwyd ein hymgyrch ar y Cae Ras. Bryd hynny, wrth gwrs, roeddem ni'n dadlau y dylid sefydlu amgueddfa bêl-droed genedlaethol yn Wrecsam, cartref ysbrydol y gêm. Dyna'r lle y dechreuodd pêl-droed yng Nghymru, mewn gwirionedd. Mae'n gartref o hyd i'r stadiwm ryngwladol hynaf yn y byd, yn ogystal â'r clwb pêl-droed hynaf yn y byd ond dau. Dyna'r lle, wrth gwrs, y gwnaeth sefydlwyr Cymdeithas Bêl-droed Cymru gyfarfod flynyddoedd lawer iawn yn ôl. Hefyd, nid hanes yn unig, ond dyfodol pêl-droed hefyd, oherwydd mae'r FA, wrth gwrs, wedi buddsoddi yn y dyfodol gyda chanolfan datblygu pêl-droed genedlaethol wedi ei lleoli ym Mharc Colliers yn Wrecsam. Ac roedd Plaid Cymru yn dadlau'r achos o blaid amgueddfa bêl-droed genedlaethol yn ein maniffesto ar gyfer etholiad 2016 ac, wrth gwrs, sicrhawyd bod yr astudiaeth ddichonoldeb hon yn digwydd yn rhan o gytundeb y gyllideb a wnaethom ni gyda Llywodraeth Cymru. Ond, nid dyma ddiwedd y stori, i'r gwrthwyneb. Mae llawer mwy o waith eto i'w wneud, a hoffwn weld y Llywodraeth nawr yn cyflwyno amserlen i wneud yn siŵr ein bod yn gwireddu'r uchelgais hwn cyn gynted ag y gallwn ni. Rwy'n anghytuno â chanfyddiadau'r adroddiad mewn ambell fan, neu'r argymhellion, yn gyntaf oll, wrth gwrs, o ran y model llywodraethu. Er mwyn bod yn amgueddfa genedlaethol o'r iawn ryw, credaf ei bod yn briodol i'r amgueddfa bêl-droed genedlaethol arfaethedig hon fod yn rhan o deulu Amgueddfa Genedlaethol Cymru, yn hytrach nag—ac efallai fod hyn yn annheg, yn ddim mwy nag amgueddfa leol, ondâ statws llai aruchel yn sicr. Yn ail, fy uchelgais i o hyd yw bod yr amgueddfa yn cael ei hymgorffori o fewny gwaith o ailddatblygu'r Cae Ras yn y dyfodol. Mae'n drueni mawr y diystyrwyd y posibiliad hwnnwmewn un paragraff yn yr astudiaeth ddichonoldeb. Ond, yn sicr, fel plaid rydym yn awyddus i weld y datblygiad hwn yn digwydd, a byddwn yn parhau i alw am wneud yr amgueddfa yn gatalydd ar gyfer y gwaith ailddatblygu hwnnw yn y Cae Ras, er efallai fod yr uchelgais hwnnw yn rhywbeth y bydd raid i ni ei ystyried yn yr hirdymor i ryw raddau. Llyr Gruffydd AC: Nawr, mae'r astudiaeth hefyd, wrth gwrs, fel y mae'r Gweinidog wedi cyfeirio, wedi amlygu nad oes polisi na chanllawiau na strategaeth treftadaeth chwaraeon gennym ni yng Nghymru fel y dylai fod, ac mae'r argymhelliad i greu panel arbenigol i ddatblygu gweledigaeth genedlaethol a fframwaith weithredu oll yn bethau, yn amlwg, i'w croesawu. Mae hi'n bwysig, serch hynny, bod jig-so amgueddfa Cymru yn cael ei gwblhau. Rydym ni'n gwybod, wrth gwrs, am bresenoldeb yng Nghaerdydd yn yr amgueddfa genedlaethol ac yn San Ffagan, Big Pit yn y Cymoedd, amgueddfa'r glannau yn Abertawe, gwlân yn y de-orllewin, llechi yn y gogledd-orllewin. Mae yna wagle yn y gogledd-ddwyrain, ac rydw i wedi dadlau mewn cyd-destunau eraillbod angen mwy o sefydliadau cenedlaethol i fod â phresenoldeb yn y gogledd ddwyrain er mwyn ategu hunaniaeth—identity—Cymreig ardal sydd, yn naturiol, yn edrych yn fwy i gyfeiriad Lerpwl a Manceinion nag y byddai hi efallai i Gaerdydd. Mae hwn yn gyfle nid un unig i gyflawni hynny, ond inni ddweud stori pêl-droed Cymru o bersbectif Cymreig, a hynny wedi ei leoli fel rhan o amgueddfa genedlaethol. Gareth Bennett AC: Diolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r ddadlheddiw. Mae'n bwnc diddorol, neu'n gyfuniad o bynciau—pwnc chwaraeon a phwnc celf. Cytunaf â llawer o'r hyn y mae Llŷr Gruffydd newydd ei ddweud ar bwnc yr amgueddfa bêl-droed. Cyfeiriodd Llŷr at Wrecsam fel cartref ysbrydol pêl-droed Cymru. Wrth gwrs, Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yw fy nghlwb i, ond rwy'n cydnabod yn llwyr mai yng nghornel y gogledd-ddwyrain y dechreuodd pêl-droed cyfundrefnol yng Nghymru mewn gwirionedd. Wrth gwrs, ers blynyddoedd lawer, bu'r Cae Ras yn llwyfan i lawer neu i ran fwyaf o gemau pêl-droed rhyngwladol Cymru. Cafwyd cryn anfodlonrwydd yn y 1990au ymhlith pobl y gogledd—roeddwn yn ymwybodol ohono ar y pryd—pan gafwyd mwy o gemau rhyngwladol yn dod lawr i Gaerdydd, bryd hynny yn y stadiwm genedlaethol. Ac yn fy marn i, byddai hyn yn gam daer mwyn cadarnhau pwysigrwydd y gogledd-ddwyrain drwy ei gynnwys mewn strategaeth ar gyfer dathlu diwylliant yng Nghymru, gan gyd-fynd â'r hyn y mae Llŷr newydd ei ddweud. Dyfynnodd ychydig o ffeithiau pwysig am Wrecsam, felly nid wyf am eu hailadrodd nhw, ond soniaf am un neu ddau o bethau eraill. Roedd clybiau cynnar eraill o bwys ar yr adeg honno yng nghornel y gogledd-ddwyrain. Yn ardal Wrecsam, roedd y Derwyddon o Riwabon, ac roedd Clwb Pêl-droed y Waun hefyd. Roedden nhw'n enillwyr cynnar Cwpan Cymdeithas Bêl-droed Cymru, ar wahân i Wrecsam. Cynhyrchodd clwb y Waun Billy Meredith, a oedd fwy na thebyg yn chwaraewr enwocaf yr oes Edwardaidd drwy Ynysoedd Prydain, felly rwy'n credu bod y Waun wedi chwarae rhan fawr hefyd. Byddai hynny hefyd yn cyd-fynd â'r strategaeth o gael yr amgueddfa hon yn Wrecsam. A byddai cyplysu hynny ag ailddatblygu'r stadiwm yn syniad da pe gallem edrych o ddifrif ar hynny. Credaf fod hynny'n deilwng iawn o ystyriaeth drwyadl. A phwysigrwydd cael amgueddfa dda—hynny yw, mae gennym ni amgueddfeydd. Nid ydyn nhw bob amser o statws aruchel. Rwy'n cofio pan oedd gennym yr amgueddfa chwaraeon genedlaethol, yn Sain Ffagan. Roedd yno rai eitemau a oedd o ddiddordeb, ond nid oedd yr arddangosfa wedi cael ei harddangos yn arbennig o dda, a chredaf fod statws yr amgueddfa, fel y crybwyllodd Llŷr, yn bwysig hefyd; mae angen iddo fod yn gasgliad da. Rwy'n cytuno â David Melding bod angen inni gael trafodaeth ar yr oriel gelf gyfoes, oherwydd mae'r cynigion ar y pwnc hwnnw ychydig yn fwy amwys. Yn rhyfedd ddigon, soniodd David am Bort Talbot, sydd wedi codi ei ben fel safle arloesol o bosib ar gyfer oriel gelf o'r fath. Wrth gwrs, mae Port Talbot yn enwog yn draddodiadol am ei ddiwydiant yn hytrach nag am ei ddiwylliant. Wrth gwrs, gwyddom bellach fod bywyd diwylliannol yn dechrau ffynnu ym Mhort Talbot, felly byddai'n—[Torri ar draws.] Iawn, wel, nid wyf yn bwriadubod yn nawddoglyd. Mae gan Bort Talbot ddiwylliant artistig bywiog iawn. Byddai hyn yn ychwanegu at hynny, ac felly credaf fod hynny'n syniad radical a dylem ei ystyried. A diolch yn fawr am yr adroddiad. Mick Antoniw AC: Roedd ynbleserdarllen yr adroddiad. Roedd rhannau ohono nad oeddwn i'n eu deall; cyfeirio yr wyf i mewn gwirionedd at y rhan sy'n trafod celf gyfoes. Roedd gennyf ddiddordeb arbennig yn hyn oherwydd ymddengys i mi fod yna ansicrwydd oddi mewn i'r rhan honno, a'r gwrthdaro, rwy'n tybio, rhwng y syniad o sut yrydych yn edrych ar y ganolfan ragoriaeth draddodiadol—yr un weledol, yr un a gaiff ei hanelu at dwristiaid, yr un sydd wedi ei hanelu at broffil a phroffilrhyngwladol, ac ati—a'r dewis arall o sut yr ydych yn datblygu'r safleoedd sydd o gwmpasac yn eu cydlynu yn ddehongliad cyfan o hynny. Ac i ryw raddau, wrth gwrs, ceir problemau gwirioneddol o ran cyfalaf, o ran cyllid ac ati. Mae gennyf rywfaint o ddiddordeb yn y dull hwb, ac rwy'n sylwi mai'r hyn a ddywed yr adroddiad—cyfeirir at Beth fydd yn gwneud gwahaniaeth i gymunedau, i artistiaid ac i seilwaith y celfyddydau gweledol sy'n bodoli eisoes? Nawr, os yw hynny'n wir, y rheswm pam mae gennyf i ddiddordeb yn benodol yw bod gennym nifer o ardaloedd sy'n tyfu yng Nghymru lle ceir gwagleoedd gwirioneddol o ran darpariaeth celf. Hynny yw, gadewch inni ystyried Pontypridd—mae'n amlwg y byddwn i'n siarad am fy etholaeth fy hun—ond ceir rhai eraill, a Phontypridd yn arwain hyd at y Cymoedd yn eu cyfanrwydd. Os edrychwch chi ar y map o'r lleoliadau ar gyfer darparu cyfleusterau, ac ati, mae prinder gwirioneddol ohonyn nhw mewn rhai ardaloedd, ac eto mae llawer o adeiladau sylweddol ar gael, y gellid eu defnyddiope byddai gennym ydychymyg i wneud hynny. Felly, y mater sy'n peri ychydig bach o bryder i mi yw'r eglurder ynglŷn â phen ein taith a'r gwrthdaro rhwng y gwahanol ddewisiadau sydd dan sylw yma. Bûm yn ymweld â Kiev dros y penwythnos, a cheir yno adeilad mawr a fu gynt yn ystordy arfau,a oedd yn amlwg wedi storio arfau, ac sydd bellach wedi cael ei addasu yn warws enfawr o gelfyddyd gyfoes. Roedd yn ddiddorol tu hwnt fel enghraifft o sut y gallech chi ymdrin ag adeilad diwydiannol mewn gwirionedd. Felly, pansiaradwch am Bort Talbot, ceir llawer o adeiladau diwydiannol mawr ym Mhort Talbot nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio. Mae'r seilwaith hwnnw gennych chi yno, a'r capasitimewn gwirionedd i'w leoli yno a chael pobl i ymgysylltu ag ef yno. Os mai'r bwriad yw gwneud y celfyddydau yn fwy hygyrch ac ymgysylltu o ran cyfleuster ar gyfer cymunedau ac ymgysylltiad cymunedol, yna bydd yn rhaid i'r patrwm fod ychydig yn wahanol. Ac rwyf i o'r farn y dylem deithio i fyny yno ac edrych ar yr ardaloedd hynny lle ceir y gwagleoedd hyn,a byddwn yn teithio o Bontypridd drwy Porth, yr holl ffordd drwy'r Cymoedd, lle ceir rhai adeiladau aruthrol ond dim darpariaeth wirioneddol. Byddai'r ddarpariaeth yn cael ei lleoli o gwmpas y lle i gyd. Felly, Gweinidog, efallai pan fyddwn ni wedi crynhoi'r ddadl hon ac y bydd gennym y cyfeiriadau, byddai'n ddefnyddiol cael rhywfaint o eglurder am gyfeiriad yr ystyriaeth gan y Llywodraeth nawr ynglŷn â'r hyn allai fod yn ddewisiadau gorau a sut y gall y math hwnnw o ymgysylltu ddigwydd mewn gwirionedd. Rwy'n credu ei bod yn werthfawr iawn pan fyddaf yn gweld yr hyn sy'n digwydd o fewn Pontypridd ar hyn o bryd—adfywio gwirioneddol y dref—ond y ffaith yw y ceir diffyg mawr yn y ddarpariaeth o ran y celfyddydau. Ceir rhai ardaloedd a rhai eitemau o ragoriaeth, ac mae'n syndod i mi fod nifer o'r artistiaid sy'n bodoli mewn gwirionedd yn gofyn am gymorth i gael pethau yng Nghaerdydd, gan mai dyna lle mae'r cyfleusterau, ac mae'r cyfleusterau lleol yn brin iawn. Felly, credaf mai dyna yw'r cyfraniad yr hoffwn i ei wneud yn hynny o beth. Ond yn sicr rwy'n edrych ymlaen at yr hyn sy'n ddadl bwysig iawn, yn fy nhyb i,ar y bywyd diwylliannol, ansawdd bywyd a lles ein cymunedau, a sut y gall y celfyddydau fod â rhan yn hynny mewn gwirionedd. Adam Price AC: Rwy’n croesawu adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r cytundeb rhwng Plaid Cymru a’r Llywodraeth. Mae’r adroddiad yn drylwyr, mae’n onest ac mae’n gosod, a dweud y gwir, y gorolwg gorau sydd wedi bod ers degawdau ynglŷn â’r celfyddydau gweledol yng Nghymru. Mae’n cynnig model creadigol, arloesol i greu canolbwynt a ffocws newydd ar gyfer y celfyddydau gweledol gyda sefydliad cenedlaethol yn graidd iddo. Mae’n graff, yn ysbrydoledig ac yn gynhwysfawr, ac mae’n gofyn am ddewrder ynglŷn â’r weledigaeth ar gyfer y celfyddydau gweledol yng Nghymru. Adam Price AC: Rydym ni'n o'r sefydliadau sydd gan yrhan fwyaf o genhedloedd. Mae'r adeilad y drws nesaf yn enghraifft o hynny, wrth gwrs. Tŷ opera oedd hwn a ddatblygodd wedyn yn ganolfan genedlaethol gymysg ar gyfer perfformiadau—Canolfan Mileniwm Cymru. Mae'r celfyddydau gweledol yn faes lle mae'r diffyg o ran y sefydliadau diwylliannol cenedlaethol hynny'n amlwg iawn. Nid oes gennym oriel genedlaethol o hyd. Nid oes gennym oriel bortreadau genedlaethol, ac nid oes gennym, wrth gwrs, oriel genedlaethol ar gyfer celfyddyd gyfoes sydd ar raddfa ddigonol i ni allu creu pwynt crisialu ar gyfer y celfyddydau gweledol yng Nghymru. A cheir cyfle yma mewn gwirionedd i ni fanteisio ar ychydig o ysbryd yr oes arwrol honno a welodd saernïo cenedl 100 mlynedd yn ôl—pobl fel Tom Ellis, o'r un enw â'r Gweinidog, a'i debyg, ac ati—a'r weledigaeth o greu llyfrgell genedlaethol ac amgueddfa genedlaethol a sefydliadau cenedlaethol eraill. Ac onid oes gwaith eto heb ei orffen yn hyn o beth? Mae'r celfyddydau gweledol bob amser wedi cael eu diystyru i ryw raddau, yn anffodus, yn ein diwylliant ni, sydd wedi rhoi lle blaenllaw i'r gair ysgrifenedig a pherfformiadau byw. Felly, hwn yw'r cyfle i ni unioni cam y ddiystyriaeth honno, oherwydd, wrth gwrs, mae'r celfyddydau gweledol wedi bod yn rhan o'n stori ni; ond heb gael yr un sylw. A chynyddu'r sylw hwnnw yw'r hyn yr ydym ni'n ei drafod. Rwyf i o'r farn fod yr adroddiad yn cynnig dull synhwyrol a phwyllogmewn tri cham. Yr unig beth y byddwn i'n ei ddweud yw: gadewch inni gwblhau'r camau'n gyfochrog â'i gilydd. Felly, wrth inni gynyddu capasiti, gadewch inni hwyluso'r gwaith o godi cyfalaf i greu'r hwb hefyd. Rwy'n credu bod llawer i'w ddweud, mewn cenedl fel hon, o blaid dull ffederal, dull gwasgaredig, Ond mae angen lloerennau ar brif ganolfan hefyd. Ac o ran y ddaearyddiaeth yn syml, gyda natur celfyddyd gyfoes, mae angen adeilad â nenfydau uchel sy'n ddigon mawr mewn gwirionedd i greu'r math o brofiad y gall pobl ymgolli'n llwyr ynddo fel sydd ar gael yn Turbine Hall yn y Tate Modern neu mewn gwledydd eraill ledled y byd sydd â lleoliad ar raddfa eang i lwyfannu celfyddyd gyfoes. Felly, ie, ar bob cyfrif, gadewch inni'n wirgreu rhwydwaithgyda'n horielau presennol ardderchog, llai o faint sy'n bodoli yng Nghymru, ond mae angen yr hwb canolog hwnnw arnomhefyd fel y gallwn greu'r math o brofiad sy'n bosib o ran y celfyddydau gweledol mewn gwledydd eraill. Ac mae hwn yn gyfle rhagorol i wneud rhywbeth cyffrous a allai fod â phosibiliadau adfywio. Ie, rwy'n credu y byddai Port Talbot yn lle diddorol iawn: y mynyddoedd o'r tu cefn i ni yn cyfarfod y môr; ie, treftadaeth ddiwydiannol Cymru sydd yno; ac, wrth gwrs, fel y gwyddom, mae Port Talbot yn ystod y nos, mewn ambell ffordd, yn waith o gelfyddyd, onid yw? A beth allai fod yn well, ac yn crisialu ein diwylliant yn yr ystyr lawnaf, nag adeiladu canolfan ein horiel celf gyfoes genedlaethol yno? Roedd Fox Talbot yn un o'r arloeswyr ffotograffiaeth, onid oedd ef? Felly, ceir hanesyn am y celfyddydau gweledol yn yr union fan honno. Gallemddechrau mewn ffordd greadigol. Nid oes raid i ni mewn gwirionedd godi'r cyfalaf yn syth i hudo pensaer enwog i Gymru. Efallai y gallem wneud rhywbeth i'r gwrthwyneb i'r hyn a ddigwyddodd gyda Zaha Hadid ac, mewn gwirionedd, gyda rhai o'r amgueddfeydd Guggenheim hynny dros y byd, yn Rio, nad ydyn nhw wedi digwydd—efallai y gallem fenthyg rhai o'r cynlluniau ar gyfer y fan honno a'u hadeiladu yma. Ond gallem ddechrau drwy wneud yr hyn a wnaeth Theatr Genedlaethol Cymru mewn ffatri segur gyda 'We're still here', oni allem ni? Gallem ddefnyddio warysau diwydiannol segur fel yr enghraifft gychwynnol o oriel genedlaethol tra byddwn yn codi cyfalaf a momentwm i greu rhywbeth mwy parhaol. Ceir llawer o risgiau, wrth gwrs, ond mae'r adroddiad yn nodi'r risg mwyaf oll, a ni'r gwleidyddion yw hynny. Maen nhw'n ein herio ni yn yr adroddiad, yr artistiaid. Maen nhw'n dweud, 'Nid oes ganddyn nhw'—maen nhw'n cyfeirio atom ni—'hyder yn artistiaid Cymru.' Mae'r adroddiad yn frith o nifer syfrdanol o adroddiadau dros y blynyddoedd a gafodd eu gadaelar y silff. Gadewch i ni beidio â gwneud y camgymeriad hwnnw eto. Mae cyfle inni symud ymlaen nawr gyda'r busnes anorffenedig o greu llwyfan addas ar gyfer y cynhyrchiad ardderchog o gelf a geir yma yng Nghymru. Caroline Jones AC: Roedd y penderfyniad i gomisiynu astudiaeth ddichonoldeb i greu oriel genedlaethol o gelfyddyd gyfoes ac amgueddfa chwaraeon genedlaethol yn rhywbeth yr wyf i'n bersonol yn ei groesawu gan fy mod innau'n awyddus i weld Cymru, fy ngwlad i, yn ffynnu o ran y ddawn helaeth sydd gennym yn y celfyddydau ac yn annog pobl o wledydd eraill i gymryd rhan a chystadlu yng Nghymru, ac felly'n ychwanegu at dwf ein heconomi. Ni ddylid anghofio am ardaloedd gwledig Cymru ychwaith, oherwyddmaen nhw'n hynod o bwysig ac yn cael eu hesgeuluso'n aml. Fodd bynnag, credaf fod yn rhaid inni edrych ar y darlun ehangach hefyd, sef canfyddiad y cyhoedd. Ar adeg pan mae ein gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu torri hyd at yr asgwrn ac mae'r celfyddydau wedi wynebu blynyddoedd lawer o doriadau, a allwn ni gyfiawnhau gwario miliynau o bunnoedd ar amgueddfa celf gyfoes? Yfory, byddwn yn trafod adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg, a Chyfathrebu ar ei ymchwiliad i gyllid nad yw'n gyhoeddus i'r celfyddydau, a ddaeth i fodolaeth oherwydd i Lywodraeth Cymru ofyn i'r sector leihau ei ddibyniaeth ar arian cyhoeddus. A daeth y pwyllgor i'r casgliad y byddai'n anodd iawn i sefydliadau'r celfyddydau wneud fel hynny. Rwyf i'n llwyr gefnogi arian cyhoeddus parhaus ar gyfer y celfyddydau. Mae celfyddyd, pob agwedd arno, yn rhan hanfodol o'n diwylliant. Dyma'r hyn sy'n ein diffinio ni'n fodau dynol ac mae'n dod â budd enfawr i bawb, nid yn unig i'r rhai sy'n ei greu, ond i'r rhai sy'n syllu ac yn dysgu ac yn edrych arno. Ond mae angen inni fod yn realistig ynghylch y cyllid. Efallai y byddai'n well gan y trethdalwr cyffredin weld ei lyfrgell gyhoeddus yn dal i fod ar agor, neu'r ganolfan ddydd leol ar gael i bobl agored i niwed a phobl hŷn, yn hytrachna thalu am amgueddfa newydd fel y Tate Modern. Oes, mae angen amgueddfa celf gyfoes ar Gymru, ond a allwn ni fforddio honno ar hyn o bryd? Mae'r astudiaeth ddichonoldeb ar ei phen ei hun wedi costio mwy na'r grant blynyddol a roddir i Dawns i Bawb, Theatr Felinfach, Trac, Arts Alive a Chanolfan Celfyddydau Pontardawe. Hyd yn oed heb adeiladu pencadlys newydd, bydd cyfnod 1 a 2 y prosiect hwn yn costio bron traean yn fwy na chyllideb flynyddol gyfan Cyngor Celfyddydau Cymru. Felly, er fy mod yn cefnogi gweledigaeth arweinydd Plaid Cymru o gael Guggenheim i Gymru, ni allaf gefnogi ailgyfeirio arian cyhoeddus oddi wrth wasanaethau cyhoeddus hanfodol neu brosiectau celfyddydol eraill. Byddai, fe fyddai menter o'r fath yn amlygu llwyddiannau diwylliannol Cymru, ond ar ba gost? Sut allwn ni gyflawni hyn? Rwy'n eiddgar i gyflawni hyn oherwydd rwyf yn wirioneddol gredu bod hyn yn bwysig i Gymru, ond ar hyn o bryd mae gennym ni lawer gormod o flaenoriaethau eraill. A ddylem ni fod yn edrych— Adam Price AC: A wnaiff yr Aelod ildio? Caroline Jones AC: Gwnaf, ar bob cyfrif, Adam. Adam Price AC: Efallai nad yw hi'n ymwybodol o hyn. Mae rhywfaint o waith yn cael ei wneud eisoes yn sgil Academi Morgan ym Mhrifysgol Abertawe yn ceisio edrych ar ddulliau eraill o ariannu yn hytrach na dibynnu'n llwyr ar bwrs y wlad. Felly, pe bai hynny'n bosibl, a'n bod ni'n gallu mynegi'r uchelgais o leiaf, a fyddai hi'n cefnogi dod o hyd i ffyrdd eraill o gyflawni'r un nod? Caroline Jones AC: Dyma'r hyn yr oeddwn yn arwain ato, a dyma'r hyn yr wyf yn ceisio ei godi yn fy mhwynt. Rwy'n danbaid dros y celfyddydau, a minnau'n gyn athrawes ddrama ac yn gyn athrawes addysg gorfforol, felly y celfyddydau yw fy mhrif ddiddordeb. Ond o ran edrych ar ffyrdd eraill o godi arian, fel yr ydych chi newydd egluro wrthyf, diolch yn fawr iawn am hynny. Rwy'n awyddus i gadw ein gwasanaethau hanfodol, fel y llyfrgelloedd ac ati, ar agor, oherwydd mae pobl yn dibynnu arnyn nhw ac mae hynny'n eurhyddhau o unigrwydd a theimlo'n ynysig ac yn y blaen. Felly rwy'n edrych ar hyn, Adam, o ran perthnasedd, a'm barn bersonol i yw fy mod yn dymuno gweld hyn yn mynd rhagddo, felly diolch i chi. Diolch. Galwaf ar y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon i ymateb i’r ddadl. Dafydd Elis-Thomas. Dafydd Elis-Thomas AC: Diolch yn fawr, Llywydd, ond nid wyf yn ymddiheuro am ddweud na fydd hwn yn ymateb confensiynol sydd yn ateb pwynt wrth bwynt bopeth sydd wedi cael ei ddweud, oherwydd dechrau’r broses ydy’r drafodaeth yma heddiw, i finnau hefyd, ond rydw i am nodi un neu ddau o bethau, sef, mae David Melding wedi cyfeirio at ymgais i gael consensws; roedd yna sawl peth yn yr hyn ddywedodd Llyr, ynenwedig y berthynas â’r amgueddfa a’r orielau cenedlaethol presennol, yr oeddwn yn cynhesu tuag ato fo; pwyslais Gareth Bennett ar ansawdd casgliadau; ac araith ysbrydoledig Adam. Nid wyf yn ffan o’r Guggenheim, fel mae’n digwydd—yr un ohonyn nhw—oherwydd rydw i’n meddwl eu bod nhw’n tynnu mwy o sylw at yr adeilad a dim digon o sylw at y gelf yn y ffordd maen nhw wedi'u dylunio. Nid ydy hynny’n wir am y gwaith o gelf sydd gennym ni, lle rydym ni'n siarad yma heddiw. Diolch yn fawr i Mick am ei sylwadau am yr hyn sy'n digwydd yn y Cymoedd, neu’r diffyg presenoldeb yn y Cymoedd. Rydw i’n derbyn ein bod ni mewn peryg o golli cyfle lle nad ydym ni’n cyfuno celf o bob mathâ pherfformiad a gweithgareddau cymdeithasol efo adfywio cymuned, oherwydd nid oes modd adfywio cymuned os nad yw’r gymuned yn cael ei hadfywio—nid mater o adeiladwaith yn unig. Diolch yn fawr, Caroline, am y dadansoddiad. Rydw i’n meddwl ein bod ni wedi cael pob safbwynt, bron, yn y drafodaeth yma heddiw y gallai rhywun ddisgwyl ei gael—o blaid ac yn erbyn y ffordd rydym ni’n gallu gwario ar gelfyddyd a chwaraeon. Ond mi wnaf ddau bwynt wrth grynhoi fysylwadau a chau’r ddadl yma, sef, cyfeirio at welliannau. Mae gwelliant 2 yn croesawu’r argymhelliad i sefydlu’r amgueddfa bêl-droed yn Wrecsam, a dyna pam ein bod ni’n hapus â hwnnw. Mae yna oblygiadau, wrth gwrs, i drafod gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Nid wyf yn gwybod a ydy Llyr wedi bod yn siarad â nhw, ond nid wyf i wedi gwneud, yn sicr, ond mae yna gyfle inni wneud ar ôl y drafodaeth yma heddiw. Mae gwelliant 4 yn croesawu’r argymhelliad o weithio tuag at adeiladu pencadlys cenedlaethol, ond mae’n well gen i’r gair 'hwb' na’r gair 'pencadlys' wrth sôn am gelf. Felly, mae hynny'n rhan o uchelgais y Llywodraeth, yn bendant. Felly, yr hyn y byddaf i'n ei gymryd o'r drafodaeth yma ydy'r sylwadau sydd wedi cael eu gwneud. Fe wnawn ni ymateb i'r drafodaeth yn y ffordd ymarferol, oherwydd fy mwriad i ar ôl heddiw ydy dechrau gweithredu, parhaui ymgynghori â'r sector, ond ni fyddaf i'n gwneud penderfyniadau terfynol nes y byddaf i wedi cael sgwrs hir efo'r rhai sydd wedi siarad heddiw, yn arbennig llefaryddion y pleidiau, fel ein bod ni yn chwilio am y consensws, neu am hynny o gytuniad ag sydd yn bosib mewn maes sydd o reidrwydd yn ddadleuol fel hyn. Diolch yn fawr iawn i chi. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu. [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem yma, felly, tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Awdurdodau Lleol Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Julie James, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Daw hyn â ni at yr eitem nesaf, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar awdurdodau lleol, ac rydw i'n galw ar Darren Millar i wneud y cynnig. Cynnig NDM6875Darren Millar Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod y rôl bwysig a chwaraeir gan awdurdodau lleol wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru. 2. Yn cydnabod yr heriau ariannu y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu yng Nghymru ar hyn o bryd. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) adolygu a chynyddu'r setliad llywodraeth leol ar gyfer 2019-20; a b) comisiynu adolygiad annibynnol o fformiwla ariannu llywodraeth leol Cymru. Cynigiwyd y cynnig. Darren Millar AC: Diolch, Llywydd. Tra byddwn ni yn y Siambr hon yn trafod polisïau a deddfu,awdurdodau lleol Cymru, ein cynghorau ar draws y wlad, yn hytrach na Llywodraeth Cymru, sydd mewn gwirionedd yn y rheng flaen yn darparu llawer o'r gwasanaethau cyhoeddus y mae ein hetholwyr yn dibynnu ileihau anghydraddoldeb, amddiffyn y rhai sy'n agored i niwed ac adeiladu cymdeithas decach a mwy ffyniannus. Mae ein cynghorau yn chwaraewyr mawr yn yr economi leol, sy'n cyflogi 10 y cant o weithlu Cymru, gan gynnwys 26,000 oathrawon. Ac mae ein cynnig heddiw yn cydnabod nid yn unig yr heriau sy'n wynebu awdurdodau lleol, ond mae hefyd yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried gwelliannau pellach i setliad niweidiol y flwyddyn nesaf, ac i gomisiynu adolygiad annibynnol o'r fformiwla ariannu hen ffasiwn y mae'n ei defnyddio i ddosbarthu arian i Lywodraeth Leol. Ers 2009, mae'r awdurdodau lleol yng Nghymru wedi gweld toriadau yn eu cyllid o £1 biliwn mewn termau real, sy'n cyfateb i 22 y cant. Ac os ydych yn eithrio arian ar gyfer ysgolion, mae'r cyllid craidd i gynghorau wedi lleihau tua 35 y cant mewn gwirionedd. Nawr, mae hyn ar adeg pan fo llawer o bwysau ariannol ar y cynghorau, gan gynnwys diffygion cyllid pensiwn,dyfarniadaucyflog ysector cyhoeddus a galw cynyddol am wasanaethau fel gofal cymdeithasol i oedolion, oherwydd poblogaeth sy'n heneiddio. Ar ben y toriadau a orfodwyd ar ein cynghorau, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn torri cyllid i ffrydiau ariannu eraill drwy grantiau a ddarperir ar gyfer cyllid ôl-16, erenghraifft, syddwedi cael eu torri gan un rhan o bump yn y chwe blynedd diwethaf, er gwaethaf addewidion i ddiogelu gwariant ar addysg, a'r grant gwella addysg, a dorrwyd gan £13 miliwn yn y flwyddyn ariannol gyfredol. Nawr, mae'r pwysau hwn wedi golygu goblygiadau enfawr iwasanaethau awdurdod lleol, gan gynnwys llyfrgelloedd, safleoedd sbwriel, canolfannau hamdden, llwybrau bysiau a hyd yn oed amlder casgliadau biniau. Ac, wrth gwrs, mae gostyngiadau yn y gyllideb wedi gorfodi ein cynghorau i roi mwy o faichar deuluoedd sydd dan bwysau ledled y wlad o ran y trethi a delir ganddynt. Mae'r dreth gyngor band D cyfartalog yng Nghymru wedi treblu—wedi treblu—ers i Lafur Cymru ddod i rym yma yng Nghymru ym 1999. Mae llawer o ffioedd a thaliadau, a godir gan gynghorau, hefyd wedi gorfod mynd i fyny. Hefyd mae rhai newydd wedi ymddangos. Mae llawer o'n hawdurdodau lleol bellach yn codi tâl am elfen gofal plantclybiau brecwasty Llywodraeth sydd i fodam ddim, tra codir ffi am gasglu gwastraff garddhefyd mewn llawer o ardaloedd. Ychydig ddyddiau yn ôl, tyrchwyd rhai o'r ffigurau ynghylch taliadau parcio awdurdod lleol: gwerth £10 miliwn ohonynt yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig. A phwy all amau nad yw hynny'n cyfrannuat y bwlch cyllido a amlygwyd o ganlyniad i setliadau gwael iawn a gafwyd gan lawer o'n hawdurdodau lleol? Ac, wrth gwrs, mae ffioedd fel y rheini yn atal pobl rhag siopa ar y stryd fawr. Nawr, rwy'n cydnabod bod cynghorau'n gorfod gwneud rhai dewisiadau anodd, ond maent yn gorfod gwneud y dewisiadau anodd hyn oherwydd y pwysau yr ydych chi, fel Llywodraeth,yn eu rhoi arnynt. Ac, wrth gwrs, nid dim ond y Ceidwadwyr Cymreigsydd wedi bod yn rhybuddio Llywodraeth Cymru o niwed posibl ei phenderfyniadau cyllido. Roedd comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, Sophie Howe, yn glir iawn yn ei datganiad fis diwethaf bod Llywodraeth Cymru yn gwario gormod o'i chyllideb yn trin salwch, a dim digon o'i chyllideb ar wasanaethau ataliol a ddarperir gan gynghorau, sy'n helpu i gadw pobl yn iach ac i gynnal eu hannibyniaeth. Ysgrifennodd pob un o'r 22 arweinydd cyngor at y Prif Weinidog—oherwydd y sefyllfa o ran y gyllideb ddrafft—ychydig wythnosau yn ôl, yn rhybuddio y byddai'r setliad drafft a ddosbarthwyd ar y pryd ar gyfer 2019-20 yn arwain at, a dyfynnaf, doriadau enfawr mewn gwasanaeth a chodiadausylweddol yn y dreth gyngor a fyddai, ac rwy'n dyfynnu, yn niweidiol i'n cymunedau. Mae hyd yn oed Gweinidog Llywodraeth Cymru wedi protestio ynghylch toriadau cyllidLlywodraeth Cymru i gynghoraugan gyd-lofnodi llythyr gyda gwleidyddion Llafur eraill, gan gynnwys aelodau o'r Cynulliad hwn, yn galw am adolygiad o'r ffordd yr ariennir cynghorau. Felly, rwy'n obeithiol iawn o'i chefnogaeth yn y cynnig hwn heddiw. Darren Millar AC: Nawr, rhan o'r broblem, wrth gwrs, yw bod Gweinidogion olynolLlywodraeth Cymru wedi methu â gweld eu perthynas â Llywodraeth Leol fel partneriaeth. Yn hytrach, maent wedi cymryd dull ymosodol iawn, gan gyfeirio'n benodol at ad-drefnu. Yn wir, mae rhai pobl wedi awgrymu ledled Cymru boddal cyllid ar gyfer cynghorau lleol yn ôl ynymgais fwriadol gan Lywodraeth Cymru i danseilio cyllid awdurdodau lleol, gan eu gwneud yn anghynaladwy, i roi gorfodi uno cynghorau yn ôl ar yr agenda yma yng Nghymru. Wrth gwrs, datgelodd yr Ysgrifennydd Cabinet presennolei ddirmyg tuag at awdurdodau lleol yng Nghymru drwy amryfusedd pan gymharodd arweinwyr cynghorau ychydig wythnosau yn ôl, pan oeddent yn gofyn am fwy o arian ar gyfer Llywodraeth Leol,ag Oliver Twist newynog yn gofyn am fwy. Nid oedd yn syndod clywed corws o feirniadaeth, a galwadau am ymddiswyddiad Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl y sylwadau hynny, oherwydd, wrth gwrs, cafodd ei gymharu'n gwbl briodolâMr Bumble, bedel creulon y tloty Dickensaidd. Nawr, y diffyg parchhwn, fe gredaf i, sy'n bygwth cyflawni gwasanaethau awdurdod lleol drwy'r cytundeb sydd gan Lywodraeth Cymru â llywodraeth leol. Credaf y byddai dyletswydd arnoch heddiw, yn eich ymateb i'r ddadl hon a'r cynnig, Ysgrifennydd y Cabinet, i ymddiheuro am y sylwadau a wnaethoch am awdurdodau lleol yn gofyn am adnoddau sydd eu hangen i ddarparu gwasanaethau. Roedd setliad drafft y flwyddyn hon yn dystiolaeth bellach fod cynghorau yn cael eu tanariannu, a bod y fformiwla ariannu yn hen ac yn anaddas i'r diben bellach. Mae'r achos o blaid diwygio'r fformiwla gyllido wedi dod yn fwyfwy grymus yn y blynyddoedd diwethaf. Mae'r fformiwla gyllido bresennol wedi bod yno ers 17 mlynedd. Mae'n seiliedig ar nifer o wahanol elfennau a dangosyddion, gan gynnwys faint o dreth gyngor y mae Llywodraeth Cymru yn ystyried y gall pob awdurdod lleol ei chodi, a data poblogaeth sy'n seiliedig ar gyfrifiad 1991—1991, a hynny er bod gennym wybodaeth cyfrifiad sy'n hollol gyfredol, ac amcangyfrifon o'r boblogaeth sy'n llawer mwy diweddar. Dan y fformiwla gyllido, mae'r bwlch rhwng yr awdurdodau lleol a ariennir orau a gwaethaf yn ehangu bob blwyddyn, ac ar hyn o bryd saifar £600 y pen. Mae hynny'n ddegau o filiynau o bunnoedd o dangyllido ar gyfer awdurdodau lleol gwledig gan mwyaf lle, oherwydd daearyddiaeth, mae darparu gwasanaethau yn aml yn llawer drutach. Mae arweinydd Cyngor Bro Morgannwg yn gwbl briodol wedi ymosod ar danariannu ysgolion mewn awdurdodau a ariennir yn wael, ac rwy'n credu—ac rwy'n siŵr y bydd eraill yn y Siambr hon yn credu—bod pob plentyn yn y wlad hon yn haeddu'r cyfle i gyflawni eu llawn botensial. Ond sut mae'n deg os oes gennym loteri cod post o ran gwariant ar ysgolion, oherwydd y trefniadau ar gyfer dosbarthu arian gan y Llywodraeth hon? Does dim maes chwarae gwastad ar gyfer plant yma yng Nghymru. Yr wythnos diwethaf, galwodd arweinydd Cyngor Sir Benfro, y mae eu trigolion yn wynebu cynnydd poenus o 12.5 y cant o gynnydd yn eu treth gyngor eleni, am i'r fformiwla gyllido gael ei hadolygu. Er bod Llywodraeth Cymru wedi addasu rhywfaint o ymylon y fformiwla gyllido— ychwanegu ychydig o gyllido teneurwydd poblogaeth, gwneud trefniadau, rhoi arian gwaelodol ar waith—y gwir amdani yw nad yw hyn yn datrys y broblem mewn ffordd eang. Dyna pam mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi disgrifio'r fformiwla gyllido fel, a dyfynnaf, rhywbeth sy'n cael ei dal at ei gilydd gan dâp cryf a phlaster glynu. Felly, mae nifer cynyddol o gynghorau wedi pasio cynigion ledled Cymru eleni, yn galw am arian gwell a fformiwla gyllido newydd. Mae gan lawer o'r cynghorau hynny gynrychiolwyr Llafur sydd wedi cefnogi'r galwadau hynny a chefnogi'r pleidleisiau hynny. Felly, rydym yn gwybod bod yr hyder yn y fformiwla yn isel iawn. Mae wedi arwain at gryn amrywiaeth yn y lefel o gronfeydd wrth gefn a ddelir gan awdurdodau lleol Cymru hefyd. Felly, gwyddom, er enghraifft, fod Cyngor Rhondda Cynon Taf, sydd wedi'i ariannu'n dda, ac sy'n cael ei redeg gan Lafur, yn eistedd yn braf ar werth £152 miliwn o gronfeydd wrth gefn, bron wyth gwaith y lefel o gronfeydd wrth gefnyn Sir Fynwy sy'ncael ei rhedeg gan y Ceidwadwyr, bron saith gwaith lefel y cronfeydd wrth gefn yng Nghonwy—[Torri ar draws.] Byddafyn falch o dderbyn ymyriad. David Rees AC: Nid wyf yn herio'r ffigurau hynny, oherwydd, yn amlwg, cawsant eu cyhoeddi yr wythnos diwethaf, ond a ydych hefyd yn cydnabod, o'r rhai yr ydych chi newydd sôn amdanynt ar gyfer Rhondda Cynon Taf, fod cyfran fwy eisoes wedi'i dyrannu ac felly nid yw ar gael i'w defnyddio? Darren Millar AC: Mae honno'n ffordd hawdd gan gyfrifyddo allu neilltuo arian parod a'i dynnu allan o'r hyn a ystyriant yn briodol ac i ddiogelu a chyfiawnhau'r hyn a gredaf sy'n lefelau afresymol o wariant. Gadewch imi ddyfynnu rhai ffigurau eraill i chi hefyd. Mae Llafur mewn awdurdodau lleol a arweinir gan Lafur yn eistedd ar 57 y cant o'r £1.4 biliwn a ddelir mewn cronfeydd wrth gefn ar draws Cymru. Mae deg awdurdod lleol wedi cynyddu eu cronfeydd wrth gefn ers 2016, er gwaethaf cyni, ac mae hyn yn golygu bod y cynnydd yn Nhorfaen, er enghraifft, wedi mynd o 2 y cant i 21 y cant o'u harian mewn cronfeydd wrth gefn. Credaf fod hyn yn hollol hurt, ac yn sicr nid yw'n deg. Nid yw'n deg chwaith i awdurdodau lleol yn y gogledd, sydd wedi gweld eu setliadau yn waeth na'r rhai yn y de yn gyson. Felly, mae gennym ardaloeddgwledig wedi'u gosod yn erbyn ardaloedd trefol, mae gennym ardaloedd sydd â phoblogaethau hŷn yn erbyn y rheini â phoblogaethau iau, ac mae gennym y gogledd a'r de wedi'u gosod yn erbyn ei gilydd o ganlyniad i'r fformiwla gyllido ofnadwy hon, sydd wedi hen chwythu ei phlwc. Felly, mae gennym y pwysau hyn, ac mae'n rhaid inni ymdrin â nhw, a dyna pam rydym yn galw am adolygiad annibynnol—nid gwas bach y Llywodraeth sy'n cael ei benodi i wneud adolygiad, nid adolygiad mewnol o fewn Llywodraeth Cymru o'r fformiwla gyllido hon, ond adolygiad annibynnolgan rywun sydd â chymwysterau addas i edrych ar yr holl elfennau gwahanol hyn yn y fformiwla gyllido ac i feddwl am rywbeth sy'n decach i ddinasyddion Cymru, ni waeth lle y gallent fod yn byw. Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, os yw'n gwrando, i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Gwelliant 1—Julie James Dileu popeth ar ôl 2 a rhoi yn ei le: Yn croesawu’r pecyn o gynigion ariannu ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol i wella’r grant cynnal refeniw yn 2019-20, er mwyn mynd i’r afael â’r pwysau wrth inni wynebu nawfed flwyddyn polisi cyni Llywodraeth y DU. Yn nodi bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru’n cefnogi’r cyhoeddiad fel cam arwyddocaol ymlaen sy’n dangos ymdrech ar y cyd i wrthbwyso effaith cyni yng Nghymru. Yn nodi bod y setliad llywodraeth leol yn cael ei ddosbarthu drwy fformiwla gan ddefnyddio bron i 70 o ddangosyddion penodol, y cytunwyd arnynt gyda llywodraeth leol, dan oruchwyliaeth arbenigwyr annibynnol, ac yn seiliedig ar yr angen cymharol i wario a’r gallu cymharol i godi incwm yn lleol. Cynigiwyd gwelliant 1. Alun Davies AC: Yn cynnig yn ffurfiol. Galwaf ar Dai Lloyd i gynnig gwelliannau 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2: Yn gresynu bod y cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar ddim ond ar gael o ganlyniad i'r arian canlyniadol o ddatganiad hydref Llywodraeth y DU. Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3: parhau i chwilio am ffyrdd i ddarparu rhagor o arian ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru ar gyfer 2019/20. Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3. Dai Lloyd AC: Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n falcho gynnig y gwelliannau yn y ddadl hon, gan adlewyrchu'r pwysau ariannol ar awdurdodau lleol—wel, nid yn unig yn fy rhanbarth i, ond ledled Cymru. Yn amlwg, rwyf wedi bod yn cael llythyrau oddi wrth bobl mewn awdurdodau lleol yr wyf yn ymwneud â nhw, felly rwy'n hapus i ymateb ac i ddadlau'r achos dros gyllid llywodraeth leol. Yn amlwg, nid wyf yn mynd i ailadrodd y ddadl eto am Oliver Twist a chwarae ar eiriau Dickensaidd gwahanol, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn falch o gael nodi, ond rwy'n canolbwyntio fy nghyfraniad ar bwynt ehangach gwariant awdurdod lleol a'i gyfraniad at holl agenda'r Llywodraeth yma yng Nghymru, ar draws y portffolio. Ar un adeg, treuliais lawer o flynyddoedd yn gynghorydd sir yn Abertawe. Rwy'n deall y pwysau ar lefel cynghorydd—yn amlwg, nid fi yw unig gyn gynghorydd sir Abertawe yma. Ond hefyd ar un adeg, roeddwn yn feddyg teulu llawn-amser. Rwy'n parhau i fod yn feddyg teulu y dyddiau hyn, er, yn amlwg, wedi aberthu fy ngyrfa feddygol ar allor gwleidyddiaeth. Nid oes gennyf bellach fuddiant ariannol mewn unrhyw beth o ran bod yn feddyg teulu ac, yn wir, nid wyf mwyach yn cymryd cyflog am fy ngwaith parhaus fel meddyg teulu. Ond hyd yn oed yn ôl yn yr adegpan oeddwn yn feddyg teulu llawn-amser, roeddwnyn bryderus am les fy nghleifion a pham eu bod yn mynd yn sâl bob amser. Rydym bob amser yn cael ein hannog gan Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol i fynd ar drywydd y rheswm pam mae pobl yn mynd yn sâl yn y lle cyntaf. Felly, fe'm cymhellwyd i ysgrifennu at gyfarwyddwr tai lleol ac egluro oni fyddai'n syniad da mynd i'r afael â thai gwael yn Abertawe i atal fy nghleifion rhag mynd yn sâl. A'r hyn a ddarganfûm fel meddyg teulu oedd y byddwn yn ysgrifennu llythyrau, a wyddochchi beth, ni fyddai dim yn digwydd. Nid oedd unrhyw gydnabyddiaeth yn dod o fod wedi cael y llythyrau ac yn sicr dim ateb. Felly, sefais yn y pen draw fel ymgeisydd i'r cyngor. Dyna beth mae rhywun yn ei wneud, ynte? Sefais fel ymgeisydd i'r cyngor ac, yn y pen draw, enillais sedd yn wardyCocyd. Ac yna byddwn yn ysgrifennu llythyrau at y cyfarwyddwr tai fel cynghorydd—yn dalfel meddyg teulu, ond fel cynghorydd gyda disgwyliad o ateb a rhaglen weithredu, a fyddai'n dilyn, bellach yn gynghorydd, ddim byd i'w wneud â bod yn feddyg teulu. Ond roeddwn yn falch o fod yn gynghorydd sir oherwydd daeth yn amlwg, hyd yn oed i ni yn y gwasanaeth iechyd, fod y ffactorau sy'n dylanwadu ar iechyd da mewn gwirionedd yn gorwedd y tu allan i'r gwasanaeth iechyd a'r hyn y gallem ei wneud fel meddygon a nyrsys; mae'n gorwedd mewn llywodraeth leol. Dyna pam yr oeddwn yn falch o fod yn gynghorydd sir lleol, oherwydd mae iechyd yr amgylchedd o fewn llywodraeth leol, mae tai o fewn llywodraeth leol, trafnidiaeth gyhoeddus, cynllunio, addysg, gwasanaethau cymdeithasol—mae nhw i gyd yn gorwedd o fewn llywodraeth leol. Felly, mae gan lywodraeth leol ran enfawr i'w chwarae i fynd i'r afael â'r penderfynyddion iechyd gwaelhynny, y materion hynny sy'n gwneud pobl yn sâl yn y lle cyntaf. Rydym fel pwyllgor iechyd bellachyn gwneudadolygiad o weithgarwch corfforol, swyddogaethau canolfannau hamdden, meysydd chwarae ysgolion, ysgolion, addysgu—hollbwysig yn hynny o beth o ran addysg. Swyddogaeth llyfrgelloedd, yn amlwg, cyfleusterau dysgu, dysgu gydol oes—o'r pwys mwyaf ar gyfer aros yn iach. Mae gwaith traws-bortffolio yma. Ac ydynt, mae pobl eisiau gweld mwy o wariant ar iechyd, ond credaf, yn ehangach, byddwn yn gwarantu y byddai pobl am weld mwy o wariant ar atal iechyd gwael. Fel gweithiwr iechyd proffesiynol, nid wyf wedi fy nhrwytho mewn gallu hybu iechyd, ac mae'r gwariant pwrpasol o fewn y gwasanaeth iechyd ar gyfer atal salwch yn druenus o isel. Rydym yn dibynnu ar atal salwch yn digwydd mewn mannau eraill, a'r mannau eraill hynny yw mewn llywodraeth leol, mynd i'r afael â'r penderfynyddion iechyd gwael hynny sydd ar y tu allan i'r GIG, ond y tu mewn i lywodraeth leol. Felly, byddwn yn pwyso ar Ysgrifennydd y Cabinet—rwy'n siŵr ei fod yn ymwybodol o'r pwyntiau hynny—i gael y drafodaeth draws-bortffolio honno ynghylch sut y gall gwariant llywodraeth leol mewn gwirionedd helpu i leihau'r gwariant ar iechyd ac i'r gwrthwyneb. Ac, o ran iechyd, i orffen, hoffwn weld llwybrau agored ac am ddim ar gyfer llywodraeth agored i dderbyn atgyfeiriadau gan weithwyr proffesiynol iechyd yn uniongyrchol. Nid dros y blynyddoedd yn unig y cafodd fy llythyrau tai eu gwrthod, ondnawr, os wyf yn barnu y byddai fy nghleifion yn elwa o atgyfeirio addysg, ni allaf atgyfeirio at addysg nac i'r gwasanaethau cymdeithasol—ni allaf atgyfeirio'n uniongyrchol i'r gwasanaethau cymdeithasol. Mae'n sefyllfa chwerthinllyd, a chredaf y byddai llawer o'r galw am Ddeddf awtistiaeth yn cael ei ddileu gyda chydweithio gwirioneddol. Pe byddech yn caniatáu i weithwyr proffesiynol gofal iechyd sylfaenol allu atgyfeirio'n uniongyrchol at adrannau llywodraeth leol, byddai pethau'n gwella sylweddol. Byddwn yn erfyn, wrth orffen, ar i Ysgrifennydd y Cabinet ymgysylltu ag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechydi'r perwyl hwn. Diolch yn fawr. Suzy Davies AC: Wrth gwrs, rhannaf yr un rhanbarth â Dai Lloyd, Gorllewin De Cymru. Mae'n gartref i dri awdurdod lleol. Maen nhw i gyd yn cael eu rhedeg gan Lafur, o gryn dipyn. Beth? Dim 'ie wir'? Roeddwn i'n rhyw ddisgwyl i rywun ddweud 'woohoo' ar y pwynt hwnnw. Ac, wrth gwrs, mae hyn wedi bod am flynyddoedd lawer, ar wahân i un neu ddau arbrawf byrhoedlog gan yr etholwyr ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac Abertawe. Efallai yr hoffai Llywodraeth Cymru ddadlau nad yw Gorllewin De Cymru, o'i gymharu â rhannau eraill o Gymru, wedi gwneud cynddrwg yn y setliad llywodraeth leol ar gyfer y flwyddyn nesaf. Rwy'n siŵr y byddai fy nghyd-Aelodau o wahanol rannau o Gymru, yn enwedig yng nghefn gwlad a'r gogledd, yn dadlau hynny hefyd. Yn bwysicach i'm hetholwyr, serch hynny, bydd y tri chyngor Llafur hyn yn dweud, ar ôl wyth mlynedd o doriadau mewn termau real gan Lywodraeth Cymru, y setliad eleni yw'r diwedd iddyn nhw hefyd. Felly, byddaf yn dechrau gyda Phen-y-bontar Ogwr. Roedd eu harweinydd yn rhybuddio, yn ôl yn yr haf, am doriadau nid yn unig i lyfrgelloedd a phyllau nofio ond i gymorthdaliadau bysiau a darpariaeth feithrin. Felly, rydym ar fin cyflwyno gofal plant am ddim i rai tair a pedair oed drwy ddeddfwriaeth ar adeg pan mae'n bosib y torrir ar ddarpariaeth Pen-y-bontar Ogwr. Ers hynny, mae arweinydd y cyngor wedi diweddu ei ymrwymiad i warchod ysgolion, ac wrth gwrs rydym eisoes yn gwybod am y gwahaniaeth fesul pen y caiff plant mewn ysgolion yng Nghymru o'u cymharu â Lloegr. Mae ef hefyd wedi diweddu ei ymrwymiad i warchod cyllidebau gwasanaethau cymdeithasol, gan nodi, pan fydd Llywodraeth y DU yn rhoi£950 miliwn yn ychwanegol i Lywodraethei blaid, bydd cyngor ei blaid ef yn cael cyfran. Mae rhan fawr o'r arian ychwanegol, wrth gwrs, wedi mynd at y gyllideb iechyd genedlaethol—yn amlwg, mae Dai wedi cyfeirio at hyn—ond pan ddaw'n fater o gronni cyllidebau ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, yn achos Pen-y-bont, y cyngor sy'n cyfrannu 72 y cant o'r gyllideb honno, a'rgwasanaeth iechyd fydd mewn gwirionedd yn cael yr hwb o gyllideb eleni. Mae hynny, yn wir, yn swnio'n anghywir i mi. Ar yr un pryd, mae'r un arweinydd cyngor yn mynd iorfod dod o hyd i £4 miliwn ar gyfer cyflogau athrawon— nid pensiynau, cyflogau. Er gwaethaf sicrwydd gan yrYsgrifennyddaddysg y bydd pob un geiniog a gaiff Llywodraeth Cymru gan Lywodraeth y DU ar gyfer cyflogau athrawon yn mynd at y diben hwnnw, mae'r arweinydd yn honni nad yw ond yn cael ffracsiwn o'r hyn y byddai'n ei gael i dalu am y gost. Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair. Suzy Davies AC: Yn Abertawe, lle mae'r cyngor yn chwarae rhan bwysig yn rhanbarth dinas Bae Abertawe, mae'r arweinydd hefyd wedi cyfeirio at gyflogau athrawon, gan ddweud nad yw ond wedi cael £606,000 o'r £7 miliwn sydd ei angen arno drwy Lywodraeth Cymru. Ac, fel y cyhoeddodd hefyd na ellir diogelu unrhyw wasanaethau, dywedodd yn swta, a dyfynnaf: Weithiau mae'n teimlo nad oes gennym Ysgrifennydd Cabinet ar gyfer Llywodraeth Leol. Dylai ostwng ei ben mewn cywilydd. Ac, mewn ymateb i'r sen Oliver Twist nid anenwog, roedd yr arweinydd cyngor Llafurhwnyn barod i gwrdd â Mr Bumble gyda, dyfynnaf, 'y ffiol gardod fwyaf', oherwydd fe'u gyrrwyd i hynny: cardota. Cyhoeddodd Castell-nedd Port Talbot eu bod—dyfyniad eto— yn mynd yn agos iawn at fethu â rhedeg gwasanaethau yn ddiogel. Ac nid dim ond siarad am y grant cynnal refeniw y maen nhw. Bydd mil o blant Sipsiwn a Theithwyr sy'n agored i niwed yn ardal y fwrdeistref sirol yn colli eu cymorth wrth i'r grant gael ei dorri o £250,000 i £85,000—a dim ond £85 y plentyn yw hynny. Ac mae hynny er gwaethaf y Gweinidog cyllidyn dweud y byddai miliynau ar gael i blant Sipsiwn a Theithwyr yn ei ddatganiad yn cyhoeddi'r gyllideb ddrafft. Mae hyn, wrth gwrs, yn cael effaith ganlyniadol i'r grant cynnal refeniw yng Nghastell-nedd Port Talbot a'r cyllid ar gyfer cynhwysiant, iechyd ac addysg. Ac, wrth i Gastell-nedd Port Talbot golli allan, uno llechwraidd sydd ar y gweill gan Lywodraeth Cymru, yn rhoi cymorth Sipsiwn a Theithwyr i ddim ond pedwar cyngor i weithredu'n rhanbarthol—wel, mae amheuaeth gref na fyddy llwybr hwn o ariannu ei hun yn cael ei gynnal. Yn y pen draw, Castell-nedd Port Talbot sy'n ei dweud fel y mae, ac rwy'n dyfynnu eto: Ni all Llywodraeth Cymru barhau i ddefnyddio cyni fel esgus dros beidio â chaniatáu i Lywodraeth Leol ddarparu gwasanaethau hanfodol i bob etholwr. Ac mae cynghorau Llafur hyd yn oed wedi cael llond bol ar y byji'n taro'r un hen gloch, yn enwedig pan ydym yn cael 20 y cant yn fwy y pen yng Nghymru nag yn Lloegr o ran cyllid. Ac, er bod yn rhaid i rai cynghorau esbonio pam nad ydynt yn defnyddio'r cronfeydd wrth gefn hynny y gellir eu defnyddio, ac eraill yn gorfod esbonio sut mae rheoli gwael wedi arwain at ostyngiad mewn incwm a enillir, maen nhw, fel y dywed arweinydd Llafur Ogwr, wedi cyrraedd diwedd y ffordd. Mae pump o'r saithAelod Cynulliadetholaeth o orllewin De Cymru yn aelodau o Lywodraeth Cymru a bydd fy etholwyr eisiau cael esboniad ganddynt. [Torri ar draws.] Rydych chi wedi eich arbed. A fyddant yn dweud yn gyhoeddus bod y cynghorau hyn, yn ôl pob tebyg, yn cael eu diogelu rhag y gwaethaf o'r toriadau oherwydd eu bod yn cael eu gwarchod gan gynrychiolaeth Lafur—y neges wleidyddol y bydd eu cefnogwyr eisiau ei chlywed? Neu a fyddant yn honni, wrth gwrs, nad oes unrhyw amddiffyniad pleidiol o'r fath— mae'r cyfanyn seiliedig ar angen? Os felly, a allant esbonio pam mae'r angen yn parhau mor uchel yn ardaloedd eu cynghorau eu hunain pan fyddant wedi bod mewn Llywodraeth ers dwy flynedd? Neu a fydd yn rhaid iddynt gyfaddef, ereu bod yn ffurfio dros draean o'r Llywodraeth, nad ydynt wedi cael unrhyw drosoledd i wella'r setliad llywodraeth leol hwn yn ystyrlon? Nawr, mae'r Ceidwadwyr Cymreig eisiau cael gwared ar y tâpcryf a'r plaster glynudros yr hen fformiwla hon sydd wedi gweld dyddiau gwell, fel y mae CLlLC. Ond rwy'n dweud wrth fy nghyd-AelodauLlywodraeth yng Ngorllewin De Cymru —. Nid wyf yn siarad â chi, Ysgrifennydd y Cabinet; ond gyda fy nghyd-Aelodau yng Ngorllewin De Cymru. Nid yw'n ymwneud â chynghorauar flaen y ciw ar gyfer symiau canlyniadol munud olaf y DU—mae'n ymwneud â chiar flaen y ciw i ddiwygio'r fformiwla gyllido o fewn Llywodraeth. Diolch. Mike Hedges AC: Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Wel, a gaf i ddweud, ar nodyn cadarnhaol, rwyf yn falch iawn o glywed pobl newydd yn cymryd diddordeb mewn llywodraeth leol ac yn cefnogi llywodraeth leol o feinciau'r wrthblaid? Rwyf wedi arfer â Siân Gwenllian a David Lloyd yn cefnogi llywodraeth leol dros y blynyddoedd diwethaf—felly, rwy'n falch o weld pobl eraill yn ymuno. A gawn ni edrych—? [Torri ar draws.] A gawn ni edrych—? A gaf i atgoffa pobl nad oedd mor bell â hynny yn ôl pan oedd y Ceidwadwyr am dorri cyllid Llywodraeth leol? Ac maen nhw'n dal— [Torri ar draws.] Ac maen nhw'n dal heb benderfynu o ble'r ydym yn mynd i gymryd yr arian. Os ydych yn edrych ar y fformiwla, a yw'r fformiwla'n berffaith? Na. Ond pam ddaeth hii mewn? Daeth i mewner mwynsicrhau bod awdurdodau yn cael eu hariannu'n ddigonol drwy ein grant cynnal trethi. Ond roedd hynny cyn y cymerwyd safle'r ardrethi busnes, ac yna cawsant eu dileu o lywodraeth leol. Mae'r hyn syddangen i'r cyngor ei wario yn cael ei gyfrifo mewn asesiad o wariant safonol. Ac mae'n rhyfeddol, mewn gwirionedd, pan edrychwch ar y tabl cynghrair o asesiadau gwariant safonol ar gyfer addysg a gwariant ar gyfer addysg, pa mor agosy maent i'w gilydd. Yr hyn sy'n achosi i'r swm fynd i fyny ac i lawr yn bennaf yw newid yn y boblogaeth. Dyna'r prif sbardun— Mark Reckless AC: A fydd yr Aelod yn ildio? Mike Hedges AC: Gwnaf, yn sicr. Mark Reckless AC: Mae'n cyfeirio at newid yn y boblogaeth, ond mae bron 30 mlynedd, yn sicr, bellach ers y cymerwyd y cyfrifiad. Mae rhwng traean a hanner y bobl a gafoddeu mesur bellach wedi marw, yn ôl pob tebyg. A yw hynny'nsail briodol ar gyfer mesur poblogaeth, neu a yw oherwydd mai'r cynghorau Llafursydd â'r poblogaethau sy'n gostwng? Mike Hedges AC: Wel (1) nid yw hynny'n wir, ac roeddwn yn sôn am newidiadau o flwyddyn i flwyddyn. Roedd ardrethi busnes wedi'u canoli ac yn cael eu casglu'n lleol ac yna eu hailddosbarthu gyda'r grant cynnal ardrethi yn rhan o gyllid allanol crynswth. Nawr, sut caiff yr arian ei ddosbarthu? Mae Blaenau Gwent yn cael £1,587 a Sir Fynwy yn cael £995. Ydy hynny'n deg?Wel, mae 8.8 y cant o eiddo Blaenau Gwent ym mand D; mae 65.8 y cant o eiddo Sir Fynwy ym mand D. Felly, mae cynnydd o 1 y cant yn y dreth gyngor ym Mlaenau Gwent a chynnydd o 1 y cant yn y dreth gyngor yn Sir Fynwy yn gwneud gwahaniaeth enfawr. Y cyfartaledd yw £1,344 y pen. I hanner y cynghorau byddai'n fwy; i hanner, byddai'n llai. Rwy'n mynd i ddarllen y cynghorau allan yn eu trefn, er mwyn rhoi hyn ar gofnod. Y cyntaf yw Blaenau Gwent, yn ail yw Merthyr, y trydydd yw Rhondda Cynon Taf, y pedwerydd yw Castell-nedd Port Talbot, y pumed yw Sir Ddinbych, y chweched yw Caerffili, mae Tor-faen yn seithfed, Casnewydd yn wythfed, Gwynedd yn nawfed, Sir Gaerfyrddin yn ddegfed, Ynys Môn yw'r unarddegfed, y deuddegfed yw Pen-y-bont ar Ogwr, Ceredigion yw'r trydydd ar ddeg, Powys yw'r pedwerydd ar ddeg, Conwy yn bymthegfed, Sir Benfro yn unfed ar bymtheg, Abertawe yn ail ar bymtheg, Wrecsam yn ddeunawfed, Sir y Fflint yn bedwaredd ar bymtheg, Caerdydd yn ugeinfed, Bro Morgannwg yn unfed ar hugain a Sir Fynwy yn ail ar hugain. Clywn yn gyson alwadau am i'r fformiwla dyrannu arian gael ei newid. Gan fy mod yn cynrychioli Abertawe, sydd yn yr ail safle ar bymtheg, gallwn i ddweud sut y byddai o fudd i ni, ond, pe byddech yn rhoi swm penodol i bawb, byddai'r 12 uchaf, o ran faint y maen nhw'n ei gael, yn y pen draw yn cael llai, a byddai'r 11 ar y gwaelod yn cael mwy, oni bai bod swm ychwanegol o arian yno. Roeddwn yn aelod o'r is-grŵp dosbarthu flynyddoedd lawer yn ôl, pan wnaeth fân newid i'r fformiwla priffyrdd. Roedd yn 52 y cant y boblogaeth, 48 y cant hyd ffyrdd; aeth i 50 y cant ar gyfer pob un. Yr hyn ddigwyddodd yn y fan honno oedd y bu enillwyr a chollwyr. Enillodd Powys a Gwynedd, collodd Caerdydd a Chasnewydd. Am bob un sy'n dweud y dylid rhoi mwy o sylw i deneurwydd poblogaeth a gwledigrwydd, mae rhywun sy'n dweud bod angen inni roi mwy o ystyriaeth i dlodi ac amddifadedd. Bydd cynghorau fel Sir Benfro yn dweud, gyda rhywfaint o gyfiawnhad, fod eu poblogaeth yn cynyddu'n aruthrol yn ystod misoedd yr haf, a thrwy hynny eu costau. Bydd cynghorau fel Caerdydd yn dweud bod ganddyn nhw ddigwyddiadau mawr a mewnlifiad dyddiol o bobl, a bod hynny'n cynyddu eu costau. Mae pawb yn dweud bod angen rhagor o gyllid arnynt. Ac yn fy marn i, mewn gwirionedd, gallech chi newid y fformiwla—. Mae pawb yn credu: byddwch chi'n newid y fformiwla a bydd pawb ar eu hennill. Mae hynny'n amhosibl yn ariannol ac yn anwybodus yn rhifyddol. Os oes gennych chi yr un swm o arian i'w ddosbarthu rhwng 22 o gynghorau, bydd gennych chi enillydd a chollwr bob tro. Mae Llywodraeth leol wedi derbyn cynnydd ers y cyhoeddwyd y cyllid cychwynnol. Dylai Cymru fod â £800 miliwn ychwanegol, yn seiliedig ar wariant 2008, yn ôl Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, ffigur nad yw neb eto wedi anghytuno ag ef. Rydym ni'n cael cam gan San Steffan. Mae rhai pobl yn dweud—[Torri ar draws.]Mae rhai pobl yn dweud— Suzy Davies AC: A wnewch chi gymryd ymyriad, Mike, ar hynny? Mike Hedges AC: Gwnaf. Suzy Davies AC: Rydych chi wedi clywed dro ar ôl tro, am bob £1 a werir, yn y diwedd rydym yn cael £1.20 yma yng Nghymru. Sut mae hynny'n ein twyllo? Mike Hedges AC: Oherwydd nad ydym yn cael yr arian y dylem fod yn ei gael pe byddem wedi codi o ran—[Torri ar draws.] Pe byddem wedi codi o ran ble'r oeddem 10 mlynedd yn ôl. Wrth gwrs, mae rhai yn dweud y bydd uno cynghorau yn datrys rhan o'r broblem. Ar gyfer hynny, mae gennyf ddau air—Betsi Cadwaladr—neu dri gair—Cyfoeth Naturiol Cymru. Gellir cael rhagor o arian ychwanegol—[Torri ar draws.] Gellir cael rhagor o arian ychwanegol—[Torri ar draws.] Gellir cael rhagor o arian ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol gan, er enghraifft, drafnidiaeth a datblygu economaidd. Pan mae angen mwy o arian ar lywodraeth leol i gefnogi gwasanaethau presennol, nid yw'n helpu pan ddarperir arian wedi'i neilltuo ar gyfer rhywbeth newydd. Bydd yn rhaid talu cost pensiynau athrawon. Nid yw cynghorau yn dweud wrth ysgolion, 'Rhaid ichi ei dalu o effeithlonrwydd'; maent yn edrych i geisio dod o hyd i'r arian ar eu cyfer. Yn olaf, nid yw'n ddigon da gosodgwasanaethau cyhoeddus yn erbyn ei gilydd neu ofyn am fwy o arian ar gyfer pob gwasanaeth cyhoeddus—un yr wythnos. Y swm o arian a gawn ni yw'r grant bloc—ac roeddent yn arfer dweud ei fod yn grant bloc, nes i rai pobl fy meirniadu i, ond dyna'r swm o arian sydd gennym ni i'w ddefnyddio. A gaf i ofyn, wrth i'rCeidwadwyr grynhoi,a allant esbonio o ble y daw'r arian ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol? Ac, os ydynt yn ei dynnu allan o iechyd, sut yn union? Rhun ap Iorwerth AC: Diolch am y cyfle i ymateb ac i wneud sylw neu ddau ynglŷn â gwelliannau Plaid Cymru. Rwy'n cytuno â chynnwys y cynnig, heb os, a chryfhau ydy ein bwriad ni efo'n gwelliannauni heddiwyma. O ran gwelliant y Llywodraeth, rydym ni'n mynd i glywed gan y Gweinidog, heb os, am effaith polisïaullymder y Llywodraeth Geidwadol rŵan, a chyn hynny y Llywodraeth Geidwadol a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn San Steffan, ac, wrth gwrs, rydw i'n cytuno'n llwyr. Allaf i ddim faddau y torri mileinigsydd wedi bod ac syddwedi gwasgu gymaint ar wasanaethau cyhoeddus ers ddim yn bell o ddegawd erbyn hyn. Ideoleg sydd wedi gyrru hyn, rydym ni'n gwybod, ac fel y byddwn ni'n trafod mewn dadl arall yn nes ymlaen y prynhawn yma, y tlotaf sy'n dioddef.Ond, trafod yn fan hyn rydym ni'r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi dewis ei wneud efo'r gyllideb sydd ganddi hi. Ydy, mae'r gyllideb wedi cael ei gwasgu dros y blynyddoedd ond, eleni, yn erbyn cefnlen o gynnydd bach yn y cyfanswm arian sydd ar gael ar gyfer 2019-20, mae llywodraeth leol yn amlwg yn parhau i fod yn flaenoriaeth isel iawn i'r Llywodraeth Lafur yma. Yr wythnos ddiwethaf, wrth gwrs, mi gawsom ni gyhoeddiad gan yr Ysgrifennydd cyllid fod yna rywfaint yn rhagor o arian yn mynd i gael ei ddyrannu i gynghorau Cymru o'i gymharu â'r gyllideb ddrafft, a heb os mae pob un geiniog yn help, ond mae'n rhaid gofyn pam ei bod hi wedi cymryd consequentials o'r gyllideb Brydeinig i Lywodraeth Cymru roi briwsion i'r cynghorau yma. Mae'r ffigurau gennym ni, wrth gwrs. Mi wnaeth cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ddangos cynnydd o 2.4 y cant yn y gyllideb gwariant refeniw ar gyfer 2019-20, ond wrth i'r arian yna gynyddu—nid o lawer, ond mae o'n gynnydd—beth welsom ni ond toriad o 1.9 y cant yng nghyllideb llywodraeth leol? Dewis gwleidyddol, felly, oedd y penderfyniad i dorri, nid rhywbeth lle nad oedd dewis ond gwneud hynny. Llymder Llafur ydy hyn. Rhun ap Iorwerth AC: Ni all llywodraeth leol Cymru ondgweld hwn fel cyni'r Blaid Lafur yma yn Llywodraeth Cymru, yn dwysau degawd bron o doriadau cyni Torïaidddwfn ac, i mi,anfaddeuol. Mae torri gwariant gan bron 2 y cant pan fo cyllid refeniw cyffredinol i fyny dros 2.4 y cant—neu 2.4 y cant—yn ymwneud â llywodraeth leol ddim yn cael y flaenoriaeth yr ydym ni ar feinciau Plaid Cymru yn ddweud y mae'n ei haeddu.Nawr, fe wnaeth symiau canlyniadol cyllideb y DU lacio'r gafael cryfar gynghorau Cymru, ond rwy'ncwestiynu pam y dewisodd Llywodraeth Cymru roi'r cynghorau yn y gafael cryf iawn hwnnw yn y lle cyntaf. Beth ydym ni'n ei weld mewn mannau eraill yn y gyllideb hon? Rydym yn gweld cynnydd sylweddol unwaith eto yn y gwariant ar iechyd. Nawr, nid wyf yn mynd i ddadlau yn erbyn rhoi arian i iechyd a gofal cymdeithasol, ond mae'n rhaid inni weld darparu gwasanaethau cyhoeddus yn y cylch. Mae llywodraeth leol yn rhan bwysig o ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol. Gan fod y cynghorau'n cael eu hamddifadu o arian, mae'r gwasanaethau cymdeithasol yn ei chael hi'n anodd, a bydd y pwysau wedyn ar ofal iechyd eilaidd drud yn codi a chodi, maen nhw'n gorwario, mae arian ychwanegol yn cael ei gyfeirio atyn nhw mewn cyllideb ar ôl cyllideb. Mae'n sefyllfa ddieflig. A ydym yn gweld yma y Llywodraeth yn ymateb i alwad gyhoeddus am fwy o arian ar gyfer iechyd? O bosib, efallai fod hynny'n wir, ond mae angen inni weld buddsoddi yn y pethau hynny sy'n helpu i ddarparu gofal iechyd, nid dim ond y GIG. Ac mae hynny nid yn unig yn golygu ariannu ysbytai, mae'n golygu ariannu cynghorau fel y gallant ddarparu gofal cymdeithasol cadarn, fel y gallant ddarparu gwasanaethau hamdden cryf fel y cedwir pobl yn iach, er mwyn i addysg gael y buddsoddiad sydd ei angen arno, oherwydd addysg yn amlwg yw'r llwybr ar gyfer gwneud yn siŵr bod pobl yn cael yr offer i'w harfogi i wneud y penderfyniadau iawn. Rhianon Passmore AC: Diolch. Felly a fyddech wedyn yn dweud y byddech yn dymuno torri'r £30 miliwn ar gyfer y gyllideb gofal cymdeithasol neu'r £20 miliwn ar gyfer y gyllideb gofal iechyd meddwl? Ble fyddech chi'n rhoi'r toriadau hynny os nad ydych yn dymuno, fel y dywedasoch, torri'r gyllideb iechyd yn awr? Rhun ap Iorwerth AC: Mae yna grantiau penodol, ac yn sicr, croesawaf unrhyw arian ychwanegol sy'n canfod ei ffordd i mewn i gyllidebau llywodraeth leol. Ond oni fyddwn ni'n edrych ar gyllideb llywodraeth leol yn gyffredinol ac yn rhoi iddynt y rhyddid i wneud eu penderfyniadau eu hunain ar wariant, ni fyddant yn gallu wynebu'r wasgfa gyffredinol arnynt, a bydd hynny yn y pen draw yn rhoi mwy o bwysau ar wasanaethau iechyd meddwl, ac ar ofal. Felly, gadewch imi orffen. Nid yw hyn yn gynaliadwy. Gwn fodcronfeydd wrth gefn yn rhedeg allan yn gyflym iawn yn ardal fy nghyngor i. Mae angen strategaeth arnynt nawr i adeiladu eu cronfeydd wrth gefn, ac ni allant weld y tu hwnt i'r flwyddyn nesaf, pan maen nhw'n poeni y bydd pethau'n hyd yn oed yn waeth nag ydynt nawr.Nid yw'n gynaliadwy, ac nid wyf yn barod i roi'r gorau ialw ar y Llywodraeth hon i chwilio am yr arian ychwanegol sydd ei angen ar lywodraeth leol. Efallai y bydd rhai cynghorau wedi cael eu darbwyllo i beidio â gwneud mwy o sŵn ynghylch hyn ar hyn o bryd, er mwyn cymryd y pwysau oddi ar y Gweinidog hwn a'i Lywodraeth, ond nid wyf i'n barod i ildio eto. Mohammad Asghar (Oscar) AC: Mae Llywodraeth Leol yng Nghymru yn wynebu argyfwng ariannu. Ers 2009, mae awdurdodau lleol yng Nghymru wedi cael toriad mewn termau real o 22 y cant i'w cyllidebau—£1 biliwn o doriadaucyllid oherwydd polisi Llywodraeth Cymru. Dan ycynigion ariannudrafft gwreiddiol, byddai 15 o'r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru wedi gweld gostyngiad yn y cyllid. Afraid dweud, derbyniwyd y cynigion â chryn siom gan arweinwyr llywodraeth leol Cymru, siom a wnaeth droi'n ddicter yngyflympan wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol eu cymharuag Oliver Twist, bob amser yn gofyn am fwy. Dywedodd arweinydd Cyngor Abertawe y dylai'r Prif Weinidog ymbellhau oddi wrth sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet ac ystyried a yw'n briodol iddoaros yn y cabinet yn ei sefyllfa bresennol... Nid ymddiheuraf am ofyn am fwy o adnoddau gan Lywodraeth Cymru i arbed y gwasanaethau hynny a ddarperir gan athrawon, gweithwyr ieuenctid, llyfrgellwyr a gweithwyr gofalsy'n gweithio'n galediawn i ddiogelu cymunedau yng Nghymru. Yn gyntaf, yr adlach hwn—gwnaeth y Llywodraeth hon, sydd fel Scrooge, dro pedol llawn cywilydd. Diolch i arian ychwanegol y bydd Cymru yn ei dderbyn oherwydd cyllideb y Canghellor yn yr Hydref, canfuwyd bod mwy o arian ar gael i gynghorau Cymru. Fodd bynnag, hyd yn oed pan oedd y trefniadau newydd yn cael eu hystyried, erys y ffaith fod yr holl awdurdodau lleol yng Nghymru wedi cael toriad mewn cyllid, yr wythfed flwyddyn yn olynol o doriadau i gyllidebau cynghorau mewn termau real. Mae'r cynghorau hefyd wedi wynebu problemau a achosir gan fformiwla ariannu nad yw'n addas i'r diben. Yn gyntaf, y corws o anfodlonrwydd ynghylch y trefniadau ariannu presennol—mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwrthod mewn modd dirmygus ymgysylltu â'r sector. Tynnodd setliad dros dro llywodraeth leol ar gyfer 2019-20 sylw at raniad clir rhwng cynghorau yn y gogledd ac yn y de. Mae pob un o'r chwe chyngor yn—[Torri ar draws.] Ie, ewch ymlaen, Mike. Mike Hedges AC: Y cyllid allanol agregedig chweched uchaf yw sir Ddinbych. Mohammad Asghar (Oscar) AC: Iawn, diolch yn fawr am yr ystadegyn, ond credaf y gwyddoch yn well na—. Mae eich Llywodraeth wedi torri'r cyllid ar gyfer y cynghorau mwyaf ffyniannus yng Nghymru. Byddai pob un o'r chwe chyngor yn y gogledd wedi gweld toriad o hanner 1 y cant o leiaf yn eu cyllideb. Byddai tri wedi derbyn toriad cyllideb o 1 y cant eisoes. Unwaith eto, bydd cynghorau gwledig yn dioddef o'u cymharu ag awdurdodau trefol dan arweiniad Llafur. Mae'r fformiwla gymhleth ac annheg hon wedi arwain at sefyllfa lle mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi gallu storiocronfeydd wrth gefnna ellir eu defnyddioo £152 miliwn. Mae hwnnw'n ffigur syfrdanol. Eto, mae cynghorau Sir Fynwy a Phowys wedi gorfod cyflwyno toriadau i'r gyllideb i fantoli eu llyfrau. Mae'r Llywodraeth Lafur hon yn gyson wedi methu â chydnabod y problemau penodol a wynebir gan awdurdodau cynghorau gwledig yng Nghymru wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Ceir costau uwch wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus mewn ardaloedd gwledig, a bydd gweithredoedd yLlywodraeth honyn anochel yn arwain at doriadau i wasanaethau a chodiadau yn y dreth gyngor. Ym 1997,y dreth gyngor band Dcyfartalog yng Nghymru oedd £490. Bellach mae bron yn £1,492, cynnyddanhygoelo dros 200 y cant. Mae hynny i gyd yn ystod y Llywodraeth Lafur. Mae codiadau uchel iawn yn y dreth gyngor wedi cael effaith ddinistriol ar aelwydydd Cymru. Mae Cyngor ar Bopeth wedi labelu'r dreth gyngor fel y broblem dreth fwyaf yng Nghymru. Mae awdurdodau lleol wedi ceisio sicrhau bod cymaint o arian â phosib yn cael ei gyfeirio at wasanaethau rheng flaen drwy dorrigwastraff abiwrocratiaeth ddiangen. Ond bydd fformiwla ariannu annheg y Blaid Lafur yn golygu y bydd pobl, yn enwedig y rhai sy'n byw mewn ardaloedd gwledig, yn wynebu toriadau niweidiol mewn gwasanaethau cyhoeddus a biliau treth gyngor cynyddol. Mae angen adolygiad strategol o'r fformiwla gyllido i sicrhau setliad tecach. Mae angen fformiwla gyllido sy'n ystyried anghenion cefn gwlad Cymru ac sy'n sicrhau na chaiff cynghorau gwledig eu cosbi mwyach. Galwaf ar y Cynulliad i gefnogi ein cynnig a sicrhau mwy o degwch i awdurdodau lleol yng Nghymru. Diolch i chi. Rhianon Passmore AC: Rwy'n codi i gefnogi gwelliant Llywodraeth Cymru i'r cynnig hwn gan y Torïaid, ac rwy'n edrych ar yr olygfa gywilyddus o'r Torïaid gyferbyn â mi yn codi i ddweud bod awdurdodau lleol yn cael trafferthion—wel, gadewch inni fod yn onest, yn blwmp ac yn blaen, ysgwydwch y goeden arian hud honno, a byddwn yn cael mwy o arian, mwy o werth am ein harian o wneud hynny. Rwyf i yn un, wedi blino clywed am gyni, felly hefyd pobl Islwyn sy'n dioddef oherwydd yr ideoleg wleidyddol, greulon hon—ideoleg sydd wedi methu â lleihau diffyg y DU— Rhun ap Iorwerth AC: A wnewch chi dderbyn ymyriad? Rhianon Passmore AC: Nid wyf i wedi gorffen eto, diolch. Fe wnaf yn nes ymlaen—[Chwerthin.]—ond mewn gwirionedd mae wedi cynyddu diffyg y DU—[Torri ar draws.] Fe wnaf hyn yn nes ymlaen, iawn. Rydym ni wedi bod yn dioddef nawr am naw mlynedd hir, ac nid yw'n beth i chwerthin yn ei gylch i bobl yn fy etholaeth i, sy'n dioddef canlyniadau cyni a diwygio lles. Mae hyn ar wahân—[Torri ar draws.] Mae hyn ar wahân i feirniadaeth Y Cenhedloedd Unedig ar dreth ystafell wely yn achosi digartrefedd a beirniadaeth Y Cenhedloedd Unedig ar gredyd cynhwysol a diwygio lles. Mae'n hollol gysylltiedig, ac yn achosi tlodi ac achosi niwed gwirioneddol i'n pobl. Ac er bod Llywodraeth Dorïaidd y DU nawr wedi mynd i'r arfer o ddatgan bob hyn a hyn bod cyni wedi dod i ben, wel, mewn gwirionedd, mae'r dioddef yn parhau, wrth i'r hunanladdiadau a'r marwolaethau nawr gael eu priodoli'n uniongyrchol igyff gwawdyr asesiad budd-dal anabledd a thaliad annibyniaeth personol. Ac fe wn i, fel cyn-gynghorydd, yn uniongyrchol, pa mor werthfawr a pha mor bwysig yw llywodraeth leol fel cangen gyflenwi democratiaeth Cymru ac i ddarparu gwasanaethau cyhoeddusar y rheng flaen, a'r bobl sy'n agored i niwed fydd y rhai a fydd yn parhau i ddefnyddio gwasanaethau llywodraeth leol ar gyfer y gwasanaeth rheng flaen cyntaf. Ond mae'n ffaith ddiamod bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi amddiffyn llywodraeth leol yng Nghymru rhag effeithiau gwaethaf naw mlynedd o gyni ac yn wyneb toriad— Rhun ap Iorwerth AC: A wnewch chi ildio nawr? Rhianon Passmore AC: Gadewch imi orffen—ac yn wyneb toriad o £850 miliwn i'n cyllideb gan Lywodraeth y DU ers 2010. Mae hynny'n ffaith. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch yn fawr iawn i chi am dderbyn ymyriad. Cytunaf yn llwyr â chi, fel y dywedais i yn fy sylwadau yn gynharach am effeithiau dinistriol cyni Torïaidd, ond onid y realiti y tro hwn yw bod gennym ni gynnydd o 2.4 y cant yn y gyllideb gyffredinol ynghyd â gostyngiad o 2 y cant yng nghyllidebau llywodraeth leol? Rhianon Passmore AC: Diolch ichi am hynna. Rwy'n credu na ellir gwahanu oddi wrth y ffaith, ers 2010, y bu toriad o £850 miliwn i Gymru. Mae hyn yn strategol, mae hyn yn hirdymor, ac rydym ni'n gwybod bod mwy i ddod oni bai ybydd etholiad cyffredinol, a cheir ffaith eithaf syml yn y fan yma: Os yw eich côt yn rhy dynn, byddwch yn gwlychu. Fe wnes i gyfarfod ag aelodau etholedig o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yr wythnos diwethaf—[Torri ar draws.] Wel, gadewch imi egluro fy sylw: Os nad oes gennych chi ddigon o arian yn dod i mewn, ni fyddwch yn gallu darparu'r gwasanaethau y mae eich pobl eu hangen. Galwais ar arweinydd y cyngor i ddod i'r Cynulliad, oherwydd fy mod i'n bryderus iawn ynghylch statws llywodraeth leol fel y cyfryw ar draws y DU, i drafod gyda mi heb flewyn ar dafod yr heriau sy'n wynebu cynghorau a'r defnydd doeth o gronfeydd wrth gefn, ond y ffaith yw bod cynghorau yn ofnus paneu bodyn edrych ar draws y dŵr at Loegr. Dywedodd y South Wales Argus ar 12 Tachwedd, bod toriadau o £89 miliwn wedi'u gwneud gan yr awdurdod ers 2008. Bydd angen dod o hyd i £60 miliwn arall dros y pum mlynedd nesaf. Ac fe wn i na siaradodd unrhyw wleidydd Llafur â mi ynghylch dod i mewn i fywyd cyhoeddus i gwtogi gwasanaethau cyhoeddus. Dyma anadl einioes y gymuned. Ni ddywedodd unrhyw wleidydd Llafur yr wyf i yn ei adnabod wrthyf mai dyna pam y daeth i mewn i lywodraeth leol. Mae'n ffaith bod llywodraeth leol yn darparu gwasanaethau sydd er lles uniongyrchol ac yn effeithio ar y bobl dlotaf yn ein cymdeithas. Llywodraeth leol sy'n talu am seibiant, gofal, cerddoriaeth, chwaraeon a gwasanaethau cymorth anstatudol ar gyfer ein pobl, ac rwy'n cymeradwyo agwedd benderfynol cynghorwyr Llafur Cymru a'n dinasyddion, sy'n parhau i godi llais ynghylch yr angen i ymladd yn ôl yn erbyn cyni Ceidwadol. Diolch i Lywodraeth Lafur Cymru a'n hawdurdodau lleol yng Nghymru ni fydd yn rhaid iddyn nhw reoli toriadau o fwy na 0.5 y cant. Ac mae hyn yn gwbl groes—[Torri ar draws.]—os dymunaf i barhau, ac rwyf i'n dymuno os caf—. Mae hyn yn gwbl groes i'r sefyllfa yn Lloegr, lle mae cyllidebau cynghorau wedi eu chwalu'n llwyr.Ac fe fyddwn i'n cymryd mwy osylw o'rblaid gyferbyn pe na bydden nhw, lle maen nhw mewn Llywodraeth, wedi cael ycyff gwawdo doriadau i lywodraeth leol a gafodd Lloegr.Mae ymchwil gan y Gymdeithas Llywodraeth Leol wedi canfod y bydd llywodraeth leol gwirionedd—erbyn 2025. Nid yw'n iawn fod y Ceidwadwyr gyferbyn yn galw am fwy o arian ac ar yr un pryd yn torri, dros amser, yn strategol, cyllideb Cymru. Mae'n annidwyll ar y mwyaf ac yn ffars. Mae toriadau'r Torïaid mewn llywodraeth leol yn Lloegr yn annheg iawn. Fe daron nhw rai o'r cynghorau mwyaf anghenus yn galetach na neb. Mae'r 10 uchaf—[Torri ar draws.] Gadewch imi orffen. Mae'r 10 uchaf o gynghorau mwyaf difreintiedig Lloegr yn wynebu toriadau sy'n uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol, gyda naw yn sicr o wynebu toriadau dros dair gwaith yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol. Felly, ble mae'r tosturi Ceidwadol yn y fan yna tuag at y bobl dlotaf yn ein cymdeithas, lle'r ydych chi'n llywodraethu? Gwn fod pobl Cymru yn cael eu trin yn well gan gynghorau Llafur Cymru, a reolir gan Lywodraeth Lafur Cymru, ac yn olaf, awgrymaf Dirprwy Lywydd, bod y Torïaid gyferbyn yn ysgwyd y goeden arian hud y daethon nhw o hyd iddi ar gyfer Gogledd Iwerddon—yr £1 biliwn a roesoch chi iddyn nhw—a'i roi yn ôl i Gymru. Diolch. Russell George AC: Hoffwn i gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw a chefnogi cynnig Ceidwadwyr Cymru, yn arbennig ein cynnig yn galw am adolygiad annibynnol o'r fformiwla gyllido ar gyferllywodraeth leol yng Nghymru sydd mor hen ffasiwn ac syddwirioneddol angen ei diwygio. Pan ddechreuais i feddwl am fy nghyfraniad heddiw, roeddwn i'n meddwl, 'Wel, fe chwythaf i'r llwch oddi ar fy araith y llynedd, y flwyddyn cyn hynny, neu'r flwyddyn cyn hynny hyd yn oed; yr un y mae Mike Hedges yn ymyrryd arni hi bob blwyddyn.' Felly, dyna dystiolaeth, rwy'n credu, Mike, ein bod ni'n siarad am hyn ar yr ochr hon bob blwyddyn oherwydd eich bod chi'n ymyrryd bob blwyddyn. Ond, eleni, yr oeddwn i'n meddwl, yn hytrach na gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet i gyfrannu tuag at yr hyn yr wyf i'n ei ddweud, fe ofynnafi chi gyfrannu at yr hyn y mae arweinydd Cyngor Sir Powys yn ei ddweud. Ysgrifennodd hi at holl Aelodau'r Cynulliad sy'n cael eu cynrychioli yn ardal Cyngor Sir Powys, ac roeddwn yn meddwl, yn fy nghyfraniad i, y byddwn yn ailadrodd i chi yrhyn a ddywedodd hi, felly gallwch ei hateb hi'n uniongyrchol. Mae ei llythyr yn nodi'r bwlch cyllid o £14 miliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf ar gyfer Cyngor Sir Powys, ac £20 miliwn arall dros y tair blynedd dilynol, ac mae hi'n sôn nad yw'r gostyngiadau yn y gyllideb yn ystyried y gost o ddarparu gwasanaethau ar draws rhannau helaeth o'r siroedd gwledig megis Powys. Aiff ymlaen i ddweud bod Powys wedi bod yn y sefyllfa annichonadwy o gael y setliad cyllideb gwaethaf, neu'r setliad gwaethaf ar y cyd mewn naw allan o ddeng mlynedd. I roi hyn mewn cyd-destun, yn y 10 mlynedd diwethaf rhwng 2010 a 2020, byddai tua £100 miliwn wedi bod ar gael yn ein cyllideb, ac mae hyn ar adeg pan fo awdurdodau lleol eraill ledled Cymru yn gweld cynnydd yn eu setliadau. Dyma'r enghraifft yr oedd Darren Millar yn sôn amdani yn ei sylwadau agoriadol am y rhaniad rhwng ardaloedd trefol a gwledig Cymru. [Torri ar draws.] Ie, Mike, fel bob tro. Mike Hedges AC: Fel bob amser—os oedd rhaid i Russell George fy herio i. Ym Mhowys mae cymorth y pen yn y pedwerydd safle ar ddeg uchaf yng Nghymru a'i phroblem yw colli poblogaeth. Russell George AC: Wel, onid yw hi'n ddiddorol bod Llywodraeth y DU, yn ei grant bloc, yn rhoi £1.20 i bob person yng Nghymru am bob £1 sy'n cael ei wario yn Lloegr? A pham? Oherwydd bod mwy o angen yma yng Nghymru. Ond nid yw'r angen hwnnw yn cael ei adlewyrchu yn y fformiwla ar gyfer llywodraeth leol o safbwynt Cymru wledig a'r anghenion ledled Cymru. Alun Davies AC: Y mae'n cael ei adlewyrchu. Russell George AC: A byddYsgrifennydd yCabinet yn gallu ymateb i hynny yn ei sylwadau terfynol. Hefyd, mae arweinydd Cyngor Sir Powys yn sôn am yr arbedion effeithlonrwydd sydd eisoes wedi'u gwneud mewn rheoli a swyddfeydd cefn. Yr hyn a ddywed hi mewn llythyr ataf i ac at Aelodau Cynulliad eraill yn ein hardal ni yw nad yw'r dull hwn yn gynaliadwy mwyach gan fod y toriadau yn rhy ddwfn. Rhy ddwfn. Toriadau llym. Mae hi'n sôn am gyllidebau ysgol; colli swyddi—wrth gwrs, yr awdurdod lleol yw'r cyflogwr mwyaf yn yr ardal; gostyngiadau mewn gwasanaeth; priffyrdd; cynnal a chadw; cyflwyno neu gynyddu taliadau i rai o'r gwasanaethau cyhoeddus, megis mynwentydd, gwastraff gardd, meysydd parcio ac ati. Felly, rydym ni, ar yr ochr hon i'r Siambr, ar y meinciau hyn, rydym ni eisiau sicrhau bod cynghorau lleol yn cael eu grymuso i wneud y penderfyniadau sy'n effeithio ar eu cymunedau. Yn anffodus, bu tuedd tuag at ganoli cyllid drwy gyflwyno grantiau penodol Llywodraeth Cymru yn hytrach na grymuso'r cynghorau hynny, cynghorau tref, cynghorau cymuned, cynghorau sir ledled Cymru, i wneud penderfyniadau ariannol yn lleol yn eu hardaloedd eu hunain—penderfyniadau sy'n addas ar gyfer eu cymunedau eu hunain. Felly, gadewch i ni weld ymagwedd fwy hyblyg a gadewch i ni weld cynnydd yn y grant cynnal refeniw yn hytrach na grantiau penodol gan Lywodraeth Cymru, ac yna caniatáu i awdurdodau lleol i ddiogelu mwy o'r gwasanaethau sy'n bwysig iddyn nhw. Fe ddof â'm cyfraniad i ben drwy ddarllen y paragraff olaf ond un oddi wrth arweinydd Cyngor Sir Powys ataf i ac aelodau eraill y Cynulliad: Nid yw'n rhy hwyr i wyrdroi'r sefyllfa. Mae cyllideb y Canghellor wedi darparu cymorth ychwanegol ar gyfer bloc Cymru, a dylai llywodraeth leol fod y cyntaf yn y ciw i gael adnoddau ychwanegol. Powys yw'r awdurdod sydd wedi dioddef yn fwy na'r rhan fwyaf; dylai fod ar flaen y ciw hwnnw. Wel, rwy'n cytuno ag arweinydd Cyngor Sir Powys, a gadewch inni gytuno i gynnal adolygiad annibynnol o'r fformiwla gyllido ar gyferllywodraeth leol yng Nghymru, Ysgrifennydd y Cabinet, a gadewch i ni weld system deg sy'n gweithio ar gyfer pob rhan o Gymru. Diolch. Galwaf yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus. Alun Davies. Alun Davies AC: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno y bu'n ddadl ddyrchafol arall ar natur cyni yn y fan yma. Rwy'n credu nad yw'n glod i'r lle hwn nac i wleidyddiaeth, pan fo Aelodau Ceidwadol yn codi a difrïo polisïau ac effaith polisïau Llywodraeth y maen nhw'n honni eu bod yn ei chefnogi yn y Deyrnas Unedig tra eu bod, ar yr un pryd, yn golchi eu dwylo o'r holl gyfrifoldeb am effeithiau'r polisïau hynny. Ond gadewch i mi ddweud un peth, wrth imi ddechrau fy sylwadau y prynhawn yma. Gadewch imi ddweud hyn; beth bynnag a wnawn ni i'r fformiwla neu gyda'r fformiwla o ran ei symud hi ymlaen, ei datblygu, ni fyddaf i byth,fel Ysgrifennydd Cabinet, yn gwyro'r fformiwla i gefnogi cynghorau Llafur neu gynghorau yn fy rhanbarth arbennig i. Fe glywsom ni yn ystod yr awr ddiwethaf, Ceidwadwr ar ôl Ceidwadwr yn codi ac yn dweud wrthym ni, yn y bôn, y dylai'r fformiwla gael ei gwyro. Maen nhw wedi gosod cymuned yn erbyn cymuned yn y wlad hon y prynhawn yma ym mhob un o'u sgyrsiau. Nid wyf i am wneud hyn. Ond fe ddywedaf i wrthych chi beth yr wyfi'n mynd i'w wneud, gadewch imi ddweud wrthych chi beth yr wyf i'n mynd i'w wneud. Pan fyddaf yn cael llythyr gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, wedi'i lofnodi gan bob un o'r pedwar arweinydd gwleidyddol, yn dweud wrthyf eu bod yn gofyn am adolygiad o'r fformiwla honno, fe fyddaf yn caniatáuhynny. Ni fyddaf yn ei rwystro. Gadewch imi ddweud hyn; cyflwynwyd y fformiwla am y tro cyntaf, wrth gwrs, gan un o'm rhagflaenwyr, Aelod dros Flaenau Gwent, ond nid wyf i'n teimlo fy mod yn berchen arni mewn unrhyw ffordd, rwy'n teimlo ei bod yn fformiwla i'w rhannu rhyngom ni a llywodraeth leol. Felly, gadewch inni glywed y llais hwnnw, gadewch inni glywed beth sydd gan arweinwyr y cynghorau hynny i'w ddweud. Gadewch inni glywed eu llais, ac os byddan nhw'n gofyn am yr adolygiad sylfaenol hwnnw, yna fe fyddwno duei ganiatáu. Ond, bydd yn canolbwyntio ar anghenion pobl ac nid diwallu anghenion pleidiau gwleidyddol. Felly, ni fydd yn adolygiad Torïaidd; fe fydd yn adolygiad dan arweiniad y lle hwn, yn annibynnolar bleidiau gwleidyddol, ac yn annibynnolar y dichell gwleidyddol a glywsom ni y tu ôl imi. Siân Gwenllian AC: Onid y pwynt pwysig heddiw ydy nid y fformiwla—ac rydym yn mynd lawr rhyw gors yn trafod y fformiwla gyllidol—onid y pwynt pwysig fan hyn ydy bod yna gynnydd wedi bod yn y gyllideb eleni a oedd yn rhoi cyfle euraidd i’r Llywodraeth yma ddechrau symud y pwyslais tuag at wasanaethau ataliol ym myd llywodraeth leol? Rydych chi wedi colli’r cyfle honno. Alun Davies AC: Roeddwn i'n ymateb i un rhan o'r ddadl: Fe fyddaf yn dod at rannau eraill o'r ddadl maes o law. Fy rhagdybiaeth oedd eich bod eisiau ymyrrydar yr agweddau yn ymwneud â fformiwla o hyn. Ond fe fyddwn yn cyfeirio at rannau eraill o hyn. Fodd bynnag, yr hyn yr hoffwn i ei wneud, yw cael ychydig mwy o—sut gallaf i fynegi hyn—ddadl ddyrchafedig ynghylch sut yr ydym ni'n ariannu llywodraeth leol a'r heriau sy'n ein hwynebu. Gadewch imi ddweud hyn; dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym ni wedi gweld effaithsylweddol o ganlyniad i gyni. Rydym ni wedi gweld gostyngiad o 8 y cant, mewn termau real yn y gyllideb sydd ar gael i'r Llywodraeth hon ers 2009 a 2010. Rydym ni wedi gweld effaith polisi economaidd a pholisi ariannol wedi methu o Lundain. Mae wedi methu â chyflawni pob un o'i amcanion. Un o'r amcanion hynny—[Torri ar draws.] Nid wyf amdderbyn ymyriad arall ar hyn o bryd. Mae wedi methu â chyflawni unrhyw un o'i hamcanion, a dyna pam, rwy'n amau, y taflodd y Canghellor presennol y cyfan i'r bin. Gadewch imi ddweud hyn: Mae'r Ceidwadwyr yn dweud wrthym ni y bydden nhw'n gwneud pethau mewn ffordd wahanol, ac maen nhw'n iawn, fe fydden nhw. Fe fydden nhw—fe fydden nhw— oherwydd, yn Lloegr, maen nhw'n lleihau cyllid craidd y Llywodraeth, nidgan 10 y cant nac 20 y cant, ond i sero. I sero. Fe'i gostyngwyd i ddim byd o gwbl. Ond nid ydych chi'n clywed hynny gan y lleisiau hyn yma, na'i glywed gan gynghorwyr Ceidwadol ychwaith. Rwyf i wedi gweld yr un llythyrau a welwyd gan eraill yn y fan yma, ond rwy'n dal i ddisgwyl gweld llythyr gan arweinydd y Ceidwadwyr mewn unrhyw le yng Nghymru—ac fe dderbyniaf yr ymyriad os oes gan rywun un—lle y maen nhw'n dweud, eu bod nhw eisiau'r un polisïau sy'n cael eu dilyn gan Lywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig yn Lloegr yn cael eu dilyn yma yng Nghymru. [Torri ar draws.] Nid wyf i wedi ei weld hyd yn hyn, ac rwy'n sylwi bod yr ymyriadau y tu ôl imi wedi tewi. Yr hyn yr ydym ni wedi ei weld—[Torri ar draws.] Yr hyn yr ydym ni wedi ei weld—[Torri ar draws.] Maen nhw'n dawel nawr. Maen nhw'n dawel nawr, oherwydd eu bod yn cydnabod—[Torri ar draws.] Oherwydd eu bod yn cydnabod—[Torri ar draws.] Maen nhw'n cydnabodbod 24 y cant o doriad mewn gwariant ar gyfer cynghorau yn Lloegr yn cymharu â 12 y cant yng Nghymru—nid 35 y cant, Darren. Fe gawsoch eich rhifau'n anghywir unwaith eto; mae angen ymchwilydd newydd arnoch chi ac mae angen ysgrifennwr areithiau newydd arnoch chi hefyd. Felly, gadewch imi ddweud hyn wrthych chi. Nid oes unrhyw—[Torri ar draws.] Nid oes unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru yn wynebu unrhyw beth tebyg i'r un gostyngiadau mewn gwariant ag y mae cyngor cyfartalog yn Lloegr—dim un, dim un o gwbl. Ond gadewch i mi fynd ymhellach na hynny, a dyma'r ddadl wirioneddol y mae'n rhaid inni ei chael y prynhawn yma, a daeth Rhun ap Iorwerth yn agos iawn at ddweud y pethau hyn. Gadewch imi ddweud hyn: Y peth hawddaf yn y byd yw ailadrodd ac ymarfer dadleuon—rydym ni wedi clywed o leiaf un Aelod yn dweud ei fod wedi traddodi'r un araith dair gwaith yn ystod y tair blynedd diwethaf—ond nid yw hynny'n ymateb digonol. Mae'n ymateb annigonol i'r heriau a wynebwn. Fe wyddom ni fod Canghellor yn dweud mewn araith bod cyni ar ben, yn dibynnu ar sefyllfaoedd gwahanol, yn arwain at ostyngiadau sylweddol yng ngrant bloc Cymru hyd at 2021-22, naill ai gan -3 y cant, -0.5 neu-0.8 y cant. Felly, byddwn ni'n dal yn gweld gostyngiadau. Ac fe wyddom ni—a dyma'r her, Rhun—nid yw'n ddigon da i gynnig sylwebaeth a chynnig dadansoddiad o'r gwahanol feysydd o ariannu, oherwydd ni fyddai neb yn anghytuno â chi, ond mae'n rhaid i chi wneud penderfyniadau. Nid ydym ni'n eistedd yn y Siambr hon i roi sylwebaeth. Rydym ni'n eistedd yn y Siambr hon i wneud penderfyniadau, ac os ydych chi'n cwestiynu faint o arian a werir ar iechyd, yr ymagwedd onest yw nid ei feirniadu, ond dadlau o blaid ei dorri. Dadlau o blaid ei dorri. Rhun ap Iorwerth AC: Rwy'n credu mai'r pwynt a wnes i ynghylch hynny, ac fe'i gwnaf ef eto, oedd bod y rhain yn benderfyniadau, ydynt, y gallwn edrych arnyn nhw yng nghyd-destun heddiw, ond y dylem ni fod yn edrych arnyn nhw yng nghyd-destun blynyddoedd. Rydym ni wedi bod yn siaradam amser maith am yr angen i feddwl yn drawsffurfiol ynghylch sut yr ydym ni'n gwario arian ar iechyd a gofal cymdeithasol—nid yw wedi digwydd. Bellach, o ganlyniad i'r adolygiad seneddol, efallai y byddwn ni'n gweld rhywfaint o newid, ond mae hyn yn fethiant ar ran bron i 20 mlynedd o Lywodraetha arweinir ganLafur. Alun Davies AC: Byddwn i'n awgrymu, mewn nifer o ffyrdd, ei fod yn fethiant ar ran y dosbarth gwleidyddol yn hytrach nag unrhyw blaid wleidyddol benodol, oherwydd gadewch imi ddweud hyn; oherwyddmae pethau'n mynd i waethygu. Oherwyddmae pethau'n mynd i waethygu. Gwelodd pob un ohonom ni, ac rwy’n siŵr y darllenodd sawl un ohonom ni adroddiad y Sefydliad YmchwilGymdeithasol acEconomaidd Cenedlaethol ddoe, a oedd yn trafod effaith Brexit. Gallem ni weld economi'r DU yn gostwng gan rhwng 2.8 y cant a 5.5 y cant. Fe wyddom ni y bydd hynny'n arwain at ostyngiad sylweddol yn y trethi a gesglir; fe wyddom ni y bydd yn arwain at ostyngiad sylweddol yn y cyllid sydd ar gael i ni; ac fe wyddom ni os ydym o ddifrif ynglŷn â'r math o gynnydd mewn gwariant sy'n cael ei drafod y prynhawn yma, y byddai'n rhaid inni gynyddu cyfraddau treth incwm Cymru gan 5, 6 neu 7 y cant er mwyn gwneud iawn am y gostyngiadau hynny, ac a ydych chi'n barod i ddadlau o blaid hynny? A ydych chi'n barod i ddadlau o blaid hynny? Yr hyn yr wyf am ei ddweud, ac rwyf yn dweud hyn wrth Aelodau ar bob ochr i'r Siambr y prynhawn yma, yw nad yw dadl ddi-fudd ynghylch sut yr ydym ni'n dyrannu arian yn ymateb digonol i'r heriau a wynebir gan lywodraeth leol na gan feysydd eraill o wariant o fewn Llywodraeth Cymru. Mae'n rhaid i ni ofyn cwestiynau llawer mwy anodd a llawer mwy llym, oherwydd yn y dyfodol bydd gennym ni ostyngiadau sylweddol yn y cyllid sydd ar gael i ni, ac mae hynny'n golygu gofyn cwestiynau anodd am strwythurau llywodraethu. Mae'n golygu gofyn cwestiynau anodd ynghylch sut yr ydym ni'n darparu gwasanaethau. Mae'n golygu gofyn cwestiynau treiddgar iawn i ni'n hunain ac i'n cyd-Aelodau ynghylch sut y byddwn ni'n llwyddo i greu strwythurau darparu gwasanaethau ac atebolrwydd a llywodraethu lleol a all gyflawni a diogelu'r gwasanaethau hynny, nid yn unig yn yr oes o gyni ond yr oes o gyni a daniwyd gan Brexit. Drwy gerdded i ffwrdd o'r ddadl honno, rydym ni'n cerdded i ffwrdd oddi wrth y cyfrifoldeb y mae ein swyddi yn ei osod arnom. Rwy'n gwybod fy mod i'n trethu eich amynedd, Dirprwy Lywydd—Fe orffennaf i gyda'r pwynt hwn: Nid oes angen unrhyw ddarlith arnaf o gwbl gan blaid Geidwadol Cymru a'u dagrau ffug ynghylch y toriadau i gyllid cyhoeddus a'u heffaith ar wasanaethau cyhoeddus. Nid oes ar neb angen y dagrau ffug hynny. Nid oes ar neb eisiau'r dagrau ffug hynny. Yr hyn yr ydym ni ei eisiau—[Torri ar draws.] Yr hyn yr ydym ni eisiau—a'r hyn y byddaf yn ei harwain, a'r hyn y bydd y Llywodraeth hon yn ei harwain—yw dadl ynghylch sut yr ydym yn darparu ac yn amddiffyn ein gwasanaethau cyhoeddus ar adeg pan fo'r bobl y tu ôl i mi, sy'n hapus i weiddi, yn cynnig mwy o'r un peth a dim syniadau newydd. Fe fyddwn ni'n arwain newid yn Llafur Cymru, a byddwn yn arwain newid teg i bawbym mhob rhan o'rwlad hon. Mae'n rhaid i'r Aelodau sylweddoli pan fyddwch chi i gyd yn dechrau gweiddi, y byddaf yn caniatáu i'r Gweinidog barhau. Felly, os ydych yn teimlo eich bod—[Torri ar draws.] Felly, os ydych yn teimlo—gan fy mod wedi clywed llawer iawn o sylwadau eisteddog, fe fydd yn rhaid ichi eistedd a gwrando, oherwydd byddaf yn caniatáu i Weinidogion—a dim ond Gweinidogion, rwy'n ychwanegu'n gyflym iawn—i barhau. Felly, dyna ni. Meddyliwch am hynny ar gyfer y ddadl nesaf. Galwaf ar Mark Isherwood i ymateb i'r ddadl. Mark, mae gennych chi bedwar munud. Mark Isherwood AC: Diolch. Diolch i bawb a gyfrannodd. Fel yr amlygodd Darren Millar, roedd llythyr gan arweinwyr llywodraeth leol, a lofnodwyd ganddyn nhw i gyd, yn rhybuddio y byddai toriadau i wasanaethau ataliol yn ddarbodaeth ffug. Fel y dywedodd Prif Weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wrth y pwyllgor, cafwyd cyhoeddiad bod £30 miliwn yn mynd i fyrddau partneriaeth rhanbarthol, ond mae hynny yn llinell gyllideb y GIG. Pam na wnewch chi'r £30 miliwn hynny'n gronfa gwariant ataliol? Gan grynhoi'r materion ehangach—. Fel y dywedodd Darren, ceir amheuon bod Ysgrifennydd y Cabinet yn defnyddio tactegau llechwraidd i orfodi cynghorau i uno ac, fel y dywedodd, ni yw'r fformiwla gyllido ar gyferllywodraeth leol Llywodraeth Cymru sy'n 17 oed, yn addas i'r diben mwyach.Fel gweithiwr iechyd proffesiynol, roedd Dr Dai Lloyd yn tynnu sylw at yr angen i weld mwy o arian yn cael ei wario ar atal salwch mewn llywodraeth leol, a'r angen i ganiatáui feddygon teuluatgyfeirioi'r gwasanaethau cymdeithasol. Dywedodd Suzy Davies fod awdurdodau lleol yn agos at beidio â gallu cynnal gwasanaethau yn ddiogel ac na all Llywodraeth Cymru barhau i ddefnyddio cyni fel esgus. CyflwynoddMike Hedgesamddiffyniad fformiwläig o fformiwla hen ffasiwn. Cynigiodd Rhun ap Iorwerth welliannau Plaid Cymru 2 a 3, ac fe fyddwn ni'n eu cefnogi. Nododd hefyd ei bod hi wedi cymryd symiau canlyniadol gan Lywodraeth y DU i berswadio Llywodraeth Cymru i roi briwsion i lywodraeth leol. Ac, fel y dywedodd, cyni Llafur yw hyn. Cyfeiriodd Mohammad Asghar at y tro pedol gwaradwyddus a gyflawnodd Llywodraeth Cymru diolch i gyllid ychwanegol gan Ganghellor y DU. Cawsom yr araith arferol yn cael ei bloeddio gan Rhianon Passmore am y cyni a etifeddwyd gan Lywodraeth y DU yn 2010. Tynnodd Russell George sylw at y rhaniad yn y fformiwla gyllido rhwng ardaloedd trefol a gwledig Cymru a dywedodd y dylai awdurdodau lleol fod ar flaen y ciw ar gyfer cyllid ychwanegol oddi wrth y Canghellor. Y cwbl a gawsom ni gan Ysgrifennydd y Cabinet Mr Bumble oedd yr anllythrennedd economaidd arferol, taflu'r baich a'r dichell gwleidyddol. Wrth gwrs, cyfeiriodd at yr effaith ar yr economi pe byddai Llafur yn pleidleisio i wrthod y fargen Brexit a gafodd ei negodi rhwng Llywodraeth y DU a phob un o'r 27 o aelodau'r UE. Ar hyn o bryd, am bob £1 a gaiff ei gwario gan Lywodraeth Geidwadol y DU ar faterion datganoledig, rhoddir £1.20 i Gymru. Ond mae talwyr y dreth gyngor yng Nghymru yn dwyn baich penderfyniadau gwael Llywodraeth Cymru dros bron i ddau ddegawd. Roedd Ysgrifennydd y Cabinet unwaith eto'n cymharu cyllid rhwng Cymru a Lloegr, gan honni bod cynghorau yno'n waeth eu byd. Ond mae polisi cyllido llywodraeth leol wedi ymwahanu'n sylweddol ers datganoli; er enghraifft, cyllid uniongyrchol ar gyfer ysgolion yn Lloegr, nid yng Nghymru, a chadw ardrethi busnes yno, nid yma. Mae'n amhosibl gwneud y cymariaethau canran y mae'n parhau i'w gwneud. Rydym ni hefyd yn gwybod bod gennym fformiwla gyllido gymhleth a hen ffasiwn, sy'n rhy fiwrocrataidd ac sy'n arwain at gyllid llywodraeth leol ar sgiw. Felly, ar y nodyn hwnnw, fe orffennaf i drwy ddyfynnu cyngor sir dan arweiniad Llafur yng Nghymru, oherwydd yr wythnos diwethaf, dan arweiniad Llafur fe lansiodd Cyngor Sir y Fflint ei ymgyrch #CefnogiGalw yn y cyngor llawn gyda phob cynghorydd ym mhob plaid yn cefnogi'n unfryd y bwriad o fynd, rwy'n dyfynnu, â'r frwydr i lawr i'r adran lywodraeth leol yng Nghaerdydd i gael cyfran deg o'r cyllid cenedlaethol. Rwy'n falch iawn o ddangos fy nghefnogaeth iddyn nhw ac rwy'n ddiolchgar bod y bobl sy'n byw yn sir y Fflint, a Wrecsam a'r cynghorau eraill dan anfantais erbyn hyn yn gwrthsefyll bwlis yn y Blaid Lafur yng Nghaerdydd, nad ydyn nhw'n gwrando, sydd wedi rhoi'r gorau i fod yn atebol ac y dylen nhw fynd unwaith ac am byth. Y cynnig yw—[Torri ar draws.] Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Rydym yn gohirio'r pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. 7. Dadl Plaid Cymru: Tlodi Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar, a gwelliant 2 yn enw Julie James. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Eitem 7 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl Plaid Cymru ar dlodi, a galwaf ar Leanne Wood i gynnig y cynnig. Cynnig NDM6874Rhun ap Iorwerth Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r datganiad gan rapporteur arbennig y Cenhedloedd Unedig ar hawliau dynol a thlodi eithafol yn sgil ei ymweliad â'r Deyrnas Unedig. 2. Yn gresynu at ganfyddiadau'r adroddiad: a) bod newidiadau i nawdd cymdeithasol wedi cael effaith anghymesur ar fenywod, plant a phobl anabl; b) bod gan Gymru'r gyfradd tlodi cymharol uchaf yn y Deyrnas Unedig; c) nad oes gan Lywodraeth Cymru ffocws strategol ar fynd i'r afael â thlodi, heb ddangosyddion a thargedau perfformiad clir i fesur cynnydd ac effaith; d) bod anallu Llywodraeth Cymru i gyflwyno hyblygrwydd wrth weinyddu credyd cynhwysol, yn wahanol i Lywodraeth yr Alban, yn gwaethygu'r achosion strwythurol sydd y tu ôl i'r cynnydd mewn tlodi, cysgu allan a digartrefedd; ac e) bod tlodi yn ddewis gwleidyddol. 3.Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) ceisio'r pwerau i gyflwyno hyblygrwydd o'r fath wrth weinyddu credyd cynhwysol; a b) cyhoeddi cynllun cadarn ac ystyrlon i fynd i'r afael â thlodi sy'n cynnwys dangosyddion a thargedau perfformiad clir i fesur cynnydd ac effaith. Cynigiwyd y cynnig. Leanne Wood AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Er na chafodd lawer o sylw yn y cyfryngau, roedd y datganiad diweddar gan adroddwr y Cenhedloedd Unedig ar dlodi eithafol yn ddeifiol iawn. Felly, mae'n bleser gennyf agor y ddadl Plaid Cymru hon ar beth ddylai ein hymateb i'r datganiad hwnnw fod. Ymddengys i mi nad oes amrywiaeth o ddewisiadau ar gyfer unrhyw Lywodraeth pan fydd yn wynebu adroddiad beirniadol gan y Cenhedloedd Unedig. Mewn gwirionedd, nid yw'r rhestr o wledydd sydd wedi wynebu datganiadau beirniadol gan y Cenhedloedd Unedig, yn rhestr y dylai unrhyw Lywodraeth fod â'r nod o fod arni. Mae Llywodraeth y DU, a'ucydweithwyr yma, mae'n ymddangos, wedi mabwysiadu y math gwaethaf o ymateb. Eu hymateb nhw yw gwadu hyn. Mae'n dweud llawer iawn, yn fy marn i, am y dirywiad mewn ceidwadaeth fodern sydd mor barod i dderbyn damcaniaeth tebyg i Trump fod y Cenhedloedd Unedig yn gynllwyn adain chwith yn hytrach na cheisio ymgysylltu â'r adroddiad hwn. Ai Ceidwadwyr wir yn credu mai dyma yw'r Cenhedloedd Unedig? Felly, ni fyddwn yn cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr. Trof yn awr at welliant y Llywodraeth. O leiaf y mae i'r gwelliant hwn yrhinwedd o dderbyn yr hyn a nodwyd yn yr adroddiad, ond ar yr un pryd, mae'ngwrthod cymrydunrhyw gyfrifoldeb. Ac felly, byddwn, wrth gwrs, yn pleidleisio yn erbyn y gwelliant hwnnw hefyd. Bydd fy nghyd-Aelodau yn manylu arpam y dylai Cymru fod â rheolaeth dros weinyddu budd-daliadau lles, fel yr Alban a Gogledd Iwerddon. Yn arbennig, byddan nhw'n bwrw golwg ar yrhagfarn annatod o ran rhywedd y mae credyd cynhwysol wedi ei greu, ac rwy'n siŵr y bydd y rhan fwyaf o'rAelodau, os nad yr holl Aelodau yn y fan yma, yn ymwybodol, er enghraifft, o'r cymal treisio, lle mae'n rhaid i fenyw brofiei bod wediei threisio cyn y gall hawlio unrhyw gymorth ar gyfer trydydd plentyn. Ac er y bydd Llafur yn dweud bod yr holl faterion hyn yn rhai i'r Torïaid yn San Steffan, sut y gall yr SNP a hyd yn oed y DUP sefydlu mesurau diogelu ar gyfer eu poblogaethau rhageffeithiau gwaethaf credyd cynhwysol? Pam mai caniatáu i bobl yng Nghymru ddioddef yw ymagwedd Llafur Cymru? Bydd fy nghyd-Aelodau hefyd yn canolbwyntio ar yr agweddau hynny ar y datganiad sy'n tynnu sylw at annigonolrwydd dull y Llywodraeth hon i drechu tlodi. Mae'n bosibl iawn y bydd Llywodraeth Cymru yn pwyntio ei bys at Lundain ac yn rhoi'r bai ar rywun arall, ond mae beirniadaeth glir yn y datganiad hwn na ellir ei hosgoi drwy roi'r bai ar gyni. Mae'r datganiad yn nodi diffyg targedau a dangosyddion perfformiad clir i fesur cynnydd ac effaith y strategaeth trechu tlodi. Mae'n nodi, yn wahanol i'r Alban a Gogledd Iwerddon, y bydd diffyg pwerau Cymru i gyflwyno hyblygrwydd wrth weinyddu credyd cynhwysol yn gwaethygu'r problemau sy'n wynebu ein pobl. Ydy, wrth gwrs, mae'n warthus ei bod yn ofynnol i'r Llywodraeth yn y fan yma wario arian i liniaru polisïau Llywodraeth y DU, ond mae'n rhaid i chi wneud hynnybeth bynnag. Byddai bod â rheolaeth dros weinyddu credyd cynhwysol yn caniatáu i chi leihau'r gost honno, mewn gwirionedd.Sut gall y Llywodraeth yn y fan yma barhau i fethu â deall bod gwasanaethau cyhoeddus yn wynebu cost ychwanegol pan geir digartrefedd? Rydych chi'n wynebu cost ychwanegol pan fydd pobl yn dioddef salwch cronig ac yn dioddef o ddiffyg maeth ac yn gorfod defnyddio'r GIG. Rydych chi'n wynebu cost ychwanegol pan fo'n rhaid i ysgolion ymdopi â phlant na allant ganolbwyntiooherwydd bod eu teuluoedd yn dibynnu ar fanciau bwyd. Sut y gall y blaid sy'n Llywodraethu yn y fan yma barhau i fod eisiau i'r reolaeth lawndros y mater hwn aros yn Llundain oherwydd ryw deyrngarwch truenus i egwyddor ynymwneud â'r undeb yn cynnig rhywfaint offyniant â rennirpan fo'r holl dystiolaeth yn dangos nad yw ASau San Steffan yn poenifawr ddimam ffyniant ardaloedd o'r undeb sydd y tu allan i'r de-ddwyrain a'r siroedd cartref. Rhianon Passmore AC: Diolch. Rydych chi wedi dweud yn aml, fel plaid, nad oes gennych chi unrhywffydd mewn unrhyw gytundebau gyda'r DU. A oes gennych chiffydd y bydd Cymru'n cael y gyllideb angenrheidiol i gyd-fynd ag unrhyw fudd-daliadau lles datganoledig? Leanne Wood AC: Wel, fe wnaethon nhw yn yr Alban, ac nid wyf i'n clywed unrhyw Aelodau Llafur yn dadlau na ddylai gweinyddu'r system cyfiawnder troseddol gael ei datganoli dim ond rhag ofn na fyddLlywodraeth San Steffan yn trosglwyddo'r arian sy'n gysylltiedig â hynny. Rydych chi'n dadlau dros ddatganoli'r system cyfiawnder troseddol ar y sail y bydd yr arian hwnnw yn dod, felly dylech ddadlau dros ddatganoli lles a gweinyddu budd-daliadau hefyd. Rydym ni i gydyn gwybod ers cryn amser bod pobl yn ein cymunedau yn dioddef, ac maen nhw'n dioddef ynarw iawn, ac mae'r adroddiad hwnnawr yn rhoi tystiolaeth inni o hynny. Yn ei adroddiad, mae adroddwr y Cenhedloedd Unedig yn nodi'n eithaf clir y gall Llywodraeth Cymru wneud rhywbeth am hynny, hefyd. Felly,yn hytrach nag aros i dlodi yng Nghymru waethygu hyd yn oed yn fwy, a bydd yn gwneud hynny os na fyddwn yn cymryd camau gweithredu, dyma'r cyfle i weithredu, ac mae'r adroddiad hwn yn rhoi inni'r dulliau sydd eu hangen arnom i wneud hynny. Diolch. Rwyf wedi dewis dau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. A gaf i alw ar Mark Isherwood i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar? Mark. Gwelliant 1—Darren Millar Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi’r camau y mae Llywodraeth y DU wedi’u cymryd i fynd i’r afael â phryderon ynghylch rhoi credyd cynhwysol ar waith. 2. Yn nodi, yn ôl canfyddiadau adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, ‘A yw Cymru’n Decach?’, fod tlodi ac amddifadedd yn uwch yng Nghymru nag yng ngwledydd eraill Prydain, mai Cymru yw’r genedl leiaf cynhyrchiol yn y DU, a bod enillion fesul awr canolrifol yng Nghymru yn is nag yn Lloegr a’r Alban. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun cadarn ac ystyrlon i fynd i’r afael â thlodi sy’n cynnwys dangosyddion a thargedau perfformiad clir i fesur cynnydd ac effaith. Cynigiwyd gwelliant 1. Mark Isherwood AC: Diolch. Fel y dywedodd Ysgrifennydd gwaith a phensiynau'r DU, Amber Rudd, yr wythnos diwethaf: Gwn fod problemau gyda'r credyd cynhwysol, er gwaethaf ei fwriadau da. Rwyf wedi eu gweld drosof fy hun. Byddaf yn gwrando ac yn dysgu oddi wrth y grwpiau arbenigol yn y maes hwn sy'n gwneud gwaith mor dda. Gwn y gall fod yn well. Ychwanegodd bod adroddwr arbennig y Cenhedloedd Unedig ar dlodi eithafol a hawliau dynol, ar ei ymweliad â'r Deyrnas Unedig,wedi defnyddio iaith a oedd, mewn gwirionedd, yn bwrw amheuaeth ar lawer o'r hyn yr oedd yn ei ddweud. Ni wnaeth adroddiad yr adroddwr unrhyw gyfeiriad at unrhyw un o'r camau gweithredu y mae Llywodraeth y DU eisoes wedi'u cymryd neu eu cyhoeddi, er i mi gyfeirio'n benodol at rai o'r rhain pan gyfarfu rhai o aelodau'r pwyllgor gydag ef yn y Cynulliad. Cynigiaf welliant 1. Fel ymae hwn yn ei ddatgan, mae'n rhaid inni nodi'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU i ymdrin â phryderon ynghylch gweithredu credyd cynhwysol. Mae'r system yn disodli system orgymhleth—[Torri ar draws.]Rwyf amorffen y frawddeg hon, Helen. Ac mae'r dystiolaeth yn dangos bod pobl yn fwy tebygol o gael swydd o ganlyniad. Helen Mary. Helen Mary Jones AC: A wnaiff Mark Isherwood gydnabod bod asesiad y Llywodraeth ei hun yn 2011 wedi amlygu bod rhai o'r problemau hyn sy'n codioherwydd credyd cynhwysol, yn enwedig o ran sut y maen nhw'n effeithio ar fenywod, yn hysbys. Roedden nhw'n hysbys yn yr asesiad hwnnw, sy'n ddogfen gyhoeddus. Sut y gall Amber Rudd—sut y gallwch chi gredu Amber Rudd yn awr pan ddywed ei bod hi'n mynd i liniaru'r effeithiau hyn pan yr oedd y Llywodraeth yr ydych chi'n ei chefnogi yn gwybod beth fyddai'r effeithiau hynny yn 2011? Mark Isherwood AC: Oherwydd bod ganddi brofiad ymarferol ac mewn gwirionedd oherwydd y lansiwyd yfecanwaith cymorth yng Nghymru yn 2013, y gwnaeth y criw hwn geisio ei danseilio. Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi bod yn gweithio gyda'r gweinyddiaethau datganoledig ers 2012 ar y cynlluniau i'w gyflwyno, a chyflwynodd y fframwaith gwasanaethau cymorth lleol ar gyfer credyd cynhwysol yn 2013, a ddatblygwyd gyda phartneriaid gan gynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, i helpu hawlwyr nad oedd yn barod eto i gyllidebu ar gyfer eu hunain a'r rhai hynny sydd angen trefniadau talu amgen. Cyhoeddodd datganiad Hydref 2017 y Canghellor bythefnos ychwanegol o fudd-dal tai, gostyngiad o saith diwrnod i'rcyfnod y mae pobl yn gorfod aros am eu taliad cyntaf, a blwyddyn yn hytrach na chwe mis i ad-dalu benthyciadau caledi. Y mis diwethaf, cadarnhaodd y Canghellor £4.5 biliwn o gyllid a £1.7 biliwn ar gyfer lwfansau gwaith uwch. Bydd amseroedd aros yn cael eu gostwng o bump i dair wythnos, ad-daliadau dyledion yn cael eu gostwng, y dyddiad cau ar gyfer newid budd-daliadau yn cael ei ymestyn i dri mis, a bydd y cymorth ar gyfer pobl hunan-gyflogedig yn cael ei gynyddu. Dim ond ddydd Gwener diwethaf, dywedodd Amber Rudd ei bodam fynd i'r afael yn benodol ag effaith y credyd cynhwysol ar fenywod a mamau sengl, sicrhau bod menywod sydd mewn perthynas gamdriniol yn cael mynediad at daliadau, ac adolygu'r cyfnod aros o bum wythnos, taliadau ar gyfer tai, mynediad at arian parod ac ad-dalu benthyciadau. Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn gweithio gyda chyflogwyr drwy Hyderus o ran Anabledd i sicrhau bod pobl anabl, a'r bobl hynny sydd â chyflyrau iechyd hirdymor yn cael cyfleoedd gwaith i gyflawni eu potensial a gwireddu eu dyheadau. Mae rhaglen gwaith ac iechyd Remploy Cymru yng Nghymru yn rhaglen Llywodraeth y DU i gynorthwyo pobl anabl, sy'n ddi-waith yn yr hirdymor a'r rhai hynny â chyflyrau iechyd i oresgyn rhwystrau i gyflogaeth. Ar gais yr Adran Gwaith a Phensiynau, mae Cyngor ar Bopeth wedi lansio gwasanaeth newydd i helpu pobl i hawlio credyd cynhwysol yn annibynnol—allweddol—yn annibynnol ar y Llywodraeth, ac mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi recriwtio timau partneriaeth cymunedol o bobl sydd â phrofiad ymarferol o gyrff allanol arbenigol i gefnogi pobl sy'n agored i niwed, gwella sgiliau staff y Ganolfan Byd Gwaith, a chodi pontydd rhwng y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector. Mae ffigurau annibynnol yn cadarnhau bod lefelau diweithdra a chyfran y swyddi â thâl isel ar eu hisaf erioed, mae enillion wythnosol cyfartalog llawn amserwedi gweld eu cynnydd mwyaf mewn dros ddegawd, ac mae anghydraddoldeb cyfoeth y DU wedi lleihau yn ystod y degawd diwethaf.Fodd bynnag, mae llawer o'r ysgogiadau i drechu tlodi yng Nghymru yn gorwedd gyda Llywodraeth Cymru. Mae'n peri pryder mawr, felly, ar ôl 20 mlynedd o Lywodraeth Lafur Cymru, bod adolygiad blynyddol diweddar Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru wedi canfod mai Cymru yw'r genedl lleiaf cynhyrchiol yn y DU, bod tlodi ac amddifadedd yn uwch yng Nghymru nag mewn gwledydd eraill ym Mhrydain, a bod enillion canolrifol fesul awr yng Nghymru yn is nag yn Lloegr a'r Alban. Mae ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar enillion gweithiwyr yn y DU ar gyfer 2018 yn dangos bod enillion cyfartalog yng Nghymru yn is ac wedi tyfu'n arafach nag yng ngwledydd eraill y DU yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a bod gan Gymru ycynnydd tâl hirdymor isaf o blith gwledydd y DU. A chanfu adroddiad Sefydliad Bevan, fis diwethaf, ar gyfraddau tlodi yng Nghymru bod cyfradd tlodi incwm cymharol uwch yng Nghymru nag yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban, cyfran uwch o oedolion o oedran gweithio mewn tlodi yng Nghymru nag yn unrhyw wlad arall yn y DU, a bod cyfradd tlodi pensiynwyr yng Nghymru yn llawer uwch nag yng ngwledydd eraill y DU. Yr hanesechrydus hwn o fethiant, y brad dinistriol hwn, yw gwir fesur dau ddegawd o rethreg a rhoi'r bai ar rhywun arall ganLafur Cymru. Rydym ni felly yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun cadarn ac ystyrlon i drechu tlodi sy'n cynnwys targedau a dangosyddion clir i fesur cynnydd ac effaith. Diolch. A gaf i alw ar y Gweinidog Tai ac Adfywio i gynnig gwelliant 2 yn ffurfiol a gyflwynwyd yn enw Julie James? Gwelliant 2—Julie James Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn derbyn canfyddiadau’r adroddiad: a) bod costau cyni wedi’u hysgwyddo i raddau annheg gan bobl dlawd, menywod, lleiafrifoedd ethnig, plant, rhieni sengl a phobl anabl; b) mai Cymru sydd â’r gyfradd tlodi cymharol uchaf yn y Deyrnas Unedig; c) bod y gweinyddiaethau datganoledig wedi ceisio lliniaru effeithiau gwaethaf cyni, a hynny er gwaethaf dioddef gostyngiadau sylweddol yn eu cyllid grant bloc; a d) ei bod yn 'warthus' bod rhaid i genhedloedd datganoledig wario arian i ddiogelu pobl rhag polisïau Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Yn croesawu ffocws Llywodraeth Cymru ar drechu tlodi, a’i galwadau parhaus ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i fynd i’r afael â diffygion niferus Credyd Cynhwysol. Cynigiwyd gwelliant 2. Rebecca Evans AC: Yn ffurfiol. Diolch. Rhun ap Iorwerth. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Pe byddai'n gwlad ni yn un wirioneddol waraidd, mi fyddai'r datganiad yma gan rapporteur y CenhedloeddUnedig dros dlodi difrifolyn cael ei weld fel moment i'n deffro ni unwaith ac am byth, rydw i'n meddwl. Mi ddylai gael ei weld fel mater o warth a chywilyddbod gwladwriaeth mor gymharol gyfoethog â'r Deyrnas Unedig yn cael ei rhoi ar restr o wledydd sy'n cael eu cydnabod fel rhai sy'n methu ag edrych ar ôl eu mwyaf tlawd, eu mwyaf bregus. Ond mae gen i ofn mai'r awgrym clir o'r ymateb sydd wedi bod i'r datganiad yma ydy nad ydy diwylliant gwleidyddol y wladwriaeth yma cweit mor waraidd ag y byddem ni'n licio meddwl ei fod o. Beth am i mi dreulio ychydig funudau yn siarad mewn iaith efallai y bydd pobl yn ei deall, sef arian? Nid am y tro cyntaf heddiw, mi wnaf i grybwyll llymder. Rydym ni'n clywed y Ceidwadwyr yn dadlau, onid ydym, bod llymder a thoriadau i'r wladwriaeth les wedi bod yn gwbl anochel, wedi bod yn angenrheidiol am resymau economaidd. Nid oedd o'n rhywbeth yr oedden nhw eisiau ei wneud, ond mi oedd yn rhaid. A beth allai fod o'i le, wedi'r cyfan, ar daro'r 20 y cant tlotaf mor galed oherwydd problemau efo rheoleiddio yn y sector ariannol? Ond hyd yn oed os ydych chi'n derbyn nad oedd yna ddewis ond cwtogi ar wariant cyhoeddus dros y degawd diwethaf, wel, mae polisïauLlywodraeth ganolog Brydeinig wedi bod yn fethiant llwyr. Mae'r Joseph Rowntree Foundation, er enghraifft, wedi amcangyfrif bod tlodi yn costio rhyw £78 biliwn y flwyddyn i'r Deyrnas Unedig mewn mesurau i ymateb i neu i geisio lliniaru effeithiau tlodi. Ac nid yw hynny'n cynnwys costau taliadau'r wladwriaeth les. Mae £1 o bob £5 sy'n cael ei wario ar wasanaethau cyhoeddus yn gwneud i fyny am y ffordd y mae tlodi wedi niweidiobywydau pobl. Mae Crisis wedi modelu cost digartrefedd ac yn amcangyfrif, os ydy'r Deyrnas Unedig yn parhau i adael i ddigartrefedd ddigwydd, i bob pwrpas, fel y mae o ar hyn o bryd, yn hytrach na cheisio cael gwared ohono, bydd gwasanaethau cyhoeddus yn gorfod gwario £35 biliwn yn ychwanegol. Meddyliwch am yr incwm sy'n cael ei golli o ran enillion y dyfodol i bwrs y wlad o blant yn tyfu mewn tlodi ac yn methu â chyrraeddeu potensial, a'u rhieni'n defnyddio banciau bwyd, ac yn mynd i ysgolion sydd ddim yn cael eu cyllido'n iawn ac yn y blaen.Ac, wrth gwrs, beth rydym ni'n ei weld sydd o berthnasedd arbennig i ni ydy bod Cymru yn cael ei tharo yn anghymesur. Yng Nghymru mae'r lefelau uchaf o dlodi cymharol yn y Deyrnas Unedig, efo bron iawn i un o bob pedwar person yn byw mewn tlodi incwm cymharol. Mae tlodi mewn gwaith wedi tyfu dros y ddegawd ddiwethaf. Er bod cyfraddau cyflogaeth wedi cynyddu, beth sydd gennym ni ydy swyddi sydd ddim digon da. Mae chwarter swyddi—rwyf wedi gweld ffigurau—o dan y lleiafswm cyflog. Beth mae hyn yn ei ddweud ydy bod gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn ddrutach i'w rhedeg na'r cyfartaledd Prydeinigo ran mynd i'r afael ag effaithtlodi. Nid yw'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i hyn yn amlwg ddim yn gweithio. Mi wnaf i eich annog chi i ddarllen tystiolaeth Victoria Winckler o'r Bevan Foundation i'r Pwyllgor Cyllid ar 25 Hydref, lle roedd hi'n edrych ar y gyllideb ac yn methu â gweld lle roedd y gyllideb yma'n dangos arwyddion o strategaeth glir i fynd i'r afael â thlodi. Y ni yng Nghymru, y ni ar y meinciau yma, rydym ni'n gofyn pam byddem ni, pam y byddai unrhyw un, yn dymuno bod yn rhan o undeb sy'n gwneud hyn i ni, ac yn gwirfoddoli i adael i bethau fel gweinyddiaeth y wladwriaeth les aros yn San Steffan. Mae pobl Islwyn, ie, fel rhannau eraill o Gymru, yn methu ag edrych tuag at Lywodraeth Cymru sy'n ceisio defnyddio, ceisio cael, y leversa fyddai'n gallu lliniarueffeithiau caletaf y polisïausy'n cael eu dilyn gan LywodraethGeidwadol greulon yn San Steffan. Mae Llafur yn y fan hyn yn methu â chwilio am y pwerau hynny. Fel rydym ni'n ei weld, rydym ni'n gweld mewn rhannau eraill o'r ynysoedd yma erbyn hyn y camau hynny'n cael eu cymryd yng Ngogledd Iwerddon, yn yr Alban. Mae'n amser i ni yng Nghymru ddweud bod yn rhaid i ni geisio yr arfau hynny, bob un ohonyn nhw, a allai fod o fewn ein cyrraedd ni, i fynd i'r afael â'r tlodi sydd yn ein cywilyddio ni fel cenedl. Nid yw Plaid Cymru yn gofyn am y pwerau er mwyn eu cael nhw; rydym ni'n gofyn am y pwerau oherwydd bod pobl yn marw ac yn cael eu cloi mewn tlodi. John Griffiths AC: Mae'n rhaid imi ddweud, pan fyddaf yn siarad â'r bobl hynny sy'n ymwneud ag ymdrin â chanlyniadau polisi'r Llywodraeth a thlodi yng Nghymru—y trydydd sector, awdurdodau lleol, asiantaethau sy'n darparu gwasanaethau yn uniongyrchol—ymddengys eu bod yn deall yn iawn mai agenda cyni Llywodraeth y DU sy'n sbarduno'r materion hyn i bob un ohonom ni: Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol, a phawb arall sy'n ceisio darparu gwasanaeth neu ymdrin â'r canlyniadau hynny. Mae'r pwyllgor yr wyf i'n ei gadeirio, Dirprwy Lywydd, y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, wedi bod yn gwneud amrywiaeth o waith yn ystyried tlodi yng Nghymru ers dechrau'r Cynulliad hwn. Yn ddiweddar, mewn gwirionedd, cyfarfuom ag adroddwr arbennig y Cenhedloedd Unedig, Philip Alston, yn rhan o'i ymweliad â'r Deyrnas Unedig.Canfuom ei fodyn agored, yn wleidyddol niwtral ac yn barod i wrando. Mae'n siomedig iawn clywed Ceidwadwyr yn Llywodraeth y DU, ac yn wir yma yn y Cynulliad, yn ceisio tanseilio swyddogaeth yr adroddwr a'r Cenhedloedd Unedig. Credaf fod y rhan fwyaf o bobl o'r farn bod y Cenhedloedd Unedig yn gorff uchel ei barch, sy'n gwneud gwaith da iawnac iddostatws a hygrededd gwirioneddol, a hanes aruthrol. Mae clywed y tanseilio hwnnw, yr ymgais i danseilio, yr Athro Philip Alston yn anffodus iawn, yn fy marn i. Mae ef wedi gwneud asesiad deifiol iawn o bolisi Llywodraeth y DU ac wedi galw yn glir am weithredu ar frys. Rydym yn ei gefnogi ar yr ochr hon i'r Cynulliad, ochr Llafur, Dirprwy Lywydd, yn gryf iawn yn wir, gan ein bod ni'n credu bod angen newid mawr i roi terfyn ar raglen cyni Llywodraeth y DU, oherwydd rydym ni i gyd yn ymwybodol iawn o'r niwed y mae'n ei wneud a'r effaith gronnol dros yr wyth mlynedd diwethaf, fwy neu lai. Ond, wrth gwrs, dydym ni ddim yn anwybyddu'r ffaith bod gan Lywodraeth Cymru hefyd gyfrifoldeb, ac wrth gwrs rydym ni eisiau gweld strategaeth a chyfres o bolisïau Llywodraeth Cymru i drechu tlodi, sydd mor effeithiol â phosibl. Mae gwaith fy mhwyllgor i wedi cynnwys argymell bod angen pwyslais cryfach, cliriach ar drechu tlodi yma yng Nghymru, Dirprwy Lywydd, gyda thargedau, dangosyddion, gwerthuso a monitro clir, sy'n gwneud gwaith craffu ac atebolrwydd yn haws nagy maear hyn o bryd, ac rydym ni eisiau gweld cynnydd yn y maes hwnnw, ac rydym ni eisiau gweld Llywodraeth Cymru yn ystyried sut y gellid gwneud y gwelliannau angenrheidiol. [Torri ar draws.] Ildiaf i Siân Gwenllian. Siân Gwenllian AC: Diolch. Dim ond ar y pwynt hwnnw nad oes gan y Llywodraeth strategaeth gwrth-dlodi, er gwaethaf galwadau gan y pwyllgor ddwywaith, dair gwaith, pa mor siomedig ydych chi ein bod yn dal i fod heb y strategaeth gwrth-dlodi honno ac nad ydym ni, mewn gwirionedd, hyd yn oed yn gwybod yn union pwy yw'r Gweinidog Cabinet sy'n gyfrifol am atal tlodi ar draws y Llywodraeth? Roeddwn i'n meddwl mai Ken Skates oedd hwnnw, ond bellach mae'n bob un ohonoch chi. Felly, pwymewn gwirionedd sy'n gyfrifol yn y pen draw? John Griffiths AC: Wel, fel y dywedais, rwy'n credu bod materion o ran atebolrwydd a chraffu. Gwn fod y sector y tu allan i'r Cynulliad yn teimlo hynny hefyd, ac rwy'n credu bod barn ein pwyllgor yn glir iawn. Cafwyd amryw o ddulliau gan Lywodraeth Cymru dros gyfnod o amser o ran sut yr ydych chi'n trechu tlodi yn fwyaf effeithiol, ac ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn amlwg yn pwysleisio dull cydweithredol, traws-Lywodraethol. Nid yw'r pwyllgor yn credu y byddai bod ag atebolrwydd gweinidogol mwy uniongyrchol a strategaeth gwrth-dlodi gyffredinol yn negyddu'r math hwnnw o ddull traws-Lywodraeth sy'n cael ei weld fel y ffordd orau o ymdrin â'r materion hyn gan Lywodraeth Cymru ar y hyn o bryd. Credaf felly, bod barn y pwyllgor yn gwbl glir, ac rydym yn chwilio am gynnydd a newid i'r perwyl hwnnw. A, beth bynnag sy'n digwydd, mae angen y pwyslais mwy eglur hwnnw arnom ni—pwyslais manwl—a chyfleoedd atebolrwydd a chraffu ychwanegol a chliriach. Hefyd, Dirprwy Lywydd, credaf fod angen i mi symud ymlaen at weinyddu lles yng Nghymru a'r posibilrwydd o'i ddatganoli. Unwaith eto, mae'r pwyllgor yr wyf i'n ei gadeirio yn mynd i wneud darn o waith ar hyn a bydd yn ystyried yr holl faterion, gan gynnwys yr agweddau ariannol. Rydym ni'n credu mai'r profiad yw bod yna broblemau gwirioneddol o ran cyflwyno'r credyd cynhwysol. Mae wedi cael effaithechrydus ar gysgu ar y stryd, er enghraifft, ac rydym yn gweld tystiolaeth o hynny ym mhob un o'n trefi a chanol ein dinasoedd drwy'r amser. Ac, os ydym ni'n mynd i ymdrin â phroblemau amseroedd aros pan wneir hawliadau am y tro cyntaf, y ffordd y gweithredir y gyfundrefn gosbau ac, yn wir, pa mor hawdd yw hi iroi taliadaubudd-dal tai yn uniongyrchol i'r landlord, yna byddai'n ddefnyddiol iawn pe byddai gennym ni fwy o reolaeth uniongyrchol dros hynny. Felly, bydd y pwyllgor yn edrych ar y materion hynny yn y flwyddyn newydd, a bydd hynny'n cynnwys edrych ar y profiad yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Neil Hamilton AC: Bydd UKIP yn cefnogi cynnig Plaid Cymru y prynhawn yma, ond rwy'n credu mai camgymeriadoedd eiseilio ar yr adroddiad Cenhedloedd Unedig hwn gan Philip Alston. Mae e'n bell iawn o'r hyn y mae John Griffiths newydd ei ddweud, gwleidyddol niwtral, mewn gwirionedd mae'n athro yn y gyfraith ym mhrifysgol Efrog Newydd sy'nbenboethyn adain chwith eithafol gwrth-Trump â chanddo gyllell wleidyddol i'w hogi. Ei fesur ef o dlodi—[Torri ar draws.] Ei fesur ef o dlodi yw unrhyw un sy'n ennill llai na 60 y cant o ganolrif incwm aelwydydd. Nid yw hynny'nfesur o dlodi,ond yn hytrachmesur o anghydraddoldeb, ac mae'r ddau beth yn dra gwahanol. Byddai cymdeithas heb unrhyw anghydraddoldeb, ni waeth pa mor isel yw lefelau incwm, pe byddai pawb yn enbyd o dlawd, yn byw mewn cytiau pren ac yn bwyta tywod, mewn gwirionedd yn lle heb unrhyw dlodi, yn ôl ei ddiffiniad ef. Maewedi ysgrifennu adroddiadau am wledydd eraill. Maewedi ysgrifennu adroddiad am Mauritania, er enghraifft, ac wedi canmol yr Arlywydd Mohamed Ould Abdel Aziz am y cynnydd sylweddol y mae'n ei wneud wrth fynd i'r afael â thlodi, ac mae hon yn wlad lle mae 42 y cant yn byw mewn tlodi llwyr, gyda chyflog blynyddol cyfartalog o lai na £1,000, lle mae disgwyliad oes pobl 20 mlynedd yn llai nag yn y wlad hon a lle mae'r wladwriaeth yn llofruddio ei gwrthwynebwyr gwleidyddol ac yn eu harteithio, ac ni wnaeth dim o hyn ysgogi unrhyw ddrwgdeimlad ynddo. Felly, gadewch inni roi hyn yn ei wir oleuni. [Torri ar draws.] Nid yw'n warthus; y cwbl yr wyf yn ei wneud yw adrodd y ffeithiau. Os na all Aelodau ymdopi â nhw, mae'n rhaid i hynny fod yn fater iddyn nhw yn hytrach nag i mi. Y peth arall hurt am y modd hwn o fesur tlodi yw bod dirwasgiadau, wrth gwrs, yn wych ar gyfer lleihau tlodi, oherwydd mewn dirwasgiadau ceir tueddiad cyffredinol o ostyngiad mewn incwm o gyfalaf, difidendau ac ati, ac felly, os yw'r bobl gyfoethog yn llai cyfoethog o'u cymharu â'r tlodion, does dim ots nad yw'r tlodion yn gyfoethocach mewn gwirionedd, mae llai o dlodi. Mae hynny'n hurt. Ac os edrychwn ni ar y profiad mewn gwledydd eraill, mae'n rhoisefyllfa Prydain yn ei gwir oleuni hefyd. Maeadroddiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar dlodi parhaus yn y DU a'r UE yn 2015 gennyf yma yn fy llaw, ac roedd 7.3 y cant o boblogaeth y Deyrnas Unedig yn 2015 yn byw mewn tlodi parhaus. Mae hynny'n cymharu â 10.9 y cant fel y cyfartaledd yn yr UE. Mae un ar ddeg pwynt tri y cant o boblogaeth yr Almaen yn byw mewn tlodi parhaus wrth fesur yn yr un modd; 8.5 y cant yn Ffrainc; 14.5 y cant yn yr Eidal. Felly, mewn gwirionedd, mewn sawl ffordd, mae llai o dlodi ym Mhrydain, pan y'idiffinnir ar delerau cymharol, nag mewn rhannau eraill o'r UE ac mewn rhannau eraill o'r byd. Nid tlodi cymharol yw'r gwir broblem yng Nghymru. Rwyf i eisiau gweld incwm pobl yn gyffredinol yng Nghymru yn codi o'i gymharu â gweddill y Deyrnas Unedig, wrth gwrs, oherwydd mae Cymru ar waelod y domen. Mae hynny'n drasiedi fawr, a chredaf bod hynny'n gondemniad o 20 mlynedd o Lywodraeth Lafur Cymru. Ond yr hyn sy'n fy synnu i yw bod y pleidiau ar y chwith mor frwdfrydig fel arfer i gosbi pobl dlawd. Mae'r cynigion trethniferus sydd ganddynt, mewn gwirionedd, yn gwneud bywyd yn fwy anodd i'r rhai sydd ar yr incwm isaf. Mae trethi gwyrdd, fel yr wyf yn ei godi yn aml yn y Siambr hon—nawr, mae trethi gwyrdd yn gyfrifol am 20 y cant o filiau trydan pobl, a phobl tlawd sy'n dioddef fwyaf yn sgil y trethi hyn. Yn y gaeaf, mae pobl yn gorfod gwneud dewis, yn anffodus, rhwng gwresogi a bwyta yn aml iawn. Mae trethi siwgr, isafswm prisiau ar gyfer alcohol—mae'r rhain i gyd yn drethi a fydd yn effeithio'n anghymesur ar y tlawd. Mae'r pleidiau ar y chwith hefyd yn awyddus iawn, iawn, wrth gwrs, i barhauein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, ond mae'r Undeb Ewropeaidd yn gynllwyn diffyndollol, a'r rhai sy'n dioddef waethaf yw'r rhai hynny sydd ar yr incymau isaf. Treth ar werth, er enghraifft—ni allwn ni gael gwared ar TAW ar danwydd gwresogi domestig, er enghraifft, ni allwn gael gwared ar TAW ar esgidiau a dillad, ac mae'r weithdrefn tariffau yn yr UE yn gwneud yr holl bethau hyn yn destun tariffau andwyol, fel na allwn ni gymryd mantais o'r prisiau is am yr holl eitemau a'r hanfodion sylfaenol hyn a fyddai'n digwydd yn sgil Brexit pe byddem ni'n negodi cytundebau masnach rydd gyda gweddill y byd. Mae'r polisi amaethyddol cyffredin yn gwneud bwyd yn y wlad hon yn llawer drutach nag y dylai fod. Edrychwch ar y tariffau ar hyn, sy'n aml yn 40 y cant neu'n 50 y cant. Gwn fod angen inni gadw ffermwyr ar y tir, a bod angen inni roi cymhorthdal iddyn nhw er mwyn llwyddo i wneud hynny mewn ardaloedd penodol, ond gellir gwneud hynny mewn ffyrdd heblaw am achosi dioddefaint i bobl dlawd drwy brisiau bwyd uchel. Felly, yr hyn y mae angen inni ei wneud yw bod â dadansoddiad priodol o dlodi a'i achosion, a sut i'w liniaru ac, yn wir, swyddogaeth allweddol y Llywodraeth wrth sicrhau ei barhad a'i wneud, mewn gwirionedd, yn waeth. Roedd credyd cynhwysol yn syniad da, ond gwnaethpwyd traed moch mewn gwirionedd o'r ffordd y cafodd ei gyflwyno a'i weithredu. Felly, nid oes gennym broblem o ran cefnogi tôn gyffredinol cynnig Plaid Cymru ond, yn anffodus, nid ydyn nhw'n byw yn y byd go iawn os ydyn nhw'n ei seilio ar ymosodiad gwleidyddol gan Philip Alston. Helen Mary Jones AC: Bydd y rhan fwyaf o'm sylwadau heddiw yn canolbwyntio ar gredyd cynhwysol, yn arbennig o ran y modd y mae'n effeithio ar fenywod. Nawr, cafodd hyn ei werthu i ni fel system newydd, mwy hyblyg a fyddai'n helpu pobl i symud yn haws rhwng gwaith a budd-daliadau, a byddai'n system haws ei deall a'i llywio i bobl sydd angen budd-daliadau. Ond y tu ôl i'ramcanion canmoladwy hyn, gorwedda agenda wenwynig, hynafol a, byddwn i'n dadlau, fel y dywedodd adroddwr y Cenhedloedd Unedig, ungwbl wreig-gasaol. Abyddwn yn dweudwrth Mark Isherwood, sy'n gyd-Aelod o'r Siambr hon yr wyf yn ei barchu,fod yr adroddwr wedi defnyddioiaith gref iawn oherwydd ei fod yn meddwl ei fod yn warthus, ac roedd yn iawni deimlo felly, bod ein cyd-ddinasyddion yn byw yn yr amgylchiadau hyn yn y bumed economi fwyaf yn y byd. Lluniwyd y system budd-daliadau gyffredinol o'r dechrau i atgyfnerthu gwerthoedd teuluol 'traddodiadol', trwy dalu budd-daliadau i un aelod o'r aelwyd ar ran pawb, ac mae yna Aelodau o'r Siambr hon—mae Jane Hutt yn un ohonyn nhw—a fydd yn cofio sut y gwnaethom ni ymgyrchu mor galed yn y 1980au i amddiffyn menywod trwy roi eu budd-daliadau iddyn nhw yn eu pocedi eu hunain ar eu cyferhwy a'u plant. Bwriad hyn oedd atgyfnerthu, byddaf yn defnyddio'r gair hen ffasiwn, 'patriarchaeth'. Nawr, yn ymarferol, y dyn yw'r un derbynnydd o'r budd-daliadau bron bob amser mewn teulu pan fodyn yno, ac mae hyn yn atgyfnerthu'r darlun ystrydebol mai'r dyn sy'n ennill y cyflog a bod ei wraig a'i blant yn ddibynnol arno. A byddwn i'n dadlau nad yw hyn yn ddymunol yn gyffredinol, ond pan fydd y dyn hwnnw sy'n ennill y cyflog yn cam-drin ac yn ffiaidd, mae hynny'n rhoi menywod mewn perygl gwirioneddol. Mae'r system hon yn gwahaniaethu yn erbyn yr ail enillydd cyflog ar aelwyd lle ceir dau unigolyn yn ennill cyflog, sef y fenyw gan amlaf, ac nid yw hynny ar ddamwain : fe'i cynlluniwyd felly. Mae hyn yn cael effaith ofnadwy ar fenywod sy'n dioddef cam-drin domestig a'u plant. Maen nhw bron bob amser yn dioddef cam-drin ariannol yn rhan o'r cam-drin hwnnw, ac mae'r diffyg gallu igael gafael ar fudd-daliadau yn eu rhinwedd eu hunain yn gwneud hyn yn waeth. Os na ellir cael gafael ar arian, mae'n anhygoel o anodd gadael. Ac os bydd menyw yn dianc, mae'n rhaid iddi hawlio o'r newydd ar gyfer ei hunan a'i phlant, ac aros pum wythnos neu fwy—ac rwy'n pwysleisio pum wythnos neu fwy—ar gyfer y broses. Ar beth, rwy'n gofyn i'r Aelodau gyferbyn, mae hi i fod i fyw arno yn ystod ypum wythnos hynny? Rydym ni'n gwybod ar beth mae hi'n byw: mae hi'n byw ar fanciau bwyd ac elusengarwch y system Cymorth i Fenywod. Mae hyn yn cefnogi camdrinwyr ac yn ei gwneud yn anos i oroeswyr adael, ac nid yw hynny'n ddamweiniolac nid oeddyn annisgwyl. Dangosodd asesiadau o effaith yn 2011 y byddai hyn yn digwydd, a dewisodd y Llywodraeth Dorïaidd, gyda chymorth y Democratiaid Rhyddfrydol bryd hynny, fwrw ymlaen beth bynnag. Trwy roi hyn at ei gilydd— Jane Hutt AC: A wnewch chi ildio? Helen Mary Jones AC: Rwyf yn fodlon iawn ildio i Jane Hutt. Jane Hutt AC: Diolch yn fawr iawn, Helen Mary. A hon, wrth gwrs, yw'r wythnos panyr ydym ni'ncanolbwyntio ar ddileu trais yn erbyn menywod, ac rydym ni wedi cael datganiad y prynhawn yma gan Julie James. Oni fyddech chi'n dweud y dylai hyn fod yn brawf ar Amber Rudd, yr Ysgrifennydd Gwladol newydd dros Waith a Phensiynau, i weld a fydd hi'n atal ac yncael gwared ar yr ymosodiad anghyfiawn hwn ar fenywod ac yn ei newid fel nad oes un taliad sengl i bob aelwyd ac a yw hi'n cydnabod yr effaith y bydd hyn yn ei chael ar fenywod, ac a fydd hi'ncydnabod adroddiad Philip Alston yn arbennig? Helen Mary Jones AC: Byddaf yn dod at fy sylwadau am Ms Rudd mewn eiliad, ond byddwn i'n cytuno â'r hyn yr ydych chi wedi'i ddweud. Nawr, os ydym ni'n cyfuno'r modd y mae credyd cynhwysol yn gweithio gydag, er enghraifft, rheolau budd-daliadau tai, na fydd ond yn talu cost ystafell mewn tŷ a rennir i bobl ifanc, sy'n arwain at fenywod ifanc sy'n agored i niwed yn cael eu gorfodi yn aml i rannu â thenantiaid eraill cwbl anaddas, a'r cymal trais rhywiol ffiaidd y mae Leanne Wood eisoes wedi cyfeirio ato, ynghyd â llawer o enghreifftiau eraill y gallwn i sôn amdanyn nhw, mae'n cyflwyno system fudd-daliadau sydd wedi'i seilio ary camargraffmai'r dyn yw'r enillydd cyflog a'r camargraffo bobl dlawd, diog ac annheilwng. Mae'n systemwreig-gasaol a dyna oedd ei bwriad o'r cychwyn. A dylai'r gwleidyddion a gyflwynodd y system honno deimlo cywilydd llwyr, ond nid ydynt, oherwydd bod y system yn cyflawni'r hyn yr oedden nhw'n dymuno iddi ei wneud. Ac o ran sylwadau Jane Hutt a sylwadau Mark Isherwood ynghylch Amber Rudd, nid wyf i'n credu y bydd hi'n cael lliniaru yn y modd y mae hi'n dweud yr hoffai ei wneud, oherwydd nid yw'r effeithiau hyn yn ddamweiniol. Ac mae'n rhaid imi ddweud wrth fy ffrindiau ar ochr arall y Siambr honno—ac mae rhai ohonyn nhw'n ffrindiau i mi—bod angen iddyn nhw edrych yn hir ac yn galed arnyn nhw eu hunain os ydyn nhw'n credu eu bod yn gallu cefnogi hyn. Rwyf i wir yn meddwl: ydyn nhw'n wirioneddol falch o hyn? Roedd gen i feddwl gwell ohonyn nhw. Ond nid oes gan y Llywodraeth unrhyw gyfiawnhad dros hunanfoddhad yn y fan yma, ac mae tôn eu gwelliant hunanglodforus braidd yn peri siom. Nid wyf i'n credu y byddai unrhyw blaid neu gyfuniad o bleidiau a allai gael eu hethol i lywodraethu yn y Senedd hon yn trin ein dinasyddion tlotaf yn y modd y mae Llywodraeth Dorïaidd y DU yn ei wneud. Fel yr ydym ni wedi clywed eisoes, mae'r Alban a Gogledd Iwerddon wedi cymryd rheolaeth weinyddol o gredyd cynhwysol, ond nid yw'n ymddangos bod ein Llywodraeth ni yn dymuno gwneud hynny. A des i o hyd i ddyfyniad gan un o'r ymgeiswyr i fod yn arweinydd y Blaid Lafur. Dywed: Nid wyf i'n frwd dros ddatganoli systemau treth a budd-daliadau. Mae'n ymddangos i mi mai nhw sy'n clymu'r DU at ei gilydd... Os ydych chi'n cefnogi ailddosbarthu, y systemau treth a budd-daliadau yw'r fforddi wneud hynny. O ran y cwestiwn allweddol ynghylch tlodi, rwy'n credu bod Cymru yn elwa —'yn elwa'—ar fodel ailddosbarthu y DU. Wel, mae'n rhaid i mi ddweud wrth y Siambr hon nad yw'r mecanwaith ailddosbarthu hwnnw yn gwasanaethu ein dinasyddion tlotaf yn dda iawn ar hyn o bryd, ydy 'e? Ac nid wyf i'n siŵr bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid,y sawl yr oeddwn i'n ei ddyfynnu, yn gallu sefyll yn y fan yma mewn gwirionedd—neu eistedd yn y fan yma—ac amddiffyn y safbwynt hwnnw. Nid oes neb yn honni y byddai cymryd rheolaeth dros weinyddu credyd cynhwysol yn datrys yr holl broblemau sydd gennym ni yn y system niweidiol hon. Ond yr hyn yr ydym ni'n ei geisio, wrth gwrs, fel y dywedodd Rhun ap Iorwerth, yw rheolaeth lawn ar y system fudd-daliadau. Ond gallai, fel ymae Sefydliad Bevan wedi ei ddweud, wneud gwahaniaeth gwirioneddol, yn enwedig o ran sut y caiff budd-daliadau eu talu, ac rwy'n croesawu'r hyn a ddywedodd John Griffiths yn hyn o beth yn gynharach yn y ddadl hon. Dirprwy Lywydd, trwy gefnogi'r cynnig gwreiddiol ac annog y Siambr hon i wrthod y gwelliant, rwy'n annog y Llywodraeth hon, ein Llywodraeth ni, Llywodraeth Cymru, i ddangos rhywfaint o ddewrder ac o leiaf gofyn am reolaeth weinyddol o'r credyd cynhwysol er mwyn gallu gwneud yr hyn y mae Gogledd Iwerddon a'r Alban yn ei wneud arran eu dinasyddion tlotaf. Mae ein dinasyddion tlotaf angen i ni weithredu nawr, ac nid ydyn nhw angen dogma unoliaethol. Jenny Rathbone AC: Nid trethi gwyrdd sy'n gwneud pobl yn dlawd. Polisïau bwriadol Llywodraeth y DU o ran sut maen nhw'n dewis trethu a dosbarthu budd-daliadau sy'n ei wneud. Mae'n rhaid imi gytuno ag ef ar un peth—nad yw'r TAW ar nwyddau hanfodol yn dreth flaengar, felly mae'n rhaid inni ddod o hyd i dreth arall yn ei lle. Pe byddem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, mae hynny'n rhywbeth y gallem ni ei wneud, ond mae'n rhaid inni ganolbwyntio ar y presennol, ar yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud i bobl yn sgil y dewisiadau y maen nhw'n eu gwneud yn eu cyllidebau. Jenny Rathbone AC: Y bobl syddyn dioddef fwyafyn sgil cyllideb y Canghellor yw menywod mewn gwaith rhan-amser â chyflog isel oherwyddeu bod nhw'n mynd i golli unrhyw doriadau treth oherwydd nad ydyn nhw'n ennill digon i elwa ar y cynnydd yn y lwfansau personol, ac maen nhw'n dioddef gostyngiadau mewn incwm real o ganlyniad i rewi'r budd-daliadau. Felly byddan nhw, mewn gwirionedd, yn waeth eu byd,ni waethbeth fo'rholl gyhoeddusrwydd ynghylch sut mae cyni ar ben erbyn hyn. Nid yw ar ben o gwbl ar gyfer gweithwyr rhan-amser, sy'n fenywod yn bennaf. Mae dros dair miliwn a hanner o fenywod yn ennill llai na £15,000 y flwyddyn. Maen nhw yn draean o'r gweithlu. Ar yr un pryd, bydd y 10 y cant uchaf o aelwydydd yn gweld gwerth £1 biliwn yn fwy o gynnydd yn eu hincwm na'r 10 y cant isaf. Mae hyn yn gwbl warthus: dyma sut yr ydym yn ehangu'r bwlch enillion cyffredinol rhwng y cyfoethocaf a'r tlotaf yn llwyr, ac fel y dywedodd Helen Mary, mae hyn yn y bumed economi fwyaf yn y byd. Mae'n rhaid inni ddeall bod codi'r trothwy di-dreth bob amser o fudd anghymesuri bobl ar incwm canolig ac uwch. Nid yw o fudd i bobl ar gyflog isel. Mae'n rhaid bod dulliau eraill o sicrhau bod gwaith yn talu, oherwydd bod gan bawb sy'n mynd i weithio ac yn gwneud diwrnod caled o waith, yr hawl i ennill digon o gyflog i dalu am hanfodion bywyd ac i ddarparu ar gyfer eu teuluoedd. Mae'n amlwg nad yw hynny'n digwydd ar hyn o bryd. Yn hytrach, gellid bod wedi buddsoddi'r bron i £17 biliwn o refeniw treth na gasglwyd oherwydd y polisi bwriadol hwn,a dylid bod wedi gwneud hynny,yn y system fudd-daliadau a gwasanaethau cyhoeddus, y mae pobl dlawd yn dibynnu'n anghymesur arnyn nhw. Felly, gallen nhw wrthdroi'r rhewi budd-daliadau, ac mae hyd yn oed rhai o'r ASau Torïaidd—hyd yn oed cyn uwch Weinidogion—yn dadlau y dylem ni fod yn rhoi diwedd ar rewi budd-daliadau. Ond rwyf ieisiau sôn am y ffordd, ers 2010, yr ydym ni i gyd wedi diystyru'n wirioneddol ein holl ymrwymiadau tuag at blant, oherwydd mae'r ymosodiad ar blant wedi bod yn ddi-baid ers i'r Llywodraeth newydd ddod i rym. Yn gyntaf, yn y ffordd y mae wedi tanseilio budd-daliadau plant, sef y rhan fwyaf hanfodol, ar ran y gymdeithas, o helpu'r rhai hynny sydd â phlant er mwyn sicrhau bod ganddyn nhw ddigon o arian i'w magu. Trwy ddefnyddio'r mynegai prisiau defnyddwyr yn hytrach na'r mynegai prisiau manwerthu, fe wnaethon nhwsicrhau na fyddai budd-daliadau yn cyd-fynd â phrisiau, ac wedyn cafodd y budd-dal plant ei rewi am dair blynedd gyntaf y Llywodraeth Dorïaidd, ac wedyn mae'r newid hwn wedi cael effaith enfawr ar y swm o ariana roddirar gael ar gyfer plant. Yn 2010, roedd y budd-dal plant yn £20.30 ar gyfer plentyn cyntaf y teulu a £13.40 ar gyfer plant eraill. Pe byddai polisïau'r Llywodraeth flaenorol wedi parhau i fod ar waith, byddai'r budd-dal plant heddiw o leiaf £24.30 ar gyfer y plentyn cyntaf ac £16.05 ar gyfer plant eraill. Mae hynny'n ostyngiad enfawr i arian plant, ac mae'r effaith y mae hyn wedi'i chael wedi bod yn wirioneddol ddinistriol. A'r hyn y mae wedi ei olygu yw y bydd dros 100,000 o blant yn amddifad y Nadolig hwn o ganlyniad i oedi mewn un peth: oedi i'r taliad credyd cynhwysol. Felly, ni fydd pobl ar Ynys Môn, er enghraifft, a fydd yn cael eu dechrau ar y credyd cynhwysol, yn caelunrhyw bethtan y flwyddyn newydd. Felly, byddan nhw'n cael Nadolig fel Scrooge heb unrhyw anrhegion, a dyn a ŵyr sut y byddan nhw'n goroesi. Yn y cyfamser, mae Prif Weithredwr Bet365 yn ennill £265,000 y dydd. Mae'n rhaid dweud, mae'n amlwg bod gennym ni gymdeithas sydd wedi colli cysylltiad yn llwyr â'r gwerthoedd y mae i fod i'w harddel. Mae amser wedi mynd yn drech na mi i allu dweud beth y dylem ni ei wneud am hyn, ond mae'n rhaid inni sicrhau bod ein plant yn cael eu bwydo, ar y lefel fwyaf sylfaenol. Joyce Watson AC: Mae'n bryd i nifod o ddifrif yn y fanyma: mae adroddiad y Cenhedloedd Unedig yn rhoi'r bai yn blwmp ac yn ddigamsyniol ar Lywodraeth y DU. Am bron i ddegawd, mae Llywodraethau Torïaidd wedigosod trallod mawr ar bobl Prydain, gyda pholisïau cyni cosbol, crintachlyd a dideimlad. Philip Alston sy'n dweud hyn, nid fi. Mae lefelau tlodi plant: nid yn unig yn warthus, ond maen nhw'n drallod cymdeithasol ac yn drychineb economaidd. Unwaith eto, ei eiriau ef, nid fy rhai i. Un o'r canfyddiadau allweddol yw'r cynnydd enfawr hwn o ran tlodi mewn gwaith. Ac fe wnaethom ni glywed ystadegau eto—digonedd ohonynt, unwaith eto—gan Mark Isherwood, yn sôn am leihau tlodi mewn gwaith. Ac eto, mae'r adroddiad hwn yn canfod yn glir iawn mai tlodi mewn gwaith sydd wrth wraidd tlodi plant, ac mai ar y bobl hynny sydd mewn gwaith y mae cyflwyno credyd cynhwysol yn effeithio. Felly, gadewch inni fod yn glir. Nid yw hyn yn ymwneud â chael pobl i mewn i waith. Nid yw hyn yn fater o, fel yr oedd y Torïaid yn arfer ei ddweud, 'Ar eich beic.' Wel, triwch chi ddweud hynny wrth y cludwr sy'n methu â thalu rhent y mis hwn, er gwaethaf bod ar ei beic neu ar ei feic, ac er gwaethaf gweithio bob awr o'r dydd. Dywedwch wrth yr un o bob pedwar unigolyn yn y wlad hon sy'n gweithio am lai na'r isafswm cyflog. Dywedwchwrth yr unigolion a'r teuluoedd yn Rhydaman, yng Nghaerfyrddin, yn Llanelli, yn Aberystwyth, yn Aberteifi, yn Nolgellau, ym Mhorthmadog ac ym Mhwllheli a fydd yn cael Nadolig diflas eleni, oherwydd bod cyflwyniad y credyd cynhwysol wedi'i orfodi arnyn nhw dros y Nadolig. Ac mae pob un ohonom ni'n gwybod, onid ydym ni, nad yw un o bob pedwar o hawlwyr yn cael eu harian ar amser. Felly, ni allaf weld pa lawenydd y Nadolig y byddan nhw'n ei gael yn eu cartrefi. Ac mae'n bolisi bwriadol. A allwch chi ddychmygu cyflwyno polisi sy'n arwain at bobl a theuluoedd i fod heb arian, heb obaith o gael unrhyw arian, ar adeg y Nadolig? Ni allai Scrooge fod wedi gwneud yn well pe byddai wedi trio. Felly, awn yn ôl at y cyn Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, Esther McVey. Cyfaddefodd y bydd rhai o'r teuluoedd tlotafoddeutu £200 yr wythnos yn waeth eu byd—mae'r bobl dlotaf £200 yr wythnos yn waeth eu byd. Wn i ddima ydych chi'n mynd i ddadlau â'r teuluoedd hynny a dweud bod hwn yn syniad da. Darllenais heddiw fod grŵp o fenywod wedi lansio achos cyfreithiol yn yr uchel lys yn dadlau bod y system taliadau credyd cynhwysol yn afresymol ac yn wahaniaethol. Rwy'n cytuno yn llwyr â nhw. Rwy'n dymuno pob lwc iddyn nhw, ond ni ddylen nhw orfod ymladd y frwydr honno. Mae'r un peth yn wir am fanciau bwyd. Mae'n wych bod pobl yn eu cefnogi—rwy'n siŵr ein bod ni i gyd, ac rwy'n siŵr y bydd rhai ohonom ni'n mynd ac yn ymuno â nhw dros y Nadolig. Yr hyn nad wyf i'n dymuno ei weld yw llun arall yn y papur lleol o wleidydd Torïaidd yn gwenu'n falch wrth gefnogi'r diwydiant twf mwyaf sydd wedi ei greu trwy eu polisïau. Yr hyn yr hoffwn i ei weld yw llun o unrhyw wleidydd Torïaidd yn dangos cywilydd am y ffaith ei fod y diwydiant twf mwyaf. Rwyf i'n credu, fel y nodir yn adroddiad y Cenhedloedd Unedig, bod cost cyni wedi effeithio'n anghymesur ar bobl dlawd, ar fenywod, lleiafrifoedd hiliol ac ethnig, plant, rhieni sengl a phobl ag anableddau. Ac rydym ni wedi clywed heddiw bod Llywodraeth Cymru wedi amddiffyn, pan fo'n bosibl, y rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Nid yw hynny wedi digwydd yn Lloegr. Rydym ni wedi parhau i ddarparu mynediad at gronfeydd lles ar gyfer caledi mewn argyfwng, ond maen nhw wedi'u dileu yn Lloegr. Mae gennym ni gynnig gofal plant cynhwysfawr a chlybiau cinio gwyliau ysgol; maen nhw'n enghraifft wych o ymyrraeth gan y Llywodraeth. Ac mae'n flaengar ac mae'n sosialaidd, ac rydym ni o leiaf yn falch o geisio gwneud yr hyn a allwn. Mae adroddiad y Cenhedloedd Unedig yn mynd ymlaen i ddweud nad oes gennym ni'r pŵer datganoledig dros fudd-daliadau nawdd cymdeithasol. Hoffwn i fod â ffydd Plaid Cymru pe byddemni'n cymryd yr awennau, y byddai gennym ni'r arian. Ond,mae wedi costio£266 miliwn i Lywodraeth yr Albani wneud rhywbeth â'r pwerau hynny heb fawr o effaith. Rwy'n siŵr y gallai £266 miliwn,pe byddai wediei wario ar ddulliau wedi'u targedu, fod wedi cael effaith fwy o lawer. Gwn fod pob un ohonom yn deall yn glir iawn yn y Siambr hon mai digartrefedd yw'r perygl mwyaf i bobl ar y system newydd hon o gredyd cynhwysol. Pan nad yw rhent yn cael ei dalu ar amser, mae'n bosibl iawn maibyw ar y stryd fydd hanes pobl. Yr hynyr wyfamei ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet yw a fydd hi'n gallu gwneud rhywbeth i amddiffyn y bobl hynny sy'ncanfod eu hunain mewntenantiaeth breifat, fel nad ydyn nhw mewn gwirionedd yndiweddu ar y stryd yn y pen draw, dros y Nadolignac arunrhyw amser arall yn y dyfodol. Rhianon Passmore AC: Mae adroddiad adroddwr arbennig y Cenhedloedd Unedig ar dlodi eithafol yn y Deyrnas Unedig yn agoriad llygaid. Mae gwir effaith agenda cyni y Llywodraeth Dorïaidd hon yn amlwg i bob un ohonom ei gweld. Mae'n ddewis gwleidyddol sy'n rhoi'r baich mwyaf ar y rhai hynny â'r lleiaf o allu i ymdopi ag ef, ac yn gorfodi pobl i dlodi. Rwy'n annog Aelodau o bob rhan o'r Siambr hon i ddarllen adroddiad y Cenhedloedd Unedig yn ofalus. Mae angen gwrando ar brofiadau bywyd pobl yn ein cymunedau sy'n dioddef oherwydd diwygiadau lles bondigrybwyll neu arferion gwaith annheg. Yn ganolog i'r cyflwyniad anhrefnus ac effaith hynmae credyd cynhwysol. Mae'r polisi creulon hwn yn cynnwys dulliau, fel y nodwyd gan bob plaid, i eithrio pobl o'r system les, ac mae'n achosi llawer o ddioddefaint i bobl ledled y DU, gan gynnwys llawer o'm hetholwyr i yn Islwyn. Mae'n rhaid rhoi terfyn arno ar unwaith. Mae hyd yn oed yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau blaenorol, Esther McVey, wedi cyfaddef y bydd rhai o'r teuluoedd tlotaf, fel sydd wedi'i nodi eisoes, £200 yr wythnos yn waeth eu byd. Teuluoedd sydd eisoes yn byw mewn tlodi truenus yn sgil asesiadau PIP yn methu, tynnu'n ôl gredydau treth, y dreth ystafell wely a thaliadau sengl i rieni unigol, fel y dywedodd Helen Mary, yn gwaethygu cam-drin domestig a thrais teuluol—polisiwreig-gasaol yr wyf innau hefydyn credu iddo gael ei greu gyda'r bwriad hwnnw. Er y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud popetho fewnei gallu i liniaru'r polisïau hyn, mae adroddiad y Cenhedloedd Unedig yn amlygu ac yn datgan: ei bod yn warthus bod angen i weinyddiaethau datganoledig wario adnoddau i amddiffyn pobl rhag polisïau Llywodraeth. Yn wyneb yr heriau hyn, dywed yr adroddwr arbennig fod: Llywodraeth Cymru wedi newid ei phwyslais yn benderfynol i gynyddu ffyniant economaidd a chyflogaeth fel y porth i leihau tlodi. Mae'n cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu dull Llywodraeth gyfan o leihau tlodi. Yr unig ffordd oroi terfynar ytrallod hwn, a achoswyd gan gredyd cynhwysol creulon y Torïaid, yw ethol Llywodraeth Lafur yn San Steffan. Mae rhai yn y Siambr hon a fydd yn ymgyrchu dros ddatganoli lles, fel yr ydym wedi clywed. Ond rwy'n eu rhybuddio bod hyn yn wystl ffawd, o ystyried achosion blaenorol pan ofynnwyd i Lywodraeth Cymru fod yn gyfrifol am reolaeth weinyddol cynlluniau lles heb y gyllideb gysylltiedig. Mae gwasanaethau rheng flaen yr Alban £266 miliwn ar eu colled o ganlyniad i hyn. Nid oes gan Weinidogion a'r bobl y ffydd y byddai Llywodraeth Dorïaidd y DU yn trosglwyddo cyllideb deg ochr yn ochr â throsglwyddo cyfrifoldeb dros reoli gweinyddol y budd-daliadau lles, ac nid oes gen innau ychwaith. Mae'r Alban, fel y dywedais, wedi gorfod tynnu'r arian hwnnw yn ôl oddi wrth wasanaethau rheng flaen—oddi wrthrhai sydd fwyaf ei angen . I gloi, Dirprwy Lywydd, nid yw'n iawn bod plant yn llwglyd yn un o economïau cyfoethocaf y byd. Mae cyni yn wir yn ddewis gwleidyddol ac yn un sydd, fel y dengys yr adroddiad hwn, yn niweidio'n anghymesur y rhai hynny â nodweddion gwarchodedig—menywod, plant, lleiafrifoedd hiliol ac ethnig, rhieni sengl a'r rhai hynny ag anableddau—ac yn effeithio'n anghymesur ar y rhai hynny sy'n agored i niwed. Er bod y Llywodraeth Lafur Cymru hon wedi gwneud llawer i godi pobl allan o dlodi, mae'r adroddiad hwn yn atgoffa pob un ohonomam effeithiau anfaddeuol polisïau creulon Llywodraeth y DU, ac niellir gweldei ddiwedd. Mae'n amser am etholiad cyffredinol. Mae'n bryd rhoi terfyn ar gredyd cynhwysol, a therfyn hefyd ar ymddygiad gwarthus y cwmnïau mawr rhyngwladol fel Atos a Capita ymysg eraill sydd wedi ei gynnal. Diolch. Diolch. A gaf i alwnawr ar y Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans? Rebecca Evans AC: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf i eisiau bod yn glir ein bod ni'n cytuno â Phlaid Cymru, â'u cynnig, i'r graddau y mae'n ymwneud ag effaith ddinistriol mesurau cyni Llywodraeth y DU ar bobl Cymru. Rydym ni yn anghytuno â'r ymarferoldeb a'r awydd i gael cyfrifoldeb gweinyddol am nawdd cymdeithasol, a byddaf yn sôn yn fanylach am hyn maes o law. Fel y byddai'r Aelodau yn ei ddisgwyl, rydym yn gwrthod gwelliant hunanfodlon y Ceidwadwyr, sy'n anwybyddu'r dioddefaint gwirioneddol sy'n cael ei achosi gan ymdrechion carbwl a chreulon eu plaid i ddiwygio lles. Mae'n rhaid imi ddweud y bu'n brynhawn o gyfraniadau eithaf syfrdanolo feinciau'r Ceidwadwyr, ac ar sail yr unig gyfraniad gan y Ceidwadwyr yr ydym wedi'i gaelyn y ddadl hon,gellid maddau i chi mewn gwirionedd am feddwl bod y trefniadau diwygio lles yn llwyddiant ysgubol. Rydym yn gwybod yn iawn bod lefelau tlodi ledled Cymru a gweddill y DU yn rhy uchel. Fegwrddais iâ'r Athro Alston yn ystod ei ymweliad â Chymru, ac rwy'n cytuno ag ef mai polisïau diwygio lles a chyni Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am hyn yn llwyr. Mae'r effeithiau yn effeithio'n anghymesur ar grwpiau sydd eisoes yn agored i niwed a'r rhai hynny â'rlleiaf o allui ymdopi â nhw. Crynhodd yr Athro Alston yn y sefyllfa sydd gennym ar hyn o bryd fel hyn: Mae profiad y Deyrnas Unedig, yn enwedig ers 2010, yn tanlinellu'r casgliad bod tlodi yn ddewis gwleidyddol. Gallai cyni yn hawdd fod wediarbed y tlawd, pe byddai'r ewyllys gwleidyddol wedi bodoli i wneud hynny. Mae'n parhau: Roedd adnoddau ar gael i'r Trysorlys yn y gyllideb ddiwethaf a allai fod wedi trawsnewid y sefyllfa i filiynau o bobl sy'n byw mewn tlodi, ond gwnaed hytrach. Geiriau damniol. Mynegodd yr adroddwr arbennig ei ddicter bod angen i'r gweinyddiaethau datganoledig wario eu hadnoddau sy'n prinhau i amddiffyn pobl rhag y polisïau niweidiol hyn gan Lywodraeth y DU. Yn sgil cyni mae ein cyllideb gyffredinol ar gyfer 2019-2020 wedi gostwng gan£850 miliwn mewn termau real o'i gymharu â 2010-2011. Serch hynny, yn absenoldeb newid cyfeiriad gan o fewnein gallu i liniaru effeithiau gwaethaf y polisïau dinistriol hyn. Nid yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi datganoli budd-daliadau lles am sawl rheswm. Fel mater o egwyddor, o undod cymdeithasol, dylai fod gan bawb hawl gyfartal i hawlio gan ein gwladwriaeth les. Dylid diwallu anghenion dinasyddion yn yr un modd, ni waeth ble maen nhw yn y DU, ac nid ydym yn credu bod cydraddoldeb ac undod ac ailddosbarthu cyfoeth yn 'deyrngarwch truenus' nac yn'ddogma unoliaethol', fel yr awgrymodd meinciau Plaid Cymru. Byddem ni hefyd yn hynod o ofalus wrth gytuno ar unrhyw newidiadau i'r system nawdd cymdeithasol, gan gynnwys datganoli budd-daliadau, cyn asesu goblygiadau sut y byddai'r newidiadau hynny yn cael eu hariannu. Ac, wrth gwrs, rydym yn arbennig o ymwybodol o'r hyn a ddigwyddodd pan wnaeth Llywodraeth y DU ddatganoli'r budd-dal treth gyngor i Gymru, pan wnaethon nhw frig-dorri'r gyllideb. Mae'r dull o ddatganoli budd-daliadau lles i Lywodraeth yr Alban wedi trosglwyddo'r risg ariannol sy'n gysylltiedig, wrth i'r galw am fudd-daliadau fesul pen gynyddu'n gyflymach yn yr Alban nag yn Lloegr o'r pwynt datganoli. Aci Gymru, byddai hynny'n risg ariannol sylweddol. Fel yr ydym ni wedi clywed, byddai'r costau sy'n gysylltiedig â gweinyddu'r system les yn tynnu adnoddau oddi wrth ddarparu gwasanaethau rheng flaen. Yn yr Alban, mae £266 miliwn wedi'i dynnu oddi wrth wasanaethau rheng flaen er mwyn gweithredu'r pwerau lles datganoledig newydd. Efallai nad yw pobl eraill yn hoffi'r dadleuon hyn, ond rwy'n credu eu bod yn bryderon rhesymol a dilys pan awgrymir y dylem ni fod yn cymryd cyfrifoldeb am yr eitemau hyn. Felly, dylai hyblygrwydd wrth weinyddu credyd cynhwysol fod ar gael, a gall fod ar gael i bawb sy'n cael y budd-dal hwnnw trwy drefniadau taliadau amgen. Os bydd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau yn cytuno i'n cais am hyn, byddai'n lleddfu llawer o'r anawsterau y mae pobl yn euprofi yn sgil y taliad credyd cynhwysol. Nid oes angen datganoli trefniadau gweinyddu i wneud hyn, byddai'n gostus, fel yr ydym ni wedi clywed, ac yn dargyfeirio cyllid oddi wrth gyflawni ein cyfrifoldebau. Rwyf i wedi ysgrifennu at Amber Rudd, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, sydd wedi cydnabod bod problemau o ran credyd cynhwysol,gan ei hannog i ystyried sut y gall credyd cynhwysol gefnogi pobl yn well a chydnabod bod llawer o'r hawlwyr yn dymuno dewis amlder eu taliadau a bod angen gwneud hynny ar rai. Pwysleisiais hefyd yr angen i sicrhau bod yr holl hawlwyr blaenorol yn derbyn y lefel uchaf o daliadau amddiffyniad trosiannol atodol er mwyn sicrhau nad oes neb dan anfantais ac yn waeth eu byd pan fyddan nhw'n symud i gredyd cynhwysol. Ein dull ni o fynd i'r afael â thlodi yw y dylai fod yn rhan annatod o'r ffordd y mae llywodraeth a'i phartneriaid yn gweithio ac yn cyflawni dros bobl Cymru. Dyna pam mae trechu tlodi yn sylfaenol i 'Symud Cymru Ymlaen' a 'Ffyniant i Bawb'. Mae 'Ffyniant i bawb' yn cydnabod bod lleihau lefelau tlodi a thyfu ein heconomi yn dibynnu ar ei gilydd. Mae'n nodi'r camau hynny y byddwn ni'n eu cymryd fel Llywodraeth i greu'r amodau a'r cyfleoedd er mwyn i bobl a chymunedau lwyddo, tyfu a ffynnu. Ein hymrwymiad sylfaenol yw atal tlodi. Rydym yn gwneud hyn trwy fuddsoddi a rhoi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i blant, helpu pobl i wella eu sgiliau, cefnogi pobl i gael cyflogaeth deg a chymryd camau i liniaru effaith tlodi nawr. Mae'r rhain i gyd wedi'u hymgorffori yn ein strategaeth genedlaethol. Llyr Gruffydd AC: A wnewch chi dderbyn ymyriad? Rebecca Evans AC: Gwnaf. Llyr Gruffydd AC: Diolch i chi am dderbyn ymyriad. Wrth gwrs, un o brif ganfyddiadau'r adroddiad hwn yw bod pobl anabl yn disgyn ymhellach ar ei hôl hi ac y gwrthodir yr hawl i fyw'n annibynnol iddynt. Nawr, fe wnaethoch chi restru rhai o'r pethau yr ydych chi wedi'u gwneud. Rhywbeth arall yr ydych chi wedi'i wneud fel Llywodraeth, yn groes i bolisi eich plaid eich hun, wrth gwrs, yw cael gwared ar grant byw'n annibynnol Cymru. Nawr, cafwyd llawer o hanesion am bobl anabl yn disgyn ar ei hôl hi, felly a allwch chi roi sicrwydd pendant i'r Cynulliad hwn na fydd y bobl a fu'n derbyn ariancronfa byw'n annibynnol Cymru yr un geiniog yn waeth eu byd yn dilyn eich penderfyniad? Rebecca Evans AC: Diolch yn fawr iawn ichi am yr ymyriad yna. Wrth gwrs, Llywodraeth y DU a diddymodd y gronfa byw'n annibynnol, ac yna ceisiodd Llywodraeth Cymru gefnogi pobl a oedd eisoes yn derbyn ariano'r gronfa honno. Ond mae hon yn enghraifft o sefyllfa, os oes gennych chi'r swm hwn o arian ac nad ydych chi ond, mewn gwirionedd, yn caniatáu i'r bobl hynny sydd ar y budd-dal hwnnw, neu sy'n derbyn y budd-dal hwnnw, i barhau arno, yna mae gennych chi system ddwy haen ar gyfer pobl anabl yng Nghymru, ac mae hynny'n rhywbeth na fyddem ni eisiau ei gefnogi. Dylai pobl allu cael eu hanghenion wedi'u bodloni, a'u bodloni'n dda, drwy'r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant a'r darpariaethau y bydden nhw'n eu derbyn o dan honno. Felly, mae cynnig a gwelliannau'r Ceidwadwyr yn galw am dargedau a dangosyddion perfformiad clir i fesur cynnydd o ran trechu tlodi. Bydd y dangosyddion cenedlaethol, sy'n sail i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, yn helpu i fesur ein cynnydd fel gwlad tuag at gyflawni'r saith nod llesiant. Bydd llawer o'r dangosyddion hyn yn ein helpu i asesu'r cynnydd o ran trechu tlodi. Bydd y rhain yn mesur, er enghraifft, tlodi cymharol, amddifadedd materol, lefelau cyflogaeth a ffyrdd o fyw iach, ymhlith pethau eraill. Yn ogystal â hyn, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i bennu cerrig milltir cenedlaethol a fydd yn dynodi graddfa a chyflymder y newid sydd ei angen os ydym ni am gyflawni'r saith nod erbyn 2050. Felly, Llywydd, fel yr ydym wedi'i nodi yn ein gwelliant ein hunain, rydym yn gweithio'n galed i liniaru effaith waethaf camau cyni parhaus Llywodraeth y DU, trabod angen i Lywodraeth y DU fynd i'r afael ar frys â'r diffygion sylfaenol yr ydym ni wedi eu nodi yn y credyd cynhwysol. Diolch yn fawr iawn. A gaf i alw yn awr ar Leanne Wood i ymateb i'r ddadl? Leanne Wood AC: Diolch. Dylai'r adroddiad hwn fod wedi bod yn ysgytwad i'r Torïaid, ond dyw e' ddim, felly nid wyf i hyd yn oed yn mynd i sôn am y ffaith bod y Ceidwadwyr yn gwadu hyn yn llwyr. O ran y pwyntiau a wnaed gan yr asgell dde eithafol, rydych chi'n jôc llwyr. Nid oes gennych chi unrhyw syniad am dlodi na sut y bydd y bobl dlotaf yn y byd yn dioddef o ganlyniad i'r ffaith eich bod yn gwadu newid yn yr hinsawdd, na sut y bydd pobl dlawd â nodweddion gwarchodedig yn cael eu niweidio gan eich rhethreg gas. Mae eich cyfraniad chi a'r ymgynghorydd diweddar, newydd, i'ch plaid, sydd hyd yn oed ymhellach i'r dde, yn dangos nad ydych chi'n addas i gynrychioli pobl. Nid oes unrhyw le i chi yn y math o Gymru yr wyf i eisiau ei weld. Rydych chi'n rhan o'r broblem ac nid yn rhan o'r ateb. O ran y Torïaid, rydych chi morddiddeall o'r sefyllfafel nad oes gennych chiunrhyw syniado'r boen a achosir i bobl gyda'r credyd cynhwysol. Er gwaethaf y dystiolaeth—ac asesiad effaith yr Adran Gwaith a Phensiynau ei hun yn 2011 yn dangos nad yw'n talu'r ffordd i bobl weithio gyda'r credyd cynhwysol—mae mwy o bobl yn wynebu datgymhellion uwch i weithio nag o dan yr hen system. Er gwaethaf y dystiolaeth, rydych chi'n dal i honni bod y system hon yn wych. Bydd unrhyw un sy'n gwylio hyn yn llunio ei farn ei hun, rwy'n siŵr. Rwyf eisiau dweud 'diolch'wrth yr Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon mewn ffordd gadarnhaol, yn arbennig i'r rhai a dynnodd sylw at yr effaith ar wasanaethau datganoledig eraill yn sgil effeithiau'r credyd cynhwysol a'r rhai hynny a siaradodd am grwpiau penodol y gwahaniaethir yn eu herbyn. A diolch arbennig i Helen Mary Jones am gyflwyno'r agweddryweddol ar y ddadl hon mewn modd mor rymus. Rwyf hefyd yn cefnogi galwad Jane Hutt i roimwy o bwysau ar Amber Rudd ar hyn hefyd. Mae'n rhaid imi roi sylw i'r pwynt a wnaed gan Joyce Watson a'r Gweinidog am yr hyn y mae'r Alban wedi'i wneud o ran lliniaru'r problemau hyn. Yn yr Alban, mae ganddyn nhw bwerau, erbyn hyn, i ddarparu 11 o fudd-daliadau. Maen nhw'n mynd i gyflwyno lwfans gofalwyr uwch, ac yna'r grant Best Start a'r grant cymorth angladdau o fis Medi 2019.Maen nhw wedi cael yr arian ac maen nhw'n gwario mwy. Pam? Oherwydd eu bod nhw'n blaenoriaethu tlodi. Nawr, mae'r Blaid Lafur yn yr Alban eisiau i'r SNP fynd hyd yn oed ymhellach, i fod hyd yn oed yn fwy hael, i liniaru effeithiau'r budd-daliadau hyn hyd yn oed yn fwy. Felly, pam ydych chi'n gwrthwynebu? Mae hyn yn enghraifft arall eto o'r Blaid Lafur yn wynebu nifer o wahanol gyfeiriadau. Byddai'r newidiadau yr ydym ni eisiau eu gweld o ran datganoli gweinyddu budd-daliadau yn arbed arian i'r Llywodraeth hon. Pe byddech chi'n gwneud hyn yn iawn gallech chi arbed arian i'r GIG, gallech chi arbed arian ym maes tai, gallech chi arbed arian mewn addysg a llawer iawn mwy. O gofio ein sefyllfa â'r holl dlodi hwn, ac mae'n debygol o gael ei wneud yn llawer iawn gwaeth ar ôl Brexit, mae'r ffaith nad oes gan y Llywodraeth unrhyw strategaeth, ac nad oes ganddi unrhyw Weinidog penodol i fynd i'r afael â thlodi na thlodi plant, yn warth llwyr. Rwyf eisiau gorffen gyda dyfyniad o'r adroddiad, gan yr Athro Philip Alston ei hun, sy'n dweud, Yn absenoldeb pŵer datganoledig dros fudd-daliadau nawdd cymdeithasol, mae gallu Llywodraeth Cymru i liniaru yn uniongyrchol y gostyngiad mewn budd-daliadau yn gyfyngedig, gan felly symud y baich i aelwydydd incwm isel. Mae consensws eang ymhlith rhanddeiliaid bod y newidiadau budd-dal yn un o'r achosion strwythurol y tu ôl i'r cynnydd mewn tlodi, cysgu ar y stryd a digartrefedd yng Nghymru. Lleisiodd seneddwyr a chymdeithas sifil bryderon difrifol y gallai credyd cynhwysol waethygu'r broblem, yn enwedig yn sgil anallu Llywodraeth Cymru i gyflwyno hyblygrwydd yn ei dull gweinyddu, yn wahanol i Lywodraeth yr Alban. Mae hynny'n dweud bod gennych chi'r pŵer i wneud rhywbeth am hyn. Gwnewch hynny. Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb welliannau. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Felly,rydym yn gohirio'r pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. 8. Cyfnod Pleidleisio Rydym wedi cyrraedd yr amser pleidleisio, felly oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, byddaf yn bwrw ymlaen i agor y pleidleisiau. Iawn. Diolch. Y bleidlais gyntaf, felly, y prynhawn yma yw'r un ar y ddadl, Astudiaeth Ddichonoldeb i Oriel Gelf Gyfoes i Gymru ac Astudiaeth Ddichonoldeb i Amgueddfa Chwaraeon i Gymru. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 12, nebwedi ymatal, 36 yn erbyn, felly ni dderbyniwyd y gwelliant. NDM6973 - Amendment 1: O blaid: 12, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0 Gwrthodwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch ybleidlais.O blaid y gwelliant 47, nebwedi ymatal, neb yn erbyn, felly derbyniwyd gwelliant 2. NDM6973 - Amendment 2: O blaid: 47, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0 Derbyniwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Galwaf am bleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch ybleidlais. O blaid y gwelliant 10, 10wedi ymatal, 28 yn erbyn, felly ni dderbyniwyd gwelliant 3. NDM6973 - Amendment 3: O blaid: 10, Yn erbyn: 28, Ymatal: 10 Gwrthodwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Galwaf am bleidlais ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch ybleidlais. O blaid y gwelliant 38, 10wedi ymatal, neb yn erbyn, fellyderbyniwyd gwelliant 4. NDM6973 - Amendment 4: O blaid: 38, Yn erbyn: 0, Ymatal: 10 Derbyniwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Galwaf am bleidlais ar welliant 5, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais.Caewch ybleidlais. O blaid y cynnig 20, nebwedi ymatal, 28 yn erbyn, felly ni dderbyniwyd gwelliant 5. NDM6973 - Amendment 5: O blaid: 20, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0 Gwrthodwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Galwaf am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Cynnig NDM6873 fel y'i diwygiwyd: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cyhoeddi’r astudiaethau dichonoldeb ar 'Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru—Astudiaeth Ddichonoldeb' ac 'Amgueddfa Chwaraeon i Gymru—Astudiaeth Ddichonoldeb'. 2. Yn croesawu’r dadansoddi a’r argymhellion yn y ddau adroddiad, ynghyd â’r cyfleoedd a’r heriau sydd ynghlwm wrthynt. 3. Yn cydnabod bod gofyn gwneud rhagor o waith cyn y gall penderfyniadau gael eu gwneud ynghylch camau gweithredu yn y dyfodol. 4. Yn croesawu’r argymhelliad y dylid sefydlu Amgueddfa Bêl-droed Genedlaethol yn Wrecsam. 5. Yn croesawu’r argymhelliad y dylid gweithio tuag at adeiladu pencadlys cenedlaethol parhaol ar gyfer Oriel Gelf Gyfoes i Gymru. Agorwch y bleidlais. Caewch ybleidlais.O blaid y cynnig wedi'i ddiwygio 37, 10wedi ymatal, un yn erbyn, felly derbyniwyd y cynnig. 'NDM6873 - Dadl: ''Astudiaeth Ddichonoldeb i Oriel Gelf Gyfoes i Gymru' ac 'Astudiaeth Ddichonoldeb i Amgueddfa Chwaraeon i Gymru': O blaid: 37, Yn erbyn: 1, Ymatal: 10 Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwydCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Symudwn yn awr i bleidleisio ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar awdurdodau lleol. Galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch ybleidlais. O blaid ycynnig 13, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly, ni dderbyniwyd y cynnig. NDM6875 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Awdurdodau Lleol: O blaid: 13, Yn erbyn: 35, Ymatal: 0 Gwrthodwyd y cynnigCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Symudwn yn awr i bleidleisio ar y gwelliannau. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agorwch y bleidlais. Caewch ybleidlais. O blaid y gwelliant 29, nebwedi ymatal, 19 yn erbyn, felly derbyniwyd gwelliant 1. NDM6875 - Gwelliant 1: O blaid: 29, Yn erbyn: 19, Ymatal: 0 Derbyniwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch ybleidlais. O blaid y cynnig 47, nebwedi ymatal, un yn erbyn, felly derbyniwyd gwelliant 2. NDM6875 - Gwelliant 2: O blaid: 47, Yn erbyn: 1, Ymatal: 0 Derbyniwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd. Cynnig NDM6875 fel y'i diwygiwyd: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod y rôl bwysig a chwaraeir gan awdurdodau lleol wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru. 2. Yn cydnabod yr heriau ariannu y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu yng Nghymru ar hyn o bryd. 3. Yn gresynu bod y cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar ddim ond ar gael o ganlyniad i'r arian canlyniadol o ddatganiad hydref Llywodraeth y DU. 4. Yn croesawu’r pecyn o gynigion ariannu ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol i wella’r grant cynnal refeniw yn 2019-20, er mwyn mynd i’r afael â’r pwysau wrth inni wynebu nawfed flwyddyn polisi cyni Llywodraeth y DU. 5. Yn nodi bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru’n cefnogi’r cyhoeddiad fel cam arwyddocaol ymlaen sy’n dangos ymdrech ar y cyd i wrthbwyso effaith cyni yng Nghymru. 6. Yn nodi bod y setliad llywodraeth leol yn cael ei ddosbarthu drwy fformiwla gan ddefnyddio bron i 70 o ddangosyddion penodol, y cytunwyd arnynt gyda llywodraeth leol, dan oruchwyliaeth arbenigwyr annibynnol, ac yn seiliedig ar yr angen cymharol i wario a’r gallu cymharol i godi incwm yn lleol. Agorwch y bleidlais. Caewch ybleidlais. O blaid y cynnig wedi'i ddiwygio 34, unwedi ymatal, 13 yn erbyn, felly derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd. NDM6875 - Cynnig fel y'i Diwygiwyd: O blaid: 34, Yn erbyn: 13, Ymatal: 1 Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwydCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Trown yn awr i bleidleisio ar ddadl Plaid Cymru ar dlodi. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch ybleidlais. O blaid y cynnig wyth, dauwedi ymatal, 38 yn erbyn, felly ni dderbyniwyd y cynnig. NDM6874 - Dadl Plaid Cymru - Tlodi: O blaid: 8, Yn erbyn: 38, Ymatal: 2 Gwrthodwyd y cynnigCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Symudwn i bleidleisio ar y gwelliannau. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agorwch y bleidlais. Caewch ybleidlais. O blaid y cynnig 10, dauwedi ymatal, 36 yn erbyn, felly ni dderbyniwyd y gwelliant. NDM6874 - Gwelliant 1: O blaid: 10, Yn erbyn: 36, Ymatal: 2 Gwrthodwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agorwch y bleidlais. Caewch ybleidlais.O blaid ygwelliant 28, nebwedi ymatal, 20 yn erbyn, felly derbyniwyd gwelliant 2. NDM6874 - Gwelliant 2: O blaid: 28, Yn erbyn: 20, Ymatal: 0 Derbyniwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd. Cynnig NDM6874 fel y'i diwygiwyd: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r datganiad gan rapporteur arbennig y Cenhedloedd Unedig ar hawliau dynol a thlodi eithafol yn sgil ei ymweliad â'r Deyrnas Unedig. 2. Yn derbyn canfyddiadau’r adroddiad: a) bod costau cyni wedi’u hysgwyddo i raddau annheg gan bobl dlawd, menywod, lleiafrifoedd ethnig, plant, rhieni sengl a phobl anabl; b) mai Cymru sydd â’r gyfradd tlodi cymharol uchaf yn y Deyrnas Unedig; c) bod y gweinyddiaethau datganoledig wedi ceisio lliniaru effeithiau gwaethaf cyni, a hynny er gwaethaf dioddef gostyngiadau sylweddol yn eu cyllid grant bloc; a d) ei bod yn 'warthus' bod rhaid i genhedloedd datganoledig wario arian i ddiogelu pobl rhag polisïau Llywodraeth y Deyrnas Unedig. 3. Yn croesawu ffocws Llywodraeth Cymru ar drechu tlodi, a’i galwadau parhaus ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i fynd i’r afael â diffygion niferus Credyd Cynhwysol. Agorwch y bleidlais. Caewch ybleidlais. O blaid y cynnig wedi'i ddiwygio 28, dauwedi ymatal, 18 yn erbyn, felly derbyniwyd y cynnig wedi'i ddiwygio. NDM6874 - Cynnig fel y'i Diwygiwyd: O blaid: 28, Yn erbyn: 18, Ymatal: 2 Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwydCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch. Daeth y cyfarfod i ben am 18:43. QNR Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru Darren Millar: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am seilwaith trafnidiaeth gogledd Cymru? Mark Drakeford: I refer you to the Cabinet Secretary for Economy and Transport’s statement of 21 November, on transport infrastructure in north Wales. Mick Antoniw: Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran datblygu strategaeth ar gyfer mynd i'r afael â chaethiwed i hapchwarae yng Nghymru? Mark Drakeford: We have been working across Government to develop a strategy to tackle gambling-related harm in Wales in line with the recommendations in the chief medical officer’s report. The Cabinet Secretary for Health and Social Services will make a statement in due course outlining actions taken so far. David Rees: Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith Rhentu Doeth Cymru ar wella ansawdd llety rhent? Mark Drakeford: The primary objective of Rent Smart Wales is to raise standards of management in the sector, rather than improve property standards. However, where action has been taken against a landlord or agent in relation to poor standards it can, and has, result in the revocation of a licence. Sian Gwenllian: A wnaiff y Prif Weinidog ein diweddaru ar gynllun ffordd osgoi Bontnewydd, yn dilyn y cyhoeddiad ym mis Mai y bydd y cynllun yn mynd yn ei flaen? Mark Drakeford: Mae’r cynllun manwl ar gyfer ffordd osgoi Caernarfon a’r Bontnewydd yn parhau i gael ei ddatblygu rhag blaen, ynghyd â pharatoadau i alluogi i’r prif waith adeiladu ddechrau y gaeaf hwn. Vikki Howells: Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith yr economi gig yng Nghymru? Mark Drakeford: I established a Fair Work Commission earlier this year to review the evidence on fair work, including in relation to the gig economy, and make recommendations on what more could be done to make Wales a fair work nation. David J. Rowlands: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r gost o ddod ag Aston Martin Lagonda i Gymru? Mark Drakeford: Welsh Government has awarded Aston Martin grants of up to £18.8 million linked to job creation, skills training and research and development. The grants are being drawn down over a three-year period, as the company achieves key targets. Jane Hutt: Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r datganiad a wnaed gan rapporteur y Cenhedloedd Unedig, yr Athro Phillip Alston, yn dilyn ei ymweliad â'r DU? Mark Drakeford: We agree with the statement’s damning condemnation of the UK Government’s stubborn determination to see through its harmful policies that are having such a detrimental impact on the most vulnerable in our society.
uk-hansard-senedd-cy
senedd2018-11-27
2024-06-01T00:00:00
{ "year": "2018", "language": "cy", "license": "Open Parliament Licence - https://www.parliament.uk/site-information/copyright-parliament/open-parliament-licence/" }
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. Galw'r Aelodau i drefn. Enwebiadau ar gyfer cadeirydd pwyllgor Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r enwebiadau ar gyfer cadeirydd pwyllgor. Ddoe, fe fyddwch chi'n cofio bod y Cynulliad, ar gynnig o dan Reol Sefydlog 17.2A i bennu Cadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad, wedi pennu'r gadeiryddiaeth yna i'r grŵp Llafur. Dwi nawr yn gwahodd enwebiadau, o dan Reol Sefydlog 17.2F, i ethol y Cadeirydd, ac, i'ch atgoffa, dim ond aelod o'r grŵp Llafur all gael ei enwebu'n Gadeirydd, a dim ond aelod o'r un grŵp gwleidyddol â hynny sy'n cael cynnig ac eiiio'r enwebiad. Ac, felly, dwi'n gwahodd enwebiadau o'r grŵp Llafur ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad. Huw Irranca-Davies AC: Rwy'n enwebu Dawn Bowden, Lywydd. Dwi'n galw am aelod arall o'r un grŵp plaid i eilio'r enwebiad. Vikki Howells AC: Hoffwn eilio hynny. A oes rhagor o enwebiadau? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu'r enwebiad? Rwy'n datgan, felly, fod Dawn Bowden wedi ei hethol yn Gadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad, a phob dymuniad da a phob hwyl iddi hi yn ei gwaith fel y Cadeirydd. 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg Yr eitem nesaf yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Addysg, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Michelle Brown. Addysgu'r Gymraeg Michelle Brown AC: 1. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ba mor effeithiol yw addysgu'r Gymraeg mewn ysgolion? OAQ54370 Kirsty Williams AC: Ers adroddiad 'Un iaith i bawb' yn 2013, cyhoeddodd Estyn adroddiad ar y Gymraeg yng nghyfnodau allweddol 2 a 3 yn 2018, a bydd dau adolygiad pellach yn cael eu cynnal yn ystod 2019-20, a fydd yn edrych ar gaffael iaith mewn ysgolion cynradd, ac addysgu a dysgu Cymraeg Safon Uwch. Michelle Brown AC: Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Ar ddiwrnod cyhoeddi'r canlyniadau TGAU dros yr haf, dywedodd arweinwyr ysgolion eu bod yn pryderu'n fawr am y cwymp yng nghanran y plant 16 oed a oedd yn pasio Cymraeg ail iaith gyda graddau A* i C, ac roedd eu cymdeithas yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda hwy i ddarganfod beth sydd wedi achosi'r gostyngiad o 10 y cant yn y graddau. Ond nid Cymraeg yn unig oedd yn peri pryder iddynt. Roedd y gostyngiad o 4.3 y cant yn y canlyniadau Saesneg hefyd yn eu hysgogi i alw am fwy o waith gan Lywodraeth Cymru. Mae'n ymddangos bod cyfarwyddwr Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau Cymru yn rhoi'r bai ar y newidiadau a wnaethoch, pan ddywedodd, ac rwy'n dyfynnu, Gallwn sicrhau'r cyhoedd na fu unrhyw lacio o gwbl yn ymrwymiad ysgolion i gynhyrchu'r canlyniadau gorau posibl i'w disgyblion, ac mae'n bwysig deall bod y canlyniadau hyn yn dod ar adeg o newid enfawr yn y system addysg yng Nghymru. A dywedodd Cymdeithas Genedlaethol Prifathrawon Cymru hefyd fod angen gwneud mwy o waith. Y ddwy iaith bwysicaf yn y wlad yw'r Gymraeg a'r Saesneg, ac mae'n ymddangos eich bod yn gwneud cam â'n disgyblion yn y ddwy. A allwch chi ddweud wrthym sut y bwriadwch atal y system addysg rhag darparu canlyniadau gwaeth yn y pynciau hyn o flwyddyn i flwyddyn? Kirsty Williams AC: O ran canlyniadau TGAU Cymraeg ail iaith, rwy'n siŵr fod yr Aelod yn ymwybodol ein bod wedi gweld y cwrs byr TGAU yn cael ei ddileu, ac mae hynny'n sicr wedi cael effaith ar gyrhaeddiad eleni. Ond mae'r canrannau a ddyfynnodd yn gamarweiniol, oherwydd cynnydd o draean yn nifer y dysgwyr a gofrestrwyd ar gyfer arholiad cwrs llawn. Byddai llawer o ddysgwyr wedi dilyn y cwrs byr yn y gorffennol, ac mae'r dadleuon ynghylch yr angen am newid yn y cyswllt hwnnw wedi'u trafod ar sawl achlysur yma yn y Siambr. Yr hyn sy'n galonogol iawn, Lywydd, wrth edrych ar y niferoedd crai sy'n pasio pob gradd, yw ein bod wedi gweld y graddau A*-A yn cynyddu 9.7 y cant a'r graddau A*-C yn cynyddu 12.5 y cant, sy'n awgrymu bod y cynnydd yn y nifer sy'n ymgeisioyn arwain at fwy o ddysgwyr yn cael gradd dda mewn TGAU Cymraeg ail iaith—cymhwyster gwell a mwy heriol. O ran Saesneg, rwy'n falch o weld canlyniadau gwell mewn TGAU Saesneg iaith, yn enwedig A*-C, ond, yn amlwg, mae lle i wella bob amser, a byddwn yn gweithio gyda chonsortia rhanbarthol, ysgolion a Cymwysterau Cymru i drafod pa gamau eraill y gallwn eu cymryd i wella canlyniadau mewn TGAU Saesneg iaith. Suzy Davies AC: Weinidog, wrth edrych ar Ystadegau Cymru, mae'n rhaid cyfaddef fy mod yn synnu braidd o weld, yn ogystal â'r rhai sy'n gymwys i ddysgu Cymraeg fel iaith gyntaf, fod 40 y cant o'n gweithlu addysgu yn gymwysedig i ddysgu Cymraeg fel ail iaith mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Wrth gwrs, mae'n anos gwybod a ydynt yn defnyddio'r sgiliau hynny ai peidio. Mae nifer y newydd-ddyfodiaid sy'n dewis hyfforddi yn y Gymraeg wedi bod yn gostwng, ac mae nifer y bobl sy'n credu na ddylai dysgu Cymraeg fod yn orfodol yn dal i fod yn siomedig o uchel. Felly, pa gamau ymarferol sy'n cael eu cymryd yn awr, gyda'r gweithlu presennol, i sicrhau addysgu effeithiol ar gontinwwm iaith Gymraeg newydd, i gynhyrchu pobl ifanc sy'n meddu ar sgiliau Cymraeg uwch, y byddant yn eu defnyddio'n hyderus ar ôl iddynt adael yr ysgol? Kirsty Williams AC: Wel, mae'n bwysig cydnabod ein bod wedi cynyddu buddsoddiad i gefnogi'r gwaith o ddatblygu'r gweithlu Cymraeg mewn addysg i'r swm uchaf erioed o £5 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon. Felly, yn 2017, gwariwyd £4.2 miliwn gennym, yna £4.8 miliwn, ac fel y dywedais, mae hwnnw wedi codi i £5 miliwn eleni. Mae hyn yn ein galluogi i ddatblygu sgiliau iaith ac addysgu Cymraeg addysgwyr yn barhaus. Er enghraifft, un ffordd ymarferol y gwnawn hynny yw drwy ein cynllun sabothol, sy'n darparu hyfforddiant Cymraeg dwys i addysgwyr ledled Cymru. Ac mae cyllid ar gael hefyd ac yn cael ei ddarparu i gonsortia rhanbarthol er mwyn cynnig ystod o gyfleoedd i ddatblygu'r Gymraeg a sgiliau addysgu Cymraeg yn ein gweithlu. I'r rhai sy'n dymuno ymuno â'r proffesiwn, i addysgu'r Gymraeg ei hun, neu i addysgu pynciau eraill drwy gyfrwng y Gymraeg, rydym yn cynnig y lefel uchaf o gymhelliant ariannol iddynt wneud hynny. Cyrsiau Galwedigaethol Nick Ramsay AC: 2. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4 yn cael mynediad i gyrsiau galwedigaethol? OAQ54368 Kirsty Williams AC: Diolch, Nick. Rwy'n rhoi gwerth mawr ar sicrhau bod cymwysterau galwedigaethol ar gael i bobl ifanc 14 i 16 oed. Mae Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 yn ei gwneud yn ofynnol i'r cynnig cwricwla lleol gynnig lleiafswm o dri chwrs galwedigaethol i bob dysgwr yng nghyfnod allweddol 4. Nick Ramsay AC: Diolch i chi, Weinidog. Rydych wedi dweud yn gwbl glir mai'r bwriad wrth symud oddi wrth y mesur pum A* i C Saesneg a Mathemateg oedd annog ysgolion i ganolbwyntio ar wireddu potensial pob plentyn, nid y rheini ar y ffin C/D/C yn unig. Mae eich mesur newydd—capio 9—yn rhoi gwerth ar gyrsiau galwedigaethol, ac mae hynny i'w groesawu'n fawr, ac fel y dywed, mae cynifer o bobl ifanc yn gallu sicrhau gyrfa lwyddiannus a buddiol drwy'r llwybr galwedigaethol. Fodd bynnag, mae cryn dipyn o ffordd i fynd o hyd, fel y byddech yn cydnabod rwy'n siŵr, cyn y gellir sicrhau statws cydradd wedi'i gydnabod gan brifysgolion rhwng cymwysterau academaidd a galwedigaethol. Felly, beth a wnewch i sicrhau bod mwy o gyrsiau o'r fath ar gael mewn ysgolion a cholegau, ac i sicrhau bod pobl iau yn cael eu cyfeirio'n fwy effeithiol byth, ar oedran iau, fel ein bod yn gweld colli—roeddwn am ddweud 'rhagfarn'; mae'n debyg fod hwnnw'n air rhy gryf—colli'r gwahaniaeth dros amser rhwng cymwysterau galwedigaethol ac academaidd fel bod y ddau lwybr yn cael eu hystyried yr un mor dderbyniol? Kirsty Williams AC: Lywydd, rwy'n falch iawn fod yr Aelod wedi cydnabod, yn y mesurau atebolrwydd interim, fod cymwysterau galwedigaethol yn cyfrif tuag at sgôr capio 9. Felly, ni cheir unrhyw anghymhelliad i ysgolion allu cynnig y cyrsiau hyn i ddisgyblion, os mai dyna yw'r peth iawn i'r plant hynny. Rwy'n falch iawn o roi sicrwydd i'r Aelod fod pob un o'r pedair ysgol uwchradd yn sir Fynwy yn bodloni gofyniad y Mesur dysgu a sgiliau, a bod y dewis hwnnw ar gael i ddysgwyr yn ei ardal. Er enghraifft, yn Ysgol Gyfun y Brenin Harri VIII, yn y Fenni—y cefais y fraint o ymweld â hi ar ddiwrnod y canlyniadau TGAU, a dathlu'r set orau erioed o ganlyniadau TGAU yn yr ysgol honno gyda hwy—mae dysgwyr yn yr ysgol benodol honno'n cael cynnig wyth cwrs galwedigaethol yng nghyfnod allweddol 4. Ond mae'r Aelod yn iawn—mae angen i ni wneud mwy weithiau i oresgyn canfyddiadau o werth cyrsiau galwedigaethol. A dyna pam ein bod ar hyn o bryd yn treialu dull newydd o roi gwybodaeth a chyngor i blant a phobl ifanc, fel y gallwn sicrhau bod pob plentyn yn gwneud y dewisiadau cywir ar sail dealltwriaeth a gwybodaeth go iawn y gall cymwysterau galwedigaethol eu helpu i gyflawni eu dyheadau gyrfaol a chyflawni eu potensial. David Rees AC: Weinidog, yn eich ateb i gwestiwn Nick Ramsay, rwy'n awyddus iawn ac yn falch iawn o glywed eich bod yn cydnabod mewn gwirionedd fod addysg alwedigaethol yn gyfwerth â llwybrau academaidd. Ac mae'n drueni nad oes digon o bobl ifanc—neu eu rhieni yn enwedig, weithiau—yn deall yr un peth. Oherwydd er mwyn sicrhau bod gennym y statws cydradd hwnnw, er mwyn sicrhau bod y sgiliau rydym eu hangen yng Nghymru ar gael i bobl—ac i bobl ifanc yn benodol—mae angen i ni hefyd addysgu rhai o'r genhedlaeth hŷn, a'r rhieni, i sicrhau eu bod hwythau'n deall hynny hefyd. Oherwydd mae llawer o bobl, dros yr 20 mlynedd diwethaf, wedi llyncu'r neges, 'Addysg uwch, dyna'r ffordd ymlaen.' Ond mae yna gymysgedd ar gael mewn gwirionedd, ac mae'r ddau gymhwyster yr un mor haeddiannol â'i gilydd—galwedigaethol ac academaidd. Ac ni ddylid eu hystyried fel llwybrau ar wahân, ond fel llwybr sengl gyda chanlyniadau gwahanol ar y diwedd, efallai, ond canlyniadau cyfartal yn y pen draw. Felly, a wnewch chi hefyd ehangu'r trafodaethau rydych yn eu cael gyda phobl ifanc i gynnwys eu rhieni, i sicrhau bod rhieni'n deall pwysigrwydd y ddau lwybr, ansawdd y ddau llwybr, a'r canlyniadau y gall plant eu cyflawni yn eu gyrfaoedd hirdymor mewn gwirionedd? Kirsty Williams AC: Yn sicr. Mae David Rees yn gwneud pwynt pwysig iawn am y ffactorau sy'n dylanwadu ar blant wrth ddewis pa gyrsiau i'w hastudio yn yr ysgol neu mewn colegau. Yn aml, mae plant yn gwrando ar eu cyfoedion—mae ganddynt ddiddordeb mawr mewn deall beth y mae eu cyfoedion yn ei wneud—ond yn amlwg mae rhieni a theulu yn ddylanwad enfawr wrth helpu plant i wneud penderfyniadau. Fel rhan o gynllun peilot Gatsby, sy'n cael ei ddarparu yn ardal awdurdod lleol Rhondda Cynon Taf ar hyn o bryd, ac sy'n ceisio profi a gwella'r system wybodaeth a chyngor, mae'r ysgolion hynny yn gweithio nid yn unig gyda disgyblion ond gyda chyflogwyr lleol a chyda rhieni i allu sicrhau bod plant yn dod i gysylltiad â'r ystod eang o ddewisiadau sydd ar gael iddynt a chydnabod nad yw dilyn cwrs galwedigaethol yn 14 oed yn rhwystr i lefelau astudio uwch. Yn wir, mae dilyn cwrs galwedigaethol rhwng 16 a 18 oed yn ffordd gwbl arferol i chi fynd ymlaen wedyn i astudio cwrs gradd neu brentisiaeth lefel uwch, os mai dyna y dymunwch ei wneud. Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau, a llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf—Suzy Davies. Suzy Davies AC: Diolch, Lywydd. Weinidog, yr wythnos diwethaf, gwnaeth y Gweinidog Cyllid ddatganiad yn nodi ei barn am oblygiadau cylch gwariant 2019 Llywodraeth y DU i Gymru, ac yn hwnnw cadarnhaodd farn y Llywodraeth y dylid seilio penderfyniadau gwariant y gyllideb ar wyth maes blaenoriaeth. Pam nad yw addysg oedran ysgol yn un o'r meysydd blaenoriaeth hynny? Kirsty Williams AC: Yr hyn y cyfeiriai'r Gweinidog ato yw'r meysydd blaenoriaeth trawsbynciol sydd gan y Llywodraeth. Mae un o'r rheini'n cynnwys y blynyddoedd cynnar. Mae'r blynyddoedd cynnar yn rhan o'n system addysg. Fy mlaenoriaeth yw sicrhau bod gan ysgolion y gyllideb orau sy'n bosibl. Mae'r Gweinidog Cyllid wedi cyhoeddi, a ninnau bellach wedi cael rhywfaint o fanylion am ein cyllideb refeniw, y byddwn yn cyflwyno'r gyllideb ar gyfer y Llywodraeth gyfan yn gynt, ym mis Tachwedd. Suzy Davies AC: O gofio'r newidiadau enfawr a fydd yn digwydd mewn ysgolion, yn enwedig gyda'r newid yn y cwricwlwm a'r paratoadau ar gyfer hynny, ond hefyd y cwynion hirsefydlog a difrifol iawn a wneir gan ysgolion yn awr am eu cyllid uniongyrchol, mae'n rhaid i mi ddweud fy mod wedi fy siomi nad wyf wedi gweld hynny'n fwy penodol yn themâu trawsbynciol y Llywodraeth, oherwydd, wrth gwrs, os na chewch addysg yn iawn, mae'n effeithio ar bob maes gwariant arall wrth inni symud ymlaen. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi'r hwb o 2.3 y cant yn uwch na chwyddiant i floc Cymru. Disgwylir y bydd dros £2 biliwn yn dod i Lywodraeth Cymru o gyllideb ysgolion y DU hefyd—ysgolion yn benodol, nid addysg. Mae hynny dros dair blynedd, ac rwy'n derbyn bod y setliad blynyddol yn gyfyngiad ar gynllunio. Rydych wedi gweld adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyllid i ysgolion, a ddaeth i'r casgliad fod perygl real ac uniongyrchol iawn o gyllid annigonol i ysgolion. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog llywodraeth leol yn cyflwyno'r achos dros sicrhau mwy o arian i'w phortffolio, mwy o arian i gynghorau. A fyddwch yn gadael y gwaith o ddod o hyd i'r cyllid uniongyrchol ychwanegol sydd ei angen ar ysgolion iddi hi? Kirsty Williams AC: Rwy'n ddiolchgar fod yr Aelod wedi cydnabod yr anawsterau sy'n wynebu Llywodraeth Cymru yn sgil penderfyniad ei chymheiriaid yn San Steffan i roi cyllideb ddangosol ar gyfer un flwyddyn yn unig i addysg, tra'u bod wedi bod mor garedig â rhoi cyllideb ddangosol tair blynedd i'r system addysg yn Lloegr, ac mae hynny, yn wir, yn gwneud pethau'n anos i ni. Bydd yr Aelod hefyd yn ymwybodol fy mod wedi croesawu gwaith y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyllid addysg. Rwyf wedi derbyn holl argymhellion adroddiad y pwyllgor hwnnw, gan gynnwys adolygiad o gyllid addysg yng Nghymru. Pan drafodir yr adroddiad hwnnw yn ddiweddarach y tymor hwn, edrychaf ymlaen at roi rhagor o fanylion i'r Aelodau ynglŷn â sut y byddwn yn ymateb yn llawn i hynny. O ran y gyllideb eleni, mae'r Gweinidog llywodraeth leol a minnau'n cytuno bod yn rhaid sicrhau bod awdurdodau lleol, sef prif ffynhonnell cyllid ein hysgolion, yn ogystal â'r maes addysg yn ei gyfanrwydd, yn cael blaenoriaeth. Suzy Davies AC: Rwy'n ddiolchgar am yr ymateb hwnnw, Weinidog, oherwydd er ein bod yn cydnabod mai'r awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o'r cyllid uniongyrchol, pryder y pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, fel y gwyddom, yw nad yw'r cyllid hwnnw wedi'i ddiogelu mewn unrhyw ffordd. Pan fyddwch yn cynhyrchu canlyniadau eich adolygiad, ac yn ymateb i'r ddadl mewn gwirionedd, bydd yn ddiddorol iawn gweld a fyddwch mewn sefyllfa i ddweud sut y gellir diogelu unrhyw gyllid uniongyrchol o fewn cyllideb well, gobeithio, i awdurdodau lleol. Rwyf am ofyn rhywbeth gwahanol i chi yn awr, oherwydd y penwythnos hwn gwelsom sylw yn y cyfryngau i bryderon ynghylch cynnwys gwersi addysg rhyw i blant ifanc iawn mewn rhannau o Loegr. Gwn fod gwneud addysg grefyddol ac addysg rhyw yn rhan orfodol o'r cwricwlwm newydd yn benderfyniad dadleuol eisoes, ond mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i, hyd yn oed, yn teimlo ychydig yn anghyfforddus am y potensial o dynnu sylw plant chwech oed at fastyrbio, yn enwedig pan fyddwn ni hefyd yn gofyn iddynt ddeall a siarad yn agored am unrhyw gyffwrdd amhriodol gan oedolion. Nawr, nid oes syniad gennyf pa mor gywir yw'r adroddiadau hyn, ond rwy'n credu y byddai teuluoedd ac athrawon ledled y wlad yn gwerthfawrogi datganiad gennych chi i dawelu eu meddyliau am yr hyn y credwch chi y dylai addysg rhyw sy'n addas i'r oedran ei gynnwys yng Nghymru. Kirsty Williams AC: Mae'r Aelod yn llygad ei lle; os ydym am gyflawni nodau cwricwlwm a arweinir gan ddiben, ac os ydym am sicrhau bod pob plentyn sy'n gadael ein hysgolion yn hapus ac yn iach, yna credaf fod addysg rhyw a pherthnasoedd sy'n addas i oedran a datblygiad yn ffordd bwysig o gyflawni dibenion ein cwricwlwm. Yn amlwg, mae hwn yn bwnc sensitif, ac mae'r Aelod yn iawn i ddweud bod problem yn codi mewn perthynas ag amddiffyn plant hefyd. Ond rwyf am ei sicrhau hi a phob Aelod yma, a'r gymuned ehangach yn wir, y bydd cynnwys addysg rhyw a pherthnasoedd yn cael ei ddatblygu mewn modd sensitif a gofalus iawn, gyda'r cyngor gorau gan weithwyr proffesiynol a'r rhai sydd wedi cynghori'r Llywodraeth hyd yn hyn ar yr angen i sicrhau bod addysg rhyw a pherthnasoedd ar gael i blant yng Nghymru. Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian. Siân Gwenllian AC: Diolch, Lywydd. Mae'r Blaid Lafur wedi dweud y byddan nhw'n cael gwared ar ysgolion preifat, gan ailddosbarthu eu heiddo i'r wladwriaeth. Fe basiwyd cynnig yn eu cynhadledd i integreiddio ysgolion preifat i sector y wladwriaeth. O gofio mai dim ond 2.2 y cant o blant Cymru sy'n cael eu dysgu mewn ysgolion preifat, ydych chi'n cytuno mai mater gweddol hawdd byddai symud yn syth i gael gwared ar ysgolion preifat yng Nghymru? Kirsty Williams AC: Nid oes gennyf unrhyw gynlluniau i gael gwared ar ysgolion preifat yng Nghymru. Siân Gwenllian AC: Iawn. Wel, fydd hi'n ddiddorol iawn clywed y drafodaeth—neu, mi fyddai'n ddiddorol petawn ni'n cael clywed y drafodaeth yn y Cabinet efo'ch cyd-Aelodau Llafur ynghylch hynny, lle mae yna arweiniad clir yn dod gan eu cynhadledd nhw. Felly, diddorol clywed eich ymateb chi yn fanna. Mi fyddai Llafur hefyd yn ymgyrchu i ddileu statws elusennol oddi ar ysgolion preifat, a dwi'n nodi bod ymgynghoriad yn mynd rhagddo gan Lywodraeth Cymru ar hyn a dwi'n edrych ymlaen at weld ysgolion preifat yn talu trethi. Mae hyn, wrth gwrs, yn codi cwestiynau am Ysgol Gymraeg Llundain, a dwi'n edrych ymlaen at weld sut rydych chi'n bwriadu cynnal y gallu i deuluoedd Cymraeg gael addysg cyfrwng-Cymraeg yn y brifddinas. Troi at fater arall, mae Suzy Davies wedi cyfeirio'n rhannol at hyn, ond, yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yr wythnos diwethaf, fe sonioch chi fod yna lobi gryf, neu o leiaf ymateb cryf, yn erbyn cynnwys addysg grefyddol ac addysg cyd-berthynas a rhywioldeb fel rhan statudol o'r cwricwlwm newydd, a hynny heb hawl gan rieni i dynnu eu plant yn ôl o'r gwersi hynny. Dwi yn mawr obeithio nad ydych chi yn meddwl ildio i'r pwysau yma a'ch bod chi'n cytuno efo fi bod rhain yn ddau faes hollbwysig i'w cadw'n faterion statudol yn y cwricwlwm newydd wrth inni anelu at greu dinasyddion iach a hyderus, a chymdeithas sy'n parchu amrywiaeth. Kirsty Williams AC: Wel, yn ffodus i ni, Lywydd, mae addysg wedi'i datganoli ac nid oes angen cynhadledd plaid yn Brighton na Bournemouth yn wir i ddweud wrthym sut i weithredu ein system addysg. Nid wyf yn gweld unrhyw broblemau gydag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i barhau i gefnogi addysg cyfrwng Cymraeg yn Llundain. Gwyddom fod nifer o'r teuluoedd hynny'n dychwelyd i Gymru ac yn gosod eu plant mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yma, ac nid oes gennyf gynlluniau i newid y gefnogaeth i hynny. A gallaf sicrhau'r Aelod nad oes gennyf unrhyw gynlluniau i newid fy meddwl mewn perthynas â natur statudol addysg grefyddol neu addysg rhyw a pherthnasoedd yn ein diwygiadau i'r cwricwlwm. Siân Gwenllian AC: Da iawn. Dwi'n falch iawn o glywed yr ateb olaf yna, beth bynnag. Troi at fater arall, sef polisïau teithio i'r ysgol, mewn ymateb i bwyntiau a godwyd gan Llyr Gruffydd yr wythnos diwethaf, fe ddywedodd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol fod yna—a dwi'n dyfynnu—refresh yn mynd i fod i Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 a gallwn ddisgwyl hynny yn yr hydref. Mae yna esiamplau o'r angen i greu newid yn codi ar draws Cymru, yn enwedig o safbwynt y disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Yn Fflint, er enghraifft, mae hi'n siomedig bod y cabinet yn fanno yn mynd i fod yn codi tâl ar fyfyrwyr chweched dosbarth ar gyfer eu trafnidiaeth i'r ysgol, sy'n benodol yn effeithio ar fyfyrwyr chweched dosbarth Ysgol Maes Garmon, ac mae yna bosibilrwydd y bydd rhieni yn wynebu cynnydd o 400 y cant yn y gost o anfon plant i chweched dosbarth cyfrwng Cymraeg yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae'r materion yma mewn perig o danseilio unrhyw fuddsoddiad mewn addysg cyfrwng Cymraeg ac ymdrechion i gyrraedd at y filiwn o siaradwyr. Felly, a fedrwch chi ymhelaethu ar yr hyn a ddywedodd Gweinidog y Gymraeg am y bwriad yma i edrych ar bolisïau teithio i'r ysgol? Pryd a sut fydd unrhyw adolygiad yn digwydd? A oes yna ffordd i bobl fedru rhoi eu barn drwodd yn ystod yr adolygiad yma, ac ai'r nod, mewn gwirionedd, ydy cryfhau hygyrchedd ein disgyblion at addysg cyfrwng Cymraeg? Kirsty Williams AC: Bydd yr Aelod yn ymwybodol nad yw cludiant i'r ysgol, yn rhyfedd braidd, yn rhan o fy mhortffolio, mae'n rhan o bortffolio fy nghyd-Aelod, Ken Skates. Ond mae Ken Skates, Eluned Morgan, Julie James a minnau'n gweithio ar y cyd ar ateb polisi i'r sefyllfa rydym ynddi. Mae newidiadau yn sir y Fflint a Chastell-nedd Port Talbot wedi bod yn peri pryder i mi. Deallaf fod y polisi yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi'i ohirio ar hyn o bryd, ac mae hynny i'w groesawu'n fawr. Yn achos trafnidiaeth ôl-16, ni ellir gwadu'r ffaith bod plant yn gorfod teithio pellteroedd sylweddol i gael mynediad at ddarpariaeth ôl-16 cyfrwng Cymraeg. Dylem sicrhau polisi trafnidiaeth sy'n caniatáu iddynt ddilyn eu continwwm addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, ac ni ddylem osod rhwystrau yn ffordd eu gallu i wneud hynny, a dyna pam fod y Llywodraeth wedi ymrwymo i edrych ar ateb polisi i'r broblem hon. Gwisgoedd Ysgol Jayne Bryant AC: 3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fforddiadwyedd gwisgoedd ysgol yng Nghymru? OAQ54392 Kirsty Williams AC: Diolch, Jayne. Er mwyn cefnogi ysgolion i wneud penderfyniadau effeithiol ynglŷn â'u polisïau gwisg ysgol, rwyf wedi datblygu canllawiau statudol newydd ar gyfer ysgolion a chyrff llywodraethu ar bolisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion. Nod y canllawiau hyn yw annog dull gweithredu mwy cyson ar draws pob ysgol yng Nghymru er mwyn sicrhau bod gwisgoedd ysgol yn fforddiadwy. Jayne Bryant AC: Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae fforddiadwyedd gwisgoedd ysgol yn fater o bwys mawr i lawer o rieni ledled Cymru, ac rwy'n gwybod bod grant datblygu disgyblion Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo teuluoedd ar incwm isel i brynu gwisgoedd ysgol newydd.Rwy'n siŵr eich bod wedi gweld rhai o'r enghreifftiau gwych o rieni mewn rhannau o Gymru yn creu systemau rhoddion llwyddiannus, gan alluogi rhieni i ailgylchu hen wisgoedd ysgol a'u gwerthu i rieni eraill am ran fach o'r pris. Nid yn unig y mae hyn yn helpu teuluoedd, ond mae'n helpu'r amgylchedd hefyd, drwy arbed y dillad rhag mynd i safleoedd tirlenwi. A wnaiff y Gweinidog gymeradwyo'r gwaith hwn? Sut y byddwch yn sicrhau y bydd yr arferion cyson a grybwylloch yn cael eu lledaenu i bob awdurdod lleol yng Nghymru? Kirsty Williams AC: Diolch am hynny, Jayne. Rydych yn iawn—mae hon yn broblem go iawn i lawer o rieni ledled Cymru. Dyna pam ein bod wedi cynyddu'r arian sydd ar gael i gefnogi rhieni drwy'r grant datblygu disgyblion, gan roi cymorth i 14,000 o ddysgwyr ychwanegol ar ddechrau'r flwyddyn academaidd hon. Ond mae hefyd yn gywir i ddweud—a bydd llawer ohonom sy'n rhieni yn gwybod yn iawn pa mor gyflym y mae plant yn tyfu, ac weithiau nid oes dim o'i le ar y dillad, ac mae'n drueni mawr na all pobl eraill fwynhau'r fantais o ddefnyddio'r dillad hynny. Felly, yn ein canllawiau statudol, rydym yn tynnu sylw ysgolion a chyrff llywodraethu at y ffaith bod yna lawer o siopau dillad ysgol ail-law neu drefniadau cyfnewid dillad llwyddiannus iawn yn bodoli, mentrau sydd, fel y dywedwch, yn dda i sefyllfa ariannol rhieni unigol, ond mae hefyd yn wirioneddol bwysig i'n hamgylchedd. Fel rhan o'r canllawiau statudol, rydym yn tynnu sylw ysgolion at yr arferion da hynny ac yn annog llawer mwy ohonynt i wneud hynny yn eu hysgolion. Leanne Wood AC: Rwy'n croesawu cyhoeddiad y canllawiau statudol a ddaeth i rym ar ddechrau'r mis, ac mae'n gwneud y wisg ysgol yn fwy fforddiadwy, yn fwy hygyrch ac yn niwtral o ran rhywedd. Er bod mwy o hyblygrwydd o fewn y system, gellir gorfodi'r rhai sy'n cael grantiau i fynd at un cyflenwr yn unig; mae hynny'n wir yn achos un ysgol yn fy etholaeth yn y Rhondda. Gwn hefyd nad yw rhai ysgolion yn rhoi caniatâd i'r logo gael ei frodio ar ddillad generig, sef yr opsiwn mwyaf economaidd yn aml, a rhywbeth sy'n arbennig o bwysig i deuluoedd ar incwm isel. Felly, a oes angen ailedrych ar eich canllawiau statudol er mwyn rhoi mwy o hyblygrwydd i rieni, p'un a ydynt yn cael grant ai peidio? Kirsty Williams AC: Mae'r canllawiau statudol a ddaeth i rym ar ddechrau'r flwyddyn academaidd hon yn berthnasol i wisgoedd ysgol yn gyffredinol, p'un a ydych yn cael grant ar gyfer eich gwisg ysgol ai peidio. Yn wir, mae'n tynnu sylw ysgolion at y ffaith y dylent fod yn gallu cynnig amrywiaeth o opsiynau sy'n caniatáu i rieni wneud dewisiadau unigol. Ac o ran eitemau wedi'u brodio neu eu brandio, mae'n gofyn i ysgolion gwestiynu a oes angen hynny go iawn—felly a oes angen i chi gael crys polo wedi'i frandio, neu a yw crys polo plaen yn lliwiau'r ysgol yn briodol? Unwaith eto, mae gofyn i gyrff llywodraethu gwestiynu a yw'r gallu i frodio neu i brynu clwt y gellir ei wnïo ar ddilledyn, yn hytrach na chyfeirio pobl at siop unigol—dylai'r rheini fod yn bethau y mae cyrff llywodraethu yn eu hystyried wrth greu eu polisi gwisg ysgol, yn ogystal â meddwl am yr effaith a gaiff ar deuluoedd unigol. Yn aml, mae ffyrdd rhatach i deuluoedd brynu gwisg ysgol os rhoddir yr hyblygrwydd hwnnw iddynt, a dyna beth y mae'r canllawiau statudol yn annog cyrff llywodraethu i'w wneud: darparu'r hyblygrwydd hwnnw yn hytrach na rhai o'r opsiynau cyfyngol hyn sy'n ychwanegu at y gost i deuluoedd. Mohammad Asghar (Oscar) AC: Weinidog, i ategu gwestiwn Leanne Wood, rwy'n eich cefnogi'n llwyr yn eich nod clodwiw o gadw cost gwisgoedd ysgol i lawr. Fodd bynnag, sylwaf fod eich canllawiau'n caniatáu i ysgolion benderfynu a yw eu logos yn gwbl angenrheidiol. Credaf fod logos yn mynegi cenhadaeth ac ysbryd ysgol, ac yn destun balchder i ddisgyblion, rhieni a staff, ac yn creu ymdeimlad o gymuned ymhlith plant yr ysgolion hynny. O gofio hyn, a fyddech yn ymuno â mi i annog cynifer o ysgolion â phosibl i gadw eu logos fel symbol o'u hunaniaeth? Diolch. Kirsty Williams AC: Fel Gweinidog, nid fy rôl i yw dweud wrth ysgolion unigol beth y gallant ei gael a'r hyn na allant ei gael ar eu gwisg ysgol. Fy rôl i fel Gweinidog yw cyhoeddi'r canllawiau statudol, ac rydym wedi gwneud hynny, ac annog llywodraethwyr ysgolion i feddwl am fforddiadwyedd wrth gynllunio'u polisi gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion. Yn wir, rydym yn gofyn i ysgolion gwestiynu a yw'n briodol neu'n angenrheidiol i bob dilledyn gael logo arno. Rwy'n cofio pan oedd fy mhlant yn yr ysgol gynradd, pan oeddwn yn arfer eu hanfon i'r ysgol mewn crys polo gwyn generig ac roedd ganddynt logo ar eu crys chwys. Nid oeddwn yn credu bod angen cael logo ar y ddau ddilledyn. Yr hyn a ddywedwn wrth ysgolion yw, 'Meddyliwch—cyn i chi wneud y rheolau hyn, meddyliwch am fforddiadwyedd i'ch holl rieni'. Rwy'n cytuno bod gwisgoedd ysgol yn gallu rhoi ymdeimlad o hunaniaeth, a'u bod yn gallu cynnig llawer o fanteision i ysgolion, ond wrth lunio polisi gwisg ysgol, byddwch yn ymwybodol o'r beichiau ariannol ychwanegol y gallech fod yn eu gosod ar y rhieni hynny, a beth y gall hynny ei olygu i lesiant plant yn eu hysgolion a allai fod yn wirioneddol bryderus ynglŷn â gallu eu rhieni i fforddio'r cit cyfan a'r wisg y mae disgwyl iddynt eu prynu. Oherwydd, os yw llesiant plant yn cael ei niweidio, gwyddom fod hynny'n cael effaith niweidiol ar eu dysgu. Ysgolion Gwledig Mandy Jones AC: 4. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi ysgolion gwledig Llywodraeth Cymru? OAQ54375 Kirsty Williams AC: Mae ein cynllun addysg wledig yn nodi ein hymagwedd tuag at ysgolion gwledig, gan gyfuno gweithredoedd o genhadaeth ein cenedl. Mae hyn yn cynnwys ein grant ysgolion bach a gwledig, sydd o fudd i dros 400 o ysgolion, a'n prosiect peilot e-sgol, sy'n cael ei gyflwyno i awdurdodau lleol ac ysgolion eraill ledled Cymru. Mandy Jones AC: Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Mae rhieni pryderus yn Llandrillo, Corwen wedi cysylltu â mi i ddweud bod ysgol y pentref, Ysgol Gynradd Llandrillo, wedi cael ei huno ag ysgol Cynwyd. Mae fy nghwestiwn heddiw'n ymwneud â'r sefyllfa sy'n codi pan nad yw'r ysgolion newydd a grëir o ganlyniad i uno a rhesymoli'n gallu parhau i ymdopi â'r galw cynyddol pan fyddant yn dioddef o ganlyniad i'w llwyddiant eu hunain. Mae hyn yn creu rhwyg mewn dau bentref gwledig. Yn Llandrillo, mae adeilad yr hen ysgol yn wag, ac rwy'n deall bod gormod o alw am leoedd yn yr ysgol newydd ac nad yw plant lleol yn cael yr addysg cyfrwng Cymraeg sydd ei hangen arnynt. Pa gamau y gallwch eu cymryd i fynd i'r afael â'r sefyllfa hon? Kirsty Williams AC: Wel, nid mater i Lywodraeth Cymru yw cynllunio darpariaeth lleoedd mewn ysgolion; mater i'r awdurdod addysg lleol ydyw, a dylai'r Aelod rannu ei phryderon â'r awdurdod lleol hwnnw yn gyntaf. O ran addysg cyfrwng Cymraeg, mae meddwl bod rhieni sydd eisiau'r cyfle hwnnw i'w plant yn cael eu hamddifadu o'r cyfle yn peri pryder mawr i mi. Mae hwnnw'n destun pryder mawr i mi. Dylai rhieni allu arfer eu hawl i addysg cyfrwng Cymraeg i'w plant os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Os nad yw'r Aelod yn cael unrhyw lwc wrth gyfathrebu â'r awdurdod lleol, byddaf yn hapus iawn i dderbyn gohebiaeth ganddi ar y mater. Andrew RT Davies AC: Weinidog, gyda'r cod ad-drefnu ysgolion, fel y'i diwygiwyd, pan fo achosion busnes yn dod gerbron Llywodraeth Cymru i'w cymeradwyo, pa bwyslais y mae'r Gweinidog yn ei roi ar y gorchmynion polisi y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi ar waith ar y cam hwnnw yn y broses? Neu ai'r unig beth a wnewch yw edrych ar yr ystyriaethau ariannol mewn perthynas â chais o'r fath? Buaswn yn hoffi deall i ba raddau'n union y caiff menter bolisi ei phwyso a'i mesur pan gaiff yr achos busnes ei gymeradwyo, yn y pen draw, gan Lywodraeth Cymru ar gyfer datblygiadau ysgol newydd. Kirsty Williams AC: Wel, ceir meini prawf clir iawn wrth benderfynu rhoi cyllid ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain i unrhyw awdurdod lleol ar gyfer eu prosiect. Gwneir hynny gan fwrdd annibynnol sy'n gwneud argymhellion i'r Gweinidog. Prif ddiben cronfa ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain yw sicrhau bod cymaint o blant â phosibl yn cael eu haddysg mewn adeiladau sy'n addas i'r diben ac sy'n gallu cyflwyno ein cwricwlwm newydd yn effeithiol iawn, a mynd i'r afael â chyflwr gwael iawn yr adeiladau y mae'r plant a'r athrawon yn gweithio ynddynt ar hyn o bryd mewn rhai achosion, mewn rhai ysgolion. Ond nid yw'n gywir dweud bod yn rhaid i chi gau ysgol er mwyn cael mynediad at y gronfa honno. Mae llawer iawn o enghreifftiau ledled Cymru lle y cafodd darpariaethau tebyg am debyg eu rhoi ar waith. Ond os oes gan yr Aelod broblem benodol, rwy'n siŵr y bydd yn gallu ei chrybwyll yn un o'i gyfarfodydd cyngor sir Bro Morgannwg. Consortia Gwella Ysgolion Neil Hamilton AC: 5. Pa drafodaethau diweddar y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda chonsortia gwella ysgolion Cymru? OAQ54367 Kirsty Williams AC: Diolch am eich cwestiwn, Mr Hamilton. Rwy'n cyfarfod â'r consortia addysg rhanbarthol bob blwyddyn fel rhan o sesiynau gwerthuso a gwella rheolaidd. Rwy'n disgwyl cyfarfod â hwy eto yr hydref hwn. Mae fy nghyfarwyddwr addysg yn cyfarfod yn rheolaidd â phob rhanbarth ac yn rhoi adborth iddynt. Rwyf hefyd yn cyfarfod â'r rhanbarthau'n unigol i drafod materion o bwys pan fyddant yn codi. Neil Hamilton AC: Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw. Fe fydd yn cofio nad oedd arweinydd cyngor Castell-nedd Port Talbot yn canmol y consortiwm gwella yn ei ardal i'r cymylau beth amser yn ôl. Dywedodd iddo gael ei sefydlu i wella ysgolion ond bod y gwrthwyneb wedi digwydd: nid yw'r ysgolion yr oedd angen eu gwella wedi gwella, ac mae'r ysgolion a oedd yn gwneud yn dda wedi gwaethygu. Dywedodd y Gymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau fod y consortia'n dyblygu cyllid a swyddogaethau a ddarperir gan yr awdurdodau addysg lleol, ac maent wedi dweud bod hyn yn costio £450 miliwn. Pan ymddangosodd y Gweinidog gerbron y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg rai misoedd yn ôl, dywedodd fod sicrhau arian i reng flaen yr ysgol yn flaenoriaeth, ac os nad oes digon o arian yn cyrraedd yno, onid yw'n bryd i'r Cynulliad wneud rhywbeth yn ei gylch? Os nad yw'r arian yn cyrraedd yr ysgolion a'r disgyblion, onid yw'n bryd cael gwared ar y cwango hwn o reolwyr, ymgynghorwyr, aparatshiciaid a jargon a grëwyd gan y Cynulliad fel y gall yr arian fynd yn uniongyrchol i gynghorau lleol sydd wedi'u hethol yn gyfan gwbl ac sydd mewn sefyllfa well efallai i amcangyfrif anghenion y cymunedau ysgol yn eu hardaloedd? Kirsty Williams AC: Lywydd, mae'n siomedig nad yw Mr Hamilton fel pe bai'n deall trefniadau llywodraethu'r consortia rhanbarthol. Mae'r consortia'n gweithio ar ran awdurdodau lleol i arwain, trefnu a chydlynu'r gwelliannau mewn ysgolion ar draws y rhanbarth. Sefydlodd awdurdodau lleol y gwasanaeth gwella ysgolion rhanbarthol yn 2014 o dan y model cenedlaethol ar gyfer gweithio'n rhanbarthol. Dylwn bwysleisio nad yw consortia rhanbarthol yn haen ychwanegol o fiwrocratiaeth. Lle byddant yn dilyn y model cenedlaethol, maent yn atgyfnerthu gweithgareddau gwella ysgolion eu hawdurdodau lleol cyfansoddol ac yn eu darparu ar sail ranbarthol. Janet Finch-Saunders AC: Gallaf ddweud wrthych, Weinidog, fod athrawon a phenaethiaid rwy'n cyfarfod â hwy yn Aberconwy yn parhau i gwestiynu effeithiolrwydd a gwerth gwirioneddol y consortia rhanbarthol yn rheolaidd. Yn wir, lleisiwyd pryderon yn y pwyllgor yn ystod yr ymchwiliad cyllid, ac edrychaf ymlaen at adolygiad o'r consortia rhanbarthol. Pleidleisiodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot i adael y consortiwm addysgol ERW, ac nid yw GwE hyd yma wedi cyrraedd nifer o dargedau yn ei gynllun busnes 2017-20. Mae'r rhain yn cynnwys yr angen i ddarparu arweinyddiaeth a rheolaeth dda, sicrhau bod ysgolion wedi'u paratoi'n dda i gyflwyno'r cwricwlwm newydd a sicrhau bod pawb yn gweithredu fframwaith sy'n sicrhau gwerth am arian yn gyson. Mae'r rheini'n ofynion sylfaenol i unrhyw gorff a ariennir gan drethdalwyr. Mae'r olaf yn amhosibl i fy ysgolion yn Aberconwy, oherwydd mewn gwirionedd, fel y mae llywodraethwyr yng Nghonwy wedi'i ddatgan heddiw, cânt eu torri i'r byw. Mae angen i arian ychwanegol gyrraedd ein hysgolion a'n disgyblion ar frys. Felly, a wnewch chi ymrwymo i groesawu unrhyw adolygiad posibl o'r consortia addysg yng Nghymru, ac a wnewch chi fod yn agored a chroesawu ac edrych ar unrhyw argymhellion a gyflwynir gennym a gweithio gyda ni fel pwyllgor, a sicrhau na cheir barn gul, o bosibl, o ran yr hyn yw'r consortia rhanbarthol, a ydynt yn dda, yn ddrwg neu heb fod yn gwneud gwahaniaeth? Gadewch i ni edrych ar hyn unwaith ac am byth, a gadewch i ni adael iddynt brofi eu bod yn effeithiol ac yn ddefnydd da o arian trethdalwyr. Kirsty Williams AC: Lywydd, mae'n amlwg nad yw'r Aelod wedi gweld fy ymateb ysgrifenedig i adroddiad y pwyllgor, lle y derbyniais holl argymhellion yr adroddiad hwnnw. Yn hytrach na chroesawu adolygiad, byddaf yn ei sefydlu. Tynnwyd cwestiwn 6 [OAQ54353] yn ôl. Cwestiwn 7—Rhianon Passmore. Y System Anghenion Dysgu Ychwanegol Rhianon Passmore AC: 7. A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r amserlenni sy'n gysylltiedig â gweithredu'r system anghenion dysgu ychwanegol? OAQ54383 Kirsty Williams AC: Diolch yn fawr iawn. Fel y nodwyd yn fy natganiad ar 17 Medi, mae'r swyddogaethau statudol a grëwyd gan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn dechrau ym mis Ionawr 2021, a bydd y system ADY newydd yn dechrau fesul cam o fis Medi 2021 ymlaen. Cyflwynir y cod a'r rheoliadau gerbron y Cynulliad Cenedlaethol yn 2020 i'w cymeradwyo. Rhianon Passmore AC: Diolch, Weinidog. Diolch am y cadarnhad, felly, y bydd y system anghenion dysgu ychwanegol yn dechrau fesul cam o fis Medi 2021 ymlaen. Yn wir, bydd athrawon, rhieni, addysgwyr ac undebau llafur addysg yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ac wedi gweithredu'n adeiladol ar eu hadborth a'r nifer fawr o sgyrsiau a gafwyd. Ac rwy'n gwybod, Weinidog, eich bod yn credu'n angerddol ei bod yn hanfodol fod amser yn cael ei roi i wrando ac ymateb i'r safbwyntiau a gasglwyd yn ystod yr ymgynghoriad fel bod y cod a'r rheoliadau yn gwbl addas i'r diben. Weinidog, pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau, wrth i'r broses hon symud yn ei blaen, y bydd deialog agored ac adeiladol yn parhau gyda phawb sydd â diddordeb i sicrhau'r llwyddiant gorau posibl pan ddaw'r system anghenion dysgu ychwanegol i rym? Kirsty Williams AC: Wel, mae'r Aelod yn gywir i ddweud ein bod wedi gorfod rhoi ystyriaeth ddifrifol iawn i'r ymateb a gawsom i'r cod drafft a diwygio ein hamserlen yn unol â hwnnw. Gallaf roi sicrwydd iddi hi a'r Siambr y byddwn yn parhau i weithio gyda'r holl randdeiliaid i fynd i'r afael â'r pryderon a godwyd ac i sicrhau bod y system newydd yn effeithiol ac yn darparu'r newid sydd ei angen ar rieni a phlant. Mae fy swyddogion yn bwriadu cynnal cyfarfodydd a digwyddiadau gyda rhanddeiliaid allweddol dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf i fireinio agweddau penodol ar y cod lle y mynegwyd pryderon yn ystod y cyfnod ymgynghori. Os caf roi rhai enghreifftiau penodol o'r hyn y byddai hynny'n ei gynnwys: mewn perthynas â'r defnydd gofynnol o seicolegwyr addysg, y ffin rhwng yr ysgol a chynlluniau datblygu unigol a gynhelir gan awdurdodau lleol a gweithrediad systemau o fewn yr unedau cyfeirio disgyblion ac addysg Gymraeg y tu allan i'r ysgol yn fwy cyffredinol. Felly, dyna roi blas i'r Aelodau o'r meysydd gwaith penodol lle bydd yn rhaid i ni ymgysylltu unwaith eto â rhanddeiliaid i baratoi ar gyfer drafftio'r cod. David Melding AC: Lywydd, rwy'n atgoffa'r Siambr fy mod ar gorff llywodraethu dwy ysgol arbennig. Rydym yn nhir neb ar hyn o bryd. Rwy'n croesawu'r symudiad oddi wrth ddatganiadau, yn enwedig o ran yr hyblygrwydd sydd ei angen arnom. Mae gan blant amrywiaeth o broblemau weithiau, ac efallai na fydd rhai ohonynt yn cyrraedd trothwy'r datganiad. I ble y gallant fynd? Mae angen ymyriadau go iawn arnynt o hyd. Ond nodais sylwadau cytbwys SNAP Cymru, a oedd yn dweud ein bod yn y cyfnod anodd hwn rhwng dwy system, ac rwy'n pryderu na fydd rhai plant yn cael y cymorth addysgol y maent ei angen, ac mae'n rhaid i hynny fod—. Yn y flwyddyn nesaf, mae'n rhaid i ni bwysleisio y bydd y system sydd ar waith ar hyn o bryd yn parhau hyd nes y caiff ei disodli. Kirsty Williams AC: David, rydych yn hollol gywir. Mae awdurdodau addysg lleol wedi'u rhwymo gan y gyfraith fel y mae ar hyn o bryd, ac nid yw'r ffaith ein bod yn trosglwyddo i fframwaith ddeddfwriaethol newydd yn caniatáu iddynt beidio â rhoi sylw i anghenion plant sydd yn y system yn awr. Rwy'n disgwyl eu bod yn cymhwyso'r gyfraith i blant sydd ag ystod o anghenion addysgol arbennig fel y'i nodir ar hyn o bryd, ac ni allant anwybyddu'r plant hynny hyd nes y daw'r drefn ddeddfwriaethol newydd i rym. Rwyf wedi bod yn glir iawn yn fy ngohebiaeth â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, gyda deiliaid portffolio addysg a chyfarwyddwyr addysg, y cyfarfûm â hwy fore dydd Gwener diwethaf ynglŷn â fy nisgwyliadau yn hyn o beth. Mae'n rhaid iddynt ddilyn y gyfraith fel ag y mae ar hyn o bryd, wrth i ni aros i gyflwyno'r gyfraith newydd. Asesiadau Personol Ar-lein Hefin David AC: 8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno asesiadau personol ar-lein i ddysgwyr ac ysgolion? OAQ54362 Kirsty Williams AC: Diolch, Hefin. Gwneuthum ddatganiad ysgrifenedig yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynglŷn â chyflwyno asesiadau personol ar-lein ar 3 Medi. Erbyn diwedd tymor yr haf, roedd dros 268,000 o ddysgwyr wedi cwblhau asesiadau gweithdrefnol rhifedd ar-lein yn llwyddiannus. Yn dilyn gwaith datblygu a threialu helaeth, bydd asesiadau darllen ar gael i ysgolion o fis Hydref ymlaen. Hefin David AC: Yn ogystal â hynny, bydd y Gweinidog yn gwybod fy mod wedi ysgrifennu ati ar 16 Gorffennaf ar ran clwstwr o ysgolion ym mwrdeistref sirol Caerffili, yn enwedig Glyn-Gaer yn fy etholaeth. Roedd ganddynt bryderon am y ffordd y cynhelid y profion yn yr ysgol, y ffaith na allech gyflawni rhai gweithgareddau o fewn y profion, a bod y canlyniadau'n anodd i athrawon eu dehongli'n hawdd ac yn gyflym. Soniodd yn ei datganiad fod newidiadau wedi'u gwneud a bod gwelliannau wedi cael sylw. Ond gyda hynny mewn golwg, a allwch gadarnhau eich bod wedi cyfarfod â'r ysgolion a ysgrifennodd atoch, neu fod eich swyddogion wedi cyfarfod â'r ysgolion sydd wedi ysgrifennu atoch, a pha gamau a gymerwyd yn uniongyrchol gyda'r ysgolion hynny o ganlyniad? Kirsty Williams AC: Wel, rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am wneud y sylwadau y mae wedi'u gwneud ar ran y clwstwr hwnnw o ysgolion. Rydym wedi gweithredu ar yr adborth nid yn unig gennych chi, ond gan ysgolion eraill, a thros yr haf, gwnaethom nifer o welliannau i'r system a ddylai fynd i'r afael â'r pryderon a godwyd yn eich llythyr. Drwy gyflwyno asesiadau fesul cam, gallwn ddefnyddio profiad yr asesiadau mathemateg i sicrhau nad ydym yn gwneud rhai o'r camgymeriadau hynny wrth i ni gyflwyno'r asesiadau darllen yr hydref hwn. Fel yr addawyd yn fy ymateb, mae swyddogion eisoes yn trafod gyda'r consortiwm rhanbarthol perthnasol i weld sut y gallant ymgysylltu orau â'r grŵp penodol hwnnw o ysgolion, ac mewn ymateb i'r gwahoddiad yn fy llythyr, deallaf fod athro o un o'r ysgolion eisoes wedi cadarnhau y bydd yn bresennol yng nghyfarfod nesaf y panel athrawon ar gyfer yr adolygiad o'r asesiad rhesymu rhifyddol ar-lein, a gaiff ei gynnal ym mis Hydref. Felly, mae'r athrawon hynny'n ymwneud yn weithredol â'r broses, ac rwy'n ddiolchgar iawn eu bod yn rhoi amser i wneud hynny; mae'n ddefnyddiol iawn. Darren Millar AC: Weinidog, rwyf innau hefyd yn croesawu'r gwerth y gall yr asesiadau ar-lein hyn ei ychwanegu at y rhaglen asesu y mae'r athrawon yn ymgymryd â hi, ond un o'r pryderon a godwyd gyda mi, wrth gwrs, yw bod rhywfaint o raniad digidol yn ein gwlad rhwng y plant na fyddant efallai'n cael cyfle i fod mor fedrus ag eraill wrth ddefnyddio cyfrifiadur ac nad oes ganddynt gyfrifiadur at eu defnydd yn eu cartref hyd yn oed, neu fynediad at fand eang yn eu cartref, lle bydd gan rai eraill, wrth gwrs, ac mae'n bosibl y gallai hynny roi mantais iddynt. Beth sydd wedi'i gynnwys yn y systemau hyn i sicrhau bod materion o'r fath yn cael eu hystyried yn y ffordd y caiff yr asesiadau hyn eu cynnal? Kirsty Williams AC: Yn gyntaf, bydd yr Aelod yn ymwybodol mai rhan gyntaf ein cwricwlwm newydd yw cyflwyno'r fframwaith cymhwysedd digidol ac felly, mae disgwyl i ysgolion fynd i'r afael â'r sgiliau hyn gyda'u holl ddisgyblion. O ran cyfleusterau technoleg gwybodaeth mewn ysgolion a sicrhau bod darpariaeth gyfartal yn gyffredinol, fe fyddwch yn ymwybodol fod y Llywodraeth wedi buddsoddi'n helaeth—degau o filiynau o bunnau—i sicrhau cysylltedd ar gyfer ein hysgolion. Rwy'n falch iawn o ddweud, ac rwy'n siŵr y bydd pob Aelod o'r Siambr yn falch o'i glywed, fod ein hysgol olaf yn sir Benfro, sef yr ysgol olaf yn y rhaglen heb ei chysylltu, wedi'i chysylltu erbyn hyn, ac wrth wneud hynny rydym hefyd wedi datrys rhai o'r materion cysylltedd cymunedol hefyd. Felly, mae ein sylw bellach wedi troi at gefnogi ysgolion sydd â'r seilwaith TG yn eu hysgolion, a bydd yr Aelod yn ymwybodol fy mod, cyn toriad yr haf, wedi cyhoeddi prosiect buddsoddi cyfalaf gwerth £50 miliwn mewn technoleg addysg. Mae pob awdurdod lleol ar hyn o bryd yn cynnal arolygon o ysgolion unigol er mwyn i ni ddeall lle mae'r ysgolion arni gyda'u seilwaith o fewn eu hysgolion unigol, ac felly bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol wedyn, gyda'r £50 miliwn hwnnw, er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth yn gyfartal o fewn yr ysgolion. Y tu allan i ysgolion, bydd yr Aelod hefyd yn ymwybodol o'r fargen y mae Llywodraeth Cymru wedi'i tharo i gyflenwi meddalwedd Microsoft Office i bob ysgol yng Nghymru, bargen y talwyd amdani gan Lywodraeth Cymru, ac mae'r feddalwedd hefyd ar gael i ddisgyblion allu ei defnyddio ar ddyfeisiau yn y cartref, felly ni fydd yn rhaid i rieni brynu trwydded ar gyfer meddalwedd Microsoft Office a gall eu plant fewngofnodi yn y cartref. Unwaith eto, mae hynny'n helpu i ddatrys rhywfaint o'r rhaniad digidol hwn, os yw rhiant yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i arian i dalu am y trwyddedau hynny. Y cwestiwn olaf, cwestiwn 9, Paul Davies. Plant sydd â'u Teuluoedd yn y Lluoedd Paul Davies AC: 9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi plant mewn ysgolion, sydd â'u teuluoedd yn y lluoedd? OAQ54365 Kirsty Williams AC: Mae cronfa Llywodraeth Cymru i gefnogi addysg plant y lluoedd arfog yn helpu ysgolion i ddarparu cymorth ychwanegol i liniaru'r heriau y gall plant cymunedau'r lluoedd arfog eu hwynebu oherwydd ffordd o fyw filwrol eu teulu. Rwyf wedi neilltuo £250,000 ar gyfer ceisiadau y flwyddyn academaidd hon. Paul Davies AC: Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw. Fe fyddwch yn ymwybodol, wrth gwrs, o'r galwadau gan grŵp trawsbleidiol y Cynulliad ar y lluoedd arfog i sefydlu premiwm disgyblion y lluoedd arfog yma yng Nghymru, a chredaf y byddai premiwm disgyblion y lluoedd arfog yn gwneud llawer i gefnogi'r plant sydd dan anfantais o ganlyniad i'r ffaith bod eu rhieni'n gwasanaethu yn y lluoedd arfog, naill ai oherwydd eu bod yn adleoli'n aml neu oherwydd effaith gwasanaeth gweithredol. Gwn y byddai cefnogaeth ychwanegol yn cael ei chroesawu gan fod y lluoedd arfog yn chwarae rôl allweddol yn eich etholaeth chi, Weinidog, yn ogystal ag yn fy un i. Felly, a allwch chi ddweud wrthym a yw Llywodraeth Cymru yn ystyried cyflwyno premiwm disgyblion y lluoedd arfog yma yng Nghymru, ac os nad ydyw, a allwch chi ddweud wrthym pa gymorth penodol ychwanegol y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig i blant y lluoedd arfog yn ysgolion Cymru? Kirsty Williams AC: Lywydd, rwy'n effro iawn i'r problemau a wynebir gan blant teuluoedd sy'n gwasanaethu, a dyna pam ein bod wedi sicrhau bod y gronfa hon ar gael. Eleni, mae'r gronfa'n cefnogi tri phrosiect yn sir Benfro, ac rwy'n siŵr y byddai'r Aelod yn falch o hynny. Os nad yw'n ymwybodol o'r prosiectau unigol, rwy'n hapus i ysgrifennu ato gyda manylion yr ysgolion sy'n derbyn y grant hwnnw. Rydym yn parhau i edrych ar anghenion ein cohort cyfan o blant wrth benderfynu ar gyllidebau addysgol, ac fe fydd yn ymwybodol o'r sefyllfa ariannol heriol y mae Llywodraeth Cymru ynddi. Rwy'n ymrwymedig i wneud yr hyn a allaf i ddod o hyd i adnoddau i gefnogi'r prosiectau sydd ar y gweill ar hyn o bryd, ac yn hollbwysig rwyf wedi dechrau ar y broses systematig ar gyfer dechrau casglu data ar blant teuluoedd y lluoedd arfog yn ein system addysg. Nid yw hwnnw'n cael ei gasglu ar hyn o bryd. Mae'n anodd iawn cadw golwg ar hyn a darparu'r dystiolaeth y byddem ei hangen i gefnogi buddsoddiad ychwanegol yn ein hysgolion. Rydym wedi dechrau ar y broses honno yn awr, lle bydd data cyfrifiadau ysgolion blynyddol ar lefel disgyblion yn cael ei ddiwygio fel y gall ysgolion gofnodi plant teuluoedd milwrol, ac ar yr un pryd byddwn yn newid data CYBLD fel y gellir cofnodi teuluoedd sydd wedi mabwysiadu plant hefyd. Mae'n broses hirfaith—yn hwy nag y buaswn yn dymuno—ond mae'r broses honno wedi dechrau erbyn hyn, ac mae hynny'n golygu y bydd gennym ddata gwell fel y gallwn wneud penderfyniadau polisi gwybodus yn y dyfodol. Diolch i'r Gweinidog. 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Yr eitem nesaf, felly, yw cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan John Griffiths. Amseroedd Aros Canser John Griffiths AC: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amseroedd aros am ddiagnosis ar ôl i'r GIG ganfod amheuaeth o ganser? OAQ54385 Vaughan Gething AC: Diolch am y cwestiwn. Gwneuthum y penderfyniad i wella diagnosis canser, a Chymru yw'r wlad gyntaf i gyflwyno'r llwybr canser sengl. Mae hwn yn adrodd ar yr amser y mae claf yn aros o'r amheuaeth gychwynnol o ganser hyd at ddechrau'r driniaeth. Mae ein data diweddaraf yn dangos bod 75.1 y cant o gleifion wedi dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod i'r amheuaeth gychwynnol o ganser. John Griffiths AC: Weinidog, ar gyfer yr wyth math mwyaf cyffredin o ganser, mae cyfraddau goroesi deirgwaith yn fwy pan geir diagnosis cynnar a phan gaiff ei ganfod yn y camau cynharaf yn hytrach nag yn y camau diweddaraf. Wrth gwrs, mae cleifion a'u teuluoedd yn dioddef yr artaith llwyr o'r amheuaeth o ganser i ddiagnosis un ffordd neu'r llall. Rwy'n croesawu'r hyn a grybwyllwyd gennych yn eich ymateb cychwynnol yn fawr, oherwydd mae hwnnw'n gynnydd gwirioneddol sy'n arwyddocaol ac yn bwysig iawn, ond gwn fod cyfyngiadau ar gapasiti yn parhau, megis prinder yn y gweithlu, ac mae hynny'n cyfyngu ar allu'r GIG i wneud diagnosis.Un o ofynion rhai o'r sefydliadau sy'n cynrychioli pobl â chanser a'u teuluoedd yw bod Llywodraeth Cymru yn cynnal archwiliad o staff diagnostig y GIG yng Nghymru ac yna'n mynd i'r afael â'r bylchau sy'n bodoli. A yw hynny'n rhywbeth y bydd Llywodraeth Cymru'n ymrwymo iddo? Vaughan Gething AC: Mae'r pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud am ddiagnosis cynharach yn hollol gywir—mae'n rhan allweddol o'n strategaeth ar gyfer canser yma yng Nghymru. Ac wrth gwrs, bydd y llwybr canser sengl yn rhoi gwell syniad i ni o'r pethau sydd angen inni eu gwella ar draws y gwasanaeth. Bydd yna her mewn perthynas â'r gweithlu bob amser ac ni fydd triniaethau newydd neu dechnoleg newydd yn gallu ei datrys. Felly, bydd strategaeth y gweithlu y mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn gweithio arni yn ystyried y camau rydym eisoes yn eu cymryd wrth gwrs, er enghraifft yr academi ddelweddu a'r gwaith a drafodasom yma yn y Siambr hon yr wythnos diwethaf ar wella gwasanaethau endosgopi, a bydd hyn i gyd yn cael effaith, nid yn unig ar yr hyn y gallwn ei wneud, ond ar ein hangen i gynllunio ar gyfer niferoedd y staff, a'u caffael wedyn. Felly, rwy'n credu y gallaf roi sicrwydd i'r Aelod ein bod yn edrych ar niferoedd ein staff ar hyn o bryd. Bydd yr wybodaeth a gawn drwy weithredu'r llwybr canser sengl yn rhoi rhagor o wybodaeth i ni ac wrth gwrs, fe fyddwch yn gweld hynny pan fyddwn yn cyhoeddi'r strategaeth ddrafft ar gyfer y gweithlu y mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn gweithio arni gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Mohammad Asghar (Oscar) AC: Weinidog, un targed sydd gan Gymru bellach mewn perthynas ag amser aros ar gyfer diagnosis o ganser a thriniaeth canser, ac rwy'n croesawu hynny. Fodd bynnag, mae'n hysbys nad oes gennym y capasiti o ran gwasanaethau diagnosis, ac mae eich Llywodraeth wedi methu cyrraedd ei thargedau ei hun ar gyfer amseroedd aros canser drwy'r llwybr brys ers 2008. Weinidog, pa gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau'r buddsoddiad sylweddol hwn mewn cyfleusterau canser ledled Cymru i adeiladu'r capasiti sydd ei angen i gyrraedd y targed sengl newydd hwn ar gyfer diagnosis canser? Vaughan Gething AC: Wel, rwy'n credu bod llawer o'r hyn a ofynnodd yr Aelod wedi'i gynnwys yn fy ymateb i John Griffiths. Mae'n ffaith, pan fyddwch yn edrych ar amseroedd aros canser, ein bod wedi gwneud yn gymharol well na Lloegr. Os edrychwch ar ffigur newydd ein llwybr canser sengl, nid yw ond ychydig o bwyntiau canran yn is na'r hen darged a gynigid yn Lloegr, a hynny ar gyfer rhan o'r llwybr yn unig. A'r rheswm pam y cyflwynasom y llwybr canser sengl newydd oedd ein bod yn cydnabod bod arosiadau cudd yn y system o fewn y ffigur o 31 diwrnod. Felly, mae gennym ddarlun llawer mwy gonest o'n sefyllfa, ac rydym wedi buddsoddi yn y gorffennol ac yn parhau i fuddsoddi yn awr. Mae'n ffaith ein bod wedi buddsoddi 6.5 y cant yn y gyllideb i hyfforddi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae'n mynd yn ôl at y pwyntiau a wneuthum i John Griffiths ynglŷn â chael strategaeth briodol ar gyfer y gweithlu, deall yr hyn rydym eisoes yn ei wneud a'r buddsoddiadau rydym eisoes wedi'u gwneud. Triniaethau Rhagnodadwy Michelle Brown AC: 2. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ran nifer y bobl y bydd penderfyniad y GIG yng Nghymru yn effeithio arnynt, i ddilyn y dull a gymerwyd gan y GIG yn Lloegr a chael gwared ar eitemau y barnwyd eu bod yn flaenoriaeth glinigol isel o'r rhestr o driniaethau rhagnodadwy? OAQ54374 Vaughan Gething AC: Nid yw GIG Cymru wedi mabwysiadu'r dull o weithredu y mae'r Aelod yn cyfeirio ato. Mae Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru wedi datblygu canllawiau i nodi nifer o driniaethau sy'n cynnig gwerth gwael am arian, yn aneffeithiol neu'n beryglus. Mae meddygon yn defnyddio eu crebwyll clinigol a rhagnodwyr eraill i gynnig yr opsiynau triniaeth gorau posibl i'w cleifion. Michelle Brown AC: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Ganed y Gymraes wyth oed, Sofia Bow, gydag anhwylder genetig ffeibrosis systig, sy'n effeithio ar un o bob 2,500 o fabanod a gaiff eu geni. Mae'r Llywodraeth hon wedi gwrthod ariannu'r cyffuriau Orkambi a Symkevi, er bod profion wedi dangos eu bod yn gallu gwella iechyd yr ysgyfaint a lleihau'r angen am dderbyn cleifion i'r ysbyty, gan ddweud eu bod yn rhy ddrud, tra bod Llywodraeth yr Alban wedi llwyddo i negodi disgownt gyda'r gwneuthurwyr fel y gellir rhoi'r cyffuriau ar bresgripsiwn i ddioddefwyr yn yr Alban. Mae teulu Sofia yn ystyried gadael eu cartref yng Nghymru a symud i'r Alban fel y gall eu merch gael y driniaeth drawsnewidiol hon sydd ei hangen arni. Felly, a wnewch chi ddilyn esiampl GIG yr Alban yn awr a rhoi Orkambi a Symkevi ar bresgripsiwn? Os mai'r arian yw'r unig rwystr, ar ôl i chi benderfynu ar bris rhesymol am fywyd plentyn, a wnewch chi drefnu disgownt os bydd angen, neu a oes angen i Weinidog iechyd yr Alban wneud hynny ar eich rhan? Vaughan Gething AC: Rwy'n ofni bod cwestiwn yr Aelod yn gwyro oddi wrth ei chwestiwn cyntaf drwy beidio â chyfeirio at driniaethau sydd â blaenoriaeth glinigol isel a rhestr o driniaethau rhagnodadwy, ac mewn gwirionedd, mae'n gamddealltwriaeth sylweddol o'r sefyllfa mewn perthynas ag Orkambi. Rwyf wedi dweud mewn gohebiaeth â'r holl Aelodau ac mewn datganiadau cyhoeddus fy mod yn dal i fynegi rhwystredigaeth ynglŷn â'r dewis y mae Vertex wedi'i wneud—gweithgynhyrchwyr Orkambi a Symkevi—i beidio ag ymgysylltu â'r broses arfarnu yma yng Nghymru. Nid mater o arian yn unig ydyw. I'r Aelodau yma, ond hefyd i'r teuluoedd sy'n gwylio ac yr effeithir arnynt yn uniongyrchol, mae hyn ymwneud â mwy nag arian yn unig; mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â'r amharodrwydd i gymryd rhan mewn proses i ddarparu tystiolaeth glinigol o effeithiolrwydd y meddyginiaethau hyn neu fel arall. A bod yn onest, pe baent yn gwerthu'r meddyginiaethau am £1 y tro, yn hytrach na £100,000 am bob triniaeth, byddai'n dal i fod angen i ni wybod beth yw effaith y feddyginiaeth. O ran y fargen y maent wedi'i tharo yn yr Alban, ar ôl i'w proses arfarnu eu hunain yno beidio â chaniatáu mynediad at Orkambi, maent wedi mynd yn ôl a tharo bargen wahanol sy'n ddarostyngedig i gyfrinachedd masnachol. Nid wyf wedi gweld hynny, felly nid wyf mewn sefyllfa i gopïo'r un fargen na hyd yn oed i wneud sylwadau yn briodol ar y gwerth cymharol a roddir iddo. Buaswn yn annog Vertex eto i ymwneud â'r broses arfarnu yma yng Nghymru fel y maent wedi nodi yn y gorffennol y byddent yn ei wneud, i beidio â rhoi teuluoedd yn y sefyllfa annymunol hon, ac i'n galluogi i ddeall yn iawn pa mor effeithiol yw'r feddyginiaeth sydd ganddynt ar gael, ac i ni wedyn wneud dewis sy'n seiliedig ar dystiolaeth briodol.Nid wyf eisiau i unrhyw deulu yng Nghymru gael ei roi yn y sefyllfa y mae'r Aelod yn ei disgrifio oherwydd bod cwmni fferyllol yn gwrthod cymryd rhan yn ein proses arfarnu uchel ei pharch ac sydd wedi'i deall yn dda. Darren Millar AC: Weinidog, rwy'n croesawu'r dull y mae Llywodraeth Cymru wedi'i fabwysiadu mewn perthynas â'r agenda gofal iechyd darbodus. Un o egwyddorion yr agenda honno yw, 'Peidiwch â gwneud dim heblaw'r hyn y gallwch ei wneud a gadewch i eraill wneud y pethau na allwch eu gwneud.' Wrth gwrs, un o'r ffyrdd y gellid diwygio'r GIG fyddai galluogi fferyllwyr ledled Cymru i wneud mwy o'r hyn sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd mewn meddygfeydd meddygon teulu. Heddiw yw Diwrnod Fferyllwyr y Byd. Beth sydd gennych i'w ddweud wrth y fferyllwyr ledled Cymru sy'n chwilio am gontract newydd er mwyn iddynt allu mynd i'r afael yn benodol â hyn unwaith ac am byth? Vaughan Gething AC: Fel y nodais o'r blaen wrth drafod gofal sylfaenol yn fwy cyffredinol yma, mae'r broses o ddiwygio contractau ym maes gofal sylfaenol, gan gynnwys fferylliaeth, yn rhan bwysig o'n gallu i gyflawni ein hamcanion cyffredin. Mewn gwirionedd, mae contractwyr fferyllol sy'n fferyllwyr cymunedol yma yng Nghymru yn cymryd rhan mewn sgwrs reolaidd ac adeiladol gyda'r Llywodraeth. Rwy'n disgwyl y bydd cam nesaf y contract fferylliaeth yn y dyfodol yn caniatáu inni fuddsoddi mwy yn nyfodol fferylliaeth ac mewn ystod ehangach o wasanaethau, ac mae'n bosibl y bydd rhai ohonynt, pwy a ŵyr, yn ffurfio rhan o'r cwestiynau y bydd Aelodau eraill yn eu gofyn yn ddiweddarach ar y papur trefn. Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Dai Lloyd. Dai Lloyd AC: Diolch yn fawr, Llywydd. Gweinidog, ydych chi'n hapus efo ansawdd y wybodaeth sydd gennych chi am weithlu y gwasanaeth iechyd? Vaughan Gething AC: Nid wyf yn credu bod y data cyfredol sydd gennym ar y gweithlu yn caniatáu i ni gael y ffordd fwyaf cadarn o gynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae hynny'n rhan o'r hyn rydym yn ei ystyried. Yn wir, cefais drafodaeth ar yr union bwynt hwn yn gynharach yr wythnos hon. Dai Lloyd AC: Diolch am hynny. Fel rydych chi'n gwybod, yn adroddiad diweddar y pwyllgor iechyd ar nyrsio cymunedol a nyrsio ardal, bu inni dderbyn tystiolaeth a oedd yn darogan—a dwi'n dyfynnu: er yn cydnabod cyfraniad allweddol ein nyrsys cymunedol a'n nyrsys ardal i ddarparu gofal iechyd i'r dyfodol, ni wyddys ryw lawer am y gwasanaeth anweledig yma—'invisible service', fel y'i gelwid. Nid oes darlun manwl gywir ar lefel genedlaethol o'r nifer na chymysgedd sgiliau y timau nyrsio nac o nifer a lefel salwch y cleifion sy'n derbyn gofal yn eu cartrefi eu hunain. Yn naturiol, bydd hyn yn cael effaith ar effeithlonrwydd cynllunio’r gweithlu. Nawr, dyna beth mae'r dystiolaeth yn ei ddweud. Yn ogystal, cawsom dystiolaeth uniongyrchol o nyrsys yn y gymuned yn gorweithio, o dan straen, mewn system yn gorymestyn eu hunain i ateb y galw, tra roedd penaethiaid byrddau iechyd yn darogan darlun llawer gwahanol o wasanaeth yn cyflawni disgwyliadau. Nid oes data cyflawn ychwaith ar nifer y ffisiotherapyddion na therapyddion galwedigaethol a gyflogir yn y gymuned hefyd. Felly, sut allwch chi gynllunio i symud mwy o ofal iechyd i'r gymuned yn y dyfodol pan nad ydych yn gwybod y nifer na chymhwysedd sgiliau y staff iechyd sydd yn gweithio yna ar hyn o bryd? Vaughan Gething AC: Wel, ni fuaswn yn dweud ei fod yn ddarn gwag o bapur ac nid ydym yn gwybod unrhyw beth am y gweithlu presennol nac yn wir am natur y galw ar hyn o bryd. Bydd yr Aelod yn gwybod, o ran ein hagenda ar gyfer symud mwy o ofal yn nes at y cartref, ei fod yn golygu parhau i fuddsoddi mewn gofal sylfaenol a chymunedol. Mae'n cynnwys y modelau gofal newydd sy'n cael eu treialu o fewn y gronfa trawsnewid ac oddi allan iddi hefyd. Nid tystiolaeth anecdotaidd yn unig am rannau penodol o'r wlad yw honno, mae'n rhan o'r gwaith o ddiwygio'r system gyfan. Rydym yn fwriadol wedi dewis llwybr lle mai dim ond y prosiectau sydd â'r gallu i ehangu fydd yn cael eu cefnogi drwy'r gronfa trawsnewid. Felly, wrth gwrs, bydd y dystiolaeth a gawn o'n cynlluniau clwstwr hefyd—lle bydd yn rhaid iddynt gynllunio ar lefel clwstwr—yn llywio ein proses gynllunio tymor canolig a'r byrddau iechyd, yn ogystal â strategaeth y gweithlu sy'n cael ei datblygu gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Felly, mae gennych ystod o wahanol ffynonellau o wybodaeth ar yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd, a'r hyn y mae angen i ni wneud mwy ohono yn y dyfodol. Ond o'i gyfnod yn y lle hwn, a'i yrfa cyn iddo gael ei ethol nad yw'n sôn amdani'n rheolaidd, gyrfa y mae'n parhau i'w dilyn ar adegau hefyd, bydd yr Aelod yn gwybod nad yw hwn byth yn bwynt statig mewn amser. Ac mae ein gallu i ddiwygio mor gyflym ag yr hoffem yn y lle hwn yn aml yn disgyn yn fyr o'r nod wrth ddod wyneb yn wyneb â realiti. Ond rwy'n credu bod yr agenda a nodwyd gennym yn 'Cymru Iachach' yn un y mae gennym ymrwymiad iddi ar draws y bwrdd, a byddwn yn parhau i wneud penderfyniadau buddsoddi i gefnogi hynny. Dai Lloyd AC: Mae'r un math o bwysau gwaith a bylchau mewn rotas, stres a blinder affwysol sydd yn deillio o orweithio achos prinder staff hefyd yn effeithio ar feddygon yn ein hysbytai—blinder affwysol, cyfrifoldeb dychrynllyd dros fywyd a marwolaeth, dim amseroedd gorffwys, dwyster gwaith heb seibiant, peryglon gyrru car wedi gorffen sifftiau ganol nos, a'r teimlad o ddiffyg cefnogaeth, a diffyg cydnabyddiaeth o'r ymrwymiad anferthol i'w cleifion, a'r teimlad hefyd fod gweinyddwyr ysbytai yn ddi-hid i hyn oll ac yn ansensitif weithiau. Felly, beth ydych chi, Weinidog, yn ei wneud i hyrwyddo llesiant ein meddygon yn ein hysbytai? Vaughan Gething AC: Rydym yn mabwysiadu dull eang o weithredu. Ar un llaw, pan edrychwch ar y nod pedwarplyg, mae staff yn un o'r pedair colofn yn y nod pedwarplyg hwnnw. Yn benodol, o ran ochr feddygol y gweithlu, rydym eisoes wedi ymgysylltu â Chymdeithas Feddygol Prydain ar y siarter blinder. Siaradais â’r gymdeithas yn yr wythnosau diwethaf—ac mae’r gwaith hwnnw’n parhau—i geisio sicrhau ein bod yn ymdrin â rhai o’r pwyntiau y mae’r Aelod yn eu codi ynghylch y pwysau anhygoel a’r ymrwymiad y mae ein gweithlu meddygol yn eu hwynebu. Ac oherwydd yr ymrwymiad hwnnw, nid yn unig gan ein gweithlu meddygol, ond gan y gweithlu ehangach, y mae'r gwasanaeth iechyd yn parhau i ddarparu gofal eang a thosturiol o ansawdd. Ond nid ydym yn ei gymryd yn ganiataol. Dyna pam y cawsom y trafodaethau gyda Chymdeithas Feddygol Prydain, a byddwn yn cael y trafodaethau hynny gyda chynrychiolwyr eraill y gweithlu hefyd, oherwydd nid wyf am esgus fod popeth yn berffaith iawn. Gyda'r galwadau ychwanegol a welwn yn wynebu ein system, lle y ceir yr holl broblemau eraill y tu allan i'r gwasanaethau iechyd sy’n ysgogi’r galw ac yn effeithio ar ein gweithlu, yr her i ni yw sut y parhawni wneud popeth y gallwn ac y dylem ei wneud i sicrhau ein bod yn gyflogwr da, a'n bod yn ystyried lles y staff yn briodol ar bob lefel. Llefarydd y Ceidwadwyr, Janet Finch-Saunders. Janet Finch-Saunders AC: Diolch, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol, wrth gwrs, mai Arolygiaeth Gofal Cymru sydd â'r rôl allweddol ar gyfer archwilio a gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er lles pobl Cymru. Nawr, yn ôl adroddiad blynyddol y prif arolygydd ar gyfer 2018-19, cynhaliwyd 2,499 o arolygiadau. Mae hynny 456 yn llai na'r flwyddyn flaenorol. Roedd llai o wasanaethau wedi'u rheoleiddio hefyd. Nawr, daw'r dirywiad hwn yn y gweithgaredd rheoleiddio ac arolygu er bod costau staff wedi cynyddu bron i £150,000, a chanran y gyllideb ar gyfer gweithgaredd arolygu a rheoleiddio wedi cynyddu. Felly, sut ydych chi, Ddirprwy Weinidog, yn cyfiawnhau'r cynnydd yn y costau staffio, er y bu cwymp sylweddol yn nifer yr arolygiadau mewn gwirionedd, a pha gamau y byddwch yn eu cymryd i wrthdroi'r dirywiad? Julie Morgan AC: Wel, yn amlwg, mae'r gwaith y mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn ei wneud yn gwbl hanfodol. Mae'n gofalu am y safonau sydd yn ein cartrefi gofal yn benodol, ac mae'n hollbwysig fod yr holl arolygiadau a gynhelir ganddynt yn cael eu gwneud yn ddigon manwl, ac yn cael eu gwneud mewn ffordd ystyriol iawn. Ac rwy'n credu eu bod yn cynnal arolygiadau ystyriol iawn, ac mae gennyf bob hyder ynddynt. Janet Finch-Saunders AC: Wel, Ddirprwy Weinidog, diolch am yr ymateb hwnnw, ond rhaid i mi ddweud wrthych yma nawr nad wyf yn rhannu eich hyder ynddynt ar hyn o bryd. Yn ôl blaenoriaeth strategol 2, yng nghynllun strategol Arolygiaeth Gofal Cymru 2017-20, mae'r sefydliad yn ymdrechu i fod yn lle gwych i weithio ynddo. Fodd bynnag, ceir honiadau difrifol o fwlio ac aflonyddu o fewn y sefydliad, a phwysau dwys ar yr arolygwyr eu hunain. Mewn gwirionedd, gwn am arolygydd a fynegodd bryderon, gan sbarduno’r hyn a alwyd yn ymchwiliad. A dyma sut yr ymatebodd yr uwch-reolwr a oedd yng ngofal yr ymchwiliad: Daethpwyd i'r casgliad, gan fod eich cwyn wedi canolbwyntio ar fethiant y berthynas rhwng eich rheolwr llinell a'ch uwch-reolwr, a chan i chi benderfynu ymddiswyddo o'ch swydd fel arolygydd oedolion yn Arolygiaeth Gofal Cymru, na fydd y cysylltiadau proffesiynol hyn yn bodoli mwyach, gan nad ydych bellach yn gyflogai i Arolygiaeth Gofal Cymru a Llywodraeth Cymru— felly gallwch weld y sylw agos iawn yno, am Arolygiaeth Gofal Cymru a Llywodraeth Cymru— gan hynny, daethpwyd i’r casgliad nad yw parhau â’r ymchwiliad hwn yn ateb unrhyw bwrpas defnyddiol. Mae'n frawychus felly mai’r rheswm dros derfynu’r ymchwiliad oedd oherwydd bod yr unigolyn dan sylw wedi ymddiswyddo o Arolygiaeth Gofal Cymru. Ac yn dechnegol, gan eu bod hwy eu hunain—yr uwch-reolwr—wedi dweud 'Arolygiaeth Gofal Cymru a Llywodraeth Cymru', mae’r cyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru yn rhywle. Felly gofynnaf i chi, Ddirprwy Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i gynnal ymchwiliad annibynnol i driniaeth staff, y pwysau dwys sy'n faich arnynt, a hefyd sut y maent yn mynd ati i gynnal ymchwiliadau pan fydd rhywun wedi bod yn chwythwr chwiban mewn gwirionedd, ac wedi tynnu eu sylw at bryderon ynghylch diffyg gweithdrefn gywir ar gyfer cynnal arolygiadau mewn cartref gofal? Julie Morgan AC: Gallaf sicrhau'r Aelod fy mod yn cael cyfarfodydd rheolaidd gyda phennaeth Arolygiaeth Gofal Cymru, pan fyddwn yn trafod pob agwedd ar waith yr arolygiaeth. Yn amlwg, mae'r swydd y mae staff yr arolygiaeth yn ei chyflawni yn swydd anodd iawn, oherwydd eu bod yn edrych ar sut y mae ein hoedolion mwyaf agored i niwed yn cael gofal. Ac maent yn gyfan gwbl o ddifrif ynghylch unrhyw dystiolaeth o ofal gwael a welant. A gallaf sicrhau'r Aelod, mewn sefyllfaoedd lle bu’n rhaid iddynt ymyrryd—rwy'n derbyn yn llwyr eu bod yn sefyllfaoedd llawn straen—maent yn gyfan gwbl o ddifrif ynglŷn â’r gwaith, rhoddir ystyriaeth ddifrifol iawn i achosion o chwythu'r chwiban, a gallaf eich sicrhau bod perthynas dda rhwng Llywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru, ond eu bod yn gweithredu'n annibynnol. Janet Finch-Saunders AC: Diolch unwaith eto, Ddirprwy Weinidog, ond rydym hefyd yn gwybod bod rhai erthyglau wedi'u dogfennu ar raglen Y Byd ar Bedwar ynglŷn â’u pryderon—Arolygiaeth Gofal Cymru—ac am eu gallu i gynnal arolygiadau trwyadl sy'n amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed yn y sefyllfaoedd hynny. Nawr, yn olaf, mae gennyf reswm i gredu, o ffynhonnell ddibynadwy, fod yr anawsterau mewnol hyn yn effeithio'n negyddol ar ddefnyddwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol hefyd. Er enghraifft, er bod pryderon am ddarparwyr yn ymddangos ar y radar o fewn y sefydliad, ac er gwaethaf y ffaith bod arolygwyr, yn ôl y sôn, yn tynnu sylw rheolwyr at hyn, clywais honiad fod rhai sefyllfaoedd yn cael eu hanwybyddu am wythnosau. Mewn gwirionedd, mynegwyd un pryder ynghylch sefydliad penodol—cymerodd chwe mis i'r sefydliad roi unrhyw gamau ar waith o gwbl—chwe mis—lle teimlwyd y gallai pobl agored i niwed fod wedi wynebu risg. Ddirprwy Weinidog, yn sgil y ffaith bod pryderon mor ddifrifol am gorff rheoleiddio, a luniwyd i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed, wedi cael eu dwyn i fy sylw yn y ffordd hon, fel Aelod etholedig o'r sefydliad hwn, hoffwn ofyn i chi gymryd y rhain—[Torri ar draws.] Wel, Senedd ydyw, rydych chi'n iawn. Felly, fel Aelod etholedig o'r Senedd hon, rwy'n gofyn i chi, Ddirprwy Weinidog: os gwelwch yn dda, a wnewch chi ystyried adolygiad i waith sylfaenol Arolygiaeth Gofal Cymru? A wnewch chi edrych at y materion a godais ynglŷn â honiadau o fwlio staff, pwysau dwys? Ond yn bwysicach fyth, a wnewch chi edrych ar Arolygiaeth Gofal Cymru, gyda golwg ar edrych, yn annibynnol, i weld a yw'n gwneud yr hyn y bwriedir iddi ei wneud mewn gwirionedd—sef amddiffyn ein pobl fwyaf agored i niwed? Diolch. Julie Morgan AC: Hoffwn ofyn i'r Aelod, os oes ganddi unrhyw bryderon difrifol iawn am y ffordd y mae unrhyw bobl agored i niwed yn cael eu trin, y dylai ysgrifennu ataf am y sefyllfaoedd unigol hynny. Ac nid yw'n bosibl ymateb i 'ffynhonnell ddibynadwy'—nid yw'n bosibl ymateb i'r mathau hynny o ddigwyddiadau. Ac os oes gennych bryderon difrifol, a wnewch chi'n ysgrifennu ataf os gwelwch yn dda? Llefarydd Plaid Brexit, Caroline Jones. Caroline Jones AC: Diolch, Lywydd. Weinidog, mae adeiladau ein GIG mewn cyflwr gwael ac mae rhai ohonynt yn dadfeilio. Ceir ôl-groniad o waith gwerth £0.25 biliwn y bernir ei fod yn achosi risg uchel neu sylweddol. Nid yw 13 y cant o'r ystâd yn cydymffurfio â mesurau diogelwch. O adeiladau Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, dim ond ychydig dros draean ohonynt a ystyrir yn addas yn ymarferol. Weinidog, rydych wedi ymrwymo tua £370 miliwn tuag at brosiectau cyfalaf iechyd eleni—faint ohono a gaiff ei wario ar sicrhau bod adeiladau'r GIG yn ddiogel i gleifion a staff? Vaughan Gething AC: Mae'r talp sylweddol o gyfalaf y GIG, fel y gŵyr yr Aelod, wedi'i wario ar greu a chwblhau Ysbyty Athrofaol Grange, sy'n cael ei wneud o fewn yr amser ac o fewn y gyllideb. Rwyf eisoes wedi cyhoeddi ystod o ddatganiadau eraill sy'n nodi, er enghraifft, ein rhaglen gyfalaf ym maes gofal sylfaenol. Ac mae gan sefydliadau'r GIG gyfalaf yn ôl disgresiwn i geisio cyflawni'r ôl-groniad o waith cynnal a chadw. Felly, rwy'n cydnabod yr heriau sy'n bodoli, ond mae hyn yn rhan o'r hyn y mae angen i fyrddau iechyd eu hunain fynd i'r afael ag ef o fewn eu dyraniadau. Caroline Jones AC: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Ceir gwerth £0.5 biliwn o leiaf o ôl-groniad o waith cynnal a chadw adeiladau. Rwy'n dweud 'o leiaf' oherwydd nad yw'r rhan fwyaf o fyrddau iechyd lleol hyd yn oed yn gallu fforddio gwneud yr asesiadau sy'n angenrheidiol i bennu graddau'r problemau cynnal a chadw—problemau cynnal a chadw sy'n effeithio ar ofal cleifion. Clywodd BBC Cymru gan staff Ysbyty Athrofaol Cymru a ddywedodd fod yna risgiau o ran heintiau oherwydd bod yn rhaid cludo gwastraff ysbytai mewn lifftiau i gleifion. Weinidog, beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i asesu'r risgiau i ddiogelwch cleifion oherwydd gwaith cynnal a chadw gwael, a beth fyddwch chi'n ei wneud yn y blynyddoedd i ddod i ddileu'r ôl-groniad o waith atgyweirio sydd wedi bod yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn? Vaughan Gething AC: Wel, crybwyllodd yr Aelod y ffigur o £370 miliwn sydd ar gael ac o hwnnw, mae £80 miliwn ar gael i fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd wneud yn union y math hwn o waith cynnal a chadw. Mae o fewn eu dyraniad cyfalaf yn ôl disgresiwn. Ac mae deall yr ystâd sydd ganddynt a deall y risgiau sydd ganddynt yn iawn yn rhan o waith byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd. Mae'n wir, fodd bynnag, lle bu problemau uniongyrchol, er enghraifft y to a gwympodd yn ddirybudd mewn cyfleuster yn Wrecsam o fewn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, fod Llywodraeth Cymru wedi darparu cymorth ychwanegol i wneud yn siŵr fod cyfleusterau eraill ar gael tra bod y bwrdd iechyd yn cynllunio i adeiladu cyfleuster newydd priodol, gan effeithio'n sylweddol ar gapasiti endosgopi ar y safle. Felly, mae'r Llywodraeth yn cynorthwyo byrddau iechyd pan allwn a phan ddylem wneud hynny, ond mae hyn yn rhan o'r gwaith y mae'n rhaid iddynt ei wneud o ran rheoli a rhedeg ystâd y gwasanaeth iechyd gwladol yn briodol. Cadw Staff yn y GIG yng Nghymru Janet Finch-Saunders AC: 3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gadw staff yn y GIG yng Nghymru? OAQ54384 Vaughan Gething AC: Gwnaf. Mae recriwtio a chadw staff yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a'r gwasanaeth iechyd gwladol. Mae byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd yn arwain mentrau i wella lefelau cadw staff, megis dychwelyd i weithioa gwella lles staff. Hefyd, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi amrywiaeth o fesurau ar waith i gynyddu'r cyflenwad o weithwyr gofal iechyd proffesiynol. Janet Finch-Saunders AC: Diolch, Weinidog. Drwy gwestiynau ysgrifenedig y Cynulliad, deuthum ar draws ffaith frawychus am nifer y nyrsys yng Nghymru: mae 4,727 wedi gadael GIG Cymru ers 2016/17. A gwrandewch: yn 2018/19, roedd mwy o staff yn gadael nag a oedd yn ymuno â'r gwasanaeth. Mae arnom angen mwy o nyrsys cofrestredig i ddarparu gofal, ac fel y mae Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru wedi'i ddweud, mae hyn yn gofyn am ganolbwyntio ar recriwtio a mynd i'r afael â chadw staff. Ar hyn o bryd, fodd bynnag, nid yw recriwtio cynyddol yn gynaliadwy heb wella cyfraddau cadw staff. Felly, Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i ymchwilio i weld pam y mae cynifer o staff yn gadael y gwasanaeth yng Nghymru, ac a wnewch chi ddatblygu strategaeth ar gyfer gweithlu'r GIG sy'n canolbwyntio ar ddarparu amodau gwaith diogel a gweithio mwy hyblyg i helpu ein nyrsys gweithgar ledled Cymru? Vaughan Gething AC: Efallai fod yr Aelod wedi nodi ac wedi anghofio, wrth ddarllen ei chwestiwn atodol, ein bod wedi siarad am strategaeth ar gyfer gweithlu'r GIG mewn ymateb i ddau gwestiwn yn gynharach heddiw. Rwy'n cydnabod, y llynedd, y flwyddyn ddiwethaf y mae gennym ffigurau ar ei chyfer, fod 65 yn fwy wedi gadael y gweithlu nyrsio nag a ymunodd â'r gweithlu hwnnw; mae hynny'n gwrthgyferbynnu â thuedd gyson o gynnydd yn nifer y nyrsys. Rhwng 2009-18, cododd nifer y nyrsys 3.8 y cant i gyd. Mae'r Aelod yn cyfeirio at ffigurau'r bobl sydd wedi gadael y gwasanaeth, ond wrth gwrs, rydym yn recriwtio bob blwyddyn hefyd. Bydd yr Aelod hefyd yn gwybod ein bod wedi trafod yn rheolaidd yn y Siambr hon y gwaith a wnawn ar geisio recriwtio rhagor o nyrsys. Mae'r ymgyrch 'Hyfforddi Gweithio Byw' wedi bod yn llwyddiannus. A dweud y gwir, mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol ei hun wedi canmol yr ymgyrch benodol honno. Mae hefyd yn ffaith ein bod, yn y pum mlynedd diwethaf, wedi cynyddu nifer y lleoedd hyfforddi i nyrsys 68 y cant yng Nghymru. Felly, rydym yn gwneud popeth y gallwn ac y dylem ei wneud i gynyddu nifer y nyrsys sy'n dod i'r proffesiwn, fel yn wir, gyda'r gwaith a wnawn—cyfeiriodd yr Aelod at rywfaint ohono—ar sicrhau bod gennym batrymau mwy hyblyg sy'n adlewyrchu realiti gwaith rhywun i geisio gwneud yn siŵr ein bod yn cadw'r nyrsys sydd gennym ar hyn o bryd hefyd. Y ffactor mawr, wrth gwrs, a fydd yn effeithio ar beth o'n gallu i recriwtio nyrsys yn y dyfodol yw parhad ein perthynas ag Ewrop, lle rydym yn dal i recriwtio a chyflogi nifer o nyrsys o’r Undeb Ewropeaidd a’r ardal economaidd ehangach o fewn teulu'r GIG. David Rees AC: Weinidog, rwy'n falch iawn o glywed yr ateb rydych chi newydd ei roi, a'r ymdrechion y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i ddatblygu a hyfforddi mwy o nyrsys ledled yr ardal. Rwy’n siarad â nyrsys—nid nyrsys yn unig, ond gweithwyr proffesiynol eraill ar draws y gwasanaeth iechyd—ac rwyf am ganmol y gwaith a wnânt, oherwydd mae llawer ohonynt, os nad pob un ohonynt, yn mynd y tu hwnt i'w hamodau gwaith arferol ac yn ymdrechu’n galed mewn gwirionedd, ond mae'n dreth ar y nyrsys a staff eraill. Maent yn cyrraedd pwynt lle na allant gymryd mwy, ac felly mae'n rhaid iddynt geisio gadael yn gynnar. Rydych chi wedi siarad am weithio'n hyblyg. Rwyf wedi codi hyn gyda fy mwrdd iechyd fy hun ar fwy nag un achlysur. A wnewch chi edrych ar gyfleoedd, oherwydd mae rhai o'r nyrsys sy'n gadael ac yn mynd i asiantaethau yn ei wneud oherwydd eu bod eisiau mwy o reolaeth dros yr oriau y maent yn eu gweithio? Maent eisiau’r gallu i gael gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith gyda'u teuluoedd. Felly, a wnewch chi edrych ar hyblygrwydd contractau gwaith fel y gall nyrsys gael hynny o fewn y GIG, heb orfod mynd at asiantaeth i gael y cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith sy'n gwneud gwahaniaeth iddynt? Mae'n dangos eu bod yn cael gofal a pharch gan y system, nid gan y cleifion yn unig. Vaughan Gething AC: Rwy'n cydnabod y pwyntiau y mae'r Aelod yn eu gwneud. Mae hyn yn rhywbeth sydd ar wahanol bwyntiau yng nghylch hyfforddi aelodau o staff y gwasanaeth iechyd gwladol, ond hefyd pan fyddant ar wahanol bwyntiau yn eu bywyd gwaith. Dyna pam ei bod hi wedi bod yn bwysig i mi gadw bwrsariaeth y GIG. Gwelsom effaith cael gwared ar y fwrsariaeth yn Lloegr, lle y cafodd effaith drychinebus ar recriwtio nyrsys anableddau dysgu yn benodol, sy'n aml yn fwy tebygol o fod yn nyrsys aeddfed. Mae yna bwynt hefyd am y patrwm gweithio hyblyg a fydd yn bwysig ar wahanol bwyntiau gwahanol ym mywyd rhywun, boed yn ymwneud â chyfrifoldebau gofalu am oedolion neu blant, neu fod pobl eisiau bod ar gam gwahanol o'u bywydau tuag at ddiwedd eu gyrfa hefyd, oherwydd rydym yn dibynnu ar ewyllys da'r staff i ddarparu'r gwasanaeth Felly, ydy, mae hynny'n rhan o'r hyn yr ydym yn ei ystyried, nid ar gyfer y dyfodol pell yn unig, ond mae'n rhan o'r hyn y mae byrddau iechyd eisoes yn ceisio mynd i'r afael ag ef heddiw. Ond mae'n mynd yn ôl at un o'r pwyntiau a wneuthum i Dai Lloyd am ein gallu i ddiwygio'r system gyfan fel y credwn y gallem ac y dylem ei wneud, a pha mor gyflym y gallwn ei wneud, gan fod hon yn flaenoriaeth yn awr, ac nid mewn dwy neu dair blynedd yn unig. Cyfraddau Marwolaethau oherwydd Canser Darren Millar AC: 4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfraddau marwolaethau oherwydd canser yng ngogledd Cymru? OAQ54387 Vaughan Gething AC: Gwnaf. Mae cyfraddau marwolaethau oherwydd canser yn gwella ledled Cymru, gan gynnwys yn y gogledd. Mae'r gyfradd safonedig Ewropeaidd o farwolaethau yn ôl oed ar gyfer canser yng ngogledd Cymru wedi gostwng o 348.3 ym mhob 100,000 yn 2001 i 276 erbyn 2017. Mae hwnnw'n ostyngiad o 21 y cant dros 17 mlynedd. Darren Millar AC: Mae'r ystadegau hynny i'w croesawu'n fawr, ond yn anffodus, fel y gŵyr y Gweinidog, rydym yn dal ymhell y tu ôl i wledydd eraill o ran ein cyfraddau goroesi pum mlynedd. Mewn gwirionedd, ar gyfer canser y coluddyn, rydym yn bumed ar hugain allan o 29 o wledydd yn Ewrop o ran y gyfradd oroesi pum mlynedd. Fe fyddwch yn gwybod bod dal canser yn gynnar yn hollbwysig i obaith pobl o oroesi. Mae Cancer Research UK wedi nodi eich bod dair gwaith yn fwy tebygol o oroesi eich canser os ydych yn cael diagnosis yng ngham 1 neu 2, yn hytrach na cham 3 neu 4. Felly, er mwyn hybu'r gwelliant yn y gyfradd farwolaethau, mae'n amlwg fod angen inni fynd i'r afael â rhai o'r problemau a wynebwn yn y gweithlu diagnostig. Gwyddom, er enghraifft, fod prinder radiograffwyr, meddygon ymgynghorol a nyrsys endosgopi arbenigol yng Nghymru. A allwch ddweud wrthym pa gamau penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r prinder yn y gweithlu er mwyn inni allu hybu lefelau diagnosis cynnar i wella'r cyfraddau marwolaethau a'n symud o'r gwaelod i frig rhai o'r rhestrau Ewropeaidd hyn? Vaughan Gething AC: Rwy'n credu mai'r un cwestiwn yn fras a ofynnodd John Griffiths yn gynharach, oherwydd, wrth gwrs, rydym—. Cyfeiriais ato gynnau—yr ymateb i adroddiad y pwyllgor ar endosgopi. Mae'n nodi'r camau yr ydym yn eu cymryd ac y mae angen inni eu cymryd ar gyfer ehangu'r gweithlu. Rwyf wedi cyfarfod â nifer o staff sy'n cymryd rhan yng ngwaith y bwrdd endosgopi ynglŷn â'r gwaith y maent am ei wneud. Mae defnyddio'ch pwynt yma am ofal iechyd darbodus—gwneud yr hyn y gallwch ei wneud yn unig—yn golygu y dylai meddygon, sef yr unig weithlu, fwy neu lai, a oedd yn ymgymryd â'r maes yn y gorffennol, fod yn gwneud llai a llai o'r triniaethau hynny. Mae angen inni hyfforddi mwy a mwy o endosgopyddion nyrsio ac eraill. Mewn gwirionedd, o fewn arweinyddiaeth y proffesiwn, ceir cydnabyddiaeth mai dyna y dylem ei gael—mae angen i ni gynllunio i wneud hynny. Mae'r un peth yn wir am ein gweithwyr proffesiynol ym maes delweddu hefyd. Dyna pam y mae'r academi ddelweddu mor bwysig i ni. Felly, mae camau penodol ar y gweill gennym. Rydym yn disgwyl gweld mwy ohonynt yn strategaeth y gweithlu pan ddaw honno. Gallwch hefyd ein gweld yn gwneud dewisiadau buddsoddi i gefnogi'r strategaeth honno, nid yn unig yn y gyllideb ar gyfer eleni, ond yn y dyfodol. Cyfraddau Dibyniaeth ar Gyffuriau ac Alcohol Jayne Bryant AC: 5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfraddau dibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol yng Nghymru? OAQ54393 Vaughan Gething AC: Hoffwn ddechrau drwy longyfarch Jayne Bryant, ac yn arbennig, Mr Bryant, ar ei ddewis rhagorol, a dymuno'r gorau i chi ar gyfer y dyfodol. Roedd rhwng 42,000 a 58,500 o bobl yn defnyddio cyffuriau mewn ffordd broblemus yn 2015-16. Yn ôl arolwg cenedlaethol Cymru ar gyfer y flwyddyn wedyn, roedd yna 81,392 o yfwyr niweidiol. Dylwn egluro mai'r diffiniad o yfwyr niweidiol yw dynion sy'n yfed dros 50 uned yr wythnos a menywod sy'n yfed dros 35 uned yr wythnos, ond nid yw pob yfwr niweidiol yn ddibynnol ar alcohol. Jayne Bryant AC: Diolch am yr ateb hwnnw i gyd, Weinidog. [Chwerthin.] Gyda fy nghyd-Aelod John Griffiths, ymwelais â phrosiect Kaleidoscope a gwasanaeth cyffuriau ac alcohol Gwent yng Nghasnewydd yr wythnos diwethaf. Un gwasanaeth integredig sy'n darparu gwasanaethau camddefnyddio sylweddau yng Ngwent yw GDAS. Yn anffodus, maent wedi gweld cynnydd mawr mewn atgyfeiriadau a chynnydd yn nifer y bobl hŷn sy'n ddibynnol ar alcohol. Er bod pob marwolaeth y gellir ei hosgoi yn un yn ormod, yn ôl ffigurau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio cyffuriau yn ardaloedd awdurdodau lleol Gwent ymhlith yr isaf yng Nghymru. Sefydlwyd rhaglenni triniaeth GDAS ar gyfer adferiad. Maent yn sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at bresgripsiynau cyfnewid o fewn ffrâm amser sy'n briodol i'w hangen. A wnaiff y Gweinidog ymuno â mi i ganmol y gwaith y mae GDAS yn ei wneud ac edrych ar sut y gallwn rannu'r gwaith hwn ar draws rhannau eraill o Gymru? Vaughan Gething AC: Yn sicr. Rwyf wedi ymweld â Kaleidoscope fy hun yn ystod fy amser yn y swydd fel Gweinidog i weld drosof fy hun rywfaint o'r gwaith y maent yn ei wneud ar amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys cyffuriau sy'n gwella delwedd ac amrywiaeth o wahanol fathau o ddibyniaeth a heriau y mae pobl yn eu hwynebu. Mae'n rhan o'n dull o ddod â'r trydydd sector a chyrff statudol at ei gilydd mewn byrddau cynllunio ardal i ddeall pa wybodaeth leol sydd ei hangen, ac yna i wneud dewisiadau buddsoddi yn unol â hynny. Felly, ni chânt eu gwneud yn ganolog gan Lywodraeth Cymru, ond mewn gwirionedd rydym wedi cynyddu'r gyllideb sydd ar gael i fyrddau cynllunio ardal er mwyn darparu gwasanaethau rheng flaen. Felly, ydy, mae'n enghraifft dda o fodel sy'n gweithio. Mae'n enghraifft dda hefyd o'r angen parhaus yn y gwasanaethau hynny, ac mae angen i ni adolygu'n barhaus ein gallu i gefnogi gwaith rheng flaen ymhellach, yn ogystal, wrth gwrs, â'r galw a'r rhesymau dros y galw hwnnw sy'n wynebu ein gwasanaethau. Mohammad Asghar (Oscar) AC: Weinidog, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau yng Nghymru ar eu lefelau uchaf. Maent yn dweud bod nifer y bobl sy'n marw o wenwyn cyffuriau wedi cynyddu 78 y cant yn y 10 mlynedd diwethaf yn unig. Dywedant hefyd y bu cynnydd yn nifer y bobl ifanc sy'n marw o sylweddau fel cocên. O gofio y gall gofyn am gymorth yn gynnar atal y broblem a'r ddibyniaeth rhag gwaethygu, Weinidog, pa gamau y byddwch yn eu cymryd i fynd i'r afael â phroblem dibyniaeth ar gyffuriau yng Nghymru yng ngoleuni'r canfyddiadau brawychus hyn? Vaughan Gething AC: Unwaith eto, dyna pam ein bod yn buddsoddi mwy yn ein gwasanaethau rheng flaen, nid yn y pen triniaeth yn unig, ond mewn rhaglenni ar y cyd â phartneriaid eraill—mae'r heddlu'n bartneriaid amlwg yn y maes hwn—o ran ceisio ymyrryd yn gynnar. Ni cheir ateb hawdd, fodd bynnag, oherwydd, wrth gwrs, mae llawer o'r rhesymau pam fod pobl yn ddibynnol ar gyffuriau ac alcohol y tu allan i gyrhaeddiad y gwasanaeth iechyd. Felly, nid yw'r her yn un i'r gwasanaeth iechyd yn unig o ran yr ymyrraeth a'r gwaith atal cynharach hwnnw, ac yn sicr, nid her addysg yn unig ydyw; mae'n ymwneud â'r pwysau a'r straen ehangach sydd ar bobl, a sut yr awn i'r afael â rhai o'r rheini. Mae hynny'n cynnwys, er enghraifft, y sylweddau newydd sy'n ymddangos yn rheolaidd ar y strydoedd. Felly, mae yna raglen waith eang. Mae'n ymwneud â gweithio gyda phartneriaid ar y neges atal, yn ogystal â chael ymateb mwy effeithiol pan fydd pobl angen triniaeth. Yn hynny o beth, mae ein rhaglenni camddefnyddio sylweddau yn dangos eich bod yn fwy tebygol o gael triniaeth a chymorth arbenigol yng Nghymru nag yn Lloegr. Mewn gwirionedd, amcangyfrifodd Coleg y Brenin, Llundain ym mis Gorffennaf eleni eich bod 2.5 yn fwy tebygol o gael y cymorth iechyd arbenigol hwnnw a'i gael yn gyflymach hefyd. Gwasanaeth Profi a Thrin Dolur Gwddf Jack Sargeant AC: 6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflwyno'r gwasanaeth profi a thrin dolur gwddf? OAQ54359 Vaughan Gething AC: Gwnaf. Ers i'r peilot profi a thrin dolur gwddf ddechrau gyda 58 o fferyllfeydd ym mis Tachwedd y llynedd, cofnodwyd 3,655 o ymgynghoriadau. Dim ond mewn 752 o achosion y cafodd gwrthfiotigau eu presgripsiynu, neu 21 y cant. Rwyf wrth fy modd fod y peilot profi a thrin dolur gwddf wedi ennill y categori arloesedd a thechnoleg yng Ngwobrau Gwarcheidwaid Gwrthfiotig 2019 eleni. Mae hyn yn dangos bod Cymru ar flaen y gad o ran arloesi a buddsoddi mewn fferylliaeth gymunedol. Jack Sargeant AC: Diolch i chi am eich ymateb, Weinidog, ac fel y soniodd fy nghyd-Aelod, Vikki Howells, yn ystod y cwestiynau ddoe, rwyf innau hefyd wedi ymweld â fferyllfeydd cymunedol rhagorol yn fy etholaeth i, sef Alun a Glannau Dyfrdwy, ac mae gwaith gwych wedi'i wneud yno ar ddatblygu a chyflwyno'r gwasanaeth profi a thrin dolur gwddw arloesol. Nawr, pan gyfarfûm â staff yn ddiweddar, nodwyd dau fater penodol yr hoffwn i chi roi sylw iddynt, yn briodol heddiw, rwy'n credu, Weinidog, o gofio ei bod yn Ddiwrnod Fferyllwyr y Byd. Yn gyntaf, ar fater hyfforddiant, er y bydd cyflwyno'r rhaglen yn rhan hanfodol o'r gwaith o ymdopi â phwysau'r gaeaf, mae yna bryder na fydd fferyllwyr cymunedol yn cael eu hyfforddi mewn gwirionedd tan y flwyddyn newydd. Weinidog, beth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau eu bod yn cael eu hyfforddi'n gyflymach fel y gall pobl brofi manteision llawn y prawf? Yn olaf, Weinidog, o ran cyflwyno'r rhaglen yn gyffredinol, rwy'n falch iawn mai Betsi Cadwaladr sydd wedi cyflwyno'r lefel uchaf o'r gwasanaeth hwn, sy'n stori wych i'r bwrdd iechyd ond hefyd i bobl yng ngogledd Cymru. Mae'r profion wedi arwain, fel y sonioch chi, at ostyngiad o 80 y cant yn y defnydd o wrthfiotigau, ac wedi cael ymateb cadarnhaol o 95 y cant yn fras gan gleifion, gan gynnwys un o fy etholwyr, Molly, a ddaeth ataf ar y stryd ac a grybwyllodd y prawf gan ei argymell i mi. Felly, mae'n ffordd wych ymlaen i Gymru, ond yr hyn sy'n bwysig yw ei fod o fudd i bawb yng Nghymru. Felly, Weinidog, beth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i gael mwy o gysondeb a llai o amrywioldeb o ran y modd y caiff y rhaglen ei chyflwyno gan fyrddau iechyd ledled Cymru? Vaughan Gething AC: Diolch i chi am y cwestiwn a'r pwyntiau a wnaethoch. Roeddwn yn ymwybodol fod eich cymydog yn y Siambr wedi codi mater tebyg mewn cwestiynau busnes ddoe. Byddaf yn darparu datganiad ysgrifenedig, gan nodi rhagor o'r manylion am yr hyn a wnawn ar gyflwyno'r gwasanaeth hwn, ond mae'n werth rhoi sylw i'ch pwynt am hyfforddiant hefyd. Rwyf wedi buddsoddi £4.5 miliwn yn y gwaith o hyfforddi fferyllwyr yn y dyfodol i sicrhau bod gennym weithlu cynaliadwy, a bydd hynny'n parhau dros yr ychydig flynyddoedd nesaf gan arwain at bron i ddwywaith nifer y lleoedd hyfforddiant fferyllol yng Nghymru. Yn ystod blynyddoedd diwethaf y contract fferylliaeth, rydym eisoes wedi buddsoddi symiau o arian yn y gweithlu sydd gennym ar hyn o bryd. Y cynllun ar gyfer cyflwyno'r prawf gweld a thrin dolur gwddw yw ein bod yn disgwyl i 50 y cant o fferyllfeydd cymunedol ledled Cymru allu darparu hynny drwy'r gaeaf. Ac nid menter pwysau'r gaeaf yn unig ydyw; mewn gwirionedd, mae'n rhan o'r ystod safonol o wasanaethau y disgwyliwn eu gweld yn cael eu darparu mewn fferyllfeydd cymunedol. Mae'r rhain yn lleoliadau cyfleus, wedi'u sefydlu'n dda o fewn cymunedau, gyda gweithwyr proffesiynol dibynadwy sydd â pherthynas â phobl, felly byddwch yn gweld mwy o fuddsoddi yn nyfodol fferyllfeydd cymunedol. Un enghraifft yn unig yw hyn. Rwy'n falch o ddarparu'r datganiad ysgrifenedig y gofynnodd y Trefnydd i mi ei lunio, a byddaf yn gallu rhoi'r manylion y credaf eich bod chi a'ch cyd-Aelodau yn chwilio amdanynt. David Melding AC: Rwy'n hapus iawn ar yr achlysuron pan fydd hyd yn oed Aelodau'r gwrthbleidiau'n cymeradwyo gweithred gan Lywodraeth Cymru, ac rwy'n credu bod hwn yn gynllun da. Sylwaf yn rhifyn mis Awst o 'Clinical Pharmacist' fod y cynllun yn cael ei werthuso a'i ganmol ac mae'n enghraifft o arloesedd a gwellhad go iawn. Ers blynyddoedd lawer, rydym wedi bod yn ceisio cael pobl â mân anhwylderau i geisio cyngor fferyllydd—poen gwaelod y cefn, insomnia. Ceir amrywiaeth eang o bethau lle mae eich fferyllydd yn aml yn bwynt cyswllt cyntaf. Felly, rwy'n gobeithio y byddwn yn gweld hynny'n parhau. Ond mae'n gynllun addawol iawn, felly rwy'n ei gymeradwyo. Vaughan Gething AC: Wel, diolch yn fawr, a dylwn ailadrodd—gwn fy mod wedi dweud yn y Siambr hon droeon, pan oeddwn yn Ddirprwy Weinidog ac yn wir, yn fy rôl bresennol—fod hyn wedi'i adeiladu ar gefn y buddsoddiad yn y platfform Dewis Fferyllfa. Mae hwnnw bellach ar gael mewn 98 y cant o fferyllfeydd. Mae'n caniatáu inni fuddsoddi mewn gwasanaethau gwahanol ac ychwanegol o fewn y sector fferylliaeth gymunedol. Felly, rwy'n obeithiol ynglŷn â'n gallu nid yn unig i symud ymlaen â'r enghraifft benodol hon, ond y byddwn, yn y dyfodol, yn gweld mwy o'r gwasanaethau hynny'n cael eu darparu gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol o fewn y gymuned. Camddefnyddio Cyffuriau Rhun ap Iorwerth AC: 7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfraddau marwolaethau sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio cyffuriau ym Môn? OAQ54389 Vaughan Gething AC: Diolch am y cwestiwn. Mae unrhyw farwolaeth sy'n gysylltiedig â chyffuriau yn drasiedi, ac rydym wedi cynyddu ein buddsoddiad i fynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau. Y cyfraddau marwolaeth ar gyfer camddefnyddio cyffuriau yn Ynys Môn yw 6.4 y 100,000, ychydig yn is na chyfartaledd Cymru, sef 7.2. Er bod amrywiad yn y pwyntiau canran hynny, mae hyn mewn gwirionedd yn dangos bod dwy farwolaeth ychwanegol yn gysylltiedig â chyffuriau, neu farwolaethau camddefnyddio cyffuriau, ar Ynys Môn yn y ffigurau diweddaraf. Rhun ap Iorwerth AC: Dwi wedi dod yn ymwybodol o beth sy'n ymddangos yn batrwm pryderus iawn o farwolaethau ym Môn yn y cyfnod diweddar. Dwi'n dweud fy mod i wedi dod yn ymwybodol o hyn, achos, cyn belled ag ydw i'n gwybod, does yna ddim cyhoeddusrwydd wedi bod am hyn. Beth dwi wedi'i gael ydy pobl yn ein cymunedau ni'n siarad efo fi i rannu eu pryderon nhw, ac maen nhw'n gweld y patrwm. Dwi'n meddwl fy mod i'n iawn i ddweud bod yna bump o farwolaethau wedi bod yn ardal Llangefni mewn cyfnod byr yn ddiweddar. A'r ofn, yn benodol, ydy bod camddefnyddwyr cyffuriau wedi bod yn cyfuno'r cyffur benzodiazepine efo sylweddau eraill efo canlyniadau trasig. Rŵan, o wneud ymholiadau efo'r heddlu a'r crwner, mae'n ymddangos nad oes data'n cael eu cadw ar y cyffur penodol yna fel achos marwolaeth am ei fod o'n cael ei gyfrif fel contributory factor yn unig. Allaf i ofyn i'r Llywodraeth i edrych i mewn i'r marwolaethau yma i ymchwilio i'r posibilrwydd bod yna batrwm yma? Gaf i ofyn pa waith sydd yn cael ei wneud i adnabod faint o broblem ydy cymryd cyfuniad o gyffuriau? Ac a allaf i apelio am gymorth ychwanegol sydd wirioneddol ei angen ar frys, yn amlwg, er mwyn gallu cynnig help i'r rheini sydd yn gaeth i gyffuriau, rhai ohonyn nhw ers blynyddoedd lawer, fel ein bod ni'n gallu atal marwolaethau o'r fath? Vaughan Gething AC: Fel nad wyf yn camddeall yr union bwyntiau y mae'r Aelod yn eu codi o safbwynt gwybodaeth a phryderon lleol, buaswn yn ddiolchgar pe bai'n ysgrifennu ataf fel y gallaf sicrhau, ai'r Llywodraeth—neu yn wir, ofyn i'r bwrdd cynllunio ardal edrych ar hyn gyda'u gwybodaeth leol eu hunain hefyd. Mae'r ffigurau a ddyfynnais yn gynharach yn cyfeirio at y ffigurau a gyhoeddwyd yn 2018, felly mae'n bosibl fod yr Aelod yn cyfeirio at farwolaethau sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio cyffuriau sydd wedi digwydd ar ôl hynny. Felly, buaswn yn ddiolchgar iawn pe bai'n ysgrifennu ataf. Fe edrychaf ar hynny ac fe ysgrifennaf ato i egluro sut y byddwn naill ai'n edrych ar hynny o fewn y Llywodraeth, neu yn wir, sut y mae'r wybodaeth yn cael ei rhannu a sut y caiff ymateb ei geisio gan y bwrdd cynllunio ardal. Mark Isherwood AC: Ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei strategaeth 10 mlynedd ar gyfer camddefnyddio sylweddau yn 2008 i leihau a mynd i’r afael â'r niwed sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau yng Nghymru, mae marwolaethau sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio cyffuriau ledled Cymru wedi codi o 569 i 858: ar Ynys Môn, mewn gwirionedd—hyd at y ffigurau a gyhoeddwyd ym mis Awst gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol—ychydig yn well, i lawr o 10 i wyth, ond ledled gogledd Cymru, i fyny o 81 i 98. A datgelodd ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ym mis Awst mai Cymru oedd â'r ffigurau uchaf ond un ymhlith y 10 ardal—naw yn Lloegr, a Chymru—y cynnydd mwyaf ond un o ran y gyfradd dros y 10 mlynedd diwethaf, sef 84 y cant, a'r gyfradd farwolaethau safonedig yn ôl oedran uchaf ond un o ran marwolaethau sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio cyffuriau yn ôl gwlad a rhanbarth. Nid yw'n ddarlun da. Pam fod Llywodraeth Cymru yn dal i fethu mynd i’r afael â’r argymhellion a wnaed mewn cyfres o adroddiadau a gomisiynwyd yn ystod yr ail a’r trydydd Cynulliad ar drin camddefnyddio sylweddau yng Nghymru, yn enwedig dadwenwyno a chymorth adsefydlu, i fynd i’r afael â’r problemau a nodwyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a’u hadolygiad ym mis Gorffennaf 2018—10 mlynedd ar ôl y strategaeth—fod pobl yn ei chael hi'n anodd cael y driniaeth yr oeddent ei hangen drwy wasanaethau presgripsiynu meddyginiaeth gyfnewid a dadwenwyno, gwasanaethau adsefydlu a gwasanaethau cwnsela oherwydd amseroedd aros hir a diffyg capasiti yn y gwasanaethau? Cafodd yr atebion eu nodi—pam ein bod yn dal i aros? Vaughan Gething AC: Mewn gwirionedd, mae'r data ar amseroedd aros yn dangos ein bod, yn ystod 10 mlynedd olaf y strategaeth camddefnyddio sylweddau, wedi gweld gwelliant sylweddol o ran amseroedd aros—mae 91.5 y cant o bobl yn dechrau triniaeth ac yn cael eu gweld o fewn 20 diwrnod gwaith i gael eu cyfeirio, o gymharu â 73 y cant 10 mlynedd yn ôl. A'n her ni yw'r hyn y gall ein gwasanaeth ei wneud, o gymharu â'r galw a'r angen sy'n ei wynebu a'r heriau ehangach y tu hwnt i'r gwasanaeth iechyd sydd angen ymateb gan y gwasanaeth iechyd yn y pen draw. Felly, ni chredaf fod y darlun mor syml â'r un y mae Mark Isherwood yn ei baentio, ac nad yw'n fater o'r gwasanaeth iechyd yn methu gwneud ei waith. Mae'n ymwneud â sut y gallwn sicrhau y caiff pobl eu gweld a'u trin mewn modd amserol. Mae'n ymwneud hefyd â'r ymdrech y gallwn ei gwneud fel cymdeithas gyfan mewn perthynas â heriau camddefnyddio cyffuriau ac alcohol, ac rwy'n cydnabod bod gormod o farwolaethau sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio cyffuriau ac alcohol yn digwydd. Mae'n rhan o'r rheswm pam ein bod wedi ailymrwymo i strategaeth camddefnyddio sylweddau yn y dyfodol a dyma pam hefyd, o ran alcohol, er enghraifft, ein bod wedi ymrwymo i roi camau ar waith ar bris alcohol fel mesur pwysig i leihau marwolaethau. Ardoll Gofal Cymdeithasol Huw Irranca-Davies AC: 8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith traws-lywodraethol sy'n ystyried ardoll gofal cymdeithasol? OAQ54380 Vaughan Gething AC: Gwnaf, a hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei waith o fewn y Llywodraeth ar fwrw ymlaen â'r gwaith ar draws y Llywodraeth ar ardoll gofal cymdeithasol bosibl. Rwyf bellach yn cadeirio'r bwrdd gweinidogol, a thros y chwe mis diwethaf, rydym wedi ystyried dulliau posibl o godi a dosbarthu cyllid ychwanegol posibl. Rydym yn canolbwyntio ar hyn o bryd ar egwyddorion meysydd blaenoriaeth ar gyfer unrhyw gyllid, ac edrychaf ymlaen at fod mewn sefyllfa i ysgrifennu at y pwyllgor iechyd a gofal cymdeithasol gyda chynigion amlinellol, y byddwn yn ymgynghori arnynt yn eang. Huw Irranca-Davies AC: Mae hynny'n newyddion i'w groesawu'n fawr, Weinidog, ac rwy'n falch fod y gwaith yn mynd rhagddo mewn ffordd ystyriol a phwyllog, gan na allwn ruthro hyn. Ond fe fydd yn deall, gyda'r Papur Gwyrdd gofal cymdeithasol yn Llywodraeth San Steffan yn dal i ddiflannu dros y gorwel fel rhyw fath o rith, ei bod yn hanfodol bwysig ein bod yn gwneud y gwaith yma yng Nghymru, gan fy mod amau y bydd angen i ni greu ein hatebion ein hunain ar ryw bwynt. Bu sôn hefyd, wrth gwrs, yn Llywodraeth Cymru am wasanaeth gofal cenedlaethol a fyddai’n darparu llwybr gyrfa gwerthfawr i bobl sy’n gweithio ym maes gofal, yn debyg i’r hyn sydd ar gael yn y gwasanaeth iechyd, yn hytrach nag fel dewis amgen, fel y nodir mor aml, yn lle stacio silffoedd neu beth bynnag—credaf fod hynny'n difrïo'r gweithlu, mewn gwirionedd, ond gwyddom beth y mae'r ymadrodd hwnnw'n ei olygu. Felly, a all ddweud wrthym sut y bydd yn bwrw ymlaen â'r gwaith hwn wrth iddo fynd rhagddo, wrth iddo weld rhai o ganlyniadau'r ffrydiau gwaith, mewn ffordd drawsbleidiol? Oherwydd yr hyn a wyddom yw bod hyn wedi mynd benben, yn enwedig ar lefel y DU, â gwleidyddiaeth tymor byr a chylchoedd etholiadol yn llawer rhy aml yn y gorffennol. Er mwyn bwrw ymlaen â hyn yng Nghymru, os daw hi i hynny, bydd yn rhaid i ni gael cydsyniad trawsbleidiol yma yn y Senedd hon er mwyn gwneud hynny. Vaughan Gething AC: Ie, rwy'n cydnabod y pwynt a wnaeth yr Aelod, ac mewn gwirionedd, cyn ymgynghori ar awgrymiadau amlinellol ynglŷn â sut y gallem godi a gwneud defnydd o gyllid—ac wrth gwrs, mae cyfraddau cyflogau staff yn rhan o hynny—byddaf eisiau gallu cael sgwrs gyda Chadeiryddion ein pwyllgorau pwnc yma. Bydd fy swyddfa'n cysylltu i geisio trefnu sgwrs, a byddwn hefyd yn cynnig sesiwn friffio dechnegol i'r pwyllgor iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn edrych ar rai o'r modelau hynny fel ein bod yn agored am yr hyn yr ydym yn sôn amdano, ac yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n rhoi cyfle go iawn i ni fwrw ymlaen â hyn mewn ffordd nad yw'n arwain at ornest bleidiol. Oherwydd, ni waeth beth yw ein barn am Lywodraeth bresennol y DU—ac mae nifer o safbwyntiau i'w cael—nid yw'n debygol y bydd gennym Bapur Gwyrdd ar ofal cymdeithasol ar unrhyw adeg yn y dyfodol agos, felly mae angen i ni wybod beth y gallwn ei wneud yng Nghymru gyda'r pwerau sydd gennym. Ar y pwynt hwn, ar sail drawsbleidiol, mae Aelodau ar y meinciau cefn yn San Steffan wedi dod at ei gilydd a chytuno y dylent godi arian ychwanegol i'w roi yn y system gofal cymdeithasol. Roedd honno'n farn unfrydol gan ddau bwyllgor dethol a ddaeth ynghyd, gan gynnwys aelodau o’r Blaid Geidwadol, Llafur ac eraill hefyd, a gytunodd fod angen i chi godi arian. Felly, ceir parodrwydd i edrych am hynny ar lefel y DU, ond credaf, yng Nghymru, y bydd angen i ni edrych ar hynny cyn i ni gyrraedd y pwynt hwnnw. Yna, os gwneir cynnydd ar unrhyw adeg yn y dyfodol, gallwn ystyried ffrydiau ariannu'r DU a'r hyn y gallai hynny ei olygu. Ond ydw, rwy'n fwy na pharod i nodi nawr, a byddaf yn dilyn hynny gyda sgyrsiau rhwng fy swyddfa a'r pwyllgor, ac yn wir, rwy'n gobeithio y byddai llefarwyr y pleidiau'n agored i sgwrs am hynny pan fydd gennym y cynigion amlinellol hynny, gan nad oes unrhyw beth wedi'i bennu na'i benderfynu ar hyn o bryd. Yn olaf, Angela Burns. Angela Burns AC: Diolch, Lywydd. Weinidog, mae gennym eisoes bobl sy'n gadael Cymru i fyw mewn rhannau eraill o'r gwledydd cartref er mwyn gallu cael gafael ar gyffuriau na allant gael gafael arnynt yma. Felly, o ystyried araithJeremy Corbyn yn y gynhadledd, pan soniodd am gael gofal cymdeithasol am ddim yn y man darparu, a allech gadarnhau p'un a yw hynny'n un o'r ffrydiau gwaith y mae'r grŵp trawsbleidiol hwn yn gweithio arnynt ar hyn o bryd ai peidio? Os felly, a ydynt yn edrych ar y costiadau hefyd, er mwyn atal y torfeydd rhag gadael Cymru? Vaughan Gething AC: Ni chredaf y dylai unrhyw beth a drafodwyd ddoe arwain at dorfeydd yn gadael Cymru, ac nid wyf yn cydnabod yr hyn a ddywedodd yr Aelod am dorfeydd yn gadael Cymru ar sail argaeledd meddyginiaeth. Mae gennym hanes da iawn o ran argaeledd meddyginiaeth newydd ac effeithiol, fel y mae ein cronfa triniaethau newydd lwyddiannus yn ei ddangos. Ond o ran eich pwynt ynglŷn â gofal cymdeithasol, pan fyddwn yn rhannu cynigion ymgynghori amlinellol, byddant yn cynnwys syniad ynglŷn â'r math o gronfeydd y byddai angen i hynny ei ddarparu. Felly, byddwn yn agored gyda'n gilydd ynglŷn â'r hyn y gallai gwahanol opsiynau ei olygu o ran sut y defnyddiwn gyllid, yn ogystal â sut y gallech godi'r cyllid hwnnw. Felly, iawn, os ydych am fabwysiadu ymagwedd fwyafsymiol o ran cael gymaint o ofal cymdeithasol â phosibl, bydd modd inni nodi'r hyn a fyddai'n angenrheidiol er mwyn gwneud hynny, a byddwn yn mynd ati i ymgynghori ar sail eang. Yn sicr, byddaf yn awyddus i ddefnyddio'r paneli dinasyddion sydd i'w cael o amgylch pob bwrdd partneriaeth rhanbarthol, ynghyd â'r gymysgedd o bleidiau sy'n arwain awdurdodau lleol. Bydd gan bob un ohonynt eu cyfran yn hyn, ac mewn gwirionedd, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn rhan o'r gwaith a wnawn ar fwrdd y rhaglen. Felly, mae'r gwaith yn mynd rhagddo ar sail wirioneddol draws-sector—a thrawsbleidiol hefyd yn wir, fel y bydd yr Aelod yn falch iawn o glywed, rwy'n siŵr. Diolch i'r Gweinidog. 3. Cwestiynau Amserol Yr eitem nesaf yw cwestiynau amserol. Dwi wedi dewis un cwestiwn i'w ofyn i'r Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth, ac mae'r cwestiwn gan Bethan Sayed. Thomas Cook Bethan Sayed AC: 1. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan y ffaith bod Thomas Cook yn cau? 341 Ken Skates AC: Lywydd, a gaf fi ddweud ei bod yn hynod siomedig fod Thomas Cook wedi mynd i'r wal? Rwy'n cydymdeimlo, wrth gwrs, gyda phawb yr effeithir arnynt gan y cyhoeddiad. Cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ddoe a oedd yn amlinellu’r ystod o gamau rwyf wedi'u cymryd, ac mae fy swyddogion, wrth gwrs, yn cadw mewn cysylltiad agos iawn â Maes Awyr Caerdydd, Llywodraeth y DU ac amryw asiantaethau eraill. Bethan Sayed AC: Diolch yn fawr iawn am y datganiad ysgrifenedig hwnnw. Gan ddechrau ar bwynt cadarnhaol, hoffwn ofyn i chi ymuno â mi i ganmol Elaine Kerslake o'r Gilfach Goch, a aeth ati i godi arian ar daith awyr yn ôl adref gyda Thomas Cook pan sylweddolodd nad oedd y staff yn cael eu talu. Felly, a fyddech yn awyddus i'w chanmol am wneud hynny? Ond hefyd, a wnewch chi ymuno â mi, felly, i ofyn i reolwyr a phrif weithredwyr Thomas Cook, a enillodd £35 miliwn mewn 12 mlynedd mewn taliadau bonws, yn ôl adroddiadau, er gwaethaf y problemau ariannol roeddent yn eu hwynebu—a wnewch chi ofyn iddynt ad-dalu—ymuno â mi i ofyn iddynt ad-dalu'r taliadau bonws hynny yn wyneb y sefyllfa arbennig o sensitif hon, lle rydym yn darganfod nad yw staff Thomas Cook yn cael eu talu pan fo'r prif weithredwyr hynny wedi elwa o gwymp y cwmni hwnnw? Fy nghwestiwn arall i chi fyddai—yn fy ardal i o leiaf, mae llawer o siopau Thomas Cook a bydd yr effaith ar y staff yn wael. Gwn eich bod yn sôn yn eich datganiad ysgrifenedig ynglŷn â sut y byddwch yn cefnogi staff, ac rwy'n ddiolchgar am hynny, ond a allech ymhelaethu ar hynny, a hefyd sut y byddech o bosibl yn cefnogi'r seilwaith o amgylch y siopau hynny ar ein stryd fawr y bydd angen eu helpu yn y dyfodol—a all asiantau teithio eraill neu gwmnïau eraill o'r fath eu cymryd drosodd, gan y gallai hynny gynorthwyo'r stryd fawr—a dweud ychydig mwy wrthym ynglŷn â sut y bydd staff yn gyffredinol yng Nghymru yn cael eu cefnogi? Nawr, gŵyr pob un ohonom am yr effaith ar deithwyr, ac mae llawer ohonynt wedi dod ataf, ond gwnaeth un achos penodol i mi bryderu—ni allai un o fy etholwyr ddod adref ar yr awyren a ddynodwyd ar eu cyfer i Gaerdydd oherwydd anableddau, ac felly bu'n rhaid iddynt dalu am eu taith awyr eu hunain. A allwch roi sicrwydd inni eich bod yn ymchwilio i'r mathau hyn o sefyllfaoedd fel y gall teithwyr deithio yn ôl yn y cyfforddusrwydd sydd ei angen arnynt a chyda'r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt os oes ganddynt yr anableddau hynny? Ni allwn anghofio'r bobl sy'n ddiamddiffyn pan fyddant yn ceisio teithio adref. Ond hoffwn rannu—gyda phawb arall, rwy'n siŵr, yn y Siambr hon—pa mor drist yr ydym fod hyn wedi digwydd a sut y gallwn fel gwlad, o bosibl, gefnogi'r staff hynny a'r rhai yr effeithir arnynt. Ken Skates AC: A gaf fi ddiolch i Bethan Jenkins am ei chwestiynau a'r pryderon a fynegwyd ganddi, nid yn unig o ran y rhai yr effeithiwyd arnynt sydd wedi bod yn teithio gyda Thomas Cook, ond hefyd o ran gweithwyr y cwmni? Hoffwn gofnodi fy niolch i'r ddynes garedig o'r Gilfach Goch a helpodd i godi arian i bobl sy'n wynebu diweithdra. Roedd honno'n weithred anhunanol, yn fy marn i, a chredaf fod ymateb y teithwyr eraill ar yr awyren yn anhygoel. A gaf fi hefyd gofnodi fy niolch i'r Awdurdod Hedfan Sifil a'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad? Pan ddechreuodd Ymgyrch Matterhorn, cafwyd ymdrech aruthrol i ddod â 150,000 o bobl yn ôl i'r Deyrnas Unedig, a dywedodd Gweinidogion Llywodraeth y DU a minnau'n glir na fyddai hon yn dasg hawdd, ond mae'r ffordd y mae'r Awdurdod Hedfan Sifil, yn benodol, wedi mynd i'r afael â'r sefyllfa hon a'i rheoli yn anhygoel, ac rwy'n siŵr y bydd llawer o bobl a gludwyd adref o ganlyniad i'w hymdrechion yn ymuno â mi i ddiolch iddynt—yn ogystal â'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad, sy'n gwneud gwaith anhygoel ar lawr gwlad mewn cymaint o wledydd yn rhoi cefnogaeth i ddinasyddion Prydeinig. Rwyf am drafod achos unigryw a grybwyllwyd gan Bethan Jenkins, ond mae'n un sy'n peri pryder i mi, sef y penderfyniad gan deithiwr ag anabledd i dalu am eu taith awyr eu hunain adref. Un peth yr oedd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth a minnau yn awyddus i'w archwilio cyn i Ymgyrch Matterhorn ddechrau oedd y byddai darpariaeth ar gael i bobl anabl, ac y byddai'n cael ei blaenoriaethu: nid darpariaeth i gyrraedd awyren yn unig—gwasanaeth gwahanol a mynd ar yr awyren honno—ond hefyd cludiant pellach ar ôl dychwelyd adref. Cawsom sicrwydd y byddai cludiant i bobl anabl yn cael ei ddarparu fel blaenoriaeth. Os gall yr Aelod roi gwybodaeth i mi am yr etholwr dan sylw, byddaf yn trafod y mater gyda Llywodraeth y DU a chyda'r Awdurdod Hedfan Sifil wrth gwrs. Mae arnaf ofn y bydd tranc Thomas Cook yn effeithio ar nifer sylweddol o bobl. Rydym yn amcangyfrif y bydd 179.5 o staff cyfwerth ag amser llawn yn cael eu heffeithio yng Nghymru yn unig drwy gau'r siopau, a 45 aelod ychwanegol o staff ym Maes Awyr Caerdydd. Bydd rhaglen Cymru'n Gweithio ar gael iddynt fel rhan o hynny. Bydd ReAct, rhaglen ymyrraeth sydd wedi hen ennill ei phlwyf, ar gael iddynt. Mae gennym dimau ymateb rhanbarthol ledled Cymru yn barod i gynorthwyo unrhyw un yr effeithir arnynt gan fethiant Thomas Cook, a buaswn yn annog unrhyw Aelodau sy'n clywed gan fusnesau yr effeithir arnynt yn sgil tranc y cwmni i'w cyfeirio at linell gymorth Busnes Cymru. Credaf fod Bethan Jenkins yn codi pwynt pwysig iawn y bydd llawer o'n cymunedau—ac fe edrychais drwy'r rhestr i weld ble y lleolir rhai o ganghennau Thomas Cook—yn cael eu heffeithio'n ddifrifol wrth i lawer o'r siopau hynny gau. Ar lawer o’r strydoedd mawr rwy'n gyfarwydd â hwy, prin iawn yw gwasanaethau o’r fath, a bydd cael siop arall yn cau yn rhai o’r lleoedd hynny, wrth gwrs, yn eithaf dinistriol, a dyna pam fod y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol a minnau yn awyddus i fwrw ymlaen â menter 'canol y dref yn gyntaf' a fyddai'n golygu bod y sector cyhoeddus, a'r sector preifat yn wir, yn blaenoriaethu buddsoddiad yng nghanol y dref i ysgogi mwy o gadernid economaidd ynddynt. Ni fydd hon yn dasg hawdd, ond mae'n un y mae'n rhaid i ni gychwyn arni. Ac un pwynt olaf hefyd, ac mae'n ymwneud â gweithredoedd y prif weithredwyr. Rwy'n falch o nodi bod yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol wedi agor ymchwiliad i gamau gweithredu corfforaethol, a chredaf ei bod yn briodol inni aros am ganlyniad yr ymchwiliad hwnnw cyn gwneud sylwadau arno. Russell George AC: A gaf finnau ategu'r Aelodau eraill sydd wedi cydymdeimlo â'r staff yr effeithir arnynt, ac wrth gwrs, y nifer fawr o bobl eraill yr effeithiwyd arnynt ac sy'n dal i gael eu heffeithio hefyd? Rwy’n falch, Weinidog, fod y llinell gymorth y cyfeirioch chi ati mewn perthynas â Cymru'n Gweithio wedi'i sefydlu—credaf mai dyna’r fforddgywir o fynd ati. Tybed pa gefnogaeth yr ystyriwch y gallai fod angen i Lywodraeth Cymru ei darparu i Faes Awyr Caerdydd. Ceir her yma yn y ffaith bod y maes awyr wedi colli cwmni hedfan pwysig sy'n cludo 100,000 o deithwyr bob blwyddyn. Felly, cefais fy synnu i raddau, ond efallai y gallwch ymhelaethu ar hyn, wrth ddarllen yn eich datganiad ddoe eich bod yn credu mai effaith gyfyngedig y bydd hyn yn ei chael ar y maes awyr. Efallai y bydd yn anodd iawn i'r maes awyr ddod o hyd i gwmni hedfan partner newydd yn lle Thomas Cook cyn tymor prysur yr haf y flwyddyn nesaf, ac wrth gwrs, fe fyddwch yn ymwybodol fod y maes awyr wedi colli £23 miliwn ers 2014. Felly, a ydych yn teimlo bod angen rhywfaint o gefnogaeth ar Faes Awyr Caerdydd, ac a allech amlinellu pa gefnogaeth y credwch y gallai fod ei hangen arno? A hefyd, pa ddadansoddiad cychwynnol a wnaethoch o effaith methiant Thomas Cook ar sefydlogrwydd ariannol Maes Awyr Caerdydd? Ken Skates AC: A gaf fi ddiolch i Russell George am ei gwestiynau ac am ymuno ag Aelodau eraill yn y Siambr hon i ddiolch i sefydliadau a chyrff fel yr Awdurdod Hedfan Sifil am eu gwaith a'u hymdrechion dros y dyddiau diwethaf? Rwyf am ganolbwyntio'n benodol ar fater maes awyr rhyngwladol Caerdydd, sef prif ffocws cwestiynau Russell George. O ran cynaliadwyedd ariannol y maes awyr ar ôl cwymp Thomas Cook, mae'n wir na fydd hynny'n cael effaith fawr ar y maes awyr, ac mae hynny oherwydd, fel rhan o waith diwydrwydd dyladwy'r broses ymgeisio am y benthyciad a ddarparwyd gennym i faes awyr rhyngwladol Caerdydd, modelwyd nifer o senarios gennym. Roedd un o'r senarios hynny'n cynnwys yr effaith y byddai methiant cwmni hedfan yn ei chael ar y maes awyr. Y model a ddewiswyd gennym oedd cwmni hedfan mwy o faint, ac felly, nid yw hyfywedd y maes awyr wedi'i amharu i raddau helaeth, er gwaethaf methiant Thomas Cook. Fodd bynnag, credaf fod yr Aelod yn nodi pwynt pwysig ynghylch perchnogaeth a chynaliadwyedd hirdymor y maes awyr, ac mae hynny'n rhywbeth y byddaf yn ei drafod yn y Siambr hon yn yr hydref. Mae'n eithaf anhygoel; rydym yn tueddu i feddwl, yn y DU, y dylai meysydd awyr fod yn eiddo preifat yn ddiofyn, ond nid yw hyn yn wir yn fyd-eang. Credaf fod oddeutu 4,300 o feysydd awyr yn darparu gwasanaeth teithiau awyr rheolaidd, ond 14 y cant yn unig ohonynt sydd heb fod mewn perchnogaeth gyhoeddus. Mae hyd yn oed meysydd awyr fel JFK yn eiddo i'r cyhoedd. Felly, y model byd-eang, mewn gwirionedd, yw bod meysydd awyr yn eiddo i'r cyhoedd, a dylai hynny fod yr un peth ar gyfer Maes Awyr Caerdydd yn fy marn i. Mae'r maes awyr yn siarad yn rheolaidd iawn gyda chwmnïau hedfan gwahanol, cwmnïau hedfan eraill y mae'n ceisio eu denu i'r cyfleuster, ac rwy'n hyderus iawn, ar sail ar y trafodaethau diweddar iawn sydd wedi mynd rhagddynt, y bydd cwmnïau hedfan newydd yn cael eu denu ac y byddant yn darparu llwybrau newydd o ac i Faes Awyr Caerdydd. Ond os caf ddweud, mae cwmnïau hedfan yn wynebu dwy her fawr ar hyn o bryd, cwmnïau sy'n gweithredu o'r DU. Mae un yn ymwneud â grym gwario dinasyddion y DU, sydd wedi lleihau dramor oherwydd y cwymp yng ngwerth y bunt, ac felly anhawster wrth ddenu dinasyddion y DU i fynd dramor. Ac yna'r ail her sy'n ein hwynebu o ganlyniad i ansicrwydd ynghylch Brexit yw'r cwymp yn y bunt a'r ffaith bod tanwydd yn cael ei brisio mewn doleri, ac felly mae cost gweithredu cwmnïau hedfan sydd wedi'u lleoli yn y DU wedi codi. Felly, mae'n amlwg fod y sector ei hun mewn sefyllfa fregus a simsan iawn. David J Rowlands AC: A gaf finnau gydymdeimlo â'r staff, fel yr amlinellwyd gan Bethan a Russell—y staff sy'n gweithio yn y siopau yng Nghymru, ond hefyd y staff ym mhob rhan o waith y cwmni hedfan? Oni fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno â mi, hyd yn oed pe bai'n ddymunol rhoi arian cynorthwyol i Thomas Cook—ac o ystyried y strwythur rheoli, sy'n echrydus yn ôl pob golwg, mae'n debyg na fyddai—y gallai Llywodraeth y DU fod yn mynd yn groes i reolau cymorth gwladwriaethol Ewrop pe baent yn ceisio rhoi arian cynorthwyol i'r cwmni? Ac mae un pwynt yn ymwneud â dod â theithwyr yn ôl o dramor. Yn ôl pob tebyg, pan fydd cwmni neu gwmni hedfan yn cael eu diddymu, mae'r holl awyrennau sy'n eiddo i'r cwmni hwnnw'n cael eu hatal rhag hedfan. Mae'n amlwg, pan aeth Monarch i'r wal, fod Llywodraeth y DU wedi dweud y byddent yn newid y rheolau. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried gwneud sylwadau i Lywodraeth y DU i newid y rheolau mewn perthynas â hyn, fel y gellid rhyddhau'r awyrennau hynny i ddod â theithwyr adref ar adegau fel hyn? Ken Skates AC: Yn sicr. Byddaf yn ystyried gwneud hynny heb unrhyw amheuaeth. Mae'n rhaid i mi ddweud bod gallu'r Awdurdod Hedfan Sifil, serch hynny, i nodi 45 o awyrennau i ddod â theithwyr yn ôl yn rhyfeddol. Mae'r ffaith eu bod wedi gallu gwneud hynny mewn cyfnod mor fyr yn glod mawr iddynt. Credaf mai mater i Lywodraeth y DU yw ystyried a ddylent fod wedi rhoi arian cynorthwyol i Thomas Cook ai peidio. Nid wyf yn gwybod, ac rwy'n amau na chaf byth wybod, pa gamau diwydrwydd dyladwy a gyflawnwyd ganddynt. Felly, rwy’n derbyn gair Gweinidogion Llywodraeth y DU pan ddywedant na fyddai wedi bod yn opsiwn cynaliadwy a fforddiadwy. Gwn fod pobl wedi codi'r cwestiwn ynglŷn ag a ddylid ei roi mewn perchnogaeth gyhoeddus. Mae'n debyg fod hwnnw'n fater i Aelodau yn Nhŷ'r Cyffredin ei godi. Ond fel y dywedaf, nid wyf wedi derbyn unrhyw wybodaeth a ddarparwyd drwy'r broses ddiwydrwydd dyladwy. Suzy Davies AC: Diolch, Weinidog. 4. Datganiadau 90 Eiliad Suzy Davies AC: Yr eitem nesaf yw'r datganiad 90 eiliad. Angela Burns. Angela Burns AC: Mae heddiw'n Ddiwrnod Fferyllwyr y Byd, amser i gydnabod y cyfraniad y mae fferyllwyr a'u timau'n ei wneud i iechyd y byd. Wedi'i gydgysylltu gan y ffederasiwn fferyllol rhyngwladol, mae Diwrnod Fferyllwyr y Byd yn tynnu sylw at y gwaith amrywiol y mae fferyllwyr yn ei wneud mewn amryw o wledydd. Er enghraifft, yn Affrica, mae fferyllwyr yn darparu seminarau addysg iechyd ac yn rheoli clinigau ar gyfer clefydau cronig fel anhwylderau iechyd meddwl, HIV, diabetes a phwysedd gwaed uchel. Yn benodol i ni yng Nghymru, mae fferyllwyr yn chwarae rôl allweddol yn darparu gwasanaethau'r GIG, o bigiadau ffliw ac archwiliadau iechyd i gyngor ar bob math o afiechydon a mân anafiadau, fel y gwasanaeth profi a thrin dolur gwddf. A gwn, fel mam, fy mod yn y fferyllfa yn gofyn am help yn gyson pan oedd fy mhlant yn ifanc. Pobl ryfeddol. Felly, gyda'r pwyslais ar annog pobl i ddewis yn dda ac i geisio cymorth gan y lefel briodol o wasanaeth yn dibynnu ar eu hangen, mae thema Diwrnod Fferyllwyr y Byd eleni, sef meddyginiaethau diogel ac effeithiol i bawb, yn hyrwyddo'r rôl hanfodol y mae fferyllwyr yn ei chwarae yn sicrhau diogelwch cleifion drwy wella'r defnydd o feddyginiaethau a lleihau camgymeriadau meddyginiaethol. Mae'r gwasanaeth adolygu meddyginiaethau wrth ryddhau yng Nghymru yn enghraifft wych o ble y caiff camgymeriadau meddyginiaethol eu lleihau drwy ddefnyddio data, ond mae mwy i'w wneud ac arferion gorau i'w rhannu. Felly, Aelodau, hoffwn ofyn i bob un ohonoch gydnabod y rôl y mae fferyllwyr yn ei chwarae yn darparu gofal iechyd diogel ac effeithiol, ac i fferyllwyr ledled Cymru, ar ran pob un ohonom mae'n debyg, rwy'n dweud 'diolch o galon'. 5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Hawliau Pleidleisio i Garcharorion Suzy Davies AC: Yr eitem nesaf, eitem 5, yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar hawliau pleidleisio i garcharorion. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—John Griffiths. Cynnig NDM7139 John Griffiths Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Hawliau Pleidleisio i Garcharorion', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Mehefin 2019. Cynigiwyd y cynnig. John Griffiths AC: Diolch yn fawr. Rwy’n falch o agor y ddadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar hawliau pleidleisio i garcharorion. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad, naill ai drwy roi tystiolaeth ysgrifenedig neu ar lafar; aelodau'r cyhoedd a gyfrannodd at ein fforwm trafod ar-lein, a'r ffordd barchus y trafodwyd ac y cynhaliwyd dadleuon ar wahaniaethau barn, yn enwedig gan fod y materion hyn yn ddadleuol iawn; a staff y carchar a'r carcharorion y buom yn siarad â hwy yn ystod ein hymweliadau â Charchar Ei Mawrhydi y Parc a Charchar Ei Mawrhydi Eastwood Park. Mae’r ddau wedi rhoi cipolwg go iawn inni ar ymarferoldeb cyflwyno unrhyw newid, ond maent hefyd wedi ein galluogi i archwilio’r egwyddorion ehangach gyda'r rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan unrhyw newid, y carcharorion eu hunain. Roeddent yn drafodaethau diddorol ac addysgiadol. Ar ôl derbyn tystiolaeth, ac ar ôl ystyried a phwyso a mesur y dadleuon moesegol, ymarferol a chyfreithiol yn ofalus iawn, argymhellodd y rhan fwyaf o’r pwyllgor y dylid rhoi'r bleidlais i fwy o garcharorion. Fel y dywedais yn gynharach, mae hwn, wrth gwrs, yn fater dadleuol, ac roeddem yn ymwybodol iawn o'r effaith y gallai unrhyw newid ei chael ar ddioddefwyr troseddau, ac archwiliwyd hyn gyda'n holl dystion. Rhan o gefndir y materion hyn yw'r dyfarniad fod Llywodraeth y DU wedi mynd yn groes i’r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol drwy gael gwaharddiad cyffredinol ar y bleidlais i garcharorion. Yna, cyflwynwyd newidiadau cyfyngedig, gan ganiatáu i garcharorion ar remánd ac ar drwydded dros dro, er enghraifft, bleidleisio. Mae Llys Hawliau Dynol Ewrop wedi dweud yn glir nad braint yw'r hawl i bleidleisio. Maent wedi dweud y dylid cael rhagdybiaeth lle y cynhwysir cymaint o bobl â phosibl mewn democratiaeth. Mae carcharorion yn cadw hawliau eraill pan fyddant yn mynd i'r carchar. Efallai eu bod yn colli eu rhyddid, ond nid ydynt yn colli eu hawliau sylfaenol. Credaf fod pleidleisio yn hawl o’r fath. Un o'r dadleuon mwyaf cymhellol a glywsom oedd fod carcharorion yn parhau i fod yn ddinasyddion cymdeithas. Roedd hyn yn rhywbeth a gafodd ei gyfleu’n gryf iawn yn ystod ein trafodaethau yn y carchardai. Clywsom fod llawer yn ymdrechu i barhau i fod yn rhan weithredol o fywydau eu teuluoedd, er gwaethaf y rhwystrau corfforol. Lywydd, buaswn yn dweud bod polisi cyfiawnder troseddol yn y DU yn arwain at garchardai gorlawn, diffyg adsefydlu a chyfraddau aildroseddu uchel, a bod ailintegreiddio mwy effeithiol i'r gymdeithas yn golygu llai o droseddu a llai o ddioddefwyr troseddau. Mae o fudd i'n cymunedau yn gyffredinol, yn ogystal â chyn-droseddwyr a'u teuluoedd. Gall pleidleisio fod yn arwydd bach ond arwyddocaol o ymagwedd fwy goleuedig a chynhyrchiol. Mae cael gwared ar yr hawl i bleidleisio hefyd yn rhan o broses sy'n trin carcharorion fel dieithriaid: nid ydynt fel y gweddill ohonom a dylent gael eu trin yn wahanol. Nid yw hyn yn dda iddynt hwy ac nid yw'n dda i'r gymdeithas ehangach. Mae'n rhwystro'r broses adsefydlu ac nid yw'n helpu i leihau cyfraddau aildroseddu na chydlyniant cymdeithasol. Dywedodd llawer o randdeiliaid wrthym eu bod yn credu y byddai rhyddfreinio yn helpu. Dywedodd y Foneddiges Hale, sydd bellach yn Llywydd Goruchaf Lys y DU, y clywsom gryn dipyn amdano yn ddiweddar, y byddai cadw'r bleidlais yn annog cyfrifoldeb dinesig ac ailintegreiddio. Mae hefyd yn symbol pwysig. Er nad oes llawer o dystiolaeth empirig i gefnogi'r farn hon, cawsom ein perswadio gan y rhanddeiliaid a ddywedodd y byddai mwy o gynhwysiant pan fydd pobl yn y carchar yn helpu’r broses o adsefydlu ar ôl iddynt gael eu ryddhau. Llywiodd nifer o ddadleuon eraill ein barn derfynol, megis cynsail ryngwladol, a'r effaith anghymesur y mae'r gwaharddiad yn ei chael ar rai grwpiau o bobl. Lywydd, roedd angen i ni ystyried wedyn sut beth fyddai'r etholfraint. Diystyrwyd ei seilio ar y math o drosedd neu ddyddiad rhyddhau, a chytunwyd i'w seilio ar hyd y ddedfryd. Ynghyd â rhai o aelodau’r pwyllgor, roeddwn yn cefnogi rhyddfreinio llawn. Fodd bynnag, ar ôl trafod yn ofalus, fe benderfynwyd argymell cynnwys carcharorion sy'n bwrw dedfrydau o lai na phedair blynedd. Roeddem yn teimlo bod hwn yn gyfaddawd addas a oedd yn cydbwyso'r angen am etholfraint etholiadol syml; un sy'n hawdd ei deall, a oedd yn thema gref iawn drwy gydol ein tystiolaeth; yn ystyriol o farn y cyhoedd, sydd yn erbyn rhoi’r hawl i bob carcharor bleidleisio; ac yn sicrhau cydymffurfiaeth â dyfarniad llys Ewrop. Mae hefyd yn cydnabod pa mor arwyddocaol yw dedfrydau pedair blynedd yn y system cyfiawnder troseddol, gan fod y carcharorion hyn yn wynebu telerau llai ffafriol ar gyfer cael eu rhyddhau'n gynnar. Lywydd, rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhelliad allweddol ac y bydd yn ceisio deddfu i wneud newidiadau ar gyfer etholiadau'r Cynulliad a llywodraeth leol. Credaf fod hyn yn dangos arweinyddiaeth wleidyddol go iawn, ac yn nodi bod Cymru’n parhau i fod ar flaen y gad o ran parchu hawliau dynol. Fodd bynnag, hoffwn rywfaint o eglurder pellach. Cadarnhaodd y Llywydd a'r Gweinidog mewn gohebiaeth y bydd Llywodraeth Cymru’n bwrw ymlaen â newidiadau i etholfraint y Cynulliad. Yn ei llythyr, dywedodd y Gweinidog y byddai'n ceisio cyfrwng deddfwriaethol priodol. Ond er iddi ymrwymo i newid yr etholfraint ar gyfer llywodraeth leol yn nhymor y Cynulliad hwn, ni chafwyd yr un ymrwymiad ar gyfer y Cynulliad. Felly, Weinidog, buaswn yn ddiolchgar pe gallech ddarparu rhywfaint o eglurder ynghylch eich syniadau ar hyn, ac a fydd y newid ar waith ar gyfer etholiadau nesaf y Cynulliad yn 2021. Mae'r darpariaethau cyfredol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 yn cysylltu etholfreintiau etholiadol y Cynulliad a llywodraeth leol yn glir. Os nad ydych yn gwneud y newidiadau i'r ddau ar yr un pryd, Weinidog, a allwch amlinellu a ydych yn ceisio’u datgysylltu dros dro? Mae'n werth nodi'r dystiolaeth a gawsom gan y Comisiwn Etholiadol y dylent fod yn gyson. Er fy mod wedi canolbwyntio, felly, ar y materion ehangach ynglŷn ag a ddylai carcharorion gael pleidleisio, edrychodd ein hadroddiad hefyd ar ymarferoldeb y dull o bleidleisio, gwybodaeth ac ymgyrchu. Buaswn yn gofyn i'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â sut y mae trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ar y materion a godwyd gan y pwyllgor yn argymhellion 5, 6 a 10 yn mynd rhagddynt. Mae'r rhain yn ymwneud yn benodol â dynodi cydgysylltydd etholiadau o blith staff y carchar, sicrhau bod pob carcharor cymwys wedi'u cofrestru i bleidleisio a'u bod yn cael eu cefnogi i gymryd rhan mewn etholiadau perthnasol, a darparu mynediad at gyfryngau Cymru yn y carchardai sydd â phoblogaeth gymharol fawr o Gymry. Lywydd, edrychaf ymlaen yn awr at glywed barn yr Aelodau eraill ar y materion pwysig hyn. Rwy'n siŵr y bydd yn ddadl ddiddorol, gan fod hwn wedi bod yn waith diddorol iawn i'r pwyllgor, ac i Aelodau'r Cynulliad yn gyffredinol, rwy'n siŵr. Daeth Joyce Watson i’r Gadair. Mark Isherwood AC: Carchar yw pen eithaf ein system gyfiawnder, ac mae'n rhan bwysig ac annatod o'r system cyfiawnder troseddol ym mhob gwlad. Amddifadu rhywun o'i ryddid am gyfnod yw un o'r pwerau mwyaf arwyddocaol sydd ar gael i'r wladwriaeth. Mae carchar yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o gynnal rheolaeth y gyfraith, drwy helpu i sicrhau bod troseddwyr honedig yn cael eu dwyn o flaen eu gwell, a thrwy ddarparu cosb am gamymddwyn difrifol. Mae iddo dri diben craidd: amddiffyn y cyhoedd; cosbi, gan amddifadu troseddwyr o ryddid a fwynheir gan weddill cymdeithas a gweithredu fel ataliad; ac adsefydlu, gan roi cyfle i droseddwyr ystyried eu troseddau a chymryd cyfrifoldeb amdanynt, a'u paratoi ar gyfer bywyd sy'n parchu'r gyfraith ar ôl eu rhyddhau. Fel y clywsom yng ngharchar y Parc, ychydig o garcharorion a fyddai naill ai'n defnyddio'r hawl i bleidleisio neu'n ei gweld fel ysgogiad i adsefydlu. Mae'r pwyllgor yn cyfaddef yn yr adroddiad fod y dystiolaeth empirig sy'n cefnogi'r ddamcaniaeth fod pleidleisio'n help i adsefydlu yn 'gyfyngedig'. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi, pan roddodd carchar Caerdydd gamau ar waith i annog carcharorion ar remánd i gofrestru i bleidleisio yn yr etholiad diwethaf, ni fanteisiodd yr un ohonynt ar y cyfle. Yn hytrach, dylem ganolbwyntio ar roi cyfleoedd i droseddwyr adeiladu bywydau cadarnhaol. Daw hawliau law yn llaw â chyfrifoldebau, a dim ond un o ffeithiau bywyd sy'n deillio o fod yn y carchar yw peidio â phleidleisio, gan adlewyrchu penderfyniad gan y gymuned nad yw'r unigolyn dan sylw yn addas i gymryd rhan ym mhroses cymuned o wneud penderfyniadau. Yn dilyn y dyfarniad y cyfeiriwyd ato yn Llys Ewrop, mae tua 17 y cant o garcharorion eisoes yn gymwys i bleidleisio. Gall carcharorion yn y gymuned, ar drwydded dros dro, bleidleisio erbyn hyn, ac mae hawl eisoes gan garcharorion heb eu collfarnu sy'n cael eu cadw ar remánd a charcharorion sifil a garcharwyd am droseddau megis dirmyg llys i bleidleisio, er mai ychydig iawn ohonynt sy'n gwneud. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi dweud y dylid ei gwneud yn fwy eglur i bobl sy'n cael dedfryd o garchar na fydd ganddynt hawl i bleidleisio tra byddant yn y carchar. Mae'r adroddiad hwn yn dyfynnu un o ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru, lle y cytunodd 50 y cant y dylid caniatáu i garcharorion gofrestru i bleidleisio, ac ymgynghoriad gan Gomisiwn y Cynulliad, lle'r oedd 49 y cant yn cytuno y dylai carcharorion allu pleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad os oedd disgwyl iddynt gael eu rhyddhau yn ystod y cyfnod pan oedd Aelodau'n cael eu hethol i wasanaethu. Fodd bynnag, roedd y ddau ymateb i'r ymgynghoriad yn rhai hunanddetholus, yn hytrach na samplau cynrychiadol wedi'u pwysoli. Mewn cyferbyniad, mewn arolwg YouGov yn 2017, dim ond 9 y cant o bobl yng Nghymru a ddywedodd y dylid caniatáu i bob carcharor bleidleisio. Nid cael terfynau sy'n cyfrannu at droseddu, ond diffyg terfynau. Mae'n peri pryder fod rhai aelodau o'r pwyllgor yn credu yn yr egwyddor o bleidleisiau i bob carcharor. Ond er gwaethaf hynny, fel y clywsom, dim ond argymell bod Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol yn deddfu i roi hawl i garcharorion o Gymry sy'n bwrw dedfryd o garchar o lai na phedair blynedd i bleidleisio mewn etholiadau datganoledig a wnaeth y pwyllgor. Am y rhesymau a amlinellwyd eisoes, ni allai Mohammad Asghar a minnau gytuno â'r argymhelliad hwnnw. Wrth ymateb i'r adroddiad, nododd Llywodraeth Cymru y bydd yn gweithio i gyflwyno deddfwriaeth yn y Cynulliad hwn i alluogi carcharorion o Gymru sy'n bwrw dedfryd o garchar o lai na phedair blynedd i bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol datganoledig. Wrth ymateb ar ran Comisiwn y Cynulliad, dywedodd y Llywydd nad yw'n credu y dylid cyflwyno gwelliannau i'r Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) er mwyn mynd i'r afael â'r mater hwn. Mewn llythyr at Gadeirydd y pwyllgor yr wythnos diwethaf, ychwanegodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi ymrwymo i'r egwyddor o hawl pleidleisio i garcharorion ym mhob etholiad lleol, a bydd yn chwilio am gyfrwng deddfwriaethol priodol ar y cyfle cyntaf i alluogi carcharorion o Gymru i bleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad ar yr un telerau â'r rhai a fydd yn berthnasol ar gyfer etholiadau llywodraeth leol. Er mwyn bod yn glir, yn ôl y Law Pages, bydd rhoi'r bleidlais i garcharorion sy'n bwrw dedfryd o garchar o lai na phedair blynedd yn cynnwys y rhai a gafwyd yn euog o fod â llafn neu arf miniog mewn man cyhoeddus, ymosodiad cyffredin gwaethygedig ar sail hil, difrod troseddol gwaethygedig ar sail hil, caffael dynes drwy fygythiadau, ymgais i gyflawni llosgach gan ddyn gyda merch dros 13 oed, cipio merch ddi-briod, achosi puteinio gan fenywod, llithio gan ddynion, trin cleifion yn wael, ymosod gyda'r bwriad o wrthsefyll arestiad, a chaffael eraill i gyflawni gweithredoedd cyfunrhywiol, a llawer iawn mwy. Dyma'r hyn y mae'r Blaid Lafur a Phlaid Cymru yn ei gefnogi, gan roi tystiolaeth bellach, os caf ddweud, o'r bwlch cynyddol rhwng ewyllys pobl Cymru a'u cynrychiolwyr honedig a etholwyd i'r lle hwn. Leanne Wood AC: Rwy'n falch ein bod ni'n cael y ddadl hon, ac rwy'n siomedig iawn ynglŷn â chyfraniad y Ceidwadwyr, nid yn unig heddiw, ond yn yr ymchwiliad hefyd. Rhaid i mi gyfaddef fy mod yn amheus pan ddechreuodd ein pwyllgor yr ymchwiliad hwn. Fel cyn-swyddog prawf, sydd â diddordeb brwd yn y system gyfiawnder er nad yw wedi'i datganoli, roeddwn yn credu y byddai'n rhyfedd i ni, fel pwyllgor, ymweld â gwahanol garchardai i siarad â charcharorion am rywbeth a oedd er ein lles ni. Rydym yn ymwybodol iawn o ystod y problemau y mae carcharorion yn eu hwynebu, o ddigartrefedd i broblemau cyffuriau ac alcohol, iechyd meddwl, chwalfa deuluol, cam-drin, trais yn y cartref, ac eto nid oeddem yn mynd i'r carchardai i siarad â phobl am y materion hynny, ond yn hytrach, roeddem yn gofyn i garcharorion a staff am eu barn ar bleidleisio, drosom ni mae'n debyg. Mae'n rhaid i mi ddweud i mi deimlo braidd yn anghyfforddus am y cyfan. Ond roeddwn i'n anghywir. Daeth yn amlwg yn fuan yn ystod ein hymweliadau â charchar Parc a charchar Eastwood Park y gallai rhai o'r carcharorion hyn weld ffordd drwy ein hymchwiliad o roi eu pryderon ar yr agenda drwy gael y bleidlais. Ar hyn o bryd, pwy sy'n gwrando arnynt? A oes ganddynt lais o gwbl? Nac oes. Mae carcharorion wedi cael eu hanghofio a'u bwrw i'r cyrion gan lunwyr polisi, gwleidyddion a'r gymdeithas ehangach, ac yma mae gennym gyfle i wneud rhywbeth i newid hynny. Mae pobl yn anghytuno ynghylch diben carchar. Ai ymwneud yn unig â chosbi y mae carchar? A ddylem wneud bywyd yn y carchar mor ofnadwy i bobl fel y byddent yn ei weld fel ataliad ac yn gwbl benderfynol o beidio â mynd yn ôl? Os mai dyna sut y'i gwelwn, nid yw amodau a hawliau yn bwysig. Ac eto, mae pobl yn meddwl pam y mae pobl sy'n mynd drwy system y carchardai'n dod allan wedi'u niweidio fwy ac yn tueddu i fod yn fwy troseddol. Nid yw carchar heb elfen adsefydlu yn fawr mwy na ffatri droseddau. Yn fy marn i, dylai carchar fod yn gosb, ond dylai hefyd fod yn offeryn i ddiogelu'r cyhoedd a cheisio adsefydlu'r unigolyn fel nad yw'n cyflawni rhagor o droseddau ar ôl ei ryddhau. Mae dull adsefydlu yn arwain at lai o droseddu a chymdeithas fwy diogel, fel y byddai unrhyw gymhariaeth onest rhwng gwledydd Sgandinafia a'r DU yn ei ddangos. Dylem anelu at leihau poblogaeth y carchardai drwy adsefydlu mwy o bobl a thrin pobl fel y dinasyddion ag yr ydynt a'r dinasyddion yr ydym eisiau iddynt fod. Am y rhesymau hyn rwy'n cefnogi ymestyn yr etholfraint i gynnwys carcharorion ac rwy'n cymeradwyo argymhellion yr adroddiad pwyllgor hwn. Mae cael y cyfle i bleidleisio yn atgoffa carcharorion eu bod yn dal yn ddinasyddion er iddynt gael eu cosbi am droseddu. Mae'n eu hatgoffa eu bod yn mynd i gael eu rhyddhau un diwrnod a bod disgwyliadau arnynt fel dinasyddion. Gall cael y cyfle i roi croes yn y blwchhelpu i ailintegreiddio a chynnwys carcharorion yn y gymdeithas ehangach. I mi, er fy mod yn amheus i ddechrau ynghylch defnyddioldeb yr ymchwiliad hwn i boblogaeth y carchardai, deuthum yn fwyfwy argyhoeddedig mai dyma oedd y peth cywir i'w wneud. Os ydych yn fenyw a ddedfrydwyd i'r carchar, mae'n warthus fod yn rhaid i chi gael eich carcharu mewn gwlad arall heb fynediad at eich teulu, at y newyddion o Gymru, at eich rhwydwaith adsefydlu, a dylai hynny ynddo'i hun fod yn rheswm digon da dros ddatganoli'r system cyfiawnder troseddol, er mwyn inni allu gwneud rhywbeth am hynny. Nid braint yw pleidleisio ac ni ddylai gael ei ystyried felly. Mae pleidleisio'n rhywbeth y dylem fod eisiau i bob un o'n dinasyddion ei wneud. I mi, mae hwn yn gwestiwn lle y gallai Cymru ddangos y gallem wneud pethau'n wahanol, yn fwy trugarog, gyda mwy o dosturi. Mae'r adroddiad hwn yn rhoi cyfle i'r Llywodraeth ac rwy'n mawr obeithio y bydd yn manteisio arno. Huw Irranca-Davies AC: Mae'n bleser gennyf siarad o blaid yr argymhellion a ddeilliodd o'r pwyllgor hwn, a chroesawu hefyd y modd y bu i John stiwardio'r pwyllgor hwn. Clywsom lawer iawn o dystiolaeth—y bobl a ddaeth ger ein bron, yr ymweliadau a wnaethom hefyd, lle buom yn siarad â llywodraethwyr carchardai, staff carchardai, staff rheng flaen a hefyd â phobl sydd wedi'u carcharu eu hunain. Rwyf am ddiolch i'r holl bobl a roddodd dystiolaeth, ond yn enwedig am y modd yr ymdriniodd yr Aelodau â chlywed y dystiolaeth honno hefyd. Roedd gwahaniaeth barn ar y pwyllgor hwn—gwelwyd hynny yn yr adroddiad, o ran ein prif argymhelliad—ond fe'i gwnaethom mewn ffordd gymesur, rwy'n credu. Rydym wedi cydnabod y gwahaniaethau hynny. Hoffwn ddweud wrth Mark: nid cynrychiolydd honedig ydw i. Rwy'n gynrychiolydd yn y sefydliad hwn, fel y mae pawb arall. Peidiwch â difrïo fy rôl i ac eraill drwy fy ngalw'n gynrychiolydd honedig. Fodd bynnag, os caf droi at y sylwedd, mae'r adroddiad yn gytbwys, oherwydd mae'n edrych ar y dadleuon o blaid ac yn erbyn hefyd. Mae'n egluro, fel y mae'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol wedi'i ddweud, nad yw hawliau pleidleisio yn hawliau absoliwt—hawliau cyffredinol. Dyna'n union pam yr edrychai'r pwyllgor hwn arno. I ba raddau yr adlewyrchwn farn y cyhoedd? I ba raddau y dymunwn ddangos arweinyddiaeth hefyd? Ond ceir teimlad amlwg hefyd, drwy dystiolaeth ryngwladol, ond hefyd y pwysau sydd wedi'i roi ar Lywodraeth y DU dros lawer o flynyddoedd, y dylem edrych ar hyn a gweld faint ymhellach y gallem fynd, yn enwedig oherwydd y dadleuon y nododd Leanne a'r adroddiad, sef, er efallai nad yw'n hawl gyffredinol i bawb, yn hawl absoliwt, dylem fod yn edrych ar unigolion sydd yn y carchar nid fel—. Bydd rhai'n garcharorion gydol oes, a rhai, gan gynnwys menywod y cyfarfuom â hwy, a ddywedodd, 'Wel, mae gennyf blant y tu allan i'r carchar. Rwyf yma am gyfnod byr iawn. Mae fy mhlant yn yr ysgol. Bydd fy mhlant yn derbyn gofal tra byddaf i ffwrdd oddi yma. Nid oes gennyf unrhyw lais o gwbl yn—'. Ac eto, bydd y bobl sydd yn y carchar—bob un ohonynt—yn talu treth ar enillion, treth ar gynilion ac ati tra byddant yno. Felly, mae'n anomaledd rhyfedd. Mae'r adroddiad yn gytbwys. Mae'n cydnabod—Mark, rydych chi'n llygad eich lle—nad yw'r cyhoedd yn cefnogi hawliau pleidleisio i garcharorion. Mae hefyd yn adlewyrchu'r ffaith bod teimladau'r cyhoedd yn newid, a'u bod wedi newid ar hyn hefyd. Weithiau, mae angen i ni, fel cynrychiolwyr etholedig, ddynodi cyfeiriad teithio. Nid wyf am greu embaras i'r Gweinidog, ond pan ddaeth hi ger ein bron yn y pwyllgor, dywedais, 'Weinidog, beth yw eich agwedd tuag at hyn i gyd?', oherwydd roeddwn i ychydig yn amheus. Roeddwn yn meddwl y gallai'r Llywodraeth adael hyn am y tro a'i roi o'r neilltu: 'Dyma adroddiad pwyllgor diddorol. Down yn ôl at hyn ymhen pum mlynedd neu 10 mlynedd.' A dywedais wrthi, 'A ydych chi'n gweld eich hun, o bosibl, yn bod yn Roy Jenkins Gweinidogion Llywodraeth Cymru ar y mater hwn?'—nid eich bod yn mynd uwchben a thu hwnt, ac nid y dylech geisio bod yn ddi-hid yn y ffordd—. Ond edrychwch ar y dystiolaeth a phenderfynwch beth yw'r polisi cywir a blaengar sy'n cydbwyso buddiannau pobl fel y comisiynydd dioddefwyr, a ddaeth ger ein bron a siarad yn angerddol am ei phryderon ynghylch ochr y dioddefwyr, ond hefyd ar fater adsefydlu—y ffaith bod y bobl hyn yn dal i fod yn ddinasyddion, am eu bod yn talu treth, mae ganddynt blant y tu allan mewn ysgolion ac ati. Felly, rwy'n credu ei fod yn eithaf cytbwys. Nawr, cyfaddawd oedd yr hyn a gafwyd gennym. Roedd gwahanol safbwyntiau yn y pwyllgor. Roedd rhai ohonom yn cefnogi, er symlrwydd ond hefyd o ran egwyddorion sylfaenol, ymestyn y bleidlais yn gyffredinol. Roedd llawer o'r tystion a ymddangosodd ger ein bron yn cefnogi hynny hefyd, am yr un rhesymau'n union. Ond roeddem yn cydnabod, ar y pwyllgor, am fod cymaint o wahaniaeth barn, y dylem edrych ar rywbeth a oedd yn ymarferol, a oedd yn syml, y gellid ei gyflawni ac nad oedd yn rhy gymhleth. Edrychasom ar lawer o wahanol bosibiliadau o fewn hynny, ac mae'r un a ddewiswyd gennym, sef dedfrydau pedair blynedd neu lai, yn rhoi'r symlrwydd a'r eglurder hwnnw rwy'n credu, ac mae'n rhoi'r neges glir y gallai Cymru, hyd yn oed os na fydd Llywodraeth y DU yn symud, fynd ati mewn gwirionedd i symud ymlaen a dangos arwydd clir ein bod yn credu yn egwyddorion adsefydlu—yn yr egwyddorion y bydd y bobl hyn, y bydd llawer ohonynt yn mynd drwy'r carchar, yn ôl yn byw gyda ni, ochr yn ochr â ni ac wedi'u hailintegreiddio yn y gymdeithas, ac yn magu eu plant a gweithio mewn gyrfaoedd ac yn y blaen ac yn y blaen. Rwy'n credu bod honno'n egwyddor bwysig. Felly, rwy'n croesawu hyn ac rwy'n croesawu ymateb y Llywodraeth hefyd. Fy unig ymholiad fyddai adleisio'r hyn a ddywedodd y Cadeirydd: am beth y siaradwn yma, o ran amserlenni ar gyfer bwrw ymlaen â hyn? Rwy'n credu bod cyfle yma i Lywodraeth Cymru ddangos rhywfaint o arweiniad yn hyn o beth ac efallai, pwy a ŵyr, y bydd Llywodraeth y DU yn dilyn ei hesiampl maes o law. Caroline Jones AC: Diolch i'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau am eu hadroddiad ar hawliau pleidleisio i garcharorion. Nid oeddwn yn aelod o'r pwyllgor yn ystod eu hymchwiliad, ond pe bawn i wedi bod, buaswn wedi ymuno â Mark Isherwood a Mohammad Asghar i wrthwynebu'r argymhellion. Rhaid nodi bod hawl gan garcharorion ar remánd i bleidleisio, ac nid wyf yn cytuno â'r dybiaeth y dylid caniatáu i garcharorion bleidleisio. Mae'r hawl i bleidleisio, hawl y mae pobl wedi marw i'w sicrhau a hawl y mae pobl wedi marw i'w hamddiffyn, yn gysylltiedig â'n dinasyddiaeth. Mae dinasyddion da, y rhai sy'n cydymffurfio â rheolau a chyfreithiau ein cymdeithas, yn cael hawl i benderfynu pwy sy'n llunio'r deddfau. Huw Irranca-Davies AC: Caroline, tybed a wnewch chi ildio ar y pwynt hwnnw. Caroline Jones AC: Ewch ymlaen, Huw. Huw Irranca-Davies AC: Dim ond i wneud y pwynt: a fyddech yn cydnabod bod yna gyfran sylweddol o boblogaeth y carchardai sydd mewn gwirionedd yn gyn-filwyr? Maent yn gyn-filwyr a fu'n gwasanaethu ein gwlad ar y rheng flaen, ac maent wedi mynd i sefyllfa lle maent yn y carchar am gyfnod. Mae'n neges anarferol i ni eu hanwybyddu a ninnau am iddynt fod yn ôl ac wedi'u hailintegreiddio yn y gymdeithas. Caroline Jones AC: Nid oes neb yn anwybyddu neb, Huw, ond yr hyn rwy'n ei ddweud yw pan fydd pobl yn cael eu hadsefydlu, mae ganddynt hawl i ddod yn ôl i mewn a chael y bleidlais honno. Mae wedi bod yn arfer hirsefydlog yn ein gwlad fod y rhai sy'n torri cyfreithiau ein gwlad yn colli'r hawl i gael unrhyw lais yn y broses o lunio'r cyfreithiau hynny, ac ni ddylem roi'r gorau i'r arfer hwnnw. Drwy dorri ein cyfreithiau, mae carcharorion wedi dangos eu bod yn diystyru ein cymdeithas a'i dinasyddion, ynghyd â dioddefwyr eu troseddau, ac ym mhob trosedd ceir dioddefwr. Ni ddylent gael rhoi eu barn am y ffordd y caiff ein gwlad ei rhedeg. Gwrthodaf yn llwyr unrhyw gamau i roi'r bleidlais i garcharorion. Rwyf hefyd yn cwestiynu'r penderfyniad i osod y terfyn ar ddedfrydau o bedair blynedd neu lai. Yn ymarferol, golyga hyn y bydd gan bob carcharor sy'n bwrw dedfryd yng ngharchardai Cymru hawl i bleidleisio, gan nad oes gan Gymru unrhyw garchardai categori A. Nid yw'r Alban hyd yn oed wedi mynd mor bell â hyn—maent wedi gosod y terfyn ar 12 mis. Felly, nid wyf yn cefnogi argymhellion y pwyllgor, ac am y tro cyntaf i mi, mae'n rhaid, rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried y goblygiadau a gwrthod yr argymhellion, oherwydd nid yn unig y mae hyn yn mynd yn groes i ddymuniadau'r cyhoedd yn ehangach, mae'r rhai sy'n pwyso am y newid hwn yn derbyn ei fod yn annerbyniol at ei gilydd i bleidleiswyr cyffredin. Felly, unwaith eto, mae gwleidyddion yn datgan eu bod yn gwybod beth sydd orau, ac yn diystyru barn y cyhoedd. Rydym wedi cael ein rhoi yma i wasanaethu ein hetholwyr, ac ni allwn anwybyddu eu dymuniadau, beth bynnag yw ein barn bersonol. Felly, os bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â'r polisi hwn, byddant— Leanne Wood AC: A wnewch chi dderbyn ymyriad? Caroline Jones AC: Nid un arall, mae'n ddrwg gennyf. Byddant yn dangos faint o ddiffyg cysylltiad sydd rhyngddynt mewn gwirionedd a barn y cyhoedd. Drwy roi'r bleidlais i'r rhai sy'n gwrthod rheolau ein cymdeithas, rydych mewn perygl o ddadrithio pleidleiswyr cyffredin—pleidleiswyr na fyddant yn pleidleisio mewn etholiadau yn y dyfodol am eu bod yn gwrthod pleidleisio dros elît gwleidyddol pell. Ac i beth? Er mwyn cael llond dwrn o bleidleisiau gan bobl a gafwyd yn euog o drosedd. A minnau wedi gweithio yn y gwasanaeth carchardai, gallaf ddweud wrthych na fydd y nifer a fydd yn pleidleisio yn rhywle fel carchar Parc yn agos at y 33 y cant a bleidleisiodd yn etholiad diwethaf y Cynulliad. Ac am y rhesymau a nodais, rwy'n annog yr Aelodau i wrthod y cynigion hyn. Mohammad Asghar (Oscar) AC: Mae'r adroddiad hwn gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, yr oeddwn yn arfer bod yn aelod ohono, yn gwneud 11 o argymhellion. Y prif argymhelliad yw y dylai carcharorion o Gymru sy'n cael dedfrydau o lai na phedair blynedd o garchar gael hawl i bleidleisio yn etholiadau datganoledig Cymru. Roedd fy nghyd-Aelod, Mark Isherwood, a minnau'n anghytuno â'r argymhelliad hwn. Rwy'n parhau i anghytuno heddiw. Rwy'n gwrthwynebu'r cynnig hwn o ran egwyddor, ac am resymau ymarferol hefyd. Rydym fel cymdeithas yn cynhyrchu fframwaith o ddeddfau sy'n nodi safonau cyfrifoldeb ac ymrwymiad y disgwyliwn i'n dinasyddion eu cynnal. Nid yw pobl sydd wedi cyflawni troseddau yn erbyn eu cyd-ddinasyddion yn cyrraedd y safonau hynny. Felly, os nad yw'r bobl hyn yn fodlon cydymffurfio â'r gyfraith, pam y dylent gael rôl yn gwneud y gyfraith i bawb arall? Dywedodd y Prif Weinidog ei hun yn y Siambr hon ddoe, Lywydd, a'r dyfyniad yw: '[mae] pobl sy'n penderfynu bod yn wneuthurwyr deddfau yn ildio'r hawl i fod yn dorwyr cyfraith.' Credaf fod y gwrthwyneb yn wir hefyd. Bu llawer o sôn am hawliau sifil carcharorion, ond mae carcharu, drwy ddiffiniad, yn golygu atal yr hawl i ryddid. Mae hawliau sifil mewn democratiaeth yn cyfuno'r hawl i bleidleisio â'r hawl i sefyll etholiad, rhyddid i gymdeithasu, ymgynnull a symud. Mae troseddwyr sy'n bwrw dedfrydau o garchar yn cael eu hamddifadu o'r hawliau sifil hyn o ganlyniad i'w gweithredoedd. Rwy'n credu'n gryf mewn adsefydlu troseddwyr. Mae adfer yr hawl i bleidleisio yn dangos bod unigolyn wedi talu ei ddyled i'r gymdeithas. Dylid ei weld fel cymhelliad i integreiddio troseddwyr yn ôl i'r gymdeithas ddinesig. Felly, o ran egwyddor, rwy'n gwrthwynebu'r cynnig hwn. Ond ceir dadleuon ymarferol yn erbyn hyn hefyd. Y gwir amdani yw bod y cynigion hyn yn creu hunllef fiwrocrataidd i staff a gyflogir yn y gwasanaethau carchardai sydd eisoes dan bwysau. Mae'r adroddiad hwn yn cynnig y dylai pob carchar, lle bynnag y bônt, ddynodi cydgysylltydd etholiadau ar gyfer carcharorion o Gymru o blith staff y carchar. Mae hyn yn faich ychwanegol ar staff carchardai. Nid oes gan Gymru garchardai i fenywod, felly mae menywod Cymru— Leanne Wood AC: A wnewch chi dderbyn ymyriad? Mohammad Asghar (Oscar) AC: Iawn, ewch ymlaen. Leanne Wood AC: O gofio bod Boris Johnson, y Prif Weinidog, wedi'i gael yn euog o dorri'r gyfraith yr wythnos hon, a ydych yn credu na ddylai gael yr hawl i bleidleisio yn awr? Mohammad Asghar (Oscar) AC: Gwrandewch—[Torri ar draws.] Edrychwch, y peth yw— Leanne Wood AC: A ddylem ei roi dan glo? Ei roi dan glo, efallai? Mohammad Asghar (Oscar) AC: Edrychwch, ni wnaeth niwed i'r wlad. Chi yw'r un sy'n niweidio'r wlad. Leanne Wood AC: Mae wedi niweidio'r wlad eisoes. Mohammad Asghar (Oscar) AC: Nid ydych yn gwrando ar—. Lywydd, cefais safbwyntiau yn fy swyddfa fy hun yng Nghasnewydd: mewn mis, pan oeddwn yn aelod o'r pwyllgor hwn, roedd mwy na 100 o etholwyr—gofynnais iddynt, ac ni ddywedodd yr un ohonynt, 'Hoffwn weld hawl i garcharorion bleidleisio.' Mae hynny yn Nwyrain De Cymru. Gwnewch hynny yn eich etholaethau a dewch yn ôl i adrodd. [Torri ar draws.] Na, rydych chi wedi cael digon, diolch. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cael eu newyddion oddi ar y teledu yn y carchar. Mae hyn yn rhoi carcharorion o Gymru yn Lloegr dan anfantais yn awtomatig am nad oes unrhyw garchardai i fenywod yma yng Nghymru—crybwyllwyd hyn yn gynharach. Un o gryfderau ein democratiaeth yw bod etholwyr yn cael cyfle i gyfarfod â'r ymgeisydd sy'n sefyll mewn etholiad. Mae'n gwbl anymarferol i ymgeiswyr deithio i'r carchar i gyfarfod â darpar bleidleiswyr yn yr achos hwn. Mae hyd yn oed yr adroddiad yn cydnabod bod y syniad o gynnal hustyngau ymarferol yn y carchar yn amhosibl oherwydd mae'n peri risg sylweddol o ran diogelwch. Lywydd, nid oes cefnogaeth o blith y cyhoedd na charcharorion i gael yr hawl i bleidleisio. Yn 2017 canfu arolwg YouGov nad oedd 60 y cant o'r bobl a ymatebodd yn cefnogi rhoi'r bleidlais i garcharorion—YouGov oedd hwnnw. Leanne Wood AC: A wnewch chi dderbyn ymyriad? Mohammad Asghar (Oscar) AC: Iawn, ewch ymlaen. Ewch ymlaen. Leanne Wood AC: Mae arolygon barn cyhoeddus yn dangos dro ar ôl tro fod y cyhoedd yn gyffredinol o blaid adfer crogi. A ydych chi'n credu felly y dylem adfer crogi er mwyn cydymffurfio â'r farn gyhoeddus? Mohammad Asghar (Oscar) AC: Ond mae hyn yn gwbl amherthnasol i fater carcharorion— Leanne Wood AC: Nid yw'n amherthnasol, rydych chi'n siarad am y farn gyhoeddus. Mohammad Asghar (Oscar) AC: Gwrandewch, roeddwn i'n meddwl eich bod yn wraig ddeallus iawn, rydym yn sôn am— Leanne Wood AC: A ydych chi'n fy ngalw i'n dwp? Mohammad Asghar (Oscar) AC: Rydym yn siarad am bleidleisio, nid am grogi. Leanne Wood AC: A ydych chi'n fy ngalw i'n dwp? Mohammad Asghar (Oscar) AC: Nid ydym—. Ni ddywedais—. Roeddwn i'n meddwl eich bod chi'n ddeallus iawn, ond rydym yn siarad— Leanne Wood AC: Rwy'n credu bod angen i chi fod yn ofalus. Mohammad Asghar (Oscar) AC: Rydym yn siarad yma—. Na, ni ddefnyddiais y gair 'twp' yma. Mae'n arwydd o'r diffyg cysylltiad rhwng y Llywodraeth Lafur hon yng Cymru a'r farn gyhoeddus. Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn ei hystyried yn flaenoriaeth i roi pleidleisiau i ddihirod, yr etholfraint i ddrwgweithredwyr, a phleidlais i fyrgleriaid. Gadewch i Lafur Cymru a Phlaid Cymru geisio cefnogaeth Norman Stanley Fletchers y byd hwn, os dymunant. Bydd y Ceidwadwyr Cymreig bob amser yn sefyll dros hawl dioddefwyr troseddau ac nid dros hawl y troseddwyr. Rwy'n erfyn ar y Cynulliad i wrthod yr adroddiad hwn. Diolch. Alun Davies AC: Dyma brynhawniau Mercher ar eu gorau, onide? Rwy'n croesawu'r adroddiad gan y pwyllgor, wyddoch chi. Rwyf hefyd yn croesawu ymateb y Llywodraeth i'r adroddiad hwnnw, ac roeddwn yn falch iawn o ddarllen geiriau'r Gweinidog yn ei hymateb. Roeddwn yn falch iawn pan wneuthum ddatganiad llafar ar y mater hwn ym mis Ionawr y llynedd. Bydd pob un ohonom sy'n cael y fraint o wasanaethu Llywodraeth ein gwlad yn dysgu pethau gwahanol o ganlyniad i arfer ein dyletswyddau fel rhan o'r fraint honno, ac i mi, fe wnaeth deall a dod i gysylltiad am y tro cyntaf, mewn gwirionedd, â'r system cyfiawnder troseddol roi ymdeimlad clir iawn i mi o system sydd wedi torri ac nad yw'n gwasanaethu anghenion y wlad hon, boed yn ddioddefwyr neu'r rhai a gedwir yn y ddalfa yn y wlad hon neu rywle arall. Alun Davies AC: Deuthum yn hynod argyhoeddedig yn gyflym iawn ein bod yn trin pobl mewn modd annynol yn y system hon, ein bod yn trin ein cymunedau mewn modd annynol, ac nad ydym yn hyrwyddo nac yn darparu gwasanaeth adsefydlu mewn unrhyw ffordd o gwbl. Nid oes neb yma, yn y lle hwn, er gwaethaf peth o'r nonsens a glywsom o rai rhannau o'r Siambr, a allai fod yn falch mewn unrhyw fodd ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd—[Torri ar draws.] Rwy'n adnabod fy etholwyr, Oscar, fe wnaethant fy ethol; nid ydynt yn gwybod pwy ydych chi. Gadewch i mi ddweud hyn wrthych—[Torri ar draws.] Gadewch i mi ddweud hyn wrthych—[Torri ar draws.] Gadewch i mi ddweud hyn: dylech gywilyddio, fel y dylai pawb ar bob ochr i'r Siambr sy'n caniatáu i'r sefyllfa hon barhau yn ein carchardai. Credaf ei bod yn iawn ac yn briodol inni ymestyn yr hawl i bleidleisio mewn etholiadau penodol i garcharorion yn y categori arbennig hwn. Credaf ei bod yn iawn ac yn briodol inni seilio system cyfiawnder troseddol ar ein gwerthoedd ac ar ein hegwyddorion—ein hegwyddorion ynghylch cyfiawnder cymdeithasol, ein hegwyddorion ynghylch yr hyn sy'n iawn ac yn briodol, ein hegwyddorion sydd am weld cyfiawnder gwirioneddol i ddioddefwyr troseddau yn y wlad hon, sef gostyngiad mewn troseddu a lleihad yn nifer y dioddefwyr. Ni wn am unman yn y byd lle mae dull mwy dialgar, dull mwy creulon, o weinyddu cyfiawnder troseddol yn arwain at fwy o heddwch mewn cymdeithas. Ac os nad yw pobl wedi dysgu hynny eto, efallai y bydd angen iddynt wneud ychydig mwy o ddysgu cyn darllen geiriau rhywun arall. Gadewch i mi ddweud hyn: rydym o ddifrif ynghylch cyfyngu ar ryddid pobl. Rydym o ddifrif o ran y modd yr anfonwn bobl i'r carchar ac y gosodwn bobl mewn sefydliadau gwarchodol. Ond colli eu rhyddid a wnânt yn y lleoedd hynny, nid colli eu hawliau dynol. Maent yn fodau dynol o hyd—bodau dynol sydd â hawliau yn y gymuned hon. Maent yn fodau dynol hefyd a fydd yn dychwelyd i'n cymunedau. Yn fy nghymuned i, Blaenau Gwent, yn ôl ymchwil gan Brifysgol Caerdydd, mae oddeutu 50 o bobl ar hyn o bryd yn bwrw dedfryd mewn gwahanol sefydliadau ledled Cymru a Lloegr. Mae'n iawn ac yn briodol eu bod yn gallu dychwelyd i'n cymuned a'n bod yn rhoi cyfle iddynt ddysgu, cyfle i fod y math o ddinasyddion yr ydym eisiau iddynt fod. Mae'n iawn ac yn briodol ein bod yn eu trin gyda'r parch y maent yn ei haeddu fel bodau dynol—[Torri ar draws.] Mae'n iawn ac yn briodol—mae'n iawn ac yn briodol ein bod yn ceisio eu hadsefydlu yn ein cymdeithas ac yn ein cymunedau. Dyna sut y mae creu gwell cymuned a gwell cymdeithas. Nid oes angen iselhau'r lle hwn â pheth o'r iaith a glywsom y prynhawn yma, ac nid oes angen inni iselhau ein sefydliadau drwy geisio'r lefel gyffredin isaf ar gyfryngau cymdeithasol. Gadewch i mi ddweud hyn: rwyf wedi dysgu llawer mwy nag y credwn y byddwn yn ei ddysgu yn fy amser fel Gweinidog cyfiawnder yn y lle hwn. Rwy'n torri fy nghalon wrth gofio'r sgyrsiau a gefais gyda charcharorion—y sgwrs y siaradais â'r Aelod dros y Rhondda amdani gydag un o'i hetholwyr, a dybiai y byddai'n ôl yng ngharchar Caerdydd yn weddol fuan ar ôl ei ryddhau am nad oedd y cyfleusterau i'w gefnogi ac i ymdrin â'i ddibyniaeth ar gyffuriau yn bodoli ac nid oedd ganddo unman i fyw. Mae'n rhaid i ni drin y bobl hyn â mwy o ddyngarwch, ac mae'n rhaid i ni drin y bobl hyn â mwy o barch ac mae'n rhaid i ni ddweud wrth bobl, 'Mae gennych hawliau a'r hawl i gymryd rhan yn siapio'r gymuned y byddwch yn cael eich rhyddhau iddi'. Ac rwy'n gobeithio y bydd y wlad hon, wrth i ni gronni pwerau ychwanegol ac wrth i'r ddemocratiaeth hon aeddfedu, yn aeddfedu i fod yn ddemocratiaeth sy'n trin pobl y wlad hon gyda llawer mwy o barch nag a glywsom o rai rhannau o'r Siambr y prynhawn yma. A gadewch i mi ddweud hyn: byddaf yn sefyll etholiad, fel y gwneuthum eisoes—ac nid yw llawer o'r bobl sy'n gwneud pwyntiau i wrthwynebu, wrth gwrs, erioed wedi ennill mandad i'r lle hwn, nid ydynt erioed wedi sefyll yn eu henw eu hunain mewn etholaeth ac ymladd etholiad. [Torri ar draws.] Gadewch i mi ddweud hyn: fe gefais fy ethol, fe gefais y sgyrsiau hynny gyda fy nghymuned ac fe wnaf hynny eto. A byddaf yn sefyll dros hawliau dynol pobl pan fyddaf yn gwneud hynny, a dyna, rwy'n credu, yw dyletswydd pob un ohonom. Joyce Watson AC: Rwy'n mynd i alw'r siaradwr nesaf, Jenny Rathbone, ond rwy'n credu, cyn i mi wneud hynny, buaswn yn hoffi rhywfaint o eglurder gan y siaradwr blaenorol nad oedd yn bwriadu dweud, fel rwy'n siŵr nad oedd, fod pobl sy'n sefyll etholiad drwy ba fodd bynnag ac felly yn cael eu hethol i'r sefydliad hwn yn llai gwerthfawr na'u cyd-Aelodau. [Torri ar draws.] Hoffwn i hynny gael ei egluro, cyn i mi alw ar y siaradwr nesaf. Alun Davies AC: Lywydd dros dro, pan fydd pobl yn siarad â ni am y farn gyhoeddus, rwy'n gwneud y pwynt fy mod wedi profi'r farn gyhoeddus yn fy etholaeth, ac fe enillais fandad ar sail hynny. Jenny Rathbone AC: Credaf fod hon yn ddadl bwysig, ac yn un y bydd yn rhaid inni benderfynu arni pan fyddwn yn deddfu ar yr etholfraint ar gyfer etholiadau'r Cynulliad a llywodraeth leol yn y dyfodol. Felly, nid mater penchwiban yw hwn; mae'n rhywbeth y bydd yn rhaid inni wneud penderfyniadau yn ei gylch. A dweud y gwir, pe bai gan garcharorion hawl i bleidleisio, efallai y byddai gwleidyddion yn talu mwy o sylw i'r amodau gwarthus y cedwir llawer o garcharorion ynddynt o hyd. Clywsom gan—. Dangosodd terfysgoedd ddoe yn Long Lartin fod llawer o garcharorion yn dal heb doiled yn eu celloedd a'u bod yn gorfod gwagio bwcedi yn y bore, rhywbeth sydd mor annymunol i'r carcharorion a'r swyddogion sy'n edrych ar eu hôl. Mae hyn yn warthus yn yr unfed ganrif ar hugain. Ledled y DU, rydym yn gwario biliynau o bunnoedd ar roi pobl dan glo, ac yng Nghymru, mae gennym gyfran uwch o garcharorion nag unrhyw wlad arall yng ngorllewin Ewrop, felly mae angen inni ofyn i'n hunain beth sydd ddim yn gweithio. Oherwydd mae ein cyfraddau aildroseddu'n golygu, mewn llawer o achosion, fod gennym ddrws troi ac felly rydym yn taflu mwy o biliynau o bunnoedd at rywbeth nad yw'n gweithio'n iawn. Mae angen inni sicrhau bod y rhan fwyaf o'n carcharorion yn dod allan yn argyhoeddedig eu bod yn mynd i fyw bywyd gwell a'u bod wedi dysgu o'u camgymeriadau. Rwy'n canmol gwaith rhagorol y carchardai a'r carcharorion—y swyddogion carchar ac asiantaethau eraill sy'n cyflawni hynny, ond mae llawer gormod o garcharorion yn methu sicrhau'r canlyniad hwnnw. Ystyriaf fod pleidleisio nid yn unig yn hawl, ond yn ddyletswydd i bob dinesydd, a dylai hynny gynnwys pob carcharor. Roedd yn ddiddorol iawn siarad â charcharorion yng ngharchar Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac yn Eastwood Park yn swydd Gaerloyw, lle mae'r holl garcharorion sy'n fenywod—roeddent yn dweud wrthym eu bod yn credu, cyn mynd i'r carchar, fod pob carcharor yn bobl ddrwg, ond eu bod bellach yn teimlo'n aml mai pobl a oedd wedi gwneud penderfyniadau gwael oeddent. Rwy'n credu ei bod yn arbennig o siomedig clywed gan Caroline Jones, sydd wedi gweithio yn y system carchardai ac sy'n gwybod felly pa mor gymhleth yw'r sefyllfa—bydd gan bob person yn y carchar stori wahanol, ac mae'r rhan fwyaf ohonynt wedi gwneud penderfyniadau gwael. Nid yw'r rhan fwyaf ohonynt wedi mynd ati i gyflawni trosedd, ond yn hytrach, maent wedi cyflawni trosedd yn ddifeddwl—trosedd y mae angen eu cosbi amdani. Ond rwy'n meddwl bod cymhlethdod y sefyllfa hefyd yn cael ei ddangos yn y ddrama a ddangosir yn y Clink ar hyn o bryd—drama o'r enw A Night in the Clink—sy'n rhan o garchar Caerdydd. Mae'r gwaith a wnaed gan Theatr Sherman mewn cydweithrediad â Papertrail yn gyfansoddiad clodwiw iawn, ac actio a mynegiant grymus iawn o ba mor anodd yw hi i rywun ailintegreiddio o fewn y gymdeithas. Mae John Griffiths eisoes wedi sôn am yr hybarch Lady Hale, cynheiliad ein democratiaeth. Yn 2014, dywedodd: Rhaid i unrhyw gyfyngiad ar hawliau sylfaenol fod yn ffordd gymesur o fynd ar drywydd nod cyfreithlon. Ai cosb ychwanegol yn unig ydyw, nod arall o anghymeradwyaeth cymdeithas o'r tramgwydd troseddol? Ynteu a yw'n annog ymdeimlad o gyfrifoldeb dinesig a pharch tuag at sefydliadau democrataidd? Os felly, gellid dadlau bod hyn yn fwy tebygol o gael ei gyflawni drwy gadw'r bleidlais, fel bathodyn o barhad dinasyddiaeth, i annog cyfrifoldeb dinesig ac ailintegreiddio mewn cymdeithas sifil. Rwy'n credu bod y farn honno wedi'i mynegi'n dda gan yr holl lywodraethwyr y buom yn siarad â hwy, oherwydd maent yn deall pwysigrwydd sicrhau bod carcharorion yn canolbwyntio ar y canlyniad gobeithiol. Felly, mae'n drychineb fod polisi cosbi yn cael ei ddominyddu i'r fath raddau gan y wasg boblogaidd, fel y mynegwyd gan rai o'r siaradwyr heddiw. Mae'n drychineb arbennig i blant carcharorion, nad ydynt byth yn cael eu hystyried pan anfonwn bobl i'r carchar, ac yn aml nid ydynt yn achosi unrhyw risg eu hunain i gymdeithas mewn gwirionedd. Drwy roi'r etholfraint i bawb sydd wedi cael dedfryd o lai na phedair blynedd, rydym yn eithrio'r rhai sy'n euog o'r troseddau mwyaf difrifol, ac mae'n drueni na ddarllenodd Caroline Jones yr adroddiad mewn gwirionedd, oherwydd mae'n dweud yn glir fod llai na hanner y carcharorion o Gymru yn bwrw dedfryd o bedair blynedd neu fwy. Felly, yn 2017, sef y tro diwethaf yr oedd y ffigurau hynny ar gael, roedd 1,800 yn bwrw dedfryd o lai na phedair blynedd, o gymharu â 1,600 a oedd yn bwrw dedfryd hwy na phedair blynedd. Rhaid inni symud gyda—. Mae'n rhaid i ni fod ar flaen y farn gyhoeddus yn yr achos hwn, fel yr oeddem wrth ddiddymu crogi, fel yr oeddem wrth gyflwyno'r Ddeddf erthylu, deddf y mae'r rhan fwyaf o bobl resymol yn awr yn sylweddoli mai dyna'n union sydd angen inni ei wneud. Felly, fy mhwynt olaf yw dweud na chaniateir i'r rhai sydd eisoes wedi cael hawl i bleidleisio o dan Ddeddf 1983 i arfer y cyfrifoldeb hwnnw. Nid yw'n ddigon dweud, 'A oes unrhyw un am bleidleisio?'— Joyce Watson AC: A wnewch chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda? Jenny Rathbone AC: —a disgwyl iddynt gamu ymlaen, gyda'r holl broblemau eraill sydd ganddynt. Mae angen i bawb fod wedi cofrestru i bleidleisio. Dyna'r gyfraith, ac nid yw'n cael ei harfer yn ein carchardai, ac mae'n rhywbeth y gobeithiaf y bydd y Gweinidog yn sôn amdano o ran sicrhau bod y gwasanaeth carchardai a'r swyddogion cofrestru etholiadol yn gweithio i sicrhau bod pob person sy'n mynd i'r carchar, hyd yn oed os yw'n ddim ond am wythnos, wedi'i gofrestru i bleidleisio fel rhan o'r broses dderbyn. Gareth Bennett AC: Diolch i Gadeirydd y pwyllgor am gyflwyno'r ddadl heddiw, a diolch hefyd i'r holl bobl a gymerodd ran, gan gynnwys y carcharorion y buom yn siarad â hwy. Nawr, nid wyf yn aelod o'r pwyllgor mwyach, er fy mod ar ddechrau'r ymchwiliad hwn. Cymerais ran yn y ddau ymweliad â charchardai ac roeddwn ar y pwyllgor pan ddechreuasom drafod cynnwys yr adroddiad. Credaf fod John Griffiths yn iawn yn dweud bod hwn yn fater sy'n ennyn teimladau cryfion, ac mae safbwyntiau pobl yn siŵr o amrywio, fel y mae'r ddadl hon wedi dangos. Er mwyn bod yn deg â'r Cadeirydd, rhoddodd gyfle i bob un ohonom ddweud ein barn ar hyn pan ddechreuwyd trafod beth fyddai'n mynd i mewn i'r adroddiad, ond wrth gwrs nid oeddem i gyd yn mynd i gytuno. Nawr, efallai fod gennym wahaniaethau gwleidyddol yma ynglŷn ag a ddylid ymestyn yr hawl i bleidleisio i gynnwys carcharorion ai peidio, ond a gaf fi nodi hefyd, hyd yn oed pe bai pob un ohonom yn cytuno i'w hymestyn, ac nid ydym, byddai problemau logistaidd ac ymarferol mawr o hyd mewn perthynas â chymhwyso'r hawl i bleidleisio? Er enghraifft, mae yna broblem gyda'r ffaith bod gennym garcharorion o Gymru mewn carchardai yng Nghymru a llawer o garcharorion o Gymru hefyd mewn carchardai yn Lloegr, ac mae gennym hefyd garcharorion o Loegr yn y carchar yng Nghymru. Os cawn etholiad yng Nghymru megis etholiad Cynulliad neu etholiadau llywodraeth leol, golyga hyn y gall rhai carcharorion bleidleisio—os yw'r syniad o ymestyn yr hawl yn cael ei dderbyn, bydd rhai carcharorion yn cael pleidleisio ac eraill na fyddant yn cael gwneud hynny, a bydd anawsterau wrth wahaniaethu rhwng y gwahanol gategorïau o garcharorion. Nid wyf yn dweud— Jenny Rathbone AC: A wnewch chi dderbyn ymyriad? Gareth Bennett AC: Wrth gwrs. Jenny Rathbone AC: Y cyfan yr hoffwn ei wneud yw tynnu sylw at y ffaith bod y rheini sydd â dedfrydau hwy na phedair blynedd eisoes wedi'u gosod mewn categori ar wahân gan y gwasanaeth carchardai. Felly, mae hyn yn rhywbeth y maent eisoes yn ei wneud. Gareth Bennett AC: Ydy, ac nid wyf yn anghytuno â'r sylw a wnaethoch, Jenny, ac nid wyf yn dweud na ellir goresgyn yr anawsterau. Ond yn sicr, credaf y bydd y ddeddfwriaeth yn ychwanegu at faich staff carchardai, sydd â digon i'w wneud fel y mae, mae'n debyg, a chlywsom rywfaint o dystiolaeth i'r perwyl hwnnw pan gawsom yr ymchwiliad. Hefyd, beth sy'n digwydd os oes gennym sefyllfa debyg i 2017, pan oedd etholiadau lleol Cymreig yn cael eu dilyn yn gyflym gan etholiad cyffredinol. Pe bai'r sefyllfa honno'n digwydd eto yn y dyfodol, byddai gennych rai carcharorion yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiadau leol. Yna, ychydig wythnosau'n ddiweddarach, efallai y cawn etholiad cyffredinol, y gallai fod ganddynt fwy o ddiddordeb ynddo nag yn yr etholiadau lleol, ac a wyddoch chi beth? Ni fydd ganddynt bleidlais. Bydd yn rhaid i rywun esbonio i grŵp o garcharorion pam nad oes ganddynt bleidlais, a hwythau wedi credu bod un ganddynt—pob lwc gyda hynny. Nawr, ceir problem logistaidd hefyd mewn perthynas â phennu terfyn o ran pa garcharorion sy'n cael pleidleisio, felly mae gennym gyfaddawd, a gynigir gan yr adroddiad, o roi pleidlais i garcharorion sy'n bwrw dedfryd o bedair blynedd neu lai. Mae hyn yn well yn fy marn i na rhoi'r bleidlais i bob carcharor, a fyddai, rwy'n credu, yn anfon neges i'r gymdeithas y byddai'r cyhoedd ehangach yn ei chael hi'n anodd ei deall. Fodd bynnag, dywedwyd wrthym gan rai a oedd mewn awdurdod yn y gwasanaeth carchardai yn ystod ein hymweliadau y byddai'n llawer anos gweithredu'r hawl i garcharorion bleidleisio pe bai terfyn yn bodoli, oherwydd unwaith eto, mae'n creu categorïau gwahanol o garcharorion, gyda rhai ohonynt yn cael pleidleisio, ac eraill na chânt wneud hynny. Byddai gennym garcharorion ar yr un adain, nifer ohonynt wedi'u cael yn euog am droseddau tebyg iawn, ond wedi cael dedfrydau ychydig yn wahanol, a bydd rhai ohonynt yn cael pleidleisio, ac eraill na chânt wneud hynny. Mewn amgylchedd caeedig fel carchar, gallai hyn arwain at broblemau. Yn wir, yn hytrach na chynyddu morâl carcharorion, byddai rhoi'r bleidlais i rai ohonynt, ond nid i bob un ohonynt, yn gallu arwain at ddadlau a lleihau morâl cyffredinol adain mewn carchar yn ystod cyfnod etholiad. Yn fy marn i, yr ateb mwyaf ymarferol fyddai peidio ag ymestyn yr hawl i bleidleisio i garcharorion o gwbl, ond derbyn y sefyllfa fel y mae ar hyn o bryd. Nid oes fawr neb yn yr etholaeth ehangach yn cefnogi rhoi'r bleidlais i garcharorion o gwbl. Mae'r rhan fwyaf yn credu bod carcharorion wedi fforffedu eu hawl i bleidleisio pan oeddent yn fforffedu hawl llawer pwysicach, sef yr hawl i'w rhyddid eu hunain. Mae carcharorion eisoes wedi'u dyfarnu'n analluog i gydymffurfio â'r gymdeithas sifil. Dyma'r penderfyniad a wnaed pan gawsant eu dedfrydu i garchar. Nid yw'n gwneud synnwyr o gwbl yng ngolwg y rhan fwyaf o'r cyhoedd yn gyffredinol i roi'r hawl iddynt bleidleisio. Ceir rhai cafeatau o ran carcharorion ar remánd nad ydynt wedi'u cael yn euog o unrhyw drosedd, ac o ran y rhai sydd ar drwyddedau dros dro, ond caiff y rhain i gyd eu cynnwys yn y ddeddfwriaeth bresennol. Felly, pam yr angen i ymestyn yr hawl i bleidleisio i garcharorion? Mae'r adroddiad hwn yn rhagarweiniad i ddeddfwriaeth wael arall, mae arnaf ofn, ac un arall sy'n dangos cyn lleied o gysylltiad sydd rhwng Cynulliad Cymru a'r cyhoedd yn gyffredinol yng Nghymru. Diolch. Michelle Brown AC: Yn ei hymateb i'r adroddiad, dywedodd Llywodraeth Cymru, ac rwy'n dyfynnu, 'Mae Llywodraeth Cymru yn credu y bydd caniatáu i rai carcharorion o leiaf bleidleisio yn anfon neges gadarn a chadarnhaol i garcharorion bod ganddynt ran i'w chwarae yn ein cymdeithas ac, yn ei dro, bod ganddynt gyfrifoldebau tuag at y gymdeithas yn gyfan.' Mae honiad o'r fath yn anwybyddu'r ffaith bod llai nag un o bob 12 carcharor mewn gwirionedd yn y carchar am drosedd gyntaf. Mae'n anhygoel o anodd mynd i garchar y dyddiau hyn. Er enghraifft, nid oes gan lai nag un o bob wyth a gaiff eu carcharu am droseddau cyffuriau unrhyw gollfarnau neu rybuddion blaenorol, ac yn rhyfeddol, mae carcharor yn llawer mwy tebygol o fod ag o leiaf 46 o gollfarnau neu rybuddion blaenorol nag o fod yn droseddwr tro cyntaf. Yr holl droseddu, tra'u bod yn dal i allu pleidleisio, a dal i gael rhan mewn cymdeithas, a chyfrifoldebau yn eu tro tuag at gymdeithas yn gyffredinol. Bob tro y bydd troseddwr wedi bod drwy'r system farnwrol, bydd y gwasanaethau prawf a'r barnwr neu'r ynadon wedi rhoi'r holl arwyddion sydd eu hangen arnynt i droseddwyr eu bod yn cael cyfle i newid—arwyddion cryf sy'n llawer mwy uniongyrchol nag unrhyw neges y gallai'r lle hwn ei hanfon. Rhybuddir pob troseddwr, a throseddwyr mynych hyd yn oed yn fwy felly, os byddant yn parhau i droseddu, y byddant yn peryglu eu hawliau, eu hawliau priodasol a'u rhyddid dyddiol. Mae ynadon, swyddogion prawf a barnwyr yn ei gwneud yn gwbl glir beth y mae troseddwr yn ei beryglu os yw'n aildroseddu, ac felly does bosibl na allwn gymryd y weithred o aildroseddu gan y troseddwr fel eu cydsyniad hwy i golli'r hawliau a'r rhyddid hwnnw. Mae'r adroddiad hwn yn ymwneud â niferoedd yn unig, ond dylai ymwneud â mwy na niferoedd—mae yna egwyddorion difrifol iawn yma. Yn hytrach nag anfon neges i droseddwyr di-baid y bydd ganddynt gyfrifoldebau tuag at gymdeithas o hyd, mae'n gwneud y gwrthwyneb. Mae'n dweud, er gwaethaf rhybuddion mynych gan farnwyr a swyddogion prawf y byddwch yn colli'ch hawliau sifil os byddwch yn parhau i droseddu, gallwch barhau i droseddu gydag amgylchiadau llai negyddol o ran eich hawliau sifil personol nag sydd wedi bod yn wir hyd yn hyn. Mae'n anfon neges at aelodau o'r gymdeithas sy'n cydymffurfio â'r gyfraith fod ein dosbarth gwleidyddol yn fwy allan o gysylltiad nag yr oeddent yn ei feddwl, oherwydd maent am ganiatáu i'r rhai na allant lynu wrth y gyfraith gael rhan yn creu'r gyfraith. Does bosibl fod troseddwr, tra yn y carchar yn bwrw ei ddedfryd, yn berson addas i ddylanwadu ar y broses o benderfynu ar y rheolau y mae'r cyhoedd sy'n cydymffurfio â'r gyfraith yn gorfod byw oddi tanynt. Ni chaiff llawer o bedoffiliaid a gafwyd yn euog o feddu ar ddelweddau anweddus o blant eu carcharu, ond hyd yn oed pan gânt eu carcharu, fel Jonathan McNeill, cânt ddedfrydau sy'n fyrrach na phedair blynedd. Nid oedd angen rhoi unrhyw arwydd i'r dyn hwn ynglŷn â chael rhan mewn cymdeithas; nid oedd ond wedi ymddeol o fod yn swyddog heddlu chwe mis cyn ei arestio a'i ddedfrydu i 15 mis o garchar. Ond mae Llafur ac eraill yn y Siambr hon yn amlwg yn meddwl y dylai ef a phedoffiliaid tebyg iddo fod â rhan mewn cymdeithas o hyd. Wel, ni ddylai, a dylai pobl deimlo cywilydd eu bod am fynd ar ôl eu pleidleisiau. Wythnos yn unig ar ôl i'r lle hwn anfon neges at rieni y dylent deimlo'n wael ynglŷn â'r modd y maent yn disgyblu eu plant, mae'r un gwleidyddion yn dweud wrth y rhai sydd am weld lluniau o blant yn cael eu cam-drin y dylent deimlo'n well amdanynt eu hunain. Mae'n ffiaidd. Os ydych chi'n mynd i barhau i newid yr etholaeth, efallai y dylech brofi'r farn gyhoeddus am y newidiadau arfaethedig yn briodol cyn cytuno arnynt yn y lle hwn. Nid wyf wedi cael unrhyw ohebiaeth gan yr etholwyr yn gofyn am ganiatáu i garcharorion bleidleisio. Fodd bynnag, rwy'n clywed gan bleidleiswyr sy'n pryderu bod y GIG yn methu, y system addysg yn methu a'r system gofal cymdeithasol yn methu. Nid oes ryfedd fod Llafur am newid yr etholaeth a chaniatáu i'r rhai nad ydynt yn malio dim, os o gwbl, ynglŷn â pha mor deg y mae cymdeithas yn gweithredu bleidleisio drostynt. Diolch. Joyce Watson AC: Galwaf ar y Llywydd i siarad ar ran Comisiwn y Cynulliad—Elin Jones. Diolch. Dwi'n ddiolchgar am y cyfle i ymateb ar ran Comisiwn y Cynulliad i'r adroddiad manwl yma gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. Dwi eisiau amlinellu yn gyntaf pam ein bod ni'n cael y ddadl yma heddiw. Pan oeddwn i a'r Comisiwn yn ystyried sut i arfer y pwerau newydd a ddarparwyd yn Neddf Cymru 2017 i wneud newidiadau i etholfraint y Cynulliad, un o'r materion a ddaeth i'm sylw yn gynnar oedd hawliau carcharorion i bleidleisio. Roedd Llys Hawliau Dynol Ewrop wedi canfod mewn dyfarniadau olynol fod y Deyrnas Unedig yn torri'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol drwy wahardd carcharorion yn gyffredinol rhag pleidleisio. Mae dyletswydd felly i sicrhau bod etholfraint y Cynulliad yn gydnaws â'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol. Felly, daeth hawliau pleidleisio carcharorion yn un o'r materion blaenaf i'w hystyried yng nghyd-destun newid etholfraint y Cynulliad. Bydd Aelodau'n ymwybodol bod Llywodraeth y DU wedi gwneud trefniadau gweinyddol a fydd yn galluogi nifer cyfyngedig o garcharorion i bleidleisio. Mae Cyngor Ewrop wedi cymeradwyo dull Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ond nid ydym yn gwybod eto a yw'r trefniadau hyn yn ddigonol ym marn llys Ewrop. O ran y Cynulliad, prif ofyniad dyfarniad llys Ewrop yw bod penderfyniadau ystyriol yn cael eu gwneud ynglŷn â hawliau carcharorion i bleidleisio mewn etholiadau i ddeddfwrfeydd. Gofynnodd Comisiwn y Cynulliad am farn y cyhoedd ar y mater yma yn 2018, fel rhan o'n hymgynghoriad ni ar 'Creu Senedd i Gymru'. Fe wnaeth yr ymgynghoriad hynny amlygu'r cymhlethdodau cyfreithiol, moesegol ac ymarferol sydd ynghlwm wrth roi'r bleidlais i garcharorion. Felly, gwnaethom gytuno fel Comisiwn fod angen parhau i ystyried y mater yma'n fanwl, ar sail drawsbleidiol, er mwyn galluogi'r Cynulliad fel deddfwrfa i roi ei farn ar y maes polisi yma cyn cyflwyno unrhyw gynigion deddfwriaethol. Felly, ym mis Medi 2018, ysgrifennais i at y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a gofyn iddynt i ystyried y mater hwn ymhellach. Gweler y gwaith sydd nawr wedi ei gyflawni a'r adroddiad sydd ger ein bron ni heddiw. Ystyriodd Comisiwn y Cynulliad adroddiad ac argymhellion y pwyllgor yn ofalus. Prif argymhelliad y pwyllgor yn ei adroddiad oedd y dylai Llywodraeth Cymru a Chomisiwn y Cynulliad ddeddfu i roi'r bleidlais i garcharorion sy'n bwrw dedfrydau o lai na phedair blynedd. Rwy’n ymwybodol bod y Cwnsler Cyffredinol wedi ysgrifennu at y pwyllgor yn ddiweddar yn amlinellu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’r egwyddor o roi'r hawl i garcharorion bleidleisio ym mhob etholiad datganoledig yng Nghymru— Mark Reckless AC: A wnaiff y Llywydd ildio? Gwnaf. Mark Reckless AC: Rydych yn dweud eich bod yn teimlo dyletswydd i wthio am yr hawl i garcharorion bleidleisio, ond onid yw hynny'n ei danddatgan mewn gwirionedd? Onid ydych o dan rwymedigaeth gyfreithiol i wneud hynny, wrth siarad ar ran y Comisiwn, yn yr un ffordd ag y byddai Jeremy Miles ar ran Llywodraeth Cymru? Fel cyrff cyhoeddus, mae'r gyfraith yn mynnu eich bod yn ystyried dyfarniadau Siarter Hawliau Dynol Ewrop. Ydy, rwy'n cytuno, ac roeddwn yn meddwl mai dyna beth a ddywedais. Os nad oeddwn yn glir yn yr hyn a ddywedais, yna yn sicr mae cydymffurfio â'r confensiwn yn rhywbeth y mae'n ddyletswydd ar y Cynulliad Cenedlaethol i'w sicrhau—ei fod yn cydymffurfio â'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol, a hynny sydd wedi gyrru'r holl waith hyd yma. Os af fi nôl, felly, i argymhelliad y pwyllgor, mae'r Comisiwn wedi ystyried a fyddai'r Bil Senedd ac etholiadau, sy'n cael ei ystyried ar hyn o bryd gan y Cynulliad, yn gyfrwng deddfwriaethol addas ar gyfer unrhyw gynigion gan Lywodraeth Cymru, ac wedi dod i'r casgliad na fyddai'r Bil yn gyfrwng deddfwriaethol addas, yn ein barn ni ar hyn o bryd. Mae'r Comisiwn yn cytuno'n gryf â barn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y byddai rhoi hawliau pleidleisio i garcharorion yn gyfystyr â newid sylweddol i'r etholfraint. Dylai unrhyw ddarpariaethau i gyflawni newid o'r fath gael eu cynnwys mewn Bil wrth ei gyflwyno, yn hytrach na'u mewnosod drwy welliannau. Er bod yr ymchwiliad i hawliau pleidleisio carcharorion a gynhaliwyd gan y pwyllgor wedi ystyried y mater polisi hwn yn fanwl, mae'r Comisiwn yn cytuno â'r pwyllgor materion cyfansoddiadol na all hyn gyfateb i waith craffu ar Fil yng Nghyfnod 1. O'r herwydd, nid yw'r Comisiwn o'r farn y dylid cyflwyno gwelliannau i'r Bil Senedd ac etholiadau i fynd i'r afael â'r mater yma. Mae'n werth imi hefyd egluro beth yw cylch gwaith Comisiwn y Cynulliad o ran materion etholiadol. Mae'r Cynulliad, wrth gwrs, wedi rhoi mandad i'r Comisiwn gyflwyno deddfwriaeth i ostwng yr oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau'r Cynulliad. Fodd bynnag, Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol o hyd am bolisi o ran pob etholiad datganoledig yng Nghymru. Mae pleidlais i garcharorion hefyd yn faes polisi llawer mwy cymhleth na rhoi'r hawl i bobl ifanc 16 a 17 oed i bleidleisio. Am y rhesymau hyn, dwi'n credu bod datblygu unrhyw gynigion deddfwriaethol mewn perthynas â hawliau pleidleisio carcharorion ar gyfer etholiadau’r Cynulliad, a’r cyfrifoldeb am ymateb i'r rhan fwyaf o argymhellion y pwyllgor, yn fater i Weinidogion Cymru. I gloi, felly, dwi'n diolch i'r pwyllgor am gynnal yr ymchwiliad manwl yma. Heb os, mae'n gyfraniad pwysig iawn ar y cwestiwn sylfaenol hwn sy'n ymwneud â materion cyfansoddiadol a hawliau dynol pwysig y bydd Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad, maes o law, yn mynd i'r afael â nhw. Joyce Watson AC: Galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James. Julie James AC: Diolch, Lywydd dros dro. Hoffwn ddiolch hefyd i'r Cadeirydd ac i'r pwyllgor am eu harchwiliad manwl o'r materion niferus sy'n ymwneud â phwnc emosiynol a chymhleth hawliau pleidleisio i garcharorion. Roedd yr ymchwiliad a'r adroddiad yn drylwyr ac yn wrthrychol. Mae'r dadansoddiad a'r argymhellion yn sicr wedi helpu i lywio ein casgliadau polisi a nodir yn fy ymateb ysgrifenedig i'r argymhellion, sydd eisoes wedi'i gyhoeddi. Rydym yn derbyn, neu'n derbyn mewn egwyddor, holl argymhellion y pwyllgor a gyfeiriwyd at Lywodraeth Cymru. Mae ein rhesymeg wedi'i nodi yn fy ymateb, felly nid af drwy hynny eto. Fel y pwysleisiwyd yn adroddiad y pwyllgor, ceir materion cyfreithiol a gweinyddol pwysig i fynd i'r afael â hwy wrth weithredu hawl carcharorion i bleidleisio. Bydd angen i Lywodraeth Cymru weithio gyda Llywodraeth y DU ac yn benodol gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi i sicrhau'r bleidlais i garcharorion mewn modd amserol, cydlynol ac effeithiol. Mae fy swyddogion eisoes wedi dechrau cysylltu â chysylltiadau ar draws ystod o sefydliadau Llywodraeth y DU. Ond dim ond rhan o'r paratoi a'r ymgysylltu sydd ei angen yw hynny. Mae'r hawl i bleidleisio yn arf gwerthfawr a phwerus. Mae angen i bleidleiswyr gael gwybod am beth y maent yn pleidleisio a phwy sydd am eu cynrychioli. Mae angen i ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol allu estyn allan at bleidleiswyr a chyfleu eu polisïau iddynt. Os yw ymestyn y bleidlais i gynnwys carcharorion a phobl ifanc yn y ddalfa yn mynd i fod yn ystyrlon, mae angen inni hefyd wneud llawer o waith ar y materion meddalach a nodir yn adroddiad y pwyllgor, megis ymwybyddiaeth ac addysg pleidleiswyr, hygyrchedd gwybodaeth a chyfryngau a chymorth ymarferol i helpu carcharorion a phobl ifanc yn y ddalfa i gofrestru eu pleidlais. Rwyf bob amser wedi dweud yn glir fod Llywodraeth Cymru yn credu'n gryf yn yr egwyddor y dylai o leiaf rai carcharorion gael y bleidlais mewn etholiadau datganoledig yng Nghymru. Byddwn yn gweithio i gyflwyno deddfwriaeth yn y Cynulliad hwn i alluogi carcharorion a phobl ifanc yn y ddalfa o Gymru sy'n bwrw dedfryd o garchar o lai na phedair blynedd i bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol. Ein nod yw sicrhau bod carcharorion a phobl ifanc gymwys yn y ddalfa yn gallu pleidleisio yn yr etholiadau llywodraeth leol arferol nesaf yn 2022. Fodd bynnag, yn anffodus, nid ydym yn credu y bydd yn bosibl datrys yr holl faterion a grybwyllir yn adroddiad y pwyllgor mewn pryd i gynnwys darpariaeth ar gyfer etholiadau'r Cynulliad yn y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) sy'n cael ei ystyried gan Aelodau'r Cynulliad ar hyn o bryd. Am yr holl resymau y mae'r Llywydd newydd eu nodi, ac rwy'n cytuno'n llwyr â hwy, mae angen inni roi ystyriaeth well i'r hyn sydd angen inni ei wneud a meddwl am hynny'n fwy penodol. Fe ddychwelaf at y pwynt hwnnw ychydig yn nes ymlaen yn fy araith. Felly, bydd hwn yn grŵp bach iawn o etholwyr newydd, ond mae ganddynt amgylchiadau arbennig sy'n torri ar draws llawer o'r trefniadau hirsefydlog ar gyfer cofrestru i bleidleisio a bwrw pleidlais. Yn syml iawn, fel y mae'r Llywydd newydd ei nodi, nid oes digon o amser i weithio drwy'r holl ofynion cyfreithiol a gweinyddol newydd y byddai'n rhaid eu sefydlu ar gyfer etholiad a gynhelir yn 2021, a'u profi gyda Llywodraeth y DU, y gwasanaeth carchardai a'r swyddogion cofrestru etholiadol. Er mwyn i unrhyw gategori newydd o bleidleiswyr allu pleidleisio yn etholiad y Cynulliad ym mis Mai 2021, cofiwch y byddai angen i'r holl ddeddfwriaeth sylfaenol, yr is-ddeddfwriaeth a'r canllawiau fod yn eu lle erbyn mis Gorffennaf 2020, pan fydd y canfasio'n dechrau ar gyfer llunio'r gofrestr a fydd yn gymwys yn yr etholiadau hynny. Bydd angen i ni hefyd weithio'n agos gyda'r Comisiwn Etholiadol, llywodraethwyr a swyddogion carchardai, pleidiau gwleidyddol, darparwyr addysg, sefydliadau'r cyfryngau a charcharorion eu hunain i ddatblygu canllawiau a gweithdrefnau clir, cywir ac ymarferol i hysbysu a chynorthwyo carcharorion ynglŷn â sut i gofrestru a bwrw eu pleidlais. Yn unol â hynny, ni fydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno gwelliannau i'r Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru); byddwn yn chwilio am gyfrwng deddfwriaethol priodol i gyflwyno darpariaeth cyn gynted â phosibl er mwyn galluogi carcharorion a phobl ifanc yn y ddalfa o Gymru i bleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad. Yr etholiad Cynulliad cyffredinol cyntaf y byddai carcharorion a phobl ifanc yn y ddalfa yn gallu pleidleisio ynddo, felly, fyddai'r etholiad yn 2026. Bydd y nifer sy'n cael yr hawl i bleidleisio gan y newidiadau hyn yn fach—tua 2,000 ar y mwyaf—ond mae hwn yn gam pwysig ymlaen, yn ymarferol ac mewn egwyddor. Mae angen inni wneud yn siŵr ei fod yn fwy na gweithred ddisylwedd heb unrhyw effaith ymarferol y tu hwnt i'r hyn a ysgrifennwydar y llyfr statud. Mae hynny'n golygu y bydd angen i ni, a'r holl asiantaethau eraill sy'n gysylltiedig, fuddsoddi amser ac ymdrech i sicrhau bod y seilwaith angenrheidiol ar waith, wedi'i brofi, a'i fod yn gadarn. Rwy'n hapus iawn i ymateb i gais John i roi gwybod i'r pwyllgor am ein cynnydd mewn perthynas â phob un o'r argymhellion a sut y'u gweithredwn mewn manylder ymarferol, a byddaf yn sicrhau bod swyddogion yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor wrth i'r materion hynny fynd rhagddynt. Rydym am i'r grŵp newydd hwn o bleidleiswyr allu arfer eu hawliau a gwneud hynny gan wybod eu bod yn ddinasyddion, fod ganddynt ran mewn cymdeithas a bod ganddynt rwymedigaethau i gymdeithas hefyd. Credaf yn gryf y bydd yr elw ar fuddsoddiad o'r fath yn hynod o werth chweil. Diolch. Joyce Watson AC: Galwaf yn awr ar John Griffiths, fel Cadeirydd y pwyllgor, i ymateb i'r ddadl. John Griffiths AC: Diolch yn fawr. Wel, mae wedi bod yn ddadl ddiddorol gyda safbwyntiau cymysg. Wrth gwrs, roedd barn gymysg ar y pwyllgor, rhywbeth a adlewyrchwyd yn yr adroddiad, ond mae'r mwyafrif yn cefnogi argymhellion y pwyllgor a'r adroddiad ei hun. Credaf fod nifer o faterion ymarferol sy'n rhaid mynd i'r afael â hwy, fel yr amlinellwyd gan yr Aelodau, ond ymdrinnir â'r rheini yn yr adroddiad a'r argymhellion. Wrth gwrs, clywsom gan staff carchardai a ddywedodd eu bod yn cydnabod yr anawsterau hynny—peth o'r fiwrocratiaeth a'r problemau system a allai fod yn gysylltiedig â hyn—ond nad oeddent yn anorchfygol o bell ffordd. Yn wir, roedd llywodraethwr y carchar a'r staff yn gefnogol iawn i'r cyfeiriad teithio y mae'r adroddiad yn ei argymell, ac roeddem yn ddiolchgar iawn am y lefel honno o ddealltwriaeth. Fel yr argymhellwn, bydd yn rhaid cael memorandwm cyd-ddealltwriaeth, fel yr ydym yn ei argymell, y gall Llywodraeth Cymru a'r Comisiwn Etholiadol fynd ar ei drywydd gyda Llywodraeth y DU a'r gwasanaeth carchardai. Bydd hynny'n mynd i'r afael â materion ynghylch sicrhau bod carcharorion yn cael eu cofrestru i bleidleisio, os ydynt yn gymwys; eu bod yn cael cymorth i gymryd rhan; fod mynediad i bleidiau gwleidyddol allu cyfarfod â charcharorion at ddibenion ymgyrchu; a bod cydgysylltydd etholiadau ym mhob carchar sydd â charcharorion o Gymru. Mae'r holl faterion hynny'n rhai ymarferol iawn, Ddirprwy Lywydd, ac rydym yn eu cydnabod ac yn rhoi sylw iddynt yn ein hadroddiad mewn ffordd yr un mor ymarferol. Nid ydynt yn anorchfygol, ac fel y dywedais, cafodd hynny ei dderbyn gan y rheini a fydd yn gyfrifol am wneud y trefniadau o fewn y carchar. Bydd yn rhaid rhoi gwybodaeth i garcharorion a mynd i'r afael â'r diffyg mynediad at gyfryngau Cymru o ran carchardai yn Lloegr, a chlywsom yn effeithiol iawn gan garcharorion yn Eastwood Park. Felly, oes, mae cryn dipyn o faterion ymarferol yn codi, ond mae modd goresgyn pob un ohonynt. Yn wir, rwy'n credu bod yna ymdeimlad clir o'r ewyllys angenrheidiol o fewn carchardai ac ymhlith partneriaid angenrheidiol i wneud yn siŵr fod yr anawsterau hynny'n cael eu goresgyn. Mae wedi bod yn waith diddorol a gwerth chweil, ac rwy'n credu i'r pwyllgor fwynhau'r gwaith, gan wybod ei fod yn rhywbeth sydd o werth ymarferol—mae'n rhywbeth y gofynnwyd i ni ei wneud. Mae'n rhywbeth sy'n cydnabod cyfrifoldebau'r sefydliad hwn mewn perthynas â'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol, fod gofyniad clir gan y corff rhyngwladol pwysig iawn hwnnw i'r materion hyn gael sylw, ac yn wir, wrth gwrs, y dyfarniad gan Lys Hawliau Dynol Ewrop na ellir amddiffyn gwahardd eu gofynion a'n cyfrifoldebau yn ddiwahân. Mae Llywodraeth y DU wedi cydnabod hynny gyda'r newidiadau cyfyngedig a wnaethant, ac y cyfeiriais atynt yn gynharach, ac mae'n rhaid i ni hefyd fabwysiadu safbwynt yma ynglŷn â sut i fynd i'r afael â'r gofynion hynny. Rwy'n falch iawn fod yr adroddiad wedi llwyddo i wneud hynny'n effeithiol, rwy'n credu—mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn hynny. Rwy'n deall yr hyn a ddywedodd y Llywydd mewn perthynas â gwaith y pwyllgor a'r cyfrifoldeb yr ydym wedi'i dderbyn, wedi ymgymryd ag ef, ac wedi'i gyflawni'n briodol, rwy'n gobeithio. Wrth gwrs, roedd llawer o'r hyn a glywsom yn y ddadl, Ddirprwy Lywydd, yn ymwneud â materion o egwyddor ehangach yn hytrach na'r problemau mwy ymarferol. Rwy'n credu bod hynny'n hollol iawn; mae yna faterion o egwyddor ehangach yn codi. Rydym yn cydnabod hynny yn yr adroddiad. Buaswn yn cytuno â rhai o'r Aelodau a siaradodd, fel Leanne Wood, Jenny Rathbone ac Alun Davies, a diolch i Alun Davies am y gwaith a wnaeth fel Gweinidog yn bwrw ymlaen â'r materion hyn, ac yn ein rhoi mewn sefyllfa lle y gallwn wneud y cynnydd y gobeithiaf y byddwn yn ei wneud maes o law. Rwy'n deall yn iawn y disgrifiad a roddodd yr Aelodau o'r system cyfiawnder troseddol sydd gennym. Rwy'n credu ei bod wedi torri; nid wyf yn credu bod unrhyw amheuaeth am hynny. Mae'n orlawn iawn, sy'n ei gwneud hi'n anodd iawn datblygu hyfforddiant priodol, adsefydlu priodol. Mae hynny'n bwysig, onid yw? Ac yn wir, cydnabu Rory Stewart, un o'r Gweinidogion diweddar ar lefel y DU gyda chyfrifoldeb am hyn. Mewn gwirionedd, rwy'n credu ei fod wedi dweud yn eithaf dramatig ac yn drawiadol iawn y byddai'n ymddiswyddo o'r swydd os na allai newid y system o fewn cyfnod penodol o amser. Roedd yn ffordd eithaf dramatig o fynd i'r afael â'i gyfrifoldebau. Daeth materion eraill ar ei draws, fel y gwyddom, mewn ffordd eithaf dramatig hefyd, ond credaf fod honno'n ffordd drawiadol i Weinidog gydnabod ei gyfrifoldebau, gan gydnabod cyflwr presennol y system cyfiawnder troseddol a'r system carchardai, a bod eisiau gwneud rhywbeth effeithiol yn ei gylch. Felly, mae yna broblemau difrifol, a'r hyn a wnânt mewn gwirionedd yw arwain at fwy o droseddu a mwy o ddioddefwyr troseddau, oherwydd os na chaiff pobl eu hadsefydlu'n briodol pan gânt eu rhyddhau, fel sy'n digwydd i bron bob carcharor, mae'n amlwg eu bod yn fwy tebygol o aildroseddu a niweidio ein cymunedau, eu hunain a'u teuluoedd ymhellach. Huw Irranca-Davies AC: A wnaiff y Cadeirydd ildio? John Griffiths AC: Fe ildiaf. Huw Irranca-Davies AC: Rhaid bod y dystiolaeth a roddwyd gan yr Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai wedi creu argraff arno, fel y gwnaeth arnaf fi, pan ddywedodd, 'Gadewch inni beidio ag anghofio bod llawer o'r bobl sydd yn y carchar yn dod, i raddau anghymesur, o gymunedau du a lleiafrifoedd ethnig, ac i raddau anghymesur o gymunedau difreintiedig hefyd.' Nid ydynt yn gymuned ar wahân; maent yn rhan o'n cymuned ni. Ac mae hynny'n iawn, oherwydd os methwn roi darpariaeth adsefydlu ddigonol ar waith—ac mae rhan o'r ddadl hon yn ymwneud â hynny hefyd—yna, mewn gwirionedd, yr hyn a ddywedwn yw ein bod yn diystyru'r bobl hynny, a Duw a'n helpo wedyn o ran goblygiadau hynny pan gânt eu rhyddhau yn ôl i mewn i'n cymuned, oni bai ein bod yn eu trin fel dinasyddion. John Griffiths AC: Cytunaf yn llwyr â hynny. Fel y dywedais, yr hyn yr ydym yn siarad amdano, yn fy marn i, yw gwneud y peth iawn o ran egwyddor, ond gwneud y peth iawn hefyd o ran yr effaith ymarferol. Ac nid wyf yn dweud bod rhoi'r bleidlais i garcharorion yn mynd i roi hwb mawr i adsefydlu ac ailintegreiddio, ond rwy'n credu ei fod yn arwydd pwysig, ac rwy'n credu, pan oeddem yn cymryd tystiolaeth yn y carchardai gan garcharorion a staff, a'r tu allan i'r carchar yn ein gwrandawiadau pwyllgor, roedd cydnabyddiaeth a chefnogaeth gyffredinol i'r safbwynt hwnnw. Gallai ymddangos fel rhywbeth eithaf bach o ran adsefydlu cyffredinol, ond mae'n sylweddol mewn gwirionedd. A dyna'n sicr yw'r ffordd rwy'n ei weld, ac rwy'n falch iawn fod y mwyafrif o'r pwyllgor yn ei weld yn yr un ffordd. Joyce Watson AC: Y cynnig—. Arhoswch funud. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 6. Dadl y Pwyllgor Cyllid ar flaenoriaethau gwariant y llywodraeth Joyce Watson AC: Iawn, symudwn ymlaen yn awr at eitem 6, dadl y Pwyllgor Cyllid ar flaenoriaethau gwariant y Llywodraeth, a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Llyr Gruffudd. Cynnig NDM7140 Llyr Gruffydd Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi'r sylwadau a wnaed gan gyfranogwyr yn nigwyddiad rhanddeiliaid y Pwyllgor Cyllid yn Aberystwyth ynghylch blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllideb 2020-21 sydd ar y gweill. Cynigiwyd y cynnig. Llyr Gruffydd AC: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd dros dro, ac fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, dwi'n falch iawn o gael agor y ddadl yma heddiw ar flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru yn y dyfodol. Mae'r Pwyllgor Cyllid, wrth gwrs, wedi mynegi ei bryder nad yw'r Cynulliad yn cael cyfle ffurfiol i drafod, ac wrth gwrs drwy wneud hynny, gobeithio, i ddylanwadu ar flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru cyn i'r gyllideb ddrafft gael ei chyflwyno. Yn ystod y sesiwn graffu ar y gyllideb ddrafft ar 27 Mehefin, fe gytunodd y pwyllgor y dylai Aelodau'r Cynulliad gael y cyfle i drafod blaenoriaethau gwariant yn y dyfodol yn gynharach ym mhroses y gyllideb. Yn wir, mae'n hymchwiliad ni i broses gyllidebu ddeddfwriaethol wedi amlygu sut mae seneddau eraill yn caniatáu cyfleoedd llawer cynharach i Aelodau meinciau cefn i ddylanwadu ar flaenoriaethau gwariant y Llywodraeth yn y cyfnod ffurfiannol cynnar hwnnw, ymhell cyn i'r gyllideb ddrafft gael ei chyflwyno. Llyr Gruffydd AC: Nawr, er bod y pwyllgor yn credu'n gryf bod dadl gynnar yn rhywbeth y mae angen ei hwyluso ar sail barhaol yn y dyfodol, mae’n bwysig, wrth gwrs, ein bod ni’n cael dadl ar flaenoriaethau gwariant eleni hefyd, er ychydig yn hwyrach nag y byddem ni'n ei dymuno, o ystyried cylch gwariant diweddar Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac amseriad arfaethedig cyllideb Llywodraeth Cymru. Bydd ein gwaith craffu ni ar y gyllideb ddrafft yn dilyn yr un dull â’r gorffennol, gan ganolbwyntio ar y pedair egwyddor craffu ariannol, sef, yn gyntaf, fforddiadwyedd, hefyd blaenoriaethu, gwerth am arian, a phroses y gyllideb. Fe gynhaliodd y Pwyllgor Cyllid ddigwyddiad yn Aberystwyth ar 27 Mehefin i glywed barn rhanddeiliaid ar y blaenoriaethau gwariant ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Drwy drafod a thrwy ddilyn ymlaen o’r argymhellion wnaed yn sgil ein gwaith craffu parhaus ar gyllideb Llywodraeth Cymru, fe wnaethom ni nodi nifer o feysydd yr hoffem ni ganolbwyntio arnyn nhw wrth graffu eleni, ac mae'r rhain yn cynnwys sut ddylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio pwerau trethu a benthyca, yn enwedig o ran cyfradd treth incwm Cymru, a sut mae gwariant ataliol yn cael ei flaenoriaethu'n gynyddol a sut mae hynny’n cael ei gynrychioli wrth ddyrannu adnoddau. Rŷm ni’n sôn fan hyn, wrth gwrs, am wariant sy'n canolbwyntio ar atal problemau ac yn lleihau’r galw am wasanaethau yn y dyfodol drwy ymyrraeth gynnar, yn enwedig mewn perthynas ag ariannu byrddau iechyd lleol, gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Maes arall y byddem ni am ganolbwyntio arno fe ydy cynaliadwyedd gwasanaethau cyhoeddus, ac mae hynny'n cynnwys arloesi a thrawsnewid gwasanaethau i ymateb i ofynion newidiol a newid demograffig. Mae blaenoriaethu polisi i hybu twf economaidd, lleihau tlodi ac anghydraddoldeb rhywiol, a lliniaru effaith diwygio lles hefyd yn faes pwysig. Hefyd, gwaith cynllunio a pharodrwydd Llywodraeth Cymru ar gyfer Brexit, wrth gwrs, a sut mae Deddf cenedlaethau’r dyfodol yn dylanwadu ar y gwaith o lunio polisi. Ac wrth ddatgan argyfwng hinsawdd, a yw hi'n glir sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymateb i’r her honno a sicrhau bod adnoddau priodol ar gael, a bod hynny'n cael ei adlewyrchu'n glir yn y gyllideb? Ar ôl y digwyddiad yn Aberystwyth, mi ysgrifennais i at holl Gadeiryddion y pwyllgorau i rannu safbwynt y Pwyllgor Cyllid â nhw ac i annog y pwyllgorau eraill i ystyried sut y gallan nhw gyfrannu at graffu ar gynlluniau gwariant y Llywodraeth yn y ffordd fwyaf cydlynol ac effeithiol. Fel yn y gorffennol, rŷn ni hefyd yn cynnal ymgynghoriad ar y blaenoriaethau ar gyfer y gyllideb ddrafft ar ran yr holl bwyllgorau. Ac heddiw, fel mae'n digwydd, yw’r dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad hwnnw, ac mi fydd yr ymatebion yn cael eu cyhoeddi yn yr wythnosau nesaf er mwyn helpu'r Cynulliad i graffu ar y gyllideb ddrafft. Cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys gynlluniau gwariant Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer 2020-21 yn ddiweddar, wrth gwrs, fel rhan o gylch gwariant un flwyddyn. Roedd y cyhoeddiad yn cynnwys manylion am gyllideb refeniw Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf a fydd yn cynyddu £593 miliwn yn uwch na llinell sylfaen eleni. Mewn termau real, mae hyn yn gynnydd o 2.3 y cant. Roedd y cylch gwariant hefyd yn cynnwys cynnydd o £18 miliwn i'r gyllideb gyfalaf ar gyfer Cymru, gan olygu bod y gyllideb 2.4 y cant yn uwch mewn termau real o’i chymharu â 2019-20. Ymatebodd y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd i’r cylch gwariant mewn datganiad ysgrifenedig ar 4 Medi eleni, gan nodi, a dwi'n dyfynnu: 'Bydd Cyllideb Llywodraeth Cymru'n seiliedig ar anghenion pobl Cymru a byddwn yn anelu at ddarparu'r setliad tecaf posibl ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus Cymru.' Ond beth mae hynny wir yn ei olygu? Mae'n ddatganiad eang a chyffredinol tu hwnt, wrth gwrs. Beth fydd y ffactorau allweddol o ran sut y caiff yr arian ychwanegol hwn ei wario yng Nghymru? Sut y dylem ni gydbwyso'r angen i fuddsoddi mewn mentrau ataliol i leihau'r galw yn y dyfodol â'r angen i gefnogi ein gwasanaethau presennol, sydd, wrth gwrs, wedi dioddef blynyddoedd o gyni? A sut fyddwn ni’n asesu a yw Llywodraeth Cymru wedi cyflawni ei hamcanion? Mae angen inni sicrhau bod y gyllideb yn cael ei defnyddio mor effeithiol â phosib er mwyn diwallu anghenion poblogaeth Cymru yn y ffordd orau, yn amlwg. Mae'r ddadl heddiw yn gyfle i'r Cynulliad ystyried sut ddylai Llywodraeth Cymru fod yn blaenoriaethu ei gwariant er mwyn cyflawni'r canlyniadau dymunol yma. Does dim dwywaith ei bod hi’n gyfnod ansicr, wrth gwrs, gyda Brexit heb gytundeb yn dal i fod yn bosibilrwydd real, a'r posibilrwydd, wrth gwrs, o etholiad cyffredinol arall yn y Deyrnas Unedig ar y gorwel, ac mae hyn oll yn ei gwneud hi'n anoddach fyth rhagweld dyfodol economaidd Cymru. Mae'r ffaith mai blwyddyn yn unig oedd hyd cylch gwariant y Deyrnas Unedig yn rhwystredig i'r holl weinyddiaethau datganoledig hefyd, gan nad yw e'n ein galluogi ni i ddatblygu cynlluniau ariannol tymor hwy, fel y byddem ni, a nifer o'r rhanddeiliaid rŷn ni wedi siarad efo nhw, wrth gwrs, yn dymuno gweld. Fodd bynnag, mae'r ansicrwydd hwn yn ei gwneud hi'n bwysicach fyth inni gael y ddadl yma heddiw, yn fy marn i, ac ystyried y blaenoriaethau ar gyfer cyllideb y flwyddyn nesaf yn ofalus, er mwyn lliniaru, cyn belled ag y bo modd, unrhyw effeithiau yn y dyfodol yn sgil Brexit, ac er mwyn amddiffyn dyfodol ariannol Cymru a buddiannau ein dinasyddion ni. Dwi'n edrych ymlaen yn fawr iawn at glywed barn, safbwyntiau a blaenoriaethau Aelodau o bob rhan o'r Cynulliad yma. Diolch. Nick Ramsay AC: Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl bwysig y prynhawn yma ar flaenoriaethau'r gyllideb, wrth i ni symud i gyfnod hollbwysig gosod cyllideb Llywodraeth Cymru a chyfnod craffu ar gyllideb Pwyllgor Cyllid y Cynulliad. Roeddwn yn falch o gymryd rhan yn y digwyddiad i randdeiliaid yng Ngwesty'r Marine yn Aberystwyth—diwrnod heulog braf, yn ôl fel y cofiaf; mae'n ymddangos ymhell i ffwrdd yn awr. Cawsom lawer o drafodaeth yn y ddadl flaenorol am farn gwleidyddion a barn Aelodau yn y Siambr hon a siambrau tebyg i hon ynglŷn â barn y cyhoedd, felly credaf fod y digwyddiadau hynny i randdeiliaid yn hollbwysig fel ffordd o fynd allan a chanfod beth y mae pobl ar lawr gwlad, mewn busnesau a sefydliadau yn y trydydd sector—beth yw eu blaenoriaethau, fel y gallwn ni, fel pwyllgor, fwydo'n ôl i Lywodraeth Cymru, a gallwn geisio ffurfio cyllideb sy'n wirioneddol o fudd i bawb. Credaf iddi ddod yn amlwg, drwy gydol y digwyddiad yn Aberystwyth, fod yna gytundeb cyffredinol fod atal ac ymyrraeth gynnar yn eiriau ac yn gysyniadau allweddol a ddylai fod wrth wraidd y broses o ddyrannu'r gyllideb. Eto, y syniad craidd hwn o atal a blaengynllunio ar y naill law—yn rhy aml, teimlid bod hynny'n cael ei negyddu, neu o leiaf ei leihau, ar y llaw arall, gan y pwysau cynyddol ar gyllidebau, y mae sefydliadau a chyrff cyhoeddus ledled Cymru'n rhy aml yn teimlo eu bod yn suddo oddi tano—i beidio â defnyddio ymadrodd rhy gryf. Ac mae cynllunio mwy hirdymor yn anodd iawn i'r sefydliadau hynny. Clywsom dystiolaeth sy'n peri pryder fod llawer o awdurdodau lleol wedi cyrraedd pwynt dirlawnder—dyna'r ymadrodd a ddefnyddiwyd ganddynt—ac na allant amsugno rhagor o gostau ychwanegol. Mae hyn yn arwain at doriadau mewn gwasanaethau anstatudol, fel hamdden, diwylliant a thrafnidiaeth, sydd wedyn yn gallu cael effaith ganlyniadol negyddol ar les y boblogaeth leol. Gwn y bydd y Gweinidog wedi clywed llawer o'r pryderon hyn gan awdurdodau lleol dros amser maith; rydym wedi eu clywed ar y pwyllgor ers cryn amser. Ac mae'n rhy hawdd meddwl, 'Wel, fe fyddent yn dweud hynny, oni fyddent, am eu bod ar y talcen caled?' Ond er hynny, pan fydd y mathau hyn o wasanaethau cyhoeddus, gwasanaethau lleol, yn cael eu torri, ceir sgil-effeithiau a cheir effeithiau ar gyllidebau eraill, oherwydd mae'r arian yn gorfod dod o gyllidebau eraill i ariannu'r ymrwymiadau anstatudol. Ac wrth gwrs, pan fydd pethau fel canolfannau hamdden yn gweld toriadau, a mannau diwylliannol eraill yn gweld toriadau, mae'n bosibl y bydd effaith ar lesiant lleol ac mae'n rhaid i'r gwasanaeth iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ymdopi â'r canlyniadau. Felly, gallwn gael ein dal mewn cylch diddiwedd, lle y ceir mwy o bwysau ar y gwasanaethau statudol, sydd wrth wraidd yr hyn y mae'r awdurdodau lleol yn ei ddarparu. Ac wrth gwrs, mae mwy fyth o bwysau ar y gwasanaethau hyn mewn ardaloedd gwledig. Rwy'n siarad yn gyson am faterion megis trafnidiaeth wledig yn y Siambr hon. Mae'r materion hynny'n creu mwy fyth o bwysau mewn ardaloedd gwledig ledled Cymru. Roedd yn ddiddorol iawn fod rhanddeiliaid hefyd wedi cwestiynu fforddiadwyedd rhai o'r gwasanaethau cyffredinol, megis presgripsiynau am ddim, nad ydym yn trafod cymaint arnynt yn y Siambr hon bellach, ac mae'n debyg fod hynny wedi tyfu'n fwy o ran o'r dirwedd a dderbynnir. Ond pan siaradwch â rhanddeiliaid, fel y gwnaethom ni, maent yn dweud bod pethau o'r fath sy'n cael eu darparu i bawb—efallai fod yna rywbeth gwirioneddol gadarnhaol y mae pobl am ei gael, ond pan fydd cyllidebau'n dynn a bod yn rhaid i awdurdodau lleol a gwasanaethau cyhoeddus wneud penderfyniadau pwysig, teimlant fod yn rhaid iddynt edrych yn gyffredinol ar bopeth, neu fel arall fe welwch feysydd pwysig yn cael eu torri. Cododd mater niwtraliaeth cost dro ar ôl tro. Mae'n fater allweddol i'r Pwyllgor Cyllid. Dywedir wrthym yn aml gan Lywodraeth Cymru fod deddfwriaeth newydd yn niwtral o ran cost, a chan Aelodau'n aml wrth drafod deddfwriaeth. Dywedodd ein rhanddeiliaid wrthym mai anaml y mae hyn yn wir yn ymarferol, ac yn aml ceir costau cudd nad ydym yn eu gweld pan fyddwn yn edrych ar ddeddfwriaeth, ac maent yno ac yn cael effeithiau canlyniadol yn y cymunedau. Roeddent am i Lywodraeth Cymru gael gwell ffordd o asesu'r costau cudd a all ddeillio o ddeddfwriaeth a phenderfyniadau cyllidebol. Soniwyd am Brexit yn ystod y sesiwn wrth gwrs—mae'n amhosibl ei osgoi ar hyn o bryd. Gyda llaw, i unrhyw un sydd wedi darllen adroddiad y Pwyllgor Cyllid, nid wyf yn credu bod y fath beth â Brexit 'cytundeb newydd' yn bodoli, er mor braf y gallai hynny fod. Rwy'n credu bod y rhanddeiliaid yn siarad am Brexit 'heb gytundeb' mewn gwirionedd. Rwy'n credu bod dau gysyniad gwahanol wedi dod at ei gilydd yno. Efallai ei fod yn derm newydd a ddaw'n amlwg dros yr wythnosau nesaf, nid wyf yn gwybod. Ond gyda Brexit 'heb gytundeb', roeddent yn teimlo bod angen cynllunio ar gyfer hynny. Nid oedd neb y buom yn siarad â hwy eisiau Brexit 'heb gytundeb', ond roeddent yn cydnabod, os mai dyna sydd ar y gorwel, fod angen gwneud rhywfaint o waith i geisio lliniaru unrhyw ganlyniadau posibl yn ei sgil. Gwyddom fod cylch gwariant Llywodraeth y DU wedi arwain at £600 miliwn ychwanegol, neu ychydig yn llai—credaf mai £593 miliwn neu £594 miliwn a ddywedodd y Cadeirydd—yn dod i mewn i gyllideb Cymru, a £18 miliwn o gyfalaf ychwanegol. Dyna gynnydd o dros 2 y cant mewn termau real, ac mae hynny i'w groesawu. Mae Llywodraeth y DU wedi dweud ein bod yn troi'r gornel. Rwy'n derbyn ei bod hi wedi bod yn amser hir a bod pwysau yno o hyd, ond rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig i'r rhanddeiliaid y buom yn siarad â hwy ac i bobl ledled Cymru yw bod Llywodraeth Cymru yn gwneud yn siŵr fod yr arian hwnnw sy'n cael ei wario ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru—y gwasanaeth iechyd, addysg—yn cael ei drosglwyddo i'r gwasanaethau cyhoeddus hollbwysig, ac i reng flaen gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, fel y gallwn weld y math o welliannau y mae pobl yn awyddus iawn i'w gweld. Alun Davies AC: Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn dechrau ein sgyrsiau am y cyllidebau ar ddechrau'r broses, yn hytrach na bod y ddeddfwrfa'n ymateb i gynigion y Llywodraeth. Roedd y sgyrsiau yr ydym wedi dechrau eu cael, wrth wrando ar bobl, yn Aberystwyth yn yr achos hwn, yn rhan o'r ymgais honno i sicrhau ein bod yn newid y ffordd—nid craffu ar gyllidebau'n unig a wnawn yn yr ystyr o graffu ar linellau unigol y gyllideb ac ar benderfyniadau gwariant, ond rydym yn edrych ar ffurf cyllideb ac rydym yn ceisio dylanwadu ar ffurf a blaenoriaethau cyllideb. Weithiau, fel Aelod, rwy'n credu fy mod wedi treulio llawer gormod o amser yn ceisio rhwydo Gweinidog mewn perthynas â phenderfyniad gwariant penodol, yn hytrach nag edrych ar ysgogiad polisi ac uchelgais polisi'r gwariant hwnnw ac edrych wedyn ar sut y bydd y Gweinidog yn rhoi cyfrif am gyflawni neu beidio â chyflawni eu blaenoriaethau. Felly, wrth inni symud tuag at broses cyllideb ddeddfwriaethol dros y blynyddoedd i ddod, rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu sicrhau ein bod yn cynnal mwy o'r dadleuon hyn a'n bod yn dechrau proses y gyllideb gyda dadl o'r fath, lle mae'r Aelodau yma yn penderfynu ac yn hysbysu'r Llywodraeth beth yw eu blaenoriaethau, ac yna gall y Llywodraeth, wrth gyhoeddi ei chyllideb, ymateb i'r dadleuon hyn ac i'r blaenoriaethau y mae'r Aelodau yma a'r cyhoedd wedi'u nodi mewn gwirionedd. Nawr, wrth wneud hynny, a chawsom y sgwrs hon yn Aberystwyth, y demtasiwn, wrth gwrs, yw rhestru'r holl ystod o weithgareddau llywodraethol ac mewn gwahanol ffyrdd, diffinio'r holl wahanol weithgareddau hynny fel blaenoriaeth. Mae rhai areithiau a glywn yma ar brynhawn Mercher yn sicr yn cyflawni hynny, a gellir cyflwyno achos da, wrth gwrs, dros lawer o wariant y Llywodraeth bob amser. Felly, rwyf am ymwrthod â'r demtasiwn i roi rhestr o 1,000 o flaenoriaethau gwahanol i'n Gweinidog y prynhawn yma, a cheisio cyfyngu fy hun i dair blaenoriaeth y credaf ei bod yn bwysig inni eu hystyried dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf. I mi, y flaenoriaeth allweddol yw addysg. Siaradais am hyn—ac efallai y bydd aelodau'r Llywodraeth yn cofio—fel Gweinidog y llynedd. Roeddwn yn glir iawn mai'r gwasanaeth cyhoeddus y teimlwn fod angen inni ganolbwyntio go iawn arno yn y blynyddoedd i ddod oedd addysg, ac yn enwedig ysgolion. Mae ysgolion wedi gwneud pethau gwych dros y blynyddoedd diwethaf, ac rydym wedi gweld gwelliant gwych yn y safonau a'r canlyniadau. Ond rydym hefyd wedi gweld y pwysau sydd ar ysgolion ac athrawon, cynorthwywyr addysgu ac eraill. Mae'r gymuned addysg gyfan yn cyflawni llwyddiannau gwych, ond rydym mewn sefyllfa yn fy marn i lle mae angen inni sicrhau bod ysgolion yn cael eu gweld fel blaenoriaeth. Rwy'n gobeithio, yn rhan o hyn—ac fe wnaf sicrhau, Ddirprwy Lywydd dros dro, fod fy muddiant yn y mater wedi'i gofnodi; mae fy mab yn derbyn addysg anghenion dysgu ychwanegol—credaf fod angen inni sicrhau, wrth weithredu'r fframwaith statudol anghenion dysgu ychwanegol, ein bod yn darparu cyllid ychwanegol ar gyfer addysg anghenion dysgu ychwanegol, rhywbeth nad yw'n cael ei wneud ar hyn o bryd. Credaf y dylid darparu arian ychwanegol ar gyfer addysg ac addysg anghenion dysgu ychwanegol drwy grant uniongyrchol i'r gyllideb addysg, neu drwy grant datblygu disgyblion i sicrhau bod arian ychwanegol yn cyrraedd ysgolion syddâ phoblogaeth uwch yn cael prydau ysgol am ddim. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ei fod yn cael ei wneud drwy grant uniongyrchol drwy'r adran addysg, oherwydd credaf ei bod yn bwysig ein bod yn sicrhau bod yr arian hwn yn mynd yn uniongyrchol i'r rheng flaen. Yr ail flaenoriaeth fyddai trafnidiaeth gyhoeddus. Mae'r Aelodau eisoes wedi nodi mai trafnidiaeth gyhoeddus yw un o'r blaenoriaethau allweddol a anwybyddir yn eithaf aml yn rhai o'r dadleuon hyn. Ychydig o wythnosau sy'n mynd heibio yn fy nghymorthfeydd cyngor ym Mlaenau Gwent lle nad yw pobl yn egluro i mi yr anawsterau y mae diffyg gwasanaethau bysiau, er enghraifft, yn eu golygu iddynt yn eu bywydau bob dydd—yr effaith a gaiff hynny ar ganol trefi, yr effeithiau a gaiff ar allu pobl i gyrraedd gwasanaethau cyhoeddus, yr effaith y mae'n ei chael ar allu pobl i siopa neu gymdeithasu. Os ydym o ddifrif ynghylch cydlyniant a chyfiawnder cymdeithasol yn ein cymunedau, rhaid i fynediad at system trafnidiaeth gyhoeddus effeithiol fod yn ganolog i hynny. Mae'n amlwg i mi fod gwasanaethau bysiau ar hyn o bryd yn chwalu mewn rhannau helaeth o'r wlad, ac mae angen inni nodi hynny. Y drydedd flaenoriaeth, heb fod mewn trefn uniongyrchol, yw—[Torri ar draws.] Rwy'n credu bod ein hamser yn dod i ben, mae'n ddrwg gennyf. Ond y maes olaf yr hoffwn ei nodi yw gwariant ataliol. Rydym wedi gweld protestiadau gwych yn ystod yr wythnos diwethaf, gweithredu gwych gan bobl ifanc yn sôn am effaith newid yn yr hinsawdd. Credaf fod angen inni allu ariannu camau gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd, datgarboneiddio'r economi a systemau gwasanaethau cyhoeddus. Trafodasom hefyd yn ystod y cwestiynau iechyd effaith camddefnyddio cyffuriau ar bobl, a phobl ifanc yn arbennig, a chredaf fod angen inni edrych ar y gwasanaethau a ddarperir yn benodol ar gyfer pobl ifanc. Nid wyf yn credu bod Llywodraeth Cymru yn gwneud digon i ddysgu gan wledydd eraill a thiriogaethau eraill lle y ceir gwasanaethau ataliol sydd eisoes yn darparu datblygiadau ac amddiffyniadau arwyddocaol i bobl ifanc, ac yn darparu mwy o gyfleoedd iddynt. Ond rwy'n credu mai'r newid yn yr hinsawdd, wrth gwrs, fydd mater diffiniol ein cyfnod ni. Dyma fydd yr her wleidyddol ddiffiniol sy'n ein hwynebu. Fe fydd yn un o'r meysydd hynny y bydd pobl yn edrych yn ôl arno ac yn edrych ar Lywodraethau ac yn edrych ar ddeddfwyr ac yn gofyn y cwestiwn, 'Beth a wnaethoch? Roeddech chi'n gwybod ein bod yn wynebu argyfwng. Beth a wnaethoch yn wyneb yr argyfwng hwnnw?' Ac nid wyf yn credu y gallwn gytuno ar unrhyw gyllideb yn y lle hwn nad yw'n cynnwys buddsoddiad sylweddol ym maes newid hinsawdd a mynd i'r afael ag achosion newid yn yr hinsawdd. Rhun ap Iorwerth AC: Rydyn ni'n gwybod ein bod ni wedi byw drwy gyfnod o wasgu ariannol dybryd, ond beth mae hynny'n ei olygu mewn difri ydy, pan mae'n dod at osod blaenoriaethau a thrio gwneud yn siŵr ein bod ni'n gallu gwireddu'r blaenoriaethau yna, sianelu'r arian i'r ffordd iawn i'r lle cywir, er mwyn gwireddu'r blaenoriaethau, bod yn fwy soffistigedig ynglŷn â sut mae penderfyniadau yn cael eu cymryd. Nôl ym mis Gorffennaf, mi wnaeth y Gweinidog Cyllid nodi wyth blaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ar gyfer 2020-1. Mae'r blaenoriaethau gwariant hynny yn cynnwys gofal cymdeithasol, taclo tlodi, datgarboneiddio—dydw i ddim yn anghytuno efo'r blaenoriaethau hynny, ond un peth ydy gosod blaenoriaethau ar lafar, peth arall wedyn ydy sicrhau bod arian yn gallu cael ei sianelu tuag at wireddu'r uchelgais sy'n cael ei gosod. Rŵan, mae dadansoddiad cyllidol Cymru yn awgrymu y bydd yna gynnydd mewn grantiau bloc y flwyddyn nesaf, a hynny yn caniatáu i'r Llywodraeth gynyddu cyllid ar gyfer mwy o'i blaenoriaethau, o gymryd y penderfyniadau cywir. Ond, wrth gwrs, mi fydd—ac rydyn ni'n gwybod hyn o'r blynyddoedd diwethaf—gallu'r Llywodraeth i ymateb i ystod o'i blaenoriaethau yn dibynnu, i raddau helaeth, ar faint o arian y bydd y Llywodraeth yn penderfynu ei ddyrannu i'r gwasanaeth iechyd unwaith eto. Mae'n anodd dianc rhag hynny. Mae'r dadansoddiad cyllidol wedi amlinellu tri senario sydd yn pwyso a mesur faint sy'n mynd i iechyd a faint mae hynny yn ei adael ar ôl ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus datganoledig eraill. Ac mae yna, pob amser, pan fo yna gyhoeddiad am arian ychwanegol gan y Trysorlys ar gyfer Lloegr, bwysau gan y rhai mwy ddiddychymyg yn y lle yma ar i’r arian cyfatebol—beth bynnag sy’n mynd i iechyd yn Lloegr, i’r arian cyfatebol fynd i iechyd yng Nghymru, ond, wrth gwrs, dydy hi ddim mor syml â hynny, ac mae’r cwestiwn ataliol yn gorfod bod wrth graidd penderfyniadau cyllidol sy’n cael eu gwneud. Ac mae Sefydliad Iechyd y Byd—roedden ni’n cael ein hatgoffa yr wythnos yma—yn ein hatogffa ni bod 80 y cant o’r pethau hynny sy’n ein cadw ni’n iach yn bethau sy’n digwydd ac yn cael eu dylanwadu arnyn nhw gan bethau y tu hwnt i gyllideb yr NHS. Felly mae’n rhaid inni sicrhau bod yr ochr ataliol yn cael ei chynnal, ac, yn y fan hyn, dwi’n mynd yn syth at gyllidebau llywodraeth leol. All llywodraeth leol yng Nghymru ddim cymryd mwy o wasgu. All llywodraeth leol yng Nghymru ddim cymryd mwy o setliadau fflat, oherwydd mae hynny’n mynd i fod yn gam yn ôl. Nick Ramsay AC: Diolch, Rhun. Cyn i chi symud ymlaen at yr awdurdodau lleol, o ran iechyd, clywaf yr hyn a ddywedwch, a dywedais yn fy araith fy hun fod yr agenda ataliol yn hollbwysig, ond serch hynny, os oes swm sylweddol o arian yn mynd i'r gwasanaeth iechyd yn Lloegr, ac o ganlyniad i hynny, ein bod yn cael arian drwy swm canlyniadol yma, a fyddech yn derbyn y byddech am weld o leiaf gyfran ohono'n mynd tuag at gynyddu'r gwasanaeth iechyd mewn termau real yma, fel ein bod yn gwneud mwy na dal i fyny'n unig. Rhun ap Iorwerth AC: Na, nid wyf yn cytuno â chi—rwy'n credu mai'r hyn a welsom yn Lloegr yw eu bod wedi disgyn i'r fagl o feddwl y gallant roi'r holl arian tuag at y gwasanaeth iechyd, llwgu gwasanaethau eraill a ddarperir gan awdurdodau lleol, gan arwain at bwysau ychwanegol ar y GIG. Yr hyn rwy'n ei ddweud yw y dylid ystyried yr arian yn ei gyfanrwydd. Mae arian sy'n mynd tuag at ofal cymdeithasol, gwasanaethau cymdeithasol, yn arian ataliol sy'n gallu arbed arian i'r GIG yn nes ymlaen. Felly, na, dyna'r union bwynt nad wyf yn ei wneud. Rhaid inni fod yn fwy dychmygus. Ie, yn sicr, ariannwch y GIG yn ddigonol, ond nid ei ystyried ar ei ben ei hun. Rhun ap Iorwerth AC: Felly, mae arian sy'n mynd i mewn i lywodraeth leol ar gyfer gofal sy'n cael ei ddarparu ganddyn nhw yn arian sy'n cynnig arbedion i'r NHS nes ymlaen, ac mae Cymdeithas Lywodraeth Leol Cymru yn amcangyfrif bod llywodraeth leol wedi gorfod gwneud toriadau go iawn o 22 y cant yn y degawd diwethaf. Yn amlwg, dydy hynny ddim yn rhywbeth all barhau ac mae'n rhaid i'r flaenoriaeth gael ei gosod yn glir yng nghyllideb 2020-21, neu'r NHS hefyd fydd yn dioddef i lawr y lôn. Sylw arall ynglŷn â blaenoriaeth mae yna gonsensws yn ei gylch o, a hynny ydy datgarboneiddio: mae comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wedi amcangyfrif bod angen, o bosib, ddim yn bell o £1 biliwn i gael eu neilltuo ar gyfer cynlluniau datgarboneiddio yng Nghymru. Y consérn gan lawer ydy ein bod ni, ar y pwnt yma mewn amser, heb weld unrhyw arwyddion mewn difrif gan Lywodraeth Cymru—er iddyn nhw osod datgarboneiddio fel blaenoriaeth ar lefel uchel os liciwch chi, dyw Llywodraeth Cymru ddim wedi dangos eu bod nhw'n barod i wneud y commitment yna yn ariannol. Felly, dyna i chi ddau faes mae'n rhaid eu gweld yn cael eu hadlewyrchu yn y gyllideb y flwyddyn nesaf. Un pwynt olaf: mae'n destun pryder mawr mai dim ond un rownd flynyddol o wariant dŷn ei gweld gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, a dwi'n meddwl bydd hi'n flaenoriaeth i gryfhau arian wrth gefn wrth inni wynebu'r perig o ragor o lymder mewn blynyddoedd i ddod. Mike Hedges AC: Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y drafodaeth hon oherwydd rwy'n credu bod angen i ni gael mwy o drafodaethau yn gyffredinol ynghylch gwariant disgwyliedig yn hytrach na siarad am linellau gwariant ac a ddylid cael £10 i £15 miliwn ychwanegol yma neu acw, ond siarad amdano fel pwynt cyffredinol mewn gwirionedd. Roeddwn innau hefyd yn falch iawn ein bod wedi cael cyfarfod cyllid yn Aberystwyth, gan gyfarfod ag aelodau o'r cyhoedd. Roedd yn ddefnyddiol iawn i mi, oherwydd cyfarfûm â phobl o'r grwpiau amgylcheddol, o lywodraeth leol, ac addysg bellach ac addysg i oedolion, ond cyfarfûm â hwy y tu allan i'r hyn y buaswn yn ei ddisgrifio fel fy nghornel gysurus yn Abertawe. Roedd yn ddiddorol cael barn pobl yn yr un meysydd ag y bu gennyf ddiddordeb ynddynt a meysydd y mae gennyf ychydig o wybodaeth amdanynt, ond sy'n byw mewn ardal arall, ac rwy'n sicr wedi dysgu llawer o hynny. Credaf mai'r un peth y dylem i gyd ei gofio drwy'r amser yw mai arian y cyhoedd a werir gennym. Yn rhy aml o lawer, rydym yn sôn am arian y Llywodraeth, a siaradwn am arian y Cynulliad, ond arian y cyhoedd ydyw ac rydym yn atebol iddynt. Diddorol iawn oedd siarad â hwy. Buom yn sôn, yn y bôn, am effaith cyni a thoriadau ar wasanaethau cyhoeddus, mai llywodraeth leol sydd wedi ysgwyddo'r baich mwyaf o doriadau yn y sector cyhoeddus, ac mai gofal cymdeithasol sy'n wynebu'r pwysau mwyaf ar unrhyw wasanaeth—ac rwy'n cynnwys iechyd yn hynny. Mae gofal cymdeithasol o dan bwysau aruthrol. Ac mae'n hynod o bwysig. Os nad ydych yn ariannu gofal cymdeithasol yna bydd pobl yn mynd i'r ysbyty yn y pen draw. Os ydych yn eu cefnogi yn eu cartrefi, yn rhoi'r mymryn bach o gymorth y maent ei angen, yna ni fyddant yn cwympo, ni fyddant yn cyrraedd y cam hwnnw lle bydd angen iddynt fynd i'r ysbyty. Felly, rydych chi'n helpu iechyd mewn gwirionedd drwy gadw pobl yn eu cartrefi. Roedd y cynrychiolydd llywodraeth leol, a oedd yn dod o ardal Ceredigion/Powys, yn awyddus iawn i dynnu sylw—a byddai'n dda gennyf pe bai Russell George yma, oherwydd mae'n ei nodi'n gyson hefyd—at gost darparu gwasanaethau gwledig, ac maent yn gwbl gywir ynghylch cost darparu gwasanaethau gwledig. Cyfrifais gydag ef, ac rwy'n eu cyfrif yma'n rheolaidd—dyma'r galw ychwanegol mewn ardaloedd lle mae gennych amddifadedd cymdeithasol. Felly, mae gennych yr anhawster o ddarparu'r gwasanaethau, a'r galw. Ond yn y bôn, nid ydym—. Nid yw'n ddadl rhwng Blaenau Gwent a Phowys am yr arian; mae'n ddadl fod angen arian ychwanegol arnom yn y system. Mae toriadau wedi cael effaith enfawr ar addysg. Yn gyffredinol, mae awdurdodau lleol wedi ceisio diogelu gwasanaethau cymdeithasol ac addysg, ond mae hynny wedi bod yn—. Ar beth yr effeithiwyd? Gwasanaethau llyfrgell, gwasanaethau hamdden, canolfannau hamdden, cyfleusterau chwaraeon—yr holl bethau sy'n wasanaethau anstatudol, maent wedi'u torri'n ôl. Ac mae rhai o'r gwasanaethau statudol wedi cael eu cwtogi. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn sylweddoli pa mor bwysig yw'r gwasanaethau anstatudol hyn yn y bôn yn cadw pobl yn iach a'u cael allan o'r tŷ. Tynnwyd sylw at bwysigrwydd cludiant i'r ysgol—neu, fel y mae'r Ceidwadwyr wedi dweud yn y fan hon yn weddol reolaidd, 'biwrocratiaeth'; maent yn disgrifio'r arian a gedwir gan awdurdodau lleol yn ganolog i dalu am fysiau ysgol fel arian a gedwir ar gyfer biwrocratiaeth. Credaf fod angen iddynt ystyried ymhellach ar beth y gwerir yr arian sy'n cael ei gadw gan awdurdodau lleol yn ganolog mewn gwirionedd. Addysg i oedolion ac addysg bellach—mae'r rheini eto wedi ysgwyddo mwy na'u cyfran deg o unrhyw doriadau. Er ein bod wedi diogelu ysgolion ac wedi diogelu addysg bellach i bobl ifanc rhwng 16 a 18 oed, mae'r rheini sy'n mynd i mewn—maent am aros ymlaen ac ailhyfforddi ac ailsgilio—. Ac rydym yn siarad llawer, onid ydym, am roi ail gyfle i bobl, a phobl yn cael cyfle i ailsgilio mewn byd sy'n newid? Mae'r cyrsiau hynny wedi'u torri'n ddramatig, oherwydd mae'r arian sy'n mynd tuag at addysg bellach yn cael ei gwtogi'n ddramatig, ac mae'r hyn sydd wedi mynd i mewn wedi'i anelu'n bennaf at bobl ifanc 16 i 18 oed. Mae hwnnw wedi bod yn benderfyniad ymwybodol gan y Llywodraeth. Mewn gwirionedd, anfonasant lythyrau allan yn dweud hynny—nid y Llywodraeth hon yn awr yn unig, mae'n mynd yn ôl i Lywodraeth 2007-2011, a anfonodd yr union lythyrau hynny allan. O ran yr amgylchedd, cafwyd galw am fwy o goed. Rwyf bob amser yn galw am fwy o goed. Cefais drafferthion gydag Undeb Amaethwyr Cymru pan ddywedais, 'Mae arnom angen mwy o goed ym mhobman', ond mae angen inni warchod yr amgylchedd. Nid yw'r gyllideb yn neilltuo agos digon o adnoddau ar gyfer materion amgylcheddol, ac mae gennym sefyllfa hefyd fod Cyfoeth Naturiol Cymru'n cael ei danariannu'n aruthrol. Nid wyf yn meddwl bod uno'r tri sefydliad gyda'i gilydd yn syniad da, ac mae cyfuno'r tri sefydliad a pheidio â'u hariannu'n ddigonol wedyn wedi arwain at broblemau. Mae gennyf ddau beth yr hoffwn eu dweud i orffen. Fel y gwyddom, rydym wedi cael twf gwirioneddol o 2.3 y cant yn yr incwm ar gyfer y flwyddyn nesaf. Hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn dweud yn awr na fydd yr un gwasanaeth yn cael cynnydd is na chwyddiant, ac mae hynny'n cynnwys pob awdurdod lleol. Nid oes unrhyw reswm pam na ellir gwneud hynny, oherwydd mae gennych yr ardal twf o hyd i'w roi tuag at flaenoriaethau'r Llywodraeth, ond gadewch i ni amddiffyn pawb. Rydym yn sôn am wariant ataliol—ac rydym bob amser yn siarad am wariant ataliol—a allwn roi rhywfaint o arian tuag at iechyd cyhoeddus? Oherwydd collasom y rhan iechyd cyhoeddus o Cymunedau yn Gyntaf, a wnaeth waith aruthrol ar bethau fel gweithgarwch corfforol a hybu bwyta'n iach, ond mae angen inni gael pobl yn well yn hytrach nag aros nes eu bod yn mynd yn sâl a'u trin wedyn. Mark Reckless AC: Mae'r Pwyllgor Cyllid yn gweithio'n galed i ymgysylltu â rhanddeiliaid a'r cyhoedd yn ehangach fel rhan o'i broses o graffu ar y gyllideb. Serch hynny, yn ystod fy aelodaeth ysbeidiol o'r Pwyllgor Cyllid, rwyf wedi canfod rhywfaint o ddiffyg cysylltiad rhwng ein hymgysylltiad â rhanddeiliaid ac eraill a phroses y gyllideb. Ac rwy'n credu ei bod yn her wirioneddol i ymgysylltu â phobl mewn ffordd gynhyrchiol a defnyddiol sy'n cyfrannu at ein gwaith craffu ar gyllideb blwyddyn benodol. Credaf fod a wnelo llawer o hynny â'r ffaith bod gennym broses gyllidebol, a arweinir gan y Weithrediaeth, y Llywodraeth, a ninnau fel pwyllgor, fel Aelodau Cynulliad, i'r graddau ein bod yn cyfarfod â rhanddeiliaid sydd wedi dod i wthio eu blaenoriaethau penodol o ran gwariant efallai, rydym yn ymgysylltu â hwy a chredaf weithiau efallai ein bod yn gadael y cyfarfod hwnnw o dan yr argraff fod y bobl a wahoddwyd yn disgwyl mwy gennym fel pwyllgor nag yr ydym yn debygol o allu ei gyflawni, oherwydd mae'n broses a arweinir gan y Llywodraeth ar gyfer y gyllideb. Rwy'n credu bod heriau hefyd o ran pwy a wahoddwch i'r cyfarfodydd hynny, sut y gallwch ymgysylltu'n eang. A ydynt n ffafrio sefydliadau sy'n cyflogi pobl sydd ag amser i fynd yn rhan o ymgynghoriadau ac ymgysylltu ag Aelodau'r Cynulliad yn y ffordd hon? Sut y gwyddom ein bod yn rhoi blaenoriaeth deg i'r math gwahanol o wahoddedigion a gwesteion y byddwn am drafod eu blaenoriaethau penodol gyda hwy o bosibl? Rwy'n credu hefyd, gan fod gennym fwyfwy o bwerau trethu datganoledig, fod maes arall yn dod i mewn i hyn. O'r blaen caem ein hariannu drwy grant bloc i raddau helaeth—yn wir, byddai llawer o wahanol bobl yn cystadlu i ddweud wrthych pa mor bwysig oedd eu maes gwario yn bwydo i mewn i broses a gâi eu gyrru gan grant bloc, a dim ond rhannu'r gacen wariant honno a wnaem i raddau helaeth. Yn awr, mae gennym fwy o bwerau trethu ac ers mis Ebrill, mae 10 y cant o'r gyfradd dreth incwm yn cael ei gosod gennym ni—beth y dylem ei wneud i sicrhau bod trethdalwyr yn cael eu cynnwys ac yr ymgynghorir â hwy a'u bod yn rhan o'r broses honno, a'n bod yn ystyried bod y cyfaddawd rhwng trethiant a gwariant ychydig yn fwy nag sydd gennym pan fyddwn wedi codi llai o'n harian ein hunain? Y maes olaf lle y credaf fod diffyg cysylltiad yw'r amserlen. Pan fyddwn yn edrych ar linellau'r gyllideb ac yn mynd i lawr i lefel y prif grwpiau gwariant ac efallai'n is, credaf mai'r hyn a glywn gan y rhanddeiliaid yn aml yw eu blaenoriaethau ar gyfer rhaglenni polisi neu feysydd trawsbynciol nad ydynt o anghenraid yn ffitio'n dwt i un neu hyd yn oed gyfuniad o'r llinellau gwahanol hynny. Yn sicr, rwy'n ei chael yn anodd gwrando ar randdeiliaid ac yna craffu ar waith y Gweinidog mewn trafodaeth linell wrth linell ar y gyllideb ar gyfer blwyddyn benodol. A chredaf fod hynny'n cysylltu â mater arall y mae Rebecca Evans wedi siarad amdano yma ac mewn mannau eraill, ynghylch yr anawsterau y mae hi a'r Llywodraeth yn eu hwynebu gyda chyllideb un flwyddyn y maent yn ei chyflwyno am nad yw Llywodraeth y DU ond wedi rhoi'r grant bloc ar gyfer un flwyddyn i ddod. Rwy'n cydymdeimlo â llawer o'r hyn y mae'n ei ddweud am hynny, ond buaswn yn cwestiynu a yw'n fater deuaidd.Tybed a allem fynd ychydig ymhellach i roi tamaid mwy o sicrwydd mewn rhai meysydd gwariant o leiaf. Nid yw Llywodraeth y DU ei hun yn gwybod beth fydd ei refeniw ymhen dwy neu dair blynedd. Nid yw'n gwybod pryd y bydd yr arian a dalwn i'r Undeb Ewropeaidd ar gael ar gyfer blaenoriaethau eraill. Mae wedi pennu rhai cyllidebau ar gyfer mwy na blwyddyn, ac rwy'n credu y gallai Llywodraeth Cymru bennu cyllidebau am fwy na blwyddyn ar gyfer rhai o'i meysydd, neu ar gyfer blaenoriaethau neu feysydd penodol lle mae'r sicrwydd hwnnw'n arbennig o bwysig. Fe ildiaf i Mike. Mike Hedges AC: Diolch. Y fantais, wrth gwrs, i San Steffan yw eu bod yn gallu benthyca ar gyfer gwariant refeniw, oni allant, felly mae ganddynt y sicrwydd hwnnw gan eu bod yn gwybod, hyd yn oed os nad oes ganddynt arian yn dod i mewn, y gallant ei fenthyg i lenwi'r bwlch. Mark Reckless AC: Gallant. Ac yn amlwg, mae gennym ein rhaglenni cyfalaf a rhai lle y ceir capasiti benthyca, ond mae mwy o gylchoedd y mae'n rhaid inni neidio drwyddynt na Llywodraeth y DU er mwyn defnyddio'r rheini. Ond ni fydd cyfran mor fawr o'n hincwm yn dod o'r grant bloc yn y dyfodol ac felly nid yw'r ffaith bod y grant bloc hwnnw'n cael ei bennu am y flwyddyn i ddod yn unig yn ddadl mor gref ag y gallai fod wedi bod ynglŷn â pham na allwn gyllidebu am fwy na'r flwyddyn sydd o'n blaenau. Ac rwy'n meddwl tybed a oes meysydd blaenoriaeth, neu rai penodol lle mae angen sicrwydd, y gallai'r Gweinidog ystyried rhoi syniad cadarnach ynglŷn â chynlluniau tebygol. Y llynedd, rwy'n credu ein bod wedi gweld menter eithaf da o ran cyfleu i awdurdodau lleol y pwysau posibl yn y flwyddyn i ddod er mwyn rhoi ychydig mwy o rybudd iddynt, a'r Llywodraeth yn San Steffan—mae ganddynt gyllidebau i ddod, ond weithiau maent yn newid. Yn 2010, cofiaf i Lywodraeth y DU—yr un newydd—ddod i rym ac fe wnaeth doriadau yn ystod y flwyddyn. Nid yw hynny'n ddelfrydol, ond efallai y bydd yn well i rai sefydliadau gael syniad o leiaf beth fydd cyllidebau'r dyfodol, hyd yn oed os yw'n bosibl y cânt eu newid. Dawn Bowden AC: Diolch i'r Pwyllgor Cyllid am gyflwyno'r adroddiad hwn. Nid wyf yn aelod o'r pwyllgor, ond yn amlwg, mae gennyf ddiddordeb ac rwy'n parhau i bryderu bod nifer o agweddau ansicr ynghlwm wrth gylch gwariant diweddar y DU o hyd—er enghraifft, y ffaith nad yw Llywodraeth y DU wedi mynd i'r afael, unwaith eto, ag ateb hirdymor i ariannu gofal cymdeithasol. Tra'n bodyn ceisio canfod ein hatebion ein hunain i'r her honno, byddai'n help cael gwybod yn union beth yw cynlluniau ariannu hirdymor Llywodraeth y DU yn hynny o beth. Credaf fod hwnnw'n fethiant mawr yng nghynllun gwariant diweddar y DU, ac mae'n taflu cysgod dros un o'r heriau hirdymor allweddol a wynebwn yma yng Nghymru. Fodd bynnag, yma yng Nghymru rwy'n croesawu'r arwydd a roddwyd gan y Gweinidog yn y Siambr yr wythnos diwethaf, yn ogystal â'r flaenoriaeth yr ydym yn iawn i'w roi i GIG Cymru, ein bod yn bwriadu edrych yn ofalus ar y setliad gorau posibl i lywodraeth leol. Ceir llawer o drafodaethau ynglŷn â'r ffyrdd y gwerir arian ar wasanaethau lleol, ond mae'n amlwg i bob un ohonom, er gwaethaf setliadau llawer iawn mwy hael yng Nghymru o gymharu â Lloegr, fod ein cynghorau o dan bwysau difrifol er hynny, a rhaid inni wneud rhagor i geisio cynnal gwasanaethau lleol. Yn anffodus, gwyddom fod cynllun gwariant blwyddyn y DU yn ymwneud yn gyfan gwbl â'r tymor byr, gan gefnu ar strategaeth ac uchelgais hirdymor er mwyn ambell gyhoeddiad poblogaidd yn y tymor byr. Felly, er gwaethaf yr hyn a ddywedodd rhanddeiliaid wrth y Pwyllgor Cyllid, o'r hyn a ddarllenaf, efallai ein bod yn dal i wynebu rhai o'r cyfyngiadau ar ein gweithredoedd oherwydd nad yw'r cynllun DU ond yn ymwneud â'r flwyddyn 2020-21 yn unig. Nawr, fel y mae eraill wedi dweud yn barod, rydym yn gwybod bod canolbwyntio ar atal mewn iechyd a gofal, ac edrych ar gynllunio mwy hirdymor yn ein gwariant cyhoeddus, yn sylfaen y gall Llywodraeth Cymru adeiladu arni. Felly, law yn llaw â'r ansicrwydd a wynebwn, efallai y gall y gyllideb Gymreig sydd ar y ffordd lywio cydflaenoriaethau pellach rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol. Oherwydd os cred y ddwy mai gwario at ddiben hirdymor clir yw'r peth cywir i'w wneud, mae'n amlwg y dylid llunio cytundeb newydd er mwyn inni sicrhau diben sy'n gyffredin rhyngom a llywodraeth leol, boed hynny yn y ddadl ynghylch ysgolion ac addysg neu'r galwadau am ofal cymdeithasol, gan gynnwys plant sy'n derbyn gofal, neu ddarparu gwasanaethau hamdden hanfodol sy'n gallu darparu pethau fel presgripsiynu cymdeithasol, sydd, yn y tymor hwy, yn helpu i liniaru peth o'r pwysau cynyddol ar y GIG. Os oes diben cyffredin, yna gadewch iddo fod yn gytundeb cyffredin i gyflawni'r blaenoriaethau hynny drwy lywodraeth leol. Nawr, oherwydd natur fyrdymor y setliad ariannu a wynebwn eleni, efallai nad dyma'r amser i ystyried hyn, ond rwy'n meddwl tybed oni ddylem ddechrau meddwl mwy am iechyd a gofal cymdeithasol, nid fel portffolio integredig ar gyfer Gweinidog yn unig, ond hefyd o ran realiti cyllidebau ar y cyd i ddarparu ateb mwy hyblyg, ymatebol yn y gwasanaethau iechyd a gofal hanfodol hynny. Credaf mai dyna'r pwynt yr oedd Rhun yn cyfeirio ato yn ei gyfraniad, o ran sut y darparwn y gwasanaethau integredig hynny. Fel y dywedaf, efallai fod hon yn ystyriaeth ar gyfer y tymor hwy y bydd yn rhaid inni ddychwelyd ati, ond heddiw credaf mai'r brif neges i'r cylch cyllidebol hwn yw rhoi'r gallu i awdurdodau lleol nid yn unig i weithredu, ond i ddechrau adfer a darparu'r gwasanaethau lleol a gafodd eu taro mor wael gan flynyddoedd caled o gyni. Efallai mai dim ond dechrau'r broses y gallwn ei wneud y flwyddyn hon, ond mae hyd yn oed y daith hiraf yn gorfod dechrau gydag un cam. John Griffiths AC: Hoffwn gefnogi'r Aelodau sydd wedi crybwyll addysg fel blaenoriaeth ar gyfer gwariant Llywodraeth Cymru, a hoffwn ganmol yn fawr yr adroddiad gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ariannu ysgolion. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr holl argymhellion, ond rwy'n credu ei fod yn gosod achos cryf iawn dros flaenoriaethu cyllid ysgolion i raddau helaethach nag sydd wedi digwydd hyd yma. I mi, os ydym am ymwneud â gwariant ataliol, rhaid inni roi mwy o arian tuag at addysg a'n hysgolion. Cytunaf yn llwyr â'r hyn a ddywedodd Mike Hedges am addysg bellach hefyd, a chredaf fod y maes hwnnw wedi'i anwybyddu braidd o ran cyllid digonol ac y dylid darparu'n well ar ei gyfer. Ond mae'r achos hanfodol, rwy'n meddwl, dros ariannu ysgolion oherwydd pwysigrwydd hynny i gynifer o'n pobl ifanc, a chyllid addysg blynyddoedd cynnar a blynyddoedd cynnar yn gyffredinol wrth gwrs. Oherwydd os ydym am fod yn ataliol, rwy'n credu bod addysg yn gwneud popeth i ni bron iawn. Mae addysg yn dda yn ei hawl ei hun. Mae'n hynod o bwysig o ran datblygiad personol. Rwy'n credu bod llawer o astudiaethau ledled y byd yn dangos, os ydych yn blaenoriaethu gwariant ar addysg, y bydd gennych economi lawer cryfach, ac mewn gwirionedd dyma'r peth mwyaf effeithiol y gallwch ei wneud. Os ydych am adeiladu eich economi, rhowch arian tuag at addysg. Hefyd, wrth gwrs, mae'n bwysig iawn i iechyd. Mae pobl sydd wedi cael addysg well yn mwynhau gwell iechyd drwy gydol eu bywydau a lles gwell, ac ansawdd bywyd gwell yn gyffredinol. Maent yn cael mwy o gyfleoedd, gwell gyrfaoedd; mae'n fuddiol ym mhob ffordd. Mae hefyd yn bwysig iawn o ran diwylliant a'r amgylchedd yn wir. Felly, os edrychwn ar bethau yn eu cyfanrwydd ac ar atal, rwy'n credu y byddem yn cael ein hysgogi i roi mwy o arian tuag at addysg, a cheir sylfaen dystiolaeth gref iawn dros wneud hynny. Dyna pam rwy'n cytuno'n fawr ag adroddiad y pwyllgor. Rwy'n credu y dylai rhan o hynny—ac rwyf wedi sôn am hyn sawl gwaith yn y gorffennol—fod yn gyllid mwy effeithiol ar gyfer ysgolion bro, oherwydd eu bod yn adnodd sy'n bodoli'n barod, onid ydynt, ein hysgolion, yr adeiladau, y tiroedd, y cyfleusterau, ac yn rhy aml ni chânt eu defnyddio'n ddigon da yn ystod gwyliau'r ysgol, ar benwythnosau, gyda'r nos. Mae hynny'n wastraff ofnadwy ar adnoddau presennol, onid yw? Er bod rhai arferion da, ni cheir hanner digon, ac rwy'n credu bod angen i ni ddarparu mecanwaith ariannu effeithiol sy'n sicrhau bod ysgolion bro yn gweithredu'n effeithiol ledled Cymru. Daw hynny â mwy o gyfleoedd yn ei sgil, oherwydd ceir llawer o blant nad ydynt yn cael profiad o dacsi mam neu dad—na thacsi mam-gu neu dad-cu hyd yn oed—o ran y cyfleoedd ehangach i ddatblygu eu galluoedd a'u doniau. Nid ydynt yn mynd i'r gweithgareddau a'r clybiau fel y gallent. Os caiff ei ddarparu ar dir yr ysgol fel rhan o estyniad i'r diwrnod ysgol, bydd llawer iawn mwy o deuluoedd, yn enwedig teuluoedd o amgylchiadau difreintiedig, yn cael cyfleoedd ehangach o'r fath, ac mae ysgolion bro yn allweddol i hynny. Un peth arall yr hoffwn ei grybwyll—ac unwaith eto, rwy'n credu ei fod yn bendant yn perthyn i'r agenda ataliol—yw gwasanaethau ieuenctid. Yn anffodus, oherwydd y pwysau sydd ar lywodraeth leol ac eraill, gwelsom lawer gormod o doriadau i glybiau ieuenctid, gweithgareddau ieuenctid a gwasanaethau ieuenctid yn gyffredinol, ac mae hynny'n wirioneddol ataliol. Mae'r heddlu'n deall hynny. Mae llywodraeth leol yn deall hynny. Mae'r sector gwirfoddol yn deall hynny. Pan fyddwch yn mynd o gwmpas yn curo drysau, maent yn deall hynny, ond oherwydd y pwysau y mae 10 neu fwy o flynyddoedd o gyni wedi'i achosi, rydym wedi gweld llawer gormod o doriadau i'r ddarpariaeth hynod werthfawr honno. Rwy'n credu bod angen i Lywodraeth Cymru edrych o ddifrif ar sut y gallwn gynnal y ddarpariaeth sy'n weddill, ond adeiladu hefyd y tu hwnt i lefelau'r ddarpariaeth a fu gennym yn y blynyddoedd a fu. Joyce Watson AC: Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, Rebecca Evans. Rebecca Evans AC: Diolch. Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i wrando ar y ddadl heddiw ac i ymateb iddi, a diolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau. Rwy'n croesawu'n fawr y gwaith y mae'r pwyllgor yn ei wneud yn y maes hwn, ac yn gwerthfawrogi'n fawr y cyfraniad a wnaed gan y rhanddeiliaid a gymerodd ran yn y digwyddiad yn Aberystwyth ym mis Mehefin. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at adroddiad terfynol y pwyllgor ar ôl i'w hymgynghoriad ddod i ben. Wrth baratoi ar gyfer y gyllideb, roeddwn am wrando hefyd ar farn rhanddeiliaid ar y modd y mae cyllid y Llywodraeth yn cael ei fuddsoddi ledled Cymru, a'r effaith y mae'n ei chael ar bobl a'u cymunedau. Felly, dros yr haf, ymwelais â chyfres o leoliadau ledled Cymru sy'n adlewyrchu ein hwyth maes blaenoriaeth trawsbynciol, sef y blynyddoedd cynnar, gofal cymdeithasol, tai, sgiliau a chyflogadwyedd, iechyd meddwl gwell, datgarboneiddio, tlodi a bioamrywiaeth. Mae'r wyth maes yn ganolog i uchelgeisiau'r Llywodraeth i weld Cymru fwy cyfartal, Cymru fwy ffyniannus a Chymru fwy gwyrdd. Roeddwn eisiau deall yr heriau o ddydd i ddydd a wynebir yn y meysydd hyn a dysgu mwy am y gwahaniaeth y gellir ei wneud drwy ganolbwyntio arnynt. Ac roedd hefyd yn gyfle gwych i archwilio'r cyfleoedd sy'n bodoli i ni wneud mwy yn y meysydd hyn. Yng ngogledd Cymru, gwelais drosof fy hun gymuned yn cymryd rheolaeth dros ei defnydd ei hun o ynni drwy brosiect ynni dŵr Ynni Ogwen ym Methesda. Ymwelais hefyd â chanolfan gofal brys iechyd meddwl I CAN yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor. Tynnodd yr ymweliad sylw at fodel ataliol lle y cynigir cefnogaeth emosiynol i bobl sy'n profi anawsterau iechyd meddwl a chymdeithasol lefel isel y tu allan i'r oriau gwaith arferol. Yng nghanolbarth Cymru, ymwelais ag RSPB Llyn Efyrnwy, sy'n dangos nid yn unig sut y gall ardaloedd sylweddol o dirwedd Cymru sicrhau canlyniadau bioamrywiaeth cadarnhaol, ond sut y gallant gefnogi mentrau ffermio cynaliadwy hefyd. Yn Aberystwyth, cyfarfûm ag aelodau bwrdd a staff Tai Ceredigion, ynghyd â darpar breswylwyr datblygiad tai fforddiadwy newydd cyffrous ym Maes Arthur. Ac ym Mhenarth, ymwelais â'r cynllun chwarae newyn gwyliau yn Ysgol y Deri sy'n darparu cymorth i sicrhau bod bwyta'n iach yn parhau drwy gydol y gwyliau ysgol ar gyfer rhai o'n teuluoedd mwyaf difreintiedig. Roedd yr ymweliadau hyn yn arddangos angerdd, talent ac ymrwymiad y rheini a fydd yn llywio canlyniadau ein blaenoriaethau trawsbynciol. Maent yn enghreifftiau gwirioneddol o sut rydym wedi parhau i flaenoriaethu ein buddsoddiad cyfyngedig er gwaethaf yr agenda cyni ac yn wyneb cyllidebau heriol a sut y gweithiwyd gyda phartneriaid i gyflawni ein blaenoriaethau. Ac mae'r blaenoriaethau hyn yn brawf o gryfder dull cyllidebol sy'n diogelu ac yn hyrwyddo'r hyn sydd bwysicaf. Cânt eu hybu gan ein hymrwymiad i flaenoriaethu iechyd a gwasanaethau cymdeithasol a phartneriaeth wirioneddol gyda llywodraeth leol. Ac mae hynny'n gwrthgyferbynnu'n llwyr â'r profiad yn Lloegr, lle mae toriadau i gynghorau wedi bod ddwywaith mor ddwfn ag yng Nghymru, gan wneud niwed aruthrol i gymunedau lleol. O'r blynyddoedd cynnar i dai, caiff ein ffocws ei wella gan y blociau adeiladu y mae'r Llywodraeth hon wedi'u rhoi ar waith drwy roi ei harian ar ei gwerthoedd: cynnig gofal plant gyda 48 o wythnosau o ddarpariaeth sy'n cyflawni ar draws Cymru o flaen yr amserlen, a'r ymgyrch i adeiladu dros 20,000 o dai fforddiadwy y tymor hwn—unwaith eto, ar y trywydd iawn, o flaen yr amserlen. Rwy'n benderfynol o wneud y gorau o'r effaith y gallwn ei chael ar y blaenoriaethau hyn i Gymru o fewn ein cyllideb arfaethedig, a hoffwn ddiolch i gyd-Weinidogion o bob rhan o'r Cabinet am y gwaith y maent wedi ei wneud i gefnogi'r ymagwedd gyfunol hon tuag at y gyllideb dros y misoedd diweddar. Wrth edrych tua'r dyfodol, fel Llywodraeth, rydym wedi bod yn glir iawn y bydd iechyd yn parhau i fod yn ganolog yn ein hystyriaethau cyllidebol, ac yn darparu'r setliad gorau posibl i lywodraeth leol. Cyn troi at rai o'r negeseuon allweddol y mae rhanddeiliaid wedi'u dwyn i fy sylw dros yr haf ac y credaf eu bod wedi cael eu hadleisio yn y Siambr heddiw, mae'n werth gosod y ddadl yn y cyd-destun ehangach. Fel y clywsom gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei chylch gwariant cyflym un flwyddyn ar 4 Medi, a'r tu ôl i'r penawdau, nid yw'r cylch gwariant hwn yn troi'r dudalen ar gyni fel yr honnodd y Canghellor, gan y bydd ein cyllideb yn 2020-21 yn dal i fod 2 y cant yn is, neu £30 miliwn yn llai mewn termau real, nag yn 2010-11, a byddwn yn wynebu dewisiadau anodd dros yr wythnosau nesaf. A byddwn hefyd yn parhau i wynebu—[Torri ar draws.] Nick Ramsay AC: Mae'n rhaid eich bod wedi disgwyl i mi godi gyda'r sylw hwnnw. Fel y dywedais wrthych o'r blaen mewn cwestiynau, rwy'n derbyn yr hyn a ddywedwch ynglŷn â chymharu'r ffigurau â 2010-2011—mae'n dal i fod ffordd bell i fynd—ond rhaid i chi hyd yn oed dderbyn, pan fyddwch yn optimistaidd, Weinidog, fod hyn, o'i gymharu â'r llynedd, yn gynnydd o fwy na 2 y cant mewn termau real—mewn termau real. Felly, bydd yn bendant yn gwella cyllideb Cymru y flwyddyn nesaf. Rebecca Evans AC: Wel, yn seiliedig ar y trafodaethau a gawsom o'r blaen yn y Siambr, roeddwn yn mynd i fynd ymlaen i ddweud hynny. Nid oeddwn yn mynd i oedi'n hir ar hynny y prynhawn yma, yn enwedig ar ôl yr hyn y credaf iddi fod yn ddadl adeiladol a defnyddiol. Ond mae'n deg dweud y byddwn yn dal i wynebu risgiau mawr a rhywfaint o ansicrwydd wrth i ni wneud ein paratoadau. Er enghraifft, mae amseriad a chynnwys cyllideb yr Hydref y DU yn parhau'n aneglur, ynghyd â goblygiadau Brexit a'r posibilrwydd o Brexit 'heb gytundeb' ar ein cynigion gwariant. Felly, rydym angen i'r disgwyliadau fod yn ofalus yn y cyd-destun ehangach hwnnw. Ond yn ystod fy ymweliadau dros yr haf, cafodd nifer o faterion pwysig eu dwyn i fy sylw gan randdeiliaid ac fel y clywsom eto y prynhawn yma, mae'r gallu i gynllunio ar gyfer y tymor hir gyda chyllidebau sefydlog ar gyfer y blynyddoedd i ddod yn aml yn cael ei grybwyll fel problem. A'n huchelgais bob amser yw darparu eglurder mwy hirdymor ynglŷn â chyllidebau lle bynnag y bo modd, ond rhaid cydbwyso hyn â rhagdybiaethau cynllunio realistig a synhwyrol, ac nid oes gennym rai y tu hwnt i'r flwyddyn nesaf. Ond er mwyn rhoi cymaint o sicrwydd ag sy'n bosibl i'n partneriaid a'n rhanddeiliaid, rwyf wedi cyflwyno ein cynlluniau i gyhoeddi cyllideb Llywodraeth Cymru, a gallaf gadarnhau, gyda chytundeb y pwyllgorau cyllid a busnes, ac rwy'n ddiolchgar iawn amdano, y byddaf yn cyhoeddi ein cyllideb ddrafft yn gynt ar 19 Tachwedd a'r gyllideb derfynol ar 4 Chwefror. Yn ystod fy ymweliadau a fy nghyfarfodydd a fy ngwaith ymgysylltu ehangach, gwelwyd bod llawer o gefnogaeth i'r ymagwedd ataliol tuag at fuddsoddi y clywsom amdani y prynhawn yma, ac mae wedi bod yn thema eithaf amlwg yn y cyllidebau diweddar. Rydym yn llwyr gydnabod pwysigrwydd ariannu gweithgarwch ataliol a'i botensial i gael effaith drawsnewidiol ar wasanaethau cyhoeddus ac i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl. Mae dulliau ataliol fel prosiect I CAN yn Ysbyty Gwynedd yn parhau i fod yn ystyriaeth bwysig wrth ddyrannu cyllidebau Llywodraeth Cymru. Ac wrth gwrs, nid yw Brexit byth yn bell o fy meddwl. Rwyf wedi ymweld â llawer o gymunedau sydd wedi elwa o gyllid yr UE yn y gorffennol ac mae pryderon, yn amlwg, ynghylch cyllid ar ôl Brexit. Drwy fy holl ymweliadau a chyfarfodydd, roedd dealltwriaeth wirioneddol o'r heriau sy'n wynebu pob un ohonom ar draws y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ond er gwaethaf hyn, cefais fy nghalonogi'n fawr o glywed sut y mae gwasanaethau'n gyffredinol yn ystyried ffyrdd newydd o weithio er mwyn ymateb i'r her. Felly, wedi fy ysgogi gan y sgyrsiau hyn, rwy'n fwy penderfynol nag erioed o edrych yn gadarnhaol tua'r dyfodol a chefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn y ffordd orau sy'n bosibl. Mae'r holl sgyrsiau hyn yn llywio ein paratoadau ar gyfer y gyllideb ddrafft y byddwn yn ei chyhoeddi ym mis Tachwedd. Bydd y gyllideb yn canolbwyntio ar y meysydd blaenoriaeth lle y gallwn gael yr effaith fwyaf dros y tymor hir er mwyn diwallu anghenion Cymru yn y presennol a'r dyfodol, a darparu'r gwasanaethau a'r canlyniadau y mae pobl Cymru yn eu haeddu. Diolch. Joyce Watson AC: Galwaf ar Llyr Gruffydd, Cadeirydd y pwyllgor, i ymateb i'r ddadl. Llyr Gruffydd AC: A gaf i ddiolch, o waelod calon, i bawb sydd wedi cyfrannu i'r ddadl? Rwy'n credu bod y drafodaeth rŷm ni wedi'i chael yn yr awr ddiwethaf yma wedi dangos pa mor werthfawr yw cael y math yma o drafodaeth, ac yn wir sut y byddai, efallai, cael trafodaeth ehangach eto o safbwynt amser a nifer y cyfraniadau yn cyfoethogi ac yn cynorthwyo, yn sicr, y Gweinidog ac eraill wrth ddatblygu cyllideb y Llywodraeth, ond ei bod hi'n bwysig gwneud hynny ar yr adeg ffurfiannol, gynnar yna, yn hytrach na fel rŷm ni wedi ffeindio ein hunain, yn anffodus y tro yma, yn ei chael hi'n hwyrach ymlaen yn y broses nag y byddem ni'n dymuno. Fe wnaf i bigo lan jest ar ambell un o'r pwyntiau. Dwi'n meddwl y cychwynnodd Nick Ramsay drwy ein hatgoffa ni o bwysigrwydd ymgysylltu â'r cyhoedd yn ehangach, ac yn amlwg mae hynny'n rhywbeth y mae'r Pwyllgor Cyllid yn trio ei wneud. Mae'n rhywbeth y dylai bob pwyllgor yn y Cynulliad yma fod yn ei wneud. Yn wir, dylai bob Aelod bod yn achub ar bob cyfle i ymgysylltu ag etholwyr. Dwi'n credu bod pwynt Mike Hedges ynglŷn â'r ehangu daearyddol yna hefyd, o safbwynt pwy rŷm ni'n siarad â nhw. Ac, wrth gwrs, mae ymgynghoriad y pwyllgor, sydd yn gorffen heddiw, fel yr oeddwn i'n sôn yn gynharach, hefyd yn gyfle i daflu'r rhwyd yna ymhellach. Roedd hi'n ddiddorol ac yn galonogol clywed nifer o Aelodau'n cyfeirio at ffactorau gwledig, wrth gwrs, fel un o'r meysydd sydd yn gweld tipyn o bwysau ar hyn o bryd. A dwi eisiau diolch i Alun Davies yn enwedig jest am ofyn y cwestiwn, 'Beth ŷm ni'n craffu?' mewn gwirionedd, oherwydd rŷm ni yn cael ein sugno i mewn i graffu llinell wrth linell, lle yn aml iawn, efallai, dŷn ni ddim yn cymryd y cam yna yn ôl i edrych ar siâp y gyllideb gyfan a sut mae hynny'n cysylltu ag amcanion neu uchelgais polisi'r Llywodraeth. Rwy'n credu bod hwnna yn ffactor canolog o'n gwaith ni fel pwyllgor, a phwyllgorau eraill. A phan soniodd e fod ganddo fe dair blaenoriaeth, roeddwn i'n poeni ei fod e'n mynd i ddweud, 'Blaenau Gwent, Blaenau Gwent a Blaenau Gwent', ond wnaeth e ddim, er clod iddo fe: addysg, trafnidiaeth gyhoeddus a newid hinsawdd. Ac, wrth gwrs, dyna'r pwynt. Hynny yw, bydd gan bob Aelod tair blaenoriaeth wahanol, dwi'n siŵr, fel rŷm ni wedi clywed gan eraill heddiw, a dyna yn union fwriad y ddadl yma, wrth gwrs, sef rhoi llwyfan a rhoi llais i'r blaenoriaethau hynny wrth i'r Llywodraeth ffurfio ei chyllideb. Mi wnaeth Rhun, Dawn Bowden ac eraill sôn am y tensiwn yma rhwng cyllido gwasanaethau iechyd a gwasanaethau eraill, a Mike Hedges hefyd yng nghyd-destun gwerth ataliol buddsoddi mewn gwasanaethau cymdeithasol neu ofal cymdeithasol yn enwedig. Rŷm ni wedi clywed yng nghyd-destun llywodraeth leol—. Mi ddefnyddiodd Nick Ramsay'r term 'saturation point' a dwi wedi clywed 'tipping point' a 'rŷm ni ar ymyl y dibyn.' Mae'r llinellau yma'n gyson yn cael eu dweud wrthym ni, ond dwi yn meddwl bod yr amser wedi dod i'r Llywodraeth 'front-o' lan i hyn a bod angen gwneud rhywbeth nawr am y sefyllfa. Mi gododd Mark Reckless bwynt pwysig, dwi'n meddwl, ynglŷn â'r disconnect rhwng ymgysylltu â rhanddeiliaid a'n craffu ni o'r gyllideb. Mae yn anochel, fel oedd e'n ei ddweud, oherwydd ei bod hi'n executive-led process ac efallai bod canfyddiad y cyhoedd yn un sy'n awgrymu eu bod nhw'n meddwl bod gennym ni fwy o ddylanwad efallai nag y byddem ni'n licio, yn sicr. Ond nid dim ond yng nghyd-destun cyllid mae hynny'n wir, wrth gwrs. Dwi'n meddwl bod hynny'n wir ym mhob cyd-destun yn aml iawn: y diffyg gwahaniaethu yma rhwng Llywodraeth Cymru a rôl Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Ond eto mae'n tanlinellu, rwy'n credu, yr angen i gryfhau llais Aelodau meinciau cefn ac Aelodau'r Cynulliad yma fel rhan o'r drafodaeth honno. Dwi'n rhannu'r rhwystredigaeth ynglŷn â'r cylch gwariant un flwyddyn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Wrth gwrs, dyw hynny ddim wedi stopio, os dwi'n iawn, Llywodraeth yr Alban rhag cynnig sicrwydd mwy hirdymor i'w cyrff cyhoeddus nhw, ond dwi yn deall dyw hi ddim yn hawdd gwneud hynny. Ond mae gwneud hynny hefyd yn caniatáu iddyn nhw ddefnyddio'r arian hwnnw yn fwy effeithiol, ac yn yr hinsawdd sydd ohoni, mae'n rhaid inni wneud i bob punt weithio mor galed ag sy'n bosib. Diolch i John Griffiths am ein hatgoffa ni ynglŷn ag addysg a'r angen i ariannu ysgolion, eto yng nghyd-destun y gwariant ataliol yma. Yr hyn ŷn ni'n chwilio amdano fe mewn gwirionedd yw'r shifft yma, ontefe, rhyw fath o decisive shift i fuddsoddiad ataliol, ac mae gwasanaethau ieuenctid, wrth gwrs, yn un rhan bwysig iawn o hynny. Jest i ymateb yn sydyn i rai o sylwadau'r Gweinidog hefyd, mi gawsom ni restr o brojectau: Ynni Ogwen, I CAN ym Mangor, yr RSPB yn Llyn Efyrnwy, Tai Ceredigion ac yn y blaen. Dwi'n teimlo weithiau mai dyna'r perig, ontefe? Hynny yw, mae modd pwyntio at brojectau unigol i amlygu rhywbeth neu'i gilydd, ond dyw e ddim o reidrwydd yn cynrychioli newid systemig yn y ffordd mae'r Llywodraeth yn mynd ati i greu ei chyllideb. Mae hynny'n dod nôl, rwy'n credu, at yr hyn roedd Alun Davies yn ei ddweud: sut allwn ni gryfhau'r cysylltiad yna rhwng llinellau yn y gyllideb ac uchelgais polisi a chanlyniadau polisi'r Llywodraeth? Hynny yw, y gwahaniaeth yma rhwng outputs ac outcomes, ac rwy'n credu mai yn fanna, os lwyddwn ni i ddatrys fel pwyllgor ac fel Cynulliad ac fel Llywodraeth y conundrum yna a chreu'r cyswllt clir yna, yn hytrach na mynd ati i restru projectau, rwy'n credu efallai y byddwn ni wedi cyrraedd y man lle byddwn i'n licio inni gyrraedd. Felly, gyda hynny o sylwadau, eto, gaf i ddiolch i'r holl Aelodau am gyfrannu? Dwi'n teimlo ein bod ni wedi cael blas ar y math o drafodaeth y dylen ni fod yn ei chael o gwmpas blaenoriaethau cyllidebol Llywodraeth Cymru, ond i wneud hynny yn y blynyddoedd i ddod yn llawer, llawer cynharach yn y broses. Diolch. Daeth y Llywydd i’r Gadair. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 7. Dadl y Blaid Brexit: Y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 2, 3 a 4 yn enw Rebecca Evans, a gwelliant 5 yn enw Darren Millar. Os derbynnir gwelliant 4, caiff gwelliant 5 ei ddad-ddethol. Yr eitem nesaf yw'r ddadl gan Blaid Brexit ar y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd, a dwi'n galw ar Mark Reckless i wneud y cynnig. Mark Reckless. Cynnig NDM7141 Caroline Jones Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cefnogi aelodaeth Cymru o Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon a'i pharhad amhenodol. 2. Yn nodi bod Cymru, fel y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd, wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd. 3. Yn cefnogi datganoli pellach mewn meysydd penodol a fyddai o fudd i Gymru a lle mae rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn elwa o ddatganoli o'r fath, fel toll teithwyr rheilffyrdd ac awyr. 4. Yn nodi'r rhan a fu gan yr Undeb Ewropeaidd yn y gorffennol o dan erthyglau 154 i 156 o Gytuniad Rhufain mewn perthynas â rhwydweithiau traws-Ewropeaidd, gan gynnwys yr M4 a'r A55. 5. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gefnogi gwelliannau i'r A55 a chyflenwi ffordd liniaru'r M4 drwy gronfa ffyniant a rennir y DU er budd Cymru a'r DU gyfan. Cynigiwyd y cynnig. Mark Reckless AC: Diolch, Lywydd. Cynigiaf y cynnig yn enw Caroline Jones. Mae'r pwynt bwled cyntaf yn cefnogi aelodaeth Cymru o Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon a'i pharhad amhenodol. Nawr, buaswn wedi meddwl nad oedd hyn yn rhywbeth yr oedd angen ei ddatgan. Gwn fod gan Blaid Cymru farn wahanol, wrth gwrs, ond cyn imi gael fy ethol i'r lle hwn, roeddwn wedi derbyn maniffestos a safbwyntiau polisi'r pleidiau eraill ar eu golwg. Gwyddwn hefyd am nifer o Aelodau Seneddol o Gymru a oedd yn y Blaid Lafur a, hyd y gwyddwn, yn unoliaethwyr diwyro. Fy argraff yma, fodd bynnag, o fewn y Llywodraeth o leiaf, yn rhengoedd y Blaid Lafur yma, yw bod mwy o amrywiaeth barn am ymreolaeth, os nad annibyniaeth, yn hytrach nag unoliaetholdeb a beth ddylai trywydd datganoli fod. Credaf fod o leiaf rai o'r Aelodau ar feinciau'r Llywodraeth yn hwylio o dan faniffesto Llafur a safbwyntiau polisi Llafur, ond mae'r gwahaniaethau rhyngddynt a llawer o Aelodau Plaid Cymru yn llai nag y byddwn wedi'i ddisgwyl yn flaenorol. Felly, rydym yn datgan hynny yn ein cynnig heddiw. Rydym hefyd, yn ein hail bwynt, yn nodi eto—nid wyf am oedi'n rhy hir gyda'r pwyntiau ar yr UE yn y ddadl hon—fod Cymru, fel y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd, wedi pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'n ddealladwy yng nghyd-destun yr Alban, lle y pleidleisiodd yr Alban o gryn dipyn dros aros, a lle mae gennych Lywodraeth Plaid Genedlaethol yr Alban sy'n cefnogi annibyniaeth yr Alban, mae'n ddealladwy sut y bydd y ddau fater yn cael eu cyfuno a Llywodraeth yr SNP yn defnyddio un i geisio symud ar y llall. Rwyf wedi fy synnu gan y graddau y mae hyn wedi digwydd yng Nghymru hefyd. Rwy'n cydnabod bod llawer o'r Aelodau wedi'u syfrdanu, eu siomi, a'u cynhyrfu gan ganlyniad y refferendwm, ond cefais fy synnu fwy gan y graddau y bu i rai Aelodau gwestiynu lle Cymru yn y Deyrnas Unedig ar y sail fod eu hochr hwy wedi colli'r refferendwm pan bleidleisiodd Cymru dros adael yr Undeb Ewropeaidd. Rydym wedi gweld rhai arolygon ac rydym wedi gweld ambell orymdaith, ac yn aml, Plaid Cymru sydd y tu ôl i'r cwestiynau a pheth o'r gwaith trefnu ar y rheini, a bu cryn dipyn o sylw yn y cyfryngau i'r rhai sy'n chwilfrydig ynglŷn ag annibyniaeth, a cheir awgrym fod rhyw fath o ymchwydd wedi bod yn y gefnogaeth i annibyniaeth. Rwy'n amheus o hynny, ac rwy'n meddwl tybed a yw'r Aelodau, yn enwedig ar feinciau Llafur, yn mynd yn rhy bell, er eu budd etholiadol eu hunain o leiaf, yn y modd y maent efallai'n cwestiynu parhad ein haelodaeth o'r undeb, neu o leiaf natur yr undeb a sut y dylai ddatblygu oherwydd yr hyn a ddigwyddodd gyda'r refferendwm. Fe ildiaf. David Rees AC: Rydych chi wedi siarad am y refferendwm, mae realiti'r drafodaeth ynghylch annibyniaeth wedi digwydd oherwydd llanastr Llywodraeth y DU a Senedd San Steffan a'r ffordd y mae wedi ymddwyn ers y refferendwm hwnnw. Felly nid oedd yn fater refferendwm; mae'n edrych, mewn gwirionedd, ar sut y mae San Steffan yn ymddwyn, a methiant San Steffan i fynd i'r afael ag anghenion y gwahanol wledydd ar draws y DU sydd wedi bod yn arwain yr agenda hon. Mark Reckless AC: Ac i mi, y broblem yw methiant gormod o'r bobl sydd o blaid aros, gan gynnwys ac yn enwedig efallai yn San Steffan, i dderbyn canlyniad y refferendwm. Maent wedi treulio tair blynedd a mwy yn tyfu'n fwyfwy hyderus ac yn mynd ymhellach ac ymhellach yn erbyn yr hyn a ddywedasant yn y gorffennol i geisio rhwystro canlyniad y refferendwm hwnnw, ac rwy'n credu mai'r gwrthodiad hwnnw i weithredu'r canlyniad a gwrthodiad elît sydd o blaid aros, y sefydliad efallai, i weithredu penderfyniad eu pleidleiswyr sydd wedi arwain at yr anawsterau a wynebwn yn awr. Fodd bynnag, hoffwn ganolbwyntio ar ddatganoli a'i drywydd. Roeddwn wedi gobeithio, gyda'r hyn a ddaeth yn Ddeddf Cymru 2017, y byddem yn cyrraedd setliad sefydlog. Mae'n fy nharo bod y system yn gymharol sefydlog mewn llawer o wledydd ledled y byd lle y ceir llywodraeth ddatganoledig ac mewn rhai achosion, llywodraeth ffederal. Mae'n fy nharo bod y DU yn eithriad yn yr ystyr fod yna newidiadau cyfansoddiadol o'r fath sydd wedi parhau cyhyd ac ymddengys nad oes pen draw i'w weld. Roeddwn wedi meddwl y byddai'n gweithio'n well gyda'r modelau cadw pwerau, ac rwy'n meddwl bod rhywfaint o'r bai ar Lywodraeth y DU efallai o ran diffyg hyblygrwydd wrth ymgysylltu â sefydliadau datganoledig i ddod o hyd i setliad a fyddai'n fwy sefydlog o bosibl. Ac yn awr, rwyf i a chyd-aelodau o'm mhlaid hyd yn oed yn gweld meysydd lle byddai'n gwneud synnwyr i gael mwy o ddatganoli, ac rydym ni ein hunain yn amau a yw'r system sefydlog honno'n realistig ag ystyried y setliad a gyrhaeddwyd gennym yn 2017. Hoffwn dynnu sylw at ddwy enghraifft yma lle rwyf wedi fy mherswadio i raddau helaeth gan areithiau a wnaed gan Weinidogion y Llywodraeth a chan eraill yn y Siambr hon fod yna achos cryf dros ddatganoli pellach. Un o'r rheini yw'r doll teithwyr awyr. Rwy'n credu bod adroddiad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig o San Steffan ac arweiniad David T.C. Davies wedi dylanwadu arnaf o ran hynny, ac mae'r adroddiad unfrydol a gawsant, rwy'n credu, yn dweud bod hyn yn rhywbeth y dylid ei ddatganoli o'u goruchwyliaeth hwy i'n goruchwyliaeth ni, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn hapus i'w gefnogi. Mae'r rheilffyrdd hefyd yn faes lle y cefais fy mherswadio o'r achos dros ragor o ddatganoli, yn rhannol oherwydd y Gweinidog, Ken Skates, sydd, yn fy marn i, yn gwneud achos da iawn dros yr angen am fuddsoddi pellach yng Nghymru. Ond nid mater o arian yn unig ydyw. Mae'n fater o drefniadaeth, ac a dweud y gwir, nid wyf yn teimlo bod strwythur y rheilffyrdd yn y Deyrnas Unedig wedi gweithio'n arbennig o dda. Yn fwyaf arbennig, buaswn yn feirniadol o Network Rail o ran ei reolaeth, ei anhyblygrwydd, ei fiwrocratiaeth, ei un model ar gyfer pawb, ac yn bennaf, ei gost. Mae darparu atebion rheilffyrdd i'w weld mor anhygoel o ddrud. Fe'm trawyd hefyd gan Transport for London a'i lwyddiant cymharol o ran integreiddio, a Mersey Rail yn yr un modd, wrth edrych ar hwnnw'n fwy diweddar. Mae'n fy nharo, o ystyried yr hyn a welsom gan Network Rail a sut y mae'r system wedi gweithio, ond hefyd, rwy'n credu, pa mor dda y gwnaeth Llywodraeth Cymru o ran negodi a chytuno ar fasnachfraint Cymru a'r gororau, rwy'n credu bod yr achos wedi'i wneud dros ddatganoli'r rheilffyrdd. Credaf ein bod wedi gweld problemau ers i Trafnidiaeth Cymru gymryd drosodd, a chredaf eu bod yn mynd yn brin o amser i'w beio ar sail y system flaenorol ac mae angen cymryd cyfrifoldeb, ond yn gyffredinol, credaf fod y cyflawniad yn un y byddem am ei gefnogi, a chredwn y byddai rhagor o ddatganoli yn y maes hwnnw o fudd i Gymru. Symudaf yn awr at bwynt 4 yn ein cynnig lle y nodwn sefyllfa'r A55, a'r M4 yn fwy diweddar, rwy'n credu, fel rhwydweithiau traws-Ewropeaidd o dan erthyglau 154 i 156 o Gytuniad Rhufain, ac rydym wedi derbyn mesur o oruchwyliaeth yr Undeb Ewropeaidd dros y ffyrdd hynny oherwydd yr effaith y maent yn ei chael ar Iwerddon a'r graddau y maent yn mynd y tu hwnt i ffiniau'r DU. Am yr un rhesymau, a rhesymau cryfach, rwy'n credu, gallem weld achos dros fesur o ymwneud ar ran y DU i'r graddau fod yr hyn sy'n digwydd gyda'r llwybrau hynny'n bwysig iawn, nid yn unig i Gymru, ond i'r DU yn ehangach. Nid yw yn ei sedd yn awr, ond gwnaeth pwynt a wnaeth Alun Davies yn gynharach wrth edrych ar yr M4 gryn argraff arnaf mewn gwirionedd. Edrychodd ar yr achos economaidd a'r costau a'r manteision, a gwnaeth y pwynt ynghylch pa mor gymharol fach y cyfrifwyd y manteision i'w etholwyr ym Mlaenau Gwent, a gwrthgyferbynnodd hynny â'r manteision sylweddol iawn i bobl sy'n byw ym Mryste a lleoedd gryn dipyn ymhellach na hynny yn Lloegr. Ac fe ddywedodd, yn deg efallai, 'Pam y dylai boeni am y manteision iddynt hwy? Pam y dylem wario arian trethdalwyr Cymru ar hynny?' A chan fod ganddo'r rôl hon bellach yn edrych ar strwythurau'r DU y mae Llywodraeth Cymru wedi ei rhoi iddo i wneud argymhellion, buaswn yn dweud, 'Ydy, mae'n iawn am hynny', ond os oes gennym system lle y caiff y costau i gyd eu hystyried, gan ein bod yn ysgwyddo'r holl gostau yng Nghymru, ond bod manteision sylweddol iawn i bobl eraill, er enghraifft yn Lloegr, nad ydym yn cymryd unrhyw sylw ohonynt am nad dyna yw ein mandad, onid yw hynny'n awgrymu y gallem fethu buddsoddi'n ddigonol? Ac os oes budd mawr i bobl dros y ffin yn Lloegr mewn gwirionedd, onid oes rôl i Lywodraeth y DU gefnogi'r ffyrdd hynny a thalu amdanynt o bosibl? Gofynnwyd i'r Cwnsler Cyffredinol nos Sul gan gadeirydd y pwyllgor dethol Cymreig, pe bai ei swyddogion ac eraill yn gweithio i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn rhoi'r arian i dalu am y ffordd liniaru hon, a fyddai'n ei chyflawni. Gobeithio y bydd yn ystyried hynny, oherwydd nid ydym am gyfyngu ar economi Cymru ac ymwahanu oddi wrth Loegr, ac yn enwedig yr ardaloedd mwy ffyniannus. Mae angen inni sicrhau bod y ffordd honno'n weithredol, ac rwy'n credu bod rôl briodol hefyd i Lywodraeth y DU yn hyn o beth wrth inni geisio ymdrin â datganoli mewn modd cytbwys. Mae modd ei gyfiawnhau'n fwy mewn rhai meysydd, ond mae yna feysydd lle y gallem elwa o gymorth Llywodraeth y DU. Rwyf wedi dewis y pum gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 4, bydd gwelliant 5 yn cael ei ddad-ddethol. Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit i gyflwyno yn ffurfiol welliannau 1, 2, 3 a 4, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Gwelliant 1—Rebecca Evans Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 1 'ond yn credu bod angen i’r ffordd y cynhelir y cysylltiadau rhynglywodraethol rhwng y cenhedloedd datganoledig a Llywodraeth y DU gael ei diwygio mewn modd radical'. Gwelliant 2—Rebecca Evans Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 2 'ond yn credu, yn sgil profiad y tair blynedd diwethaf, na ellir sicrhau dyfodol mwy disglair i Gymru heb i’r DU aros yn yr UE'. Gwelliant 3—Rebecca Evans Ym mhwynt 3, yn lle 'fel toll', rhoi 'fel plismona a chyfiawnder a tholl'. Gwelliant 4—Rebecca Evans Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le: Yn galw ar Lywodraeth y DU: a) i gryfhau ei hymrwymiad i fuddsoddi mewn seilwaith yng Nghymru, er enghraifft drwy drydaneiddio’r prif linellau rheilffordd yn y De a’r Gogledd a buddsoddi mewn ynni llanw yng Nghymru, sy’n gyfrifoldeb iddi; b) i ddarparu cyllid llawn yn lle’r cyllid Ewropeaidd y bydd Cymru’n ei golli os bydd y DU yn ymadael â’r UE, a hynny heb unrhyw ymyrraeth gan Lywodraeth y DU o ran y ffordd orau o’i ddefnyddio. Cynigiwyd gwelliannau 1, 2, 3 a 4. Jeremy Miles AC: Yn ffurfiol. Yn ffurfiol. Felly, dwi'n galw nawr ar Darren Millar i gyflwyno gwelliant 5 a gyflwynwyd yn ei enw. Darren Millar. Gwelliant 5—Darren Millar Ym mhwynt 5, ar ôl 'gwelliannau i'r', ychwanegu 'seilwaith yng Nghymru, gan gynnwys yr'. Cynigiwyd gwelliant 5. Darren Millar AC: Diolch, Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant, a gyflwynwyd yn fy enw i. Roeddwn yn disgwyl i hon fod yn fwy o ddadl nôl ac ymlaen, a bod yn onest, yn ôl yr arfer ar brynhawn dydd Mercher pan fydd Plaid Brexit yn cyflwyno dadl gwrthblaid. Ond mewn gwirionedd, mae'r cyfraniadau meddylgar a wnaed gan arweinydd Plaid Brexit mewn perthynas â dyfodol y Deyrnas Unedig a'r setliad datganoli wedi gwneud cryn argraff arnaf, oherwydd credaf fod angen i ni fel Senedd drafod dyfodol datganoli yn y wlad hon, ac rwy'n sicr yn cytuno â chi fod angen setliad mwy sefydlog a chadarn. Ar hyn o bryd nid oes gennym hynny, ac mae gennym anghydbwysedd o fewn y Deyrnas Unedig o ran y setliad datganoli yng Nghymru o'i gymharu â'r Alban, ac yn yr Alban o'i gymharu â Llundain, a'r maeryddiaethau wrth gwrs, a Gogledd Iwerddon. Felly, mae gennym drefniant rhyfedd sydd, mae'n ymddangos i mi, wedi'i ddatblygu heb ystyriaeth briodol i'r hyn a allai fod yn lefelau priodol o gyfrifoldeb i bob un o'r gwledydd. Ac yn sicr, rwy'n credu bod angen ystyried hynny'n fwy gofalus yn y dyfodol er mwyn inni allu cyrraedd rhywbeth mwy synhwyrol ar gyfer y tymor hir sy'n cadw'r Deyrnas Unedig gyda'i gilydd yn hytrach na'n rhannu. Nid wyf yn ymddiheuro o gwbl am fod yn unoliaethwr angerddol—credaf ei bod yn llawer gwell i Gymru fod yn rhan o'r Deyrnas Unedig na'r tu allan i'r Deyrnas Unedig, a dyna pam ei bod yn eithaf rhyfeddol fod gennym blaid genedlaetholgar sy'n beirniadu'r ffaith bod Llywodraeth y DU yn benderfynol o geisio cyflawni ewyllys y bobl drwy ein tynnu allan o'r UE oherwydd ei bod yn honni bod manteision economaidd sylweddol yn deillio i Gymru o wneud hynny, ac eto mae'n ceisio ein rhannu drwy annibyniaeth oddi ar weddill y Deyrnas Unedig, sydd, wrth gwrs, hyd yn oed yn fwy strategol bwysig i Gymru o ran ein heconomi. Rwy'n hapus i dderbyn yr ymyriad. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch i chi am dderbyn yr ymyriad. Mae gwahaniaeth syml iawn yn y ddwy senario: nid yw Cymru'n wlad annibynnol o fewn Prydain; mae Prydain yn wlad annibynnol o fewn Ewrop, yn ôl unrhyw fesur. Darren Millar AC: Rwy'n deall hynny, ond nid wyf yn credu eich bod wedi ymateb i'r datganiad a wneuthum ei bod yn ymddangos yn rhyfeddol iawn i lawer o bobl eich bod yn cyflwyno dadl economaidd dros aros yn yr UE, heb wneud yr un ddadl economaidd yn fwy pwerus oherwydd pwysigrwydd ein cysylltiadau economaidd ar draws y DU. Nawr, o ran safbwynt y Ceidwadwyr Cymreig, rydym eisoes wedi cofnodi ein bod yn cefnogi datganoli'r rheilffyrdd a mwy o gyfrifoldeb dros y system reilffyrdd yma yng Nghymru, a buaswn yn cytuno'n llwyr â rhai o'r sylwadau a wnaethoch yn arbennig am ddiffyg ymatebolrwydd Network Rail i fod eisiau gwneud yn siŵr fod digon o fuddsoddi a chynnal a chadw yma ar ein rheilffyrdd ledled y wlad. Rwyf wedi'i chael yn anodd iawn ymdrin â hwy ar lefel etholaethol, ac nid oes gennyf amheuaeth nad yw honno'n farn a rennir ar draws y Siambr hon. Hefyd, wrth gwrs, rydym yn cefnogi camau—mewn ffordd wahanol ac yn arddel safbwynt gwahanol i'n plaid yn y DU—i sicrhau bod y doll teithwyr awyr yn cael ei datganoli i Gymru, gan ein bod yn credu bod cyfleoedd economaidd y gallwn eu cael o ddatganoli'r doll teithwyr awyr. Rwy'n credu bod achos posibl hefyd dros ddatganoli rhai materion telathrebu i Gymru, er enghraifft. Gwyddom fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyfrifol am gyflwyno'r cynllun band eang cyflym iawn, ac mae hwnnw wedi bod yn gymharol lwyddiannus mewn llawer ffordd, er bod rhai diffygion o hyd mewn rhannau gwledig o fy etholaeth. Ond unwaith eto, rwy'n credu bod achos da i'w wneud dros gael mwy o gyfrifoldebau i Gymru mewn perthynas â thelathrebu. Mae gennym eisoes gyfrifoldebau cynllunio am bethau megis uchder mastiau ac ati, am deleffoni symudol, ac mae'n gwneud synnwyr perffaith i mi i wneud yn siŵr fod y pethau hynny'n cael eu rhoi at ei gilydd mewn rhyw ffordd, rwy'n meddwl, o ran y sefyllfa yn y dyfodol. Rydym hefyd yn cydnabod pwysigrwydd strategol yr M4 a'r A55 a ffyrdd eraill yng Nghymru i rwydwaith y DU, a chredaf y gallwch ddadlau'r ddwy ffordd o ran pwy sy'n gyfrifol am y rheini, ond yn sicr, rydym am weld mwy o fuddsoddi yn ein ffyrdd, oherwydd mae cysylltiadau trafnidiaeth gwell yn helpu i hybu ffyniant. Ni allwn anwybyddu'r ffaith bod cysylltiad gwell ag ardaloedd sy'n llewyrchus yn golygu eich bod yn tueddu i wneud yn well yn economaidd eich hun. Mae tystiolaeth gref iawn fod hynny'n wir, a dyna pam y credwn fod ffyrdd fel yr A55, yr A40, yr M4 a'r llwybrau strategol o'r gogledd i'r de yng Nghymru yn eithriadol o bwysig o ran yr angen i gael gwell cysylltedd ar draws y wlad. Felly, rydym yn hapus i gydnabod y pethau hynny yn y ddadl hon, ac os gallwn gael dadl hynaws, efallai y cawn rywfaint o gonsensws er mwyn gallu datblygu rhai o'r pethau hyn yn y dyfodol. David J Rowlands AC: Rwyf am ganolbwyntio ar fanteision penodol sy'n deillio o'n hundeb â Lloegr a'r ddwy wlad arall sy'n ffurfio'r Deyrnas Unedig, ac felly rhoddaf enghraifft i chi o sut y gallwn elwa o'r undeb hwnnw. Crëwyd y rhwydwaith traws-Ewropeaidd, TEN, gyda'r nodau datganedig o greu marchnad ryngwladol ac atgyfnerthu cydlyniant economaidd a chymdeithasol. Nid oedd yn gwneud fawr o synnwyr i siarad am farchnad fawr yr UE, gyda rhyddid i symud o'i mewn ar gyfer nwyddau a gwasanaethau oni bai fod y gwahanol ranbarthau a rhwydweithiau cenedlaethol a ffurfiai'r farchnad honno wedi'u cysylltu'n briodol â seilwaith modern ac effeithlon. Roedd adeiladu rhwydwaith traws-Ewropeaidd hefyd yn cael ei gweld yn elfen bwysig ar gyfer twf economaidd a chreu gwaith. Roedd y cytuniad a sefydlodd y gymuned Ewropeaidd yn gyntaf yn rhoi sail gyfreithiol i'r TENau o dan y telerau a gynhwyswyd yn y cytuniad, ac erthyglau 156, fel y nododd Mark Reckless yn gynharach. Mae'n rhaid i'r Undeb Ewropeaidd anelu at hyrwyddo datblygiad rhwydweithiau traws-Ewropeaidd fel elfen allweddol ar gyfer creu'r farchnad fewnol ac atgyfnerthu cydlyniant economaidd a chymdeithasol. Mae'r datblygiad hwn yn cynnwys rhyng-gysylltiad y rhwydweithiau cenedlaethol a'u gallu i ryngweithredu yn ogystal â mynediad at rwydweithiau o'r fath. Mae'r economi yng ngogledd Cymru wedi dioddef llawer yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac un o'r rhesymau am hyn yw gallu cefnffordd yr A55 i ymdopi â'r traffig mawr sy'n teithio ar hyd-ddi, yn enwedig yn ystod cyfnodau prysuraf y gwyliau. Mae'r A55 yn rhan o'r llwybr traws-Ewropeaidd sy'n cysylltu porthladd Caergybi ag Ewrop, ac eto nid yw'r Undeb Ewropeaidd wedi rhoi digon o arian tuag at ddatblygu'r llwybr hwnnw, ac mae wedi'i adael bron yn llwyr i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU sicrhau ei fod yn addas i'r diben. Ac mae'r ffordd hon yn cael effaith fawr ar hyfywedd economaidd rhanbarth gogledd Cymru, o ran busnes a thwristiaeth— Rhun ap Iorwerth AC: A wnewch chi dderbyn ymyriad, David? David J Rowlands AC: Gwnaf. Rhun ap Iorwerth AC: Diolch i chi am dderbyn yr ymyriad. Rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol fod yr Undeb Ewropeaidd yn fwy na pharod i lwybrau Cymru, yn ffyrdd a rheilffyrdd, gael statws craidd o fewn y rhwydweithiau TEN-T. Llywodraeth y DU oedd yn gyfrifol am beidio â chyflwyno'r llwybrau hynny i gael eu cysylltu o fewn TEN-T. Roedd Brwsel yn berffaith hapus. David J Rowlands AC: Wel, gallwch ddadlau hynny, ond wrth gwrs, nid oedd yr arian ar gael. Dyna rwy'n ei ddweud, ac yn dod o'r Undeb Ewropeaidd, nid oedd ar gael. Ac rwy'n mynd i nodi sut y gall fod ar gael o fewn senario'r Deyrnas Unedig. Mae'r M4 yn ne Cymru yn cael yr un effaith ar fusnes a hamdden â'r A55, ac wrth gyhoeddi'r penderfyniad i ddileu'r cynllun gwella yn nhwneli Bryn-glas, y rheswm a roddodd Prif Weinidog Cymru, oedd, yn gyntaf, ei gost gynyddol, ac yn ail, y pryderon amgylcheddol. Er mwyn lliniaru'r rhwystr cyntaf, y gost, rydym yn credu y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno achos cryf i Lywodraeth y DU dros ddefnyddio'r gronfa ffyniant gyffredin i roi cymhorthdal tuag at gronfeydd Llywodraeth Cymru, yng ngogledd a de Cymru. O ystyried y gydnabyddiaeth gyffredinol y bydd gwelliannau i ran Cymru o'r M4 hefyd yn cael effeithiau buddiol ar economi rhanbarth Bryste, a natur draws-Ewropeaidd yr A55, rydym ni yn Brexit yn credu y gellid gwneud achos cadarn dros gael cyllid ychwanegol. Cyfrifoldeb y Llywodraeth yw sefydlu seilwaith i gynyddu rhagolygon economaidd rhanbarth i'r eithaf. Er mwyn hwyluso hyn, rydym yn annog Llywodraeth Lafur Cymru i foderneiddio'r A55 ac atgyfodi ffordd liniaru'r M4 drwy ofyn am gymorth ariannol gan Lywodraeth y DU yn y modd a amlinellir uchod. Ni fyddai hwn ar gael pe baem yn aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Diolch. Rhun ap Iorwerth AC: Mae'r cynnig hwn yn mynegi cefnogaeth i 'aelodaeth Cymru o Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon a'i pharhad amhenodol.' Mae arnaf ofn nad ydym ni ar feinciau Plaid Cymru yn gallu cefnogi hynny. Pam? Yn gyntaf, rwy'n credu ein bod yn trafod yn ddamcaniaethol yn ôl pob tebyg. Byddai'n hynod o ffôl, yn fy marn i, i ymrwymo'n llawn am byth i wladwriaeth nad yw'n debygol efallai o fodoli ar ei ffurf bresennol am gyfnod hir iawn. Ymddengys i mi fod annibyniaeth yr Alban yn eithaf anochel yn y blynyddoedd i ddod, ac mae'r darlun sy'n prysur newid o ran undod Gwyddelig yn un sy'n debygol o gyflymu, rwy'n credu, yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod. Felly, nid yn unig ein bod yn siarad yn ddamcaniaethol, gofynnir inni hefyd bleidleisio ar rywbeth a allai'n hawdd fod y tu hwnt i'n rheolaeth. Wrth gwrs, gallem ddewis ymrwymo i fod yn atodiad taeogaidd i Loegr mewn byd lle bydd yr Alban yn annibynnol, ac Iwerddon yn unedig, ond mae'r ymchwydd diweddar yn y diddordeb yng nghwestiwn annibyniaeth yma yng Nghymru yn awgrymu bod hwnnw'n ddarlun sy'n mynd yn llai a llai atyniadol i boblogaeth sy'n deffro yng Nghymru. Felly, ar bob ystyr, gadewch—[Torri ar draws.]Wrth gwrs. David J Rowlands AC: Rwy'n ei chael hi'n anodd iawn deall pam y byddai'n well gan Blaid Cymru fod yn rhanbarth mewn casgliad enfawr o ranbarthau'n ymestyn o'r Môr Baltig i'r Môr Aegeaidd, yn hytrach na bod yn genedl mewn undod o genhedloedd a alwn yn Deyrnas Unedig. Dywedwyd wrthych yn gwbl bendant na fyddech yn cael eich cydnabod yn genedl yn Ewrop. Rhun ap Iorwerth AC: Fel cenedl annibynnol byddem yn sicr yn cael ein cydnabod fel cenedl drwy'r byd i gyd. Fy nymuniad i yw i'r genedl Gymreig honno ddatblygu'r rhwydweithiau rhyngwladol y mae eich plaid, i bob golwg, yn benderfynol o'u difa—gan adeiladu waliau yn hytrach nag adeiladu pontydd. Ond ar bob cyfrif, gadewch i ni siarad am ein seilwaith trafnidiaeth, gan fy mod bob amser yn awyddus i wneud hynny, a sut i wella cysylltedd er mwyn cryfhau ein heconomi, ond gadewch inni wneud hynny mewn ysbryd o uchelgais gwirioneddol i'n gwlad fel partner cyfartal wrth ochr Lloegr, yr Alban, ein ffrindiau ar draws môr Iwerddon ac yn wir ein ffrindiau ar draws y sianel. I'ch atgoffa am waddol trafnidiaeth yng nghyd-destun y Deyrnas Unedig: mae wedi cymryd tan nawr i gael un filltir o reilffordd wedi'i thrydaneiddio yma yng Nghymru, a hyd yn oed wedyn, pan ddaw'n weithredol, cyn belled â Chaerdydd yn unig y bydd hynny'n digwydd, oherwydd penderfynodd Llywodraeth y DU mai dyna pa mor bell y dylai fynd. Mae ein holl briffyrdd aml-lôn yn rhedeg o'r dwyrain i'r gorllewin; mae'r llwybrau hynny'n bwysig iawn wrth gwrs, ond ble mae'r llwybrau rhwng y de a'r gogledd a allai, yn yr un modd, fod wedi helpu i greu economi integredig yng Nghymru? Nid oes unrhyw gysylltiad rheilffordd i lawr arfordir gorllewinol Cymru o gwbl. Rwy'n credu y gallwn feicio'n gyflymach o Flaenau Ffestiniog i Gaerfyrddin na mynd ar y trên, sy'n cymryd tua wyth awr. O ran gwariant ar y rheilffyrdd, rydym yn cael 1 y cant o'r arian sydd ar gael ar gyfer gwella ac ehangu rhwydweithiau rheilffyrdd, er bod gennym 11 y cant o'r rhwydwaith rheilffyrdd. HS2—rwy'n siŵr eich bod i gyd yn gwybod, wrth i wariant HS2 godi, fod gwariant ar y rheilffyrdd yng Nghymru yn gostwng oherwydd ei fod yn cael ei ystyried yn brosiect Cymru a Lloegr, er bod pob astudiaeth yn dangos y bydd economi Cymru yn cael ei niweidio gan HS2. Dyna waddol y DU, a Llywodraeth y DU, fel y nodais yn gynharach, a benderfynodd nad oedd Cymru'n haeddu cael un filltir o reilffordd na ffordd statws craidd o fewn y rhwydweithiau TEN-T. Cymerwch eich tro—Mark Isherwood yn gyntaf. Mark Isherwood AC: Fel Aelod sy'n cynrychioli etholaeth yng ngogledd Cymru, a wnewch chi gydnabod bod yr un astudiaethau wedi dweud y byddai gogledd Cymru ar ei hennill? Rhun ap Iorwerth AC: Dim ond os byddant yn cael rhai penderfyniadau yn ymwneud â Crewe, cywir, mae gobaith na fydd rhannau o ogledd Cymru yn y gogledd-ddwyrain yn cael eu niweidio, ond bydd economi Cymru yn ei chyfanrwydd, y byddwn yn seilio ein sylfaen drethi arni yn y blynyddoedd i ddod, yn cael ei niweidio. Mae pob astudiaeth yn dangos hynny. Mark Reckless. Mark Reckless AC: Cytunaf â'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud, ac mae'n un rheswm pam ein bod yn awyddus i ganslo HS2, ond hefyd, fel y dywedodd David T.C. Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig nos Sul wrth y Gweinidog Brexit, oherwydd HS2, oherwydd yr annhegwch hwnnw, roedd arno eisiau gwthio i gael Llywodraeth y DU i dalu am ffordd liniaru'r M4. Rhun ap Iorwerth AC: Mae'n ddiddorol iawn—gall consensws adeiladu rhwng gwleidyddion yma yng Nghymru a gwleidyddion yn San Steffan. Digwyddodd dros y doll teithwyr awyr, er enghraifft. Ond oherwydd bod y grym yn nwylo Llywodraeth y DU, mater iddynt hwy, nid i ni fel cenedl, yw'r hyn y cawn ei benderfynu ar ddyfodol ein rhwydwaith trafnidiaeth. Felly, mae catalog o enghreifftiau y gallwn eu rhoi ynghylch pam nad yw gwaddol y DU yn un gadarnhaol i Gymru pan edrychwch ar drafnidiaeth. Os ydych am gyflwyno'r achos dros y DU, buaswn yn awgrymu bod trafnidiaeth yn ddewis eithaf gwael o ran pwnc, ac yn wir rwy'n credu ei bod hi'n mynd yn fwyfwy anodd i chi ddewis pwnc sy'n dweud mai'r DU yw ein cyfle gorau. Credid na fyddai'r haul byth yn machlud ar yr Ymerodraeth Brydeinig—fod yr ymerodraeth ar y llwybr cywir, ac rwy'n dyfynnu Plaid Brexit, 'i barhau'n amhenodol'. Ond mae'r haul wedi machlud arni. Nawr, rydym yn edrych tuag at wawr newydd, felly rhwbiwch eich llygaid ac ymunwch gyda ni ar y daith. Neil Hamilton AC: Pan gefais fy ethol i'r lle hwn am y tro cyntaf, roeddwn i'n eithaf cefnogol i ddatganoli. Gwelais gyfleoedd i Gymru drwy ddatganoli pe baem yn defnyddio'r pwerau a oedd gan y Cynulliad i ryddfrydoli'r economi a bod yn lleoliad mwy deniadol ar gyfer buddsoddi, ac yn y blaen. Ond rwy'n ofni bod tair blynedd o brofiad yma wedi fy ngwthio i'r cyfeiriad arall. Rwyf wedi gweld sut y mae'r wladwriaeth un blaid yn gweithio. Pan ddechreuasom, wrth gwrs, drwy gynghreirio â Phlaid Cymru a'r Ceidwadwyr, fe wnaethom atal Llywodraeth Cymru rhag dychwelyd i rym, a byddai hynny wedi bod yn sioc enfawr i'r system pe gallem fod wedi parhau â hynny. Ond wrth gwrs—[Torri ar draws.] Gadewch i mi orffen fy mrawddeg yn gyntaf. Yn anffodus, mae Plaid Cymru bob amser yn cynnal Llywodraeth Lafur, ac mae hynny'n golygu na allwn byth weld dim heblaw Llywodraeth asgell chwith fel y mae pethau ar hyn o bryd. Felly, ni allaf weld unrhyw reswm pam y gallai unrhyw un sydd hyd yn oed yn gymedrol i'r dde o'r canol feddwl y gallai datganoli fod yn llwyddiant. Mark Reckless AC: Oni bai fy mod yn camgymryd yn fawr, rwy'n cofio'r Aelod yn siarad ym mis Gorffennaf am awydd i gael mwy o ddatganoli, ac nid wyf yn credu ei fod wedi bod yn ôl yn y lle hwn cyn i mi glywed adroddiadau amdano'n siarad yng Nghasnewydd yn dweud ei fod bellach am ddiddymu'r Cynulliad. Pam y newid dros doriad yr haf? Neil Hamilton AC: Nid wyf yn gwybod beth y mae'r cyn-Aelod UKIP a'r cyn-aelod o'r grŵp Ceidwadol, a llawer arall yn ogystal, wedi bod yn ei wneud dros yr haf, ond rwyf i wedi bod yn gwneud ychydig o feddwl. Sylweddolaf yn awr fod unrhyw fesur o ddatganoli wedi bod yn fethiant, ac mae hynny'n rhywbeth y mae cyfran fawr iawn o bobl Cymru yn cytuno ag ef. Cafwyd arolwg ar S4C yn gynharach eleni, a gofynnwyd i bobl a oeddent yn credu bod y Cynulliad wedi newid y ffordd y llywodraethir Cymru er gwell, a dim ond 34 y cant a atebodd y cwestiwn hwnnw yn gadarnhaol. Pan ofynnwyd iddynt a oeddent yn credu ei fod wedi bod yn well i'r gwasanaeth iechyd, dim ond 23 y cant a ddywedodd 'ydy'. Felly, yn sicr nid yw wedi bod yn wir fod y Cymry wedi cael eu hargyhoeddi bod ymdrechion y lle hwn a Llywodraeth Cymru wedi bod o fudd iddynt. Felly, ar ôl 20 mlynedd, credwn ei bod yn iawn i'r bobl gael eu holi eto i roi eu barn ynglŷn ag a ydynt am barhau â'r arbrawf hwn ai peidio. Gwn fod y Blaid Lafur yn awr yn awyddus iawn, yng Nghymru beth bynnag, i gael refferendwm arall, i gael pleidlais y bobl, ac mae Plaid Cymru, wrth gwrs, wedi bod yn awyddus erioed i gael pleidlais y bobl ar annibyniaeth, ac felly gallem gyfuno'r ddau â chyfres o gwestiynau. Rwy'n credu y dylai pobl Cymru allu penderfynu a fu'r arbrawf datganoli hwn yn llwyddiant ai peidio, ac a oes ffordd arall ymlaen a fyddai'n well, ac efallai'n mynd y tu hwnt i ddatganoli a datganoli pwerau ymhellach. Pam na wnawn ni ddemocrateiddio'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, er enghraifft, o ystyried bod y gwasanaeth iechyd wedi'i gamreoli mor drychinebus o Gaerdydd, ac yn parhau i gael ei gamreoli'n drychinebus o Gaerdydd? Gallem fynd â datganoli ymhellach i lawr i'r bobl nag yma yng Nghaerdydd. Gallem gael datganoli pellach yn y system addysg hefyd, fel na fydd angen swydd y Gweinidog Addysg. Gallem roi mwy o bwerau i awdurdodau lleol arddel safbwynt annibynnol ar y ffordd y maent am reoli eu hysgolion eu hunain yn eu hardaloedd eu hunain. Rwy'n credu y gallai hynny fod yn iach iawn i ddemocratiaeth hefyd. Felly, gallai honno fod yn ffordd arall o ailgysylltu â'r bobl nad oes ganddynt syniad, i raddau helaeth iawn, beth yw pwerau'r lle hwn. Mae'n dal yn wir nad yw cyfran fawr iawn o'r Cymry yn gwybod bod y gwasanaeth iechyd wedi cael ei ddatganoli. Does bosibl nad yw hynny'n fethiant os bu un erioed, o ystyried ei fod yn mynd â hanner cyllideb Llywodraeth Cymru. Nawr, pan grybwyllwyd datganoli yn gyntaf, gwnaethpwyd achos drosto ar y sail y byddai'n helpu i gadw'r undeb gyda'i gilydd—undeb y Deyrnas Unedig, hynny yw. Ac yn awr gwelwn fod y Deyrnas Unedig yn cael ei rhwygo'n ddarnau, mewn gwirionedd, er gwaethaf datganoli, yn fwyaf arbennig, yn amlwg, yn yr Alban. Yn sicr, nid yw bodolaeth Senedd yr Alban wedi gwneud dim i leddfu'r galw am annibyniaeth wleidyddol yn yr Alban, rhywbeth y byddai Plaid Cymru'n ei gefnogi'n fawr, ond mae hynny'n fy mrawychu i'n fawr, fel unoliaethwr. Ac mae bodolaeth Llywodraeth yr Alban wedi'i gwneud yn fwy tebygol y gwelwn y Deyrnas Unedig yn chwalu, yn hytrach nag yn llai tebygol. Mae rhesymau eraill dros hynny, wrth gwrs, nid yn lleiaf, fel y nodwyd yn gynharach, y dryswch a grëwyd yn sgil y ffordd y mae San Steffan wedi camreoli Brexit, lle mae gennym Senedd sydd am 'aros' a phobl sydd am 'adael', ac mae'r dryswch a achosodd hynny wedi galluogi'r Alban, wrth gwrs, i'w gwneud yn anos inni gyflawni canlyniad y refferendwm. A gwelwn hefyd yn y Blaid Lafur fod rhai o'i haelodau hi wedi bod yn chwarae gyda'r syniad o symud tuag at fwy o annibyniaeth hefyd, a dywedodd Prif Weinidog Cymru ym mis Gorffennaf nad yw cefnogaeth Cymru i'r undeb yn y Deyrnas Unedig yn ddiamod. Felly, rwy'n dweud mai'r hyn sydd angen i ni ei wneud ar ôl 20 mlynedd o brofiad o ddatganoli yw cyflwyno'r achos i'r bobl unwaith eto. Felly, mae angen inni fynd y tu hwnt i ddatganoli ac mae angen inni ailgysylltu â phobl Cymru, a chael bargen well ar ôl 20 mlynedd o fethiant llwyr. Y Gweinidog Brexit, Jeremy Miles. Jeremy Miles AC: Diolch, Llywydd.Mae'r cynnig a gyflwynwyd gan y Blaid Brexit ychydig yn rhyfedd. Gall Llywodraeth Cymru gytuno â rhywfaint ohono, ond mae'n anghytuno â llawer ohono. Gadewch imi ddechrau gyda'r hyn y gallaf i gytuno ag e, cyn tynnu sylw at ddiffygion y cynnig. Mae'n cefnogi aelodaeth Cymru o Deyrnas Unedig Prydain Fawr. Mae'n galw am ragor o ddatganoli, sy'n ddatblygiad i'w groesawu o ystyried hanes amheus gwleidyddion blaenorol Plaid Brexit yn UKIP a'u hagwedd tuag at ddatganoli. Mae Llywodraeth Cymru wedi galw sawl tro i'r toll teithwyr awyr gael ei ddatganoli i Gymru, fel sy'n digwydd yng Ngogledd Iwerddon a'r Alban, ac mae'r cynnig hwn yn cefnogi'r alwad honno. Mae'r Llywodraeth Dorïaidd, wrth gwrs, wedi rhoi veto arno dro ar ôl tro, er gwaethaf yr argymhelliad unfrydol diweddaraf ym Mhwyllgor Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin. Yn fwyaf hynod, mae'r cynnig yn cydnabod y buddsoddiad sylweddol yn ein seilwaith o'r gefnogaeth rydyn ni wedi'i derbyn gan yr Undeb Ewropeaidd dros yr 20 mlynedd diwethaf. Ac eto, roedd ochr 'gadael' y refferendwm 2016 yn amharod iawn i drafod ar y pryd y ffaith fod Cymru ar ei helw o gyllid Ewropeaidd, nid yn unig ar gyfer seilwaith ond ar gyfer rhaglenni sgiliau hanfodol megis prentisiaethau a datblygu'r gweithlu o fewn busnesau, am gyllid busnes drwy Fanc Datblygu Cymru—llwyddiant enfawr—ac am arloesi ac ymchwil a datblygu. Yn olaf, mae'n galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gynyddu ei buddsoddiad mewn seilwaith. Mae hyn yn bendant yn rhywbeth rydyn ni'n galw amdano fe ein hunain. Dro ar ôl tro, mae Llywodraethau Torïaidd y ddegawd diwethaf wedi siomi Cymru o fewn y meysydd polisi hynny y mae ganddyn nhw gyfrifoldeb drostynt: trydaneiddio'r rheilffordd i Abertawe, wedi'i ganslo. Mark Reckless AC: A wnaiff yr Aelod ildio? Jeremy Miles AC: Gwnaf, yn wir. Mark Reckless AC: Mae'n dweud bod ein cynnig yn cyfeirio at gyllid o'r Undeb Ewropeaidd. Nid yw'n gwneud hynny; mae'n cyfeirio at y pwerau a gymerodd yr Undeb Ewropeaidd dros y rhwydwaith traws-Ewropeaidd, ac nid dyna sydd dan sylw. Mewn rhai o'r rheini, maent yn eu rheoleiddio ac maent yn mynnu safonau penodol, ac yna, yn yr achos hwn, yn mynnu bod Cymru'n talu amdanynt. Jeremy Miles AC: Mewn gwirionedd, mae llwybrau ffyrdd TEN-T yng Nghymru wedi elwa'n aruthrol o gyllid Ewropeaidd drwy'r ERDF, ac ar gyfer y rhwydwaith ffyrdd, rydym yn hyderus y byddwn yn bodloni'r safonau TEN-T. Ond os byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, y pryder yw y byddai colli TEN-T yn arwain at ddadneilltuo sylweddol o ran trydaneiddio rhwydwaith rheilffyrdd Cymru yn y gogledd i Gaergybi ac yn y de i Aberdaugleddau. Mae hwnnw, wrth gwrs, yn fuddsoddiad y disgwyliwn i Lywodraeth y DU ei anrhydeddu. Ond roeddwn yn rhestru'r nifer o ffyrdd y mae Llywodraeth y DU wedi methu cyflawni ei rhwymedigaethau i ni yng Nghymru: methiant morlyn llanw bae Abertawe, methiant i gynnal y diwydiant dur. A soniodd yr Aelod, yn ei araith, am yr M4 a'i gefnogaeth ymddangosiadol yn awr i'r llwybr du, er iddo ymgyrchu, a chredaf iddo ysgrifennu'r maniffesto yn 2016 a ddywedai fod llwybr du'r M4 yn rhy ddrud ac y byddai'n llyncu'r rhan fwyaf o gyllideb cyfalaf Cymru, a beirniadodd yn arbennig yr effaith andwyol ar yr amgylchedd, a dyna'n union oedd y rhesymau a roddodd Prif Weinidog Cymru dros beidio â bwrw ymlaen â'r cynllun. Felly, rwy'n credu ei bod yn dda cael rhywfaint o gysondeb mewn perthynas â hynny. [Torri ar draws.] Ie. Mark Reckless AC: Credwn y dylid ei hadeiladu. Buom yn ymgyrchu dros ffordd liniaru i'r M4. Mae ei lliw neu'r union lwybr yn fater atodol i'r ffaith bod Cymru angen iddi gael ei hadeiladu. Jeremy Miles AC: Wel, bydd y cofnod yn dangos eich bod chi newydd ofyn am i'r llwybr du gael ei adeiladu. Felly, efallai y gallwn edrych ar y cofnod ar ôl y ddadl hon. Nawr i droi at yr elfennau o'r cynnig na allwn eu derbyn. Yn gyntaf, mae'n anghyson ynghylch datganoli. Rwy'n methu gweld sut y mae'n bosibl galw am ddatganoli pellach a chefnogi cysyniad gwag Llywodraeth y DU ynghylch y gronfa ffyniant gyffredin ar yr un pryd fel ffordd o sicrhau cyllid y mae Cymru wedi bod yn ei reoli ers degawdau er mwyn buddsoddi mewn materion o fewn ein cymhwysedd datganoledig. Mae'n wag oherwydd, ers dros ddwy flynedd, maent wedi methu manylu ar unrhyw syniadau pendant ynglŷn â sut y byddai'n gweithio neu beth fyddai'n ei wneud. Yr hyn sy'n glir, fodd bynnag, yw y byddai'n golygu bod Llywodraeth y DU yn cipio'r cyllid a ddeuai'n syth i Gymru o'r Undeb Ewropeaidd ac yn llyffetheirio gallu'r Cynulliad Cenedlaethol hwn a Llywodraeth Cymru i'w ddefnyddio i wireddu strategaeth ddatblygu gydlynol. Mae'n amlwg yn ymosodiad ar bwerau'r Cynulliad, a chredaf na allai plaid sydd wedi ymrwymo o ddifrif i ddatganoli gefnogi'r argymhelliad hwnnw. Rydym wedi nodi'n glir, os a phan fydd y DU yn pontio o gronfeydd strwythurol yr UE, na ddylid colli'r un geiniog ac na ddylai unrhyw bŵer gael ei gipio. Nesaf, yr undeb. Fel Llywodraeth, rydym am i'r undeb ffynnu. Ond yn wahanol i'r cynnig, rydym yn cydnabod na all hynny ddigwydd oni cheir diwygio radical ar y cyfansoddiad, gan gynnwys cysylltiadau rhynglywodraethol—diwygio y mae'r Llywodraeth bresennol ar y gorau'n esgeulus ynglŷn â'i wneud, ac ar y gwaethaf, heb ddiddordeb mewn gwneud hynny. Lywydd, nid yw'r undeb erioed wedi bod o dan fwy o straen. Mae datganoli, neu fe ddylai datganoli fod yn elfen annatod o'n cyfansoddiad, yn hytrach na rhywbeth sy'n cael ei ystyried yn rhodd gan San Steffan a Whitehall, ac mae'r ddadl ynghylch datganoli'n ymwneud â mwy na'r cysylltiadau unigol rhwng y DU a phob un o'r gwledydd datganoledig—mae angen iddi fynd i'r afael â sut y dylid llywodraethu'r DU yn ei chyfanrwydd. Ac mae angen inni gydnabod bod grym yn y pen draw yn llifo o'r gwaelod i fyny, nid o'r brig i lawr fel athrawiaeth hen ffasiwn o sofraniaeth seneddol a'r uchelfraint frenhinol, a bod dyfodol yr undeb yn dibynnu ar gydsyniad pobloedd ac etholwyr Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr. Un o'r egwyddorion allweddol ar gyfer datganoli pwerau, a ddefnyddir gan gyrff annibynnol sydd wedi argymell datganoli'r doll teithwyr awyr, seilwaith rheilffyrdd, plismona a chyfiawnder i Gymru, yw sybsidiaredd. Cefnogwn yn gryf ddatganoli pwerau pellach yn y meysydd hynny, a bod pwerau'r sefydliadau datganoledig yn seiliedig ar gyfres gydlynol o gyfrifoldebau a ddyrennir yn unol ag egwyddor sybsidiaredd. Mae'r hyn y mae Prif Weinidog Cymru wedi'i alw'n fodel datganoli 'gras a ffafr' wedi methu'n ddramatig yn achos Brexit, lle mae Llywodraeth y DU dro ar ôl tro wedi methu cyflawni ei hymrwymiadau i weithio gyda'r Llywodraethau a'r sefydliadau datganoledig i gytuno ar dull negodi, ac mae'r ffaith nad yw'r Llywodraeth bresennol yn gweld unrhyw reswm—fel y dywedodd Gweinidog wrth y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ddydd Llun—i rannu papurau a rannwyd gyda negodwyr yr UE gyda ni, nid ymlaen llaw yn unig, ond o gwbl, yn ddadlennol ac yn frawychus iawn. A Brexit, wrth gwrs, sy'n fwyaf amlwg yn bygwth dyfodol yr undeb, gyda Brexit 'heb gytundeb' yn bwrw ati i chwalu cyfansoddiad y DU, gan ei gwneud hi'n debygol y bydd yr Alban yn pleidleisio pan fydd yn cael caniatâd i wneud hynny dros annibyniaeth, ac yn hwb hefyd i'r achos dros yr hyn a fyddai bron yn sicr yn bleidlais ymrannol ar y ffin yn Iwerddon. Felly, i orffen, gadewch i mi droi at Brexit. Rydym yn sicr yn nodi bod Cymru, fel y DU gyfan, wedi pleidleisio dros adael yn 2016, ac fel yr eglurwyd gennym yma lawer gwaith, fel Llywodraeth Cymru, fe wnaethom geisio anrhydeddu'r canlyniad hwnnw. Ond mae'n bryd i'r rhai a ymgyrchodd dros adael ddechrau anrhydeddu'r addewidion a wnaethant. [Torri ar draws.] Mae llawer o'r honiadau a wnaed gan yr ymgyrch dros adael yn deilchion, a dyna pam y mae'r Aelod yn gweiddi arnaf o'i sedd. 'Y cytundeb masnach rydd hawsaf erioed', oedd yr hyn a ddywedwyd. Gweithgynhyrchwyr ceir yr Almaen yn ymbil ar yr UE i aberthu eu gwerthoedd gwleidyddol, cael ein cacen a'i bwyta, mwy o arian i'r GIG, diwedd sydyn ar fewnfudo—ble mae'r honiadau hynny yn awr wrth inni wynebu'r posibilrwydd o Brexit 'heb gytundeb' sy'n bygwth niwed dwfn a pharhaol i'n gwlad a'n pobl? Yfory, byddwn yn cyhoeddi achos llawn yn seiliedig ar dystiolaeth dros ein penderfyniad i alw, ar ôl tair blynedd, tair blynedd a wastraffwyd o negodiadau trychinebus anhrefnus a chyda swyddi a buddsoddiad yn llifo o'n heconomi, am ail refferendwm ac yn addunedu i ymgyrchu dros aros yn yr UE. Mae'r achos gwrthrychol yn ddiymwad, ac mae ein gwelliannau, yn wahanol i'r cynnig gwreiddiol, yn rhoi'r pwyslais ar ddiwygio, democratiaeth a lles pobl Cymru, ac rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r egwyddorion hynny wrth ddiwygio'r cynnig. Galwaf ar Caroline Jones iymateb i'r ddadl. Caroline Jones AC: Diolch, Lywydd. Cyn i mi ddod at y cyfraniadau unigol, hoffwn gyflwyno'r farn fod undeb Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn un o'r undebau gorau a mwyaf hirhoedlog mewn hanes, ac ers ymhell dros 300 o flynyddoedd mae'r undeb hwn wedi parhau. Ac er gwaethaf galwadau am annibyniaeth—ac i ddechrau, pan gafodd datganoli ei roi i Gymru, ni wnaeth Llywodraeth Blair ymdrin â'r setliad datganoli yn dda iawn, a chymerodd dros ddegawd i'w ddatrys, ond mae'r undeb yn parhau o hyd. Ac ychydig dros bum mlynedd yn ôl, pleidleisiodd yr Alban gyda mwyafrif llethol dros barhau'n rhan o'r undeb, ac mae'r arolygon barn diweddaraf yn dangos bod y mwyafrif helaeth o bleidleiswyr yr Alban yn dymuno aros yn rhan o'r DU. Mae Cymru hefyd yn dal i wrthwynebu gadael y Deyrnas Unedig. Ac mae'r cynnig sydd ger eich bron heddiw yn tanlinellu'r egwyddor ein bod ni'n gryfach gyda'n gilydd, a bod pob rhan o'r undeb yn bwysig fel cyfanrwydd. Mae'r buddsoddiad yng Nghymru o fudd i'r DU gyfan, felly ni allwn droi cefn ar ein hymwneud â Llywodraeth y DU. Ac nid yw datganoli'n ddigwyddiad a wneir unwaith a'i anghofio wedyn. Felly, mae'n rhaid i ni sicrhau hefyd fod unrhyw setliad ar ôl Brexit yn deg ac yn fanteisiol i bob rhan o'r DU. Ond yn amlwg, rwy'n pryderu am Gymru; rwy'n rhan o Senedd Cymru ac rwyf am gynrychioli pobl Cymru mor llawn ag y gallaf. [Torri ar draws.] Byddwn yn—. O, dyma fe wrthi eto ynglŷn ag etholiad. A ydych chi eisiau—? Fe ddywedaf wrthych chi beth, fe gaf fi a chi drafodaeth y tu allan, iawn, os nad oes ots gennych chi. Na, na; cynhelir y trafodaethau yma, ac wedi'u cofnodi. Ewch ymlaen, Caroline Jones. Caroline Jones AC: A hoffai sefyll i wneud ymyriad, Lywydd, os gwelwch yn dda? Nid wyf yn credu. Ewch ymlaen. Caroline Jones AC: O'r gorau. Fe fyddwn—[Torri ar draws.] Felly, fe fyddwn yn pleidleisio yn erbyn holl welliannau Llywodraeth Cymru. Rydym ni, fel y mwyafrif o'r cyhoedd yng Cymru, yn credu ein bod yn well ein byd y tu allan i'r UE ac rydym yn credu'n gryf fod Llywodraeth Cymru, drwy geisio anwybyddu canlyniadau refferendwm 2016, yn cefnu ar ddemocratiaeth. Byddwn yn cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig. Ond fel y dywedais, hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y ddadl, ac mae Mark wedi siarad yn gryf dros fod yn—[Torri ar draws.] Yn sicr, David. David Rees AC: Diolch i'r Aelod am dderbyn yr ymyriad. Rydych newydd ddweud y byddwch yn cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig, sef gwelliant i bwynt 5, sy'n sôn am y gronfa ffyniant gyffredin a sut y bwriadwch ei defnyddio i ariannu prosiectau seilwaith. A ydych yn deall mewn gwirionedd beth sy'n gwneud honno'n gronfa ffyniant gyffredin a pham y mae yno? Cronfa Gymdeithasol Ewrop, sef Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop ydyw—yr arian y mae gennym hawl i'w gael ar gyfer prosiectau eraill. Nid yw'n ymwneud â'r seilwaith yr ydych am ei gyllido; mae'n ymwneud â phrosiectau ac anghenion cymdeithasol ein cymunedau. Caroline Jones AC: Ni phenderfynwyd arno eto, David. David Rees AC: Nid ydych yn gwybod beth y mae'n ei olygu hyd yn oed. Caroline Jones AC: Wrth gwrs fy mod. Ni phenderfynwyd arno eto. Felly— David Rees AC: O, felly nid ydych am sicrhau bod yr arian hwnnw'n dod i ni. Caroline Jones AC: Felly, cawsom Mark—. Daeth y cyfraniad cyntaf gan Mark Reckless wrth gwrs, a thynnodd sylw at y ffaith y byddem yn hoffi i reilffyrdd gael eu datganoli i Gymru. Mae arnom eisiau mwy o ddatganoli. A siaradodd am bwysigrwydd seilwaith a thynnodd sylw at bwysigrwydd cysylltedd, fel y gwnaeth David Rowlands. Mae gennyf ddiddordeb yng nghyfraniad Rhun, oherwydd fe soniodd yntau hefyd am seilwaith a sut y mae'n rhaid ei wella. Tynnodd sylw at fater trydaneiddio, y gŵyr pawb ohonom ei fod yn bwysig iawn i wahanol rannau o Gymru. Dywedodd hefyd nad oedd unrhyw gysylltiad rheilffordd ar arfordir y gorllewin. Tynnodd Darren sylw hefyd at y ffaith ei fod o blaid datganoli a gweithio gyda'n gilydd—pob plaid, grwpiau trawsbleidiol yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod datganoli'n gweithio. Oherwydd—. Roedd cyfraniad Neil Hamilton yn amlwg yn syndod oherwydd pan oeddech yn gweithio yn gyntaf, roeddwn yn meddwl eich bod o blaid datganoli, felly mae wedi bod yn dipyn o syndod eich bod bellach wedi penderfynu eich bod am gael refferendwm ar y Cynulliad. Yn amlwg, nid wyf yn rhannu eich barn. Neil Hamilton AC: Roeddech yn ei rhannu pan oeddech yn ein plaid ni. Caroline Jones AC: Na, ni wnes hynny erioed. Rwyf bob amser—. Na, na, na. Roeddwn bob amser am gael datganoli, ac roeddwn bob amser o blaid—. Roeddwn bob amser o'i blaid. Felly, dyna ni. Felly, mae'n—[Torri ar draws.] Felly, mae'n anghywir ynglŷn â hynny, ond nid oedd byth yn adnabod y bobl yr oedd i fod yn eu harwain beth bynnag. Felly, fe wnawn ni adael hynny—[Torri ar draws.] Felly, fe wnawn ni adael hynny yn y fan honno. Felly, hoffwn—[Torri ar draws.] Felly, hoffwn ddweud diolch wrth bawb am eu cyfraniadau. Rwy'n credu ei bod wedi bod yn ddadl dda. Diolch yn fawr iawn. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Dwi'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio. Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. 8. Cyfnod Pleidleisio Ac rŷn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, oni bai bod yna dri Aelod sydd yn moyn i fi ganu'r gloch. Felly, y bleidlais—yr unig bleidlais yw'r bleidlais ar ddadl y Blaid Brexit ar y Deyrnas Gyfunol a'r Undeb Ewropeaidd. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Caroline Jones. Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 4, neb yn ymatal, 42 yn erbyn. Ac felly mae'r cynnig wedi ei wrthod. NDM7141 - Dadl y Blaid Brexit - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 4, Yn erbyn: 42, Ymatal: 0 Gwrthodwyd y cynnigCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Pleidlais ar y gwelliant, felly, a dwi'n galw am bleidlais ar welliant 1. Agor y bleidlais. Gwelliant 1,a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, wyth yn ymatal, 13 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 1 wedi ei dderbyn. NDM7141 - Gwelliant 1: O blaid: 26, Yn erbyn: 13, Ymatal: 8 Derbyniwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Gwelliant 2. Galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 32, neb yn ymatal, 15 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 2 wedi ei dderbyn. NDM7141 - Gwelliant 2: O blaid: 32, Yn erbyn: 15, Ymatal: 0 Derbyniwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Y bleidlais nesaf ar welliant 3—gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, chwech yn ymatal, 15 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 3 wedi ei dderbyn. NDM7141 - Gwelliant 3: O blaid: 26, Yn erbyn: 15, Ymatal: 6 Derbyniwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Gwelliant 4 yw'r gwelliant nesaf, ac, os derbynnir gwelliant 4, mi fydd gwelliant 5 yn cael ei ddad-ddethol. Felly, pleidlais ar welliant 4 yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 31, neb yn ymatal, 15 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 4 wedi ei dderbyn; mae gwelliant 5 wedi ei ddad-ddethol. NDM7141 - Gwelliant 4: O blaid: 31, Yn erbyn: 15, Ymatal: 0 Derbyniwyd y gwelliantCliciwch i weld canlyniad y bleidlais Cafodd gwelliant 5 ei ddad-ddethol. A dwi nawr yn galw am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd. Cynnig NDM7141 fel y'i diwygiwyd: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cefnogi aelodaeth Cymru o Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon a'i pharhad amhenodol, ond yn credu bod angen i’r ffordd y cynhelir y cysylltiadau rhynglywodraethol rhwng y cenhedloedd datganoledig a Llywodraeth y DU gael ei diwygio mewn modd radical. 2. Yn nodi bod Cymru, fel y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd, wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd, ond yn credu, yn sgil profiad y tair blynedd diwethaf, na ellir sicrhau dyfodol mwy disglair i Gymru heb i’r DU aros yn yr UE. 3. Yn cefnogi datganoli pellach mewn meysydd penodol a fyddai o fudd i Gymru a lle mae rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn elwa o ddatganoli o'r fath, fel plismona a chyfiawnder a tholl teithwyr rheilffyrdd ac awyr. 4. Yn nodi'r rhan a fu gan yr Undeb Ewropeaidd yn y gorffennol o dan erthyglau 154 i 156 o Gytuniad Rhufain mewn perthynas â rhwydweithiau traws-Ewropeaidd, gan gynnwys yr M4 a'r A55. 5. Yn galw ar Lywodraeth y DU: a) i gryfhau ei hymrwymiad i fuddsoddi mewn seilwaith yng Nghymru, er enghraifft drwy drydaneiddio’r prif linellau rheilffordd yn y De a’r Gogledd a buddsoddi mewn ynni llanw yng Nghymru, sy’n gyfrifoldeb iddi; b) i ddarparu cyllid llawn yn lle’r cyllid Ewropeaidd y bydd Cymru’n ei golli os bydd y DU yn ymadael â’r UE, a hynny heb unrhyw ymyrraeth gan Lywodraeth y DU o ran y ffordd orau o’i ddefnyddio. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 22 yn erbyn. Ac felly derbyniwyd y cynnig wedi ei ddiwygio. NDM7141 - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 25, Yn erbyn: 22, Ymatal: 0 Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwydCliciwch i weld canlyniad y bleidlais 9. Dadl Fer: Agwedd ysgol gyfan Cymru: Cynorthwyo pob plentyn i ffynnu, dysgu a llwyddo mewn ysgolion Ac felly rŷn ni'n cyrraedd yr eitem olaf ar yr agenda heddiw—yr eitem honno yw'r ddadl fer. Gofynnaf i Aelodau adael y Siambr yn gyflym ac yn dawel, a dwi'n galw ar Jayne Bryant i gyflwyno'r ddadl fer. Jayne Bryant. Jayne Bryant AC: Diolch, Lywydd. Rwyf wedi cytuno i roi munud yn y ddadl hon i Mark Isherwood, Jack Sargeant, Hefin David a John Griffiths. Mae lles emosiynol a meddyliol pobl ifanc yn her, a daeth hynny i'r amlwg yn ddiweddar. Cafodd ei gydnabod gan wleidyddion, rhieni, athrawon a chan bobl ifanc eu hunain. Roedd yn dweud llawer fod cynifer o'r bobl ifanc a safodd ar gyfer y Senedd Ieuenctid wedi gwneud hyn yn flaenoriaeth iddynt. Mae gan bobl ifanc heddiw fwy o wybodaeth ar flaenau eu bysedd nag unrhyw genhedlaeth o'r blaen, ond maent yn wynebu mwy o her ar yr ochr gymdeithasol ac emosiynol o dyfu i fyny. Ein cyfrifoldeb ni yw gwrando a gweithredu. Gall profiadau niweidiol yn ystod plentyndod gael effaith niweidiol sylweddol ar gyfleoedd bywyd a chyrhaeddiad pobl ifanc. Yn 2015, canfu ymchwil gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fod 47 y cant o boblogaeth Cymru wedi profi o leiaf un profiad niweidiol yn ystod plentyndod cyn eu bod yn 18 oed, a 14 y cant wedi profi pedwar neu fwy o brofiadau o'r fath. Yn aml, bydd agweddau, credoau ac ymddygiad a ddysgir yn ystod y blynyddoedd cynnar iawn hyn yn parhau pan fyddant yn oedolion, ac mae'n hanfodol ein bod yn gwneud popeth a allwn i gefnogi ac annog plant. Os byddwn yn gwneud pethau'n iawn yn gynnar, ceir mynydd o dystiolaeth gynyddol sy'n dangos y bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol nid yn unig ar yr unigolyn, ond ar gymdeithas yn gyffredinol. Mae ysgol sy'n feddyliol iach yn gweld iechyd meddwl a lles meddyliol cadarnhaol fel rhywbeth sy'n hanfodol i'w gwerthoedd. Ni ellir cyfyngu iechyd a lles emosiynol i wersi'n unig. Rhaid iddo fod yn rhan o ethos yr agwedd ysgol gyfan. Rwy'n falch o ddweud y gwelwyd cynnydd cadarnhaol iawn ar y mater hwn drwy'r Cynulliad a thrwy benderfyniad fy nghyd-Aelod, Lynne Neagle. Mae Lynne wedi bod wrthi'n frwd yn hyrwyddo lles meddyliol ac emosiynol gwell i'n plant a'n pobl ifanc, ac mae wedi bod yn hyrwyddo dull ysgol gyfan o weithredu. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i dalu teyrnged i waith Lynne a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Lluniodd y pwyllgor adroddiad clir, yn seiliedig ar dystiolaeth, 'Cadernid Meddwl', sy'n gosod heriau i Lywodraeth Cymru. Canfu 'Cadernid Meddwl' gonsensws eang fod lleoliadau ysgol yn allweddol i hyrwyddo lles emosiynol ac iechyd meddwl da, fod angen ymgorffori'r dull ataliol o fewn ethos ysgol, nid yn unig yn y gwersi a addysgir, ac nad athrawon yn unig sydd â chyfrifoldeb, ond fod galw am weithio ar y cyd rhwng gweithwyr proffesiynol ar draws y sectorau—mae iechyd, addysg, gofal cymdeithasol, y trydydd sector a gwaith ieuenctid yn allweddol. Jayne Bryant AC: Rwy'n falch iawn o ddweud nad oes yn rhaid i chi edrych yn rhy bell yn fy etholaeth i yng Ngorllewin Casnewydd i ddod o hyd i enghreifftiau o ysgolion sy'n ceisio arddel yr union egwyddorion hyn—ysgolion sy'n gwneud gwaith ardderchog yn meithrin ein plant a'n pobl ifanc, ac yn rhoi cynnig ar ffyrdd arloesol o roi lles myfyrwyr yn y canol ym mhopeth a wnânt. Mae Ysgol Gynradd Millbrook yn y Betws yn ysgol sydd wedi croesawu'r agwedd ysgol gyfan, ac mae'n ei wneud yn dda. I roi rhywfaint o gefndir, cymuned o 8,000 o bobl yw Betws. Mae'n ardal sydd â lefelau uchel o amddifadedd, gyda chwe ardal gynnyrch ehangach haen is ar yr ystâd. Mae'r tîm arweinyddiaeth yn ysgol Millbrook wedi bod yn ymchwilio i ddulliau o wella cyfleoedd bywyd a chyrhaeddiad plant ers flynyddoedd lawer. Maent wedi edrych am arferion da yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Eu harwyddair yw 'Dysgu am ofalu, gofalu am ddysgu', a'u cenhadaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau'r bobl ifanc y maent yn gweithio gyda hwy. I fod yn fwyaf effeithiol, eu nod yw ymgysylltu â phlant a'u teuluoedd o oedran cynnar iawn. Athroniaeth Millbrook yw bod plant hapus yn dysgu. Maent yn teimlo'n angerddol fod angen pentref cyfan i fagu plentyn, ac yn credu, drwy annog teuluoedd, a'r gymuned, y gellir rhoi'r cyfle gorau un i bobl ifanc gyflawni. Ethos yr ysgol yw edrych tuag allan. Maent yn annog plant a theuluoedd i rannu diwylliannau, ac i ehangu gorwelion. Mae gan yr ysgol ystafell ddosbarth Confucius ar y safle, ac maent yn dysgu Mandarin. Gan weithio'n agos gyda Chyngor Dinas Casnewydd, a phartneriaid allweddol eraill, maent wedi datblygu dull aml-asiantaeth o weithredu, gan dreialu menter Rhoi Plant yn Gyntaf Llywodraeth Cymru, dull sy'n seiliedig ar le i leihau anghydraddoldebau a lliniaru effeithiau profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Yn gynharach eleni, cefais y fraint o ymweld â'r ysgol, gyda'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, a gwelsom yn uniongyrchol y ffordd yr oedd hyn yn gweithio, ac ni allai beidio â gwneud argraff fawr arnoch. Ers ei sefydlu, maent wedi gweld gostyngiad sylweddol yn nifer y plant ar y gofrestr amddiffyn plant. Y ffactor mwyaf dylanwadol yn hyn yw'r ffordd y mae asiantaethau'n gweithio gyda'i gilydd. Mae pob perthynas a ffurfir yn seiliedig ar y gwahaniaeth y gallai ei wneud i'r gymuned, ac i fywyd yr unigolyn ifanc. Mae wedi golygu nad yw'r partneriaethau hyn yn weithredoedd ar hap o gymorth mwyach, ond wedi'u hystyried a'u cynllunio'n ofalus. Dywed pennaeth ysbrydoledig Millbrook, Lindsey Watkins, mai'r gobaith, pan ddaw rhywun i'r ysgol, yw eu gwneud i deimlo eu bod yn cael eu croesawu, ac mae hynny'n treiddio drwy'r adeilad, fel bod yr holl asiantaethau yn cael eu gweld fel un tîm di-dor. Un o'r asedau yn Millbrook yw ystafell deuluol bwrpasol. Mae'n galluogi'r ysgol i ddarparu caffi lles a chyrsiau ymwybyddiaeth ofalgar i deuluoedd. Mae'r ystafell hefyd yn caniatáu i deuluoedd ddod i gysylltiad ag asiantaethau eraill yn anffurfiol, sy'n helpu i feithrin perthynas ac ymddiriedaeth rhwng asiantaethau a theuluoedd. Er enghraifft, mae rhai teuluoedd wedi hunangyfeirio at y tîm atal. Yn ogystal, mae'r ysgol yn cynnig amrywiaeth o raglenni dysgu teuluol a gweithgareddau i'r teulu sy'n cefnogi lles. Mae Millbrook yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn darparu pecyn pwrpasol o gymorth lles i blant a theuluoedd ar draws yr ysgol. Mae hyn yn cynnwys cymorth llythrennedd emosiynol ac amrywiaeth o raglenni anogaeth a lles. Defnyddir y rhain i ddarparu ymyrraeth gynnar, yn enwedig pan fydd plentyn wedi wynebu trawma yn eu bywyd. Rhoddodd un unigolyn ifanc a oedd wedi profi trawma ddisgrifiad o'u profiad—ac rwy'n dyfynnu: 'Er bod y rhan fwyaf ohonom yn wynebu bwmp yn y ffordd ar ryw adeg, cefais fwmp yn y ffordd pan wahanodd fy rhieni ac roedd fy mam yn sâl iawn. Roeddwn i mor drist, roeddwn i'n arfer dod i'r ysgol bob dydd a chrio. Ond roedd hi'n iawn, oherwydd gallwn siarad â Miss. Bob bore, pan fyddwn i'n dod i mewn yn drist, byddai'n paratoi diod i mi, byddem yn eistedd a chael sgwrs, ac roeddwn i'n teimlo'n well. Rwy'n iawn nawr, ond rwy'n gwybod, pe bawn i ei hangen, byddai hi yno i mi.' Mae gwaith partneriaeth Millbrook hefyd wedi gweld perthynas yn ffurfio gydag ysgol arloesol arall Rhoi Plant yn Gyntaf yng Ngorllewin Casnewydd, Ysgol Gynradd Pilgwenlli. Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar ddwy ysgol, mewn dwy gymuned, gydag un dull. Mae'r ddwy ysgol dan sylw wedi ymchwilio i ffyrdd o adeiladu gwytnwch yn y ddwy gymuned, ac mae'r plant wedi bod yn ganolog i'r gwaith hwnnw. Gan weithio gyda sefydliadau fel Barnardo's Cymru ac Achub y Plant Cymru, mae grwpiau o ddisgyblion o Millbrook a Philgwenlli wedi gweithio gyda'i gilydd i ddysgu sut i gynnal eu cynlluniau ymgynghori cymunedol eu hunain. Mae plant yn cael eu grymuso ac maent yn dysgu am hawliau'r plentyn, democratiaeth a dinasyddiaeth, gan weithio gyda'r gymuned i sicrhau newid cadarnhaol. Mae Ysgol Gynradd Pilgwenlli hefyd wedi datblygu i fod yn ysgol gynradd sy'n arwain y sector mewn darpariaeth anogaeth, ac roeddwn yn falch o ymuno â'r Gweinidog Addysg ar ymweliad ag Ysgol Gynradd Pilgwenlli i weld hyn ar waith yn ymarferol. Mae anogaeth yn cefnogi'r disgyblion mwyaf difreintiedig ac fe'i hargymhellir yn benodol gan Estyn fel dull o gefnogi plant sy'n derbyn gofal. Mae'r elusen nurtureuk yn dathlu eu hanner canmlwyddiant yn 2019, ac rwy'n falch o weld eu bod yn cefnogi 40 o ysgolion yng Nghymru gyda'u rhaglen anogaeth. Agorodd Pilgwenlli ei hystafell anogaeth gyntaf yn 2004. Mae'n cynnig man lle y gall plant ddysgu mewn lleoliad anogaeth a gall eu rhieni ymuno â hwy am ran o'r wythnos. Mae gan bob disgybl ddosbarth sylfaenol, ond maent yn mynychu'r ystafell anogaeth deuluol am dros hanner eu hwythnos. Maent yn dysgu ochr yn ochr â'u rhieni am 10 y cant i 20 y cant o'u hamser, a blaenoriaeth ddatganedig Pilgwenlli yw 'galluogi ein plant i ffurfio ymlyniadau gyda phobl eraill, gwneud y dewisiadau cywir a deall pam maent yn gwneud y dewisiadau hyn—bod yn gryf a myfyriol.' Ysgol arall sydd newydd ddechrau gwneud hyn yw Ysgol Gynradd Llys Malpas. Maent wedi bod ar y rhaglen anogaeth genedlaethol i ysgolion ers blwyddyn ac agorodd yr ysgol ystafell anogaeth newydd ym mis Medi ar gyfer disgyblion sydd angen y cymorth mwyaf. O fewn tair wythnos, dywedodd yr ysgol eu bod eisoes wedi gweld yr effaith y mae'r ystafell anogaeth wedi'i chael ar gefnogi plant a gwneud iddynt deimlo'n ddiogel. Mae profiad Pilgwenlli a Llys Malpas o fanteision y dull hwn yn debyg i brofiad Millbrook. Dywedant fod hyn yn gweithio'n fwyaf effeithiol pan fo'r ysgol gyfan wedi ymrwymo i wneud y mwyaf o ymgysylltiad cymdeithasol ac addysgol pawb, a phan fo grwpiau anogaeth yn cyfrannu'n gadarnhaol ac yn gweithredu diwylliant ac arferion ysgol gyfan, gan hyrwyddo amgylchedd mwy anogol drwy'r ysgol gyfan. Mae gwaith yr ysgolion hyn yn fy etholaeth wedi gwneud cryn argraff arnaf ac wedi fy nghalonogi a buaswn yn annog holl Aelodau'r Cynulliad, os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny, i fynd i weld ysgol sydd wedi mabwysiadu dull ysgol gyfan yn eu hardal. Ni all ysgolion arwain dull ysgol gyfan ar eu pen eu hunain. Daw'r adroddiad 'Cadernid Meddwl' i'r casgliad 'mae’n hanfodol datblygu dull ysgol gyfan, ymgorffori lles yn ethos yr ysgol gyfan, y cwricwlwm, a hyfforddiant a datblygiad proffesiynol y staff. Mae angen newid sylweddol i wireddu’r uchelgais hon.' Mae gennym gyfle gwych a rhaid inni arwain ar hyn. Yn dilyn adroddiad y pwyllgor, gwn fod grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol ar y cyd wedi'i sefydlu i gyflymu'r gwaith hwn. Diolch i'r Gweinidog am ei gwaith ar hyn, ac rwy'n gobeithio y bydd cynnydd yn cael ei wneud yn gyflym. Mae ysgolion cynradd Millbrook, Llys Malpas a Philgwenlli yn enghreifftiau gwych. Edrychaf ymlaen at adeg pan fydd holl blant Cymru yn gallu elwa o'r dull ysgol gyfan. Hefin David AC: O ran y dull anogaeth, roeddwn am rannu enghraifft yn fy etholaeth o'r un agwedd ysgol gyfan at anogaeth. Mae Ysgol Gynradd Nant-y-Parc yng nghwm Aber yn cynnwys ymdrechion dyddiol i ddeall anghenion emosiynol disgyblion gan athrawon, grwpiau llythrennedd emosiynol a chymorth ar gyfer lles staff. Mae'r ysgol yn cynnal grwpiau llythrennedd emosiynol ar draws y grwpiau blwyddyn yn yr ysgol ac maent hefyd yn helpu gydag anawsterau megis profedigaeth, er enghraifft. Dywedodd un aelod o staff wrthyf—ac rwyf am eu dyfynnu: 'Mae rhoi pwyslais mawr ar les yn caniatáu i staff a disgyblion deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Mae wedi caniatáu i mi ffurfio perthynas waith bositif ac rwy'n teimlo ysgogiad i roi i'r disgyblion gan fy mod i'n teimlo fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi. Jack Sargeant AC: A gaf fi ddiolch i Jayne Bryant am roi rhywfaint o amser i mi yn y ddadl bwysig hon, a diolch yn bersonol i Jayne hefyd? Fel un sy'n dioddef o iechyd meddwl gwael, fel y dywedais droeon, rwy'n cydnabod y gefnogaeth rydych chi'n ei rhoi i eraill a'r gofal am eu lles hefyd. Felly, diolch i chi, Jayne. Lywydd dros dro, hoffwn sôn am ysgol yn fy etholaeth i hefyd, Ysgol Tŷ Ffynnon, sydd wedi mabwysiadu'r dull hwn o weithredu ac mewn gwirionedd, yn gynharach eleni, hi oedd yr ysgol gyntaf yng Nghymru i gwblhau'r rhaglen anogaeth genedlaethol i ysgolion—rhaglen ddwy flynedd o hyd, ac rwy'n ei chymeradwyo'n llawn i ysgolion eraill gymryd rhan ynddi yng Nghymru. Fel rhan o hyn, mae'r ysgol gyfan wedi cofleidio chwe egwyddor anogaeth, ac mae sesiynau'r grwpiau anogaeth, fel y dywedodd Hefin, yn caniatáu i'w disgyblion gymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n datblygu hunanymwybyddiaeth, yn meithrin hunan-barch, dyfalbarhad a meddwl yn gadarnhaol. Ond mae hynny hefyd yn helpu'r athrawon a'r teuluoedd yn ogystal; mae'n ymwneud â gofalu am ein gilydd, bod yn garedig wrth ein gilydd a dangos parch tuag at ein gilydd drwy gydol y dydd. Felly, rwy'n falch iawn o'r ysgol yn fy etholaeth i, Ysgol Tŷ Ffynnon, ac rwy'n gwybod ei bod yn anrhydedd iddynt fod yr ysgol gyntaf i gael ei galw'n ysgol anogaeth yng Nghymru, ond nid yn unig hynny, yn ysgol anogaeth i'r gymuned gyfan hefyd. Felly, diolch, Jayne; diolch i chi, Lywydd. John Griffiths AC: A gaf fi longyfarch Jayne hefyd am gyflwyno'r set bwysig a blaengar hon o faterion i'r Cynulliad heddiw? Mae mor bwysig i blant gael y dechrau gorau mewn bywyd, onid yw? Nid oes yr un ohonom yn gwybod beth y gall bywyd ei daflu atom, felly mae datblygu gwytnwch emosiynol mor bwysig dros holl lwybr ein bywyd. Fel eraill, hoffwn innau dynnu sylw at ysgol yn fy etholaeth, Ysgol Gynradd Somerton, a gafodd gydnabyddiaeth gan Estyn am ei bod yn dangos esiampl dda iawn mewn perthynas â'r dull anogaeth. Maent wedi bod yn cynnal rhaglen anogaeth genedlaethol nurtureuk i ysgolion, ac mae'r staff yno'n credu ei bod wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol gadarnhaol i'r disgyblion yn yr ysgol honno. Os caf innau, fel Hefin, ddyfynnu un o aelodau'r staff a ddywedodd, 'Mae wedi helpu o ddifrif i newid yn sylweddol er gwell, gyda hyder a hunan-barch cynyddol, rhannu a chydweithredu, a chynhyrchu gwell strategaethau ar gyfer ymdopi mewn gwahanol sefyllfaoedd cymdeithasol. Mae ymddygiad a'r agweddau at ddysgu i gyd wedi gwella.' Mark Isherwood AC: Wel, clywsom fod 40 o ysgolion yng Nghymru ar hyn o bryd yn dilyn rhaglen anogaeth genedlaethol nurtureuk i ysgolion, i adeiladu dull anogaeth ysgol gyfan, ond hefyd, yn ôl ymchwil nurtureuk, yn 2015, roedd 144 o ysgolion yng Nghymru yn cynnig rhyw fath o ddarpariaeth anogaeth, cynnydd o 101 yn 2007. O ran gwaith ysgolion yng ngogledd Cymru, clywsom gyfeiriad gan Jack at Ysgol Tŷ Ffynnon yn Shotton, ond hefyd Ysgol Maesincla yng Nghaernarfon—y ddwy'n enghreifftiau ardderchog o leoliadau'n mabwysiadu agwedd ysgol gyfan at anogaeth. Rwyf wedi rhoi sylw yn aml i waharddiadau o ysgolion, ac yn enwedig y modd y mae'r rhain yn effeithio'n anghymesur ar ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae Ysgol Maesincla wedi gweld gostyngiad yn nifer y gwaharddiadau ers iddi agor ei grwpiau anogaeth a mabwysiadu dull ysgol gyfan. Yn yr un modd, yn Shotton, mae Ysgol Tŷ Ffynnon wedi dweud, yn ystod ei sesiynau grŵp anogaeth, fod ei disgyblion yn cymryd rhan mewn gweithgareddau i ddatblygu hunanymwybyddiaeth, i feithrin hunan-barch, dyfalbarhad a meddwl yn gadarnhaol, sy'n cefnogi eu lles, eu hymddygiad, ac felly, eu dysgu. Joyce Watson AC: Galwaf ar y Gweinidog Addysg i ymateb—Kirsty Williams. Kirsty Williams AC: Diolch yn fawr iawn, Lywydd dros dro. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Jayne am gyflwyno'r ddadl hon i ni heddiw ac am ddisgrifio arferion gwych ei hysgolion lleol. Mae'n rhoi pleser mawr bob amser i mi glywed gan Aelodau'r Cynulliad am y gwaith gwych y mae ein hathrawon a'n staff cymorth yn ei wneud bob dydd mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru. Fel y dywedwyd eisoes, mae hwn yn fater eithriadol o bwysig, ac yn un y credaf ein bod yn gwneud cynnydd da arno, yn enwedig ers cyhoeddi adroddiad 'Cadernid Meddwl' y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg fis Ebrill diwethaf. Fel Jayne, hoffwn ddiolch i holl Aelodau'r pwyllgor hwnnw am eu gwaith yn y maes hwn, a chydnabod yn arbennig gyfraniad Lynne Neagle i wthio'r agenda hon yn ei blaen. Mae gennym oll rôl a chyfrifoldeb i hybu lles meddyliol a meithrin gwytnwch pobl ifanc. Mae ysgolion yn bendant ar y rheng flaen yn y mater hwn, a dyna pam y mae angen y sgiliau, yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth ar staff ysgol i gefnogi ein plant. Nawr, nid yw hynny'n golygu bod staff ysgol yn dod yn arbenigwyr mewn seicoleg neu seiciatreg, ond mae'n golygu y gallant weld pan fydd plentyn yn cael trafferth yn emosiynol, gallant adnabod arwyddion trallod ac yn hollbwysig, gallant gael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt i alluogi person ifanc i barhau i gael addysg. Mae ein cynllun gweithredu cenhadaeth ein cenedl yn nodi sut y bwriadwn wella'r system ysgolion drwy ddatblygu cwricwlwm trawsnewidiol a threfniadau asesu a fydd yn gosod lles yn ganolog yn ein system addysg. Ein cwricwlwm newydd i Gymru yw'r angor i'n hymrwymiad i les emosiynol, er mwyn cefnogi pobl ifanc i ddod yn unigolion iach, hyderus, gan adeiladu eu lles meddyliol ac emosiynol drwy ddatblygu eu hunan-barch, eu gwytnwch a'u hempathi. Kirsty Williams AC: Ond beth y mae hynny'n ei olygu'n ymarferol mewn gwirionedd a beth yw agwedd ysgol gyfan? Dywed athrawon wrthym eu bod yn pryderu am iechyd meddwl eu myfyrwyr. Teimlant ei bod yn ofynnol iddynt ymdrin â materion iechyd meddwl y tu allan i'w cymhwysedd fel athrawon, ac maent yn aml yn teimlo nad ydynt yn cael cefnogaeth gwasanaethau arbenigol. Mae'n amlwg fod angen i athrawon gael help a chymorth i ymateb i blant sy'n profi anawsterau fel gorbryder, hwyliau drwg a hunan-niwed cymhellol neu anhwylderau ymddygiad. Ond mae'n bwysig hefyd, rwy'n credu, i ni beidio â gwneud y broses o dyfu i fyny yn un feddygol. Dyma a ddywedodd y bobl ifanc eu hunain wrthym yn yr adroddiad 'Gwneud Synnwyr' yn 2016, a luniwyd gan bobl ifanc, ac sy'n cynrychioli eu barn. Mae bron i 40 y cant yn yr arolwg hwnnw'n dweud bod eu hathro'n berson y byddai'n well ganddynt gael cymorth ganddynt. Datblygwyd y thema hon ymhellach yn 'Cadernid Meddwl', a dynnodd sylw at rôl bwysig addysg wrth fynd i'r afael ag anghenion emosiynol ac iechyd meddwl pobl ifanc. Ac yn benodol, anghenion yr hyn a elwir yn 'ganol coll', pobl ifanc sydd â phroblemau emosiynol go iawn ond nad ydynt o anghenraid yn dioddef salwch meddwl ac yn aml, ni chânt lawer o gymorth. A dyna pam, fel y cyfeiriodd Jayne, y sefydlodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a minnau y grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol ar y cyd ym mis Medi 2017. Daeth arbenigwyr o bob rhan o'r maes addysg ac iechyd at ei gilydd i'n cynghori ar y gwaith sydd angen i ni ei wneud i gyflwyno agwedd ysgol gyfan tuag at ymdrin â lles emosiynol a meddyliol gan sicrhau bod pawb sy'n gweithio yn ein hysgolion, nid athrawon yn unig, yn gallu cyfrannu'n gadarnhaol at les pobl ifanc. Pan roddais dystiolaeth i'r pwyllgor ym mis Mehefin, nodais fy mod yn ymrwymedig i gynhyrchu fframwaith a fydd yn cynorthwyo ysgolion i ddatblygu a gweithredu agwedd ysgol gyfan sy'n gyson, a bydd yn rhoi arweiniad i ysgolion ar asesu eu hanghenion a'u cryfderau eu hunain o ran lles, a'u cynorthwyo i ddatblygu cynllun gweithredu i fynd i'r afael â'r materion a nodir yn dilyn asesiad, wedi'u cefnogi gan drefniadau monitro a gwerthuso cadarn. Byddwn yn cefnogi ysgolion yn y gwaith hwn gydag ystod o adnoddau i'w helpu i hyrwyddo lles meddyliol. Rwy'n falch o ddweud nad ydym yn dechrau gyda thudalen wag o bapur. Fel y clywsom gan yr Aelodau o amgylch yr ystafell hon, mae gennym eisoes sylfeini da iawn y gallwn adeiladu arnynt. Er enghraifft, fel y dywedodd Jayne, ers fy ymweliad ag Ysgol Gynradd Pilgwenlli yng Nghasnewydd y llynedd, gwn fod mwy o ysgolion—mwy a mwy—yn cydnabod bod grwpiau anogaeth yn ffordd brofedig o helpu pobl ifanc yn y cyfnod cynradd ac uwchradd. Mae'n eu helpu i ddatblygu sgiliau ymddiriedaeth a chyfathrebu ac yn gwella eu hunan-barch. A gallant fod yn effeithiol iawn pan fydd pobl ifanc wedi dioddef trawma difrifol sydyn, pan fyddant ar fin dod yn ddisgyblion sy'n gwrthod mynd i'r ysgol, a hefyd fel cymorth i rieni a gofalwyr adeiladu pontydd gydag ysgolion ac addysg ac i'w helpu i ennyn eu diddordeb yn addysg eu plant, pan nad ydynt hwy eu hunain yn aml wedi cael profiad cadarnhaol o addysg o reidrwydd pan oeddent yn fach. Mae ein gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion yn cefnogi dros 11,500 o bobl ifanc bob blwyddyn, ond rwy'n cydnabod bod gormod o amrywiad o hyd yn yr amseroedd aros ar gyfer y gwasanaethau hynny, a dyna pam y mae'r Gweinidog iechyd a minnau wedi cytuno'n ddiweddar i roi arian ychwanegol tuag at ymdrin â pheth o'r amrywiad yn y ddarpariaeth, a mynd i'r afael â rhestri aros hir a hyrwyddo trefniadau cydweithredol ar draws awdurdodau lleol a byrddau iechyd er mwyn gwella'r ddarpariaeth. Mae'r cyllid hwn yn rhan o fuddsoddiad ehangach o £2.5 miliwn eleni tuag at wella, nid yn unig y ddarpariaeth gwnsela, ond hefyd i hyfforddi staff ein hysgolion mewn perthynas â'u lles emosiynol eu hunain a'u myfyrwyr, ac i ddarparu ac i brofi ymyriadau cyffredinol ac wedi'u targedu yn yr ysgol. Ar Ddiwrnod Atal Hunanladdiad y Byd, roeddwn hefyd yn falch iawn o lansio ein canllawiau newydd ar hunanladdiad a hunan-niwed, a ddatblygwyd yn benodol i gynorthwyo athrawon a gweithwyr proffesiynol sy'n dod i gysylltiad â phobl ifanc yn rheolaidd. Mae'r canllawiau hynny'n canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar a rheoli hunan-niwed a meddyliau hunanladdol yn ddiogel pan fyddant yn codi. Mae'n darparu ffynhonnell gyflym a hygyrch o gyngor ac arferion da i addysgwyr. Os nad yw'r Aelodau wedi cael cyfle eto i ddarllen yr adnoddau hynny, buaswn yn eich annog yn gryf i wneud hynny. Rwy'n ddiolchgar i'r gweithwyr proffesiynol a helpodd i'w cynhyrchu. Mae ein cynlluniau peilot mewngymorth CAMHS i ysgolion hefyd yn dangos manteision gwirioneddol ers eu lansio, ac rwy'n falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi cytuno ar gyllid ychwanegol i ymestyn y cynlluniau peilot tan fis Rhagfyr 2020 i gyd-fynd ag adroddiad gwerthuso terfynol y rhaglen honno, a chafodd hyn ei gefnogi gan gyllid ychwanegol. Mae'r cynlluniau peilot yn dangos bod datblygu cysylltiadau hollbwysig o'r fath—ac mae Jayne wedi siarad am hyn droeon—ar draws ffiniau sefydliadol yn allweddol i sicrhau llwyddiant. Mae staff yr ysgol yn nodi'r budd sy'n deillio o gael cyswllt y gallant drafod materion yn uniongyrchol â hwy, ac mewn modd amserol, sy'n hollbwysig. Mae hyn o fudd nid yn unig i bobl ifanc ond hefyd i athrawon sy'n teimlo eu bod yn cael eu cynorthwyo'n well i ddiwallu anghenion eu plant a'u pobl ifanc. Ond rwy'n gwybod—rwy'n gwybod yn iawn—y gallwn wneud cymaint mwy. Mae arnaf eisiau adeiladu ar y momentwm hwn drwy ddatblygu mwy o weithgarwch i gefnogi athrawon fel y bydd ganddynt well dealltwriaeth o ddatblygiad plant, yn enwedig yn ystod blynyddoedd tyngedfennol y glasoed, sy'n gallu bod yn anodd iawn i bawb, a'r wybodaeth i ddysgu ac ymwneud â materion sy'n dod i'r amlwg ynghylch lles emosiynol a meddyliol dysgwyr. A chan weithio gyda'n prifysgolion, byddwn yn datblygu adnoddau dysgu ar gyfer athrawon dan hyfforddiant ac yn sicrhau bod cymorth tebyg ar gael i athrawon presennol. Mae hefyd yn hanfodol i mi ein bod yn parhau i ymgynghori â'r bobl ifanc eu hunain ynglŷn â pha gymorth pellach y dylem fod yn ei ddarparu iddynt. A dyna pam ein bod wedi cynnull grŵp rhanddeiliaid ieuenctid, o gefndiroedd daearyddol a chymdeithasol amrywiol, gan gynnwys defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl eu hunain. Rhaid i mi ddweud, mae eu hymrwymiad i'r broses, eu gwybodaeth a'u brwdfrydedd di-ben-draw wedi creu argraff fawr arnaf. Ynghyd â Senedd Ieuenctid Cymru, sydd wedi cytuno, fel y clywsom, y dylai cymorth emosiynol ac iechyd meddwl fod yn un o'u prif ystyriaethau rwy'n siŵr y byddant hwy, ynghyd â Lynne Neagle, yn parhau i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am ein gwaith yn y maes hwn. Fel pawb sydd ar ôl yma yn y Siambr heno, rwyf am i bob person ifanc yng Nghymru ffynnu. Rwyf am iddynt ddysgu ac rwyf am iddynt lwyddo, yn enwedig o ran datblygu agwedd ysgol gyfan tuag at gefnogi'r rhai sydd â phroblemau iechyd emosiynol a lles. Nid yw'n fater o un neu'r llall, Lywydd dros dro, mae yr un mor bwysig, yn rhan annatod o'u gallu i lwyddo mewn addysg. Ac rwy'n awyddus, unwaith eto, i ddiolch i Jayne a'r cyd-Aelodau am eu cyfraniadau heno. Diolch yn fawr. Joyce Watson AC: Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Daeth y cyfarfod i ben am 18:52. QNR Cwestiynau i Y Gweinidog Addysg Darren Millar: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau cyllido Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg yng Nghymru? Kirsty Williams: My priorities are clear: raising standards for all, reducing the attainment gap and delivering an education system that is a source of national pride and public confidence. Our 2019-20 budget continues to be committed to the success and well-being of every learner, regardless of background or personal circumstance. Huw Irranca-Davies: Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael mewn perthynas â chyfraniad Sony UK ym Mhencoed i ddatblygu sgiliau codio mewn ysgolion ar draws de Cymru? Kirsty Williams: I visited Sony UK, Pencoed with the former First Minister in 2016. Since then significant progress has been made to put provisions in place to improve learners’ coding skills, including the implementation of our 'Cracking the Code' plan. Joyce Watson: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau addysg ym Mhowys? Kirsty Williams: Powys County Council education services have recently been inspected. I have noted the outcome of the inspection. An action plan has been developed to address the issues and a new leadership team has been put in place within the authority to drive improvements. Cwestiynau i Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Leanne Wood: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol llawfeddygaeth frys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg? Vaughan Gething: The Cwm Taf Morgannwg University Health Board has commenced work to develop a long-term integrated healthcare strategy. This will include further consideration of how the recommendations of the south Wales programme are to be taken forward. The proposals will be underpinned and informed by stakeholder engagement. Rhianon Passmore: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i recriwtio a chadw meddygon teulu yn Islwyn? Vaughan Gething: As a result of Welsh Government action, working with our partners, including Health Education and Improvement Wales, this year we have been able to increase the number of GP training places in Wales from 136 to 160. This will benefit all communities in Wales. David Rees: Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau rhestrau aros ysbytai yng Ngorllewin De Cymru? Vaughan Gething: I expect all patients to be seen and treated in a timely manner and within our targets. I have made available £50 million to health boards to build on recent progress and improve waiting times further by March 2020. Swansea Bay UHB has received a share of this funding. Nick Ramsay: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth sydd ar gael i bobl sy'n byw gyda dementia yn eu cartref? Vaughan Gething: Our dementia action plan, supported by an extra £10 million a year funding, sets out our vision for Wales to be a dementia friendly nation that recognises the rights of people with dementia to feel valued and to live as independently as possible.
uk-hansard-senedd-cy
senedd2019-09-25
2024-06-01T00:00:00
{ "year": "2019", "language": "cy", "license": "Open Parliament Licence - https://www.parliament.uk/site-information/copyright-parliament/open-parliament-licence/" }